Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

27/11/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Bethan Sayed. 

Opsiynau Trafnidiaeth ar gyfer Pobl Ifanc

1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae adran addysg Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r adran economi a thrafnidiaeth i wella opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn addysg a hyfforddiant? OAQ54767

Mae'r ddwy adran yn cydweithredu mewn sawl ffordd, ac yn ddiweddar, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig gweinidogol ar y cyd i roi gwybod i'r Aelodau am ein bwriad i fwrw ymlaen ag adolygiad i nodi'r holl faterion sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr ôl-16. Bydd yr Aelodau'n cael diweddariadau pellach ar yr adolygiad hwn wrth iddo fynd rhagddo.

Diolch, ac rwy'n croesawu'r adolygiad penodol hwnnw, gan ein bod yn gweld tueddiadau sy'n peri gofid gan awdurdodau lleol sy’n brin o arian i leihau cefnogaeth i opsiynau i ddysgwyr yng Nghymru. Rydym wedi gweld cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymgynghori ar newidiadau i drafnidiaeth ôl-16 yn gynharach eleni, y bu’n rhaid rhoi'r gorau iddynt yn sgil y gwrthwynebiad, a bellach mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ymgynghori ar gael gwared ar drafnidiaeth am ddim i ddysgwyr ôl-16 yn yr ysgol neu'r coleg, yn ogystal â chael gwared ar drafnidiaeth am ddim i ddisgyblion oed meithrin. Felly, rwy'n croesawu'r adolygiad hwn.

Ond rwy'n siŵr hefyd eich bod yn ymwybodol o'r ffaith bod yna broblemau ehangach o ran gallu’r rheini sy'n gwneud prentisiaethau i fforddio cyrraedd eu gweithle, neu gyrraedd lle mae angen iddynt fod am eu cyfnod yn y gwaith. Ymddengys nad yw cynllun cyfredol FyNgherdynTeithio drwy Lywodraeth Cymru wedi bod mor llwyddiannus ag y byddech wedi dymuno, gyda'r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun yn llai o lawer na'r disgwyl. Sut y byddwch yn gweithio ymhellach â'ch cydweithwyr yn adran yr economi i fynd i'r afael â phroblem ddifrifol a chynyddol mynediad pobl ifanc at addysg drwy'r system drafnidiaeth yma yng Nghymru?

Wel, rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelod i'r adolygiad rhyngadrannol o deithio gan ddysgwyr ôl-16. O ran FyNgherdynTeithio, er nad fy adran sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw, mae gennyf gryn dipyn o ddiddordeb personol ynddo gan mai cytundeb cyllidebol a wnaed rhwng fy mhlaid, pan oeddwn yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a Llywodraeth Cymru ar y pryd oedd yr ysgogiad ar gyfer y cynllun hwnnw. Felly, mae gennyf ddiddordeb personol yn ei lwyddiant. Fel y gŵyr yr Aelod, cychwynnodd y cynllun yn 2014 fel cynllun a oedd ar gael i bobl ifanc 16 a 17 oed yn unig, ac mae swyddogion trafnidiaeth, ar ôl trafod gyda'r diwydiant bysiau, wedi rhoi cynllun estynedig ar waith. Felly, mae bellach ar gael i bobl ifanc 16, 17 a 18 oed, 19, 20 a 21 oed. Felly, yr union fath o unigolion y cyfeiriodd Bethan atynt, rwy’n siŵr—y bobl hynny sy'n awyddus i gyfuno astudio a gweithio drwy gynllun prentisiaeth. Ac rwy'n siŵr fod mwy y gall pob un ohonom ei wneud i roi cyhoeddusrwydd i'r cyfle i ddefnyddio FyNgherdynTeithio.

Byddwn yn parhau i weithio ar draws yr adran i weld beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi unigolion gyda chost eu trafnidiaeth i gael mynediad at hyfforddiant neu addysg amser llawn fwy ffurfiol.

Byddai ein polisi cardiau gwyrdd, wrth gwrs, yn datrys y cwestiwn ynghylch trafnidiaeth am ddim ar fysiau ar gyfer addysg, hyfforddiant neu waith ôl-16. Ond wrth gwrs, credaf fod angen datrys y sefyllfa o ran trafnidiaeth i ysgolion ffydd a chyfrwng Cymraeg drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.

Mae fy nghwestiwn, serch hynny, yn ymwneud â llais pobl ifanc ym mhenderfyniad yr awdurdod lleol ynglŷn ag a yw llwybr i'r ysgol yn ddiogel ai peidio. A hyd nes y bydd y Ddeddf teithio llesol yn darparu opsiynau realistig ar hyn, gan ein bod yn sôn am deithiau dwy neu dair milltir o hyd, yn dibynnu ar yr ysgol, rydym yn dal yn debygol o glywed gan y comisiynydd plant ei bod yn gorfod atgoffa awdurdodau lleol o'u dyletswydd i ymgynghori â phlant a phobl ifanc ynghylch y teithiau hynny i’r ysgol. Rwy’n tybio ​​y byddwn yn parhau i weld gormod o draffig ger giatiau’r ysgol hefyd. A fyddai’n haws pwysleisio’r pwynt hwn ynghylch rhoi sylw dyledus i erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn pe bai trafnidiaeth i’r ysgol yn rhan o’ch portffolio, ac a ydych yn cefnogi ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus honno i awdurdodau lleol? Tybed a yw eich adolygiad yn ystyried hynny hefyd.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Rwy'n ymwybodol o bolisi plaid y Ceidwadwyr mewn perthynas â theithio ôl-16. Mae'n cynnwys cael gwared â’r lwfans cynhaliaeth addysg, sef y cymorth ariannol sy'n helpu ein myfyrwyr tlotaf. Ond mae'r Aelod yn llygad ei lle—un maes y mae angen inni fynd i'r afael ag ef, ac y mae ein hadrannau'n gweithio'n agos arno, yw hyrwyddo teithio llesol i'r ysgol i leihau nifer y ceir sy'n cael eu gyrru at giatiau ein hysgolion. Mae gennym enghraifft dda iawn o hyn nid nepell o'r adeilad hwn yn Ysgol Hamadryad yma ym Mae Caerdydd, lle mae pobl yn cerdded, beicio, a mynd ar sgwter i'r ysgol. Felly mae mwy y gallwn ei wneud bob amser. Fel rhan o'n hadolygiad, rydym yn edrych, yn wir, ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch a llwybrau diogel, felly bydd hynny'n rhan o’n hystyriaeth, a byddaf yn adolygu sylwadau’r Aelod i weld a oes elfennau pellach y gall yr adolygiad edrych arnynt o ran dull sy'n seiliedig ar hawliau.

13:35

A gaf fi groesawu’r adolygiad o drafnidiaeth addysg ôl-16, ond hefyd yr ymgysylltu y gwn ei fod yn mynd rhagddo ar hyn o bryd rhwng y Gweinidog a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio llesol, ar syniadau dychmygus ynghylch y cydweithio hwnnw? Ond a gaf fi ofyn, y tu hwnt i'r siwrneiau byr hynny i'r ysgol, teithiau y mae angen inni annog mwy o blant i'w gwneud ar eu beiciau a'u sgwteri, neu gerdded, a dweud y gwir, a’r teulu a'r rhieni hefyd, o ran teithio ar fws, a ydym yn agored yn Llywodraeth Cymru i feddwl am wahanol atebion, fel sydd ganddynt mewn gwahanol wledydd? Pan ymwelais â'r Ffindir y llynedd, a phan edrychwch ar leoedd fel Canada, sy'n gwneud hyn hefyd, lle maent yn datblygu annibyniaeth mewn pobl ifanc, o oedran eithaf ifanc—ac nid yw'n briodol i bawb, nac ym mhob sefyllfa—maent yn teithio i'r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nawr, nid yw hyn i bawb, ym mhob sefyllfa, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae'n dibynnu ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus da iawn hefyd. Ond mae'n ddiddorol y gellir ei wneud yn rhywle arall. Felly, a ydym yn cynnwys hynny yn ein hystyriaethau yn y dyfodol, pe bai pobl yn awyddus i fanteisio ar yr opsiwn hwnnw, neu gynnwys awdurdodau lleol, sydd, yn yr Alban, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn lle darparu talebau trafnidiaeth i’r ysgol, neu gyllid i unigolyn, yn cynnig prynu'r beic mewn gwirionedd.

O ystyried diddordeb brwd yr Aelod mewn teithio llesol, a’i lobïo gweithgar iawn yn hyn o beth, bydd yr Aelod yn falch o wybod ein bod wedi ailwampio ein hystyriaeth o deithio llesol fel rhan o’n rhaglen ysgolion a cholegau’r unfed ganrif ar hugain. A bydd unrhyw gais a wneir gan awdurdod lleol sy'n rhoi ystyriaeth annigonol i deithio llesol i'r adeilad newydd hwnnw yn cael ei wrthod, ac rwy'n siŵr y bydd yn falch o glywed hynny. A gaf fi ddweud, nid yw'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn newydd yng Nghymru—hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig? Mae llawer o blant sy'n dal y bws T4, ar yr A470, i deithio’n ôl ac ymlaen o'r ysgol uwchradd, er bod yn rhaid i mi ddweud, weithiau, fod hynny'n peri pryder i rieni, y byddai'n well ganddynt, weithiau, pe bai eu plant ar opsiwn trafnidiaeth ysgol yn unig. Felly, nid yw'n wir nad oes gennym unrhyw blant yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cael mynediad at addysg ar hyn o bryd. Mae awdurdodau lleol yn ystyried y modelau hynny, lle mae hynny’n briodol, ac rwy'n siŵr y byddant yn parhau i wneud hynny.

Prydau Ysgol am Ddim

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am effeithiolrwydd y fenter prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yng Nghymru? OAQ54750

Mae ein polisi prydau ysgol am ddim yn targedu cymorth tuag at y plant mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau. O ganlyniad i'n meini prawf cymhwysedd newydd, erbyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno'n llawn—os bydd hynny byth yn digwydd—rydym yn amcangyfrif y bydd mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag o dan y system flaenorol.

Diolch. Cynghrair o dros 30 o ysgolion, sefydliadau cymunedol a ffydd, a grwpiau ledled gogledd-ddwyrain Cymru yw TCC—sef Trefnu Cymunedol Cymru. Yr wythnos diwethaf, mynychais lansiad swyddogol eu hymgyrch dysgu nid llwgu Cymru gyfan yn Ysgol y Grango yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam. Canfu eu hymchwil nad yw llawer o'r disgyblion mwyaf agored i niwed yn cael digon i'w fwyta yn ystod y diwrnod ysgol, gyda disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gwario peth o'u harian ar gyfer prydau ysgol am ddim ar frecwast am na allent gael digon o fwyd gartref, ac o ganlyniad, nid oes digon o arian ar ôl ganddynt i gael y cinio cytbwys llawn y cynlluniwyd y dyraniad prydau ysgol am ddim i'w ddarparu. A gwneuthum addo yno y buaswn yn codi hyn gyda chi yma. Dywedodd 49 y cant o athrawon wrthynt fod yn rhaid iddynt ddarparu bwyd i'r disgyblion eu hunain weithiau, a dywedasant eu bod yn tynnu sylw at y mater nid fel rhan o ddiwylliant bwrw bai yn unrhyw le, ond am fod angen cymorth ar y plant hynny. Sut rydych yn ymateb, felly, i alwad yr ymgyrch dros gael cynnydd o 80c y dydd yn yr arian ar gyfer prydau ysgol am ddim fel y gellir talu am frecwast? Dywedasant fod ychydig dros 29,000 o ddisgyblion ysgol yn cael eu heffeithio, ac yn ôl y nifer sy’n manteisio arno ar hyn o bryd, byddai'n annhebygol o gostio £3 miliwn y flwyddyn, ac yn mynd i'r afael â galwad yr ymgyrch hon. Felly, sut rydych yn ymateb i'r alwad honno?

Wel, yn gyntaf, rwy'n ymateb i'r alwad drwy ddweud ei bod yn gwbl anhygoel, mewn cenedl fel hon, fod yn rhaid i ni gael ymgyrch dysgu nid llwgu. Mae darparu lwfans ar gyfer brecwast i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd yn un cam gweithredu rwy’n ei ystyried ar hyn o bryd. Efallai fod camau gweithredu eraill, ac atebion eraill, a allai fod yn fwy priodol i fynd i'r afael â'r broblem hon. Rwyf am sicrhau bod beth bynnag a wnawn yn briodol ac yn darparu ateb i'r materion y mae'r Aelod yn eu hamlinellu. A bellach, ar ôl cyflawni ei addewid i godi'r mater hwn gyda mi, efallai y gall Mark Isherwood godi'r mater gyda chyd-aelodau o’i blaid yn San Steffan.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian. 

Diolch, Llywydd. Mi hoffwn i drafod eich datganiad ysgrifenedig diweddar sy'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad i ddiwygio rheoliadau cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, sef y WESPS. Mae gweld symudiad pendant tuag at newid yn gadarnhaol iawn. Mae angen cynllunio bwriadus er mwyn datblygu addysg Gymraeg ar draws y wlad, ond mae yna lawer o ffordd i fynd.

Mae'r sefyllfa ddiweddar ym Mlaenau Gwent yn crisialu hyn i mi. Mae trigolion ardal Tredegar a Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi bod yn brwydro am flynyddoedd dros gael ail ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. O'r diwedd, cytunodd y cyngor i wneud hynny ar ôl i ymgyrchwyr gasglu'r data sy'n mesur y galw. Sefydlwyd nifer o gylchoedd meithrin er mwyn paratoi at hyn, ond yna, fis diwethaf, fe welwyd tro pedol gan y cyngor a phenderfynwyd peidio ag agor y cylchoedd meithrin yma, sydd yn gam gwag yn sicr. Sut fydd y dyraniad ariannol o fewn eich portffolio chi yn newid er mwyn galluogi'r newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i wireddu amcanion y diwygiad i'r rheoliadau? 

A gaf fi, yn gyntaf oll, ddiolch i'r Aelod am ei chefnogaeth i'r adroddiad ar y ffordd rydym yn datblygu ein cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn y dyfodol?

Mae'r sefyllfa yn Nhredegar yn un rwy'n gyfarwydd iawn â hi. Nid yn unig fod galw clir gan rieni yn yr ardal honno am addysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg i'w plant, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid cyfalaf 100 y cant ar gael i adeiladu'r ysgol honno. Mae'r awdurdod lleol wedi gwneud cynnig i'n rhaglen gyfalaf. Buont yn llwyddiannus wrth wneud hynny. Mae'r arian hwnnw ar gael i'r cyngor adeiladu'r ddarpariaeth honno.

Fodd bynnag, fel rydych wedi'i amlinellu, ymddengys bod y cyngor wedi mabwysiadu ymagwedd wahanol bellach. Rwyf wedi trafod hyn gyda deiliad y portffolio ar gyfer addysg ym Mlaenau Gwent a'r cyfarwyddwr addysg ym Mlaenau Gwent. Mae'n rhyfeddol i mi y byddai awdurdod lleol yn gwneud cynnig am yr arian hwnnw, yn llwyddo gyda'r cais hwnnw pan na fu awdurdodau lleol eraill yn llwyddiannus, a bellach mewn sefyllfa lle mae'n ymddangos o leiaf nad ydynt yn awyddus i adeiladu'r ysgol honno. Mae fy swyddogion yn awyddus i ystyried y pwyntiau a godwyd gyda ni gan gyngor Blaenau Gwent ac yn edrych i weld a ellir dod o hyd i ateb, oherwydd fel chithau, Siân, ac fel yr Aelod Cynulliad lleol, rydym am anrhydeddu a darparu gwasanaeth y mae rhieni a phlant yn yr ardal honno yn dymuno'i gael.

Diolch yn fawr. A dwi'n falch iawn eich bod chi yn dyfalbarhau efo'r ymdrechion yna, ac rydw i'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y trafodaethau efo'r cyngor yn dwyn ffrwyth yn fuan iawn. 

A throi rŵan at y cynllun siarter iaith arloesol, sydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg tu allan i'r dosbarth, mae yna dystiolaeth gref ei bod hi'n llwyddiannus, ond does gan y 'Fframwaith Siarter Iaith' ddim digon o lais yn y cwricwlwm newydd. Mae'n hanfodol fod yna statws i'r fframwaith. Ar hyn o bryd, mae'n cael ei alw'n 'rhan' o gwricwlwm drafft i Gymru 2022, ond meddal iawn ydy hynny. Mae'n cael ei gategoreiddio o dan y pennawd 'rhagor o wybodaeth a chanllawiau'. Byddwn i'n hoffi gweld y fframwaith yn cael ei rymuso, a dwi'n siŵr eich bod chi eisiau gweld hynny hefyd. Felly, mi fyddai'n dda gweld mwy o gyfeiriad at y siarter iaith yn y cwricwlwm pan ddaw'r fersiynau diwygiedig atom ni. A hefyd, hoffwn i wybod gennych chi, am y siarter, ba ddiwygiadau i reoliadau cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg fydd yn cyfarch yr angen yma i gryfnau'r siarter? 

Unwaith eto, fel yr Aelod, credaf fod y siarter yn ffordd bwysig iawn o ddatblygu diwylliant ar draws yr ysgol yn hytrach nag mewn gwersi unigol, drwy sicrhau bod disgyblion a staff yr ysgol honno, a rhieni a chefnogwyr yr ysgol honno, yn cael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn amryw ffyrdd. Ac rwyf bob amser yn falch iawn o weld amrywiaeth eang o ysgolion yn croesawu ethos hynny ac yn ceisio'i blethu i mewn i fywyd pob dydd eu hysgol.

Mae'r mater ynddo'i hun ychydig yn fwy ac yn ehangach na mater cwricwlwm yn unig. Bydd yr Aelod yn gwybod, yn dilyn y nifer sylweddol o ymatebion—ymatebion manwl iawn o ansawdd uchel iawn—a gawsom i'r ymgynghoriad ar y cwricwlwm dros yr haf, ein bod bellach mewn cyfnod mireinio, lle mae ein hymarferwyr, gyda chefnogaeth ein harbenigwyr ym maes addysg uwch, yn bwriadu paratoi drafft terfynol. Bydd hwnnw ar gael ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Yr hyn sy'n gwbl hanfodol i mi yw ein bod, y tu hwnt i'r cwricwlwm, yn dod o hyd i gyfleoedd i blant ddefnyddio eu sgiliau iaith, mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ond hefyd yn ein hysgolion dwyieithog a'n hysgolion cyfrwng Saesneg, fel bod yr iaith yn cael ei defnyddio nid yn unig mewn gwersi, ond ym mywyd ehangach cymuned yr ysgol honno.

13:45

Diolch yn fawr. Dwi'n edrych ymlaen, felly, at weld y 'Fframwaith Siarter Iaith' yn cael lle dyledus yn y fersiwn nesaf o'r cwricwlwm Cymreig.

Rhaid imi ddweud dwi yn gefnogol iawn i rai o syniadau'r ymgynghoriad ar y rheoliadau—y symud at dargedau i'w groesawu, y sifft mewn ffocws oddi wrth datblygu ymatebol, sef mesur y galw gan rieni, i symud at y rhagweithiol, y proactive, sef creu'r llefydd addysg cyfrwng Cymraeg yn y lle cyntaf, a hefyd y cynllunio hir dymor o dair blynedd i 10 mlynedd er mwyn bod yn fwy uchelgeisiol—croesawu hynna i gyd.

Ond un mater sydd angen ei ystyried yw sut i ddal awdurdodau lleol i gyfrif os maen nhw'n methu â chreu'r datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg hollbwysig yn eu hardaloedd nhw. Ac ydych chi'n cytuno efo fi bod angen inni rŵan gael y drafodaeth fawr sydd ei hangen ynglŷn â deddfu er mwyn cryfhau trwy ddeddfu, ac mai hynny ddylai fod y cam nesaf?

Wel, fel chithau, rwy'n awyddus iawn inni ganiatáu i'r ymagwedd ddiwygiedig newydd tuag at gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ddatblygu ac ymsefydlu yn ein hawdurdodau lleol.

Fel rhywun di-Gymraeg a ddewisodd yr opsiwn hwn ar gyfer fy mhlant fy hun, gwn pa mor hanfodol yw darpariaeth yn yr ysgol feithrin neu yn y cylch Ti a Fi cyn hynny—mae cylchoedd Ti a Fi ac ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd yn hanfodol os ydym am gyflawni targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac ni fydd ymateb i'r galw yn unig yn ddigon da. Mae'n rhaid inni fod yn rhagweithiol wrth sicrhau a hyrwyddo manteision magu plant dwyieithog, a gobeithio, yn ein cwricwlwm newydd, plant teirieithog.

Ar hyn o bryd, o fewn yr amserlenni sydd gennym yn y Llywodraeth hon, buaswn ar fai'n awgrymu ein bod wrthi'n ystyried deddfwriaeth fel y mae'r Aelod yn awgrymu, ond ni fuaswn yn diystyru hynny fel cam nesaf posibl er mwyn sicrhau'r llwyddiant y mae pawb yn yr adeilad hwn yn awyddus i'w weld mewn perthynas â darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn ôl gwefan Cyngor y Gweithlu Addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno targedau ar gyfer nifer y myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r cyrsiau TAR newydd yng Nghymru gyda'r bwriad o gymhwyso i addysgu rhai pynciau. Mae rhai o'r pynciau hynny'n cael eu nodi fel blaenoriaethau, ac maent yn cynnwys Cymraeg ac ieithoedd tramor modern, ac edrychaf ymlaen at eich ateb i gwestiwn Delyth Jewell yn nes ymlaen.

Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais i Weinidog y Gymraeg sut y credai y gallai’r system addysg ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r baich ar gyfer y strategaeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, pan na wnaeth ond 12 athro yn unig gymhwyso i addysgu'r Gymraeg ar lefel uwchradd, sydd draean yn unig o'r ffigur bum mlynedd yn ôl.

Eich targed ar gyfer athrawon Cymraeg newydd erbyn mis Medi eleni oedd 75, sy'n wahanol iawn i 12. Ieithoedd tramor modern—eich targed yw 59, a dim ond 18 a gymhwysodd y llynedd, sef hanner y ffigur bum mlynedd yn ôl. Sut y gwnaethoch benderfynu ar y targedau newydd hyn, a faint o geisiadau llwyddiannus a wnaed i gychwyn ym mis Medi eleni?

Wel, mae'r Aelod yn llygad ei lle yn nodi dull na fu, yn amlwg, yn llwyddiannus yn y gorffennol, a byddai parhau â'r dull hwnnw a gobeithio'n sydyn y gallai newid y canlyniadau—wel, dywedodd rhywun mai gwneud yr un peth a disgwyl canlyniad gwahanol yw'r diffiniad o wallgofrwydd. Felly, mae angen inni roi cynnig ar ddull gwahanol.

Nawr, mae gosod targedau ar gyfer ein darparwyr addysg gychwynnol i athrawon yn bwysig, ond mae angen i ni ddiwygio sut y gwnawn hynny, ond mae'n rhaid i'r ffordd rydym yn marchnata addysgu fel proffesiwn dymunol newid hefyd—mae safon ein haddysg gychwynnol i athrawon yn newid—ond hefyd, yn hanfodol, sut rydym yn sicrhau bod y bobl sy'n hyfforddi i fod yn athrawon yn mynd yn eu blaenau wedyn i weithio yn ein hysgolion, ac nid am gyfnod o flwyddyn neu ddwy yn unig, ond eu bod yn parhau i wneud ymrwymiad parhaus i'r proffesiwn addysgu.

Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried diwygiad systematig llwyr i'r ffordd rydym yn cefnogi newydd-ddyfodiaid i'n darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon ac athrawon yn ystod blynyddoedd cyntaf eu gyrfa, gan gyfeirio'n benodol at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein hysgolion uwchradd, sy'n peri pryder i mi. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod, yr wythnos hon, wedi lansio cynllun newydd, lle gall y rheini sydd wedi cymhwyso i ddysgu mewn ysgol gynradd, ond sydd â'r potensial a'r sgiliau i addysgu naill ai'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd, ond sydd heb gymhwyso i wneud hynny, fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol ychwanegol i'w galluogi i drosglwyddo i ysgol uwchradd. Oherwydd yr hyn a wyddom yw fod gennym, bob blwyddyn, ormodedd o athrawon ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn gallu cael swyddi yn ein system. Mae hynny'n wastraff enfawr o'u doniau a'u hadnoddau. Gallwn eu defnyddio mewn ffordd fwy clyfar, ac felly mae rhoi cyfle iddynt drosglwyddo i'r sector uwchradd yn un o'r ffyrdd newydd, arloesol rydym yn ceisio mynd i'r afael â phroblem nad wyf yn cilio rhagddi. Mae'r broblem yno, ac mae angen inni fynd i'r afael â hi.

13:50

Wel, diolch am eich ateb. Roedd rhywfaint ohono'n ddiddorol iawn, ond ni sonioch chi mewn gwirionedd am y pwynt ynghylch faint o ymgeiswyr newydd ar gyfer y cyrsiau penodol hyn a gafwyd eleni na sut y cyrhaeddwyd y targedau hyn. Efallai y gallaf ofyn i chi a ydych yn mynd i gael gwared â'r targedau hyn. Dychmygaf mai oddeutu nawr y byddech yn anfon llythyr cylch gwaith at Gyngor y Gweithlu Addysg, felly efallai y gallwch ymateb i'r cwestiwn hwnnw pan ofynnaf yr un nesaf i chi. Oherwydd mae Cyngor y Gweithlu Addysg hefyd yn nodi, a dyfynnaf:

'Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn addysgu yng Nghymru, o fis Medi 2019'—

sef eleni—

'bydd angen i chi gael statws addysgu cymwysedig (SAC) trwy astudio ar raglen AGA, wedi'i achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), trwy ei Fwrdd Achredu AGA.'

Nawr, yn draddodiadol, mae statws athro cymwysedig o Loegr yn cael ei dderbyn yma'n awtomatig, ond rwy'n cydnabod bod y newidiadau i'n cwricwlwm, ein cymwysterau, a'r dull asesu y mae SAC bellach yn mynd drwyddo yn Lloegr yn dra gwahanol i Gymru. Serch hynny, rydych wedi dweud o'r blaen nad ydych am atal athrawon talentog o'r tu allan i Gymru rhag dod â'u talent i'n hysgolion, ond ni allaf ddod o hyd i unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y gall yr athrawon hynny hyfforddi'n gyflym i addysgu yn ein hysgolion, a gwneud hynny wrth ei gwaith, yn ddelfrydol. Yn ôl pob tebyg, byddai angen iddynt gael eu hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg o hyd. Mae mis Medi wedi bod ac wedi mynd—am ba mor hir y bwriadwch atal athrawon newydd gymhwyso o'r tu allan i Gymru rhag dod i'n hysgolion yng Nghymru?

Nid oes unrhyw fwriad, fel rwyf wedi'i nodi mewn datganiadau blaenorol, i atal cronfa o bobl dalentog a allai fod yn ystyried cychwyn gyrfa addysgu neu sy'n awyddus i ddod adref i addysgu yn ein system newydd gyda'n cwricwlwm newydd gwych. Felly, mae digon o gyfleoedd i'w cael i'r rheini sydd am ddod dros y ffin neu o wledydd eraill ddysgu yn ein system ac mae cyfleoedd hyfforddi ar gael, yn hollbwysig, wrth y gwaith—nid oes angen ichi fynd yn ôl i brifysgol i wneud hynny—er mwyn sicrhau bod gan unrhyw un a ddaw i'n system y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'n dulliau yng Nghymru.

O ran niferoedd, bydd yr Aelod yn maddau i mi, nid ydynt gennyf o'm blaen, ond rwy'n fwy na pharod i'w hanfon ati.

Diolch. Buaswn yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Pe gallech wneud hynny, byddai hynny'n wych. Diolch yn fawr iawn. Efallai y gallech anfon ffigurau atom hefyd ar nifer y cyfleoedd i hyfforddi yn y gwaith y mae athrawon o'r tu allan i Gymru wedi manteisio arnynt.

Fe sonioch chi am hyn yn eich ymateb i fy nghwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, eich bod am i ysgolion fod yn cyflogi'r athrawon newydd a fydd yn dod drwy'r system o ganlyniad i hyn oll. Sut y byddwch yn sicrhau y gall ysgolion fforddio cyflogi mwy o'r athrawon hyn ac arafu'r ddibyniaeth ar asiantaethau cyflenwi, sydd wrth gwrs, yn arwain at broblemau eraill? Faint o'r £195 miliwn o gyllid canlyniadol i addysg sy'n dod i Gymru o ganlyniad i adolygiad gwariant y DU eleni a fydd yn mynd i ysgolion Cymru yn benodol? Diolch.

Wel, mae'r Aelod yn ymwybodol iawn o fwriad y Llywodraeth i gyhoeddi ei chyllideb yng nghanol mis Rhagfyr, bellach—mae wedi'i gohirio, rwy'n ymwybodol o hynny. A bydd yn amlwg i'r Aelodau sut y mae'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella nid yn unig y gyllideb addysg—ond hefyd, yn hanfodol, mae'r mwyafrif helaeth o gyllid ysgolion yn mynd i ysgolion nid drwy fy nghyllideb i, ond drwy'r Gweinidog llywodraeth leol a'r grant cymorth refeniw. A bydd yn rhaid i'r Aelod aros ychydig wythnosau eto cyn y bydd y manylion hynny ar gael i'r holl Aelodau.

13:55
Gofalwyr sydd yn Astudio mewn Addysg Uwch

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr sydd yn astudio mewn addysg uwch? OAQ54742

Yng Nghymru, rwyf wedi sicrhau bod y pecyn cymorth mwyaf hael ar gael i fyfyrwyr, sy'n cynnwys cymorth penodol i helpu myfyrwyr sydd â dibynyddion. Y llynedd, darparwyd £9.8 miliwn gennym fel grantiau ar gyfer dibynyddion myfyrwyr israddedig amser llawn i'w helpu i aros mewn addysg.

Diolch am yr ymateb yna. Mae yna waith rhagorol yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor, fy mhrifysgol leol i, er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn gallu dilyn cyrsiau prifysgol a'u bod nhw'n cael y gefnogaeth i wneud hynny. Mae'r rhestr o bethau sy'n cael eu gwneud yno yn cynnwys bwrsariaeth o £1,000; mae yna gwrs preswyl yn cael ei gynnal i ofalwyr rhwng 16 a 25 oed i roi blas ar fywyd prifysgol iddyn nhw ac i weld sut y byddan nhw'n gallu ymdopi â hynny; mae yna fand arddwrn yn cael ei gynnig iddyn nhw, sydd yn syniad da, er mwyn iddyn nhw beidio â gorfod egluro i wahanol aelodau staff pam eu bod nhw angen cymryd galwad ffôn neu orfod gadael yn gynnar ac yn y blaen.

Dwi'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ddarparu adroddiad yn amlinellu beth allai prifysgolion ei wneud i ddenu gofalwyr. Dwi'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mawr mewn dysgu o beth sydd wedi bod yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor, ond a allaf ofyn i chi beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw? Oes yna fwriad i roi rhagor o gyllid, o bosibl, i gefnogi gweithgareddau fel y rheini sydd wedi bod yn digwydd ym Mangor—er enghraifft, i'w galluogi nhw i barhau â'u gwaith rŵan, ond hefyd i gydweithio'n agos efo ysgolion er mwyn dangos yn gliriach y llwybrau i addysg uwch i ofalwyr ifanc?

Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi achub ar y cyfle hwn i longyfarch Bangor ar y gwaith a wnânt i ehangu mynediad a chyfranogiad ar gyfer y grŵp penodol hwn o fyfyrwyr? Roedd y bwrsari £1,000 yn ymyrraeth arloesol iawn ac yn ffordd wych o dynnu sylw at Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, sef y diwrnod y gwnaethant lansio hynny a'r rhaglenni eraill sydd ganddynt yn swyddogol.

A gaf fi ddweud nad yw Bangor ar eu pen eu hunain yn hyn o beth, o ran cydnabod yr anghenion ychwanegol sydd gan ofalwyr? Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig bwrsarïau gofalwyr gwerth £1,000 i fyfyrwyr amser llawn a £500 i fyfyrwyr rhan-amser; mae Prifysgol Caerdydd yn darparu bwrsari o £3,000 i ofalwyr dros gyfnod eu cwrs; ac mae Prifysgol Abertawe yn cynnig bwrsari gofalwyr o hyd at £500.

Felly, mae prifysgolion yn ymwybodol o'r heriau y mae'r grŵp penodol hwn o fyfyrwyr yn eu hwynebu. Ond credaf y gallwn wneud mwy, ac y dylem wneud mwy, i chwalu'r rhwystrau rhag dilyn addysg bellach neu uwch i'r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu, a dyna pam y comisiynwyd y gwaith hwn fel y gall wneud mwy i'n llywio ni a'r sgyrsiau a gaf gyda'r cyngor cyllido a'n prifysgolion ynghylch beth arall y gallant ei wneud.

A gaf fi ddweud—? Amser cinio—nid wyf yn siŵr a fu modd i'r Aelod fynychu—o dan ofal Hefin David, bu Prifysgol Caerdydd yma yn tynnu sylw ac yn arddangos peth o'u gwaith ehangu mynediad a chyfranogiad, i geisio cefnogi ceiswyr lloches, plant â phrofiad o ofal ac unigolion â niwroamrywiaeth, sydd efallai wedi teimlo yn y gorffennol nad oedd y brifysgol ar eu cyfer hwy.

Mae llawer o arferion da ar waith, ond bydd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau inni ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud. Ond hoffwn longyfarch Bangor ar eu gwaith caled yn y maes hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Hoffwn ategu'r diolch a roddwyd yma heddiw i ganmol Prifysgol Bangor am eu hymdrechion ardderchog i gefnogi myfyrwyr sy'n ofalwyr. Mae'n dangos beth y gellir ei wneud—mewn pedair blynedd, mae'r brifysgol, er enghraifft, wedi creu llyfryn i fyfyrwyr sy'n ofalwyr; fel y nodwyd, maent wedi cyflwyno strapen arddwrn goch i helpu darlithwyr i nodi gofalwyr; ac maent wedi dyfarnu bwrsarïau o £1,000 i ofalwyr. Yn yr un modd, fel y nododd y Gweinidog, mae Prifysgol De Cymru yn cynnig bwrsari gofalwyr gwerth £1,000, a Phrifysgol Abertawe yn cynnig bwrsari o hyd at £500. Mae'r rhain yn fentrau rhagorol ac maent yn darparu model cymorth mawr ei angen. Nawr, fel y Gweinidog yma yn Llywodraeth Cymru, a wnewch chi ystyried cyflwyno bwrsari ledled Cymru ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr?

Wel, pe bai'r Aelod yn gwrando ar fy ateb cychwynnol i'r Aelod, byddai wedi fy nghlywed yn dweud ein bod, y llynedd, wedi cyhoeddi £9.8 miliwn i gefnogi 3,400 o fyfyrwyr gyda grant cyfartalog o £2,800 i'r rheini sydd â dibynyddion, boed yn blant neu'n oedolion, i ganiatáu iddynt—[Torri ar draws.] Mae'n gyffredinol, i bawb. Ac fel y dywedais, roedd hwnnw'n £9.8 miliwn a ddefnyddiwyd gennym i gefnogi myfyrwyr y llynedd yn unig.

14:00
TGAU a Chymwysterau Eraill

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill y mae pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn astudio ar eu cyfer? OAQ54739

Diolch, Andrew. Ar 18 Tachwedd, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr annibynnol, ymgynghoriad helaeth a oedd yn nodi sut y mae'n bwriadu sicrhau bod cymwysterau i bobl 16 oed yn adlewyrchu'r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae hyn yn cynnwys y cynnig y dylai TGAU wedi'u hailgynllunio fod yn rhan ganolog o'r cynnig cymwysterau.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yr hyn a wyddom yw fod Cymwysterau Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid sicrhau newidiadau yn y cymwysterau a'r arholiadau y bydd pobl yn eu sefyll yn 16 oed yma yng Nghymru, ni waeth beth fydd yr ymgynghoriad hwnnw'n ei ddweud. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, ni waeth pa gymhwyster y mae rhywun yn ymgymryd ag ef, boed yn un galwedigaethol neu academaidd, yw fod cefnogaeth dda i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd i'w chael mewn ysgolion. Oherwydd clywsom ddoe gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru, Suzy Davies, am chwarae’r system yng Nghymru, fel y gall ysgolion wthio eu cymwysterau academaidd yn uwch er mwyn bod yn nhablau’r gynghrair.

A ydych yn cytuno â mi, Brif Weinidog, Weinidog—rwyf newydd roi dyrchafiad i chi—mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw fod gan beth bynnag a ddaw o'r ymgynghoriad hefyd becyn cryf o gymorth a chyngor i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd mewn ysgolion, fel bod ein dysgwyr yn sefyll yr arholiadau cywir, beth bynnag ydynt—boed yn rhai academaidd neu alwedigaethol—fel eu bod yn cyflawni eu potensial llawn? Oherwydd fel tad i bedwar o blant, un peth sydd wedi fy nharo wrth iddynt fynd drwy'r system academaidd yw fod y cyngor hwnnw, yn aml iawn, yn brin iawn yn ein system.

Andrew, credaf eich bod yn llygad eich lle: yr hyn sy'n hanfodol yw fod gan blant, pobl ifanc a'u rhieni fynediad at wybodaeth a chyngor gyrfaoedd annibynnol gwych. Gwyddom fod plant mor ifanc â chwech oed eisoes yn dechrau ffurfio eu syniadau am yrfaoedd, a'r hyn a allai fod ar gael iddynt ai peidio, ac yn llawer rhy aml, maent yn culhau'r ystod o ddewisiadau ar eu cyfer.

Mae'r Aelod, rwy'n siŵr, yn ymwybodol fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sydd yn rhanbarth yr Aelod, rwy'n credu, ar hyn o bryd, ar ran Llywodraeth Cymru, yn treialu'r hyn a elwir yn ddull Gatsby o ddarparu cyngor gyrfaoedd. Y bore yma, roeddwn yn y Beddau yn yr ysgol uwchradd yno yn edrych ar eu dull diwygiedig o ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Mae pob plentyn a phob rhiant yn cael cyfweliad wrth gychwyn yn yr ysgol; caiff y cyfweliadau hynny eu hailadrodd ym mlwyddyn 9 cyn i'r plant wneud eu dewisiadau ar gyfer TGAU. Maent yn gweithio ar bob un o'r meini prawf Gatsby yn yr ysgol honno, gan ddatblygu cysylltiadau â busnesau lleol, colegau addysg bellach a cholegau addysg uwch, a dod â'r bobl ifanc i gysylltiad â'r llu o gyfleoedd sydd ar gael. Ond y peth hanfodol yw fod pob plentyn yn cael eu trin fel unigolion, nid yw'n ddull cyffredinol lle mae pobl yn derbyn yr un neges; ceir rhaglen unigol, bersonol ar gyfer pob plentyn. Buaswn yn cymeradwyo'r dull a dreialwyd, ac rwy'n siŵr y byddai'r ysgolion lleol yn ei ranbarth yn fwy na pharod iddo ymweld iddo gael ei weld ar waith.

Bydd llawer o'n myfyrwyr, ar ryw adeg yn eu gyrfaoedd, yn chwilio am waith dros y ffin yn Lloegr. Dim ond yn ddiweddar y mae Lloegr wedi gwyro oddi wrth ein system raddio drwy newid i system i un i naw, ond tybed a yw'r Ysgrifennydd addysg, yn y tymor hwy, yn rhagweld unrhyw risgiau i fyfyrwyr Cymru yn sgil y gwahaniaeth hwnnw o ran sicrhau bod eu cymwysterau'n cael eu trin fel y dylent yn Lloegr, yn enwedig o ystyried y pwyslais y mae'r Adran Addysg yn San Steffan wedi'i roi ar y syniad fod y newid i system un i naw yn ymwneud â sicrhau cymwysterau mwy cadarn.

Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir. Nid yw'r ffaith bod Lloegr wedi penderfynu gwneud rhywbeth yn golygu mai dyna yw'r penderfyniad cywir. Nid wyf yn gwybod pam ein bod, yn y bôn, yn cychwyn o'r rhagosodiad hwnnw. Efallai mai'r penderfyniad i gadw A* i G, system y mae colegau addysg bellach, colegau addysg uwch a chyflogwyr yn ei deall yn iawn, yw'r man cychwyn cywir mewn gwirionedd. Ond mae'r Aelod yn llygad ei le: yr hyn sy'n hollbwysig yw fod unrhyw gymhwyster y mae myfyriwr o Gymru yn ei sefyll yr un mor gludadwy a chadarn, ac nid oes unrhyw beth i awgrymu—unrhyw beth o gwbl i awgrymu—fod ein TGAU yn llai anodd, ymestynnol a chaled na TGAU dros y ffin. Ac mae unrhyw awgrym eu bod yn gwneud tro gwael â'n myfyrwyr unigol a'n disgyblion. Mae’n hanfodol eu bod yn gludadwy, a dyna pam fod gennym system gymwysterau annibynnol sy’n gweithio gyda systemau cymwysterau yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod y cydweddoldeb hwnnw'n bodoli a bod rhieni a myfyrwyr yn gwybod bod yr arholiadau y maent yn eu sefyll yn ein gwlad yn arholiadau a fydd yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi yn unrhyw le yn y byd.

14:05
Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

5. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn y 12 mis nesaf? OAQ54741

Mae swyddogion yn drafftio deddfwriaeth i sefydlu'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil, ac fe'i cyhoeddir yn y gwanwyn.

Yn ddiweddar, cyfarfûm â chynrychiolydd o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Fe wnaethant dynnu sylw at y ffaith bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn diffinio undebau myfyrwyr ac yn amlinellu sut y dylent edrych, ond nid yw'n gosod dyletswydd ar ddarparwyr addysg ôl-16 i gael undeb mewn gwirionedd. Dywedant fod unrhyw ddiwygiad i'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn darparu cyfle i gryfhau'r sylfaen gyfreithiol sy'n sail i undebau myfyrwyr. Pa gynlluniau sydd gennych, Weinidog, i osod dyletswydd ar bob darparwr addysg ôl-16 i gael undeb myfyrwyr sy'n wleidyddol annibynnol, yn strwythurol annibynnol ac wedi'i ariannu'n llawn?

Bydd llais myfyrwyr yn rhan ganolog o'n deddfwriaeth i ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Beth yw eich cynlluniau—? Fel y dywedais yn gynharach—soniais am brentisiaethau. Beth yw eich cynlluniau yn hyn o beth i sicrhau bod prentisiaethau yn ganolog yn y cynigion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol? Gwn, wrth gwrs, fod hwn yn faes sydd yn y briff economi a thrafnidiaeth, ond yn fy marn i—ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno—dylid ystyried prentisiaeth i bobl ifanc fel estyniad o broses addysgol yn hytrach na rhywbeth ar wahân iddi, a phan siaradaf â'r rheini ym maes prentisiaethau, ymddengys eu bod yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu o drefn y colegau. Felly, tybed sut y gallwch ddefnyddio'r newidiadau i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol er mwyn sicrhau bod sgiliau allweddol nad ydynt yn seiliedig ar waith a diwrnodau addysg oddi ar y safle yn cael eu darparu'n briodol i'r myfyrwyr hynny hefyd.

Wel, mae'n bwysig cydnabod y bydd ein cynigion i sefydlu'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn cwmpasu'r holl addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan gynnwys darparwyr prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith. Mae hefyd yn bwysig iawn cydnabod y twf sylweddol yn yr amrywiaeth o raglenni prentisiaeth. Rwy'n tybio y bydd llawer o bobl yn parhau i feddwl am brentisiaeth fel rhywbeth y mae unigolyn ifanc yn ei wneud pan fo’n 16 oed neu’n 18 oed. Ond rydym yn fwy a mwy awyddus i ddatblygu ein portffolio o brentisiaethau lefel uwch, ac yn wir, eleni, rydym wedi gweld ein carfan gyntaf o radd-brentisiaethau, lle mae myfyrwyr yn dysgu yn y gwaith ac mewn prifysgol o'u dewis. Mae'n ddatblygiad pwysig iawn i fyfyrwyr nad ydynt am greu deuoliaeth ffug ynglŷn â dysgu mewn sefydliad academaidd neu ddatblygu prentisiaeth. Ni ddylem eu gorfodi i wneud y dewis hwnnw; dylem allu darparu cyfle sy'n caniatáu iddynt gyfuno'r ddau beth, a dyna'n union rydym yn ei wneud gyda'n rhaglen radd-brentisiaeth.

Ond dylai dod ag addysg uwch, addysg bellach, dosbarthiadau chwech a dysgu yn y gwaith oll o dan adain un sefydliad ganiatáu inni sicrhau mwy o amrywiaeth o ran cyfle i fyfyrwyr, ac i fyfyrwyr symud yn fwy di-dor drwy wahanol sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Bwlio mewn Ysgolion

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i atal bwlio mewn ysgolion? OAQ54756

Diolch, Joyce. Y mis hwn, rwyf wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau o dan yr enw 'Hawliau, parch, cydraddoldeb: Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir', sy'n amlinellu ein canllawiau statudol newydd ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu i atal a mynd i'r afael â bwlio yn ein system addysg. Fe'u cefnogir gan ganllawiau cynghori i blant a phobl ifanc eu hunain a'u rhieni a'u gofalwyr ar sut y gallant helpu rhai sy'n cael eu bwlio.

Diolch yn fawr iawn. Gall effaith bwlio ar iechyd meddwl unigolyn fod yn ddinistriol a gall bara am oes. Gydag un o bob 10 disgybl mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn dioddef bwlio bob wythnos, mae'n hanfodol fod popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud. Felly, rwy'n falch iawn o weld lansiad y canllawiau gwrthfwlio newydd gan Lywodraeth Cymru rydych newydd eu crybwyll. Maent yn cynnwys toreth o adnoddau i ysgolion, cyrff llywodraethu, rhieni a gofalwyr yn ogystal â phlant a phobl ifanc, ac rwy'n siŵr y byddant yn helpu'r holl unigolion hynny, neu bawb sydd â gallu i helpu'r unigolion hynny yn y dyfodol.

Fel y dywedais, mae adnoddau yno y gall rhieni a gofalwyr eu defnyddio, a chredaf fod hynny'n hollbwysig, a bod angen i'r neges nad yw bwlio'n iawn ddod o'r cartref yn ogystal â'r ysgol. Felly, byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn gwybod a yw ysgolion yn mynd ati i annog rhieni a gofalwyr i ddefnyddio'r wybodaeth honno fel y gallant weithio ar yr adnoddau gartref gyda'u plant.

14:10

Diolch, Joyce. Yn amlwg, mae'r rhain yn adnoddau cymharol newydd sydd ar gael i ysgolion, ond yn sicr, buaswn yn disgwyl i ysgolion allu cyfeirio rhieni a gofalwyr at yr adnoddau sydd ar gael yn benodol ar eu cyfer er mwyn iddynt fynd i'r afael ag ymddygiad eu plant eu hunain, deall beth sy'n gwneud i blentyn fwlio yn y lle cyntaf a sut i gefnogi'r plentyn hwnnw. Ond hefyd, os ydych yn rhiant i blentyn sy'n cael eu bwlio, a all fod yn sefyllfa arteithiol i riant fod ynddi, pan nad ydych yn gwybod beth yw'r peth gorau i'w wneud, mae'r canllawiau diweddaraf hyn yn adnodd gwerthfawr iawn i rieni i'w helpu i ymdrin â'r sefyllfa anodd iawn honno.

Ond nid ydym yn gadael hyn i ysgolion. Gall yr Aelodau, os hoffent, edrych ar dudalen Facebook Addysg Cymru heddiw, lle rydym yn mynd ati i dargedu rhieni er mwyn rhoi gwybod iddynt fod y canllawiau hyn ar gael iddynt. Felly, nid ydym yn gadael hyn i ysgolion, rydym ni, fel Llywodraeth, yn ceisio mynd allan yno, gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau i dynnu sylw rhieni at yr adnoddau newydd hyn.

Weinidog, amlygodd adroddiad 'Iach a hapus' Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, mai lleiafrif o ysgolion yn unig sy'n cadw cofnodion defnyddiol am fwlio, gydag ysgolion yn aml ond yn cofnodi'r hyn y maent yn ei ystyried yn ddifrifol. Fodd bynnag, drwy beidio â chofnodi pob honiad o fwlio gan ddisgyblion yn ofalus, ni all ysgolion werthuso eu polisïau'n effeithiol, ac maent mewn perygl o fethu llunio darlun dros amser am ddisgyblion y gallai eu lles fod mewn perygl. Yng ngoleuni hyn, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ysgolion i gofnodi pob achos o fwlio? Yn ogystal â chyhoeddi'r canllawiau rydych newydd eu crybwyll, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu dulliau ysgol gyfan o fynd i'r afael â bwlio, gan y profwyd mai dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â bwlio yn ein hysgolion?

Diolch, Paul. Mae'n rhaid fod gan bob ysgol, yn ôl y gyfraith, bolisi ymddygiad ysgol ar waith, ac mae'r canllawiau gwrthfwlio statudol 'Hawliau, parch, cydraddoldeb' yn amlinellu disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd gan bob ysgol yng Nghymru bolisi gwrthfwlio penodol sy'n nodi sut y bydd yr ysgol yn cofnodi ac yn monitro achosion o fwlio er mwyn helpu i gymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael â hynny. Felly, mae hynny'n union yn rhan hanfodol o'n canllawiau newydd. Mae'n cynnwys gofyniad gorfodol i gofnodi digwyddiadau bwlio, fel bod ysgolion ac awdurdodau lleol wedi'u harfogi'n well â'r data sydd ei angen arnynt; gallant fonitro tueddiadau dros amser; a gallant werthuso effaith y polisïau sydd ganddynt ar waith yn eu hysgol eu hunain. Felly, o ganlyniad i'r canllawiau newydd hyn, rydym yn gobeithio y gellir cael set fwy cadarn o ddata a chofnodion wrth symud ymlaen, sy'n rhywbeth a oedd—a fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef—ar goll yn yr hen system.

Credaf fod pob un ohonom wedi cael e-bost gan nain bryderus iawn yn Wrecsam, sy'n dweud wrthym ei bod yn teimlo nad yw ysgol ei hwyres yn dilyn y weithdrefn ar fwlio, ac mewn gwirionedd, mae'n ymddangos iddi hi fod yr ysgol yn rhwystro unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem, ni waeth beth fo'r canllawiau, heddiw neu yn y gorffennol. A allwch anfon unrhyw neges ychwanegol sy'n gadarn ac yn glir nad yw bwlio yn iawn, a bod yn rhaid i ysgolion fod o ddifrif ynghylch honiadau, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a'i gofnodi?

Diolch. Rwy’n falch iawn o gael cyfle arall i ddweud yn glir nad oes lle i fwlio yn unrhyw un o’n sefydliadau addysgol: ein hysgolion, ein colegau na’n prifysgolion. Fel y dywedais, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ysgol gael polisïau ar waith. Os yw rhiant neu ofalwr yn teimlo nad yw'r ysgol yn gweithredu'r polisi hwnnw, yn y lle cyntaf, dylai'r rhiant neu'r gofalwr godi'r materion hynny sy'n peri pryder gyda chadeirydd y llywodraethwyr, a bydd gweithdrefnau cwyno cadarn ar waith yn yr ysgol, ac yn wir, yn yr awdurdod addysg lleol i'r rhiant neu'r gofalwr eu dilyn.

Efallai y bydd y nain y mae'r Aelod newydd gyfeirio ati yn awyddus i fanteisio ar yr adnoddau newydd sydd ar gael i rieni a gofalwyr, a fydd yn gallu darparu gwybodaeth ychwanegol am yr hyn y gallant ei wneud yn y sefyllfa hon.

14:15
Ariannu Ysgolion

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau oedi o ran cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru am 2020-21 i ariannu ysgolion? OAQ54747

Rydym yn cydnabod goblygiadau'r oedi cyn cyhoeddi ein cyllideb i osod cyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21. Disgwylir i'r setliad llywodraeth leol dros dro, y darperir y rhan fwyaf o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion drwyddo, gael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod â'r gyllideb ddrafft.

Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod nifer o fyrddau llywodraethol ar hyn o bryd yn gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â'u cyllidebau nhw flwyddyn nesaf, sy'n cynnwys diswyddo athrawon, diswyddo cynorthwywyr dosbarth, ac yn y blaen. Ond maen nhw'n gwneud hynny heb wybod, wrth gwrs, beth fydd eu cyllideb nhw ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac os gwrandewch chi ar rai o'r pleidiau gwleidyddol yn yr etholiad cyffredinol, mae'n bosibl na fydd pres ddim yn issue o gwbl yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond mi gredaf i hynny pan welaf i fe.

Ond yr hyn dwi'n gofyn, wrth gwrs, yw: beth ŷch chi'n ei wneud i roi sicrwydd cynharach i ysgolion ynglŷn â beth allan nhw ddisgwyl y flwyddyn nesaf, a hefyd sicrwydd mwy hirdymor, oherwydd mae mynd o flwyddyn i flwyddyn yn broblemus, onid yw e? Gallwch chi gael gwell cynllunio strategol o roi sicrwydd mwy hirdymor o ariannu a fyddai, ar ddiwedd y dydd, yn rhoi mwy o werth am yr arian rŷch chi'n ei roi iddyn nhw yn y lle cyntaf.

Fel chithau, Llyr, fe'i credaf pan y'i gwelaf hefyd. Byddai'n newid i'w groesawu.

Mae'r materion y soniwch amdanynt yn rhai go iawn ac mae'r Llywodraeth yn eu cydnabod. Rydym wedi gallu rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl i awdurdodau lleol heb danseilio'r prosesau sy'n ofynnol gennym, gan y Siambr hon, y mae'n rhaid i'r Llywodraeth fynd drwyddynt. Rydym wedi ceisio rhoi lefel o sicrwydd i'n partneriaid llywodraeth leol.

Ni allwn gytuno mwy â chi: byddai'r gallu i ddarparu rhagolygon cyllidol mwy hirdymor yn sicr yn caniatáu gwell cynllunio a gwell proses ar gyfer gwneud penderfyniadau. Y gwir amdani, Llyr, yw nad wyf mewn sefyllfa i wneud hynny gan nad yw'r Gweinidog cyllid mewn sefyllfa i wneud hynny chwaith, o gofio mai am flwyddyn yn unig y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllideb ddangosol inni, yn wahanol i'r Adran Addysg yn Lloegr, sydd wedi cael cyllideb ddangosol am dair blynedd.

Ieithoedd Tramor Modern

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthdroi'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU a safon uwch? OAQ54763

Diolch, Delyth. Ers 2015, rydym wedi buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y rhaglen Dyfodol Byd-eang i sicrhau bod ein dysgwyr yn elwa o fanteision dysgu ieithoedd tramor modern. Mae hyn yn cynnwys ariannu partneriaid consortia i ddatblygu canolfannau rhagoriaeth gydag ysgolion a phrifysgolion a'r prosiect mentora myfyrwyr, sydd wedi'i anelu'n benodol at gynyddu'r nifer sy'n mynd ar drywydd cymwysterau iaith.

Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Mae arolwg 'Tueddiadau Ieithoedd Cymru' diweddaraf y British Council yn ddiddorol iawn i'r rhai ohonom sy'n credu bod dysgu ieithoedd tramor modern yn bwysig nid yn unig er mwyn cynyddu sylfaen sgiliau ein pobl ifanc, ond er mwyn cynyddu eu hempathi ac ehangu eu dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill. Dengys yr ymchwil fod y cwymp yn nifer y disgyblion sy'n astudio'r pynciau hyn ar lefel TGAU a Safon Uwch ers 2000 wedi parhau'n ddi-baid, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o hynny. Eleni, bu gostyngiad pellach o 7 y cant ar lefel TGAU a gostyngiad cyfatebol o 5 y cant ar lefel Safon Uwch.

Daw'r British Council i'r casgliad y dylai'r cymhellion a'r gefnogaeth i ieithoedd tramor modern mewn ysgolion fynd ymhellach o lawer na'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig ar hyn o bryd drwy'r fenter Dyfodol Byd-eang y cyfeirioch chi ati. Weinidog, maent yn cynnig 11 o argymhellion, wedi'u seilio'n bennaf ar ddatblygu dull amlieithog newydd mewn ysgolion cynradd a chynorthwyo athrawon i hyrwyddo ieithoedd tramor modern er mwyn ysbrydoli ac ysgogi plant i'w hastudio ar lefel TGAU. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn rhoi ystyriaeth ddyledus i'r argymhellion hyn pan gaiff yr adroddiad llawn ei gyhoeddi, a meddwl eto am yr hyn y mae angen ei roi ar waith ar lefel ysgolion cynradd fel y gallwn ddechrau gwrthdroi'r dirywiad anffodus hwn mewn addysgu ieithoedd tramor modern?

A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â'r Aelod? Mae'n amlwg fod gennym lawer iawn o waith i'w wneud i fynd i'r afael â'r dirywiad yn y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar lefel TGAU. Mae'r myfyrwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern yn gwneud yn arbennig o dda, ond mae'r niferoedd yn peri pryder i mi ac yn peri pryder, rwy'n siŵr, i bawb yn y Siambr hon.

Roedd hi'n fwy calonogol darllen yn adroddiad y British Council, er bod yr her honno'n dal i fodoli yn y sector uwchradd, fod y darlun yn gwella ar y lefel gynradd yn wir, ac mae'r mentrau hynny mewn ysgolion cynradd yn gwbl hanfodol. Roeddwn yn falch o ddarllen yn yr adroddiad fod yna dystiolaeth fod mwy o ysgolion cynradd yn cynnwys ieithoedd tramor modern yn eu cwricwlwm eu hunain.

Fy mwriad wrth gyhoeddi'r cwricwlwm newydd i Gymru yw y byddwn yn dweud yn glir y byddem yn disgwyl gweld ieithoedd tramor modern yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r cwricwlwm i'r ystod oedran uwch yn ein hysgolion cynradd i roi cyfle i blant gymryd rhan yn y pynciau hynny'n gynnar. Ond yn wir, yn rhai o'n hysgolion arloesi—. Yn ddiweddar, roeddwn mewn ysgol pob oed newydd yn y Cymoedd lle roedd y dosbarth ieuengaf yn darllen The Very Hungry Caterpillar—mae llawer ohonoch, rwy'n siŵr, yn gwybod am The Very Hungry Caterpillar, yr eicon llenyddiaeth plant hwnnw—ac roeddent yn dysgu'r ffrwythau sy'n ymddangos yn y llyfr, roeddent yn dysgu'r geiriau am y ffrwythau hynny yn Saesneg, yn Gymraeg, ac en Español, yn Sbaeneg. Ac roedd y plant yn dwli dysgu'r gwahanol eiriau, ac mae hynny'n dangos bod modd gwneud hyn.

O ran Dyfodol Byd-eang, fy mwriad yw adnewyddu cynllun Dyfodol Byd-eang, ond mae'n rhaid i mi ddweud, fel y dywedais yn gynharach, os ydym yn parhau i wneud yr un peth, byddwn yn y cyrraedd yr un canlyniadau yn y pen draw. Felly, hoffwn gael fy argyhoeddi gan fy swyddogion y bydd yr hyn rydym yn mynd i'w gynnig mewn fersiwn newydd o Dyfodol Byd-eang yn mynd i'r afael â'r broblem o ddifrif, gan na fydd parhau â'r un dull gan y Llywodraeth yn arwain at y newid sylweddol y mae'r British Council a chithau yn galw amdano.

14:20
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eitem 2 yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a daw cwestiwn 1 y prynhawn yma gan Suzy Davies.

Ffiniau'r Byrddau Iechyd Newydd

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffiniau'r byrddau iechyd newydd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54765

Diolch am eich cwestiwn. Yr unig newid sydd wedi bod i ffiniau'r byrddau iechyd ers 2009 yw symud ardal bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ffurfio'r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Daeth y ddeddfwriaeth i wneud y newid hwnnw i rym ar 1 Ebrill 2019.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ddwy flynedd yn ôl, pan oeddem yn trafod hyn, fe ddywedoch wrthyf na fyddai'r newid yn ôl troed y bwrdd iechyd yng Ngorllewin De Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r gwasanaethau yno. Fodd bynnag, cefais gadarnhad yn ddiweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eu bod yn dal i ystyried cau'r meddygfeydd yn Llanharan a Phencoed, ac yn bwriadu agor un feddygfa newydd yn eu lle yn Llanharan, er na allant ddweud eto beth y gallai'r gwasanaethau hynny fod. Gyda chynnydd mawr ar y gweill o ran datblygiadau tai—dyna a ddywedwyd wrthyf yn ddiweddar gan Marcus Longley—gallai hynny olygu—. Prif bwynt y cwestiwn yw y bydd cryn dipyn o ddatblygiadau tai yn yr ardal benodol honno, felly tybed a allech ddweud wrthyf, ers i'r ffiniau newid, pa ddiweddariad rydych wedi'i gael gan y bwrdd newydd ynglŷn â'r materion penodol hyn ar ochr orllewinol bellaf eu ffin, ac a ydynt yn bwriadu cynnal unrhyw asesiadau effaith newydd yn hytrach na dibynnu ar y rhai a wnaed yn flaenorol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Diolch.

Ni chredaf fod y newid i'r ffiniau yn effeithio'n andwyol ar y mater hwn o gwbl. Mewn gwirionedd, rhan o'r her i'r practis hwn yn y gorffennol oedd sicrhau bod canolfannau'n gweithredu mewn gwahanol ardaloedd byrddau iechyd. Ac yn fy sgwrs â'r Aelod etholaeth, mae fy nealltwriaeth yn wahanol i'r un a ddisgrifiwyd gennych. Efallai y byddai'n werth i chi ysgrifennu ataf, yna gallaf ysgrifennu at yr Aelod etholaeth, sydd wedi codi hyn gyda mi yn uniongyrchol, a chithau fel y gellir egluro'r mater, gan fod hyn yn ymwneud â chynllunio i ddarparu'r gwasanaeth ac ystyried yr angen ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac mae hynny'n rhan o'r hyn y dylem ei weld yn digwydd ar draws gofal sylfaenol.

Fel y dywedoch, mae ardal Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn rhan o ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Golyga hynny fod carchar y Parc bellach yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Fel y gwyddoch, mae carchar y Parc yn garchar preifat ac mae'r system gofal iechyd, sydd wedi'i datganoli, yn cael ei gweithredu'n breifat o dan G4S yng ngharchar preifat y Parc ac mae i fod o dan drosolwg bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Nawr, awgrymodd tystiolaeth i'r pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf gan uwch gynrychiolwyr bwrdd Cwm Taf nad oedd ganddynt fawr o syniad ynglŷn â'r sefyllfa iechyd yng ngharchar y Parc. A yw hynny'n dderbyniol?

Wel, mae hynny'n ganlyniad i'r trefniadau a roddwyd ar waith mewn carchar preifat, ac nid yw'n fater y gallaf ymyrryd ynddo neu ei ddad-wneud. Byddai'n llawer gwell gennyf pe bai gofal iechyd carcharorion yn cael ei redeg mewn ffordd wahanol. Yn bersonol, byddai'n well gennyf pe ceid diweddariad i'r fformiwla i gydnabod y cynnydd yn y boblogaeth carcharorion, a'r anghenion sy'n bodoli. Byddai'n llawer gwell gennyf pe na bai'r ddarpariaeth breifat gennym yng ngharchar y Parc. Nid yw hynny'n fater rwy'n ei reoli, er, yn amlwg, ar 13 Rhagfyr, edrychaf ymlaen at newid sylweddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu a'u darparu.

Diolch i Suzy am godi'r cwestiwn hwn, ac efallai y gallaf roi rhywfaint o gymorth, ond hoffwn ofyn am ychydig o help gan y Gweinidog wrth symud ymlaen hefyd. Mae'r newidiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod o gymorth, yn wir, mewn perthynas â dau fater pwysig y gwn ei fod wedi ymdrin â hwy dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf hefyd.

Un, yn wir, oedd mater darpariaeth meddygfeydd i bobl yn ardal Llanharan a Brynna. Hoffwn gofnodi fy niolch, mae'n rhaid i mi ddweud, i Ganolfan Feddygol Pencoed, sydd wedi ailgyflwyno eu meddygfeydd yn Llanharan ac wedi ymestyn y ddarpariaeth i bedwar diwrnod a hanner yno bellach. Ond mae'n codi'r mater diddorol mwy hirdymor a gododd Suzy. Rydym yn mynd i gael miloedd o gartrefi newydd yn yr ardal honno, o Bencoed i Lanharan i Bont-y-clun. Mae pum meddygfa yn yr ardal honno yn ôl pob tebyg, gan gynnwys Tonysguboriau a Phont-y-clun, yn ogystal â dwy ym Mhencoed ac yn y blaen. Ar ryw bwynt, bydd angen inni newid y deial yma a mynd y tu hwnt i feddygfeydd allgymorth, sy'n wych, a diolch i Ganolfan Feddygol Pencoed am ailgyflwyno hynny. Felly, gofynnaf iddo a fydd yn parhau i ymgysylltu â mi a gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i archwilio hynny. Oherwydd maent wedi rhoi darpariaeth wych ar waith mewn lleoedd fel Aberpennar, lle maent wedi adeiladu meddygfeydd newydd yno. A chredaf y dylent fod yn edrych ar y meddygon teulu presennol i weld pa rai o'r rheini a fyddai'n awyddus i fod yn rhan o hyn.

Yr ail agwedd y buaswn yn gofyn iddo barhau i ymwneud â hi yw ysbyty dydd Maesteg, a'r cyfleusterau ehangach mewn gwirionedd. Ar ôl ymgynghoriad ychydig yn frawychus o'r blaen o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae'n wych fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach wedi mynd ati i gyd-ddarparu rhywbeth ar sail, 'Sut rydym yn gwella dyfodol ysbyty Maesteg?' Ond mae'r Gweinidog wedi bod yn rhan annatod o gynorthwyo'r broses hon, a buaswn yn gofyn iddo'n syml a yw'n barod i gadw diddordeb yn hyn ac i barhau, lle bo modd, i annog yn dyner y tu ôl i'r llen, fel y gallwn sicrhau ein bod yn darparu'r atebion cywir i bobl, p'un a ydynt yn Llanharan yn y dwyrain, ym Maesteg yng nghwm Llynfi, neu gwm Afan, dylwn ddweud, yn y gorllewin.

14:25

Rwy'n falch o gadarnhau, ar fater Pencoed, fy mod yn cofio nid yn unig y sgwrs gyda'r Aelod ond gyda chynghorwyr a thrigolion lleol am y bygythiad i gau canolfan Llanharan, ac rwy'n falch fod ganddi ddyfodol hirdymor. Ac wrth gwrs, wrth feddwl am y dyfodol, mae angen inni feddwl ynglŷn â ble mae'r angen a ble mae'r galw, yn ogystal â'r her ehangach a nodwyd yn y gynhadledd gofal sylfaenol yn ddiweddar ynglŷn â sut y mae clystyrau'n cydweithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd fel bod gennych fwy o bartneriaeth ym mhob rhan o'r tîm gofal sylfaenol. Ac rwy'n fwy na pharod i barhau i ymgysylltu a chymryd rhan yn hynny.

Ac mae'r un peth yn wir gyda'r gwasanaethau sydd i gael eu lleoli ar safle ysbyty dydd Maesteg yn y dyfodol, gan fod hyn yn ymwneud â ble a sut rydym yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Ac rwy'n siŵr, hyd yn oed pe na bawn am ymgysylltu a chymryd rhan ynddynt mwyach, y byddai'r Aelod etholaeth yn fy llusgo'n ôl i wneud fy swydd a gwneud yn union hynny.

Llawfeddygaeth Ddeintyddol Frys yng Ngogledd Cymru

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cafodd GIG Cymru—[Torri ar draws.] A dweud y gwir, os ydych o ddifrif eisiau gwybod—

O'r gorau, wel rwy'n eithaf pryderus ynglŷn â'r cwestiwn y bydd yn rhaid i mi ei ofyn. Mae GIG Cymru wedi gweld y ganran uchaf erioed—

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth llawfeddygaeth ddeintyddol frys yng ngogledd Cymru? OAQ54751

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cychwyn adolygiad o ddarpariaeth ddeintyddol frys ac argyfwng, gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth cynaliadwy a gwell. Fel rhan o'r broses ac wrth ystyried unrhyw newid, bydd staff ac undebau llafur yn cymryd rhan, ac ymgynghorir â hwy'n ffurfiol.

Diolch, Weinidog. Cafodd GIG Cymru y ganran uchaf erioed o lwybrau gofal i gleifion yn aros rhwng 26 a 36 wythnos i ddechrau triniaeth ar gyfer llawdriniaeth ar y geg ym mis Medi 2019. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar fy etholwyr, fel un fenyw a chanddi ddant sydd wedi pydru’n ddifrifol gan achosi chwydd i’w hwyneb, poen difrifol a lefelau uchel o haint. Mae hi eisoes wedi aros 33 wythnos i gael ei dynnu. Bu'n rhaid canslo nifer o apwyntiadau ar gyfer llawdriniaeth angenrheidiol ar ei llygad am nad yw wedi cael llawdriniaeth ar y geg, ac oherwydd bod ganddi haint. Mae'r ddynes hon yn 83 oed, ac fel y dywedais, mae hi eisoes wedi aros 33 wythnos. Mae GIG Cymru yn methu cyrraedd y targed 26 wythnos ar gyfer llawdriniaethau. Felly, pa sicrwydd a roddwch i mi yma heddiw na fydd yn rhaid i fy etholwyr aros cymaint o wythnosau mewn poen ofnadwy am lawdriniaeth frys ar y geg eto? Ac a wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymyrryd yn yr achos hwn efallai, a gadewch i ni sicrhau bod dant y fenyw hon yn cael ei dynnu?

Fel y gwyddoch, ni allaf wneud sylwadau ar fater unigol, a mater rwy'n sicr nad wyf yn ymwybodol ohono, ond os ysgrifennwch ataf gyda'r manylion, ac rwy'n siŵr y gwnewch, rwy'n fwy na pharod ymchwilio i'r mater er mwyn deall beth sydd wedi digwydd i'ch etholwr unigol.

O ran yr her ehangach ynglŷn â gwella perfformiad yn y gwasanaeth iechyd gwladol, fel y gwyddoch, rydym wedi buddsoddi £50 miliwn i helpu i wella perfformiad yn ystod eleni. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 85 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn y targed 26 wythnos ar gyfer gofal wedi'i drefnu, ac rydych hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod yna ystod o ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth, gan gynnwys effaith uniongyrchol newidiadau treth a phensiwn. Felly, mae'r Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi yn nyfodol y gwaith o wella perfformiad; rydych wedi gweld perfformiad yn gwella ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf. Rwy’n disgwyl gallu cyflawni gwelliannau pellach eto, gan gofio’r gofynion sy’n ein hwynebu ac a welwn yn dod i mewn i’n system, ac wrth gwrs, yr her o ran buddsoddi yn yr holl wasanaethau cyhoeddus.

14:30

Mae etholwyr yn ardal Bangor wedi cysylltu â fi yn mynegi gofid ynglŷn â pha mor amhosib yw hi i gael mynediad at wasanaethau deintyddol. Mae rhestrau deintyddiaeth NHS ar gau, wrth gwrs. Dŷn nhw ddim yn gallu fforddio talu am fynediad i ddarpariaeth breifat, ac mae yna deuluoedd yn dweud wrthyf i eu bod nhw ddim wedi cael gweld deintydd ers dros flwyddyn. Felly, a gaf i ofyn beth ydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem yna, ac yn benodol beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn sicrhau ein bod ni yn hyfforddi deintyddion yn y gogledd, oherwydd, fel gyda meddygon teulu, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod, os ydy pobl yn cael eu hyfforddi yn y gogledd, maen nhw'n fwy tebygol o aros yn y gogledd i gyflawni eu gwaith?

A dweud y gwir, rydym yn edrych ar ystod o ardaloedd hyfforddi ledled y wlad, gan gynnwys gogledd Cymru, ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol, a bydd gennyf fwy i'w wneud â'r gyfadran ym Mangor yn y dyfodol agos, i'w hagor yn ffurfiol. Ond o ran yr heriau penodol yng Nghymru, mewn gwirionedd rydym yn gweld llawer mwy o bobl bob blwyddyn, o gymharu â degawd yn ôl, ar draws y wlad yn sicr. Yng ngogledd Cymru, mae'r bwrdd iechyd ar fin aildendro ystod o bractisau deintyddol sydd wedi cau dros y 12 mis diwethaf. Dylech weld mwy o gapasiti yn y gogledd yn benodol, ond yn fwy na hynny, wrth gwrs, fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, mae'r rhaglen diwygio contractau yn ymwneud mewn gwirionedd â darparu nid yn unig mwy o werth, ond mwy o gapasiti, mewn gwasanaethau deintyddol sylfaenol, ac rwy'n yn falch o weld bod oddeutu un o bob pedwar o'n practisau deintyddol presennol yng ngogledd Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen honno, ac rwy'n disgwyl mwy i ddod. Felly, mae hynny'n ymwneud yn rhannol â darparu capasiti, ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud yn sylfaenol â darparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel y credaf y dylai pawb allu cael mynediad atynt yma yng Nghymru ble bynnag y maent yn byw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Symudwn ymlaen at gwestiynau'r llefarwyr, a daw'r cyntaf gan Angela Burns, llefarydd y Ceidwadwyr.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. O ganlyniad i bryderon difrifol ynghylch safon a diogelwch gofal yn y gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd Cwm Taf, fe gomisiynoch chi ymchwiliad i ddarpariaeth y gwasanaethau mamolaeth hynny. Fe ofynnoch chi i Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr gynnal yr ymchwiliad. Fe wnaethant hynny ym mis Ionawr 2019, ac yn dilyn hynny, lluniodd y colegau brenhinol adroddiad a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 30 Ebrill. Mae'n adroddiad damniol. Yn ystod yr ymchwiliad, brawychwyd y colegau brenhinol i'r fath raddau nes eu bod wedi cymryd y cam hynod anghyffredin o wneud argymhellion dros dro wedi'u llunio i sicrhau gwelliannau ar unwaith mewn perthynas â diogelwch cleifion. Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod y gwasanaeth yn gweithio o dan bwysau eithafol ac o dan arweinyddiaeth glinigol a rheolaethol is-optimaidd. Roedd y gwasanaethau mamolaeth, Weinidog, eisoes yn destun monitro uwch, roedd y clychau rhybudd yn canu, roedd y gwaith maes ar adroddiad y colegau heb ei gyhoeddi wedi'i gynnal oddeutu wyth wythnos ynghynt. Felly, a ydych yn credu ei bod yn briodol eich bod wedi cymeradwyo cynllun tymor canolig integredig bwrdd Cwm Taf ar 27 Mawrth?

'Ydw' yw'r ateb syml, gan ei bod yn bwysig fod cynllun ar waith a bod y cynllun ei hun yn gwneud synnwyr. Ac ar ôl cael y cam dros dro gan yr adroddiad ar y cyd gan y colegau brenhinol, wrth gwrs, ystyriais y mater yn llawn, ac a fyddai’n well cymeradwyo’r cynllun hwnnw ai peidio. Credaf mai dyma'r peth iawn i'r sefydliad, a chredaf y dylai eu gallu i gyflawni a pharhau i gyflawni mewn meysydd eraill barhau. Ond wrth gwrs, mae'r craffu'n ddwysach. Felly, cymerais y cam o godi statws uwchgyfeirio'r sefydliad, yr ymyrraeth wedi'i thargedu. Ac o ran y gwelliannau i'r gwasanaethau mamolaeth, wel, mae'r Aelodau yn y Siambr hon wedi fy nghlywed yn dweud ar fwy nag un achlysur, yn agored, beth yw ein sefyllfa ar y daith wella, gyda gwaith y panel trosolwg annibynnol, ac yn wir, y newidiadau y mae'r adolygiad llywodraethu diweddar wedi cydnabod eu bod wedi digwydd o dan yr arweinyddiaeth newydd yn y sefydliad hwnnw.

Gadewch inni fod yn glir: roedd bwrdd Cwm Taf eisoes yn ei chael hi'n anodd. Cafwyd adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2015, a gododd bryderon ynghylch ansawdd profiad y claf, darpariaeth gofal diogel ac effeithiol, ac ansawdd rheoli ac arwain. Cafwyd adroddiad gan dîm y gweithlu a datblygu sefydliadol yn 2016, a nododd faterion sylweddol, gan gynnwys y canfyddiad o ddiwylliant bwrw bai a diffyg amser. Cafwyd ymweliad gan Ddeoniaeth Cymru yn 2017, a amlygodd chwe maes pryder. Cafwyd arolwg gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn 2018, a amlygodd bryderon, adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2018, a amlygodd bryderon, adroddiad mewnol yn 2018 gan y cyfarwyddwr meddygol cyswllt, a arweiniodd at adolygiad llywodraethu a chynllun gweithredu na chafodd ei weithredu. Rhwng mis Mai a mis Medi 2018, cafwyd tri adroddiad at wraidd digwyddiadau a gofnodwyd ac na chofnodwyd ar Datix, gan gynnwys darganfod yr holl farwolaethau marwanedig hynny, adroddiad mewnol ym mis Medi 2018 gan fydwraig ymgynghorol a anwybyddwyd, adroddiad yn 2018 gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol, a nododd bryderon mewn nifer o feysydd ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd, gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth. Ac adroddiad yn 2018 gan Swyddfa Archwilio Cymru, a gododd bryderon ynghylch ansawdd a threfniadau llywodraethu. Weinidog, ni chymeradwyoch Gynlluniau Tymor Canolig Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Felly, a allwch egluro i ni beth oedd mor wahanol am fwrdd Cwm Taf fel eich bod, er gwaethaf yr holl bethau uchod, yn teimlo y gallech gymeradwyo eu cynllun tymor canolig integredig?

14:35

Wel, credaf ei bod yn bwysig cydnabod, yn yr adroddiadau y mae'r Aelod wedi dyfynnu elfennau ohonynt, fod yno hefyd ystod ehangach o adroddiadau cadarnhaol am weithgarwch y bwrdd iechyd. Nid yw ceisio bwrw cysgod ar weithgarwch cyn fwrdd iechyd Cwm Taf yn rhywbeth sy'n deg neu'n gytbwys yn fy marn i. Mae'r gwirionedd plaen wedi'i nodi, yn yr adolygiad llywodraethu diweddar, ac yn wir, yn yr adroddiad ar y cyd gan y colegau brenhinol y gwneuthum ymyrryd arno a'i gomisiynu. Ymdriniwyd â rhai o'r meysydd y cyfeiria'r Aelod atynt yn fy natganiad yn yr hydref y llynedd mewn gwirionedd, o ran yr angen i wella ymhellach. Felly, ymhell o fod y Llywodraeth yn bod yn ddrwgdybus ac yn anwybyddu'r problemau, rydym wedi ymyrryd, rydym wedi cymryd camau a rhoi mesurau ar waith. Ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach, nid yn unig gan y bwrdd iechyd, ond y sicrwydd a'r trosolwg annibynnol y byddwn yn eu cael, nid yn unig gan y panel trosolwg annibynnol, ond o waith Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ac yn fwy na hynny, ar fy ymweliadau diweddar â phobl mewn gwasanaethau mamolaeth, cyfarfûm â staff ar y ddau safle; roedd yn sgwrs onest ac agored, ac yn un llawer mwy cyhoeddus. A byddaf yn mynd yn ôl i gyfarfod â theuluoedd cyn diwedd y flwyddyn galendr, fel yr addewais wneud yn wir. Credaf fod fy safbwynt pan gymeradwyais y cynllun yn un cytbwys, ac mae'n dal yn iawn i'r cynllun hwnnw gael ei gymeradwyo heddiw.

Wel, gadewch i ni fod yn glir—mae'r pum amcan gweithredol sy'n darparu fframwaith ar gyfer Cynllun Tymor Canolig Integredig bwrdd Cwm Taf yn cynnwys: gwella ansawdd, diogelwch a phrofiad y claf, a darparu sicrwydd a llywodraethu cryf. Nawr, mae Dai Lloyd eisoes wedi codi'r dystiolaeth a gawsom gan y cyfarwyddwr iechyd meddwl cymunedol a gofal sylfaenol ym mwrdd iechyd Cwm Taf ynglŷn â charchar y Parc. Nid ydym yn cwestiynu'r ffaith mai G4S, mewn gwirionedd, yw'r rhai sydd i fod yn rhedeg y gwasanaethau cymunedol; yr hyn y mae ganddo gyfrifoldeb amdano yw llywodraethu, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu. Ac eto, ei ymateb i'r rhan fwyaf o gwestiynau'r pwyllgor oedd, 'Wn i ddim. Wn i ddim. Wn i ddim', er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael y carchar hwnnw, nid yn unig yn eu gofal ers dechrau eleni, ond bu cyfnod o 18 mis yn arwain at hynny. Felly, mae'n ymwneud yn llwyr â llywodraethu, ac mae hyn wedi'i amlygu unwaith eto gan yr adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sy'n beirniadu'r diffyg llywodraethu a rheolaeth archwilio yn y bwrdd iechyd hwn yn llym.

Yn eich papur Cabinet, ar 27 Mawrth, fe ddywedoch fod pob un o gynlluniau tymor canolig integredig pob un o'r byrddau iechyd wedi bod yn destun proses asesu gadarn. Sut, Weinidog, na wnaethoch chi na'ch swyddogion sylwi ar y tswnami hwn o bryderon? Ai'r gwir yw bod bwrdd iechyd Cwm Taf, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi'i ganmol fel y bwrdd iechyd o'r radd flaenaf, y nod, yr un y dylai pob bwrdd iechyd arall geisio'i efelychu, ac na ellid caniatáu iddo fethu? Oherwydd mae'n dechrau ymddangos bod yna broblem systemig yn y bwrdd iechyd hwn drwyddo draw. A chyn i chi ddod yn ôl gydag ateb parod cyflym i hyn, hoffwn eich atgoffa bod hyd yn oed adroddiad interim panel trosolwg y gwasanaethau mamolaeth yn glir iawn, fel y mae David Jenkins yn glir iawn ynglŷn â'r ffaith bod hwn yn newid diwylliannol y mae’n rhaid iddo digwydd drwy'r bwrdd iechyd cyfan, fod problemau systemig yn bodoli, a bod y trefniadau llywodraethu, os nad unrhyw beth arall—sef un o'r pethau yn y cynllun tymor canolig integredig hwnnw roeddent yn frwd iawn yn ei gylch, ac yn dweud ei fod yn gwbl gywir—yn wael. Nid yw eu pwyllgor archwilio wedi cyfarfod ers oesoedd i drafod rhai o'r materion hyn. Felly, Weinidog, gofynnaf hyn ichi: a wnaethoch chi edrych ar berfformiad bwrdd Cwm Taf yn gadarn ac yn ddiduedd? A wnaethoch chi edrych a methu gweld? A wnaethoch chi edrych, a gweld—ond nad oedd ots?

Credaf fod honno'n ffordd warthus o orffen cwestiwn—fel pe na bai ots. Mae popeth a wnaf yn y swydd hon a'r dewisiadau a wnaf yn ymwneud â phobl yng Nghymru sy'n gweithio yn ein gwasanaeth, pobl yng Nghymru sydd angen y gwasanaeth iechyd. Ymhell o fod yn tswnami o bryderon heb eu hateb—. Ac unwaith eto, ni chredaf fod y gor-ddweud, o ran yr iaith a ddefnyddiwch, yn glod i chi mewn gwirionedd, Angela Burns—[Torri ar draws.] Y gwir amdani yw, ar ôl deall, yn dilyn yr adroddiad ar y cyd a gomisiynwyd gan y colegau brenhinol, natur y pryderon a oedd yn bodoli, fod pob sefydliad wedi edrych eto ar draws y GIG ar yr hyn y maent yn ei wneud a pham. Ac os edrychwch ar adolygiadau llywodraethu blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru, nid ydynt yn dangos yr un lefel o bryder, ac nid yw'r gwaith manwl y maent wedi'i wneud ynghyd ag Arolygiaeth Iechyd Cymru yn dangos hynny chwaith.

Mae angen newid diwylliannol, ac rwyf wedi bod yn agored iawn ynglŷn â hynny ac ynghylch y disgwyliad nid yn unig fod angen i'r newid hwnnw ddigwydd ond bod angen tystiolaeth ohono a bod angen i'r staff a'r cyhoedd ei deimlo. Ac yn wir, mae'r arweinyddiaeth newydd sydd ar waith yn y bwrdd iechyd, nid yn unig y prif weithredwr dros dro, ond yr ymagwedd wahanol sy'n cael ei mabwysiadu gan y tîm ehangach, gan gynnwys aelodau annibynnol, yn rhan o hynny hefyd. Edrychaf ymlaen at gael tystiolaeth ddilys o sefyllfa'r bwrdd iechyd, a byddaf yn gwneud dewisiadau ynglŷn â phob un o sefydliadau'r GIG yn ddiduedd a chan ystyried lles y cyhoedd.

14:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rwy'n wirioneddol awyddus i ddeall pam nad oedd y saith adroddiad blaenorol ar y problemau ym mwrdd iechyd Cwm Taf yn destun pryder i chi, a pham na wnaethant eich arwain i weithredu fel y gwnaethoch yn y pen draw. Ac mae'n rhaid imi ddod â chi'n ôl at gwestiwn y cynlluniau tymor canolig integredig, gan fod rhai cynlluniau y dewisoch beidio â'u cymeradwyo, fe ddewisoch chi gymeradwyo cynllun bwrdd Cwm Taf—fis yn unig ar ôl hynny, cyhoeddwyd adroddiad Coleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg yr Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr. Weinidog, pryd y daethoch yn ymwybodol o gynnwys yr adroddiad hwnnw? Ac a allwch chi egluro i ni—? Rydych wedi dweud wrth Angela Burns eich bod yn meddwl ei bod yn briodol cymeradwyo'r cynllun, ond a allwch egluro i ni, gan na chlywais i chi'n ateb Angela Burns ar hynny o ran—? A oeddech yn gwybod beth oedd yn yr adroddiad hwnnw? Roeddech wedi comisiynu'r adroddiad hwnnw, roeddech yn gwybod bod problemau—a oeddech yn gwybod beth oedd yn yr adroddiad hwnnw cyn iddo gael ei gyhoeddi, cyn i chi gymeradwyo'r cynllun? Os oedd yn briodol i chi gymeradwyo'r cynllun hwnnw, pam ei bod yn amhriodol i chi wrthod—? Pam y gwrthodoch chi gymeradwyo cynlluniau eraill ar gyfer byrddau iechyd lle roedd yna anawsterau mae'n debyg—gadewch inni beidio â sôn am Betsi Cadwaladr—ond am ba bynnag reswm—? Mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ceisio'i ofyn, Ddirprwy Lywydd—maddeuwch imi—yw fod pethau'n amlwg mewn cyflwr difrifol iawn mewn rhan o fwrdd iechyd Cwm Taf. Fe ddewisoch chi gymeradwyo eu cynllun. Roedd pethau mewn byrddau iechyd eraill—roedd yn amlwg fod anawsterau eraill: ni wnaethoch gymeradwyo'r rheini. A allech roi ychydig o oleuni inni ar y meddwl y tu ôl i, 'Iawn, fe wnawn ni gymeradwyo cynllun bwrdd Cwm Taf, ond nid ydym am gymeradwyo'r lleill'? Beth oeddent yn ei wneud, neu'n methu ei wneud, a oedd mor ofnadwy o wael nes ei fod yn gwneud i'r hyn a oedd yn digwydd ym mwrdd iechyd Cwm Taf edrych yn gymharol dderbyniol?

Pan ydych yn cymeradwyo cynllun tair blynedd, mae'n rhaid i chi ddeall natur y naratif, yr hyn sy'n cael ei gynnig ac a yw'r gallu yno i gyflawni'r newid sy'n cael ei ddisgrifio yn y cynllun hwnnw. Ac mae cael cyfeiriad strategol yn bwysig iawn i sefydliadau, ni waeth beth yw eu statws uwchgyfeirio. Ac mae'n rhan o'r her yng ngogledd Cymru eu bod wedi bod yn byw o'r llaw i'r genau ers llawer gormod o amser a bydd angen iddynt gael cynllun ar gyfer y dyfodol hyd yn oed os nad ydynt yn newid i fonitro arferol. Mae'n rhan o'r her y maent yn ei hwynebu. Yn Hywel Dda, maent yn cydnabod, hyd nes eu bod yn gwneud mwy i fynd i'r afael â'u heriau ariannol, eu bod yn annhebygol o gael cynllun tair blynedd y gall y bwrdd ei gymeradwyo a disgwyl iddo gael ei gymeradwyo yma.

Roedd y sefyllfa ym mwrdd Cwm Taf yn amlwg yn wahanol. Ar ôl cael cynllun tair blynedd, ar ôl gwneud cynnydd ar ystod o feysydd, a’r heriau ynghylch ansawdd a rhai o’r materion llywodraethu a amlygwyd—aethpwyd i’r afael â rhai o’r rheini dros amser gyda llawer o feirniadaeth yn yr adroddiadau. Ond nid yw'r syniad fod yr holl faterion hynny wedi'u hanwybyddu neu na chawsant eu hamlygu neu eu hystyried yn wir. Ac yn unrhyw un o'r dyfarniadau hyn, mae'n ddyfarniad cytbwys ynglŷn â beth i'w wneud gyda ac ar gyfer y sefydliad hwnnw. Gwneuthum y dyfarniad a wneuthum. Credaf mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud.

Mewn gwirionedd, credaf fod cael cynllun ar waith yn awr ar gyfer bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn wirioneddol ddefnyddiol o ran ei gyfeiriad yn y dyfodol. Ond nid yw'n tanseilio nac yn ymbellhau oddi wrth yr heriau ynghylch ansawdd a'r gallu i ddarparu tystiolaeth eu bod yn gwneud y cynnydd y mae'n amlwg yn ofynnol iddynt ei wneud, ac yn wir, mae'r lefel uwch o ddiddordeb a chraffu ar y sefydliad yn gwneud hynny'n amlwg tu hwnt. Rwyf wedi bod yn agored, a byddaf yn parhau i fod yn agored ynghylch unrhyw ddewisiadau a wnaf ar gyfer unrhyw un o sefydliadau'r GIG, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

14:45

Rwy'n ei chael hi'n anodd deall hyn, ac efallai fod pob un ohonom yn dioddef o flinder yn sgil yr etholiad cyffredinol a bod rhywbeth o'i le gyda fy ymennydd, ond mae'r Gweinidog newydd ddweud ei fod yn hyderus fod gan fwrdd Cwm Taf y gallu i gyflawni'r cynllun tair blynedd a gymeradwywyd ganddo. Nawr, cofiwch, Ddirprwy Lywydd, fod hyn cyn unrhyw un o'r ymyriadau y mae'r Gweinidog wedi dweud y byddant yn datrys popeth. A gadewch imi ddweud yn gwbl glir fod lefel y llywodraethu a'r rheoli bryd hynny, pan gymeradwywyd y cynllun ganddo, yn wirioneddol wael. Nid wyf yn deall o hyd, o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, pam ei fod yn barod i gymeradwyo hynny. Naill ai ei fod yn gwybod ac roedd yn credu y gellid goresgyn y broblem, neu nid oedd yn gwybod, ac mae honno'n broblem ynddi'i hun, ond nid oedd yn barod i gymeradwyo'r cynlluniau eraill hynny.

Nawr, os edrychwn yn ôl ar adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r swyddfa archwilio, maent yn dweud yn weddol glir fod y Gweinidog yn mesur y pethau anghywir. Os yw'r cynlluniau hyn yn ymwneud â chyflwr ariannol bwrdd iechyd lleol yn unig, gadewch i ni eu galw'n hynny a gadewch inni fynd i'r afael â hynny, ac nid wyf yn dweud am un eiliad, lle mae byrddau iechyd lleol yn cael trafferth gyda'u trefniadau ariannol, na ddylid rhoi sylw i hynny. Ond ni allaf ddeall sut y teimlai'r Gweinidog fod yr unigolion sy'n rhedeg y bwrdd iechyd hwnnw, a oedd wedi caniatáu i'r diwylliant gwenwynig echrydus hwn ddatblygu—ac mae'n amlwg nad yn y gwasanaethau mamolaeth yn unig y mae'n wirioneddol wael—pan gymeradwyodd y cynllun hwnnw, sut y teimlai eu bod mewn sefyllfa dda i'w gyflawni. Roedd hynny ymhell cyn iddo roi ei fesurau i mewn. Efallai y bydd y mesurau y mae wedi'u rhoi i mewn yn gweithio neu efallai na fyddant yn gweithio. Ni allaf ddeall hynny, ac rwy'n awyddus i wybod gan y Gweinidog a yw'n derbyn bod problemau strwythurol a systematig yn nhrefniadau llywodraethu ac arweinyddiaeth y GIG sy'n mynd y tu hwnt i un bwrdd iechyd ar y tro.

Wel, roedd sawl cwestiwn yn y fan honno, ac wrth gwrs, rwyf wedi dweud eisoes, ni allwch wybod yr hyn nad ydych yn ei wybod wrth wneud dewisiadau. Rhoddais fesurau ar waith i ymyrryd yn y bwrdd iechyd ar ôl derbyn yr adroddiad, ac yna fe'i cyhoeddais ar unwaith. Felly, mae'r ymyrraeth yn dangos ein bod wedi gweithredu pan oedd lefel y pryder yno i wneud hynny. Ac yn wir, roedd rhoi prif weithredwr dros dro ar waith—roedd hwnnw'n gam a gafodd ei feithrin gan y Llywodraeth yma hefyd. Felly, prin y cafwyd gwrthdaro llwyr o ran y bwrdd iechyd. Ac ni chredaf ei bod yn deg rhoi geiriau yng ngheg Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, o ran dweud fy mod i neu fy swyddogion yn mesur neu'n edrych ar y peth anghywir.

Os edrychwch ar yr adolygiadau o'r system a gynhaliwyd yn y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, cyn y tymor hwn neu ar ddechrau'r tymor hwn gyda'r adolygiad seneddol, nid oes unrhyw un wedi dweud bod problem sylfaenol gyda threfniadau llywodraethu a strwythur y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Yr her i ni yw sut rydym yn sicrhau bod ein strwythurau yn gweithio a sut rydym yn dwyn ein gilydd i gyfrif yn y gwahanol rannau sy'n dimau gweithredol, yn aelodau annibynnol, ac wrth gwrs, yn rhan o'r gwaith craffu rwy'n ei wynebu yma'n rheolaidd hefyd.

Nawr, yn y pen draw, bydd y canlyniadau i bobl ac yn y ffeithiau a'r ffigurau ynghylch yr hyn y mae ein gwasanaeth iechyd yn parhau i'w gyflawni yn datgelu popeth. Mae'n gwbl bosibl bod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda a gwneud rhai pethau'n anghywir. Yr her i ni yw cydnabod graddau'r hyn y mae angen iddo wella ym mwrdd Cwm Taf Morgannwg a bod yn agored ynglŷn ag a yw hynny wedi digwydd ai peidio, ac os nad yw wedi digwydd, pa gamau pellach y mae angen eu cymryd.

Wel, wel, 'ni allwch wybod yr hyn nad ydych yn ei wybod'. Wel, Weinidog, roeddech wedi cael saith adroddiad cyn i chi gymeradwyo'r cynllun hwnnw. Roeddech wedi cael saith adroddiad o wahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd a ddywedai wrthych fod yna wasanaeth hanfodol a phe baech yn rhoi'r holl dystiolaeth wael honno ynghyd cyn i chi gael adroddiad y coleg brenhinol byddech wedi gweld bod pethau'n mynd yn ddifrifol o chwith.

Mae arnaf ofn na all y Gweinidog sefyll yma a dweud nad oedd yn gwybod, neu os yw'n dweud wrthym nad oedd yn gwybod, mae hynny'n mynd â ni i mewn i faes cwbl wahanol o ran cymhwysedd, ac nid wyf am fynd i'r fan honno y prynhawn yma.

Credaf fod yn rhaid i'r Gweinidog dderbyn—ac nid ni sy'n dweud hyn; Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r swyddfa archwilio sy'n dweud hyn—fod problemau strwythurol systematig gyda'r trefniadau llywodraethu, ac mae Angela Burns yn ddigon caredig i roi rhif y dudalen i ni—tudalen 33. Mae problemau systematig i'w cael nid yn unig yn y bwrdd iechyd hwnnw. Ac onid yw'n bryd i'r Gweinidog edrych eto—edrych ar yr hyn a ddywedodd adroddiad y pwyllgor, a drafodwyd gennym ddoe, ynglŷn â rhai o'r meysydd na fydd y ddeddfwriaeth y mae'n ei chynnig yn mynd i'r afael â hwy?

Onid yw'n bryd iddo ystyried un arolygiaeth iechyd a gofal integredig wirioneddol annibynnol a all edrych ar yr holl faterion hyn yn gyffredinol? Onid yw'n bryd iddo gymryd camau i alinio gweithdrefnau cwynion iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau eu bod yn drylwyr a sicrhau, i'r holl deuluoedd a anwybyddwyd drosodd a throsodd wedi iddynt leisio pryderon yng Nghwm Taf, na fydd hynny'n digwydd eto. Onid yw'n bryd inni gael gweithdrefnau chwythu'r chwiban gwirioneddol annibynnol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, oherwydd os yw'r Gweinidog yn credu bod gennym un ar waith, mae'n debyg mai ef yw'r unig berson ar ôl yn y wlad sy'n credu hynny.

Ac onid yw'n bryd, o ran ansawdd yr arweinyddiaeth—ac mae hyn mor bwysig—rheoleiddio rheolwyr anghlinigol y GIG yn briodol, gan gynnwys fframwaith cymhwysedd y cytunwyd arno, strwythurau cyson ar gyfer hyfforddi a datblygu, a gweithdrefnau atebolrwydd ar yr un lefel â'r rheini sydd ar waith ar gyfer clinigwyr proffesiynol? A wnaiff edrych heddiw ar ddifrifoldeb y materion hyn ac ystyried diwygio’r Bil ansawdd ac ymgysylltu, fel y mae’r pwyllgor wedi gofyn, i fynd i’r afael â’r holl faterion hynny, neu'n well byth, ei dynnu’n ôl a’i ailysgrifennu, neu a yw’n disgwyl inni gredu bod popeth yn iawn?

14:50

Wel, nid wyf erioed wedi ceisio sefyll a dweud, 'Mae popeth yn iawn, edrychwch y ffordd arall.' Nid dyna fy agwedd o gwbl. Ac ni chredaf fod ymarfer cyfiawnhau ar ôl y digwyddiad yn arbennig o ddefnyddiol nac o gymorth i ddatblygu ein gwasanaeth iechyd gwladol.

Mae'r nifer o faterion a godwyd gan yr Aelod—. Mae ganddi hawl i gael barn sy'n dweud ei bod am ad-drefnu rhannau o'r gwasanaeth iechyd. Mae ganddi berffaith hawl i'r farn honno, ond o ran ceisio dweud mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw newid neu dynnu'n ôl y Bil ansawdd a llywodraethu gofal iechyd a basiwyd gan y Cynulliad yng Nghyfnod 1 ddoe, ni chredaf mai dyna'r peth iawn o gwbl. Oherwydd arwyddocâd yr hyn y mae'r Aelod wedi sôn amdano yw bod hon yn ddeddfwriaeth hollol newydd sy'n mynd â ni i gyfeiriad gwahanol, felly yn y rhannau ar ansawdd a gonestrwydd y mae'r Bil yn eu nodi mewn gwirionedd—a byddwn yn craffu ar y Bil hwnnw, drwy Gyfnod 2, a Chyfnod 3 hefyd, gobeithio—mae hynny'n fater cwbl wahanol. Ac rydym wedi sôn eisoes am y materion sy'n ymwneud ag a ddylid cael system reoli a chofrestru hollol wahanol ar gyfer rheolwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae gennyf feddwl agored ynglŷn â sut y gallai a sut y dylai'r dyfodol edrych, ond rwy'n ymarferol o ran sut y cyflawnwn hynny, ac ni chredaf fod ambell araith yn y Siambr a galw am newid deddfwriaeth yn ateb gonest i sut y gallem gyrraedd yno mewn gwirionedd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, cefais fy synnu wrth glywed, o bron i 0.5 miliwn o alwadau 999 y llynedd, nad oedd oddeutu chwarter y galwadau yn rhai difrifol. Roedd staff gwasanaeth ambiwlans Cymru yn brysur yn ymdrin â galwadau a oedd yn amrywio o bobl wedi taro bys eu troed i igian, yn hytrach na helpu pobl mewn gwir angen. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi lansio ymgyrch i annog defnydd synhwyrol o'r gwasanaeth ambiwlans. Weinidog, beth y gallwn ei wneud yma yn y Siambr hon i gefnogi ymgyrch Byddwch yn Ddoeth, Achubwch Fywydau?

Wel, yn anffodus, mae ymgyrch Byddwch yn Ddoeth, Achubwch Fywydau yn cael ei chynnal bob blwyddyn, neu fersiwn ohoni, gan ein bod yn deall yn rheolaidd nad yw rhai pobl yn gwneud y defnydd gorau o'n gwasanaethau brys, ac yn benodol, yn yr achos hwn, gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae'n ymwneud yn rhannol â rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd fel y gallant ddewis drostynt eu hunain—yr ymgyrch Dewis Doeth rydym yn ei chynnal bob blwyddyn—ac mae hefyd yn ymwneud yn rhannol â gofyn i bobl gael rhywfaint o synnwyr cyffredin a dangos parch yn y ffordd y maent yn defnyddio gwasanaeth ambiwlans Cymru. A chredaf y gallai pob un ohonom, ni waeth beth yw ein safbwyntiau pleidiol, roi peth amser i geisio cefnogi a hyrwyddo’r ymgyrch honno fel bod pob un o’n hetholwyr yn gwneud gwell defnydd o wasanaethau brys, a bod y rhai sydd wir angen y gwasanaeth brys hwnnw yn fwy tebygol o gael y cymorth y bydd ei angen arnynt ar yr adeg honno.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ac wrth gwrs, wrth inni fynd i mewn i'r gaeaf, mae'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn enfawr. Rydym wedi gweld y cyfraddau uchaf erioed o absenoldeb oherwydd salwch yn ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru, sy'n rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth. Mae trafferth i gael mynediad at ofal y tu allan i oriau yn parhau i yrru cleifion tuag at ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, sydd eisoes wedi eu gorymestyn, ac mae hynny, yn ei dro, yn cael effaith ar amseroedd trosglwyddo ambiwlansys. Felly, Weinidog, pa gamau y mae eich Llywodraeth wedi'u cymryd i sicrhau bod cleifion mewn adrannau brys yn cael eu trosglwyddo'n effeithlon y gaeaf hwn er mwyn sicrhau nad yw ein gwasanaeth ambiwlans yn cael ei ymestyn hyd at dorri?

Wel, mae nifer o fesurau eisoes ar waith ac yn cael eu cyflwyno fel rhan o gynlluniau'r gaeaf. O'r arian a gyhoeddais o'r blaen, aeth rhywfaint ohono'n uniongyrchol i fyrddau iechyd ac aeth rhywfaint i wasanaethau a gyfarwyddir yn genedlaethol, ac yn wir, pennwyd £17 miliwn rhwng y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae llawer o hynny'n ymwneud ag edrych ar y system gyfan. Mae'n ymwneud yn rhannol â chael gwared ar y pwysau o ddrws blaen yr uned ddamweiniau ac achosion brys, ond mae'n llawer mwy na hynny. Mae'n ymwneud â chadw pobl yn iach gartref fel nad oes angen iddynt fynd i adran achosion brys. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn dod allan o'r ysbyty pan nad dyna'r lle iawn ar gyfer eu gofal mwyach. Ac rydym yn ymdrin â'r nifer fwyaf erioed o alwadau ar ein gwasanaeth iechyd. Nid yn unig mai mis Hydref oedd y mis prysuraf o ran y nifer a fynychodd adrannau brys, ond i'r gwasanaeth ambiwlans, hwn oedd y mis Hydref prysuraf erioed, gyda'r nifer fwyaf o alwadau coch erioed—cynnydd o 35 y cant yn y galwadau mwyaf difrifol i'n gwasanaeth ambiwlans ers cyflwyno'r model ymateb clinigol newydd bedair blynedd yn ôl. Felly, mae rhan o'n her yn ymwneud â darparu'r capasiti hwnnw. Byddaf yn nodi eto yn y dyfodol y mesurau sydd eisoes ar waith a sut y mae hynny'n ein helpu i geisio darparu gofal priodol, tosturiol ac amserol hyd yn oed dros gyfnod y gaeaf.

14:55
Gwella Cyfathrebu rhwng y GIG a Chleifion

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cyfathrebu rhwng y GIG a chleifion yng Nghymru? OAQ54738

Nod ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', yw cryfhau llais y dinesydd a sicrhau ein bod yn gwrando ar bobl Cymru ac yn ymgysylltu â hwy. Darperir gwybodaeth i gleifion mewn amryw o ffyrdd i geisio diwallu anghenion a dewisiadau amrywiol pobl ledled y wlad.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ond nid yn unig fod cyfathrebu rhwng staff y GIG a chleifion yn hollbwysig, rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno y gall cyfathrebu da drwy holl sefydliadau'r GIG fod yn hanfodol i ofal cleifion. Mae etholwyr wedi tynnu ein sylw at sawl achos lle nad yw'r cyfathrebu hwn yn foddhaol yn aml, ac yn benodol, cyfathrebu rhwng Ysbyty Nevill Hall yn fy ardal i ac ysbytai eraill. Mewn un achos penodol, mae eu cyfathrebu ag Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi arwain at ofal gwael i gleifion. Ai dyma ganlyniad symud cleifion drwy wahanol fyrddau ysbytai?

Mae'r bwlch cyfathrebu hwn rhwng cofnodion meddygol cleifion yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd a pharhad y gofal y mae claf yn ei dderbyn. Fel y dywedwyd, mae gwybodaeth dda am drefniadau triniaeth cleifion yn allweddol i ofal a chanlyniadau'r driniaeth honno. Rydym wedi cael gwybod hefyd na all ymarferwyr meddygol, yn rhyfedd iawn, gan gynnwys meddygon ymgynghorol, gael mynediad uniongyrchol at wybodaeth cleifion o Felindre. A wnaiff y Gweinidog edrych yn ofalus ar y methiannau ymddangosiadol hyn?

Rydym wedi wynebu her wirioneddol wrth sicrhau, wrth inni normaleiddio'r ffordd rydym yn defnyddio gwybodaeth yn ein bywydau bob dydd, fod y gwasanaeth iechyd yn dal i fyny â hynny, yn y ffordd rydym yn symud y cofnodion rydym yn eu creu ar raddfa ddiwydiannol, gyda'r holl wahanol episodau gofal cleifion y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu darparu—dros 18 miliwn o ryngweithiadau cleifion mewn un flwyddyn mewn gwlad ag ychydig dros 3 miliwn o boblogaeth. Yr her i ni yw sicrhau bod yr wybodaeth ar gael wrth law i'r bobl sydd ei hangen pan fyddant yn darparu gofal gyda ac ar gyfer yr unigolyn hwnnw.

Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd dros y 10 mlynedd diwethaf yn hynny o beth, ond yr her i ni yw fod mwy o lawer i'w wneud o hyd. Dyna pam fod y cyhoeddiadau a wneuthum ar seilwaith digidol a chysylltedd yn y gwasanaeth mor bwysig, a dyna pam fod cael system addas i'r diben newydd mewn gofal sylfaenol yn bwysig hefyd—i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i bwy bynnag sydd ei hangen, ac yn fwy na hynny, yn y rhaglen ddiwygio contractau sydd gennym, i sicrhau bod gennym fersiwn o gofnod y claf ar gael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill rydym yn eu cyfarwyddo ac yn annog pobl i'w defnyddio, boed hynny ym maes offthalmoleg ar y stryd fawr mewn siop optegydd, neu'n wir, mewn fferyllfa neu leoliadau eraill.

Weinidog, yn ddiweddar, lansiodd Comisiynydd y Gymraeg ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog ymhellach yn y GIG yng Nghymru. Rhybuddiodd fod cleifion sy'n siarad Cymraeg yn dioddef ac y gallant wynebu risg, hyd yn oed, os na allant gyfathrebu â gweithwyr iechyd proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dengys ymchwil ryngwladol fod pobl â dementia yn colli'r gallu i gyfathrebu yn eu hail iaith ar ôl peth amser neu pan fyddant yn hŷn. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu cynllunio fel y gall cleifion dderbyn triniaeth a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg neu eu hiaith eu hunain? Diolch.

Rydym yn gwneud ymdrechion sylweddol i feddwl ynglŷn â sut rydym yn recriwtio a hyfforddi pobl, a sut rydym yn agor y drws i yrfaoedd mewn gofal iechyd yn llawer cynharach. Er enghraifft, rydym wedi gwneud peth gwaith gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg ar annog rhai o'u myfyrwyr i ystyried gyrfa yn y gwasanaeth iechyd, nid yn unig i fod yn feddyg ond yr ystod ehangach o wasanaethau gofal sydd ar gael.

Pan feddyliwn am yr hyn a wnawn i gefnogi pobl, er enghraifft, rydym yn cadw'r fwrsariaeth i sicrhau bod pobl sy'n astudio'n lleol mewn ystod o rolau nyrsio a gofal iechyd proffesiynol cysylltiedig ehangach yn cael eu cefnogi gan y fwrsariaeth. Golyga hynny fod pobl sy'n lleol i'w cartref yn fwy tebygol o astudio'n lleol ac yn fwy tebygol o barhau i weithio yno, gan nad yw ystod o'r bobl hynny'n israddedigion traddodiadol 18 neu 19 oed. Pan fyddant yn cychwyn, maent yn aml yn bobl sydd â'u cyfrifoldebau eu hunain.

Felly, mae ble a sut rydym yn hyfforddi ein staff, a ble a sut rydym yn eu recriwtio, yn bwysig. Mae sicrhau bod pobl yn ymwybodol fod gyrfa yn y gwasanaeth iechyd yn agored ac ar gael iddynt yn gynharach o lawer yn rhan o'r gwaith a wnawn i wneud yn union hynny.

Weinidog, rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sydd wedi cael problemau'n ymwneud â chleifion yn ceisio cymorth i gael eu clustiau wedi'u chwistrellu gan eu meddyg teulu, a chael eu cyfeirio'n anghywir at y sector preifat, lle maent yn codi hyd at £75. Felly, a allech ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod meddygfeydd yn cyfathrebu'n gywir â chleifion ynglŷn â sut y gallant gael mynediad at y gwasanaethau hyn o fewn gofal eilaidd, os na allant gael y gwasanaeth hwnnw gan eu meddyg teulu eu hunain?

15:00

Pwynt am yr iaith yn unig yw'r pwynt cyntaf, oherwydd mae chwistrellu clustiau yn ddull arbennig o gael gwared â chwyr nad yw bellach yn cael ei gymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ac felly rydym yn ceisio peidio â chyfeirio at chwistrellu clustiau—gwn nad yw'n ymwneud â newid iaith yn unig, mae'n ddull arbennig ynddo'i hun—ond yn hytrach at reoli cwyr clust, i geisio sicrhau, lle bo'n bosibl, fod pobl yn gallu ei reoli eu hunain neu'n wir, os oes angen ymyriad arnynt, ei fod yn cael ei ddarparu. Gwasanaeth GIG ydyw, felly ni ddylid atgyfeirio pobl i'r sector preifat a dweud wrthynt nad oes gwasanaeth GIG ar gael. Mae amrywiaeth o gynlluniau peilot yn digwydd o fewn y gwasanaeth iechyd, rhai yng ngogledd-ddwyrain Cymru, i sicrhau bod clinigau awdioleg gofal sylfaenol ar gael, ond hefyd yn ne-orllewin Cymru yng nghlwstwr Cwm Tawe. Maent yn gweithredu yn yr un math o ffordd drwy sicrhau bod awdioleg ar gael yn ehangach o lawer. Byddwn yn ail-gyfathrebu â chydweithwyr ym maes gofal sylfaenol ynglŷn â'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, ac yn ailadrodd y neges mai gwasanaeth GIG Cymru ydyw a dylai pobl gael darparwr GIG i wneud hynny.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ54748

Rwy'n disgwyl i gleifion gael eu gweld a'u trin mewn modd amserol ac o fewn ein targedau. Rydym wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael i fyrddau iechyd allu adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ddiweddar a gwella amseroedd aros ymhellach erbyn mis Mawrth 2020. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi derbyn ei gyfran o'r cyllid cenedlaethol hwn.

Mae'n anodd darllen y data perfformiad a fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yr wythnos hon, gan ei fod yn dangos problemau sylweddol mewn nifer o feysydd. Ym mis Hydref, arhosodd ambiwlansys y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys am 2,778 o oriau, ac mae amseroedd aros ar gyfer gofal wedi'i gynllunio'n gwaethygu hefyd, gyda 4,256 o gleifion yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth, cynnydd o fwy na 2,000 ers mis Ebrill. Nawr, er bod y bwrdd iechyd wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu ers mis Medi 2016, mae'r ffigurau mewn llawer o feysydd yn gwaethygu yn hytrach na gwella, ac mae'n adlewyrchiad o ddiffyg capasiti mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, beth rydych yn ei wneud i wella'r sefyllfa, Weinidog?

Wel, mae'n ymwneud â mwy na'r arian rydym wedi'i gyhoeddi yn unig. Mae rhan o hyn y tu hwnt i reolaeth y bwrdd iechyd; rydym wedi trafod yr heriau mewn perthynas â threth a phensiwn yn ddiweddar, y ffaith bod hynny wedi arwain at lai o gapasiti ym mhob un o'n byrddau iechyd, ond nid dyna'r stori lawn ac ni cheisiaf honni hynny. Felly, rwyf wedi cael gohebiaeth yn ddiweddar gan gadeirydd dros dro y bwrdd iechyd am y camau y maent yn eu cymryd mewn perthynas ag amryw o'r mesurau hyn. Bellach, maent wedi adfer capasiti wedi'i ddiogelu ar gyfer rhywfaint o'u capasiti orthopedig i geisio gwella hwnnw. Maent yn disgwyl gwella erbyn diwedd y flwyddyn hon, ond mae heriau'n ymwneud â gofal heb ei drefnu sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal wedi'i drefnu. Rhan o'r rheswm pam eu bod wedi profi cam yn ôl yw oherwydd yr her sy'n ymwneud â gofal heb ei drefnu, yr angen i gael gwelyau ar gyfer cleifion gofal heb ei drefnu. Dyna pam rwy'n mynd yn ôl at y system gyfan oherwydd, mewn gwirionedd, ni ddylai pobl sy'n ffit yn feddygol fod mewn gwely ysbyty; dylent fod mewn lleoliad gwahanol gyda'r gofal a'r cymorth sydd ei angen arnynt. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r gwasanaeth iechyd; mae hefyd yn ymwneud yn rhannol â'r bartneriaeth gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol a thai yn arbennig.

Felly, rwy'n disgwyl y bydd yn gweld cynnydd pellach erbyn diwedd y flwyddyn; yn bwysicach na hynny, rwy'n disgwyl y bydd dinasyddion ardal bwrdd iechyd prifysgol Abertawe yn gweld gwelliant pellach yn y modd y darperir gofal amserol i gleifion.

Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw ac a gaf fi gefnogi cwestiwn Dai Lloyd? Oherwydd mae gennyf etholwr a ffoniodd am ambiwlans neithiwr mewn gwirionedd oherwydd bod eu merch angen cymorth meddygol. Cymerodd awr a hanner i ymatebwr cyntaf gyrraedd, a rhoddwyd drip morffin iddi, bu'n rhaid aros wyth awr am ambiwlans, a phan gyraeddasant Ysbyty Treforys rhaid oedd aros yn yr ambiwlans y tu allan. Ymwelais ag adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Treforys yr wythnos diwethaf; roedd 10 ambiwlans y tu allan. Mae'n broblem enfawr yn awr, ac nid ydym wedi cyrraedd cyfnod prysuraf y gaeaf eto hyd yn oed. Rwy'n sylweddoli bod yr ambiwlansys yn aros yno, ni allant gludo'r bobl allan, ni all pobl ddod oddi ar yr ambiwlansys i mewn i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, ni allant symud drwy'r adran ddamweiniau ac achosion brys i welyau yn yr ysbyty, oherwydd nad yw pobl yn gallu gadael yr ysbyty. Mae problem systemig yn rhywle yn Ysbyty Treforys. A wnewch chi gysylltu â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd i ofyn iddynt esbonio'n uniongyrchol i chi sut y maent yn mynd i'r afael â'r broblem hon? Ni allwn ddisgwyl mynd drwy'r gaeaf, ac ni all ein hetholwyr ddisgwyl mynd drwy'r gaeaf, yn eistedd mewn ambiwlansys y tu allan i uned ddamweiniau ac achosion brys am nad ydynt eto wedi datrys y broblem o symud cleifion drwy'r ysbyty.

Byddaf yn gweld cadeirydd y bwrdd iechyd dan sylw ddydd Llun i gael y drafodaeth hon.

Gofal Cymdeithasol yng Nghanol De Cymru

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghanol De Cymru? OAQ54760

15:05

Ein huchelgais, fel y'i nodir yn 'Cymru Iachach', yw dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd fel eu bod yn cael eu cynllunio a'u darparu o amgylch anghenion a dewisiadau unigolion, gyda llawer mwy o bwyslais ar gadw pobl yn iach ar draws pob rhanbarth yng Nghymru.

Weinidog, rwyf wedi cael e-bost gofidus iawn gan etholwr yn dweud bod ei fam 90 oed wedi cael ei derbyn i'r ysbyty am y tro cyntaf ar 8 Awst. Cafodd y sefyllfa ei sefydlogi, ac roedd yn ddigon iach yn gorfforol i fynd adref ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Mae'n dal i fod yn yr ysbyty. Maent yn dal i aros am becyn gofal i'w chadw gartref, ac fel y dywed fy etholwr, 'Cyn iddi fynd i'r ysbyty, roedd mam yn mynd allan bob dydd i glybiau cinio a grwpiau'r henoed, sydd wedi bod yn hollbwysig i'w hiechyd meddwl ac sydd wedi bod yn ffactor pwysig i'w hatal rhag dirywio'n feddyliol'. Maent yn bryderus yn awr, hyd yn oed os yw'n mynd adref, na fydd ganddi'r sgiliau, hyd yn oed gyda chymorth, i barhau â'r hyn sydd ar ôl o'i bywyd—mae'n 90 oed—ac nid yw'r sefydliadu sy'n digwydd bob dydd, er gwaethaf y gofal a gaiff yn yr ysbyty, ond yn enghraifft o'r ffordd nad ydym yn cyfuno'r dull hwn o ofal cymdeithasol a gwasanaethau ysbyty i weithio'n effeithiol, hyd yn oed i'r pwynt, weithiau, lle nad yw'r asesiadau'n cael eu gwneud gan y tîm cywir oherwydd bod dadleuon ynglŷn â chyfrifoldeb pwy—tîm yr ysbyty neu'r tîm cymunedol—yw cynnal yr asesiad cyntaf. Mae'n llanastr go iawn ac mae'n rhaid inni ei ddatrys os ydym am wneud y gorau dros ein hetholwyr.

Diolch i David Melding am y cwestiwn hwnnw ac mae'n ddrwg iawn gennyf am y profiadau a gafodd ei etholwr. Yn gyffredinol, mae nifer y cleifion sy'n gorfod oedi mewn gwelyau ysbyty yn rhanbarth Canol De Cymru yn gostwng. Fodd bynnag, rwy'n bryderus ynglŷn ag amrywio rhwng y gwahanol awdurdodau lleol yn y rhanbarth, gyda niferoedd rhai ardaloedd yn cynyddu'n ddiweddar ers y llynedd ac eraill yn gostwng. Rwy'n ymwybodol iawn fod gormod o gleifion o hyd yn aros am becynnau gwasanaethau gofal cartref i hwyluso'r broses o'u rhyddhau o'r ysbyty. Gwyddom fod y galw am wasanaethau wedi cynyddu llawer yn ddiweddar, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn ymdrechu'n galed i geisio sicrhau y gall pobl adael yr ysbyty mewn modd amserol, neu fod modd eu hatal rhag gorfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf drwy sicrhau bod y gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd, ac mae'n gwbl hanfodol, fel y dywed yr Aelod, fod iechyd a'r awdurdod lleol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae gennym rai enghreifftiau da iawn, a ariennir yn bennaf drwy'r gronfa gofal integredig, lle mae hyn yn digwydd, ond rwy'n sicr yn derbyn bod llawer o waith i'w wneud a bydd y Gweinidog iechyd a minnau'n mynd o gwmpas ac yn trafod hyn gyda'r gwahanol fyrddau iechyd lleol yn y dyfodol agos.

Trefniadau Llywodraethu ar gyfer Byrddau Iechyd

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau llywodraethu ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru? OAQ54757

Mae angen i fyrddau iechyd yng Nghymru sicrhau bod ganddynt drefniadau llywodraethu cadarn ar waith a gweithredu mewn ffordd sy'n cynnal y gwerthoedd a bennwyd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi na ellir gwahanu trefniadau llywodraethu yn y pen draw oddi wrth y rhai a benodwyd i gyflawni'r gweithredoedd llywodraethu angenrheidiol eu hunain. Mae'r Gweinidog ei hun, yn achos Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, yn chwarae rhan bersonol weithgar iawn. Mae wedi cadeirio'r cyfarfodydd atebolrwydd misol ers mis Gorffennaf 2018 ac mae'r prif weithredwr, Gary Doherty, wedi gwneud ambell benodiad pwysig, ac yn fwyaf arbennig, y cyfarwyddwr trawsnewid, Phillip Burns, a fu'n gweithio i ymddiriedolaeth ysbyty Coleg y Brenin cyn hynny, ac yn ei adroddiad ar gyfer 2017-18, gwelaf fod diffyg a ragwelwyd o £38.8 miliwn wedi tyfu i fod yn £142.3 miliwn yn y pen draw, gan orfodi cadeirydd y bwrdd, yr Arglwydd Kerslake, i ymddiswyddo—prin fod hynny'n glod i sgiliau Mr Burns yn trawsnewid unrhyw endid. Arferai ef a Mr Doherty weithio gyda'i gilydd ym mwrdd GIG Blackpool a phenododd aelod arall o Blackpool, Nick Varney, fel ymgynghorydd trawsnewid. Gwnaeth y Gweinidog ei hun sylw ar Mr Varney mewn adroddiad ar fesurau arbennig yn 2018, lle dywedodd:

Mae wedi bod yn ddigalon ac yn annerbyniol fod problemau wedi cynyddu yn ystod 2017/18 mewn perthynas â'r sefyllfa ariannol a rhai meysydd perfformiad allweddol.

Roedd y Comisiwn Ansawdd Gofal yn craffu ar Blackpool ei hun yn ystod neu ychydig ar ôl i'r tri unigolyn hyn fod yn eu swyddi. Felly, pa ymchwiliadau a wnaeth y cyfarwyddwyr yn Betsi Cadwaladr a'r Gweinidog ei hun i ganfod ansawdd gwaith Mr Burns a Mr Varney cyn eu penodi fel gweithwyr cyflogedig? A oedd y Gweinidog a chyfarwyddwyr eraill yn ymwybodol fod Mr Doherty, Mr Varney a Mr Burns i gyd yn gyfeillion rhwydweithio ac yn staff yn GIG Blackpool ar yr un adeg neu ar adegau'n gorgyffwrdd yn agos? A yw'n cytuno nad yw ffrindgarwch o'r fath yn gwneud dim i gynyddu hyder y cyhoedd yn nhrefniadau llywodraethu'r GIG yng Nghymru, a dylai fod cywilydd arno ef a'i blaid pan fydd y penodiadau llewyrchus hyn yn dal i gael eu gwneud ar adeg pan fo telerau ac amodau nyrsys yn Betsi Cadwaladr wedi cael eu herydu drwy gael gwared ar—roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt i gael gwared ar eu hamser egwyl â thâl?

15:10

Nid wyf yn credu bod yr Aelod yn y sefyllfa orau i siarad am ffrindgarwch mewn bywyd cyhoeddus. O ran sefyllfa staff Betsi Cadwaladr a'r angen i wella'r swyddogaeth gyllid, rydym yn disgwyl i staff gael eu penodi mewn modd sy'n cydymffurfio â'n disgwyliadau a gofynion y bwrdd iechyd—nid rhywbeth braf i'w gael ydyw, mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu gwaith yn wrthrychol.

Mewn ymateb i'r pwynt am berfformiad y cyfarwyddwr trawsnewid, mewn gwirionedd, y farn gyntaf yw ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella swyddogaeth gyllid y bwrdd iechyd. Nid barn y swyddogion yma yn unig yw honno, mae'n farn a fynegwyd wrthym gan swyddogion yn Swyddfa Archwilio Cymru hefyd. Mae cryn bellter i deithio, ond mewn gwirionedd, pan gyfeiriodd at yr Arglwydd Kerslake, pan ymddiswyddodd o ymddiriedolaeth Coleg y Brenin, fe'i gwnaeth yn glir iawn nad oedd yn credu ei bod yn bosibl ymdopi â'r symiau o arian a oedd ar gael o fewn y system yn Lloegr. Gwnaeth y pwynt ynglŷn â sicrhau disgwyliad teg am setliad cyllido teg i'r gwasanaeth iechyd ar draws y Deyrnas Unedig. Rydych chi hefyd, wrth gwrs, yn tynnu sylw at y ffaith bod gan ymddiriedolaeth Coleg y Brenin, sydd â lefel debyg o incwm o'i chymharu â Betsi Cadwaladr, ddiffyg o oddeutu pedair i bum gwaith y swm.

Mae'r heriau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru yn rhai y gellir eu trawsnewid, ac rwy'n disgwyl y byddant yn gwneud hynny, ond fe fyddaf yn agored ac yn onest ynglŷn ag a ydynt yn gwneud hynny, o gofio'r camau diweddar rwyf wedi'u cymryd i osod fframwaith mesurau arbennig wedi'i hadnewyddu ar gyfer gogledd Cymru.

Mewn perthynas â llywodraethu, mae'n hanfodol fod gan gyfarwyddwyr annibynnol byrddau iechyd gefndir cadarn, a'u bod yn deall sut y gweithredir y sefydliadau mawr hyn. Mae gan lawer ohonynt drosiant o fwy na £1 biliwn. Yn achos Cwm Taf, mae sawl adroddiad wedi nodi bod y trefniadau llywodraethu wedi methu. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni, Weinidog, fod eich adran, a chithau'n arbennig, wedi dysgu o'r camgymeriadau a wnaed yng Nghwm Taf i sicrhau bod penodiadau'n gadarn yn y dyfodol, a bod yr unigolion rydych yn eu penodi'n meddu ar wybodaeth drylwyr ynglŷn â sut y mae sefydliadau mor fawr a chymhleth yn gweithio, fel y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r straeon erchyll hyn sy'n deillio o sefydliadau megis Cwm Taf a'r trasiedïau personol a achoswyd, yn anffodus, mewn gwasanaethau mamolaeth i nifer o ddarpar famau a'u teuluoedd?

Wel, ceir rhai pwyntiau gwahanol yn y fan honno. Yn gyntaf, dylwn atgoffa pawb fod aelodau annibynnol yn mynd drwy broses benodi gyhoeddus. Mae'n broses gadarn, a oruchwylir gan y comisiynydd penodiadau, ac nid yw honno'n swyddogaeth ddatganoledig, mewn gwirionedd. Yr her wedyn yw sut y byddant yn ymddwyn pan fyddant yn mynd i'w sefydliadau. Mae pwynt am ddiwylliant ac arweinyddiaeth yn y fan honno, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi cymryd y camau rydym wedi'u cymryd, nid yn unig mewn perthynas ag ymsefydlu, ond y disgwyliad parhaus ar gyfer aelodau annibynnol a'r ffordd rydym yn disgwyl iddynt ymddwyn. Dyna pam y bu ystyriaeth ac adroddiad David Jenkins yn arbennig o ddefnyddiol mewn perthynas â'r newid yn natur yr ymddygiad ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg i gydnabod yn briodol yr hyn y dylent fod yn ei wneud, i gydnabod bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud yn y gorffennol, i gydnabod yr ystyriaeth honno, a gallu symud ymlaen wedyn. Ond rydym yn bendant yn newid lle bydd ymsefydlu'n digwydd a'r dyletswyddau a fydd gan yr aelodau annibynnol hynny drwy gydol eu cyfnod fel penodiadau cyhoeddus.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma gan Jack Sargeant.

Pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas? 369

Diolch i Jack Sergeant am y cwestiwn hwnnw. Darparwn amrywiaeth o gymorth i bobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas, naill ai'n uniongyrchol drwy wasanaethau cwnsela, neu'n anuniongyrchol drwy hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb yn briodol i unrhyw anghenion cymorth a nodwyd sydd gan y bobl ifanc y dônt i gysylltiad â hwy.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae trais mewn perthynas yn fater iechyd cyhoeddus difrifol ymhlith plant a phobl ifanc. Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd ymchwil helaeth i'r mater hwn yn ddiweddar, a chanfuwyd bod bylchau yn y cymorth. Ddirprwy Weinidog, os nad ydym yn mynd i'r afael â'r mater hwn, gallai cenedlaethau'r dyfodol syrthio drwy'r bwlch rhwng cymorth trais yn y cartref a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad?

Weinidog, gwn eich bod wedi hyrwyddo'r achos o roi diwedd ar gam-drin mewn perthynas, ac roeddwn yn falch iawn o gael sefyll wrth eich ochr ddydd Llun i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn yn yr wylnos a drefnwyd gan ein cyd-Aelod a'n cyfaill, Joyce Watson AC. Nawr, un maes rwy'n credu y bydd gennych ddiddordeb arbennig ynddo yw rhaglen eiriolwr ieuenctid y Rhuban Gwyn, sy'n annog pobl ifanc i lofnodi addewid y Rhuban Gwyn. Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r rhaglen hon, yn enwedig gyda chynnwys ar-lein, sy'n fwy tebygol o gael ei weld gan ein cenhedlaeth iau?

15:15

Diolch, unwaith eto, Jack Sargeant. Roeddwn yn falch iawn o fod wrth eich ochr yn yr wylnos. Yr hyn a oedd yn dda am yr wylnos oedd ei bod yn wylnos drawsbleidiol a bod gennym siaradwyr o bob rhan o'r Siambr, ond ni fyddai wedi digwydd heb Joyce Watson, sydd wedi cefnogi a chychwyn yr wylnos honno bob dydd, ac yn wir, yn gynharach yn y dydd, roeddem yn yr eglwys gadeiriol, rhywbeth arall a gychwynnwyd gan Joyce 16 mlynedd yn ôl. Roedd yn ddigwyddiad pwysig.

O ran pwysigrwydd eich cwestiwn, ymunais ag un o'r gweithdai lle clywsom gan eiriolwyr ieuenctid o Heddlu Gwent, a hwy oedd rhai o'r eiriolwyr ieuenctid Rhuban Gwyn cyntaf yn y DU. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn y byd addysg i gynllunio a threialu her fentora cymheiriaid iechyd a lles ar gyfer diploma uwch bagloriaeth Cymru, a fydd hefyd yn hyrwyddo rhaglen eiriolwr ieuenctid Rhuban Gwyn Cymru. Hefyd, byddwn yn edrych ar y ffyrdd gorau o godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen hon ar-lein, gyda'n cydweithwyr cyfathrebu ac addysg, er mwyn sicrhau y gallwn gyrraedd cynifer o bobl ag sy'n bosibl.

Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am godi'r cwestiwn gwirioneddol bwysig hwn heddiw. Tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno mai un o'r materion sy'n allweddol yn y ffordd y mae pobl ifanc yn dirnad perthynas iach a'r hyn sy'n dderbyniol yw'r modd y daw cynifer o ddynion a menywod ifanc i gysylltiad â phornograffi yn ifanc iawn, ac mae rhywfaint ohono'n dreisgar iawn ei natur, sy'n heintio eu syniad o'r hyn sy'n normal neu'r hyn sy'n berthynas iach a pharchus. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog heddiw a wnaiff hi gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â beth arall y gallem ei wneud drwy'r cwricwlwm newydd, ond hefyd ar unwaith, i weithio gydag ysgolion, a gyda grwpiau ieuenctid, fel bod rhai pobl ifanc, sydd efallai yn ei chael yn anos derbyn neges mewn ystafell ddosbarth, yn gallu clywed y neges honno mewn lleoliad mwy anffurfiol er mwyn gwrthweithio rhai o'r negeseuon gwreig-gasaol ofnadwy y mae ein pobl ifanc yn eu cael, yn enwedig o gynnwys ar-lein, sydd mor anodd ei reoli.

Rwy'n croesawu'r cwestiwn hwnnw, Helen Mary Jones, a gwn fod y Gweinidog Addysg hefyd yn derbyn hynny heddiw. Rydym eisoes wedi mabwysiadu nifer o ddulliau, er enghraifft, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r prosiect Sbectrwm rydym yn ei ariannu, sy'n mynd i ysgolion i addysgu am berthnasoedd iach. Mewn gwirionedd, mae gennym ymgyrch gyfathrebu 'Dyw hyn ddim yn iawn' wedi'i hanelu at blant a phobl ifanc, ac mae'n rhaid i'r ymgyrch honno ystyried yr hyn y gallent fod yn ei wynebu a'i brofi o ran pornograffi a gwreig-gasineb hefyd.

Rydym yn ariannu cwnsela mewn ysgolion, fel rydym wedi'i ddweud, ond hefyd, yn bwysicaf oll, rydym yn datblygu'r addysg drawsgwricwlaidd newydd ar rywioldeb a pherthnasoedd, a hefyd, mae'n ymwneud â gweithio gyda phobl ifanc yn fwy anffurfiol, fel y dywedwch. Mae'n rhaid inni hefyd weithio gyda'r gwirfoddolwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyfforddi gweithwyr proffesiynol i ofyn a gweithredu fel eu bod yn adnabod arwyddion trais a cham-drin yn hollbwysig o safbwynt cyfeirio pobl at gymorth.

Mae'n rhaid imi longyfarch Prifysgol Caerdydd am edrych ar hyn mewn gwirionedd; am weld y cysylltiad rhwng trais yn gyffredinol a thrais mewn perthynas, a gwneud gwaith arno. Credaf fod angen gwneud mwy o waith. Yr unig beth sydd gennym yn y pennawd yw hynny'n union: ffigurau. Ond mae angen inni ddechrau deall beth sydd y tu ôl i'r ffigurau hynny, beth sy'n cynhyrchu'r ffigurau hynny? Pan fyddwn yn dweud ei fod yn fater iechyd cyhoeddus, mae hynny'n wir, ond bydd y creithiau emosiynol yn aros gyda phobl am oes, a bydd y straen feddyliol a'r stigma hefyd, o bosibl, yn aros gyda'r unigolion hynny am oes. Mae profi hynny mor ifanc, pan fyddwch yn cychwyn ar eich taith fel unigolyn annibynnol, yn wirioneddol anodd.

Oddeutu pum mlynedd yn ôl, cynhaliais arolwg cyflym ar-lein i 100 o bobl ifanc dan 21 oed, ac fe'm synnwyd gan yr ymatebion i sawl cwestiwn, ond un yn benodol: 'A ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn i slapio eich partner?' Dywedodd dros 50 y cant, 'Ydw, mae hynny'n iawn', ac nid oedd gwahaniaeth mawr rhwng merched a bechgyn, er bod mwy o ferched na bechgyn yn meddwl bod hynny'n iawn. Felly, o wybod hynny, a chan wybod hyn yn awr, credaf mai'r peth gorau y gallwn ei wneud, wrth symud ymlaen, yw sicrhau, ym mhob man lle mae plant a lle mae plant yn ymgynnull, boed yn yr ysgol, mewn clwb chwaraeon, clwb ieuenctid, neu unrhyw leoliad arall, fod gennym raglenni wedi'u cefnogi a'u hariannu'n dda sy'n eu haddysgu am reolaeth, a sut beth yw rheolaeth. Os ydynt yn digwydd cyfarfod â rhywun sy'n dweud, 'Rwy'n credu ei fod yn wych, rwyt ti'n edrych yn hyfryd, gad i ni gael pryd o fwyd braf gartref', a bob tro, ni fyddant yn mynd â chi i unman heblaw lle maent yn byw, a chael eich ynysu fwyfwy, bydd rhai pobl ifanc yn meddwl bod hynny'n ganmoliaeth; ni fyddant o reidrwydd yn gweld y gallai hynny arwain at reoli, a sefyllfa a allai fod yn hynod o gamdriniol a pheryglus iddynt fod ynddi.

Mae llawer o sefydliadau'n cynnig y cymorth hwn, a llawer o sefydliadau a fyddai'n falch o'n helpu ni i helpu'r bobl ifanc hynny. Felly, fy nghwestiwn i yma heddiw yw, gan gwybod yr hyn rydym yn ei wybod yn awr, ni allwn fforddio ei anwybyddu, ni allwn fforddio i unrhyw un o'r bobl ifanc hynny ddod yn un o'r ystadegau a gefais, y canhwyllau yma—163 o fenywod a gafodd eu lladd gan ddynion y llynedd. Felly, mae'n rhaid inni ymyrryd yn awr, ac mae'n rhaid inni roi ein harian ar ein gair mewn gwirionedd.

15:20

Wel, hoffwn ddiolch hefyd i Joyce Watson am y cwestiwn hwnnw ac yn amlwg, am yr arweiniad y mae wedi'i roi. Cytunaf fod Prifysgol Caerdydd wedi cynhyrchu darn gwerthfawr iawn o waith, gan edrych yn arbennig ar ein pobl ifanc. Nos Lun, rwy'n credu, clywodd llawer o bobl sydd yn y Siambr heddiw am brofiadau emosiynol goroeswyr—siaradodd menyw ifanc, goroeswr, ynglŷn â sut na fyddai wedi gallu ymdopi â'i phrofiadau o gamdriniaeth a rheolaeth drwy orfodaeth heb gefnogaeth Llwybrau Newydd. Wrth gwrs, mae nifer o sefydliadau, Cymorth i Fenywod a BAWSO, a oedd i gyd yno ddydd Llun, yn rhoi cefnogaeth, a Llamau a Hafan Cymru—cynifer ohonynt. Ond hefyd, mae'n rhaid i mi sôn am y swyddog heddlu ifanc o ogledd Cymru a siaradodd am yr adeg y cafodd ei fam ei thrywanu a'i lladd, a'r effaith a gafodd ar ei fywyd. Mae bellach yn swyddog heddlu sy'n gwasanaethu yn uned cam-drin domestig Heddlu Gogledd Cymru. Mae goroeswyr yn hanfodol i'r ffordd ymlaen, o ran polisi.

Ac rwy'n falch ein bod hefyd wedi lansio ymgyrch gyfathrebu yn ystod wythnos y glas eleni, ac roedd y negeseuon hynny wedi'u targedu at fyfyrwyr prifysgol. Hwn oedd trydydd cam 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn'. Diolch yn fawr.

Llosgydd y Barri

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws yr asesiad o'r effaith amgylcheddol a wnaed ar losgydd y Barri, o gofio bod profion yn y gwaith eisoes wedi dechrau? 370

Cyhoeddodd datganiad ysgrifenedig mis Mai 2019 ein bwriad i ymgynghori ar ddatganiad amgylcheddol roedd datblygwr y safle yn cynnig ei baratoi mewn perthynas â chaniatâd cynllunio 2015/00031/OUT. Mae'r datganiad amgylcheddol hwnnw wedi dod i law ers hynny ac rydym wedi caffael ymgynghorydd annibynnol, Cynllun Gofodol Cymru, i gynorthwyo a chynnal dadansoddiad o'r wybodaeth a gyflwynwyd ar ran y datblygwr. Byddaf yn cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus a ddisgrifir yn y datganiad.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n ddiolchgar am ddiweddariad y trefnydd yn y datganiad busnes ddoe mewn perthynas â'r dystiolaeth hon a gyflwynir i Lywodraeth Cymru. A allwch chi roi sicrwydd inni mewn perthynas â dau beth, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, fod y dystiolaeth a ddarparwyd gan y datblygwr o'r un ansawdd ag y byddai asesiad o'r effaith amgylcheddol wedi bod. Ac yn ail, na fydd unrhyw weithgarwch masnachol yn dechrau ar safle'r llosgydd hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi ffurfio'i barn, ar sail y dystiolaeth y mae'r datblygwr wedi'i rhoi i chi.

Diolch i'r Aelod. Gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb parhaus yn y maes hwn ers amser. Yn amlwg, mae'r wybodaeth y bydd y datblygwr yn ei chyflwyno mewn perthynas â'r datganiad amgylcheddol yn cyd-fynd â'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl. Yn amlwg, caiff ei ddadansoddi gan yr ymgynghorydd annibynnol i edrych ar unrhyw fylchau ac unrhyw beth y mae angen inni fwrw ymlaen ag ef, a byddwn yn ystyried popeth yn ofalus, a chyda diwydrwydd dyladwy, fel y byddai'r Aelod yn ei ragweld ac yn ei ddisgwyl.

Wrth gwrs, mae yna gwestiwn ehangach yma, onid oes? Rydym bob amser yn clywed y geiriau calonogol hyn gan Lywodraeth Cymru am yr angen am Ddeddf aer glân, ond rydych yn caniatáu technoleg lle mae llosgyddion yn rhyddhau gwahanol lygryddion aer, gan gynnwys nitrogen ocsid, sylffwr deuocsid, deunydd gronynnol, plwm, mercwri, deuocsinau, ac ati. Rydych yn cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gyda'i phwyslais ar y dull ataliol, ac eto rydych yn caniatáu technoleg a all gael effeithiau difrifol ar iechyd y cyhoedd, gan gynnwys mwy o risg o ganser ac afiechydon anadlol, clefyd y galon, problemau atgenhedlu, datblygiadol a niwrolegol. Rydych yn datgan argyfwng hinsawdd hefyd, wrth gwrs, ac eto bydd llosgydd y Barri, fel y gwyddom, yn ychwanegu dros 100,000 tunnell o garbon deuocsid i'n hatmosffer, gan dorri'r nod llesiant cyntaf, yn ogystal â'r trydydd, y pedwerydd a'r seithfed, sy'n deillio, wrth gwrs, o Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Felly, onid yw'n bryd yn awr i ni roi moratoriwm ar losgyddion o'r fath, neu o leiaf roi moratoriwm arnynt hyd nes y byddwch wedi mynd i'r afael â rhai o'r problemau sylfaenol yn ymwneud â gwastraff y dylai eich strategaeth ddiwastraff newydd arfaethedig fynd i'r afael â hwy pan gawn ei gweld? Ond os ydych yn benderfynol o barhau i gefnogi'r math hwn o dechnoleg, oni ddylem o leiaf fod yn gwahardd llosgyddion rhag cael eu codi yn agos at ysgolion, ysbytai, ardaloedd preswyl ac ati?

15:25

Mae'r Aelod yn codi dadl ehangach o ran sut yr awn i'r afael â'r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn effeithiol fel gwlad gyfrifol. Gwn fod yr Aelod yn cytuno â mi fod gennym ddyletswydd, fel gwlad gyfrifol, i'w atal rhag llygru'r amgylchedd a'i atal rhag cael ei allforio i wledydd eraill. Dyna'r rheswm pam ein bod wedi buddsoddi mewn seilwaith i echdynnu trydan a gwres o'r deunydd hwn a chael gwared arno'n ddiogel ac yn unol â'r safonau amgylcheddol uchaf.

Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod y dylai llosgi gwastraff ar gyfer gwres a phŵer fod yn gam dros dro. Yr ateb yn y tymor hir yw rhoi'r gorau i ddefnyddio plastig untro a defnyddio tanwyddau ffosil, a'n bod yn gwahardd rhai o'r cynhyrchion plastig untro hynny, ond hefyd yn cymryd camau i sicrhau bod mwy o gyfrifoldeb am gostau diwedd oes deunyddiau yn cael ei roi ar ysgwyddau'r cynhyrchydd, ac yn unol â'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu'.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at y strategaeth ddiwastraff newydd sydd ar y gweill gyda'r nod o ganolbwyntio nid yn unig ar wastraff ond ar economi gylchol a symud y tu hwnt i ble rydym wedi bod o'r blaen. Elfen o hynny yw edrych ar yr hyn rydym yn ei wneud mewn gwirionedd, a bod yn gyfrifol am ein gwastraff ein hunain, a hoffwn wahodd yr Aelod i fod yn rhan o'r sgwrs honno o ran sut rydym yn ymdrin â'n gwastraff na allwn ei ailgylchu ar hyn o bryd ond y byddwn eisiau ei leihau yn y dyfodol.

Mae hwn yn gwestiwn syml iawn: a wnewch chi gyflwyno deddfwriaeth i atal llosgyddion fel yr un yn y Barri, fel yr un arfaethedig yn Trowbridge, fel yr un arfaethedig ym Mrynbuga—a wnewch chi gyflwyno deddfwriaeth i atal pobl rhag gallu agor llosgyddion o'r fath yng Nghymru? Mae'n ateb 'gwnaf' neu 'na wnaf' syml, mewn gwirionedd.

Nac ydy. Ddirprwy Lywydd, hoffwn gyfeirio'r Aelod at fy ymateb blaenorol i Llyr Gruffydd—fod hon yn ddadl ehangach i'w chael, a'i bod yn un y mae angen inni ei chael, wrth symud ymlaen, pan fyddwn yn trafod ein strategaeth wastraff ar gyfer y dyfodol.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymuno â mi i nodi Wythnos Diogelwch Tanau Trydanol Cymru, sy'n cael ei chynnal rhwng 25 a 29 Tachwedd 2019. Mae Electrical Safety First yn elusen sy'n gweithio i atal damweiniau trydanol a thanau yn y cartref yng Nghymru. Er bod nifer gyffredinol y tanau damweiniol yng Nghymru yn parhau i ddisgyn, mae nifer y tanau â ffynhonnell ddosbarthu drydanol wedi parhau i godi. Yn ogystal, adroddwyd bod 27,000 o gartrefi yng Nghymru mewn perygl gwirioneddol o broblemau trydanol. Yn ddiweddar, cynhyrchodd yr elusen adroddiad o'r enw 'Gwella Diogelwch Trydanol ac Atal Tanau yng Nghymru'.

Fel Aelodau Cynulliad, mae gennym bŵer i chwarae rhan yn y broses o amddiffyn etholwyr sy'n agored i niwed rhag tanau a damweiniau trydanol yn eu cartrefi. Felly, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau o'r Senedd hon sy'n rhannu'r negeseuon diogelwch pwysig hyn gyda'u hetholwyr fel rhan o wythnos diogelwch trydanol? Dylech ymfalchïo yn y ffaith eich bod yn helpu i atal damweiniau a thanau sy'n cael eu hachosi gan drydan mewn cartrefi. Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod y negeseuon hyn yn bwysig iawn yn y cymunedau sydd â chrynoadau o stoc dai hŷn, a bydd hynny'n cynnwys llawer o gymunedau'r Cymoedd fel fy rhai i ym Merthyr Tudful a Rhymni.

Fel y mae'n digwydd, rwy'n gwybod o brofiad personol fod diogelwch trydanol ac atal tanau o ffynhonnell ddosbarthu drydanol yn bwysig. Felly, manteisiwch ar y cyfle i gefnogi Wythnos Diogelwch Tanau Trydanol yng Nghymru, oherwydd, yn syml iawn, gall helpu i achub bywydau.

5. Dadl Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar Gyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig—Lywydd.

Cynnig NDM7208 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gyflwyno'r cynnig yma heddiw i gymeradwyo'n derfynol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), dwi eisiau cymryd y cyfle i gloriannu yn fyr hanes y Mesur yma a'i gynnwys.

Mae i'r Bil sawl agwedd: ailenwi y Cynulliad yn 'Senedd', newid yr etholfraint, newid y categorïau o bobol sy'n anghymwys i sefyll etholiad i'r Cynulliad neu i wasanaethu fel Aelod. Heddiw, byddwn yn pleidleisio ar Fil sydd angen o leiaf 40 pleidlais i basio. Bil cyfansoddiadol yw hwn, a'r pwerau i ni greu deddfwriaeth o'r math yma ond wedi eu datganoli i'r Cynulliad yma yn 2017. Dyma un o’r ychydig achlysuron yn ein Senedd pan fo angen uwchfwyafrif i basio deddfwriaeth. Yr achlysur diwethaf oedd pleidlais ar refferendwm 2011 ar bwerau deddfu cynradd. Dan Reol Sefydlog 6.21, bydd gan y Dirprwy Lywydd a minnau’r cyfle i bleidleisio ar y Bil yma, ac mi fyddaf i a'r Dirprwy Lywydd, mae'n debyg, yn defnyddio ein hawl i bleidleisio y prynhawn yma.

Heddiw, felly, mi fyddwn yn pleidleisio ar roi'r bleidlais i bobol ifanc 16 ac 17 yn etholiadau'r Senedd yma yn 2021. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1969 a ostyngodd yr oedran pleidleisio o 21 i 18, ac felly mae’r ddarpariaeth i ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 oed yn un hir ddisgwyliedig i rai. Ym Mai 2013, pleidleisiodd mwyafrif clir o Aelodau’r Senedd yma o blaid gostwng yr oedran pleidleisio unwaith eto. Mi gymerodd 10,000 o bobl ifanc ran mewn ymgynghoriad gan y Comisiwn yn 2014 ar yr oedran pleidleisio. Mae'r rhan fwyaf o'r bobol ifanc hynny yng nghanol eu 20au erbyn heddiw. Dyma gyfle i wireddu eu dymuniad nhw bryd hynny, ac i wneud y bleidlais yn realiti i bobl ifanc heddiw.

Fe ddaeth yr argymhelliad i newid y ddeddfwriaeth ar anghymwyso o waith y pwyllgor cyfansoddiadol yn y pedwerydd Cynulliad, ac fe ddaeth y dymuniad i ailenwi y Cynulliad i adlewyrchu ein cyfrifoldebau seneddol gan bleidlais ganddom ni yma yn 2016. Ffrwyth y gwaith a'r penderfyniadau yma sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth yma heddiw.

Diolch i banel arbenigol Laura McAllister am y gwaith a'r argymhelliad ar bleidleisio 16 ac 17 hefyd, a diolch hefyd i bwyllgorau'r Cynulliad yma am waith sgrwtini manwl i ddylanwadu ar y Bil sydd ger ein bron heddiw. Gair o ddiolch personol a phenodol wrthyf i i'r tîm staff arbennig sydd wedi cyd-weithio gyda fi ar ddatblygiad y Mesur yma. Gallwn fod yn hyderus fod gan y Comisiwn bobl o'r safon uchaf posib yn rhoi cefnogaeth i ni fel Aelodau ar ddeddfwriaeth, a dwi'n hynod o ddiolchgar i'r tîm brwd a phroffesiynol o staff a weithiodd gyda fi ar y ddeddfwriaeth yma. Hefyd, yn yr un modd, i'r staff o fewn y Llywodraeth a gyfrannodd at agweddau o'r Mesur hefyd; diolch iddyn nhw yn yr yn modd.

Wrth gwrs, mae'r Bil yr ydym heddiw, ym mis Tachwedd, yn pleidleisio arno yn wahanol i'r Bil a gyflwynais i ym mis Chwefror eleni, mewn amryw o ffyrdd. Yn gyntaf, enw swyddogol yn y Gymraeg a’r Saesneg fydd i'r Senedd—Senedd Cymru a Welsh Parliament. Hefyd, bydd yr etholfraint yn cynnwys gwladolion tramor cymwys. Bydd cynghorwyr yn anghymwys i fod yn Aelodau o’r Senedd, a bydd y Comisiwn Etholiadol yn cael ei gyllido gan ac yn atebol i’r Cynulliad am etholiadau Cymreig.

Gwn nad yw pob grŵp gwleidyddol yn fodlon gyda phob un o’r elfennau yma. Grŵp Plaid Cymru a rhai Aelodau eraill, gan gynnwys minnau, fel mae'n digwydd, yn anfodlon gyda'r newid i enw dwyieithog; y grŵp Torïaid yn fodlon gyda'r newid hwnnw, ond yn anfodlon gyda chyflwyno pleidleisiau i wladolion tramor cymwys. Mae Bil yn newid dros gyfnod sgrwtini a byddwn yn gofyn i Aelodau, wrth bleidleisio, i gadw mewn cof y cyfanwaith yr ydym yn creu heddiw. Bil sy'n rhoi enw ar ein deddfwrfa sy’n adlewyrchiad gwirioneddol o’i statws cyfansoddiadol, ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd. Bil hefyd sy’n creu Senedd sy’n fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol, ac a fydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae'n wir fod angen mwy o newidiadau ar ein Senedd, a bydd hynny angen deddfwriaeth eto yn y dyfodol agos gobeithio. Ond, am heddiw, dewch i ni gymryd y cam pwysig yma i bleidleisio dros gryfhau sail ein democratiaeth seneddol yma yng Nghymru.

15:30

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn siomedig iawn nad wyf yn gallu pleidleisio dros y Bil, ac yn wir, yn siomedig i fod yn pleidleisio yn ei erbyn? A'r rheswm am hynny yw oherwydd bod pethau sydd i'w croesawu'n fawr yn y Bil, fel yr amlinellodd y Llywydd. Er bod gennym bleidlais rydd ar fater estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed, mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w gefnogi ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n credu bod ei amser wedi dod ac y byddai'n ailffurfio llawer o'n trafodaeth wleidyddol pe bai gennym bobl ifanc 16 ac 17 oed ar y gofrestr etholiadol. Ac mae'n wirioneddol ddinistriol i mi na fyddaf yn cael cyfle, am resymau y byddaf yn eu hamlinellu yn y man, i bleidleisio dros y cam gwirioneddol bwerus hwnnw i ymestyn yr etholfraint.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod y sefydliad hwn fel Senedd, ac fel 'Parliament' yn y Saesneg. Rwy'n credu bod hwn yn gam mawr ymlaen. Fel y dywedodd—wel, mae llawer o bobl yn honni eu bod wedi dweud hyn; efallai mai Ron Davies a wnaeth—proses yw datganoli, nid digwyddiad. Ond rydym wedi cael rhyw fath o gonfensiwn cyfansoddiadol ers bron i 20 mlynedd i geisio canfod pa fath o ddatganoli roeddem ei eisiau mewn gwirionedd. A dechreuasom fel rhyw fath o gyngor sir ar stiltiau—er mae'n rhaid i mi ddweud bod ein Llywydd ar y pryd bob amser wedi gwneud yn siŵr ein bod yn ymddwyn yn llawer mwy fel Cynulliad go iawn. Ond rydym wedi datblygu i fod yn sefydliad clasurol, buaswn yn ei ddweud, sy'n dilyn patrwm San Steffan, ac mae'r enw Senedd, neu 'Parliament', yn gydnabyddiaeth briodol o hynny.

Rwyf hefyd yn croesawu'r Bil am ei fod yn egluro ac yn symleiddio'r rheolau mewn perthynas ag anghymhwyso. Ac efallai y bydd yr Aelodau'n cofio imi gadeirio'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y pedwerydd Cynulliad, pan ddrafftiwyd yr adroddiad hwnnw.

Fodd bynnag, o ran cyflwyno'r hawl i wladolion tramor bleidleisio, mae'r Bil hwn, yn ein barn ni, yn anghynaliadwy. Mae'n newid mawr i Fil Comisiwn nad oedd y Comisiwn ei eisiau. Ac rwy'n atgoffa pobl nad yw'r syniad newydd hwn yn arfer cyffredin yn unman arall, hyd y gwn i, ac mae hefyd yn cyflwyno'r hawl i sefyll etholiad i'r sefydliad hwn, a dal swydd ynddo mae'n debyg. Nid yw wedi bod yn destun craffu o gwbl, ac fe'i cyflwynwyd gan y Llywodraeth heb waith craffu yng Nghyfnod 2. Mae'n beth syfrdanol i'w wneud mewn Bil cyfansoddiadol sy'n galw, fel y dywedodd y Llywydd, am uwchfwyafrif. Mae'n eithaf sarhaus, a bod yn onest, i'r rheini sydd â phryderon diffuant ynghylch y diffyg craffu.

Felly, ni fydd y grŵp Ceidwadol, wrth bleidleisio yn erbyn y Bil hwn, yn pleidleisio yn erbyn Bil Comisiwn blaenorol, ond yn hytrach Bil sydd, yn anffodus, wedi cael ei herwgipio gan Lywodraeth Cymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, Lywydd, credaf eich bod wedi cael eich gwasanaethu'n hynod wael gan y Llywodraeth ar yr achlysur hwn.

15:35

Mae'r bleidlais hon heddiw yn garreg filltir bwysig. Ugain mlynedd ar ôl cael ei sefydlu fel Cynulliad, prin iawn ei bwerau, rydyn ni'n pasio Deddf heddiw, gobeithio, sydd yn nodi yn ffurfiol flodeuo y Cynulliad hwnnw i mewn i Senedd genedlaethol i'n gwlad, ond sydd hefyd yn gwahodd mwy o'n dinasyddion ni—ein dinasyddion ifanc ni—i fod yn rhan o'r prosesau gwleidyddol a democrataidd sy'n sylfaen i'n bodolaeth ni fel sefydliad.

Drwy ymestyn yr hawl i bleidleisio i'n dinasyddion 16 a 17 oed, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ymddiried yn ein pobl ifanc ni, yn barod i wrando ar eu barn, yn cymryd eu dyheadau nhw o ddifrif. Dwi’n hyderus y gwnaiff o hefyd newid y ffordd rydyn ni’n cyfathrebu ein negeseuon ni efo yr etholwyr yn gyffredinol, ac, yn fwy na hynny, yn newid y ffordd rydyn ni’n llunio polisi ac yn dod i benderfyniadau ynglŷn â deddfwriaeth yn y lle yma.

Mae wedi bod yn destun balchder i fi—a dwi'n siarad ar ran pawb ohonom ni, dwi'n siŵr—o weld y modd mae’n Senedd Ieuenctid newydd sbon ni wedi creu cymaint o argraff yn ei blwyddyn gyntaf. Mae'n brawf, os oedd unrhyw un angen y prawf hwnnw, fod gan ein pobl ifanc ni gyfraniad enfawr i’w wneud tuag at lunio byd a siapio dyfodol sydd, wedi’r cyfan, yn eiddo iddyn nhw.

Mae yna elfennau eraill pwysig i’r Bil, o ran gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd, er enghraifft, ynglŷn â chymhwysedd i sefyll mewn etholiadau. Mae o'n Fil sy’n un technegol bwysig yn hynny o beth, wrth i ni gymryd cyfrifoldeb am ein trefniadau etholiadol ein hunain.

Ond gadewch i fi droi at yr elfen arall yna sydd wedi bod yn destun cryn drafod dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, ac elfen sydd wedi fy siomi i a'm cyd-Aelodau ar y meinciau yma'n arw iawn o ran agwedd Llywodraeth Lafur Cymru. Sôn ydw i am enw y sefydliad yma.

Mi egluraf i eto nad am y disgrifiad dwi'n sôn. Mae'r Bil yn disgrifio y Senedd yma—y sefydliad yma—am y tro cyntaf fel 'Senedd' yn Gymraeg, 'Parliament' yn Saesneg. Mae hynny yn bwysig achos mi roddwyd yr enw 'Cynulliad' i ni er mwyn ein gosod ni yn israddol i'r Senedd newydd agorwyd yn yr Alban yr un pryd. Mi ellwch chi ddadlau bod dim ots, nad enw sy'n bwysig ond beth rydyn ni'n ei wneud ac, wrth gwrs, mae hynny'n wir. Ond mae o'n bwysig. Mae canfyddiad yn bwysig ac mae dod yn Senedd, yn Parliament, yn adlewyrchu'r ffaith bod hwn yn sefydliad gwahanol iawn bellach—yn ddeddfwrfa efo pwerau trethu.

Ond cyfle oedd yna yn fan hyn i wneud pwynt arall o egwyddor, i ddweud wrth y byd nad jest unrhyw senedd, nid unrhyw parliament, ydym ni, ond corff neilltuol Cymreig. Y cynnig oedd ein galw ni yn 'Senedd' yn swyddogol fel enw. Enw i bawb, enw Cymraeg ei iaith, dwyieithog yn ei ddefnydd. Fel cymaint o eiriau eraill, fel ein hanthem genedlaethol ni, modd i ddangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ein bod ni'n hyderus yn ein treftadaeth, yn unedig yn ein dyfodol ac yn dathlu'r hyn sy'n ein gwneud ni yn unigryw fel gwlad.

Dwi a Phlaid Cymru'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cydweithio efo nifer o Aelodau Llafur y meinciau cefn ar hyn. Ond dyna ni, colli wnaethom ni wrth i'r Llywodraeth Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio fel bloc i atal hynny ac i fynd, yn hytrach, am Senedd Cymru/Welsh Parliament.

Doedd yna ddim rhwystr gyfreithiol. Mae pob cyngor yn cadarnhau hynny. Diffyg hyder oedd o, efallai. Rhyw ofn, tybed? Ofn beth neu bwy, dwi ddim yn siŵr, gan fod arolwg barn wedi dangos yn wythnos y trafod ar Gyfnod 3 fod pobl Cymru yn cefnogi yr enw 'Senedd.' Llywodraeth sy'n barod i anelu am 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ond sydd, hyd yn oed yn y ffordd fach yma, yn amharod i roi un platfform bach i'r Gymraeg er mwyn ei normaleiddio i bawb mewn deddfwriaeth.

Mi ydym ni wedi ennill drwy default, mewn ffordd, achos mewn ateb ysgrifenedig yr wythnos yma mi gadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol eto mai y 'Senedd' fyddai Llywodraeth Cymru'n ei ddefnyddio, gan cynnwys mewn peth deddfwriaeth. 'Aelod o'r Senedd' a 'Member of the Senedd' fydd ein teitlau ni fel Aelodau. Felly, Senedd fyddwn ni.

Ie.

15:40

Gwyddoch fod gennyf rywfaint o gydymdeimlad—. Diolch am dderbyn yr ymyriad. Gwyddoch fod gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r enw 'Senedd' ac rwy'n credu ei fod yn enw priodol iawn i'r Senedd hon mewn gwirionedd. O ran yr arolwg barn rydych newydd gyfeirio ato, efallai fod y rhan fwyaf o'r bobl a ymatebodd ar y diwrnod hwnnw wedi dweud y byddai'n well ganddynt enw uniaith Gymraeg yn hytrach na Saesneg, ond roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Comisiwn yn dangos canlyniad gwahanol, lle roedd llawer o bobl eisiau enw dwyieithog mewn gwirionedd. Felly, onid yw llawer o hynny'n dibynnu ar y cwestiwn rydych yn ei ofyn?

Fe rannaf y cwestiwn a ofynnwyd, ac roedd yn gwestiwn syml iawn a ofynnwyd a daeth yn ôl gydag ateb syml iawn iddo hefyd. Ac rwy'n digwydd gweld, ar lawer o faterion, fod dewisiadau pobl a barn pobl ar bethau pwysig iawn yn newid dros amser ac felly gorau po fwyaf cyfredol y gallwn fod wrth fesur barn pobl.

Y siom, yn fan hyn, wrth gloi, ydy bod y Llywodraeth wedi penderfynu bod yr enw 'Senedd' yn ddigon da i'w ddefnyddio o ddydd i ddydd, ond ddim yn ddigon da i'w ddefnyddio yn y darn o ddeddfwriaeth sy'n rhoi i'r Senedd ei enw newydd. Gofyn am arweiniad mae Cymru, ac ar y mater hwn mi fethodd y Llywodraeth a'i gynnig o.

Ond yma yn ein Senedd ni y prynhawn yma, mi bleidleisiwn ni dros y Bil yma. Mi bleidleisiwn ni i ddathlu dod yn Senedd yn unrhyw iaith, ac mi bleidleisiwn ni efo balchder dros ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed. Senedd i bawb o bobl Cymru ydy hon a'n pobl ifanc ni fwy na neb ydy dyfodol y Gymru honno.

Roeddwn yn credu bod gwahaniaeth addysgiadol rhwng y ffordd roedd y ddau siaradwr blaenorol yn disgrifio'r hyn roedd y sefydliad yn datblygu i fod. Dywedodd Rhun ein bod yn blodeuo i fod yn Senedd genedlaethol, tra dywedodd David ein bod yn datblygu i fod yn sefydliad clasurol ar batrwm San Steffan. Yn y naill achos neu'r llall, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn galw ein hunain wrth ein henw, a chan fod gennym bellach bwerau deddfu sylfaenol a phwerau i godi trethi, mae'n briodol i'n henw newid o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru/Welsh Parliament ac rydym yn cefnogi hynny.

Rydym yn gwrthwynebu'r newidiadau i'r etholfraint. Fodd bynnag, hoffwn ddweud fy mod yn credu bod nifer o'r Aelodau wedi gwneud areithiau grymus ynglŷn â hawl pobl ifanc 16 oed i bleidleisio. Mae fy rhai i'n dal i fod yn agored ar y mater. Nid yw ein grŵp wedi'i argyhoeddi o'r achos dros wneud hynny, ac rydym yn ei wrthwynebu. Fodd bynnag, fe edrychaf gyda diddordeb mawr ar y modd y mae ysgolion yn datblygu, yn y byd addysg, a phriodoldeb y modd yr ymdrinnir â hynny a'r modd y byddwn ni, fel gwleidyddion, yn ymateb o ran ymgyrchu a chanfasio a chynnwys myfyrwyr ysgol o dan 18 oed yn ein prosesau. Rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio'n dda, er nad ydym wedi ein hargyhoeddi.

Rydym hefyd yn gwrthwynebu'r syniad o garcharorion yn pleidleisio. Rwy'n cydnabod bod gan Weinidogion Cymru, a'r Llywydd, gellid dadlau, fel cadeirydd y Comisiwn, fel awdurdodau cyhoeddus, rwymedigaeth gyfreithiol ar wahân mewn perthynas â dyfarniadau gan Lys Hawliau Dynol Ewrop, er nad yw'n un y mae disgwyl i ni, fel Aelodau Cynulliad unigol, bleidleisio drosti.

Serch hynny, yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf, fel y mae David Melding wedi'i nodi'n fedrus, yw bod Llywodraeth Cymru yn herwgipio'r Bil Comisiwn hwn i fwrw ymlaen a defnyddio Cymru fel man profi, fel mochyn cwta, ar gyfer polisi a gyhoeddwyd prin ddeufis yn ôl yng nghynhadledd Llafur Cymru i ymestyn rhyddid i symud o leiaf, yn ôl y gynhadledd, i lawer o'r byd a rhoi hawliau pleidleisio fwy neu lai yn uniongyrchol i wladolion tramor. Mae'r gair 'cymhwyso' yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â gwladolion tramor, ond nid wyf yn siŵr bod llawer i rwystro cymhwysedd. Mae'n ymddangos ei fod yn cynnwys yr holl wladolion tramor sy'n breswylwyr, neu'n cael eu hystyried i fod yn breswylwyr, heb gyfnod cymhwyso penodol. Credaf fod hynny'n anghywir. Ac mae'r ffordd y cafodd ei wneud wedi bod yn arbennig o anghywir. Fe'i gwnaed heb ymgynghori. Fe'i gwnaed heb graffu difrifol. Fe'i gwnaed heb sicrhau hawliau cyfatebol i bobl o Gymru bleidleisio yn unrhyw un o'r gwledydd rydym yn rhoi'r hawliau pleidleisio hyn iddynt, ac nid wyf wedi gweld unrhyw enghraifft yn unman arall yn y byd lle mae hyn yn digwydd.

Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r Llywydd o ran y modd y mae'r Bil wedi cael ei herwgipio. Fodd bynnag, mae hi a'i dirprwy bellach yn wynebu'r dewis rhwng caniatáu i Fil a lywiwyd ganddi fethu, neu gefnogi Bil sy'n cynnwys cymalau hynod ymrannol a phleidiol ynghylch caniatáu i wladolion tramor bleidleisio. Rwyf wedi siarad o'r blaen ynglŷn â pha mor bwysig yw hi i'r sawl sydd yn y gadair fod yn ddiduedd; bydd y cofnod pleidleisio heddiw'n dangos a yw'n ddiduedd mewn gwirionedd.

15:45

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth ofyn i Aelodau bleidleisio o blaid y Bil hwn, hoffwn i ddechrau drwy dalu teyrnged i'r Llywydd yn ei rôl fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil am ddod â ni at y pwynt hwn. Bu'r broses o ddatblygu’r Bil yn un hir a chymhleth ac mae arweiniad y Llywydd wedi bod yn gwbl hanfodol ar y daith honno, ac mae ein dyled ni yn fawr iddi am hynny.

Yn ail, hoffwn i bwysleisio, mewn sawl ffordd, fod y Bil hwn yn cynrychioli cyfaddawd rhwng safbwyntiau cryf iawn. I'r perwyl hwnnw, rwyf o'r farn ei fod yn deilwng o gefnogaeth gan Aelodau yn gyffredinol.

Mae gwahanol farn wedi cael ei mynegi ar enw'r sefydliad hwn. Er enghraifft, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth sôn am hynny yn ei gyfraniad. Cafwyd trafodaeth ar hynny yng Nghyfnod 3 yn benodol, ar y testun y gwnaeth e godi. Ond trwy'r Bil hwn, byddwn ni'n rhoi teitl i'r sefydliad sy'n gweddu ar gyfer ei bwerau newydd erbyn hyn, sef pwerau corff seneddol go iawn. Mae'r enw statudol yn adlewyrchu safbwyntiau'r cyhoedd yn ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Wrth gwrs, o ran defnydd bob dydd, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r enw byrrach, Senedd, ac yn gobeithio gweld eraill yn gwneud yr un peth.

Rydym hefyd wedi cael cyfaddawd rhwng safbwyntiau cystadleuol ar sut y dylid ariannu'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â'i waith ar etholiadau datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chomisiwn y Cynulliad a'r Comisiwn Etholiadol i sicrhau y gall y trefniadau newydd weithio'n effeithiol, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddant yn dod i rym pan allwn fod yn hyderus o hynny ac mae'r trefniadau newydd hyn yn elfen bwysig o ddatblygiad datganoli.

O ran y darpariaethau sy'n ymwneud ag anghymhwyso, rwy'n talu teyrnged i David Melding a gadeiriodd y pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf a argymhellodd ein bod yn gwahaniaethu rhwng anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd ac anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd. Rydym wedi dilyn yr argymhelliad hwnnw, er, unwaith eto, cafwyd safbwyntiau gwahanol ynglŷn â sut yn union y dylid cymhwyso'r gwahaniaeth hwnnw mewn achosion penodol.

Mae'r Bil hefyd yn cynnig estyn etholfraint y Senedd i bobl ifanc 16 ac 17 oed ac i ddinasyddion tramor cymwys. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o blaid cynnwys pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd ers amser, a chredwn fod hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau democratiaeth fywiog. Yn yr un modd, credwn y dylai pobl, beth bynnag fo'u dinasyddiaeth, sy'n cyfrannu at fywyd economaidd a diwylliannol ein cymuned allu lleisio barn ar ddyfodol y gymuned honno, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno gwelliannau i ymestyn etholfraint y Senedd i ddinasyddion tramor cymwys ac roeddem yn falch fod hynny wedi denu cefnogaeth y tu hwnt—ymhell y tu hwnt—i feinciau Llywodraeth Cymru. Ac yn wir, gan gyfeirio'n ôl at sylwadau a wnaed mewn cyfraniadau cynharach, bydd yr Aelodau'n cofio, pan ofynnwyd iddynt a ddylid caniatáu i holl drigolion cyfreithiol Cymru bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ni waeth beth fo'u cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, roedd 66 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno y dylent. Mae darpariaethau cyfatebol ar yr etholfraint ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Rydym yn credu ei bod yn briodol fod yr etholfraint yr un fath ar gyfer pob etholiad datganoledig yng Nghymru.

Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn Fil pwysig. Credaf ei bod yn iawn ein bod yn defnyddio'r pwerau newydd a roddwyd i ni gan Ddeddf Cymru 2017 i wneud ein democratiaeth yn fwy hygyrch a dealladwy, a'n bod yn ei hagor i fwy o bobl yn ein cymdeithas. Dyna y mae'r Bil yn ei gyflawni ac wrth ailadrodd fy niolch i'r Llywydd fel yr Aelod cyfrifol ac ategu ei diolch yn wir i'r holl swyddogion a chyfreithwyr sydd wedi gweithio ar y Bil hwn, rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o'i blaid.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd, a dim ond i ymateb i ambell i bwynt a gododd yn ystod y drafodaeth. A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y cydweithio ar hyd yr amser ar ddatblygiad y Mesur yma, ac a gaf i hefyd gydnabod y cyfraniad gan David Melding a gan Mark Reckless? Ac er y bydd nifer o Aelodau yn pleidleisio yn erbyn y Bil heddiw, roeddwn i'n falch o glywed yr Aelodau a siaradodd yn cadarnhau bod yna ambell agwedd o fewn y Bil y maen nhw, hyd yn oed wrth bleidleisio yn erbyn, yn eu ffafrio—pleidleisio yn 16 ac 17 mewn ambell i esiampl, a hefyd ein henwi ni fel 'Senedd' o'r diwedd. Felly, diolch ichi am gydnabod hynny a rhoi hynny ar y record.

I'r cofnod hefyd, os caf i jest dweud, dwi ddim o'r farn bod y Bil yma wedi cael ei 'hijack-o' gan y Llywodraeth. Os caf i ddweud, fe bleidleisiodd y Siambr yma o blaid newidiadau i'r Bil yn ystod y cyfnod sgrwtini, felly pleidlais ddemocrataidd oedd hynny, nid hijack, pa un ai ydych chi hapus â'r canlyniad neu beidio.

Ac i gloi, felly, ac yn unol â Rheolau Sefydlog ein Cynulliad ni yma, fe fydd hi'n bleser gen i i ddefnyddio fy hawl brin i bleidleisio y prynhawn yma o blaid cryfhau ein Senedd.

Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, a phenderfynodd y Pwyllgor Busnes y bydd y bleidlais ar yr eitem hon yn cael ei chynnal ar unwaith.

Yn unol ag adran 111A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 26.50A, rwyf wedi gwneud datganiad ar faterion sy'n ymwneud â phynciau gwarchodedig a gofyniad y Bil hwn mewn perthynas ag uwchfwyafrif. Gan fod y Bil yn cynnwys materion sy'n ymwneud â phynciau gwarchodedig, mae'r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau cefnogaeth isafswm o 40 o Aelodau i'r Bil er mwyn iddo basio. Ac oni bai fod rhywun yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, hoffwn fynd ymlaen yn syth i'r bleidlais. Felly, agor y bleidlais. A chau'r bleidlais. 41 o blaid Cyfnod 4, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, mae'r Bil wedi'i dderbyn.

NDM7208 - Dadl Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): O blaid: 41, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y Pancreas

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ganser y pancreas, a galwaf ar Lynne Neagle i wneud y cynnig. [Torri ar draws.] A gawn ni fod yn dawel, os gwelwch yn dda? Diolch. Lynne.

Cynnig NDM7191 Lynne Neagle, Dai Lloyd, David Melding

Cefnogwyd gan Delyth Jewell, Joyce Watson, Mark Isherwood, Neil Hamilton, Neil McEvoy, Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod nad yw un o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn goroesi y tu hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn ddigon cyflym.

2. Yn cydnabod bod tua 500 o achosion newydd o ganserau'r pancreas yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2015, ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un flwyddyn.

3. Yn cydnabod mai canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda phrognosis truenus sydd prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.

4. Yn croesawu mis ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae Pancreatic Cancer UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r nifer isaf o ran goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â chanser y pancreas yng Nghymru drwy:

a) triniaeth gyflymach, drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr sydd wedi dangos canlyniadau addawol;

b) diagnosis cynharach, drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; ac 

c) cymorth cyfannol, drwy gymorth deietegol a maethol amserol i alluogi cleifion i oddef triniaeth yn well.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Cynulliad ar draws—

15:55

Arhoswch funud. A gawn ni fod yn dawel, os gwelwch yn dda? Mae'r ddadl hon yr un mor bwysig, rwy'n credu, â gweddill yr agenda y prynhawn yma, felly os ydych yn gadael, a allwch chi wneud hynny—? Mae Lynne angen ein sylw llawn. Diolch. Lynne.

Diolch. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Cynulliad o bob ochr i'r Siambr sydd wedi cefnogi'r digwyddiad a gynhaliwyd heddiw i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas a'r rheini a gyflwynodd y ddadl hon ar y cyd. Rwy'n falch iawn y bydd Cadeirydd y pwyllgor iechyd, Dr Dai Lloyd, yn cloi'r ddadl heddiw. Gwn y bydd Dai yn lleisio'r pryderon sydd gan lawer ohonom am y modd y dynodir gwahanol atebion ar gyfer gwahanol ganserau yng nghyd-destun yr un llwybr canser newydd, oherwydd i'r cleifion rydym yn eu trafod heddiw, yn fwy nag unrhyw ganser arall bron, mae amser o'r pwys mwyaf.

Ym mhob ffordd bron, mae'r byd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth yn y 50 mlynedd diwethaf. Ym mis Tachwedd 1969 roedd y byd yn gwylio ac yn rhyfeddu at laniad llwyddiannus Apollo 12 ar y lleuad. Roedd technoleg yn newid, a hynny'n gyflym, a gofal iechyd hefyd. Ar ddechrau'r 1970au, nid oedd ond disgwyl i un o bob pedwar claf canser yn y DU oroesi eu clefyd am 10 mlynedd neu fwy. Mae'r ffigur hwnnw bellach yn ddau o bob pedwar. Yn 1969 roedd marwolaethau babanod yn y wlad hon yn 18.32 ym mhob 1,000 o enedigaethau. Mae bellach yn 3.7.

Pam y cyd-destun hwn—y cipolwg hir, 50 mlynedd hwn ar y byd a'r cynnydd yn y byd meddygol? Oherwydd, wrth edrych yn ôl o'r presennol ar y bywyd du a gwyn hwnnw, y pethau sydd heb newid sy'n peri'r ofn mwyaf i ni. Dros y cyfnod hwnnw, mae un peth nad yw wedi newid: nid yw cyfraddau goroesi ar gyfer canser y pancreas wedi newid. Er yr holl gynnydd a wnaethom ym maes technoleg, cyfathrebu a gofal iechyd, drwy gydol oes y GIG bron, nid yw'r cyfraddau wedi newid mewn perthynas â'r canser hwn, y canser sy'n lladd gyflymaf a'r canser sydd â'r lefel isaf o oroeswyr.

Mae'r ystadegau—yr ystadegau disymud—yn niferus ac yn frawychus. Canser y pancreas yw'r degfed canser mwyaf cyffredin yn y DU, ond nid yw ond yn derbyn 1 y cant o gyllid ymchwil. Oherwydd diagnosis hwyr, ni fydd saith o bob 10 o bobl sydd â chanser y pancreas yn cael unrhyw driniaeth, ac un o bob 10 yn unig sy'n cael llawdriniaeth, sef yr unig ateb iachaol. Bydd llai na 6 y cant o'r rheini yr effeithir arnynt yng Nghymru yn goroesi am fwy na phum mlynedd—ystyriwch hynny am eiliad.

Yng nghysgod y rhifau hyn mae pobl go iawn, straeon go iawn a dioddefaint go iawn. Felly, rwyf am ddefnyddio gweddill fy sylwadau heddiw i roi llais i dair stori—perthynas sydd wedi dioddef profedigaeth, ymgyrchwyr dewr a chlinigydd blaenllaw. Tair stori sy'n cyfuno i wneud un pwynt: mae'n rhaid i ni wneud yn well.

Yn gyntaf, hoffwn adrodd hanes fy etholwr, Linda. Rwyf eisiau i chi ddychmygu sut oedd Nadolig Linda 10 mlynedd yn ôl. Ar ôl colli ei chefnder, Noel, a'i hewythr, Robert, i ganser y pancreas yn y blynyddoedd diweddar—bu farw'r ddau o fewn wythnosau i'w diagnosis, er iddynt gael blynyddoedd i fyw—roedd Linda bellach yn wynebu'r ansicrwydd ynglŷn â'i mam a oedd yn ddifrifol wael. Roedd wedi dioddef dwy flynedd o iechyd gwael, triniaethau amrywiol a diagnosis ansicr. Yna, 10 mlynedd yn ôl, dioddefodd ddirywiad cyflym dros gyfnod y Nadolig, a dywedwyd wrthi ym mis Ionawr 2010 fod ganddi hithau hefyd diwmorau ar ei phancreas, ei hafu a'i stumog. Roedd y darganfyddiad yn rhy hwyr. Nid oedd unrhyw beth y gallai'r meddygon ei wneud—yr ymadrodd dychrynllyd hwnnw: 'Byddwn yn sicrhau ei bod mor gyfforddus a phosibl.'

Mae Linda'n talu teyrnged i'r gofal a gafodd ei mam gan nyrsys pan ddaeth adref am ei thair wythnos olaf, ac i'w merch ei hun, a ddaliodd yn gadarn i'w nain hyd nes ei bod o'r golwg ac oddi ar y ward, pan allai dorri ei chalon yn ddiogel ym mreichiau ei mam. Mae Linda'n dal i fod yn ddig—a hynny'n briodol—fod ei mam wedi cael clywed ei diagnosis ar ei phen ei hun, am na chafodd glywed am y treialon a oedd ar gael, am nad oedd neb wedi meddwl, drwy'r misoedd allweddol hynny, am y posibilrwydd o gysylltiad teuluol, ond yn fwy na dim, am ei bod yn clywed yr un straeon heddiw. Mae Linda wedi troi ei phoen yn frwdfrydedd ymgyrchu a fyddai'n taflu unrhyw wleidydd i'r cysgod. Mae Linda a'i theulu'n haeddu clywed am fwy o gynnydd na'r hyn a wnaethom yn y pum mlynedd diwethaf, heb sôn am yr 50 mlynedd diwethaf.

Daw'r ail stori gan Bilal Al-Sarireh, yr arweinydd clinigol yng Nghymru ar ganser y pancreas, a hoffwn ddiolch iddo am weithio gyda fy swyddfa i roi diweddariad manwl am yr heriau sy'n bodoli heddiw. Dywed yr athro Al-Sarireh, ar ôl gweld cynnydd mor enfawr ers sefydlu canolfan arbenigol gyntaf Cymru ddegawd yn ôl, ei fod bellach yn poeni ei fod yn siomi cleifion am na allant gael triniaeth yn ddigon cyflym, ni waeth pa mor gyflym na pha mor ddifrifol yw eu diagnosis. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad ydym byth eisiau clywed clinigwyr yn mynegi teimladau o euogrwydd a gofid am amgylchiadau na allant eu rheoli. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn edrych o ddifrif ar y pryderon sy'n cael eu codi gan yr athro am yr heriau sy'n wynebu canolfan genedlaethol Cymru, lle mae nifer y cleifion sy'n cael cynnig llawdriniaeth iachaol yn gostwng o tua 20 y cant i lai na 15 y cant, a lle mae llawdriniaethau dargyfeiriol lliniarol ar gynnydd erbyn hyn, sy'n adlewyrchu dwy her.

Yn gyntaf, mae'r cwestiwn sy'n ymwneud â sicrhau bod cyllid yn cyfateb i'r galw cynyddol, ac yn ail, o ran logisteg, mae Cymru ar hyn o bryd ar ei hôl hi o ran cael canolfannau annibynnol sy'n cynnig triniaeth arbenigol ar gyfer clefydau'r afu a'r pancreas. Felly, a all y Gweinidog ystyried sefydlu un ganolfan ganser hepatopancreatobiliaraidd yng Nghymru? Yn ôl arbenigwyr, bydd hyn yn helpu i recriwtio, cadw a chynnal yr arbenigwyr cywir ac yn dod â'r sgiliau cywir i Gymru i wneud cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â lleihau rhestrau aros. Mae amser yn hanfodol: dyna'r neges a glywch dro ar ôl tro gan bawb yr effeithiwyd arnynt gan ganser y pancreas.

Ac yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i Nick a Wendy Horler, sy'n rheoli swyddfa bost Blaenafon yn fy etholaeth. Unwaith eto eleni, maent wedi goleuo'u hadeilad â goleuadau porffor i nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas. Fel nifer o ymgyrchwyr y clywn amdanynt heddiw, maent wedi gwneud hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fel Linda a'i theulu, fel yr Athro Bilal Al-Sarireh a'i dîm, a chymaint o bobl eraill sydd wedi ymgynnull yma heddiw, mae Nick a Wendy Horler yn aros i weld beth fydd canlyniad blynyddoedd o ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth. Tair stori ag un pwynt: mae'n rhaid inni wneud yn well. I ddioddefwyr canser y pancreas, mae amser yn hanfodol. Mae gormod o amser wedi mynd heibio erbyn hyn a dim digon o gamau ymlaen o ran triniaeth, cyfraddau goroesi ac ymwybyddiaeth. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig heddiw i roi mwy o amser, mwy o obaith, i'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y clefyd dychrynllyd hwn. Diolch.

16:00

A gaf fi dalu teyrnged i Lynne Neagle am yr araith honno, ond hefyd am y gwaith rydych chi wedi'i wneud yn y maes hwn? Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch i Pancreatic Cancer UK am y sesiwn wybodaeth alw heibio a drefnwyd ganddynt heddiw, a gwn fod llawer o Aelodau wedi mynychu honno ac yn teimlo bod yr wybodaeth a gafwyd yno yn arbennig o werthfawr. 

Ddirprwy Lywydd, dros y 50 mlynedd diwethaf, mae strategaethau diagnosis a thriniaeth ar gyfer cleifion canser wedi esblygu'n gyflym, gan drawsnewid canlyniadau i gleifion. Ac eto, er gwaethaf y datblygiadau mawr a welwyd mewn meysydd oncoleg eraill, mae gwelliannau yn y canlyniadau i gleifion canser y pancreas wedi aros yn eu hunfan i raddau helaeth. Mewn cyferbyniad llwyr â'r cynnydd rhyfeddol yn y cyfraddau goroesi a welwyd mewn clefydau eraill fel canser yr ysgyfaint, y fron a'r prostad, dim ond 5 y cant yw'r gyfradd gyffredinol o gleifion sy’n goroesi am bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser y pancreas, ac nid yw hynny wedi gwella'n sylweddol mewn gwirionedd ers y 1970au. 

Yn gynharach eleni, awgrymodd dadansoddiadau yn gadarnhaol fod cyfraddau goroesi canser yn y DU yn gwella, ond mae'n dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd incwm uchel eraill, felly mae gennym ni'r rhan honno o'r broblem hefyd. Yn wir, er gwaethaf y gwelliannau a welwn, roedd y DU yn dal i berfformio'n waeth nag Awstralia, Canada, Denmarc, Iwerddon, Seland Newydd a Norwy yn yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn The Lancet. Dywed Cancer Research UK y gallai’r DU wneud yn well a galwodd am fwy o fuddsoddiad yn y GIG a’r systemau a’r datblygiadau arloesol sy’n ei gefnogi, a byddai hynny’n wirioneddol bwysig mewn perthynas â chanser y pancreas a’r rhagolygon ar gyfer gwella canlyniadau.   

Fel y clywsom, un o'r problemau yw y gall camau cynnar y clefyd fod yn gudd ac yn aml ni chaiff symptomau eu nodi, ac felly darganfyddir y clefyd yn hwyr yn ei ddatblygiad. Ac rwy'n credu hefyd fod canfyddiad ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser y pancreas yn wael at ei gilydd, ac o’i ychwanegu at y ffaith bod offer diagnostig safonol yn aml yn arwain at oedi cyn ei ganfod ac nad ydynt mor ddatblygedig â rhai meysydd eraill o driniaeth ganser—erbyn i rywun wybod bod ganddynt y clefyd, y canlyniad yw nad yw llawdriniaeth iachaol, er enghraifft, yn bosibl mwyach. 

Ond er gwaethaf yr ystadegau braidd yn frawychus hyn, gwelwyd arwyddion o welliant ac mae angen i ni adeiladu ar y cyflawniadau hyn, ac yn amlwg mae gennym sefydliadau gwych y cyfeiriais atynt yn ymgyrchu'n weithredol yn y maes hwn yn ogystal â'r rhai sy'n dioddef o'r clefyd neu eu teuluoedd, a gwyddom cymaint o rym gwleidyddol pwerus a geir yn sgil pobl yn dod i dystio ynghylch eu profiad personol a phrofiad eu hanwyliaid. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn adeiladu ar hyn i gynyddu'r cyfoeth o ymchwil sefydledig sydd gennym a sicrhau bod gwelliannau cynyddrannol yn cael eu gwerthfawrogi ac yna'n cael eu gweld ar draws y maes, a'u cyfuno wedyn â datblygiadau eraill fel bod gennym ddull cyfannol ar waith. Mae yna lawer iawn o bethau sydd angen eu cywiro a'u gwella er mwyn gweld datblygiad cyffredinol yn y prognosis ac i ehangu’r opsiynau triniaeth sydd ar gael. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol allweddol i'r hyn sydd angen inni ei wneud, ond yn fwy na dim, yr ymdrech i gael diagnosis cynharach, ac mae hynny'n arwain at well triniaethau, ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n digwydd ym maes ymchwil ond hefyd ein bod yn mynd â chleifion a'r cyhoedd gyda ni fel bod eu hymwybyddiaeth yn gwella hefyd. 

Roeddwn yn falch iawn o ddarllen yn gynharach y mis hwn fod Dr Catherine Hogan yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd wedi derbyn £373,000 o gyllid gan Cancer Research UK i ddeall sut y mae celloedd canser y pancreas yn datblygu, gyda'r nod o ddatblygu offer diagnostig ar gyfer y dyfodol. Felly, mae gennym hanes da yng Nghymru ac yn ein prifysgolion a'n hysgolion meddygol, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei gyfrannu a sicrhau ein bod yn cynnal hynny i'r eithaf ac yn ei gefnogi. Ond mae'n bwysig cael y ffynonellau cyllid mawr hynny a dod â hwy i Gymru. 

Ond rwy'n gorffen, mewn gwirionedd, gyda'r apêl ein bod i gyd yn dod yn fwy ymwybodol o ganser y pancreas, o ran lle mae fel mater iechyd cyhoeddus—y degfed canser mwyaf cyffredin, fel y clywsom—ond hefyd bydd yn sicrhau ein bod yn ei wthio i fyny'r rhestr wleidyddol o flaenoriaethau fel ein bod yn gweld y datblygiadau a gyflawnwyd, yn galonogol, mewn sawl maes triniaeth canser yn digwydd mewn perthynas â chanser y pancreas hefyd. Diolch yn fawr iawn.  

16:05

Mis Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas. Mae'n glefyd nad oes digon o bobl yn ymwybodol ohono mewn manylder, ond os yw'n rhywbeth sydd wedi cyffwrdd â'ch teulu chi, fe fyddwch yn ymwybodol iawn o ba mor ddinistriol ydyw. Gwn y bydd llawer ohonom sy'n cyfrannu at y ddadl hon yn ddyledus i sefydliadau fel Pancreatic Cancer UK am anfon ystadegau atom, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt hefyd. Wrth gwrs, mae'r ystadegau hynny'n ddamniol, yn enwedig yr ystadegau sy'n dangos sut y mae'r ods yn pentyrru yn erbyn rhywun ar ôl iddynt gael diagnosis o ganser y pancreas yn y pen draw. Fel y clywsom, ni fydd saith o bob 10 o bobl â chanser y pancreas byth yn cael unrhyw driniaeth, a dim ond un o bob 10 fydd yn cael llawdriniaeth. Ond y tu ôl i’r holl ystadegau hynny, rhaid i ni gofio mai pobl, teuluoedd ydynt a fydd yn cael eu trawmateiddio gan gyflymder y clefyd hwn. Nid oes digon o ddealltwriaeth yn ei gylch, ac erbyn y gwneir diagnosis ohono, mae'n rhy hwyr fel arfer i wneud unrhyw beth. 

Canser y pancreas yw'r canser sy'n lladd gyflymaf a'r canser gyda'r cyfraddau goroesi isaf. Mae'r ffigurau'n llwm, ond yr hyn sy'n llymach fyth yw pa mor ddisymud yw'r ffigurau hyn, a bod cyn lleied o welliant wedi bod ers degawdau yn y cyfraddau goroesi. Wrth gwrs, nid oes hierarchaeth i boen. Gall pob canser fod yn ddinistriol, a gall fod straeon sy'n ymddangos yn wyrthiol ynghlwm wrth bob math o ganser, ond ceir teimlad mai gan ganser y pancreas, y llofrudd cudd, y mae’r llais gwannaf hefyd pan ystyriwn gyllid, ymchwil a dealltwriaeth y cyhoedd.  

Rwy’n cefnogi galwad Pancreatic Cancer UK y dylid cael cynllun cenedlaethol ar gyfer canser y pancreas i wella cyfraddau diagnosis, i godi ymwybyddiaeth o’r symptomau ymhlith y cyhoedd a meddygon teulu, i gael buddsoddiad allweddol mewn ymchwil, fel bod modd gwella cyfraddau diagnosis a gobaith o oroesi i filoedd o bobl.

Mae elfen ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hollbwysig. Bu farw fy mam-gu o ganser y pancreas ym mis Ionawr 2005. Roedd hi wedi bod ychydig yn anhwylus adeg y Nadolig, ond fel cymaint o gleifion nad ydynt yn gwybod bod y symptomau hyn yn cuddio rhywbeth marwol, fe oedodd cyn mynd at y meddyg teulu. Pan aeth hi, ni wnaeth neb adnabod y symptomau. Nid oedd ar ei phen ei hun yn hynny o beth—mae 16 y cant o gleifion canser y pancreas yn ymweld â'u meddyg teulu saith gwaith neu ragor cyn cael diagnosis. Ychydig ddyddiau ar ôl y Nadolig, aeth at y meddyg teulu eto, ac nid oeddent yn gwybod yn union beth oedd yn bod ond fe wnaethant ei gyrru’n syth i'r ysbyty. Roedd hyn dros gyfnod y flwyddyn newydd, felly ni chanfuwyd y clefyd am amser rhy hir. Gadawyd fy mam-gu’n gweiddi’n orffwyll oherwydd y boen, a phan ddeallwyd y symptomau o'r diwedd, daeth y tîm gofal lliniarol gwych i ofalu amdani, ond bu farw dridiau'n ddiweddarach. Roedd hi wedi bod mewn poen dirfawr ers wythnosau. Roedd yn hynod o ofidus, i fy mam yn enwedig, oherwydd bod y clefyd yn ymddangos fel pe bai wedi dod o unman, ac eto, o fewn dyddiau, roedd yn rhaid i nyrsys dorri ei modrwy briodas yn rhydd oherwydd y boen. Dim ond ers tair wythnos y bu’n sâl mewn gwirionedd. Roedd yn greulon, roedd yn ddifäol. 

Gwn fod aelodau eraill o fy nheulu, gan fy nghynnwys i, yn wynebu mwy o risg, oherwydd bod fy mam-gu wedi marw o ganser y pancreas, a'i mam o'i blaen. Mae'n rhaid i ni wella diagnosis o'r clefyd erchyll hwn. Mae angen mwy o arian ar frys ar gyfer ymchwil yn ogystal ag ymgyrch godi ymwybyddiaeth bwrpasol am symptomau sy’n nodweddu’r clefyd. Os gwelwch yn dda, gadewch inni wneud y buddsoddiad hwn fel bod llai o bobl yn gorfod marw fel fy mam-gu.  

16:10

Diolch i Lynne, Dai a David am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Fel y mae'r cyfranwyr eraill wedi nodi, canser y pancreas yw'r mwyaf marwol o'r holl ganserau, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl erioed wedi clywed amdano. Deuthum yn ymwybodol iawn o ganser y pancreas dros 30 mlynedd yn ôl, pan ddarganfu meddygon diwmor ar fy mhancreas. Diolch byth, yn fy achos i, roedd y tiwmor yn anfalaen, ond roedd y symptomau a gefais yn erchyll: byddwn yn cwympo, yn llewygu'n gwbl anymwybodol, oherwydd amharwyd yn llwyr ar lefel yr inswlin. Ni wyddwn beth oedd o'i le, a chymerodd ddwy flynedd i wneud diagnosis. Roeddwn yn dioddef o inswlinoma yn hytrach na chanser ond tan hynny, nid oeddwn yn ymwybodol o ganser y pancreas.

Yn anffodus, bydd 93 y cant o'r bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn marw o fewn pum mlynedd, ac mae chwarter y rhai sy'n cael diagnosis yn marw o fewn y mis. Yn anffodus, y rheswm am hyn yn bennaf yw diffyg ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau'r clefyd. Nid yw dros ddwy ran o dair o oedolion y DU yn gwybod am symptomau canser y pancreas, yn ôl Pancreatic Cancer UK. Oherwydd hyn a'r ffaith bod i'r clefyd symptomau amhenodol, mae diagnosis cynnar bron yn amhosibl, ac fel gyda phob canser arall, mae diagnosis cynnar yn allweddol i allu goroesi'n hirdymor.

Dyna pam rwy'n hapus i gefnogi'r cynnig hwn heddiw ac i chwarae rhan fach yn y gwaith o hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r clefyd. Fodd bynnag, rhaid inni wneud rhagor. Mae angen ymgyrch godi ymwybyddiaeth gyhoeddus bwrpasol. Cafwyd ymgyrchoedd gwybodaeth cenedlaethol i'r cyhoedd ar ganser yr ysgyfaint, canser y fron, canser y coluddyn a chanser y bledren, ond ni chafwyd ymgyrch o'r fath ar gyfer canser y pancreas. Nid oes prawf sgrinio syml ar gyfer y clefyd ofnadwy hwn, felly mae'n rhaid i ni ddibynnu ar y cyhoedd i fod yn ymwybodol o unrhyw symptomau a gofyn am gymorth. Diolch.

Hoffwn ddiolch i bawb sy'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw—Lynne Neagle, Dai Lloyd, David Melding, a'r cefnogwyr Delyth Jewell, Joyce Watson, Mark Isherwood, Neil Hamilton, fi a Vikki Howells hefyd. Nid oeddwn yn sylweddoli mor ymosodol oedd canser y pancreas tan yn gynharach eleni, yn anffodus, pan fu farw hen gydweithiwr i mi, fy mhennaeth adran cyntaf erioed yn fy swydd lawn amser gyntaf, Phil Davies, yn rhy ifanc o lawer. Roedd Phil yn rheolwr gwych a dysgais lawer ganddo, ac roedd yn frawychus i bob un ohonom a oedd yn adnabod Phil, ac wrth gwrs, yn fwy brawychus i'r teulu fod y canser mor ymosodol a'i fod yn digwydd mor gyflym. Felly, roeddwn i eisiau talu teyrnged i Phil Davies.

Ar nodyn mwy optimistaidd, nodaf fod y llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr yn cael canlyniadau addawol, felly mae hynny'n wirioneddol ddymunol, ac rwy'n croesawu'r canolfannau diagnosis cynnar sy'n cael eu cyflwyno. Mae hyn yn rhywbeth y gall pawb ohonom gytuno arno am unwaith, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd cyflwyno'r cynnig hwn heddiw yn esgor ar ganlyniadau cadarnhaol. Diolch am roi amser imi siarad.

16:15

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Lynne Neagle ac Aelodau o bob plaid sydd wedi cefnogi'r ddadl heddiw a chodi mater sy'n bwysig a heb ei ddeall yn dda gan y cyhoedd yn ehangach. Nawr, rwy'n cydnabod yr effaith ddinistriol y gall canser y pancreas ei chael ar bobl a'u teuluoedd, yn enwedig o ystyried diagnosis gwael. I unrhyw un sydd mewn unrhyw amheuaeth, yn enwedig o glywed y modd yr agorwyd y ddadl hon, ac yn wir y cyfraniad gan Delyth Jewell, ni ddylai fod gan neb unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha mor ymosodol yw'r math hwn o ganser.

Mae'r cynnig yn cydnabod bod cyfraddau goroesi net un flwyddyn ar gyfer canser y pancreas tua 28 y cant rhwng 2012 a 2016, pan oedd y data diweddaraf ar gael, gan ei wneud yn ganser gydag un o'r cyfraddau goroesi gwaethaf. Rydym wedi gweld tua 520 o achosion newydd, ac yn anffodus, tua 480 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae cyfraddau goroesi net un flwyddyn ar gyfer canser y pancreas cam 1 yn uwch na 60 y cant yn seiliedig ar y data ar gyfer 2011-14, felly er bod amser cyn cael triniaeth yn ffactor, ymddengys mai un o'r problemau mwyaf yw bod canser y pancreas yn tueddu i ymddangos ar gam llawer mwy datblygedig pan fydd opsiynau triniaeth yn fwy cyfyngedig. Nawr, bydd y Llywodraeth yn ymatal, ond rwy'n cefnogi'r cynnig i raddau helaeth. Hoffwn gynnig ychydig o gywiriadau am y cyflawniad, ac wrth gwrs bydd gan yr holl Aelodau bleidlais rydd, y tu allan i'r Llywodraeth, ar y cynnig ei hun.

Yn ôl ein hystadegau yn 2015, gwelsom 531 o achosion newydd o ganser y pancreas. Mae hefyd yn bwysig iawn cydnabod bod canlyniadau canser y pancreas wedi gwella dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac yn arbennig felly yn ystod y degawd diwethaf. Mae cyfraddau goroesi net un flwyddyn wedi gwella dros 7 pwynt canran a chyfraddau goroesi pum mlynedd wedi gwella dros 4 pwynt canran rhwng 2007-11 a 2012-16. Felly, mae gwelliannau gwirioneddol wedi'u gwneud gan ein GIG. Fodd bynnag, mae'r pwynt sylfaenol y mae Lynne ac eraill yn ei wneud wrth gynnig y ddadl hon yn gywir: canser yw hwn sydd â chanlyniadau gwael iawn, ac mae gwir angen gwneud cynnydd.

Mae llawdriniaeth yn opsiwn iachaol ar gyfer amrywiaeth o ganserau. Roeddwn yn falch o glywed Lynne yn sôn am hyn yn ei chyfraniad agoriadol, oherwydd yn rheolaidd, pan soniwn am wasanaethau canser, rydym yn cael dadl ynghylch cyffuriau, er ei bod yn llawer mwy tebygol mai llawdriniaeth, yn wir, yn y rhan fwyaf o achosion, yw'r dewis iachaol. Mae'n rhan o'r rheswm pam y canolbwyntir ar wella cyfraddau llawdriniaeth ar draws ystod o ganserau, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys canser y pancreas. Mae hynny'n mynd yn ôl at gael diagnosis cynharach fel bod llawdriniaeth iachaol yn ddewis go iawn.

O ran yr argymhelliad i gael canolfan benodol, rwyf wedi gwrando a byddaf yn gofyn i'r clinigwyr yn Rhwydwaith Canser Cymru ystyried hynny ymhellach, i roi cyngor imi i fynd i mewn i'n cynllun cyflawni ar gyfer canser yng Nghymru a gwaith y grŵp gweithredu er mwyn deall yr hyn y byddai hynny'n ei olygu a'r budd y gallai ei gynnig i bobl Cymru.

Ond rwyf am gydnabod hefyd y gwaith y mae Pancreatic Cancer UK yn ei wneud yn codi ymwybyddiaeth o effaith canser y pancreas, ac wrth gwrs, maent yn cael chwarae rhan fel aelodau o'n Cynghrair Canser Cymru. Rwy'n cyfarfod â'r gynghrair ymgyrchu trydydd sector honno bob chwe mis, a chânt eu cynrychioli yn ein grŵp arweiniad cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau canser. Roedd y cynnig yn galw arnom i ddysgu o fodelau llawdriniaeth llwybr carlam mewn gwledydd eraill ac rwy'n hapus i ymrwymo i hynny ac i weld pa wersi sydd yna i Gymru. Mae'n waith rydym yn ei wneud yn rheolaidd i edrych ar rannau eraill o'r byd, gan gynnwys rhannau eraill o'r DU wrth gwrs. Mae hefyd yn galw arnom i ddysgu o gynlluniau peilot llwybr carlam y ganolfan ddiagnostig mewn dau o'n byrddau iechyd ein hunain, a gallaf yn sicr ymrwymo i wneud hynny. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i ariannu drwy'r cynllun cyflawni ar gyfer canser yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at y gwerthusiad sy'n cael ei ddarparu a'i drafod gan y rhwydwaith.

Yn olaf, mae'n galw, wrth gwrs, am gymorth cyfannol i gleifion i'w paratoi ar gyfer llawdriniaeth. Rwyf wedi egluro ar sawl achlysur fy mod yn disgwyl i'r byrddau iechyd wneud hyn fel rhan arferol o lwybrau llawfeddygol, ac mae hynny'n bendant yn rhan o'r gwaith gwella sydd angen inni ei wneud er mwyn gwneud y defnydd gorau o sgiliau llawfeddygol ein staff, ond yn bwysig hefyd, er mwyn gwella canlyniadau.  Felly, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i adeiladu ar y cynnydd a wnaed. Canolbwyntio ar wella gwasanaethau a chanlyniadau ar gyfer yr holl ganserau yw ein dull o weithredu wedi bod yn hytrach na chanolbwyntio ar y rhai sydd â'r canlyniadau gwaethaf. Credwn ei bod yn bwysig o ran cydraddoldeb, ond hefyd oherwydd bod llawer o'r pethau y bydd yn eu gwella yn y canlyniadau ar gyfer canser y pancreas yn berthnasol i wella canlyniadau ar gyfer y rhan fwyaf o ganserau hefyd. Nodir ein dull gweithredu tymor canolig yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser a gaiff ei ddatblygu gan y grŵp gweithredu, a'i gefnogi gan fwy na £5 miliwn o fuddsoddiad blynyddol.

Un o'r prif bethau y canolbwyntiwyd arnynt oedd canfod mwy o ganserau'n gynharach, ar gam lle gellid eu trin yn well. Mae hynny wedi'i ategu gan ganllawiau atgyfeirio newydd a rhaglen genedlaethol yn gweithio gyda'i gilydd gyda gofal sylfaenol a threialu'r ddwy ganolfan ddiagnostig llwybr carlam i bobl â symptomau amwys. Mae hefyd yn cynnwys optimeiddio rhaglenni sgrinio, sy'n ategiad pwysig i waith yn ein rhaglen ddiagnostig ar ddarparu mynediad mwy llyfn at archwiliadau canser. Nod hyn oll yw sicrhau bod pobl yn cael eu harchwilio'n fuan, ac yn y lleiafrif bach o bobl sydd â chanser, fod eu diagnosis yn cael ei wneud yn gyflym.

Un maes allweddol y mae'n bwysig inni ganolbwyntio arno yw cyflwyno un llwybr canser. Mae'n llawer mwy na dim ond ffordd newydd o fesur amseroedd aros ar gyfer canser. Dyma'r tro cyntaf iddo gael ei wneud yn y DU, ac mae'n golygu na fydd cleifion yn cael eu rhannu'n artiffisial mwyach yn gleifion a welir mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd. Byddant i gyd yn cael eu mesur yn erbyn yr un llwybr, ac yn bwysicaf oll, o'r pwynt pan geir amheuaeth o ganser, yn hytrach nag o'r adeg y ceir atgyfeiriad neu benderfyniad i roi triniaeth. Yn ogystal â bod yn ffordd gliriach o fesur amseroedd aros, mae'n golygu bod yn rhaid i archwiliad a thriniaeth pobl ddechrau'n gynt er mwyn cyflawni'r terfyn amser o 62 diwrnod. O fewn 62 diwrnod, gall clinigwyr drin cleifion yn ôl eu blaenoriaeth glinigol. Gwn fod Pancreatic Cancer UK wedi galw am darged rhwng diagnosis a thriniaeth o 20 diwrnod, ond mae un llwybr canser 62 diwrnod yn cynnwys cyfnod diagnostig a dechrau triniaeth.

Er mwyn cynorthwyo byrddau iechyd i ddarparu un llwybr canser ac i leihau amrywio ar draws Cymru, ac er mwyn darparu gofal yn unol â'r safonau proffesiynol gorau, rydym hefyd yn cyflwyno llwybrau wedi'u hoptimeiddio'n genedlaethol ar gyfer lleoliadau tiwmor. Disgrifiadau yw'r rhain ar gyfer pob lleoliad tiwmor er mwyn nodi sut y dylai byrddau iechyd gynllunio i ddarparu eu gwasanaethau. Cyhoeddwyd y cyntaf o dri o'r llwybrau hyn drwy gylchlythyr iechyd yng Nghymru ym mis Hydref eleni, ac rwy'n disgwyl i ganser y pancreas gael ei gynnwys yn y llwybr nesaf yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae'r llwybrau hyn yn uchelgeisiol iawn, a bydd byrddau iechyd yn gweithio tuag atynt dros amser, gyda chefnogaeth y rhaglen genedlaethol o adolygiadau gan gymheiriaid ar gyfer canser.

Bydd datblygiadau pellach, fel y strategaeth ymchwil canser ac adnewyddu'r system gwybodeg canser hefyd yn chwarae rhan i'n helpu i gyflawni'r canlyniadau gwell a'r gwasanaethau rhagorol y bydd pob Aelod a siaradodd ac a wrandawodd ar y ddadl hon heddiw am eu gweld. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y gallwn barhau i wneud cynnydd gwirioneddol yn y blynyddoedd i ddod.

16:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau, yn gyntaf oll, drwy longyfarch Lynne Neagle ar ei gwaith blaenllaw yma yn dod â'r cynnig hwn ger ein bron y prynhawn yma, gan bwysleisio'r ffaith allweddol fod angen canolbwyntio'n benodol ar ganser y pancreas? Fel meddyg teulu ers 35 mlynedd yn Abertawe, gwn ei bod hi'n anodd gwneud diagnosis o ganser y pancreas ond, 'Gofynnwch bob amser am hanes y teulu', dyna rwy'n ei ddweud bob amser. Ond mae'n anodd gwneud diagnosis ohono, mae'n anodd ei drin, mae'n anodd ei ymchwilio, ac yn y pen draw, mae'n anodd ei oroesi.

Nawr, wrth agor y ddadl hon, cyflwynodd Lynne yr achos yn gydlynol ac yn wych mewn gwirionedd fod yn rhaid inni wneud yn well yma yng Nghymru. Nid yw cyfraddau goroesi ar gyfer canser y pancreas wedi newid i raddau helaeth. Rwy'n derbyn yr hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud am rai newidiadau canrannol, ond pan glywch y diagnosis mewn gofal sylfaenol fod gan rywun ganser y pancreas, nid yw'n achos dathlu.

Nawr, gwnaed camau breision mewn meddygaeth, fel yr amlinellodd Lynne, ac mewn canserau eraill megis lewcemia plant, clefyd Hodgkin a nifer o ganserau eraill, fel y'u hamlinellwyd, mae cyfraddau goroesi wedi cael eu trawsnewid yn ddramatig ac yn radical dros y blynyddoedd. Roedd ffocws penodol i bob un o'r cyflyrau hynny ar y pryd, er, o ran yr hyn a ddywedasom ar y pryd, 'Lewcemia plant: pam y mae plant yn marw? Gadewch i ni ganolbwyntio'n benodol ar hynny. Gadewch i ni ei ddatrys.' Roedd hynny 25 mlynedd yn ôl bellach. Ond nid yw wedi digwydd ar gyfer canser y pancreas, a dyna pam ein bod yn cael y ddadl hon heddiw.

Mae'r astudiaethau achos trallodus a glywsom gan Lynne, gan Delyth, gan Neil McEvoy ac eraill yn galw arnom i weithredu a rhoi ffocws ar ganser y pancreas. A thrwy fynnu ffocws, yr hyn a olygwn yw fod 'ffocws' yn golygu mwy o gyllid ar gyfer y canser penodol hwn, ac mae'n golygu ystyriaeth ddifrifol mewn gwirionedd, a buaswn yn ymgyrchu i sefydlu'r ganolfan lawfeddygol drydyddol arbenigol hon. Credaf mai dyna'r elfen drawsnewidiol y mae angen iddi ddigwydd. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae llawdriniaeth yn iachaol, felly gadewch i ni alluogi'r llawdriniaeth orau un i dargedu'r canser hynod falaen hwn. Mae angen i'r un ganolfan lawfeddygaeth hepatobiliari bancreatig honno ddigwydd. Y camau trawsnewidiol; y llawdriniaeth llwybr carlam; y diagnosis cynnar; mae angen i hynny ddigwydd.

Oherwydd mae'n anodd iawn gwneud diagnosis o'r clefyd hwn. Mae gan bobl symptomau amwys iawn a allai fod yn unrhyw beth neu'n ddim byd, fel y dywedodd Delyth yn ei hanes gofidus am ei mam-gu. Mae'n hynod o anodd nodi'r arwyddion, oherwydd fel meddygon teulu ni allwn atgyfeirio pawb sy'n dod atom gydag ychydig o boen bol ac sy'n teimlo'n anhwylus, fel arall byddai ein hysbytai'n llawn— [Torri ar draws.] Maent yn llawn. Ac mae profion ymchwil i wella diagnosteg wedi gweithio ar gyfer cyflyrau eraill nad oeddem erioed wedi meddwl y byddai prawf diagnostig ar eu cyfer. Dyna pam y mae'r pwyslais ar ymchwil yma i ddod o hyd i'r prawf hwnnw.

Felly, rwy'n ddiolchgar i David Melding hefyd am dalu teyrnged i Pancreatic Cancer UK, teyrnged i'w gwaith gwych. Mae llawer o waith ymchwil yn mynd rhagddo ac mae'n ymchwil a fydd yn trawsnewid y maes. Mae pobl yn dweud, 'Rydych chi bob amser yn siarad am ymchwil, mae ychydig yn ddiflas', ond dyna lle mae'r holl ddatblygiadau meddygol hyn wedi digwydd. Mae ymchwil aruthrol yn galluogi technoleg feddygol, triniaethau meddygol, a datblygiadau meddygol i ddigwydd go iawn. Cancer Research UK, Ymchwil Canser Cymru—mae pawb yn gwneud llawer iawn o ymchwil arloesol. Ac fe'n hatgoffwyd gan Delyth fod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac eto, drwy bwysleisio trawma'r diagnosis, a'r angen am gynllun cenedlaethol, fel rydym yn ei ddweud yn barod—y ffocws cenedlaethol hwn yn benodol ar ganser y pancreas.  

Rwy'n ddiolchgar hefyd i Caroline Jones am ei phrofiad personol a'i chefnogaeth i'r cynnig hwn, ac am eiriau Neil McEvoy ar lawdriniaeth llwybr carlam, a'i brofiad personol. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd, cyn cloi, am gydnabod y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan ein staff rhagorol yn y GIG ar hyn o bryd wrth gwrs. Mae gwelliannau'n digwydd, ond yn unigryw yn achos canser y pancreas, nid ydym wedi gweld newid mawr yn y cyfraddau goroesi o hyd. Felly, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ariannu, ar sefydlu un ganolfan lawfeddygaeth hepatobiliari bancreatig; edrychaf ymlaen at y diwrnod—gallai'r Gweinidog ei hagor hyd yn oed. Mae angen ffocws arnom. Clywaf y geiriau am un llwybr canser—hollol wych—ond o fewn hynny, mae angen pwyslais arbennig ar yr hyn y gallwn ei wneud am y lladdwr tawel, a heb fod mor dawel, canser y pancreas.

Felly, mae canser y pancreas—i gloi, Ddirprwy Lywydd—yn galw am ffocws penodol. Mae wedi cael ffocws penodol yma yn y Siambr y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr holl Aelodau. Gallwn, fe allwn ddysgu gan wledydd eraill, canolfannau eraill, gallwn ddysgu o'r cynlluniau peilot diagnosis cyflym. Mae angen inni ystyried hynny i gyd a gweithio hefyd ac ymateb i'r her a chefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.  

16:30

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllid Llywodraeth Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2  ei ddad-ddethol.

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid Llywodraeth Cymru, a galwaf ar Nick Ramsay i gyflwyno'r cynnig. Nick.

Cynnig NDM7206 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod Cymru'n elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

2. Yn nodi bod Cymru, o ganlyniad i'r Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arni rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, yn cael £1.20 y pen ar hyn o bryd am bob £1 y pen a gaiff ei gwario yn Lloegr ar faterion datganoledig.

3. Yn croesawu'r £790 miliwn ychwanegol sy'n fwy na grant bloc Cymru sydd wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth y DU tuag at Gytundebau Twf ledled Cymru.

4. Yn cydnabod bod y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar ei lefel uchaf erioed.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fwy o fuddsoddiad ar y GIG gan Lywodraeth y DU i wella gwasanaeth iechyd Cymru;

b) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fuddsoddiad cynyddol ar addysg gan Lywodraeth y DU i wella system addysg Cymru;

c) diystyru unrhyw godiadau mewn trethi neu drethi newydd yng Nghymru rhwng nawr a'r etholiad nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r cynnig hwn heddiw yn enw Darren Millar.

Roedd y cytundeb fframwaith cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gytundeb arloesol a oedd yn symud y sefyllfa ariannu yng Nghymru yn ei blaen. Fe'i croesawyd gan bob ochr a chredaf ei bod yn glod i'r ddwy Lywodraeth a fu'n ymwneud â hynny ein bod wedi cael y cytundeb hwnnw yn y pen draw. O ganlyniad i'r fframwaith cyllidol, mae Cymru bellach yn derbyn £1.20 y pen am bob £1 a werir yn Lloegr. Mae hwnnw'n newyddion da iawn. Mae hyd yn oed yn newyddion da i Lywodraeth Cymru, o ystyried eu rhan yn y cytundeb. Nid ydych yn aml yn sôn am fanteision cydweithredu â Llywodraeth y DU, am resymau amlwg, ond mae'n—

A wnewch chi dderbyn ymyriad cynnar? A ydych chi wir yn golygu dweud—a diolch ichi am dderbyn yr ymyriad—fod Cymru angen cyllid ychwanegol oherwydd bod ein tlodi yn rhywbeth i'w ddathlu ac yn newyddion da?

Wel, pe bawn i wedi mynd ychydig ymhellach, efallai y byddai wedi clywed ychydig yn fwy, ond dyna chi. Na, rwy'n dweud bod y fframwaith cyllidol i'w groesawu, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi croesawu'r fframwaith cyllidol—rwy'n credu i chi wneud beth bynnag, ac rwy'n credu i'ch plaid wneud hynny. [Torri ar draws.] Ewch amdani.

Rwyf am ddod i mewn. Fe ddywedoch chi ei fod yn newydd da fod mwy o arian yn dod i Gymru. Y rheswm pam fod mwy o arian yn dod i Gymru yw oherwydd ein tlodi. Ni all hynny byth fod yn newydd da.

Os ydych chi'n dweud nad ydych chi eisiau i fwy o arian ddod i Gymru a'ch bod am inni ddioddef o'r tlodi sydd gennym, nid wyf yn meddwl eich bod yn golygu dweud hynny go iawn. [Torri ar draws.] Nid wyf am ildio i chi eto. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n ceisio codi eto.

Edrychwch, rwy'n croesawu'r ffaith bod y fframwaith cyllidol yn golygu bod cynnydd yn yr arian a gawn ac rwy'n credu bod hynny'n well na'r fformiwla gyllido Barnett ddiffygiol flaenorol a roddwyd i ni. Fe fyddaf yn onest—mae'n debyg y buaswn yn cytuno â chi ar hyn, mewn gwirionedd—ar fformiwla Barnett, yn fwy hirdymor, credaf y byddai ffordd well o ariannu Cymru ac mae nifer ohonom wedi cael y trafodaethau hynny yn y Siambr. Ond fel y mae pethau ar hyn o bryd—ac mae arnaf ofn ei ddweud eto, rhag ofn i chi neidio ar eich traed eto, Rhun—mae'r fframwaith cyllidol yn darparu mwy o arian. Ac rwy'n gobeithio bod hynny—. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf fod hyn wedi eich cynhyrfu cymaint. Rwy'n gobeithio y bydd yr arian ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru mewn ffordd a fydd yn gwneud yr economi'n fwy cynaliadwy ac yn mynd i'r afael â thlodi. Dyna chi, welwch chi, roeddwn i'n mynd i gyrraedd yno yn y pen draw, felly gobeithio eich bod chi'n hapus nawr.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £790 miliwn yn ychwanegol i'r grant bloc ar gyfer bargeinion twf ledled Cymru. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru £593 miliwn yn uwch na'r un ar gyfer 2019-20. Mae'r cylch gwariant diweddaraf hefyd yn cynnwys cynnydd o £80 miliwn i'r gyllideb gyfalaf, sydd eisoes wedi'i gosod ar gyfer 2020-21. O ganlyniad, bydd y gyllideb gyfalaf 2.4 y cant yn uwch nag yn 2019-20, ac mewn gwirionedd mae cyllid gan Lywodraeth y DU ar ei lefel uchaf erioed.

Ac eto, pan edrychwch ar y sefyllfa gyllido mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y GIG, nid yw'n ymddangos bod yr arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo ymlaen. Mae Cymru'n wynebu diffyg o £97 miliwn yn 2018-19. Mae pwysau'r galw yn parhau i gynyddu ac wrth gwrs, mae galwadau newydd ar y GIG, megis gwasanaethau iechyd meddwl. Mae hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar y gweithlu, sy'n gwneud gwaith rhagorol o dan amodau heriol. Rwy'n credu bod angen i ni weld cynllun cyllido aml-flwydd mwy cynaliadwy a mwy hirdymor yn y GIG. Soniwn yn aml am bwysigrwydd hynny, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn digwydd yn ymarferol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r £385 miliwn a addawyd i'r gwasanaeth iechyd, yn ogystal â'r £195 miliwn i addysg ac £20 miliwn i brosiectau cyfalaf a addawyd yn ddiweddar yn ystod ymgyrch yr etholiad. Ac rydym yn gwybod—os bydd Llywodraeth Geidwadol yn y DU ar ôl yr etholiad, o leiaf—y bydd dros £30 biliwn yn ychwanegol i'r GIG ar draws y DU, sy'n golygu y byddwn ni yma yng Nghymru yn cael cynnydd sylweddol yn y rhan honno o'r gyllideb.

Ond wrth gwrs, nid yw cael yr arian hwnnw'n ddigon—mae'n rhaid ei drosglwyddo ymlaen. Rydym yn gwybod nad yw hynny wedi digwydd yn achos y GIG yn benodol dros gyfnod hir. Os edrychwch ar fanylion gwariant y GIG, ac ystyried oncoleg er enghraifft, mae prinder difrifol o arbenigwyr canser yng Nghymru—rwyf newydd fod yn gwrando ar y ddadl flaenorol ar ganser y pancreas wrth gwrs. Dim ond cynnydd o 7.7 y cant a gawsom yn nifer y meddygon ymgynghorol ers 2013, o'i gymharu â chynnydd o 25.4 y cant yn Lloegr a chynnydd o 25.4 y cant yn yr Alban hefyd. Mae cyfraddau swyddi gwag yma yn gyson uchel.

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ar y naill law, 'Nid ydym yn cael digon o arian gan Lywodraeth y DU', ac yna'n dweud ar y llaw arall ei bod yn buddsoddi yma, a ninnau'n gwybod bod y GIG wedi gweld cynnydd yn y gorffennol ond dim ond cynnydd mewn arian parod ar un adeg ydoedd, pan fo angen ichi ddiogelu'r cynnydd yn erbyn chwyddiant hefyd wrth gwrs.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, soniais am fargen twf gogledd Cymru, ac mae hwnnw'n gam i'r cyfeiriad iawn. Drwy'r prosiectau a nodwyd yn y ddogfen gais, y bwriad yw creu dros 5,000 o swyddi newydd, denu gwerth £3 biliwn o fuddsoddiad sector preifat a chynyddu gwerth economi gogledd Cymru o £13.6 biliwn i £26 biliwn erbyn 2035. Mae'r buddsoddiad hwn i'w groesawu a bydd yn cynnig manteision mawr i economi Cymru.

Os caf droi at fater trethiant, sydd hefyd yn cael ei grybwyll yn ein cynnig, roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi datganoli trethi. Wrth gwrs, Llywodraeth Geidwadol y DU, mewn clymblaid, a gyflwynodd hynny ar lefel y DU fel ffordd o wneud y lle hwn a Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i'r bobl. Ond mae'n hanfodol fod cyfraddau treth yng Nghymru yn parhau'n deg ac yn gystadleuol. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Nid yw Cymru'n gallu fforddio cyfraddau treth cosbol sy'n mynd ag arian o bocedi'r bobl a fydd yn buddsoddi mewn busnesau newydd, mewn mentrau bach a chanolig ac i ehangu busnesau sy'n bodoli eisoes, a buddsoddi yn yr economi entrepreneuraidd.

Felly, galwn ar Lywodraeth Cymru yn y cynnig hwn i ailddatgan ei hymrwymiad blaenorol i beidio â chodi treth incwm cyn—

16:35

Mike Hedges a gododd—

Fe wnaf mewn munud, rwyf am orffen hyn.

—etholiad nesaf—roeddwn yn mynd i ddweud etholiad nesaf y Cynulliad, ond mae'n debyg fod etholiad nesaf y Senedd yn fwy priodol, onid yw—etholiad nesaf y Senedd yn 2021, ac i fod yn onest gyda'r etholwyr cyn yr etholiad hwnnw os mai'r bwriad yw codi treth incwm yn sylweddol ar ei ôl. Mike Hedges.

A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am dderbyn yr ymyriad? A gaf fi ddiolch iddo hefyd am fod y person cyntaf i ddefnyddio'r enw Senedd y sefydliad hwn? Nick, y cwestiwn rwy'n awyddus iawn i'w ofyn i chi—gobeithio y gallwch ei ateb—yw: yn y papur gorchymyn mae'n dweud 'heb niwed'. A yw hynny'n golygu, os bydd camau'n digwydd yn San Steffan sy'n achosi gostyngiad yn y swm o arian sy'n dod i mewn i Gymru, y gwnaiff Llywodraeth San Steffan ei warantu?

Rwy'n credu fy mod yn deall. Pe bai gostyngiad yn yr arian a ddaw yma gan Lywodraeth y DU, eich pwynt chi yw y byddai hynny'n golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynyddu?

Na, gostyngiad yn y dreth incwm a gesglir am fod rhywbeth wedi digwydd a oedd yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth San Steffan, nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth drosto.

Ie, ni fuaswn yn gwrthwynebu egwyddor dim niwed yn y fan honno, felly gallwch gasglu hynny, ond credaf y byddai'n rhaid ystyried hynny'n ofalus iawn, ac yn y tymor canolig o leiaf, os gwneir hynny, credaf y dylai fod mecanweithiau o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau y gwelir bod cyfraddau treth yn gystadleuol.

Gwn ein bod wedi cael y trafodaethau hyn yn aml, Mike, am drethi anwadal fel treth trafodiadau tir—wrth gwrs, mae'r holl drethi'n anwadal, i ryw raddau—a beth fyddai'n digwydd pe bai sioc fawr i'r economi. Wrth gwrs, gellid defnyddio benthyca i dalu am unrhyw ddiffyg yn y tymor byr. Ond rwy'n credu, ie, dim niwed dros y tymor hwy ddylai'r amcan fod.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, a chan ddychwelyd at ran gyntaf y cynnig, cred y Ceidwadwyr Cymreig fod aelodaeth Cymru o'r Deyrnas Unedig wedi bod yn fuddiol i economi Cymru dros flynyddoedd lawer. Os edrychwch ar ddiffyg ariannol amcangyfrifedig Cymru yn unig yn 2017-18, yr amcangyfrifir ei fod oddeutu £13.7 biliwn, caiff hynny ei gefnogi ar hyn o bryd, wrth gwrs, gan Lywodraeth y DU yn bennaf. Ni fyddai hynny'n digwydd pe bai Cymru'n annibynnol.

Rydych chi'n gofyn amdani. [Chwerthin.] Rwy'n siŵr y byddwch wedi darllen y gwaith a wnaed ar hynny wrth gwrs, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi nodi hefyd y cafeat cryf nad yw'r dadansoddiad hwnnw'n adlewyrchu sefyllfa gyllidol Cymru annibynnol bosibl o gwbl. Dyna'r naratif ynglŷn â'r setliad presennol sydd gennym o fewn y Deyrnas Unedig, y dywedwch chi wrthym ei bod yn undeb o gydraddolion, ond rydych chi newydd brofi nad yw hynny'n wir o gwbl.

16:40

Dewisais fy ngeiriau'n ofalus, mewn gwirionedd. Ni ddywedais 'undeb o gydraddolion'; dywedais fod ein haelodaeth o'r Deyrnas Unedig wedi bod yn fuddiol. Teimlaf fod yr araith hon wedi bod yn fwy o ymyriad ar bawb arall, a dweud y gwir. [Chwerthin.] Nid wyf yn diystyru eich pwynt, Llyr; rwy'n sôn wrth gwrs am y sefyllfa bresennol ac ar hyn o bryd, amcangyfrifir mai dyna yw ein diffyg, ac fe'i gwarantwyd gan Lywodraeth y DU, y DU fel gwlad, a'r undeb yn ei gyfanrwydd. Nawr, pe na baem wedi bod yn aelodau o'r Deyrnas Unedig dros y 500 mlynedd diwethaf neu beth bynnag, efallai y gallem fod mewn sefyllfa wahanol; rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â hynny. Ni fyddwn byth yn gwybod hynny; rydym yn y fan lle rydym yn awr.

Dywedaf wrthych wrth gloi, oni bai fod rhywun arall yn ymyrryd, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn meddwl mai lleiafrif o bobl sy'n cefnogi annibyniaeth yng Nghymru, ond mae'n nifer sylweddol o bobl, ac rydych chi'n cynrychioli'r rhan honno o'r etholwyr. Dyna yw eich hawl mewn system ddemocrataidd, a chredaf fod y bobl hynny'n haeddu llais a'ch bod chi'n rhoi'r llais hwnnw, yn enwedig yn eich ymyriadau heddiw. Ond rhaid ichi fod yn onest gyda'r etholwyr cyn etholiad os mai annibyniaeth yw eich nod, mai dyma'r pris economaidd y bydd Cymru'n ei dalu, o leiaf yn y tymor byr i ganolig. Dywedwch hynny, byddwch yn glir am y peth, a gadael i bobl Cymru benderfynu beth y maent eisiau ei wneud. Rwy'n siŵr na fyddech yn anghytuno â hynny.

Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi alw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun?

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod Llywodraethau olynol yn San Steffan - o dan Lafur a'r Ceidwadwyr - wedi llywyddu dros dlodi rhwng cenedlaethau a thanfuddsoddiad cronig yng Nghymru.

2. Yn credu mai dylanwadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw'r allwedd i ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Mae rhywbeth yn hynod o ragweladwy ynghylch dadleuon fel hyn ar gyllid i Gymru. Mae'r Ceidwadwyr yn taro Llafur, Llafur yn taro'r Ceidwadwyr, mae'r Torïaid yn dweud bod y cyfan yn ymwneud â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian, mae Llafur yn dweud mai bai Llywodraeth y DU yw hyn i gyd, ac mae'n gylch o feio sy'n bodloni'r ddwy blaid. Gall y ddwy daflu baw gwleidyddol at ei gilydd, ac mae Cymru'n cael ei baeddu yn y canol, ei sefyllfa ariannol ac economaidd heb ei datrys, tlodi heb ei drechu, anghydraddoldebau dwfn, a'r ddwy blaid yn y DU yn ceisio ffordd o wadu'n gredadwy eu bai eu hunain drwy ddadlau mai bai'r llall ydyw: 'Nhw, nid ni, sydd ar fai.' Ie, ewch chi.

Mae'n anhygoel ei fod am lwytho'r holl bethau hyn ar ysgwyddau'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur, ond wrth gwrs, eich cyn-arweinydd, Ieuan Wyn Jones, oedd Gweinidog yr economi am bedair blynedd mewn Llywodraeth glymblaid flaenorol yma yng Nghymru, ac eto roedd y sefyllfa hyd yn oed yn waeth nag y disgrifiwyd gennych dros ei gyfnod ef yn y swydd. A ydych chi'n derbyn eich cyfrifoldeb dros y methiannau a welwn heddiw am mai ef oedd Gweinidog yr economi?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nid oes gan hynny ddim oll i'w wneud â'r hyn rydym yn ei drafod heddiw. Mewn gwirionedd, mae cyflawniad Ieuan Wyn Jones fel Gweinidog yr economi drwy'r dyddiau tywyll hynny o drafferthion economaidd dan arweiniad San Steffan yn gadarn hyd yn oed yn awr yn 2019.

Ond mewn gwirionedd, er gwaetha'r taflu baw rhwng y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur, un tîm tag sefydliadol ydyw yn San Steffan sydd dro ar ôl tro, Lywodraeth ar ôl Llywodraeth, wedi gwneud cam â Chymru. Mae'r Ceidwadwyr wedi amddifadu Cymru o gyllid drwy gyni wedi'i ysgogi gan ideoleg, ond mae Llafur yr un mor euog o ran eu methiant i fuddsoddi yn y math o seilwaith sydd ei angen arnom, er enghraifft. Mae Llafur yn taro'r Ceidwadwyr am ein siomi ar drydaneiddio'r rheilffyrdd, yn gwbl briodol, ond pa mor gyfleus yw cyfaddef bod gweinyddiaethau Llafur blaenorol ac olynol yr un mor euog o ddiffyg gweithredu, gan ein gadael heb un filltir o reilffyrdd wedi'u trydaneiddio.

Yr hyn sy'n gwneud Plaid Cymru yn wahanol yw ein parodrwydd i ddweud, 'Gadewch inni wynebu'r methiannau hynny yn y gorffennol a diffinio ein dyfodol ein hunain.' Hyd nes y sylweddolwn o ddifrif fod y status quo yn gwneud cam â Chymru, yn rhwydo plant mewn tlodi, yn ein hamddifadu o fuddsoddiad, yn cadw cyflogau'n isel, ni allwn gynllunio ar gyfer taith wirioneddol wahanol fel gwlad. Felly, yn ogystal â'n hatgoffa mai tanfuddsoddiad yng Nghymru yw gwaddol Llywodraethau olynol o dan Lafur a'r Ceidwadwyr, mae ein gwelliant ni heddiw hefyd yn datgan ein cred mai ni, pobl Cymru, a all ddod o hyd i'n ffordd allan o hyn. Ac a wyddoch chi beth? Nid oes neb yn dweud y bydd yn hawdd.

Oes, mae yna ddiffyg y sonioch chi amdano, ac ar y wyneb mae'n frawychus iawn, ond fel y dywed Llyr Gruffydd, nid yw'r dadansoddiad hwnnw o'n sefyllfa bresennol yn adlewyrchiad o gwbl o'r sefyllfa y byddai Cymru annibynnol yn ei hwynebu. Y sefyllfa y mae Cymru ynddi yn awr fel rhan o'r Deyrnas Unedig—

16:45

Rydych chi'n hollol iawn i ddweud mai dyna'r sefyllfa y mae Cymru yn ei hwynebu yn awr. Ar y diwrnod ar ôl annibyniaeth, ar ddiwrnod annibyniaeth, dyna fyddai'r sefyllfa. Felly, ni fydd dweud, 'Wel, mae'n mynd i fod yn heriol ac ni fyddem wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen' o unrhyw bwys pan fydd pobl yn gweld bod eu trethi'n codi, nad oes digon o arian i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus, a bod pobl yng Nghymru yn waeth eu byd.

Fe af i'r afael â'r dewisiadau sydd gennym i'w gwneud fel cenedl, ac ar unwaith mae rhwymedigaethau Cymru yn newid. Rwy'n eithaf sicr, er enghraifft, na fyddai Cymru annibynnol yn dymuno ariannu arfau niwclear, er enghraifft, ac rydym yn talu ein cyfran o hynny mewn egwyddor ar hyn o bryd.

Nawr, mae sefyllfaoedd yn newid mewn cyd-destun gwahanol gyda Chymru'n wlad annibynnol, ond yn dyngedfennol, os edrychwch chi'n ofalus ar ein sefyllfa gyllidol fe sylweddolwch fod cymaint o'r diffyg yn cael ei glymu i dalu am ein tlodi. Rydym wedi ein cloi mewn system y mae confensiwn yn dweud wrthym na allwn ddianc ohoni. Ni allwn hyd yn oed ystyried hynny—ni allwn goleddu'r syniad oherwydd ein bod yn rhy dlawd, ac mae angen inni barhau i fod yn dlawd er mwyn parhau i elwa o garedigrwydd Llywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol yn San Steffan.

Wel, gyd-Aelodau, nid wyf erioed wedi derbyn y confensiwn hwnnw, ac mae mwy a mwy o bobl yn gwrthod y confensiwn hwnnw. Mae gennym ddau ddewis: derbyn yr hyn sydd gennym, ein tangyflawniad, ein tlodi, fel rhywbeth sy'n anochel, neu gallwn dorri llwybr newydd. Felly, cefnogwch ein gwelliant heddiw os ydych chi, fel ninnau, yn credu mewn torri llwybr newydd.

Galwaf ar y Gweinidog Cyllid i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn ei henw.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi negodi ffactor newydd sy’n seiliedig ar anghenion o fewn fformiwla Barnett fel rhan o gytundeb y Fframwaith Cyllidol gyda Llywodraeth y DU.

Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn aml yn buddsoddi llai na Llywodraeth Cymru mewn meysydd cyfrifoldeb pwysig ledled Cymru sydd heb eu datganoli, gan gynnwys y seilwaith rheilffyrdd a chysylltedd digidol.

Yn nodi bod cylch gwario blwyddyn Llywodraeth y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru ar ei cholled o £300 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11 ac yn condemnio degawd o gyni anghyfiawn a osodwyd gan y DU

Yn nodi, er gwaethaf y pwysau a achoswyd gan gyni, bod ystadegau’r Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth ym mis Tachwedd 2019 yn dangos:

a) bod gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o bedair gwlad y DU ac 11 y cant yn uwch nag yn Lloegr;

b) bod gwariant y pen ar addysg 6 y cant yn uwch yng Nghymru na’r gwariant y pen yn Lloegr.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu cyfraddau Cymreig y Dreth Incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Wel, dangosodd adroddiadau annibynnol olynol yn dilyn chwalfa'r banciau fod Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU wedi anwybyddu rhybuddion ac wedi rheoleiddio'r banciau yn llai llym. Erbyn 2010 cyllideb y DU oedd y waethaf yn y G20, ar ôl Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Felly, gwaddol, nid dewis, oedd y cyni a etifeddwyd gan Lywodraeth y DU a ddaeth i rym yn 2010.

Pe bai Llywodraeth y DU wedi gwario a benthyca mwy, fel y mae rhai yn ei gefnogi, byddai mwy o doriadau wedi cael eu gorfodi arnynt. Rwy'n ildio.

Hoffwn gofnodi fy mod yn digwydd cytuno ag ef fod y rheoleiddio llai llym yn rhy ysgafn, ond yn rhyfedd iawn, fe'i cefnogwyd gan George Osborne. Felly, tybed a hoffai ystyried hynny, oherwydd roedd consensws bryd hynny, roedd yn gonsensws cyfeiliornus, ond cafodd ei gefnogi gan y Blaid Geidwadol mewn gwirionedd.

Wel, ni chafodd fy nghefnogaeth i, fel y dywedais yma yn y Siambr yn 2004—neu dylwn ddweud yn yr hen Siambr yma yn 2004. Ac os gwiriwch y dyddiadau yn yr adroddiadau a'r bobl y maent yn eu henwi, fe welwch enwau Llafur, nid pobl a oedd yn yr wrthblaid ar y pryd—adroddiadau annibynnol.

Fel roeddwn yn dweud, pe bai Llywodraeth y DU wedi gwario a benthyca mwy ers 2010, byddai mwy o doriadau wedi'u gorfodi arnynt, ac fe gafodd gwledydd a oedd â diffyg mawr a oedd yn gwrthwynebu cyni lawer iawn o gyni. Ers 2010 mae'r rhai sy'n ennill fwyaf o gyflog wedi bod yn talu cyfran uwch o dreth incwm nag erioed o'r blaen, tra bod y swm a delir gan y rhai sy'n ennill llai wedi gostwng. Gyda'r diffyg i lawr bellach, bydd Cymru'n elwa o £1.8 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol dan Lywodraeth Geidwadol fwyafrifol yn y DU, ar ben y £2.7 biliwn sydd eisoes wedi'i ymrwymo i gynyddu'r gwariant ar iechyd ac addysg yma.

Mewn cyferbyniad, byddai cynlluniau Mr Corbyn yn cynhyrchu cyfraddau llog uwch a thoriadau mwy yn nes ymlaen. Mae'r Ceidwadwyr yn cyflawni'r buddsoddiad mwyaf erioed gyda £790 miliwn i fargeinion twf ledled Cymru, gan gynnwys, fel y clywsom, y £120 miliwn ar gyfer bargen twf gogledd Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Geidwadol y DU ei bod yn agor y drws i fargen twf ar gyfer gogledd Cymru yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2016, ac yn gynharach y mis hwn, ymunodd cynrychiolwyr o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i lofnodi penawdau telerau'r fargen twf yng ngogledd Cymru—y disgwylir iddi gynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o £1 biliwn.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cefnogi gogledd Cymru mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys contract amddiffyn gwerth £82 miliwn gyda chwmni yn Sir Ddinbych a lleoli'r rhaglen cynnal a chadw F-35 yn MOD Sealand yng ngogledd Cymru, y disgwylir iddi gynhyrchu miliynau o bunnoedd a chynnal miloedd o swyddi. Roedd adroddiad blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar gyfer 2015-16 ar wybodaeth ariannol diwydiant rheilffyrdd y DU yn dweud bod Cymru wedi cael 9.6 y cant o gyfanswm arian net y Llywodraeth ar gyfer gweithredwyr trenau'r fasnachfraint a Network Rail a 6.4 y cant o gyfanswm arian net y Llywodraeth ar gyfer llwybrau Network Rail. Dangosodd eu hadroddiad ar gyfer 2017-18 fod cyllid net y Llywodraeth fel canran o gyfanswm incwm y diwydiant rheilffyrdd yn 17 y cant yn Lloegr, 47 y cant yn yr Alban a 49 y cant yng Nghymru. Roedd cyllid net y Llywodraeth ar gyfer masnachfreintiau rheilffyrdd fel canran o gyfanswm yr incwm, gan gynnwys cyllid seilwaith, yn 56 y cant ar gyfer Cymru a'r gororau, o'i gymharu â dim ond 21 y cant ar gyfer cyfanswm Prydain. A dangosodd eu hadroddiad ar gyfer 2018-19 fod y Llywodraeth wedi cyfrannu £1.79 fesul taith teithiwr yn Lloegr, £6.14 yn yr Alban a £9.16 yng Nghymru, lle mae llwybr Cymru yn cael mwy o gyllid nag unrhyw ran arall gan y Llywodraeth fesul cilomedr teithiwr. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i bedlera'r datganiadau y mae'n eu cynnwys yn ei gwelliant. Ymhellach, bydd Network Rail yn buddsoddi £2 biliwn mewn rheilffyrdd ledled Cymru a'i ffiniau dros y pum mlynedd nesaf.

Cafodd rhaglen band eang Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru ei dechrau pan roddodd Llywodraeth y DU £57 miliwn i Lywodraeth Cymru yn 2011—11 y cant o'r holl gyllid ar gyfer y DU—ac yna £56 miliwn yn rhagor yn 2017. Ac roedd cyllid Llywodraeth y DU yn cynnwys y £7 miliwn ychwanegol ar gyfer gogledd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin i gyflwyno cysylltedd band eang cyflym iawn ar draws sefydliadau sector cyhoeddus y rhanbarth a chreu mwy o gysylltiadau â busnesau lleol a chartrefi.

Mae'r cyllid gwaelodol y cytunwyd arno gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru bellach yn elwa ar y sicrwydd na fydd yr arian y mae'n ei gael ar gyfer gwasanaethau datganoledig yn disgyn yn is na 115 y cant y pen o'r ffigur yn Lloegr. Ar hyn o bryd, am bob £1 a werir gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn Lloegr ar faterion a ddatganolwyd i Gymru, mae £1.20 yn cael ei roi i Gymru.

Fodd bynnag, ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, gan Gymru y mae'r lefelau diweithdra uchaf a'r ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol ar draws gwledydd y DU, a'r cyflogau isaf yn unrhyw un o wledydd Prydain. Cymru yw'r wlad leiaf cynhyrchiol yn y DU o hyd, ac mae Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a'r rhannau tlotaf o Gymru a rhwng Cymru a gweddill y DU, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu biliynau ar raglenni o'r brig i lawr a oedd i fod i fynd i'r afael â hyn.

Rhwng 2010 a 2016, Cymru dan arweiniad Llafur oedd yr unig genedl yn y DU i weld toriad mewn termau real yn y gwariant adnabyddadwy ar iechyd. Nid yw eu targedau damweiniau ac achosion brys wedi'u cyrraedd ers 2009, ac maent yn gwario cyfran is o'u cyllideb GIG ar feddygon teulu nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ac er gwaethaf rhybuddion mynych, maent wedi creu argyfwng o ran y cyflenwad tai fforddiadwy nad oedd yn bodoli pan ddaethant i rym ddau ddegawd yn ôl. Ni ddechreuodd hynny yn 2010, dechreuodd yn 1999. Gadewch i hyn fod yn rhybudd i bawb sy'n ystyried rhoi eu pleidlais i Mr Corbyn.

16:50

Mae bob amser yn braf cael gwybod eich bod yn iawn. Rwyf wedi dweud yn barhaus ers 2011 mai polisi gwleidyddol nid economaidd yw cyni. Rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr yn hoffi ymddiheuro i weithwyr y sector cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus am y mesurau cyni sydd wedi arafu'r twf economaidd ac wedi arwain at ddefnydd torfol o fanciau bwyd a'r cynnydd mewn digartrefedd. I helpu'r Ceidwadwyr, nid coeden arian hud oedd ei hangen, dim ond newid polisi Llywodraeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn cael tua £15 biliwn y flwyddyn i'w wario ar ei hamrywiol flaenoriaethau, gweithgareddau a phrosiectau, sy'n cefnogi ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Fodd bynnag, o ganlyniad i bolisi cyni parhaus Llywodraeth Dorïaidd y DU, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei dorri flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn termau real. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 na'r hyn ydoedd yn 2010-11—sy'n golygu £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Mae ein cyllideb refeniw 7 y cant yn is y pen nag yn 2010-11—sef £350 yn llai i'w wario ar wasanaethau rheng flaen ar gyfer pob person sy'n byw yng Nghymru.

Rydym bellach yn y nawfed flwyddyn o gyni, ac mae Cymru'n dioddef canlyniadau polisïau niweidiol y Torïaid. Mae parhau â chyni yn ddewis gwleidyddol. Mae'n ffaith, er gwaethaf twf araf, fod derbyniadau treth yn fwy na'r gwariant cyhoeddus cyfredol.

Beth sydd gennym i'w ddangos am ddegawd bron o doriadau'r Torïaid? Mae'r Torïaid wedi llywyddu dros yr adferiad arafaf ers y 1920au. Twf y llynedd yn ein heconomi oedd yr isaf yn y G7 a'r arafaf ers 2012. Prin fod cynhyrchiant y DU yn uwch na'r lefelau cyn y dirwasgiad, ac mae cyflogau, wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant, yn dal i fod yn is na lefelau 2010. Mae'r twf mewn derbyniadau treth wedi bod yn araf, gan leihau adnoddau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Byddai cyllideb Llywodraeth Cymru £6 biliwn yn fwy yn 2019-20 pe bai wedi cynyddu yn unol â thwf gwariant cyhoeddus hirdymor ers 2010. Mae rhoi arian i ochr y galw yn yr economi yn arwain at dwf economaidd. Rydym yn gwybod hynny.

Rwyf i, wrth gwrs, yn cefnogi mwy o arian ar gyfer iechyd ac addysg. Rhagoriaeth addysg, sy'n darparu cyrhaeddiad addysgol ar lefel uchel, yw ein ffordd orau o sicrhau twf economaidd. Dyna yw ein polisi economaidd gorau, a dylai gael ei ystyried felly—rhoi arian tuag at addysg unigolion tra medrus. Rhywbeth nad yw'n cael ei ddweud yn aml yw, os oes rhaid i chi lwgrwobrwyo cwmni i ddod i Gymru, ni fyddant o ddifrif eisiau dod. Nid oes rhaid i ardaloedd twf uchel ddarparu cymhellion ar gyfer mewnfuddsoddi; mae cwmnïau'n dod am fod y sgiliau sydd eu hangen arnynt yno. Maent yn dod o'u gwirfodd. Dyna pam rwy'n pwyso'n barhaus am gefnogaeth i'r sector prifysgolion fel y ffordd orau o greu swyddi medrus iawn ar gyflogau da.

Nid ysgolion yn unig yw addysg. Nid yw'n ymddangos bod y rôl y mae addysg bellach yn ei chwarae yn cynhyrchu gweithwyr medrus, o grefftau traddodiadol i gyfrifyddiaeth a thechnegwyr TGCh, yn cael y clod y mae'n ei haeddu. Mae'n wir mai addysg bellach yw'r perthynas tlawd yn y byd addysg.

Mae angen arian ychwanegol ar ysgolion wrth gwrs er mwyn gwrthdroi'r toriadau sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf yn meddwl y gallwch chi oramcangyfrif pwysigrwydd addysg. Dyna sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc fynd ymlaen i ennill cyflogau mawr, dyna sy'n rhoi sgiliau iddynt, dyna sy'n cynhyrchu ein meddygon, ein nyrsys, ein peirianwyr—y bobl y mae eu gwir angen arnom yn ein heconomi. Ac yn llawer rhy aml caiff addysg ei hystyried yn rhywbeth ar wahân i ddatblygu economaidd. Mae'n rhan allweddol o ddatblygu economaidd. Mae gennych bobl fedrus, mae gennych bobl â chymwysterau uchel, ac yna'n sydyn iawn daw'r cyflogwyr. Edrychwch ar Gaergrawnt. Edrychwch ar lefydd fel Sheffield. Edrychwch ar y lleoedd sydd wedi gwneud hynny: mae ganddynt y bobl fedrus, maent wedi datblygu drwy'r brifysgol, ac mae'r cwmnïau wedi dod.

Gan droi at iechyd, mae angen arian ychwanegol, ond yr hyn sydd ei angen yw gwella iechyd y cyhoedd. Pa blentyn y credwch chi sy'n fwy tebygol o fod yn sâl ac angen triniaeth ysbyty: yr un mewn tŷ oer, llaith sy'n cael bwyd gwael i'w fwyta neu'r un mewn tŷ cynnes, sych sy'n cael bwyd da?

Mae Plaid Cymru yn galw am yr holl ysgogiadau economaidd, sydd wrth gwrs yn god am annibyniaeth. Yn union fel na allant ateb y cwestiwn ynglŷn â'u safbwynt ar bŵer niwclear, ni allant ateb y canlynol: pa arian y byddech chi'n ei ddefnyddio? Beth sy'n mynd i fod yn fanc canolog neu'n fenthyciwr pan fetho popeth arall? Pwy fydd yn gosod cyfraddau llog? Sut yr ariannwch gyfran Cymru o'r ddyled genedlaethol? A ydych chi o ddifrif yn mynd i ymuno â'r ewro? A ydych yn mynd i adael i Fanc Canolog Ewrop fod yn fanc canolog i chi? Mae hynny'n rhoi llai o reolaeth i chi na'r hyn sydd gennym yn awr. Cofiwch hefyd nad gweddill yr UE yw prif bartner masnachu Cymru, o ran nwyddau a gwasanaethau, ond Lloegr.

16:55

Mae'r gwaith ar ddiffinio'r elfennau ynglŷn â'r ffordd y mae Cymru annibynnol yn gweithio, manylion hynny—sef testun y comisiwn y mae Plaid Cymru yn gweithio drwyddo ar hyn o bryd—yn un peth, ond ni allwch roi dadl gymhellol inni chwaith pam nad yw'n ffordd o fynd i'r afael â diffygion bod o fewn system y DU sy'n ein cloi mewn tlodi ar hyn o bryd.

Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno â'ch datganiad ein bod wedi ein cloi mewn tlodi oherwydd system y DU. Buaswn yn dadlau ein bod wedi ein cloi mewn tlodi oherwydd y system gyfalafol, ond mae hynny'n rhywbeth na fyddech yn cytuno ag ef o bosibl. Ond credaf fod gennym broblem gyda thlodi ac mae angen inni fynd i'r afael â hi.

Yn olaf, byddai polisi arall Plaid Cymru o annibyniaeth ac aros yn yr UE, os bydd y DU yn gadael, yn creu ffin galed rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Lloegr ar ffin Cymru. Mae hynny'n anorfod. [Torri ar draws.] Os nad yw fy amser wedi dod i ben, fe gymeraf ymyriad.

Roeddwn yn mynd i ddweud, ar y pwynt penodol hwnnw, fod yna sefyllfa wahanol iawn rhwng Cymru-Lloegr ac Iwerddon-Gogledd Iwerddon. Y broblem gyda Gogledd Iwerddon ac Iwerddon yw'r Helyntion y maent wedi'u cael yno. Nid oes gennym y problemau hynny rhwng Cymru a Lloegr. Nid oes unrhyw ffordd y byddai ffin galed rhwng Cymru a Lloegr pe baem yn wlad annibynnol.

Byddai'r Undeb Ewropeaidd yn ei fynnu, oherwydd byddai hynny'n atal nwyddau rhag mynd i mewn i'r Undeb Ewropeaidd ar draws y ffin honno. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio drwy gael rheolaeth ar nwyddau o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn dod i mewn.

Mae'n rhaid i mi ddweud, Mike Hedges, rwy'n credu eich bod wedi diberfeddu'r ddadl annibyniaeth ar gyllid i bob pwrpas.

Weinidog, yn fy nghyfraniad heddiw hoffwn drafod yr angen i gynyddu unrhyw symiau canlyniadol sy'n ddyledus i'r GIG i'r GIG yn hytrach na'u bod yn cael eu hamsugno gan y Llywodraeth. Un peth cyffredin o'ch meinciau chi, pan fydd unrhyw feirniadaethau'n cael eu mynegi ynghylch methiannau yn y GIG, yw pe bai gennych fwy o arian y gallech ddarparu'r gwasanaethau a addawyd ers tro. Gyda gwell cyllid, dywedwch y byddai rhestrau aros yn lleihau, byddai ambiwlansys yn gallu treulio mwy o amser yn trin cleifion a threulio llai o amser yn ciwio y tu allan i ysbytai yn aros i drosglwyddo cleifion, a byddai pawb a oedd am gael gwasanaeth deintydd GIG yn ei gael.

Roedd maniffesto Llafur yr wythnos diwethaf yn dangos yr hen athrawiaeth sosialaidd mai'r Llywodraeth sy'n gwybod orau, ond ar ôl 20 mlynedd, mae'n ymddangos ein bod yn dal i wynebu'r un hen ddadleuon ac yn methu symud Cymru ymlaen ar yr un cyflymdra â rhannau eraill o'r DU. A dylem gofio, ers datganoli, fod  Llywodraeth dan arweiniad Llafur wedi bod mewn grym drwy'r amser ym Mae Caerdydd ac am gryn dipyn o amser yn San Steffan, felly byddem yn ffôl i feio'r gwahaniaethau ideolegol rhwng y ddwy Lywodraeth am dangyllido'r GIG. Y broblem go iawn yw sut y gallwn ddefnyddio unrhyw arian ychwanegol i wella'r GIG i gleifion yng Nghymru. Ac ar y pwynt hwn, hoffwn wneud y sylw fod angen i bawb ohonom dalu teyrnged i weithlu ymroddedig a gweithgar y GIG, ac mae fy nghyfraniad wedi'i gynllunio i'ch annog i wthio'r buddsoddiad ychwanegol tuag at feysydd y mae llawer o'r bobl hynny wedi'u nodi.

Gwyddom oll fod y GIG yng Nghymru wedi cofnodi diffyg o £97 miliwn y llynedd, gan ddangos yn glir nad yw'r system ariannu bresennol yn gweithio. Nid ydym yn mynd i'r afael yn ddigonol â meysydd galw newydd, fel gwasanaethau iechyd meddwl. Rhown bwysau ychwanegol ar ein staff sydd eisoes dan bwysau ac sy'n gweiddi am gynlluniau ariannu cynaliadwy, hirdymor ac aml-flwydd. Rydym yn croesawu'r £385 miliwn ychwanegol a addawyd i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond mae'r Llywodraeth hon yn mynd yn brin o amser. Nid oes gennych fawr o amser ar ôl i brofi y gallwch ei wario yn y meysydd cywir i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r modd y caiff y GIG yng Nghymru ei ddarparu.

Os meddyliwn am y peth, pe baem ond yn defnyddio cyfran o'r £114 miliwn a wastraffwyd ar yr ymgynghoriad ar ffordd liniaru'r M4, gallem fod wedi cynnal llawer iawn o nyrsys. Yn fy etholaeth i, roedd yna fferm abwyd melys—mae'n un o'r achosion twyll mwyaf a gyflawnwyd yn hanes Cymru yn erbyn y Llywodraeth. Roedd bron yn £6 miliwn. Gallai hynny fod wedi hyfforddi dros 100 miliwn o nyrsys—mae'n ddrwg gennyf, 100 yn fwy o nyrsys, nid miliwn o nyrsys; peidiwch â thrydar hynny. Ni fyddai digon o le yn ein gwlad—byddai'n rhaid inni eu rhoi i gyd ar y mynyddoedd. [Chwerthin.] Gallai fod wedi helpu i leihau amseroedd aros am ambiwlansys, a fyddai wedi achub etholwr i mi a oedd yn 91 oed rhag gorfod aros ar lawr am saith awr am ambiwlans, ac etholwr arall 94 oed, yr wythnos diwethaf, a arhosodd am 12 awr. Dyna beth rydym ni'n ceisio ei wneud; dyna lle mae angen defnyddio'r arian.

Gadewch i ni fod yn onest, pe bai'r GIG yn cael ei reoli'n dda iawn, ni fyddem yn gweld pedwar o'r saith bwrdd iechyd yn gweithredu o dan ymyrraeth y Llywodraeth. Rhaid inni wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario yn y ffordd iawn. Credaf mai'r prif feysydd a allai wneud â'r gwelliant mwyaf yw hyfforddi a recriwtio gweithlu, cadw gweithlu, a gwell cymorth ar gyfer gofal sylfaenol er mwyn sicrhau bod nifer y cleifion sy'n defnyddio gofal eilaidd yn lleihau. Ac mae'n rhaid inni edrych hefyd ar wario'r arian ar wella ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, cael mwy o bobl i mewn i ofal cymdeithasol, fel y gallwn gael pobl allan o'r ysbyty. Mae gennyf ddynes yn fy etholaeth sy'n eistedd yn yr ysbyty ar hyn o bryd oherwydd na allwn ddod o hyd i ofalwr am 45 munud yn y bore a 15 munud gyda'r nos. Dyna'r cyfan sydd ei angen arni. Ond yn lle hynny, mae hi'n mynd â gwely ysbyty—nid ei bai hi—gyda'r gost sydd ynghlwm wrth hynny.

Felly, yr hyn yr hoffwn ei drafod yw'r ffaith y byddech, gyda £109 miliwn er enghraifft, yn gallu llenwi cohort newydd o nyrsys wedi'u hyfforddi, a fyddai mewn gwirionedd yn rhoi 1,600 o nyrsys eraill inni. Dyna'r gyfradd swyddi gwag sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, am £109 miliwn, rhowch yr hyfforddiant ar waith, a'u hyfforddi am dair blynedd—bydd hynny'n mynd yn bell iawn tuag at leddfu peth o'r pwysau sydd arnom. Mae'r un problemau'n ymwneud â recriwtio meddygon teulu a meddygon. Dim ond 186 o leoedd hyfforddi sydd ar gael gennym. Meddygon ysbyty—yr un fath.

O ran cadw gweithlu, mae angen inni wneud mwy na dim ond siarad am gynnwys y gweithlu, rhoi gwaith iddynt, a deall y pwysau gwaith enfawr sydd arnynt. Dyna pam y mae'r gweithlu'n gadael yn lluoedd—ni allant ymdopi â'r straen oherwydd eu bod dan gymaint o bwysau. Gyda'r arian hwnnw, gallwch wneud llawer iawn i liniaru hynny. Gallwch roi rhaglenni cymorth a gwella'r GIG ar waith i gefnogi staff y GIG i'w cadw yn y GIG. Os gwelwch yn dda, Weinidog, nid wyf yn gofyn i chi am ddim byd arall heblaw gwario'r symiau canlyniadol hynny sy'n dod ac a ddaw gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar gyfer y GIG yng Nghymru. Dyna'r lleiaf y mae'r staff yno yn ei haeddu, ac yn sicr dyna'r lleiaf y mae cleifion Cymru yn ei haeddu.

17:00

A gaf fi ddiolch i'r Blaid Geidwadol am gyflwyno'r ddadl hon, gan fy mod yn teimlo ei bod yn cwmpasu materion sy'n sylfaenol i lywodraethiant Cymru? Os ydym am drafod y cyllid sydd ar gael i Gymru, ni allwn wneud hynny heb ystyried fformiwla Barnett, sydd—rwy'n siŵr y byddai cytundeb ar draws y Siambr—yn sylfaenol ddiffygiol. Yn hyn o beth, credaf ei bod yn berthnasol nodi, am 12 mlynedd cyntaf y Cynulliad, fod gennym Lywodraeth Lafur yma ac yn San Steffan, ac eto fe arhosodd fformiwla Barnett yn ddigyfnewid.

Mae anghysondeb o hyd rhwng y cyllid a gaiff Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru o dan fformiwla Barnett, a Chymru sy'n cael leiaf y pen o'r boblogaeth. Ond yn hytrach na beirniadu'r cyllid a ddaw i mewn, sy'n gŵyn gyson yma yn y Cynulliad, efallai y byddai'n fwy priodol mabwysiadu dull mwy cadarn o ddefnyddio'r cronfeydd hynny. Wedi'r cyfan, p'un a yw'r trethi'n cael eu codi yn San Steffan neu yng Nghymru, arian y trethdalwyr ydyw ac mae ganddynt hawl i weld diwydrwydd dyladwy o ran y ffordd y caiff ei wario.

Ceir sawl enghraifft lle gellid dweud bod symiau mawr o arian wedi cael eu gwastraffu ar brosiectau nad ydynt yn cael eu cyflawni fel yr addawyd. Ategir hyn gan bryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru, a ddywedodd:

'Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu dull o gydbwyso'r risgiau a'r manteision posibl'.

Os caiff y swm o arian a dderbynnir ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ei leihau, bydd yn bwysicach fyth inni ddefnyddio'r arian sydd ar gael yn fwy cynhyrchiol.

Rhaid inni dderbyn—ac rwy'n cydnabod—nad yw penderfyniadau ar gyllido cwmnïau a/neu sefydliadau heb eu risgiau cynhenid. Rwyf wedi dweud o'r blaen fod y Llywodraeth yn aml yn rhoi benthyg arian ar y pen uchaf o risg, yn enwedig mewn meysydd lle mae banciau masnachol yn methu darparu arian o'r fath am eu bod yn gwbl wrth-risg. Ond mewn gwirionedd, nid mewn cymorth i'r sector preifat y gwelwn yr anfedrusrwydd mwyaf ar ran y Llywodraeth, ond yn y cymorth y mae'n ei roi i sefydliadau sy'n cael eu harwain gan Lywodraeth ond sy'n cael eu gweithredu ar sail hyd braich.

Mae pawb yn derbyn bod Cymru'n llawer rhy ddibynnol ar ei sector cyhoeddus, ond ceir dibyniaeth gynyddol ar sefydliadau'r trydydd sector. Erbyn hyn, mae gennym un corff trydydd sector am bob 89 o bobl yng Nghymru. Mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, 'A yw pob un ohonynt yn rhoi gwerth am arian?', pan fo cynifer o gyrff o'r fath. Rwy'n annog y Llywodraeth i roi'r gorau i gwyno am ddiffyg arian, ond i ganolbwyntio ar wariant, nid incwm.

17:05

Un o'r dadleuon a gyflwynwyd o blaid datganoli ddiwedd y 1990au oedd bod buddiannau Cymru'n cael eu hesgeuluso. Dywedwyd wrthym mai dim ond drwy atebion wedi'u teilwra a grëwyd yma yng Nghymru y gellid datrys y problemau sy'n wynebu Cymru. Fodd bynnag, er gwaethaf setliadau ariannu hael olynol gan Lywodraeth y DU, lle cafodd Cymru dros 20 y cant yn fwy o wariant nag a gafwyd yn Lloegr, mae'r problemau hyn yn parhau.

Gan Gymru y mae'r economi wannaf yn y Deyrnas Unedig o hyd, gyda chyflogau yng Nghymru yn dal i fod yn isaf drwy'r DU gyfan, mae GIG Cymru yn wynebu diffyg o £97 miliwn wrth iddo frwydro i gyrraedd y targedau a osodwyd ar ei gyfer, mae ein gwasanaeth addysg mewn argyfwng am fod ysgolion wedi'u hamddifadu o'r arian sydd ei angen arnynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio symud y bai yn gyson am ei hanes o fethiant ar gyni honedig y Torïaid. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru, ers blynyddoedd, wedi gwastraffu arian, drwy gamddefnyddio arian trethdalwyr a phrosiectau sydd wedi methu cyflawni.

Gwariwyd mwy na £9 miliwn o arian cyhoeddus ar gynllun arfaethedig Cylchffordd Cymru cyn i'r Gweinidog dynnu'r plwg. Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

'Gwnaeth Llywodraeth Cymru rai penderfyniadau anesboniadwy wrth ddarparu cyllid cychwynnol ar gyfer y prosiect hwn',

a oedd yn cynnwys prynu cwmni beiciau modur yn swydd Buckingham. Costiodd diffygion sylfaenol yn y ffordd y cafodd cronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio ei rheoli, ei goruchwylio a'i chynghori ddegau o filiynau o bunnau i drethdalwyr Cymru. Golygodd methiant Llywodraeth Cymru i lywodraethu a darparu trosolwg fod gwerthiannau tir cyhoeddus wedi cynhyrchu llai nag y dylent fod wedi'i wneud. Yn 2017, mynegwyd pryderon am Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwerthu pren i gwmni melin lifio heb achos busnes priodol. Unwaith eto, dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus nad oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos a yw'r contractau'n cynnig gwerth am arian. [Torri ar draws.] Ewch chi.

A ydych chi'n credu bod y £100 miliwn a wariodd Llywodraeth y DU ym mis Hydref ar baratoi ar gyfer Brexit yn arian a wariwyd yn dda?

Fe gafodd ei wario'n dda. Roedd yn hollol gywir, yn hollol gywir. Lywydd, mae'r rhestr yn parhau. Collwyd mwy na £5 miliwn wrth gefnogi Kancoat, y cwmni dur, a aeth i'r wal; gwariwyd £9.5 miliwn ar gaffael ac ailosod Stiwdios Pinewood, sydd bellach yn costio £400,000 y flwyddyn i'w cadw ar agor a dim arall; gwariwyd £114 miliwn fel y mae Angela newydd grybwyll, ar brosiect ffordd liniaru'r M4 cyn iddo gael ei ddirwyn i ben. Drwy gydol eu cyfnod mewn Llywodraeth, mae Llafur wedi dangos anallu dychrynllyd wrth ymdrin ag arian cyhoeddus ac ni ddylent geisio cynyddu trethi i wneud iawn am y diffygion.

Economïau treth isel yw'r economïau mwyaf llwyddiannus drwy'r byd. Mae torri trethi yn hwb i'r economi, yn cynyddu twf economaidd ac yn codi safon byw. Ni all Cymru fforddio system dreth sy'n gweithredu fel rhwystr i dwf economaidd a dyhead. Mae baich treth cynyddol ar drethdalwyr Cymru yn cynyddu'r risg y bydd yn atal twf economaidd ac yn costio mewn swyddi. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi cydnabod yn gwbl briodol y dylai codi cyfraddau Cymreig o'r dreth incwm fod yn ddewis olaf ac nid yn ymateb cyntaf.

Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw, a chredaf ei bod yn hen bryd ei chael er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd undeb y Deyrnas Unedig i ffyniant Cymru, i gefnogi swyddi, arloesedd, dyhead a llesiant. Mae Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan drwy ddarparu mwy o gyllid. Mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw ymrwymo'r adnoddau hynny i sicrhau manteision gwirioneddol i'r economi ac i'n gwasanaethau cyhoeddus.

Un pwynt olaf yr hoffwn ei wneud: y gwir amdani yw fod mwy na 17 y cant o aelwydydd Cymru yn aelwydydd heb waith, ac mae plant yn byw mewn 12 y cant o'r aelwydydd hynny. Rwy'n credu bod hynny'n warth ar y Llywodraeth, gan nad yw tlodi plant yn dderbyniol o gwbl yn y wlad ddatblygedig hon. Diolch.

17:10

Rwy'n mynd i geisio gwneud araith amhleidiol, anwleidyddol yma, sy'n anarferol yng nghanol etholiad, ond mewn gwirionedd, daw allan o rywbeth sydd wedi codi yng nghanol yr etholiad. Oherwydd cefais gopi o lythyr a anfonwyd, mae'n debyg, at bob ymgeisydd plaid seneddol ac fe'i llofnodwyd gan bennaeth materion allanol Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru; Dave Hagendyk, cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru; Heather Myers, prif weithredwr Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru; Iestyn Davies, prif weithredwr ColegauCymru; yr Athro Julie Lydon OBE, cadeirydd Prifysgolion Cymru; Margaret Phelan, swyddog Cymru Undeb y Prifysgolion a'r Colegau; Rob Simkins o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr; a Ruth Marks, prif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.  

Mae'r llythyr yn galw mewn gwirionedd ar ba Lywodraeth bynnag sydd mewn grym ar ôl yr etholiad i sicrhau nid yn unig fod arian ar gael yn lle'r holl arian blaenorol roeddem yn ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd, ond bod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn ei gylch yn digwydd yng Nghymru. Ac maent yn dweud hyn:

Galwn ar bob plaid wleidyddol i sicrhau bod arian yn lle'r cronfeydd strwythurol ar gael yn llawn. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi addo creu Cronfa Ffyniant Gyffredin i gymryd lle'r cronfeydd hyn. Rhaid i unrhyw Gronfa Ffyniant Gyffredin fod wedi ei chynllunio ar batrwm datganoledig a gweithredu ar sail model sy'n seiliedig ar anghenion.

Ac maent yn cyfeirio at y ffordd y câi cyllid Ewropeaidd ei ddefnyddio, arian a oedd, yn wir, yn mynd o law trethdalwyr ledled y wlad i'r UE ond deuai llwythi o arian yn ôl i Gymru—llwythi—ac mae'n chwarae rhan hollbwysig yng Nghymru ym maes ymchwil ac arloesi, yn ein cymunedau difreintiedig, ar ffurf pobl ifanc ac oedolion yn ceisio gwella eu sgiliau a dod o hyd i waith ac adeiladu gyrfaoedd, ac ar ffurf rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.  

Rydym yn chwilio am oddeutu £370 miliwn y flwyddyn o gyllid yn lle'r hyn a gawn ar hyn o bryd drwy gronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd. Mae'n rhaid i'r arian newydd fod yn hirdymor ac yn seiliedig ar anghenion, a rhaid iddo gynnwys addasiad parhaol i'r grant bloc dros ben Barnett. Ac mae hynny oherwydd, er gwaethaf y cynnydd—a gallwn droi at y cynnydd a wnaethom a'r cryfder y mae peth o'r cyllid hwnnw wedi'i roi i rai o'n cymunedau—mae'r anghydraddoldebau rhanbarthol hynny, yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU, yn dal i fod yno. Ac yng Nghymru, maent yn aml yn parhau i fod ymhlith yr uchaf yn yr UE. Nid yw'r problemau hyn yn diflannu gyda Brexit, a gallent fynd yn waeth byth heb fuddsoddiad parhaus sy'n cyd-fynd â'r fframwaith polisi yng Nghymru.

Mae'r cyllid o'r UE wedi cael effaith ar draws Cymru gyfan ac ar draws ystod eang o feysydd polisi. Gallwn siarad am y busnesau a'r swyddi a grëwyd ganddo dros y degawd diwethaf—48,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd; y 25,000 o fusnesau a gafodd gefnogaeth ar ffurf arian a chymorth; yr 86,000 o bobl a gafodd help ariannol; y 300,000 o bobl a gafodd help i gael cymwysterau newydd—

17:15

Mark Isherwood a gododd—

Hoffwn orffen fy mhwynt, Mark, yna byddaf yn hapus i ildio.

Ar brosiectau cefnogi cyflogadwyedd cronfa gymdeithasol Ewrop, gallem nodi'r ffaith eu bod 46 y cant yn fwy tebygol o ddod o hyd i waith dros 12 mis na phobl a oedd yn ddi-waith yn yr un modd ac yn derbyn mathau eraill o gymorth neu ddim cymorth o gwbl; fod cymorth busnes cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop yn cael effaith gadarnhaol ar dwf cyflogaeth—7 y cant yn uwch nag ar gyfer busnesau nad ydynt yn cael cymorth; ar lefelau cyflogaeth, mae 15 y cant yn uwch nag ar gyfer busnesau nad ydynt yn cael cymorth; fod twf trosiant 5 y cant yn uwch; a lefelau trosiant 12 y cant yn uwch—gallwn barhau.

Cyn imi ddod â chi i mewn, Mark, mae hefyd yn ymwneud â pha mor hollbwysig yw'r rhain i ymchwil ac arloesedd, gan gynnwys rhai y mae llawer ohonom wedi ymweld â hwy ac wedi cael tynnu ein lluniau ynddynt. Felly, mae pethau fel campws y bae Prifysgol Abertawe, parth dysgu Blaenau Gwent, campws Nantgarw Coleg y Cymoedd, Parc Gwyddoniaeth Menai, campws arloesi Prifysgol Aberystwyth, Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd, Parc Ynni Baglan, ac ati. Ac fe allwn restru, i fy nghyfaill anrhydeddus yma sy'n eistedd mewn lle arall hefyd, y buddsoddiad sydd wedi mynd tuag at lawer o leoliadau twristiaeth gorau Cymru hefyd, boed yn llwybr arfordir Cymru, Venue Cymru, pwll nofio Pontypridd, Nant Gwrtheyrn, ac yn y blaen ac yn y blaen.

Mae'r llythyr hwnnw'n egluro, fel y mae'n rhaid i mi ddweud y mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n edrych gyda diddordeb ar ddyfodol cronfa ffyniant gyffredin y DU, ei bod hi'n hollbwysig fod angen i'r penderfyniadau ynglŷn â'r dyfodol, yn ogystal â chael arian yn lle'r holl gronfeydd hynny, gael eu gwneud yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y byddai Mark yn cefnogi hynny wrth imi dderbyn yr ymyriad.

Nid yn unig fy mod yn eich cefnogi, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn rhannu fy ymateb dymunol i'r datganiad ym maniffesto'r Ceidwadwyr:

Defnyddir Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i glymu'r Deyrnas Unedig gyfan at ei gilydd.

Yng Nghymru, ni fydd arian cyfatebol yr UE yn cael ei golli—mae hynny yn y maniffesto.

Mae'n ddrwg gennyf, mae fy amser wedi dod i ben. Byddai'n eglurhad buddiol, Mark, pe bai unrhyw Lywodraeth newydd, ar y diwrnod cyntaf, yn dweud yn gwbl glir yn yr ansicrwydd presennol a diffyg unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd gyda chronfa ffyniant gyffredin y DU, eu bod yn rhoi arian yn lle'r £370 miliwn bob blwyddyn, fod hwnnw'n dod i Gymru ac y byddai'n cael ei gynnwys yn y fframwaith polisi, ac y byddai'r penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru. A yw'n dweud hynny yn y maniffesto? A ddywedwyd hynny? [Torri ar draws.]—Na, mae'n ddrwg gennyf, mae fy amser wedi dod i ben. Byddai hynny'n ddefnyddiol, oherwydd mae gennym fframwaith polisi gwahanol yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod fy amser wedi dod i ben, Lywydd, oherwydd yr ymyriad hwnnw. Oherwydd y fframwaith polisi gwahanol hwnnw, oherwydd y buddsoddiad y gwyddom fod angen parhau i'w wneud yng Nghymru, gadewch i bawb ohonom gytuno, os gwelwch yn dda, yn y Senedd hon mai'r bobl sydd gennym yma a ddylai benderfynu ar y gwariant hwnnw yn y dyfodol.

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw a'r cyfle i amlinellu realiti'r hyn sydd wedi digwydd i gyllid Cymru mewn gwirionedd. Yn fyr, pe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu yn unol â'r economi ers 2010-11, byddai £4 biliwn yn uwch y flwyddyn nesaf. Yn erbyn y cefndir llwm hwn, rwy'n teimlo ei bod hi'n rhyfeddol fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dewis trafod mater cyllid Llywodraeth y DU i Gymru yn ystod etholiad cyffredinol. Eu dewis hwy yn llwyr yw hynny, ond pe bawn i yn eu hesgidiau hwy, yn sicr nid yw'n rhywbeth y buaswn am dynnu sylw ato.

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Fe gyfeirioch chi at y ffigur o £4 biliwn yn y fan honno. Wrth gwrs, yn eich gwelliant i'r ddadl heddiw, mae'n sôn ein bod ar ein colled o £300 miliwn. Cyfeiriodd eich cyd-Aelod, Mike Hedges, at ffigur o £800 miliwn. Pwy sy'n gwneud y ffigurau hyn i chi ar ran y Llywodraeth—Diane Abbott?

Mae'r ffigurau a oedd gennym yn y cynnig a'r ffigurau rwyf newydd eu rhoi ichi yn awr yn gywir, gan fod y ffigur sy'n ymwneud â'r £300 miliwn dros 10 mlynedd yn ffigur cywir, wrth gwrs, fel y mae'n ffigur cywir pe bai'r cyllid wedi tyfu yn unol â'r economi. Pe baem wedi tyfu yn unol â gwariant cyhoeddus dros y cyfnod hwnnw, byddai gennym £5 biliwn neu £6 biliwn yn fwy mewn gwirionedd. Felly, pa fodd bynnag yr edrychwch arno, nid yw Cymru wedi cael ei chyfran deg gan Lywodraeth y DU.  

Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod llwyddiant y fframwaith cyllidol i sicrhau cyllid gwaelodol Holtham ar sail anghenion wedi bod yn llwyddiant i Lywodraeth Cymru, ac fe frwydrodd fy rhagflaenydd yn galed am hwnnw, a'i gael ar ôl blynyddoedd o negodi. Felly, nid gweithred o haelioni gan Lywodraeth y DU ydyw o bell ffordd. Ond erbyn 2021, bydd y cyllid gwaelodol, fel y'i negodwyd gan Mark Drakeford, wedi darparu tua £160 miliwn yn fwy i Gymru, ac er mai dim ond Llywodraeth y DU a all roi diwedd go iawn ar gyni, mae'r gwahaniaeth pwysig hwn yn dyst, rwy'n credu, i benderfyniad Llywodraeth Cymru i sefyll dros Gymru, ac ni fyddai wedi digwydd heb y penderfyniad hwnnw.  

Yn groes i gynnig y Ceidwadwyr Cymreig, nid canlyniad y fframwaith cyllidol yn unig, o'i chymharu â rhaglenni tebyg yn Lloegr, yw'r lefel bresennol o gyllid y pen yng Nghymru. Mae'n cynrychioli effaith gronnol fformiwla Barnett a symudiadau'r boblogaeth dros flynyddoedd lawer. Bydd y newid rydym wedi'i sicrhau drwy'r fframwaith cyllidol yn sicrhau bod lefel y cyllid sy'n adlewyrchu'r angen yng Nghymru yn cael ei chynnal.

Dros y degawd diwethaf, mae cyflawniad Llywodraeth y DU o ran buddsoddi yng Nghymru ar gyfrifoldebau heb eu datganoli wedi bod yn gywilyddus. Mae'r cynnig yn anghofio sôn bod yr £790 miliwn a neilltuwyd ar gyfer bargeinion twf wedi'i wasgaru dros gyfnod o 15 i 20 mlynedd mewn gwirionedd. Er bod Llywodraeth y DU yn gwneud addewidion ar gyfer yfory, mae wedi llywyddu dros ddiffyg buddsoddi cyson mewn materion sydd heb eu datganoli, megis seilwaith y rheilffyrdd a chysylltedd digidol.    

17:20

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch am hynny. Efallai fod y swm hwnnw o arian yn cael ei wasgaru dros nifer o flynyddoedd, ond mae'n rhaid i chi groesawu'r ffaith ei fod yn swm o arian sy'n mynd i ddod i Gymru na fyddai'n dod fel arall. O ran y fframwaith cyllidol rydych newydd sôn amdano, nid taflu baw a wnawn yn gynharach fel y nododd Rhun. Mewn gwirionedd roeddwn yn canmol y ffordd y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cydweithio ar y fframwaith cyllidol hwnnw. Mae'n destun llwyddiant i Gymru, a dyna arian a ddaw i Gymru na fyddem wedi'i gael fel arall.

Ie, ac enillwyd yr arian hwnnw drwy flynyddoedd caled o negodiadau ar ran Llywodraeth Cymru dan arweiniad Mark Drakeford.  

I droi'n ôl at fater y tanfuddsoddi cyson gan Lywodraeth y DU mewn meysydd sydd heb eu datganoli yng Nghymru, rhwng 2011 a 2016, cyfrannodd Llywodraeth Cymru tua £362 miliwn tuag at wariant sector cyhoeddus ehangach ar reilffyrdd Cymru. Buddsoddwyd dros £220 miliwn gennym hefyd i wella'r seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys cyllid o gronfeydd strwythurol yr UE. Ac yn ystod yr un cyfnod, dewisodd Llywodraeth y DU fuddsoddi £198 miliwn yn unig ar wella'r rhwydwaith yng Nghymru—prawf, rwy'n credu, fod eu blaenoriaethau mewn mannau eraill.

Drwy Cyflymu Cymru, mae cyfanswm o bron i £230 miliwn o arian cyhoeddus wedi'i fuddsoddi i ddarparu mynediad i fand eang cyflym iawn i 733,000 o gartrefi a busnesau, a gadewch i ni fod yn glir: cartrefi a busnesau yw'r rhain na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at fand eang. Buddsoddwyd £146 miliwn o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a'r UE, a dim ond £67 miliwn ohono a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Lywydd, dyma gyllid pwysig y gellid bod wedi ei wario ar wasanaethau datganoledig, ond cawsom ein gorfodi i gamu i mewn lle mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyflawni ei chyfrifoldebau.

Gan droi at gylch gwariant y DU eleni, gadewch imi roi crynodeb byr o'r hyn y mae'n ei olygu i'n cyllideb. Ond cyn i mi wneud hynny, rhoddaf sylw i'r pwynt y credaf fod Nick Ramsay wedi ei wneud o ran dymuno gweld buddsoddiad mwy hirdymor a phroffil gwariant mwy hirdymor. Wel, mae hynny'n rhywbeth rydym yn amlwg yn ei rannu yn Llywodraeth Cymru ond yn anffodus, er inni gael addewid o adolygiad cynhwysfawr o wariant dros dair blynedd, cawsom gynnig cylch gwariant un flwyddyn nad yw hyd yn oed yn rhoi hyder i ni ynglŷn â gwariant yn y dyfodol fel y mae rhai o adrannau Llywodraeth y DU yn ei gael.  

Yn ein cyllideb ar gyfer 2021, fe fydd 2 y cant neu £300 miliwn yn llai mewn termau real o gymharu â 2010-11. Ac wrth gwrs, ceir effaith dewis Trysorlys y DU i ymddwyn yn anghyfrifol gyda'r rheolau cytunedig sydd gennym ar ddyraniadau cyllid. Eleni, arweiniodd yr ymagwedd honno at ddiffyg o £35 miliwn yn ein cyllideb yn dilyn methiant Llywodraeth y DU i ariannu'n llawn y cynnydd ym mhensiynau'r sector cyhoeddus. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y diffyg hwnnw'n codi i tua £50 miliwn y flwyddyn nesaf, felly dyna £50 miliwn nad wyf yn gallu ei roi tuag at ysgolion ac ystafelloedd dosbarth yng Nghymru; mae'n £50 miliwn nad yw'n mynd i'r gwasanaeth iechyd; mae'n £50 miliwn na all fynd bron hanner ffordd tuag at y gwariant y byddai Angela Burns yn hoffi ei weld ar gyflwyno mwy o nyrsys i Gymru. Felly, dyna'r holl arian na ellir ei wario yng Nghymru am na chawsom ein cyfran deg gan Lywodraeth y DU.  

Dylai canlyniad truenus degawd o gyni fod yn destun embaras mawr i'r Ceidwadwyr Cymreig, ac nid ydym am dderbyn unrhyw wersi gan Lywodraeth y DU ar fuddsoddi mewn iechyd ac addysg. Mae gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yma yng Nghymru yn fwy na £3,000, a dyna'r swm uchaf ym mhedair gwlad y DU. Roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru yn fwy na £1,300, sydd 6 y cant yn uwch nag yn Lloegr.

Dan lyffethair degawd o gyni, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus lle mae'r angen mwyaf. Rydym wedi ymrwymo yn ein maniffesto, ac mae'n rhaid i mi ddweud—

17:25

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Ar y ffigur iechyd hwnnw, nid wyf yn anghytuno â chi. Nid oes gennyf y ffigurau wrth law, ond nid wyf yn anghytuno â chi y gallai'r ffigur fod yn uwch yma, ond wrth gwrs, nid dyna'r broblem o anghenraid. Y broblem yw cyfradd y cynnydd yn y gyllideb iechyd yng Nghymru mewn perthynas â rhannau eraill y DU, a dyna lle—. Am eich bod yn dechrau gyda bloc o arian, fel roedd gennym ar ddechrau datganoli, os nad yw hwnnw'n cynyddu ar lefel briodol, dyna fydd yn achosi'r problemau, nid o reidrwydd y swm cyfan o arian.

Wel, mae Llywodraeth Cymru, dros gyfnod o flynyddoedd, wedi blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd yn ei chyllideb ac rwyf wedi bod yn glir iawn yn y trafodaethau a gawsom yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill y bydd Llywodraeth Cymru unwaith eto eleni, yn y gyllideb a gyhoeddir gennym ar 16 Rhagfyr, yn rhoi blaenoriaeth i'r gwasanaeth iechyd ochr yn ochr, wrth gwrs, â rhoi'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol.

Mae'r cynnig yn cyfeirio at gyfraddau treth incwm Cymreig, ac rydym wedi ymrwymo yn ein maniffesto, ac rwyf wedi ailadrodd yn ddiddiwedd yn y Siambr, na fyddwn yn codi cyfraddau treth incwm Cymreig yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Mewn gwirionedd mae'n cyfeirio at fwy na chyfraddau treth incwm Cymreig yn unig. Mae'n dweud 'trethi'—ar ei ben. Felly, a allwch chi ein sicrhau na fyddwch yn cyflwyno unrhyw drethi newydd neu ychwanegol, nid cynyddu cyfradd y dreth incwm yn unig, ond trethi newydd neu ychwanegol cyn etholiad nesaf y Cynulliad?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ynghylch y trethi newydd y mae'n ystyried eu cyflwyno. Rydym yn ystyried cyflwyno treth ar dir gwag ar hyn o bryd, ond wrth gwrs, mae'r broses hon wedi cymryd llawer mwy o amser nag y byddem wedi'i obeithio, oherwydd oedi ar ran Llywodraeth y DU eto. Felly, ni fyddai unrhyw bosibilrwydd o gyflwyno treth newydd yr ochr hon i etholiadau'r Cynulliad, ond wrth gwrs, mae gennym syniadau uchelgeisiol ar gyfer yr hyn a allai fod yn bosibl yn nhymor nesaf y Cynulliad, a bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'r meysydd rydym yn edrych arnynt.

Felly, Ddirprwy Lywydd, gan droi at welliannau Plaid Cymru, defnyddiodd Llywodraeth Cymru ddull radical yn seiliedig ar dystiolaeth o ddiwygio ein hundeb ac nid ydym yn derbyn o gwbl fod annibyniaeth yn gwasanaethu buddiannau pobl Cymru. Yn ein barn ni, rhaid i'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer undeb o bedair gwlad barchu hunaniaeth a dyheadau pob un, gan gadw buddiannau cyfunol y cyfan, a rhaid i lywodraethiant undeb o'r fath adlewyrchu'r realiti mai undeb gwirfoddol o bedair rhan ydyw yn gweithio gyda'i gilydd er budd pawb.

Ac er bod yr achos dros yr undeb yn mynd ymhell y tu hwnt i faterion cyllid yn unig, yng nghyd-destun y ddadl hon rydym yn cydnabod y bwlch rhwng arian a godir yng Nghymru ac arian a werir er budd pobl Cymru. Roedd y ffigurau diwethaf, sef ffigurau 2017-18, yn £13.7 biliwn, ac wrth gwrs, llenwir y bwlch hwnnw drwy ein haelodaeth o'r Deyrnas Unedig. Ac mae'r hyn sy'n cyfateb i ddiffyg cyllidol Cymru oddeutu £4,000 y pen bob blwyddyn.

Felly, Ddirprwy Lywydd, i gloi, ni allai'r gwrthgyferbyniad rhwng lefel y buddsoddiad yng Nghymru yn ystod degawd cyntaf datganoli a'r ail ddegawd fod yn gliriach. Cynyddodd ein cyllideb dros 60 y cant mewn termau real rhwng 1999, 2000 a 2010-11—ac, O! am fod yn Weinidog cyllid yn y dyddiau hynny. Gostyngodd canran y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru 3 phwynt canran, ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, roedd y gyfradd tlodi yng Nghymru yr un fath â chyfradd y DU gyfan, er inni ddechrau'r cyfnod gyda chyfradd lawer uwch, ac mae hynny'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gennych Lywodraeth dan arweiniad y Blaid Lafur yng Nghymru ac yn y DU yn gweithio gyda'i gilydd ar ran y lluoedd ac nid y lleiafrif.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n siomedig braidd ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth heddiw. Roeddent braidd yn fursennaidd yn gwrthod cydnabod cyflawniadau sylweddol Llywodraeth y DU yn cynyddu'r gwariant sydd ar gael i Gymru. Wrth gwrs, mae gennym grant bloc uwch nag erioed yng Nghymru eleni yn nhermau arian parod—gwyddom fod hynny'n wir. Ac rydym hefyd yn gwybod mai Llywodraeth y DU a gyflawnodd y fframwaith cyllidol hwn. Mae angen dau i gydweithio. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gweithio gyda Llywodraeth y DU, ond roedd y setliad hwnnw'n setliad y cytunodd y ddwy ochr arno, ac mae hi braidd yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y rôl a chwaraeodd Llywodraeth y DU yn sicrhau hynny.

Fel y dywedodd Nick Ramsay yn hollol gywir yn ei araith agoriadol, mae'n ffaith bod Cymru'n cael £1.20 am bob punt a werir yn Lloegr ar hyn o bryd. Sylwaf fod hyd yn oed Llywodraeth Cymru'n cydnabod nad yw'r holl arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i'r gwasanaeth iechyd gwladol nac i'n system addysg mewn gwirionedd. Rydych wedi dyfynnu'r ffigurau eich hun yn eich gwelliant. Fe ddywedoch chi nad yw gwariant ond 11 y cant yn uwch yma yng Nghymru nag yn Lloegr, er y byddai 20 y cant yn uwch mewn gwirionedd. Dyna yw'r ffeithiau go iawn. Gwn nad ydych yn ei hoffi—[Torri ar draws.] Gwn nad ydych yn hoffi clywed hyn, ond gadewch imi ei nodi—[Torri ar draws.] Gadewch i ni nodi hyn yn glir iawn: y ffaith amdani yw fod Cymru'n derbyn £1.20 am bob £1, ond dim ond £1.11 ohono rydych chi'n ei wario ar y GIG a 6c yn fwy ar wariant ar addysg. Felly, mae'n llawer llai.

Beth a wnewch gyda gweddill yr arian? Fe ddywedaf wrthych beth rydych chi'n ei wneud, rydych chi'n gwastraffu llawer ohono. Clywsoch rai cyfeiriadau at y pethau sy'n cael eu gwastraffu gan Angela Burns, Mohammad Asghar ac eraill ar y meinciau hyn yn ystod y ddadl. Felly, nid oes esgus am y ffaith eich bod chi, fel Llywodraeth, yn methu buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd ac yn methu buddsoddi yn ein hysgolion. Dyna pam na ddylai fod yn syndod mai gennym ni y mae un o'r systemau addysg sy'n perfformio waethaf yn y DU—y gwaethaf, yn wir, yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—a pham y mae ein hamseroedd aros yn hwy, pam y mae ein gwasanaeth ambiwlans yn waeth, a pham y mae perfformiad ein hadrannau achosion brys yn waeth yma nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, fe ddywedoch chi nad ydych yn cael eich cyfran lawn gan Lywodraeth y DU; y gwir yw nad ydych chi'n rhoi'r gyfran lawn i'r gwasanaeth iechyd gwladol nac i'n hysgolion.

Rwy'n cilwenu wrthyf fy hun bob tro y mae Plaid Cymru yn codi i siarad am fethiannau Llywodraethau blaenorol yn y Siambr hon, oherwydd mae'r blaid honno bob amser yn methu cydnabod ei chyfrifoldeb ei hun pan oedd mewn Llywodraeth yma yng Nghymru, yn cynnal y Llywodraeth Lafur. Rwy'n cofio pan oedd Ieuan Wyn Jones yn Ddirprwy Brif Weinidog ac yn Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe anfonasom werth £77 miliwn mewn cymorth UE heb ei wario yn ôl yn 2009, yn ystod ei gyfnod yn y swydd: gwerth £77 miliwn o fuddsoddiad y gellid bod wedi ei wario'n fuddiol ar geisio gwella economi Cymru. Rwy'n fodlon derbyn yr ymyriad.

17:30

Faint o arian a anfonodd John Redwood yn ôl o'r Swyddfa Gymreig i San Steffan?

Gadewch i ni siarad am eich cyflawniad chi, oherwydd gwn nad ydych chi'n hoffi siarad am eich cyflawniad, ond y realiti yw, pan oedd eich Dirprwy Brif Weinidog, arweinydd eich plaid, yn cynnal y Llywodraeth Lafur am yr holl flynyddoedd, roedd perfformiad yr economi yn waeth nag y mae wedi bod erioed, er bod gennych ddylanwad a'r gallu i wneud rhywbeth.

Rydych yn sôn am annibyniaeth. Mae pawb ohonom yn gwybod mai ffuglen lwyr yw dweud y gallai Cymru oroesi'n economaidd ar ei phen ei hun heb fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig wych hon rydym yn rhan ohoni. Rwy'n undebwr balch, a chredaf fod Cymru'n elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Nawr, rwy'n falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru hefyd yn teimlo bod hynny'n wir. Fe dderbyniaf ymyriad.

A all gwledydd sydd â 3 miliwn o bobl oroesi'n economaidd fel gwledydd annibynnol, ac os gall eraill wneud hynny, pam na all Cymru?

Os gallwch chi egluro i bobl Cymru sut ar y ddaear rydych chi'n mynd i gau'r bwlch cyllidol, pa drethi sy'n mynd i godi, pa wasanaethau cyhoeddus sy'n mynd i gael eu torri er mwyn sicrhau bod y cyllid cyhoeddus hwnnw'n cyflawni, byddaf yn hapus i eistedd gyda chi a chael sgwrs. Os gallwch egluro i bobl Cymru a phobl Lloegr sut rydych yn mynd i fod yn genedl annibynnol heb ffin galed, er eich bod am fod yn rhan o farchnad sengl yr UE a bod gweddill y Deyrnas Unedig yn gadael yn y dyfodol agos, byddaf yn hapus i gael sgwrs, ond hyd yma, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o gwbl y gellir cyflawni hynny.

Felly, rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr hon i wrthod y gwelliant a luniwyd gan Diane Abbott yn enw'r Llywodraeth, i wrthod y gwelliant gwarthus a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, nad yw'n cydnabod yr heriau y byddai Cymru annibynnol yn eu hwynebu y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr ar y papur trefn heddiw.

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Blaid Brexit: Cofrestr Lobïwyr

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. 

Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Brexit ar gofrestr lobïwyr. Galwaf ar Caroline Jones i gyflwyno'r cynnig hwnnw. Caroline Jones.

Cynnig NDM7205 Caroline Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r unig ddeddfwrfa genedlaethol yn y DU sydd heb gofrestr lobïwyr.

2. Yn credu y byddai cofrestr lobïwyr yn helpu i hyrwyddo didwylledd a thryloywder yng ngwleidyddiaeth Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar unwaith ar weithredu cofrestr lobïwyr ar gyfer Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gynnig y ddadl hon heddiw. Mae ein cais yn syml: rhaid inni gyflwyno cofrestr statudol o lobïwyr yng Nghymru, yr unig ran o'r DU nad oes ganddi gofrestr o weithgaredd lobïo.

Diffinnir lobïo fel unrhyw ymgais gan unigolion neu grwpiau buddiant preifat i ddylanwadu ar benderfyniadau'r Llywodraeth. Yn ei ystyr gwreiddiol, cyfeiriai at ymdrechion i ddylanwadu ar bleidleisiau deddfwyr, yn y lobi y tu allan i'r Siambr ddeddfwriaethol fel arfer. Mae lobïo yn rhan gyfreithlon a hanfodol o ddemocratiaeth iach. Gall lobïo fod yn brif ffordd o sicrhau eiriolaeth. Mae'n helpu i lywio ein hymdrechion i ddarparu atebion deddfwriaethol i'r problemau sy'n wynebu Cymru. Mae'n ein helpu i ddatblygu polisïau newydd ac yn ein galluogi i graffu ar rai presennol. Mae gan bob democratiaeth iach elfen o weithgaredd lobïo.

Fodd bynnag, gall lobïo fod yn berygl i ddemocratiaeth hefyd, drwy ganiatáu i ddrewdod llygredd dreiddio i'n sefydliadau democrataidd. Mae hanes o ddylanwad gormodol wedi bod yn ein democratiaeth seneddol. Yn y 1920au, talodd cwmni olew swm mawr o arian i Winston Churchill er mwyn sicrhau mai dim ond y cwmni a gâi fynd i mewn i'r meysydd olew Persiaidd. Drwy gydol yr ugeinfed ganrif, parhaodd dylanwad lobïwyr i gynyddu. Ond daeth pethau i'r pen yn y 1990au.

Yn ystod rhan gynnar y 1990au, gwelwyd sgandalau lobïo'n creu helynt yn Llywodraeth John Major. Cafodd Jonathan Aitken, y Gweinidog Caffael Amddiffyn yn 1992, ei garcharu yn 1999 am ei rôl yn y sgandal arfau i Irac. Roedd Aitken wedi bod yn gweithio i gontractwr amddiffyn cyn hynny. Yn 1994, adroddodd The Guardian fod y lobïwr seneddol, Ian Greer—[Torri ar draws.] Na, nid wyf wedi anghofio unrhyw beth. Yn 1994, adroddodd The Guardian fod y lobïwr seneddol, Ian Greer, hefyd wedi llwgrwobrwyo dau Aelod Seneddol Ceidwadol yn gyfnewid am ofyn cwestiynau seneddol a chyflawni tasgau eraill ar ran perchennog Harrods, yn yr hyn y daethpwyd i'w galw'n sgandal yr arian am gwestiynau.

Yn fuan ar ôl etholiad 1997, cyfarfu Bernie Ecclestone â Tony Blair i ofyn a fyddai rasys ceir Fformiwla 1 yn cael eu heithrio o waharddiad ar hysbysebu tybaco. Roedd Mr Ecclestone wedi rhoi mwy nag £1 filiwn i'r Blaid Lafur. Felly, dros y degawd nesaf, roedd sgandalau a oedd yn cynnwys gweithgaredd lobïo yn rhemp yn Llywodraeth Blair. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf? A ydych am gael—

17:35

O'r gorau. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi eisiau ymyrryd, mae'n ddrwg gennyf.

Erbyn 2008, credid bod y diwydiant lobïo proffesiynol yn werth bron i £2 biliwn. Ym mis Ionawr 2009, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Gweinyddiaeth Gyhoeddus Tŷ'r Cyffredin adroddiad o'r enw 'Lobbying: Access and Influence in Whitehall'. Tynnai'r adroddiad sylw at y drws troi sy'n bodoli rhwng Aelodau Seneddol a chwmnïau lobïo, ac argymhellodd y pwyllgor gofrestr statudol o weithgaredd lobïo er mwyn sicrhau mwy o dryloywder yn yr ymwneud rhwng y rhai a oedd yn gwneud penderfyniadau yn Whitehall a buddiannau allanol. Daeth i'r casgliad hefyd fod gwaith hunanreoleiddio'r diwydiant lobïo proffesiynol yn dameidiog ac yn ymddangos fel pe na bai'n cynnwys llawer iawn o reoleiddio o unrhyw sylwedd.

O ystyried y ffaith bod y Cabinet Llafur ar y pryd ar gael i'w llogi gan lobïwyr i bob pwrpas, nid yw'n syndod fod y Llywodraeth ar y pryd wedi gwrthod y cynigion. Byddai'n cymryd pum mlynedd arall a newid Llywodraeth cyn gallu cyflwyno Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014.

Cyflwynodd y Ddeddf ofyniad am gofrestr o lobïwyr ymgynghorol yn Lloegr, a dilynodd yr Alban ei hesiampl yn fuan drwy gyflwyno Deddf Lobïo (yr Alban) 2016, sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n lobïo wyneb yn wyneb ar ran Aelodau o Senedd yr Alban, Gweinidogion Llywodraeth yr Alban, cynghorwyr arbennig neu Ysgrifenyddion Parhaol i lofnodi'r gofrestr lobïo yn yr Alban.

Yng Nghymru, edrychodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo yng Nghymru yn ystod 2017 ac ystyriodd yr angen am gofrestr lobïo ar gyfer Cymru. Cynhyrchodd y pwyllgor ei adroddiad ym mis Ionawr 2018 ac mae'r pwyllgor yn nodi hyn:

'Rydym yn ansicr a fyddai'r wybodaeth a fyddai’n cael ei datgelu trwy Gofrestr wirfoddol yn ateb y cwestiynau sy'n bodoli o ran sut caiff polisïau eu datblygu na sut y dylanwedir arnynt'.

Ychwanegasant 

'Ar hyn o bryd, rydym o’r farn efallai y bydd angen cymryd camau statudol er mwyn cyflwyno’r tryloywder sydd ei angen.'

Yn anffodus, er gwaethaf hyn, dewisodd y pwyllgor roi'r mater i'r naill ochr, gan ddweud y byddent yn aros i weld a oedd y dull gwirfoddol a awgrymwyd gan Materion Cyhoeddus Cymru yn cynyddu tryloywder yn ddigonol i negyddu'r angen am gofrestr statudol.

17:40

Tybed a wnewch chi ildio.

Tybed a hoffech ailadrodd yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach, oherwydd roeddwn i'n credu fy mod wedi eich cam-glywed yn dweud rhywbeth tebyg i, 'Roedd Llywodraeth Lafur ar gael i lobïwyr ei llogi.' Efallai eich bod yn cyfeirio at y Llywodraeth roeddwn yn aelod ohoni ar y pryd. A wnewch chi gofnodi'n union beth rydych yn ei ddweud er mwyn i mi ddeall.

Mae wedi'i gofnodi, oherwydd caiff popeth ei gofnodi. A oeddech chi yn y Cabinet?

Na, mae'n ddrwg gennyf, ni allwn gael dadl, a byddaf—. Parhewch, ac fe wnaf ymdrin â'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud wedyn.

Y byddent yn gweld a oedd y dull gwirfoddol a awgrymwyd gan Materion Cyhoeddus Cymru yn cynyddu tryloywder yn ddigonol i negyddu'r angen am gofrestr statudol. Eto i gyd, dyma ni, bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac nid ydym yn nes at lobïo cwbl agored a thryloyw yng Nghymru.

Yma, mae'r sector yn enghraifft wych o'r drws troi, gyda staff naill ai'n gweithio i gwmnïau lobïo neu'n rhedeg eu cwmnïau lobïo eu hunain. Felly, mae'r berthynas rhwng lobïwyr a gwleidyddion braidd yn afiach. Mae'n bwrw cysgod dros ein democratiaeth agored. Ac er mwyn inni osgoi'r llygredd sydd wedi llethu gwleidyddiaeth San Steffan a diogelu'r rôl hanfodol y mae lobïo yn ei chwarae yn ein democratiaeth, mae fy mhlaid yn credu'n gryf fod yn rhaid i ni reoleiddio gweithgaredd lobïo. Nid oes gennym ddim i'w gelu, felly gadewch inni fod yn agored am y gweithgaredd lobïo sy'n digwydd yn ein sefydliad. Ni fydd yn costio llawer, mae'r cynllun sy'n gweithredu yn Senedd y DU yn costio ychydig dros £120,000 y flwyddyn, ac rydym ar fin gwario mwy na dwbl y swm hwnnw yn newid ein henw. Ac fel y dywedant, ni allwch roi pris ar ddemocratiaeth.

Felly, rwyf am ailadrodd bod lobïo'n dda i ddemocratiaeth iach. Rwy'n cymryd rhan yn y sylfaen wybodaeth am feddyginiaethau lle mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain yn rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad a'u staff am faterion sy'n ymwneud â'r diwydiant fferyllol. Mae hynny'n lobïo, ac mae wedi fy helpu i wybod sut y caiff meddyginiaethau eu datblygu a'u trwyddedu, sydd yn ei dro wedi fy helpu i graffu ar bolisi Llywodraeth Cymru, ac nid oes dim o'i le ar hyn. Pan fydd lobïo'n digwydd yn y dirgel, y tu ôl i ddrysau caeedig, dyna pryd y bydd pethau'n beryglus a heb fod yn dryloyw. Felly, rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig a gwrthod gwelliant y Torïaid. Nid oes gennym ddim i'w guddio, felly gadewch inni fod yn agored ac yn onest gyda'r bobl rydym yn gweithio iddynt, sef ein hetholwyr.

Diolch.

Clywais ddatganiad ysgubol wedi'i anelu at Lywodraeth mewn grym. Ni chlywais unrhyw enwau. Fodd bynnag, os yw'r Aelod—.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf o ddifrif yn gofyn am eich help a'ch cymorth yma, oherwydd dyna a glywais innau hefyd. Roedd yn ddatganiad ysgubol am Gabinet Llywodraeth Lafur a oedd ar gael i'w logi.

Nawr, gallwn ddeall pe bai erlyniadau boddhaol wedi bod, naill ai gan gomisiynydd safonau neu mewn llys barn, yn erbyn unigolion sy'n euog o lygredd neu anonestrwydd mewn swydd gyhoeddus, ond mae'r datganiad yn cyfeirio at nifer o bobl nad ydynt, hyd y gwn, erioed wedi wynebu unrhyw gyhuddiadau neu iot o gyhuddiad o ddim byd fel bod ym mhoced lobïwyr ac yn y blaen. A'r gofid gyda hyn, Ddirprwy Lywydd, yw fod hyn yn pardduo pob unigolyn.

Mae'r ddadl yn iawn, cyn belled ag y mae'n mynd, ond rwyf yn gofyn yn ddiffuant am eich cyngor yma o dan y Rheolau Sefydlog, oherwydd y pryder yma yw bod Aelodau'r Siambr hon, yn y Senedd hon, yn teimlo ei bod yn briodol defnyddio rhyw fath o fraint i wneud datganiadau carte blanche a fyddai, pe baent yn cael eu hailadrodd y tu allan, yn enllibus ac y byddai unigolion mewn llys barn yn mynd ar eu trywydd yn ôl pob tebyg. Ni all hynny fod yn iawn pan nad oes unrhyw dystiolaeth o gamwedd, na hyd yn oed unrhyw honiadau o gamwedd. Felly, gofynnaf am eich cymorth, Ddirprwy Lywydd, i weld a ddylai'r Aelod yn y Siambr hon, sydd â chod ymddygiad i gydymffurfio ag ef, dynnu'r datganiad cyffredinol ysgubol hwnnw yn ôl ac ymddiheuro.

17:45

Na, am eiliad, fe wnaf—. Diolch. Rwy'n derbyn y pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud. Fe gyhoeddaf y ffaith imi glywed datganiad y mae'n amlwg fod rhai Aelodau wedi anghytuno ag ef ac yn anfodlon yn ei gylch. Mae braint yn fater y dylem i gyd fod yn ymwybodol ohono, a dylem ddefnyddio braint fel enghraifft eithriadol, ond nid fel datganiad cyffredinol. Felly, rwy'n credu fy mod yn deall eich safbwynt. Fodd bynnag, er mwyn symud ymlaen—fe edrychaf ar y cofnod, ac os credaf fod unrhyw beth yn y cofnod sy'n golygu nad ydym wedi ymateb i urddas a pharch, yna byddaf yn dychwelyd i'r Siambr. Ar hyn o bryd, rwy'n ddigon hapus i'r ddadl barhau, ac mae'r pwyntiau rydych wedi'u gwneud wedi'u cofnodi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Diolch.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Andrew R.T. Davies.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae wedi'u cymryd ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018.

Yn croesawu bwriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i roi ystyriaeth bellach i lobïo cyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw ein rheolwr busnes, a fu mor hael â chyflwyno'r gwelliant hwn i'r cynnig yn enw grŵp y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, ac felly mae'n bleser gennyf siarad amdano.

Fel aelod o'r pwyllgor safonau, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn—ar bwyntiau'n ymwneud â safonau, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad hwn ac Aelodau'r Cynulliad wrth gwrs—fod gan y cyhoedd ffydd a hyder fod pob gweithred wedi'i chyflawni gan ystyried lles pennaf pobl Cymru a democratiaeth. Prin fod angen dweud hynny. Ond fe wnaeth y pwyllgor safonau blaenorol, cyn i mi ymuno ag ef, edrych ar y mater penodol hwn a gwneud cyfres o argymhellion yn ôl ym mis Ionawr 2018 rwy'n credu. Mae'r Llywydd wedi ymateb i rai o'r argymhellion hynny. Ond fel y mae ein gwelliant yn ei nodi, rwy'n credu y byddai'n bwysig cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn awr ynglŷn â sut y mae'r Comisiwn yn bwrw ymlaen â'r camau gweithredu hyn. Oherwydd, yn y pen draw, fel Ceidwadwr, mwy na thebyg fy mod yn rhywun sydd bob amser yn orofalus wrth drafod deddfwriaeth ac mae'n well o lawer gennyf ymagwedd wirfoddol tuag at lawer o'r materion hyn. Ond os ydym yn gweld bod angen deddfwriaeth, ac rwy'n deall y bydd y pwyllgor safonau yn edrych ar hyn yn ei waith etifeddol, yna, yn amlwg, bydd y Cynulliad mewn sefyllfa i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno.

Yn y 12 mlynedd y bûm yn Aelod o'r Cynulliad, gallaf ddweud yn ddiffuant nad wyf wedi dod ar draws unrhyw gamymddwyn yn ymwneud â lobïo. Rwy'n derbyn y bydd Aelodau eraill yn dod ar ei draws mewn gwahanol ffyrdd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yn gyffredinol, mewn 12 mlynedd o waith yn y Cynulliad hwn, mewn gwaith pwyllgor ac wrth sefyll fel AC, ac fel cyn arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, gallaf gredu a sefyll yma'n ddidwyll a dweud bod yr holl ryngweithio a gefais gyda lobïwyr, gydag etholwyr, bob amser wedi bod er lles pennaf yr hyn y mae'r unigolion a'r sefydliadau hynny'n ceisio'i hyrwyddo.

Yn wir, fel ACau, rydym yn hyrwyddo'r bobl y byddwn yn cyfarfod â hwy drwy ein cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein gweithgareddau, oherwydd mae o fudd inni hyrwyddo'r hyn a wnawn. Ac fel y nododd y sawl a agorodd y ddadl heddiw, yn y gyfres o ddigwyddiadau y cyfeiriodd atynt a oedd yn dangos bod angen cofrestr, mae'r holl wybodaeth honno ar gael beth bynnag. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn meddwl fy mod wedi cael unrhyw e-bost yn galw am gofrestr ar gyfer lobïwyr. Ni chefais unrhyw e-bost ar y mater yn y 12 mis diwethaf. Rwy'n sylweddoli bod yna ymgyrch beth amser yn ôl a oedd yn cyfeirio at gamau eraill mewn deddfwrfeydd eraill i greu'r gofrestr statudol hon, ac efallai fod y dystiolaeth y mae'r pwyllgor safonau yn ei chasglu yn ein pwyntio i'r cyfeiriad hwnnw. Ond rwy'n credu, ar hyn o bryd, gyda'r gwaith y mae'r pwyllgor safonau wedi'i wneud hyd yma—ac mae hwnnw'n bwyllgor trawsbleidiol a oedd yn argymell, yn amlwg, ein bod yn gadael i'r Comisiwn edrych ar hyn ac adrodd yn ôl a darparu'r dystiolaeth—mae'r gwaith a wnaed hyd yma yn gadarn, mae'n ennyn hyder y cyhoedd, ac mae honno'n ffordd synhwyrol o fynd i'r afael â'r agwedd arbennig hon, wrth feddwl am y gwaith sy'n rhaid inni ei wneud rhwng nawr a diddymu'r Cynulliad.

Ond mae'n hanfodol ein bod yn cynnal yr egwyddorion gorau posibl, ac mewn gwirionedd, nid oes gennyf broblem o gwbl gyda chyhoeddi'r holl gyfarfodydd rwy'n cymryd rhan ynddynt. Yn wir, rwy'n meddwl ei fod yn arwydd cadarnhaol i'r Aelodau wneud hynny, ac mae'n hyrwyddo'r gwaith rydym yn ei wneud fel y cyfryw. Rwy'n teimlo y byddai'n rhyfedd pe bai Aelodau am gadw rhai cyfarfodydd yn gyfrinachol neu beidio â datgelu'r cysylltiadau hynny.

Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i bleidleisio dros y gwelliant i'r cynnig heddiw, sy'n ceisio gweithio gyda'r Comisiwn wrth gwrs, adeiladu ar waith y pwyllgor safonau yn ôl ym mis Ionawr 2018, a symud yr eitem bwysig hon ar yr agenda yn ei blaen, yn y dystiolaeth a gyflwynir inni, yn hytrach na dim ond rhoi rhywbeth ar waith, er bod cynigydd y ddadl heddiw wedi dweud y gallai ddigwydd am gost isel iawn, a sylweddolaf y byddai model San Steffan yn fodel mwy o faint, ond rydych yn dal i ystyried rhoi £120,000 ar y bwrdd i ariannu'r math hwn o waith, ac fel y dywedais, ar hyn o bryd ni welaf alw mawr gan y cyhoedd am y fenter arbennig hon. Felly, buaswn yn gobeithio y bydd y Senedd y prynhawn yma yn hyrwyddo—ac edrychwch, Rhun, fe ddefnyddiais y gair 'Senedd' yn hytrach na 'Parliament' y tro hwnnw, felly gobeithio y byddaf yn ennill ychydig gydnabyddiaeth gan Blaid Cymru. Nid yn aml iawn y byddaf yn ei chael. Mae'n edrych arnaf mewn diflastod. [Torri ar draws.] Dyna beth rwy'n hoffi ei weld. [Chwerthin.] Ond rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad y prynhawn yma yn cael hyder yn ein gwelliant ac yn cefnogi'r gwelliant mewn gwirionedd, fel y gallwn symud ymlaen, drwy'r pwyllgor safonau, i hyrwyddo uniondeb y sefydliad hwn a gweithredoedd ein Haelodau Cynulliad.

17:50

Byddaf yn cadw fy nghyfraniad yn fyr gan fy mod yn credu bod fy nghyd-Aelod, Caroline Jones, wedi ymdrin â llawer iawn wrth agor y ddadl hon. Rwy'n codi heddiw i ddangos fy nghefnogaeth i gyflwyno cofrestr yng Nghymru. Gyda'r pwerau ychwanegol, mae'r lle hwn ar fin eu cael ar ôl Brexit, does bosibl nad yw'n bryd cyflwyno diwygiadau lobïo i sicrhau bod ein democratiaeth mor agored a thryloyw â phosibl.

Rwyf ychydig yn siomedig gyda gwelliant y Ceidwadwyr. Mae'n creu ychydig o anwadalu ac oedi ac mae'n teimlo fel ymgais i'w wthio i'r naill ochr, ond nid yw'r ddadl heddiw yn ymgais i gyhuddo, i feio na haeru bod unrhyw beth anghywir wedi'i wneud. Mae lobïo yn weithgaredd cyfreithlon a gwerthfawr. Mae'n rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach a byddai cofrestr yn rhoi mesurau rheoli ar waith er mwyn sicrhau nad yw ein democratiaeth ni yng Nghymru ar werth i unrhyw fuddiant breintiedig. Credaf fod ymddiriedaeth mewn democratiaeth ar hyn o bryd yn is nag erioed, ac rwy'n gobeithio'n fawr y caiff y cynnig hwn ei gefnogi heddiw, heb ei ddiwygio, fel y gall y Cynulliad hwn ddechrau gwneud gwaith i amddiffyn a diogelu democratiaeth dryloyw ac iach, a dechrau mewn ffordd fach ar y gwaith o adfer yr ymddiriedaeth honno.

Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw. Ymchwiliad i lobïo oedd y darn cyntaf o waith sylweddol i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y pumed Cynulliad. Fel pwyllgor, credwn fod angen i drafodaethau ar lobïo fod yn rhan o ddeialog barhaus mewn unrhyw ddemocratiaeth agored a chydgysylltiedig. At hynny, roedd y pwyllgor blaenorol wedi cytuno mewn adroddiad cynharach ei fod yn bwnc y dylid ei adolygu'n rheolaidd.

Fel pwyllgor, daethom i'r casgliad o'r dystiolaeth a gasglwyd nad oes ateb hawdd i'r cwestiynau ynglŷn â sut i ddiffinio neu rannu gwybodaeth am lobïo. Nid oedd unrhyw ddiffiniad clir na chyson o bwy oedd yn lobïwr na pha wybodaeth sydd angen ei chasglu. Clywsom lawer o bryderon am y drefn lobïo yn San Steffan, sydd ond yn canolbwyntio ar Weinidogion ac uwch weision sifil, a chlywsom bryderon hefyd ynglŷn â'r gofrestr a oedd yn cael ei chyflwyno yn yr Alban, a'r angen i ystyried gwerth y wybodaeth y byddai'n ei chasglu. Felly, fel pwyllgor, daethom i'r casgliad fod angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn.

Mae canfyddiadau ein hadroddiad yn safbwynt dros dro. Teimlai'r pwyllgor ei bod yn hollbwysig inni ddysgu o brofiad a chasglu tystiolaeth bellach o arferion gorau. Ar adeg ein hadroddiad, roedd hi'n ddyddiau cynnar iawn ar ddeddfwriaeth yr Alban a bydd gennym ddiddordeb yn yr adolygiad o'i deddfwriaeth yn 2020.

Yn ystod ein hymchwiliad, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai dyddiaduron Gweinidogion yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, o fis Mawrth 2017. Croesawyd hyn yn eang gan y rhai y siaradasom â hwy fel rhan o'n hymchwiliad, ac fel pwyllgor cytunasom i ddychwelyd at hyn fel rhan o'n gwaith dilynol i ganiatáu amser ar gyfer cyhoeddi dyddiaduron gweinidogol i asesu pa mor ystyrlon a gwerthfawr ydynt o ran gwella tryloywder.

Roedd y pwyllgor yn awyddus i gymryd camau yn ystod y cyfnod interim hwn i gynyddu tryloywder ac mae'r datganiad ysgrifenedig gan y Llywydd heddiw yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar ein hargymhellion. Yn benodol, argymhellwyd gennym y dylid cynnal treial dethol i gyhoeddi dyddiaduron Aelodau'r Cynulliad, a derbyniwyd hynny gan y Comisiwn, ac mae swyddogion wedi gwneud gwaith paratoadol ar ffurf arfaethedig cynllun peilot.

Mae effaith yr argymhellion hyn yn faterion y byddwn yn sicr o'u hystyried fel pwyllgor pan ddychwelwn at y pwnc hwn. Ar ben hynny, rydym yn ystyried comisiynu ymchwil i'r modd y ceisir dylanwadu, a sut y dylanwadir ar wleidyddion. Yn ein hymchwiliad, roedd yn amlwg o'n gwaith nad oedd fawr iawn o waith ar y maes hwn. Bydd hyn yn helpu i lywio ein gwaith pellach, a chredwn y bydd yn gwella ein dealltwriaeth o sut y mae lobïwyr yn gweithredu yng Nghymru.

Ochr yn ochr â'r camau interim hyn, anogodd y pwyllgor y diwydiant lobïo i arwain yn ystod y cyfnod interim hwn a dangos sut y gallai cofrestr wirfoddol weithredu a sut y gallai ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol am ddylanwad ar Aelodau. Mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at ddychwelyd at y pwnc tuag at ddiwedd y Cynulliad a chynnal y drafodaeth a'r ddeialog hon.

17:55

Dwi'n falch iawn i ddilyn Jayne Bryant, a dweud y gwir, ac a gaf i ei llongyfarch hi ar ei chyfraniad ac am ei harweiniad yn hyn o beth? Felly, diolch am y geiriau doeth yna, Jayne.

Nawr, mae'r cynnig gerbron yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru—wel, hynny yw y Senedd, ers tua awr yn ôl—yw'r unig ddeddfwrfa genedlaethol yn y Deyrnas Unedig sydd heb gofrestr lobïwyr. Nawr, ym Mhlaid Cymru, dŷn ni'n cytuno efo'r angen am gofrestr lobïwyr. Dwi'n cymryd y pwynt ynglŷn â sut mae diffinio hynny a beth sydd angen i fod ynddo fe, ac mae angen rhedeg pethau ymlaen llaw i weld sut mae'n gweithio ac ati, ond, yn sylfaenol, bu inni gadarnhau fel grŵp Plaid Cymru, rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl, fod angen cael cofrestr lobïwyr. Felly, byddwn yn pleidleisio heddiw o blaid cael cofrestr lobïwyr. Diolch yn fawr.

Rwy'n falch fy mod wedi ymwneud â mater lobïo, oherwydd pe na bawn wedi gwneud hynny, mwy na thebyg y buaswn yn dal i fod yn AC Plaid Cymru.

Rwy'n edmygu Alexandria Ocasio-Cortez yn yr Unol Daleithiau yn fawr, oherwydd ei bod yn cael ei hariannu gan y bobl ac nid gan lobïwyr. Rwy'n cofio Carwyn Jones yn dweud nad oedd gan lobïwyr fynediad at Weinidogion. Nawr, mae gan Carwyn berthynas ryfedd gyda'r gwirionedd, ond yn yr achos hwn, nid oedd unrhyw berthynas o gwbl—[Torri ar draws.]—dim perthynas o gwbl, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod fod gan lobïwyr fynediad at—

Na. Rwyf wedi diffodd eich meic. A gaf fi ddweud wrthych, ni chewch wneud cyhuddiadau fel hynny am Aelod o'r Cynulliad hwn? Felly, os gwnewch chi gadw at fater cofrestr lobïwyr, ni chawn unrhyw broblemau. Gallwch barhau.

[Anghlywadwy.]—trin mewn modd gwahaniaethol iawn yn y Siambr hon. Rhaid imi ddatgan hynny ar gyfer y cofnod.

Mae arnom angen rheoleiddio cryf ac mae arnom angen cofrestr. Nawr, roedd y cwmni lobïo Deryn mor bryderus ynglŷn â'r cwestiynau roeddwn yn eu gofyn amdanynt fel eu bod wedi cysylltu â Phlaid Cymru hyd yn oed, a dweud wrth yr arweinwyr am gadw trefn arnaf. A chadarnhawyd hynny'n ysgrifenedig gyda'r cwynion a welais wedi'u cyflwyno i'r blaid. Cofiaf gael fy ngalw gan Leanne Wood i'w swyddfa un tro a gofynnodd i mi pam fy mod yn gofyn cwestiynau am Deryn. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio i Leanne. Os gwelwch yn dda.

Ddirprwy Lywydd, rwyf newydd gael fy nghyhuddo o ddweud celwydd. Beth y bwriadwch ei wneud am hynny?

A gaf fi ddweud—[Torri ar draws.] A gaf fi ddweud, mater i mi—[Torri ar draws.] Nawr, rhywun arall. A gaf fi ddweud, fi sydd i benderfynu pwy sy'n derbyn ymyriad ai peidio, felly nid wyf wedi dweud eich bod chi'n mynd i gymryd ymyriad, ac awgrymaf eich bod yn parhau? Ond rhaid i chi fod yn ofalus ynglŷn â chynnwys eich araith.

Fe ailadroddaf, fe'm gwysiwyd i swyddfa'r arweinydd, yn y dyddiau hynny, a dywedwyd wrthyf yn blwmp ac yn blaen nad oedd croeso i'r ffaith fy mod yn dilyn yr agenda roeddwn yn ei dilyn. Mae'r prif chwip newydd fy ngalw'n gelwyddgi, a dweud y gwir, ac ni ddywedwyd dim am hynny, Ddirprwy Lywydd, a dyna'r prif chwip a'm ffoniodd pan oeddwn ar fy ngwyliau. Fe ffoniodd fi i ofyn beth oeddwn yn ei wneud yn gofyn cwestiynau am Deryn a'u perthynas gydag Associated Community Training ar y pryd. Fe ddilynoch chi hynny eto gyda galwad i mi pan oeddwn yn Belfast, yn ymgyrchu dros yr etholiad gyda Sinn Féin allan yno, a dweud wrthyf am roi'r gorau iddi. A ydych chi'n cofio hynny? Rwy'n dweud celwydd; rwy'n dweud celwydd, ydw i? A yw'r iaith honno'n dderbyniol, Ddirprwy Lywydd? Fe'm galwodd yn gelwyddgi.

Rwy'n gwrando ar eich araith. Rwy'n caniatáu i chi siarad yn y ddadl hon. Awgrymaf eich bod yn siarad, ac rwyf wedi eich rhybuddio unwaith am gynnwys eich araith. Nid wyf eisiau gorfod dweud wrthych o hyd, felly parhewch â'ch araith a byddaf yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag a yw'n gywir neu'n anghywir.

Ar achlysur arall, dywedodd fy uwch gynghorydd wrthyf fod Adam Price wedi dweud y byddai canlyniadau pe baem yn parhau i fynd ar ôl Deryn. Nawr, codais hyn gydag Adam a gwadodd iddo ddweud hynny. Yr hyn sy'n ddiddorol, serch hynny, yw—[Torri ar draws.] Gwn pwy rwy'n ei gredu a bod yn onest, ond yr hyn sy'n ddiddorol yw, 11 diwrnod ar ôl i mi wneud sgandal Ofcom gyda'r cwmni lobïo hwnnw'n gyhoeddus—dim ond 11 diwrnod yn ddiweddarach—cefais fy atal o grŵp Plaid Cymru am y tro cyntaf.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb o £17 biliwn, ac rwy'n barod iawn i ildio os oes unrhyw Aelod yn dymuno ymyrryd yma, oherwydd rwy'n mynd i ofyn cwestiwn gan fod bargen wedi'i tharo rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yn 2012 a 2013, sef £20 miliwn ar gyfer prentisiaethau. Nawr, roedd dirprwy gadeirydd Plaid Cymru ar y pryd yn gyfarwyddwr cwmni lobïo. Mae gennyf gwestiwn, mewn gwirionedd: a wnaeth eu cleientiaid elwa o gwbl o'r fargen a wnaethoch, Leanne Wood? [Torri ar draws.] Mae'r diwydiant hwn—. Cwestiwn ydyw; atebwch ef os mynnwch. [Torri ar draws.] Rwy'n fwli, rwy'n gelwyddgi, rwy'n dweud celwydd.

18:00

Edrychwch, rwy'n disgwyl i chi orffen eich araith o fewn yr amser, ac rwy'n disgwyl ichi gael rhywfaint o urddas a pharch, fel y dylai pawb yn y Siambr hon ei gael. Ac os gwelwch yn dda peidiwch â dal ati i enwi pobl, ond cadwch at ffeithiau go iawn am gofrestr lobïo.

Rwy'n esbonio pŵer lobïwyr, sut y maent yn dylanwadu ar y broses wleidyddol, sut y pwyswyd ar Aelodau Cynulliad fel fi—sut y pwyswyd arnom—mewn ymgais i gael eu bwlio buaswn yn dweud gan fwlis o'r math salaf. [Torri ar draws.] Alun Davies, fe wyddoch yn iawn ble mae'r gwter, gan eich bod newydd sôn am y gwter.

Fe wnaf ailadrodd—ie, bwlis o'r math salaf. Rydych chi'n ceisio bod yn fawr ac yn galed, ond nid ydych, mewn gwirionedd.

Beth bynnag, Ddirprwy Lywydd, credaf fy mod wedi gwneud fy mhwynt. Torrwyd ar fy nhraws. Gall pobl Cymru weld fy mod wedi cael fy ngalw'n gelwyddgi, dywedwyd wrthyf fy mod wedi dweud celwydd, cefais fy ngalw'n fwli, a dim o hyn—. Nid ydych wedi ymyrryd mewn unrhyw fodd i wneud unrhyw beth am yr iaith warthus honno. Buaswn yn dweud 'diolch', ond nid wyf yn meddwl bod y Siambr hon yn haeddu diolch yr eiliad hon.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. A gaf fi ddweud ar y dechrau fod y gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn un a gefnogwn, o ystyried ei fod yn cyd-fynd â'n barn mai mater i Gomisiwn y Cynulliad a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad fwrw ymlaen ag ef yw hwn yn bennaf ar hyn o bryd, a diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfraniad adeiladol yn y ddadl bwysig hon.

Os edrychwn ar ran 1 y cynnig, mae'n bwysig ein bod yn ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad trawsbleidiol ar lobïo, a ddaeth i'r casgliad, fel y dywedodd Jayne Bryant, fod yna ddiffyg eglurder ar draws y systemau a sefydlwyd yn Lloegr a'r Alban. Fel y dywedodd Jayne, mae'r ffaith fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi ymrwymo i adolygu ei argymhellion y flwyddyn nesaf, ac mae hwn, fel y dywedais—ac yn wir, fel a welir yng ngwelliant y Ceidwadwyr—yn fater i Gomisiwn y Cynulliad ei ystyried yn y lle cyntaf—. Ond a gaf fi ddweud i ateb yr hyn a ddywedodd Dai Lloyd, fod yn rhaid inni ddiolch i Jayne Bryant, a etholwyd gennych ar draws y Siambr fel Cadeirydd y pwyllgor safonau, am y ffordd ragorol y mae'n cadeirio'r pwyllgor hwnnw, a chydnabod ei bod o ddifrif ynglŷn â hyn ac yn bwrw ymlaen ag ef, gan ystyried y pwyntiau a godwyd?

Os edrychwn ar bwynt 2, mae Gweinidogion eisoes wedi ymrwymo i ddarparu tryloywder ynglŷn â'u hymrwymiadau a'u digwyddiadau. Fe'u cyhoeddir bob chwarter ar llyw.cymru. Unwaith eto, nodaf adroddiad y pwyllgor safonau sy'n awgrymu, fel y clywsom, y dylai Aelodau Cynulliad hefyd ystyried cyhoeddi eu cyfarfodydd. Mae cynllun peilot yn cael ei gynnal gan y pwyllgor ar hyn o bryd, ac mae'n galw ar bob un ohonom i ystyried goblygiadau hynny. Felly, rwy'n credu y bydd canlyniadau'r cynllun peilot yn llywio'r camau nesaf ar gyfer Aelodau'r Siambr hon, ac rydym yn croesawu'r gwaith ac yn edrych ymlaen at y canlyniad.

O ran pwynt 3 y cynnig a'r cynnig i ymgynghori, wrth gwrs, fel mater o egwyddor, ni chredwn y dylai'r Llywodraeth gychwyn deddfwriaeth yn y maes hwn, ond nid yw'n ein hatal rhag deddfu ar gais y ddeddfwrfa, yn dilyn cyfnod o ystyriaeth drawsbleidiol, a byddai'r Llywodraeth yn croesawu cydweithio o'r fath. Felly, mae'n amlwg nad yw'n ei ddiystyru'n llwyr o ran ein rôl ni i fwrw ymlaen â hyn. Mae'n bwysig ac yn glir y dylai Comisiwn y Cynulliad chwarae'r rhan bwysig honno yng ngweithrediad unrhyw system gofrestru, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Mae'n hanfodol fod rôl y ddeddfwrfa yn cael ei defnyddio'n llawn mewn trafodaeth o'r fath.

Felly, rwy'n falch o nodi mai argymhelliad olaf y pwyllgor safonau oedd y dylai un o bwyllgorau'r Cynulliad ystyried yr adrannau sy'n berthnasol i Gymru yn Neddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014. A chan fod Deddf Cymru 2017 wedi'i rhoi mewn grym bellach, byddai'n ymddangos yn amserol i un o bwyllgorau'r Cynulliad ystyried bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, gan ymgynghori â'r cyhoedd yn ôl yr angen wrth gwrs.

Nawr, rydym yn cydnabod y gall y sector materion cyhoeddus yng Nghymru chwarae rôl ddilys yn cynyddu dealltwriaeth o wleidyddiaeth a llywodraeth ddatganoledig, a'i fod eisoes yn gwneud hynny, ac mae llawer o gwmnïau materion cyhoeddus yn cynrychioli elusennau, sefydliadau trydydd sector, ac yn trefnu digwyddiadau ar eu rhan—digwyddiadau rydym i gyd yn hapus i'w mynychu, rwy'n gwybod, ynghyd ag Aelodau ar draws y Siambr hon, er mwyn dysgu mwy am y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ledled Cymru ac i dynnu sylw ato.

Rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, eich bod wedi clywed y pwynt o drefn yn gynharach gan Huw Irranca-Davies, a hoffwn atgoffa plaid Brexit fod David Rowlands, cyn aelod o UKIP, fel llawer ohonoch, yn aelod o'r pwyllgor safonau yn ystod ei drafodaethau ynglŷn â lobïo a chytunodd ar ei adroddiad ar y pryd. Felly, mae'n bwysig. Gwn eich bod yn gweld eich rôl yn y gwaith o fwrw ymlaen â hyn. Ond yn anffodus, rwy'n gorffen ar y pwynt a godwyd gan Huw Irranca-Davies—fel Aelod o Lafur Cymru ac o'r Llywodraeth hon dan arweiniad Llafur Cymru dros 19 mlynedd ddiwethaf ein 20 mlynedd o ddatganoli—a'n bod wedi cael y sylw hwnnw a wnaed gan yr Aelod yn ei sylwadau agoriadol. Rwy'n falch fy mod wedi bod yn rhan o'r Llywodraeth honno ac yn falch o fod yn rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac edrychaf ymlaen at eich ystyriaeth o'r pwynt hwn. Diolch yn fawr.

18:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl? A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am eu cefnogaeth i'n cynnig heddiw, a rhannu fy siom fod y Ceidwadwyr a Llafur yn dod at ei gilydd heno i ymwrthod â thryloywder cofrestr lobïo?

Cyflwynodd Caroline—

Nid ydym yn dod at ein gilydd i ymwrthod â'r gofrestr. Yr hyn a ddywedwn yw y dylid caniatáu y gwaith roedd eich Aelod—a gafodd ei ddyfynnu wrth i'r Gweinidog grynhoi—David Rowlands, yn rhan ohono yn y pwyllgor hwnnw, fel ein bod yn cael y canlyniad gorau posibl ac nad ydym yn rhoi rhywbeth ar waith nad yw'n addas i'r diben. Does bosibl na allwch gefnogi hynny, a dyna'r ffordd y dylem symud y pwynt hwn yn ei flaen.

Mewn egwyddor, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt teg, Andrew. Fodd bynnag, roedd cyfeiriad, fe gredaf, yng nghyfraniad Dai, at y ffaith bod hyn wedi cael ei ystyried am y tro cyntaf ddwy flynedd a hanner yn ôl, a chroesawaf yr hyn a ddywedoch chi yn eich araith, ond fe'i cefais yn anghyson mewn un rhan pan ddywedoch eich bod am adael hyn yn nwylo'r Comisiwn ac yna, ar ddiwedd eich araith, fe ddywedoch chi mai'r pwyllgor safonau a ddylai symud pethau yn eu blaenau. Ac mae'n rhoi rhywfaint o hyder i mi eich bod yn aelod o'r pwyllgor safonau, ac mae gennyf ffydd yng ngwaith David ar hynny, ac ategaf yr hyn a ddywedodd Jane Hutt am Jayne Bryant a pha mor dda y mae'n cadeirio'r pwyllgor hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen â hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn bwrw ymlaen ag ef yn gyflym ac yn sicrhau canlyniad ac nad ydym yn mynd i eistedd, gan ddisgyn rhwng dwy stôl o ran p'un ai'r pwyllgor safonau neu'r Comisiwn sy'n ei wneud.

O ran hanes Caroline o rywfaint o'r lobïo a'r sgandalau a welsom, o leiaf ar lefel y DU, a rhai o'r newidiadau a ddeilliodd o hynny, cefais fy synnu braidd gan y pwynt o drefn oherwydd clywais gyfeiriad clir iawn at enghraifft benodol gan Caroline, sef enghraifft Bernie Ecclestone. A chredaf fod hanes hyn yn cael ei dderbyn—fod y Cabinet, yn fuan ar ôl ethol y Llywodraeth Lafur yn 1997, wedi penderfynu eithrio Fformiwla 1 o waharddiad ar hysbysebu tybaco ac yn fuan ar ôl hynny, daeth allan fod y Blaid Lafur wedi derbyn £1 filiwn ychydig cyn hynny gan Bernie Ecclestone. Felly, nid wyf yn credu ei bod hi'n gywir dweud nad oes unrhyw honiad o gamwedd nac unrhyw dystiolaeth o unrhyw beth. Rwy'n credu bod y Blaid Lafur yn iawn i roi'r £1 filiwn yn ôl, ac i fod yn garedig, efallai mai rhywfaint o naïfrwydd ydoedd ar ran Prif Weinidog newydd plaid a oedd wedi bod allan o bŵer ers cyhyd. Ac rwy'n falch ein bod wedi gweld rhai o'r newidiadau ar lefel y DU a welsom ers y pwynt hwnnw.

A gaf fi ddiolch i Mandy am ei haraith gryno pan ddywedodd na ddylai democratiaeth fod ar werth? Credaf fod Jayne wedi rhyw lun o groesawu'r ddadl hon, a diolch ichi am hynny, ac rwy'n cydnabod eich bod chi a'ch pwyllgor wedi bod yn gweithio ar hyn. Gobeithio y byddwch yn parhau i weithio arno ac yn ei yrru ymlaen i sicrhau canlyniad. Soniais am Dai eisoes, a diolch i Blaid Cymru am eu cefnogaeth.

Yna, cawsom ein goleuo gan Neil McEvoy a rhywfaint o'i hanes penodol ynglŷn â'r materion lobïo a'i ymwneud â Phlaid Cymru, er bod anghytundeb yn eu cylch. Efallai y dylent fabwysiadu dull Andrew o nodi pob cyfarfod a allai fod yn lobïo perthnasol a chyhoeddi'r canlyniadau. Ac nid yn unig ei fod yn dangos bod Andrew R.T. yn gwneud ei waith, ond mae'n dangos pa sefydliadau sy'n dod i mewn i lobïo gwleidyddion, sef eu gwaith. Felly, rwy'n credu bod sicrhau tryloywder yn y trafodion hynny yn beth da iawn. Diolch i Jane Hutt am ei hymateb i'r ddadl ac rwy'n ategu'r sylwadau a wnaeth am Jayne Bryant a'i phwyllgor.

Mae ambell bwynt o sylwedd yr hoffwn eu gwneud cyn gorffen. Mynegwyd rhywfaint o bryder ynglŷn â chost cofrestr lobïwyr, nid heno, ond cofiaf yn gynharach fod Mike Hedges wedi sôn am y gost, ac yn dweud, rwy'n credu, y gallai'r lobïwyr a fyddai'n llofnodi'r gofrestr ei thalu. Ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Caroline Jones, ni ddylem roi pris ar ddemocratiaeth. Mae rhai wedi dadlau mai nifer cymharol fach o achosion o dorri rheolau lobïo a fu yng Nghymru yn y gorffennol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt, heb gofrestr lobïwyr, sut y gallwn fesur graddau a natur lobïo yng Nghymru?

Yn fy marn i, mae'n gyfeiliornus i ddweud os nad ydym wedi cael llawer o sgandalau lobïo cyhoeddus yng Nghymru, fod hynny'n golygu na ddylem gael cofrestr. Ni ymosodwyd ar yr adeilad hwn hyd y gwn, ond a ddylem gael gwared ar fesurau ddiogelwch? Wrth gwrs na ddylem. Pe na bai gennym swyddogion diogelwch yn archwilio bagiau, sut fyddai maes awyr yn darganfod eitemau gwaharddedig? Er mwyn dod o hyd i achosion o dorri rheolau, mae angen i chi chwilio amdanynt. Yn sicr, mae angen ichi fod yn ymwybodol o ble y gallent ddod, pwy a reoleiddir, ac ar gyfer beth.

Nododd Jayne bwyntiau diffiniol priodol, ond buaswn yn dweud bod pobl yn y Siambr hon yn dadlau dros fwy o bwerau i'r Cynulliad ac wrth inni gael y pwerau hynny, gallwn ddisgwyl gweld mwy o lobïo. Mae angen inni fod ar y blaen ac nid ar ei hôl hi, a gwneud yn siŵr bod rheolau'n glir i gyrff sy'n chwilio am ddeialog gyda Gweinidogion ac uwch swyddogion. Y Gweinidogion hynny ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru y cred fy mhlaid ei bod yn allweddol eu hystyried a chofrestru'r gweithgareddau hynny.

Nid pardduo lobïwyr neu ragdybio euogrwydd yw hyn. Rydym yn derbyn bod lobïo yn rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach, ond mae'n rhaid ei reoleiddio. Nid ydym am fyw dan gysgod lle rhagdybir dylanwad gormodol. Rhaid inni wneud yn siŵr y cyfyngir ar ddylanwad gormodol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod gan Materion Cyhoeddus Cymru eu cod ymddygiad a bod cyrff lobïo am sefydlu arferion da. Byddai cofrestr statudol yn atgyfnerthu hynny, ac o'r herwydd, rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi ein cynnig heno.

18:10

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y bleidlais gyntaf. Na, iawn. Diolch.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, y bleidlais gyntaf heno felly yw pleidlais ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ganser y pancreas. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 33, 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7191 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Canser y Pancreas : O blaid: 33, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid Llywodraeth Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 14, un yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7206 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 31, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn yn awr at bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant wyth, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

18:15

NDM7206 - Gwelliant 1: O blaid: 8, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Symudwn yn awr at bleidlais ar welliant 2 a galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 2.

NDM7206 - Gwelliant 2: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7206 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod Cymru'n elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi negodi ffactor newydd sy’n seiliedig ar anghenion o fewn fformiwla Barnett fel rhan o gytundeb y Fframwaith Cyllidol gyda Llywodraeth y DU.

3. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn aml yn buddsoddi llai na Llywodraeth Cymru mewn meysydd cyfrifoldeb pwysig ledled Cymru sydd heb eu datganoli, gan gynnwys y seilwaith rheilffyrdd a chysylltedd digidol.

4. Yn nodi bod cylch gwario blwyddyn Llywodraeth y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru ar ei cholled o £300 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11 ac yn condemnio degawd o gyni anghyfiawn a osodwyd gan y DU

5. Yn nodi, er gwaethaf y pwysau a achoswyd gan gyni, bod ystadegau’r Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth ym mis Tachwedd 2019 yn dangos:

a) bod gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o bedair gwlad y DU ac 11 y cant yn uwch nag yn Lloegr;

b) bod gwariant y pen ar addysg 6 y cant yn uwch yng Nghymru na’r gwariant y pen yn Lloegr.

6. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu cyfraddau Cymreig y Dreth Incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7206 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl Plaid Brexit ar y gofrestr lobïwyr, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig chwech, un yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7205 - Dadl Plaid Brexit - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 6, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliant. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 1, 40, un yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.

NDM7205 - Gwelliant 1: O blaid: 40, Yn erbyn: 5, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7205 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r unig ddeddfwrfa genedlaethol yn y DU sydd heb gofrestr lobïwyr.

2. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae wedi'u cymryd ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018.

3. Yn croesawu bwriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i roi ystyriaeth bellach i lobïo cyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 41, pedwar yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

NDM7205 - Cynnig ar gyfer dadl gan Blaid Brexit fel y'i diwygiwyd: O blaid: 41, Yn erbyn: 1, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Gwasanaethau bysiau yng Nghymru

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allant fynd yn gyflym, yn dawel, os gwelwch yn dda? Un funud, Mark. Iawn, os oes Aelodau'n gadael, ewch yn awr. Rwyf ar fin galw'r ddadl fer a galwaf ar Mark Reckless i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—Mark.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu mai dyma fy ail araith yn ddilynol. Rwy'n siarad am wasanaethau bysiau yng Nghymru, a chyn inni ddatgan argyfwng newid hinsawdd, un rheswm polisi cyhoeddus allweddol dros gefnogi bysiau oedd lleihau tagfeydd. A deallais un agwedd allweddol ar hyn yn iawn am y tro cyntaf pan glywais gan Nigel Winters, a oedd, ar y pryd o leiaf—mae'n bosibl ei fod yn dal i fod—yn rheolwr gyfarwyddwr Stagecoach yng Nghymru.

Efallai mai e-bost lobïo a dderbyniais, nid wyf yn gwybod, ond roedd yn sicr yn ddefnyddiol iawn gan ei fod yn dweud bod cyflymder cyfartalog bysiau yng Nghymru wedi gostwng 7 y cant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf—ac roedd hyn yn gynnar y llynedd pan ysgrifennodd ataf. A nododd, am bob gostyngiad o 10 y cant yn y cyflymder gweithredu, fod hynny wedi arwain at gynnydd o 8 y cant mewn costau gweithredu ar gyfer bysiau, a bod cynnydd o 8 y cant yn y costau, yn ei dro, wedi arwain at ostyngiad o 5.6 y cant amcangyfrifedig yn nifer y cwsmeriaid. Dyfynnaf yr hyn y mae'n ei ddweud: bydd peidio â mynd i'r afael â thagfeydd traffig yn arwain at sefyllfa lle mae llai o bobl yn dueddol o fynd ar y bws gan gynyddu nifer y ceir ar y ffordd ymhellach ac arwain at dagfeydd traffig hyd yn oed yn waeth, sy'n cael effaith fwy niweidiol byth ar y amgylchedd a holl ddefnyddwyr y ffordd.

Felly, yn ogystal â chael bysiau rydym am i bobl eu defnyddio er mwyn lleihau tagfeydd, gall effaith y tagfeydd hynny, yn ei dro, leihau'r defnydd o fysiau, gan fod y bysiau hynny'n arafu, maent yn mynd yn ddrutach i'w gweithredu, ac os bydd prisiau'n codi—ac roedd y pris wedi codi 6 y cant ar gyfartaledd yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2018, ac rwy'n meddwl ei fod wedi codi 3.6 y cant yn y flwyddyn ddilynol—mae hynny, yn ei dro, yn lleihau'r defnydd o fysiau ymhellach. Mae'n gylch dieflig.

Dylwn ychwanegu ar y cam hwn, fodd bynnag, fod yna resymau cymdeithasol ac economaidd eraill, yn ogystal â thagfeydd, sydd lawn mor bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau bysiau. Mae llawer yn oedrannus neu â nam symudedd ac ofnaf y gallai diffyg gwasanaethau bysiau beri iddynt gael eu hynysu neu golli eu hannibyniaeth. Mae'r elusen Defnyddwyr Bysiau Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod teithio ar fysiau yn hanfodol bwysig i helpu pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a'u lles.

Dywedodd un o fy etholwyr, Carol Gulliford o Dorfaen, wrth y South Wales Argus y byddai'n rhaid iddi ddibynnu ar bobl eraill os bydd gwasanaethau y mae'n eu defnyddio yn cael eu torri, a'i bod yn poeni na fydd yn gallu 

mynd allan i weld pobl a... mynd i'r siopau. Ni fyddaf yn gallu gwneud unrhyw beth drosof fy hun.

Tynnodd yr un ddynes sylw at sut y mae gwasanaethau'n effeithio ar eraill:

Mae llawer o bobl y ffordd hon yn eu defnyddio i fynd i'r siopau neu i fynd i'r gwaith.

Mae fy merch yn dibynnu ar y bws i fynd â'i phlant i'r ysgol yn y boreau a'u casglu ar ddiwedd y dydd.

Mae ganddi blentyn tair oed felly nid yw cerdded yn opsiwn mewn gwirionedd.

I lawer, mae bysiau hefyd yn hanfodol o safbwynt ariannol, gan fod dewisiadau eraill fel tacsis yn gostus. Mae Darren Shirley, o'r Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well yn tynnu sylw at faint o bobl eraill sy'n defnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd swyddi, addysg a hyfforddiant, a phryderon y gallai hyn gael ei lesteirio os na chefnogir gwasanaethau bysiau. Ni ellir tanbrisio cymaint y mae'r gwasanaethau hyn yn ei olygu i bobl yn eu bywydau bob dydd.

Cyflwynais ddeiseb yn ddiweddar gan gymuned fusnes Ebwy Fawr i'r Pwyllgor Deisebau, ac rwy'n ddiolchgar eu bod wedi'i derbyn. Fe'i casglwyd gan Richard Taylor, sydd, gyda llaw, yn ymgeisydd Plaid Brexit dros Dorfaen—dros Flaenau Gwent, maddeuwch imi—gweithiai gyda Stephen Roberts, sy'n cadeirio cymuned fusnes Ebwy Fawr, ac mae ganddynt broblem benodol: effaith gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau ar y masnachwyr.

Rwy'n credu bod amlder y gwasanaeth bysiau i ganol tref Glynebwy wedi haneru ac rwyf wedi siarad ag etholwyr sy'n sôn am yr effaith a gafodd ar eu bywydau cymdeithasol, o ran eu gallu i fynd allan, ond mae wedi cael effaith sylweddol iawn hefyd ar y gymuned fusnes yng Nglynebwy. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â rhywfaint o'r hyn a ddywedodd eisoes mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, David Rowlands, am yr hyn a oedd yn digwydd yng Nglynebwy a'r awydd i gynnal cynlluniau peilot yno o'r gwasanaeth bysiau seiliedig ar alw y siaradais amdano o'r blaen—gweithrediad hwnnw yng Nghasnewydd. Tybed a yw hwn yn wasanaeth a all ddenu defnyddwyr newydd i ddefnyddio bysiau a darparu gwasanaeth lle nad oedd un o'r blaen, neu a ydyw, yn llai cadarnhaol, yn rhywbeth sydd ond yn gosod plastr ar y briw mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bysiau'n cael eu torri, boed hynny oherwydd pwysau ariannol neu broblemau tagfeydd, a'i fod yn ddewis amgen yn eu lle, yn hytrach nag ychwanegiad atynt?

Cyn imi fynd i'r afael â'r Papur Gwyn a deddfwriaeth bosibl, hoffwn gyferbynnu'r hyn a ysgrifennodd Nigel Winter ataf yn gynnar y llynedd gyda pheth o'r dystiolaeth a welais ers hynny ar wasanaethau bysiau a'u cyflwr, oherwydd, ar gyfer data 2017-18, ceir arwyddion o sefydlogi yn y defnydd o fysiau. Cafwyd 99.9 miliwn o deithiau gan deithwyr, a 99.1 miliwn o gilometrau cerbyd. Felly, mae hynny'n awgrymu bod hyd cyfartalog taith mewn cilomedrau tua'r un faint â'r nifer gyfartalog o bobl sydd ar y bws. O edrych ar y data, ers 2014-15, gwelwn nifer gyffredinol y teithwyr yng Nghymru yn sefydlogi, ac mae hynny'n cymharu â gostyngiad serth yn 2008-09, ond gostyngiad a barhaodd yn llai serth wedyn, ond a oedd yn dal i fod yn sylweddol, hyd at 2014-15. Roedd nifer y teithwyr bws bron yn 130 miliwn, ac ers 2014-15, maent wedi bod yn hofran rhwng 99 miliwn a 100 miliwn.

Felly, tybed a all y Gweinidog ganfod unrhyw reswm pam y mae'r gostyngiad hwnnw wedi gwastatáu yn 2014-15. Efallai y bydd yn pwysleisio pethau gwych y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu gwneud, yn enwedig gan ei bod yn gyfnod etholiad, ac nid wyf yn diystyru'r ffaith efallai fod rhai mentrau cadarnhaol wedi bod, ond tybed hefyd a allai roi ychydig mwy o ystyriaeth ddiduedd i hynny, oherwydd ni allwn wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer gwella'r defnydd o fysiau yn y dyfodol heb ddeall pam y mae'r defnydd o fysiau wedi lleihau a pham ein bod wedi cael cyfnod heb fawr o newid.

Hoffwn nodi hefyd fy mod wedi cael peth data pellach, hyd at ddiwedd 2018 y tro hwn. Ar gyfer pedwerydd chwarter y llynedd, gwelsom gynnydd o 2.8 y cant yn nifer y teithwyr bysiau yng Nghymru, a dyna'r trydydd chwarter yn olynol i ni weld cynnydd. Ac yn gyson â'r cyfnod heb fawr o newid ers 2014-15, dim ond gostyngiad o 0.3 y cant a welsom yng Nghymru dros gyfnod o bum mlynedd, ac mae hynny'n cymharu â gostyngiad o 11 y cant yn yr Alban, gostyngiad o 7.4 y cant yn Llundain, gostyngiad o 6.9 y cant mewn ardaloedd metropolitanaidd yn Lloegr, a 5.2 y cant yn siroedd Lloegr. Felly, o ran tueddiad, bu rhywfaint o welliant ers 2014-15.

Fodd bynnag, credaf mai'r hyn sydd angen inni ei gydnabod hefyd yw fod lefel gyffredinol y defnydd o fysiau yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn ydyw yn Lloegr a'r Alban. Mae nifer y teithiau y pen o'r boblogaeth yng Nghymru yn y 30au isel, o'i gymharu â rhwng 70 a 80 yn Lloegr a'r Alban. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog—. Cyfeiriodd mewn datganiad ar ddiwedd mis Medi eleni at y perifferoldeb cyffredinol—dyna air nad wyf wedi'i glywed yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwnnw o'r blaen—a gwasgariad poblogaethau yn rhanbarthau Cymru. Ai dyna'r rheswm y tu ôl iddo, neu a oes materion eraill hefyd, yn enwedig yn y rhan ddeheuol Cymru, yng Nghasnewydd hyd at Abertawe, Llanelli? Oni allem fod yn gwneud yn well o ran faint y mae pobl yn ei ddefnyddio ar fysiau, yn enwedig i gymudo i'r gwaith, ac a oes gwersi i'w dysgu o rannau eraill o'r DU i ni yn hynny?

Felly, mae gan y Gweinidog agenda ddeddfwriaethol sylweddol. Cyhoeddodd y Papur Gwyn ar 10 Rhagfyr y llynedd, ac mae'n braf gweld Russell George yn ei sedd o hyd, oherwydd fe wnaeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau—cyhoeddwyd ein hymateb i'r Papur Gwyn ym mis Mehefin 2019, rwy'n credu. Ers hynny, ar 11 Gorffennaf, rhoddodd y Gweinidog grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ar 24 Gorffennaf rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am Fil trafnidiaeth gyhoeddus (Cymru) a diwygio'r gwasanaethau bysiau yn ehangach. Yn hwnnw, cyfeiriodd at y ffaith bod asesiad effaith rheoleiddiol drafft ar gyfer y Bil ar fin cael ei gyhoeddi. Gofynnais i fy ymchwilydd ddod o hyd i'r asesiad effaith rheoleiddiol drafft hwnnw, ac i weld a oedd wedi'i gyhoeddi'n fuan fel yr addawyd, ac fel y dywedais, cafwyd datganiad ar 24 Gorffennaf. Ac aeth i edrych ar yr holl bethau a gyhoeddwyd ers hynny i weld a oedd y ddogfen honno wedi ymddangos, ac ni allai ddod o hyd iddi. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oedd y cyhoeddiad hwnnw heb ymddangos. Yna, aethom ati i edrych ymhellach a chanfod bod yr asesiad wedi'i gyhoeddi ar 18 Gorffennaf mewn gwirionedd. Felly, pan ddywedodd y Gweinidog wrthym fod yr asesiad ar fin cael ei gyhoeddi, roedd wedi ymddangos chwe diwrnod cyn hynny, sy'n gwrthdroi'r ffordd y mae'r pethau hyn fel arfer yn digwydd i Lywodraeth.

Ar 24 Medi, cawsom adroddiad gwahanol a oedd yn canolbwyntio ar reilffyrdd: 'Yr Egwyddorion ar gyfer Cysylltiadau Trafnidiaeth Gyhoeddus'. A synnais braidd mai rheilffyrdd oedd ffocws yr adroddiad hwnnw pan oedd yn ymwneud â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Does bosibl nad oes angen inni ddod â'r ddwy broses ar gyfer trenau a bysiau at ei gilydd, yn hytrach na'u gwahanu yn y ffordd yr ymdrinnir â hwy. Os gwnaiff y Gweinidog faddau imi am eiliad—. Felly, yn y ddogfen honno, Weinidog, roeddech yn dweud:

'Mae'r egwyddorion a nodir isod yn gysylltiedig â chysylltiadau coridor sefydlog, fel arfer drwy'r rheilffyrdd ond efallai yn y dyfodol gan gerbydau tebyg i fysiau sy'n gweithio ar seilwaith pwrpasol/ar wahân... [Amlinellais] ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol... ym mis Gorffennaf.'

A'r gwahanu hwnnw y buaswn yn ei gwestiynu. Yn nes ymlaen yn y ddogfen honno ym mis Medi rydych yn cyfeirio at bwysigrwydd cyfnewidfeydd rhanbarthol, ond ymddengys eu bod wedi'u diffinio'n bennaf yn nhermau rheilffyrdd, ac rydych yn cyfeirio yn ne-ddwyrain Cymru, fy rhan ranbarthol i—fe'i gwneir yn fwy eang yma—at Bontypridd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Bae Caerdydd, Heol y Frenhines Caerdydd, Parcffordd Caerdydd, nad yw gyda ni eto, fel y cyfnewidfeydd rhanbarthol. Pam nad Casnewydd? Mae gennym gyfnewidfa reilffordd o fath sy'n dod yn bwysicach yng Nghasnewydd, a buaswn yn sicr yn gobeithio y bydd yn gyfnewidfa bwysig ar gyfer bysiau, a hyderaf y bydd ffocws go iawn ar yr integreiddio hwnnw sydd ei angen arnom i hybu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyffredinol.

Fe ddywedoch chi hefyd yn y ddogfen honno ym mis Medi:

'Nid addewidion yw'r rhain. Nid ymrwymiadau yw'r rhain. Nid oes unrhyw arian wedi'i neilltuo. Ond maent yn rhoi cyfeiriad i’n gwaith ac yn rhoi gwybod i eraill am ein huchelgeisiau. Ac yn bwysicaf oll, maent yn arwydd bod Cymru ar agor i ymwelwyr a busnesau.'

Byddai'n dda gennyf pe baech wedi gweithredu yn yr un modd gyda ffordd liniaru'r M4. Ond yn hytrach nag oedi gyda hynny, hoffwn nodi'n unig eich bod yn dweud wedyn mai cynllun 20 mlynedd yw hwn. Yn y gorffennol, rydych wedi'i ddisgrifio fel 'egwyddorion', ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall beth yw hyn. Wrth gwrs, ni allwch wneud addewidion pan nad yw'r cyllid gennych. Mae gennych Trafnidiaeth Cymru; rwy'n credu bod yna addewid posibl gyda'r dull rydych yn ei fabwysiadu. Rwy'n awyddus i fod mor gefnogol â phosibl, ond rwy'n credu bod gwir angen eglurder ynglŷn â beth sy'n amcan, beth sy'n gynllun, beth sy'n uchelgais a beth sy'n ddyhead. Ac yn amlwg, nid ydych eisiau addo pethau nad ydych yn eu cyflawni wedyn, ond yn yr un modd, rwy'n credu bod angen eglurder ynglŷn â beth sy'n ddogfen gynllunio a beth nad yw'n ddogfen o'r fath.

Rydych yn rhoi cryn bwyslais—. Yn y Papur Gwyn, rydych yn cyfeirio at ostyngiad cyffredinol yn nifer y teithwyr, sy'n gostwng yn raddol am flynyddoedd lawer ar y rhan fwyaf o lwybrau ac unwaith eto, hoffwn bwysleisio nad yw hynny wedi bod yn wir ers 2014-15, ac mae'n rhaid inni edrych ar beth sydd wedi achosi'r newid hwnnw a sut y gallwn adeiladu ar hynny. Rydych hefyd yn rhoi cryn bwyslais yn y Papur Gwyn ar Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn dadreoleiddio gwasanaethau bysiau lleol yn y DU y tu allan i Lundain. Wrth gwrs, roedd hwnnw'n ddigwyddiad pwysig, ond rydym wedi symud ymlaen 34 o flynyddoedd, a hoffwn rybuddio yn erbyn disgwyl i bopeth fod yn wahanol am fod gennym gymhwysedd datganoledig a'n bod yn mynd i ddeddfu mewn ffordd wahanol a rhoi opsiynau eraill i awdurdodau lleol a rywsut, fod hynny'n mynd i newid tirwedd y ddarpariaeth fysiau. Yn amlwg, roedd dadreoleiddio'n bwysig, ond ni fydd dileu'r gofyniad deddfwriaethol amdano'n mynd â ni'n ôl o reidrwydd i system wedi'i rheoleiddio neu system fasnachfreinio yn y ffordd a welsom o'r blaen. Mae Llundain hefyd yn wahanol iawn i weddill y DU, ac mae cymdeithas wedi newid yn sylweddol iawn dros y 34 mlynedd.

Rwy'n cefnogi'r hyn rydych yn ei wneud yn y Papur Gwyn a'r tri dewis sydd gennych. Rwy'n credu bod rhoi mwy o opsiynau i awdurdodau lleol yn syniad da a'u galluogi i ddatblygu'r opsiynau hynny a dangos arferion da, a gall eraill ddysgu oddi wrthynt. Er hynny, tybed faint o wahaniaeth a welwn gyda'r partneriaethau ansawdd estynedig hyn. Efallai y byddant yn symud y cydbwysedd rywfaint o'r cwmni bysiau i'r awdurdod lleol, ond a fydd hynny'n arwain at wella gwasanaethau? Cawn weld. Yn yr un modd gyda masnachfreinio bysiau, nid wyf yn glir a yw'r Gweinidog yn disgwyl i rai awdurdodau lleol fasnachfreinio dros yr ardal gyfan a chael masnachfraint i'r system i gymryd lle'r system bresennol, neu a yw'n fwy tebygol y bydd hyn yn digwydd mewn ardaloedd penodol lle byddai hynny o fudd penodol? Rwy'n gofyn hefyd, a oes gan awdurdodau lleol y gallu, y bobl, y systemau, ar gyfer cynnal cystadleuaeth fasnachfreinio mor fawr ac mor bwysig? Os symudwn i system fasnachfraint mewn awdurdod lleol llawn, oni fyddai perygl go iawn y bydd symud o un system i'r llall, yn creu problemau cychwynnol o leiaf i'r bobl a fyddai'n ymwneud â hi?

O ran eich trydydd opsiwn, sef gwasanaethau bysiau awdurdod lleol, nid oes gennyf broblem gydag ambell awdurdod lleol yn rhedeg ambell fws. A bu rhai cwynion am ardaloedd nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael ceisiadau da gan ddarparwyr preifat i redeg gwasanaethau, a gallai'r posibilrwydd y gallai'r awdurdod lleol ei wneud gynnig rhywfaint o gystadleuaeth na fyddai yno fel arall. Fodd bynnag, unwaith eto, rwy'n dweud hyn: a oes gan yr awdurdodau lleol y lefel honno o allu, a ydynt wedi eu sefydlu i wneud hynny, a pha mor eang y cred y Gweinidog y bydd hynny'n digwydd?

Yn olaf, mae'n cyfeirio at gydbwyllgorau statudol o'r Bil llywodraeth leol. A gaf fi ofyn ai dyna'r hyn a alwem yn gyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol o'r blaen? Ac a oes gan y Gweinidog unrhyw syniadau pellach ynglŷn ag a oes angen y cyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol, gan fod rhywfaint o bryder mai corff a fyddai'n dyblygu fyddai hwnnw, un yn fwy nag y byddem ei angen? Edrychaf ymlaen at ei ymateb.

18:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mark Reckless am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Mae'n fater hynod bwysig; mae gwasanaethau bysiau'n mynd â llawer iawn o fy amser fel Gweinidog trafnidiaeth, ac amser nifer fawr o Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon hefyd. Ac nid oes amheuaeth fod gwasanaethau bysiau'n ganolog i bopeth a wnawn o ran ceisio integreiddio a gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn gwybod eu bod yn fath hanfodol o drafnidiaeth i nifer enfawr o bobl mewn llawer o gymunedau, ac mewn rhai cymunedau, dyna'r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael. A hyd yn oed yn ein cymdeithas sy'n dibynnu ar geir, nid yw bron chwarter y cartrefi yng Nghymru yn berchen ar gar, ac felly, maent yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, a gwasanaethau bysiau lleol yn bennaf.

Nawr, mae gwasanaethau bws dibynadwy, yn eu tro, yn hanfodol i gysylltu pobl â swyddi, i gysylltu pobl ag aelodau'r teulu, ac i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau. Maent yn sbarduno twf economaidd—sy'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n credu bod gan fysiau botensial i gyfrannu'n sylweddol iawn at gyflawni ein nodau llesiant ar gyfer Cymru. Ond nid oes amheuaeth fod gwella gwasanaethau bysiau a chynyddu'r nifer sy'n eu defnyddio ar draws y wlad yn galw am weithredu a chydweithredu ar draws Llywodraethau, gyda gweithredwyr yn ganolog i'r ystyriaethau hefyd.

Nawr, rwyf eisoes wedi datblygu ein gweledigaeth ar gyfer bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn erbyn cefndir o ragfynegiadau tueddiadau ar gyfer Cymru yn y dyfodol, sy'n rhagweld twf sylweddol yn nifer yr aelwydydd un person â cherbydau preifat sy'n parhau i fod yn brif ddull trafnidiaeth i'r rhai sy'n gallu ei fforddio. Ond ar yr un pryd, byddwn angen newid sylweddol, boed hynny drwy newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus neu i gerbydau trydan preifat os ydym am gyflawni ein cyfrifoldebau a'n hymrwymiadau i sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae'n amlwg fod angen gweithredu er mwyn harneisio ansawdd unigryw bysiau a'u gallu i ymateb yn gyflym i newid gyda lefelau is o fuddsoddiad na mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig y lefelau is o fuddsoddiad sydd ei angen mewn seilwaith i gefnogi gwasanaethau bysiau. Maent hefyd yn cynnig cost fesul teithiwr sy'n gymharol isel ac ôl-troed carbon isel. Ond i gyflawni'r weledigaeth a amlinellais eisoes ac y cyfeiriodd Mark Reckless ati, rydym angen cymysgedd o ymyriadau sy'n seiliedig ar le, rwy'n credu, gan gynnwys, er enghraifft, gwell arosfannau bysiau, gwell gwybodaeth am siwrneiau teithwyr a'r canolfannau, y cyfnewidfeydd y soniais amdanynt, fel y gallwn gael system trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig sy'n cynnig dibynadwyedd, cysur a phrydlondeb i deithwyr.

Mae mesurau blaenoriaethu bysiau yn hynod o bwysig ac mae Mark Reckless wedi nodi'r angen i wasanaethau bysiau weithredu mewn modd amserol a dibynadwy. Rydym wedi canfod fod y prif reswm sy'n penderfynu a yw rhywun yn dewis mynd ar fws neu yn eu car yn ymwneud â pha mor ddibynadwy a phrydlon yw bws, ac a yw'n cynnig y gallu i gyrraedd pen y daith mewn llai o amser na'u cerbyd modur preifat. Ac felly, i'r perwyl hwn, rydym yn buddsoddi'n drwm iawn mewn lonydd bysiau pwrpasol ac mewn coridorau bysiau ac rydym yn treialu cynlluniau trafnidiaeth seiliedig ar alw. Mae Mark Reckless wedi nodi'r cynllun a gyflwynir ym Mlaenau Gwent—cynllun peilot de-ddwyrain Cymru yw hwnnw. Gwn fod Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â'r awdurdod lleol a gweithredwyr bysiau i benderfynu ar gwmpas terfynol y cynllun peilot, ond rhoddir ystyriaeth i ymestyn y rhaglen benodol hon i Dorfaen.

Gofynnodd Mark Reckless a fydd cynlluniau peilot o'r fath—cynlluniau peilot seiliedig ar alw—yn debygol o arwain at bobl sydd wedi dibynnu ar eu car yn y gorffennol yn gadael yr allweddi gartref a defnyddio'r gwasanaethau arloesol newydd hynny. Nawr, lle rydym wedi gweld cynlluniau tebyg yn gweithredu yn y DU, rydym wedi gallu nodi bod newid moddol sylweddol wedi digwydd. Mynychais Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar a nodais un cynllun penodol yn ne Lerpwl a welodd fod tua 52 i 53 y cant o ddefnyddwyr y gwasanaeth bws seiliedig ar alw hwnnw yn bobl nad oeddent erioed wedi defnyddio'r gwasanaeth bysiau yn yr ardal honno o'r blaen mewn gwirionedd; maent yn gadael eu ceir gartref. Felly, mae'n cynnig potensial mawr i gynyddu nifer y cwsmeriaid yn sylweddol iawn ar draws y rhwydwaith bysiau.

Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â pham ein bod mewn cyfnod disymud o ran y nifer sy'n defnyddio bysiau, a'n dealltwriaeth ni yw fod nifer o ffactorau'n penderfynu a yw pobl yn dewis mynd ar y bws yn hytrach na gyrru, ac yn bennaf, mae'n ymwneud â dibynadwyedd. Wel, rydym wedi bod yn buddsoddi'n drwm iawn mewn coridorau bysiau mewn ardaloedd trefol allweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Hefyd, yn sgil methiant cwmni bysiau amlwg iawn yn ôl yn 2016, rydym wedi cyflwyno cynllun sefydlogi ar gyfer y diwydiant a datblygwyd nifer o gamau gweithredu. Ac felly, o ganlyniad i'r gwaith eithaf dwys a wnaed, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan awdurdodau lleol ar draws Cymru yn ogystal, rydym wedi gallu sefydlogi nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau bws ledled Cymru. Ond os ydym o ddifrif am roi hwb i aileni'r diwydiant bysiau ac i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio bysiau yn ôl i lle'r arferai fod ac yn uwch na hynny hyd yn oed, i lefelau tebyg i'r rhai a geir mewn mannau eraill yn y DU, rhaid inni weithredu ar ffurf deddfwriaeth. A bwriadaf gyflwyno'r Bil bysiau i'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, er mwyn mynd i'r afael yn uniongyrchol â dadreoleiddio gwasanaethau bysiau sydd wedi bod yn drychineb llwyr. Digwyddodd hynny yn 1986, ac nid wyf yn credu y byddai neb yn dadlau ei fod wedi bod yn fuddiol, yn ei grynswth, i deithwyr ar draws y wlad.  

Bydd yn cynnig cyfres o ddulliau, a bydd yn galluogi awdurdodau lleol i ymyrryd, pe baent yn dewis gwneud hynny, yn y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau. Ac i ateb y cwestiwn ynglŷn â system fasnachfreinio, bydd y cyd-bwyllgorau corfforaethol yn cael eu cynllunio i sicrhau y gwneir y gwaith o gynllunio trafnidiaeth ar sail drawsffiniol ac ar sail ranbarthol, a bwriedir iddynt feithrin galluoedd a chynyddu capasiti ar draws awdurdodau lleol ym mhob un o'r rhanbarthau lle bydd y cyd-bwyllgorau corfforaethol yn gweithredu.  

Credaf na ellir ystyried diwygio bysiau ar ei ben ei hun, a'r cam nesaf yw pwyso a mesur pa mor bell yr awn gyda'n hagenda i hwyluso newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus. A bydd angen cefnogaeth wleidyddol ac ariannol arnom ar draws y Llywodraeth a thu hwnt. Bydd angen y cyhoedd arnom; byddwn angen i weithredwyr Llywodraeth a gwleidyddion weithio gyda ni i wireddu ein gweledigaeth o rwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus modern, carbon isel, ac rwy'n falch ein bod wedi cael y cyfle hwn heddiw i ymdrin â mater sy'n hollbwysig i lawer iawn o bobl ar draws ein holl etholaethau. Mae'r Aelod, Mark Reckless, wedi codi nifer o faterion sylweddol yn y Siambr. Byddaf yn falch o roi'r wybodaeth diweddaraf iddo ar bob un o'r meysydd nad wyf yn gallu ymateb iddynt yn yr amser sydd gennyf. Ond unwaith eto, hoffwn ddiolch i Mark Reckless a'r Aelodau am ddangos diddordeb mor frwd yn y pwnc hwn.  

18:40

Daeth y cyfarfod i ben am 18:41.