Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/09/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Cwestiwn Brys: Dyfarniad y Goruchaf Llys

Dwi wedi derbyn cwestiwn brys, o dan Reol Sefydlog 12.67. Dwi'n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Llys fod addoediad Senedd y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon? (EAQ0006)

Llywydd, diolch. Roedd dyfarniad y Goruchaf Lys yn drawiadol. Roedd yn hollol glir ac unfrydol. Roedd yn dangos bod y Prif Weinidog wedi ceisio atal y Senedd yn San Steffan, wedi ceisio atal y Tŷ Cyffredin democrataidd rhag dal y Llywodraeth i gyfrif ar fater mwyaf pwysig yr oes. O ganlyniad i benderfyniad y llys, nid yw San Steffan wedi ei addoedi, a bydd yn rhaid i'r Prif Weinidog adrodd am ei gyngor anghyfreithlon. Roedd Llywodraeth Cymru yn hollol gywir i ymyrryd yn yr achos hwn er mwyn amddiffyn hawliau democrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig. 

Prif Weinidog, mater o ddifrifol bwys, wrth gwrs, yw dyfarniad gan y Goruchaf Lys, yn datgan bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi ymddwyn yn anghyfreithlon. Mae dweud celwydd wrth y bobl, wrth y Senedd, wrth y Frenhines yn drindod o droseddau cyfansoddiadol difrifol. Beth sy'n hollol glir yw bod y Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol wedi cau drysau'r Senedd gydag afiaith yr unben ag yw e, ac rwy'n falch iawn bod fy mhlaid i wedi chwarae rhan ganolog yn yr achos sydd wedi dwyn y Prif Weinidog i gyfrif. Heddiw, fe welwyd gwir ystyr adennill reolaeth. Pan fo llais ein lladmeryddion yn cael ei dawelu, byddwn yn gweiddi'n uwch nag erioed. Pan fo ymgais i droi'r ddeddfwrfa yn atalfa, fe fyddwn ni'n ei throi hi'n angorfa ein democratiaeth ni. Pan fo Prif Weinidog yn ceisio anwybyddu cyfraith sydd yn dweud nad oes hawl gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, mae'n rhaid bod yna oblygiadau, beth bynnag mae Dominic Cummings wedi bod yn trydar yn y munudau diwethaf. 

Dydy Prif Weinidog sydd yn osgoi craffu, ymddwyn yn ddall i gyfraith a threfn, gan wneud hynny dan faner Brexit dinistriol, ddim yn gymwys i wneud y swydd. Yng ngoleuni gemau budr Boris Johnson, ydych chi'n cytuno gyda fi fod angen i'r Prif Weinidog nawr ymddiswyddo ar unwaith? Rwy'n sylwi na wnaethoch chi ateb y cwestiwn gerbron newyddiadurwyr funud yn ôl; a wnewch chi ateb e nawr? Ac er mwyn osgoi sefyllfa tebyg yn codi eto, ble mae Llywodraeth sydd yn dibrisio democratiaeth yn ceisio rhedeg yn rhemp, a wnewch chi sicrhau bod eich plaid chi yn San Steffan yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ddiamod, gan flaenoriaethu pleidlais y bobl nawr, cyn etholiad cyffredinol?

Diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Dwi wedi dweud yn barod, Llywydd, nad ydw i'n gallu gweld un ffordd ble mae Boris Johnson yn gallu aros yn ei swydd ar ôl beth mae'r llys wedi'i ddweud heddiw. 

Dyfarnodd y llys yn erbyn Prif Weinidog y DU yn unfryd ar bob un pwynt y dywedodd y Fonesig Hale oedd ger eu bron. Ailadroddodd, fel y mae'r rhai ohonoch chi sydd wedi gweld ei dyfarniad yn gwybod, bedwar cwestiwn ar wahân. A oedd cyngor Prif Weinidog y DU i'r Frenhines yn draddodadwy? Nawr, roedd y Llywodraeth wedi dadlau nad oedd, nad oedd dim yn y fan yma i'r llysoedd fod â diddordeb ynddo. A gwrthododd y llys hynny, gan ddweud bod y grym i addoedi, a ddefnyddiwyd fel yr oedd Prif Weinidog y DU wedi ei ddefnyddio, yn ymosodiad ar egwyddor sylfaenol ein cyfansoddiad. Gofynnodd y llys wedyn, os yw hynny'n draddodadwy, yna yn ôl pa safon y dylid barnu ei gyfreithlondeb? A dywedodd y llys fod dwy egwyddor sylfaenol yn y fantol yn y fan yma—sofraniaeth seneddol ac atebolrwydd seneddol, ac ar y ddau gyfrif hynny dyfarnodd y llys na ellid cefnogi gweithredoedd Prif Weinidog y DU. Os mai'r dyna'r safonau, yna a oedd y cyngor a roddodd Prif Weinidog y DU i'r llys yn gyfreithlon? Ac mae hyn mewn gwirionedd, rwy'n credu, yn mynd at union wraidd yr hyn a benderfynodd y Goruchaf Lys heddiw. Cyfeiriodd y Fonesig Hale yn uniongyrchol, Llywydd, at safbwynt y Cynulliad Cenedlaethol hwn a Senedd yr Alban—y ffaith fod popeth yr oeddem ni wedi ei wneud yma, fel y dywedodd ein CF mewn tystiolaeth i'r llys, o ran rhoi cydsyniadau i ddarnau o ddeddfwriaeth, yr oedd gennym ni ddisgwyliad dilys y byddent yn mynd yn eu blaenau wedyn i'w terfyn yn Nhŷ'r Cyffredin, roedd hynny i gyd wedi cael ei ysgubo o'r neilltu o ganlyniad i weithredoedd Prif Weinidog y DU. Mae'n amhosibl i ni ddod i'r casgliad, meddai'r Goruchaf Lys, bod unrhyw reswm, heb sôn am reswm da, dros addoedi'r Senedd. Mae'n dilyn bod y penderfyniad yn anghyfreithlon. Pan ganfyddir bod Prif Weinidog wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac yn annemocrataidd, nid wyf i'n gweld sut y mae'r person hwnnw'n credu y gall barhau yn ei swydd yn gyfreithlon.

13:35

Prif Weinidog, gadewch i mi roi sicrwydd i chi ein bod ni, yn y Blaid Geidwadol, yn parchu rheolaeth y gyfraith a chanlyniad yr achos Goruchaf Lys heddiw. Ond gadewch i ni edrych ar wraidd y mater penodol hwn, aie? Crëwyd y cyfwng Brexit hwn —[Torri ar draws.]—y cyfwng Brexit hwn, a'r sefyllfa— 

Gadewch i arweinydd yr wrthblaid barhau â'i gwestiwn. [Torri ar draws.] Gadewch i arweinydd yr wrthblaid barhau â'i gwestiwn ac iddo gael ei glywed.

Crëwyd y cyfwng Brexit hwn, a'r sefyllfa yr ydym ni ynddi nawr, o ganlyniad i'r ffaith bod eich ASau Llafur chi wedi rhwystro—[Torri ar draws.]—ie, wedi rhwystro'r broses Brexit, yn groes i ewyllys pobl Cymru a Phrydain. [Torri ar draws.]

Efallai eich bod chi'n anghytuno â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud, ond mae'n haeddu cael ei glywed. Rwyf i eisiau ei glywed.

Diolch, Llywydd. Rydych chi'n gwybod yn iawn, Prif Weinidog, pe byddai eich cyd-Aelodau wedi pleidleisio o blaid Bil ymadael Llywodraeth flaenorol y DU, na fyddem ni'n cael y sgwrs hon. Byddem ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn mewn modd trefnus. Ond gallwn weld yn awr, o ystyried safbwynt eich Llywodraeth eich hun, nad ydych chi'n parchu canlyniad y refferendwm, gan eich bod chi wedi ei gwneud yn eglur erbyn hyn eich bod chi eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a dyna'i diwedd hi. Yn amlwg, Prif Weinidog, yr unig ffordd—yr unig ffordd—yr ydym ni'n mynd i ddianc o'r sefyllfa hon nawr yw cael etholiad cyffredinol cyn gynted a phosibl. Ac, fel y gwyddoch, ceisiodd Prif Weinidog y DU drefnu etholiad cyffredinol ychydig wythnosau yn ôl, ac roedd eich plaid chi, er iddi alw am un ers misoedd a blynyddoedd, mewn gwirionedd, yn ddigon digywilydd i bleidleisio yn ei erbyn. Dewch ymlaen, Prif Weinidog, beth ydych chi'n ei ofni? Felly, a wnaiff eich Llywodraeth gefnogi etholiad cyffredinol cyn gynted â phosibl nawr, oherwydd dyma'r unig ffordd y gallwn ni ddatrys y sefyllfa hon mewn gwirionedd?

Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid yn dechrau drwy ddweud bod ei blaid yn parchu rheolaeth y gyfraith. Y peth diwethaf i mi ei glywed cyn i mi ddod i lawr y Cynulliad y prynhawn yma oedd Prif Weinidog y DU yn ymosod ar benderfyniad y Goruchaf Lys, a oedd yn warthus yn fy marn i. [Torri ar draws.] Fe'i clywais ef fy hun—ymosododd ar benderfyniad y Goruchaf Lys. Dywedodd nad oedd yn cytuno â'r Goruchaf Lys, na allai weld sut yr oedden nhw wedi dod i'w casgliad. Nid wyf i'n credu bod hynny'n swnio lawer i mi fel parchu rheol y gyfraith. Yna dywedodd ei fod yn benderfynol y dylai'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref, er gwaethaf y ffaith fod cyfraith wedi ei phasio yn Nhŷ'r Cyffredin yn ei atal rhag gwneud hynny. Ble mae'r parch at reolaeth y gyfraith yno? Mae wedi ymddangos i mi erioed, Llywydd—[Torri ar draws.]—mae wedi ymddangos i mi erioed, Llywydd, bod pobl sy'n penderfynu bod yn wneuthurwyr deddfau yn ildio'r hawl i fod yn dorwyr cyfraith. Ceir pobl eraill sy'n mynd â chyfraniadau eraill i'w trafod, ac mae ganddyn nhw ddewisiadau eraill i'w gwneud. Ond os cewch chi eich ethol i ddeddfwrfa, lle'r ydym ni'n llunio'r gyfraith, fel y mae'r gyfraith yn cael ei llunio yn Nhŷ'r Cyffredin, yna ni allwch ar yr un pryd hawlio'r hawl i dorri'r gyfraith yr ydych chi'n cyfrannu at ei llunio. Ac mae'n ymddangos i mi mai dyna'r safbwynt y mae'r Prif Weinidog hwn wedi bod yn barod i'w gymryd dro ar ôl tro. Dyna yw sylwedd yr hyn sy'n destun trafod heddiw.

Byddai wedi—[Torri ar draws.] Rwy'n credu y byddai wedi gwasanaethu'r sefydliad hwn a phobl Cymru ychydig yn well pe byddai arweinydd yr wrthblaid wedi codi ar ei draed i esbonio wrthym sut y mae ei blaid ef yn mynd i esbonio iddyn nhw nawr sut y gwnaethon nhw roi pob un ohonom ni yn y sefyllfa hon. Sut, o ganlyniad i weithredoedd ei blaid ef, y rhwystrwyd y Senedd rhag craffu ar weithredoedd ei Lywodraeth, rhywbeth y mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu heddiw ei fod yn anghyfreithlon. Ac onid oedd yn ddiddorol? Onid oeddech chi'n credu ei bod yn ddiddorol bod llywydd y Goruchaf Lys wedi gorfod mynd allan o'i ffordd i egluro bod popeth yr ydym ni wedi bod yn ei glywed gan aelodau ei blaid ynghylch sut y gallai Prif Weinidog y DU addoedi'r Senedd unwaith eto, y gallai osgoi unrhyw beth yr oedd y Goruchaf Lys wedi ei ddweud—. Bu'n rhaid iddi fynd allan o'i ffordd i egluro nad yw'r Senedd erioed wedi cael ei haddoedi a bod y ffordd honno o rwystro atebolrwydd democrataidd yn y wlad hon wedi cael ei hatal gan weithredoedd y Goruchaf Lys heddiw. Dyna oedd y pethau y dylai'r blaid gyferbyn fod wedi bod yn ymdrin â nhw y prynhawn yma, yn hytrach na cheisio tynnu sylw at rywbeth arall fel y gwnaeth ef. Y lol o awgrymu—cytundeb nad oedd ei blaid ef yn fodlon ei gefnogi.

Ble'r oedd ei Jacob Rees-Mogg, y dyn a anfonwyd i Balmoral, fel y dywedodd Goruchaf Lys yr Alban, i ddweud anwiredd wrth y Frenhines? Ble oedd ef pan gynhaliwyd pleidlais ar gytundeb Mrs May? Ydw, rwy'n credu ei bod hi'n bryd—[Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i arweinydd yr wrthblaid yn y blaid hon edrych ar ei blaid ei hun a chynnig rhyw esboniad o'i gweithredoedd. Dyna'r hyn y dylai fod wedi ei wneud yn y fan yma y prynhawn yma.

13:40

Mae'r Prif Weinidog yn ceryddu arweinydd yr wrthblaid ynghylch parch at reolaeth y gyfraith, ond rwy'n cofio, yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedodd ef a'i Gwnsler Cyffredinol am ddyfarniad rhwymol yr Uchel Lys ar y pryd yn ein hawdurdodaeth ni, a phenderfynasant y byddai'n well ganddynt dderbyn dyfarniad y llys o awdurdodaeth arall.

Yr hyn y byddwn yn ei ofyn i'r Aelodau ei ystyried—[Torri ar draws.]—os caf i barhau—wrth ymateb i'r dyfarniad hwn heddiw, rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni'n ei weld yn llawer cryfach ac ehangach ei gwmpas nag y rhagwelwyd cyn y dyfarniad. Canlyneb hynny yw bod y Goruchaf Lys wedi mynd ymhellach nag yr oeddem ni'n ei ddisgwyl yng ngoleuni arferion cyfansoddiadol blaenorol. Ac rwy'n meddwl, o ran ystyried pa mor afresymol yw'r dyfarniad, y dylem ni ganolbwyntio ychydig ar baragraffau 49 a 50 y dyfarniad, sy'n gwneud y rhan fwyaf o gwaith trwm, lle dywed y llys,

mae grym uchelfreiniol yn effeithiol dim ond i'r graddau y mae'n cael ei gydnabod gan y gyfraith gyffredin: fel y dywedwyd yn y Case of Proclamations, "nid oes gan y Brenin uchelfraint, ond yr hyn y mae cyfraith y wlad yn ei chaniatáu iddo". Mae grym uchelfreiniol wedi ei gyfyngu felly gan gyfraith statud a'r gyfraith gyffredin.

Roedd Achos y Proclamasiynau yn ymwneud â'r Goron yn dadwneud deddf a basiwyd gan y Senedd, a'r hyn a ganfu'r gyfraith gyffredin bryd hynny oedd na allai'r weithrediaeth weithredu yn groes i'r gyfraith na dadwneud cyfreithiau pan oedd y ddeddfwrfa wedi cyfyngu'r uchelfraint trwy basio deddf. Nid yw hynny'n wir yn y fan yma. Mae'r Senedd wedi cael dros 400 o flynyddoedd ers hynny i gyfyngu'r uchelfraint a rheoli sut y gellid ei defnyddio. Mae wedi dewis peidio â gwneud hynny, ac eto mae'r Goruchaf Lys wedi gwneud hynny ei hun drwy'r egwyddorion y mae wedi eu dehongli heddiw.

Yn yr un modd, yn nyfarniad blaenorol Miller, ar y cytuniad ar weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, gwelsom fod y Senedd wedi cyfyngu'r defnydd o erthygl 49—cymal passerelle—ond ni chyfyngodd ar y defnydd o erthygl 50. Ac eto, aeth y llys yn groes i'r egwyddorion dehongli statudol blaenorol i orfodi ei gyfyngiadau ei hun ar erthygl 50. Un maes— [Torri ar draws.]. Rwy'n disgrifio sut mae ei ddyfarniad yn afresymol. Nid yw afresymol yr un fath ag anghywir. Rwy'n gyfreithiwr a byddwn yn ofalus cyn mynd i'r cyfeiriad y mae'r Aelod yn gweiddi i'w berwyl.

Ym mharagraff 60 y dyfarniad, yn gwbl briodol, nid yw'r llys yn crwydro i feysydd gweithdrefn seneddol, ond mae'n rhagdybio bod y Senedd yn rheoli ei hamserlen ei hun. Ac eto nid yw'n gwneud hynny. Nid oes ganddi bwyllgor busnes y tŷ. Mae'r Llywodraeth yn neilltuo diwrnodau i'r gwrthbleidiau neu i bwyllgor busnes y meinciau cefn, ond y Llywodraeth sy'n rheoli'r agenda. Mae Rheolau Sefydlog yn dweud ei bod. Mae Rheolau Sefydlog yn dweud bod yn rhaid i bleidleisiau gael eu bwrw ar unwaith, a cheir dull i'r Senedd—Tŷ'r Cyffredin—ddiwygio hynny trwy gynnig gan y Pwyllgor Gweithdrefnau, ond ni wnaeth y Llefarydd hynny, oherwydd bod gan y Pwyllgor Gweithdrefnau fwyafrif a gefnogodd Brexit. Mae'n cael ei ethol gan y Tŷ. Felly, yn hytrach, anwybyddodd y Llefarydd y Rheolau Sefydlog, gan ddehongli rhywbeth ohonynt nad oedd yn bodoli a gwneud pethau yn y ffordd honno, yn groes i reolau Tŷ'r Cyffredin er mwyn symud y gyfraith yn ei blaen.

Mae gennym ni ddyfarniad pwysig iawn heddiw. Cael a chael oedd hi i mi ei ddarllen ers ei gyhoeddi, ond rwy’n credu y dylai pob un ohonom gymryd mwy o amser i feddwl, ac rwy’n annog pobl i ymdrin â’r mater mewn ffordd bwyllog iawn oherwydd, er fy mod i'n parchu’r gyfraith, a byddwn yn gochel rhag beirniadu barnwyr, rwy’n ofni bod llawer iawn o bobl yn gweld hyn drwy brism 'gadael' ac 'aros'.

13:45

Llywydd, mae gen i ofn fy mod i wedi fy nrysu braidd gan gyfraniad yr Aelod. Mae'n dweud bod y Goruchaf Lys yn afresymol ac yna'n annog pob un ohonom ni i barchu rheol y gyfraith. Yr wythnos diwethaf, roedd yn brysur yn ceisio wfftio safbwyntiau'r llys uchaf yn yr Alban fel pe bai'n cyfrif am ddim byd o gwbl. Nid wyf i'n siŵr heddiw a yw wedi defnyddio'r un dull gyda'r Goruchaf Lys hefyd. Mae'r dyfarniad gennyf innau yma hefyd. Rwy'n cytuno â Mark Reckless y byddai'r Aelodau eisiau ei ddarllen. Mae'n ddyfarniad sydd wedi ei ddadlau yn eithriadol o eglur. Mae'r Aelod yn dweud bod y llys wedi mynd yn groes i arferion presennol. Gofynnwyd i'r llys ddyfarnu mewn sefyllfa lle'r oedd Prif Weinidog y DU, fel y mae'r dyfarniad yn ei egluro, wedi mynd yn groes i arferion presennol yn llwyr, ac ar draul rheolaeth y gyfraith a'n democratiaeth. Dyna'r casgliad y credaf y bydd unrhyw un sy'n dymuno astudio'r dyfarniad hwn yn dod iddo, a dyna pam mae ganddo'r difrifoldeb a'r pwys y dylem ni eu priodoli iddo.

Rydym ni'n wynebu y prynhawn yma yr argyfwng gwleidyddol dwysaf yr wyf i wedi ei weld yn ystod fy 20 mlynedd o wleidyddiaeth. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi gweld o leiaf un AS Ceidwadol yn ymosod ar y Goruchaf Lys—David Davies. Dywedodd eu bod yn rhan o sefydliad sydd o blaid yr UE. Rydym ni i gyd, Prif Weinidog, yn destun dyfarniadau llys weithiau nad ydym yn eu hoffi, ond mae gennym ni lysoedd am reswm—maen nhw yno i wneud penderfyniadau. Gwrandewais yn astud ar yr hyn yr oedd gan arweinydd yr wrthblaid i'w ddweud, ac rwy'n gresynu bod yr hyn sy'n gwestiwn o ddemocratiaeth, yn gwestiwn o'r cyfansoddiad, yn gwestiwn o oruchafiaeth Senedd a etholwyd gan y bobl yn 2017, flwyddyn ar ôl y refferendwm—flwyddyn ar ôl y refferendwm—wedi cael ei leihau ganddo ef i bwynt oedd â'r nod o sgorio pwyntiau gwleidyddol. Mae e'n well na hynny. Mae e'n well na hynny; mae'n rhywun y mae gen i barch tuag ato, ond, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol.

Prif Weinidog, mae'n berygl galwedigaethol i Weinidogion ganfod, pan eu bod yn gwneud penderfyniad didwyll, bod y llys wedyn yn dweud bod y penderfyniad yn anghyfreithlon. Nid yw hynny'n anarferol. Yr hyn sy'n anarferol yn yr achos hwn yw bod y Llys Sesiwn yng Nghaeredin wedi dweud bod y Senedd wedi cael ei gohirio at ddiben amhriodol. Mae 'amhriodol' yn gerydd hallt. Mae'r defnydd o'r gair 'amhriodol' yn gerydd hallt i Brif Weinidog y DU. Mae'n awgrymu anonestrwydd, ac mae'n awgrymu bod y Prif Weinidog wedi rhoi cyngor camarweiniol ac anghyfreithlon i'r Frenhines. Mae hwnnw'n gam nad oes yr un Prif Weinidog y DU wedi ei gymryd o'r blaen.

Gyrrwyd coets a cheffylau drwy'r cyfansoddiad; nid yw'n addas i'w ddiben mwyach. Mae cyfansoddiad ysgrifenedig yn dibynnu ar bobl yn bod yn rhesymol a bod confensiynau yn cael eu parchu. Nid yw hynny wedi digwydd. Nid yw hynny wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'n rhoi'r Frenhines mewn sefyllfa annymunol. Os bydd y Prif Weinidog yn dod yn ôl at y Frenhines ac yn gofyn i addoedi'r Senedd unwaith eto, sut y gall y Frenhines fod yn sicr nad yw'r cyngor sy'n cael ei roi iddi gan y Prif Weinidog yn anghyfreithlon? Ac eto nid oes ganddi unrhyw ddisgresiwn o ran yr hyn y dylai ei wneud. Gall gael ei chamarwain gan gyngor anghyfreithlon gan Brif Weinidog unwaith eto ac ni all wneud dim. Mae honno'n sefyllfa annymunol i'r Frenhines fod ynddi. Prif Weinidog, o ystyried yr argyfwng sydd gennym ni, onid yw'n bryd cael synnwyr? Onid yw'n bryd cyfaddawdu? Onid yw'n bryd cymodi? Ac onid yw'n bryd cael Prif Weinidog newydd i'r DU?

Wel, Llywydd, gwrandewais yn astud iawn ar yr hyn y mae'r cyn Brif Weinidog wedi ei ddweud, fel y credaf y dylai Aelodau eraill yn y Cynulliad hwn ei wneud, oherwydd ei swyddogaeth fel Cyfrin Gynghorwr, oherwydd ei fod wedi bod yn bresennol yn y fforymau hynny sydd wedi bod wrth wraidd y materion y bu'n rhaid i'r Goruchaf Lys ymdrin â nhw, ac, fel y dywedodd, canfu llys yr Alban nad oedd y cyngor a roddwyd yn y Cyfrin Gyngor yn gyngor wedi ei seilio ar ddidwylledd. Nawr, wrth gwrs, mae'r hyn y mae Carwyn Jones wedi ei ddweud yn iawn, rydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn gwneud penderfyniadau'n ddidwyll y mae'n ymddangos wedyn nad oeddent ar sylfeini mor gadarn ag yr oeddem ni'n ei feddwl. Mae'r mater yma'n un o ddidwylledd—y ffaith bod Prif Weinidog y DU, wrth roi ei gyngor, wedi dweud ei fod eisiau addoedi'r Senedd am un rheswm, er ei bod mewn gwirionedd yn eglur o benderfyniadau a wnaeth nad oedd hynny'n wir. Ac mae hynny wir yn mynd at wraidd y ffordd y mae ein cyfansoddiad yn gweithredu. Mae'n mynd at wraidd, Llywydd, ddywedwn i, y dadleuon y mae pobl ar wahanol ochrau o'r Siambr hon wedi eu gwneud am yr angen am gonfensiwn cyfansoddiadol ac am gyfansoddiad ysgrifenedig, a fyddai'n osgoi rhai o'r risgiau yr ydym ni wedi gweld Prif Weinidog presennol y DU yn gallu eu cymryd ac yn meddwl y byddai'n gallu gwneud hynny heb gosb, a heddiw mae wedi cael ei ddal. Ond ni ddylai fyth fod wedi cyrraedd y cam hwnnw a byddai gwahanol setliad cyfansoddiadol yn atal hynny rhag digwydd. Rwy'n cytuno â'i bwynt olaf; yn fy marn i, ers i mi glywed y dyfarniad a chlywed pa mor ddiamwys oedd llywydd y Goruchaf Lys wrth egluro ei chasgliad, canfuwyd bod y Prif Weinidog wedi ymddwyn yn anghyfreithlon ac mewn ffordd a gynlluniwyd yn fwriadol i wyrdroi ein democratiaeth. Sut y gall unrhyw un yn y sefyllfa honno feddwl y gallan nhw aros yn y swydd? 

13:50

Rydym ni'n amlwg wedi cyrraedd trobwynt ac mae gennym ni ddyfarniad o 11-0—efallai fod 'eithafol' yn ffordd deg o ddisgrifio hynny. Ond, yn amlwg, yr hyn sydd wedi digwydd yw na ystyrir bellach bod pwerau uchelfreiniol y tu hwnt i reolaeth y gyfraith ac maen nhw'n destun adolygiad barnwrol. O gofio bod pwerau uchelfreiniol mor enfawr, o bosibl, ac nad ydynt yn addas, neu o leiaf yn flaenorol, i unrhyw adolygiad arall, a'n bod ni wedi gweld yn eglur yn y ffordd yr oedd y Goron yn ymwneud â hyn—nawr, mae'n wir y gallai'r Goron fod wedi atal gweithrediad yr uchelfraint gan Brif Weinidog y DU mewn canrifoedd a fu, ond, yn amlwg, yn ein hoes ddemocrataidd ni rydym ni wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Felly, o ystyried yr holl feysydd annelwig hynny o ran pa mor bell y gellir ymestyn pwerau uchelfreiniol, rydym ni wir angen yr egwyddor o adolygiad barnwrol, a chroesawaf yn gynnes y dyfarniad y bore yma. Mae wir yn sefydlu y tu hwnt i unrhyw amheuaeth ein democratiaeth a rheolaeth briodol y gyfraith.

Mae'n amlwg bod angen cyfres fwy eglur o reolau ar gyfer addoedi, yn seiliedig ar gytundeb pob plaid. Mae'n ymwneud â phryd y caiff y Senedd eistedd, ac mae'n llawer mwy na gwaharddiad, oherwydd, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'n atal pob gweithgarwch Seneddol. Mae'n ymddangos i mi bod yr holl drafod yn dod i lawr i hyn: a ddylai'r Senedd eistedd yn ystod argyfwng cenedlaethol? Ac a ydym ni o ddifrif yn mynd i ddweud na ddylai? Gwn efallai y bydd llawer o bobl nad ydyn nhw'n cytuno â'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud gyda'r amser hwnnw, ond mae'n ymddangos i mi yn rhyfeddol y byddem ni'n credu ei bod hi'n addas na fyddai'r Senedd yn eistedd ar yr adeg honno o bwysigrwydd.

Pe byddech chi'n derbyn hynny, y mwyaf eithafol fyddai, ym Mai 1940, y dylai Neville Chamberlain fod wedi addoedi'r Senedd fel y gallai'r Llywodraeth ganolbwyntio'n llawn ar y bygythiad allanol a milain yr oedd Prydain yn ei wynebu. Yn amlwg, byddai hynny wedi bod yn anghywir. Rydych chi angen sefydliad y Senedd a'r Goron, h.y. Llywodraeth a'r Senedd, yn gweithredu gyda'i gilydd. Mae annibyniaeth y farnwriaeth yn ganolog i reolaeth y gyfraith, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i chi dderbyn y dyfarniad yn llwyr, yn enwedig pan fo mor bendant. Yn breifat, efallai nad ydych chi'n cytuno ag ef yn llawn, ond nid yw dod allan wedyn a chwestiynu dyfarniad, sut bynnag y byddwch chi'n ei wneud, a cheir ffyrdd cymhleth o ddweud eich bod chi'n anghytuno, nid yw o gymorth o gwbl.

Byddwn yn dweud hyn, fodd bynnag, o gofio tôn rhai o'r trafodaethau, yn eu trafodion, roedd y barnwyr yn awyddus iawn i wahanu'r achos hwn oddi wrth fater Brexit, ac rwy'n credu y dylem ni wneud hynny hefyd. Mae'n dod ar yr adeg bwysig hon o'r cwestiwn o Brexit, ond mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na Brexit, mae'n ymwneud ag ymarferoldeb cyfansoddiad Prydain.

Diolch i David Melding am hynna. Roedd yn dda clywed y pwyntiau hynny'n cael eu gwneud o feinciau'r Ceidwadwyr yn y fan yma y prynhawn yma. Mae David Melding yn iawn, roedd y rhwystrau a'r gwrthbwysau yn ein cyfansoddiad yn gweithio, ond roedden nhw'n gweithio ar y rhwystr olaf. Bu'n rhaid iddo fynd yr holl ffordd i'r Goruchaf Lys cyn i'r mesurau rhwystrau a gwrthbwysau weithredu yn y ffordd y dylen nhw wneud, a dyna pam mae rhai ohonom ni yn y fan yma yn credu bod honno'n ffordd rhy beryglus o redeg ein cyfansoddiad ac y dylem ni gynnwys mesurau diogelu newydd ynddo fel na fyddai Prif Weinidog byth yn cael ei demtio i wneud yr hyn a wnaeth Boris Johnson.

Clywais Prif Weinidog y DU yn anghytuno â'r Goruchaf Lys, ac nid oeddwn i'n credu ei fod yn ei wneud yn arbennig o ofalus. Ei safbwynt syml oedd bod yr 11 o bobl hyn wedi cael popeth yn anghywir a, byddai, byddai'n ufuddhau i'r hyn a ddywedasant, ond roedd yn eithaf sicr ei fod ef yn iawn ac nad oedden nhw. Rwyf i wir yn credu bod hon yn ffordd mor anghywir i Brif Weinidog fod wedi ymateb yn y sefyllfa y canfu ei hun ynddi, os ydych chi'n credu yn rheol y gyfraith, oherwydd nid wyf i'n credu bod hynny'n helpu i'w chefnogi o gwbl. Ac, wrth gwrs, mae David Melding yn iawn, mae'r dyfarniad yn digwydd yng nghyd-destun Brexit, ond nid yw'n ymwneud â Brexit. Mae'n ymwneud â'r ffordd y caiff pwerau eu defnyddio yn ein cyfansoddiad, pa un a ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n gyfreithlon a pha un a ydyn nhw'n cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n gwrthsefyll craffu. Ac ar bob un o'r pwyntiau hynny, dyfarnodd y Goruchaf Lys yn unfrydol, 12 ustus y Goruchaf Lys yn eistedd gyda'i gilydd—11 ustus y Goruchaf Lys yn eistedd gyda'i gilydd—yn erbyn y Prif Weinidog.

13:55

Fel eraill, er bod hyn yn digwydd o fewn y cyd-destun yr ydym ni'n byw drwyddo ar hyn o bryd, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â grym ac mae hyn yn ymwneud â chyfansoddiad Prydain. Nid wyf i'n credu bod hyn yn ymwneud â Brexit, cymaint ag y byddai'n well gan lawer o bobl hynny.

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae llawer o bobl yn y fan yma wedi ei ddweud: mae hyn yn ymwneud â'r pwerau sydd ar gael i Brif Weinidog y DU, ond mae hefyd yn ymwneud ag ymddygiad Prif Weinidog y DU hefyd. Caf fy nhemtio i feddwl ei fod yn cymryd hen ddisgybl ysgol Eton i ddweud celwydd wrth Ei Mawrhydi y Frenhines; yn sicr, cawsom ni ein haddysgu yn well yn Ysgol Gyfun Tredegar ac ni fyddem ni byth wedi meddwl ymddwyn yn y fath fodd. Ac mae'n adlewyrchu'n wael ar yr wrthblaid yn y fan yma, ar y Blaid Geidwadol yn y wlad hon, nad ydyn nhw'n barod i sefyll yn gadarn wrth gyfansoddiad a chyfraith y wlad hon ond i amddiffyn Prif Weinidog diwerth. Mae hynny'n dweud cyfrolau.

Ond mae angen i ni wneud mwy na dim ond condemnio ymddygiad gwael Prif Weinidog presennol y DU. Mae wedi ceisio gwyrdroi ein cyfansoddiad ac mae wedi ceisio gwyrdroi ein sefydliadau democrataidd. Mae David Melding yn hollol gywir, mae'n rhaid i bwerau uchelfreiniol fod yn destun adolygiad barnwrol, ond mae'n rhaid i bwerau uchelfreiniol fod yn destun atebolrwydd democrataidd hefyd ac nid atebolrwydd barnwrol yn unig.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, nid yn unig bod yn rhaid i Brif Weinidog Prydain ymddiswyddo pan fydd yn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig dros nos a chyn iddo wynebu Senedd y DU, ond ein bod ni angen cyfansoddiad nawr sy'n adlewyrchu sofraniaeth Seneddau yr ynysoedd hyn? Seneddau'r ynysoedd hyn. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw nid confensiwn cyfansoddiadol syml, ond cytundeb gyda Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a'r Senedd hon ar ein hawl i eistedd yn ddilyffethair gan y Weithrediaeth, i ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif ac i sicrhau, fel Seneddau, ein bod ni'n gallu cynrychioli'r bobl heb ofn na ffafriaeth ac na allwn gael ein bwlio gan Brif Weinidog sy'n credu ei fod uwchlaw'r gyfraith.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Alun Davies wedi ei ddweud, sef bod yr achos yn ymwneud â grym a chyfyngiadau ar y grym hwnnw a'r ffordd y caiff y grym hwnnw ei arfer. Ac wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud bod y pwerau hynny, yn yr achos hwn, wedi cael eu harfer gan unigolyn, a bod unigolyn a'i weithredoedd yn ganolog i'r achos hwn. Mae'n ymwneud â gweithredoedd y person hwnnw, mae'n ymwneud â'r bobl anetholedig iddo eu casglu o'i gwmpas er mwyn ei gryfhau yn y camau y credai y gallai eu cymryd heb gael ei gosbi. A'r ffordd i'n hamddiffyn ni yn y dyfodol yn erbyn hynny yw trwy ddiwygio cyfansoddiadol ac, wrth gwrs, mae Alun Davies yn gwneud y pwynt sylfaenol bwysig hwnnw, sef, mewn Teyrnas Unedig ddatganoledig, mae hyn yn ymwneud â Seneddau, lluosog, nid dim ond y Senedd yn San Steffan. Ac rwyf i eisiau gweld y confensiwn cyfansoddiadol hwnnw yn ymwreiddio datganoli trwy gydnabod, 20 mlynedd ar ôl datganoli, bod sofraniaeth yn gysyniad gwasgaredig. Nid yw wedi ei chadw yn San Steffan ac yn cael ei dosbarthu i eraill i'w chymryd yn ôl pan nad ydyn nhw'n hoffi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud â hi. Mae sofraniaeth wedi ei hymwreiddio yn y fan yma ar gyfer y pethau y mae gennym ni gyfrifoldeb amdanynt, ac mae wedi ei hymwreiddio mewn mannau eraill hefyd, ac yna'n cael ei rhannu'n ôl at ei gilydd eto at ddibenion cyffredin pan fyddwn ni'n penderfynu mai dyna'r ffordd i greu undod rhwng pobl ar draws y Deyrnas Unedig.

Felly, dylai'r parch at Seneddau, nid y Senedd yn unig, fod wrth wraidd y synnwyr newydd hwnnw o sut y mae angen i'n cyfansoddiad weithredu, ac wedyn bydd mesurau cadw cydbwysedd eraill yn rhan ohono a fyddai wedi ein hatal rhag bod yn y sefyllfa yr ydym ni wedi canfod ein hunain ynddi heddiw.

14:00
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, ar yr agenda, yn ôl y papur trefn, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf yn yr eitem yma gan Huw Irranca-Davies.

Swyddi a Datblygu Economaidd yn Ogwr

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynnal swyddi a datblygu economaidd yn Ogwr? OAQ54381

Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gefnogi swyddi a datblygiad economaidd ledled Cymru, gan gynnwys yn Ogwr, drwy ein cynllun gweithredu economaidd. Rhwng 2011 a 2019, gostyngodd y gyfradd diweithdra yn Ogwr gan 52 y cant, ac roedd hynny'n fwy na'r gostyngiad yng ngweddill Cymru a'r gostyngiad ledled y Deyrnas Unedig.

Mae hynny'n newyddion i'w groesawu, Prif Weinidog. Croesawyd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf—cadarnhad o fuddsoddiad Ineos yn sedd fy nghymydog ym Mhen-y-bont ar Ogwr—ledled Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr a'r rhanbarth cyfan, gan ddangos unwaith eto bod Llywodraeth Cymru, yn wir, wedi camu i'r adwy i gefnogi ein sylfaen gweithgynhyrchu a swyddi. Er na all hyn ddisodli'n llwyr y 1,700 o swyddi, mae'n dangos ffydd yn yr ardal ac yn sgiliau'r gweithlu sy'n galonogol iawn.

Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog am y buddsoddiad a'r cymorth ehangach a pharhaus gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau yn etholaeth Ogwr dros dair blynedd olaf tymor y Cynulliad hwn: faint o swyddi a lleoedd hyfforddi a grëwyd ac a gynhaliwyd, faint o fusnesau newydd, faint o grantiau cymorth busnes a benthyciadau a chyngor a ddarparwyd? Pe gallai'r Gweinidog roi blas i mi yn ei ymateb heddiw, byddwn yn ddiolchgar, er fy mod i'n hapus i gael y stori lawn mewn ateb mwy manwl wedyn. Ac a wnaiff ef gadarnhau bod llain M4 Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn dal i fod yn gartref i rai o'r crynodiadau mwyaf o weithgynhyrchu yng Nghymru a rhai o'r gweithwyr mwyaf medrus?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Diolchaf iddo am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn am Ineos—penllanw trafodaethau hir a dwys a gynhaliwyd gan swyddogion yn Llywodraeth Cymru, dan arweiniad fy nghyd-Weinidog, Ken Skates. Roeddem ni'n falch iawn o allu dod â'r swyddi hynny i bobl yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, o gofio'r hyn sydd wedi digwydd yno yn gynharach eleni.

Wrth gwrs, mae Huw Irranca-Davies yn iawn bod llain M4 Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn dal i fod yn gartref i grynodiad mawr o weithgynhyrchu yng Nghymru—Invacare, Sony, er enghraifft—ac maen nhw yno oherwydd manteision bod â gweithlu hynod fedrus a brwdfrydig.

Gofynnodd yr Aelod i mi, Llywydd, am stori lawn y pethau a wnaed i gefnogi'r economi a'r diwydiant gweithgynhyrchu yn y rhan honno o Gymru. Dyma dair enghraifft yn unig: ers 2015, mae Busnes Cymru wedi helpu i greu dros 200 o fentrau newydd yn yr ardal a gynrychiolir gan Huw Irranca-Davies a chan yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr. Ers 2016, mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi dros £9 miliwn mewn busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig. Ac, ers 2018, mae cronfa dyfodol yr economi wedi cymeradwyo prosiectau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr sydd werth dros £8 miliwn.

Mae hynny i gyd yn dangos penderfyniad y Llywodraeth hon i barhau i fuddsoddi yn y lleoedd hynny a'r bobl hynny sydd wedi creu cymaint o lwyddiant ym maes gweithgynhyrchu ar lain yr M4 o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr yn y cyfnod diweddar.

Hoffwn gydnabod gwaith ein dwy Lywodraeth mewn dod ag Ineos i gyrion fy rhanbarth i, ond er budd y rhanbarth cyfan a thu hwnt. Mae'r datblygiad economaidd y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato, wrth gwrs, angen gweithlu sydd wedi ei baratoi'n dda sydd wedi cael y gorau o'u profiad yn yr ysgol a'r coleg. Tybed ai un o'r risgiau mwyaf i'r datblygiad economaidd parhaus hwnnw yr oedd yn sôn amdano, gan gynnwys Ogwr, fydd cyflogwyr traws-sector yn colli ffydd yng nghadernid ac atebolrwydd y system addysg. A ydych chi'n rhannu safbwyntiau Jeremy Corbyn bod arolygiaeth ysgolion annibynnol yn ddiangen?

14:05

Wel, Llywydd, cafwyd rhai tybiaethau llawn dychymyg yn y cwestiwn hwnnw; llongyfarchaf yr Aelod. Pe byddai cymhwyster academaidd yn y maes hwnnw, byddai ar lefel uchel iawn. Edrychwch, y rheswm pam mae cyflogwyr yn mynd i Ben-y-bont ar Ogwr yw'r cymwysterau a'r sgiliau sydd gan y gweithlu eisoes. Mae cyfran yr oedolion o oedran gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd ag o leiaf dau gymhwyster safon uwch neu gyfatebol wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, a'r llynedd, 2018, cyrhaeddodd yr uchaf a fu erioed. Ac mae ein buddsoddiad mewn addysg, mewn prentisiaethau yma yng Nghymru, mewn sgiliau a chyflogadwyedd, yn rhoi hyder i ni ac yn rhoi hyder i gyflogwyr fuddsoddi yn yr ardal honno gan eu bod nhw'n gwybod y bydd ganddyn nhw weithlu yno sy'n barod ac yn fodlon gwneud y swyddi y gellir eu denu i'r ardal honno.

Mae gennym ni system addysg wahanol iawn yma yng Nghymru. Mae addysg wedi ei ddatganoli—atgoffaf yr Aelodau o hynny. Nid oes gan penderfyniadau y mae pobl eraill yn eu gwneud am yr hyn sy'n iawn yn eu hardaloedd nhw unrhyw effaith uniongyrchol arnom ni. Rydym ni'n credu bod gennym ni drefn a system arolygu yma yng Nghymru sy'n gweithio i ysgolion, sy'n gweithio i fyfyrwyr, sy'n gweithio i rieni, ac rydym ni'n hapus iawn bod hynny ar waith gennym ni ac y gallwn barhau ag ef.

Prif Weinidog, bydd y newyddion y bydd Ineos yn cynhyrchu prosiect Grenadier yn y rhanbarth yn rhyddhad i'w groesawu i'm hetholwyr yn Ogwr a rhanbarth Gorllewin De Cymru yn ehangach. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni arallgyfeirio a diogelu ein marchnad swyddi ar gyfer y dyfodol os ydym ni'n mynd i newid ffawd economaidd Ogwr a'r rhanbarth ehangach. Prif Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn arfogi gweithlu'r presennol a'r dyfodol â'r sgiliau angenrheidiol i gystadlu mewn diwydiant 4.0? Diolch.

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am Ineos, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd, bod dyfodol economi Cymru yn dibynnu ar arallgyfeirio, gan ymateb i'r heriau y gwyddom y byddan nhw yno ar gyfer swyddi yn y dyfodol, gan gynnwys awtomatiaeth. Mae gennym ni gytundebau gyda chyflogwyr ym mhob rhan o Gymru. Mae ein dull contract economaidd yn golygu ein bod ni'n ystyried hwn fel cyfrifoldeb a rennir, cyfrifoldeb a rennir rhwng y Llywodraeth, rhwng cyflogwyr a rhwng cyflogeion hefyd, ac mae'r gwaith y mae'r undebau llafur yng Nghymru wedi ei wneud o ran mapio rhai o'r cyfleoedd a fydd yn dod i swyddi yng Nghymru drwy awtomatiaeth ymhlith y cyfraniadau gorau y byddwch chi'n eu gweld i'r ymateb i arallgyfeirio y mae Caroline Jones wedi awgrymu sydd ei angen arnom ni. Ond nid yw'n gyfrifoldeb i unrhyw un partner—mae'n gyfrifoldeb i bawb; dyna pam mae gennym ni ddull partneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. A, thrwy weithio gyda'n gilydd yn y ffordd honno, gallwn fod yn hyderus ein bod ni'n gallu wynebu'r heriau a'r cyfleoedd a fydd yn dod i economi Cymru o ganlyniad i newidiadau yr ydym ni i gyd yn gwybod sy'n digwydd yn y byd o'n cwmpas.

Ysgolion Rhydd

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i system addysg gynhwysfawr sy'n sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn cael y cyfle i wireddu eu potensial. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod ysgolion rhydd wedi codi safonau yn Lloegr, ac mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi canfod bod y polisi wedi methu â chyflawni ei ddiben.

Diolch, Prif Weinidog. A ydych chi'n cytuno â mi bod bwriad Prif Weinidog y DU, fel y dywedodd, i greu 30 o ysgolion rhydd ar draws y DU—efallai fod hwnnw'n sylw amhriodol—yn dangos ei anwybodaeth o ddatganoli, oherwydd, fel yr ydym ni i gyd yn ymwybodol yn y Siambr hon, mae addysg wedi ei datganoli? A wnaiff y Prif Weinidog barhau felly i roi sicrwydd i bobl Cymru na fyddwn ni'n gweld marchnadeiddio addysg yng Nghymru drwy sefydlu ysgolion rhydd?

Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn atodol yna, Llywydd. Rwy'n gobeithio ei fod yn iawn; rwy'n gobeithio ei fod yn fater syml nad oedd Prif Weinidog y DU yn deall datganoli. Byddai hynny'n un peth. Ond mae gen i bryder mawr efallai fod rhywfaint o fwriadoldeb y tu ôl i'r datganiad hwnnw. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio'r araith a wnaeth Michael Gove yng Nghaeredin yn ystod etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, pan ddywedodd mai'r ffordd i gadarnhau'r Deyrnas Unedig oedd i Lywodraeth y DU sefydlu, mewn ardaloedd datganoledig, ysgolion ac ysbytai y byddai ganddyn nhw gyfrifoldeb amdanyn nhw. Roedd yn syniad, meddyliais, o oedd â'r nod o arwain at chwalu'r Deyrnas Unedig, a gadewch i ni obeithio pan gyfeiriodd Prif Weinidog y DU at 30 o ysgolion rhydd ledled y Deyrnas Unedig nad oedd yn adleisio'r syniad arbennig o anhapus hwnnw. Mae addysg wedi ei datganoli i Gymru; rydym ni wedi mynd ati'n bwrpasol, yn fwriadol, a thrwy gydol cyfnod datganoli wedi cefnu ar y syniad mai creu marchnad ym maes addysg yw'r ffordd orau i godi safonau. Mae'n bendant nad yw'n gwneud hynny. Y cwbl mae'n ei wneud yw sicrhau bod y rhai sydd â manteision eisoes yn dod yn fwy breintiedig fyth yn y dyfodol. Mae ein polisïau addysg wedi eu seilio erioed ar ein cred y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i wneud y defnydd gorau posibl o'r holl dalentau y mae'r plentyn hwnnw'n meddu arnynt ac mai nid damwain o'r math o ysgol y mae'n mynd iddi a'r math o addysg y mae'n ei derbyn a ddylai bennu'r cyfleoedd hynny mewn bywyd. Dyna'r hyn y mae ysgolion rhydd yn ei wneud. Dyna pam na fyddwn ni'n eu cael nhw yng Nghymru.

14:10

Credaf ei bod hi braidd yn hyf, a dweud y gwir, i'r cyn-Brif Weinidog feirniadu'r polisïau addysg yn Lloegr pan ddarparodd y Llywodraeth, o dan ei arweinyddiaeth ef, y canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr gwaethaf a welodd y wlad hon erioed ac rydym ni'n dal i fod ar waelod tablau cynghrair y DU ym mhynciau Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Nawr, un o'r rhesymau am hynny—. Dywedasoch eich bod chi eisiau i bob person ifanc gael cyfle cyfartal: y gwir yw nad ydyn nhw'n cael cyfle cyfartal yma yng Nghymru, gan fod bwlch cyllid o £645 fesul disgybl, bob blwyddyn, yn ôl yr undebau, y mae angen mynd i'r afael ag ef.

Nawr, yr un peth da, wrth gwrs, Prif Weinidog—yr un peth da—yw bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hwb gwariant sylweddol ar gyfer addysg yn ddiweddar iawn, sy'n golygu, o ganlyniad i'r hwb gwariant hwnnw, y bydd gan Gymru £1.2 biliwn i'w wario ar addysg yn ychwanegol at y swm cyfredol dros y tair blynedd nesaf. A gaf i ofyn i chi: pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i gau'r bwlch cyllid hwnnw, ei ddileu'n llwyr, i roi chwarae teg fel y gall pobl ifanc yma gael y cyfle i ffynnu?

Llywydd, mae cyfraniad yr Aelod yn feinwe o honiadau hen ffasiwn, ac felly'n hynod gamarweiniol. Mae'r ffigur a ddyfynnodd o 2011. Byddech chi'n meddwl y byddai wedi diweddaru ychydig ar ei ffigurau ers hynny. Byddech chi'n meddwl efallai y byddai wedi darllen y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a ddywedodd bod y bwlch rhwng cyllid yng Nghymru a Lloegr bron wedi cael ei ddileu, ac roedd hynny oherwydd toriadau, toriadau—[Torri ar draws.] Roedd y bwlch bron wedi ei ddileu oherwydd y toriadau a wnaed i gyllidebau addysg yn Lloegr. [Torri ar draws.] Wel, gallwch chi ddweud 'nonsens', Darren, os mynnwch chi, ond yr IFS a ddywedodd hynny, nid fi. [Torri ar draws.] Yr IFS—ac adroddwyd ganddynt eto ddoe. Syniad da, rwy'n meddwl, fyddai diweddaru eich ffigurau ac, efallai, eich dealltwriaeth.

Pe byddem ni'n cael arian ar y raddfa yr ydych chi'n ei awgrymu—ac yn sicr nid oes unrhyw sicrwydd y byddwn ni'n ei gael; mae gennym ni setliad blwyddyn yma yng Nghymru, ac mae eich Llywodraeth chi wedi bod yn barod i gynnig tair blynedd yn Lloegr, ond nid i Gymru nac i'r Alban. Pe na bydden nhw wedi gwario rhywfaint o'r arian cyn i ni ei gael—£50 miliwn i lenwi'r bwlch yng nghyfraniadau pensiwn athrawon, a ddylai fod wedi dod gan Lywodraeth y DU ac y maen nhw wedi gwrthod, er gwaethaf rheolau'r fformiwla ariannu, ei roi i ni—a phe byddem ni'n cael yr arian hwnnw, Llywydd, ni fyddwn yn gwastraffu £140 miliwn ar ysgolion rhydd na agorodd erioed, neu a agorodd ac a gaeodd. Os cawn ni arian yma, byddwn yn ei fuddsoddi mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo'r bobl ifanc hynny yn ein hysgolion a sicrhaodd y canlyniadau safon uwch a TGAU gorau erioed hynny ym mis Awst eleni. Dyna wirionedd y mater, ac nid yw ymgais yr Aelod, yn ôl ei arfer, i daflu rhyw gysgod ar gyflawniadau plant yng Nghymru yn gwneud unrhyw ddaioni iddyn nhw, ond nid yw'n gwneud dim daioni o gwbl i'w blaid.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, wedi cyhoeddi y byddai'r wythnos waith gyfartalog yn y DU yn cael ei thorri i 32 awr o fewn 10 mlynedd o dan Lywodraeth Lafur y DU. A ydych chi fel Llywodraeth yn cefnogi'r polisi hwnnw?

Rwy'n credu ei fod yn bolisi rhagorol, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu ei drafod gyda John McDonnell yn gynharach yr wythnos hon. Bydd gweithwyr yng Nghymru yn croesawu'r uchelgais hwnnw. Hoffent fod yn yr un sefyllfa â'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o Ewrop a thrwy'r camau y byddwn ni'n eu cymryd mewn Llywodraeth i wella cynhyrchiant, i ail-gydbwyso’r economi o blaid pobl sy'n gweithio, yna mae hwnnw'n uchelgais yr ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn sicr yn ei gefnogi.

14:15

Wel, Prif Weinidog, o leiaf rydych chi'n cytuno â'ch plaid ar lefel y DU ar un polisi, beth bynnag, o ystyried eich bod chi'n anghytuno â hi ar fater Brexit.

Nawr, Prif Weinidog, wrth ymateb i'r cyhoeddiad, fe'i gwnaed yn eglur gan gyfarwyddwr y CBI Carolyn Fairbairn, heb enillion cynhyrchiant, y byddai'n gwthio llawer o fusnesau i golledion. Ac nid busnesau yng Nghymru yn unig fyddai'n cael eu heffeithio gan hyn, nage? Rydym ni wedi trafod ers amser maith yr argyfwng recriwtio a achoswyd gan eich Llywodraeth Lafur yn ein GIG Cymru, a gwyddom fod y gwasanaeth iechyd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw am feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o feddygon, nyrsys a staff allweddol eraill ychwanegol y bydd y GIG eu hangen i ymateb i'r pwysau ychwanegol y bydd y polisi hwn yn ei greu, o gofio eich bod chi wedi methu â recriwtio digon i ddiwallu'r anghenion presennol?

Llywydd, roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod  â Carolyn Fairbairn yn ystod yr haf ac i gytuno â hi ar ba mor agos yw barn y CBI a Llywodraeth Cymru o ran Brexit a'r economi. Cawsom drafodaeth ar fater cynhyrchiant yn y cyfarfod hwnnw gan gytuno bod polisi ei Lywodraeth ef o ran cadw llafur yn rhad wedi cael yr effaith o gadw lefelau cynhyrchiant i lawr yn y wlad hon. Mae'n anochel, onid yw? Os byddwch chi'n gwneud pobl yn rhad, yna nid yw busnesau'n buddsoddi yn y peiriannau a'r diwygiadau eraill hynny sy'n arwain at fwy o gynhyrchiant. Mae profiad Ffrainc yn dweud wrthym yn eglur, os byddwch chi'n lleihau oriau, rydych chi'n gwella cynhyrchiant. Dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn y wlad hon.

Mae problemau recriwtio yn y gwasanaeth iechyd yn cael eu heffeithio'n waeth o lawer gan bolisïau ei blaid ef a'i Lywodraeth ef, lle nad yw pobl sy'n dod o rannau eraill o Ewrop i weithio yn ein GIG yn credu mwyach bod croeso iddyn nhw yn y wlad hon o dan ei Lywodraeth ef. Mae hwnnw'n fwy o fygythiad o lawer i gyflogaeth yn y GIG nag unrhyw beth sy'n dweud wrth bobl sy'n gweithio ynddo, 'Hoffem pe byddech chi'n gallu cael gwell cydbwysedd rhwng yr oriau yr ydych chi'n eu treulio yn y gwaith a'r oriau sydd gennych chi i'w treulio gyda'ch teulu', a dyna fydd Llywodraeth Lafur yn ei gyflawni i chi.

Atgoffaf y Prif Weinidog mai ef sy'n gyfrifol am bolisi iechyd yma yng Nghymru. Ac nid yw hyn yn ymwneud ag ysbytai yn unig, y polisi penodol hwn, ond mae hefyd yn ymwneud â'n hysgolion. Dangosodd papur a gyhoeddwyd gan Sefydliad Nuffield ac Athrofa Addysg UCL bod un o bob pedwar o athrawon yn gweithio mwy na 60 awr yr wythnos yn y DU. Rydym ni'n gwybod bod eich Llywodraeth chi wedi ei gwneud yn eglur nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i gau ysgolion am ddiwrnod ychwanegol yr wythnos, sydd i bob pwrpas yn golygu y byddai'n rhaid i benaethiaid, o dan Lywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol, gyflogi staff ychwanegol a newid eu rotas yn sylweddol er mwyn sicrhau wythnos waith lai. Prif Weinidog, pa goeden arian hudol sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r amcan hwn mewn gwirionedd? A sut gwnewch chi ddenu athrawon i Gymru, o gofio bod eich Llywodraeth eich hun wedi methu ei thargedau ei hun ar gyfer athrawon uwchradd dan hyfforddiant newydd gan 40 y cant eisoes eleni?

Mae'r peth y tu hwnt i gredadwyedd, Llywydd. Nid oeddwn i'n gallu deall yn iawn. Dechreuodd arweinydd yr wrthblaid ar ei gwestiynau i mi yn cwyno mae'n ymddangos, ein bod ni'n mynd i ofyn i bobl weithio llai o oriau. Yna mae'n cwyno bod athrawon yn gweithio gormod o oriau. Wel, nid wyf i'n siŵr pa un sy'n well ganddo. Polisi'r Llywodraeth hon fydd gweithio gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf yn y Deyrnas Unedig i helpu'r teuluoedd hynny i weithio llai o oriau, i helpu ein gweision cyhoeddus i allu gwneud yr ymdrechion y gwyddom eu bod nhw eisiau eu gwneud. Ac o ran y goeden arian hud, efallai yr hoffai roi'r map i mi a arweiniodd Boris Johnson at y goeden arian hud y mae wedi bod yn ei hysgwyd, oherwydd ar ôl degawd o ddweud wrthym ni nad oedd arian ar gael ar gyfer popeth, mae ei Lywodraeth wedi bod yn brysur yn ei rofio allan drwy'r drws fel pe na byddai yfory.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gydag ystod cyflog o hyd at bron i £60,000, mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysebu swydd arweinydd yr adolygiad tlodi plant yn ddiweddar. A all y Prif Weinidog esbonio beth yw'r dasg allweddol y cyfeirir ati ar frig y disgrifiad swydd?

Rydym ni'n chwilio am arweinydd adolygiad tlodi plant i helpu'r gwaith y mae fy nghydweithiwr, Julie James, wedi ei ddechrau. Rydym ni eisiau sicrhau bod yr holl gamau yr ydym ni'n eu cymryd ar draws y Llywodraeth yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at ddatrys pla tlodi ym mywydau plant yng Nghymru a'r ffaith y bydd 50,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi ar ddiwedd y degawd hwn nag oedd ar y dechrau, o ganlyniad i benderfyniadau bwriadol y Llywodraeth Geidwadol. Hoffwn i'r Llywodraeth hon gymryd yr holl gamau ymarferol o fewn ei gallu i archwilio'r polisïau a'r gweithdrefnau sydd gennym ni ar waith i sicrhau eu bod yn gwneud y mwyaf y gallant i gynorthwyo teuluoedd yn y sefyllfa honno, a dyna fyddwn ni'n dymuno i swyddog arweiniol ein cynorthwyo ni i'w gyflawni.

14:20

Mae'r disgrifiad swydd yn darllen fel a ganlyn: tasg gyntaf yr ymgeisydd llwyddiannus fydd datblygu dealltwriaeth well o'r hyn sy'n digwydd ym mywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Nawr, rwy'n dweud hyn gyda'r parch mwyaf, ond ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, siawns na ddylai eich Llywodraeth wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw. Mae traean o'n plant—dros 200,000—yn byw mewn tlodi, mae 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol a Chymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd i dlodi plant y llynedd. Yn 2016, cafwyd gwared ar y targed gennych chi, fel Llywodraeth, o ddileu tlodi plant erbyn diwedd y degawd yr ydych chi newydd gyfeirio ato, a chawsoch wared ar Weinidog penodol a oedd yn gyfrifol am gyflawni'r targed hwnnw, gan symud i swyddogaeth gydgysylltu. Nawr, ar yr adeg honno, galwodd Comisiynydd Plant Cymru am gynllun cyflawni ar blant tebyg i'r un yn yr Alban, ond ni chafwyd adroddiad ar gynnydd hyd yn oed, ers hynny, oherwydd ni fu unrhyw gynnydd. Onid y tlodi mwyaf oll yw'r tlodi o ran uchelgais?

Llywydd, rwy'n siomedig nad yw'r Aelod yn credu bod cael gwell dealltwriaeth o dlodi a sut mae'n effeithio ar fywydau plant yng Nghymru heddiw yn rhywbeth y mae'n werth i Lywodraeth fynd ar ei drywydd. Rwy'n cofio eistedd gydag ef mewn trafodaethau pan roedd Plaid Cymru yn cynnig arsyllfa ym maes tlodi plant fel y byddai gennym ni'r union well dealltwriaeth honno ar gael i ni. Nid wyf i'n credu bod hwnnw'n uchelgais nad yw'n werth ei gael, oherwydd os oes gennym ni well dealltwriaeth, ac yn enwedig os oes gennym ni well dealltwriaeth drwy lygaid y plant eu hunain, yna byddwn yn gallu gwneud yr hyn sy'n rhywbeth y gwn ei fod yn cael ei rannu rhwng ein pleidiau. Rydym ni eisiau gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl ym mywydau plant yng Nghymru, ac yn enwedig rydym ni eisiau gwneud y gwahaniaeth hwnnw ym mywydau'r plant hynny lle mai arian yw'r rhwystr i'r plant hynny rhag cael y mathau o fywydau a phrofiadau yr ydym ni eisiau iddyn nhw eu cael.

Nawr, darllenais adroddiad y comisiynydd plant a chefais gyfarfod â hi i'w drafod, gan fy mod i'n credu ei fod yn adroddiad rhagorol. Bu'n rhaid i mi ddweud sawl gwaith ar lawr y Cynulliad—gan holi'r rhai sy'n gwneud y ddadl i mi mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru ei angen yw strategaeth newydd ar dlodi plant, a dweud ei bod yn well gennyf i gyngor y comisiynydd plant, sef mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw cynllun cyflawni wedi ei ailwampio, sy'n ystyried y pethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud. Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans ac eraill wedi cyfarfod â'r Comisiynydd Plant ers hynny i ystyried y camau ymarferol hynny. Dyna pam yr ydym ni eisiau arweinydd i gymryd rhan yn hyn i gyd. Oherwydd yn y modd hwnnw, rydym ni'n defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym ni yn ein dwylo i wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Rwy'n cofio pan benododd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan tsar tlodi naw mlynedd, a dweud y gwir, ar ôl dod i rym, a dywedais wrthynt yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi nawr: 'Ble ydych chi wedi bod?' a bod yn blaen. Mae Llywodraeth yr Alban wedi mabwysiadu targedau statudol rhwymol i leihau tlodi plant. Mae'n cyflymu ei chynllun cyflawni i ymrwymo i daliad plant o £10 yr wythnos y plentyn i deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol. Bydd pedwar can mil o blant yn yr Alban yn elwa a gallai 30,000 gael eu rhyddhau o dlodi ar unwaith. Mae uwch economegydd yr Alban yn Sefydliad Joseph Rowntree wedi canmol hyn fel esiampl o bolisi blaengar. Nawr, bydd Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn 2021 yn ymrwymo i fynd hyd yn oed ymhellach, ond lle mae Llywodraeth y DU wedi gwneud toriadau, siawns nad oes angen i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen. Mae'n syfrdanol, Prif Weinidog, mai dim ond nawr yr ydych chi'n deffro i effeithiau tlodi ar fywydau plant. Pryd fyddwn ni'n gweld buddsoddiad gwirioneddol a phryd y gwnewch chi osod targed uchelgeisiol fel nad yw plant yn mynd i'r ysgol yn llwglyd ac i'r gwely yn oer?

Wel, Llywydd, mae'n lol, onid yw? Mae'r Aelod bob amser yn llwyddo i ddifetha pwynt difrifol y mae'n ei wneud gan nad yw'n gallu osgoi addurn rethregol ar y diwedd. Yn syml, ni fyddai'r syniad nad yw'r blaid hon a'r Llywodraeth hon wedi bod â diddordeb mewn tlodi plant dros holl gyfnod datganoli yn gwrthsefyll hyd yn oed ychydig eiliadau o archwilio.

Pan benododd y Llywodraeth Lafur ei tsar tlodi, roedd tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers degawd. A dyna hanes datganoli: y degawd gyntaf pan ostyngodd tlodi plant flwyddyn ar ôl blwyddyn—nid yn ddigon cyflym i lawer ohonom ni, ond yn gostwng bob blwyddyn—ac ail ddegawd pan fo mwy o blant, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mewn tlodi oherwydd y camau y mae math gwahanol iawn o Lywodraeth â blaenoriaethau gwahanol iawn wedi eu cymryd. Dros yr holl gyfnod hwnnw, Llywydd, rydym ni wedi cymryd camau sy'n gadael arian ym mhocedi teuluoedd sydd ei angen fwyaf, boed hynny'n frecwast am ddim mewn ysgolion cynradd ar ddechrau'r cyfnod datganoli, neu ein cynllun newyn gwyliau, yr ydym ni wedi ei sefydlu yn ystod y tymor Cynulliad hwn ac y mae cydweithwyr o Lywodraeth yr Alban wedi bod yn awyddus iawn i siarad â ni amdano i weld sut y gall hynny ddylanwadu ar eu camau yn y maes hwnnw.

Rwyf i eisiau dysgu gan yr Alban. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd—. Nid cystadleuaeth rhwng pobl dda yn y fan yma a phobl ddrwg yn y fan acw yw datganoli. Mae datganoli yn ffordd i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd. Mae llawer o bethau y mae'r Alban yn eu gwneud ym maes tlodi plant y byddwn yn siarad â nhw amdanynt ac y gallwn ddysgu oddi wrthynt yn y fan yma, ac mae llawer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud yng Nghymru y mae cydweithwyr o'r Alban yn dod i Gymru i'w hastudio er mwyn hysbysu'r dasg a rennir yr wyf i'n credu sydd gan y Llywodraeth hon a Llywodraeth yr Alban, sef sut i ymdrin â'r ymosodiad ar fywydau pobl yn yr Alban a Chymru gan Lywodraeth Geidwadol nad oes ganddi ddiddordeb yn eu dyfodol, a gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i sicrhau dyfodol gwahanol.

14:25

Edrychais ar sianel y senedd ar y teledu fore Sul, a mwynheais wrando ar araith y Prif Weinidog yn Bournemouth. Dim ond ar ôl gwrando ar ychydig mwy o'r gynhadledd Lafur y deuthum i weld ei gyfraniad fel uchafbwynt. Ond a gaf i ofyn iddo, er hynny—? Methodd yn ei ymdrechion i berswadio cyd-Aelodau i dorri eu haddewid i barchu canlyniad y refferendwm drwy ymgyrchu dros 'aros' nawr. Mae'n ymddangos mai dim ond ar ôl yr etholiad y mae eraill eisiau dweud hynny wrth bobl. Ond o gofio bod gobaith nawr y bydd y Blaid Lafur yn y DU yn ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd ar sail gwell cytundeb, yn ôl pob sôn, ac eto yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn aros yn yr UE, a yw hynny'n golygu ei fod yn cefnogi erbyn hyn, os oes angen, polisi Plaid Cymru o adael y DU er mwyn aros yn yr UE?

Llywydd, rwy'n falch bod yr Aelod wedi mwynhau fy araith yn Bournemouth. Roeddwn i'n bersonol yn siarad yn Brighton—[Chwerthin.] Felly, efallai mai rhyw gyfle arall wnaeth amlygu ei hun iddo. Mae polisi'r Llywodraeth hon ar Brexit yn gwbl eglur. Rydym ni'n falch iawn bod y Blaid Lafur ar lefel y DU wedi ymrwymo'n llwyr erbyn hyn i gael refferendwm ar fater Brexit, ac mae angen i bobl sydd eisiau cael yr ail gyfle hwnnw i bleidleisio ar adael yr Undeb Ewropeaidd os ydyn nhw'n mynd i sicrhau hynny, yna Llywodraeth Lafur yw'r unig ffordd y byddan nhw byth yn cael yr ail gyfle hwnnw. Pan ddaw'r cyfle hwnnw, bydd y Llywodraeth hon yn ymgyrchu, fel yr ydym ni wedi dweud y byddwn ni'n ei wneud ers misoedd lawer iawn erbyn hyn, i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd dyna'r ateb gorau i Gymru. Rydym ni eisiau Cymru ddatganoledig gref mewn Teyrnas Unedig gref a llwyddiannus y tu mewn i Undeb Ewropeaidd cryf a llwyddiannus. Rydym ni eisiau i'r Blaid Lafur yng Nghymru allu gwneud penderfyniadau am y pethau yr ydym ni'n gwybod orau amdanynt a'r pethau sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru ond gan aros ym Mhlaid Lafur y DU.

O gofio bod y Prif Weinidog wedi derbyn fy nghywiriad ar nifer barnwyr y Goruchaf Lys, rwy'n derbyn ei gywiriad daearyddol gyda'r un ewyllys da.

A gaf i ei holi am wahaniaeth posibl arall rhwng polisi'r DU a pholisi Cymru? Yn ei gynhadledd heddiw, mae'n ymddangos bod symudiad mawr i newid polisi newid yn yr hinsawdd a chael polisi o sero net erbyn 2030—dim ond 11 mlynedd i ffwrdd yw hynny. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai hynny'n drychineb llwyr, yn arwain at chwalfa yn yr economi, hyd yn oed heb gynnig y grŵp ein bod ni'n talu iawndal am allyriadau hinsawdd y gorffennol, ac y byddai'n tanseilio unrhyw bosibilrwydd o weithio ar y cyd gydag unrhyw un arall ar y mater hwn? Mae'n sôn llawer am sero net erbyn 2050, ond a wnaiff ef gadarnhau hefyd nad sero net erbyn 2050 yw polisi Llywodraeth Cymru, ond gostyngiad o 90 y cant, gan fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi dweud nad oedd yn bosibl sicrhau sero net i Gymru?

Ac a wnaiff ef fyfyrio unwaith eto ar fater yr M4, oherwydd fe wnaethom sôn yr wythnos diwethaf am yr hysbysiad o benderfyniad? Dywedais nad oedd ei hysbysiad o benderfyniad am yr M4 yn dweud dim byd o gwbl am y newid yn yr hinsawdd, a thorrodd y Prif Weinidog ar fy nhraws ddwywaith gan honni ei fod. Yn ffodus iddo ef, mae wedi ei gofnodi fel 'torri ar draws' yn unig yn ein cofnod. Ond a wnaiff ef fyfyrio unwaith eto na ddywedodd ddim am y newid yn yr hinsawdd yn yr hysbysiad o benderfyniad hwnnw, sef y ddogfen sy'n rhwymo mewn cyfraith, pan ddiystyrodd yr M4, ac fe wnaeth hynny am reswm da, oherwydd daeth yr arolygydd i'r casgliad y byddai'r cynllun, yn unigryw efallai, yn niwtral o ran carbon dros amser?

14:30

Llywydd, rwyf i eisiau i ni gael y targedau mwyaf uchelgeisiol, cyraeddadwy ar gyfer newid yn yr hinsawdd y gallwn ni eu rhoi ar waith. Ar gyfer hynny, rydym ni'n dibynnu ar y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd a'u cyngor nhw. Os bydd y cyd-destun ar draws y Deyrnas Unedig yn newid, os oes gennym ni wahanol Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn dilyn gwahanol bolisïau yno, fel y fargen newydd werdd y mae fy mhlaid i wedi bod yn siarad amdani yr wythnos hon, yna, wrth gwrs, bydd angen ceisio'r cyngor gan y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd unwaith eto yn y cyd-destun newydd hwnnw. Ac rwyf i eisiau i ni, yng Nghymru, fod mor uchelgeisiol ag y gallwn ni fod, o fewn terfynau'r rhai sy'n gwybod fwyaf am y pwnc ac sy'n rhoi'r cyngor mwyaf awdurdodol i ni.

Yn fy mhenderfyniad ar yr M4, i'w ailadrodd, gwahaniaethais rhwng costau ariannol ffordd liniaru'r M4, gan ddod i'r casgliad nad oedden nhw'n gynaliadwy ar ôl 10 mlynedd o gyni cyllidol, a'r materion amgylcheddol. A rhoddais sylw i'r materion amgylcheddol yno. Ac rwyf i wedi darllen yn fanwl yr hyn y mae adroddiad yr arolygydd yn ei ddweud am niwtraliaeth o ran carbon. Ac o'm cof—bydd yn rhaid i mi wirio, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i ddweud wrtho os wyf i wedi ei gofio yn anghywir—gyda'r gyfres o dybiaethau a wnaeth yr arolygydd, dywedodd y byddai'r ffordd hon yn niwtral o ran carbon erbyn 2073. Nawr, os ydych chi'n meddwl bod hynny'n ddigon uchelgeisiol i ni, yna nid wyf i, yn sicr.

Safbwynt y Llywodraeth ar Brexit

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar Brexit? OAQ54364

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Dylid datrys argyfwng Brexit trwy ddychwelyd y penderfyniad i'r bobl mewn ail refferendwm. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu'n galed i sicrhau ein dyfodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yn yr oes sydd ohoni, mae aros tan gwestiwn 3 i siarad am hyn braidd yn optimistaidd yn ôl pob tebyg. Ond, siawns mai'r un peth na wnaethoch chi ymateb iddo yn sylwadau arweinydd yr wrthblaid i chi yn y cwestiwn brys oedd y pwynt y gall pobl leisio eu barn, mae Prif Weinidog y DU eisiau iddyn nhw gael lleisio eu barn, drwy etholiad cyffredinol. A fyddwch chi'n rhoi ewyllys wleidyddol Llywodraeth Cymru y tu ôl i'r galwadau am etholiad cyffredinol, fel y gellir chwalu Senedd nad yw'n gallu dod i gytundeb a chynnull Senedd newydd i ddatrys y materion hyn?

Rwyf i bob amser eisiau cael etholiad cyffredinol pan fydd Plaid Geidwadol mewn grym, oherwydd mae hynny'n cynnig rhywfaint o obaith i bobl y gallai pethau fod yn wahanol ac y gallai pethau fod yn well.

Ond, os ydych chi'n credu bod pawb arall yn mynd i ddawnsio i dôn Prif Weinidog y canfuwyd heddiw ei fod wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac yn annemocrataidd, ac yn credu y bydd yn trefnu pethau fel ei fod yn digwydd ar adeg o'i ddewis ef ac sy'n gyfleus iddo ef, yna rydych chi wedi camddeall yn arw. Dydyn ni ddim yn credu y gellir ymddiried ym Mhrif Weinidog y DU yn y mater hwn. Rwy'n gobeithio y daw etholiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yn dod yn gyflym iawn, ond bydd yn digwydd ar adeg pan fo'r Senedd yn dewis, nid yr adeg y byddai'r Prif Weinidog hwn yn ei gweld yn gyfleus iddo'i hun.

Yn ei drafodaethau blaenorol gydag arweinydd yr wrthblaid, roedd y Prif Weinidog yn llawn canmoliaeth o ddyfarniad y Goruchaf Lys. Ond a fyddai'n cytuno â mi mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld heddiw yw creu cyfraith newydd, y mae gan y Goruchaf Lys, wrth gwrs, y grym i'w wneud? Nid oes unrhyw amheuaeth bod pwerau uchelfreiniol yn cael eu rheoli gan y gyfraith gyffredin; bu hynny'n wir am 400 mlynedd, ac nid oes neb yn gwadu'r gosodiad cyffredinol hwnnw. Ond, yn y gorffennol, ystyriwyd erioed bod y defnydd o'r grym uchelfreiniol i orchymyn gohiriad, ac yn wir y cyfnod y mae'r gohiriad hwnnw yn ei bara, yn fater gwleidyddol yn ei hanfod. Ac mae'r ffaith bod y llysoedd wedi crwydro i'r maes gwleidyddol hwn yn creu rhai peryglon penodol, sy'n amlwg.

Yn ei chrynodeb o'r dyfarniad, dywedodd y Farwnes Hale y bore yma,

gohiriwyd democratiaeth seneddol am gyfnod hir o dan amgylchiadau cwbl eithriadol: y newid sylfaenol a oedd i fod i ddigwydd yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig ar 31 Hydref. Mae gan y Senedd, a Thŷ'r Cyffredin yn arbennig fel cynrychiolwyr etholedig y bobl, yr hawl i lais yn y ffordd y mae'r newid hwnnw'n digwydd.

Un hepgoriad amlwg o'r dyfarniad, wrth gwrs, yw unrhyw gyfeiriad at y refferendwm, a'r rhan sydd gan bobl Prydain i'w chwarae yn eu dyfodol. A phan ddywedodd bod gan y Senedd, Tŷ'r Cyffredin, fel cynrychiolwyr etholedig y bobl, lais, beth os nad ydyn nhw'n cynrychioli'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto ym mis Mehefin 2016, pan bleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl i adael, a nawr mae Senedd sydd o blaid aros yn gwneud popeth o fewn ei gallu i rwystro'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto?

14:35

Wel, bydd yr Aelod, rwy'n siŵr, eisiau llongyfarch y Blaid Lafur ar ddatrys y mater hwn drwy roi'r penderfyniad hwnnw yn ôl yn nwylo'r bobl. Bydd ei holl broblemau gyda Thŷ'r Cyffredin yn diflannu, bydd pobl yn gallu pleidleisio ar hyn eto. Nawr rwy'n clywed yr Aelod yn gweiddi arnaf am o leiaf y deuddegfed gwaith y prynhawn yma, rwy'n credu, 'Beth am etholiad cyffredinol?' A dywedaf wrtho fy mod i'n credu mai'r ffordd orau o ymdrin â refferendwm yw drwy ail refferendwm. Gellir ennill etholiad cyffredinol ar sail 35 y cant o'r boblogaeth sy'n pleidleisio. Nid yw'n ymddangos i mi bod honno'n sail gadarn ar gyfer gwyrdroi nac ailystyried mater sydd, fel y mae'n dweud wrthyf i wythnos ar ôl wythnos, wedi ennyn y nifer fwyaf o bobl erioed i bleidleisio ar bwnc. Byddai'n well, rwy'n credu, i ni roi'r penderfyniad hwnnw yn ôl yn nwylo'r bobl, mewn ail gyfle. Bydd ef yn cael ei gyfle i ddadlau ei achos—gwn y bydd yn ei ddadlau pryd bynnag y caiff gyfle. Ond bydd gan eraill gyfle i ddadlau eu hachosion hwythau hefyd. Mae wedi bod yn annealladwy i mi erioed, Llywydd, pam mae gan Aelodau ar lawr y Cynulliad hwn gymaint o alergedd i'r syniad y gellid gofyn i bobl unwaith eto am eu barn ar y pwnc pwysicaf sy'n ein hwynebu. Mae fy mhlaid i wedi ymrwymo i hynny; rwy'n credu y dylai democratiaid ymrwymo i hynny.

Rwy'n credu bod pethau'n symud yn weddol gyflym mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys yn gynharach heddiw. Gwyddom fod Seneddwyr Democrataidd yn yr Unol Daleithiau yn dechrau camau uchelgyhuddo yn erbyn yr Arlywydd Trump ac rydym ni'n clywed bod Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau yn ystyried dechrau prosesau uchelgyhuddo yn erbyn Boris Johnson, pe byddai'n gwrthod ymddiswyddo. Nawr, fel plaid, byddwn yn cefnogi hynny; deallir bod Aelodau eich plaid chithau hefyd yn barod i gefnogi'r camau hynny. A fyddai hwnnw'n gam yr hoffech ei weld yn digwydd, fel Prif Weinidog?

Llywydd, rwy'n credu bod gan yr Aelod fantais drosof i, mae'n debyg, o allu dilyn y digwyddiadau sy'n dod i'r amlwg o'r man lle mae'n eistedd yn y Siambr, tra fy mod i wedi bod yn sefyll yn y fan yma yn methu â gweld dim ers ymhell dros awr bellach. Bydd ef yn maddau i mi, rwy'n siŵr, os dywedaf fy mod i eisiau astudio'r syniadau hynny sy'n dod i'r amlwg cyn rhoi safbwynt arnyn nhw, heb gael unrhyw gyfle i'w gweld drosof fy hunan.

Gwasanaethau Rheilffyrdd yn Islwyn

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ54401

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau ychwanegol, gyda gwell cerbydau a gorsafoedd yn Islwyn, yn rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer metro de Cymru. Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar faterion rheilffyrdd yng Nghymru, sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf.

Diolch, Prif Weinidog. Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru, yn rhan o'r contract rheilffyrdd Cymru a'r gororau newydd, wedi ei redeg gan Trafnidiaeth Cymru, y byddai cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glynebwy yn cael eu hailgyflwyno yn 2021. Ac mae hyn yn newyddion gwych i'm hetholwyr i yn Islwyn, yn Nhrecelyn, Crosskeys a Rhisga. Caewyd y cyswllt i deithwyr ym mis Ebrill 1962, yn dilyn adroddiad enwog Beeching. Felly, Prif Weinidog, beth yw'r cynnydd presennol ar y gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy, drwy Islwyn, i Gasnewydd, pryd y bydd yn dechrau, a, Phrif Weinidog—[Torri ar draws.] Clywaf sylwadau i'm chwith. Beth mae'r cyhoeddiad y bydd pob gorsaf reilffordd yn Islwyn yn derbyn cyfran o'r £194 miliwn o fuddsoddiad gan Trafnidiaeth Cymru, sy'n dangos ymrwymiad Llafur Cymru yn ei wneud i wella'n sylweddol y profiad i gymudwyr rheilffordd Islwyn?

14:40

Wel, Llywydd, diolch i Rhianon Passmore am dynnu sylw, unwaith eto, at y gwelliannau sydd ar eu ffordd i ddinasyddion sy'n byw yn Islwyn, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi ymrwymo i ddarparu cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glynebwy, yn rhan o fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau, yn dangos, pan fydd y penderfyniadau hyn yn ein dwylo, ein bod ni'n gallu eu gwneud mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio yng Nghymru ac sicrhau manteision i bobl Cymru.

Bydd etholwyr yn Islwyn yn dechrau gweld cyflwyno trenau dosbarth 170 o fis Rhagfyr eleni. Mae'r achos busnes amlinellol ar gyfer rheilffordd Glynebwy ar y trydydd cam yn ei broses ddatblygu ac mae wedi ei hen ddatblygu. Ac o ran rhaglen gwella gorsafoedd gwerth £194 miliwn Trafnidiaeth Cymru, bydd yn golygu yn Islwyn, fel mewn mewn mannau eraill, y bydd Wi-fi am ddim, gwybodaeth newydd i deithwyr, gwell cyfleusterau cadw beiciau, glanhau trylwyr ym mhob gorsaf o dan reolaeth Trafnidiaeth Cymru, a bydd dinasyddion yn etholaeth yr Aelod yn Rhisga, Crosskeys a Threcelyn yn gweld yr holl fanteision hynny hefyd.

Prif Weinidog, mater sy'n codi pryder yw diffyg toiledau ar y trenau newydd sydd ar y gweill ar gyfer y rhwydwaith, sy'n gwasanaethu Islwyn a Chymoedd y De. Ac mae'n ymddangos mai'r cynnig sy'n cael ei wneud i bobl sy'n anabl, yn oedrannus neu sydd â chyflyrau meddygol yw dod oddi ar y trên i ddefnyddio toiled mewn gorsaf ac yna aros am y trên nesaf. Tybed a ydych chi'n credu bod y dull hwnnw'n dderbyniol.

Wel, Llywydd, rwyf i'n credu ei bod hi'n bwysig bod yn eglur am yr hyn yr ydym ni'n siarad amdano. Nid ydym ni'n sôn am gyffredinolrwydd trenau. Rydym ni'n sôn am drenau tram ac ar hyn o bryd, y cynnig yw cyflwyno trenau tram ar y rheilffyrdd hynny gan y byddan nhw'n darparu mynediad at lawer mwy o gymunedau nag y mae'r system bresennol yn gallu ei wneud. Bydd tramiau yn gallu mynd ar y ffordd, cyrraedd mannau na all y system bresennol eu cyrraedd a byddant yn cynyddu mynediad at y llinellau hynny, nid ei gyfyngu.

Nawr, mae Trafnidiaeth Cymru wedi edrych ym mhob man o amgylch y byd i weld a oes modd caffael trenau tram newydd sydd â chyfleusterau toiled arnynt. Dim ond un lle yr ydym ni wedi gallu dod o hyd iddo yn unman yn y byd lle ceir toiled ar drên tram, ac mae'r rheini'n doiledau nad ydyn nhw'n caniatáu mynediad i bobl anabl, oherwydd os ydych chi'n gyrru trên tram, am resymau diogelwch, mae'n rhaid i'r gyrrwr allu cael llinellau golwg dirwystr o'r man lle mae'n gyrru'r trên yr holl ffordd i gefn y trên. Serch hynny, mae'r Gweinidog wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru barhau i weld a yw'n bosibl perswadio gweithgynhyrchydd, neu ddod o hyd i weithgynhyrchydd sy'n gallu darparu cyfleusterau toiled ar drenau tram mewn ffordd a fyddai'n osgoi'r anawsterau y mae'r Aelod wedi eu nodi.

Yn y cyfamser, os edrychwch chi mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, nid oes toiledau ar system tram Caeredin; nid—

Manceinion Fwyaf. Sefais am 40 munud ddoe ar drên tanddaearol yn Llundain gyda miliynau o bobl eraill a does dim cyfleusterau toiled yno ychwaith. Yno, mae ganddyn nhw gyfleusterau toiled ar gael i chi mewn gorsafoedd a dyna'r hyn y byddwn ni'n ei wneud gyda'r trenau tram. Ond os gallwn ni ddod o hyd i ateb gwell, os gallwn ni ddod o hyd i gyflenwr sy'n gallu gwneud yr hyn yr hoffem ni ei wneud, yna dyna y gofynnwyd i Trafnidiaeth Cymru fynd ar ei drywydd.

Bargeinion Dinesig yng Ngorllewin De Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y bargeinion dinesig yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54398

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Cytunwyd i ryddhau £18 miliwn cychwynnol o gyllid bargen ddinesig gan Lywodraethau Cymru a'r DU ym mis Gorffennaf. Mae trefniadau manwl ar gyfer y ddau brosiect cyntaf yn mynd rhagddynt erbyn hyn. Rwyf i eisiau i weithrediad y fargen gyflymu, gan sicrhau twf economaidd ar draws y de-orllewin.

Er fy mod i'n hapus iawn gyda'r ateb diwethaf yna, cwestiwn am y ddwy fargen oedd hwn mewn gwirionedd, gan fod pethau yn edrych yn dawel iawn ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i o safbwynt ochr Caerdydd. Roedd croeso mawr, wrth gwrs, i'r cyhoeddiad o'r Egin ac ardal ddigidol glannau Abertawe. Rwy'n deall gan y bwrdd y bydd yr arian yn cael ei ryddhau. Mae'r amser hwnnw'n agos iawn. Ond rwyf i hefyd yn deall na fydd yn cael ei ryddhau tan y bydd argymhellion adolygiad cyflym y ddwy Lywodraeth wedi eu cwblhau. Cwblhawyd yr adolygiad hwnnw ym mis Chwefror. Argymhellodd y dylid penodi'r hyn sy'n cael ei alw'n gyfarwyddwr rhaglen erbyn hyn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cofio hynny. Ymddangosodd yr hysbyseb ar gyfer y swydd honno ar 20 Awst ac mae'n cau yr wythnos hon a dweud y gwir. Felly, rwy'n meddwl tybed beth mae 'agos iawn' yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'r rhaglen hon mor bwysig i'm rhanbarth i, Prif Weinidog. Mae'n chwarter y ffordd drwodd ar gyfer bargen bae Abertawe, a hyd yn oed ymhellach ymlaen o ran bargen Caerdydd. A oes unrhyw beth ar y cam hwn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu'r cyflymder hwnnw, fel y mae'n ymddangos bod y ddau ohonom ni ei eisiau?

14:45

Hoffwn gytuno â'r hyn a ddywedodd Suzy Davies. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i allu rhoi yn nwylo'r fargen ddinesig ei hun y cyllid yr ydym ni wedi cytuno ddylai fod ar gael i ni. Roedd yr adolygiad annibynnol cyflym a gomisiynwyd ym mis Ionawr yn adolygiad ar y cyd a gomisiynwyd gan y ddwy Lywodraeth. Mae'n rheidrwydd arnom, rwy'n credu, i lynu wrth ei gasgliadau ac i sicrhau bod gan y fargen ddinesig bopeth sydd ei angen arni ar waith, gan gynnwys y cyfarwyddwr rhaglen hwnnw, fel y gall y ddwy Lywodraeth fod yn ffyddiog y bydd yr arian yr ydym ni'n ei ryddhau yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol at y dibenion y byddwn yn ei ddarparu ar eu cyfer. Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed gyda swyddogion y fargen ddinesig i geisio sicrhau bod yr holl ddarnau hynny o'r jig-so yno. Pan oeddwn i'n Weinidog cyllid, roeddwn i eisiau'r arian hwn o'n cyllideb ac yn nwylo'r fargen ddinesig gan ei fod yn achosi rhai problemau technegol yn y ffordd yr oeddem ni'n trin yr arian hwnnw yn ein cyfrifon. Rwy'n dal yn awyddus iawn ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn i gyflymu'r arian y cytunwyd arno erbyn hyn ar gyfer y ddau brosiect hynny, ond wedyn i gyflymu prosiectau eraill a all ddod o amgylch yr un trac, a gellir rhoi arian pellach, sydd wedi ei gytuno, ac yn aros, yn barod i gael ei ryddhau, at ddefnydd da ar draws rhanbarth y de-orllewin.

Rwyf i wedi bod yn gefnogwr brwd o'r bargeinion dinesig o'r adeg pan feddyliwyd amdanyn nhw gyntaf. Rwy'n credu ym mhwysigrwydd y fargen ddinesig i'r de-orllewin. Rwy'n croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru, a chyn i neb arall ddweud unrhyw beth, cefnogaeth Llywodraeth San Steffan, oherwydd nid oes ots gen i o ble y daw'r arian cyhyd â'i fod yn dod i mewn i'm hardal i. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod y fargen ddinesig wedi dangos i ni bod angen polisi rhanbarthol yng Nghymru. A yw Prif Weinidog Cymru wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i fod â pholisi rhanbarthol yng Nghymru a all gefnogi ardaloedd fel rhanbarth y de-orllewin?

Diolchaf i'r Aelod am hynna, sy'n gwestiwn perthnasol iawn ar hyn o bryd o gofio'r gwaith y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn ei wneud ar ddull economaidd rhanbarthol, a bod gennym ni arweinwyr yn yr holl ardaloedd ar gyfer datblygiadau rhanbarthol erbyn hyn, yn gweithio gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog llywodraeth leol, yn creu'r olion traed newydd hynny, yn gwneud yr holl waith y mae ein cydweithiwr, Huw Irranca-Davies, yn ei wneud i arwain dull economaidd rhanbarthol newydd ar gyfer ariannu ar ôl Brexit. Mae angen i ni ddod â'r pethau hynny at ei gilydd, bod ag olion traed cyffredin ar eu cyfer, ac ychwanegu'r gwahanol elfennau hynny at ei gilydd mewn ffordd sy'n arwain at ddull gwirioneddol ranbarthol. Ac rwy'n llwyr gydnabod y gwaith y mae Mike Hedges wedi ei wneud i gefnogi bargen ddinesig Abertawe o'r cychwyn oherwydd yr effaith weddnewidiol y gall ei chael nid yn unig ar ddinas Abertawe, ond ar y rhanbarth cyfan y mae Abertawe yn helpu i'w harwain.

Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn

6. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni amcanion strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru? OAQ54355

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae strategaethau olynol, ers 2003, wedi herio stereoteipiau traddodiadol o bobl hŷn ac wedi hybu diwylliant lle'r ydym ni'n gwerthfawrogi ac yn dathlu cyfraniad dinasyddion hŷn at bob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae eich strategaeth ar gyfer pobl hŷn yn cydnabod bod cyfleoedd i bobl hŷn fwynhau a chymryd rhan yn eu cymuned yn dibynnu ar fynediad at drafnidiaeth. Mae'n nodi'n eglur mai un o'i ganlyniadau strategol yw galluogi pobl hŷn i gael mynediad at drafnidiaeth fforddiadwy a phriodol, sy'n eu cynorthwyo i chwarae rhan lawn mewn bywyd teuluol, cymdeithasol a chymunedol. A ydych chi'n derbyn, Prif Weinidog, bod eich cynnig i godi'r oedran cymhwyso ar gyfer tocyn bws am ddim yn gwrthdaro'n uniongyrchol â nodau eich strategaeth ar gyfer pobl hŷn? Ac a wnewch chi gytuno i gais Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac ailystyried y cynnig hwn, os gwelwch yn dda?

14:50

Wel, nid wyf i'n credu bod hwnna'n ddisgrifiad teg o'r hyn sydd wedi cael ei awgrymu ac sy'n dal i gael ei drafod a'i ddadlau. Ni fyddai unrhyw un sydd â thocyn bws rhatach, pe byddai'r gyfraith yn cael ei newid, yn colli ei hawl i'r tocyn hwnnw o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'n rhaid i ni feddwl o leiaf am y ffordd y mae pethau o'n cwmpas yn newid, gan gynnwys y newidiadau sydd wedi eu gwneud i gymhwysedd i deithio ar fysiau am ddim ar draws ein ffin gan Lywodraeth yr Aelod ei hun. Pan gyflwynwyd tocynnau bws am ddim yn 2002, 60 oedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a 65 ar gyfer dynion. Mae hynny wedi newid dros amser. Bydd oedran pensiwn y flwyddyn nesaf yn codi i 66. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sicrhau bod y rhan hon o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yn cadw'n gyfredol â newidiadau eraill ym mywydau pobl hŷn, ac mae'n sgwrs yr ydym ni'n awyddus i barhau i'w chael gyda'r comisiynydd pobl hŷn ac eraill sy'n cynrychioli pobl hŷn yn Nghymru.

Contractau Athrawon Cyflenwi

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y newidiadau i gontractau athrawon cyflenwi drwy asiantaethau ledled Cymru? OAQ54397

Diolchaf i'r Aelod. Dyfarnwyd fframwaith newydd ar gyfer athrawon cyflenwi gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar 1 Awst a daeth yn weithredol ar 1 Medi. Ymhlith nodweddion eraill, mae'n sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael eu cefnogi'n briodol a bod cyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol ar gael iddyn nhw.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor PPIA yn y pedwerydd Cynulliad a gwnaed gwaith gennym ar waith llanw, ac un o'n hargymhellion mewn gwirionedd oedd dod ag ef yn ôl yn fewnol yn hytrach na chadw'r asiantaethau. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn gwahanol ddull ac wedi defnyddio'r GCC fel canllaw fframwaith. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr eich sylwadau ar y ffaith ei fod yno i sicrhau bod athrawon yn cael chwarae teg drwy'r broses asiantaeth. Rwyf i wedi gweld e-bost gan un o'r asiantaethau hynny, sydd wedi ennill rhai o'r fframweithiau hynny— 22 ohonynt, mewn gwirionedd, felly mae ar draws Cymru gyfan—sy'n dangos i ysgolion ffordd o fynd o gwmpas ac osgoi'r fframwaith ac yn annog ysgolion i feddwl am gyflogi athrawon allan o'r fframwaith, gan leihau'r gost ond hefyd lleihau telerau ac amodau'r athro neu athrawes unigol, ac, wrth gwrs, gwneud mwy o elw i'r asiantaeth honno. A wnewch chi edrych yn ofalus iawn ar yr holl asiantaethau hyn i sicrhau nad ydyn nhw yn osgoi'r fframwaith, eu taflu allan os ydyn nhw, yn gwbl briodol, a sicrhau bod athrawon yn cael y sylw a'r parch dyledus y maen nhw'n eu haeddu, a bod athrawon cyflenwi yn rhan o hynny?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd athrawon cyflenwi a'r ffaith eu bod nhw'n rhan hanfodol o'r gweithlu addysgu, ac, wrth gwrs, mae'r system newydd wedi ei chynllunio i gael ei monitro yn ofalus. Mae wedi bod yn weithredol ers tair wythnos yn unig, felly mae'r rhain yn gamau cynnar ac nid yw'n syndod mewn rhai ffyrdd nad yw'r llyfr rheolau llawn wedi ymsefydlu'n llwyr eto. Ond i fod yn hollol eglur, bydd GCC yn mynd ati i sicrhau cydymffurfiad llawn â'r telerau y rhoddwyd cwmnïau ar y fframwaith ar eu sail, a lle ceir unrhyw honiadau neu dystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio yn erbyn y fframwaith, yna bydd y pethau hynny'n cael eu codi gyda'r asiantaethau, bydd rhybuddion yn cael eu cyflwyno ac, os yw'n amlwg yn y pen draw nad dim ond ymsefydlu yw hyn ond ymgais fwriadol i osgoi'r fframwaith y gwnaeth y cwmnïau hynny gais iddo gan lwyddo i gael eu rhoi ar y contract hwnnw, yna, wrth gwrs, byddant yn cael eu tynnu oddi arno.

Cysgu Allan

8. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru? OAQ54400

Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae un person sy'n cysgu ar y stryd yn un person yn ormod. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gweithredu, dan arweiniad prif weithredwr Crisis, i nodi cyfres o gamau i'w cymryd ar unwaith y gaeaf hwn i leihau cysgu ar y stryd, a disgwylir adroddiad y grŵp hwnnw ddechrau mis Hydref.

Prif Weinidog, adroddodd y Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio—y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—ar gysgu ar y stryd a gwnaeth argymhellion 18 mis yn ôl. Rydym ni'n parhau i graffu ar waith Llywodraeth Cymru o ran cynnydd, a chynhaliwyd digwyddiad gennym ni, yn wir,mewn gwirionedd, yr wythnos diwethaf a byddwn yn cynnal un arall yr wythnos hon. Cefais gyfarfod hefyd â chadeirydd y grŵp gweithredu. Ymhlith ein hargymhellion rwy'n credu bod llawer o faterion pwysig y mae'r grŵp gweithredu yn rhoi sylw iddynt, Prif Weinidog, a chredaf mai'r neges ganolog gan y pwyllgor yw ein bod ni eisiau gweld gwaith y grŵp gweithredu hwnnw a bod y gwelliannau angenrheidiol yn digwydd gyda brys a chyflymdra gwirioneddol, o gofio, fel y dywedwch, bod un person sy'n cysgu ar y stryd yn un person yn ormod, a'i fod, yn drychinebus, yn dal i fod yn broblem amlwg a difrifol iawn ar ein strydoedd.

14:55

Wel, a gaf i ddiolch i John Griffiths am hynny a diolch i'r Pwyllgor hefyd am eu gwaith? Darllenais yr adroddiad 'Bywyd ar y Strydoedd' pan gafodd ei gyhoeddi am y tro cyntaf, a theimlais ei fod yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i'n dealltwriaeth o'r materion ac yn helpu i ddatblygu atebion. Yr egwyddorion a amlinellwyd yn yr adroddiad hwnnw, sef pwysigrwydd atal sylfaenol, yr angen i ailgartrefu'n gyflym pan fo digartrefedd yn digwydd, ac mai ein huchelgais allweddol yw y dylai digartrefedd yng Nghymru, lle mae'n digwydd, fod yn rhywbeth prin, am gyfnod byr ac na fydd yn digwydd eto; dyma bethau sydd wedi cael effaith wirioneddol ar ddull gweithredu polisi'r Llywodraeth byth ers hynny. Credaf y bydd y Gweinidog yn dod i'r Pwyllgor eto ar 17 Hydref. Bydd hynny, gobeithio, ar ôl i'r adroddiad gael ei gynhyrchu a bydd yn gyfle arall i'r Gweinidog a'r Pwyllgor drafod cynnydd tuag at ein huchelgeisiau cyffredin.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. 

Diolch, Llywydd. Nid oes newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr? Mae'n cael ei werthfawrogi gan lawer o bobl, y gwasanaeth arbennig hwnnw, ac, wrth gwrs, mae cannoedd o gyn-filwyr wedi elwa ohono ers iddo gael ei sefydlu. Un o'r problemau gyda'r gwasanaeth hwnnw erioed, serch hynny, fu gallu'r gwasanaeth i ymdopi â'r gofynion arno. Buont yn ffodus iawn i sicrhau rhywfaint o gymorth grant i leihau rhai o'r amseroedd aros i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth gan yr elusen Cymorth i Arwyr. Ond yn anffodus bydd cymorth grant yn dod i ben ymhen 12 mis ac yn amlwg, mae'r sefydliad, GIG Cymru i gyn-filwyr, yn awyddus iawn i wneud yn siŵr y gellir cael rhywfaint o barhad ar ôl hynny. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad am yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi capasiti'r gwasanaeth hwn y tu hwnt i gyfnod y grant, oherwydd rwy'n credu y byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr pe gallai Llywodraeth Cymru ychwanegu mwy o adnoddau.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar ddyfodol swyddogion cyswllt ysgolion yng Nghymru? Gwn fod Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi darparu cyllid i gefnogi swyddogion cyswllt ysgolion drwy gyllid yr heddlu y mae'n ei ddarparu i heddluoedd. Ac, wrth gwrs, cafwyd elfen a ddaeth o ochr iechyd y cyllid er mwyn cefnogi'r gwaith ar gamddefnyddio sylweddau a wna'r swyddogion hynny. Nawr, yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod yn ein hetholaethau ein hunain am waith gwerthfawr swyddogion cyswllt ysgolion, a deallaf mai tua £350,000 yw cost y rhain o gwmpas Cymru. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gadarnhau, yn y gyllideb yn yr Hydref, y bydd yr arian hwnnw ar gael i alluogi'r swyddi pwysig hyn i barhau y tu hwnt i 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.  

Diolch yn fawr iawn. Byddaf yn cael sgwrs gyda'm cydweithiwr, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'ch diddordeb, yn enwedig yng Ngwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr a'r cymorth a roir iddo, ond hefyd y capasiti sydd ar gael o fewn y sefydliad hwnnw i ddiwallu anghenion cyn-filwyr.

O ran swyddogion cyswllt ysgolion, gofynnwyd sut y gellid eu hadlewyrchu mewn unrhyw benderfyniadau ar y gyllideb a wneir, ai peidio. Yn amlwg, mae'n gynnar iawn yn ein hystyriaethau cyllidebol, ond rwy'n siŵr y bydd y swyddi hyn yn cael eu trafod gyda'r Gweinidogion perthnasol yn ystod y broses honno o bennu'r gyllideb.

Rwyf eisiau codi'r problemau y mae etholwyr yn y Porth yn eu cael o ran signal ffonau symudol. Mae hyn o ganlyniad i'r tân o gwmpas mast ffôn symudol bron bythefnos yn ôl, ac nid oes signal ffôn symudol wedi bod mewn sawl ardal o gwmpas y dref ers hynny. Fel y gallwch ddychmygu, mae hyn yn achosi llawer iawn o anghyfleustra nid yn unig i unigolion, ond hefyd i fusnesau lleol. A oes unrhyw ganllawiau y gall y Llywodraeth eu rhoi i ddarparwyr ffonau symudol o ran yr arfer gorau iddynt ynglŷn ag adfer signal ffonau symudol cyn gynted â phosibl? Hefyd, a oes gan y Llywodraeth farn ynghylch pa mor hir y dylai gymryd cyn i iawndal ariannol gael ei sbarduno ar gyfer cwsmeriaid heb wasanaeth ffonau symudol?

Dychrynais o weld bod ail fab y Frenhines wedi'i wahodd i fynd i gampws Prifysgol De Cymru. Er fy mod yn gredwr cadarn yn yr egwyddor fod rhywun yn ddieuog nes profir ei fod yn euog, mae'r aelod hwn o'r teulu Brenhinol wedi cael ei gyhuddo o rai troseddau difrifol iawn ac o gam-ddefnyddio ei statws. Nid ydym yn gwybod eto a fydd yn ateb y cyhuddiadau yn y llys ai peidio, ac mae llawer yn credu y bydd ei gysylltiadau â haenau uchaf y sefydliad Prydeinig yn ei gysgodi rhag y system gyfiawnder, hyd yn oed os oes achos cryf i'w ateb.

Yr hyn a wyddom yw bod yr aelod hwn o'r teulu brenhinol wedi cadw ei gyfeillgarwch â phedoffiliaid drwg-enwog, Jeffrey Epstein, wedi iddo bledio'n euog i gaffael merch dan oed i buteindra. Dyma'r un Epstein y cafodd ei wraig, Sarah Ferguson, £15,000 ganddo i dalu cyflogai yr oedd arni ddyled iddo. Ymhellach, ni chafwyd unrhyw eglurhad o sut y daeth y tywysog hwn i fod mewn llun gyda'i fraich o amgylch gwasg merch 17 oed—menyw sy'n dweud iddi gael ei chaffael gan Epstein yn ei arddegau i gael rhyw gydag ef.

Yng ngoleuni #MeToo a Time's Up, dylai hyn fod yn ddigon i sicrhau nad yw'r dyn hwn yn cael ei groesawu i Brifysgol De Cymru tra bod honiadau mor ddifrifol amdano, heb unrhyw esboniad digonol. Ni ddylai'r cyhuddiadau olygu fod busnes yn parhau fel arfer. Tybed a ydych chi'n rhannu fy mhryderon ynghylch y niwed y gallai hyn ei achosi i enw da'r Brifysgol yn rhyngwladol. Pa bwysau y gall Llywodraeth Cymru ei roi i sicrhau nad yw gwesteion sydd yn y sefyllfa annymunol hon yn cael eu croesawu â breichiau agored i gampws sefydliadau dan ei gofal?

15:00

Llywydd, mae signal ffonau symudol, ac unrhyw iawndal, yn fater sydd heb ei ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, felly gallai hynny fod yn rhywbeth y byddai Leanne Wood yn dymuno'i godi gyda'r Gweinidog priodol yn Llywodraeth y DU.

O ran yr ail fater, mae prifysgolion yng Nghymru yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol, a mater i'r prifysgolion yw pwy i wahodd i'w campysau. Nid oes gan Lywodraeth Cymru lais mewn materion o'r fath.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os caf. Yn gyntaf, ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â Fferyllfa Sheppards yn Abercynon i gael gwybod am y cynllun profi a thrin dolur gwddf newydd sy'n cael ei gynnal fel estyniad o'r cynllun anhwylderau cyffredin Dewis Fferyllfa. Mae'r cynllun arloesol hwn yn enghraifft arall o'r ffordd y gellir defnyddio fferyllfeydd cymunedol i ysgafnhau'r pwysau ar ein gwasanaethau meddygon teulu, ac fe'i cynigir ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghwm Cynon o fis Tachwedd ymlaen. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut mae'n cefnogi fferyllfeydd cymunedol a sut mae'n gweithio gyda nhw i'w hannog i gynnig gwasanaethau newydd, effeithiol fel y rhain, a fydd, wrth gwrs, yn arbennig o bwysig yn y misoedd nesaf wrth inni geisio lleddfu pwysau'r gaeaf?

Yn ail, yr amser cinio hwn, cynhaliais ddigwyddiad galw heibio gydag UnLtd, sefydliad y DU ar gyfer entrepreneuriaid cymdeithasol, er mwyn iddynt allu dweud mwy wrth Aelodau'r Cynulliad am y gwaith a wnânt i ddod o hyd i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru, eu hariannu a'u cefnogi—entrepreneuriaid cymdeithasol fel Janis Werrett o Anturiaethau Organig Cwm Cynon, lle mae ei gardd gymunedol, yn ogystal â hyrwyddo cynaliadwyedd, yn cynnig cyfleoedd addysgol a chyflogadwyedd. Gwn fod rhai trafodaethau eang iawn yn digwydd o fewn y sector, ond a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru am y gwaith y mae'n ei wneud i roi cymorth i entrepreneuriaid cymdeithasol, a all, gyda'r cymorth cywir, gryfhau ein cymunedau a'n heconomi ar yr un pryd?

Diolch i Vikki am godi'r ddau fater pwysig hyn y prynhawn yma. O ran y cyntaf, gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd ymchwilio i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y modd yr ydym yn cefnogi fferylliaeth gymunedol, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Byddant yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn helpu pobl i gael pigiadau ffliw, er enghraifft, ond hefyd mae llawer o bethau y gallant eu gwneud i helpu pobl i gadw'n iach ac fel y lle cyntaf i fynd iddo ar gyfer rhai cyflyrau. Felly, byddaf yn sicrhau bod diweddariad yn cael ei ddarparu ar hynny.

O ran yr ail fater, diolch ichi am gynnal y digwyddiad amser cinio. Cefais y pleser o fod yno a chwrdd â mentrau cymdeithasol rhagorol sy'n gweithio yn Abertawe. Cwrddais â Phobl yn Siarad, Vibe Youth a hefyd miFuture. Rwy'n credu, drwy ddim ond siarad â'r tri sefydliad hynny, y cafwyd darlun cryf o'r ehangder o ran menter gymdeithasol a'r sector bywiog sydd gennym yng Nghymru, a gwn fod y Gweinidog Economi'n awyddus i barhau i'w ddatblygu a'i gefnogi.

15:05

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch cynnal a chadw ysbytai yng Nghymru? Yn ôl adroddiad diweddar, mae'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn wynebu bil o £260 miliwn o leiaf am waith atgyweirio ac adnewyddu brys, allan o gyfanswm bil atgyweirio o fwy na £500 miliwn. Mae'r bwrdd iechyd yn fy ardal i, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn un o'r ardaloedd sy'n perfformio'n well, mae angen dros £23 miliwn o atgyweiriadau brys, allan o gyfanswm o ddim ond £100 miliwn. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar y camau y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn i atgyweirio ein hysbytai, i wella iechyd ein pobl, a'r ysbytai hefyd? Diolch.

Gallaf ddweud ar ran y Gweinidog Iechyd ein bod wedi ymrwymo dros £370 miliwn i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf iechyd eleni, a £338 miliwn y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys dros £8 miliwn o wariant dewisol ym mhob un o'r ddwy flwyddyn ariannol hynny. Mae cyfrifoldeb ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i sicrhau eu bod yn cynnal proffil risg cadarn o ofynion cynnal a chadw, a'u bod wedyn yn gallu blaenoriaethu'r gwaith o fewn hynny. Ond ynghyd â chynnal yr ystad iechyd bresennol ledled Cymru, rydym hefyd yn darparu cyllid i sefydliadau iechyd ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a fydd yn ein galluogi i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn y strategaeth Cymru Iachach. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys yr Ysbyty'r Brifysgol Grange newydd gwerth £350 miliwn, sy'n cael ei adeiladu yng Nghwmbrân ar hyn o bryd, a hefyd waith adnewyddu i ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Ynghyd â hyn, rydym hefyd wedi dyrannu dros £70 miliwn dros dair blynedd i gyflawni 19 o brosiectau gofal sylfaenol a chymunedol newydd ledled Cymru, sy'n allweddol ar gyfer cyflawni ein nod o ddarparu gofal yn agosach at y cartref.

Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban sêl ei bendith i'r cyffur ffibrosis systig Orkambi, rhywbeth yr wyf fi ac eraill yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn ei groesawu. Ond hefyd yr wythnos diwethaf, trydarodd Corbyn, ac rwy'n dyfynnu:

'Nid oes gan bobl â ffibrosis systig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fynediad o hyd at y cyffur sy'n newid bywyd #Orkambi... Rhaid i'r llywodraeth weithredu.'

Wel, rwy'n gwybod nad yw'n deall datganoli'n dda iawn, ond pan ddywed 'y llywodraeth', yn amlwg, mae'n anghywir, oherwydd mae iechyd wedi ei ddatganoli. Nawr, hoffwn ddeall yr hyn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud mewn cysylltiad ag Orkambi, o ystyried y ffaith bod rhai pobl yng Nghymru wedi dweud eu bod bellach yn ystyried symud i'r Alban os nad yw Orkambi ar gael yma. Yn syml iawn, ni allwn fyw mewn sefyllfa lle mae pobl yn cael eu hamddifadu o'r cyffur hwn sy'n achub bywydau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud ar y mater penodol hwn?

Gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad fis Awst am y meddyginiaethau sydd ar gael i drin ffibrosis systig, ac roedd yn glir y byddwn yn sicrhau y bydd yr holl feddyginiaethau a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ar gael o fewn 60 diwrnod i'w hargymhelliad cyntaf, a byddwn yn sicrhau bod pob meddyginiaeth ar gael lle mae eu costau yn adlewyrchu'n briodol eu buddiannau. Er mwyn penderfynu a yw hynny'n wir am Orkambi a Symkevi, mae'n ofynnol bod Vertex Pharmaceuticals yn ymgysylltu â'n proses arfarniadau meddygol ni sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Ond ers 2016, rydym dro ar ôl tro wedi gwahodd Vertex Pharmaceuticals i ymgysylltu â ni yn y broses arfarnu honno, ac maent wedi ymrwymo i wneud hynny, ond hyd yn hyn, nid ydynt wedi gwneud hynny, ac mae Llywodraeth Cymru yn eu hannog yn gryf i wneud cyflwyniad ar frys.

A fyddai modd i mi ofyn am ddatganiad neu ddadl ar dri mater pwysig, yn gyntaf ar fater gwrthsefyll ac ymateb i lifogydd? Unwaith eto, mae rhannau o Aberogwr a sawl rhan o Gymru wedi cael eu boddi dros nos, a dyma batrwm y gwelwn fwy a mwy ohono yn y blynyddoedd i ddod, diolch i'r newid yn yr hinsawdd a pha mor gyffredin yw arwynebau caled, anhydraidd yn ein cymunedau? Felly, byddai croeso i ddatganiad ddangos beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo draenio cynaliadwy, gwaith partneriaeth ar fforymau llifogydd, a hefyd, rhaid imi ddweud, gyfle i ganmol gwaith gweithwyr a chontractwyr cynghorau lleol, a hyd yn oed gynghorwyr lleol yn unigol, sydd wedi bod yn torchi eu llewys i helpu trigolion y mae erchyllterau llifogydd wedi effeithio arnynt heddiw.

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad neu ddadl ar anemia dinistriol? Yn dilyn cynnal derbyniad yma yn y Senedd yn gynharach eleni, un yr oedd llawer o gyd-Aelodau'n bresennol ynddo, bûm mewn cyfarfod y penwythnos hwn o grŵp cymorth Pen-y-bont ar Ogwr ar anemia dinistriol i glywed am y problemau parhaus gyda diagnosis hwyr, profion annigonol, cyngor anghyson, a'r angen am hyfforddiant meddygon teulu ac arbenigwyr gofal iechyd, a'r diffyg canllawiau clinigol a mwy. Bydd yr effeithiau aruthrol ar yr unigolyn a'r costau enfawr i'r gymdeithas yn sgil anemia dinistriol na chafodd ei drin ac sydd heb ei reoli yn enfawr, o gofio bod gan hyd at 350,000 o bobl yng Nghymru lefelau isel o B12. Felly, a gawn ni ddadl neu ddatganiad i ymchwilio ymhellach i'r gwaith y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i arwain wrth fynd i'r afael ag anemia dinistriol yng Nghymru?

Yn olaf, ymunodd y Prif Weinidog, y Gweinidog teithio llesol a llawer o Aelodau'r Cynulliad â'n grŵp teithio llesol trawsbleidiol yr wythnos diwethaf wrth inni arddangos, gyda chefnogaeth nextbike, Raleigh, ICE Trikes, Pedal Power a Chyngor Caerdydd, rai o'r e-feiciau newydd gorau a'r potensial ar gyfer trawsnewid teithio. Roedd hyn nid yn unig ar gyfer dinasoedd ond mewn ardaloedd gwledig hefyd, gan helpu pobl i symud o'u ceir a defnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy. Mae'n deg dweud bod Aelodau'r Cynulliad wedi cael tipyn o hwyl hefyd, gan wibio o amgylch y cwrt y tu allan i'r Senedd. Byddai dadl yn caniatáu inni archwilio'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru helpu ymhellach i hybu'r sector hwn sy'n tyfu'n gyflym, o leiaf drwy brynu'n gorfforaethol—a gwn y bydd y Llywydd yn gwrando—fel y gallai gweision sifil a Gweinidogion eu hunain elwa o'r drafnidiaeth drefol gyflym, ecogyfeillgar hon o amgylch Caerdydd, a hefyd i ofyn i'r Gweinidogion a yw cronfa grant beiciau eCargo'r DU gyfan, sy'n cael ei chynnal gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth, ar gael yng Nghymru hefyd a sut y gall pobl gael mynediad i'r gronfa honno .

15:10

Diolch ichi am godi'r materion hynny. Roedd y digwyddiad a noddwyd gennych ar gyfer e-feiciau yn sicr yn edrych yn hwyl. Rwyf wedi gweld rhai o'r lluniau ac roeddwn yn meddwl ei fod yn ffordd wych o ddangos manteision e-feiciau a pha mor hygyrch y gallant fod a pha mor hyblyg y gallant fod hefyd. Gwn fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gofyn i swyddogion edrych ar botensial e-feiciau a modelau trafnidiaeth tebyg a sut y gallant fod o fudd i deithio llesol fel rhan o'n strategaeth drafnidiaeth i Gymru, a gwn y byddai'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y darn arbennig hwnnw o waith.FootnoteLink

Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi dweud y byddai'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â llifogydd a'u hatal,FootnoteLink ond hefyd, fe gredaf, mae angen inni gydnabod y gwaith pwysig y mae aelodau lleol o'r gymuned yn ei wneud, y cynghorau cymuned, cynghorau tref a chynghorwyr, wrth ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd, gan fod y gwaith a wnânt, yn anochel, bob amser yn eithriadol o bwysig i'r bobl hynny y mae llifogydd wedi effeithio arnynt. Yn ystod oes y Llywodraeth hon, byddwn yn buddsoddi dros £350 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar draws Cymru gyfan. Ar hyn o bryd, mae gennym ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mewn gwirionedd, dim ond yn ddiweddar iawn y mae hyn wedi gorffen a bydd y Gweinidog yn ystyried yr ymatebion hynny, gyda golwg ar gyhoeddi strategaeth newydd yn 2020. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n ennyn yr ymatebion priodol wrth inni symud tuag at hynny.

A gwn y byddai'r Gweinidog Iechyd yn croesawu'r cyfle i roi datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau am y gwaith presennol sy'n mynd rhagddo ar draws y GIG ar anemia dinistriol. Mae'n un o'r prif feysydd blaenoriaeth a phrif flaenoriaeth y grŵp trosolwg cenedlaethol iechyd gwaed, sy'n goruchwylio cynllun iechyd gwaed y GIG.

Hoffwn ofyn am ddatganiad ac amser gan y Llywodraeth i gwestiynu cynigion y Llywodraeth fel y cânt eu nodi yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft. Cyhoeddwyd y cynigion, wrth gwrs, yn ystod mis Awst, pan oedd Aelodau'r Cynulliad ar eu toriad haf ac nid oeddent yn gallu gofyn cwestiynau ar y pryd. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi hwyluso digwyddiad galw heibio i ACau yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn bresennol yno, ac rwy'n  cyfarfod â'r Gweinidog ar wahân i drafod y mater. Ond mae nifer o ACau sy'n cynrychioli etholaethau lle y byddai effaith sylweddol ar y meysydd hynny o ran cynigion fel y'n nodir yn adran ynni'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Cafwyd llawer o sôn am ddemocratiaeth yn gynharach heddiw.

Daeth miloedd o'm hetholwyr i'r Cynulliad hwn yn ôl yn 2011 i gynnig bod Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar ganllawiau nodyn cyngor technegol 8 a oedd yn gweld ardaloedd o Gymru yn canolbwyntio'n fawr iawn ar ddatblygiadau gwynt ar raddfa fawr yn yr ardaloedd hynny. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn gwneud yr un peth yn union, heblaw ei fod yn mynd ymhellach eto i dderbyn newid mewn tirwedd. Mae miloedd o fusnesau twristiaeth yn ddibynnol ar dirweddau'r Canolbarth ac mae miloedd o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwnnw. Mae hwn yn fater pwysig y dylid ei drafod mewn gwirionedd yn y Siambr hon, a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn rhoi amser i wneud hynny.

15:15

Diolch, Russell George, am godi mater y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol y prynhawn yma. Gwn fod y Gweinidog Llywodraeth Leol yn awyddus iawn i glywed cynifer o leisiau ag y bo modd, a chael cymaint o ymgysylltu â phosibl ar y mater hwn.

Drafft yw'r fframwaith ar hyn o bryd—ymgynghorir arno tan 20 Tachwedd—ond mae'r Gweinidog wedi nodi y byddai'n fodlon cyfarfod ag Aelodau Cynulliad unigol os oes ganddynt ddiddordeb penodol yn hyn, neu er mwyn hwyluso cyfle pellach i friffio gyda swyddogion a'r cyfle i gael trafodaethau yno.

Trefnydd, dros y penwythnos, cefais y pleser o ymweld â Gŵyl Fwyd y Fenni, sydd bellach yn ei unfed flwyddyn ar hugain. Mae'r ŵyl yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda chwmnïau lleol fel cwmni Arlwyo Sugarloaf yn chwarae rhan allweddol, yn ogystal â chwmnïau o fannau eraill hefyd.

Cymerais ran hefyd yng ngorymdaith Love Zimbabwe i Affrica, ynghyd â'r maer, Tony Konieczny, ac eraill, sy'n dangos amrywiaeth a chyrhaeddiad yr ŵyl. A oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, efallai datganiad, am gefnogaeth i wyliau bwyd fel rhannau gwerthfawr o'r economi leol, ond hefyd fel dull o gyfleu neges Cymru allan yno ar y llwyfan byd-eang a chysylltu â gwledydd ar draws y byd?

Gan droi at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, a grybwyllwyd gan arweinydd yr wrthblaid yn ei gwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, mae'r adroddiad hwnnw'n tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â phroblemau seilwaith lleol i helpu busnesau bychain. Mae'n ddigon posibl bod yna eisoes ddatganiad, cyhoeddiad polisi, ar y gweill gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw. Tybed a a oes modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cysylltu â busnesau lleol ledled Cymru i gael eu barn ar sut y gellid blaenoriaethu materion seilwaith yn lleol er mwyn helpu i wella economïau lleol.

Ac yn drydydd ac yn olaf, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi datgan argyfwng hinsawdd, yr ydym wedi clywed llawer amdano yn y Siambr hon. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn dilyn eu hesiampl. Wrth gwrs, mae angen gweithredu, nid dim ond geiriau'n unig. Felly, tybed pa gefnogaeth ac anogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r awdurdodau lleol a'r sefydliadau hynny sydd y tu hwnt i'r Siambr hon sy'n ceisio gwneud eu rhan i geisio atal cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn y dyfodol. Beth yr ydych yn ei wneud i'w cefnogi? Felly, efallai y gallem gael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gweithredu'n digwydd ar lawr gwlad ac nid dim ond geiriau a fwriedir yn dda, ond sy'n ddim mwy na geiriau wedi'r cyfan.

Diolch yn fawr iawn, Nick Ramsay, a diolch ichi am dynnu sylw at bwysigrwydd gwyliau bwyd i gymunedau ac i fusnesau bach, yn enwedig, rwy'n credu, o fewn ein sector bwyd ar draws Cymru. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cefnogaeth i'r diwydiant bwyd, ond gyda golwg arbennig ar fynd i'r afael â'r diddordeb mewn dathlu cynnyrch lleol drwy wyliau neu waith arall hefyd.FootnoteLink

O ran seilwaith lleol, gwn fod gan Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ill dau ddiddordeb cryf o ran sut y gallwn ymgysylltu orau â busnesau bach. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud ar yr economi sylfaenol, er enghraifft, yn seiliedig mewn gwirionedd ar weithio gyda busnesau ar lawr gwlad o fewn economïau lleol, ond byddaf yn gofyn iddynt archwilio a oes mwy y gallwn fod yn ei wneud yn y maes penodol hwnnw.

Ac, ar argyfwng yr hinsawdd, pan gyhoeddodd y Gweinidog yr argyfwng yn yr hinsawdd, dywedodd ei bod am iddo fod yn gatalydd ar gyfer gweithredu, felly nid dim ond yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud—gallwn wneud llawer—ond ni allwn byth fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd ar ein pennau ein hunain. Ac roedd a wnelo â rhoi ysbrydoliaeth i gynghorau lleol, cynghorau cymuned, cynghorau tref ac yn y blaen i fod yn gwneud yn yr un modd mewn cymunedau, ond hefyd i ysbrydoli unigolion i ymchwilio i'r hyn y gallem ni fod yn ei wneud yn wahanol yn ein bywydau ni yng nghyd-destun argyfwng yr hinsawdd. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n wirioneddol ar feddwl yr holl gydweithwyr ar hyn o bryd o ran sut y gallwn sicrhau bod y polisïau yr ydym i gyd yn eu dilyn yn rhoi ystyriaeth i'r argyfwng hinsawdd. Ond byddaf yn ystyried gyda chydweithwyr y modd gorau i gael y trafodaethau hynny gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y math o arweiniad yr ydym am ei ddarparu'n cael ei brofi ar y lefel leol honno.

Diolch ichi, Llywydd. Trefnydd, a oes modd i mi ofyn am ddau ddatganiad, os yw'n bosibl, os gwelwch yn dda—yr un cyntaf mewn cysylltiad â'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, rwy'n credu, Andrew Slade, o adran economi Llywodraeth Cymru, o ran maes awyr Caerdydd? Soniodd am ddau fater pwysig iawn. Un ohonynt yw y byddai, yn sicr ar gyfer y dyfodol, yn dibynnu ar gyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru oni bai fod rhai penderfyniadau polisi difrifol yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae'r maes awyr yn cael ei gefnogi. Ac yn ail, tynnodd sylw at y ffaith fod trafodaethau'n digwydd i sicrhau bod mwy o fenthyciadau ar gael i'r maes awyr i barhau i'w ddatblygu. Nid oes neb yn gwadu'r gallu i fuddsoddi i greu mynediad newydd i'r farchnad ryngwladol—rydym i gyd yn cefnogi hynny— ond o ystyried bod mwy na £100 miliwn wedi mynd i faes awyr Caerdydd—y pris prynu a'r benthyciadau hyd yn hyn—credaf ei fod yn haeddu datganiad gan y Gweinidog ynghylch pa mor ddatblygedig yw'r trafodaethau hyn, yn gyntaf ynghylch sicrhau bod arian ychwanegol ar gael i'r maes awyr ac ar gyfer beth fyddai'r arian hwnnw, ac yn ail, beth fydd safbwynt polisi blaengar Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chefnogi'r maes awyr yn y dyfodol, o gofio bod pob argoel yn y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe wedi nodi y bydd yn rhaid i symiau sylweddol o arian barhau i fod ar gael i'r maes awyr? Nid yw'n ddigon da ein bod ni, fel Aelodau, wrth geisio'r wybodaeth honno, yn cael clywed, 'Gwybodaeth maes awyr Caerdydd yw hon; byddant yn sicrhau ei bod ar gael i chi', ac yna byddent yn cyfeirio at sensitifrwydd masnachol, cyfrinachedd masnachol. Nid yw hynny'n ddigon da, mae arnaf ofn, felly byddwn yn croesawu datganiad gan y Gweinidog.

Yr ail fater, a oes modd cael datganiad ynglŷn ag unrhyw waith gan y Llywodraeth sy'n cael ei wneud gan yr adran addysg. Gwerthfawrogaf y cyhoeddiad yn Brighton am ysgolion annibynnol, a gallwn ddadlau a dadlau ynghylch teilyngdod neu beidio, fel y bo'r achos, o ysgolion annibynnol, ond mae nifer sylweddol o ysgolion annibynnol yn fy rhanbarth i, sef Ysgol Howell, er enghraifft, Coleg Sant Ioan, ysgol Westbourne, ysgol Kings Monkton— gallwn fynd ymlaen— a ledled Cymru, mae gennych Goleg Llanymddyfri, Coleg Crist, Ysgol St Michael ac Ysgol Trefynwy, er enghraifft, a phan fydd y Llywodraeth, pe bai'n Llywodraeth Lafur—Duw a'n gwaredo—yn ceisio cymryd rheolaeth dros asedau'r sefydliadau unigol hynny, mae hynny'n fater o bryder mawr. Nawr, rwyf wedi dweud nad wyf yn sôn am rinweddau ysgolion annibynnol, nid dyna sydd dan sylw; mae hyn yn ymwneud â safbwynt polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fydd gennych gyflogwyr sylweddol mewn economïau lleol fel yr wyf newydd grybwyll nawr, a hefyd gyfleoedd cyflogaeth sydd, yn y bôn, drwy un polisi a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU— petai Llywodraeth Lafur—yn gallu dileu'r busnesau hynny. Mae'n bwysig deall pa swyddogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth, os o gwbl. Oherwydd, er fy mod yn sylweddoli bod polisi addysg wedi'i ddatganoli, mae'r gyfraith ynghylch elusennau a pherchnogaeth a pherchnogaeth tir yn fwy cyffredinol yn fater a gadwyd yn ôl ar gyfer San Steffan ac mae'r rhain yn oblygiadau pwysig y mae angen gweithio drwyddynt.

15:20

O ran y mater cyntaf ynghylch Maes Awyr Caerdydd ac unrhyw gymorth posibl yn y dyfodol y byddai ei angen ar y maes awyr gan Lywodraeth Cymru, credaf, yn y lle cyntaf, y dylem adael i'r PAC wneud ei waith ac yna bydd PAC yn amlwg yn adrodd yn ôl a bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny . Ond rwy'n siŵr y bydd digon o gyfleoedd i drafod cefnogaeth i'r maes awyr yn y dyfodol gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Fel y dywedwch, o ran yr ail bwynt, yn sicr mae polisi addysg wedi'i ddatganoli i raddau helaeth iawn i Gymru, felly mae ein dull ni o weithredu, yn benodol o ran ysgolion annibynnol yn y tymor byr, o ran yr hyn y gallwn fod yn ei wneud yma yng Nghymru, yn edrych yn bendant ar eu rhyddhad ardrethi elusennol. Felly, byddwch yn ymwybodol fy mod wedi ymrwymo i ymgynghori ar gael gwared ar y rhyddhad ardrethi elusennol i ysgolion annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn gyson ag ysgolion eraill ledled Cymru, a dylem fod yn gallu cyflwyno'r ymgynghoriad hwnnw o fewn y 12 mis nesaf. Ond dyna pa mor bell y mae'r gwaith yn y maes penodol hwnnw wedi cyrraedd ar hyn o bryd.

Diolch, Llywydd. A gaf i alw am ddatganiad ar yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig yn gyntaf? Mewn ymateb i Bethan Sayed, fe wnaethoch gyfeirio at ddatganiad gan y Gweinidog ym mis Awst. Ond cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y gallai pobl â ffibrosis systig gael mynediad i Orkambi a Symkevi fel rhan o gytundeb pum mlynedd gyda Vertex ar 12 Medi. Felly, mae pethau wedi symud ymlaen ac yn y cyd-destun hwnnw mae'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig wedi datgan ei bod yn ymddangos bod trafodaethau rhagarweiniol wedi'u cynnal rhwng Vertex a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru gyfan gan edrych ar y posibilrwydd o wneud cyflwyniadau wythnosau a misoedd yn ôl, ond nid yw'r cyflwyniadau data i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru gyfan wedi'u cynnal, cyn belled ag y maent yn ymwybodol. Gyda'r newyddion o'r Alban, maen nhw n dweud ei bod yn siomedig iawn nad yw'r trafodaethau hyn wedi cyrraedd y cam hwn gydag awdurdodau yng Nghymru ac maen nhw'n annog Vertex i sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau angenrheidiol i wneud i hyn ddigwydd.  Ond maent hefyd yn dweud y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallem sicrhau y gall y Gweinidog yn y fan hon barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar gynnydd ac edrych ar yr hyn y gall ei adran ei wneud i sicrhau bod hyn yn aros ar yr agenda ac nad yw pobl â ffibrosis systig yng Nghymru'n treulio gormod o amser heb gael gafael ar driniaethau y mae eu cymheiriaid yn yr Alban yn gallu manteisio arnynt. Felly, mae'r amserlen wedi symud ymlaen, ac yn y cyd-destun hwnnw teimlaf, ar draws y pleidiau, y byddem yn croesawu'r datganiad hwnnw.

Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ar y llinell gymorth caethwasiaeth fodern. Ar 7 Mai, gwnaeth Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r prif chwip, ddatganiad ar y llinell gymorth caethwasiaeth fodern, a gynhaliwyd gan Unseen. Fel y dywedodd, mae Unseen

'yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys y DU a'r llywodraethau datganoledig... yn gweithio i feithrin gwell dealltwriaeth o sut mae caethwasiaeth fodern yn effeithio ar ein cymunedau a'n pobl fel bod modd cymryd camau effeithiol ac amserol i fynd i'r afael â'r broblem.'

A dywedodd:

'Mae grŵp arweinyddiaeth gwrth-gaethwasiaeth Cymru yn gweithio'n agos gydag Unseen i helpu i hyrwyddo'r llinell gymorth, sy'n ceisio cynyddu lefelau adrodd ac wedyn yn arwain at nodi mwy o ddioddefwyr, eu hachub, a lle bo modd erlyn troseddwyr. '

Fodd bynnag, mynegwyd pryderon difrifol wrthyf am y sefydliad, Unseen, a'r llinell gymorth. Er iddo dderbyn £2 filiwn mewn dwy flynedd, mae'n ymddangos, heb gael cyllid ar frys, fod bygythiad  gau'r llinell gymorth erbyn hyn. Yn wir, mae eu gwefan— rwyf wedi gwirio hyn y bore yma—yn dweud: 

'ACHUBWCH LINELL GYMORTH CAETHWASIAETH FODERN Y DU. Heb gyllid brys bydd yn cau ar 30ain Tachwedd'.

A hefyd, ddoe, yn y North Wales Chronicle, darllenwn fod y sefydliad masnachu mewn pobl wedi gweld cynnydd yn y nifer o ddioddefwyr posibl, gan gynnwys 70 o ddioddefwyr posibl a gofnodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn y 12 mis hyd at fis Mehefin—dyna gynnydd sylweddol ar y 12 mis blaenorol. Ond mae hi wedi rhybuddio—neu maen nhw wedi rhybuddio—bod cyfran y bobl sy'n mynd i mewn i'r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol, ac sydd wedyn yn cael eu cydnabod fel rhai sydd wedi cael eu masnachu, wedi aros yn ei unfan. Dim ond tua 7 y cant o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt sy'n mynd ymlaen i Wasanaeth Erlyn y Goron, dim ond tua 1 y cant  gaiff iawndal, a dywed, efallai yn fwyaf dychrynllyd, nad oes gan y Llywodraeth, y ddwy Lywodraeth, mae'n debyg, yng nghyd-destun datganiad y Gweinidog yn y gorffennol, ddim syniad beth sy'n digwydd i'r miloedd o ddioddefwyr pan fyddant yn gadael y mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol. Mae hwn yn amryfusedd dychrynllyd.

Unwaith eto, galwaf am ddatganiad brys yn y cyd-destun hwnnw, lle mae'r llinell gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu ati, ac yn dibynnu arni, ar fin cau.

15:25

Diolch. I'ch sicrhau chi bod y Gweinidog Iechyd yn eiddgar i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau am faterion sy'n ymwneud â'r meddyginiaethau sydd ar gael ar gyfer trin ffibrosis systig, yn dilyn y datganiad a wnaeth ef y mis diwethaf, ac i fod yn glir unwaith eto ein bod ni'n annog Vertex Pharmaceuticals yn daer i ymgysylltu â phroses arfarnu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a gwneud y cyflwyniad hwnnw ar fyrder. Ond, cyn gynted ag y bydd rhagor i'w adrodd am hynny, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd yn awyddus iawn i wneud hynny.

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi clywed yr hyn a ddywedasoch am eich pryderon o ran llinell gymorth caethwasiaeth fodern, ac fe fydd hi'n siŵr o fynd ar ôl yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud.FootnoteLink

Cynnig i Ddyrannu Cadeirydd Pwyllgor i Grŵp Plaid

Y mater nesaf yw'r cynnig i ddyrannu Cadeirydd pwyllgor i grŵp plaid, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7146 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp gwleidyddol y caiff y cadeirydd pwyllgor ei ethol neu ei hethol ohono fydd fel a ganlyn:

(i) Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad—Llafur.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, felly.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Rhaglen Tai Arloesol—Blwyddyn 3

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y rhaglen tai arloesol yn ei thrydedd blwyddyn, a dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu briffio'r Aelodau ar drydedd flwyddyn y rhaglen tai arloesol. Ni allwn anwybyddu maint yr heriau sy'n ein hwynebu ni o ran tai. Nid ydym yn adeiladu digon o gartrefi, rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd y mae'n rhaid i ni weithredu ynglŷn ag ef, mae ein poblogaeth yn heneiddio, ac mae sgiliau traddodiadol adeiladu tai yn prinhau. Mae'r rhaglen tai arloesol yn nodi ac yn arbrofi datrysiadau i'r problemau hyn. Mae'n ysgogi'r gwaith o gynllunio a darparu cartrefi newydd, fforddiadwy o ansawdd uchel drwy fodelau newydd ym maes tai, llwybrau cyflenwi newydd a thechnegau adeiladu newydd.

Mae Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes tai, creadigrwydd a meddylfryd newydd. Sut wyf i'n gwybod hyn? Yn gyntaf, mae'r rhaglen wedi gweld gordanysgrifio enfawr. Mae hon yn drydedd flwyddyn sy'n torri record, gyda 52 o geisiadau i'r rhaglen gan gymysgedd o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Rwyf wedi cael ceisiadau yn ystod y flwyddyn hon sy'n gwneud swm o dros £230,000,000.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

15:30

Yn ail, mae ansawdd y ceisiadau wedi bod yn drawiadol. Mae dewis pa gynlluniau i'w hargymell ar gyfer cyllid wedi peri cryn benbleth i'r panel annibynnol. Ac o'r diwedd, rwyf wedi cyfarfod â llawer o sefydliadau ledled Cymru ers imi lansio rhaglen y flwyddyn hon ym mis Chwefror, y mae pob un ohonyn nhw'n awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen tai arloesol. Trawiadol iawn yn fy ngolwg i oedd eu medrau nhw, eu brwdfrydedd a'u mentergarwch pur i geisio gweithio gyda ni i weld pa fath o gartrefi y gallem ni ac y dylem ni fod yn eu codi. Yn wir, mae cymuned y rhaglen tai arloesol wedi tyfu eleni i gynnwys dros 300 o fusnesau. Mae digwyddiadau rhaglen tai arloesol rheolaidd wedi cael eu cynnal ledled Cymru i daenu'r hyn a gafodd ei ddysgu yn sgil blynyddoedd blaenorol y rhaglen. Bu'r digwyddiadau hyn yn boblogaidd tu hwnt, gan annog trafodaethau ysgogol a syniadau ffres, yn ogystal â grymuso ac ehangu rhwydweithiau proffesiynol a threfniadol ymysg pobl o'r un anian ar gyfer dod at ei gilydd i ystyried yr hyn sy'n bosibl.

Mae cydweithrediad yn allweddol. Ni all sefydliad unigol ddatrys pob un o'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu ar ei ben ei hun. Felly, mae meithrin cymuned y rhaglen tai arloesol wedi bod yn flaenoriaeth y flwyddyn hon, ac rwy'n falch iawn o weld y cydweithio sy'n dod i'r amlwg. Mae enghreifftiau yn cynnwys cyfuno adnoddau sefydliadol i ddiddymu tlodi tanwydd, adeiladu cartrefi di-garbon, ac arbrofi o ran dulliau newydd o adeiladu cartrefi, y gellir eu hôl-osod wedyn ar rai sy'n bodoli eisoes. Mae swm ac ansawdd y ceisiadau yn dangos bod pobl yn hysbys bod Cymru yn agored i fusnes, a bod y Llywodraeth hon yn croesawu sefydliadau blaengar sydd yn awyddus i helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ni fel cenedl o ran tai. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i weithio gyda'r rhain yn y farchnad a'r sectorau fforddiadwy i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom ni. Rwy'n dymuno gweld tai yn cael eu hadeiladu yng Nghymru gan ddefnyddio'r dulliau newydd hyn, ac rwyf hefyd yn dymuno gweld y cadwyni cyflenwi a'r swyddi newydd sy'n dod yn sgil y dulliau newydd hyn yn cael eu creu yng Nghymru.

Ac wrth gwrs, Llywydd dros dro, fe ddylwn i ddiolch i'm rhagflaenwyr, sef Rebecca Evans a Carl Sargeant. Roedd ganddyn nhw'r dewrder i greu'r rhaglen tai arloesol ar gyfer chwilio am ddulliau newydd o adeiladu tai fforddiadwy yng Nghymru. Mae ariannu arloesedd, yn ei hanfod, yn golygu risg. Roedd ganddyn nhw'r weledigaeth i gydnabod, er na fyddai pob cynllun a gafodd ei ariannu yn golygu datrysiad i'r dyfodol, mai dim ond trwy groesawu ac annog y sector i feddwl yn greadigol y byddem ni'n dod o hyd i ddulliau newydd graddadwy.

Yn y drydedd flwyddyn hon, roeddwn i'n awyddus i wthio'r rhaglen ymhellach a gosod y safon yn uwch byth. Rwy'n dymuno gweld mwy o gartrefi fforddiadwy yn fwy cyflym. Felly, fe roddais i her i'r sector i gyflwyno cynlluniau a oedd yn uwchraddio'r cynlluniau profi yr oedd y Llywodraeth hon wedi buddsoddi ynddyn nhw yn y gorffennol. Fe ofynnais i am gynlluniau ar raddfa eang, ac mae'r sector wedi dod i'r adwy. Bydd maint cyfartalog y cynlluniau a ariennir yn treblu rhwng ail a thrydedd flwyddyn y rhaglen. Fe heriais i'r sector i roi cartrefi sydd bron yn ddi-garbon i mi, ac unwaith eto, maen nhw wedi ymateb yn rhagorol gyda nifer o gynlluniau sy'n ennill Tystysgrif Perfformiad Ynni lefel A o leiaf. Yn olaf, fe heriais i'r sector i gyflwyno cartrefi sydd wedi'u dylunio'n hyfryd, i helpu i greu cynefin hyfryd. Unwaith eto, maen nhw wedi cwrdd â'r her hon. Mae gan y rhaglen hon ddyluniadau hyfryd, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â nhw pan fydd y cynlluniau wedi cael eu trawsnewid yn frics a morter, neu, yn gynyddol gyffredin, yn ddeunyddiau a dulliau adeiladu newydd sy'n gwireddu'r cynlluniau.

Mae rhaglen tai arloesol wedi buddsoddi erbyn hyn mewn 55 o gynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol a chartrefi fforddiadwy. Mae'r cynlluniau a gyhoeddais heddiw yn golygu bod £33 miliwn arall o gyllid yn cael ei fuddsoddi, sy'n golygu y bydd gwaith yn dechrau ar 600 o gartrefi newydd y flwyddyn hon—cartrefi newydd y mae angen dirfawr amdanyn nhw, i'r rheini sydd â'r angen mwyaf. Rwy'n falch iawn hefyd o weld cynlluniau yn cael eu cyflwyno o 19 ardal awdurdod lleol unigol ledled Cymru. Mae hyn yn dangos bod mwy o barodrwydd ac awydd i newid yn y sector yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru.

Rwy'n ymwybodol bob amser, er bod adeiladu mwy o gartrefi yn hanfodol, mai'r hyn sy'n bwysig yw'r dull o'u hadeiladu nhw. Nid mater o rifyddeg yn unig mo hyn. Mae'r rhaglen hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru, diwydiant pren Cymru, cadwyni cyflenwi lleol a ffynonellau o lafur lleol. Drwy'r buddsoddiad hwn, ein nod ni yw adeiladu cartrefi y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch o galon inni amdanyn nhw. Gyda golwg yn gadarn ar y dyfodol y mae'r ceisiadau i'r rhaglen tai arloesol yn cael eu llunio yn ôl ymrwymiadau i lesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd rhestr lawn o gynigwyr llwyddiannus yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, ond fe roddaf ragflas ichi o'r rhai y byddaf i'n eu cefnogi wrth fwrw ymlaen.

Bydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn cael ei hariannu i adeiladu 76 o gartrefi yn Rhuthun yn y Gogledd. Gallai'r rhain fod y cyntaf yn y DU i ddarparu carbon net sero oes gyfan, gydag ynni adnewyddadwy yn gwrthbwyso effaith carbon y cynhyrchu a'r adeiladu. Bydd gan gartrefi bympiau gwres ffynhonnell aer, pŵer solar a batris deallus, ac fe amcangyfrifir y bydd costau gwresogi a goleuo yn llai na £80 y flwyddyn i'r deiliaid. Fe fyddaf i'n ariannu dau safle a ddatblygir gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy yng Nghas-gwent i lunio 17 eiddo ar gyfer pobl sy'n symud i gartrefi llai a phreswylwyr am y tro cyntaf y gallai eu teuluoedd nhw ehangu. Bydd gan y cartrefi gyfleoedd fel rhan o'u dyluniad i ychwanegu ystafell wely arall i greu hyblygrwydd gydol oes, fel y gall cartrefi dyfu ac addasu i bobl yn heneiddio a phoblogaethau sy'n newid. Rwy'n teimlo'n llawn cyffro ynghylch cynllun Cartrefi Conwy i ddarparu 32 o gartrefi di-garbon mewn dau safle gan ddefnyddio dull adeiladu Beattie Passive gyda'r tai fframiau pren yn cael eu hadeiladu oddi ar y safle. Mae'r cynllun hefyd yn dangos normaleiddio'r arloesedd a gefnogwyd yn flaenorol, i lefel na fydd angen cefnogaeth y rhaglen tai arloesol mewn cyfnod byr o amser. Nid wyf i'n credu y dylai deiliadaeth eiddo fod yn amlwg o'r tu allan i'r cartref, ac nid wyf i'n gweld unrhyw reswm pam na ddylai cymunedau fod yn wirioneddol gymysg. Rwy'n falch o ariannu Cyngor Caerdydd, yn ogystal â Sero Homes, i adeiladu 214 o gartrefi carbon isel, cymysgedd o dai cyngor a chartrefi i'w gwerthu ar y farchnad agored yn Nhredelerch—pob un wedi cael ei ddylunio yn hyfryd, wrth gwrs.

Yn ogystal â chyllid cyfalaf, rwyf wedi neilltuo swm bychan o gyllid refeniw. Mae Yellow Sub Geo yn cynnig datblygu offeryn sgrinio dichonoldeb. Bydd hyn yn nodi ac yn blaenoriaethu'r potensial i ddefnyddio ffynonellau ynni a gwres carbon isel drwy'r holl amrywiaeth yn y dirwedd, y tywydd, y ddaeareg a'r hydroddaeareg sydd yng Nghymru. Bydd y dull hwn yn galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau mwy hyddysg ynghylch defnyddio a phenderfynu ar ddewisiadau ynni carbon isel a gwres sydd ar gael mewn ardal arbennig. Bydd hwn yn offeryn sgrinio digidol, y gellir ei ddefnyddio drwy ryngwyneb defnyddiwr gwe, a fydd yn ffynhonnell agored ac yn rhad ac am ddim i'r defnyddwyr. Caiff ei gynnal gan endid nid-er-elw, sy'n golygu mai ei brif bwrpas yw ennyn newid cymdeithasol ac amgylcheddol.

Creu cymunedau sy'n wirioneddol gymysg yw'r her i ni, gyda rhagor o gartrefi sy'n wirioneddol fforddiadwy. Ac mae angen gweithredu nawr os ydym eisiau ymdrin â'r hinsawdd a'r newidiadau yn y ddemograffeg sydd gyda ni eisoes. Mae'r drydedd flwyddyn hon o'r rhaglen tai arloesol yn dangos bod atebion i lawer o'r heriau hyn ar gael ar hyn o bryd. At hynny, mae'r ymateb hynod gadarnhaol i'r rhaglen gan gymdeithasau tai, awdurdodau lleol a busnesau bach a chanolig preifat yn dangos nad fi yw'r unig un sy'n barod i wneud pethau yn wahanol—nid wyf ar ben fy hun o ran bod yn barod i gymryd mwy o risgiau, a bod â'r ewyllys a'r uchelgais i adeiladu mwy ac adeiladu'n well. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gofyn i swyddogion ailedrych ar y ceisiadau ar gyfer y rhaglen tai arloesol y flwyddyn hon, a gweithio ar draws portffolios Gweinidogol, i weld pa gymorth y gellir ei roi i geisiadau na chafodd gyllid gan y rhaglen tai arloesol y tro hwn, ond a fyddai'n gallu helpu'r Llywodraeth hon i gyflawni ein blaenoriaethau tai.

Rwy'n bwriadu bod y cartrefi a gaiff eu hadeiladu yn sgil y rhaglen tai arloesol heddiw yn dod yn gartrefi arferol ar gyfer y rhai sy'n derbyn grant tai cymdeithasol, a ffynonellau eraill o gyllid gan y Llywodraeth, yn y dyfodol. Bydd y rhai y gellid eu hystyried yn ddulliau gwreiddiol ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn brif ffrwd. Byddwch yn dawel eich meddwl: bydd buddsoddi'r £33 miliwn hwn heddiw yn helpu i fwrw ymlaen â chartrefi o ansawdd uchel yn y dyfodol a'u prif ffrydio. Diolch.

15:35

Ers dechrau'r rhaglen hon, dair blynedd yn ôl, rwyf wedi bod yn awyddus i'w chymeradwyo; mae hwn yn ddull da o weithredu, yn fy marn i. Rwy'n credu ein bod ni'n nesáu at yr amser pan fydd eisiau inni asesu rhywfaint ar y prosiectau hynny sydd wedi cael cymorth hyd yn hyn, yn benodol i ystyried ymhle mae'r datblygiadau arloesol wedi cael eu normaleiddio, neu eu dwyn i'r farchnad, neu eu cynhyrchu ar raddfa fawr. Oherwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, dyna'r amcan gwirioneddol yma. Ond, yn y datganiad, rwy'n croesawu'n arbennig y ffaith bod gormod o geisiadau—credaf fod hynny'n arwydd da iawn; ansawdd y ceisiadau; mynd o gwmpas ac ymweld â gwahanol gynlluniau tai a'r hyn sy'n digwydd yn y sector—rwy'n gallu gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn; mwy o gynlluniau ar raddfa fawr; ac ansawdd y dylunio. Rwy'n falch bob amser pan fydd pobl yn defnyddio geiriau fel 'hyfryd' i ddisgrifio adeiladau, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni anelu ato.

Mae gennyf i ddau bwynt pwysig i'w gwneud, serch hynny. Rwy'n ofidus nad ydym yn moderneiddio'n ddigon cyflym o ran adeiladu modiwlar. Er bod argraffu 3D yn brin o hyd, yn sicr nid yw adeiladu modiwlar yng ngweddill—wel, mewn rhannau eraill y DU, ac yn wir i raddau helaeth yng ngweddill y byd, ac nid yw'n arbennig o newydd ychwaith. Fe ddarllenais i erthygl ddoe fod Prydain yn allforio adeiladau modiwlar i Ogledd America mor gynnar â 1624—mae'n debyg eu bod nhw'n mynd i Jamestown, ac rwyf i'n gyfarwydd iawn â'r fan honno. Ond mae'r dull hwn, rwy'n credu, wedi dangos unwaith eto ei fod o ansawdd uchel, ac yn wirioneddol ragorol o ran cyflymder y cyflenwi, dim ond o ran adeiladu tai drwy'r dull hwn o'i gymharu â dulliau traddodiadol. Mewn rhai gwledydd, dyna'r safon gyffredin erbyn hyn. Yn Sweden, mae 84 y cant o dai sengl yn defnyddio elfennau o bren a weithgynhyrchwyd; mae hynny'n cymharu â dim ond 5 y cant yn y DU. Eto i gyd, mae'r mathau hyn o adeiladau yn well i'r amgylchedd, yn rhatach, yn amlygu llawer llai o ddiffygion, ac maen nhw'n addas hefyd i'r math o harddwch yr oedd y Gweinidog yn sôn amdano, ac maen nhw'n debyg i'r rhai a welwn yn aml mewn rhaglenni teledu fel Grand Designs. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol, wirioneddol bwysig. A hefyd, fe all y math hwn o dechnoleg dorri ar y biliau ynni, fel arfer, felly mae'n wych o beth.

Yn ail, rwy'n awyddus i weld sut y gall y rhaglen hon uno nawr—neu o leiaf gael ei defnyddio i wella sgiliau ac addysg yn y diwydiant adeiladu. Canfu un dadansoddiad diweddar y byddai dulliau mwy modern o adeiladu yn helpu i gynyddu sgiliau ac addysg yn y diwydiant adeiladu, ac yn creu mwy o swyddi sy'n gofyn am sgiliau digidol, fel delweddu 3D a thechnolegwyr pensaernïol. Yn gynharach y mis hwn, darllenais am lansiad academi dai modiwlar gyntaf y DU, yn swydd Efrog, a grëwyd i hyfforddi pobl i weithgynhyrchu cartrefi mewn ffatrïoedd, mewn ymgais i atal yr argyfwng sgiliau adeiladu a thai yr ydym yn ei weld. Ac yn arbennig felly, os edrychwn ni ar broffil oedran pobl yn y diwydiant adeiladu, mae'n rhy uchel. Rydym yn gwerthfawrogi profiad y gweithwyr hŷn, wrth gwrs, ond mae'n rhaid gwneud y gwaith yn atyniadol i'r genhedlaeth milflwyddol, a chredaf fod arloesedd ac adeiladu modiwlar yn digwydd yn aml mewn ffatri lle mae yna ddigon o le a chysur i weithio, felly mae'n ddelfrydol yn y gaeaf. Mae pawb ar eu hennill. Rwy'n wir yn credu bod hon yn rhaglen dda, ac mae'n dangos yr hyn y gallwn ei gael allan o Lywodraeth pan fydd rhywbeth yn cael ei wneud yn iawn. Ond, fel ym mhob achos, mae yna ffordd o wella gwaith sydd wedi cael ei ddechrau'n dda, ac rwy'n cynnig yr awgrymiadau hynny.  

15:40

Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Rydym yn cytuno i raddau helaeth, mewn gwirionedd. Ar y pwynt ynglŷn ag adeiladu modiwlar, ni allwn i gytuno mwy â chi. Rydym yn annog pobl i feddwl am Huf Haus yn hytrach na thai parod bob amser. Er, mewn gwirionedd, mae'r tai parod y mae pobl yn aml yn eu dilorni yn ddeniadol iawn yng ngolwg rhai, yn enwedig yn fy etholaeth i. Mae pobl yn dal i fyw mewn tai parod dros dro, sy'n gysurus iawn.

Rwyf wedi gweld ffatrïoedd modiwlaidd bychan da iawn o gwmpas Cymru. Rydym yn eu cefnogi yn eu hymdrechion. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n sicrhau bod y diwydiant hwn yn parhau'n addas at ddibenion Cymru gyda chadwyni cyflenwi a modelau i gyflenwi a darparu sy'n garbon isel, y cyfan o Gymru. Felly, gan hynny, rydym yn awyddus iawn i gael Cymru sy'n frith ohonyn nhw i wasanaethu'r cymunedau lle maen nhw'n adeiladu'r tai ac nid wedi cael eu canoli mewn ffatri enfawr. Rwy'n awyddus iawn bod yr adeiladwaith modiwlar, cyn belled ag y bo'n bosibl, yn niwtral o ran carbon a chyda chadwyni cyflenwi o Gymru. Felly, rwy'n hynod falch ein bod ni, yn y rhaglenni tai arloesol, wedi gallu cynnwys nifer fawr iawn o brosiectau sy'n cael eu hadeiladu o bren o Gymru, er enghraifft. Felly, mae'n sefyllfa y mae pawb yn gyfan gwbl ar eu hennill ynddi.

Rydym yn y broses o brif-ffrydio rhyw gymaint o hyn ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n falch iawn o uwchraddio rhai o'r pethau a wnaethom yn y gorffennol. Rwy'n wirioneddol eiddgar nad cynlluniau peilot fydd y rhain ond sail ar gyfer prif-ffrydio. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i bwysleisio bod rhywbeth wedi mynd drwy'r Rhaglen tai arloesol a'i fod wedi cyflawni'r hyn y bwriadodd ei gyflawni, ac rydym wedi monitro hynny ac wedi gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni hynny, ac fe ddaw yn gymwys am grantiau tai cymdeithasol a chymorth arall gan y Llywodraeth ar gyfer ei wthio i mewn i'r brif ffrwd. Felly, ni allwn i gytuno mwy. Ac wrth wneud y pethau hyn i gyd, rydym yn dymuno edrych weithiau ar y sector cyhoeddus yn cynorthwyo'r sector preifat i uwchsgilio. Felly, mae'r sail gyhoeddus hon i'r buddsoddiad hwn yn ystyried y sgiliau angenrheidiol hefyd.

Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth yr ydych chi'n ei ddweud am adeiladu modiwlar mewn ffatri. Does dim rhaid ichi adeiladu'n uchel, does dim rhaid ichi adeiladu mewn tywydd mawr, ar y safle y digwydd y cydosod yn unig, ac yn y blaen. Y mater arall pwysig yw ei fod yn llawer cyflymach, ac felly mewn gwirionedd mae gennym gryn argyfwng ger ein bron ac mae hyn yn golygu y gallwn ni gynyddu nifer a maint y tai yr ydym yn eu hadeiladu. Ac yna'r peth olaf i'w bwysleisio, er gwaetha'r ffaith eu bod nhw'n fodiwlar ac wedi cael eu cydosod mewn ffatri ac ati, maen nhw'n bodloni'r holl safonau dylunio yr ydym yn eu hystyried yn hyfryd. Ac er mai goddrychol yw peth fel yna, ceir rhai pethau sy'n gyffredin i'r rhan fwyaf o fodau dynol wrth ystyried yr hyn yw tŷ da, ac rydym yn gwybod beth ydyn nhw, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y rhaglen yn darparu'r rhain hefyd. Rwy'n dweud yn syml iawn ein bod ni'n annog adeiladwyr ledled Cymru, yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat, i adeiladu cartrefi y bydden nhw eu hunain yn falch ohonynt ac yn hapus i fyw ynddynt.  

Mae'n galonogol gweld cynnydd mewn tai cymdeithasol yn cael ei ariannu drwy hyn. Mae gen i nifer fechan o gwestiynau i'w gofyn i chi. Tybed a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae'r cynlluniau hyn yn cydblethu â datblygiadau yn y sector preifat, fel y gallwn ni osgoi creu getos. Mae'r datganiad yn awgrymu hynny, ond nid yw'n rhoi manylion ehangach, megis newidiadau i gyfraith cynllunio, er enghraifft. Felly, pryd y cawn ni fwy o fanylion am hynny? Pa wersi a ddysgwyd yn nwy flynedd gyntaf y cynllun hwn y gellir eu cymhwyso i'r dyfodol? A'r unig gwestiwn arall sydd gennyf i yw: mae rhan olaf y datganiad yn awgrymu y bydd hyn yn dod yn gwbl arferol, felly a wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau ar gyfer hynny?

Siŵr iawn. Gan weithio tua'n ôl ar hynny, o ran camau, yr hyn yr ydym yn awyddus iawn i'w wneud yw sicrhau bod y dadansoddiad dros y tair blynedd, wrth inni fwrw ymlaen, yn cael ei fwydo'n ôl i'r rhaglen ac i'r brif ffrwd. Felly, fel y dywedais i'n gynharach, pan welwn ni fod rhywbeth wedi cael ei adeiladu, mae rhywun yn byw ynddo, ac mae wedi sefyll y prawf hwnnw, ac felly mae wedi cyflawni'r hyn y bwriadwyd ar ei gyfer—felly, er enghraifft, mae'n wirioneddol niwtral o ran carbon, mae'n golygu biliau ynni sy'n wirioneddol is i bobl, ac maen nhw'n mwynhau byw yno, rydym ni'n cael adborth gan y tenantiaid sy'n mynd i mewn—. Mae rhywfaint o'r dechnoleg yn arloesol iawn. Felly, gofynnwyd i denantiaid tai cymdeithasol sy'n mynd i mewn i'r rhaglenni hyn wirfoddoli a chael rhywfaint o hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r pwmp gwres ffynhonnell aer ac yn y blaen. Nid ddaw hyn trwy reddf; mae'n rhaid ichi ddysgu sut i ddefnyddio'r dechnoleg ac rydym ni'n cael adborth o ran y ffordd y maen nhw wedi canfod hynny.

Pan lwyddwyd i gael yr wybodaeth honno'n gyflym, ac felly y bu hi gyda rhai cynlluniau, rydym wedi bwydo'r wybodaeth honno i mewn. A dyna'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud am annog pobl i ddod ymlaen ar gyfer uwchraddio'r hyn y gwnaethom ni eisoes a sicrhau ei fod yn gweithio ar raddfeydd mwy. Ac mae yna rai safleoedd gwych ar hyd y lle y mae pobl yn falch iawn i'ch tywys o gwmpas a dangos ichi sut mae pethau'n gweithio. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i gael y model prawf-ac-adborth hwnnw, ac yna ei fwydo i mewn i'n model grant tai cymdeithasol ni. Ac wrth iddyn nhw gyflwyno cynllun o'r fath, rydym ninnau'n awyddus iawn i'w ariannu drwy'r cyllid prif ffrwd arferol ac nid drwy gyllid y cynllun ffrwd arloesedd. Felly, dyna'r peth cyntaf.

O ran y sector preifat, mae bron hanner y ceisiadau—23 o'r 52 o geisiadau a fu'n llwyddiannus—yn rhai sector preifat. Felly, mae hyn ledled y sectorau i gyd. Yr hyn yr ydym ni'n golygu ei wneud yw datblygu safleoedd o ddeiliadaeth gymysg, oherwydd gwyddom fod safleoedd mewn deiliadaeth unigol o unrhyw fath—y rhai sy'n berchen-feddiannaeth yn unig neu'n dai cymdeithasol yn unig neu unrhyw 'yn unig' arall—nid ydyn nhw'n gweithio. Rydym ni'n dymuno cael stadau o ddeiliadaeth gymysg. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw annog awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddefnyddio eu tir i hwyluso'r mathau hyn o ddatblygiadau. Roedd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei fersiwn ddiwethaf, yr oedd fy nghydweithwraig Lesley Griffiths yn gyfrifol amdano ychydig cyn inni newid swyddi, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol newydd yn sail i hynny hefyd. Ac rydym yn annog cynghorau i drafod gyda phobl sy'n cyflwyno tir preifat o fewn y cynllun datblygu lleol i sicrhau bod yna ddeiliadaeth gymysg hefyd. Felly, fe gewch chi'r sgwrs o hyd o ran nifer y tai fforddiadwy y gallai datblygwr preifat eu cyflwyno, ond rydym yn annog y sector cyhoeddus i ddod gerbron a dweud, 'A oes ffordd arall o edrych ar yr amlen gyllid ar gyfer hyn fel y gallwn ni ysgogi cyfradd wahanol o ddeiliadaeth gymysg?'

Ac yna'r peth olaf yw, ac ni allaf bwysleisio hyn ddigon—fe ddywedais i'n glir yn fy natganiad—na ddylech chi allu dweud o sefyll y tu allan i dŷ beth yw ffurf y ddeiliadaeth. Felly, maen nhw i gyd yn edrych yr un fath, pawb yn byw gyda'i gilydd mewn cymuned gymysg, mewn llecyn ac nid ar ystâd. Ac ni ellir gorbwysleisio hynny. Dyna pam mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn bwysig hefyd, oherwydd bod hynny'n gofyn am gynllunio'r seilwaith ymlaen llaw, fel ein bod yn gwybod ymhle mae'r ysgolion a'r meddygon teulu, a gwybod ymhle mae'r gwaith, gwybod ymhle mae llwybrau'r drafnidiaeth gyhoeddus, a gwybod bod yna lwybrau beicio a cherdded i'r ysgol a phopeth o'r fath. Felly, rydym yn datblygu safleoedd enghreifftiol o amgylch Cymru. Ymwelais ag un yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf, ac yna rydym yn mynd â phobl eraill yno a dweud wrthyn nhw, 'Edrychwch, dyma beth allwch chi ei wneud gyda'r mathau hyn o ffrydiau ariannu', er mwyn ei brif ffrydio.  

15:45

A gaf i groesawu'n fawr ddatganiad y Gweinidog? Mae'r Gweinidog wedi nodi'r pedair her allweddol: nid oes digon o adeiladu tai i ddiwallu'r angen; yr argyfwng newid hinsawdd; poblogaeth sy'n heneiddio; a dim digon o bobl wedi eu cymhwyso yn y crefftau adeiladu. Credaf ei bod yn anffodus ein bod ni mewn rhan o'r byd heddiw lle mae'r hyn yr ydym yn sôn amdano, sy'n fater allweddol, bron yn sicr yn cael ei daflu i'r cysgodion gan ddigwyddiadau eraill, er ei fod yn effeithio'n wirioneddol ar fywydau pobl a'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli.

A gaf i ddweud mai ansawdd yw'r peth pwysicaf, ac mae'n bwysig dysgu gwersi o hanes? Mae'r Gweinidog, fel minnau, yn cofio'r tai dur, y sment uchel alwmina, a'r adeiladau anhraddodiadol eraill nad oedden nhw'n para 25 mlynedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yr ansawdd yno er mwyn i'r tai barhau.

Fe wyddom na fydd y sector preifat yn ateb y galw am dai. Pe bydden nhw'n gwneud felly, byddai'n effeithio ar brisiau tai ac elw'r cwmni, felly maen nhw'n hoffi cadw'r galw yn uchel ac ateb y galw yn rhannol yn unig i wneud yr elw mwyaf posibl. Nid beirniadaeth ohonynt yw hynny, ond dyna'r model busnes y mae adeiladu sector preifat yn y wlad hon yn ei ddefnyddio.

Mae angen mwy o dai cymdeithasol arnom ni. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r unig ffordd i ateb y galw yw i gynghorau adeiladu mwy o dai gan ddefnyddio crefftwyr lleol ar raddfa'r 1950au a'r 1960au, sef yr unig gyfnod ers yr ail ryfel byd ac un o blith ond dau yn unig yn holl hanes y wlad pan gafodd tai eu hadeiladu ar y raddfa angenrheidiol i gwrdd â'r galw amdanynt?

Ac fe hoffwn i ofyn hefyd am dai cydweithredol. Rwy'n credu bod lle i dai cydweithredol. Rydym yn wan iawn yn y wlad hon, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhywbeth sydd, mewn sawl rhan arall o'r byd, yn gwbl arferol—rhannau o'r byd sy'n amrywio o Unol Daleithiau America a Chanada i Sweden. Felly, nid yw hyn oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol. Ac i unrhyw un sy'n gwylio rhaglenni teledu Americanaidd, pan fyddan nhw'n yn siarad am fynd i'r co-op, yr hyn y maen nhw'n ei olygu yw'r gymdeithas tai cydweithredol. Ac mae'n anffodus nad ymddengys bod gennym y meddylfryd hwnnw ledled y wlad hon. Felly beth arall y gellir ei wneud i gynyddu nifer y tai cydweithredol sydd ar gael ym Mhrydain?

Rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad Mike Hedges yn hyn o beth. Yn bendant mae angen inni sicrhau bod cynghorau yn adeiladu unwaith eto ar raddfa fawr ac yn gyflym. Rydym  wedi bod yn glir iawn am hynny. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r cynghorau ledled Cymru i newid y rheolau, gan fod y cap wedi cael ei godi erbyn hyn ar y cyfrifon refeniw tai, gydag awdurdodau sy'n dal stoc dai a rhai nad ydyn nhw'n dal stoc dai, i sicrhau eu bod nhw i gyd yn defnyddio eu benthyciadau yn ddigonol i gyrraedd y cyflymdra a'r raddfa y sonia ef amdanyn nhw.

Cefais i fy magu yn un o'r tai dur, fel y mae ef yn gwybod. Ni allai fy mam-gu gredu ei bod hi'n cael byw mewn tŷ gyda chegin wedi'i gosod ac ystafell ymolchi fawr a braf a digon o le a chypyrddau i roi pethau ynddyn nhw ac ati. Ac er na wnaeth y cladin sefyll prawf amser, mae'r tai yno o hyd, maen nhw newydd gael eu hailorchuddio â deunyddiau mwy modern. Mae angen inni allu gwneud yr un peth. Ond, mae angen inni hefyd gael y mathau o gyfleoedd am dai cymysg a fodolai bryd hynny. Roeddem yn adeiladu digon o dai cymdeithasol ac roedd modd i bobl a oedd yn awyddus i gael tŷ cymdeithasol gael hynny. Ac felly roedd pobl o bob cefndir yn byw gyda'i gilydd fel cymuned wirioneddol ar yr ystâd y cefais i fy magu ynddi. Dyna'r hyn yr ydym ni'n dyheu am ei gael eto. Gwyddom y gallwn ni eu helpu nhw i gael y dyhead hwnnw'n ôl drwy gyfrwng deiliadaeth gymysg.

Ni allwn gytuno mwy gydag ef ynghylch tai cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol. Mae yna nifer o fodelau ar gael ac rydym ni'n ystyried yn fanwl iawn sut y gallwn ni gefnogi datblygiad y rhain drwy ddefnyddio'r grantiau a'r benthyciadau amrywiol sydd ar gael gennym. Nid wyf yn credu ei bod hi'n ormod i'w gyfaddef, Llywydd dros dro, y bu'n rhaid i mi gael gwers mewn cyfalaf trafodion ariannol a'r defnydd ohono gan gyfarwyddwr Trysorlys Cymru, gyda chymorth Rebecca, er mwyn deall yr holl fecanweithiau ariannu amrywiol sydd gennym ni ar gyfer cynhyrchu'r mathau o fodelau cydweithredol y mae ef yn sôn amdanyn nhw. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.

Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw hyn. Rwy'n gwybod nad oedd ef yn gallu bod yn bresennol, ond roeddwn i'n bresennol ddydd Gwener diwethaf mewn datblygiad newydd sydd gan Gyngor Abertawe yn ei etholaeth ef—roedd y ddau ohonom ni yno pan dorrwyd y dywarchen am y tro cyntaf—ac mae'n gwbl anhygoel. Mae yna ddau bwll nofio o faint Olympaidd wedi cael eu claddu yn y ddaear i grynhoi dŵr sy'n llifo drosodd pan fydd glaw trwm, fel bod modd mynd i'r afael â llygredd mewn draeniau sydd wedi eu gorlwytho. Mae yno bympiau sy'n codi gwres o'r ddaear sydd wedi'u drilio'n fertigol. Mae hwn yn safle rhyfeddol—cwbl anhygoel—ac rydym yn gwybod y bydd y trigolion yn hapus iawn yno, a dyna un o'r pethau mawr eraill. Felly, rwyf i'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau a wnaed ganddo.  

15:50

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n hollbwysig ymdrin â'r angen dirfawr yng Nghymru am dai, yn enwedig tai fforddiadwy, ac ar yr un pryd fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a dyna pam mae cynlluniau fel y rhaglen tai arloesol mor bwysig. Mae diffyg tai'n effeithio ar lawer iawn o fywydau ac ar ein cymunedau ni. Felly, rwy'n croesawu'r diweddariad hwn ar gynllun y Rhaglen tai arloesol.

Mae'r ffaith bod cymaint o gartrefi di-garbon neu garbon isel yn cael eu hadeiladu yn newyddion ardderchog. Mae ein gallu ni i liniaru'r newid yn yr hinsawdd yn dibynnu ar leihau'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio i adeiladu cartrefi a chadw aelwyd. Felly, mae cynlluniau fel yr un yn Rhuthun nid yn unig yn ein helpu ni i fynd i'r afael ag argyfwng ein hinsawdd, ond mae hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd.

Fodd bynnag, er bod yr holl gynlluniau hyn i'w croesawu, mân lwch y cloriannau ydyn nhw o'u cymharu â'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Mae angen degau o filoedd o gartrefi fforddiadwy newydd arnom. Mae'n ymddangos bod y cynlluniau hyn i gyd yn mynd i'r afael ag anghenion o ran ynni, ond nid mewn gwirionedd o ran nifer y tai sydd eu hangen. Ond, rwy'n cydnabod bod yn rhaid i ni ddechrau yn rhywle. Felly, Gweinidog, fe ddangosodd Prifysgol Caerdydd beth oedd tai positif o ran ynni gyda thŷ Solcer bedair neu bum mlynedd yn ôl. Faint o'r cynlluniau sy'n mynd drwy gynllun y Rhaglen tai arloesol sy'n adeiladu ar ganfyddiadau Tŷ Solcer?

Mae gan dai modiwlaidd y potensial i fynd i'r afael â phrinder tai yn gyflym. Trwy ddefnyddio deunyddiau arloesol a wnaed o gynhyrchion wedi eu hailgylchu, mae ganddyn nhw'r potensial hyd yn oed i dynnu carbon o'n hatmosffer a defnyddio dim carbon tra bydd rhywun yn byw ynddyn nhw. Gweinidog, a yw'r Rhaglen tai arloesol yn rhoi unrhyw bwys ar gynlluniau tai modiwlaidd? Ac os na, a fyddech chi'n ystyried buddsoddi mewn prosiectau tai modiwlar yn y blynyddoedd i ddod? Mae modd codi tai modiwlar yn gyflym ac fe allai hynny fod yn allweddol i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai.

Yn olaf, Gweinidog, os ydym am fynd i'r afael â digartrefedd, mae'n rhaid inni adeiladu tai i'r digartref. A oes unrhyw gynlluniau wedi cael eu cyflwyno sy'n ymdrin ag anghenion penodol cyn-aelodau o'r lluoedd arfog, sy'n ganran fawr o'r rhai sy'n eu cael eu hunain yn cysgu ar y stryd? Diolch yn fawr iawn.

15:55

Wel, gan ymdrin ag ychydig o'r materion dan sylw, mae adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol yn rhan bendant o hyn. Ac felly mae deall yr hyn a adeiladwyd yn y gorffennol, sut a pham oedd hynny'n gweithio, ac a yw hynny'n raddadwy yn bwysig iawn hefyd. Felly er mai da o beth yw adeiladu un tŷ, mae gallu adeiladu 400 ohonyn nhw ar yr un pryd yn fater pwysig iawn i'r rhaglen. Ac fel y dywedais yn y datganiad, rydym wrthi'n uwchraddio rhai o'r pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi gweithio.

Mae ailgylchu yn fater o bwys mawr hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai hyn yn fodiwlar, mewn gwirionedd. Mae bron pob un o'r cynlluniau yn defnyddio pren o Gymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac rydym yn awyddus iawn i gael cadwyni cyflenwi byr fel ein bod yn lleihau ôl troed carbon yr adeilad yn ei gyfanrwydd, fel y dywedais i yn y datganiad. Rydym hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod yna gyn lleied â phosibl o wastraff adeiladu ac y caiff hwnnw ei ailddefnyddio a'i ailgylchu fel y bo'n briodol, ac nad ydym ni'n achosi problemau anfwriadol o ganlyniad i hynny. Ac yna, pan fyddwn ni wedi deall hynny, gallwn ei raddio eto i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

Mae'r holl broblem gyda sgiliau, a drafodais i gyda David Melding, yn ymwneud â throsglwyddo sgiliau, ein bod yn uwchsgilio pobl y dyfodol. Ac mae rhai o'r cynlluniau yn defnyddio'r bobl a fydd, yn y pen draw, yn denantiaid y tai i'w hadeiladu nhw. Felly, mewn gwirionedd, maen nhw'n adeiladu eu cartrefi eu hunain i bob pwrpas. Yn wir, mae cynllun ardderchog ar Ynys Môn yr oeddwn i'n falch iawn o'i weld yn gweithio fel hynny. Mae'r pethau hyn yn gyffrous iawn, ond rydych chi'n hollol iawn o ran y raddfa. Mae angen  adeiladu tua 4,000 o dai bob blwyddyn i fynd i'r afael â'r broblem o bobl mewn llety dros dro.

Nid yw problem digartrefedd yn ymwneud yn unig â'r pegwn eithaf o fod yn cysgu ar y stryd, mae'n ymwneud hefyd â'r bobl hynny sy'n llithro i ddigartrefedd. Felly dyna pam mae angen  adeiladu 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn, er mwyn atal y cylch hwnnw. Felly mae'n hi'n dasg drom, ond rydym wedi adeiladu bron 1,000 y flwyddyn hon a dim ond ychydig gannoedd oedd gennym ni yn y flwyddyn flaenorol. Felly rydym yn codi stêm yn gyflym iawn. Rydym yn mynd cyn gynted ag y gallwn ni, gan sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r hyn sy'n briodol ar gyfer y bobl briodol. Ac er y gallwch alw unrhyw grŵp arbennig o bobl yn grŵp, fe fydd pob un ohonyn nhw'n unigolion, ac fe fydd gan bob un ohonyn nhw wahanol ofynion. Mae angen adeiladu'r amrywiaeth o dai a deiliadaethau cymysg a fydd yn mynd i'r afael â'r holl anghenion hynny.  

A gaf innau hefyd groesawu eich datganiad chi, Gweinidog? Fel y gwyddoch, mae'n debyg, yr wythnos diwethaf, fe groesewais i'r Prif Weinidog i'r etholaeth ac fe aethom ni i ymweld ag un o'r sefydliadau blaengar hynny yr oeddech chi'n cyfeirio atynt yn eich datganiad, sef Cartrefi Cymoedd Merthyr. Y nhw oedd y tenantiaid a'r gweithwyr cydfuddiannol cyntaf yng Nghymru ac, fel y gwyddoch, dyma un o'r rhai mwyaf yn y DU. Mae hon yn enghraifft ragorol o fenter gymdeithasol yn dod â buddiannau sylweddol i'r gymuned, gan gynnwys, wrth gwrs, ddatblygiad uned tai cydweithredol Taf Fechan yng Ngellideg.

Eglurodd Cartrefi Cymoedd Merthyr botensial dulliau modiwlaidd o adeiladu i ni—a chlywsom lawer am hynny'r prynhawn yma—o ran adnewyddu eu stoc nhw ac o ran darparu unedau newydd i gynorthwyo gydag anghenion tai. Ac maen nhw eisoes wedi defnyddio'r cartrefi modiwlar yr ydym wedi siarad amdanynt i gynnig datrysiadau o ran tai fforddiadwy a chost isel. Ac rwy'n credu, yr wythnos nesaf, eich bod chi am ddod i'r cyfarfod i edrych ar eu cartrefi cynhwysydd modiwlar nhw, ac fe fyddaf i'n edrych ymlaen at hynny. Gyda llaw, credaf ei bod yn werth dweud hefyd ar y pwynt hwn eu bod nhw'n derbyn prentisiaid hefyd. Felly maen nhw'n datblygu sgiliau lleol yn yr ardal.

Felly, Gweinidog, rwy'n gweithio ar y dybiaeth y byddwch chi'n edrych ar brofiad ac arloesedd sefydliadau fel Cartrefi Cymoedd Merthyr a'r math o waith arloesol y maen nhw wedi bod yn rhan ohono. Bydd cefnogi'r angen penodol hwnnw ar hyd a lled ein cymunedau ni yn y cymoedd yn rhan o'ch strategaeth dai ac fe fydd â'i le hefyd o fewn y strategaeth dai ar gyfer Tasglu'r Cymoedd, fel nad ydym yn ystyried hyn yn rhywbeth ar wahân i'r gwaith y mae Tasglu'r Cymoedd yn ei wneud. Ac fe fyddai'n benodol yn ceisio helpu i fynd i'r afael â'r angen mwyaf dyrys ond mwyaf cyffredin am dai, sef unedau tai unigol. Mae'r ddwy gymdeithas dai yn fy etholaeth i yn dweud wrthyf mai hynny ynddo'i hun yw'r her fwyaf sydd ganddyn nhw o ran diwallu'r angen am dai. Felly, y cwestiwn mewn gwirionedd yw sut y bydd hynny i gyd yn cyd-fynd â'i gilydd ac yn cyflawni'r amcanion penodol hynny.

Ie, mae hi'n hollol gywir, mae Cartrefi Cymoedd Merthyr wedi gwneud gwaith rhagorol mewn amryw o ffyrdd arloesol ac mae hynny'n dangos yn eglur nad y Rhaglen dai arloesol yw'r unig beth arloesol yr ydym ni'n ei ystyried, oherwydd maent wedi gwneud llawer o'r hyn a wnaethon nhw gyda grant tai cymdeithasol prif ffrwd ac yn y blaen. Felly mae llawer o bethau yn bosibl. Mae Dawn Bowden yn llygad ei lle, yr hyn yr ydym ni'n ystyried ei chael yw strategaeth gyffredinol sy'n amsugno'r arloesedd ac yn ei gwasgaru mor gyflym ag y gallwn ni. Gan hynny, mae llawer o'r trosglwyddo sgiliau yr ydych chi newydd sôn amdano, gan gael pobl i gymryd diddordeb yn y tai y maen nhw'n eu hadeiladu, oherwydd y gallen nhw eu hunain fod yn byw ynddyn nhw—mae llais y deiliad yn hynny i gyd yn bwysig iawn. Maen nhw wedi gwneud gwaith diddorol iawn yn ymwneud â chwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol ac yn y blaen, ac mae gennyf ddiddordeb ymchwilio i hyn gyda nhw. Ond dyna ddangos mai dim ond un rhan o natur arloesol y ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â'n strategaeth dai ni yw'r Rhaglen tai arloesol. Mae angen adeiladu pob math o gartrefi ar gyfer pob math o ddeiliadaeth, yn gyflym ac ar raddfa fawr, os ydym yn bwriadu ateb yr anghenion y gwyddom sydd gan ein poblogaeth ni.

Roeddwn i'n falch tu hwnt i gyhoeddi yn fy natganiad un o'r rhaglenni tai arloesol, sy'n ymwneud â rhaglen adeiladu tai modiwlar sy'n caniatáu ichi ychwanegu ystafell wely. Mae angen mawr am gartrefi un ystafell wely—mae hynny'n hollol wir, ac mae angen adeiladu'r rhain ar frys ac ar raddfa fawr—ond mae amgylchiadau pobl yn newid. Efallai na fyddan nhw'n aros yn sengl am byth, ac efallai y bydd angen gofal arnyn nhw, efallai y bydd angen teulu neu ffrindiau arnyn nhw i ymweld ac ati. Felly nid tŷ un ystafell wely ar gyfer unigolyn ar ei ben ei hun o reidrwydd yw'r hyn y mae pobl yn chwilio amdano.

Felly, mae ceisio adeiladu tai sy'n caniatáu i bobl allu byw yn y ffordd sy'n ddymunol iddyn nhw, a chael ffrind yn aros, a chael gofalwr, ŵyr neu wyres neu bartner y dyfodol o bosibl yn symud i mewn—rydym ni'n dymuno gweld cartrefi i bobl am eu hoes. Mae'r mathau hyn o dai modwlar sy'n caniatáu ichi ychwanegu ystafell wely neu fodiwl arall iddo yn ardderchog, ac mae angen eu hystyried nhw i'r dyfodol.

16:00

Diolch, Cadeirydd. Gweinidog, rydych chi newydd sôn am y cynllun sy'n golygu y gellir ychwanegu ystafell wely. Credaf mai dyna'r cynllun yng Nghas-gwent, o'm cof i o'ch datganiad. Roeddwn i wrth fy modd o weld bod hynny wedi'i gynnwys—credaf y bydd Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn cael cyllid i adeiladu 17 o gartrefi yng Nghas-gwent.

Mae gallu ychwanegu ystafell wely, neu enghreifftiau eraill o'r hyn y mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn ei wneud lle caiff tai eu diogelu ar gyfer y dyfodol fel y gallwch chi ychwanegu lifftiau hefyd fel y gall pobl aros yn y cartrefi wrth iddyn nhw heneiddio—rwy'n credu bod hynny'n agwedd bwysig iawn ar ddarparu cartrefi modern o'r math y mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn cael cryn enw amdanynt. Felly, tybed beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y math hwnnw o arfer yn rhan annatod o strategaethau cymdeithasau tai ledled Cymru, fel ein bod yn gweld y paratoi hwn ar gyfer y dyfodol, oherwydd credaf, dros amser, ei fod yn gwneud cynlluniau'n llawer mwy effeithlon os gall pobl aros yn y cartrefi hynny y maen nhw'n eu caru—os ydyn nhw'n gallu cael ystafell wely ychwanegol, yn gallu cael lifft, yn gallu addasu. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd ymlaen, felly hoffwn weld hynny'n rhan o'r holl gynlluniau tai ledled Cymru, os oes modd.

Ie, rwy'n cydweld gant y cant. Un o'r rhesymau y mae yn y rhaglen yw oherwydd bod arnom ni eisiau rhoi prawf ar y cysyniad a sicrhau ei fod yn gweithio, ond, mewn gwirionedd, ymwelais â chynllun tebyg gyda Huw Irranca-Davies yn ei etholaeth yn ddiweddar, lle y dangoswyd inni gartref modiwlaidd y gallech chi ychwanegu ystafell wely arall ato, neu, yn wir, mewn gwirionedd, godi'r holl beth a'i roi i lawr yn rhywle arall, pe bai angen i chi wneud hynny. Treuliais gryn dipyn o'm plentyndod yng Nghanada, lle mae'n eithaf cyffredin gweld tŷ'n mynd ar hyd y ffordd, yn cael ei symud o un lle i'r llall, oherwydd eu bod i gyd yn fodiwlaidd. Felly, mae gwir angen inni ddysgu o dechnegau sy'n bodoli eisoes yn hynny o beth, ond, mewn gwirionedd, ynghylch pethau modern iawn hefyd, o ran effeithlonrwydd ynni ac ati. Ni allaf dystio fod y cartref yng Nghanada, 60 mlynedd ôl, pan oeddwn yn blentyn, mor ynni effeithlon â'r hyn yr hoffem ni ei gael heddiw, er, wyddoch chi, nid yw Canada yn enwog am ei thywydd tymherus, felly fe wnaethon nhw yn amlwg ddod trwy'r prawf hwnnw. Ond mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud yn hyn o beth, ac mae a wnelo hyn â gwneud yn siŵr bod gennym ni'r hyn sy'n cael ei alw'n gartref am oes, fel, wrth i'ch amgylchiadau newid drwy gydol eich oes, y gallwch chi aros yn y cartref yr ydych chi'n ei garu ac yn y gymuned yr ydych chi'n rhan ohoni, ac mae angen inni hwyluso hynny lle bo'n bosib.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Rheilffordd i Gymru

Rydym ni'n mynd i symud ymlaen nawr at eitem 4: datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—rheilffordd i Gymru. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch. Hoffwn ddiolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am adolygiad Williams Llywodraeth y DU ynghylch rheilffyrdd, i ailddatgan ein disgwyliadau o ran datganoli a hefyd i egluro ein gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a fydd yn diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol, yr wyf i hefyd yn ei chyhoeddi heddiw. Mae ein gweledigaeth yn disgrifio'r manteision y bydd datganoli'r rheilffyrdd yn llawn yn eu cynnig, yn esbonio beth y byddem yn ei wneud yn wahanol gyda setliad datganoli priodol, ac yn cyflwyno dyfodol amgen i'r rheilffyrdd yng Nghymru.

Ers lansio adolygiad rheilffordd Williams, yn dilyn methiannau clir a dybryd y model presennol o ddarpariaeth rheilffyrdd, rydym ni wedi amlinellu'n gyson ein disgwyliadau y dylai'r adolygiad gynnwys nifer o newidiadau. Un, dylai alluogi Cymru i fod yn berchen ar, rheoli a datblygu ein seilwaith ein hunain; dau, rhoi mwy o hyblygrwydd inni weithredu gwasanaethau o ansawdd uchel, rheolaidd ar draws y ffin, i fwy o gyrchfannau; i'n galluogi ni hefyd i ddewis o amrywiaeth o fodelau darparu gwasanaethau a seilwaith, gyda mwy o ran i'r sector cyhoeddus; a sicrhau bod y sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i deithwyr a'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru—gan gynnwys cwmnïau trenau, Network Rail a'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd—yn atebol mewn modd priodol i Lywodraeth Cymru.

Ers i'r Cynulliad bleidleisio o fwyafrif llethol i gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cyflwyno ein hymateb terfynol i adolygiad Llywodraeth y DU. Roedd hyn yn egluro sut y byddem ni, gyda'r pwerau a'r cyfrifoldebau newydd hyn, yn datblygu ein rheilffyrdd yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion a'n hamcanion ein hunain, ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru, ddatblygu dull arloesol o weithredu a fydd yn sicrhau newidiadau sylweddol i deithwyr ledled ardal Cymru a'r Gororau. Drwy ddatganoli, fe wnaethom ni greu sefydliad a oedd yn goruchwylio proses gaffael a oedd yn rhoi ein hamcanion ein hunain yn ganolog iddi, yn datblygu sgiliau ac arbenigedd yng Nghymru, ac yn darparu model i sicrhau'r manteision ehangach mwyaf posib. Yn syml iawn, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib pe bai Lywodraeth y DU wrth y llyw.

Mae'r broses o drosglwyddo a thrawsnewid llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru yn dangos sut y gall datganoli grym a gwasanaethau ddatblygu atebion pwrpasol arloesol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig.

Mae'r gallu i neilltuo amser ac ymdrechu'n benodol i gyflawni canlyniadau sy'n diwallu anghenion lleol ac amcanion ehangach wedi arwain at fanteision ehangach o ran denu cyflogaeth, datblygu arbenigedd lleol, sicrhau manteision cymunedol, a hyrwyddo ein diwylliant ac iaith. Er enghraifft, bydd 22 o lysgenhadon Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda chymunedau i gael gwared ar yr agweddau gwirioneddol a thybiedig hynny sy'n rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth, i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ac i droi gorsafoedd trenau yn ganolfannau cymunedol bywiog.

Ond mae angen inni fynd ymhellach, i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb a phwerau i weddnewid y rheilffordd ledled Cymru, i ddarparu seilwaith a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol, ac i wella hygyrchedd ac atebolrwydd i gymunedau lleol, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw'r rheilffordd o safon uchel y maen nhw'n ei haeddu. Yn amlwg, dim ond drwy setliadau datganoli lle mae prosesau gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar flaenoriaethau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol y gellir diwallu anghenion lleol amrywiol.

Rydym ni'n cydnabod y gallai hi fod yn fuddiol fod rhai swyddogaethau, fel safonau diogelwch, amserlenni trawsffiniol a'r gallu i gludo nwyddau ar y rheilffyrdd, yn parhau i gael eu rheoli'n ganolog ar lefel Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r system hon gydnabod amrywiaeth setliad datganoli yn y DU a bod yn seiliedig ar lywodraethu, tryloywder a chynrychiolaeth briodol o du'r Llywodraethau cenedlaethol ac awdurdodau sydd â phwerau datganoledig.

Rydym ni eisoes mewn sefyllfa gref i ymateb i'r heriau hyn. Yn Nhrafnidiaeth Cymru, mae gennym ni eisoes y strwythurau, yr arbenigedd a'r prosesau ar waith i ymgymryd â'r cyfrifoldebau a'r pwerau newydd hyn. Cafodd materion trawsffiniol eu datrys ar y cyd ac mewn ffordd gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU pan drosglwyddwyd cyfrifoldeb am fasnachfraint Cymru a'r Gororau. A heddiw cyhoeddwn ein gweledigaeth ar gyfer ein rheilffyrdd sy'n cyd-fynd â'n hamcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach, ein blaenoriaethau trafnidiaeth, a'n hymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol.

Mae gennym ni batrymlun felly ar gyfer cyflawni'r elfennau sy'n weddill o ddatganoli, mae gennym ni gefnogaeth drawsbleidiol fel na welwyd o'r blaen, ac mae gennym ni weledigaeth uchelgeisiol a chyraeddadwy a fydd yn gwrthdroi'r degawdau o danfuddsoddi yn ein rheilffordd. Rydym ni'n agosáu at gyfnod tyngedfennol o ran esblygiad y rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr, ac yn enwedig y cyfle i ddatblygu rhwydwaith sy'n diwallu'n well anghenion y bobl yng Nghymru sy'n ei ddefnyddio, a'r cymunedau sy'n dibynnu arno.

Rwyf hefyd heddiw yn amlinellu egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol a fydd yn cynnig newid sylweddol o ran amlder, integreiddiad ac amserau teithiau. Dim ond gyda'r setliad datganoli a chyllido priodol y gellir cyflawni'r rhain drwy raglen a ddatblygwyd yng Nghymru.

Nawr, rwy'n croesawu'r trafod cadarnhaol a fu rhwng Llywodraeth Cymru a Keith Williams a'i dîm, sydd wedi dangos diddordeb mawr o ran sut yr aethom ni ati yng Nghymru i gaffael y fasnachfraint, integreiddio'r traciau a'r trenau, a'n hymagwedd tuag at yr heriau sy'n ein hwynebu o dan y setliad datganoli presennol. Mae gennyf bob rheswm i gredu bod ein hachos wedi cael gwrandawiad, ac y caiff rhagor o ddatganoli i Lywodraeth Cymru ei argymell. Rwyf bellach yn disgwyl i Lywodraeth y DU ystyried ein gofynion, bodloni ein disgwyliadau, a phennu trefn, amserlen a rhaglen glir ar gyfer datganoli ein rheilffyrdd yn llawn. Disgwyliaf i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn yr hydref hwn, ac rydym ni'n barod i weithio gyda nhw i'w weithredu.

Mae ein rheilffordd yn hanfodol i rwydwaith trafnidiaeth effeithiol ac effeithlon a dylai fod yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae ganddi'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol yng Nghymru at fywydau pobl, ein cymunedau, yr amgylchedd a'n heconomi. Bydd ei datblygu a'i hehangu yn barhaus yn cyfrannu at ein huchelgais i ddatblygu economi gryfach, fwy cynhwysol a thecach, ac i sicrhau ffyniant i bawb drwy gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, gwasanaethau a marchnadoedd.

16:10

Mae gen i naw o bobl sy'n dymuno siarad, a'r un cyntaf fydd Russell George.

Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad o ran y weledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru? Rwy'n cefnogi barn y Gweinidog ynglŷn â datganoli'r seilwaith rheilffyrdd—credaf ei bod hi'n bwysig dweud hynny. Roedd llawer o sôn, Gweinidog, yn eich datganiad am atebion arloesol, pwrpasol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, gan drawsnewid y rheilffyrdd ledled Cymru a darparu'r rheilffordd o ansawdd uchel y mae pobl Cymru'n ei haeddu. Gallaf gytuno â hynny i gyd—mae pob un ohonyn nhw'n ddyheadau clodwiw, clodwiw iawn yn wir—ond ni allaf beidio â meddwl, os yw defnyddwyr y rheilffyrdd yn gwrando ar y datganiad hwn heddiw, byddant yn meddwl wrth eu hunain 'beth am nawr? Beth am gyflwr presennol y gwasanaeth rheilffordd? Rwy'n credu y byddan nhw'n falch o glywed y dyheadau, ond byddan nhw'n dal i ofyn y cwestiwn hwnnw.

Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at benodi 22 o lysgenhadon Trafnidiaeth Cymru i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond nid yw pobl yn dewis defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd nawr gan fod y rhwydwaith rheilffyrdd mor annibynadwy. Nid wyf yn dweud hynny'n fyrbwyll—gallaf roi digon o dystiolaeth am hynny o'r ohebiaeth a gefais yn ystod yr haf. A byddwn yn gwneud y sylw hefyd fod gan y Llywodraeth, wrth gwrs, lawer dull at ei defnydd yn barod o ran profiad teithwyr, sydd wedi bod yn gyson is na'r disgwyl yn ddiweddar—rydym ni wedi gweld canslo trenau, trenau hwyr, prinder staff, gorlenwi, problemau signalau, trenau rhy fach, a diffyg gwybodaeth o ansawdd pan gyfyd problemau. Rhwng mis Hydref a mis Gorffennaf, gwelsom mai dim ond 73 y cant o wasanaethau ar linell y Cambrian a gyrhaeddodd ar amser. Felly, rwy'n ceisio peidio â bod yn negyddol o ran yr hyn sy'n ddyheadau da a chadarnhaol gennych chi, ac rwy'n cytuno â chi—.

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod gan Trafnidiaeth Cymru y strwythur, yr arbenigedd a'r prosesau ar waith i ysgwyddo cyfrifoldebau a phwerau newydd, ond rwyf mewn difrif calon yn ei chael hi'n anodd credu'r datganiad hwnnw, oherwydd fy mod yn gweld nad oes fawr o dystiolaeth o hynny hyd yn hyn. Felly, hoffwn ofyn i chi, efallai, Gweinidog, a ydych chi'n teimlo bod angen unrhyw adnoddau ychwanegol er mwyn i Trafnidiaeth Cymru gyflawni ei swyddogaeth yn effeithiol ar hyn o bryd, ac yn sicr yn y dyfodol, o ran ymgymryd â'r cyfrifoldebau ychwanegol yr ydych chi wedi'u hamlinellu.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

O ran honiad y Gweinidog y bu degawd o danfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, tybed a yw'r Gweinidog yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o fwy na £2 biliwn yn llwybr Cymru rhwng 2019 a 2024, a fydd yn record o ran buddsoddi yn rheilffordd Cymru ac yn gynnydd o 28 y cant ar y cyfnod rheoli diwethaf. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo perchenogaeth rheilffyrdd y Cymoedd, manylion y setliad ariannol sy'n cyd-fynd â'r trosglwyddiad, ac amserlen ar gyfer adeiladu'r rhwydwaith newydd. A tybed a allai'r Gweinidog hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru o ran datblygu gorsaf newydd, yn benodol pryd fyddwch yn disgwyl rhyddhau canlyniadau asesiad cam 2 ar gyfer gorsafoedd newydd yn swyddogol, y dyddiad dechrau disgwyliedig ar gyfer cam 3, a pha mor hir y rhagwelwch y bydd cam 3 yn para.

I gloi, Llywydd, cytunaf ei bod hi'n bwysig i'r Senedd hon gael y cyfle i graffu ar yr holl benderfyniadau a wneir ynghylch polisi rheilffyrdd yng Nghymru, a dylid mynd â mwy o'r penderfyniadau a wneir ynglŷn â pholisi rheilffyrdd Cymru, rwy'n credu, yn nes at bobl Cymru.

16:15

Llywydd, a gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad, am ei gwestiynau? Rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gan y Llywodraeth, yn ddiolchgar iawn, am ei safiad ar ddatganoli rheilffyrdd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn cyflwyno achos pwysig dros integreiddio nid yn unig y cledrau a'r trenau, ond dulliau gwahanol o deithio hefyd, a dyna'n union beth yr ydym ni'n bwriadu ei wneud drwy ddatganoli rheilffyrdd i Gymru. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn hefyd y bydd teithwyr ar hyn o bryd yn meddwl am y gwasanaethau y maen nhw'n eu defnyddio ar hyn o bryd.

Nawr, rydym ni ar daith, taith £5 biliwn—mae Russell George yn gywir yn nodi heriau diweddar sydd, yn rhannol, wedi digwydd oherwydd tanfuddsoddi hanesyddol yn y rhwydwaith rheilffyrdd. Ac mae Russell wedi nodi'n gywir, er enghraifft, methiannau yn y signalau, sy'n ganlyniad i ddiffyg buddsoddi diweddar. Byddwn yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wario rhagor o adnoddau ledled rhwydwaith llwybr Cymru. Fodd bynnag, hoffwn atgoffa'r Aelodau hefyd o'r adnoddau sylweddol iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'u buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf—na fu'n gyfrifoldeb inni; rydym ni wedi gwneud hynny beth bynnag. Ac, yn ddiweddar, rwy'n credu bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi gallu cyfrifo bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £362 miliwn at wariant cyhoeddus ehangach ar reilffyrdd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £226 miliwn mewn prosiectau gwella seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys defnyddio cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Bu hyn yn hanfodol bwysig, o gofio, yn ddiweddar—y cyfnod rheoli diweddar—nid ydym ni wedi gweld y gwariant angenrheidiol ar rwydwaith llwybrau Cymru. Mae'r Adran Drafnidiaeth, mae'n dda gennyf ddweud, wedi ymrwymo nawr i ddatblygu'r achosion canlynol i'r cam nesaf o'r broses sydd ganddyn nhw ar y gweill: maen nhw wedi penderfynu bod angen gwella cyflymder ar arfordir y gogledd, bod gwelliannau o ran cyflymder ar y llinell yn angenrheidiol rhwng Caerdydd ac Abertawe, a bod angen uwchraddio'r llinell liniaru rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chaerdydd hefyd.

Mae'n werth nodi, fodd bynnag, Llywydd, nad oedd dadl gref dros fwrw ymlaen i gynyddu cyflymder ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud y cytunwyd y bydd Network Rail yn ystyried a datblygu gwelliannau i'r llinell hon yng nghyd-destun cynllun ehangach sy'n ystyried dargludedd yr holl ffordd o Lerpwl i Wrecsam yn rhan o'r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru. Nawr, mae'r ymrwymiadau hyn i'w croesawu, Llywydd; mae'r ymrwymiadau hyn yn rhai i'w croesawu'n fawr. Ac mae'n amlwg bod yn rhaid bwrw ymlaen â'r rhain yn gyflym iawn ac ymgysylltu'n llawer gwell â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol.

O ran heriau diweddar eraill a wynebwyd gennym ni ar y llwybr, bydd Aelodau'n cofio yn ystod yr hydref y llynedd heriau yn sgîl y ffaith ein bod wedi etifeddu fflyd heb amddiffyniad rhag llithriad olwynion. Mae systemau diogelu rhag llithriad olwynion, rwy'n falch o ddweud, bellach wedi eu cynnwys ar y trenau hynny nad oedd ganddynt y systemau o'r blaen. Mae'n rhan o fuddsoddiad £14 miliwn yn y fflyd bresennol tra caiff y trenau newydd hynny eu hadeiladu.

Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail bartneriaeth ragorol a'u bod yn cyfathrebu'n wych, rhywbeth na fu wastad yn wir, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud. Ac mae Network Rail, rwy'n falch o ddweud, wedi gwario tua £3 miliwn yn ymdrin â llystyfiant ar hyd y rheilffyrdd. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Roedd llinellau penodol yng Nghymru yn wynebu heriau y llynedd oherwydd llystyfiant gormodol.

Rwyf yn credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu gweithgarwch ac arbenigedd yn gyflym iawn, ond, wrth gwrs, wrth i swyddogaethau ychwanegol gael eu trosglwyddo i'r corff, bydd angen arbenigedd ac adnoddau dynol ychwanegol. Ar ddechrau'r daith 15 mlynedd, fe wnaethom ni ddweud y byddai Trafnidiaeth Cymru yn recriwtio ugeiniau o bobl newydd i swyddogaethau allweddol ac, hefyd, y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gofyn am arbenigedd, yn ôl yr angen, i gyflawni swyddogaethau ychwanegol. Mae hynny'n rhywbeth sy'n parhau ac, wrth gwrs, os, a gobeithiwn, pan fydd datganoli cyfrifoldebau yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, byddem yn disgwyl gweld Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau arbenigedd ychwanegol.

O ran trosglwyddo asedau llinell graidd y Cymoedd, wel, mae'r trosglwyddiad i fod i gael ei gwblhau'n fuan yn y misoedd sydd i ddod, ac mae'r amserlen ar gyfer adeiladu'r metro, mae'n dda gennyf ddweud, yn parhau yn unol â'r weledigaeth a amlinellwyd pan lansiwyd y cytundeb fasnachfraint gennym ni. Mae trenau'n cael eu hadeiladu a bydd gwasanaethau'n dechrau yn ôl y disgwyl ac fel yr amlinellwyd yn y ddogfen wreiddiol a gyhoeddwyd yn ystod hydref 2018. Mae heriau enfawr, wrth gwrs, ledled y DU yn y sector o ran caffael cerbydau ar hyn o bryd, ond rydym ni'n hyderus y byddwn ni'n gallu bodloni'r newidiadau i amserlen mis Rhagfyr gyda'r fflyd sydd gennym ni a chyda cerbydau y gellir dod â nhw ar y cledrau mewn pryd.

O ran y gorsafoedd yr hoffem ni eu gweld yn cael eu datblygu, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi nodi'r gorsafoedd hynny yn y ddogfen yr ydym ni wedi'i chyhoeddi, ond bydd angen i Lywodraeth y DU gytuno i'w hariannu. Un o'r problemau mawr a gawsom ni yn ddiweddar gyda chyllido seilwaith yn y DU yw bod Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn ei hanfod yn arwain at flaenoriaethu a chyfeirio buddsoddiad i'r ardaloedd hynny lle mae'r poblogaethau mwyaf dwys. Mae hynny'n golygu, ar y cyfan, de-ddwyrain Llundain. Rydym ni eisiau gweld model gwahanol yn cael ei fabwysiadu ledled y DU ac, yn sicr, yng Nghymru, rydym ni'n gwneud hynny'n union—yn ceisio buddsoddi yn fwy cyfartal ar draws pob rhanbarth er mwyn cydbwyso cyfleoedd am dwf a ffyniant a mynd i'r afael ag anghydbwysedd o ran cyfoeth a chyfleoedd gwaith. 

16:20

Mi allwn i siarad, yn fan hyn, am yr heriau dŷn ni'n eu wynebu efo'r rheilffyrdd sydd gennym ni ar hyn o bryd, ac maen nhw'n heriau sylweddol a dwi'n gobeithio bod y Gweinidog yn ymwybodol ohonyn nhw. Hynny ydy, fydd pobl ddim yn amyneddgar am byth yn aros am y trenau newydd, lle mae'r amserlenni wedi bod yn llithro. Mae yna rwystredigaeth ynglŷn â diffyg toiledau ar drenau, mae yna rwystredigaeth ynglŷn ag arafwch cyflwyno dwyieithrwydd ar y trenau ac yn y blaen, ac mi wnawn ni barhau i ddal y Llywodraeth i gyfrif ar y materion hynny.

Ond sôn ydyn ni heddiw yma am gynlluniau strategol, hirdymor i gryfhau ein hisadeiledd rheilffyrdd ni yng Nghymru. Dwi'n croesawu'n fawr yr hyn sydd yn yr adroddiad sydd o'm blaenau ni heddiw yn amlinellu gweledigaeth i gymryd rhagor o gyfrifoldeb am ddatblygu'r isadeiledd hwnnw. Dwi'n ei groesawu fo, wrth reswm, oherwydd ein bod ni fel plaid wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd lawer. Mae o'n adlewyrchu'r hyn dŷn ni wedi bod yn ei ddweud, ac, wrth gwrs, fel dŷn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog, mae'n adlewyrchu, bellach, y consensws sydd wedi datblygu o fewn y Cynulliad Cenedlaethol yma. Ond mi wyddwn ni, p'un ai efo trenau neu efo datganoli trethi teithwyr awyrennau, dydy consensws yn y lle yma ddim yn ddigon i berswadio Llywodraeth mewn lle arall i weithredu mewn ffordd sydd er budd Cymru.

Fel nodyn ychwanegol, yr ateb i fi ac i nifer cynyddol o bobl yng Nghymru ydy ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb drwy fod yn wladwriaeth go iawn, sydd yn gosod ein cyfeiriad ein hunain fel gwlad annibynnol. Ond, yn sicr yn fan hyn, mae gennym ni gynllun ar gyfer yr hyn y dylai'r Llywodraeth ei wneud ar unwaith i ddatganoli cyfrifoldeb am y rheilffyrdd yng Nghymru a'r cyllid i fynd efo fo. Dŷn ni'n gwybod bod yna danfuddsoddi dybryd wedi bod yng Nghymru—yr 1 y cant o'r arian sydd ar gael i wella rhwydwaith Prydain yn cael ei wario yng Nghymru, tra bod 11 y cant o'r rheilffyrdd yma—hynny ydy, gwella rheilffyrdd, nid dim ond cynnal a chadw, sy'n gorfod digwydd, beth bynnag. Mae'n rhaid inni gael y gallu yna i fuddsoddi mewn ymestyn ein rheilffyrdd ni. Mae'n rhyfeddol. Dŷch chi'n edrych ar y map a dŷch chi'n gorfod atgoffa'ch hunain—efo ffyrdd, dŷn ni'n meddwl sut i wella'r ffyrdd rhwng de a gogledd. Does yna ddim un rheilffordd—mae'n syfrdanol, dal—does yna ddim rheilffordd yn rhedeg o ogledd i dde Cymru heb ei bod hi'n mynd ar draws y ffin. Ac mae yna fodd i'w wneud.

Dwi yn falch o weld cyfeiriad yma at agor y coridor yna i lawr y gorllewin, at fuddsoddi, ie, o Amlwch drwodd i Fangor ac wedyn ar draws drwy Gaernarfon i lawr tuag at Aberystwyth, agor y llinell yna o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Mae'n rhaid inni gael yr uchelgais yma. Ac ydy, mae pobl yn dweud, 'O, mae'r rhain yn fuddsoddiadau mawr,' ond edrychwch ar y buddsoddiad sy'n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae gennych chi £56 biliwn yn mynd i HS2, £30 biliwn yn mynd i Crossrail 2, £70 biliwn yn mynd i Transport for the North. Pres mân ydy'r hyn dŷn ni'n sôn amdano fo er mwyn creu isadeiledd rheilffordd sy'n wirioneddol yn gallu ein huno ni fel gwlad.

Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod y ddogfen yn cyfeirio at ailagor y gorllewin yna, o Amlwch i Abertawe, os liciwch chi, a buaswn i'n gwerthfawrogi sylwadau ychwanegol gan y Gweinidog ar hynny, achos, fel mae'r Llywodraeth yn ei ddweud yn y datganiad yma, dyma rhai o'n hasedau mwyaf gwerthfawr ni yn gymdeithasol ac yn economaidd. Os oes yna linell sydd yno sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, mi ddylen ni fod yn gwneud popeth i wneud yn siŵr bod yr ased honno yn cael ei chwysu gymaint â phosib ar gyfer ein cymunedau ni.271

Yr unig gwestiwn arall—buaswn i'n gwerthfawrogi sylw ynglŷn â'r amserlen a fyddech chi'n ei rhagweld, Weinidog, ynglŷn â sut i symud hwn ymlaen o rŵan, gan gwmpasu adolygiad Williams. Pryd fyddech chi'n disgwyl ymateb gan Lywodraeth Prydain ac yn y blaen?

16:25

Diolch yn fawr iawn. Mae Rhun ap Iorwerth yn gwneud sawl sylw hollbwysig yn ei gyfraniad, yn bennaf yr angen i ystyried y symiau enfawr o arian sy'n cael eu buddsoddi dros y ffin—£150 biliwn—i wella'r seilwaith rheilffyrdd, a gallai dim ond ffracsiwn o'r arian hwnnw greu cyfleoedd enfawr. Mae'r Aelod yn sôn am y cysylltiadau gogledd-de sy'n bodoli ar hyn o bryd ac a allai fodoli. Nawr, mae'r gwasanaethau presennol rhwng y gogledd a'r de yn teithio dros y ffin; maen nhw'n adlewyrchu economi swyddogaethol ardal drawsffiniol gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr ac economi weithredol y Canolbarth gyda gorllewin canolbarth Lloegr, ond ni ddylai hynny ein rhwystro rhag buddsoddi mewn seilwaith arall sydd yn cysylltu gogledd a de Cymru ymhellach i'r gorllewin, lle nad oes dwysedd twf y boblogaeth. Fy marn i yw y dylem ni fod yn nerthu'r rhanbarthau a grymuso'r rhanbarthau i fod yn fwy ffyniannus, ac mae hynny'n golygu buddsoddi yn yr ardaloedd hynny sy'n teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, ac sydd, mewn rhai achosion, wedi eu hesgeuluso yn wir wrth i ganolfannau trefol weld twf economaidd yn y cyfnod diweddar.

Mae'r amserlen ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth—ac rwyf yn diolch i'r Aelod am rannu a chefnogi ein gweledigaeth—yn dibynnu i raddau helaeth ar benderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn â sut i ymateb i adolygiad Williams a'r amserlen sy'n seiliedig ar drosglwyddo pwerau a chyllidebau yn drefnus i Lywodraeth Cymru. Ond rwyf wedi dweud yn y ddogfen weledigaeth mai gweledigaeth 20 mlynedd yw hon ar gyfer gwella seilwaith a chynyddu gwasanaethau ac amlder gwasanaeth ar hyd llwybr Cymru.

Rwy'n credu bod consensws yn y Siambr yma sy'n dechrau dylanwadu ar Siambr mewn lle arall. Rwy'n teimlo y bu newid barn yn ddiweddar yn San Steffan o ran y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer rheilffyrdd. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi mwynhau sawl sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros drafnidiaeth, Grant Shapps, yn ddiweddar, yn ymwneud yn bennaf, wrth gwrs, â'r her a wynebwyd gan gwymp Thomas Cook, ond un sgwrs benodol ynghylch y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau am reilffyrdd a datganoli setliad ariannu priodol. Bydd y sgwrs honno yn un o nifer a fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf, wrth iddo benderfynu sut i ymateb i adolygiad Williams, ac wrth i mi barhau i bwyso am ddatganoli. Dywedais yn fy natganiad hefyd fy mod yn ffyddiog nawr y caiff ein cyflwyniad i adolygiad Williams ei ystyried yn ffafriol, ac rydym yn aros yn eiddgar iawn i'r adolygiad llawn gael ei gwblhau, ei gyflwyno i Lywodraeth y DU, ac am ymateb yn unol â hynny.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, fel Russell George, yn gywir y bydd llawer o deithwyr yn ystyried y gwasanaethau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, a'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni nawr yn gwella gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Erbyn y Nadolig, bydd 150 o orsafoedd ychwanegol wedi'u glanhau'n drylwyr. Rydym ni'n recriwtio'r llysgenhadon hynny, rydym ni'n creu mwy o gynlluniau partneriaeth cymunedol. Mae trenau'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn CAF yng Nghasnewydd. Mae gwasanaeth Tro Holton nawr yn gweithredu rhwng Lerpwl a Wrecsam.

Hoffwn wneud sylw bach iawn yn unig ynglŷn â thoiledau ar drenau tram. Yn ddiweddar, credaf y cyflëwyd rhywfaint o wybodaeth gamarweiniol i Aelodau'r Siambr hon ac i'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch toiledau ar drenau. Bydd tair llinell yn ardal y metro lle bydd trenau tram yn gweithredu. Mae'r llinellau hynny'n llinellau lle'r ydym ni'n dymuno gweld ymestyn, hynny yw, gwasanaethau'n ymestyn i gymunedau eraill—i ganol trefi, er enghraifft. Ac am resymau amlwg, ni allwch chi redeg trenau fel 'Pacers' ar ffyrdd. Ni allwch chi wneud hynny. Ac felly, mae'n rhaid i chi chwilio am ateb sy'n eich galluogi i redeg cerbydau ar ffyrdd ac ar yr un pryd ar draciau rheilffordd presennol. Ni chewch chi yn un man ar y blaned hon, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, system metro lle mae toiledau hefyd yn y cerbyd. Mae'r unig un sy'n gwneud hynny yn yr Almaen, ond nid yw'r toiledau hynny'n gydnaws â deddfwriaeth yn y wlad hon sy'n ymwneud â phobl â symudedd cyfyngedig. Felly, yn lle hynny, fe wnaethom ni'r penderfyniad i fuddsoddi'n helaeth iawn yn wir—mae £15 miliwn eisoes yn cael ei wario ar orsafoedd yn ardal Cymru a'r Gororau, ar y metro yn bennaf—i sicrhau bod gennym ni fynediad gwell, heb risiau, yn 99 y cant o orsafoedd y metro, a thoiledau sy'n hygyrch i deithwyr anabl a'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig. Mae'n golygu na fydd 95 y cant o deithwyr byth yn fwy na thua 10 munud i ffwrdd o doiled. Ac mae hynny'n hynod o bwysig i bendroni yn ei gylch, o ystyried y ddadl a gafwyd yn ddiweddar. 

Rwy'n credu hefyd i'r Aelod wneud sylw pwysig iawn ynghylch ymdrechu'n barhaus, rwy'n credu, i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â hyn. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau wrth gyrraedd camau priodol gydag adolygiad Williams, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol ar yr adeg briodol i'r Siambr hon wneud cyflwyniad torfol arall, efallai pan fydd Llywodraeth y DU yn barod i ymateb i adolygiad Williams, fyddai'n dadlau, yn gynhwysfawr iawn, dros ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid.

16:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad mai eich gorchwyl gyntaf yw mynd i'r afael â'r diffyg buddsoddiad hanesyddol mewn gwella'r rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym ni'n eich cefnogi yn llwyr yn eich ymdrechion yn hyn o beth. Mae Cymru wedi dioddef erioed o ddiffyg cyllid angenrheidiol i wella'r seilwaith rheilffyrdd, felly mae'n iawn inni geisio rheoli ein tynged ein hunain o ran ein holl seilwaith rheilffyrdd. Dylem fod yn rhydd i greu system reilffyrdd sy'n addas i'w diben i wasanaethu pobl Cymru.

Ni allwn ni, wrth gwrs, sôn am y setliad datganoli a roddwyd i Gymru heb ei gymharu â'r hyn a roddwyd i'r Alban, ac nid yw datganoli'r rhwydwaith rheilffyrdd yn eithriad i hyn. Ni all hi fod yn iawn fod yr Alban wedi cael rheolaeth lwyr, ynghyd â'r cyllid angenrheidiol, ar gyfer ei holl rwydwaith rheilffyrdd, tra bod yn rhaid i Gymru fodloni â dull mor dameidiog gan Lywodraeth y DU. Gweinidog, rydych chi yn llygad eich lle'n dweud na allwn ni greu'r rhwydwaith rheilffyrdd a ragwelir yn y cynlluniau metro a gwella gorsafoedd rhanbarthol, heb sôn am ddatblygiadau'r coridorau strategol, heb i'r cymwyseddau a'r cyllid angenrheidiol gael eu datganoli'n llawn, ac rwy'n ffyddiog y gallwn ni wella'n sylweddol ar gostau datblygu drud eithriadol Network Rail. Mewn geiriau eraill, gwario arian yn llawer mwy effeithlon nag a wneir ar hyn o bryd. Rydym ni eisoes yn gweld y gwelliannau sy'n bosib gyda phwerau datganoledig gyda'r gwelliannau o dan fasnachfraint newydd y Gororau, ac rwy'n ffyddiog y gwelwn ni'r un gwelliannau ar reilffyrdd craidd y Cymoedd o dan y rhaglen ddatblygu a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.

A yw hi'n deg felly i rannau eraill o rwydwaith rheilffyrdd Cymru fod ar ei hôl hi am nad oes gan Lywodraeth Cymru y cymwyseddau a'r cyllid i wneud y gwelliannau angenrheidiol? Rydym ni yn y Blaid Brexit yn cydnabod bod seilwaith y rheilffyrdd yn hanfodol i ddatblygiad economi Cymru, a byddwn yn eich cefnogi'n llawn yn eich ymdrechion i sicrhau y caiff y rhwydwaith rheilffyrdd a'i gydrannau eu datganoli'n llawn i Gymru gydag, wrth gwrs, yr holl gyllid angenrheidiol sydd ei angen i gyflawni uchelgeisiau Cymru o ran rheilffyrdd.

16:35

A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gyfraniad a hefyd croesawu ei gefnogaeth i'n gweledigaeth a'n safbwynt ar ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd? Credaf fod David Rowlands yn gwneud sylw pwysig bod arnom ni angen system drafnidiaeth sy'n addas i'r diben, ac mae'r rheilffyrdd yn rhan annatod o hynny. Rydym ni eisiau bod yn gydradd â'r Alban. Mae'n eithaf amlwg. Mae rhannau eraill o'r DU yn mwynhau'r gallu i weithredu gwasanaethau a buddsoddi mewn seilwaith yn y ffordd y byddem yn ei dymuno yma yng Nghymru.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud sylw pwysig am effeithlonrwydd gwariant a chanlyniadau buddsoddi. Un o'n rhwystredigaethau yn ystod y cyfnod diweddar oedd cost ormodol rhai gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd a'r ffaith bod rhai prosiectau wedi methu o ran canlyniadau. Er enghraifft, gallwn dynnu sylw at y gwelliannau o ran y gwasanaethau rhwng y gogledd a'r de a'r gorwario ar gostau'r gwaith a wnaethpwyd yn yr ymdrech i leihau amseroedd teithio. Ni wnaeth yr amseroedd teithio hynny, gyda llaw, leihau cymaint ag a ragwelwyd yn wreiddiol. Hoffem gymryd rheolaeth o waith o'r fath ac rwy'n credu y byddai hi'n gwbl briodol wedyn inni fod yn llwyr atebol pe na bai unrhyw waith yn bodloni disgwyliadau'r cyhoedd.

Ni ddylai unrhyw ran o Gymru lusgo y tu ôl i ran arall o Gymru oherwydd diffyg cyllid. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn glir iawn y dylid datganoli cyllid i gyd-fynd â datganoli cyfrifoldebau. Mae'r metro yn ne-ddwyrain Cymru yn cael buddsoddiad sylweddol yn rhan o'r cytundeb twf ar gyfer y rhanbarth. Ond, yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, byddwn yn gweld gwelliannau mewn ardaloedd metro eraill ac yn y meysydd hynny lle nad oes cynlluniau metro wedi'u dyfeisio eto. Yn arbennig, gallaf gyfeirio at fuddsoddiadau sydd ar y gweill yn y gogledd ddwyrain, lle'r ydym ni'n gweld buddsoddi mawr yng nghynllun parcio a theithio ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, mewn gwelliannau ar gyfer cyfleoedd cynlluniau treialu bysiau ledled Cymru, a'r arian yr ydym ni'n ei wario yn y de orllewin i ddatblygu ymhellach y weledigaeth ar gyfer cynllun metro y de orllewin—ardal Bae Abertawe—.

Ond, er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon ac er mwyn cyflawni'r holl nodau ac amcanion a nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig yr wyf wedi'i amlinellu heddiw, bydd angen buddsoddiad sylweddol. Ond nid yw'n fuddsoddiad na ddylem ei ddisgwyl, yn seiliedig ar ein poblogaeth a thanfuddsoddi hanesyddol yn y seilwaith rheilffyrdd yn y cyfnod diweddar.  

A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod i'n croesawu'n fawr y weledigaeth gyffredinol yr ydych chi wedi'i hamlinellu inni y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud mai'r un peth sy'n uno pobl ar bob ochr y Siambr hon yw penderfyniad pendant bod pobl Cymru yn haeddu llawer gwell na'r hyn a gawsom ni o ran cyllid a phwerau dros reilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Croesawaf yn fawr yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud a chroesawaf eich ffydd y daw adroddiad cadarnhaol yn sgil adolygiad Keith Williams yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi'r newyddion diweddaraf i ni ynglŷn â chynnydd ac amserlen ar gyfer cyhoeddi ei adolygiad ac yna unrhyw ddatganoli cyfrifoldebau yn sgil hynny. Nid wyf yn credu mai fi yw'r unig un sy'n teimlo rhwystredigaeth lwyr pan welaf y ffordd y mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn taflu arian at rai cymunedau gan lwgu cymunedau eraill o ran unrhyw fuddsoddiad o gwbl, ac yn sicr bu Cymru yn y sefyllfa honno flwyddyn ar ôl blwyddyn, waeth beth fo lliw'r Llywodraeth.

Rwy'n credu bod llinell Cwm Ebwy, yr ydym ni eisoes wedi clywed pobl yn siarad amdani'r prynhawn yma, yn enghraifft o fethiant y setliad hwn. Rydych chi wedi ateb cwestiwn yn gynharach y prynhawn yma, Gweinidog, ynglŷn â'r cyfrifoldeb datganoli dros reilffyrdd y Cymoedd, ond wrth gwrs ni ystyrir rheilffordd Cwm Ebwy yn llinell graidd i'r Cymoedd er ei bod yn gwasanaethu poblogaeth sydd yr un fath i raddau helaeth â'r rheilffyrdd sy'n gwasanaethu Merthyr, Rhymni, Aberdâr neu Dreherbert. Mae hynny'n dangos y cymhlethdod a'r darnio y sonioch chi amdano yn eich datganiad ym mis Chwefror sy'n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl heddiw. Nid sgwrs academaidd am ddamcaniaeth gyfansoddiadol yw hon, ond mae'n ymwneud â'r modd y gallwn ni fuddsoddi yn y seilwaith sy'n cynnal ein heconomi heddiw.

I ni yng Nglynebwy ac i ni ym Mlaenau Gwent, mae'r blaenoriaethau'n glir ar gyfer llinell Cwm Ebwy. Rydym ni eisiau gweld y cerbydau newydd yr addawyd inni. Mae angen pedwar trên yr awr arnom ni. Nawr, rwy'n deall, Gweinidog, ac rydym ni wedi cael sgyrsiau am hyn yn y gorffennol, bod eich swyddogion yn dal i weithio ar hyn, a gobeithiaf y gallwch chi ddweud wrthym ni pryd y byddech yn disgwyl gweld dau drên ar y llinell, yn y lle cyntaf, ac yna pedwar trên yr awr yn y pen draw. Rydym ni wedi cael gwybod y gallwn ni ddisgwyl hynny yn 2024. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei weld yn cael ei gyflwyno ynghynt os yw'n bosib.

A'r sylw olaf yw hwnnw am Abertyleri. Byddai gorsaf yn Abertyleri yn cael effaith enfawr ar fywiogrwydd y dref honno ac ar allu pobl sy'n byw ym mhob rhan o Gwm Ebwy Fach i ddefnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a'r system Metro newydd. Mae hynny'n rhywbeth sydd yn bwysig. Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am y modelau y mae'r Adran Drafnidiaeth yn eu defnyddio ar hyn o bryd yn Lloegr i benderfynu lle y caiff gorsafoedd newydd eu lleoli a lle i gynnig gwasanaethau newydd, ond wrth gwrs ni fydd y model hwnnw byth yn darparu gorsaf yn Abertyleri nac unrhyw le arall ym Mlaenau'r Cymoedd neu rwydwaith y Cymoedd gan nad yw'n bodloni'r maen prawf a bennir gan Lywodraeth y DU. Felly, mae angen model arnom ni a fydd yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru ac a fydd yn cyflawni ar gyfer pobl yng Nghymoedd y De, yn enwedig yn yr achos hwn, o ran darparu gorsafoedd newydd, ond hefyd o ran gwneud gwelliannau eraill i'r seilwaith a chyflwyno gwasanaethau newydd.

Mae'r cwestiwn olaf yr hoffwn i ei ofyn i chi o ran y materion penodol yn y de ddwyrain yn ymwneud â thrydaneiddio a gyriant. Nawr, dydw i ddim yn un o'r bobl hynny sy'n gwneud môr a mynydd ynghylch cael trenau trydan yn lle bynnag y mae eu hangen. Fodd bynnag, rydym ni yn gwybod eu bod yn cynnig profiad teithio llawer gwell ac rydym ni yn gwybod eu bod yn cael llawer mwy o effaith o ran newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio. Felly, mae arnaf i eisiau deall sut y gallech chi drydaneiddio lein Glyn Ebwy er mwyn sicrhau y gallwn ni fod yn rhan o'r system metro ac nid ar ei phwys. Llywydd, mae'r datganiad y prynhawn yma wedi rhoi cyfle i Aelodau drafod sut yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen â hyn. Gobeithio y gallwn ni drafod y materion hyn yn fwy rheolaidd, ond rwyf hefyd yn gobeithio, drwy ddatganoli cyfrifoldeb a chyllidebau i Lywodraeth Cymru, y gallwn ni sicrhau bod gennym ni'r gallu yn y fan yma i fuddsoddi mewn rheilffyrdd ond hefyd i fuddsoddi mewn system drafnidiaeth amlfodd ac integredig sy'n cyflawni, naill ai drwy reilffordd neu fws neu dram, i bobl ar hyd a lled y wlad, a gallwn ddechrau gwireddu'r weledigaeth y mae'r Gweinidog wedi'i hamlinellu heddiw.  

16:40

A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad, ei gwestiynau a'r sylwadau pwysig a wnaeth? Os caf i ymdrin â'r mater o fuddsoddi a'r model a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU drwy Lyfr Gwyrdd y Trysorlys, sef, yn y bôn, cyfrifiad sy'n seiliedig ar y gymhareb budd-cost a fydd wastad yn arwain at fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny sydd eisoes yn gefnog a lle mae niferoedd mawr o bobl gyfoethog, oherwydd fe allwch chi wastad gyfrifo adenillion gwell os gallwch ddarparu ar gyfer y cymunedau hynny. Ac o ganlyniad, nid yw'n syndod bod pobl mewn cymunedau mwy difreintiedig, cymunedau sydd eisoes yn wynebu heriau difrifol, wedi teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso yn y degawdau diwethaf. Fy marn i yw bod angen diwygio Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, y gyfres honno o reolau sy'n penderfynu sut y caiff arian ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu'n fawr iawn. Mae'n rhywbeth sydd yn nwylo'r Gweinidogion presennol, mae'n rhywbeth a allai fod yn nwylo Llywodraeth yn y dyfodol, ond rwy'n credu bod angen gwneud hynny er mwyn ail-gydbwyso economi'r DU.

Mae Alun Davies hefyd yn gwneud y sylw pwysig am swyddogaeth trenau trydan o ran gwella amseroedd teithiau. Mae trenau trydan yn cyflymu'n gynt ac felly gallant arwain at lai o amser aros mewn gorsafoedd, ond gallant hefyd arwain at amseroedd teithio byrrach rhwng gorsafoedd. Byddwn yn defnyddio trenau tri-dull a deuddull ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r Gororau. Efallai y byddwn yn defnyddio trenau hydrogen hefyd yn y dyfodol, a'm gobaith yw, wrth i ni ddarparu'r ganolfan ragoriaeth rheilffyrdd byd-eang yn y de, y byddwn yn gweld trenau hydrogen yn cael eu profi i'w cyflwyno'n dorfol yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym ni, yn wir, yn gweithio i ddarparu pedwar trên yr awr ar linell Cwm Ebwy erbyn 2024, ond fy ngobaith yw, os oes modd o gwbl y gallwn ni wneud hynny ynghynt, y gwnawn ni hynny ynghynt. Wrth gwrs, pe baem ni'n gallu cael y swm o arian y credwn y dylem ni fod yn gymwys i'w gael ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, byddem yn gweld gorsafoedd ychwanegol, gan gynnwys o bosib yn Abertyleri. Ond, ni fyddwn yn dymuno mabwysiadu'r un fformiwla ag y mae Llywodraeth y DU yn ei mabwysiadu. Rwyf eisiau mabwysiadu dull sy'n arwain at ddosbarthu cyfoeth yn decach, a chyfle i greu cyfoeth a ddosberthir yn decach ledled Cymru.

O ran y ffaith nad yw llinell Glynebwy wedi ei dynodi'n rheilffordd graidd i'r Cymoedd, rwy'n credu nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr i neb nad yw'n rhan o'r ased diffiniedig hwnnw yn y Cymoedd. Y rheswm, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i wasanaethau redeg ar brif reilffordd de Cymru, nad yw wedi'i datganoli. Ond, mae peidio â chategoreiddio llinell Glynebwy fel rheilffordd graidd i'r Cymoedd, mae arnaf ofn, weithiau, yn rhoi'r argraff mai llinell gwasanaeth eilaidd ydyw. Nid yw hynny'n wir. Mae'n gwbl hanfodol i'n gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig ac mae'n bendant yn fwriad gennym i ddarparu gwasanaethau'r metro ar linell Glynebwy, ac, wrth wneud hynny, rwy'n credu, ei hailddiffinio yn rhan o ardal graidd llinellau'r Cymoedd, hyd yn oed os nad oes gennym ni gyfrifoldeb am yr elfen lawn o'r llinell y mae trenau'n ei defnyddio ar hyn o bryd.

O ran amserlen adolygiad Williams, nid Llywodraeth Cymru sydd wedi gosod hon. Ychydig iawn o ddylanwad sydd gennym ni o ran pryd fydd Keith Williams yn cyflwyno adroddiad, a sut a phryd y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb, ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw gynnydd ac unrhyw ddatblygiadau. Os yw'n bosib, byddaf yn gwneud hynny cyn i Keith Williams neu Lywodraeth y DU wneud unrhyw gyhoeddiadau.

Llywydd, roeddwn yn bwriadu dweud mewn ymateb i'r cyfrannwr cyntaf y bydd swyddogion Trafnidiaeth Cymru yma yfory, rhwng 11.00 y bore a 2.00 y pnawn i ateb unrhyw gwestiynau ynghylch gwasanaethau cyfredol.

16:45

Rwy'n cytuno â Russell George, ac ychydig bach â Rhun ap Iorwerth. Rwy'n croesawu'r drafodaeth drawsffiniol hon. Mae dyfodol y rheilffordd yn edrych yn ddiogel, ond mae angen inni ystyried y sefyllfa bresennol hefyd.

O gofio hynny, pa drafodaethau y mae'n eu cael â Trafnidiaeth Cymru o ran y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd, oherwydd rydym ni wedi gweld rhai diffygion gyda'r cynnydd yn y misoedd diwethaf? Mae cwynion am seddau, yn enwedig, wedi cynyddu, ac mae hynny'n siomedig o gofio'r gwaith ychwanegol y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i wneud i wella'r sefyllfa o ran seddi. Pa drafodaethau y mae wedi eu cael ynglŷn â hynny? Hefyd, a all gadarnhau, er gwaethaf y ddadl heddiw, y bydd toiledau ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd yn y system newydd?

A gaf i ddiolch i Hefin David am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad heddiw? Gadewch imi fod yn gwbl glir ynghylch pa wasanaethau fydd yn dal â threnau â thoiledau, ac a fydd â thoiledau sy'n gydnaws â deddfwriaeth sy'n ymwneud â phobl sydd â symudedd cyfyngedig. O ran y rhwydwaith metro, bydd cyfleusterau tai bach yn dal i fod ar y gwasanaethau trên ar linell Rhymni, ar linell Maesteg, ar linell Glyn Ebwy ac ar linell Bro Morgannwg. Bydd trenau tram yn rhedeg ar dair llinell, fel y dywedais yn gynharach: byddant yn rhedeg ar linellau Treherbert, Merthyr ac Aberdâr. Gobeithio bod hynny'n ateb pob ymholiad ynghylch y mater hwn ynglŷn â thoiledau.

O ran capasiti ar y fflyd bresennol, rydym yn gwneud ein gorau i ddarganfod ffyrdd o ymdrin â materion capasiti ledled y rhwydwaith, ond rydym yn cydnabod bod problem benodol yn ardal y metro, a dyna pam yr ydym ni'n gwneud pob ymdrech i ganfod cerbydau lle bynnag y gallwn ni ledled y DU i'w defnyddio yma yng Nghymru cyn gynted â phosib.

Mae'r amser a neilltuwyd gan y Llywodraeth ar gyfer y datganiad hwn yn awr ar ben. Mae gen i nifer o siaradwyr sy'n dal eisiau siarad. Rhybudd rhag blaen, felly. Un cwestiwn o hyn ymlaen, a byddaf yn gweld a allaf alw'r holl siaradwyr sydd gennyf ar fy rhestr. John Griffiths, rhowch gynnig arni.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr eich uchelgais a'ch ymrwymiad i roi Cymru mewn sefyllfa fwy grymus, Gweinidog, o ran penderfynu ar y seilwaith a'r gwasanaethau sydd gennym yma yng Nghymru. Gan mai dim ond un cwestiwn sydd gennyf, fe'i cyfyngaf felly i fater gorsaf reilffordd gerdded Magwyr, sydd, fel y gwyddoch chi, wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned leol, ac rwy'n credu ei bod yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano o ran deall a diwallu anghenion lleol, ac â chynnwys budd cymunedol yn y datblygiad a fydd yn mynd rhagddo. Felly, dim ond tybio oeddwn i beth allech chi ei ddweud, Gweinidog, o ran y cynigion ar gyfer gorsaf gerdded Magwyr, a sut mae hynny'n cyd-fynd â'ch uchelgeisiau ar gyfer dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru.

16:50

Mae'r Aelod yn gwneud sylw pwysig iawn, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut yr ydym ni'n asesu ymhle y dylid buddsoddi arian ac, ar hyn o bryd, rhaid inni asesu hynny ar sail y fformiwla a'r meini prawf y mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn eu defnyddio. Yn y dyfodol, fel yr wyf wedi dweud, yn y ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi heddiw ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig ac ochr yn ochr â'r datganiad llafar hwn, byddwn wedi dymuno mabwysiadu model gwahanol i bennu'r buddsoddiad mewn gorsafoedd ar draws y rhwydwaith, yn seiliedig ar rai o'r meini prawf unigryw yr ydym ni wedi'u datblygu yma yng Nghymru, gan gynnwys, er enghraifft, system arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru o ran arfarnu cyfleoedd buddsoddi.

Rwy'n credu bod gan gynnig gorsaf gerdded Magwyr botensial enfawr a bod cefnogaeth enfawr i hynny ar draws y Siambr ac yn y gymuned. Ar hyn o bryd, mae'r model y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu ar gyfer buddsoddi mewn gorsafoedd yn ein cyfyngu, ond, wrth gwrs, pe baem yn datganoli'r cyfrifoldebau a'r cyllid, gallem fabwysiadu cyfres wahanol o feini prawf ar gyfer asesu rhaglenni. Yn wir, mae'n ddigon posib, pe bai adnodd o'r fath ar gael inni, y gallem ni gynnwys llawer mwy o brosiectau ar y rhestr yr wyf wedi'i chyhoeddi heddiw.

Rwyf hefyd yn croesawu'r uchelgais yn hyn o beth. Dyna yw hanfod datganoli; mae ynglŷn â chymryd y pwerau hynny a'r cyllid i gyd-fynd â'r pwerau hynny i drawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd ymhellach, ac i gael pobl i newid eu ceir am fathau eraill o drafnidiaeth. A gaf i ofyn dim ond un cwestiwn, Llywydd—un cwestiwn yn unig? A gawn ni'r newyddion diweddaraf, os gwelwch yn dda, ynghylch y dyddiad ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth Sul ar linell Maesteg, rhan o'r trawsnewidiad presennol, a'r dyddiad ar gyfer yr astudiaeth a wnaethpwyd gan Network Rail ynglŷn â chynyddu amlder y gwasanaethau ar y llinell honno hefyd?

Diolch i Huw Irranca-Davies am ei ddau gwestiwn. [Chwerthin.] Yr hyn y byddaf i'n ei wneud yw, byddaf mewn gwirionedd yn gofyn i swyddogion Trafnidiaeth Cymru yfory i ddarparu'r wybodaeth honno—yr wybodaeth ddiweddaraf bosib—ynghylch newid yr amserlen a dyddiad cau'r astudiaeth, y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atyn nhw.

Rwyf i hefyd yn croesawu'r gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud yn y maes hwn, yn enwedig yn rhanbarth gogledd Cymru o ran y datblygiadau trawsffiniol, y datblygiadau ar Dro Halton a hefyd y gwelliannau ar ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gweinidog, a fyddech yn cytuno â mi y gall trafnidiaeth, fel y trafodais mewn cynhadledd yng Nglannau Dyfrdwy ddydd Gwener diwethaf, y gall yr amcanion datblygu cynaliadwy, megis atal, integreiddio, cydweithio a chymryd rhan, fod wrth wraidd uchelgais y Llywodraeth hefyd, nid yn unig ar gyfer ein rheilffyrdd ond ar gyfer ein holl rwydwaith trafnidiaeth integredig?

Byddwn, yn wir, ac yn fy ymateb i John Griffiths cyfeiriais at Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, yr erfyn yr ydym ni'n ei fabwysiadu ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Mae'n ymwneud yn bennaf â seilwaith ffyrdd, ond gallai hefyd ymestyn y tu hwnt i ffyrdd i gynnwys pob math o seilwaith, gan gynnwys seilwaith cymdeithasol. Caiff hefyd ei ddefnyddio ar hyn o bryd wrth edrych ar ble yr ydym ni'n buddsoddi ein hadnodd gwerthfawr mewn seilwaith rheilffyrdd. Felly, oes, mae ystyriaeth i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mhroses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, ac mae'r broses honno eisoes wedi'i mabwysiadu ar gyfer rhai ystyriaethau seilwaith penodol, ond hoffwn weld hynny'n cael ei ymestyn ymhellach.

A gaf i groesawu sylwadau Jack Sargeant ynghylch llinell Tro Halton? Rwy'n falch o ddweud bod y gwasanaethau ar Dro Halton wedi denu mwy o nawdd na'r hyn a ddisgwyliwyd yn wreiddiol.

Rwyf i hefyd yn croesawu system drafnidiaeth integredig amlfoddol, uchelgeisiol ac ysbrydoledig i Gymru. Gweinidog, pa gyfleoedd y mae adolygiad rheilffordd Williams yn eu cynnig i Lywodraeth Cymru ysgwyddo cyfrifoldebau pellach dros greu gorsafoedd newydd ac ehangu gwasanaethau tram Cymru ar gyfer Cymru lanach, wyrddach?

Cyfleoedd enfawr. Pe bai gennym ni setliad a fyddai'n adlewyrchu ein hangen, yna, yn amlwg, yn seiliedig ar danariannu hanesyddol, byddai'r setliad hwnnw'n enfawr a byddai'n fodd inni allu buddsoddi, nid yn unig yn y seilwaith, ond hefyd o ran annog newid mewn arferion a allai arwain at newid sut mae pobl yn teithio hefyd. A boed hynny ar ffurf gorsafoedd newydd, rheilffyrdd newydd neu gynlluniau seilwaith cysylltiedig eraill megis cyfleusterau parcio a theithio, pe cai cyfrifoldebau eu datganoli gyda'r cyllid priodol, credaf y gallem ni greu newid sylweddol o ran cael pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle trafnidiaeth breifat.

16:55

Cyflymder rhagorol yn y pum munud diwethaf. Diolch, bawb, am fod yn gryno.

Diolch i'r Gweinidog.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adeiladu ar record ailgylchu Cymru

Dŷn ni'n dod i'r eitem nesaf, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar adeiladu ar record ailgylchu Cymru. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad. Hannah Blythyn.

Diolch, Llywydd. Eleni yw ugeinfed pen-blwydd datganoli yng Nghymru ac mae wedi bod yn gyfle i ystyried y gwahaniaeth y mae datganoli wedi'i wneud. Mae'n briodol i ni ymfalchïo ein bod, yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, wedi dod yn arweinydd byd-eang o ran ailgylchu. Yn 2017-18, fe wnaethom ni ailgylchu 62.7 y cant o wastraff trefol, ac rydym ni'n drydydd yn y byd o ran ailgylchu gwastraff cartrefi. Mae hon yn gamp anhygoel, ac ni fyddem ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw heb waith caled ac ymroddiad dinasyddion a chymunedau ar hyd a lled y wlad. Ond nid mater o gyrraedd cyfraddau ailgylchu yn unig ydyw. Dyma'r peth iawn i'w wneud dros ein hamgylchedd, dros ein cymunedau, a dros ein heconomi. Rydym ni wedi dod yn bell, ond nid ydym yn hunanfodlon ac rwyf eisiau achub ar gyfle wythnos ailgylchu i nodi rhai o'r camau nesaf i adeiladu ar record ailgylchu Cymru.    

Mae ein huchelgais ar gyfer Cymru ddiwastraff yn gryfach nag erioed. Mae ailgylchu a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau yn ganolog i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'n hymateb i argyfwng yr hinsawdd. Mae hefyd yn allweddol i ddatgloi manteision economi carbon isel. Rwyf i'n falch o gael bwrw ymlaen â gwaith ar ailgylchu busnesau yr wythnos hon wrth gyhoeddi ein hymgynghoriad ar y rheoliadau arfaethedig newydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd y Rheoliadau'n golygu bod yn rhaid i fusnesau wahanu deunyddiau allweddol er mwyn eu casglu a'u hanfon i gael eu hailgylchu, yn yr un modd ag yr ydym ni wedi bod yn ei wneud gartref ers blynyddoedd. Mae'r deunyddiau arfaethedig yn cynnwys plastig, metel, papur, gwydr a bwyd. Hefyd, mae'r ymgynghoriad yn cynnig gwahardd busnesau rhag gwaredu gwastraff i garthffosydd. Rwyf i wedi dweud o'r blaen ac fe'i dywedaf eto: mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i weithredu, o'r Llywodraeth i lawr gwlad a phopeth yn y canol. Mae'n ymwneud â phob un ohonom ni yn chwarae ein rhan, nid yn unig er budd yr amgylchedd, ond yr economi hefyd.

Mae llawer o fusnesau eisoes yn gwneud eu rhan o ran rheoli gwastraff yn y modd hwn. Mae busnesau yn fwy nag unrhyw sector arall eisoes yn gwybod bod gwastraff, yn hytrach na bod yn faich, yn adnodd allweddol sy'n gallu creu incwm a dod â chyfleoedd masnachol yn ei sgil. Gall wneud cadwyni cyflenwi'n gryfach a drwy sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n hwy, gefnogi economi fwy cylchol lle mae mwy o werth ychwanegol yn cael ei gadw yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi cyfle mawr i fusnesau ac awdurdodau lleol o ran gwerth y deunydd a gesglir a'r arbedion y gellir eu gwneud.

Rydym ni wedi gwneud llawer o gynnydd o ran deunyddiau sy'n haws i'w hailgylchu, felly mae angen i ni fynd ati nawr i gasglu gwastraff sy'n anoddach i'w ailgylchu ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod yn datblygu ein partneriaeth lwyddiannus ag awdurdodau lleol i sefydlu cyfleusterau newydd i ailgylchu cynhyrchion hylendid amsugnol megis clytiau.  

Rwyf i wedi cwrdd â llawer o bobl a chymunedau ledled y wlad ac rwyf wedi cael fy nghyffwrdd gan yr ymrwymiad, angerdd a brwdfrydedd ynghylch ailgylchu a mynd i'r afael â gwastraff. Nid oes unman gwell nag ysgolion am hyn, lle yr wyf wedi clywed enghreifftiau o bobl ifanc yn gweithredu o Ferndale i'r Rhyl. Mae menter ysgolion diwastraff sy'n cael ei threialu yn Sir Benfro a Chaerdydd yn dod â'r trydydd sector, awdurdodau lleol a Cadwch Gymru'n Daclus ynghyd. Mae'r fenter yn datblygu mentrau ailgylchu ymarferol mewn ysgolion, gan helpu i addysgu plant yn unol ag argymhellion adroddiad Donaldson.

Ond mae rhagor i'w wneud o hyd i godi ymwybyddiaeth ac argyhoeddi pobl i ailgylchu mwy. Gwyddom ni fod mwy na hanner y deunydd sy'n parhau i fod yn rhan o wastraff gweddilliol yn hawdd i'w ailgylchu, a byddai cael hynny allan o finiau du ac i mewn i ailgylchu yn golygu bod Cymru'n cyrraedd cyfradd ailgylchu o fwy na 80 y cant. Byddai hyn nid yn unig yn lleihau cost gwasanaethau rheoli gwastraff, ond byddai hefyd o fudd sylweddol o ran carbon. I fynd i'r afael â hyn, byddaf i'n cyflwyno ymgyrch genedlaethol ar ailgylchu i gefnogi ymgyrchoedd lleol a rhanbarthol.

Rwy'n cydnabod bod pryderon wedi'u mynegi'n ddiweddar ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i'n gwastraff gweddilliol a'n deunyddiau hailgylchu ar ôl eu casglu. Yng Nghymru, rydym ni eisoes wedi cael ein cydnabod am lefelau tryloywder uchel, gyda gwefan Fy Ailgylchu Cymru yn caniatáu i bobl weld yr hyn sy'n digwydd i'n gwastraff—95 y cant ohono nad yw'n cael ei allforio. Mae buddsoddi mewn seilwaith ychwanegol yn allweddol i symud i beidio ag allforio 100 y cant o'r deunydd.

Fel cenedl gyfrifol, mae'n hanfodol ein bod yn gwaredu'r gwastraff na ellir ei ailgylchu'n gywir. Am y rheswm hwn, rydym ni wedi buddsoddi yn y seilwaith i echdynnu trydan a gwres o'r deunydd hwn a'i waredu'n ddiogel i'r safonau amgylcheddol uchaf. Mae hyn yn sicrhau y gallwn ni dynnu'r budd mwyaf posibl o'r gwastraff hwn a'i atal rhag mynd yn broblem mewn man arall.

Fodd bynnag, mae llosgi gwastraff ar gyfer gwres a phŵer yn gam trosiannol. Yr ateb yn y tymor hir yw symud oddi wrth ddeunyddiau fel plastigau defnydd untro a'r rhai sy'n deillio o danwydd ffosil. Mae gweithredu ar lygredd plastig yn uchel ar yr agenda a byddwn ni'n symud i wahardd cynhyrchion plastig untro, gan gynnwys ffyn bys cotwm, cyllyll a ffyrc, platiau, gwellt, troellwyr, ffyn balŵns a chwpanau. Ond ynghyd â gwaharddiad, rydym ni'n cymryd camau i sicrhau bod y cyfrifoldeb am gostau diwedd oes deunyddiau yn cael ei roi ar gynhyrchwyr ar sail egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu. Rydym ni hefyd yn gweithio i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru ar opsiynau i drethu neu godi tâl ar rai cynhyrchion a gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol a'r sector preifat ar fentrau i ddatblygu mwy o gapasiti ailbrosesu plastig.

Ein nod yw sicrhau ein bod yn gosod y sylfeini i fynd y tu hwnt i ailgylchu a dod â manteision ehangach i Gymru o symud i economi gylchol. Yn y modd hwn, mae gwneud pethau'n iawn o ran yr amgylchedd yn golygu eu gwneud yn iawn ar gyfer yr economi hefyd. Yn gynharach eleni, cyhoeddais ein cronfa economi gylchol £6.5 miliwn. Mae WRAP Cymru bellach wedi dyfarnu'r grantiau cyfalaf cyntaf o dan y gronfa. Mae'r grantiau hyn, sef cyfanswm o £355,000, yn mynd at dri gwneuthurwr o Gymru i fuddsoddi mewn offer i gynyddu faint o blastig a phapur sydd wedi'u hailgylchu sydd yn eu cynnyrch. Mae'n cael ei baru gan fuddsoddiad o dros £1.7 miliwn gan y busnesau eu hunain.

Ddoe, lansiwyd ein hymgynghoriad i gynyddu ailgylchu busnesau, ac yn ddiweddarach eleni byddwn ni'n ymgynghori ar strategaeth gynhwysfawr ddiwastraff newydd—strategaeth a fydd yn adolygu ac yn ailgychwyn ein huchelgais a'n gweithredoedd ar gyfer Cymru ddiwastraff. Rwyf i eisiau i'r strategaeth newydd fynd y tu hwnt i ailgylchu drwy weithio i gyflawni ein hymrwymiad at ddatgarboneiddio ac economi gylchol wirioneddol. Mae hyn yn hollbwysig yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu ac o ran datblygu diwydiannau gwyrdd a chyfleoedd y dyfodol.

Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu cofnod ailgylchu Cymru a ffordd Cymru o ymdrin â gwastraff: lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ar gyfer dyfodol gwyrddach, cryfach a thecach.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

17:00

Diolch, Comisiynydd. Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n gywir dweud y bu'r newid meddylfryd yr ydym ni wedi'i weld yng Nghymru yn ystod y 10 i 15 mlynedd diwethaf yn rhywbeth y gellir ei ddefnyddio gyda balchder fel esiampl i rannau eraill o'r byd, ond ni allwn adael i unrhyw gynnydd lithro nawr. Yn amlwg, mae angen gwneud cynnydd, ac mae'n werth nodi bod cyfraddau ailgylchu wedi gostwng—fymryn yn unig, rwy'n gwerthfawrogi, o tua 1.5 i 2 y cant—yn y cyfnod adrodd diwethaf y cyfeiriodd y Gweinidog ato, a chredaf mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw atebolrwydd a'r trywydd archwilio. Nid wyf yn dymuno swnio'n rhy debyg i was sifil, ond pan fydd pobl yn gweld delweddau o leoedd pell yn y byd megis Malaysia a mannau eraill, gyda chynnyrch ailgylchadwy sy'n dod, yn amlwg, o'r farchnad ddomestig ac, yn arbennig, o Gymru, mae hynny wir yn achosi pryder, byddwn i'n ei awgrymu, ac mae materion hygrededd yn codi ym meddyliau pobl am yr holl ymdrechion y maen nhw'n eu gwneud. Felly, byddwn i'n falch o ddeall yn union sut y gall y Gweinidog ychwanegu mwy o atebolrwydd at y llwybr archwilio, oherwydd bod hynny'n ffaith. Os cymeraf ddau awdurdod lleol yn unig: allforiodd Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, dros 1,000 tunnell o blastigau ailgylchadwy i leoliad amhenodol yn yr Almaen; ac allforiodd Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, 707 tunelli o wastraff plastig i leoliad amhenodol ym Malaysia, a 172 tunnell arall o wastraff i leoliadau amhenodol yng Ngwlad Pwyl. Rwy'n gwerthfawrogi, o ran tunelli—o ystyried bod 132,000 tunnell o gynnyrch ailgylchadwy allan o gartrefi domestig mewn blwyddyn yn dod o Gymru—fod y niferoedd hyn yn gymharol fach, ond maen nhw yn peri amheuaeth ym meddyliau pobl, ac mae'n hanfodol ein bod yn gallu cael mesurau cadarn i sicrhau, pan fydd arfer gwael ar waith, y gallwn ni gael gwared ar hynny.

Sylwaf yn natganiad y Gweinidog ei bod yn sôn am 95 y cant yn cael ei ddefnyddio'n ddomestig, neu ei ailgylchu, ddylwn i ddweud? Rwy'n cymryd eich bod yn sôn am farchnad y DU yn y fan honno yn hytrach na marchnad Cymru yn unig, oherwydd credaf ei bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng y ddwy fel ein bod yn deall ein bod yn sôn am y DU yn ei chyfanrwydd. Felly, bydd unrhyw wybodaeth y gallwch chi ei rhoi am atebolrwydd a mwy o gadernid yn y broses archwilio i'w chroesawu.

Mae'r ymgynghoriad sydd gan y Llywodraeth ar hyn o bryd yn ymwneud â'r gymuned fusnes a'r swyddogaeth bwysig y gallant ei chyflawni yn rhywbeth i'w groesawu. Ond mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth busnes, ac rwyf yn gobeithio, yn amlwg, fod hwn yn ymgynghoriad dilys a fydd yn ystyried yr agweddau ymarferol y mae busnesau yn eu hwynebu ac, yn arbennig, rhai o'r costau ychwanegol y gallai fod yn rhaid eu talu yma yng Nghymru er mwyn cyrraedd nod yr wyf i'n credu ein bod ni i gyd yn ei ddilyn, ond yn y pen draw ni allwn roi busnesau mewn sefyllfa anghystadleuol. A hoffwn i geisio deall pam y ceir yr obsesiwn hwn ynglŷn â gwneud yn siŵr bod naill ai'r aelwyd neu'r busnesau yn gwahanu'r ailgylchu. Ymwelais i â CWM Environmental yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar ac fe wnaethon nhw ddangos i mi'n glir y gallai eu systemau weithio'n fodlon iawn â deunyddiau ailgylchu cymysg, oherwydd eu bod yn gallu eu gwahanu ar y safle. Ac felly, gan gymryd ardal fy awdurdod lleol fy hun, ac rwy'n datgan buddiant fel Aelod—maen nhw newydd ddosbarthu bagiau oren, bagiau gwyn, bagiau glas, cynwysyddion plastig llwyd, a'r cyfan yn cyrraedd ar garreg ddrws pobl yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf i'w gweithredu o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, heb sôn am y mater storio a lle y gall pobl gadw hynny i gyd, gallu pobl i ymdopi â newid arall yn y gyfundrefn ailgylchu a hynny o ailgylchu cymysg, a gyflwynwyd 12 mis yn unig yn ôl, sydd braidd yn heriol pan fydd y sector ailgylchu yn gallu gwneud hyn eu hunain. Rwy'n derbyn na allwch chi roi gwastraff bwyd gyda deunyddiau ailgylchu cyffredinol—mae hynny'n gwbl amlwg. Ond ailgylchu cyffredinol—mae'r dechnoleg ar gael i'w wneud a byddwn i'n awyddus i ddeall pam mae angen inni wneud gofynion mor benodol ar gartrefi ac, yn enwedig, ar fusnesau.

Hoffwn i glywed hefyd beth yw barn y Gweinidog, yn arbennig, ar losgi, y mae ei hadroddiad yn cyfeirio ato, a gwastraff cartrefi yn mynd i gael ei losgi, fel ynni gwyrdd, oherwydd, yn amlwg, mae hi a minnau wedi dadlau a thrafod hyn ar draws y Siambr yma, ac mae cynigion yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, a gwn mewn rhannau eraill o Gymru, i ddod â llosgyddion ar-lein. Felly, unwaith eto, hoffwn i ddeall sut, gan weithio gyda'r system gynllunio, y gellir ystyried barn preswylwyr, a phan godir pryderon, bod y pryderon hyn yn cael eu cymryd o ddifrif. Ond, yn gyffredinol, rydym ni i gyd eisiau ildio i economi lle, yn y pen draw, yr ydym ni'n edrych yn ôl ac yn dweud, 'ydych chi'n cofio pan oeddem ni i gyd yn gorfod ailgylchu?', oherwydd bydd gennym ni economi sydd wir yn cynhyrchu cynhyrchion nad oes angen eu hailgylchu oherwydd eu bod yn fioddiraddiadwy ac ati.

Felly, da iawn chi am yr hyn yr ydych chi'n ceisio ei wneud, ond mae angen prosesau archwilio cryfach, mae angen system gynllunio gadarnach pan ddaw hi i losgi, ac yn anad dim, mae angen i chi gael cefnogaeth busnes yn yr ymgynghoriad, oherwydd, yn y pen draw, os bydd cost ychwanegol, gallai hynny fod yn anfantais gystadleuol i fusnesau yma yng Nghymru  pan fyddant ar ôl troed y DU.

17:05

Croesawaf y ffordd y gwnaethoch chi agor y cyfraniad yn y fan yna o ran sôn am y modd y mae'r meddylfryd wedi newid, ac rydym ni wedi gweld y newid diwylliannol hwnnw yng Nghymru, ond, ddegawd yn ôl efallai, ni fyddem ni wedi'i weld, ni fyddai'n ail natur, ac yn awr, i'r rhan fwyaf o bobl, mae'n ail natur i ddidoli eu gwastraff i'w gasglu. Rwy'n cofio cael fy syfrdanu pan ymwelais â chyfaill rhywle arall yn y DU, dyweder, a gwelais i bopeth, gan gynnwys gwastraff bwyd a chardbord, i gyd yn mynd i mewn i'r bin du, ac mae hynny'n ymddangos yn wrthun i ni nawr o ran sut y mae ein meddylfryd wedi newid a sut yr ydym ni'n ymdrin â phethau.

Fe wnaethoch chig godi rhai pwyntiau allweddol iawn, a soniais i am lawer ohono yn y datganiad, ond o ran—. Rydych chi'n gywir am atebolrwydd a thryloywder, oherwydd nawr ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, rydym ni eisiau annog rhagor o bobl i ailgylchu ac nid ydym ni eisiau iddyn nhw gael eu rhwystro gan unrhyw agwedd negyddol yn ei gylch. Felly, mae'n bwysig iawn bod hynny ar waith, ac fel y dywedais i, rydym ni wedi cael ein cydnabod am ein tryloywder yng Nghymru—mae'r 95 y cant o fewn y DU. Yn y pen draw, y peth gorau y gallwn ni ei wneud yw'r hyn yr ydym ni yn ei wneud nawr o ran datblygu'r seilwaith i sicrhau y gallwn ail-brosesu pethau yng Nghymru fel ein bod nid yn unig yn lleihau ein gwastraff ond yn lleihau'r angen i'w allforio i rywle arall. Rwyf i'n ymwybodol iawn o'r sylw y mae'r maes hwn wedi'i gael yn ddiweddar, ac rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i adolygu'r prosesau i weld sut y gallwn ni eu gwella. Hefyd, mae'n rhywbeth y gallwn ni ei ystyried efallai, hefyd, wrth i ni edrych yn fwy cynhwysfawr ar strategaeth newydd yn anelu at ddiwastraff, o ran sut y gallwn ni ystyried hynny fel rhan o hynny. O ran pryd—[Anhyglyw.]—sy'n mynd i leoliad, dyweder, yn yr Almaen, neu efallai yn yr Iseldiroedd, mae hynny'n bosibl oherwydd bod y farchnad yno i ailbrosesu a dyna'r hyn sydd angen i ni ei dyfu yma yng Nghymru, a dyna pam mae ein hymrwymiad i'r economi gylchol a'r seilwaith yn gymaint o flaenoriaeth i ni, wrth symud ymlaen.

O ran llosgi—a, do, rydym ni wedi trafod hyn sawl gwaith yn y Siambr hon a'r tu allan—rwy'n deall safbwynt yr Aelod ar hyn. O ran y broses gynllunio, rwy'n credu ei fod o bosibl yn fater i'm cydweithiwr, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, sydd bellach yn eistedd yn y Siambr, a fydd wedi clywed hynny. Ond fel yr awgrymais yn fy natganiad, mae eisiau i ni gael gwared yn raddol ar wastraff gweddilliol sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, ac, mewn gwirionedd, mae defnyddio llosgi'n gyfnod trosiannol o'r hyn yr ydym ni yn ei ddymuno—i ddod at bwynt pan nad oes angen inni wneud hynny yn y dyfodol ac nid ydym ni'n defnyddio tanwydd ffosil ac rydym ni'n lleihau defnydd plastig untro. Felly, mae'n rhywbeth, mewn gwirionedd, sy'n rhan o'r strategaeth anelu at ddiwastraff. Mae'n debyg na chaiff ei alw'n hynny oherwydd rwyn credu bod eisiau strategaeth ddeinamig newydd arnom sy'n ystyried cyd-destun yr argyfwng yn yr hinsawdd a'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, ond mae'r rhain yn bethau yr wyf yn agored i'r Aelodau gyfrannu atynt yn rhan o'r broses hefyd.

17:10

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad a chroesawu llawer o waith sy'n cael ei wneud? Yn amlwg, mae ein cyfraddau ailgylchu i'w canmol, ond, yn amlwg, rydym ni mewn oes nawr lle y mae newid sylweddol—a'r argyfwng newid yn yr hinsawdd, yn gefndir i hyn oll, ac fe wnaeth Greta Thunberg ddoe osod heriau drwyddi draw. Felly, mae pethau'n dda, ond gallen nhw fod yn well.

Yn benodol o ran y pwyntiau bod—. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod angen i ni fuddsoddi mewn seilwaith ychwanegol er mwyn symud i 100 y cant o ddeunydd nad yw'n cael ei allforio. Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddarganfuom ni hynny—oherwydd mae hyn yn fater i'r awdurdod lleol yn awr, ac yn amlwg, mae llawer o waith da wedi'i wneud gan bob un o'n hawdurdodau lleol. Ond yn ystod 2017-18, anfonodd Dinas a Sir Abertawe wastraff ailgylchadwy i wahanol rannau o'r byd, mae'n deg dweud, gan yr anfonodd 10,007 o dunelli i Loegr, 3,697 o dunelli i Dwrci, 1,816 tunnell i Tsieina, ac felly mae'n mynd yn ei blaen—Indonesia, India, Gwlad Pwyl. Ailgylchodd Dinas a Sir Abertawe 27,559 o dunelli yng Nghymru. Mae stori debyg gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Yn yr un flwyddyn, fe wnaethon nhw anfon dros 10,000 o dunelli o wastraff ailgylchadwy i Loegr, 2,000 tunnell i Indonesia, 1,700 tunnell i Bortiwgal a 974 o dunelli i Tsieina, gan ailgylchu 12,377 tunnell yng Nghymru. Ni wnaf ddiflasu'r Dirprwy Weinidog â'r ffigurau eraill ar gyfer yr awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Ond o ganlyniad i'r frawddeg yn y fan honno ynghylch yr angen i fuddsoddi mewn seilwaith ychwanegol, awgrymaf fod angen inni gefnogi ein hawdurdodau lleol yn llawer mwy brwd nag yr ydym ni i ddatblygu canolfannau ailgylchu yma yng Nghymru, ar lefel leol ac ar lefel ranbarthol, yn enwedig ar gyfer ailgylchu plastig. Felly, a gaf i ofyn yn benodol pa waith sydd ar y gweill yn y fan honno i gefnogi ein hawdurdodau lleol fel nad oes yn rhaid iddyn nhw anfon gwastraff ailgylchadwy i bob cwr o'r byd yn y ffigurau hyn a ddyfynnir yn unig? A hefyd, beth rydym ni yn ei wneud o ran deddfu i wahardd y plastigau na ellir eu hailgylchu ar hyn o bryd a defnyddio plastigau y gellir eu hailgylchu yn unig? Oherwydd rwy'n rhyfeddu bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn anfon deunyddiau ailgylchadwy mor bell o amgylch y byd. Mae trigolion yn Abertawe, yn arbennig, yn gofyn, yn gwbl briodol pam mae miloedd o dunelli o'u deunydd ailgylchadwy yn cael ei anfon nid yn unig dros y ffin i Loegr, ond hefyd i leoedd pellach i ffwrdd, megis Twrci, Tsieina, India, Indonesia a Gwlad Pwyl. Yn sicr, nid yw hynny'n gynaliadwy. Beth am yr ôl troed carbon hwnnw? Mae angen inni greu'r canolfannau ailgylchu a'r swyddi sy'n cyd-fynd â nhw yma yng Nghymru.

Nid wyf yn anghytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn y fan yna o ran yr angen i ddatblygu'r seilwaith yma, ac, ar yr un pryd, mae hynny nid yn unig yn sicrhau'r budd amgylcheddol, mae'n lleihau ein hôl troed carbon, ond mae hefyd yn creu swyddi gwyrdd y dyfodol yn rhan o'r economi gylchol yng Nghymru.

Fel y crybwyllais i'n gynharach, rydym ni wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i adolygu eu prosesau a gweld sut y gallwn ni gefnogi hynny orau hefyd. Ond o ran symud tuag at sicrhau bod gennym ni'r seilwaith hwnnw ar waith, yn enwedig o ran plastigau, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau ein bod yn cael y buddsoddiad hwnnw yma a chael cwmnïau i fuddsoddi yma o ran datblygu'r seilwaith sydd ei angen arnom ni.

Mewn gwirionedd, o ran yr ôl troed carbon o fynd—rhai o'r pethau—ar draws y byd, wel, gweithio ar lefel ranbarthol yw'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo, oherwydd rydym ni eisiau gwneud yn siŵr nad ydym ni mewn gwirionedd—mae'n groes i reswm i gludo gwastraff neu ailgylchu dim ond hyd a lled y wlad hefyd. Felly, drwy'r bwrdd rheoli gwastraff, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i chynrychiolwyr, gan weithio mewn partneriaeth i sicrhau y gallwn ni wir ddatblygu'r seilwaith nid yn unig sydd ei angen arnom ni ar lefel Cymru, ac mae ei eisiau arnom, oherwydd mae arnom eisiau cyflawni'r amcanion hyn o ran yr argyfwng yn yr hinsawdd, a chynyddu ein cyfraddau ailgylchu hefyd, ond hefyd i gefnogi awdurdodau lleol o ran y manteision economaidd a all ddeillio o hynny iddynt hefyd. Felly, mae'r rhain yn bethau yr wyf yn fwy na pharod i ddiweddaru Aelodau amdanyn nhw wrth inni symud ymlaen, a gobeithio, dylem ni gael mwy o gyhoeddiadau cyn bo hir.

17:15

Rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr oherwydd yr uchelgais y mae'n ei dangos, oherwydd nid yw'n ddigon i ni fod ond y trydydd gorau yn y byd. Mae angen inni symud i sefyllfa Cymru ddiwastraff. Fel rydym ni wedi gweld yn ystod y diwrnodau diwethaf, pobl ifanc yn mynd ar streic—maen nhw'n mynnu ein bod yn gwneud rhywbeth o ddifri i achub y byd rhag yr argyfwng hinsawdd. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn cyfrannu at ein nod yn y pen draw, sef Cymru ddiwastraff, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys busnesau yn ogystal â phobl yn eu cartrefi.

Tybed a wnewch chi longyfarch Ysgol Uwchradd Teilo Sant yng Nghaerdydd, sydd wedi cael gwared ar bob cynnig cludfwyd, ac, yn lle gwastraff plastig, gwastraff papur—wyddoch chi, lapio pethau i bobl fynd â nhw i ffwrdd gyda nhw—mae gan bob myfyriwr ddewis o fwyd cytbwys o ran maeth, ond mae'n rhaid iddyn nhw eu bwyta ar eu heistedd, gyda phlât a chyllell a fforc, sydd, yn amlwg, yn cael eu hailddefnyddio. Tybed a ydym ni—. Oni fyddai'n braf pe byddai pob un o arlwywyr yr ysgolion uwchradd yn dilyn esiampl Teilo Sant? Oherwydd mae'r tueddiad tuag at ddarparu bwyd sothach yn druenus iawn o sawl cyfeiriad, ond yn enwedig, o ran y ddadl heddiw, o ran faint o sbwriel sy'n cael ei ddefnyddio o ganlyniad.

Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn i allan gyda chasglwyr sbwriel Pentwyn, sy'n grŵp gwych o wirfoddolwyr yn fy etholaeth i, sy'n glanhau ein coedwigoedd a'n strydoedd o sbwriel wedi'u gollwng gan drigolion eraill, mae arnaf i ofn. Un o'r heriau yw pecynnau creision gwag; gwelais i un ohonyn nhw yn yr ystafell fwyta gynnau. Ac maen nhw'n broblem ddifrifol, oherwydd, hyd y gwn i, nid oes modd eu hailgylchu. A oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i dreth ar becynnau creision o gwbl, gan eu bod ym mhobman ar y strydoedd, a pham nad yw'r llygrwyr yn talu i'w glanhau? Yn yr un modd, byddai'n dda iawn gwybod, Dirprwy Weinidog, beth yw'r amserlen ar gyfer y cynllun ernes ar boteli a chaniau, oherwydd mae'n hanfodol ein bod yn gwneud yr ailgylchu ar y stepen ddrws hyn, oherwydd fel arall mae'n halogi'r holl ddeunyddiau ailgylchadwy eraill.

Rwy'n cofio, pan oedd Bil yr amgylchedd yn mynd drwy'r pwyllgor yr arferwn i wasanaethu arno, fe wnaethom edrych yn fanwl ar y rhwymedigaethau—roeddem ni'n mynd i sicrhau bod busnesau yn ogystal â thrigolion yn cymryd rhan yn y busnes ailgylchu, oherwydd mae'n gwbl annerbyniol bod busnesau'n fflysio gwastraff bwyd i lawr y draen, fel yr wyf i wedi gweld wrth arolygu ysgolion, ag y mae i fflysio carthion cyw iâr i mewn i'r system dŵr gwastraff, oherwydd, yn amlwg, mae'n halogi; mae hynny'n gwneud gwaith dŵr Cymru yn anoddach o lawer. Gellir ailddefnyddio'r ddau beth hyn. Nid oes angen i ni—. Oherwydd, yn amlwg, mae unrhyw faw anifeiliaid yn ddefnydd da iawn o nitrogen i gyfoethogi ein tir. A gwastraff bwyd—clywais rai arbenigwyr yn Brighton yr wythnos hon yn sôn am ddefnyddio gwastraff bwyd: yn hytrach na'i losgi mewn treulwyr anaerobig, y dylem ni fod yn ystyried defnyddio gwastraff bwyd i'w roi i anifeiliaid fel dewis amgen i fewnforio soia a chorn o'r Amazon a llefydd eraill, gweithgaredd sy'n arbennig o niweidiol i'r hinsawdd. Felly, rwy'n sylweddoli bod materion dyrys i'w hystyried yn hyn o beth, ond roeddwn i'n dyfalu pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i ailgylchu gwastraff bwyd i'w fwyta gan anifeiliaid fferm—fel yr arferai ddigwydd bob amser yn y gorffennol—yn hytrach na'i losgi.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Yn amlwg rwyf eisiau dechrau drwy gynnig fy llongyfarchiadau i Ysgol Teilo Sant am yr hyn sy'n swnio fel menter hollol wych, ac un sy'n deg iawn i'w chanmol a'i chydnabod am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud. Mae cymaint o enghreifftiau o frwdfrydedd a syniadau o'r fath gan bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a chynradd ledled y wlad. Credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth i ni symud ymlaen gyda'n gwaith, ein bod yn edrych ar y ffordd orau o rannu'r arfer gorau hwn, fel y gallwn ni ei weld yn cael ei efelychu mewn ysgolion mewn siroedd ledled Cymru. Credaf fod gan ysgolion, ysgolion eco ac ysgolion uwchradd ran i'w chwarae nid yn unig o ran codi ymwybyddiaeth ac addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd ailgylchu a lleihau gwastraff, ond hefyd yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ymarferol yn yr ysgolion eu hunain, sydd o fudd i'r amgylchedd ond gallai hefyd fod â manteision eraill i ysgolion o ran lleihau costau hefyd.  

O ran pecynnau lapio creision, mae'r Aelod wedi taro ar y pwynt sy'n arbennig o—y math hwnnw o ddeunydd lapio tenau ar gyfer melysion yw'r rhai sy'n eithaf anodd i'w hailgylchu ar hyn o bryd. Gwn fod yna rai cynlluniau sydd yn ailgylchu, yn enwedig pecynnau creision, oherwydd gwn am ysgol yn fy etholaeth i, nid nepell o'r fan lle rwy'n byw, sydd â'u cynllun ailgylchu eu hunain, ac yn eu hanfon at fusnes. Ond yn sicr, mae'n rhywbeth, o ran cyfrifoldeb y cynhyrchydd, i'w ystyried—beth yw'r modd gorau o gynnwys y pethau hynny sy'n anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd ac sy'n anodd eu cyrraedd.

O ran cynllun dychwelyd ernes, rydym ni'n gweithio arno nawr, ac yn wir, bydd ymgynghoriad arall o ran, union fanylion sut y byddai hynny'n gweithio'n ymarferol, gan weithio gyda'r holl randdeiliaid a'r holl bobl a fydd yn cymryd rhan, yn ogystal â'r grwpiau ymgyrchu a'r awdurdodau lleol hefyd. Rwyf i wedi dweud o'r cychwyn cyntaf mai'r hyn yr ydym ni eisiau ei sicrhau yw bod gennym ni system yng Nghymru sy'n gweithio—sy'n ategu'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud. Felly, sy'n ategu—. Fel rydym ni wedi'i ddweud, rydym ni wedi gweld newid mewn meddylfryd pobl sy'n didoli eu gwastraff yn y cartref i'w gasglu, felly y ffordd orau o wneud hynny—i bobl barhau â hynny, oherwydd yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw i bobl feddwl wedyn, 'Wel, roeddwn i'n arfer gallu ei gael wedi ei gasglu gartref, a nawr mae'n rhaid i mi fynd i rywle arall, ac a wyf yn mynd yn y car, ac yna a yw hynny'n cynyddu fy ôl troed carbon hefyd?' Felly, mewn gwirionedd, i edrych arno'n holistaidd a'r holl elfennau ymarferol hynny, ac un ffordd o'i wneud efallai fyddai edrych ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg ddigidol i'n helpu ni gyda hynny hefyd: a oes dulliau digidol y gallwn ni eu defnyddio, yn hytrach na thalebau materol ar gyfer pethau, fel rhan o hynny? Felly, rwy'n awyddus iawn i fynd i fanylion hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.  

Mae'n amlwg eich bod yn iawn o ran busnesau'n chwarae eu rhan—a chyrff cyhoeddus—o ran sut yr ydym ni'n gwahanu gwastraff. Roedd yn esgeulus imi beidio â sôn am hynny mewn ymateb i gwestiwn cyntaf Andrew R.T. Davies o ran sut yr ydym ni'n ennyn cefnogaeth busnesau. Credaf fod llawer o fusnesau eisoes yn gwneud eu hymdrechion eu hunain i wneud hyn, oherwydd eu bod yn cydnabod yr angen i wneud hyn, ac mae'n debyg bod rhyw fath o—wyddoch chi, maen nhw'n gwybod bod eu cleientiaid a'u defnyddwyr, mae'n debyg, eisiau ei gael hefyd, oherwydd cryfder barn y cyhoedd. Ond, yn sicr, mae angen inni weithio'n agos gyda busnesau a chael eu cefnogaeth. Yn debyg i'r ymgynghoriadau eraill i'r maes yr wyf wedi'i oruchwylio, megis y cynllun dychwelyd ernes a chyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd, rwy'n awyddus i gynnal sesiynau gyda rhanddeiliaid yn ogystal â symud ymlaen. Yn amlwg, bydd cyfnod pontio i ganiatáu i fusnesau gymryd y camau hynny, i wneud yr addasiadau sydd eu hangen arnyn nhw i allu bwrw ymlaen â hyn.  

Yn olaf, o ran y cwestiwn gwastraff bwyd, yn amlwg, mae'n rhywbeth y byddai angen ymchwilio ymhellach iddo, ond rwy'n gwybod hynny—. Er enghraifft, ymwelais i ddim yn rhy bell yn ôl â safle treulio anaerobig yn y gogledd—mewn gwirionedd lle y byddai fy ngwastraff bwyd fy hun yn mynd—ac mae swmp y gwastraff bwyd yno'n mynd i bweru trydan, ynni ar gyfer trydan. Roedden nhw'n sôn am, os oeddech chi'n byw o fewn pellter penodol i'r safle a'ch bod yn troi eich tegell ymlaen, mae'n debyg y byddai'n cael ei bweru gan ychydig o'ch gwastraff bwyd eich hun. Ond maen nhw hefyd yn defnyddio—maen nhw'n cymryd yr hylif fel gwrtaith organig hefyd, y mae ffermwyr lleol yn ei ddefnyddio yn yr ardal leol. Felly, mae pethau y gallwn ni eu gwneud—wyddoch chi, sut y gallwn ni ymgorffori'r ddau hefyd.

17:20

Diolch. Hoffwn i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Roeddwn i'n falch iawn ichi gychwyn yr Wythnos Ailgylchu drwy ymweld â Bryn Pica yn fy etholaeth i, sydd—. Efallai bod gennyf ogwydd, ond credaf ei bod ar flaen y gad o ran ailgylchu yng Nghymru, gyda chynlluniau arloesol yno fel eu hailgylchu matresi—rwy'n credu mai nhw yw'r unig le yng Nghymru sy'n gwneud hynny—ailgylchu cewynnau, troi cewynnau'n belenni plastig y gellir eu defnyddio i wneud decin, treuliwr anaerobig, y ganolfan addysg, y credaf ichi ymweld â hi, a nifer o gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol hefyd. A hoffwn ategu'r sylwadau a wnaed gan Dai Lloyd ynglŷn â'r potensial inni, yma yng Nghymru, i wir fanteisio ar ailgylchu a defnyddio hwnnw i weddnewid ein heconomïau. Gwn fod llawer o gynigion diddorol ganddynt ym Mryn Pica, megis ailgylchu plastig caled, y gellid eu defnyddio i wir adfywio'r economi leol hefyd, ac i fanteisio ar yr ynni o'r treuliwr anaerobig. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal rhai trafodaethau ynghylch hyn, ond rwy'n chwilio am rywfaint o sicrwydd bod y trafodaethau hynny'n parhau a chael gwybod pa fath o enghreifftiau o arfer da y gallech fod wedi'u gweld ym Mryn Pica heddiw y gellid efallai eu cyflwyno ledled Cymru.

Rwyf hefyd yn falch iawn bod eich datganiad yn cyfeirio at ailgylchu mewn ysgolion. Mae cynifer o blant ysgol lleol wedi cysylltu â mi ynglŷn â hyn. Mae'n fater y maen nhw'n teimlo mor angerddol amdano, a chefais drafodaethau gyda fy Aelod Senedd Ieuenctid lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ynghylch sut y gallwn ni leihau'r defnydd o blastigau a deunydd nad oes modd ei ailgylchu mewn arlwyo mewn ysgolion. Ond, gyda Senedd Ieuenctid Cymru yn addo mynd i'r afael â gwastraff plastig, a ydych chi'n credu bod unrhyw gyfle i Lywodraeth Cymru weithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru i geisio cyflawni'r nod hwn?

A'r trydydd pwynt yr hoffwn i ei wneud yw bod busnesau cymdeithasol yn aml ar flaen y gad o ran yr agenda ailgylchu, yn enwedig o ran ailddefnyddio pethau, fel y 'Toogoodtowaste' arobryn yn RhCT, yr ymwelais ag ef dros yr haf, sy'n ailgylchu nwyddau cartref a nwyddau gwyn a chelfi. A hefyd lloriau Greenstream yn y Rhondda, a oedd yn bresennol yn nigwyddiad amser cinio UnLtd heddiw ac yn ailgylchu teils carped diwydiannol i'w defnyddio mewn tai cymdeithasol. Felly, pa waith ydych chi'n meddwl y gellid ei wneud i ledaenu'r arfer da o'r sector mentrau cymdeithasol i'r sector busnes ehangach?

17:25

Diolch. Fe wnaf fy ngorau i gyfeirio at yr holl bwyntiau a gododd yr aelod. Yn amlwg, roeddwn yn falch iawn o allu ymweld â safle Bryn Pica heddiw. Fel y dywedwch, mae llawer o waith arloesol yn digwydd yn y fan honno, ac mae'r hyn sy'n digwydd yn fy nghalonogi'n fawr—nid felly'r tywydd a oedd yn fy nisgwyl pan gyrhaeddais yno'r bore yma, ond—. Ymwelais â nhw i agor y ganolfan addysg sydd newydd ei hailwampio gyda grŵp o blant ysgol lleol. Roedd yn wych gweld sut yr oedden nhw wedi dod â phopeth yn fyw, gydag arddangosiadau rhyngweithiol, y gall y plant gymryd rhan ynddyn nhw, sydd nid yn unig yn ymdrin â phethau ymarferol iawn ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn Rhondda Cynon Taf yn lleol, fel eu bod yn gwybod beth sy'n cael ei ailgylchu a sut a ble, ond sydd hefyd yn edrych ar bethau ar lefel Cymru ac ar lefel fyd-eang hefyd, ac yn sôn am effaith ein hymddygiad a pham mae angen i ni newid pethau hefyd, ond ar yr un pryd, rhoi rhai atebion ymarferol iddyn nhw y gallan nhw fynd â nhw adref i blagio'u rhieni gyda nhw.

Clywais—. Rwyf yn hoff iawn o straeon anecdotaidd am blant yn cywilyddio'r oedolion pan ddaw'n fater o wneud y peth iawn o ran ailgylchu a gwastraff. Roedd stori am, rwy'n credu, wyrion yn siarad am yr ymgyrch newid ymddygiad, ac roedd yna nain, mam a merch fach ac fe aethon nhw i siarad â nhw. Gofynnon nhw i'r nain a'r fam a oedden nhw'n ailgylchu, ac meddai'r ddwy, 'o ydym, ydym', ac yna dyma'r ferch fach yn edrych i fyny a dweud, 'na, dydych chi ddim'. Felly, rwy' credu, wyddoch chi, grym plant i, mewn gwirionedd—. Rydym ni wedi gweld pobl ifanc yn gweithredu, fel y crybwyllodd Jenny Rathbone, a chryfder hynny mewn gwirionedd, yn ein gwthio ni i weithredu, oherwydd mae gennym ni gyfrifoldeb a dyletswydd i wneud yr hyn a allwn ni i adael y blaned mewn cyflwr gwell o lawer ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni'n manteisio ar ailgylchu i ddatblygu capasiti. Ynghylch pethau megis plastigau caled, gallaf sicrhau'r Aelod fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Rwy'n gwybod fod gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol hefyd ddiddordeb mawr yn y modd y gallwn ni gefnogi gwaith yn y meysydd hynny, gan mai dyna'r hyn y mae angen inni ei wneud yn awr i gynyddu'r gallu hwnnw i ddatblygu economi sydd yn wirioneddol gylchol, ac o bosibl swyddi gwyrdd y dyfodol ar gyfer y plant ysgol y cyfarfûm â nhw heddiw hefyd. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod y cyfan yn dod at ei gilydd. Ac, yn amlwg, ceir arferion da ym Mryn Pica a mannau eraill y gellir eu cyflwyno ledled Cymru.

O ran y mentrau cymdeithasol, mae'n wirioneddol dda—yn wirioneddol dda—oherwydd bod llawer o'r safleoedd ailddefnyddio yr wyf wedi ymweld â nhw i gyd, yn gyffredinol, yn fentrau cymdeithasol, felly, unwaith eto, mae'n mynd yn ôl at y manteision ehangach hynny, sef nid yn unig ei fod yn gadarnhaol o ran yr amgylchedd, ond mae pobl yn mynd yno i wirfoddoli, yn dysgu sgiliau newydd ac, yn amlach na pheidio, yn cael swydd amser llawn o ganlyniad i hynny. Felly, yn amlwg mae'n rhaid i ailddefnyddio fod yn ganolog i unrhyw strategaeth dim gwastraff yn y dyfodol.

Yn olaf, Senedd Ieuenctid Cymru—rwyf eisoes wedi cael fy holi gan un o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru o ran gwastraff plastig a sbwriel, ac rwy'n disgwyl cael fy ngalw gerbron un o'u pwyllgorau rywbryd. Byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda nhw yn y dyfodol, gan fod gan y genhedlaeth iau syniadau gwych ac, mewn gwirionedd, mae angen inni—fel y dywedais, mae angen inni wneud hynny, gweithredu ar eu rhan, felly gweithredu gyda nhw.  

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant i Gymru

Yr eitem nesaf yw eitem 6, datganiad gan y Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—cyflwyno'r cynnig gofal plant i Gymru. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. 

Diolch i chi, diolch Llywydd dros dro. A diolch yn fawr iawn am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd o ran cyflwyno ein cynnig gofal plant i Gymru.

Bydd Aelodau'n ymwybodol, pan gafodd y Llywodraeth hon ei hethol, mai un o'r ymrwymiadau allweddol a wnaethom ni oedd darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn ledled Cymru. Ac, wrth ddatblygu'r cynnig hwn, mae llawer o'r teuluoedd yr ydym ni wedi siarad â nhw wedi dweud wrthym ni am y pwysau sy'n eu hwynebu wrth geisio talu costau cynyddol y cartref, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni. I'r teuluoedd hyn, mae costau gofal plant yn effeithio'n uniongyrchol ar ba un a all y rhieni, ac yn enwedig y mamau, weithio neu beidio ac, os gallan nhw, ble maen nhw'n gweithio a pha fathau o swyddi y gallan nhw eu derbyn; mae'n dibynnu ar eu gallu i gael gofal plant.

Felly, fe wnaethom ni ddechrau profi ein cynnig mewn rhannau o Gymru yn 2017. Gofynnwyd inni'n aml pam nad oedd y cynnig ar gael ym mhobman, a pham yr oeddem ni'n cyflwyno'r cynllun yn raddol. Gofynnwyd hynny yn arbennig imi yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, sef un o'r lleoedd olaf i fod yn rhan o'r cyflwyno. Roedd y dull gweithredu graddol yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cynnig wedi'i brofi'n briodol ac yn gweithio fel yr oeddem ni wedi bwriadu. Rwy'n falch iawn y bu mor llwyddiannus, a hoffwn dalu teyrnged a mynegi fy niolch diffuant i'n partneriaid, i'r awdurdodau lleol ac i'r darparwyr gofal plant sydd wedi bod yn gwbl hanfodol i'r broses, ac sydd wedi ein helpu i gyflawni cymaint. Oherwydd y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd, yn profi gweinyddiaeth a hygyrchedd y cynnig gofal plant, mae'n bleser gennyf ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad y bu ein cynnig ar gael ledled Cymru ers mis Ebrill, dros flwyddyn yn gynt na'r bwriad gwreiddiol.

Ddiwedd mis Gorffennaf, roedd bron i 16,000 o blant tair a phedair oed yn gallu cael gofal plant a ariannwyd gan y Llywodraeth, ac roedd 29 y cant o'r rhain yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Pan werthuswyd y cynnig ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu, dywedodd y rhan fwyaf o'r rhieni y gwelsant gynnydd gwirioneddol yn eu hincwm gwario oherwydd y cynnig. Mae rhiant nodweddiadol sydd â phlentyn yn elwa ar 20 awr o ofal plant yr wythnos yn cael yr hyn sy'n cyfateb i £90 ychwanegol yr wythnos yn ei boced—arian na fyddai ganddo fel arall. Dywedodd canran uchel o rieni wrthym hefyd fod y cynnig wedi rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw o ran y mathau o swyddi y gallen nhw eu gwneud, neu ei fod yn rhoi mwy o gyfleoedd hyfforddi iddyn nhw. Ac yn y flwyddyn gyntaf roedd 60 y cant o'r holl rieni a oedd yn defnyddio'r cynnig yn ennill swm cyfwerth neu lai nag enillion canolrifol y boblogaeth yng Nghymru, gan ddod â'r budd mwyaf i deuluoedd incwm isel a chanolig. Felly, rwy'n siwr y gwnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r 2,000 o ddarparwyr gofal plant sy'n darparu'r cynnig ar hyn o bryd, ac i'n hawdurdodau lleol, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod teuluoedd yn gallu elwa ar y cymorth hwn.

Mae hefyd yn bwysig cofio bod y sector gofal plant yn gyflogwr sylweddol yn ei hawl ei hun. Ledled Cymru, mae dros 3,600 o leoliadau gofal plant yn cyflogi tua 17,000 o bobl. Mae rhieni sy'n defnyddio gofal plant yn cyfrannu dros £1.2 biliwn at economi Cymru. Rydym yn cymryd camau i gefnogi'r sector mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy'r rhyddhad ardrethi o 100 y cant, a thrwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i broffesiynoli'r gweithlu gofal plant. Bydd y gyfres newydd o gymwysterau a gyflwynwyd yn gynharach y mis hwn yn cynnig llwybrau dilyniant gwell a chyfleoedd gyrfa ehangach, ac yn yr hydref byddwn yn arbrofi gyda dull cymorth busnes ar gyfer y sector i gefnogi twf hirdymor.

O gofio ein llwyddiant hyd yma, rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallwn ni ymestyn y cymorth hanfodol hwn. Felly, fel y nodwyd ym maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog, rydym ni bellach yn ystyried dichonoldeb ehangu'r cynnig i gefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant, neu sydd ar drothwy dychwelyd i'r gwaith. Mae'r arlwy yn un o gyfres o raglenni sydd wedi'u hanelu at gefnogi rhieni, ac mae llawer ohonyn nhw hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg bod rhai bylchau rhwng y rhaglenni hyn. Roedd hwn yn faes o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan oedden nhw'n ystyried yr hyn yw Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 erbyn hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar hyn, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi rhieni er mwyn iddyn nhw allu mynd i'r gwaith. Rwy'n disgwyl adroddiad ar yr adolygiad  yn gynnar yn 2020.

Rwyf hefyd yn falch o allu cyhoeddi y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddatblygu trefniadau cyflawni hirdymor ar gyfer y cynnig, gan ddatblygu rhai o'r systemau a'r gwasanaethau sydd eisoes ar waith ganddyn nhw. Mae awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith rhagorol yn gweinyddu'r cynnig, ac maen nhw mewn sefyllfa dda i barhau â'r gwaith pwysig hwn, yn enwedig o ystyried eu gwybodaeth leol a'r berthynas agos y maen nhw wedi'i meithrin dros nifer o flynyddoedd gyda darparwyr a rhieni yn eu hardaloedd. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rwy'n ffyddiog y gallwn ni ddarparu gwasanaeth cenedlaethol i weinyddu'r arlwy—gwasanaeth cenedlaethol sydd hefyd yn ychwanegu gwerth gwirioneddol yn lleol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu'r swyddogaeth barhaus hon i awdurdodau lleol a byddwn yn gweithio gyda nhw ac eraill wrth inni ddatblygu cynigion manwl.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi bwriadu gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar ddull cenedlaethol o ymdrin â cheisiadau a gwiriadau cymhwysedd. Byddai hyn wedi golygu y byddem yn defnyddio eu platfform gwasanaethau gofal plant, sy'n gweinyddu'r cynnig 30 awr yn Lloegr a'r cynnig gofal plant di-dreth. Awgrymodd asesiad effaith darganfod a gwblhawyd cyn yr haf y gallai'r gost o ddatblygu ac yna rhedeg y gwasanaeth am bum mlynedd fod oddeutu £16 miliwn. O ystyried yr hyn a oedd yn gysylltiedig â hyn, nid yw'r costau hyn yn afresymol, ond maen nhw'n uwch na'r rhai a amlinellwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf. Yn rhannol, mae hyn oherwydd eu bod yn cynnwys rhai costau nad oedden nhw ar gael ar yr adeg y cwblhawyd yr asesiad effaith rheoleiddiol. Hefyd, o ystyried ein bod yn adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynnig, ac yng ngoleuni'r costau hyn, penderfynais y byddai'n fwy synhwyrol inni ohirio'r gwaith gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, hoffwn ddiolch iddyn nhw am yr amser a dreuliwyd ganddyn nhw gyda ni hyd yma wrth ystyried ein dewisiadau i gyd.

Mae'r newid hwn wedi arwain at oedi wrth gyflwyno'r is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf Cyllido Gofal Plant (Cymru). Rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod deddfwriaeth yn diwallu anghenion y gwasanaeth yr ydym yn ei ddatblygu gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig treulio'r amser sydd ei angen i wneud pethau'n iawn. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i fireinio'r cynnig ar sail ein profiad a thystiolaeth bellach o'n rhaglen werthuso barhaus. Llywydd dros dro, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag achosion tlodi, ac yn enwedig tlodi mewn gwaith, ac mae ein cynnig gofal plant yn rhan allweddol o'r ymrwymiad hwnnw, gan helpu rhieni sy'n gweithio gyda'r costau hynny. Rwy'n falch iawn o'i lwyddiant hyd yma.  

17:35

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r datganiad hwn. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru bellach yn gweithredu polisi'r Ceidwadwyr Cymreig o ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant a gyllidir gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio, ac fe wnawn ni ymuno â chi i dalu teyrnged i'r 2,000 o ddarparwyr gofal plant sy'n cyflwyno'r cynnig ar hyn o bryd ac i'n hawdurdodau lleol sy'n gorfod gweithredu hyn. O ystyried eich datganiad, fodd bynnag, fe'm trawyd gan y diffyg sylw a roddwyd i'r sefyllfa y bu rhai darparwyr gwasanaethau eu hunain ynddi ac rwyf mewn ychydig o benbleth gan eich bod wedi disgrifio'r cynnig fel un mor llwyddiannus.

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn rhybuddio bod y cynnig mewn gwirionedd yn rhoi straen ar feithrinfeydd wrth iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru. Mewn gwirionedd, mae hyn yn dod yn hunllef i feithrinfeydd gan fod y gwasanaethau'n dweud eu bod yn cael trafferth recriwtio digon o staff cymwys i ateb y galw ychwanegol. Felly, rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth gennych, mae gennyf bedwar cwestiwn. O gofio bod meithrinfeydd sy'n gweithredu'n briodol yn ganolog i lwyddiant y cynnig, a wnewch chi egluro beth allwch chi ei wneud ar unwaith i sicrhau bod mwy o bobl yn dewis hyfforddi i fod yn weithwyr meithrin a bod y rhai sydd eisoes yn y sector mewn gwirionedd yn dewis aros? Rydym ni'n gweld gormod o lawer yn gadael y proffesiwn hwn.

Cwestiwn 2: ar ôl ystyried canlyniadau arolwg diweddar o 118 o leoliadau blynyddoedd cynnar sy'n gyfrifol am gyflogi dros 1,350 o aelodau staff a darparu lleoedd i fwy na 8,000 o blant, fe'm trawyd gan y ffaith mai dim ond tua 5 y cant o'r gweithlu sy'n ddynion. Felly, credaf fod potensial mawr i gynyddu nifer y dynion yn y proffesiwn ac i hyn fod yn un ffordd y gellid mynd i'r afael â'r broblem o ddiffyg staff. Felly, a wnewch chi egluro beth sy'n cael ei wneud i sicrhau y caiff y sector gofal plant ei ystyried i fod yn agored i ddynion a menywod?

Cwestiwn 3: fel bob amser, mae cyllid yn ystyriaeth bwysig i unrhyw broffesiwn, ond yn yr achos hwn, mae llawer o'r 17,000 o bobl sy'n gweithio ym maes gofal plant ledled Cymru ar isafswm cyflog. Nawr, rwy'n gwybod bod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddwch chi'n adolygu'r gyfradd yr ydych chi'n ei thalu am y cynnig gofal plant, gan gynnwys asesiad o effaith newidiadau i'r cyflog byw cenedlaethol. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn ac egluro pa ystyriaeth yr ydych wedi'i rhoi i gysoni'r cyfraddau a delir drwy'r cyfnod sylfaen a'r cynnig gofal plant?

Ac yn olaf, nid oeddwn yn synnu o ddarllen yn eich datganiad eich bod yn awr yn ystyried dichonoldeb ehangu'r arlwy i gefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu sydd ar drothwy dychwelyd i'r gwaith, oherwydd rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol, yn sicr, fy mod i fy hun a'm cydweithiwr Suzy Davies AC wedi codi pryderon ynghylch hyn o'r blaen. Rydym ni'n gwybod bod y sector yn cael trafferth gyda'r cynnig fel y mae, felly rwy'n glir nad yw Cymru eto wedi cyrraedd y pwynt lle mae modd ehangu cymhwysedd nawr. Y cwestiwn amlwg i mi, nawr, yw: a wnewch chi egluro erbyn pryd yr ydych chi'n disgwyl i gymhwysedd gael ei ehangu, a sut y bydd y sector yn darparu ar gyfer y cynnydd yn y galw y bydd hyn yn sicr yn ei achosi? Diolch.

17:40

Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei datganiadau a'i chwestiynau. Mae'n debyg pan rwy'n dweud ei fod yn llwyddiannus iawn, fy mod i'n seilio hynny ar y ffaith ei fod blwyddyn yn gynnar a bod 16,000 o blant yn elwa arno. Ac nid wyf yn credu y gallwn ni gwestiynu'r ffaith ei fod yn llwyddiant mawr.

Cytunaf yn llwyr â hi fod meithrinfeydd yn ganolog i'r cynnig. Wrth imi fynd o amgylch y wlad yn ymweld â meithrinfeydd ac yn gweld beth fu'r effaith arnyn nhw, maen nhw wedi bod yn gadarnhaol yn ddieithriad gan eu bod nhw'n gweld ei fod yn gyfle gwych iddyn nhw, ac roedden nhw'n dweud eu bod wedi gallu cynyddu'r niferoedd a chynyddu'r staff. Ond, yn amlwg, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud sylw pwysig iawn am y gweithlu, ac un o'r pethau yr ydym ni eisiau ei wneud yw annog y gweithlu i broffesiynoli'r gweithdy. Fel y dywedais, rydym yn annog cymwysterau ac rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y math hwn o waith yn cael ei weld fel gwaith deniadol ac fel swydd bwysig, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na gofalu am blant bach iawn a'u magu?

Felly, dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, ac rydym ni wedi cael ymgyrch—ymgyrch lwyddiannus, ymgyrch o'r enw Gofalwn—a gafodd ei rhedeg gan y Llywodraeth, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ac mewn gwirionedd, pan ymwelais â'r Alban ychydig wythnosau'n ôl, maen nhw mewn gwirionedd yn defnyddio'r ymgyrch honno i helpu i lywio eu hymgyrch nhw eu hunain. Felly, rydym yn edrych ar hynny.

O ran y swm o arian a delir am y cynnig gofal plant, £4.50 yr awr yn ôl ein gwerthusiad diweddaraf, nid yw'r darparwyr gofal plant wedi mynegi unrhyw bryder mawr ynglŷn â hynny; yn wir, rwy'n credu, yn gyffredinol, eu bod yn derbyn hynny. Rwy'n ymwybodol bod y cynnig yn rhanbarthol yn Lloegr, a'i fod yn newid, ond yr hyn y byddwn yn ei wneud y flwyddyn nesaf yw adolygu hynny a byddwn yn edrych ar y swm.

O ran pryd gaiff y cymhwyster ei ehangu, rydym yn bwriadu cael yr adroddiad adolygu hwn y flwyddyn nesaf, ac yna gobeithiwn allu ei ehangu bryd hynny. Diolch.

Diolch yn fawr. Does dim dwywaith mi oedd y Ddeddf cyllido gofal plant yn un dadleuol iawn o’r cychwyn cyntaf am y rheswm nad oedd o ddim yn cynnwys pob plentyn. Doedd plant oedd â’u rhieni mewn hyfforddiant neu addysg neu’n ddi-waith ddim yn gymwys ar ei gyfer. Felly, mi bleidleisiodd Plaid Cymru yn ei erbyn o. Roedden ni’n teimlo ei fod hi’n hollol annheg bod teuluoedd sydd yn ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn gallu cael gofal plant am ddim tra bo’r plant tlotaf sy’n byw ar aelwydydd di-waith yn cael eu heithrio rhag mwynhau’r manteision amlwg ddaw o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Ond, mi oedd y Gweinidog ar y pryd yn benderfynol o fwrw ymlaen efo cynnig cwbl ddiffygiol, a hynny er gwaethaf pryderon y comisiynydd plant a mudiadau plant, er gwaethaf pryderon y pwyllgor plant a phobl ifanc, er gwaethaf pryderon Plaid Cymru a leisiwyd droeon yn y Siambr yma.

Felly, dyma’r Llywodraeth, yn yr haf, yn cyhoeddi ei bod hi wedi gwneud tro pedol, a dwi’n falch, o’r diwedd, fod y Llywodraeth hon yn cydnabod ei bod hi wedi gwneud llanast llwyr o’i hymgais gyntaf i gyflwyno ei chynnig gofal plant 30 awr. Ond mae’ch datganiad heddiw yn fy mhryderu.  Rydych chi, erbyn hyn, yn ystyried ehangu’r cynnig er mwyn cefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant. Cytuno'n llwyr. Mi ydych chi, yn anffodus, ddim yn mynd yn ddigon pell, achos rydych chi'n ystyried ei ehangu fo hefyd ar gyfer rhieni sydd ar fin dychwelyd i weithio. Felly, hyd yn oed o dan eich cynllun diwygiedig, bydd yna rai plant yn parhau i beidio â bod yn gymwys ar gyfer gofal plant, gan gynnwys rhai o blant mwyaf anghenus Cymru. Mae hwn yn gam gwag. Mi fyddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn cynnig cyfle i bob plentyn gael manteisio ar ofal plant am ddim.

A wnewch chi egluro, felly, beth ydy eich diffiniad chi o rieni sydd ar fin dychwelyd yn ôl i’r gwaith? A wnewch chi egluro pam nad ydych chi'n mynd i gynnwys pob plentyn wrth i chi ddiwygio'r cynnig? Pam nad ydych chi'n mynd i gynnwys aelwydydd lle mae’r rhieni yn ddi-waith? Pam eich bod chi'n gwahaniaethu yn erbyn rhai plant? Onid ydy pob plentyn yn haeddu cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd? Gobeithio y medrwch chi egluro rhesymeg eich bwriad newydd, os gwelwch yn dda.

Gan eich bod chi'n atal y gwaith efo'r Trysorlys, a wnewch chi egluro beth sydd wedi newid, felly, o ran agweddau llywodraeth leol? Ydych chi wedi cael barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar oblygiadau’r tro pedol yma? A ydyn nhw bellach yn credu—yn wahanol i beth oedden nhw'n ei gredu pan oedd y ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Senedd yma—nad ydy’r system ddim yn rhy fiwrocrataidd a chymhleth a’u bod nhw yn fodlon ei gweinyddu? Dwi ddim yn gwybod beth sydd wedi newid rhwng cyfnod y ddeddfwriaeth a'r cyfnod yma.

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi wrth eich bodd bod y cyfnod prawf wedi bod mor llwyddiannus. Ac rwyf innau yn clywed bod nifer fawr o deuluoedd yn fy ardal i yn cymryd mantais o’r cynllun. Ond, dwi'n ymwybodol bod hyn yn creu problemau cyllidebol i'r cynghorau, a dwi'n deall bod arian ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i rai cynghorau sir, ond nad ydy hwnnw ddim yn ddigonol o bell ffordd i gwrdd â'r galw. Felly, a wnewch chi egluro sut rydych chi'n bwriadu cau'r bwlch rhwng y galw a’r arian sydd ar gael ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda?

17:45

Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am yr holl sylwadau a wnaeth, a derbyniaf ei sylw nad yw hyn yn cynnwys pob plentyn. Rwy'n falch iawn ein bod bellach yn adolygu ehangu'r cynnig i rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant neu'n bwriadu dychwelyd i fyd addysg a hyfforddiant, ac rydym ni hefyd yn cynnwys cyrsiau rhagflas neu fynd i gyfweliadau yn rhan o hynny, felly rydym ni eisiau ei ymestyn mor bell â phosib. Rwy'n gwybod, pan edrychodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hyn—roeddwn ar y Pwyllgor ar y pryd, felly rwy'n ymwybodol o'r pryder—un o'r argymhellion penodol ac un o'r meysydd roedd y Pwyllgor yn teimlo'n gryf amdano oedd addysg a hyfforddiant. Felly, rwy'n siŵr ei bod yn falch ein bod wedi ymateb i hynny a'n bod yn ei ymestyn i addysg a hyfforddiant.

O ran y sefyllfa ariannol, yn amlwg, oherwydd y nifer fawr o blant sydd wedi eu derbyn flwyddyn yn gynnar, mae hynny'n golygu ein bod yn gwario mwy o arian eleni nag yr oeddem yn ei ddisgwyl. Felly, yn 2018-19, gwariwyd £19.6 miliwn ar ofal plant ac mae'r gyllideb ar gyfer 2019-20 yn £40 miliwn, a dylai hynny fod yn ddigon i gwmpasu'r flwyddyn nesaf, a bydd unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen yn rhan o broses arferol y gyllideb yn ystod y flwyddyn, felly ni fydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol boeni; byddant yn cael yr arian.

O ran ei weinyddu a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, credaf fod awdurdodau lleol wedi ailfeddwl, gan fy mod yn credu, pan wnaethon nhw ymgymryd â hyn yn gyntaf, roeddent yn teimlo y byddai hyn yn orchwyl beichus ac y byddai yn anodd ei chyflawni, ac rwy'n credu eu bod wedi lleisio'r farn honno, ond maen nhw wedi newid eu meddwl ac maen nhw'n fodlon iawn i barhau â'r gorchwyl. A dyna'r adborth a gawn ni gan yr awdurdodau lleol—eu bod yn gadarnhaol iawn ynghylch gwneud hyn ac y byddent yn hoffi parhau i'w wneud. Ac yng ngoleuni'r ffaith, rwy'n credu, y cânt eu gweld fel y bobl fwyaf llwyddiannus i wneud hynny, oherwydd eu bod yn lleol, yn agos at y teuluoedd ac yn agos at y plant, rwy'n credu mai dyna'r ateb gorau. Felly, maen nhw wedi newid eu meddwl, ac maen nhw nawr yn llawer mwy cadarnhaol ynglŷn â gweinyddu'r cynllun.

17:50

A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru am yr hyn y mae'n ei wneud gyda'r cynnig gofal plant? Rwyf wedi gwneud rhai sylwadau eithaf cryf am feysydd megis parchu canlyniad y refferendwm neu adeiladu ffordd liniaru i'r M4, lle nad yw'r Baid Lafur wedi dilyn ei maniffesto, ond o ran hyn rydych chi wedi—yn wir, cyflawni hyn flwyddyn yn gynnar. Rwy'n eich llongyfarch ar hynny.

Sylwais hefyd fod y cynnig a oedd yn bodoli eisoes yn canolbwyntio llawer mwy ar ddarpariaeth y sector cyhoeddus drwy ysgolion yng Nghymru, o'i gymharu â'r hyn a oedd wedi datblygu yn Lloegr. Rwy'n nodi bod y ffordd yr ydych chi wedi cyflwyno hyn i'w weld yn deg i'r sectorau preifat a chyhoeddus, ac yn caniatáu iddyn nhw gystadlu neu, lle bo'n briodol, weithio gyda'i gilydd ar delerau cyfartal. Felly, unwaith eto, hoffwn roi clod i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth.

Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn falch iawn o ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad bod y cynnig wedi bod ar gael drwy Gymru gyfan ers mis Ebrill. Ni allaf ond dyfalu pam nad ydych chi ond yn dweud wrthym amdano nawr. Pam na chawsom ni gyhoeddiad swyddogol ym mis Ebrill? Gobeithio nad oes gwahaniaeth ganddo fy mod i'n dweud, ond bu'n rhaid i mi ddibynnu ar y Gweinidog blaenorol, Huw Irranca-Davies, a phan ofynnais iddo, dywedodd, 'o na, rydym ni'n gwneud hyn. Mae'r cyfan yn digwydd ledled Cymru ym mis Ebrill', ac roedd hi'n ymddangos fel petai neb yn gwybod. Dydw i ddim yn deall pam rydych wedi bod yn cuddio'ch golau o dan lestr ar y mater hwn. Rwy'n credu fy mod wedi gofyn i Huw, a dywedodd Huw fy mod yn cael siarad am y peth ac nad oedd yn gyfrinachol, dim ond heb ei gyhoeddi, dyna'r cwbl.

Y cyflwyno. Mae 60 y cant o'r holl rieni sy'n defnyddio'r cynnig yn ennill llai na'r incwm canolrifol; rwy'n credu bod hynny'n eithaf sylweddol. Yn aml, mae'n ymddangos bod gan bobl ryw syniad bod y rhai cefnog yn elwa'n anghymesur ar hyn. Tybed, Gweinidog, faint o hynny sy'n adlewyrchu problem garfan, ddemograffig o ran bod rhieni ifanc yn iau na'r oedran pan fo enillion ar eu hanterth yn eithaf aml. A hefyd, rwy'n credu bod angen i ni gydnabod bod newidiadau yn y system drethi a budd-daliadau ar lefel y DU wedi tueddu i gosbi'r grŵp hwn, o gymharu â phensiynwyr o leiaf, dros y degawd diwethaf. Mae'n dda gweld eich bod chi'n mabwysiadu rhai o syniadau' r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n credu, yn enwedig pan fo rhieni yn astudio neu ar fin cael swydd, ei bod hi'n dda rhoi mwy o gefnogaeth.

Tybed o ran dewis rhwng Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac awdurdodau lleol, yn gyntaf, Gweinidog, bu i chi a mi ac ychydig o gydweithwyr dethol dreulio cryn dipyn o amser ar bwyllgor Bil yn rhoi pwerau i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi rannu data a gwneud y gwaith hwn. Meddwl wyf i, tybed a oedd ein gwaith ar hynny'n ofer, a faint, hefyd, sydd wedi'i wario eisoes ar y rhyngweithio hwnnw â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi nad yw'n cael ei ddatblygu. Tybed hefyd beth yw'r goblygiadau o ran cymhwyso a gorfodi'r gofynion cymhwysedd. Efallai eich bod yn teimlo'n fwy cartrefol ynglŷn â'r gofynion cymhwysedd nag yr oeddech chi, ac nid yn poeni cymaint, ond mae'n ymddangos i mi fod Cyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi cael y data hwn, ac ar gyfer ein gofal plant di-dreth mae'n rhaid i ni gadarnhau bob tri mis ein bod yn dal yn gymwys yn ôl meini prawf amrywiol. A oes gan yr awdurdodau lleol yr un gallu â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi i wybod beth yw'r enillion ac i orfodi os nad yw pobl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd mwyach?

Yn olaf, a gaf i bwysleisio eto mor bwysig yw'r gofal plant di-dreth? Bydd llawer o rieni sy'n derbyn y cynnig hwn yn talu am ofal plant ychwanegol, ac ofnaf nad yw niferoedd mawr iawn ohonyn nhw'n elwa ar gynllun gofal plant di-dreth y DU. Credwn mai un peth cadarnhaol o weithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi oedd y byddai pobl yn sefydlu cyfrif a byddai'r rhwystr rhag iddyn nhw elwa wedyn ar y gofal plant di-dreth hefyd yn llai. Mae hwnnw'n arian sy'n dod gan Lywodraeth y DU a fyddai'n dod i Gymru i gefnogi'r sector, i hybu incwm pobl y gallent ei wario wedyn yng Nghymru. Gofynnaf i'r Gweinidog: a allech chi fel Llywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo a gwneud pobl yn ymwybodol o'r ffaith bod y cynllun hwn ar gael, a phe bydden nhw'n sefydlu cyfrif gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi, y cai swm ei ychwanegu at bob £8 a roddir ynddo ac y gallant wedyn dalu am werth £10 o ofal plant, ar ben y cynnig y maen nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru?

Diolch i Mark Reckless am y pwyntiau hynny, ac rwy'n falch ei fod yn cydnabod ein bod wedi dilyn ein maniffesto yma yng Nghymru a'n bod yn gweithio gyda'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Un o'r materion sydd wedi codi yw'r anhawster, weithiau, pan fo'r lleoliad gofal ymhell o'r ysgol, ac felly rydym wedi annog cydleoli lle bo hynny'n bosibl. Rydym ni hefyd wedi rhoi grantiau i ddatblygu meithrinfeydd y sector preifat mewn ffordd sy'n eu gwneud yn fwy agored ac mewn gwell sefyllfa i gymryd mwy o blant. Felly, rydym ni wedi ceisio helpu gyda'r arian cyfalaf hefyd o ran helpu meithrinfeydd i ddatblygu.

O ran y £60,000, rwy'n credu ei fod efallai'n gwneud pwynt dilys ynglŷn â rhieni ifanc, ond mae'n ddiddorol, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mai dim ond 3.1 y cant o holl bobl Cymru sy'n ennill dros £60,000.

17:55

Ie. Ac mae'r niferoedd sy'n ennill dros £80,000 neu dros £100,000 yn llai fyth, felly mewn gwirionedd nid oes llawer o bobl gyfoethog yng Nghymru o ran y niferoedd hynny.

Felly, fe wnaethom ni dreulio llawer o amser ar y pwyllgor yn edrych ar fater Cyllid a Thollau ei Mawrhydi—amser maith—a hoffwn ddiolch i'r Aelodau hynny o'r pwyllgor a fu'n rhan o hynny, ac roeddwn yn rhan ohono hefyd, ond roedd yn broses o ddysgu. Yr hyn a welsom ni oedd, nid yn unig fod rhai costau nad oeddem yn eu rhagweld, ond hefyd bod y cyfnod o edrych ar sut y byddai'n gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi yn dangos inni y gallai fod rhywfaint o anhyblygrwydd, er enghraifft, pe baem ni eisiau newid ein cynnig ac nad oedd ein cynnig yn cyd-fynd ryw lawer, fel sy'n wir ar hyn o bryd, â'r arlwy yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, mae ymestyn i addysg a hyfforddiant yn golygu bod yn rhaid ymdrin â hynny yn lleol beth bynnag. Hefyd, rydym ni eisoes wedi ymrwymo i dalu rhieni maeth a grwpiau eraill, y byddai'n rhaid ymdrin â nhw yn lleol beth bynnag. Felly, gwnaed y penderfyniad, mewn gwirionedd, y byddai'n well aros gyda'r awdurdodau lleol, yn enwedig gan fod yr awdurdodau lleol yn falch o fwrw ymlaen â'r gwaith. Felly, gwnaed y penderfyniad, ac nid oedd yr arian a wariwyd wrth wneud hynny yn wastraff oherwydd iddo gael ei ddefnyddio er mwyn gwneud penderfyniad mwy hirdymor, a bydd y gwaith a wnaethom ni gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi o fudd mawr yn y tymor hir.

Gofal plant di-dreth: oes, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i'w hysbysebu, oherwydd mae'r nifer sy'n elwa o hynny yn druenus o isel.

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Mae'n dda gwybod ein bod yn gwneud cynnydd cadarn o ran cyflwyno'r cynnig a oedd yn y maniffesto. Mae cydleoli yn hynod bwysig oherwydd fel arall mae perygl bod pobl yn gorfod cadw eu plentyn mewn meithrinfa nad yw'n cynnig yr addysg gynnar y mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl iddi hefyd. Felly mae gen i ddiddordeb arbennig mewn gweld, wrth i chi fireinio'r cynnig a phan rydych chi'n cynnal trafodaethau gydag awdurdodau lleol, pa mor fanwl ydych chi'n edrych ar ysgolion bro ac y dylai pob ysgol fod yn ysgol fro, oherwydd eu bod yn adeiladau cyhoeddus a ariennir gan y trethdalwr ar gyfer gwasanaethu'r gymuned, ac mae'n drueni os nad yw ysgolion yn cael eu defnyddio mwy na dim ond rhwng 9 y bore a 3.30 y pnawn. Ni fydd yn berthnasol i bob ysgol, oherwydd nid oes gan rai ysgolion y gallu i ymgymryd â mwy o weithgareddau, ond mae gan rai o'r ysgolion cynradd yn fy etholaeth i dir sylweddol ynghlwm wrth yr ysgol, ac mae hynny'n hollol wych, ond byddai'n berffaith bosib cyflwyno canolfan blynyddoedd cynnar ar y safleoedd hynny, sef tir y mae'r cyhoedd eisoes yn berchen arno, a byddai hynny'n cefnogi integreiddio'r gofal plant ag addysg feithrin sef yr hyn rwy'n sicr, yn y tymor hir, yr ydym ni i gyd eisiau ei weld yn rhywbeth y mae gan ein plant yr hawl iddo. Felly dim ond meddwl oeddwn i tybed pa drafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw wrth i chi gynnal yr adolygiad hwn i weld a allwn ni fwrw ymlaen â'r agenda honno.

Diolch i Jenny Rathbone am y sylw yna. Ydw, rwy'n cytuno â hi ynglŷn ag ysgolion bro, ac rwy'n sicr yn cytuno ynglŷn â chyd-leoli. Dyma drafodaeth yr ydym ni wedi bod yn ei chael. Fel y mae hi'n dweud, ceir llawer o ysgolion lle gallech chi ddatblygu darpariaeth gofal plant ar y safle, neu lle gallwch chi helpu i ychwanegu at rywbeth sydd eisoes ar y safle, ac rydym ni wedi gwneud cryn dipyn o hynny'n barod gyda'r grantiau cyfalaf y soniais amdanyn nhw. Rydym ni wedi bod yn rhoi nifer fawr o grantiau cyfalaf, ac mae'r Gweinidog addysg yn ymwybodol iawn o hyn. Credaf mai un o'r manteision o gydleoli ar y safle, a allai fod yn feithrinfa wirfoddol neu annibynnol, yw bod hynny'n lleihau'r teithio rhwng y lleoliad gofal a'r ysgol, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn, gan ein bod wedi siarad am ein hôl troed carbon, a hefyd, i'r plant, os oes rhaid i chi deithio'n rhy bell, rwy'n credu ei fod yn aflonyddu arnyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gwyntyllu hynny'n fanwl ac rwy'n credu ei bod yn gwneud sylw dilys iawn.

18:00

Mae'n hyfryd cael y datganiad hwn a gweld hyn yn gwneud cynnydd mor dda, a hefyd gweld bod Llywodraeth Cymru yn wir yn gwrando ac yn addasu'r cynnig wrth symud ymlaen. Mae hynny'n arwydd o Lywodraeth dda, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond dydw i ddim yn gwybod a fyddai hi'n cytuno â mi y byddai rhieni'r 16,000 o blant sy'n elwa ar hyn o bryd yn anghytuno â disgrifiad Siân Gwenllian funudau'n ôl sef 'llanast llwyr', a'r darparwyr, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd wedi gweld manteision diriaethol hyn i'r plant o ran addysg y blynyddoedd cynnar, o ran cymdeithasoli a datblygu sgiliau cymdeithasol. Ond cynnig cyfyngedig ydoedd beth bynnag, wedi'i gyfyngu i'r disgrifiad ohono yn y maniffesto.

Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru nawr mewn gwirionedd yn ystyried ei ymestyn, ond mae gennyf gwestiwn ynghylch hynny. Ceir cynlluniau sy'n bodoli eisoes o ran cymorth ar gyfer hyfforddiant ac addysg i rieni. Un peth y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw defnydd gwastraffus o adnoddau, felly os ydym yn ystyried ymestyn y cynnig i hynny, a allwn ni wneud yn siŵr bod yna gyswllt; nad ydym ni mewn gwirionedd yn dyblygu'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd? Byddai'n wych pe gallai'r Gweinidog Cyllid ddod o hyd i arian ychwanegol i wneud hyn, oherwydd roedd hi wastad yn uchelgais gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, pan ymddangosais ger ei fron, i wneud mwy. Felly, y tu hwnt i hynny, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut y mae'r trafodaethau yn mynd rhagddyn nhw yn y Llywodraeth ynghylch cynnig ehangach sydd y tu hwnt i'r arlwy gofal plant. Nawr, nid wyf yn disgwyl iddi gyflwyno glasbrint heddiw ar gyfer y ffordd ymlaen, ond gwyddom i gyd mai'r ffordd ddelfrydol ymlaen mewn gwirionedd yw cynnig blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n gyffredinol, yn gynhwysfawr ac mewn gwirionedd yn dechrau gyda nifer yr oriau sy'n briodol i oedran a chyda dysgu sy'n briodol i oedran yn flwydd oed, yn ddwy flwydd oed, ac ati. Mae'n mynd ymhell y tu hwnt i hyn—felly, nid dim ond i rieni mewn addysg neu hyfforddiant, ond ymhell bell y tu hwnt i hynny.

Nawr, pan adawais y swydd, rwy'n gwybod roedd swyddogion yn gweithio'n galed iawn a bod y Cabinet wedi cymeradwyo papur a oedd yn mynd i ddatblygu rhywfaint o'r gwaith hwn, felly byddai'n ddiddorol gwybod a yw hynny'n dal i fynd rhagddo hyd yn oed os na allwn ni gael disgrifiad manwl heddiw, oherwydd, yn y pen draw, dyna'r ffordd ymlaen.

O ran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, os yw awdurdodau lleol wedi newid eu barn am hyn, rwy'n credu bod hynny'n wych, ac rydym ni wastad wedi nodi tri dewis posib: y fersiwn a wnaed yng Nghymru, fersiwn Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac asiantaeth newydd—drud iawn. Mae gan ddull Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, sy'n bwrpasol, fanteision o fod wedi ei fodelu ochr yn ochr â model y DU, ond yr anfanteision o fod wedi ei fodelu ar y cyd â model Lloegr, hefyd. Felly, os yw'r costau wedi mynd drwy'r to o ran y rheini, mae'n gwbl ddealladwy dychwelyd at awdurdodau lleol, yn enwedig os ydyn nhw wedi newid eu meddwl. Ond, a gaf i ofyn a fydd unrhyw ddiwygio o ran y gost i awdurdodau lleol? Oherwydd un o'r pryderon gwreiddiol oedd y gost a'r fiwrocratiaeth, a chyda'r fiwrocratiaeth honno daw cost. Nawr, tybiaf y bydd y Gweinidog yn ateb gan ddweud mai'r gwersi a ddysgwyd gennym ni gan rai o'r awdurdodau lleol hynny sydd bellach yn darparu'r gwaith trefnu a'r gwaith gweinyddu ar gyfer awdurdodau lleol eraill yw inni fod yn fwy cost effeithiol a'u bod nhw wedi dysgu sut i wneud hynny'n eithaf rhwydd. Rwy'n credu mai dyma'r sefyllfa, mewn gwirionedd, ym Mhowys, lle caiff y cynllun ei ddarparu gan awdurdod lleol gwahanol ar gyfer yr ardal gyfan. A yw hynny'n wir ac a gaiff costau eu diwygio?

A'r peth olaf yr hoffwn ei ofyn, gan nad oedd yn y datganiad, yw beth yw'r sefyllfa o ran darpariaeth yn y Gymraeg? Rwy'n gwybod y bu trafodaeth dda yn fy ardal i ynglŷn â sicrhau y caiff y ddarpariaeth Gymraeg ei chynllunio'n dda a'n bod yn ei hehangu. Mae'n ddrwg gennyf, dywedais mai dyna oedd y cwestiwn olaf. Y cwestiwn olaf yw: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—yn draddodiadol, buont yn gor-ddarparu ar gyfer y blynyddoedd cynnar a'r cyfnod sylfaen gan gynnig oddeutu 25 awr neu hyd yn oed 30 awr y plentyn, sy'n llawer mwy hael nag awdurdodau lleol eraill. Rwy'n gwybod y bu ei swyddogion yn trafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch sut y gallwn ni osgoi cyflwyno hyn ac amharu mewn gwirionedd ar yr hyn a oedd yn dda iawn ac eisoes ar waith. Sut aeth y trafodaethau hynny? A yw'r trafodaethau hynny'n dal i fynd rhagddyn nhw gyda'i swyddogion a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Huw Irranca-Davies am y pwyntiau yna. Yn sicr, dydym ni ddim eisiau unrhyw ddyblygu a dyna pam, wrth ymestyn y cynnig i addysg a hyfforddiant, ein bod yn edrych ar y bylchau yn y system, oherwydd mae sawl ffordd o gael rhywfaint o gymorth ar gyfer gofal plant os ydych chi mewn addysg a hyfforddiant. Y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw dyblygu pan fo gennym ni adnoddau prin iawn. Felly, rydym ni'n sicr yn edrych ar hynny.

Byddai'n gwbl ddelfrydol cael cynnig cyffredinol a fyddai ar gael i bob plentyn, fel y cynnig Scandinafaidd, a chredaf, mae'n debyg, y byddai pawb yn y Siambr hon eisiau inni gyrraedd sefyllfa o'r fath. Pan oeddech chi yn y swydd, roedd y swyddogion yn edrych ar weledigaeth hirdymor. Rydym ni'n dal i edrych ar hynny. Rwy'n credu mai dyna'r math o beth yr hoffem ni ymgyrraedd ato ond, yn amlwg, mae gennym ni'r broblem o sut rydych chi'n talu am hynny, y mae pawb, yn amlwg, yn ymwybodol ohoni.

Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir; rwy'n credu bod yr awdurdodau lleol wedi dysgu sut i wneud hyn oherwydd, yn sicr, rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol eu bod yn gyndyn ar y dechrau, ond rwy'n credu ei bod hi'n gadarnhaol iawn bod arnyn nhw eisiau gwneud hynny nawr. Rwy'n credu y gwelson nhw'r manteision enfawr a fu, a'r 16,000 o blant a gafodd y manteision cadarnhaol hyn, a'u teuluoedd—rwy'n siŵr y gwelsoch chi i gyd y manteision hyn yn eich etholaethau—maen nhw wedi dweud na allant gredu eu bod nhw'n cael y gofal plant hwn am ddim. Felly, rwy'n credu'n wir y dylem ni groesawu hynny, gan ei fod yn gyfle gwych i deuluoedd.

Y Gymraeg: mae 29 y cant o'r plant yn cael darpariaeth Gymraeg, neu ddarpariaeth ddwyieithog, ac rydym ni wedi gwneud ymdrech benodol i geisio estyn allan i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael. Mae'n anoddach cael darparwyr iaith Gymraeg, a dyna'r hyn yr ydym ni hefyd yn ceisio gweithio arno hefyd oherwydd, yn amlwg, rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran cael mwy o siaradwyr Cymraeg.

Ac o ran Pen-y-bont ar Ogwr, ydynt, mae'r trafodaethau'n dal i fynd rhagddyn nhw, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu parhau â'r trafodaethau hynny nes i ni ddod i gasgliad a fydd yn bodloni'r Aelod.  

18:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

7. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Yr Adolygiad Annibynnol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Cymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar yr adolygiad annibynnol ar ddatgarboneiddio cartrefi Cymru. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. 

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i Chris Jofeh a'i grŵp annibynnol o randdeiliaid am gyflwyno'u hadroddiad deifiol, ond o bosib trawsnewidiol, 'Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell'. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf, ychydig iawn o bethau annisgwyl a geir am yr hyn y mae angen i ni ei wneud, y brys, y raddfa a'r costau, ond mae ei ddarllen yn ddigon i'ch sobri.

Pan wnaethom ni ofyn i Chris arwain y grŵp hwn yn gynnar yn 2018 yr her oedd sut, yng nghyd-destun deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, y gallem ni leihau'r carbon a ddefnyddir mewn 1.4 miliwn o gartrefi gan 80 y cant mewn 30 mlynedd drwy raglen ôl-osod ar gyfer pob deiliadaeth. Ar ôl inni dderbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Mehefin, diwygiwyd y targed hwnnw i bob pwrpas i ofyn am ostyngiad o 95 y cant o leiaf, gydag uchelgais i sicrhau gostyngiad net di-garbon. Mae'r adroddiad gan y grŵp annibynnol yn nodi'r targed newydd hwn.

Mae'n nodi'r elfennau rhyngberthynol hanfodol yn y rhaglen datgarboneiddio tai y mae angen i ni eu datblygu nawr, gan weithio gydag eraill. Nid ymdrech unigol yw hon. Nodwyd saith gofyniad: ymrwymiad strategol, targedau heriol, system i sicrhau canlyniadau o ansawdd, cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth, casglu data, pwyso a mesur posibiliadau, a gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau bod newid yn digwydd. Rwy'n cytuno â'r holl ofynion hyn, ac rwy'n siŵr, bod eraill yn y Siambr yn cytuno hefyd. Ond yr hyn y mae'r adroddiad yn ei egluro hefyd, yn fy marn i, yw nad rhestr o argymhellion yw hon y gallwn ni ddewis a dethol ohoni. Os ydym ni am ymateb mewn difrif i her newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni werthfawrogi ehangder yr her sy'n ein hwynebu a'r ymateb integredig y mae'n rhaid i ni ei lunio nawr.

Mae'n rhaid i ni gydnabod bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau yn y rhan fwyaf o'r meysydd polisi allweddol y mae'r adroddiad yn eu cwmpasu. Rhaid i'r Llywodraeth hon a Llywodraethau dilynol wneud eu gorau glas i wneud y newid sydd ei angen dros y 30 mlynedd nesaf, ond gadewch i ni beidio ag esgus y bydd hi'n rhwydd ac yn rhad. Mae yna gymaint o feysydd o ansicrwydd, a thri yn arbennig. Mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd o ran datblygu atebion technegol cynhwysfawr i ddatgarboneiddio ein stoc dai bresennol er mwyn cyrraedd y targedau yn yr adroddiad. Mae arnom ni angen data llawer gwell ynghylch cartrefi sy'n bodoli'n barod, a gweithredir ar hynny'n fuan. Mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth lawer gwell o gyfanswm costau ôl-osod. Nid ydym ni eto mewn sefyllfa i allu ymrwymo'r arian y bydd ei angen, ond gwyddom y bydd angen ymrwymiad a buddsoddiad gan bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys deiliaid tai. Bydd angen i'n rhaglen adlewyrchu hynny. Ac yn drydydd, ni wyddom ni pa mor gyflym y bydd y gridiau nwy a thrydan cenedlaethol yn datgarboneiddio. Er mor bwysig yw cyflawni'r newid hwnnw, rhaid inni sicrhau hefyd y caiff ei gyflawni heb drosglwyddo'r costau hynny i deuluoedd sy'n lleiaf abl i'w fforddio.

Ni allwn ni aros nes bydd yr holl atebion gennym ni nac ychwaith nes bydd yr adnoddau gennym ni. Nid wyf yn siŵr os oes unrhyw un â'r holl atebion ynglŷn â newid hinsawdd ar hyn o bryd. Yr hyn a wyddom ni yw bod diffyg gweithredu yn peri peryglon llawer mwy. Felly, er gwaethaf yr holl beryglon ac ansicrwydd, rwyf wedi penderfynu derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad mewn egwyddor. Nid yw hyn oherwydd fy mod yn anghytuno â'r argymhellion, ond oherwydd ansicrwydd parhaus ynghylch y ffordd orau o'u cyflawni neu eu gweithredu a'r gwaith pellach sydd ei angen o fewn a thu allan i'r Llywodraeth er mwyn i ni fod mor glir â phosib ynghylch costau.

Hoffwn ddim ond gwneud sylwadau byr ynghylch rhai o'r prif argymhellion. Mae argymhelliad 1 yn cynnwys yr angen am ymrwymiad gan bleidiau gwleidyddol eraill i gefnogi rhaglen 30 mlynedd. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb i hynny. Mae argymhelliad 2 yn gofyn i gartrefi cymdeithasol a'r rheini sy'n dioddef o dlodi tanwydd gyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ymhen 10 mlynedd. Rwy'n deall y nod hwn yn llwyr ac yn cefnogi'r angen i wneud hynny, ond mae angen i mi wybod ar fyrder beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i gartrefi, y costau cysylltiedig, dylanwad datgarboneiddio'r grid, y bobl sy'n berchen ar y cartrefi ac, yn bwysig iawn, y trigolion.

Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i ddechrau'r gwaith modelu ar gyfer cartrefi cymdeithasol. Byddwn yn disgwyl i hynny newid pwyslais Safon Ansawdd Tai Cymru ar ôl Rhagfyr 2020. Rwy'n rhagweld manteision eraill hefyd, gan gynnwys ystyried effeithiolrwydd dulliau cyfredol mewn rhaglenni fel Cartrefi Clyd, systemau cymorth priodol i berchenogion cartrefi sy'n gallu talu, a thargedu polisïau allweddol fel y strategaeth tlodi tanwydd newydd.

Mae'n bwysig pwysleisio bod yr adroddiad a'i dystiolaeth ategol yn glir—ni all pob cartref gyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ar hyn o bryd. Gallai cyflawni hynny erbyn 2030 gyflwyno costau yn y 2020au y gellir eu lleihau neu eu trosglwyddo yn y tymor hwy drwy fabwysiadu targed llai mympwyol. Efallai na fydd rhai cartrefi byth yn cyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni, ond rwy'n dweud 'ar hyn o bryd' yn fwriadol. Yn sgil y modelu ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n sail i'r adroddiad, rwy'n tybio y bydd angen i ni fynd ar drywydd atebion ôl-osod. Mae hyn yn golygu gwneud y gorau y gallwn ni i leihau'r galw am ynni a'r allyriadau mewn cymaint o gartrefi ag y gallwn ni, gan ddefnyddio atebion sy'n bodoli eisoes, ar sail 'lled-edifar'. Y nod yw diogelu cartrefi mewn modd sy'n gallu bod yn ddi-garbon, ac yn barod i fabwysiadu atebion a dulliau gweithredu yn y dyfodol pan fydd hynny'n ddichonadwy ac yn ddiogel. Bydd y profi a'r treialu y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn hanfodol.

Bydd llawer o'r penderfyniadau hyn yn perthyn i dymor nesaf y Llywodraeth a sawl tymor ar ôl hynny. Am reswm da, ni chaniateir inni glymu dwylo ein holynwyr ac nid wyf yn cynnig gwneud hynny, ond rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr heddiw'n deall yr angen a'r brys i weithredu er gwaethaf lefel yr ansicrwydd. Felly, mae angen i ni ddechrau datblygu rhaglen newydd yn barod ar gyfer y tymor Cynulliad nesaf. Mae angen inni ddatblygu'r achos dros fuddsoddi nawr hyd yn oed os mai'r Llywodraeth nesaf fydd yn gwneud y penderfyniadau gwirioneddol ynglŷn â buddsoddi. Rwyf felly'n falch iawn o ddweud bod Chris Jofeh unwaith eto wedi cytuno i arwain y gwaith datblygu gyda rhanddeiliaid, gyda chefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru. Byddaf yn sefydlu grŵp cyllid gwyrdd, fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, i edrych am atebion cyllid arloesol. Rydym yn gwneud cysylltiadau â'r gwaith ar dlodi tanwydd sydd ar y gweill ym mhortffolio Lesley Griffiths. Mae fy adran yn gweithio gyda chydweithwyr yn adran Kirsty Williams i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau, a rhaid inni feithrin gweithlu medrus a hyfforddedig fel y gall ein cymunedau a'n busnesau bach a chanolig fanteisio ar y cyfleoedd enfawr a ddaw o werth 30 mlynedd o waith. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwaith ar economïau sylfaenol a chylchol.

Mae ôl-osod o ran ynni yn ein cartrefi nid yn unig yn gyfle mawr i leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol a chyrraedd ein targedau, ond mae hefyd yn gyfle i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gwella cysur ac ansawdd mewn cartrefi, creu swyddi a hyrwyddo hyfforddiant, cadwyni cyflenwi a diwydiannau yng nghymunedau Cymru. Mae ynghylch gwneud Cymru'n ffyniannus, yn wyrdd ac yn gyfartal. Diolch.

18:10

Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r datganiad hwn, mewn ffordd ryfedd iawn, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n nodi bod yr holl argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor ac, fel arfer, mae hyn yn fy ngwneud yn eithaf blin, oherwydd rwy'n credu y dylech ddweud 'ie' neu 'na' os oes modd. Ond rwy'n credu, o gofio'r persbectif tymor hir y mae angen i ni ei fabwysiadu, a'r trylwyredd sydd ei angen er mwyn ymdrin ag adroddiad mor arloesol, rwy'n credu bod y ffaith y gallaf dderbyn hyn am y tro yn briodol wrth inni nawr edrych mewn difrif ar y dasg sy'n ein hwynebu a'r angen, yn wir, i feithrin consensws ar draws y pleidiau.

Gwyddom fod effeithlonrwydd cyffredinol y stoc dai yn parhau'n isel yn y DU, yn sicr o gymharu â llawer o wledydd tebyg. Y gwir rhwystredig amdani, fodd bynnag, yw bod y dechnoleg eisoes yn bodoli i greu cartrefi sy'n garbon isel, sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, sy'n well ar gyfer iechyd a'r amgylchedd naturiol, ac sydd â nodweddion dylunio gwych. Yn wir, buom yn siarad am lawer o'r materion hyn yn gynharach heddiw. Gwyddom hefyd, yn amlwg, fod ôl-osod yn llawer anoddach, ond mae angen inni gofio bod hynny'n rhan allweddol o'r hyn y mae angen inni ei wneud oherwydd bydd y rhan fwyaf o bobl yn 2050, neu 2040, pryd bynnag y gosodwn y targedau yn y pen draw, mewn cartrefi sydd eisoes yn bodoli heddiw—llawer ohonyn nhw yn 100 oed neu'n hŷn.

Os gallaf gyfeirio at un neu ddau o'r pwyntiau penodol yn unig. O ran argymhelliad 1 yr adroddiad: fel y dywedais, rwy'n credu bod angen i ni gydweithio ar raglen hirdymor ar gyfer datgarboneiddio. Rwyf wastad o blaid pethau na ddylent fod yn fater o bleidgarwch mewn gwirionedd, sef bod gennym ni'r cyfleoedd hyn i weithio gyda'n gilydd. Felly, dydw i ddim yn gwybod beth sydd gennych mewn golwg, ond rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth sy'n ein tynnu at ein gilydd fel y gallwn ni gyflwyno ein syniadau ni o ddifrif. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn yn ddiolchgar iawn eich bod wedi caniatáu i mi siarad â Chris a chael gweld yr adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi; nid yw hynny'n arferol mewn Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar am hynny.

Wn i ddim a yw 30 mlynedd yn rhy hir; rwy'n credu bod yr holl bethau hyn yn cyflymu ac efallai y bydd yn rhaid i ni ymateb i lawer mwy o alw cyhoeddus i ni fynd yn gyflymach. Ond mae'n rhywbeth, o leiaf, y gallwn adeiladu arno nawr, ac mae'r adroddiad hwn, rwy'n credu, yn ddarn helaeth a da o waith.

O ran argymhelliad 2, yn enwedig ynglŷn â chartrefi cymdeithasol a'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd, a bod â tharged o 10 mlynedd: unwaith eto, rwyf yn credu bod hyn yn uchelgeisiol iawn a bod angen i ni ymchwilio'n fwy trwyadl i sut y byddwn ni'n cyflawni hyn. Ond dylai fod yn flaenoriaeth uchel; mae'n hollol briodol i nodi'r sector hwnnw. Yn un peth, mae gennym y rheolaeth fwyaf drosto, ac yna mae'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd nad ydynt mewn cartrefi cymdeithasol bob amser, yn amlwg yn grŵp sy'n arbennig o agored i niwed, felly credaf fod hwnnw'n bwynt da.

Rwy'n credu, o ran argymhelliad 5, bod angen i ni symud ymlaen a gwneud hyn yn syth, a hynny yw gwella ein casgliad data ac edrych ar ddyfnder y sylfaen ystadegol bresennol sydd gennym ni a'r hyn y gallwn fod yn ei wneud i wella ein penderfyniadau yn y dyfodol.

Hoffwn orffen drwy ategu, mewn gwirionedd, diolch y Gweinidog i Chris Jofeh, sydd, rwy'n credu, wedi cynnal, fel y dywedais i, darn o waith sy'n cyd-fynd â her yr oes bresennol. Ac er mai eich ymateb yn 'Iawn, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd nawr a gweld sut y byddwn yn symud ymlaen â'r argymhellion hyn cyn gynted â phosib', a'u llunio ychydig, am wn i—a dyna pam rydych chi wedi eu derbyn mewn egwyddor—ond, wyddoch chi, ni ddylai hyn fod yn dacteg oedi. Mae'n rhaid i chi ddangos sut y mae hyn yn mynd i ddigwydd yn gyflym ac, fel y dywedwch chi, rydych yn gwybod, ni allwn glymu dwylo olynydd, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gosod agenda yma gan nad wyf yn credu ei bod hi'n debygol y bydd Cynulliad yn y dyfodol yn ei wrthdroi. Yn wir, efallai y byddant yn edrych yn ôl arnom ac yn dweud, 'pam na wnaethom ni weithredu'n gyflymach?' Ond, fel y dywedais, rwy'n credu ei bod hi'n rheidrwydd arnom ni i gyd i weithio gyda'n gilydd ar hyn, felly rwy'n croesawu natur y ffordd y mae'r Gweinidog wedi mynd i'r afael â hyn. 

18:15

Wel, rwy'n croesawu hynny'n fawr, David, a'r hyn yr ydym ni'n gobeithio ei wneud yw trin a thrafod yn gyflym iawn hyd a lled trafodaeth a fyddai'n gallu cael cymeradwyaeth bron pawb yn y Siambr, byddem yn gobeithio, o ran y ffordd ymlaen inni. Mae'r adroddiad yn rhoi llawer o fanylion am bosibiliadau, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw archwilio pa mor real ydyn nhw a pha gonsensws sydd ynghylch rhai ohonyn nhw. Hynny yw, mae nifer o bethau sy'n rhwystredig, yr ydym ni—rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn â chasglu data, felly rydym ni wrthi'n ceisio cael pobl i wneud hynny mewn gwirionedd. Rwy'n falch iawn bod Chris wedi cytuno â ni y bydd yn parhau i weithio gyda ni i fwrw ymlaen â hynny.

Mae gennym lond gwlad o bethau y gallwn eu gwneud yn gyflymach na'r targedau yma, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod consensws ynghylch hynny. Felly, byddaf yn gofyn i bobl ddod at ei gilydd a cheisio cytuno ar rywfaint o hynny. Nid wyf yn ceisio ei ohirio o gwbl. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i ddweud yw, 'Edrychwch, mae'r adroddiad yn nodi cyfres o egwyddorion—rydym yn derbyn yr egwyddorion hynny. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yn awr yw cytuno rhyngom beth y gallwn ni ei wneud nawr, yr hyn y mae angen inni ei wneud yn y tymor ychydig yn hwy' ac ati. A heb rwymo dwylo Llywodraethau Cymru yn y dyfodol, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw gweld a allwn ni osod agenda sy'n ymddangos yn gytûn ac sy'n symud yn ddigon cyflym.

Ond mae yna rai pethau y bydd angen i ni edrych arnyn nhw. Efallai y byddwn ni'n cael trafferth cytuno ac felly mae angen i ni feddwl amdanyn nhw. Un o'r pethau rwy'n rhwystredig iawn yn ei gylch yw, os ydych chi'n berchennog cartref, nid oes budd i'r farchnad ar hyn o bryd o gael eich tŷ i fand A y Dystysgrif Perfformiad Ynni. Felly, yn y farchnad, mae pobl yn gwibio heibio'r darn ar y diwedd sy'n dweud beth yw'r sgôr ynni, a gallech wario £40,000 i ôl-osod agweddau ynni ar dŷ tair llofft ac ni fyddwch yn cael y £40,000 yn ôl ar y pris. Felly, bydd angen inni edrych ar ddulliau'r Llywodraeth a allai symud y farchnad honno i'r cyfeiriad hwnnw, er enghraifft, ond nid oes arnom ni eisiau gwneud hynny nes ein bod wedi sicrhau bod gennym ni'r sgiliau a'r deunyddiau ac ati a fyddai'n debygol o fod o fudd i berchen-feddianwyr er mwyn iddyn nhw allu ôl-osod eu tai. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwybod, er enghraifft, beth yw'r math o dŷ yng Nghymru lle mae hynny'n debygol a pha un a gawn ni'r sgiliau hynny a beth yw'r gadwyn gyflenwi ac ati. Felly, mae'n ymwneud â chael rhai o'r pethau ymarferol yn eu lle, ac rwy'n credu y gallwn ni, gan weithio gyda'n gilydd, gytuno ar raglen, ac y gallwn ni gytuno hefyd ar rai pethau na allwn ni gytuno arnynt, ac mae'r un mor ddefnyddiol i allu gwneud hynny a'u rhoi i un ochr i Lywodraeth yn y dyfodol gael golwg arnyn nhw. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael grŵp at ei gilydd y gallwn ni ei ddefnyddio i lywio hynny.

18:20

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac ategu ei diolch hefyd i Chris Jofeh a'r grŵp annibynnol o randdeiliaid sydd wedi bod yn gweithio ar yr adroddiad?

Rwyf i'n bryderus hefyd—pan ddywed y Llywodraeth ei bod yn derbyn rhywbeth mewn egwyddor, yna rydych chi'n meddwl, 'diawch, dyna ni, dyna dderbyn hynny', ac yna maen nhw'n rhyw gerdded ymaith ac yn ei drafod eto rai blynyddoedd yn y dyfodol. Felly, fe'm calonogir gan y ffaith eich bod yn mynnu—. Ac rwy'n deall bod rheswm ymarferol dros hynny hefyd, oherwydd rydych yn rhoi amodau o ran costau a'r atebion technegol sydd ar gael.

Un peth y byddwn i'n annog y Llywodraeth yn ei gylch, ac mae'n un o fy nghasbethau, mewn gwirionedd: mae gwir angen inni ail-lunio ac ail-fframio’r drafodaeth ynghylch—wyddoch chi, a allwn ni fforddio rhoi'r newidiadau hyn ar waith, ynteu a allwn ni fforddio peidio â gwneud hynny? Oherwydd bydd talu am ddinistr newid yn yr hinsawdd yn llawer, llawer mwy sylweddol na buddsoddi mewn mesurau fel ôl-osod. Felly, rwy'n credu bod angen i ni ddefnyddio terminoleg wahanol weithiau, oherwydd bod ôl-osod i mi yn gynllun buddsoddi i arbed, a dylem fod yn siarad am sut yr ydym yn gwneud i'r buddsoddiadau hynny ddigwydd fel y gallwn ni gynilo nid yn unig yn ariannol yn y pen draw, ond, wrth gwrs, o ran y canlyniadau eraill y gwyddom y byddwn yn eu hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd.

Nid oes unrhyw gamau gweithredu clir yn deillio o'r datganiad hwn, ar wahân i gydnabyddiaeth bod angen gwneud rhagor o waith, a sefydlu grŵp cynghori, neu rai grwpiau cynghori. Felly, mae hynny'n dipyn o rwystredigaeth eto, ond unwaith eto rwy'n deall pam eich bod yn teimlo mai dyna sut y mae'n rhaid i chi fynd ati i wneud hynny. Dywedwch yn eich datganiad

na allwn ni aros nes bod yr holl atebion gennym ni,

ac mae hynny'n hollol wir. Y pethau ynglŷn â'r gwerthwyr ynni yn yr Almaen—mae'n llwybr i ddatgarboneiddio, ond does dim syniad ganddyn nhw sut y maen nhw'n mynd i gyflawni'r 20 neu'r 30 y cant olaf. Ond maen nhw'n gwybod bod ganddyn nhw ffydd yn eu gwyddonwyr a'u peirianwyr ac y byddan nhw'n canfod atebion a does dim rheswm o gwbl i ddechrau ar daith dim ond oherwydd na allwn ni weld y diwedd. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni gael yr hyder i symud ymlaen yn hynny o beth.

Fe wnaethoch chi ofyn am gefnogaeth drawsbleidiol—wel, mae'n amlwg y byddwn yn rhoi hynny ichi, oherwydd roedd ymrwymiad yn ein maniffesto, o ran ôl-osod, i gyflwyno'r cynllun ôl-osod mwyaf a welodd Cymru erioed, ac roedd hwnnw'n ymrwymiad tymor hir i raddau helaeth. Yn amlwg, byddai angen i mi weld beth mewn gwirionedd yw'r cynigion, ond ni allaf ond dychmygu y byddai gan Blaid Cymru bryderon oherwydd efallai nad yw'n mynd yn ddigon pell nac yn symud yn ddigon cyflym. Felly, rwy'n fwy na pharod i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â chi ar y daith honno.

Y mater arall i mi, wrth gwrs, yw'r tai sydd heb eu hadeiladu eto. Nid dim ond ôl-osod yw hyn, fel rwy'n gwybod eich bod yn cydnabod: rydym yn dal i adeiladu tai sy'n aneffeithlon o ran ynni, sy'n parhau â'r aneffeithlonrwydd hwnnw ac sy'n creu llwybr hyd yn oed serthach neu ôl-groniad cynyddol o gartrefi y bydd angen eu hôl-osod yn y dyfodol.

Rwyf wedi rhygnu ymlaen ddigon am reoliadau Rhan L erbyn hyn, gan fod pawb yn gwybod y byddaf yn cyfeirio at yr ymgynghoriad 40 y cant neu 25 y cant o atgyfnerthu effeithlonrwydd ynni, a dewisodd y Llywodraeth, beth yw e', 8 neu 9 y cant yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, a oedd yn ddigalondid; roedd yn annigonol ac yn ddiffygiol o ran uchelgais. A gobeithio yr ymdrinnir â hynny yn fuan iawn, oherwydd y mae'n amlwg na allwn ni barhau fel yr ydym ni. Ond mae yna geisiadau cynllunio yn y system nawr a fydd yn amlwg yn creu'r broblem honno i genedlaethau'r dyfodol. Felly, a wnewch chi, roi ar gof a chadw y gall ystyriaethau amgylcheddol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mewn gwirionedd, gynnig sail gyfreithiol i bwyllgorau cynllunio wrthod ceisiadau y bydd neb yn debygol o ystyried eu cyflwyno hyd yn oed, efallai, mewn blwyddyn neu ddwy. Hoffwn glywed hynny gennych, os oes modd.

Yn olaf, rydym hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o gynlluniau blaenorol i inswleiddio waliau ceudod a gafodd eu cam-werthu, ac mae'n amlwg y byddai hynny'n tanseilio hyder, rwy'n credu, mewn rhaglen ôl-osod yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi egluro, efallai, sut y dysgwyd gwersi a sut y byddai hynny'n cael ei adlewyrchu, efallai, yn eich ymagwedd tuag at gynlluniau ôl-osod yn y dyfodol, a sut y byddwch yn sicrhau y caiff y cynlluniau hynny eu cyflawni mewn ffordd sy'n addas ac o ansawdd uchel?

18:25

Diolch am hynny, Llyr. Rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad i weithio gyda ni ac rwy'n gobeithio cael, yn y cam cychwynnol, grŵp o bobl drawsbleidiol gyda'i gilydd—y llefarwyr efallai, neu pwy bynnag yw'r blaid sydd fwyaf abl i wneud y gwaith—dim ond i lunio hynny, mewn gwirionedd, fel y gallwn ni fwrw ymlaen ag ef ac yna gallwn benderfynu sut y gall y grŵp hwnnw ei gyfeirio. Ond, fel y dywedaf, mae Chris Jofeh wedi cytuno i weithio gyda ni i wneud hyn hefyd. Felly, rydym yn bendant eisiau cael rhywbeth y bydd llywodraethau'r dyfodol, o ba bynnag liw a llun, yn fodlon bwrw ymlaen ag ef. Mae arnom ni angen yr ymrwymiad hwnnw neu ni fyddwn ni byth yn ei roi ar waith. Felly, rwy'n croesawu hynny'n fawr.

Rwyf finnau, fel chithau, yn rhwystredig ynglŷn ag adeiladu pethau sy'n mynd i achosi problem inni. Rydym ni ar fin adolygu Rhan L. Rwy'n gobeithio gallu cael consensws ar draws y Siambr ar lawer o'r pethau hyn, fel y gallwn ni fynd ymhellach nag y gallem ni pe na baem yn cytuno. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu ei roi gerbron pan fyddwn yn gwneud yr adolygiad hwnnw. Mae'n rhaid i ni wneud hynny am resymau diogelwch tân ac ati, ond mae pethau eraill y gallwn ni eu gwneud yn rhan o'r adolygiad, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ni weithio trwy'r rheini oherwydd ei fod yn gonsensws ar draws y Siambr. Felly, cawn weld yn y man, ond byddwn yn dechrau ar hynny cyn bo hir. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd.

O ran pethau fel camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol gyda waliau ceudod, y mae pob un ohonom ni'n ymwybodol ohonyn nhw, a chanlyniadau anfwriadol eraill—gyda rhai agweddau ar Safon Ansawdd Tai Cymru, rhoddwyd cladin ar dai nad ydynt yn anadlu mwyach ac sydd, wrth gwrs, â phroblemau gydag anwedd dŵr ac ati—yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw cael yr arbenigwyr at ei gilydd a gwneud yn siŵr ein bod yn dysgu o'r camgymeriadau hynny. Ni fyddwn yn gallu peidio â gwneud unrhyw gamgymeriadau pellach, ond mae angen inni ddysgu gwersi o'r rhai yr ydym yn ymwybodol ohonyn nhw. Rydym yn gwybod nad oes gennym ni ateb ar hyn o bryd ar gyfer rhai mathau o dai sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, mae angen inni edrych ar hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol, os mai'r unig ateb ar gyfer tŷ yw nad yw'n gallu cyrraedd y safon hon, mae angen i ni wneud penderfyniadau ar sail yr hyn a fyddai'n digwydd petaech yn dymchwel y tŷ hwnnw. A fyddem yn creu ôl-troed carbon gwaeth drwy ei ddymchwel yn hytrach na'i gael i gyrraedd y safon uchaf sy'n bosib iddo ei chyrraedd? Y math yna o bethau, ac mae llawer o bethau amgylcheddol a hanesyddol i'w trafod, am siâp dinasoedd a threfi pobl.

Felly, mae cryn dipyn i'w ystyried yma, ond credaf y gallwn ni gytuno o ran beth yr hoffem ni ei weld ar y cyfan, ac fel y dywedais mewn ymateb i David Melding, gallwn hefyd gytuno ar yr hyn nad ydym yn cytuno arno a gallwn roi y rheini i un ochr a pharhau â'r pethau yr ydym ni yn cytuno'n gyffredinol arnyn nhw. Felly, rwy'n obeithiol y byddwn yn gallu gwneud hynny'n gyflym. Ac mae angen inni ystyried pethau fel a oes gennym ni—beth bynnag a ddywed y data wrthym—ganran o stoc na allant fynd y tu hwnt i fand C neu D y Dystysgrif Perfformiad Ynni, neu beth bynnag: beth wnawn i ynghylch hynny? Bydd yn rhaid i ni ystyried beth yw'r trefniadau ailgylchu. Mae dymchwel tŷ ynddo'i hun yn achosi carbon: beth sy'n digwydd i'r gwastraff a gewch chi yn sgil hynny ac ati? Felly, bydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch ble'r ydym ni arni.

Ac yna'r un mwyaf ohonyn nhw i gyd yw gwneud y grid yn wyrdd. Felly, bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, y bydd yn rhaid i ni geisio bod mor unfrydol â phosib yn ei sgil oherwydd oni bai eich bod yn troi'r grid yn wyrdd bydd yr holl bethau eraill yn ddibwys. Felly, bydd yn rhaid i ni weithio'n galed iawn gyda'n gilydd ac wynebu penderfyniadau anodd, ond allwn i ddim cytuno mwy â'ch enghraifft o'r Almaen. Mae'n rhaid i ni wneud y pethau y gallwn ni eu gwneud ac mae'n rhaid i ni ariannu a chefnogi ein gwyddonwyr a'n peirianwyr i fynd â hynny gam ymhellach ac mae'n rhaid i ni ei wneud mor gyflym â phosib. Ni allwn ddisgwyl 30 mlynedd arall gyda hyn yn cynyddu o'n hamgylch. Felly, rwyf fi, yn bersonol, wedi credu yn yr argyfwng hinsawdd dros y 40 neu fwy o flynyddoedd diwethaf a throdd fy rhieni'n llysieuwr ym 1958 oherwydd eu bod yn credu bod argyfwng yn yr hinsawdd—mi wn nad llysieuaeth yw'r ateb i bopeth, gadewch i ni beidio â chodi'r ysgyfarnog honno, ond dim ond dweud yr wyf i fod pobl yn ceisio ymateb iddo mor bell yn ôl â chanol y ganrif ddiwethaf. Pa un a oedd yr ymateb yn gywir ai peidio, does dim ots—y pwynt yw eu bod yn ceisio ymateb. Felly, dim ond darlun sy'n cyflymu yw e, onid e? Felly, mae angen inni ymateb, mae angen inni weld beth mae cytundeb yn ei gylch, a bwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosib. 

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Datgarboneiddio ein tai yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu, ac rwyf felly'n croesawu adroddiad y grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Hoffwn innau hefyd ddiolch i'r grŵp am ei adroddiad eang ei gwmpas, sy'n helpu i amlygu'r heriau moel sy'n ein hwynebu i gyd.

Rwy'n falch eich bod wedi derbyn argymhellion y grŵp cynghori, ond deallaf yn llwyr eich angen i fod yn ofalus ac rwy'n falch eich bod wedi pwysleisio pwysigrwydd casglu data ar gyfer cartrefi sy'n bodoli eisoes gan fod hynny'n hynod bwysig, ynghyd â chyfanswm costau'r prosiectau a gyflawnwyd. Felly, mae ein tasg yn enfawr, gan fod y mwyafrif helaeth o'n cartrefi yn dibynnu ar nwy naturiol ar gyfer gwresogi, ac fel yr ydych chi'n egluro yn eich datganiad, Gweinidog, ni fydd datgarboneiddio ein grid nwy cenedlaethol yn hawdd. Felly, yng ngoleuni hyn, a gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a gwledydd eraill Prydain ynghylch y dull gorau o ddatgarboneiddio ein grid cenedlaethol?

Mae gwaith wedi'i wneud i archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio hydrogen mewn gwresogi domestig a micro-gynlluniau gwres a phŵer cyfunedig yn lle nwy naturiol, felly a yw Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i gyflwyno technolegau o'r fath o dan gynlluniau adnewyddu boeleri sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd?

A'm rhan olaf yw, Gweinidog: mae gwaith ar y gweill yn Llundain i harneisio'r gwres gwastraff o'r grid trydan. Mae'r rhwydwaith o linellau pŵer foltedd uchel sy'n croesi'r ddinas yn cynhyrchu llawer o wres gwastraff ac mae'n rhaid oeri'r llinellau. Felly, mae Prifysgol South Bank Llundain am geisio dal hyd at 460 kW o bŵer thermol bob milltir a hanner. Bydd yr ynni gwres dros-ben hwn yn cael ei ddefnyddio mewn cynlluniau gwresogi cymunedol. Felly, a wnaiff eich Llywodraeth ymchwilio i ymarferoldeb cynlluniau o'r fath yng nghymunedau trefol Cymru? Diolch yn fawr.

18:30

Diolch am y sylwadau yna. Yr ateb syml iawn i'r ddau sylw olaf yw 'byddwn, wrth gwrs'. Ac un o'r rhesymau dros gael y rhaglen dai arloesol yw rhoi prawf ar rai o'r posibiliadau technegol, ac rydym yn awyddus iawn i weld beth y gellir ei wneud. Rwyf hefyd yn awyddus iawn yng Nghymru i gael atebion ynni cymunedol. Felly, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda'r grid. Nid wyf wedi cael cyfarfodydd â Gweinidogion y DU eto, ond mae'r portffolio ynni gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths, felly bydd hi wedi bod yn symud hynny yn ei flaen. Rydym yn cydweithio'n agos iawn â phortffolio Lesley, ac mae tynnu hyn ynghyd yn rhan fawr o'r darlun o sut i fwrw ymlaen â hyn. Ond rwyf wedi cwrdd â'r grid ynghylch rhywfaint o hyn hefyd.

Mae rhai datrysiadau arloesol y gallwn ni edrych arnyn nhw, ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i ddod ag unrhyw farchnadoedd newydd neu gyfleoedd gwaith neu gadwyni cyflenwi i Gymru. Felly, rwy'n credu y bydd llawer o'r ateb i hyn yn ymwneud â phrosiectau ynni sy'n canolbwyntio ar y gymuned neu brosiectau ynni lleol neu wasgaredig, yn ogystal â'r hyn y gall y grid ei wneud. Felly, bydd angen inni weithio'n agos iawn gyda chyflenwyr y grid a'r cwmnïau ynni mawr, a bydd angen inni edrych yn ofalus iawn ar ba fathau o ynni rydym ni eisiau eu gweld ledled Cymru a'r hyn y mae'r cymunedau sy'n cynnal y prosiectau hynny yn ei gael o hyn yn ogystal â'r hyn y mae Cymru yn ei gael ohono'n ehangach. Ond mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn unrhyw atebion technegol ac mae gennym ni nifer fawr o brifysgolion yma yng Nghymru yn gweithio ar nifer o'r rheini.

Rydym ni hefyd yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud, a hoffwn gael consensws trawsbleidiol ar hyn, ynghylch cael cynllun at ei gilydd i brofi rhai o'r rheini yn rhan o'n cynlluniau ôl-osod wrth i ni symud ymlaen ac wrth i ni benderfynu beth i'w wneud ar ôl i ni gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. Hoffwn ddim ond gwneud y sylw, pan wnaethom ni ddweud beth fyddem ni'n ei wneud â Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd llawer o bobl yn credu na fyddem yn gallu gwneud hynny a'i fod yn darged anodd iawn yn wir, a dyma ni—rydym ni wedi gwneud hynny. Felly, mae'n ymwneud â chael uchelgais priodol hefyd.

Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae newid yn yr hinsawdd yn galw am weithredu. Mae gan yr atmosffer tua 21 y cant o ocsigen ar lefel y môr. Islaw 19.5 y cant, mae'r gallu i weithio yn lleihau; islaw 17 y cant, mae pethau'n mynd yn anodd, a phan fyddwch yn cyrraedd 15 y cant, mae pobl yn marw. Bydd cynnydd yn lefel y môr yn gorlifo dinasoedd ac ardaloedd arfordirol, bydd stormydd yn cryfhau—yn anochel felly, oherwydd bydd mwy o ynni ynddyn nhw o'r gwres ychwanegol.

Mae'r rhan fwyaf o'r tai y byddwn yn byw ynddyn nhw yn 2030 a 2050, a hyd yn oed 2100, wedi'u hadeiladu eisoes ac mae pobl yn byw ynddyn nhw yn awr, os meddyliwch chi am faint o dai yn yr ardaloedd yr ydych yn eu cynrychioli a adeiladwyd cyn 1919—i roi rhyw syniad ynglŷn â pha mor hir y mae tai'n para. Bydd angen i ni ôl-osod. Mae hyn yn ddrutach ac yn fwy ymwthiol na chreu adeiladau newydd di-garbon, ond mae gwir angen i ni fynd am adeiladau newydd di-garbon. Mae angen i bob plaid wleidyddol gytuno i ddatgarboneiddio tai, pe na bai ond yn rhoi hyder i'r diwydiant na fydd newid mewn Llywodraeth yn arwain at newid mewn polisi. Rwy'n credu mai dyna fydd y peth pwysicaf: dangos y gallai'r Llywodraeth newid, ond bydd y polisi'n parhau.

Yr hyn yr hoffwn i siarad amdano yw nid yn unig y tai, ond cyffiniau'r tai. Mae hi bron yn sicr na fyddwn yn gallu cael pob tŷ i fod yn ddi-garbon. Mae angen plannu mwy o goed a llwyni trefol. Mae coed yn amsugno carbon deuocsid a nwyon a allai fod yn niweidiol, fel sylffwr deuocsid a charbon monocsid o'r aer ac yn rhyddhau ocsigen. Gall un goeden fawr roi cyflenwad diwrnod o ocsigen i bedwar o bobl. Gall coeden amsugno cymaint â 48 pwys o garbon deuocsid y flwyddyn, a gall gymryd tunnell o garbon deuocsid erbyn iddi gyrraedd 40 oed. Felly, os na allwn ni ddatgarboneiddio'r tŷ, gallwn ddatgarboneiddio'r tŷ a'r cyffiniau, ac mae hynny'n golygu plannu coed a llwyni, ac, yn bwysicach na hynny, peidio â thorri coed a llwyni. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych nid yn unig ar yr adeilad ond ar y cyffiniau hefyd. Ynghyd ag ôl-osod, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gynyddu'n sylweddol nifer y coed trefol, llwyni a'r ffyrdd eraill o leihau faint o garbon deuocsid sydd yn yr atmosffer?

18:35

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'n rhaid i chi edrych ar dudalen flaen adroddiad Chris Jofeh, a'r glas sy'n newid i goch. Arwyddocâd hynny yw bod yna stribed ar gyfer pob blwyddyn y mae'r tymheredd yn cael ei gofnodi a'r gwahaniaeth llwyr rhwng y glas ar yr ochr chwith a'r coch llachar ar yr ochr dde ar glawr blaen yr adroddiad. Roeddwn wedi bwriadu dod ag ef gyda mi, Llywydd, ond, wrth gwrs, mae wedi bod yn ddiwrnod hir, felly rwyf wedi ei adael yn ofalus i fyny'r grisiau. Ond mae'n arwyddlun moel o gynhesu'r ddaear, ac nid oes dianc rhag y ffaith ei fod wedi newid yn sylweddol. Mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i'w atal rhag mynd yn goch mwy llachar fyth, heb sôn am ei droi'n ôl yn las. Felly, allwn i ddim cytuno mwy â chi; rhaid inni'n bendant wthio'r polisi adeiladau newydd di-garbon mor gyflym ag y gallwn ni, ac adolygu rhan L, fel yr oeddwn yn ei ddweud mewn ymateb i gyfranwyr eraill.

Ond mae'r prosiectau trefi gwyrddach a'r prosiectau coedwigoedd trefol a'r prosiectau perllannau cymunedol a phrosiectau gerddi cymunedol y mae eu hangen arnom ni i wneud ein cymunedau yn gymunedau go iawn—maen nhw'n cynnig manteision iechyd meddwl, maen nhw'n cynnig manteision cymdeithasol a chydlyniant cymunedol, ond fel yr ydych chi'n nodi'n gywir, yn fwy na dim arall, maen nhw'n dod ag ocsigen a modd o oeri, ac maen nhw'n cynnig cysgod, ac maen nhw'n dod â bioamrywiaeth, felly beth sydd yna na ellir ei hoffi? Felly, yn sicr, mae'n rhaid inni wthio'r math hwnnw o feddylfryd i mewn i'n system gynllunio ac i'r amgylchedd trefol. Felly, mae rheoli ystadau o amgylch ein tai yr un mor bwysig â'r tai eu hunain; rwy'n cytuno'n llwyr.

Diolch. Rwy'n dirprwyo ar ran Jenny. Na, na—rydw i yma yn fy rhinwedd fy hun. Diolch, Llywydd. A gaf i, yn gyntaf, groesawu'r datganiad heddiw, ond hefyd naws a sylwedd yr ymatebion a gyflwynwyd gan gyd-Aelodau'r Cynulliad, ac ymateb y Gweinidog hefyd? Fe wnaethom ni gynnal yma yr wythnos diwethaf—roeddwn yn un o gyd-noddwyr digwyddiad mewn ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Roedd yn ddigwyddiad diwrnod o hyd. Ymdriniwyd â sawl maes, gan gynnwys tai. Roedd Rhun ac eraill yno hefyd. Dau beth a ddaeth yn amlwg iawn yn y drafodaeth panel a ddaeth a'r diwrnod i ben, pryd y daeth Aelodau'r Cynulliad draw i drafod eu canfyddiadau gyda nhw, oedd yr angen am gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol i fynd â rhai o'r materion hyn yn eu blaen, nid i rwymo llywodraethau'r dyfodol, ond mewn gwirionedd i osod trywydd clir a fyddai'n ein clymu ni i gyd gyda'n gilydd, ond yn ail, fel y gallem ni wneud penderfyniadau tymor hir, hyd yn oed gyda'r brys ynghylch hyn—rhai o'r pethau hyn sy'n mynd ymhell y tu hwnt i gylchoedd etholiadol y bydd yn rhaid i ni lynu wrthyn nhw'n dynn iawn yn wir. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad a'r dull o'i weithredu yn fawr.

Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod yn sefydlu'r grŵp cyllid gwyrdd. Mae elfen o uchelgais yn hyn sy'n dangos, er y gallai seneddau eraill ar hyn o bryd fod yn wynebu pob math o heriau ac anawsterau ac anhrefn i ryw raddau, yma yng Nghymru rydym ni'n ceisio mynd ati i ymateb i argyfwng gwirioneddol yn yr hinsawdd, sydd wedi bodoli ers cryn amser. Nawr, bydd rhai pobl yn dweud bod angen mynd ymhellach ac yn gyflymach, ac ati, ac ati, ac mae Llyr wedi gwneud hynny'n glir eisoes. Ond rwy'n croesawu sefydlu'r grŵp cyllid gwyrdd, oherwydd bydd yn rhaid i hwnnw weithio drwy beth o'r glo mân caled.

Yn hynny o beth, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: a yw hi wedi cael amser i ystyried a derbyn yr holl argymhellion sydd wedi'u cyflwyno mewn egwyddor? A yw hi wedi gwneud hyn yng ngoleuni hefyd unrhyw drafodaethau gyda, neu yn sgil unrhyw ddarllen ar gynllun 10 pwynt comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol? Roedd dau o'r pwyntiau hynny yn y cynllun 10 pwynt yn ymwneud yn benodol â thai ac adeiladau. Roedd un yn ymwneud ag ôl-osod, ac roedd yn rhoi cost i Lywodraeth Cymru o tua £300 miliwn, ond cyfanswm o £1 biliwn y flwyddyn. Felly, bydd yn rhaid i'r grŵp cyllid gwyrdd hwnnw weithio'n galed i gyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, ond yn sicr yr uchelgais sydd gan gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol. Ac o ran cartrefi newydd—dylai pob cartref ac adeilad cyhoeddus newydd fod yn ddi-garbon o 2020, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r £90 miliwn diweddar drwy eich rhaglen tai arloesol, yr ydym ni wedi sôn amdani yn y fan yma. Felly, a edrychwyd ar hynny o ran derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor? Ac a wnaiff hi dderbyn hefyd y bydd angen inni ailedrych ar y rhain eto, yng ngoleuni'r angen i gynyddu ein huchelgais yn gyson hefyd?

Yn olaf, hoffwn adleisio pwynt Llyr o ran, os ydym yn mynd i yrru hyn ymlaen yn gyflym, yn enwedig o ran ôl-osod, mae gwir angen i ni wneud yn siŵr y caiff ei wneud yn iawn. Un o'r gwersi yr ydym ni wedi'u dysgu yw ei fod wedi cynhyrchu—. Pan fydd gennych strategaeth ddiwydiannol werdd uchelgeisiol iawn, lle mae pobl hwnt ac yma yn cynnig gwneud y gwaith o ôl-osod ac ati, bydd yna bobl dda iawn yn eu plith, ond weithiau bydd gennych bobl sy'n rhoi'r cyngor anghywir ac yn gosod y pethau anghywir.

Mae yna ddyn yn Nhondu yn fy ardal i a fydd yn colli ei dŷ oherwydd hyn. Mae wedi costio tua £60,000 neu fwy yn barod o ran ei gartref ei hun, yn ogystal â chost mynd i'r llys ac ati. Mae hyn wedi dinistrio ef a'i deulu. Felly, er gwaetha'r holl enghreifftiau da sydd ar gael, ac mae yna lawer, mae angen i ni osgoi'r ansawdd gwael hwnnw gan weithwyr ffwrdd-a-hi, sy'n rhoi'r cyngor anghywir. O ran ôl-osod, sut ydym ni'n gwneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd yn ddigon cyflym a thrylwyr wrth inni fwrw ymlaen?

18:40

Felly, dim ond ar y pwynt olaf hwnnw, rydym ni wedi bod yn trafod gyda diwydiant a chynrychiolwyr diwydiant ryw fath o gynllun trwyddedu. Rydym ni'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, fodd bynnag, gan fod llawer o bobl yn y math hwn o ddiwydiant drwyddi draw yn cael eu rheoleiddio'n llym ac maen nhw'n awyddus iawn i beidio â gorfod cydymffurfio â dwy gyfundrefn reoleiddio wahanol. Ond rydym ni'n awyddus iawn i ddechrau cynllun trwyddedu.

Mae fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi cymryd rhan mewn cwpl o ddadleuon ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch a allwch chi alw eich hun yn fath penodol o fasnach heb unrhyw gymwysterau ac ati, a chredaf fod yn rhaid inni symud i sefyllfa lle nad oes modd i chi wneud hynny, oherwydd bod rhaid cyrraedd rhai safonau proffesiynol, ac mae hynny oherwydd pob math o resymau, nid ar gyfer ôl-osod yn unig: felly, ni allwch chi, wyddoch chi, gael rhywun yn curo ar eich drws ac yn cynnig trwsio eich to os na allwch chi wirio pa gymwysterau sydd ganddyn nhw i wneud hynny. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac rydym ni yn archwilio, gydag awdurdodau lleol, ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio eu rhestrau cymeradwy i roi sicrwydd i bobl am gontractwyr ac ati. Felly, rwyf wir yn derbyn hynny.  

Ond mae gennym ni sefyllfa yma lle nad oes gennym fawr ddim sgil yn y maes hwn beth bynnag, felly bydd yn rhaid i ni ei ddatblygu o'r newydd. Mae cyfleoedd enfawr yma. Rwy'n credu i fod Llyr ddweud, oni wnaeth ef, 'Peidiwch â meddwl am y gost; meddyliwch am y gost o beidio â'i wneud.' Wel, mae hynny'n hollol iawn. Ond hefyd mae costau cyfleoedd yma. Felly, gallwn ni wneud diwydiant o hyn a gallwn ni roi Cymru wrth ei ganol os ydym ni yn ei wneud yn ddigon cyflym ac yn y ffordd gywir. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n dechrau yn y lle cywir gyda'r arbenigwyr cywir ac rydym ni'n dechrau lle y mae'n bosibl i ni wneud pethau ac rydym ni'n sicrhau bod yr ymchwil cywir ar ben ffordd ar gyfer rhywfaint o'r gweddill.  

Fel y dywedais, mae rhai penderfyniadau anodd i'w gwneud yma. Felly, ydym, rydym ni yn bendant yn sefydlu'r cyllid i wneud hynny; bydd yn rhaid i ni drosoli cyllid arall i wneud hynny. Fel y dywedais, bydd yn rhaid inni gymell perchenogion tai—pobl sy'n ddigon ffodus i allu prynu neu sydd eisoes yn berchen ar eu cartref yn llwyr, bydd angen inni eu cael nhw i wneud hynny hefyd. Mae'n debyg y bydd angen inni ymyrryd rhywfaint yn y farchnad i sicrhau bod pobl yn cael eu gwobrwyo am— wyddoch chi, os ydyn nhw wedi gwario cymaint â hynny o arian arno, bydd angen iddyn nhw ei gael yn ôl. Mae angen rhai cymhellion arnom ni yma, ac nid gostwng eich biliau ynni yn unig yw hyn, ond gwerth eich ased. Mae'n debyg mai dyma'r unig ased sydd gan y rhan fwyaf o bobl, felly bydd angen iddyn nhw gael hwnnw.

Ac yna pan fyddwn yn gwneud y cynlluniau rhannu ecwiti y gwnaethom sôn amdanyn nhw yn gynharach yn y rhaglen tai arloesol —rhai o'r pethau yr oedd Dawn yn sôn amdanyn nhw yn gynharach yng Nghartrefi Cymoedd Merthyr—bydd angen inni sicrhau bod pobl yn cael eu cyfran nhw o hynny a'n bod yn gallu lledaenu'r sgiliau a'r arbenigedd. Ond fe allwch chi weld hyn fel cyfle enfawr. Nid oes rhaid i chi ei weld fel gofid a gwae, bobol bach. Os gwnawn ni hynny'n iawn, gallwn ni ysgogi diwydiant yn y fan yma sy'n rhoi cyflogaeth i'n cymunedau ac sydd wir yn cadw'r grym ynddyn nhw hefyd. Ond mae'n rhaid i ni wneud pethau'n iawn. Dyna pam nad oeddwn i yn petruso cyn dweud y byddwn i yn eu derbyn mewn egwyddor, ond mae angen i ni ddechrau yn rhywle ac yna adeiladu arno. Felly, rwy'n cymryd beth bynnag a ddywedir ganddo am hynny, ond nid ydym ni yn ceisio ei ddiystyru. Rydym ni yn ceisio dechrau yn y lle cywir er mwyn cael consensws i ddatblygu rhaglen yma.  

Diolch i'r Gweinidog, a diolch i'r Aelodau, gan fod hynny'n dod â'n trafodion ni am y dydd i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:44.