Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

25/04/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a'r cwestiwn cyntaf, Simon Thomas.

Ysgol Dewi Sant yn Llanelli

1. Pa drafodaethau mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi eu cynnal ynglŷn â chynlluniau ar gyfer safle newydd i Ysgol Dewi Sant yn Llanelli? OAQ52045

Diolch yn fawr, Simon. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau uniongyrchol. Awdurdodau lleol, Cyngor Sir Caerfyrddin yn yr achos hwn, sy'n nodi'r safleoedd a ffafrir ar gyfer eu prosiectau adeiladu ysgolion.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb cyntaf. Bydd hi'n ymwybodol, serch hynny mae'n siŵr, fod tri adroddiad Estyn erbyn hyn wedi dweud bod cyflwr presennol yr ysgol yn amharu ar ddysg yn yr ysgol, a bod plant ysgol Dewi Sant yn haeddu'r addysg orau, a dyna wrth gwrs yw bwriad cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain sydd ganddi hi a'i hadran. Erbyn hyn—heddiw, fel mae'n digwydd—mae'r cais cynllunio wedi ei gyflwyno'n ffurfiol ar gyfer yr ysgol newydd. Mae yna oedi wedi bod oherwydd bod rhywrai wedi cwyno bod yr ysgol yn disodli beth maen nhw'n ei alw yn llain werdd. Mae'n bwysig tanlinellu bod y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno heddiw yn cynnwys mynediad i'r cyhoedd ar gyfer caeau chwarae'r ysgol, ac felly yn cadw elfen gymunedol, fel y byddai pob un yn ei groesawu, ym mhob ystyr. Pe bai oedi oherwydd bod yr anghytuno yma yn lleol yn gohirio'r cynllun, a fydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i warantu bod yr arian cyfalaf yn dal i fod ar gael ar gyfer yr ysgol hon, gan fod y plant, y dylai ein ffocws ni fod arnynt yn y cyd-destun yma, yn haeddu ysgol newydd, ac yn haeddu ysgol o'r radd y mae hi a'i chynlluniau yn ei hyrwyddo?

Diolch, Simon. Fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr achos busnes amlinellol ar gyfer y prosiect ym mis Ebrill 2017, a fy mod wedi rhoi cymeradwyaeth i'r awdurdod lleol fwrw ymlaen gyda'r achos busnes. Rwy'n ymwybodol o'r oedi, ond oherwydd y rheolau sy'n ymwneud â cheisiadau cynllunio, ni fyddai'n iawn i mi, nac unrhyw un arall o Weinidogion Cymru yn wir, roi sylwadau ar y cynlluniau hynny. Rwy'n falch fod mynediad cymunedol i’w gael—mae hynny'n rhan bwysig o'r holl brosiectau a gyflwynir. Yn wir, mae'n un o elfennau craidd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ein bod nid yn unig yn darparu cyfleusterau addysgol ardderchog, ond bod y cyfleusterau hynny ar gael i’r cyhoedd yn ehangach eu defnyddio. Mae'r dyraniadau i Sir Gaerfyrddin yn filiynau lawer o bunnoedd, ar gyfer mynd i'r afael â llawer o ysgolion ledled yr ardal honno, a bydd fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad agos â Sir Gaerfyrddin ynghylch y gallu i gyflawni'r cynlluniau hynny, ac yn wir eu ceisiadau am fuddsoddiad o dan fand B y rhaglen.

Rwy'n llwyr gefnogi'r alwad y dylai’r arian barhau i fod ar gael i adeiladu ysgol newydd. Nid oes unrhyw amheuaeth fod taer angen ysgol newydd ar ddisgyblion ysgol Dewi Sant, ond ofnaf fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud tro gwael â hwy o ran y ffordd y maent wedi dilyn proses. Os darllenwch yr achos busnes a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, mae'n enghraifft wych o resymoledd ôl-weithredol. Mae'n eithaf amlwg fod swyddogion y cyngor wedi penderfynu y byddai hwn yn safle hawdd i adeiladu arno ac wedi gweithio'n ôl o'r rhagdybiaeth honno. Mae hwn yn dir gwyrdd mewn rhan ddifreintiedig o Lanelli, ac mae safleoedd eraill ar gael, yn fwyaf nodedig safle Heol Goffa, a fydd bellach yn wag, gydag ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn Llynnoedd Delta ar gyfer yr ysgol arbennig. Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog cynllunio alw'r cais hwn i mewn os nad yw cais maes y pentref yn llwyddiannus, gan nad dyma'r lle iawn i adeiladu ysgol. Ond mae ysgol newydd yn hanfodol, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd clir y bydd cyllid ar gael.

Wel, Lee, gallaf gadarnhau na ddylai unrhyw gymeradwyaeth gan yr adran addysg i achosion busnes a gyflwynir gan awdurdodau addysg lleol, ledled Cymru, amharu ar unrhyw brosesau—prosesau statudol—sy’n angenrheidiol. Bydd ysgolion yn Sir Gaerfyrddin wedi cael buddsoddiad o £87 miliwn yn y rhaglen band A, a bydd £130 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi o ganlyniad i raglen band B. Ac fel y dywedais yn fy ateb i Simon Thomas, mae fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad agos â'r holl awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod eu rhaglenni'n cael eu cyflawni yn y ffordd orau bosibl er budd y plant sy'n mynychu'r ysgolion hynny.

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu oedolion yn y gymuned? OAQ52029

Diolch, Mohammad. Cyhoeddwyd ein datganiad polisi ar ddysgu oedolion yng Nghymru ym mis Gorffennaf ac roedd yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer dysgu oedolion. Byddaf yn ymgynghori cyn bo hir ar gynigion i ailstrwythuro darpariaeth a chyllid dysgu oedolion gyda'r nod o sicrhau dyfodol cynaliadwy a diogel ar gyfer y ddarpariaeth bwysig hon.

13:35

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Mae dysgu cymunedol yn cael effaith sylweddol wrth gynorthwyo pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, dengys ffigurau Llywodraeth Cymru fod nifer y dysgwyr cymunedol yng Nghymru wedi gostwng i lai na hanner y nifer yn y pum mlynedd diwethaf. Mae Ymchwil Arad wedi disgrifio'r sector fel un sydd o dan bwysau difrifol, a dywedasant 

'Mae'n hanfodol bod cymorth digonol ar gyfer ACL er mwyn sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar draws y genedl sy'n gyson ac sy'n hygyrch.'

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i ariannu dysgu cymunedol yn briodol er budd ein cymunedau a gofal cymdeithasol yng Nghymru os gwelwch yn dda?

O ran yr hyn yr hoffem ei wneud, nid oes amheuaeth yr hoffem pe bai llawer mwy o arian yn mynd tuag at ddysgu oedolion yn y gymuned, ond mae hynny wedi bod yn anodd iawn pan ydym wedi gweld toriad o £1.4 biliwn gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Felly, dyna fu’r broblem i ni. Ond gadewch imi ddweud yn glir ein bod wedi canolbwyntio, wrth benderfynu wedyn beth ddylai ein blaenoriaethau fod, ar bwysigrwydd hyfforddi pobl ar gyfer gwaith. Rydym wedi canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol yn benodol, ar sgiliau craidd i annog pobl i ddysgu Saesneg, o ran y rheini sy’n ei siarad fel ail iaith, a sicrhau bod gennym sgiliau hanfodol sy'n caniatáu i bobl gael mynediad at y gweithle.

Weinidog, roeddwn am eich holi ynglŷn â chyfrifon dysgu unigol. Beth yw eich cynlluniau o ran lansio’r cynlluniau peilot, ac a wnewch chi sicrhau, a sut y byddwch yn sicrhau, fod y gwersi  a oedd i'w dysgu o fersiynau blaenorol o'r cyfrifon dysgu unigol yn llywio’r fersiwn newydd yn briodol?

Diolch. Credaf fod hwn yn gyfle eithaf cyffrous i ni, ac un o'r pethau cyntaf a wneuthum pan gefais fy mhenodi’n Weinidog oedd mynd i wrando ar yr hyn yr oedd y melinau trafod yn ei ddweud. Ac roedd hwn yn faes lle roeddent yn dweud, 'Mewn gwirionedd, mae cyfle go iawn i'w gael.' Nawr, mae'n wir yn y gorffennol fod enw gwael i'r cyfrifon dysgu unigol. Nid oedd problem yng Nghymru, ond cafwyd rhywfaint o broblemau yn Lloegr mewn perthynas ag arian yn newid dwylo. Nawr, credaf ein bod mewn sefyllfa wahanol bellach gan fod cyfle gennym i wneud pethau'n ddigidol, felly ni fydd arian yn newid dwylo. Bellach, yr wythnos diwethaf, daethom â grŵp o bobl sy'n arbenigwyr yn y maes at ei gilydd i bennu sut y dylai’r cynllun peilot hwnnw edrych, ac i ystyried unrhyw drafferthion posibl. Felly, mae cynnydd yn cael ei wneud, a gobeithio y bydd modd inni lansio rhywbeth oddeutu mis Medi.

Y realiti, wrth gwrs, yw bod rhai o'r gwasanaethau addysg yma yn cilio yn bellach ac yn bellach oddi wrth gymunedau ar draws Cymru. Byddwch chi'n ymwybodol, er enghraifft, bod y coleg yn Ninbych yn mynd i gau nawr yn yr haf sydd i ddod. Ac rwyf i wedi siarad â rhai o'r myfyrwyr, ac maen nhw yn poeni nawr y byddan nhw'n methu jyglo'r balans rhwng eu hastudiaethau a'r swyddi rhan amser sydd gyda nhw oherwydd bydd rhaid iddyn nhw deithio ymhellach i gael mynediad i'r addysg yna yn Llandrillo-yn-Rhos neu yn y Rhyl. Felly, a gaf i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau y bydd y gwasanaethau yma yn aros yn ein cymunedau ni a bod addysg ôl-16 yn hygyrch i bawb?

Wel, rwyf i'n deall bod yna lot o ymateb wedi bod i beth ddigwyddodd yn Ninbych. Beth sydd yn bwysig, rwy'n meddwl, yw ein bod ni'n parchu annibyniaeth y colegau—nhw sy'n gwneud y penderfyniadau. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni yn galluogi pobl ym mhob cymuned i gael access nawr i addysg bellach. Felly, bydd rhaid i ni edrych, rwy'n meddwl, i sicrhau ein bod ni'n ffeindio ffyrdd i bobl o'r cymunedau yna i fynd i'r canolfannau lle mae dysgu yn bodoli. Wrth gwrs, mae llymder wedi cael effaith ar y sector, ond beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n cael yr arbenigwyr i ddysgu pobl yn y ffordd orau posib. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddweud wrthym pryd y byddwch mewn sefyllfa i gyhoeddi'r cod trefniadaeth ysgolion newydd?

Diolch, Darren. Fy mwriad yw cyhoeddi'r cod cyn toriad yr haf. Yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, buaswn yn disgwyl i'r cod newydd fod ar waith erbyn y flwyddyn academaidd newydd.

Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd, fel y gwyddoch, rwy’n rhannu eich dyhead i sicrhau bod y cod yn gytbwys ac nad yw'n anffafrio nac yn gwneud tro gwael ag ysgolion gwledig yn benodol, gyda llawer ohonynt, wrth gwrs, fel y gwyddoch, yn ysgolion bach, cyfrwng Cymraeg. O gofio bod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a llawer o bobl eraill wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r ffaith ei bod yn ymddangos bod rhai awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â’r broses o ad-drefnu ysgolion yn y cyfamser, gan nad oes unrhyw newid yn y cod ar hyn o bryd, beth yw eich neges i’r awdurdodau lleol a allai fod yn ceisio sleifio un drwy gil y drws, fel petai, cyn i'r drws gau yn nhermau'r newidiadau i’r cod ad-drefnu ysgolion?

13:40

Diolch, Darren. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cael cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'n deg dweud bod rhai wedi ymateb yn fwy cadarnhaol na'i gilydd ynghylch fy nghynnig i sefydlu rhestr o ysgolion gwledig a sicrhau rhagdybiaeth yn erbyn cau, fel man cychwyn ar gyfer awdurdodau lleol. Buaswn yn dweud wrth awdurdodau lleol sy'n ystyried y mater hwn ar hyn o bryd fy mod wedi bod yn glir iawn ynghylch fy nghyfeiriad teithio a'm bwriad polisi, a buaswn yn eu hannog i ystyried yr ysbryd hwnnw rhwng nawr ac unrhyw gyhoeddiad ffurfiol mewn perthynas â'r cod trefniadaeth newydd.

Dyna eiriau cynnes iawn, ac rwy'n siŵr fod ysbryd y cod yn rhywbeth y bydd awdurdodau lleol cyfrifol, wrth gwrs, yn ei arddel, ond y gwir amdani yw bod gennym awdurdodau lleol yng Nghymru—Ynys Môn, Sir Ddinbych ac eraill—sy'n bwrw ymlaen gyda chau ysgolion mewn cymunedau gwledig, ac ysgolion cyfrwng Cymraeg ar y cyfan, o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r cod yn ddigonol ar hyn o bryd. A allwch roi sicrwydd llwyr, Weinidog, y byddwch yn edrych yn ofalus ar effaith eich newidiadau ac yn sicrhau eu bod yn cael eu mesur yn erbyn y cynigion yn eich cod newydd yn hytrach na'r darpariaethau yn yr hen god, y dywedoch y byddech yn mynd i'r afael â hwy gryn dipyn o amser yn ôl?

Darren, er fy mod yn cydnabod na ellir rhoi'r cod newydd ar waith yn ôl-weithredol, fel y dywedais yn gwbl glir, rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda graen y cod newydd. Maent yn llwyr ymwybodol o fy mwriad a fy mwriadau polisi. Mae unrhyw gais a gyflwynir gan awdurdod lleol, o dan y cod presennol neu'r cod sydd i ddod, yn cael ei ystyried yn hynod ofalus gan fy mod yn cydnabod, i lawer o'r rhai sy'n rhan o'r broses honno, fod angen cod arnynt yno i sicrhau bod unrhyw ymgynghoriad ac unrhyw gynigion yn cael eu profi yn ôl y safonau uchaf. Fel y dywedais, rwy'n disgwyl i'r cod gael ei gyhoeddi y tymor hwn. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad hwn, bydd y cod ar gael i'w roi ar waith o'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2016, cafwyd dau adroddiad am gau ysgolion. Dywedai un fod 157 ysgol wedi cau ledled Cymru dros y 10 mlynedd blaenorol—gyda thair o bob pump o'r ysgolion a gaewyd yn ysgolion gwledig. Dywedai'r llall fod 50 o ysgolion eraill wedi'u clustnodi i gael eu cau. Ar yr un pryd, mae awdurdodau lleol yn ceisio annog teuluoedd i symud i bentrefi, ac eto mae rhai ysgolion yn y pentrefi hynny mewn perygl o gau neu wedi cau eisoes. Beth arall y gallwch ei wneud i roi sicrwydd i rieni yng Nghymru na fydd eu hysgol leol yn cau yn y dyfodol agos?

Fe'ch cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Darren Millar. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir mai fy mwriad yw diwygio'r cod trefniadaeth ysgolion presennol i greu rhestr o ysgolion gwledig penodol a sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau'r ysgolion hynny. Yn hollbwysig, hefyd, o ran addysg wledig, ni allwn orffwys ar ein bri drwy gadw sefydliadau ar agor. Mae angen i'r sefydliadau hynny ddarparu cyfle addysgol o'r radd flaenaf i blant gwledig. Nid yw adeiladau'n unig yn ddigon; mae'r ansawdd o fewn yr adeiladau hynny yn gwbl hanfodol i mi a dyna pam rydym wedi cyflwyno grant ysgolion bach er mwyn gallu cynorthwyo awdurdodau lleol i wella safonau mewn ysgolion bach, gwledig sy'n wynebu heriau penodol wrth gyflwyno'r cwricwlwm.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid oedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol ag ysgolion gwledig, mewn gwirionedd. Cymhlethais y mater i raddau, o bosibl, drwy sôn am ysgolion gwledig. Roedd fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag ysgolion lleol, hynny yw ysgolion y gall plant gerdded iddynt bob dydd. Mae plant sy'n teithio i'r ysgol mewn car yn dod i gysylltiad â chynnydd o 40 y cant mewn llygredd ar y daith honno, o gymharu â rhai sy'n cerdded. Mae mwy o gludo plant i'r ysgol ac oddi yno yn arwain at fwy o lygredd yn gyffredinol ac yng nghyffiniau'r ysgolion. A ydych yn cytuno â mi fod caniatáu i ysgolion gael eu cau yn mynd yn groes i hynny, gan fod hynny'n golygu bod angen i blant roi'r gorau i gerdded i'r ysgol a chael eu rhoi yng nghar eu rhieni neu gar rhywun arall i gael eu gyrru i'r ysgol? Mae'n mynd yn groes i honiadau Llywodraeth Cymru ei bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â llygredd, gan fod yna nifer gynyddol o blant nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgol agosaf.

13:45

Buaswn yn annog pob rhiant ym mhobman, os ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgolion, i sicrhau bod eu plant yn defnyddio mesurau teithio llesol i fynychu ysgolion lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny drwy ddarparu grant llwybrau diogel i ysgolion—nid fy ngrant i ydyw, ond grant fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet sydd â'r adnoddau ar gyfer hynny—sy'n galluogi—. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, yn Llanandras, gwn ein bod wedi gallu gosod palmentydd newydd a chroesfannau newydd i annog rhieni i wneud hynny, i gerdded gyda'u plant i'r ysgol. Wrth gwrs, mewn llawer o ardaloedd gwledig, mae hynny'n amhosibl. Mae fy mhlant yn mynychu ysgol oddeutu 25 milltir o'u cartref a chredaf y buaswn i, hyd yn oed, yn gofyn gormod ohonynt pe bawn yn disgwyl iddynt gerdded. Ond lle bo'n bosibl, buaswn yn annog rhieni ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i greu amgylchedd lle mae pobl yn dewis teithio'n llesol i'w hysgol, boed hynny drwy gerdded neu drwy feicio.

Wel, onid ydych—? Rydych newydd roi darlith imi ar gerdded i'r ysgol a llwybrau diogel i'r ysgol, ond nid ydych wedi ateb y cwestiwn mewn gwirionedd, gan nad oeddwn yn sôn am blant sy'n gallu cerdded neu deithio mewn rhyw ffordd ar eu liwt eu hunain, a gwneud ymarfer corff ar y ffordd i'r ysgol. Roeddwn yn sôn am blant sy'n cael eu rhoi mewn cerbydau i'w cludo i'r ysgol. Onid ydych yn credu eich bod yn gwrth-ddweud eich hun drwy orfodi rhieni, ar y naill law, i roi eu plant mewn car i gael eu gyrru i'r ysgol, ac ar yr un pryd, yn rhefru ar bobl ar y llaw arall i gadw allan o'u ceir a gwneud llai o deithiau?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod rheolau ynghylch mynediad at gludiant i'r ysgol wedi'u diffinio o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae gan bob plentyn sy'n byw ddwy filltir o ysgol gynradd hawl i ddefnyddio cludiant yr awdurdod lleol. Mae gan bob plentyn sy'n mynychu'r ysgol uwchradd ac sy'n byw dair milltir o ysgol uwchradd hawl i ddefnyddio cludiant yr awdurdod lleol.

Diolch yn fawr. Mae'r cwestiynau hyn i Weinidog y Gymraeg. Ddoe, fe wnaeth fy ffrind yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, ymddangos ar raglen Daily Politics yn amddiffyn iaith ein cenedl yn dilyn yr ymosodiad diweddaraf ar ein hiaith, y tro yma gan y newyddiadurwr Rod Liddle. Yn anffodus, rydym ni'n byw mewn oes lle mae ymosodiadau o'r fath yn cael eu gweld yn gynyddol dderbyniol. Mae ymosod ar yr iaith Gymraeg, ac felly ymosod ar siaradwyr Cymraeg—chi a fi a nifer ohonom ni yn fan hyn—mae hynny, mewn gwirionedd, yn drosedd casineb. Ond, nid yw'r gyfraith ddim yn adlewyrchu hynny. Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn gefnogol i ieithoedd lleiafrifol cenhedloedd y Deyrnas Gyfunol a gweddill Ewrop ac wedi gweithredu er mwyn diogelu'r Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ddiogelu siaradwyr Cymraeg rhag ymosodiadau ffiaidd yn dilyn y cyfnod ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd?

Diolch yn fawr. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n condemnio unrhyw ymosodiad ar bobl sy'n siarad unrhyw iaith sy'n lleiafrifol. Nid wyf yn meddwl bod y stŵr sydd wedi cael ei greu yn helpu pethau. Y cwestiwn yw: sut ddylem ni fod yn ymateb? Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n tanlinellu pa mor gymhleth fyddai hi i wneud rhywbeth o ran deddfwriaeth yn y maes yma. Ond rwy'n meddwl ei bod hefyd yn bwysig ein bod ni'n deall nad yw'n dderbyniol i newyddiadurwyr na neb arall gondemnio ein hiaith ni yn y ffordd yna.

13:50

Cymhleth neu beidio, mae'n amlwg bod angen edrych yn fanwl ar y sefyllfa yn dilyn colli rhai o'r amddiffynfeydd sydd gennym ni ar hyn o bryd drwy fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.

Sicrhau hawliau i ddefnyddwyr dderbyn gwasanaeth yn y Gymraeg ydy sail Deddf 2011, wrth gwrs, a'r safonau sydd wedi dilyn hynny. Mae'r safonau iechyd a gafodd eu pasio'n ddiweddar yn gwbl ddiffygiol—nid ydyn nhw ddim yn gosod unrhyw safon sydd yn cydnabod yr angen am wasanaethau wyneb yn wyneb drwy'r Gymraeg yn ein hysbytai, ac nid ydyn nhw chwaith ddim yn gosod safonau ar gyfer y mwyafrif helaeth o ddarparwyr gofal sylfaenol, sef y prif gysylltiad rhwng trigolion a'r byd iechyd.

Er gwaetha'r safonau diffygiol yma, mae'n bwysig rŵan fod y Llywodraeth yn symud ymlaen efo'r gwaith i ddiogelu'r hawliau yma drwy gytundebau meddygol, fel sydd wedi cael ei addo. Hefyd, mae'n bwysig cyflwyno'r holl safonau eraill sydd wedi bod ar ddesg y Gweinidog, eich rhagflaenydd chi, a'i ragflaenydd o, ers sawl blwyddyn. Rŷm ni'n dal i ddisgwyl am y safonau ar gyfer y sector cymdeithasau tai, dŵr, cwmnïau post, bysiau, trenau a rheilffyrdd, nwy a thrydan, a thelathrebu. Ai diffyg ewyllys gwleidyddol sydd y tu ôl i'r arafwch yma? A oes yna lusgo traed bwriadol?

Na. A gaf i jest ddweud—? Roedd hi'n rhywbeth pwysig i fi fy mod i yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Llun yn amddiffyn y siarter ar hawliau ffwndamental ar gyfer ieithoedd. Rwy'n meddwl, ac yn gobeithio, y bydd hynny'n cael ei gario draw, ac y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o ddiogelwch i ni, efallai, yn gyfreithiol, mewn ffordd efallai fyddai'n cael ei dynnu oddi wrthym ni os nad oedd hynny'n cael ei basio drosodd. 

Ar y cwestiwn o safonau, byddwch chi yn ymwybodol bod trafodaethau ar beth ddylai ddigwydd yn y maes gofal sylfaenol—mae'r rheini eisoes wedi dechrau. Mae cytundebau meddygol—mae lot o waith wedi cael ei wneud ar hynny eisoes. Un peth arall rŷm ni'n ei wneud, wrth gwrs, sef ein bod ni wedi dechrau peilot hefyd gyda Iaith Gwaith i sicrhau ein bod ni'n ymwybodol beth yw'r problemau o ran cyflwyno'r iaith yn y sector gofal sylfaenol, jest i weld pa mor hawdd yw hi, neu beidio, a faint o gefnogaeth sydd ei angen yn y maes yna.

O ran y safonau eraill, byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni'n bwriadu dod â Deddf iaith newydd i mewn, a beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n cael rhyw fath o sicrwydd y bydd beth sydd gyda ni ar y bwrdd ar hyn o bryd yn cydymffurfio â beth bynnag newydd fydd yn dod i mewn. Felly, nid wyf yn meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr ar hyn o bryd inni ddod â safonau newydd i mewn tan ein bod ni'n cael lot fwy o eglurder ynglŷn â sut mae'r dyfodol yn mynd i edrych.

Wel, dyna ydy fy mhryder i, wrth gwrs. Y teimlad ydy bod y ddeddfwriaeth newydd yma, pryd bynnag y mae hi'n mynd i weld golau dydd, yn dal pethau yn ôl yn sylweddol ar hyn o bryd, ac felly yn dal yn ôl hawliau siaradwyr Cymraeg. 

Mi wnes i sôn mai efallai ewyllys gwleidyddol sydd y tu ôl i'r arafwch yma. Efallai mai diffyg staffio ydy'r broblem ynglŷn â chyflwyno safonau. Rwy'n dal i ddisgwyl ateb i gwestiwn ysgrifenedig mi wnes i ei anfon ym mis Ionawr yn holi faint o staff sydd wedi'u lleoli'n benodol yn uned Gymraeg y Llywodraeth, sef y staff sydd yn gyfrifol yn benodol am baratoi rheoliadau safonau'r iaith Gymraeg. Pan ofynnais i hyn i chi mewn pwyllgor, mi wnaethoch chi ddweud bod yna beth wmbreth o bobl yn gweithio arnyn nhw—'loads', meddech chi. Pryd gaf i ateb iawn? Nid wyf fi'n credu bod loads yn gweithio ar y safonau'n benodol yn eich Llywodraeth chi o gwbl, a bod gennych chi gywilydd i gyhoeddi mai dim ond un—dau, efallai, ar y mwyaf—sydd yn gwneud y gwaith hollbwysig yma. Rydych chi'n edrych yn syn, ond rwyf heb gael yr ateb, felly ni fedraf i ddim ond amau. 

Digon teg, ond rwy'n meddwl mai beth sy'n bwysig—. Rŷch chi wedi cael ateb wrthyf fi. Rŷch chi'n ymwybodol bod materion staffio yn gwestiwn i'r Ysgrifennydd Parhaol, a byddaf i'n sicrhau y byddaf yn ei gwthio hi i ymateb ar hynny. Rwy'n meddwl ei bod hi yn bwysig ein bod ni'n canolbwyntio nawr. Os mai ein targed ni yw cyrraedd miliwn o siaradwyr, rwy'n meddwl ei bod yn hollbwysig ein bod ni yn pwysleisio pwysigrwydd hybu a hyrwyddo, ac un peth rwy'n gobeithio y gwelwn ni yn y dyfodol yw ein bod ni'n newid y pwyslais o ddeddfwriaeth i wthio pobl i sicrhau bod pobl yn defnyddio'r iaith—ein bod ni'n hyrwyddo. Dyna sy'n bwysig. Ni allwch wneud i bobl siarad iaith; mae'n rhaid i ni eu darbwyllo nhw mai dyna yw'r ffordd ymlaen, a dyna beth rwyf eisiau ei weld yn y dyfodol.

13:55
Ieithoedd Modern Tramor

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd modern tramor? OAQ52033

Diolch, David. Mae addysgu ieithoedd yn rhywbeth a werthfawrogir yn fawr yn ein hysgolion, a dyna pam y cyhoeddwyd y cynllun 'Dyfodol Byd-eang' yn 2015. Dair blynedd i mewn i'r cynllun hwn, ceir ymrwymiad ac uchelgais parhaus ar draws y system addysg i wella profiadau addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Diolch am eich ateb, ond fel y gwyddoch, mae dirywiad anhygoel wedi bod mewn addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru, fel yr amlygwyd gan y British Council. Yn anffodus, mae hynny hefyd yn wir mewn rhannau eraill o'r DU, ond yma yng Nghymru, rhwng 2002 a 2016, gostyngodd nifer y disgyblion sy'n astudio iaith dramor hyd at safon TGAU 48 y cant, gyda gostyngiad o 44 y cant ar lefel Safon Uwch. Felly, mae'r niferoedd absoliwt bellach yn gywilyddus o isel, ac mae amryw resymau wedi'u crybwyll am hyn, gan gynnwys goruchafiaeth pynciau gorfodol a hyd yn oed gweithrediad Bagloriaeth Cymru. Felly, sut y bydd prosiect 'Dyfodol Byd-eang' yn sicrhau unrhyw newid sylweddol? Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r duedd yn dal i fod ar i lawr.

Diolch, David. Buaswn yn cytuno â chi fod mwy o waith y gallwn ei wneud i sicrhau bod mwy o blant yn manteisio ar y cyfle i astudio ieithoedd tramor modern ar lefel TGAU. Un o'r prosiectau sydd wedi cael cryn lwyddiant yn cyflawni'r nod hwnnw, ac un a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw'r prosiect mentora myfyrwyr a weithredir ar y cyd â phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth, a bydd yn dechrau ar ei bedwaredd flwyddyn eleni. Mae'r prosiect yn cynnig ymyrraeth wedi'i thargedu i gynyddu'r nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar lefel TGAU mewn ysgolion drwy wella ymgysylltiad disgyblion â myfyriwr mentora'r brifysgol. Yn 2016-17, parhaodd 50 y cant o'r holl ddisgyblion a fentorwyd i ddysgu hyd at lefel TGAU o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o lai nag 20 y cant, felly gwyddom fod y prosiect hwnnw'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag—a hoffwn gymryd y cyfle hwn, Lywydd, i longyfarch y safonau uchel a gyflawnir gan y myfyrwyr sy'n mynd yn eu blaenau i astudio'r pwnc hwn. Nawr, nid wyf yn arbennig o hoff o gymharu â dros y ffin, ond mae'n deg dweud bod canlyniadau TGAU y llynedd wedi dangos bod Cymru wedi perfformio'n well o ran graddau A* ac wedi perfformio'n well o ran graddau A* i C mewn Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg na myfyrwyr dros y ffin yn Lloegr. Felly, pan fo myfyrwyr yn astudio'r pynciau hyn, maent yn rhagori.

Dysgwyr Dan Anfantais yn Islwyn

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, fe ysgrifennoch chi at ysgolion yn Islwyn i roi gwybod iddynt ynglŷn â—

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â dysgwyr dan anfantais yn Islwyn? OAQ52048

Drwy'r grant datblygu disgyblion rhanbarthol, rydym yn parhau i fuddsoddi symiau digynsail o arian—yn yr achos hwn, £187 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf—i gynorthwyo ysgolion ledled Cymru i wella canlyniadau i'n dysgwyr dan anfantais. Mae Islwyn yn elwa o'r dyraniad rhanbarthol o dros £19 miliwn y flwyddyn i'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg dros y cyfnod hwn.

Iawn. Diolch. Mae'r grant amddifadedd disgyblion ar gyfer y dysgwyr ieuengaf—disgyblion tair i bedair oed—wedi cynyddu o £600 i £700, gan adeiladu ar ddyblu'r cymorth ariannol y llynedd o £300 i £600 y dysgwr yn y blynyddoedd cynnar, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n anrheithio cymorth ar gyfer dysgwyr tlotach. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu, felly, pa wahaniaeth y bydd buddsoddiad parhaus yn y grant amddifadedd disgyblion yn ei wneud yn ysgolion Islwyn, a pha effaith y cred Llywodraeth Cymru y bydd hynny'n ei chael ar ddysgwyr dan anfantais yng nghymunedau Islwyn?

Fe'i gelwir bellach yn grant datblygu disgyblion, gan ein bod yn awyddus i ganolbwyntio ar brif ddiben y grant hwn, sef datblygu cyfleoedd i rai o'n dysgwyr mwyaf difreintiedig. Yr hyn a wyddom, Rhianon, drwy dargedu buddsoddiad yn ein blynyddoedd cynnar, gyda'n dysgwyr ieuengaf, yw y gallwn fynd i'r afael ag effeithiau amddifadedd ar eu canlyniadau addysgol hyd yn oed yn gynt. Mae gennyf gryn dipyn o hyder yn y grant datblygu disgyblion. Os siaradwch ag athrawon, ac rwy'n siŵr eich bod yn gwneud hynny yn eich etholaeth, maent yn gwbl ymwybodol o'r gwahaniaeth y mae'r arian hwn yn ei wneud. Rydym yn gweld mwy a mwy o ysgolion cynradd â disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim—maent yn perfformio ar lefel gystal â'u cymheiriaid mwy cefnog, ac yn wir, mewn rhai ysgolion cynradd, rydym hyd yn oed yn gweld plant ar brydau ysgol am ddim yn perfformio'n well na'u cymheiriaid mwy cefnog.

14:00

Bydd rhieni plant o dan anfantais oherwydd tlodi yn Islwyn wedi eu siomi wrth glywed am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y grant gwisg ysgol i deuluoedd tlawd. Yr wythnos diwethaf, methodd y Prif Weinidog roi sicrwydd ynglŷn â chyllid a chymhwystra eich cynllun newydd arfaethedig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau na fydd unrhyw ostyngiad yn y cyllid a ddarperir ar gyfer gwisgoedd ysgol o dan eich cynllun newydd ac y bydd pob disgybl blwyddyn 7 sy'n cael prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y grant gwisg ysgol hefyd?

Diolch am eich cwestiwn, Oscar. Rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael ag effaith anfantais ar addysg plant mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac i rai teuluoedd, mae cymorth gyda'r wisg ysgol yn bwysig iawn. Ond fel y clywsom ddoe, mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog gan Julie Morgan, mae yna ffyrdd eraill lle na all cymunedau mwy difreintiedig fanteisio ar yr ystod lawn o gyfleoedd a allai fod ar gael iddynt, a gall hynny effeithio'n uniongyrchol ar allu'r dysgwr i wneud cynnydd. Dyna pam yr wyf fi a fy swyddogion yn gweithio ar grant newydd ar hyn o bryd i gymryd lle'r hyn a alwyd gynt yn grant gwisg ysgol. Bydd yn cynnwys mynediad at gymorth ar gyfer gwisgoedd ysgol, ond rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau y gall y grant hwnnw roi mwy o hyblygrwydd i rieni, er enghraifft, sydd heb y gallu ariannol, efallai, i ganiatáu i'w plentyn fynd ar drip ysgol neu i ganiatáu i'w plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, a allai effeithio ar eu canlyniadau. Felly, bydd grantiau ar gyfer gwisgoedd ysgol yn parhau, ond rwy'n bwriadu ymestyn y grant i ddarparu ar gyfer amrywiaeth ehangach o gyfleoedd na all disgyblion o gefndiroedd difreintiedig gymryd rhan ynddynt o bosibl.

Gamblo Cymhellol

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl addysg yn y broses o fynd i'r afael â gamblo cymhellol? OAQ52020

Diolch, Mick. Mae addysg yn un ffordd o fynd i'r afael â gamblo cymhellol. Un o'r argymhellion yn adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru oedd darparu rhagor o wybodaeth i bobl sy'n gyfrifol am iechyd a lles plant a phobl agored i niwed ynglŷn â'r niwed posibl y gall gamblo ei achosi.

Diolch am eich ateb. Tybed a allwch fynd ychydig ymhellach. Yr hyn a wyddom, gan y Comisiwn Hapchwarae, yw bod oddeutu 0.5 miliwn o ddisgyblion ledled Cymru a Lloegr, rhwng 11 a 15 oed, bellach yn gamblo ar sail wythnosol. Byddai hynny'n cyfateb i oddeutu 25,000 o blant yng Nghymru rhwng 11 a 15 yn gamblo ar sail wythnosol, gyda nifer ohonynt bellach yn gamblwyr cymhellol. Yng ngoleuni adroddiad y prif swyddog meddygol, tybed a fyddwch yn cyfarfod gyda'r prif swyddog meddygol i ddatblygu strategaeth, fel rhan o strategaeth iechyd y cyhoedd yn gyffredinol, i fynd i'r afael â phroblem gamblo gynyddol ar gyfer y dyfodol ymhlith ein plant, sy'n gweithio ac yn byw mewn amgylchedd lle mae gamblo, drwy bethau fel chwaraeon, bron â bod wedi'i normaleiddio yn ein cymdeithas ac yn creu heriau gwirioneddol inni ar gyfer y dyfodol rwy'n credu.

Rwy'n deall eich pryderon, Mick. Fe fyddwch yn gwybod bod arweinydd y tŷ ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno'n ddiweddar i ysgrifennu at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ynghylch y pwynt penodol hwnnw ynglŷn â chyffredinolrwydd hysbysebion gamblo. Mae nawdd gan gwmnïau gamblo yn broblem gan fod llawer iawn o blant yn eu gweld. Rwy'n falch iawn o roi gwybod i chi fod arolwg rhwydwaith ymchwil ymddygiad iechyd mewn plant oedran ysgol ar gyfer arolwg 2017-2018 wedi cynnwys cwestiynau ar gamblo, fel y gallwn sicrhau gwell dealltwriaeth gan y plant eu hunain ynglŷn â'r effaith y gall gamblo ei chael arnynt fel unigolion, ac mae'n rhoi data sylfaen inni allu gweithredu go iawn.

Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein cyfleoedd drwy elfen addysg bersonol a chymdeithasol ein cwricwlwm presennol i allu ystyried peryglon gamblo gyda'n plant a phobl ifanc, ac fe fyddwch yn ymwybodol, wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd, fod cyfleoedd ym maes dysgu a phrofiad newydd iechyd a lles i ysgolion fynd i'r afael â'r materion hyn ond hefyd drwy ein maes dysgu a phrofiad rhifedd, lle buaswn yn disgwyl i ysgolion siarad am lythrennedd ariannol a sut i wneud dewisiadau cadarnhaol ynglŷn â sut rydych yn defnyddio eich arian.

Drwy ein rhwydwaith ysgolion iach, yn ogystal â'n hyb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rydym hefyd yn arfogi ein hysgolion yn well i ymdopi â materion sy'n ymwneud â gamblo cymhellol os ydynt yn dod yn ymwybodol o hynny yng nghymuned yr ysgol. Credaf fod llawer o bethau y gallwn eu gwneud yn drawslywodraethol, boed ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu gynllunio, i fynd i'r afael â'r agenda hon yn uniongyrchol.

14:05

Rhannaf y pryderon a fynegwyd gan Mick Antoniw ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod angen inni roi rhagor o gamau ar waith yn ein hysgolion i fynd i'r afael â gamblo cymhellol. Un o'r pryderon a gafodd ei ddwyn i fy sylw yw bod tasg Bagloriaeth Cymru wedi'i rhoi i rai disgyblion yng Nghymru yn gofyn iddynt ddychmygu sut deimlad yw ennill y loteri a gwario'r arian hwnnw. Nawr, ymddengys i mi fod hynny'n gwbl anaddas o ran annog pobl i ddychmygu tasg o'r fath, ac mae'n mynd yn groes i'r negeseuon ynglŷn ag iechyd y cyhoedd y dymunwn eu lledaenu fel cenedl i'n pobl ifanc. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i weithio gyda CBAC, Cymwysterau Cymru ac eraill i sicrhau bod gamblo'n cael ei ddileu o'n holl arholiadau, ein holl werslyfrau, o ran ei hyrwyddo yn y ffordd hon a bod yr unig neges a welant ynglŷn â gamblo yn un negyddol?

Diolch am hynny, Darren. Buaswn yn disgwyl i bob cwestiwn arholiad a holl dasgau Bagloriaeth Cymru gael eu hysgrifennu mewn modd addas. A gaf fi ddweud yn gwbl glir mai'r hyn rydym yn sôn amdano yma yw gamblo cymhellol a chydnabod hynny fel mater iechyd, mater o ddibyniaeth, yn union fel y mae modd bod yn gaeth i bethau eraill? Credaf fod angen inni fod yn weddol ofalus wrth gymharu chwarae'r loteri â gamblo cymhellol. Rwy'n credu bod angen inni fod yn weddol ofalus ynglŷn â hynny, ond buaswn yn disgwyl i bob cwestiwn ym mhob papur arholiad fod wedi'u hysgrifennu mewn ffordd sy'n addas i'r plant sy'n eu darllen ac sy'n defnyddio'r adnoddau hynny.

Yn ychwanegol at y sylwadau hynny—ac rwy'n cytuno â'r holl sylwadau hyd yn hyn—byddai Mick Antoniw yn gwybod bod astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol De Cymru wedi dangos nad yw un o bob pedwar gamblwr yn ystyried eu hunain yn gamblwyr, ac mae hynny'n cynnwys plant hefyd. Felly, gan bwyso ymhellach ar y mater hwn o addysg mewn ysgolion, yn amlwg mae fy nghyd-Aelod Bethan Sayed eisoes wedi crybwyll egwyddorion addysg ariannol a fyddai'n cynnwys addysg o'r fath, ond mae angen inni bwysleisio hyn yn gryf fel y crybwyllwyd eisoes, oherwydd natur lechwraidd y diwydiant gamblo yn gwthio'i hun i bob agwedd ar fywyd ac yn ceisio normaleiddio'r peth. Nid yw bod yn gamblwr yn normal, a buaswn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ar y mater.

Dai, rydych yn llygad eich lle: mae angen inni ystyried y materion hyn y tu hwnt i faes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn unig. Bydd addysg ariannol yn elfen allweddol yn y cwricwlwm newydd, gan gynnig darpariaeth gref i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ariannol, gan gynnwys rheoli eu harian. Bûm yn ddigon ffodus yn ddiweddar i fynychu ysgol arloesi yn eich rhanbarth, ysgol Olchfa, dosbarth mathemateg blwyddyn 8, lle roeddent yn sôn am y system dreth a sut y byddech yn rheoli eich arian ac yn cyfrifo eich dyledion treth. Felly, rydym eisoes yn gweld gwersi yn hyn o beth ar lawr gwlad yn ein hysgolion ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, wrth inni agosáu at ddefnydd statudol o'r cwricwlwm, buaswn yn disgwyl gweld mwy o hynny. Roedd yn hollol wych gweld dysgwyr cymharol ifanc yn eu gyrfa addysg uwchradd yn meddu ar y gallu i ddatblygu eu sgiliau rhifedd a dysgu a deall ar yr un pryd sut y mae treth yn gweithio a chael trafodaeth foesol iawn mewn gwirionedd ynglŷn ag a ddylid codi mwy neu lai o dreth ar bobl.

Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghaerdydd? OAQ52036

Diolch, Julie. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth—. O, mae'n ddrwg gennyf, eich llinell chi yw honno. [Chwerthin.] Fi yw Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Am funud, anghofiais pwy oeddwn ac roeddwn yn ôl draw yn y fan yna, Lywydd. Rwyf newydd wneud fel Rhianon Passmore. [Torri ar draws.] Wyddoch chi byth. Wyddoch chi byth.

Julie, rwy'n falch o ddweud—[Chwerthin.]—y bydd band A o raglen addysg ac ysgolion unfed ganrif ar hugain yn cynnwys buddsoddiad o dros £164 miliwn mewn ysgolion yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd a ddaw i ben yn 2019—a allai fod ar ôl i mi ddod i ben yn y lle hwn, o bosibl. [Chwerthin.] Mae amlen ariannu o £284 miliwn ychwanegol wedi'i chymeradwyo mewn egwyddor ar gyfer rhaglen band B, a fydd yn dechrau yn 2019.

14:10

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Roeddwn yn falch iawn o ymweld yr wythnos diwethaf â'r safle newydd ar gyfer ysgol gynradd Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, ar gyfer seremoni gosod y garreg gopa yr wythnos diwethaf. Dyma ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, sydd wedi'u cydleoli, ac mae'r adeilad wedi'i ddylunio yn y fath fodd fel bod ganddo gyfleusterau cyfunol ar gyfer amser cinio ac amser chwarae. Tybed a oedd yna unrhyw gynlluniau eraill ar gyfer ysgolion o'r fath ledled Cymru, lle lleolir yr ysgol Gymraeg a'r ysgol Saesneg ar yr un safle.

Rwy'n siŵr fod enghreifftiau eraill i'w cael lle mae gennym gyfleusterau wedi'u cydleoli fel hynny. Yr hyn y mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ein caniatáu i wneud yw darganfod ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu lleoedd mewn ysgolion, boed mewn lleoliadau a rennir, neu'r nifer gynyddol o ysgolion pob oed, lle yr addysgir plant ar yr un campws o'r adeg pan fyddant yn dair oed yr holl ffordd hyd at 18 oed mewn rhai achosion. Mae'r buddsoddiad digynsail hwn mewn adeiladau ysgolion, y mwyaf ers y 1960au, yn rhoi cyfle inni ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau i awdurdodau lleol o ran ffyrdd o ddarparu cyfleusterau addysgol. Ac un o'r ffyrdd rydym yn ystyried achosion a gyflwynir, fel y dywedais yn gynharach wrth Simon Thomas, yw mynediad cymunedol at y cyfleusterau hynny, ac i raddau cynyddol, wrth inni weithio gyda'n gilydd ar draws y Llywodraeth ar y cynnig gofal plant, y gallu i weld a allwn gyfuno cyfleusterau addysg a gofal plant yn ein hadeiladu newydd hefyd.

Weinidog, mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi cynnig cyfle i awdurdodau lleol weithio gyda'r Llywodraeth ar ailddatblygu eu hystâd ysgolion. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r cynlluniau i gau ysgol fach wledig ym Mro Morgannwg, ysgol Llancarfan, a symud i safle newydd ym mhentref y Rhws. Un o'r pryderon—

Ardal Canol De Cymru—ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Roeddwn o dan yr argraff fod Caerdydd yn rhan o Ganol De Cymru. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd.

Cyllido Ysgolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllido ysgolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful? OAQ52032

Diolch, Dawn. Cyllidebwyd y byddai gwariant gros ysgolion ym Merthyr Tudful y llynedd dros £50 miliwn. Mae hynny 3 y cant yn uwch nag yn 2016-2017. Dirprwyodd Merthyr Tudful 87 y cant o'r cyllid i ysgolion, gan roi cyllideb ddirprwyedig o dros £43 miliwn. Dyna gynnydd o 4 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac rwy'n falch o ddweud mai dyna oedd y cynnydd canrannol mwyaf a welsom mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.

Yn wir, a gwn fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirdymor i gyllid ysgolion, er gwaethaf rhaglen gyni barhaus Llywodraeth y DU, ac mae'r setliad llywodraeth leol eleni, fel yr amlinellwyd gennych eisoes, wedi adlewyrchu hyn. Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod awdurdodau lleol wedi dadlau'n llwyddiannus na ddylid clustnodi cyllid addysg, ac rwy'n sylweddoli bod llawer o'r arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio bellach ar eu cyllidebau ysgolion. Mae'n fater iddynt hwy yn llwyr. Serch hynny, roeddwn yn bryderus wrth weld bod Cyngor Merthyr Tudful, er gwaethaf yr hyn a ddywedasoch, wedi torri eu cyllideb ysgolion i bob pwrpas, ac ysgolion yn cael eu cynghori bod yn rhaid iddynt wneud oddeutu £400,000 o arbedion yn y flwyddyn ariannol hon, gyda rhagor i ddod. Nawr, gan fod gwasanaeth addysg Merthyr Tudful wedi bod o dan fesurau arbennig tan 2016, a allwch roi sicrwydd i mi eich bod yn monitro anghenion ysgolion ym Merthyr Tudful yn agos fel nad ydym yn caniatáu i'r sefyllfa honno ddirywio unwaith eto?

Diolch, Dawn. Rydych yn llygad eich lle yn dweud mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyllid ysgolion, ac yn wir, nodir hynny yng nghyfraith bresennol Cymru. Fe fyddwch hefyd yn gwybod bod gan Estyn, yr arolygiaeth annibynnol, rôl i'w chwarae nid yn unig yn arolygu ysgolion unigol, ond hefyd yn arolygu perfformiad awdurdodau addysg lleol unigol. Maent wedi treialu fframwaith arolygu newydd, y cyntaf ohonynt yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae honno'n ffordd dda iawn inni allu sicrhau perfformiad awdurdodau addysg lleol.

Rwy'n ymwybodol fod angen cadw llygad barcud ar rai awdurdodau sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig yn ddiweddar, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod mai un o'r rhesymau pam ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â haen ganol y consortia rhanbarthol yw er mwyn sicrhau bod cymorth o ansawdd uchel ar gael i wella ysgolion yn yr ardal honno, yn hytrach na'i fod wedi'i wasgaru ar draws yr holl awdurdodau lleol.

Ond a gaf fi gymryd y cyfle hwn? Rwy'n deall bod cyllidebau o dan bwysau ledled Cymru, nid ym Merthyr Tudful yn unig, ond er hynny, nid yw ysgolion yn caniatáu i hynny rwystro eu huchelgais ar gyfer eu plant. Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld ag Ysgol Uwchradd Afon Tâf, ac roeddwn yn edmygu'r rhaglen ddarllen cyflym y maent wedi'i chyflwyno yn yr ysgol honno, ac sydd wedi arwain at gynnydd anferth yn lefel llythrennedd y disgyblion. A'r wythnos diwethaf, yn yr ŵyl—yr ŵyl lythrennedd a gynhaliwyd ym Merthyr Tudful—cefais gyfle i siarad â nifer o'r disgyblion a fynychodd yr ŵyl. Roedd yn galonogol iawn gweld bechgyn ifanc, y gwyddom eu bod yn arbennig o heriol mewn perthynas â darllen, fel y gwyddom, yn siarad mor huawdl am eu cariad at ddarllen, y llenyddiaeth a'r llyfrau y maent yn eu dewis ar hyn o bryd, a'u brwdfrydedd. Ac nid yn unig eu brwdfrydedd ynglŷn â llyfr unigol, ond eu dealltwriaeth eu bod, drwy ymarfer eu darllen, defnyddio'r cyfle hwn, yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt hwy eu hunain, nid yn unig yn Saesneg, ond mewn gwirionedd, i gael mynediad at y cwricwlwm cyfan. Rwy'n cymeradwyo ysgolion fel hyn nad ydynt yn defnyddio cyfnod ariannol anodd fel esgus i beidio â chyflwyno dulliau newydd ac arloesol yn eu hysgolion. Dylid eu canmol.

14:15

Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch yn gynharach fod gan bob plentyn sy'n mynychu'r ysgol uwchradd hawl i gael cludiant am ddim, ond does bosibl fod hynny'n wir am blant sy'n mynychu'r chweched dosbarth. Ac yn achos Merthyr Tudful, os mai yng ngholeg Merthyr Tudful yn unig y bydd darpariaeth chweched dosbarth ar gael ar gyfer y grŵp oedran hwnnw, a yw'n briodol, mewn gwirionedd, i'r Cyngor ymgynghori ar wneud i'r holl blant yn y grŵp oedran hwnnw dalu am eu cludiant i'r un safle hwnnw?

Mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n ymddiheuro i Mr Reckless os nad eglurais hyn yn ddigon clir yn fy ateb i Michelle Brown. Mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn darparu cludiant am ddim ar gyfer plant oedran ysgol gorfodol hyd at 16 oed. Ar gyfer dysgwyr ôl-16, gall awdurdodau lleol unigol wneud darpariaethau os barnant fod hynny'n addas, a cheir ymagwedd gymysg gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

Uno a Chau Ysgolion

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar uno a chau ysgolion? OAQ52023

Diolch, Bethan. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol. Wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio gyda'r cod trefniadaeth ysgolion a grybwyllir yn aml, ac mae'n rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau—a buddiannau dysgwyr yw'r brif ystyriaeth.

Diolch am eich ateb. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi yma o'r blaen mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan yn fy rhanbarth, ac fe'ch clywais yn siarad yn gynharach ynglŷn â'r dewis o deithio llesol ar gyfer dysgwyr. Ond yn yr achos hwn, os yw ysgol Cymer Afan yn cael ei chau a bod disgwyl iddynt deithio bron i 10 milltir i Gymla neu Margam, gallai hynny olygu nad oes ganddynt y dewis hwnnw. Yn amlwg, mae'n rhaid i asesiadau llesiant cenedlaethau'r dyfodol ystyried trafnidiaeth gynaliadwy, felly rwy'n ceisio deall pa drafodaethau a gawsoch gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i sicrhau, pan nad yw'r opsiwn o drafnidiaeth gynaliadwy ar gael, beth yn union sy'n digwydd i'r plant hynny a'u lles.

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r comisiynydd ynglŷn â'r pwnc penodol hwnnw. Mae'r cod trefniadaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad effaith mewn perthynas â lles dysgwyr. Mae hefyd yn darparu amseroedd dangosol o ran yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn gyfnod teithio nad yw'n addas ar gyfer plant, ond mater i'r awdurdod lleol unigol, wrth iddo gynnal ei ymgynghoriad â phobl leol, yw sicrhau ei fod yn gwneud hynny'n unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r cod.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwn fod dyfodol ysgolion bach gwledig a lled-wledig wedi bod yn fater enfawr yn eich etholaeth, ac mae'r cynghorydd Brigitte Rowlands, sy'n cynrychioli ward Mawr yn Abertawe, yn wynebu'r un math o heriau yn awr ag a wynebwyd gennych chi yn y gorffennol, gan fod dwy ysgol yno wedi'u clustnodi ar gyfer eu cau—os caf ei roi felly? Rwy'n cydnabod bod yr awdurdod lleol mewn sefyllfa annifyr, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod nifer sylweddol o'n hysgolion llai ledled Cymru bellach naill ai wedi cau neu yn y broses o gau, gan adael nifer llai o lawer o ysgolion bach sydd wedi goroesi'r prawf 90 o ddisgyblion, os mynnwch. Clywais eich atebion i gwestiynau cynharach yn y sesiwn hon, ond bellach, mae angen inni ystyried diwygiadau, os mynnwch, i'r canllawiau 90 o ddisgyblion, i bob pwrpas, er mwyn darparu ar gyfer y ffaith nad lleoedd gwag yw'r brif ddadl bob tro dros gadw ysgolion ar agor, ac y gallai ystyriaethau eraill fod yn bwysicach?

14:20

Y brif ystyriaeth a ddylai fod gan bob awdurdod lleol wrth gynllunio lleoedd ysgolion ac wrth feddwl am drefniadaeth ysgolion yw buddiannau'r dysgwr ac ansawdd yr addysg y gall y sefydliad hwnnw ei chynnig i bobl ifanc. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r atebion a roddais yn gynharach. Rydym yn bwrw ymlaen â'r broses o ddynodi rhestr o ysgolion gwledig, a rhagdybiaeth wedyn yn erbyn eu cau. A yw hynny'n golygu na fydd unrhyw newidiadau byth? Mae'n rhaid imi fod yn onest ac yn glir gyda phobl: nac ydy. Ond yr hyn a olyga yw y bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol ddangos eu bod wedi dihysbyddu pob opsiwn arall ac wedi ystyried pob opsiwn arall cyn gwneud penderfyniad i gau ysgol wledig arbennig o fach.

Yn hollbwysig, fel y dywedaf, mae angen inni gefnogi darpariaeth addysg wledig hefyd. Ceir heriau penodol ynghylch cynnal safonau uchel, yn enwedig mewn ysgolion cynradd gwledig bach. Felly, er enghraifft, rydych chi a minnau'n gwybod am ysgolion, efallai, lle mae gan yr athro dosbarth ddisgyblion blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6 mewn un ystafell ddosbarth, ac mae hynny'n creu heriau penodol mewn perthynas â gwaith gwahaniaethol, er enghraifft. Dyna pam yr ydym wedi darparu grant ysgolion gwledig bach y gall awdurdodau lleol wneud cais amdano fel y gallant ystyried dulliau arloesol o gefnogi ansawdd addysg yn ein hysgolion gwledig bach, gan fod eu cadw ar agor yn un peth, ond mae'n rhaid iddynt gynnig cyfleoedd gwych i'n pobl ifanc.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymatebion i Suzy Davies a Bethan Jenkins, fe sonioch am fuddiannau'r dysgwr a lles y dysgwr, a chefnogaf hynny'n llwyr. Ond wrth gwrs, mae lles y dysgwr hefyd yn dibynnu ar les y gymuned y mae'r dysgwr yn byw ynddi ac yn cael ei addysg ynddi, ac fel y nodwyd, cafwyd cynnig i gau ysgol Cymer Afan gyda disgyblion yn cael eu cludo a'u trosglwyddo 10 milltir i ffwrdd. Mae'r profiad a gânt o fynd adref ar ôl ysgol—mewn geiriau eraill, maent yn aml yn aros i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol, ac mae hynny'n rhan bwysig o les y dysgwr, gallu gwneud hynny—yn golygu y bydd anawsterau gyda'r agwedd honno. Pan fyddwch yn ystyried hyn, oherwydd gallai'n hawdd ddod ar draws eich desg, a wnewch chi hefyd ystyried lles y gymuned a lles y dysgwr y tu hwnt i'r profiad addysgol yn yr ysgol ei hun? A wnewch chi hefyd ystyried, efallai, a oes angen cynnal ymgynghoriad o dan y canllawiau ad-drefnu ysgolion newydd, yn hytrach na'r hen rai?

A gaf fi roi sicrwydd i David, ac yn wir, i'r holl Aelodau yma fod unrhyw geisiadau i gau ysgol sy'n cyrraedd fy nesg yn cael eu craffu'n fforensig, yn unol â chyfraith a chanllawiau statudol presennol Cymru?

Wrth gynnal cymhorthfa ym Maesteg, gofynnodd rhieni i mi ynglŷn â chau ysgolion yn eu hardal. Dywedasant nad oedd digon o blant yn byw yn yr ardal leol i lenwi lleoedd yr ysgol fawr newydd sy'n cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot, ac o ganlyniad i hynny, fod plant yn dod o ardaloedd llawer pellach a disgwylir iddynt lenwi'r lleoedd hyn. Roeddent yn bryderus y byddai rhai o'r plant sy'n byw yn bell ar y bws ysgol am bron i ddwy awr mewn un diwrnod. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r rhieni sy'n mynegi'r pryderon hyn, ac onid ydych yn cytuno fod hyn yn disgwyl gormod gan rieni a phlant?

Buaswn yn annog pawb, ac rwy'n siŵr eu bod eisoes—os oes ganddynt bryderon ynghylch yr hysbysiad statudol a roddwyd gan Gastell-nedd Port Talbot, mae angen iddynt gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw. Fel y dywedais yn gynharach, mae rhywfaint o ganllawiau ar gael sy'n sôn am amseroedd teithio tybiannol, yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn amser rhy hir i blentyn deithio i gael addysg, ond ni allaf roi unrhyw sylwadau pellach ar unrhyw gynigion penodol, rhag ofn y byddant yn dod yma i Lywodraeth Cymru i mi eu hystyried.

14:25

Diolch. Rydw i mewn cyswllt agos ag ymgyrchwyr sy'n bryderus iawn oherwydd ymgynghoriadau ar gau nifer o ysgolion gwledig yn Ynys Môn. Rydw i'n deall y pwysau sydd ar y cyngor, ac mi hoffwn i chi ystyried un elfen o'r pwysau yna, sef bod un set o'ch swyddogion chi, i bob pwrpas, yn hybu cau ysgolion gwledig drwy awgrymu na fydd arian o gronfa ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gael oni bai bod awdurdod lleol yn cyflwyno cynllun adeilad newydd sy'n cynnwys cau ysgolion eraill. Ac ar y llaw arall, mae gennych chi swyddogion sy'n cwblhau'r gwaith ar god trefniadaeth ysgolion newydd a fydd yn gosod rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor. Yn yr achos cyfredol, presennol yn Ynys Môn, mae angen ysgol newydd yn Llangefni, ac ehangu un newydd, mae'n siŵr, ond y casgliad y mae'r cyngor yn dod iddo fo ydy bod yn rhaid, fel rhan o hynny, gau ysgolion eraill—mae Bodffordd, Henblas a Talwrn yn cael eu hystyried. A ydych chi mewn sefyllfa i ddweud wrth y cyngor nad oes yn rhaid i'r ddau beth, sef argaeledd yr arian ar gyfer ysgol newydd a'r angen i gau ysgolion gwledig, fod yn gysylltiedig â'i gilydd ac nad yw'r naill yn ddibynnol ar y llall?

Rhun, mater i'r awdurdod lleol ar Ynys Môn yw cynllunio eu lleoedd ysgolion, ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir: caiff unrhyw gais am arian cyfalaf o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ei farnu yn ôl meini prawf, ei archwilio gan fwrdd allanol i Lywodraeth Cymru, gyda phobl annibynnol yn ystyried gwerth y cais unigol hwnnw, ac nid wyf yn ymwybodol o geisiadau'n seiliedig ar angen i gau ysgolion fel arall. O ran argaeledd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i adeiladu ysgolion newydd, mae'r rhaglen ar gael er mwyn adnewyddu safleoedd ysgolion presennol, ysgolion newydd, yn ogystal ag ysgolion a gyfansoddwyd o'r newydd, a cheir enghreifftiau o'r tri ledled Cymru, lle y defnyddir yr arian i adnewyddu ysgol sy'n bodoli eisoes, i adeiladu ysgol newydd yn lle'r un sydd yno, neu mewn rhai achosion—a bûm ar Ynys Môn yn agor rhai ohonynt yn ddiweddar—lle y cafodd ysgolion eu huno i greu ysgol fro gyda chyfleusterau newydd.

Disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn Nhor-faen? OAQ52040

Diolch, Lynne. Mae 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl' yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn. Gan weithio gyda phartneriaid, rydym yn benderfynol o oresgyn yr heriau penodol sy'n wynebu rhai grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, nad yw eu cyflawniad, er enghraifft, yn 16 oed, yn cyrraedd lle y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno'i weld.

Diolch. Fel y gwyddoch, ymwelais â gwasanaeth addysg Teithwyr Torfaen yn ysgol Gorllewin Mynwy yn ddiweddar, ac roedd yn wych gweld pa mor dda y mae'r bobl ifanc hynny'n gwneud, sut y maent yn cael cymwysterau da iawn, ac mae rhai ohonynt yn ystyried mynd i'r brifysgol. Fel y gwyddoch hefyd, rwy'n llwyr gefnogi eich ymdrechion i fynd i'r afael â chyflwyno cynnar, ond un o'r materion a grybwyllodd y bobl ifanc wrthyf yw'r ffaith bod y gallu i gyflwyno disgyblion yn gynnar yn gwbl hanfodol ar gyfer plant Teithwyr, gan fod rhai ohonynt yn teithio dros yr haf. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd newidiadau i gyflwyno cynnar yn ystyried anghenion y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr? Ond hefyd, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch gwasanaeth addysg Teithwyr Torfaen, yn ogystal â'r staff sy'n gweithio yno, am y gwaith gwych a wnânt?

Wel, rwy'n falch iawn o gydnabod llwyddiant yr ysgol honno, gan adeiladu ar yr hyn a wnaeth Estyn yn 2016 pan gydnabu fod yr hyn sy'n digwydd yn ysgol Gorllewin Mynwy yn darparu cyfleoedd gwych i blant a phobl ifanc o'r gymuned Sipsiwn/Teithwyr. Maent yn cadw'r plant hynny yn yr ysgol, ac maent yn mynd yn eu blaenau i gyflawni'n dda iawn, ac maent wedi canolbwyntio'n fawr ar adeiladu cysylltiadau cryf iawn gyda theuluoedd a rhieni yn y gymuned honno. Rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd caniatáu i rai ysgolion, sy'n cynnwys plant Sipsiwn/Teithwyr, gyflwyno plant yn gynnar, yn enwedig yng nghyfres arholiadau'r hydref, gan ein bod yn cydnabod mai dyna'r unig gyfle, o bosibl, i'r plant hynny sefyll arholiad cyhoeddus. Dyna oedd un o'r prif resymau ar flaen fy meddwl y llynedd pan wnaethom ein penderfyniadau ynghylch cyflwyno cynnar, a dyna pam na waharddasom gyflwyno cynnar yn gyfan gwbl, gan y byddai hynny wedi amddifadu'r ysgolion hynny, a'r plant hynny, o'r cyfle i sefyll eu harholiadau ffurfiol. Mae'n gwbl briodol, yn yr achosion hynny, fod plant yn cael eu cyflwyno'n gynnar, a dyna pam yr ydym yn parhau i ganiatáu i ysgolion gael y dewis hwnnw, lle y gallant ganiatáu i blant sefyll arholiadau'n gynnar pan fydd hynny er budd gorau'r plant, ac mae Ysgol Gorllewin Mynwy wedi dangos bod buddiannau'r plant hyn yn bwysig iddynt.

14:30
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf, felly, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. A'r cwestiwn cyntaf, Jayne Bryant.

Bwydo ar y Fron

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo bwydo ar y fron? OAQ52042

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd bwydo ar y fron, ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo a chynyddu nifer y rhai sy'n dewis bwydo ar y fron. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen hon, a hwy sy'n arwain wythnos genedlaethol bwydo ar y fron, rhwng 20 a 26 Mehefin. Bydd hyn yn cynnwys ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chefnogi gweithwyr proffesiynol gyda digwyddiadau lleol, a gobeithio y bydd ACau ar draws y Siambr yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r wythnos honno, a bwydo ar y fron yn fwy cyffredinol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae manteision bwydo ar y fron i famau a babanod wedi'u cofnodi'n helaeth. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn fod mamau newydd yn cael y cymorth y maent ei angen. Y llynedd, roeddwn yn falch iawn o fynychu'r uned famolaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent i weld Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn derbyn gwobr arbennig Cyfeillgar i Fabanod, ac i dalu teyrnged i'r bydwragedd a'r gweithwyr cymorth am eu hymrwymiad ar hyn. Yn ogystal, mae cynnydd wedi'i wneud, gyda Chyngor Dinas Casnewydd a'r bwrdd iechyd yn lansio Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron. Drwy arddangos logo Croesawu Bwydo ar y Fron, mae sefydliadau'n dangos y byddant yn gyfeillgar ac yn gefnogol i famau sydd eisiau bwydo ar y fron. Sut y gellir cefnogi mentrau arfer da o'r fath? A tybed a allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni am y grŵp gorchwyl a gorffen a chynnydd y grŵp hwnnw a nodi pryd rydych yn disgwyl ei adroddiad.

Diolch i chi am eich cwestiwn. Rwy'n croesawu'r camau a wnaed gan Gasnewydd i'w gwneud yn hollol glir ein bod yn croesawu bwydo ar y fron ledled y ddinas. Mae yna fodel i bobl eraill ei ddilyn, oherwydd mae'n ymwneud ag annog mamau i fwydo ar y fron pan fyddant allan o'r cartref, ac annog pob un ohonom i fod yn gefnogol yn yr amgylchedd hwnnw yn ogystal. Sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar wella cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru y llynedd, yn dilyn cyfarfod gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd. Mae ein cyfraddau bwydo ar y fron wedi gwella dros y 10 mlynedd diwethaf—hyd at 61 y cant adeg genedigaeth—ond gwyddom ein bod (a)  eisiau i'r gyfradd honno fod yn uwch, ond rydym hefyd eisiau i fwydo ar y fron barhau. Rwy'n disgwyl adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, gyda'r argymhellion hynny o fewn mis ac rwy'n disgwyl y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, nid yn unig ar ôl derbyn yr adroddiad, ond yn dilyn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw a'i hargymhellion.

Diolch i chi, Lywydd, a byddaf yn cadw at y pwnc. Fel un sy'n cefnogi bwydo ar y fron yn frwd, gyda phedwar o blant a gafodd eu bwydo ar y fron, gallaf weld manteision hynny. Ond yn anffodus, mae llawer o famau newydd yn rhoi'r ffidl yn y to ar ôl cyfnod byr o amser ac yn nodi diffyg cymorth, neu'r canfyddiad o ddiffyg cymorth, y gallent fod wedi'i gael gan fydwraig ddynodedig, oherwydd pwysau ar wasanaethau cymunedol a gwasanaethau mamolaeth. A ydych chi, yn ystod eich cyfnod fel Ysgrifennydd iechyd, wedi nodi'r diffyg cefnogaeth hwnnw yn y gymuned, ac yn arbennig, y cyfnod o amser y gall mamau beichiog ei dreulio gyda bydwraig benodol i'w cynorthwyo i fwydo ar y fron er mwyn caniatáu iddynt barhau yn y ffordd gywir drwy'r rhan orau o fywyd y plentyn?

Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed ynglŷn â sut y caiff pobl gymorth ymarferol i gychwyn ac yna i barhau i fwydo ar y fron. Mae yna rywbeth ynglŷn â'r disgwyliadau ehangach ar famau eu hunain, drwy'r beichiogrwydd, yn ogystal â phartneriaid, aelodau o'r teulu a'r gymdeithas ehangach. Ac mae'r pwynt a wneir ynglŷn â phwy yw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir i gynorthwyo'r fam honno, i gefnogi'r teulu hwnnw, yn rhan o'r hyn rwy'n disgwyl i'r adroddiad—adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen—roi gwybod i mi yn ei gylch. Ac os oes angen inni feddwl eto ynglŷn â'r cymysgedd o staff sydd gennym—oherwydd efallai nad oes angen iddynt fod yn fydwraig; mae yna weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys y rheini sy'n weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol sydd, o bosibl, yn dychwelyd i'r gwaith, yn wir, fel gwirfoddolwyr. Oherwydd mae llawer o fenywod yn dweud eu bod yn ystyried grwpiau cymorth gan gymheiriaid yn effeithiol hefyd. Felly, mae yna waith ehangach rwy'n disgwyl i'r grŵp gorchwyl a gorffen ei wneud i ddeall beth sydd angen i ni ei wneud, yn staff gofal iechyd a gyflogir, gwirfoddolwyr, a'r newidiadau ehangach sydd angen i bawb ohonom helpu i'w cefnogi yn ein cymdeithas.

Sgrinio Coluddion Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen Sgrinio Coluddion Cymru? OAQ52035

Diolch. Mae gennym raglen genedlaethol wedi'i sefydlu'n dda ar gyfer sgrinio coluddion y boblogaeth yng Nghymru, gyda bron i 147,000 o ddynion a menywod wedi cael eu sgrinio yn ystod 2016-17. Rydym yn chwilio'n gyson am ffyrdd i gynyddu'r niferoedd, ac yn ddiweddar, cyhoeddasom y bydd system brofi well a mwy hwylus yn cael ei chyflwyno o fis Ionawr 2019 ymlaen.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, fod nifer y rhai cymwys sydd wedi manteisio ar y prawf sgrinio wedi gostwng o 54.4 y cant i 53.4 y cant, felly gostyngiad o 1 y cant. Gobeithio na fydd hyn yn datblygu i fod yn duedd. Hefyd, ar hyn o bryd, ni chynigir prawf sgrinio i unrhyw un dros 75 oed. Ac mae gennyf etholwr sydd wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â hyn oherwydd ei fod wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Maent yn cyrraedd 75 oed ac yna ni allant gael y pecynnau sgrinio, ac rwy'n credu y dylid adolygu'r elfen hon o'r rhaglen sgrinio.

14:35

Rwy'n cydnabod y pryder. Mae hyn yn rhan o'r dewis anodd a'r her wrth wneud penderfyniadau. Fel pob gwlad yn y DU, fe'n cynghorir gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, ac mae hwnnw'n argymell sgrinio rheolaidd hyd at 74 oed. Yn ddiweddar, mae Pwyllgor Sgrinio Cymru wedi bod yn ystyried a ddylid cynnig prawf sgrinio'r coluddyn i bobl sy'n hunanatgyfeirio dros 74 oed mewn gwirionedd, ond eu hargymhelliad i ni yw nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi gwneud hynny; nid yw'r safbwynt wedi newid. Rhan o'n her ni, fel bob amser, yw lle mae gennym yr effaith fwyaf ar iechyd, ac mae hynny'n anodd oherwydd bydd amgylchiadau unigol yn codi lle mae pobl yn dweud, 'Hoffwn pe bai dewis gwahanol yn cael ei wneud gan y system gyfan.' Rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno'r prawf newydd a gwell i'r boblogaeth sydd gennym ar hyn o bryd, a chynyddu nifer y rhai sy'n manteisio arno mewn gwirionedd. Y newyddion cadarnhaol yw bod cynlluniau peilot y prawf newydd wedi dangos cynnydd yn nifer y rhai sy'n manteisio arno yn yr ardaloedd peilot hynny. Felly, rwy'n edrych am welliant sylweddol wrth i ni gyflwyno'r prawf newydd, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor gorau sydd ar gael. Ac os yw'n newid, yna byddaf yn hapus i ystyried newid y dewis y mae'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei wneud.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn nifer y rhai sy'n manteisio ar y prawf sgrinio, oherwydd mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol newydd yn amlwg yn fwy sensitif ac yn brawf gwell. Ond mae dau beth yn codi. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at eich gweld yn ystyried edrych ar rai 50 i 60 oed, oherwydd nid yw'r oedran hwnnw wedi'i dderbyn, ond mae'n bosibl y bydd unigolion sydd â hanes teuluol yn gwneud hynny, ac mae'n bosibl y byddwch eisiau arbenigo ynddo. Ond mae'r mathau hynny o bethau'n golygu mwy o atgyfeiriadau, ac os ydych yn gwneud y prawf imiwnocemegol ysgarthol, sy'n fwy sensitif na'r prawf a gynigir ar hyn o bryd, bydd gennych fwy o atgyfeiriadau yn bendant ac mae gennym broblem gydag endosgopi a nyrsys a meddygon yn y maes hwnnw—mae gennym broblem gyda diagnosteg. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem honno fel y gallwn sicrhau, os cawn fwy o atgyfeiriadau, y byddant yn cael eu gweld yr un mor gyflym neu'n gyflymach nag ar hyn o bryd?

Rwy'n cydnabod y mater y mae David Rees yn ei godi mewn perthynas â'r ddau bwynt, y ffaith nad ydym yn cynnig y prawf ar gyfer pobl sydd rhwng 50 a 59 oed ar hyn o bryd—. Ac unwaith eto, mae ein huchelgais yn glir: rydym eisiau gallu gwneud hynny. Ond mewn gwirionedd, pan ydym yn gweld gostyngiad yn nifer y rhai sy'n manteisio ar y prawf sgrinio yn y boblogaeth rydym yn darparu sgrinio ar ei chyfer ar hyn o bryd, yr her yw ein bod angen gwell dealltwriaeth o sut y gallwn weithredu'r prawf hwnnw'n fwy llwyddiannus gan fod gennym uchelgais wedyn i'w gyflwyno i'r grŵp oedran iau hefyd, sy'n unol â'r cyngor rydym wedi'i gael. Felly, rydym wedi cael ein cynghori i beidio â chyflwyno'r prawf ar gyfer unigolion dros 75 oed. Rydym wedi cael ein cynghori i gyrraedd sefyllfa lle y gallwn gyflwyno'r prawf, gyda nifer llwyddiannus yn manteisio arno, i bobl rhwng 50 a 59 oed.

Ar eich ail bwynt ynglŷn â diagnosteg, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar leihau amseroedd aros diagnostig yn fwy cyffredinol mewn gwirionedd, ond rydym yn cydnabod y byddwn, gyda'r prawf newydd, yn disgwyl mwy o alw. Dyna pam fod byrddau iechyd wedi bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau endosgopi dros nifer o flynyddoedd, ac rydym hefyd yn disgwyl gweld y grŵp gweithredu endosgopi yn cyflwyno mwy o gynlluniau a chynigion ar wella effeithlonrwydd, ansawdd a chapasiti yn y gwasanaethau hynny—nid yn unig yn y maes hwn, ond capasiti diagnostig yn fwy cyffredinol.

Yr wythnos diwethaf, cafwyd cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar ganser, lle roeddem yn edrych ar y gweithlu diagnostig yng Nghymru, a chafodd y mater a gododd David Rees sylw mawr, ynglŷn â diffyg nyrsys endosgopi, gyda chyfradd swyddi gwag o 11 y cant. Gyda'r dystiolaeth a roddwyd hefyd ynglŷn â nyrsys yn gadael i fynd i weithio i gwmnïau preifat, roeddwn yn meddwl tybed beth arall y gallai'r Llywodraeth ei wneud i geisio sicrhau ein bod yn llwyddo i gadw'r nyrsys hyn, sy'n amlwg yn hanfodol os ydym am ddatblygu ein rhaglen sgrinio yn y ffordd y mae wedi'i ddisgrifio.

Wel, mae yna ddau bwynt. Mae un yn ymwneud â'r hyn a wnawn i gadw ein gweithlu cyfredol yn y dyfodol, ac mae'r ail yn ymwneud â'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol, o ran cynyddu ein capasiti a gallu sicrhau bod y niferoedd sy'n cael hyfforddiant yn cyfateb i'r capasiti hwnnw yn y dyfodol. A dyna'r gwaith y mae'r Llywodraeth eisoes yn ei wneud. Siaradais am y mater hwn mewn cyfarfod o Gynghrair Canser Cymru ddechrau'r wythnos hon mewn gwirionedd. Roeddent yn lleisio pryderon a godwyd ganddynt yn y grŵp trawsbleidiol, felly rwy'n cydnabod y broblem sy'n bodoli, fel y dywedais yn fy ateb i David Rees. Bydd angen i ni gamu ymlaen yng nghyfnod nesaf ein proses gynllunio—ac mae gwaith Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn rhan o hyn o ran deall beth sydd angen i ni ei wneud i gynllunio ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gwneud yn siŵr fod yr amgylchedd gwaith cyfredol yn un lle y byddwn yn cadw mwy a mwy o'n staff ac wrth gwrs, ein profiad yn y maes gwaith hwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

14:40

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, mae Lloegr a'r Alban yn cyhoeddi data yn gyson ar lawdriniaethau sy'n cael eu canslo. A oes yna rheswm pam nad ydych chi'n gwneud hynny ar gyfer Cymru?

Nid ydym yn eu cyhoeddi'n rheolaidd—rydym yn ateb ymatebion i gyhoeddi llawdriniaethau sy'n cael eu canslo. Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i ychwanegu at ystadegau swyddogol ar y mater hwn oni bai bod yna achos cryf dros wneud hynny. Rwy'n hapus i wrando ar yr achos hwnnw fel y bydd yn cael ei wneud.

Mae o'n rhywbeth sydd yn poeni fy etholwyr i. Ym mis Ionawr, mi wnaethoch chi ymddiheuro am lawdriniaethau yn cael eu canslo gan ddweud bryd hynny mai dyfodiad y gaeaf o rywle oedd ar fai, ond mae llawdriniaethau yn dal i gael eu canslo wythnos ar ôl wythnos. Rydw i wedi cael sawl etholwr yn dod i'm gweld i yn ddiweddar i sôn am driniaethau yn cael eu canslo, nid unwaith, nid dwywaith, nid dair gwaith, ond mwy na hynny. Mi oedd yna un gŵr yn dechrau gweld arwyddion o broblemau iechyd meddwl yn ei wraig oherwydd y straen o orfod cael triniaethau wedi'u canslo dro ar ôl tro. Y cwestiwn ydy: beth ydym ni'n ei wneud am hyn? A oes yna le i gyflwyno cymhellion ariannol er mwyn i fyrddau iechyd beidio â chanslo? A oes yna le i roi iawndal i gleifion hyd yn oed neu beth am drio sicrhau bod triniaethau ddim yn cael eu canslo dro ar ôl tro efallai?

Rwy'n cydnabod bod hwn yn fater sy'n peri gofid ac anghyfleustra sylweddol i unrhyw glaf a'i deulu pan fo llawdriniaeth yn cael ei chanslo, boed yn llawdriniaeth fechan neu'n un fwy sylweddol. Mae her mewn perthynas â materion unigol, ac os yw eisiau cysylltu â mi gyda'r amgylchiadau arbennig y mae wedi cyfeirio atynt, yna byddaf yn hapus i'w codi gyda'r bwrdd iechyd mewn perthynas â'r rhesymau am hynny. Yn ogystal â'r adegau hynny lle y ceir materion unigol, mae yna heriau system gyfan rydym yn eu cydnabod ac mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r llawdriniaethau a gaiff eu gohirio yn cael eu gohirio gan yr unigolyn dan sylw yn hytrach na chan y gwasanaeth iechyd. Ein hymgais yw ceisio deall pam fod hynny'n digwydd ac atal y llawdriniaethau hynny rhag cael eu canslo, boed hynny gan y dinesydd neu gan y gwasanaeth. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, ar hynny, fy mod ychydig yn fwy amheus ynglŷn â gwerth mentrau ariannol neu sancsiynau i wneud hynny o ran yr effaith y bydd hynny'n ei chael ar y system, oherwydd, pan fo'r gwasanaeth iechyd yn canslo llawdriniaeth, y rheswm pennaf am hynny yw oherwydd nad oes ganddynt y capasiti i'w wneud ac mae hynny'n aml yn ymwneud â'r ffaith bod gormod o ofal heb ei drefnu yn llifo i'r system gofal sylfaenol neu oherwydd diffyg argaeledd staff heb ei ragweld. Nid wyf yn credu y byddai cymhellion ariannol neu sancsiynau yn helpu hynny o reidrwydd. Fodd bynnag, rwy'n credu bod ein gallu i gynllunio a darparu ar draws y gwasanaeth yn bwysicach. Dyna pam rydym wedi dod â fforymau cynllunio rhanbarthol yn ne-ddwyrain Cymru, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru at ei gilydd, a pham ein bod yn parhau i gefnogi'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru, nid yn unig er mwyn cyflawni gwelliant sylweddol mewn amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth erbyn diwedd y flwyddyn ariannol sydd newydd ddod i ben, ond byddant hefyd yn parhau i dderbyn cymorth ar gyfer y dyfodol.

Rydych yn sôn am gleifion yn canslo eu llawdriniaethau eu hunain, ac mae'n rhywbeth rydym yn ei glywed gennych chi a'ch Llywodraeth yn weddol aml, mai bai y claf yn aml yw'r ffaith ei fod yn dod i'r ysbyty pan na ddylai ac am fod yn sâl, efallai, pan na ddylent. Gallaf rannu straeon â chi am bobl y cafodd eu llawdriniaethau eu canslo pan oeddent ar y troli wrth ddrws y theatr, ac nid am y tro cyntaf—am yr ail, am y trydydd tro. Ni allwn barhau i feio'r claf am ddilyn y llwybr anghywir. Gwyddom fod llawdriniaethau'n cael eu canslo am bob math o wahanol resymau, ac wrth gwrs, mae rhai cleifion yn canslo eu triniaethau eu hunain. Gwyddom fod yna broblemau gweinyddol—llawdriniaethau'n cael eu trefnu ar gyfer adegau pan fo clinigwyr ar wyliau. Ni ddylai ddigwydd, ond iawn, mae'n digwydd o bryd i'w gilydd. Gwyddom fod gennym brinder staff. Nid wyf am sôn am hynny heddiw—bydd gennyf ddigon o gyfle i ddod yn ôl at hynny. Ond yn aml iawn, gwraidd y rheswm pam fod llawdriniaeth yn cael ei chanslo yw bod gwely ar goll yn rhywle yn y system. Rydym wedi colli 1,000 o welyau ers 2011, naill ai mewn ysbytai cyffredinol dosbarth neu mewn ysbytai cymunedol. Ac oes, mae angen i ni sicrhau bod cleifion yn  dychwelyd adref i'w man preswyl arferol mor gyflym ag y gallwn, ond rwy'n gwbl argyhoeddedig fod colli gwelyau cymunedol yn costio'n ddrud iawn i'n GIG, ac yn costio'n ddrud iawn i'n cleifion. A wnewch chi gytuno â mi fod yr amser wedi dod i adfer gwelyau cymunedol a gollwyd? Oherwydd, fel arall, yr hyn y byddwn yn ei weld fydd cleifion yn cael eu dal mewn system a llawdriniaethau'n cael eu canslo dro ar ôl tro a'r effaith andwyol y mae hynny'n ei gael ar gleifion, nid yn unig yn y tymor byr, ond yn y tymor hir hefyd.

Diolch i chi am y cwestiwn dilynol. Rwy'n credu ei bod yn hynod anffodus eich bod yn gwyrdroi fy ngeiriau'n llwyr. Nid wyf yn beio'r cleifion am fod yn sâl na'n anghyfleus i'r gwasanaeth iechyd. Mae'n ffaith, fodd bynnag, fod dros hanner y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo yn cael eu canslo gan y claf. Mae angen deall pam fod hynny'n digwydd, er mwyn deall sut y gallwn helpu cleifion i gynllunio'r hyn y maent eisiau ei wneud ac i ddeall yr effaith ar y gwasanaeth. Yn ogystal â hynny, mae angen i ni ymdrin â'r materion sydd o fewn rheolaeth y gwasanaeth hefyd. Credaf fy mod yn eithaf clir yn nodi hynny, yn ysgrifenedig ac ar bob achlysur pan fo cwestiynau'n cael eu gofyn. Mae rhan o hynny yn ymwneud â'r her mewn perthynas â gwelyau mewn gwirionedd, ac nid niferoedd y gwelyau yn unig ond niferoedd y staff sydd eu hangen i staffio'r gwelyau, ond hefyd cymysgedd y gwelyau a lle mae, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â chael gwelyau priodol ar gyfer gofal cam-i-fyny cam-i-lawr drwy'r system ysbyty, a gallai hynny ymwneud â'r ffocws adsefydlu i gael pobl allan o ysbyty acíwt.

Ond rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn effeithlonrwydd drwy'r gwasanaeth eisoes. Mae cynnydd sylweddol mewn cyfraddau llawdriniaethau dydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Dyna pam ein bod yn gallu bod yn fwy effeithlon wrth ymgymryd â mwy o lawdriniaethau nag erioed o'r blaen mewn gwirionedd. Ond yn benodol, mae'n ymwneud â chynllunio'r gweithgarwch hwnnw drwy gydol y flwyddyn. Mae rhan o'r her honno'n ymwneud â'r ffaith ein bod, a bod yn onest, yn ystod chwarter olaf pob blwyddyn—o fis Ionawr i fis Mawrth—yn cynllunio gormod o weithgarwch. Nid ydym yn gallu rhoi mwy o bwyslais ymlaen llaw ar y gweithgarwch hwnnw drwy'r gwanwyn a'r haf, ac mae hynny'n rhan o'r her a osodais ar gyfer y gwasanaeth iechyd eleni eto: cyflawni hyd yn oed mwy o'r gweithgarwch hwnnw y gellir ei gynllunio a'i gyflawni yn ystod misoedd yr haf. Mae ceisio cyflawni'r rhan fwyaf o weithgarwch rhwng mis Ionawr a mis Mawrth yn amlwg yn creu risg, a gwelsom hynny eleni, lle y cafwyd digwyddiadau tywydd sylweddol, ac mae hynny wedi effeithio, nid yn unig ar y gofal heb ei drefnu o fewn y system, ond ar y gofal wedi'i gynllunio yn ogystal. Mae hynny'n sicr yn rhan o'n her. Mae'r gwasanaeth iechyd yn deall hynny, ac rwy'n deall hynny, ac rwy'n disgwyl gweld gwelliant sylweddol o fewn chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol newydd hon.

14:45

Diolch, Lywydd. I'r Gweinidog, y cwestiynau hyn, rwy'n credu. Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd eich rhagflaenydd wrthym fod y strategaeth gofalwyr yn cael ei hadnewyddu a,

'Bydd hynny'n digwydd yn ddiweddarach eleni',

a oedd, wrth gwrs, yn golygu 2016. Mae bellach yn 2018, a strategaeth gofalwyr 2013 yw'r strategaeth ddiweddaraf ar gyfer Cymru, ac, mewn datganiad ysgrifenedig y llynedd, roeddech yn dal i gyfeirio at y strategaeth fel strategaeth 2013-16. Rwy'n gwybod am eich grŵp cynghori'r Gweinidog, ond credaf ei bod yn syndod fod newid Gweinidog i'w weld wedi rhwystro'r broses o gyhoeddi'r strategaeth a oedd, yn ôl pob golwg, bron iawn yn barod i'w chyhoeddi. A allwch ddweud wrthym beth sydd wedi digwydd, os gwelwch yn dda?

Gallaf, yn wir. Diolch i chi am y cwestiwn, Suzy. Nid yw'n wir, mewn gwirionedd, fod y broses o adnewyddu ac adolygu'r strategaeth wedi'i rhwystro. Mae ar y gweill, ond nid ydym yn aros am hynny ychwaith. Rydym yn bwrw ati ar amrywiaeth o faterion mewn perthynas â gofalwyr, ac nid ydym ychwaith yn aros i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr ei wneud hefyd. Cyfeiriaf yn ôl at y datganiad a wneuthum yn flaenorol yma yn y Cynulliad. Felly, er enghraifft, rydym newydd lansio'r pecyn cymorth i ysgolion ar adnabod gofalwyr. Felly, mae gwaith aruthrol yn cael ei wneud, ac mae'n canolbwyntio ar adnabod, darparu cyngor a chymorth ar gyfer y gofalwyr hynny, gan gynnwys mewn perthynas â seibiant—a seibiant hyblyg yn ogystal—ond mae hefyd yn canolbwyntio ar ddod â'r trydydd sector, yr awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sy'n gallu darparu'r gwasanaeth hollgynhwysol hwnnw ar gyfer gofalwyr at ei gilydd. Ond y peth allweddol yw ein bod yn bwrw ymlaen â hynny tra ein bod hefyd yn ceisio adnewyddu ac adolygu'r strategaeth honno. Mae strategaethau yn wych, ac mae angen eu hadnewyddu a'u hadolygu. Mae angen i ni hefyd fwrw ymlaen â'r camau gweithredu go iawn a fydd yn cyflawni'r canlyniadau cywir i ofalwyr yn ogystal.

Diolch i chi, Weinidog. Rwyf bob amser yn hapus i groesawu gweithredu, cyhyd â bod y gweithredu hwnnw'n digwydd ac yn effeithiol, gawn ni ddweud. Nid wyf yn credu bod eich ateb wedi egluro'n hollol yr hyn sydd wedi digwydd yn y 18 mis diwethaf, o ran beth a ddigwyddodd i strategaeth a oedd bron yn barod. Efallai y caf symud ymlaen at rai o'r pwyntiau eraill y mae gofalwyr wedi'u codi mewn cyfarfodydd, ac mae un ohonynt yn ymwneud â'r amrywio a welir rhwng dealltwriaeth gwahanol awdurdodau lleol o hawliau gofalwyr, ac mewn rhai adrannau o fewn awdurdodau lleol mewn gwirionedd. A allwch egluro pwy sy'n gyfrifol am sicrhau cysondeb asesu mewn gwahanol gynghorau, a pham fod hon yn broblem barhaus?

Credaf eich bod yn gywir i nodi mater sy'n dilyn ymlaen o'r dull rydym wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â chydgynhyrchu, a gefnogir gan yr holl Aelodau yma, sef y dylai asesu anghenion gofalwyr fod yn rhywbeth rydym yn gweithio arno mewn cydweithrediad â'r unigolyn sy'n chwilio am y pecyn gofal cywir—y pecyn priodol o gymorth a chyngor ar eu cyfer hwy—ond mae ganddynt hefyd hawl i eiriolaeth yn ogystal, wrth gwrs, a hawl i leisio barn os nad ydynt yn credu bod y pecyn priodol wedi cael ei ddarparu ar eu cyfer. Mae pob un o'r pethau hynny yno o ran y ddeddfwriaeth, ond o ran y codau yn ogystal.

Nawr, os ydych eisiau tynnu fy sylw at enghreifftiau penodol, Suzy, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Wrth gwrs, bydd amrywio yn y ffordd y gwneir hyn rhwng awdurdodau lleol, ond ein disgwyliad ni fel Llywodraeth Cymru yw bod y ffocws cyfan ym mhob achos unigol ar sicrhau bod hyn yn cael ei wneud gyda'r unigolyn er mwyn gallu darparu'r pecyn cymorth cywir ar eu cyfer fel gofalwyr, ac os nad ydynt yn fodlon â hynny, yna gallant droi at eiriolaeth, mae ganddynt hawl i herio'r pecyn a gyflwynwyd iddynt. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gwaith aruthrol yn cael ei wneud ar lawr gwlad hefyd gan bobl megis Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, ac rwy'n cyfarfod â hwy'n rheolaidd ac yn codi'r materion hyn ar ran unigolion nad ydynt yn hapus gyda'r pecyn.

Mae'r cefndir i hyn yn ogystal, mae'n rhaid i mi ddweud, sef y cyd-destun—wrth greu'r pecyn cymorth a chyngor priodol, gan gynnwys cymorth gofal seibiant ar gyfer gofalwyr, rydym yn gwneud hynny yn y cyd-destun rydym ynddo. Fe welwch awdurdodau lleol yn y rhanbarth y mae'r Aelod yn ei gynrychioli yn dweud hefyd, 'Yn ddelfrydol, byddem yn hoffi cynnig rhywbeth mwy gwerthfawr, dyfnach, ehangach i'r unigolyn hwnnw. Ni allwn wneud hynny oherwydd y toriadau mewn awdurdodau lleol', a dyna yw realiti rhai o'r penderfyniadau a wneir mewn modd cydgynhyrchiol. Mae'n iawn ei wneud mewn modd cydgynhyrchiol, ond pan fydd awdurdod lleol yn dweud, 'Wel, oherwydd y cyfyngiadau ariannol rydym yn eu hwynebu, o ganlyniad i'n sefyllfa gyda chyllid cyni, ni allwn ddarparu'r holl wasanaethau roeddem eisiau eu darparu', mae hynny'n effeithio ar yr unigolyn yn y pen draw. Mae'n drasiedi pan fyddwn yn gweld hynny'n digwydd, ac fe'i gwelais yn digwydd pan gyfarfûm â gofalwyr ifanc yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar; roeddent yn hoffi'r dull rydym wedi ei fabwysiadu mewn perthynas â hyn, roeddent yn hoffi'r ffaith bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn awr yn fwy nag erioed, ond roeddent yn teimlo'n rhwystredig pan oeddent yn clywed pobl yn eu hardal leol yn dweud, gyda'r ewyllys gorau yn y byd, 'Wel, y clwb dydd, y noson allan, beth bynnag—nid yw ar gael mwyach. Bydd yn rhaid i ni edrych ar rywbeth arall'.

Felly, mae'n rhaid i ni ymgodymu â hyn drwy'r amser, o ran sut rydym yn creu'r pecyn cywir. Ond mae ganddynt eiriolaeth, mae ganddynt hawl i benderfynu ar y cyd a ddylid cyflwyno'r pecyn hwn, a chredaf mai dyna'r fframwaith deddfwriaethol priodol i'w roi ar waith.

14:50

Diolch i chi am yr ateb. Ni allaf ddweud fy mod yn arbennig o fodlon â'ch ymateb y gallai cydgynhyrchu fod yn gyfrifol am yr amrywio yn y ddarpariaeth, oherwydd rydym i gyd yn cytuno, wrth gwrs, os nad ydym yn canolbwyntio ar y claf, yna ni fydd unrhyw strategaeth yn gweithio. Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud ag asesiadau, a safon a chysondeb yr asesiadau hynny, ac nid wyf yn credu eich bod wedi ateb hynny. Credaf fod pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, o ran rhoi hawliau i bobl, fod y modd y caiff yr hawliau hynny eu gweithredu yn eithaf ysbeidiol ac yn amrywiol tu hwnt mewn amryw o ardaloedd ledled Cymru.

Fe sonioch am y gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Efallai y byddwch yn gwybod fy mod yn cefnogi'r egwyddor a nodwyd yn y ddeiseb honno, i helpu gofalwyr sy'n oedolion ifanc i fanteisio mwy ar addysg a phrentisiaethau ôl-16 heb ddatgymhelliad ariannol diangen. Rwy'n credu, ar y cyd â chynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth rad ac am ddim neu am bris gostyngol, nad yw'n dibynnu ar ailwladoli unrhyw fysiau, fod hwn yn bolisi newydd wedi'i dargedu at helpu gofalwyr sy'n oedolion ifanc i sicrhau dyfodol ochr yn ochr â gofalu neu ar ôl gofalu.

Mae'n rhaid eich bod wedi cael canlyniadau'r asesiad o strategaeth 2013-16 erbyn hyn. Beth yw'r canfyddiadau ar gyfer bodloni anghenion addysg a chyflogaeth gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn y strategaeth honno?

Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at Suzy gyda manylion y canlyniadau hynny, ond hefyd y strategaethau ehangach yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy ar gyfer cyflogadwyedd. Ond wrth gwrs, mae yna hefyd amrywiaeth eang o fesurau cymorth eraill y gallwn eu rhoi ar waith ar gyfer gofalwyr sy'n oedolion ifanc, a gwn y bydd yn ymuno â mi—ac rwy'n hapus i ysgrifennu ati ar y mater penodol hwnnw—i groesawu'r ffaith bod nifer o awdurdodau lleol bellach yn darparu esemptiad treth i ofalwyr yn ogystal.

Felly, rwy'n hapus i ysgrifennu ati ar y mater penodol hwnnw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi ar hynny, ond rwyf hefyd yn hapus, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n cefnogi'r ffaith, y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr yn ceisio bwrw ymlaen â llawer o'r materion hyn yn awr a datblygu ffrydiau gwaith o'u hamgylch.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru 2016-17, mae gordewdra yn waeth yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ystyrir bod 59 y cant o oedolion dros bwysau, a bod 26 y cant o blant sy'n dechrau yn yr ysgol gynradd yn ordew neu dros bwysau. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant yng Nghymru, ac yn enwedig yn y rhanbarthau o Gymru sy'n ddifreintiedig yn economaidd, megis fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru?

Mae gennym amrywiaeth o fesurau ar waith eisoes, er enghraifft y rhwydwaith ysgolion iach, y 10 cam i bwysau iach, ac yn wir, y filltir ddyddiol a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog iechyd y cyhoedd. Mae amrywiaeth o bethau rydym eisoes yn eu gwneud i gymell mwy o weithgarwch corfforol, mwy o ymwybyddiaeth o ymddygiad iechyd, gan gynnwys deiet wrth gwrs, ond rydym hefyd yn edrych ar y strategaeth ordewdra, a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn rhan o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac rwy'n edrych ymlaen, cyn yr haf, i adrodd yn ôl yn ffurfiol i'r lle hwn ar y camau rydym yn eu cymryd i ddatblygu ymgynghoriad ar ddyfodol y strategaeth honno.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n destun pryder fod gwaith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Southampton wedi dangos mai 15 y cant yn unig o ysgolion sy'n darparu dwy awr o ymarfer corff bob wythnos ar gyfer plant rhwng saith ac 11 mlwydd oed, ac mae rhai'n teimlo y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu ag ysgolion, maethegwyr a rhieni i wrthdroi'r cynnydd mewn gordewdra ymhlith plant ac mai'r ymgysylltiad hwn yw'r ateb, o bosibl, i ddatrys yr argyfwng gordewdra yng Nghymru.

14:55

Mae amrywiaeth o fesurau yma, ac mewn gwirionedd, wrth feddwl am yr heriau sy'n ein hwynebu, mae hyn yn rhan o'r heriau cyffredinol a wynebwn gydag ystod o ganlyniadau iechyd y cyhoedd: ysmygu, yfed alcohol, deiet ac ymarfer corff, ac yn arbennig deiet ac ymarfer corff pan fo'n cyfeirio at ordewdra, ond alcohol hefyd. O ran rôl ysgolion, nid yw'n ymwneud yn unig â'r plant pan fyddant yn yr ysgol wrth gwrs, ond mae hynny'n rhan sylweddol ohono, a dyna pam rwy'n falch iawn o fod yn parhau i weithio gyda fy nghyd-Aelod cabinet, yr Ysgrifennydd addysg, ar ddiwygio'r cwricwlwm yn ogystal â'r maes iechyd a llesiant ynghylch ymddygiad yr ydym eisiau i blant ei ystyried tra'u bod yn yr ysgol.

Ond mae yna bwynt ehangach ynglŷn â'r teulu a'r gymuned lle mae plant yn byw mewn gwirionedd, a'r hyn a ystyrir yn ymddygiadau disgwyliedig o fewn y teulu a'r dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud, yn ogystal ag annog pobl i newid y ffordd y maent yn darparu bwyd wrth gwrs. Felly, mae'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd, er enghraifft, i leihau siwgr mewn diodydd, i'w croesawu. Buaswn yn hoffi gweld gweithgynhyrchwyr bwyd yn cymryd mwy o gamau tebyg. Rwy'n meddwl am y cynnwys braster a materion eraill hefyd, ond ni allwn ei weld ond fel un rhan yn unig o hyn. Dyna pam fy mod yn gweld y plentyn yn ei gyd-destun, y teulu yn ei gyd-destun, ac mae angen i'n helfen ordewdra feddwl yn ofalus ynglŷn â sut y mae'n mynd i'r afael â phob un o'r rheini, y dulliau sydd ar gael i'r Llywodraeth, a'r partneriaid y mae angen i ni weithio gyda hwy i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd y cyhoedd yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol clywed bod ymgysylltu â theuluoedd yn flaenoriaeth i chi, a buaswn hefyd yn hoffi pe baech yn archwilio ffyrdd o gynyddu'r ystod o weithgareddau allgyrsiol. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith yn y maes hwn. Mae 48 y cant o'r disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11 yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wedi'i drefnu. Hoffwn dynnu sylw at lwyddiant Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad. Mae'n rhaid i ni annog pob plentyn i fod mor heini ag y gallant, ac annog plant sy'n rhagori mewn chwaraeon ar yr un pryd. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y 52 y cant o blant nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau corfforol, tra'u bod hefyd, ar yr un pryd, yn annog ac yn cynorthwyo'r clybiau chwaraeon lleol sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol ynghyd ag unigolion sydd â thalent ond nad oes ganddynt yr arian angenrheidiol i ragori yn eu camp?

Rwyf am geisio gwneud tri phwynt penodol. O ran chwaraeon wedi'u trefnu, boed yn chwaraeon elitaidd ai peidio, a'r rôl y gallant ei chwarae mewn perthynas â modelau rôl, heb fod yn gyfyngedig i broffil yn y cyfryngau, ond bod yn weithredol ac ymgysylltu o fewn eu cymuned, a'i rôl gysylltiedig â chwaraeon cymunedol—. Mewn gwaith a wneuthum o'r blaen gyda Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog iechyd y cyhoedd—gwaith rwy'n bwriadu ei ailadrodd ac ymgymryd ag ef gyda fy nghyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas—rwy'n edrych ar gyfraniad parhaus chwaraeon wedi'u trefnu i weithgarwch corfforol ehangach, ac mae'r rôl y mae cyrff llywodraethu yn ei chwarae a'r rôl y mae sefydliadau chwaraeon arwyddocaol ac elitaidd yn ei chwarae yn hybu ymgysylltiad cymunedol yn rhan o'r hyn rydym yn ei wneud. Gweithgarwch wedi'i drefnu yw hwnnw yn hytrach na chysylltiedig. Rwy'n edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth ar hynny.

O ran gweithgarwch corfforol, ac nid yw hyn, wrth gwrs, yn ymwneud yn unig â gweithgarwch o fewn yr ysgol, ond mae'n ymwneud â sut y mae pobl yn dewis byw eu bywydau a sut rydym yn annog ac yn galluogi hynny ac yn ei gwneud yn haws. Dyna pam fod teithio llesol yn bolisi arbennig o bwysig er mwyn normaleiddio cerdded neu feicio i'r ysgol, ac i normaleiddio cerdded neu feicio y tu hwnt i'r teithiau i ac o'r ysgol. A dyna hefyd pam rydym yn parhau i ariannu gweithgareddau fel rhaglen gyfoethogi gwyliau'r haf—gweithgarwch ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol, yn gysylltiedig â dysgu o fewn yr ysgol, a hefyd, yn bwysig, fel y dywedais ar y dechrau, yn gysylltiedig ag ymgysylltiad priodol â'r teulu cyfan, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol.

Recriwtio a Chadw Staff yn y GIG

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i recriwtio a chadw staff yn GIG Cymru? OAQ52018

Rydym yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd drwy ein hymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol lwyddiannus 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Mae byrddau iechyd yn defnyddio'r ymgyrch i recriwtio a chadw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda chanlyniadau cadarnhaol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r datblygiadau preswyl sylweddol sy'n digwydd o amgylch dinas Caerdydd, ac yn benodol, tynnaf eich sylw at y datblygiadau yng ngorllewin y ddinas, lle mae meddygfeydd a phractisau wedi cyflwyno hysbysiadau i ddweud nad ydynt yn gallu derbyn mwy o gleifion oherwydd nad ydynt wedi cael mwy o adnoddau i recriwtio ac yn bwysicach, i gadw staff er mwyn ateb y galw cynyddol yn sgil y tai newydd. A ydych yn cydnabod bod honno'n broblem yn y system o ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, a pha drafodaethau a gawsoch gyda'r bwrdd iechyd yn ardal Caerdydd a'r Fro i geisio mynd i'r afael â'r broblem adnoddau y mae datblygiadau newydd yng ngorllewin y ddinas yn ei chreu i feddygfeydd meddygon teulu?

15:00

Mae yna heriau mewn perthynas â thwf yn y boblogaeth lle mae'n bodoli, ac nid yn ardal Caerdydd yn unig y mae'n bodoli—er ei fod yn fwyaf amlwg yno—ond mae hefyd yn wir yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Rydym wedi gweld rhai ardaloedd lle y ceir twf yn y boblogaeth yno hefyd. Felly, mae yna her ehangach mewn perthynas â rheoli hynny. Mae rhywbeth ynglŷn â'r nifer o staff sydd gennym, ond hefyd y ffordd y trefnir y staff, ac felly bydd sut yr ydym yn trefnu gofal iechyd lleol yn bwysig, o ran niferoedd meddygon, ond gweithwyr proffesiynol eraill hefyd.

Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda'r bwrdd iechyd lleol, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod etholaeth, ond hefyd fel Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â sut y bydd pethau yn y dyfodol. Yr her wrth ddarparu adnoddau, fel bob amser, pan fyddwn yn rhoi adnoddau ychwanegol i un rhan o'r gwasanaeth iechyd, yw nad ydynt yn bodoli ar gyfer rhan arall. Mae honno hefyd yn her y mae'r Llywodraeth yn ei hwynebu pan fyddwn yn dyrannu ein cyllideb ar ôl wyth mlynedd o leihad yn y gyllideb mewn termau real. Ond mae bob amser angen i ni edrych ar sut y gallwn wneud defnydd mwy effeithiol o'r adnoddau sydd gennym ar hyn o bryd, yn ogystal â'r ymgyrch barhaus am fwy o adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod Dai Rees a fydd yn cyflwyno dadl fer yn ddiweddarach heddiw am effaith cyni, sy'n amlwg wrth wraidd cymaint o'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud. Felly, gan barhau â'r thema honno, Ysgrifennydd y Cabinet, er eich bod wedi llwyddo i ddiogelu bwrsariaethau nyrsio yng Nghymru, bwrsariaethau a dorrwyd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr—ac mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi gwneud sylwadau pwysig am hynny mewn dadl heddiw—a fyddech yn cytuno y gallasai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy eto dros nyrsio a staff rheng flaen y GIG, boed ym maes hyfforddi neu recriwtio, pe na baem wedi wynebu dros £1 biliwn o doriadau ers 2010? Ac a fyddech hefyd yn cytuno bod llawer ohonom yn y Siambr hon yn dechrau blino ar glywed meinciau'r Torïaid yn galw'n gyson am fwy o fuddsoddiad ym maes iechyd o gofio mai eu Llywodraeth hwy yn San Steffan sydd wedi dewis gwneud toriadau mor ddwfn yn ein cyllidebau? [Torri ar draws.]

Er gwaethaf sŵn y dicter o feinciau'r Torïaid, mae'r hyn a ddywed yr Aelod yn ddiymwad ac yn ffeithiol gywir. Mae angen i'r Aelodau Ceidwadol yn y lle hwn gydnabod eu bod wedi bod yn hyrwyddo cyni dros dri etholiad cyffredinol olynol. Dros dri etholiad cyffredinol olynol, rydych wedi bod yn hyrwyddo cyni. Ni allwch osgoi canlyniad anorfod y cyni hwnnw yn awr. Er gwaethaf wyth mlynedd o gyni Torïaidd, mae gennym y nifer uchaf erioed o staff yn y gwasanaeth iechyd, oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Er gwaethaf wyth mlynedd o gyni Torïaidd, mae gennym y nifer uchaf erioed o nyrsys cofrestredig, oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Bydd y Torïaid yn dadlau dros gyni, ni fyddant yn dadlau dros y gwasanaeth iechyd, ni fyddant yn dadlau dros setliad ariannu priodol i Gymru, oherwydd bod hynny er budd iddynt ac oherwydd ei fod yn obsesiwn ideolegol ganddynt. Ni fydd y Torïaid byth yn newid.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel sydd eisoes wedi cael sylw, amlygwyd pryderon ynghylch recriwtio staff gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser yr wythnos diwethaf. Nododd hefyd fod bandio staff mewn meysydd arbenigol yn is yng Nghymru nag yn Lloegr mewn gwirionedd. Mae rhai ym mand 6 yng Nghymru, tra bo'r rhai sydd yn y swydd gyfatebol yn Lloegr ym mand 7. Mae staff felly naill ai'n mudo i swyddi cyfatebol ar gyflogau gwell yn Lloegr neu ni fyddant yn dod i Gymru yn y lle cyntaf hyd yn oed. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau cydraddoldeb wrth fandio staff ar gyfer gwaith cyfatebol ledled y DU?

Mae'r rhain yn drafodaethau sy'n mynd rhagddynt gyda'n hundebau llafur fel cynrychiolwyr y gweithlu. Yn Lloegr, nodwyd amrywiaeth o fesurau yn y contract. Rwy'n falch o'r ffaith ein bod yn gwrando ac yn ymgysylltu â'n hundebau llafur fel cynrychiolwyr y gweithlu. Edrychaf ymlaen at gael sgwrs am amodau a thelerau Agenda ar gyfer Newid yn y dyfodol. Os cawn fwy o arian gan Drysorlys y DU o'r diwedd, yna gallwn gael sgwrs yma yng Nghymru gyda'n partneriaid ynglŷn â sut y gallwn ddyrannu'r arian hwnnw i staff gweithgar ein GIG a'r meysydd lle y credwn y bydd yn gwneud gwahaniaeth penodol i'r gwasanaeth a ddarperir a'r canlyniadau i bobl yma yng Nghymru.

Canser y Prostad

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis canser y prostad? OAQ52016

Disgwylir y bydd byrddau iechyd yn darparu gofal yn unol â chanllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal mewn perthynas ag atgyfeirio pan fo amheuaeth o ganser a diagnosis o ganser y brostad. Nodir ein dull o gynorthwyo a chefnogi byrddau iechyd yn y cynllun cyflawni canser ar gyfer Cymru.

Y mis diwethaf, gelwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sganio MRI amlbarametrig—neu mpMRI—ar gyfer cleifion y GIG yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Yn dilyn hynny, ysgrifenasoch at glaf yn dweud bod bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu sganiau mpMRI yn unol â chanllawiau cyfredol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer canser y prostad. Dywed y canllawiau y dylid ystyried MRI amlbarametrig

'ar gyfer dynion â biopsi craidd 10-12 uwchsain trawsrectol negyddol i benderfynu ar ba un a oes angen biopsi arall.'

Roedd un o'r dynion hynny roeddech yn ysgrifennu atynt yn un o lawer o ddynion sydd wedi cysylltu â mi yng ngogledd Cymru i ddweud na chawsant gynnig sgan mpMRI yn dilyn biopsi negyddol oni bai eu bod yn talu tua £1,000 i'w gael mewn ysbyty preifat. O gofio mai Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r unig ganolfan yng Nghymru a gymerodd ran yn astudiaeth PROMIS Cymru a Lloegr—astudiaeth ddelweddu MRI y prostad—a ganfu nad yw'r biopsi uwchsain trawsrectol poenus a gynigir gan Betsi Cadwaladr ond 47 y cant yn gywir, tra bo'r sgan mpMRI dros 90 y cant yn gywir, sut y sicrhewch fod dynion yng Nghymru yn cymryd rhan neu'n manteisio ar y prosiect ymchwil £75 miliwn a lansiwyd gan Brif Weinidog y DU, a fydd yn recriwtio 40,000 o ddynion i gymryd rhan mewn treialon i gael diagnosis a thriniaethau gwell ar gyfer y clefyd drwy ddefnyddio sganiau mpMRI?

15:05

Mae'r cynllun peilot rydych yn cyfeirio ato yn Lloegr yn gynllun peilot sydd ar waith yn Llundain yn unig, felly nid yw'n gynllun peilot cenedlaethol ar gyfer Lloegr yn gyfan beth bynnag. Mae gennym gynlluniau peilot ar waith yma yng Nghymru mewn amryw o fyrddau iechyd. Fel rwy'n dweud, byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth sy'n unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Disgwylir y bydd canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn cael eu diweddaru ym mis Ebrill 2019. Os oes gennym fwrdd wroleg Cymru—unwaith eto, ein clinigwyr yma yng Nghymru—os ydynt yn dod i gonsensws clinigol cyn hynny, gallwn wneud dewisiadau gwahanol ar draws y gwasanaeth, ond ar hyn o bryd, mae'r ddarpariaeth yn seiliedig ar dystiolaeth. Mewn gwirionedd, mae cyfradd foddhad cleifion canser y prostad yng Nghymru yn uchel. Rwy'n fodlon fod byrddau iechyd yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud, ond wrth gwrs, bydd gennym bob amser fwy i'w ddysgu o gynlluniau peilot ym mhob rhan o'r wlad, fel yn wir y bydd gan gynlluniau peilot yn ngogledd Cymru lawer i'w ddysgu i weddill y wlad mewn amryw o feysydd; er enghraifft, ym maes gwahanol y treial parafeddygol uwch yng ngogledd Cymru, lle bydd gwersi i'w dysgu i weddill y wlad o hynny. Mae'n hollol arferol i gael cynlluniau peilot ar gyfer dysgu ganddynt ac yna gwella'r gwasanaeth cyfan—dyna'n union a wnawn gyda chanser y prostad yn ogystal.

Mae'r hyn sydd newydd gael ei amlinellu mewn perthynas â Betsi Cadwaladr hefyd yn wir am Hywel Dda, ac mae gennyf etholwr sydd newydd gael ei hysbysu bod yn rhaid iddo dalu £1,000 am sgan MRI amlbarametrig. Y rheswm am hynny, fel y dywedwch, yw bod canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn sôn am sgan o'r fath yn dilyn biopsi, ond mae gennym fyrddau iechyd yng Nghymru—Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf ac Aneurin Bevan—sy'n cynnig y sganiau hyn fel adnodd diagnostig rheolaidd, fel sydd newydd gael ei amlinellu, gyda chyfraddau canfod gwell o tua 93 y cant, a llai o risg o waedu, haint a sepsis yn sgil defnyddio peth o'r offer mwy ymyrrol ar gyfer canser y prostad yn dilyn lefelau uchel o antigenau prostad-benodol.

Nid wyf yn deall—ysgrifennais atoch mewn perthynas â'r etholwr hwn—pam fod gennym loteri cod post o'r fath ar ddiagnosis canser y prostad yng Nghymru. Oes, mae gennym ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ond gofynion sylfaenol yw'r rheini. Gan fod gennym dri bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n cynnig mwy, does bosibl na ddylai pob un o'r byrddau iechyd hyn yng Nghymru gynnig mwy, oherwydd fel y dywedwch yn eich llythyr ataf, ceir tystiolaeth sy'n dangos bod hwn yn arfer da. Wel, os yw'n arfer da ac os oes tystiolaeth i'w gefnogi, cynigiwch ef i bawb ac i fy etholwyr i yn Hywel Dda yn ogystal.

Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i Mark Isherwood, mae yna gynlluniau peilot ar waith yng Nghymru. Os oes consensws clinigol newydd yn seiliedig ar dystiolaeth, yng Nghymru, gallwn gyflawni newid ar draws y system gyfan. Dyna ein sefyllfa ar hyn o bryd. Mae yna gynlluniau peilot yn y tri bwrdd iechyd a grybwyllwyd gennych. Mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny'n tyfu, a byddwn wedyn yn gallu dewis ar sail y dystiolaeth ac ar sail y cyngor clinigol gorau. Tan hynny, nid wyf yn credu y byddai unrhyw Weinidog iechyd yn dweud eu bod yn dymuno cyfarwyddo'r gwasanaeth iechyd i gynnig gwasanaeth nad yw'n seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau sydd ar gael.

Gwasanaethau Canser

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau canser yng Nghymru? OAQ52027

Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer canser yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru. Mae'n dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau a chanlyniadau canser. Cafodd y cynllun ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi ym mis Tachwedd 2017 a bydd yn mynd â ni hyd at 2020.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth fy etholwr, Mr Huw Thomas o Fargoed, dynnu fy sylw at fenter newydd ar gyfer trin canser sy'n cael ei chyflwyno gan GIG Lloegr, sef creu siopau un stop ar gyfer diagnosis canser gyda'r holl brofion angenrheidiol i wneud diagnosis o'r clefyd yn cael eu cyflawni mewn un ganolfan. Y nod yw cyflymu'r gwaith o adnabod mathau penodol o ganser. Deallaf fod dau gynllun peilot o'r fath yng Nghymru—efallai fy mod yn anghywir ynglŷn â hynny, ond dyna'r hyn a ddywedwyd wrthyf yr wythnos diwethaf. Rwy'n ymwybodol o'r ddogfen strategol gan Lywodraeth Cymru y cyfeirioch chi ati, ond nid yw'n sôn yn benodol am hynny. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro hynny a dweud wrthym a fyddai menter o'r fath o fudd yng Nghymru?

Ie, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r mater. Mewn rhai ffyrdd, mae'n tynnu sylw at sut y bydd cyhoeddiad a wneir yn Lloegr yn tynnu sylw ac yn cyrraedd y penawdau, ond yn aml ni fydd gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud cyn i Loegr ei wneud yn cael yr un sylw. Yn y maes hwn, rydym wedi bod yn edrych ar yr hyn a elwir gennym yn llwybr symptomau amwys, sef siop un stop i bob pwrpas, ac mae'r llwybrau hynny'n cael eu treialu ym mwrdd iechyd Cwm Taf a bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Cynllun peilot dwy flynedd ydyw. Rydym eisoes wedi cyflawni blwyddyn ohono. Ar ôl ail flwyddyn, byddwn yn cynnal gwerthusiad i ddeall ei effaith. Mae hyn yn rhan o waith y grŵp gweithredu ar ganser sy'n canolbwyntio ar adnabod canser yn gynharach. Mae'n deillio o waith a wnaed gan glinigwyr o Gymru a ymwelodd â Denmarc i ddeall yr hyn a wnaed yn fwy llwyddiannus yno ar adnabod canser yn gynnar. Felly, mae'n faes lle rydym, mewn gwirionedd, ar y blaen i'r cynllun peilot sydd ar waith yn Lloegr, ac rwy'n disgwyl cael canlyniadau yn gynharach na hynny. Yna, wrth gwrs, byddaf yn fwy na pharod i adrodd yn ôl i'r lle hwn a'r cyhoedd yn fwy cyffredinol ynglŷn â'r hyn rydym yn parhau i'w wneud i wella canlyniadau canser yma yng Nghymru.

15:10

Ysgrifennydd y Cabinet, mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn. Yn ôl adroddiad gan Bowel Cancer UK, mae cleifion mewn pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn aros yn rhy hir am brofion i wneud diagnosis o ganser y coluddyn, ac nid yw dros hanner y bobl sy'n gymwys am brofion sgrinio wedi'u cael. O gofio bod cyfraddau goroesi canser y coluddyn yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffyg capasiti yn ein hysbytai i ateb y galw sy'n bodoli ar hyn o bryd a chodi ymwybyddiaeth o'r angen am brofion sgrinio ymhlith grwpiau risg uwch yng Nghymru? Diolch.

Rydym wedi trafod y pwyntiau ar gapasiti staff mewn ateb i gwestiwn blaenorol ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill, am y ffaith bod ein capasiti diagnostig yn dangos cynnydd, a bod amseroedd aros i bobl yma yng Nghymru yn gwella. Rydym hefyd wedi trafod beth a wnawn i wella canlyniadau mewn ateb i'r cwestiwn a ofynnodd eich cyd-Aelod, David Melding. Rwy'n anelu i wella profion canser y coluddyn a chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y prawf sgrinio. Ac mewn gwirionedd, yr her fwyaf yw cael y cyhoedd i fanteisio ar y prawf sgrinio eu hunain. Dyna pam y bwriadwn gyflwyno prawf mwy effeithiol a mwy sensitif ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Felly, rydym eisoes yn rhoi camau ar waith a phan edrychwch ar ein cyfraddau o'u cymharu â gweddill y DU, rydym yn cymharu'n eithaf da o ran canlyniadau canser mewn gwirionedd. O ran amseroedd aros canser, gallasem gael sgwrs hir am y ffaith ein bod, yn gyffredinol, yn perfformio'n well yng Nghymru nag yn Lloegr mewn perthynas ag amseroedd aros canser ac mewn gwirionedd, mae ein cyfraddau goroesi uniongyrchol yn cymharu'n uniongyrchol â rhai Lloegr. O ystyried bod ganddynt boblogaeth fwy breintiedig a chyfoethocach yn gyffredinol, byddech yn disgwyl i'w canlyniadau fod yn well mewn gwirionedd.

Ond nid dweud ein bod yn cymharu'n dda â Lloegr a gweddill y DU yw'r her go iawn i ni; yr her go iawn i ni yma yng Nghymru yw bod pob gwlad yn y DU ar y pen anghywir i'r tabl goroesi ar draws Ewrop. Nid parhau i gynnal bwlch cadarnhaol â Lloegr yw ein huchelgais, ond gwneud yn llawer gwell fel bod mwy o bobl yn goroesi canser ar ôl blwyddyn a phum mlynedd, a phan edrychwn ar ein cymaryddion yn Ewrop, gallwn fod yn llawer hapusach ynglŷn â'n sefyllfa, cyn troi ein golygon at y cam nesaf o welliant.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ52043

Ar hyn o bryd, mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar ei gynigion i drawsnewid gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau ysbyty yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymgysylltu a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a lleisio barn wrth helpu i lunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol yn y rhanbarth.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddaf, wrth gwrs, yn cymryd rhan lawn, fel rwyf eisoes yn ei wneud, yn y sgwrs honno, ond credaf fod pobl gorllewin Cymru yn haeddu gofal iechyd rhagorol wedi'i ddarparu o fewn pellter rhesymol, ac mae hyn yn cynnwys y gofal iechyd gorau posibl, gan gynnwys gofal brys ac ysbytai addysgu. Mae Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn edrych ar ôl rhan ogleddol ardal Hywel Dda, ac ymddengys ei fod yn cael ei gadw fel ag y mae. Y cwestiwn yw: sut y gallwn gyflawni'r amcanion a'r uchelgeisiau hynny yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin?

Nawr, gwyddoch fod y dewisiadau a gyflwynwyd gan Hywel Dda yn cynnwys ysbyty newydd, o bosibl, yn yr ardal honno. Os ydym am gael sgwrs go iawn am chwyldroi ein gwelyau cymunedol, ein gwasanaethau iechyd meddwl a'n gwasanaethau ysbyty yng ngorllewin Cymru, mae angen i ni ddeall bod hwn yn ymgynghoriad go iawn yn seiliedig ar y ddealltwriaeth y gall hyn ddigwydd. Gan nad ydym wedi cael buddsoddiad mawr yn ysbytai gorllewin Cymru dros y 30 mlynedd diwethaf, golyga hynny y bydd ysbyty newydd yn ffordd bosibl o ddarparu gofal iechyd rhagorol. Felly, er mwyn sicrhau nad ymgynghoriad ffug yw hwn i guddio toriadau pellach, os yw canlyniad yr ymgynghoriad yn arwain at Hywel Dda yn argymell ysbyty newydd yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, a wnewch chi ymrwymo yn awr y byddwch chi fel Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Hywel Dda i wireddu'r uchelgais hwnnw?

Ni allaf ateb pob rhan o'r cwestiwn hwnnw, oherwydd, fel arall, rwyf mewn perygl o roi fy hun mewn sefyllfa o beidio â gallu gwneud penderfyniad ar ddiwedd yr ymgynghoriad. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud am ofal iechyd ym mhob rhan o Gymru yw bod pob cymuned yng Nghymru yn haeddu gofal iechyd rhagorol, ac rwy'n cytuno â chi fod pob cymuned yn haeddu gofal iechyd rhagorol. Fel bob amser, pan fyddwn yn sôn am ddyfodol gofal iechyd, mewn pwyllgorau rydym yn sôn am y ffaith bod angen i ofal sylfaenol a chymunedol wneud mwy o'n gweithgarwch a mwy gyda'n cyllideb ym maes gofal cymunedol sylfaenol, ac yna rydym yn treulio ein holl amser yn dadlau ynglŷn â'r rhwydwaith ysbytai. Pan gafodd ardal Gwent eu strategaeth Dyfodol Clinigol, hoffwn atgoffa'r Aelodau ei bod wedi cymryd peth amser i adeiladu cefnogaeth gan randdeiliaid ac i ddatblygu achos busnes ar gyfer ysbyty newydd yn rhan o hynny. Llwyddasant i gyflawni mewn amryw o feysydd ac yna gallasom weithio ochr yn ochr â hwy a darparu'r ysbyty newydd sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, sef ysbyty prifysgol y Faenor.

Yr hyn a ddywedwn am bob ardal yng Nghymru, yn hytrach nag unrhyw gynigion penodol, os oes cynigion a gynlluniwyd i gyflawni a bod cefnogaeth glinigol a thystiolaeth y byddant yn darparu system gofal iechyd well, yna, wrth gwrs, byddwn yn gweithio ochr yn ochr ag unrhyw sefydliad a phob sefydliad i geisio eu helpu i wneud hynny, o gofio gallu'r Llywodraeth i wneud hynny. Felly, byddwn yn meddwl yn gadarnhaol am bob ardal yng Nghymru pan fydd cynigion go iawn a sylweddol yn cael eu gwneud, ond ni allaf wneud sylwadau penodol ar botensial cynigion yn Hywel Dda, oherwydd mae'n gwbl bosibl y byddaf yn gorfod penderfynu ar y rheini yn y dyfodol agos.

15:15

Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y tri dewis yn yr ymgynghoriad hwn yn arwain at israddio ysbyty Llwynhelyg o ysbyty cyffredinol i ysbyty cymunedol, sy'n gwbl annerbyniol i'r bobl rwy'n eu cynrychioli. I'r bobl rwy'n eu cynrychioli, mae'r ymgynghoriad yn ddiwerth o gofio nad oes ganddynt ddewis yn y mater hwn o gwbl. Ni all hyn fod yn iawn. O dan yr amgylchiadau, rwy'n ymbil arnoch i ymyrryd yn y mater hwn a gorfodi'r bwrdd iechyd i gyflwyno cynigion sy'n deg i bobl Sir Benfro. A wnewch chi ymyrryd yn awr—'gwnaf' neu 'na wnaf'?

Rydym wedi bod yn glir iawn fod hwn yn ymgynghoriad cyhoeddus i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan ynddo. Rwyf hefyd wedi bod yn glir iawn fod angen arweinyddiaeth glinigol mewn perthynas ag unrhyw gynigion eraill, a dyna pam roedd hi'n bwysig fod clinigwyr yn cymryd rhan, nid yn unig mewn cyflwyniad a thrafodaeth gyda'r bwrdd, mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o'r drafodaeth gyda'r cyhoedd hefyd. Os wyf yn ymyrryd yn awr a dweud nad oes ots beth y mae'r clinigwyr eu hunain wedi'i ddweud mewn gwirionedd—nad oes ots beth a ddaw o'r ymgynghoriad cyhoeddus—ac y byddaf yn penderfynu hynny drostynt, bydd hynny, mewn gwirionedd, yn rhwystro arloesedd a chynnydd a diwygio gofal iechyd ym mhob rhan o'r wlad. Mae'n bwysig fod trafodaeth yn digwydd, mae'n bwysig i bobl ganolbwyntio ar ddarparu gofal iechyd gwell ac mae'n bwysig ein bod mewn sefyllfa fel gwlad i allu gwneud penderfyniadau anodd. Dyna'r her a osodwyd i ni gan yr arolwg seneddol. Mae'n dweud wrthym ar y naill law fod yna sylfaen dystiolaeth dda dros ddadlau y dylid darparu rhai gwasanaethau arbenigol mewn llai o ganolfannau ledled y wlad—bydd hynny'n golygu mwy o deithio i unrhyw gymuned—ond hefyd ein bod yn gallu darparu mwy o wasanaethau o fewn rhwydwaith ehangach o ofal iechyd cymunedol. Lle y caiff y cynigion hynny eu cyflwyno, lle y cytunir arnynt gyda strategaeth glinigol glir, bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i gyd-fynd â hynny. Os ydym am wneud hynny, os ydym am ateb yr her a osodwyd i ni, her a gafodd ei derbyn mewn egwyddor gan bawb yn yr arolwg seneddol, yna mae'n rhaid i ni allu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anodd ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth chwarae ei rhan fel yr un a fydd o bosibl yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn symud i gyfnod ymgynghori ac fe glywais yr hyn a ofynnodd fy nghyd-Aelod Simon Thomas, ac mae'n bosibl iawn y byddaf yn gofyn yr un cwestiwn yn y dyfodol agos, ond yr hyn sy'n fy mhoeni ar hyn o bryd yw bod pobl wedi cysylltu â mi i ddweud bod y cyfleoedd iddynt gymryd rhan yn y broses hon yn gyfyngedig, eu bod yn bell yn ddaearyddol o'r llefydd y gallai'r unigolion hynny fod yn byw ac ar adegau pan na fydd pobl yn gallu mynychu'r digwyddiadau cyhoeddus hyn o bosibl. Fy nghwestiwn i chi heddiw yw, a allech annog bwrdd iechyd Hywel Dda i ehangu'r cwmpas o ran amser a lleoliad daearyddol eu hymgynghoriadau cyhoeddus ar y cam hwn.

Rwy'n hapus i ymateb yn gadarnhaol a dweud y dylai Hywel Dda ymateb yn gadarnhaol i geisiadau am ymgysylltu cyhoeddus pellach. Mae sicrhau'r lefel uchaf bosibl o ymgysylltu cyhoeddus o fudd i bawb, nid yn unig ymgysylltiad â'r bwrdd iechyd ar lefel yr arweinyddiaeth, ond â chlinigwyr yn eu cymunedau lleol mewn gwirionedd, boed mewn ymarfer cyffredinol neu wasanaethau ysbyty neu wasanaethau cymunedol eraill, er mwyn sicrhau bod ymgysylltiad clinigol go iawn rhyngddynt a'i gilydd a chyda'r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Rwy'n fwy na pharod i ddweud y buaswn eisiau i Hywel Dda fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny i ymgysylltu gyda'r cyhoedd, gan gynnwys mewn lleoliadau ac ar adegau o'r dydd sy'n briodol gyfleus i bawb allu cymryd rhan a lleisio barn.

15:20
Gordewdra ymhlith Plant

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant? OAQ52041

Gwnaf. Byddwn yn ymgynghori ar strategaeth drawslywodraethol i atal a lleihau lefelau gordewdra yn ddiweddarach eleni. Bydd yn amlinellu'r camau angenrheidiol ar lefel Cymru a'r DU i ategu mesurau sydd eisoes yn bodoli fel Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ein rhaglen Plant Iach Cymru, ac, wrth gwrs, safonau maeth mewn ysgolion.

Diolch. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, bydd Llywodraeth Cymru yn cael tua £57 miliwn fel rhan o'r ardoll newydd ar ddiodydd meddal, a thestun pryder i mi oedd gweld cyn lleied o'r arian hwnnw a werir ar fesurau i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant, sy'n wahanol iawn i'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yng ngweddill y DU. Gwn fod yna gynlluniau da'n bodoli. Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi casglu llawer o dystiolaeth mewn perthynas â phethau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i blant a phobl ifanc, a gwn fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn siarad â swyddogion ynglŷn â chynllun atgyfeirio plant a phobl ifanc i wneud ymarfer corff yn ogystal â chynllun i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a fyddai'n sicrhau gwell defnydd o bethau fel cyfleusterau chwaraeon trydedd genhedlaeth yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar yr arian hwnnw'n ofalus i sicrhau ein bod defnyddio cyfran fwy ohono i fynd i'r afael â'r hyn sydd, mewn gwirionedd, yn un o heriau iechyd cyhoeddus mawr ein hoes? Diolch.

Rwy'n cydnabod bod hon yn her iechyd cyhoeddus fawr a sylweddol. Dyna pam ein bod eisoes wedi cymryd rhai o'r camau a wnaethom eisoes, ond mae'n ymwneud ag edrych ar beth a wnawn nesaf, a byddai gennyf ddiddordeb mawr yn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion oherwydd nid ydym wedi cymeradwyo ymgynghoriad ar ein strategaeth eto. Yna, byddaf yn pennu beth y dylai'r strategaeth fod a sut y byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i wireddu hynny, oherwydd rhan o'r her yn aml yw symud o'r strategaeth a'r bwriadau da y mae pawb, yn gyffredinol, yn eu cymeradwyo i sut rydym yn perswadio ac yn cymell aelodau penodol o'r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwahanol. Nid gwneud penderfyniadau afiach yn fwy anodd neu'n fwy drud yw hynny'n unig; mae'n ymwneud â gwneud penderfyniadau iachach yn haws hefyd. Felly, bydd gennyf yn bendant ddiddordeb yn y dystiolaeth gan y pwyllgor. Bydd gennyf ddiddordeb yn yr hyn a fydd gan bartneriaid eraill i'w ddweud, ac fe fyddwn yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o—[Anghlywadwy.]—cyn cymeradwyo'r strategaeth a'r argymhellion, y camau y byddwn yn eu cymryd a sut y byddwn yn ariannu'r camau hynny oherwydd, fel y dywedaf, rwy'n cydnabod bod hon yn her iechyd cyhoeddus wirioneddol a sylweddol sydd â'r potensial i orlifo i rannau sylweddol o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Ceratoconws

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y driniaeth a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y cyflwr ar y llygaid Ceratoconws? OAQ52039

Gwnaf. Canllawiau byrddau iechyd lleol sy'n penderfynu ar driniaeth ceratoconws mewn oedolion ar hyn o bryd, a bydd yn cynnwys canllawiau arbenigol a chanllawiau coleg ynghyd ag arferion gorau eraill.

Roedd triniaeth groes-gysylltu ar gael i gleifion Cymreig a oedd â’r cyflwr yma yn Ysbyty Llygaid Bryste tan 2015. Ers hynny, roedd gen i un achos—merch 18 mlwydd oed a’i golwg yn dirywio ac wedi’i chynghori bod y cyflwr yn datblygu’n gyflym. Penderfynodd ei mam hi i dalu am driniaeth breifat, oherwydd roedd hi’n ofni y byddai hi’n mynd yn ddall. Ers hynny, mae Abertawe Bro Morgannwg nawr yn darparu’r driniaeth yma eto. Ond rŷm ni wedi cael sefyllfa lle mae yna nifer o bobl wedi cael eu dal yn y sefyllfa o gwympo rhwng y cyfnodau hyn lle nad oedd opsiwn gyda nhw heblaw mynd yn breifat. A ydy'r Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu edrych ar yr achosion yma, edrych ar y gofid yr oedd hyn wedi'i achosi a’r posibilrwydd o ad-dalu costau fy etholwr i a phobl eraill?

Buaswn bob amser eisiau ystyried sut—. Credaf eich bod yn cydnabod ei fod yn gyflwr prin a chymhleth, a'r her yw sut y darparwn wasanaeth priodol i bobl sydd yn y sefyllfa hon, hyd yn oed os yw hynny'n golygu comisiynu gwasanaeth sy'n bell iawn, boed yng Nghymru neu y tu hwnt. Mewn gwirionedd, rwy'n disgwyl adolygiad a gynhelir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru. Rydym yn disgwyl y bydd hwnnw ar gael yn ystod y mis neu ddau nesaf a bydd yn cael ei gyhoeddi, ac efallai y bydd yn helpu i fwrw ymlaen â'r mater yn y dyfodol, ond os hoffech drafod y materion sy'n ymwneud â'ch etholwr, mae'n bosibl y bydd yn fwy synhwyrol i ni ohebu mwy, ac rwy'n ddiolchgar i chi am ysgrifennu ataf yn y gorffennol. Ond efallai y byddai'n fwy synhwyrol i ni gael trafodaeth mewn gwirionedd, a chael trafodaeth pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi efallai, ac wedyn gallwn gysylltu hwnnw â sefyllfa eich etholwr ac ystyried eu hamgylchiadau a'r darlun ehangach yn y gwasanaeth arbenigol hwn. 

Pwynt o Drefn

Lywydd, hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 6.15 a Rheol Sefydlog 12.50. Does bosibl nad oes angen i gyhoeddiadau mawr gan Lywodraeth Cymru, megis adolygiad o bolisi cyhoeddus pwysig, gael eu gwneud ar lafar i'r Cynulliad. Mae hyn yn caniatáu craffu amserol, ac yn dilyn hynny, yn caniatáu i'r Cynulliad fonitro a gwerthuso perfformiad. Yn y Siambr ddoe, rhoddodd arweinydd y tŷ ymateb arwynebol ac anfoddhaol i fy mhryderon ynghylch y cyhoeddiad ar yr adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Dywedodd mai lle'r Llywodraeth oedd penderfynu ai datganiad llafar neu ysgrifenedig a oedd yn briodol. Mae datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn yn cynnwys ardystiadau gan Cartrefi Cymunedol Cymru a'r Sefydliad Tai Siartredig yn benodol, ac rwy'n dyfynnu:

'Os cawn yr adolygiad hwn yn gywir, bydd yn gam mawr at ddatrys yr argyfwng tai.'

A dyfynnaf:

'Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad heddiw ynghylch adolygu'r polisi tai yng Nghymru.'

Yn amlwg, gellir casglu pa mor bwysig yw'r adolygiad o'r datganiadau hyn y gofynnwyd amdanynt ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, eto i gyd nid ydym wedi cael unrhyw gyfle i graffu ar ei gwmpas nac addasrwydd y rhai a ddewiswyd i'w gynnal.

Yn olaf, cafwyd adolygiad cynhwysfawr o'r angen am dai yn 2015 a noddwyd gan Lywodraeth Cymru. Fe'i cynhaliwyd gan awdurdod mwyaf blaenllaw y DU ar yr angen am dai. Ni weithredwyd arno. Pam cynnal adolygiad newydd? Mae'r rhain yn amlwg yn gwestiynau hollbwysig. Lywydd, pa bwerau sydd gennych i'w gwneud yn ofynnol i Weinidog wneud datganiad llafar mewn amgylchiadau o'r fath?

15:25

Diolch i chi am roi gwybod eich bod yn bwriadu codi hwn fel pwynt o drefn. Fel y dywedais yn dilyn mater tebyg a godwyd mewn pwynt o drefn ddoe, mater i Weinidogion Cymru yw busnes y Llywodraeth, nid mater i mi. Ond mae Gweinidogion yn atebol i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n disgwyl iddynt beidio â thanseilio'r egwyddor honno drwy wneud cyhoeddiadau polisi mawr y tu allan i'r Siambr. Rwy'n disgwyl i gyhoeddiadau mawr gael eu gwneud yn uniongyrchol i'r Cynulliad hwn fel y ceir y cyfle rydych wedi'i geisio, David Melding, i'r Aelodau graffu ar y Llywodraeth mewn perthynas â materion fel hyn.

Wrth gwrs, mae'n bwysig atgoffa'r Aelodau yn ogystal—rwy'n siŵr eich bod yn gyfarwydd iawn â hwy—o'r llwybrau amrywiol sydd ar gael i chi i gyflwyno materion yn y Siambr os nad yw'r Llywodraeth yn darparu cyfleoedd ar gyfer archwilio. Mae'r rheini'n cynnwys cwestiynau brys ac amserol, cwestiynau llafar a dadleuon y gwrthbleidiau, ac yn ogystal, buaswn yn dweud y gall yr Aelodau wneud sylwadau ynglŷn â busnes arfaethedig y Llywodraeth drwy'r Pwyllgor Busnes, a buaswn yn gobeithio y byddai arweinydd y tŷ yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw sylwadau o'r fath a wneir gan bleidiau gwleidyddol yma.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol yw'r eitem nesaf, ond ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i longyfarch Undeb Bedyddwyr Cymru ar ei ben blwydd yn gant a hanner oed. Siaradaf fel aelod o Seion Newydd, capel Bedyddwyr Cymru yn Nhreforys. Ddoe, mynychais ddigwyddiad yn y Pierhead i ddathlu pen blwydd Bedyddwyr Cymru yn gant a hanner oed, ac rwy'n falch iawn fod cynifer o Aelodau, gan eich cynnwys chi, Lywydd, yn bresennol.

Rwyf eisiau tynnu sylw at y rôl a chwaraeodd Bedyddwyr Cymru, ynghyd â chapeli anghydffurfiol Cymreig eraill, ym mharhad yr iaith Gymraeg yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Maent hefyd wedi chwarae rôl bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac wedi darparu llawer o aelodau i'r Rhyddfrydwyr, y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Gellir gweld llwyddiant achos y Bedyddwyr ym mhentrefi, trefi a dinasoedd Cymru lle roedd mwy na 1,000 o gapeli'r Bedyddwyr.

Mae gweinidogion Bedyddwyr Cymru wedi chwarae rhan fawr yng ngwleidyddiaeth Cymru drwy ysgrifennu emynau. Roedd Lewis Valentine yn emynydd enwog, a'i emyn enwocaf oedd Gweddi dros Gymru, ond roedd hefyd yn aelod cynnar o Blaid Cymru ac yn un o'r tri a roddodd yr ysgol fomio ar dân ym 1936. Roedd Thomas Price yn ffigwr blaenllaw ym mywyd gwleidyddol a chrefyddol Cymru yn ystod oes Fictoria, ac yn weinidog yng Nghapel y Bedyddwyr Calfaria, Aberdâr, a'i swydd gyntaf oedd fel gwas bach. Ar 1 Ionawr 1814, lansiodd Joseph Harris, gweinidog Bedyddwyr Cymru—a oedd yn defnyddio 'Gomer' fel ei enw barddol—yr wythnosolyn Cymraeg cyntaf, Seren Gomer, yn Abertawe. Mawr yw ein diolch ni fel cenedl i Undeb Bedyddwyr Cymru am yr hyn y maent wedi'i gyflawni dros y 150 mlynedd diwethaf.

Ar 1 Ebrill 1918, cymeradwyodd David Lloyd George gynlluniau i greu'r Awyrlu Brenhinol (RAF), y llu awyr cyntaf yn y byd i fod yn gwbl annibynnol ac ar wahân. Byddai'r RAF yn datblygu i fod yn llu awyr mwyaf pwerus y byd, gyda mwy na 290,000 o bersonél a 23,000 o awyrennau. Yna, ar adeg hollbwysig yn hanes y byd, amddiffynnodd yr RAF ein hynys yn erbyn ymosodiad y Natsïaid, yn yr hyn a ddaeth yn frwydr awyr enwocaf hanes, sef Brwydr Prydain. Ond nid yw hanes a llwyddiant yr RAF yn beth dieithr i ni yng Nghymru. Cafodd bom bowndiog enwog y dambusters ei brofi yng Nghwm Elan. Gweithwyr ffatri ym Mrychdyn a adeiladodd yr awyren Lancaster, sy'n dal i hedfan heddiw gyda'r RAF yn y daith hedfan i goffáu Brwydr Prydain. Ac fe gafodd y syniad sy'n sail i Red Arrows yr RAF ei ffurfio yng Nghymru, pan grëwyd yr Yellowjacks yn RAF y Fali, yn 1963.

Lywydd, er mwyn dathlu'r flwyddyn bwysig hon yn hanes yr RAF, bydd digwyddiadau arbennig, gweithgareddau a mentrau eraill yn cael eu cynnal ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, o'r mis hwn hyd at ddiwedd mis Tachwedd. Un o'r digwyddiadau mwyaf nodedig fydd y daith gyfnewid baton ganmlwyddiannol, lle bydd baton sydd wedi'i ddylunio'n arbennig yn ymweld â 100 o safleoedd sy'n gysylltiedig â'r RAF mewn 100 diwrnod. Bydd y baton yn ymweld â nifer o leoliadau yng Nghymru, o 1 Mai hyd at 11 Mai, gan ddechrau yn Sain Tathan, a gorffen yn RAF y Fali.

Mae gennym lawer i fod yn ddiolchgar amdano, gan fod yr RAF wedi amddiffyn ein rhyddid yn ddewr. Os caf orffen gyda geiriau David Lloyd George, a ddywedodd,

'I’r awyrennau hyn, y ffurfafen yw maes y gad. Nhw yw Marchoglu’r Cymylau.'

15:30
5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)—penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth. Ac rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud ei ddatganiad, Mick Antoniw.

Diolch i chi, Lywydd. Chwe wythnos yn ôl, ar 7 Mawrth, trafododd y Cynulliad hwn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)'. Roedd ein hymchwiliad a ragflaenodd yr adroddiad hwnnw'n ystyried priodoldeb cwmpas a natur y pwerau dirprwyedig a ddarparwyd yn y Bil i Weinidogion y DU a Chymru, a'r gweithdrefnau y dylid eu defnyddio i graffu ar y ddeddfwriaeth ddirprwyedig honno. O gofio hynt y Bil drwy Dŷ'r Arglwyddi, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y gwelliannau y credem y dylid eu gwneud i'r Bil, ac yn mynd i'r afael â chwestiynau a godwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn llythyr at y Llywydd ar 16 Ionawr.

Roedd ein hadroddiad yn gwneud saith o argymhellion, gyda phedwar ohonynt yn argymell gwelliannau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Ac am y rheswm hwnnw, roeddem yn credu ei bod yn bwysig ac yn briodol clywed barn y Cynulliad Cenedlaethol ar yr argymhellion hynny, ac felly roedd y cynnig a oedd yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi adroddiad y pwyllgor hefyd yn gofyn iddo gymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7. Ac ar 7 Mawrth, cafodd y cynnig ei gymeradwyo'n unfrydol—ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau.

O ganlyniad, ar 22 Mawrth, ysgrifennodd y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn tynnu ei sylw at yr argymhellion yn ein hadroddiad, ac yn dweud y dylai dderbyn y llythyr fel hysbysiad ffurfiol o safbwynt Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran pa welliannau y dylid eu gwneud i'r Bil mewn perthynas â gweithdrefnau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan ei ddarpariaeth.

Mae'n bosibl nad yw'r Aelodau'n ymwybodol, yn dilyn y digwyddiadau rwyf wedi'u crynhoi, fod Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor. Yn ogystal, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â'n hadroddiad ar y Bil ymadael â'r UE a darpariaethau pwyllgor sifftio'r Bil. Yn y ddau ddarn o ohebiaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod argymhelliad 2 ein hadroddiad—y dylai argymhelliad y pwyllgor sifftio fod yn rhwymol, ac eithrio pan fo'r Cynulliad yn penderfynu fel arall.

Ar 17 Ebrill, ysgrifennais at y Prif Weinidog i gael eglurhad ar y rhesymau dros y dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu. Yn benodol, gofynnais a allai egluro pam, ar ôl iddo anfon llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 5 Chwefror yn dweud mai mater i'r Cynulliad Cenedlaethol yw penderfynu ar faterion sy'n ymwneud â'r pwyllgor sifftio, ei fod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 29 Mawrth yn gwrthod argymhelliad a oedd wedi cael ei gymeradwyo'n unfrydol gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithrediad y pwyllgor sifftio hwnnw. Mae'r Prif Weinidog wedi ymateb i'r llythyr a anfonais ar 17 Ebrill y bore yma, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, a nodaf y sylwadau y mae wedi'u gwneud.

Rwy'n cydnabod bod arweinydd y tŷ, yn ystod dadl y Cyfarfod Llawn, wedi dweud wrth y Cynulliad Cenedlaethol fod Llywodraeth Cymru yn cadw ei safbwynt ar argymhelliad 2 yn ôl hyd nes y byddai wedi'i ystyried yn drylwyr. Fodd bynnag, ni cheisiodd arweinydd y tŷ ddiwygio'r cynnig i adlewyrchu'r safbwynt hwnnw, a gafodd, fel y nodwyd eisoes, ei gymeradwyo'n unfrydol gan y tŷ cyfan.

Heb niweidio ewyllys y Llywodraeth—neu heb niweidio ewyllys unrhyw Lywodraeth—ni ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod mewn sefyllfa lle mae'n mynegi safbwynt ffurfiol, hollbleidiol, sydd wedyn, neu'n fuan iawn ar ôl hynny, yn cael ei gwestiynu mewn llythyr nad yw'r Cynulliad cyfan yn ymwybodol ohono.

Rwyf wedi dweud yn glir wrth y Prif Weinidog yn fy llythyr ato ein bod ni, fel pwyllgor, yn bryderus yn gyffredinol ynglŷn â throsglwyddo pŵer o ddeddfwrfeydd i swyddogion gweithredol. Mae'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â'r materion hyn yn tanseilio braint y ddeddfwrfa. Yn yr un modd, mae'n drysu rolau seneddau a llywodraethau ac yn gwneud y trafodion yn y lle hwn yn anos i aelodau o'r cyhoedd eu deall, a hynny ar draul datganoli.

I wneud pethau'n waeth, yn anffodus, mae dull Llywodraeth Cymru a'r dryswch ynglŷn â rolau bellach wedi cael eu cynnwys mewn memorandwm atodol gan Lywodraeth y DU ar bwerau dirprwyedig yn y Bil ymadael â'r UE. Cafodd y memorandwm ei gyhoeddi ddydd Llun yr wythnos hon, ac mae'n datgan,

Mae Llywodraeth Cymru, ar ôl ceisio barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi gofyn am i weithdrefn y pwyllgor sifftio fod yn gymwys lle mae Gweinidogion Cymru yn gosod offerynnau negyddol o dan eu pwerau Atodlen 2.

Ymddengys, felly, fod Llywodraeth y DU wedi cael ei dylanwadu gan safbwyntiau Llywodraeth Cymru yn hytrach na'r Cynulliad Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau ar y gweithdrefnau a ddylai fod yn gymwys i'r broses o graffu ar y rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Felly, croesawaf y llythyr a gefais y bore yma gan y Llywydd, sy'n nodi ei bod yn rhannu pryderon y pwyllgor ac y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i'r mater hwn.

15:35

A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am geisio amddiffyn breintiau'r Cynulliad hwn mor gadarn? Credaf ei bod yn enghraifft arall o'r Weithrediaeth yn mynd yn rhy bell. Dywedwyd wrthym ar ddechrau datganoli y byddem yn gwneud pethau'n wahanol. Byddem yn mabwysiadu'r pethau gorau yn nhraddodiad seneddol Prydain, ond byddem yn sicrhau ein bod yn agored a'n bod yn craffu, yn enwedig ar—yn eironig iawn—is-ddeddfwriaeth. Ac yn awr rydym yn gweld Llywodraeth Cymru yn cyflawni gweithred hynod elyniaethus.

Nid oeddent yn barod i ddadlau eu hachos yn agored, er gwaethaf y ffaith bod hon yn egwyddor hirsefydlog iawn gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn yr ystyr y dylem fod yn gosod y gweithdrefnau ar gyfer y math hwn o is-ddeddfwriaeth a materion hanfodol eraill. Ond o ddifrif, peidio â dadlau'r achos, caniatáu i'r cynnig fynd rhagddo a pheidio â'i wrthwynebu, ond wedyn, mynd ati'n fwriadus i ofyn i Lywodraeth y DU beidio â gweithredu ar ein hargymhelliad. Ac yn wir, nid ydym yn gwybod a ddywedwyd wrthynt beth oedd ein hargymhelliad hyd yn oed oherwydd roedd yr ateb a gawsom yn rhyfedd iawn o ran y sylw a ddarllenwyd gan Mick Antoniw.

Fel y dywedais, mae hyn yn rhan o batrwm cyffredinol gan Lywodraeth Cymru pan fo'n ceisio gosod a marcio ei gwaith cartref ei hun o ran y gweithdrefnau a ddylai fod yn gymwys. A'r amddiffyniad arall yw, 'Wel, mae'r Gweinidogion yn dilyn canllawiau'r Cwnsler Cyffredinol', fel pe bai'r Cwnsler Cyffredinol yn gyfrifol am y math o weithdrefnau y dylai'r ddeddfwrfa eu cymhwyso wrth graffu ar ddeddfwriaeth. Mae'n ddryswch rhyfeddol, ac mae bellach yn bodoli yn y rhan bwysicaf o'r cyfansoddiad, pan fo cymaint o gyfreithiau a oedd o'r blaen wedi'u trosglwyddo i Frwsel yn dychwelyd yma.

Rwy'n credu ei fod yn ofnadwy mewn gwirionedd. A gaf fi sicrhau Mick Antoniw y caiff ein cefnogaeth yn llawn yn ei holl ymdrechion fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i fwrw ymlaen â'r mater hwn a dwyn y Llywodraeth i gyfrif?

Diolch i chi am y sylwadau hynny, ac rwy'n credu eu bod yn sicr yn adlewyrchu'r safbwyntiau y gobeithiaf fy mod wedi eu mynegi, er nad ydym wedi cael cyfle i gael trafodaeth fanwl ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd, yn amlwg. Pan gyflwynwyd yr adroddiad, gwyrais rhag neges y blaid mewn gwirionedd a gwneud sylw penodol iawn y credwn ei fod yn bwysig, sef: nid lle'r Llywodraeth yw penderfynu ar y system ar gyfer craffu arni hi ei hun. Mae'n rhan sylfaenol o'r ddeddfwrfa. Ac rwy'n credu bod ymateb y Llywodraeth ar y pryd yn gefnogol i hynny mewn gwirionedd. Cydnabyddir hynny. Dyna, bron, yw rheolaeth y gyfraith mewn seneddau. Felly, nid yw'r datganiad hwn yn ymwneud yn gymaint â natur rwymol rôl pwyllgor sifftio; mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, â'r egwyddor lle mae'r Llywodraeth yn cytuno, rydym i gyd yn cytuno, mai lle'r Cynulliad yw penderfynu ar y system ar gyfer craffu ar waith y Llywodraeth, a phan dramgwyddir yn erbyn hynny, mae'n sicr yn ddyletswydd arnaf fi, fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a'i aelodau, i gamu ymlaen a thynnu sylw at y ffaith bod hwn yn fater o egwyddor.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn y llythyr ataf, ond nid wyf yn credu bod amser yn cyfiawnhau tramgwydd o'r fath. Pan ofynnwyd i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol graffu, er enghraifft, ar y Bil parhad ar fyr rybudd, nodaf fod Aelodau wedi mynd i gryn drafferth i sicrhau eu bod ar gael ac wedi rhoi amser i gyflawni'r broses honno mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn na fydd hyn yn digwydd eto.

15:40

A gaf fi groesawu'r datganiad gan Gadeirydd ein pwyllgor, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau a fynegwyd a'r rhai a fynegwyd gan David Melding, cyd-Aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Mae hwn yn fater difrifol—mater hollol ddifrifol—oherwydd, ac nid wyf am ailadrodd yr hanes eto, ond yn amlwg, mae yna bob amser densiwn rhwng llywodraethau a'u deddfwrfeydd unigol. Diau y byddwn yn clywed, yn hwyrach y prynhawn yma, am densiwn y pwerau a gollwyd rhwng y lle hwn a San Steffan, ond mae hwn yn fater o bwerau a gollwyd rhyngom ni a'r Llywodraeth—cipio pŵer yn fewnol, os mynnwch chi, rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad ei hun.

Mae argymhelliad 2, a basiwyd yn unfrydol yma, yn dweud 

'Dylai’r argymhelliad a wneir gan y pwyllgor sifftio o dan argymhelliad 1 fod yn orfodol, oni bai fod y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall. Dylid adlewyrchu’r gofyniad hwn ar wyneb y Bil.'

Mae'n rhaid i mi ddweud nad hwn yw'r darn mwyaf radical o ddeddfwriaeth i ni ei basio yn y lle hwn. Rydym wedi cytuno'n unfrydol ac mae'n rhoi'r cyfrifoldeb yn gadarn ar ysgwyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lle y dylai fod, o ran pwysigrwydd gwaith craffu yn y lle hwn. Mae'n ddigon anodd sicrhau bod gwaith craffu'n cael ei gyflawni'n ddigon manwl fel ag y mae, gyda'r gwahanol bwysau sydd arnom, ac yn amlwg, tua 40 yn unig o Aelodau'r Cynulliad sy'n gallu cymryd rhan yn y broses graffu honno yn gyfreithlon, ac yna pan fydd pethau'n cael eu cymryd oddi arnom, pethau y credem eu bod wedi'u cytuno'n flaenorol, nid yw hynny'n gwneud synnwyr.

Hefyd, mewn gohebiaeth, mae wedi creu embaras, nid yn unig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ond hefyd, buaswn yn dadlau, i'r Llywydd yma, ein bod wedi cytuno ar safbwynt a bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi darganfod wedyn fod y safbwynt a gytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiystyru gan y Prif Weinidog yma heb drafod gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, mae'n bwynt dadleuol i ofyn pa werth y gallwn ei roi ar bleidleisiau unfrydol sy'n cael eu bwrw a'u pasio yn y ddeddfwrfa hon pan fo'r Prif Weinidog wedyn yn gallu gwrthod un o'r prif argymhellion a basiwyd yn unfrydol, a hynny heb rybudd, fel y dywedodd Mick Antoniw.

Y pwynt pwysig arall, mewn perthynas â'r Bil ymadael â'r UE ei hun, a diau y byddwn yn trafod hwnnw'n fwy manwl yn y datganiad nesaf, yw bod blaenafiaeth Gweinidogion Cymru dros y ddeddfwrfa yma yn y Senedd, o ran y broses sifftio, wedi gwneud ei ffordd i femorandwm atodol Llywodraeth y DU ar bwerau dirprwyedig yn y Bil ymadael â'r UE ei hun. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae'n tanseilio'r prosesau gwneud penderfyniadau yn y Cynulliad hwn y mae pawb ohonom yn Aelodau balch ohono.

Rwy'n gofyn am sicrwydd. Nodaf yr holl gyfathrebiadau sydd wedi cael eu hanfon a'r ymddiheuriadau, ond yn y pen draw, nid yw hyn yn ddigon da ac mae'n arwydd gwael o'r ffordd y mae gweddill y negodiadau'n mynd rhagddynt o ran y Bil ymadael â'r UE yn ei gyfanrwydd os na allwn wneud y pethau hyn yn gywir.

Gall y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymateb mewn argyfwng. Gwnaethom hynny o fewn un diwrnod gyda'r Bil parhad, er nad oedd David Melding, i fod yn deg, ar sail polisi—er nad yw'n fater cyfreithlon ar gyfer y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—wedi cymryd rhan lawn yn y weithdrefn honno. Llwyddasom i unioni sefyllfa frys mewn un diwrnod. Felly, nid yw dadl y Prif Weinidog fod brys y sefyllfa'n drech na'n hargymhelliad yn dal dŵr, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach ar y mater. Diolch yn fawr.

15:45

Diolch ichi am y sylwadau hynny. Mae hwn yn fater o egwyddor gyfansoddiadol mewn perthynas â gwahanu pwerau. Gwyddom fod pob un ohonom wedi pryderu'n ddifrifol ynghylch y trosglwyddo pwerau difrifol iawn a'r ffordd y bydd yn rhaid arfer pwerau o ganlyniad i'r Bil ymadael a'r datblygiadau'n ymwneud â Brexit. Mae pawb ohonom wedi mynegi'r pryderon difrifol ac wedi cydnabod yr heriau gwirioneddol a'r peryglon sy'n bodoli mewn perthynas ag arfer pwerau Harri VIII.

Mae'r rheswm dros gyflwyno'r datganiad hwn heddiw yn syml iawn: mae'n fater o bwys a'r perygl, pe na bai'n cael ei herio yn y cyfnod hwn, yw y byddai cynsail yn cael ei sefydlu. Felly, fy ngobaith yw y cydnabyddir yr egwyddor hon o wahanu pwerau a hefyd na ddylai'r hyn a ddigwyddodd osod cynsail mewn perthynas ag unrhyw faterion yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas ag arfer pwerau Harri'r VIII.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd yr Cabinet dros Gyllid ar y Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ac rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford. 

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr am gytuno i'r datganiad yma am ddatblygiadau ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). 

Fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, dros y misoedd ac wythnosau diweddar, mae trafodaethau dwys wedi cymryd lle gyda'r nod o ddatrys anghytundeb rhyngom ni a Llywodraeth yr Alban ar yr un llaw a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y llaw arall ynglŷn â chymal 11 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). 

Lywydd, heddiw mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn Nhŷ'r Arglwyddi sy'n adlewyrchu cytundeb rhynglywodraethol a gyhoeddwyd y bore yma hefyd. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn ddigon i alluogi Gweinidogion Cymru i argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil mewn cynnig y byddwn yn ei drafod y mis nesaf. Dylai hyn hefyd baratoi'r ffordd i Lywodraeth y DU ddiddymu cyfeiriad ein Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) i'r Goruchaf Lys, ac i'r Llywodraeth yma gychwyn proses i ddiddymu'r Bil hwnnw, sydd, fel y bydd yr Aelodau'n cofio, bob amser wedi'i fwriadu fel ôl-stop pe na bai'r trafodaethau hyn yn dod i ganlyniad boddhaol.

Hoffwn egluro pam y cred y Llywodraeth fod y cytundeb y daethom iddo'n darparu digon o amddiffyniad i'n setliad datganoli ac yn caniatáu inni gefnogi Bil y DU. Wrth wneud hynny, hoffwn gydnabod y cyfraniad sylweddol a wnaed gan Weinidog Brexit yr Alban, Michael Russell, a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, yn y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd ar y materion hyn.

Lywydd, ceir cyfres o ffyrdd y bydd y cytundeb yn gam mawr ymlaen o'r cynigion gwreiddiol. Bydd yr Aelodau'n cofio, ar ei fwyaf sylfaenol, fod yr anghytundeb yn ymwneud ag egwyddor y pwerau a arferir ar hyn o bryd drwy lyfr rheolau cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, a pha un a oedd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hawl unochrog i benderfynu lle y dylai'r pwerau hynny fod ar yr ochr arall i Brexit. Roedd y cymal 11 gwreiddiol yn dargyfeirio'r holl bwerau hyn i San Steffan. Dadleuasom fod pwerau mewn meysydd datganoledig yn perthyn i'r fan hon, y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r gwelliant heddiw'n gwrthdroi safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y DU. Mae'n creu sefyllfa ddiofyn lle mae pwerau dros bolisi datganoledig yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y maent wedi bod ers 1999. Nawr, heb y llyfr rheolau a ddarparwyd gan ddeddfwriaeth yr UE, rydym yn cydnabod bod angen i fframweithiau ledled y DU mewn meysydd penodol osgoi amharu ar farchnad fewnol y DU. Bydd rhai o'r fframweithiau DU hyn yn seiliedig ar ddeddfwriaeth ac yn amodol ar gyfyngiad newydd dros dro, sydd ond yn sicrhau parhad trefniadau cyffredin presennol. Lywydd, mae hyn yn amlwg yn llawer mwy cydnaws â'r model cadw pwerau o ddatganoli.

Lywydd, yr ail ffordd y mae'r cytundeb heddiw yn gam sylweddol ymlaen yw ei fod yn cydnabod y bydd Confensiwn Sewel yn berthnasol i bwerau gwneud rheoliadau eilaidd—y pwerau a gaiff eu defnyddio i roi'r cyfyngiadau newydd dros dro hyn ar gymhwysedd ar waith. Ni fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn rhoi rheoliadau o'r fath i'r Senedd eu cymeradwyo oni bai bod y deddfwrfeydd a'r gweinyddiaethau datganoledig wedi rhoi eu caniatâd. Ar ben hynny, os bydd deddfwrfa'n gwrthod rhoi cydsyniad, gofynnir i'r Senedd benderfynu a ddylid gwneud y rheoliad ar sail gwybodaeth ddiduedd. Hynny yw, nid yn unig y bydd rhaid i ddeddfwyr ddibynnu ar gyfrif Llywodraeth y DU yn unig, ond byddant hefyd yn cael gwybodaeth wedi'i darparu'n annibynnol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Yn drydydd, Lywydd, mae Llywodraeth y DU bob amser wedi honni mai rhai dros dro fyddai'r cyfyngiadau a ragwelir, ond nid oedd unrhyw beth yn y Bil gwreiddiol i gadarnhau hyn. Mae'r cytundeb bellach yn gwarantu cymalau machlud y mae'r gwelliannau yn eu cynnwys ar wyneb y Bil.

Lywydd, y bedwaredd ffordd y mae'r cytundeb hwn yn ddatblygiad mor fawr, fel y gwyddoch, yw bod y cymal 11 gwreiddiol wedi'i lunio yn y fath fodd fel y gellid gwthio deddfwriaeth sylfaenol i osod fframweithiau newydd ar gyfer y DU ar waith, er enghraifft, ar gymorth amaethyddol, drwy'r Senedd heb gael, neu hyd yn oed heb ofyn, am gydsyniad y Cynulliad. Mae'r cytundeb yn diystyru'r posibilrwydd hwn yn benodol.

Mewn pumed datblygiad, un pryder sylweddol ynghylch dull gwreiddiol Llywodraeth y DU o weithredu oedd nad oedd unrhyw gyfyngiad cyfatebol ar y Senedd i ddeddfu mewn perthynas â Lloegr tebyg i'r un a osodwyd ar y deddfwrfeydd datganoledig gan y cymal 11 gwreiddiol, ond mae'r cyfyngiad presennol ar ddeddfu yn groes i gyfraith yr UE yn gymwys i'r holl ddeddfwrfeydd, gan gynnwys y Senedd. Yma hefyd mae'r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth y DU na fydd yn cyflwyno deddfwriaeth o'r fath tra bo'r fframweithiau'n cael eu negodi.

Y pwynt olaf namyn un, Lywydd, yw hwn: drwy nodi proses fwy cydweithredol o weithio'n rhynglywodraethol er mwyn datblygu'r rheoliadau, mae'r cytundeb hefyd yn cymryd cam mawr cyntaf tuag at ddull teg o weithio'n rhynglywodraethol yn y ffordd y dadleuwn y dylai fod yn nodwedd o'r Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn olaf, o ran y pwerau cydredol yng nghymalau 7, 8 a 9 o'r Bil i Weinidogion y Goron allu estyn draw i wneud diwygiadau sy'n cywiro i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig, mae'r cytundeb yn cydgrynhoi sicrwydd a roddwyd eisoes gan Weinidogion yn y Senedd na ddefnyddir pwerau o'r fath fel arfer heb gydsyniad Gweinidogion datganoledig, gan ddarparu haen arall o sicrwydd.

Lywydd, nid yw'r canlyniad yn berffaith, wrth gwrs. Byddai wedi bod yn well gennym pe na bai yna gymal 11 ac i bob Llywodraeth ymddiried yn ymrwymiadau ei gilydd i beidio â deddfu mewn meysydd lle y cytunwn fod angen fframweithiau ar gyfer y DU gyfan hyd nes y byddid wedi cytuno ar fframweithiau o'r fath. Dro ar ôl tro rydym wedi nodi'n glir ein bod yn barod i roi sicrwydd o'r fath ac i dderbyn sicrwydd tebyg gan y Llywodraethau eraill. Mae eraill wedi ceisio sicrwydd cryfach na allai unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Lloegr, ddatblygu ei deddfwriaeth ei hun mewn perthynas â'r meysydd hyn lle mae angen fframwaith ledled y DU hyd nes y byddai fframwaith o'r fath wedi'i drafod a'i gytuno, ac mae'r cytundeb hwn yn darparu'r sicrwydd hwnnw.

Wrth gwrs, ceir rhai sy'n dadlau ei bod yn annerbyniol, hyd yn oed mewn amgylchiadau eithafol, i'r Senedd allu gweithredu i osod cyfyngiadau ar gymhwysedd datganoledig. Ond hyd nes y negodir setliad cyfansoddiadol newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan—fel y mae'r Llywodraeth hon wedi dadlau ers tro byd—y realiti cyfansoddiadol yw mai'r Senedd sy'n cadw'r rôl honno. Nid yw'r cytundeb hwn, fel Confensiwn Sewel, ond yn cydnabod y ffaith honno gan bwysleisio'r rheidrwydd gwleidyddol i'r Senedd weithredu ar sail cydsyniad lle bo materion datganoledig yn y fantol.

Ac mewn termau ymarferol, Lywydd, rydym yn derbyn bod rhaid cael ateb wrth gefn, ffordd o ddod ag anghydfodau na ellir eu datrys drwy negodi rhynglywodraethol i ben. Hyd nes, ac oni bai y gallwn gytuno ar lwybr arall yn lle symud ymlaen drwy gonsensws—ac rwy'n atgoffa'r Aelodau ein bod wedi cyflwyno cynnig o'r fath er mwyn cyflawni'r ffordd honno o weithredu yn ein papur 'Brexit a Datganoli' y llynedd—yna bydd yr ateb wrth gefn hwnnw'n dod o'r Senedd.

Nawr, Lywydd, roeddwn wedi gobeithio wrth gwrs y gallai'r cytundeb rhynglywodraethol fod wedi ei gytuno gan bob un o'r tair Llywodraeth, gan gynnwys ein cymheiriaid yn yr Alban. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar fwrw ymlaen â thrafodaethau pellach ar fframweithiau yn y dyfodol a'r trafodaethau â'r UE 27. Rwyf wedi'i gwneud yn glir y byddwn yn parhau i weithio gyda'r ddwy Lywodraeth hyd nes yr eiliad olaf sy'n bosibl i weld a ellir gwneud unrhyw fireinio pellach defnyddiol i'r cytundebau presennol, a bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn cyfarfod eto yr wythnos nesaf i olrhain unrhyw gynnydd o'r fath.

Lywydd, mae'r fargen hon yn arwydd o gynnydd sylweddol iawn o lle y dechreuodd hyn i gyd, ac mae'n amddiffyn buddiannau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gadarn. Mae wedi golygu cyfaddawd ar y ddwy ochr. Dyna yw crefft negodi, a chredaf fod y canlyniad yn gytundeb aeddfed rhwng Llywodraethau sy'n parchu buddiannau ei gilydd.

Gyda'r mater yn agosáu at gael ei ddatrys, byddwn yn gallu canolbwyntio sylw o'r newydd ar gyd-destun ehangach perthynas y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Yma hefyd byddwn yn dadlau dros negodi, realaeth a chyfaddawd. Rydym eisiau cytundeb sy'n diogelu buddiannau Cymru a buddiannau hanfodol y DU gan ddangos parch a synnwyr o realaeth tuag at fuddiannau ein partneriaid Ewropeaidd.

Rwy'n cymeradwyo'r cytundeb a'r gwelliannau sy'n gysylltiedig ag ef i'r Aelodau ac yn edrych ymlaen at gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol maes o law.

15:55

Yn wahanol i'r ymateb Paflofaidd y gellid bod wedi'i ragweld o bosibl o rai mannau, a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i chi a David Lidington, Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, a'ch llongyfarch am y ffordd bwyllog, aeddfed a phragmatig y cynhaliwyd y negodiadau gennych er mwyn sicrhau cytundeb ar gymal 11—

—o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy'n gwrthdroi'r cymal 11 presennol fel y bydd pwerau sy'n dychwelyd o'r UE mewn meysydd sydd fel arall wedi'u datganoli yn trosglwyddo i'r Llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig? A gaf fi hefyd ddiolch i chi am y ffordd gynhwysol yr aethoch ati ar hyn o'm rhan i a David Melding, ac nid yn unig y dystiolaeth a roesoch yn gyson i'r pwyllgor materion allanol, y bydd fy nghyd-Aelodau'n sicr o gyfeirio ato, ond y ffordd rydych wedi rhannu gwybodaeth yn gyfrinachol gyda ni sydd wedi ein helpu i weithio gyda chi wrth i bethau symud yn eu blaen. Rwy'n credu ein bod oll wedi gobeithio ac wedi credu y gallem gyrraedd y pwynt hwn a rhannu, os nad eich pleser ym mhob agwedd ar hyn efallai, yna y rhyddhad ein bod bellach yn y sefyllfa rydym ynddi.

Rydym wedi hen gydnabod y bydd pwerau a chymwyseddau ar lefel yr UE sy'n berthnasol i faterion datganoledig yn trosglwyddo i'r lle hwn ar adeg ymadael neu ddyddiad neu amser ymadael, oni bai bod ymyrraeth ar ran Llywodraeth y DU, ac rydym yn cydnabod eich bod bellach wedi cytuno'n syml i beidio â deddfu mewn meysydd lle mae angen fframweithiau ar gyfer y DU gyfan hyd nes y cytunir ar fframweithiau o'r fath.

Rydych wedi nodi yn y cytundeb, y cytundeb rhynglywodraethol, ym Mil yr UE, ar sefydlu fframweithiau cyffredin, fod dyletswydd ar Weinidogion y DU i adrodd yn rheolaidd i Senedd y DU ar gynnydd ar weithredu fframweithiau cyffredin, gan ddileu rheoliadau a phwerau cymal 11 dros dro, ac y bydd Gweinidog y DU yn anfon adroddiadau o'r fath yn ffurfiol at y Llywodraethau datganoledig, a fydd, yn eu tro, yn rhannu'r rhain gyda'u deddfwrfeydd eu hunain. Sut y cânt eu rhannu â'r deddfwrfeydd? Pa mor rheolaidd y mae 'rheolaidd' yn ei olygu o ran Gweinidogion y DU? A yw'n rheolaidd yn yr ystyr o amser penodol neu a yw'n rhywbeth a gaiff ei sbarduno gan ddigwyddiadau penodol neu amgylchiadau a gytunir rhyngoch?

Rydych wedi nodi y byddwch yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Tybed a allwch ymhelaethu ychydig mwy ar sut y byddwch yn bwrw ymlaen â hynny, yn enwedig o ystyried safbwynt yr Alban—a'n hewyllys ein hunain, yn sicr, rwy'n meddwl, y bydd yr Alban yn y pen draw hefyd yn rhan o'r cytundeb hwn—heblaw drwy fecanwaith sefydledig y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, oni bai mai dyna'r cyfan sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Mae dyletswydd ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i gynnwys maes polisi yn rhan o'r rhewi, fel y'i gelwir, ar gymal 11. A fydd y rheoliadau hyn yn amodol yn gyntaf ar eu cytuno â Llywodraeth Cymru cyn eu cyflwyno i'r deddfwrfeydd datganoledig? Neu, pa fecanwaith fydd yn bodoli i geisio sicrhau'r cytundeb hwnnw cyn y gofynnir inni eu hystyried? Rydym yn deall y bydd hyn yn caniatáu i Senedd y DU gymeradwyo'r rheoliadau sy'n creu'r rhewi os caiff cytundeb deddfwrfa ddatganoledig ei wrthod neu os na chaiff ei ddarparu o fewn 40 diwrnod, yn amodol ar fod Gweinidogion y DU yn gwneud datganiad i Senedd y DU yn egluro pam eu bod wedi penderfynu gwneud rheoliadau er na cheir cytundeb deddfwrfa ddatganoledig. Yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, pa mor debygol yw hi y bydd y sefyllfa honno'n digwydd? Neu, yn fwy tebygol, pa systemau diogelwch a roddwyd ar waith i leihau'r risg y bydd y sefyllfa honno'n codi?

Rydym yn ymwybodol yn awr o'r machlud neu'r terfyn amser ar y pwerau gwneud rheoliadau: o ddwy flynedd ar ôl y diwrnod ymadael os na chânt eu dwyn i ben ynghynt, ac ar reoliadau'r cymal dros dro eu hunain, bum mlynedd ar ôl iddynt ddod i rym os na chânt eu dirymu'n gynharach. Sut y bydd y gwahanol ddulliau a allai herio fframweithiau y cytunwyd arnynt wedyn yn cael eu dyfarnu a'u trafod? Oherwydd yn amlwg, ar yr adeg honno, pan ddaw'r holl bwerau allan o'r rhewgell a dychwelyd i'r lle hwn, mae'n bosibl y gallai gwahanol ddulliau gweithredu digwydd. Cyfeiriwyd yn gyson at restr o 24 o feysydd fel rhai sydd yn y rhewgell fel y'i gelwir. Deallwn mai 24 o feysydd ydyw o hyd, er efallai fod trafodaeth o hyd ynghylch nifer lai, o bosibl mewn perthynas â chymorth gwladwriaethol. Unwaith eto, os gallech roi rhyw syniad inni efallai o'r sefyllfa mewn perthynas â chymorth gwladwriaethol, oherwydd o'n rhan ni, mae yna resymeg dros wneud cymorth gwladwriaethol yn destun cytundeb fframwaith y DU.

Roedd gennyf un cwestiwn olaf—os gallaf ddod o hyd iddo. Fe ddywedoch y dylai hyn baratoi'r ffordd i Lywodraeth y DU ddiddymu cyfeiriad y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd, neu'r Bil parhad, i'r Goruchaf Lys, ac i Lywodraeth Cymru yma gychwyn proses i ddiddymu'r Bil hwnnw. Pan ofynnais i chi ynglŷn â hyn yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, fe nodoch nifer o fecanweithiau posibl y gellid eu defnyddio, ond a ydych wedi meddwl ymhellach ynglŷn â sut, a thros ba gyfnod o amser, y gallech fod yn ceisio diddymu'r Bil hwnnw? Diolch.

16:00

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau manwl hynny. Fe wnaf fy ngorau i ateb cynifer ag sy'n bosibl. Cyfeiriodd Mr Isherwood at ddyletswydd ar Weinidogion y DU i adrodd yn rheolaidd wrth Senedd y DU ar gynnydd mewn perthynas â fframweithiau. Credaf fod hynny'n debygol o fod ar sail bob tri mis. Roeddem yn awyddus i weld hynny oherwydd mae'n rhoi pwysau gwirioneddol yn y system i gyrraedd cytundeb yn gyflym ar y materion hynny. Caiff yr adroddiad hwnnw ei rannu gyda'r Cynulliad, fel y dywedodd Mark Isherwood.

Rwy'n ailadrodd fy ymrwymiad i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar faterion heb eu datrys, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn ei weld, o fewn y cytundeb hwn. Siaradais â Michael Russell, Gweinidog yr Alban, yr wythnos diwethaf ac yn gynharach yr wythnos hon. Rydym yn ymrwymo i barhau i weithio ar y materion a nodwyd gan Lywodraeth yr Alban, ac os gellir gwneud unrhyw beth i wella'r cytundeb mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i Lywodraeth yr Alban ei gefnogi ac sy'n dderbyniol i bartïon eraill, byddwn yn gweithio hyd at y funud olaf i geisio sicrhau hynny, a dyna pam y byddwn yn mynd i gyfarfod o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion eto yr wythnos nesaf, gyda'r Alban a Llywodraeth y DU, i olrhain cynnydd ar hynny.

Gofynnodd Mark Isherwood i mi pa mor debygol oedd hi, yn fy marn i, na cheid cytundeb mewn perthynas â'r materion sydd i'w rhoi yn y rhewgell. Credaf fod hynny'n annhebygol iawn, oherwydd, fel y bydd yr Aelodau wedi gweld mewn atodiad i'r cytundeb rhynglywodraethol, rydym yn nodi 24 maes y cytuna pob un o'r tair Llywodraeth y gallent fod yn amodol ar gytundebau fframwaith, a cheir dau fater arall—cymorth gwladwriaethol a dynodiad daearyddol bwyd—sy'n dal i fod yn destun trafodaethau parhaus rhwng y gweinyddiaethau.

Ar y Goruchaf Lys, fel y gwelwch, rydym wedi dod i gytundeb dwyochrog. Os a phan y caiff cynnig cydsyniad deddfwriaethol ei basio ar lawr y Cynulliad hwn, bydd y Twrnai Cyffredinol yn mynd i'r Goruchaf Lys i geisio diddymu'r cyfeiriad a wnaed yno. Byddwn wedyn yn cyflwyno cynigion i'r Cynulliad Cenedlaethol a fyddai'n arwain at y cynnig yn cael ei roi ar y llawr yma, ond byddai'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y mae o hyd, yn cael ei ddiddymu. Ni allwch ddiddymu Bil nad yw eto wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Mae'r Bil hwn eto i fod yn y sefyllfa honno, ac mae amseriad pethau'n dibynnu ar y llwybr gweithredu hwnnw. Ond pan fydd y Twrnai Cyffredinol wedi gweithredu fel y mae wedi ymrwymo i weithredu, byddwn yn rhoi'r cynnig hwnnw gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn iddo allu penderfynu yn ei gylch.

16:05

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymddiheuro am golli eich sylwadau agoriadol, ond rwyf wedi darllen eich datganiad yn llawn.

'Cyflawniad arwyddocaol', 'Datganiad cryf', 'Gadewch inni fwrw ymlaen â gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit'. Datganiadau Alun Cairns, Ruth Davidson ac Andrew R.T. Davies yw'r rhain. Roedd hyd yn oed Prif Weinidog y DU yn diolch ichi heddiw. Mae'r Torïaid yn baglu dros ei gilydd i groesawu ildiad y Blaid Lafur a'u parodrwydd i estyn pwerau ein Senedd yn ôl i San Steffan. Nawr, drwy fod yn gydawduron 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda ni a phleidleisio i gefnogi ein Bil parhad, roedd Llafur yng Nghymru wedi deall y bygythiad i Gymru a'r tanseilio a fyddai'n digwydd i'n pwerau a ddaw yn sgil Brexit. Mae ein mantais wedi mynd, ein harweiniad wedi'i golli, a'r Senedd wedi'i gwanhau. Cawsom ein camarwain gan y Torïaid a Llafur mewn modd nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Lywydd, roedd ateb i fy llythyr, a gefais y bore yma gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn honni bod fy ngoslef yn ymfflamychol. Pan fydd yn gwerthu'r Senedd hon a democratiaeth fy ngwlad i San Steffan, gall esgusodi fy niffyg goslef gymodlon. Mae'r ffaith nad yw ef a'r gweddill ohonoch mor flin â fi ynghylch y syniad y bydd y Cynulliad hwn yn cael ei wanhau gan San Steffan yn dangos lle mae eich blaenoriaethau.

Yn ei ddatganiad ar lafar, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n well ganddo pe na bai cymal 11 wedi'i gynnwys. Fy nghwestiwn cyntaf braidd yn amlwg yw: pam felly y gwnaeth fargen gyda'r Torïaid sy'n caniatáu i gymal 11 aros? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu, fel y mae wedi dweud o'r blaen, y bydd hyn yn arwain at lai o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu a yw'n cytuno gyda'r Prif Weinidog fod y fargen hon yn golygu mwy o bwerau i Gymru? A gaf fi ei eirio mewn ffordd arall? Faint o bwerau, a pha bwerau, rydych yn eu dychwelyd i San Steffan?

Lywydd, mae gennyf lawer mwy o gwestiynau, ond mae gennyf un cwestiwn olaf allweddol am nawr. Yn ei lythyr at yr ASau—ac fel yr amlinellwyd gennych yn eich llythyr i mi, ac yn eich datganiad heddiw—mae Senedd y DU yn cadw'r awdurdod i ddeddfu dros y Senedd hon os na cheir cytundeb ar faterion. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam ei fod yn hapus i San Steffan weithredu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y ddeddfwrfa ddatganoledig, fel y nodwyd gan David Lidington?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr, wrth gwrs, am y cwestiynau.

Rwy'n parhau i resynu braidd at yr iaith a ddefnyddiwyd gan arweinydd Plaid Cymru. Disgrifiwyd y cynnydd y mae'n ei ddisgrifio fel ildiad a chamarwain gan Brif Weinidog yr Alban, yn ei llythyr at y Prif Weinidog heddiw, fel 'cynnydd sylweddol a wnaed'. Dyna a ddywedodd Michael Russell wrth Senedd yr Alban ddoe, pan ddisgrifiodd y llu—y llu—o ddatblygiadau a wnaed o ganlyniad i'r trafodaethau. O ystyried y nifer o gamau a enillwyd gennym drwy gydweithio â'n cymheiriaid yn yr Alban, mae galw'r hyn a gyflawnwyd yn ildiad ac yn gamarwain mor bell oddi wrth y ffeithiau fel bod yr Aelod yn cael ei threchu gan ei gormodiaith ei hun. Mae arnaf ofn, mewn gwirionedd, nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo a'r hyn sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Pan gafodd cymal 11 ei wrthdroi yn y gwelliannau a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn gynharach, fe ddywedasom, Lywydd, fod yna bedwar cwestiwn heb eu hateb. Atebir y cwestiynau hynny i gyd gan y cytundeb hwn. Dywedasom, 'Sut y rhoddir pwerau yn y rhewgell?' i ddefnyddio cyfatebiaeth Mark Isherwood. Wel, fe wyddom yn awr y cânt eu rhoi yn y rhewgell gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol hwn a Senedd yr Alban. Dywedasom, 'Pa ddefnydd y gellir ei wneud o'r pwerau tra'u bod yno? Oherwydd cawsom ein hatal rhag defnyddio'r pwerau hynny gan y ddeddfwriaeth.' Nawr, caiff Gweinidogion Lloegr eu hatal rhag defnyddio'r pwerau hynny yn ogystal. Yna fe ddywedasom, 'Sut y caiff y pwerau hynny eu tynnu allan o'r rhewgell?' Ac yn awr, fe wyddom fod gennym broses ar gyfer cytuno ar y fframweithiau sy'n ein symud i le cyfansoddiadol newydd sbon, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam mawr ymlaen i gyflawni'r math o drefniadau rydym am eu gweld ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig.

Nawr, wrth gwrs mae'n wir fod y blaid hon yn blaid ddatganolaidd. Felly, yn y trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ar hyn o bryd, os na ellir sicrhau cytundeb, rydym yn cydnabod bod angen trefniant ôl-stop i sicrhau y gall trefniadau fynd yn eu blaenau, ac fel y mae pethau, mater i Senedd y DU yw hynny. Rydym wedi cyflwyno cynigion a fyddai'n newid hynny ac yn rhoi'r cyfan ar sail lawer mwy cyfartal, ond mae hynny oherwydd ein bod yn credu mai o fewn y Deyrnas Unedig y mae sicrhau'r dyfodol gorau i Gymru—mewn Teyrnas Unedig sy'n gweithredu'n effeithiol, sy'n gweithredu ar sail cydraddoldeb, sy'n gweithredu ar sail parch cydradd. Os ydych yn blaid genedlaethol, mae'n gwbl briodol eich bod dweud yn glir wrth bobl nad ydych yn rhannu'r gred honno. Nid ydych yn ddatganolwr, rydych yn ymwahanwr. Rydych yn credu y dylai Cymru fod yn gwbl gyfrifol am bopeth sy'n digwydd. Mae'n safbwynt cwbl barchus i'w arddel, ond credaf fod gan bobl yr hawl nid yn unig i'w gael ar sail parch, ond hefyd yn agored ac mewn ffordd sy'n glir ynglŷn â'r hyn y mae pobl yn ei gredu. Dyna pam, pan fydd yr Aelod yn gofyn pa bwerau sy'n cael eu cadw yn San Steffan, rwy'n tynnu ei sylw at y rhestr a gytunwyd gyda Llywodraeth yr Alban—y rhestr a atodwyd at y cytundeb rhynglywodraethol. Mae yno i bawb ei gweld.

'Beth sy'n digwydd os na cheir cytundeb?' gofynnodd yr Aelod. Rwy'n credu bod y cytundeb hwn yn ein rhoi'n amlwg mewn gofod lle rydym wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb. Os na allwch chi, rhaid i rywun allu rhoi camau ar waith i ddatrys materion na ellir eu gweithredu fel arall. Mae ein cynigion, a'r cytundeb hwn, yn camu ymlaen ar y daith honno a fyddai'n sicrhau bod y sefyllfa honno'n cael ei datrys drwy fod pob un o bedair rhan y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd i'r diben hwnnw.

16:10

A gaf fi groesawu'r datganiad a chymeradwyo'r Ysgrifennydd cyllid am y dull difrifol, myfyriol a digyffro y mae wedi mynd ati i ymgymryd â'r negodiad hwn, a chredaf ei fod wedi sicrhau casgliad sy'n dderbyniol i bawb yn y Cynulliad hwn sy'n credu y dylai Cymru fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig? Ar gam cynnar, dywedais nad oedd dull Llywodraeth Cymru o gyflawni hyn drwy hyrwyddo Bil parhad o reidrwydd yn safbwynt y byddai disgwyl i unrhyw aelod o UKIP ei gefnogi, ond roeddwn yn barod i roi mantais yr amheuaeth iddynt nad tacteg i osgoi canlyniadau'r refferendwm ydoedd, ac rwy'n falch fod y cyhoeddiad heddiw yn llwyr gyfiawnhau'r hyder a oedd gennyf yn Llywodraeth Cymru yn y dasg honno. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli na fydd rhai ar fy llaw chwith ar y meinciau hyn yn cytuno â'r hyn sydd gennyf i'w ddweud am hyn, ond rwy'n derbyn nad yw'n rhoi'r cyfan y byddent eisiau ei weld i Blaid Cymru, a bod yna elfen benodol o hyder na fydd Llywodraeth y DU cilio rhag yr addewidion o ymddygiad da—os caf ei roi felly—sydd wedi'i gynnwys yn rhan o'r cytundeb hwn.

Maes o law, pe bai ymgais ar ran Llywodraeth y DU i geisio cipio pŵer, credaf y byddai hynny'n ysgogi argyfwng cyfansoddiadol o fath difrifol iawn, ac yn yr amgylchiadau hynny byddai aelodau o UKIP hyd yn oed, sy'n credu mewn parchu canlyniadau refferenda, ar ochr y bobl sydd am gadw pwerau'r Cynulliad hwn. Nid wyf yn credu, felly, y byddai unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn debygol o grwydro i'r diriogaeth honno, hyd yn oed yn anfwriadol.

Rhaid imi ddweud, credaf ei bod braidd yn rhyfedd fod Plaid Cymru wedi mabwysiadu'r ymagwedd hyperbolig hon, fel y'i disgrifiwyd gan yr Ysgrifennydd cyllid, o ystyried bod y rhain oll yn bwerau nad oes gennym unrhyw reolaeth o gwbl drostynt ar hyn o bryd am eu bod wedi'u lleoli ym Mrwsel, yn nwylo Comisiynwyr yr Undeb Ewropeaidd na allwn eu henwi hyd yn oed, heb sôn am eu hethol neu eu diswyddo, sefydliad nad oes gan y Deyrnas Unedig, drwy Gyngor y Gweinidogion, ond 8.5 y cant yn unig o'r pleidleisiau. Senedd Ewrop, sydd ag ond ychydig iawn o bwerau cyfyngedig i roi deddfwriaeth mewn grym yn yr UE—yn Senedd Ewrop, nid oes gan Gymru ond pedwar ASE o blith oddeutu 750. Felly, mae democratiaeth a'r rhagolygon yma'n gwella'n aruthrol, hyd yn oed os bydd rhai o'r meysydd polisi hyn yn aros yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros dro yn hytrach na chael eu datganoli i'r Cynulliad yma yng Nghymru.

Ceir tair agwedd ar y cytundeb hwn y credaf ei bod hi'n werth tynnu sylw atynt ar y pwynt hwn, yn enwedig y cymalau machlud y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n sefydlu go iawn fod y pwerau hyn yn mynd i gael eu dychwelyd i'r Cynulliad yn llawn mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Nid yw hyd at saith mlynedd yn amser hir ofnadwy yn oes deddfwrfa, hyd yn oed un mor ifanc â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mwyn cael marchnad fewnol sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, mae pawb ohonom yn derbyn y bydd yn rhaid cael fframweithiau cyffredin a bydd yna broses o negodi a fydd yn parhau, a lle bydd llais Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn cael ei glywed yn ei negodiadau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er nad oes gennym bŵer i ddeddfu yn y pen draw.

Mae'r ail bwynt yr hoffwn dynnu sylw ato ym mharagraff 8 y cytundeb rhynglywodraethol, ac mae ei frawddeg olaf yn dweud

na ddefnyddir y pwerau i weithredu polisi newydd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli,

gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond

mai diben sylfaenol defnyddio pwerau o'r fath fydd effeithlonrwydd gweinyddol.

Felly, yr hyn y siaradwn amdano yma yw trefniant gwaith yn unig, gwrthwyneb llwyr y cipio pwerau y dywedir ei fod yn digwydd mewn gwirionedd.

Mae'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud ar hyn yn ymwneud â pharagraff 9. Mae'n dweud wrth gwrs y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddiwygio deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd y gellir ei chymhwyso'n uniongyrchol ym mhob maes nad yw wedi ei gynnwys yn y rhan honno o'r cytundeb sy'n rhoi pŵer deddfu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, byddwn yn cael pwerau yn ôl, hyd yn oed yn y cyfnod o saith mlynedd pan nad oes gennym reolaeth lwyr dros y meysydd hyn. Felly, dyma gam mawr ymlaen mewn democratiaeth yng Nghymru.

Fodd bynnag, rwy'n gobeithio, pan gawn ni ryddid llwyr, yn y pen draw, na fydd bodolaeth fframweithiau cyffredin yn rhy anhyblyg ac y bydd gennym allu i wahaniaethu, oherwydd gwelaf mai un o fanteision mawr dychwelyd pwerau o Frwsel i Gaerdydd, Caeredin, Belfast, yn ogystal â San Steffan, yw y gallwn gael rhywfaint o gystadleuaeth ddeddfwriaethol rhwng gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig. Ceir gwahanol ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd, ac nid oes raid i bawb ohonom wneud pethau yn yr un ffordd a symud gyda'n gilydd ar yr un cyflymder. Drwy broses o gystadleuaeth fewnol, fe fyddwn yn canfod pa broses yw'r orau a pha ffurf ar ddeddfwriaeth yw'r orau, a bydd pawb yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig pobl Cymru, yn elwa o'r broses honno. Felly, rwy'n llongyfarch yr Ysgrifennydd cyllid ar ei gyflawniad, a chredaf ei fod yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.

16:20

Llywydd, diolch yn fawr, wrth gwrs, am y cwestiynau.

Rwyf am ymateb i nifer fach ohonynt. Beth fyddai'n digwydd, gofynnodd yr Aelod, pe bai Llywodraeth y DU yn cilio rhag y cytundeb rhynglywodraethol a gafwyd rhyngom a hwy? Wel, mae'n iawn: byddai'n argyfwng cyfansoddiadol go iawn. Nid wyf yn meddwl y bydd hynny'n digwydd, oherwydd credaf fod yn rhaid imi fwrw ymlaen ar y sail, os daw Gweinidog mewn Llywodraeth arall, ar ôl llawer o wythnosau a misoedd o negodi amyneddgar, i gasgliad y mae'n rhaid iddynt geisio cytundeb gan bob un o'u cymheiriaid yn y DU i'w droi'n ddeddfwriaeth ac yn rhan o'r cyfryw gytundeb, pan fyddant wedi gwneud yr holl ymdrechion hynny a'i fod wedi'i gydgrynhoi rhyngom, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ragdybio eu bod yn golygu'r hyn y maent yn ei ddweud ac y byddant yn cadw at eu gair. Nid yw'n bosibl cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol ar unrhyw sail arall.

Cyfeiriodd at y cymal machlud. Credaf y bydd fframweithiau'n cael eu rhyddhau'n gyflymach o lawer o'r rhewgell na'r saith mlynedd y mae'n ei nodi, a cheir rheswm ychwanegol yn y cytundeb hwn pam y dylai hynny fod yn wir, oherwydd mae'r cytundeb hwn yn atal Gweinidogion Lloegr rhag gwneud newidiadau i bolisi yn Lloegr hyd nes y cytunir ar y fframweithiau hynny. Ceir pob cymhelliad bellach i bob partner fel ei gilydd sicrhau'r trefniadau hynny mor gyflym ag y bo modd, a chredaf y byddwn yn gweld cynnydd cyflym yn hyn o beth. Wrth gwrs, dyna oedd yr ail bwynt a wnaeth yr Aelod ei hun: na ellir defnyddio'r pwerau i roi polisïau newydd mewn grym. Cadw'r status quo yn unig a wna—y status quo yn llyfr rheolau'r Undeb Ewropeaidd—y llyfr rheolau Ewropeaidd a gyflwynodd llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon i bobl Cymru a cheisio'u perswadio y dylem aros i mewn yn barhaol, ac roeddwn yn cytuno â hynny. Y cyfan y mae hyn yn ei ddweud yw mai dyma fydd y safbwynt o hyd, y safbwynt a gafodd ei gefnogi—dyma yw'r safbwynt sy'n parhau ac ni fydd yn newid. Bydd yn parhau i sefyll—bydd y safbwynt y dadleuasom drosto yn y refferendwm yn parhau i sefyll hyd nes y byddwn wedi cytuno ar ffordd o newid.

Yn olaf, gofynnodd beth sy'n digwydd i'r meysydd nad ydynt yn cael eu cadw yn y rhewgell. Wel, roedd yn iawn am hynny: maent yn dychwelyd yma ar unwaith. Yn y cymal 11 gwreiddiol, roedd pob un ohonynt i gael eu cadw yn San Steffan. Bellach, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dychwelyd yma ar unwaith a gallwn barhau gyda'r gwaith o ddyfeisio polisïau a ffyrdd o wneud pethau sy'n gweddu i amgylchiadau Cymru.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac a gaf fi gofnodi fy nghydnabyddiaeth o'r ymrwymiad y mae ef yn bersonol wedi ei roi i'r gwaith hwn? Heb os, mae wedi bod yn arwain o'r tu blaen. Hefyd, diolch i Mike Russell, Gweinidog yr Alban sydd wedi cymryd rhan yn hyn, ac os oes yn rhaid i mi, i David Lidington yn ogystal—hefyd, i swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd, y tu ôl i'r llenni, ar sail lawer mwy rheolaidd, wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hyn. Rydym wedi teithio ymhell o ble roeddem yn y Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) gwreiddiol. Credaf fod y gair 'aeddfed' wedi'i grybwyll, ac mae'n bwysig cydnabod os ydym yn dymuno cael ein hystyried fel rhai sydd mewn perthynas aeddfed â Llywodraeth y DU, mae yna bethau weithiau sy'n rhaid inni eu disgwyl a chytuno arnynt. Efallai mai fy mhryder i yw bod hanes wedi dangos nad yw hynny bob amser yn cael ei ad-dalu, ac mae gennym rai pryderon o ran gallu'r ochrau eraill i ddangos aeddfedrwydd hefyd.

Y cytundeb, Ysgrifennydd y Cabinet—yn amlwg, nid ydym wedi gweld y gwelliannau, ac edrychwn ymlaen at hynny. Bydd y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld y gwelliannau hynny, a goblygiadau cyfreithiol penodol y gwelliannau hynny, yn yr wythnosau nesaf, cyn inni drafod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, y nodoch y byddwch yn ei gyflwyno rywbryd yn ystod mis Mai. Ond ar y cytundeb, a'r memorandwm, mae un neu ddau o bryderon gennyf ynglŷn â hynny. Caiff y geiriau 'fel arfer' eu defnyddio'n aml, fel y nodwyd sawl gwaith. Credaf fod angen inni gael dealltwriaeth o beth y mae 'fel arfer' yn ei olygu, oherwydd mae llysoedd y gyfraith yn sôn yn aml am beth sy'n arferol a beth sy'n afresymol, ac nid oes eglurhad yno, oherwydd mae yna gwestiwn na ddylem ddal pethau'n ôl pan fo'n afresymol gwneud hynny, ond efallai y gallai Llywodraeth y DU hefyd symud yn gynt ar yr hyn sy'n rym rhesymol arnynt i sicrhau eu bod yn darparu. Mae'r cytundeb hwn yn dweud, 'Ni all dim ddigwydd yn Lloegr tra bo hynny yn y rhewgell', ond beth sy'n digwydd os yw'n gyfleus inni ei dynnu allan o'r rhewgell mewn gwirionedd ond nid yn Lloegr, ac felly eu bod hwy'n afresymol? Sut y symudwn ymlaen ar hynny, gwthio'r agenda, fel ein bod yn cael ateb sy'n addas i bawb, os daw'r cytundeb hwnnw? Credaf fod hynny'n bwysig, oherwydd fel arall efallai y gellid ei ddefnyddio i rwystro cynnydd yn y gwledydd datganoledig.

Y sylw ym mharagraff 7 am y cyfnod o amser a'r cyfnod dros dro o bum mlynedd arno—y cymal machlud; ni allwn gofio'r gair. Gallai fod yn saith mlynedd i gyd, mewn gwirionedd: dwy flynedd i'r adeg y daw i ben, a phum mlynedd arall o'r pwynt hwnnw. Mae hynny'n mynd â ni hanner ffordd drwodd, mewn gwirionedd, os nad yr holl ffordd drwy'r Cynulliad nesaf. Felly, mewn gwirionedd mae'n ein cyfyngu fel Cynulliad rhag gwneud penderfyniadau polisi, a hyd yn oed rhag gallu cyflwyno'r penderfyniadau polisi hynny i'r bobl benderfynu yn eu cylch mewn etholiadau. Felly, mae'n gyfnod hir o amser, ac rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar ba amgylchiadau fydd yn bum mlynedd mewn gwirionedd, a pha rai y gallwn eu gwneud yn gynt na hynny, oherwydd ceir cyfnod cyffredinol o bum mlynedd ar hyn o bryd, ac mae'n gyfnod hir i'n cyfyngu rhag gwneud rhai penderfyniadau a fyddai o fudd i Gymru, ac a fyddai o fudd i bolisïau Cymru. Rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig iawn.

Dengys yr adroddiad cynnydd ym mharagraff 9 y cytundeb rhynglywodraethol y bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn anfon adroddiadau ffurfiol at y Gweinidogion, a bydd y Gweinidogion yn amlwg yn rhannu'r adroddiadau hyn â'u deddfwrfeydd eu hunain yn rhan o'r trefniadau adrodd. Ond sut y gallwn roi adborth ar yr adroddiad hwnnw fel deddfwrfa? Ble mae ein mewnbwn i'r dadleuon ar yr adroddiad hwnnw, a'r cynnydd ar hynny? Nid yw'n gwbl glir.

Yn y memorandwm a ddaw gydag ef, mae'n dweud y gall Gweinidogion y DU wneud argymhellion a gaiff eu cymeradwyo gan Senedd y DU, ond a fyddant yn cael eu cyflwyno i ni o gwbl? Cymeradwyaeth gan Senedd y DU ydyw, ond nid yw'n dweud mewn gwirionedd y cawn ni unrhyw ystyriaeth, mewn amgylchiadau lle y gwneir rheoliad cymal 11 o bosibl. Os na roddir cydsyniad y ddeddfwrfa, mae'n dweud y gallant weithredu gyda datganiad ysgrifenedig yn nodi pam eu bod wedi gwneud hynny. Rydych yn ystyried y datganiad ysgrifenedig, ond ble mae ein mewnbwn i hynny? O ble y cawn y wybodaeth honno? Ble mae'r adroddiad i ni ynglŷn â pham y maent wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, a sut y gallwn ymateb i'r adroddiad hwnnw? Credaf ei bod yn bwysig inni ymdrin â hynny hefyd.

Ac yn olaf ym mhwynt 9 y memorandwm, mae'r frawddeg olaf yn dweud:

na ellir eu diwygio gan y gweinyddiaethau datganoledig gan fod rheoliadau cymal 11 wedi'u gwneud, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo y bydd yn ymgynghori yn gyntaf â'r weinyddiaeth neu'r gweinyddiaethau datganoledig perthnasol—

mae'r gair 'ymgynghori' yno eto, ac nid 'ceisio cydsyniad', naill ai'r Gweinidogion neu'r gweinyddiaethau datganoledig. Felly, unwaith eto, mae gennym sefyllfa lle nad oes dim ond ymgynghori'n digwydd ac ni cheisir unrhyw gydsyniad, na dod i gytundeb.

Felly, mae gennyf rai pryderon dwfn ynglŷn â'r ffaith y ceir meysydd o hyd lle na chawn gyfle i gyfrannu at y broses honno fel deddfwrfa, heb sôn am fel Gweinidogion, a buaswn yn gobeithio y byddwch yn ystyried y rheini o bosibl, oherwydd mae'r 24 maes a nodwyd yn eithaf enfawr mewn gwirionedd— amaethyddiaeth, ffermio organig, lles anifeiliaid, ansawdd amgylcheddol, labelu bwyd, rheoli a chynorthwyo pysgodfeydd, sylweddau peryglus—ac rwy'n tybio bod hynny'n cynnwys gwastraff peryglus—caffael cyhoeddus, honiadau iechyd maethol. Mae'r 24 maes yn cwmpasu llawer iawn o bethau. Gallai llawer o feysydd fod wedi'u rhewi am y saith mlynedd nesaf.

16:25

Lywydd, diolch ichi. Yn gyntaf oll, a gaf fi roi sicrwydd i'r Aelod y bydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno cyn y Cyfnod Adrodd a Chyfnod y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi? Mae'n gywir i ddweud bod y rhwymedigaeth 'nid fel arfer' ar Lywodraeth y DU yn cael ei chydbwyso gan y rhwymedigaeth 'heb ei ddal yn ôl yn afresymol' ar y gweinyddiaethau datganoledig.

Gadewch imi ymdrin â'r hyn a ddywedodd am y cymal machlud. Gadewch inni fod yn glir y caiff y cyfnod cyntaf o ddwy flynedd eu cynnwys yn y cytundeb pontio y mae Llywodraeth y DU bellach wedi'i gytuno gyda'r Undeb Ewropeaidd. Felly, am y cyfnod hwnnw o amser, mae pawb ohonom wedi ymrwymo i sicrhau bod y llyfr rheolau presennol a'r trefniadau sy'n bodoli eisoes yn eu lle. Dywedais yn fy ateb cynharach i Neil Hamilton y byddai'r pum mlynedd sy'n dilyn wedi hynny'n cynnig diogelwch, a gadewch i ni gofio nad oedd y cymal 11 gwreiddiol yn cynnwys unrhyw ddiogelwch o gwbl. Gallai'r pwerau hynny fod wedi'u cadw am gyfnod amhenodol yn San Steffan, ac mae sicrhau cymal machlud, gallaf ddweud wrthych, wedi galw am wythnosau bwy'i gilydd o ddadlau rhwng ein Llywodraeth ni a Llywodraeth yr Alban ar y naill law, a Llywodraeth y DU ar y llall. Ac mae'n gam arwyddocaol ymlaen ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi bod yn barod i gynnwys yr ôl-stop hwnnw yn y ddeddfwriaeth. Credaf y byddwn wedi dod i ben â hyn i gyd ymhell cyn yr adeg honno.

Rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd David Rees am waith swyddogion yn y maes hwn. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU wedi gweithio'n ddiflino, yn enwedig dros y ddau fis diwethaf, i sicrhau'r sefyllfa rydym wedi'i chyrraedd heddiw. Maent yn haeddu diolch pob Aelod o'r Cynulliad hwn.

Cyfeiriodd David Rees at yr adroddiadau cynnydd a nodir yn y cytundeb. Dywedais wrth Mark Isherwood y credaf y byddant yn cael eu cynhyrchu bob tri mis ac y byddant ar gael i'r Cynulliad hwn. Mae David Rees, fel Cadeirydd un o bwyllgorau mawr y Cynulliad, yn gwbl briodol yn cyfeirio at yr angen i fanylu ar sut y bydd gwaith craffu'n digwydd ar y cytundeb hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n gwbl fodlon ymrwymo ar ran y Llywodraeth y byddwn eisiau siarad gyda'r pwyllgorau a fydd yn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny am y ffyrdd gorau o gyflawni hynny.

Lywydd, byddai wedi bod yn gynamserol, mi gredaf, i mi fod wedi cytuno ar unrhyw beth â'r Alban a Llywodraeth y DU ar y camau gweithredu sydd yn nwylo'r ochr Seneddol i'r sefydliad hwn heb yn gyntaf fod wedi cael cyfle i siarad â'r rhai sy'n gyfrifol am gyflawni'r cyfrifoldebau craffu hynny. Credaf ein bod, yn y ddadl hon, wedi darparu'r deunydd crai sy'n gwarantu y bydd y cyfleoedd craffu hynny ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol. Bellach mae angen inni weithio gyda chi i wneud yn siŵr fod y ffyrdd ymarferol y caiff hynny ei gyflawni yma yn rhai sy'n bodloni gofynion y pwyllgorau ac sy'n caniatáu i'r Llywodraeth gyflawni ei chyfrifoldebau hefyd.

16:30

Mae'n ddrwg gennyf lwytho molawd arall ar y Gweinidog, ond credaf fod ei berfformiad grymus drwy gydol y mater hwn—nid wyf bob amser wedi cytuno â'r hyn y mae wedi'i wneud, ond rwy'n credu ein bod bellach yn gweld ffrwyth cyfaddawd dychmygus iawn a fydd yn parchu canlyniadau'r refferendwm ac yn cryfhau'r cyfansoddiad Prydeinig.

Lywydd, lluniwyd datganoli ar sail aelodaeth o'r UE. Mae'n debyg y byddai wedi'i lunio mewn ffordd wahanol iawn pe na bai Prydain wedi bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn y 1990au. Cawsom un o'r mathau mwyaf trylwyr o ddatganoli—sy'n rhyfeddol mewn gwirionedd, o gofio ein hanes fel gwladwriaeth unedol. O ganlyniad i'ch negodiadau, mae natur y setliad datganoli nid yn unig heb ei newid, ond mae'n ymddangos i mi y bydd wedi'i gryfhau mewn ffordd radical.

Gadewch inni beidio ag anghofio, nad yw llawer o'r pwerau a fydd yn cael eu rhewi—y pethau y bydd gofyn eu cael i redeg fframweithiau—gyda ni ar hyn o bryd, mewn gwirionedd; maent yn bodoli ar lefel llywodraethiant Ewropeaidd. Ymddengys i mi eich bod wedi cryfhau rôl Llywodraeth Cymru a bydd gan y ddeddfwrfa hon fel y gwelwn yn awr ymddangosiad cydlywodraethu dros faterion hanfodol i'r Deyrnas Unedig gyfan.

Yn wir, o'r cychwyn mae Llywodraeth yr Alban, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, wedi derbyn yr angen am fframweithiau i lywodraethu meysydd o ddiddordeb cyffredin. Rydym yn clywed drwy'r amser gan grwpiau amgylcheddol, er enghraifft, fod hyn yn bwysig tu hwnt. Felly, credaf fod llywodraethu fframwaith yn hanfodol a chroesawaf yn arbennig y cytundeb rhynglywodraethol a gobeithio y bydd hyn yn gosod cynsail ar gyfer y modd y gweithreda'r fframweithiau hyn yn y dyfodol pan fydd angen iddynt weithredu a chael eu diwygio mewn blynyddoedd i ddod. Felly, rwy'n ei longyfarch ar amddiffyn pwerau'r Cynulliad hwn ac yn wir, fel y dywedais, ar gadw mewn modd dychmygus iawn y ffurf eang o ddatganoli sydd gennym.

A gaf fi ddweud yn olaf y credaf fod egwyddor triniaeth gyfartal y pwerau yn y rhewgell—rhaid imi ddefnyddio'r gyfatebiaeth honno hefyd—yn gyflawniad anhygoel? Mae'n diogelu ein hawliau a'n buddiannau, ac fel y dywedais mae'n ffurfio sail ar gyfer cydlywodraethu priodol yn y dyfodol yn fy marn i.

Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ac am y sylw gofalus iawn y mae wedi'i roi i hyn i gyd ac am y cyfle ar hyd y ffordd i drafod datblygiadau gydag ef, fel y gwneuthum gyda phleidiau eraill yma? Mae'n hollol gywir i ddweud bod y cytundeb hwn yn sicrhau rôl gryfach i Lywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar draws ystod gyfan o gyfrifoldebau pwysig iawn.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud heddiw y bydd popeth a gytunwyd gennym ar gael i Lywodraeth yr Alban, a chredaf fod Llywodraeth yr Alban hefyd wedi dynodi, er eu bod yn dymuno pe bai modd i'r cytundeb hwn fynd ymhellach, ac rydym yn parhau i weithio gyda hwy ar hynny, y byddant hwy hefyd yn gweithredu'n llwyr o fewn y fframweithiau a nodwyd gan ein cytundeb, ac mae hynny'n golygu nid yn unig fod ein pwerau wedi'u cryfhau, ond y bydd datganoli ledled y Deyrnas Unedig mewn man gwahanol i ble y byddai wedi bod pe na baem wedi gallu cyrraedd y cytundebau sydd gennym. A bydd yr egwyddor triniaeth gyfartal a sicrhawyd gennym, lle mae Gweinidogion Lloegr yn yr un sefyllfa'n union â  Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban, yn dir newydd sylfaenol bwysig a enillwyd gennym, a chredaf y bydd yn rhoi hwb newydd i'r cytundeb hwn yn ei gyfanrwydd allu sicrhau bod y prosesau y mae'n eu nodi yn cael eu gwneud, a'u cwblhau, a bod y pwerau'n dychwelyd yn llwyr i'r sefydliad cyn pen dim o dro.

16:35

A gaf fi ddweud bod eich datganiad wedi fy niflasu'n bersonol, Ysgrifennydd y Cabinet? Ac oherwydd prinder amser, fe ganolbwyntiaf ar rai cwestiynau'n unig. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ennill pwerau yma mewn ymateb i ganlyniadau refferendwm a gawsom yma yng Nghymru. Mae 24 o'n pwerau ar fin cael eu rhewi am hyd at saith mlynedd mewn rhewgell. Trosglwyddo pwerau o'r lle hwn i rywle arall yw hynny—pwerau sydd bob amser wedi dod i'r lle hwn o Frwsel i Gaerdydd heb unrhyw groestorri.

Brynhawn dydd Llun, yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cawsom drafodaeth ar gymal 11. Rydych yn dweud yn eich datganiad: 'Nid yw'r canlyniad hwn yn berffaith.' Cytunaf â chi yn y fan honno, Ysgrifennydd y Cabinet.

Byddai'n well gennym pe na bai Cymal 11 yn bodoli.

Rwy'n cytuno â chi ar hynny hefyd. Ac mae'n amlwg ichi wneud y pwynt yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol brynhawn Llun nad oedd gwrthdroi cymal 11 ym mis Mawrth yr awgrymodd Llywodraeth y DU nad oedd yn ddigon i chi o hyd—heb fod yn ddigon i chi o hyd; roedd gormod o amwysedd yn ei gylch. Daliai i edrych fel pe bai San Steffan yn mynd i redeg yr amserlen, y pwerau a phopeth, er mai hwy oedd wedi'i wrthdroi. Mewn geiriau eraill, nid oedd y pwerau'n mynd o Frwsel i San Steffan ac wedyn, o bosibl, ymlaen i Caerdydd. Maent yn mynd o Frwsel i Gaerdydd yn awr gyda rhai wedi'u cadw yn Llundain—y rhan sydd wedi'i wrthdroi. Felly, roeddwn gyda chi hyd at y pwynt hwnnw ac roeddwn gyda chi yn eich anfodlonrwydd ynglŷn â'r sefyllfa fel oedd hi brynhawn dydd Llun. Felly mae pethau wedi digwydd yn gyflym iawn yn y 24 awr hynny. Yn amlwg, mae 24 awr yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ond a allwch egluro beth yn union a ddigwyddodd rhwng prynhawn dydd Llun a phrynhawn dydd Mawrth—ddoe?

Oherwydd amser, mae fy unig gwestiwn arall yn ymwneud â chydlywodraethu, oherwydd rydym yn y sefyllfa rydym ynddi. Mae'n ymwneud â fframweithiau a phwy sy'n penderfynu. Mewn geiriau eraill, yr hyn rydym ei eisiau yw cadarnhad nad yw'r hen ddictad o 'San Steffan yn penderfynu ac yna'n dweud wrthym beth i'w wneud' yn ddigon da. Mae llawer o ddefnydd creadigol o'r gair 'fel arfer' yma, a gall pobl ddehongli 'fel arfer' mewn nifer o ffyrdd. Rydym eisiau sicrwydd yn y sefyllfa enbyd hon fod cydlywodraethu mewn perthynas â fframweithiau hanfodol bwysig yn gydlywodraethu go iawn. Mewn geiriau eraill, y bydd ein mewnbwn yma o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cael ei gydnabod mewn gwirionedd, ac y ceir parch cydradd a chydraddoldeb o ran perfformiad, yn hytrach na bod San Steffan yn penderfynu a ninnau'n dilyn yn dila. Oherwydd mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei ymddiriedaeth mewn Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan.

Bob dydd yma, rydym yn clywed sylwadau dilornus gan Aelodau Llafur y Cynulliad am y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, yr un Lywodraeth Dorïaidd yr ydych wedi ymddiried y manylion iddi i wneud yn siŵr nad ydym yn colli pwerau. Mae ymddiriedaeth yn beth bregus iawn, yn enwedig pan fyddwch yn ymdrin â'r Ceidwadwyr. Rydym wedi cael pobl yn barnu perfformiad y Ceidwadwyr heddiw hyd yn oed, mewn perthynas â chyni, diwygio lles, pensiynau menywod, ac yn y blaen—yr wythnos diwethaf yn ogystal. Bellach, rydych yn ymddiried yn yr un Lywodraeth ag sydd wedi gorfodi ein pobl i fyw mewn tlodi.

A fy mhwynt terfynol yw hwn: mae pobl bob amser yn dweud, pam fod gan Gymru lai o bwerau, llai o ddylanwad na'r Alban, na Gogledd Iwerddon, na Manceinion, lle mae plismona wedi'i ddatganoli, na Chynulliad Llundain? Wel, wyddoch chi pam? Oherwydd yn y pen draw, mae Llywodraeth San Steffan yn gwybod bob tro y bydd Llafur yng Nghymru bob amser yn ildio.

16:40

Wel, Lywydd, rwy'n teimlo'n sicr pan fydd yr Aelod yn cael cyfle i astudio'r hyn a gytunwyd y bydd peth o'r pryder y mae wedi'i fynegi y prynhawn yma'n cael ei liniaru. Mae'n unigolyn rhesymol, rwy'n gwybod, ac rwy'n credu o ddifrif pan ddaw i edrych ar y manylion, y bydd yn teimlo y gall edrych yn wahanol ar rai o'r pwyntiau a wnaeth.

Dywedodd nad oedd gwrthdroi cymal 11 yn ddigon, ac wrth gwrs mae'n iawn, ac wrth gwrs roeddem yn cytuno â hynny. Ac yna gofynnodd beth oedd wedi digwydd ddoe i ddod i gytundeb mor gyflym. Roedd ddoe yn ddiwrnod cyflym iawn o symud yn ôl ac ymlaen rhwng y tri chyfranogwr yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Dyfarniad ydoedd: dyfarniad ar ran y Llywodraeth hon, pe na baem wedi dynodi ddoe ein bod yn barod i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn, y byddai popeth a gyflawnwyd gennym yn ystod y negodiadau hyn, popeth a amlinellais y prynhawn yma sy'n wahanol ac yn gam ymlaen i ddatganoli ar y cymal 11 gwreiddiol, heb gytundeb gyda ni a heb gytundeb gyda Llywodraeth yr Alban, y byddai Llywodraeth y DU yn dychwelyd at y gwelliant gwreiddiol a gyflwynodd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Popeth a gyflawnwyd gennym, popeth y mae Prif Weinidog yr Alban yn cyfeirio atynt fel 'datblygiadau sylweddol': ni fyddai dim o hynny wedi'i sicrhau. A dyna a newidiodd ddoe: y datganiad gan Weinidog yr Alban; negodiadau a thrafodaethau pellach rhyngom ni a Llywodraeth y DU; a'r Llywodraeth hon yn sicrhau popeth a sicrhawyd gennym dros wythnosau a misoedd o negodi poenus a manwl. Credaf mai dyna pam yr ystyriaf hyn yn gyflawniad mawr.

Gofynnodd Dr Lloyd gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â phwy sy'n penderfynu ar y fframweithiau a ddaw i'r amlwg wrth i bwerau ddychwelyd i'r gweinyddiaethau datganoledig. Wel, bydd penderfyniadau'n digwydd mewn dwy ffordd wahanol. Yn gyntaf oll, rydym wedi sicrhau set gyfartal o drefniadau lle bydd y tair—ac os oes gennym weinyddiaeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon, pedair—Llywodraeth yn gweithio ar y cyd i sicrhau'r fframweithiau hynny. Ni fydd yn fater, fel sydd wedi digwydd yn rhy aml o lawer yn y gorffennol, o Lywodraeth y DU yn gweithio ar y pethau hyn ar ei phen ei hun a chynhyrchu darn o bapur ar yr unfed awr ar ddeg a dweud wrthym, 'Dyna fe, gallwch ei gael os ydych ei eisiau.' Na. Mae hyn yn hollol wahanol. Mae pawb ohonom yn gweithio gyda'n gilydd ar y fframweithiau, a dyna sut y cânt eu cytuno.

Wedyn, pwy sy'n penderfynu? Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penderfynu. Oherwydd lle bydd gofyn cael sail ddeddfwriaethol i'r fframweithiau hyn, boed drwy ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth, cymhwysir Confensiwn Sewel. Ac mae hynny hefyd yn gam mawr ymlaen yn y cytundeb hwn. Am y tro cyntaf, caiff Sewel ei warantu yn y rheoliadau. Caiff ei gymhwyso i ddeddfwriaeth sylfaenol bob amser, a bydd yn digwydd os oes angen deddfwriaeth sylfaenol ar fframweithiau. Nawr, bydd yn gymwys i fframweithiau sy'n galw am wneud rheoliadau yn ogystal, a bydd hynny'n dod yma, i lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn i'w benderfynu. Dyna pam, yn y pen draw, os ydych yn negodi'n ddidwyll â llywodraethau eraill, rhaid caniatáu i ymddiriedaeth weithredu.

Nid ymddiriedaeth ydyw, wrth gwrs, yn rhaglen bolisi Llywodraeth y cawsom gymaint o anghytundeb dwfn â hi, ond trefniant sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth rhwng Llywodraethau pan fydd y trefniadau hynny wedi'u nodi mewn deddfwriaeth, pan geir cytundeb rhynglywodraethol i gyd-fynd â hwy y bydd pob parti sy'n barod ac yn abl i wneud hynny wedi'i gefnogi'n ffurfiol ac yn gyhoeddus.

16:45

A gaf fi, yn gyntaf oll, groesawu eich datganiad a'ch manylder wrth ateb y pwyntiau amrywiol a godwyd? Mae'n iawn, fel y byddwch yn disgwyl, ein bod yn mabwysiadu ymagwedd ofalus hyd nes y byddwn yn gwybod y manylion llawn, hyd nes ein bod wedi gweld y gwelliannau eu hunain mewn gwirionedd a lle maent yn ffitio o fewn y ddeddfwriaeth. Dyna ein rôl fel deddfwrfa: craffu ar hynny, ac edrych hefyd ar y berthynas rhwng yr holl adrannau. Ac mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl darllen drwy'r papurau ar nifer o achlysuron, mae'r gydberthynas rhyngddynt yn gymhleth iawn; mae bron fel dychwelyd at atgyfodi deunydd dilechdidol wrth imi geisio darganfod yn union beth yw'r trefniadau. Ond rwy'n cydnabod hefyd, fel rydych wedi dweud, y bydd dadl lawn a phenderfyniad yn y Siambr hon, yn yr ystyr y bydd yna gynnig cydsyniad deddfwriaethol. A gaf fi hefyd gydnabod, mewn sawl ffordd, ei fod wedi bod yn dyst i'ch mewnbwn a mewnbwn Llywodraeth Cymru, ar adegau, mai'r doethineb gwleidyddol o Gymru a oedd yr unig ran, bron, a greodd rywfaint o gallineb ac a gadwodd y negodiadau a'r trafodaethau hyn i symud? Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod hynny.

Rwyf am ofyn nifer o gwestiynau, ond rwyf am wneud un sylw ar y pwynt a wnaethoch am yr adran ar beidio â chadw cydsyniad yn ôl yn afresymol. Mae'n ymddangos i mi'n dawtolegol braidd yn yr ystyr na allai unrhyw benderfyniad y gellid ei wneud yn y lle hwn i beidio â rhoi cydsyniad fod mewn unrhyw ffordd yn afresymol, oherwydd, fel Senedd, rydym yn gwneud ein penderfyniadau ar ran y bobl ac fel y cyfryw mae'n amlwg na all y penderfyniadau hynny fod yn afresymol yn yr ystyr gyfansoddiadol. Felly, nid wyf yn hollol siŵr beth yw ystyr yr ymadrodd hwnnw, a hoffwn i chi ddweud ychydig bach, maes o law, ynglŷn ag a ydych yn credu y bydd hyn yn y pen draw yn arwain at ystyriaeth briodol o'r trefniadau rhyngseneddol a strwythur y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ei hun, oherwydd mae llawer o'r hyn a ddywedoch am drefniadau fframwaith a thrafodaethau'n parhau yn gwbl ddibynnol ar ddiwygio'r weithdrefn honno mewn gwirionedd, ac mae i ba raddau y gall hynny weithio yn mynd i fod yn ddibynnol mewn rhai ffyrdd ar weld y newidiadau hynny'n digwydd.

Mae'n amlwg nad yw mater cydsyniad yn yr ystyr gaeth yn llinell goch, ac un o'r meysydd y byddaf am eu harchwilio a'u hystyried yn ofalus iawn yw'r modd y sicrheir cydsyniad neu gytundeb, ond hefyd, goblygiadau penodol y cytundeb hwn i'r Bil Masnach, er enghraifft, oherwydd gallai'r cytundebau masnach y gellid eu cyflawni—fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd yn flaenorol—danseilio fframweithiau. Gallent effeithio'n sylweddol ar fframweithiau, ac anwybyddu fframweithiau o bosibl, ac mae'n gwbl hanfodol fod y ddeddfwriaeth sy'n unol â'r Bil ymadael hefyd yn adlewyrchu egwyddorion y cytundeb—os cânt eu cymeradwyo, ac os caiff memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei roi i'r rheini yn y pen draw—neu gallai'r trefniant cyfan, y cytundeb cyfan, chwalu mewn gwirionedd, neu gael ei anwybyddu.

Hoffwn glywed barn ar y cyfeiriad yn y memorandwm—rheoliadau cymal 11—oherwydd mae'r trefniant 40 diwrnod i mewn yno, wrth gwrs, lle na fydd gweithredu'n digwydd am gyfnod o 40 diwrnod. Ond wrth gwrs, mae gennym drefniant cyfansoddiadol ychydig yn wahanol i'r Alban oherwydd, ar gyfer is-ddeddfwriaeth yma, mae gofyn cael cydsyniad deddfwriaethol nad yw'n bodoli yn yr Alban. Tybed a allwch egluro sut y y byddai'n gweithredu mewn gwirionedd, oherwydd yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall ohono roedd fel pe bai'n awgrymu, ar ôl y cyfnod o 40 diwrnod, y gallai Llywodraeth y DU fwrw ymlaen, a byddai hynny'n ymddangos yn sefyllfa waeth nag sydd gennym ar hyn o bryd mewn perthynas â chydsyniad deddfwriaethol. Nawr, efallai fy mod yn ei gamddehongli, ond hoffwn eglurhad ar hynny.

Yr unig beth olaf yw hyn: mewn perthynas â'r trafodaethau sydd ar y gweill, yn enwedig mewn perthynas â'r Alban, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedwch ynghylch natur barhaus y cytundeb hwn ac ati, ond pe ceid cytundeb gyda'r Alban a fyddai'n cynnig sefyllfa y gallem weld ei bod yn well na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, a yw'n wir na fydd unrhyw gwestiwn y byddem yn gallu manteisio hefyd ar unrhyw beth arall a fyddai'n codi y byddem yn ei ystyried yn well?

Heblaw hynny, fe ddywedaf fy mod yn edrych ymlaen at eich gweld yn mynychu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, oherwydd yr ochr graffu i hyn sy'n allweddol mewn gwirionedd, a dyna pam rwy'n meddwl ei bod hi'n hollbwysig nad ydym yn ffurfio barn yn rhy gynnar ynglŷn â'r hyn a gytunwyd a beth yw ei oblygiadau llawn.

16:50

Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny. A gaf fi ddechrau drwy fynegi fy siom nad yw'r Aelodau wedi gweld y gwelliannau mewn gwirionedd? Roedd yn rhaid eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi erbyn 4 o'r gloch y prynhawn yma. Gyda'ch help chi, Lywydd, trefnwyd y datganiad ar gyfer 4 o'r gloch yma—dyna oedd ein ffordd orau o geisio sicrhau y byddai'r gwelliannau wedi bod ar gael i'r Aelodau. Nid yw yn ein dwylo, fel y gallwch weld, ond rydym wedi gwneud ein gorau glas i drefnu pethau fel y byddai'r Aelodau wedi gweld y gwelliannau. Byddant yn eu gweld yn awr, wrth gwrs, ac mae Mick Antoniw yn llygad ei le yn dweud bod yn rhaid gweld y gwelliannau o ran eu cydberthynas â'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth a gytunwyd gennym a'r cytundeb rhynglywodraethol.

A gaf fi ddweud wrth yr Aelod fod yna gyfaddawdu bob amser wrth negodi, fel y gŵyr yn dda iawn, rhwng yr hyn y mae partïon gwahanol ei angen? Roeddem angen i Lywodraeth y DU ymrwymo'n benodol i beidio â gwrthod gwneud pethau fel arfer yn y ffordd y byddem yn ei ddisgwyl, ac yn gyfnewid am hynny, roeddent am inni ymrwymo i beidio â gwrthod cydsynio yn afresymol. Efallai'n wir ei fod yn iawn pan fyddwch yn tyllu o dan y geiriau fod y ddau ohonynt yn ddatganiadau syml o'r ffordd y caiff pethau eu gwneud bob amser, ond dyna'r ffordd y cynhelir negodiadau. Os ydych am gael rhywbeth, weithiau rhaid ichi roi rhywbeth hefyd.

Fe wnaeth dri phwynt pwysig iawn, Lywydd, ac rwyf am inni ymdrin â hwy. Nid parch syml rhwng Llywodraethau yw parch cydradd, mae'n golygu parch rhwng Seneddau yn ogystal. Gwnaed pwynt da iawn i mi yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddoe sy'n nodi os yw gwybodaeth yn mynd i gael ei chyflenwi i'r ddeddfwrfa hon mewn perthynas â fframweithiau, er enghraifft, yna dylai fod yr un lefel o wybodaeth ar gael i Seneddau mewn mannau eraill, y dylai fod triniaeth gydradd ledled y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr nad oes unrhyw Senedd yn cael ei thrin yn llai manteisiol nag unman arall, a cheir pwysau gwirioneddol ac angenrheidiol i gwblhau trefniadau rhyngseneddol newydd er mwyn sicrhau y cedwir hawliau Seneddau yn llawn.

Gwnaeth bwynt pwysig iawn, Mick Antoniw, am y ddeddfwriaeth a fydd yn dilyn y Bil ymadael. Rheswm arall pam yr oeddem yn argyhoeddedig fod angen inni ddod i gytundeb yw bod popeth a gytunwyd gennym yma, popeth a gytunwyd gennym ynghylch cydsyniad ac ati, yn rhaeadru ymlaen i'r Biliau y bydd Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno bellach, megis y Bil Masnach. Felly, nid yw hyn yn ymwneud yn syml ag ennill tir yn y Bil ymadael, mae'n ymwneud â sicrhau'r datblygiadau a wnaethom yma yn barhaol ym mhob deddfwriaeth Brexit UE sy'n dilyn.

Ac yn olaf, gadewch imi roi sicrwydd iddo, os gellir mireinio'r cytundeb ymhellach a'i symud ymlaen ymhellach ac os gall sicrhau cyfranogiad yr Alban, bydd unrhyw beth a gaiff ei sicrhau yn cael ei sicrhau o ganlyniad i'r tair Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, a byddai pob un o'r datblygiadau hynny yr un mor berthnasol i ni.

Rydym ymhell dros yr amser ar y datganiad hwn, ond mae'n ddatganiad pwysig. Mae gennyf bedwar siaradwr arall sydd am siarad. Fe'u galwaf, ond mae angen i bob un ohonoch fod yn gryno iawn yn eich cwestiynau. Simon Thomas. [Chwerthin.]

Diolch, Lywydd. Fe wnaf fy ngorau. A gaf fi ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet nad yw'r anghytundeb yma yn ymwneud â'r gwaith a gyflawnodd na'r gwaith caled y mae ef a'i swyddogion wedi'i wneud? Mae'n anghytundeb rhwng y rhai ohonom nad oes gennym y ffydd y mae wedi ei arddangos heddiw yng nghyfansoddiad y DU i gyflawni dros Gymru, y rhai ohonom sy'n awyddus i ddilyn safbwynt llawer mwy beirniadol a llawer mwy cadarn ar amddiffyn pwerau'r Senedd hon. Os caf ddweud, mae'n gorddibynnu ar gytundeb rhynglywodraethol i sicrhau tegwch ar gyfer y Senedd hon, ac rwy'n credu mai dyna ble rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r hyn y mae wedi'i nodi heddiw.

Gan nad oes gennyf lawer o amser, a gaf fi ei annog i wrando ac adolygu'r cwestiynau perthnasol iawn a roddwyd iddo gan Mick Antoniw a David Rees, sydd wedi mynd at wraidd rhai o'r cwestiynau y buaswn wedi dymuno eu gofyn iddo ynghylch y gwendidau mewn cytundeb rhynglywodraethol o'r fath yn cyflawni ar ochr seneddol? Mewn gwirionedd, er bod gennym gyfeiriad at y Cynulliad yn y cytundebau hyn ac yn y memorandwm, yn y pen draw, gall San Steffan, ar ôl 40 diwrnod—nid yn yr anialwch, ond ar ôl 40 diwrnod—weithredu yn y 24 maes, ynghyd â 12 maes arall sydd eto i'w cytuno. Felly, gallai hynny gynyddu 50 y cant. Ac os caf wneud y pwynt hefyd ein bod yn sôn am wyth mlynedd, nid saith mlynedd—daw'r cytundeb hwn yn weithredol ar y diwrnod ymadael a dwy flynedd, a phum mlynedd wedyn. Dyna wyth mlynedd. Felly, mae'n rhaid i bob un ohonom sydd â diddordeb mewn bod yn Llywodraeth yng Nghymru sylweddoli ein bod yn gwerthu ein gallu i weithredu yn y 24 maes am wyth mlynedd hir.

Nawr, ceir ffyrdd ymarferol y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u nodi pam na fydd hynny'n digwydd, oherwydd bod Lloegr wedi'i rhewi yn ogystal, ond nid wyf yn gweld llawer o gynnydd yn Lloegr, diolch yn fawr iawn. A phan siaradwn am ddatganoli polisi cymorth amaethyddol, er enghraifft, nid wyf eisiau inni aros wyth mlynedd i Loegr benderfynu beth y maent am ei wneud; rwyf am inni weithredu o'r diwrnod cyntaf un. Cawn ein hatal rhag gwneud hynny yn y cyswllt hwn.

Os caf ddod i ben gyda dau gwestiwn penodol, yn gyntaf oll, mae'n sôn bod y cytundeb hwn yn meddu ar y gallu i symud ymlaen. Dywed ei fod yn gam sylweddol o ran cydweithio. Eto nid yw'r cytundeb ond yn nodi'r hyn y mae ef yn y gorffennol wedi'i ddisgrifio fel rhywbeth sydd ond ychydig yn well na chyngor plwyf Sain Ffagan. Beth yn y cytundeb hwn sy'n sefydlu'r gweithio cydweithredol hwnnw mewn gwirionedd? Nid oes ganddo'r cyd-gyngor Gweinidogion yr oedd am ei gael, yn gweithio yn y ffordd yr oedd ei eisiau. Nid oes unrhyw gyflafareddu annibynnol. Nid oes unrhyw ffordd o gyfeirio pethau at fecanwaith anghydfod amgen. Os cymharwch y cytundeb hwn â'r fframwaith cyllidol a gytunwyd ganddo ac a gefnogwyd yn llawn gan Blaid Cymru, gyda llaw, fe welwch yr elfennau hynny yno, ac nid ydych yn eu gweld yn y cytundeb hwn. Dyna'r gwendid cyntaf, yn ymarferol, a fydd yn digwydd yma.

Mae'n disgrifio penderfyniad terfynol y Senedd yma fel 'ôl-stop'. Buaswn yn ei ddisgrifio fel feto. Pan edrychwn ar y cytundeb sy'n cynnwys arfer y feto hwn, mae'r term 'fel arfer' yn frith drwyddo. Mae wedi'i godi sawl gwaith, ond nid ydych wedi ateb hyn eto: beth yw ystyr 'fel arfer' yn yr amgylchiadau hyn? Mae'n amlwg o'r cytundeb—. Rydym wedi siarad am gymal 11 yma, ond mae hefyd yn amlwg o'r cytundeb y caniateir i Lywodraeth y DU ddefnyddio cymalau 7, 8 a 9 bellach i ymyrryd yn uniongyrchol mewn meysydd eraill sydd eisoes wedi'u datganoli—nid y 24 sy'n cael eu dychwelyd, ond y rhai sy'n dod yma. Gall Senedd y DU ddal i estyn i mewn a bachu ein pwerau yn y meysydd hynny—ond na fydd fel arfer yn gwneud hynny unwaith eto. Beth y mae 'fel arfer' yn ei olygu? Rwy'n dweud wrtho fod gwleidyddiaeth wedi newid ystyr 'fel arfer' mewn gwleidyddiaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn ffordd sylfaenol iawn.

16:55

Lywydd, mae'r honiad cyntaf a wnaeth Simon Thomas, rwy'n meddwl, yn ddatganiad hollol resymol o sut y gellir deall anghytundeb rhwng dau barti. Os mai safbwynt ei blaid yw eu bod yn croesawu'r tir a enillwyd ond yn credu nad yw'n mynd yn ddigon pell a bod mwy y gellid bod wedi ei wneud, mae hynny'n ymddangos i mi yn gwbl resymol. Nid dyna y credaf i mi ei glywed gan aelodau eraill Plaid Cymru, rhaid imi ddweud; maent hwy wedi disgrifio'r hyn a gyflawnwyd gennym mewn termau diraddiol iawn. Mae'r ffordd y rhoddodd Simon Thomas y peth, fod yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn rhywbeth y mae'n ei groesawu—nid wyf am roi geiriau yn ei geg—ond bod mwy y mae'n credu y dylid bod wedi'i wneud, ac felly na all ei dderbyn fel y mae, mae hynny'n ymddangos yn ffordd gwbl briodol o'i roi, ac yn wir, dyna'r ffordd y rhoddodd Michael Russell y peth pan wnaeth ei ddatganiad yn Senedd yr Alban ddoe. Ac yn yr ystyr honno, ceir anghytundeb rhwng y ffordd y mae'r Llywodraeth yma wedi dod i gytundeb a'r ffordd y byddai Simon Thomas wedi dymuno gweld pethau. Rydym yn rhoi pwys ar y cytundeb rhynglywodraethol, oherwydd credwn fod yr ymdrech i'w sicrhau, y ffordd gyhoeddus yr ymrwymwyd iddo, yn golygu y gallwn ymddiried rhywfaint ynddo.

Mae Simon Thomas yn dweud nad yw'n ymdrin yn ddigonol â hawliau'r Senedd yma, ac rwy'n gweld y pwynt a wnaeth. Yn wir, roedd yn bwynt a wnaed gan David Rees, ond rwy'n rhoi'r un ateb: y byddai wedi bod yn beth rhyfedd yn wir i mi, fel aelod o'r Llywodraeth, fod wedi gwneud ymrwymiadau ar ran y ddeddfwrfa mewn cytundeb rhwng Llywodraethau. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yn awr yw gwneud y gwaith y cyfeiriodd David Rees ato, a gwneud yn siŵr fod y prosesau seneddol sy'n mynd ochr yn ochr â chytundeb rhynglywodraethol yn cael eu cytuno yma—nid eu cytuno rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ond eu cytuno yma, ar yr ochr seneddol, lle bydd y cyfrifoldebau hynny.

Gwnaeth Simon Thomas dri phwynt ar y diwedd. Fel y dywedaf, nid wyf am funud yn credu fy hun y bydd yn cymryd wyth mlynedd, fel y dywedodd, i bwerau ddychwelyd yma. Gadewch imi ddweud wrth y Cynulliad pa mor galed oedd y gwaith i gael cytundeb na fyddai Gweinidogion Lloegr yn defnyddio'r pwerau tra bod y pethau hyn yn y rhewgell. A ydych chi'n meddwl eu bod wedi cytuno i hynny yn ddifyfyr? Gallaf ddweud wrthych eu bod yn amharod iawn yn wir i fod yn y sefyllfa honno, a byddant am ddod o'r sefyllfa honno, fel ninnau, mor gyflym ag y gallwn gytuno i wneud hynny.

Mae'n gofyn beth yw ystyr 'fel arfer'. Wel, nid yw 'nid fel arfer' yn cael ei ddefnyddio yn y cytundeb hwn am y tro cyntaf, naill ai mewn deddfwriaeth neu gytundebau rhynglywodraethol. Mae'n golygu yma yr hyn y mae'n ei olygu yn yr holl leoedd eraill y defnyddir yr ymadrodd hwnnw, a'r ffordd y mae—[Torri ar draws.] Credaf y bydd yn cael trafferth canfod gormod o enghreifftiau—rwy'n siŵr y bydd rhai—lle y defnyddiwyd y ffordd honno o weithio er anfantais i'r ddeddfwrfa hon, a byddem yn disgwyl i'r ymrwymiadau a wnaed yma, gan adleisio fel y maent yn ei wneud yr ymadrodd hwnnw o'r ffyrdd eraill y llunnir deddfwriaeth a chytundebau, weithredu yr un mor effeithiol yma ag y maent wedi ei wneud mewn mannau eraill.

17:00

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Gwn ei fod yn cynrychioli misoedd lawer o waith manwl a chaled gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan ei swyddogion. Credaf ei fod wedi rhestru cyflawniadau sylweddol heddiw, a hoffwn ei longyfarch ar y canlyniadau hynny. Credaf ei bod yn gwbl briodol fod y Llywodraeth yn teimlo y gallant argymell ein bod yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol pan ddaw hyn ger ein bron.

Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn eisoes wedi'u gofyn, diolch byth, rwy'n siŵr, Lywydd, ond un peth yr oeddwn am ei ofyn oedd hyn: yn ystod y misoedd o negodi, a oedd yna, ar unrhyw adeg, bwynt tipio pan oeddech yn teimlo, nawr ein bod wedi cyflawni hynny, fod gobaith go iawn o ddod i gytundeb?

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd. Ni chredaf y buaswn yn dweud bod yna bwynt tipio yn y negodiadau. Hyd at ddydd Llun yr wythnos diwethaf, pan gyfarfu'r tair Llywodraeth ddiwethaf, roedd yna bwyntiau pellach yr oedd yr Alban a Chymru yn dymuno eu cynnwys yn y cytundeb, rhagor o dir yr oeddem am ei ennill. Mae wedi bod yn broses raddol lle rydym, gam wrth gam a bob yn dipyn, wedi nesu'n araf at y pwynt lle y teimlaf y gallaf ddod i'r Cynulliad heddiw a dweud y byddwn yn rhoi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac argymell y dylech ei gytuno. Mae'r Alban wedi ymrwymo, ac rydym ni gyda hwy, i wthio'r broses honno ymlaen hyd yn oed ymhellach. Os gallwn gyflawni hynny, byddwn yn falch iawn o chwarae ein rhan yn hynny. Ond dyna'r ffordd y credaf fod y negodiadau hyn wedi gweithio—nid pwynt sydyn pan fydd pethau'n tipio o fod yn annerbyniol i fod yn dderbyniol, ond gwaith hir, wythnos ar ôl wythnos, gyda swyddogion yn arbennig yn treulio oriau hir ar bethau i gyrraedd y pwynt rydym wedi'i gyrraedd heddiw o'r diwedd.

Diolch yn fawr iawn. Rydw i’n dallt, wrth gwrs, bod yna lot o waith caled wedi mynd i mewn i hyn, ond dyna ydy ein gwaith ni—gweithio’n galed dros Gymru. Fel Cymraes, fel democrat, rydw i wedi dychryn ar ba mor hawdd rydych chi wedi ildio i’r Torïaid, a pha mor hawdd rydych chi wedi cytuno i drosglwyddo pwerau iddyn nhw yn Llundain—pwerau y mae pobl Cymru wedi dweud, mewn dau refferendwm, y dylai Senedd Cymru eu rheoli nhw.

Mi wnaf i gyfyngu fy hun i un cwestiwn. Rydych chi yn dweud yn eich datganiad nad ydy canlyniad y trafodaethau efo’r Torïaid yn berffaith, ac mai cyfaddawd ydy’r cytundeb yma. Wel, mae eisiau cyfaddawdu, wrth gwrs; mae eisiau cyfaddawdu o dro i dro mewn gwleidyddiaeth, ac rydw i'n ddigon o bragmatydd ac yn ddigon realistig i gyfaddawdu yn reit aml, a dweud y gwir. Ond mae cyfaddawdu ar ddyfodol democratiaeth Cymru yn annerbyniol. Dwyn pwerau ydy dwyn pwerau, ac ni fedrwn ni ddim cyfaddawdu ar fater mor sylfaenol a hanfodol â hynny.

Ychydig dros fis yn ôl, mi wnaeth y Senedd yma bleidleisio dros Fil parhad a fuasai wedi sicrhau na fyddai modd i Lywodraeth Prydain ddwyn ein pwerau ni. Roedd y cardiau i gyd yn nwylo eich Llywodraeth chi. Felly, pam yn y byd oedd angen cyfaddawdu o gwbl?

17:05

Diolch i Siân Gwenllian am beth ddywedodd hi ar y dechrau am y gwaith caled, i gydnabod y gwaith caled sydd wedi mynd i mewn i'r cytundeb sydd o flaen y Cynulliad heddiw. Nid oes neb yn dwyn pwerau nawr o'r Cynulliad Cenedlaethol, achos rŷm ni wedi cytuno ar bethau, ac mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd gytuno pan mae pwerau yn dod ymlaen i'r llawr yma.

Ar y Bil parhad, roeddwn i wedi dweud o'r dechrau nad hynny oedd ein dewis cyntaf ni. Dywedais i a'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol bob tro, os allwn ni ddod at gytundeb gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y Bil, hynny oedd y ffordd gorau i ddelio â'r problemau yn y Bil gwreiddiol. Dyna beth rŷm ni wedi llwyddo i'w wneud, a dyna pam rydw i wedi meddwl fy mod yn gallu dod ar lawr y Cynulliad heddiw a dweud wrth Aelodau yma bod hwn yn gytundeb yr ydym ni i gyd yn gallu cytuno ag ef. 

A gaf fi ddiolch i chi i gloi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma? Rydym yn ymwybodol yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'ch ymrwymiad diysgog i sicrhau'r fargen orau i Gymru yn eich negodiadau a chredaf ei bod hi'n bwysig cofio bod Ysgrifennydd y Cabinet ac yn wir y Prif Weinidog bob amser wedi dweud mai'r hyn oedd orau gan Lywodraeth Cymru oedd sicrhau cytundeb ar y Bil ymadael, ac wrth gwrs, dyna pam y cyflwynasom y gwelliannau pwysig hynny.

Mae'r ddau gwestiwn rwyf am eu gofyn yn ymwneud ag i ba raddau y credwch eich bod wedi sicrhau ymrwymiad i newid go iawn mewn gwaith rhynglywodraethol mewn perthynas, yn arbennig, â rôl hollbwysig y Cyd-bwyllgor Gweinidogion fel cyfrwng negodiadau Ewropeaidd, oherwydd mae honno'n hollbwysig o ran gallu cyflawni'r cytundeb hwn, ac i ni hefyd fod yn hyderus y gallwn graffu arnoch chi a Llywodraeth Cymru ac yn wir, ar weithrediad rhynglywodraethol y cytundeb hwnnw. Ac wrth gwrs, rhaid i hynny gael ei ategu gan Mike Russell, yn sgil eich cysylltiadau gweithio da gyda Gweinidog Brexit yr Alban, ac rwy'n siŵr y caiff hynny ei gryfhau. Felly, y pwynt hwnnw.

Yn ail, neithiwr bûm gyda Eluned Morgan ac eraill yn narlith Gina Miller. Roedd cannoedd o bobl yno. Credaf fod rhaid inni gydnabod y bydd pobl am wybod am y cytundeb hwn, nid yma yn y Siambr hon yn unig neu yn eich pwyllgor cynghori allanol, ond sut y gallwn rannu'r newyddion hwn ac esbonio i bobl Cymru beth a gyflawnwyd.

I orffen, credaf ei bod mor bwysig inni drosi: beth y mae'n ei olygu? Mae'r gwelliant heddiw yn gwrthdroi safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y DU. Mae hwnnw'n ddatganiad mor bwysig. Mae'n creu sefyllfa ddiofyn lle mae pwerau dros bolisi datganoledig yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y maent wedi'i bod ers 1999. Mae pobl Cymru am glywed hynny.

A gaf fi ddiolch i Jane Hutt, Lywydd, am yr hyn a ddywedodd? Mae'n gofyn am broses cytundeb rhynglywodraethol. Roedd yn bwynt a godwyd gan Simon Thomas a methais ymdrin ag ef yn fy ateb iddo. Mae yno ym mharagraff 7a o'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, a dyna un o'r ychwanegiadau hwyr iawn i'r cytundeb hwn, a sicrhawyd yn y trafodaethau olaf un rhwng Llywodraeth yr Alban, ni ein hunain a Llywodraeth y DU, oherwydd mae'n ymrwymo pawb ohonom i broses sy'n arwain at gyflwyno rheoliadau. Mae'n gwarantu y bydd trafodaeth rhwng y Llywodraethau ar y sail ein bod wedi cynnal trafodaethau i gyrraedd y cytundeb hwn, i gytuno ar gwmpas a chynnwys y rheoliadau. Fel y dywedais yn gynharach, nid mater i Lywodraeth y DU ei hun fydd cyflwyno cynigion i ni eu derbyn neu eu gwrthod. Byddwn wedi bod yno wrth y bwrdd ar sail cydraddoldeb, a dyna pam y mae hon yn ffordd ymlaen. Wrth gwrs, nid yw'n cyflawni popeth yr ydym am ei gyflawni yn y ffordd y mae Simon Thomas wedi ei nodi, ond rhaid ichi ddod o hyd i ffordd i mewn i'r trafodaethau hyn. Rhaid ichi ddod o hyd i gam ymlaen sy'n caniatáu i rai pethau newid er gwell, a defnyddio hynny wedyn fel platfform ar gyfer cyflawni mwy. Bydd y cymal hwnnw yn y rhan honno o'r cytundeb yn caniatáu inni wneud hynny.

Mae Jane Hutt yn hollol gywir i ddweud bod yna neges syml wrth wraidd hyn oll. Pan ddechreuasom ar y broses hon, roedd gennym gymal 11 a oedd yn dweud, 'Ni ddaw dim i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae popeth yn aros yn San Steffan, mater i Weinidogion y DU yn unig fydd unrhyw benderfyniadau ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl hynny ac ni allwn ddweud wrthych pa mor hir y mae'r cyfan yn mynd i gymryd'. Bellach, mae gennym y gwrthwyneb llwyr i hynny: daw popeth i'r Cynulliad Cenedlaethol oni bai ein bod yn cytuno y dylid ei gadw yn San Steffan, tra'i fod yn San Steffan, yr unig ddefnydd y gellir ei wneud o'r pwerau hyn yw defnydd yr ydym yn ei gytuno, ac mae gennym ôl-stop terfynol na ellir cadw unrhyw bwerau oddi wrthym y tu hwnt iddo, a bydd popeth yn dychwelyd yma. Dyna pam y mae'r cytundeb hwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth, a dyna pam y mae pobl Cymru yn sicr yn haeddu cael gwybod popeth amdano.

17:10
7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diwygio llywodraeth leol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf, felly, yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwygio llywodraeth leol. Rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig. Janet Finch-Saunders.

Cynnig NDM6707 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru—Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl —yw'r trydydd cynnig mewn tair blynedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.

2. Yn nodi hefyd fod yr awdurdodau lleol yn gweithio tuag y trefniadau rhanbarthol a gyflwynwyd gan ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

3. Yn gresynu fod y cynnig diweddaraf wedi achosi cyfnodau parhaus o ansicrwydd i gynghorau a'u staff rheng flaen.

4. Yn pryderu am y natur o'r brig i'r bôn gyson o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, fel y dangosir gan y diffyg ymgysylltiad ystyrlon ag arweinwyr cynghorau a Phrif Weithredwyr wrth baratoi'r papur hwn, yn ogystal ag absenoldeb dadansoddiad strategol o’r costau a’r manteision ar y cynigion blaenorol i ddiwygio llywodraeth leol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Paul Davies AC. Y cyhoeddiad diweddar ynglŷn â Phapur Gwyrdd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 20 Mawrth, heb unrhyw drafodaethau blaenorol gyda ni fel ACau, yw'r trydydd ymgais gan y Llywodraeth Lafur hon i ddiwygio strwythur llywodraeth leol yng Nghymru. Byddai rhywun wedi meddwl, o ganlyniad i ddau gynnig aflwyddiannus blaenorol i gyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu ein hawdurdodau lleol ar gyfer y dyfodol, y byddai'r cynnig hwn wedi'i wneud mewn modd mwy strategol, ystyrlon a diddorol. Er gwaethaf rhethreg flaenorol ynghylch y dymuniad i weithio mewn ffordd barchus gydag aelodau awdurdodau lleol ac Aelodau'r Cynulliad, mae'r cynigion a gyflwynir yn dangos diffyg cydnabyddiaeth amlwg mewn gwirionedd o effaith y dictad o'r brig i'r bôn hwn ar y rhai sy'n gweithio yn y sector.

Am siomedig hefyd fod addewidion gan yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol, Mark Drakeford AC, a ymgysylltodd â ni, mewn gwirionedd, i gynnig ffurf ranbarthol o weithio a sicrhau platfform sefydlog 10 mlynedd i gynghorau allu symud ymlaen ar ddiwygio, wedi cael eu diystyru mewn modd mor llawdrwm ac unbenaethol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryderon, gan eich cyhuddo chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eu geiriau hwy, o 'ailgylchu cynlluniau aflwyddiannus', drwy barhau â'r wleidyddiaeth o'r brig i'r bôn tuag at awdurdodau lleol a welsom yn methu yn y pedwerydd Cynulliad o dan y cynigion blaenorol ar uno gorfodol. Mae eich bwriad i ddefnyddio fframweithiau statudol i orfodi uno yn sarhad ar y rhai yn y sector sydd wedi gwneud mwy na neidio drwy ddigon o gylchoedd i fodloni Llywodraeth Llafur Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf o dan eich goruchwyliaeth chi. Mae CLlLC ac eraill wedi dweud bod y rhan fwyaf o ddadansoddiadau academaidd wedi dod i'r casgliad mai anaml y bydd rhaglenni diwygio o'r fath yn darparu'r arbedion neu'r newidiadau mewn perfformiad y gobeithiwyd eu gweld.

Pan gawsoch eich craffu ar y cynigion hyn, dywedasoch yn glir eich bod wedi ymgysylltu ac ymgynghori â'r sector. Fodd bynnag, gwn o fy ymweliadau ag awdurdodau lleol ar draws y rhaniadau gwleidyddol, a thrwy siarad â llawer o aelodau etholedig, eu bod wedi eu synnu gymaint â minnau gan yr ymagwedd ymwthiol wrth gyhoeddi'r cynlluniau aflonyddgar a gwrthgynhyrchiol hyn. Dywedodd y Cynghorydd Thomas, arweinydd Bro Morgannwg, yn bendant

Fel arfer ni fu unrhyw drafodaeth neu ymgysylltiad ystyrlon â chynghorau, neu'n bwysicach y trigolion lleol yr effeithir arnynt, cyn i'r cynlluniau hyn gael eu cyhoeddi.

Mae cynghorydd yn Wrecsam hefyd wedi galw'r uno arfaethedig gyda Sir y Fflint yn drychineb ddrud sy'n aros i ddigwydd, tra bo arweinydd annibynnol y cyngor wedi disgrifio'r ddadl barhaus fel

cymysgedd o Fawlty Towers, Some Mothers Do 'Ave 'Em a Yes Minister.

Nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol yn ystod y cynigion uno gorfodol blaenorol y byddai'n amhosibl i awdurdodau dalu costau'r cynnig i uno heb wneud toriadau sylweddol i wasanaethau rheng flaen. Heb ddull cydlynol, strategol a phroffesiynol o weithredu, mae cyfres arall eto o gynigion uno gorfodol, heb unrhyw ddadansoddiad cost a budd neu risg, wedi'i thynghedu i fethu. Nid y dull trwsgl o'r brig i'r bôn hwn o'r fan hon yw'r ffordd ymlaen. Mewn cefndir busnes, byddai diwygio'n dechrau ac yn gorffen drwy gael ei arwain o'r union sector y mae rhywun yn ceisio ei ddiwygio—gyda llaw, yn yr achos hwn, sector y mae gennyf hyder aruthrol ynddo a pharch tuag ato. Fel y dywedodd arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Debbie Wilcox,

Nid oeddem angen i Lywodraeth Cymru roi mandad i ni weithio'n rhanbarthol. Fe aethom ati i wneud hynny am ein bod yn cydnabod bod hynny'n fuddiol i'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Yn wir, dywedodd y Cynghorydd Peter Fox:

Mae cynghorau yn ne-ddwyrain Cymru wedi bod yn gweithio'n galed tuag at yr argymhellion diwethaf gan Lywodraeth Cymru, a ofynnai i ni weithio'n gydweithredol ar sail ranbarthol.

Ac am esiampl wych: bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, gyda 10 awdurdod lleol yn cydweithio ar draws y rhaniadau gwleidyddol i wella ffyniant economaidd y rhanbarth, wedi'i arddangos yn rhagorol gan yr arweinydd—

17:15

Y cyfan yr oeddwn am ei ddweud yw bod yn union yr un peth wedi'i wneud yn ninas-ranbarth Abertawe.

Cafodd ei arddangos yn wych gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, pan ddywedodd:

Byddai gennym bryderon ynglŷn ag unrhyw broses ad-drefnu neu ailwladoli sy'n tynnu ein sylw oddi ar ein hagenda gyflawni.

Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld ymatebion ymwthiol a herio gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth graffu yma ac yn ystod cyfarfod â CLlLC, yn datgan bod gwrthwynebiad i'ch cynigion yn gwneud teledu da ond nid yw'n wleidyddiaeth dda. Onid ydych yn sylweddoli eich bod yn chwarae â chalonnau a meddyliau yr union bobl sy'n darparu gwasanaethau mor hanfodol i'n pobl fwyaf agored i niwed, i'n plant a'n holl drigolion ar sail ddyddiol, 24 awr, 365 diwrnod?

Nid oes unrhyw amheuaeth fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn ceisio gwella'r modd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu darparu ledled Cymru, gyda llawer yn credu, er hynny, fod hwn yn fandad mwy na llywodraeth leol yn unig. Os awn yn ôl at adroddiad gwreiddiol comisiwn Williams, roedd yna argymhellion cadarn yno ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd. Mae'r Papur Gwyrdd yn sôn am gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy ddiwygio llywodraeth leol, ond ni ellir gwneud hynny ar ei ben ei hun. Siaradwch ag unrhyw weithiwr profiadol a gonest yn y sector cyhoeddus ar hyd a lled Cymru, a byddant yn dweud wrthych: nid oes angen cyfres arall o gynigion llywodraeth leol ar Gymru. Yr hyn y mae Cymru ei angen yn y bôn, fodd bynnag, yw adolygiad trylwyr o'r sector gwasanaethau cyhoeddus cyfan. Rydym yn gwybod bod rhaid inni sicrhau bod cydweithio gwell yn digwydd rhwng awdurdodau lleol, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a thai er mwyn inni allu cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, pam nad ydych yn fwy radical yma? Pam nad ydych yn ceisio diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd yng Nghymru? Pam nad ydych yn agor hyn i drafodaeth lawer ehangach? Sut y byddwch yn cynnwys eich cyd-Ysgrifenyddion Cabinet o amgylch y bwrdd yn hyn i sicrhau ei fod yn cael ei ddatblygu mewn modd unffurf a chydgysylltiedig?

Mae amser yn brin, Ysgrifennydd y Cabinet, i'r Llywodraeth hon—eich Llywodraeth Lafur—i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ar gyfer y dyfodol. Rydych mewn sefyllfa freintiedig, gyda phoblogaeth Cymru'n dibynnu ar y Llywodraeth hon yng Nghymru i'w gael yn iawn y tro hwn. Mae gennych y dulliau, mae gennych y pŵer ac mae gennych yr adnoddau i gyflawni uchelgais sylfaenol—diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn sylfaenol, gan weithio gyda hwy, nid yn eu herbyn, a gweithio drwy bob un o'r sectorau hyn, fel y crybwyllais. Ni allwch wneud hyn eich hunain—ni allwch fwrw ymlaen i ddiwygio llywodraeth leol ar eich pen eich hun. Rhaid ei gynllunio'n llawer mwy strategol na hyn.

Rhaid imi fod yn onest gyda chi. Nid yw'n ymadrodd rwy'n ei hoffi, ond cynigion pecyn sigaréts—wedi'u hysgrifennu ar gefn pecyn sigaréts—yw'r rhain y bwriadwch eu cyflwyno. Maent yn bradychu pawb sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn sylfaenol. Maent oll yn awyddus, maent oll yn bryderus ac maent oll yn frwd i weithio gyda chi i weld ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu diwygio'n radical yn y dyfodol, i'n cynnal am flynyddoedd i ddod. Buaswn yn dweud mai uchelgais diog yw'r cynigion hyn unwaith eto, ac rwyf o ddifrif yn eich annog yn awr i fynd yn ôl i ailfeddwl, siarad â'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, a chyflwyno cynigion strategol wedi'u cynllunio'n dda, wedi'u costio ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr ac yn radical. Gyda model teilwng o unrhyw Lywodraeth yng Nghymru, efallai wedyn, a dim ond wedyn, y gallwn eich cefnogi ar daith o'r fath.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

17:20

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru—Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl— sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gynaliadwy.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol. 

Diolch. Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu'r llymder sydd wedi arwain at doriadau enbyd i gyllidebau llywodraeth leol ers sawl blwyddyn, a’r ansicrwydd parhaus y mae cynghorau yn ei wynebu o ran eu sefyllfa ariannol ac ad-drefnu posibl.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: 

Yn gresynu at ddiffyg cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet am bwysigrwydd cynnal perthynas, a chydweithio adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i drafod y Papur Gwyrdd ar ddiwygio llywodraeth leol, sef canlyniad, wrth gwrs, tro pedol annisgwyl y Llywodraeth hon ychydig yn ôl. 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl' ydy teitl y ddogfen ddiweddaraf yma, ac rydw i'n cytuno'n llwyr efo'r angen i gryfhau ein cynghorau ni. Mae llywodraeth leol wydn, gynaliadwy, sy’n darparu cefnogaeth i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn bwysig mewn cenedl lle mae tegwch yn un o’n gwerthoedd craidd. Ond nid wyf i'n hollol argyhoeddedig mai cyflwyno ad-drefnu costus ar adeg o lymder ydy’r ffordd fwyaf effeithiol o gryfhau llywodraeth leol.

Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan lywodraeth leol yn gwegian, a hynny yn sgil blynyddoedd ar flynyddoedd o doriadau sy’n deillio yn uniongyrchol o ideoleg wrthun y Torïaid yn San Steffan. Mae’n cynghorau ni wedi gorfod torri eu cyllidebau i’r asgwrn, ac mae’r cynghorau yn y broses o ganfod miliynau ar filiynau o arbedion eto er mwyn gallu gosod cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mi glywais i ddoe fod cyngor Ceredigion wedi colli 700 o swyddi yn barod. Felly, mae o'n her anferth, ac mae sylw arweinwyr, penaethiaid a chynghorwyr yn hollol ddealladwy ar sut i gynnal gwasanaethau efo cyllideb sy’n crebachu. Mae cynghorau Plaid Cymru yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sydd yn diogelu y rhai sydd angen y gefnogaeth fwyaf, gan hefyd gefnogi staff sydd yn aml yn darparu’r gefnogaeth honno.

Hyd yn oed mewn cyfnod o gyni, rydw i'n falch o weld bod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno’r cyflog byw, neu fwy, i bawb o’r staff, ac wedi dileu contractau dim oriau yn llwyr. Ond erbyn hyn, nid ydy hi bob tro yn bosib gwarchod grwpiau anghenus rhag toriadau wrth i bolisïau llymder frathu go iawn. Dim rhyfedd, felly, fod yna ddim awydd ar gyfer ad-drefnu ymhlith arweinwyr cynghorau Cymru, fel y canfu’r Ysgrifennydd Cabinet pan aeth o i ffau llewod y WLGA yn ddiweddar.

Mae yna lawer iawn o arbedion effeithlonrwydd wedi cael eu gwneud yn barod, ac mae’n gwestiwn erbyn hyn faint o arbedion ychwanegol y gellir eu gwneud drwy uno cynghorau, o gofio’r costau sylweddol a fyddai ynghlwm â’r broses ei hun. Mae’r cynghorau eisoes wrthi'n sefydlu trefniadau rhanbarthol mewn sawl maes, ac mae ffordd esblygol y cyn-Ysgrifennydd Cabinet yn mynd ymlaen yn hwylus mewn sawl rhan o Gymru.

Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol wedi honni bod arweinwyr llywodraeth leol wedi dweud wrtho fo nad oedden nhw eisiau symud ymlaen efo awgrymiadau a chynigion ynglŷn â gweithio’n rhanbarthol, rydw i yn meddwl mai’r elfen fandadol oedd asgwrn y gynnen, nid y rhanbartholi ei hun. Beth oedd y cynghorau ddim yn licio oedd bod Papur Gwyn Mark Drakeford yn symud y cynghorau i drefniadau rhanbarthol drwy ddeddfwriaeth mewn tri maes, ac mae hon yn enghraifft o un o’r tensiynau parhaus sy’n bodoli rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth ganol, wrth gwrs. Ond mae ddim yn licio cael eu gorfodi i weithio’n rhanbarthol wedi troi yn ddicter gwirioneddol am y tro pedol yma, am yr ymgais i fynd yn ôl at gynigion methiannus y cyn-cyn-Ysgrifennydd Cabinet a wnaeth godi gwrychyn pawb o bob lliw gwleidyddol. Mae cynnal perthynas a chydweithio adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn greiddiol i wella gwasanaethau. 

Mae angen i unrhyw ddiwygio neu ad-drefnu ddigwydd i bwrpas, ac mae Plaid Cymru wedi gosod nifer o egwyddorion craidd a ddylai fod wrth wraidd unrhyw ddiwygio, sef gwneud y gwasanaethau yn fwy effeithiol i'r defnyddwyr, cryfhau democratiaeth leol, symud tuag at integreiddio iechyd a gofal, a chryfhau’r iaith Gymraeg. 

I sôn, wrth gloi, am un o’r egwyddorion hynny yn unig, mae yna lawer o arfer da yn digwydd o ran integreiddio iechyd a gofal o’r henoed, ac mae o'n digwydd orau os ydy o’n digwydd o’r gwaelod i fyny ac yn digwydd yn gwbl naturiol os mai anghenion y person y mae’r gwasanaeth ar ei gyfer sydd yn cael eu blaenoriaethu. Yng Ngwynedd mae yna bump o dimau integredig pobol hŷn yn gweithio ar draws y sir, lle mae’r gweithwyr cymdeithasol a’r nyrsys cymunedol ac ati—pobl o'r ddwy sector—yn gweithio efo’i gilydd gan roi’r person yng nghanol bob dim y maen nhw'n ei wneud. Ar lefel ranbarthol, mae’r cynghorau yn comisiynu gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd.

Felly, mae yna newid yn digwydd. Mae'r cynghorau yn gweithio efo'i gilydd ac yn gweithio tuag at fod yn fwy cynaliadwy, ac mae arnaf i ofn nad oes yna lawer o  groeso i'r Papur Gwyrdd newydd yma. 

17:25

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, a byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad ar yr effeithiau y gallai unrhyw ddiwygio llywodraeth leol eu cael ar fy ardal i.

Ni fydd yr Aelodau'n synnu fy mod yn parhau i wrthwynebu'n llwyr y cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn Sir Benfro, a fyddai'n arwain at weld gorllewin Cymru i gyd yn dychwelyd at fodel Dyfed o lywodraethu. Yn fy marn i, ni fydd unrhyw gynigion ar gyfer uno Sir Benfro gyda Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn arwain at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng ngorllewin Cymru yn fwy effeithiol. Wrth gwrs, mae pobl gorllewin Cymru wedi byw o dan fodel Dyfed o lywodraethu o'r blaen a diddymwyd y model hwnnw yn 1996. A pham y digwyddodd hynny? Wel, roedd yn eithaf clir fod maint daearyddol ac amrywiaeth ardal Dyfed gyfan yn creu heriau sylweddol i'r awdurdod ac o ganlyniad, câi Cyngor Sir Dyfed ei weld yn anghysbell ac amhoblogaidd gan lawer o gymunedau lleol. Felly, yn fy marn i, ni fydd cynigion presennol Llywodraeth Cymru ond yn mynd â gorllewin Cymru yn ôl at awdurdod hen ffasiwn, amhoblogaidd nad yw'n gallu ymdopi â'r heriau yr oedd eisoes wedi methu eu datrys yn y gorffennol.

Nawr, wrth ddadansoddi diwygio llywodraeth leol, cydnabu comisiwn Williams y byddai dychwelyd at fodel Dyfed, ac rwy'n dyfynnu,

'yn cwmpasu'r ardal fwyaf o holl awdurdodau unedol DU y tu allan i'r rhannau mwyaf gwledig ac anghysbell o'r Alban er bod ganddi boblogaeth gryn dipyn yn uwch nag unrhyw un o'r ardaloedd hynny'.

Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod mai ardaloedd cyngor yr Alban yr Ucheldiroedd, Argyll a Bute, Dumfries a Galloway a Swydd Aberdeen yn unig sy'n fwy yn ddaearyddol na'r model arfaethedig ar gyfer awdurdod Dyfed, ond mae gan bob un o'r ardaloedd cyngor hyn yn yr Alban boblogaeth lawer iawn yn llai na'r model arfaethedig ar gyfer Dyfed. Felly, pe bai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddychwelyd at fodel Dyfed, bydd yn rhaid iddo reoli daearyddiaeth debyg i un yr awdurdodau cyngor hynny yn yr Alban yn ogystal â phoblogaeth sydd gryn dipyn yn fwy. Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam y mae model Dyfed o dan ystyriaeth hyd yn oed ar hyn o bryd, yn enwedig o gofio bod y cynigion yn cadarnhau y byddai Powys yn parhau i fod yn awdurdod ar ei ben ei hun, oherwydd ei ddaearyddiaeth a'i boblogaeth mae'n debyg.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod yn credu nad yw creu awdurdodau mwy o faint yn golygu gwasanaethau gwell ac yn y pen draw mae'n dileu'r 'lleol' o lywodraeth leol. Yn sicr, byddai'n llawer mwy priodol inni drafod pa wasanaethau penodol yr ydym am i'n hawdurdodau lleol eu darparu yn y dyfodol cyn penderfynu ar strwythur.

Nawr, mae pobl Sir Benfro eisoes wedi gweld effaith canoli gwasanaethau ar eu cymunedau, ar ôl yr israddio parhaus a diddymu gwasanaethau o ysbyty Llwynhelyg. Mae'r agenda ganoli wedi cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol ac ofnaf y byddem ni yn Sir Benfro yn gweld yr un peth gyda gwasanaethau cyngor os ydym yn caniatáu i'r cynigion hyn fynd rhagddynt.

Yn fy etholaeth i, ceir pryderon difrifol iawn hefyd ynglŷn ag effaith y cynigion hyn ar frand Sir Benfro. Y mis diwethaf yn unig, enwodd cylchgrawn Countryfile Sir Benfro yn 'gyrchfan y flwyddyn', i gydnabod ansawdd ei harddwch naturiol a'i bywyd gwyllt. O ystyried ei harfordir a'i phorthladdoedd, mae Sir Benfro yn prysur ddod yn arweinydd byd ym marchnad ynni'r môr, fel cynhyrchydd ynni ac fel allforiwr gwybodaeth ynni morol. Ac yn olaf ond nid yn lleiaf mae Sir Benfro yn enwog am ei bwyd a'i diod o'r radd flaenaf, fel tyrcwn Capestone, caws Sir Benfro a thatws Sir Benfro. Mae pob un o'r newidynnau hyn yn cyfrannu at greu enw da byd-eang cryf ac unigryw i Sir Benfro, ac rwy'n credu bod yr enw da hwnnw mewn perygl os yw'r Sir yn mynd i foddi mewn awdurdod ehangach o dan fodel Dyfed.

Fodd bynnag, efallai mai'r ystyriaeth bwysicaf oll yw'r bobl y bydd yn rhaid iddynt fyw o dan yr awdurdod arfaethedig hwn. Dair blynedd yn ôl, pleidleisiodd Cyngor Sir Penfro—cynghorwyr Llafur, ynghyd ag eraill—o blaid cynnig sy'n cydnabod na fydd y cynigion hyn yn helpu'n economaidd, yn gymdeithasol nac yn darparu gwasanaethau gwell yn lleol. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym mewn ymateb i'r ddadl hon a yw'n cytuno â'i gydweithwyr Llafur ar y mater hwn.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, fy marn i yw y bydd uno rhwng Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn arwain at ddychwelyd at adeg pan oedd Llywodraeth Leol yn bell ac yn anghynrychioladol. Nid oes unrhyw awydd ymhlith y cyhoedd i greu'r awdurdod mawr newydd hwn. Yn wir, mae'n ymddangos mai dyma'r unig uchelgais ar gyfer diwygio llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru, yn hytrach na thrafodaeth ar bŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol a pha wasanaethau yr hoffem eu gweld yn cael eu darparu ar lefel leol.

Dywedodd CLlLC, yn eu tystiolaeth i gomisiwn Williams, ac rwy'n dyfynnu:

Mae Cymru yn genedl o gymunedau ac mae hunaniaeth a theyrngarwch cymunedol yn nodweddion pwerus sy'n ysgogi ac yn uno a rhaid i Gymru geisio manteisio ar y rhain yn y cyfnod sydd i ddod.

Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig a helpu i warchod y cymunedau a'r hunaniaethau lleol hynny.

17:30

Y gwir plaen yw, heb ddiwedd ar gyni, mae gwasanaethau cyhoeddus fel y gwyddom amdanynt o dan fygythiad. Mae'n ddealladwy fod hyn yn beth anodd i Lywodraeth Lafur sy'n malio am y gwasanaethau hyn ei wynebu, ond mae esgus y bydd newid nifer y cynghorau yn osgoi'r gwir anodd hwnnw yn gyfystyr â chuddio ein pennau yn y tywod.

Hyd yma, ymddengys nad yw'r ddadl wedi mynd y tu hwnt i'r ymateb greddfol ac arwynebol fod '22 yn ormod' y mae Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd symud oddi wrtho. Yn amlwg, nid yw honno'n sail dystiolaethol ddigonol ar gyfer dilyn llwybr sy'n gostus iawn i'w weithredu. Yn sicr, mae baich y prawf ar Lywodraeth Cymru i ddarganfod beth fyddai cost ad-drefnu a pha fanteision a fyddai'n deillio ohono. Yn sicr, rwyf fi o'r farn fod y manteision ariannol mewn perygl o gael eu gorbwysleisio. Pa un a oes gennych wyth, 10, 12 neu 22 o gynghorau, byddant yn dal i orfod addysgu'r un nifer o blant yn yr un nifer o ysgolion, casglu'r un nifer o finiau a gofalu am yr un nifer o bobl sy'n agored i niwed. Dyma'r prif ffactorau sy'n rheoli costau.

Mae hyn yn arbennig o wir gan fod arbedion cost enfawr wedi'u gwneud gan gynghorau Cymru ers yr ymchwiliad diwethaf i ad-drefnu llawn. Y llynedd yn unig, arbedodd Cyngor Torfaen £1 filiwn yn sgil eu hadolygiad o'u gweinyddiaeth a'u gwasanaethau busnes, a chafwyd ymdrechion di-rif eraill i leihau costau canolog. Gwn y bydd Torfaen yn parhau i fynd ar drywydd camau i gydweithredu a ffyrdd gwahanol o weithio, ond mae profiad diweddar yn awgrymu, yn gynyddol, fod manteision i'r rhain o ran y gwasanaeth, yr ansawdd a chydnerthedd yn hytrach nag arbedion arian parod. Heb edrych yn fanwl ac yn wrthrychol ar y dystiolaeth, y perygl yw bod y gost o ad-drefnu wedi ei hamcangyfrif yn rhy isel a'r manteision wedi'u gorbwysleisio. Felly, byddai Llywodraeth Cymru yn gwario llawer o arian—dros £200 miliwn—ac ond yn arbed ychydig iawn, gan amharu ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu am nifer o flynyddoedd.

A pha dystiolaeth sydd yna i ddangos bod mwy yn gyfystyr â gwell? Er bod rhai o'r awdurdodau llai wedi wynebu heriau yn y gorffennol, rhai o'r awdurdodau bach hynny sydd wedi dangos peth o'r perfformiad gorau neu sydd wedi cael yr adroddiadau arolwg gorau. Yn y bwletin perfformiad diweddaraf gan Data Cymru, Torfaen oedd yr awdurdod yn y nawfed safle o ran perfformiad, a'r awdurdod yn y nawfed safle o ran gwella. Yr hyn y mae'r data yn ei ddangos yw nad yw maint yn benderfynydd perfformiad, gydag awdurdodau llai yn perfformio'n well yn gyffredinol. Er bod capasiti yn hanfodol, mae hyn yn awgrymu bod ffactorau megis arweinyddiaeth a diwylliant yn hollbwysig i lwyddiant yn hytrach na maint.

Yn olaf, pa ystyriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i'r math o sefydliadau y byddent yn eu creu? Beth yw diffygion llywodraeth leol fel y mae ar hyn o bryd? Ac nid wyf yn cymryd arnaf nad oes rhai, ond yn hollbwysig, sut y byddai ad-drefnu yn eu gwneud yn well? Nid yw cyferbynnu'r sefyllfa bresennol gyda rhyw fath o berffeithrwydd dychmygol yn fan cychwyn synhwyrol. Y perygl gydag unedau mawr yw y byddent yn bell oddi wrth bobl, wedi'u rhannu'n blwyfol, ac yn gwrthod y cydweithredu a'r meddwl creadigol y byddai ei angen o hyd ni waeth pa mor fawr y byddent. Arweinyddiaeth a diwylliant sy'n gyrru gwelliant, nid maint.

Wrth siarad ar y mater hwn yn y ddadl ar adroddiad y comisiwn Williams yn ôl yn 2014, eglurais fy marn nad yw ad-drefnu yn ateb i bopeth. Yn y pedair blynedd a aeth heibio, rydym wedi mynd o ad-drefnu arfaethedig i fwy o gydweithredu rhanbarthol ac yn ôl at ymgynghori ar ad-drefnu unwaith eto. Bedair blynedd yn ddiweddarach, rwy'n fwy argyhoeddedig nag erioed y byddai ad-drefnu llywodraeth leol ar adeg o gyni a chyda Brexit ar y gorwel yn drychineb.

17:35

Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae'r ad-drefnu llywodraeth leol arfaethedig—neu'r fersiwn ddiweddaraf ohono yn hytrach—yn fater pwysig, ac mae'n sicr o fod yn ddadleuol. Bydd rhywun yn cwyno beth bynnag fo'r newid y mae Gweinidog yn penderfynu ei wneud i gyfansoddiad cyngor lleol. Felly, i fod yn deg â'r Gweinidog, fel y dywedais yn ystod y cwestiynau diwethaf i'r Gweinidog, beth bynnag y mae'n ei wneud, mae'n sicr o fod yn ddadleuol, gan na allwch wneud omlet heb dorri wyau. Neu i ddefnyddio trosiad arall, ni allwch ysmygu'r sigaréts heb agor y pecyn sigaréts. Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud môr a mynydd o'r ad-drefnu dros y tair blynedd diwethaf. Rydym ar y trydydd Gweinidog gwahanol a'r trydydd cynllun gwahanol, er nad yw'r fersiwn ddiweddaraf, fel y nododd Siân Gwenllian y tro diwethaf inni drafod hyn, yn wahanol iawn i'r cynllun gwreiddiol, sef model Leighton Andrews.

Felly, rhaid inni gydnabod, fel y mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud gyda'r cynnig heddiw, fod y saga hon wedi creu llawer o ansicrwydd ymhlith y staff sy'n gweithio mewn llywodraeth leol. Mewn rhai achosion, gall arwain at fath o barlys, lle na all cynghorau gynllunio ar raddfa fawr gan nad oes ganddynt unrhyw syniad a fyddant yn dal i fodoli ymhen ychydig flynyddoedd, a gall wneud recriwtio swyddogion yn anodd.

Mater arall a godwyd gan CLlLC yw bod y cynllun diweddaraf yn amharu ar weithio rhanbarthol yr oedd llawer o gynghorau eisoes yn ei wneud gyda chyrff ac awdurdodau eraill, a chredaf fod hwn hefyd yn bwynt dilys. Ceir diffyg eglurder yn ogystal ynglŷn ag i ba raddau y byddai'r cynghorau newydd mwy o faint arfaethedig yn sicrhau budd o ran costau, sef y prif reswm dros eu creu yn y lle cyntaf. Felly, yn UKIP, credwn fod y rhain yn bwyntiau dilys, a byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. 

Siaradodd Lynne Neagle yn awr am yr angen am sylfaen dystiolaeth cyn inni gael unrhyw ad-drefnu, a chredaf fod llawer o'r pwyntiau a wnaeth yn ddilys iawn hefyd. Roeddent yn cyffwrdd â phethau y soniodd Mike Hedges amdanynt y tro diwethaf. Fe'n hatgoffodd ein bod yn cael clywed, bob tro y cawn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, sef bob 20 mlynedd yn fras, mai hwn yw'r un terfynol, yr ad-drefnu i roi diwedd ar bob ad-drefnu, ond nid yw hynny byth yn wir yn y pendraw. Cawsom ad-drefnu yn 1974, ac eto yn 1995, a bellach mae un arall ar y gorwel, ac ar ôl pob ad-drefnu, o fewn ychydig flynyddoedd, clywn gan y Llywodraeth fod y cynghorau yng Nghymru yn rhy fach ac nad ydynt yn gynaliadwy. Os yw hyn yn parhau, bydd yna ad-drefnu arall ymhen 20 mlynedd, a fydd yn ein gadael gyda phedwar neu bump o gynghorau. Pan gyrhaeddwch y lefel honno, mae arnaf ofn eich bod yn symud oddi wrth unrhyw ymdeimlad ystyrlon fod pobl yn cael eu cynrychioli gan gynghorwyr wardiau lleol, ac rydych yn uno ardaloedd heb unrhyw gysylltiad hanesyddol mewn gwirionedd ac sy'n hollol wahanol o ran eu heconomïau a'u demograffeg o bosibl, a dyna rydym mewn perygl o'i wneud gyda'r ad-drefnu presennol hwn.

Mae'r pwynt arall a godwyd, unwaith eto gan Lynne Neagle, yn ymwneud â'r budd gwirioneddol o ran costau, a gwnaeth Mike Hedges y pwynt hwn y tro diwethaf hefyd. Nid ydym wedi cael unrhyw ddadansoddiad cost a budd go iawn, felly nid ydym yn gwybod a fydd cynghorau mwy o faint yn cyflawni'r arbedion y mae'r Llywodraeth yn eu haddo mewn gwirionedd. Eisoes rydym wedi gweld byrddau iechyd yng Nghymru yn uno, ac rydym wedi cael cyrff mwy o faint, nad yw'n ymddangos eu bod yn perfformio'n arbennig o dda yn gyffredinol. Felly, yr agwedd waethaf ar yr ad-drefnu llywodraeth leol yw y gall arwain at golli mwy o swyddi, darparu llai o wasanaethau i'r cyhoedd, a dal i fethu arbed unrhyw arian ystyrlon o safbwynt costau gweithredu cynghorau.

Rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru ein bod yn ymgynghori ar Bapur Gwyrdd ar hyn, ac rydym yn cytuno â hwy'n fras nad yw 22 o gynghorau lleol yn gynaliadwy. Felly, mewn gwirionedd rydym yn cytuno mewn termau eang iawn â'u gwelliant.

Yr hyn rydym ei eisiau yw mwy o weithio ar y cyd, ond gwyddom fod cydweithio rhwng gwahanol gynghorau'n digwydd eisoes. I ryw raddau, cafodd hyn ei ysgogi gan reidrwydd ariannol am fod y cynghorau'n ymdopi â chyllidebau llai, felly rhaid iddynt gydweithio er mwyn lleihau costau.

Un broblem bosibl yw bod ffurfiau gwahanol ar weithio ar y cyd. Mewn rhai ardaloedd, mae dau gyngor cyfagos yn gweithio gyda'i gilydd, mewn achosion eraill, mae tri neu bedwar cyngor gwahanol yn cyfuno adnoddau. Ac i ychwanegu at y cymysgedd, mae gennym bellach ddau ddinas-ranbarth yng Nghymru a dwy ardal ranbarthol arall sy'n gysylltiedig â bargeinion twf. Ar ben hynny, mae gennym hefyd gynlluniau datblygu strategol yn dod i mewn a fydd yn galw am gyfuniad arall o wahanol gynghorau. Felly, mae perygl, oni bai bod y Gweinidog Llywodraeth Cymru yn dal ei afael yn gadarn ar hyn, gallai patrwm llywodraeth leol a rhanbarthol yng Nghymru ddatblygu'n sydyn i fod yn dameidiog iawn, yn gymhleth iawn, ac i'r pleidleisiwr, yn ddryslyd iawn. Felly, mae gan y Gweinidog rôl bwysig i'w chwarae yn arwain llywodraeth leol. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe bai hyn yn cynnwys mwy o ymgynghori gyda'r cynghorau yr effeithir arnynt.

Felly, rydym yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr; credwn eu bod yn iawn i godi'r materion hyn heddiw ac rydym yn cefnogi eu cynnig. Diolch yn fawr iawn.

17:40

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn i siarad am y gyfres ddiweddaraf o gynigion gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio Llywodraeth Leol. Y ddogfen hon yw'r drydedd mewn cyfres o gynigion yn y tair blynedd diwethaf, a phwy a ŵyr, ar ôl ad-drefnu'r Cabinet sydd i ddod ar ddiwedd y flwyddyn hon, efallai nad hon fydd yr olaf.

Mae angen diwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Argymhellodd comisiwn Williams a sefydlwyd i ymchwilio i ad-drefnu llywodraeth leol y dylid uno cynghorau yn 10, 11 neu 12 o awdurdodau newydd. Fodd bynnag, ar ôl gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau uno gwirfoddol, gwrthododd y Gweinidogion ar y pryd gynlluniau i uno chwe awdurdod lleol yn dri awdurdod. Yna, cyhoeddodd y Gweinidog ei gynnig unochrog ei hun i gwtogi nifer yr awdurdodau lleol i wyth neu naw. Roedd y cynllun hwn yn ddadleuol ym mhob rhan o Gymru. Mae polisi Llywodraeth Cymru o fynd ati'n fwriadol i anwybyddu pryder awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chymunedau wedi creu awyrgylch o gryn ansicrwydd sy'n parhau hyd heddiw.

Yr wythnos hon, galwodd y Cynghorydd Peter Fox, y cynghorydd gwych o Fynwy, gynllun Llywodraeth Cymru—eich cynllun chi— yn un cythryblus. 'Unsettling' yw'r gair ar dudalen gyntaf y papur newydd lleol. Aeth ymlaen i ddweud bod arweinwyr cynghorau eisoes wedi gwneud camau breision ymlaen ar weithio gyda'i gilydd. Ni fyddai'r uno ond yn arwain at fanteision ariannol cymedrol, ond byddent yn fach iawn o'u cymharu â chost yr uno.

Y gost yw un o'r cwestiynau sy'n cael eu gadael heb eu hateb gan y Papur Gwyrdd hwn. Mynegwyd pryder go iawn ynghylch cysoni'r dreth gyngor. Gallai talwyr y dreth gyngor band 4 yn Sir Fynwy a Thorfaen orfod talu hyd at £300 yn ychwanegol o dan gynlluniau newydd Ysgrifennydd y Cabinet. Pa lefel o gymorth ariannol y gall awdurdodau lleol ei disgwyl gan Lywodraeth Cymru i'w helpu gydag uno ac i ystyried yr effaith bosibl ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y tymor byr? Mae Casnewydd yn un o'r ardaloedd, Ddirprwy Lywydd, ar gyfer adleoli ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mewnfudwyr eraill. Mae galw cynyddol ar Gasnewydd i ddarparu gwasanaethau penodol i gynorthwyo'r grwpiau hyn sy'n agored i niwed. Rhaid cynnal effeithiolrwydd a gallu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd yn y maes hwn.

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r cymunedau lleol eu hunain i sicrhau eu bod yn cymryd rhan lawn yn y broses uno? Pa sicrwydd a roddir i weithlu'r awdurdodau lleol er mwyn rhoi sefydlogrwydd iddynt ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel pan fyddant yn wynebu graddau amhenodol o ddiswyddiadau?

Mae angen mynd i'r afael â'r cwestiynau hyn, ond rhaid i unrhyw gynnig i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru fynd i'r afael hefyd â diffyg democrataidd. Mae lefelau isel o bobl yn pleidleisio yn arwydd o'r diffyg ymgysylltiad rhwng cynghorau a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae pobl dduon, lleiafrifoedd a phobl ethnig wedi eu tangynrychioli'n sylweddol ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru. Dangosodd arolwg o ymgeiswyr llywodraeth leol yn 2012 mai 1 y cant yn unig o gynghorwyr Cymru sy'n dod o gefndiroedd nad ydynt yn wyn, dyna'r ffigur.

O ganlyniad i'r etholiadau lleol y llynedd, mae ychydig dros 28 y cant o gynghorwyr yn fenywod. Mae absenoldeb unrhyw amrywiaeth go iawn o ran rhyw, oedran ac ethnigrwydd mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn parhau. Mae angen i wleidyddion lleol allu ymwneud â'u hetholwyr, deall eu hanghenion a siarad am y materion sy'n effeithio arnynt yn uniongyrchol. Ddirprwy Lywydd, mae diwygio llywodraeth leol yn cynnig cyfleoedd i ailystyried sut y darperir gwasanaethau cyngor ac i adnewyddu ein democratiaeth. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori ac ymgysylltu er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl o ran cost a darparu gwasanaethau, a pheidio â cheisio gosod rhaglen o'r brig i'r bôn—ac nid yw'n addas i bawb, sef yr hyn y mae gwir angen inni edrych arno. Diolch yn fawr iawn.

17:45

Creodd ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974 wyth cyngor sir a 37 o gynghorau dosbarth, gan roi diwedd ar fwrdeistrefi sirol, a oedd yn awdurdodau unedol. Y rheswm? Roeddem angen awdurdodau mwy o faint ac unffurfiaeth, ac roedd llawer o'r cynghorau dosbarth trefol a'r cynghorau dosbarth gwledig yn rhy fach. Yna, yn 1992, sefydlwyd 22 prif gyngor, a'r awdurdodau unedol hyn sydd wedi llywodraethu Cymru ers 1996.

Mae'r comisiwn Williams a sefydlwyd gan Carwyn Jones, a'r cynigion dilynol a gyflwynwyd gan Leighton Andrews fel y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus wedi argymell lleihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru ymhellach eto. Mae trefniadau uno llywodraeth leol o dan ystyriaeth unwaith eto, a cheir consensws gwleidyddol fod arnom angen awdurdodau mwy o faint, er bod galw ailgyfansoddiad o fodel Dyfed yn gyngor lleol i'w weld braidd yn rhyfedd—i mi o leiaf. Efallai ei fod yn seiliedig ar lwyddiant mawr Hywel Dda fel bwrdd iechyd. Cafodd hyn ei adeiladu ar y gred fod cynghorau mwy o faint yn perfformio'n well ac yn fwy effeithlon. Wel, mae gan Loegr a'r Alban nifer o awdurdodau unedol sy'n fwy na Chaerdydd, ond mae gan yr Alban bump yn llai na Merthyr—Inverclyde, Clackmannan, Ynysoedd y Gorllewin, Ynysoedd Orkney ac Ynysoedd Shetland—ac mae gan Loegr un, Rutland.

Pe bai awdurdodau mwy o faint yn fwy effeithlon ac effeithiol, byddai dau beth yn digwydd: byddai'r dreth gyngor yn is a byddai perfformiad yn well. Dylai'r awdurdodau mwy o faint a Phowys, na thybiwyd bod angen ei huno, godi'r symiau isaf. Rwyf bob amser wedi rhyfeddu pam y caiff Powys ei thrin yn wahanol i unrhyw le arall yng Nghymru, ond—. Er bod gan y ddau awdurdod lleiaf y dreth gyngor uchaf, mae'n ymddangos bod awdurdodau canolig eu maint yn perfformio'n well nag awdurdodau mawr neu awdurdodau bach ar gost y dreth gyngor i breswylwyr.

A yw perfformiad cynghorau yn dangos bod yr awdurdodau mwy o faint yn ôl poblogaeth yn perfformio'n well? Yn ôl y Western Mail,

nid yw ansawdd gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi'i bennu yn ôl maint y cyngor.

Mae ffigurau'r Western Mail yn seiliedig ar 28 o ddangosyddion ar draws amrywiaeth o feysydd llywodraeth leol, gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, tai, yr amgylchedd a thrafnidiaeth, gwasanaethau cynllunio a rheoleiddio, hamdden, diwylliant ac iechyd corfforaethol, gyda phedwar pwynt yn cael eu rhoi i gynghorau a berfformiodd yn chwartel uchaf pob dangosydd, ac un pwynt i'r rhai ar y gwaelod. O'r data hwn, nid yw'n bosibl casglu bod cynghorau mwy o faint a Phowys yn perfformio'n well, oherwydd mai awdurdodau o faint canolig sydd mewn tri o'r pedwar lle uchaf.

Yn yr Alban, mae'r amrywiad yn y dreth gyngor yn llawer llai nag yn Nghymru, ond mae'r dreth gyngor isaf yn Ynysoedd y Gorllewin ac Ynysoedd Shetland, dau o'r awdurdodau lleiaf, ac mae'r dreth gyngor fwyaf yn Glasgow, sef yr awdurdod mwyaf.

Dros y 25 mlynedd diwethaf, ad-drefnwyd gwasanaethau sydd wedi creu sefydliadau mwy o faint ledled y sector cyhoeddus a reolir gan Lywodraeth Cymru—ac iechyd yw'r enghraifft berffaith. Yn gyffredinol, ceir consensws gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol fod y cyrff mwy o faint hyn yn well na'r rhai bach a bod uno yn gyffredinol yn beth da.

Mae uno'n ddrud, nid yn unig o ran costau diswyddo a chostau ailddiffinio'r sefydliad, TGCh—ac i'r bobl sydd wedi bod yn ei ddilyn, ar ôl creu Cyfoeth Naturiol Cymru, daethant yn ôl dro ar ôl tro i ofyn am fwy o arian i'w fenthyca er mwyn datrys eu problemau TGCh. Ac mae'n anochel; TGCh yw'r hyn sy'n gwmwl uwchben ad-drefnu unrhyw sefydliad. Iawn.

Diolch am ildio, Mike Hedges. Nid wyf yn anghytuno â gair rydych wedi'i ddweud hyd yma. A wnewch chi ymrwymo i roi'r gorau i'r cynlluniau hyn pan ddowch yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol? [Chwerthin.]

Mae gennyf ddiddordeb yn yr ateb hwn. [Chwerthin.]

A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei sylwadau? Nid wyf yn meddwl mai'r cynigion hyn yw'r ffordd gywir ymlaen. Dyna'r cyfan a ddywedaf. [Torri ar draws.]

Oherwydd, TGCh, mae pobl dan gontract, mae angen eu diweddaru neu eu dirwyn i ben wrth uno ac weithiau fe fyddwch yn talu—[Torri ar draws.] Weithiau fe fyddwch yn talu—

—cymaint fesul 1,000 neu 10,000 o eitemau yn eich cronfa ddata neu yn eich strwythur, ac mae hynny'n golygu nad yw uno o reidrwydd yn arbed unrhyw arian i chi, oherwydd, os ewch o 10,000 i 15,000, ni fyddwch yn dweud, 'O, rydym wedi uno dau', rydych mewn gwirionedd—. Ac mae'n rhaid i chi gynhyrchu'r un nifer o slipiau cyflog. Nid ydych yn mynd i dalu llai o bobl oherwydd eich bod wedi uno.

Mae'r rhain oll yn gostau ymlaen llaw ac er bod y gost o ad-drefnu llywodraeth leol oddeutu 5 y cant o'r gwariant blynyddol y tro diwethaf, rydym hefyd yn gwybod bod pethau eraill wedi digwydd bellach o ran y newid yn y telerau ac amodau.

Os dilynwch gasgliadau gor-syml rhai pobl, wedyn, ar ôl uno, caiff yr holl swyddi uwch swyddogion a ddyblygir eu dileu ac felly gwneir arbedion sylweddol parhaus. Mae theori economaidd yn darogan y gallai sefydliad ddod yn llai effeithlon os yw'n rhy fawr. Mae sefydliadau mwy o faint yn aml yn dioddef o gyfathrebu gwael, oherwydd eu bod yn ei chael hi'n anodd cynnal llif effeithiol o wybodaeth rhwng adrannau, is-adrannau neu rhwng y brif swyddfa a rhannau anghysbell. Mae problemau cydgysylltu hefyd yn effeithio ar sefydliadau mawr. 'X-aneffeithlonrwydd' yw colli effeithlonrwydd rheoli sy'n digwydd pan fydd sefydliadau'n mynd yn fawr ac yn gweithredu mewn marchnadoedd anghystadleuol. Mae colli effeithlonrwydd o'r fath yn cynnwys gordalu am adnoddau, gan gynnwys staff uwch—efallai fod hynny'n rhywbeth y gallai rhai pobl fod yn meddwl amdano—a gwastraff gormodol o adnoddau.

A gaf fi ychwanegu, os oes tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet—tystiolaeth empirig—fod sefydliadau mwy o faint yn y sector cyhoeddus, a llywodraeth leol yn arbennig, unrhyw le yn y byd yn gweithio'n fwy effeithlon a chosteffeithiol, a wnaiff ei gyhoeddi? Oherwydd ni allaf ddod o hyd i unrhyw rai.

17:50

Mae'n ddrwg gennyf ddychwelyd at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond credaf ei fod yn dweud llawer fod y cynnig ac un o welliannau Plaid Cymru yn adlewyrchu'r ffaith nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cychwyn ar y broses hon mewn gwirionedd yn y ffordd fwyaf doeth. Mae'r ddau'n cyfeirio at ddull annigonol o ymgysylltu ag arweinwyr cynghorau presennol a dylanwadu arnynt. Credaf fod pob un ohonom yn deall yr angen i roi rhai camau ar waith ar yr agenda hon, ond drwy weini'r un stwnsh yn hytrach nag ymgysylltu â chynghorau er mwyn paratoi'r fwydlen, rydych yn dechrau anobeithio y gellir maethu'r rhai y mae angen ichi eu perswadio. Rwy'n siŵr eich bod yn cofio'r llanastr yn rhengoedd y Blaid Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr y tro diwethaf yr awgrymodd rhywun yn garedig pwy y dylent fod yn uno â hwy. Cafwyd rhwygiadau a gwaharddiadau, ac er eu bod yn rhywfaint o hwyl i'r pleidiau gwleidyddol eraill wrth gwrs, roeddent yn ymyriad enfawr a niweidiodd awdurdod y cyngor ac amsugno llawer o amser pan allai'r Cyngor fod yn gwneud rhywbeth defnyddiol ar ran ei drigolion. Ac nid wyf yn credu mewn gwirionedd ei fod yn ymwneud â hunan-fudd ar ran y rhai a gafodd eu dal yn y frwydr. Yr hyn sy'n dal i aros yno yw'r teimlad eu bod wedi cael eu gwthio i ymladd gan gynigion na chafodd eu llunio ganddynt, a lle na chynigiwyd cyfleoedd i liniaru'r difrod yn y camau cynnar o ddatblygu polisi. Credaf nad yw ymgynghoriad post facto fel yr un sydd gennym yn awr yn mynd i dawelu'r dicter hwnnw mewn gwirionedd.

Rwy'n amau eich bod hefyd yn mynd i wynebu trafferthion gyda'r modelau cydweithio presennol, sydd eisoes wedi'u crybwyll, a'r dymuniad i weld cydffiniant yn digwydd. Cyflwynodd eich Llywodraeth y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac ar hyn o bryd, mae Bae'r Gorllewin yn fy rhanbarth i yn adlewyrchu nid yn unig ffiniau etholaethau, fwy neu lai, ond ffiniau Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg hefyd. Rwy'n credu bod symud gofal ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Gwm Taf, sydd mor bendant yn yr arfaeth ag y gall fod, rwy'n credu, yn cael gwared ar y cydffiniant hwnnw'n llwyr, ond wrth gwrs, byddai'n ei adfer pe bai eich syniad chi o uno rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn mynd rhagddo. Mae newid cyfrifoldeb bwrdd iechyd lleol, y teimlid cryn bryder dealladwy yn ei gylch ar y dechrau, bellach wedi dod yn newid sy'n sbarduno dicter, ynghyd â drwgdeimlad, oherwydd mae'n edrych fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi achub y blaen drwy ragdybio y bydd ei fersiwn hi o ddiwygio llywodraeth leol yn cael ei dderbyn.

A beth sy'n mynd i ddigwydd i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol? Mae'n debyg y bydd rhai gwelliannau i Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ond rwy'n eithaf awyddus i ddarganfod beth rydych yn mynd i'w wneud i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 ei hun. Os cofiwch, roedd yn seiliedig ar derfyn amser Tachwedd 2015. Felly, a fyddwch yn tynnu hyn oddi ar y llyfrau statud am ei fod yn ddianghenraid bellach? Os bu erioed ddarn hurt o ddeddfwriaeth, hwn ydoedd—a osodai derfynau amser ar awdurdodau lleol na ellid cadw atynt, neu lle y llwyddwyd i gadw atynt, câi cynlluniau a ffafrid eu hanwybyddu. A nododd Janet Finch-Saunders ddiffygion amlwg y ddeddfwriaeth honno, fel yr oedd yn mynd drwodd, ond cafodd ei gwrthod yn llwyr, fel yn wir y gwrthodwyd safbwyntiau arweinwyr y cynghorau.

Felly, Weinidog y Cabinet, os ydych yn bwriadu bod ychydig yn fwy cymodlon na'r Gweinidog ar y pryd, efallai y gallwch roi syniad i ni pa rannau o'r Ddeddf honno y bwriadwch eu cadw, oherwydd gwelaf rai ymadroddion cyfarwydd yn y Papur Gwyrdd, ond rwy'n eich annog i roi'r gorau i'r syniad o bwerau i atal awdurdodau lleol rhag cynllunio eu hunain yn ôl egwyddorion cabinetau meiri. Pam mai Llywodraeth Cymru a ddylai benderfynu hynny? Mae'r lle hwn wedi llwyddo i gael y pwerau'n ddiweddar i bennu ei strwythurau a'i system etholiadol ei hun, gan agor trafodaeth. Felly, pam y byddai'r Llywodraeth bellach yn ystyried cau'r drafodaeth ynghylch sut bethau fydd y cynghorau, gan gynnwys cynghorau a fyddai wedi uno?

Dau bwynt i orffen, gan fod pobl eraill wedi siarad yn fwy cyffredinol am gost—a allwch ddweud wrthyf a fyddwch yn trin a thrafod effeithiau uno ar y dreth gyngor a dyledion cynghorau cyn hyd yn oed ystyried arfer pŵer Gweithredol? Fel y mae'n rhaid cytuno ar delerau ymadael â'r UE cyn gadael, dylid cytuno felly ar delerau uno cyn uno cynghorau—ymlaen llaw, nid ar y cam llunio is-ddeddfwriaeth. A allwch ddweud wrthyf hefyd beth rydych wedi'i wneud i sicrhau nad yw'r don newydd hon o ansicrwydd yn effeithio'r un iot ar y cynnydd a wnaed gan y ddwy fargen ddinesig sy'n effeithio ar fy rhanbarth? Cynlluniau ar gyfer y Dyfed newydd—ac mae Paul Davies wedi crybwyll digon o broblemau gyda hwy eisoes—nid yn unig eu bod yn gwbl groes i uchelgeisiau'n ymwneud â chydffiniant, ond maent hefyd yn rhoi unrhyw gyngor cyfunol newydd mewn sefyllfa anodd iawn o ran trigolion Ceredigion a'r ffaith y cânt eu hepgor ar hyn o bryd o'r cynnydd economaidd a gontractiwyd ar gyfer cynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn unig.

Nawr, wrth gwrs, mae hi bob amser yn mynd i fod yn eithaf trafferthus gydag arweinwyr cynghorau. Rwy'n credu y gallai pawb ohonom fod wedi rhagweld hynny mae'n debyg, ond rwy'n meddwl tybed beth a ddigwyddodd i'r Alun Davies a wnaeth sioe fawr yn y Siambr hon, pan oedd yn Weinidog dros y Gymraeg, ynglŷn â sut yr oedd yn rhesymol a digyffro, yn taenu blodau ar hyd y llwybr i oleuedigaeth ac yn creu dealltwriaeth ymhlith y cynghorau, yn hytrach nag ufudd-dod, sef yr hyn sydd gennym yn awr.

17:55

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies?

Am yr ail dro mewn ychydig fisoedd cefais fy ngadael yn fud gan syndod, Ddirprwy Lywydd. Ymddengys fy mod wedi gadael fy mlodeugedau yn rhywle arall, ac nid oes gennyf ddim heblaw fy ffraethineb a fy noethineb. Felly, gallai hwn fod yn gyfraniad byr iawn. [Chwerthin.] Ond fe atebaf y pwynt oherwydd roeddwn yn meddwl ei bod hi'n araith feddylgar a diddorol iawn gan Suzy Davies yn awr, a oedd yn fy herio, rwy'n teimlo, mewn ffordd deg a rhesymol iawn. Wrth gwrs, nid ydym am orfodi. Rydym yn dymuno dod i gytundeb. Ac mae yna gytundeb, mewn gwirionedd, ac mae yna gytundeb ar draws llywodraeth leol ac rwy'n credu—. Clywsom gan lefarydd UKIP y prynhawn yma, ac rydym wedi clywed gwleidyddion ar bob ochr i'r Siambr mewn mannau eraill yn cydnabod nad yw'r strwythurau presennol sydd gennym yn gynaliadwy. Ac yn y cyfarfod cyntaf a gefais gyda CLlLC yn neuadd y ddinas Caerdydd ym mis Tachwedd, roedd CLlLC eu hunain yn glir iawn bryd hynny nad yw'r strwythurau presennol yn gynaliadwy: nid yw 22 o awdurdodau lleol mewn gwlad o 3 miliwn o bobl yn strwythur cynaliadwy, ac mae hynny—

Fe ganiatâf ichi ymyrryd.

A dôi hynny gan CLlLC, nid gan Lywodraeth Cymru.

Wel, nid aeth CLlLC mor bell â hynny, mae arnaf ofn, ond fe ddywedaf wrth fy ffrind da iawn o Ddwyrain Abertawe, sydd wedi gwneud araith nad yw'n hollol anghyfarwydd i mi, nad oes gennym, fel gwlad, y boblogaeth fwyaf ar y blaned. Mae poblogaeth Cymru ychydig yn fwy nag un Paris neu Rufain, ond mae'n llai nag un  Berlin a Madrid. Mae arnom angen y strwythurau sy'n adlewyrchu'n briodol y cymunedau a wasanaethir gennym, ac roeddwn yn meddwl bod y pwyntiau a wnaeth Paul Davies yn hynny o beth yn rhai teg, ac yn bwyntiau da a rhesymol. Wrth gwrs, roeddem ein dau'n byw yn Nyfed yn y dyddiau hynny, a hoffwn atgoffa'r Aelod dros y Preseli fod rhai o broblemau Dyfed wedi'u hachosi, wrth gwrs, gan Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol a gyfyngodd gryn dipyn ar lywodraeth leol ar y pryd, a gwelsom broblemau sylweddol nid yn unig yn Nyfed ond ledled Cymru.

Pan fyddaf yn siarad ag arweinwyr llywodraeth leol—. Rwy'n falch fod llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders, ar daith o amgylch Cymru. Efallai y byddwn yn taro ar ein gilydd ar ryw bwynt hyd yn oed, ac fe edrychwn ymlaen at y sgyrsiau hynny. Ond pan fyddaf yn teithio o amgylch Cymru, ac yn teithio i ymweld ac i siarad â chynghorwyr, cynghorau ac arweinwyr cynghorau, maent yn gwneud pwyntiau cadarn iawn weithiau, gadewch inni wynebu hynny. Rydym yn cael sgyrsiau cadarn a heriol iawn. Ond wyddoch chi, nid oes yr un ohonynt—nid oes yr un ohonynt—nid oes neb yn unman wedi dweud wrthyf, 'Hoffwn pe bai gennym Weinidog Ceidwadol yn darparu polisïau Ceidwadol, fel y maent yn ei wneud ar draws y ffin yn Lloegr'. Neb ohonynt. Hyd yn oed eich cynghorydd Ceidwadol. Rwy'n cytuno â disgrifiad Oscar o Peter Fox—mae'n arweinydd awdurdod lleol gwych—ond rhaid dweud fy mod yn dal i aros am yr ohebiaeth lle mae'n ceisio dylanwadu arnaf i ddilyn polisïau Ceidwadol yn Lloegr, sydd wedi lleihau pŵer gwario awdurdodau lleol 49 y cant yn ystod y chwech neu saith neu wyth mlynedd diwethaf. [Torri ar draws.] Rwyf bob amser yn gwybod pan wyf yn gwneud cynnydd oherwydd mae'r Aelod dros Orllewin Clwyd yn dechrau codi ei lais.

Mae pŵer gwario awdurdodau lleol yn Lloegr wedi gostwng 49 y cant. Nawr, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, yr Aelod dros Aberconwy, fod angen inni barchu Llywodraeth Leol, ac rwy'n cytuno gyda—mae angen inni wneud hynny. Ond nid dangos parch yw torri'r cymorth i wasanaethau lleol yn ei hanner, diffyg parch yw hynny. Mae'n dangos nad ydynt yn becso'r dam am y gwasanaethau neu'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau, a dyna realiti polisi'r Ceidwadwyr. Mae'r Ceidwadwyr wedi sefyll y prynhawn yma a gwneud rhai pwyntiau teg a rhesymol ar adegau, rwy'n cytuno, ynglŷn â rhaglen uno. Ond yr hyn nad ydynt wedi atgoffa'r Siambr yn ei gylch yw bod y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr nid yn unig wedi gorfodi ac wedi galluogi uno i ddigwydd, ond maent wedi gwneud hynny heb unrhyw gymorth nac unrhyw gyllid o gwbl, yn unrhyw le ar unrhyw adeg. Felly, nid yw'n iawn nac yn briodol iddynt ddod yma i wrthwynebu polisïau gan Lywodraeth yma sy'n ceisio cefnogi a grymuso llywodraeth leol heb gymryd cyfrifoldeb ar yr un pryd am rai o'r polisïau y maent hwy eu hunain yn eu cefnogi ar draws y ffin. [Torri ar draws.] Rwyf am wneud rhywfaint o gynnydd, os caf. Gwelaf fod yr amser yn fy erbyn.

Oherwydd rwyf am fynd y tu hwnt i'r sgwrs a gawsom y prynhawn yma. Yn rhy aml o lawer pan fyddwn yn dadlau ac yn trafod llywodraeth leol rydym yn trafod llinellau ar fapiau ac rydym yn trafod rhaglen uno. Credaf fod rhaglen o greu awdurdodau lleol mwy o faint yn rhagofyniad i rywbeth arall, a'r rhywbeth arall sy'n bwysig i mi. Fe ddywedaf gyfrinach wrth yr Aelodau yma. Pan fyddaf yn mynd i'r gwely yn y nos, nid wyf—[Torri ar draws.] Rwy'n mynd i orffen y frawddeg. Nid wyf yn—[Torri ar draws.]

18:00

Nid wyf yn gosod copi o'r Papur Gwyrdd neu fap o'r awdurdodau newydd o dan fy ngobennydd. Nid wyf yn gwneud hynny. Nid wyf yn breuddwydio, nid wyf yn deffro'n sydyn am dri o'r gloch yn y bore yn breuddwydio am awdurdodau newydd ym Mro Morgannwg neu yn Nyffryn Clwyd neu rywle arall, neu ddychweliad baner Dyfed a brenhinoedd Deheubarth. Nid wyf yn breuddwydio na'n meddwl am bethau fel hynny, ac nid wyf wedi ymrwymo i fodel penodol neu ddaearyddiaeth benodol, ond rwyf wedi ymrwymo i rywbeth arall. Rwyf wedi ymrwymo i lywodraeth leol wedi'i grymuso. Rwyf wedi ymrwymo i lywodraeth leol gryfach a democratiaeth leol well ac atebolrwydd democrataidd. A wyddoch chi beth sy'n fy nghymell, beth sy'n fy nghadw ar ddihun yn y nos? Gwybod bod 700 o bobl yng Ngheredigion wedi colli eu swyddi oherwydd yr hyn sy'n digwydd i lywodraeth leol heddiw. Yr hyn sy'n fy nghadw ar ddihun yn y nos yw gwybod bod yna bobl sy'n ofni gweld bil y dreth gyngor oherwydd bod cynghorau'n cael trafferth i wynebu cyni ac yn wynebu anawsterau i gydbwyso eu cyllidebau, a hynny mewn cyd-destun lle mae'r Llywodraeth hon wedi diogelu'r cyllidebau hynny ac wedi diogelu'r gwasanaethau hynny. Nid ydym ni yng Nghymru wedi gweld unrhyw beth tebyg i'r toriadau a welwyd yn Lloegr, ond rydym wedi gweld y tarfu ar wasanaethau a'r methiant i ddarparu gwasanaethau ar wahanol adegau am fod gennym strwythur nad yw'n addas at y diben nac yn gynaliadwy, ac mae CLlLC yn cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, a gwn fod pobl ar bob ochr i'r Siambr yn cytuno â hynny.

Ond gadewch inni fynd y tu hwnt i ddadl sych a blinedig ar linellau ar fapiau a chynlluniau uno. Gadewch inni edrych ar y weledigaeth. Nid yw'n ddigon da—nid yw'n ddigon da i unrhyw Aelod ar unrhyw ochr i'r Siambr yma heddiw sefyll a gwneud araith yn dweud wrthym beth y maent yn ei wrthwynebu a beth nad ydynt yn ei hoffi. Ni chawn ein talu i ddweud wrth bobl beth nad ydym yn ei hoffi. Ni chawn ein talu i ddweud wrth bobl am y problemau y maent eisoes yn gwybod amdanynt. Cawn ein talu yma i ddod o hyd i atebion i'r problemau hynny, i ddod o hyd i atebion i'r anawsterau sy'n wynebu pobl. A gadewch imi ddweud hyn—gwn fod amser yn fy erbyn, Ddirprwy Lywydd—mae Llafur Cymru yn credu yn y polisi hwn o greu cynghorau cryfach mwy o faint am ein bod am amddiffyn ein gwasanaethau, rydym am amddiffyn y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, ac rydym eisiau sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd. Rydym eisiau diwylliant newydd, rydym eisiau perthynas newydd rhwng y lle hwn a llywodraeth leol. Dywedais yn fy araith ar y penwythnos yn Llandudno ei bod hi'n bryd cael setliad newydd yng Nghymru.

Rydym wedi gweld ac rydym wedi ymgyrchu dros, a'r prynhawn yma rydym wedi trafod datganoli i Gymru. Ond credaf ein bod angen datganoli o fewn Cymru hefyd—mwy o bwerau i awdurdodau lleol cadarn gyda'r gallu i'w defnyddio a chyda gweledigaeth strategol i ddarparu gwasanaethau ledled Cymru, a mwy o bwerau i bob awdurdod lleol, pob awdurdod lleol diwygiedig yng Nghymru. Rwyf wedi rhoi ymrwymiad y byddwn yn dechrau ystyried cyflwyno Siarter yr UE ar gyfer hunanlywodraeth leol yng nghyfraith Cymru, ac rwyf am fynd ymhellach na hynny. Rwyf am ystyried cydwasanaethau a chorff gwella yng Nghymru i roi pwerau i lywodraeth leol a chyfrifoldeb dros welliant mewn llywodraeth leol.

Yn rhy hir, mae'r lle hwn a llywodraeth leol wedi bod fel chwiorydd anhapus, yn dadlau â'i gilydd. Mae angen perthynas aeddfed rhyngom a llywodraeth leol. Mae angen perthynas newydd rhyngom a llywodraeth leol. Mae arnom angen setliad newydd ar gyfer llywodraeth leol. Mae angen llywodraeth leol sydd wedi'i grymuso, cynghorau cryfach, yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau ar gyfer Cymru gyfan, a chredaf, Ddirprwy Lywydd, mai dyna yw dymuniad pobl Cymru yn ogystal. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Diolch.

Fe benderfynaf fi pwy sy'n siarad yn rhy hir yn y Siambr hon, diolch yn fawr iawn, ac efallai y bydd rhai ohonoch eisiau siarad mewn dadleuon eraill yn nes ymlaen heddiw. A gaf fi alw yn awr ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl, os gwelwch yn dda?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gofnodi ar ddechrau fy nghyfraniad nad wyf fi'n gorwedd ar ddihun am dri o'r gloch y bore naill ai'n meddwl, neu'n cysgu ac yn breuddwydio am gynlluniau'r Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, er gwaethaf sïon a allai fod wedi mynd o gwmpas ar ôl y datganiad diwethaf a roesoch ar y pwnc hwn, Alun Davies, pan ddywedais y buaswn yn fwy na pharod i fyw gerllaw a'r drws nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet ond yn llai na hapus i fyw gydag ef yn yr un awdurdod, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â hynny yn ogystal, Ysgrifennydd y Cabinet.

Efallai y dylwn ofyn i Mike Hedges grynhoi'r ddadl hon, gan ei fod ychydig bach yn fwy gwrthwynebus i'r cynlluniau hyn nag yr wyf fi, er mai enw'r Ceidwadwyr sydd ar y ddadl. Ond ni wnaf hynny, Ddirprwy Lywydd, oherwydd gwn y byddai hynny'n ennyn eich dicter ar y pwynt hwn.

Edrychwch, mae'n rhaid i mi ddweud, dechreuais deimlo braidd yn ddrwg drosoch chi, mewn gwirionedd, Alun Davies, gan ei fod ychydig bach fel annerch cyfarfod o CLlLC neu gyfarfod o'r Blaid Lafur, y ddadl hon heddiw. Oeddech wir—wel, ni allaf feddwl am un person mewn gwirionedd a gefnogai eich cynlluniau. Fe wnaethoch—hynny yw, nid yw'n ddyn drwg. Rwy'n rhoi hynny i chi Ysgrifennydd y Cabinet—nid ydych yn ddyn drwg. Ac nid ydych yn anneallus, felly gwn eich bod wedi meddwl—nid cymaint ag y dylech fod wedi'i wneud efallai—am rai o'r cynigion hyn, ac mae hynny i'w groesawu.

Yr hyn a ddywedwn yw eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn tua'r drydedd ran cyn diwedd eich rhethreg yn gynharach, lle y dywedoch eich bod wedi cael llond bol ar y ddadl sych hon. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi cymeradwyo hynny, oni wnaethom? Credaf fod pawb ohonom wedi blino arni hefyd. Ond wrth gwrs, y rheswm pam yr ydym yn cael y ddadl sych hon yw oherwydd eich bod wedi dwyn y drafodaeth hon i'r Cynulliad drwy gyflwyno'r cynigion hyn sydd wedi hen drengi sawl gwaith dros y blynyddoedd ers inni gael y Cynulliad hwn. Ni allwn gyfrif nifer y—bydd Mike Hedges yn cofio'r union nifer o weithiau yr ydym wedi trafod hyn—ac rydym wedi cau'r drws ar y cynigion hyn o'r blaen.

Felly, fe gyflwynoch y ddadl i ni. Ac os yw'r hyn a ddywedwch yn wir, sef mai rhagofyniad yw hyn i'r hyn rydych eisiau ei drafod mewn gwirionedd—sef, rwy'n tybio, moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac sydd, rwy'n tybio, yn rhoi'r dinesydd wrth wraidd y system, a pha mor aml y trafodwn hynny—yna pam ar y ddaear, ni allaf ddirnad pam nad ydych yn cael y ddadl honno a pham nad ydych yn dod â'r cynigion hynny i'r lle hwn a mannau eraill yn gyntaf, a gadewch inni gael y drafodaeth am y strwythur sy'n dilyn. A phwy a ŵyr, efallai y llwyddwch chi i berswadio pobl—efallai y llwyddwch i berswadio un person. Rwy'n siŵr eich bod wedi gwneud hynny—nid af yno. Rwy'n siŵr eich bod wedi perswadio pobl o'r blaen. Ond yr hyn a oedd yn gwbl amlwg o'r ddadl hon heddiw oedd nad yw'n ymddangos eich bod yn ymgysylltu â phobl a chario'r cyhoedd ac ACau a gwleidyddion a llywodraeth leol gyda chi er gwaethaf eich dymuniad gwreiddiol i wneud hynny.

Mae'n rhaid i chi—wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi mai dadl y Ceidwadwyr yw hon, ond nid yw wedi dianc rhag ein sylw nad y Ceidwadwyr yn unig, nac Aelodau'r gwrthbleidiau eraill, a oedd yn cefnogi egwyddorion y ddadl hon heddiw. Mae'n amlwg nad ydych yn mynd o'i chwmpas hi yn y ffordd iawn. Rydych yn gwneud llawer o bethau yn y ffordd iawn, nid wyf yn amau hynny. Ond nid yw hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, yn un ohonynt.

Mae wedi bod yn eithaf clir o'r ymateb heddiw gan Aelodau, a chyfeiriaf at rai ohonynt yn awr, fod yna bryderon. Mae Siân Gwenllian, a siaradodd, yn iawn. Oes, mae angen cryfhau ein cynghorau. Gan roi'r herian sy'n aml yn digwydd yn y lle hwn ynglŷn â thoriadau o'r neilltu, ac a ydynt yn doriadau'r DU neu'n doriadau yma, wrth gwrs bod moderneiddio awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud nid yn unig mewn cyfnod o doriadau, ond ar adegau o ffyniant hefyd. A ydych yn cofio'r ymadrodd, 'Rhaid inni drwsio'r to pan fydd yr haul yn tywynnu'? Wel, roedd yn berthnasol ar lefel y DU, ac roedd yn berthnasol mewn gwleidyddiaeth ddatganoledig yn ogystal. Felly, er gwaethaf y sefyllfa economaidd, mae angen i lywodraeth leol foderneiddio. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn am hynny, mae aelodau'r Blaid Lafur yn iawn am hynny ac mae aelodau'r wrthblaid yn iawn am hynny, felly gadewch inni fwrw ymlaen â chael y drafodaeth honno.

Lynne Neagle—wel, beth rydych yn ei gredu mewn difrif, Lynne? Amddiffyniad stoicaidd o'r status quo—y status quo, ond wedi'i foderneiddio yn amlwg. Roedd eich sylwadau'n debyg iawn i rai CLlLC y gwn fod Llywodraeth Cymru yn aml yn eu gwrthod ac yn dweud, 'Wel, fe fyddent yn dweud hynny, oni fyddent?' Wel, byddent, fe fyddent yn dweud hynny, oherwydd maent yn cynrychioli nifer dirifedi o bobl mewn llywodraeth leol, ac nid swyddogion etholedig yn unig ond gweision cyhoeddus mewn llywodraeth leol sy'n gwneud eu gorau ar yr adegau anodd hyn i wneud yn siŵr fod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu cystal ac mor effeithlon â phosibl. Rwy'n siŵr ein bod i gyd gyda hwy yn yr ysbryd o ran yr awydd i gyflawni hynny.

Oscar, fe siaradoch am ymgysylltiad a pha sicrwydd y mae gweithwyr yn yr awdurdodau lleol hynny'n ei gael. Yn amlwg, rwy'n agosach at awdurdod lleol Ceidwadol a gynrychiolaf nag yr wyf fi at awdurdodau lleol eraill, ond nid wyf yn hollol siŵr pa sicrwydd yr ydych wedi'i gyflwyno i'n gweithwyr mewn awdurdodau lleol ar hyn o bryd, oherwydd maent o dan bwysau. Maent yn ymdrechu'n galed i wneud pethau mewn sefyllfa sy'n fwyfwy anodd. Yn sicr ni chânt eu calonogi gan y dadleuon a wnaethoch.

Paul Davies—wel, mewn gwirionedd, cyn imi ddod yma heddiw, mae'n debyg y dylwn fod wedi taro i roi bet ar eich clywed yn gwrthwynebu dychwelyd at fodel Dyfed. Yn yr un ffordd ag yr ydych chi wedi arfer â rhai o'r ymatebion a gawsoch heddiw, Alun, mae Paul wedi bod yn gadarn yn erbyn dychwelyd at fodel Dyfed ers amser hir iawn.

Mae'r ddadl am y brand yn allweddol. Nid wyf wedi ailadrodd honno eto, oherwydd gwneuthum hynny'n fanwl yn y datganiad diwethaf a roesoch. Gallaf gael trafodaethau gyda chi ynglŷn â phroblemau sydd gennyf ynghylch ailffurfio Sir Fynwy. Fe fyddwch yn ymateb drwy ddweud wrthyf pe baech yn rhoi Sir Fynwy a Blaenau Gwent yn ôl at ei gilydd, y byddech yn ail-greu rhyw hen syniad rhamantus am hen Sir Fynwy y cawsoch eich magu ynddi ac y cefais i fy magu ynddi, ac y mae pobl yn hiraethu amdani mewn gwirionedd. Gallwch wneud y ddadl honno yn achos Sir Fynwy, a gallech ailenwi'r awdurdod hwnnw yn y tymor hwy, ond sut ar y ddaear y gwnewch chi berswadio pobl yn Aberystwyth fod brand Sir Benfro yn mynd i weithio'n dda yno? Sut y gwnewch chi berswadio pobl yn Sir Gaerfyrddin fod brand Sir Benfro yn mynd i weithio yno? Nid yw'n gweithio, a dyna'r broblem gyda'r cynigion hyn, Ysgrifennydd y Cabinet.

18:10

Nid wyf yn credu bod gennyf amser ar ôl—mae'n ddrwg gennyf, Mike.

Nid yw'n gweithio. Nawr, gwnewch yr hyn y dywedoch eich bod am ei wneud yn wreiddiol—ewch yn ôl i'r dechrau. Os ydych wedi ysgrifennu'r cynigion hyn ar gefn pecyn sigaréts, efallai y gallaf wneud cais rhyddid gwybodaeth ynghylch y pecyn sigaréts hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd mae'n swnio'n eithaf diddorol ei weld yn ysgrifenedig yn rhywle. Ond er mwyn popeth, gadewch inni fwrw ymlaen gyda'r gwaith o foderneiddio gwasanaethau cyhoeddus yn gyntaf cyn penderfynu ar y strwythurau. Mae pawb yma yn meddwl mai dyna'r ffordd i'w wneud. Gwrando, ymgysylltu a gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Ar gyfer eitem 8 ac eitem 9, rwy'n sylweddoli mai dadleuon hanner awr ydynt, a gwn fod gennyf lawer o siaradwyr yn y ddwy. Rwyf wedi gofyn ichi ystyried araith dair munud. Rwy'n derbyn eich bod oll wedi ysgrifennu ac wedi ymchwilio, ond os gallwch, bydd yn caniatáu inni gynnwys pawb yn y dadleuon. Felly, dyna eich atgoffa'n garedig. Eitem 8, felly, yw dadl Plaid Cymru ar y bwriad i ailenwi ail bont Hafren. Galwaf ar Dai Lloyd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6706 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi ail bont Hafren. Yn naturiol, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cefnogi hynny a hefyd yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Llafur.

Soniodd Adam Price yr wythnos diwethaf am y cyd-destun ehangach—bod y penderfyniad yma i orfodi'r penderfyniad yma ar enwi'r bont heb drafodaeth nac ymgynghoriad â phobl Cymru yn batrwm amlwg o ddiffyg parch Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Lafur Cymru at gynrychioli buddiannau ein cenedl ni.

Mae yna gyfres o ddigwyddiadau sydd yn dod i'r amlwg: dim penderfyniad dros forlyn Abertawe, gollwng cynlluniau i drydaneiddio rheilffordd Caerdydd i Abertawe, ffwlbri cynigion am y fodrwy haearn yng nghastell y Fflint y flwyddyn ddiwethaf, ailenwi pont Hafren heb ymgynghori, peidio â rhoi siâr deg o fuddsoddiad HS2 i Gymru, bung o £1 biliwn gan y Ceidwadwyr i'r DUP a dim ceiniog i Gymru. A'r un fwyaf diweddar, wrth gwrs: ildio dros Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn golygu colli pwerau i'r Senedd yma—pleidiau unoliaethol Prydain yn ceisio troi'r cloc yn ôl a sugno Cymru fach yn nes i Loegr. 

Nawr, rwy'n ddyn eithaf hawdd gwneud ag ef, ond roeddwn yn meddwl y buaswn yn eich atgoffa o hanes tywysogion Cymru. Yn 1282, lladdwyd y Tywysog Cymru olaf. Ymhyfrydai Edward I yn y ffaith fod teulu brenhinol Cymru wedi dod i ben a datganodd mai ei fab newydd-anedig oedd y Tywysog Cymru newydd oddi ar furiau Castell Caernarfon ac mewn gweithred o dwyllresymeg, sicrhaodd bobl Cymru na allai'r Tywysog Cymru newydd siarad gair o Saesneg chwaith, fel hwythau. Ni laddwyd Gwenllian, babi Llywelyn, ond cafodd ei halltudio i leiandy yng nghefn gwlad swydd Lincoln am 55 mlynedd ei bywyd bach, yn amddifad ac wedi'i hynysu tan ei marwolaeth yn 1337.

Felly, cafodd mab ac etifedd coron Lloegr ei eneinio'n Dywysog Cymru byth ers hynny, ac ar ein gliniau ers hynny rydym wedi cydymffurfio, rai ohonom yn fwy brwd nag eraill, sy'n dod â mi at Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nawr, fe wn fod pobl yn dweud y dylem drafod pethau pwysicach, ond dyna'r holl bwynt. Dylai Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod yn gwneud pethau pwysicach. Nid wyf wedi clywed neb yn gweiddi am ailenwi ail bont Hafren o gwbl. Rwyf wedi clywed llawer yn galw am gael morlyn llanw ym Mae Abertawe, trydaneiddio'r rheilffyrdd, peidio â chael carchar mawr ym Maglan—llawer o alw gan y cyhoedd—ond Pont Tywysog Cymru? Ni chlywais unrhyw alw gan y cyhoedd. Yr hyn a ddisgwyliwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, tra bo gennym un, yw cymorth i'r Cabinet drosi'r cynlluniau a'r syniadau gwirioneddol drawsnewidiol hyn yn weithredu.

Ni chynigiodd y Prif Weinidog yma unrhyw wrthwynebiad i gynllun yr Ysgrifennydd Gwladol i enwi'r bont—naw wfft i sefyll dros Gymru, neu a ydym wedi ailddiffinio sefyll dros Gymru bellach fel gorwedd ar lawr?

Yn dilyn eich cyfarwyddyd, Dirprwy Llywydd, fe wnaf i gadw pethau yn fyr. Mae'n bosibl y gwnaiff nifer o bobl Cymru gynnig enw amgen i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y bont. Efallai y ceir nifer o gynigion y dylai'r bont gael ei henwi ar ôl rhai o wir dywysogion a thywysogesau Cymru, megis 'Hewl Hywel Dda', 'Cefnffordd Gwenllian'—

18:15

Siaradwch am dywysogion Cymru yn yr oes Normanaidd. A wnewch chi dderbyn bod y Tywysog Charles, drwy'r llinell Duduraidd, nid yn unig yn hanu o un o ddisgynyddion teulu hynafol ar Ynys Môn, ond o linach Cadwaladr, y brenin hynafol Prydeinig olaf gyda mwy o hawl na'r hawlwyr ôl-Normanaidd?

Anobeithiol. Daw â fi'n ôl at y Bil ymadael.

Ond pam trwblu o gwbl efo enwi pontydd ta beth, ydy'r pwynt sylfaenol, pan mae materion llawer pwysicach i'w datrys? Mae'n gofynion ni fel rhan o'r ddadl yma heddiw yn syml: rhowch gyfle i bobl Cymru gael eu dweud ar enw a roddir i un o strwythurau mwyaf nodedig ein cenedl, neu i beidio â'i enwi o gwbl, yn hytrach na gadael i'r Ceidwadwyr sathru ar fat croeso Cymru. Diolch yn fawr. 

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.

2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn wneud y pwynt fod enwau yn bwysig. Maent yn wirioneddol bwysig. Maent yn anfon negeseuon ac maent yn bwysig yn symbolaidd, ac maent yn golygu rhywbeth i bobl. Ddirprwy Lywydd, byddai'n well o lawer gennyf fod yn byw mewn gweriniaeth gyda'i negeseuon cryf ynghylch dinasyddiaeth, grymuso a statws yn sgil cyflawniad a gallu yn hytrach na damwain genedigaeth. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir, ond nid ydym ychwaith yn byw mewn tywysogaeth. Nid maenoriaeth tywysog yw Cymru, felly roedd ailenwi ein Stadiwm Genedlaethol yn Stadiwm Principality yn ddi-fudd. Mae'n atgyfnerthu disgrifiadau anghywir, camarweiniol a diofal o Gymru fel tywysogaeth ac felly, buaswn yn dadlau, mae'n diraddio ac bychanu. Ac yn awr mae'r cynnig i ailenwi'r ail bont Hafren yn 'Bont Tywysog Charles' yn bygwth ychwanegu at gamsyniadau niweidiol. Mae'n eironig hefyd, rwy'n credu, fod yna argymhelliad, wrth i'r bont ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, i'w hailenwi, nid ag enw y mae'r bobl wedi penderfynu yn ei gylch a'i eisiau, ond ag enw a drosglwyddwyd oddi fry heb ymgynghoriad cyhoeddus hyd yn oed. Mae llawer o ddegau o filoedd o fodurwyr yn defnyddio'r bont bob dydd ond ni chawsant unrhyw lais ynglŷn ag a oedd angen enw newydd ac os felly, beth y dylai'r enw newydd fod. Ddirprwy Lywydd, buaswn yn dweud y gellid disgrifio camau gweithredu Llywodraeth y DU yn y mater hwn fel—

18:20

Diolch. A wyf yn gywir, fodd bynnag, i'r mater ddod i Lywodraeth Cymru am eu barn ac na wnaethant wrthod yr awgrym mewn gwirionedd?

Pa ffordd bynnag yr edrychwch arno, Janet, mater Llywodraeth y DU ydyw. Penderfynodd Llywodraeth y DU fod angen enw newydd, penderfynodd beth oedd yr enw newydd i fod a phenderfynodd fwrw ymlaen ag ef heb ymgynghoriad cyhoeddus. Felly, dyna lle mae'r cyfrifoldeb.

Ddirprwy Lywydd, gadewch imi ddweud fy mod yn credu'n rhesymol y gellid galw, ac y dylid galw camau gweithredu Llywodraeth y DU yn y mater hwn fel rhai trwsgl, cyfeiliornus a nawddoglyd yn wir. Os yw'r ail bont Hafren i gael enw newydd, dylai'r rhai sydd wedi dioddef y tollau dros gynifer o flynyddoedd benderfynu beth ydyw, ac yn wir y rhai sy'n dal i ddioddef y tollau heddiw. Yn fyr, dylai gael ei benderfynu gan y werin nid y crachach.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud wrth Dai Lloyd na fydd yn synnu na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw? Rhaid imi ddweud ei bod yn rhyfedd gweld Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar fater sydd eisoes wedi'i gytuno a'i benderfynu mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd yw ei fod yn fy nharo'n rhyfedd fod Plaid Cymru'n awgrymu ei bod yn rhesymol i ni yn y Cynulliad hwn ddweud wrth Lywodraeth y DU a'r Senedd beth y dylent ei wneud ar fater sydd yn eu dwylo hwy. Pe bai'r esgid ar y droed arall a bod y Senedd yn dweud wrth y Cynulliad beth i'w wneud ar fater sydd o fewn ein cyfrifoldeb, byddai gan yr Aelodau gyferbyn rywbeth i'w ddweud am y mater hwnnw'n fuan iawn.

Gan droi at y pwynt o ailenwi'r bont, yn wahanol i John Griffiths rwy'n freniniaethwr balch. Ond hyd yn oed pe na bawn yn freniniaethwr, rwy'n credu nid yn unig fod yr enw 'Pont Tywysog Cymru' yn nodi'r cyfraniad gydol oes a wnaeth i Gymru a'i chymdeithas, ond efallai'n bwysicach, mae'r penderfyniad hwn yn cydnabod rôl yr ail bont Hafren fel un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru, symbol o gyfraniad economaidd cryf Cymru—

Gwnaf mewn eiliad—i'r DU, cyfraniad a fydd yn rhoi hwb o £100 miliwn amcangyfrifedig y flwyddyn yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren.

Diolch i chi am ildio. Rwy'n weriniaethwr fy hun, ond fel breniniaethwr, oni fyddech yn cydnabod efallai mai'r person sy'n teimlo fwyaf o embaras ynglŷn â hyn i gyd yw Tywysog Cymru?

Wel, ymgynghorwyd â Thywysog Cymru hefyd ar y mater ac roedd yn hapus ynglŷn ag enwi'r bont yn hyn o beth.

Fe ddywedaf—ac mae gennyf Oscar yn eistedd wrth fy ochr yma yn ogystal—pan fyddwn yn meddwl am y £100 miliwn a'r penderfyniad i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren wrth gwrs, mae Casnewydd bellach yn gartref i'r farchnad eiddo sy'n symud gyflymaf yn y DU, yn ôl Rightmove, ac rwy'n awgrymu y gellir  priodoli'r farchnad fywiog hon yn uniongyrchol i ddiddymu'r tollau. Gallai cynifer â 25 miliwn o fodurwyr arbed tua £1,400 y flwyddyn ac mae sectorau twristiaeth a lletygarwch Cymru yn disgwyl ymchwydd yn niferoedd ymwelwyr dydd o Loegr, a gallai'r diwydiant cludo nwyddau yn ogystal a'r farchnad eiddo weld manteision yn sgil hynny hefyd. Nawr, am hyn y dylem fod yn siarad. Gallaf glywed Aelodau Plaid Cymru'n ochneidio, ond am hyn y dylem fod yn sôn heddiw—nid am enwi'r bont. Felly, er y credaf fod ailenwi'r ail bont Hafren yn ffordd addas o gydnabod yn ffurfiol y degawdau o gyfraniad a wnaeth Tywysog Cymru i'n cenedl ar achlysur ei ben blwydd yn 70 oed, mae'r enw 'Tywysog Cymru' yn frand ynddo'i hun hefyd wrth gwrs, brand sy'n cael ei adnabod ledled y byd. Felly, gadewch inni ganolbwyntio ein hamser heddiw yn y Siambr hon ar faterion pwysig ynglŷn â'r modd y bydd cael gwared ar y tollau yn cefnogi economi Cymru. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.

18:25

Rydym yn cael dadl gwicsotig y prynhawn yma ar fater nad wyf yn siŵr ei fod yn flaenllaw yn yr hyn y mae pobl yn siarad amdano y Dog and Duck neu unrhyw dafarn arall—

Wel, maent yn siarad amdano. Mae'n un o'r ychydig bethau y maent yn siarad amdanynt.

Os felly, maent yn rhoi'r Cynulliad ar y map hefyd, a da iawn hynny. Ond o ran faint o amser sydd ar gael ar gyfer dadleuon yn y Siambr hon a'r problemau enfawr sy'n wynebu Cymru, credaf fod pynciau gwell ar gyfer dadlau yn eu cylch na hyn, er fy mod bob amser yn mwynhau gwrando ar deithiau Dai Lloyd yn hel atgofion a'i ymatebion arloesol i'r problemau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy. Ond yn bersonol nid oes gennyf unrhyw anhawster o gwbl i gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru ar hyn. Er gwell neu er gwaeth, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, rydym yn frenhiniaeth gyfansoddiadol, a'r frenhiniaeth yw un o'r ffactorau sy'n uno'r Deyrnas Unedig. Rydym yn etifeddu'r sefydliadau hyn gan genedlaethau blaenorol, a byddai'r syniad y gallai rhywun fel fi ddod yn Arlywydd y Deyrnas Unedig neu'n arlywydd Cymru weriniaethol yn llawer mwy erchyll, rwy'n meddwl, i Aelodau Plaid Cymru na bod y Tywysog Cymru presennol yn y swydd sydd ganddo. Dyna'r perygl bob amser, wrth gwrs, gyda democratiaeth—eich bod weithiau'n cael dihirod yn ceisio am swyddi. Gallem fod wedi cael Arlywydd Tony Blair, er enghraifft, ar un adeg, pan oedd yn uchel ei barch yn llygaid y cyhoedd.

Mae'r mwyafrif llethol o bobl Cymru, fel yn y Deyrnas Unedig, yn cefnogi brenhiniaeth gyfansoddiadol fel pennaeth seremonïol y wladwriaeth. Nid oes gennym frenhiniaeth weithredol yn y wlad hon, a da iawn hynny hefyd. Mae'r pŵer gyda'r bobl drwy sefydliadau cynrychioliadol fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Credaf y dylem ymhyfrydu yn ein brenhiniaeth oherwydd mae'n rhoi bri anferth i'n gwlad yn y byd mawr. Pwy mewn gwirionedd a allai enw arlywydd yr Almaen neu arlywydd yr Eidal a gwledydd eraill? Ni allwch, ond mae'r Frenhines yn un o'r bobl enwocaf yn y byd ac mae yna fantais economaidd enfawr—er bod yn gas gennyf gyfiawnhau'r frenhiniaeth ar sail mor faterol—ond mae yna fantais economaidd enfawr i'r wlad hon—

A ydych yn sylweddoli bod Legoland yn Windsor yn cael mwy o ymwelwyr na phalas Windsor mewn gwirionedd? Yn syml iawn, ni ddylem fynd ar drywydd y ddadl economaidd. Hefyd, maent yn gwneud llawer o arian drwy'r pwrs cyhoeddus, megis pensiynau ac ati, a thrwy'r Ddugiaeth. Nid yw'n rhywbeth y dylem fod yn ei gefnogi, a dyna rywbeth yr hoffwn ei drafod yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, oherwydd mae'n bwysig. Dylai fod gennym weriniaeth Gymreig yma yng Nghymru.

Wel, rwy'n siŵr y byddai'r rhai ohonom sydd o blaid y frenhiniaeth wrth ein boddau fod Plaid Cymru'n cefnogi rhywbeth nad yw pobl Cymru yn ei gefnogi. Felly gwnewch hynny, ddywedaf i.

Wrth gwrs, mae pobl yn ymweld â Legoland yn Windsor. Efallai mai'r rhai na allant fynd i mewn i gastell Windsor ar y diwrnod hwnnw ydynt. Pwy a ŵyr? Nid oes unrhyw amheuaeth nad oes cefnogaeth boblogaidd enfawr i sefydliad y frenhiniaeth yn y wlad hon, ac mae'n ymddangos yn gwbl briodol y dylid enwi ail bont Hafren ar ôl Tywysog Cymru. Hoffwn gynnig, fel y gwneuthum y diwrnod o'r blaen, y dylid enwi pont arall yr Hafren ar ôl Llywelyn ap Gruffudd, Llywelyn Ein Llyw Olaf, i gynrychioli dau draddodiad y tŷ hwn, a byddai honno'n ffactor sy'n uno, efallai.

Mae'r cynnig yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

'Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren.'

Wel, beth sydd o'i le ar hynny? Ni welaf unrhyw beth o'i le ar hynny o gwbl, ac eto mae gennym welliant gan Lafur sy'n sôn am esgeuluso cyfrifoldeb. Mae fel y dywedodd fy nghyd-Aelod ar draws y Siambr. 'O, nid ein cyfrifoldeb ni ydyw. Nid ni, Syr. Llywodraeth y DU ydyw.'

Gan symud ymlaen, mae'r gwelliant yn croesawu'r ymgynghoriadau lleol ar ailenwi pontydd cefnffyrdd yng Nghymru. Wel, waw—pontydd cefnffyrdd, pan fo gennym y porth i Gymru yn cael ei ailenwi heb ymgynghoriad cyhoeddus o gwbl—dim. Clywais am hyn ac euthum yn y car a gyrru at bont Hafren a chreu fideo. Mae wedi'i gweld gan 50,000, ac mae wedi cychwyn ymgyrch. Mae yna ddeiseb. Unwaith eto, mae degau o filoedd o bobl wedi ei llofnodi oherwydd bod hyn yn bwysig. Nid ymwneud â'r frenhiniaeth y mae hyn mewn gwirionedd. Mae'n ymwneud ag urddas a democratiaeth, a phobl yng Nghymru yn cael dweud eu barn. Mae pobl y wlad hon wedi cael digon—[Torri ar draws.] Wedi cael digon. Mae'n ddiddorol bod yn y Siambr yn trafod hyn ac edrych ar y sgyrsiau sy'n digwydd wrth i mi siarad. Yn amlwg, nid yw'n fater sydd o ddiddordeb i bawb yn y Siambr hon, yn anffodus. Gorau po gyntaf y cawn sofraniaeth unigol yma yng Nghymru i'n dinasyddion. Gorau po gyntaf y cawn sofraniaeth gymunedol yng Nghymru, a gorau po gyntaf y cawn sofraniaeth genedlaethol fel ein bod yn gallu sefyll ar ein traed ein hunain gydag urddas a gwneud ein penderfyniadau ein hunain. Rwy'n teimlo embaras wrth wrando ar y gweriniaethwyr honedig asgell chwith draw yno ar fy ochr dde. Maent yn mynd i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, buaswn yn dychmygu, am eu bod o dan chwip eu plaid, fel erioed, gyda Llafur. Plaid yn gyntaf, y wlad yn ail.

18:30

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau yn glir am eu cyfraniadau ac am y cyfle hwn i ymateb. Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, dyma bont sy'n eiddo i Lywodraeth arall, ac rydym wedi gwneud galwadau mynych yn y gorffennol am drosglwyddo perchnogaeth am y groesfan i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn hanesyddol mae'r galwadau hyn wedi cael eu gwrthod. Felly, penderfyniad i Lywodraeth y DU yw a ddylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar enwi'r bont ai peidio. Hefyd, gwnaed cais i ofyn i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad yr wythnos diwethaf. Ond i ailadrodd, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad.

Rhaid imi ddweud, ar adegau, mae wedi bod yn bryder i mi fod yr iaith a ddefnyddiwyd weithiau, nid yn y Siambr hon, ond yn sicr ar y cyfryngau cymdeithasol, yn awgrymu bod pobl sy'n cefnogi'r teulu brenhinol yn llai o Gymry na'r rhai nad ydynt yn eu cefnogi, eich bod yn llai o Gymry os ydych yn cefnogi enwi'r bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru. Buaswn yn annog holl ddinasyddion Cymru i fod yn fwy goddefgar o safbwyntiau eraill a chefnogi amrywiaeth o safbwyntiau. Ni fuaswn yn dymuno i unrhyw un y tu allan i Gymru feddwl nad ydym yn goddef barn a safbwyntiau pobl eraill. Hefyd byddai'n well gennyf pe baem yn canolbwyntio ar gael gwared ar dollau'r bont yn hytrach nag ar ei hailenwi. Cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol wybodus ac ystyrlon yn y Senedd o blaid diddymu'r tollau ar y ddwy bont, yn ogystal ag ymhlith busnesau a diwydiant. Rwy'n credu'n gryf iawn fod y gefnogaeth hon wedi ein galluogi i lunio achos pwerus a chyson dros weld Llywodraeth y DU yn eu dileu, rhywbeth a chwaraeodd ran fawr ym mhenderfyniad Llywodraeth y DU yn y pen draw yn fy marn i.

Os edrychwn tua'r dyfodol, fel y dywedodd Russell George, mae cynhyrchiant economi Cymru ar fin cael hwb o dros £100 miliwn y flwyddyn. Mae'n hanfodol, wrth inni adael yr UE, ein bod yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru'n fyd-eang ac yn wir, ar bob lefel. Mae cael gwared ar y tollau yn anfon neges gref iawn yn rhyngwladol fod Cymru'n agored i fusnes, ac nad oes unrhyw rwystrau i symudiad rhydd traffig rhyngom a Lloegr a gweddill y DU. Galwaf yn awr ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau rhyngom a gweddill Ewrop.

Nawr, fel Llywodraeth, mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn allweddol i'r modd y lluniwn ein polisïau. Yn wir, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r ffyrdd o weithio yn pennu bod yn rhaid inni weithio mewn ffordd gydweithredol, gyda phobl yn cymryd rhan yn llawn. Byddwn yn parhau i ymgynghori gyda'r cyhoedd ar gynigion ar gyfer ein hasedau ein hunain yng Nghymru i helpu i wella ansawdd lleoedd a hunaniaeth leol. Rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn cynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd cefnffyrdd newydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried ymgynghori ar enwi'r bont ym Mryn-mawr ar gyfer rhan 2 yr A465, ac yn ddiweddar rydym wedi dechrau trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint ynghylch enwi'r hyn a elwir ar hyn o bryd yn bont newydd Sir y Fflint; dyma'r porth i Gymru yn y gogledd. Ac rwyf hefyd yn awyddus i gynnal ymgynghoriad lleol ynghylch enwi trydedd bont y Fenai. Rhaid imi bwysleisio mai ymgynghoriadau lleol fydd y rhain, i roi hawl i'r bobl sy'n byw yn y cymunedau y maent yn rhoi hunaniaeth iddynt gael rhan yn y broses o'u henwi.

Edrychaf ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r ymgynghoriadau lleol hyn, a buaswn yn annog yr holl wleidyddion, a'r holl bobl, ble bynnag y maent yn eu cynrychioli, a ble bynnag y maent yn byw, i barchu barn y bobl leol, ni waeth a ydynt yn dewis enw brenhinol ai peidio ar y seilwaith sy'n rhoi hunaniaeth iddynt a'u cymunedau.

18:35

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A fo ben, bid bont, wrth gwrs, medd yr hen ddihareb yn y Mabinogi. Wel, wrth gwrs, yn sgil ymyriad Alun Cairns, efallai bydd rhaid inni wyrdroi hynny i: a fo bont, bid ben. Nawr, pam wnaeth e hyn? Pam wnaeth 40,000 o bobl arwyddo’r ddeiseb yn ei wrthwynebu? Rwy’n credu roedd John Griffiths yn iawn, wrth gwrs: mewn enw mae grym. Mae symbolau’n bwysig; maen nhw’n arwyddocaol achos maen nhw’n cario neges ynghylch pwy ydym ni. Dyna pam mae pobl yn poeni am y pethau yma, ac nid ydw i'n credu bod unrhyw beth anoddefgar ynghylch teimlo’n eithaf angerddol am beth mae hyn yn ei gynrychioli o ran ein gwerthoedd ni, fel roedd John Griffiths yn ei ddweud.

Nid wyf yn credu ei fod yn fater—rwy'n weriniaethwr hefyd—o p’un ai ydych chi’n weriniaethwr neu’n frenhinwr; mae’n fater ynglŷn ag a ydych chi’n ddemocrat, a dweud y gwir. Ble oedd llais pobl Cymru yn hyn o beth—yn y penderfyniad yna? Penderfyniad sydd wedi cael ei arosod arnom ni, wrth gwrs, fel rhywbeth mas o’r hen oes, a dweud y gwir—oes cyn datganoli, oes cyn democratiaeth. Dyna pam mae pobl yn ymateb ac yn dweud, ‘Nid yw hwn yn dderbyniol.’

Mae sawl cenedl yn y byd, wrth gwrs, wedi bod yn mynd trwy’r broses o ailenwi pethau er mwyn rhyddhau eu hunain o drefedigaethedd. Yng Nghanada yn ddiweddar, maen nhw wedi newid enw pont Langevin yn Alberta—gorthrymwr mawr y bobloedd brodorol—wedi troi yn bont 'cymodi'. Yn Awstralia, wrth gwrs, rŷm ni i gyd yn gwybod am Ayers rock wedi'i throi'n Uluru. Dim ond yng Nghymru, wrth gwrs, mae’r broses yn mynd i’r ffordd arall, yntefe? Fel roedd John yn cyfeirio at y Principality Stadium, mae nawr gyda ni'r bont. Rŷm ni'n dal yn colli enwau Cymraeg lleol, fel, wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn ei wneud ers canrifoedd—proses digon tebyg i’r un ddigwyddodd yn Iwerddon. Cofiwch ddrama enwog Brian Friel, Translations, am rym enwi lleoedd. Mae’n rhan ganolog, a dweud y gwir, o ddeall pwy ydym ni a’n hanes ni.

Enwau lleoedd ydy’r man lle mae iaith a grym yn cwrdd. Mi oedd ail groesiad yr Hafren yn ddim ond pont, ond beth yw hi nawr? Mae’n symbol; mae’n symbol o’n diffyg awdurdod ni. Mae’n symbol o’n diffyg llais ni yn ein gwlad ein hunain, symbol o’n diffyg democratiaeth ni: hanner y bont yn Lloegr, ond 100 y cant o’r pŵer. Cymru sydd—[Torri ar draws.] Nid oes amser. Cymru sydd wedi talu rhan helaeth o’r tollau, ac eto ni chawsom siawns i leisio ein barn. Mae’n fy atgoffa o’r gofeb honno yn Calcutta—cofeb Victoria—wedi cael ei thalu, Dirprwy Lywydd, trwy danysgrifiadau gan yr Indiaid eu hunain. Ni a nhw, cyn hir, fydd yr unig bobl yn y byd sydd wedi talu am symbolau o’n darostyngiad ni ein hunain, ond gydag un gwahaniaeth mawr, wrth gwrs: maen nhw’n annibynnol. Brysied y dydd y bydd hynny’n wir am Gymru hefyd.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl Plaid Cymru: Y grant ar gyfer gwisg ysgol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Eitem 9 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar y grant ar gyfer gwisg ysgol, a galwaf ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.

18:40

Cynnig NDM6709 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailsefydlu’r grant ar gyfer gwisg ysgol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n codi i gynnig y ddadl yma yn enw Plaid Cymru, sydd yn ceryddu y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ddiddymu y grant gwisg ysgol, oherwydd mae'r grant, fel rydym ni'n gwybod, wedi rhoi cefnogaeth allweddol bwysig i nifer fawr o deuluoedd—y teuluoedd tlotaf yna yng Nghymru—i fedru sicrhau bod eu plant nhw yn cael gwisg ysgol i fynd i'r ysgol. Mae 5,500 o ddisgyblion wedi cael cefnogaeth gan y grant y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae'n cael ei werthfawrogi gan awdurdodau lleol, gan ysgolion—rŷm ni'n clywed am hanesion gan yr undebau athrawon sut mae athrawon unigol weithiau yn gorfod mynd i'w pocedi eu hunain i brynu peth gwisg ysgol i ddisgyblion. Felly, mae unrhyw gwestiwn am yr angen am y math yna o gefnogaeth yn gwestiwn gwag, i bob pwrpas. Ac, wrth gwrs, yn bwysicach na dim byd, mae'n cael ei werthfawrogi gan y rhieni yna sy'n ei chael yn anodd i gael dau ben llinyn ynghyd, ac i'r plant yna, wrth gwrs, sydd yn derbyn cinio ysgol am ddim. 

Mae'n warthus o beth fod Llywodraeth Lafur, neu Lywodraeth sy'n cael ei harwain gan Lafur, beth bynnag, yn torri'r gefnogaeth hanfodol honno i'r tlotaf a'r mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas ni, a hynny ar yr amser, wrth gwrs, pan fod ei angen e gymaint ag erioed, os nad yn fwy, felly. Ar yr adeg y mae'r Ceidwadwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri ar y gwasanaeth lles, ac yn torri nôl ar y gefnogaeth i'r tlotaf mewn cymdeithas, pan fo costau byw ar gynnydd a chyflogau'n crebachu, y peth olaf y byddem ni'n ei ddisgwyl gan Lafur yw hyn. 

A gadewch inni daro ar ei ben yr honiad yma ei bod hi'n wastad wedi bod yn fwriad cyflwyno cynllun amgen. Nid oedd neb, yn sicr, o feinciau cefn Llafur yn gwybod hynny pan ddaeth y newydd i'r amlwg. Nid oedd sôn am gynllun amgen pan adroddwyd gyntaf ar y toriad yn y cyfryngau. Os oedd e'n fwriad, wel, iawn, ond oni ddylai cynllun amgen fod yn ei le cyn diddymu yr un presennol? Hynny yw, mi ellid bod wedi osgoi yr holl ddryswch a'r holl ofid ymhlith rhai o'r aelodau mwyaf bregus ac anghenus yn ein cymdeithas ni. 

Ac ymateb cyntaf Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, pan ddaeth y newyddion, oedd dweud yn ddigon di-hid, os caf ddweud, fod cost gwisg ysgol wedi gostwng erbyn hyn beth bynnag. Wel, rydw i ac eraill wedi gweld ar wefan Sefydliad Bevan sut roedden nhw'n disgrifio hyn fel rhyw fath o mealy-mouthed justification am doriad a fyddai'n arbed swm cymharol fychan i'r Llywodraeth, ond, wrth gwrs, yn gost aruthrol i'r rhieni mwyaf anghenus. Rydym ni'n gwybod bod y gost ar gyfartaledd bob blwyddyn i dalu am wisg ysgol uwchradd erbyn hyn yn £316, yn ôl y Teaching Times, ac ar yr un pryd mae'r IFS yn amcangyfrif bod y teuluoedd oed gwaith tlotaf sydd â phlant yn mynd i weld eu hincwm nhw yn gostwng 20 y cant rhwng 2015 a 2020. Felly, mae'r teuluoedd tlotaf yna angen y gefnogaeth yma yn fwy nag erioed. 

Nid mater o fynd i'r archfarchnad i brynu y dillad ysgol rhataf yw e erbyn hyn, wrth gwrs. Mae nifer cynyddol o ysgolion yn mynnu bod rhaid prynu dillad ysgol wedi eu brandio o gyflenwyr penodol. Nawr, rydw i'n rhiant yn Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun, ac mi aethon nhw drwy broses o gyflwyno gwisg ysgol newydd yn ddiweddar—ac mi ddylwn i ddatgan diddordeb fel rhiant, mae'n siŵr, yn y mater hwnnw, ac mi wnaf i hynny. Ond, wrth gwrs, ar yr adeg honno, fe ddadleuodd nifer o rieni yn y wasg leol y gallech chi fod yn prynu trywsus ysgol sydd dair gwaith yn rhatach o ddarparwyr eraill. Mae yna stori debyg wedi bod yn ddiweddar yn sir Fynwy, ac rydw i'n gwybod y bydd nifer o Aelodau fan hyn yn gyfarwydd â'r stori honno. 

Mae ymchwil gan Gymdeithas y Plant yn dangos bod dros 70 y cant o rieni yn dweud erbyn hyn eu bod nhw bellach yn gorfod prynu peth neu'r cyfan o wisg ysgol eu plant o gyflenwyr penodol. Mae eu dadansoddiad nhw yn datgelu y gallai rhieni ar draws Prydain arbed cannoedd o filiynau o bunnau petai nhw'n cael prynu dillad ysgol o gyflenwyr rhatach. Ond roedd ymateb Llywodraeth Cymru fod dillad ysgol yn rhatach erbyn hyn, mae'n rhaid i fi ddweud, yn sarhaus, yn galon oer ac yn dangos i nifer ohonom ni gymaint allan o gysylltiad y maen nhw â realiti bywyd heddiw. 

Nawr, rwy'n rhannu siom, ac yn wir, digalondid Comisiynydd Plant Cymru am y penderfyniad yma. Nid oedd yn glir yng nghynnig cyllidebol y Llywodraeth, ac nid ydy e wedi bod yn destun unrhyw fath o ymgynghoriad cyhoeddus. Penderfyniad unochrog—unilateral—gan y Llywodraeth yw hyn. A oes yna asesiad effaith hawliau plant wedi bod? A oes yna asesiad effaith cydraddoldeb wedi ei baratoi? A ydy'r Llywodraeth wedi rhoi sylw dyledus i'r ddyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus neu i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn? Mae'r rhain oll yn gwestiynau sydd heb eu hateb ac y dylid fod wedi'u hateb cyn i'r penderfyniad gyrraedd y pwynt y mae wedi'i gyrraedd erbyn hyn. 

Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae rhai siroedd yn dweud nawr eu bod nhw am drio, efallai, camu i'r adwy mewn rhai llefydd, ond yn edrych ble y gallan nhw dorri o fewn eu cyllidebau presennol er mwyn gwneud hynny, felly mi fydd rhywbeth yn gorfod rhoi yn yr ardaloedd hynny. Rydw i wedi siarad ag awdurdodau lleol ar draws y gogledd ac mae o leiaf hanner ohonyn nhw wedi dweud na fydd unrhyw gefnogaeth ar gael ganddyn nhw fel awdurdodau lleol, ac felly mae'r prospect yn real na fydd y gefnogaeth ar gael yn yr ardaloedd hynny.

Ac mae yna batrwm fan hyn, os caf i ddweud, mae yna batrwm yn dod i’r amlwg: torri grant neu gyllideb, mae yna adwaith allan yn y wlad, wedyn sgramblo i adfer y sefyllfa ac wedyn mae yna ddryswch o gwmpas rhyw quick fix i drio adfer y sefyllfa. Fe welsom ni hynny gyda’r grant cyflawniad ethnig lleiafrifol, y MEAG—grant yn cael ei ddiddymu, adwaith cryf i’r toriad hwnnw, Llywodraeth Cymru, wedyn, yn ffeindio rhyw bres o arian wrth gefn ac yn coblo rhyw drefniant amgen at ei gilydd, ac nid yw awdurdodau lleol yn dal ddim yn glir, gyda llaw, sut y bydd hynny’n cael ei ddosbarthu ar lefel ranbarthol. Mae’r un peth yn digwydd eto fan hyn: torri’r grant gwisg ysgol, adwaith negyddol eithriadol a chyhoeddi wedyn, 'O na, na, mae yna ryw gynllun amgen'—digon annelwig ar hyn o bryd—'ar y gweill'. Nid ydych chi’n twyllo neb. Mae’n shambles llwyr. Mae’n teuluoedd tlotaf ni’n haeddu gwell; mae’n plant mwyaf difreintiedig ni’n haeddu gwell ac mae Plaid Cymru’n mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adfer y grant gwisgoedd ysgol.

18:45

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, felly galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r grant gwisg ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei le sy’n gweddu’n well i anghenion dysgwyr difreintiedig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o fy mhryderon ynglŷn â'r posibilrwydd o golli'r grant hwn, ac rwy'n ddiolchgar iddi am ei hymrwymiad ar hyn ac am gyfarfod â mi yn ei gylch ddoe. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ei bod yn ymrwymedig iawn yn bersonol i gefnogi ein disgyblion tlotaf, ond ar y mater hwn, mae arnom angen rhywfaint o eglurder a sicrwydd ar frys.

Yn y pum mlynedd diwethaf, mae'r grant ar gyfer gwisg ysgol wedi bod o fudd i 1,107 o ddisgyblion yn Nhorfaen—pobl ifanc y byddai eu teuluoedd fel arall wedi cael trafferth i fforddio gwisg ysgol. Eleni, ceir 202 o ddisgyblion a ddylai fod yn gymwys i gael y grant. Rydym wedi cael sicrwydd ynglŷn â chynllun newydd, ond mae cwestiynau pwysig yn dal heb eu hateb a buaswn yn ddiolchgar am ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cylch heddiw. Yn gyntaf, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet warantu y bydd pob disgybl a oedd yn gymwys i gael cymorth ar gyfer gwisg ysgol o dan yr hen gynllun yn gymwys o dan y cynllun newydd?

Cafwyd awgrym y gallai'r cynllun fod yn fwy hyblyg ac ariannu gweithgareddau eraill sy'n ymwneud ag ysgolion y mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd talu amdanynt. Nawr, rwy'n croesawu unrhyw help ychwanegol ar gyfer disgyblion gyda phrydau ysgol am ddim, ond mae'n rhaid i'r cymorth hwnnw fod yn ychwanegol ac nid ar draul cymorth a geir eisoes ar gyfer gwisgoedd ysgol. Ceir gormod o weithgareddau y mae plant o deuluoedd incwm isel wedi'u heithrio ohonynt—pethau fel tripiau ysgol, sy'n deilwng o ddadl yn ei hawl ei hun yma. Yn ôl yn 2015, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg blaenorol ein hadroddiad ar ein hymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel. Cafodd argymhelliad yn galw ar y Llywodraeth i gryfhau ac egluro canllawiau i ysgolion ar godi tâl am weithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg ei dderbyn mewn egwyddor. Credaf ei bod yn bryd edrych eto ar y canllawiau hynny a'u cryfhau.

Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth fydd y mecanwaith darparu ar gyfer y grant newydd hwn? Byddai gennyf bryderon difrifol ynglŷn â'r arian hwnnw'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion. Ceir mecanwaith cyflenwi sefydledig eisoes ar waith drwy awdurdodau lleol, ac mae teuluoedd yn gyfarwydd ag ef. Mae teuluoedd yn gyfarwydd â chael trafodaethau am fater sensitif incwm teuluol gyda chorff mwy o faint a mwy anhysbys yr awdurdod lleol. Ni hoffwn weld teuluoedd yn gorfod mynd i ofyn yn swyddfa'r ysgol er mwyn sicrhau bod gan eu plant y wisg sydd ei hangen arnynt i fynd i'r ysgol. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn mynnu bod ysgolion mewn sefyllfa well i ddarparu'r cymorth hwn, yna hoffwn weld y dystiolaeth ar hynny a gwybod yn union pa ymgynghori a fu gyda'r teuluoedd sy'n debygol o gael eu heffeithio.

Rwy'n croesawu'n fawr yr arwydd a roddodd y Llywodraeth y byddant yn ystyried rhoi canllawiau 2011 i gyrff llywodraethu ar wisg ysgol ar sail statudol. Maent yn ganllawiau da, ond nid ydynt yn cael eu gweithredu. Bydd gweithredu'r canllawiau'n briodol yn sicrhau bod gan bob teulu wisgoedd ysgol fforddiadwy. Rhaid inni sicrhau bod cymaint â phosibl o eitemau generig y gellir eu prynu mewn archfarchnadoedd yn cael eu defnyddio. Ar hyn o bryd, mae'r canllawiau yn nodi na ddylai ysgolion bennu mwy nag eitemau sylfaenol y gellir eu prynu o siopau cadwyn am gost resymol yn hytrach na chan un cyflenwr yn unig. Dylid osgoi eitemau costus fel blaser a dylid cyfyngu logos i un eitem am bris rhesymol, ond nid yw hyn yn digwydd. Mae cipolwg cyflym ar restr gwisg ysgol blwyddyn 7 un ysgol yn Nhorfaen yn cynnwys nifer o eitemau na ellir ond eu prynu o un siop arbenigol un unig: blaser, £27.50; tei ysgol, £4.50; ac mae'r pecyn addysg gorfforol yn £44 ar ei ben ei hun. Felly, cyfanswm o £76 am un set, a gwn fod hyn yn cael ei ailadrodd mewn ysgolion ledled Cymru. Nid yw'n ddigon da.

Roeddwn am gloi drwy dynnu sylw at ddau bwynt ehangach am y ffordd y gwnawn benderfyniadau ynghylch adnoddau ar gyfer ein disgyblion mwyaf anghenus. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r dull o weithredu cylch y gyllideb eleni, ac nid yw hyn wedi ei gyfeirio'n unig at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ond ar draws y Llywodraeth. Credaf ei fod wedi arwain at y sefyllfa a'r ddadl hefyd ynghylch cymorth parhaus ar gyfer lleiafrifoedd ethnig a disgyblion sy'n Sipsiwn Roma a Theithwyr. Nid wyf yn credu bod y penderfyniad i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ariannu i bob pwrpas i lywodraeth leol heb adnoddau digonol wedi'u nodi yn mynd i ddiwallu anghenion y bobl ifanc yr ydym yn ceisio sicrhau eu bod yn elwa. Roedd y cyllid wedi'i glustnodi yno am reswm.

Yn ail, rwy'n cwestiynu'r prosesau a arweiniodd at y penderfyniadau hyn yn y lle cyntaf ar draws y Llywodraeth, yn benodol ynghylch ymgynghori a diffyg asesiad effaith hawliau plant, sy'n gymwys nid yn unig i addysg, ond ar draws y Llywodraeth. Rydym yn datgan ein record ar hawliau plant yng Nghymru, ond rwy'n bell o fod wedi fy argyhoeddi ein bod yn gwneud agos digon i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw a sicrhau bod hawliau plant yn realiti yng Nghymru.

I gloi, rydym yn gwybod y bydd credyd cynhwysol yn gwthio miloedd yn fwy o blant i fyw mewn tlodi. Ni allai fod adeg waeth i gael gwared ar gymorth ar gyfer grantiau gwisg ysgol nac i osod rhwystrau rhag gallu eu hawlio. Diolch.

18:50

Fe gadwaf fy sylwadau'n fyr, Ddirprwy Lywydd, gan fod llawer o bobl wedi gwneud y pwyntiau yr oeddwn am eu gwneud. Ond hoffwn ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet: dyma gawlach arall rydych wedi cerdded i mewn iddo. Roedd llawer ohonom yn y Siambr wedi gobeithio y byddech wedi dysgu eich wers o ran y diffyg ymgynghori ynglŷn â'r ffordd y cawsoch wared ar y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig ac mae hyn, mae arnaf ofn, yn enghraifft arall, oherwydd ni chafwyd unrhyw ymgysylltiad o gwbl â rhanddeiliaid cyn i chi wneud y penderfyniad i gael gwared ar y grant hwn. Rydych wedi sgrialu o gwmpas yn edrych am ryw ddarpariaeth arall i guddio embaras y ffaith eich bod wedi methu cael yr ymgynghoriad hwn. Mae'n ddigon posibl fod y cynllun olynol yn gynllun gwell, ond gallech fod wedi ei gyhoeddi ar yr un pryd. Mae pawb ohonom yn gwybod mai'r realiti yw nad oedd hwnnw gennych i fyny eich llawes i'w gyhoeddi am eich bod wedi gorfod sgrialu o gwmpas i geisio datrys hyn a chithau wedi gwneud y penderfyniad blaenorol yn barod.

Fel y dywedwyd eisoes, rydym mewn sefyllfa bellach lle mae llawer o rieni yn cael trafferth i dalu am wisg ysgol. Rydym yn gwybod nad yw'r canllawiau presennol sy'n mynd i awdurdodau lleol ac ysgolion yn cael eu dilyn. Nid oes neb yn gwneud ysgolion yn atebol am y ffordd y maent yn disgwyl i rieni brynu eu gwisgoedd, ac a bod yn onest hefyd, gallem yn hawdd annog pobl i brynu cynhyrchion generig, crysau, trowsusau, sgertiau, beth bynnag ydyw, o archfarchnadoedd lleol, ond mae ansawdd rhai o'r nwyddau hynny'n wael iawn, ac mae'n golygu bod yn rhaid prynu rhai newydd yn eu lle yn fwy rheolaidd. Felly, mae'r bobl a oedd yn cael y math hwn o gymorth yn y gorffennol hyd yn oed yn fwy dibynnol arno bellach gyda'r costau hynny'n cynyddu, a dyna pam yr ydym yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

Felly credaf mai'r hyn rwy'n edrych amdano yw rhywfaint o sicrwydd gennych heddiw ynglŷn â'r cynllun olynol hwn. Mae angen inni dynnu llinell yn y tywod o ran y llanastr a wnaethoch a cheisio gwneud yn siŵr fod y cynllun olynol yn un sy'n gweithio, yn un nad yw pobl yn teimlo embaras i'w ddefnyddio, ac yn un sy'n ddigon hael i wneud gwahaniaeth go iawn i'r teuluoedd a allai fod angen y cymorth hwnnw. Mae Lynne Neagle yn hollol iawn—nid mater o gost gwisgoedd y dyddiau hyn yn unig yw hyn. Mae llawer o ysgolion yn codi tâl am werslyfrau na chodwyd amdanynt o'r blaen. Mae gan lawer o ysgolion weithgareddau cyfoethogi'r cwricwlwm y tu allan i oriau ysgol a oedd am ddim o'r blaen, ond mae pobl yn gorfod talu am y rheini hefyd bellach. Felly, gwyddom am y pwysau sy'n bodoli o ran cyllid, ond mae hwn yn fater o flaenoriaeth yn fy marn i, ac nid yw'r ffordd y gwnaed y penderfyniad yn amlwg ar sail unochrog yn dderbyniol o gwbl. Rwy'n gobeithio, gyda'r cynllun olynol hwn, y bydd ymgynghori eang yn digwydd â phawb, fel y gallwn ei gael yn iawn, fel y gallwn helpu i'w lunio mewn ffordd a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac a fydd yn cefnogi'r teuluoedd a'r rhieni sydd angen y cymorth.

18:55

Yn gyntaf, rhaid imi ddweud fy mod yn cefnogi cynnig Plaid Cymru ac rwy'n cytuno â hwy y dylid adfer y grant. Fodd bynnag, credaf fod y grant mewn rhai ffyrdd yn trin symptom yn hytrach na'r achos. Rwy'n cytuno â Chadeirydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Neil Foden, pan ddisgrifiodd wisg ysgol fel rhywbeth sy'n dileu gwahaniaethau rhwng disgyblion a dywedodd fod ei thanseilio'n creu rhaniadau. Rwyf hefyd yn cytuno ag ef fod gwisg ysgol yn ffordd o osgoi stigma cymdeithasol oherwydd bod yr holl ddisgyblion yn edrych yr un fath.

Felly, yn ddi-os mae gennym gyfrifoldeb cymdeithasol i hyrwyddo system o wisgoedd ysgol a hefyd i wneud yn siŵr fod pob teulu'n gallu eu fforddio heb effeithio'n andwyol ar eu safonau byw. Felly, mae'n destun pryder fod ysgolion yn mynnu eitemau â logos gwisg ysgol, na ellir ond eu prynu gan nifer cyfyngedig o gyflenwyr ar gost uwch nag y byddai rhieni yn ei weld ar y stryd fawr neu ar-lein. Nid yw cost uchel eitemau â logos a blaseri yn helpu unrhyw un a byddai pob teulu'n elwa o allu prynu gwisgoedd rhatach.

Felly mae monopoli'n bodoli sy'n rhoi awdurdodau lleol a'r Llywodraeth Lafur yn gadarn ar ochr cynhyrchwyr y wisg ysgol. Pam y dylid gwario arian trethdalwyr ar gynnal prisiau artiffisial o uchel am wisgoedd ysgol plant pan allem ei agor i bob pwrpas i'r un gystadleuaeth o ran prisiau ag ar gyfer dillad gwaith y rhan fwyaf o oedolion?

Cafwyd awgrymiadau synhwyrol iawn gan Sefydliad Bevan y dylai bathodynnau ysgol wedi'u gwnïo fod yn opsiwn yn hytrach nag eitemau parod gyda logos wedi'u brodio. Er y dywedir bod y Llywodraeth yn annog ysgolion i ddilyn y llwybr hwn a chael ysgolion i gael gwared ar y gofyniad i gael blaser ddrud, ceir rhai ysgolion nad ydynt yn gwrando. Ond sut y mae'r Llywodraeth hon yn ymateb? Mae'n cael gwared ar yr un peth sy'n lleihau cost gwisg ysgol i'r bobl dlotaf mewn cymdeithas ac nid yw'n dweud dim am yr hyn sy'n cael ei roi yn ei le.

Bydd teuluoedd incwm isel y 5,500 o blant yr effeithir arnynt yn iawn i fod wedi'u drysu gan y ffaith fod Llywodraeth Lafur sy'n dweud yn barhaus eu bod ar eu hochr hwy'n cael gwared ar y grant hwn—yn teimlo wedi'u drysu nid yn unig am fod Llafur yn cael gwared ar y grant, ond am nad ydynt wedi rhoi unrhyw awgrym pa un a fydd y rhieni hynny'n dlotach ym mis Medi oherwydd newidiadau i unrhyw grant newydd ar gyfer gwisg ysgol.

Er fy mod yn anghyfforddus ynghylch moeseg masnachu dillad sydd ar gael mewn rhai archfarchnadoedd, rhaid inni gydnabod nad yw llawer o bobl yn cael y moethusrwydd o ddewis sydd gan eraill, ac mae agor gwisgoedd ysgol i'r farchnad gystadleuol yn arbed costau i'r teuluoedd dan sylw ac yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at drin yr angen sylfaenol am y grant yn y lle cyntaf.

Un peth yw i Lywodraeth Cymru ddweud, 'Peidiwch â phoeni, fe ffurfiwn ni grant newydd', ond mae cyhoeddi eich bod yn cael gwared ar y grant cyn rhoi manylion pendant am yr hyn a ddaw yn ei le yn golygu y bydd llawer o rieni ledled Cymru yr eiliad hon yn poeni o ddifrif ynglŷn â mis Medi, heb wybod os neu sut y byddant yn ymdopi â chost gwisgoedd ysgol ac ni chânt sicrwydd o gwbl gan ymateb amwys, gwangalon nad yw'n gwneud dim i ateb eu pryderon real a sylweddol.

Mae pawb ohonom yn gwybod nad yw pobl weithiau'n hawlio'r cyfan y mae ganddynt hawl iddo ac nad ydynt yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen, naill ai am nad ydynt yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael neu eu bod yn teimlo gormod o embaras i ofyn. Felly, mae gwneud gwisgoedd mor rhad â phosibl yn llwybr y dylid ei ddilyn ochr yn ochr â system grantiau effeithiol. Felly, i gloi, rwy'n cefnogi cynnig Plaid Cymru, ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy pendant yn ei hymdrechion i orfodi ysgolion i gynnig opsiynau ar gyfer gwisgoedd ysgol am gost is. Diolch i chi.

Diolch. Bydd yn rhaid imi alw ar y Gweinidog am 19:01, felly os gall pawb ohonoch fod yn gyflym, efallai y cawn weld sut yr aiff pethau. Leanne Wood.

Mae 5,500 o fyfyrwyr yn elwa ar y grant gwisg ysgol gwerth £700,000. Dyna £700,000, sy'n llai nag 1/150 o gyllideb Llywodraeth Cymru—hanner yr hyn y mae eich Llywodraeth yn ei wario ar bitsas a dillad hwylio moethus ar gardiau credyd, ond mae'n dal i fod yn ormod i'r Llywodraeth hon.

Pris gwisgoedd ysgol oedd y cyfiawnhad a roddwyd dros gael gwared ar y grant hwn. Ar gyfartaledd, mae rhieni'n gwario £108 ar ddillad ysgol ar gyfer plant ysgol gynradd a £126 ar gyfer plant ysgol uwchradd. Pan fo traean o blant Cymru'n byw mewn tlodi, toriadau i fudd-daliadau yn parhau i effeithio ar y bobl dlotaf a defnydd o fanciau bwyd ar gynnydd, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn hoffi ailadrodd heddiw ei chyfiawnhad gwreiddiol pam y mae gwisgoedd ysgol yn ddigon rhad i rieni eu prynu—byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld.

Mae Sefydliad Bevan wedi galw'r cyfiawnhad hwn yn un mursennaidd. Roedd y comisiynydd plant yn synnu ac yn digalonni ynglŷn â'r penderfyniad a thynnodd sylw at hynodrwydd y penderfyniad i ddileu cymorth ariannol ar gyfer gwisgoedd ysgol wrth lansio cronfa ar gyfer cynnyrch misglwyf a fyddai o fudd i'r union blant y mae'r grant hwn yn eu helpu—penderfyniad rhyfedd iawn, a ddaeth i sylw pawb yn yr un wythnos ag y daeth rhaglen wrth-dlodi flaenllaw'r Llywodraeth, Cymunedau yn Gyntaf, i ben heb fod unrhyw raglen arall i gymryd ei lle. Mae Cymdeithas y Plant wedi dweud y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio'n negyddol ar les a gallu plant i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Yn dilyn pwysau anorchfygol, mae'n ymddangos y caiff y Llywodraeth ei gorfodi i ddarparu rhyw fath o gymorth ariannol, ond mae faint, erbyn pryd a sut y bydd yn gweithio eto i'w datgelu. Ni fydd troeon pedol a pholisi heb ei gynllunio'n iawn byth yn strategaeth lwyddiannus ar gyfer helpu'r traean o blant Cymru sy'n byw mewn tlodi i lwyddo.

Heddiw, rwyf am roi cyfle i'r Gweinidog ein goleuo ni a'r cannoedd o deuluoedd sy'n wynebu toriadau i'r grant hollbwysig hwn. A allwn gael sicrwydd pendant y bydd grant newydd ar waith ymhell cyn i'r tymor ysgol nesaf ddechrau? O ran hynny, a fydd unrhyw un ar ei golled o ganlyniad i'r penderfyniad hwn? Faint yn union o arian a gaiff ei ddyrannu i'r grant newydd, ac a fydd unrhyw newidiadau i gymhwysedd ar gyfer y rhai sy'n gallu ei gael? Pa fecanwaith a fydd ar waith ar gyfer craffu ar unrhyw grant newydd, a beth fydd rôl y Cynulliad hwn yn y broses honno?

Yn olaf, hoffwn ofyn i'r Gweinidog unwaith eto: beth a'i hysgogodd i ddileu'r grant hwn yn y lle cyntaf? Pa asesiad effaith a gynhaliodd? Pwy yr ymgynghorwyd â hwy? Ac a wnaiff hi ailystyried ei phenderfyniad?

19:00

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw i roi cyfle inni drafod sut yr ydym yn cefnogi teuluoedd a dysgwyr o gefndiroedd dan anfantais. Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru gwestiwn perthnasol iawn: pwy yr ymgynghorwyd â hwy? A rhaid imi ddweud wrth arweinydd Plaid Cymru: os ewch yn ôl at y papurau ymgynghori ar y gyllideb a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Hydref ac yna ar adeg y gyllideb derfynol, fe welwch y penderfyniad hwn yn eich papurau pwyllgor ac yn y papurau cyllideb hynny, ar y tablau grantiau, ac rwy'n synnu, fel rhywun y gwn ei bod o ddifrif ynglŷn â chraffu, na chafodd hyn ei godi, yn enwedig o ystyried y ffaith fod y blaid wedi ymatal ar y bleidlais ar y gyllideb ac ni wnaed unrhyw sylwadau rwy'n ymwybodol ohonynt mewn perthynas â hyn. Mae'r dogfennau hynny'n gyhoeddus, Leanne—

Rhaid imi symud ymlaen, os nad oes ots gennych. Er gwaethaf agenda cyni—[Torri ar draws.] Er gwaethaf agenda cyni sydd wedi arwain at 5 y cant o doriad mewn termau real i gyllideb Cymru, sy'n cyfateb i oddeutu £900 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus, rydym yn parhau i flaenoriaethu cyllid i gefnogi'r bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas, ac mae'n syndod clywed gan Llyr, a oedd yn cwestiynu wythnos yn ôl yn unig a ddylai'r grant datblygu disgyblion sy'n buddsoddi £93 miliwn yn addysg ein plant tlotaf, a ddylai hwnnw barhau, ond rhaid imi ddweud ei bod hyd yn oed yn fwy o syndod clywed gan Darren Millar y prynhawn yma ynghylch gofal ffug, pan fo polisïau ei Lywodraeth ef yn San Steffan yn gorfodi teuluoedd i fyw mewn tlodi.

Fel y dywedais o'r blaen—fel y dywedais o'r blaen, rwyf wedi ymrwymo i barhau—

—i ystyried beth arall y gallwn ei wneud fel Llywodraeth, yn unol â'r cynnydd yn yr arian rydym eisoes yn ei ddarparu ar gyfer y grant datblygu disgyblion a thrwy gynlluniau bwyd a hwyl arloesol, i enwi dau yn unig, oherwydd mae gennyf ddiddordeb mewn canfod pob modd posibl o gefnogi addysg, dyhead a chyfleoedd bywyd ein pobl ifanc fwyaf difreintiedig.

Nawr, mewn perthynas â gwisg ysgol a chostau gwisg ysgol, gadewch imi amlinellu fy mwriad. Yn wir, gwnaeth Llyr a Lynne Neagle yr achos ar fy rhan. Ar adeg o gyllidebau gwirioneddol dynn, rydym yn cefnogi ffordd wirioneddol ddrud o ddarparu gwisgoedd ysgol, fel yr amlinellwyd. Felly, yn gyntaf, rwy'n benderfynol o adolygu'r canllawiau sydd ar gael i gyrff llywodraethu ar bolisïau gwisgoedd ysgol ac edrychiad disgyblion. Nid yw hyn wedi'i wneud ers 2011, ac er bod llawer o arferion da, fel y nododd Lynne Neagle, yn y ddogfen honno, nid yw ar sail statudol. Ac o'r dystiolaeth a roddwyd gan Lynne a Llyr a sawl un arall, mae'n amlwg i mi mai'r ffordd go iawn o ymosod ar broblem fforddiadwyedd gwisg ysgol—. Mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â chost gwisg ysgol, a fydd o fudd nid yn unig i'r teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer cael cymorth—[Torri ar draws.]—a fydd nid yn unig yn helpu teuluoedd sy'n gymwys i gael cymorth o dan yr hen grant; mewn gwirionedd, bydd o fudd i'r holl deuluoedd ym mhob rhan o Gymru, ni waeth ym mha gyfnod o addysg y mae eu plant. Gyda llaw, os ydym yn adolygu'r canllawiau hynny ac yn eu rhoi ar sail statudol, bydd hefyd yn rhoi cyfle inni fynd i'r afael â mater gwisgoedd niwtral o ran rhywedd, a hoffwn fynd i'r afael â hynny hefyd.

O ran cymorth parhaus ar gyfer teuluoedd a allai ei chael hi'n anodd fforddio gwisg ysgol, rwyf eisoes yn archwilio ac yn datblygu opsiynau ar gyfer cynnig gwell ac ehangach yn lle'r grant ar gyfer gwisg ysgol. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, i lawer, roedd y grant ar gyfer gwisg ysgol yn anhyblyg. Ni ellid ond defnyddio'r arian ar gyfer gwisgoedd ysgol ac yn bennaf, ar gyfer disgyblion blwyddyn 7. Rwyf am weld rhywbeth sy'n llawer mwy hyblyg, sy'n gweddu'n well i anghenion dysgwyr a theuluoedd dan anfantais ac sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt.

Nawr, rwy'n credu bod gennym dempled a sylfaen wych gyda'r grant datblygu disgyblion, ond rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud. Lynne, gadewch imi eich sicrhau, rwy'n rhagweld y byddwn yn gwario mwy ar y grant newydd olynol nag a wnaem o'r blaen. Rwy'n credu, ac mae'n fwriad gennyf sicrhau, y dylai teuluoedd allu defnyddio'r grant hwnnw i gefnogi costau gwisg ysgol. Ond rhaid imi ddweud, rydym hefyd yn gwybod bod llawer o blant a phobl ifanc o gefndiroedd mwy difreintiedig weithiau'n gallu ei chael hi'n anodd cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol ac yn yr ysgol. Mae llawer o ysgolion yn mynd allan o'u ffordd i wneud eu gorau glas i roi camau ar waith i helpu'r plant hyn i gael gwared ar broblemau o'r fath, ond mae'n mynd yn fwyfwy anodd gwneud hynny, yn enwedig yn yr ysgol uwchradd. A gall effaith hyn bara'n hir iawn. Nid yn unig ei fod yn golygu colli cyfle i gymryd rhan mewn cynllun unigol. Er enghraifft, efallai ei fod yn golygu'r gallu i ymuno â'r Urdd a mynd i Langrannog; gallai olygu'r gallu i ymuno â chynllun Dug Caeredin a chymryd rhan yn hwnnw. Nid yn unig y mae'n amddifadu plant o'r profiad unigol hwnnw, mae'n dal ati i effeithio arnynt ac yn eu rhoi dan anfantais o gymharu â'u cymheiriaid mwy cefnog: yr anallu i roi hynny ar cv, yr anallu i'w roi ar ffurflen gais am le mewn coleg, i allu sôn am y profiadau a'r sgiliau rydych wedi'u dysgu pan fyddwch yn ymgeisio am eich swydd ran-amser gyntaf ac rydych yn cystadlu yn erbyn rhywun sydd â'r holl brofiadau hynny i sôn amdanynt. Mae'r anghyfiawnder yn ddiddiwedd ac yn mynd y tu hwnt i'r anallu cychwynnol i gymryd rhan yn y gweithgareddau hynny.

Nawr, cydnabuwyd hyn yn y Llywodraeth yn ôl yn 2010 pan edrychwyd ar fater gwisg ysgol a chostau addysg. Câi plant o gefndiroedd difreintiedig eu heffeithio'n anghymesur gan y pethau hyn ac rwyf am wneud rhywbeth yn ei gylch. Rwyf am wneud rhywbeth amdano. Felly, Ddirprwy Lywydd, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio ar gynllun newydd a fydd ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi—[Torri ar draws.]—ym mis Medi, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed awgrymiadau o bob rhan o'r Siambr ac edrych ar y mecanweithiau mwyaf effeithiol ar gyfer ei ddosbarthu. Rwy'n gwbl benderfynol ein bod yn bachu ar bob cyfle i gefnogi plant o gefndiroedd mwy difreintiedig, nid yn unig o ran cost eu siwmper â logo, ond o ran eu gallu i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

19:05

Wel, diolch yn fawr iawn, a chredaf iddi fod yn ddadl ddefnyddiol iawn fel y dylai'r dadleuon hyn fod. Ac mae wedi bod yn un fywiog ac rwy'n falch fod pawb wedi cyfrannu yn y ffordd a wnaethant, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu, yn enwedig Lynne Neagle? Rydych chi'n iawn, roedd angen inni gael, ac mae'n dal i fod angen inni gael mwy o eglurder a sicrwydd. Ond mae wedi cymryd dadl gan Blaid Cymru i geisio denu rhywfaint o'r wybodaeth hon allan o Lywodraeth Cymru—dylai fod wedi dod fisoedd yn ôl ac nid yr ôl-weithredu hwn yn awr ar ôl iddo fod ar draws y penawdau newyddion. Ac mae Darren Millar yn gwbl gywir: pa ymgysylltu a wnaed ar hyn? Ond wyddoch chi, efallai y dylech awgrymu hynny wrth Alun Cairns hefyd, i gyfeirio at y ddadl flaenorol y prynhawn yma.

Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym eich bod yn mynd i adolygu'r canllawiau ar wisgoedd ysgol—gwych, rhagorol, mae'n hen bryd, ond ble rydych chi wedi bod? Ble rydych chi wedi bod nes nawr? Yn sicr, os ydych yn teimlo mor gryf, ac nid wyf yn amau eich ymrwymiad, felly—.  Wel, iawn, gallwch chwythu a chodi eich ysgwyddau, ond os ydych chi'n teimlo mor gryf am hyn, yna dowch, dylem fod wedi gwneud rhywbeth amdano cyn hyn, rhaid imi ddweud. Rydych yn dweud ei fod yn y gyllideb, iawn. Rydych yn dweud ei fod yn y gyllideb. Wel, nid wyf yn siŵr beth y mae hynny'n ei ddweud am dryloywder Llywodraeth Cymru, ac atebolrwydd o ran y Llywodraeth, oherwydd—. Rydych yn honni ei fod yno, ac o'r gorau, nid awn i gweryla yn ei gylch, ond ni welodd y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg mohono, ni welodd y comisiynydd plant mohono, ni welodd neb y siaradais â hwy mohono, ar wahân i chi'ch hun wrth i chi chwarae eich gêm flynyddol o siarâds craffu ar y gyllideb gyda phwyllgorau'r Cynulliad. Felly, y tro nesaf efallai—[Torri ar draws.] Efallai y tro nesaf y byddwn angen mwy o wybodaeth ymlaen llaw, mwy o onestrwydd. Os ydych yn gweld rhywbeth fel hyn a allai ddod yn ôl i'ch brathu, efallai y dylech dynnu ein sylw ato, ac efallai y gallech ddweud wrthym hefyd ble roedd y cyllid ar gyfer rhywbeth yn lle'r cynllun hwn yn y gyllideb.

19:10

Nawr, gwn fod yr Aelodau Llafur yn y Cynulliad hwn yn enwedig wedi cael eu pigo gan y penderfyniad hwn. Rwy'n siŵr y byddai Gweinidogion blaenorol wedi dod o dan bwysau tebyg i gael gwared ar y grant ar gyfer gwisg ysgol, ond fe wnaethant wrthsefyll hynny, wrth gwrs. Fe wnaethant wrthsefyll hynny mae'n debyg oherwydd eu bod yn gwybod pa mor sensitif a pha mor allweddol oedd hyn i rai o'r cymunedau tlotaf y maent yn eu cynrychioli. Ond dyna ni, mae'n debyg mai dyna'r math o gyfaddawd y mae meincwyr cefn Llafur yn gorfod ei wneud am gael Democrat Rhyddfrydol mewn Llywodraeth.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Symudwn ymlaen yn awr at yr amser pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu—. Tri. Diolch i chi, canwch y gloch.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

19:15
10. Cyfnod Pleidleisio

Os caf fi ofyn i'r Aelodau fynd i'w seddau, os gwelwch yn dda. Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio, a phleidleisiwn yn gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwygio llywodraeth leol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6707 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 18, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn yn awr i bleidleisio ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 34, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

NDM6707 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 1: O blaid: 34, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 46, roedd 5 yn ymatal, 4 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.

NDM6707 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 4: O blaid: 46, Yn erbyn: 4, Ymatal: 5

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6707 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru—Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl— sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gynaliadwy.

3. Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 34, roedd 8 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6707 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 34, Yn erbyn: 13, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren. A galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig hwn, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 14, roedd 1 yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6706 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 40, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 45, roedd 1 yn ymatal, 9 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6706 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 1: O blaid: 45, Yn erbyn: 9, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant.

Cynnig NDM6706 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.

2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 44, roedd 1 yn ymatal, 9 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6706 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 44, Yn erbyn: 9, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar y grant ar gyfer gwisg ysgol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig hwn, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6709 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6709 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

19:20

Cynnig NDM6709 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r grant gwisg ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei le sy’n gweddu’n well i anghenion dysgwyr difreintiedig.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6709 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

11. Dadl Fer: Gwead cymdeithasol a lles cymunedau’r Cymoedd yn y dyfodol

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os yw'r Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda. Galwaf ar David Rees i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis. David.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n sylweddoli ei bod wedi bod yn ddiwrnod hir, ond credaf ei fod yn faes pwysig i'w drafod a chroesawaf y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer ar wead cymdeithasol a lles cymunedau'r Cymoedd yn y dyfodol. Hoffwn hysbysu'r Senedd fy mod wedi rhoi amser i Dawn Bowden gyfrannu at y ddadl hon.

Yn y ddadl fer hon, rwyf am fynd i'r afael ag agweddau ar gymunedau'r Cymoedd sy'n dylanwadu ar les cymdeithasol a chydlyniant y rhai sy'n byw yno a sut y mae'r ffactorau hyn wedi newid tirwedd wleidyddol ac economaidd y Cymoedd. Byddaf hefyd yn ystyried y dylanwad y mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi'u cael, ac y gallent eu cael ar y cymunedau hynny yn ogystal â mynd i'r afael ag effaith agenda cyni ddiangen Llywodraeth y DU.

I ddeall beth a olygir wrth 'wead cymdeithasol', mae'n ddefnyddiol myfyrio efallai ar hanes unigryw'r Cymoedd a'i gymharu â lle rydym heddiw. Mae gan Gymru dreftadaeth falch o orffennol diwydiannol, sydd wedi siapio ein hanes a diffinio ein tirwedd. Wrth wraidd ein treftadaeth ddiwydiannol, mae cymunedau'r Cymoedd, sydd, fel y gwyddom, wedi'u dylanwadu'n fawr gan y diwydiannau glo a metel. Roedd y rhain yn gymunedau integredig iawn, a ddibynnai'n helaeth ar ei gilydd am gymorth a dyma lle y digwyddai llawer o'r gweithgareddau cymdeithasol a chyhoeddus. Ac o ganlyniad, ni ellid anwybyddu cryfder y parch a'r ysbryd a oedd yn amlwg yn y cymunedau hyn. Roedd y rhyngweithio cymdeithasol a'r ddealltwriaeth rhwng y rheini a oedd yn byw yn y Cymoedd yn ffurfio gwead cymdeithasol cryf, a rwymai'r cymunedau hyn ynghyd.

Ers dad-ddiwydiannu'r cymunedau hyn yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, cafwyd llawer o heriau a ddogfennwyd yn dda yn ymwneud â chyfleoedd cyflogaeth, trafnidiaeth a seilwaith, yn ogystal ag anghydraddoldebau ar draws iechyd, lles ac addysg. Er bod yr heriau hyn yn bodoli ac na ddylid eu hanwybyddu, nid ydynt yn diffinio'r Cymoedd. Mae'r ymdeimlad cryf o ddiwylliant a chymuned yn parhau. Fodd bynnag, mae hynny bellach mewn perygl. Yr her i Lywodraeth Cymru yw nid yn unig buddsoddi ymhellach yn y Cymoedd, ond gweithio'n agos hefyd gyda'r cymunedau hyn i sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed a bod pobl wedi eu grymuso i gymryd yr awenau ar benderfyniadau polisi allweddol y Llywodraeth sy'n ymwneud â'r rhyngweithio cymdeithasol a'r gymuned sy'n byw yn y Cymoedd ac yn dylanwadu arno.

Roedd cyflogaeth ar y cyd mewn cymunedau glofaol yn rhwymo'r Cymoedd gyda'i gilydd ar un adeg, ond rydym bellach yn wynebu tirlun economaidd newydd. O ganlyniad, mae nifer o heriau wedi codi. Yn y gorffennol, roedd Cymoedd ffyniannus, diwydiannol a thynn yn cynnal hunaniaeth ddiwylliannol, ddeinamig wrth i gyfranogiad cymunedol o amgylch cyflogaeth ar y cyd ddylanwadu ar gydlyniant cymdeithasol yr ardal. Nid y cymunedau hyn a oedd yn gyfrifol am eu dirywiad economaidd eu hunain, a rhaid i'r ymateb atgyfnerthu'r ymdeimlad hwn o hunaniaeth a diwylliant cymuned. Mae hanes a threftadaeth y Cymoedd, ynghyd â diwylliant a'r celfyddydau, yn elfennau hanfodol o gymunedau glofaol, a'r pethau hyn sy'n cynyddu brwdfrydedd a chefnogaeth i newid, gan gynnal y cydlyniant cymdeithasol amhrisiadwy.

Bob dydd, gwelaf y potensial am fwy o lwyddiant a ffyniant yn fy etholaeth fy hun. Fodd bynnag, rhaid imi grybwyll y pwynt pwysig hwn, oherwydd, er gwaethaf y weledigaeth a'r buddsoddiad a wneir yn y Cymoedd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n ei groesawu i gyd, Ysgrifennydd y Cabinet—felly, gallwch gofnodi hynny yn awr—ni allwn osgoi'r ffaith fod y gwaith cadarnhaol hwn yn cael ei wneud yn erbyn cefndir agenda o gyni Llywodraeth Dorïaidd y DU. Mae'r wyth mlynedd diwethaf o gyni wedi cael effaith anochel ar gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a bob blwyddyn a aeth heibio, mae llai o arian ar gael i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol anstatudol. Mae ein cynghorau'n wynebu mwy o gyfyngiadau ariannol nag erioed oherwydd bod toriadau cyni San Steffan yn cael eu trosglwyddo iddynt hwy, a bellach mae'r toriadau hynny'n bygwth gwasanaethau statudol. Gan fod toriadau gwariant San Steffan i les a gwasanaethau cyhoeddus yn difrodi ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddod o hyd i atebion i helpu ein pobl ifanc i gael gwaith, i helpu'r rhai sy'n agored i niwed yn ein cymunedau ac i gysylltu ein Cymoedd yn well â'r trefi a'r dinasoedd ledled Cymru.

Ers sefydlu'r Cynulliad, darparodd Llywodraeth Cymru gryn dipyn o gymorth ar gyfer Cymoedd Cymru. Mae'n hanfodol edrych ar effeithiolrwydd y rhaglenni hyn wrth inni edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod ar gyfer yr ardaloedd hyn.

Mae Cymunedau yn Gyntaf bellach yn dod i ben, ac yn fy nghwm penodol i, Cwm Afan, mae wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar nifer o unigolion, grwpiau cymunedol a'u cymdogaethau, yn ogystal ag mewn lleoliadau eraill ar draws Cymru rwy'n ymwybodol ohonynt. Dyna un raglen roeddem yn gwbl gefnogol iddi, ac roedd yn brosiect blaenllaw i Lywodraeth Cymru am flynyddoedd lawer. Mae tasglu'r Cymoedd a chyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' wedi nodi nifer o flaenoriaethau allweddol i gefnogi swyddi a sgiliau o ansawdd da, mwy o wasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol. Nawr, mae'r grŵp hwn o arbenigwyr yn cynrychioli sectorau allweddol ar draws y Cymoedd, ac mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar ymgysylltiad parhaus â'r cymunedau. Rwyf am weld hyn yn parhau, er mwyn sicrhau bod lleisiau'r Cymoedd yn siapio'r ffordd y mae'r tasglu hwn yn parhau i weithredu, er nad yw eto'n cynnwys y Cymoedd i gyd ar hyn o bryd; mae'n dal i fod yn gyfyngedig o ran pwy mae'n ei gael.

Nawr, mae'r weledigaeth hon yn bwysicach nag erioed, yn enwedig o ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'i pholisi cyni diffygiol, sy'n golygu, yma yng Nghymru, ein bod yn wynebu mwy o doriadau i'n cyllidebau wrth iddynt barhau i leihau'r effaith ar ein lles, ar ein pobl agored i niwed, ar ein cymdeithas. Cawsom ein hatgoffa gan yr Ysgrifennydd cyllid yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn ar godiadau yn y dreth gyngor yng Nghymru, fod yr wyth mlynedd o gyni yn y gwasanaethau cyhoeddus yn achosi heriau mawr i awdurdodau lleol wrth iddynt geisio cyflawni gwaith hanfodol yn ein cymunedau. Fe ddyfynnaf y cyhoeddiad 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', lle mae'n dweud na fydd llwyddiant yn cael ei gyflawni

'heb gynnwys cymunedau yn y gwaith'

o gynllunio a chyflawni'r gwaith arfaethedig. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n bwysig fod lleisiau fy etholwyr yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir yn y broses honno, ac mae angen inni ei gael yn iawn. Ceir nifer o feysydd allweddol sy'n rhaid eu blaenoriaethu. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol, gan gofio ein gorffennol diwydiannol cyfoethog, harneisio'r ysbryd i gyflawni newid cymdeithasol sy'n clymu cymunedau at ei gilydd ac sy'n galluogi pobl ifanc i ffynnu. Drwy'r holl waith a'r newid hwn, rhaid inni hefyd sicrhau bod yr egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn sail i'n gweithredoedd.

Rydym yn gwybod bod llywodraeth leol yn cynnal baich agenda cyni Llywodraeth y DU. Nawr, y llynedd, canfu adroddiad Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 fod gweithgaredd, gan gynnwys trafnidiaeth, diogelwch, diwylliant, llyfrgelloedd, gwasanaethau amgylcheddol, wedi cynnal pwysau gostyngiadau yn y gyllideb, y gwelir toriad o hyd at 40 y cant ynddi. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn anodd ei chynnal. Mae gwell cysylltedd ledled de Cymru yn hanfodol, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y gwelliannau hyn yn galluogi mwy o gapasiti a chynyddu amlder teithio. Rwy'n falch iawn fod y tasglu'n edrych yn eang ar draws y Cymoedd, wrth iddo roi cyfle go iawn inni greu system drafnidiaeth a fydd o fudd i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd—er hynny, yng Nghwm Afan, darpariaeth gyfyngedig iawn a geir ar y hyn o bryd, felly mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Pan fyddwn yn ystyried gwelliannau i'n rhwydweithiau trafnidiaeth yn y Cymoedd, rhaid inni bwysleisio pwysigrwydd cysylltu'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur yn well yn ffisegol â swyddi da ledled de Cymru, er y byddai dod â'r swyddi hyn yn nes at y cymunedau yn well byth.

Mae llawer o gymunedau'r Cymoedd wedi eu hynysu oddi wrth y cyfleoedd cyflogaeth sy'n bodoli ar draws de Cymru, ac i'n pobl ifanc, nid yw hyn yn ddigon da. A phan soniwn am swyddi gwell yn nes at adref, nid lefel gynyddol o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn unig ddylai'r ateb fod i'r weledigaeth hon. Er bod y rolau hyn yn bwysig ac yn aml yn gwasanaethu'r gymuned leol drwy ddarparu gwasanaethau hollbwysig, ceir rôl allweddol hefyd i'r sector preifat adeiladu buddsoddiad a chynnig cyfleoedd newydd ar draws ein rhanbarth, ac rydym am weld cymuned y Cymoedd sy'n gallu gwneud y gorau o'r sgiliau a'r cyfleoedd sy'n bodoli o'r tu mewn. Er enghraifft, gartref yn fy etholaeth i, mae gennym gynnig cyrchfan Cwm Afan, a fydd yn gwneud defnydd o'n tirwedd naturiol unigryw i ddatblygu'r hyn a fydd, gobeithio, yn lleoliad poblogaidd sy'n darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl yn yr ardal, ac i hybu twristiaeth nid yn unig yn fy nghwm i, ond ar draws y Cymoedd, oherwydd y gwasanaethau eraill a'r gweithgareddau eraill a fydd ar gael mewn mannau eraill a gerllaw. Bydd yn adeiladu ar y Cymoedd fel lle ar gyfer hamdden, twristiaeth a buddsoddiad ehangach yn y sector cyhoeddus.

Mae dod â swyddi newydd i bobl yn hollbwysig, ond rhaid inni hefyd edrych ar yr agenda sgiliau, sy'n bwysig iawn, oherwydd, wrth inni siarad am swyddi a chyfleoedd newydd, rhaid inni fanteisio i'r eithaf hefyd ar yr economi sylfaenol. Mae angen set o sgiliau arnom. Nawr, mae yna brinder sgiliau, rydym yn cydnabod hynny, a rhaid inni wella hynny er mwyn denu busnesau i'r Cymoedd. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gweithio i ddadansoddi'r heriau economaidd a nodi'r meysydd twf lle mae bylchau sgiliau'n bodoli yn y gweithlu, ac mae hynny'n galw am ymagwedd gydweithredol gan ddarparwyr hyfforddiant drwodd i fusnesau, i sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf yn dysgu sgiliau yn y dyfodol. Mae'n bwysig fod datblygu sgiliau'n dechrau yn ein hysgolion, ac os ydym i gael polisi cadarn ar gyfer ein Cymoedd, rhaid inni sicrhau y cyflawnir yr anghenion addysgol o'u mewn, gan sicrhau bod yr agwedd hanfodol hon ar gydlyniant cymdeithasol yn parhau i fod yn ganolog i'r cymunedau hynny ac na chaiff ei gweld yn cael ei throsglwyddo i ardaloedd eraill gan amddifadu ein cymunedau yn y Cymoedd unwaith eto o elfen hanfodol o'r gwead cymdeithasol hwnnw. Er enghraifft—a byddech yn disgwyl i mi ddweud hyn—mae'r cynigion presennol yng Nghwm Afan i gau'r ysgol uwchradd leol, Cymer Afan, a throsglwyddo'r disgyblion i ysgol newydd y tu allan i'r cwm bellach wedi cynnau marwydos y tân a oedd yn bodoli o'r blaen yng nghymunedau'r cwm, a bellach mae wedi tanio'n goelcerth gynyddol, ac wedi ein hatgoffa am y rôl y mae'r ysgol yn ei chwarae yn y cydlyniant cymdeithasol ar draws y cwm. Mae'r enghraifft ddiweddaraf hon o'r posibilrwydd o golli gwasanaeth cyhoeddus—a gwasanaeth cyhoeddus ydyw—ar ben colli gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn atgyfnerthu'r effaith y mae cyni yn ei chael yn y cymunedau hynny. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i warchod y gwead cymdeithasol sydd bellach wedi treulio, a gweithredu'n unol â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol i gryfhau hyd yn oed yr angen sylfaenol hwn mewn cwm, ac i ailbwysleisio'r cydlyniant sydd wedi bodoli o fewn y cymunedau hynny. Rhaid iddynt beidio â theimlo eu bod wedi'u hamddifadu a'u gadael ar ôl mwyach.

Wrth gloi'r ddadl fer hon, hoffwn ailadrodd fy mhwyntiau allweddol ynglŷn â gwrando ar ein cymunedau, a chyflawni cynllun sy'n darparu'r hyn y maent ei eisiau a'i angen ar gyfer ein Cymoedd. Rwy'n cydnabod bod yr her hon wedi'i gwneud hyd yn oed yn fwy anodd oherwydd yr agenda o gyni dan arweiniad Llywodraeth Dorïaidd ddigydymdeimlad yn y DU, ac effaith yr wyth mlynedd hynny o gyni ar y modd y darparwn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n golygu bod llai o arian ar gael i gefnogi'r cymunedau sydd gymaint o angen y cymorth hwnnw, ac sydd ymhlith ein cymunedau mwyaf agored i niwed. Ond ar gyfer llunwyr polisi yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn sy'n deillio o ideoleg cyni, mae angen inni gydnabod yr ysbryd hwnnw, yr ymasiad cymdeithasol hwnnw, sydd wedi gludo cymunedau'r Cymoedd at ei gilydd. Mae angen inni wneud yn siŵr fod hynny'n parhau i ffynnu. Rhaid inni harneisio'r ynni a'r brwdfrydedd i weithio gyda phobl er mwyn adeiladu dyfodol lle mae lles a chyfle i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd yn rhywbeth i bawb.

Mae gan yr hyn sydd wedi dod yn gymunedau ynysig, sy'n ffisegol ac yn economaidd agored i newidiadau yn y tirlun gwleidyddol, botensial erbyn hyn i ddod yn rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer Cymru, a de Cymru'n benodol, tra'n cadw eu hysbryd a'u gwytnwch cymunedol diysgog. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw yn awr.

19:30

Ddirprwy Lywydd, credaf fod Dai Rees wedi dweud y cyfan. Mae'r difrod a achosir drwy gyni i wead cymdeithasol ein cymunedau yn niweidio pawb ohonom. Rwyf wedi hen flino ar glywed lleisiau Torïaidd yn y Siambr hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy yn ein gwasanaethau, ac eto nid ydym byth yn clywed yr un lleisiau'n mynegi unrhyw gondemniad o'r £1 biliwn neu fwy y mae eu Llywodraeth wedi'i dorri o'n cyllideb. Ni chlywn unrhyw ddatganiadau o ddicter ynghylch y biliynau—ie, biliynau—sydd i'w golli drwy doriadau lles.

Ac wrth i ni sôn am gyni, gadewch i ni gofio mai dewis gwleidyddol ydyw, a'r hyn y mae cyni'n ei olygu yw 'toriadau Torïaidd'—toriadau Torïaidd i gymunedau'r Cymoedd, toriadau Torïaidd sy'n niweidio dyfodol ein plant, toriadau Torïaidd sy'n taro'r bobl fwyaf agored i niwed, toriadau Torïaidd i wasanaethau cyhoeddus sy'n gwbl ganolog i les cymaint o gymunedau'r Cymoedd. A dyna'r rhesymau pam y safaf ochr yn ochr â Dai Rees a fy holl gyd-Aelodau Llafur Cymru yma ac yn San Steffan i ddadlau fod yna ffordd well—ffordd well o adeiladu cymuned ar gyfer y mwyafrif ac nid y lleiafrif, ffordd well o adeiladu cymuned sy'n credu mewn gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi yn y seilwaith y mae pawb ohonom ei angen i ddod â ffyniant a chydlyniant yn ôl i'n Cymoedd.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl? Alun Davies.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf ymateb i'r ddadl, a hynny mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Dechreuodd David Rees ei gyfraniad drwy ddisgrifio hanes cymdeithasol ac economaidd cymunedau'r Cymoedd, a chredaf mai camgymeriad a wneir yn eithaf aml yw gweld y Cymoedd fel un cyfanrwydd unffurf, er bod pob un ohonom yma sy'n cynrychioli etholaethau yn y Cymoedd yn gwybod mewn gwirionedd fod pob un o'r etholaethau hynny a phob un o'r cymunedau hynny yn rhannu diwylliant tebyg iawn, ond yn bwysig ynddynt eu hunain ac yn meddu ar eu hanghenion eu hunain a gydnabyddir ac a nodir gennym. Gwn mai'r Dirprwy Lywydd yw llais y Rhyl yn y lle hwn, ac mae hi'n cydnabod pwysigrwydd cymunedau, a chyhyd â bod gennym lais y Rhyl dros ein trafodion, fe wyddom y bydd pwysigrwydd cymunedau bob amser yn rhan bwysig o'n trafodaethau yma.

Mewn llawer o ffyrdd, mae'r cyfraniad y mae'r Aelod dros Aberafan wedi'i gyflwyno i'r Siambr y prynhawn yma yn ddisgrifiad o'r Gymru fodern. Gadawodd fy nheulu ganolbarth Cymru—ardal Aberystwyth—i weithio ym meysydd glo Tredegar a oedd yn tyfu. Gwnaeth miloedd lawer y daith honno a chreu diwylliant y gellir ei adnabod fel diwylliant Cymreig ac sy'n cael ei gydnabod ar hyd a lled y byd fel rhywbeth y mae iddo le unigryw yng Nghymoedd de Cymru. Ac mae gennym gyfrifoldeb unigryw i sicrhau bod y cymunedau hynny'n parhau i fod yn ffocws y trafodaethau yma, ac mae'r diwylliant, yr hunaniaeth a'r gymuned yn gwbl ganolog i hynny. Ymunodd yr Aelod dros Islwyn â'r ddadl y prynhawn yma a gwn ei bod hi'n gyson yn sôn am bwysigrwydd ein cerddoriaeth a'n treftadaeth a'n gweithgareddau cerddorol yn y Cymoedd a chymunedau'r Cymoedd. Dyna rywbeth yr wyf fi'n ei rannu hefyd, ac mae'n rhywbeth y gobeithiaf y bydd pawb ohonom yn gallu canolbwyntio arno.

Un o'r materion sy'n rhaid i mi roi sylw iddo yn nes ymlaen heno yw edrych ar Ferthyr a tharddle'r chwyldro diwydiannol. Gwyn Alf Williams, rwy'n credu, a siaradodd am y bwa tân o Flaenafon i Ferthyr a greodd y byd modern. Rydym yn dal i fyw yn y byd hwnnw, wrth gwrs, ac mae'r byd hwnnw, heddiw, yn wynebu heriau nad yw wedi'u creu ei hun ac nad yw'r bobl sy'n byw yno a'r bobl sy'n gweithio yno wedi'u creu, ond newidiadau ydynt sydd wedi'u gorfodi ar y bobl hynny gan bobl o'r tu allan a chan bobl nad ydynt yn poeni fawr ddim am y cymunedau hynny.

Mae'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod dros Ferthyr am gyni yn rhai da ac yn rhai cyfarwydd iawn. Pan feddyliaf am y gymuned rwy'n ei chynrychioli yng Nghymoedd de Cymru, rwy'n teimlo'n gryf iawn ein bod ni a hwythau, gyda'n gilydd, ar reng flaen cyni. Bydd llawer o'r Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn sôn weithiau mewn modd eithaf academaidd am yr economi a macroeconomi ehangach Cymru, y Deyrnas Unedig a gweddill Ewrop. Ond i bobl yn y Cymoedd, maent yn gweld realiti cyni; sut y gall cyni effeithio ar gymuned, sut y gall atal y gymuned honno rhag gallu gwneud ei ffordd yn y byd a sut y gall atal pobl rhag cyflawni'r hyn y byddai pawb ohonom yn disgwyl ei weld a'i eisiau i'n teuluoedd. Cost ddynol real cyni yw'r hyn a welwn yn y Cymoedd ar hyn o bryd yn fy marn i. Ond rydym hefyd yn gweld canlyniad degawdau lawer o ddirywiad. Nid oedd y problemau sy'n ein hwynebu yn y Cymoedd yn broblemau a grëwyd gan y chwalfa ariannol yn 2008 neu 2009. Nid creadigaeth yr unfed ganrif ar hugain oeddent. Ond rydym yn cydnabod, drwy'r rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif, na welsom lwyddiant economaidd yng Nghymoedd de Cymru; ni welsom y buddsoddiad yr oedd ei angen arnom er mwyn symud o economi a gâi ei dominyddu gan y diwydiannau trwm a ddisgrifiwyd gan yr Aelod dros Aberafan.

Yr hyn rwyf am ei weld a'r hyn rydym am ei weld gyda'n gilydd, gobeithio, yw chwistrelliad o fuddsoddiad yn y cymunedau hyn, ond mae'n fwy na hynny—rydym eisiau creu dadeni yng nghymunedau'r Cymoedd. A gobeithio bod y gwaith a wnawn—. Mae Aelodau eisoes wedi cyfeirio at waith tasglu'r Cymoedd. Dyna gynllun, nid ar gyfer y Cymoedd, ond cynllun o'r Cymoedd, a ysgrifennwyd yn y Cymoedd a'i siarad gan leisiau o'r Cymoedd. Rydym wedi treulio ac wedi buddsoddi llawer o amser yn siarad ac yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud o bob rhan o'r Cymoedd, oherwydd un o'r problemau a wynebwn—. Ymunodd y Cwnsler Cyffredinol â ni ar gyfer yr areithiau agoriadol yma. Nawr, mae gan y cymunedau y mae'n eu cynrychioli yn yr ardal y buaswn i'n ei ystyried fel y Cymoedd gorllewinol—cwm Nedd a mannau eraill—mae ganddynt ddisgwyliadau gwahanol i'r rheini ohonom yng Nghymoedd Sir Fynwy a Chymoedd Gwent. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod safbwynt pawb yn y lleoedd hynny. Mae yna broblemau sy'n gyffredin i'r holl leoedd hynny, ac mae'r Aelodau eisoes wedi cyfeirio at broblemau lleol yn ymwneud â thrafnidiaeth leol a dyfodol canol ein trefi—maent yn gwbl hanfodol i ni ac i'r hyn rydym am ei wneud.

Ond yn fwy na dim, rydym eisiau gallu buddsoddi yn yr economi a chael model economaidd cynaliadwy a fydd yn cynnal cymunedau. Nid darparu parciau diwydiannol ac ystadau diwydiannol ac ystadau tai mewn cymunedau yn y Cymoedd yw fy unig ddiben na fy unig ddymuniad. Yr hyn rwyf am ei wneud a'r hyn y credaf y mae pawb ohonom am ei wneud yw sicrhau ein bod yn gallu creu sylfaen economaidd gynaliadwy ar gyfer cymunedau yn y Cymoedd. Ac mae'r cysylltiad â phwy ydym ni, fe gredaf, yn gwbl hanfodol. Cawsom drafodaeth yn gynharach gyda'r Aelod dros Sir Fynwy, Nick Ramsay, a oedd yn sôn am ei ran ef o'r byd, ond i mi, yn tyfu i fyny yn Nhredegar, roedd y rhan honno o'r wlad bron fel iard chwarae i mi. Byddwn yn beicio o Dredegar i'r parc cenedlaethol, dros Drefil ac i lawr i Dal-y-bont, i Langynidr, drosodd i'r Fenni a mannau eraill. Gwelem ein hunain fel rhan o gymuned ehangach. Nid cymuned lofaol y Cymoedd yn unig oedd hi, ond cymuned a oedd yn gysylltiedig â lleoedd eraill, ac un o'r pethau rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud fel rhan o'r gwaith hwn yn y Cymoedd yw ailgysylltu ein hunain â'r dreftadaeth honno a'r hanes a'r ymdeimlad hwnnw o le.

Mae un o'r llyfrau rwy'n ei ddarllen ar hyn o bryd yn sôn am y teithiau cerdded hir hynny sydd gennym yn cysylltu rhai o'r safleoedd crefyddol, safleoedd pererindod, yng nghymunedau'r Cymoedd o Benrhys drosodd i Dyddewi, ond rwy'n gobeithio y gallwn ailgyflwyno, os hoffech chi, neu ddod o hyd i ffordd o ddysgu a'n galluogi i werthfawrogi'r hanes a'r dreftadaeth a roddodd fywyd i'r lleoedd rydym yn byw ynddynt heddiw, a sicrhau ar yr un pryd ein bod yn gallu edrych eto a buddsoddi yn ein sylfeini economaidd. Rwyf am allu darparu polisi diwydiannol, strategaeth ddiwydiannol, Ddirprwy Lywydd, ar gyfer Cymoedd de Cymru i geisio sicrhau bod gennym yr ansawdd bywyd yr ydym yn dymuno ei gael, ond mae angen mesur yr ansawdd bywyd hwnnw mewn mwy na ffigurau cynnyrch domestig gros yn unig. Ansawdd bywyd sy'n adlewyrchu ein treftadaeth gyfoethog a phwy ydym a phwy y dymunwn fod.

Rydym yn cyflawni nifer o ymyriadau, o'r cynllun cyflenwi cyflogadwyedd i'r cynllun gweithredu economaidd. Cynhelir nifer o seminarau. Roeddwn yn falch iawn fod yr Aelod dros Ferthyr wedi gallu ymuno â ni ar gyfer seminar, chwe wythnos yn ôl rwy'n credu, ym Merthyr, i edrych ar sut y gallwn gynyddu effaith gwaith deuoli'r A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, i'n galluogi i sicrhau'r effaith fwyaf ac i ysgogi gweithgarwch economaidd yn y rhan honno o'r byd. Gwn hefyd fod yr Aelod dros Aberafan sydd wedi rhoi'r ddadl y prynhawn yma eisiau sicrhau, ac angen sicrhau, ein bod yn gallu buddsoddi yn y Cymoedd y mae'n eu cynrychioli uwchben Port Talbot, a manteisio i'r eithaf ar effaith buddsoddiadau a wneir yno. Nid wyf am dderbyn ei wahoddiad i fentro i'r anghydfod ar leoliad yr ysgol yn ei etholaeth. Mae hynny y tu hwnt i fy ngraddfa gyflog a thu hwnt i fy ngallu y prynhawn yma mewn dadl fer. Cefais fy nhemtio o'r blaen, fel y gwyddoch, Ddirprwy Lywydd, ac mae hynny bob amser wedi arwain at helynt. Nid wyf am ildio i'r demtasiwn y prynhawn yma.

Ond yr hyn a wnaf yw rhoi ymrwymiad llwyr i chi a'r Aelodau fod hon yn Llywodraeth sydd wedi ei gwreiddio yng Nghymoedd de Cymru—nid ar draul cymunedau eraill, ond rydym yn cydnabod bod y Cymoedd yn wynebu problemau penodol a materion penodol, ac rydym yn cydnabod bod hynny'n galw am atebion penodol, atebion na ellir dod o hyd iddynt ar Google neu yn y llyfrgell, ond atebion a geir ym meddyliau a dychymyg ac uchelgeisiau'r bobl: y rhai ohonom sy'n cynrychioli'r Cymoedd, a aned yn y Cymoedd, sy'n byw yn y Cymoedd, a phobl y Cymoedd. Oherwydd gyda'n gilydd, credaf y gallwn hybu newid go iawn, gallwn arwain newid. Rwyf am fuddsoddi yn ein hawdurdodau lleol, ac rwyf am i'n hawdurdodau lleol arwain y newid hwnnw yn ogystal. Felly, gan weithio gyda'n gilydd gallwn greu cymunedau yng Nghymoedd de Cymru y byddwn yn falch o fyw ynddynt, ac yn falch o'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

19:40

Daeth y cyfarfod i ben am 19:43.