Y Cyfarfod Llawn
Plenary
10/03/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi elusennau hosbis? OQ63946
Pan fydd rhywun yn dod at ddiwedd eu hoes, mae angen gwybod y bydd gwasanaethau yno iddo ar yr adeg fwyaf sensitif hon, ac mae teuluoedd angen gwybod y bydd cymorth ar gael i'w hanwyliaid. Mae hosbisau yn elusennau gwbl hanfodol, sy'n cynorthwyo pobl a theuluoedd ar ddiwedd oes. A dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru, dros y tymor Senedd hwn, wedi darparu dros £20 miliwn i gynorthwyo hosbisau, gan gynnwys mwy o gyllid rheolaidd a grantiau wedi'u targedu i helpu i reoli costau a galw cynyddol. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r sector a phartneriaid yn y GIG i ddatblygu dull comisiynu mwy cynaliadwy a theg, gan sicrhau y gall pobl ledled Cymru barhau i gael mynediad at ofal diwedd oes tosturiol ac o ansawdd uchel.
Diolch, Prif Weinidog. Cefais y fraint yn ddiweddar o ymweld â Gofal Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd, a'u huned seibiant a diwedd oes 15 gwely. Fe wnaeth fy ngadael ag ymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch bod cyfleusterau o'r fath yn bodoli, i'm hatgoffa faint o ddyled sydd gennym ni i'n hosbisau. Ond maen nhw o dan straen gwirioneddol, fel y darganfyddais. Mae cynnydd Llafur i yswiriant gwladol yn costio £310,000 i Dewi Sant—elusen sy'n darparu gofal cymhleth a diwedd oes, ond sy'n colli allan yn llwyr ar fesurau lliniaru Llywodraeth Cymru. I dalu'r costau hyn, maen nhw'n cael eu gorfodi i dorri yn ôl. Maen nhw'n cau siopau elusennol, gan ailystyried eu safleoedd. A bydd hyn yn cael ei ailadrodd ar draws hosbisau yng Nghymru. Nawr, ni all hyn fod yn iawn, gan eu bod nhw'n hanfodol i'n system iechyd. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi esbonio pam mae hosbisau yn cael eu gorfodi i dalu am benderfyniadau Llafur, yn hytrach na chael eu hamddiffyn rhagddyn nhw?
Diolch yn fawr iawn, Peter. Hoffwn innau hefyd ganmol y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan hosbis Dewi Sant. Roeddwn i'n ffodus o ymweld â'r cyfleuster anhygoel sydd ganddyn nhw ar gyrion Casnewydd, ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yno yn ddiweddar hefyd. Maen nhw'n gwneud gwaith ardderchog, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol drawiadol yw nad yw hynny yn yr hosbis yn unig; allan yn y gymuned y mae'r rhan helaeth o'u gwaith yn cael ei wneud mewn gwirionedd.
Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y pwysau sydd arnyn nhw, a dyna'n union pam y rhoddwyd £5.2 miliwn o arian ychwanegol y flwyddyn iddyn nhw. Maen nhw hefyd wedi cael £9.5 miliwn mewn grantiau untro i reoli pwysau costau, a bu £3 miliwn ychwanegol o gyllid cylchol ychwanegol, a ddylai helpu i leddfu'r pwysau o ran y cynnydd hwnnw i yswiriant gwladol.
Wel, mewn ymateb diweddar i gwestiwn y gwnes i ofyn, fe gadarnhaodd yr Ysgrifenydd Cabinet y bydd asesiad anghenion cenedlaethol i hosbisau yn sail i’r model comisiynu newydd ar gyfer hosbisau newydd dŷch chi’n ei ddatblygu. Sut, felly, y bydd yr asesiad yma yn mynd i’r afael â’r amrywiad hanesyddol wrth gyllido hosbisau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y cymorth yn seiliedig ar angen yn hytrach na chod post?
Wel, rwy'n credu mai'r pwynt o gael dull comisiynu hosbisau cenedlaethol newydd yw i gydnabod yr union bwynt yr ydych chi wedi ei bwysleisio, sef, mewn gwirionedd, bod anghysondeb ar hyn o bryd, a dyna pam rydym ni eisiau i'r cyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru hwn, a'r rhaglen gofal lliniarol a diwedd oes genedlaethol ymgysylltu â'r sector hosbisau a'r byrddau iechyd. Rydym ni'n gwybod, pe na baen nhw yno, byddai'r broblem yn ôl-gronni yn ein hysbytai. Nid yw honno'n ffordd dderbyniol i ni barhau. Nid wyf i'n credu y dylem ni gymryd yn ganiataol bod y sefydliadau hynny yno oni bai ein bod ni'n rhoi ein cefnogaeth iddyn nhw. Felly, dyna'n union y bydd y dull comisiynu newydd hwnnw yn ei wneud—dod â'r lefel honno o gysondeb ar draws Cymru gyfan.
Hoffwn ymuno yn y teyrngedau i hosbis Dewi Sant, Prif Weinidog, am y gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud, sydd mor bwysig i gynifer o unigolion a theuluoedd. Ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae hynny'n aml yn golygu darparu'r gofal diwedd oes arbenigol hwnnw yng nghartrefi pobl, lle mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau dirwyn eu bywydau i ben, wedi'u hamgylchynu gan deulu ac amgylchedd cyfarwydd. Wrth dalu teyrnged iddyn nhw, Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod y gwaith mor anhygoel y maen nhw'n ei wneud o ran cynhyrchu eu cyllid eu hunain, ac, yn amlwg, mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda nhw i'w cynorthwyo nhw, oherwydd ceir terfyn ar hyn y gallan nhw ei wneud. Ond mae'n ymdrech anhygoel. Rwy'n credu eu bod nhw wedi codi rhywbeth fel 70 y cant o'u cyllid eu hunain. Un enghraifft o hynny yw hanner marathon Casnewydd, a ddechreuwyd, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, gan fy nghyd-Aelod Jayne Bryant, ac y gwnes i ei redeg. [Chwerthin.] Rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelodau eu safbwyntiau eu hunain ar bwy gafodd y fargen orau. Ond mae'n olygfa anhygoel gweld cynifer o bobl yn rhedeg y digwyddiad hwnnw, gan godi cymaint o arian i'r elusen, a hoffwn i chi fod yn rhan o gydnabod y perfformiad anhygoel hwnnw, o ran yr holl ddigwyddiadau hynny, drwy gydol y flwyddyn.
Wel, diolch yn fawr, John, a llongyfarchiadau ar orffen y marathon hwnnw. Jayne, a gaf i ddweud, 'Mae gennych chi waith i'w wneud'. [Chwerthin.] Ond nid yw'n fater o Jayne yn unig; mae yna bobl ddirifedi ledled Cymru sy'n gwneud ymdrech aruthrol i gefnogi'r sefydliadau anhygoel hyn. Mae pawb wedi cael eu cyffwrdd gan farwolaeth mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae diwedd oes yn gyfnod gwirioneddol sensitif, a phan fyddwch chi'n cael y math o gymorth y mae hosbisau yn ei roi, rydych chi'n cydnabod, mewn gwirionedd, bod angen cefnogi a chynnal hynny. Dyna'n union pam y byddwn i nid yn unig yn canmol ac yn diolch i'r holl bobl hynny sy'n gwirfoddoli, yn codi arian, ond hefyd yn cydnabod bod angen gwneud mwy i gynorthwyo hosbisau ledled Cymru.
Mae cwestiwn 2 [OQ63960] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 3, Lee Waters.
3. Beth yw'r gost amcangyfrifedig o wrthdroi'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig? OQ63981
Rydym ni'n cydnabod bod hwn wedi bod yn bolisi dadleuol, ond does dim amheuaeth bod y polisi wedi achub bywydau a lleihau anafiadau ar ein ffyrdd, gan arbed arian sylweddol i'r GIG a dioddefaint i gannoedd o deuluoedd ledled Cymru. Ceir plant sy'n cerdded o gwmpas Cymru heddiw na fyddai wedi bod oni bai am y polisi hwn. Nawr, dydyn ni ddim wedi amcangyfrif cost gwrthdroi'r terfyn cyflymder 20 mya, ond mae'n amlwg, pe bai gan bleidiau eraill fwriadau i wrthdroi'r penderfyniad hwn, byddai'n arwain at gostau sylweddol nid yn unig yn ariannol, ond o ran bywydau a fyddai'n cael eu colli ac anafiadau a fyddai'n cael eu hachosi.
Mae'r ddwy flynedd gyntaf o dystiolaeth o'r newid terfyn cyflymder yn dangos y bu 1,270 yn llai o anafiadau ar ffyrdd Cymru—1,270 yn llai o anafiadau oherwydd y newid a wnaed gennym ni. Dyma'r cyflawniad mwyaf arwyddocaol o ran diogelwch ar y ffyrdd ers degawdau, a dylid ei ddathlu. Mae'r dystiolaeth yn eglur y bydd cynyddu terfynau cyflymder yn arwain at fwy o farwolaethau ac anafiadau mwy difrifol bob un blwyddyn, ond dyna mae Reform UK a'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau ei wneud. Maen nhw eisiau codi terfynau cyflymder i 30 mya ar strydoedd lle mae plant yn chwarae a lle mae pobl yn byw. Bydd hynny'n arwain at fwy o farwolaethau. Bydd yn arwain at fwy o anafiadau sy'n newid bywydau, a byddai'n costio miliynau. Prif Weinidog, a wnewch chi gadarnhau bod gan gynghorau'r grym eisoes i newid y terfyn cyflymder, lle mae gwneud hynny yn gwneud synnwyr? Nid oes angen gwneud newid drud i'r terfyn cyflymder diofyn i wneud hynny. Ac a fyddech chi'n cytuno y byddai Reform a'r Ceidwadwyr nid yn unig yn gwastraffu miliynau o bunnoedd yn ddiangen, ond y byddai diddymu'r newid diogelwch ar y ffyrdd mwyaf llwyddiannus mewn mwy na chenhedlaeth yn gam yn ôl?
Fe wnaf i gadarnhau bod gan gynghorau y grym eisoes i newid terfynau cyflymder, lle mae'n gwneud synnwyr. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth nodi y bu 33 y cant yn llai o wrthdrawiadau yn 2025 nag oedd yn 2023—33 y cant. Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi, os cymharwch chi hynny â Lloegr, bod y gwahaniaeth yn sylweddol. Felly, yn y flwyddyn ar ôl gweithredu'r terfyn cyflymder diofyn, o ran y gostyngiad blynyddol, gwelsom ostyngiad o 22 y cant i nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar ffyrdd 20 mya a 30 mya yng Nghymru. Ar y ffyrdd cyfatebol yn Lloegr, bu gostyngiad o 4 y cant. Felly, y mesur hwn sy'n gwneud gwahaniaeth.
Prif Weinidog, mae anafiadau ar y ffyrdd wedi gostwng ar draws y Deyrnas Unedig gan fod ceir yn dod yn fwy diogel—mae ceir yn dod yn fwy diogel. Mae'n ffaith hysbys. Mae angen gofyn: a yw'r polisi gwael hwn eisoes wedi costio llawer o arian i'n gwlad? Ydy. A fydd yn costio llawer mwy i'w wrthdroi? Bydd. Ond faint mae wedi ei gostio i'n heconomi yng Nghymru? Yn ôl cyfrifiadau'r Llywodraeth ei hun, mae hyn wedi costio £9 biliwn. Felly, allwch chi ddim dweud ei fod wedi bod yn bolisi da. Mae wedi bod yn drychineb o'r dechrau i'r diwedd. Mae pobl Cymru wedi siarad yn y ddeiseb fwyaf erioed i'r Senedd, â 500,000 o bobl yn dweud bod angen i chi ddiddymu'r polisi hwn. Nid oes neb ar draws y Siambr hon yn anghytuno y dylai 20 mya fod ar waith y tu allan i ysgolion ac ysbytai a lle mae'n briodol. Mae'n anonest dweud unrhyw beth arall. Ond, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod angen i ni wrthdroi'r polisi 20 mya diofyn gwael hwn, bod angen i ni gael ein heconomi yn symud eto, a bod angen Llywodraeth Reform arnom ni yma ym mis Mai?
Rwy'n credu ei bod hi'n werth myfyrio ar y ffaith bod 1,270 yn llai o anafusion. Meddyliwch am effaith hynny ar y GIG. Meddyliwch am yr holl ymweliadau ysbyty hynny nad ydyn nhw wedi digwydd a chostau'r ymweliadau ysbyty hynny. Fe'i gwnes hi'n eglur i chi, gan fy mod i'n gwybod y byddech chi'n dweud y 'mae'n digwydd yn Lloegr' yma—dydy e ddim. Dyna'r union bwynt. Mae'n ostyngiad o 22 y cant i nifer y gwrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru, o'i gymharu â 4 y cant yn Lloegr. Felly, gadewch i ni ymdrin â ffeithiau—rwy'n gwybod mai Reform yw hwn, ac rwy'n gwybod bod hynny'n anodd i chi—a gadewch i ni gyfeirio at y ffaith, mewn gwirionedd, bod cwmnïau yswiriant sydd bellach yn cynnig gostyngiad o 20 y cant ar gyfer yswiriant yng Nghymru o ganlyniad i'r gostyngiadau i geisiadau y maen nhw wedi eu gweld.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch Llywydd. Prif Weinidog, cafodd llawer ohonom ni ein synnu yr wythnos diwethaf o glywed bod tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo gwasanaethau cudd-wybodaeth Tsieineaidd. Roedd pob un o'r tri unigolyn hynny wedi gweithio'n flaenorol mewn swyddi gwleidyddol yn gysylltiedig â Phlaid Lafur Cymru a/neu Lywodraeth Cymru, ac mae'n ymddangos bod bob un o'r tri yn gysylltiedig â Bute Energy. Yr wythnos diwethaf, galwais arnoch chi i ddod i'r Siambr i wneud datganiad brys ar y mater hwn. Yn hytrach, y diwrnod canlynol, fe wnaethoch chi gyhoeddi ychydig o frawddegau brysiog a ddywedodd ddim wrthym ni. O ystyried difrifoldeb y sefyllfa hon a'r ffaith bod tri o bobl—nid un yn unig—wedi cael eu harestio, a allwch chi ddweud wrthym ni pryd wnaethoch chi ddarganfod am y pryderon diogelwch cenedlaethol? Ac a allwch chi hefyd ddweud wrthym ni a ydych chi wedi cychwyn adolygiad brys o'r trefniadau fetio a diogelwch ar gyfer staff a gyflogir gan eich Llywodraeth a'ch plaid?
Rwy'n credu bod yn rhaid ei gwneud hi'n gwbl eglur bod hwn yn ymchwiliad byw. Felly, byddai'n amhriodol i mi wneud sylwadau ar unrhyw fanylion sy'n effeithio ar y mater hwn. Mae hwn yn fater difrifol. Mae honiadau difrifol yn cael eu cyflwyno. Felly, rwyf i eisiau parchu'r broses gyfreithiol honno, ac ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar fanylion unrhyw ran o'r achos hwn.
Prif Weinidog, gyda pharch, nid wyf i'n gofyn i chi gyfaddawdu ymchwiliad parhaus yr heddlu; rwy'n eich holi am y gweithdrefnau fetio ar gyfer pobl sydd â mynediad at wybodaeth freintiedig a Gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru. Mae'n gyfres gwbl resymol o gwestiynau, ac nid yw'n cyfaddawdu unrhyw ymchwiliadau parhaus. Mae gan bobl hawl i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai y maen nhw'n eu cyflogi yn deyrngar i'n gwlad ac nad ydyn nhw'n fygythiad i ddiogelwch.
Rydym ni'n gwybod bod gennym ni ddiwydiant ynni hanfodol bwysig yma yng Nghymru, diwydiant lled-ddargludyddion pwysig iawn, a bod ein porthladdoedd yng Nghymru yn hanfodol hefyd i'r Deyrnas Unedig gyfan. Ac nid dim ond staff sydd wedi'u lleoli yma yng Nghymru y mae angen i ni wybod beth sy'n digwydd â nhw; mae gennych chi staff ar dir mawr Tsieina hefyd. Mae gan Lywodraeth Cymru nid un ond tair swyddfa wedi'u lleoli yn Tsieina. Felly, yn ogystal ag ateb y gyfres gyntaf o gwestiynau ynglŷn â phryd y gwnaethoch chi ddarganfod am y pryderon diogelwch cenedlaethol hyn a'r hyn yr ydych chi wedi ei wneud i wirio'r prosesau fetio a'r trefniadau diogelwch, a allwch chi hefyd ddweud wrthym ni beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw ein diogelwch cenedlaethol yn cael ei beryglu gan y Blaid Lafur neu Lywodraeth Lafur Cymru naill ai yng Nghymru neu yn Tsieina, a pha gyfarfodydd sydd wedi cael eu cynnal yn y swyddfeydd tramor hynny yn Tsieina dros y pum mlynedd diwethaf?
Nid wyf i'n gwybod beth fyddai'n peryglu'r ymchwiliad hwn. Rydych chi wedi gwneud rhai rhagdybiaethau yn y fan yna nad yw fi'n ateb y cwestiynau hyn yn gwneud gwahaniaeth. Hoffwn fod yn eglur: dydw i ddim yn gwybod. Nid wyf i'n ymwybodol o fanylion yr ymchwiliad hwn. Mae hwn yn ymchwiliad byw. Mae'n amhriodol i mi wneud sylwadau pellach arno. Diogelwch cenedlaethol fydd ein blaenoriaeth bob amser. Unrhyw beth sydd ei angen ar yr heddlu gennym ni yn Llywodraeth Cymru byddan nhw'n ei gael, a byddwn ni bob amser yn cefnogi gwaith yr heddlu a'r gwasanaethau diogelwch i gadw pobl yn ddiogel.
Prif Weinidog, gadewch i mi gael hyn yn iawn: rydych chi'n dweud wrthyf i nad ydych chi'n gwybod pryd y gwnaethoch chi ddarganfod am y pryderon diogelwch cenedlaethol hyn am y tri unigolyn hyn, ac rydych chi'n dweud wrthyf i nad oes gennych chi unrhyw syniad a ydych chi, eich hun, wedi cychwyn adolygiad brys o'r gweithdrefnau fetio a diogelwch ers cyhoeddi'r newyddion hwn. Dyna beth rydych chi'n ei ddweud wrthym ni, nad ydych chi'n gwybod beth rydych chi wedi ei wneud, sy'n hollol gywilyddus i mi, i fod yn onest â chi.
Mae'n ymddangos eich bod chi eisiau osgoi'r cwestiynau hyn yn barhaus, a bydd y cyhoedd yn gwneud eu dyfarniad eu hunain ynghylch pam mae hynny'n wir. Oherwydd nid Tsieina yn unig yr ydych chi wedi closio ati hi yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel Llywodraeth—rydych chi hefyd wedi closio at Fietnam gomiwnyddol, onid ydych chi, Prif Weinidog? Ac rydym ni'n gwybod heddiw o'r newyddion y bu ffermydd cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn Fietnam sydd wedi cael eu datgelu am ledaenu newyddion ffug a chyfryngau a chynnwys wedi'u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial mewn ymgais i ddylanwadu ar ein democratiaeth yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Rydych chi wedi closio at y ddwy wlad hyn, gwledydd y mae llawer o bobl yn eu hystyried fel gelynion i'r Deyrnas Unedig, trwy bartneriaethau addysg, partneriaethau addysg uwch, ymweliadau cyfnewid diwylliannol a phob math o ymgysylltiad arall ar bob math o wahanol lefelau, gan gynnwys rholio'r carped coch allan i gynrychiolwyr Llywodraeth. Felly, a gaf i ofyn i chi—a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, unwaith eto—pryd wnaethoch chi ddarganfod am y pryderon diogelwch hyn? Beth ydych chi wedi ei wneud i adolygu ar frys y trefniadau fetio a diogelwch, ac a wnewch chi nawr fynd i ffwrdd ac adolygu pob perthynas ryngwladol sydd gennych chi fel Llywodraeth Cymru, yn enwedig gyda Tsieina a Fietnam?
Rwy'n deall eich bod chi eisiau fy nhynnu i mewn i'r mater hwn. Rwy'n dweud wrthych chi'n eglur iawn na wnaf i gael fy nhynnu i mewn i ymchwiliad byw. Yr hyn y gwnaf i ei ddweud yw fy mod i'n credu y dylem ni gydnabod bod bygythiadau i'n ffordd o fyw yn cynyddu. Does dim ond rhaid i chi edrych ar y byd heddiw, datblygiadau rhyngwladol dros y pythefnos diwethaf, i ddeall ein bod ni'n byw mewn oes o ansicrwydd digynsail. Mae'r amrywiaeth o risgiau sy'n ein hwynebu yn cynyddu, ac rydym ni yn wynebu bygythiadau gan Lywodraethau tramor, â gweithgarwch gwladwriaethol gelyniaethus yn cael ei gyflawni ar dir Prydain. Mae'n amlwg nad yw Cymru yn ddiogel rhag y peryglon hyn. Gadewch i mi fod yn eglur bod cefnogaeth y mae'r gwasanaethau diogelwch cenedlaethol wedi ei chynnig i Aelodau o'r Senedd os ydyn nhw'n ofni bod unrhyw ymgais i dreiddio yn y lle hwn.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Dywedodd y Prif Weinidog wrthyf i yn y Siambr hon yn ddiweddar ei bod yn credu bod yn rhaid parchu datganoli, ac rwy'n cytuno â hi, wrth gwrs, ac rwy'n gobeithio ei bod hi'n cytuno â mi bod honno'n egwyddor y dylid ei chynnal bob amser. A yw'n cytuno â mi felly na ddylai Llywodraeth y DU wneud penderfyniadau am wariant cyhoeddus uniongyrchol yng Nghymru os yw'r gwariant hwnnw ar rywbeth sy'n bendant yn groes i ddymuniadau Llywodraeth Cymru, neu, os mynnwch, os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu gweithio'n weithredol yn erbyn Llywodraethau datganoledig yma neu yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn wir?
Rydym ni wedi bod yn eglur iawn: rydym ni eisiau i ddatganoli gael ei barchu. Rydym ni'n ymwybodol bod—. Yn enwedig o ran sefyllfa marchnad fewnol y DU, rydym ni wedi bod yn eglur, yn gyson: dydyn ni ddim eisiau i Lywodraeth y DU fod yn sathru ar ein pwerau yn hyn o beth.
Mae gen i yn y fan yma femo personol gan Brif Weinidog y DU i'w gydweithwyr yn y Cabinet, wedi'i lofnodi gan Keir Starmer ei hun, lle mae'n annog yn weithredol gweithio yn erbyn Llywodraethau datganoledig os yw hynny'n hyrwyddo buddiannau ei Lywodraeth. Mae'n dweud,
'mae dull rhy ymostyngar neu laissez-faire o ymgysylltu â llywodraethau datganoledig bron yn anochel yn creu heriau gwleidyddol neu'n methu cyfleoedd cadarnhaol.
'Dylem fod yn hyderus yn ein gallu i gyflawni'n uniongyrchol yn y gwledydd hynny, gan gynnwys trwy wariant uniongyrchol, hyd yn oed pan fydd llywodraethau datganoledig, o bosibl, yn gwrthwynebu hyn.'
Dyna ni mewn du a gwyn: fersiwn Keir Starmer ei hun o unoliaethiaeth gyhyrog Boris Johnson, nid yn unig yn ymdrin â datganoli ag anonestrwydd, ond yn gwneud ymosodiad uniongyrchol ar safbwyntiau democrataidd Llywodraethau datganoledig. Trwy aros yn fythol deyrngar iddo, mae'r Prif Weinidog yn ymrencio ei hun ag ymdrechion i danseilio ei Llywodraeth ei hun. Pam mae'r Blaid Lafur wedi troi yn erbyn datganoli i'r graddau hyn, a pham mae'r Prif Weinidog wedi caniatáu i Brif Weinidog Llafur y DU drin ein Senedd, ein Llywodraeth a phobl Cymru gyda'r fath ddirmyg?
Wel, mae'n rhaid parchu datganoli, ac rwyf i wedi bod yn eglur iawn erioed gyda'r Prif Weinidog ar y mater hwnnw. Mae'n berthynas barchus, a cheir adegau, wrth gwrs, pan ddylai Llywodraeth y DU fod yn gweithio'n uniongyrchol yng Nghymru. Cymerwch Wylfa fel enghraifft, lle'r ydym ni eisiau gweld y datblygiad hwnnw—[Torri ar draws.] Rydym ni eisiau gweld y datblygiad hwnnw. Rydym ni eisiau gweld y datblygiad hwnnw yn digwydd o ran deallusrwydd artiffisial. Rydym ni eisiau gweld y gwaith hwnnw o ran cefnogaeth i ddur. Bydd fy nheyrngarwch bob amser i bobl Cymru yn gyntaf ac i'w pryderon, a dyna pam, pan wnaethon ni gyhoeddi ein haddewidion allweddol yn ddiweddar, roedden nhw'n ymateb i'r pethau y mae pobl yn y wlad hon yn poeni amdanyn nhw o ddydd i ddydd. A dyna pam mae mynd i'r afael o ddifrif â materion sy'n bwysig iddyn nhw, fel yr argyfwng costau byw, fel gwneud yn siŵr bod cap ar brisiau tocynnau bws o £2—. Ac mae'n wych fy mod i'n gallu sefyll o flaen Prif Weinidog y DU a dweud wrtho, 'Rydym ni'n gwneud hyn. Dydych chi ddim yn rhoi tocynnau bws am ddim yn Lloegr. Beth am ein dilyn ni ar hynny, yn y ffordd y gwnaethoch chi ein dilyn ni o ran symud adnoddau i mewn i fferyllfeydd?', pan wnaethon nhw ein dilyn ni ar 21 mlynedd o ddarparu brecwast mewn ysgolion. Mae'r holl bethau hyn yn bethau lle'r ydym ni wedi arwain y ffordd, ac rwy'n gobeithio y bydd Keir Starmer yn edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ac yn dilyn ein hesiampl, gan ddilyn y ffordd goch Gymreig.
A bod yn onest, bydd pobl yn cael eu syfrdanu gan y mwydro di-nod yna gan y Prif Weinidog wrth osgoi'r cwestiwn sylfaenol a ofynnais i. Dyma Lywodraeth y DU yn datgan mewn du a gwyn ei bod hi'n bwriadu, ac yn dymuno, ac y bydd, yn diystyru datganoli. Rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro, pe bawn i'n Brif Weinidog, y byddwn yn ceisio sicrhau perthynas adeiladol gyda Phrif Weinidog y DU, ond gan ei gwneud yn eglur iawn, iawn y byddaf i bob amser yn cael fy arwain gan fuddiannau pobl Cymru a'm hysgogi ganddyn nhw. Ond yma eto heddiw, greddf y Prif Weinidog Llafur yw amddiffyn ei phlaid ei hun. O ran sefyll yn gadarn dros Gymru, nid yw ei 'ffordd goch Gymreig' wedi gwneud dim ond ein harwain gerfydd ein trwynau.
Mae'r memo hefyd yn dweud, ac rwy'n dyfynnu eto:
'Ni ellir tanbwysleisio pwysigrwydd yr etholiadau yn yr Alban a Chymru.'
Gan roi o'r neilltu y ffaith bod hwn yn amlwg yn llythyr gwleidyddiaeth plaid agored ar bapur pennawd y Llywodraeth, mae'n dangos y tu hwnt i amheuaeth bod teyrngarwch Prif Weinidog Llafur y DU i'w blaid a'i Lywodraeth ei hun, hyd yn oed os ystyrir bod ei weithredoedd yn annerbyniol gan Lywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd yng Nghymru. Ac mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhan o hyn, gan fod y memo yn datgan fod Swyddfa Cymru yn sefyll yn barod i gynorthwyo. Felly, mae gennych Ysgrifennydd Cymru yn defnyddio ei lle wrth fwrdd y Cabinet i osgoi Cymru.
Llywydd, anfonwyd y memo hwn yn fuan ar ôl i aelodau meinciau cefn Llafur ysgrifennu at Brif Weinidog y DU i ddatgan eu dicter am ei agwedd tuag at Gymru. Am ymateb dirmygus i'w pryderon dilys. Nawr mae'r Prif Weinidog wedi dod i derfyn y daith o ran ymddiheuro ar ran Prif Weinidog y DU a'i amddiffyn. Mae Llafur bellach yn gweithio'n weithredol yn erbyn buddiannau Cymru er mwyn amddiffyn ei buddiannau ei hun. Does bosib nad yw'n cytuno â mi bod agwedd Prif Weinidog y DU yma yn warthus.
Gadewch i ni siarad am fwydro di-nod. Rwy'n credu bod pobl Cymru mewn gwirionedd yn canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw yn eu bywydau bob dydd. Dyna'r hyn y maen nhw wir yn poeni amdanyn nhw. Maen nhw'n poeni am wneud yn siŵr, ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol Torïaidd, bod gan y GIG arian bellach fel bod gennym ni gronfa gwerth £4 biliwn i ailadeiladu ysbytai yng Nghymru a mynd i'r afael â'r materion sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru. Rydym ni wedi cael saith mis o'r rhestrau aros hiraf yn lleihau—saith mis. A beth fyddwch chi'n ei wneud yn y 100 diwrnod cyntaf? Dim byd. Dim byd. Rydych chi'n mynd i ysgrifennu ambell i adroddiad ac rydych chi wedi dweud, 'Peidiwch â disgwyl i'r rhestrau aros leihau.' Mae pobl Cymru yn gwrando. Maen nhw'n clywed. A'r hyn y maen nhw ei eisiau yw gweld Llywodraeth Lafur y DU yn rhoi arian i Lywodraeth Lafur Cymru, fel y maen nhw wedi ei wneud am ddwy flynedd yn olynol: y cynnydd mwyaf yr ydym ni wedi ei weld mewn cenhedlaeth. A'r hyn yr ydych chi eisiau ei wneud yw canolbwyntio ar faterion nad, mewn gwirionedd, yw'r materion sydd ar frig yr agenda heddiw i bobl Cymru.
Fe ddywedaf i wrthych chi beth maen nhw'n poeni amdano heddiw. Mae'r bobl yn eich cymunedau chi, yn fy nghymuned i, heddiw, yn poeni am bris petrol. Maen nhw'n poeni am yr hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol. Mae 7 y cant o bobl yn y wlad hon yn poeni am dalu am olew i wresogi eu cartrefi. A wyddoch chi beth allaf i ei wneud? Rwy’n gallu codi'r ffôn i Brif Weinidog y DU. A dweud y gwir, hyd yn oed heddiw—[Torri ar draws.] Hyd yn oed heddiw—[Torri ar draws.] Hyd yn oed heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion y Llywodraeth Lafur i ofyn, 'Beth ydych chi'n mynd i'w wneud am y peth?' Mae honno'n berthynas na fydd gennych chi fyth—na fydd gennych chi fyth—ac ni fyddwch chi byth yn gallu cyflawni dros y bobl sy'n byw yng Nghymru, fel y ffordd yr ydym ni'n cyflawni heddiw.
4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddod a’r anghydfod rhwng ymwelwyr iechyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ben? OQ63983
Mae ymwelwyr iechyd yn aelodau gwerthfawr o'r gwasanaeth iechyd. Maen nhw'n darparu gofal dibynadwy i filoedd o bobl bob dydd, gan gynnwys rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Anghydfod lleol yw hwn rhwng yr undeb a'r bwrdd iechyd, nid mater cenedlaethol. Yr undeb sy'n arwain yr anghydfod hwn yw Unite, a dwi eisiau datgan fy mod i'n aelod o Unite. Dwi eisiau gweld y ddwy ochr yn dod o hyd i ddatrysiad sy’n deg i ymwelwyr iechyd, i gleifion ac i'r gwasanaeth iechyd.
Wel, ar ôl cyfarfod â llawer o'r ymwelwyr iechyd heddiw y tu allan i'r Senedd, dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi. Mae llawer yma yn yr oriel yn gwylio'r drafodaeth hon ar hyn o bryd. Mae'n amlwg nad oedden nhw erioed eisiau i'r sefyllfa gyrraedd y pwynt hwn, ac fe wnaethon nhw roi cynnig ar bob ffordd bosibl i osgoi gorfod mynd ar streic. Nid yw'n benderfyniad a wnaed ganddyn nhw ar chwarae bach. Y rheswm am yr anghydfod yw bod y bwrdd iechyd prifysgol yn gwrthod cyd-fynd â'r system gwerthuso swyddi genedlaethol, system sy'n cael ei defnyddio i bennu'r gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer pob swydd yn y GIG yn y DU. Dilynwyd pob cam o'r broses yn gywir, a'r canlyniad oedd y dylai ymwelwyr iechyd yng Nghwm Taf Morgannwg fod yn fand 7, nid band 6. Mae proses y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu wedi methu, mae'n ymddangos nad yw'r bwrdd iechyd yn fodlon cyfaddawdu, ac rydym ni mewn sefyllfa lle nad ydym yn ddim agosach at ateb, â'r streic o bosibl yn cael ei ymestyn y tu hwnt i'r pedair wythnos gychwynnol. Mae gweithlu cwbl fenywaidd yn cael gwrthod y cyflog y maen nhw'n ei haeddu, ac mae mamau newydd, rhieni a babanod yn wynebu ansicrwydd ynghylch mynediad at gymorth hanfodol. Ni all hyn barhau. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymyrryd? Dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â'r prosesau. Does bosib nad oes swyddogaeth i chi gamu i mewn a pheidio â chaniatáu i hyn barhau.
Rwy'n falch iawn bod y Dirprwy Brif Weinidog hefyd wedi cael y cyfle i siarad â'r protestwyr y tu allan. A gaf i ddweud faint mae'r proffesiwn hwn yn cael ei werthfawrogi, a sut mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yn ein cymuned? Mae ganddo swyddogaeth hanfodol o ran atal a diogelu, ac yn bendant dylid eu parchu a dylid rhoi'r anrhydedd a'r clod y maen nhw'n eu haeddu iddyn nhw, a chydnabyddiaeth, yn amlwg, trwy dâl.
Mae'r GIG wedi ymrwymo i bartneriaeth gymdeithasol ac i ddatrys hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n eithaf nodedig nad yw'r mater wedi cael ei gyflwyno i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol gan ei fod yn dal i gael ei gydnabod fel anghydfod lleol rhwng Unite a Chwm Taf Morgannwg. Nid yw undebau iechyd eraill yn mynd ar drywydd y mater hwn. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef yn lleol. Byddwn yn eu hannog nhw i ddod at y bwrdd a dod o hyd i ateb.
Prif Weinidog, mae'r anghydfod rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'i ymwelwyr iechyd yn tynnu sylw at bryder ehangach ar draws rhannau o'r gweithlu gofal iechyd. Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn teimlo nad yw'r cyflog y maen nhw'n ei dderbyn yn adlewyrchu'n briodol lefel y cymhwyster, yr hyfforddiant a'r cyfrifoldeb sydd eu hangen i gyrraedd a pherfformio yn y swyddi hyn. Mae pobl yn rhoi blynyddoedd o astudiaeth a gallan nhw ysgwyddo dyled benthyciadau myfyrwyr sylweddol i ymuno â'r proffesiynau hyn. Maen nhw'n gwneud hynny gan eu bod nhw wedi ymrwymo i ofalu am bobl eraill. Ond mae'n deg bod y strwythur cyflogau yn cydnabod yr ymrwymiad hwnnw a'r arbenigedd y maen nhw'n ei gynnig. Os yw staff yn teimlo nad yw eu sgiliau a'u cymwysterau yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol, mae'n effeithio yn anochel ar ysbryd a, dros amser, mae'n peryglu atal myfyrwyr rhag dewis y gyrfaoedd hyn yn y lle cyntaf. Gall hynny wedyn greu heriau gwirioneddol ar gyfer recriwtio a chadw ar draws y gwasanaeth iechyd cyfan. Felly, gyda hynny mewn golwg, a ydych chi'n credu bod dadl dros adolygu neu ailwampio'r mecanweithiau a ddefnyddir i bennu bandiau cyflog ar gyfer y swyddi hyn? Neu a yw'r Llywodraeth yn fodlon bod y system bresennol yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn ddigon cadarn i sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu cydnabod a'u gwobrwyo yn deg? Diolch.
Wel, rydyn ni wedi gweithredu argymhellion y corff adolygu cyflog ar unwaith eleni. Dydy hynny ddim diolch i'r Ceidwadwyr, nad oeddent yn cefnogi'r gyllideb. Roedd cynnydd sylweddol mewn cyllid ar gyfer y GIG. Pe bai pobl yng Nghwm Taf Morganwg a'r bobl sydd yn ein oriel heddiw yn dibynnu arnoch chi, ni fyddai'r arian wedi bod yno i'w talu—nid hyd yn oed yr hyn maen nhw'n ei gael heddiw. Felly, gadewch i ni fod yn hollol glir ynglŷn â ble mae'r Torïaid ar hyn, yn enwedig pan edrychwch chi ar eu maniffesto, sydd, i fod yn onest, yn anghredadwy yn ei anghyfrifoldeb pan ddaw i'r hyn y mae'n dweud ei fod yn mynd i'w gwtogi a'r hyn y mae'n meddwl y gall wario arno.
[Anghlywadwy.]—180 yr ydym ni newydd ei weld gan y Prif Weinidog yn y fan yna. Mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, fe wnaethoch chi ddweud ei fod yn fater o ganolbwyntio ar y pethau y mae pobl yn poeni amdanyn nhw, a'r funud y daw cwestiwn am bethau y mae pobl yn poeni amdanyn nhw o ddydd i ddydd, yr ateb yw, 'Nid ein problem ni yw hi, gyfaill. Nid ein problem ni o gwbl.' Dyna'n union wnaethoch chi ei ddweud: cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw hyn. Mae hwn wir yn fater syml dros ben. Pe bai Ysgrifennydd y Cabinet eisiau camu i mewn, gallai gamu i mewn. Dyna'r realiti. Peidiwch ag eistedd yn y fan yna a dweud nad yw'n fater i Lywodraeth pan mai chi yw'r rhai sy'n gosod y polisi ac yn ariannu'r gwasanaethau. Mae gennych chi bob hawl i gamu i mewn ar y mater hwn. Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud nad oes unrhyw broblem o ran cyllid yma. Maen nhw wedi cydnabod yn flaenorol yr ymwelwyr iechyd a'r sgiliau sydd ganddyn nhw. Os nad yw'r Llywodraeth yn camu i mewn ar y mater hwn, yna, a bod yn gwbl onest, dylech chi deimlo cywilydd llwyr. Llywodraeth Lafur Cymru sy'n amharod i gamu i mewn i helpu'r ymwelwyr iechyd hynny. Y cwbl y maen nhw'n gofyn amdano yw cydnabyddiaeth o'u sgiliau. Felly, fe wnaf i roi cyfle arall i chi, Prif Weinidog. Ymrwymwch heddiw i gamu i mewn ar hyn o bryd, i gychwyn y trafodaethau, oherwydd nid ydyn nhw'n digwydd ar hyn o bryd. Camwch i mewn a chefnogwch yr ymwelwyr iechyd hynny sy'n haeddu'r gydnabyddiaeth honno ac sy'n haeddu band 7.
Fe wnaf i ailadrodd bod hwn yn anghydfod dan arweiniad cyflogwr lleol, ei fod yn ailfandio lleol unochrog, a fyddai'n arwain at ganlyniadau system gyfan.
Hoffwn fod yn eglur am yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yma, dim ond fel bod pobl Cymru yn deall, pe bai Plaid Cymru byth yn dod i rym, pe bai problem lleol fyth, y byddai Plaid Cymru yn camu i mewn. Fe fyddech chi'n camu i mewn ar gyfer byrddau iechyd, ar gyfer addysg, ar gyfer yr holl faterion y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. A ydyn ni i gyd wedi clywed hynny? Gadewch i ni ddeall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud a'r hyn yr ydych chi'n ymrwymo iddo, oherwydd nid dyna sut mae Llywodraeth yn gweithio.
Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod gwaith yn cael ei wneud gan gyflogwyr GIG Cymru. Mae'n waith pwysig iawn, a byddwn yn annog undebau llafur i gymryd rhan yn hwnnw. Mae hwnnw wedi cael ei gynnull gan grŵp arbenigol i hysbysu disgrifiadau swydd a allai arwain at ddull cenedlaethol o ymdrin â'r math hwn o fater.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyflymu llif cleifion drwy ysbytai? OQ63970
Rydym ni'n gwybod mai un o'r heriau mwyaf yn y GIG heddiw yw gwella llif cleifion a sicrhau bod opsiynau eraill yn hytrach na derbyn i'r ysbyty, a bod gennym ni safonau rhyddhau cenedlaethol. Mae byrddau iechyd wedi cyflwyno dulliau i ryddhau, i wella ac asesu, ac rydym ni wedi cyflwyno modelau aseswyr dibynadwy. Mae gennym ni well eglurder o ran atebolrwydd ar y cyd ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol. Darparwyd tri deg miliwn o bunnoedd i gynyddu capasiti gofal cymdeithasol ac i gefnogi rhyddhau. Nawr, mae hynny ar ben y gronfa integreiddio ranbarthol, sydd hefyd yn cefnogi'r ymdrech hon ac sydd â chyllideb o £146 miliwn.
Diolch, Prif Weinidog. Er bod mynd i'r afael ag oedi cyn rhyddhau yn hanfodol i lif cleifion, mae'n rhaid i ni hefyd fynd i'r afael ag oedi wrth y drws ffrynt. Rydym ni'n dal i weld cleifion yn aros yng nghefn ambiwlansys neu'n derbyn triniaeth mewn cadeiriau mewn mannau aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Rydym ni wedi gweld canlyniadau trasig hyn. Mae pobl wedi marw yn aros am ymatebion brys, heb sôn am afiacheddau sylweddol eraill. Ar hyn o bryd, ceir diffyg tryloywder ynglŷn â'r lefelau staffio meddygol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar unrhyw adeg benodol. Yn ystod fy mhreswyliad, roeddem ni'n aml yn gwneud shifftiau yn yr adran achosion brys, ac roedd gennym ni fwy o gilfachau triniaeth ar gael.
Prif Weinidog, mae'n hanfodol cydnabod bod gwasanaeth cenedlaethol sy'n gyfrifol am achosion brys angen capasiti wrth gefn ymgorfforedig. Felly, Prif Weinidog, pa ystyriaethau sydd wedi cael eu rhoi i ddychwelyd at fodel lle mae meddygon preswyl gradd feddygol yn darparu cymorth wrth gefn mewn adrannau achosion brys ac unedau mân anafiadau, wedi'u cefnogi gan gilfachau triniaeth a wardiau arsylwi ychwanegol, i ryddhau ambiwlansys a chael gwared ar—cael gwared ar—ofal mewn cadeiriau a choridorau unwaith ac am byth?
Diolch, Altaf. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i staff y GIG am yr ymdrechion enfawr y maen nhw'n eu gwneud ar draws ysbytai yng Nghymru. Maen nhw o dan bwysau aruthrol. Mae'r galw am y gwasanaeth yn sylweddol. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Rydym ni wedi cyfrannu adnoddau ychwanegol sylweddol. Rwy'n credu fy mod i wedi gweld bod cynnydd o 14 y cant i nifer y bobl sy'n gweithio yn y GIG yn y pum mlynedd diwethaf. Felly, mae hwn yn wasanaeth yr ydym ni'n sicr yn ei gefnogi. Eto, mae'n debyg ei bod hi'n werth sôn na wnaeth eich plaid gefnogi cynnydd i'r cyllid hwnnw i fynd i'r GIG.
Ond o ran yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, mae gennym ni raglen eglur iawn o waith. Mae'n gynhwysfawr iawn. Rwy'n falch iawn bod cyfanswm y diwrnodau o oedi wedi gostwng 9 y cant ers mis Mawrth 2025. Rydym ni'n gwybod bod ffordd bell i fynd, ond mae hwnnw'n gam pendant i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n gwybod, Altaf, bod gennych chi brofiad enfawr yn y maes hwn, ac rwyf i bob amser yn hapus i wrando ar eich syniadau am beth arall y gellir ei wneud yn y maes hwn.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i'r swyddogaeth broffesiynol y mae Altaf yn ei chyflawni yn y Senedd. Diolch yn fawr iawn i chi, a hefyd am godi'r pwynt pwysig hwn am swyddogaeth y gwasanaethau brys. Mewn ardaloedd gwledig, mae hyn yn wirioneddol hanfodol. Rwyf i wedi clywed pryderon sylweddol gan drigolion sir Benfro am y penderfyniad i symud gwasanaethau llawfeddygol brys o Lwynhelyg i Langwili. Mae gan sir Benfro, fel yr ydym ni'n gwybod, ac fel y byddech chi'n ei wybod, Prif Weinidog, hefyd, gymunedau gwasgaredig, amseroedd teithio hir a chysylltiadau trafnidiaeth cyfyngedig. Mae sir Benfro hefyd yn gartref i ddiwydiannau uchel eu risg. Mae gennym ni burfeydd, terfynellau nwy, porthladdoedd prysur ac amaethyddiaeth hefyd. Mae digwyddiadau difrifol yn digwydd, a phan fyddan nhw'n digwydd, mae pob munud yn bwysig. Mae gwanhau capasiti brys lleol yn bygwth diogelwch gweithwyr, teuluoedd a chymunedau ledled sir Benfro. Mae gwasanaethau ambiwlans, rydym ni'n gwybod, eisoes wedi'u hymestyn. Bydd teithiau hirach i Langwili yn golygu na fydd criwiau ar gael, yn lleihau cwmpas lleol ac yn gwaethygu'r pwysau presennol. Felly, a wnewch chi ystyried ymyrryd i atal cael gwared ar wasanaeth cyffredinol brys o ysbyty Llwynhelyg? Diolch yn fawr iawn.
Byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd i'w poblogaeth leol. Swyddogaeth Llywodraeth yw bod yn gwbl eglur o ran yr hyn y dylen nhw fod yn ei ddarparu. Yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei ddarparu yw gwasanaethau sy'n ddiogel, sy'n gynaliadwy, ac sy'n ymateb i anghenion y poblogaethau. Ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu darparu yn unol â safonau proffesiynol a chanllawiau clinigol. Mae hynny'n cynnwys cynllunio cadarn o ran galw, capasiti, gweithlu ac adnoddau ariannol i wneud yn siŵr bod gwasanaethau yn effeithiol ac yn wydn. Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd, yn fy rhinwedd fel Aelod lleol, gyda'r cadeirydd, yn aml iawn, ar y mater hwn. Rwy'n credu bod cwestiynau y mae angen eu hateb. Ac rwy'n gwybod bod problemau o ran recriwtio. Dyna'r her wirioneddol o ran ysbytai sydd y tu allan i'r dinasoedd mawr. Felly, mae honno'n her gyson. Mae'n werth myfyrio ar y ffaith fod 48 y cant o'r meddygon a'r deintyddion ym mwrdd iechyd Hywel Dda wedi cael eu hyfforddi y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Felly, rwy'n gobeithio bod Reform yn gwrando ar hynny, oherwydd bydd y math o gerddoriaeth awyrgylch i ddenu pobl i'r ardaloedd hynny, rwy'n credu, yn cael effaith ar recriwtio yn yr ardaloedd hynny.
Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth nodi hefyd, yn sir Benfro, y bydd cynnydd i gymorth ar gyfer gwasanaethau canser, cynnydd i wasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod, a chynnydd i nifer y llawdriniaethau orthopedig. Felly, mae'n bwysig edrych ar y darlun yn ei gyfanrwydd, yn gyffredinol, a gwneud yn siŵr bod beth bynnag sy'n cael ei roi yno yn gynaliadwy. Dyna pam, os bydd y Blaid Lafur yn dychwelyd i Lywodraeth, y bydd ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru, a fydd yn gynaliadwy ar gyfer yr hirdymor.
Un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni mewn ysbytai o ran llif cleifion yw cael pobl i mewn i ofal cymdeithasol neu ofal cam-i-lawr, sy'n un o'r ffyrdd mwyaf y gallwn ni leihau pwysau ar ysbytai. Fodd bynnag, yr hyn yr ydym ni wedi gweld Llywodraethau Llafur Cymru olynol yn ei wneud yw bod â pholisi o gau ysbytai bwthyn a chymuned ledled Cymru a lleihau capasiti gwelyau. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn nawr i resynu'r hyn y mae Llywodraethau Llafur Cymru blaenorol wedi ei wneud wrth gau ysbytai bwthyn a chymuned? Rwy'n gwybod bod llawer wedi mynd yn fy etholaeth i, a allai leddfu pwysau ar rannau o ofal eilaidd, ond mae polisïau a ddilynwyd gan eich Llywodraeth chi wedi cau'r rheini. Felly, a ydych chi'n difaru hynny a bod hon yn broblem a grëwyd gennych chi eich hun o fod â gweledigaethau polisi annoeth?
Wel, yn sôn am weledigaethau polisi annoeth, rydym ni wedi edrych ar eich maniffesto chi, a does dim llawer ynddo. A dweud y gwir, fe wnaethom ni edrych ar un y Torïaid, ac roedd yn edrych bron yn union yr un fath hyd y gallwn i ei ddweud.
Edrychwch, rydym ni'n blaid a sefydlodd y GIG yng Nghymru, ac rydym ni wedi ymrwymo i'r GIG yng Nghymru. Ni yw'r blaid sydd wedi rhoi mwy o fuddsoddiad i GIG Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf nag erioed o'r blaen. Ni yw'r blaid sydd wedi cynyddu nifer y bobl sy'n gweithio yn y GIG. Gadewch i mi fod yn eglur, nid wyf i'n credu bod pobl Cymru yn deall mewn faint o berygl fyddai'r GIG yn nwylo Reform. Mae'n rhaid i bobl fod yn ofalus iawn, rwy'n credu, pan ddaw i'r etholiad nesaf hwn, o ran y risgiau y gallen nhw fod yn eu cymryd gyda'r gwasanaethau y maen nhw'n yn dibynnu arnyn nhw.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel ym Mhontypridd? OQ63950
Rydyn ni i gyd yn casáu gweld ein cymunedau yn cael eu halogi gan dipio anghyfreithlon. Mae'n anghyfrifol, mae'n wrthgymdeithasol ac mae'n drosedd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu cyllid i fynd i'r afael â thipwyr anghyfreithlon ac wedi rhoi arian i awdurdodau lleol i ddefnyddio camerâu i geisio dal y troseddwyr. Mae gorfodi eisoes wedi gwella, ond rydym ni'n cydnabod bod angen i ni fynd ymhellach.
Prif Weinidog, mae taflu sbwriel yn sicr yn wrthgymdeithasol ac mae tipio anghyfreithlon, o'r ochr orau, yn drosedd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y camau sydd wedi cael eu cymryd gan y Llywodraeth hyd yma i weithio i gynyddu dirwyon, ond hefyd i weithio i ddarparu technoleg i gynghorau lleol, i'w caniatáu i fynd i'r afael â hyn o ddifrif. Mae'n torri fy nghalon pan fyddaf i'n cerdded o gwmpas rhannau o'm hetholaeth ac yn gweld ardaloedd sydd wedi cael eu tipio ac wedi cael eu glanhau gan y cyngor, ac yna ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach yr un peth eto. A gaf i hefyd ddiolch i chi am roi sylw i'r mater o hyfforddiant gyda'r Arglwyddes Brif Ustus i sicrhau bod dirwyon sy'n cael eu gorfodi wir yn dechrau adlewyrchu'r gwir gost amgylcheddol—hynny yw, mae'n rhaid i'r llygrwr dalu? Yn amlwg, mae angen yn y system gyfiawnder i sicrhau bod hynny'n digwydd.
A gaf i ddweud hefyd mai'r hyn sydd hefyd yn eglur iawn yw bod tipio anghyfreithlon bellach yn dod yn weithgaredd troseddol difrifol yn llawer o'n hetholaethau? Yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw sicrhau bod cysondeb ledled Cymru mewn awdurdodau lleol o ran ymchwilio ac erlyn, ac rwy'n meddwl tybed pa ystyriaeth y gellid ei rhoi i ddeddfwriaeth yn y dyfodol i'w gwneud yn ddyletswydd statudol ar lywodraeth leol nid yn unig i ymchwilio, ond hefyd o ran y rhwymedigaeth i erlyn lle mae'r dystiolaeth yn bodoli.
Diolch yn fawr iawn i chi, Mick, a diolch am eich arweiniad gyda'r mater hwn, yn enwedig wrth gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar leihau gwastraff. Rwy'n credu bod hwn yn fater sy'n digalonni llawer o bobl yn ein cymunedau. Mae'r peth yn gywilyddus. Nid oes ots ym mha le y bo'n digwydd, nac ym mha gymuned y bo'n digwydd; mae gan bawb ohonom ni gyfrifoldeb i sicrhau nad ydym ni'n gweld taflu sbwriel yn unig—mae'n mynd llawer ymhellach na hynny'r dyddiau hyn—ond mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gamu i'r adwy ac ymyrryd a sicrhau ein bod ni'n gwneud ein rhan. Dyna pam rydym ni'n cynyddu'r dirwyon am dipio anghyfreithlon, ac yn cefnogi'r awdurdodau lleol â gorfodaeth sy'n fwy cadarn. Dyna pam y buom ni'n eglur, os cawn ni ein hethol o'r newydd i lywodraethu ym mis Mai, fe fyddwn ni'n cynyddu'r dirwyon. Fe fyddwn ni'n mynd â gorfodi lawer ymhellach ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n ystyried rhoi deddfwriaeth newydd ar waith.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y GIG yn addas ar gyfer y dyfodol? OQ63954
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dilyn cynllun eglur, 'Cymru Iachach', i symud mwy o ofal a datblygu gwasanaethau newydd yn nes at gartrefi pobl, gyda mwy o ganolbwyntio ar atal, gyda chefnogaeth technoleg ddigidol newydd. Ers 2021, mae 13 y cant yn rhagor o bobl yn cael eu cyflogi yn y GIG. A gaf i gywiro'r cofnod nawr? Rwy'n credu i mi ddweud 14 y cant yn flaenorol. 13 y cant sy'n gywir. Ond rwy'n cael cyfle o leiaf i ailadrodd hynny—cynnydd o 13 y cant yn nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yn y GIG i helpu i ateb y galw gan boblogaeth sy'n heneiddio. Fe fyddwn ni'n parhau i dorri rhestrau aros ac amseroedd aros i sicrhau y bydd pobl yn cael gafael ar y triniaethau y mae eu hangen arnyn nhw a hynny mewn da bryd.
Diolch i chi am y diweddariad yna, Prif Weinidog. Nid wyf i dan unrhyw gamargraff o ran bod ein GIG yn wynebu heriau, yn enwedig wrth adfer wedi dros ddegawd o gyni a phwysau'r pandemig, yn ogystal â'r newid trawsnewidiol y bydd ei angen yn y tymor hwy, yr oeddech chi'n cyfeirio ato yn eich ateb nawr. Ond i fod â GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol, mae angen i ni fuddsoddi yn y seilwaith, er mwyn y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny, ond er mwyn y gweithlu ymroddedig hefyd sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Gyda hynny mewn golwg, rwy'n croesawu'r biblinell o fuddsoddiadau, megis hwb orthopedig Llandudno a'r £33 miliwn ar gyfer cam cyntaf datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra, a'n haddewid nawr o £4 biliwn i ysbytai, sy'n cynnwys ailddatblygu Ysbyty Maelor Wrecsam, ac fe wn y bydd hynny'n golygu llawer i bobl yn fy nghymuned i. Prif Weinidog, a ydych chi'n gallu nodi ymhellach ym mha ffyrdd yn eich barn chi y bydd hyn yn dod â buddion i'r bobl yr wyf i mor falch o'u gwasanaethu?
Diolch, Hannah. Diolch am eich cefnogaeth, ond am eich ymgyrch chi hefyd i sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar anghenion pobl y gogledd, ynghyd â chydweithwyr eraill o'r gogledd. Diolch i chi am bopeth a wnaethoch chi i sicrhau bod y datblygiadau hynny, fel y Royal Alex, yn dod gam yn nes at gael eu gwireddu mewn gwirionedd, rhywbeth sy'n angenrheidiol i ysgafnu'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd.
Wythnos nesaf, rwy'n credu, fe fyddaf i'n mynd i Landudno i agor canolfan orthopedig newydd, canolfan lawfeddygol newydd, ac mae hynny'n newyddion gwych—canolfan lawfeddygol arall. Rwy'n credu mai saith sydd gennym ni, a hon fydd yr wythfed, ac rwy'n credu bod un arall o bosibl. Felly, dyna ni'n siarad am naw canolfan lawfeddygol yng Nghymru. Rwy'n credu bod Plaid Cymru yn awyddus i agor 10 canolfan lawfeddygol newydd. Fe fyddai hi'n ddiddorol iawn gwybod o ble y byddan nhw'n cael yr arian, a'r staff, i wneud hynny. Mae ein cynnig ni'n gynnig realistig i bobl Cymru.
A gaf i ddweud hefyd pa mor bwysig yw hi i bobl y gogledd glywed y cynnig hwnnw y byddai Llywodraeth Lafur newydd Cymru yn ei roi, pe byddem ni'n cael ein hailethol ym mis Mai, o ran moderneiddio'r ysbyty hwnnw yn Wrecsam? Fe fydd hynny'n trawsnewid gofal pobl yn y rhan honno o Gymru.
8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem ynglŷn â thaliadau sefydlog trydan i aelwydydd yng ngogledd Cymru? OQ63980
Dylai taliadau sefydlog fod yn deg ac yn dryloyw. Ddylen nhw ddim effeithio’n anghymesur ar aelwydydd incwm isel. Dwi’n ymwybodol bod pobl yn y gogledd yn wynebu rhai o’r taliadau sefydlog uchaf yn y wlad. Mae hyn yn annheg, yn enwedig gan eu bod nhw’n byw yn agos at ffynonellau ynni adnewyddadwy mawr.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yn codi'r mater o daliadau sefydlog gydag Ofgem a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rheolaidd. Yn dilyn ei chyfarfod diweddar ag Ofgem, fe wnaeth hi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 26 Chwefror yn croesawu cynlluniau Ofgem i gyflwyno cynllun peilot ar gyfer taliadau sefydlog is.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, y gwir amdani yw eu bod nhw'n dal i dalu £87 yn uwch na thalwyr y ffioedd hynny yn Llundain, a dyw hynny ddim yn deg. Fel rŷch chi'n ei ddweud, yn hanesyddol maen nhw'n dweud wrthym ni, 'Achos eich bod chi'n wledig a’ch bod chi ar ddiwedd y llinell, mae'n costio’n fwy', ond beth mae hynny'n anwybyddu, wrth gwrs, yw bod Cymru yn allforiwr net trydan i weddill y Deyrnas Unedig. Cymru sy'n pweru rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond mae'n ymddangos mai ni sy'n talu pris annheg am hynny. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni, os yw'r berthynas arbennig yma ym mhob pen yr M4 yn delifro, pryd y gallwn ni weld hynny yn newid?
Fel rwy'n dweud, mae hwn yn fater y mae'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yn ei godi yn gyson iawn. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gweld y cynllun treialu hwnnw nawr ar gyfer taliadau sefydlog is, ac ym mis Ebrill y bydd hynny. Mae Ofgem wedi ymgysylltu â chyflenwyr ynni mawr i arbrofi gyda lleihau taliadau sefydlog, £150 yn llai o leiaf bob blwyddyn ar gyfer 150,000 o gwsmeriaid. Fe wnes i godi'r mater ynglŷn â'r angen i wella tariffau cymdeithasol gyda'r Prif Weinidog hefyd mewn cyfarfod diweddar gydag ef, am fy mod i o'r farn fod hwnnw'n fater arall sy'n berthnasol i bawb sydd ar incwm isel yng Nghymru.
Yn olaf, cwestiwn 9, Carolyn Thomas.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaethau o ran trwsio ffyrdd a phalmentydd? OQ63978
Fe ddywedodd pobl Cymru wrthyf i pan oeddwn i ar fy nhaith i wrando, yn enwedig yn eich rhan o'r byd, fod angen i mi wneud gwella ffyrdd yn flaenoriaeth. Fe wn i pa mor ddiflas a pha mor gostus y gall hi fod i gael difrod i'ch car a pherygl i ddiogelwch oherwydd tyllau yn y ffyrdd. Yn y flwyddyn ariannol hon fe wnaethom ni roi £10 miliwn i'r awdurdodau lleol, gan ddatgloi dros £70 miliwn ar gyfer gwelliannau cynnal a chadw ychwanegol. Rydym ni wedi buddsoddi £25 miliwn ychwanegol ar y rhwydwaith ffyrdd strategol.
Diolch i chi am yr ateb yna. Mae ein priffyrdd ni'n un o'n hasedau mwyaf, ac fel un a fu'n gynghorydd yn flaenorol roeddwn i'n gallu gweld sut y byddai toriadau i gyllid cyhoeddus dan flynyddoedd o gyni Torïaidd yn effeithio ar y rhaglen i reoli asedau priffyrdd. Roedd gwaith adweithiol yn digwydd yn gynyddol i lenwi tyllau dim ond er mwyn eu gwneud nhw'n ddiogel. Ers i mi fod yn Aelod o'r Senedd, fe fues i'n pwyso am wneud cyllid i'n priffyrdd yn flaenoriaeth. Mae angen buddsoddiad parhaus sylweddol ar ffyrdd a phalmentydd fel gall cynghorau baratoi cynlluniau ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol, nid yn unig ar gyfer cerbydau modur ond ar gyfer beicwyr a cherddwyr hefyd.
Rwy'n croesawu datganoli grantiau trafnidiaeth leol i bob rhanbarth hefyd, gan gynnwys y gogledd. Prif Weinidog, fel rydych chi'n cofio, pan aethom ni i Gei Connah, roedd y trigolion yn fy nghefnogi i mewn gwirionedd, gan ddweud mai'r tyllau oedd y mater pwysicaf un. Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi fy nghyfiawnhau am ddal ati i sôn am y peth. A ydych chi'n cytuno bod gwahaniaeth nawr, trwy flaenoriaethu trwsio'r ffyrdd, a bod angen cynllun cyllido hirdymor parhaus, ac nid dychwelyd at gyni? Diolch i chi.
Rwy'n cofio'r ymweliad hwnnw â Chei Connah yn dda iawn. Mewn gwirionedd, un o'r bobl a oedd yn codi'r mater hwn oedd mam Jack Sargeant. Roedd yna lawer o bobl a oedd yn awyddus iawn i ddweud wrthyf i'r hyn yr oedden nhw'n ei gredu yr oedd angen ei drwsio yn yr ardal honno. Rwy'n falch iawn fod y cyllid ychwanegol hwn wedi helpu i atal neu drwsio tua 200,000 o dyllau ledled Cymru eisoes. A gadewch i ni gofio bod y rhain yn ychwanegol at y rhai yr oeddem ni am eu trin beth bynnag. Yr hyn yr wyf i'n ei ddeall yw ein bod ni wedi cael tywydd garw iawn, ac mae hynny wedi creu mwy o broblem. Felly dychmygwch chi sut fyddai hi wedi bod pe na fyddem ni wedi rhoi'r arian hwnnw i mewn.
Fe wn i fod y sefyllfa yn wahanol iawn yn Lloegr am na wnaethon nhw'r buddsoddiad hwnnw mewn da bryd fel y gwnaethom ni. Maen nhw mewn sefyllfa lawer gwaeth na hynny. Ond rwy'n falch iawn fod y datblygiadau hynny'n digwydd. Rwy'n credu fy mod i wedi llenwi rhai o'r tyllau yn y gogledd fy hun gyda'r cyngor lleol, ac mae hi'n ardderchog gweld hynny'n gwneud gwahaniaeth. Fe wn i fod ffordd bell i fynd eto. Fe wn i fod pobl yn teimlo yn rhwystredig, ond diolch byth ein bod ni wedi rhoi'r arian hwnnw i mewn pan wnaethom ni.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes fydd nesaf. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes am y pythefnos nesaf ar y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â gweithrediadau gwastraff ledled Cymru. Fel gwyddoch chi, rwyf wedi codi materion dro ar ôl tro ynglŷn â safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth i, ac mae'r trigolion lleol yn gwbl briodol yn ddig iawn nawr oherwydd y newyddion fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cymeradwyo cais gan weithredwr y safle i wneud newidiadau i'w drwydded a fyddai'n arwain at dderbyn mwy o wastraff fyth yn sir Benfro. Fel gwyddoch chi, mae gan y gweithredwr hanes o beidio â chydymffurfio ac mae'r gymuned leol wedi gorfod byw yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag allyriadau gwenwynig o bosibl a allai fod yn dod o'r safle sydd wedi achosi rhai sgil-effeithiau difrifol iawn, fel peswch a phen tost.
Yn fy marn i, fe ddylid bod wedi cau'r safle yn barhaol ac fe ddylid bod wedi cynnal ymchwiliad cyhoeddus o ran rheolaeth y safle, o ystyried effaith yr allyriadau ar iechyd a llesiant pobl. Trefnydd, yng ngoleuni'r newyddion fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cymeradwyo cais gweithredwr y safle, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu ei dull o reoli gweithfeydd tirlenwi yma yng Nghymru er mwyn i ni ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn gefnogol i gymeradwyo cais y gweithredwr i amrywio'r drwydded, er gwaethaf y diffygion yn ei berfformiad yn y gorffennol.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Paul Davies. Yn amlwg, dros y blynyddoedd diwethaf rydych chi wedi codi—ac ar draws y Siambr, a chan y cymunedau—pryderon am Withyhedge yn arbennig. Ni allaf i ond roi sicrwydd i chi fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhwym gan reoliadau llym iawn o ran unrhyw benderfyniadau a wneir. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at newid posibl. Nid oes gennyf i unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny, ond mae hi'n amlwg fod hynny'n rhywbeth y byddai'n rhaid ei ystyried yn ofalus iawn o ran nid yn unig yr effaith a gaiff y safle penodol hwnnw o ran gweithrediadau gwastraff, ond ei reolaeth hefyd.
Mi fyddwn i'n hoffi gofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd yn rhoi diweddariad ar y gwaith sydd yn cael ei wneud o ran newidiadau a amlinellwyd yn adroddiad Elwen Evans KC i mewn i lifogydd 2020. Mi oedd hyn yn benodol o ran yr adroddiadau adran 19, sydd i fod i gael eu hadolygu. A hithau rŵan yn chwe blynedd ers llifogydd dinistriol storm Dennis a'r holl broblemau amlwg oedd ynglŷn â'r broses adran 19, mae hyn yn amser hir iawn, felly dwi'n credu y byddai'n dda iawn cael diweddariad cyn diddymiad y Senedd hon er mwyn i ni ddeall beth fydd y camau nesaf a phryd y gwelwn ni newid yn y broses ddiffygiol hon.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae hi'n bwysig sicrhau y ceir diweddariadau o ran adroddiadau adran 19. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gallu dychwelyd at y materion hynny i weld a oes diweddariad yn angenrheidiol a phryd y byddai hynny'n digwydd. Yn amlwg, mae'r buddsoddiad a gafodd ei wneud yn y mesurau i atal llifogydd a hefyd i gefnogi'r cymunedau yr effeithir arnyn nhw gan lifogydd yn sylweddol o ran y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Hefyd, mae'n rhaid i ni, fel rydych chi'n dweud, o storm i storm, roi diweddariadau ynglŷn ag effeithiau difrod llifogydd pellach ar gymunedau, yn enwedig o ran yr un yr ydych chi'n cyfeirio ato yn eich cymunedau.
Rwyf i'n aelod o'r Blaid Gydweithredol. Rwy'n gofyn am ddatganiad Llywodraeth Cymru ar iechyd y sectorau cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru. Fe ddylai hyn gynnwys yr hyn sydd wedi gweithio yn dda wrth ei gefnogi, yr hyn na weithiodd yn dda wrth ei gefnogi, a'r gwersi a gafodd eu dysgu dros y pum mlynedd diwethaf.
Fe hoffwn i ofyn hefyd am ddatganiad ar amddiffyn moch daear. Fe fydd difa moch daear yn dod i ben yn Lloegr yn rhan o'r newidiad yn y frwydr yn erbyn twbercwlosis buchol a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd. Yn rhan o'r strategaeth newydd i ddileu TB, fe fydd moch daear yn cael eu brechu yn hytrach na'u lladd, ac fe fydd y gwaith i ddatblygu brechlyn ar wahân ar gyfer da byw yn cael ei ehangu hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth Moch Daear yn galw ar yr Aelodau i gefnogi dull trugarog o reoli TB buchol a arweinir gan wyddoniaeth, nad yw'n golygu bod moch daear yn cael eu difa. Ac onid ydych chi'n meddwl mai ffordd neis iawn o ddweud 'lladd' yw dweud 'difa', ond bod hynny'n golygu'r un peth yn union?
Diolch yn fawr iawn i chi, Mike Hedges, ac am eich ymrwymiad hirsefydlog i sefydliadau cydweithredol hefyd, nid am fod yn aelod o'r Blaid Gydweithredol yn unig, ond gan gydnabod egwyddorion ac amcanion cydweithredu fel rydych chi'n gwneud, Mike, fe wn i. Ac, wrth gwrs, fe ddaw gwreiddiau'r sector cydweithredol o Gymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a ddeilliodd o angen cymunedau i fynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol gyda'i gilydd.
Mae cwmnïau cydweithredol Cymru wedi bod â rhan hanfodol wrth feithrin economïau lleol a chynhwysiant cymdeithasol. Mae yna 533 o gwmnïau cydweithredol yng Nghymru, ac mae'n beth da inni roi hynny ar gofnod heddiw, Mike Hedges. Yn ystod y degawdau diwethaf fe welwyd mwy o gefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru, sydd wedi hyrwyddo modelau busnes cynaliadwy ar gyfer cwmnïau cydweithredol, ac mae'r sector yn dal i esblygu. Ac, wrth gwrs, fe all ganolbwyntio nawr ar drawsnewid digidol, llesiant cymunedau a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Dim ond gair o ran eich cwestiwn am foch daear, fe all TB buchol effeithio ar unrhyw famolyn, yn cynnwys pobl, anifeiliaid fferm, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt, a moch daear a cheirw gwyllt yw'r prif rywogaethau o anifeiliaid gwyllt yr ystyrir eu bod nhw'n peri risg o TB i fuchesi gwartheg yng Nghymru. Ond mae rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraethu yn cadarnhau na fyddan nhw'n rhoi difa moch daear ar waith yng Nghymru. Mae astudiaethau wedi dangos bod cyfraddau trosglwyddiad rhwng gwartheg a gwartheg yn uwch na rhwng moch daear a gwartheg, ac mae hi'n briodol y bydd y canolbwyntio ar ddulliau eraill ar gyfer rheoli TB buchol, megis mesurau bioddiogelwch a phrofion gwell ar wartheg. Mewn gwirionedd, fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y rhaglen dileu TB yfory.
Ac mae angen hefyd inni droi at y grŵp cynghori technegol, rwy'n credu, sydd wedi cynnal rhai trafodaethau ar swyddogaeth bywyd gwyllt, gan gynnwys moch daear, o ran trosglwyddiad TB buchol. Nid yw'r grŵp cynghori technegol wedi cyhoeddi ei gyngor hyd yn hyn. Ond mae'r canolbwyntio erbyn hyn yn parhau i fod ar reoli trosglwyddiad TB buchol drwy ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a pheryglon prynu anwybodus, a'r manteision posibl o ddefnyddio mesurau bioddiogelwch eraill—yr wyf i'n gwybod ac yn deall ei fod yn rhywbeth y gall ffermwyr fod yn rhan ohono, o ran mesurau bioddiogelwch—i gyfyngu ar gyflwyno TB i'w buchesi nhw trwy fioddiogelwch effeithiol.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda? Ar berfformiad canser yn y gogledd y mae'r cyntaf, o ran y mynediad at driniaeth. Mae etholwr ifanc gennyf i, merch ifanc o Abergele, sy'n fam i ddau o blant. Mae hi wedi dioddef o ganser y thyroid yn flaenorol, ac rwy'n falch iawn o i ddweud ei bod hi wedi goroesi canser y thyroid. Ond cyn y Nadolig, fe wnaethon nhw nodi bod dau nodwl yn ei gwddf hi ac fe gafodd ei rhoi ar y llwybr brys pan fo amheuaeth o ganser. Mae hi'n dal i aros am fiopsi ar y nodylau hynny ac mae'r nodylau wedi cynyddu i naw. Mae hon yn fenyw ifanc a allai gael ei rhoi mewn perygl o ganlyniad i'r oedi annerbyniol wrth gael mynediad at y biopsi angenrheidiol hwn er mwyn cael y driniaeth y gallai fod ei hangen arni hi. Mae angen i ni wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wyrdroi'r sefyllfa hon. Fe ddylai mesurau arbennig fod yn gwneud pethau yn well; mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n gwneud dim ond gwaethygu.
A gaf i ail ddatganiad oddi wrth y Gweinidog iechyd, hefyd, ar berfformiad Ysbyty Glan Clwyd? Dros y penwythnos, fe adroddwyd bod gofyn i bobl godi arian a chasglu rhoddion o glustogau yn fy etholaeth i am fod y cyfraddau o glustogau yn annerbyniol yn yr ysbyty—prinder enfawr. Mae'r bwrdd iechyd wedi gwrthbrofi'r honiad hwn, ond ar-lein, mae adborth yn awgrymu ei bod hi'n gywir mewn gwirioneddol fod yna brinder enfawr o glustogau yn yr ysbyty, ac nid clustogau yn unig, ond blancedi hefyd, a chadeiriau cyfforddus yn yr adran achosion brys.
Mae enw gennym ni o fod yn genedl ddatblygedig, ond gwasanaethau o'r trydydd byd yw'r rhain. Nid yw hi'n dderbyniol. Mae angen i bethau newid, ac mae angen iddyn nhw newid ar fyrder. Fe hoffwn i ddau ddatganiad brys, os gwelwch chi'n dda.
Wel, diolch i chi am y cwestiynau yna, ac yn amlwg, cwestiynau o ran achos unigol—. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymdrin â'r achos unigol hwnnw, Darren Millar, o ran eich etholwr, i sicrhau bod triniaeth a diagnosis canser yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl, ac yn wir, yn unol â'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau canser—gwasanaethau canser yn y gogledd a ledled Cymru. Yn amlwg, fe welwch chi'r gwelliannau sydd wedi bod yn digwydd o ran byrhau amseroedd aros a'r buddsoddiad cynyddol yn ein gwasanaeth iechyd.
Wrth gwrs, rydych chi'n cyfeirio at rywbeth pwysig iawn, mae hi'n ymddangos i mi, o ran y diddordeb a'r pryderon lleol, o ran y—. Unwaith eto, mater i Betsi Cadwaladr a'r ysbyty penodol hwnnw ydyw hwn, ond ar gyfer deall y ffeithiau gwirioneddol hefyd. Rwy'n credu mai dyna'r hyn a fyddem ni'n dymuno ei wybod, o ran y ddarpariaeth yn yr ysbyty penodol hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae'r cyllid ar gael ar gyfer y ddarpariaeth gwbl sylfaenol. Ac, wrth gwrs, nid mater bob amser o gyfeirio at yr hyn sydd yn y cyfryngau cymdeithasol, rwy'n credu, ond, mewn gwirionedd, lle bod gennym ni dystiolaeth ddiamod ar gyfer ymateb. Ond mater i Fwrdd Betsi Cadwaladr yw hwn, wrth gwrs, fel gwyddoch chi'n iawn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ar 18 Chwefror, mi ges i ateb i gwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Roeddwn i wedi holi am ddiweddariad ar ddiddymu'r rheol 3m gyda phympiau gwres. Mae'r rheol hon yn dal pethau yn ôl yng Nghymru, efo trigolion sy'n awyddus iawn i symud at ddulliau gwresogi glân yn methu â gwneud y gwelliannau yn eu cartrefi oherwydd y rheol. Yr ateb ges i gan Rebecca Evans oedd hyn:
'Fel y cynghorais yn fy ymateb ar 24 Tachwedd i'ch cwestiwn ysgrifenedig blaenorol ar y pwnc hwn, byddai unrhyw newidiadau deddfwriaethol i ddiddymu'r rheol 3 metr yn cael eu gosod yn y Senedd cyn diwedd tymor y Senedd. Dyma'r bwriad o hyd.'
Felly, roedd yna ryw awgrym yn yr ateb yna fy mod i'n bod yn ychydig o niwsans yn holi'r cwestiwn, ond dwi'n mynd i'w ofyn eto, achos dwi wedi edrych ar fusnes y Senedd tan ddiwedd y tymor presennol, a, hyd y gwelaf i, dydy hi ddim yn fwriad gan y Llywodraeth i newid y rheol yma. Ydw i'n anghywir?
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. A gaf i roi sicrwydd eglur i chi y byddaf i'n edrych ar hyn ac yn adrodd yn ôl i chi, oherwydd mae hwn yn bwynt pwysig o ran y rheol 3m a mynediad at bympiau gwres, y gwyddom ni eu bod nhw mor bwysig o ran cadwraeth ynni, mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Felly, fe fyddaf i'n edrych ar hynny, ac yn edrych arno yn rhinwedd swydd y Trefnydd, ond gyda'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd.
Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gennych chi, Trefnydd. Yn gyntaf i gyd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad oddi wrthych chi yn rhinwedd eich swydd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar gyfraniad Sikhiaid yng Nghymru. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld yr arddangosfa wych yn adeilad y Pierhead, o'r enw 'Sikhiaid yng Nghymru: Archwilio Treftadaeth, Mudo, a Chreu Cymuned'. Rwy'n credu eich bod chi wedi gweld wynebau cyfarwydd iawn, a llawer o bobl o Lan yr Afon, a'r gweithgareddau yng Nglan yr Afon, a oedd yn deimladwy dros ben. Felly, fe fyddai hi'n ardderchog pe caem ni ddatganiad i ystyried y cyfraniadau a wnaeth y gymuned Sikhaidd yng Nghymru.
Ac yna'r ail ddatganiad: fe hoffwn i ofyn am ddatganiad am yr amgylchiadau ariannol ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru, fel y rhai sy'n wynebu Voices from Care. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod bod Voices from Care wedi bod yn bartner mor rhagorol i Lywodraeth Cymru a'r Senedd drwy gydol cyfnod datganoli, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol, yn enwedig i blant yng Nghymru. Rydym ni i gyd wedi gweithio yn glòs iawn gyda nhw, ac fe wnes i weithio gyda nhw pan oeddwn i'n AS yn San Steffan, flynyddoedd lawer yn ôl. Rwy'n gwybod eu bod nhw'n wynebu trafferthion ariannol. Pa sicrwydd y gellir ei roi y bydd hi'n bosibl datrys hynny cyn gynted â phosibl, gyda'r amhariad lleiaf ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i blant agored i niwed?
Diolch yn fawr, Julie Morgan, am y cwestiynau pwysig yna. A gaf i ddiolch i chi am godi ymwybyddiaeth o'r arddangosfa wych sy'n cael ei chynnal draw yn adeilad y Pierhead? Mewn gwirionedd, a gaf i annog Aelodau ar draws y Siambr i fynd i ymweld â'r arddangosfa hon, a noddir gan Mark Drakeford, wrth gwrs, yn ei etholaeth ef, 'Sikhiaid yng Nghymru: Archwilio Treftadaeth, Mudo, a Chreu Cymuned'? Yn wir, pe byddech chi'n mynd draw yno, efallai y byddech chi'n gweld llun ohonof i, a dynnwyd flynyddoedd lawer iawn yn ôl, a oedd yn y papur newydd lleol, yn croesawu'r ffaith ein bod ni wedi cael cyllid gan yr hyn a oedd bryd hynny'n Swyddfa Gymreig i adeiladu Gurdwara cyntaf y Sikhiaid yng Nghymru, yng Nglan yr Afon. Rwy'n edrych yn llawer iau, mae'n rhaid i mi ddweud, nag y gwnaf i heddiw. Ond mewn difrif, mae'n taflu goleuni pwysig ar hanes a chyfraniadau'r gymuned Sikhaidd i wead cymdeithasol Cymru. Yr hyn sydd mor ardderchog yw gweld y gymuned Sikhaidd, y diwylliant, y dreftadaeth, a'r profiad bywyd mewn gwasanaethau cyhoeddus hefyd—gwasanaethu yn yr heddluoedd, gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, gwasanaethu yn ein busnesau—ac yn wleidyddol hefyd, fel gwyddom ni, yn gynghorwyr, yn enwedig y Cynghorydd Jaswant Singh, a oedd yn gydweithiwr i mi yng Nglan yr Afon. Mae'n dyfnhau ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddweud mewn gwirionedd, 'Ewch yno i'w weld.' Y peth arall am demlau Sikhaidd yw bod ganddyn nhw draddodiad o langar, sef prydau llysieuol am ddim, a gynigir i unrhyw un sy'n cerdded drwy'r drws ar ddydd Sul, ni waeth beth fo'i gefndir. Mae hynny'n fynegiant grymus o gydraddoldeb a gwasanaeth a ddarperir yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.
Rydych chi'n codi cwestiwn o ran cefnogaeth i Voices from Care, sefydliad hirsefydlog arall yr wyf i wedi bod yn falch ac yn freintiedig o fod yn gyfarwydd ag ef, ymhell yn ôl, yr amser pan oeddem ni'n gweithio gyda Voices from Care i weithio tuag at sefydlu'r comisiynydd plant annibynnol cyntaf erioed yn y DU yma yng Nghymru. Fy nealltwriaeth i yw bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r sefydliad ar hyn o bryd, ac maen nhw wedi ymrwymo i ddatrys pob mater ariannol cyn gynted â phosibl.
Rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd neu'r Gweinidog iechyd meddwl, fel bo'n briodol, ar fynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl â chyflyrau niwrolegol fel clefyd Huntington. Mae'r cyflwr hwn sy'n gwaethygu yn effeithio ar symudedd, meddwl ac ymddygiad, ac mae pob plentyn i riant yr effeithir arno mewn perygl o etifeddu'r cyflwr gyda thebygolrwydd o 50 y cant. Mae Cymdeithas Clefyd Huntington wedi canfod ei bod hi'n gallu bod yn anodd i bobl â'r cyflwr gael mynediad at y gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, gyda thimau yn aml heb ymwybyddiaeth o glefyd Huntington na'i effaith ar iechyd meddwl. Y llynedd, fe gyhoeddodd GIG Lloegr ganllawiau sy'n ei gwneud hi'n eglur na ddylid eithrio pobl o wasanaethau iechyd meddwl oherwydd bod ganddynt gyflwr niwrolegol. Mae Cymdeithas Clefyd Huntington wedi cadarnhau bod y canllawiau hyn wedi cael eu defnyddio i helpu cleifion i gael cymorth, ac maen nhw'n cael trafodaethau ystyrlon gyda Pherfformiad a Gwella GIG Cymru i sicrhau bod cleifion clefyd Huntington yng Nghymru yn gallu cael mynediad hefyd at y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw. Felly, rwy'n galwa am ddatganiad i amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl â chyflyrau niwrolegol fel clefyd Huntington yn gallu cael mynediad at y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu.
Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Diolch i chi am dynnu sylw at bobl sy'n dioddef o glefyd Huntington, y cyflwr niwrolegol hwnnw. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n edrych ar hyn o ran y cwestiwn yna, ond fe fyddwn i'n dweud y byddai hi'n dda o beth pe gallech chi godi'r cwestiwn hwnnw gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a fydd yn ateb ei gwestiynau llafar yn y Senedd am y tro olaf, rwy'n credu, yn ystod y pythefnos nesaf.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda? Un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o ran yr Urdd a chyllid ar gyfer yr Urdd, yn enwedig ynghylch eu rhaglen ysgolion bro, lle maen nhw'n defnyddio ysgolion cymunedol er mwyn ehangu eu darpariaeth o ran y Gymraeg, mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, os yw'r ysgol yn cael ei defnyddio yn ystod y dydd, yna mae angen cyllid er mwyn i'r ysgol allu bod yn weithredol gyda'r nos a chynnig dosbarthiadau Cymraeg i'r gymuned yn fwy eang.
Mae'r ail ddatganiad oddi wrthych chi ynghylch y cyhoeddiad gan Shabana Mahmood yr wythnos diwethaf, sef y bydd unrhyw un sy'n cael statws ffoadur yn y Deyrnas Unedig yn cael cynnig amddiffyniad am gyfnod byrhoedlog yn unig. Mae hyn unwaith eto wedi peri pryderon sylweddol ar draws y gymuned ffoaduriaid, yn enwedig yma yng Nghymru, o ran y ffoaduriaid hynny sy'n teimlo, unwaith eto, yn arbennig o ansefydlog o ran canolbwyntio ar eu cymunedau. Mae integreiddio yn dechrau o'r diwrnod cyntaf, ac mewn gwirionedd fe gafodd y cyhoeddiad hwn ei wneud heb unrhyw waith craffu arno gan Senedd y DU. Tybed a fyddech chi'n gwneud datganiad i'r Senedd ynglŷn â nifer y bobl yng Nghymru yr effeithir arnyn nhw gan y cyhoeddiad hwn a'r hyn y byddwch yn ei wneud i'w herio. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, am eich cwestiynau pwysig iawn.
Dim ond o ran eich cwestiwn cyntaf chi ynglŷn â'r Urdd—ac, wrth gwrs, mae swyddogaeth unigryw a phwysig gan yr Urdd wrth ein cefnogi ni i gyflawni 'Cymraeg 2050'—rydym ni wedi cynyddu cyllid refeniw'r Urdd yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn ogystal â hynny, mae buddsoddiad cyfalaf i ddatblygu cyfleusterau'r Urdd ar draws eu canolfannau preswyl wedi ehangu profiadau a mwynhad yr ymwelwyr yn fawr. Rwyf i o'r farn mai dyna lle daw'r ymrwymiad traws-lywodraethol i hyn yn amlwg iawn: er enghraifft, o ran cyllid ychwanegol, yn 2025-26, mae dyraniad o £2.713 miliwn ar gyfer yr Urdd, cynnydd o £303,000 o'i gymharu â'r flwyddyn cynt, yn cynnwys £200,000 hefyd ar gyfer mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd; ac, yn ddiweddar, yr is-adran chwaraeon yn ceisio cefnogaeth i Langrannog, er enghraifft, ac fe gafodd penderfyniad ei gyfleu i'r Urdd.
O ran eich ail gwestiwn, er bod polisi mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl, mae penderfyniadau Llywodraeth y DU ag effaith uniongyrchol a diriaethol ar wasanaethau datganoledig yng Nghymru. Mae ymgysylltiad priodol â Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer deall a lliniaru effeithiau penodol ar Gymru. Fe all lleihau cyfnodau amddiffyn ffoaduriaid a dyngarol gyflwyno ansefydlogrwydd sylweddol a thanseilio integreiddio hirdymor, diogelwch tai a chyfranogiad y gweithlu yng nghymunedau Cymru. Mae newidiadau i apeliadau, cyflwyniadau pellach a phrosesau i aduno teuluoedd yn peryglu ychwanegu cymhlethdod ac ansicrwydd i bobl sy'n ceisio noddfa, a rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus Cymru yn y trydydd sector. Dyma pryd y byddwn i'n dymuno dweud bod Cymru, i ymateb i'ch cwestiwn chi, yn dal i fod yn ymrwymedig i urddas, tegwch a dyngarwch i bobl sy'n ceisio noddfa, ac mae mesurau sy'n cynyddu ansicrwydd neu'n cyfyngu ar hawliau yn anghyson â gweledigaeth cenedl noddfa Cymru. Wrth gwrs, mae'r rhain yn bwyntiau y gallaf i eu trafod a'u rhannu gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, ond mae hi'n bwysig gwneud, unwaith eto, y pwyntiau hynny o ran effaith y penderfyniadau hynny ar bobl, ein gwasanaethau datganoledig ni yma yng Nghymru.
Fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar gynlluniau Ambiwlans Awyr Cymru i adeiladu canolfan awyr newydd yn ymyl Rhuallt yn fy etholaeth i. Er eu bod nhw'n cydnabod y gwasanaeth amhrisiadwy y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei ddarparu, mae'r trigolion lleol yn teimlo nad yw'r lleoliad a ddewiswyd yn addas, o ystyried pa mor agos ydyw at gartrefi pobl a Chanolfan Ysbrydolrwydd Jeswit Beuno Sant, sy'n cynnig encilion tawel. Mae llawer o drigolion wedi tynnu sylw at hen ganolfan awyr Heddlu Gogledd Cymru yn Rhuddlan fel safle delfrydol, o ystyried bod gan yr hen ganolfan awyr gynsail ar gyfer glanio hofrennydd, nad ydyn nhw'n gyfarwydd â hynny yn y bryniau tawel o amgylch Rhuallt. Ond y brif gŵyn yw bod trigolion yn teimlo bod yr ymgynghoriad wedi bod yn annigonol, ac na ddylai datblygiadau mawr fyth ddiystyru cymunedau lleol, ond y dylid ceisio ymgysylltu â nhw a'u cynnwys nhw wrth fwrw ymlaen. Felly, a gaf i glywed gan Lywodraeth Cymru a ddylai, o safbwynt cynllunio, Ambiwlans Awyr Cymru gynnal ymgynghoriad trylwyr â'r trigolion lleol, ac a ddylid archwilio dewisiadau ar gyfer safleoedd amgen, megis y ganolfan awyr segur gan yr heddlu, yn hytrach na rhwygo daear cefn gwlad yma?
Wel, diolch i chi am ofyn y cwestiwn yna. Mater yw hwn sydd i'w ystyried yn lleol, o ran deddfau cynllunio a chyfrifoldebau lleol.
A gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddyfodol lladd-dai bychain yng Nghymru? Yr wythnos diwethaf, fe ymwelais i â lladd-dy bychan yn fy rhanbarth i, ac roeddwn yn bryderus iawn am yr hyn a glywais i. Roedd 43 lladd-dy yn arfer bod yng Nghymru; dim ond pymtheg sydd gennym ni nawr. Fel gwyddoch chi, mae lladd-dai bychain yn cyflawni swyddogaethau gwahanol iawn i'r rhai mwy, ac maen nhw'n caniatáu prosesu da byw mewn casgliadau llai. Mae'r rhain yn fusnesau hanfodol sy'n rhoi sail i gadwyni cyflenwi gwledig, ac maen nhw'n cael eu taro ar bob tu gan drethiant, gan gostau ynni uchel, a chan anallu'r Llywodraeth hon i sylweddoli pa mor bwysig ydyn nhw ac wrth gwrs, yr effaith ddinistriol a gaiff y lleihad yn niferoedd da byw ar y sector prosesu. Heb ladd-dai sy'n gallu gwneud y gwaith hanfodol hwn, fe effeithir ar les anifeiliaid gan roi straen ar anifeiliaid, wrth gwrs, ac yn eu rhoi mewn perygl, yn ogystal â'r costau ychwanegol enfawr sy'n gysylltiedig â gorfod teithio pellteroedd maith i ladd-dai.
Fe ddywedwyd wrthyf i hefyd fod porc a gynhyrchir yn lleol yn mynd yn fwy anodd ei gael, gyda thua 90 y cant o'r porc yma yng Nghymru bellach yn dod o wledydd fel Gwlad Pwyl—pryder enfawr ynddo'i hun. Ond mae pwysau yn dod o bob cyfeiriad ar ladd-dai. I ddechrau, mae Reform wedi ymrwymo i dorri costau rheoleiddio ar ladd-dai bychain a symudol. Ond a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth hon ar ba gamau brys y byddan nhw'n eu cymryd i gadw a chefnogi'r busnesau hanfodol hyn yng nghefn gwlad? Diolch.
Diolch, Laura Anne Jones. Yn amlwg, fe gaiff lladd-dai eu rheoli a'u gwirio yn gaeth iawn, ac maen nhw'n cael eu cefnogi a'u monitro yn glòs o ran lles a'u cefnogi hefyd wrth sicrhau bod y gweithlu yn alluog ac wedi ei hyfforddi'n dda iawn. Ac rwy'n credu bod rhaid i ni edrych ar fanteision mewnfudo, mewn gwirionedd, o ran y gweithlu. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae mewnfudo yn hanfodol i ddyfodol Cymru. Mae angen y bobl a'r sgiliau cywir ar Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ni, ond ein gwasanaethau preifat hefyd—yn arbennig felly, rwy'n ymwybodol o swyddogaeth ein lladd-dai ni yma.
A gaf i fynd â chi yn ôl at y cwestiwn a ofynnodd Darren Millar, os gwelwch chi'n dda, oherwydd fe hoffwn i gefnogi'r cwestiwn hwnnw o ran y triniaethau a'r gofal gwael yr ydym ni i gyd yn ei weld fel Aelodau'r Senedd nawr, ac yn wir ein hetholwyr ni, yn Ysbyty Glan Clwyd? Fe welais i dri achos trist iawn, ar ddydd Gwener arferol i mi. Roedd un wraig yn disgrifio'r amodau a welodd hi ei hun ymhlith cleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a'u bod nhw'n gorwedd mewn coridorau, mewn cyflyrau annhosturiol, fel yn y trydydd byd, afiach, ofnadwy—cleifion yn gorwedd ar lawr wrth aros. Torcalonnus. Nid wyf i'n credu mai peth drwg fyddai i'r Prif Weinidog gwrdd â Darren Millar a minnau yn Ysbyty Glan Clwyd, os bydd hi yn Llandudno'r wythnos nesaf i groesawu agor adran orthopedig sef safle y buom ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn ymladd dros ei agor ers wyth mlynedd. Felly, pan ddaw hi i ganmol hynny, fe hoffwn iddi ddod ei hun a gweld pobl yn gorwedd ar y llawr yn aros am driniaeth yn y ward hon.
Fe glywais i hefyd am wraig a oedd yn torri ei chalon yr wythnos diwethaf. Am ddau ddiwrnod, bu ei gŵr yn gorwedd, heb gadair, mewn ward am ddau ddiwrnod. Pan gafodd y nodyn rhyddhau, roedd hwnnw'n dangos iddo fynd i mewn drannoeth—mynd i mewn drannoeth a—. Ddiwrnod ynghynt. Felly, nid yw'r llythyrau rhyddhau yn adlewyrchu'r oriau y mae pobl yn eu treulio yno. [Torri ar draws.] Rwy'n credu i mi wneud fy mhwynt. Felly, mae hwnnw'n gwestiwn i'r Prif Weinidog i ddod gyda ni ac a wnewch chi ddatganiad hefyd ynglŷn â'r ansawdd gwael hwn o ofal yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mater i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yw hwn. Ac, wrth gwrs, gadewch i ni edrych ar y cyflawniadau allweddol: fe ostyngodd amseroedd aros maith 63.6 y cant; llai o gleifion— [Torri ar draws.] A wnewch chi—? Fe fyddwch chi'n awyddus i wrando ar gyflawniadau allweddol Betsi Cadwaladr, sydd wrth gwrs yn gwasanaethu eich etholaeth chi: 63.6 y cant yn llai o gleifion yn aros am fwy na 104 wythnos, flwyddyn ar ôl blwyddyn ac, o ran gofal brys, gostyngiad o 5.1 y cant yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy'n cymryd dros awr; gostyngiad o 11.5 y cant o ran oediadau pedair awr wrth drosglwyddo o ambiwlans hefyd. Ac wrth gwrs, mae gwelliannau sylweddol wedi digwydd ar draws arbenigeddau allweddol—dermatoleg, offthalmoleg, llawdriniaeth gyffredinol. Felly, fe fyddwch chi wrth gwrs yn codi, fel sydd raid i chi, materion yn ymwneud â'ch etholwyr chi. Fe fyddwch chi'n eu codi nhw eich hunan. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymgysylltu â Llais hefyd, sy'n rhoi llais newydd i gleifion, llwybr allweddol sy'n caniatáu codi materion, ond codi materion hefyd a allai adlewyrchu rhai anghenion a phryderon mwy eang a allai fod yn dod i'r amlwg gyda Bwrdd Betsi Cadwaladr. Ac rwy'n cydnabod bod y galw ychwanegol fel hyn yn rhoi pwysau enfawr ar y staff sy'n gweithio mor galed yn ein hysbytai a'n cymunedau. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n cydnabod y staff hynny sy'n gweithio'n galed ac sy'n cael eu cefnogi gan y cyllid ychwanegol yr ydym ni'n ei roi i'r gwasanaeth iechyd nawr.
Fis diwethaf, Trefnydd, cyhoeddodd Dr Robert Jones o Brifysgol Caerdydd ei adroddiad sy'n mesur cynnydd neu beidio i mewn i argymhellion y comisiwn cyfiawnder. Dim ond tri sydd wedi cael eu cyflawni, gyda pheth gwelliant mewn 21, ond 54 heb eu cyflawni o gwbl. Mae hynny'n golygu dim datrysiad i'r ffordd yr ariennir prentisiaethau heddlu, dim canolfan merched yn Abertawe, dim gwasanaeth dwyieithog gan coroners, dim llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru a dim strategaeth ar gyfer adfywio'r sector cyfreithiol yng Nghymru. Fel mae Dr Jones yn argymell, mae angen i Lywodraeth Cymru newid eu strategaeth ar y ffordd maen nhw'n delio â chyfiawnder. Dwi wedi dweud o hyd ac o hyd, Trefnydd, mai un o'r dadleuon cryfaf dros ddatganoli cyfiawnder yw bod Llywodraeth Cymru yn dangos eu bod nhw o ddifrif ynglŷn â'r hyn sydd wedi cael ei ddatganoli yn barod yn y maes yma. Mae yna bethau y gallai'r Llywodraeth yma fod wedi eu gwneud, a dŷn nhw ddim wedi eu gwneud. A gawn ni ddatganiad, plîs, oddi wrth y Llywodraeth ynglŷn â'r diffyg cyflawni mae'r Llywodraeth yma wedi ei wneud ynglŷn â'r argymhellion? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Wrth gwrs, dyma'r ymyl garw onid e? Rwy'n cydnabod i raddau helaeth iawn y gwaith a wnaeth Dr Rob Jones o ran y ffeiliau ffeithiau a gynhyrchodd ef ac, yn wir, y llyfr a gyhoeddwyd, sef The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, lle gwelsom ni'r anawsterau o ran yr hyn a gafodd ei ddatganoli, yr hyn a gedwir yn ôl, a sut y byddem ni'n dymuno, fel gwyddoch chi, ceisio datganoli cyfiawnder i Gymru. Fe wnaethoch chi godi rhai pwyntiau pwysig iawn.
Rwy'n credu y byddech chi'n cytuno â mi i ni wedi gwneud cynnydd gyda'n gilydd o ran gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddadansoddi'r data yn well. Ac, yn sicr, yn y cyfarfodydd diweddar a gefais i gyda Dr Rob Jones, gan gynnwys cyfarfod bwrdd crwn am gyfiawnder menywod—. Oherwydd rwy'n credu mai dyna'r maes allweddol yr oeddwn i'n dymuno gweld rhagor o gynnydd ynddo. Fe wnes i gyfarfod ag Arglwydd James Timpson bythefnos yn ôl i bwyso am gynnydd o ran y ganolfan breswyl i fenywod. Yfory, rwy'n gobeithio cwrdd â'r unigolyn sy'n rhedeg canolfan breswyl Hope i fenywod—mae hi'n dod i ymweld â Chymru ac i gwrdd â'r elusen Cymru Ddiogelach—i ganfod mwy am gynnydd ac effaith y ganolfan breswyl honno i fenywod. Rwy'n falch fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi pwyso am hynny hefyd, nid yn unig gyda mi, ond gyda'r Arglwydd Thompson hefyd. Mae hwn, wrth gwrs, yn faes lle byddwn ni'n dal ati i bwyso, ac rwy'n croesawu'r cwestiynau. Efallai y byddech chi'n hoffi gofyn y cwestiynau hynny i mi'r wythnos nesaf, pan fyddaf i'n ateb fy nghwestiynau llafar yn y Senedd.
Mae'r rhyfel yn Iran wedi cynyddu prisiau tanwydd yn fyd-eang eisoes, ac fe gaiff y canlyniadau eu teimlo yn uniongyrchol gan aelwydydd ledled Cymru, yn enwedig yng nghymunedau cefn gwlad sydd oddi ar y grid nwy ac sy'n dibynnu ar olew a nwy petrolewm hylifedig i wresogi. I lawer o'r teuluoedd hyn, mae costau ynni yn brif achos tlodi tanwydd eisoes, ac mae cynnydd yn y prisiau yn ddiweddar yn gwaethygu'r sefyllfa. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad gennych chi'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu cartrefi cefn gwlad gyda'u biliau ynni.
Ar yr un pryd, Trefnydd, mae'r Canghellor yn ystyried cynyddu'r dreth tanwydd. Dyna fyddai'r penderfyniad gwaethaf posibl ar yr amser gwaethaf posibl. Mae prisiau diesel wedi codi oddeutu 22c y litr eisoes mewn dim ond tair wythnos, ond am fod treth ar werth yn cael ei godi fel canran, mae'r Trysorlys eisoes yn ennill mwy o refeniw treth bob tro y bydd y pris wrth y pwmp yn codi. Felly, fe fyddai codiad yn nhreth tanwydd yn ddidostur. O ystyried eich cyfrifoldeb chi o ran tlodi tanwydd fel yr Ysgrifennydd Cabinet, Trefnydd, a wnewch chi ysgrifennu at y Canghellor a'i gwneud hi'n gwbl eglur nad nawr yw'r amser i bentyrru costau pellach ar aelwydydd, busnesau a chymunedau cefn gwlad?
Diolch i chi am y cwestiynau a'r myfyrdodau pwysig yna, y gwn i ein bod ni'n mynd i'r afael â nhw. Fe gafodd hyn ei godi yn gynharach heddiw ac, mewn gwirionedd, fe ddywedodd y Canghellor yn eglur iawn yn ei datganiad hi ddoe y bydd effaith economaidd y sefyllfa yn y dwyrain canol yn cael ei theimlo. Fe fydd hynny'n dibynnu ar ei difrifoldeb a'i hyd.
Yn arbennig wrth ystyried sefyllfa aelwydydd yng Nghymru sy'n defnyddio olew ar gyfer gwresogi, mae hi'n bwysig, unwaith eto, i ni gydnabod bod 14 y cant o aelwydydd Cymru yn defnyddio olew neu danwydd solet i wresogi eu cartrefi yn 2025. Dyna amcangyfrif fod 7 y cant o aelwydydd Cymru yn defnyddio olew. Felly, fe siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, fel clywsoch chi'n gynharach, siŵr o fod, â Gweinidogion Llywodraeth y DU i godi'r pryderon hyn heddiw—i godi'r pryderon hyn, ac fe fyddaf i'n sicr iawn o fyfyrio ar y pwyntiau a wnaethoch chi. Mewn gwirionedd, fe ysgrifennodd Ed Miliband, fe wyddom ni, neithiwr at y diwydiant i'w rhybuddio nhw rhag codi crocbrisiau, a sicrhau hefyd ein bod ni'n gallu cael gafael yn rhwydd ar wybodaeth ar gyfer deall yr hyn sydd ar gael o ran stoc y cyrtiau blaen, ac ati.
Nawr, yr hyn y gallaf i ei ddweud gan fy mod yn gyfrifol am fynd i'r afael â thlodi tanwydd yw bod cyllid ar gael gennym ni i bobl sydd oddi ar y grid, sydd â chyflenwadau tanwydd oddi ar y grid, trwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n rhannu hynny gyda'ch etholwyr chi a hefyd gyda'n partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd, sydd â chronfa wresogi ar gael i bobl oddi ar y grid. Ac mae hi'n bwysig iawn hefyd, wrth gwrs, atgoffa Aelodau bod y Sefydliad Banc Tanwydd yn ariannu pobl sydd â mesuryddion rhagdalu hefyd, ond y rhai sy'n dibynnu ar olew sydd gennym ni dan sylw heddiw, ac yn sicr iawn fe fyddaf i'n diweddaru'r Senedd am y darpariaethau hynny o ran cefnogi pobl sy'n dibynnu ar olew oddi ar y grid.
Ac yn olaf, James Evans.
Hoffwn eich cyfeirio at fy nghofrestr o fuddiant Aelodau. Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon, un datganiad ar werth clybiau chwaraeon cymunedol ledled Cymru. Rwy'n aelod ac yn is-gadeirydd Clwb Rygbi Gwernyfed, a gafodd ei ddyrchafu eleni i gynghrair uwch eto; dyna ddwy flynedd yn olynol. Nid oes unrhyw un o'r chwaraewyr yno yn cael ei dalu, a does neb yn y clwb yn cael ei dalu o gwbl, ond mae'r gwerth y mae'r clwb hwnnw'n ei gynnig i'r gymuned yn enfawr o ran cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, cael menywod i mewn i chwaraeon, a chreu cydlyniant cymunedol ehangach. Felly, hoffwn ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch sut y gallwn dyfu ein clybiau chwaraeon cymunedol ledled Cymru.
Hoffwn hefyd gael datganiad gan y Gweinidog am fanteision digwyddiadau chwaraeon mawr sy'n dod yma i Gymru. Yn nhymor y Senedd hon, rydym wedi cael digwyddiadau mawr o ran golff. Cawsom bencampwriaeth agored menywod yr AIG yma, y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf erioed i ddod i Gymru. Cawsom bencampwriaeth agored golffwyr hŷn yma hefyd; rydym ni wedi cael rygbi, pêl-droed, beicio, i gyd yn dod i Gymru. Ond rwy'n credu bod hynny'n ychwanegu budd enfawr o ran cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru, yn enwedig chwaraeon menywod ledled Cymru. Felly, pe gallwn gael datganiad gan y Gweinidog ar y materion hyn, byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr yn nyddiau olaf y Senedd hon. Diolch.
Diolch, James Evans. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn anghytuno â'r ddau bwynt yna o ran gwerth chwaraeon cymunedol, a hefyd cydnabod y ffaith y daw cymaint o'r adnoddau dynol wrth gefnogi chwaraeon cymunedol trwy wirfoddoli, ac yn aml rhieni yn ogystal â neiniau a theidiau a phobl yn y gymuned sy'n gwerthfawrogi'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw a'u cymunedau. Ond mae gennym gryfder mawr hefyd yn ein digwyddiadau chwaraeon mawr.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a'r gororau. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, mae hi'n adeg ddiffiniol o ran dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru. Mae hi'n foment o newid trawsnewidiol gwirioneddol i ni a deimlir am genedlaethau i ddod.
Wedi'i datblygu gan Trafnidiaeth Cymru, mae'r weledigaeth 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' yn becyn gwerth £14 biliwn o gynlluniau beiddgar ac effeithiol a arweinir gan y diwydiant rheilffyrdd a fydd yn gweld gwelliannau ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r gororau. Mae'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol hon yn cael ei chefnogi ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sy'n amlygu'n glir ein partneriaeth i drawsnewid rheilffyrdd a sicrhau twf a ffyniant yn y dyfodol i bobl Cymru.
Mae cam 1 eisoes ar y gweill. Rydym yn darparu saith gorsaf newydd, chwech o'r gorsafoedd newydd a argymhellwyd yn adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru fel rhan o ddewis amgen gwirioneddol a chredadwy yn lle traffordd newydd. Byddant yn trawsnewid teithio i deithwyr ar draws y rhanbarth, gan greu dewis arall hyfyw yn lle'r car ac yn helpu i leddfu'r pwysau ar yr M4. Yn y gogledd, bydd gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu yng Nglannau Dyfrdwy i wasanaethu un o safleoedd cyflogaeth mwyaf Ewrop. Gyda'i gilydd, bydd y gorsafoedd newydd hyn yn rhoi hwb i gysylltedd, yn creu cyfleoedd ac yn sbarduno ffyniant ar flaen y gad yn adfywiad ein rheilffyrdd.
A dim ond y dechrau yw hyn. Roedd y £440 miliwn a gyhoeddwyd yn yr adolygiad gwariant yn flaendal ar gyfer y 43 prosiect a gymeradwywyd yn y weledigaeth £14 biliwn. Mae'r adolygiad gwariant cynhwysfawr yn ein galluogi i wneud cynnydd cyflym a diriaethol yn erbyn ein blaenoriaethau uniongyrchol. Mae gennym bellach lif prosiectau strategol wedi'i ariannu'n llawn i fwydo belt cludo o welliannau treigl a buddsoddiad. Mae hyn yn dangos ein bod o ddifrif, ein bod yn barod ac yn benderfynol o gyflawni cyfleoedd buddsoddi i Gymru gyfan.
Mae yna rai sy'n ceisio tanseilio'r cynnydd hwn. Maen nhw'n honni nad yw'n real, nad yw'r arian yno. Maen nhw'n ei gymharu â'r addewid di-sail i drydaneiddio prif linell reilffordd y gogledd, a wnaed gan gyn-Lywodraeth y DU. Ni allai hyn fod ymhellach o'r gwir. Mae 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' yn becyn o gynlluniau dan arweiniad y diwydiant rheilffyrdd sy'n ganlyniad blynyddoedd o gynllunio a chydweithredu gofalus. Fe'i datblygwyd gan Trafnidiaeth Cymru, gan weithio gyda Network Rail yng Nghymru, ar gyfer pobl Cymru.
Nid cynlluniau ffantasi yw'r rhain a grëwyd i dynnu sylw oddi wrth fuddsoddiadau wedi'u canslo mewn mannau eraill; maent yn gynigion a ddatblygwyd yn ofalus, wedi'u cymeradwyo a'u costio gan Drysorlys y DU ac a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog y DU. Maent yn cael eu cefnogi'n gadarn gan y ddwy Lywodraeth, canlyniad uniongyrchol i ymdrechion ar y cyd ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a'r DU. Mae ein partneriaeth arloesol yn cael ei hysgogi gan benderfyniad diwyro i gyflawni ar gyfer teithwyr yng Nghymru.
Mae'r ymrwymiad cenedlaethol hwn o £14 biliwn yn gyflawniad hanesyddol. Mae'n rhaglen hirdymor sydd wedi'i chynllunio ar gyfer buddsoddiad parhaus a chyson dros 10 i 15 mlynedd, nad yw'n agored i fympwyon gwleidyddol a gwahanrwydd. Mae'n rhaglen sy'n cyflawni'r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU o'r tanariannu hanesyddol mewn rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae'n ysgrifennu pennod newydd o gyllid teg ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym wedi gwneud y gwaith caled i osod y sylfeini ar gyfer newid, gan ennill y ddadl dros wneud iawn am danfuddsoddiad y gorffennol a sicrhau ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyflawni'r newid hwnnw. Nawr, mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen gydag uchelgais, egni ac argyhoeddiad di-ildio.
Bydd bwrdd rheilffyrdd Llywodraeth y DU a Chymru a diwydiant rheilffyrdd Cymru nawr yn blaenoriaethu'r cynlluniau o fewn y ddogfen weledigaeth ac yn cytuno ar y cyd pa rai o'r cynlluniau hynny sy'n cael eu cyflwyno yn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU yn 2027, i adeiladu ar y £440 miliwn o gyllid sydd eisoes wedi'i ddyrannu. Byddwn yn cyflawni, oherwydd rydym ni'n gwybod sut mae'n cael ei wneud. Mae gennym hanes yr ydym yn falch ohono. Nid oes rhaid edrych ymhellach nag uwchraddio llinellau craidd y Cymoedd gwerth £1 biliwn am dystiolaeth o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda gweledigaeth glir a phenderfyniad cadarn i gyflawni ar gyfer teithwyr.
Mae'r hen seilwaith Fictoraidd annibynadwy a gynlluniwyd i symud glo wedi hen fynd. Yn ei le mae system drafnidiaeth gyhoeddus o'r radd flaenaf sydd wedi'i chynllunio i bweru symudedd cymdeithasol ac economaidd. Nid yw Cymru bellach ar ei hôl hi, ond yn arwain yn feiddgar o'r blaen. Rydym yn torri rhwystrau ac yn codi'r safonau, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud ein cymdeithas yn decach.
Mae llinellau craidd y Cymoedd bellach yn un o'r rhwydweithiau rheilffyrdd sy'n perfformio orau ym Mhrydain Fawr. Mae ein trydaneiddio clyfar arloesol yn newid y ffordd y mae'r diwydiant yn meddwl am drydaneiddio rheilffyrdd. Bydd hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer trydaneiddio fforddiadwy prif linellau rheilffordd y gogledd a'r de yn y dyfodol, a'r llwybr y gororau allweddol, sy'n eu cysylltu. Bydd coridorau trydanol prifwythiennol yn ffurfio asgwrn cefn ein rhwydwaith rheilffyrdd, gan ddatgloi teithio gwyrddach a llyfnach ar draws llwybrau hanfodol yng Nghymru a galluogi teithio trawsffiniol di-dor.
Bydd moderneiddio cerbydau yn chwarae rhan allweddol yn y trawsnewidiad hwn, ac rydym eisoes wedi gwneud cynnydd mawr, diolch i'n buddsoddiad o £800 miliwn i uwchraddio ac ehangu fflyd Trafnidiaeth Cymru. Byddwn yn gweld Trafnidiaeth Cymru yn newid o fod ag un o'r fflydoedd hynaf yn Ewrop i un o'r mwyaf diweddar. Rhagorir ar y 270 o gerbydau a etifeddwyd yn 2018 gan 484 o gerbydau newydd, ac mae mwy i ddod yfory. Mae'r rhan fwyaf o'r trenau newydd hyn eisoes yn weithredol, gan ddarparu gwell gwasanaeth i deithwyr o'r Fflint i Abergwaun.
Yn y gogledd, rydym yn elwa ar fuddsoddiadau'r DU a Llywodraeth Cymru i ddarparu, mewn partneriaeth, rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus amledd uchel integredig. Yn ei blwyddyn gyntaf, mae rhaglen rhwydwaith y gogledd eisoes wedi dyblu amlder y gwasanaeth rhwng Wrecsam a Chaer ac wedi uwchraddio gorsafoedd ar y llinell reilffordd rhwng Wrecsam a Lerpwl. O fis Mai, byddwn yn gweld cynnydd o 50 y cant mewn gwasanaethau trên ar brif linell reilffordd y gogledd.
Bydd y gwaith o gyflwyno tocynnau talu wrth fynd yn y gogledd-ddwyrain yn dechrau y gwanwyn hwn. Nawr, mae talu wrth fynd wedi bod yn llwyddiant ysgubol i Trafnidiaeth Cymru ar ôl cael ei lansio ar fetro de Cymru. Mae wedi cefnogi dros 3 miliwn o deithiau, gan ddod yn gynnyrch tocynnau Trafnidiaeth Cymru sy'n tyfu gyflymaf. Ac nid oes unrhyw fformiwla gyfrinachol i hyn. Rydym wedi ei gwneud hi'n haws, yn gyflymach ac yn rhatach i deithwyr dalu am deithio. Rydym wedi dangos beth y gellir ei wneud gyda'r buddsoddiad cywir, perfformiad hanesyddol, gwell boddhad i deithwyr a galw cynyddol. Ond nid dyna ddiwedd y stori.
Mae teithwyr ledled Cymru bellach yn croesawu'r newyddion ein bod yn rhewi prisiau holl docynnau trên ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru tan y flwyddyn nesaf. Dyma ein cam diweddaraf i wneud teithio ar y trên yn fwy deniadol a rhatach. Bydd y buddsoddiad hwn o £14 biliwn yn ein seilwaith rheilffyrdd yn trawsnewid ein rhwydwaith nad yw wedi'i ddatganoli i alinio â'r hyn yr ydym yn ei gyflawni ar linellau craidd y Cymoedd sydd wedi'u datganoli. Bydd yn ategu ac yn gwella effaith ein buddsoddiad mewn gwasanaethau ac arloesedd cerbydau, fel tocynnau talu wrth fynd a thrydaneiddio bylchog, i gyflawni gwelliannau rhwydwaith cyfan.
A dim ond pan edrychwch yn ôl y gallwch wir werthfawrogi graddfa a chyflymder y cynnydd. Llai na degawd yn ôl, roedd rheilffyrdd Cymru yn flinedig ac yn llwm, gyda threnau gwael yn darparu gwasanaethau prin. Bydd sgrech yr hen gerbydau Pacer yn dal i atseinio'n uchel yng nghof teithwyr, hyd yn oed wrth i'r trawsnewidiad ddigwydd o'u blaenau. Mae'r gwahaniaeth fel nos a dydd. Mae'r hyn yr ydym eisoes wedi'i gyflawni yn wirioneddol ryfeddol. Mae'r hyn sydd o'n blaenau yn ddigynsail. Nawr, mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y momentwm a'r bartneriaeth hon i fanteisio ar y cyfle o'r ymrwymiad cenedlaethol gwerth £14 biliwn hwn i gyflawni'r dyfodol y mae Cymru yn ei haeddu.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad yma y prynhawn yma. Mae'n bwysig, wrth gwrs, bod gennym weledigaeth ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru sy'n cydnabod rôl rhwydwaith modern, dibynadwy wrth gysylltu cymunedau, cefnogi economïau lleol a rhoi hwb i swyddi a buddsoddiad. Rydym ar y meinciau hyn yn croesawu unrhyw gynllun hirdymor sydd â'r nod o wella capasiti, dibynadwyedd a chysylltedd.
Wedi dweud hynny, er bod y ddogfen 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' yn nodi bwriadau uchelgeisiol, mae llawer o'r pecyn £14 biliwn yn adlewyrchu ymrwymiadau a dyheadau a nodwyd o'r blaen, gan adeiladu ar fuddsoddiadau presennol megis llinellau craidd y Cymoedd, rhwydwaith gogledd Cymru a cherbydau newydd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n siŵr na fyddai Ysgrifennydd y Cabinet eisiau gorbwysleisio newydd-deb y pecyn hwn sy'n cael ei drafod yma y prynhawn yma. Yr hyn sy'n bwysig i deithwyr a threthdalwyr yw cyflawni, atebolrwydd a gwerth am arian, gan sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn troi'n welliannau gwirioneddol ar lawr gwlad ac nid geiriau yn unig.
O safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, credwn y dylai rhwydwaith rheilffyrdd cryf eistedd ochr yn ochr â mwy o ddewis a chystadleuaeth, lle mae o fudd i deithwyr a chysylltedd rhanbarthol. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol fy mod yn cefnogi'n gryf yr egwyddor o fynediad agored. Yn y cyd-destun hwnnw, mae gan lwybrau fel Rheilffordd Wrecsam, Swydd Amwythig a Chanolbarth Lloegr a Rheilffordd Lerpwl a De Cymru botensial clir i ddod â chysylltedd ychwanegol i rannau o Gymru sydd wedi bod yn cael eu tanwasanaethu ers amser maith. Gall y rhain ddatgloi cyfleoedd teithio newydd, ategu gwasanaethau craidd, a chynnig mwy o opsiynau i deithwyr. Dyna pam roeddwn yn falch o allu ysgrifennu at y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd i fynegi fy nghefnogaeth i'r llwybrau hyn ac i amlinellu'r manteision y gallent eu cyflawni, a chroesawais hefyd y cyfle i gwrdd â'r Ysgrifennydd Cabinet yn ddiweddar i drafod y cynigion hyn yn fanwl, ac i glywed am ei ymgysylltiad cadarnhaol ar wella cysylltedd ledled Cymru.
Mae ein maniffesto yn ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau gwelliannau ystyrlon i rwydweithiau trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys trydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru, buddsoddiad mewn gorsafoedd newydd, a gwell cysylltiadau â chanolfannau economaidd, megis ym Manceinion a Lerpwl, lle maent yn hanfodol ar gyfer twf economaidd. Credwn fod yn rhaid i wella rheilffyrdd fynd law yn llaw â rhoi hwb i berfformiad economaidd cyffredinol. Ac o safbwynt economaidd, gwyddom y gall rhwydwaith rheilffyrdd effeithlon gefnogi busnesau lleol, cefnogi'r busnesau twristiaeth hynny a chymudo, lleihau tagfeydd ar ffyrdd a helpu cymunedau i ffynnu. Ond dim ond os bydd cynlluniau yn cael eu gweithredu'n effeithiol, yn deg a gydag anghenion teithwyr wrth eu calon, yn hytrach na dod yn ymarfer biwrocrataidd.
Byddai gen i ddiddordeb clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch sut y byddai eisiau sicrhau na fyddai biwrocratiaeth yn rhwystr rhag cyflawni'r cynllun 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd'. Ac o ystyried manteision posibl llwybrau mynediad agored, fel Rheilffordd Wrecsam, Swydd Amwythig a Chanolbarth Lloegr a Rheilffordd Lerpwl a De Cymru, byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y llwybrau hyn yn cael eu cefnogi o fewn y fframwaith 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', a sut y bydd yn sicrhau bod buddsoddiad mewn rheilffyrdd yn darparu manteision diriaethol i deithwyr ac, yn bwysig iawn, Dirprwy Lywydd, economi Cymru. Diolch.
A gaf ddiolch i Sam Rowlands am ei gyfraniad heddiw ac am ei gwestiynau? Yn gyntaf oll, rwy'n cytuno â'i bwynt olaf. Nid ydym yn siarad am drafnidiaeth dim ond er mwyn siarad am drafnidiaeth; mae'n ymwneud â ysgogi ffyniant a chreu cyfleoedd i bawb.
A gaf hefyd dalu teyrnged i'r gwaith y mae Sam wedi'i wneud wrth hyrwyddo Rheilffordd Wrecsam, Swydd Amwythig a Chanolbarth Lloegr—y cyswllt rheilffordd arfaethedig rhwng Wrecsam a Swydd Amwythig yn uniongyrchol i Lundain? Byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o gymunedau nad oes ganddynt gysylltiad â Llundain ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, ymunodd Aelodau Seneddol o Wrecsam i Swydd Amwythig a thu hwnt â'r gwasanaeth ar daith brawf. Roeddwn i'n falch o allu ymuno am gyfnod byr o Riwabon i Gobowen, ond roeddwn i'n gwerthfawrogi pa mor werthfawr y gallai'r cynllun hwnnw fod. Rwyf hefyd yn cefnogi'n ffurfiol yr ymyrraeth benodol honno a'r gwasanaeth rheilffordd mynediad agored.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig yr hyn y cyfeiriodd Sam ati fel gweledigaeth sy'n gyflawnadwy ac sydd â'r llywodraethu cywir ar waith a hefyd sy'n addo gwerth am arian o ran y prosiectau y bydd yn eu cyflawni. Mae hon, wrth gwrs, yn weledigaeth dan arweiniad y diwydiant. Mae'n eiddo i Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi bod yn gweithio'n agosach gyda Network Rail nag yr wyf erioed wedi'i brofi, ac rydw i wedi bod yn gwneud y swydd hon bob hyn a hyn ers cryn amser. Maen nhw'n gweithredu fel un tîm. Rwy'n credu bod y gwaith o lunio gweledigaeth mor gymhellol a chynhwysfawr yn dweud llawer ynghylch pa mor bell mae Trafnidiaeth Cymru wedi dod ers i ni ei chreu 10 mlynedd yn ôl—yn llawn arbenigedd, egni a gweledigaeth.
O ran gwerth am arian, hoffwn dynnu sylw at y gwaith sydd wedi'i wneud ar fetro de Cymru fel tystiolaeth o sut mae Trafnidiaeth Cymru wedi arwain y ffordd yn y maes hwn. Mae trydaneiddio bylchog wedi profi i fod yn anhygoel o rad o'i gymharu â ffurfiau traddodiadol o drydaneiddio. Yn y gorffennol, roedd y ffurf draddodiadol o drydaneiddio, h.y. llinellau uwchben, yn hynod gostus o ran ymdrin â phontydd a thwneli. Ar y metro, mae gennym drenau deufodd a threnau tri-modd, yn ogystal ag unedau uwchben traddodiadol hefyd, ac mae hynny wedi lleihau'r gost o gyflawni. Rydym ni'n mynd i edrych ar bob cyfle i gyflawni'r pecyn £14 biliwn hwn am y gost leiaf i'r trethdalwr, ond yn yr un modd er budd mwyaf posibl i'r trethdalwr yng Nghymru ac ardal y gororau.
O ran llywodraethu, mae hwn yn fater hynod bwysig. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae bwrdd rheilffyrdd Cymru wedi'i gryfhau, ac rwy'n falch iawn bod cadeirydd Trafnidiaeth Cymru bellach hefyd yn gadeirydd bwrdd rheilffyrdd Cymru. Mae'n fwrdd hynod bwysig sy'n dod â diwydiant ynghyd â'r ddwy Lywodraeth a gyda gweithredwyr rheilffyrdd. Rwyf wedi mynychu cyfarfodydd bwrdd fy hun, a gallaf dystio i faint o arbenigedd a phenderfyniad sydd ar gyfer gweithio gyda'n gilydd.
Mae rhwystrau biwrocratiaeth yn risg. Mae hynny bob amser yn risg. Rwy'n credu bod angen i ni ddysgu gwersi o gynlluniau fel Parcffordd Caerdydd, a oedd o fewn y system gynllunio am gryn amser. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y gweinyddu yn amserol ac yn effeithlon. Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw gweithio y tu allan i baramedrau'r RNEP gymaint â phosibl ar rai o'r prosiectau hyn—RNEP yw'r biblinell gwelliannau'r rhwydwaith rheilffyrdd—oherwydd gall gyflymu'r broses o ddatblygu a chyflawni, ac rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r pecyn cyfan bron iawn erbyn 2040.
Mae yna reswm am hynny, oherwydd rydym ni eisiau bod yn rhan o'r Gemau Olympaidd yn 2040, ac i wneud hynny mae'n rhaid i chi gael y rhwydwaith trafnidiaeth cywir i gynnal digwyddiad o'r fath. Dyna'r man ar y gorwel yr ydym yn gweithio tuag ato, ond rwy'n cytuno â Sam bod angen i ni sicrhau nad yw biwrocratiaeth a gweinyddiaeth ddiangen yn rhwystro cyflawni.
Mae llawer i'w groesawu yng nghynllun Trafnidiaeth Cymru, 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd', ond yn anffodus mae'n rhaid i mi ailadrodd problem sylfaenol unwaith eto: nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw ymrwymiad i'w ariannu mewn gwirionedd. Nid oes unrhyw gyllid ychwanegol wedi'i gadarnhau mewn unrhyw gyfnod adolygu gwariant i gyflawni'r cynllun hwn—heddiw, yfory neu gyda'i gilydd. Mae hyn yn parhau, mewn gwirionedd, yn gyhoeddiad rheilffordd heb ei ariannu. Roedd holl gyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gyllid yn ailgyhoeddi ymrwymiadau a wnaed eisoes mewn adolygiadau gwariant blaenorol.
Ar y gyfradd ariannu bresennol, byddai'n cymryd mwy na 30 o adolygiadau gwariant i gyflawni'r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y cynllun hwn. Fodd bynnag, wrth edrych yn fanylach ar y datganiad heddiw a'r cynllun ei hun, rydw i hefyd yn pryderu bod pwyslais ar fod yn drawsffiniol yn hytrach na chysylltu ein cymunedau. Gwelwn hynny yn nheitl y datganiad heddiw ac yn y disgrifiad o gynllun Trafnidiaeth Cymru. Ers rhy hir, mae rhwydwaith trafnidiaeth Cymru wedi cefnogi economi echdynnol. Mae'r cysylltiadau rheilffordd mwyaf datblygedig yn symud pobl a ffyniant allan o Gymru tuag at ddinasoedd mawr Lloegr, tra bod cymunedau yng Nghymru yn cael eu gadael wedi'u datgysylltu oddi wrth ei gilydd. Ac mae'r adolygiad diweddaraf o wariant Llywodraeth y DU yn adrodd yr un stori. Cyhoeddodd nad oedd unrhyw gyllid rheilffyrdd i Gymru ymhellach i'r gorllewin na Chaerdydd. Felly, eto, os ydych chi'n byw yn agos at y ffin, rydych chi'n cael y buddsoddiad, ond os ydych chi'n byw ymhellach i'r gorllewin, nid ydych chi'n flaenoriaeth. Felly, sut mae hwn yn gynllun i Gymru gyfan?
Mae cynllun Trafnidiaeth Cymru yn nodi nifer o brosiectau gwerth chweil iawn ledled Cymru, ond heb gyllid ac amserlenni clir i gyflawni'r prosiectau seilwaith hyn, rydym unwaith eto mewn perygl o weld cysylltedd â dinasoedd Lloegr yn cael ei flaenoriaethu. Nid yw cymeradwyo cynigion yr un peth ag ymrwymiadau ariannu. Nid yw gwybod faint mae rhywbeth yn ei gostio yn mynd i dalu amdano. Mae gennym Lywodraeth Cymru sy'n ymddangos ei bod yn methu neu'n anfodlon sefyll i fyny dros Gymru a mynd i'r afael â'r problemau hyn.
Mae'r cyhoedd yn gweld pan nad yw rhifau mawr yn cael eu cefnogi. Rydych chi'n siarad am ffantasi, ond a ydych chi'n gwerthu stori dylwyth teg mewn gwirionedd? Pan oedd plaid wahanol mewn grym yn San Steffan, roedd Gweinidogion Llafur, Aelodau Llafur yma ac Aelodau Seneddol Llafur yn galw am y biliynau sy'n ddyledus i Gymru gan brosiectau fel HS2. Nawr mae gennym Lywodraeth Lafur y DU sy'n goruchwylio Cymru yn cael ei hamddifadu unwaith eto yn sgil prosiectau fel llinell reilffordd Rhydychen i Gaergrawnt a Northern Powerhouse Rail, ac mae'r union leisiau hynny wedi distewi. Pan fydd pleidiau yn methu â thynnu sylw at anghyfiawnder, maen nhw'n ei wreiddio. Pan fyddant yn ei wneud yn dderbyniol, maen nhw'n ei normaleiddio. Ond, fel y clywsom adeg cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, gallai hynny fod yn rhan o gynllun Llafur. Gall pobl Cymru weld hyn am yr hyn ydyw: nid yw'r blaid yn fodlon sefyll i fyny dros Gymru ac mae'n anfodlon mynnu'r buddsoddiad y mae Cymru yn ei haeddu. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio sut a phryd y telir am y llif prosiectau a phryd bydd yn cael ei gyflawni? Diolch.
A gaf i ddiolch i Peredur am ei gyfraniadau heddiw? Yn wahanol i Sam Rowlands, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn anghytuno â'r rhan fwyaf o'i bwyntiau, yn enwedig oherwydd fy mod yn credu bod y pwyntiau sydd wedi'u codi yn datgelu bygythiad Plaid Cymru i gymunedau ledled Cymru. Mae'r gwrthwynebiad i wasanaethau trawsffiniol a buddsoddiad trawsffiniol yn hynod beryglus i gymunedau pell, yn ddwfn yng ngorllewin Cymru.
Mae'r Aelod yn gwrthwynebu hyn, ond, er enghraifft, os cymerwch gymunedau yn bell yng ngogledd-orllewin Cymru, ni fyddant yn elwa ar fwy o drenau oni bai ein bod yn datrys y mater o dagfeydd yng Nghaer. Caer yw'r rhwystr. [Torri ar draws.] Mae Aelodau yn y gogledd yn adnabod gorsaf Caer yn eithaf da ac yn adnabod y gwasanaethau hynny ar draws gogledd Cymru. Os nad ydym yn ymdrin â thagfeydd yng Nghaer, ni fyddwch byth yn cael mwy o drenau yn gweithredu i ogledd-orllewin Cymru. Ac mae'r un peth yn berthnasol i lawer o'n llinellau. Ar lawer o'r rhwydwaith, rydym yn dibynnu ar uwchraddio seilwaith yn Lloegr er budd dinasyddion Cymru. Mae hynny'n ffaith. Cymaint ag yr hoffech i Gymru fod yn ynys ei hun, nid ydym ni'n ynys. Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd, p'un a ydych chi'n ei hoffi ai peidio, wedi'i ryngwynebu a'i integreiddio â rhwydwaith ehangach yn y DU.
O ran y risg y mae'n ei achosi, mae'n rhywbeth byrolwg, mae'n ynysig, mae credu na ddylech fuddsoddi mewn seilwaith trawsffiniol yn awgrymu diffyg gwybodaeth ar eich rhan. [Torri ar draws.] Rwy'n ofni bod y casgliad yn glir iawn—sef bod ffocws y ddogfen weledigaeth hon ar ardaloedd trawsffiniol. Fy mhwynt yw hyn: oni bai eich bod yn ymdrin â'r rhwystrau i mewn ac allan o Gymru ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ni fyddwch byth yn cael mwy o wasanaethau yn gweithredu yng Nghymru. Oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau sydd angen eu gwella yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac nid oes llen lechen yn bodoli, er y byddech yn hoffi gweld un.
Yn hytrach, yr hyn yr ydym wedi'i amlinellu yw pecyn hynod uchelgeisiol o brosiectau. Mae'r 43 cyntaf yn fwy na £4 biliwn. Pan fyddwch chi'n rhoi rhywfaint o ogwydd optimistaidd, bydd hynny wrth gwrs yn fwy, ac adlewyrchodd Llywodraeth y DU hynny yn eu datganiad pan ddywedon nhw— ac mae'n ddatganiad i'w groesawu fawr—y bydd costau yn amrywio dros amser. Felly, er bod yna amcangyfrif, mae yna siawns go dda y bydd yn costio mwy i gyflawni'r rhaglen hynod uchelgeisiol hon. Mae Plaid Cymru, yn eu 100 diwrnod cyntaf, yn dweud y byddent yn dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU dros gyllid rheilffyrdd y DU. Rydym wedi cwblhau'r trafodaethau. Ac ni wnaethon ni ofyn am £4 biliwn—fe wnaethon ni ofyn am £14 biliwn, ac rydym ni'n ei gael. Efallai yr hoffech chi rwygo'r weledigaeth honno, ond rwy'n ofni nad eich gweledigaeth chi yw hi i'w rhwygo. Gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru yw hi, corff hyd braich. Ydych chi'n mynd i ymyrryd yng ngwaith corff hyd braich a rhwygo pecyn o waith gwerth £14 biliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo'n llawn iddo ac y bydd yn ei ariannu?
O ran y proffil ariannu, mae'n rhyfedd sut rydych chi'n credu y dylech gelcio £14 biliwn a fydd yn cael ei wario dros gyfnod o 14 neu 15 mlynedd ar ddechrau prosiect o'r maint hwn. Nid dyna'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud. Ni wnaethon ni wneud hynny gyda'r metro. Ni wnaethon ni ddyrannu'r holl arian a'i roi mewn llawer o gyfrifon cynilo unigol a buddsoddi mewn bylbiau cennin Pedr a phethau, dim ond i wneud yn siŵr y gellid ei dynnu dros amser. Na—rydych chi'n ei ddyrannu ar sail cyfnodau. Bydd adolygiadau gwariant cynhwysfawr yn amlinellu faint sy'n cael ei ddyrannu ym mhob un o'r cyfnodau yn y dyfodol, a dyna pam y dywedais yn fy natganiad mai'r dyddiad tyngedfennol nesaf yw 2027. Bydd bwrdd rheilffyrdd Cymru yn cynhyrchu'r rhestr flaenoriaeth o becynnau a fydd wedyn yn tynnu cyllid ar gyfer y cyfnod gwariant nesaf.
Byddai'n anhygoel cyflawni'r pecyn cyfan hwn o fewn un cyfnod gwariant. Byddai hynny'n amhosibl. Felly, yr hyn sy'n rhaid i chi ei wneud yw tynnu'r cyllid i lawr dros sawl cyfnod gwariant cyflawnadwy. Dyna ddywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn digwydd, ac maen nhw wedi rhoi ffigur iddo. Maen nhw wedi ei gymeradwyo. Maen nhw wedi ei gefnogi. Maen nhw'n ymrwymedig iddo. Mae'r bygythiad mwyaf, efallai, yn seiliedig ar yr hyn rydw i wedi'i glywed heddiw, i'r pecyn cyfan o £14 biliwn o uwchraddiadau mewn gwirionedd yn dod o gyfeiriad eich plaid chi.
Rwy'n croesawu'r broses o gyflwyno tapio i mewn ac allan yn y gogledd, a rhewi prisiau tocynnau trên yng Nghymru ac ar draws y ffin. Fel y cyhoeddodd Llywodraeth y DU, bydd yn rhewi prisiau tocynnau trên am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd. Ac mae ein rhwydwaith yn drawsffiniol, fel y dywedoch. Mae cynlluniau rhwydwaith gogledd Cymru yn dod yn eu blaenau, gan arwain at wasanaethau amlach eleni, a bydd rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar y cyd diolch i fuddsoddiad dros y 10 mlynedd diwethaf yn Trafnidiaeth Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru, gan weithio gyda Network Rail.
Ysgrifennydd Cabinet, mae'r ddau ohonom wedi ymgyrchu dros orsaf Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy dros y 10 mlynedd diwethaf, ac rwy'n falch bod hynny'n digwydd erbyn hyn. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gadarnhau dyddiadau cyflawni'n fras ac a allwch chi egluro bod yna lif prosiect â blaenoriaeth y mae angen gweithio drwyddo, sy'n cael ei gyflawni, a fydd wedyn yn arwain at drydaneiddio llinell reilffordd gogledd Cymru? Ond mae'n rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, yn dilyn y blaenoriaethau a osodwyd gan yr arbenigwyr yn y papur hwn, a wrthodwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU o dan gyllid ffyniant bro, ac mae'n digwydd nawr mewn gwirionedd.
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei sylwadau ac am y croeso cynnes i'r weledigaeth? Talaf deyrnged i Carolyn, sydd, dros nifer o flynyddoedd, wedi hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus yn rhanbarth gogledd Cymru, yn enwedig yn sir y Fflint a Glannau Dyfrdwy, ac ardal Wrecsam hefyd. Wrth gwrs, roedd Carolyn yn gyfrifol am drafnidiaeth gyhoeddus o fewn Cyngor Sir y Fflint ers peth amser ac mae'n gwybod gwerth, yn enwedig, gwasanaethau bws i rai o'n cymunedau tlotaf.
Mae'n dal i fod yn ffaith mai'r bobl leiaf cyfoethog ac sy'n wynebu'r amgylchiadau ariannol mwyaf heriol yw'r rhai sy'n defnyddio bysiau yn bennaf. Dyna pam rydym yn falch iawn ein bod wedi cymryd rheolaeth o'r rhwydwaith yn ôl ac wedi addo cap prisiau o £2 i bob oedolyn. Wrth gwrs, rydym eisoes wedi cyflwyno'r cap tocynnau £1 gyda gwaith a gyfrannwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gan Jane Dodds. Mae wedi profi i fod yn hynod lwyddiannus ac mae'n helpu teuluoedd, nid pobl ifanc yn unig, gyda chostau byw.
Mae Carolyn yn hollol gywir ynglŷn â'r angen i flaenoriaethu rhai cynlluniau er mwyn i chi gael y canlyniad terfynol. Yn achos gogledd Cymru, yr oedd Carolyn yn cyfeirio ato, er mwyn cwblhau trydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru, mae'n rhaid iddi fynd, yn fy marn i, nid yn unig i Landudno ond yr holl ffordd i Gaergybi. Er mwyn gwneud hynny, bydd angen trydaneiddio clyfar, oherwydd byddai'r gost fel arall yn afresymol, ac ni fyddai'r amser y byddai'n ei gymryd a'r aflonyddwch y byddai'n ei achosi yn dderbyniol, nid yn unig i'r cyhoedd sy'n teithio ond i lawer o gymunedau hefyd.
Er mwyn darparu trydaneiddio clyfar, rydych chi'n dechrau yn gyntaf gyda rhai o'r systemau signalau a gyda'r croesfannau rheilffordd. Dyma beth rydym ni wedi'i weld yn ystod y 12 mis diwethaf. O ganlyniad i gytundeb cynnar iawn, cyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, rhwng Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth y DU, dechreuodd Network Rail fwrw ymlaen â phecyn o waith ar brif linell reilffordd gogledd Cymru er budd cymunedau yr holl ffordd o'r ffin i Landudno. Ac o ganlyniad i hynny, rydym ni'n mynd i weld y cynnydd o 50 y cant mewn gwasanaethau rheilffyrdd ym mis Mai, yn ogystal â dyblu gwasanaethau rheilffyrdd a gyflwynwyd ar y llinell o Wrecsam i Gaer. Felly, bydd trydaneiddio clyfar yn dod o ganlyniad i'r prosiectau hyn yn cael eu symud ymlaen mewn ffordd synhwyrol gan ddiwydiant, a chan gorff hyd braich, nid gan wleidyddion yn ymyrryd.
Mae'r un peth yn wir am y llinell o Wrecsam i Lerpwl. Ac mae gwaith, nawr, wedi dechrau ar yr elfen hanfodol gyntaf, sef seidins Padeswood. Nawr, ar ôl ymdrin â seidins Padeswood, bydd yn arwain at leddfu tagfeydd ar y llinell benodol honno. Mae yna broblem gyda symudiadau cludo nwyddau, ac mae'r symudiadau cludo nwyddau yn gymhleth iawn yn Padeswood. Bydd hyn yn ei symleiddio, a bydd yn creu mwy o gapasiti ar y llinell ar gyfer gwasanaethau teithwyr.
Felly, rydym yn gallu gwarantu, o ganlyniad i'r gwaith hwnnw, ddau wasanaeth dibynadwy yr awr. Ond, wrth gwrs, rydych chi eisiau cael gwasanaethau metro cyrraedd-a-mynd llawn, a fydd eto angen trydaneiddio clyfar. Ac rydym yn gweithio gyda rhanbarth Lerpwl i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau gwasanaethau trydanol uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl. A bydd yn digwydd. Mae'n rhan o'r ddogfen weledigaeth. Mae'n cael ei gefnogi'n llawn. Mae'n un o'r prosiectau mwyaf cyffrous i ogledd Cymru, yn fy marn i, oherwydd rydym ni'n mynd i ddefnyddio llawer o dechnoleg arloesol.
Ar barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, sydd, wrth gwrs, ar y llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl, ni ellir gorbwysleisio gwerth hyn, rwy'n credu, am nifer o resymau. Un: mae gormod o bobl na allant gael mynediad hyd yn oed at gyfweliadau swyddi oherwydd nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus—nid yw'n bodoli. Ac ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, ynghyd ag ystad ddiwydiannol Wrecsam, yw dwy o'r rhai mwyaf yn Ewrop. Ond maen nhw'n cael eu gwasanaethu'n wael iawn, yn hanesyddol, gan drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd cael yr orsaf reilffordd honno yno yn ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy yn mynd i'r afael â'r her honno i bobl sydd eisiau mynd i gyfweliadau swyddi ac yn ôl, ac yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.
Ymwelais â'r safle yn ddiweddar iawn. Mae yna un rhan fach ohono rydyn ni'n gweithio tuag at ei chwblhau, un cytundeb bach y mae angen ei gyrraedd, ac mae'n ymwneud â chroesi o un platfform i'r llall. Ond rydym ar y trywydd iawn i gwblhau'r orsaf honno. Hon fydd yr orsaf newydd gyntaf yng ngogledd Cymru ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac rydym ar y trywydd iawn i gwblhau'r gwaith hwnnw erbyn diwedd 2027, a fyddai'n dipyn o gyflawniad. Ond mae'r diwydiant yn barod amdani. Network Rail, Trafnidiaeth Cymru—maen nhw'n sicr yn barod amdani. Ac maen nhw'n mabwysiadu dull gweithredu unigryw ar gyfer yr orsaf benodol hon. Ni fyddwn yn gallu gweld hyn yn cael ei gyflwyno ym mhob safle, ond yng Nglannau Dyfrdwy—ac rwy'n gwybod eich bod chi'n gyfarwydd iawn â ble mae'r orsaf a sut fydd pethau'n mynd—mae'n llinell anhygoel o wastad ac mae'n hollol addas ar gyfer gorsaf fodiwlaidd arbrofol, yn enwedig oherwydd bod yna ffordd o groesi o un ardal platfform i'r llall yn bodoli eisoes. Ac mae mewn safle perffaith i allu gwasanaethu'r ystad ddiwydiannol gyfan, sy'n cyflogi oddeutu 8,000 o bobl. Felly, o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw, rwy'n credu ein bod ni'n mynd i sbarduno cyfiawnder cymdeithasol a chyfle ar gyfer llawer mwy o bobl sydd wedi'u cau allan o'r farchnad swyddi, fel y dywedaf, oherwydd nad oeddent yn gallu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.
Roeddwn i eisiau codi dau fater gyda chi, os caf. Un yw'r darlun cenedlaethol, ac un ynghylch llinell Calon Cymru. O ran yr un cenedlaethol, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, mae dryswch a phenbleth ynghylch faint o arian sy'n mynd i ddod i Gymru ar gyfer ehangu rheilffyrdd. Byddwn yn ddiolchgar iawn, os gwelwch yn dda, am eglurhad. Rwy'n deall bod £445 miliwn wedi'i ymrwymo i 2030. Mae fy mhlaid yn San Steffan wedi ceisio bod yn gliriach, ac wedi ceisio gwneud rhywfaint o ymchwil ar y £14 biliwn a ymrwymwyd, ond heb lwyddiant, ac nid ydynt wedi dod o hyd i unrhyw beth o ran eu hymchwil. Felly, byddwn mor ddiolchgar pe gallech ddweud o ble mae'r ymrwymiad o £14 biliwn yn dod, a than ba bryd, O ystyried bod £445 miliwn wedi'i ymrwymo i 2030. Felly, sut mae'r cyfan yn dod at ei gilydd?
Mae'r ail bwynt ynghylch llinell Calon Cymru. Pa ffordd bynnag y caiff ei hariannu, does dim byd yn y cyhoeddiad ynghylch llinell Calon Cymru, sy'n siom sylweddol i'r rhai ohonom sydd wedi ymgyrchu drosti. Rydym ni'n falch o weld pumed gwasanaeth. Rydym ni eisiau wyth gwasanaeth y dydd, ond ni fyddwn yn gweld hynny. Felly, a allech chi wneud unrhyw sylw ynghylch hynny?
Ond yn benodol, gan fynd yn ôl at fy mhwynt cyntaf, mae'r holl swm hwn o arian, mewn gwirionedd, yn ddryslyd, ac nid yw'n glir. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i Jane Dodds am ei chwestiynau? Mae rheilffordd yn faes hynod o gymhleth. Mae mor dameidiog ac mae buddsoddiad yn cymryd cymaint o amser oherwydd ei bod yn broses mor anhygoel i adeiladu rheilffyrdd newydd, gorsafoedd newydd ac i gwblhau rhwydweithiau. Ond fe wnaf geisio fy ngorau i amlinellu sut mae'r cyllid yn gweithio.
Mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu mewn rowndiau gwariant. Mae'r dyraniad presennol o £445 miliwn mewn gwirionedd yn fwy nawr o ganlyniad i ymrwymiadau pellach, i fwrw ymlaen, er enghraifft, â gorsaf ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, y groesfan yng ngorsaf Bwcle a pharcffordd Caerdydd. Felly, mae'r ffigur hwnnw wedi mynd i fyny. Ond mae'r ffigur hwnnw, y £445 miliwn hwnnw, dim ond yn berthnasol, rydych yn gywir, i'r dyfodol agos, yr ychydig flynyddoedd nesaf, a'r prosiectau sy'n gyflawnadwy yn y cyfnod hwnnw. Ffactor allweddol yn y dyfodol yw ein bod yn datblygu'r prosiectau i'r pwynt lle gallwch roi rhaw yn y ddaear, neu gloddwyr yn y ddaear. Yn hynny o beth, mae'r £95 miliwn o gyllid datblygu yn dod i rym, a chyhoeddwyd hynny fel rhan o'r adolygiad gwariant cynhwysfawr. Gall y £95 miliwn hwnnw wedyn gyfrannu at ddatblygu a chwblhau cynlluniau ar gyfer y prosiectau hynny sydd o fewn y ddogfen weledigaeth ar gyfer rheilffyrdd.
Nid yw capasiti diwydiant yno i gyflawni popeth ar dudalen 19 i gyd ar yr un pryd. Dyna pam y bydd yn rhaid i fwrdd rheilffyrdd Cymru flaenoriaethu'r prosiectau dros nifer o gyfnodau gwariant. Felly, bydd yr arian ar gael yn unol â'r ffordd y mae bwrdd rheilffyrdd Cymru yn penderfynu eu bod nhw, gyda Network Rail, gyda Trafnidiaeth Cymru, gyda'r gadwyn gyflenwi, yn gallu cyflawni'r prosiectau hynny. Ond rwy'n derbyn ei fod yn hynod ddryslyd oni bai eich bod chi'n gyfarwydd iawn â'r maes pwnc penodol hwn. Rwy'n eithaf hapus i ysgrifennu gydag esboniad llawnach, os yw'r Aelod yn dymuno. Rwy'n fwy na hapus i wneud hynny.
O ran y ffigur cyffredinol, mae'r £14 biliwn—ydi, mae hyn yn ddiddorol, ac rwy'n credu bod angen i ni ei groesawu, oherwydd os edrychwch ar y llif cychwynnol o brosiectau, y 43, mae hynny'n gyfystyr â thua £4.4 biliwn. Yna, yn ddiweddarach yn y ddogfen, mae'r prosiectau mawr eraill, megis trydaneiddio llinell y Gororau, sydd wedyn yn dod â chi at gyfanswm, lle, os ydych wedyn yn cymhwyso gogwydd optimistaidd, sydd o ran rheilffyrdd yn tueddu i fod tua 40 y cant, yna rydych chi'n cyrraedd y £14 biliwn.
Nawr, mae'n werth dweud ac yn werth pwysleisio, dros amser, y gall y costau amrywio'n fawr iawn, fel y gwelsom gyda metro de Cymru a'r costau sy'n gysylltiedig â phethau fel rhyfel Wcráin, Brexit a materion costau byw. Felly, gall y costau amrywio. Dyna pam roedd cael yr ymrwymiad hefyd i gyflawni'r llif prosiectau a'r gydnabyddiaeth y gall y costau amrywio yn cael ei groesawu'n fawr iawn. Rydym ni'n gwybod ar hyn o bryd, gyda'r hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol, bod cost olew yn cynyddu. Gall gael effaith mewn meysydd eraill. Felly, gall anfon cost y prosiectau sydd eisoes wedi'u hariannu yn ystod y cyfnod hwn i fyny. Nid ydym yn gwybod eto; rydym yn gwylio'n ofalus iawn a allai hynny fod yn wir. Os bydd hynny'n digwydd, yna, wrth gwrs, byddwn yn gweithio gyda diwydiant i sicrhau y gallwn gyflawni cyn gynted â phosibl, oherwydd dyma beth oedd y Prif Weinidog eisiau pwysleisio—cyn gynted â phosibl. Ond ni fyddwn yn methu â chyflawni, os oes gennym—a dyma beth yr oeddwn yn ceisio pwysleisio yr wythnos diwethaf— gytundeb ar draws y Siambr hon a Senedd y DU.
Yr holl reswm pam roedden ni'n gallu cyflwyno'r metro, ac rydym ni wedi trydaneiddio 170 km ohono, oedd oherwydd bod pleidiau ar draws y Siambr hon yn ei gefnogi. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw blaid yn y Siambr hon, pe bai wedi cael ei hethol yn 2016, neu yn 2021, wedi canslo o leiaf weledigaeth y metro. Efallai y byddent wedi lleihau ei gwmpas; wnaethon ni ddim, fel plaid. Fe wnaethon ni ddewis bwrw ymlaen ag ef, er ein bod wedi wynebu pwysau ariannol anhygoel yn gysylltiedig â COVID. Ond os gallwch gyflwyno gweledigaeth gymhellol ar gyfer gwelliannau seilwaith, gallwch groesi cylchoedd etholiadol a'u cyflawni. Dyna beth rydym ni'n ceisio ei wneud yma ac yn San Steffan, i sicrhau bod y pecyn cyfan hwnnw o £14 biliwn o brosiectau yn cael ei gyflawni.
Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n credu bod angen eglurder arnom ar y ffigur hwnnw o £10 biliwn. Oherwydd ar dudalennau 34 a 35, mae'n nodi'n glir yno:
Mae angen datblygiad mwy manwl ar y cynlluniau yn yr adran hon i archwilio...a fyddent yn darparu gwerth da am arian.'
Felly, i unrhyw un sy'n darllen hwnnw, mae'n awgrymu y bydd angen penderfynu ar gyllid gwirioneddol ac a yw'r prosiectau hynny'n hyfyw ai peidio. Does dim sicrwydd eu bod hyd yn oed yn hyfyw. Felly, i ddweud bod y cyllid ar y bwrdd ar gyfer rhywbeth nad yw hyd yn oed wedi'i ystyried yn hyfyw—. Ni allaf ddeall sut y gallwch chi sefyll yma a dweud wrthym fod £14 biliwn ar gyfer pob un o'r prosiectau hyn os nad yw'r gwaith hwnnw wedi'i gwblhau. Yn sicr, byddai'n rhaid bod diwydrwydd dyladwy, neu ydyn ni'n mynd i osgoi diwydrwydd dyladwy? Rwyf dim ond eisiau'r eglurder hwnnw. Pe baech chi'n sefyll yma yn sôn am y £4 biliwn, rwy'n credu y byddem i gyd yn gweld sut y gallai hynny ddigwydd, ond y £14 biliwn—yn sicr mae pobl Cymru yn haeddu rhywfaint o onestrwydd yma, ac yn sicr nid yw crybwyll y ffigur hwnnw'n gywir? Rydych chi hyd yn oed wedi amlinellu yn eich ymateb nawr y gallai fod yn fwy, gallai fod yn llai. Gadewch i ni fod yn onest, faint sydd wedi cael ei ymrwymo a beth yn union yw'r llif prosiectau a beth sy'n obeithiol yn y dyfodol fel nodyn 'mae arnaf i arian i chi'? Oherwydd mae'n ymddangos i mi mai dyna yw £10 biliwn o'r arian hwnnw.
A gaf i ddiolch i Heledd am ei chyfraniad? Unwaith eto, fodd bynnag, mae'n siomedig peidio â chlywed unrhyw gydnabyddiaeth o'r gwaith sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf i drawsnewid rheilffyrdd yng Nghymru, yn enwedig yn ardal llinellau craidd y Cymoedd. Buddsoddiad enfawr, enfawr, amser ac arian i drawsnewid cymunedau a chyfleoedd. Nawr, yn nhermau—[Torri ar draws.] Mae hynna'n gywir.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eithaf abl i ateb drosto'i hun. Gofynnaf i'r holl Aelodau ganiatáu iddo ateb hefyd.
Ond, wrth gwrs, mae Mike yn hollol gywir, byddai diffyg blynyddol trwy annibyniaeth—beth oedd e, Mike—£12.5 biliwn, mae gen i ofn, yn ei gwneud hi'n afresymol buddsoddi mewn uwchraddio rheilffyrdd pe bai'n cael ei ddatganoli. Rwy'n ofni y byddai'n ffantasi llwyr i gredu y gallech uwchraddio rheilffyrdd pan fyddwch chi'n wynebu diffyg o £12.5 biliwn bob blwyddyn.
O ran gwerth am arian ac o ran y £14 biliwn, wrth gwrs, mae'n rhaid i chi gael gwerth am arian o bob prosiect. Mae gwerth am arian yn cyfeirio at y dull y gallech ei ddefnyddio i gyflawni prosiect penodol. Rydw i eisoes wedi cyfeirio at drydaneiddio clyfar yn hytrach na thrydaneiddio traddodiadol. Gellir ystyried bod rhan o'r rhwydwaith yn fwy addas ar gyfer trydaneiddio clyfar, a gall rhan arall o'r rhwydwaith fod yn fwy addas ar gyfer ffurfiau traddodiadol o drydaneiddio. Ond yr holl bwynt o ddatblygu'r gwaith yw bod gennych achos cryf iawn i fwrw ymlaen ag ef i gyflawni'r gwaith. Ni allwch ddarparu'r holl atebion ar ddechrau gweledigaeth. Mae'n rhaid i chi weithio ar bob darn cydrannol. Ac os nad oes gennych y cyllid datblygu i wneud hynny, nid yw'n digwydd. Am lawer rhy hir, rydym wedi bod heb y cyllid datblygu. Mae gennym ni hwnnw nawr. Mae gennym ni'r weledigaeth. Mae gennym y cynllun. Bydd yn cael ei gyflawni.
Nawr, o ran gwerth am arian mewn meysydd eraill hefyd, mae'n aml yn dibynnu, wrth gyfeirio at orsafoedd, sut rydych chi'n eu nodi. Ac, wrth gwrs, byddwn yn ceisio'r gwerth mwyaf posibl am arian. Mae'n rhaid i ni wneud hynny. Felly, os gellir profi y gellir cyflawni manyleb uwch ar orsaf newydd mewn un gymuned, yna byddwch chi'n bwrw ymlaen ag ef. Ac os yw gwerth am arian yn dangos bod angen gweithredu manyleb is, yna byddech chi'n bwrw ymlaen â'r opsiwn hwnnw. Mae'n rhaid i ni warantu gwerth am arian i drethdalwyr.
Ond o ran y cynllun, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'r pecyn. Mae'r Trysorlys wedi amcangyfrif ei fod yn £14 biliwn. Ond fel y maent wedi datgan, ac fel yr wyf wedi dweud ar sawl achlysur bellach, gall costau amrywio. Efallai nad y £14 biliwn hwnnw yw'r ffigur terfynol. Nid ydym yn gwybod pa ddigwyddiadau a allai ddod. Yr holl bwynt o addo cyflawni'r pecyn yw y bydd pob prosiect yn cael ei ddatblygu. Nid yw hynny'n rhywbeth a fyddai'n digwydd o dan eich arweinyddiaeth. Dim o gwbl. [Torri ar draws.] Pam ydw i mor hyderus? [Torri ar draws.] Meddai pwy? Eich cyn-Aelod Seneddol, Jonathan Edwards. [Torri ar draws]
Does dim angen cael sgwrs ar draws y Siambr.
Jonathan Edwards, pan ddywedodd na fyddai plaid o unrhyw liw arall wedi gallu sicrhau'r cytundeb hwn. Mae'n werth edrych ar yr hyn a ysgrifennodd ar Nation.Cymru. [Torri ar draws.] Efallai yr hoffech fychanu'r cyhoeddiad, ond y gwir yw ei fod wedi cynnig barn bersonol gref arno, a dywedodd na fyddai unrhyw blaid arall o unrhyw liw arall wedi gallu cyflawni'r fargen hon. [Torri ar draws.] Rwy'n dyfynnu un o'u plith nhw.
Does dim angen cael sgwrs ar draws y Siambr, o'r ddwy ochr.
Ac yn olaf, Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Ynghyd â chi, mynychais lansiad rhwydwaith gogledd Cymru ym Mhrifysgol Wrecsam nôl ym mis Mai, lle amlinellwyd llawer o'r cynigion hyn am y tro cyntaf. Rwy'n credu'n gryf bod gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltedd rheilffyrdd yn hollol hanfodol i'n rhanbarth. Rwy'n falch bod y buddsoddiad sylweddol eisoes yn gwneud gwahaniaeth diriaethol yn lleol, ac rydych eisoes wedi cyfeirio at ddyblu gwasanaethau trenau rhwng Wrecsam a Chaer.
Yn y blynyddoedd i ddod, bydd metro gogledd Cymru yn darparu gwasanaethau uniongyrchol rhwng canol dinas Lerpwl, Cilgwri a Wrecsam ar hyd y llinell o Wrecsam i Lerpwl. Mae hynny'n cynnwys gwell cysylltiadau ag ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, nad yw ymhell y tu ôl i ystad ddiwydiannol Wrecsam o ran maint, felly mae'n mynd i gynnig cyfleoedd cyflogaeth enfawr i'n hetholwyr. Gan weithio gyda phartneriaid dros y ffin, bydd y prosiect yn defnyddio trenau trydan batri arloesol, fel y dywedoch, i ddarparu'r gwasanaethau uniongyrchol gwyrddach hynny, sydd wir eu hangen i leihau'r angen i newid trenau hefyd, a thrwy wella'r cysylltiadau hynny rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a Glannau Mersi bydd y cynigion hyn yn gwella mynediad at gyfleoedd swyddi, yn cefnogi mwy o gartrefi, mwy o swyddi a mwy o wasanaethau.
Mae Wrecsam ar gynnydd mewn sawl ffordd, ac mae cyflawni rhwydwaith trafnidiaeth integredig modern yn rhywbeth chwyldroadol mewn gwirionedd, yn y blynyddoedd i ddod i'm hetholaeth a hefyd i'n rhanbarth. Felly, efallai y gallech ddweud ychydig mwy am unrhyw feddyliau yn benodol ynghylch unrhyw ddatblygiadau pellach i ogledd-ddwyrain Cymru ac a oes unrhyw fuddsoddiad pellach wedi'i gynllunio ar gyfer y rhanbarth. Diolch.
A gaf i ddiolch i Lesley Griffiths am ei chyfraniad a'i chwestiynau? Mynychodd Lesley a minnau ddigwyddiad brecwast gweithwyr busnes proffesiynol Wrecsam yr wythnos diwethaf, a chlywsom gan Alistair Aldridge am ddatblygiad Porth Wrecsam, cyfnewidfa drafnidiaeth hynod gyffrous yng nghanol Wrecsam, hefyd, wrth gwrs, gyda'r pen Kop fel darn cydrannol, rhan hynod bwysig ohono, a'r hyn sy'n fy nharo i oedd y dylai Porth Wrecsam gael ei gyflawni erbyn 2029. Ac mae'r amseriad hwnnw yn berffaith i ddinas ddiwylliant Wrecsam, os bydd Wrecsam yn llwyddiannus gyda'i chais. Felly, mewn gwirionedd, gallai cael y gyfnewidfa drafnidiaeth wedi'i huwchraddio fod yn hanfodol bwysig wrth ddenu canlyniad cais llwyddiannus.
Yn y cyfarfod ddydd Gwener buom hefyd yn siarad am ba mor bwysig yw gwell cysylltiadau trafnidiaeth o ran cyfleoedd swyddi—creu swyddi a hefyd cael mynediad at swyddi. Mae dyblu gwasanaethau rheilffyrdd rhwng Wrecsam a Chaer yn hanfodol bwysig. Caer yw un o'r ardaloedd ariannol mwyaf yn ein rhanbarth, ac felly mae cael mynediad ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol bwysig. Mae'n hanfodol bwysig i Wrecsam hefyd, gyda'r diwydiant twristiaeth sy'n tyfu a'r sector creadigol sy'n tyfu yn Wrecsam hefyd. Felly, mae cael y cyswllt gwell hwnnw yn hynod werthfawr.
Mae'r llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl yn mynd i fod yn gyfrannwr enfawr at dwf economaidd hefyd, ac rwy'n siŵr na fydd Lesley yn anghytuno â mi wrth imi ddweud ein bod yn disgwyl i Wrecsam chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn fuan iawn. Wel, hoffwn i'r cefnogwyr o glybiau gwych fel Everton, a rhai o'r lleill, fel Lerpwl a Manchester United, allu cael mynediad at gemau ar y Cae Ras ar y trên. A chael y system fetro honno ar waith rhwng Wrecsam a Lerpwl, cael y llinell well—y llinell Lerpwl i Fanceinion, a fydd â'r cysylltiad yn Warrington i Wrecsam—bydd hynny'n helpu'n fawr iawn o ran cael pobl allan o'u ceir ac ymlaen i drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardal drawsffiniol.
O ran buddsoddiad ychwanegol, bydd, yn gryno, bydd buddsoddiad sylweddol. Bydd llinell y Gororau yn cael ei thrydaneiddio—bydd rhyw fath o drydaneiddio clyfar ar gyfer hynny—yn ogystal â phrif linell gogledd Cymru, ac rydym hefyd yn edrych ar orsafoedd newydd yng ngogledd Wrecsam, de Wrecsam, o bosibl Maes Glas a Brychdyn hefyd. Rydym ni'n gwybod pa mor fawr yw Brychdyn fel ardal gyflogaeth, ac eto mae'n anodd iawn cael mynediad at gyfleoedd gwaith oni bai bod gennych gar preifat ar hyn o bryd. Felly, bydd yn gyntaf oll yn ysgogi twf economaidd teg ar draws ein cymunedau.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 4 ar ein hagenda heddiw yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cael Gwared ar y Gofrestr Olygedig) (Cymru) 2026. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Cynnig NDM9191 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cael Gwared ar y Gofrestr Olygedig) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym eisiau gwella ymgysylltiad pobl yn ein democratiaeth ac rydym eisiau magu hyder pobl mewn etholiadau, lleihau rhwystrau rhag cyfranogiad a chadw uniondeb etholiadau. Bydd diddymu'r fersiwn agored neu olygedig o'r gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru yn helpu i gyflawni hynny. Yn y cyd-destun hwn yr wyf yn falch o gyflwyno Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cael gwared ar y Gofrestr Olygedig) (Cymru) 2026 ger eich bron heddiw.
Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae dwy gofrestr yng Nghymru: y gofrestr seneddol a gedwir yn ôl, a ddefnyddir ar gyfer etholiadau ar gyfer Aelodau Tŷ'r Cyffredin, a'r gofrestr llywodraeth leol ddatganoledig, a ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol y Senedd ac etholiadau lleol. Ar gyfer pob un, mae fersiwn agored neu olygedig o'r gofrestr a fersiwn lawn. Ar hyn o bryd, mae'r gofrestr olygedig ar gael i'w gwerthu i sefydliadau sy'n barod i dalu am fynediad at ddata etholwyr. Gall hyn olygu bod cofrestru i bleidleisio yn golygu gwahodd hysbysebu drwy'r post yn uniongyrchol. Y llynedd, fe wnaethom dreialu cofrestru pleidleiswyr awtomatig ac, fel rhan o'r cynlluniau treialu hynny, gwnaethom sicrhau nad oedd pobl sy'n cael eu hychwanegu at y gofrestr yn cael eu hychwanegu at y gofrestr agored. Roedd hyn yn golygu nad oedd y trigolion y gallai cynghorau eu hadnabod a'u hychwanegu at y gofrestr yn cael eu trosglwyddo i brynwyr masnachol y gofrestr. Er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno cofrestru pleidleiswyr awtomatig ledled Cymru, rydym yn diddymu'r gofrestr llywodraeth leol agored yn gyfan gwbl.
Bydd aelodau'n cofio wrth basio Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 drwy'r Senedd fod y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid diddymu'r gofrestr agored, cyn i gofrestru etholiadol heb gyflwyno cais gael ei gyflwyno ledled Cymru. Hyd yn oed pe na baem yn cyflwyno cofrestru pleidleiswyr awtomatig, byddai dileu'r gofrestr olygedig ar gyfer etholiadau Cymru yn dal i wneud synnwyr. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi galw ers amser maith am ddiddymu'r gofrestr olygedig ac rydym yn cytuno â nhw y dylid defnyddio'r wybodaeth gofrestru at ddibenion etholiadol, nid masnachol. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflawni hyn drwy ddileu'r gofynion i'r swyddogion cofrestru etholiadol gyhoeddi fersiwn olygedig o'r gofrestr llywodraeth leol ar gyfer ardal yng Nghymru a sicrhau ei bod ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio ac ar gael i'w gwerthu.
Bydd data etholiadol yn parhau i gael ei gyflenwi drwy'r gofrestr gaeedig i'r sefydliadau hynny sy'n cael mynediad yn ôl y gyfraith, fel pleidiau gwleidyddol neu asiantaethau cyfeirio credyd. Mae'r gofrestr lawn hefyd yn agored i'r cyhoedd, fel arfer trwy apwyntiad—tryloywder sy'n ddiogelwch pwysig rhag manipiwleiddio etholiadol. Bydd cofrestr olygedig yn dal i fod ar waith yng Nghymru ar gyfer y gofrestr seneddol. Byddai hyn dim ond yn berthnasol i'r bobl hynny dros 18 oed sydd wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio trwy gofrestriad etholiadol unigol. Rwy'n nodi bod Llywodraeth y DU yn bwriadu symud i system optio i mewn ar gyfer y gofrestr olygedig, yn hytrach na system optio allan fel sydd ar hyn o bryd. Felly, rwy'n falch o fod yn gwneud y cam cyntaf tuag at gofrestru pleidleiswyr awtomatig gyda'r rheoliadau hyn heddiw ac edrychaf ymlaen at glywed barn y Siambr.
Does dim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitem 5, Rheolau Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026, ac eitem 6, Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim wedi clywed gwrthwynebiad.
Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Cynnig NDM9194 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Chwefror 2026.
Cynnig NDM9193 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae etholiadau yn hanfodol i'n democratiaeth, ac felly rwy'n falch o gyflwyno dau offeryn statudol pwysig y prynhawn yma: Rheolau Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026 a Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026. Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026 yn diwygio'r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.
Cafodd y rheolau eu hailddrafftio a'u moderneiddio'n llawn yn 2021. Mae'r rheolau diwygio ger eich bron heddiw yn gwneud newidiadau technegol i raddau helaeth neu'r rhai sy'n ofynnol i ystyried newidiadau i bolisi a deddfwriaeth arall. Adlewyrchir y newidiadau diweddar a wnaed i reolau etholiad y Senedd a gynhwysir yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 yn y ddeddfwriaeth hon. Mae'r ddeddfwriaeth yn cefnogi cysondeb mewn deddfwriaeth etholiadol ac mae'r rheolau eu hunain yn cyd-fynd cyn belled â phosibl â'r rheolau ar gyfer etholiadau'r Senedd yng Nghymru. Maent hefyd yn gwneud eglurhad bach ynghylch y driniaeth o ddisgrifyddion pleidiau ar y cyd, yn dilyn argymhelliad gan y Comisiwn Etholiadol.
Ein nod yw cefnogi'r defnydd cyfartal o'r Gymraeg a'r Saesneg mewn etholiadau, ac i hyn gael ei adlewyrchu'n effeithiol trwy gydol y ddeddfwriaeth. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud newidiadau i sicrhau mai dyma'r sefyllfa wrth gynnal etholiadau lleol, gan wneud etholiadau Cymru yn ddwyieithog lle bynnag y bo modd.
Hoffwn ddiolch i'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Rydym wedi ymateb i adborth ar ddyddiadau cychwyn a dod i rym ar gyfer y ddeddfwriaeth. Er y bydd y rheolau diwygio yn dod i rym ar 13 Mawrth, ni fyddant yn weithredol tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf, ym mis Mai 2027. Mae'r amserlen hon yn sicrhau cydymffurfiaeth ag egwyddor Gould sef bod rheolau etholiad ar waith am chwe mis cyn yr etholiad yr effeithir arno, ac yn caniatáu digon o amser i weinyddwyr etholiadol ddiweddaru gweithdrefnau a ffurflenni canllawiau perthnasol.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r ddeddfwriaeth hon, a bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf yn cael eu cynnal mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.
O ran Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, rydym i gyd yn rhy ymwybodol o'r cynnydd mewn cam-drin mewn gwleidyddiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy'n rhwystr sylweddol rhag cyfranogiad. Mae Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026 yn sicrhau na fydd yn rhaid i ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol, fel rhan o'u treuliau etholiadol, gyfrif am dreuliau rhesymol a dynnir wrth ddarparu ar gyfer eu diogelwch personol a diogelu eiddo. Mae'r newid hwn yn unol â'r sefyllfa ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd, fel rhan o'r newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Senedd hon y llynedd, ac yn unol â dull ehangach y DU. Mae'r newidiadau i etholiadau llywodraeth leol yn gofyn am ddiwygiad i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Trwy ddarparu cysondeb ar draws etholiadau, mae hyn yn lleihau dryswch i ymgeiswyr a gweinyddwyr etholiadol fel ei gilydd. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gweithredu argymhelliad o adroddiad Sefydliad Jo Cox.
O ystyried nad oes cyfnod gras mwyach, ac na all unigolion fod yn Aelod o'r Senedd ac o awdurdod lleol ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol y gallai fod isetholiadau yn dilyn etholiad y Senedd. Y dyddiad dod i rym yw 13 Mawrth. Fodd bynnag, bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol o 7 Mai 2026. Er fy mod yn cydnabod nad yw hyn yn dechnegol yn bodloni egwyddor Gould, mae'n bwysig bod y newidiadau yn digwydd cyn gynted â phosibl i amddiffyn diogelwch ymgeiswyr a bod cysondeb i ymgeiswyr yn etholiadau mis Mai ac yn etholiadau'r cyngor. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn cytuno y byddai oedi yn cael effaith niweidiol ar ddiogelwch ymgeiswyr ac uniondeb etholiadau. Mae hwn yn newid syml, gan sicrhau bod rheolau yn alinio ag etholiadau eraill, a gellir diweddaru canllawiau'n gyflym. Nid yw'r Gorchymyn yn gofyn am unrhyw newidiadau gweinyddol i'r systemau a ddefnyddir i gynnal etholiadau.
Hoffwn ddiolch i'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, ac, unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r ddeddfwriaeth hon. Unwaith eto, bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod yr etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesaf yn cael eu rhedeg, fel y dywedais, yn effeithlon iawn ac mor effeithiol â phosibl. Felly, unwaith eto, edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd fy nghyfraniad heddiw mewn perthynas â Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru), a ystyriwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yr wythnos diwethaf. Ni ofynnodd y pwyllgor am ymateb gan Lywodraeth Cymru. Mae unig bwynt craffu ar rinweddau'r adroddiad yn amlygu'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 13 Mawrth 2026, ac felly bydd yn dod i rym mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol o 7 Mai 2026. Mae'r memorandwm esboniadol yn cydnabod bod y Gorchymyn felly yn torri egwyddor Gould, sy'n nodi na ddylid newid cyfreithiau etholiadol o fewn chwe mis o etholiad. Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod y newidiadau'n syml ac nad oes angen unrhyw newid gweinyddol i systemau etholiadol. Mae hefyd yn dadlau ei bod yn bwysig bod y newidiadau yn digwydd cyn gynted â phosibl i amddiffyn diogelwch ymgeiswyr.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Unwaith eto, diolch yn fawr iawn. Dim ond i ddweud bod fy swyddogion a minnau yn awyddus i ymgysylltu â gweinyddwyr etholiadol a'u cefnogi cyn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 yw Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9195 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y cynnig.
Daeth Deddf Caffael 2023 i rym ar 24 Chwefror 2025. Mae'r rheoliadau heddiw yn diweddaru Atodlen 9 i'r Ddeddf honno i weithredu'r cytundeb economaidd a masnach cynhwysfawr newydd rhwng y DU ac India, a gafodd ei gwblhau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth India.
Trwy ddiwygio Atodlen 9, mae'r rheoliadau hyn yn cydnabod India yn ffurfiol fel gwladwriaeth gytuniad at ddibenion y Ddeddf. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid trin cyflenwyr o India yn unol â'r rhwymedigaethau caffael sydd wedi'u nodi yn y cytundeb hwnnw. Bydd yn ofynnol nawr i awdurdodau contractio o Gymru gynnig yr un cyfleoedd i gyflenwyr o India â'r rhai sy'n cael eu cynnig i gyflenwyr yn y DU ar gyfer caffaeliadau sydd wedi'u cynnwys yn y cytundebau. Yn gyfnewid, bydd Cymru yn elwa ar fynediad gwell i farchnad caffael cyhoeddus India, gan gynnwys triniaeth ffafriol o dan y polisi 'gwneud yn India'. Mae'r newid hwn yn cryfhau ein cydymffurfiaeth ag ymrwymiadau rhyngwladol ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gystadleuaeth agored a theg ym maes caffael cyhoeddus.
Rwy'n ddiolchgar, fel bob amser, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth barhaus o'r rheoliadau hyn. Os cânt eu cefnogi heddiw, bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 31 Mawrth.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y rheoliadau drafft ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf. Mae'r adroddiad yn cynnwys un pwynt adrodd craffu technegol a phedwar pwynt adrodd craffu ar rinweddau.
Mae'r pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at y ffaith nad oes unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth dehongli neu ddiffiniad ar gyfer y term 'fframwaith', y mae'r rheoliadau yn cyfeirio ato. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y term 'fframwaith' wedi'i hen sefydlu yng nghyd-destun caffael, ac felly mae'n dadlau nad oes angen diffiniad.
Mae pedwar pwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn dod â materion o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol i sylw'r Senedd. Byddaf yn sôn am ddau o'r rhain heddiw. Mae pwynt adrodd 4 yn tynnu sylw at y ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Lywodraeth y DU osod a gwneud offeryn statudol cysylltiedig y DU, sef Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig a Darpariaeth Arbed) (Diwygio) 2026. Nododd y pwyllgor lythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ynghylch y rheoliadau cysylltiedig hyn ar 26 Ionawr. Ac yn olaf, mae pwynt adrodd 5 yn tynnu sylw at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau hyn. Ni ofynnodd y pwyllgor am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r pwyntiau adrodd ar rinweddau.
Byddwn ni'n gwrthwynebu'r rheoliadau heddiw. Mae angen y rheoliadau heddiw i sicrhau bod penodau caffael y cytundeb masnach rhwng y DU ac India yn cael eu gweithredu yng Nghymru. Mae'r fargen fasnach hon yn rhoi eithriad rhag yswiriant gwladol i weithwyr proffesiynol o India sydd ar drosglwyddiadau byrdymor a dros dro. Yn Reform, rydym o'r farn bod y cytundeb masnach rhwng y DU ac India yn osgoi cyfrifoldeb yn llwyr ac yn cefnu ar weithwyr ym Mhrydain a Chymru. Yng ngoleuni hyn, byddwn ni'n atal ein pleidlais ar y rheoliadau heddiw. Diolch.
Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn moyn ymateb?
Rwy'n parhau i ofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 sydd nesaf a chynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona yw hwn. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n cyflwyno'r cynnig yma. Jane Hutt.
Cynnig NDM9198 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Troseddu a Phlismona i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.
Rwy'n cyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Troseddu a Phlismona Llywodraeth y DU. Rwyf wedi ystyried y Bil hwn yn gyfannol. Mae yna ddarpariaethau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a fydd yn cyflawni newidiadau synhwyrol a phwysig a fydd o fudd i Gymru. Rwyf wedi gosod tri memoranda ar wahân o ran y Bil, sy'n adlewyrchu gwelliannau Llywodraeth y DU a gafodd eu cyflwyno yn ystod gwahanol gamau diwygio yn Senedd y DU. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr ystyriaeth maen nhw wedi'i rhoi i'r memoranda ar y Bil hyd yma, ac am yr adroddiadau maen nhw wedi'u cyhoeddi ar y ddau LCM cyntaf. Mae'n ddrwg gennyf fod y trydydd memorandwm wedi'i osod yn rhy hwyr ar gyfer craffu tebyg, gan fod y gwelliannau olaf wedi'u gosod ar 13 a 23 Chwefror.
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cytuno ag argymhellion Llywodraeth Cymru i geisio cydsyniad ar gyfer cymalau 1, 2 ac Atodlen 1, cymal 5 ac Atodlen 2, cymal 6 ac Atodlen 3, cymalau 7, 14, 74, 75, 90, 127, 128, 129, 132 a 133, sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac y dylent gael eu hystyried gan Senedd y DU. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth y DU yn ystyried bod cymalau 1, 5, 7, 14, 74, 75, 127, 128, 129 ac Atodlen 2 yn rhai sydd angen cydsyniad y Senedd.
Mae darpariaethau allweddol y Bil yn cwmpasu ymdrin â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyflwyno gorchmynion parchu, cyflwyno trosedd benodol o ymosod ar weithiwr manwerthu, a chynyddu'r difrifoldeb a'r gosb i gymryd camau llymach ar gyfer dwyn gwerth isel o siopau a throseddau â chyllyll. Mae'r Bil hwn yn creu trosedd benodol o ymosod ar weithiwr manwerthu, fel bod digwyddiadau yn cael eu cofnodi'n briodol a'u defnyddio i ysgogi ymateb effeithiol gan yr heddlu, tra bod cosbau llymach yn ei gwneud yn glir na fydd trais yn erbyn gweithwyr manwerthu yn cael ei oddef. Trwy ddiddymu'r trothwy o £200 ar gyfer dwyn o siopau, mae'n ymdrin â'r troseddau lefel isel sy'n niweidio canol ein trefi, yn cefnogi manwerthwyr, yn enwedig busnesau bach yng nghanol ein cymunedau, ac yn anfon neges glir nad yw'r un drosedd yn rhy fach i wynebu canlyniadau.
Mae'r Bil hwn yn cryfhau'r gyfraith fel bod menywod a merched yn fwy diogel yn eu cartrefi, ar-lein ac mewn mannau cyhoeddus. Mae'r Bil yn cryfhau rheoli troseddwyr ac yn gwella gofynion hysbysu mewn perthynas â throseddwyr rhyw cofrestredig, gan roi'r hawl i ddioddefwyr stelcian wybod pwy yw'r troseddwr, yn ogystal â chyflwyno canllawiau aml-asiantaeth ar stelcian, er mwyn galluogi asiantaethau i nodi, atal ac ymateb i ymddygiad stelcian yn fwy effeithiol.
Mae'r Bil hefyd yn anfon neges glir bod sbeicio diodydd yn ymddygiad troseddol difrifol ac y bydd yn cael ei drin fel y cyfryw, gan gyflwyno trosedd newydd o roi sylwedd niweidiol. Mae'r Bil yn cyflwyno diffiniad statudol o gam-drin ar sail anrhydedd, a phŵer i gyhoeddi canllawiau amlasiantaethol statudol. Mae'r darpariaethau hyn yn cyd-fynd â'n huchelgais i wneud Cymru'n lle diogel a rhydd i fenywod a merched, a chyda'n strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ymhellach, mae'r Bil hefyd yn ceisio amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed, gan gyflwyno dyletswydd newydd i adrodd am gam-drin plant yn rhywiol, creu troseddau newydd o gamfanteisio troseddol ar blant, cogio a chelu mewnol dan orfodaeth, cyflwyno troseddau newydd sy'n gysylltiedig â thynnu delweddau personol heb ganiatâd, a gwneud ymddygiad grŵmio yn ffactor gwaethygol statudol.
Yn olaf, mae'r Bil yn creu troseddau newydd sy'n ymwneud ag ymddygiad bygythiol, ymosodol neu sarhaus â chymhelliant hiliol neu grefyddol tuag at weithiwr brys, ac ymddygiad sy'n debygol o aflonyddu, dychryn neu beri gofid i weithiwr brys. Byddai'r darpariaethau newydd yn sicrhau bod gweithwyr brys yng Nghymru yn cael yr un amddiffyniad â chymheiriaid yn Lloegr, ac mae'r ddarpariaeth hon yn cyd-fynd â'r weledigaeth i wneud Cymru'n wlad wrth-hiliol, fel y nodir yn 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r nod llesiant bod Cymru yn genedl fwy cyfartal, fel sydd wedi'i sefydlu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae yna fesurau hefyd i wella pwerau gwrthderfysgaeth, cyflwyno gorchymyn dargyfeirio ieuenctid newydd a gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth terfysgaeth, a argymhellwyd gan yr adolygwr annibynnol deddfwriaeth terfysgaeth.
Rydym yn gwybod bod darpariaethau yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022 sy'n ymwneud â gwersylloedd diawdurdod wedi creu ofn gwirioneddol a dealladwy ymhlith cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Rwy'n cydnabod y gwelliannau arfaethedig i leihau'r amser na ddylai unigolyn ddychwelyd i'r un lleoliad o 12 mis i dri mis. Er fy mod i'n croesawu'r gwelliant hwn gan Lywodraeth y DU, mae'r ffocws parhaus ar orfodi a throseddoli yn dal i danseilio a pheryglu ffordd o fyw nomadaidd Sipsiwn a Theithwyr, ac yn cael effaith anghymesur ar y grŵp hwn. Fe godais i'r pryderon hyn pan gafodd y ddarpariaeth ei deddfu'n gyntaf yn 2022, ac rwy'n dal i wrthwynebu troseddoli.
Mae canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli gwersylloedd diawdurdod, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, yn gosod hyd yn oed mwy o bwyslais ar awdurododau lleol yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu'n gynnar. Mae'r gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu'n benodol yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', sy'n ein hymrwymo i ymdrin ag anghydraddoldebau hirsefydlog o ran llety i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru ac wedi gweithio gyda hi wrth ddatblygu'r Bil, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU yng nghamau olaf y Bil.
Yn olaf, Llywydd, gan gydnabod pwysigrwydd y Bil Troseddu a Phlismona a'r effaith y bydd yn ei chael ledled Cymru, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn rhoi ei chydsyniad. Diolch.
Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth nawr i gyfrannu, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gosod dau adroddiad ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil hwn. Cafodd adroddiad y pwyllgor ar y memorandwm cyntaf ei osod ym mis Gorffennaf 2025. Cafodd ei ail ar femorandwm Rhif 2 ei osod ym mis Tachwedd 2025.
Roedd adroddiad cyntaf y pwyllgor yn ystyried y cymalau yn y Bil sy'n rhoi pwerau i Weinidogion y Llywodraeth a Gweinidogion Cymru weithredu cytundeb rhyngwladol sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth at ddibenion gorfodi'r gyfraith. Mae'r rhain yn cael eu disgrifio fel 'darpariaethau I-LEAP'. Ar adeg y memorandwm cyntaf, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd mewn sefyllfa i argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r Bil, gan ddweud bod angen ymgysylltu pellach â Llywodraeth y DU ar y darpariaethau hyn. Gofynnodd y pwyllgor am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei safbwynt ar y ddarpariaeth I-LEAP. Erbyn i'r memorandwm Rhif 2 hwnnw gael ei osod ym mis Gorffennaf 2025, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn fodlon â'r dull gweithredu yr oedd Llywodraeth y DU wedi'i gymryd. Dywedodd fod hyn yn dilyn ymgysylltu pellach rhwng y Llywodraethau.
Gan na ddaeth y trafodaethau hyn i ben tan bum mis ar ôl cyflwyno'r Bil, mynegodd y pwyllgor bryder am lefel yr ymgysylltu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod datblygu'r Bil. Gwnaeth y pwyllgor hefyd argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o fanylion am ei hymgysylltiad â Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru unwaith eto fod cytundeb wedi'i gyrraedd ac ni roddwyd unrhyw fanylion eraill. Mae'r amharodrwydd hwn i roi hyd yn oed sylwebaeth fer yn siomedig iawn.
Nododd y pwyllgor hefyd yn ei adroddiad ar femorandwm Rhif 2 fod y pwerau yn y ddarpariaeth I-LEAP yn cael eu dirprwyo i Weinidogion Llywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru ar yr un pryd. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw cynnwys y pwerau cydredol hyn, fel y'u gelwir, yn cyd-fynd ag egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig. Nododd y pwyllgor y gallai fod hyblygrwydd cyfyngedig ynghylch sut y gall y pwerau hyn gael eu harfer oherwydd yr angen i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswyddau penodol ar Weinidogion Cymru i arsylwi a chydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, felly hefyd cod y Gweinidogion. Felly, mae'r pwyllgor o'r farn y dylai'r pwerau yn y Bil mewn meysydd datganoledig gael eu rhoi i Weinidogion Cymru yn unig.
Gosododd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad atodol arall, memorandwm Rhif 3, ddydd Mawrth diwethaf, ar 3 Mawrth. Mae'r memorandwm hwn yn ymwneud â gwelliannau a gafodd eu cyflwyno i'r Bil i'w hystyried yng Nghyfnod Adroddiad Tŷ'r Arglwyddi. Llwyddodd y pwyllgor i roi rhywfaint o ystyriaeth i'r memorandwm hwn yn ei gyfarfod ddoe, ond oherwydd y cyfnod byr o amser rhwng gosod y memorandwm a'r ddadl heddiw, nid oedd yn gallu adrodd arno. Mae hyn yn anffodus iawn.
Fodd bynnag, nododd y pwyllgor nifer o faterion sy'n gysylltiedig â memorandwm Rhif 3 yn ystod ei ystyriaeth gyfyngedig ohono, a phenderfynodd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru neithiwr i ofyn am eglurder ar y materion hyn. Roedd dau o'r materion a godwyd gennym fel pwyllgor yn ymwneud â pha rai o'r gwelliannau a gyflwynwyd y mae angen cydsyniad ar eu cyfer. Ysgrifennydd Cabinet, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi gadarnhau nawr a oes angen cydsyniad y Senedd ar gyfer gwelliannau 334 a 375 i'w hystyried yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi.
Mae'n bosibl mai'r trydydd mater a godwyd gan y pwyllgor yw'r pwysicaf. Mae'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith nad yw rhai o'r gwelliannau a nodwyd ym memorandwm Rhif 3, sef gwelliannau 446 a 468, wedi'u cytuno eto gan Dŷ'r Arglwyddi. Felly, gofynnir i'r Senedd heddiw gytuno ar gynnwys darpariaethau yn y Bil hwn heb y darlun llawn o ran a fydd y darpariaethau hyn yn rhan o fersiwn derfynol y Bil. Eisteddodd Tŷ'r Arglwyddi ddoe i ystyried gwelliannau, ond ni chyrhaeddodd y gwelliannau penodol hyn. Mae disgwyl i'r Arglwyddi ystyried y gwelliannau eraill a gyflwynwyd i'r Bil yfory a dydd Mercher nesaf, cyn trydydd darlleniad y Bil ddydd Mercher, 25 Mawrth.
Felly, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu defnyddio'r amser sydd ar gael iddi i ohirio'r ddadl heddiw nes bod canlyniad ystyriaeth yr Arglwyddi o'r gwelliannau a gyflwynwyd i'r Bil yn glir. Byddai hyn wedi galluogi'r Senedd i gael darlun llawnach o'r Bil y mae gofyn iddi gydsynio iddo cyn cyrraedd ei gyfnodau terfynol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi llawer o amcanion polisi'r Bil Troseddu a Phlismona'n llawn, megis ymdrin â thrais difrifol, cam-drin plant yn rhywiol a thrais yn erbyn menywod a merched. Rydyn ni'n croesawu camau gorfodi a chosbau llymach ar droseddau cyllyll a dwyn gwerth ariannol isel o siopau. Rydyn ni'n croesawu camau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a therfysgaeth. Fodd bynnag, fyddwn ni ddim yn cefnogi'r LCM heddiw oherwydd bod y Bil, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, hefyd yn cynnwys mesurau i ganiatáu'r defnydd eang o ddeallusrwydd artiffisial, technoleg adnabod wynebau a chofnodi digwyddiadau casineb nad ydynt yn droseddau. Er gwaethaf llawer o ddigwyddiadau proffil uchel o bobl yn cael eu cyhuddo ar gam o weithgareddau troseddol o ganlyniad i ddeallusrwydd artiffisial a gwyliadwriaeth adnabod wynebau, mae Llywodraeth y DU yn parhau i fwrw ymlaen â'r mesurau hyn. Allwn ni ddim rhoi'r cyhoedd yng Nghymru mewn sefyllfa lle maent yn agored i'r risgiau hyn, ac felly bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol nes i'r Bil gael ei ddiwygio. Diolch yn fawr.
Mae Plaid Cymru yn cydymdeimlo â nod cyffredinol y Bil hwn: adfer hyder y cyhoedd yn y system blismona a'r system cyfiawnder troseddol ehangach. Dyna'n union pam rydym yn dadlau dros ddatganoli'r pwerau hyn i Gymru, oherwydd datganoli yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni'r nod hwnnw. Rydym yn croesawu ymdrechion yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau bod nodweddion gwarchodedig cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd wedi'u cynnwys nawr o fewn cwmpas y troseddau newydd sy'n ymwneud â gweithwyr brys, ond allwn ni ddim cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Yr hyn a welwn ni, unwaith eto, yw meysydd o gymhwysedd datganoledig yn cael eu hildio i San Steffan, a Llywodraeth Cymru yn cilio o'i hegwyddorion ei hun ar ddefnyddio pwerau cydredol.
Fel rydym wedi'i glywed, mae pwerau cydredol yn cael eu cynnwys mewn perthynas â chytundebau rhannu data mewn perthynas â gorfodi’r gyfraith ryngwladol—I-LEAP—lle nad oes unrhyw rwymedigaeth o gwbl ar Weinidogion y DU i ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn deddfu; dim cydsyniad, dim llais. Cefais fy nychryn gan honiad yr Ysgrifennydd Cabinet bod cydsynio i'r cynnig hwn yn risg gyfansoddiadol gyfyngedig. Oni ddylen ni fod yn ceisio dileu risgiau cyfansoddiadol yn gyfan gwbl, yn enwedig o ran pensaernïaeth gyfansoddiadol sy'n bendant yn fregus ar hyn o bryd? Nid yw ewyllys da yn gyfraith, nid yw addewid yn ddiogelwch, ac nid yw'n bosibl disgrifio'r berthynas bresennol rhwng y ddwy Lywodraeth, hyd yn oed pan mae'r un blaid ydynt, fel un o barch cydradd. Yn wir, fe wnaethon ni glywed yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog am lythyr a anfonwyd gan Brif Weinidog y DU at holl aelodau'r Cabinet ar 12 Rhagfyr y llynedd. Ynddo, rhybuddiodd yn erbyn, ac mae'n werth dyfynnu eto,
'dull rhy ymostyngar neu laissez-faire o ymgysylltu â llywodraethau datganoledig'
oherwydd ei bod
'bron yn anochel yn creu heriau gwleidyddol.'
Wel, 'I bwy?', mae'n debyg, yw'r cwestiwn. Ond, ymhell o barchu datganoli, mae'r llythyr hwn yn cyfarwyddo Gweinidogion y DU i fod, ac rwy'n dyfynnu eto,
'yn hyderus yn ein gallu i gyflawni'n uniongyrchol yn y gwledydd hynny, gan gynnwys trwy wariant uniongyrchol, hyd yn oed pan fydd llywodraethau datganoledig, o bosibl, yn gwrthwynebu hyn.'
Gadewch i ni ganolbwyntio ar hynny. Mae'n mynd ymlaen i atodi canllawiau ar ddefnyddio'r pŵer cymorth ariannol o dan adran 50 o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020—yr union bŵer y gwnaeth Aelodau Llafur Cymru o'r Senedd ei gondemnio fel sarhad cyfansoddiadol naw diwrnod ynghynt. Gadewch i ni fod yn glir am y drefn honno. Ar 3 Rhagfyr, cyhuddodd mwy na thraean o grŵp Llafur Cymru Brif Weinidog y DU o danseilio datganoli. Naw diwrnod yn ddiweddarach, ei ymateb ef oedd dweud wrth ei Weinidogion i fynd yn eu blaen beth bynnag, i wario mewn ardaloedd datganoledig p'un a yw Cymru yn cytuno ai peidio. Nid ailosod yw hynny; llyfr cyfarwyddiadau ydyw ar gyfer tanseilio'r Senedd hon.
Yn y cyd-destun hwn, nid yw'r Ysgrifennydd Cabinet, fel y gwnaethon ni ei glywed, wedi gallu datgelu natur ei hymgysylltiad â Llywodraeth y DU a arweiniodd at y penderfyniad i ddiystyru egwyddorion ei Llywodraeth ar bwerau cydredol. Ni all ddweud wrthon ni beth gafodd ei drafod, ond rydyn ni'n gwybod nawr beth oedd Prif Weinidog y DU yn ei ddweud wrth ei Weinidogion ei hun. Os yw'r tresmasu hwn ar ran Llywodraeth Lafur y DU o ran ein pwerau ein hunain yn peri pryder i ni heddiw, ystyriwch beth fyddai'n digwydd pe bai Reform yn dod i rym yn San Steffan. Bob tro mae'r Senedd hon yn ildio, rydyn ni'n gwneud y gwaith caled drostyn nhw. Naid ffydd, nid penderfyniad gwybodus—dyna'r hyn mae disgwyl i'r Senedd ei chymryd unwaith eto heddiw. Dydy hynny ddim yn ddigon da. Y Senedd hon sydd wedi bod yn rhy barchus a laissez-faire yn ein hagwedd at gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'n rhaid i hynny newid nawr, ac os nad nawr, yna yn sicr ar ôl 7 Mai.
Ar y sail hon, oherwydd y pwerau sy'n cael eu hildio, y diffyg tryloywder, a'r methiant, unwaith eto, i hyrwyddo datganoli cyfiawnder, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac rydyn ni'n annog eraill i wneud yr un peth.
Byddwn ni yn Reform yn gwrthwynebu'r LCM heddiw. Er ein bod ni, wrth gwrs, yn cefnogi'r egwyddorion cyffredinol o ymdrin â throseddu, nid ydym o'r farn bod y Bil Troseddu a Phlismona yn mynd yn ddigon pell i ymdrin â throseddu yn effeithiol. Dyna pam y pleidleisiodd Aelodau Seneddol Reform yn San Steffan yn erbyn y Bil Troseddu a Phlismona, a dyna pam y byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn yr LCM heddiw. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau a'u harsylwadau. Mae'n bwysig iawn fy mod i wedi dod â hyn i'r Senedd. Rwy'n gwerthfawrogi mai dim ond ychydig o amser rydym wedi'i gael i drafod y Bil, ac rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am ei graffu ar y Bil. Mae Aelodau wedi gofyn ac eisiau gwybod pam rydw i wedi trefnu'r ddadl ar yr LCM heddiw, oherwydd mae dadleuon yn mynd rhagddynt o hyd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac nid yw'r Bil wedi'i gytuno'n llawn eto. Ond mae cynnal y ddadl hon heddiw yn sicrhau bod barn y Senedd yn cael ei chlywed a'i chynrychioli yn ystod hynt y ddeddfwriaeth bwysig hon.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd gydnabod y ffaith bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi trafod hyn eto ddydd Llun, a hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am eu llythyr diweddar ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 3. Mae'n ddrwg gennyf nad ydyn ni wedi gallu rhoi mwy o amser i bwyllgorau graffu ar y gwelliannau hyn. Mae'r gwelliannau hyn, sydd eto i'w cytuno, wedi'u cynnwys yn SLCM Rhif 3, ond gwelliannau Llywodraeth y DU ydyn nhw, ac rydyn ni'n hyderus y bydd Senedd y DU yn cytuno arnynt.
Cafodd y ddadl ei haildrefnu, fel y cofiwch, ar ôl i Lywodraeth y DU ein cynghori y byddai gwelliannau yn cael eu cyflwyno ar 13 Chwefror, a gwelliannau eraill ar 23 Chwefror. Gwnaeth aildrefnu'r ddadl ar gyfer heddiw sicrhau y byddai'r gwelliannau hyn yn cael eu cynnwys yn y ddadl heddiw, gan roi cyfle, yn amlwg, i'r Senedd bleidleisio arnyn nhw. Gwnaeth hefyd ganiatáu i bwyllgorau ystyried y gwelliannau eraill a gyflwynwyd yn hwyr yn hynt y Bil. Dydw i ddim wedi gallu symud y ddadl yn ôl ymhellach, Llywydd, oherwydd amserlen y Cyfarfod Llawn a'r cyfyngiadau yn y cyfnod cyn yr etholiad, ond roeddwn i'n awyddus i sicrhau bod y Senedd yn trafod ac yn pleidleisio ar y darpariaethau hyn.
Fe wnaf i ymateb i'r llythyr yn llawn, oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y dylai gwelliant 335, y nodwyd ei fod yn cynnwys darpariaeth sy'n gofyn am gydsyniad, fod yn gyfeiriad at welliant 334 yn lle hynny. Hoffwn roi hynny ar y cofnod. A hefyd, o ran cwestiwn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynglŷn â pheidio â cheisio cydsyniad o ran darpariaeth o fewn gwelliant 375, gallaf gadarnhau mai camgymeriad drafftio yw hyn, a dylai gwelliant 375 fod wedi cael ei gynnwys yn SLCM Rhif 3.
Wnaf i ddim mynd eto trwy'r materion polisi pwysig iawn y mae'r Bil hwn yn ymdrin â nhw—cryfhau'r gyfraith fel bod menywod a merched yn fwy diogel yn eu cartrefi, ar-lein, mewn mannau cyhoeddus; ymdrin a sbeicio diodydd; amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed; a diffiniad statudol o gam-drin ar sail anrhydedd. Rwy'n teimlo'n gryf iawn bod y ddadl hon yn bwysig o ran rhoi'r cydsyniad deddfwriaethol hwnnw. Unwaith eto, byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi'r LCM hwn, a hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau, wrth gwrs, am ystyried y memoranda hyn.
Mae'n bwysig, yn olaf, Llywydd, ymdrin â'r darpariaethau hyn mewn Bil y DU sy'n cynnwys materion datganoledig a materion a gedwir yn ôl, a sicrhau bod ein rhan ni yn y ddeddfwriaeth hon sy'n ddeddfwriaeth y DU yn galluogi amcanion polisi i gael eu cyflawni yn y ffordd fwyaf effeithiol. Fel y dywedais i, gofynnaf i'r Aelodau ymuno â mi i gefnogi'r Bil hwn a rhoi cysyniad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Gwnawn ni ohirio'r bleidlais.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 9 sydd nesaf, cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Y Cwnsler Cyffredinol sy'n gwneud y cynnig yma'n ffurfiol.
Cynnig NDM9192 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 2-21;
b) Atodiad 1;
c) Adrannau 22-25;
d) Adran 1;
e) Teitl Hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig y cynnig.
It is formally moved. I have no speakers. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 sydd nesaf, Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru): hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai sy'n cynnig—Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf orchymyn gan Ei Fawrhydi y Brenin i hysbysu'r Senedd bod Ei Fawrhydi, ar ôl cael gwybod am ddiben y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), wedi rhoi ei gydsyniad i'r Bil hwn.
Yr eitem nesaf yw eitem 11. Dadl ar Gyfnod 4 y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yw hon. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cyflwyno'r cynnig—Jayne Bryant.
Cynnig NDM9209 Jayne Bryant
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr nad oes angen atgoffa'r un ohonon ni fod gwreiddiau'r Bil hwn yn y digwyddiadau ofnadwy ar 14 Mehefin 2017, pan gollodd 72 o bobl eu bywydau yn y tân yn Nhŵr Grenfell. Mewn ymateb i'r drasiedi honno, aethon ni ati i gyflwyno cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd er budd pobl sy'n byw mewn adeiladau wedi'u rhannu ledled Cymru, ni waeth beth fo uchder neu ddeiliadaeth yr adeilad.
Mae tair egwyddor allweddol yn sylfaenol i'r Bil hwn. Y gyntaf yw diogelwch. Er na allwn ni byth dileu pob risg, gallwn ni wella diogelwch yn sylweddol trwy nodi risgiau a sicrhau bod y risgiau hyn yn cael eu rheoli'n gywir. Trwy wneud hynny, mae pobl yn fwy diogel ac yn teimlo'n fwy diogel gartref. Yr ail egwyddor yw atebolrwydd. Bydd y ddeddfwriaeth yn rhoi terfyn ar unrhyw ddryswch ynghylch pwy sy'n atebol am reoli risgiau sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau. Byddwn ni'n sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am adeiladau yn cael eu dwyn i gyfrif, mewn cyfraith, am eu diogelwch. Y drydedd egwyddor yw llais preswylwyr. Mae preswylwyr yn sylfaenol i'r gyfundrefn hon. Mae'n rhaid i'w profiadau a'u pryderon gael eu clywed ac mae'n rhaid ymdrin â nhw. Byddwn ni'n grymuso preswylwyr gyda llwybrau clir ar gyfer gwneud iawn a llais cryfach mewn materion sy'n effeithio ar eu cartref.
Rydyn ni'n cydnabod o'r dechrau bod diwygio ar y raddfa hon yn gymhleth ac yn cymryd llawer o amser. Y canlyniad yw un o'r Biliau mwyaf erioed i gael eu hystyried gan y Senedd hon. Mae'n llawer ehangach o ran ei gwmpas a'i uchelgais na'r ddeddfwriaeth gyfatebol yn Lloegr, ac rwy'n argyhoeddedig mai dyma'r Bil sydd ei angen arnon ni os yw diogelwch yn mynd i fod yn egwyddor arweiniol i ni.
Mae llawer o bartneriaid wedi cyfrannu at gael y Bil hwn i'r fan hon. Rhaid i mi ddiolch i'm rhagflaenwyr, Julie James a Hannah Blythyn, am wneud cymaint o'r gwaith sylfaenol, ac i swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd wedi gweithio mor galed ac am gyfnod mor hir, ac sydd wedi bod yn benderfynol o gael y manylion technegol yn gywir. Rwy'n ddiolchgar i Gadeiryddion ac aelodau pwyllgorau'r Senedd sydd wedi craffu ar y Bil mor drylwyr. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Rhys ab Owen a Siân Gwenllian, sydd wedi hyrwyddo pryderon lesddeiliaid gyda phenderfyniad, ac i Joel James a Lee Waters am eu her dreiddgar a'u gwaith cadarnhaol. Mae'r pedwar wedi dangos parodrwydd i weithio gyda mi i ddod o hyd i atebion.
Dywedodd y Llywydd wrthym mai'r ddadl yr wythnos diwethaf, lle gwnaethon ni gytuno yn unfrydol ar gyfres gyfan o welliannau cymhleth, oedd y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn y Senedd. Cafodd ei gyflawni trwy'r gwaith caled a wnaed gan lawer o bobl a pharodrwydd i gyfaddawdu. Diolch i bawb a fu'n gysylltiedig. Dangosodd beth allwn ni ei wneud pan ydyn ni'n dewis gweithio gyda'n gilydd i gyflawni nod cyffredin: gwleidyddiaeth ar ei gorau. Rhaid diolch yn fawr hefyd i'r sector tai, i lywodraeth leol ac i'r gwasanaethau tân ac achub am ymgysylltu mor frwdfrydig, am gefnogi ein nodau, ac am rannu eu dealltwriaeth a'u harbenigedd gyda ni.
Ac yn olaf, rhaid i mi ddiolch i'r preswylwyr a'r lesddeiliaid sydd wedi rhannu eu profiad bywyd gyda ni, a sefydliadau fel TPAS Cymru, sydd wedi helpu i roi llais iddyn nhw. Yn benodol, hoffwn ddiolch i Diana a'i phartner Terry. Fe ges i wahoddiad gan Diana i fynd i'w chartref i glywed am y gwaith y mae Merthyr Valleys Homes wedi'i wneud i sicrhau ei bod hi'n teimlo'n ddiogel. Roedd yn amlwg i mi yn ystod yr ymweliad hwnnw faint o bwys a oedd wedi cael ei roi ar ddiogelwch adeiladau a hefyd pa mor bwysig oedd ymgysylltu â phreswylwyr. Dyna'r hyn y bydd y Bil hwn yn ei sicrhau, a dyna'r etifeddiaeth y gall y Senedd hon ymfalchïo ynddi. Wrth gwrs, rydyn ni'n parhau i deimlo effeithiau trasiedi Tŵr Grenfell, ac fel Llywodraeth, rydyn ni'n parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod holl argymhellion ymchwiliad Tŵr Grenfell yn cael eu gweithredu.
Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud. Rwy'n teimlo'n ddwfn dros bobl sy'n dal i aros i'w hadeiladau gael eu cyweirio ac yn wynebu'r straen a'r gost a all ddod gyda hynny. Ond rydw i hefyd yn ymwybodol bod yr heriau logistaidd sydd ynghlwm wrth wneud gwaith cyweirio yn real. Rydyn ni wedi cefnogi preswylwyr yn rhagweithiol trwy roi contractau ar waith gyda datblygwyr, ac rydyn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu'r rwystrau i gynnydd. Rwy'n deall ac yn rhannu rhwystredigaeth preswylwyr, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn cyflwyno Bil cyweirio i gefnogi lesddeiliaid ymhellach. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i weithredu cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd, ond trwy basio'r Bil hwn heddiw, gallwn ni gymryd cam enfawr ymlaen fel bod pobl Cymru yn ddiogel yn eu cartrefi. Diolch.
Hoffwn ddechrau trwy nodi y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r Bil diogelwch adeiladau yng Nghyfnod 4. Rwyf eisiau diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymgysylltu cadarnhaol rydym wedi'i gael trwy gydol y broses hon. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddfa wedi bod yn gyflym i ymgysylltu â mi, yn enwedig yn y trafodaethau rydym wedi'u cael rhwng y cyfnodau, ac rwyf wedi gwerthfawrogi hynny'n fawr. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid hynny a oedd yn gallu cyfrannu tystiolaeth ac ystyried gwelliannau drwy gydol cyfnodau'r Bil. Rwy'n teimlo ein bod ni wedi aros yn hir am y ddeddfwriaeth hon, o ystyried, fel rydym wedi clywed, bod y tân yn Nhŵr Grenfell a laddodd gymaint o bobl wedi digwydd bron i naw mlynedd yn ôl. Rwy'n credu y bydden ni i gyd wedi hoffi gweld y ddeddfwriaeth hon yn dod yn gynt o lawer.
Fel y soniais yn flaenorol, rwyf wedi bod yn pryderu na chafodd y diwydiant adeiladu'r cyfle i gyfrannu at y sesiynau tystiolaeth. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle coll, yn enwedig gan fod pryderon wedi'u codi ynghylch yr effaith bosibl ar y cyflenwad tai a'r farchnad eiddo, lle gallai mwy o feichiau rheoleiddio ac ansicrwydd ynghylch atebolrwydd arafu datblygiad, effeithio ar werthadwyedd a'r gallu i ailforgeisio rhai eiddo.
Er ein bod ni wedi gweithio'n gadarnhaol i geisio ymdrin â nifer o faterion a godwyd yn ystod y craffu, rwy'n dal i gredu mai un o'r ffactorau fydd yn cyfyngu fwyaf ar lwyddiant y ddeddfwriaeth hon fydd capasiti. Yn benodol, p'un a oes gennym ddigon o weithwyr proffesiynol cymwys ym meysydd diogelwch tân ac adeiladau i gyflawni'r drefn newydd yn effeithiol. Ar hyn o bryd, mae pryderon gwirioneddol nad oes gan y sector y gweithlu sydd ei angen i fodloni'r gofynion y bydd y ddeddfwriaeth hon yn eu rhoi arno. Mae'r mater hwn o gapasiti nid yn unig yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy'n cyflawni'r gyfundrefn, ond hefyd i'r rhai sy'n gyfrifol am ei gorfodi. Mae awdurdodau lleol eisoes o dan bwysau sylweddol, a byddan nhw'n chwarae rhan allweddol wrth orfodi'r gofynion newydd hyn. Felly, mae'n bwysig bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i sicrhau bod ganddyn nhw'r adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ymgymryd â'r cyfrifoldebau ychwanegol hynny.
Yn ogystal â'r pryderon hynny ynghylch capasiti a gorfodi, mae cwestiynau'n parhau hefyd ynghylch faint o fanylion a fydd yn cael eu nodi'n ddiweddarach trwy is-ddeddfwriaeth. Er bod hynny'n ddealladwy i raddau, mae'n creu ansicrwydd i landlordiaid, darparwyr tai, preswylwyr a datblygwyr a fydd yn ceisio paratoi ar gyfer y system newydd.
Yn olaf, hoffwn ddweud, er bod yna feysydd o hyd lle mae cwestiynau'n parhau, mae'r egwyddorion y tu ôl i'r ddeddfwriaeth hon yn bwysig, ac rydyn ni i gyd yn rhannu'r nod o sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu byw mewn cartrefi sy'n ddiogel ac sy'n cael eu rheoleiddio'n briodol. Diolch, Llywydd.
Mae'r ffaith fod y Senedd wedi derbyn yr holl welliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 3 o'r Bil yma yn arwydd o'r cydweithio manwl fu dros y misoedd diwethaf, ac yn arwydd o aeddfedrwydd y drafodaeth yn y Senedd yma. Mae gennym ni bellach Fil sydd yn cryfhau'r system diogelwch adeiladau i'r dyfodol a hefyd yn cyfarch, i raddau o leiaf, yr angen i brysuro'r gwaith o gyweirio adeiladau presennol. Mae atebolrwydd a llais trigolion hefyd yn elfennau pwysig yn y ddeddfwriaeth.
Mae'r ddeddfwriaeth yma yn mynd ymhellach na'r hyn sydd yn Lloegr, ac mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu. Mae hyn yn cynnwys rheoliad newydd ar ddiogelwch adeiladau sy'n cwmpasu asesu a rheoli risgiau diogelwch tra bod adeilad preswyl yn cael ei feddiannu. Mi fyddai'r rheoliad hwn yn gymwys i bob adeilad preswyl sy’n cynnwys o leiaf dwy uned, tra yn Lloegr dim ond adeiladau risg uchel sydd o leiaf 18m o uchder neu sy'n o leiaf saith llawr sydd yn dod o fewn cwmpas y rheoliad. Felly, mae'r ffaith ein bod ni wedi cymryd ychydig bach mwy o amser er mwyn cyrraedd at y pwynt sy'n cynnwys mwy o adeiladau yn fater i'w glodfori, dwi'n credu.
Mae’r ddeddfwriaeth yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar gynnydd wrth gyflawni gwaith cyweirio yng Nghymru—hynny ydy, y gwaith sydd wedi ei osod allan yng nghontractau’r Llywodraeth efo datblygwyr, neu sydd wedi’i ariannu gan gronfa diogelwch adeiladau Cymru. Mae gan breswylwyr sy’n byw mewn adeiladau sydd wedi eu hadnabod fel rhai sydd angen eu cyweirio fwy o rym i ddal y datblygwyr i gyfrif, a gwell gwarchodaeth ynglŷn â chynnydd mewn costau gwasanaeth, sef materion a oedd yn sicr yn flaenoriaeth i mi pan oeddem ni wrthi'n trafod y ddeddfwriaeth yma.
Mae hi bron yn naw mlynedd ers trasiedi erchyll Grenfell, un o drychinebau mwyaf yr oes fodern. Ac eto, mae llawer gormod o bobl yn byw mewn ofn y bydd trasiedi tebyg yn digwydd eto, efo bron i hanner o’r adeiladau sydd wedi eu hadnabod ar gyfer cyweirio un ai'n dal i ddisgwyl cael eu harolygu, neu yn disgwyl i’r gwaith gychwyn. Fe glywodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai dystiolaeth bwerus gan breswylwyr sydd yn dal i fwy mewn ofn ers trasiedi Grenfell.
Yn ystod Cyfnod 3, wrth gwrs, o’r diwedd fe dderbyniodd y Llywodraeth fod cyweirio o fewn sgôp y ddeddfwriaeth. Mae'n siomedig braidd fod hyn wedi digwydd mor hwyr yn y dydd, ac fe fydd hi’n naw mis arall o leiaf cyn y gellir gweithredu rhai o’r gwelliannau am gyweirio. Felly, dwi'n deall rhwystredigaeth y preswylwyr a'r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y gwelliannau yma. Ond dwi wir yn gobeithio rŵan y bydd y Llywodraeth yn bwrw ati i greu'r rheoliadau newydd yma. Mae yna broses o gwmpas hynny, wrth gwrs—mae'n rhaid ymgynghori ac yn y blaen—ond yn sicr mae angen i'r gwaith yna gychwyn rŵan, a dim disgwyl tan y Senedd nesaf. Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd hynny yn digwydd, ac mi fyddaf yn sicr yn dal yr Ysgrifennydd Cabinet presennol i gyfrif ar hynna, a hefyd yn annog y Llywodraeth nesaf i fwrw ati yn syth efo’r gwaith. Diolch.
I lawer o'r preswylwyr o'n cwmpas ni heddiw, byddan nhw'n gweld hyn fel moment hanesyddol. Wrth gwrs, rydyn ni'n rhannu eu rhwystredigaeth ei bod wedi cymryd bron i naw mlynedd i gyrraedd y pwynt hwn, ond rydw i mor falch bod y Bil wedi cyrraedd ei gyfnodau olaf cyn etholiad y Senedd. Pam mae'r ddeddfwriaeth hon mor bwysig? Wel, gwnaeth adroddiad terfynol adolygiad Hackitt, a gafodd ei gyhoeddi nôl ym mis Mai 2018, ganfod nad yw system reoleiddio sy'n cwmpasu adeiladau uchel a chymhleth yn addas i'r diben. Nododd panel arbenigol tai Cymru gyfan nad yw'r system bresennol o asesiadau risg diogelwch tân yn hollgynhwysol ac, unwaith eto, nad yw'n addas i'r diben. Ac mae'r Gorchymyn diogelwch tân yn seiliedig ar adeiladau masnachol, felly nid yw'n canolbwyntio ar anheddau preswyl. Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, bod y cyfrifoldebau yn aneglur, bod cydymffurfiaeth yn anghyson ac nad oes gan breswylwyr fynediad at gyfiawnder i orfodi hawliau sylfaenol.
Roedd y dystiolaeth yn glir bod angen cyfundrefn â chyfrifoldebau a hawliau cryfach, a hynny ar frys, er mwyn gwella diogelwch y rhai sy'n byw mewn eiddo preswyl amlfeddiannaeth ledled Cymru. Ac mae'r Bil hwnnw'n cyflawni hynny. Mae yna nifer o agweddau pwysig, megis y ffaith y bydd gan bob adeilad yn y tri chategori unigolyn sy'n gyfrifol am ddiogelwch, cofnod o wybodaeth am ddiogelwch adeiladau—yr edau aur—ac asesiad risg diogelwch tân wedi'i gynnal gan berson cymwys, y mae'n rhaid iddo gael ei adolygu'n flynyddol.
Rwy'n croesawu hefyd fod y gofynion ar gyfer adeiladau categori 1 yn cynnwys yr angen i fod â strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr, ac mae hynny mor bwysig. Ac efallai fod llawer o'r problemau rydym wedi'u cael yn y gorffennol wedi deillio o'r ffaith nad yw preswylwyr yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw. Mae hi mor bwysig bod gennym ni broses nawr ar gyfer ymchwilio i gwynion. Yn y bôn, bydd hyn yn galluogi rhanddeiliaid perthnasol i gael dweud eu dweud o ran penderfyniadau sy'n berthnasol i ddiogelwch eu hadeiladau eu hunain, i'w cartrefi eu hunain. Mae'n ymdrin ag un o ganfyddiadau adolygiad Hackitt, sef bod angen gwell cyfathrebu am ddiogelwch rhwng landlordiaid neu berchnogion eiddo a'r preswylwyr eu hunain. Rhaid i ni gofio mai bywydau pob person, plentyn, teulu sy'n byw mewn adeiladau o'r fath sydd angen bod ar flaenau ein meddyliau, ac ar flaenau meddyliau pawb sy'n ymwneud ag eiddo preswyl amlfeddiannaeth. Dyna sydd wedi fy ysbrydoli i ers cynnal fy nghyfarfod cyntaf fel Aelod o'r Senedd nôl ym mis Mai 2021 gyda phreswylydd o Victoria Wharf. Ac o'r diwedd, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu gan y Welsh Cladiators a dioddefwyr diogelwch adeiladau eraill, mae cyweirio nawr yn rhan o'r Bil. Ac rydw i mor ddiolchgar, Ysgrifennydd Cabinet, am hynny. Mae llwybr clir nawr i breswylwyr ddwyn achosion gerbron y tribiwnlys eiddo preswyl ar gyfer gorchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio.
Ond fel y gŵyr yr Ysgrifennydd Cabinet yn dda, naw mis yw'r cyfnod hiraf o amser sydd gan y Llywodraeth hon neu'r Llywodraeth nesaf i gyflwyno'r rheoliadau angenrheidiol. Nawr, mae dioddefwyr o'r farn, ac mae profiad San Steffan yn profi, nad oes angen naw mis. Rwy'n credu y gall Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon gyflawni'n gynt, ac mae'n rhaid blaenoriaethu camau gweithredu o'r fath.
Er hynny, rwy'n falch iawn o allu cydnabod heddiw bod y Bil hwn yn cryfhau hawliau, yn cryfhau lleisiau ac, yn bwysicach fyth, ac mae hon yn hawl ddynol mor sylfaenol, yn cryfhau cartrefi cynifer o bobl yn ein cymunedau. Diolch i'r holl bobl sydd wedi cyfrannu am gyhyd, sydd wedi brwydro am gyhyd, yn y broses hon sy'n amhrisiadwy yn gyffredinol. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr sy'n ymateb.
Fe wnaf i symud i'r bleidlais, Llywydd.
Iawn. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, bydd yn rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, mae'r bleidlais yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 12 ac 13 sydd nesaf. Oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitem 12 ac 13, sef cyfnod terfynol y Bil Cynllunio (Cymru) a chyfnod terfynol y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru), yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Felly, does dim gwrthwynebiad i hynny.
Y Cwnsler Cyffredinol sy'n cyflwyno'r cynigion—Julie James.
Cynnig NDM9196 Julie James
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.58:
Yn cymeradwyo'r Bil Cynllunio (Cymru).
Cynnig NDM9197 Julie James
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.58:
Yn cymeradwyo'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru).
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Llywydd. Heddiw, mae'r Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) Cymru gerbron y Senedd i'w hystyried am y tro olaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am ein dadleuon adeiladol ac am y gefnogaeth glir a ddangoswyd i fwrw ymlaen â'r ddau Fil. Mae'r gefnogaeth honno yn ein galluogi nawr i gymryd cam pwysig tuag at wireddu'r manteision sydd ynghlwm wrthynt.
Ers degawdau, mae deddfwriaeth gynllunio yng Nghymru wedi cael ei gwasgaru ar draws llawer o Ddeddfau, wedi'i haenu â diwygiadau sydd wedi creu cymhlethdod cynyddol. Os bydd y Senedd yn pasio'r Biliau hyn heddiw, bydd yn garreg filltir bwysig a phendant. Am y tro cyntaf, bydd gweithwyr proffesiynol, awdurdodau lleol a'r cyhoedd yn gallu cael mynediad at y corff llawn o gyfraith gynllunio Cymru yn y ddwy iaith, mewn un cod cydlynol.
Mae'r Bil Cynllunio (Cymru) yn dwyn y brif ddeddfwriaeth ynghyd ac yn ei hailddatgan mewn iaith glir, fodern a dwyieithog. Bydd hyn yn gwneud y system yn fwy hygyrch ac yn fwy abl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ledled Cymru. Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod y manteision hyn yn ystod y craffu ac yn cefnogi'n gryf y cam sylweddol ymlaen y mae'r Biliau hyn yn ei ddarparu.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod diben hanfodol y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Trwy ddiweddaru, alinio a diddymu darpariaethau sydd wedi'u gwasgaru ar draws sawl degawd o ddeddfwriaeth, mae'n sicrhau bod y cod newydd yn gweithredu'n esmwyth o'r eiliad y daw i rym. Hebddo, byddai'r eglurder a gyflawnwyd drwy'r Bil Cynllunio (Cymru) yn cael ei danseilio gan anghysondebau mewn mannau eraill yn y llyfr statud.
Llywydd, mae'r Biliau hyn hefyd yn gam arwyddocaol yn nhaith datganoli ehangach Cymru. Trwy wahanu cyfraith gynllunio Cymru oddi wrth ddeddfwriaeth a basiwyd gan Senedd y DU, mae'r Biliau hyn yn sefydlu fframwaith cyfreithiol hygyrch a chlir sydd wedi'i gynllunio'n unigryw ar gyfer Cymru. Mae'r derminoleg a'r cyfeiriadau a ddefnyddir nawr yn adlewyrchu mewn ffordd llawer cliriach fwriad gweithredol ac effaith y system gynllunio. Mae'r Biliau yn disodli degawdau o ddarnio gydag eglurder, ac o ganlyniad, bydd y rhai sy'n gweithredu, yn defnyddio ac yn ymgysylltu â'r system gynllunio yn gallu deall a chael mynediad at y gyfraith sy'n berthnasol iddynt.
Wrth edrych ymlaen, bydd pasio'r Biliau hyn heddiw yn gwneud mwy na dim ond tacluso ein llyfr statud; maen nhw'n gosod y sylfeini cadarn ar gyfer ein dyfodol. Mae'r Bil Cynllunio (Cymru) yn darparu llwyfan clir ar gyfer bwrw ymlaen â diwygiadau i'r system gynllunio. Trwy foderneiddio a chydgrynhoi cyfraith gynllunio mewn un cod hygyrch, bydd diwygiadau yn y dyfodol nid yn unig yn haws i'w siapio, ond byddant yn llawer cliriach i bawb eu deall a chraffu arnynt.
Llywydd, hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi dod â ni i'r pwynt hwn. Yn arbennig, rwyf am gydnabod Comisiwn y Gyfraith am ei adroddiad ar gyfraith gynllunio yng Nghymru. Mae'r Biliau, i raddau helaeth, yn gynnyrch ei ddadansoddiad manwl ac annibynnol, ac mae hyn yn parhau â'r bartneriaeth gref rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Gyfraith yn ein cenhadaeth gyffredin i foderneiddio a rhesymoli cyfraith Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith craffu adeiladol a thrwyadl y mae wedi'i wneud ar y ddau Fil, a hoffwn ddiolch hefyd i randdeiliaid ar draws y cymunedau cynllunio, amgylcheddol a chyfreithiol a ddarparodd dystiolaeth arbenigol i'r pwyllgor. Llywydd, hoffwn gydnabod yn arbennig gyfraniadau gwerthfawr staff Comisiwn y Senedd, sy'n gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni. Diolch yn fawr iddynt am eu holl ymdrechion i sicrhau ein bod wedi cyrraedd lle rydyn ni heddiw.
Ac yn olaf, rwyf am dalu teyrnged i dîm y Bil. Mae eu hymrwymiad eithriadol, eu harbenigedd technegol a'u gwaith caled parhaus wedi bod yn allweddol wrth lywio'r ymarfer cydgrynhoi hynod dechnegol a chymhleth hwn i'r cam hwn. Bydd eu hymdrechion yn parhau wrth i ni symud i'r cam gweithredu i sicrhau pontio llyfn i'r fframwaith deddfwriaethol newydd a fydd yn sail i'r system gynllunio yng Nghymru. Diolch.
Fel yr ydym wedi clywed, mae'n amlwg bod angen y ddeddfwriaeth hon, oherwydd mae'r system gynllunio yng Nghymru, heb os, wedi dod yn rhy araf a chymhleth, gyda phrosiectau seilwaith tai mawr eu hangen yn destun oedi'n aml, sydd wedi effeithio ar drigolion a theuluoedd ledled y wlad. Rwy'n gobeithio y bydd un o brif nodau'r Bil, i wneud penderfyniadau cynllunio yn gyflymach ac yn fwy effeithlon trwy gyflwyno gweithdrefnau ac amserlenni cliriach a fydd yn helpu i leihau oedi diangen yn y broses gynllunio, yn dod i'r amlwg mewn amserlenni adeiladu gwell. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig o'r farn bod system gynllunio fwy effeithlon a rhagweladwy yn bwysig ar gyfer cefnogi twf economaidd, rhywbeth y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael trafferth ag ef dros y 26 mlynedd diwethaf. Ond, wrth symud ymlaen, dylai mwy o sicrwydd i ddatblygwyr a buddsoddwyr helpu i ddatgloi datblygiadau newydd a chefnogi cyfleoedd economaidd ehangach. Felly, byddwn ni'n cefnogi. Diolch.
Byddwn ni'n cefnogi'r ddau Fil yma yn eu cam olaf. Rŷn ni'n croesawu'r nod canolog, symleiddio a chydgrynhoi cyfraith cynllunio Cymru. Am y tro cyntaf, bydd corff llawn y gyfraith cynllunio sylfaenol yng Nghymru yn bodoli mewn un Ddeddf gydlynol; mae hynny'n gam pwysig iawn ac un sydd wedi bod yn rhy hir yn dod.
Mae'r drefn bresennol wedi esblygu drwy haenau o ddeddfwriaeth, llawer ohonynt yn tarddu o San Steffan, sydd wedi creu cymhlethdod a dryswch ar brydiau. Bydd dod â'r darpariaethau hyn at ei gilydd mewn un lle yn rhoi mwy o eglurder a sicrwydd i bawb sy'n rhan o'r gyfundrefn gynllunio—awdurdodau lleol, datblygwyr, cymunedau a phenderfynwyr fel ei gilydd. Fel rŷn ni wedi dweud, wrth gwrs, ar hyd y siwrne, mae yna wastad le i wella unrhyw ddeddfwriaeth, ond mae'r egwyddor y tu ôl i'r Biliau yma'n gadarn. Nid diwedd diwygio cynllunio yw cydgrynhoi, ond mae'n sylfaen hanfodol ar ei gyfer. Dylai fframwaith cyfreithiol cliriach a mwy hygyrch helpu i wneud y gyfundrefn yn fwy effeithlon, cefnogi penderfyniadau cyflymach a rhoi sail gryfach i Lywodraethau'r dyfodol adeiladu arni. A bydd angen y gwaith hwnnw i gryfhau llais cymunedau, i ddiogelu'r amgylchedd, i gefnogi datblygu cynaliadwy a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau ac yn cryfhau fel ystyriaeth ganolog mewn penderfyniadau cynllunio.
Felly, er na fydd y Bil hwn yn datrys pob her sy'n wynebu'r gyfundrefn gynllunio, mae'n rhoi i Gymru rhywbeth y bu arnom ei angen ers tro: sylfaen sefydlog a chydlynol y gall y Senedd nesaf barhau â'r gwaith diwygio arni. Am y rhesymau hynny, byddwn ni'n cefnogi'r Biliau yma heddiw.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb.
Diolch, Llywydd. Rwyf am achub ar y cyfle i ddiolch unwaith eto i'r holl Aelodau sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hyn, a staff y Comisiwn hefyd. A, Llywydd, rwyf am ddweud fy mod i'n falch iawn hefyd ein bod wedi nodi'r weithdrefn ar gyfer Biliau cydgrynhoi. Felly, mae'r Bil hwn nid yn unig yn foment hanesyddol ar gyfer cynllunio yng Nghymru, mae'n foment hanesyddol at ddibenion cael mynediad at gyfraith Cymru a'i chodio ar gyfer y dyfodol.
Felly, yng ngoleuni'r sylwadau hynny, a chan wybod bod pawb o amgylch y Siambr wedi bod yn gefnogol, rwy'n falch o gynnig y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Rwy'n annog yr Aelodau i roi eu cefnogaeth lawn wrth i ni gymryd y cam pwysig hwn o gydgrynhoi, codio a chryfhau ein llyfr statud. Diolch.
Diolch i bawb am hynna. Yn unol â Rheol Sefydlog 26C.64, bydd rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar y cynigion yma o dan y cyfnod terfynol. Felly, byddwn ni'n pleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch byddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais.
Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7. Y rhain yw Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2026, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, dau yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2026. : O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Yr eitem nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona. Galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Troseddu a Phlismona. : O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Eitem 11 sydd nesaf, Cyfnod 4 y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna ar y Bil diogelwch adeiladau wedi ei dderbyn.
Eitem 11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). : O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 12 sydd nesaf, cyfnod terfynol y Bil Cynllunio (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae cyfnod terfynol y Bil cynllunio wedi cael ei dderbyn hefyd, a'r cynnig yn llwyddiannus.
Eitem 12. Cyfnod Terfynol y Bil Cynllunio (Cymru). : O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 13, cyfnod terfynol y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn ar gyfnod terfynol y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru).
Eitem 13. Cyfnod Terfynol y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). : O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisiau hynna am nawr. Byddwn ni'n cymryd egwyl fer iawn nawr, a bydd y gloch yn cael ei chanu pum munud cyn i ni ailymgynnull ar gyfer Cyfnod 3.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:54.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:05, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Rydyn ni nawr yn barod i ddechrau ar Gyfnod 3 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).
Cyn i ni ddechrau trafodion Cyfnod 3 ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y mater hwn yn destun achos adolygiad barnwrol gweithredol, ac felly mae Rheol Sefydlog 13.15 yn gymwys. Mae'r Rheolau Sefydlog yn glir na ddylai'r rheol sub judice olygu na all y Senedd ddeddfu neu y dylai'r broses deddfu cael ei hatal. Nid yw'n effeithio ar allu'r Senedd i ystyried gwelliannau i'r Bil yn ystod trafodion Cyfnod 3 heddiw.
Dylai aelodau gael eu cynghori i beidio â gwneud sylwadau'n uniongyrchol ar y trafodion, nac i wneud unrhyw sylwadau am rinweddau'r trafodion hynny o gwbl. Nid yw'n fater o ddyfalu beth fydd canlyniad yr achos hwnnw neu'r hyn a ddylai fod; mae'n rhaid i'r llys benderfynu ar y materion hynny.
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r diffiniad o rasio milgwn. Gwelliant 3 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Rhys ap Owen i gynnig y prif welliant, ac i siarad am y prif welliant a'r gwelliant arall yn y grŵp.
Tynnwyd gwelliannau 1 a 2 yn ôl.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Rhys ab Owen).
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gwelliant syml yw hwn, i ddileu 'o amgylch trac' a mewnosod 'ar drac', ond bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ar hyn o bryd, mae rasio milgwn ond yn ymwneud â rhedeg o amgylch trac. Fodd bynnag, yn fy marn i, mae hwn yn fwlch enfawr nad yw'n diogelu'r Bil at y dyfodol.
Pan godais i hyn yng Nghyfnod 2, dywedodd aelodau'r pwyllgor gyferbyn â mi eu bod yn credu bod crymedd y trac yn nodwedd ddiffiniol a gwnaethon nhw gwestiynu hyfywedd masnachol unrhyw beth heblaw'r model presennol yng Nghymru. Mewn ymateb, cynghorodd y Dirprwy Brif Weinidog fod
'y drafftio yn adlewyrchu normau a chonfensiynau'r diwydiant'.
Fodd bynnag, mae trefnu rasio ar drac syth yn hyfyw. Mae'r holl rasio yn Sbaen yn cael ei wneud ar draciau syth. Ystyriwch Seland Newydd, lle mae trac syth wedi agor ac yn cael ei ddefnyddio'n weithredol, cymaint â 12 ras y diwrnod. Maen nhw'n dysgu o Awstralia, lle mae rasio ar drac syth wedi'i wreiddio'n gadarn, Dirprwy Brif Weinidog, o fewn yr amserlen rasio wythnosol. Darllenais, wrth baratoi ar gyfer heno, erthygl yn y New Zealand Herald, a oedd yn nodi, y llynedd, ar y trac syth yn Seland Newydd, bod gamblwr wedi gosod bet o 30 doler Seland Newydd ar rasys ar drac syth. Enillodd tua 780,000 doler Seland Newydd. Yn amlwg, nid oes rhaid i'r trac fod yn drac crwn ar gyfer y sector betio.
Hefyd, gall rasio ar drac syth fod hyd yn oed yn fwy peryglus. Gwrandewch ar yr hyn a ddywedodd hyfforddwr Bwrdd Milgwn Prydain Fawr wrth Bwyllgor Materion Gwledig ac Ynysoedd Senedd yr Alban ym mis Mawrth 2024. Dyma maen nhw'n ei ddweud:
'Gallai traciau syth gael effaith niweidiol, oherwydd mae'n rhaid i gi redeg yn gyflymach mewn llinell syth dros 500m nag y mae'n gorfod ei wneud pan fydd tro. Nid ydyn nhw'n cynnal y cyflymder ar y tro, er efallai y byddan nhw'n cyrraedd cyflymder da, ond, pe baen nhw'n rhedeg nerth eu traed am 500m, byddai mwy o bosibilrwydd o anaf.'
Fel y dywedodd Cartref Cŵn a Chathod Battersea wrthyn ni,
'Os mai'r bwriad yw dileu rasio Milgwn yn llwyr'—
yng Nghymru, a dyna'r bwriad—
'yna bydden ni'n awgrymu bod y Bil yn edrych y tu hwnt i'r hyn sy'n cael ei gynnal yng Nghymru ar hyn o bryd'.
Byddai fy ngwelliannau, fel y disgrifiodd y gynghrair Cut the Chase,
'gweithredu fel mesur ataliol o ran hwyluso rasio ar draciau syth a/neu siâp arall yn y dyfodol.'
Cefnogwch y newidiadau synnwyr cyffredin hyn: gan ddileu 'o amgylch drac' a'i newid i 'ar drac', i gau un o'r bylchau enfawr hyn. Diolch yn fawr.
Fel digwyddodd yng nghyfnodau blaenorol y Bil yma, ac fel dwi'n gwybod bod rhai pleidiau eraill yn ei wneud, mi fydd gan Aelodau Plaid Cymru bleidlais rydd ar y pynciau sy'n cael eu trafod yn y cyfnod yma o'r Bil.
Bydd yr Aelodau yn cofio fy mod i wedi archwilio rhai o'r materion ynglŷn â defnyddio'r geiriau 'o amgylch' ac 'ar' o'r blaen, ac a dweud y gwir, cefais i fy argyhoeddi gan ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd, er, a bod yn deg, rwy'n edrych ymlaen nawr at glywed beth yw ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'r sylwadau yr ydyn ni newydd eu clywed. Fodd bynnag, rwyf i wedi cael fy argyhoeddi, mewn gwirionedd, bod y crymedd yn ffactor yn rhai o'r materion yr ydyn ni'n ceisio ymdrin â nhw yma, ac a gafodd ei gyflwyno, yn eithaf clir, i'r pwyllgor mewn tystiolaeth. Nid wyf i'n credu y byddai rhedeg mewn llinell syth yn fasnachol hyfyw yn y ffordd sydd wedi'i amlinellu efallai, oherwydd yn amlwg mae'r unig drac sydd gennym ni yng Nghymru yn grwm ei natur, ac nid wyf i'n credu bod datblygu diwydiant o gwmpas hyd trac rhedeg yn syth y byddai ei angen arnoch yn hyfyw, ond yn amlwg, fe wnaf i wrando ar yr hyn sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'w ddweud. Ond rwy'n ystyried, mae'n rhaid i mi ddweud, bleidleisio yn yr un ffordd ag yr wyf eisoes wedi'i wneud yn y cyfnodau blaenorol.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ni allaf gefnogi gwelliannau 3 a 5 Rhys, sy'n cynnig newid diffiniad 'rasio milgwn' yn y Bil. Fel y dywedwch chi yn ddigon teg, cafodd y gwelliannau hyn eu cyflwyno yng Nghyfnod 2, a byddaf i unwaith eto yn nodi'n glir pam nad wyf i'n gallu'u cefnogi ar hyn o bryd, ond byddaf i'n ymhelaethu ymhellach ar y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi ac i oleuo'r materion ymhellach ar gyfer Aelodau eraill yn y Siambr heddiw.
Felly, mae gwelliannau 3 a 5, fel yr ydyn ni wedi clywed, yn ceisio newid y diffiniad o 'o amgylch trac' i 'ar drac'. Mae'r diffiniad o rasio milgwn sydd wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn y Bil hwn yn cynnwys gosod milgwn i redeg o amgylch trac, sydd wir wedi'i fwriadu i gynnwys natur grom traciau rasio milgwn. Nawr, mae'r geiriad yn fwriadol ac yn fwriadol iawn, gan ei fod yn adlewyrchu dyluniad crwm y traciau, lle mae'r risg fwyaf o niwed, yn ôl y dystiolaeth. Mae'r drafftio yn adlewyrchu normau sefydledig y diwydiant ac yn adlewyrchu arferion presennol yn glir. Nawr, nid yw rasio milgwn ar draciau nad ydyn nhw'n grwm eu natur yn cael ei gynnal yng Nghymru na'r DU, ac yr ystyriaeth yw bod y risg o weithgarwch o'r fath yn datblygu yn isel. Felly, am y rhesymau hyn, ni allaf i gefnogi gwelliannau 3 a 5, sy'n ceisio ehangu'r diffiniad y tu hwnt i'r hyn yr ydyn ni'n credu sy'n angenrheidiol—[Torri ar draws] Gadewch i mi barhau â fy sylwadau am eiliad. Yr hyn sy'n angenrheidiol, yr hyn sy'n gymesur, a'r hyn sydd wedi'i seilio yng nghyd-destun Cymru a'r DU.
Yn ystod y ddadl Cyfnod 2—maddeuwch i fi, mae fy llais ychydig yn gryg ar hyn o bryd—roedd aelodau'r pwyllgor yn gefnogol o'n rhesymeg y tu ôl i'r diffiniad, gan dynnu sylw at y ffaith ei fod wedi cael ei brofi yn y cyfnod craffu, ac nad oedd yr un gwelliannau yng Nghyfnod 2 wedi cael eu cefnogi. Jane, hapus i ildio.
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad byr hwn. Gwnaethoch chi ddweud bod y risg yn isel iawn, ond mae'n risg, ac yn sicr mae cyfnewid un gair gydag un arall yn golygu bod hynny mewn gwirionedd yn lleihau'r risg, ac nid yw'n niweidiol mewn unrhyw ffordd, fel yr wyf i'n ei ddeall, i'r Bil, ond os yw'n parhau, ac os oes rhywun sydd eisiau datblygu'r ffordd arbennig hon o rasio, gallai fod yn niweidiol i gŵn. Diolch yn fawr iawn.
Felly, dywedais i fy mod i'n mynd i ymhelaethu, a byddaf nawr yn ymhelaethu. Rydych chi wedi rhoi cyflwyniad braf iawn i mi, ond cyn i mi ymhelaethu, rydw i'n mynd i droi a chymryd ymyriad o ochr arall y Siambr.
Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i eisiau deall, yn y drafftio, pam na allai fod wedi cael ei ddrafftio fel 'ar drac neu o amgylch trac'. Yn sicr byddai hynny wedi datrys pob mater.
Iawn. Diolch, y ddau ohonoch chi, oherwydd mae hynny'n eithaf defnyddiol. Rwyf i wedi esbonio yn fy sylwadau agoriadol, os mynnwch chi, yn union pam mae hyn yn adlewyrchu normau rasio presennol, yng Nghymru ac yng nghyd-destun y DU. Mae wedi'i gynllunio i gynnwys crymedd trac lle mae'r risg fwyaf o niwed, neu yn wir o farwolaethau, yn ôl y dystiolaeth. Dyna pam ei fod wedi cael ei ddrafftio fel y mae at yr union ddiben hwnnw, ond gadewch i mi fynd ychydig ymhellach mewn ymateb i Jane.
Os byddwn ni'n newid diffiniad y trac i gynnwys pethau a allai ddigwydd ar ryw adeg yn y dyfodol yn ddamcaniaethol, gallai fod yn ddiangen, oherwydd yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yw gwahardd model damcaniaethol o rasio nad yw'n digwydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar wahardd y risgiau gwirioneddol y mae tystiolaeth ar eu cyfer, a bod y Bil hwn wedi'i gynllunio i ymdrin â nhw. Nid yw rasio ar linell syth, i fod yn glir, yn digwydd yng Nghymru, nac yn fwy eang yn y DU. Mae'r tebygolrwydd y bydd yn datblygu yng Nghymru yn cael ei ystyried yn isel iawn. Roedd cynrychiolwyr y diwydiant yn glir iawn, iawn wrth graffu na fyddai traciau o'r fath yn fasnachol hyfyw, Jane, bod y seilwaith sydd ei angen yn sylweddol a'r costau'n uchel, felly gan ddileu unrhyw gymhelliant masnachol i'w gweithredu yma yng Nghymru neu'r DU. Felly, o dan yr amgylchiadau hyn, ni fyddai ehangu'r diffiniad i gynnwys gweithgaredd—rasio ar linell syth—nad yw'n digwydd yng Nghymru ac sy'n annhebygol iawn o ddigwydd, ac nad oes unrhyw dystiolaeth o fudd llesiant clir wedi'i dangos ar ei gyfer, yn cynrychioli deddfu da.
Rydyn ni'n ymwybodol, gyda llaw, Rhys, bod rasio ar linell syth yn cael ei dreialu—maddeuwch i mi am fy llais—mewn rhannau o Awstralia, a byddwn ni'n monitro'r dystiolaeth sy'n datblygu yn agos iawn. Ond o ystyried bod rasio ar linell syth dal yn newydd, ac, yn wir, yn cael eu gwerthuso hyd yn oed yn Awstralia, ac nad oes unrhyw gorff sylweddol o dystiolaeth eto wedi dangos niwed tebyg â thraciau â chrymedd neu lai o risg, nid ydyn ni'n credu ei fod yn ddeddf dda, y byddai'n gymesur neu'n angenrheidiol i Gymru gynnwys rasio mewn llinell syth gyda'r gwaharddiad ar hyn o bryd. Felly, rwy'n deall yr ysbryd y mae hyn yn cael ei gynnig ynddo, ond nid ydyn ni'n credu ei fod yn briodol nac yn gymesur yn y ddeddfwriaeth hon. Am y rheswm hwnnw, bydden ni'n gofyn i'r Aelodau wrthwynebu'r gwelliannau hyn.
Rhys ab Owen i ymateb.
Yn syml, nid wyf yn deall eich rhesymeg, Dirprwy Brif Weinidog—byddai 'ar' hefyd yn cynnwys trac crwm. Ac nid syniad damcaniaethol yw hwn. Mae rasio ar drac syth yn hyfyw ac yn digwydd yn Sbaen, Seland Newydd ac Awstralia. Os mai bwriad y Bil hwn yw gwahardd rasio milgwn, dylen ni wahardd rasio milgwn ar bob trac, nid caniatáu bwlch enfawr, oherwydd bydd y diwydiant betio eisiau atal gwahardd rasio milgwn, a bydd yn chwilio am fylchau. Ac mae bwlch clir a fydd yn gwneud y ddeddfwriaeth hon yn amlwg yn anorfodadwy. Nid oes gennyf unrhyw syniad pam yr ydych chi'n dal ati, oherwydd bydd un newid bach, un gair bach, yn cau'r bwlch hwnnw'n llwyr. Nid wyf i'n deall. Gallai rasio ar drac syth ddigwydd yng Nghymru, a byddai un gair yn ei gynnwys, yn grwn ac yn syth. Byddai rasio ar drac syth yn gwneud gwawd o fwriad y Bil hwn. Mae gennych chi ddau ddewis: gallwch chi adael y bwlch hwn ar agor, neu gallwch chi ddeddfu'n synhwyrol trwy weld bod hyn yn digwydd mewn gwledydd eraill, a defnyddio fy ngwelliant i lenwi'r bwlch clir hwn. Diolch yn fawr.
Os gwrthodir gwelliant 3, bydd gwelliant 5 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, felly byddwn yn symud i bleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, saith yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Eitem 15. Gwelliant 3: O blaid: 15, Yn erbyn: 30, Ymatal: 7
Gwrthodwyd y gwelliant
Tynnwyd gwelliant 4 yn ôl.
Methodd gwelliant 5.
Grŵp 2 sydd nesaf, ac mae'r ail grŵp o welliannau yn ymwneud ag adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf. Gwelliant 6 yw prif welliant y grŵp hwn, a galwaf ar Rhys ab Owen i gynnig y prif welliant ac i siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Rhys ab Owen).
Diolch yn fawr, Dirprwy Brif Weinidog. Fe wnes i gyflwyno gwelliannau bron yr un fath yng Nghyfnod 2. Yr unig wahaniaeth yw fy mod i wedi dileu'r gofyniad i'r gwaith gwerthuso ddechrau o 12 mis ar ôl i'r Bil ddod i rym. Unwaith eto, nid oeddwn i'n deall rhai sylwadau gan aelodau'r pwyllgor sy'n eistedd gyferbyn â mi, a'r Dirprwy Brif Weinidog. Gwnaeth un Aelod Llafur gyferbyn wrthwynebu cynnwys adolygiad ac adroddiad ar effaith a gweithrediad y Ddeddf yn y Bil, oherwydd y byddai yn y ddeddfwriaeth hon ond nid ym mhob un arall. Ac yna gwrthwynebodd y Dirprwy Brif Weinidog oherwydd ei fod yn mynnu y byddai adolygiad. Dywedodd ef,
'Byddwn i'n annog y pwyllgor i beidio â chefnogi gwelliant 9, oherwydd yn unol ag arfer da bydd adolygiad, a bydd yr adolygiad hwnnw'n digwydd, mewn gwirionedd, heb fod yn hwyrach na phum mlynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.'
Wel, gallai hynny fod yn wir pe bai Llywodraeth bresennol Cymru newydd gael ei hethol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gymryd rhagofalon, gan gofio y gallai fod Llywodraeth Cymru newydd ar ôl yr etholiadau ym mis Mai.
Ac o ran y pwynt arall yr oedd aelod o'r pwyllgor Llafur wedi'i wneud, yn gynharach eleni cymerais i ran yn y ddadl ar yr adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019,y gwnaeth Peredur Owen Griffiths ei arwain, ac fe gafodd ei amlygu yn un o gasgliadau'r Pwyllgor Cyllid,
'Mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai pob Bil cyhoeddus a gyflwynir i’r Senedd gynnwys darpariaethau ar gyfer adolygiad ôl-ddeddfwriaethol',
oherwydd bod adolygiad ôl-ddeddfwriaethol yr un mor bwysig â chraffu ymlaen llaw. Erbyn hyn gwrandewir ar y pwyllgor hwnnw o ran deddfwriaeth arall. Yn nes ymlaen, byddwn ni'n ystyried y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Yn ystod Cyfnod 2, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford, a minnau welliannau i gyflwyno gofyniad ar wyneb y Bil i adolygu'r Ddeddf. Sut y gall gofyniad o'r fath fod yn dderbyniol i'r Bil Twristiaeth ac nid i wahardd rasio milgwn? Fel y dywedodd y gynghrair Cut the Chase o ran yr adolygiad, mae'n gwarantu y bydd yn digwydd, pwy bynnag fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru. Mae'n ymddangos nawr bod y gynghrair a minnau wedi ennill y ddadl, oherwydd rwy'n falch ein bod ni wedi cael tro pedol gan y Dirprwy Brif Weinidog. Byddai gennyf i ddiddordeb gweld pam eich bod chi wedi newid eich meddwl, Dirprwy Brif Weinidog, oherwydd nid yw gwelliant 11 gan Lywodraeth Cymru yn gwneud adolygiad o fewn pum mlynedd, mae'n gwneud adolygiad o fewn tair blynedd. Byddai gennyf i ddiddordeb gwybod pam yr ydych chi wedi newid hynny hefyd. A byddai hefyd yn gweld adroddiad yn seiliedig ar yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi mewn modd sy'n cael ei ystyried yn briodol. Er gwaethaf rhai gwahaniaethau, mae'r canlyniadau hynny'n debyg iawn i fy ngwelliannau i yn y grŵp hwn y gwnes i eu cyflwyno hefyd yng Nghyfnod 2.
Felly, er mwyn hwyluso cyflawni'r bwriad deddfwriaethol y mae elusennau a minnau wedi ymgyrchu drosto, ni fyddaf i'n mynd â gwelliannau 6, 7, 8 a 9 i'r bleidlais. Yn hytrach, rwy'n eich annog chi i gefnogi gwelliant y Llywodraeth, a diolchaf i'r Dirprwy Brif Weinidog am newid ei feddwl, ac mae'n drueni na newidiodd ei feddwl ar faterion eraill. Diolch yn fawr.
Byddwn i'n ategu llawer o hynny, mewn gwirionedd. Mae'r Senedd gyfan bob amser yn ymwybodol o bwysigrwydd myfyrio ar ddeddfwriaeth a dysgu'r gwersi naill ai o graffu ôl-ddeddfwriaethol y Senedd neu adolygiadau'r Llywodraeth o ddeddfwriaeth. Fel yr ydyn ni wedi clywed, mae pwyllgorau'n cyflwyno argymhellion yn rheolaidd mewn adroddiadau sy'n awgrymu bod angen i hynny ddigwydd. Mae hi bob amser yn arfer da ystyried a yw deddfau newydd mewn gwirionedd yn cyflawni'n union yr hyn y mae'n ei ddatgan, ac yna, wrth gwrs, i allu ymdrin ag unrhyw ddiffygion neu ganlyniadau annisgwyl.
Nawr, roeddwn i'n mynd i ddweud mai'r unig ddilema, felly, oedd a ydyn ni'n mynd gyda gwelliannau Rhys ar gyfer adolygiad ar ôl pum mlynedd neu welliannau'r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl tair, ac rwy'n credu bod Rhys wedi ateb y cwestiwn hwnnw i mi. Diolch.
Dyma'r tro cyntaf i mi siarad, felly, wrth gwrs, rydych chi'n mynd i glywed, am y tro olaf yn ôl pob tebyg, am y milgwn yr ydw i wedi bod yn berchen arnyn nhw—Arthur a Wanda. Mae hon yn ddeddfwriaeth nodweddiadol, ac rwy'n credu y dylen ni fod yn glir iawn bod hyn yn mynd i symud ymlaen. Mae'r gwelliannau hyn yn ymwneud â gwneud yn union hynny—gwneud yn siŵr ein bod ni'n edrych yn ôl, asesu'r effaith, a dysgu o'r hyn sy'n dilyn.
Rydw i wedi cael y fraint o ofalu am Wanda ac Arthur. Profodd y ddau drawma gwirioneddol. Roedd y ddau yn cario marciau parhaol chwaraeon, system a gafodd ei chynllunio i elwa ar eu poen. Nid wyf i eisiau ailadrodd fy hun, ond gwnaf i ddweud hyn bob tro yr wyf i'n dod i'r Siambr hon i siarad am y Bil hwn: rwy'n fwy argyhoeddedig, nid llai, o'r angen am y Bil hwn. Nid yw'r sefyllfa o ran rasio milgwn yn gwella. Cynyddodd nifer y marwolaethau mewn stadia rheoleiddiedig am yr ail flwyddyn yn olynol yn 2024. Rwy'n falch bod Cymru'n cael y cyfle i arwain yma, i fod y genedl gyntaf y Deyrnas Unedig i dynnu'r llinell hon. Rwy'n gwybod bod deddfwriaeth eisoes ar y gweill yn yr Alban, a bod lobïo yn parhau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn barod, gallwn ni weld y bydd eraill yn dilyn lle mae Cymru'n gweithredu.
Heddiw, nid ydyn ni'n ailagor y penderfyniad pwysig a gafodd ei wneud fis Rhagfyr diwethaf, pan wnaethon ni gytuno ar y cyd mai gwahardd rasio milgwn yng Nghymru oedd y peth cywir i'w wneud. Rydyn ni'n gwneud yn siŵr ar y pwynt hwn ein bod ni'n ei gyflawni'n gywir. Ac mae hynny'n dod â mi yn uniongyrchol at y gwelliannau sydd ger ein bron, a gafodd eu cyflwyno gan Rhys ab Owen, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad y Ddeddf hon o fewn pum mlynedd ac adrodd yn ôl i'r Senedd hon. I'r cyd-Aelodau hynny sydd wedi codi pryderon am gyflymder a dyfnder craffu y mae'r Bil hwn wedi'i gael, rwy'n dweud hyn: mae'r gwelliant hwn, yn rhannol, yn ymateb i'r pryder hwnnw. Mae adolygiad ôl-ddeddfwriaethol statudol yn ymrwymiad i barhau i ystyried, parhau i ofyn a pharhau i weithredu. Nid yw'n arwydd o wendid yn y ddeddfwriaeth, mae'n arwydd o hyder ynddi—datganiad ein bod ni'n barod i gael ein barnu yn ôl y canlyniadau.
Mae adolygiad statudol yn rhoi'r sail gyfreithiol i ni gasglu'r dystiolaeth honno ac, os oes angen, i ddychwelyd i'r Siambr hon a gweithredu arni. Y gynghrair Cut the Chase—ac rwy'n talu teyrnged iddyn nhw; rwy'n credu bod rhai ohonyn nhw gyda ni heno—yn cefnogi'r dull hwn. Rwy'n ei gefnogi ac rwy'n annog pob Aelod i'w gefnogi hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Byddai gwelliannau 6, 7, 8 a 9 yn y grŵp hwn yn gofyn am adolygu'r ddeddfwriaeth o fewn pum mlynedd iddi ddod i rym, gosod adroddiad gerbron y Senedd a dyletswyddau ymgynghori. Rwy'n deall y bwriad. Yn hytrach, byddwn i'n annog yr Aelodau, fel yn wir, y gwnaeth yr un a wnaeth gynnig y gwelliannau, i beidio â chefnogi'r gwelliannau hynny ond i gefnogi gwelliant 11, yn seiliedig ar dair blynedd, a gwnaf i esbonio pam nawr. Diolch am gefnogi gwelliant y Llywodraeth yma, sydd wir yn gweithio gydag ysbryd a graen yr hyn yr ydych chi'n ceisio'i wneud, ac rwyf i wedi gwrando. Gwelliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn yw'r unig welliant yr ydw i wedi'i gyflwyno, felly cefnogwch ef os ydych chi'n ystyried gwneud hynny. Dyma'r unig welliant y gwnes i ei gyflwyno yng Nghyfnod 3 ac mae'n gosod gofyniad i gynnal yr adolygiad ôl-ddeddfwriaethol hwnnw o fewn tair blynedd—ac mae yna reswm pam—ar ôl i'r gwaharddiad ddod i rym, ac yna cyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad hefyd. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi hyn.
Yn wreiddiol—rydych chi'n gywir, Rhys— fe wrthodais i argymhelliad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar gyfer adolygiad statudol, gan ailddatgan yn lle hynny, ac mae'n gywir, yr ymrwymiad sydd wedi'i nodi yn y memorandwm esboniadol y byddai adolygiad yn unol ag arfer da. Felly, ni wnes i gefnogi yng Nghyfnod 2 y gwelliannau anllywodraethol i ychwanegu gofyniad penodol ar gyfer adolygiad, ac ati, bum mlynedd ar ôl dod i rym, ond nid wyf yn petruso rhag dweud fy mod i wedi gwrando, ac rwy'n cydnabod cryfder y teimlad y mae Aelodau a rhanddeiliaid wedi'i fynegi trwy graffu. Dyna beth yw diben y broses hon. Mae'n amlwg bod awydd cryf a chyson wedi bod i ymgorffori gofyniad i adolygu yn y Bil ei hun. Mae gwelliant 11, felly, yn gweithio yn ysbryd yr hyn yr oeddech chi wedi'i gyflwyno ac yr oedd eraill wedi'i fynegi, a'r pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal yr adolygiad hwnnw o weithrediad ac effaith y Ddeddf a chydymffurfiaeth â hi, o fewn tair blynedd i'r gwaharddiad ddod i rym, ac i gyhoeddi'r adroddiad hwnnw. Nawr, rydyn ni'n credu bod hyn yn gymesur ac yn ymarferol. Cynigiais i, gyda llaw, gyfnod adolygu byrrach o dair blynedd fel y byddai modd asesu effaith uniongyrchol y gwaharddiad tra bod y dystiolaeth dal yn ddiweddar ac yn hygyrch.
Mae'r mesurau yn y Bil yn glir iawn. Rydyn ni'n rhagweld y bydd ei effeithiau yn cael eu teimlo'n gyflym, felly mae amserlen fyrrach yn fwy priodol na'r pum mlynedd sy'n cael ei ddefnyddio, fel arfer, ar gyfer diwygiadau rheoleiddio mwy, a mwy cymhleth. Felly, rydyn ni'n credu, ac rydyn ni'n cytuno, mai cyhoeddi'r adolygiad yw'r ffordd fwyaf effeithiol a thryloyw o ddangos ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid a chyflwyno'r canfyddiadau yn uniongyrchol i'r rhai y mae hyn yn effeithio arnyn nhw a'r cyhoedd ehangach yn y ffordd fwyaf hygyrch. Rydyn ni o'r farn fod hyn yn glir, yn gymesur, yn ymarferol ac yn sail gref ar gyfer casglu dealltwriaeth ystyrlon. Rydyn ni hefyd yn credu ei fod yn ymateb cytbwys, cadarnhaol i'r safbwyntiau y mae Aelodau a rhanddeiliaid wedi'u mynegi. Felly, drwy roi'r gofyniad hwn, Rhys, ar gyfer adolygiad ar wyneb y Bil, ein nod yw rhoi hyder i'r Aelodau yn yr ymrwymiad hwn a sicrwydd clir y bydd yn cael ei gynnal yn nhymor nesaf y Llywodraeth. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 11.
Rhys ab Owen i ymateb.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, rydyn ni'n arfer â throadau pedol gyda Llafur yn San Steffan ac rydyn ni wedi cael un heddiw gan Lafur yng Nghymru. Ond, o ddifrif, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog, a gallaf i weld y rhesymeg y tu ôl i pam eich bod chi wedi mynd am y tair blynedd. Felly, rwy'n hapus i'w gefnogi. Diolch yn fawr.
Rwy'n deall eich bod chi wedi dweud na fyddech chi'n cynnig gwelliant 6, ond rydych chi eisoes wedi gwneud hynny. Ydych chi'n dymuno ei dynnu'n ôl?
Hoffwn ei dynnu'n ôl.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu tynnu gwelliant 6 yn ôl? Na. Felly, mae gwelliant 6 yn cael ei dynnu'n ôl.
Tynnwyd gwelliant 6 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Ni chynigiwyd gwelliant 7 (Rhys ab Owen).
Grŵp 3 sydd nesaf. Mae'r trydydd grŵp o welliannau yn ymwneud â threfniadau trosiannol. Gwelliant 12 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar James Evans i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 12 (James Evans).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 12 ac yn siarad am hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn sy'n ymwneud â threfniadau trosiannol. Rwyf i eisiau bod yn glir o'r cychwyn cyntaf fy mod i'n parhau i wrthwynebu'r Bil hwn a'r gwaharddiad arfaethedig ar rasio milgwn yng Nghymru. Yn fy marn i, mae'r ddeddfwriaeth hon yn cynrychioli dewis polisi gwael sydd wedi dod i'r amlwg nid o dystiolaeth gadarn ond o gytundeb gwleidyddol rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol a fydd yn gwneud niwed hirdymor i'r bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn rasio yn y rhan honno o'r byd. Fodd bynnag, os yw'r Senedd hon yn benderfynol o fwrw ymlaen â gwaharddiad, yna mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn ymarferol ac yr ymdrinnir â'r trawsnewidiad i waharddiad yn briodol. Dyma ddiben y grŵp hwn o welliannau. Mae'r gwelliannau hyn yn canolbwyntio'n benodol ar sut mae'r Bil yn gweithredu yn ystod y cyfnod trosiannol cyn y gwaharddiad. Maen nhw'n ymdrin â'r trefniadau ymarferol, rheoleiddiol a chyfreithiol y mae'n rhaid iddyn nhw fod ar waith tra bod rasio milgwn yn parhau i fod yn gyfreithlon. Fel y mae'r Bil wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, mae'n symud yn uniongyrchol o weithgaredd cyfreithlon i waharddiad, heb nodi fframwaith statudol clir sy'n llywodraethu'r cyfnod rhyngddyn nhw. Nid yw deddfwriaeth o'r raddfa hon yn gweithredu mewn theori; mae'n gweithredu yn y byd gwirioneddol, gan effeithio ar anifeiliaid, rheoleiddwyr, awdurdodau lleol, pobl sy'n gweithio yno a'u cymunedau. Heb fframwaith trosiannol, mae'r Bil yn wynebu risg o greu bwlch rheoleiddio ar yr union adeg pan fo angen goruchwyliaeth fwyaf.
Mae gwelliant 12, felly, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau interim sy'n llywodraethu rasio milgwn yng Nghymru o fewn chwe mis i'r Cydsyniad Brenhinol, gan aros mewn grym tan y dyddiad penodedig ar gyfer gwaharddiad. Mae'r egwyddor yma'n syml: os yw rasio milgwn i barhau am unrhyw gyfnod cyn i'r gwaharddiad ddod i rym, rhaid iddo wneud hynny o fewn fframwaith rheoleiddio clir a gorfodadwy. Heb yr eglurder hwnnw, mae risg o ddryswch ymhlith cyrff gorfodi ac ansicrwydd ynghylch pa safonau sy'n berthnasol yn ystod y cyfnod trosiannol.
Mae gwelliant 13 yn ategu'r ddarpariaeth honno drwy ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y trefniadau interim hynny o fewn dwy flynedd, ac i osod yr adolygiad hwnnw gerbron y Senedd. Mae hwn yn fesur atebolrwydd syml. Os yw'r trefniadau'n gweithio yn ôl y bwriad, dylai'r dystiolaeth ddangos hynny. Os nad ydyn nhw, dylai'r Senedd fod yn ymwybodol ac yn gallu ymateb yn unol â hynny. Mae gwelliannau 16 a 17 yn ddarpariaethau canlyniadol sy'n sicrhau bod y gofynion hyn yn dod i rym yn briodol.
Ac yn olaf, mae gwelliannau 20 a 21 yn ymdrin â'r amserlen arfaethedig ar gyfer gwaharddiad. Mae'r gwelliannau hyn yn ymestyn y dyddiadau cynharaf a hwyraf posibl i'r gwaharddiad ddod i rym. Nid ydyn nhw'n ymwneud â rhwystro bwriad y Bil; mae'n adlewyrchu'r gwirionedd bod gwaharddiad yn gofyn am baratoi digonol, gan gynnwys trefniadau gorfodi, capasiti ailgartrefu cŵn wedi'u dadleoli, ac eglurder i'r bobl hynny y mae hyn yn effeithio arnyn nhw. Mae rhuthro'r broses hon yn wynebu risg o ganlyniadau anfwriadol a allai danseilio lles anifeiliaid a hyder yn y ddeddfwriaeth hon. At ei gilydd, mae'r gwelliannau hyn yn cryfhau'r Bil trwy sicrhau bod y trawsnewidiad i waharddiad yn cael ei reoleiddio'n briodol, yn amodol ar adolygiad, ac yn cael ei weithredu mewn ffordd resymol a threfnus. Am y rhesymau hynny, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch.
Mae'n debyg y bydd yr Aelodau yn gwybod erbyn hyn, fy newis i erioed oedd mai rheoleiddio uwch neu drwyddedu priodol rasio milgwn dylai'r cam cyntaf fod. Rwy'n gwybod bod rhai yn y sector lles anifeiliaid mewn gwirionedd yn disgwyl neu'n rhagweld y byddai hynny wedi bod yn wir. Gallai'r dull graddol fod wedi profi cydymffurfiaeth, gallai fod wedi gwella lles heb fynd ar unwaith at waharddiad llwyr a phopeth y mae hynny'n ei olygu. Ac ydi, os, ar ôl amser, os gwelir nad yw hynny wedi cyflawni'r canlyniadau yr ydyn ni i gyd eisiau yma, yna ydi, mae'r dewis o wahardd, wrth gwrs, dal yno. Byddai hynny wedyn yn benderfyniad a oedd yn cael ei gymryd o sefyllfa lawer mwy gwybodus a sylfaen dystiolaeth lawer cryfach.
Bydd yr Aelodau'n cofio, rwy'n siŵr, y pryderon sylweddol am y bylchau yn y sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaharddiad, a gafodd eu hamlinellu yn adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor diwylliant ar y Bil. Ond y prif bwynt i mi yma yw y byddwn ni'n disgwyl i ni reoleiddio yn gyntaf, yna asesu, yna penderfynu a oes angen i ni fynd ymhellach. Dyna fyddai fy hoff ddull gweithredu, a dyna pam y byddaf i'n cefnogi'r gwelliannau.
Byddaf i'n pleidleisio yn erbyn y rhain, ac mae yna nifer o resymau pam.
I ymateb i bwynt Llyr, nid wyf i'n siŵr bod unrhyw un yn y gynghrair Cut the Chase yn cefnogi unrhyw gyfnod rheoleiddio. At ei gilydd, byddai'r gwelliannau hyn yn caniatáu i rasio milgwn barhau yng Nghymru o dan fframwaith rheoleiddio newydd, gan ohirio'r gwaharddiad tan Hydref 2031. Ni allaf gefnogi'r dull gweithredu hwnnw. Efallai y bydd y gwahaniaeth rhwng mis Ebrill 2027 a mis Hydref 2031 yn edrych yn fach ar bapur, ond mewn gwirionedd, mae'n golygu pedair blynedd a hanner o fwy o rasio, ac rydyn ni'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu i'r cŵn dan sylw.
Gyda bron i dri chwarter y cŵn sy'n gysylltiedig â Valley yn dioddef effeithiau niweidiol mewn blwyddyn, mae pob mis yn golygu bod tua 10 yn fwy o anifeiliaid yn agored i gwympiadau, toriadau ac anafiadau sy'n dod â gyrfa i ben. Rhagdybiaeth ganolog gwelliant 12 yw y byddai cyfnod o reoleiddio interim yn rhoi pont gyfrifol i'r gwaharddiad. Ond gadewch i ni edrych ar yr hyn y gall y rheoliad hwnnw ei gyflawni mewn gwirionedd.
Mae data cyhoeddedig Bwrdd Milgwn Prydain Fawr ei hun ar gyfer 2024, gadewch i ni atgoffa ein hunain o hyn, yn dangos bod 3,809 o anafiadau unigol wedi'u cofnodi ar draws y diwydiant. Dyna gofnod y diwydiant ei hun o anafiadau. Y mwyaf cyffredin oedd anafiadau i'r goes ôl, i'r gar, i'r arddwrn. Cafodd cant a thri ar hugain o gŵn eu lladd ar y trac rasio y flwyddyn honno. Cafodd ewthanasia ei ddefnyddio ar gyfer 51 arall, nid oherwydd anaf, ond oherwydd barn nad oedden nhw'n anaddas ar gyfer eu hailgartrefu. Dyma ffigurau diwydiant sydd wedi'i drwyddedu a'i lywodraethu'n broffesiynol yn llawn.
Nid yw hyn yn ganlyniad i fethiant rheoleiddio ond canlyniad rheoleiddio fel y mae wedi'i gynllunio—yn cofnodi, yn categoreiddio, yn rheoli niwed, ond yn gwbl analluog i'w atal. Wedi'r cyfan, nid yw'r niwed yn gysylltiedig â rasio milgwn— mae'n gynhenid iddo. Roedd y pwyllgor diwylliant yn bendant ar y pwynt hwn. Ni all unrhyw faint o reoleiddio byth ddileu'r risg gynhenid i filgwn o'r arfer hwn. Ac rydw i wedi gweld y gwir yn fy nghartref i fy hun hefyd.
Fel Senedd, fe wnaethon ni benderfynu y dylai rasio milgwn gael ei wahardd. Rydyn ni wedi dod i'r casgliad hwnnw ar sail tystiolaeth sylweddol. Mae gofyn wedyn i drethdalwyr Cymru ariannu rheoleiddio'r un diwydiant hwnnw am gyfnod trosiannol a fyddai'n ymestyn hyd at Hydref 2031 yn fy nharo i'n amhosibl ei gyfiawnhau. Dim ond tua 5 y cant o Gymry sy'n dilyn neu'n cymryd rhan mewn rasio milgwn yn uniongyrchol. Mae'r achos budd y cyhoeddus dros y gwariant hwnnw, byddwn i'n ei awgrymu, yn hynod denau, yn enwedig ar adeg o bwysau gwirioneddol ar y cyllid cyhoeddus.
Mae'r ddadl wedi cael ei gwneud bod angen mwy o amser i baratoi ar gyfer y broses o ddirwyn i ben, ond mae'r paratoi wedi bod ar y gweill erioed, gyda phartneriaeth milgwn Cymru wedi bod ar waith ers dros flwyddyn. Maen nhw'n cymryd cyfrifoldeb am ailgartrefu'r cŵn. Mae ganddyn nhw gynlluniau clir ar waith, ac rwy'n talu teyrnged iddyn nhw ar hyn o bryd. Rhwng mis Mawrth a mis Medi 2025 yn unig, cymerodd ei naw aelod sefydliad 75 ci o drac Valley i ofal. Fe wnaethon nhw atal gweithredu dim ond oherwydd bod y ffenestr gychwyn hir yn gwneud blaenoriaethu cŵn Cymru yn barhaus yn anymarferol, ond maen nhw'n barod i ailddechrau yr eiliad y bydd dyddiad pendant wedi'i bennu.
Nid paratoi yw'r rhwystr yma. Ewyllys yw'r rhwystr. Ni allwn ni ganiatáu pum mlynedd arall o rasio wrth i ni aros i arbrawf rheoleiddiol ddilyn ei gwrs. Rwy'n annog Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn. Nid yw'r achos dros oedi wedi'i wneud. Mae'r achos dros weithredu yn aruthrol. Diolch.
Hoffwn wrthwynebu'n gryf welliant 12 hefyd, a fyddai'n gweld rasio milgwn yng Nghymru yn cael ei reoleiddio fel mesur interim. Mae'r gynghrair Cut the Chase, sy'n cynnwys llawer o elusennau lles anifeiliaid, yn glir ar hyn: mae unrhyw ymgais i reoleiddio ar hyn o bryd yn dacteg oedi. Rhaid i'n prif ffocws fod ar les milgwn yng Nghymru, ac ni all eu hamddiffyn aros yn hirach nag sy'n hollol angenrheidiol. Bydd unrhyw oedi ar waharddiad llwyr yn y pen draw yn golygu llawer mwy o anafiadau ofnadwy ac, yn drasig, mwy o farwolaethau. Yn y diwydiant hwn, lle mae cŵn a chŵn bach yn cael eu dosbarthu fel gwastraff, mae'r dystiolaeth yn glir iawn nad yw rheoleiddio yn gweithio. Dim ond gwaharddiad llwyr fydd yn rhoi terfyn ar y dioddefaint creulon a diangen hwn a brofir gan filgwn yng Nghymru.
Dechreuwyd y daith gan Vanessa o Hope Rescue, pan gyflwynodd ei deiseb yn galw am waharddiad rasio milgwn ar ddechrau tymor y Senedd hon. Derbyniodd y ddeiseb 35,000 o lofnodion sy'n anhygoel, gan sicrhau ymchwiliad gan y Pwyllgor Deisebau, ac yna dadl yn y Siambr hon, a dderbyniodd gefnogaeth gan Aelodau o bob plaid. Cafodd honno ei llofnodi gan lawer o bobl sydd wedi mabwysiadu milgwn, sydd wedi gweithio gydag elusennau, sydd wedi gweld yr anafiadau ofnadwy y mae'r cŵn hyn yn eu dioddef. Mae gan Vanessa a'i thîm brofiad uniongyrchol o'r creulondeb ofnadwy sydd wedi digwydd ar drac Valley yn ne Cymru, gyda chŵn yn colli eu bywydau ac yn dioddef anafiadau sy'n newid bywyd ar y trac hwnnw yn rheolaidd.
Gwnaeth y rhai a lofnododd y ddeiseb ac ymateb yn gadarnhaol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru hynny o blaid y gwaharddiad llwyr hwn, nid rheoleiddio ac oedi pellach. Mae'r gwelliant yn ceisio tanseilio gwir bwrpas y Bil, a byddwn yn annog Aelodau i bleidleisio yn ei erbyn.
Rydw innau hefyd yn erbyn gwelliant 12. Bil am wahardd rasio milgwn ydy hwn. Mae rasio milgwn yn beryglus i filgwn. Dydy rheoleiddio ddim yn mynd i newid y sefyllfa yna. Mae'r weithred ganolog o filgwn yn rhedeg yn gyflym iawn o gwmpas traciau yn un sydd yn llawn risgiau i'r cŵn. Tra bod yna ddiffyg tryloywder am y data, ac mae hynny efallai'n broblemus, mi ydyn ni’n gwybod yn iawn beth ydy'r darlun cyffredinol.
Mae anafiadau i gŵn yn niferus, mae codymau yn digwydd yn gyson ar y trac ac mae esgeulustod a diffyg ôl-ofal yn hollol amlwg. Yr unig ffordd i sicrhau gwell dyfodol i filgwn ydy drwy wahardd rasio milgwn, unwaith ac am byth, ac yn syth. Bydd rheoleiddio byth yn cyfarch y peryglon sydd ymhlyg mewn rasio. Dyna ydy'r pwynt pwysig yn fan hyn. Dydy lles yr anifeiliaid ddim wedi gwella drwy reoleiddio. Dydy rheoleiddio ddim wedi medru lleihau'r risgiau. Mae'r anafiadau difrifol yn parhau.
Mae milgwn yn gŵn eithriadol o addfwyn, tawel a thriw. Dwi'n nabod nifer o filgwn ac maen nhw'n rhai sydd wedi cael eu hachub o rasio, ond mae wedi cymryd blynyddoedd iddyn nhw ddod dros y trawma, os, yn wir, ydyn nhw yn dod drosto fo. Mae eu cyflymder naturiol nhw wedi cael ei ecsbloetio er budd y diwydiant betio, ac maen nhw'n dioddef o'r herwydd. Dyna'r broblem waelodol yn fy meddwl i. Mae'r cŵn arbennig yma ym wynebu camdriniaeth er mwyn adloniant, yn cael eu hecsbloetio am resymau masnachol.
Mae yna ddadl arall hefyd yn erbyn rheoleiddio ac o blaid dod â gwaharddiad ymlaen yn syth. Os ydy rhywun am fridio enillydd proffidiol, mae angen bridio lot o gŵn, a dydy'r rhan fwyaf o'r rheini ddim am fod yn ddigon da a digon cyflym. Beth sy'n digwydd iddyn nhw? Ar y gorau, maen nhw'n cyrraedd canolfannau achub sydd eisoes yn gwegian. Ar y gwaethaf, maen nhw'n crwydro ar ein strydoedd ni. Ni wnaiff yr un system rheoleiddio gyfarch hynny.
Cymerwch chi Nel. Roedd hi'n dod yn olaf ym mhob ras y rhedodd hi ynddo fo, ac wedi cael ei hymddeol yn ddwy oed. Blwyddyn wedyn o gael ei phasio o un lle i’r llall cyn landio mewn canolfan achub yn dair oed, yn drewi o'i baw ei hun ac yn ofn y byd. Mae gan Nel gartref gwych erbyn hyn, ond mae'n rhaid rhoi stop ar y dioddefaint yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid rhoi stop arno fo rŵan. Does yna ddim pwrpas o gwbl, dim dadl o gwbl, dros barhau am gyfnod trosiannol efo rhyw rheoleiddio sydd ddim yn mynd i weithio beth bynnag. Mae rheoleiddio wedi cael ei drio, mae o wedi methu â chadw’r cŵn yn saff. Felly, mae angen i ni symud yn gyflym i sefyllfa lle mae'r diwydiant yn cael ei wahardd yn llwyr. Diolch.
Rwy'n canmol James Evans am gyflwyno'r gwelliannau, oherwydd mae'n bwysig cael y drafodaeth, ond ni fyddaf yn eu cefnogi. Doeddwn i ddim yn anghytuno â'r Dirprwy Brif Weinidog ar bob pwynt yng Nghyfnod 2. Cytunais ag ef pan ddywedodd fod rheoleiddio rasio milgwn yng Nghymru yn tynnu sylw at fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad cyn gynted â phosibl. Dyna oedd bwriad y lle hwn hefyd. Fel yr ydym wedi clywed gan Jane Dodds, mae oedi'r gwaharddiad dim ond yn gadael milgwn mewn perygl o anafiadau pellach a marwolaeth am gyfnod hirach. Mae'r unig stadiwm sydd ar ôl yng Nghymru eisoes wedi'i reoleiddio gan safonau'r diwydiant. Mae safonau'r diwydiant wedi methu â darparu amddiffyniad digonol. Felly, dylid gwrthwynebu unrhyw ymgais i ohirio'r gwaharddiad, a chredaf mai dyna yw bwriad gwelliannau James Evans yn y grŵp hwn a'r nesaf—mae'n amlwg mai dyna yw ei fwriad. Diolch yn fawr.
Galwaf nawr ar y Dirprwy Brif Weinidog.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch, yn gyntaf oll, i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at yr hyn sydd wedi bod yn ddadl eithaf angerddol ar y gwelliannau a gyflwynwyd gan James, gwelliannau 12 a 13? Byddai'r diwygiadau hyn yn ceisio gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer rheoleiddio rasio milgwn yng Nghymru, a chyfnod interim cyn i waharddiad ddod i rym ac yna cyhoeddi adolygiad o'r rheoliad hwnnw. Ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn ac fe wnaf i esbonio pam.
Mae rheoleiddio rasio milgwn yng Nghymru yn tynnu, yn wir, fel y mae Rhys newydd nodi, oddi wrth fwriad y Llywodraeth hon i gyflwyno gwaharddiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl, ac mae'n gadael milgwn mewn perygl o anafiadau a marwolaeth am gyfnod hirach. Mae un stadiwm rasio milgwn gweithredol o hyd yng Nghymru, sy'n gysylltiedig â Bwrdd Milgwn Prydain Fawr; mae eisoes wedi'i reoleiddio gan safonau'r diwydiant. Byddai sefydlu seilwaith ar gyfer rheoleiddio pellach a phwerau gorfodi cysylltiedig am gyfnod interim yn anghymesur. Ac i fod yn glir, efallai y bydd angen newidiadau helaeth a drud i ddod â rheoleiddio o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, yn enwedig pe bai rheoleiddio Cymru yn mynd ymhellach na safonau Bwrdd Milgwn Prydain Fawr. Nawr, mewn cyferbyniad, fel y nodwyd, mae gwaharddiad yn darparu ateb clir, gorfodadwy i atal niwed ac i ddiogelu lles milgwn. Er gwaethaf safonau Bwrdd Milgwn Prydain Fawr, mae milgwn yn parhau i fod yn agored i niwed wrth rasio. O ganlyniad, ni fyddai rheoleiddio yn y cyfnod hwn yn ychwanegu unrhyw werth o gwbl ac ychydig o fudd i atal y niwed sy'n gysylltiedig â rasio.
Gwnaed y penderfyniad i wahardd rasio milgwn fel mesur i atal niwed pellach, ac mae'r penderfyniad hwnnw'n cael ei ysgogi gan bryderon lles a moesegol cryf, sy'n adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu lles anifeiliaid. Felly, gan na allaf gefnogi'r gwelliannau hyn, ni allaf gefnogi'r gwelliannau cysylltiedig 16 a 17, a fyddai'n dod â'r darpariaethau hyn ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer rheoleiddio i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol.
Yn olaf, ni allaf gefnogi gwelliannau 20 a 21 a gyflwynwyd gan James. Mae gwelliant 20 yn gohirio'r dyddiad cynharaf y gall y Ddeddf ddod i rym o 1 Ebrill 2027 i 1 Hydref 2028. Mae gwelliant 21 yn gohirio'r dyddiad diweddaraf y gall y Ddeddf ddod i rym o 1 Ebrill 2030 i 1 Hydref 2031. Nawr, efallai mai bwriad yr Aelod yw caniatáu amser ar gyfer y trefniadau trosiannol cyn gwaharddiad a awgrymwyd gan welliannau 12 a 13, ond fel yr wyf wedi nodi'n glir iawn, y bwriad yw i waharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru ddod i rym cyn gynted ag y bo modd. Mae'r dyddiad cynharaf posibl wedi'i nodi fel 12 mis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Felly, mae'r Bil yn darparu na fydd yn gynharach na 1 Ebrill 2027 a dim hwyrach nag Ebrill 2030 fan bellaf. Bydd yr amser arweiniol arfaethedig hwn yn galluogi sefydliadau'r trydydd sector i reoli ailgartrefu milgwn wedi'u dadleoli gan y gwaharddiad. Bydd yn rhoi digon o amser i berchnogion stadiwm Valley Greyhounds ddirwyn i ben y gweithgaredd ac ystyried opsiynau amgen ar gyfer y safle hwnnw. Ac fel y nodais yn gynharach mewn ymateb i welliannau 10 a 10A, er fy mod yn cydnabod y byddai'n well gan rai amser byrrach i weithredu'r gwaharddiad, byddai gohirio'r dyddiad cynharaf ac ymestyn y dyddiad diweddaraf y gall gwaharddiad ddod i rym, fel y mae gwelliannau 20 a 21 yn eu cynnig, yn gadael milgwn yn agored i niwed am gyfnod hirach. Felly, ni allaf gefnogi gwelliannau 12, 13, 16, 17, 20 a 21.
Diolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl, a diolch i chi, Llyr, am eich cefnogaeth ac, fel y dywedais i, rydych chi a minnau'n rhannu'r un farn y dylai hyn fod wedi cael ei reoleiddio yn gyntaf ac yna gweld sut y gweithredwyd rheoleiddio ac yna edrych wedyn ar ble roeddem ni. Byddaf yn dweud wrth rai Aelodau, yn barchus, nid yw fy ngwelliant yn ymwneud â stopio'r Bil hwn, mae'n ymwneud â rheoleiddio'r cyfnod trosiannol. Felly, hoffwn ofyn i'r Aelodau ddarllen beth yw'r gwelliannau cyn iddynt wneud areithiau yn y Siambr.
Rhys, mae'r oedi yn bwysig—ydi—oherwydd mae'n rhaid i ni ddeall bod yna anifeiliaid yn rhan o hyn, ac mae yna bobl hefyd, sy'n gweithio ar y trac hwnnw. Mae bywoliaeth yma ac mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw unrhyw Fil sy'n dod i mewn yn cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a dyna yw pwrpas y Bil hwn. Nid yw'n tynnu, fel y mae pobl wedi dweud, oddi wrth y nodau, ond mae'n gwneud yn siŵr bod gennym drefniadau trosiannol ar waith i wneud yn siŵr bod unrhyw beth sy'n cael ei wneud yno yn cael ei wneud mewn ffordd reoleiddiedig i amddiffyn yr anifeiliaid hynny sy'n rasio yno, ac mae llawer o bobl, rwy'n siŵr, o amgylch y Siambr hon eisiau i hynny ddigwydd. Mae symud i waharddiad llwyr yn cael canlyniadau anfwriadol i'r anifeiliaid a'r bobl sy'n gweithio yno, ac rwy'n credu ei bod yn ddeddfwriaeth wael sydd wedi ei chyflwyno beth bynnag, a dylem wneud cymaint ag y gallwn i'w chryfhau. Dyna pam y cyflwynwyd y grŵp hwn o welliannau, a byddaf yn eu rhoi i'r bleidlais. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Os gwrthodir gwelliant 12, bydd gwelliant 16 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n clywed gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn symud i bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, chwech yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 12 wedi ei wrthod.
Eitem 15. Gwelliant 12: O blaid: 8, Yn erbyn: 38, Ymatal: 6
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 16.
James Evans, gwelliant 13.
Cynigiwyd gwelliant 13 (James Evans).
Rwy'n cynnig.
Os gwrthodir gwelliant 13, bydd gwelliant 17 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, byddwn yn symud i bleidlais ar welliant 13. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid saith, pump yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae 13 wedi ei wrthod.
Eitem 15. Gwelliant 13: O blaid: 7, Yn erbyn: 40, Ymatal: 5
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 17.
Grŵp 4 sydd nesaf, ac mae'r pedwerydd grŵp o welliannau yn ymwneud ag asesiadau effaith. Gwelliant 14 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar James Evans i gynnig y prif welliant a siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 14 (James Evans).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf welliant 14 a byddaf yn siarad am welliannau eraill yn y grŵp hwn sy'n ymwneud ag asesiadau effaith. Mae'r gwelliannau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau bod y penderfyniad i ddechrau gwaharddiad yn cael ei wneud ar sail tystiolaeth a sail gyfreithiol gadarn. Nid ydynt yn ceisio ailagor y ddadl bolisi ehangach ynghylch a ddylai gwaharddiad ddigwydd. Yn hytrach, maent yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad i weithredu'r gwaharddiad yn cael ei lywio gan dystiolaeth briodol, ymgynghori ac ystyriaeth gyfreithiol.
Mae gwelliant 14 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal asesiad cynhwysfawr o effaith economaidd a chymdeithasol y gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru cyn penodi dyddiad cychwyn. Rhaid i'r asesiad ystyried yr effaith ar y rhai a gyflogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn y diwydiant, yr effeithiau ar economïau lleol a chymunedau lle mae rasio yn digwydd ar hyn o bryd, y gost bosibl i'r sector cyhoeddus a'r canlyniadau posibl i les anifeiliaid sy'n deillio o ddadleoli neu o roi'r gorau i rasio rheoleiddiedig.
Codwyd y materion yn ystod Cyfnod y Pwyllgor o'r Bil. Nododd aelodau'r pwyllgor fod y sylfaen dystiolaeth sy'n ymwneud â rasio milgwn a'i reoleiddio yn cael ei herio a bod y data sydd ar gael yn cyflwyno darlun cymhleth. Clywodd y pwyllgor hefyd am dystiolaeth am effeithiau posibl ar economïau lleol, cyflogaeth a goblygiadau lles dadleoli pe bai rasio yn dod i ben ar y trac.
Felly, mae gwelliant 14 yn sicrhau bod y materion hyn yn cael eu hasesu'n gynhwysfawr cyn i ddyddiad gwahardd gael ei bennu. Mae hefyd yn gofyn am ymgynghori â'r rhai sydd ag arbenigedd a phrofiad perthnasol, gan gynnwys cyfranogwyr y diwydiant, awdurdodau lleol a sefydliadau lles anifeiliaid. Yn bwysig, rhaid i'r asesiad gael ei gyhoeddi a'i osod gerbron y Senedd o leiaf dri mis cyn penodi dyddiad y gwaharddiad, gan sicrhau bod yr Aelodau yn cael y cyfle i graffu ar y dystiolaeth cyn ei weithredu.
Mae gwelliant 15 yn ategu hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i gael asesiad ffurfiol o hawliau dynol, gan nad oes gennym fil hawliau Prydain i fynd drwyddo. Tynnodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sylw at yr angen i ystyried cydnawsedd ag erthygl 1 o brotocol cyntaf y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn enwedig mewn perthynas â'r hawliau eiddo a chymesuredd. Mae'r gwelliant yn sicrhau bod y materion hynny'n cael eu hystyried yn uniongyrchol ac yn dryloyw cyn y caiff y Ddeddf ei chychwyn.
Mae gwelliannau 18 a 19 yn ddarpariaethau canlyniadol, sy'n sicrhau bod y gofynion hyn yn dod i rym yn briodol. Gyda'i gilydd, mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod gweithredu'r Bil hwn yn briodol yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth, ymgynghori a dadansoddiad cyfreithiol. Mae hwn yn arfer deddfwriaethol da ac, am y rhesymau hynny, rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch.
Fel y soniais i yn ystod y ddadl ar egwyddorion cyffredinol, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i ddeddfwriaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur ac yn effeithiol. Yn amlwg, tynnodd y pwyllgor diwylliant, yn ei adroddiad Cyfnod 1, sylw at y ffaith bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Bil hwn yn hynod ddadleuol ac nad yw'n ddigon cadarn. Er gwaethaf y pryderon, nid yw'r Llywodraeth wedi cwblhau digon o waith ar asesu effeithiau'r Bil, yn arbennig, byddwn i'n dweud, wrth adlewyrchu'r hyn y mae gwelliant 14 yn ei ddweud mewn perthynas â'r effaith gymdeithasol ac economaidd. Nawr, ni waeth ble rydych chi'n sefyll ar yr egwyddor o waharddiad, dylem i gyd ymdrechu, oni ddylem ni, i wneud yn siŵr bod y safonau uchaf o ran proses ddeddfwriaethol a thryloywder yn cael eu cynnal. Felly, byddaf yn cefnogi gwelliannau 14 a 16 i gywiro'r goruchwyliaeth ynghylch yr asesiad o effaith economaidd a chymdeithasol y Bil. Ond ar y ddau welliant arall, credaf fod yr ymateb gan yr Aelodau yma wedi dweud y cyfan, mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn braf clywed Aelod o Reform yn y Senedd yn cymeradwyo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol; boed i hynny barhau'n hir. Nid wyf yn argyhoeddedig, a dweud y lleiaf, bod angen y gwelliannau hynny. Pleidleisiais yn erbyn y gwelliannau penodol hynny yng Nghyfnod 2, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny yn llawn eto heno.
Felly, wyddoch chi, rwyf am ymgysylltu o ddifrif â'r gwelliannau yn y grŵp hwn, oherwydd mae cwestiynau wedi'u codi sy'n haeddu ateb difrifol. Mae effeithiau economaidd yn bwysig, materion hawliau dynol yn bwysig, ond mae gen i ddau bryder penodol. Fy mhryder cyntaf yw dyblygu. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi sefydlu grŵp gweithredu i oruchwylio'r trawsnewidiad i Gymru ôl-rasio. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdod lleol, mae'n cynnwys Bwrdd Milgwn Prydain Fawr ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr eraill. Felly, mae'n rhaid i mi ofyn: beth yw pwrpas y grŵp gweithredu os nad ydym yn ymddiried ynddo i wneud ei waith?
Mae fy mhryder arall yn ymwneud â'r asesiad hawliau dynol a gynigir yng ngwelliant 15. Mae'r gwelliant hwn yn gofyn i Weinidogion Cymru asesu cydnawsedd y Bil ag erthygl 1 o'r protocol cyntaf i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Nawr, mae'n rhaid i mi gyfaddef, rhoddodd hyn seibiant byr i mi ac elfen sylweddol o ddryswch. Mae'r Aelod a gyflwynodd y gwelliant hwn yn Aelod o Reform UK, plaid y mae ei harweinydd wedi datgan mai gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fyddai ei flaenoriaeth gyntaf yn y Llywodraeth, ac y mae ei faniffesto yn ymrwymo i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 yn gyfan gwbl. Ac eto, dyma ni gyda gwelliant sy'n galw am asesiad manwl o'n rhwymedigaethau Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol cyn y gallwn fwrw ymlaen â gwahardd rasio milgwn. Mae'n sefyllfa od iawn. Rwyf eisiau bod yn glir nad yw'r cwestiynau cyfreithiol o amgylch y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhai yr wyf yn eu diystyru'n ysgafn. Maen nhw'n ddifrifol, ac maen nhw wedi cael eu harchwilio o ddifrif. Archwiliodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd y materion hyn yn ôl ym mis Rhagfyr, ac mae cynghorwyr cyfreithiol Llywodraeth Cymru eu hunain wedi dweud bod hyn yn cwmpasu'r cyfan yn ddigonol.
Mae hynny'n dod â mi at galon y ddadl hon. Mae'r fframwaith hawliau dynol yn gofyn i ni ystyried cymesuredd, pwyso hawliau a buddiannau cystadleuol yn ofalus yn erbyn ein gilydd. Mae hynny'n egwyddor bwysig, ond nid yw cymesuredd yn ymarfer unochrog. Ar un ochr, mae gennym hawliau eiddo a buddiannau economaidd y rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant rasio milgwn, ac maent yn sylweddol. Ar y llaw arall, lles anifeiliaid annwyl sy'n profi ofn, poen a gofid parhaol. Os oes gan unrhyw un ohonoch yn y Siambr hon gi, rwyf am i chi ystyried nad yw'ch ci chi yn wahanol i fy nghi i. Nid yw eich ci yn wahanol—[Torri ar draws.] Hoffech chi gael ymyriad?
Byddwn i wrth fy modd, mewn gwirionedd.
Gwych.
Rydym ni i gyd yn poeni am les anifeiliaid. Mae fy ngast i yn un sy'n gweithio, ac mae hi hefyd yn mynd i weithio—mae'n rhan o'i brîd. Dyna beth mae hi'n ei wneud. Weithiau, rwy'n meddwl, Jane, gyda phob parch, rwy'n credu eich bod chi'n rhoi enw drwg i'r bobl sy'n rasio yn y diwydiant hwn, ac mae rhai o'r bobl hynny yn caru eu cŵn cymaint ag unrhyw un arall yma. Felly, byddwn yn myfyrio ar rai o'ch sylwadau am rai o'r bobl sydd yn y diwydiant hwn, oherwydd maen nhw'n poeni am eu cŵn yn ofnadwy, mwy o lawer nag yr ydych chi'n ei feddwl.
Diolch. Dydw i ddim yn siŵr sut i ymateb i hynna, heblaw am ddweud bod hyn yn ymwneud ag anifeiliaid rydym ni'n eu caru, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n gofalu amdanynt hefyd, ac rydw i wedi gweld eu dioddefaint, ac rwyf wedi gweld canlyniadau hynny. Maen nhw'n cael eu magu yn benodol er elw, ac maen nhw'n cael eu taflu pan nad ydyn nhw'n ddefnyddiol mwyach, a dyna ddigwyddodd gyda fy nau gi i, a dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd, heddiw, yng Nghymru, ac rydym ni'n bwriadu ei wahardd. Nid wyf yn credu bod angen i ni barhau i bwyso'r cydbwysedd hwnnw. Mae'r Senedd hon eisoes wedi cael tystiolaeth ger ei bron. Felly, gofynnaf yn barchus i'r Aelodau gadw lles yr anifeiliaid hyn ar flaen ein meddyliau wrth wneud penderfyniad, ac i wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am geisio ymdrin â'r gwelliannau hyn mewn ffordd ddifrifol a rhesymol a rhesymegol, ond fe wnaf hefyd esbonio, James, pam na allaf gefnogi'r gwelliannau hyn.
Yn gyntaf, mewn perthynas â gwelliant 14, byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru asesu effaith economaidd a chymdeithasol y Bil ac adrodd ar yr asesiad. Nawr, dim ond i esbonio, mae'r memorandwm esboniadol, yr asesiad effaith rheoleiddiol a'r asesiad effaith integredig wedi'u cyhoeddi a'u gosod ochr yn ochr â'r Bil. Rwy'n fodlon bod yr effeithiau cymdeithasol ac economaidd wedi'u hasesu drwy'r dogfennau hyn.
Ymatebais i'r argymhelliad cysylltiedig gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a chynghorais y byddai'r memorandwm esboniadol, yr asesiad effaith rheoleiddiol a'r asesiad effaith integredig yn cael eu diweddaru cyn Cyfnod 3 i adlewyrchu unrhyw wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ers cyflwyno'r Bil. Ac fe wnaethon ni siarad yn hir am y ffordd yr oeddem yn mynd i geisio cael gwybodaeth ychwanegol. Felly, mae'r asesiadau hyn wedi'u diwygio gan fod rhagor o wybodaeth ar gael i Lywodraeth Cymru drwy'r grŵp gweithredu a'r ddeialog gyda'r diwydiant, ac wedi hynny cawsant eu gosod ger bron y Senedd, yn dilyn Cyfnod 2. Felly, rydym ni wedi cyflawni'r hyn a ddywedom y byddwn ni'n ei wneud.
Mae asesiad manwl ar ddyletswydd economaidd-gymdeithasol hefyd wedi'i gwblhau ac mae crynodeb wedi'i gynnwys yn y memorandwm esboniadol. Ac er mwyn ei gwneud yn glir, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy'r grŵp gweithredu, sy'n darparu arweiniad a chyngor ymarferol i liniaru'r effeithiau ac i gefnogi trawsnewidiad.
Nawr ni allaf gefnogi gwelliant 15, a gyflwynwyd gan James, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal asesiad hawliau dynol o'r effeithiau y bydd y Ddeddf yn ei chael ar y rhai yr effeithir arnynt, ond gadewch imi esbonio pam. Mae darpariaethau bil bob amser yn destun asesiad trylwyr o gymhwysedd deddfwriaethol gan gynnwys, gyda llaw, hawliau confensiwn cyn iddynt gael eu cyflwyno. Mae canlyniad asesiad Llywodraeth Cymru o gydnawsedd y Bil â hawliau'r confensiwn ar ôl ei gyflwyno wedi'i gynnwys yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil. Yn ystod y penderfyniad yn wir, penderfynodd y Llywydd hefyd fod darpariaethau'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon. Ac rwy'n fodlon bod y Bil yn gydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, gan gynnwys erthygl 1 o brotocol 1 ac erthygl 8.
Fe wnes i ymrwymo mewn gohebiaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i ddiweddaru'r asesiad cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau dynol, sydd bellach yn cael ei adlewyrchu yn y memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Felly, ni allaf gefnogi gwelliannau cysylltiedig 18 a 19, sy'n darparu bod adrannau newydd yn cael eu hychwanegu at y Bil sy'n ymwneud â gwelliannau 14 a 15 sy'n dod i rym y diwrnod ar ôl i'r ddeddfwriaeth dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Ac yn olaf, James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Llyr, am gefnogi rhai o'm gwelliannau. Rwy'n gwybod na allwch eu cefnogi i gyd, ond mae'r gefnogaeth yn cael ei chroesawu.
Byddwn i'n dweud, gan ateb pwynt erthygl 1 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, y byddwn i wrth fy modd yn mynd allan o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol—does neb eisiau gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn fwy na fi—ond, yn anffodus, pan fydd gennych gyfraith o'ch blaen, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r llwybrau cyfreithiol sydd ar gael i chi ar y pryd. A dyma'r llwybrau cyfreithiol sydd ar gael i ni ar y pryd i ddiogelu gweithwyr Cymru yma, sy'n gweithio ar y trac hwnnw.
Hoffwn weld bil hawliau Prydain sy'n amddiffyn gweithwyr Prydain, yn amddiffyn pobl Prydain—
A wnewch chi gymryd ymyriad, James?
—nid ein llyffetheirio â hawliau Ewrop, ond rydym ni lle rydym ni. Iawn, fe wnaf gymryd ymyriad, Gareth.
A fyddech chi'n fodlon nodi mai mewn gwirionedd mai'r Democratiaid Rhyddfrydol a alwodd am refferendwm yr UE yn ôl yn 2009, pan oedd Nick Clegg yn arweinydd, a oedd yn y pen draw yn rhagflaenu'r llinell am eisiau gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol?
Fel rhywun sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd yn ymgyrchu yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol, nid oes unrhyw beth maen nhw'n ei ddweud neu'n ei wneud yn fy synnu o gwbl, byddaf yn onest gyda chi.
Ond fe ddywedaf mai dyma'r tro olaf i mi siarad ar y Bil hwn cyn Cyfnod 4. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gennym yr asesiadau effaith priodol hynny gerbron y Senedd i ddangos yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar y cymunedau yr effeithir arnynt, ar y bobl yr effeithir arnynt, am yr economi. Efallai y bydd aelodau yn y cefn o fewn y Blaid Lafur yn chwerthin, ond mae yna swyddi, mae yna bobl yno sy'n gweithio ar y trac hwnnw, ac rwy'n credu y dylech chi fod â chywilydd, chwerthin am ben y bobl sy'n mynd i golli eu swyddi. Nid yw'r Bil hwn yn gymesur. Mae'n ddeddfwriaeth wael, heb ddigon o feddwl wedi'i roi iddi, wedi'i chreu mewn cytundeb ystafell gefn rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Nid dyma'r ffordd briodol o reoleiddio; mae wedi cael ei hysgogi gan grŵp penodol o bobl sy'n benderfynol o wahardd popeth ledled Cymru. Ac fe ddywedaf na all newid ddod yn ddigon buan, oherwydd mae gen i ofn dweud bod y lle hwn yn gyff gwawd am wahardd popeth y mae pobl yn ei fwynhau ledled y wlad hon.
Os gwrthodir gwelliant 14, bydd gwelliant 18 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, byddwn yn symud i bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, chwech yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 14 wedi ei wrthod.
Eitem 15. Gwelliant 14: O blaid: 5, Yn erbyn: 40, Ymatal: 6
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 18.
James, gwelliant 15.
Cynigiwyd gwelliant 15 (James Evans).
Symud.
Os gwrthodir gwelliant 15, bydd gwelliant 19 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid tri, chwech yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei wrthod.
Eitem 15. Gwelliant 15: O blaid: 3, Yn erbyn: 42, Ymatal: 6
Gwrthodwyd y gwelliant
Methodd gwelliant 19.
Dirprwy Brif Weinidog, gwelliant 11.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Huw Irranca-Davies).
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, symudwn i bleidlais ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, saith yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 11 wedi ei dderbyn.
Eitem 15. Gwelliant 11: O blaid: 42, Yn erbyn: 2, Ymatal: 7
Derbyniwyd y gwelliant
Ni chynigiwyd gwelliant 8 (Rhys ab Owen).
[Torri ar draws.] Na, nid oedd pleidlais ar yr un blaenorol, felly nid yw wedi methu. Mae'n rhaid i mi ofyn y cwestiwn o hyd.
Gwelliant 9.
Heb ei gynnig.
Ni chynigiwyd gwelliant 9 (Rhys ab Owen).
Grŵp 5. Mae'r grŵp olaf o welliannau yn ymwneud â threfniadau dod i rym. Gwelliant 10 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Rhys ab Owen i gynnig y prif welliant ac i siarad am y prif welliant a'r gwelliant arall yn y grŵp.
Cynigiwyd gwelliant 10 (Rhys ab Owen).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Esboniais yng Nghyfnod 2 pam rwy'n credu y dylid gwahardd rasio milgwn o 1 Ebrill 2027. Awgrymodd aelod o'r pwyllgor yng Nghyfnod 2 fod angen cyfnod o bedair blynedd i roi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru. Nid wyf wedi deall llawer o bethau yn ystod y ddadl hon ac nid oeddwn yn deall sylwadau'r Dirprwy Brif Weinidog pan gynghorodd y byddai'r amser arweiniol presennol, fel y'i drafftiwyd, yn lleihau niwed i filgwn gan ei fod yn rhoi amser i randdeiliaid. Wel, ni fyddaf yn argyhoeddedig y bydd caniatáu i rasio milgwn barhau tan 2030 yn lleihau niwed i filgwn o gymharu â gwahardd rasio yn 2027. Ni allaf weld y rhesymeg honno. Yr amserlen rwy'n ei gynnig yw'r hyn y mae Blue Cross, Dogs Trust, Achub Milgwn Cymru, Hope Rescue a'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid wedi galw amdani. Nhw yw'r rhai sy'n paratoi i ailgartrefu'r cŵn yr effeithir arnynt, fel rydym ni wedi clywed eisoes gan Jane Dodds. Felly, mae unrhyw ddadl nad oes capasiti yn sylfaenol ddiffygiol.
Er mwyn cefnogi ailgartrefu, adsefydlu a thrin unrhyw gŵn yr effeithir arnynt yn sgil dod â rasio milgwn i ben yng Nghymru, sefydlwyd y bartneriaeth filgwn yn fuan ar ôl i'r gwaharddiad gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2025. Bu cyfnod hir o baratoi eisoes. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys naw sefydliad lles anifeiliaid, ac ar hyn o bryd mae'n paratoi i ailgartrefu hyd at 258 o gŵn bob dau fis, ar ôl gweithredu'r gwaharddiad, os oes angen. Mae'r elusennau yn barod. Ac rydym yn gwybod bod traciau eraill wedi cael eu dirwyn i ben mewn cyn lleied â naw mis—er enghraifft, y trac yn Swindon. Felly, does dim rheswm pam y dylai Llywodraeth Cymru oedi.
Rwy'n glynu wrth fy nyddiad cau o 1 Ebrill 2027, ond, os yw'r mwyafrif yn anghyfforddus gyda'r amserlen, rwy'n eu hannog i gefnogi'r safbwynt cyfaddawdu a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Jane Dodds. Ond byddai gen i ddiddordeb hefyd mewn clywed beth sydd gan y Dirprwy Brif Weinidog i'w ddweud am y mater hwn, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy gan arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am ei gwelliant ei hun. Diolch yn fawr.
Dim ond cynnig gwelliant 10A ydw i. Cyn i mi wneud, rydw i eisiau bod yn ddiamwys. Byddai'n well gen i weld gwelliant 10, a gyflwynwyd gan Rhys ab Owen, yn cael ei dderbyn. Dyddiad cychwyn o ddim hwyrach na 1 Ebrill 2027 yw'r canlyniad cywir, ac rwy'n annog pob Aelod sy'n gallu ei gefnogi i wneud hynny. Yn yr un modd, edrychaf ymlaen at glywed gan yr aelod Cabinet hefyd.
Mae'r gwelliant hwn yn bodoli oherwydd fy mod yn deall y gall cyd-Aelodau fod ag amheuon gwirioneddol ynghylch y broses, am amseru, ac am ymarferoldeb gweithredu.
I orffen, dyma'r tro olaf i mi siarad yn y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar i'r aelod Cabinet am ei amser a'i gefnogaeth ac am ei allu i drafod llawer o'r materion. Ac rwy'n ddiolchgar, hefyd, am y gefnogaeth a gefais gan lawer, llawer o gyd-Aelodau ar draws y Cabinet hwn—ar draws y Siambr, a'r Cabinet hefyd.
Nid yw wedi bod yn hawdd, rwy'n cyfaddef, fel unig Aelod o blaid sydd eisiau gweld hyn yn digwydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth honno, ac am y geiriau caredig a diffuant 'daliwch ati' rydw i wedi'u clywed. Felly, rwy'n ddiolchgar i chi i gyd.
Rydym ni'n gwybod, ar hyn o bryd, yn y ganolfan achub yn Rhydaman, o ble y daeth Wanda, mae ci yn aros i gymryd ei lle, ac un arall ar ôl hynny, ac un arall. Mae yna lawer o gŵn sy'n aros i gael eu hachub, ac os oes un peth—. Os ydych chi'n gadael y lle hwn ac rydych chi'n chwilio am gi achub, awgrymaf eich bod yn ystyried milgwn. Maen nhw'n cysgu 20 awr allan o 24 awr—[Chwerthin.]—ac, yn groes i'r chwedl, dim ond dwy daith gerdded 20 munud y dydd sydd eu hangen arnynt. Maen nhw wrth eu bodd yn rhedeg. Dydyn nhw ddim yn hoffi rasio. A dyna'r gwahaniaeth.
Felly, byddwn yn dweud wrthych, ar y tro olaf hwn i mi siarad, ystyriwch y gwelliant hwn. Edrychaf ymlaen at glywed gan yr aelod o'r Cabinet, ond rydw i hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth i gael y Bil hwn i'r cyfnod penodol hwn. Diolch yn fawr iawn.
Wrth gwrs, does dim byd—. Dydw i ddim yn mynd i wneud gwaith yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei ran, ond does dim byd yn y Bil sy'n dweud nad yw'r gwaharddiad o reidrwydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027. Dyna bwrpas cael ffenestr, bod cyfle i ystyried popeth.
Nawr, rydych chi'n iawn, rwy'n ymwybodol iawn bod y grwpiau lles anifeiliaid yn dweud y gallant greu'r ddarpariaeth honno mewn pryd. Ond mae yna lawer o rannau symudol yma. Mae'r grŵp cynghori y mae'r Gweinidog wedi'i sefydlu yn gweithio ar agweddau neu ganlyniadau eraill y gwaharddiad. Rydym ni newydd glywed am oblygiadau economaidd, o bosibl, o bobl yn colli eu swyddi ac angen dod o hyd i'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt ac ati.
Felly, dydw i ddim yn credu y dylem roi dyddiad caled sy'n rhy gynnar. Rwy'n credu bod o Ebrill 2027 i Ebrill 2030, sef yr hyn sydd yn y Bil ar y funud, yn rhoi ffenestr i'r Llywodraeth wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gyfrifol a rhesymol, ac nid oherwydd bod yn rhaid iddynt wneud hynny erbyn yr wythnos nesaf. Rwy'n credu mai dyna'r dull gorau mae'n debyg.
Roeddwn i'n mynd i wneud sylwadau pellach ynghylch pam rydym ni i gyd yma a beth rydym ni i gyd eisiau ei gyflawni, ond byddaf yn cadw'r rheini ar gyfer Cyfnod 4.
Y Dirprwy Brif Weinidog.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i, yn gyntaf oll, wrth i mi siarad am y grŵp diwethaf o welliannau, ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith craffu heddiw ac yng nghyfnodau craffu blaenorol ar y ddeddfwriaeth hon, gan gynnwys y rhai sydd wedi cynnig gwelliannau ac wedi ysbrydoli dadl? Ond a gaf i hefyd ddiolch i'm grŵp bach ond perffaith o swyddogion sydd wedi gweithio mor ddiwyd ac mor ddyfal ar hyn, gan gynnwys gydag Aelodau ar draws y Senedd hefyd?
Felly, mae gwelliant 10, fel yr ydym wedi'i glywed, yn dileu'r dyddiad cynharaf a ddarperir ar hyn o bryd, sef 1 Ebrill 2027 ac, yn lle hynny, yn cyflwyno'r dyddiad cychwyn diweddaraf posibl i fod heb fod yn hwyrach na 1 Ebrill 2027. Mae gwelliant 10A, yn enw Jane, yn bwriadu newid y dyddiad cychwyn diweddaraf posibl i 1 Ebrill 2028. Rwy'n deall y ffordd rydych yn meddwl, y ddau ohonoch chi, am hyn, ond rydw i'n mynd i esbonio ychydig mwy am fy rhesymeg yma hefyd.
Rwy'n deall yr ymdeimlad o frys a fynegwyd gan lawer o Aelodau heddiw i roi terfyn ar rasio milgwn yng Nghymru cyn gynted â phosibl, er mwyn atal rhagor o niwed i filgwn. Fodd bynnag, yr amser arweiniol presennol, fel y'i drafftiwyd yn y Bil, yw'r ffordd iawn o gyflawni hyn yn ddiogel ac yn derfynol. Mae'n caniatáu i'r holl randdeiliaid addasu, gan liniaru effeithiau'r gwaharddiad ar y sector ailgartrefu a'r sector lles, y milgwn, y diwydiant rasio, ond hefyd y gymuned ehangach yn yr ardal honno.
Bydd y grŵp gweithredu, fel y soniwyd, yn chwarae rôl ganolog wrth gefnogi'r trawsnewidiad i waharddiad, gan helpu i liniaru'r effeithiau posibl a darparu cyngor ac arweiniad a mewnwelediad ymarferol iawn. Byddant yn sicrhau bod y trawsnewidiad hwn yn ddiogel, yn gyfrifol, ac yn cael ei ystyried yn ofalus. Rydym yn disgwyl iddynt gynghori Gweinidogion Cymru ar amserlen arfaethedig ar gyfer dechrau ac i sicrhau pob plaid bod y mesurau trosiannol angenrheidiol ar waith yn llawn cyn y dyddiad hwnnw.
Bydd ystyriaethau y grŵp, fel yr ydym wedi'i drafod yng nghyfnodau blaenorol y craffu hwn, yn eang. Bydd angen iddynt sicrhau y gellir ailgartrefu milgwn yn ddiogel, cynghori ar ddyfodol y safle ei hun, fel nad ydym yn gadael safle heb ei ddefnyddio ac heb ofal amdano, cefnogi'r gweithlu i drawsnewid trwy fesurau priodol, ac asesu parodrwydd swyddogion gorfodi ac awdurdodau lleol. Mae elfen orfodi i'r ddeddfwriaeth hon hefyd. Rhaid iddynt hefyd ystyried effeithiau ehangach y gymuned a gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod camau ymarferol ar waith, fel bod y gwaharddiad yn cael ei anrhydeddu a'i orfodi o'r diwrnod cyntaf. Mae'r rhain yn faterion cymhleth a rhyng-ddibynnol y mae'n rhaid eu hystyried yn iawn, a dyna lle mae gwaith y grŵp gweithredu yn dod i mewn. Mae wedi cael ei sefydlu am reswm da iawn.
Rydym yn disgwyl i'r grŵp weithredu'n gyflym, ond hefyd gydag ystyriaeth ofalus o'r materion hyn hefyd. Maent yn cael y dasg ffurfiol o gefnogi'r trawsnewidiad, gan ddarparu adroddiadau i Weinidogion Cymru i lywio penderfyniadau Gweinidogion Cymru ar y dyddiad dod i rym. Bydd y dyddiad cychwyn hwn yn cael ei bennu unwaith y bydd yr holl drefniadau trosiannol wedi eu hystyried a bydd yn elwa ar sicrwydd clir bod y mesurau angenrheidiol ar waith. Rwy'n disgwyl yn llwyr, gyda llaw, y bydd y grŵp eisiau argymell dyddiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach—yn wir, cyn gynted ag y maent yn hyderus y gellir cyflawni'r trawsnewidiad hwnnw'n ddiogel ac yn gyfrifol heb beryglu lles milgwn na sefydlogrwydd cymunedol ychwaith. Mae rheswm da dros beidio â rhuthro hyn. Os ydym yn symud yn rhy gyflym, mae perygl y bydd yn creu problemau lles newydd neu'n rhoi straen y gellir ei osgoi ar gapasiti ailgartrefu a gorfodi, ac achosi aflonyddwch yn y gymuned leol.
Yr hyn yr ydym ei eisiau yw trawsnewidiad diogel gyda dilyniannu, gyda barn, a gosod nid yn unig y dyddiad cynharaf posibl, ond y dyddiad cywir. Felly, yn ei adroddiad, roedd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol o'r farn bod y cyfnod arweiniol arfaethedig yn synhwyrol, a chafodd hynny ei atgyfnerthu yn y ddadl yng Nghyfnod 2. Felly, rwy'n ailadrodd fy ymrwymiad y bydd y Bil yn cael ei ddwyn i rym ar y cyfle ymarferol cynharaf o fewn y ffrâm amser yr ydym wedi'i nodi.
Ond gadewch i mi ehangu ychydig yn fwy. Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddod â'r gwaharddiad i rym ar y pwynt ymarferol cynharaf o fewn y ffenestr honno. Felly, mae cadw ein ffenestr gychwyn o Ebrill 2027 i Ebrill 2030 yn sicrhau ein bod yn ymdrin â'r holl agweddau hynny ar y broses a gallwn glywed gan y grŵp gweithredu hefyd. Mae'n caniatáu iddynt gyflawni eu gwaith yn effeithiol a darparu'r cyngor hwnnw. Pwynt y ffenestr, Jane, a Rhys, yw peidio ag oedi; mae'n sicrhau parodrwydd. Mae'n caniatáu inni ddod â'r gwaharddiad i mewn cyn gynted â phosibl heb beryglu lles, sefydlogrwydd cymunedol na gallu gweithredol.
Felly, mae cryfder y trawsnewidiad hwn—cryfder y Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd—yn gorwedd yn yr arbenigedd o amgylch bwrdd y grŵp gweithredu. O arbenigwyr lles i gyrff gorfodi, i bartneriaid lleol ac yn wir y diwydiant ei hunan, rhaid i'w cyngor ar y cyd ffurfio'r dyddiad cychwyn terfynol. Ac mae'r grŵp hwn mewn sefyllfa unigryw i nodi'r risgiau yn gynnar a sicrhau bod y mesurau diogelu ar waith. Eu cyfranogiad yw'r hyn a fydd yn rhoi'r hyder i'r Gweinidog hwn fod gennym trawsnewidiad llwyddiannus.
A dim ond i ddweud, mae sicrhau bod gennym ddyfodol cadarnhaol a chynhyrchiol i'r safle ei hun er budd pawb. Mae gennym gyfrifoldeb i reoli canlyniadau gwaharddiad, cyfrifoldeb am y safle hwnnw, i'r gymuned honno a'r economi gyfagos hefyd. Ac mae gweithwyr y diwydiant, fel y soniwyd o'r blaen, yn haeddu eglurder a chefnogaeth, nid aflonyddwch sydyn. Felly, rhoi cyngor a chael mynediad at hyfforddiant a chefnogaeth i symud i gyfleoedd newydd; hynny i gyd.
Felly, mae cychwyn ystyriol yn cryfhau, byddwn i'n dweud, Jane, hygrededd y ddeddfwriaeth, Rhys, ac yn sicrhau ei bod yn cyflawni'r canlyniad y mae'r Senedd hon yn ei ddymuno. Felly, ar y sail honno, byddwn yn annog yr Aelodau, gyda pharch, i wrthsefyll y gwelliannau, neu hyd yn oed i'r Aelodau, os ydynt yn argyhoeddedig gan y rhesymeg y tu ôl i'r hyn yr ydym yn ei gynnig a'r hyn a drafodwyd ac a oedd yn destun craffu yng Nghyfnod 2, i dynnu eu gwelliannau yn ôl, ar ôl gofyn am yr eglurhad hwn gennyf, a chefnogi'r ffordd ymlaen a nodir yn y Bil fel y'i nodir nawr. Diolch yn fawr iawn.
Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno â Battersea Dogs and Cats Home, a ddywedodd:
'Gyda dim ond un trac, a grŵp gweithredu eisoes yn gweithio, nid yw'n glir pam y bydd angen uchafswm o dair blynedd er mwyn i'r Bil ddod i rym.'
Ac rwy'n gobeithio na fydd yn uchafswm o dair blynedd. Ond rwyf wedi gwrando ar y Dirprwy Brif Weinidog, ac rwy'n ildio i'r pwynt o ran arbenigedd y grŵp gweithredu. Felly, byddaf yn tynnu fy ngwelliant yn ôl heno.
Rydym ni wedi clywed rhai sylwadau eto heno am gytundebau ystafell gefn. Mae'n ddadl ddiog i'w thaflu os nad ydych chi'n hoffi polisi neu ddeddfwriaeth. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud pan fydd pobl yn gweithio gyda'i gilydd ar draws gwahanol bleidiau. Diolch i Jane am wthio'r ddeddfwriaeth hon, ond, gadewch i ni fod yn onest, ni fyddai wedi cyrraedd y cyfnod hwn oni bai bod ganddi gefnogaeth eang gan y mwyafrif yn y lle hwn. Rwy'n gobeithio, wrth i wleidyddiaeth ddod yn fwy toredig, y bydd natur y cydweithio hwnnw a welsom yn y Senedd hon yn parhau i'r nesaf. Heddiw, heno, rydym wedi cymryd cam milgi ymlaen ym maes lles anifeiliaid. Diolch yn fawr.
Cyn gwaredu gwelliant 10, bydd angen i ni waredu'r gwelliant i'r gwelliant hwnnw yn gyntaf. Jane Dodds, gwelliant 10A. Ddim yn symud?
Ddim yn symud.
Heb ei gynnig.
Ni chynigiwyd gwelliant 10A (Jane Dodds).
Rhys, ei dynnu'n ôl?
Ei dynnu'n ôl.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu ei dynnu'n ôl? Na. Iawn.
Tynnwyd gwelliant 10 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
James, gwelliant 20.
Cynigiwyd gwelliant 20 (James Evans).
Symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Byddwn yn symud i bleidlais ar welliant 20. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, wyth yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 20 wedi ei wrthod.
Eitem 15. Gwelliant 20: O blaid: 4, Yn erbyn: 40, Ymatal: 8
Gwrthodwyd y gwelliant
James, gwelliant 21.
Cynigiwyd gwelliant 21 (James Evans).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Symudwn i bleidlais ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid tri, wyth yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 21 wedi ei wrthod.
Eitem 15. Gwelliant 21: O blaid: 3, Yn erbyn: 41, Ymatal: 8
Gwrthodwyd y gwelliant
Rydym wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Datganaf y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo.
Bydd egwyl fer—[Anghlywadwy.]—Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn i ni ailymgynnull. Byddwn yn annog Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:25.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:34, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Fe wnawn ni nawr symud ymlaen gyda Chyfnod 3 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru).
Y grŵp cyntaf o welliannau yw'r rhai sy'n ymwneud â hysbysebu a marchnata. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Mark Drakeford).
Diolch yn fawr, Llywydd. Cyn symud ymlaen at sylwedd y gwelliannau, hoffwn wneud ychydig o bwyntiau cyffredinol. Mae gwelliannau Cyfnod 3 y Llywodraeth yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol a drafodwyd yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd, yn ogystal â newidiadau technegol i wella eglurder. Rydym wedi cyflwyno gwelliannau sydd yn adeiladu ar y gwelliannau sylweddol a drafodwyd yng Nghyfnod 2.
Mae'r gwelliannau sydd o'n blaenau heddiw yn egluro cyfrifoldebau y rhai sy'n hysbysebu llety ymwelwyr, gan gynnwys llwyfannau ar-lein, yr amgylchiadau y bydd trwyddedau dros dro ar gael, ac yn sicrhau bod pwerau yn y Bil yn caniatáu trosglwyddo trwyddedau.
Rydym hefyd wedi cyflwyno memorandwm esboniadol wedi ei ddiweddaru yn dilyn Cyfnodau 1 a 2. Mae'r newidiadau yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag atal niwsans, a ychwanegwyd at y Bil yng Nghyfnod 2. Byddwn yn cyhoeddi memorandwm esboniadol pellach i adlewyrchu'r Bil terfynol, ac, yn naturiol, dylai darllenwyr ymgynghori â'r fersiwn ddiweddaraf.
Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Bil, yn cynnwys cyrff yn y sector, Aelodau'r Senedd a swyddogion, sydd wedi gweithio i ddod â'r ddeddfwriaeth hon, a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio, ger ein bron.
Llywydd, trof yn awr at y grŵp cyntaf o welliannau. Mae hwn yn grŵp sy'n delio â hysbysebu a marchnata llety ymwelwyr. Mae'r Llywodraeth yn gadarn o'r farn ei bod hi'n rhesymol disgwyl i lwyfannau hysbysebu ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am lety y maen nhw'n ei farchnata. Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i lwyfannau o'r fath gymryd camau rhesymol i gynnwys rhif cofrestru dilys wrth hysbysebu. Mae methu â gwneud hynny yn cyflawni trosedd. Mae'r Bil yn darparu bod esgus rhesymol yn amddiffyniad mewn amgylchiadau perthnasol.
Mae gwelliant 71 yn ei gwneud hi'n eglur, os yw rhywun wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â'r gofynion, neu nad yw'n ymwybodol eu bod yn torri'r gofynion hynny, yna ni fyddant yn cyflawni trosedd. Byddai'r hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar y ffeithiau, ond gallai gynnwys camau fel hysbysu darparwyr llety bod angen rhif cofrestru, rhoi lle iddyn nhw ei gynnwys mewn hysbyseb, ei gwneud hi'n ofyniad cytundebol iddo gael ei gynnwys a'i ddiweddaru, yn ôl yr angen, a, lle bo'n briodol, gwirio fformat y rhif i gadarnhau ei fod yn wir yn rif cofrestru. Ac, wrth gwrs, os hysbyswyd platfform hysbysebu yn ddiweddarach nad oedd hysbyseb yn cynnwys rhif cofrestru dilys, bydd disgwyl iddyn nhw ei dynnu i lawr. Ond mae'r gwelliant hwn, 71, yn gwneud yn glir na fyddai'n rhesymol i berson neu blatfform fonitro eu rhestrau yn gyson neu i wirio'n barhaus, ni fyddan nhw wedi cyflawni trosedd.
Mae gwelliannau 49, 70 a 71 yn rhoi'r holl ofynion hysbysebu, marchnata a chynnig o dan y Bil yn adrannau 46 a 47. Pe bai hyn yn cael ei gytuno, byddai'n golygu y byddai'r gofynion a'r tramgwydd cysylltiedig ar gyfer cynnig llety ymwelwyr rheoleiddiedig heb drwydded yn eistedd ochr yn ochr â'r gofynion a'r troseddau ehangach, mwy cyffredinol ar gyfer hysbysebu a marchnata llety ymwelwyr heb rif cofrestru dilys. Mae hyn nid yn unig yn darparu mwy o eglurder ond, yn bwysicach fyth, yn caniatáu i'r amddiffyniad estynedig a gynigir o dan welliant 71 fod yn berthnasol yn y ddau achos. Mae gwelliant 71 hefyd yn darparu mai dim ond unwaith y gellir cosbi person am drosedd o dan yr adran hon.
Mae gweddill y gwelliannau yn y grŵp hwn yn ymdrin â chanlyniadau'r newidiadau hynny. Mae gwelliant 50 yn diweddaru adran 32 i adlewyrchu dileu'r tramgwydd mewn perthynas â chynnig darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig heb drwydded. Mae gwelliannau 67, 68 a 69 yn gwneud mân ddiweddariadau technegol i adran 46, ac mae gwelliant 1 yn diweddaru'r adran drosolwg o'r Bil i adlewyrchu'r newidiadau y byddai gwelliannau 70 a 71 yn eu gwneud i Ran 4.
Llywydd, mae'r materion y mae'r grŵp hwn o welliannau yn mynd i'r afael â nhw yn rhai y mae Sam Kurtz yn arbennig wedi'u codi yn ystod hynt y Bil. Rwy'n ddiolchgar iddo ef a chyrff y diwydiant am eu hymgysylltiad parhaus ar y materion hyn, sydd wedi ein helpu i ddarparu'r eglurder a ddarperir yn y gwelliannau hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn teimlo eu bod yn gallu eu cefnogi.
Fe hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i bawb sydd wedi gweithio i gyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n ddiolchgar am natur adeiladol a chydsyniol y trafodaethau sydd wedi digwydd yn ystod ei hynt, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cytuno ar sawl agwedd ar y ddeddfwriaeth hon. Mae nifer y gwelliannau gan y Llywodraeth a gyflwynwyd yng Nghyfnodau 2 a 3 yn dangos gwerth y broses graffu, yn enwedig o ystyried y nifer sylweddol o ddeddfwriaeth sydd wedi pasio drwy'r Senedd hon ers dechrau 2026.
Gan droi at y gwelliannau yng ngrŵp 1, ac yn benodol gwelliannau 70 a 71, mae'r rhain yn ymwneud â'r mater o atebolrwydd mewn perthynas â'r rhif cofrestru a gyhoeddwyd gan Awdurdod Refeniw Cymru. Fel y soniwyd amdano, ac yng Nghyfnod 2, fe wnes i gyflwyno gwelliannau ar y mater hwn, gan fod gennyf bryderon ynghylch ble y byddai atebolrwydd, yn enwedig mewn perthynas â pha un a allai llwyfannau neu asiantaethau gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod y rhif cofrestru a roddwyd yn gywir. Fy marn i bob amser yw y dylai'r cyfrifoldeb am sicrhau bod y rhif cofrestru yn gywir ac yn ddilys fod gyda'r darparwr llety ymwelwyr. Y darparwr, yn hytrach na'r asiantaeth neu'r platfform, sy'n cael y rhif cofrestru gan Awdurdod Refeniw Cymru. Rwyf, fodd bynnag, yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am gymryd amser i drafod y pryderon hyn gyda mi, ac am y cynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r pwynt hwn yng Nghyfnod 2 hyd heddiw. Mae'r ymgysylltiad hwnnw wedi helpu i ddarparu mwy o eglurder ynghylch bwriad y darpariaethau hyn. Ar y sail honno, ac i gydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud yn dilyn y gwelliannau a gyflwynais o'r blaen, byddaf yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn. Diolch.
Fe hoffwn i, hefyd, ddiolch i bawb sydd wedi gweithio ar y Bil hwn. Mae wedi bod yn daith hir, ac fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dynnu sylw iddo ddechrau ei daith yn ystod y cytundeb cydweithio. Felly, byddwn yn diolch yn benodol am y gwaith a wnaeth Siân Gwenllian, Adam Price a Cefin Campbell drwy gydol y broses hon.
Wrth gwrs, y Bil hwn yw'r ail ran i'r Bil ardoll ymwelwyr, i bob diben, ac, yn ôl pob tebyg, y mwyaf canlyniadol o'r ddau. Nawr, trwy gydol y ddadl gyfan, trwy gydol y ddadl ar yr ardoll ymwelwyr, fe wnaethom ni i gyd weld yn eglur iawn y diffyg data mewn sawl rhan o'r economi ehangach, ond mae hwn yn fater penodol o ran y sector twristiaeth am nifer o resymau. Nawr, fel rydym ni wedi'i amlinellu'n gyson, ac fel rydym ni wedi clywed trwy gydol y ddadl ar y Bil hwn a'r ardoll ymwelwyr, mae twristiaeth yn rhan hanfodol o'r economi. Nid oes unrhyw anghytundeb ar hyn. Bydd gwneud yn siŵr fod y diwydiant yn gweithio gyda'r cymunedau y mae'n gweithredu ynddyn nhw ond yn ei gryfhau ymhellach fel sector trwy wella'r profiad twristiaeth i'r cymunedau hynny.
Mewn perthynas â'r hyn sydd gennym ni o'n blaenau ni heddiw, mae gallu, yn gyntaf, deall faint o lety i ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru, ac, yn ail, deall a yw'r darparwyr llety hynny'n cadw at y safonau diogelwch rydym ni i gyd yn disgwyl iddyn nhw ei wneud ai peidio yn gwneud dau beth. Mae'n rhoi hyder i ymwelwyr wrth ddod i Gymru ac mae'n caniatáu inni gael gwared ar y drwg yn y caws o fewn y sector, ond mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth sylfaenol i ni am sut mae ein cymunedau'n gweithredu, faint o adeiladau sy'n llety o fewn y cymunedau hynny, a thrwy hynny yn ein galluogi ni wedyn i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ar bolisi.
Rwyf wedi gwerthfawrogi'r sgyrsiau hynny a hwyluswyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet hyd at y pwynt hwn, ac roeddwn yn falch o weld ein gwelliannau yng Nghyfnod 2 yn pasio, gan edrych ymlaen, wrth gwrs, at y ddadl yng Nghyfnod 3. Mewn perthynas â'r grŵp hwn, byddwn yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod yn rhesymol i asiantau hysbysebu gymryd cyfrifoldeb yn y ffordd y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn nodi. Byddwn hefyd yn dweud, i fod yn deg i'r Ysgrifennydd Cabinet, ei fod wedi nodi'n gyson nad yw hyn yn ymwneud â dal pobl allan. Mae hynny wedi'i adlewyrchu gan y darpariaethau a nodwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, gan ganiatáu i'r bobl hynny sydd o bosibl wedi cyflawni trosedd gywiro hynny. Rwy'n credu bod hynny'n dangos bod ymrwymiad i hyn yn rhywbeth nad yw wedi'i gynllunio i geisio cael y llaw uchaf ar bobl. Felly, byddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn y grŵp hwn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb, os ydy e angen.
Dim ond i ddiolch i gyd-Aelodau am ddweud eu bod yn gefnogol i'r gwelliannau hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rydyn ni'n mynd ymlaen yn syth i grŵp 2. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â datblygu twristiaeth. Gwelliant 108 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a Rhys ab Owen sy'n cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 108 (Rhys ab Owen).
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn i bwysleisio ar y dechrau pa mor ddiolchgar ydw i i bawb sydd wedi cydweithio â mi ar y Bil yma, gan gynnwys y tîm cyfreithiol, clercod y pwyllgorau, a Chymdeithas Broffesiynol Hunan-ddarparwyr y Deyrnas Unedig yng Nghymru, PASC. Mae eu hymdrechion nhw wedi bod yn fuddiol, achos rydym ni wedi cael llwyddiant gyda rhai gwelliannau yn Nghyfnod 2, a dwi'n obeithiol iawn am y gwelliant yma heno. Diolch yn fawr i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a'ch tîm chi, am eich ymroddiad chi. Fe wnaethoch chi ymrwymo yng Nghyfnod 2 i gydweithio yn bositif, ac mae hynny wedi digwydd.
Mae fy ngwelliannau yn y grŵp yma yn ei gwneud hi'n angenrheidiol i Weinidogion gyhoeddi'r cod. Ar hyn o bryd, mae dewis os ydych chi'n ei wneud e ai peidio. Efallai y bydd rhai ohonoch chi yn cwestiynu ydy'r cod yma yn bwysig o gwbl. Wel, ydy, a dyma pam: bydd y cod yn cynnwys canllawiau ar wasanaeth i gwsmeriaid, hygyrchedd, cynaladwyedd, materion amgylcheddol a hyrwyddo'r iaith Gymraeg.
Fel mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud eisoes, bydd y cod ymarfer yn sicrhau bod pobl yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt, a’u bod nhw’n gallu dod o hyd i ffyrdd o gydymffurfio, a hynny mor rhwydd â phosib. Mae’n mynd i bwynt Luke Fletcher gynnau, eu bod nhw eisiau cydweithio gyda’r sector. Mae’n amlwg i mi fod consensws bod cael y fath ddogfen yn hollbwysig. Felly, gobeithio eich bod chi’n gallu cefnogi fy ymdrech i sicrhau bod y cod yma yn cael ei gyhoeddi.
Yn ogystal â hynny, dwi’n falch o fod wedi cydweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno ail welliant, sef gwelliant 109, a fyddai’n galluogi’r canllawiau i gael eu tynnu nôl os, ar ôl ymgynghori â sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru, ydyn nhw o'r farn bellach nad yw’r cod o ddefnydd ymarferol mwyach.
Fel dwi’n gobeithio sy’n amlwg erbyn hyn, hyrwyddo perthynas bositif a fydd o gymorth i’r sector twristiaeth sydd wrth wraidd y grŵp yma o welliannau. Diolch yn fawr.
Gan symud ymlaen at yr ail grŵp o welliannau, fe hoffwn i siarad am y rheini yn fy enw i, gwelliannau 105 a 106. Byddai'r gwelliannau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad ar hyrwyddo datblygiad twristiaeth yng Nghymru, gan roi ystyriaeth arbennig i'r trothwy presennol o 182 diwrnod ar gyfer ardrethi annomestig, a pha isafswm cyfnodau gosod amgen allai fod yn briodol.
Mae'r rheol 182 diwrnod wedi achosi cryn bryder ar draws y sector. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn, i'r diwydiant ac i economi ehangach Cymru. Mae angen sicrwydd ar weithredwyr ynghylch y rheolau maen nhw'n gweithio oddi tanyn nhw, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw drothwy yn cael y cydbwysedd cywir rhwng rheoleiddio a chefnogi economi ymwelwyr gynaliadwy. Rhaid i ni hefyd sicrhau bod digon o gyflenwad o lety ymwelwyr ar gael pan fydd y galw yn cyrraedd uchafbwynt, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth.
Rwyf wedi gwneud yn glir fy marn o'r blaen bod y trothwy 182 diwrnod presennol yn rhy uchel, ac y byddai trothwy yn agosach at 105 noson yn ofyniad mwy cymesur a realistig i lawer o ddarparwyr. Dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y Llywodraeth yn ymgymryd â gwaith pellach i asesu yn iawn ai'r ffordd bresennol o fynd ati yw'r un cywir. Am y rheswm hwnnw, ceisiaf gefnogaeth y Senedd ar gyfer fy ngwelliannau. Diolch, Llywydd.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf i gychwyn trwy ddweud diolch i Rhys ab Owen am y sgyrsiau adeiladol rydyn ni wedi'u cael ar ôl Cyfnod 2 ar gyhoeddi'r cod? Ar ôl y trafodaethau, ar ôl clywed beth mae Rhys ab Owen wedi dweud y prynhawn yma, rŷn ni'n hapus i gefnogi gwelliannau 108 a 109.
Nid wyf mewn sefyllfa i gefnogi gwelliannau 105 a 106. Y ddyletswydd maen nhw'n ei greu yw i Lywodraeth Cymru gynhyrchu adroddiad ar ddatblygu twristiaeth. Mae'n normal, wrth gwrs, i Lywodraethau adolygu effeithiolrwydd polisïau. Yn syml, nid oes angen deddfu ar gyfer adroddiadau i sicrhau bod hynny'n digwydd, a dylai Llywodraeth y Senedd yn y dyfodol gael caniatâd i arfer ei chyfrifoldebau yn y maes hwn yn y ffordd arferol. Gallai'r Llywodraeth honno wedyn, os dymuna, gyflwyno cynigion mewn perthynas â'r gofyniad 182 diwrnod, ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i'r mater.
Rwy'n parhau i fod yn argyhoeddedig nad yw gofyn i fusnesau fod ar gael hanner y flwyddyn yn afresymol os ydyn nhw am fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau sy'n datgan eu bod nhw felly, a'i fod yn creu cydbwysedd priodol rhwng anghenion y diwydiant a'r angen am lety i bobl sy'n byw yn y rhannau hynny o Gymru lle mae twristiaeth yn rhan bwysig o'r economi.
Mae hefyd yn wir, Llywydd, y bydd y Senedd nesaf yn gallu craffu ar gynlluniau a gweithredoedd Gweinidogion i gefnogi llety i ymwelwyr, ac i'r Senedd ei hun benderfynu beth mae eisiau ei glywed, gan bwy y mae eisiau clywed, a phryd y mae arni eisiau clywed. Am y rhesymau hynny, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 108 a 109, ond gwrthod gwelliannau 105 a 106.
Rhys ab Owen i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am ei gefnogaeth. Yn ogystal â chefnogi fy ngwelliannau i, dwi'n eich annog i gefnogi gwelliannau Samuel Kurtz. Yn ystod Cyfnod 2, bydd Sam yn cofio fy mod i wedi cynnig gwelliannau tebyg i beth mae Sam wedi dod gerbron y Siambr heddiw, ond dwi'n fodlon cyfaddef fod dy welliant di, Sam, yn welliant ar fy ngwelliant i, oherwydd mae'n cynnwys mai dim ond un adroddiad sydd yn angenrheidiol. Dwi'n credu bod hwn yn mynd i'r pryder a fynegodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth iddo ymateb i fi yng Nghyfnod 2 bod creu targed cyfreithiol o gyhoeddi adroddiadau yn aml yn tynnu amser swyddogion o waith pwysig arall. Felly, dwi'n cefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 108? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rhys ab Owen, ydy gwelliant 109 yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 109 (Rhys ab Owen).
A oes gwrthwynebiad i welliant 109? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Samuel Kurtz, ydy gwelliant 105 yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 105 (Samuel Kurtz).
A oes gwrthwynebiad i welliant 105? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 105. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 105 wedi ei wrthod.
Eitem 16. Gwelliant 105: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 3 o welliannau sy'n cael eu trafod nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â gwelliannau technegol ac amrywiol. Gwelliant 2 yw'r prif welliant, a'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Drakeford).
Diolch, Llywydd. Fel y dywedoch chi, mae'r grŵp hwn yn dwyn ynghyd welliannau technegol trwy gydol y Bil. Byddaf yn ceisio bod mor fyr ag y gallaf, gan barhau i ddarparu esboniad priodol o ddiben ac effaith y gwelliannau hyn.
Mae gwelliannau 2 i 4 yn darparu mân eglurhad i'r diffiniad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig, ac mae gwelliant 20 yn ganlyniadol i welliant 3. Mae gwelliannau 6 a 9 yn sicrhau bod y diffiniad o ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr yn berthnasol pan fo person yn cynnig darparu'r llety. Mae gwelliant 13 yn dileu croesgyfeiriad diangen, ac mae gwelliannau 15 a 25 yn diweddaru amodau'r drwydded a'r gofynion cymeradwyo mewn perthynas â chofrestru. Mae gwelliant 18 yn darparu nad oes angen i reoliadau ynghylch hyfforddiant wneud darpariaeth am god ymarfer os nad oes cod gweithredol, naill ai oherwydd nad yw wedi'i gynhyrchu eto neu oherwydd ei fod wedi'i dynnu'n ôl.
Mae gwelliannau 19, 23, 56, 60, 62 i 64 ac 84 i gyd yn diweddaru croesgyfeiriadau at swyddogaethau rheoleiddio Gweinidogion Cymru, sydd wedi'u cynnwys yn Rhannau 3, 4 a 5 o'r Bil. Roedd hwn yn bwynt a godwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yng Nghyfnod 1 mewn perthynas â'r pwerau hysbysiad gwybodaeth, ac rydym ni wedi adolygu'r holl gyfeiriadau tebyg yn y Bil o ganlyniad i wneud yr eglurhad yma. Mae gwelliant 61 yn diweddaru'r fersiwn Gymraeg o'r Bil i sicrhau ei fod yn cyfateb i'r fersiwn Saesneg. Mae gwelliant 85 yn eglurhad technegol i'r gofyniad i ymgynghori ar adolygiad o weithrediad y Bil.
Yn olaf, Llywydd, ac yn fwy arwyddocaol, mae gwelliant 65 yn cyfyngu cwmpas y porth rhannu data sydd i'w fewnosod yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, er mwyn bod yn glir mai dim ond rhannu gwybodaeth sy'n ymwneud â chofrestru y mae'r cwmpas yn caniatáu, nid unrhyw wybodaeth arall a gedwir gan Awdurdod Refeniw Cymru. Mae'r holl welliannau hyn â'r nod o gefnogi eglurder a gweithrediad effeithiol y Bil, ac felly byddwn yn gofyn i'r Aelodau eu cefnogi.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn falch o wybod na fyddaf yn trafod y gwelliannau amrywiol, ond credaf mai dyma'r adeg i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gynnwys ychwanegiad i'r memorandwm esboniadol ynghylch eitemau fel casglu gwastraff. Dyma un o'r pethau mwyaf cythryblus i etholwyr, lle mae sbwriel yn cael ei roi allan ar y diwrnod anghywir ac yna mae'n cael ei ledaenu o gwmpas y strydoedd ac mae pobl yn gorfod goddef hynny ddydd ar ôl dydd. Rwy'n cytuno nad dyma'r lle iawn i'w roi ar wyneb y Bil, ond yr hyn y mae'r memorandwm esboniadol yn ei wneud yn 3.57 a 3.58 yw ei gwneud hi'n gwbl glir, os ydych chi'n darparu llety i ymwelwyr, ei fod yn fusnes, ac felly mae angen i chi fod yn defnyddio darpariaeth gwastraff busnes. Mae hefyd yn pwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi camau gorfodi sydd eisoes ar waith gan iechyd yr amgylchedd neu ym maes tai, yn debyg i Rhentu Doeth Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n eglurhad defnyddiol iawn fel bod pobl yn sylweddoli bod yna reoliadau ac mae angen cadw atyn nhw.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cafwyd trafodaethau defnyddiol iawn yng Nghyfnod 1 o flaen Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynglŷn â chyfrifoldeb darparwyr llety i sicrhau bod yr ymwelwyr hynny sy'n defnyddio eu mangreoedd yn ymwybodol o bethau ymarferol fel ble mae gwastraff i'w storio, y dyddiau y mae i'w gasglu ac yn y blaen. A dilynwyd y trafodaethau hynny yng Nghyfnod 2, pan oeddwn yn falch o allu derbyn gwelliannau gan Luke Fletcher ynglŷn â'r ffordd y gellir ymateb i niwsans a achosir gan ymwelwyr fel rhan o'r Bil hwn. Roeddwn yn falch o'r cyfle i gynnwys adlewyrchiad o'r trafodaethau hynny yn y memorandwm esboniadol wedi'i ddiweddaru, Llywydd. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, bydd memorandwm wedi'i ddiweddaru ymhellach i adlewyrchu natur y penderfyniadau a wneir gan y Senedd y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 3 yn cael ei gynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ffurfiol?
Cynigiwyd gwelliant 3 (Mark Drakeford).
A oes gwrthwynebiad i welliant 3? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4.
Cynigiwyd gwelliant 4 (Mark Drakeford).
Symud.
A oes gwrthwynebiad i welliant 4? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 4 o welliannau sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â llety ymwelwyr rheoleiddiedig. Gwelliant 5 yw'r prif welliant a'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Mark Drakeford).
Diolch, Llywydd. Mae mater ystafelloedd sbâr wedi cael ei drafod ers cyflwyno'r Bil hwn i'r Senedd. Roedd y penderfyniad i beidio â chynnwys ystafelloedd sbâr yn y gyfran gyntaf o lety i'w dwyn o fewn cyfundrefn drwyddedu yn agwedd ymarferol yn hytrach nag egwyddor. Byddai angen llawer mwy o waith, rwy'n parhau i gredu, cyn y gellid ymestyn y drefn drwyddedu i gynnwys llety o'r fath a gweithredu mewn ffordd gymesur ac ystyrlon. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn, fodd bynnag, yn llyfnhau'r llwybr i gynnwys ystafelloedd sbâr pe bai Senedd yn y dyfodol yn dewis cymryd y cam hwnnw.
Mae gwelliant 5 yn creu pŵer sy'n amodol ar gymeradwyaeth y Senedd drwy welliant 86, felly os bydd Llywodraeth yn y dyfodol yn dod ag ystafelloedd sbâr i'r cynllun trwyddedu, gellir gwneud darpariaeth ar yr un pryd ynglŷn ag union ystyr cyfeiriadau at fangreoedd yn yr achosion hynny. Fel y mae hi ar hyn o bryd, gallai unrhyw drefn ynghylch ystafell sbâr fod yn berthnasol i'r ystafell ei hun yn unig, gan ddweud dim am unrhyw gyfleusterau eraill—ystafelloedd ymolchi, ceginau, mannau cymunedol, er enghraifft—y byddai ymwelydd sy'n defnyddio'r ystafell honno yn dibynnu arnyn nhw. Mae gwelliant 5 yn cywiro'r sefyllfa honno fel y gallai cyfundrefn yn y dyfodol ei gwneud hi'n glir ble y byddai'r safonau ffitrwydd yn berthnasol.
Pan fydd cofrestru yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, bydd ystafelloedd sbâr yn gategori ar wahân ar gyfer cofrestru fel y bydd Llywodraethau'r dyfodol yn gwybod faint sy'n cael eu defnyddio fel llety i ymwelwyr a ble maen nhw wedi'u lleoli. Bydd yr wybodaeth honno yn darparu sail ddiogel ar gyfer ymestyn unrhyw gyfundrefn drwyddedu yn y dyfodol i'r math hwnnw o lety ymwelwyr.
Mae gwelliannau 8, 10, 11, 16 a 26 yn diweddaru cyfeiriadau at fangreoedd ledled y Bil i wneud yn glir yr hyn y maen nhw'n cyfeirio ato ym mhob achos. Mae gwelliant 17 yn cywiro croesgyfeiriad rhwng adrannau 15 a 16. Yn olaf, mae gwelliant 7 yn diweddaru'r pŵer gwneud rheoliadau mewn perthynas â ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr er mwyn gwneud yn eglur ei fod wedi'i gyfyngu i wneud darpariaeth ynghylch y safonau ffitrwydd cyffredinol a phenodol.
Does gyda fi ddim siaradwyr yn y grŵp yma. Felly, dwi'n cymryd bod yr Ysgrifennydd Cabinet ddim eisiau dweud dim mwy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 5 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 6. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 6 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 6? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 7. Yn cael ei symud, ydy e?
Cynigiwyd gwelliant 7 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 7? Nac oes.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 8. Yn cael ei symud, ydy e?
Cynigiwyd gwelliant 8 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 8? Nac oes.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 9. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 9 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae e'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 9 wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 10. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 10 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e wedi paso, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 11. Yn cael ei symud gan y Gweinidog?
Cynigiwyd gwelliant 11 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Unrhyw wrthwynebiad i welliant 11? Nac oes. Felly, mae gwelliant 11 hefyd wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 5 o welliannau sydd nesaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â thrwyddedau dros dro. Gwelliant 12 yw'r prif welliant, a'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Mark Drakeford).
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sicrhau bod trwyddedau dros dro yn cael eu darparu'n ddigonol yn y Bil hefyd wedi bod yn bwyslais yn ystod y cyfnod craffu, ac mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymateb i'r ddadl honno ac yn cyflawni ymrwymiadau a wnaed gan y Llywodraeth yn gynharach yn y broses.
Mae gwelliannau 38 a 39 yn creu adran 27 newydd, sy'n gwneud yn glir ar wyneb y Bil, pan fo darparwr llety wedi'i gofrestru ac wedi gwneud unrhyw hyfforddiant perthnasol, ond nad yw'n credu bod y safonau ffitrwydd yn berthnasol eto ar gyfer ei lety, y gall wneud cais am drwydded dros dro. Gallai amgylchiadau o'r fath gynnwys, er enghraifft, pan fo darparwr yn adeiladu llety mewn safle newydd neu pan fo wedi prynu mangre mewn llety presennol sydd angen ei adnewyddu. Yn yr achosion hynny, er efallai na fyddant yn gallu bodloni'r holl ofynion angenrheidiol eto, megis asesiad risg diogelwch tân, efallai y byddant yn dal i fod eisiau hysbysebu a chymryd archebion ymlaen llaw. Bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny, ond, wrth gwrs, byddai angen iddyn nhw gael trwydded lawn cyn y gellir derbyn gwesteion yn y fangre.
Mae gwelliant 38 yn cysoni'r broses ymgeisio am drwyddedau dros dro â'r prosesau sy'n berthnasol i drwyddedau llawn. Mae hyn er mwyn cefnogi cysondeb â'r rheoliadau darparu gwasanaethau ac yn rhoi mwy o eglurder ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru wrth benderfynu ar geisiadau am drwyddedau o dan y rhan hon o'r Bil.
Yna mae gwelliant 39 yn gwneud yn glir na all person ddal trwydded lawn a dros dro ar yr un pryd ar gyfer yr un mangre ac mae'n rhoi grym i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach drwy reoliadau ynghylch trwyddedau dros dro os oes angen hynny yn y dyfodol.
Mae gwelliant 12 yn sicrhau bod y darpariaethau yn y Bil, ac eithrio'r rhai a fewnosodwyd gan welliannau 38 a 39, yn cael yr un effaith mewn perthynas â thrwydded lawn ag y maen nhw mewn perthynas â thrwydded dros dro. Mae gwelliannau 14, 21, 24, 96, 100 a 101 yn ganlyniadol i welliant 12 ac yn darparu eglurder ychwanegol ledled y Bil. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, adeiladu unwaith eto ar y gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 2 i sicrhau nad yw darparwyr sydd wedi gwneud cais am drwydded yn cael eu cosbi o dan y gofyniad cofrestru 31 diwrnod o dan Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) ac ati (Cymru) 2025. Mae gwelliannau 100 a 101 yn gwneud yn glir bod hyn yn berthnasol p'un a ydyn nhw wedi gwneud cais am drwydded lawn neu drwydded dros dro.
Llywydd, mae hwn yn faes arall lle mae Aelodau, gan gynnwys Rhys ab Owen a Sam Kurtz, wedi codi cwestiynau yn ystod y broses graffu. Rwy'n ddiolchgar i'r ddau am y trafodaethau cynhyrchiol a gawsom ni ar y mater hwn ers Cyfnod 2. Bydd y pecyn hwn o welliannau yn rhoi elfen bwysig o'r cynllun trwyddedu ar wyneb y Bil, a byddwn yn gofyn i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.
Yng Nghyfnod 2, cyflwynais welliant a fyddai wedi ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth sy'n galluogi darparwr llety i ymwelwyr wneud cais am drwydded llety dros dro i ymwelwyr. Y bwriad oedd caniatáu i ddarparwr hysbysebu mangre yr oedd yn bwriadu ei ddefnyddio ar gyfer llety ymwelwyr rheoleiddiedig ond heb ddarparu llety gwirioneddol nes bod y gofynion cymeradwyo angenrheidiol wedi'u bodloni a bod trwydded llety i ymwelwyr llawn wedi'i chyhoeddi. Yn ystod ystyriaethau cynharach, rhoddodd y Llywodraeth enghreifftiau o'r hyn a allai fod yn gamau rhesymol yn y cyd-destun hwn a nododd y byddai mwy o eglurder yn debygol o gael ei ddarparu trwy ganllawiau yn y dyfodol. Credaf fod gwelliant 38 y Llywodraeth, ynghyd â'r diwygiadau technegol cysylltiedig, yn mynd peth ffordd tuag at ddarparu'r eglurder hwnnw a geisiwyd. Fodd bynnag, efallai ei fod yn rhywbeth y mae angen ailedrych arno unwaith y bydd y ddeddfwriaeth ar waith. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei gydweithrediad rhwng Cyfnod 2 a 3 y broses, ac rwy'n fodlon cefnogi'r gwelliannau. Diolch.
Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn moyn ymateb? Na, does dim angen ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 12 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â rhyngweithio a chofrestru a'r Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025. Gwelliant 93 yw'r prif welliant. Yr Ysgrifennydd Cabinet i siarad.
Cynigiwyd gwelliant 93 (Mark Drakeford).
Llywydd, mae'r chweched grŵp o welliannau yn mynd i'r afael â'r rhyngweithio rhwng y Bil hwn a Deddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025 a'i fwriad yw gwneud y rhyngwyneb hwnnw'n haws i ddarparwyr llety ei ddefnyddio. Yn benodol, mae'r diwygiadau hyn yn mynd i'r afael ag amgylchiadau lle mae darparwr llety wedi'i gofrestru, ond nid yw'n darparu llety neu hyd yn oed yn cynnig llety. Mae gwelliannau 58 a 66 yn gwneud eglurhad technegol at y diben hwnnw. Mae gwelliannau 93, 94, 95, 98, 99, 102 a 103 yn becyn sy'n newid y dull o ymdrin â gofynion hysbysu pan nad yw darparwyr llety trwyddedig i ymwelwyr yn cynnig nac yn darparu llety am y tro. Mae'r system yn galluogi darparwyr llety trwyddedig i aros ar y gofrestr ac felly i gadw eu trwydded hyd yn oed pan nad ydynt yn weithredol. Mae'r gwelliannau hyn yn darparu ar gyfer ffordd symlach, llai beichus o adrodd a chofnodi anweithgarwch.
Mae gwelliant 97 yn egluro, pan fo darparwr llety ymwelwyr cofrestredig eisiau ychwanegu llety at ei gofrestriad, y dylen nhw wneud hynny drwy roi hysbysiad fel sy'n ofynnol o dan adran 9 o'r Ddeddf Llety i Ymwelwyr (cofrestr ac ardoll). Gobeithio y bydd yr Aelodau yn gallu cefnogi'r gwelliannau cymharol syml hyn i'r Bil.
Does gyda fi ddim siaradwyr. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 93? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 93 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 94. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 94 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 94? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 95. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 95 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 95? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 96. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 96 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 96? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 97. Y'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 97 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 97? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 98. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 98 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 98? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 99.
Cynigiwyd gwelliant 99 (Mark Drakeford).
Symud.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 100. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 100 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 101.
Cynigiwyd gwelliant 101 (Mark Drakeford).
Symud.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i 101? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 102. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 102 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 102 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 103. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 103 (Mark Drakeford).
Symud.
Oes gwrthwynebiad i 103? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 104. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 104 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i 104? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 13. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 13 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i 13? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 14. Yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 14 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 14? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 15. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 15 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 15? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 16. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 16 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 16? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 17. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 17 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i 17? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 18. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 18 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 18? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, gwelliant 19. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 19 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 19? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 20. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 20 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 20? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 21. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 21 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 21? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â thrwyddedau: ceisiadau. Gwelliant 22 yw'r prif welliant yn y grŵp. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y prif welliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 22 (Mark Drakeford).
Llywydd, diolch yn fawr. Cyfeiriais wrth drafod grŵp 5 at reoliadau darparu gwasanaethau, pwnc yr oedd yn rhaid i Aelodau a oedd ynghlwm â chraffu yng Nghyfnod 2 ymgyfarwyddo ag ef. Nid yw'r Bil hyd yma wedi gwahaniaethu rhwng ffi ymgeisio a ffi drwydded. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau darparu gwasanaethau yn gwahaniaethu rhwng y ddau beth yma. Mae gwelliannau 27 a 28, ochr yn ochr â gwelliant 22, yn cyflwyno'r gwahaniaeth hwnnw i'r Bil hwn. Mae'r newidiadau hyn, felly, yn sicrhau bod cais aflwyddiannus yn gofyn am ffi am y broses ymgeisio ei hun yn unig. Dyma beth wnaeth Rhentu Doeth Cymru ac mae'n rhan o ddymuniad y Llywodraeth i wneud y broses ymgeisio mor deg, syml a hygyrch â phosibl.
O ganlyniad i'r diwygiadau yn y grŵp hwn, mae holl bwerau Gweinidogion Cymru i ganiatáu neu wrthod cais wedi'u dwyn at ei gilydd mewn adran 20 newydd ac mae unrhyw broses asesu bellach i gyd wedi'i chynnwys yn adran 21.
Mae gwelliant 28 yn pwysleisio mai dim ond gyda chytundeb y darparwr llety y gellir cynnal arolygiadau, fel rhan o'r broses asesu bellach. Mae'n disodli'r ystyr o 'berson awdurdodedig', gan ei ddwyn ymlaen o adrannau 30 a 31 i wneud yn glir bod gan ymgeisydd hawl i ddisgwyl i berson sy'n cynnal arolygiad gael awdurdodiad ysgrifenedig i wneud hynny. Yna mae gwelliannau 43 a 46 yn gwneud y newidiadau canlyniadol i ddileu'r diffiniad hwnnw o adrannau 30 a 31.
Yn olaf, yn y grŵp hwn, mae gwelliannau 29 a 57 yn diweddaru cyfeiriadau eraill yn y Bil at roi trwyddedau, oherwydd, o ganlyniad i welliannau 27 a 28, bydd pob trwydded lawn yn cael ei dyfarnu o dan adran 20. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi pob gwelliant yn y grŵp hwn.
Does gyda fi ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? Unrhyw wrthwynebiad? Na. Mae gwelliant 22 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 23. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 23 (Mark Drakeford).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 23? Nac oes. Mae wedi'i dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, gwelliant 24. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 24 (Mark Drakeford).
Mae wedi cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 24 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 25. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 25 (Mark Drakeford).
Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 25? Nac oes. Wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 26. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 26 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 26? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 27. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 27 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 27 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 28. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 28 (Mark Drakeford).
Symud.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 29. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 29 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 29? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr wythfed grŵp o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud eto â thrwyddedau: gorfodi ac apelau. Gwelliant 30 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Yr Ysgrifennydd Cabinet sydd yn cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 30 (Mark Drakeford).
Diolch yn fawr, Llywydd. Llywydd, bydd achlysuron pan fydd angen i'r awdurdod trwyddedu gymryd camau gorfodi. Mae'r diwygiadau yn y grŵp hwn yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â gorfodi i'w gwneud hi'n gliriach i bwy mae'r gofynion neu'r troseddau yn berthnasol a phryd.
Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod hawliau apelio yn ddigon eang, gan wneud newidiadau i'r adrannau ar arolygiadau, a symud darpariaethau ynghylch hysbysiadau gwybodaeth a darparu gwybodaeth anwir a chamarweiniol i Ran 5 o'r Bil.
Mae gwelliant 30 yn gwneud yn eglur, os cyflwynir hysbysiad yn dirymu trwydded, bod yn rhaid i'r hysbysiad hwnnw esbonio unrhyw hawl i apelio. Mae gwelliant 31 yn gwneud yn glir yr amgylchiadau lle gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi rhybudd y gellir dirymu trwydded—hynny yw, os bydd amod a dorrwyd o'r blaen yn cael ei dorri eto.
Mae gwelliant 33 yn darparu pŵer ehangach mewn perthynas ag apeliadau ac yn cysoni'r ddarpariaeth â phwerau tebyg cyffelyb mewn mannau eraill yn y Bil. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y broses adfer a dirymu yn gweithio'n iawn. Mae gwelliant 32 wedyn yn ganlyniadol i ddileu'r cyfeiriad at apeliadau a wneir yn gynharach yn yr adran.
Mae gwelliant 40 yn ehangu'r ddarpariaeth yn y Bil ynghylch hawliau apelio i'w gwneud hi'n glir y gall y person y rhoddwyd hysbysiad iddo am y penderfyniad apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad mewn perthynas â rhoi neu ddirymu trwydded.
Mae gwelliannau 41, 51, 81 ac 82 yn symud y pŵer i gyflwyno hysbysiadau gwybodaeth a'r drosedd gyfatebol i Ran 5 o'r Bil i adlewyrchu eu natur fwy cyffredinol a'r cymhwysiad cyffredinol i swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Rannau 3, 4 a 5 o'r Bil. Mae gwelliannau 52 ac 83 yn gwneud yr un peth ar gyfer y drosedd o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol. Mae gwelliant 83 hefyd yn ehangu'r amddiffyniad i'r drosodd honno i unrhyw wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan Rannau 3, 4 a 5 o'r Bil. Mae hynny'n golygu, lle bynnag y darperir gwybodaeth neu ddogfen, fod gan berson amddiffyniad os yw'n datgan ar yr adeg y gŵyr ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol. Mae gwelliant 42 yn ei gwneud hi'n glir, er mwyn osgoi amheuaeth, y gellid sbarduno arolygiad i edrych naill ai ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol sy'n cael ei darparu neu i ystyried torri amodau trwydded.
Mae gwelliant 44 yn eglurhad bach arall er mwyn cysoni â darpariaeth mewn mannau eraill o'r Bil.
Mae gwelliannau 45 a 48 yn sicrhau bod y pwerau arolygu yn adrannau 30 a 31 a'r drosedd o wybodaeth anwir a chamarweiniol yn gweithio fel y bwriadwyd. Maen nhw'n ei gwneud hi'n glir, er y gall arolygydd barhau i archwilio, copïo a chymryd dogfennau ymaith, ni all yr arolygydd ei gwneud hi'n ofynnol i rywun ddarparu'r dogfennau yn ystod arolygiad. Mae hyn er mwyn osgoi'r risg y bydd rhywun yn cyflawni trosedd dim ond oherwydd nad oedd ganddyn nhw amser yn ystod yr arolygiad i ystyried a allai fod yn anwir neu'n gamarweiniol cyn ei ddarparu.
Mae gwelliant 47 yn dileu rhai geiriau diangen o adran 31.
Ac yn olaf ar gyfer y grŵp hwn, mae gwelliannau 53 i 55 yn diweddaru'r drosedd o rwystro'n fwriadol. Mae'r diwygiadau hyn yn gwahaniaethu rhwng yr arolygiadau hynny sy'n digwydd o dan warant a'r rhai heb hynny. Ym mhob achos, gall rhywun fod yn cyflawni trosedd os ydyn nhw'n rhwystro'r person awdurdodedig sy'n archwilio'r safle. Pan fo gwarant, byddai unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd trwy rwystro rhywun yn fwriadol rhag archwilio'r safle os oes gwarant ganddyn nhw. Fodd bynnag, os nad oes gwarant, dim ond deiliad y drwydded neu berson sy'n ymwneud â darparu llety i ymwelwyr ar y safle neu'n helpu gyda darparu llety i ymwelwyr ar y safle fyddai'n cyflawni'r drosedd.
Llywydd, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn gwneud darpariaethau yn y Bil ynghylch gorfodi ac apelio yn gliriach. Maen nhw'n atgyfnerthu'r hawliau apelio ac wedi'u cynllunio i wneud yn siŵr y gwerthusir yn llawn yr hawliau sydd gan ddarparwyr llety yn y rhan hon o'r Bil. Gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi.
Does gyda fi ddim siaradwyr, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebu? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 31. Yn cael ei symud gan Ysgrifennydd y Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 31 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad i 31? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 32. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 32 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 32? Na. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 33. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 33 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 33? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf. Hwn yw'r grŵp sy'n ymwneud â thrwyddedau, adnewyddu. Gwelliant 34 yw'r prif welliant. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet i symud y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 34 (Mark Drakeford).
Llywydd, mae'r grŵp hwn yn diweddaru adran 25 o'r Bil ynglŷn â chyfnodau trwyddedau ac adnewyddu trwyddedau, er mwyn cwblhau'r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 ac i adlewyrchu'r safbwynt y daethpwyd iddo ar ôl gwaith craffu'r pwyllgorau.
Mae gwelliant 34 yn egluro bod pŵer Gweinidogion Cymru i ddynodi gwahanol gyfnodau trwydded, fel y'u mewnosodwyd yn y Bil yn ystod Cyfnod 2, yn cyfateb i bwerau gwneud rheoliadau eraill o dan y bennod hon. Mae'n caniatáu gwneud darpariaeth wahanol mewn gwahanol achosion, megis trwy gyfeirio at y math o fangre neu'r llety rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr llety ymwelwyr.
Mae gwelliant 36 yn gwneud yr un peth mewn perthynas â'r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch adnewyddu trwyddedau. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n glir y gall y rheoliadau hyn nodi'r broses ymgeisio ar gyfer adnewyddu, ond mae'n ailadrodd y gofyniad bod yn rhaid i reoliadau roi cyfle i ddarparwyr llety ymwelwyr allu parhau i gynnal y busnes yn ystod y broses adnewyddu.
Mae gwelliant 35 yn ganlyniadol i'r newid hwnnw. Diolch.
Does gyda fi ddim siaradwyr yn y grŵp yma. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 34? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 35. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 35 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 35 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 36. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 36 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â chymwyso'r Ddeddf i achosion arbennig. Gwelliant 37 yw'r prif welliant; yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cyflwyno'r gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 37 (Mark Drakeford).
Diolch, Llywydd. Mae'r diwygiadau yn y grŵp hwn yn adlewyrchu realiti darparu llety i ymwelwyr a'u bwriad yw cefnogi parhad busnes. Mae'r achosion hyn yn cynnwys trosglwyddo trwyddedau, beth sy'n digwydd pan fydd llety ymwelwyr trwyddedig yn cael ei adnewyddu, ac eithriadau rhag gofynion trwyddedu.
Trof yn gyntaf at welliannau 73 a 75, 76, 77 a 78. Mae'r holl ddiwygiadau hyn yn mynd i'r afael â throsglwyddo trwyddedau. Cynigiwyd gwelliannau sy'n ymwneud â'r mater hwn yng Nghyfnod 2 gan Sam Kurtz, ac maen nhw wedi bod yn destun trafodaeth gyda'r diwydiant hefyd. Nod gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn yw ymateb i'r pryderon hyn.
Mae gwelliant 73 yn ei gwneud hi'n glir y gall rheoliadau sy'n mynd i'r afael ag achosion o farwolaeth, analluedd neu ansolfedd darparwr llety hefyd ddarparu ar gyfer trosglwyddo trwyddedau a gweithdrefnau cysylltiedig.
Mae gwelliannau 75 i 78 yn diwygio adran 53 o'r Bil i gyfateb i adran 52 ac i sicrhau y gellir gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo neu werthu'r fangre hyd yn oed pan nad yw hynny'n rhan o werthu neu drosglwyddo busnes. Bwriad hyn yw darparu mwy o sicrwydd pan fydd llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn newid dwylo, i'r darparwyr a busnesau presennol a newydd.
Mae gwelliannau 72, 74 a 79 yn ei gwneud hi'n eglur, yn yr amgylchiadau arbennig yr wyf newydd eu nodi, y gall rheoliadau sicrhau nad yw trosedd o dan y Bil yn cael ei chyflawni. Bydd hyn yn caniatáu, er enghraifft, rhoi trefniadau dros dro ar waith i gefnogi parhad busnes yn dilyn marwolaeth neu analluedd darparwr llety ymwelwyr. Bydd hyn, wrth gwrs, hefyd yn cefnogi parhad darparu llety i ymwelwyr mewn amgylchiadau anarferol fel hyn.
Mae gwelliant 37 yn ehangu ar adran 26, gan ddarparu y gall rheoliadau ynghylch diwygio trwyddedau gynnwys trefniadau tebyg i ddarparu trwyddedau. Mae hyn yn golygu y gall rhywun gadw ei drwydded, hyd yn oed os na all fodloni'r safonau ffitrwydd, tra bydd yn adnewyddu, cyn belled nad yw'n gadael i westeion aros yn y llety hwnnw nes y gwneir gwaith i wneud y llety'n ffit eto. Mae'r gwelliant hefyd yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch apelio, i fod yn glir y dylai fod hawliau apelio mewn amgylchiadau lle mae dyfarniad i'w wneud mewn perthynas â diwygiad trwydded.
Mae gwelliannau 59 ac 80 yn disodli'r pŵer gwneud rheoliadau yn adran 37 mewn perthynas ag eithriadau, gyda phŵer penodol i ddatgymhwyso'r troseddau yn adrannau 32 a 47 a'r gofyniad cytundebol yn adran 42 mewn achosion penodedig. Mae'r pŵer diwygiedig yn cadw'r gallu i eithrio person rhag gofynion trwyddedu a hysbysebu pan nad yw'n ofynnol iddyn nhw gofrestru o dan Ddeddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025. Mae'r pŵer newydd hefyd yn caniatáu i'r troseddau a'r gofyniad cytundebol gael eu datgymhwyso mewn ystod ehangach o amgylchiadau. Bwriad hyn yw cadarnhau y tu hwnt i amheuaeth y gallu i fodloni'r ymrwymiadau a wnaed yn ystod y gwaith craffu y rhoddir trefniadau ar waith fel y bydd darparwr presennol sydd wedi gwneud cais am drwydded erbyn y dyddiad cau yn gallu parhau i weithredu nes bod ei gais am drwydded wedi'i benderfynu.
Yn olaf, byddai'r newid hwn hefyd yn caniatáu i reoliadau ddarparu eithriadau cyfyngedig o ran amser ar gyfer digwyddiadau penodol. Rydym ni wedi gweld yn ddiweddar yn yr Alban y gwnaed eithriad dros dro o'u cyfundrefn drwyddedu ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. Mae gennym ni'r Tour de France yn dod i Gymru y flwyddyn nesaf, ac mae Cymru wedi bod yn gyrchfan ddeniadol ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol unigryw eraill yn y gorffennol. Effaith gwelliant 80 yw sicrhau na fydd y gallu i brosesu ceisiadau am drwydded yn rhwystr i gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru ac, er nad hyn fyddai'r prif ddiben, byddai'n caniatáu i'r Senedd benderfynu yn y dyfodol a oes achos dros ganiatáu eithriadau at y dibenion neu amgylchiadau hyn neu unrhyw ddibenion neu amgylchiadau eraill.
I grynhoi, Llywydd, fel y soniais ar ddechrau'r grŵp hwn, bwriad yr holl welliannau yma, yn gyntaf oll, yw cefnogi parhad busnes a chaniatáu i'r cynllun trwyddedu adlewyrchu'r realiti a'r amrywiaeth o amgylchiadau y mae darparwyr yn eu hwynebu, a gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi.
Yng Nghyfnod 2, cyflwynais welliant a oedd yn ceisio sicrhau y gellid trosglwyddo unrhyw drwydded llety ymwelwyr yn rhwydd, ar yr amod nad oedd y darparwr llety ymwelwyr yn torri unrhyw amodau trwydded ac nad oedd y sawl a oedd yn trosglwyddo wedi cael trwydded llety ymwelwyr wedi'i dirymu o'r blaen mewn perthynas â safle arall. Codais y gwelliant hwn i ddarparu eglurder a sicrwydd i weithredwyr, yn enwedig pan fo eiddo neu fusnes yn cael ei drosglwyddo fel busnes gweithredol. Rwy'n falch bod gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, gwelliannau 75 i 77, bellach yn cyfrannu'n sylweddol tuag at fynd i'r afael â'r pryderon hyn.
Mae gwelliant 75 yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth ynglŷn â'r amgylchiadau y caniateir trosglwyddo llety ymwelwyr rheoleiddiedig rhwng darparwyr. Mae gwelliant 76 yn egluro y gall rheoliadau wneud darpariaeth sy'n ymwneud â throsglwyddo safle neu drosglwyddo busnes fel busnes gweithredol, ac mae gwelliant 77 yn ei gwneud hi'n glir y gall rheoliadau o dan yr adran hon bennu'r amgylchiadau lle gellir trosglwyddo trwyddedau llety ymwelwyr a'r broses sy'n gysylltiedig â'r trosglwyddiadau hynny. Gyda'i gilydd, Llywydd, mae'r gwelliannau hyn yn darparu fframwaith cliriach ar gyfer trosglwyddo trwyddedau, ac felly rwy'n fodlon bod y Llywodraeth wedi ymateb yn adeiladol i'r pryderon a godwyd yng Nghyfnod 2, ac rwy'n ddiolchgar am ran yr Ysgrifennydd Cabinet yn hynny. Diolch.
Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet moyn ymateb?
Llywydd, mae'r amgylchiadau yr ymdriniwyd â nhw yng ngrŵp gwelliannau 10 yn amgylchiadau anarferol, ac roedd angen llawer o feddwl a rhywfaint o addasiad technegol i'r rheolau, ac rwy'n ddiolchgar i Sam Kurtz am y ffordd y cododd y materion hyn yng Nghyfnod 2 ac am y cyfle i barhau â'r trafodaethau gydag ef i gyrraedd sefyllfa lle, rwy'n credu, y bydd y Bil nawr yn adlewyrchu'n well yr amgylchiadau ymarferol lle mae'n rhaid llywio'r trefniadau anarferol hyn.
Iawn, daliwch yn dynn.
Mae yna lot o bleidleisiau yn y grŵp yma. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 37? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'r gwelliant yn cael ei ddrbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 38. Yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 38 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 38? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 39. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 39 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 39? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 40. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 40 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 40? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 41.
Cynigiwyd gwelliant 41 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 41? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 42. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 42 (Mark Drakeford).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 42? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 43. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 43 (Mark Drakeford).
Symud.
Oes gwrthwynebiad i welliant 43? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 44 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 44 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 45 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 45 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 45? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 46. A oes gwrthwynebiad—? Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 46 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 47. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 47 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 48. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 48 (Mark Drakeford).
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 49. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 49 (Mark Drakeford).
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 50. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 50 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 51. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 51 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 52. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 52 (Mark Drakeford).
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 53. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 53 (Mark Drakeford).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 54. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 54 (Mark Drakeford).
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 55. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 55 (Mark Drakeford).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 55? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 56. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 56 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i 56? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 57. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 57 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae 57 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 58 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 58 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 58? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 59. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 59 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i 59? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 60. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 60 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 60? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 61. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 61 (Mark Drakeford).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 61 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 62. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 62 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 62 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 63. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 63 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 63? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 64. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 64 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i 64? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 65 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 65 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae'n cael ei gynnig. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 66. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 66 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 67. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 67 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. Felly, a oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 68. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 68 (Mark Drakeford).
Oes gwrthwynebiad i welliant 68? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 69. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 69 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 69? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 70. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 70 (Mark Drakeford).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 70? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 71. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 71 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 71? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 72. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 72 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 72? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 73. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 73 (Mark Drakeford).
Symud.
Oes gwrthwynebiad i welliant 73? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 74. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 74 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 75. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 75 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae'n cael ei gynnig. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 77. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 77 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae'n cael ei gynnig. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 78. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 78 (Mark Drakeford).
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 79. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 79 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 80. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 80 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 81. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 81 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 81 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 82. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 82 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 82? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 83. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 83 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 83? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 84. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 84 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 85. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 85 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Mae'n cael ei gynnig. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 86. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 86 (Mark Drakeford).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i 86? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly grŵp 11 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â gweithdrefnau a dehongli. Gwelliant 87 yw'r prif welliant. Yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno'r gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 87 (Mark Drakeford).
Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn diweddaru'r adrannau am weithdrefn sydd wedi'u cynnwys ar ddiwedd y Bil. Derbyniodd y Llywodraeth holl argymhellion adroddiadau pwyllgor Cyfnod 1 i ehangu goruchwyliaeth y Senedd o bwerau gwneud rheoliadau yn y Bil a gwnaeth newidiadau cyfatebol yng Nghyfnod 2. Mae gwelliannau 87, 88 ac 89 yn parhau â'r un dull hwnnw, gan adlewyrchu ymhellach gyngor pwyllgorau'r Senedd.
Mae gwelliannau 90 a 91 yn diweddaru adran ddehongli'r Bil i wneud cyfeiriadau at drwyddedau llety ymwelwyr a thrwyddedau dros dro yn glir ledled y Bil. Mae gwelliant 92 yn diweddaru'r rhestr o bwerau sydd i'w cychwyn yn 2029 o ganlyniad i welliannau eraill y Llywodraeth sydd wedi'u trafod y prynhawn yma, ac yn ychwanegu rheoliadau ynghylch diwygio trwyddedau i'r rhestr honno. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi pob gwelliant yn y grŵp hwn.
Does gen i ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 87? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae 87 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 88 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 88 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i 88? Nac oes. Felly, mae'n pasio.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 89. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 89 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 90. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 90 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 90? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 91 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 91 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 91? Nac oes.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 106. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 106 (Samuel Kurtz).
Ydy, mae'n cael ei symud gan Sam Kurtz. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 106? Unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 106. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 106 wedi ei wrthod.
Eitem 16. Gwelliant 106: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Sy'n golygu ein bod ni'n cyrraedd grŵp 12 o'r gwelliannau, a'r rhain yn ymwneud â dod i rym. Gwelliant 107 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Sam Kurtz i gynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 107 (Samuel Kurtz).
Diolch yn fawr, Llywydd. Gan mai hwn yw'r grŵp olaf o welliannau, cyn i mi gynnig y gwelliant, rwyf eisiau dechrau trwy ailadrodd fy niolch i dîm clercio a chyfreithiol y Senedd am eu cefnogaeth drwy gydol y broses hon. Fe hoffwn i hefyd ddiolch ar goedd i Tom Livesey yn swyddfa grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino gydag aelodau o fy nhîm fy hun, i helpu i ddrafftio a chraffu ar y ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyflwyno. Rwyf wedi gweithio'n agos gyda Chymdeithas Broffesiynol yr Hunanarlwywyr, Airbnb, a llawer o rai eraill ar y Bil hwn, ac rwy'n ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u hymgysylltiad, ac am hynny yn ogystal gan nifer o ddarparwyr preifat, sydd wedi cyfrannu eu safbwyntiau i sicrhau yr adlewyrchir eu barn yn y broses hon.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y ffordd adeiladol ac agored y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymgysylltu â mi ar y gwelliannau rydym ni wedi'u cyflwyno. Fe hoffwn i hefyd gydnabod Luke Fletcher a Rhys ab Owen, a gyflwynodd welliannau yn gynharach yn y broses a oedd yn ceisio gwella'r Bil hwn. Mae gen i rai pryderon o hyd am agweddau ar y ddeddfwriaeth, fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod y Bil wedi'i gryfhau trwy gydol y broses ddeddfwriaethol. Yn y pen draw, lle Llywodraeth nesaf Cymru fydd ei weithredu, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd nesaf yn parhau i graffu ar ei gweithrediad yn fanwl ac yn gwneud gwelliannau lle bo angen unwaith y bydd mewn grym.
Felly, gan droi, yn olaf, at welliant 107, byddai'r gwelliant hwn yn gwneud cychwyn mwyafrif y Bil yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd. Codwyd y cynnig hwn yn ystod proses graffu Cyfnod 1, ac, er fy mod i'n parchu dadleuon yr Ysgrifennydd Cabinet yn erbyn hynny, rwy'n parhau i gredu ei fod yn ddiogelwch synhwyrol, yn enwedig o ystyried pa mor gyflym mae'r ddeddfwriaeth hon wedi symud ymlaen. Mae'r broses ddeddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn wedi symud yn gyflym, ac mae'n gyfrifol am sicrhau nad yw Llywodraeth yn y dyfodol yn cael ei rhwymo gan benderfyniadau a wneir o dan yr amgylchiadau hyn. Nid wyf yn rhannu pryder yr Ysgrifennydd Cabinet y gallai hyn osod cynsail lle gallai Senedd yn y dyfodol wrthod dechrau deddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan y Senedd hon. Mewn gwirionedd, yr union bosibilrwydd hwnnw o oruchwyliaeth ddemocrataidd sy'n gwneud y gwelliant hwn yn bwysig i'w gadw. Am y rheswm hwnnw, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 107, er mwyn sicrhau bod y seithfed Senedd yn cadw ei gallu i graffu'n briodol ar y ddeddfwriaeth a wnaed yn y lle hwn. Diolch, Llywydd.
Wrth gwrs, gan mai hwn yw'r grŵp olaf nawr, byddwn yn adleisio llawer o'r diolch y mae Sam Kurtz wedi'i roi. Diolch i'r tîm clercio, i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i dîm, i Gwion a Kiera yn swyddfeydd Plaid Cymru, ac, unwaith eto, rwy'n ailadrodd y diolch am y gwaith a wnaeth tîm y cytundeb cydweithio ar hyn, gyda Siân ac Adam a Cefin yn arwain y ffordd ar hynny.
Rwy'n credu bod y Bil yn ein rhoi mewn sefyllfa gref iawn, ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu y bydd yn caniatáu inni greu polisi ar gyfer y sector twristiaeth ar sail cael data i gefnogi pam ein bod yn gwneud y penderfyniadau polisi hynny. Mae hynny'n rhywbeth na ddylem ni ei anghofio, sy'n gryfder gyda'r Bil penodol hwn.
Mewn perthynas â gwelliant 106, rwyf wedi sôn o'r blaen, trwy gydol cynnydd y Bil hwn, pam nad wyf yn credu mai oedi cychwyn y Bil o reidrwydd yw'r ffordd gywir o fynd ati. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod angen eglurder ar y sector a'r ymwelwyr hynny, ynghylch y dyfodol, ynglŷn â beth fydd y sefyllfa. Bydd cychwyn y Bil ond yn drysu hynny. Byddaf yn dweud fy mod yn cydymdeimlo â sut mae'r sector yn teimlo, gyda faint o ddeddfwriaeth sy'n mynd i effeithio ar y sector hwnnw. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gydymdeimlo â hynny'n benodol. Byddaf yn dweud, fodd bynnag—ac rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud o'r blaen, ac rwy'n cael fy atgoffa gan Siân Gwenllian, ar fy chwith—wrth gwrs, dechreuodd sgyrsiau o amgylch y Bil penodol hwn yn ôl yn 2021. Nawr, fe allwn ni ddadlau am faint o ymgynghori sydd wedi mynd ymlaen; Rwy'n credu bod y lefel gywir o ymgynghori wedi digwydd trwy gydol y broses hon. Ond na foed inni anghofio, mewn gwirionedd, beth mae'r Bil hwn yn ei wneud. Mae'n ein rhoi ni mewn sefyllfa gref. Mae'n rhoi'r data sydd ei angen arnom ni i wneud y penderfyniadau ar sail gwybodaeth hynny, wrth gamu i'r dyfodol, o ran y sector twristiaeth. Am y rheswm yna, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 106, a byddwn yn cefnogi'r Bil yn y dyfodol.
Yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y clywsoch chi, mae gwelliant 107 yn ceisio gwneud gorchmynion cychwyn ar gyfer y Bil yn ddarostyngedig i broses gymeradwyo'r Senedd. Mae wedi cael ei drafod eisoes, yng Nghyfnod 1 ac yng Nghyfnod 2, a, bob tro, rwyf wedi nodi pam na allaf dderbyn y cynnig hwnnw. Rwy'n gwrthod yr awgrym bod y Bil wedi'i ddatblygu yn gyflym. Fel y dywedodd Luke Fletcher, mae'r Bil hwn wedi bod yn rhan o raglen y Llywodraeth ers yr etholiad diwethaf. Roedd yn rhan o raglen y cytundeb cydweithio, yn rhan o'r rhaglen ar gyfer llywodraethu, ac yn ategu'r Bil ardoll ymwelwyr, a drafodwyd yn helaeth yma ar lawr y Senedd.
Rwy'n parhau i fod â phryderon difrifol ynglŷn â'r syniad y gallai Senedd yn y dyfodol wrthod cychwyn deddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan y Senedd hon. Tynnwyd sylw at y pryderon hyn mewn cyfraniad grymus gan Siân Gwenllian yn ystod dadl Cyfarfod Llawn Cyfnod 1. Byddai gwelliant o'r fath yn caniatáu i'r Senedd honno atal gweithredu deddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan y Senedd hon trwy ddyfais weithdrefnol yn y bôn. Nawr, wrth gwrs, hawl y Senedd honno yn y dyfodol fyddai penderfynu peidio â bwrw ymlaen â deddfwriaeth. Ond nid gwelliant ar gychwyn yn y Bil hwn yw'r ffurf gywir o oruchwyliaeth ddemocrataidd, ond Senedd yn y dyfodol i ddefnyddio'r broses graffu ddeddfwriaethol sylfaenol lawn i ddadwneud yr hyn sydd wedi'i wneud trwy'r broses ddeddfwriaethol sylfaenol lawn yn y Senedd hon. Byddai pasio'r gwelliant, yn ogystal â bod yn annerbyniol yn gyfansoddiadol, yn rhwystro gweithredu'r cynllun, yn lleihau'r sicrwydd i fusnesau twristiaeth, yn peryglu gwariant gwastraffus ar ddatblygu cynllun na fyddai o bosib yn cael ei weithredu, ac yn peryglu tanseilio egwyddorion y Bil fel y cytunwyd arno gan y Senedd hon yng Nghyfnod 2.
Llywydd, er gwaethaf gwrthwynebiad y Llywodraeth i'r gwelliant hwn, roeddwn i hefyd eisiau adleisio'r hyn y mae eraill wedi'i ddweud yn y grŵp olaf hwn o welliannau. Rwy'n falch iawn o ddweud heddiw, fel rydw i wedi dweud bob tro rydw i wedi bod yn ymwneud â deddfwriaeth, nad wyf erioed wedi gweld deddfwriaeth ar lawr y Senedd na chafodd ei gwella gan y broses graffu. Mae hynny'n sicr wedi bod yn wir am y Bil hwn yn y dystiolaeth a gymerwyd gan bwyllgorau yng Nghyfnod 1, gan y ffordd y trafodwyd gwelliannau Cyfnod 2, a'r gofod sydd wedi'i greu i gyflwyno gwelliannau'r Llywodraeth i ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd gan bleidiau eraill ac Aelodau eraill bryd hynny. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw i gyd. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth y mae'r Bil wedi'i dderbyn y prynhawn yma.
Samuel Kurtz i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn, fel y mae Luke Fletcher wedi'i wneud, i gydnabod y blinder deddfwriaethol y bu'r sector yn ei ddioddef yn y pum mlynedd flaenorol. Rwy'n nodi'r pwynt a wnaeth, y bydd gennym ni'r gallu i wneud polisi o ddata a gasglwyd yn y sector twristiaeth, yr eironi yw mai hwn yw'r darn olaf o ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar dwristiaeth sy'n cael ei gyflwyno pan mewn gwirionedd dylai fod wedi bod y darn cyntaf o ddeddfwriaeth, sy'n effeithio ar yr ardoll twristiaeth ac ar 182 noson. Felly, mae yna ychydig o roi'r drol o flaen y ceffyl yma yn yr ystyr yna. Ond, wrth fynd ymlaen, mae Luke Fletcher yn hollol gywir y gall y sector nawr edrych tuag at ddeddfwriaeth sy'n cael ei chreu ar ddata a gesglir yn y sector, a'i fod yn cael ei gynrychioli.
Ac, ydy, mae'n iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet ac i Luke Fletcher dynnu sylw at y ffaith y bu hyn yn rhan o'r rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio. Ond nid yw hynny'n disodli gwaith gwirioneddol pwyllgorau'r Senedd a'r Senedd. Ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn hollol gywir bod y ddeddfwriaeth wedi'i gwella trwy graffu trwy gydol y sesiwn hon, ond rwyf yn dal i deimlo bod hyn wedi cael ei frysio ar ddiwedd pumed flwyddyn tymor y Senedd hon, o ran yr agweddau rwyf wedi tynnu sylw atyn nhw o'r blaen ynghylch pam y dylai hyn fod wedi digwydd yn gynharach yn y broses ddeddfwriaethol, o ystyried y blinder y mae'r sector yn ei wynebu. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar am y cydweithio rhwng bob plaid ar hyn. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Gwelliant 107, felly. Os derbynnir gwelliant 107, bydd gwelliant 92 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 107. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 107. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 107 wedi methu.
Eitem 16. Gwelliant 107: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 92. Ydy e'n cael ei gynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 92 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e'n cael ei gynnig, gyda gwên. A oes gwrthwynebiad i'r gwelliant? Nac oes. Felly, mae'r gwelliant yna yn cael ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n golygu ein bod ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Datblygu Twrtistiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), a dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.
Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:48.