Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/02/2026

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Wythnos Prentisiaethau
4. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026
5. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026
6. Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026
7. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026
8. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026
9. Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026
10. Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026
11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu)
12. Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
13. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)
14. Cyfnod Pleidleisio
15. Dadl: Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
Grŵp 1: Egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd (Gwelliannau 9, 10, 11, 12, 13)
Grŵp 2: Adroddiad diogelu a gwella’r amgylchedd (Gwelliant 53)
Grŵp 3: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: sefydlu a materion cysylltiedig (Gwelliannau 33, 25, 46, 26, 32, 8, 48)
Grŵp 4: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: diben cyffredinol (Gwelliannau 36, 1, 47, 7)
Grŵp 5: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: strategaeth (Gwelliannau 27, 34, 28, 29, 30)
Grŵp 6: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: monitro ac adrodd (Gwelliant 37)
Grŵp 7: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol: sylwadau ac ymchwiliadau (Gwelliannau 38, 39, 2, 3)
Grŵp 8: Targedau bioamrywiaeth: targedau o dan adran newydd 6B o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Gwelliannau 40, 4, 5A, 5, 54, 6, 31, 42, 43, 45)
Grŵp 9: Targedau bioamrywiaeth: gosod ac adolygu targedau (Gwelliannau 14, 41, 15, 16, 17, 35, 18, 19, 20, 21)
Grŵp 10: Cynlluniau ac adroddiadau Gweinidogion Cymru o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Gwelliannau 49, 44, 22, 50, 23, 51)
Grŵp 11: Ystyr ‘awdurdod cyhoeddus’ (Gwelliant 52)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf heddiw fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Joyce Watson. 

Elusennau

Mae'n Wythnos Elusennau Cymru yr wythnos hon ac mae yna filoedd o elusennau ledled Cymru sy'n helpu i gynorthwyo pobl ac i drawsnewid bywydau. Ac rydyn ni'n falch, fel Llywodraeth Lafur Cymru, o'u cynorthwyo nhw a'r byddinoedd o wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo'r elusennau hyn. Mae ein cyllid yn galluogi cymorth wedi'i dargedu o ran gwirfoddoli, cyllid, diogelu, a llywodraethu da ar gyfer sefydliadau sector gwirfoddol, mawr a bach, ledled Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Yn ystod wythnos elusennau, hoffwn dalu teyrnged i holl elusennau Cymru, a nhw yn wir yw asgwrn cefn bywyd cymunedol mewn trefi, pentrefi a dinasoedd ledled ein gwlad. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi elusennau Cymru, gyda chyllid o £10.9 miliwn i Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy'n gynnydd o £2.3 miliwn o'i gymharu â'r llynedd. Mae dau ddeg saith y cant o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli'n ffurfiol gydag elusennau a sefydliadau. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch a thalu teyrnged i'r miloedd lawer hynny o unigolion sydd yn gweithio'n ddiflino, yn aml mewn swydd wirfoddol, ledled Cymru gyfan?

Diolch yn fawr, Joyce, ac fe wnaf i ymuno â chi i ddiolch iddyn nhw. Mae'n gwbl ryfeddol faint o bobl sydd yn gwirfoddoli—mae 27 y cant o'r boblogaeth yn gyfran fawr o'r boblogaeth, a byddwn yn talu teyrnged iddyn nhw. Nid yn unig y mae'n dda i'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu, ond mae'n dda iddyn nhw hefyd, ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn cyfoethogi llawer ar eu bywydau eu hunain o ganlyniad i hynny. I gynorthwyo'r gwaith y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £3.57 miliwn yn uniongyrchol mewn gwirfoddoli eleni, ac, fel rydych chi'n ei ddweud, mae hynny'n gynnydd o flynyddoedd blaenorol. Trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a'r cynghorau gwirfoddol sirol, mae elusennau hefyd yn derbyn cymorth wedi'i dargedu, gan gynnwys grantiau sy'n helpu pobl ifanc i arwain newid yn lleol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.

Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad a fy nghwestiwn ar y cyfraniad aruthrol a wneir gan elusennau yng Nghymru at y sector gofal lliniarol. Ymwelais â Gofal Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf, lle cefais gyfle i gyfarfod â'r prif swyddog gweithredol, Emma Saysell, eto. Dywedwyd wrthyf i yn ystod fy nghyfarfod nad yw Gofal Hosbis Dewi Sant, fel llawer o elusennau eraill, yn cynhyrchu'r un incwm drwy'r siopau ag yr oedden nhw ar un adeg. Priodolwyd hyn yn rhannol i'r cynnydd i wefannau ailwerthu. Mae'r duedd newidiol hon yn gwaethygu'r sefyllfa ariannol y mae rhai elusennau yn cael eu hunain ynddi. Mae hefyd yn tanlinellu galwad Plaid Cymru am setliad ariannol newydd ar gyfer gwasanaethau gofal diwedd oes. Ni ddylid ystyried hyn fel achos o lenwi bylchau ariannu, ond yn fwy fel buddsoddiad hirdymor yn anghenion iechyd ein poblogaeth. Ni ddylem ni ganiatáu i'r sefyllfa ariannu hon waethygu heb fynd i'r afael â hi. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai elusennau sy'n gwneud gwaith hanfodol ac sy'n rhoi cysur fel gofal lliniarol gael eu rhoi ar sail ariannol gadarnach nag sy'n digwydd ar hyn o bryd? Ac, os ydych chi, pam rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd?

Wel, hoffwn dalu teyrnged, hefyd, i'r sefydliadau hynny sy'n helpu pobl gyda gofal diwedd oes, a cheir llawer iawn o sefydliadau ledled y wlad. Rwyf innau hefyd wedi bod i ymweld â Gofal Hosbis Dewi Sant, a'r peth rhyfeddol yw nad yw mewn adeilad yn unig; mewn gwirionedd, mae'n fater o faint o waith lle mae pobl yn mynd i gartrefi pobl, gan roi'r cymorth diwedd oes hwnnw, a dyna lle mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau derbyn gofal yn eu dyddiau olaf. 

Rydym ni wedi cymryd hyn o ddifrif. Nid yw'n rhywbeth y gallwch chi ei drwsio dros nos. Bu gennym ni raglen waith raddol eglur iawn o ran cyllid hosbis a gofal diwedd oes. Rydym ni wedi bod yn adolygu'r cyllid hwnnw, ac rydym ni'n cydnabod, os nad yw'r rhain yno, y bydd sgil-effaith ar ein hysbytai. Felly, rydym ni'n parhau gyda'r gwaith hwnnw, gyda'r dull tri cham hwnnw. Rwy'n credu bod y ddau gam cyntaf eisoes wedi cael sylw, a bellach mae'r trydydd cam yn fwy yn y maes hwnnw o sut rydym ni'n edrych ar gyllid yn y dyfodol.

Prif Weinidog, mae elusennau yng Nghymru yn cael trafferth ymdopi, diolch i bolisïau Llywodraeth y DU. Mae'r argyfwng costau byw yn taro rhoddion elusennol ar adeg pan fo polisïau'r Llywodraeth yn gwneud cyflogi staff yn arbennig o gostus. Gydag arweinyddiaeth Llywodraeth y DU â mwy o ddiddordeb mewn cyfoethogi eu hunain a'u cyfeillion, yn ogystal â dal eu gafael ar rym, nid yw'r sefyllfa sy'n wynebu ein sector elusennau yn debygol o wella yn fuan. Felly, Prif Weinidog, pa gymorth ychwanegol all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r sector elusennol yng Nghymru, sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus mor hanfodol, fel hosbisau a badau achub, fel y gwnaethoch chi ei ddweud eisoes?

13:35

Diolch, Altaf. Rwy'n ymwybodol iawn bod y sefydliadau hollbwysig hyn yn wynebu galw cynyddol am wasanaethau, eu bod nhw'n gweld pwysau ar incwm, eu bod nhw'n gweld costau cynyddol a heriau o ran recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr. Dyna pam rydym ni wedi cyflwyno rhaglen tair blynedd Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy'n gyfystyr â chynnydd o 7 y cant i gynorthwyo sefydliadau sy'n gweithio yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Ar ben hynny, rydym ni'n cyd-ddatblygu cod cyllido newydd a dull newydd o wirfoddoli, i'w gwneud hi'n haws i elusennau weithredu ac i ganolbwyntio ar atal.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau codi mater elusennau gwledig. Yn Llandrindod, mae gennym ni unig gangen y Samariaid ym Mhowys, yr ydym ni'n ymwybodol eu bod yn darparu cymorth iechyd meddwl a hunanladdiad gwbl hanfodol i lawer o drigolion. Ac eto mae'r gangen hon, fel llawer o ganghennau'r Samariaid ledled y DU, yn wynebu gorfod cau. Ledled Powys, rydym ni'n gweld elusennau eraill yn cael eu heffeithio hefyd. Caeodd Cymryd Rhan yn Llanidloes ei ddrysau ym mis Mawrth y llynedd, ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth. Caeodd Cymdeithas Gofal Sir Frycheiniog ei drysau ym mis Medi, ar ôl tri degawd o gynorthwyo oedolion ag anableddau dysgu. Mae llawer o elusennau yn llenwi'r bylchau mewn gwasanaethau statudol. Ond nid yn unig hynny; rydym ni'n gwybod ei bod yn well gan bobl fynd at sefydliadau trydydd sector yn hytrach na mynd at sefydliadau statudol, y gallan nhw fod yn ofnus neu'n bryderus amdanyn nhw. Rydym ni wedi clywed gwahanol safbwyntiau, ond, mewn ardaloedd gwledig, mae angen contractau hirdymor ar y sefydliadau hynny. Rydych chi wedi sôn am y cyllid aml-flwyddyn, ond sut allwn ni sicrhau bod hwnnw yn cyrraedd y cymunedau gwledig hynny lle nad yw gwasanaethau statudol yn bresennol ac, mewn gwirionedd, mae'r sefydliadau hynny yn diwallu anghenion hanfodol y cymunedau gwledig? Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr o'r trydydd sector, yn gwisgo fy het etholaeth, gan gynnwys y rhai mewn lleoedd fel Powys. Maen nhw bob amser yn awyddus i nodi rhai o'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu, gan gynnwys dweud wrthyf i am sefydliadau fel y Samariaid. Wrth gwrs, hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith ardderchog y maen nhw'n ei wneud. Mind Cymru—. Ceir pob math o sefydliadau sydd wir yn cynorthwyo pobl sydd mewn cyfnod anodd iawn yn eu bywydau. Mae gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, wasanaethau eraill ar gael. Mae'r gwasanaeth '111 pwyso 2' wedi cael ei ddefnyddio'n sylweddol. Mae pobl yn gweld newid enfawr o ran y cymorth yn ymwneud ag iechyd meddwl, fel bod 95 y cant o bobl ifanc yn derbyn asesiad o fewn 28 diwrnod. Nawr, mae hwnnw'n newid aruthrol, o'i gymharu â'r hyn a oedd yno o'r blaen. Dyna pam mae ymyrraeth gynnar, yn fy marn i, yn hanfodol. Ond byddwn yn parhau i gynorthwyo'r sector gwirfoddol, nid yn unig mewn ardaloedd trefol, ond, wrth gwrs, ar draws ardaloedd gwledig, lle, mewn gwirionedd, mae pobl weithiau eisiau gweld rhywun wyneb yn wyneb ac yn fwy cyfforddus yn yr amgylcheddau lleol hynny.

Prosiect Porth Wrecsam

Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drawsnewid Wrecsam drwy ein cefnogaeth i Borth Wrecsam, ochr yn ochr â phartneriaid lleol. Mae hyn wedi bod yn wir ers dechrau'r prosiect. Nawr, rydym ni'n gwybod bod perfformiad gwella Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi tanio'r dref ac wedi sicrhau bod y ddinas honno yn gallu cynnal pêl-droed rhyngwladol, ac mae hynny'n ganolog i'r weledigaeth. Mae dechrau adeiladu eisteddle'r Kop yn y Cae Ras yn bwynt pwysig wrth i'r prosiect symud i'r cam cyflawni.

13:40

Diolch am yr ateb yna. Mae gan brosiect Porth Wrecsam wir y potensial i ddarparu rhywbeth gwirioneddol arbennig i'n dinas. Mae'n rhywbeth yr wyf i wedi ei gefnogi ers amser maith, ac mae'r bartneriaeth yn benderfynol o ddarparu'r ailddatblygiad trawsnewidiol hwn. Bydd y trawsnewid yn troi gorsaf gyffredinol Wrecsam yn ganolfan drafnidiaeth bwysig. Bydd eisteddle newydd y Kop yr ydych chi newydd gyfeirio ato yn y Cae Ras yn dychwelyd pêl-droed rhyngwladol i'r ddinas, a bydd gofod swyddfa newydd, sgwâr cyhoeddus a, gobeithio, bragdy, bar cwrw a siop newydd Wrexham Lager. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gychwyn pethau drwy amlinellu cyllid grant cychwynnol o £25 miliwn yn ôl yn 2021, ac rydych chi bellach wedi rhoi £1.5 miliwn arall i fynd i'r afael yn benodol â'r cyfyngiadau seilwaith ar ochr orllewinol y safle. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â George Powell a'i dîm yng nghanolfan achub Prosiect Glowyr Wrecsam. Maen nhw'n cyfathrebu â phartneriaid i geisio adeiladu maes parcio 200 o leoedd yng nghefn eu heiddo, a fyddai wir o gymorth, ac rwy'n credu y byddai wir yn ychwanegu gwerth mawr at yr ailddatblygiad hwnnw. Felly, Prif Weinidog, rwyf i, ynghyd â'm holl etholwyr, yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, ond a allech chi roi unrhyw ddiweddariadau pellach, oherwydd rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno ei bod hi'n bwysig iawn cadw'r momentwm i fynd dros y misoedd nesaf?

Rwy'n cytuno â hynna, a diolch am eich gwaith yn hyrwyddo'r prosiect hwn, yr wyf i yn credu sy'n drawsnewidiol i'r ddinas. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, fe gawsom ni £25 miliwn a ddyfarnwyd yn 2021 i roi'r hwb hwnnw i'r hyder, y gallan nhw fwrw ymlaen â'r prosiect hwn. Mae'r adeilad swyddfa o ansawdd uchel hwnnw, rwy'n credu, yn mynd i fod yn drawsnewidiol hefyd. Rydym ni'n sôn am 600 o bobl yn gallu gwneud lle i'w hunain yn yr adeilad hwnnw. Wrth gwrs, mae rhoi hwnnw drws nesaf i ganolfan drafnidiaeth yn golygu, gobeithio, na fyddai angen i ni weld cynifer o leoedd parcio ag y byddem ni fel arall. Felly, mae'r ganolfan honno, y model trafnidiaeth, a deall bod angen i hyn i gyd gyd-fynd â'r trawsnewidiad o'r dref yr ydym ni'n ei gynorthwyo y tu hwnt i hynny, gyda'r cymorth Trawsnewid Trefi, rwy'n gobeithio, yn ysgogi teimlad gwirioneddol o obaith yn y ddinas a bod hon yn ddinas â dyfodol disglair.

Prif Weinidog, rwy'n sicr yn cefnogi'r gwaith ym mhrosiect Porth Wrecsam, a chyfranogiad Llywodraeth Cymru i gefnogi hynny yn ariannol hefyd. Fel yr ydym ni eisoes wedi clywed, mae ganddo'r cyfle i fod yn drawsnewidiol i'r rhan honno o Wrecsam, trwy wella'r seilwaith trafnidiaeth hwnnw, creu gofod busnes modern, a chysylltu cymunedau drwy'r gwelliannau trafnidiaeth hefyd.

Rownd y gornel o'r safle penodol hwnnw mae Ysbyty Maelor Wrecsam, ac rwyf i wedi arwain ymgyrch yno i weld gwelliannau parcio yn yr ysbyty. Rwy'n credu ei fod yn gyfle da iawn, gyda'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud ym Mhorth Wrecsam, i weld y problemau parcio hefyd yn cael eu datrys yn yr ysbyty, oherwydd mae'r sgil-effaith yn y rhan honno o Wrecsam yn eithaf sylweddol. Felly, a fyddech chi'n awyddus i weld partneriaeth dda yn gweithio gyda phrosiect Porth Wrecsam, yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i weld pa atebion y gellir eu cynnig i ddatrys y broblem honno ar yr un math o safle?

Rwy'n credu mai partneriaeth yw'r union beth yr ydym ni wedi bod yn sôn amdano yn yr ardal hon, ac mae gan hyn bartneriaeth ragorol eisoes: Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru a Phrifysgol Wrecsam. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eu bod nhw'n cael eu cydnabod, ac mae eu cynlluniau o ran trawsnewid eu campws hefyd yn hanfodol ar gyfer y dyfodol. Ond, rydych chi'n iawn, does dim rheswm pam na ddylai Betsi Cadwaladr edrych ar sut y gallen nhw gyfrannu at y newid lle ceir synergeddau. Ond rydym ni'n cydnabod, mewn gwirionedd, mai'r ffaith amdani yw ein bod ni wedi cael blynyddoedd o danfuddsoddi, o gyllid cyfalaf yn cael ei dagu, a pheidio â bod mewn sefyllfa lle gallem ni fuddsoddi yn ein hysbytai. Rwy'n falch iawn bod gennym ni gyllid ychwanegol bellach a'n bod ni mewn sefyllfa, rwy'n gobeithio, i edrych i'r dyfodol, gan allu canolbwyntio mwy o sylw ac i roi cyfalaf i rai o'r rhaglenni hynny ar gyfer y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennais at y Prif Weinidog i ofyn iddi ymchwilio'n ffurfiol i ba un a oedd gweithredoedd Peter Mandelson, gan gynnwys y ffaith iddo rannu gwybodaeth y Llywodraeth gyda'r pedoffil Jeffrey Epstein, wedi tanseilio buddiannau cenedlaethol Cymru mewn unrhyw ffordd. Rwy'n croesawu'r ffaith ei bod wedi cytuno i fy nghais, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r dystiolaeth.

Penododd Prif Weinidog y DU Peter Mandelson fel llysgennad y DU i'r Unol Daleithiau, er ei fod yn gwybod am ei berthynas barhaus gydag Epstein. Nid dyna'r lefel o grebwyll y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan Brif Weinidog. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi am hynny? Gan dybio ei bod hi, pam na ddaeth allan a dweud hynny'n gyhoeddus ar unwaith?

13:45

A gaf i ddechrau drwy ddweud bod Keir Starmer wedi cael ei ethol â mandad eglur i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig? Rwy'n ei gefnogi yn y swydd y cafodd ei ethol i'w gwneud. Pan fydd Llafur yn llwyddo mewn Llywodraeth, daw pobl Cymru yn well eu byd, a dyna'r wyf i'n poeni amdano fwyaf. Fy swydd fel Prif Weinidog yw gwella bywydau pobl yng Nghymru, nid cynnig sylwebaeth barhaus ar wleidyddiaeth San Steffan. 

Dydw i erioed wedi bod yn hoff iawn o Peter Mandelson. Dydw i erioed wedi teimlo bod ganddo'r un math o werthoedd ag sydd gennym ni yn Llafur Cymru. Mae'r datgeliadau diweddar ei fod wedi rhannu gwybodaeth sensitif y Llywodraeth gyda rhywun a allai elwa yn ariannol rwy'n credu yn waelod nad oedd llawer o bobl wedi ei ddisgwyl. Ond hefyd, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig nawr yw bod Keir Starmer yn manteisio ar y cyfle hwn i ail-ganolbwyntio'r materion yn ymwneud ag Epstein ar y menywod a'r merched sydd wedi cael eu cam-drin. Dyna lle mae angen i'r pwyslais fod a dyna lle mae angen i'r pwyslais aros. Rwy'n credu bod Prif Weinidog y DU yn ddyn anrhydeddus, mae wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus, ac rwy'n credu ei fod eisiau gwneud y peth iawn i'r wlad.

Heb amheuaeth, mae ei hymosodiad ar Peter Mandelson yn gyfiawn; mae ei hamddiffyniad parhaus o Brif Weinidog y DU, wrth gwrs, yn codi mwy o gwestiynau. Beth bynnag yw dyfnderoedd yr anhrefn yn Stryd Downing, mae record y Prif Weinidog, yn y pen draw, yn un o gefnogi Keir Starmer yn ddiofyn. Ond dyma Brif Weinidog nad yw'n gwybod, ar yr achlysur hwn, pa ffordd i droi. Ar ôl methu ag ymuno â'r feirniadaeth o Keir Starmer ddoe, ni ddaeth hi allan i'w amddiffyn tan ddiwrnod yn ddiweddarach, gyda datganiad y bore yma. Ond roedd yn anochel y byddai'n gwneud hynny yn y diwedd am wn i.

Addawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei chefnogaeth haelionus i Brif Weinidog y DU, mae'n debyg bod ASau Llafur wedi'u cythruddo gan dawelwch y Prif Weinidog—a do, y bore yma, fe wnaeth y Prif Weinidog ddilyn yr esiampl. Wfft i annibyniaeth meddwl. Hi yw'r pennaeth i fod, ond mae'n amlwg mai ASau Llafur sy'n gwneud y penderfyniadau. Gan gofio mai dyma'r Ysgrifennydd Cymru mwyaf gwrth-ddatganoli ers degawdau, yn ôl un uwch gydweithiwr Llafur, onid yw'n wir bod y Prif Weinidog wir ym mhoced Jo Stevens?

Rwy'n canolbwyntio ar anghenion pobl y wlad hon. Nid wyf i'n neidio ar fy nhraed yng nghanol cyfarfod Cabinet i ymateb i faterion sy'n digwydd yn San Steffan. Nid dyna'r ffordd yr ydych chi'n rhedeg gwlad. Rwy'n gwbl eglur fy mod i yma i ganolbwyntio ar y gwahaniaeth diriaethol y gallwn ni ei wneud ym mywydau pobl. Heddiw, rydym ni'n cyhoeddi'r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd y targed o 100,000 o brentisiaethau. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth i bobl yn ein cymunedau. Heddiw, rydym ni wedi gweld 20 o brosiectau ynni adnewyddadwy yn cael eu cymeradwyo. Bydd hynny, eto, yn creu cannoedd o swyddi yn ein cymunedau. Nid wyf i yma i roi sylwebaeth barhaus ar yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. 

Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn gyfarfod Cabinet hir iawn os dechreuodd brynhawn ddoe ac na allech chi gael datganiad allan tan y bore yma. Ond y gwir reswm pam mae'r Prif Weinidog mor oddefol o ran barnu Prif Weinidog y DU yw oherwydd ei bod hi wedi'i gwanhau gymaint ag ef. Mae wedi buddsoddi cymaint o gyfalaf gwleidyddol yn ei gefnogi na all droi'n ôl nawr. Ond y drasiedi yw nad yw nad yw'n cael dim yn gyfnewid am ei ffyddlondeb—dim pethau da, fel y byddai hi'n ei ddweud. Nid yw Prif Weinidog y DU wedi datganoli dim o'r pwerau y mae'r Prif Weinidog yn dweud y mae'n eu cefnogi, mae Cymru yn dal i gael ei thanariannu, nid oes symiau canlyniadol ar gyfer HS2 o hyd. Wrth alw am ymddiswyddiad Prif Weinidog y DU ddoe, dywedodd ei chyfatebydd yn yr Alban, Anas Sarwar, ei fod yn rhoi buddiannau'r Alban yn gyntaf. Penderfynodd Prif Weinidog Cymru eistedd ar y ffens am ychydig cyn syrthio ar ochr arweinydd ei phlaid. Onid oedd hi'n teimlo temtasiwn i sefyll yn gadarn dros fuddiannau Cymru ar yr achlysur hwn?

Gadewch i mi fod yn eglur—rwy'n credu y bydd yn arbed ychydig o amser a dydw i ddim yn mynd i adael i'm sylw gael ei dynnu gan hyn: cefais fy ethol i redeg Cymru, nid i ddarparu sylwebaeth barhaus ar wleidyddiaeth San Steffan. Rwy'n ei chael hi'n wirioneddol anhygoel, ar ôl mwy na 25 mlynedd o ddatganoli, bod swydd y Prif Weinidog yn dal i gael ei thrin fel cadair pyndit yn hytrach na phennaeth Llywodraeth ddemocrataidd. Dydych chi ddim yn y BBC mwyach, Rhun. Senedd yw hon; nid stiwdio mohoni. Nid siop siarad mohoni, dyma sedd democratiaeth Cymru, a phob tro y mae'n cael ei throi'n lle i hel clecs am yr hyn sy'n digwydd yn rhywle arall, mae pobl Cymru ar eu colled.

13:50

Prif Weinidog, mae'n berffaith amlwg i bawb bod eich datganiad o gefnogaeth heddiw i Brif Weinidog y DU yn wenieithus. Nid yw'n dweud, ac nid ydych chi wedi dweud ar unrhyw adeg, bod gennych ymddiriedaeth lawn ym Mhrif Weinidog y DU na'i arweinyddiaeth. Wrth gwrs, nid yw'n syndod, oherwydd yn ystod y misoedd diwethaf rydych chi wedi bod yn beirniadu Prif Weinidog y DU ar bob cyfle. Ychydig wythnosau yn unig yn ôl fe wnaethoch chi ei gwneud yn eglur nad oedd croeso i Brif Weinidog y DU yng Nghymru i ymgyrchu oni bai ei fod yn dod â phethau da gydag ef. Pan ofynnwyd i chi dro ar ôl tro mewn cyfweliad gyda'r BBC pa un a oedd yn gwneud gwaith da, fe wnaethoch chi wrthod dweud pa un a oeddech chi'n meddwl ei fod yn gwneud gwaith da ai peidio.

Dyma ddyn a benododd Peter Mandelson i'r swydd ddiplomyddol fwyaf grymus a phwysig sydd gan y wlad hon, gan wybod yn iawn bod Peter Mandelson wedi cynnal perthynas agos â phedoffil a gafwyd yn euog. Onid y gwir amdani yw nad oeddech chi'n ddigon dewr i alw am ymddiswyddiad Prif Weinidog y DU ddoe? Yn hytrach, fe aethoch chi i'ch cragen. O leiaf roedd arweinydd Llafur yr Alban yn ddigon dewr i leisio ei farn. Ond fe wnaethoch chi eistedd yno yn dawel, yn eich byncer, yn aros i weld beth fyddai'n digwydd, yn aros i aelod o Gabinet Llywodraeth y DU allu neidio yn gyntaf. Mae'n gwbl druenus. Felly, a allwch chi, er mwyn eglurder, nawr, ddweud wrthym ni: a oes gan Brif Weinidog y DU eich ymddiriedaeth lawn—oes neu nac oes?

Oes, mae ganddo. Cysylltais ag ef ar ôl ein cyfarfod Cabinet, oherwydd fy swydd i yw bod yn y cyfarfod Cabinet, i roi gwybod iddo fod ganddo fy nghefnogaeth, cyn y cyfarfod hwnnw gyda'r Blaid Lafur seneddol neithiwr. Rwy'n credu bod y wlad hon wedi cael digon o newid Prif Weinidogion bob blwyddyn neu ddwy. Mae'r syniad o Dori yn fy holi am berfformiad Prif Weinidog y DU, a dweud y gwir, yn chwerthinllyd. Darren, roeddech chi'n un o amddiffynwyr Rishi Sunak, roeddech chi'n un o gefnogwyr Liz Truss, roeddech chi'n frwd am Boris Johnson, roeddech chi'n un o gymeradwywyr Theresa May, roeddech chi'n un o gefnogwyr David Cameron. Gwnaeth pob un o'r bobl hyn gyfraniad mawr at chwalu'r economi a'n gadael ni yn y sefyllfa sydd gennym ni heddiw, lle mae pobl yn cael trafferth yn talu eu biliau. Fy swydd i yw eu helpu nhw, a dyna rwyf i'n canolbwyntio ar ei wneud.

Mae'n braf cael rhywfaint o eglurder o leiaf. Rydych chi bellach yn cowtowio, wrth gwrs, i Syr Keir Starmer yn yr un modd ag y gwnaeth ef gowtowio i'r Tsieineaid yn ystod ei ymweliad diweddar. Yr hyn yr wyf i eisiau siarad amdano yw'r dioddefwyr hynny. Fe wnaethoch chi gyfeirio yn gwbl briodol at ddioddefwyr Epstein yn eich datganiad a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, ond rwy'n ofni bod dioddefwyr o gam-driniaeth yma yng Nghymru hefyd nad ydych chi wedi rhoi llawer iawn o ystyriaeth iddyn nhw.

Bu dros 12 mis ers i mi eich herio i sefydlu ymchwiliad i gangiau meithrin perthynas amhriodol yma yng Nghymru. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i 12 mis yn ôl nad oedd angen ymchwiliad i gangiau meithrin perthynas amhriodol, nad oedd unrhyw dystiolaeth o gangiau meithrin perthynas amhriodol yn gweithredu yma yng Nghymru. Roedd hynny er gwaethaf y ffaith fod Emily Vaughn wedi siarad yn gyhoeddus am ei phrofiadau erchyll o gamdriniaeth, a bod yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol wedi dod o hyd i dystiolaeth o gangiau meithrin perthynas amhriodol yn gweithredu yma yng Nghymru, yn enwedig o gwmpas ardal Abertawe.

Ym mis Chwefror y llynedd, pleidleisiodd eich plaid—a Phlaid Cymru, mae gen i ofn—yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am ymchwiliad i gangiau meithrin perthynas amhriodol. Fe wnaethoch chi hefyd wrthod, ac rydych chi'n dal i wrthod, cyhoeddi gohebiaeth gyda heddluoedd Cymru, cynghorau a rhanddeiliaid eraill ar weithrediad gangiau meithrin perthynas amhriodol yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn mynd i gynnal ymchwiliad ar sail y DU gyfan i gangiau meithrin perthynas amhriodol ym mis Mehefin, ond mae'n ymddangos nad oes unrhyw beth wedi digwydd ers hynny, ac mae achosion eraill o gangiau meithrin perthynas amhriodol sy'n gweithredu yng Nghymru yn dod i'r amlwg. A allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, beth yw'r sefyllfa o ran yr ymchwiliad hwnnw, pam rydych chi'n llusgo'ch traed, a phryd y bydd dioddefwyr yma yng Nghymru yn gweld rhywfaint o gynnydd?

13:55

Rydyn ni'n cymryd y mater o drais yn erbyn menywod a chamfanteisio ar fenywod o ran y ffordd y maen nhw'n cael ei trin yn ein cymunedau o ddifrif iawn. Dyna pam y byddwn ni'n cyhoeddi adroddiad yn fuan iawn ar yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud fel Llywodraeth mewn perthynas â hynny. Llywodraeth y DU sy'n arwain ymchwiliad y DU i gangiau meithrin perthynas amhriodol. Rydyn ni, wrth gwrs, wedi ei gwneud hi'n eglur ein bod ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod Cymru yn cael ei chynnwys a'i chymryd o ddifrif, ac y dylai datganiadau tyst gan y mathau o bobl a allai fod wedi bod yn ddioddefwyr gael eu cymryd o ddifrif hefyd mewn perthynas â hynny. O ran menywod a merched, mae'r math o iaith a welsom ni yn ffeiliau Epstein, a bod yn onest, yn ffiaidd ac yn ofnadwy. Mae'n dangos casineb at fenywod ac yn annerbyniol. Rwyf i, fel menyw sy'n Brif Weinidog ar Gymru, yn gwbl benderfynol o sefyll yn gadarn â menywod yng Nghymru, ac o wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n dioddef camfanteisio.  

Mae gen i ofn, Prif Weinidog, bod gwneud yn well na dweud. Byddwch yn gwybod ein bod ni wedi gohebu; gofynnais i chi gyfarfod ag Emily Vaughn er mwyn trafod ei phrofiadau. Fe wnaethoch chi wrthod gwneud hynny, ond fe wnaethoch chi ddweud y byddai'n cael ei gwahodd i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar ffurf yr ymchwiliad i gangiau meithrin perthynas amhriodol yr oeddech chi'n mynd i fod yn rhan ohono ochr yn ochr â Llywodraeth y DU. Rwy'n deall nad oes cyfarfod wedi bod ers hynny. Roedd hyn fisoedd yn ôl, Prif Weinidog. Os ydych chi wir ar frys ac o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater hwn, byddwn wedi disgwyl gweld mwy o gynnydd a mwy o ddatganiadau yn cael eu gwneud i'r Senedd hon ar y mater pwysig hwn. 

Wrth gwrs, nid yw'n fater o gangiau meithrin perthynas amherthnasol yn unig, nid dim ond penodiad Peter Mandelson ac yna crebwyll Prif Weinidog y DU sy'n cael eu cwestiynu. A dweud y gwir, mae hi'n 300 diwrnod heddiw ers i'r Goruchaf Lys ddyfarnu bod rhyw at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu rhyw biolegol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan fenywod a merched yng Nghymru fynediad at fannau diogel, ond rydym ni'n dal i aros i'ch Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau eglur ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod gan fenywod a merched fynediad at y mannau diogel hynny. Rwyf i eisiau gweld gwneud, nid dweud yn unig. A allwch chi esbonio i fenywod a merched heddiw, 300 diwrnod ar ôl y dyfarniad hwnnw yn y Goruchaf Lys, pam rydych chi'n llusgo'ch traed ar gyhoeddi canllawiau? Pam ydych chi'n anwybyddu hawliau menywod a merched, a pham na wnewch chi weithredu?

Rydyn ni'n aros am ganllawiau gan Lywodraeth y DU. Dyna'r hyn yr ydym ni'n aros amdano. Gadewch i mi fod yn eglur: dydw i ddim yn mynd i gymryd rhan mewn rhyfeloedd diwylliant. Yr hyn yr wyf i'n awyddus i'w wneud yw amddiffyn dioddefwyr ac amddiffyn pobl agored i niwed ble bynnag y maen nhw, yn enwedig yng Nghymru.

Blaenoriaethau Gofal Iechyd ar gyfer Preseli Sir Benfro

3. Beth yw blaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro dros y deuddeg mis nesaf? OQ63812

Mae pwysau enfawr ar GIG Cymru, a dyna pam mae'n bwysig i'r Llywodraeth bennu blaenoriaethau ar gyfer byrddau iechyd. Mae'r rhain eisoes wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer y 12 mis nesaf. Ond cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw penderfynu ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau iechyd, gan eu bod nhw mewn sefyllfa i asesu eu gallu i gyflawni yn erbyn yr anghenion lleol hynny. Disgwylir i holl sefydliadau'r GIG gyflwyno cynlluniau erbyn 31 Mawrth, yn dangos sut y byddan nhw'n cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau strategol hyn.

Prif Weinidog, y brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ddylai fod diogelu ac amddiffyn gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, fel nad yw cleifion o bob rhan o Breseli Sir Benfro yn cael eu gorfodi i deithio ymhellach i ffwrdd ar gyfer gwasanaethau hanfodol a hollbwysig. Fel y gwyddoch chi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystyried opsiynau i drawsnewid naw maes gwasanaeth clinigol, a bydd rhai o'r opsiynau hynny yn arwain at ganoli gwasanaethau ymhellach i ffwrdd ar gyfer fy etholwyr. Prif Weinidog, fel cyd-gynrychiolydd pobl Preseli Sir Benfro, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i sefyll yn gadarn â nhw a gwrthwynebu unrhyw newidiadau sy'n eu gorfodi i deithio ymhellach i gael gofal hanfodol ac i gael gwasanaethau hanfodol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa sylwadau rydych chi wedi eu gwneud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynglŷn â'i gynllun gwasanaethau clinigol, ac a wnewch chi ei gwneud hi'n eglur na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw newidiadau sy'n cymryd gwasanaethau oddi wrth bobl sir Benfro?

Mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu trafod a gwneud penderfyniad ar y cynllun gwasanaethau clinigol yn ddiweddarach y mis hwn. Rwy'n deall pa mor gryf y mae pobl yn teimlo am eu gwasanaethau lleol, a dyna pam yr wyf i hefyd wedi bod yn gwneud sylwadau yn fy rhinwedd fel Aelod o'r Senedd. Fe wnes i gyfarfod â chynrychiolwyr y bwrdd iechyd, y prif weithredwr ac eraill yr wythnos diwethaf, a chefais gyfarfod a sgwrs gyda'r cadeirydd dim ond dros y penwythnos. Felly, gallaf eich sicrhau chi fy mod i'n sicrhau bod safbwyntiau'r cymunedau lleol yn cael eu hystyried, ond bydd yn fater iddyn nhw benderfynu.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig mai'r hyn a ddylai fod yn gyrru hyn yw'r canlyniadau clinigol gorau posibl i bobl. A gadewch i mi roi syniad i chi o sut mae buddsoddiad eisoes yn digwydd yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg: £1.18 miliwn i ddisodli yn Llwynhelyg; £750,000 i ddisodli offer pelydr-x; £481,000 i uwchraddio systemau camerâu gama yn Llwynhelyg; £110,000 i ddisodli offer uwchsain yn Llwynhelyg; a £27 miliwn i sicrhau bod gwaith gorfodi tân hanfodol wedi cael ei wneud, ac mae hynny cyn i ni ddechrau siarad am y swm sylweddol o arian, £12.8 miliwn, a gyfrannwyd i fynd i'r afael â'r heriau yn ymwneud â choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth. Felly, mae buddsoddiad yn mynd i ysbyty Llwynhelyg, ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n gweld yn y fan yna bod digonedd o dystiolaeth i ddangos y bydd pobl gorllewin Cymru yn cael eu gwasanaethu.

14:00
Lleihau Gwastraff, Tipio Anghyfreithlon a Thaflu Sbwriel

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gynnydd Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff, tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel? OQ63818

Diolch i Lywodraeth Lafur Cymru, mae Cymru yn arweinydd byd-eang o ran rheoli gwastraff. Mae hyn yn dangos Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'r amgylchedd. Ers datganoli, mae Cymru wedi trawsnewid o genedl a oedd yn ailgylchu llai na 5 y cant o'i gwastraff trefol i gyrraedd 68 y cant bellach, gan ein rhoi ni'n ail yn y byd ar gyfer ailgylchu o'r cartref. Rydyn ni'n parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn. Drwy ariannu rhaglenni fel Taclo Tipio Cymru a sefydliadau fel Cadwch Gymru'n Daclus, rydyn ni'n helpu cymunedau ledled Cymru drwy wella eu hamgylchedd lleol.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Cymru'n wir wedi ennill enw da, rwy'n credu, o ran diogelu'r amgylchedd, ond hefyd o ran ailgylchu, fel arweinydd byd-eang. Bythefnos yn ôl, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod trawsbleidiol yn y Pierhead ar gyfer darpar ymgeiswyr ac i Aelodau'r Senedd drafod yr angen, ar sail drawsbleidiol, am ddeddfwriaeth newydd i gryfhau ein sefyllfa. Mae'n gymdeithas ryfedd yr ydym ni'n byw ynddi nawr, onid yw, bod pobl yn gyrru yn eu car ac yn hapus i daflu sbwriel allan o'r ffenestri i'r strydoedd ac ar ein palmentydd, yn cael eu clirio un wythnos ac yna eu taflu eto yr wythnos ganlynol. Rydyn ni hefyd wedi gweld y golygfeydd ofnadwy lle mae troseddoldeb tipio anghyfreithlon bellach yn dod yn fusnes troseddol mawr y mae angen mynd i'r afael ag ef. A ydych chi'n cytuno â mi bod angen i ni ddechrau edrych mewn gwirionedd, yn sicr yn y Senedd nesaf, ar ddeddfwriaeth newydd sydd nid yn unig yn cryfhau pwysigrwydd cadw ein hamgylchedd yn lân, ond hefyd ar orfodi, sy'n cynnwys deddfau cryfach i atal taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a'r troseddoldeb hwnnw, a hefyd cynyddu'r addysg yn y maes hwn, ac rwy'n credu hefyd i sicrhau ein bod yn rhoi'n gadarn o fewn ein fframwaith deddfwriaethol y dylai'r llygrwr dalu, ac mae hynny'n golygu addysgu ynadon ac ustusiaid o fewn y system gyfiawnder, fel eu bod nhw'n deall pa mor ddifrifol yw'r troseddau hyn, ac y dylai'r canlyniadau adlewyrchu'r gost o glirio a pherswadio pobl yn iawn i beidio â cyflawni'r math hwn o weithgarwch?

Diolch, Mick. Rwy'n croesawu eich gwaith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar sbwriel, tipio anghyfreithlon a lleihau gwastraff. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sydd wir yn peri gofid i bobl ledled Cymru. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth lle ceir ymateb o'r galon gan y cyhoedd. Maen nhw'n casáu gweld sbwriel ac maen nhw eisiau i rywbeth ddigwydd. Dyna pam rwy'n falch, mewn gwirionedd, ein bod ni'n gweld mwy o erlyniadau. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld dwbl y nifer yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym ni'n ceisio gwneud yr hyn a allwn o ran cyflwyno 100 o gamerâu treial i awdurdodau lleol, fel y gallan nhw sicrhau bod y rheini'n digwydd. Rydym ni'n cefnogi prosiectau gorfodi yng Nghastell-nedd, sir Ddinbych, sir y Fflint a sir Benfro, ac rydym ni'n archwilio newidiadau i gosbau penodedig am dipio anghyfreithlon ar raddfa fach a throseddau dyletswydd gofal gwastraff cartref.

Rwy'n siŵr bod mwy y gallwn ni ei wneud, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni barhau i edrych ar ba gamau pellach y gallwn ni eu cymryd a beth yw'r meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw. Rwy'n credu, yn sicr, mai erlyn yw un ohonyn nhw. Rydych chi'n gwbl gywir o ran ynadon, wrth gwrs—mae hyfforddi ynadon yn benderfyniad i Lywodraeth y DU drwy'r Arglwyddes Brif Ustus yn y pen draw, ac rwy'n hapus i godi'r mater hwnnw gyda hi, felly fe wnaf i hynny.

14:05

Prif Weinidog, yn dilyn ymlaen o gwestiwn fy nghyd-Aelod, nid oes gen i unrhyw amheuaeth bod y Llywodraeth Cymru hon o'r farn bod taflu sbwriel yn fater eithaf dibwys nad yw'n deilwng o'i sylw, ond nid yw'n fater bach i drigolion, mae'n symbol gweladwy o esgeulustod. Cymerwch yr A4232 yng Nghaerdydd, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth y teithiodd llawer o Aelodau yma ar ei hyd heddiw i gyrraedd yma. Mae sbwriel wedi'i wasgaru ar ei hyd: poteli plastig, bagiau plastig, paledi pren, bagiau du wedi'u taflu, ac rwy'n meddwl fy mod i hyd yn oed wedi mynd heibio gweddillion soffa neu ddau. Yn gwbl onest, Prif Weinidog, nid yn unig y mae'n ffiaidd, mae'n gywilydd—cywilydd cenedlaethol. Dyma'r ddelwedd gyntaf y bydd llawer yn ei chael wrth iddyn nhw deithio i mewn i'n prifddinas. Beth mae hyn yn ei ddweud wrth dwristiaid? Beth mae hyn yn ei ddweud wrth fusnesau sy'n ystyried buddsoddi? A beth mae hyn yn ei ddweud wrth y bobl sy'n byw yma ac sy'n gorfod ei weld yn ddyddiol?

Gyda dim ond wythnosau ar ôl yn y Senedd hon, Prif Weinidog, rwy'n gofyn a wnewch chi ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth o'r diwedd? A wnewch chi ddefnyddio'r ychydig amser sydd gennych chi i gyfarwyddo eich cyngor a reolir gan Lafur i lanhau ein strydoedd ac ymylon ein ffyrdd ffyrdd ac adfer ymdeimlad sylfaenol o falchder yn ein prifddinas, neu a fydd y diffyg gweithredu cywilyddus hwn yn etifeddiaeth arall eto o'ch Llywodraeth aflwyddiannus? Diolch.

Rwy'n credu bod hwn yn fater y dylem ni ei gymryd o ddifrif iawn. Rwy'n credu ei fod yn peri gofid mawr. Mae pobl eisiau i gynghorau weithredu, ac rydym ni'n ceisio rhoi'r arfau iddyn nhw i'w gwneud nhw i weithredu, a dyna pam rwy'n falch o weld ein bod ni wedi gweld y dyblu hwnnw o ffigurau erlyn. Y peth arall rydym ni'n ceisio ei wneud fel Llywodraeth yw atal sbwriel yn y lle cyntaf, ac rwy'n falch iawn o weld ein bod ni eisoes wedi gwahardd sawl math o blastig untro sy'n cael eu taflu'n gyffredin, ac y bydd fêps untro a weips gwlyb sy'n cynnwys plastig yn cael eu cyfyngu o 2026 ymlaen. Mae hynny'n bwysig. Mae eu hatal rhag mynd i'r sbwriel yn y lle cyntaf yn bwysig. Ond, dylai, dylai mwy gael ei wneud o ran gorfodi. Ceir hysbysiadau cosb benodedig y dylid eu defnyddio. Rwy'n credu bod pobl yn ddig am hyn. Rwy'n credu bod angen i ni i gyd wneud yn siŵr ein bod ni'n cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif hefyd, ond hefyd i ddweud wrth bobl, os ydyn nhw'n taflu sbwriel, ei fod yn hynod annerbyniol. 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar statws mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ63836

Rhoddwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig oherwydd pryderon difrifol am ddiogelwch ac ansawdd gwasanaethau, mynediad at ofal prydlon a'i afael a'i reolaeth weithredol. Rydym ni wedi bod yn eglur am y newidiadau y mae'n rhaid iddo eu gwneud ac wedi cyhoeddi'r meini prawf gwella y mae'n rhaid iddo eu bodloni. Bydd y trydydd adroddiad ar gynnydd blynyddol yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

Diolch. Yn ddiweddar, bu'n rhaid i mi godi pryderon difrifol am y bwrdd iechyd penodol hwn a'r ffordd ofnadwy y cafodd rhai o'm hachosion hirsefydlog eu trin, sy'n mynd yn groes i'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud drwy'r amser am y gostyngiad i amseroedd aros am driniaeth. Fe wnaethoch chi sôn eich hun ei fod wedi mynd i fesurau arbennig yn 2015. Rydym ni bellach yn 2026. Ym mis Tachwedd 2020, fe'i tynnwyd allan o fesurau arbennig er i bryderon gael eu codi am wneud hynny, ond rydym ni'n gwybod bod hynny ychydig cyn etholiad y Senedd, ac na ddylai fyth fod wedi cael ei ganiatáu ar yr adeg honno i fynd allan o fesurau arbennig. Mae'r mesurau arbennig hynny bellach wedi costio ymhell dros £100 miliwn. Maen nhw'n lefel 5, oherwydd y methiannau ofnadwy o ran llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant. Mae'n deg dweud eu bod nhw'n eithaf aml yn gwario ymhell dros eu cyllideb, yn aml hyd tua £40 miliwn o orwariant.

Mae'n drist bod y bwrdd hwn wedi gweld sawl prif weithredwr a sawl cadeirydd; fe wnaethon nhw hyd yn oed ddiswyddo'r bwrdd, ac yna fe wnaethoch chi roi eich aelodau bwrdd eich hun i mewn. Ym mis Tachwedd, daethpwyd â phryderon i mewn—fe wnaethoch chi ddod â mwy o arbenigwyr i mewn, ym mis Tachwedd, i edrych ar y problemau penodol hynny sy'n dal i fodoli. Dim ond pedwar mis y maen nhw wedi bod yno, ond pryd fyddwn ni'n derbyn adroddiad wedi'i ddiweddaru ar yr hyn y maen nhw wedi ei wneud yn yr amser y maen nhw wedi bod yno? Hefyd, a wnewch chi gefnogi ein galwadau am ymchwiliad ar unwaith i'r ffordd y mae'r bwrdd iechyd hwn yn gweithio? A wnewch chi hynny, os gwelwch yn dda, ar ran fy etholwyr—

14:10

—Janet Finch-Saunders, ac â llawer o bobl eraill y prynhawn yma. Wn i ddim, mae'n rhaid ei fod oherwydd ei bod hi'n agos at ddiwedd y Senedd hon, ei amser, fy mod i'n bod mor hael â hyn, ond y Prif Weinidog i ymateb.

Diolch, Janet. Mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud yn Betsi. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, bod gwelliannau wedi cael eu gwneud ers iddyn nhw gael eu rhoi mewn mesurau arbennig. Mae bwrdd sefydlog yn weithredol, fe wnaeth asesiad strwythuredig diweddaraf Archwilio Cymru gydnabod systemau sicrwydd corfforaethol cryfach a'r pryderon am ddata amseroedd aros—mae'r rheini wedi cael eu datrys. Ond mae mwy o waith i'w wneud o ran gwella ansawdd gofal iechyd i bobl Cymru. 

Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd bod pethau yn gwella i bobl ar lawr gwlad. Mae 19,000 o bobl yn gweithio yn Betsi, ac mae angen iddyn nhw wybod bod cydnabyddiaeth fod eu hymdrechion yn cael eu cydnabod hefyd. Bu gostyngiad o 60 y cant i nifer y llwybrau sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth. 21 wythnos yw'r amser aros cyfartalog yn Betsi—mae hynny'n ffaith. Mae arosiadau dwy flynedd wedi cael eu lleihau 81 y cant ar gyfer triniaeth orthopedig. Rwy'n gwybod ei fod yn wael iawn, ac mae hynny cyn i ni agor hwb orthopedig newydd Llandudno. 

Mae yna ostyngiad o 71 y cant mewn llwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn am ddermatoleg. Dyna oedd un o'r problemau golau coch mawr y bu'n rhaid i mi ymdrin â nhw fel yr Ysgrifennydd iechyd, ac edrychwch ar y gwahaniaeth y mae hynny wedi ei wneud. Felly, mae pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae yna ffordd bell i fynd o hyd, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cynnal ysbryd y 19,000 o bobl hynny sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd a chydnabod y cynnydd sydd wedi cael ei wneud. 

Cefnogi Tafarndai a Bragdai yng Ngorllewin De Cymru

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi tafarndai a bragdai yng Ngorllewin De Cymru? OQ63811

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi tafarndai a bragdai yn ne-orllewin Cymru gyda chymorth sylweddol, gan gynnwys £8 miliwn mewn rhyddhad ardrethi newydd ar gyfer lleoliadau bwyd a diod, rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn y flwyddyn a £140 miliwn mewn rhyddhad ardrethi busnesau bach, sydd o fudd i lawer o fragdai. Mae'r busnesau hyn hefyd yn elwa o'r clwstwr diodydd, y rhaglen gwasanaeth bwyd, grantiau Perthyn o hyd at £80,000 i gymunedau gymryd tafarndai drosodd a rhaglenni sgiliau sy'n helpu i hybu datblygiad y gweithlu.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Byddwch yn gwybod bod tafarndai a bragdai yn asedau cymunedol hanfodol. Yn anffodus, yng Nghymru, rydym ni'n colli llawer gormod ohonyn nhw. Er bod y cymorth a amlinellwyd gennych—unrhyw gymorth—i'w groesawu, dywedodd Campaign for Real Ale eu hunain yr wythnos diwethaf nad oedd y gostyngiad untro, am flwyddyn yn ddigon o bell ffordd i atal mwy o dafarndai rhag cau eu drysau. Yn Lloegr, mae tafarndai yn cael cynnig gostyngiad o 40 y cant i filiau ardrethi busnes am y tair blynedd nesaf. Oni bai fod Llywodraeth Cymru gwneud yr un fath, yr hyn y byddwn ni'n ei weld yw tafarndai yng Nghymru o dan anfantais gystadleuol o'u cymharu â'r tafarndai hynny dros y ffin. Felly, sut allwch chi ddangos eich bod chi'n deall beth mae tafarndai yn mynd drwyddo ar hyn o bryd—y landlordiaid tafarndai ac eraill sy'n rhedeg tafarndai a bragdai ledled Cymru? A pha gymorth pellach allwch chi ei roi iddyn nhw i sicrhau bod ein tafarndai nid yn unig yma heddiw, ond y flwyddyn nesaf, y flwyddyn wedyn ac ymhell i'r dyfodol?

Rwy'n deall bod tafarndai a lleoedd eraill o dan bwysau. Rwy'n deall mai un o'r cyfnodau gwaethaf i dafarndai oedd pan gododd cyfraddau llog Llywodraeth Torïaidd y DU yn aruthrol, gan daro busnesau ledled y wlad. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod gennym ni, mewn gwirionedd, wahanol feintiau o dafarndai yng Nghymru. Er enghraifft, tua £19,000 yw gwerth ardrethol cyfartalog eiddo yng Nghymru, ac mae hynny'n cymharu â £34,000 yn Lloegr, felly mae'n iawn i ni addasu i'n modelau ein hunain yma yng Nghymru. Mae gennym ni, yn gymharol, gyfran uchel o eiddo bach sy'n gymwys i gael rhyddhad, a, dim ond i roi syniad i chi o'r gwahaniaeth, mae cost ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cyfateb i 10 y cant o gyfanswm refeniw ardrethi yng Nghymru; yn Lloegr, mae'n 4 y cant.

14:15
Yr Iaith Gymraeg

7. Pa gamau pellach fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r iaith Gymraeg ym mhob rhan o Gymru? OQ63853

Diolch yn fawr i ti, John, a diolch am ofyn y cwestiwn yn Gymraeg hefyd. Rŷn ni’n falch iawn o’r newid agwedd tuag at y Gymraeg ers inni sefydlu’r Senedd. Mae hyn yn bennaf diolch i ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i’r Gymraeg a’n dymuniad i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i ymrwymo’n llwyr i gryfhau’r Gymraeg ymhob rhan o Gymru drwy ‘Cymraeg 2050’, gan ehangu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'n her fawr i adeiladu'r iaith Gymraeg mewn ardaloedd fel Dwyrain Casnewydd, lle nad ydy'n gryf. Mae camau pwysig wedi'u cymryd—addysg cyfrwng Cymraeg, er enghraifft—ond mae llawer o waith i'w wneud i adeiladu defnydd yn y gymuned. Felly, mae'n bryd creu ffyrdd newydd o gryfhau'r iaith yn Nwyrain Casnewydd er mwyn gwneud cynnydd pellach. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried yn ofalus sut i gefnogi'r iaith Gymraeg ymhellach yn Nwyrain Casnewydd?

Diolch yn fawr i ti, John. Mae dy dreigliadau di'n well na fy rhai i, felly llongyfarchiadau ar hynny.

Dwi'n meddwl ei fod e'n anhygoel faint o gynnydd rŷn ni wedi'i weld yn y Gymraeg mewn lle fel Casnewydd. Yn 2013, roedd 620 o blant yn mynychu ysgolion Cymraeg, ac, erbyn 2023, roedd 1,340, felly mae hynny'n fwy na dwbl mewn degawd, a dyna'r cyfeiriad rŷn ni eisiau'i weld. Mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, a dwi'n meddwl bydd yna gyfle, y flwyddyn nesaf yn arbennig, pan ddaw Eisteddfod yr Urdd i Gasnewydd, i sicrhau bod y gymuned yn fwy ymwybodol o'r iaith Gymraeg a'r posibiliadau yna.

Nawr, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dod â rhywbeth i'r Senedd ar 24 Chwefror, lle bydd e'n sôn am weithredu argymhellion cam 1 y Comisiwn Cymunedau Cymraeg—nawr, y rheini yw'r ardaloedd lle mae lot o Gymraeg yn cael ei siarad, ond, ar ôl hynny, yn yr ail gam, bydd y comisiwn newydd yn edrych ar ardaloedd eraill o Gymru lle nad oes cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad, ac, wrth gwrs, bydd Casnewydd yn rhan o hynny, a byddwn ni'n gweld beth mwy rŷn ni'n gallu ei wneud i sicrhau cynnydd y Gymraeg yn eich ardal chi.

Lles Anifeiliaid

8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ63810

Rydym ni'n dymuno i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da. Mae ein 'Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021 i 2026' wedi cyflawni gwelliannau eisoes drwy wella cymorth a hyfforddiant i'r awdurdodau lleol, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i ddarparu gan Trwyddedu Anifeiliaid Cymru. Rydym ni'n symud at wahardd rasio milgwn ac rydym ni'n blaenoriaethu cynigion i reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid, sy'n cynnwys canolfannau achub ac ailgartrefu.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad yna a'r camau sy'n cael eu cymryd. Mae'r ffordd yr ydym ni'n trin anifeiliaid yn dangos sut fath o gymdeithas ydym ni ac yn dymuno bod. Os byddwn ni'n caniatáu i anifeiliaid gael eu cam-drin, naill ai trwy anwybodaeth neu greulondeb, fe fydd hynny'n niweidio ein henw da ni. Mae tystiolaeth sylweddol yn dangos bod ystod eang o anifeiliaid, mewn gwirionedd, yn fodau ymdeimladol. Bu cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru. Rydym ni wedi pasio deddf anifeiliaid gwyllt a syrcasau, un ar wahardd maglau ac un sy'n ei gwneud hi'n orfodol i deledu cylch cyfyng gael ei osod ym mhob man lle caiff anifeiliaid byw eu dadlwytho, eu cadw, eu trin a'u stynio.

O ran ceffylau, mae cyffredinrwydd arfer gwael wrth eu clymu yn awgrymu nad yw'r cod ymarfer yn effeithiol. Rwy'n gofyn am ganllawiau sy'n fwy caeth, newidiadau ynglŷn ag arferion gorfodi a newid deddfwriaethol i roi mwy o anogaeth i beidio â chlymu ceffylau am amser maith a rhwystro hynny, sy'n rhywbeth sy'n digwydd yn aml iawn ar safleoedd heb unrhyw laswellt o gwbl bron iawn a lle mae'r ceffylau yn cael eu gadael y tu allan yn y glaw, ac fe welwn ni lawer iawn o hwnnw yng Nghymru.

14:20

Diolch, Mike. Rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o'r enw da sydd gennym ni o ran lles anifeiliaid yn Llywodraeth Lafur Cymru. Rwy'n falch iawn o'r holl fesurau y gwnaethom ni eu cymryd i wella cyflwr anifeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys deddf Lucy, yr wyf i'n gwybod i Lesley Griffiths fod yn eiddgar iawn i sicrhau bod honno'n mynd ar y llyfrau statud.

Dim ond gair am glymu, nid yw hynny'n anghyfreithlon, ond ni ddylid defnyddio hynny fyth fel dull rheoli hirdymor. Mae ein cod ymarfer ni'n eglur iawn yn hyn o beth eisoes ac yn nodi amodau caeth ar gyfer clymu, sy'n cynnwys argaeledd dŵr, bwyd, lloches a goruchwyliaeth reolaidd. Fe ddiweddarwyd ein cod ymarfer yn 2018, yn dilyn cyngor arbenigol gan Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, sy'n cynnwys y sector lles ceffylau. Lle nad yw safonau lles yn cael eu bodloni, mae angen i'r awdurdodau lleol ymchwilio ac mae angen iddyn nhw atafaelu'r anifeiliaid sy'n dioddef, pan fo angen gwneud felly.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hynny. Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:22:07
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon; mae’r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory wedi cael eu lleihau i 10 munud. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, mi hoffwn i godi heddiw achos Enzo Romano, y chwaraewr pêl-droed ifanc a aned yng Nghaerdydd yn 2009 ond sydd wedi cael ei gais am ddinasyddiaeth Brydeinig wedi ei wrthod ddwywaith. Mi hoffwn i wybod pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi, gan weithio gyda'r Swyddfa Gartref, er mwyn sicrhau bod Enzo yn cael yr hawl hwnnw, oherwydd, fel y byddwch wedi ei weld wythnos diwethaf, dwi’n siŵr, mae Enzo wedi cynrychioli Cymru ar lefel ieuenctid, ac wedi chwarae dros academïau rhai o glybiau blaenllaw Ewrop, gan gynnwys Barcelona. Er gwaethaf cynigion i chwarae i dimau ieuenctid Sbaen a'r Eidal, mae Enzo wedi dewis gwrthod y rhain, gan ddweud ei fod yn benderfynol o gynrychioli Cymru. Mi ddywedodd o ei hun wythnos diwethaf:

'Mae meddwl na allaf i gynrychioli fy ngwlad wrth chwarae pêl-droed oherwydd y sefyllfa hon, yn brifo fi'n fawr iawn.'

Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau gweld Enzo yn chwarae dros Gymru, felly sut mae Llywodraeth Cymru am gefnogi hynny?

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Onid yw hi'n ardderchog fod unigolyn ifanc mor frwdfrydig gennym ni sy'n awyddus i gynrychioli Cymru ac sydd wedi arddangos ei dalent a'i allu hefyd? Fel gwyddoch chi, wrth gwrs, ni chafodd y materion hyn eu datganoli, o ran ei statws ef o ran ei statws mewnfudo, ond fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n rhannu'r sylwadau hyn â mi er mwyn i mi allu codi'r mater hwn gyda'r Gweinidog yn Llywodraeth y DU.

Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddau ddatganiad heddiw, os caf i, y cyntaf oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o ran gwasanaethau niwed gamblo. Rydym ni'n gwybod y bydd yr ardoll gamblo yn dod i Gymru, cyfran o hynny, ar gyfer cefnogi gamblwyr problemus a chymryd camau a buddsoddi mewn gwaith ataliol. Ond mae Ara Recovery wedi cysylltu â mi'n ddiweddar oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ei model comisiynu eisoes ar gyfer dyfodol gwasanaethau yn yr Alban. Mae hynny'n wir yn Lloegr hefyd, o ran Llywodraeth y DU, ond mae hi'n ymddangos bod Cymru ar ei hôl hi. Nid oes unrhyw eglurder ynglŷn â'r hyn a fydd yn digwydd o 1 Ebrill, ac mae angen i ni wneud rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth, gydag amserlen eglur ar gyfer penderfyniadau, cadarnhad o unrhyw drefniadau dros dro a rhywfaint o ymgysylltiad ystyrlon ag Ara a'r rhanddeiliaid eraill cysylltiedig.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael yw un gan yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth o ran lladrad beiciau ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Fe wn i nad Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am blismona yn uniongyrchol, ond fe wn eich bod chi'n cydweithio â Heddlu Trafnidiaeth Prydain o ran teithio ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru. Mae yna broblem: yn ddiweddar fe wnaethon nhw gyhoeddi, Heddlu Trafnidiaeth Prydain felly, eu polisi newydd ar gyfer ymchwilio i ladrad beiciau, ac maen nhw'n dweud na fyddan nhw'n erlyn unrhyw un os caiff beic ei adael am fwy na dwy awr neu os yw'n llai o werth na £200. Rwy'n ystyried hynny'n annerbyniol ac fe hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ofyn iddynt ystyried y polisi hwnnw unwaith eto. Diolch i chi.

14:25

Diolch yn fawr iawn i chi am y ddau gwestiwn yna, ac yn amlwg fe fyddaf i'n codi hyn gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o ran ein sefyllfa bresennol o ran mynd i'r afael â niwed gamblo drwy'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu eisoes ac, yn fy marn i, rydym ni wedi bod ar flaen y gad, fel gwyddoch chi, o ran mynd i'r afael â hyn, ac rwy'n diolch i'r Senedd am ymgysylltu â'r materion hyn hefyd. A diolch i chi am yr adborth a'r cwestiynau gan Ara Recovery. Fe wnaf i'n siŵr y cawn ni ymateb i hynny o ran ein sefyllfa ni yn ystod yr wythnosau hyn sy'n arwain at ddiwedd y chweched Senedd hon ac yn cwblhau'r amserlen honno o ran 1 Ebrill.

Ie, fel roeddech chi'n dweud, ni chafodd plismona ei ddatganoli. Rwy'n falch eich bod chi'n ystyried ei fod yn gwestiwn y dylech chi fod yn ei ofyn i mi oherwydd fe hoffem ni, wrth gwrs, sicrhau bod Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn cwrdd ag anghenion ein cymunedau, ac, wrth gwrs, mae hynny o ran ein gwasanaethau rheilffyrdd, ac mae hyn yn bryderus iawn, yn enwedig o ran ein polisi teithio llesol a'n hymrwymiadau, sef bod beiciau yn cael eu lladrata, ond fe fyddaf i'n gofyn unwaith eto am friffio ar hyn ac, wrth gwrs, yn sicrhau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ymwybodol o'r cwestiwn hwn ac yn mynd ar ei drywydd.

Cyhoeddwyd adroddiad ac argymhellion y Grŵp Cynghori Annibynnol Grid Trydan y Dyfodol i Gymru fis diwethaf ac mae rhagair y Cadeirydd, yr Athro Hywel Thomas, yn awgrymu eu bod nhw wedi cael eu dal yn ôl gan y materion anodd fel ceblau tanddaearol yn hytrach na pheilonau ac, yn siomedig iawn, eu bod nhw wedi methu ag edrych ar y rhwydweithiau gwres y mae angen i ni eu defnyddio yn y lle cyntaf er mwyn i ni yng Nghymru ddefnyddio'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae cynllun dŵr Bethesda yn enghraifft dda o hynny. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Llywodraeth gynhyrchu datganiad i nodi pa mor bell yr ydyn ni wedi mynd gyda'r rhwydweithiau gwres y mae eu hangen nhw arnom ni a'r trafodaethau a gawn ni gyda'r grid i sicrhau bod hynny'n gallu digwydd cyn i ni drosglwyddo'r ynni i reolaeth ganolog, y gellir ei werthu wedyn i ble bynnag y mae ei angen.

Diolch i chi am y cwestiwn yna, Jenny Rathbone, ac am wneud y cysylltiad hwnnw hefyd ag adroddiad Hywel Thomas a'r goblygiadau o ran yr effaith ar y grid. Mae gan rwydweithiau gwres y gallu i fod yn ddarparwr dibynadwy ac effeithlon o wres fforddiadwy carbon isel ledled Cymru ac, wrth gwrs, mae strategaeth wres gennym ni ar gyfer Cymru, sy'n cydnabod eu pwysigrwydd nhw wrth ddatgarboneiddio gwres a chreu swyddi o ansawdd uchel yn ystod y gwaith adeiladu ar hyd y gadwyn werth.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod cam cyntaf rhwydwaith gwres Caerdydd—sydd wedi cael ei roi ar waith yn ddiweddar, gyda chefnogaeth grant oddi wrth Lywodraeth y DU a benthyciad di-log oddi wrth Lywodraeth Cymru, sef cyfanswm o dros £15 miliwn. Ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu rheoleiddio rhwydweithiau gwres, ac Ofgem fydd y rheoleiddiwr, i sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwasanaeth dibynadwy, ynghyd â phrisio teg. Ond mae hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ar hyn o ran yr adroddiad a'r goblygiadau effaith ar y grid, fel rydych chi'n sôn.

Fe hoffwn i godi mater pryderus iawn sydd wedi dod i'm sylw. Mae'n ymwneud â sefydliad yn y trydydd sector sydd wedi gwneud cais am gyllid yn unol â rhaglen grant cydraddoldeb a chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Fe gawson nhw addewid y bydden nhw'n cael clywed o oedden nhw wedi bod yn llwyddiannus erbyn diwedd mis Rhagfyr, gyda disgwyl y byddai'r gwaith yn dechrau yn ail wythnos mis Ionawr, pe byddai'n llwyddiannus. Rydym ni wedi cael 10 diwrnod o fis Chwefror erbyn hyn, ac mae'r sefydliadau a wnaeth geisiadau am y cyllid hwn yn dal i aros i gael gwybod a fuon nhw'n llwyddiannus. Mae hi'n werth nodi mai am dri mis y cynlluniwyd i'r cyllid hwn barhau, gan fod y cam cyntaf i ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth. Mae'r dyddiad cau hwnnw'n dod ymhen ychydig dros chwe wythnos. Nid yn unig bod hyn yn anghyfleus iawn i sefydliadau'r trydydd sector sy'n aros mewn sefyllfa ansicr ac amhendant, ac efallai hyd yn oed yn dal yn ôl ar wneud ceisiadau am gronfeydd eraill o gyllid tra byddan nhw'n aros am newyddion ond ar yr un pryd y mae'n golygu nad yw gwaith hanfodol i wella cynhwysiant a chydraddoldeb yn cael ei wneud.

Fe fyddwn i'n dra diolchgar pe gallech chi edrych ar y sefyllfa anfoddhaol hon yn gyflym iawn, gyda'r bwriad o sicrhau'r eglurder y mae ei angen yn daer ar sefydliadau'r trydydd sector. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn y Senedd hon ynglŷn â'r sefyllfa o ran eich portffolio chi eich hun? Diolch.

14:30

Wel, diolch yn fawr iawn i chi. Diolch yn fawr, Peredur Owen Griffiths. Rhaglen newydd yw hon, y rhaglen grantiau cydraddoldeb a chynhwysiant. Yn fy mhortffolio i y mae hi, ac felly fe wnaethoch i ofyn i'r un iawn wneud gwaith dilynol ar hyn ac ymateb. Fe wn i fod nifer fawr o geisiadau—mae croeso i hynny—wedi cael eu gwneud, ac rwyf innau wedi bod yn monitro ac yn gwirio sut mae hyn yn effeithio ar yr ymgeiswyr. Felly, diolch i chi am dynnu sylw at hyn, ac fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar y rhaglen grantiau cydraddoldeb a chynhwysiant.

Ond hefyd, rwy'n barod iawn, unwaith eto, os ydych chi'n dymuno rhannu eich gwybodaeth gyda mi ynglŷn â'r union sefydliadau sy'n gwneud ceisiadau, i fynd ar drywydd hynny. Ond fe wn i hefyd na ddylai hyn fod yn gyfyngedig i'r flwyddyn ariannol. Mae'n rhaid i ni ystyried hyn o ran yr amser a roddwn ni i sefydliadau allu cyflawni ar eu ceisiadau ar ôl eu cymeradwyo.

Trefnydd, Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd yw ysbyty mwyaf Cymru. Fe ddylai fod yn destun balchder cenedlaethol; yn hytrach, mae wedi mynd yn arwydd o fethiant cenedlaethol. Mae'r aelodau yn sicr o fod yn ymwybodol iawn o broblemau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn cyrraedd y penawdau dro ar ôl tro ledled y wlad, gan wneud yr ysbyty yn ddihareb am fod y gwaethaf drwy'r DU. Fe welsom ni adroddiadau o golomennod yn mynd i mewn i theatrau llawdriniaethau, achosion o ymyrryd ag offer di-haint neu lawfeddygol, a honiadau ynghylch defnyddio cyffuriau, ymladd corfforol a chydberthynas rywiol amhriodol ymhlith y staff. Mae hyn i gyd yn dod ar ben problemau hirsefydlog, dyrys yn yr ysbyty: hen adeiladau sy'n dadfeilio, rheolaeth wan, diffyg hyder staff a phryderon diogelwch difrifol mewn theatrau ac ardaloedd clinigol. 

Nid yw'r amgylchiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi dod o ganlyniad i anlwc; canlyniadau rhagweladwy blynyddoedd o esgeulustod ydyn nhw gan Lywodraeth Lafur Cymru, sy'n rheoli'r GIG yng Nghymru. Eich Llywodraeth chi sy'n pennu'r cyllidebau. Eich Llywodraeth chi sy'n pennu'r blaenoriaethau. Ac felly mae'n rhaid iddi dderbyn y cyfrifoldeb am yr amgylchiadau y mae gofal yn cael ei ddarparu ynddyn nhw yn Ysbyty Athrofaol Cymru heddiw. Felly, a gaf ofyn unwaith eto am ddatganiad ar frys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y camau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r amgylchiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd? Diolch i chi. 

Diolch i chi, Joel James, ac rydych chi'n codi cwestiwn pwysig. Ac, fel gwyddoch chi, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a swyddogion Llywodraeth Cymru, yn cynnal cyfarfodydd gyda'r bwrdd iechyd yn rheolaidd i'w dwyn i gyfrif, gan gynnwys y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2025. 

Rydym ni wedi bod yn eglur iawn gyda'r bwrdd iechyd am yr angen iddo wella'r diwylliant a'r arweinyddiaeth, yn enwedig o ran mynd i'r afael â phryderon a godwyd mewn adolygiadau mewnol diweddar a'r ymateb gan y gweithlu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig myfyrio ar y mater o ran y cyfarfodydd adolygu rheolaidd y mae'r cadeirydd a'r Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn eu cynnal, yn enwedig yr adroddiad gan uned sterileiddio a diheintio'r ysbyty, a'r ffaith bod camau wedi cael eu cymryd o ganlyniad i hynny. 

A hefyd, dim ond gair i ddweud, o ran cyfalaf ac ystadau, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cynlluniau cyfalaf ar gyfer cynnal a chadw o fewn cyfyngiadau'r gyllideb gyfalaf, sy'n cynnwys ymrwymiadau cynnal a chadw sydd dros ben a thu hwnt i'r hyn a wnaeth rhannau eraill o'r DU. Oherwydd mae'r cyfalaf hwnnw'n hanfodol o ran mynd i'r afael â'r materion yn Ysbyty Athrofaol Cymru. 

Ond rydym ni'n eglur iawn ynglŷn â'r angen i wella diwylliant ac arweinyddiaeth, a mynd i'r afael â phryderon a godwyd yn yr adolygiadau diweddar. Ac, wrth gwrs, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i fod â statws uwchgyfeirio lefel 4, ac rydym ni'n gweithio gyda nhw i gytuno ar yr ymyriadau a'r cymorth sy'n briodol. 

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mewn cyfarfod cyhoeddus ddydd Gwener diwethaf yn Nhairgwaith, fe gododd trigolion bryderon am eu profiadau nhw gyda Phartneriaeth Aman Tawe. Mae Partneriaeth Aman Tawe yn gweithio ar draws pedair meddygfa yn fy rhanbarth i, ac ar draws saith meddygfa i gyd. Mae'r bartneriaeth yn gweithredu ar draws dau fwrdd iechyd hefyd—Bae Abertawe a Hywel Dda. Rwy'n bwriadu ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, ond fe hoffwn i ystyriaeth gael ei rhoi i ymchwiliad annibynnol i'r bartneriaeth, ar gyfer clywed pob ochr i'r stori a sicrhau bod pob profiad yn cael gwrandawiad. Diolch yn fawr iawn.

14:35

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Diolch i chi am ddod ag adborth yn ôl o'r cyfarfod pwysig hwnnw a gynhaliwyd yn y gymuned. Mae hi'n bwysig, unwaith eto, eich bod wedi rhoi hyn gerbron heddiw, o ran y pryderon yn lleol ynglŷn â'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd ym meddygfeydd Partneriaeth Aman Tawe. Rwy'n ddiolchgar i chi am ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â hyn. Rwy'n credu bod hyn yn fater o—. Mae hyn yn ymwneud â phryderon lleol sydd wedi cael eu hanfon at fyrddau iechyd prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe gan rai etholwyr. Ond bu ymchwiliad iddyn nhw; mae cwynion ffurfiol yn gyfyngedig, ac fe ymdriniwyd â nhw naill ai'n uniongyrchol gan y practis neu gan y bwrdd iechyd. Ond, ar hyn o bryd, rwy'n deall nad oes unrhyw arwydd o faterion yn ymwneud â rheoleiddio, ac nid oes unrhyw ymyrraeth wedi bod gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ond mae hi'n bwysig mynd ar drywydd hyn nawr, fel roeddech chi'n dweud. Rwy'n credu mai'r neges allweddol yw bod byrddau iechyd yn ymwybodol o bryderon lleol cyfnodol, ond mae'n rhaid bod, yn amlwg, sylfaen o dystiolaeth, o ran materion systemig neu ddiogelwch, o ran ymyrraeth bellach.

Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd mae cynigion i leihau'r staff yn sylweddol yn yr adran gyfrifiadureg. Os bydd hyn yn mynd rhagddo, fe fydd yn effeithio ar recriwtio staff a myfyrwyr am flynyddoedd lawer i'r dyfodol. Rwy'n codi pwysigrwydd cyfrifiadureg a gwyddorau bywyd yn rheolaidd o ran tyfu economi Abertawe. Fe fydd y newidiadau hyn yn effeithio yn ddifrifol ar bosibiliadau twf cyfrifiadureg yn Abertawe a'r cyfle i dyfu economi Abertawe mewn sector cyflog uchel a sgiliau uchel. Mae'r cynnig presennol i leihau'r staff yn weithred o fandaliaeth economaidd, ac fe fydd Abertawe yn dioddef.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Rydych chi'n tynnu sylw, sydd wedi bod yn y wasg hefyd, at y cwrs arbennig hwnnw, ac wrth gwrs, mae yna rai eraill yr effeithir arnyn nhw gan y materion sy'n codi ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy'n deall bod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi dechrau cysylltu ag is-ganghellor y brifysgol i drefnu i gwrdd a thrafod, yn arbennig felly, sut y gellir cefnogi staff yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'r Gweinidog wedi cysylltu ag undebau'r campws hefyd ac mae'n disgwyl i Brifysgol Abertawe weithio yn glòs gyda nhw. Mae yna obeithion, rwy'n deall, y gellir lleihau'r niferoedd o ran cwmpas y diswyddiadau trwy ddulliau gwirfoddol. Rwy'n ddiolchgar am y ffaith eich bod chi wedi codi hyn, yn enwedig o ran maes y gyfadran honno, y cwrs cyfrifiadureg. Ond wrth gwrs, rydym ni'n cofio bod Medr yn ymgysylltu yn agos â'r prifysgolion yng Nghymru, ac yn ceisio deall eu safbwyntiau unigol nhw, i sicrhau eu cynaliadwyedd ariannol yn yr hirdymor.

Roeddwn i'n meddwl tybed a gawn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Trefnydd ei hunan ar y Post Brenhinol. Rwyf i wedi siarad â nifer o weithwyr y post ac aelodau Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu sydd wedi codi pryderon gyda mi ynghylch y Post Brenhinol yn gwahardd goramser am ddosbarthu llythyrau. Er enghraifft, os nad yw gweithiwr post yn gallu gorffen ei rownd oherwydd y nifer fawr o lythyrau sydd ganddo, neu os oes yna rowndiau ychwanegol i'w gwneud, nid oes gwahaniaeth am hynny; mae'r Post Brenhinol wedi gwrthod y goramser hwnnw. Mae yna oblygiadau enfawr i'n hetholwyr ni, a goblygiadau enfawr i'r gwasanaeth oherwydd hynny. Felly, fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i gael datganiad ysgrifenedig gan y Trefnydd, yn amlinellu pa drafodaethau y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi eu cael gyda'r Post Brenhinol, a beth fyddai Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r Post Brenhinol ei wneud yn yr achos hwn.

Diolch i chi, Luke Fletcher, am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, nid mater datganoledig mohono ond, unwaith eto, mae'n golygu cysylltiad a chynrychiolaeth ac felly rwy'n falch eich bod chi wedi dwyn hynny i'm sylw heddiw. Rydym ni'n ymwybodol o'r newidiadau sydd wedi bod, o ran darparu gwasanaethau post a'r effaith y gall hynny ei gael o ran pryderon ynghylch apwyntiadau'r GIG, er enghraifft, ond yr effaith ar y gweithlu yn ogystal â hynny. Mae hwn yn sicr yn fater y dylid ymgysylltu â'r undebau yn ei gylch hefyd, ar gyfer deall yr effeithiau hynny. Felly, diolch i chi am hynna, oherwydd fe fyddaf i'n gwneud sylwadau o ganlyniad i gwestiynau a ofynnir i mi—yr wythnos hon, mewn gwirionedd.

14:40

Rwy'n galw am ddatganiad ar gefnogaeth i rieni a gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn gadeirydd y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, rwyf i wedi cael gwybod am lythyr i rieni a gyhoeddwyd gan y cyfarwyddwr addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a allai beri gofid i rieni a gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ac fe ofynnwyd i mi godi'r mater hwn yn y Siambr. Mae'r llythyr yn rhybuddio nad yw cael ADY yn golygu nad yw rheolau ysgol yn berthnasol, ac mae'n dyfynnu llinell yn ddetholus oddi ar wefan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth a oedd allan o'i chyd-destun yn llwyr. Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru wedi condemnio'r ymagwedd ofidus ac ableddol, yn enwedig o ran teuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd sicrhau'r addasiadau rhesymol y mae gan eu plant hawl gyfreithiol iddyn nhw. Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi cyfeirio'r mater at Gomisiynydd Plant Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wedi egluro nad yw camddehongli ei chanllawiau yn ddefnyddiol ac yn gamarweiniol o bosibl. Mae hyn yn adlewyrchu methiant o ran deall a diwallu anghenion disgyblion awtistig a disgyblion eraill sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sy'n cael ei ailadrodd ar lefel uwch mewn llawer o awdurdodau lleol, sy'n bryderus iawn. Rwy'n galw am ddatganiad ar fyrder yn unol â hynny.

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood. Yn amlwg, nid wyf i'n ymwybodol o'r llythyr arbennig hwn, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eich bod wedi ei dynnu at ein sylw ni heddiw a bod y sefydliadau hynny sydd â'r fath arbenigedd a chefnogaeth, y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ac Anabledd Dysgu Cymru, yn ymgysylltu hefyd. Mater yw hwn i gyngor sir Merthyr Tudful a'i gyfarwyddwr addysg, ac mae hyn ar gofnod nawr o ran y pryderon sy'n cael eu codi am y llythyr hwnnw a'i effaith.

Cymdeithas ddadlau sy'n gwrthod dadlau. Wel, dyma beth newydd. Trefnydd, rwy'n galw am ddatganiad gan eich Llywodraeth yn dilyn penderfyniad gan y gymdeithas ddadlau a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor i wrthod cais gan gynrychiolydd Reform UK i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb, gan ddefnyddio iaith yn eu datganiad sy'n awgrymog a llawn casineb, fel 'hiliol', 'trawsffobig' a 'homoffobig'. Mae gan Reform chwe AS yn San Steffan, dau AS yn y Senedd hon, un Aelod o Senedd yr Alban, 1,000 o gynghorwyr ledled y DU, ac maen nhw'n debygol o ennill llawer mwy ym mis Mai. Yn sicr, yr ateb i'r ddadl nad ydych chi'n cytuno â hi yw dadlau eto, nid ei chanslo. Mae hyn yn gosod cynsail peryglus. Rydym ni'n cydnabod bod Prifysgol Bangor wedi ymbellhau oddi wrth benderfyniad y gymdeithas erbyn hyn ac wedi dweud nad yw hi'n adlewyrchu polisïau'r brifysgol, ac wrth gwrs rydym ni'n croesawu hynny. Fe ddylai prifysgolion fod yn gadarnleoedd rhyddid i lefaru. Felly rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, gan y Llywodraeth hon, ar sut maen nhw'n ceisio helpu i amddiffyn a diogelu rhyddid i lefaru mewn prifysgolion a mynediad teg at ddadl. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, Trefnydd, o'r hyn a welsom ni gan y gymdeithas hon a Phrifysgol Bangor, mae hynny'n anghredadwy ac annerbyniol. Diolch.

Wel, mae hi'n bryderus iawn clywed gennych chi am naws hyn a goblygiadau'r cwestiwn yr ydych chi'n ei godi, Laura Anne Jones. Yn amlwg, mae hyn yn seiliedig ar agenda Reform, onid yw e? Yn amlwg, mae prifysgolion a chymdeithasau eu myfyrwyr nhw'n gweithredu yn annibynnol. Y nhw sy'n cael penderfynu pa ddigwyddiadau y maen nhw'n eu cynnal a pha siaradwyr y maen nhw am eu gwahodd. Ac wrth gwrs fe geir safbwyntiau cryf ar draws y sbectrwm gwleidyddol am faterion rhyddid i lefaru a chynhwysiant a phenderfyniadau a all ysgogi teimladau cryf ar bob ochr. Ond hefyd, a gaf i eich atgoffa chi, Laura Anne Jones, o'n hymgyrch ni sef Mae Casineb yn Brifo Cymru? Ein hymrwymiad ni yw sicrhau ein bod ni'n hyrwyddo undod ac nid gelyniaeth, ein bod ni'n hyrwyddo cydlyniad cymunedol nid ymraniad, sydd wrth gwrs yn sail i lawer o'r pwyntiau sy'n dod i'r amlwg nawr o ran ymatebion a pholisïau Reform.

Trefnydd, fedrwch chi ofyn i'r Gweinidog addysg uwch wneud datganiad ar frys am sylwadau cwbl warthus Reform am Brifysgol Bangor? Mae pennaeth polisi Reform UK, Zia Yusuf, wedi dweud hyn wrth sôn am gyllid Prifysgol Bangor:

'Rwy'n siŵr na fydd dim ots ganddyn nhw golli pob ceiniog o'r cyllid gwladol hwnnw dan lywodraeth Reform.'

Hynny yw, mae Reform yn bygwth cymryd arian mawr oddi ar y brifysgol, ac felly yn peryglu dyfodol y brifysgol. Mae hyn yn dangos nad ydy Reform yn ffit i lywodraethu a dydy Reform ddim yn deall fy etholaeth i. Prifysgol Bangor ydy un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, yn rhoi gwaith i gannoedd, i drydanwyr lleol a darlithwyr sy'n hyfforddi nyrsys a meddygon y dyfodol. Mae sylwadau Reform yn gwbl annerbyniol ac maen nhw am greu panig yn lleol. Mae'r brifysgol yn ganolog i fywyd cymunedol ac economaidd yr ardal ac wedi cael ei sefydlu drwy ymdrech chwarelwyr Arfon. A wnaiff y Llywodraeth ymuno efo fi i gondemnio'r datganiad yma gan Reform ar unwaith? Mae bwlian a bygwth ein sefydliadau addysg uwch ni à la Trump yn gwbl, gwbl warthus ac yn mynd yn hollol groes i'n gwerthoedd yma yng Nghymru.  

14:45

Wel, diolch yn fawr, Siân Gwenllian am eich cwestiwn pwysig iawn. 

Rwyf i wedi rhoi ymateb cadarn iawn eisoes i Laura Anne Jones. Er hynny, rwy'n pryderu llawer iawn ynglŷn â i ble mae hyn yn arwain o ran y bygythiad hwnnw i'n prifysgolion ni, sydd, fel rwy'n dweud, yn gweithredu yn annibynnol. Hefyd, a gaf i ddweud pa mor falch yr wyf i o'n sefydliadau addysg uwch o ran y ffordd maen nhw'n anwesu ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a'n galluogi ni i sicrhau mai lleoedd lle gall pobl ddysgu, trafod yn rhydd ac yn agored yw ein prifysgolion ni. Mae bygythiad o'r fath o ran cyllid cyhoeddus yn ofnadwy o beth, ac rwy'n cytuno â'ch pwyntiau chi ynglŷn â hyn, yn enwedig am eich bod chi'n ei wasanaethu yn eich etholaeth chi.

Fe hoffwn i alw am ddatganiad y prynhawn yma, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros annerbyniol ar gyfer gofal gastroenteroleg a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl ag anhwylderau bwyta difrifol. Ledled Cymru, mae nifer y cleifion ar restrau aros atgyfeirio i driniaeth wedi cynyddu hyd at oddeutu 781,000 o lwybrau, ac mae amseroedd aros arferol ar gyfer y rhain wedi bod yn fwy na thair blynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan greu ôl-groniad ac oediadau o ran gofal. Mae'r rhai sydd â symptomau gastroenteroleg cymhleth yn aros am ormod o amser am eu triniaethau, ac fe all hynny arwain at waethygiad yn eu cyflyrau gyda chanlyniadau difrifol i hynny, yn ogystal â chreu ôl-groniadau a all oedi diagnosis a gweithdrefnau diagnostig hanfodol, fel endosgopi. Ar yr un pryd, fe wyddom ni fod niferoedd anhwylderau bwyta yn cynyddu, gydag elusen anhwylderau bwyta Beat yn dweud eu bod nhw wedi gweld galwadau yn cynyddu hyd at seithwaith oddi wrth bobl ifanc sy'n ymgyflwyno gydag anhwylder cymeriant bwyd osgoi/cyfyngol, ond mae gofal arbenigol yn dal i fod yn anodd ei gael ac mae amseroedd aros yn dal i fod yn rhy hir. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd yn eu cymryd i sicrhau bod amseroedd aros gastroenteroleg yn cael eu byrhau, fel bydd asesiadau a llwybrau triniaeth ar gyfer pobl ag anhwylderau bwyta ac anawsterau bwydo cymhleth yn rhai amserol a thosturiol?

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Fel gwyddoch chi, mae cynnydd wedi bod ers y mesurau arbennig, o ran bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr: gwell llywodraethu ariannol, bwrdd sefydlog yn ei le, a hefyd o ran cynnydd o ran mynediad at ofal wedi'i gynllunio dros y tair blynedd diwethaf. Ac os ydych chi'n gweld y cynnydd hwnnw, mae hwnnw'n ostyngiad o 60 y cant yn nifer y llwybrau sy'n aros am dros 104 wythnos am eu triniaethau ers mis Chwefror 2023. Mae hi'n wir fod rhai pobl yn aros yn rhy hir i gael mynediad at wasanaethau ac rydych chi wedi rhoi  hynny ar yr agenda heddiw—ar y cofnod heddiw—y pryderon ynglŷn â gastroenteroleg yn arbennig. Ond mae hi'n wir hefyd fod aros am apwyntiadau cleifion allanol wedi gostwng 22 y cant, ac arosiadau o ddwy flynedd am apwyntiadau cleifion allanol 80 y cant, a gostyngiad o 71.6 y cant yn y llwybrau sy'n aros am fwy na blwyddyn mewn rhai arbenigeddau sydd wedi cael effaith a gwella gwasanaethau i bobl yn y gogledd hefyd.

14:50

Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ganserau nad oes cymaint o fodd eu goroesi, yn enwedig o ran yr anghydraddoldebau cyllido a thriniaeth sy'n bodoli? Mae un o'm hetholwyr i, sy'n byw gyda chanser cam 4, ar ôl cael diagnosis o ganser yr oesoffagws yn 2022, wedi rhannu ei brofiad gyda mi, ar ôl bod dan ofal byrddau iechyd amrywiol, yn cynnwys Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, yn ogystal â Felindre. Roedd ef yn egluro bod y cyllid ar gyfer ymchwil yn dal i fod yn llawer rhy fychan, gyda rhai canserau yn cael dros £310 o gyllid ymchwil i bob claf sy'n marw ohono, tra bod canser yr oesoffagws yn cael dim ond £40. Nid mater o ran cyllid yn unig yw hwn ychwaith, Ysgrifennydd Cabinet. Mae cleifion yn Lloegr yn elwa ar nod amser aros o 31 diwrnod ar gyfer gofal eilaidd ar gyfer canser, ond nid oes gan Gymru nod penodol fel hwn, mae hyn yn rhoi cleifion â chlefydau datblygedig mewn loteri cod post. Mae systemau cyfrifiadurol gennym ni sy'n anghydnaws â'i gilydd, sy'n golygu nad yw arbenigwyr yng Nghaerdydd yn aml yn gallu cael gafael ar sganiau sy'n cael eu gwneud mewn byrddau iechyd eraill, sy'n achosi oediadau peryglus o ran gofal sensitif i amser. Mae endosgopi yn hanfodol ar gyfer diagnosis cynnar, ond ar hyn o bryd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd â'r rhestr aros hwyaf ar gyfer y weithdrefn hon yn y Deyrnas Unedig i gyd. Ac er ei fod yn gysylltiedig ag ysmygu ac alcohol yn y gorffennol, mae nifer cynyddol o gleifion, gan gynnwys fy etholwr i, sydd wedi byw mewn ffordd iach ac nid yw'n ysmygwr, yn cael diagnosis o'r math hwn o ganser. Gweinidog Busnes, ni allwn ni wella cyfraddau goroesi os yw'r Llywodraeth yn dal i roi rhy ychydig o arian at ymchwilio i'r union ganserau sy'n hawlio'r nifer fwyaf o fywydau yma yng Nghymru. Fe fyddai datganiad y Llywodraeth yn amlinellu pa gamau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i unioni'r sefyllfa hon yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn. Diolch i chi.

Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar weithio gyda'r GIG i wella gwasanaethau canser gydag argaeledd diagnosis a thriniaeth ar gam cynharach. Mae mwy i'w wneud eto o ran atal, triniaeth ac ymchwil, ond rydym ni wedi buddsoddi degau o filiynau o bunnau mewn cyfleusterau canser newydd, offer, systemau digidol, hyfforddiant gweithlu a thriniaethau hefyd yn rhan o'n rhaglen adfer canser gwerth £2 filiwn, sy'n cefnogi byrddau iechyd i wella amseroedd aros canser. Ac, wrth gwrs, mae'r galw hirdymor am ymchwiliadau canser, cymhlethdod gofal a darpariaeth yn cynyddu yn gynt, ac mae angen i ni sicrhau bod capasiti yn y GIG i'w gyflawni. 

Wythnos diwethaf, Trefnydd, fe godais i'r mater gyda chi fy mod i o'r farn fod yr Ysgrifennydd iechyd wedi camarwain y Senedd hon, pan wnaeth ddatganiad nad oes unrhyw un ym Mhowys yn aros am fwy na blwyddyn am ei apwyntiad cleifion allanol cyntaf neu ddwy flynedd am driniaeth. Yn eich ymateb i mi, ar wahân i chi ddweud y dylwn fod yn ofalus am yr iaith yr wyf yn ei defnyddio, fe wnaethoch chi ofyn i mi edrych ar y datganiad unwaith eto ac edrych ar y cofnodion ystadegol o ran yr ystadegau amseroedd aros. Fe allaf eich sicrhau fy mod i wedi gwneud hynny eisoes cyn ei godi, dyna pam y codais i'r mater. Felly, a gaf i ofyn i chi, Trefnydd, a ydych chi nawr wedi edrych unwaith eto ar y datganiad ac a ydych chi wedi edrych ar yr ystadegau amseroedd aros ar gyfer Powys? Rwy'n tybio i chi wneud felly, o ystyried bod y mater wedi trethu cymaint ar eich meddwl chi. Os gwnaethoch chi hynny, rydych chi'n ymwybodol bod 185 o bobl ym Mhowys yn aros am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf, a'r ffigur hwnnw yw'r cleifion hynny ym Mhowys sy'n aros mewn byrddau iechyd eraill yng Nghymru, heb sôn am y rhai sy'n aros mewn byrddau iechyd yn Lloegr. Mae hynny'n llawer uwch na sero, onid yw e, Trefnydd, ac nid yw hynny'n golygu 'neb'? Roedd datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet yn gamarweiniol a phe byddech chi wedi gwirio'r wybodaeth eich hunan, fe fyddech chi'n ymwybodol o hynny. Mae hi'n peri cymaint o rwystredigaeth i bobl sy'n aros mewn poen wrth gael y fath wybodaeth gamarweiniol. Felly, a gaf i ofyn i chi, Trefnydd, i ofyn i'r Ysgrifennydd iechyd wneud datganiad i'r Senedd hon, i ymddiheuro ac  egluro'r union sefyllfa?

Cyn i'r Trefnydd ateb, a gaf i atgoffa'r Aelod i fod yn ofalus o ran ei iaith, os gwelwch yn dda? Fe wnes i fynegi hynny'r wythnos diwethaf ac fe siaradais i o'r neilltu ag ef i fynegi fy marn ar yr hyn a ddywedodd ef. Nid oedd unrhyw angen ailadrodd hyn yr wythnos hon, am ei fod eisoes ar y cofnod. Rydych chi'n nodi nawr—mewn gwirionedd, rydych chi'n datgan yn bendant—ei fod ef wedi gwneud datganiadau camarweiniol—

—ac rwy'n credu bod honno'n sefyllfa beryglus iawn. Rwy'n ofalus iawn ac yn ymwybodol o'r hyn sy'n cael ei ddweud yn y Siambr hon a sut mae hynny'n cael ei ddehongli. Rwy'n gofyn i bob Aelod fod yn ofalus sut y byddwch chi'n mynegi eich cwestiynau, os gwelwch yn dda. Rwy'n gofyn hynny i bob Aelod o ran sut y byddwch chi'n mynegi eich cwestiynau, os gwelwch yn dda.

Wel, diolch i chi am eich cwestiwn, Russell George. Rydych chi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i leihau amseroedd aros, gan sicrhau bod gan bawb yng Nghymru, gan gynnwys y rhai ym Mhowys, fynediad cyfartal ac amserol at driniaeth, ac fe gefnogwyd hyn gan £120 miliwn yn ychwanegol eleni, sy'n cynnwys cyllid newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd newydd dderbyn dros £115,000 fel darparwr i gefnogi gwelliannau mewn gofal wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Ond fe wyddoch chi wrth gwrs, i lawer o drigolion Powys, fod triniaethau yn digwydd mewn ysbytai yn Lloegr am nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth ac mae'n dibynnu ar gomisiynu trawsffiniol. Ac, wrth gwrs, mae'r bwrdd wedi cymeradwyo newidiadau i alinio gofal wedi'i gynllunio â'r cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio a gomisiynwyd gan ddarparwyr yng Nghymru a Lloegr â nodau adferiad GIG Cymru, a ddaeth i rym—rwy'n siŵr fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb i'r pwynt hwn—yn ymddiriedolaethau Robert Jones ac Agnes Hunt a Dyffryn Gwy o 1 Gorffennaf. Serch hynny, nid yw ymddiriedolaeth GIG Amwythig a Telford wedi gweithredu'r bwriadau comisiynu newydd, ond maen nhw wedi cael y cyllid ychwanegol hwn er mwyn iddyn nhw symud ymlaen. Mae hi'n bwysig iawn fy mod i'n dweud nawr fod y bwrdd iechyd wedi cael £12.5 miliwn ychwanegol o gyllid yn ystod y flwyddyn yn 2024-25 i'w gefnogi i gynnig mynediad diogel ac amserol i'w boblogaeth drigiannol, a oedd yn cynnwys cydnabyddiaeth o'r costau ychwanegol i'r bwrdd iechyd o'r sefyllfa o ran comisiynu ar gyfer trigolion Powys sy'n cael eu trin yn Lloegr er mwyn bodloni targed amseroedd aros Cymru. Dyna'r sicrwydd y gallwn ni ei roi.

14:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol? A hynny'n arbennig felly yng ngoleuni ryddhad cofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf gan Gyngor Abertawe o oedd yn cadarnhau'r bwriad na fyddai clwb rygbi'r Gweilch yn bodoli y tu hwnt i 2027. Nawr, mae hwn yn bryder difrifol i gefnogwyr y Gweilch yn Abertawe a thu hwnt a gafodd eu trin, yn hollol onest, yn ofnadwy gan Undeb Rygbi Cymru, gydag ychydig iawn o dryloywder ynglŷn â'r hyn sydd am ddigwydd o ran dyfodol eu clwb. Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog yn bresennol yma ac yn gwrando ar hyn, oherwydd fe fydd ef yn gwybod bod y cefnogwyr hynny yn haeddu llawer gwell na'r hyn a gawson nhw gan URC ac eraill hyd yn hyn. O ystyried y berthynas barhaus rhwng Undeb Rygbi Cymru a Llywodraeth Cymru, mae hi'n bwysig hefyd, rwy'n credu, bod y cefnogwyr yn cael gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, a dyna pam rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog i allu egluro safbwynt Llywodraeth Cymru a'i pherthynas, a'r hyn yn union y mae hi'n ei wneud i amddiffyn y Gweilch ac amddiffyn rygbi proffesiynol yn ardal Abertawe.

Diolch yn fawr iawn i chi, a diolch i chi am ofyn y cwestiwn hwn sy'n achos pryder mawr iawn ar hyn o bryd, yn amlwg. Wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod angerdd ac ymroddiad y chwaraewyr, y gwirfoddolwyr a'r cefnogwyr yn y gamp, ac rydym ni'n awyddus i weld chwaraeon yn ffynnu ar bob haen. Ond, wrth gwrs, Undeb Rygbi Cymru sy'n gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn â'r dyfodol, boed hynny ar lefel gymunedol neu broffesiynol. A chan fod hwnnw'n sefydliad annibynnol, nid yw'r pwerau gennym ni i ymyrryd yn y penderfyniadau sy'n cael gwneud ac nid ydym ni'n gallu cyfarwyddo URC. Ond fe wnaethom ni annog—ac fe wn i fod y Gweinidog wedi annog—URC i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau ynglŷn â dyfodol y gamp yn cael eu trin gan ddefnyddio trafodaethau sy'n agored, a thryloywder ac ystyriaeth o'u goblygiadau yn fwy eang i'r clybiau, y chwaraewyr, y cefnogwyr a'r rhanddeiliaid i gyd sydd â diddordeb yn nyfodol y gamp yng Nghymru.

3. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Wythnos Prentisiaethau

Eitem 3 yw'r datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar wythnos prentisiaethau. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n bleser mawr ymuno â chi wrth i ni nodi Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026. Mae'r wythnos hon yn dathlu'r bobl a'r partneriaethau sy'n ysgogi ein system sgiliau ac yn cefnogi Cymru sy'n decach, yn wyrddach ac yn fwy ffyniannus.

Rwy'n falch iawn, Llywydd, y byddwn yn rhagori ar ein hymrwymiad i greu 100,000 o gyfleoedd prentisiaethau yn ystod tymor y Senedd hon, gyda disgwyl y bydd mwy na 104,000 wedi eu creu cyn iddo ddiweddu. Cafodd hyn ei gyflawni yn ystod cyfnod o bwysau ariannol gwirioneddol ac mae'n adlewyrchu ymroddiad darparwyr, cyflogwyr a dysgwyr, gyda chefnogaeth buddsoddiad parhaus oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae ein cyllideb ni ar gyfer 2026–27 yn cynnwys £7.4 miliwn ychwanegol ar gyfer prentisiaethau, sy'n cryfhau sefydlogrwydd hirdymor.

Llywydd, ni fyddaf i fyth yn blino ar sôn i mi fod yn brentis peirianneg un tro. Nid yn unig y rhoddodd hynny'r sgiliau i mi ffynnu wrth fod yn beiriannydd, ond fe roddodd hyder i mi hefyd o ran mynd i mewn i wahanol feysydd gan gynnwys eistedd yn eich plith chi yn y Senedd heddiw. Fel dywedais i o'r blaen, fe hoffwn weld mwy o gyn-brentisiaid yn eistedd yn y lle hwn.

Drwy gydol wythnos prentisiaethau, mae Aelodau'r Cabinet yn ymweld â safleoedd prentisiaethau, yn cwrdd â phrentisiaid, ac yn cwrdd â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled y wlad. Yn ddiweddar, fe es i wobrau prentisiaethau Grŵp NPTC a gweld drosof fy hun yr effaith y gall prentisiaethau ei chael ar fywydau pobl Cymru. Roedd yn ysbrydoledig ac yn ddarostyngol.

Mae prentisiaethau yn ganolog i ddatblygu ein gweithlu yn y dyfodol ac maen nhw'n ganolog i sicrhau bod cyfleoedd yn cyrraedd pob rhan o'r wlad. Yn ystod wythnos brentisiaeth eleni, byddaf yn cwrdd â phrentisiaid yn AerFin yng Nghasnewydd, fferm wynt Pen y Cymoedd gyda Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, ac, yn fy etholaeth fy hun, prentisiaid o Toyota. Rwy'n teimlo'n gyffrous i weld a rhannu'r cyfraniad sylweddol y mae prentisiaid yn ei wneud i awyrofod, ynni adnewyddadwy ac adeiladu modern—gan gryfhau ein heconomi a helpu i lunio Cymru yn wlad y dyfodol.

Mae ein datganiad polisi prentisiaethau yn gosod blaenoriaethau ynghylch sectorau strategol, y trawsnewid i sero net, mynediad teg, cynnydd, a phartneriaeth. Wrth i ofynion yr economi newid, mae Cymru'n parhau i addasu ei system sgiliau. Rydym yn cydweithio â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, Medr a Chymwysterau Cymru i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.

Fel y gwyddoch chi, mae Medr ar hyn o bryd yn ymgynghori ar y rhaglen brentisiaeth nesaf, sy'n cael ei lansio ym mis Awst 2027, i sicrhau ei bod yn hyblyg, yn gynhwysol ac yn cyd-fynd ag anghenion economaidd yn y dyfodol. Yn sail i'r system, mae Cymwysterau Cymru yn darparu'r rheoliad annibynnol sy'n cynnal ansawdd, gan helpu i sicrhau rhagoriaeth yn y llif sgiliau yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru, Medr a Chymwysterau Cymru yn cefnogi system gydlynol a dibynadwy sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol i bobl a chyflogwyr Cymru.

Mae'r system hon yn gweithio. O ganlyniad i'n cydweithrediad cryf mewn ymateb i anghenion diwydiant a chyflogwyr, rwy'n falch heddiw o gadarnhau llwybrau prentisiaeth lefel 2 newydd mewn gosod brics, gwaith coed ar safle, gosod sgaffaldiau a chynnal a chadw adeiladau i ddod yn ddiweddarach eleni, gan wella mynediad at grefftau hanfodol a chefnogi meysydd allweddol fel tai, seilwaith a chyflawni sero net. Mae'r datblygiadau hyn yn dilyn ymgysylltiad cryf â'r sector a gweithio'n agos gyda Medr a Chymwysterau Cymru. Gyda'n gilydd, fe wnaethon ni wrando, clywed, ac rydym ni bellach wedi gweithredu. Y tu ôl i bob prentisiaeth mae stori bersonol o dalent ac uchelgais—o beirianneg i goginio proffesiynol—ac rydym yn parhau i weld sut mae prentisiaethau yn meithrin hyder, sgiliau a gyrfaoedd hirdymor.

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru hefyd yn ymwneud ag annog mwy o gyflogwyr i gynnig prentisiaethau ac i elwa ar dalent ffres, syniadau newydd a datblygiad y gweithlu. Mae prentisiaethau yn cefnogi sectorau allweddol yng Nghymru, megis iechyd a gofal cymdeithasol, digidol, peirianneg, gweithgynhyrchu uwch, twristiaeth, lletygarwch a gwasanaethau cyhoeddus. Maent yn sail ac yn cyfrannu at economi gytbwys a chydnerth sy'n seiliedig ar degwch, cynhwysiant a chyfleoedd. Mae prentisiaethau yn sail i economi deg a ffyniannus, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i system sgiliau hyblyg a chydnerth sy'n canolbwyntio ar gyfleoedd.

Nid y Senedd a'n partneriaid hyfforddi yn unig sy'n hyrwyddwyr prentisiaethau. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, a dywedodd wrthyf rywbeth yr hoffwn ei rannu gyda'r Siambr heddiw. O dan ei arweinyddiaeth yn Nhorfaen, mae'r cyngor lleol yn defnyddio prentisiaethau fel dull ysgogi ar gyfer twf cynhwysol, cynaliadwyedd y gweithlu a symudedd cymdeithasol. Mae prentisiaethau yn cael eu defnyddio nid yn unig fel rolau lefel mynediad sydd wedyn yn cael eu hanwybyddu—mae'r prentisiaid yn cael eu cadw ymlaen ac mae eu sgiliau yn cael eu datblygu ymhellach fel rhan o lwybr strategol i yrfaoedd gwasanaeth cyhoeddus cynaliadwy.

O dan y dull newydd hwn, maen nhw wedi penodi 24 o brentisiaid newydd, gyda 12 arall ar y ffordd o fis Ebrill. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd ag uchelgais Cymru fel cenedl Marmot drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy fynediad at waith da. Mae Torfaen yn dangos sut olwg sydd ar arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus modern—defnyddio prentisiaethau nid yn unig i lenwi swyddi gwag, ond i agor drysau. Trwy symleiddio recriwtio, targedu allgymorth i'r rhai a fyddai fel arall yn cael eu heithrio, a chefnogi prentisiaid gyda chefnogaeth wirioneddol, mae'r cyngor yn adeiladu gweithlu cryfach wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn uniongyrchol. Rwy'n gobeithio, fel fi, eich bod chi'n gweld yr enghraifft hon yn wirioneddol ysbrydoledig, ac rwy'n siŵr bod nifer o enghreifftiau ledled Cymru gyfan yn hyrwyddo'r math hwn o ddull gweithredu.

Dirprwy Lywydd, gadewch i ni ddathlu cyflawniadau prentisiaid, ymroddiad cyflogwyr, ac ymrwymiad eu darparwyr hyfforddiant. Diolch i bawb y mae eu hymdrechion yn gwneud ein system brentisiaethau yn ysgogiad ar gyfer cyfleoedd a ffyniant yn economi Cymru. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i greu cyfleoedd, llwyddiant ac economi gref, gan wella bywydau i bawb yng Nghymru.

15:05

A gaf i ymuno â'r Gweinidog i ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau am eu gwaith o ddydd i ddydd yn ysbrydoli llawer o'n pobl ifanc yma yng Nghymru, ac sy'n ymladd dros y ddarpariaeth well honno yma yng Nghymru?

Byddwn hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad rydym ni newydd ei gael ar adeiladu lefel 2. Rwy'n gwybod bod hyn wedi cymryd tipyn o amser, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi gweithio'n galed iawn i gyflawni hyn. Ar y nodyn hwnnw, diolchaf iddo hefyd am y sgyrsiau hynny mewn perthynas ag adeiladu lefel 2 a materion eraill o fewn yr agenda prentisiaethau. Rwy'n credu bod nifer ohonom yn y Siambr hon sydd wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn sgyrsiau sgiliau eraill dros y blynyddoedd wedi profi ychydig o drawma ar y cyd o ran ceisio dod o hyd i ffordd ymlaen ar yr agenda hon, yn enwedig pan welsom ni'r toriadau yn y cyllid Ewropeaidd i'n system brentisiaethau yma yng Nghymru.

Hoffwn hefyd nodi bod gennym y ffair brentisiaethau yfory yn y Senedd rhwng 11:00 a 14:00. Fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau, byddwn yn annog pawb i ddod. Os oeddech chi yno y llynedd, byddech wedi gweld rhai o'r cyrsiau gwych sydd ar gael yma yng Nghymru. Y llynedd sylweddolais fy mod yn gallu troi fy llaw at weldio. Mae'n dda gwybod, gydag etholiad yn dod, y gallaf droi fy llaw at rywbeth arall, ond mae'n gyfle gwych i Aelodau hefyd ddysgu at beth y gallent droi ar ôl yr etholiad.

Wrth droi at y datganiad dan sylw, ar yr wyneb, mae'n newyddion da iawn ein bod ni'n gweld y Llywodraeth yn cyrraedd ei tharged, gan ragori ar ei tharged, gyda 104,000 o brentisiaethau yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'n werth cofio bod hwnnw'n darged diwygiedig, am un o'r rhesymau rydw i eisoes wedi'u nodi, sef colli cyllid Ewropeaidd yn cael effaith enfawr. Ond yr hyn roeddwn i eisiau ceisio rhywfaint o eglurder arno gan y Gweinidog oedd pa un a yw'r targed hwnnw'n cynnwys prentisiaid a ddechreuodd ond a dynnodd yn ôl o fewn wyth wythnos gyntaf eu cwrs, oherwydd os yw hynny'n wir, rwy'n credu ei fod yn bwrw ychydig o amheuaeth ynghylch positifrwydd y ffigur hwnnw o 100,000. Oherwydd yn sicr dylem fod yn cyfrif y rhai a orffennodd y prentisiaethau yn hytrach na'r rhai a ddechreuodd prentisiaethau, yn enwedig os o fewn y ffigurau hynny, fod gennych y bobl sy'n gadael o fewn yr wyth wythnos gyntaf. Felly, byddai rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog ar hynny yn cael ei groesawu'n fawr.

Yn ail, rwy'n credu bod yr wythnos brentisiaethau hon yn ymwneud cymaint â dathlu prentisiaethau ag y mae'n ymwneud ag edrych ymlaen at raglen brentisiaethau newydd i Gymru, ac, wrth gwrs, etholiadau'r Senedd ym mis Mai. Hanfod unrhyw economi yw ei phobl, felly, yn fy marn i, prentisiaethau yw un o'r ffyrdd cliriaf er mwyn i ni wireddu'r gred honno. Gydag enillion ar fuddsoddiad o hyd at £18 am bob £1 a wariwyd, mae'n amlwg bod prentisiaethau yn cyflawni gwerth am arian mewn ffordd wych.

Ond yr wythnos diwethaf, cysylltodd dysgwr sy'n gweithio yn y sector digidol ac sydd eisiau symud ymlaen i brentisiaeth gradd lefel 7 â mi. Yn Lloegr, mae'r llwybr hwnnw'n bodoli: prentisiaeth lefel meistr wedi'i ariannu sy'n cwmpasu dadansoddeg data AI a seiberddiogelwch. Ond yng Nghymru, mae'r llwybr galwedigaethol yn dod i ben ar lefel 6. Yna mae'r dysgwr hwnnw yn wynebu tri dewis: aros yn ei unfan, derbyn bod ei hyfforddiant ffurfiol wedi dod i ben, neu adleoli i Loegr.

Rwy'n credu bod yr eironi yn anodd ei anwybyddu pan ddywedir wrthym mai yn y gogledd mae'r dysgwr hwn wedi'i leoli. Mae dysgwyr yn gobeithio mynd i mewn i filoedd o swyddi AI newydd, ond ni allant symud ymlaen y tu hwnt i bwynt penodol. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog pwy fydd yn cael y swyddi hyn o ran twf AI. Pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gallem adeiladu'r sylfaen sgiliau honno yn y gogledd, yn enwedig gyda ffocws ar y parth twf AI hwnnw, a sut mae'n bwriadu ehangu'r cynnig hwnnw yma yng Nghymru?

Mae cefnogaeth drawsbleidiol amlwg i'r agenda prentisiaethau, sy'n amlwg yn y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau, felly mae'n bwysig bod gennym y gefnogaeth drawsbleidiol honno, oherwydd os nad ydym yn cael yr agenda sgiliau yn iawn, yna ni fydd ein holl uchelgeisiau eraill ym mhob portffolio arall yn y Llywodraeth yn cael eu cyflawni. Felly, byddai rhywfaint o eglurder, fel y dywedais i, ar y ffigurau yn cael ei groesawu'n fawr, a byddai rhywfaint o eglurder ar sut y bydd yr agenda honno yn symud ymlaen yn y Senedd nesaf yn ddefnyddiol iawn. Diolch. 

15:10

Diolch i Luke Fletcher am hynna. A gaf i ddiolch iddo yn gyntaf am ei waith fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol gyda Joyce Watson? Diolchaf iddynt am yr holl waith y mae'r ddau yn ei wneud i gefnogi prentisiaethau a'r system brentisiaethau yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at fod yn y ffair brentisiaethau yfory. Rwy'n credu ei fod yn gyfle da iawn i Aelodau'r Senedd weld beth sydd ar gael yn eu cymunedau lleol, ac yna, gobeithio, mynd allan a hyrwyddo prentisiaethau fel cynnig i bawb yn y dyfodol. Fe wnaf y cynnig i'r Aelod: os yw'n penderfynu ymgymryd â phrentisiaeth weldio ac mae angen help arno gyda'i gymhwyster gweithredwyr peirianneg ymarferol yna rwy'n siŵr bod gen i fy ffolderi o dan y gwely yn rhywle, ac rwy'n siŵr y gallwn ddod i ryw fath o drefniant yn y dyfodol.

Diolch iddo am ei eiriau ar brentisiaethau lefel 2 yn y diwydiant adeiladu. Rwy'n ddiolchgar am y sgyrsiau rydym ni wedi'u cael dros gyfnod hir bellach, ac rwy'n falch o allu dweud ein bod ni'n symud ymlaen. Rydym wedi cyhoeddi'r fframweithiau prentisiaethau adeiladu hynny yn y rhai a restrais o'r blaen. Rwy'n credu bod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen. Dyna beth roedd y diwydiant yn dymuno'i gael, ac rwy'n cydnabod hynny'n fawr, ac rydym wedi gallu cyhoeddi'r prentisiaethau hyn. Adeiladu yw sylfaen yr economi, a dylem bob amser ei gefnogi. Ac nid yw'r gwaith hwnnw'n dod i ben. Bydd Medr yn parhau gyda'r adolygiad fframwaith, gan edrych ar gyrsiau pellach a allai fod ar gael. Felly, byddaf yn chwilio am fwy yno.

Ar yr ystadegau, gofynnodd am eglurder. Mae'r ystadegau sy'n fwy na'r targed o 104,000 yn cynnwys y rhai a oedd yn dechrau prentisiaethau. Dyna'r rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, a dyna beth rydym ni wedi'i gyflawni eisoes. Nid wyf am sôn am y pwynt sydd wedi ei ailadrodd o'r blaen ynglŷn â cholli cyllid Ewropeaidd; rwyf am gadw hynny ar gyfer cyfraniad pellach, a fydd rwy'n siŵr, yn dod efallai cyn bo hir. Ond mae'r ystadegau yn rhagori ar—. Ar y pwynt a gododd yr Aelod ynghylch pobl yn cwblhau eu cyrsiau, rydym bob amser yn edrych ar beth mwy y gallwn ei wneud i wneud yn siŵr bod hwnnw'n ffigur uwch eto. Rwy'n credu bod y rhaglen brentisiaeth yng Nghymru yn llwyddiant. Mae'n rhaglen o safon, gyda dros 100,000 yn nhymor y Senedd hon, dros 200,000 yn ystod y degawd diwethaf. Ond, wrth gwrs, rydym ni bob amser yn gweithio gyda chydweithwyr, ac mae Medr yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwnnw, ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud mwy ohono yn y dyfodol.

Rwy'n credu mai dim ond dau bwynt arall oedd yna. Roedd un ar brentisiaethau gradd meistr lefel 7. Roedd gennym ymrwymiad i ehangu prentisiaethau gradd yn nhymor y Senedd hon. Rydym ni wedi gwneud hynny, rydym ni wedi eu hehangu mewn meysydd allweddol. Rwy'n awyddus iawn bod gennym gynnig sy'n helpu i wneud y mwyaf o'r cyfle y mae'r economi yn ei gynnig. Gwn am y sefyllfa y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato. Ar hyn o bryd mae Medr yn mynd trwy eu dull fframwaith. Dylent fod yn ystyried yr holl wybodaeth honno nawr, ac rwy'n credu eu bod yn edrych ar yr hyn y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato fel rhan o'r ohebiaeth rydw i wedi'i dderbyn ac maen nhw wedi'i dderbyn.

Ar ei bwynt ynghylch y gogledd, mae yna lawer o gyfleoedd yn y gogledd ar hyn o bryd sydd wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n gweithio gyda chydweithwyr yn San Steffan o ran y system sgiliau yma. Rwyf eisiau system hyblyg a chynhwysol sy'n ymateb i'r cyfleoedd mawr yn y gogledd i bobl leol gael mynediad iddynt. Cynhaliais uwchgynhadledd sgiliau yn y gogledd fis diwethaf gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Pan edrychwn i'r dyfodol, bydd yn fodlon, rwy'n credu, i nodi bod y Llywodraeth wedi cyflwyno cyllideb o dros £150 miliwn i'r llinell brentisiaeth. Mae'n gynnydd sylweddol eto o'i gymharu â'r llynedd; dyma'r mwyaf y mae'r Llywodraeth hon erioed wedi'i wario ar brentisiaethau. Rwy'n credu bod hynny'n sylfaen dda ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac, yn wir, am gael gweld eich datganiad yn gynharach y prynhawn yma. Rwy'n falch o ymuno i ddathlu wythnos brentisiaethau eleni a chydnabod y gwerth y mae prentisiaethau yn ei roi i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru. Mae'n wych hefyd gweld cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn hyrwyddo llwyddiant eu prentisiaid ac yn tynnu sylw at y budd y mae eu rolau yn ei roi i'r economi ehangach. Rwy'n gwybod bod hwn yn bwnc y mae'r Gweinidog ei hun yn angerddol amdano, fel yr ydych wedi'i godi yn eich datganiad y prynhawn yma.

Rwy'n credu y dylem hefyd ddathlu bod gan Gymru rai o'r rhaglenni prentisiaeth o'r safon uchaf, gyda Chymru yn ymfalchïo yn un o raglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus y DU o ran cyfraddau cwblhau, gyda chyfradd gwblhau gyfartalog o 74 y cant, sy'n perfformio'n well na Lloegr ar 61 y cant a Gogledd Iwerddon ar 62 y cant. Er fy mod yn croesawu'r 100,000 o brentisiaethau a ddarparwyd yn nhymor y Senedd hon, credaf y gallwn gytuno y byddai'n wych gweld y nifer yn llawer uwch, a bod y nifer hwn yn is na tharged Llywodraeth Cymru i greu 125,000. Rwy'n gwybod eich bod wedi cyfeirio at gyllid Ewropeaidd, a roddodd ragwelediad i mi o efallai rhywbeth y byddwch chi'n ymateb iddo yn fy ymateb i'r datganiad. A dim ond i ddweud bod yr addewidion hynny wedi'u gwneud yn 2021, bum mlynedd ar ôl i Gymru a'r DU bleidleisio i adael yr UE, ac yn wir 12 mis ar ôl i ni adael yr UE yn swyddogol. Felly, mae'n rhaid bod gan Lywodraeth Cymru hyder bryd hynny, o ystyried bod yr economi lle yr oedd ar y pryd, y gallech gynhyrchu'r ffigur hwnnw o 125,000, ond rydym ar 100,000, ac rwy'n ei groesawu. Ond hoffwn ofyn i chi, Gweinidog, o ran y rhesymau pam na wnaethom gyrraedd 125,000, o ystyried y realiti gwleidyddol hwnnw sydd gennym ar hyn o bryd. 

Dim ond 1.6 y cant o'r bobl sy'n gadael blwyddyn 11 a 2.9 y cant o'r bobl sy'n gadael blwyddyn 13 yng Nghymru sy'n mynd yn syth i brentisiaethau. Pan edrychwch ar yr ystadegau fel canran, mae'r nifer sy'n manteisio yn dal i fod yn syfrdanol o isel ac mae angen cynyddu. Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw dargedau na dyheadau clir yn y maes hwn. Gyda'r amgylchiadau economaidd gwael sydd wedi'u meithrin gan Lywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4, mae gennym amgylchedd lle mae cwmnïau ledled Cymru yn cael eu datgymell rhag buddsoddi'r amser a'r adnoddau i ddarparu'r oruchwyliaeth, yr hyfforddiant a'r diogelu angenrheidiol sy'n gysylltiedig â derbyn prentisiaid. 

Felly, rydym yn dal i fod ar ei hôl hi o ran prentisiaethau, ac mae hyn yn codi pryderon y byddwn yn gweld draen dawn sylweddol os ceir mwy o opsiynau dros y ffin yn Lloegr. Roedd amcanestyniadau'n awgrymu y bydd tua 10,000 yn llai yn dechrau prentisiaethau yn 2024-25, gyda sefydliadau fel ColegauCymru yn rhybuddio bod hyn yn tanseilio nodau economaidd ac yn torri'r llif o dalent i gyflogwyr. Bu cwymp nodedig yn nifer y dechreuwyr, a adroddwyd gan ystadegau Medr o 2025, a briodolwyd i doriadau cyllid yng nghyllideb 2024. Priodolodd Estyn hefyd y gostyngiad hwn yn y nifer a oedd yn dechrau prentisiaethau i'r gostyngiad o 14 y cant mewn cyllid prentisiaethau. 

Nid oes prinder galw am lafur medrus yng Nghymru, dim ond prinder cyflenwad. Tynnodd adroddiad Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ddiwedd y llynedd sylw at y ffaith bod angen gwneud mwy i hyrwyddo prentisiaethau fel opsiwn hyfyw. Ar hyn o bryd mae Medr yn bwriadu dylunio rhaglen brentisiaeth newydd ar gyfer Cymru, a fydd yn dechrau ar 1 Awst 2027, gydag ymgynghoriad diwydiant yn tynnu sylw at yr angen am gyflawni mwy hyblyg ac i ymateb i'r economi ac anghenion diwydiant sy'n newid.

Gall gwybodaeth a ddarperir i bobl ifanc yn aml fod yn aneglur, yn ddryslyd, yn gamarweiniol neu'n rhagfarnllyd, gan gyfyngu ar ddewisiadau ar sail gwybodaeth a mynediad at lwybrau. Felly, er i ni gydnabod rhai o'r llwyddiannau yn y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru, mae'r ffaith bod nifer y rhai sy'n dechrau yn llai yn bryderus iawn ac yn dangos symudiad i'r cyfeiriad anghywir. Mae'n ymddangos bod y cyngor ar hyn yn glir, sef codi buddsoddiad. Yn ôl y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes, gallai dyblu buddsoddiad mewn prentisiaethau dros dymor y Senedd nesaf gynhyrchu £3.4 biliwn ychwanegol mewn enillion oes i bobl yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf. 

Byddwn hefyd yn awyddus i glywed sut mae'r Gweinidog yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hysbysu'n briodol am eu hopsiynau hyfforddi drwy hyrwyddo prentisiaethau yn well, ac nad ydynt yn teimlo eu bod wedi'u tynnu i mewn i'r system brifysgol. Byddwn hefyd yn falch pe gallai'r Gweinidog amlinellu sut mae mesurau pellach yn cael eu cymryd i gynyddu nifer y rhai sy'n dechrau prentisiaethau, fel nad yw'r targedau yn cael eu methu eto. Yn olaf, byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda diwydiant i nodi prinder sgiliau yn y farchnad lafur a sicrhau bod y rhaglen brentisiaethau yn parhau i fod yn hyblyg. Diolch yn fawr iawn.

15:15

Diolch i Gareth Davies am y gyfres o bwyntiau yna. Rwy'n credu ein bod wedi ymdrin â nifer ohonyn nhw yn y cyfraniad cynt, felly rwyf am geisio peidio â mynd drostyn nhw eto, ond byddaf yn ceisio mynd trwy'r gweddill. A gaf i ddiolch iddo am ei ddechrau cadarnhaol? Rwy'n credu'n wirioneddol, Llywydd, mai dyma un o'r meysydd lle mae'r Senedd yn dod at ei gilydd o ran pwysigrwydd prentisiaethau. Efallai y byddwn yn gwahaniaethu o ran sut rydym ni'n cyrraedd yno a'r holl bethau hynny, ond mae'r syniad o gefnogi prentisiaid a phrentisiaethau yn amlwg yn un y mae'r Senedd yn ei gefnogi, ac rwy'n ddiolchgar am ei safbwynt yna. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am ei gydnabyddiaeth o'r ansawdd uchaf o brentisiaeth, sy'n rhywbeth nad ydym erioed wedi bod eisiau ei osgoi. Rydym eisiau prentisiaethau o safon ac rydym wedi cyflawni 100,000 ohonynt yn nhymor y Senedd hon, ac rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu sylw at y gyfradd gwblhau. Gofynnaf i Luke glywed beth ddywedodd Gareth ar hynny mewn perthynas â'i gwestiwn yn gynharach.

Llywydd, rwy'n falch iawn, ac mae'n falchder personol, i fod yn Weinidog prentisiaethau, yn enwedig o ystyried y ffaith fy mod wedi bod ar hyd y daith honno fy hun. Ac roedd Gareth yn dyfalu'n iawn, ac roeddwn i hefyd yn dyfalu'n iawn ei fod yn mynd i sôn am yr Undeb Ewropeaidd. Dywedwyd wrthym ar y pryd na fyddem yn waeth ein byd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y gyllideb brentisiaethau yn uniongyrchol yn £43 miliwn yn llai o ganlyniad i Brexit. Felly, beth bynnag yw eich barn am Brexit, y canlyniad oedd effaith uniongyrchol o £43 miliwn yn llai bob blwyddyn i'r gyllideb. Mae hynny'n ostyngiad sylweddol i'r gyllideb. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwella'r gyllideb prentisiaethau yn gyson, ac rydym bellach yn buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen, gyda mwy yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Pan ddaw, Gareth—. Nid dyna'r unig effaith sydd wedi'i hwynebu yn y system. Soniais amdanynt yn fy natganiad hefyd, ond roedd pwysau chwyddiant sylweddol ar y pryd pan oedd ei blaid yn rheoli ar lefel y DU. Ond yn erbyn hynny i gyd—. Dyna a gyfrannodd at y cwymp yn nifer y rhai a oedd yn dechrau y cyfeiriodd atynt. Ond gadewch i ni beidio â thanseilio pwysigrwydd hyn, a'r effaith y mae hyn wedi'i chael. Mae prentisiaethau nid yn unig yn cynnig cyfle, maent yn cynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau, ac rydym wedi cefnogi dros 100,000 ohonynt yn nhymor y Senedd hon. Fel y dywedais, yn ystod y cyfnod hwnnw, ar draws y degawd, cefnogwyd dros 200,000 o gyfleoedd prentisiaeth, ym mhob etholaeth unigol, gan gynnwys yn ei etholaeth ei hun, mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys gwasanaeth tân gogledd Cymru ac yn Ysgol Bryn Collen hefyd.

Gofynnodd am ddau bwynt—Llywydd, gallaf weld ei bod hi'n bryd symud ymlaen. Gofynnodd am gefnogaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a sut rydym yn hyrwyddo mynediad i'r cyfleoedd hyn i bobl. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn. Mae gennym fwrdd gweinidogol ar addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Rwy'n cadeirio'r bwrdd hwnnw, ac yna mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn eistedd arno, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn eistedd ar y bwrdd hwnnw. Byddwch wedi clywed yr ymateb i adroddiad y pwyllgor gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yr wythnos diwethaf a gododd yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae ganddyn nhw'r pwyntiau yno lle mae angen i ni wneud hynny. Rwy'n falch o fod wedi bod ar ymweliad heddiw lle buom yn siarad yn uniongyrchol â diwydiant am sut maen nhw'n mynd i ysgolion a hyrwyddo diwydiant fel ffordd ymlaen, a'r llwybr prentisiaeth fel ffordd ymlaen. Rwyf eisiau gweld mwy o hynny.

Y pwynt olaf a ofynnodd oedd ar ddiwydiant a sut rydym yn sefydlu system. Wel, mae Medr ar hyn o bryd yn mynd trwy'r adolygiad fframwaith. Maen nhw wedi cael ymgynghoriad. Maen nhw wedi gwneud hynny gyda diwydiant, gyda chynrychiolwyr masnach. Ond rydym hefyd yn defnyddio partneriaethau fel y bartneriaeth sgiliau ranbarthol i lywio'r tueddiadau yn y dyfodol. Byddwch wedi gweld rhai o'r cyhoeddiadau mawr yn ddiweddar a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau. Rwy'n gobeithio y bydd y system a sefydlwyd drwy Medr yn caniatáu i ni ymateb mewn ffordd a chael system sy'n gydnerth, gyda chefnogaeth gwerth £150 miliwn o fuddsoddiad y flwyddyn nesaf ac yn y blynyddoedd i ddod hefyd. Ac mae gennym hefyd raglenni fel y rhaglen sgiliau hyblyg, sy'n edrych yn sylweddol i mewn i hyn hefyd.

15:20

Gweinidog, roedd yn dda eich clywed yn sôn am AerFin yng Nghasnewydd yn nhermau eich ymweliad diweddar, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi ei fod yn un o'r nifer cynyddol o gwmnïau lleol yng Nghasnewydd sy'n buddsoddi yn eu gweithlu, cwmnïau fel Vishay, UCK, ac yn wir CAF Rail, sy'n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddangos eu bod yn gwerthfawrogi'r boblogaeth leol a'r sgiliau y gall y boblogaeth leol eu rhoi i gwmnïau sydd eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'n pobl ifanc i ddatblygu cynlluniau prentisiaeth fel rhan o hynny. Felly, tybed, Gweinidog, a allech chi fyfyrio ar yr ymweliad hwnnw ag AerFin a chytuno â mi ei bod yn enghraifft dda iawn o'r bartneriaeth honno rhwng pobl ifanc lleol, cwmni blaengar a Llywodraeth Cymru sy'n gweithio er budd y ddwy ochr. 

15:25

Diolch i John Griffiths am hynna. Mae'n gyfnod cyffrous iawn yng Nghasnewydd. Mae Casnewydd yn cael ei chwyldro diwydiannol ei hun, rwy'n credu John, ac mae hynny oherwydd gwaith caled cynrychiolwyr fel chi sy'n hyrwyddo anghenion Casnewydd yn barhaus. Rydych chi'n hollol iawn i gyfeirio at y cwmnïau hynny, ac mae nifer o'r cwmnïau hynny wedi cael mynediad at gyllid trwy'r rhaglen sgiliau hyblyg, gan uwchsgilio eu gweithlu presennol gyda'r sgiliau y mae diwydiant yn dweud wrthym eu bod eu hangen.

Roedd yn wych bod yn AerFin y bore yma am nifer o resymau. Roeddwn i'n gallu cwrdd â phrentisiaid sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy raglen brentisiaeth, ac roeddwn i'n gallu cwrdd â phrentisiaid sydd wedi bod trwy'r rhaglen ac sydd bellach yn asedau i'r busnes eu hunain. Roeddwn i'n gallu cwrdd â phrif swyddog gweithredu AerFin yng Nghasnewydd, a oedd ei hun yn gyn-brentis, ac rwy'n credu mai dyna'n union y dylai wythnos brentisiaethau fod yn ei olygu: cynnig ysbrydoliaeth i'r holl bobl hynny sydd eisiau bod yn brentisiaid yfory i ddweud, 'Dyma'r lefel y gallwch chi ei gyrraedd yn AerFin ac mewn busnesau eraill ledled Cymru—'does dim terfyn mewn gwirionedd.'

John, roeddem yn gallu trafod nifer o bethau yng Nghasnewydd y bore yma ynglŷn â'r hyn y mae'r cwmni yn ei wneud. Maent yn edrych ar gymorth pellach i'w gweithlu yn y dyfodol drwy'r rhaglen brentisiaeth, gobeithio trwy raglen i raddedigion yn y dyfodol, trwy weithgareddau yn ein hysgolion, gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn ein hysgolion, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, a chynnwys profiad gwaith, sy'n un o'r argymhellion gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ac rwy'n credu, y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig.

John, mae yna enghreifftiau fel hyn ledled y wlad. Llywydd, gallem gael 59 yn rhagor o gwestiynau ynglŷn â ble mae busnesau'n cefnogi prentisiaethau oherwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y Siambr hon heddiw. Efallai na fyddaf yn ymwybodol o'r rhain i gyd, ond dim ond adlewyrchiad yw o faint o fuddsoddiad sydd wedi mynd i'r system dros nifer o flynyddoedd bellach, ac rydym yn falch iawn o fod wedi gwneud hynny.

Gweinidog, fel y gwyddoch yn iawn, mae etholwyr o'm rhan i o'r byd yn cael trafferth cael mynediad at brentisiaethau oherwydd y materion trawsffiniol, oherwydd nid yw Medr a Llywodraeth Cymru yn ariannu prentisiaethau y tu allan i Gymru yn gyffredinol. Os ydym eisiau i bobl gael mynediad at fwy o brentisiaethau mewn rhannau ehangach o Gymru, mae angen hyblygrwydd gyda chyllid ar draws ffiniau. Felly, a wnewch chi edrych ar hyn eto—gwn ein bod wedi trafod hyn yn breifat ac yn y Siambr hon o'r blaen—i weld beth allwn ei wneud i sicrhau y gallwn ariannu'r bobl hynny sy'n byw ar y ffin i gael mynediad at brentisiaethau yn Lloegr, fel y gallant ddysgu'r sgiliau hynny a dod â nhw yn ôl i Gymru, a fydd yn helpu i roi hwb i'n heconomi? 

Rwy'n ddiolchgar, James, am y cwestiwn eto, ac am godi'r mater hwn eto. Fe wnes i edrych ar hyn ar ôl y tro diwethaf i chi godi hyn. Mae'n parhau i effeithio ar nifer gymharol fach o bobl, ond rwy'n cymryd y pwynt pan fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar bobl, mae'n cael effaith sylweddol arnynt. Nid yng Nghymru yn unig, mae ar draws y Deyrnas Unedig hefyd, ond rydym fel arfer yn gweld hyn mewn ardaloedd arbenigol lle nad yw cymorth yn cael ei gynnig yng Nghymru ac mae angen iddo fod mewn ardal. Gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod yn gweithio gyda Medr i adolygu opsiynau yn y dyfodol ar gyfer pobl yr effeithir arnynt efallai gan y math hwn o raglen, ac rydym hefyd mewn sgyrsiau gyda gwledydd eraill y DU ynglŷn ag archwilio hyblygrwydd yn y system, lle gellir gwneud achosion sydd wedi'u nodi, fel yr un y soniodd amdano. Rydym ni'n cael y trafodaethau hynny yn weithredol, ac rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau hynny yn symud ymlaen i'r dyfodol. Nid wyf yn credu ei fod yn helpu ei etholwr yn uniongyrchol ar hyn o bryd, ond gobeithio, yn y dyfodol, y gallwn wneud gwahaniaeth yno.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n gwybod eich bod yn rhannu fy safbwyntiau ar bwysigrwydd adeiladu sylfaen sgiliau gref i gefnogi'r buddsoddiad sylweddol mewn ynni adnewyddadwy yr ydym yn ei weld nawr, yn enwedig yn y gogledd. Ddydd Iau yma, byddaf yn ymweld â Choleg Llandrillo yn y Rhyl, ac ar ymweliadau blaenorol rwyf wedi eu helpu drwy rai rhwystrau datblygu a gweld adeiladu'r uned beirianneg newydd wych yno, sy'n cael ei hariannu gan arian Llywodraeth Cymru. Roeddwn hefyd yn yr agoriad swyddogol gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford. Mae wedi bod yn wych gweld y prentisiaid RWE sydd wedi datblygu mewn gwirionedd, ac mae'r lefel uchel o sgiliau a gwybodaeth maen nhw'n eu datblygu ar y safle wedi creu argraff fawr arnaf. Gweinidog, a allech chi ddweud ychydig mwy am sut mae prentisiaid yn fy rhanbarth wedi elwa ar brosiectau fel Gwynt y Môr? Diolch.

Diolchaf i Carolyn Thomas am hynna. Cefais ymweliad gwych â Choleg Llandrillo yn y Rhyl. Roeddwn i'n gallu cerdded heibio'r plac yn dathlu achlysur yr agoriad swyddogol, a agorwyd gan y cyn Brif Weinidog, unwaith eto yn dangos buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y gogledd a diwydiannau pwysig fel yna. Roedd canolfan ragoriaeth y coleg wedi creu argraff fawr arnaf o ran technegwyr gwynt a thechnoleg adnewyddadwy yno, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn mwynhau'r ymweliad ddydd Iau fel rhan o wythnos brentisiaethau.

Mae rhai cyfleoedd gwirioneddol yn y gogledd oherwydd cyhoeddiadau mawr a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn ddiweddar, ac maent yn ymestyn o adweithyddion modiwlaidd bach yn Ynys Môn i'r parthau twf AI yr ydym wedi clywed amdanynt eisoes, parth buddsoddi sir y Fflint a Wrecsam, ac, yn wir, Gwynt y Môr a'r cyhoeddiad newydd am y tyrbinau cyntaf, unwaith eto, yn y 10 mlynedd diwethaf.

Rydym wedi cefnogi prentisiaid yn y gorffennol drwy ganolfan ragoriaeth RWE. Byddaf yn mynd yn ôl i weld rhai ohonyn nhw yn y ganolfan weithrediadau ddydd Iau, rwy'n meddwl, ym mhorthladd Mostyn. Edrychaf ymlaen at hynny. Rwyf eisiau i bobl leol fanteisio ar y cyfleoedd sydd yn y gogledd. Dyna pam y byddaf yn cadeirio a chychwyn uwchgynhadledd sgiliau gogledd Cymru ar ddechrau eleni, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Rwyf eisiau i'r bobl leol fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau.

Rydym wedi cyflawni gwerth £500 miliwn o fuddsoddiad yn y rhaglen brentisiaethau dros dymor y Senedd hon. Rydym wedi sefydlu cyllideb o £150 miliwn ar gyfer y Senedd y flwyddyn nesaf i ddechrau ar hyn. Ac rydym yn gobeithio gweld pob person ar draws arfordir y gogledd yn manteisio ar yr holl gyfleoedd hynny, gan gynnwys yn y gadwyn gyflenwi.

15:30
4. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026

Eitem 4 yw'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford. 

Cynnig NDM9141 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y cynnig. 

Y llynedd, fe wnaethom gadarnhau cynlluniau i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig. Ym mis Tachwedd, cymeradwyodd y Senedd reoliadau sy'n pennu cymhwyso lluosyddion manwerthu ac uwch newydd. Mae rheoliadau heddiw yn rhagnodi gwerthoedd y lluosyddion gwahaniaethol. Bydd y lluosydd manwerthu 30 y cant yn is na'r lluosydd safonol, er mwyn ail-gydbwyso'r system o blaid siopau bach a chanolig. Bydd y budd hwn yn cael ei gefnogi gan ychwanegiad cymedrol o 2.6 y cant ar y lluosydd uwch. 

Os bydd rheoliadau heddiw yn llwyddo, y lluosydd manwerthu fydd 0.350, a'r lluosydd uwch fydd 0.515 yn 2026-27. Yn gyffredinol, yn barod mae 10,000 o siopau manwerthu yng Nghymru nad ydynt yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Bydd y mesur hwn yn lleihau biliau ar gyfer 14,5000 o siopau manwerthu ychwanegol, gyda chyfanswm budd iddynt o tua £20 miliwn. 

A Dirprwy Lywydd, i fod yn glir, os na fydd y rheoliadau'n cael eu cymeradwyo y prynhawn yma, ni fydd y newidiadau hyn yn cael eu gweithredu a bydd y lluosydd safonol sengl yn parhau i fod yn berthnasol i bob eiddo.  

Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o’r rheoliadau, a gofynnaf i’r Aelodau gymeradwyo’r rheoliadau heddiw.

Diolch. Bu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystyried y rheoliadau drafft yr wythnos diwethaf ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys chwe phwynt adrodd technegol a thri phwynt adrodd craffu ar rinweddau. Rwyf am ddod â rhai o'r rhain i sylw'r Senedd.

Mae pwynt adrodd 1 yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam mae amodau penodol ar gyfer cosbau ariannol wedi'u nodi yn y rheoliadau ond nad ydynt wedi'u nodi yn y Ddeddf alluogi. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn credu bod yr amodau hyn yn angenrheidiol i sicrhau nad yw awdurdod bilio yn gosod cosb ariannol ar berson nes bod y broses adolygu wedi'i chwblhau.

Mae pwynt adrodd 3 yn gofyn am eglurhad ynghylch dyddiad dod i rym y rheoliadau hyn a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026, nad yw'n ymddangos eu bod wedi'u dilyniannu'n gywir er mwyn caniatáu i'r diwygiadau weithredu'n iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno a bydd yn diwygio dyddiadau'r diwygiadau sy'n dod i rym cyn eu gwneud.

Mae pwynt adrodd 6 yn tynnu sylw at anghysondeb yn ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gywiro cyn eu gwneud.

Mae pwynt craffu ar rinweddau yr Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn amlygu, er y gellir adolygu ac apelio yn erbyn hysbysiad o dan adran 63K o'r Ddeddf, nad yw'r rheoliadau'n darparu gweithdrefn adolygu neu apelio mewn perthynas â chosb ariannol a osodir o dan reoliad 4. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw'r Ddeddf alluogi yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau sy'n creu'r hawl i apelio yn erbyn cosb ariannol, dim ond yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad adran 63K, ac mae hyn yn adlewyrchu'r bwriad polisi ar gyfer gweithredu'r fframwaith atal osgoi.

15:35

Mi fyddwn i'n hoffi cadarnhau heddiw y bydd Plaid Cymru'n cefnogi'r rheoliadau yma—ddim yn sioc, gobeithio, i'r Ysgrifennydd Cabinet, a minnau wedi crybwyll hynny y tro diwethaf roeddem ni'n trafod hyn. Ond dwi yn meddwl y byddwn i'n hoffi gwneud y pwynt, yn amlwg, o ran croesawu, ein bod ni wedi bod yn annog y Llywodraeth i ddefnyddio pwerau newydd dros ardrethi annomestig er mwyn gwella a chefnogi busnesau lleol ers sbel. Rydym ni'n credu bod hwn yn mynd i greu sefyllfa fwy ffafriol ar gyfer y sector manwerthu, ac felly yn ei groesawu o.

Mi fyddwch chi'n ymwybodol, o drafodaethau blaenorol, o'r cwestiynau a fu o ran peidio cynnwys lletygarwch. Mi fyddwn i'n hoffi cymryd y cyfle hwn i wneud y pwynt eto bod hwn yn sector sydd hefyd angen cefnogaeth, ac y byddwn i, felly, yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth nesaf yn edrych ar ffyrdd i estyn y gefnogaeth sydd ar gael i'r sector hon. Ond dwi'n gobeithio bod y cadarnhad yna yn help i'r Ysgrifennydd Cabinet heddiw o ran deall y byddwn ni'n cefnogi hwn, ond byddem ni'n hoffi gweld y Llywodraeth nesaf yn edrych ar beth arall sy'n bosib i gefnogi busnesau eraill hefyd.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am ei oruchwyliaeth fanwl o'r cynigion. Mae Mike Hedges yn iawn yn ei adroddiad i'r Senedd am ymateb Llywodraeth Cymru.

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi am gefnogaeth Plaid Cymru i beth sydd o flaen y Senedd heddiw. Dwi'n siŵr, ar ôl yr holl waith roedd Luke Fletcher wedi ei wneud i dynnu sylw'r Senedd at y posibiliadau newydd, bydd e'n falch o glywed beth ddywedodd yr Aelod.

Nid yw dwy ran o dair o fusnesau lletygarwch yng Nghymru, yn ôl eu hasesiad eu hunain o'u diwydiant yn talu unrhyw ardrethi eisoes. Fe wnaethom ganolbwyntio'r newidiadau hyn yn fwriadol mewn sector cymharol gul, lle roeddem yn meddwl bod yr achos yr un cryfaf, er mwyn profi'r peirianwaith i weld sut mae'n gweithio. Rwy'n eithaf siŵr y bydd Llywodraeth yn y dyfodol yn dymuno dychwelyd ato i weld a oes mwy o werth polisi y gellir ei dynnu o'r pwerau newydd sydd gan y Senedd yn y maes hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026

Eitem 5 yw'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM9142 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Symudaf y cynnig.

Dirprwy Lywydd, mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu'r elfen olaf ym mhecyn mesurau tymor y Senedd hon i fynd i'r afael ag osgoi ardrethi annomestig, yr ydym wedi'u datblygu drwy gydweithio â llywodraeth leol dros y tymor hwn a'r tymor blaenorol. Amcangyfrifwyd yn flaenorol bod graddfa osgoi ardrethi annomestig yng Nghymru, drwy wahanol ddulliau, o leiaf £10 miliwn i £20 miliwn o refeniw a gollwyd bob blwyddyn. Mae hyn hyd at 2 y cant o'r incwm a dderbynnir o ardrethi annomestig, ac mae llawer o awdurdodau lleol yn credu mai dim ond crib y rhewfryn yw'r amcangyfrif hwnnw. Wrth gwrs, mae'r lleiafrif hwnnw sy'n ceisio osgoi eu rhwymedigaethau nid yn unig yn methu â gwneud cyfraniad teg i wasanaethau lleol, ond maent hefyd yn rhoi yr holl fusnesau cyfreithlon hynny sy'n gwneud y peth iawn dan anfantais fasnachol.

Cafodd gallu'r Senedd i fynd i'r afael â'r mater hwn ei gryfhau'n sylweddol trwy basio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Cyflwynodd honno fframwaith atal osgoi cyffredinol ar gyfer ardrethi annomestig, ac mae'r rheoliadau hyn yn rhoi effaith i'r fframwaith hwn trwy nodi ystod o weithgareddau hysbys a fydd bellach yn cael eu trin fel trefniadau osgoi artiffisial ac felly y gall awdurdodau lleol eu gwrthwynebu. Mae llawer o'r trefniadau osgoi mwyaf adnabyddus yn dibynnu ar fanteisio ar y diffiniad o 'feddiannaeth fuddiol'. Nod trefniadau o'r fath yn aml yw ailosod cymhwysedd y perchennog ar gyfer cyfnod o ryddhad ardrethi eiddo gwag, ond mae manteision eraill hefyd yn bosibl.

Nawr, mae ein fframwaith atal osgoi yn darparu ffordd newydd ymlaen trwy alluogi trefniadau osgoi sy'n ffurfio meddiannaeth artiffisial i gael eu nodi fel y gellir gwrthsefyll y manteision a enillwyd. Mae'r rheoliadau yn diffinio ystod o drefniadau osgoi artiffisial, sy'n dod o fewn pedwar math eang. Mae'r trefniadau hyn yn cwmpasu cytundebau tenantiaeth sydd wedi'u cynllunio i alluogi osgoi; talwyr ardrethi lle mae eu rhwymedigaethau yn cael eu dirwyn i ben yn wirfoddol o dan gyfraith ansolfedd er mwyn osgoi talu ardrethi; nodweddion y talwr ardrethi sy'n ddangosyddion osgoi; a galwedigaethau â nodweddion sydd wedi'u defnyddio i alluogi osgoi.

Mae'r trefniadau hyn wedi'u nodi trwy ymchwil a chydweithrediad ag ymarferwyr awdurdodau lleol. Pan fo trefniant o'r fath yn arwain at fantais trwy ostyngiad mewn ardrethi sy'n daladwy, bydd yr awdurdod lleol yn priodoli atebolrwydd i'r person a fyddai wedi bod yn dalwr ardrethi pe na bai'r trefniant osgoi wedi'i wneud. Ac wrth gwrs, mae'r fframwaith a'r rheoliadau yn darparu mesurau diogelu angenrheidiol. Gall yr awdurdod lleol benderfynu nad yw trefniant a nodwyd yn artiffisial yn yr achos unigol, gan ystyried yr holl amgylchiadau. Mae yna hefyd hawliau adolygu ac apelio yn erbyn gosod atebolrwydd.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig bod y fframwaith yn cael ei gefnogi gan cosb gymesur i'r rhai sy'n dal i fethu â chyflawni eu rhwymedigaethau. Mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol osod cosb am fethu â thalu'r hyn sy'n ddyledus er mwyn gwrthsefyll trefniant osgoi.

Fel arfer, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau. Rwyf wedi ystyried ac ymateb i'r pwyntiau craffu a gafodd eu codi. Bydd nifer fach o fân gywiriadau yn cael eu gwneud i'r rheoliadau cyn eu llofnodi os bydd y Senedd yn eu cymeradwyo'r prynhawn yma. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

15:40

Dim byd pellach i'w ychwanegu. Rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ateb y pwyntiau yn ei sylwadau agoriadol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026

Eitem 6, Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM9140 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Maen nhw'n darparu rheol ad-dalu newydd ar gyfer trafodiadau penodol sy'n ddarostyngedig i'r cyfraddau preswyl uwch o dreth trafodiadau tir. Bydd yr ad-daliad newydd yn berthnasol pan fydd person yn prynu annedd sy'n costio £400,000 neu lai sy'n agored i gyfradd breswyl uwch o dreth trafodiadau tir ac yna'n lesio'r annedd honno i awdurdod lleol yng Nghymru o fewn 18 mis i'r pryniant hwnnw. Rhaid i'r annedd honno gael ei lesio i'r awdurdod lleol am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a bodloni'r holl amodau yn y rheoliadau hyn.

Bwriad yr ad-daliad yw cymell lesio eiddo i awdurdodau lleol Cymru o dan Gynllun Lesio Cymru, cynllun Llywodraeth Cymru sy'n cyfrannu tuag at ddarparu cartrefi am renti fforddiadwy. Byddai trethdalwyr sy'n gymwys ar gyfer yr ad-daliad yn cael ad-daliad yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng treth a dalwyd gan ddefnyddio'r cyfraddau preswyl uwch a threth a gyfrifir gan ddefnyddio'r prif gyfraddau preswyl. Mae'r rheoliadau felly yn cefnogi ymdrechion ehangach i fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a lleihau'r defnydd o lety dros dro. Byddant yn helpu i fynd i'r afael â'r costau sylweddol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol oherwydd llety dros dro ac, yn bwysicaf oll, effaith niweidiol digartrefedd ar unigolion a theuluoedd. Fel bob amser, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ddoe, a gosododd ei adroddiad yr un diwrnod. Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru ar yr achlysur hwn. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys dau bwynt adrodd craffu ar rinweddau, sy'n tynnu sylw at faterion a allai fod o ddiddordeb i'r Senedd. Y cyntaf yw, o dan y rheoliadau, rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau treth datganoledig i gronfa gyfunol Cymru. Mae'r ail bwynt yn un sydd newydd ei ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ynglŷn â phrynu tai sy'n costio dros £400,000 ac sydd wedyn yn cael eu lesio i awdurdod lleol yng Nghymru.

Diolch yn fawr i'r Cadeirydd. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026

Eitem 7 yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford. 

Cynnig NDM9145 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am y tro olaf y prynhawn yma. 

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Maent yn darparu cynnydd yn y gyfradd sy'n berthnasol i'r rheol isafswm treth rhyddhad anheddau lluosog. Mae'r rheol isafswm treth yn sicrhau na all trafodiad fod yn ddi-dreth pan hawlir rhyddhad anheddau lluosog. Mae'r rheol yn ymwneud â phob hawliad rhyddhad anheddau lluosog. Ond, yn ymarferol, mae'n berthnasol yn bennaf i drafodiadau defnydd cymysg, hynny yw, y trafodiadau hynny lle mae anheddau ac eiddo masnachol yn cael eu cyfuno, megis gwerthu siop gyda fflatiau uwchben.

Pan fo'r cyfrifiad cyntaf atebolrwydd i dalu treth mewn trafodiad annedd lluosog yn dangos y bydd yr atebolrwydd yn llai nag 1 y cant o werth yr anheddau hynny, mae'r rheol isafswm treth yn berthnasol. Mae cyfradd y rheol isafswm treth wedi bod yn 1 y cant o'r gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer yr anheddau ers 2011, pan gyflwynwyd y rheol i'r hyn a oedd ar y pryd yn dreth dir y dreth stamp. Fe wnaethom ymgynghori ar ryddhad anheddau lluosog yn 2024. Gan ystyried barn yr ymatebwyr, mae'r rheoliadau hyn yn gweld cynnydd cymedrol yn y gyfradd honno o 1 i 3 y cant. Bydd y cynnydd hwnnw'n gwella tegwch o'i gymharu â thrafodiadau sy'n agored i'r cyfraddau preswyl uwch, gan gynnal triniaeth dreth wahanol a chytbwys ar gyfer trafodiadau defnydd cymysg.

Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad ac, unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn fel y'u gosodwyd heddiw. Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth drwodd. Mae nifer o'r ymatebion hynny yn tynnu sylw at y ffaith y byddai'r rheoliadau hyn yn cosbi buddsoddiadau mewn tai, yn cynyddu costau i ddatblygwyr a landlordiaid, ac yn peryglu arafu'r cyflenwad o gartrefi ar adeg pan fydd y busnesau hynny yn cael trafferth gyda fforddiadwyedd. 

Rydym wedi clywed bod rhyddhad anheddau lluosog yn bodoli i annog buddsoddiad mewn tai a'r sector rhent preifat, ac mae'n helpu i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen ar ein cymunedau. Trwy godi'r isafswm cyfraddau treth, mae'r Llywodraeth yn gwneud y buddsoddiadau hyn yn ddrytach, yn llai deniadol, yn enwedig i'r buddsoddwyr a'r landlordiaid ar raddfa fach hynny, sy'n aml yn darparu nifer sylweddol o eiddo rhent yma yng Nghymru. Ni fyddwn yn disgrifio hyn fel tegwch; yn hytrach mae'n wrthanogaeth i adeiladu, buddsoddi a darparu'r tai sydd eu hangen arnom. 

Mae'r memorandwm esboniadol yn cydnabod y bydd yr effaith ar drethdalwyr yn amrywio, gyda rhai yn talu mwy o dreth nag oedden nhw o dan ryddhad blaenorol, ond nid yw'n dangos sut y bydd y polisi hwn yn cynyddu'r cyflenwad tai neu'n cefnogi'r economi leol. A'n dadl ni yw na all refeniw ychydig uwch gyfiawnhau arafu datblygiad, lleihau swyddi neu gynyddu rhenti. Felly, am y rhesymau hyn, byddwn yn gwrthwynebu'r rheoliadau ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu polisïau sy'n rhoi hwb i'r cyflenwad tai, cefnogi landlordiaid a diogelu swyddi, yn hytrach nag annog rhywun i beidio â buddsoddi trwy gynnydd treth diangen.

Gwrandawais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Sam Rowlands, Dirprwy Lywydd. Mae'n debyg fy mod wedi synnu braidd i'w glywed, o ystyried, yn Lloegr, bod ei Lywodraeth ef, pan oedd Rishi Sunak yn Brif Weinidog, wedi diddymu'r rhyddhad hwn yn gyfan gwbl ar y sail ei fod yn aneffeithiol ac nad oedd yn cyflawni pwrpas y rhyddhad. Rwyf wedi mabwysiadu dull mwy pwyllog na hynny yng Nghymru, nid drwy ddiddymu'r rhyddhad yn gyfan gwbl ond drwy wneud yn siŵr, pan fydd busnesau'n manteisio ar ryddhad anheddau lluosog, eu bod yn dal i wneud cyfraniad at y sylfaen dreth yng Nghymru. O ran y syniad bod hyn yn cael effaith ar y cyflenwad o lety ac ati, mae 30 o drafodiadau y flwyddyn yng Nghymru gyfan sydd erioed wedi elwa ar ryddhad anheddau lluosog. Mae'n set arbenigol iawn o drafodiadau. Trwy fwndelu eiddo gyda'i gilydd, mae pobl yn gallu osgoi'r atebolrwydd i dalu treth y byddent fel arall wedi ei hwynebu pe baent wedi prynu anheddau ar wahân. Maen nhw yn y sefyllfa ffodus iawn o allu gwneud hynny. Mae'r ffaith ein bod yn gofyn iddynt wneud cyfraniad bach ychwanegol—llawer llai nag y byddai'n rhaid iddynt ei wneud pe baent wedi prynu anheddau ar wahân—rwy'n credu ei fod yn enghraifft o degwch ychwanegol yn y system, gan wneud yn siŵr, er ein bod yn ymateb i'r effaith gadarnhaol bosibl drwy ganiatáu i anheddau lluosog gael eu prynu gyda'i gilydd, serch hynny, rydym yn disgwyl i bobl yn y sefyllfa ffodus iawn o allu gwneud hynny wneud cyfraniad. 

15:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026

Eitem 8 yw'r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9144 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:52:18
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch o gyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026, sy'n diwygio Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 i gynnwys gweithgareddau morol domestig. Mae'r Gorchymyn yn dod ag allyriadau morol domestig i gwmpas cynllun masnachu allyriadau'r DU ar gyfer llongau o 5,000 tunnell gros neu uwch o 1 Gorffennaf 2026. Mae'n cymhwyso gostyngiad o 50 y cant yn rhwymedigaethau ildio Cynllun Masnachu Allyriadau y DU (ETS) ar lwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr. Mae'n gohirio cynnwys llongau ar y môr tan fis Ionawr 2027. Mae'n eithrio llongau fferi sy'n gwasanaethu ynysoedd a phenrhynoedd yr Alban o'r cynllun. Mae'n eithrio llongau pysgota o'r cynllun ac mae'n cynyddu cap cyffredinol ar ddyraniadau ETS y DU yn unol â'r cynnydd a ragwelir mewn allyriadau o gyflwyno'r sector morol domestig i ETS y DU. 

Gofynnwyd am gyngor, Dirprwy Lywydd, gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar y cynigion a gwmpesir yn y Gorchymyn. Cynghorodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn erbyn addasu'r cap i gyfrif am gynnwys morol, ar y rhesymeg bod y cap gwreiddiol wedi'i osod ar frig yr ystod gyson â sero net, ac maen nhw'n credu bod pris dyraniadau ETS y DU yn rhy isel i ysgogi datgarboneiddio. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu cynyddu'r cap i gyfrif am gynnwys morol domestig yn ETS y DU oherwydd bod y cap yn gyson â sero net a bydd yn parhau i fod felly gydag ychwanegu dyraniadau ar gyfer y sector morol domestig.

Mae'r cap, i fod yn glir, yn gosod arwydd o brisiau hirdymor i ysgogi datgarboneiddio. Mae'r pris yn cael ei osod gan y farchnad, ac nid rôl awdurdod ETS y DU yw ymyrryd â phris y farchnad trwy ehangu cwmpas. Mae ychwanegu dyraniadau ar gyfer gweithgareddau morol domestig, a thrwy hynny gynnal y cap ar gyfer sectorau presennol, yn rhoi hygrededd i'r cynllun gan ei fod yn sicrhau hyder a rhagweladwyedd parhaus rhanddeiliaid o ran sut y bydd ehangiadau cwmpas y cynllun yn y dyfodol yn cael eu hymgorffori. Trwy gynnwys allyriadau morol domestig yng nghynllun masnachu allyriadau ETS y DU, bydd y cynllun yn cwmpasu mwy o allyriadau o fewn economi'r DU ac yn cael mwy o effaith datgarboneiddio. Felly, byddwn mewn sefyllfa well i gyflawni nodau datgarboneiddio Cymru. 

A gaf i ddiolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu craffu diwyd ar y Gorchymyn hefyd? Rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.

Wrth gwrs, yn ddiweddar, o ganlyniad i bethau da a ddaeth oddi wrth Lywodraeth Geidwadol y DU, fe wnaethom groesawu cyflwyno'r Porthladd Rhydd Celtaidd. Rydym hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ein porthladdoedd yn ei chwarae yma yng Nghymru, nid yn unig wrth ddarparu llwybr i bobl sy'n teithio o ogledd Cymru i Iwerddon ac yn ôl, ond hefyd wrth gludo nwyddau i Gymru. Bydd cynnwys y llongau a'r llongau fferi mwyaf yn y rheoliadau hyn yn ychwanegu straen ar y cwmnïau hyn, megis cynnydd yn y gwaith papur y bydd angen ei gwblhau fel rhan o gydymffurfio â'r rheoliadau hyn, biwrocratiaeth ychwanegol sydd â'r potensial i weithredu fel rhwystr i'r busnesau hyn a'r busnesau sy'n ceisio defnyddio porthladdoedd fel Caergybi er mwyn gweithredu.

Mae'r Cruise Lines International Association eisoes wedi codi cyfres o bryderon ynghylch effeithiau'r rheoliadau hyn, sy'n cynnwys y canlynol: bydd yr atebion sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio yn parhau i fod yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol gan y sector mordeithio, ac mae ehangu ETS mewn perygl o ddargyfeirio'r cronfeydd hyn yn hytrach nag annog y buddsoddiad hwn i'r DU, ac yn arbennig i Gymru; a'r risg y bydd porthladdoedd Cymru a'r DU yn llai cystadleuol na'r rhai y maent yn cystadlu yn eu herbyn yn yr UE i ddenu busnes mordeithio. Gallai hyn danseilio tegwch, gan y gall gorfodi cydymffurfiaeth fod yn gyfyngedig i gwmnïau yn y DU. Gallai cwmnïau'r DU wynebu amlygiad cyfreithiol ac ariannol llawn, tra bod gweithredwyr nad ydynt yn y DU yn gallu osgoi'r cosbau hyn, gan ystumio cystadleuaeth deg a gwanhau uniondeb y cynllun. Oherwydd y straen ychwanegol a'r potensial i'r rheoliadau hyn weithredu fel rhwystr i fusnesau, ni all fy nghyd-Aelodau Ceidwadwyr Cymreig a minnau gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch yn fawr.

15:55

Mae cynrychiolwyr o'r Cruise Lines International Association wedi cysylltu â mi sydd, ochr yn ochr â'r sector llongau ehangach, â nifer o bryderon ynghylch polisi'r Llywodraeth ynghylch y cynllun masnachu allyriadau, fel y soniwyd o'r blaen, a'i ehangu, a sut y gallai wneud porthladdoedd Cymru yn llai cystadleuol. Mae'r diwydiant mordeithio wedi gwneud gostyngiadau sylweddol yn ei ddwysedd carbon yn ei ymrwymiad i fynd ar drywydd allyriadau sero net erbyn 2050. Mae Cruise yn benodol wedi bod yn buddsoddi biliynau o bunnau mewn llongau newydd, technolegau arloesol a pheiriannau sy'n caniatáu hyblygrwydd tanwydd er mwyn gallu defnyddio tanwyddau a thechnolegau di-garbon a bron yn ddi-garbon.

Bydd yr atebion sydd eu hangen i ddatgarboneiddio yn parhau i fod yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol gan y sector mordeithio, ac mae ehangu ETS yn peryglu dargyfeirio'r cronfeydd hyn, yn hytrach nag annog y buddsoddiad hwn yn y DU. Heb ail-fuddsoddi refeniw mewn datgarboneiddio morol, mae hyn yn peryglu dargyfeirio cyfalaf oddi wrth y daith i fynd ar drywydd gweithrediadau sero net erbyn 2050, gan niweidio cystadleurwydd y DU cyn i seilwaith hanfodol fod ar waith. Felly, maen nhw'n gofyn i Lywodraeth Cymru ohirio cynnwys morol yn ETS y DU nes bod tystiolaeth lawn a chanllawiau gweithredu yn cael eu cyhoeddi, gan sicrhau bod gan y diwydiant ddigon o amser i baratoi.

Hoffwn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl refeniw ETS morol yn cael ei neilltuo ar gyfer buddsoddi mewn datgarboneiddio morol, gan gynnwys cyflenwad pŵer ar y tir, tanwyddau yn y dyfodol a seilwaith porthladdoedd, a dilyn dull graddol ar gyfer allyriadau i leihau'r effaith ar fuddsoddiadau a gynlluniwyd a chaniatáu cynllunio yn y dyfodol. O ystyried pwysigrwydd y diwydiant mordeithio a thwristiaeth i'r gogledd, roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig codi'r pwyntiau hyn er mwyn iddynt gael eu clywed heddiw. Diolch.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:58:44
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfraniadau gan Janet Finch-Saunders a gan Carolyn hefyd. A gaf i ddweud, ar y dechrau, ein bod yn croesawu'r ymdrechion sydd eisoes wedi'u gwneud gan y diwydiant mordeithio yn arbennig i ddatgarboneiddio? Bu buddsoddiad yn y fflyd i ddatgarboneiddio. Mae mwy i'w wneud, ond maen nhw'n gwneud hyn. Mae'n galonogol iawn clywed hyn. Rwy'n deall eu bod ar y trywydd iawn, neu maen nhw ar y trywydd iawn yn llwyr i fod yn sero net erbyn 2050, ac mae hynny'n newyddion da iawn.

Ond mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y ffaith bod hyn wedi'i gynllunio i ysgogi datgarboneiddio, ac i ysgogi ystod o sectorau ar hyd y daith honno i ddatgarboneiddio. Mae'r cynllun ETS yn gweithio trwy ysgogi buddsoddiad mewn datgarboneiddio ac yna cosbi'r rhai sy'n llygru. Felly, po gyflymaf y byddwn yn datgarboneiddio, y lleiaf bydd y rhai sy'n cael eu cosbi am lygru. Mae'r ETS, felly, mewn gwirionedd yn gwella'r achos busnes dros fuddsoddi mewn technolegau datgarboneiddio trwy ddarparu cymhelliant clir iawn i barhau â'r llwybr hwnnw ar gyflymder.

Rwyf eisiau troi at y mater o neilltuo, a godwyd gennych. Nid yw refeniw o ETS y DU wedi'i neilltuo ar hyn o bryd, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth uniongyrchol dros sut mae'r refeniw yn cael ei wario. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n gofyn, ond mae'n amhosibl ei wneud. Ond mae Gweinidogion Cymru, yn wir, wedi pwyso'n gyson am fwy o dryloywder yn y ffordd y defnyddir refeniw ETS i gefnogi datgarboneiddio, sector wrth sector, wedi'i gwmpasu gan brisiau carbon. Byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, oherwydd yna gallem nodi o fewn y sectorau hyn sut mae'r arian yn cael ei wario i helpu datgarboneiddio.

Mae morol wedi'i gynnwys yng nghynllun masnachu allyriadau'r UE, sy'n amddiffyn diwydiannau rhag risgiau ailgyfeirio, oherwydd os ydyn nhw'n ailgyfeirio yn unrhyw le yn yr UE, i fod yn glir yma, bydd yn ofynnol iddynt dalu pris carbon, oherwydd ei fod o fewn cynllun yr UE hefyd. Felly, nid oes cwestiwn o ddargyfeirio i borthladd arall i osgoi hyn; mae ar draws yr UE. Mae cynnwys morol domestig yng nghynllun masnachu allyriadau'r DU hefyd, gyda llaw, yn amod allweddol ar gyfer cysylltu'r DU ac ETS yr UE, ac mae trafodaethau ar gyfer y cyswllt hwn, fel y gŵyr yr Aelodau, yn digwydd ar hyn o bryd. Nid ydym o'r farn bod oedi yn angenrheidiol neu'n briodol. Rydym wedi cyhoeddi asesiad effaith, sy'n cyd-fynd â'r memorandwm esboniadol, ac mae'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 2026 a 2046.

I fod yn glir, ar y daith hon yr ydym yn ei gwneud gyda'n gilydd, amcangyfrifir y bydd ehangu cwmpas ETS y DU i forol domestig yn arwain at ostyngiad net o oddeutu 645,000 tunnell o garbon deuocsid a'i gyfatebol i gyd ar draws y sector masnachu cyfan dros y cyfnod hwnnw. Fe'i datblygwyd mewn ymgynghoriad eang â gweithredwyr, grwpiau diwydiant a gweinyddiaethau datganoledig. Rydym yn credu bod hyn yn canolbwyntio'n dda, yn gymesur ac yn cael ei asesu'n dda, ac mae'n helpu'r sector i barhau i ddatgarboneiddio. Ond diolch am y pwyntiau pwysig yna ac rwy'n gobeithio bod y cynnig hwn yn cael cefnogaeth y Siambr heddiw.

16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026

Eitem 9, Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9143 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:02:31
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026. Bydd y rheoliadau hyn yn cau tri chynllun amaethyddol gwaddol yr UE sydd wedi dyddio yng Nghymru, sef y cynllun cymorth ffrwythau a llysiau, y cynllun ymyrraeth gyhoeddus a'r cynllun cymorth storfeydd preifat. Cafodd y cynlluniau hyn eu llunio ar ddiwrnod gwahanol o dan yr Undeb Ewropeaidd, o dan dirwedd bolisi wahanol iawn. Bydd y newidiadau hyn yn symleiddio'r dull o gefnogi ffermio yn ystod cyfnod o argyfwng ac yn caniatáu i ni gefnogi anghenion presennol y sector garddwriaeth a sectorau amaethyddol ehangach Cymru yn well.

Cafodd y cynllun cymorth ffrwythau a llysiau ei gynllunio ym 1996 i helpu garddwriaethwyr ar raddfa fwy i wella effeithlonrwydd. Ers ei sefydlu, nid yw'r cynllun wedi cael unrhyw geisiadau yng Nghymru. Mae hyn oherwydd y rheolau cymhleth sy'n llywodraethu cynlluniau sy'n ei wneud yn anneniadol iawn i'n sector ni. Cafodd y cynlluniau ymyrraeth gyhoeddus a chymorth storfeydd preifat eu cynllunio i wrthsefyll y gorgynhyrchu a ddaeth o'r hen bolisi amaethyddol cyffredin nôl yn y 1980au—ydych chi'n cofio'r cyfnod hwnnw o orgynhyrchu? Maent wedi dod yn llai pwysig ers i'r newidiadau gael eu gwneud i'r polisi hwnnw ym 1992. Nid yw'r cynlluniau hyn wedi cael eu defnyddio yng Nghymru ers dros 20 mlynedd bellach.

Wrth i ni barhau i fireinio dull pwrpasol o roi cymorth amaethyddol yng Nghymru, mae'n bwysig ein bod ni'n adolygu perthnasedd ac effeithiolrwydd a'r defnydd ymarferol o rai o'r dulliau hŷn hyn. Mae hyn yn sicrhau bod y fframwaith cymorth yn parhau i fod yn gyson â'r heriau a wynebir heddiw ac ag anghenion sy'n benodol i'r sector. Mae'r pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 i ymyrryd yn y farchnad yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu dull mwy effeithiol o gefnogi ffermio yn ystod cyfnod o argyfwng, ac mae'r grantiau cyfalaf ar gyfer garddwriaeth a gyflwynwyd gennym yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cefnogi sector sy'n datblygu ac yn tyfu yng Nghymru yn well. Mae galw gwirioneddol am y cymorth rydym wedi'i roi ar waith.

Byddai'r rheoliadau sydd gerbron yr Aelodau heddiw yn gweithredu cau'r cynlluniau etifeddiaeth hyn, nad ydyn nhw wedi cael eu defnyddio yng Nghymru ers dros ddau ddegawd, yn ffurfiol. Mae cau'r cynlluniau yn rhan o'r ymdrechion parhaus i symleiddio a moderneiddio cymorth ar gyfer y sector amaethyddol wrth symud ymlaen. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, Dirprwy Lywydd, bydd y rheoliadau'n dod i rym ar 16 Chwefror 2026.

Er gwybodaeth i'r Senedd, cafodd rhanddeiliaid eu hunain wybod am ein cynlluniau i weithredu'r rheoliadau hyn drwy ymgynghoriad cyhoeddus. Er mai nifer bach o ymatebion a gafwyd i'r cynnig, ac rwy'n amau bod rhywfaint o hynny oherwydd y defnydd annigonol a wnaed ohonynt a rhywfaint o anwybodaeth, i fod yn hollol onest, ynghylch y rhain hefyd, oherwydd doedden nhw ddim wedi cael eu defnyddio ers 20 mlynedd, roedd yr adborth yn gadarnhaol i raddau helaeth. Tynnodd rhanddeiliaid sylw at y ffaith bod natur gymhleth yr hen gynlluniau hyn yn eu hatal rhag cymryd rhan a nodwyd bod angen dull mwy modern, symlach o roi cymorth, sy'n adlewyrchu anghenion presennol garddwriaeth a sectorau amaethyddol ehangach Cymru yn well.

Mae'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol yn rhoi barn deg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig y rheoliadau, ac rwy'n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau'r costau tebygol. Yn olaf, Dirprwy Lywydd, unwaith eto, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiad ar y rheoliadau, yr wyf wedi'i nodi ac yr wyf wedi ymateb iddo hefyd. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

16:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft yr wythnos diwethaf, ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pum pwynt adrodd craffu technegol a dau bwynt adrodd craffu ar rinweddau.

Roedd tri o bwyntiau adrodd craffu technegol y pwyllgor yn tynnu sylw at ddrafftio diffygiol. Mae pwynt adrodd 2 yn tynnu sylw at gyfeiriadau anghywir at 'paragraffau' yn hytrach na 'pwyntiau' yn nhestun y rheoliadau. Mae pwynt adrodd 4 yn tynnu sylw at amwysedd wrth benderfynu ar y ddarpariaeth sydd i'w gwella gan reoliad 10, ac mae pwynt adrodd 5 yn tynnu sylw at gamgymeriad rhifo yn y rheoliadau drafft.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwyntiau technegol a wnaed gan y pwyllgor. Bydd yn gwneud gwelliannau cyn gwneud o ran pwyntiau adrodd 2 a 4. Fodd bynnag, nid yw'n ystyried bod angen cywiro'r gwall ym mhwynt adrodd 5.

Mae pwynt adrodd craffu ar rinweddau cyntaf y pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod ymgynghoriad ar y rheoliadau wedi'i gynnal rhwng mis Mehefin a mis Awst 2025. Dim ond dau ymateb perthnasol a gafwyd i'r ymgynghoriad, yr oedd y ddau ohonynt yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig.

Yn olaf, mae ail bwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn nodi barn Llywodraeth Cymru y bydd y rheoliadau'n lleihau'r risg ariannol a gweinyddol ar gyllid cyhoeddus drwy gau cynlluniau, y mae'n dadlau, nad ydynt o unrhyw ddefnydd i'r sector amaethyddol.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:07:30
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd y pwyllgor. Roeddwn i'n falch ein bod ni wedi gallu ymateb yn eithaf cadarnhaol i'r pwyntiau technegol a'r pwyntiau rhinweddau hynny. Diolch am y gwaith craffu rydych wedi'i wneud ar hyn. Yn sicr, o ran pwynt craffu ar rinweddau 1, yn wir, dim ond nifer bach o ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad, fel y soniais amdano yn fy sylwadau agoriadol, ac rwy'n amau bod hynny oherwydd bod llawer o bobl wedi edrych ar y rhain ac wedi meddwl, 'Beth ydyn nhw? Dydyn nhw ddim wedi cael eu defnyddio ers 20 mlynedd.' Ond roedd y rhai a ymatebodd yn eithaf clir pan ofynnon ni iddyn nhw am eu barn. Nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn ymwybodol, er enghraifft, o'r cynlluniau ymyrraeth gyhoeddus a chymorth storfeydd preifat, ac roedden nhw'n hapus i'r cynlluniau gael eu cau.

O ran pwynt craffu ar rinweddau 2, nodwyd gennym fod adborth cyffredinol yn awgrymu nad oedd y cynlluniau hyn o unrhyw ddefnydd i'r sector amaethyddol yng Nghymru, ac na fyddai eu cau yn cael unrhyw effaith ar y sector yng Nghymru. Ond diolch am y gwaith craffu a wnaethoch ar y pwyntiau hyn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu ymateb. Ond, yn y bôn, nid yw'r cynlluniau hyn yr ydym yn bwriadu eu cau yn weithredol nac yn berthnasol mwyach o fewn fframwaith polisi presennol Cymru, a'r hyn y gallwn ni ei wneud nawr yw canolbwyntio ar ein strwythurau cymorth amaethyddol presennol fel eu bod nhw'n wirioneddol gyfredol, ymarferol ac o ddefnydd i'r sector ffermio a garddwriaethol. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026

Eitem 10 heddiw, Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.

Cynnig NDM9139 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026 yn gwneud diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Reoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 yn dilyn cyflwyno Deddf Hawliau Rhentwyr 2025. Fe wnaeth Deddf 2025 fewnosod dwy adran newydd yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 o ran gofynion newydd ar landlordiaid i gynnwys telerau sylfaenol ychwanegol mewn contractau meddiannaeth er mwyn atal gwahaniaethu gan landlordiaid. Mae'r rheoliadau hyn yn sicrhau bod datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol penodol o gontractau meddiannaeth a gynhyrchwyd o dan Ddeddf 2016 yn cynnwys telerau sylfaenol newydd, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf 2025.

Bydd y telerau sylfaenol newydd hyn yn atal landlord rhag gwahaniaethu yn erbyn deiliad contract gyda phlant neu pan fydd deiliad contract yn cael budd-daliadau. Bydd Gorchymyn Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 (Cychwyn) (Cymru) 2026, yn dod â'r darpariaethau hyn a darpariaethau cysylltiedig eraill yn Neddf 2025 i rym ar 1 Mehefin 2026. Bydd hyn yn cyd-fynd â dyddiad cychwyn y rheoliadau hyn, gan sicrhau bod landlordiaid yn cael digon o amser i ddiweddaru eu contractau meddiannaeth ac i hysbysu deiliaid contractau am y newidiadau hyn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am adrodd ar y rheoliadau hyn a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau.

16:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried y rheoliadau drafft yr wythnos diwethaf, ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Mae unig bwynt adrodd y pwyllgor yn gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch y ddibyniaeth ar rai o'r pwerau a nodir yn y rheoliadau hyn. Yn benodol, mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru egluro sut mae rheoliadau 3 a 4 yn dibynnu ar y pwerau a roddir yn adrannau 141(1) a 141(2) o Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb gan ddweud bod y pwerau'n berthnasol oherwydd bod y rheoliadau'n ganlyniad i ddarpariaeth yn Neddf 2025. Mae'r ymateb yn cynnwys mwy o fanylion ynghylch y cyfiawnhad hwnnw. Cafodd ymateb Llywodraeth Cymru ei nodi gan y pwyllgor.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu)

Eitem 11, cynnig cydsyniad deddfwriaethol, y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jeremy Miles.

Cynnig NDM9138 Jeremy Miles

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau ym Mil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i ddarpariaethau perthnasol y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) 2026. Mae'r rhain wedi'u nodi yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r Bil hwn yn gwneud darpariaeth bwysig ac angenrheidiol ar gyfer blaenoriaethu lleoedd ar raglenni hyfforddiant meddygol y Deyrnas Unedig i fyfyrwyr meddygaeth, o ble bynnag maen nhw'n dod, sydd wedi graddio o ysgolion meddygol yn y wlad. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi hefyd i nifer bach o fyfyrwyr sydd wedi graddio o wledydd eraill. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol llwyddiannus i feddygon sydd wedi hyfforddi yng Nghymru yn ogystal â sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd y meddygon sydd eu hangen arno yn y dyfodol.

I wneud hynny, rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i sicrhau dull cydlynol o flaenoriaethu hyfforddiant meddygol. Mae'r Bil hwn yn sefydlu fframwaith statudol ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer blaenoriaethu ymgeiswyr i raglen sylfaen a rhaglenni hyfforddiant meddygol arbenigol yn ystod cyfnodau o ordanysgrifo. Mae system flaenoriaethu ledled y Deyrnas Unedig yn hanfodol i ddiogelu lleoedd hyfforddiant ar gyfer meddygon sydd wedi hyfforddi yn y wlad. Mae system o'r fath hefyd yn hanfodol i reoli'r pwysau cynyddol sy'n deillio o'r cynnydd mewn ceisiadau. Bydd y dull hwn yn lleihau oedi, yn osgoi dyraniadau cadw lle ac yn caniatáu i'r system addasu dros amser wrth i anghenion y gweithlu esblygu.

Mae'r Bil yn sicrhau dull cydnaws, cydlynol a theg o flaenoriaethu hyfforddiant meddygol ledled y DU. Mae'n sicrhau bod graddedigion o ysgolion meddygol yn y DU, Iwerddon a gwledydd Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn cael cynnig lleoedd hyfforddi o flaen ymgeiswyr cymwys eraill. Mae'n golygu y bydd meddygon sydd wedi dewis hyfforddi yng Nghymru, ni waeth o ble maen nhw'n dod, yn gallu parhau â'u hyfforddiant a'u gyrfaoedd yng Nghymru. Ond rwyf eisiau bod yn glir iawn: nid yw'n golygu y bydd Cymru neu'r DU ar gau i raddedigion meddygol rhyngwladol, wrth gwrs, sydd wedi cefnogi'r GIG, yn bwysig iawn, gyda'u gwasanaeth ymroddedig dros genedlaethau lawer.

Bydd trefniadau pontio yn berthnasol yn 2026, gan gynnwys categorïau dros dro i gefnogi hyfforddeion ac ymgeiswyr presennol sydd â statws mewnfudo penodol. O 2027 ymlaen, bydd gan Weinidogion Cymru, ochr yn ochr â'r Ysgrifennydd Gwladol, bwerau gwneud rheoliadau i bennu grwpiau blaenoriaeth ychwanegol a diwygio'r rhestr o wledydd â blaenoriaeth, lle bo angen, i adlewyrchu rhwymedigaethau rhyngwladol. Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth y DU am eu cydweithrediad o ran elfennau datganoli'r Bil hwn.

Mae system statudol ledled y DU yn osgoi'r risgiau gweithredol, ariannol a'r risgiau i'r gweithlu a fyddai'n codi pe bai'n ofynnol i Gymru ddatblygu cynlluniau hyfforddiant sylfaen neu arbenigol ar wahân. Byddai dargyfeirio o'r model pedair gwlad sefydledig yn creu beichiau gweinyddol sylweddol a gallai pwysau gordanysgrifio gynyddu yng Nghymru. Mae cynnal cysondeb ar draws system hyfforddi'r DU yn cefnogi cynllunio gweithlu effeithiol, yn diogelu mynediad i ymgeiswyr sydd wedi'u hyfforddi yn y DU ac yn sicrhau parhad ar gyfer rhaglenni hyfforddi sy'n cael eu darparu yng Nghymru. Mae'r Bil yn gydnaws â chyfrifoldebau datganoledig ar gyfer cynllunio'r gweithlu ac addysg feddygol.

Bydd y rhan fwyaf o ddarpariaethau'r Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mae cynnal y ddadl hon heddiw yn sicrhau y bydd barn y Senedd yn cael ei chlywed yn glir a'i chynrychioli wrth i'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth wneud ei ffordd yn gyflym trwy ddau Dŷ'r Senedd. Os caiff gwelliannau eraill eu gwneud i'r Bil, byddaf yn sicrhau bod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol wedi'i ddiweddaru yn cael ei osod gerbron y Senedd. Yn olaf, os caiff y Bil ei basio, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'n cymheiriaid yn y DU a chyda phartneriaid a rhanddeiliaid i gefnogi ei weithredu'n effeithiol.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaf siarad yn fyr i gofnodi, yn yr amser cyfyngedig iawn a oedd ar gael i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried yr LCM hwn, mai ychydig iawn o ystyriaeth yr oeddem yn gallu ei rhoi iddo. Cafodd yr LCM ei gyfeirio atom ar 3 Chwefror gyda therfyn amser adrodd o 10 Chwefror. Nid oedd y ffenestr fach hon yn caniatáu i'r pwyllgor wneud ei waith ymchwilio arferol nac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn arbennig o siomedig o ystyried, fel sy'n amlwg o'r memorandwm, fod trafodaethau wedi'u cynnal ar y Bil rhwng y Llywodraethau yn y DU ers peth amser, ac eto ychydig iawn o rybudd a gafodd y Senedd o'r cais am gydsyniad. Mae'r pwyllgor yn gwerthfawrogi bod y Bil yn destun amserlen garlam yn San Steffan, ond ni ddylai hynny, ynddo'i hun, fod yn rheswm i gyfyngu ar y cyfleoedd i bwyllgorau'r Senedd ystyried y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth. Gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet fyfyrio ar hyn, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn nodi pryderon y pwyllgor iechyd yn y maes hwn ac yn gofyn iddyn nhw ystyried y materion hyn fel rhan o'u gwaith gwaddol. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ddoe, a gosododd ei adroddiad heddiw. Mae'r Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu) wedi bod yn destun craffu cyflym yn Senedd y DU, ac fe wnaf ddychwelyd at hynny yn y man.

Yn gyntaf, ac yn fwyaf syml, mae'r pwyllgor yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bod holl ddarpariaethau'r Bil yn ystyried materion sydd wedi'u datganoli i Gymru, ac felly y mae angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer. Wrth gwrs, ar yr achlysur hwn, mae'n ymwneud ag a yw'r Senedd wedi cael pob cyfle posibl i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch rhoi'r cydsyniad hwnnw. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel y pwyllgor iechyd, wedi dod i'r casgliad nad ydyw.

Cafodd y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei osod ar 28 Ionawr, un diwrnod y tu hwnt i'r ffenestr bythefnos a nodir mewn Rheolau Sefydlog. Roedd hynny'n golygu mai dim ond naw diwrnod gwaith oedd gennym ni, gan gynnwys heddiw, i'w ystyried ac adrodd arno. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir eu bod wedi bod yn ymgysylltu'n rheolaidd ers mis Medi.

Nid oes unrhyw reswm, yn ein barn ni, pam na allai Llywodraeth Cymru fod wedi gosod ei memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyn gynted â phosibl o fewn y terfyn amser o bythefnos a nodir mewn Rheolau Sefydlog, o ystyried faint o ymgysylltu sydd wedi bod yn mynd rhagddo rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Bil hwn. Gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet egluro i'r Senedd pam nad oedd yn bosibl gosod y memorandwm ar gyfer darn o ddeddfwriaeth lle'r oedd yr elfen amser mor bwysig yn gynharach.

Soniais yn fy sylwadau agoriadol bod y pwyllgor wedi gosod ei adroddiad ar y memorandwm heddiw. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, ei bod yn heriol iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet fod wedi ystyried ac ymateb yn llawn i'r adroddiad mewn pryd ar gyfer y ddadl yn y Senedd heddiw. Yn ei dro, mae hyn yn golygu na fydd y ddadl yn y Senedd heddiw yn cael ei lywio gan bryderon sydd wedi'u codi yn yr adroddiad hwn, nac mewn unrhyw adroddiad pwyllgor arall, ar y memorandwm.

Unwaith eto, pwysleisiaf fod ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU ar y Bil hwn wedi bod yn mynd rhagddo ers mis Medi. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'r pwyllgor yn gresynu at y ffaith bod y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi'i hamserlenni ar yr un diwrnod â'r dyddiad cau i bwyllgorau adrodd ar y memorandwm.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn nodi bod y dyddiad cau terfynol ar gyfer gwelliannau sylweddol i Fil Llywodraeth y DU wedi'i amserlennu ar gyfer 19 Chwefror. Nid yw'n glir felly, petai’r Senedd yn gwrthod rhoi ei chydsyniad heddiw, a fyddai'r Bil yn gallu cael ei wella i ymdrin â phryderon y Senedd.

Ysgrifennydd Cabinet, os yw hynny'n wir, ac nad yw'r Senedd yn rhoi ei chydsyniad, a allwch nodi pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i fynd ar drywydd gwelliannau i'r Bil yn Senedd y DU i adlewyrchu penderfyniad y Senedd? A fydd digon o amser yn amserlen graffu Senedd y DU i wneud hynny? Os na, mae gan y pwyllgor bryderon sylfaenol ynghylch y broses gydsynio o ran Biliau'r DU sy'n mynd rhagddynt yn gyflymach, a'r graddau y gall safbwyntiau'r Senedd gael dylanwad ystyrlon ar y ddeddfwriaeth.

Byddai'n codi pwynt ehangach ynglŷn â'r broses gydsynio ar gyfer amserlen graffu gyflym o ran unrhyw Fil Llywodraeth y DU yn y dyfodol, yn enwedig un sy'n gwneud darpariaethau a fyddai'n cael eu hystyried yn fwy dadleuol ac yn peri mwy o rwyg na'r Bil sydd o'n blaenau heddiw, a'r heriau y gall pwyllgorau eu hwynebu wrth graffu ar Fil o'r fath. Rwy'n tynnu sylw'r Senedd at y pwynt hwn. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau ar Filiau nad ydynt yn ddadleuol, felly os bydd Bil dadleuol yn codi, bydd yn union yr un broses yn cael ei chynnal.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod tri chymal o'r Bil yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i'r Ysgrifennydd Gwladol ac i Weinidogion Cymru ar yr un pryd, 'pwerau cydredol' fel y'u gelwir. Mae un o'r rhain yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig heb ofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru. Rwyf wedi datgan o'r blaen yn y Siambr hon mai egwyddor Llywodraeth Cymru ei hun ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig yw na ddylai pwerau cydredol gael eu creu gan Filiau’r DU ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Felly, mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyfiawnhau sut mae pob pŵer cydredol yn y Bil hwn yn cynrychioli achos eithriadol. Gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i'n pryderon ni ynghylch pwerau cydredol yn y Bil, gan roi cyfiawnhad cyffredinol i'r Senedd dros eu cynnwys yn y Bil, yn ei ymateb i'r ddadl heddiw. Diolch.

16:20

Mae angen gwneud mwy er mwyn cefnogi a chryfhau ein gweithlu domestig yma. Does dim amheuaeth am hynny. Yn wir, dwi'n cofio codi hyn sawl blwyddyn yn ôl bellach, gan ddadlau y dylid efelychu prosiect academi prentisiaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a oedd yn hyfforddi ei weithlu nyrsio ei hun yn yr achos yna. Yn wir, mae Cymru yn arbennig o agored i golli cyfoeth o dalent sy'n cael ei feithrin yn ein prifysgolion oherwydd diffyg lleoliadau a chyfleoedd. Dros y misoedd diwethaf, dwi wedi cael fy llethu gan straeon o raddedigion meddygol Cymreig sydd yn methu â sicrhau cyflogaeth yng Nghymru ac sy'n cael eu gorfodi, yn y pen draw, i ystyried eu hopsiynau yn rhywle arall. Yn amlwg, mae'n rhaid i hyn newid. Mae'n sefyll i reswm, felly, ein bod ni’n cefnogi egwyddorion craidd y Mesur.

Ond er ein bod ni'n cytuno ag egwyddorion craidd y Mesur yn hynny o beth, mae'r ystyriaeth o'i effaith ar Gymru wedi bod yn gwbl anfoddhaol. Mae'r ffaith fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penderfynu, oherwydd y diffyg amser a neilltuwyd ar gyfer y craffu, nad ydyn nhw'n gallu adrodd ar y cynnig cydsyniadau deddfwriaethol yma yn enghraifft arall o ddiffygion sylfaenol proses fethedig yr LCM, ac yn adlewyrchu sut mae Cymru'n cael ei thrin, yn rhy aml, fel ôl-ystyriaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Dwi'n ategu sylwadau y pwyllgorau LJC ac iechyd a gofal yn hynny o beth.

Gadewch inni fod yn glir yma—mesur er cyfleustra ydy hwn er mwyn i Lywodraeth San Steffan gytuno i ofynion y BMA yn Lloegr, ond nid i ofynion gofal iechyd yng Nghymru. Felly, er mwyn tawelu'r dyfroedd yn Lloegr, maen nhw wedi cyflwyno Bil ar gyfer Lloegr, ond fydd, yn y pen draw, yn effeithio ar Gymru, heb unrhyw ystyriaeth o amgylchiadau Cymru. Mae hyn yn annerbyniol.

Mae hefyd yn bryderus bod yr LCM yma yn creu pwerau cydredol, concurrent powers, i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol ddeddfu mewn maes datganoledig heb unrhyw rwymedigaeth i ymgynghori â Gweinidogion Cymru. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld tuedd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Gyfunol i anwybyddu confensiwn Sewel gyda'r un difaterwch di-hid â'r Llywodraeth Dorïaidd flaenorol.

Gan nad oes set gynhwysfawr o dystiolaeth ar gael i ni ynghylch effaith y Bil ar Gymru, ac nad ydyn ni'n fodlon bod digon o ystyriaeth wedi ei rhoi i ddatganoli yn ei ddyluniad, ond ein bod ni'n gweld gwerth egwyddorion craidd y Mesur, mi fyddwn ni'n atal ein pleidlais.

Ddydd Gwener, fe ymwelais i â'r uned ymchwil canser ardderchog ym Mhrifysgol Bangor, ac fe wnaethon nhw siarad mor gadarnhaol am yr ysgol feddygol newydd yn y gogledd lle maen nhw wedi bod yn hyfforddi meddygon. Felly, cwestiwn byr sydd gennyf, mewn gwirionedd, i'r Ysgrifennydd Cabinet: a fyddai hyn yn effeithio ar hynny yn y gogledd? Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu yn y ddadl. Efallai y gallaf ddechrau fy ymateb trwy fyfyrio ar y pwyntiau y gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch amseru a sylwedd yr LCM, ac rwy'n gobeithio y bydd y pwyntiau o ran amseru yn ymdrin hefyd â'r pwyntiau y mae Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'u codi hefyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gweithredu mewn amserlen gyflym o ran yr LCM hwn. Felly, rwy'n ddiolchgar yn arbennig i'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am ystyried y Bil. Fel y dywedodd y Cadeirydd, cafodd y Bil ei osod un diwrnod y tu hwnt i'r cyfnod o 14 diwrnod sydd wedi'i nodi. Byddwn i'n dweud, er bod trafodaethau wedi bod, a ddechreuodd yn yr hydref, bod y Bil ei hun, y mae'r LCM, wrth gwrs, yn ymwneud ag ef, wedi'i ddatblygu a'i gyflwyno'n gyflym dros gyfnod y Nadolig. Felly, yn fy marn i, roedd gallu Llywodraeth Cymru i ymateb mor gyflym ag y gwnaeth, er na roddwyd yr amser y byddai unrhyw un ohonon ni'n ei ddymuno, i'r Llywodraeth nac i bwyllgorau, yn gyflym yn y cyd-destun penodol hwnnw. Mae'r pwyllgor yn gwneud y pwynt na fydd y ddadl yn cael ei llywio gan gynnwys adroddiad y pwyllgor, ond rwy'n credu y bydd y Siambr yn elwa ar y pwyntiau y mae'r Cadeirydd wedi'u nodi.

Gofynnodd y Cadeirydd nifer o bwyntiau penodol i mi o ran amseru a'r berthynas rhwng penderfyniad y Senedd hon a'r broses ddeddfwriaethol yn Senedd y DU. Gallaf gadarnhau fy mod o'r farn bod digon o amser rhwng y ddadl a chamau diwygio terfynol y Bil i Senedd y DU ystyried unrhyw welliannau ac, yn wir, mae'r ddadl ar y cynnig wedi'i threfnu fel ag y mae er mwyn hwyluso hynny, ac rwy'n cydnabod yr effaith y mae hynny'n ei chael ar ystyriaethau eraill.

Gwnaeth y Cadeirydd a llefarydd Plaid Cymru bwyntiau yn ymwneud â'r trefniadau 'cydredol plws' yn y Bil. Gallaf gadarnhau bod hyn yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, felly nid yw'n torri confensiwn Sewel, fel yr oedd Mabon ap Gwynfor yn ceisio ei ddadlau. Rwy'n ystyried bod y pwerau 'cydredol plws' yn y Bil yn achos eithriadol, oherwydd mae rhaglen sylfaen a hyfforddiant arbenigol y DU yn cael eu darparu trwy un system ledled y DU, fel y mae ar hyn o bryd. Felly, mae gweithredu cyson ar draws y pedair cenedl yn hanfodol i ddiogelu'r llif o hyfforddiant meddygol ac, yn y meysydd cyfyngedig hyn, mae angen dull deddfwriaethol unedig. Rwy'n gobeithio bod yr atebion hynny wedi ymdrin â'r pwyntiau a godwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Hoffwn ddweud fy mod i'n ddiolchgar am y cyfle, pan fynychais ei bwyllgor yn ddiweddar, i gael y cyfle i ateb rhai cwestiynau yn benodol ar yr LCM hwn yn y trafodaethau hynny.

Felly, Dirprwy Lywydd, i gloi, rwy'n annog y Senedd heddiw i roi ei chydsyniad i'r Bil. Mae'n rhoi fframwaith clir, ymarferol a chyfrifol i gefnogi ein gweithlu meddygol nawr ac yn y dyfodol, ac rwy'n falch nad oes unrhyw Aelod sydd wedi siarad wedi anghytuno â'r egwyddor honno.

16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Eitem 12 heddiw yw'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM9137 Julie James

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, wnes i ddim cynnig y cynnig penderfyniad ariannol pan gafodd egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) eu trafod ar 13 Ionawr. Nodais ar yr adeg honno fy mod i eisiau ystyried goblygiadau'r asesiad effaith rheoleiddiol o argymhellion y pwyllgor i ddileu llawer o'r manylion o Ran 2 o'r Bil o ran penodi aelodau lleyg i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Ar ôl ystyried hynny, rwyf o'r farn, pe bai'r manylion yn Rhan 2 o'r Bil yn cael eu dileu, y byddai hynny'n gwaethygu'r lefel sylweddol o ansicrwydd sydd eisoes yn sail i'r rhagdybiaethau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. O ganlyniad, ni fyddai'n bosibl darparu amcangyfrif rhesymol o'r costau sy'n gysylltiedig â phenodi aelodau lleyg, neu nodi'r amserlen ar gyfer y costau hynny. Byddai'r costau amcangyfrifedig yn dod yn anhysbys. Roedd yn bwysig bod yr Aelodau yn ymwybodol o'r sefyllfa hon cyn ystyried y penderfyniad ariannol.

Rwyf wedi nodi'r llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad at Gadeirydd y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau, sy'n nodi barn wahanol o ran lefel y manylion y dylent gael eu cynnwys yn Rhan 2 o'r Bil. Mae nifer o welliannau Cyfnod 2 wedi'u cyflwyno ar y mater hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl yn y pwyllgor yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Os bydd unrhyw newidiadau o'r fath yn cael eu rhoi mewn grym drwy welliannau Cyfnod 2, fe wnaf y diwygiadau angenrheidiol i'r asesiad effaith rheoleiddiol, gan adlewyrchu'r newidiadau i'r rhagdybiaethau sy'n cefnogi'r amcangyfrifon presennol. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn adlewyrchu'n gywir oblygiadau cost posibl y Bil fel y'i cyflwynwyd, ac ar y sail honno rwy'n fodlon cynnig y penderfyniad ariannol yn ffurfiol heddiw.

Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad ar y Bil hwn, a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid i fireinio'r amcangyfrifon cost wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd. Yn benodol, ac mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid, fe wnaf, mewn ymgynghoriad â Chomisiwn y Senedd, geisio nodi'r gost amcangyfrifedig o roi cyfnod sefydlu a chymorth parhaus i aelodau lleyg, ac, mewn ymgynghoriad â Chomisiwn y Senedd a'r comisiynydd safonau, nodi'r costau cyfle sy'n gysylltiedig ag ymgymryd ag ymchwiliadau ar ei Ysgogiad ei Hun. Diolch.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:30

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

Eitem 13 yw Cyfnod 4 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM9150 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y cynnig hwn heddiw, sy'n dod â'r darn unigryw hwn o ddeddfwriaeth hirddisgwyliedig yn agosach at ei weithredu. Mae'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) wedi'i lunio gyda phobl sydd wedi profi digartrefedd, ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg y byddant yn ei brofi. Mae wedi'i wreiddio nid mewn theori, ond mewn profiad bywyd, yn nhystiolaeth pobl sy'n gwybod yr ofn, y diffyg urddas a'r niwed y gall digartrefedd eu hachosi. Mae'r rhain yn bobl sydd wedi trawsnewid eu bywydau yn groes i'r disgwyl—pobl sydd, ar ôl dioddef amser anoddaf eu bywydau, wedi dewis rhannu'r profiadau hynny gyda phob un ohonon ni, sydd â'r fraint a'r cyfrifoldeb i newid y gyfraith.

Yn ymuno â ni heddiw mae Scotty a Phil, dau ddyn eithriadol sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r Bil. Mae eu profiadau yn gynhenid i'r ddeddfwriaeth. Roedden nhw gyda fy rhagflaenydd, Julie James, a Siân Gwenllian yn lansiad ein Papur Gwyn. Roedden nhw gyda ni yn y lle hwn i gyflwyno'r Bil, ac roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw gyda ni eto yma heddiw. Wn i ddim faint ohonon ni allai wynebu'r caledi y maen nhw wedi'i wynebu gyda'r dewrder, y cryfder a'r haelioni y maen nhw wedi'u dangos. Allaf i ddim gorbwysleisio fy niolchgarwch na'r parch sydd gennyf atyn nhw ac at bob person a wnaeth ymddiried eu straeon ynom er mwyn i eraill beidio â gorfod wynebu'r un caledi. Mae'r Bil hwn yn eiddo iddyn nhw a byddwn ni'n parhau i weithio gydag arbenigwyr trwy brofiad wrth i ni roi'r ddeddfwriaeth ar waith.

Bydd y Bil beiddgar ac uchelgeisiol hwn yn gatalydd ar gyfer newid sylweddol ar draws system ddigartrefedd statudol Cymru. Rwy'n gwybod bod newid yn frawychus i awdurdodau lleol, ac rwy'n ddiolchgar am eu gonestrwydd, eu deialog a'u her adeiladol wrth i ni gydbwyso uchelgais beiddgar â chyflawni ymarferol. Rwy'n galw arnyn nhw i groesawu’r cyfle y mae'r Bil hwn yn ei gyflwyno i adnewyddu ein hymrwymiad cyffredin i sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog a byth yn cael ei ailadrodd. Hoffwn ddiolch i'n partneriaid trydydd sector a'r sector tai ehangach, y mae eu harbenigedd a'u dyfalbarhad wedi cryfhau'r gwaith ar bob cam. Rwy'n talu teyrnged yn arbennig i swyddogion tai a gweithwyr cymorth. Mae'n cymryd person anhygoel i ymroi i roi terfyn ar ddigartrefedd. Ni allaf ddiolch digon iddyn nhw am yr ymrwymiad, y tosturi a'r dyfalbarhad maen nhw'n eu dangos bob dydd.

Hoffwn hefyd ddiolch i'r Athro Fitzpatrick am arwain y panel adolygu arbenigol, y mae ei waith yn gonglfaen sylfaenol i'r ddeddfwriaeth hon. A hoffwn ddiolch i fy swyddogion am eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u hymrwymiad i'r Bil hwn. Mae'n fraint gweithio gyda thîm mor dosturiol, proffesiynol, sydd wedi treulio cymaint o amser i gael hyn yn iawn. Ac i'm rhagflaenydd, Julie James, eich angerdd a'ch ymrwymiad i roi terfyn ar ddigartrefedd a osododd y sylfaen ar gyfer y diwygiadau hyn. Diolch i'r Cadeiryddion ac aelodau'r pwyllgorau sydd wedi craffu mor drylwyr ar y Bil hwn, yn enwedig Siân Gwenllian, Joel James a'u staff, am eu hymgysylltiad adeiladol ac egwyddorol. Er y gall fod gennym farn wahanol ar rai materion, rydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar werthoedd cyffredin, ac mae'r Bil hwn yn gryfach oherwydd y cydweithrediad hwnnw.

Dirprwy Lywydd, mae'r diwygiadau hyn yn drawsnewidiol, ond dydyn nhw ddim yn ateb cyflym. Mae hwn yn becyn o newid sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi'i lywio gan arbenigwyr. Bydd yn cymryd amser, ond bydd yn adeiladu system fydd yn gallu bodloni gofynion y dyfodol ac ymateb i ddemograffeg newidiol Cymru. Mae llawer o waith ar ôl i'w wneud, ond, os bydd y Senedd yn pasio'r Bil hwn heddiw, byddwn yn cymryd cam enfawr ymlaen. Rwy'n falch iawn o'r ddeddfwriaeth hon, Dirprwy Lywydd, ac o'r system ddigartrefedd flaengar y bydd yn ei chreu i Gymru. Diolch. 

16:35

Hoffwn i gymryd y cyfle heddiw i ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu gwaith caled a'u cydweithrediad parhaus wrth ein helpu ni i siapio'r Bil yma. Diolch hefyd—diolch o waelod calon—i'r unigolion sydd wedi rhannu eu profiadau uniongyrchol o fod yn ddigartref efo ni wrth inni baratoi'r gwaith yma, gan gynnwys diolch i Scotty a Phil sydd efo ni heddiw yma. 

Mae Plaid Cymru wastad wedi pwysleisio'r angen am well data o ran tai cymdeithasol, wedi pwysleisio'r angen i symud yn gyflym at ddulliau ataliol, a hefyd yr angen i roi mwy o gefnogaeth i’r bobl fwyaf agored i niwed. Mae’r Bil yn sefydlu’r egwyddor bod digartrefedd yn broblem sydd angen help pawb i’w datrys. Yr wythnos yma, mae’r Salvation Army wedi cyhoeddi adroddiad sydd yn dangos, mewn 318 o sefyllfaoedd, cafodd pobl eu rhyddhau o ysbytai heb gartref i fynd iddo fo. Mi fydd y Bil yn dechrau sicrhau bod gweithwyr iechyd yn ein hysbytai a gweithwyr eraill ar draws y sectorau yn 'gofyn a gweithredu'—yr 'ask and act' pwysig sydd yn y Bil yma—pan fyddan nhw'n tybio bod person yn wynebu digartrefedd.

Un gwelliant hollbwysig ddaru basio yn ystod Cyfnod 2 oedd dileu adran 35. Ni ddylai’r cyfrifoldeb dros benderfynu pwy sy’n gymwys i gael tai cymdeithasol fod yn nwylo awdurdodau lleol; mae hynny’n tanseilio egwyddor rydym ni’n credu’n gryf ynddi hi. Ond mae hi’n siomedig bod ein gwelliant yn ymwneud ag ansawdd llety dros dro heb basio. Mi fyddai hwn wedi sicrhau na fyddai’n bosib ystyried llety sy’n cynnwys perygl categori 1 fel un sy'n addas ar gyfer llety dros dro. Ddylai neb orfod byw mewn llety sy’n anaddas ac yn anniogel. Mae diogelwch yn y cartref yn sylfaenol, ac felly mae hi’n destun siom bod absenoldeb rhai Aelodau yn y Siambr wythnos diwethaf wedi cyfrannu at fethiant i gryfhau’r Bil. Ond mi fyddaf i'n parhau i wthio am y ddarpariaeth yma, ac yn chwilio am gyfleoedd i gymryd camau i wahardd llety dros dro sy’n cynnwys peryglon difrifol.

I gloi, hoffwn bwysleisio pa mor hollbwysig fydd sefydlu cynllun gweithredu cadarn yn dilyn pasio’r Bil yma. Rhaid i'r cynllun gynnwys hyfforddiant amserol a phriodol i staff ar draws y gwahanol sectorau. Bydd angen dangos cynnydd pendant a chadarnhaol, yn enwedig tuag at ddileu’r prawf angen blaenoriaethol, a gwneud datblygiad gwirioneddol yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r nifer o bobl sy’n cysgu ar y strydoedd yng Nghymru. Mae angen cynllun gweithredu cadarn er mwyn sicrhau'r cynnydd yna. Ac ar yr un pryd, mae'n rhaid darparu’r gefnogaeth angenrheidiol i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw fynd ati efo'u gwaith ymroddedig tuag at gyflawni’r nodau sydd yn y Bil yma.

Mae’r drafodaeth yma wedi bod yn digwydd yn y Senedd yma ers i mi ddod yn Aelod bron i 10 mlynedd yn ôl bellach. Rŵan, mae'n bryd troi'r deddfu yna yn weithredu. Diolch. 

Rwy'n credu bod pob Aelod yma yn cytuno pa mor bwysig yw hi nid yn unig i fynd i'r afael â digartrefedd, ond i wneud yn siŵr nad yw'n digwydd yn y lle cyntaf. Dyna pam mai un o'r pethau sy'n fy siomi fwyaf ynghylch y ddeddfwriaeth hon yw pa mor hwyr yn y cylch seneddol y mae'r Bil hwn wedi'i gyflwyno i ni, gan gyfyngu ar yr amser yr ydym wedi'i gael i graffu arno'n iawn, a dangos yn eithaf amlwg ble mae blaenoriaethau'r Llywodraeth Lafur hon.

Fodd bynnag, byddwn ni'n cefnogi'r ddeddfwriaeth hon, a hoffwn ddiolch i'r tîm llywodraeth leol a thai, ynghyd â'r swyddogion sydd wedi gweithio ar y Bil hwn. Maen nhw wedi gweithio i rai terfynau amser tynn iawn a osodwyd gan y Llywodraeth, ac fe ddylai eu gwaith caled a'u hymrwymiad gael eu cydnabod yn briodol.

Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r Bil hwn, rwyf eisiau cofnodi ein siom nad yw cyn-filwyr wedi'u heithrio'n benodol o brofion cysylltiadau lleol, rhywbeth yr ydym yn credu y dylai ymddangos ar wyneb y Bil. Mae'r cyflwyniad hwn yn rhoi cyn-filwyr Cymreig dan anfantais amlwg o gymharu â'r rheini yn Lloegr, ac mae'n mynd yn groes i ysbryd a bwriad cyfamod y lluoedd arfog.

Yn Lloegr, mae cyn-filwyr wedi'u heithrio nawr rhag gofynion cysylltiadau lleol ar gyfer dyraniadau tai cymdeithasol, gan gydnabod natur unigryw gwasanaeth milwrol. Mae risg y bydd absenoldeb eithriad tebyg yng Nghymru ar gyfer cymorth digartrefedd yn tanseilio triniaeth gyfartal o dan y cyfamod ac yn creu anghysondeb clir o ran polisi ar draws gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae llawer o gyn-filwyr wedi gorfod symud dro ar ôl tro trwy gydol eu gyrfaoedd milwrol ac, o ganlyniad, dydyn nhw ddim wedi gallu sefydlu cysylltiadau hirdymor ag unrhyw ardal awdurdod lleol unigol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig o'r farn bod profion cysylltiadau lleol yn gwahaniaethu'n fwriadol yn erbyn cyn-filwyr. Roedd y gwelliannau a gyflwynwyd gennyf yng Nghyfnod 2, a gwelliannau eraill gan Rhys ab Owen yng Nghyfnod 3, wedi'u llunio i sicrhau tegwch i gyn-filwyr yn hyn o beth. Mae'n hynod rhwystredig nodi, er iddynt gael eu cefnogi gan Blaid Cymru yng Nghyfnod 2, na chawsant eu cefnogi ganddynt yng Nghyfnod 3. Yn yr un modd, er eu holl sôn am hawliau cyn-filwyr, unwaith eto roedd Reform yn absennol yn y Siambr hon pan wnaethon ni eu trafod—dim gwelliannau a dim rhyngweithio.

Oherwydd hyn, efallai y bydd cyn-filwyr o dan y Bil hwn yn dal i gael eu cyfeirio'n ôl at ardaloedd na allan nhw ddychwelyd iddyn nhw'n realistig neu'n ddiogel, gan oedi mynediad at gymorth ar adeg o angen dwys. Mae hyn nid yn unig yn annheg,  mae'n eu rhoi dan anfantais uniongyrchol o gymharu â sifiliaid sydd wedi gallu magu gwreiddiau parhaol. Nid yw'r pryderon hyn yn unigryw i'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, ochr yn ochr â sefydliadau digartrefedd ac elusennau tai, i gyd wedi codi pryderon difrifol am ddiffyg eithriad i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Unwaith eto, pe bai'r Bil hwn wedi'i gyflwyno'n gynharach yn y tymor seneddol, rwy'n credu y gallen ni fod wedi dod i gytundeb ar gynnwys eithriad penodol i gyn-filwyr ar wyneb y Bil hwn. Mae hawliau cyn-filwyr yn bolisi y byddwn ni bob amser, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn parhau i'w ddilyn, ac fe fyddwn ni yn yr achos hwn.

Yn olaf—ac rwy'n ymwybodol o'r amser—rhaid i ni hefyd gydnabod bod tor-perthynas yn un o'r prif bethau sy'n ysgogi digartrefedd, ac mae angen gwneud llawer mwy i wella mynediad at gymorth a gofal effeithiol, maes lle mae Cymru'n dal i fethu â chyrraedd y nod. Er bod y Bil hwn yn honni ei fod yn canolbwyntio ar atal digartrefedd yn y tymor byr, rwy'n pryderu na fydd yn ddim mwy na geiriau teg. Heb gynnydd sylweddol a pharhaus yn y cyflenwad tai, nid oes modd gwireddu ei uchelgeisiau. Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai, ac ni all unrhyw nifer o fwriadau deddfwriaethol guddio'r ffaith bod yr argyfwng hwn yn parhau i gael ei anwybyddu. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:40

Dwi innau hefyd yn croesawu'r Bil pwysig yma sydd o’n blaenau ni heddiw. Dwi wedi gweld â llygaid fy hunan y cynnydd aruthrol yn nifer y digartref yn ein prifddinas ni, a nifer y digartref sy'n defnyddio'r gefnogaeth sy'n cael ei chynnig i'r digartref yng nghanol ein prifddinas ni dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi wedi dysgu llawer o'r bobl hynny, a dwi’n gwerthfawrogi yn fawr eu cwmni, ond y gwir yw dydyn ni ddim eisiau gweld pobl yn gorfod defnyddio’r gwasanaethau felly. Rŷn ni'n gwybod pam ŷm ni angen y Bil yma. Roedd yna risg mawr byddai digartrefedd yn cynyddu, yn parhau i gynyddu: 24 y cant erbyn 2041 petai’r Llywodraeth hon a'r Senedd hon ddim yn gweithredu. Felly, dwi mor falch ein bod ni wedi gweithredu.

Wrth gwrs, byddwn i wedi licio gweld o leiaf un, efallai—hyd yn oed un—o fy ngwelliannau yn pasio. Wnaeth hwnna ddim digwydd, ond dwi’n gobeithio, o'r ffaith ein bod ni wedi cael y drafodaeth, y bydd hyn nawr yn flaenoriaeth i'r Senedd nesaf. Byddwn i wedi hoffi gweld angen blaenoriaethol a digartrefedd bwriadol yn dod i ben cyn yr wythfed Senedd, ond dyw hynna ddim yn mynd i ddigwydd. Mae'n drueni na fyddai'n digwydd yn y Senedd nesaf, y seithfed Senedd. Dwi hefyd yn siomedig yn enwedig o ran y gwelliannau hynny ble roedd yna gyfartaledd rhwng y Llywodraeth ac Aelodau o'r gwrthbleidiau. Roeddem ni mor agos at basio'r gwelliannau yna, fyddai'n wirioneddol wedi gwneud gwahaniaeth, ond, oherwydd absenoldeb, rhaid bod hynny wedi methu digwydd. Gobeithio, o'r ffaith ein bod ni wedi codi'r materion yma, bydd modd gweld rheoliadau o fewn y seithfed Senedd bydd yn delio â rhai o'r pwyntiau yn y gwelliannau gwnes i eu codi.

Bydd Cymru, y digartref, a'r rhai sydd mewn risg o ddigartrefedd mewn lle llawer gwell a chadarnach pan ddaw'r Ddeddf yma i rym. Dwi'n gofyn i chi beidio aros yn ormodol i weithredu'r Ddeddf yma, ac i weithredu rhannau o'r Ddeddf yma. Felly, dwi yn ddiolchgar. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i graffu. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i godi pwyntiau. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gydweithio â'r elusennau digartref arbennig sydd gyda ni yng Nghymru, a dwi'n diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am sicrhau, gyda'ch swyddogion a'ch cydweithwyr chi, fod y Bil arbennig o bwysig yma—ac rŷn ni'n defnyddio geiriau fel hyn efallai'n rhy aml, ond mae'r Bil yma'n arbennig o bwysig—sy'n mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. A dwi yn ddiolchgar eich bod chi wedi gallu sicrhau bod y Bil yma yn dod o flaen y Senedd cyn diwedd y Senedd hon. Diolch yn fawr.

16:45

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

14. Cyfnod Pleidleisio

Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 7, y rheoliadau treth trafodiadau tir. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, un yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026. : O blaid: 36, Yn erbyn: 10, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Bydd y bleidlais nesaf ar eitem 8, Gorchymyn cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Ty Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026. : O blaid: 36, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Bydd y bleidlais olaf ar eitem 13, Cyfnod 4 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 13. Dadl: Cyfnod 4 Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). : O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Bydd egwyl fer nawr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn inni ailgynnull. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.

Deg munud oherwydd mewn pum munud bydd y gloch yn canu, bum munud cyn i ni ddechrau.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:48.

17:00

Ailymgynullodd y Senedd am 17:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

15. Dadl: Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

Dyma ni nawr yn cyrraedd yr amser ar gyfer Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).

Grŵp 1: Egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd (Gwelliannau 9, 10, 11, 12, 13)

Grŵp 1 o welliannau fyddwn ni yn ei drafod yn gyntaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd o dan Ran 1 o'r Bil. Gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Mae grŵp 1 yn ymwneud â'r egwyddorion amgylcheddol, fel sydd eisoes wedi'i ddweud. Mae'r gwelliannau rydyn ni'n eu cyflwyno heddiw, 9 a 10, yn mewnosod egwyddorion amgylcheddol ychwanegol yn adran 2 o'r Bil, union ystyr yr egwyddorion hyn a sut maen nhw'n ymwneud ag egwyddorion presennol yn adran 2 o'r Bil. Rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, hoffwn ddiolch i'n cyfreithwyr; ein hymchwilwyr, Ella Tregaskes a Jena Quilter; y pwyllgor newid hinsawdd; a'r Gweinidog ei hun, oherwydd rydyn ni wedi gweithio, onid ydyn ni, trwy gydol pob cyfnod.

Gwnaeth Dr Victoria Jenkins grynhoi'r hyn y mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n ei gredu, ac rwy'n cytuno â'r Gynghrair Cefn Gwlad y byddai'n werth cynnwys yr egwyddorion arfaethedig hyn yn y Bil, gan y byddan nhw'n sicrhau y byddwn ni'n gadael yr amgylchedd mewn lle gwell nag y gwnaethon ni ei ddarganfod, gan gydnabod y cydgysylltiad rhwng meysydd fel dalgylchoedd dŵr, coridorau bywyd gwyllt a'r amgylchedd morol.

Bydd gwelliant 11 yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn adolygu datganiad adran 6 o leiaf unwaith bob dwy flynedd. Er bod yr egwyddorion amgylcheddol eisoes yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol, y datganiad fydd yn pennu eu hystyr a sut y bydd hwnnw'n cael ei gymhwyso yng nghyd-destun Cymru. Ar hyn o bryd, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cefnogi mynd am bum mlynedd. Mae hynny'n hirach na thymor newydd y Senedd o bedair blynedd, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod y Bil hwn wedi bod yn destun cymaint o oedi, ac rydyn ni wedi gweld cymaint o rywogaethau yn dirywio yma yng Nghymru, bod angen i ni wneud yn siŵr nawr bod unrhyw ddeddfwriaeth rydyn ni'n ei phasio yma yn addas i'r diben, a'r unig ffordd y gallwch chi wneud hynny yw trwy gynnal eich adolygiadau bob dwy flynedd. Diolch.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:02:42
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch, Janet, am gynnig hyn. Wrth i ni agor trafodion Cyfnod 3 heddiw ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), hoffwn hefyd ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi dod â ni at y pwynt hwn, gan gynnwys yr Aelodau, ond hefyd bwyllgorau'r Senedd am eu gwaith craffu meddylgar a thrwyadl iawn, a rhanddeiliaid ledled Cymru—y grwpiau amgylcheddol, y cyrff cyhoeddus, yr academyddion a'r sefydliadau cymunedol—sydd wedi ymgysylltu â chymaint o ymrwymiad a didwylledd trwy gydol y broses. Hefyd, hoffwn ddiolch i'm tîm bach o swyddogion, sydd wedi gweithio nid yn unig gyda mi, ond trwof i, i ymgysylltu ag Aelodau'r Senedd ar draws pleidiau hefyd.

Cryfder y Bil hwn yw ei fod yn gynnyrch y cydweithredu hwnnw; mae'r ymgysylltiad trawsbleidiol adeiladol sydd wedi cefnogi ei ddatblygiad yn dyst i gydnabyddiaeth gyffredin bod diogelu'r amgylchedd yn gyfrifoldeb i ni i gyd. Mae'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud hyd yma gan y Llywodraeth ac aelodau pwyllgorau yn adlewyrchu hyn, ac maen nhw wedi arwain at Fil mwy cadarn, mwy cydlynol a mwy effeithiol yn y pen draw; dyna ddiben craffu. Mae'r Bil hwn yn cynrychioli'r Senedd ar ei gorau, yn gweithio gyda'n gilydd i gryfhau'r dyfodol rydyn ni'n ei adeiladu i Gymru.

Rwy'n gwybod, Janet, ac rwy'n gwerthfawrogi ein bod ni wedi disgwyl yn hir am y ddeddfwriaeth hon, ond gallaf eich sicrhau nad yw'r amser wedi'i wastraffu. Rydyn ni wedi elwa'n sylweddol o ddysgu am y ffordd mae trefniadau diogelu'r amgylchedd a llywodraethiant wedi datblygu mewn mannau eraill yn y DU ac, yn wir, yn rhyngwladol. Rydyn ni wedi gweld beth sydd wedi gweithio'n dda a lle mae heriau wedi dod i'r amlwg. Mae hyn wedi ein galluogi i ddylunio model y gellir ei gymharu â modelau tebyg yn y DU, ond sydd mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, yn gryfach, ac yn un sy'n adlewyrchu anghenion gwahanol Cymru a'n tirwedd polisi a deddfwriaethol unigryw.

Mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni sicrhau newid sylweddol, gan sefydlu amcan amgylcheddol sy'n canolbwyntio ar gyrraedd lefel uchel o ran diogelu'r amgylchedd a gwelliant i'r amgylchedd; pedair egwyddor amgylcheddol craidd a dyletswyddau i integreiddio diogelu'r amgylchedd; corff llywodraethiant amgylcheddol annibynnol gydag awdurdod, arbenigedd a dannedd; a fframwaith sy'n grymuso Gweinidogion Cymru i osod targedau mewn is-ddeddfwriaeth i gyfrannu at atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Yn ei gyfanrwydd, mae'n rhoi'r fframwaith i ni ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd rydyn ni'n eu hwynebu heddiw, ond hefyd i heriau a fydd yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol.

Ond rydw i eisiau bod yn glir, dim ond os bydd y Bil yn cael ei basio ac os caiff ei basio mewn ffurf sy'n gyflawnadwy y gallwn ni wireddu'r cyfleoedd hyn. Mae gweithredu effeithiol yn gofyn am ddeddfwriaeth sy'n glir, yn ymarferol, ac sydd wedi'i seilio ar realiti ymarferol y systemau a'r sefydliadau y mae'n eu creu. Mae'r Bil sydd o'n blaenau ni i gyd heddiw wedi cael ei gryfhau gyda hynny mewn golwg. Mae'n uchelgeisiol, ydy, ond mae hefyd yn bosibl ei gyflawni. A thrwy'r cyfuniad hwnnw o uchelgais a chyflawnadwyedd y byddwn ni'n cyflawni'r newid sydd ei angen arnom.

Wrth i ni symud trwy'r gwelliannau heddiw, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â'r ysbryd cydweithredol hwnnw sydd wedi dod â ni i'r fan hon. Oherwydd mae gennym ni gyfle yma o'n blaenau ni. Yn yr ysbryd hwnnw, a gaf i ddiolch i'r Aelodau ymlaen llaw am eu gwelliannau yr ydym yn eu trafod a'r cyfle i nodi safbwynt y Llywodraeth hon arnyn nhw? Bydd yna welliannau heno yr wyf yn edrych ymlaen at eu cefnogi, yn yr ysbryd cydweithredol hwnnw. Mae yna eraill lle byddaf yn esbonio pam na allwn wneud hynny, ond, rwy'n gobeithio bob amser, mewn ffordd adeiladol ac ystyrlon.

Gadewch i mi droi at y gwelliannau yn y grŵp hwn yn enw Janet: gwelliant 9 a gwelliant 10. Dim ond i nodi, cafodd y gwelliannau hyn eu cyflwyno a'u trafod yng Nghyfnod 2 a chawson nhw eu gwrthod ar yr adeg honno. Dydw i ddim yn cefnogi'r gwelliannau hyn oherwydd yr un rhesymau, y gwnaf eu cyflwyno nawr ar gyfer Siambr y Senedd yn ei chyfanrwydd. Fe gawson nhw eu trafod a'u gwrthod mewn cyfnod cynharach, Cyfnod 2, lle esboniais i fod y pedair egwyddor amgylcheddol yn y Bil a'r ddyletswydd i integreiddio diogelu'r amgylchedd yn seiliedig ar gysyniadau sydd wedi'u datblygu dros ddegawdau, gan gynnwys trwy gytundebau rhyngwladol, a deddfwriaeth yr UE a domestig. Maen nhw wedi'u datblygu'n dda iawn ac yn cael eu deall yn glir iawn. Ond yn ogystal, rydyn ni wedi gosod y ddyletswydd sylw arbennig gryfach ar Weinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru ar sail y gyfres hon o egwyddorion sydd wedi'u datblygu a'u deall yn dda—sylw arbennig; mae'n mynd y tu hwnt i'r hyn sydd mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth. 

Gallai ychwanegu egwyddorion llai datblygedig at y rhestr hon arwain at ansicrwydd sylweddol a hyd yn oed rhwystrau i gyflawni effeithiol. Mae'r egwyddorion amgylcheddol a'r ddyletswydd integreiddio sydd wedi'u cyflwyno yn y Bil yn cael eu cefnogi—mae'n rhaid i mi ei wneud yn glir—gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ac nid yw achos dros gynnwys egwyddorion ychwanegol wedi'i wneud trwy gydol ein hymgysylltiad â'r rhanddeiliaid hynny. Ar ben hynny, mae agweddau perthnasol ar yr egwyddorion hyn eisoes wedi'u nodi, i raddau gwahanol, a, byddwn i'n ei ddweud, i raddau mwy effeithiol a phriodol, o fewn yr amcan amgylcheddol a'r ddyletswydd i integreiddio diogelu'r amgylchedd.

Gallaf roi enghraifft i chi. Yn gyffredinol, caiff dim atchwelyd ei ddehongli fel arfer i olygu na ddylai fod unrhyw dynnu'n ôl ar safonau amgylcheddol. Fodd bynnag, mae'r amcan amgylcheddol yn anelu'r dyletswyddau yn Rhan 1 at gyrraedd lefel uchel o ran diogelu'r amgylchedd a gwelliant i'r amgylchedd. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i ddim atchwelyd, o ran atal unrhyw achos o ostwng uchelgais, ac mae'n canolbwyntio ar gyfrannu at gyrraedd lefel uchel o ran diogelu'r amgylchedd a gwelliant gwirioneddol i'r amgylchedd. Rwy'n credu y gallai'r gwelliannau hyn fod yn niweidiol iawn i'r canlyniadau a geisir drwy'r polisi. Yn ogystal, nid yw effaith arfaethedig gwelliant 9 yn gwbl glir o ran a yw'r Aelod yn cynnig y dylai'r egwyddor enillion net gael ei chynnwys yn ychwanegol at y tair egwyddor sydd wedi’u nodi yng ngwelliant 10, neu rywbeth arall. Am y rhesymau hyn, dydw i ddim yn cefnogi'r gwelliannau hyn.

Os gwnaf i droi at welliannau 11, 12 a 13, ac yn sicr gwelliant 11, cafodd gwelliant tebyg ei gynnig a'i wrthod yn un o gyfnodau cynharach y pwyllgorau. Yn ystod Cyfnod 2, cyflwynais welliant, a gafodd ei dderbyn, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r datganiad ar ôl pob etholiad cyffredinol. Gall Gweinidogion Cymru hefyd adolygu'r datganiad ar unrhyw adeg arall. Yn wir, gwnaeth hyn adlewyrchu argymhelliad 7 o adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, felly dyna'r hyn yr ydyn ni wedi'i wneud. Mae hyn yn gymesur, yn ein barn ni, â natur y datganiad, y bwriedir iddo fod yn barhaol ac yn strategol, gan gwmpasu amrywiaeth eang o achosion.

Dydw i ddim yn ystyried ei bod yn ddymunol bod datganiad o'r natur hon yn cael ei adolygu mor aml â phob dwy flynedd, fel y mae gwelliant 11 yn ei gynnig. Bydd yr adolygiad yn ystyried ystyriaethau perthnasol, gan gynnwys newidiadau polisi ehangach, datblygiadau technolegol a gwyddonol, ac mae'n annhebygol y byddan nhw'n newid yn sylweddol dros gyfnod o ddwy flynedd. Os bydd amgylchiadau'n golygu ei bod yn briodol adolygu'r datganiad fwy nag unwaith yn ystod tymor y Senedd, yna, fel yr esboniais i, mae'r Bil yn rhoi hyblygrwydd priodol i wneud hynny. Gallai'r cylch dwy flynedd gorfodol hwnnw, Janet, arwain at feichiau biwrocrataidd gwirioneddol heb ddarparu unrhyw effaith gadarnhaol sylweddol. Felly, dydw i ddim yn cefnogi gwelliannau 11, 12 na 13 ar y sail honno, sy'n ganlyniadol i'r gwelliant hwn, ond rwy'n gobeithio fy mod i wedi esbonio pam.  

17:10

Diolch, Llywydd. Dim ond i ddweud fy mod i wedi mynychu sesiwn friffio dechnegol gan eich swyddogion yn ddiweddar, ac fe wnaethon nhw gyfaddef, a dweud y gwir, eu bod nhw ymhell y tu ôl i lle dylen nhw fod o ran yr agenda hon. Fe wnaeth hynny fy ngwneud i hyd yn oed yn fwy cadarn bod angen i ni bwyso arnoch chi ar hyn, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod pa Lywodraethau newydd allai fod yma nad ydyn nhw'n frwdfrydig ynghylch gwarchod yr amgylchedd. Beth bynnag, fe wnaf i barchu eich barn ar hyn, ond gadewch i ni symud i'r bleidlais arno.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 9. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 9 wedi ei wrthod.

Gwelliant 9: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 10 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 10. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 10 wedi ei wrthod.

Gwelliant 10: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 11 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad, unrhyw un? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 11. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 11 wedi ei wrthod.

Gwelliant 11: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 12 (Janet Finch-Saunders).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 12 wedi ei wrthod.

Gwelliant 12: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 13 (Janet Finch-Saunders).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 13? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 13. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 13 wedi ei wrthod.

Gwelliant 13: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Adroddiad diogelu a gwella’r amgylchedd (Gwelliant 53)

Grŵp 2 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud ag adroddiad diogelu a gwella’r amgylchedd. Gwelliant 53 yw'r prif welliant, a Delyth Jewell sy'n cynnig y gwelliant yna.

Cynigiwyd gwelliant 53 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad i welliant 53. Mae Plaid Cymru yn croesawu'r Bil hwn, sydd yn hirddisgwyliedig. Wedi trychineb Brexit, bu bwlch yn cael ei adael i Gymru ei lenwi pan fo hi'n dod i lywodraethiant amgylcheddol. Mae angen cau'r bwlch hwnnw ar frys, a dyna, wrth gwrs, mae'r Bil yn ei wneud.

Ond mae'r Bil hwn hefyd yn ymwneud â mwy na dim ond prosesau a strwythurau. Wrth ei galon, mae'n ymwneud â rhoi llais cryfach i drigolion Cymru a'n cymunedau sydd wedi dioddef ers amser rhy hir o gyflwr gwarthus ein gwyrddni, heb y pŵer i newid neu roi sialens i hynny. Fel dywedodd Gerallt Lloyd Owen, yn rhy aml, rŷn ni efallai'n gweld, os ydw i'n gallu aralleirio ei eiriau, gwerth cynnydd fel gwarth cenedl. Rhaid sicrhau bod yr etifeddiaeth rŷn ni'n ei rhoi i'n plant yn well na hynny.

Ni allai'r angen i weithredu fod yn gliriach. Dangosodd adroddiad cyflwr natur 2023 fod toreithrwydd cyfartalog rhywogaethau daearol a dŵr croyw yng Nghymru wedi gostwng 20 y cant yn ystod y tri degawd diwethaf. Mae rhywogaethau eiconig yn diflannu o flaen ein llygaid. Mae tynged y gardwenynen feinlais, yr wyf yn hyrwyddwr rhywogaethau ar ei chyfer, yn y fantol, ac fe fyddwn ni'n siarad nes ymlaen, wrth gwrs, am y wennol ddu, am y gylfinir. Nid ystadegau neu bwyntiau haniaethol yw'r rhain, maen nhw'n cynrychioli colli sain, lle a chof yn ein byd. Heb weithredu, mae côr y bore bach yn wynebu risg o ddod yn rhywbeth y bydd cenedlaethau'r dyfodol ond yn darllen amdano, wrth iddyn nhw syllu ar ein hawyr a meddwl tybed sut y gwnaethon nhw ganiatáu i'r cyfan oll gael ei golli.

Mae byd natur wastad wedi ysbrydoli ein barddoniaeth, ein cerddoriaeth, ein hunaniaeth fel gwlad. Ysbrydolwyd ein hanthem gan lif yr afonydd ym Mhontypridd. Mae gennym ddyletswydd i gadw'r gân yn fyw.

Mae natur yn ganolog i'n llesiant ac mae hefyd yn un o'n cynghreiriaid cryfaf wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae ecosystemau iach yn storio carbon, yn lleihau'r risg o lifogydd, yn amddiffyn cartrefi ac yn cefnogi ein diogelwch bwyd.

Felly, i droi at fy ngwelliant yn y grŵp hwn, Llywydd, nod gwelliant 53 yw sicrhau bod pob gweithred o lunio polisi yn cael ei hategu gan egwyddorion amgylcheddol cryf. Byddai'r gwelliant hwn yn sicrhau bod adolygiad o gyfraniad Rhan 1 o'r Bil, sy'n nodi dyletswyddau i Weinidogion, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff cyhoeddus ystyried egwyddorion amgylcheddol ac yn y blaen wrth gyflawni'r amcanion amgylcheddol sydd wedi'u nodi yn adran 1. Byddai hefyd yn sicrhau y byddai adolygiad o'r fath yn digwydd o fewn pum mlynedd i'r Bil fynd drwy'r Senedd.

O ran ei bwysigrwydd o ran cynnwys dyletswydd i adolygu'r egwyddorion hyn—ac, unwaith eto, bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed ymateb y Dirprwy Brif Weinidog i'r gwelliant hwn pan fyddaf yn penderfynu a ddylwn i ei wthio i bleidlais ai peidio—ond i wneud yn siŵr bod angen i ni gael dull, neu yn sicr, i sicrhau bod hyn yn gweithio yn ôl y bwriad, oherwydd mae cymaint yn y fantol—. Er enghraifft, mae ymchwil wedi nodi bod dros 45,000 o safleoedd tir a allai fod wedi'u halogi ledled Cymru; does yr un ohonyn nhw, bron, wedi cael eu harchwilio. Gallai'r etifeddiaeth gudd hon beri bygythiadau difrifol i bobl, i ddŵr, i fywyd gwyllt. Pa mor wahanol fyddai polisi cynllunio yn edrych pe bai egwyddorion atal, lliniaru a chyfrifoldeb y llygrwr wedi llywio datblygiad ein cyfundrefn tir halogedig yn fwy cadarn? Mae llygrwyr yn osgoi ymgymryd â gwaith adfer, ac mae'n rhaid i hyn ddod i ben. Byddai'n hanfodol bod gweithredu'r egwyddor honno o'r llygrwr sy'n talu yn cael ei wella a'i ymwreiddio mewn penderfyniadau polisi ar draws y Llywodraeth.

Yng Nghyfnod 2, fe gyflwynais i welliant a fyddai wedi golygu bod angen adolygiad mewn tair blynedd, wedi'i ategu gan adolygiadau rheolaidd eraill. Yr adborth oedd nad oedd hynny'n gymesur, ac rwyf wedi ystyried hynny. Felly, mae'r amserlen adolygu wedi'i chynyddu yn y gwelliant hwn o dair i bum mlynedd ac mae'r angen am adolygiadau eraill a'u hamlder posibl wedi'u gadael yn nwylo Gweinidogion.

Fel y dywedais i, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed ymateb y Dirprwy Brif Weinidog o ran a fyddai'n bosibl cyflawni rhywbeth fel hyn drwy ffyrdd eraill, dim ond i wneud yn siŵr bod yr amcanion amgylcheddol y mae'r Bil yn ceisio eu cyflawni yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd, ac i ddysgu o bosibl gan adrannau Llywodraeth y DU sydd wedi cynnig llwybr mwy diffiniedig. 

Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed ymateb y Llywodraeth i hyn.

17:15

Fel yr wyf wedi'i ddweud eisoes, allaf i ddim anghytuno â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, Delyth, ond o fy rhan i, rwy'n credu y dylai'r adolygiadau hyn ddigwydd bob dwy flynedd er mwyn dwyn y Gweinidog a'r Llywodraeth i gyfrif yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn. Diolch, Delyth, a Janet hefyd.

Rydw i'n mynd i geisio, yn y ffordd rydyn ni wedi'i wneud trwy gydol Cyfnod y Pwyllgorau ar hyn, i esbonio pam nad wyf i'n credu bod angen hyn. Yn wir, mae yna ffyrdd y gallwn ni wneud i hyn ddigwydd, ond rwy'n deall yr ysbryd y mae hyn wedi'i gynnig ynddo a'r hyn rydych chi'n ceisio ei wneud, ac rwy'n credu y gallaf roi tri phrif reswm i chi pam nad oes angen hyn.

Yn gyntaf, oherwydd y gwaith rydyn ni eisoes wedi'i wneud gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, a chydag aelodau pwyllgorau a chyd-Aelodau, sy'n rhoi hyder llwyr i mi y bydd y darpariaethau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith yn Rhan 1 yn effeithiol wrth gyflawni bwriad y polisi, gan gynnwys y cyfraniad hwnnw at gyrraedd lefel uchel o ran diogelu'r amgylchedd a gwelliant i'r amgylchedd yn unol â'r amcan amgylcheddol. Nawr, mae hynny'n glir iawn. Yr holl waith rydyn ni wedi'i wneud ar y Bil hwn ydyw, gan gynnwys y gwelliannau hefyd, a llunio adroddiad gorfodol, fel y rhagwelwyd gan y ddarpariaeth hon—mae'n ddiangen, nid lleiaf oherwydd mae'n awgrymu nad oes gennym ddigon o hyder yn y ddeddfwriaeth hon rydyn ni bwrw ymlaen â hi, nad yw'n wir, mewn gwirionedd, ac rwy'n sylwi ar y croeso eang y mae'r hyn rydyn ni wedi'i wneud wedi'i gael gan ENGOs ac eraill, oherwydd rydyn ni wedi gwneud hyn gyda'n gilydd, ac mae gennyf hyder yn y ddeddfwriaeth hon.

Ond, yn ail, fel mater o drefn, byddwn ni, wrth gwrs, yn adolygu gweithredu'r ddeddfwriaeth a'i heffeithiau polisi i sicrhau cyflawniad effeithiol. Rydym wedi mynegi'n bwrpasol yn y deunyddiau esboniadol y byddwn ni'n monitro effaith y darpariaethau yn Rhan 1, a'r egwyddorion amgylcheddol cysylltiedig a'r datganiad a'r canllawiau ar integreiddio diogelu'r amgylchedd, trwy ymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid. Felly, dyna esbonio hynny. Ac mae hyn yn cynnwys, gyda llaw, gwaith i asesu effeithiolrwydd yr union egwyddorion hynny.

Ond yn drydydd ac yn bwysig, rhaid cofio hefyd y bydd gan Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru ei hun rôl bwysig i'w chwarae wrth asesu a yw'r egwyddorion yn effeithiol, gan ddarparu cyngor ac argymhellion i'r Llywodraeth o bryd i'w gilydd, fel y mae'n ei ystyried yn briodol—y cwestiwn hwn sydd wedi bod gennym ni bob amser am yr annibyniaeth sydd gan SLlAC i ddweud hynny, i ddweud y gwir wrth Weinidogion, fel y mae'n ei gweld yn briodol. Nawr, yn wir, gallai hyn gynnwys argymhellion ar gyfer newidiadau posibl i ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n pryderu y gallai gwelliant o'r natur hon, er bod ei fwriad yn dda, effeithio ar rôl SLlAC yn hyn o beth.

Yn olaf, mae'n fater pwysig, ond mae'n fater technegol. Mae yna broblem dechnegol ynghlwm wrth y gwelliant, gan nad yw pob rhan o'r Ddeddf sydd gennym ni o'n blaenau ni yn dod i rym ar yr un diwrnod. Felly, fel y cyfryw, nid yw'n hollol glir pryd y bydd y cyfnod o bum mlynedd y mae'n rhaid gwneud yr adroddiad o'i fewn ac mae'r gwelliant yn nodi y dylai ddechrau pan ddaw'r Ddeddf i rym—pryd y byddai'n dechrau mewn gwirionedd. Felly, mae diffyg technegol yma hefyd. Am y rhesymau hyn—pam y gallwn ni wneud hyn mewn ffordd wahanol, a hefyd y diffyg technegol hwnnw—allaf i ddim cefnogi'r gwelliant hwn, ond rwy'n deall y bwriadau da y tu ôl i hyn. Rwy'n gobeithio bod hynny'n helpu i esbonio.

17:20

Diolch i'r ddau Aelod am hynna. Roeddwn i'n meddwl, ac rwyf dal yn meddwl, ei bod hi'n bwysig cael y drafodaeth hon ar lawr y Senedd i sicrhau bod y pwyntiau hynny ar y record a'u bod nhw'n cael eu clywed, a pha mor bwysig fydd e i hynna ddigwydd. Rwyf yn cymryd y pwyntiau mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi rhoi mewn i ystyriaeth yn fan hyn, yn enwedig y ddau bwynt olaf o ran yr hyn sydd wedi ei wneud yn glir yn yr explanatory memorandum a hefyd y pwynt am yr angen i ymbweru Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, ac wrth gwrs y pwynt technegol hefyd. Felly, o ran hynny, rwy'n hapus i, felly, ddim symud y gwelliant hwn i bleidlais.

Iawn. Mae'r gwelliant wedi'i symud. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, gwawn ni ddim cymryd pleidlais ar y gwelliant, gan fod yr Aelod wedi dweud ei bod hi'n hapus i dynnu'r gwelliant yn ôl. Os nad oes yna wrthwynebiad, a does yna ddim gwrthwynebiad, felly mae'r gwelliant yna wedi'i dynnu nôl.

Tynnwyd gwelliant 53 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Tynnwyd gwelliant 24 yn ôl.

Grŵp 3: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: sefydlu a materion cysylltiedig (Gwelliannau 33, 25, 46, 26, 32, 8, 48)

Grŵp 3 sydd nesaf. Mae gwelliannau'r grŵp yma yn ymwneud â sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru o dan Rhan 2 o'r Bil, a materion sy'n gysylltiedig. Gwelliant 33 yw'r prif welliant. Janet Finch-Saunders sy'n cynnig y prif welliant. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phwyllgor amgylcheddol presennol y Senedd cyn gwneud rheoliadau i newid nifer yr aelodau anweithredol a ganiateir ar gyfer SLlAC. Mae hwn yn fesur penodol a chryf i amddiffyn annibyniaeth SLlAC. Mae gwelliant 25 yn anghymhwyso aelod o staff Llywodraeth Cymru rhag bod yn aelod o SLlAC. Unwaith eto, mae hwn yn fesur i amddiffyn annibyniaeth y corff hwn.

Mae gwelliant 26 yn galw ar i SLlAC gael ei hariannu o gronfa gyfunol Cymru a chynnig cyllideb y Senedd. Bydd y gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Senedd Cymru archwilio ac adolygu gwariant a swyddogaethau SLlAC yn rheolaidd. Roeddwn i'n credu, ar un adeg, ein bod ni'n mynd i geisio newid yr acronym hwnnw, ond dyna fe. Am y rheswm hwnnw, ni fyddaf i a fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant 32, gan ein bod o'r farn bod ein gwelliant 26 yn crynhoi bwriad gwelliant 32. Diolch.

Dŷn ni'n cefnogi gwelliannau 33 a 25 yn enw Janet, er rŷn ni yn erbyn gwelliant 26.

Gwnaf siarad o blaid y gwelliannau yn fy enw i yn y grŵp hwn. Yn gyntaf, byddai gwelliant 46 yn sicrhau mai dim ond gyda chymeradwyaeth y Senedd y byddai modd penodi unrhyw aelod anweithredol o SLlAC. Byddai hwn yn fesur diogelu syml a fyddai'n cryfhau annibyniaeth y corff, yn fy marn i. Byddai'n golygu na fyddai Gweinidogion Cymru yn gallu penodi aelodau ar eu pennau eu hunain, a byddai'n sicrhau mwy o dryloywder, goruchwyliaeth ddemocrataidd a hyder y cyhoedd yn SLlAC o'r cychwyn cyntaf. Wedi dweud hynny, rwy'n gwerthfawrogi rhai o'r pwyntiau a wnaed yng Nghyfnod 2, ac, unwaith eto, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed ymateb y Dirprwy Brif Weinidog ar y pwynt hwnnw.

O ran siarad o blaid gwelliant 48, nawr byddai hwnnw'n dileu SLlAC o adran 6 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwyf wedi cyflwyno hwn fel gwelliant ymchwilgar yn unig. Ni fyddaf yn gwthio hyn i bleidlais. Nawr, y rheswm yr wyf wedi ei gyflwyno yw bod SLlAC yn gorff goruchwylio, nid corff darparu gwasanaethau. Felly, yn dechnegol, gallai cynnwys y cyfeiriad hwn o bosibl dynnu sylw oddi wrth ei swyddogaethau craidd. Roedd yn bwynt a gafodd ei godi gyda ni wrth graffu ar lefel pwyllgor. Cadarnhaodd yr archwilydd cyffredinol ei bod yn fwy tebyg i gyrff fel yr ombwdsmon ac na allai fod disgwyl iddi'n rhesymol osod amcanion ar draws pob nod llesiant. Mae ei pherthynas â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol eisoes wedi'i chwmpasu trwy ofynion yn y Bil i osgoi dyblygu. Nawr, roeddwn i eisiau gwneud y pwynt hwn, Llywydd, gan ei fod wedi cael ei godi yn ystod gwaith craffu, ond rwy'n rhagweld y gallai pwyntiau tebyg gael eu gwneud mewn ymateb i'r rhai a gafodd eu gwneud yng Nghyfnod 2 o ran yr opteg. Ac, wrth gwrs, rwy'n cefnogi'n gryf y syniad o Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Nid wyf yn credu y dylid gwthio hyn i bleidlais ar hyn o bryd, er, oherwydd y pwyntiau technegol hynny a godwyd gyda ni, roeddwn i'n credu ei bod yn bwysig i ni leisio'r rhain yn ystod Cyfnod 3 er mwyn cofnodi sut y bydd SLlAC a swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn rhyngweithio. Diolch.

17:25

Hoffwn siarad o blaid gwelliant 32 ynglŷn â digonolrwydd cyllid ar gyfer SLlAC. Byddai'r gwelliant hwn yn golygu, os yw SLlAC o'r farn nad yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi digon o gyllid, a'i bod yn dewis adlewyrchu hyn yn ei hadroddiad blynyddol, yna rhaid i SLlAC gyflwyno'r adroddiad i Weinidogion Cymru. Mae hyn yn ychwanegol at y gofyniad presennol i osod adroddiadau blynyddol gerbron y Senedd. Y canlyniad arfaethedig yw cryfhau mesurau diogelu o amgylch cyllid SLlAC trwy gynyddu atebolrwydd a chynyddu craffu gwleidyddol ar y trefniadau cyllido os yw SLlAC o'r farn bod diffyg. Mae'r ffaith bod y gwelliant yn nodi canlyniadau adroddiad blynyddol sy'n nodi bod SLlAC o'r farn nad yw wedi cael digon o gyllid hefyd yn ei gwneud yn glir bod pwerau adrodd ac ategol presennol SLlAC yn caniatáu iddi fynegi ei barn ar ddigonolrwydd cyllid. Ac yn bwysig, bydd hyn yn parhau i fod yn fater dewisol i SLlAC.

Mae'n bwysig bod gan SLlAC y pŵer i rhoi ei barn ar gyllid, ac mae'r gwelliant hwn yn nodi gofyniad ychwanegol pan fydd yn gwneud hynny at ddibenion cynyddu atebolrwydd a chraffu. Mae hwn yn fesur pwysig, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r gwelliant hwn. Diolch.

Yn ystod Cyfnod 2, cynigodd Janet Finch-Saunders welliant a fyddai wedi sicrhau bod y swyddfa nid yn unig gyda gwefan ond, yn bwysicach, yn cynnwys ar y wefan yna restr o'r awdurdodau cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i oruchwyliaeth y swyddfa. A dwi'n credu bod hyn yn bwysig am dryloywder.

Doeddwn i ddim yn credu bod problem gyda'r gwelliant, ond methodd gael cefnogaeth gan fwyafrif. Mae'n dilyn, felly, fy mod i'n ystyried sut mae posib cyflawni y nod cyfreithiol, sef, yn y bôn, sicrhau bod y swyddfa gyda gwefan sy'n weledol wedyn i'r cyhoedd. Ac mae cynsail i hyn, fel rŷch chi'n gwybod yn iawn, Dirprwy Brif Weinidog—Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025. Mae rhan 71, a dwi'n dyfynnu, yn dweud hyn:

'Rhaid i'r Awdurdod sefydlu a chynnal gwefan, neu gyfleuster electronig arall (megis cymhwysiad meddalwedd), y gall y cyhoedd ei chyrchu neu ei gyrchu yn ddi-dâl.'

Os nad ydych am gefnogi'r gwelliant—a dwi'n gweld ar y slip fan hyn eich bod chi ddim; dwi'n gweld y coch yn amlwg wrth fy ngwelliannau i—fyddech chi mor garedig ag egluro pam mae gwefan yn angenrheidiol i'r awdurdod tomenni a ddim i'r swyddfa fan hyn? A pham nad ydych chi am sicrhau bod ein swyddfa ni yn manteisio o arfer da o'r swyddfa yn Lloegr a Gogledd Iwerddon? Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, diolch i bob Aelod am gynnig y gwelliannau hyn. Mae'n dipyn o gymysgedd yma, felly fe wnaf i geisio peidio â chymryd yn rhy hir, ond rwy'n mynd i ddechrau gyda'r cadarnhaol. Rydw i'n mynd i droi at welliant Janet, yn gyntaf oll, gwelliant 33. Janet, rwy'n falch o ddweud fy mod i'n cefnogi'r gwelliant hwn yn eich enw chi yn llawn. [Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. [Chwerthin.] Yn wir, fe gyflwynodd Janet welliant yng Nghyfnod 2 a fyddai wedi ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phwyllgor y Senedd y mae ei gylch gwaith yn ymwneud â diogelu'r amgylchedd cyn gwneud rheoliadau i newid nifer y penodiadau anweithredol. Fe amlinellais yng Nghyfnod 2 fy mod o'r farn bod yna werth yn ei chynnig, ond roedden ni'n credu y gallai'r ddarpariaeth fynd hyd yn oed ymhellach a chynnwys gofyniad hefyd i ymgynghori â SLlAC ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol. Felly, o ystyried bod ymgynghori â SLlAC wedi'i gynnwys yn eich gwelliant, rwy'n falch o allu ei gefnogi'n llawn, a byddwn i'n annog Aelodau eraill i wneud yr un peth.

Os gaf i droi felly, ar ôl dechrau ar nodyn cadarnhaol, at welliant 25, sy'n welliant tebyg i'r un a gyflwynwyd ac a wrthodwyd yn ystod Cyfnod 2, diben paragraff 3 o Atodlen 1 i'r Bil, y byddai'r gwelliant hwn yn ei ddiwygio, yw anghymhwyso aelodau sy'n ymgymryd â swyddi cyhoeddus a/neu wleidyddol penodol rhag bod yn aelodau o SLlAC. Mae hyn oherwydd y gallai fod gwrthdaro buddiannau uniongyrchol yn yr achosion hyn, yn enwedig o ran sefydliadau y mae SLlAC yn eu goruchwylio'n uniongyrchol. Nawr, nid oes unrhyw ddarpariaeth i anghymhwyso aelodau o staff y sefydliadau hynny ar hyn o bryd, gan ein bod o'r farn ei bod yn briodol i unrhyw wrthdaro buddiannau gael ei reoli drwy'r gweithdrefnau gweinyddol priodol. Nid ydym o'r farn bod rhesymeg gref dros neilltuo ac anghymhwyso aelodau o staff Llywodraeth Cymru. Gall unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yma gael ei reoli'n briodol ac, yn wir, mae yn cael ei reoli'n briodol, fel y byddai'n cael ei wneud yn achos aelodau o staff o awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru neu unrhyw sefydliadau eraill sydd wedi'u rhestru lle mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn cael eu hanghymhwyso.

Ar ben hynny, bydd y pŵer i wneud rheoliadau ym mharagraff 3(1)(i) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r rhestr i gynnwys aelodau o sefydliadau eraill ac aelodau o staff y sefydliadau hynny pe bai hynny'n cael ei ystyried yn angenrheidiol yn y dyfodol. Felly, mae darpariaeth i wneud hyn. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gadw golwg i weld a oes angen mwy o anghymhwyso yn y dyfodol. Felly, am y rhesymau hynny, nid wyf o'r farn ei bod yn briodol gwneud y gwelliant hwn.

Os gwnaf i droi at welliant 46, unwaith eto, cafodd hwn ei gyflwyno yng Nghyfnod 2, neu un tebyg, ond cafodd ei dynnu'n ôl yn ystod y sesiwn ar sail y dadleuon a amlinellwyd gennym ar y pryd. Ond, os yw'n helpu eto, Delyth, a hefyd y Siambr ehangach, rwy'n fwy na pharod i nodi'r rhesymau pam na fyddwn i'n cefnogi hwn eto. Felly, gallai gofyn am gymeradwyaeth y Senedd i benodi pump i saith aelod anweithredol ychwanegu cyfnodau o oedi i'r broses. Efallai y byddan nhw'n fyr, ond gallen nhw fod yn sylweddol, o gofio'r ffordd y mae'r Senedd yn gweithio a'r ffordd y mae'r broses yn gweithio.

Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaethon ni nifer o bethau. Fe wnaethon ni gryfhau annibyniaeth ac uniondeb y broses benodi drwy welliannau a gyflwynwyd gennym i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried annibyniaeth SLlAC wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â hi, gan gynnwys wrth benodi aelodau anweithredol, a thrwy ei gwneud yn ofynnol i'r panel penodi gynnwys Aelod o'r Senedd. Felly, fe wnaethon ni gryfhau'r agweddau hyn wrth i ni fynd trwy Gyfnod 2. Nawr, mae hyn yn ychwanegol at y gofynion ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phwyllgor perthnasol y Senedd cyn penodi neu ailbenodi cadeirydd a dirprwy gadeirydd. Nawr, rydyn ni'n teimlo'n gryf bod y mesurau hyn yn ffordd llawer mwy ymarferol o wella'r broses benodi a sicrhau hefyd ein bod ni'n cael penodiadau amserol a dim oedi, gan gyd-fynd, gyda llaw, â'r broses sefydledig sy'n cael ei defnyddio ar gyfer rolau fel Comisiynydd y Gymraeg. Felly, dyna pam na fyddwn i'n cefnogi'r gwelliant hwn.

O ran gwelliant 26, Janet, mae hwn yn un arall a gafodd ei gyflwyno ac yna ei wrthod yng Nghyfnod 2. Mae hyn oherwydd y byddai'r gwelliant sylweddol hwn yn ychwanegu risg sylweddol, yn ein barn ni, ac anhyblygrwydd i'r trefniadau cyllido ar gyfer SLlAC. Fe wnaethon ni ystyried y ffynhonnell ariannu ar gyfer SLlAC yn gynharach, fel yr amlinellais i yn ystod y trafodaethau yng Nghyfnod 2, gan gynnwys defnydd posibl o gronfa gyfunol Cymru. Fe wnaethon ni ymgynghori ar y mater hwn yn y Papur Gwyn a dod i'r casgliad bod budd sylweddol i ariannu SLlAC drwy gyllidebau Llywodraeth Cymru. Gadewch i mi esbonio pam. Y budd cliriaf fyddai'r hyblygrwydd y mae hyn yn ei ddarparu. Rydym yn gwybod o brofiad nawr, o edrych dros y ffiniau, bod Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn Lloegr a Safonau Amgylcheddol yr Alban yn yr Alban wedi cael cyllidebau amrywiol iawn yn eu blynyddoedd ffurfiannol, a bod Gweinidogion dros y ffin wedi gorfod cynyddu a lleihau eu cyllid yn unol â hynny wrth i'r blynyddoedd hynny fynd heibio.

Nawr, rwy'n gwerthfawrogi y gallai cyllid gan Lywodraeth Cymru gael ei ystyried yn llai annibynnol, ond rydym yn hyderus bod darpariaethau'r Bil, fel y'u diwygiwyd yng Nghyfnod 2, yr wyf newydd ei nodi, i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i annibyniaeth SLlAC, a'r gofyniad i ddarparu digon o gyllid, yn fesur diogelu llawer mwy effeithiol. Mae'r rheini, yn fy marn i, yn ffyrdd mwy ymarferol a synhwyrol o gryfhau a diogelu rôl SLlAC a'i chyllid heb eu hamlygu i risgiau ynghylch cyllid a hyblygrwydd, y credwn y byddai gwelliant 26 yn ei wneud. Felly, dyna pam na allaf gefnogi'r gwelliant hwn.

O ran gwelliant 32, a gynigiwyd gan fy nghyd-Aelod Carolyn Thomas—Carolyn, diolch am gyflwyno hwn, a gallaf ddweud fy mod i'n cefnogi'r  gwelliant hwn yn llwyr. Rydych chi wedi'i nodi'n fanwl, ond mae'r gwelliant hwn yn darparu bod SLlAC yn arfer ei disgresiwn i gynnwys yn ei hadroddiad blynyddol ddatganiad ynghylch a yw'r symiau a ddyrannwyd iddi wedi bod yn ddigonol i'w galluogi i gyflawni ei swyddogaethau. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol. Rhaid iddi gyflwyno'r adroddiad hwnnw i Weinidogion Cymru. Mae hyn yn ychwanegol, wrth gwrs, at y gofyniad a oedd yn bodoli eisoes i bob adroddiad blynyddol gael ei osod gerbron y Senedd. Mae'r gwelliant hwn yn dda ac yn briodol. Nid yw'n peryglu annibyniaeth SLlAC, yr wyf wedi nodi'n glir pa mor bwysig ydyw dro ar ôl tro, ac rwy'n credu bod aelodau pwyllgorau wedi gwneud hynny hefyd. Ond mae hefyd yn ei gwneud yn glir, i bob diben, bod gan SLlAC y disgresiwn angenrheidiol i wneud datganiad am ddigonolrwydd cyllid a chanlyniadau cynnwys datganiad o'r fath yn eu hadroddiad blynyddol. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi'r gwelliant hwn, Carolyn.

Os gaf i droi at fater gwefannau—a dydy e ddim, gallaf eich sicrhau, oherwydd fy mod i yn erbyn gwefannau—ond does dim angen deddfu i SLlAC sefydlu a chynnal gwefan. Mae ei hymagwedd at gyfathrebu allanol yn mynd i fod yn fater lle bydd yn arfer ei barn annibynnol ei hun yn unol â gofynion y Bil, gan ganiatáu iddi wneud ei phenderfyniadau ar faterion gweithredol. A gaf i ddweud fy mod i'n disgwyl yn bendant, oni bai bod technoleg yn symud ymlaen yn sylweddol dros yr ychydig fisoedd nesaf, y bydd SLlAC, yn wir, eisiau cael gwefan fel rhan o'r—? Ond mater iddyn nhw yw hynny, yn yr un modd ag y bydden ni hefyd yn disgwyl y byddan nhw eisiau cael logo, brandio, gofod swyddfa, ac ati, ac ati, y mae pob un ohonyn nhw'n faterion nad oes angen darpariaeth benodol ar eu cyfer yn y darn hwn o ddeddfwriaeth. Felly, dyna pam nad wyf yn ei gefnogi—nid oherwydd nad wyf yn hoffi gwefannau, o ddifrif.

Gwelliant 48—Delyth, diolch am hwn, ac fe wnaethon ni drafod hwn o'r blaen hefyd. Bydd gan SLlAC rôl sylweddol wrth asesu newidiadau i gyfraith amgylcheddol yng Nghymru a chynghori arnyn nhw. Mae hyn yn cefnogi'n uniongyrchol y peth rydyn ni'n falch ohono, sef nod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Felly, mae cydnabod SLlAC fel corff cyhoeddus yn y Ddeddf honno yn sicrhau bod ei gweithredoedd yn cyd-fynd â datblygu cynaliadwy ac mae'n helpu i osgoi'r sefyllfa yr oedden ni ynddi o'r blaen lle'r oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn seilos. Felly, byddai eithrio SLlAC yn tanseilio'r dull llywodraethiant integredig y mae'r Bil yn ei ragweld. Gallai wanhau atebolrwydd, darnio'r dull gweithredu a gwahanu'r fframwaith llywodraethiant amgylcheddol o'r fframwaith polisi ehangach hwnnw yng Nghymru.

Nawr, ni all y fframwaith llywodraethiant amgylcheddol weithredu ar ei ben ei hun. Mae'r fframwaith cyfunol hwn hefyd yn cryfhau, gyda llaw, y cydweithredu â chyrff cyhoeddus eraill, ac mae'n cefnogi dull gorfodi blaengar, uwchgyfeiriol SLlAC. Pe baen ni'n hepgor SLlAC, byddai'n erydu'r dull cyfannol, atebol hwnnw o lesiant ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Nawr, bydd Delyth yn nodi ein bod ni'n cefnogi newid diben cyffredinol SLlAC i ganolbwyntio mwy ar yr amgylchedd, sy'n cynnwys dileu cyfeiriad at yr amcan amgylcheddol yn y ddarpariaeth am ddiben cyffredinol SLlAC. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, mae hyd yn oed yn fwy hanfodol bod y cysylltiad rhwng gwaith SLlAC a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cael ei gadw trwy'r ddarpariaeth hon. Ac, yn olaf, rwy'n gwybod bod rhai pobl wedi awgrymu bod rhywfaint o debygrwydd yma â chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys pethau fel yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, ond bydden ni'n dweud bod hynny'n colli'r pwynt. Mae'n gamarweiniol. Yn wir, mae llywodraethiant amgylcheddol da yn ganolog i gyflawni amcanion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r fframwaith a ddatblygwyd drwy'r Bil hwn yn ei chydnabod ac yn ei hategu. Pe baem ni'n ei hepgor, byddai'n cael yr effaith niweidiol honno yr wyf wedi'i hamlinellu. Felly, allaf i ddim cefnogi'r gwelliant hwn am y rhesymau hynny.

17:35

Diolch, Llywydd, a diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am ildio ar y gwelliant hwnnw. A hefyd byddwn ni'n eich cefnogi chi, Delyth, ar yr un y gwnaethoch chi ei gyflwyno. Diolch.

17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. [Torri ar draws.]

Ie, 33. Unrhyw wrthwynebiad? Na. 

Felly, mae gwelliant 33 wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Janet Finch-Saunders).

Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 25. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly byddaf yn cau'r bleidlais ac yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 25. Ac felly, mae'r gwelliant yn cwympo, gyda 24 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn.

Gwelliant 25: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 46 (Delyth Jewell).

Cynigiwyd gwelliant 26 (Janet Finch-Saunders).

Ydy.

Oes gwrthwynebiad i welliant 26? [Gwrthwynebiad.] Oes, gwrthwynebiad. Fe gymerwn bleidlais felly ar welliant 26. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 26: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 32 (Carolyn Thomas).

A oes gwrthwynebiad i welliant 32? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 32 wedi ei dderbyn.  

Gwelliant 32: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 8 (Rhys ab Owen).

Grŵp 4: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: diben cyffredinol (Gwelliannau 36, 1, 47, 7)

Grwp 4 o welliannau. Mae'r grwp yma yn ymwneud â diben cyffredinol Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Gwelliant 36 yw'r prif welliant. Delyth Jewell sy'n cynnig y prif welliant.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig y gwelliannau yn fy enw yn y grŵp, gwelliannau 36 a 47. 

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog a'i dîm am eu cymorth a'u cefnogaeth wrth edrych ar sut y gallai hyn weithio. Diben y gwelliant hwn yw darparu diben cyffredinol mwy penodol ar gyfer SLlAC. Mae'r gwelliant yn sicrhau cymesuredd â'r amcan amgylcheddol a nodir yn adran 1 o'r Bil, sy'n cynnwys cyfeiriad at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy gyfeirio at gyrraedd lefel uchel o ran diogelu'r amgylchedd a gwelliant i'r amgylchedd, gan bwysleisio rôl SLlAC wrth sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith amgylcheddol, ynghyd â'i heffeithiolrwydd a'r ffordd y caiff ei gweithredu a'i chymhwyso. 

Rwy'n ddiolchgar hefyd am eu cymorth wrth edrych, ar ôl Cyfnod 2, ar sut y gallai'r hyn a gyflwynais yng ngwelliant 47 weithio. Mae'n ganlyniadol i’r gwelliant 36 blaenorol. Mae’n adlewyrchu bod rhaid i SLlAC nodi yn ei strategaeth sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’i dyletswydd i arfer ei swyddogaethau at y diben cyffredinol a nodir yn adran 10(a), ac nid yr ‘amcan amgylcheddol’, fel y'i drafftiwyd yn flaenorol. Diolch.

Bydd pawb yn falch iawn o glywed nad ydw i'n bwriadu ailadrodd y sylwadau i gyd a godais o blaid y gwelliannau hyn yn nhrafodion Cyfnod 2, ond dwi'n cynnig y dylai fod y swyddfa newydd yn gweithredu mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r Aarhus convention. Beth fydd hynny'n ei olygu, dwi'n eich clywed chi'n holi? Wel, mae'n sicrhau tri hawl i'r cyhoedd ar faterion amgylcheddol: hawl i dderbyn gwybodaeth amgylcheddol sy'n cael ei ddal gan gyrff cyhoeddus; hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau amgylcheddol; ac, yn drydydd, hawl i gael adolygiad gan lys neu gorff annibynnol arall er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn parchu'r hawliau dwi wedi’u hamlinellu, a chyfraith amgylcheddol yn gyffredinol. Pa mor aml ŷn ni'n cael gohebiaeth oddi wrth etholwyr ar y materion yma?

Nawr, mewn ymateb i fy ngwelliannau yng Nghyfnod 2, eglurodd y Dirprwy Brif Weinidog nad ydy e, yn ei farn e, yn addas i sicrhau bod y swyddfa yn cydymffurfio gydag Aarhus. Mae hyn er bod y confensiwn yn gytundeb rhyngwladol sydd wedi cael ei gefnogi gan y Deyrnas Unedig. Blwyddyn diwethaf, roedd penderfyniad gan bwyllgor cydymffurfio'r confensiwn yn dweud bod y Deyrnas Unedig yn methu gyda'i chydymffurfiad. Yn fy marn i, mae safbwynt y Dirprwy Brif Weinidog a safbwynt Llywodraeth Cymru ar fy ngwelliannau yn dystiolaeth nid yn unig bod y Deyrnas Unedig yn methu, ond bod Cymru hefyd yn methu gyda chydymffurfio â'r confensiwn.

Yn unol ag erthygl 10 o gonfensiwn Aarhus, mae partïon yn adolygu gweithrediad y confensiwn yn barhaus ar sail adroddiadau rheolaidd gan y partïon. Er enghraifft, mae adroddiad 2021 y Deyrnas Unedig yn nodi, fel tystiolaeth o gydymffurfio gyda'r confensiwn yma yng Nghymru, ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gofynnaf yn garedig i chi i gyd ystyried pam na ddylai'r Bil amgylchedd yma gael ei gynnwys yn y rhestr, ac felly cefnogi fy ngwelliannau. Diolch yn fawr.

17:45

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf oll, os gallaf droi at welliant 36 a gwelliant canlyniadol 47, mae'r Bil fel y'i cyflwynwyd ac fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 yn alinio diben cyffredinol SLlAC â'r amcan amgylcheddol a nodir yn adran 1 o'r Bil, sy'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, cyfeiriad at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond fe glywson ni yn y camau cynharach, ac yn wir gan yr ENGOs hefyd, bryderon nad yw'r dull hwn yn canolbwyntio ar yr amgylchedd cymaint ag y gallai. Felly, ar ôl gwrando ar y pryderon hyn, rwy'n falch iawn, Delyth, ein bod ni wedi gallu cydweithio'n effeithiol i ddatblygu'r gwelliant priodol hwn sy'n mynd i'r afael â'r pryderon hynny, gan gadw'r ffocws clir angenrheidiol hwnnw hefyd ar gyrraedd lefel uchel o ran diogelu'r amgylchedd a gwelliant i'r amgylchedd. Felly, yn y modd hwn, mae'r gwelliant hwn yn sicrhau cymesuredd â'r amcan amgylcheddol, ond yn canolbwyntio ar y rôl y bydd SLlAC yn ei chwarae wrth gefnogi'r amgylchedd trwy oruchwylio cyfraith amgylcheddol. Felly, ar y sail honno, rwy'n falch iawn o gefnogi'r gwelliant hwn ac annog Aelodau eraill i wneud hynny, a'r gwelliant canlyniadol hefyd.

Rhys, rwy'n teimlo'n ddrwg iawn nawr, ond rwy'n mynd i esbonio pam nad wyf yn credu bod y gwelliannau hyn yn briodol. Yn wir, dyma'r gwelliannau, neu debyg, a gyflwynwyd ac a wrthodwyd yng Nghyfnod 2. Y rheswm yw y byddai'n amhriodol i'r ddarpariaeth hon gael ei hychwanegu at ddiben cyffredinol SLlAC. Er ein bod ni'n gefnogol i gonfensiwn Aarhus, mae'n gwestiwn o sut mae'n cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth hon.

Mae confensiwn Aarhus, fel y mae pob un ohonom yn ei wybod, yn gytundeb rhyngwladol a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n nodi egwyddorion eang yn hytrach na dyletswyddau statudol manwl. Pe baem yn gofyn i SLlAC arfer ei swyddogaethau yn unol â chonfensiwn Aarhus, gallai agor y drws i rai anghydfodau eithaf mawr o ran dehongli ac, yn wir, heriau posibl. Mae'r Bil eisoes yn nodi ffyrdd effeithiol o sicrhau bod dinasyddion yn cael eu grymuso i ymgysylltu â SLlAC a bod SLlAC yn ymgynghori â nhw.

At hynny, cylch gwaith SLlAC yw goruchwylio cyfraith amgylcheddol, sydd yn y cyd-destun hwn yn golygu darpariaethau datganoledig sy'n ymwneud â'r amgylchedd. Nawr, mae rhwymedigaethau Aarhus yn aml yn gofyn am fesurau systemig fel mynediad i lysoedd, sydd y tu hwnt i bwerau ac adnoddau SLlAC. Felly, pe baem yn gosod y ddyletswydd hon, byddai'n arwain, a bod yn gwbl onest, at ddisgwyliadau afrealistig o'r hyn y gallai ac y dylai SLlAC ei wneud.

I ychwanegu at hyn, mae'r gwaith o fonitro cydymffurfiaeth ag Aarhus eisoes yn cael ei drin ar lefel y DU a chan bwyllgor cydymffurfio UNECE. Tra bydd SLlAC yn goruchwylio cyfraith amgylcheddol ddomestig, sy'n adlewyrchu confensiwn Aarhus, ni ddylid disgwyl iddi fod, ac ni allai fod, mewn gwirionedd, yn gorff goruchwylio ar gyfer rhwymedigaethau ledled y DU, oherwydd mae'r goruchwyliaeth hon eisoes yn bodoli. Felly, nid yw oherwydd unrhyw ddiffyg cydymdeimlad neu ymrwymiad tuag at ein rhwymedigaethau o ran confensiwn Aarhus; nid yw'n ffitio o fewn rôl SLlAC yn y cyd-destun datganoledig hwn. Ond mae yna ddarpariaeth eisoes ar gyfer hynny. Rwy'n gobeithio bod hynny'n egluro'r mater.

17:50

Diolch i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl fer hon. Rwy'n ddiolchgar yn arbennig i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei sylwadau cefnogol i'r gwelliannau yn fy enw i yn y grŵp hwn, a gobeithio y bydd y balans nawr yn gweithio yn dda. Mae yna bwyntiau diddorol sydd wedi cael eu codi, dwi'n meddwl, gan Rhys am ei welliant ei hun am gonfensiwn Aarhus. Dwi hefyd yn cydnabod y sialensau a all godi os ydy'n cael ei basio, felly byddwn ni'n ymatal ar y gwelliant hwn. Ond dwi'n meddwl, oni bai am y sialensau hynny, byddem ni wedi'i gefnogi e.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, felly mae'r gwelliant yna wedi'i basio.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Rhys ab Owen).

Mae'n cael ei symud. Os gwrthodir gwelliant 1, bydd gwelliant 7 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae fe. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, 11 yn ymatal, 35 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i wrthod, felly.

Gwelliant 1: O blaid: 2, Yn erbyn: 35, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 7.

Cynigiwyd gwelliant 47 (Delyth Jewell).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 47? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 47. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 47. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Mae gwelliant 47 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 47: O blaid: 46, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 5: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: strategaeth (Gwelliannau 27, 34, 28, 29, 30)

Grŵp 5 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â strategaeth Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Gwelliant 27 yw'r prif welliant. Janet Finch-Saunders sy'n cyflwyno.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Janet Finch-Saunders).

Diolch. Cynigiaf welliant 27 yn fy enw i. Mae gwelliant 27 yn sicrhau bod yn rhaid ymgysylltu â chyrff llywodraethiant amgylcheddol cyfatebol mewn perthynas â materion sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau sydd y tu hwnt i'r ddarpariaeth ddatganoledig. Bydd hyn yn sicrhau bod rheolaeth fwy effeithiol. Mae gwelliannau 28 a 29 yn ychwanegu'r Arolygiaeth Dŵr Yfed a'r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr i sicrhau nad oes unrhyw orgyffwrdd rhwng eu swyddogaethau nhw a swyddogaethau SLlAC. 

[Anghlywadwy.]—welliant 27. Hoffwn i hefyd roi fy nghefnogaeth i welliant 34 yn enw Joyce, sydd yn y grŵp hwn. Byddai gwelliant 34 yn rhoi gofyniad ar Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru i osod mas ei strategaeth am sut y bydd yn bwriadu gweithio gyda'r CCC. Mae hynny'n debyg i welliant oedd wedi cael ei gyflwyno yng Nghyfnod 2 ac rwy'n gefnogol o hyn. Tra bydd y swyddfa yn gweithio gyda nifer o fawr o gyrff—. Dwi'n gweld y Llywydd—. Ydych chi eisiau imi gario ymlaen? Tra bydd y swyddfa yn gweithio gyda nifer o fawr o gyrff, byddai'r gwelliant hwn yn cynnig eglurder a bydd yn gwella atebolrwydd ynglŷn â'r berthynas gyda'r corff hollbwysig hwn. Bydd yn help hefyd i'r swyddfa llywodraethiant amgylcheddol i gael y cyd-drefniant hwn, felly dwi'n gefnogol o'r gwelliant.

Diolch, Llywydd. Rwy'n mynd i gynnig y gwelliant yn fy enw i. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru nodi ei strategaeth ar sut y bydd yn arfer ei swyddogaeth mewn ffordd sy'n osgoi gorgyffwrdd â swyddogaethau Llywodraeth y DU ar newid yn yr hinsawdd. Mae Atodlen 2 i'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnwys a gofynion gweithdrefnol y strategaeth y mae'n ofynnol i SLlAC ei pharatoi a'i chyhoeddi o dan adran 11. Bydd y strategaeth yn amlinellu sut y bydd SLlAC yn cyflawni ei dyletswyddau statudol heb orgyffwrdd â rolau cyrff goruchwylio eraill. Mae'r gwelliant yn ychwanegu Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU at y rhestr o gyrff y mae'n rhaid i strategaeth SLlAC nodi sut y bydd yn osgoi gorgyffwrdd swyddogaethau â nhw.

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am wrando ar randdeiliaid ar ôl Cyfnod 2, ac am weithio gyda ni i ddatblygu gwelliant addas i sicrhau bod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i SLlAC osgoi gorgyffwrdd â Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn benodol, o ystyried y gorgyffwrdd posibl o ran swyddogaethau, er ei fod yn eithaf cyfyngedig. 

17:55

Diolch, Llywydd. Os gallaf droi, yn gyntaf oll, at welliant 27 yn enw Janet Finch-Saunders, mae hwn, unwaith eto, yn debyg i welliant a gyflwynwyd, a drafodwyd ac yna a wrthodwyd yng Nghyfnod 2, ond fe wnaf i egluro pam—ein rhesymau dros hynny. Gall SLlAC ddibynnu ar ei phwerau atodol i ymrwymo i unrhyw gytundebau â chyrff perthnasol y mae'n ystyried eu bod yn angenrheidiol, megis ymchwiliadau i feysydd lle mae pryder cyffredin sy'n berthnasol i Gymru. I fod yn glir, mae'n debygol y bydd cynnwys gofyniad penodol o'r natur hon yn y Bil yn gofyn am gydsyniad Gweinidogion y DU. Nawr, mae hyn wedi digwydd weithiau, ond nid yw wedi'i warantu o bell ffordd. Yn hynny o beth, nid wyf o'r farn ei bod yn angenrheidiol nac yn ddymunol i geisio cydsyniad ar gyfer darpariaeth na fyddai'n gwella effeithiolrwydd SLlAC, ac a allai, yn wir, effeithio, i fod yn glir, ar hynt amserol y Bil drwy'r Senedd hon, wrth i ni eistedd yn trafod yma ar hyn o bryd. 

Mae gan asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru, y corff dros dro, femorandwm cyd-ddealltwriaeth eisoes gyda Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Amgylcheddol yr Alban, y sefydliadau cyfateb yn Lloegr a'r Alban, a pherthynas waith dda iawn gyda nhw. Mae hyn yn wirioneddol effeithiol, ac nid yw'r asesydd interim hyd yn oed yn gorff statudol eto, felly mae'n dangos pam nad oes angen y ddarpariaeth hon hefyd. 

Os gwnaf i droi at welliant 34 yn enw Joyce Watson, Joyce, diolch am gynnig hwn, ond hefyd am y ffordd y mae hyn wedi'i gyflwyno ar y cyd â'r ENGOs a rhanddeiliaid, gan weithio gyda fy swyddogion. Ar ôl i ni wrando ar ENGOs ac aelodau'r pwyllgor ymhellach ar y mater ar ôl Cyfnod 2, credwn y byddai ychwanegu Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU at y rhestr ym mharagraff 1(1)(e) o Atodlen 2 yn rhoi mwy o eglurder, ac yn sicrhau y bydd yn ofynnol i SLlAC nodi sut y bydd yn osgoi'r hyn yr ydym yn ei gredu, gyda llaw, a fydd yn orgyffwrdd cyfyngedig—sut y bydd yn osgoi'r gorgyffwrdd hynny rhwng SLlAC a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU. Felly, byddwn yn cefnogi'r gwelliant hwnnw, a byddwn yn annog yr Aelodau i wneud hynny. 

Os gallaf droi at welliannau 28 a 29 yn enw Janet, mewn ymateb i'r gwelliannau hynny, credwn mai ychydig iawn o orgyffwrdd sydd yna, i fod yn onest, rhwng swyddogaethau SLlAC, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed a'r Swyddfa Gwasanaethau Dŵr. Fodd bynnag, rwyf wedi cytuno'n flaenorol â'r egwyddor hon o'i gwneud yn ofynnol i SLlAC fynegi yn ei strategaeth sut mae'n bwriadu arfer ei swyddogaethau mewn ffordd nad yw'n gorgyffwrdd â swyddogaethau unrhyw sefydliad, nid dim ond y rhai a restrir yn benodol. Caiff hyn ei adlewyrchu ym mharagraff 1(1)(e)(vi) o Atodlen 2, a fewnosodwyd gennym yn ystod trafodion Cyfnod 2 mewn ymateb i rai o'r trafodaethau hyn. Mae hyn yn rhoi digon o gwmpas ac eglurder, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i SLlAC fynegi yn ei strategaeth sut y bydd yn ceisio osgoi gorgyffwrdd ag awdurdodau cyhoeddus, ond yn seiliedig ar ei harbenigedd annibynnol ei hun a'i barn broffesiynol annibynnol, sef rhywbeth y pwysleisiodd aelodau'r pwyllgor eu bod nhw eisiau ei weld dro ar ôl tro.

Os gwnaf i droi at welliant 30 yn enw Janet, nid wyf yn ystyried bod gwelliant pellach i'r Bil yn y modd hwn yn angenrheidiol nac yn briodol. Nid yw'r dull hwn wedi'i weithredu mewn Deddfau tebyg eraill, ac mae'r graddau y mae SLlAC yn ymgynghori â'r cyhoedd ar ei strategaeth yn fater i SLlAC fel corff annibynnol, er y bydd yn cael ei arwain gan yr un egwyddorion cyfraith gyhoeddus ag sy'n berthnasol i bob corff cyhoeddus wrth arfer ei swyddogaethau.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch am yr esboniadau hynny. Felly, rwy'n mynd i dynnu 27, 28, 29 a 30 yn ôl.

Iawn, felly, 27 yw'r prif welliant. Nid oes unrhyw bwyso am bleidlais arno, oni bai bod unrhyw un yn dymuno gwneud hynny. Rwy'n gweld nad oes neb eisiau gwneud hynny, felly ystyriwch na fu pleidlais arno.

Tynnwyd gwelliant 27 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Cynigiwyd gwelliant 34 (Joyce Watson, gyda chefnogaeth Delyth Jewell).

Ydy, mae e. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal a dau yn erbyn. Mae gwelliant 34 wedi'i dderbyn.

18:00

Gwelliant 34: O blaid: 46, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Nid yw gwelliant 28, rwy'n credu, yn cael ei gynnig gan Janet Finch Saunders—nac ydy?

Ni chynigiwyd gwelliant 28 (Janet Finch-Saunders). 

Gwelliant 29.  A yw hwnnw'n cael ei gynnig, Janet Finch-Saunders? Rwy'n credu eich bod wedi dweud 'na'.

Ni chynigiwyd gwelliant 29 (Janet Finch-Saunders). 

Ni chynigiwyd gwelliant 30 (Janet Finch-Saunders). 

Grŵp 6: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: monitro ac adrodd (Gwelliant 37)

Grŵp 6 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau'n ymwneud â monitro ac adrodd gan Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Gwelliant 37 yw'r prif welliant. Delyth Jewell sy'n cynnig y gwelliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 37 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad i welliant 37. 

Byddai hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, ymateb i adroddiad a gyhoeddir gan Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru gan ddefnyddio ei bwerau monitro o dan adran 12. Byddai'r adroddiadau hyn yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â chydymffurfio, cymhwyso a gweithredu cyfraith amgylcheddol. Pwrpas y gwelliant fyddai cynyddu tryloywder ac atebolrwydd. Ar ôl yr oedi hir a welsom ni cyn pasio'r Bil hwn, bydd Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, wrth gwrs, yn wynebu baich gwaith mawr, gyda digon o gyfreithiau amgylcheddol i fynd i'r afael â nhw. Er bod dyluniad swyddogaethau monitro a chydymffurfio Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, wrth gwrs, yn bwrpasol i Gymru, mae tebygrwydd ag adran 29 o Ddeddf Amgylchedd y Deyrnas Unedig 2021, lle gall Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd gyhoeddi adroddiadau ar weithredu cyfraith amgylcheddol.

Mewn llawer o achosion, mae'r rhain wedi ymdrin â materion technegol cymhleth iawn o ddehongli cyfreithiau amgylcheddol, megis y gyfarwyddeb fframwaith dŵr. Mae ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r adroddiadau hyn, y mae'n rhaid iddi ymateb iddynt, wedi bod yn elfen bwysig o'r cylch atebolrwydd hwnnw ac wedi dylanwadu'n amlwg ar y camau nesaf y mae Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd wedi dewis eu cymryd o ran defnyddio ei phwerau eraill. Heb y fantais o wybod beth mae'r awdurdod cyhoeddus yn ei feddwl o'i argymhellion, byddai Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru dan anfantais sylweddol, oherwydd efallai nad oes ganddi ddigon o wybodaeth i ddefnyddio'n hyderus ei swyddogaethau cydymffurfio neu wella a sicrhau eu defnydd effeithiol a chymesur.

Fy ofn i yw y gallai'r dull presennol yn y Bil hwn roi awdurdodau cyhoeddus dan anfantais gan na fyddent yn cael y cyfle i ddatrys unrhyw gamddealltwriaeth bosibl, neu i ychwanegu tystiolaeth ddefnyddiol i lywio camau nesaf Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru. Ar y gwaethaf, gallai diffyg dyletswydd benodol i ymateb i argymhellion ac adroddiadau'r Swyddfa o dan adran 12 arwain at sefyllfa ddiddatrys. Ar y gorau, gallai arwain at ddryswch, aneffeithlonrwydd a cholli cyfleoedd. Rwy'n gobeithio y caiff rhywfaint o gefnogaeth, o leiaf mewn egwyddor.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:03:25
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr, Delyth. Rwy'n deall pam rydych chi'n cynnig hwn, ond rydw i'n mynd i geisio rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi yma pam nad yw'n angenrheidiol. Mae'r adroddiadau a gynhyrchir o dan adran 12 o'r Bil yn darparu un o'r seiliau i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru weithredu lle mae angen gwella neu lle mae diffyg cydymffurfio posibl. Bwriedir iddyn nhw ategu swyddogaethau penodol SLlAC, sy'n gofyn—sy'n gofyn—i'r awdurdod cyhoeddus weithredu, megis y darpariaethau sy'n mynd i'r afael â diffyg cydymffurfio neu sy'n cymhell gwelliannau i gyfraith amgylcheddol, neu sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ymateb i argymhellion ynghylch eu cymhwyso neu weithredu cyfraith amgylcheddol. Nawr, mae'r bwriad hwn yn cael ei gefnogi ymhellach gan y ddyletswydd bresennol ar SLlAC i gyhoeddi unrhyw adroddiadau, yn ogystal â chyflwyno copïau o'r adroddiadau hynny gerbron Senedd Cymru, gan wella, felly, yr atebolrwydd a'r tryloywder i'r Senedd a'r cyhoedd hefyd.

Nid yw galluogi SLlAC i osod dyletswydd ychwanegol ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill i ymateb i adroddiadau, yn fy marn i, yn ychwanegu unrhyw beth defnyddiol at becyn cymorth SLlAC, sydd eisoes yn bodoli. Yn benodol, mae adran 14 o'r Bil eisoes yn gofyn i SLlAC gyhoeddi canllawiau neu gyngor i awdurdodau cyhoeddus ar unrhyw fater sy'n ymwneud â chyfraith amgylcheddol, gan gynnwys argymhellion sy'n ymwneud â chymhwyso neu weithredu cyfraith amgylcheddol yr awdurdod. Ac yn fwy na hynny, gall SLlAC ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ymateb i'r argymhellion o fewn cyfnod a bennir ganddi. Fy marn bendant i o hyd yw bod y gofynion ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i ymateb i SLlAC yn glir iawn yn y Bil drwy'r darpariaethau eraill hyn ac yn unol â'r dull uwchgyfeiriol o weithredu a fwriedir, gan weithio gyda phobl i geisio osgoi'r angen i weithredu, ond os oes angen, fe allwch chi ddweud wrthyn nhw am wneud hynny a bod yn dryloyw iawn yn hynny o beth.

Dim ond un sylw arall, sydd ynghylch mater mwy technegol, sef nad yw'r gwelliant fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn nodi'n benodol ar ba adeg yn y broses y gall Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru ofyn i'r awdurdod cyhoeddus ymateb i adroddiad. Felly, os gwneir cais o'r fath, rhaid i'r awdurdod ymateb o fewn tri mis i gyhoeddi'r adroddiad ac nid tri mis o ddyddiad y cais. Gallai hyn arwain at broblemau o ran tegwch pe caniateid i SLlAC gyhoeddi adroddiad ar ddyddiad A ond yna peidio â gwneud y cais am ymateb tan ddyddiad B, yn ddiweddarach yn y cyfnod o dri mis. Mae'n ddiffyg technegol ynddo. Rwy'n siŵr nad dyna'r effaith a fwriadwyd, o reidrwydd, ond mae'n ymddangos i mi mai dyna effaith y gwelliant fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd. Felly, am y rhesymau hynny, dyna pam na allaf i gefnogi'r gwelliant hwn.

18:05

Rwy'n hapus—wel, na, dwi ddim yn hapus, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog. Dwi ddim yn hapus am yr hyn dwi wedi'i glywed, ond rwy'n cydnabod y pwyntiau technegol sydd wedi cael eu gwneud. Rwy'n hapus, felly, i beidio gwthio hyn i bleidlais.

Felly, mae'r cynigydd yn dweud nad yw hi eisiau gwthio gwelliant 37 i bleidlais. Os nad oes rhywun yn gwrthwynebu hynny, fe wnawn ni gymryd nad oes pleidlais ei hangen ar welliant 37.

Tynnwyd gwelliant 37 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

Grŵp 7: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol: sylwadau ac ymchwiliadau (Gwelliannau 38, 39, 2, 3)

Grŵp 7 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â sylwadau gan Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru ac ymchwiliadau a gynhelir ganddi. Gwelliant 38 yw'r prif welliant. Delyth Jewell i gynnig y prif welliant.

Cynigiwyd gwelliant 38 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Rydych chi'n clywed gennyf i eto, mae arnaf i ofn. Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog a'i swyddogion am eu cymorth gyda gwelliannau 38 a 39, ac rwy'n symud y gwelliannau hynny.

Mae gwelliant 38 yn egluro y caiff person gyflwyno sylwadau i SLlAC mewn perthynas â’r materion y caiff SLlAC ymchwilio iddynt. Rwy'n teimlo'n angerddol iawn am hyn oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod hyn ar wyneb y Bil. Byddai'n nodi y tu hwnt i amheuaeth y bydd unigolion a sefydliadau yn gallu codi pryderon yn uniongyrchol gyda'r corff llywodraethu amgylcheddol, yn hytrach na bod yr hawl honno yn cael ei hawgrymu neu ei gadael i arweiniad gweithdrefnol yn unig. Mae'n ymwneud ag atebolrwydd democrataidd. Mae'n ymwneud â rhoi llais i bobl.

Mae gwelliant 39 yn welliant canlyniadol sy’n ailfewnosod y ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i SLlAC lunio a chyhoeddi dogfen sy’n nodi’r weithdrefn sydd i'w dilyn pan gyflwynir sylwadau iddi. Gyda'i gilydd, byddai'r diwygiadau hyn yn sicrhau eglurder o ran hawliau ac eglurder o ran proses. Mae'r gallu i bobl gyflwyno sylwadau yn rhan sylfaenol o lywodraethiant amgylcheddol effeithiol. Cymunedau yn aml yw'r cyntaf i brofi niwed amgylcheddol, boed hynny trwy lygredd, llifogydd neu fethiannau mewn gorfodi. Felly, byddai ei gwneud hi'n eglur ar wyneb y Bil y gall pobl gyflwyno sylwadau a bod rhaid bod proses gyhoeddedig glir ar gyfer gwneud hynny yn cryfhau tryloywder, hygyrchedd a hyder y cyhoedd yn swyddogaeth SLlAC. Rwy'n gobeithio ac yn ffyddiog y bydd y Senedd yn cefnogi hyn.

Tryloywder sydd wrth wraidd gwelliant 2. Mewn ymateb i'r gwelliant yma yng Nghyfnod 2, eglurodd y Dirprwy Brif Weinidog fod risg y byddai'r newid yma yn achosi i'r swyddfa wneud penderfyniadau yn rhy gynnar. Doeddwn i ddim yn deall hwnna ar y pryd, a dwi'n dal ddim yn deall, felly efallai y gallech chi esbonio hynny yn fwy i fi. Dywedodd un aelod Llafur o'r pwyllgor fod yn rhaid i ni gofio weithiau fod pobl yn codi pryderon amgylcheddol yn destun cyhoeddusrwydd a sylwadau anffafriol, ac, yn amlwg, nad ydyn ni'n moyn i hynny ddigwydd. Ond dwi'n credu, i ateb y consýrn yma, fydd y gwelliant yma'n ddarostyngedig i adran 27, sef gofynion cyfrinachedd y swyddfa, fell, dydw i ddim yn credu bod angen poeni ar y pwynt yna.

Byddai gwelliant 3 yn cyflwyno cofnod o sylwadau. Dwi wedi cymryd amser i edrych ar wefan yr OEP, a gallaf weld eu bod yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd eu bod yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar y wefan yna, yn manylu ar y cwynion y maent yn eu trin. Er enghraifft, mae ymchwiliadau ar hyn o bryd i DEFRA, yr asiantaeth amgylcheddol, ynglŷn â safon dŵr, addasu ardaloedd gwarchodaeth arbennig yn Lloegr, addasu ardaloedd  gwarchodaeth arbennig yng Ngogledd Iwerddon. Y fantais amlwg o hyn, wrth gwrs, yw ei fod e'n lleihau'r angen i eraill gyflwyno cwynion am fater sydd eisoes yn cael ei ymchwilio. Bydd e'n arbed amser ac adnoddau i'r swyddfa. Yn wir, ni fydd angen i bobl gyflwyno cwyn achos y byddan nhw'n gallu gweld bod y gŵyn yn cael ei hymchwilio yn ôl y cofnod, neu fod y mater wedi cael ei ystyried yn barod neu wedi cael ei wrthod am reswm teilwng. Felly, dwi'n credu y byddai hyn yn gallu arbed lot o amser i'r swyddfa a gwneud ei gwaith yn llawer mwy effeithiol, a gwneud y swyddfa yn llawer mwy tryloyw i'r cyhoedd. Dwi'n annog y Senedd i sicrhau bod y swyddfa yn dysgu o arferion da o swyddfeydd eraill yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Diolch yn fawr.

18:10

Diolch, Llywydd. Os cawn ni droi at welliant 38 a gwelliant canlyniadol 39 yn gyntaf oll, rwyf wirioneddol yn cefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd er fy mod i'n credu nad ydyn nhw'n darparu unrhyw swyddogaethau ychwanegol i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, mae ynghylch y cwestiwn hwnnw ynglŷn â bod yn benodol, a dyna'r hyn a glywsom ni yng nghyfnodau pwyllgor cynharach. Gall unigolion, rydym ni'n credu, eisoes gyflwyno sylwadau drwy'r Bil fel y'i cyflwynwyd, ond mae'r teimladau cryfion hynny gan randdeiliaid ehangach ac, yn wir, aelodau'r pwyllgor wrth i ni fynd trwy Gyfnod 2 am hyn yn golygu y gallwn ni weld y budd o wneud hyn yn eglur o fewn y ddeddfwriaeth. Ac mae'n werth pwysleisio ein bod ni'n gweld gwella mynediad dinasyddion at gyfiawnder amgylcheddol fel blaenoriaeth wirioneddol o fewn y ddeddfwriaeth hon. Rwyf yn falch ein bod ni wedi gweithio eto yn adeiladol gydag aelodau'r pwyllgor a gyda'r Aelod sy'n cyflwyno'r cynnig hwn ar welliant sy'n egluro'n briodol y gall rhywun, heb unrhyw amheuaeth, gyflwyno sylwadau i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru a'r seiliau dros gyflwyno sylwadau. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi'r gwelliannau hyn a byddwn yn annog Aelodau eraill i wneud yr un peth.

Os byddaf yn troi at welliant 2, yn enw Rhys, byddaf yn ceisio egluro eto pam nad ydym ni'n credu ei bod hi'n angenrheidiol neu'n ddymunol ei gwneud hi'n ofynnol i SLlAC gyhoeddi adroddiadau ar bob ymchwiliad, er bod yn rhaid i mi ddweud ein bod ni o'r farn, yn y rhan fwyaf o achosion, y bydd ar y SLlAC eisiau cyhoeddi adroddiadau, ond nid ym mhob achos, eu gorfodi i wneud hynny, a byddaf yn ceisio esbonio pam. Efallai'n wir y bydd rhai achosion lle nad yw SLlAC ei hun, o ran ei harbenigedd a'i barn annibynnol, yn ystyried ei bod hi'n rhesymol nac er budd y cyhoedd i wneud hynny, a phan fo SLlAC o'r farn ei bod hi'n rhesymol cyhoeddi adroddiad, dylai allu defnyddio ei doethineb i'w gyhoeddi ar yr adeg y mae'n ystyried ei fod yn briodol. Pam mae hyn yn bwysig? Oherwydd, o fewn y Bil, mae'n mabwysiadu'r dull uwchgyfeiriol hwn o orfodi sydd wedi'i fwriadu i alluogi cydweithrediad a chydweithio lle bynnag y bo modd i ddatrys pryderon amgylcheddol, yn hytrach na symud ymlaen i fyny'r raddfa yn awtomatig i orfodi'n ffurfiol. Felly, efallai y bydd rhesymau da iawn yn yr enghraifft hon pam y byddai SLlAC yn arfer ei doethineb ac yn dewis peidio â chyhoeddi adroddiad, neu'n dewis gwneud hynny ar adeg benodol, yn enwedig os yw SLlAC a'r awdurdod cyhoeddus perthnasol yn gweithio trwy benderfyniad priodol gyda'i gilydd i ymateb i bryderon heb ddefnyddio mecanweithiau ffurfiol. Felly, gallai gofyn i SLlAC gyhoeddi adroddiadau ar ei ymchwiliadau yn y modd hwn arwain at gyrraedd y casgliadau cynamserol hynny, a fyddai, yn fy marn i, yn lleihau'r siawns o ddatrysiadau cyflym a mwy effeithiol. Gallai, mewn gwirionedd, orfodi SLlAC i ddefnyddio'r mecanweithiau ffurfiol hynny lle efallai na fyddai angen hyn fel arall ac y gellid bod wedi cael datrysiad cyflymach.

Dim ond i ddweud hefyd, mae paragraff 1(3)(e) o Atodlen 2 eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i SLlAC nodi yn ei strategaeth sut mae'n bwriadu cyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â'i hymchwiliadau. Credwn fod hwn yn ddull mwy priodol, gan ganiatáu dychwelyd yn ôl at y mater hwn o arbenigedd annibynnol, gan ganiatáu i SLlAC arddel ei doethineb, i ymarfer ei barn broffesiynol ac arbenigol. Felly, dyna resymeg ein gwrthwynebiad i'r gwelliant hwn.

Os byddaf yn troi at welliant 3, mae'r Bil fel y'i drafftiwyd yn gofyn ar i SLlAC nodi yn ei strategaeth ei pholisi ar gyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â chyflwyno sylwadau. Yn wir, cytunwyd ar welliant yng Nghyfnod 2 i'w gwneud hi'n ofynnol i SLlAC baratoi a chyhoeddi dogfen sy'n nodi sut y dylid cyflyno'r sylwadau hyn a sut y caiff pobl eu hysbysu. Gallai cynnwys gofyniad penodol i gyhoeddi cofnod o sylwadau a gyflwynwyd yn y modd a awgrymir gan y gwelliant hwn fod yn niweidiol o ran y gallu cyffredinol i ymdrin yn effeithiol â'r sylwadau hyn a gyflwynir. Rwyf wir yn credu'n gryf bod hwn yn fater y dylid ei adael i SLlAC.

Rwy'n nodi bod wir angen cofio am ddeddfwriaeth diogelu data, ond credaf hefyd y gallai'r ffaith y byddai cofrestr o'r fath yn bodoli ac y byddai'n hygyrch i'r cyhoedd arwain, Rhys, at rywfaint o amheuaeth gan unigolion a sefydliadau sy'n dymuno darparu gwybodaeth yn gyfrinachol. Rwy'n deall pam eich bod yn holi am hyn, ond rwy'n ystyried y dylai'r dull gael ei ddylunio gan y SLlAC gan ddefnyddio ei harbenigedd a'i barn broffesiynol annibynnol, ond yng ngoleuni, fodd bynnag, ymgynghori pellach ar y strategaeth, yr ydw i newydd ei hamlinellu. Darperir ar gyfer hyn yn y Bil. Am y rheswm yma ni fyddem ni'n cefnogi'r gwelliannau hyn.

18:15

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar unwaith eto am sylwadau'r Dirprwy Brif Weinidog. Dwi'n meddwl, gyda'r gwelliannau sydd gen i yn y grŵp hwn, dyma un o'r rhesymau pam dwi'n fwy hoff o'r gair Cymraeg 'gwelliant' na'r gair Saesneg 'amendment', achos weithiau mae yna ffordd, wir, o wella'r ddeddfwriaeth. Mae'n niwtral yn Saesneg, lle rydyn ni'n dweud, 

'Rydym ni'n diwygio'. Yn Gymraeg, rydym ni'n dweud ein bod ni'n gwella'r ddeddfwriaeth. 

Mae tryloywder, wrth gwrs, yn hollbwysig, a dwi'n meddwl mai dyna ydy bwriad o leiaf pob welliant yn y grŵp.

Mesur llwyddiant y Bil hwn a'r corff y mae'n ei sefydlu fydd i ba raddau y mae aelodau'r cyhoedd a'r cymunedau yn teimlo eu bod wedi'u grymuso. Ni ddylai fod yn ymwneud â phrosesau yn unig, dylai fod yn ymwneud â phobl—pobl sydd wedi gweld eu tir, eu dŵr, eu haer yn cael eu llygru a'u hecsbloetio ers cenedlaethau. Gobeithio y bydd y rhain yn cael eu cefnogi. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly cymerwn ni bleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 38 wedi ei dderbyn. 

Gwelliant 38: O blaid: 46, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 39 (Delyth Jewell).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 39? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 39. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Mae gwelliant 39 wedi ei gymeradwyo, felly. 

Gwelliant 39: O blaid: 46, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Rhys ab Owen, ydy e'n cael ei symud? Na, dyw e ddim yn cael ei symud i bleidlais. 

Ni chynigiwyd gwelliant 2 (Rhys ab Owen). 

Nesaf, gwelliant 3. Ydy e'n cael ei symud? Na, dydy hynny chwaith ddim yn cael ei symud. 

Ni chynigiwyd gwelliant 3 (Rhys ab Owen). 

Grŵp 8: Targedau bioamrywiaeth: targedau o dan adran newydd 6B o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Gwelliannau 40, 4, 5A, 5, 54, 6, 31, 42, 43, 45)

Grŵp 8 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â thargedau bioamrywiaeth o dan adran newydd 6B o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gwelliant 40 yw'r prif welliant. Delyth Jewell sy'n cynnig y gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 40 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar eto i'r Llywodraeth am eu cymorth gyda rhai o'r gwelliannau yn y grŵp hwn—dim pob gwelliant, wrth gwrs, ond rhai ohonynt. 

Byddai gwelliant 40 yn sicrhau, wrth osod targedau bioamrywiaeth, y gall Gweinidogion Cymru ystyried nid yn unig atal a gwrthdroi colledion ond hefyd adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth. Mae hyn yn bwysig, oherwydd byddai atal dirywiad yn unig yn peryglu rhwystro ein huchelgais. Mae adroddiadau diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyflwr ein byd naturiol wedi gwneud yn glir pa mor beryglus o ansicr yw ein hamgylchedd yn ei gyflwr presennol mewn gwirionedd, pa mor ddifrifol ydym ni mewn perygl o niwed gan lifogydd, erydiad, llygredd o ganlyniad.

Mae Plaid Cymru yn credu y dylai Cymru anelu'n uwch, gan sicrhau bod ecosystemau'n adfer, eu bod yn cefnogi cymunedau, yn storio carbon ac yn amddiffyn rhag llifogydd. Byddai'r gwelliant hwn yn gwneud yn glir mai ein nod nid yn unig yw goroesi ond gwir adferiad. Wrth gwrs, rhaid gwneud hyn mewn cydweithrediad â sectorau, gan gynnwys, wrth gwrs, ffermwyr. Maen nhw'n rhai o'r gweithwyr rheng flaen a fydd yn rheoli sut mae hyn yn gweithio. Byddai eu mewnbwn yn hanfodol i sicrhau bod ein byd naturiol yn ffynnu er budd pawb.

I droi at welliannau 42, 43 a 45, mae'r rhain yn ganlyniadol i welliant 40. Byddent yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn ystyried a yw targedau bioamrywiaeth yn cyfrannu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth wrth adolygu effeithiolrwydd, wrth wneud penderfyniadau ynghylch diddymu neu ostwng targedau, ac wrth baratoi'r cynllun bioamrywiaeth. Byddai'r gwelliannau hyn yn gwneud yn glir nad dyheadau yn unig yw adfer a chydnerthedd pan fydd targedau yn cael eu gosod gyntaf, ond rhaid iddyn nhw barhau i fod yn ganolog i gynllunio a phenderfyniadau parhaus. Byddai hyn yn cryfhau atebolrwydd ac uchelgais hirdymor dros amgylchedd naturiol Cymru.

I droi at welliant 54, roedd llawer o gyffro ynglŷn â gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn gefnogol i'r egwyddor hon. Efallai y gallwn ni gael trafodaeth am yr hyn a allai fod yn bosibl fel cam nesaf. Mae gwenoliaid duon yn rhywogaeth eiconig yng Nghymru yn yr haf, ond mae eu niferoedd wedi gostwng 75 y cant yn ystod y chwarter canrif diwethaf. Byddai gwelliant 54 yn sicrhau bod targedau o dan y Bil hwn yn cefnogi poblogaeth ffyniannus o wenoliaid duon bob haf. Byddai hynny'n golygu cynefinoedd iach, sy'n gyforiog o bryfed hedfan, yn ogystal â chyfleoedd i nythu. Byddai ymgorffori brics nythu i wenoliaid duon mewn adeiladau newydd yn fesur allweddol i ddarparu cartrefi ar gyfer gwenoliaid sy'n dychwelyd a sicrhau eu dyfodol yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwyd yng Nghyfnod 2 am ganolbwyntio ar un rhywogaeth ac, yn wir, sut na fyddai pob aderyn mudol yn elwa ar frics i wenoliaid duon. Fe allen nhw, wrth gwrs, fod yn gonglfaen—bricsen gornel, os mynnwch chi—neu'r fricsen gyntaf yn y wal gynnal a roddir i'n rhywogaethau mwyaf eiconig ac sydd mewn perygl, y rhywogaethau hynny y mae eu goroesiad dan fygythiad. Rwy'n ymwybodol yn yr Alban, wrth gwrs, eu bod nhw wedi dod o hyd i ffordd arall o amddiffyn gwenoliaid duon gan ddefnyddio rheolau adeiladu, a'u bod yn edrych ar ddylunio brics i wenoliaid duon a fyddai hefyd o fudd i adar mudol eraill.

Felly, mae gen i gais i'r Llywodraeth. Gan fy mod i'n gwybod y byddai llawer o gefnogaeth i'r syniad o gyflwyno newidiadau i'n hamgylchedd adeiledig a fyddai'n diogelu nid yn unig gwenoliaid duon ond adar mudol eraill, peillwyr a rhywogaethau eraill sydd mewn perygl, tybed a fyddai'r Llywodraeth yn barod i edrych ar hyn mewn ffordd drawsbleidiol, mewn ffordd drawslywodraethol.

Rwy'n sylweddoli bod amser yn prysur gario'r dydd arnom yn y Senedd hon, ond a ellid cynnal cyfarfod gyda'r rhai ohonom ni a fyddai eisiau dod o hyd i atebion cyn gynted â phosibl i helpu i amddiffyn y rhywogaethau—rwy'n defnyddio'r gair 'eiconig' eto—y rhywogaethau gwirioneddol eiconig hyn rhag difodiant? Byddwn yn gwerthfawrogi clywed eto gan y Llywodraeth pa gamau y byddai'n bwriadu eu cymryd i ddiogelu'r rhywogaethau hyn yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at glywed beth sydd gan Aelodau eraill i'w ddweud ar hyn.

18:20

Mae gwelliant 5A o'n heiddo yn diwygio gwelliant 5 i symud y targed ar gyfer gwella statws rhywogaethau ac ecosystemau o 2030 i 2035. Wrth i ni glywed gan randdeiliaid eu hunain bod 2030 bellach yn dod yn anghyraeddadwy, bydd y tymor pum mlynedd ychwanegol yn gosod targed mwy realistig. Rwy'n eich annog i gefnogi gwelliant 5 a gyflwynwyd gan Rhys ab Owen, a hefyd gwelliant 5A o f'eiddo. Ond hefyd, rydw i'n mynd i gefnogi Delyth o ran y brics i wenoliaid duon—gwych. Fy unig bryder yw pan fyddwch chi'n dweud y gall rhywogaethau eraill eu defnyddio. Cyn belled nad ydym ni'n rhoi brics i mewn sy'n caniatáu adar mwy na fyddem ni mo'u heisiau nhw—y rhai sy'n hela gwenoliaid duon. [Torri ar draws.] Roeddwn i'n mynd i ddweud gwylanod, ond roeddwn i'n meddwl y byddai'n gwneud i bawb chwerthin. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol o ba mor ofalus rydym ni'n bwrw ymlaen gydag adar eraill mewn golwg fel nad ydym ni mewn gwirionedd yn dadwneud yr amddiffyniadau ar gyfer gwenoliaid duon. Diolch.

Dw i ddim yn meddwl y byddai colomen yn ffitio i mewn i flwch gwennol ddu, ond beth bynnag.

Fel y dywedodd Delyth Jewell, mae eu niferoedd wedi cwympo 75 y cant ers dechrau'r Senedd hon, a beth rydym ni wedi'i wneud am hynny? Dim byd. Yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig, rydym ni wedi colli mwy na hanner ein gwenoliaid duon. Mae gwenoliaid duon yn nythu bron yn gyfan gwbl mewn ceudodau mewn adeiladau uchel, yn aml ychydig o dan linell y to neu o dan y teils. Mae gwaith adnewyddu yn eu gwneud yn ddigartref, ac anaml y mae adeiladau newydd yn cynnig ceudodau artiffisial fel brics i wenoliaid duon.

Codais hyn yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin 2021, a dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd wrthym ni fod Llywodraeth Cymru yn ymgorffori brics i wenoliaid duon yn y rhaglen dai arloesol, gyda brics i wenoliaid duon yn cael eu gosod mewn nifer o dai cymdeithasol ledled Cymru. Gwych. Dywedodd hefyd fod y Dirprwy Weinidog ar y pryd, Lee Waters, yn edrych ar fioamrywiaeth ar hyd ffyrdd a llwybrau rheilffyrdd, gan gynnwys ymgorffori blychau i wenoliaid duon a blychau nythu eraill, fel y bo'n briodol, ar hyd y llwybrau hynny. Cefais fy nghalonogi gan hyn. Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Gorffennaf 2024, canmolais waith Llywodraeth Cymru ar frics i wenoliaid duon a'r gwaith a wnaed gan Julie James, roeddwn i'n credu, i'w gwneud hi'n orfodol i adeiladau newydd dros faint penodol gynnwys brics i wenoliaid duon yn y bondo.

Roeddwn i'n codi'r diffyg eglurder ynghylch sut a phwy oedd yn olrhain y gydymffurfiaeth hon. Gofynnais am ddatganiad i nodi sut roedd y rheoliadau adeiladu newydd yn mynd i wneud gwahaniaeth ar wella'r dyfodol i wenoliaid duon yng Nghymru. Ni chafwyd ymateb, oherwydd, yn amlwg, nid oedd y rheoliadau wedi cael eu newid. Dim ond yn ystod y ddadl ar y ddeiseb, a lofnodwyd gan bron i 11,000 o bobl, yn galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod brics i wenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd, sylweddolais nad oedd ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi newid Rhan L o'r rheoliadau adeiladu i sicrhau y byddai angen bricsen neu frics i wenoliaid duon ar bob adeilad newydd o faint penodol yn rhan o'i saernïaeth. Dydw i ddim yn anhapus am gael mwy nag un teulu o wenoliaid, ond rwy'n credu mai un cartref, un fricsen, yw hi, ar gyfer un pâr o wenoliaid, ac yna bricsen arall ar gyfer pâr arall o wenoliaid. Ni allan nhw fyw gyda'i gilydd, ac yn wir, ni allan nhw fyw gyda rhywogaethau eraill.

Yn ei chyfraniad i'r ddadl ar y ddeiseb, roeddwn i, mae'n rhaid i mi ddweud, yn siomedig gyda'r ddadl a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Yn amlwg, nid oes unrhyw beth yn atal datblygwr cyfrifol rhag gosod brics i wenoliaid duon, yn ogystal â chartref ar wahân ar gyfer gwennol y bondo, swydd wedi'u rhestru'n ambr. Ond nid yw'r syniad y gallai gosod brics i wenoliaid duon olygu na fyddai lle i adar y to, y titw tomos las a thelor y cnau yn ddadl gref iawn, gan fod y rhywogaethau hyn yn hedfan ar uchder gwahanol iawn ac yn gofyn am gartrefi sydd ar lefelau gwahanol iawn. Felly, rwy'n cael trafferth deall sut roedd unrhyw werth i'r ddadl honno.

18:25

Pincod hefyd. Dydw i ddim yn gwahaniaethu.

Rwy'n deall nad yw'r mesur hwn mewn gwirionedd yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol ac nid yw'n rhan o gylch gorchwyl y swyddfa llywodraethiant amgylcheddol, er y bydd yn hynod berthnasol iddyn nhw osod targedau heriol. Y cyfan sydd ei angen, felly, yw diwygiad cymedrol i Ran L o'r rheoliadau adeiladu. Yng nghanol argyfwng bioamrywiaeth byd-eang, lle mae rhwymedigaeth ar Gymru i wneud ei rhan o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a yw'n ormod i'w ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru, yn y pum wythnos sy'n weddill i'r Senedd hon, fynd ati o'r diwedd i ddiwygio Rhan L o'r rheoliadau adeiladu i geisio gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth o 76 y cant yn nifer y gwenoliaid duon, cyn i Lywodraeth arall ymffurfio, a allai ystyried gwrthdroi'r argyfwng bioamrywiaeth ac yn meddwl mai lle'r adar yw datrys hyn drostynt eu hunain, ar y sail y byddai blwch i wenoliaid duon sy'n costio £25 yn rhwystro elw datblygwyr?

Rwy'n clywed bod yr Alban mewn caethgyfle ar gynllun bricsen a fyddai'n darparu ar gyfer gwennol ddu neu wennol y bondo. Rwy'n credu bod hynny'n ddadl anodd iawn ei chredu. Bydd angen brics i wenoliaid duon a brics i wenoliaid y bondo arnom ni. Mae arnaf i eisiau gwybod beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud, ac rwy'n gobeithio y byddaf yn clywed rhywbeth sy'n gwneud i mi deimlo'n gadarnhaol am hyn.

Fe hoffwn i siarad yn fyr am welliant 54 hefyd. Llofnododd un ar ddeg mil o bobl ddeiseb yn galw am osod brics i wenoliaid duon ym mhob datblygiad newydd. Mae'n ffordd i ddatblygwyr ddangos eu bod yn poeni am natur. Deddfodd yr Alban ar hyn, drwy reoliadau adeiladu. Felly, fe hoffwn i ddim ond dweud, Ysgrifennydd Cabinet—. Soniodd Delyth am gael cyfarfod trawslywodraethol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n ymwneud â chynllunio a chi'ch hun, gwahodd yr RSPB a'r holl Aelodau yma, gan gynnwys yr hyrwyddwr gwenoliaid duon, sydd â diddordeb yn hyn, fel y gallwn ni ystyried cael adeiladau sy'n gyfeillgar i natur yn y dyfodol, gan gynnwys coridorau draenogod, yn ogystal â brics i wenoliaid duon. Diolch.

18:30

Fyddaf i ddim yn sôn am frics i wenoliaid duon, Alun Davies, ond rydw i wedi siarad o blaid brics i wenoliaid duon o'r blaen. Rydw i'n mynd i siarad am welliant rhif 5.

Rwyf am droi i'r Gymraeg. Nawr, mae gwelliant rhif 5 yn bwysig. Mae e nid yn unig yn brawf o werth gair Llywodraeth Cymru, mae e hefyd yn brawf o werth ein gair ni fel Senedd. Beth sydd wrth galon fy nghynnig i—yn wahanol i Janet, dwi'n sticio at 2030.

Janet, efallai eich bod chi'n un am newid meddwl, ond dw i ddim. Byddaf yn cadw at 2030.

Dyna oedd ymrwymiad y Senedd hon, i gefnogi targed 30x30. Yn Rhagfyr 2022, cytunodd y Deyrnas Unedig i'r fframwaith bioamrywiaeth. Mae adran F gweledigaeth 2050 a chenhadaeth 2030 yn nodi'n glir bod yn rhaid cyd-fyw gyda natur erbyn 2050 a gweithredu ar frys i stopio dirywiad a dadwneud y golled o fioamrywiaeth, gan roi natur ar lwybr o adferiad erbyn 2030. Nid yn unig y mae'r Deyrnas Unedig wedi cytuno i'r weledigaeth honno a'r genhadaeth honno, ond roedd un o Weinidogion y Llywodraeth yma yn bresennol yn y gynhadledd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru. Mwy fyth, ar 11 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd ein Gweinidog newid hinsawdd ar y pryd ddatganiad yn dweud ei bod hi yna i ddylanwadu ar y fframwaith ac i lofnodi ei hymrwymiad i brysuro adferiad natur yng Nghymru, gan gynnwys y targed 30x30.

Yn Ionawr 2025, cyhoeddodd y pwyllgor newid hinsawdd yr adroddiad 'Atal a gwyrdroi colli natur erbyn 2030', a safbwynt Llywodraeth Cymru oedd bod ei hymrwymiad i 30x30 nid dim ond dal yn sefyll, ond yn sefyll yn gryf iawn. Dyna roedden nhw yn ei ddweud nôl yn Ionawr 2025. Hyd yn oed ar 30 Medi 2025, ymatebodd y Dirprwy Brif Weinidog i fy nghwestiwn i ar sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni'r targed, fel yr amlinellwyd yn COP 2022, gan gyfeirio at y fframwaith sydd yn amlinellu'r ffordd o gyflawni 30x30. Ond deufis yn ddiweddarach, wrth inni drafod fy ngwelliannau yng Nghyfnod 2, roedd y Llywodraeth wedi newid ei chân.

Yn fy marn i, heb nodi unrhyw reswm teilwng, roedd y Gweinidog nid yn unig yn erbyn fy ngwelliant, ond o ganlyniad yn troi yn erbyn y fframwaith bioamrywiaeth rhyngwladol a gytunwyd nôl yn 2022. Mae gweddill fy ngwelliannau yn y grŵp yn ymwneud â'r ddyletswydd i wneud rheoliadau sy'n gosod targedau. Bydd gwelliant 31 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gael targedau mewn cysylltiad â chynyddu’r cyfraniad a wneir gan safleoedd anstatudol. Mae'r safleoedd a restrir yn adlewyrchu rhan 6.4.31 o 'Bolisi Cynllunio Cymru', rhifyn 12, a dyma a nodir yn y ddogfen, fod y safleoedd

'yn gwneud cyfraniad hanfodol at sicrhau rhwydwaith ecolegol ar gyfer bioamrywiaeth ac ecosystemau cydnerth a dylai cynlluniau datblygu a’r broses rheoli datblygu eu hamddiffyn.'

Pam? Pam ydyn ni angen targedau i'r fath leoliadau? Wel, mae'r ateb yn y ddeiseb a gawson ni fel y Pwyllgor Deisebau yn ddiweddar, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i sicrhau bod gwarchodfeydd natur lleol, gan gynnwys un yn lleol i fan hyn, yn cael ystyriaeth lawn. Mewn ymateb i'r ddeiseb, ysgrifennodd y Dirprwy Brif Weinidog at Gadeirydd y pwyllgor ar 27 Tachwedd, yn nodi, a dwi'n dyfynnu:

'Er nad yw’r Bil yn creu dyletswyddau newydd sy’n benodol i LNRs, bydd ei ddarpariaethau yn atgyfnerthu’r gofyniad i gyrff cyhoeddus ystyried bioamrywiaeth wrth wneud penderfyniadau a phrosesau cynllunio.'

Gofynnaf i chi heddiw sicrhau bod y Bil yn atgyfnerthu bioamrywiaeth mewn safleoedd anstatudol drwy gefnogi gwelliant 31.

Yn olaf, ymateb y Llywodraeth i welliant 4 yn yr ail gyfnod oedd nad oedd angen iddi wneud hynny, oherwydd roedd ganddi'r targed i leihau llygredd, a bydd hynny'n cwmpasu fy ngwelliant. Wel, gyda phob parch, dydw i ddim yn cytuno â hynny. Nid yw'r Bil, fel y mae, yn diffinio llygredd, mae'n gofyn i Weinidogion Cymru osod targed o fewn y maes blaenoriaeth i leihau llygredd. Ond mae sawl math o lygredd i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol ddewis ohonynt. Microplastigau—fel y gwyddoch chi, Dirprwy Brif Weinidog, rwyf wedi codi microplastigau ar sawl achlysur. Rwy'n credu bod microplastigau yn cael eu hanghofio, nid yw microplastigau yn cael eu cymryd yn ddigon o ddifrif, a bydd microplastigau yn achosi problem enfawr i ni yn y dyfodol. Dylai microplastigau ddod o dan dri maes blaenoriaeth cyntaf y Bil hwn.

O ran difodiant rhywogaethau brodorol ym maes blaenoriaeth 1, mae microplastigau yn achosi anhwylderau ym mhob system o gyrff anifeiliaid, gan gynnwys swyddogaethau sy'n hanfodol i fywyd. Os bydd unrhyw rywogaeth yn colli niferoedd oherwydd microplastigau, bydd yn cael effaith ansefydlogi ar ein hecosystemau, sydd wedyn yn ymwneud â maes blaenoriaeth 2. Mae microplastigau yn llygredd, sy'n faes blaenoriaeth 3. Rwy'n credu bod microplastigau yn perthyn i'r Bil hwn. Mae yna astudiaethau, astudiaethau cyfyngedig, rwy'n cyfaddef, ond mae yna astudiaethau clir sy'n dangos bod microplastigau yn cynyddu'r risgiau o drawiadau ar y galon, strôc a marwolaethau sy'n gysylltiedig â nhw. Mae gwelliant 6 yn gwarantu y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gymryd cyfrifoldeb ynglŷn â hyn. Diolch yn fawr.

18:35

Rwy'n edrych ar y gwelliannau, ac roeddwn i'n darllen y Bil cyn dod yma y prynhawn yma, ac rwy'n bryderus iawn—ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn ymwybodol o'm pryderon ar y mater hwn—ein bod yn gosod targedau na fydd byth yn cael eu cyflawni. Rydym ni'n gosod targedau a fydd yn cyflawni dim, neu ychydig iawn, oherwydd, yn rhy aml yn y fan yma, rydym ni wedi creu llu o offer biwrocrataidd yn hytrach na symleiddio llywodraethu i wella atebolrwydd democrataidd. Fy mhryder i yw bod, dros nifer o flynyddoedd, mae'r fan yma wedi pasio corff sylweddol o ddeddfwriaeth sydd wedi cyflawni ychydig iawn o ran effeithio ar fy etholwyr—ac, byddwn yn awgrymu, etholwyr llawer o bobl eraill yma—ac nid yw wedi cyflawni'r amcanion sydd wedi'u gosod ar gyfer y ddeddfwriaeth honno. Nid yw'r fan yma—nid y Llywodraeth, y Senedd—wedi cymryd digon o amser i archwilio ac adolygu deddfwriaeth, i archwilio a yw'r ddeddfwriaeth honno'n addas at ddibenion cyflawni amcanion y Llywodraeth ar ei chyfer.

Felly, beth fydd yn digwydd heno? Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y gwelliannau hyn a'r Bil hwn yn cael eu pasio. Byddwn yn gosod y targedau hyn, neu'n gosod y fframwaith ar gyfer gosod targedau, fel yr ydym ni wedi'i wneud o'r blaen, fel y gwnaethom ni pan wnaethom ni basio Bil cenedlaethau'r dyfodol, fel y gwnaethom ni pan wnaethom ni sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru a gosod amcanion iddyn nhw osod targedau a chynlluniau ardal, fel yr ydym ni wedi'i wneud ar sawl achlysur arall, ac, mewn gwirionedd, ni fyddwn ni'n cyflawni'r amcanion y mae pobl yma yn dymuno eu cyflawni—ac rwy'n credu bod y cymhellion yn dda—oherwydd nid oes gennym ni'r dewrder, ac weithiau'r plwc, i wynebu'r materion llywodraethu yr ydym ni wedi'u hosgoi, ac rydym ni wedi eu hosgoi yn gyson. Dyma'r un peth sy'n uno pleidiau ar draws y Siambr gyfan hon, mewn gwirionedd, oherwydd mae'r gwrthbleidiau wedi ei hosgoi yn yr un ffordd ag y mae'r blaid lywodraethol wedi ei hosgoi.

Fy mhryder i yw nad ydym ni'n gosod mwy o dargedau na fydd byth yn cael eu cyflawni, nad ydym ni'n sefydlu strwythurau a fframweithiau a ffyrdd newydd o weithio a fydd yn creu mwy o ddiwydiant biwrocratiaeth, ein bod ni mewn gwirionedd yn lleihau'r fiwrocratiaeth sydd gennym ni yng Nghymru, a'n bod ni mewn gwirionedd yn creu mwy o atebolrwydd am y strwythurau sydd gennym ni. Yr hyn yr wyf yn gobeithio y byddwn ni'n gallu ei wneud, a'r hyn y byddwn yn gofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog—efallai y bydd yn cytuno heno ond nid oes ganddo amser i wneud hyn—yw edrych yn fanwl ar sut y bydd y targedau hyn yn cyd-fynd â'r holl strwythurau, prosesau, cynlluniau, amcanion a syniadau eraill sydd eisoes wedi dod yn gyfraith neu ein bod wedi cynhyrchu rheoliadau arnyn nhw, a sut y byddwn ni'n creu cydlyniant mewn llywodraethu yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ni allaf ei weld ond gallaf ei glywed, ac fe wnaf dderbyn ymyriad ganddo.

18:40

Efallai fy mod wedi colli ambell bapur. Dydw i ddim wedi gweld eich gwelliannau i'r perwyl hwn.

Dydych chi ddim wedi gweld fy ngwelliannau i hwn, ond rwy'n credu eich bod wedi clywed y cyfraniad rydw i wedi'i wneud mewn ffordd bwyllog iawn dros nifer o flynyddoedd. A'r broblem yw, Llyr, pan ydw i wedi siarad ag aelodau Plaid Cymru am y peth, maen nhw'n cytuno â mi yn breifat, ond dydyn nhw erioed wedi gwneud araith gyhoeddus fel rydw i'n ei wneud heno. Ac rwy'n credu bod hynny'n wendid yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ac nid ydych chi ar eich pen eich hun yn hynny, Llyr, peidiwch â phoeni.

Felly, rwy'n gobeithio beth fyddwn ni'n gallu ei wneud heno—. Does gen i mo'r amheuaeth leiaf o gwbl y bydd y gwelliannau hyn a'r ddeddfwriaeth sylweddol yn cael eu pasio, heblaw na fydd Rhys yn gweld unrhyw un o'i welliannau yn pasio heno, ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ysgrifennu at yr Aelodau yn dilyn y ddadl hon. Rwy'n gobeithio y bydd yn ysgrifennu atom ni'n esbonio sut mae'n gweld y Bil hwn, y strwythurau hyn, y targedau hyn, yn ffitio i'r holl brosesau a strwythurau eraill rydym ni wedi'u creu dros y blynyddoedd, a sut y bydd yn creu cydlyniant wrth weinyddu hynny. Ac efallai y bydd hyd yn oed yn esbonio sut mae'n bwriadu cyflawni o leiaf un o'r targedau a'r amcanion hyn.

Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus iawn i ymateb i'r her honno ar unwaith, Alun, ac rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen. Ond mae arnaf i eisiau nodi'n benodol beth mae'r ddeddfwriaeth hon wedi'i wneud, pam y bu disgwyl mor hir amdani a chefnogaeth mor eang hefyd, oherwydd mae'n rhoi tair colofn sylfaenol ar waith. Un yw sefydliad annibynnol, dan arweiniad arbenigwyr sydd nid yn unig yn gallu mynd ar drywydd llunwyr polisi fel fi i ddweud mewn gwirionedd, 'Dydych chi ddim yn cyflawni'r targedau, mae eich enw da amgylcheddol yn garpiau, mae'n rhaid ichi wneud yn well a gwneud mwy'—. Ac ni fydd corff anllywodraethol amgylcheddol allan yn fan yna, ac ni fydd rhanddeiliaid ehangach, er y bydd ganddyn nhw lais, fel yr ydym ni wedi trafod o'r blaen y prynhawn yma, yn gallu dweud wrth Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, 'Mae arnom ni eisiau i chi edrych ar faes lle rydym ni'n meddwl bod llygredd yn digwydd', mewn pridd, mewn microblastigau, fel sydd newydd ei grybwyll, neu mewn mannau eraill.

Felly, mae hyn yn sefydlu corff annibynnol, dan arweiniad arbenigwyr, a byddwn yn dweud hefyd, fel y dywedais wrth gyflwyno hyn yn gynharach, rydym ni wedi dysgu o'r profiad yn yr Alban a Lloegr hefyd. Ac Alun, rwy'n gwybod pa mor angerddol ydych chi am wneud yn siŵr nad ydym ni'n colli rhai o'r manteision a oedd gennym ni unwaith pan oeddem ni o fewn yr Undeb Ewropeaidd—y gallu hwnnw, mewn gwirionedd, i ddinasyddion herio methiant amgylcheddol. Wel, dyna beth mae'r Bil hwn yn ei wneud trwy sefydlu'r sefydliad hwn, trwy sefydlu'r ail golofn, sef yr egwyddorion amgylcheddol sy'n sail iddi, ac yna gosod y targedau.

Ond byddaf yn glir gyda chi, Alun, nid dyblygu targedau sydd wedi bod yno o'r blaen yw hyn. Mewn gwirionedd, un o'r beirniadaethau a gawsom ni, Alun, a'r her a gawsom ni, yw ein bod ni'n cymryd ychydig yn rhy hir i gael y targedau hynny. Wel, y rheswm pam mae arnom ni eisiau treulio'r swm priodol o amser yw fel ein bod ni'n cael y targedau hynny'n union iawn. Mae hynny'n cael ei ysgogi drwy Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru pan gaiff ei sefydlu, ond nawr trwy'r tasglu bioamrywiaeth ac eraill, i gael y targedau yn iawn, oherwydd fe allem ni ddewis targed fel yna a'i gyflawni—targed allbwn hawdd—ond yr hyn sydd ei angen arnom ni yw canlyniadau ystyrlon sy'n cyflawni gwelliannau ansawdd i afonydd, gwelliannau ansawdd i iechyd pridd, sy'n ymdrin â microplastigau ac ati. Felly, rwy'n hapus i nodi hynny unwaith eto i bawb, sef pwysigrwydd hyn. Nid yw'n dyblygu, nid yw'n ychwanegu cymhlethdod. Bydd yn ychwanegu atebolrwydd gwirioneddol, Alun, at sut y cawn ni ein dwyn i gyfrif fel llunwyr polisi yn y thema hon.

Os caf i droi at welliant 40—a diolch i Delyth am gynnig y gwelliant hwn—byddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn yn llawn oherwydd ei fod yn mynd i'r afael â phryderon a godwyd gan randdeiliaid a chan Aelodau'r Senedd yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2 ynglŷn â'r angen hwnnw i wneud darpariaeth benodol ar gyfer adfer bioamrywiaeth yn y Bil. A byddwn yn syml yn dweud wrth bob Aelod: cefnogwch y gwelliant hwn.

Os caf i droi at welliant 4, yn enw Rhys yn y fan yna. Yn gyntaf oll, rwy'n wirioneddol ganmol eich hyrwyddo di-baid o'r mater o fynd i'r afael â microplastigau. Ond fel yr wyf wedi esbonio o'r blaen, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Ac rydych chi'n iawn, rydw i'n mynd i ddweud eto—nid wyf yn credu ei fod yn angenrheidiol, gan y byddai'n wir yn fwy priodol defnyddio, o fewn y ddeddfwriaeth hon, y maes blaenoriaeth lleihau llygredd i osod targed o'r fath. Gellid gosod y targed o fewn hwnnw os caiff ei gefnogi, pe bai'r dystiolaeth a'r dangosyddion a'r modelu drwy'r gwaith datblygu yn nodi'r maes hwn fel blaenoriaeth. Ac i fod yn glir, mae paragraff 118 o'r nodyn esboniadol yn amlinellu, er mwyn lleihau llygredd, y gall targed yn y maes hwn ganolbwyntio, er enghraifft, ar iechyd dŵr croyw trwy geisio lleihau maethynnau gormodol, plaladdwyr, cemegau peryglus iawn ac, yn wir, llygredd plastig. Felly, fe ellir gwneud hynny.

Gan droi at welliant 5A yn enw Janet a gwelliant 5 yn enw Rhys, mae gen i ofn na allaf gefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd yn gysylltiedig â hyn—. Rwy'n cefnogi gwelliant 40, a gyflwynwyd gan Delyth, i ychwanegu 'adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth' at y meini prawf yn adran 6B(2) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 fel y gall Gweinidogion Cymru bennu targedau bioamrywiaeth dim ond os bydd cyflawni targedau o'r fath yn cyfrannu at atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth neu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth. Mae hyn yn egluro yn wirioneddol yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud. Nid yw'r rhain dim ond yn bentwr arall o dargedau na fyddwn byth yn eu cyflawni, ac mae atebolrwydd wedi'i ymgorffori ynddyn nhw. Yn ogystal, mae adran 6C(1), fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2, yn nodi gofyniad i Weinidogion Cymru osod targed tymor hir, o leiaf 15 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed, a tharged tymor byr, sef dyddiad penodedig yn llai na 15 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed, ar gyfer y meysydd blaenoriaeth o leihau'r risg o ddifodiant rhywogaethau brodorol a rheoli ecosystemau yn effeithiol.

Ar gyfer gwelliant 6 yn enw Rhys, mae'r gwelliant hwn yn gysylltiedig â gwelliant 4, ac, am yr un rhesymau, dyna pam na allaf ei gefnogi.

Gwelliant 31. Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn, oherwydd mae adran 6C(2) yn nodi'r meysydd blaenoriaeth y bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddatblygu targedau arnynt cyn diwedd dwy flynedd gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol. Un o'r meysydd blaenoriaeth yw rheoli ecosystemau yn effeithiol, sy'n cynnwys safleoedd statudol ac anstatudol. Felly, rwy'n deall y bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwn, ond mae eisoes wedi'i gwmpasu yn y Bil.

O ran gwelliannau 42, 43 a 45, mae'r rhain yn ganlyniadol i welliant 40, felly byddwn yn annog pob Aelod i gefnogi'r rheini.

Gadewch i mi droi at fater gwenoliaid duon a gwelliant 54, yr ydym wedi cael sawl siaradwr arnynt. Yn gyntaf oll, a gaf ddiolch i Delyth am gynnig y gwelliant hwn, ond hefyd am gefnogi'r egwyddor, neu, fel y dywedoch chi, y syniad y tu ôl i'r gwelliant hwn, i weithredu ar wenoliaid duon? Rwy'n nodi hefyd y gefnogaeth gan yr hyrwyddwr rhywogaethau, Jenny Rathbone, dros nifer o flynyddoedd, yn onest, ar y mater hwn—mae hi wedi gosod ei hachos yn aml—a hefyd Carolyn ac eraill. Nawr, mae llawer o ddiddordeb sylweddol wedi bod yn rôl brics gwenoliaid duon. Roedd yn destun deiseb, fel y clywsom, yn gynharach eleni. Yn wir, fe wnaethom drafod teilyngdod targed o'r fath yn ystod trafodion Cyfnod 2. Rwy'n deall y bwriad da y tu ôl i'r gwelliant hwn a pham mae hwn yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i dynnu sylw at yr angen i adfer y rhywogaeth eiconig hon o wenoliaid duon mewn gwirionedd, ymhlith rhywogaethau eraill, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd dan fygythiad hefyd. Ni ddylem golli golwg ar hynny. Mae yna lawer o hyrwyddwyr rhywogaethau yn y Siambr hon ar bethau fel ystlumod, pathewod a rhywogaethau eraill hefyd. Ond rwy'n gobeithio esbonio—rwy'n gobeithio esbonio—pam nad hwn yw'r cyfrwng deddfwriaethol ar gyfer targed un rhywogaeth ar wyneb y ddeddfwriaeth sylfaenol hon. Ond fe wnaf i esbonio hefyd sut y gall gwenoliaid duon elwa ar y ddeddfwriaeth hon hefyd.

Felly, os caf droi'n fyr at hynny, oherwydd mae wedi ennyn llawer o ddiddordeb wrth i'r Bil hwn fynd drwyddo, cofiwch fod y Bil hwn yn ymwneud â sefydliad llywodraethiant amgylcheddol o'r enw SLlAC, yr egwyddorion ac yna gosod y targedau a chaniatáu i'r targedau hynny fod yn ystyrlon. Felly, bydd y targedau hynny'n cael eu datblygu yn unol â thystiolaeth, gyda dangosyddion, gyda modelu ac mewn meysydd o angen dybryd. Ni fyddant yn cael eu gosod ar wahân. Byddant yn adlewyrchu effeithiau cronnol a dibyniaethau—er enghraifft, sut mae defnydd tir ac ansawdd dŵr yn effeithio ar ein cynefinoedd a'n rhywogaethau. Byddant yn adlewyrchu pwysau ac ysgogiadau ar draws ein hecosystemau, gan sicrhau eu bod yn realistig ac yn cyd-fynd â nodau amgylcheddol ehangach. Fel rhan o'r gwaith hwnnw i osod targed, byddwn yn datblygu senarios i'n helpu i osod y safon a'r uchelgais ar gyfer pob targed, a fydd wedyn yn cael eu modelu i'n helpu i ddeall yn well sut mae'r rhyng-ddibyniaethau yn gweithredu a sut maen nhw'n gyflawnadwy.

Felly, nid wyf o'r farn fod y gwelliant hwn yn briodol yn y ddeddfwriaeth hon, o ystyried y pwerau eang a'r dyletswyddau a nodir yn y fframwaith gosod targedau yn y Bil a'r angen yn y ddeddfwriaeth hon i gymryd ymagwedd systemau integredig at osod targedau. Fodd bynnag, mae her wedi'i gosod ac mae sefyllfa gwenoliaid duon wedi'i hamlygu yma yn y ddadl hon eisoes. Yr her sydd wedi'i gosod yw a allwn ni ddod â rhai pennau at ei gilydd ar y mater hwn. Ac nid fi fel Gweinidog yn unig; byddai'n gofyn am ymgysylltiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio a rheoliadau, ac mae'n debyg y byddai angen cynnwys yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cwmpasu tai cymdeithasol a llywodraeth leol hefyd i fynd trwy hyn. Ond rwy'n credu bod yr her wedi'i gosod yn deg. Hefyd, yr Aelodau sydd wedi bod yn ymgyrchu ar y mater hwn a hefyd yr RSPB sydd wedi bod yn arwain y gri—rwyf wedi siarad yn gynharach heddiw gyda chyd-Aelodau ar hyn, ac rydym yn fodlon iawn i fynd â'r cynnig hwnnw ymlaen ac i ddod â'r pennau cywir at ei gilydd i archwilio beth arall y gallwn ei wneud ynghylch gwenoliaid duon, Jenny, yn hollol, ond hefyd ar rywogaethau ehangach hefyd, oherwydd mae yna fater yma ynglŷn ag adeiladu sy'n gyfeillgar i natur wrth i ni fynd ymlaen. Felly, rwy'n hapus iawn i ymrwymo i hynny. Yr her yma yn y ddeddfwriaeth hon yw bwrw ymlaen â'r dull systemig hwnnw sydd gennym yma o fewn y Bil, sef peidio â chanolbwyntio ar un rhywogaeth, oherwydd gallwn i gael llawer o hyrwyddwyr rhywogaethau eraill yn dod ataf a dweud, 'Rhowch honno ar wyneb y Bil.' Ond rydym ni'n deall bod yna fater i ymdrin ag ef, ac rwy'n hapus i wneud yr ymrwymiad hwnnw.

18:50

Rwy'n deall. Yn amlwg, mae angen i ni warchod ein holl rywogaethau, ond a fyddwch chi'n cytuno â mi bod angen buddsoddiad o £25 ar gyfer adeilad newydd? 

Rwy'n nodi hynny, ac rydych chi wedi gwneud y pwynt hwnnw yn gyson iawn, iawn. Rwy'n credu mai dyna pam mai dod â'r pennau i mewn i ystafell a dweud, 'Iawn, sut ydym ni'n ymdrin â hyn?', yw'r ffordd gywir ymlaen. Diolch, Llywydd.

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, i ymateb i her Alun, na allaf ei weld oherwydd cynllun yr ystafell, ond, Alun, roedd yna foment o berygl yna. Roedden ni'n meddwl eich bod chi i gyd yn mynd i bleidleisio yn erbyn am eiliad, ond rydych chi wedi ein sicrhau nad ydych chi'n mynd i wneud hynny. Mae pwynt difrifol yma, fodd bynnag—mae pwynt difrifol—oherwydd rwy'n credu y byddai'n werth atgoffa'r Aelodau mai pwrpas y Bil hwn yw cau bwlch llywodraethiant a adawyd gan Brexit. Mae'n ymwneud â grymuso dinasyddion Cymru yn sgil y penderfyniad trychinebus hwnnw, nid taflu ein dwylo i fyny mewn anobaith neu ddiflastod, ond edrych ar y dewisiadau amgen, edrych i weld a ydym eisiau cymryd y camau brys hyn neu a ydym eisiau gweld diraddiad pellach ein byd naturiol. Rhaid i'r Bil hwn basio am y rheswm hwnnw.

A dwi jest eisiau ymateb yn gyflym i welliant 54.

Hoffwn ddiolch i Jenny, yn gyntaf, yr hyrwyddwr rhywogaethau, am ei hangerdd am y wennol ddu, am ei phenderfyniad ar y pwnc hwn. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ateb, nid yn unig ar gyfer yr un rhywogaeth hon, wrth gwrs, ond, edrych ar wahanol adar mudol, edrych ar newidiadau y gellir eu gwneud i'r amgylchedd adeiledig. Rwy'n cofio rhywbeth a ddywedodd Jenny mewn dadl arall—rwy'n credu ei fod rai blynyddoedd yn ôl, pan ddywedoch chi fod yn rhaid i ni droedio'n fwy ysgafn ar y ddaear hon. Rwy'n credu bod hynny'n berthnasol iawn yma o ran y newidiadau y gallwn eu gwneud hefyd sy'n newidiadau cymharol fach i'r amgylchedd adeiledig a all helpu rhywogaethau rhag difodiant yn llythrennol.

Diolch i Carolyn, hefyd.

Diolch, Carolyn, am nodi eich cefnogaeth i'r egwyddor hon hefyd. Croesawaf yr hyn y mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi'i ddweud. Rwy'n gwybod ei bod yn amlwg bod nifer ohonom fel Aelodau yn y Siambr hon, yn enwedig yr Aelodau rydw i newydd sôn amdanynt, a fydd eisiau bod yn rhan o hyn. Ni fyddaf yn rhoi hyn i bleidlais, oherwydd rydym yn rhoi ein hymddiriedaeth yn y Llywodraeth yma y gellir dod o hyd i'r newidiadau hyn. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn teimlo'n gryf ynghylch hyn ac, ar y sail honno, rwy'n gobeithio ac yn hyderus y gellir gwneud rhywbeth yn ystod wythnosau'r Senedd hon sy'n weddill.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 40. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Gwelliant 40 yn cael ei dderbyn.

18:55

Gwelliant 40: O blaid: 46, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 4 (Rhys ab Owen).

Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 4? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 4. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 13 yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 yn cwympo.

Gwelliant 4: O blaid: 12, Yn erbyn: 23, Ymatal: 13

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 5 (Rhys ab Owen).

Ydy, mae e. Cyn gwaredu gwelliant 5, bydd angen i ni waredu'r gwelliant i'r gwelliant hwnnw yn gyntaf.

Janet Finch-Saunders, a yw gwelliant 5A yn cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 5A (Janet Finch-Saunders).

Ydy.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5A? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 5A. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, 11 yn ymatal, 27 yn erbyn. Gwelliant 5A yn cael ei wrthod.

Gwelliant 5A: O blaid: 10, Yn erbyn: 27, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 5, felly. Gwrthwynebiad i welliant 5? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 5. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 11 yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwelliant 5 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 5: O blaid: 12, Yn erbyn: 25, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 54 (Delyth Jewell). 

Cynigiwyd gwelliant 6 (Rhys ab Owen).

Gwelliant 6. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 13 yn ymatal, 23 yn erbyn. Gwelliant 6 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 6: O blaid: 12, Yn erbyn: 23, Ymatal: 13

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 31 (Rhys ab Owen).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 31? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 31. Cau'r bleidlais. O blaid tri, 11 yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 31 wedi ei wrthod.

Gwelliant 31: O blaid: 3, Yn erbyn: 34, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 9: Targedau bioamrywiaeth: gosod ac adolygu targedau (Gwelliannau 14, 41, 15, 16, 17, 35, 18, 19, 20, 21)

Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â gosod ac adolygu targedau bioamrywiaeth. Gwelliant 14 yw'r prif welliant.

Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 14 yn gorfodi Gweinidogion Cymru, cyn gwneud rheoliadau, i ymgynghori â phwyllgor o Senedd Cymru sydd â'r cylch gwaith dros ddiogelu'r amgylchedd ac aelodau o'r cyhoedd. Fel hyn ceir mwy o atebolrwydd. Mae gwelliant 15 yn gwneud yn siŵr na fyddai cyrraedd y targed yn cael effaith ar fioamrywiaeth y tu allan i Gymru. Mae gwelliannau 16 a 20 yn sicrhau na fydd rheoliadau yn cael effaith negyddol sylweddol ar allbwn amaethyddol, er mwyn sicrhau nad effeithir yn anghymesur ar y gymuned amaethyddol a'n ffermwyr sy'n gweithio'n galed. Mae gwelliant 17 yn sicrhau bod cydbwysedd o dargedau ar y tir a'r môr. Yn rhy aml, rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar dir daearol, pan fyddwn yn gwybod bod ein hamgylchedd morol yn wirioneddol effeithiol nid yn unig wrth amddiffyn ein hamgylchedd morol ond gall hefyd ein helpu gyda'n hallyriadau di-garbon. Yn rhy aml, mae'n cael ei anwybyddu. Bydd gwelliant 18 yn sicrhau bod y targedau'n cael eu hadolygu bob tymor y Senedd. Mae gwelliant 19 yn newid dyddiad yr adolygiad cyntaf—na allaf gredu ei fod hyd yn oed wedi'i ddogfennu—o 2041 i 2032. Mae'n codi o'r pwynt a wnaeth Alun Davies yn gynharach: rydym ni'n gwneud hyn i gyd nawr, rydym ni eisiau mynd ymlaen ag ef. Rydym ni'n hwyr, felly pam ydym ni'n siarad am yr adolygiad cyntaf o 2041? Credwn y dylid ei newid yn ôl i 2032, a bydd hynny'n bedair blynedd ar ôl i'r rheoliadau gael eu rhoi ar waith yn 2028. Diolch.

19:00

I siarad yn fyr am welliant 41, sy'n ganlyniadol i welliant 36, byddai'n egluro bod yn rhaid i SLlAC nodi yn ei strategaeth sut mae'n bwriadu arfer ei swyddogaethau yn unol â'r diben cyffredinol a nodir yn adran 10(a), yn hytrach na'r amcan amgylcheddol fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd.

A dim ond i siarad yn fyr ar rai o'r gwelliannau yn enw Janet ac i esbonio pam na fyddwn yn eu cefnogi. Byddai'r diwygiadau hynny â'r nod o gyfyngu ar gwmpas targedau bioamrywiaeth lle gellir dweud eu bod yn cael effaith ar gynhyrchu amaethyddol. Nawr, fel y nodais i yng Nghyfnod 2, gallai hyn gael—wel, mae'n debygol y byddai'n cael—effeithiau niweidiol ar y diwydiant ffermio a byddai'n ddiffygiol ar sawl rheswm: yn gyntaf, y rhagdybiaeth y byddai targedau bioamrywiaeth yn cael effaith negyddol ar allbwn, nad yw wedi'i brofi; yn ail, y byddent yn darparu cymhelliant afresymegol i ffermwyr ganolbwyntio ar faint o allbwn yn hytrach nag unrhyw beth arall, fel pe bai hynny'n ddirprwy ar gyfer cydnerthedd economaidd; ac yn drydydd, y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu dangosyddion a'u targedau rheoli tir cynaliadwy yn ystod y cyfnod ers i'r diwygiadau hyn gael eu hystyried am y tro cyntaf yng Nghyfnod 2. Nawr, byddai'r fframwaith hwn, fel yr wyf i'n ei ddeall, yn gweithredu targedau'r Bil hwn mewn perthynas â rheoli tir, a byddai'n gwneud hynny mewn ffordd—wel, byddan nhw'n gwneud hynny mewn ffordd—sy'n ystyried allbwn amaethyddol. Felly, am y rhesymau hynny, Llywydd, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau hynny.

Diolch, Llywydd. Fe wnaf geisio mynd drwy'r rhain cyn gynted ag y gallaf a dal i wneud synnwyr. Yn gyntaf oll, rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am hyn, oherwydd cefais welliant wedi'i gynnwys. Byddaf yn dod at hynny mewn eiliad.

Os caf droi at 14 a 41, yn gyntaf oll. Nid wyf yn cefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd nid wyf yn ystyried bod angen y ddyletswydd hon i ymgynghori cyn gosod targedau, oherwydd bod ymgynghoriad priodol eisoes wedi'i ddarparu yn y Bil. Felly, wrth wneud rheoliadau, rhaid i Weinidogion Cymru (1) gymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, sy'n cynnwys gwneud trefniadau priodol ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau, sy'n sicrhau y bydd ymgynghoriad priodol, ystyrlon a chymesur yn cael ei gynnal, a (2) ceisio cyngor arbenigol annibynnol. Er mwyn cryfhau'r gofynion ymgynghori hynny, pasiwyd gwelliant yng Nghyfnod 2 a ychwanegodd ofyniad i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad yn crynhoi'r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â'r rheoliadau ac unrhyw sylwadau a dderbyniwyd o ganlyniad i'r ymgynghoriad. Felly, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn angenrheidiol ac, yn wir, mae perygl o achosi dryswch neu danseilio'r broses ddeddfwriaethol bresennol, os rhoddir dyletswydd benodol i ymgynghori ar flaen y Bil ochr yn ochr â dyletswydd bresennol i gymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Os gwnaf droi at welliant 15, Llywydd, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn, oherwydd mae prosesau presennol ar waith i asesu effaith targedau. Bydd rheoliadau'n cael eu cefnogi, wrth gwrs, gan asesiadau effaith cadarn. Nawr, oherwydd cyrhaeddiad eang, helaeth a thiriogaethol hir y gwelliant hwn, mae gennyf bryderon gwirioneddol y byddai'r gwelliant hwn y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon, gan y byddai'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau drwy gyfeirio at faterion heblaw mewn perthynas â Chymru ac yn ymestyn y tu hwnt i gwmpas y Bil hwn.

O ran gwelliant 16, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn, oherwydd yn wir, fel y soniwyd eisoes, mae prosesau presennol ar waith wedi'u sefydlu drwy Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 sy'n mynd i'r afael â'r egwyddor y tu ôl i'r gwelliant hwn eisoes. Felly, bydd rôl a chyfraniad ein rheolwyr tir yn hanfodol wrth gyflawni targedau bioamrywiaeth. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o'r sector amaethyddol ar ddatblygu targedau. Cyn gosod targedau drwy reoliadau, bydd Gweinidogion Cymru, yn unol â'r egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy hynny, yn cynnal ymgynghoriad a fydd yn galluogi ystyried barn. Mae hyn yn darparu mecanwaith er mwyn i unrhyw bryderon gael eu codi a'u hystyried wrth ddatblygu targedau. Ac yn wir, cyflwynais welliannau yng Nghyfnod 2 i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi crynodeb o'r ymgynghoriad hwnnw, gan ddarparu hyd yn oed mwy o dryloywder ynghylch pa farn a phryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Yn ogystal â hynny, bydd y rheoliadau sy'n gosod targedau yn cael eu cefnogi gan asesiadau effaith cadarn a byddant yn cynnwys asesiad rheoli tir cynaliadwy os nodir y bydd unrhyw bolisi neu reoliad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol neu'n negyddol ar amaethyddiaeth neu weithgareddau eraill a wneir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth.

O ran gwelliant 17, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn. I fod yn glir pam, mae'r fframwaith gosod targedau yn berthnasol yn gyfartal i dargedau ar y tir a'r amgylchedd morol. Bydd targedau'n cael eu datblygu yn unol â thystiolaeth, dangosyddion, modelu ac yn y meysydd o angen dybryd.

O ran gwelliant 18, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn am resymau pragmatig iawn ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae adran 6C(1) eisoes yn nodi gofyniad i Weinidogion Cymru osod targedau hirdymor a thymor byr. Mae'r amserlenni wedi'u diffinio, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, fel mwy neu lai na 15 mlynedd. Mae angen i ni sicrhau bod digon o amser wedi mynd heibio cyn cynnal adolygiad o effeithiolrwydd targedau. Mae bioamrywiaeth yn ymateb yn wahanol a dros wahanol amserlenni. Er enghraifft, pe baem yn canolbwyntio ar atal difrod yn unig, gallem weld gwelliant dros gyfnod o ychydig flynyddoedd; gallai adfer gymryd degawdau. Nawr, mae bioamrywiaeth yn system ddeinamig integredig lle mae genynnau a rhywogaethau a chynefinoedd a phrosesau ecolegol yn rhyngweithio ar draws lle ac amser, ac ni ellir eu cadw na'u hadfer ar wahân. Felly, dyna pam mae'r Bil yn nodi cyfnod o 10 mlynedd i ganiatáu amser i weithredu a thargedau i gyflawni gael eu hymgorffori a'u tystio cyn asesu a ydynt yn effeithiol.

Gwelliant 19, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn am yr un rhesymau a roddwyd ar gyfer gwelliant 18.

Gan droi at welliant 20, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Pwrpas y datganiad am dargedau yw hysbysu'r Senedd ynghylch pa un a yw targed wedi'i gyflawni ac, os nad yw wedi'i gyflawni, pa gamau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd i'w cymryd i'w gyflawni. Bwriad yr adran hon yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn atebol am gyflawni'r targedau. Nid yw'r gwelliant yn cyd-fynd â phwrpas yr adran hon.

A gwelliant 21, nid wyf yn ystyried bod angen y gwelliant hwn ac ni allaf ei gefnogi. Mae egwyddorion cyfraith gyhoeddus o wneud penderfyniadau eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i gyngor arbenigol annibynnol y mae'n rhaid iddynt ei geisio.

Os caf droi at fy ngwelliant bach i o'r diwedd, ar ôl y rhagarweiniad mawr, mae'n welliant technegol i adran 67 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ond fy ngwelliant i ydyw, i ddiweddaru croesgyfeiriad oherwydd gwelliannau a basiwyd yng Nghyfnod 2. Mae'n welliant technegol ar y sail honno. Diolch, Llywydd.

19:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 14. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 14 wedi'i wrthod.

Gwelliant 14: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 41 (Delyth Jewell).

Ydy. A ddylid derbyn gwelliant 41? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae gwrthwynebiad, oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 41. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal a 25 yn erbyn. Mae gwelliant 41 wedi'i wrthod.

Gwelliant 41: O blaid: 23, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 15 (Janet Finch-Saunders).

Cynigiwyd.

A oes gwrthwynebiad i welliant 15? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 15. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal a 26 yn erbyn. Mae gwelliant 15 wedi'i wrthod.

Gwelliant 15: O blaid: 22, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 16 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 16? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 16. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 16 wedi'i wrthod.

Gwelliant 16: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 17 (Janet Finch-Saunders).

Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 17. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 17 wedi ei wrthod.

19:10

Gwelliant 17: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Eich gwelliant bach chi, Ysgrifennydd Cabinet, a yw'n cael ei gynnig? [Chwerthin.]

Gwelliant 35.

A yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 35 (Huw Irranca-Davies).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 35? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 35 wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 42 (Delyth Jewell).

Gwelliant 42 wedi ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais ar welliant 42. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 42 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 42: O blaid: 46, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Janet Finch-Saunders).

Ydy.

Oes gwrthwynebiad i welliant 18? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 18. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 18 wedi ei wrthod.

Gwelliant 18: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 19 (Janet Finch-Saunders).

Ydy.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 19. Cau'r bleidlais, felly. O blaid 10, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 19 wedi ei wrthod.

Gwelliant 19: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 43 (Delyth Jewell).

Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 43? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 43. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, gwelliant 43 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 43: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 20 (Janet Finch-Saunders).

Cynigiwyd.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 20. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Gwelliant 20 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 20: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 21 (Janet Finch-Saunders).

Ydy.

Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, pleidlais ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 21 wedi ei wrthod.

Gwelliant 21: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 10: Cynlluniau ac adroddiadau Gweinidogion Cymru o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Gwelliannau 49, 44, 22, 50, 23, 51)

Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â chynlluniau ac adroddiadau Gweinidogion Cymru o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gwelliant 49 yw'r prif welliant. Carolyn Thomas sy'n cynnig y prif welliant.

Cynigiwyd gwelliant 49 (Carolyn Thomas).

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau siarad am welliannau 49, 50 a 51 gyda'i gilydd, os gwelwch yn dda, ac mae'r rhain yn ymwneud â rôl SLlAC mewn targedau bioamrywiaeth. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i SLlAC nodi yn ei strategaeth sut mae'n bwriadu monitro targedau amgylcheddol statudol. Mae'r deunyddiau esboniadol yn egluro'r disgwyliad y bydd y SLlAC yn defnyddio ei harbenigedd annibynnol i benderfynu pa dargedau i'w monitro ac i ba raddau. Fodd bynnag, mae rhai wedi galw am i'r Bil fynd ymhellach. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cydbwyso'r alwad am fwy o fanylion ar wyneb y Bil o ran rôl SLlAC mewn perthynas â thargedau bioamrywiaeth, yn erbyn pwysigrwydd diogelu gallu SLlAC i ddewis ei blaenoriaethau a'i meysydd ffocws ei hun yn seiliedig ar ei harbenigedd. I'r perwyl hwnnw, mae'r diwygiadau yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â SLlAC pan fyddant yn paratoi cynllun adran 6. Mae'r ddarpariaeth benodol hon yn rhoi cyfle clir i SLlAC lunio cynnwys y cynllun cyn iddo gael ei gwblhau. Mae ganddi hefyd y fantais ychwanegol o ddatrys unrhyw bryderon ynghylch diffyg cydymffurfio posibl neu effeithiolrwydd y gyfraith yn gynnar.

Ategir y ddarpariaeth ymgynghori hon gan y gofyniad i adroddiad Gweinidogion Cymru o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, fel y'i diwygiwyd gan adran 38 o'r Bil, ac adroddiad gwerthuso Gweinidogion Cymru o dan adran 6A o'r Ddeddf honno, a fewnosodwyd gan adran 39 o'r Bil, gael ei anfon at SLlAC. Bydd yr adroddiadau hyn, yn y drefn honno, yn adrodd ar gynnydd yn erbyn y targedau bioamrywiaeth ac yn nodi asesiad Gweinidogion Cymru o effaith ac effeithiolrwydd y cynigion a nodir yn eu cynllun adran 6. Bydd anfon yr adroddiadau hyn, yn gyfreithiol, hefyd yn gyfystyr â chais am gyngor gan SLlAC o dan adran 13 o'r Bil. Bydd cyfle a'r disgresiwn i SLlAC wneud ymateb sylweddol os yw'n o'r farn bod hynny'n angenrheidiol ai peidio. Os darperir cyngor gan SLlAC, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r cyngor hwnnw. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw achos arall lle mae Gweinidogion Cymru yn gofyn am gyngor gan SLlAC, os yw SLlAC yn dewis peidio â darparu cyngor, rhaid iddi nodi ei rhesymau dros beidio â gwneud hynny.

Mae'r gwelliannau hyn wedi'u cydbwyso'n ofalus i ymateb i bryderon cyrff anllywodraethol amgylcheddol, a chryfhau'r Bil. Felly, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi.

19:15

Yn gyntaf, dwi'n gefnogol o'r gwelliannau yn enw Carolyn, yn sicr, a jest i siarad i welliant 44, byddai hyn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ar eu cynllun bioamrywiaeth cyn iddo gael ei orffen. Buasai hyn yn sicrhau bod rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau amgylcheddol, arbenigwyr a chymunedau lleol, yn cael y cyfle i ffurfio'r ffordd y mae'n cael ei ddatblygu. Mae ymgynghori yn rhan bwysig o greu polisi, yn enwedig mewn maes sydd mor gymhleth ag adfer bioamrywiaeth. Byddai hyn yn helpu i wella tryloywder, ansawdd y cynllun a pha mor ymarferol yw e, efallai, a byddai'n cryfhau hyder y cyhoedd yn y dull.

A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Carolyn am gyflwyno'r gwelliannau hyn—49, 50, 51? Ni fyddaf yn ychwanegu at yr hyn rydych chi eisoes wedi'i roi, ond mae hon yn enghraifft dda o weithio ar y cyd â rhanddeiliaid, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, ond hefyd gydag aelodau pwyllgorau, wrth i hwn fynd rhagddo. Rwy'n credu eich bod wedi nodi'n huawdl iawn pam mae angen hyn a pham ei fod eto yn cryfhau a gwella'r Bil. Felly, byddwn yn annog Aelodau i gefnogi 49, 50 a 51.

Gan droi at welliant 44, yn enw Delyth Jewell, roedd gwelliant llwyddiannus a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Joyce Watson yng Nghyfnod 2, a osododd ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, y cyfeiriais atynt yn gynharach. Maent yn cynnwys gwneud y trefniadau priodol hynny ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd a gwneud penderfyniadau wrth baratoi'r cynllun adran 6, a chyhoeddi crynodeb o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r ymatebion a dderbyniwyd. Felly, nid wyf yn credu bod y ddyletswydd eang hon i ymgynghori fel y nodir yng ngwelliant 44 yn angenrheidiol, felly dyna pam na fyddaf yn ei gefnogi. Fodd bynnag, fel y dywedwyd, rwy'n cefnogi'r ddyletswydd wedi'i thargedu i ymgynghori â SLlAC drwy welliant 49, a gyflwynwyd gan Carolyn Thomas.

Rwy'n troi at—er nad wyf yn gwybod a gafodd ei gynnig; mae ar y papur—gwelliant 22 yn enw Janet. Ni siaradwyd amdano, ond mae ar y papur. [Torri ar draws.] Yn wir. Os gallaf esbonio pam nad wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn, pwrpas adran 6B yw cryfhau cynllun adran 6 Gweinidogion Cymru drwy ei gwneud yn ofynnol iddo nodi, ymhlith pethau eraill, sut y bydd y targedau yn cyfrannu at atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cyflawni'r targedau hynny. Nid yw cynllun adran 6 yn offeryn asesu. Felly, mae'r diwygiad hwn y tu allan i ddiben is-adran 6B(a). Ond, yn ogystal, wrth gydymffurfio â dyletswydd adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r adroddiad rheoli tir cynaliadwy diweddaraf, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, a fydd, ymhlith pethau eraill, yn asesu'r cynnydd cronnol tuag at gyflawni'r amcanion rheoli tir cynaliadwy. Felly, mae'r fframwaith yn adran 6 eisoes yn darparu ar gyfer ystyried materion amaethyddol.

Ac os trof yn fyr at welliant 23, unwaith eto, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn, oherwydd pwrpas yr adroddiad gwerthuso yw adolygu effeithiolrwydd y polisïau yng nghynllun adran 6 Gweinidogion Cymru sy'n canolbwyntio ar gynnal a gwella bioamrywiaeth a chyflawni targedau sydd â'r bwriad o gyfrannu at atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Felly, am resymau tebyg i'r rhai a roddais mewn ymateb i welliant 22, mae'r gwelliant hwn y tu allan i bwrpas yr adroddiad gwerthuso.

19:20

Ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 49? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 49. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 49 wedi ei wrthod.

Gwelliant 49: O blaid: 46, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 44 (Delyth Jewell).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 44? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Pleidlais, felly. Agor y bleidlais ar welliant 44. Cau'r bleidlais—[Torri ar draws.]

Ni wnaethom agor y bleidlais ac, felly, ni allwn ei chau. 

Agor y bleidlais ar welliant 44. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 44 wedi cael ei dderbyn.

Gwelliant 44: O blaid: 26, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Derbyniwyd gwelliant 44.

Dau ddeg chwech o blaid, neb yn ymatal, 22 yn erbyn.

Ar gyfer y cofnod, rwy'n credu efallai fy mod wedi cyhoeddi gwelliant 49 yn anghywir. Dim ond ar gyfer y cofnod, felly, pasiwyd gwelliant 49.

Gwelliant 45. Ydy e'n cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 45 (Delyth Jewell).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 45. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 45 wedi ei basio.

Gwelliant 45: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 22 (Janet Finch-Saunders).

Ydy.

A oes gwrthwynebiad i welliant 22? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 22. Cau'r bleiadlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 22 wedi ei wrthod.

19:25

Gwelliant 22: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 50 (Carolyn Thomas).

Ydy. 

Diolch yn fawr. Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 50? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 50. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae gwelliant 50 wedi ei basio. 

Gwelliant 50: O blaid: 45, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 23 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. 

A oes gwrthwynebiad i welliant 23? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 23. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 23 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 23: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 51 (Carolyn Thomas).

Ydy. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 51. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae gwelliant 51 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 51: O blaid: 46, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 11: Ystyr ‘awdurdod cyhoeddus’ (Gwelliant 52)

Y nesaf, felly, yw grŵp 11. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag ystyr 'awdurdod cyhoeddus'. Gwelliant 52 yw'r prif welliant. Delyth Jewell i gynnig y gwelliant. 

Cynigiwyd gwelliant 52 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Dwi'n siarad i welliant 52.

Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar y cynnydd o ran mynd i'r afael â'r bwlch llywodraethiant ar awdurdodau a gedwir yn ôl sy'n gweithredu yng nghyfraith Cymru—er enghraifft, Ystad y Goron—o leiaf unwaith ym mhob tymor Senedd. Ar hyn o bryd, mae'r rhain y tu allan i gwmpas SLlAC a'i chorff cyfatebol, Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd. Felly, maen nhw'n syrthio i'r bwlch. Cau'r bwlch llywodraethiant amgylcheddol yw lle dechreuodd y Bil hwn ddod i fodolaeth, ac er fy mod yn falch o weld ei fod wedi ehangu y tu hwnt i hynny i ganiatáu i ni osod targedau bioamrywiaeth uchelgeisiol, byddai'n eironig mewn gwirionedd pe bai un o'r ychydig faterion sy'n weddill y mae angen mynd i'r afael â nhw o hyd yn ddarn anorffenedig o fusnes ar y bwlch llywodraethiant hwn.

Nawr, er fy mod yn gwerthfawrogi nad yw materion sy'n ymwneud ag awdurdodau a gedwir yn ôl yn rhai syml ac mae angen amser i'w datrys, budd eironig a gawn o'r amser y mae wedi'i gymryd i gyrraedd y pwynt hwn yw y dylem fod wedi gallu ceisio cydsyniadau Gweinidog y Goron perthnasol. Sylweddolaf ein bod bellach wedi mynd heibio i'r pwynt hwnnw, a dyna pam mae fy ngwelliant 52 yn ceisio sicrhau nad yw'r mater pwysig hwn yn cael ei ysgubo o'r neilltu yn y Senedd nesaf. Yn hytrach, byddai'n sicrhau bod yn rhaid dychwelyd at y mater a bydd rhaid i Weinidogion Cymru y dyfodol esbonio i'r Senedd beth maent yn ei wneud i sicrhau bod cyrff fel Ystad y Goron ac awdurdodau trafnidiaeth ac ynni yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithgareddau ar yr amgylchedd yng Nghymru. Mae fy ngwelliant wedi'i ddrafftio er mwyn peidio â chroesi'r llinell gymhwysedd sensitif iawn honno. Gobeithio y gellir cytuno heddiw i sicrhau bod y sgwrs bwysig hon yn parhau yn y dyfodol.

Ac i gloi, Llywydd, dyma fydd y tro olaf i mi siarad ar y Bil hwn yn ystod Cyfnod 3.  A gaf i felly diolch i dîm y pwyllgor, i'r Comisiwn, i dîm y Llywodraeth, y grwpiau amgylcheddol rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw—WEL a Chyfeillion y Ddaear Cymru yn arbennig—a diolch arbennig i Niamh Salkeld ac i Lewis Owen yn swyddfa'r Blaid am eu cymorth. Dwi'n gobeithio y byddwn ni wedi cryfhau ac, ie, wella'r Bil. 

Diolch, Llywydd. Deallaf mai prif fwriad y gwelliant hwn yw mynd i'r afael â'r pryderon hynny ynghylch y bylchau mewn llywodraethiant a allai godi mewn perthynas ag awdurdodau a gedwir yn ôl yn gweithredu yng Nghymru na fyddent yn destun goruchwyliaeth gan SDA na SLlAC. Mae hefyd yn ymwneud â'r diffiniad o 'awdurdod cyhoeddus' yn Rhan 1 o'r Bil, sy'n helpu i bennu cwmpas y ddyletswydd a roddir ar awdurdodau cyhoeddus penodol i gymhwyso egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu'r amgylchedd wrth gynnal asesiadau amgylcheddol strategol. Nawr, rwyf wedi egluro i'r pwyllgor yn flaenorol mewn cyfnodau cynharach nad ydym yn ystyried y bwlch llywodraethiant posibl yn un sylweddol, ac rwy'n credu bod ffyrdd nad ydynt yn ddeddfwriaethol o reoli'r pryderon hyn, fel yr wyf wedi'i nodi o'r blaen. Hefyd, mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried ychwanegu at y rhestr o awdurdodau cyhoeddus, ond nid yw'r Bil ei hun yn rhoi unrhyw bŵer iddynt wneud hynny. I ddiwygio'r rhestr o gyrff cyhoeddus, byddai angen Deddf y Senedd arall i ddiwygio'r rhestr o gyrff cyhoeddus, ac ar y pwynt hwnnw byddai'r mater o gydsyniad wedyn hefyd yn dod yn berthnasol.

Nodais yn flaenorol nad yw'r bwlch llywodraethiant, fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd, yn cael ei ddatrys yn briodol drwy geisio cydsyniad mewn perthynas â'r holl awdurdodau a gedwir yn ôl sy'n cyflawni'r swyddogaethau hynny yng Nghymru sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â'r amgylchedd, yn enwedig oherwydd bod atebolrwydd gwleidyddol cyfyngedig mewn perthynas â rhai o'r awdurdodau hynny. Mae hwn hefyd, wrth gwrs, yn fater y gall SLlAC ei hun wneud argymhellion arno yn y dyfodol. Unwaith eto, byddai hyn, bryd hynny, yn fater i'r Llywodraeth yn y dyfodol, ac i'r Senedd. Felly, nid wyf yn credu y byddai'n briodol gosod gofyniad cyfreithiol ar Weinidogion Cymru i roi gwybod i'r Senedd am gamau sydd y tu allan i'w rheolaeth. Rwyf wedi ymrwymo i Lywodraeth Cymru i gadw effaith y bwlch llywodraethiant hwn dan adolygiad o ddechrau swyddogaethau sylweddol SLlAC. Ar y sail hon ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn, gan nad oes unrhyw reswm cymhellol i'w dderbyn mewn perthynas â naill ai Rhan 1 neu Ran 2 o'r Bil. 

Llywydd, os caf fanteisio ar y cyfle hwn ar y gwelliant terfynol ar Gyfnod 3 dim ond i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl a'r gwelliannau heddiw, ac yn y cyfnodau blaenorol hefyd. Rydym wedi gwella'r ddeddfwriaeth hon yn sylweddol wrth iddi ddod drwodd, trwy weithio yn y maes cydweithredol hwnnw, gan gynnwys gyda rhanddeiliaid hefyd. Rwyf eisiau diolch ar y cofnod i bawb a gyfrannodd ato, ond hefyd i'r tîm bach iawn o swyddogion, sy'n arbenigol iawn ac yn angerddol iawn ynghylch hwn, ac sydd wedi gweithio gyda phob un ohonom i wneud hyn. Daeth i mewn fel Bil da; mae'n dod allan o'r cyfnodau hyn—allan o Gyfnod 2 a nawr Cyfnod 3—fel Bil llawer gwell, ac mae'n glod i'r Senedd yn y ffordd y mae wedi gweithio ar hwn. 

19:30

Yn gyflym. Rwy'n diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei ymateb. 

Rwy'n gwerthfawrogi'r pwyntiau a wnaed. Rwy'n gwerthfawrogi efallai nad yw'r bwlch llywodraethiant hwn yn sylweddol. Byddwn yn dadlau y byddai'n ddigon sylweddol eto, oherwydd beth yn union fyddai'r cyrff hynny, yn enwedig Ystad y Goron. Felly, byddaf yn dal i wthio hyn i bleidlais. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraethau'r dyfodol yn dychwelyd at hyn. Ond i orffen ar nodyn cadarnhaol, diolch eto i bawb sydd wedi gweithio gyda'i gilydd i wella'r Bil hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 52? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 52. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 52 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 52: O blaid: 23, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Ni chynigiwyd gwelliant 48 (Delyth Jewell). 

Does gyda ni ddim mwy o bleidleisio i'w wneud. Rŷn ni felly wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Dwi'n dwi'n datgan fod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn. Dyna ddiwedd ar Gyfnod 3. 

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:33.