Y Cyfarfod Llawn

Plenary

01/10/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Lesley Griffiths.

Prosiect Piblinell Hydrogen rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y prosiect piblinell hydrogen rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy? OQ63158

Mae gan brosiect HyLine Gogledd y potensial i ddarparu'r atebion ynni glân sydd eu hangen ar fusnesau, gan gyflawni ein hymrwymiad i swyddi a thwf. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r datblygwyr a'r diwydiant drwy glwstwr datgarboneiddio diwydiannol gogledd-ddwyrain Cymru wrth i'r prosiect gwblhau ei gyfnodau dichonoldeb.

Mae'n dda iawn clywed hynny. Mae'r cynllun i gael piblinell sy'n cyflenwi hydrogen ar draws gogledd-ddwyrain Cymru wedi bod yn destun trafod ers sawl blwyddyn. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o fusnesau o ystad ddiwydiannol Wrecsam sy'n pryderu am y seilwaith ynni presennol ar yr ystad hon—un o'r ystadau diwydiannol mwyaf yng ngorllewin Ewrop. Felly, fe wnaethant groesawu cyhoeddiad diweddar Wales and West Utilities yn fawr iawn. A allwch chi egluro pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda Wales and West Utilities, a hefyd gyda meiri metro Manceinion a Lerpwl, gan y gwn fod ganddynt hwy ddiddordeb mewn cysylltu gogledd-orllewin Lloegr â'r biblinell hydrogen hon?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a'r cyfle, mewn gwirionedd, i dynnu sylw at ba mor bwysig yw'r prosiect hwn i Gymru. Gallai greu hyd at 6,000 o swyddi lleol, gan helpu i greu coridor ynni glân trawsffiniol, yr ydym eisiau ei weld ar ddwy ochr y ffin honno, gan gefnogi clwstwr trawsffiniol HyNet yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Mae asesiad o'r manteision drwy'r cyfnod presennol wedi nodi y gallai HyLine Gogledd arbed hyd at 27 miliwn o dunelli o allyriadau carbon deuocsid cronnol erbyn 2058, gan gynhyrchu £17 biliwn o werth economaidd a datgloi gwerth cymdeithasol o hyd at £3.3 biliwn. Pan ddarllenais hynny gyntaf, roedd yn rhaid i mi ei ddarllen ddwywaith, gan fod y ffigurau hynny'n wirioneddol anhygoel. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau â'r gwaith trawsffiniol hwnnw er mwyn gwireddu'r prosiect hwn. Yn amodol ar gymeradwyaeth ar gyfer cyllid Llywodraeth y DU yn 2026, fy nealltwriaeth i yw bod Wales and West Utilities yn anelu at ddechrau cyfnod nesaf datblygiad y prosiect, sy'n cynnwys y gwaith cynllunio peirianneg pen blaen ochr yn ochr â pharatoi cynlluniau.

Rwy'n ddiolchgar i Lesley Griffiths am godi'r mater pwysig hwn, gan fod sector fel hwn, neu gyfle fel hwn, nid yn unig yn gyfle enfawr i Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, ond wrth gwrs, mae ganddo effaith ar draws y gogledd. Fel rydych chi wedi'i ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymwneud â mwy nag ynni glân, sy'n wirioneddol bwysig, mae a wnelo â swyddi, buddsoddiad a sicrhau bod ein rhan ni o'r byd yn rhan o ddyfodol diwydiant ac ynni. Mae hwn yn brosiect sylweddol, fel y gwyddoch, ond rwyf hefyd yn siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn ymwybodol o fusnesau eraill yng Nghymru sydd hefyd yn edrych ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â hydrogen. Cefais y fraint ddydd Gwener o gyfarfod â Syngas, busnes yng Nglannau Dyfrdwy yn y gogledd. Maent wedi arloesi proses ar gyfer troi gwastraff yn hydrogen, sy'n ticio llawer o flychau o ran canlyniadau gwyrdd, ond sydd hefyd yn edrych tua'r dyfodol o ran yr hyn y gall hydrogen ei ddarparu. Felly, yn ogystal â'r meysydd buddsoddi mawr hyn a'r cyfleoedd mawr hyn sydd eisoes wedi'u nodi y prynhawn yma, tybed sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda rhai o'r busnesau llai hynny sy'n arloeswyr yn y maes hwn, a sut y gall Llywodraeth Cymru eu cefnogi yn eu prosiectau yn y dyfodol hefyd.

Yn amlwg, mae Cymru'n gyfoethog iawn o ran adnoddau ynni adnewyddadwy, ac mae hynny wedyn yn rhoi cyfleoedd aruthrol i ni ar gyfer cynhyrchu hydrogen carbon isel, ac yn enwedig, i fod yn arweinwyr mewn arloesedd yn y maes hwn. Dyma pam ein bod wedi bod yn awyddus iawn i gyhoeddi polisi Llywodraeth Cymru ar hydrogen. Felly, byddwn yn gwneud hynny yn nes ymlaen eleni, yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd. Fe greodd ddiddordeb sylweddol gan wahanol sectorau diwydiannol, ac ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi. Felly, y bwriad yw cyhoeddi hynny cyn bo hir. Bydd yn egluro pwysigrwydd hydrogen ar gyfer cynhyrchiant ynni a diwydiant Cymru ac yn annog buddsoddiad mewn prosiectau arloesol sy'n cefnogi datgarboneiddio cynaliadwy.

Mae hydrogen glas yn ymyrraeth ddrud, ac mae'n galw am sicrwydd o danwydd ffosil parhaus hyd yn oed gyda dal carbon. Mae wedi methu mewn 10 allan o 13 prosiect ledled y byd ac mae'n fwy budr na llosgi nwy naturiol. Mae piblinell carbon deuocsid newydd HyNet, sy'n rhan o'r prosiect hwn, yn croesi 26 o gyrsiau dŵr, gan gynnwys afon Dyfrdwy. Mae'n mynd drwy gymunedau, gan gynnwys man chwarae, tir amaethyddol, mae'n cael effaith ar lygod y dŵr, ardal gadwraeth arbennig madfallod dŵr Glannau Dyfrdwy, dyfrgwn, brochfeydd moch daear, perthi hynafol a glaswelltiroedd. Mae'r gwaith lliniaru wedi bod yn wael, nid oes astudiaethau ecolegol manwl wedi'u cwblhau, ond eto, bydd y gwaith adeiladu'n dechrau y flwyddyn nesaf. Yng Nghymru, mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac rydym yn aelod o'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gwneir gwaith diwydrwydd dyladwy ar ran ein cymunedau a'r amgylchedd naturiol ar gyfer y cynllun hwn?

13:35

Wel, mae Carolyn Thomas yn ein hatgoffa, mewn gwirionedd, o ba mor bwysig yw'r fframwaith rheoleiddio yn yr achos hwn a phob achos tebyg. Gwyddom, serch hynny, fod astudiaethau rhyngwladol a gynhaliwyd gan sefydliadau, gan gynnwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a'r Asiantaeth Ynni Ryngwladol oll wedi dod i'r casgliad fod hydrogen yn debygol o fod yn rhan o'r llwybr tuag at sero net. Ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny mewn ffordd gyfrifol. Felly, bydd angen caniatâd cynllunio, trwyddedau amgylcheddol a thrwyddedau technegol ac economaidd ar gyfer gweithgareddau cludo a storio ar gyfer unrhyw gynnig hydrogen, a bydd gan bob un o'r rheini ofynion technegol ac economaidd heriol y mae'n rhaid eu cyflawni cyn rhoi unrhyw ganiatâd. Mae pob trefn reoleiddio yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth fanwl ar brosesau, effeithiau, monitro a lliniaru cyn y gall unrhyw weithgareddau fynd rhagddynt.

Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Cwestiwn 2, Peredur Owen Griffiths.

Y Sector Cydweithredol

2. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i dyfu'r sector cydweithredol yng Nghymru? OQ63175

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf cydweithredol drwy Busnes Cymdeithasol Cymru, gan gynnig cyngor a chyllid arbenigol i helpu i sefydlu a thyfu busnesau cydweithredol a busnesau sy'n eiddo i weithwyr. Mae'n cefnogi perchnogaeth gymunedol, yn hyrwyddo modelau cydweithredol mewn gofal cymdeithasol a thai ac yn buddsoddi mewn cynhwysiant digidol a mentrau sero net.

Diolch am yr ateb yna.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Luke Fletcher yn ei bapur economaidd yn gynharach eleni:

'Cymru yw cartref hanesyddol y mudiad cydweithredol, ac mae’n hen bryd i ni dderbyn a dysgu o’r hanes radical hwnnw i sbarduno oes newydd o ddatblygu cynhwysol a chynaliadwy.'

Er ein hanes balch, cymunedau Cymru yw'r lleiaf grymus yn y DU i allu diogelu tir ac asedau, yn ôl adroddiad nodedig a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig. Un o'r rhesymau hynny yw methiant Llywodraethau olynol yng Nghymru i weithredu'r ddeddfwriaeth hawl y gymuned i brynu a gyflwynwyd gan y Torïaid yn Lloegr, yn ogystal â'r SNP, a ddatblygodd hawliau cryfach i gymunedau yn yr Alban. Fel y mae Luke yn ei awgrymu, pe bai deddfwriaeth o'r fath yn cael ei hategu gan becyn ariannol newydd i gefnogi twf perchnogaeth gymunedol, gallem weld oes newydd o gwmnïau cydweithredol ym musnesau Cymru, a fyddai'n darparu manteision gwirioneddol i'n heconomi a'n cymunedau. Weinidog, pam nad yw Llafur wedi gweithredu i roi'r hawliau, ac yn wir, y potensial i'n cymunedau y mae cymunedau yng ngwledydd eraill yr ynysoedd hyn eisoes yn eu mwynhau?

Wel, diolch am eich cwestiwn, Peredur Owen Griffiths. Ym mhapur Luke Fletcher, roedd yn un o'r pethau yr oeddwn yn cytuno â hwy, lle dywed, yn gywir ddigon, fod gan Gymru hanes balch. Rydym wedi bod ar flaen y gad yn gyson o ran arloesi cydweithredol, Lywydd. Mae yna enghreifftiau hanesyddol, onid oes, yn enwedig y gweithwyr ym Mhwll Glo'r Tower. Rwy'n clywed pwyntiau'r Aelod ar ddeddfwriaeth. Nid wyf am drafod manylion deddfwriaeth—nid fy nghyfrifoldeb i yw hynny, er y gallai Tom Giffard fod am fy nhemtio i wneud hynny. Gofynnodd pam nad ydym yn rhoi grym i gymunedau. Wel, gallaf ddarparu enghreifftiau cadarnhaol lle rydym wedi rhoi grym i gymunedau. Lywydd, mae un enghraifft yn eich etholaeth chi o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr. Mae nifer o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr a modelau cydweithredol ledled Cymru. Mae enghraifft ddiweddar yng Nghasnewydd, etholaeth y Gweinidog tai, lle mae'r Corn Exchange wedi gweithio ochr yn ochr â Le Pub i ddatblygu model cydweithredol a lleoliad cerddoriaeth. Felly, dyna gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gyda Busnes Cymdeithasol Cymru, lle rydym wedi grymuso cymunedau i gymryd y camau y maent am eu cymryd. Mae cymorth pellach pwrpasol i'r sector cydweithredol ar gael drwy Busnes Cymdeithasol Cymru, drwy Fanc Datblygu Cymru a thrwy Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Rwy'n annog Peredur Owen Griffiths i siarad â'i gymuned am y cyfleoedd hynny yno ac i annog y sefydliadau hynny i edrych ar y sector cydweithredol a'i dyfu, fel rydym eisiau ei wneud yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn rhan bwysig o'r mudiad cydweithredol, ac maent yn helpu i gadw busnesau wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau, gan ddarparu swyddi hirdymor o safon. Mae gweithwyr sy'n gyd-berchnogion hefyd yn tueddu i fwynhau lefelau uwch o foddlonrwydd swydd ac i wella llesiant yn y gweithle hwnnw. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru?

13:40

A gaf i ddiolch i Joyce Watson am dynnu sylw at bwysigrwydd perchnogaeth gan weithwyr a busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru? Yn wir, mae'r enghraifft yn eich etholaeth chi, Lywydd, Aber Instruments, yn enghraifft wych, ac mae'r Aelod yn cynrychioli'r rhanbarth, fel y mae'r Prif Weinidog.

Rwy'n falch iawn o ymrwymiad y rhaglen lywodraethu a'r ymrwymiad a wnaethom ar ddechrau tymor y Llywodraeth hon i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod nid yn unig ein bod wedi cyflawni'r ymrwymiad hwnnw beth amser yn ôl bellach, ond ein bod wedi mynd y tu hwnt i'r ymrwymiad hwnnw, ac rydym yn gwneud cynnydd pellach ar berchnogaeth gan weithwyr.

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at rai o fanteision swyddi o ansawdd da â chyflogau da a diogelwch swyddi yn y tymor hir. Dyna rai o'r manteision, Lywydd, sydd ar gael i weithwyr sy'n cael eu cyflogi mewn modelau perchnogaeth gan weithwyr. Dyna'r union fath o gefnogaeth y mae Llywodraeth Lafur Cymru eisiau parhau i'w dangos yma—ein bod yn cefnogi pobl sy'n gweithio, ein bod yn eu cefnogi drwy fentrau fel perchnogaeth gan weithwyr. Rydym yn y broses o wneud y gwelliant mwyaf mewn cenhedlaeth i hawliau gweithwyr, yn wahanol i bleidiau eraill, yn wahanol i Reform, yn wahanol i'r Ceidwadwyr, sy'n ceisio tanseilio pobl sy'n gweithio a'u hawliau.

Roeddwn yn cytuno â chymaint o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog, ond un o'r sectorau sydd wedi gweld effaith fwyaf y mudiad cydweithredol—nad oes llawer yn ei werthfawrogi'n llawn—yw'r sector amaethyddol. Yng Nghymru, mae gennym Ffermwyr Clunderwen a Sir Aberteifi—y CCF—a elwir hefyd yn lleol yn 'co-op', lle gall ffermwyr brynu porthiant a phob math o offer ar gyfer eu fferm. Ac mae'n gwmni cydweithredol llwyddiannus iawn. Felly, o ran y sector amaethyddol, pa waith rydych chi'n ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig i ddeall gwerth y sector cydweithredol i amaethyddiaeth a'r effaith y gallai'r cynllun ffermio cynaliadwy ei chael ar hynny, o ystyried y swyddi a fyddai'n cael eu colli yn ôl yr asesiad effaith economaidd a gyhoeddwyd ddoe?

Diolch, Sam. Ac rwy'n falch eich bod wedi gallu cefnogi rhywfaint o'r hyn a ddywedais; ni fuaswn yn disgwyl ichi gefnogi'r cyfan drwy'r amser. O ran amaethyddiaeth a'r sector cydweithredol, mae'r sector cydweithredol cyfan yn chwarae rhan bwysig yn gyffredinol. Fe wnaethom sôn am rai o'r sefydliadau a'r sectorau o dan sylw heddiw, ac mae'r sector amaethyddol yn un ohonynt, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu tynnu ein sylw at hynny gyda'r enghraifft a roesoch.

Edrychwch, rwyf eisiau i'r sector cydweithredol dyfu, ac mae hynny'n cynnwys y sector amaethyddol. Rwy'n fwy na pharod i drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet i weld sut y gallwn hyrwyddo ymhellach y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud i'w cefnogi drwy Busnes Cymdeithasol Cymru, drwy Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru. Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ac efallai y gall ddefnyddio'r rhwydweithiau sydd ganddo i hyrwyddo twf y sector cydweithredol a'r holl bethau y mae hynny'n eu cynnig i amaethyddiaeth ac economi Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Samuel Kurtz.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae economïau Cymru a'r DU mewn cyfnod na ellir ond ei ddiffinio fel 'marwaidd'. Wrth inni agosáu at gyllideb yr hydref, mae aelwydydd a busnesau yng Nghymru yn wynebu ansicrwydd cynyddol, gyda'r Canghellor yn barod i godi trethi unwaith eto. Mae chwyddiant yn 3.8 y cant, ymhell uwchlaw'r targed o 2 y cant, sy'n erydu cynilion a mygu hyder. Yn wir, fel y dywedwyd unwaith,

'Chwyddiant yw rhiant diweithdra. Mae'n lleidr anweledig sy'n dwyn oddi ar y rhai sydd wedi cynilo.'

O ystyried y pwysau hwn, pa fesurau penodol rydych chi'n galw ar y Canghellor i'w cynnwys yn y gyllideb i gefnogi Cymru?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Yn amlwg, nid wyf am geisio dyfalu beth y gallai'r Canghellor ei ddweud yn y gyllideb, ond credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ers amser maith ynghylch ei blaenoriaethau a'r pethau y byddent yn dymuno i Lywodraeth y DU eu cyflawni ar gyfer Cymru. Yn amlwg, mae'r ysgrifennydd cyllid wedi cael trafodaethau helaeth gyda'i swyddogion cyfatebol yn San Steffan ynghylch hyblygrwydd cyllidol. Credaf fod y dadleuon hyn yn dra hysbys i bob cyd-Aelod yn y Senedd, o ran ein pwerau benthyca, o ran hyblygrwydd diwedd blwyddyn, ac o ran uwchraddio'r gronfa wrth gefn a hyblygrwydd cyllidol arall yn unol â chwyddiant, i gydnabod y newidiadau ers iddynt gael eu gosod gyntaf yn ôl yn 2016. Felly, mae'r rheini'n amlwg yn flaenoriaethau.

Y tu hwnt i hynny wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hyrwyddo Wylfa fel safle arbennig o bwysig ar gyfer ynni niwclear newydd yng Nghymru, ac rydym yn parhau i gyflwyno'r dadleuon hynny i Lywodraeth y DU. Ochr yn ochr â hynny,  rydym yn awyddus i weld buddsoddiad parhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Roedd gan ein cyllideb ddiwethaf gyllid ychwanegol sylweddol y llwyddodd Llywodraeth Cymru i'w ddefnyddio yn erbyn ein blaenoriaethau iechyd a llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill, ac yn amlwg, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn dal i allu buddsoddi yn y gwasanaethau hynny, gan ein bod yn gweld y manteision yn glir. Bydd fy nghyd-Aelodau wedi gweld y gwelliannau i amseroedd aros iechyd, er enghraifft. Ni ddigwyddodd hynny ar ddamwain; digwyddodd hynny am fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu darparu cyllid ychwanegol, ac fe'i rhoesom tuag at y flaenoriaeth honno yn y maes iechyd.

13:45

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai nad ydych chi eisiau dyfalu beth sydd yn y gyllideb, ond gwyddom beth y byddwn yn ei gael gan Ganghellor y Blaid Lafur, oherwydd yr un gamreolaeth economaidd a gawn bob tro: trethi uwch, diweithdra uwch a phobl a busnesau yn waeth eu byd. Oherwydd o dan Rachel Reeves, mae'r arenillion ar fondiau 30 mlynedd Llywodraeth y DU wedi codi i 5.73 y cant, y lefel uchaf ers 1998—yn uwch nag unrhyw adeg o dan Lywodraeth Geidwadol. I Gymru, gallai costau benthyca mor ddigynsail o uchel wasgu cyllid cyhoeddus a chyfyngu ar fuddsoddiad mewn twf a seilwaith. Felly, pa risgiau y gwelwch chi hyn yn eu creu i bolisi economaidd Cymru, a sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb er mwyn diogelu buddiannau Cymru?

Ychydig dros flwyddyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i gael i gael trefn ar 14 mlynedd o gamreolaeth o dan y Torïaid, ac mae'n anhygoel clywed y cyfraniad pan ystyriwn yr effaith a gafodd Liz Truss a'i chyllideb ar gyllid y DU ac ar economi'r DU.

Felly, o ran yr hyn yr hoffwn weld Llywodraeth y DU yn ei wneud, yn amlwg, maent wedi bod yn gadarn o ran yr ymrwymiadau y maent wedi'u gwneud o dan y strategaeth ddiwydiannol. Rydym yn cael y trafodaethau hynny ar hyn o bryd mewn perthynas â chlwstwr amddiffyn yng Nghymru, er enghraifft, i ddod â chyllid ychwanegol i mewn a sicrhau bod Cymru yn gallu elwa o'r £250 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer amddiffyn, ac rydym mewn sefyllfa dda i wneud hynny. A hefyd, pan edrychwch ar y cyfleoedd ynni glân—unwaith eto, cyfleoedd enfawr ar gyfer buddsoddi yn Great British Energy, ynghyd â Trydan Gwyrdd Cymru, ac rydym yn cael trafodaethau da iawn yn y maes hwnnw.

Yn amlwg, mae ffordd bell i fynd i gael trefn ar y llanast a adawyd gan y Torïaid, ond credaf y bydd y ffocws sydd gan Lywodraeth y DU ar ei strategaeth ddiwydiannol, yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr, yn helpu i dyfu'r economi.

Cael trefn ar lanast, Ysgrifennydd y Cabinet? Roedd yn dwll du o £22 biliwn, fel y'i gelwid, pan ddaeth Llafur i rym. Wel, dyfalwch beth ydyw bellach, ar ôl Rachel Reeves a dim ond 15 mis? Mae'n dwll du o £50 biliwn. Dyna mae Llafur yn ei wneud i'r economi, maent yn ei chwalu. Oherwydd rydym wedi'i weld: y gilt 30 mlynedd ar ei lefel uchaf ers 1998; mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn paratoi i israddio rhagolygon twf a chynhyrchiant; a gwyddom fod y twll du o £22 biliwn wedi mwy na dyblu i £50 biliwn, gan ddangos na ellir ymddiried yn Llafur gyda'r economi. Golyga hynny y bydd llai o fuddsoddiad, llai o gyfleoedd a mwy o bwysau ar aelwydydd a busnesau yma yng Nghymru. Felly, yng ngoleuni hyn, sut y gall Llywodraeth Cymru amddiffyn record Llafur ar reolaeth economaidd gydag unrhyw hygrededd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn, hyd yn oed pan gawsom y blynyddoedd cyni o dan y Ceidwadwyr, i sicrhau bod Cymru'n gallu rhoi ei hun ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw, sef yr hyn a wnawn mewn ffordd fawr iawn nawr ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, wrth inni symud tuag at yr uwchgynhadledd ryngwladol. Felly, hyd yn oed drwy flynyddoedd y Ceidwadwyr, mae Llywodraeth Cymru, dros y pedair blynedd diwethaf, wedi gweld ffigurau mewnfuddsoddi'n cynyddu. Ac nid yw hynny'n digwydd ar ddamwain chwaith, mae hynny'n digwydd oherwydd y gwaith anhygoel a wneir gan ein timau yn ein swyddfeydd ledled y byd, gwaith y byddai'r Ceidwadwyr yn ei ddileu. Felly, mae'r timau hynny'n treulio bob dydd yn siarad â busnesau, yn dod â busnesau a buddsoddiad i Gymru, ac mae hynny wedi bod yn digwydd hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd cyni.

Llefarydd Plaid Cymru nawr, Heledd Fychan, i'w hateb gan y Gweinidog diwylliant. Heledd Fychan.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru, ac a ydych chi, yn cefnogi datganoli darlledu?

Lywydd, mae datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn, onid oes? Credaf iddo gael ei gyhoeddi ym mis Mai. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad ysgrifenedig a wneuthum ar ddarlledu. Ac atebais yr un cwestiwn yn y pwyllgor bythefnos yn ôl, a gall yr Aelod edrych ar y cofnod hwnnw hefyd.

Diolch. Rwy'n gofyn y cwestiwn am nad wyf yn glir beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru a chi fel Gweinidog, a dyna pam y mae'n rhaid imi barhau i ofyn y cwestiwn. Yr ymateb a gefais yw eich bod yn dal i ystyried eich ymateb. Wel, o ystyried bod dwy flynedd wedi bod ers cyhoeddi adroddiad y panel arbenigol, a ddywedodd fod datganoli darlledu yn angenrheidiol ac yn ymarferol, gan rybuddio hefyd nad yw'r system bresennol yn gweithio, a bod angen mwy o reolaeth ar Gymru dros ei chyfryngau i ddiogelu democratiaeth, cefnogi cynnwys Cymraeg a sicrhau bod pobl yn cael eu dwyn i gyfrif—. Felly, o ystyried y rhybuddion hynny, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi camu'n ôl o'u hymrwymiad blaenorol i gefnogi datganoli darlledu? A pham y mae'n rhaid imi barhau i ofyn yr un cwestiwn heb gael ateb?

13:50

Lywydd, mae'r ateb yr un fath. Gall yr Aelod edrych ar y cofnod o'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 12 Mai, ac mae hwnnw'n dilyn adroddiad y panel arbenigol ar ddarlledu y llynedd. Mae'r Aelod hefyd yn gwybod fy mod wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y gwaith rwy'n gobeithio ei gomisiynu, i dynnu cyngor technegol at ei gilydd ar y pum llwybr at ddatganoli darlledu, fel y'u nodwyd yn adroddiad y panel arbenigol hwnnw, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny yn y dyfodol agos.

Diolch, Weinidog. Rwy'n dal yn aneglur iawn ynghylch beth sydd wedi digwydd yn y ddwy flynedd ers cyhoeddi adroddiad y panel arbenigol hwnnw. A fydd unrhyw beth wedi newid erbyn yr etholiad nesaf? Ac a fyddwch chi, erbyn hynny, wedi penderfynu o'r diwedd pa un a ydych chi'n cefnogi datganoli darlledu ai peidio? Oherwydd, ar gyfer y cofnod, rwy'n glir—rwy'n cefnogi datganoli darlledu. Byddem yn cymryd camau i sicrhau ei fod wedi'i ddatganoli, yn gwneud popeth yn ein gallu. A fyddwch chi?

Wel, edrychwch, Lywydd, rwy'n glir iawn nad yw sefyllfa bresennol darlledu yn ddigonol i Gymru. Ac fel y dywedais yn y datganiad ysgrifenedig, yn y pwyllgor bythefnos yn ôl, a theirgwaith yn barod heddiw, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y gwaith rwy'n gobeithio ei gomisiynu ar y pum llwybr tuag at ddatganoli darlledu, fel y'u nodwyd yn adroddiad y panel arbenigol hwnnw. Credaf fod hwnnw'n waith pwysig y mae angen bwrw ymlaen ag ef, ac mae'n waith pwysig y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd amdano yn yr amser hwnnw.

Mewnfuddsoddiad

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fewnfuddsoddiad i Gymru? OQ63155

Mae mewnfuddsoddiad yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru, gyda bron i 1,500 o gwmnïau sydd â pherchnogion tramor yn cyflogi bron i 175,000 o bobl. Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae Cymru wedi gweld cynnydd mewn prosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cwmnïau sydd â pherchnogion tramor yn hynod bwysig i economi Cymru, ac maent yn cyflogi mwy na 174,000 o bobl yng Nghymru. Dangosodd canlyniadau a gyhoeddwyd gan yr Adran Fusnes a Masnach yn eu hadroddiad blynyddol ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor yn y DU ym mis Mehefin gynnydd o dros 30 y cant mewn swyddi newydd sy'n cael eu creu o ganlyniad i fuddsoddiad uniongyrchol o dramor yng Nghymru. Mae hynny'n newyddion da iawn i economi Cymru, ac yn newyddion gwell i'r bobl a gyflogir yn y swyddi hynny a'r cymunedau sy'n ffynnu wrth i'r arian hwnnw gael ei gadw yma. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod y cynnydd hwn mewn buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn dangos hyder diwydiannau tramor yng Nghymru?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r datganiad hwnnw gan Joyce Watson, a nodaf yr adroddiad sydd newydd gael ei grybwyll, sef yr adroddiad blynyddol gan yr Adran Fusnes a Masnach. Ffaith syfrdanol arall o'r adroddiad hwnnw yw bod mwy na hanner y mewnfuddsoddiad i Gymru yn y flwyddyn ddiwethaf wedi'i wneud gyda chymorth Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU. Rydym yn darparu ystod eang o gymorth. Nid yw bob amser yn gymorth ariannol. Mae'n cynnwys ystod o ymyriadau, o gynghori cwmnïau ar safleoedd posib, nodi sgiliau a thalent, cynorthwyo gydag ymchwil i’r farchnad a chyflwyno pobl i fanciau, rhwydweithiau busnes a'r byd academaidd.

Rwyf wedi sôn am ein swyddfeydd tramor. Maent yn allweddol i ddod â'r busnesau hynny yma, ond felly hefyd ein timau yma yn Busnes Cymru a'r banc datblygu. Felly, rwy'n falch iawn o'r gwaith a wnawn. Credaf ei fod yn anfon neges i'r byd fod Cymru ar agor i fusnes. Rwyf wedi cyfeirio at yr uwchgynhadledd fuddsoddi. Rydym yn edrych ymlaen ati ac at arddangos rhai o'r meysydd lle credwn fod gennym botensial gwirioneddol ar gyfer twf ac i arwain y byd, fel rydym eisoes yn ei wneud gyda lled-ddargludyddion cyfansawdd er enghraifft, ond hefyd technoleg, ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau creadigol, gwyddorau bywyd, yn ogystal â manteisio ar y cyfle yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi honno i arddangos rhai o'r cyfleoedd buddsoddi cyfalaf sydd gennym yma yng Nghymru hefyd.

Wel, fe ŵyr pob un ohonom fod mewnfuddsoddiad yng Nghymru yn lleihau, ac yn wir, fe wnaeth hynny o 2,500 yn 2016-17 i 2,470 yn 2024-25. Gostyngodd nifer y swyddi a ddiogelwyd gan fewnfuddsoddiad hefyd o bron i 9,000 yn 2016-17 i 1,652 yn 2024-25. Dim ond crib y rhewfryn yw hyn. Mae gennym y gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU, y lefel uchaf o anweithgarwch economaidd, yr ardrethi busnes uchaf i fusnesau bach a chanolig, ac mae hyn oll yn ychwanegu at y ddelwedd o Gymru nad yw'n gyfeillgar i fusnesau. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai meithrin cysylltiadau rhyngwladol cadarnhaol a gwneud mwy i fynd ati'n weithredol i annog mewnfuddsoddiad barhau i fod yn flaenoriaeth glir i Lywodraeth Cymru, ond nad oes arnom angen swyddfeydd tramor drud sy'n costio llawer o arian i'n trethdalwyr?

13:55

Wel, rwy'n dal i gytuno â Joyce Watson yn hytrach na Janet Finch-Saunders ar fater buddsoddi uniongyrchol o dramor, gan ein bod yn gweld llwyddiannau enfawr yma yng Nghymru, ond hefyd busnesau sy'n dod i Gymru ac yna'n aros yma ac yn ehangu. Yn ddiweddar, fe wnaethom ddathlu 50 mlynedd o Panasonic yma yng Nghymru. Nawr, mae hwnnw'n fusnes sy'n wirioneddol argyhoeddedig ynglŷn â'r cymorth y mae'n ei gael gan Lywodraeth Cymru, am y gweithwyr medrus y gall eu cyflogi yma yng Nghymru, ac mae'n falch iawn o allu adrodd y stori honno i eraill ledled y byd. Ac fe welwch y straeon hynny ledled Cymru am fusnesau sydd wedi bod yma'n hirdymor. Felly, rwy'n falch iawn o'n cynnig yma yng Nghymru. Rydym yn arwain y byd mewn nifer o sectorau, a chredaf fod angen inni fod yn bositif a hyrwyddo'r sgiliau rhagorol sydd gennym yma, y ​​cyfleoedd ar gyfer twf a'r Llywodraeth gefnogol sydd gennym yma yng Nghymru, yn hytrach na lladd ar bethau.

Wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, er ein bod yn croesawu unrhyw fath o welliant, yn anffodus, nid oes digon o fuddsoddiad sylweddol wedi bod o dan sawl Llywodraeth Lafur ers dyfodiad y Cynulliad, neu'r Senedd bellach. Ers 26 mlynedd, mae economi Cymru wedi cael ei dal yn ôl, ei mygu gan ddiffyg gweledigaeth, diffyg uchelgais a thrwy beidio â chreu'r amgylchedd cywir ar gyfer busnes. Gyda threthi uchel, ardrethi busnes uchel a gormod o fiwrocratiaeth, mae'n amlwg i mi fod angen inni ddadflocio'r brif wythïen i mewn i Gymru ac adeiladu ffordd liniaru'r M4, mae angen inni wrthdroi'r terfyn 20 mya diofyn, mae angen inni dorri 1g neu 2g oddi ar gyfraddau treth incwm Cymru ac mae angen inni adeiladu ffyrdd, seilwaith trafnidiaeth addas sy'n cysylltu Cymru gyfan. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod angen inni gynnal ein heconomi, denu busnesau mawr, torri trethi a'u galluogi i ffynnu?

Ysgrifennydd y Cabinet, y rhai sy'n cystadlu fwyaf â ni am fewnfuddsoddiad yw Bryste dros y ffin, a gogledd-ddwyrain Lloegr, yn enwedig. Dyna'r contractau yr ydym yn aml yn eu colli. Mae angen gofyn y cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet: pam nad yw Cymru'n ennill y contractau hynny ac yn cael y mewnfuddsoddiad hwnnw, a pha gamau a roddir ar waith gennych ar hyn? Fe wnaeth eich Llywodraeth chwarae â'r syniad o gynyddu treth incwm, ond onid ydych chi'n cytuno â mi fod angen inni dorri treth incwm os ydym am ddenu mewnfuddsoddiad sylweddol i Gymru? Diolch.

Cymru sydd wedi gweld y cynnydd uchaf ond un ymhlith gwledydd a rhanbarthau'r DU o ran buddsoddi uniongyrchol o dramor, fel y nodwyd yn yr ystadegau a grybwyllodd Joyce Watson ar ddechrau'r cwestiwn hwn. Felly, mae Cymru'n amlwg yn perfformio mewn ffordd gref iawn ac yn perfformio'n well na bron i bob rhan arall o'r Deyrnas Unedig, felly credaf fod ein neges yn gryf iawn o ran y cymorth y gallwn ei gynnig i fusnesau. Cawn gyfle i drafod goblygiadau'r dewisiadau treth y gellir eu gwneud yma yng Nghymru mewn mwy o fanylder y prynhawn yma. Dylai fy nghyd-Aelodau fod yn ymwybodol, serch hynny, y byddai lleihau cyfraddau treth incwm Cymru o un geiniog yn golygu y byddai £299 miliwn yn llai o gyllid ar gael i Lywodraeth Cymru, a chredaf ei bod yn ddyletswydd ar fy nghyd-Aelodau, wrth wneud y cynigion hynny, i gynnig dull gweithredu cytbwys, fel y gallwn ddeall, felly, ble fyddai'r toriadau hynny'n cael eu gwneud i ddod o hyd i'r £299 miliwn hwnnw. Gellir gwneud y dadleuon hynny, ond credaf fod yn rhaid i chi roi sylw i ddwy ochr y ddadl honno o ran ble fyddech chi'n gwneud toriadau yn Llywodraeth Cymru hefyd er mwyn caniatáu'r toriad yn y dreth incwm.

Sectorau Twf

4. Pa rannau o'r economi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi fel sectorau twf? OQ63143

Yng Nghymru, rydym wedi nodi'r pedwar sector twf uchel, sef gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys amddiffyn, ynni glân, technolegau digidol, a'r diwydiannau creadigol. Ac mae dau sector twf uchel posib hefyd, sef gwyddorau bywyd a gwasanaethau ariannol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ôl ymchwil, mae buddsoddiad preifat mewn cynhyrchion deallusrwydd artiffisial wedi cynyddu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a disgwylir iddo barhau i gynyddu'n gyflym. Dyma'r sector twf mwyaf yn y byd yn ôl pob tebyg. Wrth i gwmnïau addasu i drefniadau mwy hybrid a gweithio gartref, mae rôl diogelwch digidol wedi dod yn fwy hanfodol fyth, gyda thwf sylweddol mewn cyflogaeth. Fe sonioch chi am wyddorau bywyd, ond mae cyflogaeth, gan gynnwys mewn cynhyrchion fferyllol, wedi cynyddu'n gyflym ac maent yn feysydd twf economaidd sylweddol, ac yn parhau i dyfu. Mae ynni gwyrdd, a grybwyllwyd gennych hefyd, yn dal i weld twf mawr ledled y byd. Yn ôl yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol, ynni glân oedd 10 y cant o dwf cynnyrch domestig gros ledled y byd yn 2023. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gefnogi'r sectorau economaidd hyn, a pham nad oedd o leiaf ddau ohonynt ar eich rhestr?

14:00

Buaswn yn cynnwys deallusrwydd artiffisial o dan y pennawd technoleg a digidol, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny'n llwyr. Felly, mae cynllun gweithredu cyfleoedd deallusrwydd artiffisial y DU wedi nodi eu bod yn ceisio gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i Gymru, gydag o leiaf un parth twf deallusrwydd artiffisial wedi'i leoli yng Nghymru. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU yn ei gylch ar hyn o bryd o ran eglurder er mwyn inni allu symud ymlaen ar rai o'r pethau hyn.

Ond nid ydym wedi bod yn aros yn llonydd. Rydym wedi bod yn gwneud buddsoddiadau strategol o ran y tir a'r eiddo sydd gennym yma yng Nghymru i alluogi'r sector penodol hwnnw. Er enghraifft, rydym wedi gweld campysau mawr yn cael eu hadeiladu gan Vantage a hefyd gan Microsoft, gan ganiatáu i'r capasiti deallusrwydd artiffisial yma yng Nghymru dyfu. Ac wrth gwrs, fe fyddwch wedi clywed cyhoeddiad y Prif Weinidog am yr adran deallusrwydd artiffisial o fewn Llywodraeth Cymru, ond hefyd y grŵp cynghori strategol ar ddeallusrwydd artiffisial a sefydlwyd ganddi, fel bod arbenigedd rhyngwladol yn hygyrch i ni. Yn y cyfarfod diwethaf yr wythnos diwethaf, gallasom archwilio ein cynllun deallusrwydd artiffisial ar gyfer Cymru, ac rwy'n gobeithio ei gyhoeddi maes o law.

Unwaith eto, mae'r economi gwyddorau bywyd yma yng Nghymru yn ffynnu. Dyna un o'n sectorau twf uchel posib ac mae wedi'i ragbaratoi'n strategol ar gyfer twf parhaus. Yn ddiddorol, roedd ein trafodaeth ddiwethaf yn ymwneud â mewnfuddsoddiad, ond mewn gwirionedd, mae gwyddorau bywyd yn un o'n meysydd pwysig ar gyfer allforion hefyd. Cawsom lwyddiant mawr yn dilyn ffair MEDICA yn Dusseldorf y llynedd hefyd.

Ac ar swyddi gwyrdd ac ynni glân, unwaith eto, dyna un o'n prif sectorau y gobeithiwn ei arddangos yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi yn ddiweddarach eleni. Bydd cyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r cyfleoedd enfawr a nodwyd gennym, yn enwedig yn y môr Celtaidd, y gwn y byddant o ddiddordeb arbennig i etholwyr Mike Hedges.

Un o'r sectorau yn economi Cymru nad yw'n teimlo fel sector twf â blaenoriaeth yw ein heconomi dwristiaeth. Mae nifer o fusnesau twristiaeth yn y rhan o'r byd yr ydych chi a minnau'n eu cynrychioli, yng Ngŵyr, wedi cysylltu â mi ers sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid bythefnos yn ôl. Gofynnais iddo am y rheol 182 diwrnod. Disgrifiodd y sector fel un sy'n llawn o 'hobïwyr'. Dywedodd fod y farchnad yn orlawn. Ers hynny, mae fy mewnflwch yn orlawn o ohebiaeth gan etholwyr sy'n condemnio'r sylwadau di-glem ac anwybodus hynny. Maent yn etholwyr i chi yn ogystal ag i mi, felly tybed a hoffech chi fanteisio ar y cyfle i gondemnio'r sylwadau hynny a dweud bod hon yn Llywodraeth a fydd yn cefnogi'r sector twristiaeth ac yn gwneud yr hyn y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud, sef dileu'r dreth dwristiaeth a dileu'r rheol 182 diwrnod.

Yn amlwg, mae twristiaeth yn sector â blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymwybodol nad yw pob sector sy'n bwysig i economi Cymru yn cael sylw a ffocws arbennig yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, ond nid yw hynny'n golygu nad yw Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio cryn dipyn ar hynny. A byddwn yn cynnwys gyda hynny—. Gyda thwristiaeth, byddwn yn cynnwys amaethyddiaeth, byddwn yn cynnwys ein diwydiant bwyd a diod hefyd, fel meysydd clir yr ydym yn eu blaenoriaethu ac wedi ymrwymo iddynt.

Felly, o ran twristiaeth, rwy'n gwybod bod y cynigion sy'n ymwneud â chofrestru wedi cael croeso cynnes gan y sector twristiaeth, am fod llawer o bobl yn y sector twristiaeth yn gwneud hynny, a bod yna rai gweithredwyr yn gosod eiddo am nifer bach iawn o nosweithiau y flwyddyn. Rwy'n credu efallai mai dyna'r hobïwyr yr oedd Mark Drakeford yn cyfeirio atynt, yn sicr nid pobl a fyddai'n ysgrifennu atoch chi ac yn ysgrifennu ataf i fel etholwyr fel pobl sy'n gweithredu busnesau twristiaeth.

Fe gyfarfûm â Chymdeithas Broffesiynol yr Hunanddarparwyr yn ddiweddar. Cefais gyfarfod da iawn yn archwilio effaith polisïau Llywodraeth Cymru gyda nhw. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog cyllid hefyd yn awyddus i archwilio'r 182 diwrnod a'r hyn y gallwn ei wneud yn bragmatig i fynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny. Rwy'n credu bod ymgynghoriad wedi dechrau nawr, felly rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i ddweud eu barn ar hynny.

Ond nid oes unrhyw amheuaeth fod twristiaeth yn sector â blaenoriaeth. Byddwn yn cael cyfle eto i siarad am y dull o weithredu'r ardoll dwristiaeth yn y ddadl yn ddiweddarach y prynhawn yma.

14:05
Y Sector Ynni

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ynni yng Ngogledd Cymru? OQ63149

Mae Gogledd Cymru yn ganolfan ar gyfer buddsoddiad ynni glân, i gefnogi swyddi a thwf. Rydym yn parhau i gefnogi'r diwydiant ffrwd lanw ym Morlais. Drwy Ynni Cymru, rydym yn buddsoddi mewn prosiectau ynni cymunedol lleol, a bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn dod â buddsoddiad sylweddol i'r rhanbarth o'u datblygiad Clocaenog Dau.

Diolch. Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yma ym mis Gorffennaf, cyfeiriais at adroddiad diweddar gan Oxford Economics a gomisiynwyd gan Gymdeithas y Diwydiant Niwclear, a oedd yn manylu ar y manteision a gyflawnwyd yn y sector, gyda sector niwclear sifil Cymru yn cynhyrchu £850 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros yn 2024, cynnydd o 20 y cant ers 2021, wedi'i yrru i raddau helaeth gan ddatblygiadau Hinkley Point C a Sizewell C yn Lloegr, ac 830 o swyddi uniongyrchol yng Nghymru, gyda 13,400 o swyddi yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan y sector. Pe bai gorsaf bŵer niwclear newydd yn cael ei hadeiladu yn Wylfa, nododd yr adroddiad y gallai gogledd Cymru weld cyfraniad economaidd tebyg i'r hyn a brofir yn ne-orllewin Lloegr, lle mae Hinkley Point C wedi'i leoli a lle cyrhaeddodd y gwerth ychwanegol gros o niwclear £4 biliwn yn 2024, cynnydd o 50 y cant ers 2021.

Yna cyhoeddwyd y mis diwethaf bod Rolls Royce SMR wedi cael ei gyhoeddi fel y cynigydd a ffafrir yn y DU ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach a bod cytundeb newydd wedi'i gytuno ar gyfer hyd at 12 adweithydd modiwlaidd datblygedig yn Hartlepool. Yn y cyd-destun hwn, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd felly i sicrhau datblygiad cyfleuster niwclear newydd yn y Wylfa, a sut y mae'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid y diwydiant i sicrhau bod gogledd Cymru yn elwa o'r cyfleoedd economaidd a chyflogaeth y gallai hyn eu cynnig?

Rwy'n credu bod y ddau ohonom yn cytuno, yn sicr, ynglŷn â'r potensial i Wylfa, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r egwyddor o brosiectau niwclear newydd yn Nhrawsfynydd a'r Wylfa ers amser maith, gan gydnabod y cyfraniad sylweddol y mae'r sector wedi'i wneud i gyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel yng ngogledd Cymru dros y 60 mlynedd diwethaf. Cefais gyfle i gyfarfod â chadeirydd Great British Energy—Nuclear yn ystod yr wythnosau diwethaf, unwaith eto i nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Wylfa, ac yn amlwg, cefais gyfle hefyd i siarad yn uniongyrchol â'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ynni, Ed Miliband, gan fynegi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Wylfa fel safle posib. Ac rydym yn parhau i wneud y dadleuon hynny a'u gwneud yn gryf iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i unrhyw gyd-Aelod sy'n teimlo y gallant gefnogi hynny.

Rheoliadau Nitrad a Ffosffad

6. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith rheoliadau nitrad a ffosffad ar y broses gynllunio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63154

Mae rhyddhau asesiadau o gyflwr yn ddiweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ardaloedd cadwraeth arbennig morol wedi arwain at awdurdodau cynllunio yng ngorllewin Cymru yn oedi ystyriaeth o rai ceisiadau cynllunio. Yn y cyfamser, mae lefelau ffosfforws uchel mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonydd yn golygu bod angen i lawer o gynigion datblygu fabwysiadu mesurau lliniarol ar gyfer maethynnau.

Diolch. Weinidog, siaradais yn ddiweddar â chwmni adeiladu a fynegodd bryderon difrifol am effaith moratoriwm adeiladu tai a osodwyd ar ddalgylch cilfach Tywyn yn sir Gaerfyrddin a dalgylch dyfrffordd y Ddau Gleddau yn sir Benfro. Gwnaed y penderfyniad ar gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd lefelau nitrogen anorganig tawdd gormodol sy'n niweidio eu hecosystemau. Ond fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol o'r angen enfawr am dai newydd, yn enwedig tai fforddiadwy, yn y cymunedau hyn. O ganlyniad i'r moratoriwm hwn, mae o leiaf 889 o gartrefi fforddiadwy bellach wedi'u rhewi yn y broses gynllunio, gan oedi mynediad at dai mawr eu hangen yn yr ardaloedd hyn a chyda'r perygl o golli cannoedd o swyddi adeiladu a llai o weithgarwch economaidd. Felly, o ystyried difrifoldeb y mater, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dasglu'r Prif Weinidog a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng anghenion amgylcheddol ac anghenion tai, ac a allwch chi hefyd esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r gwahanol oblygiadau a achosir gan y rheoliadau nitradau hyn ac esbonio sut y bydd y Llywodraeth yn gweithio'n adeiladol gyda rhanddeiliaid amrywiol i ddod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Yn amlwg, mae'r cyhoedd eisiau cael afonydd a moroedd glân sy'n cefnogi bioamrywiaeth, ond maent eisiau cartrefi i bawb hefyd. Rydym yn glir iawn y gellir cyflawni'r ddau beth fel ei gilydd, ond bydd angen i bob sector weithio gyda'i gilydd. Ac rwy'n cytuno bod yr oedi ar rai ceisiadau cynllunio yn niweidio'r diwydiant datblygu, yn enwedig i gwmnïau llai ac mewn amgylchiadau lle mae caniatâd cynllunio wedi'i roi ond lle mae angen gosod rhai amodau. Mae ystod o waith adeiladu tai yn parhau yn y rhanbarthau yr effeithir arnynt. Fodd bynnag, bydd angen gweithredu ar y cyd. Felly, rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog wedi lansio'r tasglu ac wedi rhoi cymaint o sylw personol iddo.

Felly, mae amryw o gamau eisoes ar y gweill. Er enghraifft, mae swyddogion yn paratoi astudiaethau achos a fydd yn cymhwyso canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar i brofi'r cymhwysiad ymarferol mewn cynlluniau tai fforddiadwy. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi mwy o hyder i bob awdurdod cynllunio lleol ar sut i symud ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar draws sectorau amrywiol i leihau llygredd maethynnau, gan gynnwys arolygiadau wedi'u targedu ar gyfer ffermydd, adolygu trwyddedau amgylcheddol, ac eirioli dros y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn seilwaith gan gwmnïau dŵr drwy'r broses adolygu prisiau. Yn ogystal, ceir rhaglen waith gynhwysfawr sy'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i edrych ar wella ansawdd dŵr a lleihau lefelau nitrogen yn yr ardaloedd cadwraeth arbennig morol.

14:10

Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn a welwn fodd bynnag yw loteri cod post ar draws fy etholaeth—rhai ardaloedd lle mae Dŵr Cymru wedi gwneud buddsoddiadau mewn technoleg tynnu ffosffad, sy'n gadarnhaol, ond mae yna lawer o ardaloedd hefyd sy'n dal i fod yn sownd mewn limbo, na allant brosesu ceisiadau cynllunio, oherwydd nad yw Dŵr Cymru yn mynd i fuddsoddi, neu eu bod yn dweud y gwnânt, ond ymhen tua 20 neu 30 mlynedd. Felly, o ystyried y symiau uchaf erioed o arian y maent yn ei roi i'w swyddogion, hoffwn wybod pa fath o bwysau y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar Dŵr Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn buddsoddi yn ein seilwaith i'w godi i safon technoleg fodern, ac i wneud yn siŵr y gallwn gael ceisiadau cynllunio i symud drwy'r system?

Yn sicr, mae gan Dŵr Cymru rôl sylweddol i'w chwarae. Fel y soniais, mae rhaglen gynhwysfawr o waith, sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, CNC a Dŵr Cymru, yn edrych ar wella ansawdd dŵr, ac yn amlwg, rydym am weld mwy o fuddsoddiad yn y gofod hwnnw. Hefyd, mae angen inni edrych ar unedau dofednod dwys. Rwy'n gwybod bod yna geisiadau cynllunio'n dal yn y system am fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynnal adolygiad i reoleiddio a gorfodi mesurau gwasgaru deunydd organig ar dir. Rwy'n gwybod bod rhai cyd-Aelodau wedi ysgrifennu ataf ar y materion penodol hynny hefyd.

Ond mae hon yn sefyllfa lle bydd rhan i bawb ei chwarae: Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a'r sector amaethyddol hefyd. Mae angen i ni i gyd weithio ar hyn gyda'n gilydd. Gallwn gyrraedd man lle gallwn barhau i adeiladu, a gwneud yn siŵr hefyd ein bod yn glanhau ein dyfroedd, a dyna'n sicr lle mae angen i ni fod.

Estyniad Arfaethedig Chwarel Dinbych

7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol a chymunedol estyniad arfaethedig chwarel Dinbych a sut y bydd pryderon lleol yn cael eu hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau? OQ63157

Mae estyniad arfaethedig chwarel Dinbych yn destun apêl gynllunio fyw. Gallai unrhyw sylw ar y mater cyn y daw dyfarniad yr apêl niweidio ystyriaeth deg o'r mater, ac rwy'n ofni na allaf wneud sylwadau pellach.

Wel, diolch am ymateb caeedig iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae estyniad arfaethedig chwarel Dinbych wedi creu bron i 300 gwrthwynebiad gan drigolion a busnesau, ac am reswm da iawn. Mae Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi gwrthod y cais hwn, gan nodi risgiau annerbyniol i iechyd, bioamrywiaeth a lles cymunedol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn glir na ddylai penderfyniadau beryglu anghenion yfory er budd tymor byr heddiw, ond byddai'r cynnig hwn yn dod â ffrwydro a thraffig trwm o fewn 200m i gartrefi, yn dinistrio coridorau gwyrdd sy'n cysylltu safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac yn bygwth ansawdd aer lleol, heb ddull annibynnol o fonitro llwch na radon. Felly, mae'n ddiogel dweud bod gennyf bryderon difrifol ynglŷn â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn bwysig hefyd, mae Gweithgor Agregau Rhanbarthol y Gogledd yn cadarnhau bod gan sir Ddinbych dros 20 mlynedd o gronfeydd wrth gefn a ganiateir eisoes, felly nid oes angen yr estyniad ar frys. O ystyried y bydd yr apêl hon yn cyrraedd eich desg cyn bo hir, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r effeithiau amgylcheddol a chymunedol, ac a allwch chi hefyd gadarnhau y bydd y rhain yn cael eu hystyried yn eich proses benderfynu?

Wel, rwy'n credu bod Gareth Davies wedi cael cyfle i nodi ei bryderon penodol yn fanwl, ond yn amlwg ni allaf wneud sylwadau pellach ar amgylchiadau penodol y safle, gan y gallai hynny ragfarnu rôl Gweinidogion Cymru, pe bai'r achos yn dod ger ein bron yn nes ymlaen, mewn apêl er enghraifft. Rwyf bob amser eisiau helpu, ond yn anffodus, a ninnau yng nghanol apêl gynllunio fyw, ni allaf ddweud rhagor.

14:15

Yn bersonol, dwi'n teimlo bod yr achos penodol yma'n litmus test o faint o bwys sy'n cael ei roi ar y llais lleol o fewn y system gynllunio. Dwi'n gwerthfawrogi eich bod chi ddim yn gallu cyfeirio at yr achos penodol oedd yn y cwestiwn gwreiddiol, ond dywedwch fod yna gais yn dod lle mae'r gymuned leol yn gwrthwynebu'r cais, lle mae'r cyngor lleol yn gwrthwynebu'r cais, lle mae Aelodau o'r Senedd yma ar draws pob plaid yn gwrthwynebu'r cais, petai cais o'r fath yn cael ei gymeradwyo, beth fyddech chi'n meddwl byddai hynny'n ei ddweud wrthym ni ynglŷn â buddiannau pwy sy'n cael eu gwarchod a'u hyrwyddo o fewn y gyfundrefn gynllunio Gymreig?

Unwaith eto, nid wyf yn mynd i ddyfalu ynglŷn â cheisiadau cynllunio damcaniaethol chwaith. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i drigolion lleol allu nodi eu hystyriaethau perthnasol, gan gynnwys eu pryderon cyhoeddus, mewn perthynas â'r effaith y mae datblygiad yn ei chael ar gymuned. Yn amlwg, dyletswydd awdurdodau cynllunio lleol wedyn yw penderfynu ar bob cais yn ôl ei rinweddau cynllunio ei hun. Mae'n rhaid iddynt ystyried sylwedd safbwyntiau lleol, polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Ond fel y dywedaf, nid wyf yn mynd i wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio penodol na damcaniaethol.

Chwaraeon Llawr Gwlad

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi twf chwaraeon ar lawr gwlad? OQ63168

Diolch. Mae chwaraeon yn newid bywydau, ac rydym wedi rhoi £33 miliwn i Chwaraeon Cymru eleni, gan ariannu caeau 3G, gwelliannau i byllau nofio a chynlluniau i wneud chwaraeon yn hygyrch i bawb. Fel yr amlinellodd y Prif Weinidog ddoe, mae buddsoddiad ar bob lefel, o lawr gwlad i chwaraeon elitaidd, yn troi uchelgais yn weithredoedd ar ran pob plentyn a phob clwb.

Diolch am yr ateb.

Fel y dywed y Gweinidog, mae chwaraeon llawr gwlad yn ffordd allweddol o sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at chwaraeon yn eu hardaloedd lleol ac yn dod â chymunedau at ei gilydd mewn ffordd gydlynol. Roeddwn mewn cysylltiad â chi yn gynharach eleni am grŵp pêl-fasged llawr gwlad gwych yng Ngogledd Caerdydd, o'r enw Tribal Basketball. Maent wedi gwneud cymaint dros y blynyddoedd i dyfu pêl-fasged fel camp yn yr etholaeth, ac maent hefyd wedi gweithio gyda Chyngor Caerdydd ar faterion fel bwyd a hwyl, ond maent wedi ei chael hi'n anodd iawn dod o hyd i ganolfan barhaol. Maent yn gweithio gydag Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi nawr, ac mae Llywodraeth Cymru wedi eu helpu i ddatblygu adeiladau ar y safle. Ond mae'r broses o fynd drwy hynny i gyd wedi bod yn anodd iawn ac wedi cymryd llawer o amser. A oes unrhyw beth y gall y Gweinidog ei awgrymu ar gyfer grwpiau, y grwpiau llawr gwlad hyn, i'w helpu i ddod o hyd i ganolfannau yn y gymuned?

A gaf i ddiolch i Julie Morgan am godi'r mater hwn yn y Senedd heddiw, ac yn wir, am ysgrifennu ataf yn gynharach yn yr haf? Fel y gŵyr Aelodau'r Senedd, mae holl gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon yn cael ei sianelu drwy Chwaraeon Cymru, ac yna ymlaen i'r cyrff llywodraethu cenedlaethol cydnabyddedig, ac yn yr achos hwn, Pêl-fasged Cymru fyddai'r corff dan sylw.

Lywydd, mae Pêl-fasged Cymru a thwf pêl-fasged yn gyffredinol ar draws y wlad wedi creu argraff fawr arnaf, ond yn enwedig felly o ddarllen a chlywed yn uniongyrchol gan Julie Morgan am waith Tribal Basketball yng Ngogledd Caerdydd. Rwy'n credu eu bod wedi gwneud gwaith ysbrydoledig, nid yn unig ar gyfer y gamp, ond i'r gymuned gyfan. Y cyngor gorau y gallwn ei roi iddynt yw estyn allan at Pêl-fasged Cymru ac at Chwaraeon Cymru, a gall y swyddogion yn y sefydliadau hynny archwilio llwybrau posib ar gyfer darparu cefnogaeth, a'r llwybr gorau. Rwy'n hapus i roi'r manylion i'r Aelod, os yw eu hangen.

Ac fel y clywsom ddoe, mae pêl-fasged yn gêm sy'n tyfu yng Nghymru. Cefais yr anrhydedd o fod yn etholaeth y Dirprwy Brif Weinidog ddydd Iau diwethaf i roi cynnig ar chwarae pêl-fasged fy hun yn y gymuned, yn rhan o un o'r cronfeydd cydweithredu cyrtiau, cronfa gwerth £1.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ledled Cymru, sydd wedi gweld cyfleusterau'n cael eu trawsnewid yn y Fflint, Maesteg, a llawer o lefydd eraill ar draws y wlad.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf [OQ63165] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 2 fydd gyntaf heddiw, felly. Mike Hedges.

Deallusrwydd artiffisial yn y GIG

2. Beth yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer deallusrwydd artiffisial wrth wella cynhyrchiant yn y GIG? OQ63144

14:20

Mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn GIG Cymru mewn diagnosteg, gan gynnwys dadansoddi delweddau meddygol. Ar yr ochr weinyddol, mae gwneud nodiadau drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn cael ei brofi a'i gyflwyno yng Nghymru. Mae canllawiau ar gyfer mabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn cael eu darparu gyda chynlluniau gweithredol dros y misoedd nesaf i gynyddu ein cefnogaeth genedlaethol.

Diolch am yr ateb hwnnw. Ledled y byd, mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi delweddau fel pelydr-x, delweddu cyseiniant magnetig a sganiau tomograffeg gyfrifiadurol. Gellir defnyddio offer o'r fath i nodi anghysondebau y gall radiolegwyr dynol eu methu. Gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i ganfod tiwmorau a chyflyrau difrifol eraill, gan wella canlyniadau drwy ymyrraeth gynnar, ac mae'n gyflym. Gellir cynhyrchu canlyniadau yn gyflymach, ac mae hynny o fudd i gleifion.

Gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial hefyd i fonitro a rheoli cleifion er mwyn monitro arwyddion bywyd a data iechyd cleifion mewn amser real, gan rybuddio gweithwyr iechyd proffesiynol am unrhyw newidiadau sy'n galw am sylw ar unwaith, sy'n bwysig iawn mewn lleoliadau gofal critigol.

Mae'r rhain yn ddau faes lle gall deallusrwydd artiffisial wella cynhyrchiant a chanlyniadau i gleifion, ac rwy'n credu weithiau ein bod yn siarad gormod am roi mwy o arian i mewn yn hytrach na chynyddu cynhyrchiant o fewn y gwasanaeth iechyd. Pa gynnydd y mae gwasanaeth iechyd Cymru yn ei wneud?

Rwy'n cytuno â'r Aelod fod angen i ni edrych ar bob ffordd o gynyddu effeithlonrwydd y gwasanaeth y gallwn ei ddarparu, cynyddu capasiti GIG Cymru i ddiwallu anghenion pobl Cymru, ac i wthio bob amser am arloesedd, er mwyn cefnogi cleifion a'n gweithlu i ddarparu'r gwasanaeth gorau y maent yn ei ddymuno. Mae yna enghreifftiau da iawn eisoes o'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gyda rhai o'r cymwysiadau diagnostig yr oedd yr Aelod yn cyfeirio atynt yn ei gwestiwn. Felly, mewn strôc, mewn canser, mewn offthalmoleg yn arbennig, mae tystiolaeth dda iawn yn y GIG yng Nghymru y gall deallusrwydd artiffisial wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn cefnogi gwaith clinigwyr i ganfod arwyddion yn gynharach y gellir ymateb iddynt er mwyn osgoi dirywiad yng nghyflwr pobl. Felly, mae tystiolaeth glir y gall wneud gwahaniaeth.

Carwn ddweud hefyd fod yna rai technolegau llais amgylchol a all gefnogi gweithgareddau gweinyddol a chlinigol mwy cyffredinol. Rydym wedi cwblhau ymarfer bwrdd gwaith yn ddiweddar ar beth o'r potensial ar gyfer cyflwyno rhai o'r technolegau llais amgylchol hyn, fel y'u gelwir, yn ddiogel i ddeall rhai o'r ffactorau technegol a ffactorau'n ymwneud â lleoliadau gofal y byddai angen i ni eu hystyried er mwyn gallu ehangu'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn ffordd sy'n ennyn hyder a chydsyniad cleifion ac aelodau staff.

Rwy'n credu hefyd ei bod yn werth nodi bod hwn yn faes lle rydym eisoes yn gweithio gyda chyngor partneriaeth y gweithlu, i ddeall er enghraifft beth sydd angen i ni ei wneud ar draws y GIG i sicrhau defnydd moesegol a chyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial, ac i wneud yn siŵr, fel yr awgrymai Mike Hedges, rwy'n credu, yn ei gwestiwn, mai'r hyn y gall ei wneud yw cefnogi clinigwyr, cefnogi'r gweithlu gofal iechyd ehangach, i allu gwneud mwy eto gyda'r oriau gwerthfawr y maent yn eu hymrwymo i'r GIG yng Nghymru.

Rwy'n croesawu'r broses o gyflwyno deallusrwydd artiffisial yng GIG Cymru, a all fod yn drawsnewidiol o ran diagnosteg, drwy ddadansoddi delweddau a data'n llawer cywirach a chyflymach. Yn anffodus, fodd bynnag, hyd yma mae camau i ddarparu offer sy'n defnyddio ddeallusrwydd artiffisial wedi bod yn wael iawn. Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n gyfrifol am raglenni digidol mawr, gan gynnwys offer sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial, a chafodd ei uwchraddio i fonitro estynedig ym mis Mawrth 2025 oherwydd pryderon ynghylch capasiti cyflawni, yn bennaf oherwydd pryderon difrifol ynghylch ei allu i gyflwyno rhaglenni mawr, gan gynnwys offer sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial.

Mae creu, cyflwyno a datblygu ap GIG Cymru ymhellach hefyd wedi bod yn garbwl, gyda'r ap yn dod i mewn bedair blynedd ar ôl ap y GIG yn Lloegr, ac mae'n dal i fod yn dameidiog mewn rhai practisau, lle nad oes apwyntiadau ar gael drwy'r ap o hyd. Yn anffodus, mae llawer wedi colli hyder yng ngallu Llywodraeth Cymru i ddarparu technolegau digidol newydd yn ein gwasanaeth iechyd. Felly, o ran deallusrwydd artiffisial yn y GIG, sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi'i gyfarparu'n briodol i ymdrin â gweithrediad offer sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y gwasanaeth iechyd? Diolch.

Wel, dylai'r Aelod wybod mai un rhan o'r gwasanaeth digidol i'r GIG yng Nghymru y mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ei ddarparu. Rwy'n siŵr y bydd yn deall fod deallusrwydd artiffisial yn agenda lawer ehangach, lawer cyfoethocach na chyfrifoldebau un sefydliad. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud gyda'r GIG—pob rhan o'r GIG—ar weithgareddau hollol hanfodol, fel y gallwn wneud yn siŵr fod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn y ffyrdd gorau posib yn y GIG, ac mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd. Mae hynny'n cynnwys datblygu hyfforddiant, datblygu safonau arferion gorau.

Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i gynnal sesiynau llythrennedd ac ymwybyddiaeth ar draws y gwasanaeth cyhoeddus, gan archwilio rhai o hanfodion deallusrwydd artiffisial, fel bod dealltwriaeth gynyddol a sylfaen sgiliau well ar y ffyrdd gorau o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Mae yna gwestiynau go gymhleth a manwl ynghylch rheoli tueddiadau mewn deallusrwydd artiffisial hefyd, y mathau o bethau y byddai angen i chi eu hystyried pan fyddwch chi'n caffael deallusrwydd artiffisial, ac rwy'n credu ei fod yn cyffwrdd â rhai o'r pwyntiau hynny yn ei gwestiwn. Felly, mae gwaith da yn digwydd yn Llywodraeth Cymru ac yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, ac ar draws y GIG yng Nghymru.

14:25
Rhyddhau Gohiriedig o'r Ysbyty

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau rhyddhau gohiriedig o'r ysbyty? OQ63156

Rydym eisoes wedi gwneud gwelliannau sylweddol, a'r llynedd yn unig—drwy gefnogaeth her 50 diwrnod y gaeaf y bydd yn ei chofio o bosib—fe wnaethom gyflawni gostyngiad o 17 y cant yn y cyfraddau oedi cyn rhyddhau yn erbyn targed o 15 y cant. Eleni, rydym yn adeiladu ar y momentwm hwnnw gyda £30 miliwn arall yn benodol i awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau a all helpu pobl i adael yr ysbyty yn ddiogel pan fyddant yn barod.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r £30 miliwn ychwanegol sy'n mynd i awdurdodau lleol. Ac wrth gwrs, mae'n mynd i helpu gyda rhyddhau o'r ysbyty, a'r ochr arall hefyd, gyda darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol cymunedol, ac mae'n gadarnhaol i gleifion. Rydym yn gwybod bod cael pobl adref cyn gynted ag y byddant yn ffit i wneud hynny'n glinigol o fudd i'w lles corfforol a'u lles meddyliol. Ar yr ochr arall i hynny, mae atal derbyniadau drwy ofalu am bobl yn agosach at adref yr un mor fuddiol i leihau unrhyw amseroedd aros ysbyty, a defnyddio lle sydd ei angen yn ddirfawr mewn mannau eraill. Felly, a ydych chi'n rhagweld y bydd y cyllid hwn yn cael effaith ganlyniadol drwy helpu i leihau'r amseroedd aros hynny wrth i fwy o welyau ysbyty ddod ar gael, ac y bydd rhagor o gleifion yn cael eu rhyddhau mewn modd amserol?

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ofyn y cwestiwn yn y ffordd y gwnaeth. Yn aml iawn, mae'r drafodaeth yn ymwneud â'r effaith ar gapasiti'r gwasanaeth iechyd—ac mae hynny'n hollol hanfodol, wrth gwrs—ond mae dimensiwn dynol i hyn hefyd, onid oes? Fel y dangosai yn ei chwestiwn, mae pobl sy'n barod i fynd adref yn ddiogel, ond sydd mewn gwely ysbyty, yn aml iawn yn profi'r hyn y byddwn yn ei alw'n ddatgyflyru, ac nid yw'n dda iddynt. Ac felly, y prif amcan mewn gwirionedd yw sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau er budd eu hiechyd a'u lles eu hunain.

Mae'r cyllid sydd wedi mynd i mewn i'r system eleni yn fwy na'r swm a roddwyd gennym y llynedd, felly rydym wedi gweld cynnydd yn y gyllideb honno. Eleni, rydym eisoes wedi gweld—. Y data diweddaraf a welais weld oedd y data ar gyfer mis Awst, sy'n dangos, eleni o'i gymharu â'r llynedd, fod gennym 257 yn llai o achosion o oedi cyn rhyddhau ym mis Awst, a dros 20,000 yn llai o ddiwrnodau cyfan o oedi na'r un adeg y llynedd. Felly, rydym eisoes yn gweld gwelliant tymhorol, a gwelliant flwyddyn ar ôl blwyddyn hefyd, ond mae tasg o'n blaenau o hyd. Mae gormod o bobl yn dal i aros i fynd adref heb allu gwneud hynny.

Rwyf am bwysleisio'r pwynt a wnaeth yr Aelod mewn perthynas â phwysigrwydd atal, yn ogystal ag ymateb i bobl sy'n cael eu rhyddhau. Mae peth o'r gwaith sy'n digwydd ar baratoi ar gyfer y gaeaf eleni yn canolbwyntio ar sut y gallwn gefnogi pobl heb fod angen eu derbyn i ysbyty, gyda diffyg anadl, mewn perthynas â chwympo ac eiddilwch, y math o bethau y gwyddom fod pobl yn aml iawn yn cael eu derbyn i'r ysbyty o'u hachos lle nad oes angen o gwbl i hynny ddigwydd. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â phwysigrwydd cefnogaeth i ryddhau, ond hefyd cefnogaeth i atal yn y lle cyntaf.

Os ydym am drechu problemau oedi cyn rhyddhau o ysbytai, a rhai o'r problemau eraill yn y GIG yn y pen draw, boed yn amseroedd ymateb ambiwlans, rhestrau aros ac yn y blaen, rwy'n credu y bydd ysbytai cymunedol yn hollol hanfodol i helpu'r GIG i gyflawni hynny. Ond mae'n ymddangos bod hynny'n groes i'r penderfyniad a wnaed yn ddiweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i israddio Ysbyty Gorseinon a symud ei welyau rhyddhau allan o'r ysbyty cymunedol hwnnw. Mae Ysbyty Gorseinon yn ysbyty poblogaidd, wedi'i leoli yng nghanol cymuned Gorseinon, ac nid yw pobl eisiau gweld yr israddio arfaethedig yn digwydd a cholli gwelyau. Dyna pam y mae cannoedd o bobl leol wedi llofnodi fy neiseb i alw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i wrthdroi'r newidiadau hyn. Pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod ysbytai cymunedol, fel yr un yng Ngorseinon, yn rhan sylfaenol o'r gwaith parhaus sy'n cael ei wneud gan y GIG i leihau lefelau oedi cyn rhyddhau o'r ysbyty?

14:30

Rwy'n cytuno ag ef fod gan ysbytai cymunedol, fel y mae'n eu disgrifio, rôl i'w chwarae, yn sicr. Rwy'n deall bod y newidiadau a gynigir ar gyfer Ysbyty Gorseinon yn newidiadau dros dro, am resymau penodol iawn. Ond credaf mai'r pwynt yr oedd Joyce Watson yn ei wneud yn ei chwestiwn yw sut y gallwn atal pobl rhag gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty o gwbl, sut y gallwn sicrhau bod gan bobl wasanaethau ar gael hyd yn oed yn agosach atynt—gartref yn aml iawn. Dyna'r her a dyna'r arloesedd a welwn yn y system. Dyna pam fy mod yn hyderus y bydd y cyllid ychwanegol a ddarparwyd gennym eleni yn cefnogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn y daith arloesi honno, i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yno i gefnogi pobl pryd a lle mae arnynt eu hangen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, James Evans.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae anffrwythlondeb gwrywaidd a chyfrifon sberm is yn dod yn fwyfwy cyffredin oherwydd nifer o ffactorau amgylcheddol a ffyrdd o fyw. Mae'n fater nad ydym yn siarad digon amdano yn y Siambr hon, felly hoffwn dynnu sylw ato heddiw. O ystyried nad yw rhai triniaethau ffrwythlondeb sy'n hanfodol ar gyfer anffrwythlondeb dynion, fel chwistrelliad sberm mewnsytoplasmig—neu ICSI, fel y'i gelwir—ond ar gael, hyd y gwn i, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, neu yng Nghastell-nedd, mae hyn yn creu loteri cod post ar gyfer mynediad at y gwasanaethau hynny i bobl ledled Cymru. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan ddynion fynediad cyfartal at driniaethau ffrwythlondeb ledled y wlad? Oherwydd gall llwybrau atgyfeirio ar gyfer y driniaeth hon fod yn hir a gall fod yn anodd cael mynediad atynt, a gall oedi cyn dechrau'r driniaeth hon ddigalonni pobl rhag parhau.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Credaf iddo ddweud nad ydym yn siarad digon am hyn. Mae hynny'n ddigon gwir. Ni chredaf fod anffrwythlondeb gwrywaidd bob amser yn cael y sylw mewn trafodaeth gyhoeddus y mae'n sicr yn ei haeddu. Fe fydd yn ymwybodol fod ystod o wahanol ffyrdd y mae triniaethau ffrwythlondeb yn cael eu darparu yn y GIG yng Nghymru ac ar ei gyfer. Darperir rhai yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd, a chaiff eraill eu comisiynu fel gwasanaethau arbenigol gan y cyd-bwyllgor comisiynu. Heb fynd i ormod o fanylder, yn gyffredinol mae camau'n cael eu cymryd ar lefel bwrdd iechyd cyn bod cleifion yn gymwys i gael cymorth arbenigol. Mae'r cymorth arbenigol ar gael ar sail gyson, gan fod meini prawf ar gyfer y ffordd y mae pobl yn gymwys ar ei gyfer, ond mae lefel o amrywioldeb yn y gwasanaethau y mae byrddau iechyd yn eu darparu, ac mae hynny am ystod o wahanol resymau. Rydym yn gwneud gwaith i nodi sut olwg sydd ar hynny ar draws y byrddau iechyd, o'r cam ffrwythlondeb cyn triniaethau ffrwythloni in vitro (IVF) i'r mathau o wasanaethau a ddarperir yn lleol. Credaf ei bod yn deg dweud bod dimensiwn daearyddol i hyn. Darperir rhai gwasanaethau mewn rhannau penodol o Gymru. Mae arnaf ofn fod hynny'n aml yn wir gyda rhai gwasanaethau arbenigol, gan nad yw lefel y galw am y gwasanaethau hynny bob amser yn cyfiawnhau'r dosbarthiad daearyddol hwnnw—er fy mod yn deall y gall hynny greu heriau.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae wedi dod yn amlwg fod rhai byrddau iechyd wedi cael gwared ar y llwybr atgyfeirio blaenoriaethol ar gyfer dynion â phroblemau ffrwythlondeb, gan greu perygl o orfodi cleifion gwrywaidd i aros hyd yn oed yn hirach am gymorth arbenigol. Os ydych chi yng ngogledd y wlad, er enghraifft, gall hynny beri cryn dipyn o ofid, ynghyd ag amseroedd aros hir. O ystyried bod polisi cenedlaethol yn caniatáu cyflymu triniaethau ar gyfer achosion o anffrwythlondeb gwrywaidd lle mae cyfiawnhad clinigol, a wnaiff y Gweinidog adolygu'r arfer hwn ar draws pob bwrdd iechyd nawr, i sicrhau ei fod yn digwydd, i sicrhau y gall dynion â phroblemau ffrwythlondeb gael mynediad at ofal arbenigol amserol lle bo'n briodol? A wnewch chi ysgrifennu at yr holl fyrddau iechyd i sicrhau bod y llwybr cyflym hwn yn cael ei roi yn ôl ar waith cyn gynted â phosib? Oherwydd gyda'r problemau hyn mewn dynion, os na chânt eu canfod yn gynt, mae cyfrif sberm y dyn yn mynd yn is ac yn is wrth i amser fynd yn ei flaen.

Rwy'n deall pam fod yr Aelod yn gofyn y cwestiwn; mae'n gwestiwn rhesymol i'w ofyn. Nid wyf yn siŵr y buaswn yn ei roi yn y ffordd honno. Mae'n iawn i ddweud, yn gyffredinol, y dylid gweld cleifion yn y drefn y cawsant eu rhoi ar restr aros am driniaeth. Fodd bynnag, fel y dywed, gellir rhoi cleifion ar lwybr cyflym ar gyfer triniaeth neu ymyrraeth lle mae cyfiawnhad clinigol dros wneud hynny. Felly, mae'n bwysig fod cyfiawnhad clinigol dros wneud hynny. Ac yna, mae angen i glinigau gael proses gadarn wedi'i dogfennu ar gyfer cyflymu'r driniaeth yn achos yr unigolyn hwnnw. Ar gyfer gwasanaethau anarbenigol, mae yna ganllawiau NICE y mae'n ofynnol i fyrddau iechyd gydymffurfio â nhw. Mae gwaith y soniais amdano yn gynharach, sydd eisoes ar y gweill, yn nodi lle mae'r canllawiau hynny'n cael eu rhoi ar waith yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.

14:35

Ac yn olaf ar y pwynt hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf mai un peth sy'n aml yn cael ei anwybyddu yn y maes hwn yw'r goblygiadau iechyd meddwl. Gwn nad chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl, ond mae'n creu trawma meddyliol difrifol i rai o'r dynion sy'n mynd drwy'r driniaeth hon. Mae llawer o'r rhaglenni cymorth iechyd meddwl yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar gefnogi'r fenyw sy'n mynd drwy'r driniaeth, ac nid y dyn, ac ystyrir bod yn rhaid i'r dyn gefnogi'r fenyw, ond nid oes unrhyw beth yno i helpu'r dyn. Gwn fod rhai sefydliadau'n darparu cymorth, ond credaf y byddai'n gam cadarnhaol pe gallai'r Llywodraeth roi polisïau ar waith ar sut y gall byrddau iechyd gefnogi dynion drwy eu taith ffrwythlondeb, gan y gwelaf, yn amlach na pheidio, eu bod yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain i ddioddef, ac yn tueddu i gael eu hanghofio.

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud y gall anffrwythlondeb, ac aros am driniaeth yn fwy cyffredinol, gael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl ac ar eu lles, ac mae'n iawn fod pob gwasanaeth yn cael ei ddarparu i gleifion i adlewyrchu anghenion y claf penodol hwnnw. Mae eisoes yn wir ei bod yn ofynnol i bob clinig ffrwythlondeb a ddefnyddir gan y GIG yng Nghymru gynnig mynediad at gwnselydd cyn i'r driniaeth ddechrau, felly mae hynny eisoes yn ofyniad yn y system. Dylai unrhyw un sydd angen cwnsela pellach neu gymorth dilynol ofyn amdano drwy eu meddyg teulu. Ond fe edrychaf i weld beth yw canlyniad y gwaith sydd eisoes ar y gweill i ddeall y darlun o ran amrywioldeb posib y cynnig mewn gwahanol rannau o Gymru, ac ystyried pa gymorth a chamau pellach y gallai fod eu hangen yng ngoleuni hynny .

Diolch, Llywydd. Mae'r sefyllfa yn ein hadrannau brys yn un argyfyngus. Nid fy ngeiriau i, ond geiriau cadeirydd Betsi Cadwaladr, sydd hefyd wedi cael eu hategu gan Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, sydd wedi galw'r sefyllfa yn un enbyd.

Un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at y broblem hon ydy'r methiant i ryddhau cleifion—y delayed discharge, fel y clywsom ni mewn cwestiwn blaenorol. Fis Tachwedd diwethaf, fe lansiodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr her 50 niwrnod, wedi cael ei ategu gan y gronfa integreiddio rhanbarthol, gwerth £146 miliwn, yn ogystal â £19 miliwn mewn cyllid pwrpasol ychwanegol, ac mi rydyn ni wedi clywed am £30 miliwn ychwanegol eto eleni. Ond bron i flwyddyn ers i'r her yna gael ei lansio, ydy pobl gogledd Cymru mewn lle gwell?

Ym mis Tachwedd y llynedd, roedd y niferoedd a oedd yn aros am drosglwyddo gofal, delayed discharge, yn Betsi Cadwaladr yn 286. Erbyn heddiw, mae'r ffigwr yna yn 318. Felly, yn seiliedig ar y ffigurau yma, gallwn ni ddod i'r casgliad fod camau gweithredu'r Llywodraeth i fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau wedi methu pobl gogledd Cymru. Pam bod gogledd Cymru felly yn unigryw yn y methiant o'i gymharu â gweddill Cymru?

Dwi ddim yn credu bod hynny'n esboniad cyflawn o'r sefyllfa. Fel y gwnes i ei ddweud, ar draws y system yng Nghymru, mae gennym ni lawer llai o bobl yn aros i fynd adref, os hoffwch chi, a llawer llai o amser yn cael ei dreulio yn y broses honno. Rŷn ni wedi gweld cydweithio ar draws rhanbarth y gogledd. Mae gyda ni sefyllfa sydd yn unigryw, os hoffwch chi, o ran Betsi Cadwaladr o ran y ffaith fod chwe chyngor lleol yn cydweithio gyda'r bwrdd iechyd. Mae hynny'n anarferol o ran rhanbarthau yng Nghymru. Beth mae hynny'n ei olygu yw bod mwy o amrywiaeth yn digwydd rhwng prosesau cynghorau unigol na fyddai'n debygol o ddigwydd mewn rhannau eraill o Gymru, am resymau sydd yn rhannol yn ddaearyddol.

Mae'n gwbl glir i fi nad yw'r sefyllfa o ran adrannau brys yn y gogledd ddim yn dderbyniol. Fe wnes i hefyd weld sylwadau cadeirydd y bwrdd. Mae angen gwella ar hynny'n sylweddol. Rŷn ni wedi gweld, er gwaethaf hynny, bod llai o oriau yn cael eu colli o ran trosglwyddo mewn ambiwlans. Felly, mae angen gwella yn sicr. Beth sy'n wir wrth wraidd hyn yw bod pob rhan o Gymru, yn cynnwys y gogledd, yn gwella yn gyson ar ddod o hyd i ble mae'r arfer da yn y system a lledaenu hynny mewn ffordd fwy pwrpasol ac yn gyflymach. Wrth wneud hynny'n unig, rwy'n credu, rŷn ni'n mynd i weld y cynnydd rŷn ni eisiau ei weld ym mhob rhan o Gymru.

14:40

Rhan o'r broblem o ran anallu'r Llywodraeth hon i ddangos y profiad a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen arnom yn daer ar ôl blynyddoedd o newid anhrefnus mewn personél, camreoli strategol a safonau diffygiol yw ei gafael frawychus o lac ar fanylion hanfodol. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, cawsom ein cyhuddo gan y Prif Weinidog o ddarparu ffigurau anghywir ar y newid i amseroedd aros o ddwy flynedd rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau mai'r gwahaniaeth net yn yr amseroedd aros o ddwy flynedd yn ystod y cyfnod hwn mewn gwirionedd oedd 942 fel y nodwyd gennym yn wreiddiol, a bod y gwahaniaeth net o gymharu â mis Mawrth bellach yn 384, sydd hyn yn oed yn llai canmoladwy? Os felly, pam fod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod ei arweinydd o dan y fath gamargraff ynghylch cynnydd ar gyflawni un o'i blaenoriaethau allweddol honedig?

Mae'r Aelod am imi gadarnhau rhagosodiad yn y cwestiwn nad wyf yn barod i'w dderbyn, mae arnaf ofn. Nid wyf yn aml yn cael fy meio am wendid brawychus yn fy ngafael ar fanylion, ond nid wyf yn gyfrifiannell, felly ni fyddaf yn gallu gwneud y cyfrifiad hwnnw mewn amser real, mae arnaf ofn. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych i weld a yw'r ffigurau cywir ganddo.

Y cwestiwn ehangach y bydd cleifion yng Nghymru eisiau gwybod yr ateb iddo yw bod gan y Llywodraeth gynllun sydd wedi'i ariannu ac sy'n gweithio er mwyn sicrhau, fel y mae pob un ohonom eisiau'i weld, fod amseroedd aros o ddwy flynedd yn gostwng, ac er mwyn cyflawni'r ymrwymiad yr wyf wedi'i wneud na fydd gennym unrhyw un yn y sefyllfa honno ar ddiwedd tymor y Senedd hon, yn ogystal â'r ymrwymiad mewn perthynas â maint y rhestr aros, sydd hefyd yn bwysig, a mynediad amserol at ddiagnosteg.

Rydym wedi nodi'n glir iawn ein bod yn disgwyl i fyrddau iechyd gyflawni hyn. Rydym wedi darparu'r cyllid. Mae gennyf gyfarfod wythnosol sy'n edrych, yn fanwl iawn, ar berfformiad pob bwrdd iechyd mewn perthynas â phob arbenigedd penodol. Felly, rydym yn gallu gweld, yn yr ystadegau cyhoeddedig a hefyd yn y wybodaeth reoli, y byddwn hefyd yn ei chyhoeddi nawr, lefelau gwirioneddol o weithgarwch cynyddol ar draws y GIG yng Nghymru, sydd, chwarter ar ôl chwarter, yn lleihau nifer y bobl sy'n aros a'r amseroedd aros y maent yn eu hwynebu.

Rwyf am weld cynnydd cyflymach, yn amlwg, ond credaf fod cynnydd da yn y system, ac rwy'n hyderus fod gennym gynlluniau ar waith a fydd yn ein galluogi i gyrraedd lle mae angen inni fod erbyn diwedd tymor y Senedd.

Diolch am yr ateb yna. Yn olaf, felly, er mwyn parhau â’r thema yma o brofiad a sefydlogrwydd, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod swydd prif gynghorydd y proffesiynau perthynol iechyd—y chief allied health professions adviser—wedi bod yn wag am bron i bedwar mis. Hyd y gwelaf i, does yna ddim golwg o apwyntio rhywun newydd er mwyn cymryd y rôl hollbwysig yma ymlaen eto.

Yn absenoldeb y prif gynghorydd yma, mae yna ddiffyg arweiniad yn y maes. Er enghraifft, yn ddiweddar, fe benodwyd panel goruchwylio ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ond does yna neb ag arbenigedd o’r proffesiynau perthynol ar y panel hwnnw. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod hyn yn wall eithaf difrifol wrth ystyried pwysigrwydd y proffesiynau yma i’r maes. Mae’n anodd credu y byddai’r gwall yma wedi digwydd pe byddai yna brif gynghorydd mewn lle. Pryd, felly, y gallwn ni ddisgwyl gweld y rôl yma yn cael ei llenwi?

Mae’r pethau yma yn digwydd o bryd i’w gilydd, wrth gwrs. Nid yw'r cylchoedd recriwtio yn rhywbeth sydd yn nwylo’r Gweinidogion; mae hynny’n fater i’r gwasanaeth sifil, fel bydd yr Aelod yn ymwybodol. Mi wnaf sicrhau bod diweddariad yn cael ei ddarparu o ran y gobeithion i lenwi’r swydd honno cyn gynted â phosib.

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63150

Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn gyfrifol am sicrhau bod mynediad diogel ac amserol at wasanaethau clinigol o ansawdd da ar gael i'w poblogaeth leol. Rydym yn parhau i gefnogi byrddau iechyd i wneud gwelliannau gyda chyllid ychwanegol, ymyrraeth uniongyrchol a chymorth gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, gwnaeth canolfan ofal lliniarol leol yn fy etholaeth y penderfyniad anodd i gau ei drysau. Mewn datganiad cyhoeddus, dywedodd hosbis Tŷ Shalom yn Nhyddewi fod anawsterau ariannol parhaus a diffyg cyllid cynaliadwy yn golygu nad oedd dewis arall ganddi ond cau ddiwedd mis Hydref.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod y newyddion hwn yn siomedig ac yn ddigalon iawn. Mae Tŷ Shalom wedi darparu cymorth lliniarol arbenigol gwych i gleifion a'u perthnasau dros y blynyddoedd. Er eu hymdrechion i godi arian a chefnogaeth hael y gymuned, nid ydynt wedi gallu dod o hyd i ffordd ymlaen.

Mae llawer o elusennau bach fel Tŷ Shalom angen cymorth yn ddybryd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r sefydliadau hyn, o ystyried y gwaith pwysig y maent yn ei wneud i gefnogi pobl â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd? Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi canolfannau gofal lliniarol a hosbisau, gan na allwn weld gwasanaethau hanfodol ac angenrheidiol fel y rhain yn cau yn ein cymunedau yn y dyfodol?

14:45

Wel, mae’n ddrwg gennyf glywed y newyddion hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod fod y gwasanaethau mewn canolfannau fel yr un y cyfeiria ati yn ei etholaeth ef—a bydd eraill ledled Cymru—yn darparu gwasanaeth cwbl hanfodol i bobl mewn amgylchiadau anodd iawn. Gwyddom pa mor bwysig yw gofal lliniarol da i bobl.

Gofynnodd i mi beth yn benodol y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi gofal lliniarol yn ehangach yn y sector. Rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad i dros £16 miliwn yn flynyddol, ac mae gwella ansawdd gofal lliniarol yn parhau i fod yn ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu. Dros dymor y Senedd hon, mae'r buddsoddiad hwnnw wedi cynyddu'n sylweddol iawn, ac mae chwistrelliadau ychwanegol o gyllid wedi'u gwneud ar adegau penodol lle bu heriau penodol mewn perthynas â chostau cynyddol a phwysau arall.

Mae'r strategaeth, fel y soniodd yn ei gwestiwn, wedi cynnwys ystod o ymyriadau gan y Llywodraeth a chan y GIG yn ehangach. Mae gennym ddatganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Rydym wedi bod yn datblygu manyleb gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer ystod o elfennau o ofal lliniarol. Mae gwaith wedi bod ar y gweill drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar ddatblygu fframwaith i wella lefelau sgiliau ar draws y sector. Mae'r cyd-bwyllgor comisiynu wedi rhoi trefniadau ar waith i safoni trefniadau comisiynu. Gwnaed gwaith da hefyd ar gryfhau trefniadau cynllunio gofal uwch. Ac mae gweithredu'r fframwaith profedigaeth cenedlaethol wedi cael effaith ar beth o'r gwaith y mae'r sector yn ei ddarparu. Felly, mae ystod eang o weithgarwch ar y gweill, ymrwymiad i gynyddu'r cyllid hwnnw, ond rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud, ei fod yn sector sy'n aml yn teimlo pwysau ariannol. Yn amlwg, mae'r enghraifft y mae wedi'i rhoi heddiw yn destun gofid. Yr hyn a wnawn yw ceisio rhoi'r sector ar sail fwy cynaliadwy drwy gaffael, drwy gomisiynu a thrwy gyllido.

Ysbyty Athrofaol y Faenor

5. Sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod ysbyty'r Faenor yn darparu safon dderbyniol o ofal i gleifion yn Nwyrain De Cymru? OQ63174

Mae ansawdd a diogelwch gwasanaethau yn un o flaenoriaethau pwysicaf y Llywodraeth. Rydym yn cefnogi ysbyty'r Faenor drwy greu lolfa ryddhau newydd, ymestyn yr adran achosion brys, ac yn hollbwysig, cyflogi chwech o feddygon ymgynghorol meddygaeth frys newydd i wella'r broses o wneud penderfyniadau lefel uwch.

Diolch yn fawr, ac mae'n dda clywed hynny. Hoffwn dynnu sylw, serch hynny, at normaleiddio gofal mewn coridorau, sydd wedi dod yn nodwedd yn rhai o ysbytai Cymru. Cefais y stori ganlynol gan bensiynwr sydd â chanser ac sydd wedi gorfod mynd yn ôl ac ymlaen i ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân oherwydd cymhlethdodau meddygol o ganlyniad i'r canser hwnnw. Dyma ei eiriau ef, ac rwy'n rhybuddio'r Siambr am y dyfyniad di-flewyn-ar-dafod:

'Yn ôl yn ysbyty'r Faenor, yn teimlo'n gachu ar ôl un noson ar gadair. Mae'r staff yn wych, ond yn bendant, nid yw'r system yn wych. Yr unig reswm pam y cefais wely o'r diwedd oedd am fy mod wedi llusgo i'r toiled a chwympo ar lawr. Bu'n rhaid cael tair nyrs i fy nghodi a fy ngosod ar gadair. Rwy'n credu eu bod wedi sylweddoli y dylwn gael gwely. Mae rhai pobl yn treulio dwy noson mewn cadair. Mae'n blydi annynol. Diolch, Lywodraeth Cymru.'

Dyna ddiwedd y dyfyniad. Gwn o siarad ag aelodau staff yn gynharach eleni fod yr ysbyty yn caniatáu trefn driphlyg sy'n golygu weithiau fod tri chlaf yn agos at ei gilydd mewn un coridor, yn aml â chyflyrau difrifol. Mae'r achos anecdotaidd hwn wedi ennyn cefnogaeth Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a BMA Cymru, sydd wedi cydweithio i lansio deiseb i geisio pwyso ar y Llywodraeth i ddatrys y mater er lles cleifion, a staff na wnaethant erioed gytuno i ddarparu gofal mewn amgylchiadau o'r fath. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddod â gofal mewn coridorau i ben, ac a ydych chi yr un mor bryderus â minnau wrth glywed am brofiad diweddar yr etholwr oedrannus yn ysbyty'r Faenor?

Ydw, rwyf yr un mor bryderus â chi, ac mae'n ofnadwy clywed hynny. Mae'n ddrwg iawn gennyf am y profiad a gafodd eich etholwr, sy'n amlwg yn annerbyniol. Ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn ystyried hynny'n dderbyniol, ac rwy'n siŵr y byddai pawb sy'n gweithio yn yr ysbyty yn dweud yr un peth, a byddai pawb yn y bwrdd iechyd yn cytuno â hynny. Y cwestiwn yw: beth a wnawn am hyn? Rwyf wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol nifer o weithiau i drafod mater gofal mewn coridorau, a chredaf fod cydnabyddiaeth ei fod yn gwestiwn cymhleth. Fodd bynnag, nid wyf yn derbyn bod hyn wedi'i normaleiddio. Yn sicr, ni chredaf ei fod yn normal, ac ni ddylai fod yn normal, ond mae gormod ohono'n digwydd mewn ysbytai ledled y DU.

Yr hyn a welsom yn y bwrdd iechyd mewn gwirionedd yw gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Nawr, y rheswm pam y mae hynny'n berthnasol yng nghyd-destun gofal mewn coridorau yw am ei fod yn aml yn symptom o anallu ysbyty i reoli llif cleifion drwy'r ysbyty mewn ffordd dderbyniol. Felly, rydym yn gweld arwyddion o welliant yn ysbyty'r Faenor. Rydym yn gweld cleifion yn cael eu trosglwyddo'n gyflymach. Gwn fod hynny wedi bod yn her yn y gorffennol, ond mae'r data'n dangos i ni fod llai o oriau'n cael eu colli. Rydym hefyd yn gweld cleifion yn cael eu rhyddhau'n gyflymach na'r hyn a welwyd yn y gorffennol. Nid wyf yn awgrymu mai dyna'r ateb llawn, yn amlwg, ac mae profiad eich etholwr yn awgrymu hynny, ond mae cynnydd da'n cael ei wneud. Fel y soniais yn fy ateb i Mabon ap Gwynfor yn gynharach, rwyf am weld cynnydd yn cael ei wneud yn gyflymach.

14:50

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr am ateb y cwestiwn gan fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths, gan ei fod yn rhywbeth y gallaf innau uniaethu ag ef. Mae ysbyty'r Faenor yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw. Ni all hynny fod yn syndod i chi, ac rwy'n siŵr nad yw'n adlewyrchiad o staff ymroddedig yr ysbyty mewn unrhyw ffordd. Mae'r ysbyty wedi wynebu llu o broblemau ers agor ychydig flynyddoedd yn ôl, a thynnwyd sylw at hyn yn gynharach eleni gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a ganfu heriau systematig parhaus sy'n effeithio ar y ddarpariaeth gyson o ofal diogel.

Drwy gydol yr haf, bûm allan yng Nghasnewydd yn siarad ag etholwyr am yr heriau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd, a soniodd sawl un ohonynt am yr angen i ailagor yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Yn dilyn y sgyrsiau hyn, penderfynais lansio arolwg i gasglu rhagor o safbwyntiau gan drigolion, ac roedd y mwyafrif llethol o'r ymatebwyr o'r farn y dylai Ysbyty Brenhinol Gwent ailagor yr adran ddamweiniau ac achosion brys. Roedd y rhai a ymatebodd yn teimlo nad oedd anghenion trigolion Casnewydd, yn ogystal â thrigolion yr ardaloedd cyfagos, yn cael eu diwallu ar hyn o bryd, ac y byddai cael adran ddamweiniau ac achosion brys yn ôl yng nghanol y ddinas yn helpu i leddfu'r pwysau ar ysbyty'r Faenor. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi'r hyn y maent ei eisiau i bobl Casnewydd, a rhoi eu hanghenion yn gyntaf drwy ailystyried yn gyntaf, ac ailagor yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent? Diolch.

Wel, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud yw gallu cyflawni'r ffordd orau, yn ôl tystiolaeth ryngwladol, o sicrhau bod gofal brys yn cael ei ddarparu'n briodol, a bod gofal a gynlluniwyd hefyd yn cael ei ddarparu'n briodol. Fel y gŵyr, safle acíwt yw ysbyty'r Faenor yn bennaf, a'r hyn y mae hynny wedi'i olygu yw bod y bwrdd iechyd wedi gallu defnyddio ei ysbytai cyffredinol lleol uwch ar gyfer llawdriniaeth a gynlluniwyd a chleifion allanol heb gael eu heffeithio gan bwysau gofal heb ei drefnu, fel y'i gelwir. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw eich bod yn gallu cynnal argaeledd gwasanaethau'r GIG i'r bobl sydd, fel y byddai pob un ohonom yn cydnabod, wedi bod yn aros yn rhy hir am driniaethau, gan geisio gwella'r gofal brys a ddarperir ar yr un pryd.

Rwyf eisoes wedi ateb cwestiwn a oedd yn nodi'r camau a roddir ar waith gennym gyda'r bwrdd iechyd i wella'r ddarpariaeth gofal brys yn ysbyty'r Faenor. A'r dystiolaeth yr ydym yn dechrau ei gweld yw bod hynny'n cael effaith gadarnhaol. Nid wyf yn esgus nad oes ffordd bell i fynd. Ond rydym eisoes yn gweld arwyddion o welliant, ac rwy'n glir mai'r rheswm am hynny yw oherwydd bod y bwrdd iechyd yn gweithredu model y mae pobl ledled y byd yn ceisio'i weithredu, sef gwahanu gofal brys oddi wrth ofal a gynlluniwyd. Gwyddom o dystiolaeth ym mhobman mai dyna'r ffordd orau o wella gwasanaethau yn gyffredinol.

Yn dilyn cwestiwn yr Aelod, byddai'n dda cael adolygiad o'r ad-drefnu enfawr, y canoli, i weld a yw wedi gweithio mewn gwirionedd. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn difaru rhuthro pobl i mewn i ysbyty'r Faenor cyn ei fod yn addas i'r diben, sy'n anochel wedi arwain at adran ddamweiniau ac achosion brys lle mae cleifion, fy etholwyr, wedi dioddef yn ddiangen byth ers hynny, gyda rhestrau aros erchyll—mae straeon gan bob un ohonom am y rheini—wrth ddioddef mewn ystafell fach lle mae pobl yn aml yn sefyll neu'n eistedd? Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r adran ddamweiniau ac achosion brys newydd yn cael ei hadeiladu, fel rydych chi newydd ei nodi, a bydd i'w chroesawu'n fawr, yn enwedig y meddygon ymgynghorol newydd a'r staff newydd a ddaw gyda hi, ond mae'n hen bryd iddi agor. A tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch pryd y byddwn yn gweld yr adran ddamweiniau ac achosion brys newydd honno'n agor, gan y bydd hynny'n cael effaith uniongyrchol ar safon y gofal y mae fy etholwyr yn ei gael. Diolch.

Yr hyn rwy'n gresynu ato yw, pe bai plaid yr Aelod mewn Llywodraeth, na fyddem yn cael trafodaeth am fynediad am ddim at ofal iechyd o unrhyw fath. Byddai pob un ohonom yn talu'n breifat am bremiymau yswiriant, gan fod ei phlaid hi wedi dweud yn gwbl glir: ni fyddai ganddynt GIG wedi'i ariannu drwy drethiant cyffredinol.

14:55
Gwasanaethau Strôc

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at wasanaethau strôc yng nghanolbarth Cymru? OQ63163

Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar wella mynediad cyfartal ledled Cymru at wasanaethau strôc, a mynediad cyfartal at ganlyniadau i bobl yn dilyn strôc. Mae hyn yn cael ei arwain gan y disgwyliadau a nodir yn ein datganiad ansawdd ar gyfer strôc.

Ysgrifennydd iechyd, fe fyddwch yn ymwybodol o gynigion gan fwrdd iechyd Hywel Dda i drosglwyddo gwasanaethau adfer ar ôl strôc o Ysbyty Bronglais, sy'n gwasanaethu rhannau helaeth o ganolbarth Cymru, i ysbytai yn Llanelli neu Lwynhelyg. Byddai hynny'n golygu taith gron o bedair i chwe awr mewn car i aelod o'r teulu ymweld ag anwyliaid sy'n gwella o strôc, neu daith gron o hyd at naw awr os na fyddai gan yr unigolyn dan sylw gar at eu defnydd, ac mae hynny'n defnyddio trefi fel Llanidloes neu Fachynlleth fel marcwyr ar gyfer teithio i Lanelli neu Lwynhelyg. Nawr, o ystyried rôl brofedig cefnogaeth y teulu wrth adfer wedi strôc, a chysylltiadau trafnidiaeth gwael hefyd, a yw'n dderbyniol i chi y gallech gyrraedd Llundain o fan hyn yng Nghaerdydd yn gyflymach ac yn haws nag y byddai'r bobl hyn yn gallu ymweld â'u hanwyliaid? A ydych chi'n fodlon â'r cynigion gan fwrdd iechyd Hywel Dda yn hyn o beth?

Wel, nid cynigion ydynt, maent yn faterion sy'n destun ymgynghoriad. [Torri ar draws.] Bydd yr Aelod yn ymwybodol nad oes penderfyniad wedi'i wneud, felly nid oes cynnig ar hyn o bryd. Ni allaf glywed yn iawn, Lywydd, oherwydd cyfraniadau o'r fainc flaen.

Mainc flaen yr wrthblaid rwy'n ei feddwl. Mae’n ddrwg gennyf, maddeuwch i mi—mainc flaen yr wrthblaid.

Rydych chi wedi cael cymeradwyaeth, ar adegau, o'r ochr honno y prynhawn yma, sy'n beth anarferol i chi, rwy'n siŵr.

Diolch, Lywydd. Mae'r Aelod yn ymwybodol nad oes cynnig yn y ffordd y mae'n ei amlinellu, a bydd hefyd yn gwybod eu bod wedi bod yn faterion sy'n destun ymgynghoriad. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn disgrifio'r hyn sy'n cael ei ystyried yn y ffordd gywir, oherwydd, fel mae ei gwestiwn yn nodi'n glir, bydd pobl yn pryderu fel arall.

Credaf mai'r hyn sydd hefyd yn heriol—. Ac rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud am anghyfleuster teithio, felly mae hynny wedi ei ddeall. Ond pan fydd wedi siarad â'r Gymdeithas Strôc ac eraill, rwy'n gwybod bod consensws clir gan y Gymdeithas Strôc, gan glinigwyr fel Coleg Brenhinol y Meddygon, er enghraifft, os yw rhywun yn nodi sicrhau bod pobl yn gwella o'u strôc cyn gynted â phosib fel blaenoriaeth ar gyfer strôc, fel rwy'n siŵr fod pob un ohonom eisiau ei wneud, a lleihau nifer yr achosion o strôc, fod y dystiolaeth yn dweud wrthym mai cyflawni hynny ar sail ranbarthol yw'r ffordd orau o sicrhau canlyniadau i gleifion. Rwy'n siŵr mai dyna yw ein blaenoriaeth uchaf. Felly, mae'n her i gydbwyso'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, sef y pellteroedd y gallai fod yn rhaid i bobl deithio, a'r ffaith mai ad-drefnu, a gefnogir yn glinigol, a gefnogir gan y Gymdeithas Strôc—hynny yw, egwyddor gyffredinol ad-drefnu—yw'r ffordd orau o sicrhau gwell canlyniadau i gleifion, a dyna, yn y pen draw, yw'r hyn y mae pob un ohonom eisiau ei weld.

eHarley Street

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ddiogelwch cleifion ac amodau gwaith mewn meddygfeydd a reolir gan eHarley Street? OQ63161

Fel y gŵyr yr Aelod, y byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phob bwrdd iechyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i drafod ehangder y ddarpariaeth gofal sylfaenol. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd mewn perthynas â'r meddygfeydd y cyfeiria'r Aelod atynt, ac mae gwaith ar y gweill i ddeall pa gamau gweithredu y gallai fod eu hangen i leddfu pryderon o'r fath yn y dyfodol.

Diolch. Wel, yn gynharach eleni, fel y gwyddoch, bu llawer o sylw yn y wasg i'r stori hon. Mae tair meddygfa yn fy rhanbarth yn dal i gael eu rheoli gan gwmni preifat eHarley Street—meddygfeydd Gelli-gaer, Pont-y-pŵl a Llyswyry. Bu'r cwmni yn y penawdau rai misoedd yn ôl am nad oedd meddygon wedi cael eu talu ac roedd cleifion yn ei chael hi bron yn amhosib cael apwyntiadau. Gwn fod mwy na £4,000 yn dal i fod yn ddyledus i un meddyg teulu, a bod cynllun talu a orfodwyd gan y llys heb ei gwblhau. Nawr, mae meddyg teulu arall wedi dweud bod £40,000 yn ddyledus iddynt mewn ffioedd yn ymwneud ag adeilad ac offer. Cymerodd y bwrdd iechyd y contractau yn ôl ar gyfer meddygfeydd eraill yr oedd y cwmni wedi bod yn eu rheoli fisoedd lawer yn ôl. Pam fod y tair meddygfa hyn wedi'u gadael gyda nhw. Os oedd cwestiynau'n codi am gymhwysedd neu reolaeth, pam y mae'r bwrdd iechyd yn fodlon â'i reolaeth o'r meddygfeydd hyn, neu a oedd y cwmni preifat wedi gofyn i'r bwrdd iechyd gymryd y contractau eraill yn ôl, ac os felly, pam? Mae cleifion a meddygon yn haeddu atebion ar hyn. Nawr, hoffwn wybod mwy am unrhyw drafodaethau diweddar a gawsoch gyda'r bwrdd iechyd ynglŷn â'r mater hwn. Ac a gawn ni gyfarfod, os gwelwch yn dda, i drafod pryderon fy etholwyr?

15:00

Wrth gwrs. Hynny yw, mae rhai o'r pwyntiau a wnaeth yn gwestiynau manwl i'r bwrdd iechyd eu hunain, fel y bydd hi'n deall. Ond o'r trafodaethau y mae fy swyddogion yn eu cael gyda'r bwrdd iechyd, mae'r pethau canlynol yn glir: mae practisau eHarley bellach o dan drefniadau monitro estynedig gyda'r bwrdd iechyd. Mae cyfarfod bob pythefnos gyda'r cyfarwyddwr rhanbarthol ar gyfer gofal sylfaenol, gwasanaethau cymunedol a gofal cymhleth a hirdymor, y dirprwy gyfarwyddwr meddygol a'r partner busnes cyfrifydd cyllid. Ac mae'r rhain yn gyfarfodydd sicrwydd sy'n trafod yn rheolaidd y math o bwyntiau y mae'r Aelod wedi bod yn gofyn amdanynt, felly materion staffio, materion talu, rheoli dyledion, cwestiynau ynghylch taliadau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi—yr ystod o faterion y cyfeiria atynt yn ei chwestiwn. Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau eu bod wedi gweld tystiolaeth o gynlluniau talu ar waith, er y nodaf fod yr Aelod yn cyfeirio at fethiant i dalu un o'r rheini. Felly, croeso iddi dynnu fy sylw at y manylion hynny. Yn ogystal, cynhelir cyfarfodydd uwchgyfeirio gweithredol wythnosol gyda'r pennaeth gofal sylfaenol, lle mae'r mathau hynny o faterion yn cael eu hystyried. Mae'r practisau eu hunain yn cynnal arolygon staff o lesiant ac wedi cynnig rhannu'r rheini gyda'r byrddau iechyd; rwy'n siŵr y byddant yn darparu gwybodaeth bwysig.

Dau beth arall, os caf? Mae'r mecanweithiau contractio yn darparu ar gyfer trefniadau ymweliadau sicrwydd contract, sydd bellach yn digwydd yn rheolaidd ac yn digwydd ochr yn ochr â'r llu o drefniadau sicrwydd eraill yr wyf newydd gyfeirio atynt. Ac yn dilyn y profiad y mae'r bwrdd iechyd, a'r cleifion yn bwysicaf oll, wedi'i gael gyda rhai o bractisau eHarley a chanlyniad ymarfer gwersi a ddysgwyd y bwrdd iechyd ei hun, rwyf wedi bod yn cynnal adolygiad mewnol am yr hyn y gallai fod ei angen yn y dyfodol i sicrhau nad oes problemau tebyg yn codi; mae hynny wedi cynnwys elfen o gyngor allanol. Ac rwy'n gobeithio gallu rhoi diweddariad i fyrddau iechyd mewn perthynas â hynny yn yr wythnosau nesaf.

Asesiadau Niwroddatblygiadol

8. Beth yw cynlluniau’r Llywodraeth i leihau rhestrau aros am asesiadau niwroddatblygiadol? OQ63164

Mae Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i leihau oedi mewn asesiadau niwroamrywiaeth, gan gael gwared ar yr holl arosiadau tair blynedd i blant ar draws Cymru. Mae bwrdd Betsi Cadwaladr wedi cael £2.7 miliwn o arian ychwanegol yn 2025/26 ac mae gyda nhw gynllun cyflawni clir i gael gwared ar arosiadau tair blynedd erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae yna 7,273 o blant a phobl ifanc yn aros am asesiadau yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Gadewch inni oedi efo'r ffigwr yna—dros 7,000 ar restr aros. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i deuluoedd ar draws y gogledd, heb sôn am yr effaith negyddol ar blant.

Fel dŷch chi'n ei ddweud, mae'r bwrdd wedi derbyn £2.7 miliwn gan y Llywodraeth i helpu efo'r broblem yma ac mae yna fwy o arian ar ei ffordd, dwi'n credu, i greu cyfanswm o £5.6 miliwn. Ac eto, does yna ddim arwydd hyd yma, beth bynnag, fod y sefyllfa yn gwella yn y gogledd. A wnewch chi felly fynnu bod bwrdd iechyd Betsi yn blaenoriaethu cyhoeddi'r cynllun gweithredu yma—yr un dŷch chi'n ei alw yn 'gynllun clir'? Wel, gadewch inni weld y cynllun gweithredu yma a fydd yn amlinellu sut fydd yr arian ychwanegol yma, sydd yn arian sylweddol, yn cael ei ddefnyddio yn bwrpasol i roi chwarae teg i blant yn y gogledd.

Wel, rwy'n hapus i roi peth o'r manylion hynny i'r Aelod nawr. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae rhyw £2.7 miliwn, fel gwnes i ei ddweud, wedi cael ei ddyrannu i'r bwrdd iechyd, a bydd rhyw 107,000 o asesiadau pellach yn cael eu cyflawni o fewn y gyllideb honno rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae rhyw 904 o blant yn y gogledd yn aros dros dair blynedd ar hyn o bryd. Rŷn ni'n gweld bod cynlluniau'r bwrdd iechyd yn mynd i alluogi'r rhain i gael eu gweld, felly mae'r forecast hynny'n rhywbeth rŷn ni'n gyfarwydd â fe. Rŷn ni'n gweld bod yr arian yn gallu cael ei wario mewn ffordd sy'n cael gwared ar y rheini erbyn y flwyddyn nesaf, ac mae'r trajectory presennol o ran yr asesiadau sy'n mynd drwy'r system ar darged i gyrraedd hynny.

15:05
Adrannau Brys

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar berfformiad adrannau brys yng Ngogledd Cymru? OQ63160

Nid yw perfformiad adrannau brys yng ngogledd Cymru lle rwyf i, y cyhoedd na'r staff yn disgwyl iddo fod. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd gyda chymorth y rhaglenni gwella cenedlaethol a'r rhwydweithiau clinigol ac wedi gosod disgwyliadau clir ar gyfer gwella.

Diolch am yr ateb hwnnw. Yn ôl cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae gofal brys yng ngogledd Cymru mewn 'sefyllfa argyfyngus', 'yn siomi pobl' ac 'mae pobl yn aros mewn ambiwlansys am gyfnodau eithafol o hir o amser'. Mae'r sefyllfa yn 'enbyd', yn 'arswydus' ac maent yn 'gwneud cam' â'u dinasyddion. Rwy'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw. Rwy'n derbyn gohebiaeth sy'n llawn o gwynion am brofiad cleifion gofal brys yng ngogledd Cymru—pobl yn eu 90au sy'n aros hyd at bedwar diwrnod ar gadeiriau wrth aros am wely, pobl mewn ambiwlansys y tu allan i'r adrannau brys hyn am oriau lawer, dros ddiwrnod weithiau, cyn y gallant gael eu derbyn i'r ysbytai hynny. Mae'n annerbyniol.

Nawr, un o'r pethau y gwyddom y byddai'n lleddfu'r pwysau yw mwy o welyau, ond wrth gwrs, mae Llywodraethau blaenorol yng Nghymru wedi cau ysbytai lleol yn y rhanbarth dros y blynyddoedd, ac nid yw'n ymddangos eich bod yn gallu tynnu'r ewinedd o'r blew i allu adeiladu ysbytai newydd gyda chapasiti gwelyau ychwanegol i dynnu pwysau oddi ar yr adrannau brys hyn. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud bod angen inni roi diwedd ar ofal mewn coridorau am ei fod yn anniogel ac yn ddiurddas. Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi dweud bod y broblem yn ymwneud â gwelyau. Pryd y gwnewch chi ddarparu'r gwelyau a addawyd gennych i bobl gogledd Cymru, yn enwedig ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl?

Wel, nid wyf yn siŵr a glywodd yr Aelod yr ateb a roddais i gwestiwn tebyg gan Mabon ap Gwynfor yn gynharach, ond roeddwn i'n glir wrtho ef hefyd, ac rwy'n ei ailadrodd i chi, ei fod yn annerbyniol. Clywais sylwadau cadeirydd y bwrdd iechyd hefyd, a oedd yn cydnabod yr angen am wasanaeth a phrofiad llawer gwell i gleifion yng ngogledd Cymru sy'n mynychu adrannau brys. Darllenais drafodaeth yn y bwrdd sy'n cydnabod yr heriau yr ydym yn eu gosod i'r bwrdd fel Llywodraeth, y disgwyliadau sydd gennym, a gweld perfformiad yn erbyn y disgwyliadau hynny. Yn y pen draw, mae a wnelo hyn â'n dyletswydd i gleifion, a dyletswydd y bwrdd iechyd i gleifion. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth bwysig yn y drafodaeth ei fod yn ymwneud â mwy na chyllid yn unig, ei fod hefyd yn ymwneud â gwella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.

Mae'r Aelod yn ailadrodd y gair 'gwelyau' o'i sedd. Roeddwn ar fin ateb y rhan honno o'i gwestiwn, os gall aros eiliad yn hirach. Roedd y drafodaeth a gawsom yn gynharach—nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn ei sedd ar y pryd—yn ymwneud â phwysigrwydd llif yn yr ysbyty er mwyn gwella mynediad at ddarpariaeth frys, ond hefyd i osgoi gofal mewn coridorau. Rwyf am weld mwy o gynnydd yn digwydd yng ngogledd Cymru mewn perthynas â chyflymu'r broses o ryddhau cleifion sy'n barod i fynd adref o ysbytai. Rydym i gyd eisiau gweld hynny. Rydym yn ei weld mewn rhannau eraill o Gymru. Rydym am wneud yn siŵr fod pob bwrdd iechyd yn dysgu o arferion gorau ei gilydd, fel y gallwn fynd i'r afael â pherfformiad adrannau brys, gallwn fynd i'r afael â gofal mewn coridorau, gallwn fynd i'r afael â llif gwell. Rydym eisoes yn gweld llai o oriau'n cael eu colli wrth drosglwyddo o ambiwlans, trosglwyddo cyflymach, pobl yn aros llai o amser mewn adrannau brys, pobl yn cael eu rhyddhau'n ddiogel yn gyflymach. Rydym eisiau gweld hynny'n digwydd ym mhob rhan o Gymru.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Dim ond un heddiw. Mae'r cwestiwn yna i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac i'w ofyn gan Samuel Kurtz.

Y Tafod Glas

1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal clefyd y tafod glas, ac i gefnogi ffermwyr a marchnadoedd da byw, yng ngoleuni'r ddau achos a gadarnhawyd yng Nghymru? TQ1374

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:09:38
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Sam. Yn unol â'n strategaeth ar gyfer rheoli'r tafod glas, mae pedwar safle yng Nghymru lle cadarnhawyd bod y tafod glas yn bresennol wedi'u rhoi o dan gyfyngiadau. Mae ymchwiliadau pellach i ffynhonnell a lledaeniad y clefyd yn parhau. Bydd parthau rheoli clefydau priodol yn cael eu datgan os oes angen. Bydd iawndal yn cael ei dalu am anifeiliaid sy'n cael eu difa at ddibenion rheoli'r clefyd.

15:10

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am ddewis y cwestiwn amserol hwn heddiw. Ac ers i mi ei gyflwyno, fel y nodoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae dau achos arall o'r tafod glas wedi'u cadarnhau yma yng Nghymru. Mae'n bryder difrifol i'n diwydiant ffermio, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i estyn ein dymuniadau gorau i'r ffermwyr hynny a'u teuluoedd sy'n destun cyfyngiadau ar hyn o bryd. Rwy'n ymuno â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i annog pob ffermwr i siarad â'u milfeddygon a brechu. Ond gan fod cost i hyn, a yw Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw gymorth i gynorthwyo ffermwyr i frechu?

Hoffwn ofyn hefyd sut y mae cadarnhau'r achosion hyn yn newid agwedd Llywodraeth Cymru at gyfyngiadau, a sut rydych chi'n disgwyl i'r mesurau hynny esblygu yn yr wythnosau i ddod, oherwydd mae effeithiau ariannol y cyfyngiadau presennol eisoes i'w teimlo. Mae'r effaith ar farchnadoedd da byw wedi bod yn amlwg, gyda llawer yn nodi gostyngiadau enfawr yn eu trosiant bron dros nos, a symudiadau gwartheg ar draws y ffin yn gostwng o filoedd i ychydig gannoedd yn unig. Mae'r marchnadoedd hyn yn llawer mwy na lleoliadau masnachu, maent yn ganolog i'r economi wledig, a phan fydd eu hyfywedd yn cael ei danseilio, mae'r effaith ganlyniadol yn ymestyn ar draws busnesau fferm a'r cymunedau ehangach sy'n dibynnu arnynt.

A allwch chi hefyd gadarnhau pa un a fydd cymorth wedi'i dargedu ar gael i farchnadoedd da byw y mae eu hyfywedd dan fygythiad? Fe wnaethoch chi sôn am iawndal—a wnewch chi amlinellu sut y mae'r iawndal hwnnw'n cael ei bennu ar gyfer y rhai y mae'n ofynnol iddynt ladd anifeiliaid? A yw hynny'n digwydd ar yr un sail ag iawndal TB mewn gwartheg neu a oes metrig newydd a ddefnyddir gennych i bennu iawndal i'r rhai y mae'n ofynnol iddynt ddifa anifeiliaid a heintiwyd gan y tafod glas?

Ac yn olaf, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU a chynhyrchwyr brechlynnau ynglŷn â'r cyflenwad o frechlynnau? Mae angen hyder ar ffermwyr eich bod yn mynd ar drywydd atebion hirdymor, fod cyflenwad cyson o frechlynnau ar gael, fel y gallwn symud o atal lledaeniad y clefyd tuag at adeiladu gwydnwch gwirioneddol yn y dyfodol. Diolch.

Diolch yn fawr, Sam, a diolch i chi am ofyn y cwestiwn, ac i chi hefyd, Lywydd, am ei ganiatáu. Fe wnaethom drafod hyn yn eithaf manwl heddiw ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ond mae'n dda ei gael yma ar lawr y Senedd.

Mewn ymateb i'ch ymholiadau, ar frechu, rydym yn dilyn yr un dull â thros y ffin yn Lloegr, lle mae'n fater i'r ffermwyr eu hunain a ydynt am frechu, ond rwy'n ategu'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, sef: os ydych chi'n un o'r ffermwyr sy'n agos at un o'r digwyddiadau hyn, dylech fod yn trafod gyda'ch milfeddyg ar unwaith ynglŷn â brechu. Ac mewn gwirionedd, ledled Cymru, rydym yn annog ffermwyr i gael y sgyrsiau hynny, oherwydd fe wyddom y gellir ei drosglwyddo gan wybed mân, ac rydym yn gobeithio ei gadw allan o boblogaeth y gwybed mân, ond mae modd iddo gael ei drosglwyddo, fel y gwelwn yn yr ardaloedd hynny yn Lloegr nawr, lle mae wedi mynd y tu hwnt i'r ddwy sir ac wedi mynd i orllewin Lloegr a'r de-orllewin hefyd—. Brechu yw'r hyn sydd ei angen arnom i achub y blaen ar y clefyd.

Rwyf am nodi'r gost o beidio â brechu, oherwydd gallai honno fod yn sylweddol os na wnawn achub y blaen ar hyn, ac rwyf am nodi hynny'n glir iawn. Mewn ardaloedd eraill, nid yn unig yn y DU ond ar y cyfandir, lle mae brechu wedi digwydd ar ôl i'r achosion ymddangos, a cheisio dal i fyny, fe wyddom fod difrifoldeb y clefyd hwn wedi bod yn sylweddol: colledion atgenhedlu, llai o laeth a'r costau ariannol a seicolegol y cyfeiriwch atynt hefyd, o ran lles y ffermwyr yn ogystal â lles anifeiliaid. Maent wedi bod yn sylweddol, a'r ffermwyr hynny sydd wedi talu'r costau economaidd. Felly, os gwelwch yn dda, siaradwch â'ch milfeddygon. Trafodwch frechu nawr.

Ar y cyflenwad, fe wyddom fod y penderfyniad a wnaethant yn Lloegr i ymestyn y ffin i Loegr gyfan wedi golygu bod y clefyd wedi lledaenu'n gyflym ar draws rhannau o Loegr lle nad oedd yn bodoli o'r blaen. Mae peth o hyn wedi digwydd oherwydd symudiadau gwartheg; mae achosion eraill yn gysylltiedig â chlefyd wedi'i gludo gan wybed mân. Un o'r pethau y gallasom ei wneud hyd yma, wrth i ni fynd o fis Medi i fis Hydref yng Nghymru, yw cadw'r clefyd hwn allan nes y digwyddiadau hyn, a'n dull o weithredu nawr, Sam, yw rheoli ac atal y rhain rhag lledaenu a gwrthdroi hyn, oherwydd byddwn yn cyrraedd pwynt lle byddwn yn mynd i mewn i gyfnod fector isel y tymor hwn, ac mae'n bosib iawn y bydd y tywydd a'r hinsawdd yn ein helpu i drechu'r clefyd. Ond nid ydym yn gwybod. Rydym yn gwneud ein gorau i'w wneud. Ond wrth brynu'r amser hwnnw i ffermwyr, rydym hefyd wedi adeiladu amser i'r gadwyn gyflenwi o frechlynnau adeiladu, fel y gallwn roi hyder nawr i ffermwyr fod y brechlyn hwnnw ar gael, y dylent siarad â'u milfeddygon, ac os mai'r cyngor milfeddygol yw brechu, gallant fwrw yn eu blaenau, oherwydd mae'r gadwyn gyflenwi yno iddynt ei wneud. Rydym ni, gyda fy mhrif swyddog milfeddygol a'r prif swyddogion milfeddygol eraill ledled y DU, a chyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r gadwyn gyflenwi hefyd i wneud yn siŵr fod hyder o fewn y gadwyn gyflenwi.

Fe wnaethoch chi sôn am iawndal. Rydym yn delio ag iawndal ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu difa. Mae'r meini prawf wedi'u nodi'n glir iawn. Mae ar ein gwefan. Mae ar gael i filfeddygon hefyd. Felly, mae'r sail ar gyfer darparu iawndal yn glir iawn i'r ffermwyr.

A gaf i fynd ar drywydd elfen y gadwyn gyflenwi ehangach? Rydym yn gwybod bod y mesurau a gyflwynwyd gennym ar gyfer y tafod glas a'r mesurau rheoli clefydau wedi creu aflonyddwch i'r sector da byw, ond fel y gwnaethom yn glir i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig heddiw, rydym wedi siarad yn rheolaidd ac yn gyson â rhanddeiliaid, gan gynnwys arwerthwyr hefyd, ac rydym wedi addasu drwy gydol yr haf. Ond bob tro y gwnaethom addasiad, mae wedi cynyddu'r risg, yn gronnus, o ledaenu'r clefyd i mewn i Gymru. Nid yw'n bosib diogelu da byw a bywoliaeth a lles meddyliol ffermwyr drwy gadw'r clefyd hwn allan heb gael rhai cyfyngiadau ar symudiadau anifeiliaid, ond fel rydym bob amser wedi dweud, byddwn yn parhau i arolygu hyn. Ond rydym yn cydnabod ei fod wedi creu aflonyddwch. Gallai fod wedi creu llawer mwy o aflonyddwch yn economaidd, ac o ran iechyd a lles ffermwyr, pe baem wedi gadael i hyn ledu ar draws Cymru, yn y ffordd a welwn ar draws rhannau o Loegr nawr yn anffodus.

15:15

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'r prif swyddog milfeddygol am y briffiad y cawson ni ddoe, a oedd yn hynod o fuddiol? Ond, wrth gwrs, hwn yw'r newyddion roedden ni i gyd yn ei ofni, a thra bod y ffocws o gadw'r clwyf allan o Gymru yn parhau, wrth gwrs, rŷn ni hefyd nawr, wrth gwrs, yn gorfod ffocysu ar gyfyngu a rheoli'r clwyf o fewn i ffiniau Cymru. Dwi jest eisiau gwybod os bydd hynny nawr yn newid approach neu ffocws Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd yn y frwydr yn erbyn y tafod glas. Er enghraifft, ydych chi yn ystyried parhau i gadw'r un trefniant cenedlaethol, neu oes yna feddwl ynglŷn â datblygu, efallai, trefniadau lleol mewn ardaloedd lle mae achosion wedi codi? Byddwn i jest yn hoffi i chi ein goleuo ni ychydig ynglŷn â lle rŷn ni'n mynd o fan hyn, gyda, efallai, mwy a mwy o achosion yn dod ymlaen.

Byddai hefyd yn dda clywed mwy am y cynlluniau gwyliadwriaeth ac ynysu lleol y gobeithiwch eu rhoi ar waith, ac yn enwedig yng nghyffiniau uniongyrchol y safleoedd lle cafodd achosion eu cadarnhau. A oes unrhyw gymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ffermydd yn y cyffiniau uniongyrchol? A ydych chi'n targedu ymgyrch frechu yn yr ardaloedd hynny, er enghraifft? Nodais yn eich ateb blaenorol eich bod wedi dweud y byddech chi'n annog y ffermwyr hynny i gael sgyrsiau gyda'u milfeddygon. Wel, a yw hynny'n ddigon? Yn sicr, dylai Llywodraeth Cymru fod ychydig yn fwy rhagweithiol i wneud i bethau ddigwydd ar hyd y llinellau hynny, hyd yn oed os nad yw'n cynnwys sybsideiddio costau brechu ar gyfer y ffermydd hynny. Hoffwn ddeall sut rydych chi'n cynyddu eich gwaith yn yr ardaloedd penodol hyn.

Rwy'n derbyn hefyd wrth gwrs y gall ymchwiliadau milfeddygol ac epidemiolegol gymryd amser pan ddown o hyd i'r achosion hyn—mae samplu a phrofi ac archwiliadau symud ac ati i gyd yn angenrheidiol. Felly, er fy mod yn siŵr y gellir gwneud hynny'n gyflym ac yn drylwyr pan welwn achosion ynysig, fel y gwelsom yr wythnos hon, a ydych chi'n hyderus fod y gallu yno, yn Llywodraeth Cymru a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, i ddelio â llwyth gwaith llawer trymach os gwelwn gynnydd serth yn nifer yr achosion?

Ac yn olaf gennyf i, Lywydd, mae straen BTV-8 o'r tafod glas wedi'i gadarnhau yng Nghernyw bellach. Dyna'r tro cyntaf iddo gael ei gadarnhau yn y DU. Felly, beth y gallwch chi ei ddweud wrthym ynglŷn â'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer y straen penodol hwnnw o'r tafod glas, pe bai'n cyrraedd Cymru dros y misoedd nesaf? Diolch.

Diolch yn fawr, Llyr, a dyma'r newyddion yr oeddem yn ei ofni, ond roeddem hefyd, mewn rhai ffyrdd, yn ei ddisgwyl. Ac roedd ein mesurau rheoli ac ynysu yn barod ar gyfer hyn ac maent ar waith, ac rydych chi'n sôn—.

Ar y BTV-8, rydym yn ymwybodol o hynny. Mae fy mhrif swyddog milfeddygol yn trafod gyda phrif swyddogion milfeddygol ledled y DU ynglŷn â sut i ymateb i hynny a sut i fynd i'r afael â hynny, pe bai'n dod ar draws rhannau o Loegr a thuag atom ninnau hefyd. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny.

Rydych chi'n gofyn am fesurau rheoli lleol. Yn fy ymateb uniongyrchol i gwestiwn Sam, dywedais y bydd parthau rheoli clefydau priodol yn cael eu cyhoeddi os oes angen. Rydym yn aros i weld a yw hynny'n angenrheidiol. Ac os oes angen i ni roi'r mesurau hynny ar waith, fe wnawn. Felly, rydym yn ystyried hynny, ond ni wnaed penderfyniad eto. Mae'r ymchwiliad yn digwydd yn lleol yn yr ardal i weld a oes angen hynny ai peidio.

Fe ofynnoch chi sut y gallwn symud ymlaen o hyn—nid wyf yn gwneud unrhyw ragdybiaethau y naill ffordd neu'r llall yma o ran yr hyn y bydd y clefyd yn ei wneud, ac yn enwedig wrth i ni wynebu'r hydref a'r gaeaf. Rwy'n credu ein bod wedi cael—. A diolch i'r ymdrech ar lawr gwlad, mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, o ran gwyliadwriaeth milfeddygon a'r gymuned ffermio, ond y gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru hefyd, sydd wedi bod yn digwydd drwy'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar lawr gwlad i gadw llygad agos ar y digwyddiadau hyn. Rydym yn ariannu'r gwaith hwnnw a byddwn yn parhau i wneud hynny yn ychwanegol at ein mesurau rheoli clefydau rheolaidd.

Ond yn unol â'r ymrwymiad a wneuthum yn wreiddiol pan nodwyd strategaeth y tafod glas, rydym wedi addasu a diweddaru ein polisi wrth inni symud ymlaen i ystyried adborth y diwydiant ac yng ngoleuni gwybodaeth newydd sydd wedi dod i'r amlwg ers mis Gorffennaf. Rydym wedi cynnal y cyfarfodydd bord gron a'r gweithgorau dan arweiniad y prif swyddog milfeddygol. Rydym wedi cydweithio â'r diwydiant i ddatblygu dull sy'n seiliedig ar risg, ac ar dri achlysur bellach, rydym wedi cyflwyno newidiadau i'r cyfyngiadau sy'n cydbwyso hwyluso masnach â chynnal y mesurau rheoli a lliniaru clefydau. Ac wrth inni symud ymlaen a thuag at gyfnod lle bydd llai o drosglwyddo'n digwydd, a bydd Sefydliad Pirbright yn pennu pa bryd y byddwn yn cyrraedd y cyfnod hwnnw—fel arfer, o fewn unrhyw flwyddyn, mae'n tueddu i fod ym mis Rhagfyr, mis Ionawr, canol y gaeaf—byddwn yn ailystyried ein cyfyngiadau symud anifeiliaid yn unol â'r ymrwymiad i barhau i adolygu'r polisi, yn seiliedig ar dystiolaeth newydd a ddaw i'r fei.

Llyr, fe sonioch chi am y mesurau eraill a monitro ar lawr gwlad. Wel, ie, Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r cyllid nad yw'n ansylweddol sy'n mynd tuag at y gwaith monitro gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yr oruchwyliaeth, yr archwiliadau clefydau nawr a thrwy gydol y flwyddyn. Gallai hyn esblygu, yn seiliedig ar gyngor y prif swyddog milfeddygol, i gynnwys monitro ychwanegol, nid yn unig yn yr ardaloedd lleol hyn, ond mewn ardaloedd ehangach hefyd, i wneud yn siŵr ein bod yn canfod hyn yn gynnar iawn, ac yn y pen draw, ein ffocws o hyd yw diogelu da byw, a bywoliaeth y rhai a gyflogir yn y sector. Ac fel y dywedaf, mae rhai pobl allan yno, Lywydd, sy'n dweud, 'Wel, mae'n ysgafn. Gadewch i'r clefyd fwrw drwyddi.' Mae'r profiad mewn rhannau eraill o Ewrop, a chyflymder ei ledaeniad o gwmpas Lloegr, yn awgrymu efallai nad yw hyn yn wir, a bod rhaid i ni achub y blaen arno drwy frechu. Felly, rwy'n ailadrodd unwaith eto: y peth mwyaf y gallwn ei wneud yma gan weithio gyda'n gilydd yw i ffermwyr gael y drafodaeth honno.

O, mae'n ddrwg gennyf, fe wnaethoch chi ofyn am y trafodaethau. Mae'n ddrwg gennyf. Nid o lawr y Senedd yma'n unig y gwnawn yr alwad hon; mae ein prif swyddog milfeddygol yn gweithio gyda'r rhanddeiliaid, gyda'r ford gron, gyda sioeau teithiol, gyda gwybodaeth ar y wefan sydd ar gael i'r cyhoedd, drwy'r undebau, drwy bob dull posib o gyfathrebu hyn, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, cyfarfodydd traddodiadol mewn marchnadoedd fferm ac yn y blaen, i ledaenu'r neges ynglŷn â brechu. Rwy'n dweud yn glir, Lywydd: mae angen i fwy o ffermwyr gael y drafodaeth honno gyda'u milfeddyg er mwyn inni allu achub y blaen ar y clefyd.

15:20

Mae rhai Gweinidogion yn dewis ateb un yn unig o restr hir o gwestiynau a ofynnir iddynt. Rydych chi'n dewis ateb pob un o'r rhestr hir o gwestiynau a ofynnir. 

Felly, a allwn ni gael cwestiynau byrrach, ac atebion byrrach, fel y gallaf alw'r tri siaradwr sy'n weddill ar yr eitem hon? Joyce Watson.

Roeddwn i'n meddwl yr un peth, Lywydd. [Chwerthin.] Felly, rwy'n cytuno â chi. Mae un o'r cwestiynau nad ydynt wedi'u gofyn nac wedi'u hateb yn ymwneud â'r mesurau rheoli sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae gennym fesurau rheoli da eisoes i geisio lleihau TB. Maent yn gyfarwydd, wedi'u dogfennu'n dda ac yn cael eu dilyn a'u deall gan y rhai sy'n gorfod eu defnyddio. Felly, fy nghwestiwn yw: a wnewch chi ailedrych ar y strwythurau sydd eisoes ar waith, yr arferion da sydd eisoes ar waith, fel nad ydym yn ailddyfeisio'r olwyn, oherwydd mae amser yn bwysig yma?

Y cwestiwn arall yr oeddwn eisiau ei ofyn yw: mae'n glefyd trallodus i anifeiliaid, ond hefyd i'r ffermwyr, neu'r rhai sy'n gofalu am yr anifeiliaid. Felly, a wnewch chi annog unigolion i ofyn am gymorth gan arbenigwyr yn y maes os ydynt yn teimlo wedi'u llethu ac yn ofidus? 

15:25

Yn gyntaf oll, rydych chi'n iawn, rydym wedi rhoi mesurau rheoli ar waith, a rhai ohonynt wedi cael eu beirniadu gan rai yn y sector, ond rhaid i mi ddweud bod consensws cyflawn a chyffredinol y sefydliadau milfeddygol a lles anifeiliaid y tu ôl iddynt yn llwyr. Felly, byddwn yn parhau i adolygu'r rheini, fel y dywedais, a byddwn yn symud gyda'r dystiolaeth a chydag adborth rhanddeiliaid.

A'ch pwynt pwysig, yr ail bwynt: mae hyn yn straen ar y gymuned ffermio, a cheir effaith economaidd ar arwerthwyr a'r gadwyn gyflenwi ehangach hefyd. Ond nid yw'n ddim o'i gymharu â'r straen o adael i'r clefyd hwn rwygo ar draws Cymru gyfan ar ei fwyaf difrifol. Felly, rwy'n awgrymu'n gryf fod unrhyw un sy'n teimlo pwysau a straen hyn ar ben popeth arall yn cysylltu â'r elusennau iechyd meddwl a chymorth lles sy'n bodoli, gyda rhai ohonynt yn gweithio gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i siarad â phobl. Mae yna sefydliadau da allan yno a fydd yn eich helpu ac yn siarad â chi.

Diolch am eich diweddariad, Ddirprwy Brif Weinidog. Fe wnaethoch chi siarad am barthau lleol, ac rwy'n gwybod bod llawer o'r achosion hyn yn dod yn fy etholaeth i. Felly, yn ddamcaniaethol, pe baech chi'n rhoi fy etholaeth i mewn parth, beth fyddai'r cyfyngiadau symud ar y ffermwyr hynny? A fyddent wedyn yn gallu gwerthu i Loegr a dod â'r stoc hynny adref, yn debyg i'r ffordd y mae pob parth yn gweithio yn Lloegr? Er mwyn i mi ddeall, oherwydd, os yw'n mynd i ddigwydd, byddai ffermwyr yn fy etholaeth yn gyfyngedig iawn o ran ble gallent werthu eu da byw.

Yn wir. Os gwnewch chi fy esgusodi, ond am reswm da, gadewch imi beidio â siarad yn ddamcaniaethol. Mae angen inni ddelio â'r hyn a wnawn yma nawr. Os dewiswn symud i barth rheoli lleol, byddaf yn cyflwyno datganiad i'r Senedd, a byddaf yn cysylltu â chi hefyd i egluro hynny i chi, yn yr un modd ag y gwnaethom wrth friffio ar ein sefyllfa bresennol. Rwy'n ofni y gallai siarad yn ddamcaniaethol godi pob math o ysgyfarnogod. Felly, gadewch inni ddelio â'r hyn sydd gennym, yr hyn a wnawn nawr. Ond rydym yn meddwl drwy oblygiadau beth fyddai'n digwydd pe bai angen i ni gyflwyno parthau rheoli. Ac os gwnawn hynny yn eich ardal chi, neu ardal unrhyw un arall, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn cysylltu â chi er mwyn i chi allu cyfathrebu â'ch ffermwyr.

Diolch. Rwyf innau hefyd yn falch ein bod wedi cael cwestiwn amserol ar hyn heddiw, oherwydd ei bwysigrwydd. Roedd yn ddinistriol clywed am y tafod glas yn fy sir i yng Nghas-gwent, ac wrth gwrs yr un ym Mhowys a'r ddau arall y sonioch chi amdanynt heddiw. Rwy'n eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i weithredu i ddiogelu ein diwydiant ffermio, a'r tro hwn, fel rydych chi eisoes wedi awgrymu, i gofio bod gennym ffiniau meddal, nid rhai caled, ac mae rhai busnesau fferm, yn enwedig yn fy ardal i, yn gweithio ar draws y ffin, fel marchnad da byw sir Fynwy, ac mae angen i ni ddiogelu'r busnesau hynny. Mae'n iawn ein bod yn annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus ac i adrodd am achosion lle ceir amheuaeth ar unwaith, ac mae'n hanfodol fod y Llywodraeth hon yn camu i'r adwy a chefnogi ein ffermwyr a'n busnesau gwledig gyda chymorth ariannol brys, oherwydd maent eisoes yn cael eu taro ar ddau ben yr M4.

Brechu yw'r allwedd, fel y dywedoch chi, ond mae'n amlwg yn gostus, fel sydd wedi'i amlinellu heddiw, ar adeg pan na all ffermwyr ei fforddio. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gefnogi costau brechu i ffermwyr yn ariannol, yn enwedig yn yr ardaloedd allweddol a nodwyd gennych, oherwydd, os na, onid yw hynny'n mynd i'n rhwystro rhag atal y lledaeniad? Ac os ydych chi'n mynd i'w wneud, pa bryd fydd y pecyn hwnnw o gymorth ar gael i'n ffermwyr a'n diwydiant?

Yn dilyn yr hyn a ddywedoch chi, rwy'n falch eich bod wedi dweud y byddwch chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn y dyfodol, oherwydd mae'n bwysig fod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae i dawelu meddwl ein ffermwyr a diogelu ein diwydiant yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn, yn enwedig pan fydd ein ffermwyr, fel y dywedodd Joyce Watson, yn teimlo wedi'u llethu. Diolch.

Diolch yn fawr. O ran iawndal ar gyfer anifeiliaid a gaiff eu difa, o ran y buddsoddiad yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar gyfer gwyliadwriaeth, a bod y costau ar gyfer brechu yn disgyn ar ffermwyr, mae'n union yr un llwybr ag sy'n cael ei ddilyn yn Lloegr. Rwy'n ail-bwysleisio eto fod y costau i ffermwr o beidio ag achub y blaen ar y clefyd hwn yn llawer mwy sylweddol na pheidio â brechu. Felly, galwn ar ffermwyr i drafod gyda'u milfeddygon ac ystyried brechu os yw'n iawn iddynt hwy.

Y ddau beth arall yr hoffwn eu pwysleisio yw gwyliadwriaeth a chydymffurfiaeth: cydymffurfiaeth ffermwyr â'r rheolau sydd gennym ar waith; cydymffurfiaeth arwerthwyr wrth hwyluso'r rheolau hynny; cydymffurfiaeth milfeddygon wrth sicrhau bod eu ffermwyr yn gwybod beth yw'r rheolau a'u bod yn cydymffurfio â nhw. Y ffordd y llwyddwn i gadw'r clefyd hwn allan, hyd yn oed gyda'r pedwar digwyddiad hyn, yw pwysleisio bod angen i bawb chwarae yn ôl yr un rheolau i ddiogelu pob ffermwr yma yng Nghymru. Diolch.

15:30
4. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Jenny Rathbone.

Diolch yn fawr. Irene Steer oedd y Gymraes gyntaf i ennill medal aur Olympaidd. Ganwyd Irene ym 1889 yng Nghilgant Guildford, drws nesaf i'r baddondy cyhoeddus cyntaf yng Nghaerdydd. Pan symudodd y teulu i Ffordd Tŷ Draw, roeddent ond ychydig funudau o gerdded o lyn parc y Rhath, lle hyfforddodd Irene i ddod yn nofwraig mor rhagorol. O 1907 i 1913, enillodd bencampwriaeth Cymru bob blwyddyn am saith mlynedd. Fe'i disgrifiwyd gan y wasg ar y pryd fel nofwraig hardd, daclus a hynod o osgeiddig.

1912 oedd y flwyddyn gyntaf i fenywod gael cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Roedd llai na 50 o fenywod ymhlith y 2,500 o athletwyr a gymerodd ran yn Stockholm. Roedd tîm nofio ras gyfnewid dull rhydd Prydain yn ffefrynnau gan eu bod wedi torri record y byd flwyddyn ynghynt. Nid oeddent yn cael yr un gefnogaeth ag y mae Olympiaid heddiw yn ei chael. Hebryngwr a aeth gyda chystadleuwyr ras gyfnewid dull rhydd Prydain, nid hyfforddwr, ac roedd yn rhaid i deulu Irene dalu am ei gwisg nofio sidan, ei chap a'i bathodyn, yn ogystal â'i chostau teithio i Stockholm. Irene Steer a nofiodd olaf, fel y nofwraig angor, i gipio'r fedal aur a chadw eu record byd.

Bu’n rhaid i Gymru aros 96 mlynedd i fenyw arall o Gymru ennill medal aur Olympaidd, pan enillodd Nicole Cooke fedal aur am feicio yn 2008. Yn rhyfeddol, roedd wyrion Irene yn gwybod ei bod yn un o gefnogwyr brwd clwb pêl-droed Dinas Caerdydd, ond ni wyddent unrhyw beth am ei chyflawniadau pan oeddent yn tyfu i fyny, ond a bod yn deg, nid oedd llawer o bobl eraill, y tu hwnt i’r byd chwaraeon, yn gwybod amdanynt chwaith. Cafodd hynny ei gywiro fis diwethaf gyda dadorchuddio plac porffor i Irene Steer wrth lyn parc y Rhath, y diweddaraf o’r placiau porffor i fenywod nodedig Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Bob blwyddyn, mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn cynnal digwyddiad y Great British Beach Clean fel rhan o'u rhaglen Beachwatch. Ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o gymryd rhan mewn digwyddiad glanhau ar draeth Talacre yn fy rhanbarth. Bydd pob potel blastig, pecyn creision a darn o rwyd a godais i a fy ngrŵp yn rhan o ganfyddiadau adroddiad y Gymdeithas Cadwraeth Forol ar gyflwr ein traethau ar gyfer 2025. Dyna rym y digwyddiadau hyn, onid e? Maent yn mynd ymhellach na glanhau ein hamgylchedd morol yn unig. Mae cofnodi'r hyn a ganfuom yn golygu y gallwn ddefnyddio gwyddoniaeth dinasyddion i greu polisi effeithiol a gwybodus i ddod o hyd i atebion i atal sbwriel morol yn y ffynhonnell. Mae'n troi diwrnod ar y traeth yn dystiolaeth gadarn dros newid, a newid, wrth gwrs, yw'r hyn sydd ei angen arnom yn daer.

Yn 2024, nododd y Gymdeithas Cadwraeth Forol gynnydd o 4 y cant ar gyfartaledd yn y sbwriel ar draethau Cymru. Canfuwyd fod sbwriel sy'n gysylltiedig â diodydd yn llygru 99 y cant o'n traethau yma yng Nghymru, gyda photeli gwydr wedi'u canfod ar bron i hanner y rhain. Mae darnau o wydr, fel y gwyddom, yn peri risg wirioneddol i bobl, i fywyd gwyllt ac i anifeiliaid anwes, ac mae'n ein hatgoffa pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â phob math o lygredd, nid plastig yn unig. Dyna pam y mae angen inni weld cynllun dychwelyd ernes sy'n cynnwys plastig, alwminiwm a gwydr, gan sicrhau nad yw'r ystadegau brawychus hyn yn dod yn norm yn y blynyddoedd i ddod.

Fe wnaethom gasglu 1,000 o ddarnau o sbwriel yn ystod ein sesiwn fer yn Nhalacre. Yn ôl yr hyn a welais gyda'r gwirfoddolwyr yno, mae'r angerdd dros newid ar lawr gwlad yn ddiymwad. Rhaid inni sicrhau polisi effeithiol i fynd gyda'r egni hwnnw, gan atgyfnerthu'r ymdrechion ar ein traethau a throi'r llanw ar sbwriel.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Nesaf mae'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Jane Hutt.

Cynnig NNDM8994 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Alun Davies (Llafur Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Jane Hutt 15:34:43
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Rwy'n cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Senedd

Yn awr mae'r cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Senedd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Jane Hutt.

Cynnig NNDM8993 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Lesley Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

15:35
Member (w)
Jane Hutt 15:35:03
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Rwy'n cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar dipio anghyfreithlon

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar dipio anghyfreithlon. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8981 Mick Antoniw, Janet Finch-Saunders, Jane Dodds, Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar dipio anghyfreithlon i wneud i lygrwyr dalu am gostau clirio ac i gryfhau mesurau ataliol.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai cryfhau deddfwriaeth a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon o ran:

a) ei gwneud yn ofynnol i droseddwyr dalu costau llawn ymchwiliadau a chlirio a wneir gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru neu unigolion preifat;

b) ei gwneud yn ofynnol i ynadon orchymyn atafaelu cerbydau ym mhob achos o dipio anghyfreithlon profedig;

c) darparu hyfforddiant priodol i ynadon i wella dealltwriaeth o effaith lawn tipio anghyfreithlon ar gymunedau, yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd; a

d) gosod gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders, Jane Dodds a Carolyn Thomas am gyd-gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol gan Aelod. Ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelodau a chefnogwyr unigol y grŵp trawsbleidiol ar daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a lleihau gwastraff, yr wyf yn ei gadeirio, am helpu i lunio'r cynnig deddfwriaethol hwn.

Heddiw, fel pob dydd yng Nghymru, bydd 115 achos o dipio anghyfreithlon yn digwydd. Dyna gyfartaledd o bump am bob awr o bob dydd. Ar lonydd gwledig, y tu allan i safleoedd busnes, ar briffyrdd, ar lannau afonydd, mewn ardaloedd trefol, wrth giatiau ffermydd, yng Nghymru ar hyn o bryd, mae'n dymor agored ar dipio anghyfreithlon. Roedd y 42,000 achos o dipio anghyfreithlon yng Nghymru yn 2023-24 yn gynnydd o 20 y cant ar lefelau cyn y pandemig, ac yn gynnydd enfawr o 31 y cant ar y lefelau 10 mlynedd yn ôl.

Yn 2015, ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy gyhoeddi ei strategaeth tipio anghyfreithlon, a oedd â'r nod o sicrhau

'dyfodol i Gymru heb y niwed cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol annerbyniol a achosir gan dipio anghyfreithlon.'

Ac wrth inni agosáu at ddeng mlynedd ers cyhoeddi'r adroddiad, mae'n debyg y gallwn gytuno nad yw wedi cael yr effaith yr oedd pawb wedi gobeithio y byddai'n ei chael. Ddegawd yn ddiweddarach, ymddengys nad nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yw'r unig fetrig sy'n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae'r gyfradd erlyn, a oedd eisoes yn fach iawn yn 2015, wedi gostwng o 0.3 y cant i lai na 0.25 y cant. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu nad yw digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn cael eu hadrodd yn ddigonol, gyda dim ond traean—36 y cant o bobl—sydd wedi gweld tipio anghyfreithlon yn dweud eu bod wedi rhoi gwybod amdano i'r heddlu. Mewn gwirionedd, nid yw bron i chwarter y bobl yn y DU yn gwybod bod tipio anghyfreithlon yn drosedd.

I grynhoi, yng Nghymru, mae'n annhebygol iawn y bydd rhywun yn rhoi gwybod i'r heddlu eich bod yn tipio'n anghyfreithlon, ac mae hi bron yn sicr na chewch eich erlyn. Golyga hyn fod tipwyr anghyfreithlon yn cael rhwydd hwynt bron i wneud fel y mynnont. Wedi'u gorlethu gan nifer y troseddau, mae awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi i ddarparu mwy a mwy o adnoddau i lanhau ar ôl achosion o dipio anghyfreithlon, yn aml ar draul gweithgarwch gorfodi ac ymchwiliadau, sy'n parhau'r cylch dieflig. Mae hyn yn glir iawn pan fyddwch yn siarad ag awdurdodau lleol. Fel y soniais o'r blaen, dywedodd un awdurdod lleol wrthyf eu bod wedi rhoi'r gwybod i'r heddlu am 400 achos o dipio anghyfreithlon bob mis, ac er bod lluniau teledu cylch cyfyng o lawer o'r troseddau hyn ar gael, nid oedd digon o adnoddau i archwilio'r dystiolaeth a mynd ati i erlyn.

Tipio anghyfreithlon yw'r term cyffredin i ddisgrifio gwastraff sy'n cael ei adael yn anghyfreithlon ar dir. Mae trosedd tipio anghyfreithlon, a throseddau ychwanegol tipio anghyfreithlon 'a achosir yn fwriadol' neu 'a ganiateir yn fwriadol', wedi'u nodi yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae rhai perchnogion tai yn tipio'n anghyfreithlon, ac mae hynny'n aml yn digwydd am eu bod yn ceisio osgoi anghyfleuster. Mae'r bobl hyn yn gweithredu'n anghyfreithlon a heb unrhyw barch at yr amgylchedd na'u cymuned. Serch hynny, mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i sut i'w gwneud yn haws i aelwydydd, yn enwedig y rheini heb drafnidiaeth at eu defnydd, gael gwared ar eitemau mawr yn gyfrifol.

Mae addysg hefyd yn fater pwysig, a chydnabyddir hyn yn strategaeth 2015 Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae ymchwil yn dangos bod llawer o ddeiliaid tai yn anymwybodol fod ganddynt ddyletswydd gofal gyfreithiol i wirio bod unrhyw un y maent yn eu defnyddio i fynd â'u gwastraff domestig a chael gwared arno wedi'u cofrestru.

Fodd bynnag, mae'r mwyafrif helaeth o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yn ganlyniad i droseddu bwriadol gan fusnesau amheus, sy'n dod yn fwyfwy cyfundrefnol. Pa un a yw'r troseddwr yn dipiwr anghyfreithlon masnachol, sy'n tipio'n anghyfreithlon i osgoi ffioedd gwaredu, neu'n dipiwr anghyfreithlon troseddol cyfundrefnol sy'n tipio'n anghyfreithlon am arian, er enghraifft wrth godi tâl ar bobl am fynd â gwastraff y maent wedyn yn ei ddympio, mae'r troseddwr yn gwneud cyfrifiad cost a budd syml: beth yw'r perygl o gael fy nal, ac os caf fy nal, a allaf ymdopi ag unrhyw oblygiadau ariannol? Mae'r cynnydd sylweddol mewn achosion o dipio anghyfreithlon yn awgrymu bod tipio anghyfreithlon, yn gynyddol, yn opsiwn masnachol da. Mae'n eithaf amlwg nad oes unrhyw fesur ataliol credadwy ar waith, a hyd nes yr awn i'r afael â hyn, bydd lefelau tipio anghyfreithlon yn parhau i gynyddu.

Yr hyn sydd hefyd yn glir iawn yw bod pobl yn malio am dipio anghyfreithlon. Anaml y bydd diwrnod yn mynd heibio heb benawdau yn y wasg genedlaethol am gymuned sy'n cael ei heffeithio gan dipio anghyfreithlon. A bydd yr Aelodau wedi sylwi bod cymunedau yng Nghymru yn cael sylw'n rheolaidd iawn. Mewn arolwg a gomisiynais yn gynharach eleni, dywedodd 86 y cant o bobl yng Nghymru y dylai tipio anghyfreithlon fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru, ac adroddodd 83 y cant fod tipio anghyfreithlon yn gwaethygu, neu o leiaf nad yw'n gwella, yn eu cymuned. Yn yr un arolwg, dywedodd dwy ran o dair o bobl fod y mesurau ataliol presennol yn rhy drugarog, ac roedd nifer tebyg yn cefnogi cyflwyno cosbau llymach.

Mae'r cynnig deddfwriaethol gan Aelod hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar sut y gallwn wella'r mesurau ataliol presennol i'w gwneud yn addas i'r diben. Yn gyntaf, mae'r cynnig yn galw am ddefnyddio'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu mewn perthynas â thipio anghyfreithlon. Byddai hyn yn golygu mai'r troseddwr a fyddai'n gyfrifol am dalu holl gostau'r awdurdod lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys ymchwiliadau, glanhau a threuliau cyfreithiol. Mae angen inni lunio system lle mae atal ac erlyn tipio anghyfreithlon o leiaf yn niwtral o ran cost i'r awdurdod lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru. Gan adeiladu ar hyn, gellid cymell awdurdodau lleol i fuddsoddi yn eu gweithrediadau atal tipio anghyfreithlon, gyda chymelliadau'n gysylltiedig â llai o achosion o dipio anghyfreithlon ac erlyniadau llwyddiannus.

Credaf y byddai hyn yn fesur ataliol pwysig, ac y byddai, i lawer iawn o weithredwyr masnachol amheus, yn troi'r fantol cost a budd i'r cyfeiriad cywir. Ond nid yw hyn yn golygu na ddylid defnyddio cosbau eraill. Mae gan hysbysiadau cosb benodedig, er enghraifft, rôl i'w chwarae, yn enwedig mewn perthynas â thipio anghyfreithlon ar raddfa fach, fel gadael bagiau bin du wrth ymyl bin sbwriel—mater y tynnodd y Prif Weinidog sylw ato yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, mae nifer yr hysbysiadau cosb benodedig am dipio anghyfreithlon yn gostwng—i lawr 8 y cant—a dim ond £400 yw'r gosb uchaf, o gymharu â £1,000 yn Lloegr. Ar gyfartaledd, dim ond un hysbysiad cosb benodedig yr wythnos y mae awdurdodau lleol yn ei gyhoeddi.

Ar hyn o bryd, mae gan y llysoedd ystod o fesurau ataliol sylweddol y gallant eu defnyddio, ond anaml y cânt eu defnyddio i'w graddau llawn. Er enghraifft, mae dirwyon diderfyn yn bosib, ond nid yw 70 y cant o erlyniadau'n arwain at unrhyw ddirwyon o gwbl. O'r dirwyon a roddir, ychydig dros £500 yw'r gosb gyfartalog. Fel y dywedais wrth fy ngyd-Aelodau o'r blaen, yn ardal yr awdurdod lleol gyda'r nifer mwyaf o erlyniadau, y ddirwy fwyaf a roddwyd oedd £2,000 yn unig. Mae gan lysoedd awdurdod i atafaelu cerbydau. Nid yw nifer y cerbydau sy'n cael eu hatafaelu yn cael ei goladu'n ganolog, ond o wybodaeth a gefais gan awdurdodau lleol unigol, ymddengys mai anaml iawn y mae hyn yn digwydd. I weithredwyr masnachol amheus, nid yn unig fod atafaelu cerbydau yn gosb ariannol, mae'n amhariad sylweddol ar eu gweithrediadau. Dyna pam fod y cynnig deddfwriaethol hwn yn gofyn, lle ceir tystiolaeth o dipio anghyfreithlon, fod rhagdybiaeth y bydd y cerbyd yn cael ei atafaelu.

Mae angen i ni geisio pwerau hefyd i roi pwyntiau cosb pan fo pobl yn defnyddio neu'n caniatáu i'w cerbydau gael eu defnyddio ar gyfer tipio anghyfreithlon. Mae nifer o'r sefydliadau cefnogol a gynrychiolir yn y grŵp trawsbleidiol yn dweud wrthyf—

15:40

A gaf i ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ymateb y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet i hyn? Credaf ei fod yn deall hanfod yr angen i gael deddfwriaeth ar waith—deddfwriaeth benodol—ac efallai y byddwch chi mor hael a rhoi hanner munud i mi ymateb, Ddirprwy Lywydd.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mick, a gaf i ddiolch i chi am fynd ar drywydd y mater hwn? Mae'n anrhydedd bod yn aelod o'ch grŵp trawsbleidiol a gwn eich bod wedi gweithio'n galed iawn gydag eraill, gan gynnwys Cadwch Gymru'n Daclus a sefydliadau eraill, gan y credaf fod pob un ohonom wedi cael llond bol ar weld ein cefn gwlad, ein hardaloedd trefol, lle mae pobl yn taflu hen soffas, matresi—pethau, mewn gwirionedd, os gallant yrru i'r mannau hyn, gallant yrru i ble mae'r cyngor yn eu derbyn yn gyfreithlon.

Felly, fel y mae Mick eisoes wedi'i ddweud, roedd 40,000 achos o dipio anghyfreithlon yng Nghymru y llynedd yn unig, £2 filiwn ar gyfer costau glanhau, a 102 o erlyniadau mewn blwyddyn. Nid yw 102 o erlyniadau am y nifer hwnnw o achosion o dipio anghyfreithlon yn agos at fod yn ddigon.

Mae gwir angen diwygio brys ar gyfer tipio anghyfreithlon. Bydd y Bil arfaethedig hwn yn sicrhau bod llygrwyr yn talu am y costau glanhau, fel y dylent, gan y gellid rhyddhau'r £2 filiwn sy'n cael ei wario ar hyn o bryd a'i ailgyfeirio i wasanaethau hanfodol eraill. Ond mae angen inni gryfhau'r mesurau ataliol.

Mae newid meddylfryd yn hanfodol os ydym am weld newid gwirioneddol. Yn rhy aml y dyddiau hyn, nid oes yr un pwyslais ar gyfrifoldeb personol, ar sicrhau nad ydym yn taflu sbwriel a'n bod yn mynd â'n sbwriel adref, ag a welwyd yn y gorffennol. Rwyf wedi dweud hyn fwy nag unwaith gyda'r Bil smacio—beth bynnag yr hoffwch ei alw, y Bil cosb resymol—buaswn wedi cael smacen ar fy nghoesau pe bawn wedi gollwng papur lapio lolipop ar lawr. Mae angen i gymdeithas wneud yn well na hyn nawr. Mae angen inni ddychwelyd at y ffordd honno o ddisgyblu a'r ffordd honno o feddwl.

Fe gymerais ran mewn digwyddiad glanhau traeth yr wythnos o'r blaen, ac roedd teulu hyfryd ar y traeth yn gofyn i mi beth oeddem yn ei wneud, gyda rhai ohonom yn casglu'r bagiau du ac ati, a dywedodd wrthym, 'Rydych chi'n gwneud gwaith da iawn'. Dychwelais hanner awr yn ddiweddarach, roeddent wedi gadael, ac roeddent wedi gadael eu holl sbwriel hefyd. Ag ystyried mai oedolion oedd y rheini, a fy mod yn gofyn iddynt yn garedig, gallech feddwl—ac roedd gennyf gymaint o gynorthwywyr yn helpu. Nid wyf yn gwybod sut y gall pobl fod mor wynebgaled.

Yn bendant, mae arnom angen llawer mwy o bwysau ar y cynghorau i orfodi, a sicrhau nad ydynt ar eu colled. Oherwydd rydym yn dal i ofyn i awdurdodau lleol wneud pethau, ond yn aml, ni allant fforddio gwneud hynny, nid oes ganddynt yr adnoddau. Mae angen inni sicrhau bod gennym gymelliadau ymarferol fel cael biniau wedi'u gwagio'n rheolaidd. Yn rhy aml, gwelwn finiau baw cŵn yn orlawn. Mae pobl yn parhau i lenwi'r biniau sbwriel y mae'r cyngor yn eu darparu, er y gallent fynd â'u sbwriel eu hunain adref.

Mae angen inni fynd i mewn i ysgolion a hysbysebu i'n plant, oherwydd, fel y dywedaf, roedd arnaf ofn gollwng unrhyw sbwriel. Nid oedd yn digwydd. Roeddech chi'n ei roi yn eich poced ac yn mynd ag ef adref. Mae angen inni ddarparu hyfforddiant gwell a phriodol i ynadon er mwyn gwella eu dealltwriaeth lawn o effaith tipio anghyfreithlon ar gymunedau. Gyda phopeth sy'n digwydd yn y gymdeithas heddiw, mae'n debyg nad yw'n ymddangos mor bwysig â hynny—wel, mae'n bwysig.

15:45

O, mae’n ddrwg gennyf. Ie, iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi y bydd y mesurau ataliol cryfach a nodir yn y cynnig hwn yn sicr o helpu i fynd i'r afael â her tipio anghyfreithlon a thacluso ein cymunedau lleol?

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mick am y gwaith eithriadol o bwysig y mae wedi ei wneud gyda hyn, gyda'r grŵp trawsbleidiol hefyd. Mae'n bwnc sydd mor eithriadol o bwysig. Rwy'n sylweddoli nawr nad wyf wedi dod â'r peth cywir i mewn gyda fi, felly fe wnaf ei ffeindio ar fy sgrin.

Mae nifer o achosion o dipio anghyfreithlon wedi achosi llawer iawn o ddicter i bobl yn lleol. Mae nifer o fy etholwyr wedi ysgrifennu ataf i dynnu fy sylw at sut y mae tipio anghyfreithlon yn broblem barhaus mewn sawl ardal yn ôl pob golwg, yn enwedig yng Nghaerffili. Ar gomin Gelligaer a Merthyr, mae gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus i gyfyngu ar fynediad i gerbydau wedi'i roi ar ardal Cefn Brithdir ar y tir comin hwnnw. Bydd yn weithredol am dair blynedd. Yn aml, mae gan y tir comin hwn broblemau gyda gwastraff anghyfreithlon yn cael ei ddympio ar y mynydd. Rwyf wedi gweld y tomenni sbwriel yno fy hun gydag un o'r parcmyn. Mae llawer o'r gwastraff yn fasnachol, sy'n golygu bod pobl yn cael eu talu yn ôl pob tebyg i lygru ein llethrau.

Rwyf wedi cael cwyn hefyd gan etholwr am y sbwriel sy'n cael ei ddympio ar gomin Eglwysilan. Mae'r etholwr yn hoffi beicio mynydd. Yn aml, rhaid iddynt ddod oddi ar eu beic am fod yr olwynion wedi mynd yn sownd yn y sbwriel. Gellir gweld y dilyw hwn o sbwriel ar hyd y comin. Mae'r trigolion wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau casglu sbwriel, ond mae'r sbwriel yn ei ôl o fewn dyddiau. Mae'r cyngor, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi gosod arwyddion i awgrymu bod y mynydd yn cael ei fonitro. Ond yn amlwg, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr ymddygiad hwn.

Mae grwpiau casglu sbwriel yn gwneud gwaith gwych wrth gwrs. Rwyf wedi talu teyrnged yma o'r blaen i'r Penpedairheol Pickers, sy'n mynd allan unwaith y mis. Rwyf wedi bod allan gyda nhw ar sawl achlysur. Mae'r grŵp hwnnw'n cael ei redeg gan y Cynghorydd Haydn Pritchard. Maent yn grŵp gwych o bobl. Unwaith eto, ni ddylent orfod gwneud hyn. Mae'n rhwystredig iawn ceisio deall pam y mae'r ymddygiad hwn yn parhau.

Wrth gwrs, mae hyn yn digwydd ar raddfa fasnachol, fel y clywsom. Gyda pheth o'r hyn a welir ar gomin Gelligaer a Merthyr, mae'r gwastraff yn cael ei dipio ar raddfa ddiwydiannol, ond mae hynny'n dechrau pan fydd pobl, fel y nododd Janet, yn gadael ychydig o sbwriel ar y traeth neu rywbeth felly. Weithiau, fe welwch rywun sydd o fewn pellter cerdded i fin—gallai fod lle mae'r piler hwnnw oddi wrthyf i—ac eto maent yn dal i'w daflu ar lawr. Felly, yn amlwg, mae angen gwneud llawer yma mewn addysg hefyd, ac rydym wedi trafod hyn yn y grŵp trawsbleidiol.

Ond Ysgrifennydd y Cabinet, o ran cryfhau mesurau ataliol, tybed beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod llygrwyr yn talu am yr hyn y maent yn ei wneud. Mae cynnig Mick yma wedi cyflwyno nifer o gamau gweithredu a allai helpu. Rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth fwrw ymlaen ag ef.

Diolch yn fawr iawn, unwaith eto, i Mick am bopeth mae e wedi bod yn ei wneud ar hyn.  

15:50

Hoffwn innau hefyd ddiolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac am ei waith parhaus yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol yr wyf i'n aelod ohono, ac y mae ei adroddiad diweddar, 'Which Wales Do We Want to See?', yn hynod amserol. Mae'n rhybuddio ein bod yn cyrraedd pwynt di-droi'n-ôl. Mae tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn cyrraedd lefelau epidemig, gan ddifetha ein cymunedau, dinistrio bywyd gwyllt, a niweidio ein hiechyd a'n lles. Mae dympio sbwriel yn peri bygythiad gwirioneddol a pharhaol i natur. Gall ollwng cemegau gwenwynig i'n pridd a'n dyfrffyrdd, gan amharu ar ecosystemau bregus. Gall gwastraff plastig a metel ddal neu anafu bywyd gwyllt, a gall deunyddiau peryglus, fel asbestos neu olew, wenwyno'r cynefinoedd y ceisiwn eu diogelu. Bob tro y caiff sbwriel ei ddympio, ein bioamrywiaeth sy'n talu'r pris.

Ers 2020, mae Cymru wedi gweld cynnydd o 20 y cant yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon a gofnodwyd, ond gostyngiad o 8 y cant yn nifer yr hysbysiadau cosb benodedig. Mae'r gwahaniaeth hwnnw'n awgrymu nid yn unig fod y broblem yn tyfu, ond nad yw'r cyrff gorfodi yn gallu dal i fyny, gan roi hwb i'r rheini sy'n meddwl y gallant ddympio sbwriel ac osgoi cael eu dal. Mae hyn yn sicr yn ddigalon, ond mae'n dangos bod angen i rywbeth newid. Mae'r cosbau presennol yn aml yn rhy drugarog ac anghyson i atal troseddwyr. Byddai atafaelu cerbydau gorfodol yn anfon neges glir iawn: os ydych chi'n defnyddio eich fan neu eich lori i ddympio sbwriel, fe fyddwch yn ei cholli. Mae'r mesur hwn yn mynd at wraidd y broblem, gan dargedu gweithredwyr gwastraff didrwydded sy'n elwa o droseddau amgylcheddol.

Mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd gyda thoriadau ac nid oes ganddynt adnoddau na chapasiti i anfon casglwyr sbwriel allan i'n cymunedau ac ymhellach na chanol trefi. Byddai gofyniad fod troseddwyr yn talu costau llawn eu hymchwiliadau a gwaith glanhau i'w groesawu. Oherwydd y pwysau presennol, mae awdurdodau lleol wedi nodi'n glir na allant gyflawni dyletswyddau statudol ychwanegol heb gyllid priodol. Felly, os ydym am osod gofyniad statudol ar gynghorau i ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon, rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu'r cymorth ariannol angenrheidiol i sicrhau bod hynny'n ymarferol. Mae'r cynnig hwn yn gyfle go iawn i lanhau ein strydoedd, diogelu ein cefn gwlad ac anfon neges glir at droseddwyr na fydd tipio anghyfreithlon yn cael ei oddef.

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:53:44
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Mick am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac i'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau gwerthfawr.

Rwy'n credu y gallwn gytuno bod tipio anghyfreithlon yn fater enbyd ac yn niweidio cymunedau. Mae mwy y gallwn ac y dylem ei wneud, felly rwy'n croesawu'r ddadl hon. Ac eto, mae'n fater cymhleth iawn, ac fel y nodwyd, gall sicrhau canlyniadau gorfodi llwyddiannus fod yn heriol iawn. Mae'n galw am gamau gorfodi cydgysylltiedig, rhannu gwybodaeth, ac mae angen i bopeth gael ei ategu gan ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a negeseuon am gyfrifoldeb unigolion hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cael gwared ar rywfaint o'r cymhlethdod, fel y byddech yn cydnabod, rwy'n siŵr.

Rydym yn ariannu Taclo Tipio Cymru, sef rhaglen a reolir gan Cyfoeth Cenedlaethol Cymru sy'n ceisio creu rhwydwaith partneriaeth i gydgysylltu camau gweithredu ledled Cymru. Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydym wedi darparu £400,000 arall i Taclo Tipio Cymru, sy'n adeiladu ar y £1.2 miliwn a ddarparwyd gennym dros y tair blynedd flaenorol. Yr hyn y mae wedi'i wneud yw caniatáu i awdurdodau lleol gael mynediad at gyngor cyfreithiol arbenigol, rhannu arferion gorau ledled Cymru, treialu mentrau gorfodi, a hyd yn oed rhoi benthyg offer i helpu gyda'u hymchwiliadau.

Mae'r cyllid wedi caniatáu i Taclo Tipio Cymru gyflogi swyddogion gorfodi ar lawr gwlad yn y gogledd a'r de-ddwyrain. Mae'r swyddogion hyn yn darparu cymorth gorfodi i awdurdodau lleol, fel pethau ymarferol iawn—chwilio drwy domenni gwastraff anghyfreithlon, trefnu gweithrediadau ar y cyd ar gyfer cludwyr gwastraff, a hap-archwiliadau hefyd. Mae rhaglen Taclo Tipio Cymru hefyd yn ceisio atal tipio anghyfreithlon yn y lle cyntaf drwy ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chyfathrebu. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ledaenu'r negeseuon hynny am y rhan sydd gan bob un ohonom—pob dinesydd yng Nghymru—i'w chwarae yn cael gwared ar ein gwastraff yn gyfrifol, yn enwedig pan fyddwn yn talu i eraill wneud hynny ar ein rhan. Mae gan bawb gyfrifoldeb.

Mae'r cydweithio hwn, a ariennir ac a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn wahanol i unrhyw beth a geir mewn rhannau eraill o'r DU; rydym yn arwain y ffordd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod hefyd fod y ddadl sy'n cael ei harwain heddiw i dynnu sylw at rai o'r heriau sy'n dal i wynebu rheoleiddwyr ac eraill, i archwilio atebion posib ac i geisio dylanwadu, ar agenda'r Llywodraeth hon a rhai'r dyfodol. Rwy'n awyddus iawn, gyda llaw, i gyfarfod â chadeirydd y grŵp trawsbleidiol i drafod rhai o'r pwyntiau hyn ac i archwilio potensial rhai o'r cynigion.

Mae rhai o'r cynigion sydd gennym heddiw yn mynegi rhwystredigaeth gyda'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n cydymdeimlo â hyn, ac yn wir, rwy'n croesawu unrhyw gyfle i geisio gwelliannau, ond mae angen cydbwysedd yma, fel y bydd y cadeirydd, gyda'i gefndir cyfreithiol, yn ei ddeall, rwy'n siŵr. Er enghraifft, y galwadau llym i'w gwneud yn ofynnol i ynadon atafaelu a dinistrio cerbydau ar gyfer pob euogfarn o dipio anghyfreithlon. Mae cydbwysedd yma rhwng tanseilio annibyniaeth llys wrth roi dedfrydau cymesur—a ydym yn diystyru neu'n cyfyngu ar yr annibyniaeth honno? Ond fe ddylem archwilio hyn.

Mae rhai cynigion diddorol ar bwyntiau cosb ar drwyddedau i'r rhai sy'n tipio sbwriel yn anghyfreithlon neu'n taflu sbwriel o'u cerbydau—mae hynny'n eithaf diddorol, ond mae'n debyg y byddai angen ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Ceir galwadau i gryfhau'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu, ac fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu yn sail i lawer o'r polisi sydd gennym yng Nghymru. Eisoes, gall llysoedd roi cosbau ariannol i dalu am lanhau ac ymchwiliadau a chostau gorfodi, ond mae'r cynnig yn awgrymu y gallwn wneud mwy. Felly, unwaith eto, rwy'n croesawu trafodaeth ar y pwyntiau hyn.

Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o ymdrechion Grŵp Cenedlaethol y DU dros Atal Tipio Anghyfreithlon, y mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn aelodau ohono, i weithio gyda rheoleiddwyr i wella cryfder erlyniadau, ac mae hyn yn cynnwys darparu canllawiau cliriach. Credaf fod cynnydd yn cael ei wneud, ond rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud ac y dylid ei wneud gan y Llywodraeth hon a'r nesaf yn y maes hwn. Mae'n cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi ble gallwn gydweithio i sicrhau mwy o gysondeb yn y camau gorfodi a gymerir yn erbyn tipwyr anghyfreithlon. Oherwydd mae peth o'r gweithgarwch tipio anghyfreithlon yn droseddol iawn, ac mae rhwydweithiau y tu ôl iddo.

Yn gyffredinol, rwy'n gefnogol iawn i newidiadau a fyddai'n cryfhau camau gorfodi yn erbyn tipwyr anghyfreithlon. Yn y cynnig hwn, rwy'n credu bod angen trafodaethau pellach, a mireinio'r cynigion ymhellach yn ôl pob tebyg. Felly, hoffwn estyn cynnig diffuant i gyfarfod â chadeirydd y grŵp trawsbleidiol i drafod y cynigion hyn ymhellach. Yn realistig, rwy'n siŵr fod y cadeirydd yn ymwybodol ei bod hi'n annhebygol iawn y bydd slot deddfwriaethol ar gael ar gyfer gwneud cynnydd ar hyn yn nhymor y Senedd hon. Mae'n ddigon llawn gyda'r ddeddfwriaeth amgylcheddol sydd gennym eisoes. Ond rwy'n credu y byddai rhai trafodaethau defnyddiol yn helpu i archwilio rhywfaint o'r syniadau y tu ôl i'r cynigion unigol, ac eraill o bosib, ac yn caniatáu inni roi ystyriaeth bellach i unrhyw oblygiadau a heriau posib.

Diolch i'r cadeirydd ac i'r Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu heddiw, ond hefyd, rhaid dweud, i bawb ledled Cymru, yn wirfoddolwyr a chyrff statudol, yn swyddogion gorfodi ac eraill, sy'n gweithio'n ddiflino i warchod ein cymunedau rhag malltod tipio anghyfreithlon. Os yw'r cadeirydd am dderbyn y cynnig, edrychaf ymlaen at ymgysylltu ymhellach ar rai o'r syniadau hyn. Diolch yn fawr.

15:55

Fe fyddaf yn gryno iawn, Gadeirydd, ac rwy'n ddiolchgar am yr ychydig amser ychwanegol. Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i gyfarfod â chi i drafod hyn. Wrth gwrs, ni fyddaf yn sefyll yn yr etholiadau nesaf ac nid wyf o dan unrhyw gamargraff ynghylch realiti deddfwriaeth. Diben y cynnig hwn yw dwyn ynghyd yr holl ddeddfwriaeth berthnasol bresennol, ei chydgrynhoi, ei diwygio a'i chryfhau, a darparu ffocws deddfwriaethol clir er budd awdurdodau lleol, dinasyddion a'r barnwriaethau. Fy ngobaith yw y gallwn weithio fel bod hwn yn fater trawsbleidiol nad yw'n ddadleuol, ond a fydd yn darparu sail ar gyfer deddfwriaeth yn ystod y Senedd nesaf. Ac i'r diben hwnnw, ar 29 Ionawr, bydd y grŵp trawsbleidiol yn cynnal sesiwn friffio, nid yn unig i Aelodau'r Senedd, ond i bawb a allai fod yn sefyll fel ymgeiswyr. Felly, bydd cyfarfod briffio'n cael ei gynnal i baratoi'r ffordd ar gyfer hynny, ac rwy'n cytuno, mae cryn dipyn o waith i'w wneud. Mae'n faes cymhleth, ond rwy'n siŵr y gallwn baratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth yn y Senedd nesaf. Diolch yn fawr.

16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1489, 'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1489, 'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas.

Cynnig NDM8987 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1489 'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru’ a gasglodd 10,934 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae gwenoliaid duon yn anhygoel. Nhw yw'r adar cyflymaf wrth hedfan yn wastad ar y blaned, a gallant symud yn gyflymach na 100 km yr awr. Maent yn cysgu, yn bwyta, yn yfed ac yn paru ar yr adain. Ond gwenoliaid duon hefyd yw'r adar y mae eu niferoedd yn gostwng gyflymaf yng Nghymru. Mae ffigurau diweddaraf yr arolwg adar nythu yng Nghymru yn dangos bod y gostyngiad bellach yn fwy na 76 y cant ers 1995, hyd yn oed yn waeth nag ers i'r ddeiseb gael ei chyflwyno, a bu gostyngiad o 56 y cant yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig. Ar draws y DU, roedd 59,000 o barau nythu yn y cyfrif swyddogol diwethaf, ac mae arbenigwyr yn ofni y gallai fod mor isel â 40,000 yr haf hwn.

Mae gwenoliaid duon ar y rhestr goch fel adar o bryder cadwraethol, ac un o brif achosion y dirywiad brawychus hwn yw colli safleoedd nythu, a dyna pam y mae ymgyrchwyr wedi bod yn dadlau dros osod briciau gwenoliaid duon ym mhob tŷ newydd. Briciau gwag sy'n slotio i mewn i waith briciau cartrefi newydd neu hen yw briciau gwenoliaid duon, gan ddarparu lle i wenoliaid duon allu nythu. Mae briciau gwenoliaid duon yn hawdd i'w gosod. Nid oes angen gwaith cynnal a chadw arnynt, na'u hailosod, ac fe'u gwneir gan gwmnïau cynhyrchu briciau mawr a bach. Fel arfer, dim ond tua £35 y maent yn ei gostio, ac nid yw briciau gwenoliaid duon yn caniatáu i wenoliaid duon fynd i mewn i adeiladau. Dim ond un ffordd i mewn ac allan sydd ynddynt.

Cyflwynwyd y ddeiseb gan Julia Barrell a denodd 10,934 o lofnodion. Cefnogir y ddeiseb a'i nod gan RSPB Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru a grwpiau cymunedol dinasyddion mewn pentrefi a threfi ledled y wlad, yn cynnwys cynrychiolwyr o fforwm ieuenctid Ymddiriedolaethau Natur Cymru. Ac mae'r testun yn darllen:

'Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru.

'Gwenoliaid duon yw'r adar cyflymaf wrth hedfan yn wastad a gallant gysgu, bwyta, yfed a pharu ar yr adain. Eu cri yw sŵn yr haf Cymreig. Yn anffodus, mae eu niferoedd yn gostwng yn gyflym—i lawr 72 y cant yn y 30 mlynedd diwethaf. Mae gwenoliaid duon yn nythu mewn tyllau mewn adeiladau. Mae gwaith adnewyddu’n amddifadu’r adar o’u cartrefi, ac nid oes ceudodau i’w cael mewn adeiladau newydd ar hyn o bryd. Heb fwy o opsiynau ar gyfer nythu, bydd gwenoliaid duon yn diflannu. Byddai ymgorffori briciau gwenoliaid duon ym mhob datblygiad newydd yn helpu gydag adferiad gwenoliaid duon (ac adar eraill sydd mewn trafferthion, megis gwenoliaid y bondo ac adar y to).'

Oherwydd graddau'r dirywiad yng Nghymru a'r dinistr parhaus eu safleoedd nythu na chânt eu gwarchod, mae ymgyrchwyr yn dadlau mai dim ond dull gorfodol o osod briciau gwenoliaid duon fydd yn darparu digon o leoedd nythu i ganiatáu i niferoedd gwenoliaid duon adfer i unrhyw beth yn debyg i'r lefelau blaenorol. Mae angen newid rheoleiddiol neu ddeddfwriaethol er mwyn i hynny ddigwydd.

Yn ogystal â chynnal gwenoliaid duon, canfuwyd bod y briciau hefyd yn helpu adar eraill sy'n nythu mewn ceudodau, yn cynnwys gwenoliaid y bondo, sydd ar y rhestr goch ac y mae eu niferoedd yn dirywio'n gyflym, adar y to a drudwennod. Bydd titwod tomos las, titwod mawr, telorion y cnau a drywod hefyd yn nythu yn y briciau.

Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi ymgysylltu â nifer o Weinidogion cyn cyflwyno'r ddadl hon. Mae cyfrifoldebau am fioamrywiaeth, cynllunio a thai yn perthyn i bortffolios gwahanol Weinidogion. Er bod pryder eang am sefyllfa gwenoliaid duon ac awydd cyffredinol i sicrhau eu bod yn gallu ffynnu, ceir pryderon ynglŷn â gosod dyletswydd newydd ar adeiladwyr tai a chanlyniadau anfwriadol posib ar gyfer targedau bioamrywiaeth ehangach.

Er bod briciau gwenoliaid duon yn angenrheidiol, ni fyddant yn ddigon ar eu pen eu hunain. Mae angen inni annog cynnydd yn yr ystod o bryfed hedfan bach y mae gwenoliaid duon yn bwydo arnynt. Mae niferoedd y rheini hefyd wedi bod yn dirywio. Er mwyn annog cynefin ar gyfer pryfed, mae angen gerddi anniben, mannau amwynder, ymylon ffyrdd na chaiff eu torri a choridorau bywyd gwyllt eraill. Mae'n waith i bob un ohonom, yn ogystal ag i gyrff cyhoeddus, i greu mannau bywyd gwyllt sy'n annog bioamrywiaeth. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn caniatáu inni archwilio'r pethau sydd eisoes yn cael eu gwneud a'r rhwystrau i weithredu pellach.

O ystyried ble rydym ni arni yn oes y Senedd hon, gydag etholiad ychydig fisoedd i ffwrdd, rwy'n deall efallai na fydd yn bosib cael deddfwriaeth ar friciau gwenoliaid duon yn y tymor hwn, ond mae'r ddadl hon heddiw yn rhoi cyfle i ni roi'r mater ar radar pob plaid wrth i bawb ohonom fynd ati i lunio maniffestos ar gyfer 2026.

Mae'r ddeiseb hon yn dadlau bod briciau gwenoliaid duon yn ffordd syml, gost isel o gefnogi ein rhywogaethau agored i niwed. Mae'r dirywiad cyflym yn niferoedd rhywogaethau yn golygu bod amser yn brin. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw ac at glywed syniadau a fydd yn galluogi niferoedd gwenoliaid duon i sefydlogi a dychwelyd i lefelau blaenorol. Diolch.

16:05

Yn anffodus, ni fydd pob Aelod sy'n dymuno siarad yn cael ei alw. Fe welwn ni sut mae'r amser yn mynd. Joel James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cefnogi gweithredu i wella bioamrywiaeth ac yn croesawu mentrau sy'n helpu rhywogaethau sy'n cael trafferth, fel y wennol ddu. Yn anffodus, mae'r boblogaeth o wenoliaid duon wedi bod yn gostwng yn gyflym, ac mae'r niferoedd yn y DU wedi gostwng bron 60 y cant ers 1995. Fel llawer o adar eraill, fel gwenoliaid y bondo, fel y soniwyd eisoes, ymunodd gwenoliaid duon â'r rhestr goch am y tro cyntaf yn 2021. Rhaid gwneud rhywbeth.

Dangoswyd bod briciau gwenoliaid duon yn darparu cynefin hanfodol i'r adar hyn ac maent yn gymharol rhad. Gellir eu gosod yn waliau allanol adeiladau yn gymharol hawdd. Er fy mod yn gefnogol iawn i'r briciau hyn gael eu gosod mewn adeiladau lle mae pobl eisiau helpu gwenoliaid duon ac adar tebyg i nythu, rwy'n ymwybodol o ambell beth. 

Yn gyntaf, fy mhrofiad i o'r adar hyn yw eu bod yn fudr iawn. Rwyf wedi aros mewn tai gyda nythod gwenoliaid duon o dan y bondo, ac mae'r wal a'r llawr yn syth oddi tanynt wedi'u gorchuddio'n llwyr gan eu baw. Er efallai na fydd hyn yn broblem i rai pobl sy'n croesawu'r adar, gallaf weld problemau iechyd posib ac adegau pan na fydd rhai pobl yn eu croesawu.

Yn ail, pan fyddwn yn siarad am adeiladau newydd yng Nghymru, er nad yw ambell dŷ newydd yma ac acw yn mynd i achosi problem, bydd gan ystadau tai newydd nifer mawr o friciau gwenoliaid duon wedi'u gosod mewn ardal fach, a gallai hyn arwain at nifer o broblemau anfwriadol. Gan gyffwrdd eto â'r baw y gallant ei adael, rwy'n poeni y bydd llawer o bobl yn gorchuddio'r briciau hyn yn y pen draw. Ond yn bwysicach fyth, gall poblogaethau crynodedig o wenoliaid duon effeithio ar rywogaethau eraill sy'n cystadlu am yr un cynefin a ffynhonnell fwyd.

Yn olaf, gallai problemau cynllunio posib godi yn nes ymlaen. Os oes gennych adar nythu yn eich cartref, ni allwch gael gwared arnynt os ydych chi am adeiladu estyniad neu wneud gwaith cynnal a chadw. Ar gyfer adeiladau newydd, ni fydd hyn yn achosi trafferth ar unwaith, ond mewn 10, 15 mlynedd, gallai fod yn broblem. Yn y pen draw, bydd yn rhaid i dai gael cymalau ar adar nythu, a gallai hyn atal prynwyr posib ac effeithio ar dargedau adeiladu tai yn y pen draw. 

Rwy'n gefnogol iawn i friciau gwenoliaid duon, ond rwy'n credu y bydd gorfodi adeiladwyr i'w gosod ym mhob adeilad newydd yn gamgymeriad. Yr hyn y byddai'n well gennyf ei weld fyddai cynllun cenedlaethol i sicrhau bod nifer priodol o friciau gwenoliaid duon ar gael mewn ardaloedd daearyddol penodol, gweithio'n agosach gydag adeiladwyr i nodi safleoedd nythu a allai fod yn dda a rhaglen i helpu adeiladwyr i'w gosod mewn mannau lle mae'r effaith yn fach iawn. Gallai hyn olygu bod tyrau adar yn cael eu hadeiladu'n bwrpasol a'u lleoli yn strategol ar ystadau newydd yn hytrach na'u rhoi'n uniongyrchol yng nghartrefi pobl.

Ddirprwy Lywydd, mae hon yn enghraifft o ddeiseb wych sy'n bendant wedi apelio at ddychymyg a denu sylw llawer o bobl yn y wlad hon, ond buaswn bob amser yn annog ymateb ystyriol a gwell dealltwriaeth gan y Llywodraeth o'r goblygiadau ehangach. Diolch.

Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ei waith ar y mater hwn ac i'r rhai wnaeth arwyddo'r ddeiseb. Mae eu hymroddiad i'r angen i ddiogelu'r wennol i'w glodfori, oherwydd nid aderyn yn unig ydy'r wennol, mae hi'n symbol o'n hafau. Pan ŷn ni'n clywed cân y wennol, rŷn ni'n gwybod bod yr haf wedi'n cyrraedd. Maent yn rhan o'n treftadaeth, a dylem ni fod yn falch ohonynt. Ond maen nhw yn diflannu. Ers 1995, mae'n debyg, mae'r wennol yng Nghymru wedi gostwng bron 76 y cant. Mae'n rhaid gweithredu, felly, ac mae'n rhaid inni greu gofod iddyn nhw allu ffynnu unwaith eto. Dylai'r gostyngiad yma rŷn ni wedi'i weld beri gofyn i ni oll. 

Nawr, pan wyf i'n sôn am greu gofod, wel, mae yna ffordd eithaf literal o allu gwneud hwnna. Gall friciau gwennol fod o fudd mawr. Maen nhw'n cynnig cartref clyd, saff i'r wennol. Hoffwn wybod a fydd y Llywodraeth yn fodlon ystyried beth allai gael ei wneud. Rwyf i'n deall na fydd yna amser, efallai, am ddeddfwriaeth newydd yn y Senedd yma, ond beth allai gael ei wneud er mwyn annog hyn yn y diwydiant? Dylem ni ddim gweld bod hyn yn faich, os oeddem yn edrych ar reoliadau adeiladu, ond yn hytrach fel rhywbeth ymarferol ein bod ni'n gallu ei wneud er mwyn helpu un o'n rhywogaethau eiconig ni. Mae'n gwenoliaid ni wedi bod yn rhan o'n hafau ers cenedlaethau ac mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod.

16:10

Gwnaeth Delyth Jewell ein hatgoffa ni heddiw am gân y wennol. Roedd pobl arfer holi, 'Ydych chi wedi clywed y wennol eto?', fel arwydd bod yr haf wedi cyrraedd. Wrth gwrs, dyw hynny ddim yn cael ei glywed mor aml bellach.

Dwi hefyd yn diolch i'r deisebydd a'r cefnogwyr. Fel y dywedodd y Cadeirydd, mae hwn yn un ffordd hawdd, ymarferol a rhad i helpu byd natur yng Nghymru, ac mae'n gweithio.

Canfu treialon ar ystad y Ddugiaeth fod y briciau hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan weld cyfradd defnydd o 96 y cant. Mae'r wennol ddu yn aderyn clasurol yn yr ynysoedd hyn, a byddai adfer y niferoedd yn helpu i ailgydbwyso ein hecosystemau. Rwy'n siŵr y bydd pobl yn yr adeiladau newydd, o safbwynt cysur, yn hapus i gael yr adar yno, oherwydd byddant yn gallu bwyta mosgitos, phryfed gleision a phlâu eraill a allai achosi anghysur gyda'r nos.

Nawr, mae briciau gwenoliaid duon wedi bod yn opsiwn ers blynyddoedd lawer. Bydd eu cynnwys mewn ystadau newydd yn helpu nodau bioamrywiaeth, ac fel y clywsom gan y Cadeirydd eisoes, bydd hefyd yn cynorthwyo adar brodorol eraill. Rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelod ar y pwyllgor, Joel James. Mae angen inni ystyried y canlyniadau anfwriadol yn llawn, ac fel y mae'r Cadeirydd eisoes wedi sôn, bydd amser i ystyried hynny'n llawn. Nid ydym yn mynd i weld deddfwriaeth ar frys mewn perthynas â hyn, felly byddwn yn gallu ystyried unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Ond wrth inni weld gwell inswleiddio'n cael ei gyflwyno, wrth inni weld nythod yn cael eu tynnu, bydd gwneud briciau gwenoliaid duon yn orfodol mewn adeiladau newydd yn lliniaru'r golled a welsom dros y blynyddoedd.

Byddwn ni'n gallu, unwaith eto yng Nghymru, glywed yn aml gân y wennol yn dweud bod yr haf yn cyrraedd. Diolch yn fawr. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Fel hyrwyddwr y wennol ddu yn y Senedd, diolch i Julia am ei deiseb, ac mae'n ddrwg gennyf fy mod yn hyrwyddwr mor wael yn yr ystyr nad ydym wedi gallu gwrthdroi'r dirywiad yn y rhywogaeth. Mae'n ofnadwy o drist ein bod yn dal i weld dirywiad, ac roeddwn yn siomedig ynghylch cyfraniad Joel James, ei fod yn creu llanast, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny'n wir am wenoliaid duon mewn gwirionedd. Rwy'n credu efallai eich bod yn drysu rhyngddynt a gwenoliaid neu wenoliaid y bondo. Mae'n aderyn mor anhygoel, ac mae ei gri eiconig ar noson o haf yn llawer rhy brin.

Mae yna dŵr gwenoliaid duon ar y morglawdd, sy'n allyrru'r sŵn y mae gwenoliaid duon sy'n nythu yn ei wneud er mwyn ceisio denu gwenoliaid duon, ond hyd y gwn i nid ydym erioed wedi cael gwenoliaid duon yn nythu yno. Oherwydd mae'n anodd, onid yw? Mae gwenoliaid duon yn dibynnu ar eu cof a byddant yn mynd yn ôl i ble'r aethant y flwyddyn flaenorol, fel llawer o adar mudol eraill. Yr unig le y gwn yn bendant ei fod yn gartref i wenoliaid duon yn yr haf yw ardal Trelái, oherwydd mae ganddynt adeiladau cymharol uchel ac yn gymuned sefydledig ers ymhell cyn i gymunedau tebyg gael eu hadeiladu yn fy etholaeth i.

Nid ydym yn mynd i roi briciau gwenoliaid duon mewn byngalos, oherwydd nid yw gwenoliaid duon byth yn mynd i fod eisiau nythu mewn byngalo, oherwydd mae'n llawer rhy isel. Adar yr awyr yw'r rhain. Rwy'n gwybod bod un o fy eglwysi lleol sydd â thŵr uchel iawn, eglwys Fictoraidd, wedi mynd i'r drafferth o osod briciau gwenoliaid duon, ond nid wyf wedi clywed eto fod unrhyw wenoliaid yn nythu yno. Felly, mae'n broblem gymhleth iawn. Pan fydd adeilad sydd â gwenoliaid yn nythu ynddo yn dod i lawr, os caiff adeilad ei godi yn ei le, mae angen inni sicrhau ei bod bob amser yn orfodol iddynt osod briciau gwenoliaid duon yno. Mae mor hawdd i'w wneud, ac maent yn costio cyn lleied â £25. Mae'r adeiladwyr i fyny yno beth bynnag. Nid oes neb arall byth yn mynd i fynd i fyny yno, felly hyd yn oed os oes ychydig o faw o gwmpas y nyth, nid yw'n fan y bydd unrhyw un yn eu hiawn bwyll yn mynd iddo. Nid oes angen unrhyw waith cynnal a chadw arnynt, nid oes mynediad i'r gofod to—fel y dywedodd Carolyn, un ffordd sydd; rhaid i chi fynd allan yr un ffordd ag y daethoch i mewn.

Canfu astudiaeth ym Mhrifysgol Sheffield na chaiff 75 y cant o'r blychau adar ac ystlumod a nodir fel amod caniatâd cynllunio yn dod i fodolaeth mewn gwirionedd. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet sut y gallem orfodi'r gofyniad fod disgwyl i adeiladau dros uchder penodol osod briciau gwenoliaid duon, oni bai bod rheswm da iawn pam na ddylent fod yno. Ond yr awdurdod lleol a ddylai orfodi'r amodau y maent wedi'u gosod a gyfer y datblygiad.

Ni allwn barhau fel hyn, ni fydd gennym wenoliaid duon ar ôl, ac ni fydd ein hwyrion byth yn eu clywed. Mae'n drasiedi, ac mae angen inni wneud mwy nawr i warchod a helpu'r aderyn ardderchog hwn i amlhau.

16:15

Wyddoch chi, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i'n caru gwenoliaid duon a gwenoliaid, ac weithiau nid wyf yn gwybod pa un yw pa un? Ond yr hyn a wyddom yw bod yna—

O, da iawn. Fe wyddom fod gostyngiad o 76 y cant wedi bod ym mhoblogaeth gwenoliaid duon Cymru ers 1995. Maent ar y rhestr goch o rywogaethau adar sy'n wynebu'r dirywiad mwyaf difrifol yn ôl Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Dyma'r rhywogaeth sy'n dirywio gyflymaf yng Nghymru. Hyd oes cyfartalog gwennol ddu yw naw mlynedd, ond mae cofnod o un a fu byw cyhyd â 21 mlynedd. Fel y soniais, mae'r adar gwych hyn ar y rhestr goch fel aderyn o bryder cadwraethol.

Un o'r prif resymau dros eu dirywiad yw colli safleoedd nythu addas. Maent yn cael trafferth dod o hyd i fannau priodol i adeiladu eu nythod, gan eu bod yn prinhau. Mae'r ddeiseb—. Diolch i'r holl ddeisebwyr, a diolch i Gadeirydd ein Pwyllgor Deisebau. Mae dyletswydd arnom, yn fy marn i, nawr fod gennym—. Rydym wedi gwella'r Pwyllgor Deisebau dros y blynyddoedd; mae dyletswydd arnom i wrando ar ein trigolion pryderus. Ac nid wyf yn oedi dim rhag rhoi cefnogaeth i osod briciau gwenoliaid duon. Nid yw'n costio llawer o arian i dŷ gael ei adeiladu gyda briciau gwenoliaid duon.

Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at y ffaith nad oes ceudodau addas ar gyfer nythu ar hyn o bryd. Mae hyn, ynghyd â dinistr safleoedd nythu heb eu gwarchod, yn codi pryderon difrifol am oroesiad hirdymor gwenoliaid duon yng Nghymru a ledled y DU. Maent eisiau cynnwys briciau gwenoliaid duon. Mae'r briciau hyn wedi'u cynhyrchu i safon BSI, yn fforddiadwy, yn gynaliadwy, yn hawdd i'w gosod, ac nid oes angen unrhyw waith cynnal a chadw arnynt. Rwy'n credu y bydd cynnwys briciau gwenoliaid duon yn wych i blant. Rydym yn ei weld gyda gwenoliaid y bondo pan awn dramor. Pa mor aml y gwelsom wenoliaid y bondo'n nythu? A dweud y gwir, gan fod ein hinsawdd yn cynhesu ychydig, rydym yn eu gweld yn ein gwlad ni, a chaiff plant eu swyno ganddynt. Ac rwy'n credu ei fod yn dysgu i blant am les anifeiliaid ac am fod yn unigolion tosturiol.

Rydym yn wynebu argyfwng natur. Bydd rhoi camau o'r fath ar waith yn helpu i fynd i'r afael â rhan o'r broblem. Rhaid i mi ddiolch i Julian o'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar am ei ymroddiad a'i waith parhaus. Mae'n un o fy etholwyr. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar adar ac am ddirywiad rhywogaethau, ac mae'n glod i'r RSPB. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n cytuno â mi fod angen rhoi camau ar waith ar frys i fynd i'r afael â'r dirywiad ym myd natur, yn cynnwys y dirywiad yn niferoedd gwenoliaid duon?

Diolch i gefnogwyr y ddeiseb yma am dynnu sylw at ddull syml ond effeithiol a allai gael ei ddefnyddio mewn adeiladau newydd er mwyn gwarchod gwenoliaid du. Mae hyn yn sicr yn werth ei archwilio ymhellach. Mae yna nifer yn etholaeth Arfon wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r mater, a dyma oedd gan un etholwr o Fangor i'w ddweud, a dwi'n ei ddyfynnu fo yn yr iaith wreiddiol:

'Rwyf wedi gosod blwch nythu i wenoliaid duon ar fy nhŷ ac wedi llwyddo i ddenu pâr nythu eleni, ond mae gosod briciau gwenoliaid duon mewn tai newydd yn isel iawn o ran y gost ac mae'n llawer mwy diogel na mentro i ben ysgol gyda bocs o dan eich braich. Yn ddiweddar, gwrthododd Llywodraeth y DU y syniad hwn yn y Bil Cynllunio a Seilwaith, gan honni bod yna ffyrdd eraill. Nid wyf yn siŵr pa mor ddiogel y mae Gweinidogion yn ei deimlo wrth fynd i ben ysgol. Mae hwn yn gyfle i Gymru ddangos y ffordd eto ar faterion amgylcheddol—bricsen fach yn y wal, gallech ddweud.'  

Diolch yn fawr.

16:20

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio nawr sydd yn cyfrannu—Rebecca Evans.

Diolch yn fawr, a diolch i'r Pwyllgor Deisebau, a hefyd i gyd-Aelodau am gyfraniadau angerddol iawn yn y ddadl y prynhawn yma ac am y cyfle i ymateb.

Rwy'n canmol y deisebydd am geisio mesurau i sicrhau adferiad natur, ac rwyf am fod yn glir iawn ar y dechrau fod bwriadau'r deisebydd yn cyd-fynd yn agos iawn â'n rhai ni. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn mynd â Bil newydd drwy'r Senedd i gryfhau ein hymateb i atal dirywiad natur. Bydd y Bil newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau bioamrywiaeth domestig statudol. Mae meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, sef diogelu ac adfer rhywogaethau a gwydnwch ecosystemau, yn cynnig potensial ar gyfer camau pellach i gefnogi poblogaethau gwenoliaid duon. Ac yn yr un modd, bydd y camau a gymerwn ar hyn o bryd i gydymffurfio â fframwaith bioamrywiaeth byd-eang y Cenhedloedd Unedig, fel y targedau 30x30, dros amser yn darparu manteision i boblogaethau adar, gan gynnwys gwenoliaid duon. Ac er y gallaf gytuno â'r ddeiseb y gall briciau gwenoliaid duon fod yn ateb effeithiol i helpu natur mewn rhai amgylchiadau, fy mhryder yw y gall ffocws rhy gul ar un math o aderyn neu ymyrraeth arwain at ganlyniadau anfwriadol. Rwyf am osgoi sefyllfa lle mae canlyniadau cyffredinol ar gyfer bioamrywiaeth yn llai na'r hyn yr ydym eisoes yn ei geisio yn rhan o'n fframweithiau deddfwriaethol a pholisi.

Mae polisi cynllunio eisoes ar waith i sicrhau bod datblygiadau newydd yn darparu budd net i fioamrywiaeth, a golyga hyn adael natur mewn cyflwr gwell nag o'r blaen. Mae modd gwneud hyn drwy ein dull seiliedig ar leoedd yn 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n ein galluogi i gael yr ateb cywir yn y lle iawn. Efallai mai'r pwynt pwysicaf yma yw y gallai ffocws ar osod briciau gwenoliaid duon fel yr unig gyfraniad at sicrhau budd net i fioamrywiaeth olygu bod datblygwyr yn osgoi gwneud gwaith ehangach, a mwy effeithiol o bosib, megis darparu planhigion sy'n denu pryfed peillio, creu pyllau, plannu gwrychoedd, neu adfer cynefinoedd sydd wedi dirywio.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Ni allaf weld pam y mae rhywbeth sy'n costio £25 y gellir ei wneud mewn un cam gan friciwr yn mynd i'w hatal rhag gwneud pethau eraill fel plannu gwrychoedd. Rwy'n gwrthwynebu'r ddadl rydych chi'n ei gwneud. Mae angen gweithredu ar wenoliaid duon am fod eu dirywiad mor drychinebus. Dyna pam y maent wedi'u cynnwys ar y rhestr goch.

Mae'r ddadl rwy'n ei gwneud wedi'i gosod o fewn y fframwaith deddfwriaethol a pholisi sy'n bodoli, ac mae'n ymwneud â sicrhau bod datblygiadau newydd yn darparu budd net i fioamrywiaeth. Felly, gallech gael eich hun mewn sefyllfa lle bydd datblygwr yn dadlau y bydd y briciau gwenoliaid duon £25 yn bodloni eu rhwymedigaethau o dan y targedau bioamrywiaeth, a fyddai'n sefyllfa, felly, lle nad ydym yn gwneud y mwyaf o'r effaith a ddymunwn gan ddatblygwyr. Byddai'n wych pe bai datblygwyr yn cytuno i wneud hyn yn wirfoddol ac yn llofnodi siarter i'w wneud, a byddai'n wych pe bai aelwydydd yn penderfynu gwneud hynny beth bynnag. Ond y pwynt yma yw nad yw un ymateb unigol yn mynd i roi'r manteision net ehangach hynny i ni ar gyfer bioamrywiaeth yn gyffredinol.

Yn gyffredinol, mae cael y buddion ehangach hynny'n galw am weithredu ymlaen llaw a gweithredu meddylgar yn rhan o'r broses o gynllunio datblygiadau, yn hytrach na'r weithred unigol honno, a fyddai'n dal yn ddibynnol ar gyflawni amod cynllunio yn effeithiol ar ddiwedd proses gynllunio ac adeiladu. Felly, mae briciau gwenoliaid duon yn fesur y gellir ei ddarparu nawr yn yr amgylchiadau cywir, ac er nad ydym yn dadlau o gwbl y gallant fod yn rhan bwysig o'r cymysgedd o fesurau cadwraeth, mae perygl gwirioneddol y gallai'r pwyslais ar un ateb rwystro sicrwydd o gael canlyniadau cyffredinol mwy dymunol. Rydym eisiau i ddatblygiad chwarae ei ran i wrthdroi dirywiad natur a gall y ffordd y gall wneud hynny amrywio'n fawr. Ond daw'r manteision go iawn o ganlyniadau pwrpasol sy'n adlewyrchu'r anghenion a'r ecoleg mewn ardaloedd penodol, ac a gaiff eu siapio gan fewnbwn ecolegol proffesiynol.

Rydym yn gwybod bod ceisio canlyniadau bioamrywiaeth drwy'r broses gynllunio yn fwyfwy heriol, ond ni allwn gael ein dargyfeirio rhag cael y mesurau mwyaf dymunol. A'r gwir amdani yw ei bod yn llawer haws mynd ar drywydd un mesur cadwraeth na rhoi camau ehangach a mwy buddiol ar waith. A'r perygl yw y gallai mesur unigol dynnu sylw oddi wrth, yn hytrach nag ategu, ymdrechion budd net ac o ganlyniad, gallai briciau gwenoliaid duon ddod yn unig ganlyniad. Mae natur yn gymhleth, ac nid wyf am i ni baentio ein hunain i gornel lle mae un ateb yn cael ei orfodi uwchlaw pob un arall a'i fod yn dod yn unig ffordd o gyflawni'r budd net hwnnw ar gyfer bioamrywiaeth, oherwydd bydd y canlyniadau cyffredinol i natur a'n hamgylchedd yn llai.

Serch hynny, rwy'n croesawu angerdd y bobl sydd wedi cefnogi'r ddeiseb hon, ac rwy'n credu ein bod yn rhannu'r awydd gwirioneddol i gefnogi bioamrywiaeth ac adferiad natur, ac rydym yn cydnabod y gall briciau gwenoliaid duon fod yn rhan bwysig o hynny, ond nid dyna'r ateb cyfan.

16:25

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Roedd Joel yn poeni am y canlyniadau anfwriadol a nododd Delyth mai gwenoliaid duon yw sŵn yr haf. Siaradodd Jenny am y sŵn eiconig y gallwn ei glywed pan fyddwn yn croesi'r morglawdd. Gofynnodd Delyth hefyd am yr hyn y gellir ei wneud yn ymarferol nawr. Roedd yn ddiddorol clywed gan Rhys am enghraifft y 96 y cant o ddefnydd ar ystad y Ddugiaeth. Felly, mae hynny'n dangos bod gosod y briciau gwenoliaid duon yn gweithio.

Jenny, hyrwyddwr y wennol ddu—fe godoch chi bwynt da, os yw hen adeilad yn cael ei ddymchwel, fod angen inni sicrhau bod mesurau lliniarol ar waith fel bod gan wenoliaid duon le i fynd iddo. Rydym yn gwneud hynny ar gyfer ystlumod; mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn ei wneud ar gyfer gwenoliaid duon hefyd. Dywedodd Siân fod briciau gwenoliaid duon mor hawdd i'w gosod yn rhan o waith adeiladu—yn llawer haws na dringo i ben ysgol i geisio gosod bocs yn nes ymlaen. Ac maent yn fforddiadwy hefyd, felly, pam na allwn ni wneud hynny? A soniodd Janet am hynny, a dywedodd hefyd ein bod mewn argyfwng natur a bod angen inni wneud popeth yn ein gallu.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch, fod yn rhaid i ddatblygiadau newydd ddarparu bioamrywiaeth net a gallai hyn fod yn un elfen. Rwy'n credu, o hynny, fod angen inni lobïo datblygwyr fel eu bod yn deall pwysigrwydd briciau gwenoliaid duon yn y dyfodol.

Diolch i Julia Barrell ac ymgyrchwyr eraill; mae rhai yma heddiw, yn gwrando ar y ddadl hon. Diolch am ddod heddiw. Rydym wedi cael ymgyrchwyr o amryw o sefydliadau adar a bywyd gwyllt, felly, diolch yn fawr am eich holl ymdrechion. Mae nifer enfawr o bobl—o lofnodion—wedi cael eu casglu ar gyfer y ddadl hon.

Rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw wedi tanlinellu'r brys a'r argyfwng i wenoliaid duon a'r angen am fwy o weithredu, boed yn lobïo parhaus neu yn ein maniffestos ar gyfer y dyfodol. Ond dyma rai o'r camau y gallwn eu cymryd fel unigolion: cael gerddi anniben, creu cynefin—yn ein cymunedau ac eraill ar lefel genedlaethol. Byddai haf heb sŵn gwenoliaid duon yn haf tristach i bob un ohonom. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr economi

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 7 yw ddadl y Ceidwadwyr, ar yr economi. Mae'r cynnig heddiw i'w gyflwyno gan Samuel Kurtz.

Cynnig NDM8988 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 16 Medi 2025.

2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Cymru:

a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi cynyddu;

b) bod cyfradd cyflogaeth Cymru wedi gostwng a dyma'r isaf yn y Deyrnas Unedig;

c) bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru wedi cynyddu a dyma'r uchaf ym Mhrydain Fawr; a

d) mai pecynnau cyflog Cymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu rhagor o swyddi yng Nghymru a rhoi hwb i dwf drwy:

a) torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm 1 geiniog;

b) dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach;

c) dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym;

d) sicrhau chwarae teg i Gymru gyfan gyda lefelau digonol o fuddsoddiad ar gyfer pob rhan o'r wlad;

e) galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i'r cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr a gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant sy'n effeithio'n andwyol ar gwmnïau teuluol a ffermydd teuluol Cymru; ac

f) dileu'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya i gael Cymru i symud.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw a gyflwynwyd yn enw Paul Davies, oherwydd mae cyflwr economi Cymru yn peri pryder mawr. Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn llwm. Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y Deyrnas Unedig, y cyflogau isaf a'r gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd ym Mhrydain. Ar ôl 26 mlynedd o Lafur ym Mae Caerdydd, a dim ond 15 mis o Lywodraeth Lafur y DU, nid yw economi Cymru yn cyflawni.

A gadewch i ni fod yn glir beth y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol: mae teuluoedd yma'n cael pecynnau cyflog llai na'u cymheiriaid yn Lloegr neu'r Alban. Mae busnesau'n ei chael hi'n anodd o dan yr ardrethi busnes trymaf ym Mhrydain. Mae pobl ifanc yn gweld llai o gyfleoedd i adeiladu gyrfa, ac yn rhy aml yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i adael y cymunedau lle cawsant eu magu. Yn hytrach na mynd i'r afael â'r heriau hyn, mae Llafur Cymru yn bwrw ymlaen â pholisïau sy'n gwneud bywyd yn anos: treth dwristiaeth sy'n creu perygl o niweidio diwydiant allweddol; yr ardrethi busnes mwyaf cosbol yn y Deyrnas Unedig; a therfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya—efallai y bydd rhai'n ei alw'n derfyn 'nad yw'n gyffredinol'—sy'n costio degau o filiynau i'w weithredu, ac yr amcangyfrifir y bydd yn sugno hyd at £9 biliwn o'r economi, ac a wrthwynebir gan bron i 0.5 miliwn o bobl, y ddeiseb fwyaf y mae'r Senedd hon wedi'i gweld erioed.

Nid dyma'r rysáit ar gyfer twf; economi sy'n cael ei dal yn ôl ydyw. Lywydd, mae darlun economaidd ehangach y DU ond yn ychwanegu at y pryder. Mae economïau Cymru a'r DU dan lyffethair. Wrth inni agosáu at gyllideb yr hydref, mae aelwydydd a busnesau yng Nghymru yn wynebu ansicrwydd sy'n dyfnhau, gyda'r Canghellor Llafur yn barod i godi trethi unwaith eto. Mae chwyddiant yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel, bron ddwbl y targed. Mae hyn yn bwyta i mewn i gynilion, yn gwthio cost siopa wythnosol i fyny i'n hetholwyr ac yn erydu hyder economaidd.

Ac fe wyddom beth sy'n dilyn, oherwydd fel y mae'r nos yn dilyn y dydd, mae camreoli economaidd Llafur yn rhedeg yr un cwrs dro ar ôl tro: trethi uwch, diweithdra uwch, ac economi sy'n gadael pobl a busnesau yn waeth eu byd. Mae'r ffeithiau'n cadarnhau hyn. Mae arenillion gilt 30 mlynedd ar y lefel uchaf mewn cenhedlaeth. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn paratoi i israddio rhagolygon twf a chynhyrchiant. Ac erbyn hyn mae yna dwll du gwerth £50 biliwn. Cyflawnwyd y cyfan mewn cwta 15 mis o Lywodraeth Lafur. Mae hynny'n golygu llai o fuddsoddiad, llai o gyfleoedd a hyd yn oed mwy o bwysau ar aelwydydd a busnesau yma yng Nghymru. A chofiwch addewid Syr Keir i dorri £300 oddi ar filiau ynni. Ers cyrraedd Rhif 10, maent wedi codi bron £200. A gadewch inni beidio ag anghofio newidiadau'r Canghellor i ryddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes, gan daro ffermydd teuluol a chwmnïau teuluol ledled Cymru, a thanseilio sylfeini ein cymunedau gwledig a'n cymunedau busnes.

Cyferbynnwch hyn i gyd â'r weledigaeth y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei nodi yma heddiw. Rydym eisiau i Gymru fod ar agor i fusnes, a chanddi gynllun clir i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac i ryddhau twf. Yn gyntaf, byddem yn torri 1g yn y bunt oddi ar y gyfradd sylfaenol o dreth incwm, gan roi toriad treth i 1.7 miliwn o bobl a gadael y teulu cyffredin sy'n gweithio £450 yn well eu byd bob blwyddyn. Yn ail, byddem yn cael gwared ar ardrethi busnes i gwmnïau bach, asgwrn cefn ein heconomi—245,000 o fusnesau sy'n cyflogi dros 0.5 miliwn o bobl. Yn drydydd, byddem yn dileu treth dwristiaeth Llafur cyn iddi wneud unrhyw niwed parhaol i sector sy'n werth biliynau ac sydd mor allweddol i gymunedau yng Nghymru. Yn bedwerydd, byddem yn codi'r gwastad i Gymru gyfan, gan sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd pob cornel, heb adael unrhyw gymuned ar ôl. Yn bumed, byddem yn galw ar Lywodraeth y DU i ddileu cynnydd Llafur i yswiriant gwladol cyflogwyr, treth uniongyrchol ar swyddi sy'n ei gwneud hi'n ddrytach i gyflogi pobl. Ac yn olaf, byddem yn cael gwared ar y terfyn 20 mya ac yn sicrhau dull synnwyr cyffredin o weithredu yn ei le, gan gadw terfynau is lle mae eu hangen, ond yn gadael i weddill Cymru symud unwaith eto.

Ond Lywydd, gadewch i mi fod yn glir: nid Llafur yw'r unig blaid sydd â phroblem hygrededd economaidd. Byddai breuddwyd Plaid Cymru o annibyniaeth yn chwythu twll yng nghyllid cyhoeddus Cymru, gan adael bwlch cyllidol o rhwng £10 biliwn a £15 biliwn. Byddai hynny'n golygu naill ai codiadau treth cosbol, toriadau enfawr i wasanaethau, neu'r ddau yn wir. Mae'n ffantasi economaidd a fyddai'n gadael Cymru a'i phobl yn dlotach. A Reform? Maent hwy'n addo £80 biliwn o wariant heb ei ariannu a thoriadau treth heb unrhyw gynllun i dalu amdano. Nid rhaglen lywodraethu yw honno ond rhestr ddymuniadau fyrbwyll a fyddai'n gwneud y wlad yn fethdalwr.

Felly, boed yn gamreoli economaidd Llafur, yn rhithiau ymwahanol Plaid Cymru, neu addewidion byrbwyll heb eu hariannu Reform, ni ellir ymddiried yn yr un ohonynt gydag economi Cymru. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun go iawn: cynllun i wobrwyo gwaith caled, cefnogi busnes, cefnogi twristiaeth, a lledaenu cyfleoedd i bob rhan o'n cenedl. Ar ôl mwy na chwarter canrif o Lafur, ni allai'r dystiolaeth fod yn gliriach: mae Cymru'n llusgo ar ei hôl hi, ac nid oes gan Lafur unrhyw gynllun i wrthdroi pethau. Ni ellir ymddiried yn neb heblaw'r Ceidwadwyr gyda'r economi. Diolch, Lywydd.

16:35

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn cael ei gynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt un a rhoi yn ei le:

Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru sef Trosolwg o’r farchnad lafur: Medi 2025.

Yn croesawu’r canlynol o dan Lywodraeth Cymru:

a) mae cyfradd ddiweithdra Cymru yn is na chyfradd y DU;

b) mae’r bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd gyflogaeth y DU wedi lleihau yn ystod y cyfnod ers datganoli;

c) mae pecynnau cymorth amrywiol wedi’u cyflwyno er mwyn helpu pobl economaidd anweithgar i ddychwelyd i’r gwaith—ac yn enwedig y rhai sy’n wynebu rhwystrau cymhleth fel anabledd, cyflyrau iechyd hirdymor neu gyfrifoldebau gofalu; a

d) yn 2024, roedd yr enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion sy’n gweithio’n llawn amser yng Nghymru yn uwch na’r enillion yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon a Swydd Efrog a Humber.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ôl pwynt 2(d) a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at effaith niweidiol penderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau San Steffan ar economi Cymru, gan gynnwys:

a) effaith barhaus Brexit, sydd wedi achosi ergyd o £4 biliwn ar economi Cymru ac sy'n rhwystr mawr i dwf busnesau;

b) effaith barhaus mesurau cyni ar gyllid cyhoeddus;

c) y methiant i ddarparu fformiwla gyllido deg i Gymru, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol i hyn yn y Senedd;

d) y methiant i gyflawni addewidion i ddarparu mwy o hyblygrwydd i'r Senedd reoli ei chyllideb;

e) y methiant i ddatganoli Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i elwa ar ei hadnoddau naturiol ei hun;

f) y methiant i ddarparu ei chyfran deg o symiau canlyniadol HS2 i Gymru;

g) y methiant i ailddosbarthu cyfoeth yn gyfartal ar draws y DU; a

h) goruchwylio polisïau cyllidol di-hid, megis mini-gyllideb Liz Truss, sydd wedi achosi caledi sylweddol i aelwydydd Cymru.

Yn credu bod Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a Llywodraeth Lafur bresennol y DU wedi dangos dro ar ôl tro ac yn bendant eu diffyg ymrwymiad i hyrwyddo buddiannau ariannol ac economaidd Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi hwb i swyddi a thwf drwy:

a) dangos bod ganddi ddylanwad yn y 'bartneriaeth mewn pŵer' drwy orfodi Llywodraeth Lafur y DU i ymgysylltu o ddifrif â diwygio trefniadau cyllido Cymru;

b) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi'r cynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr;

c) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau yr UE i hyrwyddo twf economaidd;

d) gwneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU i wrthdroi newidiadau treth etifeddiant sy'n effeithio ar ffermydd teuluol Cymru;

e) mynnu iawndal llawn gan Lywodraeth Lafur y DU ar gyfer costau a ysgwyddwyd o ddylunio ac adeiladu seilwaith ffiniau diangen ym mhorthladdoedd Cymru, a buddsoddi'r elw i gefnogi masnach Cymru; ac

f) defnyddio pwerau newydd a ddarperir drwy'r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol i greu lluosyddion ardrethi busnes ffafriol ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Heledd Fychan. Dylai economi Cymru weithio i bobl Cymru, nid fel arall. Mae honno'n egwyddor syml iawn, ond yn un sydd i'w gweld yn mynd ar goll yn llawer rhy aml yn ein trafodaethau ar yr economi. Rydym i gyd yn gwybod bod gan Gymru fannau gwan hirsefydlog yn economaidd ar draws nifer o fetrigau—cyfoeth, gwerth ychwanegol, cynhyrchiant, cyflogaeth, incwm. Mae Cymru'n parhau i berfformio'n wael mewn termau cymharol ac absoliwt. Ceir cytundeb eang ar hynny. Ond mae yna broblem sylfaenol mewn gwirionedd sy'n mynd y tu hwnt i ddim ond bod eisiau tincran gyda system dreth, ac yng nghanol y broblem honno mae'r bwlch perchnogaeth.

Y gwir amdani yw nad oes digon o fusnesau, asedau a sefydliadau yng Nghymru yn eiddo i bobl Cymru. Mae hynny'n cyfyngu ar fuddsoddiad, mae'n arafu twf busnes ac mae'n lleihau ansawdd ac argaeledd swyddi. Mae hefyd yn golygu bod arloesedd yn cael trafferth gwreiddio, ac mae llawer gormod o elw'n gadael ein cymunedau. Mae angen i ni newid hynny. Mae angen Cymru lle mae cymunedau, gweithwyr a busnesau i gyd yn elwa o'r cyfoeth a gaiff ei greu gennym yma. Dyna pam, er enghraifft, fod angen asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd, sy'n annibynnol ar y Llywodraeth, gyda mandad clir i gefnogi busnesau sy'n eiddo i bobl yng Nghymru, sy'n denu'r math cywir o fuddsoddiad ac sy'n darparu un pwynt cymorth hawdd ei lywio i fusnesau ym mhob cwr o Gymru.

Yn ogystal, mae gwir angen golwg newydd ar ecosystem cymorth busnes Cymru. Nawr, yn ôl unrhyw fesur, mae'r system bresennol yn methu cyflawni'r math o dwf cynaliadwy y mae ein busnesau, ein cymunedau a'n pobl yn ei haeddu. Ers gormod o amser, mae'r gefnogaeth wedi bod yn dameidiog, yn ddryslyd ac yn anodd i fusnesau ei llywio, sy'n golygu bod cyfleoedd yn cael eu colli a mentrau Cymru'n cael eu gadael heb yr arweiniad a'r buddsoddiad sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Yn allweddol i hyn, mae angen atgyfnerthu a rhesymoli cymorth busnes yng Nghymru, gan greu'r siop un stop y bwriadwyd i Fanc Datblygu Cymru fod o'r cychwyn cyntaf. Drwy uno'r gwasanaethau a gynigir gan Busnes Cymru â gwasanaethau'r banc datblygu, gallwn greu system symlach, fwy cydlynol ac effeithiol sy'n rhoi cefnogaeth go iawn i fusnesau Cymru dyfu ac arloesi, ond gan barhau wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau, sy'n hollbwysig.

Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod pa mor hanfodol yw busnesau bach a chanolig i'n heconomi, ac roedd hi'n galonogol gweld Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn cyflwyno cynlluniau i dorri ardrethi busnes ar gyfer siopau manwerthu llai o faint yn ôl ym mis Mai. Mae llawer ohonom yn y Siambr hon yn disgwyl yn eiddgar i'r ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu cyhoeddi, ond er bod hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir, mae'n bell o fod yn ddigon. Mae diffyg gweithredu i ffrwyno landlordiaid absennol, i gefnogi busnesau lletygarwch lleol neu hyd yn oed i ailddychmygu strydoedd mawr y tu hwnt i fanwerthu yn tanseilio effaith y cynlluniau hyn. Mae eithrio busnesau lletygarwch yn enwedig yn creu perygl o sbarduno ton newydd o fusnesau'n cau o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Ac yna, wrth gwrs, mae gennym ein hadnoddau naturiol. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro fod rhaid i unrhyw drawsnewidiad gwyrdd llwyddiannus a theg yng Nghymru ddechrau gyda rheolaeth dros ein hadnoddau ein hunain. Nawr, wrth wraidd hyn, mae datganoli Ystad y Goron. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi croesawu a derbyn argymhellion Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, gan gydnabod pwysigrwydd adfer rheolaeth ar wely'r môr a'n hadnoddau arfordirol i Gymru. Eto, er gwaethaf y gymeradwyaeth hon, ceir amharodrwydd amlwg ar ran Llafur yng Nghymru i hyd yn oed godi mater datganoli Ystad y Goron gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n fwy rhwystredig fyth yw difaterwch, neu mewn rhai achosion, gelyniaeth lwyr y Blaid Lafur yn San Steffan, gan gynnwys ASau Llafur Cymru, tuag at unrhyw ddatganoli pellach. Mae'r diffyg penderfyniad hwn yn atal Cymru rhag elwa'n llawn o ynni adnewyddadwy ar wely'r môr yng Nghymru. Hyd nes y gall Cymru arfer mwy o reolaeth dros ei hadnoddau naturiol, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu'n benderfynol i sicrhau ein bod yn cadw cymaint â phosib o'r gwerth economaidd a gynhyrchir yma.

Buaswn yn dadlau bod hyn yn golygu ei gwneud hi'n orfodol cael cronfeydd budd cymunedol, perchnogaeth leol a rhannu perchnogaeth ar ddatblygiadau ynni adnewyddadwy masnachol. Y gwir amdani yw bod diffyg ystyriaeth cyffredinol i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Ni all hynny barhau. Os ydym o ddifrif ynglŷn â newid gwyrdd sydd o fudd i gymunedau Cymru, rhaid inni wneud cyfranogiad yn y cynlluniau hyn yn orfodol. Lywydd, fe all ac fe ddylai economi Cymru weithio i Gymru, ond ar hyn o bryd, nid yw'n gwneud hynny.

16:40

Mae Cymru'n haeddu gwell. Ar ôl 26 mlynedd o Lafur yn gyfrifol am ein heconomi, beth a welwn? Y gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain, y cyflogau isaf, yr anweithgarwch economaidd uchaf, a gwlad lle mae gormod yn cael eu dal yn ôl a rhy ychydig yn camu ymlaen. Dywedodd y diweddar Norman Tebbit unwaith fod ei dad wedi mynd ar ei feic i ddod o hyd i waith pan oedd hi'n adeg anodd. Mae'r ysbryd hwnnw o ddyhead, o waith caled, o wydnwch personol, o fod eisiau camu ymlaen, yn dal yn fyw yng Nghymru heddiw. Ond y gwir trist yw bod ein pobl wedi cael eu dal yn ôl gan bolisïau Llafur sydd yno i'w rhwystro bob gafael. Mae Llafur, gyda chefnogaeth eu ffrindiau ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi llesteirio Cymru â'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. A beth y mae'r gynghrair sosialaidd hon wedi'i roi i ni? Maent wedi gosod treth dwristiaeth a fydd yn ergyd i gymunedau gwledig. Maent wedi gwthio terfyn cyflymder diofyn o 20 mya drwodd, gan gostio biliynau i'n heconomi. Nid agenda Llywodraeth sydd am i bobl lwyddo yw hon, ond agenda Llywodraeth sydd eisiau i Gymru sefyll yn llonydd a dirywio.

A nawr, Lywydd, beth y mae Llafur yn San Steffan yn paratoi i'w wneud? Maent eisiau tagu cwmnïau teuluol a ffermydd Cymru â newidiadau i ryddhad treth etifeddiant. Bydd y diwygiadau i amaethyddiaeth a rhyddhad eiddo busnes yn taro galetaf yma yng Nghymru. Ond peidiwch â'i gymryd gennym ni yn unig; dyna mae Family Business UK, llais busnesau teuluol sy'n cyflogi 15 miliwn o bobl ledled y DU yn ei ddweud. Maent yn dangos yn glir y bydd y diwygiadau hyn yn atal buddsoddiad, yn llyffetheirio cwmnïau teuluol â biliau treth na ellir eu talu ac yn bygwth cynlluniau olyniaeth. Mae eu hymchwil yn dangos bod 208,000 o swyddi mewn perygl gyda £14 biliwn wedi'i ddileu o'n heconomi, gyda cholled ariannol net o £1.9 biliwn i'r Trysorlys. Lywydd, mae'n wallgofrwydd. Dyma ideoleg Lafur sy'n drech na realiti economaidd, a'r bobl yma yng Nghymru sy'n mynd i orfod talu'r pris.

Mae Family Business UK yn rhybuddio am y peryglon ymarferol hefyd. Mae cwmnïau teuluol sy'n gyfoethog mewn asedau, ond yn dlawd o ran arian parod, yn cael eu gorfodi i werthu tir neu ysgwyddo dyled i dalu'r bil treth. Gofynnir i ymddiriedolwyr gynnal prisiadau busnes cymhleth. Mae ymddiriedolaethau a ddefnyddir at ddibenion olyniaeth neu ddibenion elusennol yn cael eu rhwydo i'r fath raddau mewn biwrocratiaeth fel nad ydynt yn hyfyw mwyach. Nid yw hyd yn oed y lwfans £1 filiwn fel y'i gelwir yn ddim byd mwy na rhith gan fod oedi cyn mynegeio yn golygu y bydd chwyddiant yn erydu ei werth cyn iddo ddod i rym hyd yn oed. Nid yw hwn yn bolisi sydd wedi'i gynllunio i gryfhau ein heconomi; mae'n bolisi sydd wedi'i gynllunio i'w gwanychu ac yn cosbi'r union fusnesau sy'n asgwrn cefn i'n heconomi yng Nghymru—cwmnïau teuluol, ffermydd teuluol a'r busnesau bach sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau.

Ond ar y meinciau hyn, Lywydd, rydym ni'n dweud digon yw digon. Ni yw'r blaid sy'n credu mewn dyhead, mewn gwobrwyo gwaith caled a rhoi cyfle i bobl gamu ymlaen. Dyna pam y byddem yn torri 1 geiniog oddi ar y dreth incwm, gan roi £450 yn ôl ym mhocedi pobl sy'n gweithio. Byddem yn diddymu ardrethi busnes i gwmnïau bach, gan ryddhau pŵer entrepreneuriaid ym mhob cymuned ledled y wlad. A byddem yn dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddinistrio swyddi gwledig. A byddem yn dileu'r terfyn diofyn o 20 mya i gael Cymru i symud eto. A byddwn bob amser yn sefyll dros ein ffermwyr a'n busnesau bach teuluol yn erbyn dibyniaeth Llafur ar drethiant.

O dan Lafur, mae Cymru wedi'i chaethiwo mewn dirywiad a reolir, ac o dan Lywodraeth Geidwadol Gymreig, fel y dywedodd Sam, byddai Cymru'n agored i fusnes. Felly, mae'n bryd cefnogi'r uchelgais hwnnw. Mae'n bryd cefnogi pobl Cymru ac mae'n bryd dechrau estyn llaw i'w helpu i gamu ymlaen, nid cardod.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Strategaeth economaidd y Ceidwadwyr yw torri incwm Llywodraeth Cymru gan gynyddu gwariant. Byddai hyn yn fwy credadwy pe bai'n cynhyrchu cyllideb gytbwys. Os edrychwch ar wledydd sydd â threthi isel a'r rhai sydd â threthi uchel, gallwn ofyn i chi gymharu De Sudan â Sweden. Mae gan Dde Sudan un o'r cyfraddau treth isaf yn y byd, Sweden sydd ag un o'r cyfraddau treth uchaf. Pwy sy'n gwneud orau?

Mae gan economi Cymru broblemau, a llawer ohonynt yn strwythurol. Mae economi Cymru'n perfformio'n wael o'i gymharu â gweddill Prydain, ac mae wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer. Mae gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn 74 y cant o ffigur y DU, yr ail isaf o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Llundain sydd â'r gwerth ychwanegol gros uchaf, wedi'i dilyn gan dde-ddwyrain Lloegr. Pam nad ydych chi'n cymharu Caerdydd â Chaergrawnt o ran datblygu economaidd? Roedd rhanbarthau fel y gogledd-ddwyrain a Gogledd Iwerddon yn agosach at Gymru. Mae hyn yn amlygu'r gwahaniaeth economaidd rhwng gwahanol ranbarthau a gwledydd y DU, gyda Llundain a'r de-ddwyrain yn llawer cyfoethocach na'r rhannau eraill.

Gellir priodoli gwahaniaeth economaidd rhwng y rhanbarthau fel y rhai a welir yng ngwerth ychwanegol gros y pen y DU i amrywiaeth eang o ffactorau. Y cyntaf yw strwythur diwydiannol. Fel y mae pobl yn gwybod, roeddem yn gwneud gwaith metelau, trin metelau a mwyngloddio glo am gyfnodau hir o'n hanes, a nawr nid ydym yn gwneud hynny. Nid oes diwydiannau fel y rhai yr hoffwn eu gweld—fferyllol, TGCh a diwydiannau gwerth uchel eraill—wedi dod yn lle'r strwythur hwnnw.

Mae cyllid a thechnoleg yn flaenllaw yn Llundain. Dyna'r pethau sy'n gyrru economi Llundain. Mae gennym gyfran uwch o ddiwydiannau gwerth is. Mae'r Ceidwadwyr yn siarad am dwristiaeth. Enwch wlad i mi, ac fe adawaf i chi ei wneud, sydd wedi dod yn gyfoethog yn sgil twristiaeth.

16:45

Rwy'n credu bod diffyg dealltwriaeth economaidd lwyr ar feinciau'r Ceidwadwyr, os dim byd arall.

Gall rhanbarthau arbenigo mewn gwahanol ddiwydiannau, gyda rhai'n canolbwyntio ar sectorau gwerth uchel fel cyllid a thechnoleg, sy'n flaenllaw yn Llundain. Gall lefelau uwch o fuddsoddiad mewn seilwaith, addysg a busnes arwain at dwf economaidd mawr. Mae Llundain, er enghraifft, yn elwa o fuddsoddiad sylweddol. Sgiliau'r gweithlu—mae meysydd sydd â gweithlu mwy medrus yn tueddu i ddenu swyddi sy'n talu mwy, sy'n cyfrannu at werth ychwanegol gros uwch. Polisi economaidd—gall polisïau Llywodraeth effeithio ar ddatblygiad rhanbarthol drwy fuddsoddiad mewn gwasanaethau lleol.

Ffactorau daearyddol. Arferai fod yn agosrwydd at farchnadoedd, a threnau cyflym a ffyrdd cyflym. Nid yw hynny'n wir mwyach. Mae datblygu band eang cyflym yn lleihau'r angen am agosrwydd at farchnadoedd. I helpu rhai o fy ffrindiau ar feinciau'r Ceidwadwyr, nid yw wedi atal Dundee rhag datblygu diwydiant gemau cyfrifiadurol sy'n hynod lwyddiannus, er ei bod yn bell o farchnadoedd ac yn bell o Lundain.

Ffactorau hanesyddol. Gall seiliau diwydiannol siapio'r dirwedd economaidd bresennol. Mae'r ffactorau hyn yn rhyngweithio mewn ffyrdd cymhleth i greu'r dirwedd economaidd, gan arwain at anghydraddoldebau mewn cyfoeth a datblygiad ar draws gwahanol ranbarthau. Gall deall y rhain helpu i lunio polisïau sy'n anelu at leihau gwahaniaethau economaidd a rhanbarthol.

Mae gan Gymru gyfran fwy o'i phoblogaeth yn gweithio ym maes gweithgynhyrchu, gweinyddiaeth gyhoeddus, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac amaethyddiaeth. Mae Cymru'n wan mewn meysydd fel TGCh, gweithgareddau eiddo tiriog, gwasanaethau gweinyddol a chymorth, gwasanaethau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, y celfyddydau ac adloniant, yn fwy felly na gweddill y DU. Mae'r rhain yn ddiwydiannau sy'n talu cyflogau uchel. Mae prinder cyflogaeth mewn sectorau cyflog uwch, a dyna un o'r problemau sydd gennym o ran ein gwerth ychwanegol gros.

Mae gan economïau llwyddiannus gymysgedd o fewnfuddsoddiad gan gwmnïau rhyngwladol a chwmnïau a ddatblygir yn lleol. Mae prifysgolion mawr yn bwysig iawn i ddatblygu'r economi—edrychwch ar Palo Alto. Mae meysydd twf allweddol gwyddorau bywyd a TGCh yn bwysig i economïau llwyddiannus. Nid yw parhau i chwilio am fwled aur datblygu economaidd wedi gweithio. Cafwyd llwyddiannau a methiannau gyda phob strategaeth, ond dim digon o lwyddiannau, ar wahân i adleoli adrannau ac asiantaethau'r Llywodraeth. Mae angen inni ddysgu o lwyddiannau fel Admiral yng Nghymru a llwyddiannau mewn rhannau eraill o Ewrop. Nid yw adeiladu ffatrïoedd gweithgynhyrchu uwch, a rhoi enw newydd fel technium iddynt, yn gweithio.

Pum cam gweithredu allweddol: llunio strategaeth i gynyddu cyflogaeth TGCh yng Nghymru drwy fewnfuddsoddiad a thyfu cwmnïau Cymreig; cynhyrchu strategaeth i gynyddu cyflogaeth gwyddorau bywyd yng Nghymru drwy fewnfuddsoddiad a thyfu cwmnïau Cymreig; trafod adleoli gwasanaethau Llywodraeth San Steffan gyda chyflogaeth ar bob lefel i Gymru gyda Llywodraeth San Steffan; cynnal uwchgynhadledd wedi'i dilyn gan gynllun gweithredu gyda phrifysgolion yng Nghymru i ddatblygu cwmnïau o ymchwil prifysgolion; gosod targed y bydd cynnyrch domestig gros Cymru yn cynyddu 1 y cant bob blwyddyn o'i gymharu â'r DU a chynllunio yn unol â hynny. Mae angen inni gael economi lwyddiannus. Mae angen inni wybod sut y'i gwnawn, ac yn hollol onest, ni fydd yr hyn a ddywedodd y Ceidwadwyr yn gweithio.

16:50

Rwyf wedi gwrando'n astud hyd yma ar gyfraniadau cyd-Aelodau o gwmpas y Siambr hon, a'r hyn sy'n fy nharo, fel crynodeb o ble rydym arni ar hyn o bryd, yw nad yw Llafur yn deall yr economi. Nid ydynt yn deall busnes. Nid ydynt yn deall y pŵer trawsnewidiol y gall busnes a gaiff ei redeg yn dda ei roi i unigolyn, eu teulu neu eu cymunedau. Mae Llafur yn meddwl mai nhw sy'n gwybod orau ac nid ydynt yn ymddiried mewn pobl i reoli eu harian eu hunain.

Mae hyn yn amlwg yng nghyfansoddiad Cabinet Llywodraeth y DU. Nid oes gan unrhyw aelod o Gabinet Llywodraeth Lafur y DU unrhyw brofiad busnes. Nid ydynt yn deall sut y mae busnes yn gweithio. Nid ydynt yn deall sut y mae'r economi'n gweithio. Daeth hyn yn fwy amlwg ychydig flynyddoedd yn ôl pan ddywedodd Gweinidog yr economi yn Llywodraeth Cymru ar y pryd:

'Ers 20 mlynedd rydym wedi cymryd arnom ein bod yn gwybod beth rydym yn ei wneud ar yr economi—a'r gwir amdani yw nad ydym yn gwybod yn iawn beth rydym yn ei wneud ar yr economi. Nid oes unrhyw un yn gwybod beth y maent yn ei wneud ar yr economi. Dilyn ein trwynau y mae pawb ohonom'.

[Torri ar draws.] Gyda hynny, fe wnaf dderbyn yr ymyriad.

Rydych chi'n dweud bod cael profiad busnes yn allweddol i ddeall busnes. Hoffwn eich sylwadau ar y defnydd o'r profiad busnes hwnnw a chamddefnyddio arian cyhoeddus gan gwmni sy'n cael ei redeg gan y Farwnes Mone.

Diolch am yr ymyriad gan Joyce Watson. Mae'n werth cofio bod y Ceidwadwyr, yn eu 14 mlynedd o Lywodraeth, wedi creu 4 miliwn o swyddi newydd yma yn y DU, ac fe wnaethom ddyblu'r lwfans personol yn nhreth incwm pobl o £6,500 i £12,500. Rydym yn ymddiried mewn pobl i reoli eu harian eu hunain; rydym yn ymddiried mewn pobl i'w wario'n dda.

Aeth Gweinidog yr economi Llafur ar y pryd ymlaen i ddweud

'Dilyn ein trwynau y mae pawb ohonom—a gadewch i ni fod yn onest ynglŷn â hynny'.

Rydym yn ddiolchgar am y gonestrwydd hwnnw gan Weinidog yr economi Llafur yn Llywodraeth Cymru ar y pryd. Ond rwy'n siŵr nad yw Gweinidog yr economi yma heddiw mor ddiobaith â Gweinidog yr economi ar y pryd, oherwydd bydd Llafur yn dweud bod ganddynt gynllun, ac mae ganddynt gynllun wrth gwrs. Eu cynllun yw trethu'r economi i'r entrychion. Maent yn trethu pobl sy'n gweithio drwy'r cyfraniadau yswiriant gwladol. Maent yn trethu ein ffermwyr drwy'r dreth ar ffermydd teuluol, gan effeithio ar ffermydd a chymunedau gwledig ym mhob cwr o Gymru. Maent yn trethu'r busnesau twristiaeth y clywsom amdanynt eisoes drwy'r ardoll ymwelwyr, y dreth dwristiaeth a thrwy'r rheol 182 diwrnod afresymol ar gyfer llety hunanddarpar. Maent yn trethu ein cwmnïau teuluol gyda'r ardrethi busnes uchaf y gwyddom amdanynt ym Mhrydain. A nawr, rydym yn clywed bod Llafur am drethu pensiynwyr drwy wagio eu potiau pensiwn yng nghyllideb mis Tachwedd oherwydd y twll du o £50 biliwn y cyfeiriodd Sam Kurtz ato yn gynharach.

Fel Ceidwadwyr, gwyddom na allant barhau i drethu'r economi i greu unrhyw fath o fywyd; rhaid i chi ryddhau pŵer busnes a rhyddhau'r pŵer trawsnewidiol y gall busnesau ei roi i unigolion, teuluoedd a'u cymunedau. Mae angen i ni fuddsoddi mewn seilwaith pwysig—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi troi ei chefn arno, gan ddadfuddsoddi mewn ffyrdd yma yng Nghymru pan all y ffyrdd hynny ryddhau ein heconomi ym mhob cwr o'r wlad. Mae angen i ni fuddsoddi yn y sgiliau sy'n galluogi pobl i ddringo'r ysgol i waith, buddsoddi mewn prentisiaethau, nad yw Llafur Cymru wedi bod yn ei wneud ar yr un gyfradd â rhannau eraill o'r DU.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl drwy dorri'r trethi sy'n erydu cyfrifoldeb personol pobl. Rydym yn cefnogi busnesau bach, yn diogelu diwydiannau hanfodol, yn buddsoddi ledled Cymru gyfan ac yn gwneud penderfyniadau doeth ynghylch trafnidiaeth—y gwrthwyneb i'r hyn y mae Llafur Cymru wedi'i wneud yma yng Nghymru. Mae Cymru'n haeddu economi sy'n gweithio i bawb a bydd y Ceidwadwyr yn cyflawni hynny. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Rwyf i bob amser yn barod i siarad. Mae pobl ledled Cymru eisiau gweld ein heconomi'n tanio cystal ag y gall, ond ar hyn o bryd, nid yw'r injan i'w gweld yn rhedeg. Ar ôl 26 mlynedd o Lafur, wedi'i chefnogi gan eu partneriaid ym Mhlaid Cymru, mae Cymru'n marweiddio. Gennym ni y mae'r gyfradd gyflogaeth isaf, y cyflogau isaf a'r lefelau anweithgarwch economaidd uchaf ym Mhrydain. Mae teuluoedd a busnesau yng ngogledd Cymru yn teimlo'r methiant hwn bob dydd.

Ac eto, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig? Ardrethi busnes uwch, trethi cosbol, a pholisïau sy'n cadw buddsoddiad draw yn hytrach na'i ddenu i mewn. Y dreth dwristiaeth, efallai, yw'r enghraifft gliriaf o agenda wrth-fusnes Llafur a Phlaid Cymru. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn brin o syniadau, ac nid yw Plaid Cymru yn ddim gwell, gyda chynllun ar gyfer yr economi sy'n cynnwys treth gyfoeth ar yr ychydig gyfoeth sy'n cael ei greu yng Nghymru, ac wrth gwrs, mwy o alwadau am fwy fyth o gyllid gan San Steffan. Nid yw hwnnw'n gynllun economaidd synhwyrol.

Y sector pwysicaf i ogledd Cymru, Ddirprwy Lywydd, yw'r sector twristiaeth, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ac sy'n cael ei daro nawr gan dreth dwristiaeth, gyda'r effaith ganlyniadol ar letygarwch yn enfawr. Rydym eisoes yn gweld mwy nag un dafarn yn cau bob dydd yng Nghymru, a gallwn ddisgwyl y bydd hyn yn cynyddu ymhellach.

Yng ngogledd Cymru, mae twristiaeth yn cynnal degau o filoedd o swyddi. Mae'n dod â biliynau o bunnoedd i mewn, gan gefnogi tafarndai, siopau, bwytai a chyflenwyr bach ym mhob cornel o'r rhanbarth. Ond eto, mae Llafur wedi gorfodi ardoll newydd o £1.30 y pen y noson, gyda chynghorau'n rhydd i'w chodi hyd yn oed yn uwch. Mae eu ffigurau eu hunain yn rhagweld hyd at £576 miliwn o niwed economaidd dros y degawd nesaf, a channoedd o swyddi'n cael eu colli bob blwyddyn.

Ddirprwy Lywydd, nid oes angen i chi fod yn economegydd i weld yr effaith y bydd hyn yn ei chael. Bydd teuluoedd sydd eisoes yn cyfrif y ceiniogau'n cael eu hannog i beidio ag ymweld, bydd busnesau'n dioddef, a phobl gogledd Cymru fydd yn talu'r pris. Ac ar adeg pan fo'n heconomi eisoes yn fregus, mae Llafur yn benderfynol o daro un o'n sectorau mwyaf llwyddiannus, gan gosbi'r union fusnesau sy'n cadw'r Gymru wledig a'r Gymru arfordirol yn fyw.

Mewn cymhariaeth, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am newidiadau a fydd yn cael effaith ystyrlon ar yr economi, ac felly, ar fywydau pobl. Ni fydd cyfoeth i wleidyddion blaengar ei ailddosbarthu os caiff ei drethu'n ffyrnig cyn iddo gael ei greu hyd yn oed. A nawr, mae Rachel Reeves yn gwrthod diystyru codiadau TAW, sy'n golygu bod pobl yn disgwyl mwy o boen i ddod.

Mae ymosodiad ideolegol y Blaid Lafur ar boblogaeth y tir, a ddechreuodd yn y 1990au drwy ymosod ar arglwyddi etifeddol, wedi parhau gyda thagu ffermio drwy reoleiddio, ac mae bellach wedi arwain at dreth etifeddiant a fydd yn effeithio ar hyd at 70,000 o ffermydd ac yn ergyd enfawr i economi Cymru. Ond mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol iawn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi ideoleg o flaen synnwyr cyffredin economaidd, fel y gwelsant gyda'r polisi 20 mya diofyn hynod amhoblogaidd, sy'n mynd i gostio £8.9 biliwn i economi Cymru.

16:55

Cyn i Lywodraeth Lafur Cymru gyflwyno'r terfynau diofyn 20 mya—gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wrth gwrs—rhybuddiais y byddai newid terfynau 30 mya i derfynau 20 mya yn trosglwyddo cyfran yr anafiadau ffyrdd o'r naill i'r llall, gan symud gyrwyr, ac felly anafiadau ffyrdd, i'r rhwydwaith ffyrdd ehangach.

Mae'r data ar gyfer y chwe mis cyntaf ar ôl cyflwyno hyn yn dangos bod nifer cyffredinol y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ein ffyrdd wedi cynyddu 10 y cant, ac roedd niferoedd diweddaraf yr anafiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth eleni, ac a gyhoeddwyd ym mis Awst, yn dangos bod nifer yr anafiadau ffyrdd 6 y cant yn uwch na'r un chwarter yn 2024. A ydych chi'n rhannu fy mhryder eu bod wedi anwybyddu fy rhybuddion?

Yn hollol, Mark, ac mae hwnnw'n ystadegyn gwych. Mae'n rhywbeth sy'n agoriad llygad, ac rwy'n siŵr y bydd pobl Cymru eisiau gwybod yr ystadegau hynny cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf. Os ydym o ddifrif am achub bywydau, mae angen i ni fuddsoddi'r arian hwnnw yn y gwasanaeth iechyd a buddsoddi yn ein staff rheng flaen—mwy o feddygon a nyrsys ac nid mwy o wleidyddion.

Rydym yn galw am ddileu'r dreth dwristiaeth wenwynig cyn iddi gael cyfle i achosi hafoc yn ein cymunedau. Byddem yn diddymu ardrethi busnes i fusnesau bach, gan roi achubiaeth allweddol i ficrofusnesau a busnesau teuluol sy'n ffurfio dros 99 y cant o holl fentrau Cymru. A byddem yn torri 1 geiniog oddi ar y gyfradd sylfaenol o dreth incwm, gan roi £450 yn ôl ym mhocedi'r teulu cyffredin yng Nghymru, fel y soniodd Sam eisoes—arian y gallent ddewis ei wario ar gefnogi busnesau lleol a busnesau yng ngogledd Cymru y tu hwnt i hynny.

Nid oes angen mwy o rwystrau, mwy o dreth a mwy o fiwrocratiaeth ar Gymru. Mae angen i'r Llywodraeth roi'r gorau i'w llyffetheirio, a chaniatáu iddynt ffynnu. [Torri ar draws.] Ie, Cefin.

Rwyf newydd fod yn gwylio'r Ceidwadwyr yn cyflwyno rhyw esgus am ddeall yr economi, ac mae'r gweddill ohonom yma'n gegrwth wrth wrando ar y rhagrith. Onid ydych chi'n teimlo'r un ymdeimlad o embaras ag y mae'r gweddill ohonom yn ei deimlo pan edrychwn arnoch chi, gan wybod bod Liz Truss wedi chwalu'r economi, a'r effaith a gafodd hynny ar bobl ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig? A ydych chi'n teimlo nawr, ar ôl hynny i gyd, fod pob hyder ynoch chi fel plaid sy'n gwarchod yr economi wedi'i golli'n llwyr? Mae'r enw da hwnnw wedi ei chwalu. A ydych chi'n cytuno â mi?

17:00

Nac ydw—er mawr syndod. Mae'n ddrwg gennyf, Cefin, mewn gwirionedd mae'r meinciau hyn yn teimlo'r rhagrith ar feinciau Plaid Cymru. Rydych chi wedi cefnogi Llafur yma ers 26 mlynedd. Rydych chi wedi cefnogi'r Llywodraeth. Pan ddywedodd Lee Waters nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud gyda'r economi, dylai Plaid Cymru fod wedi troi eu cefnau ar Lafur. Dylent fod wedi dweud, 'Nid ydym eisiau unrhyw beth i'w wneud â chi', ond eto, fe aethant yn ôl i'r gwely gyda nhw yn 2021. A phan wneuthum ymyriad ar arweinydd eich plaid, dywedodd na allai ddiystyru gwneud cytundeb gyda Llafur yn y dyfodol. Felly, mae'n dangos eich bod chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru ac yn cael Llafur, ac fel arall. A dyna pam, o dan y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai Cymru'n agored i fusnes a byddem yn rhoi hwb i economi Cymru.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn annog yr Aelodau i bleidleisio dros ein cynnig. Ac os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gymryd unrhyw beth o'r ddadl hon, rwy'n gobeithio mai'r canlyniadau niweidiol sydd ar fin digwydd yng ngogledd Cymru yn sgil y dreth dwristiaeth wenwynig fydd hynny, treth yr wyf yn eu hannog i'w dileu cyn iddi gael ei gweithredu.

Diolch yn fawr am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Mae'n rhoi cyfle i mi fod yn glir iawn ynglŷn â'r modd y mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni i bobl Cymru. Rydym yn buddsoddi mewn sgiliau ac yn cefnogi ein talent, gan gynnwys drwy ein gwarant i bobl ifanc. Rydym yn cefnogi diwydiannau'r dyfodol, fel lled-ddargludyddion a gemau cyfrifiadurol, gyda buddsoddiad wedi'i dargedu a chreu swyddi. Gyda'n partneriaid, rydym yn datganoli datblygiad economaidd, gan roi mwy o reolaeth i'n rhanbarthau dros gyflogaeth, sgiliau a buddsoddiad. Rydym yn cefnogi mentrau bach a chanolig, drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, gan ddarparu cefnogaeth helaeth i fusnesau newydd, arloesedd, twf, allforion a chynaliadwyedd. Rydym yn ysgogi arloesedd, partneriaeth a chydweithrediad, er enghraifft, yn M-SParc yn Ynys Môn, i feithrin cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant. Rydym yn diwygio cynlluniau seilwaith, yn enwedig ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, gan dorri hyd at 12 wythnos oddi ar amseroedd gwneud penderfyniadau. Ac rydym yn buddsoddi mewn trafnidiaeth, tai a seilwaith digidol, fel metro de Cymru, sy'n adeiladu symudedd cymdeithasol i gefnogi twf economaidd.

Felly, beth yw canlyniad ein buddsoddiad a'n gwaith? Wel, mae cyflogaeth yng Nghymru'n perfformio'n well na chyfartaledd y DU. Yn ôl yr arolwg poblogaeth blynyddol, roedd ein cyfradd ddiweithdra yn 3.5 y cant—

Gwnaf, mewn eiliad. Roedd yn 3.5 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025, o'i gymharu â 3.8 y cant ledled y DU. Mae'r bwlch cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a'r DU wedi lleihau'n sylweddol.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Faint o dai newydd a adeiladwyd gennych yn y 12 mis diwethaf?

Fe wiriaf y ffigurau gyda'n Gweinidog tai ac fe ysgrifennaf atoch ar y pwynt hwnnw. 

Rydym yn parhau i weld cynnydd yma yng Nghymru yn nifer y gweithwyr cyflogedig ers 2021. O dan y ffigur diweddaraf, mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Awst 2025 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu dros 100 i 1.31 miliwn yn y mis hwnnw. Ar lefel y DU, ar gyfer yr un cyfnod, dangosodd ostyngiad misol o 7,700.

Felly, fel Llywodraeth Lafur sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein heconomi yn elwa o ddoniau pawb, fe wyddom y dylid teilwra cymorth i helpu'r bobl sydd ei angen i ddod yn aelodau o'r gweithlu, a dyna pam rwy'n falch iawn o'r rhaglenni a gynigir gennym: Cymru'n Gweithio, Twf Swyddi Cymru, ReAct, Cymunedau am Waith a Mwy, ac yn fwyaf diweddar, ein cynlluniau anweithgarwch arloesol, a lansiwyd ym Mlaenau Gwent, sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot, ac maent eisoes yn helpu pobl i gymryd camau ystyrlon tuag at gyflogaeth, gan wella canlyniadau bywyd i'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Ie.

O'r rhaglenni a grybwyllwyd gennych, faint o bobl sydd wedi cael eu cyflogi'n ystyrlon mewn gwaith amser llawn?

Unwaith eto, fe gaf y ffigurau hynny. Rwy'n gwybod bod gan y Ceidwadwyr ddiddordeb mawr mewn ffigurau y prynhawn yma, felly gadewch i mi rannu'r un hwn gyda nhw. Mae'r cynnig Ceidwadol yn galw am dorri 1 geiniog oddi ar y gyfradd sylfaenol o dreth incwm. Nawr, byddai hynny'n costio £299 miliwn, sef 8 y cant o holl gyfraddau incwm treth incwm Cymru. Ac maent yn dweud wrthym hefyd am ddileu ardrethi busnes i fusnesau bach, a fyddai'n costio hyd at £370 miliwn. Hyn i gyd heb hyd yn oed ddechrau dweud wrthym sut y byddent yn talu amdano, a byddai'r lefel o doriadau y byddai'n rhaid iddynt eu gweithredu yn enfawr. Byddai'n rhaid iddynt dorri'r gyllideb refeniw trafnidiaeth gyfan, ac mewn gwirionedd, byddai'n dal i fod newid ganddynt. Ac mae'r Torïaid yn dweud wrthym am ddileu'r ardoll ymwelwyr cyn iddi gael ei chyflwyno hyd yn oed, gan amddifadu awdurdodau lleol o'r opsiwn i gynyddu adnoddau a buddsoddiad. A thra bo'r Torïaid yn brysur yn gwneud addewidion heb eu cyllido, rydym ni'n brysur yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni blaenoriaeth y Prif Weinidog ar gyfer swyddi a thwf ledled y Gymru drefol a gwledig.

Mae swyddi gwyrdd yng Nghymru yn tyfu'n gyflym, wedi'u hysgogi gan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sero net. Disgwylir i brosiectau fel ynni'r llanw Morlais a gwynt ar y môr y môr Celtaidd greu miloedd o swyddi. Erbyn 2035 gallai ynni adnewyddadwy ddarparu 8,000 o swyddi medrus a bron i £7 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros.

Felly, rydym yn cyflawni. Mae Llywodraeth Lafur Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau twf ac i fuddsoddi'n ôl yn ein diwydiant a'n talent. Rydym yn buddsoddi mewn bargeinion dinesig a thwf, porthladdoedd rhydd, parthau buddsoddi, partneriaeth arloesedd lleol, clwstwr amddiffyn i Gymru, ac rydym yn gweithio i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar draws y gronfa gyfoeth genedlaethol a Banc Busnes Prydain. Bydd y rhain yn creu swyddi o safon, yn tyfu ein cadwyni cyflenwi ac yn dod â chyfleoedd i bobl ledled Cymru.

Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono, ac mae'n wirioneddol druenus clywed yr wrthblaid yn lladd ar Gymru. Ym mis Rhagfyr, bydd uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru yn dod ag arweinwyr a buddsoddwyr diwydiant byd-eang i Gasnewydd. Byddwn yn arddangos Cymru, yn briodol ddigon, fel economi ddeinamig a chyrchfan fuddsoddi o'r radd flaenaf. Byddwn yn cyflwyno cyfleoedd anhygoel yn lleol, yn rhanbarthol ac ar sail sector wedi'u cynllunio i ddatgloi cyfleoedd newydd a chreu swyddi cynaliadwy a chyflogau da i bobl yng Nghymru. A dyna'r hyder a'r balchder y byddwn yn parhau i'w gynnig, a byddwn yn parhau i gyflawni ar gyfer ein heconomi yng Nghymru. [Torri ar draws.] Gallaf ehangu ar y diwedd. Roeddwn wedi gorffen.

17:05

Ar yr uwchgynhadledd fuddsoddi, a wnewch chi ryddhau'r rhestr o gwmnïau sydd wedi cadarnhau y byddant yn mynychu'r uwchgynhadledd fuddsoddi?

Yn sicr, nid wyf yn bwriadu gwneud hynny ar hyn o bryd, ond rydym wedi gweld diddordeb anhygoel o bob cwr o'r byd yn ein huwchgynhadledd fuddsoddi. Rydym wedi gweld diddordeb enfawr o bob cwr o'r byd, ac yn enwedig yn y sectorau yr ydym yn arbennig o awyddus i'w tyfu: lled-ddargludyddion cyfansawdd, technoleg a digidol, ynni glân, gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch ac amddiffyn. Mae pob un o'r sectorau hynny'n awyddus iawn i archwilio'r cyfleoedd sydd gennym i dyfu'r sectorau hynny gyda nhw yma yng Nghymru, ond mae ganddynt ddiddordeb mawr hefyd yn ein prosbectws buddsoddi cyfalaf.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi heddiw. Mae'n amlwg o wrando ar yr holl gyfraniadau heddiw mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun i wrthdroi economi Cymru. Wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, clywn Aelodau'r Senedd yn gofyn yn briodol ddigon am fwy o gyllid i drwsio'r system addysg doredig yng Nghymru, i wrthdroi'r rhestrau aros GIG hiraf yn y DU, i lanhau rhai o'r dyfrffyrdd mwyaf llygredig yn y wlad, neu i wella'r system drafnidiaeth. Ond mae'n amlwg mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy'n sylweddoli bod angen i ni dyfu ein heconomi i allu talu amdano.

Rwyf bob amser yn gwrando'n astud iawn ar y pethau sydd gennych i'w dweud, Mike.

Mae'r holl alwadau hynny'n ofer yn y pen draw oni bai bod gan blaid gynllun i dyfu economi Cymru. Ac rydym wedi gweld, onid ydym, nad oes gan Lafur gynllun o'r fath. Maent yn economaidd anllythrennog. Gallwch ymddiried yn y Blaid Lafur i beidio â rhagweld y byddai cynyddu yswiriant gwladol yn gwneud cyflogi staff yn ddrytach, y byddai'n arwain at gynnydd mewn diweithdra, y byddai'n lleihau nifer y swyddi gwag hefyd. Dim ond Plaid Lafur economaidd anllythrennog a allai fod wedi methu rhagweld hynny.

Ac mae hyd yn oed y rhai sy'n ddigon ffodus i fod mewn gwaith yn gweld pethau bob dydd yn fwyfwy costus hefyd. Cyn yr etholiad, gostyngodd y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf chwyddiant i lawr i'r targed o 2 y cant, ond oherwydd bod Llafur wedi colli rheolaeth ar yr economi, mae bellach wedi dyblu bron iawn. A gadewch i ni beidio â meddwl am chwyddiant fel mesur economaidd haniaethol sy'n annibynnol ar fywydau pobl gyffredin. Mae chwyddiant yn effeithio arnom i gyd. Mae i'w weld yng nghost siopa wythnosol pan fyddwch chi'n talu, mae ym mhris tanwydd i'r car i gymudo i'r gwaith bob dydd, ac mae yn y gost gynyddol i dalu'r bil gwresogi wrth i'r gaeaf agosáu. Oherwydd bod Llafur wedi colli rheolaeth ar yr economi, ac ar chwyddiant yn ei dro, ymhell o fod yn cyflawni dros bobl sy'n gweithio, maent yn gwneud bywyd yn anos i bobl sy'n gweithio, a chaf fy mrawychu bob amser gan yr effaith ddynol sydd i hynny. Mae pobl yn dweud wrthyf eu bod yn torri yn ôl ar hanfodion a'r pethau braf i'w cael, y tecawê achlysurol, y penwythnos i ffwrdd gyda'r teulu, y bath hirach hyd yn oed. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad cyn bo hir. Rwyf eisiau byw mewn gwlad lle gall pobl fforddio'r pethau sy'n rhoi llawenydd iddynt, ac nid wyf am iddynt gael eu cipio oddi wrthynt gan Lywodraeth nad yw'n gallu rheoli chwyddiant neu eu dwyn oddi wrthynt drwy drethi uwch. A dyna'r amser perffaith i adael i chi wneud ymyriad, Joyce Watson.

17:10

Rwy'n chwilfrydig nawr sut y bwriadwch chi gysoni eich dull o reoli, oherwydd yn ôl y ffigurau—nid fy rhai i—mae dros 400,000 o bobl Cymru, 30 y cant o'r holl weithwyr, yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ac eto fe wnaethoch chi sefyll o'r neilltu wrth i fuddsoddiad yn y sector cyhoeddus gael ei leihau, ei dorri, yng Nghymru. Fe wnaethoch chi sefyll o'r neilltu wrth i Lywodraeth flaenorol gamreoli, Llywodraeth nad oedd yn deall mai'r sector cyhoeddus oedd y cyflogwr mwyaf yng Nghymru a bod y bobl a gâi eu gwneud yn ddi-waith, nad oeddent yn gallu fforddio byw—. Roeddech chi'n effeithio ar bob cymuned yng Nghymru—pob cymuned.

Gadewch i mi ddweud wrthych am gyflawniadau'r Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf: 4 miliwn yn fwy o bobl mewn gwaith ers 2010, ac yn y sector cyhoeddus, 39,200 yn fwy o feddygon a 55,000 yn fwy o nyrsys. Rwy'n credu bod hynny'n brawf o Lywodraeth Geidwadol sy'n cyflawni.

Ond fel y dywed Joyce, rwyf eisiau byw mewn gwlad sy'n gallu buddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus hynny, ond yr eliffant yn yr ystafell yw nad ydym yn gallu gwneud hynny am ein bod ni'n gwario llawer gormod o arian ar log dyled. Mewn gwirionedd, rydym yn gwario mwy ar ddyled y genedl nag a wnawn ar yr ysgolion neu'r heddlu gyda'i gilydd. Oni bai ein bod o ddifrif am ein problem ddyled drwy dorri lles a chael pobl yn ôl i'r gwaith, drwy wneud yn siŵr nad ydym byth yn talu mwy i bobl am beidio â gweithio nag y byddent yn ei gael drwy weithio, fe fyddwn yn sownd mewn cylch diddiwedd o ddyled barhaus. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio i arweinydd Plaid Cymru os yw am wneud ymyriad. Dyna ni. 

Rydym wedi methu torri gwariant ac wedi gwastraffu llwyth o arian, sy'n golygu bod angen i ni fenthyca mwy i dalu amdano. Yna, po fwyaf a fenthycwn, y mwyaf y mae'r marchnadoedd yn colli hyder yn ein gallu i'w dalu'n ôl, felly maent yn codi mwy arnom y tro nesaf. Felly, rhaid inni godi trethi i dalu am hynny, ddim ond i wastraffu mwy o arian, methu torri gwariant a dechrau'r cylch o'r newydd.

Mae'n gliriach nag erioed fod angen cynllun arnom i'n cael ni allan o gylch diddiwedd Llafur. Ac os ydych chi'n meddwl bod Llafur yn ddrwg, Lywydd, efallai y bydd Reform hyd yn oed yn waeth—plaid sydd eisiau gwario mwy fyth ar les. Ac mae'r ffaith nad oedd ganddynt unrhyw beth i'w ddweud yn y ddadl hon yn dangos nad oes ganddynt unrhyw beth y maent eisiau ei ddweud ar sut y maent eisiau tyfu ein heconomi. Yn hytrach na chyflwyno cynlluniau difrifol i dorri dyled, a lleihau trethi yn ei dro, bwriad Nigel Farage yw rhoi pobl sy'n gweithio dan fwy fyth o bwysau drwy orfod cynyddu trethi drwy'r biliynau o bunnoedd o ymrwymiadau gwariant nad yw wedi'u hariannu.

Y broblem gyda cheisio dweud popeth y maent eisiau ei glywed wrth bawb yw bod y symiau hynny'n cynyddu yn y pen draw. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif bod cynlluniau ac ymrwymiadau Reform hyd yma yn £141 biliwn o wariant ychwanegol, gyda chynlluniau cyfyngedig iawn ar gyfer unrhyw allu i dalu amdano. Mewn geiriau eraill, fel y mae'r sefydliad yn dweud, nid yw'r symiau yno. Nid yw'n syndod eu bod eisiau preifateiddio'r GIG i dalu am y twll du hwnnw, a bydd ond yn brifo Prydeinwyr cyffredin ar hyd a lled y wlad—mwy o wariant heb ei ariannu, mwy o ddyled, mwy o fenthyca, trethi uwch, a rownd a rownd yn yr un cylch â ni. O'i roi'n syml, bydd Reform yn brifo pobl yn eu waledi.

Yr hyn sydd ei angen arnom yw plaid a fydd yn torri'r diffyg, yn annog gwaith, yn gostwng trethi ac yn tyfu ein heconomi, ac yn bennaf oll, cynllun i wneud hynny. Dyna'r rôl yr ydym ni fel Ceidwadwyr bob amser wedi'i chwarae. Pan aeth Llafur at y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn y 1970au i ofyn am achubiaeth, Plaid Geidwadol Margaret Thatcher a foderneiddiodd ein heconomi, newid cyfeiriad y wlad ac achub Prydain. A phan adawodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf nodyn ar ôl wedi eu tymor diwethaf mewn grym a ddywedai nad oedd arian ar ôl, Llywodraeth Geidwadol David Cameron a dorrodd y diffyg, creu 400 o swyddi newydd bob dydd a gwneud yn siŵr fod gennym yr arian yr oedd ei angen arnom pan darodd y pandemig. A phan fydd y Llywodraeth Lafur dreuliedig hon yn gadael y flwyddyn nesaf, ar ôl treulio 26 mlynedd yn cyflawni'r economi wannaf yn y DU, bydd Plaid Geidwadol Gymreig Darren Millar yno i fod o ddifrif am yr heriau y mae ein gwlad yn eu hwynebu, gyda'n cynllun i dorri treth incwm, i ddileu ardrethi busnes yn llwyr i fusnesau bach, ac i dyfu ein heconomi eto. A dyna sut y byddwn yn trwsio Cymru, Ddirprwy Lywydd.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Tlodi plant

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM8990 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn condemnio lefelau ystyfnig tlodi plant yng Nghymru sydd yn 32 y cant ar hyn o bryd.

2. Yn gresynu fod y rhagolygon yn dangos mai gan Gymru fydd y lefelau uchaf o dlodi plant drwy’r DU erbyn 2029.

3. Yn cymeradwyo Llywodraeth yr Alban am gyflwyno Taliad Plant yr Alban, polisi y mae disgwyl iddo godi 60,000 o blant allan o dlodi yn 2025-26 ac i leoli’r Alban fel yr unig genedl yn y DU lle mae disgwyl i gyfraddau tlodi plant ostwng ar y cyfan erbyn 2029.

4. Yn nodi:

a) ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno Cynnal, sef taliad plant i Gymru fel blaenoriaeth llywodraethol; a

b) bod Policy in Practice wedi adnabod mai’r ymyriad mwyaf pwerus ac effeithiol wedi’i ddylunio i leihau tlodi yw taliad plant uniongyrchol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno taliad plant; a

b) ail-ymrwymo i gael gwared ar dlodi plant yn llwyr gyda thargedau statudol mesuradwy.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gallwn dreulio fy holl araith agoriadol yn y ddadl hon yn dyfynnu'r dystiolaeth ysgytwol a welwn mewn adroddiad ar ôl adroddiad ar lefel ac effaith lefelau brawychus o dlodi plant yng Nghymru, yn ailadrodd y ffaith ei fod yn mynd i waethygu, gyda'r rhagolwg y bydd gan Gymru y gyfradd tlodi plant uchaf yn y DU, ac fel y gwneuthum gymaint o weithiau o'r blaen—gormod o weithiau o'r blaen—gallwn ddangos beth y mae hyn yn ei olygu i fywydau bob dydd teuluoedd yng Nghymru, a beth y mae'n ei olygu i ddyfodol ein cenedl yn gymdeithasol, yn addysgol, yn economaidd ac yn foesol. Ond nid wyf yn mynd i wneud hynny heddiw, oherwydd rwy'n gwybod sut y mae'r ddadl hon yn mynd i fynd.

Fel y mae ein cynnig yn awgrymu, mae Plaid Cymru yn credu bod angen mwy o weithredu ar dlodi plant, a byddwn yn clywed pam nad yw'r camau gweithredu a welsom gan Lywodraeth Cymru yn ddigon, a'r atebion rydym ni'n eu cynnig. Bydd y Torïaid yn ceisio osgoi rôl eu plaid nhw yn dyfnhau'r lefelau tlodi drwy ddileu, fel y mae eu gwelliant yn awgrymu, unrhyw sôn am un o'r atebion hynny, y taliad plant uniongyrchol. Oherwydd fe wyddom fod y Torïaid yn sylfaenol wrthwynebus i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi'n ddigonol drwy'r system nawdd cymdeithasol, felly fe fyddant yn siarad am rywbeth a gynigiodd eu Llywodraeth nhw yn lle hynny. A bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a wnânt unwaith eto i amddiffyn eu record, er bod y dystiolaeth yn pwyntio i'r gwrthwyneb, gan honni ar yr un pryd nad oes gan Gymru y pŵer sydd ei angen arni, er y gallai eu plaid eu hunain yn San Steffan newid hynny pe bai angen. Ac wrth gwrs, gadewch i ni beidio ag anghofio y cawn gyhuddiad, mae'n siŵr, yn erbyn Plaid Cymru o rywbeth yn debyg i 'wleidyddiaeth ffantasi' a 'diffyg difrifoldeb' i gyfiawnhau'r safbwynt hwnnw. Dyma ffordd arferol Llafur Cymru ar hyn o bryd o wynebu uchelgais a radicaliaeth Plaid Cymru.

Ac rwyf wedi cael llond bol ar hynny a dweud y gwir. Rwyf wedi cael llond bol ar sefyll yma a siarad am y mater hwn, oherwydd mae dyletswydd arnom, pob un ohonom, i'r bobl a gynrychiolwn i wneud yn well. Mae angen inni weld camau beiddgar, dewrder i weithredu a hyd yn oed i geisio a methu, yn hytrach na thincran gyda strategaethau nad ydynt yn rhwymol, polisïau nad ydynt yn fesuradwy a chilio rhag atebolrwydd, gan wawdio lleisiau sy'n dweud 'Digon yw digon', a geiriau treuliedig o sarhad gan Aelodau a Gweinidogion Llafur yn y Siambr hon a thu hwnt—ie, hyd yn oed yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl—gan y ddwy fenyw a ddylai fod yn ymladd dros y plant hynny. Fe'u clywais eto yn cyhuddo Plaid Cymru o beidio â bod o ddifrif, gan gymharu ein galwadau â gwleidyddiaeth myfyrwyr. Mae gan fyfyrwyr—nad oes digon ohonynt eto eleni yng Nghymru yn dod o aelwydydd incwm isel—hanes cadarn a balch o fod yn gyfryngau newid, o ddweud y gwir wrth rym, o ysgwyd y sefydliad er mwyn ceisio tegwch a chyfiawnder, ac rwy'n falch fod Plaid Cymru yn blaid sy'n sefyll yn gadarn yn y traddodiad hwnnw, ac sy'n gwrthod yn llwyr y bychanu nawddoglyd, tadofalaethol gan blaid y sefydliad sydd wedi methu gwrthdroi—ac mewn gwirionedd, wedi gwaethygu—graddau tlodi plant. Mae disgwyl i ni dderbyn heb brotest, heb gynhyrfu.

Rydym yn cofio'r un geiriau o sarhad yn yr aer pan wnaethom wthio am brydau ysgol am ddim, y dywedwyd wrthym yn ddigon swta nad oeddent yn gynigion fforddiadwy, credadwy na chyflawnadwy—tan eu bod, wrth gwrs. A hoffwn sicrhau'r Gweinidogion Llafur hynny ein bod ni'n gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi plant. Rydym eisoes wedi cynllunio ffordd o fwrw ymlaen â thaliad plant uniongyrchol, ac rydym hefyd yn cytuno â'r gwelliant Ceidwadol ynghylch pwysigrwydd a manteision gwella gofal plant yng Nghymru. Dyna pam yr oedd ymestyn y ddarpariaeth yn rhan o'r cytundeb cydweithio, ac rydym yn falch fod cynnydd sylweddol wedi bod i sicrhau bod mwy o blant dwy oed yn gallu elwa o addysg blynyddoedd cynnar, ac rydym yn credu bod hwn yn gam allweddol i helpu i sicrhau cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol a chydraddoldeb rhywiol. Ond rydym bob amser wedi bod eisiau mynd ymhellach. Unwaith eto, pan godwyd hyn gennym, cawsom y dwrdio arferol gan Weinidogion Llafur am ofyn am ormod a'r hunanfodlonrwydd arferol gan Lywodraeth Cymru, sydd i'w gweld yn fodlon i godi ei hysgwyddau a dweud, 'Dyna'r cyfan y gallwn ei wneud', hyd yn oed pan fo pobl yn teimlo nawr, yn briodol ddigon, fod y sefyllfa hon yn teimlo'n anghyfiawn. Ond ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant Ceidwadol am ei fod yn dileu ein galwad am daliad plant uniongyrchol, a chredwn fod yr alwad honno hefyd yn hanfodol—yn rhy hanfodol i'w hanwybyddu.

Nid ymestyn gofal plant yw pen draw ein huchelgais na'n hymrwymiad i'n plant yng Nghymru. Mae'n mynd i gymryd mwy na hynny. Ond hoffwn glywed beth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud am hynny, o ystyried mai Llywodraeth Lafur bellach sy'n bwrw ymlaen â'r cynllun gofal plant yn Lloegr. Ac rwy'n cofio'r ddadl a gawsom—y ddadl ffyrnig a gawsom—ar y ddeiseb a lofnodwyd gan 11,000 o bobl yng Nghymru, yn gofyn am gydraddoldeb.

Mae Llafur wedi bod mewn grym yn San Steffan a Chymru ers dros flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw'n unig, gallai 65,000 o blant fod wedi cael eu codi allan o dlodi yng Nghymru pe na bai Llywodraeth Lafur y DU wedi parhau gydag un o bolisïau lles mwyaf creulon y Torïaid—y cap dau blentyn. Efallai y cawn glywed newyddion i'w groesawu yng nghyllideb y Canghellor ar ddileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Rwy'n gobeithio hynny'n fawr. Ond rwy'n ategu galwadau'r gynghrair Dileu Tlodi Plant, sydd wedi dweud bod yn rhaid i'r cap gael ei godi'n llwyr i bawb.

Dywedodd Sefydliad Resolution ym mis Mawrth y byddai unrhyw derfyn tri phlentyn neu system daprog yn gadael rhwng 120,000 a 350,000 yn fwy o blant mewn tlodi na phe bai'r cap yn cael ei ddileu'n llwyr. Felly, byddai'n dda clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pa asesiadau effaith ar hyn sy'n cael eu rhannu gyda hi, gan fod yr opsiynau y clywn fod Rachel Reeves yn gweithio arnynt yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Ni ddylid byth ailadrodd y ffordd gwbl anystyriol y cafodd pobl anabl yng Nghymru eu trin pan gynlluniodd y DU ei diwygiadau trychinebus i'w cymorth, heb rannu unrhyw asesiadau effaith a heb wneud asesiadau effaith ar sut y byddai hynny'n effeithio ar bobl yng Nghymru. 

Felly, a fydd y ddadl hon yn dilyn y patrwm a amlinellais, neu a fydd Llywodraeth Cymru, am unwaith, yn agored i'r posibilrwydd y gallent wneud pethau'n well a dangos arweiniad, fel y gwelsom Lywodraeth yr SNP yn yr Alban yn ymdrechu i'w wneud, yn hytrach na chuddio y tu ôl i eiriau sarhaus ac esgusodion? Buaswn yn falch iawn o fod yn anghywir. Dangoswch i ni fod y ffordd goch Gymreig yn fwy na slogan gwag, di-rym drwy gefnogi ein cynnig, ac yn bwysicach fyth, rhowch y camau y mae'n eu cyflwyno ar waith—camau gweithredu realistig, effeithiol, cyflawnadwy, na allent fod yn bwysicach i ddyfodol ein cenedl. Diolch.

17:20

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 yn ei henw ei hun.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod yn rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth lwyr ar bob lefel o’r llywodraeth.

Yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl ysgogiadau datganoledig sydd ar gael i'w graddau llawn ac arwain wrth gydlynu camau gweithredu ehangach i roi terfyn ar dlodi plant, fel y nodir yn y Strategaeth Tlodi Plant.

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi galw dro ar ôl tro i’r terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau lles ddod i ben;

b) heb bwerau ar hyn o bryd i ddeddfu ar gyfer taliad plant;

c) yn cefnogi Siarter Budd-daliadau Cymru, a fabwysiadwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n darparu cefnogaeth wirioneddol i bobl wneud y mwyaf o incwm eu teulu; a

d) yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant yn ddiweddarach eleni.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member (w)
Jane Hutt 17:23:16
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu ymhellach mai teuluoedd Cymru sy'n talu'r costau gofal plant uchaf ym Mhrydain Fawr, sy'n cyfrannu at dlodi plant.

Yn credu ei bod yn well gwario arian trethdalwyr ar wella gofal plant yng Nghymru ac ar wella economi Cymru er mwyn codi mwy o deuluoedd allan o dlodi.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddefnyddio cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod teuluoedd Cymru yn cael yr un swm o gymorth gofal plant ag y mae teuluoedd yn Lloegr yn ei gael; a

b) i ailymrwymo i ddileu tlodi plant gyda thargedau statudol mesuradwy.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Gwnaf. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn rhannu siom Plaid Cymru ynglŷn â'r ffaith bod traean o blant Cymru'n byw mewn tlodi cymharol. Fodd bynnag, nid ydym yn cytuno y bydd eu cynllun trawsnewidiol fel y'i gelwir yn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant. Yn hytrach na chanolbwyntio ar fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi plant, mae Plaid Cymru wedi penderfynu dewis gimics sy'n denu'r penawdau. Ac nid eu syniad nhw eu hunain ydyw. Unwaith eto, mae'r cenedlaetholwyr Cymreig yn copïo cenedlaetholwyr yr Alban, ond maent yn dwyn y syniadau nad ydynt hyd yn oed wedi gweithio.

Taliad plant yr Alban—[Torri ar draws.] Rwy'n dod at hyn, os gwnewch chi wrando, os gwelwch yn dda. Mae taliad plant yr Alban bellach bron i dair gwaith yn uwch na phan gafodd ei gyflwyno. Mae Llywodraeth yr SNP wedi gwario £114.6 miliwn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni yn unig, ond wedi methu eu targed cyfreithiol rwymol i sicrhau bod llai na 18 y cant o blant yn byw mewn tlodi erbyn 2025. Ewch amdani.

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad, ond a yw'r Aelod yn ymwybodol mai'r Alban yw'r unig ran o'r DU ar hyn o bryd lle mae disgwyl y gwelwn ostyngiad yn y lefelau tlodi plant, a hynny oherwydd y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith?

17:25

Dyna'n union beth oeddwn i'n mynd i'w ddweud. Mae'r prawf yno. Gwyddom fod yr Alban, drwy wneud yr ymyrraeth hon—ac mae'n ymyrraeth brofedig; mae'n gweithio—yw'r unig le lle mae'r lefelau tlodi plant yn mynd i ddod i lawr yn y DU. Ac mae arbenigwyr wedi dweud—yn y maes tlodi plant—mai dyna'r rheswm pam.

Dyna pam y dywedais eich bod chi'n copïo cenedlaetholwyr yr Alban, ac eto rydych chi wedi gweld eu bod eisoes wedi gwario £114.6 miliwn mewn ychydig fisoedd ac nid ydynt yn gwybod a fyddant yn cadw'r addewid a wnaethant y byddant yn dileu tlodi plant erbyn diwedd 2025. Dyma'r polisi y mae Plaid Cymru eisiau ei ailadrodd yng Nghymru, ond maent yn methu dweud wrthym sut y byddant yn ei ariannu, na hyd yn oed lle byddant yn ei dreialu.

Os yw Plaid Cymru o ddifrif am fynd i'r afael â thlodi plant, byddai'n well iddynt dreulio eu hamser yn osgoi gimics a rhoi'r gorau i gefnogi cyllidebau Llafur Cymru, sydd dros y 26 mlynedd diwethaf wedi helpu i gynnal tlodi yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi cefnogi 99 y cant o gyllidebau Llywodraeth Cymru. Roeddent yn rhan o Lywodraeth Cymru a roddodd y gorau i unrhyw esgus o dargedau economaidd. Cawsant gyfle i fynd i'r afael ag achos sylfaenol tlodi plant, sef anweithgarwch economaidd, ond fe wnaethant ddewis canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol yn lle hynny. Maent bellach yn defnyddio gimics heb ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru beth fyddant yn ei dorri i ariannu eu cynllun trawsnewidiol. 

O ran Llafur, dim ond edrych ar y podiwm yn Lerpwl sydd angen i ni ei wneud i sylweddoli y bydd pethau ond yn gwaethygu. Mae Rachel Reeves wedi dweud yn glir fod mwy o godiadau treth ar y ffordd. Roedd hi'n iawn mewn un ffordd: ni all y wlad fforddio gwario £1 ym mhob £10 ar dalu llog dyled, a dyna pam y mae Llywodraeth y DU hyd yma wedi diystyru cael gwared ar y terfyn dau blentyn, gyda'i gost o £3.5 biliwn.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai'r llwybr i ddileu tlodi plant yw drwy waith. Rhaid inni wella'r economi a gwneud y llwybr i waith yn haws, yn enwedig i rieni. Mae'r cymorth gofal plant annigonol a gynigir i rieni Cymru wedi helpu i godi cost gofal plant i'r entrychion yng Nghymru, gan ei roi y tu hwnt i gyrraedd llawer o deuluoedd. Mae hyn yn rhwystr enfawr i waith a rhyddid rhag tlodi i lawer o rieni sydd â phlant newydd neu iau. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu gofal plant mwy hael, i fod ar gael ar draws y genedl Gymreig, bydd tlodi plant yng Nghymru yn parhau i dyfu.

Rwy'n annog Cabinet Cymru hefyd i gyflwyno targedau statudol a mesuradwy ar gyfer dileu tlodi plant. Rhaid inni wneud gwaith yn llwybr allan o dlodi a helpu teuluoedd i fod yn economaidd weithgar. Diolch yn fawr.

Mewn ymateb i'r araith yr ydym newydd ei chlywed, rwyf am ddweud ein bod ni eisiau dysgu gan yr Alban—nid oes unrhyw gywilydd yn hynny. Dyna'r pwynt. Nid oes raid i syniad fod yn newydd er mwyn iddo fod yn dda neu'n effeithiol.

Hoffwn ofyn pryd y penderfynodd y Llywodraeth hon fod tlodi plant yn broblem rhy anodd i'w datrys. Ai pan gafodd hyd yn oed y targed i roi diwedd ar dlodi plant ei ddileu, neu pan ddaeth yn rhy lletchwith i anghytuno'n rhy agored â phenderfyniad Llafur y DU i barhau â pholisïau sy'n cadw cymaint o blant yn dlawd? Yng Nghaerffili, ym Merthyr Tudful, ym Mlaenau Gwent a Rhymni, gwelir rhai o'r ffigurau tlodi plant uchaf ar draws Cymru gyfan—cymunedau'r Cymoedd lle mae cyfleoedd bywyd plant yn cael eu cyfyngu o'r adeg pan gânt eu geni; cymunedau lle mae pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio mewn gwersi oherwydd bod eu stumogau'n wag.

Nawr, croesewais y polisi y gallodd Plaid Cymru ei gyflwyno, gan weithio gyda'r Llywodraeth, ar brydau ysgol am ddim. Mae hynny'n rhywbeth diriaethol a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Roedd yn ddiddorol gweld y Prif Weinidog yn galw hynny'n fuddugoliaeth i Lafur yn eu cynhadledd er na fyddai byth wedi digwydd oni bai am Blaid Cymru. Ond dylem i gyd fod yn falch ohono. Cafodd gormod o bleidleisiau a chyfleoedd eu gwastraffu, pan allai fod wedi cael ei gyflwyno'n gyflymach. Tybed faint o bleidleisiau a chyfleoedd y bydd yn rhaid eu gwastraffu cyn i Lywodraeth yng Nghymru gydnabod yr angen i weithredu polisi arall gan Blaid Cymru—y taliad plant uniongyrchol. Mae'n rhywbeth y gwelsom ei fod yn gweithio yn yr Alban, ydy. Mae'n ddryslyd gweld cymaint o amheuaeth berfformiadol ynglŷn â hyn o hyd. Ac ydym, rydym hefyd yn cytuno y dylai fod treth gyfoeth i helpu i roi diwedd ar dlodi plant. Ond pa bryd fydd y Llywodraeth yma'n mynnu bod eu cymheiriaid yn Llundain yn cytuno iddi? Faint yn rhagor o argyhoeddi sydd ei angen arnynt?

Mae mwy y gallai'r Llywodraeth hon ei wneud i roi diwedd ar dlodi plant, oherwydd os nad oes unrhyw beth yn newid, erbyn 2029 mae'n bosib mai Cymru fydd â'r lefelau uchaf o dlodi plant yn y DU. Dyna rybudd clir. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mewn rhan o'r byd sy'n ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn gyfoethog, sut y gall fod yn iawn i unrhyw blentyn orfod mynd i'r gwely'n llwglyd neu'n oer? Pa fath o ddyfodol y gall plant yng Nghymru edrych ymlaen ato pan fydd cymaint ohonynt yn dechrau bywyd wedi'u cyfyngu mor ddiangen ac mor greulon gan dlodi na ddylai fodoli?

17:30

Yn gynharach yr wythnos hon, bûm mewn cyfarfod gyda chynrychiolwyr Patriotic Millionaires UK. Roedd gan yr hysbysfwrdd a oedd yn cyfarch teithwyr y tu allan i orsaf Lime Street yn Lerpwl neges glir: trethwch gyfoeth, nid gwaith. Mae 80 y cant o unigolion â gwerth net uchel yn cefnogi treth ar gyfoeth, am eu bod am fyw mewn gwlad gynhwysol. Pam y mae'r DU mor amharod i weithredu? Am fod biliwnyddion yn dominyddu'r tonnau awyr a'r rhan fwyaf o'r papurau newydd a ddarllenir yn y wlad hon. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Canghellor y Trysorlys yn gweithredu ar awydd miliwnyddion i fyw mewn gwlad gynhwysol. Maent yn curo ar ddrws agored.

Ond gan droi nawr at yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, comisiynwyd Policy in Practice gan Sefydliad Bevan i edrych ar chwe cham gweithredu a allai leihau tlodi plant. Un ohonynt oedd taliad plant Cymru, sydd newydd gael ei drafod gan siaradwyr cynharach. Tybed pa mor hawdd fyddai gwneud hynny, o ystyried nad oes gennym reolaeth o hyd dros weinyddu budd-daliadau lles, oherwydd pan wnaethom gyflwyno'r incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, rwy'n cofio bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu cael gwared ar y budd-daliadau yr oedd y bobl ifanc hynny'n gymwys i'w cael. I bob pwrpas, roedd hynny'n diddymu effaith y polisi, a oedd yn ffordd go warthus o brofi polisi newydd i sicrhau canlyniadau gwell i bobl sy'n gadael gofal.

Diolch am dderbyn yr ymyriad, ac rydych chi'n llygad eich lle, wrth gwrs, fod heriau i'w cael wrth gymryd camau fel hyn, gan nad oes gennym y pwerau y credwn y dylem eu cael yng Nghymru. Rydym yn credu ein bod wedi dod o hyd i ffordd o gyflwyno taliad uniongyrchol o'r fath. Ond hoffwn nodi fy mod wedi gofyn i'r Prif Weinidog yma bwyso ar y Trysorlys i ganiatáu i ni yng Nghymru gymryd y camau hyn heb gosb. Tawelwch oedd yr ymateb a gawsom.

Wel, mae yna restr hir o bethau y mae angen ymagwedd well tuag atynt gan Drysorlys y DU, sy'n amlwg yn cael ei redeg gan bobl sy'n hoff o reoli ac sy'n llythrennol eisiau rheoli popeth sy'n digwydd yn y wlad hon o Whitehall. Mae'n ffordd gwbl hurt o fwrw ymlaen, ac mae'n un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at yr anghydfod yn ein cymdeithas, a bod yn onest. Nid wyf am ymhelaethu ar hynny nawr.

Yn amlwg, gwaith llawn amser yw'r llwybr gorau allan o dlodi. A minnau'n arfer rhedeg rhaglen Cychwyn Cadarn, gallaf eich sicrhau bod hynny'n hollol wir, ond mae'n anodd iawn i bobl â phlant bach gymryd gwaith llawn amser am fod cost y gofal plant yn fwy na beth bynnag y maent yn ei ennill drwy eu cyflog. Felly, gan ein bod yn delio yma â thlodi plant, credaf y dylem ganolbwyntio ar wella gallu rhieni i wneud gwaith rhan-amser, fel y gallant wneud y gorau o'r trefniadau gofal plant.

Yn amlwg, mae gennym raglen Dechrau'n Deg a'r addysg feithrin ar gyfer plant dwy oed, ond ni fydd hynny ynddo'i hun yn galluogi pobl i weithio, gan nad yw'r amseru'n ddigonol i'ch galluogi i fynd i'r gwaith ac yn ôl. Felly, rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth y mae angen inni wneud mwy ohono, i'w gwneud yn hawdd, oherwydd pan fydd rhywun yn meddwl am fynd yn ôl i'r gwaith, byddant yn pwyso a mesur, 'Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi fynd o'r lleoliad gofal plant i'r gweithle ac yn ôl eto, fel y gallaf farnu'n union faint y bydd yn rhaid i mi ei dalu yn ychwanegol at yr hyn rwy'n gymwys i'w gael?'

Yn amlwg, unwaith y bydd plant yn hŷn, daw'r cyfan yn llawer haws, gan fod pethau fel y brecwast am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd yn fantais enfawr i rieni sy'n gweithio, am nad oes angen y brecwast ar lawer ohonynt o reidrwydd i fwydo eu plant; mae arnynt ei angen er mwyn gallu cyrraedd y gwaith mewn pryd. Ac yn yr un modd, mae clybiau ar ôl ysgol hefyd yn ffordd arall o gefnogi rhieni sy'n gweithio.

Felly, mae'r pethau hynny'n bethau yr ydym wedi gwneud yn dda iawn arnynt, ac rydym wedi bod yn arwain ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig i Loegr hefyd erbyn hyn. Ond credaf mai diddymu'r terfyn dau blentyn yw'r ffordd fwyaf amlwg y byddwn yn cael gwared ar gymaint â phosib o dlodi plant, ac mae'n rhaid inni obeithio y bydd y Canghellor yn mynd i'r afael ag ef. Nid yw'n ddigon da dweud, 'O, fe wnawn ei ddiddymu ar gyfer y trydydd plentyn', gan mai hawl y plentyn ydyw; pa un a ydych chi'n bedwerydd, pumed neu chweched plentyn, mae gennych hawl i'r cymorth a gafodd y plentyn cyntaf a'r ail. Felly, nid wyf yn credu hynny o gwbl, a dyna ddylem ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU, oherwydd yn chweched economi fwyaf y byd, dylem fod yn canolbwyntio ar anghenion plant. Mae hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ond mae'n rhaid ei wneud mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU.

17:35

Fel rydym ni wedi clywed yn barod, mae angen brys am ddull newydd a datrysiadau newydd i'r broblem o dlodi plant ar hyd a lled Cymru, gan fod, yn syfrdanol, 25 y cant neu fwy o blant yn byw mewn tlodi mewn 94 y cant o'n hetholaethau ni. Mae hwnna'n gwbl syfrdanol: bron ym mhob etholaeth yng Nghymru mae rhyw chwarter y plant yn byw mewn tlodi, felly mae'n broblem ar draws Cymru gyfan.

Fodd bynnag, dyw'r atebion ddim yr un fath ym mhob rhan o'r wlad. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, fod y ffactorau sy'n achosi tlodi yn ogystal â chanlyniadau tlodi mewn ardaloedd gwledig yn wahanol i’r rhai mewn ardaloedd trefol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae tlodi gwledig yn parhau i fod yn anodd i'w adnabod ac yn aml yn cael ei anwybyddu neu ei ddiystyru, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn tlodi.

Rydym ni'n gwybod hefyd, o sawl astudiaeth, fod tlodi gwledig yn ffenomenon aml-ddimensiwn a chymhleth. Yn ôl Sefydliad Bevan, mae teuluoedd gwledig yn wynebu gwasgfa driphlyg, neu triple squeeze: costau byw sy'n cynyddu’n gyflym, cyflogau isel, a chefnogaeth annigonol gan y wladwriaeth, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus annibynadwy. Ac o ganlyniad, mae llawer o rieni yn cael eu gorfodi i wneud y penderfyniad creulon, eithriadol o anodd, rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwydo eu plant.

Rydym ni'n gwybod bod methiannau meysydd polisi gwahanol yn pwyso'n drymach ar deuluoedd mewn cymunedau gwledig ac yn cyfrannu at lefelau tlodi gwaeth na'r cyfartaledd. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael, diffyg tai fforddiadwy, costau ynni uwch, darpariaeth gofal plant tameidiog, mynediad digidol anghyson, mynediad cyfyngedig at hyfforddiant a rhwystrau i addysg bellach, ac wrth gwrs llai o gyfleoedd o ran swyddi sydd â chyflogau da.

Yn ogystal â hyn, mae'r ansicrwydd sy'n wynebu'r sector ffermio yng ngoleuni’r newidiadau cyfredol i daliadau amaethyddol yn dyfnhau'r broblem, ac fel rydym ni'n gwybod, mae'r fferm deuluol yn asgwrn cefn i economi cefn gwlad Cymru. Dangosodd adroddiad diweddar ar dlodi gwledig gan y Sefydliad Bevan fod cyfraddau cyflog gweithwyr mewn cymunedau gwledig yn gymharol isel. Er enghraifft, mae gweithiwr yn Arfon tua £1,000 y flwyddyn yn dlotach na gweithiwr tebyg mewn rhannau eraill o Gymru, a £3,000 yn dlotach na gweithiwr cyffelyb yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol.

Gall effeithiau tlodi bara am oes. Mae'n effeithio ar iechyd, lles, hyder ac addysg plant. Gall hyn oll ei gwneud yn anos i bobl ifanc aros yn eu cymunedau ac adeiladu dyfodol yn agos at adref. Yn lansiad eu maniffesto heddiw yn y Senedd, rhannodd Barnardo's Cymru ddata o arolwg barn a gynhaliwyd ganddynt gyda Sefydliad Bevan, a ddangosodd fod 43 y cant o rieni o'r farn y byddai cyfleoedd eu plant yn 18 oed yn waeth na'u rhai eu hunain. Pedwar deg tri y cant. Mae hyn yn dangos yn glir sut y mae effaith negyddol tlodi yn difetha cyfleoedd bywyd ac yn erydu hyder a gobaith ymhlith pobl ifanc. Nid oes unrhyw beth gwaeth i bobl sy'n byw mewn caledi enbyd na diffyg gobaith.

Dyna pam fod arnom angen dull clir wedi'i dargedu o drechu tlodi plant, gan gynnwys ffocws penodol ar ardaloedd gwledig. Rhaid i bolisïau fynd i'r afael â'r heriau penodol y mae'r cymunedau hyn yn eu hwynebu gan greu cyfleoedd economaidd go iawn i bobl ifanc hefyd. Y llynedd, cyflwynais strategaeth tlodi gwledig a oedd yn cynnwys cynnig, fel y clywsom eisoes—cyfeiriodd nifer ym Mhlaid Cymru ato—ar gyfer taliad plant, yn debyg i'r un yn yr Alban. Mae'r dystiolaeth yn glir fod rhoi cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau tlodi a gwella canlyniadau i blant, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd Plaid Cymru yn ei wneud fel Llywodraeth. Yn olaf, gwneuthum gynnig hefyd i ymgorffori'r broses o brawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad ar draws pob un o feysydd polisi'r Llywodraeth, drwy greu dyletswydd statudol.

Felly, i gloi, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i gefnogi'r cynigion hyn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ledled y wlad. Mae'n bryd gweithredu mewn ffordd sy'n rhoi cyfle i bob plentyn ffynnu, ble bynnag y maent yn byw, ac i gael gwared ar y stigma a'r trafferthion annatod sy'n gysylltiedig â thlodi.

17:40

Dwi'n sefyll yma y prynhawn yma wedi bod yn gwrando ar drafodaeth a gawson ni am yr economi, ac mae’n anodd datgysylltu yr hyn oedden ni’n ei glywed yn gynharach o’r ddadl hon, oherwydd mae’r cysylltiad yna mor amlwg. Beth sy’n fy ngwylltio i ydy diffyg ymwybyddiaeth y Torïaid o’r tlodi sydd wedi cael ei greu yma yng Nghymru ac mai gwaethygu wnaeth pethau, oherwydd mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, onid oes? Pam mae unrhyw un ohonom ni yma? Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn Aelod o’r Senedd? Wel, buaswn i’n gobeithio, pan dwi’n cael y cwestiwn yna mewn ysgolion, fel rydych chithau, ei fod o oherwydd ein bod ni eisiau gwneud gwahaniaeth, oherwydd ein bod ni eisiau gwella pethau yn ein cymunedau ni. Dwi’n mawr obeithio nad yw'r un ohonoch chi, pan ydych chi’n cael y cwestiwn yna fel dwi’n ei gael, yn ateb eich bod chi eisiau gwneud pethau’n waeth i bobl, oherwydd nid dyna pam ein bod ni yma. Mae yna gyfrifoldeb arnom ni.

Os nad ydyn ni’n gallu datrys hyn—tlodi—a rhoi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru, yna pam ydyn ni yma? Ydyn, medrwn ni feio’r pethau sy’n digwydd, ond mae’n rhaid cymryd cyfrifoldeb hefyd am y ffaith mai penderfyniadau gwleidyddol sy’n creu tlodi, sy’n golygu bod penderfyniadau gwleidyddol yn gallu datrys tlodi. Felly, medrwn ni feio ein gilydd, ond mae yna gyfrifoldeb hefyd i edrych ar syniadau amgen, edrych yn rhyngwladol ar bethau sydd yn gweithio a lle mae’r dystiolaeth yna, i fod â’r hyder i fod yn eu cyflwyno nhw.

A dyna sydd gennym ni yma heddiw: cynnig difrifol ar gyfer sefyllfa argyfyngus o ran tlodi yng Nghymru. Wedi’r cyfan, mae gennym ni Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yma yng Nghymru, rhywbeth dwi’n falch iawn ohono fo, ond i blentyn yng Nghymru sydd yn mynd i’r gwely yn llwglyd, sydd efo iwnifform sydd ddim yn eu ffitio nhw’n iawn, sydd ddim yn gallu mynd ar y trip ysgol yna, ac weithiau yn methu mynd i’r ysgol gan fod eu rhieni nhw’n methu â fforddio’r bws—ac mae hwnna’n digwydd yma yng Nghymru rŵan, yn y cymunedau dwi’n eu cynrychioli—ydyn ni wir, wir yn gallu dweud wrthyn nhw ein bod ni yna iddyn nhw, i genedlaethau'r dyfodol, ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol? Na allwn. Felly, mae yna gyfrifoldeb arnom ni, nid i jest siarad am y pethau rydyn ni'n eu gwneud, ond i drawsnewid bywydau pobl.

Oherwydd ar adeg pan ymddengys bod gan rai pobl ddigonedd o adnoddau, mwy o arian nag y gallent fyth freuddwydio ei wario—a diolch, Jenny, am ein hatgoffa o'n cyfoeth fel cenedl—mae rhai pobl yn mynd yn gyfoethocach, ond mae mwy a mwy o bobl yn mynd yn dlotach. Mae'r ffaith bod banciau bwyd wedi'u normaleiddio i'r fath raddau yn ein cymunedau yn gywilyddus. Mae'n rhywbeth y bydd pobl yn ei astudio yn y dyfodol ac yn meddwl pa mor gywilyddus yw hi na wnaethom weithredu. A hoffwn ofyn, unwaith eto, i Lywodraeth Cymru ddweud yn eu hymateb: sut rydym yn mynd i atal yr angen i fanciau bwyd fodoli? Oherwydd dylai adroddiad diweddaraf Trussell ynghylch llwgu yng Nghymru godi cywilydd ar bob un ohonom—ar bob un ohonom—mai dyma'r realiti yng Nghymru heddiw. Mae gormod o blant yn cael cam ar hyn o bryd ac maent yn cael eu cosbi oherwydd diffyg gweithredu. Os nad awn i'r afael â thlodi plant, cael y cynlluniau wedi'u targedu hyn a dechrau gweld gwelliannau, ni chredaf y dylem fod yn mynd dros y byd i siarad am ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol, os nad ydym yn gwella bywydau plant yma yng Nghymru.

Mae gwaith achos yn rhywbeth y mae pob un ohonom o ddifrif yn ei gylch, ac mae tlodi'n rhywbeth y credaf na ddylai unrhyw un orfod byw gydag ef. Ymweld â'n banciau bwyd a gweld y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan elusennau, sefydliadau'r trydydd sector a gwirfoddolwyr, gall hynny i gyd fod mewn perygl hefyd, gyda'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol. Nid wyf eisiau ein gweld yn siarad am dlodi plant a'r holl gynlluniau hyn ac ati, rwyf eisiau gweld gweithredu'n digwydd. Felly, rwy'n annog pob Aelod yma: gofynnwch i chi'ch hunain heddiw pam eich bod chi yma. A phan fyddwch yn pleidleisio dros y cynnig, cefnogwch yr angen am daliad plant, y profwyd ei fod yn gweithio. Mae angen inni weld gweithredu, nid cynlluniau gweithredu.

17:45

Cerddwch drwy unrhyw gymuned yng Nghymru, ac fe welwch wirionedd syml: nid yw canlyniadau iechyd wedi'u dosbarthu'n gyfartal. Mewn rhai codau post, mae pobl yn byw ymhell i mewn i'w nawdegau; mewn eraill, mae salwch cronig yn dechrau yn eu pumdegau ac mae bywydau'n cael eu torri'n fyr ddegawdau'n rhy gynnar. Y ffactor pennaf sy'n dylanwadu ar y canlyniadau hynny yw tlodi. Tlodi sy'n pennu a all teulu fforddio bwyd iach, a yw eu cartref yn gynnes ac yn ddiogel, a yw gwaith neu chwarae yn niweidio eu hysgyfaint, ac a allant gael mynediad at ofal meddygol pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Mae'r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y rhannau mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig o Gymru bron yn 17 mlynedd i fenywod ac yn fwy na 13 mlynedd i ddynion. Yn syml iawn, mae lle rydych chi'n byw yn pennu pa mor hir a pha mor dda rydych chi'n byw.

Mae'r anghydraddoldebau'n dechrau cyn i blentyn gael ei eni hyd yn oed. Y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd o genhedlu hyd at 2 oed yw'r cyfnod pwysicaf ar gyfer twf corfforol, datblygiad yr ymennydd a lles emosiynol. Fodd bynnag, mae plant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi yn llawer mwy tebygol o wynebu risgiau, hyd yn oed yn y dyddiau cynharaf hynny. Cyfraddau uwch o ysmygu yn ystod beichiogrwydd, cyfraddau is o fwydo ar y fron a thebygolrwydd uwch o farwolaethau babanod. Erbyn eu bod yn 18 mis, mae bylchau sy'n gysylltiedig ag incwm mewn datblygiad iaith a pharodrwydd ar gyfer yr ysgol eisoes yn weladwy. Golyga hynny fod anfantais yn anochel cyn i blentyn gyrraedd gatiau'r ysgol hyd yn oed.

Mae tlodi parhaus yn gynnar mewn bywyd yn cynyddu'r risg o ordewdra a chyflyrau iechyd hirdymor yn nes ymlaen. Mae straen cronig yn y blynyddoedd cyntaf hyn yn effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd, gan danseilio iechyd meddwl, rheoleiddio emosiynol a sgiliau gwybyddol. Mae'r dystiolaeth yn llethol: mae tlodi yn y 1,000 diwrnod cyntaf yn gadael ôl parhaol.

Wrth i blant dyfu, mae'r anghydraddoldebau hyn yn ehangu. Mae cyfraddau goroesi canser bron i 20 pwynt canran yn is yn ein cymunedau tlotaf o gymharu â'r rhai cyfoethocaf. Mae salwch anadlol fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod yn angheuol mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae gordewdra'n parhau i fod yn bryder dybryd. Mae dros chwarter y plant pedair i bump oed dros bwysau. Mewn rhai ardaloedd, mae gordewdra pan fydd plentyn yn dechrau yn yr ysgol mor isel â 9 y cant, ond mewn ardaloedd mwy difreintiedig, fel Castell-nedd Port Talbot, mae'n codi i 14 y cant neu hyd yn oed i 16 y cant. Mae gordewdra difrifol yn effeithio ar oddeutu 3.1 y cant o blant, gyda'r gyfradd yn ein hardaloedd tlotaf bron ddwywaith y gyfradd yn ein hardaloedd cyfoethocaf.

Mae'r un anghydraddoldeb yn amlwg ym maes iechyd meddwl. Yn 2023, nodwyd bod gan un o bob pump o blant rhwng wyth ac 16 oed yn Lloegr anhwylder meddwl tebygol, gyda chyfraddau'n uwch ymhlith y rheini sy'n tyfu i fyny mewn tlodi. Teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi yw'r rhai sydd leiaf abl i fforddio'r gweithgareddau allgyrsiol, tai diogel a bwyd iach sy'n cefnogi lles.

Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â chanser, clefyd y galon, salwch meddwl, salwch anadlol a llawer mwy, ni ellir trin trechu tlodi fel cyfrifoldeb rhywun arall. Mae trechu tlodi'n bolisi iechyd. Mae a wnelo ag atal. Mae a wnelo â gwydnwch. Mae a wnelo â thegwch. Mae pob punt a fuddsoddwn i leihau amddifadedd yn bunt a fuddsoddir mewn bywydau hirach, cymunedau iachach a GIG cryfach a mwy gwydn. Mae tlodi'n byrhau bywydau. Bydd ei drechu yn eu hachub.

17:50
Member (w)
Jane Hutt 17:51:47
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon.

Gwyddom fod gormod o blant yn byw mewn tlodi. Mae ein hystadegau ein hunain ar gyfer y tair blynedd hyd at 2024 yn dangos bod 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn rhagweld y bydd yn 32 y cant eleni. Ni ellir cuddio rhag yr ystadegau hyn. Maent yn llwm. Maent yn parhau i ddangos maint yr her y mae plant yn ei hwynebu bob dydd.

Mae'r ddadl hon yn rhoi cyfle imi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drechu tlodi plant fel blaenoriaeth hollbwysig, gan ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni ar hyn o bryd. Mae strategaeth tlodi plant Cymru yn nodi'r camau gweithredu yr ydym wedi bod yn eu rhoi ar waith fel Llywodraeth Cymru, gan nodi'n glir ein huchelgeisiau ar gyfer y tymor hwy. Mae'n amlinellu sut rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth, a chyda phartneriaid, i wneud y mwyaf o effaith yr ysgogiadau sydd ar gael i ni er mwyn trechu tlodi plant.

Byddaf yn cyhoeddi ein hadroddiad ar gyflawni'r strategaeth tlodi plant ddechrau mis Rhagfyr. Bydd yn cynnwys ein fframwaith monitro a thystiolaeth a gasglwyd gennym oddi wrth bobl â phrofiad bywyd o dlodi. Rhwng 2022 a 2026, rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn mewn ymyriadau sy'n lleihau costau ac sy'n gwneud y gorau o incwm teuluoedd, ac yn cadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru, yn unol ag amcan 1 yn ein strategaeth tlodi plant.

Fel y nodwyd yn y ddadl hon, mae gofal plant yn allweddol i alluogi rhieni i weithio. Mae hynny, unwaith eto, wedi'i nodi fel elfen allweddol i drechu tlodi plant ym mhapur Policy in Practice. Mae ein cynnig gofal plant yn darparu hyd at 30 awr o addysg feithrin a gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru am 48 wythnos y flwyddyn i deuluoedd cymwys.

Mae angen inni dyfu'r gweithlu. Rydym wedi cynyddu'r gyfradd yr awr i £6.40 ar gyfer y cynnig gofal plant, ac—fel sydd wedi'i ddweud a'i gydnabod—rydym yn ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwy oed yng Nghymru, gan ddod â Chymru gam yn nes at ddarpariaeth ofal plant i bob plentyn dwy oed. Rydym yn cytuno ar hyn, ac mae'n rhywbeth rydym yn ceisio bwrw ymlaen ag ef gyda'n gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwgu. Mae cymaint y gallwn gytuno arno, ac y gallwn gytuno arno yn y ddadl hon ac yn y cynnig hwn, o ran sut yr awn ati i drechu tlodi plant. Ie, ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob dysgwr cynradd, a do, fe ddigwyddodd hynny o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Mae ein cynnig cyffredinol, ochr yn ochr â'n cynllun llaeth ysgol a pholisi hirsefydlog brecwastau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, yn golygu mai Cymru sydd â'r cynnig mwyaf hael yn y DU o ran bwyd yn yr ysgol. Mae'n bwysig cofnodi hynny eto heddiw, ein bod yn gwneud cynnydd gyda'n gilydd. Yn 2021, amcangyfrifodd Sefydliad Bevan fod pryd ysgol am ddim yn werth £764 y plentyn y flwyddyn ar gyfartaledd, ac mae hynny'n cyfateb i gyfraniad ariannol fesul plentyn o ychydig o dan £15 yr wythnos, gan roi mwy o arian ym mhocedi teuluoedd ar gyfer y plant hynny. Rwy'n credu bod hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd gyda'r pwerau sydd gennym. Mae ein grant hanfodion ysgol yn darparu £125 fesul dysgwr cymwys ar gyfer pob grŵp blwyddyn hyd at flwyddyn 11, gyda £200 ar gyfer dysgwyr cymwys ym mlwyddyn 7, gan alluogi plant o deuluoedd incwm isel i fynychu'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion.

Mae ein gwaith i symleiddio system fudd-daliadau Cymru yn parhau ar gyflymder. Gwyddom fod gwerth miliynau o bunnoedd o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru o hyd, ac mae gennym ddyletswydd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a llywodraeth leol, i wella'r nifer sy'n manteisio ar y budd-daliadau hyn i bob cenhedlaeth, ond yn enwedig teuluoedd â phlant. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i gyflawni siarter budd-daliadau Cymru, a lansiwyd gennym ar yr un pryd â'n strategaeth tlodi plant, gan symleiddio budd-daliadau Cymru i fynediad at brydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgol, yn ogystal â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n werth £290 miliwn.

Mae ein cynllun peilot gyda Policy in Practice yn galluogi 12 awdurdod lleol i archwilio'r defnydd o'u hofferyn tracio teuluoedd incwm isel sy'n rhannu data i nodi'r hawl y mae pobl yn colli allan arni i ystod o gymorth sy'n dibynnu ar brawf modd, gan gynnwys talebau Cychwyn Iach, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein cronfa gynghori sengl flaenllaw.

17:55

Rwy'n falch eich bod yn derbyn yr ymyriad. Rydych wedi rhoi rhestr i ni eto o'r pethau yr ydych chi wedi'u gwneud—a rhai ohonynt wedi'u gwneud gennym mewn partneriaeth, ac rydym yn falch o hynny—ond fe wyddom, fel y dywedodd Delyth Jewell, ein bod wedi cael rhybudd clir yn dangos i ni y bydd Cymru yn wynebu'r gyfradd uchaf o dlodi plant erbyn 2029. Felly, pam eich bod chi'n credu nad yw'r pethau a wnaethoch dros y 26 mlynedd diwethaf wedi arwain at ostyngiad mewn tlodi plant?

Rwy'n credu mai'r camau cryfaf y gellir eu cymryd i gael effaith ar lefelau tlodi plant heddiw yw drwy bolisïau nawdd cymdeithasol, ac mae hynny'n glir iawn yn yr holl dystiolaeth, ac yn wir, yn adroddiad Policy in Practice. Dyna pam fy mod wedi codi'r mater yn gyson gyda Llywodraeth y DU, drwy'r ymgysylltiad pedair gwlad ar strategaeth tlodi plant y DU. Ynghyd â'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, rwyf wedi galw'n gyson, ac rydym wedi'i drafod y prynhawn yma, am gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn. Roedd yn galonogol gweld y penawdau ddoe, onid oedd? Bydd Rachel Reeves yn cael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau yng nghyllideb mis Tachwedd. Mae hynny'n newyddion da, ac rydym wedi galw am hynny. Gwn mai dyna fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran polisïau nawdd cymdeithasol ar y plentyn—[Torri ar draws.] Iawn, rwy'n gorffen fy mrawddeg, diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Sioned.

Dim ond pwynt o eglurhad ar hynny, ac rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad pellach. Rydych chi'n dweud eich bod yn galw am gael gwared ar y cap dau blentyn. A ydych chi'n cytuno â chynghrair Dileu Tlodi Plant, er enghraifft, y dylid cael gwared ar y cap yn gyfan gwbl i bawb? Ai dyna rydych chi'n galw ar Rachel Reeves i'w wneud yng nghyllideb mis Tachwedd—cael gwared arno'n gyfan gwbl?

Rydym yn sicr wedi galw am gael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau yn gyfan gwbl, yn ddiamod.

Mae'n bwysig, unwaith eto, fel y dywedais, ein bod yn edrych ar yr adolygiad tlodi plant y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud. Rwy'n falch y gallwn weithio gyda Llywodraeth, yn wahanol i'r Llywodraeth Geidwadol flaenorol, sy'n barod i gael strategaeth tlodi plant, sy'n barod i weithio ar draws y pedair gwlad, sy'n barod i wrando arnaf yn siarad fel Gweinidog Llafur Cymru, o'r cychwyn cyntaf, yn dweud, 'Dyma'r effaith fwyaf y gallech ei chael ar drechu tlodi plant.'

Hoffwn gydnabod yr hyn a ddywedodd Gordon Brown yr wythnos diwethaf, yn 'Labour Works: Local Action on Child Poverty'. Fe ddywedodd, 'Yr adolygiad tlodi plant yw'r amser i ddangos ein bod ni fel cymdeithas yn gyfoethocach pan fyddwn yn gofalu am y tlodion, yn fwy diogel pan fyddwn yn cefnogi'r rhai bregus, a phan fydd y cryfion yn helpu'r gwan, mae'n gwneud pob un ohonom yn gryfach.'

Gan ddychwelyd at y pwynt penodol yn y ddadl, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi sylw i'r mater yn ymwneud â thaliad plant yr Alban. Fel y gŵyr yr Aelodau'n iawn, ac rydym wedi'i drafod, nid oes gennym bwerau datganoledig i ddeddfu ar gyfer cynllun tebyg i daliad plant yr Alban, ond rydym yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth yr Alban wedi'i wneud gyda'r taliad plant. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth yr Alban i ddeall yn well yr adnoddau deddfwriaethol, cyllidol ac adnoddau eraill y byddai eu hangen arnom yng Nghymru i wneud taliad ar hyn o bryd. Rydym yn gwneud ymchwil, fel y gwyddoch, i archwilio'r seilwaith sydd ei angen i ddatganoli gweinyddu lles—rwy'n cofio John Griffiths yn galw am hyn amser maith yn ôl yn ei adolygiad llywodraeth leol—a nodi'r elfennau yn y system nawdd cymdeithasol a gedwir yn ôl y gallai Llywodraeth Cymru eu gweinyddu.

Felly, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod hon yn ddadl bwysig iawn heddiw, a diolch i chi am ei chyflwyno. Fy mhwynt olaf yw ein bod yn canolbwyntio ein cyllideb, ein hadnoddau, ein hymdrechion a'n pwerau ar wneud gwahaniaeth heddiw i'r plant a'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Ac fe allwn ac fe fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd i wneud y newid hwn i drechu tlodi plant yng Nghymru. Diolch yn fawr.

18:00

Diolch yn fawr, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Roedd e'n siomedig i glywed ymateb y Ceidwadwyr, yn meddwl, fel gwnaeth Delyth sôn, nad yw unrhyw syniad sy'n effeithiol yn werth edrych arno o ran Cymru. Dwi jest yn siomedig iawn yng nghyfraniad Altaf Hussain, mae'n rhaid i mi ddweud. Doedd e ddim yn cynnig unrhyw syniadau ei hunan, jest yn difrïo syniadau rydyn ni’n gwybod sy'n gweithio. Doedd e jest ddim yn gwneud unrhyw synnwyr, a dweud y gwir.

Delyth, roedd y pwyslais yna ar gymunedau'r Cymoedd yn hollol iawn, gan dynnu ein sylw ni at y rhybudd clir yna o ran 2029, y risg yna y bydd Cymru â'r cyfradd tlodi plant uchaf yn y Deyrnas Gyfunol os na wnawn ni rywbeth yn wahanol.

Jenny, rwy'n gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr, ac yn cytuno'n llwyr â chi ar y dreth gyfoeth. Mae gennym 1 y cant o bobl yn y wlad hon sydd â mwy o gyfoeth na 70 y cant gyda'i gilydd, ac mae 16 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi. Ac fel y dywedoch chi, mae llawer ohonynt—maent yn galw eu hunain yn filiwnyddion gwladgarol—yn croesawu'r dreth hon. Felly, pam nad ydym yn gweithredu? Ac rwy'n credu eich bod chi wedi rhoi eich bys ar y mater. Mae yna fuddiannau breiniedig sy'n rheoli Llywodraethau a'r wasg a'r cyfryngau yn y wlad hon, ac mae angen inni newid y naratif ar hynny. Hefyd, rwy'n credu eich bod chi'n gywir i siarad am bwysigrwydd rheolaeth dros bwerau lles, fel y gallwn lunio ein llwybr ein hunain yn y wlad hon gyda'n gwerthoedd ein hunain, gan dynnu sylw hefyd at natur anghyson ac anfforddiadwy'r ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar dlodi.

Roedd Cefin wedyn yn sôn am ardaloedd gwledig. Mae e mor bwysig i ni wybod bod angen i ni beidio cael one size fits all, onid yw e? Mae gan gymunedau yno natur gwahanol a heriau gwahanol, ac mae dimensiwn penodol i dlodi yng nghefn gwlad—a'r ystadegyn hynod frawychus yna, a sobreiddiol, sef bod chwarter o blant, 25 y cant o blant, yn byw mewn tlodi mewn 94 y cant o'n hetholaethau ni, yr etholaethau, fel roedd Heledd yn dweud, rŷn ni i gyd yn eu cynrychioli, ac mae gyda ni ddyletswydd i wasanaethu plant y cymunedau hynny.

Wedyn, roedd Heledd yn sôn hefyd am gymryd y cyfrifoldeb a bod penderfyniadau gwleidyddol yn creu tlodi, ac y bydd penderfyniadau gwleidyddol yn datrys tlodi. Dwi’n rhannu'r gofid o ran tlodi a banciau bwyd, ac yn y blaen, yn cael eu normaleiddio.

Mabon, rydych chi'n llygad eich lle yn nodi nad yw'r canlyniadau iechyd, corfforol a meddyliol, wedi'u dosbarthu'n gyfartal yng Nghymru. Rydym yn gwybod mai penderfynydd cryfaf y canlyniadau hynny yw tlodi, a'r ffordd y mae'r 1,000 diwrnod cyntaf—gan mai am dlodi plant y siaradwn yma, onid e—yn gadael marc parhaol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Unwaith eto, fel y dywedais, fe wnaethom glywed y rhestr o'r pethau y buoch chi'n eu gwneud. Mae croeso i bob un ohonynt wrth gwrs, ac i rai o'r pethau a wnaethom mewn partneriaeth fel y dywedais. Rydych chi'n dweud nad yw'r pethau cryfaf—fe wnaethoch chi bwysleisio hynny, oni wnaethoch—pethau y gallem eu gwneud yma i sicrhau newid go iawn, wedi'u datganoli ar hyn o bryd, sef y polisi nawdd cymdeithasol. Fe ddywedoch chi fod gwaith yn mynd rhagddo ar hynny, ond fe wnaethoch chi gyfeirio eto at un o'ch Aelodau eich hun hyd yn oed yn galw am hyn dro yn ôl. Rwyf i wedi bod yn y lle hwn ers pedair blynedd. Rwyf i wedi bod yn galw amdano ers dros bedair blynedd ac mae pobl sydd wedi bod yma ers 1999, ar y meinciau hyn a meinciau eraill, wedi bod yn galw am y pwerau hynny. Gan fod gennym Lywodraeth Lafur yn y DU bellach, ar ôl yr holl flynyddoedd o ddinistr a chyni a diflastod o dan y Torïaid, pam nad yw hyn yn digwydd? Pam nad yw'n digwydd yn gyflymach? Gallem fod wedi gofyn amdano pan oedd Gordon Brown—fe gyfeirioch chi at Gordon Brown—mewn grym gyda Tony Blair. Pam na ddigwyddodd bryd hynny?

Beth bynnag, hoffwn orffen drwy fynd â ni'n ôl at etholiad diwethaf y Senedd. Rydym ni yn y Siambr hon yn canolbwyntio ar yr un nesaf nawr, ond ychydig cyn etholiad diwethaf y Senedd, gofynnodd Adam Price i'r Prif Weinidog ar y pryd, sydd bellach yn Weinidog Cyllid wrth gwrs, pa ateb y byddai'n ei roi i'r cwestiwn beth y dylai ei Lywodraeth fod wedi'i wneud yn well, wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn y swydd. Ni chyfeiriodd at wneud yn well ar dlodi plant, ond wedyn, pan ofynnwyd cwestiwn mwy damcaniaethol, athronyddol iddo—fel y mae Adam yn tueddu i wneud—ynglŷn â pha bwerau y byddai'n dewis eu gadael yn nwylo San Steffan, o ystyried y posibilrwydd o flynyddoedd pellach o reolaeth y Torïaid ar y pryd, atebodd y Prif Weinidog ar y pryd, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae llawer o bethau y gallem ni eu trafod ynghylch pa faterion fyddai'n cael eu gadael ar lefel y DU. Y peth allweddol i'm plaid i yw y byddai'r holl bethau hynny yn cael eu cytuno, ein bod ni'n gymdeithas wirfoddol o bedair gwlad... Mae cymdeithas wirfoddol o bedair gwlad yn golygu ein bod ni'n cytuno ar y pethau yr ydym ni'n dewis eu gweithredu ar lefel y DU. Mae yn ein dwylo ni, nid yn nwylo San Steffan i'w benderfynu.'

Ond fel y mae cynnig y Llywodraeth yn dangos yn glir, nid yw hynny'n wir. Efallai eich bod yn dweud nad ydych chi'n cytuno â'r cap dau blentyn, ond mae'r penderfyniad yn nwylo San Steffan, yn nwylo Llafur erbyn hyn, ac ymhen pedair blynedd, gallai lles fod yn nwylo grymoedd llawer llai blaengar. Nid ydych wedi gofyn am y pwerau y dywedwch fod eu hangen arnom i wneud gwahaniaeth allweddol nawr, neu i ddiogelu dyfodol plant ein cenedl.

Bydd Plaid Cymru yn gwthio terfynau datganoli, yn adeiladu'r achos dros gael pwerau lles ac yn defnyddio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i dreialu ac ehangu cynllun taliadau plant. Mater i Lywodraeth Lafur y DU yw pa un a yw'n dewis rhwystro'r ymdrechion hynny i fynd i'r afael â thlodi plant, gan gynnwys sicrhau nad yw'r taliad yn effeithio ar gyfrifiadau budd-daliadau. A fyddai Llafur, tybed, yn rhoi sgorio pwynt gwleidyddol o flaen lles plant Cymru pe bai Llywodraeth Cymru newydd dan arweiniad Plaid Cymru yn gweithredu yn y ffordd feiddgar honno?

Mae pris ehangach i'w dalu am ddiffyg gweithredu, a Jenny, fe gyfeirioch chi at hyn. Rydym yn dyst iddo. Mae cyrff ac eneidiau yn ein trefi a'n pentrefi yn y fantol. Mae angen inni weld adfer ffydd y gall Llywodraethau newid bywydau pobl er gwell, eu bod yn barod i wrando ar dystiolaeth arbenigwyr a rhoi'r gorau i sloganau gwag pan fo pobl yn teimlo nad oes unrhyw beth yn newid. Mae bodolaeth y Senedd hon, ein democratiaeth, yn dibynnu ar hynny. Felly, mae'r amser i reoli tlodi a delio â'i ddinistr ar ben. Mae'n bryd cael dull newydd o weithredu. Rwy'n apelio ar yr holl Aelodau i ddangos eu bod yn deall hyn drwy gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

O'r gorau. Diolch.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

9. Cyfnod Pleidleisio

Cyn i mi symud ymlaen at y pleidleisio, mae'n ymddangos bod yna Aelod yn pleidleisio o'i gar ac felly, ni fyddaf yn derbyn y bleidlais honno, yn unol â'r canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi. 

Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 5, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

18:10

Eitem 5. Dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar dipio anghyfreithlon: O blaid: 34, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Yr economi. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.

Rwy'n ymddiheuro. Rhaid i mi weld sut i gael trefn ar y sgrin, am fod y bleidlais yn gyfartal, ond rhaid i mi dynnu un bleidlais, felly nid yw'n gyfartal. Felly, rhaid i mi geisio cael trefn ar fy sgrin.

O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Yr economi. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Yr economi. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.

Bydd y bleidlais derfynol heno ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar dlodi plant. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

18:15

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - tlodi plant. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 1 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n orfodol, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn gwelliant 1. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - tlodi plant. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 24, Ymatal: 1

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 yn enw Paul Davies.  Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, 12 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod. 

Eitem 8. Item title. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 13, Yn erbyn: 24, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.

A dyna'r diwedd ar ein pleidleisio ni heddiw.

10. Dadl Fer: Cefnogi afancod: Symud gyda'r afon i reoli'r gwaith o ailgyflwyno afancod yng Nghymru

Symudwn ymlaen nawr at y ddadl fer, a galwaf ar Joyce Watson i siarad.

A wnewch chi adael yn ddistaw os gwelwch yn dda?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r ddadl fer heno. Rwy'n falch iawn o roi peth o fy amser i Carolyn Thomas. Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaethau Natur Cymru, y mae'n anrhydedd i mi fod yn hyrwyddwr afancod ar eu rhan, am eu cefnogaeth yn helpu i dynnu'r ddadl hon at ei gilydd.

Mae peth amser wedi mynd heibio ers i mi gael cyfle i gyflwyno dadl fer, a chydag etholiad y flwyddyn nesaf ar y gorwel, ystyriais y pynciau y defnyddiais y platfform hwn i dynnu sylw atynt dros y bron i 20 mlynedd y bûm yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru—llifogydd dŵr wyneb, adferiad glas a gwyrdd, dad-ddofi tir—ac mae'r ddadl heddiw'n cyffwrdd â llawer o'r themâu sydd wedi fy niddori a fy ysbrydoli drwy gydol fy nghyfnod fel Aelod o'r Senedd.  Yn wir, rwy'n cofio dysgu am yr astudiaethau dichonoldeb ar ryddhau afancod gwyllt am y tro cyntaf wrth ymgyrchu ar gyfer fy etholiad cyntaf yn fuan ar ôl i Ymddiriedolaethau Natur Cymru ddechrau eu prosiect afancod yn 2005. Felly, mae hon yn ddadl sydd wedi bod yn yr arfaeth ers amser hir. Ond mae hefyd yn gyfredol iawn, gyda chefnogaeth y Llywodraeth yma ac yn San Steffan, a dau ddegawd o ymgyrchu amgylcheddol a gwaith maes yn dod at ei gilydd gan olygu mai nawr yw'r amser i gyflawni ar ran afancod yng Nghymru.

Fel y dywedais, mae prosiect afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ddichonoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Cynhaliwyd y prif astudiaethau rhwng 2009 a 2012, gan ymchwilio i ystod o bynciau, yn cynnwys ecoleg afancod, barn rhanddeiliaid a rheoli afancod. Penderfynodd arolygon ecolegol a gynhaliwyd i nodi addasrwydd cynefinoedd fod digonedd o gynefin, a bod ailgyflwyno afancod i Gymru yn ecolegol ymarferol ac yn ddymunol. Dewiswyd chwe dalgylch afon fel safleoedd posib, ac ar hyn o bryd mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddalgylch Dyfi, lle mae nifer bach o afancod yn byw'n wyllt.

Felly, pam y dylem gyflwyno afancod i Gymru? Yn bennaf oherwydd, ar adeg pan fo'n hafonydd dan fygythiad, gallent fod yn hanfodol i wella ansawdd dŵr a lleihau perygl llifogydd. Mae afancod yn ecobeirianwyr anhygoel, yn rheolwyr gwlyptiroedd cynhenid, yn adfer cynefinoedd, yn cynyddu bioamrywiaeth, yn atal llifogydd ac yn darparu pob math o wasanaethau ecosystem. Maent yn adeiladu argaeau ddim ond lle bo'u hangen, gan greu amgylcheddau iraidd, amrywiol. Maent yn bondocio coed, gan agor y canopi er budd planhigion a bywyd gwyllt llai o faint ac yn gwella iechyd coetiroedd, sefydlogrwydd glannau afon ac ansawdd dŵr.

Darllenais adroddiad ardderchog ar y modd y mae ffermwr yng Nghernyw yn defnyddio afancod i atal llifogydd. Ers rhyddhau cwpl i mewn i gae ar ei dir yn 2017, mae'n dweud eu bod wedi ei arbed rhag sychder, wedi atal llifogydd yn y pentref cyfagos, wedi rhoi hwb i'r economi leol a hyd yn oed wedi gwella gwelyau wystrys ym mae Falmouth. Ac ar yr un pryd, mae ei fferm mor gynhyrchiol yn economaidd ag yr oedd o'r blaen. Yn fyr, gallai ailsefydlu poblogaethau cynaliadwy anadlu bywyd newydd i'n system ddŵr er budd bywyd gwyllt a phobl.

Ond wrth gwrs, mae unrhyw newid i reoli tir yn creu heriau. Gallai achosion o wrthdaro ddeillio o bresenoldeb afancod, fel llifogydd lleol, difrod i gnydau a chwympo coed addurnol. Mae pysgod sy'n mudo yn bryder hefyd, ond at ei gilydd, mae afancod yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd afonydd ac felly ar boblogaeth pysgod. Mae ganddynt eu clefydau cynhenid, ond mae'r parasitiaid a gariant yn debyg i rai cnofilod eraill, fel llygod mawr a llygod y dŵr. Felly, nid ydynt yn dod ag unrhyw beth newydd i'r ecosystem honno.

Ond rhaid inni gydnabod a chynllunio i liniaru'r rhyngweithiadau hyn, a'r allwedd i hynny yw rheoli effeithiol. Yn allweddol, gellir rheoli afancod yn hawdd ac ar gost gymharol isel. Gallwn ddysgu o fodelau rhyngwladol. Mae llawer o wledydd Ewropeaidd wedi datblygu systemau rheoli afancod cadarn. Mae gan Bafaria hanes 30 mlynedd o ailgyflwyno afancod, a nhw sy'n darparu'r templed gorau ar gyfer y ffordd y gall rheoli gwrthdaro arwain at esblygiad system sy'n annog cyd-fodoli llwyddiannus a chynaliadwy rhwng afancod a defnyddwyr tir.

Ar ddiwedd y tymor diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad yn y Senedd i ddangos rhaglen ddogfen natur newydd sy'n archwilio'r materion penodol hynny. Wedi'i chynhyrchu gan yr Ymddiriedolaeth Afancod a'i lleisio'n wych gan y Fonesig Joanna Lumley, mae Balancing the Scales yn archwilio'r berthynas rhwng afancod, pysgod a'n hecosystem afonydd.

Ac yn ystod y toriad, ymunodd Carolyn, fy nghyd-Aelod, a minnau â thîm prosiect afancod Cymru yng Nghors Dyfi, lle ceir cae sy'n cynnal teulu o afancod. Un afanc sydd yno nawr mewn gwirionedd. Buom yn trafod cynigion sydd i'w cymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno ychydig mwy ar y safle ac i wella'r iechyd genetig, a chae newydd hefyd ger Tregaron lle mae'r sefydliad yn gweithio gyda'r tirfeddiannwr ar lawer o waith cadwraeth cyffrous ac arloesol.

Os ydym am osgoi bod ar ei hôl hi, rhaid inni roi statws rhywogaethau gwarchodedig i afancod. Rhaid inni eu cydnabod fel rhywogaeth frodorol. Yn ail, daw'r cyllid ar gyfer prosiect afancod Cymru ar hyn o bryd o'r rhaglen Rhwydweithiau Natur, a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru, a daw'r rhaglen honno i ben ym mis Mawrth 2026. Gallai fod cyfle i gynnwys afancod yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Nid oes angen i fesurau sôn yn benodol am afancod, ond gallent ddarparu cymorth i greu cynefinoedd gwlyptir a bod yn ddigon hyblyg i ymdopi ag afancod sy'n dod yno neu sy'n gadael hanner ffordd drwy gytundeb cynllun ffermio cynaliadwy. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yr adeg hon y llynedd yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i drefniadau dan reolaeth i ailgyflwyno afancod yng Nghymru, felly mae heddiw'n gyfle amserol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, ac edrychaf ymlaen yn fawr at eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae afancod wedi diflannu yng Nghymru ers cyfnod y Tuduriaid, ac eto mae'r anifail mawreddog hwn yn dal ei afael ar ein dychymyg, gyda gwreiddiau diwylliannol dwfn yn ein henwau lleoedd a'n llên gwerin, yn ogystal â'r manteision amgylcheddol enfawr a ddaw yn eu sgil. Maent yn anifeiliaid cymdeithasol, maent yn paru am oes, maent yn byw mewn grwpiau teuluol agos, ac efallai ein bod ni'n gweld ein hunain ar ein gorau ynddynt. Yn y pen draw, fel gydag anifeiliaid eraill a arferai gael eu herlid, fel barcutiaid a gweilch y pysgod, mae afancod yn perthyn i Gymru. Fe gawsom wared arnynt; mae angen inni ddod â nhw adref. Diolch. 

18:25

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelod Joyce Watson am gyflwyno'r ddadl fer hon ac am roi munud o'i hamser i mi. Yn ôl un chwedl, yr afanc a ddysgodd yr eog i neidio—gan ddwyn i gof y lluniau o eogiaid yn neidio dros argaeau afancod. Mae argaeau afancod o fudd i lu o rywogaethau eraill, gan gynnwys dyfrgwn, brithyllod ac eogiaid. Mae rhai adar yn nythu ar ben eu gwalau. Mae pyllau afancod yn storio dŵr oer yn yr haf ac yn creu cynefin. Maent yn rhan bwysig o ecosystemau. Maent yn gwella ansawdd dŵr. Maent yn helpu i atal llifogydd ac arbed tir rhag sychder. Nid ydynt yn bwyta pysgod. Maent yn llysysyddion, yn byw ar ddail, glaswelltau a rhai planhigion dyfrol. Maent yn bwyta rhisgl mewnol coed pan fydd y pethau eraill yn brin. Maent yn aros yn agos at eu cynefin. Nid ydynt yn gorfridio, gan reoli'r boblogaeth eu hunain. Maent yn rhan bwysig o ecosystemau, ac rwy'n cefnogi'r gwaith o ailgyflwyno trwyddedig yma yng Nghymru, fel y mae hyrwyddwr y rhywogaeth, Joyce Watson.

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:27:36
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da. Prynhawn da, bawb. Mae'n bleser gwirioneddol cael bod yma heddiw i siarad ar bwnc sydd, fel y dywedodd Joyce yn ei sylwadau agoriadol, yn amserol ac yn drawsnewidiol i'n hamgylchedd naturiol, sef ailgyflwyno dan reolaeth yr afanc Ewropeaidd yng Nghymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Joyce Watson AS, sy'n hyrwyddwr rhywogaethau ymroddedig a enwebwyd gan Cyswllt Amgylchedd Cymru ar gyfer yr afanc Ewropeaidd am ei momentwm a'i hangerdd parhaus, sydd, rhaid dweud, wedi bod yn allweddol i gadw'r sgwrs bwysig hon yn fyw, a hefyd am waith Carolyn ac eraill yn cefnogi.

Nawr, yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi'r fenter hon. Mae'n un sy'n ein hailgysylltu â rhywogaeth a oedd ar un adeg yn chwarae rhan mor hanfodol yn siapio ein tirweddau. Mae afancod, fel y nodwyd, yn aml yn cael eu galw'n beirianwyr natur, a hynny am reswm da. Roeddent yn frodorol yng Nghymru cyn cael eu hela i ddifodiant ganrifoedd yn ôl. Felly, byddai eu dychweliad nid yn unig yn symbolaidd, ond o safbwynt polisi Llywodraeth Cymru, yn strategol hefyd. Mae afancod yn rhywogaeth allweddol, sy'n golygu bod eu presenoldeb yn cael effaith gadarnhaol anghymesur ar fioamrywiaeth, ac ar iechyd cyffredinol ein hecosystemau. Fel y nodoch chi eisoes, mae dŵr yn un enghraifft.

Dŵr yw un o'n hadnoddau mwyaf sylfaenol, i bobl ac i natur. Fe wyddom fod yn rhaid i ni lanhau ein hafonydd. Yn yr uwchgynhadledd ansawdd dŵr yr wythnos diwethaf, pwysleisiais sut y mae cyflwr presennol ein dyfrffyrdd yng Nghymru yn achos pryder i bobl ledled y wlad, ac yn briodol felly. Mae gormod o'n hafonydd yn rhy llygredig, ac ni all hynny barhau. Ac mae gweithgareddau adeiladu argaeau afancod, peirianwyr natur, yn creu gwlyptiroedd sy'n storio dŵr, gan helpu i liniaru peryglon llifogydd ymhellach i lawr yr afon. Maent yn hidlo llygryddion, gan wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd, ac yn cefnogi bioamrywiaeth am eu bod yn darparu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau dirifedi, o amffibiaid i adar, i blanhigion dyfrol brodorol. Yn fyr, gall afancod ein helpu i adeiladu gwydnwch hinsawdd ac adfer ein cydbwysedd ecolegol yn naturiol. Felly, dyna pam ein bod wedi cyhoeddi ein cefnogaeth i ailgyflwyno dan reolaeth y llynedd, fel y nodwyd, ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac ystod eang o randdeiliaid ar lunio llwybr cyfrifol ymlaen. Felly, heddiw, rwy'n falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth i gydnabod afancod fel rhywogaeth frodorol a rhoi gwarchodaeth gyfreithiol bwysig iddynt fel rhywogaeth a warchodir gan Ewrop. Mae hyn yn golygu y bydd yn drosedd i niweidio afancod yn fwriadol neu niweidio eu cynefinoedd. Yn wir, yn gynharach eleni fe wnaethom gynnal ymarfer ymgysylltu wedi'i dargedu i gasglu safbwyntiau ar y diwygiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth yn gysylltiedig ag afancod, a bydd y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw yn dilyn yr ymgysylltiad hwnnw yn golygu bod y ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru bellach yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sydd ar waith yn Lloegr ac yn yr Alban.

18:30

A gaf i ofyn, os gwelwch yn dda: a fydd hynny'n cael ei wneud yn y rhaglen ddeddfwriaethol hon, y flwyddyn benodol hon, cyn diddymu'r Senedd?

Diolch am yr ymyriad hwnnw, Joyce. Gallaf gadarnhau'n bendant y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn ystod y tymor hwn cyn yr etholiad gan Lywodraeth Lafur Cymru, a byddwn yn falch o'i wneud.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid am ddarparu golwg gytbwys ac adeiladol iawn o'r manteision a rhai o'r pryderon hefyd. Er bod yr ymateb yn gadarnhaol at ei gilydd, rydym hefyd yn cydnabod yn llawn y pryderon dilys a godwyd gan randdeiliaid, gan gynnwys y rheini yn y sector pysgodfeydd. Nawr, edrychwch, a minnau'n dal i fod yn hyrwyddwr rhywogaeth yr eog, rwy'n arbennig o ymwybodol o'r angen i ddiogelu ein poblogaethau o eogiaid brodorol a'r ecosystemau dyfrol ehangach y maent yn dibynnu arnynt. Dyna pam, wrth symud hyn yn ei flaen, ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod cynlluniau rheoli cadarn ar waith—byddwn yn gwneud hyn yn ofalus iawn—a bod tystiolaeth bellach yn cael ei chasglu lle bynnag y ceir ansicrwydd. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r gofyniad am drwyddedau i ryddhau unrhyw anifeiliaid i'r gwyllt, a bydd ganddynt awdurdod i gyhoeddi trwyddedau rheoli i liniaru effeithiau andwyol.

Nawr, fel y dywedaf, nid yw ein cefnogaeth i ailgyflwyno wedi'i wneud heb ystyriaeth ofalus iawn. Mae angen i hon fod yn broses dan reolaeth sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth a chydweithredu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid allweddol, tirfeddianwyr, ac yn bwysig, cymunedau lleol, i sicrhau bod yr holl leisiau hynny'n cael eu clywed.

Dyma pam rwy'n cyhoeddi heddiw hefyd ein bod yn sefydlu fforwm afancod Cymru, a fydd yn cyfarfod ym mis Tachwedd, i sicrhau dull cydweithredol yn seiliedig ar dystiolaeth o reoli'r pryderon hynny. Mae hyn yn ymwneud â chyd-fodoli, nid gwrthdaro. Gan weithio gyda'n gilydd, fe wyddom fod angen inni fynd ymhellach nag a wnaethom o'r blaen, mae angen inni herio ein gilydd yn fwy nag a wnaethom o'r blaen, ond mae angen inni symud yn gyflym i wneud gwelliannau go iawn. Mae ailgyflwyno afancod dan reolaeth yn cyd-fynd â'n cynllun adfer natur a'n hymrwymiad i atal a gwrthdroi dirywiad natur. Un enghraifft yn unig yw ailgyflwyno afancod dan reolaeth sy'n dangos ein hymrwymiad diriaethol, clir i gyflawni uchelgais Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Mae'n gam diriaethol tuag at gyflawni targedau bioamrywiaeth statudol yn y dyfodol i leihau'r risg y bydd rhywogaethau brodorol yn diflannu ac i reoli ein hecosystemau yn effeithiol. Mae ymestyn y warchodaeth gyfreithiol i gynnwys afancod nid yn unig yn cefnogi ein huchelgais i atal a gwrthdroi dirywiad natur, bydd hefyd yn cyfrannu at addasu i'r hinsawdd ac yn helpu i gyflawni ein rhwymedigaeth ryngwladol i adfer rhywogaethau.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o wneud y cyhoeddiad hwn heddiw. Mae'n dystiolaeth o'n camau pellach tuag at Gymru lle mae natur nid yn unig yn cael ei gwarchod, ond yn cael ei hadfer yn weithredol. Diolch am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n falch o roi'r ymateb hwnnw, a diolch i bawb sy'n cefnogi ailgyflwyno dan reolaeth a diogelu afancod yn gyfreithiol.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:34.