Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/05/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. 

Hoffwn ddechrau trafodion heddiw trwy fynegi tristwch y Senedd am farwolaeth gynamserol Claire O'Shea. Roedd tystiolaeth Claire O'Shea i'r ymchwiliad ar wasanaethau canser gynaecolegol ymhlith y cyfraniadau mwyaf grymus a glywyd erioed gan y Senedd hon. Drwy'r penderfyniad i rannu ei hanes a sefydlu Ymgyrch Claire, rhoddodd lais i bobl eraill a mynnodd well i fenywod ledled Cymru. Fel Senedd, fe wnaethom ni gydnabod ei chyfraniad at fywyd cyhoeddus yn ystod dathliadau 25 mlynedd y Senedd y llynedd. Rhoddodd Claire dystiolaeth i sawl pwyllgor Senedd, mewn swyddi proffesiynol amrywiol. Roedd hi i fod i roi tystiolaeth ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru i'r pwyllgor diwylliant yfory. Rwy'n siŵr y bydd yr holl Aelodau eisiau ymuno â mi i anfon ein cydymdeimlad at deulu a ffrindiau Claire.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

Toriadau Lles Llywodraeth y DU

1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl yng Nghymru y mae toriadau lles Llywodraeth y DU yn effeithio arnynt? OQ62715

Diolch yn fawr, Delyth. Gyda'ch caniatâd, Llywydd, hoffwn innau dalu teyrnged hefyd, fel Prif Weinidog, i Claire O'Shea. Roedd Claire yn ymgyrchydd angerddol ac yn aelod gwerthfawr o deulu Llafur, gan gyfrannu'n sylweddol at wasanaeth cyhoeddus ac undod byd-eang, drwy ei gwaith anhygoel drwy Hub Cymru Africa. Defnyddiodd ei thaith bersonol yn ddewr nid i feio, ond i wthio am newid. Cododd ymwybyddiaeth o faterion hollbwysig ym maes gofal iechyd a rhoddodd lais i'r rhai sydd wedi cael eu hanwybyddu, ac mae ei hetifeddiaeth yn un o dosturi, undod a chred yng ngrym eiriolaeth i ysgogi newid ystyrlon. Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i weithredu ar y gwersi a adawodd ar ei hôl, ac mae ein meddyliau, wrth gwrs, gyda'i ffrindiau a'i theulu ar yr adeg anodd iawn hon.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan ddiwygiadau lles yn gallu cael mynediad at gymorth. Gallai hynny fod yn gymorth i gael gwaith addas a chadw swydd, neu gyngor diduedd ac arbenigol am eu hawliau drwy wasanaethau’r gronfa gynghori sengl.

Diolch. Byddwn yn cysylltu fy hun yn llwyr â'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud am Claire O'Shea. 

Ar y toriadau lles, mae hwn yn fater a fydd yn effeithio ar filoedd o bobl yn y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli. Bydd toriadau lles San Steffan yn gwthio miloedd o bobl i dlodi pellach. Byddan nhw'n cosbi pobl am fod yn anabl neu'n ddi-waith. Maen nhw'n greulon, gellid eu hosgoi, ac maen nhw'n cael eu gorfodi drwodd gan y Blaid Lafur. Mae'n amlwg bod Keir Starmer a Rachel Reeves yn poeni mwy am dwf haniaethol mewn taenlenni nac am wirionedd bywydau pobl—bywydau pobl a fydd yn cael eu gwneud yn fwy truenus, yn fwy brawychus ac yn anoddach oherwydd y dewis hwn a wnaed yn Downing Street i gwtogi'r cymorth y maen nhw'n ei dderbyn. Prif Weinidog, a wnewch chi gondemnio'r toriadau hyn, ac a wnewch chi alw ar eich cydweithwyr Llafur yn San Steffan i bleidleisio yn eu herbyn?

Rwy'n cydnabod bod yna bobl ledled Cymru sy'n eithriadol o bryderus am y toriadau hyn a sut y gallen nhw effeithio arnyn nhw. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth ar lefel y DU i wrando ar brofiad bywyd pobl a'u pryderon. Rydym ni wedi bod yn edrych ar y niferoedd sy'n derbyn taliadau annibyniaeth personol yn arbennig yng Nghymru—ceir mwy na 200,000 ohonyn nhw. Rydym ni'n credu y gallai tua 50,000 o bobl yng Nghymru gael eu heffeithio'n benodol gan y newidiadau i'r taliad annibyniaeth personol. Ond, hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi, o'r 10 awdurdod lleol sy'n cael eu heffeithio fwyaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, bod pedwar ohonyn nhw yng Nghymru. Felly, wrth gwrs, byddwn yn ymateb i'r papur sydd wedi cael ei ysgrifennu gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn nodi ein pryderon a'n gwrthwynebiadau i wahanol rannau ohono. Mae yna rai pwyntiau cadarnhaol yn y papur, ond mae'n bwysig bod llais Cymru yn cael ei glywed, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod hwnnw'n cael ei glywed yn groch ac yn eglur, ynghyd â'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol.

Rwy'n datgan buddiant, Llywydd—mae gan fy merch anabledd dysgu, ac mae'n derbyn lwfans byw i'r anabl, a phan fydd hi'n 16 oed, byddai, o dan y system bresennol, yn symud ymlaen i daliad annibyniaeth personol. Yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw y gallai fod gan y bobl hynny â chyflyrau iechyd meddwl sy'n hŷn fod â chyflyrau nad ydyn nhw wedi cael diagnosis ohonyn nhw—cyflyrau niwroamrywiol, efallai—a'u bod ar restr aros. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn cyflwyno ymateb. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog gynnwys yn yr ymateb hwnnw y ffaith na fydd unrhyw un sydd ar restr aros ar gyfer unrhyw asesiad niwroamrywiol yn colli unrhyw fudd-daliadau yn y cyfamser tra eu bod ar y rhestr aros?

Y peth arall y byddwn i'n ei ddweud, ar hyn o bryd rwy'n mynd i roi fy ymateb fy hun i'r Papur Gwyrdd, gyda Chris Evans AS. Rwyf i wedi siarad gyda chyrff fel Anabledd Dysgu Cymru, ac etholwyr, pobl sy'n cael eu heffeithio yn fy nghymuned i gan y newidiadau hyn i fudd-daliadau, a byddaf yn cyflwyno ymateb cadarn. Ac rwy'n cynnig i'r Prif Weinidog—. Rwy'n fwy na hapus i gael sgwrs gyda hi am natur fy ymateb a'r trafodaethau yr wyf i wedi eu cael drwy'r ymgynghoriadau hynny.

13:35

Diolch yn fawr. Mae'n bwysig ein bod ni'n clywed gan bobl sydd â'r profiad bywyd hwnnw. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol yn casglu gwybodaeth gan bobl sydd wedi cael eu heffeithio, fel ein bod ni'n rhoi ymateb gwir a chynhwysfawr iawn. Felly, rwy'n siŵr ei bod hi wedi clywed y pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud heddiw ac y bydd hi eisiau gwneud yn siŵr bod rhywfaint o hynny yn cael ei adlewyrchu yn rhai o'r pryderon yr ydym ni'n ymateb i Lywodraeth y DU â nhw.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn edrych ar agwedd arall ar y toriadau o ran lles, sef y cap budd-dal dau blentyn. Rydym ni'n gwybod, o ran plant yma yng Nghymru, bod gennym ni 29 y cant ohonyn nhw'n byw mewn tlodi. Nid oes unrhyw adroddiadau newydd i mi eu dyfynnu, nid oes unrhyw ystadegau newydd, ond mae angen i ni gael ein hatgoffa'n gyson am y 29 y cant o'n plant sy'n byw mewn tlodi plant. Ym mis Tachwedd 2024, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol adroddiad wedi'i gefnogi gan dystiolaeth dda iawn. Yn hwnnw, fe wnaethom ni alw am bum argymhelliad yn unig, ac un ohonyn nhw oedd cael targedau ar gyfer lleihau tlodi plant. Rydym ni hefyd, yn y grŵp trawsbleidiol, yn datblygu Bil pob plentyn, a fydd yn eirioli dros wneud targedau tlodi plant yn gyfreithlon yng Nghymru. Felly, hoffwn ofyn i chi, fel Prif Weinidog, am eich safbwynt penodol ar lobïo Keir Starmer i ddileu'r cap budd-dal dau blentyn, ac, erbyn mis Mai 2026, beth ydych chi eisiau i'r targed fod o ran faint o blant yma yng Nghymru sy'n byw yn y sefyllfa gwbl annioddefol hon o fod yn dlawd? Diolch yn fawr iawn.

Fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi fel blaenoriaeth bendant, ac yn enwedig tlodi plant. Byddwch yn ymwybodol nad oes gennym ni'r holl ysgogiadau ar gael i ni yma. Ond gallaf eich sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi codi'r mater ym mhob un o gyfarfodydd tasglu'r pedair gwlad ar dlodi plant gyda Llywodraeth y DU, ac wedi gwneud y pwynt mai mynd i'r afael â'r terfyn dau blentyn yw'r ysgogiad pwysicaf o ran mynd i'r afael â thlodi plant.

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi dalu teyrnged i Claire O'Shea yn gynharach, ac rwy'n ychwanegu fy hun at y sylwadau hynny. Un peth a wnaeth Claire yn rymus iawn, wrth gwrs, oedd eirioli dros fenywod a oedd wedi cael eu methu gan y system wrth drin eu canserau. Cysylltodd dioddefwr canser y fron yn fy etholaeth i, ym Mlaenau Gwent, â mi yr wythnos diwethaf a siaradodd am yr arswyd a'r nosweithiau di-gwsg y mae'n ei dioddef nawr o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig i'r taliad annibyniaeth personol. Ar hyn o bryd mae'n ofni'n fawr y bydd hi'n colli'r cymorth sydd ganddi. Siawns mai'r ffordd orau o dalu teyrnged i Claire yw sicrhau bod ein gweithredoedd yn cyd-fynd â'n geiriau, ac na ddylai unrhyw un sy'n dioddef yn y sefyllfa hon ym Mlaenau Gwent neu mewn mannau eraill yng Nghymru fod yn poeni a allan nhw dalu eu biliau ar ddiwedd y dydd, ac y dylem ni i gyd fod yn sefyll gyda'n gilydd i sicrhau bod pobl sy'n derbyn y taliad annibyniaeth personol yn cael eu cynorthwyo ac nid eu cosbi.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod pryder mawr bod Blaenau Gwent yn mynd i fod yn un o'r ardaloedd sy'n cael eu taro galetaf gan hyn, a dyna pam mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud sylwadau ar eu rhan, fel y byddwn ninnau hefyd. Yr hyn y mae'n debyg ei bod hi'n werth ei nodi hefyd, fodd bynnag, yw y bydd rhaglen arloesol, sy'n rhaglen y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda ni arni i weld sut y gallwn ni gynorthwyo pobl anabl i mewn i waith. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle, ac rwy'n gobeithio y bydd y mathau hynny o raglenni yn dysgu o'r dull a fu gennym ni o ran diweithdra ieuenctid. Felly, ceir pethau y gallwn ni eu haddysgu i Lywodraeth y DU. Mae'n bwysig bod perthynas ddwyffordd pan ddaw i Lywodraeth Lafur y DU. Ceir llawer o bethau y gallan nhw eu dysgu gennym ni, gan gynnwys y ffordd yr ydym ni wedi gostwng diweithdra ieuenctid, ac a oes gwersi i'w dysgu yn hynny o beth o ran sut y gallwn ni gynorthwyo pobl anabl i mewn i waith.

13:40
Plant sydd wedi cael eu Cam-drin

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant sydd wedi cael eu cam-drin? OQ62696

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i fod yn ddiogel rhag cam-drin ac i dderbyn cymorth pan fyddan nhw'n cael eu heffeithio. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu ar draws ein deddfwriaeth a'n polisi. Mae enghreifftiau o'r ymrwymiad hwn yn cynnwys bod y genedl gyntaf yn y DU i wahardd cosbi corfforol a'n cyllid parhaus i gymorth i ddioddefwyr.

A gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i'r cwnselwyr, y gwirfoddolwyr a thîm cyfan Cerrig Camu Gogledd Cymru, sy'n sefydliad sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i yn Wrecsam? Mae'n cynorthwyo ac yn darparu gwasanaethau cwnsela a chymorth am ddim i oedolion sy'n oroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod ym mhob un o'r chwe sir yng ngogledd Cymru, a'r llynedd oedd deugeinfed blwyddyn yr elusen. Roedd yn flwyddyn arbennig o heriol o ran cyllid a hefyd cynnydd sylweddol i'r galw am eu gwasanaethau. Mae cyllid cynaliadwy yn heriol, a phan wnes i gyfarfod ag aelodau tîm Cerrig Camu yn ddiweddar, fe wnaethon rannu â mi, er eu bod nhw'n gwerthfawrogi'n fawr y cymorth gan Lywodraeth Cymru, mae'r gallu i gynllunio'n strategol ar gyfer y tymor hwy yn wirioneddol hanfodol. Felly, Prif Weinidog, er fy mod i'n gwerthfawrogi bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei dyrannu yn flynyddol, a ydych chi'n cytuno â mi y byddai setliadau cyllido aml-flwyddyn yn cynorthwyo sefydliadau, fel Cerrig Camu, i alluogi gwell cynllunio hirdymor ac i ddarparu cymorth i lawer mwy o unigolion? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd darparwyr gwasanaeth fel Cerrig Camu. Hoffwn longyfarch y sefydliad—fe wnaethon nhw ennill gwobr effaith GSK eleni. Ac roeddem ni'n falch iawn o allu rhoi £102,000 ychwanegol iddyn nhw eleni i helpu i leihau eu rhestrau aros. Maen nhw'n gwneud gwahaniaeth i filoedd o bobl yn y gogledd, ac roedd yn wych eich bod chi wedi mynd i ymweld â nhw. Wrth gwrs, mewn byd delfrydol, hoffem ni weld cyllid aml-flynyddol. Ceir rheolau yn ein system gyllidebol sy'n caniatáu i rywfaint o hynny ddigwydd, ond, yn amlwg, tan yn ddiweddar iawn dim ond setliad cyllido blynyddol fu gennym ni. Ond mae'r cyllid aml-flwyddyn yn ystyriaeth allweddol gan Lywodraeth Cymru gan ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd cyflawni ar sail gynaliadwy, a gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cadw eu swyddi a chadw'r sgiliau sydd mor hanfodol mewn maes fel hwn.

Prif Weinidog, nododd adolygiad yr ymchwiliad annibynnol i gamfanteisio ar blant a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022 bod bechgyn ifanc a bechgyn yn eu harddegau yn dioddef camfanteisio rhywiol yn rheolaidd ac yn aml ceir patrymau adnabyddadwy, gan ddechrau gyda chamfanteisio ar-lein. Mae'r cam-drin a'r meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn datblygu wedyn i gam-drin corfforol, trais a throseddau erchyll eraill. Mae graddfa'r cam-drin rhywiol yn ymwneud â bechgyn yn cael ei danadrodd yn sylweddol, ac yn debygol o ymwneud â stereoteipiau diwylliannol a rhywedd, ac mae dioddefwyr yn aml yn adrodd bod angen gwahaniaethu mwy eglur rhwng cam-drin plant ac oedolion ifanc gwrywaidd a benywaidd, yn y gobaith y gallai roi mwy o hyder i ddioddefwyr gwrywaidd gyflwyno eu hunain. Yn nogfen bolisi a strategaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, 'Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026', a chynllun blynyddol y cynghorydd cenedlaethol ar gyfer 2025-26, nid oes unrhyw gyfeiriad penodol at gamau gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r cam-drin a wynebir gan fechgyn ifanc, neu ferched ifanc o ran hynny, a'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n rhannu fy mhryderon ynghylch difrifoldeb y mater hwn, ond hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag ef yn weithredol. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hwn yn fater y mae angen i ni ei gymryd o ddifrif iawn. Mae camfanteisio ar blant ifanc, meithrin perthynas amhriodol â bechgyn ifanc, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n sicr yn haeddu'r sylw sydd ei angen arno. Yn amlwg, bydd rhaglen o'r enw 'atal trais yn erbyn menywod' yn canolbwyntio ar hynny, ond ceir rhaglenni eraill sy'n mynd i'r afael â materion fel camfanteisio ar fechgyn ifanc. Ac, yn amlwg, rydym ni wedi cael yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol ac rydym ni'n gweithredu'r argymhellion hynny.

13:45

Fel y gwyddoch chi, cafwyd achos erchyll o gamdriniaeth rywiol mewn ysgol yn fy etholaeth i, a bellach mae'r pedoffeil Neil Foden yn y carchar. Mae'r dioddefwyr ar ein meddyliau ni'n gyson, ac mae Cyngor Gwynedd wedi pasio cynnig yn ddiweddar i gefnogi ymgyrch o'r enw 'Not My Shame/Nid Fy Nghywilydd'. Mae'r ymgyrch am i ni ddatgan yn glir nad cywilydd y dioddefwr ydy camdriniaeth rywiol, ond cywilydd y troseddwr. Gisèle Pelicot ddywedodd, 'Mae'n rhaid i gywilydd newid ochrau.' Yn aml iawn, mae dioddefwyr trais rhywiol yn cario cywilydd y drosedd yn ogystal â phoen dwfn efo nhw am weddill eu hoes. A wnewch chi felly ystyried rhoi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r ymgyrch 'Not My Shame/Nid Fy Nghywilydd' er mwyn rhoi'r cywilydd yn ôl lle dylai fod, sef ar ysgwyddau'r troseddwr? Mi fyddai cefnogi'r ymgyrch yn cynnwys nodi diwrnod ym mis Mai fel diwrnod i gofio am ddioddefwyr bob blwyddyn. Diolch.

Diolch yn fawr, Siân. Mae nifer o bobl wedi dioddef yn eich ardal chi o ganlyniad i'r pethau erchyll sydd wedi digwydd yn yr ysgol yn fanna. Rŷch yn eithaf reit fod angen i ni sicrhau bod y cywilydd ar y troseddwyr, ac nid ar y bobl sydd wedi dioddef. Gaf i edrych mewn i hwnna jest i weld pa mor bell gallwn ni fynd ac a oes yna rywbeth arall rŷn ni'n ei wneud sydd yn golygu ein bod ni'n methu ei wneud e? O ran egwyddor, does dim gyda fi yn erbyn e, ond cawn ni weld os yw'n bosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. A gaf i adleisio'r sylwadau a wnaed gan y Llywydd, y Prif Weinidog, ac Aelodau eraill yn y Siambr hon ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ar farwolaeth Claire O'Shea? Roedd yn ymgyrchydd dygn dros gleifion canser, ac wrth gwrs roedd yn hyrwyddwr dros iechyd menywod yn ehangach. Mae gennym ni ddyled iddi nawr, rwy'n credu, ar y cyd, fel Aelodau o'r Senedd hon, i fwrw ymlaen â'r agenda yr oedd hi'n ei dilyn o ran gwella mynediad at ofal iechyd, diagnosis cyflymach i bobl, yn enwedig â chanser, a gwneud yn siŵr bod argymhellion yr adroddiad pwyllgor iechyd hwnnw yn cael eu gweithredu'n llawn. Felly, rydym ni'n estyn ein cydymdeimlad dwysaf â'i ffrindiau a'i hanwyliaid.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod mewnfudo i'r Deyrnas Unedig yn rhy uchel a'n bod ni mewn perygl o ddod yn ynys o ddieithriaid? Ac os felly, a ydych chi'n cefnogi'r cynigion ym Mhapur Gwyn newydd Llywodraeth y DU ar fewnfudo a gyhoeddwyd ddoe?

Mae Cymru yn genedl groesawgar. Rwy'n credu ein bod ni'n falch iawn o fod yn gysylltiedig â'r gwerthoedd a'r pethau cadarnhaol y gall mewnfudo eu cynnig a'u cyfrannu at ein cymunedau a'n cymdeithasau, a'r cyfraniad enfawr y maen nhw'n ei wneud at ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig pan fyddwn ni'n ystyried bod tua 40 y cant o'r meddygon ymgynghorol yng Nghymru wedi cael eu geni y tu allan i'r DU—gallwch weld y math o gyfraniad y maen nhw'n ei wneud at ein cymunedau. Felly, ni wnaf i gael fy nhynnu i mewn i ddadl lle mae pobl yn defnyddio iaith rwygol o ran mewnfudo.

Wel, wnaethoch chi ddim ateb y cwestiwn pa un a ydych chi'n cytuno â Phrif Weinidog y DU y bydd y Deyrnas Unedig, os nad ydym ni'n delio â'r mater mewnfudo, yn dod yn ynys o ddieithriaid. Ac wnaethoch chi ddim dweud chwaith pa un a ydych chi'n meddwl bod mewnfudo yn rhy uchel.

Edrychwch, y gwir amdani, Prif Weinidog, yw ein bod yn parhau i weld nifer ormodol o bobl sy'n dod i ymgartrefu yn ein gwlad nad ydyn nhw'n gallu siarad Saesneg. Maen nhw'n methu ag integreiddio, rhai o'r bobl hynny, i'w cymunedau lleol. Ac mae gen i ofn fy mod i'n cytuno â Phrif Weinidog y DU y byddwn ni'n dod yn ynys o ddieithriaid os nad ydym ni'n delio â'r mater hwn. [Torri ar draws.] Gallaf glywed yr heclo gan bobl, ond mae miliynau o bobl ledled Cymru yn poeni am y mater hwn ac yn ei godi gyda chi pan fyddwch chi ar garreg y drws yn siarad â nhw. Peidiwch ag esgus nad yw hynny'n wir. Mae'n amlwg ei fod yn un o'u pryderon, a dyna pam mae angen i ni gael y trafodaethau hyn yma yn y Senedd.

Nid oes gan y DU ddigon o gartrefi, gwelyau ysbyty na lleoedd ysgol i ddarparu ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu bob un blwyddyn o faint Caerdydd, Abertawe a Wrecsam wedi'u cyfuno. Y gwir amdani yw nad yw eich cydweithwyr yn San Steffan yn mynd yn ddigon pell. A gaf i ofyn hyn i chi? A ydych chi'n cytuno â mi bod Cymru angen Llywodraeth y DU a fydd yn cyflwyno cap ar fewnfudo, ac y dylid allgludo unrhyw droseddwyr tramor, gan gynnwys unrhyw un sy'n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon?

13:50

Edrychwch, rwy'n cydnabod bod pryderon yn rhai o'n cymunedau, ond byddwn yn nodi bod lefelau mewnfudo yng Nghymru yn eithaf isel mewn gwirionedd. Maen nhw'n 7 y cant ledled y wlad, ac mae'r bobl hynny, ar y cyfan, yn gwneud cyfraniad enfawr at ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydych chi'n fwy tebygol o gael eich trin gan feddyg o dramor na chael eich stopio yn y ciw gan rywun o dramor yng Nghymru. Dyna'r realiti, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud at ein cymunedau yn sylweddol.

Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig hefyd i ni gydnabod y bydd angen i ni weithio trwy oblygiadau'r papur a gyhoeddwyd ddoe, oherwydd gallen nhw gael effaith, yn enwedig o ran gofal, y sector gofal. Rwy'n bryderus dros ben am ein gallu i recriwtio i'r sector gofal fel y mae hi ar hyn o bryd, ac mae angen i bobl gydnabod bod sgil-effaith uniongyrchol ar amseroedd aros mewn ysbytai a pha mor hir y mae'n rhaid i bobl aros mewn adrannau achosion brys oherwydd bregusrwydd y sector gofal. Rydym ni'n falch, yng Nghymru, ein bod ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal, pa un a ydyn nhw'n dod o'r fan yma neu o dramor, ond maen nhw'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at ein cymunedau ac, o'u cymharu â rhannau eraill o'r wlad, mewn gwirionedd maen nhw'n niferoedd isel iawn, iawn yng Nghymru, fel y cydnabuwyd gan un o lefarwyr Plaid Reform, a'i ddywedodd yn gyhoeddus, bod y lefelau yn isel, ac ar y cyfan bu'n effaith gadarnhaol ar yr economi. Ac am ddweud hynny, mae wedi cael ei wthio allan o'i swydd. 

Wel, dydych chi'n dal ddim wedi dweud a ydych chi'n meddwl bod mewnfudo yn rhy uchel ledled y Deyrnas Unedig, ac nid ydych chi wedi dweud chwaith pa un a ydych chi'n cefnogi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU. Y gwir amdani yw hyn: os yw mewnfudo yn rhy uchel ledled y Deyrnas Unedig, mae canlyniadau i Gymru, oherwydd mae canlyniadau yn y cyllid sydd ar gael i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus.

Fe wnaethoch chi sôn am y sector gofal cymdeithasol. Y gwir amdani yw bod pobl yn llai bodlon yng Nghymru gyda'u gofal cymdeithasol nag y maen nhw mewn unrhyw ran arall o Brydain Fawr—mae hwnnw'n ddatganiad o ffaith o'r arolwg agweddau Prydeinig, datganiad pendant o ffaith—fel y maen nhw gyda'ch gwasanaeth iechyd gwladol hefyd. Nawr, mae pobl Cymru yn disgwyl i'w Prif Weinidog adlewyrchu eu blaenoriaethau. Maen nhw eisiau llai o fewnfudo, maen nhw eisiau troseddwyr tramor allan, a dydyn nhw ddim eisiau eu trethi y maen nhw'n gweithio'n galed i'w hennill leinio pocedi cyfreithwyr mewnfudo sy'n farus ac sy'n tanseilio ein ffiniau a'n diogelwch. Felly, a wnewch chi roi pobl Cymru yn gyntaf, nid eich uchelgeisiau a'ch pleidiau gwleidyddol, ac erfyn ar y Llywodraeth Lafur yn San Steffan i wneud yn siŵr bod y cynigion hyn yn cael eu cryfhau mewn gwirionedd fel y gallwn ni gael system fewnfudo yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig ac sy'n gweithio i Gymru hefyd?

Edrychwch, os oeddech chi eisiau trafod mewnfudo, fe ddylech chi fod wedi mynd i San Steffan. Sefydliad datganoledig yw hwn—. Nid oes gennym ni gyfrifoldeb. Mae yna effaith yma—mae yna effaith yma—rwy'n cydnabod hynny, ac rwy'n cydnabod hefyd ein bod ni wedi mynd llawer ymhellach mewn rhai meysydd o ran pethau fel sicrhau bod ein gweithwyr gofal yn cael y cyflog byw gwirioneddol a bod gennym ni gap ar ofal o £100 yr wythnos ar gyfer gofal cartref yng Nghymru, sy'n bwynt pwysig. Ac rwy'n credu y byddai'n ddiddorol iawn gweld eich tystiolaeth ffeithiol, oherwydd byddwn i'n synnu'n fawr pe bai pobl yn canfod—. Aeth y gwasanaethau yn Lloegr ar chwâl o ran gofal o dan arweinyddiaeth y Torïaid. Rydym ni mewn sefyllfa wahanol, ond mae o dan straen. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y bydd heriau o ganlyniad i'r cynigion hyn.

Diolch, Llywydd, a dwi hefyd yn anfon cydymdeimlad dwysaf Plaid Cymru i deulu ac anwyliaid Claire O'Shea, a dwi am ddiolch iddi hi am bopeth y gwnaeth hi i roi gwell cyfle i eraill yn y frwydr yn erbyn canser.

Llywydd, penderfynodd Keir Starmer yr wythnos hon dargedu gweithwyr gofal yn ymdrech ddiweddaraf Llafur i fod yn debycach i Reform na Reform, ond mae'n bosibl y bydd naid arall i'r dde gan Lafur yn cael effaith ddifrifol. Oes, wrth gwrs, mae angen i ni flaenoriaethu creu sgiliau yn ein gweithlu ein hunain, ac mae Plaid Cymru wedi eirioli dros gynyddu cyflogau gweithwyr gofal ers amser maith er mwyn gwneud y proffesiwn yn fwy deniadol. Rwy'n cofio hefyd Llafur yn rhwystro llawer o'n hymdrechion i roi terfyn ar weithio dim oriau, ond roedd ysgrifennydd cyffredinol Unsain yn llygad ei le ddydd Sul, gan ddweud y byddai'r GIG a'r sector gofal wedi mynd ar chwâl amser maith yn ôl heb y miloedd o weithwyr sydd wedi dod i'r DU o dramor. Mae Age UK yn cytuno bod staff tramor wedi bod yn cynnal llawer o wasanaethau ac yn dweud y gallai cartrefi gofal gau oherwydd hyn, gan bentyrru mwy o bwysau fyth ar y GIG. Mae gwefan Llywodraeth Cymru ei hun yn cyfeirio at fanteision recriwtio rhyngwladol yn rhan o'r gymysgedd, ond nawr mae arweinydd ei phlaid, y Prif Weinidog, eisiau tanseilio hynny am resymau gwleidyddol, gan hyd yn oed fabwysiadu iaith rwygol, ac rwy'n gofyn iddi ymbellhau ei hun oddi wrth yr iaith honno o rwyg sydd wedi cael ei hailadrodd mor gyfforddus heddiw gan arweinydd y Ceidwadwyr. Ond beth yw ei chynllun nawr i sicrhau nad yw'r rhai sy'n dibynnu ar y sector gofal yng Nghymru yn cael eu cosbi gan weithredoedd chwiban ci diweddaraf ei phlaid?

13:55

Nid wyf i'n mynd i ddefnyddio iaith rwygol o ran mewnfudo—nid dyna'r gwerth sydd gennym ni yn Llafur Cymru—ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i sicrhau y gallwn ni ddarparu gwasanaeth gofal yng Nghymru, a bydd hynny'n anoddach os nad yw'n bosibl recriwtio pobl o dramor. Mae angen gweithio drwy'r pethau hyn. Pe bai llwyth o arian ychwanegol yn dod gydag ef i'n helpu i dalu arian ychwanegol i'r gweithwyr gofal hynny—a phwy a ŵyr, efallai y bydd yn dod—yna gallai hynny ei gwneud hi'n haws recriwtio pobl yn lleol. Felly, gadewch i ni weld a yw hynny'n rhywbeth ar yr agenda.

Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod y cyfraniad sylweddol y mae ein gweithwyr mudol yn ei wneud at ein cymunedau, gan gynnwys y 38 y cant o feddygon ymgynghorol sy'n trin pobl yn ein hysbytai bob dydd—38 y cant. Gadewch i ni fod yn gwbl eglur bod y bobl hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein cymunedau.

Gallwn gytuno ar lawer o bethau, ond unwaith eto rydym ni'n nodi gwrthodiad mewn gwirionedd i feirniadu'r iaith rwygol a ddefnyddiwyd gan Keir Starmer.

I droi at bwnc arall fu unwaith yn agos at galon y Prif Weinidog, mae hi'n ddwy flynedd i'r wythnos yma ers iddi agor labordy monitro dŵr gwastraff newydd ym Mhrifysgol Bangor yn dilyn buddsoddiad ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mi wnaeth y ganolfan gwaith amhrisiadwy, wrth gwrs, yn ystod y pandemig COVID, yn monitro lledaeniad y feirws ac adnabod streiniau gwahanol ohono fo'n gynnar ac ati, ond mae o'n gallu gwneud gymaint mwy na hynny. Mi ddywedodd y Prif Weinidog ar y pryd fod y dechnoleg yma, sy'n flaenllaw drwy'r byd, yn mynd i allu bod yn allweddol yn llywio sut y byddwn ni'n ymateb i heriau iechyd yn y dyfodol. All y Prif Weinidog gadarnhau faint o gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i'r ganolfan heddiw?

Wel, rŷn ni wedi rhoi cefnogaeth i'r ganolfan, ond y ffaith oedd mi wnaethon nhw waith arbennig o dda yn ystod y pandemig ym Mangor gydag asesu'r dŵr gwastraff a beth oedd yn y dŵr, fel ein bod ni'n gallu bod yn ymwybodol am faint o COVID oedd yn y gymuned, ond mi oedd yn rhaid inni wneud penderfyniadau caled iawn ar ôl y pandemig, achos bod cymaint o doriadau wedi dod ar ôl hynny o gyfeiriad Llywodraeth y Torïaid. Felly, roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau caled, ond rŷn ni'n dal i fuddsoddi yn y ganolfan.

Nac ydych. Y gwir ydy bod y Llywodraeth wedi tynnu ei chefnogaeth ariannol yn ôl yn llwyr, a dwi'n cofio perswadio'r Gweinidog iechyd ar y pryd i adfer ar ôl torri arian y tro diwethaf. Dwi'n gorfod gwneud hynny eto. Tra bod Llywodraethau eraill yn dal i ddibynnu ar y dechnoleg, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd o fod yn un o'r prif bartneriaid i beidio chwarae rhan o gwbl, enghraifft wych o weithio mewn seilo a meddylfryd byr dymor sydd wedi bod mor nodweddiadol, onid ydy, o'r Llywodraeth Lafur yma.

Mae'r methiant i barhau i fuddsoddi o gwbl yn y dechnoleg profi dŵr hon sy'n arwain y byd ym Mhrifysgol Bangor yn gam yn ôl a fydd yn cael sgil-effeithiau difrifol ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Gallai buddsoddi swm cymedrol iawn, iawn yn y ganolfan arbed hynny sawl gwaith drosodd. O ran yr ymateb i norofeirws yn unig, gall y ganolfan hon roi rhybudd i ysbytai am gynnydd i nifer yr achosion o norofeirws, gan ganiatáu iddyn nhw gynyddu mesurau bioddiogelwch ac osgoi cau wardiau, rhywbeth sy'n costio efallai £5 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Dyna ni: wedi talu amdano'i hun bum gwaith drosodd.

Pan ddaeth cyllid Llywodraeth Cymru i ben, fe wnaeth Verily, chwaer-gwmni i Google, fuddsoddi'n drwm yn y ganolfan fel ei unig ganolfan ymchwil ac arloesi ledled y byd. Mae hynny'n cynorthwyo sefydlu rhaglenni cenedlaethol mewn gwledydd eraill ar hyn o bryd, Barbados yn fwyaf diweddar, a chefnogi arloesiadau newydd, ond ni all Cymru elwa gan nad oes gennym ni unrhyw raglen genedlaethol. A yw'r Prif Weinidog yn barod i gyfaddef camgymeriad ei Llywodraeth ac ailddechrau buddsoddi yn y cyfleuster hanfodol hwn?

14:00

Rydym ni'n mynd i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau y dywedodd y bobl wrthym ni sy'n bwysig iddyn nhw. Mae hynny'n cynnwys iechyd ac mae hynny'n cynnwys, ym maes iechyd yn benodol, lleihau'r rhestrau aros. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gweld, mewn un mis, gostyngiad o 26 y cant i arosiadau dwy flynedd—mewn un mis. Mae honno'n ymdrech aruthrol gan y bobl sy'n gweithio yn ein hysbytai. Diolch i'r cyllid ychwanegol sydd wedi dod o ganlyniad i Lywodraeth Lafur y DU y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Ni fyddai'r rhestrau aros hynny yn lleihau pe baem ni wedi ei adael i chi. Rydych chi'n parhau i addo pethau i bob math o bobl, ond yn y pen draw, nid ydych chi'n cefnogi eich cymunedau. Dyna'r gwir.

Diffodd y Rhwydwaith Ffôn Copr

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diffodd y rhwydwaith ffôn copr ar drigolion Cymru? OQ62706

Mae diffodd y rhwydwaith ffôn cyhoeddus analog yn waith sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am delathrebu—telecommunications. Er hynny, mae fy swyddogion yn arwain ar waith i sicrhau bod cyrff cyhoeddus Cymru a’u gwasanaethau yn barod ar gyfer y diffodd.

Mae'n bwysig i gydnabod, wrth gwrs, fod Cymru yn fwy bregus o ran y diffodd yma, gan fod yna ganran uwch o bobl hŷn gyda ni ac mae yna ganran uchel o bobl yn byw mewn cymunedau gwledig sydd heb ffeibr o gwbl. Ydy'r Llywodraeth wedi edrych yn benodol ar y broblem o ran dyfeisiadau teleofal, er enghraifft, a sut mae'r rheini'n mynd i weithio, yn arbennig mewn sefyllfa o doriadau pŵer, sy'n mynd i fod yn fwyfwy cyffredin yn y dyfodol, gan fod yr amserlen wedi ei gohirio unwaith yn barod oherwydd bod pobl ddim yn teimlo'n sicr ar hyn o bryd fod y problemau yna wedi eu datrys? A fyddwch chi'n cael addewid gan Openreach ac Ofcom y bydd gohiriad pellach oni bai bod y materion hyn yn cael eu datrys?

Hefyd, o ran cysylltu mwy o gymunedau i ffeibr, a ydych chi'n gallu cadarnhau bod y prosiect Allwedd Band Eang Cymru, oedd wedi ei oedi, wedi ei ailagor o ran grantiau? Hefyd, pa bryd y bydd y prosiect dilynol o ran Cyflymu Cymru, y £70 miliwn sydd yn dal yn y pot, yn cael ei ddefnyddio er mwyn cysylltu cymunedau sydd yn dal heb ffeibr ar draws Cymru?

Diolch yn fawr. Bydd y rhwydwaith ffôn yn cael ei ddiffodd erbyn mis Ionawr 2027—hynny yw, y gwifrau sydd fel arfer yn mynd mewn i dai pobl yn y ffordd draddodiadol roedd ffonau yn cael eu defnyddio. Rŷn ni'n ymwybodol iawn o'r effaith ar bethau fel larymau teleofal, lifftiau, ac yn y blaen. Felly, mae lot fawr o waith yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer hyn. Mae diffodd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan y diwydiant. Mae'r cyfrifoldeb polisi gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae gennym ni'r public sector readiness working group wedi ei sefydlu, ac rŷn ni'n gweithio ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn aml iawn, rŷn ni'n codi cwestiynau fel sut mae hwnna'n cysylltu o ran y larymau teleofal yma, ac am sut mae'n cysylltu â phŵer hefyd. Felly, mae'r rhain i gyd, cyd-gysylltu'r rheini, yn rhan bwysig hefyd.

Ar thema debyg, Prif Weinidog, er bod manteision amlwg o gyflwyno'r ffonau Wi-Fi mwy newydd hyn, y broblem yw eu bod nhw ddim ond cystal â'r signal Wi-Fi sy'n eu cefnogi. Mae'n wir y gall llawer ohonom ni elwa o signalau symudol fel y gallwn ni ymdopi pan fydd pethau'n torri, ond nid oes gan rai pobl system symudol dda hyd yn oed ac, fel y gwyddoch chi, mae llawer o wifrau band eang yn dal wedi eu gwneud o gopr ac nid oes unrhyw arwydd o ffeibr yn dod yn y dyfodol agos, ac yn sicr nid erbyn 2027, rwy'n amau. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei rannu y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl hŷn ledled Cymru wledig yn cael eu gadael wedi'u hynysu o ganlyniad i ddiffodd copr?

Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn ymwybodol, gan fod eich Llywodraeth chi mewn grym, o'r ffaith bod ardaloedd helaeth o Gymru nad oedd ganddyn nhw fynediad at fand eang mewn gwirionedd, ac y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru, ynghyd â chyllid Ewropeaidd, gamu i mewn a gwneud iawn am y diffyg cynnydd gan Lywodraeth y DU. Roedd problem go iawn yn hynny o beth; cyfrifoldeb Llywodraeth y DU oedd hyn, ond bu'n rhaid i ni gamu i mewn a'i ddatrys. Felly, rydym ni wedi mynd o 30 y cant o signal i fyny y tu hwnt i 90 y cant a mwy, o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Felly, rydym ni mewn sefyllfa wahanol iawn i ble'r oedden ni ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae gennym ni bocedi o hyd, rwy'n cydnabod hynny, a byddwn ni'n amlwg yn parhau i weithio ar y rheini.

14:05
Buddsoddiad yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gogledd-ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol i fusnesau fuddsoddi ynddo? OQ62694

Gan weithio gyda'n partneriaid rhanbarthol, rydym ni'n bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau i sicrhau bod gogledd-ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn lleoliad deniadol ar gyfer mewnfuddsoddiad buddsoddiad brodorol. Mae cyd-bwyllgor corfforedig gogledd Cymru yn hollbwysig i hyn, gan gysoni gwaith cynllunio defnydd tir strategol, trafnidiaeth ranbarthol, llesiant economaidd a datblygu sgiliau rhanbarthol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch o weld bod gwaith yn parhau yn y maes hwn. Cefais y fraint yn ddiweddar o gyfarfod â busnesau o bob rhan o ystad ddiwydiannol Wrecsam, gan gynnwys JCB, Kellogg's a Net World Sports sydd, rhyngddynt, yn cyflogi cannoedd, os nad miloedd, o bobl o bob rhan o ardal Wrecsam a sir y Fflint. A byddwch yn cydnabod bod gogledd-ddwyrain Cymru yn ganolfan economaidd bwysig iawn, nid yn unig i'm rhan i o'r byd, ond i Gymru yn ei chyfanrwydd. Ac roeddwn i'n gallu rhannu gyda'r Gweinidog trafnidiaeth ychydig dros wythnos yn ôl rhai o'r materion a godwyd ganddyn nhw ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy'n ddiolchgar am ei ymateb i'r rheini.

Ceir mater ehangach, Prif Weinidog, ynglŷn â seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sy'n atal buddsoddiad ar gyfer rhai o'r busnesau hyn. Disgrifiwyd i mi bod rhai o'r cefnffyrdd yn y rhan honno o'r byd yn cael eu gorddefnyddio a bod tanfuddsoddiad ynddyn nhw, gan feddwl yn arbennig am ffyrdd fel yr A55, yr A494 a'r A483, sy'n dioddef tagfeydd dro ar ôl tro, gan arafu busnes, ei wneud yn lle llai deniadol ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Felly, meddwl ydw i tybed pa sicrwydd allwch chi eu rhoi i mi a'm trigolion yng ngogledd-ddwyrain Cymru y bydd buddsoddiad pellach yn ein seilwaith ffyrdd yn y gogledd-ddwyrain fel y gallwn ni barhau i weld y buddsoddiad pwysig hwnnw—sy'n bwysig nid yn unig i'm rhan i o'r byd, ond i Gymru yn ei chyfanrwydd. Diolch yn fawr iawn.

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod y bu buddsoddiad enfawr gan gwmnïau ar ystad ddiwydiannol Wrecsam. Mae'n ystad ddiwydiannol enfawr sy'n cyflogi miloedd o bobl; mae wir yn drysor yng nghoron datblygiad diwydiannol yng ngogledd Cymru. Byddaf yn falch iawn, yn ddiweddarach yr wythnos hon, o fynd i ymweld â rhai busnesau yn y gogledd, gan gynnwys rhai lleoliadau yng nghanol trefi a gorsaf bŵer Dinorwig, a cheir cyfleoedd gwirioneddol hefyd i ni fuddsoddi yng nghanol y trefi hynny. Bydd datganiad yn ddiweddarach heddiw ar ein buddsoddiad yng nghanol trefi, sy'n hollbwysig i ddiwydiant a busnes.

O ran trafnidiaeth, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cydnabod bod angen gweithio ar sail ranbarthol nawr a bod angen i'r blaenoriaethau a osodir, ar gyfer y dyfodol, fod y rhai y cytunwyd arnyn nhw gan y cyd-bwyllgorau corfforedig a'u bod nhw'n gweithio gyda'i gilydd i flaenoriaethu, a'u cyfrifoldeb nhw yw cyflwyno'r hyn y maen nhw'n meddwl ddylai'r blaenoriaethau hynny fod yn y gogledd.

Ariannu Gwasanaethau Iechyd Cynradd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu gwasanaethau iechyd cynradd? OQ62718

Yn ystod 2024-25, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi cyllid gwerth dros £1.1 biliwn i fyrddau iechyd i fuddsoddi yn y pedwar gwasanaeth gofal sylfaenol, sef gwasanaethau meddygol cyffredinol, fferylliaeth gymunedol, gwasanaethau deintyddol cyffredinol a gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd iechyd Llywodraeth San Steffan dros £100 miliwn er mwyn buddsoddi mewn i feddygfeydd teuluol yn Lloegr. Fe gyfeiriodd Wes Streeting at arian sy’n dod drwy godiadau cyfraniadau yswiriant gwladol fel ffynhonnell yr ariannu yma. A all y Prif Weinidog gadarnhau os ydy’r gwariant yma am gael ei Barnett-eiddio, os oes yna swm cyfatebol am ddod i Gymru, hynny ydy, a pha gynrychiolaeth y mae’r Llywodraeth yma wedi’i gwneud i Lywodraeth San Steffan ynghylch hyn?

Diolch yn fawr. Rŷn ni wedi buddsoddi lot mewn meddygaeth teulu. Y ffaith yw bod yna £52 miliwn yn ychwanegol i GPs eleni. Rŷn ni wedi bod yn helpu ariannu ac mae gennym ni bot sylweddol sydd yn helpu i ddatblygu surgeries ar draws Cymru, ac mae hwnna’n rhedeg i lot mwy na £100 miliwn. Felly, rŷn ni eisoes yn gwneud y gwaith yma yng Nghymru.

14:10

Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi wedi rhoi arian ychwanegol i feddygon teulu, ond mae argyfwng cynyddol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ar draws y gogledd, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn ein gwasanaethau meddygon teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yn fy etholaeth i yn sir Faesyfed, mae'r maes hwn wedi dioddef heriau sylweddol o ran cyllid ac o ran recriwtio a chadw meddygon teulu, ac mae hynny'n arwain at lwythi gwaith mwy i feddygon teulu presennol ac amseroedd aros hwy i gleifion. Tynnodd adroddiad diweddar sylw at y ffaith bod rhai meddygfeydd yn gweithredu gydag un meddyg teulu a bod eraill mewn perygl o gau'n gyfan gwbl oherwydd prinder staff. Mae'r sefyllfa hon nid yn unig yn peryglu gofal cleifion, ond mae hefyd, fel y gwyddoch chi, yn rhoi straen ychwanegol ar rannau eraill o'n system gofal iechyd, gan gynnwys gwasanaethau brys, pan na all cleifion weld eu meddyg teulu. 

Felly, o ystyried y materion dybryd hyn, pa strategaeth uniongyrchol a hirdymor y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ei rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r prinder meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig? Ac, yn benodol, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud y swyddi hyn yn fwy deniadol i ymarferwyr newydd a phresennol? Hoffwn wybod hefyd pa gymorth sy'n cael ei roi i sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau meddygon teulu hynny yn y cymunedau hyn yn y dyfodol, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno darlun da o ran darparu cyllid ar gyfer meddygon teulu, ond yna, mewn gwirionedd, ar lawr gwlad, nid yw'n ymddangos ei fod yn dod drwodd.

Wel, efallai eich bod chi'n teimlo felly, ond y gwir yw bod 1.5 miliwn o bobl bob mis yn cael gweld eu meddygon teulu. Mae hynny'n cyfateb i hanner poblogaeth Cymru, felly mae rhywun yn cael gwasanaeth yn rhywle. Nawr, rwy'n cydnabod nad yw pawb yn cael gwasanaeth perffaith ac rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud, ond nid yw'r hyn sy'n cyfateb i dros hanner y boblogaeth yn ffigur gwael, a hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith anhygoel y mae ein meddygon teulu yn ei wneud. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 13 y cant i nifer y meddygon teulu cyflogedig yng Nghymru. Rydych chi eisiau i ni recriwtio mwy; wel, efallai y gallem ni recriwtio mwy pe baech chi'n caniatáu i ni geisio recriwtio o dramor, ond nid yw eich arweinydd eisiau i ni wneud hynny. Felly, mae'n rhaid i chi benderfynu ar ba ochr ydych chi o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Gofal sylfaenol trwy feddygfeydd teulu yw'r prif ddarparwr gofal iechyd i gleifion. Mae'r gyfran o'r gyllideb iechyd sy'n cael ei gwario ar ofal sylfaenol wedi gostwng yn sylweddol. Mae'r diffyg darpariaeth gofal sylfaenol yn darparu ymatebion gan feddygfeydd fel, 'Ein nod yw cadw'r system Ask My GP ar agor rhwng 8 a.m. a 12 p.m. dydd Llun i ddydd Gwener, ond mae weithiau'n cau'n gynharach gan ei fod yn cyrraedd y capasiti diogel llawn ar gyfer y dydd.' Pan na all cleifion gael apwyntiad meddyg teulu, maen nhw naill ai'n cael eu hatgyfeirio gan y feddygfa deulu i adrannau damweiniau ac achosion brys neu maen nhw'n mynd yno fel yr unig ffordd o weld meddyg, sy'n arwain at arosiadau hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, gofal mewn coridorau ac ambiwlansys yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. A wnaiff y Prif Weinidog gyfarwyddo byrddau iechyd i ddiogelu canran gwariant y bwrdd iechyd ar ofal sylfaenol?

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi bod yn eglur iawn ynghylch ei ddisgwyliadau bod yn rhaid i fyrddau iechyd ddangos sut maen nhw'n cynyddu eu gwariant ar wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, ac mae'r trafodaethau hynny eisoes wedi cychwyn. Ond y gwir amdani, wyddoch chi, yw ein bod ni wedi ei gwneud hi'n eglur iawn fel blaenoriaeth y tymor hwn ein bod ni eisiau mynd i'r afael â'r rhestrau aros a ddatblygodd o ganlyniad i'r pandemig. Nawr, pan fyddwch chi'n edrych ar gyfrannau, yna, yn amlwg, rydych chi'n mynd i fod yn gweld cyfran fwy, tra eich bod yn gwneud y gwaith hwnnw, yn cael ei gwario ym maes gofal eilaidd. Ond rydym ni'n cydnabod ein bod ni ar daith. Rydym ni wedi dweud erioed y byddwn ni eisiau gweld mwy yn cael ei wario ym maes gofal sylfaenol, yn ein cymunedau, ar atal ac ar ddigidol, a dyna'r daith y byddwn ni'n parhau arni. Ond ein blaenoriaeth yw lleihau'r rhestrau aros hynny, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwaith hwnnw wir yn talu ar ei ganfed.

Mentrau Diogelwch ar y Ffyrdd

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar fentrau diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Casnewydd? OQ62717

Ledled Cymru, rydym ni'n cynorthwyo awdurdodau lleol i weithredu mesurau diogelwch ar y ffyrdd wedi'u teilwra i anghenion lleol. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar fentrau yn Nwyrain Casnewydd, gan ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau diogelwch ar y ffyrdd ac integreiddio diogelwch yn y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol i greu cymunedau mwy diogel ac iachach a lleihau anafiadau ar y ffyrdd.

Prif Weinidog, bu gwrthdrawiad fis diwethaf rhwng beiciwr modur a char yn ardal Beechwood a St Julians yng Nghasnewydd lle, yn drasig, y lladdwyd y beiciwr modur. Mae'r digwyddiad yn destun gwaith parhaus gan Heddlu Gwent, ond mae hyn yn ddealladwy wedi achosi llawer o bryder a gofid yn y gymuned leol. Mae'r ardal lle digwyddodd y gwrthdrawiad yn un breswyl ac yn cynnwys parc ac ysgolion. Mae'n cael ei defnyddio gan lawer o blant a rhieni. Mae'r cynghorwyr ward ar gyfer yr ardal yn gweithio gyda'r gymuned leol, gan gynnwys grŵp gweithredu cymunedol newydd St Julians a Beechwood, i fynd i'r afael â phryderon ynghylch traffig a diogelwch ar y ffyrdd. Fel y gwnaethoch chi sôn, Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ac yn parhau i ariannu mentrau i wneud ein ffyrdd a'n strydoedd yn fwy diogel i'n cymunedau. Yn sgil y drasiedi hon, a wnewch chi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyngor y ddinas, y gymuned, yr heddlu ac eraill i wneud ffyrdd yn fwy diogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd?

14:15

Diolch yn fawr iawn, John. Mae'n ddrwg gen i glywed am drychineb ar ein ffyrdd. Wrth gwrs, dyna oedd y prif ysgogydd ar gyfer cyflwyno'r terfyn cyflymder 20 mya, yn enwedig wrth ymyl ysgolion ac ysbytai. Mae hynny, rwy'n gobeithio, yn cyfleu rhywbeth i'r bobl a allai fod wedi cael eu heffeithio yma. Fe welsom ni ostyngiad sylweddol o ran damweiniau ers cyflwyno hwnnw. Fe fydd yna rai newidiadau y mae angen eu gwneud mewn rhannau o Gyngor Dinas Casnewydd, y maen nhw'n ymgynghori arnyn nhw ar hyn o bryd, ond y peth pwysig yw cydnabod bod y polisi hwnnw, mewn gwirionedd, wedi dangos gostyngiad. Ni fyddwn ni'n gallu atal pob damwain yng Nghymru, rwy'n credu ei bod hi'n rhaid i ni fod yn realistig, ond mae angen i ni annog pobl i yrru yn ddiogel a chyfrifol. 

Teuluoedd sy'n Magu Plant Anabl

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i deuluoedd sy'n magu plant anabl? OQ62676

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol oherwydd y dyletswyddau statudol sydd arni, a chyda rhanddeiliaid eraill, i estyn cymorth i deuluoedd, sy'n cynnwys rhai sy'n magu plant anabl. Fe wneir hyn trwy ddatblygu polisi a chyllid grant wedi'i dargedu ar draws meysydd fel gofal plant, addysg, gofal cymdeithasol, chwarae a seibiannau oddi wrth ofalu.

Bythefnos yn ôl, fe gefais i'r pleser o gynnal digwyddiad lansio Cronfa'r Teulu o adroddiad 'Cost Gofalu 2025'. Mae Cronfa'r Teulu, elusen fwyaf y DU ar gyfer teuluoedd â phlant anabl neu ddifrifol sâl, yn darparu grantiau ar gyfer eitemau a gwasanaethau hanfodol. Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r caledi ariannol sy'n wynebu teuluoedd anabl, gyda bron i'w hanner yn profi annigonolrwydd incwm, bron i 90 y cant o ofalwyr sy'n rhieni yn methu gweithio cymaint o oriau ag y bydden nhw'n dymuno, a dwy ran o dair yn dweud bod eu sefyllfa ariannol wedi effeithio ar lesiant emosiynol eu plentyn.

Mae gwasanaethau Cronfa'r Teulu yn helpu gydag ymyrraeth gynnar ac atal, gan dynnu rhywfaint o'r pwysau oddi ar y teuluoedd hynny ac arbed miliynau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Er hynny, ar hyn o bryd dim ond cyfran fach iawn o'r rhai sydd mewn angen sy'n gallu elwa ar eu cefnogaeth. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno ei bod yn rhaid i ni sicrhau y bydd teuluoedd â phlant anabl yn cael eu clywed, eu gweld, eu cefnogi a'u gwerthfawrogi, nid yn unig gyda geiriau, ond â chamau gwirioneddol. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd gan uwch gynrychiolwyr y trydydd sector yn y gynulleidfa, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae'n bryd inni siarad am yr argyfwng mawr yr ydym ni ynddo o ran plant ac oedolion anabl yng Nghymru'?

Diolch yn fawr iawn, Mark, a diolch i chi am eich gweithredu parhaus o ran cefnogaeth i bobl anabl, a phlant yn enwedig, yn yr achos hwn. Rwy'n gyfarwydd ag adroddiad 'Cost Gofalu'. Fe gaiff llawer o faterion eu codi yn hwnnw y mae, yn amlwg, angen i ni eu cymryd o ddifrif.

Rydym ni'n ceisio gwneud yr hyn a allwn ni i roi cefnogaeth i'r bobl hynny, gan gynnwys, er enghraifft, seibiannau byr a chefnogaeth i ofalwyr. Fe wnaethom ni hyn drwy ddarparu £5.25 miliwn i ddarparu'r seibiannau pwrpasol hynny i ofalwyr di-dâl, sy'n cynnwys rhieni plant anabl.

Mae gennym ni £360,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cymryd Egwyl Cronfa'r Teulu, sy'n cynnig y grantiau hynny, unwaith eto, ar gyfer seibiannau byr i deuluoedd y mae eu plant yn ddifrifol sâl neu'n anabl. Mae Teuluoedd yn Gyntaf gennym ni hefyd, a Dechrau'n Deg. Mae pecynnau cymorth wedi eu teilwra ar gael gan bob un o'r rhain yn ogystal ag adnoddau hygyrch i gefnogi plant anabl.

Cyflenwi Darpariaeth Hamdden

8. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol ynglŷn â chyflenwi darpariaeth hamdden? OQ62678

14:20

Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol eu hunain yw darparu a chyflenwi gwasanaethau hamdden, gan gymryd anghenion a blaenoriaethau lleol i ystyriaeth.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae cynnig Cyngor Sir Ddinbych i werthu ei gangen hamdden, Denbighshire Leisure Ltd, wedi achosi llawer o bryder ymysg trigolion, cynghorwyr a rhanddeiliaid eraill. Mewn cyfarfod y tu ôl i ddrysau caeedig ym mis Mawrth, fe gefnogodd cynghorwyr y bwriad i werthu wyth o ganolfannau hamdden y cyngor a lleoliadau eraill i fuddsoddwr ecwiti preifat o 20 pleidlais o blaid i 17 yn erbyn, ond fe chwalodd y cytundeb hwnnw ddiwedd mis Ebrill. Mae adroddiad ar werthiant dadleuol cyfleusterau hamdden Cyngor Sir Ddinbych a gomisiynwyd gan UNSAIN ac a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn codi materion ynglŷn â gwrthdaro buddiannau, buddiolwyr posibl, diffyg tryloywder a thorri cyfraith gaffael o bosibl.

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi datganiad yn beirniadu'r adroddiad gan ei fod wedi ei wneud heb ganiatâd y cyngor, sy'n creu rhagor o ymdeimlad eu bod nhw o'r farn y gallan nhw weithredu yn ddigerydd a chydag ychydig iawn o oruchwyliaeth, fel Llywodraeth Tsieina i ryw raddau. Mae llawer o drigolion yn ddig, a hynny'n gyfiawn, am y £62,000 a wariwyd ar gyngor annibynnol ar y cytundeb a chwalodd. O ystyried rhai o'r pryderon difrifol iawn a godwyd yn adroddiad y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, a all y Prif Weinidog wneud datganiad ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru ddysgu o'r llanastr hwn i ddarparu canllawiau mwy cadarn i awdurdodau lleol? 

Diolch. Nid wyf am wneud sylwadau ar yr adroddiad penodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd yr awdurdodau lleol yn cael gwerth £6.1 biliwn o gyllid ynghyd â'r gwariant ardrethi annomestig y gallan nhw eu defnyddio ar wasanaethau allweddol. Mae'n rhaid iddyn nhw benderfynu sut y byddan nhw'n gwario hwnnw, a'u dewis nhw fydd hynny.

Yn amlwg, mae yna broblem ynglŷn â hyn. Fe ddylai'r cyngor ystyried y mater. Mae canllawiau gennym ni ar y pethau hyn ac fe ddylen nhw ystyried y canllawiau hynny wrth iddyn nhw fynd allan i benderfynu sut y byddan nhw'n cynnal eu cyfleusterau hamdden.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf, eitem 2, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Rhys ab Owen.

Y Gweithgor Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y gweithgor llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol? OQ62685

Diolch, Rhys. Disgwylir i'r gweithgor gyfarfod unwaith eto ym mis Mehefin ac adrodd yn ystod yr haf. Mae hwnnw'n gweithio gydag asiantaethau i archwilio ymagwedd datrys problemau ac ystyried y model yng nghyd-destun mwy eang y gwasanaethau i deuluoedd â phlant ar gyrion gofal, neu yn y broses amlinellu cyfraith gyhoeddus.

Diolch yn fawr. Rwy'n siŵr nad yw hi'n syndod o gwbl i chi eich bod wedi cael cwestiwn arall ar y mater hwn, ond nid wyf i'n ymddiheuro am ei ofyn, am fy mod i o'r farn fod taer angen am y llys hwn, ac mae'r manteision i deuluoedd yn amlwg. Rwyf i wedi dyfynnu barnwr cylchdaith i chi'n flaenorol a oedd yn rhoi enghreifftiau o blant yn cael eu cymryd i ofal oherwydd bod y cynllun peilot hwn wedi dod i ben. Rwy'n pryderu ynglŷn â pha mor hir y mae hyn yn ei gymryd, oherwydd rydym ni'n siomi teuluoedd a phlant yn y cyfamser. Fe ddaeth y cynllun peilot i ben ym mis Tachwedd 2023, fe ddaeth gwerthusiad Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Prifysgol Caerdydd i ben ym mis Mehefin y llynedd, ac fe sefydlwyd y gweithgor ym mis Ionawr ac nid oes disgwyl y bydd yn adrodd yn ôl tan ddiwedd yr haf. Yn dilyn ymlaen o hynny, beth ellir ei gyflawni o ddifrif, Cwnsler Cyffredinol, erbyn diwedd y Senedd hon? 

Diolch, Rhys. Rwy'n rhannu eich pryderon chi ynglŷn â'n cyfeiriad ni yn hyn o beth, ond rydym ni'n ceisio gwneud hyn yn iawn. Mae yna nifer o ddarnau sy'n symud yn hyn o beth, fel y gwyddoch chi, ac fe wnaethoch chi amlinellu rhai ohonyn nhw nawr.

Fe fydd gweithdy ym mis Mehefin gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn fwy eang ar gyfer ystyried yr arfer da sydd eisoes ar waith a sut y gallwn ni sicrhau y bydd gwasanaethau a strwythurau i gefnogi plant a theuluoedd yn gweithio ar sail aml-asiantaeth yn well. Rydym ni hefyd yn ystyried ac yn archwilio'r symudiad oddi wrth achosion llys gwrthwynebol at ymagwedd o fod yn datrys problemau gyda theuluoedd sy'n fwy deallus ynglŷn â thrawma—sut y gallwn roi set fwy o fecanweithiau cymorth ar waith er mwyn teuluoedd sydd yn y broses, os hoffech chi. Nid yw hynny'n ymwneud â'r llys yn unig, mae'n ymwneud â'r darnau sy'n symud i gyd o'i gwmpas ac yn cyd-fynd â hyn.

Rydym ni hefyd yn ceisio goresgyn y materion o ran cyllido, sy'n sylweddol. Mae'r llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yn Lloegr wedi bod yn dibynnu i raddau helaeth ar gyllid cychwynnol ychwanegol, ac mae cryn dipyn ohonyn nhw wedi cau pan ddaeth y cyllid cychwynnol hwnnw i ben. Felly mae'n rhaid i ni geisio dod o hyd i fecanwaith cyllido sy'n gynaliadwy, sy'n hawdd ei ddweud ond yn gymhleth iawn i'w wneud.

Fe  fyddaf i'n cael rhywfaint o gyngor gan y gweithgor yn ystod yr haf ar y dewisiadau o ran ehangu yng Nghymru a sut y gellid cymhwyso'r dull hwn o ddatrys problemau yn fwy eang mewn llysoedd teulu, mewn gwirionedd, nid yn y llysoedd cyffuriau ac alcohol yn unig. Rydym ni'n ymchwilio i weld sut mae hyn yn cymryd ei le yn y gwasanaethau ehangach ac mae Jane Hutt a minnau'n ymchwilio i'w gweithrediad ym Manceinion hefyd, mewn lleoliad ychydig yn ehangach. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd trafodaethau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch symud pwyslais llysoedd teulu yng Nghymru at ymagwedd o ddatrys problemau yn fwy cyffredinol yn helpu i fynd ag ymagwedd ddiwygiedig ar led.

Rwy'n falch ein bod wedi cynnal y cynllun peilot, ond mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i'w gyflwyno ar raddfa fwy y gellir ei rheoli. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd gennym ni gynllun eglur erbyn diwedd tymor y Senedd ar gyfer y llys hwn y gallwn ei fabwysiadu mewn ymrwymiadau maniffesto—gan fwy nag un blaid, gyda gobaith—ac yna fe allwn ni fod ag ymrwymiad iddo. Nid awn ni ddim pellach na hynny yn nhymor y Senedd hwn, ond rydym ni'n gweithio yn ehangach i wneud i'r system llysoedd teulu weithio yn fwy priodol. 

14:25
Diogelwch Tomenni Glo

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â goblygiadau'r ffaith bod glo yn fater a gedwir yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer ei gallu i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo? OQ62690

Diolch i chi, Delyth. Mae'r Llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo, fel amlygodd y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), sydd, fel y gwyddoch chi, yn gwneud ei ffordd drwy'r Senedd ar hyn o bryd ac a fydd yn sefydlu trefn newydd ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cynnwys cymal cadw o ran glo, ond nid yw hyn yn ein hatal ni mewn unrhyw ffordd rhag cymryd camau i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru.

Diolch i chi am hynna. Rwyf wedi bod yn gweithio ar welliannau i'r ddeddfwriaeth honno, ac wrth gynorthwyo gyda drafftio'r rhain fe'm trawyd i gan rywbeth annisgwyl. Mae glo yn fater a gadwyd yn ôl—mae hynny mewn deddfwriaeth. Mae'n cael ei nodi fel un sy'n dod o dan reolaeth San Steffan, nid Cymru. Mae hynny'n sicr yn ategu fy nadl i a dadl Plaid Cymru sef y dylai San Steffan fod yn talu llawer mwy i wneud tomenni glo yn ddiogel, ond fe fyddwn i'n gofyn beth yw goblygiadau'r ffaith honno'n ymarferol. A yw hyn yn peryglu'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran gwahardd tynnu rhagor o lo o domenni glo, er enghraifft?

Fe fyddwn i'n gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw drafodaethau cyfreithiol gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pwerau i ymdrin â glo, o ystyried bod y pwerau cynllunio, trwyddedu a seilwaith dros gloddio wedi cael eu datganoli eisoes. A ydych chi o'r farn bod y sefyllfa gyfreithiol ar hyn o bryd yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r materion hyn yn llawn? Ac yn olaf, a fyddech chi'n cytuno â mi fod hyn nid yn unig yn rhoi rhwymedigaeth foesol ar Lywodraeth y DU i ariannu diogelwch tomenni glo yn llawn, ond rhwymedigaeth gyfreithiol hefyd?

Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi rhoi ar gofnod, a Phrif Weinidogion blaenorol hefyd, ac fe ddywedais innau mewn nifer o swyddi blaenorol ac mae hynny ar gofnod hefyd, heb flewyn ar dafod o ran yr angen i Lywodraeth y DU fod yn ariannu'r rhaglenni adfer. Nid y rhaglen ddiogelwch mo honno; ond y rhaglen adfer. Y rhaglen adfer sydd â'r arian mawr wedi'i ei atodi iddi.

Mae glo yn amlwg yn ddiwydiant gwaddol; roedd yn bodoli amser maith cyn datganoli. Fe allwn i siarad am ddwy awr am echdynnu adnoddau o Gymru er budd mannau eraill yn y DU, gan adael gwaddol i ni ei gymoni, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n gyfiawn. Mae'r Prif Weinidog presennol wedi gwneud llawer o bwyntiau i'r cyfeiriad hwnnw i wahanol Weinidogion a Phrif Weinidog y DU, fe wnaeth Prif Weinidog blaenorol Cymru hynny, ac fe wnes innau. Yn sicr, mae honno'n sgwrs barhaus na fyddwn ni'n rhoi'r gorau iddi ar unrhyw bryd yn y dyfodol agos.

Yn y cyfamser, yn amlwg, mae angen i ni sicrhau bod ein cymunedau ni'n ddiogel. Mae hynny'n amlwg yn bwysig iawn i ni o ran ein diwylliant hefyd, ac felly fe gafwyd y Bil. Nod y Bil yw diogelu lles pobl trwy gyflwyno system gyson a chadarn o ran asesu, cofrestru, rheoli, monitro a goruchwylio pob tomen nas defnyddir, nid tomenni glo yn unig. Felly, mae'n wirioneddol bwysig o ran y gyfraith sydd ynghlwm â'r mater. Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio sy'n berchen ar y mwyafrif helaeth o lo heb ei drin ym Mhrydain Fawr, ac mae'n dal i fod yn gyfrifol am drwyddedu gweithfeydd mwyngloddio glo ledled y DU. Ond nid yw'r glo sydd i'w gael mewn tomenni nas defnyddir yn perthyn i'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio erbyn hyn, ac nid oes angen trwydded gwaith mwyngloddio na thrwydded mynediad ar gyfer ei gymryd na'i brosesu. Mae'r rhain yn wahaniaethau pwysig iawn os ydych chi'n ystyried gwelliannau i'r Bil.

Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer addasu tomenni ac echdynnu glo, ac mae unrhyw benderfyniad a wneir yn ddarostyngedig i bolisi datganoledig a'r rhagdybiaeth yn erbyn echdynnu glo. Hwn yw'r polisi sefydledig, ac mae hynny wedi bod ers blynyddoedd lawer, gan Lywodraeth Cymru er mwyn cael diwedd rheoledig ar echdynnu a defnydd o unrhyw lo. Nid yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu awdurdodi gweithfeydd mwyngloddio glo newydd nac echdynnu glo o domenni nas defnyddir, oni bai bod angen hynny dan amgylchiadau cwbl eithriadol. Mae'r polisi yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r cynnig arddangos yn eglur pam mae angen yr echdynnu hwnnw i sicrhau dirwyn gweithfeydd mwyngloddio i ben mewn ffordd ddiogel, ar gyfer adfer safleoedd neu ddefnydd heb fod ar gyfer ynni. Wrth gwrs, mae pob cynnig yn cael ei ystyried ar ei rinweddau unigol, ond fe geir rhagdybiaeth yn erbyn echdynnu glo.

Mae'r rhaglen adfer, wrth gwrs, yn ymwneud â diogelwch. Weithiau, fe fydd angen symud glo o gwmpas, neu fe fydd angen symud rwbel yn cynnwys mwynau eraill, ac felly mae angen i'r Bil gwmpasu hynny. Ond rydym ni wedi cael cwpl o brofion yn y llys yn ddiweddar o ran ein polisi ni, ac mae hwnnw wedi dal hyd yn hyn.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prynhawn da, Cwnsler Cyffredinol. Ychydig dros awr yn ôl, fe gyfarfu fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau ag aelodau o Rwydwaith Hawliau Menywod Cymru ar risiau'r Senedd, a oedd yn croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys o ran ei ddiffiniad o fenyw, ac yn croesawu'r eglurder a'r sicrwydd yr oedd hynny'n ei ddarparu. Pan es i yno, fe wnaethon nhw sôn wrthyf i nad oedd unrhyw Aelod Llafur na Phlaid Cymru o'r Senedd wedi bod allan i'w gweld nhw ar yr adeg yr oeddwn i yno, sy'n siomedig. Ond roedden nhw'n pryderu hefyd am awydd Llywodraeth Cymru i gadw at y dyfarniad, i wrando ar y dyfarniad, a'i adlewyrchu yn y canllawiau a gynigir ganddi. Felly, fis ar ôl y dyfarniad, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth sydd wedi newid ers y dyfarniad hwnnw, o ran ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn credu yn rheolaeth y gyfraith, ac fe fyddwn yn ystyried y dyfarniad yn ofalus ac yn cymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol i fodloni ein rhwymedigaethau ni dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, fel y'i dehonglwyd hi gan y llys.

Nid wyf i'n siŵr y bydd hynny'n rhoi llawer o ffydd i'r aelodau hynny, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n dweud y bydd angen i chi gymryd amser. Rydych chi wedi cael mis i ystyried y dyfarniad hwnnw, ond mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw wedi ei wneud i chi'n barod. Felly, er enghraifft, fe roddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddiweddariad interim ar oblygiadau ymarferol dyfarniad y Goruchaf Lys, a oedd yn nodi y bydd yn rhaid i ysgolion yng Nghymru a Lloegr ddarparu toiledau un rhyw ar wahân i fechgyn a merched dros wyth oed, ac mae hi'n orfodol iddyn nhw ddarparu cyfleusterau newid un rhyw i fechgyn a merched dros 11 oed hefyd.

Nawr, yn ystod fy nghyfnod i'n Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros addysg, fe ymwelais i â llawer o ysgolion ledled Cymru, ac roedd un yn arbennig wedi gosod toiled niwtral o ran rhywedd newydd sbon yn ystod y 18 mis diwethaf. Felly, yn amlwg, ar gyfer cydymffurfio â'r dyfarniad hwnnw, fe fydd angen ailystyried hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddarparu cyllid ac arweiniad pellach i ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau y bydd y mannau niwtral hyn o ran rhywedd yn cael eu diddymu?

Na wnawn. Mae hwnnw'n wrthodiad syml iawn. Y Ddeddf—. Mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn nodi yn eglur iawn, Tom, fel y gwyddoch chi'n dda, fod pobl draws yn cael eu diogelu hefyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Y cyfan maen nhw'n ei wneud yw tynnu sylw at y ffaith, at ddibenion mannau un rhyw, bod rhyw biolegol yn cyfrif. Ond ni nodwyd gofyniad penodol i gael gwared ar fannau niwtral o ran rhywedd, ac ni fyddwn ni'n edrych ar hynny.

Wel, fel y dywedais i, roedd hyn yn eglur iawn o ran yr angen i ddarparu—fe wnaf ei ddarllen eto, os ydych chi wir eisiau i mi wneud hynny—

'toiledau un rhyw i fechgyn a merched dros 8 oed',

a

'chyfleusterau newid un rhyw ar gyfer bechgyn a merched dros 11 oed.'

Dyna a ddywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd wedi darparu'r adroddiad interim hwnnw.

Nawr, mae Aelod Seneddol Llafur Gŵyr, Tonia Antoniazzi, wedi dweud hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei dal gan sefydliadau fel Stonewall a Mermaids, sydd, yn ôl pob tebyg, yn ysgrifennu'r polisïau hyn ar eich cyfer chi. Ac mae'n ymddangos o'r ymatebion a glywsom ni heddiw hyd yn hyn fod hynny'n wir. Fe ddywedodd hi hefyd fod rhai o'r sefydliadau hyn wedi dweud celwydd wrth blant a phobl ifanc am y posibilrwydd o allu newid eu rhyw, ac wedi gweithio gyda chi i newid polisi cydraddoldeb i gynnwys hunaniaeth rhywedd yn hytrach nag ailbennu rhywedd—unwaith eto, nodwedd nad yw'n cael ei chwmpasu yn y gyfraith. Ac eto, pan nodwyd hyn o'r blaen, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Llywodraeth yn teimlo nad yw'r term yn camgynrychioli'r Ddeddf Cydraddoldeb, o ran ysbryd y gyfraith.

Nawr, mae cyfraith cydraddoldeb yn cael ei diffinio gan y Goruchaf Lys—sydd dan y microsgop yn fwy nag erioed nawr—ac mae'n rhaid i elfennau o bolisi cydraddoldeb ddilyn y dyfarniad ar gyfer rhoi eglurder, nid yn unig mewn gweithleoedd, ond i'n pobl ifanc a'n hysgolion. Ni allwn fforddio bod â pholisïau a arweinir gan ysbryd y gyfraith—ffordd amwys o osgoi mater dadleuol y mae pobl Cymru yn haeddu eglurder ac arweiniad ynglŷn ag ef.

Felly, Gweinidog, a wnewch chi wrando ar y galwadau pendant gan eich cyd-Aelodau yn y Blaid Lafur i roi'r gorau i fod â chysylltiad â'r sefydliadau hynny, i ddarparu'r eglurder hwnnw a'r arweinyddiaeth honno i'n plant a'n pobl ifanc, gan weithredu nawr i sicrhau nad ydych chi'n torri'r gyfraith, ac yn bwrw ymlaen â chyflawni'r newid y mae'r llys wedi dweud wrthych chi am ei wneud?

Wel, Tom, rwyf i wedi ateb y cwestiwn am roi'r dyfarniad ar waith eisoes. Nid wyf i am ymhél a'r rhyfel diwylliannol o'r fath yr ydych chi'n amlwg yn dymuno i mi wneud. Bydd darparu mannau un rhyw yn angenrheidiol, rwy'n siŵr, dan ddehongliad newydd y Ddeddf Cydraddoldeb. Ond nid yw hynny'n ei gwneud yn ofynnol i gael gwared ar fannau niwtral o ran rhywedd mewn unrhyw ffordd. Os darllenwch chi'r dyfarniad, fe welwch chi drosoch eich hun fod y llys yn mynd allan o'i ffordd i ddweud nad buddugoliaeth un grŵp dros un arall mo hyn. Rwy'n awgrymu eich bod chi'n cymryd hynny yn yr ysbryd a fwriadwyd.

Diolch, Llywydd. Mae'r Prif Weinidog wedi addo 'ffordd goch i Gymru', ac wedi mynnu, os yw hynny'n ddigon da i'r Alban, fe ddylai fod yn ddigon da i Gymru. Eto, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynigion cydraddoldeb gyda'r Alban dair gwaith, tra bod Plaid Lafur San Steffan yn gwneud dim ond addo archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf. Wel, rydym ni wedi arfer gyda'r gagendor rhwng rhethreg a'r sefyllfa wirioneddol, ond rwy'n credu y gall y Cwnsler Cyffredinol ein helpu ni o ran deall y bwlch mewn polisi rhwng y ddwy Lywodraeth ar hyn o bryd. Felly, a wnewch chi ymrwymo, yn gyntaf, i gyhoeddi pa bwerau newydd a gafodd eu cytuno eisoes rhwng Llywodraeth Cymru a Gweinidog y DU; yn ail, i egluro'r pwerau hynny sy'n dal i fod yn ddadleuol, a pham hynny; ac, yn drydydd, a wnewch chi ddarparu, cyn 2026, eich amserlen chi ar gyfer cyflawniad, eich cynnig chi ar gyfer cyflawni pwerau llawn ar lefel yr Alban, neu a ddylai pobl Cymru wneud dim ond derbyn na fydd geiriau uchelgeisiol eich Llywodraeth chi'n cael eu cyfateb gan gamau sydd yr un mor uchelgeisiol?

14:35

Adam, nid mater i mi mo hwnnw, mae hwnnw'n fater o bolisi ar gyfer y Prif Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd y gwnaethoch chi ei wasgu i mewn i gyngor cyfreithiol, ond nid mater i mi mohono mewn gwirionedd. Mae trafodaethau parhaus yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar draws ystod eang o feysydd ar ymylon datganoli; mae rhai yn dechnegol iawn, rhai o ran polisi, ac eraill yn gynigion ar gyfer datganoli. Roedd gan Lywodraeth newydd y DU, yn ei maniffesto hi, gynigion ar gyfer datganoli gwahanol ddarnau o gyfiawnder ieuenctid i Gymru, er enghraifft. Felly, nid mater i mi mohono, mater i'r Prif Weinidog yw hwnnw, ac fe ddylech chi godi'r mater gyda hi.

Gofyn yn rhinwedd eich statws chi fel y Gweinidog Cyflawni ydw i. Mae'r Prif Weinidog yn dweud,

'Ni fyddwn ni'n gadael iddyn nhw dynnu'r gwynt o'n hwyliau ni'—

geiriau grymus sy'n gwneud i chi fod ag awydd gorymdeithio i'r Trysorlys tu ôl i faner Cymru. Ond pan gynigiodd Plaid Cymru ddatganoli Ystad y Goron, fe gerddodd ASau Llafur Cymru trwy lobïau San Steffan i'w drechu. Dydw i ddim yn gyfreithiwr, ond rwy'n gallu gweld gwrthgyferbyniad pan welaf i un. Felly, cwestiwn uniongyrchol i chi, Cwnsler Cyffredinol: os na wnaiff trafodaethau cwrtais gyda San Steffan ddarparu rheolaeth ar Ystad y Goron, a wnewch chi ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael, gan gynnwys atal cefnogaeth i gynigion cydsyniad deddfwriaethol, neu a fyddwn ni'n parhau â'r patrwm hwn o glochdar mawr ac yna ymostyngiad llariaidd? Oherwydd—a gadewch i mi ddweud hyn yn eglur—allwch chi ddim honni eu bod nhw'n dwyn eich waled tra byddwch yn dal y drws yn agored i'r lladron.

Nid wyf i'n siŵr bod hynna'n gyfreithiol gywir, a dweud y gwir, ond beth bynnag am hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n eithaf siŵr nad ydyw hynny'n wir. Wrth gwrs, rydym ni'n dymuno datganoli Ystad y Goron—dyna yw ein polisi ni yn Llywodraeth Cymru ers amser maith, yn amlwg. Serch hynny, mae yna broses i fynd drwyddi gyda'r teithiau hyn i gyd o ran datganoli. Taith ydyw hi, ac rydym ni'n dal i fod ar y daith honno. Nid ydym ni yn yr un sefyllfa bob amser, wrth gwrs, ond rydym ni'n dal i fod ar y daith honno. Rwy'n falch iawn, er enghraifft, o weld y bydd comisiynydd Cymru yn cael ei benodi ar gyfer Ystad y Goron. Dyna gam bychan i'r cyfeiriad iawn. Nid yn y fan honno'r hoffwn i fod, ac yn sicr ni fyddai'r Prif Weinidog yn hoffi bod yn y fan honno chwaith. Fe fyddwn ni'n parhau â'r sgyrsiau hynny.

Addawodd y Prif Weinidog y byddai'n ceisio newid pethau a chondemniodd ddull un maint ar gyfer pawb San Steffan. Ond mae'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd yr wythnos hon ar fewnfudo yn ymgorfforiad perffaith o hynny—codi trothwyon cyflog a thynhau neu ddiddymu fisâu sy'n cynnal cartrefi gofal, busnesau lletygarwch a phrifysgolion Cymru, heb gydnabod yr amgylchiadau sy'n unigryw i ni. Mae Plaid Cymru wedi cynnig cwotâu fisa penodol i Gymru ers amser maith. Ar un adeg, roedd eich Llywodraeth chi'n galw nodau'r DU yn fympwyol ac roedd hi'n gefnogol o'r syniad hwn o fod ag ymagwedd benodol i Gymru. A wnewch chi, felly, o fewn 60 diwrnod, neu beth bynnag fo'n rhesymol, gyhoeddi asesiad fesul sector o effaith y cynigion hyn ar Gymru, a chyflwyno cynllun ar gyfer fisâu datganoledig, megis llwybr nawdd i Gymru yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogol nesaf, a datgelu'r strategaeth a fydd yn troi 'newid pethau' yn ganlyniadau y gellir eu gweld? Oherwydd rydym ni wedi cael digon o eiriau cynnes, onid ydym ni, i gynhesu pob cartref yng Nghymru y gaeaf nesaf, yr hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw cyflawni.

Rwyf o'r farn y bu'r Prif Weinidog yn uniongyrchol iawn wrth ateb cwestiynau yn gynharach heddiw—bod gwahaniaeth enfawr rhwng y ffordd yr ydym ni'n ystyried mewnfudo yma yng Nghymru yn Llywodraeth Cymru, ac fel Cymry, fe fyddwn i'n mynd cyn belled â dweud, a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ei ystyried, o achos myrdd o bethau'r ydym ni'n ymwybodol iawn ohonyn nhw. Rwy'n gwybod bod sgyrsiau parhaus yn cael eu cynnal rhwng y Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr effaith yn hynny o beth. Fe fydd yna effeithiau eraill. Mae fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, sy'n eistedd yma yn gwrando ar hyn, rwy'n gwybod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch rhywfaint o effaith hyn. Cyn gynted ag y byddwn ni'n gwybod beth yw'r effeithiau ac y byddwn ni'n gallu gwneud ein cynigion ni o ganlyniad i wybod hynny, rwy'n siŵr y bydd y Senedd yn cael gwybod.

For Women Scotland Ltd v. Gweinidogion yr Alban

3. Pa asesiad cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r newidiadau y bydd angen i'r sector cyhoeddus yng Nghymru eu gweithredu mewn ymateb i'r dyfarniad yn yr achos For Women Scotland Ltd v. Gweinidogion yr Alban? OQ62674

Rwyf wedi ateb hyn i raddau helaeth eisoes, Janet. Fe fyddwn ni'n ystyried y dyfarniad yn ofalus ac yn cymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol i fodloni ein rhwymedigaethau ni'n unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Rydym ni wedi ymrwymo yn gadarn i gydraddoldeb a chynhwysiant ac amddiffyn urddas a hawliau dynol holl bobl Cymru.

14:40

Diolch i chi. Ar 16 Ebrill, fel yr ydych yn ei wybod yn dda, fe roddodd Goruchaf Lys y DU ei ddyfarniad unfrydol o ran bod y termau 'rhyw', 'dyn' a 'menyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at ryw fiolegol ac nid rhyw ardystiedig. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithio ar ganllawiau eisoes ynglŷn â sut y gall pawb gydymffurfio â'r dyfarniad hwn. Mewn gweithleoedd, mae hi'n orfodol i ddarparu digon o doiledau un rhyw; mewn ysgolion, mae'n rhaid bod â thoiledau un rhyw ar gyfer bechgyn a merched dros wyth oed; fe all cymdeithasau o 25 neu fwy o bobl gael eu cyfyngu i un rhyw. Nawr, er ein bod ni'n aros am fwy o arweiniad, mae hi'n amlwg yn barod fod gan y dyfarniad hwn ganlyniadau enfawr i'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gydweithio â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau y bydd pobl Cymru yn cael y canllawiau mwyaf eglur posibl? Ac, yn amlwg, rydym ni'n dymuno i chi roi sicrwydd i ni eich bod chi'n bwriadu cydymffurfio â'r dyfarniad diweddaraf.

Wel, rwyf wedi dweud hynny dair gwaith o leiaf y prynhawn yma'n barod, felly dyma ailadrodd hynny eto: mae Llywodraeth Cymru yn credu yn rheolaeth y gyfraith ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n rhoi unrhyw ddyfarniad gan y Goruchaf Lys ar waith. 

Dim ond er mwyn bod yn eglur iawn, mae'r dyfarniad yn egluro y gellir dehongli'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy'n cyfeirio at y termau 'dyn', 'menyw' a 'rhyw' fel rhai sy'n cyfeirio at ryw fiolegol. Nid yw'r dyfarniad yn diddymu amddiffyniadau i bobl drawsrywiol sydd â thystysgrif cydnabod rhywedd neu nad oes ganddynt un. Mae ailbennu rhywedd yn dal i fod yn nodwedd warchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Roedd y dyfarniad yn fwy na phlaen ynglŷn â hynny, ac, fel y dywedais i wrth Tom Giffard yn gynharach, fe aeth o'i ffordd i ddweud nad buddugoliaeth un grŵp dros un arall oedd hyn, sy'n rhywbeth y byddech chi'n elwa ar ei ystyried, yn fy marn i. 

Fe fyddwn ni'n gweithio ar garlam i ddeall goblygiadau'r dyfarniad hwn ar y sector cyhoeddus ac ar Gymru gyfan. Fe fyddwn ni'n ystyried canllawiau diweddaredig y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'r cod ymarfer ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi. Fe fydd yn rhaid i ni ystyried beth yn union sydd angen digwydd er mwyn cydymffurfio.

Gweithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â rôl awdurdodau lleol wrth weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016? OQ62683

Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru nifer o ddyletswyddau dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r argyfwng natur wrth gefnogi'r awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Diolch i chi. Roedd adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith yn tynnu sylw at y ffaith fod Adran 1 Deddf 2016 yn cael ei hystyried yn flaengar ac arloesol, ac yn rhoi fframwaith ar waith i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Er hynny, mae'r dystiolaeth a gawsom ni'n awgrymu nad yw'r Ddeddf wedi ymwreiddio fel y bwriadwyd ac mae elfennau allweddol wedi bod yn aneffeithiol i raddau helaeth wrth ysgogi camau ymlaen er mwyn byd natur. Mae'r dystiolaeth a gawsom ni'n tynnu sylw at y ffaith fod y problemau gyda Deddf 2016 yn ddeublyg: gwendidau o ran drafftio darpariaethau penodol ac aneffeithiolrwydd o ran rhoi ar waith. Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu gwersi o brofiad Deddf 2016 ar gyfer drafftio unrhyw Filiau yn y dyfodol?

Diolch i chi, Janet. Mae hwnna'n bwynt pwysig iawn mewn gwirionedd. Felly, rydym ni'n adolygu'r Biliau i gyd yn rheolaidd ac yn sicrhau eu bod nhw'n dal i fod yn addas i'r diben, nad ydyn nhw wedi cael eu disodli, bod angen eglurhad neu ddiwygiad arnyn nhw neu beth bynnag allai fod. Fe fydd Bil yr amgylchedd (llywodraethiant, egwyddorion a thargedau bioamrywiaeth) (Cymru) yn ceisio mynd i'r afael â nifer o faterion a godwyd yn adroddiad Archwilio Cymru, er enghraifft, ac yn adroddiad y pwyllgor, drwy greu corff llywodraethu, y bydd ei gylch gwaith yn cynnwys goruchwylio cydymffurfiaeth â'r gyfraith amgylcheddol. Ac fe fyddan nhw'n cael eu galluogi i roi cyngor i ni ynglŷn â phethau a oedd yn cael eu hystyried yn eithaf blaengar ar y pryd, ond nad ydyn nhw mor flaengar erbyn hyn neu nad ydyn nhw mor ymarferol i'w gweithredu ag y byddem ni wedi hoffi, efallai.

Roedd adroddiad Archwilio Cymru yn canolbwyntio ar y ddyletswydd yn adran 6, ond mae yna lawer o faterion ynglŷn â bioamrywiaeth na fydden nhw wedi bod mor amlwg ar yr adeg honno, ac felly fe fyddan nhw'n cael eu hystyried yn y Bil newydd. Ond mae gennym ni broses ar gyfer adolygiad rheolaidd o ddeddfwriaeth o'r math hwnnw; mae hi'n werthfawr iawn wrth wneud hynny, ac mae yna lawer o adroddiadau 'gwersi a ddysgwyd' sy'n cyd-fynd â hynny a fydd yn helpu'r pwyllgorau i lywio eu craffu nhw ar y Bil wrth iddo wneud ei ffordd drwodd.

Diwygiadau Arfaethedig i Dribiwnlysoedd Cymru

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y diwygiadau arfaethedig i dribiwnlysoedd Cymru? OQ62686

Diolch i chi, Rhys. Mae'r gwaith yn parhau o ran drafftio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein huchelgeisiau er mwyn bod â chyfundrefn ddatganoledig o dribiwnlysoedd sy'n gydlynol yng Nghymru. Ein bwriad ni yw paratoi Bil drafft cyn diwedd y Senedd gyfredol.

14:45

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, fe ddisgrifiwyd cyfreithwyr sy'n gweithio yn y tribiwnlys mewnfudo fel rhai sy'n pluo eu nythod eu hunain a 'barus'. Mae pob un o'r cyfreithiwr mewnfudo yr wyf i wedi cwrdd â nhw yn cynnal rheolaeth y gyfraith ac mae cyflogau'r mwyafrif helaeth o gyfreithwyr mewnfudo yn llawer is na chyflog Aelod o'r Senedd ac yn sicr heb ddod yn agos at gyflog arweinydd yr wrthblaid yn y fan hon. Yn rhinwedd eich swydd fel prif gynghorydd cyfreithiol Cymru, a wnewch chi amddiffyn cyfreithwyr sy'n gweithio yn ein system dribiwnlysoedd ni yng Nghymru ac a fyddech chi'n cytuno â mi fod hwn yn bortread difeddwl a pheryglus? Diolch yn fawr.

Rwy'n cytuno yn llwyr â hynna, Rhys. Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr sy'n gweithio yn y sector mewnfudo, lles a chymorth cyfreithiol yn gweithio yn galed iawn am ychydig iawn o dâl yn gyffredinol, ac yn gwneud llawer iawn o waith er lles y cyhoedd ar ben yr hyn maen nhw'n ei wneud i gadw rhyw fath o do uwch eu pennau. Fe fyddai hi'n dda gennyf i pe byddai mwy ohonyn nhw, nid llai.

Fe hoffem ni weld—ac mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt, trwy'r gronfa gynghori sengl, wedi bod yn cynorthwyo gyda hyn—sefyllfa well. Fe hoffwn i weld canolfan i'r gyfraith sy'n gwbl weithredol yng Nghymru, er enghraifft, a fyddai'n caniatáu i bobl gael mynediad at gyfiawnder. Heb fynediad at gyfiawnder, ni cheir rheolaeth y gyfraith, ac felly rwy'n cytuno yn gyfan gwbl â'ch sylwadau chi.

Ymgyrch Pensiynau Menywod

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i gefnogi ymgyrch menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ62677

Nid yw materion pensiwn y wladwriaeth wedi eu datganoli ac maen nhw'n gyfrifoldeb i'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llywodraeth y DU. Felly, nid wyf wedi rhoi unrhyw gyngor o'r fath.

Iawn. Diolch i chi am hynny. Rwy'n datgan buddiant oherwydd fe gafodd fy mam ei geni yn y 1950au. Mae yna lawer o grwpiau o bobl sydd wedi—[Anghlywadwy.] Maddeuwch i mi, Cwnsler Cyffredinol, mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.] Dydy Dai Rees byth yn hapus gyda mi pan fyddaf i'n dweud hynny chwaith.

Mae yna lawer o grwpiau o bobl sydd wedi gweld cyfiawnder yn cael ei warafun iddyn nhw gan San Steffan, wrth gwrs, ac mae menywod WASPI ymhlith y rhain. Fe wrthodwyd pensiynau'r wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au ar yr union amser yr oedd angen y gefnogaeth honno arnyn nhw. Bu farw llawer o fenywod heb gael yr arian. Mae'n anghyfiawnder chwerw ac maen nhw'n haeddu iawn. Yr hyn sy'n gyffredin i lawer o grwpiau sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder gyda'r mater hwn yw'r angen am gyfryngu rhwng y menywod yr effeithiwyd arnynt a'r Adran Gwaith a Phensiynau. A wnaiff y Llywodraeth hon annog hynny i ddigwydd ar lefel y DU? A ydych chi'n cytuno â mi y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus, yn debyg i'r un sydd wedi digwydd gydag is-bostfeistri? Rwy'n ddiolchgar i chi am gytuno i gael cyfarfod gyda mi i drafod y materion hyn yn fuan. Rwy'n ddiolchgar oherwydd mae menywod wedi blino aros ac maen nhw'n haeddu cael unioni'r cam hwn.

Rwy'n teimlo nawr, Llywydd, y dylwn innau ddatgan buddiant oherwydd, yn anffodus, fel mam Delyth, fe gefais innau fy ngeni yn y 1950au. Llongyfarchiadau ar wneud i mi deimlo yn hen iawn, Delyth. [Chwerthin.]

Edrychwch, roedd yna ymchwiliad ombwdsmon i hyn, ond gwnaeth yr ymchwiliad edrych ar sut y cyfathrebwyd y newid i oedran pensiwn y wladwriaeth yn unig; ni wnaeth edrych ar y newid gwirioneddol. Cytunwyd ar y polisi ei hun gan Senedd y DU yn ôl yn 1995, ac mae wedi'i ystyried gan y llysoedd eisoes, a'i ystyried yn gyfreithlon. Felly, rwyf i o'r farn mai ychydig iawn y gallwch chi ei wneud pan fydd hynny wedi digwydd. Canfu'r ombwdsmon bod 90 y cant o fenywod yn ymwybodol fod oedran pensiwn y wladwriaeth yn newid, ond nid o reidrwydd sut y byddai hynny'n effeithio arnyn nhw. Yna, fe argymhellodd gyfres o becynnau iawndal, y gwn i'r Prif Weinidog eu trafod gyda Llywodraeth y DU. Rwyf i fy hun wedi trafod gyda'm AS partner yn fy ardal i, sy'n digwydd bod yn Weinidog iau sy'n gyfrifol am bensiynau, ac felly rwyf wedi cael y drafodaeth honno fy hunan gydag ef.

Yn y cyfamser, fel bob amser, mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth i bobl mewn trafferthion ariannol, gan gynnwys drwy'r gronfa gynghori sengl a'r ymgyrch genedlaethol i fanteisio ar fudd-daliadau, 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi'. Mae fy nghydweithiwr Jane Hutt wedi gweithio yn ddiflino iawn i sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny. Rydym ni'n edrych ar fudd-daliadau pasbort hefyd. Felly, pan fydd rhywun yn gymwys, er enghraifft, i gael budd-dal treth gyngor, yna fe fydd yn cael pasbort ar gyfer pob un o'r lleill, ac fe fyddai llawer o'r menywod yn y categori hwn yn gynwysedig yn hynny. Felly, rydym ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni. Nid yw hyn, serch hynny, ar ymyl garw datganoli; nid yw'r maes hwn wedi ei ddatganoli. Felly, mae terfyn ar yr hyn y gallwn ni ei wneud, heblaw am y cymorth ariannol o'r math hwnnw.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 sydd nesaf, a'r datganiad a chyhoeddiad busnes yw hwn. Y Trefnydd, felly, sy'n gwneud y datganiad yma—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:49:29
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar berfformiad gwasanaeth ambiwlans Cymru. Bu'n rhaid i etholwr i mi sy'n oedrannus aros am 12 awr i gael ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn ddiweddar ac, ar yr un diwrnod, fe ddywedwyd wrth etholwr arall i mi a oedd wedi torri ei gefn y byddai'n rhaid iddo aros am oriau lawer am ambiwlans hefyd. Trefnydd, er gwaethaf gwaith caled nyrsys, parafeddygon, meddygon a staff ein hysbytai, mae hi'n hollol amlwg fod y system ar fin torri. Yn wir, mae cyn-gyfarwyddwr Ysbyty Llwynhelyg wedi mynd mor bell â dweud, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae'r llywodraeth wedi methu â chyflawni, wedi methu â chael trefn, ac mae'r GIG ar fin methu, a dweud y gwir. Mae hynny'n niweidiol i gleifion, yn niweidiol i staff, ac yn niweidiol i'r wlad.'

Felly, o ystyried pa mor ddifrifol yw'r mater hwn, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn gynted â phosibl. 

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi, Paul Davies, am godi hyn a'r adroddiadau anffodus iawn oddi wrth eich etholwyr. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi bod ar drywydd y rhain gydag ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru yn uniongyrchol. Nid wyf i'n gallu cofio a gafodd hyn ei godi'r wythnos diwethaf, pan gafodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwestiynau llafar yn y Senedd, ond yn amlwg mae hwn yn fater sydd ar y cofnod erbyn hyn ac fe fydd yn cael ei ddwyn i sylw'r Ysgrifennydd Cabinet. 

Trefnydd, yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddwyd adroddiad damniol am gyfres o ffaeleddau yn ymwneud ag arweinyddiaeth, diwylliant, ymddygiad a methiant i gadw at bolisïau a threfniadau diogelwch yn ysbyty athrofaol Caerdydd. Er y bu trafodaeth fer am hyn yn ystod y cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yr wythnos diwethaf, gyda Mabon ap Gwynfor yn gofyn cwestiwn, dwi'n credu, oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, ein bod ni angen cyfle ar lawr y Senedd hon i'w drafod, a byddwn i'n ddiolchgar pe baech chi'n creu amser yn yr amserlen i sicrhau hynny.  

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, ac ydw, yn wir, rwy'n cofio'r cwestiynau a'r pwyntiau a gafodd eu gwneud i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac fe gytunodd ef i ymateb a dychwelyd ar ôl iddo ystyried yr adroddiad. Rwy'n credu bod yr adroddiad ar yr adolygiad o wasanaeth theatrau yn gwneud 66 o argymhellion mewn gwirionedd, ac mae hi'n ddiddorol ei fod yn ystyried y diwylliant o fewn theatrau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ond mae ymchwiliad parhaus ar wahân i'r pryderon a godwyd ynglŷn ag aelodau o'r cyhoedd—a gododd Andrew R.T. Davies hefyd—yn cael eu caniatáu i theatrau yn flaenorol. Mae disgwyl i hwnnw adrodd yn ddiweddarach y mis hwn. Felly, rydym ni'n ymwybodol fod y byrddau iechyd yn ystyried yr adroddiadau hyn ac yn argymell camau gweithredu a goblygiadau'r adolygiadau hyn, ac mae'n rhaid cymryd hyn o ddifrif iawn o ran diogelwch cleifion, ond gan fod yn eglur iawn hefyd am yr ymatebion hynny o ran y cyfleoedd i staff godi pryderon trwy broses Codi Llais Heb Ofn. Felly, diolch i chi am dynnu hyn at ein sylw ni unwaith eto yn y datganiad busnes heddiw.

Rwy'n gofyn am ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sefydliadau pêl-droed, sef cangen elusennol clybiau pêl-droed proffesiynol sy'n ymdrechu i ysbrydoli ac ymgysylltu â phobl o bob cefndir, gyda chenhadaeth i ddefnyddio clybiau pêl-droed proffesiynol fel grym ar gyfer newid cadarnhaol mewn cymunedau. Maen nhw'n ymgysylltu â phobl ifanc y mae sefydliadau eraill yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â nhw. Eu nod yw meithrin ffyniant, datblygu gwytnwch, gwella iechyd ac, efallai yn bwysicaf oll, cefnogi cynhwysiant a chefnogi'r rhai mwyaf difreintiedig a gweithio er mwyn cydraddoldeb a chynhwysiant. Roedd gan Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, yn 2023-24, gyfanswm gwerth cymdeithasol o dros £22 miliwn, a gynhyrchwyd gan y prosiectau a'r rhaglenni a gyflwynwyd i gymuned y de-orllewin. Gan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn y tymor diwethaf, mae Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn sicrhau y byddan nhw'n cynnig darpariaeth o ansawdd uchel i bawb sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau'r sefydliad. Maen nhw wedi ymrwymo yn llwyr i ddileu gwahaniaethu yn ein cymunedau ni ac addysgu cyfranogwyr ynglŷn â sut y gallwn ni hyrwyddo parch. 

Diolch yn fawr iawn i chi am dynnu ein sylw ni at hyn, Mike Hedges. Mae'n bwysig iawn inni gydnabod mentrau o'r fath, sydd mor bwysig yn ein cymunedau ni. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol, wrth gwrs, nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol yn rheolaidd i sefydliadau'r pedwar clwb pêl-droed proffesiynol yng Nghymru, ond mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru o ran yr hyn y mae'r sefydliadau hynny'n ei wneud yn cyflawni llawer sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau ni. Rydym ni wedi darparu cefnogaeth o dros £200,000 yn ystod y flwyddyn ariannol hon i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer y rhaglen Cefnogwyr Ffit, ac mae'n bwysig mai cydweithrediad yw hwn rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Cynghrair Pêl-droed Lloegr, ac fe gaiff ei gyflwyno drwy ganghennau elusennol clybiau pêl-droed Cymru: Abertawe, Wrecsam, Casnewydd a Chaerdydd.

14:55

Fel y gwyddoch chi efallai, Trefnydd, ychydig wythnosau yn ôl, fe gyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar ei adroddiad, 'The Fight for Accessible Healthcare'. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ddiffygion sylweddol GIG Cymru o ran diwallu anghenion cyfathrebu pobl sy'n fyddar neu sydd â cholled clyw, ac mae'n dadlennu diffygion parhaus o ran systemau a phrosesau angenrheidiol i'r unigolion hyn gael gafael ar ofal iechyd priodol. O ganlyniad i hynny, mae pobl sy'n fyddar neu sydd â cholled clyw yn wynebu rhwystrau sylweddol o fethu â threfnu apwyntiad meddyg teulu hyd at beidio â deall beth sy'n digwydd iddyn nhw mewn gofal brys hyd yn oed. Er gwaethaf cyflwyno'r safonau ar gyfer Cymru gyfan yn 2013, a oedd â'r nod o fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn a phennu safon ar gyfer gofal i bobl â cholled synhwyraidd, ychydig sydd wedi newid dros y degawd diwethaf. Mae'r methiant parhaus hwn o ran darpariaeth briodol yn groes i'r hawliau a sefydlwyd gan ddeddfau amrywiol, sy'n cynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010 ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yng ngoleuni'r adroddiad damniol hwn, a wnewch chi roi datganiad llafar er mwyn i Lywodraeth Cymru allu datgan o'r newydd yn gyhoeddus ei hymrwymiad hi i adolygu, grymuso a gorfodi safonau ledled Cymru, ac a wnaiff hi ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu gydag amserlenni eglur o ran sut y mae hi'n bwriadu gwella hygyrchedd gofal iechyd i unigolion byddar a'r rhai sydd â cholled clyw? Diolch i chi.

Diolch i chi am dynnu sylw at yr adroddiad pwysig hwn, Joel James. Rwyf i am gyfeirio, fel gwnaethoch chi, at safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â cholled synhwyraidd o ran gofal iechyd. Fe fyddan nhw'n cael eu hadnewyddu, y safonau hynny. Mae cydweithwyr iechyd yn dal i fod yn ymgysylltu—sy'n arbennig o bwysig eu bod nhw'n ymgysylltu—gyda'r rhanddeiliaid allweddol hynny sy'n tynnu sylw at yr angen, oherwydd mae angen gwasanaethau iechyd cyfiawn arnom ni i'r defnyddwyr hynny i gyd. Fe fydd y safonau adnewyddedig hefyd, sy'n bwysig iawn, yn cynnwys cleifion nad y Gymraeg na'r Saesneg yw eu prif iaith, yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain.

Fe hoffwn i hefyd, ar y pwynt hwn, dynnu sylw at y ffaith y byddaf i'n lansio'r cynllun hawliau pobl anabl ddydd Iau'r wythnos hon. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle, wrth ymateb i'ch cwestiwn chi, i wneud y cyhoeddiad pwysig hwnnw.

A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch eich bwriad i sicrhau bod cyfnod COVID-19 a phenderfyniadau'r Llywodraeth am gael eu craffu yn llawn? Wrth gwrs, dylem fod wedi gweld ymrwymiad gan y Llywodraeth yma i gael ymchwiliad annibynnol i ddechrau, ond fe wrthodwyd hynny, ac fe ddaeth y Llywodraeth a'r Ceidwadwyr i fyny â ffordd o osgoi craffu yn llwyr gan warchod buddiannau y ddwy Lywodraeth ar y pryd trwy greu pwyllgor arbennig yma yn y Senedd a gobeithio y byddai'r cyfan yn cael ei gicio lawr y ffordd. Ond, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r pwyllgor, drwy waith prifysgolion Abertawe a Nottingham Trent, wedi adnabod naw bwlch amlwg yn ymchwiliad y Deyrnas Gyfunol—bylchau sydd yn haeddu cael eu craffu. Canlyniad hyn? Wel, y canlyniad ydy bod y ddwy blaid sydd am osgoi cael eu Gweinidogion wedi craffu wedi arwain at sefyllfa lle nad oes craffu o unrhyw fath yn digwydd ar hyn o bryd. A gawn ni, felly, ddatganiad am beth ydy bwriad y Llywodraeth yma i sicrhau bod y penderfyniadau a wnaed adeg COVID yn cael eu craffu a bod y gwersi yn cael eu dysgu?

Diolch yn fawr, Mabon, ac mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn sy'n cael ei drafod a'i ystyried. Yn wir, roeddem ni'n trafod hyn yn y Pwyllgor Busnes y bore yma. Ac mae'n rhaid i ni gydnabod gwaith—gwaith pwysig—y cyd-bwyllgor hwnnw, sydd, wrth gwrs, yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Joyce Watson a Tom Giffard. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, roeddem ni'n siomedig iawn pan dynnodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl o'r adroddiad hwnnw. Fe wnaethon nhw dynnu'n ôl o aelodaeth ohono, a oedd yn tanseilio, yn fy marn i, y pwrpas a'r cylch gwaith sefydlu'r cyd-bwyllgor hwnnw, a sefydlwyd gan gyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a ddaeth at ei gilydd i ystyried a oedd yna ffordd ymlaen i sicrhau y gellid craffu ar ganlyniadau'r ymchwiliadau COVID-19.

Yn wir, wrth gwrs, mae gwaith ymchwiliad COVID-19 y DU yn parhau. Fe fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi tystiolaeth cyn bo hir. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n canfod ffordd ymlaen ar gyfer sicrhau y gellir craffu ar y gwaith a wnaeth y cyd-bwyllgor eisoes, fel man cychwyn, ac, yn wir, rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o ddatrysiad yn cael ei ganfod yn y dyddiau nesaf.

15:00

Yr wythnos diwethaf, cafodd yr ymchwiliad gwaed heintiedig ei alw'n ôl gan fod gan ei gadeirydd, Syr Brian Langstaff, bryderon difrifol am amseroldeb a digonolrwydd ymateb y Llywodraeth i iawndal. Efallai y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cofio inni drafod hyn yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl. Clywodd Syr Brian gan banel o bobl a oedd yn cynrychioli gwahanol grwpiau ymgyrchu, gan gynnwys Lynne Kelly, cadeirydd Haemophilia Wales, a llawer o bobl a oedd wedi cael eu heintio. Ni wnaeth aelodau'r panel guddio eu rhwystredigaeth ynglŷn â'r ffordd roedd y cynllun iawndal yn cael ei weinyddu, gan gredu bod llawer o'r penderfyniadau wedi'u gwneud a'r systemau wedi'u rhoi ar waith. Maen nhw'n pryderu am eu bod yn meddwl ei fod yn dacteg oedi fwriadol.

Felly, rydyn ni nawr yn disgwyl i Syr Brian adrodd ar yr hyn a glywodd yn y gwrandawiadau. Felly, a gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ei hymateb i'r sefyllfa hon ynglŷn â thalu'r iawndal, a hefyd ar ei hymatebion i'r gwrandawiadau yr wythnos diwethaf, a hefyd yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud unwaith y bydd wedi ystyried adroddiad Syr Brian? Ni ddylen ni fod yn ymladd o hyd am gyfiawnder i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn llais blaenllaw wrth annog Llywodraeth y DU i greu system ddi-dor i bawb gael iawndal.

Diolch yn fawr iawn am godi'r cwestiwn hwnnw, Julie Morgan. Mae'n bwysig ei fod yn cael ei godi yma. Mae cymaint o waith wedi'i wneud, yn drawsbleidiol, wedi'i arwain gennych chi eich hun, i raddau helaeth, yn gweithio gyda Lynne Kelly. A gawn ni dalu teyrnged i Lynne Kelly, cadeirydd Haemophilia Wales, a roddodd dystiolaeth yr wythnos diwethaf pan gafodd yr ymchwiliad gwaed heintiedig ei ailgynnull am fod y cadeirydd, Syr Brian Langstaff, wedi gofyn iddo gael ei ailgynnull oherwydd oedi wrth dalu iawndal? Fe wnaethon nhw glywed y gwrandawiadau hynny am brydlondeb a digonolrwydd ymateb Llywodraeth y DU i iawndal. Eu cyfrifoldeb nhw ydyw, ac yn wir gofynnwyd i Weinidog Swyddfa'r Cabinet, Nick Thomas-Symonds, ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad o ran y gwrandawiad pellach hwnnw, ac mae Swyddfa'r Cabinet, rydym yn gwybod, yn gweithio ar yr ymateb hwn.

Ar 2 Mai, ysgrifennodd ein Hysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Weinidog Swyddfa'r Cabinet, Nick Thomas-Symonds, yn amlinellu'r materion a gafodd eu codi yn y Senedd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, bod y materion hyn wedi'u codi'n drawsbleidiol yn y Senedd, ac rwy'n gwybod eu bod wedi cael eu trafod ar risiau'r Senedd gyda theuluoedd, y mae gan lawer ohonyn nhw, gan gynnwys fi fy hun, etholwyr yr effeithiwyd arnyn nhw.

Fe ysgrifennodd e, yr Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles, ar ran y buddiolwyr, ynghylch cyflymder, cywirdeb a phriodoldeb arddull gyfathrebu'r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig. Felly, mae'r materion hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gan swyddogion. Anogir pawb sydd wedi'u heintio ac y mae'r sgandal gofal iechyd ofnadwy hon wedi effeithio arnyn nhw i gofrestru ar wefan IBCA i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, sy'n cynnwys gwybodaeth am y camau nesaf. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddwn ni'n clywed ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion yr ymchwiliad gwaed heintiedig yn sgil y gwrandawiad diweddaraf hwn. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod Senedd Cymru, y Senedd, yn sicrhau ein bod ni'n parhau i ymgysylltu a'n bod ni'n cael ein dwyn i gyfrif o ran gweithio i gael yr ymatebion hynny hefyd.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Yr wythnos diwethaf, cafodd rhieni disgyblion Ysgol St Clare ym Mhorthcawl a Thŷ Oakleigh yn Abertawe wybod bod perchennog yr ysgolion preifat hynny, Cognita, yn bwriadu cau'r ysgolion hynny ar ddiwedd y flwyddyn. Cafodd Llywodraeth Cymru ei rhybuddio y byddai'r TAW a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar ffioedd ysgol, yn ogystal â'i phenderfyniad ei hun i atal rhyddhad ardrethi busnes elusennol ar gyfer ysgolion sy'n codi ffioedd, yn cael canlyniadau enbyd. Rydyn ni nawr yn gweld canlyniadau'r penderfyniadau hynny, ac rwy'n amau nad y ddwy ysgol yn fy rhanbarth fydd yr olaf i gau. Mae angen i ni wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod digon o leoedd ar gael mewn ysgolion gwladol ar gyfer yr holl ddisgyblion hyn a oedd yn talu ffioedd fel arwydd o'r ffordd y bydd y disgyblion hyn yn cael eu cefnogi yn y cyfnod pontio. Felly, rwy'n galw am ddatganiad llafar brys i'r Siambr hon fel y gallwn ni roi sicrwydd i'n hetholwyr a'u plant. Diolch yn fawr.

15:05

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, ac, wrth gwrs, mae ysgolion annibynnol yn ymreolaethol. Dydyn nhw ddim yn cael eu rheoli na'u hariannu gan y Llywodraeth. Ond yn gynharach eleni fe wnaethon ni roi terfyn ar ryddhad ardrethi busnes ar gyfer rhai ysgolion sy'n codi ffioedd. A dweud y gwir, ni chafodd Ysgol St Clare ei nodi fel un o'r ysgolion hynny sy'n derbyn rhyddhad ardrethi busnes. Ac fe gawson ni ddadl gadarn ar hyn. Fe wnaethon ni roi terfyn ar ryddhad ardrethi busnes i rai ysgolion sy'n codi ffioedd i ddefnyddio'r cyllid i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol, i gefnogi ein gwasanaethau addysg yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, sicrhaodd y penderfyniad hwnnw hefyd fod ysgolion annibynnol â statws elusennol yn gyson ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru. Ond gallaf eich sicrhau y gall teuluoedd y mae'r penderfyniad i gau Ysgol St Clare yn effeithio arnyn nhw gysylltu â'u hawdurdod lleol i drafod dewisiadau ar gyfer parhau â'u haddysg. Ac rydyn ni'n gwybod bod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i weithio gydag Ysgol St Clare i ddeall lle mae plant yn byw, i roi cefnogaeth, i sicrhau addysg barhaus i'r plant y mae hyn yn effeithio arnyn nhw.

Hoffwn ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ar sut allwn ni ddiogelu ein cyfleusterau cymunedol hanfodol rhag llifogydd, a'u diogelu ar gyfer y dyfodol. Oherwydd yr argyfwng hinsawdd sy'n gwaethygu, bydd y stormydd eithriadol hyn yn parhau, ac maen nhw'n mynd i ddigwydd yn amlach, felly dylen ni baratoi yn unol â hynny. Mae hyn yn cyfeirio'n benodol at glybiau rygbi a ddioddefodd lifogydd ym mis Tachwedd, ond mae'n berthnasol i bob cyfleuster cymunedol sy'n wynebu'r risg o lifogydd.

Rwyf wedi ymweld â rhai o'r clybiau a gafodd eu difrodi gan y llifogydd diweddaraf ym mis Tachwedd yn ystod storm Bert. Gadawyd Clybiau Rygbi Hen Fechgyn Ysgol Uwchradd Casnewydd a'r Coed Duon gyda chostau ariannol trwm ar ben y colledion roedden nhw eisoes wedi'u dioddef yn ystod storm Dennis yn 2020. Yn achos Clwb Rygbi'r Coed Duon, costiodd llifogydd mis Tachwedd £233,260 iddyn nhw. Nid yw hyn yn cynnwys costau llai, felly mae'r gost wirioneddol yn debygol o fod yn uwch. Mewn cyferbyniad, mae'r clwb wedi cael £22,099 mewn grantiau a rhoddion, llai na degfed o'r hyn maen nhw wedi'i golli. Nid yw dweud na allai rhai clybiau a rhai cyfleusterau cymunedol oroesi canlyniadau storm Dennis neu Bert arall yn or-ddweud, gan eu bod nhw wedi defnyddio eu cronfeydd wrth gefn. Petai modd i ni gael datganiad ar sut allwn ni ddiogelu'r canolfannau cymunedol hanfodol hyn, gyda ffocws penodol ar glybiau chwaraeon, byddwn i'n ddiolchgar iawn.

Diolch yn fawr, Peredur. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n cefnogi'r clybiau hyn. Maen nhw wrth wraidd eu cymuned. Maen nhw mor bwysig i gynhwysiant cymdeithasol, i weithgarwch ac ymgysylltiad pob cenhedlaeth, ac mae'n bwysig eich bod chi wedi tynnu ein sylw nid at un clwb, ond mwy nag un, o ran eich dealltwriaeth chi. Felly, fe wnaf i ysgrifennu atoch chi am y cymorth sydd wedi'i ddarparu, roedd yna gynllun llifogydd penodol, rwy'n cofio, cynllun grant llifogydd, a gafodd ei ddarparu. Y pwynt pwysicaf rydych chi'n ei wneud yw y gallai hyn ddigwydd eto, oherwydd effaith newid hinsawdd a llifogydd, ac mae angen iddo gael ei ystyried fel rhan o'r gwaith ataliol rydyn ni'n ei wneud, wrth gwrs, o ran lliniaru llifogydd. Felly, fe wnaf i gynnwys hynny yn fy llythyr, a byddwn i'n hapus i'w rannu gyda'r holl Aelodau.

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf ohonynt yw datganiad ar strategaeth Llywodraeth Cymru i atal sbeicio diodydd yng Nghymru. Efallai eich bod chi wedi gweld fy etholwr, Libby Woolford o'r Porth, a rannodd ei phrofiad trawmatig yn ddiweddar, ar y newyddion. Mae digwyddiadau sbeicio diodydd ar gynnydd, a rhannodd Libby ei phrofiad yn ddewr i gefnogi eraill. Ers hynny, mae galwadau o'r newydd wedi dod gan ymgyrchwyr fel Yasmin Khan am well hyfforddiant i staff gofal iechyd a lletygarwch a mwy o gymorth i ddioddefwyr. Ni ddylai neb fynd ar noson allan gan ofni na fyddan nhw'n cyrraedd adref yn ddiogel.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano yw datganiad ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol, yn dilyn yr uwchgynhadledd teithio i ddysgwyr yn ddiweddar. Rydyn ni'n gwybod bod diffyg cludiant yn ffactor pwysig o ran absenoldeb disgyblion. Mae cynghorau lleol a chynghorwyr ledled Cymru yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau amhosibl, gan dorri cymhwysedd ar gyfer cludiant am ddim i'r ysgol oherwydd cyllidebau cyfyngedig. Dylen ni fod yn gwneud mynediad at addysg yn haws, nid yn anoddach. Rwy'n deall yn iawn pa mor gostus fyddai ymestyn cymhwysedd, a bod hyn yn un o'r materion ar frig agenda'r Ysgrifennydd Cabinet, felly byddai datganiad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud yn cael ei groesawu'n fawr.

15:10

Diolch yn fawr, a diolch eto, Buffy Williams, am godi'r mater hwn am sbeicio diodydd yng Nghymru. Ac rydych chi'n gwybod, o ran ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, nad yw byth yn dderbyniol ac na ddylai gael ei oddef. Mae hyn yn glir iawn. Ac wrth gwrs, rydyn ni'n cydnabod y trawma y mae'n rhaid bod y fenyw ifanc honno wedi'i wynebu, ei phrofiad fel dioddefwr sbeicio diodydd—Libby Woolford. Diolch am dynnu hynny at ein sylw, ac rydyn ni'n meddwl amdani hi a'r hyn y mae hi wedi'i ddioddef.

Mae gennym ni'r drosedd benodol newydd hon ar gyfer sbeicio diodydd, a fydd yn helpu i ymdrin â hyn. Mae'n gwella eglurder, yn cefnogi dioddefwyr ac yn cryfhau ymateb yr heddlu. Mae'n rhan o Fil Troseddu a Phlismona sydd newydd gael ei osod. Cafodd ei gynnwys yn Araith y Brenin i Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf. A bydd yn cynnwys trosedd sy'n benodol i sbeicio diodydd. A dweud y gwir, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i godi ar draws y Siambr hon.

Ond mae hefyd yn gyfle i ddweud dau beth: yn gyntaf oll, dylen ni fod yn tynnu sylw at ymddygiad amhriodol sy'n arwain, mewn gwirionedd, at yr ymddygiad camdriniol a misogynistaidd hwn, ac, yn anffodus, rydyn ni'n cydnabod bod dynion a bechgyn yn aml yn cael eu grymuso i ymgysylltu â dynion a bechgyn eraill i—. Mae'r naratif misogynistaidd ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol, mor niweidiol. Ond mae cymaint o ddynion yn ymateb i wrywdod cadarnhaol, ymgyrch Sound, yn newid eu hagweddau a'u hymddygiad ynghylch trais ar sail rhywedd. Ac yn ail, dylai unrhyw un y mae sbeicio diodydd neu fathau eraill o gam-drin yn effeithio arnyn nhw roi gwybod amdano a cheisio cymorth. Mae'r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd am gymorth a chyngor.

O ran cludiant i ddysgwyr, a'r uwchgynhadledd teithio i ddysgwyr gyntaf a gynhaliwyd ddydd Gwener diwethaf 9 Mai, roedd yn bwysig iawn bod Ysgrifenyddion y Cabinet dros drafnidiaeth ac addysg yn bresennol yn yr uwchgynhadledd honno, ac awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phobl ifanc eu hunain. Mae hyn yn ymwneud â chynnig cludiant i ddysgwyr diogel a chynaliadwy i blant a phobl ifanc. Ac wrth gwrs, mae gennym ni dreial 12 mis o'r fenter teithio rhatach newydd i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a fydd yn dechrau ym mis Medi eleni.

Arweinydd y tŷ, mae Heledd Fychan wedi codi hyn gyda chi, ac fe wnes i ei godi'r wythnos diwethaf gyda'r Gweinidog iechyd, ynglŷn â'r adroddiad a gyflwynodd bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yr wythnos diwethaf i gyflwr ac amgylchedd gweithredu'r theatrau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, lle nododd eu hadroddiad eu hunain fod yna gyffuriau anghyfreithlon, tanseilio, ymddygiad troseddol diamwys, ac fe allech chi gael llu o sefyllfaoedd eraill na fyddai neb eisiau eu gweld mewn lleoliad clinigol, heb sôn am unrhyw leoliad arall. Fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad rydym yn dal yn aros amdano yr wyf wedi'i godi sawl gwaith, ynghylch presenoldeb aelodau o'r cyhoedd mewn theatrau llawdriniaeth pan oedd llawdriniaeth yn cael ei pherfformio, ac rydyn ni'n aros am yr adroddiad hwnnw. Roeddwn i wedi gobeithio erbyn hyn y byddwn ni wedi gweld datganiad yn rhoi ymateb gan y Gweinidog iechyd ynghylch sut roedd y Llywodraeth, ynghyd â'r bwrdd iechyd, yn mynd i weithredu'r 65 o argymhellion a oedd yn yr adroddiad a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf, oherwydd fe wnaeth yr adroddiad hwnnw baentio darlun o adran sy'n gwbl allan o reolaeth a rheolwyr yng Nghaerdydd a'r Fro sy'n gwbl ddi-glem ar y gorau.

Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn cadarnhau ei fod wedi cael y cyfarfod brys hwnnw gyda'r bwrdd iechyd yng ngoleuni'r adroddiad hwn, a'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddwyn y bwrdd iechyd i gyfrif, fel bod pobl yn gallu teimlo'n hyderus unwaith eto, o safbwynt staffio, ond yn bwysig, o safbwynt cleifion, y bydd eu hurddas a'u parch yn cael eu hailgyflwyno i'r adran honno, fel bod pobl yn gallu bod yn hyderus, pan fyddan nhw'n mynd i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael llawdriniaeth, y bydd y llawdriniaeth honno yn cael ei pherfformio i'r safon uchaf?

15:15

Wel, diolch, Andrew R.T. Davies. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr wythnos diwethaf, er iddo wneud hynny yn ei gwestiynau llafar yn y Senedd, ac fe gytunodd i ddod yn ôl pan oedd wedi ystyried yr adroddiad, ac mae hefyd wedi clywed y pryderon a'r galwadau cryf y prynhawn yma am hyn.

Mae hi mor bwysig bod y bwrdd iechyd yn cymryd cyfrifoldeb, a'u bod nhw'n ymrwymedig i wella'r amgylchedd gwaith a'r diwylliant, gan ymdrin â'r holl faterion sydd wedi'u codi, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw gadw ymddiriedaeth a hyder cleifion a staff. Rwyf eisoes wedi ymateb i Heledd Fychan ar bwysigrwydd y broses Codi Llais heb Ofn, sydd ar waith.

Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni edrych ar yr holl fyrddau iechyd o ran eu polisïau a'u protocolau, o ran cydsyniad cleifion, yn enwedig cydsyniad cleifion o ran aelodau o'r cyhoedd y caniatawyd iddyn nhw wylio'r hyn oedd yn digwydd, ac, wrth gwrs, rydyn ni wedi cael Saving Lives in Cardiff, sy'n dal i gael ei darlledu, y byddwch chi wedi'i gweld. Ond mae hyn yn rhywbeth y mae'n bwysig ei fod wedi cael ei godi eto y prynhawn yma mewn ffordd mor ddifrifol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y prynhawn yma ynglŷn â chyllid ar gyfer addasiadau yn y cartref ar gyfer unigolion sy'n byw gydag anableddau. Yn ddiweddar, fe wnes i gwrdd ag etholwr sydd â chyflwr niwrolegol sydd wedi'i adael yn ddibynnol ar gadair olwyn. Yn syfrdanol, cymerodd dros 18 mis iddo gael cadair olwyn addas drwy'r GIG, a hyd yn oed wedyn, ni chafodd ei anghenion penodol eu hystyried yn llawn. Am y tair blynedd diwethaf, mae hefyd wedi bod yn ceisio heb lwyddiant i gael cyllid gan naill ai'r GIG neu'r awdurdod lleol ar gyfer lifft grisiau, addasiad hanfodol a fyddai'n caniatáu iddo gael mynediad i'w gartref yn ddiogel ac yn annibynnol.

Heb unrhyw gymorth ar ddod, nid oedd unrhyw ddewis gan ei deulu ond lansio ymgyrch GoFundMe i godi'r arian angenrheidiol eu hunain. Mae'n bryderus iawn, Trefnydd, bod pobl ag anableddau yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar roddion elusennol yn 2025 i sicrhau offer sylfaenol sy'n hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd. Nid mater o ymarferoldeb yn unig yw hyn, mae'n fater o urddas a hawliau dynol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn egluro'r camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan bobl anabl fynediad amserol a chyfartal at offer a'r addasiadau sydd eu hangen arnyn nhw, ac nad oes neb yn gorfod dibynnu ar gyllid torfol i fyw bywyd diogel ac annibynnol?

Rwyf eisiau ailadrodd hefyd nad mater o lesiant yw hyn; gwariant iechyd a gofal cymdeithasol yn unig yw hwn, sy'n fater sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, awdurdodau iechyd ac yn wir cynghorau lleol hefyd.

Diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at yr achos hwn, sy'n destun pryder mawr pan ydych chi'n clywed am yr amgylchiadau. Yn amlwg, mae'n rhaid bod asesiad o angen; dydyn ni ddim yn siŵr am yr amgylchiadau penodol. Rwy'n gobeithio eich bod chi, ar ran eich etholwyr, wedi codi hyn yn uniongyrchol, gyda chydsyniad y claf, cydsyniad yr etholwr, i ddeall pam na chafodd yr anghenion hynny eu diwallu, yr ydych wedi'i godi heddiw, gan ei bod mor bwysig bod gan bobl anabl fynediad at y cyfarpar hwnnw ac yna, wrth gwrs, eu bod yn gallu byw'n annibynnol, a'r gefnogaeth.

Rwy'n gwybod bod hyn wrth gwrs ar draws y Llywodraeth, ar draws cyfrifoldebau mwy nag un Ysgrifennydd Cabinet o ran tai ac addasiadau, iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol iawn o waith da Gofal a Thrwsio, er enghraifft, sy'n elusen, sydd hefyd yn gwneud mân addasiadau ac sy'n ymgysylltu'n glir iawn hefyd â chyllid gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol.

Felly, unwaith eto, os ydych chi eisiau ysgrifennu atom ni am yr achos penodol hwn, yna byddwn ni'n ei ddilyn i weld beth aeth o'i le o ran yr asesiad hwnnw er mwyn sicrhau bod y cyfarpar priodol yn cael ei ddarparu. Fel y dywedais yn gynharach, mae'r rhain yn faterion rydym yn ceisio ymdrin â nhw yn ein cynllun hawliau pobl anabl, yr wyf yn ei lansio yn ddiweddarach yr wythnos hon, sydd wedi'i gyd-gynhyrchu gyda phobl anabl yng Nghymru. 

15:20
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Trawsnewid Trefi ac Adfywio Canol Trefi

Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Trawsnewid Trefi ac adfywio canol trefi. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi siarad â thrigolion, busnesau a sefydliadau lleol am y rôl bwysig mae trefi a chanol dinasoedd yn ei chwarae mewn cymunedau ledled Cymru. Mae ein strydoedd mawr yn dod â phobl at ei gilydd, yn cynnal economïau lleol ac yn dwysáu'r ymdeimlad hwnnw o falchder lleol a pherthyn sydd mor bwysig i ni i gyd. Ac mae'n fwy na hynny. Mae pobl yn poeni am eu strydoedd mawr. Mae'n ymwneud ag ymdeimlad o le a sut rydyn ni'n teimlo am ble rydyn ni'n byw, ac rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw cymuned i bobl yng Nghymru.

Dyna pam mae'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn gwneud mwy nag erioed o'r blaen i fwrw ymlaen ag adfywio trefi a'r stryd fawr. Yn ystod yr haf, arweiniodd y Prif Weinidog ymarfer gwrando i glywed gan gymunedau am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw, a thro ar ôl tro, dywedodd pobl wrthi am eu balchder yn eu hardal. Trefi yw anadl einioes ein cymunedau, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

Mae hon yn Llywodraeth uchelgeisiol sydd eisiau cyflawni, a dyna pam rydyn ni'n troi geiriau'n weithredoedd, gan ysgogi newidiadau mae ein cymunedau eisiau eu gweld trwy fentrau fel ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Trwy'r rhaglen, rydyn ni wedi gallu rhoi dros £31 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau adfywio newydd ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys bron i £17 miliwn mewn cymorth grant i helpu prosiectau adnewyddu a chaffael mewn lleoedd fel Llandudno, Pontardawe, Hwlffordd a Phort Talbot, a bron i £15 miliwn mewn cyllid benthyciadau i gynghorau Ceredigion, Caerffili ac Abertawe, i helpu i wthio prosiectau ymlaen, gan weithio gyda'n gilydd i gyflawni ar gyfer pobl Cymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod. 

Mae hyn yn ychwanegol at bron i £222 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i fuddsoddi mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hon. Mae hynny oherwydd bod adfywio trefi yn flaenoriaeth, nid yn unig i Lywodraeth Cymru, ond i bobl Cymru hefyd. Ein trefi a'n strydoedd mawr sy'n rhoi'r ymdeimlad hwnnw o gydberthynas, o gymuned, o gyfeillgarwch i ni. Dyma'r mannau lle rydyn ni'n adrodd straeon ein gorffennol, yn ogystal â'r dyfodol.

Dyna pam roedd yn rhaid i'n dull o adfywio trefi ymwneud â mwy na dim ond adeiladau, datblygu economaidd neu gynllunio. Daw gwerth parhaol pan edrychwn ni ar adfywio o safbwynt yr hyn sydd bwysicaf oll i'r bobl y mae ein strydoedd mawr a'n trefi yn eu gwasanaethu. Pobl, wedi'r cyfan, yw calon ein cymunedau. 

Llefydd fel Caernarfon, lle mae hen adeilad NatWest yn cael ei drawsnewid yn ganolfan gymunedol i gefnogi pobl ifanc agored i niwed. Mae'r prosiect, a dderbyniodd £750,000 o'r rhaglen Trawsnewid Trefi, hefyd yn cynnwys fflatiau a chyfleusterau hyfforddi. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau'r trydydd sector, fel GISDA, weithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o'u hadnoddau a'u harbenigedd er budd cymunedau lleol. Fel y mae prosiectau fel hyn yn ei ddangos, nid yw adfywio yn ymwneud â chodi adeiladau newydd neu adnewyddu hen rai yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â chreu mannau cyhoeddus croesawgar, wedi'u cynllunio'n dda sy'n hygyrch i bawb.

Dyna pam rwyf wedi cytuno ar gyllid Cymru gyfan o hyd at £26 miliwn ar draws y ddwy flynedd ariannol nesaf i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflawni ein rhaglen grantiau creu lleoedd. Yn Nhreforys, er enghraifft, mae grant creu lleoedd gwerth £250,000 wedi cefnogi'r gwaith o ailddatblygu capel hanesyddol y Tabernacl ar Stryd Woodfield, gan sicrhau bod modd cadw'r adeilad hwn a'i foderneiddio er mwyn i'r gymuned ei ddefnyddio am flynyddoedd i ddod. Yn Llandysul, gwnaeth grant o £250,000 gefnogi'r gwaith o adnewyddu rhan o hen Ysgol Dyffryn Teifi, sydd bellach wedi'i thrawsnewid yn ofod swyddfa. Mae cwmni technoleg byd-eang wedi adleoli ei bencadlys i'r safle, gan ddod â llawer o swyddi o ansawdd uchel i Geredigion. Ac ar stryd fawr Llandudno, mae grant o £250,000 wedi cefnogi gwaith ar hen adeilad Marks & Spencer, gan alluogi gwaith brys i gael ei wneud, fel cael gwared ar asbestos.

Ond mae'r rhaglen grant creu lleoedd hefyd yn dangos sut y gall buddsoddiadau llai wneud gwahaniaeth gwirioneddol, megis y £7,000 a gafodd ei ddarparu ar gyfer prynu 30 o gasebos a phwysau ategol i hwyluso gweithgarwch marchnad rheolaidd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl. Mae'r rhain yn llefydd â hanes cyfoethog yr ydyn ni fel Llywodraeth Cymru eisiau eu cefnogi a'u gweld yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae hynny oherwydd nad ei phobl yn unig yw calon unrhyw dref, ond ei hanes hefyd, hanes y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w anrhydeddu a'i hyrwyddo.

Mae Gwesty'r Cambrian yn Aberystwyth yn enghraifft wych o hyn. Mae'r prosiect, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mai, wedi elwa ar dros £250,000 o gyllid a bydd yn cynnwys pum cartref yng nghanol y dref, gan sicrhau dyfodol yr adeilad lleol hanesyddol hwn. Ac mae byw yng nghanol y dref yn un o gonglfeini'r rhaglen Trawsnewid Trefi, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod nifer yr ymwelwyr yn allweddol i drefi ffyniannus. Pan fydd pobl yn byw yng nghanol eu cymunedau, maen nhw'n cefnogi siopau a gwasanaethau lleol ac yn cyfrannu at ddiogelwch canol eu trefi. Rydyn ni'n gweithio gyda chymunedau lleol i fanteisio ar y cyfle y mae byw yng nghanol y dref yn ei gynnig. Cymerwch, er enghraifft, Stryd Pentrebane yng Nghaerffili, sy'n elwa ar £6 miliwn o gyllid grant Trawsnewid Trefi i gael datblygiad defnydd cymysg o 73 o gartrefi o ansawdd uchel gyda mannau masnachol ar y llawr gwaelod i annog busnesau lleol.

Yn sail i hyn i gyd mae ymgyrch Llywodraeth Cymru i gefnogi a hyrwyddo cymunedau ledled Cymru a sicrhau bod pethau'n cael eu cyflawni. Oherwydd mae trawsnewid ein trefi yn ymwneud â mwy na gwella adeiladau lleol neu hybu twf economaidd yn unig, mae'n ymwneud â mynd i'r afael â heriau'r dyfodol, creu effaith barhaol, adfer balchder mewn mannau lleol a helpu cymunedau i adrodd eu straeon eu hunain, nid dim ond am eu gorffennol, ond am eu dyfodol hefyd. Diolch.

15:25

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Cyfeiriaf yr Aelodau at fy natgadiad o fuddiant o ran eiddo masnachol.

Rydw i, wrth gwrs, yn croesawu unrhyw fuddsoddiad yn ein trefi ni, oherwydd mae ei angen yn daer arnyn nhw. Ac mae'n braf clywed bod fy nhref enedigol, Llandudno, un o'r trefi sydd erioed wedi derbyn unrhyw gymorth ariannol mewn gwirionedd—rwy'n siŵr y bydd y £275,000 yn cael croeso mawr. Ond gadewch i ni fod yn onest, rydyn ni wedi cael blynyddoedd a blynyddoedd o addewidion gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Eto, mae llawer gormod o drefi ledled Cymru, gan gynnwys yn y gogledd, yn parhau i gael eu difetha gan ffenestri siopau gwag, llai o ymwelwyr a diffyg gweledigaeth hirdymor, gyda nifer yr ymwelwyr yng Nghymru yn gostwng 8.3 y cant ym mis Mawrth 2025. Cymru hefyd sydd â'r drydedd gyfradd twf isaf o'r holl ranbarthau a gwledydd ym Mhrydain Fawr, ac eto mae miliynau wedi cael eu gwario ar adfywio canol trefi dros y blynyddoedd.

Mae'n rhaid i mi fod yn onest, mae gen i bryderon gwirioneddol am y Llywodraeth Cymru hon yn trosglwyddo arian ac yn methu â darparu arweiniad mwy penodol i awdurdodau lleol o ran caffael ac archwilio'r arian hwn. Rydw i, yn uniongyrchol, wedi gweld cynlluniau adfywio sydd, mewn rhai achosion, wedi gadael eiddo a pherchnogion eiddo yn corddi gan ddicter, oherwydd bod ansawdd y gwaith mor wael, a phan ydyn nhw'n ceisio cysylltu â'r awdurdod lleol, yr ymateb maen nhw'n ei gael yw 'O, wel'. Ac roedd yna gynllun diweddar yn y gogledd lle roedd ganddyn nhw tua phum haen o bobl yn gyfrifol am weithredu rhaglen adfywio'r dref ac roedd yn amhosibl eu cael nhw'n ôl i gywiro unrhyw ddiffygion. Felly, mae'n rhaid i ni ei wneud yn glir. 

Mae Archwilio Cymru hefyd wedi ei gwneud yn glir nad oes gan lawer o awdurdodau y sgiliau i reoli adnewyddu canol trefi yn effeithiol. Mae'r setliad cyllid llywodraeth leol gwael hefyd wedi gadael cynghorau ledled Cymru wedi'u tanariannu o ran swyddogion. Allwch chi ddim rhoi'r arian hwn i awdurdod lleol a disgwyl i'r swyddogion presennol, gyda'r holl lwyth gwaith ychwanegol hwn, ei gyflawni'n gywir, felly dydw i ddim yn rhoi'r bai arnyn nhw. Felly, sut allwn ni ddisgwyl o ddifrif i gynghorau drawsnewid eu trefi, pan fod eich penderfyniadau cyllideb eich hun wedi'u gadael yn brin o arian ac adnoddau?

Rydych chi'n sôn am y gronfa Trawsnewid Trefi, ond rydych chi'n osgoi'r problemau gwirioneddol. Mae ardrethi busnes uchel a threthi ar swyddi yn tagu busnesau bach ac yn mygu ein strydoedd mawr. Ledled Cymru, rydyn ni'n gweld busnes ar ôl busnes ar ôl busnes yn cau; maen nhw wedi cael digon. Ac i rai busnesau, gyda Rachel Reeves—eich plaid chi—a'r gweithredu y mae hi wedi'i wneud yn erbyn busnesau, gyda pholisi gwrth-fusnes, dydy hynny ddim yn ein helpu ni yn y lleiaf.

Ni allai'r Ffederasiwn Busnesau Bach fod yn gliriach. Mae'r gyfundrefn ardrethi busnesau bresennol yn cosbi'r union fasnachwyr sydd eu hangen arnon ni i ailddatblygu canol ein trefi. Tan i chi ddiwygio'r system hon, mae Llywodraeth Cymru yn tynnu dŵr o gwch sy'n llawn tyllau. Mae angen i ni gael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach. Mae hi mor syml â hynny, ac fe fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud hynny. Byddai hyn yn sicrhau chwarae teg i bawb, yn annog entrepreneuriaeth, ac yn cynnig rhyddhad gwirioneddol i enaid ein cymunedau.

Gadewch i ni beidio ag anwybyddu'r rhwystrau y tu hwnt i drethiant. Mae parcio cyhoeddus anhygyrch yn parhau. Mae cymaint o awdurdodau lleol, nawr, yn ceisio gwneud arian cyflym o ymwelwyr a thrigolion sy'n dod i'n trefi trwy roi mesuryddion parcio yn eu lle, ac mae hynny'n atal pobl rhag siopa yn y trefi hynny. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi nodi bod parcio gwael yn rhwystr mawr.

Yn fy nhref fy hun, Llandudno, mae gennym ni signal ffôn symudol gwael iawn, gwasanaeth rhyngrwyd gwael iawn—mae'r rhain i gyd yn bethau y mae Llywodraeth Cymru wedi addo i'w gwella dros y blynyddoedd. Os ydych chi o ddifrif ynglŷn â chynyddu nifer yr ymwelwyr, beth am gyflwyno parcio am ddim yng nghanol trefi yn ystod cyfnodau gwyliau allweddol? Cysylltwch ag awdurdodau lleol a dangoswch iddyn nhw fod ffordd arall o wneud hyn.

O ran trafnidiaeth, er nad wyf i'n cefnogi'r egwyddor o fasnachfreinio bysiau, mae angen i ni flaenoriaethu llwybrau sy'n cysylltu pobl â chanol trefi a chanolfannau lleol. Pa gynlluniau penodol sydd—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau ymyrryd? Iawn. Pa gynlluniau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo parcio hygyrch am ddim yng nghanol trefi Cymru?

Yna mae troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, yr ydyn ni wedi dioddef llawer ohono yn fy etholaeth i yn Aberconwy. Mae perchnogion busnesau'n gorfod cau'n gynnar oherwydd bod pobl ifanc yn achosi cymaint o drallod. Yn anffodus, mae'n arferol nawr gweld pobl yn cerdded i mewn i siopau fel Greggs, neu siopau cyfleustra lleol, a cherdded allan heb dalu. Mae dwyn o siopau yn y gogledd wedi cynyddu 5 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig. Pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru am y duedd bryderus iawn hon?

Onid yw'n bryd i'r Llywodraeth hon yng Nghymru stopio'r sbin, ariannu ein cynghorau'n iawn, torri'r fiwrocratiaeth, a sicrhau trawsnewidiad cynaliadwy gwirioneddol, o'r diwedd, i'r trefi sy'n cael eu gadael ar ôl? Dyna fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud o dan Darren Millar, ar ôl etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr.

15:30

Diolch yn fawr, Janet. Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. Efallai y gallaf dynnu sylw, fel yr wyf wedi'i wneud yn gynharach yn y datganiad, at yr hyn y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei wneud o dan arweinyddiaeth Eluned Morgan fel Prif Weinidog. Oherwydd rydyn ni'n buddsoddi yng nghanol ein trefi. Fel y dywedais i, rydyn ni'n gweithio gyda'n hawdurdodau lleol drwy'r rhaglen. Rydyn ni wedi diogelu cyllidebau ar gyfer y rhaglen Trawsnewid Trefi, gyda £40 miliwn ar gael ar gyfer 2025-26.

Fe soniais i am y buddsoddiad yn Llandudno, ond mae yna fuddsoddiad hefyd sydd wedi mynd i ailddatblygu 7 Ffordd Abergele ym Mae Colwyn, uwchraddio adeilad Glasdir yn Llanrwst, i ddarparu lle ar gyfer y llyfrgell gyhoeddus a gofod swyddfa, ac o ran y gwaith adnewyddu yn Venue Cymru yn Llandudno. Venue Cymru yw'r ail leoliad celfyddydol mwyaf yng Nghymru, ac mae'n ganolog i gynlluniau creu lleoedd y dref. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu'r cynlluniau creu lleoedd hyn, fel ein bod ni'n gwybod bod pobl yng Nghymru yn cael dweud eu dweud am sut maen nhw eisiau i'w cymuned edrych. Felly, mae'r cynlluniau creu lleoedd hynny'n bwysig iawn, ac mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda chymunedau o gwmpas hynny.

O ran yr ardrethi annomestig, rydyn ni'n darparu pecyn o gymorth ardrethi annomestig, gwerth £335 miliwn yn 2025-26. Bydd pob talwr ardrethi yn elwa ar y pecyn hwn, sy'n dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i adfer a ffynnu yn dilyn yr heriau economaidd hynny.

O ran troseddu, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae etholwyr yn ei godi ledled Cymru hefyd. Rydyn ni wedi gweld hynny, yn anffodus, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, ar ôl 14 mlynedd o gyni, lle rydyn ni wedi gweld nifer swyddogion yr heddlu yn gostwng ledled Cymru, mae'r pwysau ar blismona, rwy'n credu, fel rydyn ni i gyd wedi'i weld—. Rwy'n gwybod bod yr heddlu'n gweithio'n galed gyda'n hawdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod canol trefi yn cael eu plismona'n dda. O ran eich pwynt ynglŷn â dwyn o siopau sydd, eto, rwy'n gwybod, yn rhywbeth rydyn ni wedi'i weld, mae rhai ymgyrchoedd da iawn wedi bod gan undebau llafur fel USDAW o ran gweithwyr siopau hefyd ynghylch rhai o'r bygythiadau rydyn ni wedi'u gweld i weithwyr siopau yn y gorffennol.

Ond rwy'n llawer mwy gobeithiol na Janet. Rwy'n credu bod llawer yn y cynllun hwn a llawer i'w groesawu yma yng Nghymru o ran gweld y buddsoddiad rydyn ni'n ei roi i mewn i'n trefi a chanol ein dinasoedd.

15:35

Diolch am y datganiad. Wrth gwrs, dwi'n croesawu'r cyllid ychwanegol—mae ei angen yn fawr ar gyfer adfywio trefi ledled y wlad. Dwi'n arbennig o falch o'r arian ar gyfer cynllun GISDA yng Nghaernarfon, yn fy etholaeth i. Ro'n i'n digwydd bod yn un o sylfaenwyr yr elusen GISDA, rai blynyddoedd yn ôl. Gaf i ofyn i chi am ddiweddariad ar y cynllun canolfan iechyd a llesiant ym Mangor, os gwelwch yn dda?

Yn anffodus, mi fydd y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn ergyd drom i'n strydoedd mawr a'n busnesau bach. Ydych chi wedi gwneud asesiad o'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar gynaliadwyedd busnesau yng nghanol ein trefi ni? Mae'r cynnydd yswiriant gwladol wedi dod yn ychwanegol, wrth gwrs, at ostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes, felly cosb ddwbl i fusnesau, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Os ydy'r Llywodraeth yma wir eisiau adfywio strydoedd mawr, un o'r prif arfau sydd gan Lywodraeth Cymru ydy amrywio ardrethi busnes. Dwi'n methu deall pam nad ydy'r Llywodraeth ddim wedi mynd ati i amrywio'r lluosydd i roi mantais i fusnesau bach lleol dros ddatblygiadau mawr y tu allan i'r dref. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn bod angen diwygio'r system, ac rŵan mae angen symud ymlaen i ddefnyddio ardrethi busnes i'r pwrpas penodol o annog twf yn y sector busnesau bach lleol yng nghanol ein trefi ni.

Mae eiddo gwag yn graith ar ein strydoedd mawr, gydag un o bob chwe uned yn wag. Yng nghanol yr argyfwng tai, rydym yn gweld lleoedd gwag, lleoedd y gellid eu trawsnewid yn dai y mae mawr eu hangen, a thai cymdeithasol hefyd. Mae angen cyflymu'r broses o ddod â'r lleoedd gwag yma yn ôl i ddefnydd. Mae cymdeithas y tenantiaid, TPAS, wedi awgrymu bod angen hyblygrwydd o ran dod ag eiddo yng nghanol ein trefi ni sydd yn wag ac sydd yn addas ar gyfer bod yn gartrefi yn y sector tai cymdeithasol i fyny i safon. Ydych chi'n ystyried hynny?

Rydyn ni'n gwybod bod gwasanaethau angori fel y banciau a swyddfeydd post yn hollbwysig, ond mae hi yn warthus, onid ydy, gweld y ffordd y mae Swyddfa'r Post yn troi ei chefn ar wasanaethau yn ein trefi ni. Mae hynny'n cynnwys yng Ngwynedd, lle rydyn ni wedi gweld y swyddfa bost yng Nghricieth yn cau a'r bygythiad i swyddfa bost y Goron yng Nghaernarfon, yn ogystal â gwasanaethau symudol yn cael eu torri. Beth ydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i herio Swyddfa'r Post a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiogelu gwasanaethau ar ein strydoedd mawr ni?

Yn olaf, dwi'n troi at fater pwysig arall, sef cludiant. Mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn allweddol i alluogi pobl i wneud defnydd o'r stryd fawr a'i gwasanaethau. Mae gwaith gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yn dangos pa mor bwysig ydy hyn i ddinasyddion a pherchnogion busnes, ac mae'n rhy hawdd mynd i unedau manwerthu tu allan i'r dref, efo parcio am ddim ac yn y blaen, o'i gymharu efo cyrraedd canol ein trefi. Dwi yn gobeithio bod y Bil bysiau yn cynnig cyfle mawr i fynd i'r afael â'r materion yma a chefnogi trafnidiaeth gynaliadwy. Felly, hoffwn i wybod pa drafodaethau ydych chi'n eu cael efo'r Ysgrifennydd Cabinet trafnidiaeth i sicrhau bod y Mesur bysiau yn cefnogi datblygiad economaidd yng nghanol ein trefi ni. Mae nifer o themâu yn fanna; os cawn ni atebion i'r rheini, os gwelwch yn dda. Diolch. 

15:40

Diolch, Siân. Diolch am y croeso i'r datganiad a'r buddsoddiad, a hefyd rwyf am roi ar y cofnod fy niolch am y gwaith y mae GISDA yn ei wneud. Rwy'n gwybod ei fod yn sefydliad gwych iawn, ac rwy'n credu—fel yr wyf wedi sôn amdanynt yn y datganiad—mae'r gwaith maen nhw wedi'i wneud yn enghraifft wych o awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector hwnnw yn gweithio'n agos gyda'i gilydd. Mae yna nifer o gwestiynau yn y fan yna, a gwnaf fy ngorau i ateb cymaint ohonynt ag y gallaf.

Yn gyntaf, ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am yr hwb iechyd a lles yn hen adeilad Debenhams yng nghanol tref Bangor, mae'r prosiect eisoes wedi elwa o £992,000 o gyllid Trawsnewid Trefi. Mae'r gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso a'r panel grantiau adfywio wrthi'n craffu ar geisiadau am gyllid ar hyn o bryd. Felly, pan fydd gen i unrhyw wybodaeth bellach, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Senedd yn ymwybodol o hynny, a'ch bod chi, yr Aelod lleol, yn cael y diweddariad hwnnw.

Rydych chi'n sôn am gynnydd mewn yswiriant gwladol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Mark Drakeford wedi bod yn ei arwain yn y trafodaethau hynny. Fel y gwyddoch chi, mae'r Prif Weinidog wedi hefyd, ond mae hynny'n rhywbeth sy'n benderfyniad i Lywodraeth y DU.

O ran eich pwyntiau ynglŷn â chanolfannau y tu allan i drefi, gwyddom fod polisïau clir yn 'Polisi Cynllunio Cymru' a 'Dyfodol Cymru' ar gyfer hyrwyddo egwyddorion 'canol trefi yn gyntaf' ar gyfer y system gynllunio yng Nghymru. Er bod y fframwaith polisi wedi'i sefydlu, byddwn yn gweithredu'r polisi trwy graffu'n fanwl ar gynlluniau datblygu lleol diwygiedig. Felly, mae llawer yn digwydd o fewn hynny ar hyn o bryd. Ond, yn amlwg, mae 'canol trefi yn gyntaf' yn rhywbeth sy'n fater traws-lywodraethol hefyd, ac rwy'n gwybod bod fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet yn ymwybodol o hynny. Rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn enghraifft dda iawn arall o Lywodraeth Cymru yn dod at ei gilydd ar draws pob portffolio. Felly, mae hynny'n cyffwrdd ar eich pwynt ynghylch y Bil bysiau hefyd. Byddaf yn sicr yn cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelod Ken Skates ynghylch hynny, a hefyd cyd-Aelodau eraill ar bwyntiau eraill. 

O ran y pwynt a wnaethoch ynglŷn â swyddfeydd post, mae'n ddrwg gen i glywed am y mater hwnnw. Mae'n rhywbeth y gallaf hefyd ei godi gyda fy nghyd-Aelod yn y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, efallai, ar y mater ynghylch y swyddfa bost. Rydyn ni'n gwybod ein bod wedi gweld hyn trwy wasanaethau bancio'r stryd fawr hefyd. Rydym wedi gweld llawer o ganghennau banciau yn dod yn achos pryder mawr o ran eu cau. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ail ddigwyddiad 'bancio yng nghymunedau Cymru' ym mis Mawrth. Roedd y digwyddiad hwnnw'n canolbwyntio ar sut y gall rhanddeiliaid a phartneriaid, gan gynnwys banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau technoleg, undebau credyd ac eraill, gefnogi cynhwysiant ariannol a chynnal y mynediad hanfodol hwnnw at arian parod a gwasanaethau bancio eraill. Rwy'n gwybod bod naw canolfan fancio bellach ar agor yng Nghymru, a phedwar arall yn cael eu hargymell yn y Fflint, Caergybi, Trefynwy ac Ystradgynlais. Felly, mae rhywfaint o debygrwydd yn y fan yna, ond byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn ymwybodol o'r materion sy'n ymwneud â swyddfeydd post hefyd. 

O ran eiddo gwag, yn sicr, rydym yn gwybod bod eiddo gwag yn cael effaith andwyol ar gymunedau. Mae'n anhygoel o rhwystredig eu gweld. Rydyn ni'n gwybod mai dyna beth mae pobl yn ei deimlo. Maen nhw'n adnodd tai gwastraff, maen nhw'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac maen nhw'n cyfrannu at deimlad gwirioneddol o ddirywiad mewn ardal. Dyna pam mae gennym nifer o ymyraethau i helpu i ddod â'r eiddo gwag hynny yn ôl i ddefnydd. Felly, drwy ein rhaglenni cyllido, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ailddatblygu eiddo gwag, gan gynnwys eiddo masnachol gwag, ledled Cymru. Rydw i wedi gweld rhai enghreifftiau da iawn fy hun. Hyd yn oed pan oeddwn ar ymweliad ddydd Iau diwethaf, pan oeddwn yn sir Gaerfyrddin—yn Llanelli, roedd rhai o'r enghreifftiau yn wych iawn i'w gweld, a siaradais â rhai o'r masnachwyr sydd yn yr adeiladau hynny ar hyn o bryd. Felly, mae hynny'n dda iawn i'w weld, ond mae angen i ni weld mwy o hynny—yr eiddo hynny yn cael eu hadfywio ar gyfer datblygiad defnydd cymysg, gan gynnwys, fel y dywedwch chi, tai preswyl mawr eu hangen.

15:45

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr. Roedd strydoedd mawr trefi a dinasoedd yn arfer cael eu disgrifio fel canolfannau siopa. Nid yw hynny'n wir mwyach. Mae twf siopa ar-lein wedi gwagio canolfannau siopa ar y stryd fawr. Bu twf mewn busnesau fel trinwyr gwallt, bariau ewinedd a chaffis wrth i adeiladau manwerthu gau, gan gynnwys manwerthwyr mawr fel Wilko a Debenhams. Wrth i fanwerthu ar-lein barhau i dyfu, mae colli adeiladau manwerthu yn debygol o gynyddu.

Rwy'n croesawu'r datblygiad yn Nhreforys, lle mae grant creu lleoedd o £250,000 wedi cefnogi'r gwaith o ailddatblygu capel hanesyddol y Tabernacl ar Stryd Woodfield, a ddisgrifiwyd unwaith fel eglwys gadeiriol anghydffurfiaeth Gymreig, gan sicrhau bod yr adeilad hwn wedi'i gadw a'i foderneiddio i'r gymuned ei ddefnyddio am flynyddoedd i ddod. Byddaf yno ddydd Iau yma yn mynychu Cymdeithas Gymraeg Treforys. Rydym hefyd wedi gweld datblygiadau o amgylch y capel yn dilyn datblygu'r capel.

Mae eglwysi, capeli a thafarndai ar strydoedd mawr, gan gynnwys Stryd Woodfield, wedi cau. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad pellach ar y defnydd o eglwysi, capeli a thafarndai gwag ar y stryd fawr yn y dyfodol? A wnaiff y Gweinidog hefyd roi datganiad gweledigaeth ar sut mae hi'n disgwyl y bydd y stryd fawr yn edrych yn 2035?

Diolch, Mike. Wel, nid yw 2035 yn ymddangos mor bell i ffwrdd mewn rhai ffyrdd, ond mewn ffyrdd eraill mae'n teimlo fel oes, on'd yw e? Rwy'n credu mai dyna pam mae ein cynlluniau creu lleoedd mor bwysig, lle mae gennym y grantiau a ddarperir ar gyfer hynny hefyd. Unwaith eto, mae'n gwneud yn siŵr bod gennym y cynlluniau hynny ar waith fel y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni'r rheini.

Rwy'n credu eich bod wedi cyfeirio, fel y gwnes i yn y datganiad, at ailddatblygu'r Tabernacl yn Abertawe. Mae wedi bod yn gyffrous iawn ymweld ag Abertawe ar sawl achlysur nawr i'w gweld nhw'n defnyddio ein cronfeydd grant a benthyciadau Trawsnewid Trefi yn anhygoel o dda. Rwy'n credu bod cymaint yn digwydd yno. Mae'n trawsnewid dinas Abertawe o flaen ein llygaid mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yna lawer iawn o waith sy'n digwydd yn Abertawe.

Dim ond i roi agwedd arall ar yr hyn sy'n digwydd yn Abertawe, mae gennym y gwaith o adfer Theatr y Palas a Neuadd Albert yng nghanol y ddinas. Rydym wedi gweld prosiectau adfywio yng nghanolfannau ardaloedd Treforys, y Mwmbwls, Sgeti, Uplands, Gorseinon, Clydach a Phontarddulais. Maen nhw'n cael eu cefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru. Mae Y Storfa, y ganolfan gymunedol ar hen safle BHS, sy'n gyffrous iawn, lle bydd yr archifau a'r llyfrgell. Rydw i wedi cael golwg arno fy hun yn y cyfnod adeiladu; rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd yn ôl yno. Mae cam 2 prosiect JT Morgan, ailddatblygu Sgwâr y Castell, Tai Arfordirol ar Lôn y Brenin, a hen Sinema'r Castell. Felly, mae llawer iawn yn mynd ymlaen, gyda chefnogaeth y benthyciadau a'r grantiau hynny o'r rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae'n dangos bod Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi yn nyfodol ein trefi yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd Cabinet, rwyf am wneud pwynt amlwg, ond rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig i'w wneud yr wythnos hon, sef sut mae mewnfudo wedi creu canol trefi cyffrous a bywiog. Pe baech chi'n dod gyda mi i Heol y Ddinas neu Heol y Bont-faen yng Nghaerdydd, gallem ymweld â sawl gwlad heb hyd yn oed gadael ein prifddinas. Yn hytrach na chreu dieithrwydd, mae'n ychwanegu bywiogrwydd a chyffro i'n canolfannau siopa. Mae'n helpu i sicrhau nad yw ein canolfannau siopa yn glonau o'i gilydd.

Yn fy nghanolfan siopa leol, rwy'n cael y gwallt sydd gennyf wedi'i dorri gan farbwr Eidalaidd, fy nwyddau bwyd gan rywun o Irac, bara gan Gwrd, a bwyd o bob cwr o'r byd—gwledydd gan gynnwys Fietnam, Twrci, Bangladesh, Tsieina, Mecsico a Jamaica. Rwy'n teimlo'n ffodus, Ysgrifennydd Cabinet, i fyw mewn cymuned fel yna. A fyddwch chi'n cytuno â mi am y cyfraniad gwych y mae'r boblogaeth fudol yng Nghymru wedi'i wneud i'n canolfannau siopa ac y byddant yn parhau i wneud? Diolch yn fawr.

Diolch, Rhys. Yn sicr, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar hynny. Fel rhywun a anwyd ym Maendy yng Nghasnewydd, sy'n gymuned fywiog iawn, ac rydw i bellach yn cynrychioli ardal, Pilgwenlli, yng Nghasnewydd, lle gallwch fynd i lawr y stryd ym Mhilgwenlli a gweld siopau coffi a siopau bwyd o Ethiopia, Irac a Somalia. Mae cymaint yn digwydd yn yr ardaloedd hynny. Ac rwy'n credu, fel rydych chi'n ei ddweud yn briodol, yn hanesyddol mae'r cymunedau hynny wedi bod yn rhan o gymuned fywiog, wedi gwneud ein trefi a'n dinasoedd yn rhan o'r gymuned fywiog honno. Rwy'n falch iawn o hynny. Rwy'n gweld hynny fel rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono, o ble rydw i'n dod, ac rwy'n falch iawn eich bod chi, yn ogystal ag eraill ar draws y Siambr hon, oherwydd mae cymaint i'w ddathlu o fewn ein cymunedau, ac mae'r cyfoeth hwnnw o gymunedau o bob cwr o'r byd yn sicr yn cael ei ddathlu yma yng Nghymru.

15:50

Ysgrifennydd Cabinet, diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Rwy'n gwybod, yn fy ardal i fy hun, rydym wedi cael cyllid sylweddol gan Trawsnewid Trefi a'r pot adfywio. Yng Nghasnewydd, mae'n dros £4.5 miliwn, gan gynnwys arian tuag at ddatblygiad newydd Coleg Gwent yng nghanol y ddinas ac adnewyddu ac ailddatblygu'r Arcêd Farchnad rhestredig gradd II, er enghraifft. Ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n arbennig o ymwybodol o'r buddsoddiadau hynny. Ac yn sir Fynwy, bu tua £1.8 miliwn ar gyfer gwella eiddo, seilwaith gwyrdd, gwelliannau i dir y cyhoedd a theithio llesol ar hyd y porth i ganol y dref yng Nghil-y-coed. 

Ym mis Chwefror, roeddwn yn falch o siarad mewn bwrdd crwn a drefnwyd gan Insider Media, o'r enw 'Thriving Newport', ac roedd llawer iawn o'r sector preifat a'r sector chyhoeddus yno, yn ogystal â'r awdurdod lleol, ardal gwella busnes Casnewydd ac ati. Ac un o'r materion a godais yno ac a ystyriwyd yn arwyddocaol oedd pwerau prynu gorfodol. Felly, tybed, Gweinidog, o ystyried yr anhawster o nodi perchnogaeth eiddo a gweithio gyda pherchnogion, gan wybod bod prynu gorfodol weithiau'n hanfodol i'r prosiectau hynny yng nghanol y dref, a wnewch chi edrych ar argymhelliad gan y pwyllgor rwy'n ei gadeirio, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, i ddarparu adnodd o arbenigedd cyfreithiol ledled Cymru i oresgyn y pwyll y mae cyfreithwyr awdurdodau lleol weithiau'n ei deimlo wrth ddefnyddio'r pwerau prynu gorfodol hynny?

Diolch. Diolch, John, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar y dyfodol cyffrous i Gasnewydd a'r pethau sy'n digwydd yng Nghasnewydd ar hyn o bryd. Fe wnaethoch chi sôn am ailddatblygu'r farchnad hanesyddol, sy'n ardderchog. Mae mor dda ei gweld yn ffynnu. Mae pobl yn aml yn ciwio y tu allan i'r drws gyda'r nos, ar benwythnosau, i fynd i mewn i flasu'r dewis rhyfeddol o fwyd sydd ar gael yno hefyd. 

Enghraifft arall a fydd yn digwydd, yr ydym ni wedi'i chefnogi, yw canolfan hamdden a lles Casnewydd. Rydym yn falch o fod yn cefnogi un o'r cyfleusterau hamdden sero net wrth weithredu cyntaf yn y DU. Mae'n cael ei hadeiladu i'r safonau amgylcheddol a chynaliadwyedd uchaf posibl, ac mae hynny'n mynd i fod yn rhan bwysig iawn o ganol dinas Casnewydd, oherwydd bydd bod â'r ganolfan hamdden honno yno yn helpu i ddod â phobl i mewn, yn ogystal â, fel y soniwyd gennych, Coleg Gwent, a fydd hefyd yn dod â phobl ifanc i ganol ein dinas.

O ran gorfodi a'r eiddo gwag, yn sicr, rydyn ni'n cydnabod pa mor rhwystredig yw hi i bobl ei weld. Gallaf ddweud wrthych fy mod i mor rhwystredig ag unrhyw un yma pan ydyn ni'n gwybod bod yna eiddo gwag ac mae'n anodd iawn dod o hyd i'r perchennog, y lesddeiliad, y rhydd-ddeiliad, a'r holl gymhlethdodau sy'n gysylltiedig â hynny, boed hynny'n adeiladau hanesyddol sy'n cael eu gadael yn wag neu siopau yr ydym wedi'u gweld, dros nifer o flynyddoedd, yn cael eu gadael i ddirywio. Mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n gweithio arno. Mae gennym gynlluniau a chynlluniau gorfodi i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddelio ag eiddo gwag hirdymor, ac mae gennym gronfa gorfodi eiddo gwag Trawsnewid Trefi. Mae honno'n gronfa sydd ar gael i awdurdodau lleol sy'n dymuno ymgymryd â chamau gorfodi ar yr eiddo amlwg hynny yng nghanol y dref neu eiddo preswyl yn y lleoliadau hynny.

Rydym wedi comisiynu adolygiad o'r gronfa gorfodi eiddo gwag, dim ond i weld a yw'n ddefnyddiol ac yn hygyrch i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r eiddo gwag hynny yn eu hardaloedd. Mae swyddogion yn ystyried yr argymhellion ar hyn o bryd; bydd hynny, yn amlwg, yn allweddol wrth lywio ffocws ein cefnogaeth barhaus i awdurdodau lleol, oherwydd rydym yn benderfynol o leihau nifer yr eiddo gwag yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd.

15:55

Mae canol tref Pontypridd wedi elwa o fuddsoddiad gan y rhaglen Trawsnewid Trefi, ond un mater y byddwch chi'n gwbl ymwybodol ohono, rwy'n siŵr, yw'r risg barhaus o lifogydd. Mae busnesau'n bryderus iawn nawr y gallai fod rhai strydoedd, fel Stryd y Felin, lle nad yw'n hyfyw i fusnesau allu parhau i fod yno, a byddai hynny'n niweidiol i ddyfodol canol y dref.

Ym mis Rhagfyr 2021, pan oedd Lee Waters yn Weinidog yn gyfrifol am Trawsnewid Trefi, ymrwymodd i ystyried sut y gellid ymgorffori'r argyfwng hinsawdd a natur yn y cynlluniau hynny fel ein bod yn helpu busnesau sydd mewn perygl o lifogydd i feithrin gwytnwch. Ar hyn o bryd, gall pob busnes wneud cais yn unigol am gymorth, ond nid oes dull tref gyfan na dull stryd gyfan. A yw hyn yn rhywbeth y gellid ei symud ymlaen ac a fyddech chi'n ystyried cwrdd â mi er mwyn i ni allu trafod ymhellach y gefnogaeth y gellid ei darparu?

Diolch Heledd. Diolch am hynny, a diolch am y croeso i'r datganiad a'r buddsoddiad. Rydym wedi gweld y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i Rhondda Cynon Taf, yn enwedig pan sonioch chi am Bontypridd, peth o'r gwaith sydd wedi digwydd yno, yn enwedig y bont fynediad i barc Ynysangharad. Mae llawer o bethau wedi bod yn digwydd yn RhCT, ac mae yna lif o brosiectau o gwmpas hynny hefyd, sy'n gyffrous iawn.

O ran y pwynt rydych chi'n ei wneud ynglŷn â llifogydd, rwy'n sicr yn derbyn eich pwynt, a bu modd i mi ymweld â Phontypridd fy hun i fynd i weld rhai o ganlyniadau'r llifogydd, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi siarad yn huawdl am hynny yn y Siambr o'r blaen hefyd. O ran y pwyntiau rydych chi'n eu gwneud, byddwn i'n hapus iawn i gwrdd i drafod hyn ymhellach. Mae gennym raglenni gyda Banc Datblygu Cymru i gefnogi busnesau llai gyda chronfeydd microfenthyciadau, ac, yn amlwg, dylai busnesau yr effeithir arnynt gysylltu â Busnes Cymru. Ond rwy'n hapus iawn i siarad mwy am ddull 'canol trefi yn gyntaf', ynghyd â fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies—gallaf gael y trafodaethau hynny hefyd.

Roedd yn dda croesawu'r Ysgrifennydd Cabinet i Abertyleri ychydig fisoedd yn ôl, lle agorodd y llyfrgell newydd, wrth gwrs, sydd wedi'i lleoli yn y Drindod—yr hen gapel yng nghanol y dref. Mae hynny'n dangos sut y gall buddsoddiadau fel hyn ddod â bywyd newydd ac anadlu bywyd newydd i ganol ein trefi. A dweud y gwir, byddwn yn falch iawn o'ch gwahodd yn ôl i Flaenau Gwent, Ysgrifennydd Cabinet, i weld eto sut y gall y buddsoddiadau hyn helpu i drawsnewid canol ein trefi; byddwch wedi ei weld yn Nhredegar hefyd.

Ond mae angen i ni, rwy'n credu, ailddyfeisio diben canol ein trefi, oherwydd yn rhy aml mae'r ddadl yn ymwneud â cheisio ail-greu rhywbeth a oedd yn bodoli oes yn ôl, ac mae'r dyddiau hynny wedi mynd. Os ydym o ddifrif ynglŷn â bod dyfodol bywiog i ganol ein trefi, yna mae angen i ni feddwl yn galetach am beth yw'r dyfodol hwnnw. Mae llawer o'n canol trefi, i fod yn onest, yn rhy fawr i'r rôl sydd ganddyn nhw heddiw. Mae ein hanghenion heddiw yn wahanol i'n hanghenion ganrif yn ôl, neu hyd yn oed 50 mlynedd yn ôl, pan oeddwn i'n tyfu i fyny yn Nhredegar, a bydd ein hanghenion yn y dyfodol, pan fydd ein plant yn tyfu i fyny, yn wahanol eto. Felly, a ddewch chi i Flaenau Gwent, Ysgrifennydd Cabinet, a chynnal y math hwn o sgwrs yn Nhredegar, Glynebwy, Brynmawr, Nant-y-glo, Blaenau neu Rymni, lle gallwn gael y sgyrsiau hynny am beth yw ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol canol ein trefi a'r rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae wrth helpu i wireddu'r uchelgais honno?

Yn sicr, diolch, Alun, am hynny, a diolch eto am y croeso. Nid teitl neu jargon bachog yn unig yw Trawsnewid Trefi, mae'n arian gwirioneddol yn nwylo cymunedau lleol, sy'n gwybod sut orau i'w ddefnyddio ac i adfywio eu trefi. Rwy'n credu mai dyna pam mae hi mor bwysig cael y sgyrsiau hynny, on'd yw e: i wneud yn siŵr nad ydym ond yn sôn am y gorffennol a chofio yr hyn yr arferai canol ein trefi ffyniannus fod. Rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i fod yn rhywbeth gwahanol yn y dyfodol, ac mae'n rhaid i ni fod wedi paratoi ac yn barod i wneud yn siŵr mai nhw yw'r hyn y mae pobl ei eisiau ar gyfer y dyfodol.

Cefais ymweliad ardderchog. Roeddwn i'n falch iawn o ymuno â chi yn Abertyleri. Roedd yn wirioneddol wych gweld yr adeilad gwirioneddol nodedig hwnnw'n dod yn ôl yn fyw, gyda'r llyfrgell—y llyfrgell plant—y rhan i lawr y grisiau, reit ar flaen y siop, yn denu pobl i mewn, felly gwneud y peth ar y cyd hwnnw o ran dod â phobl i'r llyfrgell. Mae llawer o bethau'n digwydd o fewn yr adeilad hwnnw, a hefyd mae'n dda iawn clywed sut roedd yr adeilad hwnnw, a'r cynnydd mewn ymwelwyr, wedi effeithio ar fusnesau eraill dros y ffordd. Felly, mae'n rhaid i ni gofio nad yw'r effaith ond ar un adeilad yn unig, mewn gwirionedd. Byddwn i'n awyddus iawn i ddod i ymuno â chi ym Mlaenau Gwent, yn unrhyw un o'r lleoliadau hynny, i drafod hynny, ac edrychaf ymlaen yn fawr at wneud hynny.

16:00

Diolch. Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad hwn, rwyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Mae bod â threfi a lleoedd ffyniannus yn hollol hanfodol, nid yn unig i'n heconomi, ond i'n llesiant.

Rwy'n croesawu'r arian a roddwyd i Gaerdydd—y bron i £9.5 miliwn. Rwy'n falch iawn bod rhywfaint ohono yn mynd i'r Hen Lyfrgell, lle astudiais fel myfyriwr, a hefyd ar y farchnad. Rwy'n gefnogwr mawr o farchnadoedd, fel rwy'n gwybod y mae'r Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n credu y gallant ddod â chymaint o fudd i ardal. Ac, wrth gwrs, yn ogystal â'r perl sef hen farchnad Caerdydd, mae gennym nifer o farchnadoedd ffermwyr ledled Caerdydd—yn Rhiwbeina, yn fy etholaeth fy hun, yn y Rhath, yn etholaeth Jenny Rathbone, ac yng Nglan-yr-afon, lle rwy'n cael fy mwyd bob bore Sul. Rwy'n credu bod marchnadoedd yn cefnogi busnesau bach, yn hyrwyddo siopa lleol ac yn caniatáu i bobl gael mynediad at fwyd ffres a dyfir yn lleol. Maen nhw hefyd yn ganolbwynt gweithgarwch. A chan gofio'r hyn y mae Rhys ab Owen wedi'i ddweud, gallwch fynd i lawr i farchnad Glan-yr-afon a gallwch siopa ledled y byd mewn un stryd. A hoffwn hefyd ddweud ei fod ef wedi gwneud cyfraniad gwych.

Ac yn olaf, cyn i mi orffen, a allaf i hefyd ofyn beth mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod trefi a'r lleoedd rydyn ni'n eu creu yn gwbl hygyrch i bawb—pobl anabl a phobl sydd ag anghenion penodol?

Diolch, Julie, a diolch yn fawr iawn am hynny. Mae'n gyffrous iawn gweld y buddsoddiad yng Nghaerdydd, fel y dywedwch chi, ym marchnad Caerdydd, yr Hen Lyfrgell, sy'n swnio'n wych, a gwelliannau hefyd i Stryd Tudor yng Nglan-yr-afon, gan gynnwys y gwelliant hwnnw i dir y cyhoedd, a gwelliannau blaen siop hefyd. Rydych chi'n hollol iawn, mae marchnadoedd ffermwyr, mewn gwirionedd, yn ychwanegiad ychwanegol, y mae cymaint o groeso iddynt, on'd oes e, i weld faint o bobl sy'n ymweld â'r marchnadoedd ffermwyr hyn. Rwy'n gwneud hynny yn fy etholaeth i, ac rydw i wedi clywed am farchnad enwog Glan-yr-afon hefyd, sy'n wirioneddol gyffrous. Ond, yn sicr, rwy'n awyddus iawn o ran sut rydyn ni'n adfywio marchnadoedd. Rydw i wedi bod yn ffodus i allu mynd i agor marchnad Aberteifi, sy'n wych ac, eto, adeilad arall sy'n—. Mae marchnad wedi bod yn Aberteifi ers cymaint o flynyddoedd—cannoedd o flynyddoedd, mewn rhyw ffurf neu'i gilydd—ac mae ei gweld yn ffynnu yn gyffrous iawn, iawn. Bob tro y byddaf yn ymweld â'r marchnadoedd hyn, fodd bynnag—rwy'n credu ei fod yn berygl galwedigaethol, on'd yw e—gallaf i ddim gadael heb brynu rhywbeth o'r farchnad. Ond roedd yn wirioneddol wych gweld hynny. 

Ac rydych chi'n hollol iawn, mae angen i ganol ein trefi fod yn hygyrch. Mae'r 'Llawlyfr Strydoedd' yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer lleoedd cynhwysol. Mae hefyd yn esbonio sut i ddylunio, adeiladu a mabwysiadu a chynnal strydoedd preswyl newydd a phresennol, yn darparu canllawiau technegol ar faterion fel defnyddio arwynebau a rennir, cyrbiau is a darpariaeth parcio i'r anabl. Felly, mae llawer sydd ei angen arnom ar hynny, ac rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu cynllunio allan o gynhwysiant a chyfranogiad. Disgwylir i'n cynllun gweithredu anabledd, y mae fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn arwain arno, gael ei roi allan ar gyfer ymgynghoriad dros y gwanwyn eleni, ac mae wedi cael ei lywio gan waith gwerthfawr y tasglu hawliau anabledd. Felly, byddwn yn gweithio gyda phobl anabl a grwpiau anabl i wneud yn siŵr bod y cynllun hwnnw'n cael ei gyflawni a'u bod nhw wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud o ran adfywio canol ein dinasoedd a'n trefi. 

5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Fframwaith Gwydnwch Cymru a’r Cynllun Cyflawni

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan y Prif Weinidog, fframwaith gwydnwch Cymru a’r cynllun cyflawni. Galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan.

16:05

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r fframwaith gwydnwch cenedlaethol cyntaf i Gymru. Mae'r ddogfen nodedig hon yn ganlyniad dwy flynedd o waith cydweithredol agos gyda phartneriaid allweddol o bob rhan o'r gymuned ymatebwr brys. Mae'n ymgorffori ymrwymiad cyfunol Llywodraeth Cymru a'n partneriaid i wella parodrwydd, galluoedd ymateb ac adfer, a sicrhau Cymru fwy gwydn nawr ac ar gyfer y dyfodol. 

Rydyn ni'n byw mewn oes o her ac ansicrwydd digynsail. Wrth i ni barhau i adfer o effeithiau dinistriol pandemig COVID ac rydym yn ymdopi â heriau economaidd a chostau byw yn wyneb ansicrwydd geowleidyddol, rydym yn cael ein bygwth gan ystod o fygythiadau mwy cymhleth ac esblygol. Mae'r gwasanaethau brys, llywodraeth leol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol wrth ein cadw'n ddiogel, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu gwaith. Yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig, mae dros 60 o ddigwyddiadau mawr lleol wedi digwydd ledled Cymru, ac mae llawer ohonynt wedi gofyn am ymateb cydgysylltiedig, aml-asiantaeth a gweithredu cyflym gan ymatebwyr i gadw ein dinasyddion yn ddiogel. Cafodd stormydd Bert a Darragh, a darodd ein glannau ychydig wythnosau ar wahân tua diwedd 2024, effaith ddinistriol ar lawer o bobl a chymunedau yng Nghymru. Fe wnaethant gael effaith ar gartrefi, busnesau, seilwaith trafnidiaeth ac ynni. Mae bygythiad stormydd a llifogydd, risgiau iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid a diogelwch cenedlaethol ehangach a bygythiadau seiber yno trwy'r amser. Ac er bod ein strwythurau cynllunio ac ymateb brys yn parhau i amddiffyn pobl Cymru, mae ein gwydnwch yn cael ei brofi'n ddi-baid.

Wrth i'r dirwedd risg esblygu, mae cynnal ein gwydnwch yn dod yn fwy heriol ac yn fwy cymhleth. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wella ein parodrwydd trwy wella ein galluoedd ymateb ac adferiad, gan sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn gallu amddiffyn ein cymunedau nawr ac yn y dyfodol.

Mae 'Fframwaith Gwydnwch Cymru', yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw, yn ailddatgan ein hymrwymiad i leihau risg ac effaith argyfyngau. Mae'n nodi ein gweledigaeth, ein disgwyliadau a sut rydyn ni'n mynd i barhau i weithio gydag ymatebwyr a fforymau gwydnwch lleol Cymru. Byddwn yn parhau i ategu gweithio mewn partneriaeth gyda'r gymuned ymatebwyr a'r cymunedau a busnesau gwirfoddol a'r trydydd sector i wella ein galluoedd ymateb a pharodrwydd. Byddwn yn parhau i wella sut rydym yn asesu risgiau ac yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ddeall y risgiau y mae Cymru'n eu hwynebu. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddysgu a galluogi gwelliant parhaus, a byddwn yn parhau i ddysgu o'r wybodaeth o ymchwiliadau fel bomio Arena Manceinion, pandemig COVID a thân Grenfell, yn ogystal â digwyddiadau ac ymarferion.

Rydym yn gwybod nad yw achosion brys yn parchu ffiniau a byddwn yn parhau i greu perthnasoedd cryf a chefnogol gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflawni ein nodau gwydnwch cyffredin. Mae Cymru wydn yn golygu Teyrnas Unedig fwy gwydn, ac mae ein hymdrechion ar y cyd yn rhan annatod o drefniadau gwydnwch a diogelwch cenedlaethol cyffredinol y DU.

Rŷn ni wedi symud ymlaen yn sylweddol yn barod o ran ein prif addewidion. Er mwyn paratoi ar gyfer argyfyngau, mae'n rhaid i ni ddeall yn iawn pa fath o risgiau mae Cymru'n eu hwynebu. Mae'r dystiolaeth newydd sydd gyda ni yn helpu gwella'r ffordd rŷn ni ac ymatebwyr brys yn rheoli risgiau ac yn arwain blaenoriaethau strategol yn genedlaethol ac yn lleol. Rŷn ni wedi symleiddio trefniadau llywodraethu a goruchwylio Llywodraeth Cymru a Chymru gyfan er mwyn cael arweiniad strategol cadarn sydd wedi'i ffocysu. Rŷn ni hefyd wedi gwella'n trefniadau rheoli argyfwng ein hunain ac wedi cryfhau'r bartneriaeth gyda'r ymatebwyr lleol. Fel rhan o hyn, rŷn ni'n rhoi arian sydd ei angen i'w helpu gyda'r gwaith hanfodol sy'n digwydd ar draws Cymru i gynllunio ac ymarfer ar gyfer argyfyngau.

Ond mae'n bwysig peidio ag eistedd nôl, achos gallwn ni wneud mwy. Mae'r camau gweithredu sy'n cael eu cynnig wedi cael eu nodi mewn cynllun cyflawni sy'n cael ei gyhoeddi gyda'r fframwaith. Mae'r cynllun cyflawni yn nodi blaenoriaethau a'r camau gweithredu sydd angen sylw dros y misoedd nesaf a'r blynyddoedd sydd i ddod. Byddwn ni'n gwneud hyn fesul cam, gyda rhai camau gweithredu penodol i ddigwydd dros y 12 mis nesaf, wedyn y pum mlynedd nesaf ac ymlaen. Bydd y camau gweithredu hyn yn cael eu rhoi ar waith gyda chefnogaeth trefniadau llywodraethiant cryfach o dan arweiniad fforwm gwydnwch Cymru er mwyn gwella atebolrwydd a sicrwydd.

Os ŷn ni am lwyddo, rhaid inni ystyried gwydnwch neu resilience ym mhob agwedd ar wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae gwydnwch yn effeithio arnom ni i gyd ac mae'n rhaid i'r gymdeithas gyfan chwarae rhan er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb—unigolion, cymunedau, busnesau—ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yn deall ac yn cymryd cyfrifoldeb am leihau risg a chryfhau'r cymunedau rŷn ni'n byw ynddyn nhw.

Mae hefyd yn hanfodol i ni, fel Llywodraeth, gymryd camau i fod yn fwy atebol ac i fod yn fwy agored. Felly, mae'r fframwaith gwydnwch yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad i'r Senedd pob pedair blynedd, gyda datganiad blynyddol i'r Senedd yn nodi'n parodrwydd a'n gallu i ymateb.

Mae'n rhaid i ni hefyd gryfhau ein cymunedau er mwyn iddyn nhw fod yn fwy ymwybodol o'r risgiau a gwella eu gwydnwch a'u gallu i ddibynnu ar eu hunain yn ystod argyfyngau. Byddwn ni'n cyhoeddi'r wybodaeth i'r cyhoedd er mwyn eu helpu nhw i ddeall yn well sut y gall unigolion a theuluoedd baratoi ar gyfer risgiau, a gwella eu gwydnwch nhw eu hun. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid a'r sector gwirfoddol i helpu'n cymunedau baratoi ar gyfer digwyddiadau mawr, ymateb iddyn nhw ac adfer eu hunain.

Mae ein pwyslais wedi bod, a bydd yn parhau i fod, ar gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a fydd yn teimlo effeithiau argyfyngau ddwysaf. Mae gwaith eisoes ar y gweill i wella mynediad at ddata dibynadwy ar gyfer argyfyngau sifil. Bydd y gwaith hwn yn gwella ein dealltwriaeth o sut mae argyfyngau yn effeithio ar wahanol grwpiau a chymunedau, ac yn darparu gwybodaeth gliriach i'n partneriaid yn y gymuned ymatebwyr i wella prosesau cynllunio argyfwng er mwyn sicrhau, pan fydd achosion yn digwydd, bod cymorth amserol a phriodol yn cael ei roi i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Yfory, byddaf yn cadeirio cyfarfod o fforwm gwydnwch newydd Cymru, lle byddaf yn trafod ein dull o weithredu'r fframwaith gydag uwch arweinwyr o'r gymuned ymatebwyr. Prif gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cadw pobl Cymru yn ddiogel, ac rwy'n croesawu cefnogaeth yr holl Aelodau wrth i ni symud ymlaen gyda'r gwaith hanfodol hwn. Diolch yn fawr. 

16:10

A gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ac am rannu manylion fframwaith gwydnwch newydd Cymru ymlaen llaw gyda'r holl Aelodau? Ar yr ochrau hyn o'r Siambr, rydym yn cytuno bod paratoi ar gyfer argyfyngau yn gofyn am ddull cymdeithas gyfan sy'n tynnu ynghyd allu'r Llywodraeth, y cyhoedd, y sector gwirfoddol, cymunedau a busnesau hefyd. Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu'r fframwaith hwn ac, yn wir, wrth ymateb i ddigwyddiadau rydym wedi'u gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Balch iawn o'ch clywed yn cyfeirio at bwysigrwydd gwydnwch ar draws y Deyrnas Unedig gyfan hefyd, oherwydd un o'r pethau sy'n gwneud Cymru'n fwy gwydn yw ein haelodaeth o'r Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu ei bod yn drasiedi bod pobl eisiau ein gwahanu oddi wrthi yma yng Nghymru.

Yn amlwg, rydych chi'n gyfrifol am argyfyngau sifil posibl a'r materion gwydnwch ehangach, ac rwy'n credu ei fod yn iawn bod hwn yn bortffolio a gynhelir o fewn swyddfa Prif Weinidog Cymru, o ystyried pwysigrwydd y materion hyn, fel y gwelsom gyda phandemig COVID-19. Nawr, yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw nad yw'r holl wersi o'r pandemig COVID-19 wedi'u dysgu eto. Mae gennym ymchwiliad parhaus yn y DU o hyd. Wrth gwrs, hoffem fod yna fwy o ffocws ar y penderfyniadau a wnaed yn aml iawn mewn ffordd wahanol, gan weithio i amserlen wahanol, yma yng Nghymru, y mae Gweinidogion Cymru yn atebol amdanynt. Dyna pam rydyn ni'n dal i gredu'n gryf y dylai fod, yn union fel yn yr Alban, ymchwiliad COVID cenedlaethol yng Nghymru sy'n annibynnol, sy'n gallu gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn cael ei fethu o ran gallu dysgu gwersi o'r pandemig hwnnw. Oherwydd rydyn ni'n gwybod bod pobl yn dal i fyw gyda gwaddol yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig hwnnw o ran eu hiechyd, o ran bywydau pobl a gollwyd, ac, wrth gwrs, yr effaith ar eu bywoliaeth hefyd.

Yn ogystal â phandemig COVID, fodd bynnag, rydych chi'n sôn am lifogydd. Nawr, mae llifogydd, wrth gwrs, yn broblem fawr ledled Cymru. Efallai ei fod yn cyflwyno'r risg fwyaf cyffredin y gallai llawer o gymunedau ei hwynebu, oherwydd, wyddoch chi, mae'n bwrw glaw yn eithaf rheolaidd, ac mae gennym lawer o arfordir. Mae hynny'n golygu bod ein hafonydd weithiau'n cael eu gorlwytho ac mae'n golygu ein bod mewn perygl, mewn tywydd stormus yn arbennig, ar hyd ein harfordiroedd. Rwy'n byw mewn cymuned sydd mewn perygl o lifogydd, ac rydw i wedi profi llifogydd fy hun. Mae'n beth hollol ddinistriol. Fe wnaethoch chi sôn bod Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, yr heddlu a gwasanaethau tân ac achub eraill, a phartneriaid eraill, wedi ymateb i 60 o ddigwyddiadau yn ddiweddar, ac, wrth gwrs, mae pob un o'r rheiny'n esgor ar gyfleoedd dysgu newydd, ac mae'n bwysig ein bod yn gallu dod â'r cyfleoedd dysgu hynny at ei gilydd, oherwydd mae yna themâu cyffredin, yn aml iawn, sy'n dod allan o'r pethau hyn. Rwy'n credu ei bod yn hollol hanfodol, Prif Weinidog, bod cyfleoedd newydd, o fewn y fframwaith gwydnwch, i edrych yn ôl, yn syth ar ôl y digwyddiadau hyn, fel y gellir manteisio ar y cyfleoedd dysgu cyflym hynny ar unwaith, heb orfod cymryd blynyddoedd cyn i ni wneud newid i'r trefniadau. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi'r sicrwydd hwnnw i mi. Rwy'n gwybod eich bod chi'n mynd i adrodd yn ôl bob pedair blynedd gyda diweddariadau i'r fframwaith hwn, ond rwy'n credu bod angen diweddaru'r pethau hyn yn gyflymach weithiau.

A allaf hefyd ofyn pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i wneud yn siŵr bod rhywfaint o'n seilwaith critigol yn fwy ymgysylltiedig? Gwelsom yr amhariad ar y cyflenwad dŵr yn y gogledd ychydig fisoedd yn ôl—roedd yn hollol ddinistriol. Roedd yn draed moch, i fod yn onest, o ran yr ymateb gan Dŵr Cymru, a'r cyfathrebu â phobl ar lawr gwlad. Roeddwn yn falch iawn o ymrwymiad Llywodraeth Cymru wrth geisio helpu gyda'r cyfathrebu hynny, ac yn amlwg fe weithiodd yr awdurdodau lleol yn galed hefyd i allu ymateb i'r argyfwng hwnnw—ac argyfwng oedd e. Roedd pobl heb ddŵr am nifer o ddyddiau. Nawr, rydyn ni i gyd yn gwybod na allwch oroesi os nad oes gennych ddŵr, ac roedd gennym lawer o bobl mewn cymunedau gwledig nad oeddent yn gallu cael gafael ar y dŵr glân ar gyfer eu hanghenion gofal iechyd neu, yn wir, i'w yfed. Nawr, mae angen i ni wneud yn siŵr bod Dŵr Cymru wedi ymwreiddio'n fwy yn y pethau hyn yn y dyfodol er mwyn sicrhau, pan fydd achosion fel yr un yna yn digwydd—a, gobeithio, na fyddant yn digwydd yn rhy aml—bod yr ymateb yn gyflym a bod pawb yn gweithio'n gytûn.

Rwy'n credu mai dyna'r cyfan rydw i eisiau ei ddweud am y tro, ond fel y dywedais, byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o hyder gennych chi fel Prif Weinidog y gellir dysgu gwersi uniongyrchol yn gyflym pan fydd pethau'n mynd o chwith, yn hytrach na gorfod aros, am flynyddoedd lawer weithiau, cyn i adolygiadau adrodd ac y gallwn gymryd camau i lenwi'r bylchau sydd, weithiau, yn cael eu canfod.

16:15

Wel, diolch yn fawr iawn, Darren, ac mae'n dda, pan allwn gytuno, i ni gytuno. Rwy'n credu ei fod yn bwysig yn arbennig pan ddaw hi i faterion diogelwch a diogelu'r cyhoedd; os gallwn ni fod ar yr un dudalen ar y pethau hynny, mae hynny'n hynod ddefnyddiol. Byddwn yn cytuno â chi, fodd bynnag: mae'r ffaith y gallwn ni gael mynediad at ardaloedd y DU o ran eu harbenigedd a phethau yn ddefnyddiol, yn enwedig pan ddaw i'r mathau hyn o fframweithiau gwydnwch, er y bydd gennym ein hamgylchiadau lleol ein hunain bob amser. Ac mewn gwirionedd, y pethau lleol iawn yw lle mae angen i chi wneud yn siŵr bod gennych chi sefyllfa gryfach a'r strwythur, a dyna'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud gyda'r dull hwn.

Mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi. Gallaf eich sicrhau, rydym yn dysgu gwersi trwy ymchwiliad COVID. Roedden ni'n dysgu gwersi wrth i ni fynd ymlaen yn ystod y broses honno, ond gallaf eich sicrhau bod yr ymchwiliad wedi bod yn gofyn rhai cwestiynau treiddgar iawn, iawn i ni fel Gweinidogion a oedd yn ein swyddi yn ystod y cyfnod hwnnw. Ac rydyn ni wedi bod yn gofyn cwestiynau i ni ein hunain o ran yr hyn y gallem ei ddysgu a'r hyn y gallem fod wedi ei wneud yn wahanol, ac mae hynny'n bwysig, oherwydd roedd yna lawer o bobl a ddioddefodd, ac mae angen i ni ddysgu gwersi.

Rydych chi'n hollol iawn: mae angen i chi ddysgu'r gwersi mor gyflym ag y gallwch chi. Yr hyn sy'n dda yw y gallaf roi enghraifft i chi o ble y digwyddodd hynny. Dim ond y gaeaf hwn, fe welsoch chi stormydd enfawr Bert a Darragh, ac yn syth ar ôl storm Bert fe ddaethon ni ynghyd gyda'r awdurdodau lleol a gofyn iddyn nhw beth y gallem fod wedi ei wneud yn wahanol, ac ychydig ddyddiau'n ddiweddarach roedden ni'n gallu rhoi'r rheini ar waith pan ddaeth i storm Darragh. Felly, nid ydym yn siarad misoedd cyn i ni wneud y gwersi hynny'n fwy gweithredol, ac yn sicr fe wnaeth hynny wahaniaeth. Ac mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud yn wahanol bob amser, pethau y gallwn ni wella arnynt bob amser, ond symleiddio gwneud penderfyniadau, gwneud yn siŵr bod yna atebolrwydd, mae'r rheiny'n hollol ganolog i'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yma.

Ac yna o ran seilwaith critigol, yn hollol gywir, mae angen i ni gael y bobl iawn o gwmpas y bwrdd, a dyna beth fyddwn ni'n ei wneud yfory. Rydym wedi gwahodd yr holl bobl allweddol y bydd eu hangen yn yr amgylchiadau hynny i ddod ynghyd, fel y gallwn wneud yn siŵr nad dim ond y fframwaith y cytunwyd arno sy'n cael ei gyflawni, ond y cynllun cyflawni sy'n cyd-fynd ag ef hefyd. Felly, byddan nhw yno yn y cyfarfod yfory, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gweld rhywfaint o newid a chydweithrediad yn y dyfodol. Felly, diolch.

16:20

Diolch i'r Prif Weinidog. A ninnau mewn byd cynyddol ansefydlog, dwi'n croesawu'r datganiad yma. Dwi am ganolbwyntio ar dri maes penodol ac, yn gyntaf, paratoadau ar gyfer argyfwng iechyd cyhoeddus arall, a'r gwersi sydd wedi neu sydd eto i'w dysgu o'r pandemig COVID. Dwi'n siŵr nad fi oedd yr unig un oedd wedi drysu braidd yn gwrando ar brif weithredwr NHS Cymru ar y pryd, Dr Andrew Goodall, yn ceisio egluro wrth ymchwiliad COVID y Deyrnas Gyfunol yr holl grwpiau, y fforymau, a'r cyrff gwahanol oedd yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Gwnaeth cadeirydd yr ymchwiliad eu disgrifio nhw fel:

'labyrinth' ac 'wedi'u hatal gan gymhlethdod diangen'. Rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad yr ymchwiliad i symleiddio strwythurau a gwneud cynnydd ar gryfhau trefniadau llywodraethu mewnol. Rwyf hefyd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno hefyd i gyhoeddi adroddiadau ar barodrwydd a gwydnwch argyfwng sifil system gyfan, ac i wneud datganiadau i'r Senedd i'r perwyl hwn. Soniodd y Prif Weinidog hefyd, yn y fframwaith diwygiedig, am yr angen i gynyddu atebolrwydd cyhoeddus ar reoli risg. Tybed a allai efallai ymhelaethu ar sut mae hynny'n edrych yn ymarferol.

Gan droi at argymhelliad modiwl 1 i sefydlu corff statudol annibynnol newydd ledled y DU ar gyfer parodrwydd a gwydnwch argyfwng sifil system gyfan, nodaf ymateb Llywodraeth Cymru, sef y bydd angen cydweithio pellach ar draws y DU, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, i gyflawni hyn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog ddiweddaru'r Senedd efallai ar gynnydd o ran y cydweithio hwnnw, i nodi sut y rhoddir cyfrif priodol am yr heriau unigryw sy'n wynebu Cymru—cysylltiadau trafnidiaeth gwael, natur wledig, poblogaeth sy'n heneiddio ac yn y blaen—wrth ddatblygu cynlluniau i'r dyfodol. A yw hi'n credu bod fframweithiau rhynglywodraethol presennol yn ddigonol yn hynny o beth? Pa wersi sydd wedi'u dysgu ers y pandemig, pan gafodd sianeli rhynglywodraethol, wrth gwrs, eu rhoi dan straen sylweddol, i sicrhau bod anghenion penodol i Gymru yn cael eu clywed yn deg ac yn cael adnoddau cymesur? A yw hi hefyd yn cytuno â mi bod gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau datganoledig yn bwysig hefyd?

Dirprwy Lywydd, mae'r heriau unigryw yma'n cryfhau'r angen am waith paratoi gofalus, dwi'n meddwl, gan y Llywodraeth, nid yn unig ar gyfer y pandemig nesaf, sydd yn siŵr o ddod, ond hefyd er mwyn bod yn barod ar gyfer argyfyngau amgylcheddol, stormydd a llifogydd, sef yr ail fater dwi am droi ato fo. Mae yna gymunedau fel rhai yn Rhondda Cynon Taf, er enghraifft—roeddwn i'n trafod efo Heledd Fychan yn gynharach—sy'n byw mewn ofn y byddan nhw unwaith eto'n wynebu difrod os ydy gwersi ddim yn cael eu dysgu ar frys. 

Fis Hydref diwethaf, fe gyhoeddodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru adroddiad dan yr enw 'Meithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru erbyn 2050', ac mi argymhellon nhw ddatblygu strategaeth gwytnwch tair blynedd yn erbyn llifogydd ac erydu arfordirol. Wrth ymateb i'r argymhelliad, mi ddywedodd pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru fod achos cryf wedi cael ei wneud dros ddechrau paratoi strategaeth newydd o'r fath, felly ateb cadarnhaol. Ym mis Ionawr y cafwyd yr ymateb cadarnhaol hwnnw, ond o ystyried ei bod hi rŵan yn ganol mis Mai, ac mai’r argymhelliad oedd i ddatblygu'r strategaeth erbyn 2026, mi fuaswn i yn croesawu diweddariad gan y Prif Weinidog ar y gwaith penodol hwnnw.

Yn olaf, hoffwn droi'n gyflym at fygythiad ymosodiadau seiberddiogelwch. O Co-op i M&S i Harrods, mae ymosodiadau proffil uchel yn dod yn fwy cyffredin, ac rwy'n ofni mai dim ond mater o amser yw hi cyn i'r aflonyddwch gael effaith fwy difrifol ac eang ar gymdeithas. Mae'r hyn a ddigwyddodd yn Sbaen a Phortiwgal yn ddiweddar, rydym yn gwybod nawr nad ymosodiad seiber ydoedd, ond fe ddangosodd i ni sut y gall gwledydd cyfan ddod i stop pan fydd tarfu ar rwydweithiau trydan cyfan. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn fwy parod nag erioed o'r blaen ar gyfer y posibilrwydd o actorion drwg yn tarfu ar seilwaith critigol. Felly, fe orffennaf drwy ofyn i'r Prif Weinidog am ddiweddariad ar y cynllun gweithredu seiber, a gyflwynwyd, y gallech chi ystyried ei fod yn weddol ddiweddar, yn ôl yn 2023, ond roedd yn fyd gwahanol iawn bryd hynny i'r un rydyn ni'n byw ynddo nawr, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Felly, a yw hi'n cytuno, wrth i ymosodiadau seiber ddod yn fwy cymhleth yn ogystal ag yn fwy rheolaidd, bod achos cryf dros adolygu'r cynllun penodol hwnnw, a ddylai gynnwys archwiliad cenedlaethol brys o ffynonellau data a ddefnyddir gan sefydliadau cyhoeddus fel y GIG?

16:25

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod gwersi i'w dysgu o ganlyniad i'r pandemig, ond hefyd o ganlyniad i'r ffaith ein bod yn wynebu bygythiadau gwahanol heddiw i'r rhai yr oeddem yn eu hwynebu o'r blaen, ac fe wnaethoch chi nodi hynny yn y fan yna yn arbennig mewn perthynas â seiberddiogelwch: nid oedd yn rhywbeth yr oedd yn rhaid i ni ei ystyried i'r graddau yr ydym yn ei wneud heddiw, ac mae'n bwysig ein bod ni'n symud ymlaen gyda phethau fel yna.

O ran y mater penodol hwnnw, rydym wedi buddsoddi mewn sawl prosiect i gefnogi a diogelu ein sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym y CymruSOC, sy'n ganolfan gweithrediadau seiberddiogelwch genedlaethol arloesol, ac mae honno wedi bod yn amddiffyn awdurdodau lleol, ein gwasanaethau tân ac achub, rhag ymosodiadau seiber. Mae gennym adran gyfan o fewn y GIG sy'n edrych ar wydnwch ac sy'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael ein diogelu yn hynny o beth. Ond rydyn ni'n gwybod bod y pethau hyn yn dod yn fwy soffistigedig bob dydd, felly mae achub y blaen ar yr ymosodwyr seiber hyn yn anodd iawn mewn gwirionedd ac yn defnyddio llawer o adnoddau. Ond gwyddom y gall canlyniad peidio â gwneud hynny fod yn gatastroffig.

Fel y dywedwch, fe wnaethoch chi nodi bod digwyddiad yn Sbaen a Phortiwgal. Dydyn ni ddim yn glir eto beth oedd achos hynny, ond roedd yr effaith yn anhygoel o ddramatig, ac mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer y sefyllfaoedd hynny, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod pryd maen nhw'n mynd i godi. A'r peth allweddol yn y fan yna yw gwneud yn siŵr bod y bobl fwyaf agored i niwed yn cael eu hamddiffyn yn ystod yr amseroedd hynny o argyfwng, a gwneud yn siŵr bod gennym y setiau data cywir fel y gallwn ni nodi pwy ydyn nhw. Mae rhoi mesurau amddiffynnol ar waith i'w cefnogi yn allweddol. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth sydd o fewn y fframwaith hwn.

O ran gweithio ar y cyd ledled y DU, mae'r systemau rhynglywodraethol wedi'u cryfhau. Mae yna wastad meysydd lle gallwn fynd ymhellach, fodd bynnag, ac mae yna wersi y gallwn ni eu dysgu hefyd. Os ydych chi'n gweld ymosodiad ar gyngerdd ym Manceinion, mae gwersi y mae angen i ni eu dysgu o hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd ddeall bod yn rhaid i chi drwsio pethau'n lleol. Dyna sut rydych chi'n mynd i gefnogi pethau. Felly, mae gwneud yn siŵr bod y gwydnwch hwnnw'n bodoli'n lleol yn hollol hanfodol.

Ac yna o ran diweddariad ar y materion a nodwyd o'r blaen, byddwn yn delio â rhai o'r rhain yn fframwaith gwydnwch Cymru, felly gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ôl i ni gael y cyfarfod hwnnw yfory ar yr hyn sy'n digwydd mewn perthynas â hynny. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n helpu. Ond mae'n allweddol ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod gennym ni ymdeimlad o ble mae'r risgiau'n dod, a dyna pam mai un o'r pethau sydd gennym nawr yw cofrestr risg bwrpasol ar gyfer Cymru, fel ein bod ni wedi nodi o ble rydyn ni'n meddwl bod bygythiadau'n mynd i ddod. Ni allwn byth wybod a bod yn hollol gynhwysfawr amdano, ond gallwn ni baratoi ar gyfer y rhai rydyn ni'n meddwl sydd fwyaf tebygol o'n taro ni.

16:30

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad ar y mater pwysig iawn hwn. Yn eich cyfarfod yfory, tybed a allwch chi godi dau beth. Un yw sut rydyn ni'n rheoli dŵr. Mae Darren Millar eisoes wedi sôn am lifogydd, ond beth am sychder? Rydym yn rhagweld y bydd sychder yr haf hwn, neu mae'r meteorolegwyr yn rhagweld hynny, ac yn y cyfamser, rydym yn defnyddio dŵr yfed i fflysio'r toiled, ac rydym yn caniatáu i ddŵr glaw fynd i'r system garthffosiaeth, ar gost enfawr, i'w ddod yn ôl atom fel dŵr yfed. Felly, mae hon yn broblem fawr, ac yn un rwy'n gobeithio y bydd eich fforwm gwydnwch yn ei thrafod.

Yr ail yw gwydnwch bwyd. Dydy bwyd ddim hyd yn oed yn cael ei grybwyll yn y fersiwn wedi'i golygu o'ch adroddiad gwydnwch, ac eto cyhoeddodd Tim Lang 'Just in Case: narrowing the UK civil food resilience gap' ym mis Chwefror—yr un mis â'ch adroddiad—a gallwn weld o'r hyn sydd wedi digwydd yn Sbaen a Phortiwgal ac mewn mannau eraill, gyda'r Co-op ac ati yn methu â rhagweld pwy oedd angen i ba fwydydd gael eu dosbarthu, bod angen llawer mwy o wydnwch arnom o ran argaeledd bwyd, oherwydd onid dyletswydd gyntaf Llywodraeth yw sicrhau y gallwn ni ddarparu dŵr yfed a bwyd i'n poblogaeth.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr. Yn sicr, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fonitro lefelau cyrff dŵr ledled Cymru. Mae hynny'n cael ei wneud eisoes, ac mae grŵp cyswllt sychder Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i sefydlu ac mae'n mynd i fod yn cyfarfod yn rheolaidd i rannu diweddariadau sefyllfaol, fel y bydd hynny'n llywio cynlluniau wrth gefn, ac yn amlwg byddwn yn cytuno wedyn i weithredu mewn perthynas â rheoli cyflenwadau dŵr yr haf hwn. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb, rwy'n credu, i ddefnyddio dŵr yn synhwyrol ac yn gynaliadwy, ac mae angen i ni weithio gyda'n cymunedau i sicrhau bod buddiannau'r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yn ystyriaeth ganolog wrth ddefnyddio dŵr. 

O ran bwyd, fel y dywedais, un o'r pethau rydyn ni'n ceisio ei wneud o ganlyniad i weld beth ddigwyddodd ar ôl i un o'r stormydd hynny daro yw y gwnaethon ni gydnabod nad oedd y cronfeydd data a ddefnyddiwyd gan bobl yn cyd-fynd â'i gilydd ac nad oeddent wedi'u cydgysylltu, felly mae llawer o waith yn cael ei wneud nawr er mwyn sicrhau bod y gronfa ddata o bobl agored i niwed a gollodd eu trydan yn eithaf tebyg i'r rhai sy'n cael eu dal gan lywodraeth leol. Felly, rydyn ni'n ceisio gweld lle mae'n bosibl gwneud yn siŵr bod modd gwneud hynny, ac yn amlwg wedyn gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r adnoddau sydd eu hangen arnynt, gan gynnwys bwyd.

Brif Weinidog, yn dilyn storm Dennis yn 2020 a'r llifogydd dinistriol a welwyd adeg hynny, mi ddaeth hi'n amlwg nad oedd y gwasanaethau brys na'r awdurdodau yn gallu ymdopi, ond hefyd nad oedd hi'n bosib iddyn nhw gyrraedd rhai cymunedau oherwydd difrifoldeb y sefyllfa a'n bod ni'n gwybod am rai cymunedau rŵan na fydd hi'n bosib i wasanaethau brys eu cyrraedd nhw mewn pryd. Felly, mae hi'n hanfodol, fel rydych chi'n nodi yn eich datganiad, ein bod ni'n ymbweru cymunedau i fedru ymateb, nid dim ond cyfathrebu iddyn nhw sut maen nhw'n gallu gwneud, ond rhoi cefnogaeth ymarferol. Un peth sy'n fy mhryderu i ydy o ran un enghraifft yn fy rhanbarth i, Clydach Terrace yn Ynysybwl; mae hi wedi cymryd pum mlynedd bron i gael cynllun argyfwng o'r fath yn ei le, ac mae yna gymaint o gymunedau eraill angen cynlluniau brys a'r hyfforddiant parhaus hwnnw i sicrhau eu bod nhw'n gallu ymateb. Felly, a fedrwch chi roi ymrwymiad? Oes yna amserlen i gyd-fynd efo sut rydyn ni'n mynd i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r ymbweriad yma i wirfoddolwyr, yn gweithio gyda'r Groes Goch, er enghraifft, a sefydliadau eraill? Oherwydd heb ymateb yn y gymuned, mae yna risg posib byddwn ni ddim yn gallu cefnogi pobl a bod bywydau pobl yn mynd i fod mewn peryg.

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ymbweru cymunedau ac unigolion i ymateb, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn datblygu'r gwytnwch yna sydd ei angen arnyn nhw, ac mae'n ddiddorol, achos bydd pethau'n newid gyda newid hinsawdd. Fydd hi ddim yn bosibl i ddiogelu pob tŷ yng Nghymru. Mae pethau'n mynd i newid, ond beth fyddwn ni'n gallu gwneud, fel y gwelon ni ym Mhontypridd, er enghraifft, roedd un flwyddyn ble roedd yna lifogydd, gwnaeth y siopau gael eu heffeithio, cymron nhw wythnosau i ailagor. Ar ôl i ni roi arian iddyn nhw i'w helpu nhw, gyda llywodraeth leol, mi newidion nhw y ffordd rôn nhw wedi datblygu y siopau, ac o fewn diwrnod neu ddau ar ôl y llifogydd y tro yma, rôn nhw wedi ailagor. Felly mae hi'n bwysig ein bod ni'n deall bod angen datblygu'r gwytnwch yna, ond ambell waith fydd hi ddim yn bosibl i'w diogelu nhw yn llwyr, ond mi allwn ni eu helpu nhw i addasu. Beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n gweithio gyda'r local resilience forum, a tu fewn i'r delivery plan bydd yna fesurau i sicrhau bod hynny'n digwydd.

16:35

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich datganiad y prynhawn yma, ond mae fy nghwestiwn yn syml iawn: felly beth? Beth mae hyn yn ei olygu i bobl Blaenau Gwent a Rhymni, er enghraifft? Beth mae'n ei olygu i bobl sy'n ofni'r posibilrwydd o lifogydd bob tro y bydd storm ddifrifol, pobl Cwmtyleri, sydd wedi gweld tomen lo yn llithro i lawr eu strydoedd? Beth mae'n ei olygu i bobl sy'n siopa, er enghraifft, yn Marks and Spencer's heddiw? Beth mae'n ei olygu i bobl sy'n gweld y bygythiadau hyn o'u cwmpas, ond nad ydynt yn siŵr a yw Llywodraeth Cymru neu eraill mewn sefyllfa i'w hamddiffyn? Felly, pan wnaethoch chi siarad yn eich datganiad am rymuso cymunedau, rwy'n credu ei fod yn ddatganiad pwerus iawn i'w wneud, ond mae'r bobl rwy'n eu cynrychioli eisiau gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel catalydd, gan sicrhau bod y bobl iawn yn cael eu dwyn ynghyd ar yr adeg iawn, i baratoi ar gyfer argyfyngau naturiol a'r math o seiberdroseddu yr ydym yn dod yn rhy gyfarwydd ag ef, ond hefyd eu bod yn gallu teimlo'n ddiogel yn gwybod eich bod chi fel Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru, yn dod â phobl at ei gilydd i sicrhau eu bod yn ddiogel ac y gallant ddibynnu ar y gwasanaethau brys a'r holl asiantaethau eraill sydd eu hangen i fynd i'r afael â digwyddiad neu argyfwng mawr. 

Diolch yn fawr. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn: pa wahaniaeth fydd yn ei wneud? Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni baratoi ar gyfer y gwaethaf; mae hynny'n rhan o'n cyfrifoldeb. Ein prif nod yw cadw pobl Cymru yn ddiogel; dyna beth rydyn ni yma i'w wneud, ac mae angen i ni wneud yn siŵr y gallwn roi'r holl fesurau ar waith i wneud hynny. Rhan o hynny yw gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio'r cyfrifoldeb sydd gennym fel Llywodraeth i ymyrryd lle bo angen. Y gwir amdani yw bod 273,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd yng Nghymru, ond oherwydd yr ymyrraeth rydyn ni wedi'i gwneud fel Llywodraeth, mae'r siawns y byddant yn cael eu heffeithio wedi cael ei lleihau'n sylweddol. Rydym wedi rhoi £291 miliwn i mewn i'r rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr; mae hynny'n swm enfawr o arian dros bum mlynedd.

O ran diogelwch tomenni glo, fe wnaethon ni i gyd wylio'r domen lo yn llithro yn Tylorstown, ac fe gawsom ni i gyd ein cymryd yn syth yn ôl i Aberfan, ac roedd yn frawychus. Beth rydyn ni wedi'i wneud o ganlyniad i hynny? Rydyn ni wedi cyflwyno cyfraith. Rydyn ni wedi gwneud yn siŵr bod pob un o'r rhain yn cael eu cofrestru. Maen nhw'n cael eu categoreiddio yn nhermau risg. Rydyn ni'n cadw llygad arnyn nhw, ac rydyn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi arian i mewn i hynny—fel, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU. Rydym wedi rhoi £34 miliwn i mewn; mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £25 miliwn i mewn. Rydyn ni eisiau ychydig mwy a byddwn yn pwyso am fwy o arian gan Lywodraeth y DU i'n helpu gyda hynny, oherwydd mae hon yn etifeddiaeth unigryw, yn etifeddiaeth cyn datganoli, 130 o domenni glo sydd mewn perygl, ac mae'n bwysig bod cydnabyddiaeth Cymru i ddatblygiad economi'r genedl hon, y genedl ehangach, yn hanesyddol, yn cael ei gydnabod, oherwydd ni ddylai'r etifeddiaeth honno gael ei thalu gan bobl Cymru. Mae angen cyfraniad pellach arnom ganddynt.

Ond, oes, mae gennym y bobl iawn ar yr adeg iawn, yn y lle iawn. Byddan nhw o gwmpas y bwrdd yfory yn siarad â mi, ac yn amlwg, bydd yna gyfarfodydd rheolaidd ar ôl hynny i wneud yn siŵr nad strategaeth a fframwaith yn unig sydd gennym. Does dim gwerth i'r pethau hynny oni bai bod gennych chi raglen gyflawni glir iawn ochr yn ochr ag ef, a dyna'r hyn y byddwn ni'n dechrau mynd i'r afael ag ef yfory.

16:40

Rwyf fi eisiau gofyn i chi am domenni glo hefyd. Rwy’n croesawu’r buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn i hyn, ac rwyf i yn croesawu'r ddeddfwriaeth newydd hefyd. Ond mae’r cwestiwn yn dal yna, mae e wedi cael ei godi yn barod gyda chi y prynhawn yma: pwy fydd yn talu? Dŷch chi wedi cydnabod cyn heddiw a hefyd yn ystod eich ymateb i Alun Davies fod yn rhaid i San Steffan roi mwy inni, achos, yn amlwg, dyw £25 miliwn ddim yn mynd i fod yn ddigon o gwbl achos bydd bron yr holl swm yna yn cael ei gymryd, efallai, gydag un tomen lo, fel oedden ni'n gweld gyda chlirio'r llanast wedi Tylorstown. Allwch chi ddweud, plis, pa drafodaethau buan a brys byddwch chi’n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau’r arian ychwanegol rŷn ni ei angen? Oherwydd cyfrifoldeb San Steffan ydy glo o hyd, mae e'n reserved matter o dan ddeddfwriaeth, felly pam nad ydyn nhw yn gallu talu i glirio olion cywilyddus y tomenni?

Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi gwneud cyfraniad o £25 miliwn, sef yr hyn y gwnaethom ofyn iddynt amdano, oherwydd doeddem ni ddim yn meddwl y gallem ni amsugno mwy o arian na hynny, oherwydd mae angen i chi wneud yn siŵr bod gennych bobl i wneud y gwaith, mae angen y sgiliau arnoch chi, mae angen i chi wneud yn siŵr bod pethau'n barod. Felly, byddwn yn parhau i wthio a gwneud yn siŵr ein bod yn gofyn am y cyllid ychwanegol hwnnw, ond does dim pwynt gofyn am gyllid na allwch ei wario wedyn. Felly, mae'n bwysig, ac mae hwn yn fater rydw i wedi'i godi gyda Keir Starmer dros y dyddiau diwethaf, ac felly, yn amlwg, bydd yn fater y byddwn yn parhau i'w roi ar frig ein hagenda.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Eitem 6 sydd nesaf, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn, diweddariad ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Mae beichiogrwydd a geni plant yn ddigwyddiadau sy'n newid bywydau menywod a'u teuluoedd. Mae gan staff gofal mamolaeth a newyddenedigol rôl unigryw wrth helpu menywod, eu partneriaid a'u babanod drwy'r rhain. Rhaid i wasanaethau'r NHS sicrhau bod pob menyw a babi yn cael gofal diogel a thosturiol, a sicrhau eu bod nhw'n cael y profiadau a'r canlyniadau gorau posib yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. 

Rwyf i am amlinellu heddiw y gwaith parhaus ŷn ni a'r NHS yn ei wneud i wella gofal mamolaeth a newyddenedigol gan ddysgu o'r adolygiadau sydd wedi eu cynnal ar draws Cymru ac yn ehangach yn y Deyrnas Unedig. Rwyf i eisiau dweud ar y dechrau fel hyn mae'n ddrwg gen i i unrhyw deulu sydd heb gael y gwasanaeth roedden nhw'n ei ddisgwyl neu yn ei haeddu.

Rwyf am ddweud ar y dechrau ei bod yn ddrwg gennyf i unrhyw deulu nad yw wedi cael y gwasanaeth yr oeddent yn ei haeddu ac yn ei ddisgwyl.

Rwy'n gwneud y datganiad hwn gan fod Llais heddiw wedi cyhoeddi ei adroddiad ar brofiadau mewn gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Er bod rhai teuluoedd yn disgrifio gofal tosturiol a phroffesiynol, mae adroddiad Llais yn cynnwys canfyddiadau anodd a phrofiadau uniongyrchol gofidus gan fenywod sydd wedi cael gofal gwael. Roedd rhai menywod yn dweud eu bod yn teimlo nad oedd eu llais yn cael ei glywed, nad oedden nhw'n cael cefnogaeth neu nad oedden nhw'n ddiogel ar wahanol adegau yn ystod eu gofal wrth esgor, ar ôl genedigaeth neu wrth geisio codi pryderon.

Nid yw hyn yn dderbyniol ac nid dyma'r safon yr ydym ni'n ei ddisgwyl gan y gwasanaeth iechyd. Rwyf wedi trafod yr adroddiad hwn gyda chadeirydd a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac rwy'n disgwyl y bydd adroddiad Llais yn cael ei rannu gyda'r adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth fel y gellir ystyried profiadau menywod. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at deuluoedd o grŵp cymorth mamolaeth Bae Abertawe a byddaf yn cwrdd â nhw dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau y bydd yn darparu gwasanaethau cwnsela am ddim i'r rhai sy'n ymwneud â'r adolygiad annibynnol a bydd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau cyngor, eiriolaeth a chymorth yn lleol ac yn genedlaethol. Mae desg gymorth wedi'i sefydlu. Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, byddwn yn annog unrhyw un sy'n poeni am eu cynlluniau genedigaeth i gysylltu â'r ddesg gymorth i drafod eu pryderon.

Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, comisiynwyd yr adolygiad annibynnol gan y bwrdd iechyd yn dilyn cyhoeddi dau arolygiad dirybudd i wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Bu dau arolygiad wedi'u targedu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru hefyd o obstetreg a gynaecoleg. Uwchgyfeiriodd Llywodraeth Cymru y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i lefel 3 ym mis Rhagfyr 2023. Ers hynny, bu'r newidiadau canlynol, gan gynnwys newidiadau mewn arweinyddiaeth—cadeirydd, prif weithredwr, cyfarwyddwr nyrsio gweithredol a chyfarwyddwr bydwreigiaeth newydd—sydd i gyd wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg. Bu cynnydd mewn staffio, gan gynnwys cyflwyno rolau clinigol ychwanegol. Mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio adborth gan famau a theuluoedd a staff i wella gwasanaethau a phrofiadau mamau. Cyflwynwyd adolygiadau dysgu o ddigwyddiadau chwarterol. Ac mae gan fenywod fwy o ddewisiadau ynglŷn â ble i roi genedigaeth, yn dilyn ailagor canolfan geni Castell-nedd Port Talbot ac ailgyflwyno'r gwasanaeth geni gartref hydref diwethaf.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd AGIC gasgliadau ei arolygiad dirybudd o ganolfan geni Castell-nedd Port Talbot. Roedd yr adborth gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn gadarnhaol, yn enwedig mewn perthynas â phroffesiynoldeb bydwragedd a'r amgylchedd croesawgar. Rwy'n falch o weld y gwelliannau hyn mewn gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe, ond fel y mae adroddiad Llais yn nodi, mae mwy i'w wneud o hyd i wella'r profiad i bob menyw sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn.

Llywydd, fy mhrif bryder yw sicrhau bod yr holl wasanaethau mamolaeth ac obstetreg yng Nghymru yn darparu gofal diogel a thosturiol ac rwyf wedi dysgu o'r adolygiadau proffil uchel a gynhaliwyd i wasanaethau yng Nghymru ac ar draws y DU. Ym mis Chwefror, gwnaethom gyhoeddi'r 'Datganiad Ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol', sy'n nodi'r canlyniadau a'r safonau y gall darpar famau a'u teuluoedd ddisgwyl eu derbyn wrth gael mynediad at ofal. Mae'n dangos yn glir sut olwg sydd ar dda ac yn helpu i ysgogi canlyniadau a phrofiadau gwell i fenywod a'u teuluoedd. Dechreuwyd y datganiad ansawdd o waith a wnaed gan y rhaglen cymorth diogelwch mamolaeth a newyddenedigol, a gomisiynwyd yn 2022 i arwain dull gwella Cymru gyfan a dysgu o'r adolygiadau annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Y rhaglen yw'r cyfrwng ar gyfer gwella ansawdd a diogelwch ar draws gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

Llywydd, fel rhan o'm hymrwymiad i gynyddu tryloywder, bydd perfformiad a gwella'r GIG, yn y dyfodol, yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar y gwaith o weithredu'r rhaglen cymorth diogelwch mamolaeth a newyddenedigol, gyda'r diweddariad cyntaf i'w gyhoeddi ym mis Gorffennaf ac yna bob dwy flynedd. Bydd hyn yn sicrhau y gall yr Aelodau, y cyhoedd a'r cleifion graffu ar Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol yn eu camau gweithredu i wella ansawdd a diogelwch y gwasanaethau.

Llywydd, mae asesiad o bob gwasanaeth wedi'i gynnal, sydd wedi nodi cyfres o gamau i'w cymryd. Mae wedi ei gefnogi gan adolygiad gan Lywodraeth Cymru o'r holl ddata ac archwiliadau sy'n ymwneud â gofal mamolaeth a newyddenedigol yn 2023-24, gan roi sicrwydd am wasanaethau. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r datblygiadau diweddar yng Nghymru ac ar draws y DU, gan gynnwys y canfyddiadau diweddaraf o adolygiad Ockenden a'r adolygiad annibynnol parhaus o ofal mamolaeth yn Nottingham, mae'n bryd ailadrodd yr asesiad hwnnw. Felly, byddaf yn gofyn i berfformiad a gwella'r GIG, sef yr enw newydd ar weithrediaeth y GIG, gynnal yr asesiad hwn gan ddechrau ym mis Gorffennaf. Bydd yn ategu'r set ddiweddaraf o ganlyniadau archwilio Mamau a Babanod: Lleihau Risg trwy Archwiliadau ac Ymholiadau Cyfrinachol, a bydd yn cynnwys adroddiad Llais heddiw a chanfyddiadau a chasgliadau adolygiad annibynnol Bae Abertawe, pan fyddant ar gael. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu sefyllfa ein holl wasanaethau mamolaeth yng Nghymru ar hyn o bryd a sut maent yn perfformio yn erbyn canllawiau cenedlaethol. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i gefnogi byrddau iechyd i wneud y newidiadau sydd eu hangen i wella gofal ac i wella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i fenywod a babanod. Byddaf yn ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd.

16:50

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw. Fel tad diweddar, mae'n hynod bryderus darllen am yr hyn y mae teuluoedd wedi bod yn ei ddioddef er mwyn cael mynediad at wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rwy'n falch o glywed o'ch datganiad o'r camau sydd wedi'u cymryd, y gwelliannau a welwyd a'ch cydnabyddiaeth bod angen gwneud mwy o waith i wella gofal cleifion. Fodd bynnag, yr hyn sy'n amlwg ar unwaith o adroddiad Llais yw bod llawer o faterion yn dod wrth i staff ddilyn y weithdrefn, mae'n ymddangos, ac yna'n diystyru'n llwyr yr elfen ddynol empathig sy'n dod gyda gofalu. Er enghraifft, mae'r adroddiad yn nodi:

'Dywedodd llawer eu bod wedi cael eu gwneud i deimlo fel eu bod yn gorymateb, yn dychmygu pethau, neu na ddylid ymddiried ynddynt ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd i’w cyrff eu hunain. Gadawodd hwy’n teimlo’n ddryslyd ac yn cael eu tanseilio.'

Roedd gweithredoedd o'r fath yn cynnwys cael eu holi pam roedd angen lleddfu poen ar unwaith ar ôl pwythau. Ysgrifennydd Cabinet, eto rwy'n siarad o safbwynt personol fel rhiant am y tro cyntaf: gall yr holl brofiad eich llethu, ac nid fi oedd yr un a oedd yn geni babi. Rwy'n siŵr bod gofyniad ar nyrsys nid yn unig i roi poenladdwyr, ond i sicrhau gan y claf pam maen nhw'n credu bod angen poenladdwyr, i geisio disgrifio'r boen, ond yn amlwg nid yw hyn yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf empathetig, yn enwedig os yw cleifion yn dweud bod y cwestiynu yn teimlo'n ddiangen neu'n fychanol.

Mae'r ymdeimlad hwn o gael eich diystyru yn thema gyffredin ar draws gwahanol feysydd gofal iechyd, gan gynnwys endometriosis, menopos a chyflyrau wro-gynaecolegol. Er ein bod wedi cael dadleuon di-ri yma ar gyflwr gofal iechyd menywod a'r gwahaniaethau y maen nhw'n eu hwynebu, rwy'n pryderu bod yr adroddiad hwn, unwaith eto, yn ychwanegu at y gwahaniaeth hwn, ac rwy'n awyddus i wybod a ydych chi hefyd. Mae'r ffaith bod cytundeb ar draws yr holl grwpiau ffocws bod menywod o'r farn y dangoswyd diffyg parch tuag atynt trwy ddefnyddio termau clinigol ac agweddau a fynegwyd tuag atynt, rwy'n credu, yn rhan o broblem llawer ehangach sy'n haeddu mwy o ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru. Pa welliannau ydych chi'n meddwl y gellid eu gwneud i helpu mamau a thadau, yn enwedig rhieni am tro cyntaf, i ddeall y profiadau y maen nhw i'w disgwyl a'r mathau o gwestiynau y maen nhw'n mynd i'w hwynebu?

Un o'r gwersi a ddysgodd fy nheulu i oedd pwysigrwydd BRAIN—buddion, risg, amgen, greddf a dim. Rwy'n ymwybodol bod hyn wedi digwydd o ganlyniad i fynychu dosbarth mamolaeth, a byddwn i'n awyddus i wybod, Ysgrifennydd Cabinet, pa mor eang yw'r polisi hwn o fewn y byrddau iechyd eraill. Mae rhai rhieni yn mynd trwy lawer o bryder a straen yn ystod y beichiogrwydd ac rwy'n credu bod gwella cyfathrebu yn gynnar yn rhan allweddol o leihau hynny. Ydych chi'n meddwl bod lle i baratoi rhieni yn well yn ystod y camau beichiogrwydd?

Mewn gofal iechyd heddiw, mae llawer o'r gwaith yn cael ei ysgogi gan yr angen i gyd-fynd yn daclus â llwybrau clinigol. Nid oes gan weithwyr proffesiynol meddygol y cwmpas i ddisgrifio sefyllfaoedd clinigol heb ddefnyddio termau clinigol. Maen nhw'n gyfyngedig yn eu defnydd o dermau anfeddygol oherwydd gall eu hamlygu i achosion cyfreithiol camymarfer oherwydd goddrychedd wrth ddehongli. Mae'n rhaid iddyn nhw allu cofnodi a thystiolaethu yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud wrth gleifion am eu cyflwr. Maen nhw'n gwneud hyn oherwydd, pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le ac mae eu hymarfer a'u trafodaethau yn cael eu craffu arnynt gan y microsgop meddygol-gyfreithiol, mae tystion arbenigol yn cyfeirio at ganllawiau arfer gorau i asesu eu gweithredoedd, ac mae beirniadaeth yn cael ei wneud os yw gweithwyr proffesiynol yn gwyro oddi wrth dilyn y weithdrefn. Nid yw hon yn sefyllfa hawdd i'w datrys ac rwy'n dychmygu bod y staff meddygol eu hunain yn eithaf rhwystredig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, beth ydych chi'n meddwl y gellir ei wneud am hyn? Ni fyddwn yn synnu, pe bai nhw'n cael eu mesur, mai dyma'r math o broblemau a geir mewn llawer o leoliadau clinigol.

Dwy o'r rhannau mwyaf gofidus o'r adroddiad hwn yw bod amgylcheddau anniogel lle roedd menywod yn geni babi, sy'n gyfystyr ag esgeulustod gan uwch staff a'r rhai hynny sy'n gyfrifol. Yr ail oedd bod darpariaeth iechyd meddwl yn anghyson. Mae'n arbennig o bryderus i mi bod methiannau wrth nodi a thrin heintiau, triniaeth ddiraddiol ac esgeulustod posibl mewn gofal ôl-enedigol, a bod rhai pobl yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl wedi ei wrthod oherwydd oedi wrth eu hatgyfeirio at y gwasanaeth cywir. Y ffaith syfrdanol, Ysgrifennydd Cabinet, yw nad oedd rhai pobl yn cael cynnig cymorth hyd yn oed ar ôl profi marw-enedigaeth. Ni allaf ddychmygu yr hyn yr oeddynt yn mynd drwyddo. Rwy'n cydnabod yn yr adroddiad bod y bwrdd iechyd wedi mynd i'r afael â'r materion penodol hyn, ond pa warantau allwch chi eu rhoi fel Ysgrifennydd Cabinet y byddan nhw'n cael eu gweithredu'n effeithiol yn y pen draw?

Fel y gwyddoch chi, nid yw adroddiad Llais yn sôn am y camau a gymerwyd yn erbyn staff i'w dal yn atebol. Ni allwn fod â system sy'n caniatáu i staff aros yn eu swyddi, sydd wedi methu yn eu dyletswyddau i greu amgylchedd diogel ac i sicrhau bod gofal iechyd meddwl ar gael. Nid wyf yn derbyn y ddadl bod diffyg hyfforddiant neu fod angen mwy o hyfforddiant. Nid yw hyn yn unedau mamolaeth byrddau iechyd eraill, y byddai gan eu staff fynediad i'r un hyfforddiant. Ysgrifennydd Cabinet, pa gamau rydych chi wedi'u cymryd i adolygu'r staff sy'n gyfrifol am wneud yr uned famolaeth yn ddiogel a darparu mynediad at ofal iechyd meddwl? 

Yn olaf, mae tystiolaeth wedi dangos bod y portread parhaus yn y cyfryngau o GIG mewn argyfwng yn llunio canfyddiad negyddol y cyhoedd, ac yn gwneud i gleifion deimlo bod yn rhaid iddynt reoli eu gofal eu hunain er mwyn osgoi cael eu hanwybyddu. O ganlyniad, mae llawer o gleifion yn chwilio am wybodaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd cyn eu hapwyntiadau, a all yn anfwriadol greu sefyllfa ar gyfer ymgynghoriadau lle ceir gwrthdaro neu lawer o ddisgwyliadau lle maent yn nodi nad yw clinigwyr yn gwrando arnynt. Mae clinigwyr hefyd wedi mynegi pryder eu bod yn cael eu portreadu fwyfwy fel dihirod nad ydynt yn gweithio er budd gorau'r cleifion, ac mae hyn yn cymhlethu eu gallu i ddarparu gofal a gall greu rhwystrau rhyngddyn nhw a'r cleifion cyn i'r driniaeth ddechrau hyd yn oed. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella hyder cleifion yn y cyngor a'r gofal y maen nhw'n eu cael, yn enwedig gan staff meddygol yn yr uned mamolaeth a newyddenedigol dan sylw? Diolch.

16:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch i Joel James am y cwestiynau hynny, ac mae'n nodi sawl enghraifft a ddisgrifir yn adroddiad Llais, sy'n tynnu sylw at faterion difrifol yn y ffordd a ddisgrifiodd yn ei gwestiwn, yn amrywio o brofiad cleifion—rhoddodd enghreifftiau o'r rheini—ond hefyd o ran cyfathrebu, ymgysylltu, ac fe wnaeth e hefyd grybwyll cwestiynau yn ymwneud ag ansawdd a diogelwch. Fel y nodais yn fy natganiad, roedd menywod yn dweud wrth Llais eu bod yn teimlo nad oedd neb yn gwrando arnynt nac yn eu cefnogi neu eu bod weithiau teimlo'n anniogel ar adegau yn ystod eu taith, ac fe fydden ni i gyd yn ystyried bod hynny'n gwbl annerbyniol, wrth gwrs.

Fe wnaeth rai pwyntiau penodol am brofiad mamau sydd ar fin rhoi genedigaeth ac ymgysylltu, ac fe wnaeth rai pwyntiau pwysig am staffio. Rwy'n credu mai'r thema sy'n dod i'r amlwg o adroddiad Llais ac o'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar wahân yw bod nifer o'r heriau wedi bod yn seiliedig ar y lefelau staffio annigonol, a oedd yn un o nodweddion y gwasanaeth yn flaenorol. Rwy'n credu bod hwnnw'n faes lle mae gwelliant sylweddol wedi bod o ran recriwtio staff ychwanegol i alluogi'r gwasanaeth i gael ei staffio'n briodol. Rwy'n ymwybodol bod y bwrdd iechyd wedi buddsoddi'n sylweddol mewn recriwtio 23 o fydwragedd a 14 o gynorthwywyr gofal mamolaeth ar gyfer ei wasanaeth. Mae hyn yn amlwg wedi arwain wedyn at gynnydd yn y niferoedd sydd ar gael ar gyfer yr amserlen ac wedi darparu mwy o wydnwch.

Fe grybwyllodd y pwynt am hyfforddiant. Rydym yn gofyn i Fae Abertawe, fel pob bwrdd iechyd arall, adrodd yn ôl yn rheolaidd ar gydymffurfiaeth â hyfforddiant i Lywodraeth Cymru yn y rhythm chwarterol o gyfarfodydd sydd gennym. Rydym wedi gweld, rwy'n credu yn Abertawe ond hefyd ledled Cymru, mewn gwirionedd, welliant cyson yn y gyfradd cydymffurfio â chanllawiau hyfforddi, ond fel y mae'n nodi yn ei gwestiwn, mae'n gwbl hanfodol bod hynny'n cael ei gynnal. Bydd hynny'n mynd i galon ansawdd y gofal y mae'r gwasanaeth yn gallu ei ddarparu.

Rwy'n credu bod yr ymgysylltiad â theuluoedd, yr ymgysylltiad â mamau, yn rhan bwysig iawn o'r hyn y mae adroddiad Llais yn ei ddweud wrthym a'r hyn y mae gwaith arall wedi'i ddweud wrthym hefyd. Rwy'n gwybod bod hwn wedi bod yn faes lle mae'r bwrdd iechyd wedi ceisio dod â rhywfaint o ffocws. Rwy'n gwybod eu bod wedi gweithredu peilot yn ddiweddar ar gyfer y mesurau ymgysylltu amenedigol newydd, y byddaf yn dweud ychydig mwy amdanyn nhw mewn eiliad, trwy Civica, lle mae pob menyw yn derbyn, er enghraifft, holiadur testun ar adegau penodol yn ystod beichiogrwydd er mwyn iddi allu bwydo'n ôl ar ei phrofiadau.

Bydd un o'r meysydd allweddol lle rwy'n teimlo y bydd newid sylweddol yn gallu cael ei gyflwyno ledled Cymru yn y dyfodol yn deillio o'r datganiad ansawdd, y soniais amdano yn fy natganiad. Un o'r gofynion yn hwnnw yw gweithredu'r fframwaith ymgysylltu amenedigol newydd, sy'n gwneud yn union yr hyn yr oedd yr Aelod yn gofyn i ni ei wneud, sef sicrhau bod yna ffyrdd strwythuredig, rheolaidd o ymgysylltu â theuluoedd, â mamau, o ran eu disgwyliadau, y dewisiadau maen nhw'n eu gwneud yng nghyd-destun, er enghraifft, lle gallan nhw fod eisiau rhoi genedigaeth ac ystod o bwyntiau pwysig eraill o ran ymgysylltu ar y daith. Un o'r camau gweithredu allweddol ar gyfer y datganiad ansawdd yn y flwyddyn i ddod yw i fyrddau iechyd weithio mewn partneriaeth â pherfformiad a gwella GIG Cymru, a dylunio cynllun gweithredu a all gael ei gyflwyno ledled Cymru, gan gynnwys yn Abertawe.

17:00

Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i'r teulu Channon—ac mae Rob yn y Siambr heddiw ac rwy'n deall eich bod chi wedi cwrdd ag ef yn gynharach—y teulu Borland, y teulu Barrett a gweddill grŵp cymorth teuluoedd mamolaeth Bae Abertawe, sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddiflino yng nghanol trawma annirnadwy iddyn nhw'n bersonol dros well safonau ym maes gofal mamolaeth. Cafodd yr hyn a ddylai fod wedi bod yn eiliadau hapusaf eu bywydau eu gwadu'n greulon iddyn nhw gan fethiannau difrifol yn y bwrdd iechyd, methiannau a aeth heb sylw am lawer rhy hir. A gadewch i ni fod yn glir: nid achos o esgeulustod clinigol yn unig yw hwn. Yr hyn sydd gennym yma yw diffyg cronig o atebolrwydd a thryloywder sefydliadol, fel mae'r manylion damniol yn adroddiad Llais yn ei nodi.

Sut y gall fod na chafodd camau eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd yr holl ffordd yn ôl ym mis Mawrth 2022 gan adroddiad Kirkup pan gawson nhw eu codi gyntaf gyda Llywodraeth Cymru? Sut y gall fod bod gan y teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gyn lleied o ffydd ym mecanweithiau adolygu mewnol y bwrdd iechyd fel eu bod yn teimlo nad oedd ganddyn nhw unrhyw opsiwn ond sefydlu eu hymchwiliad eu hunain? A sut y gall fod, flynyddoedd yn ddiweddarach, bod marwolaethau mamolaeth yn Ysbyty Singleton yn parhau i fod yn uwch na'r cyfartaledd, fel y dangosir gan ddata diweddaraf MBRRACE ar farwolaethau? Yn syml, ni ddylem byth fod wedi cyrraedd y pwynt hwn.

Ond dyma lle rydym ni, felly y lleiaf y mae'r teulu Channon a'r teuluoedd eraill yr effeithiwyd arnyn nhw'n ei haeddu nawr yw eu harweinyddiaeth benderfynol a'u hewyllys gwleidyddol i sicrhau newid cadarnhaol. Oherwydd, er gwaethaf cynnydd i'w groesawu mewn rhai meysydd, fel adroddiad diweddaraf AaGIC i ganolfan geni Castell-nedd Port Talbot, mae'n amlwg bod llawer o ffordd i fynd. Dyma rai camau a fyddai'n mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at ailennyn hyder y cyhoedd.

Yn gyntaf, mae'r ymddiriedaeth sydd wedi'i cholli ym mhroses adolygu'r bwrdd iechyd yn siarad cyfrolau am y gwaith craffu y mae wedi'i osgoi a'i fethiant i gynnal safonau cadarn o ddidueddrwydd. I ddyfynnu Dr Dewi Evans, dydy cael y bwrdd iechyd i benodi ei adolygiad annibynnol ei hun yn ddim gwell na chael eich mam i ysgrifennu eich geirda neu'ch tysteb, ac yn hytrach nag ymgysylltu'n adeiladol â'r pryderon dilys, maen nhw wedi cyflogi cwmni ymgynghori sydd wedi lladd yn gywilyddus ar gymhellion a dulliau'r ymgyrch a arweinir gan deuluoedd. Felly, a fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymrwymo i adolygu'r fframweithiau atebolrwydd perthnasol a alluogodd y bwrdd iechyd i nodi ei waith cartref ei hun i bob diben, a chyflwyno rheolau newydd sy'n atal cwmnïau ymgynghori preifat rhag cael rôl mor amlwg mewn ymchwiliadau yn y dyfodol?

Yn ail, nawr bod ymchwiliad y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn mynd rhagddo, dylai gael gwrandawiad teg. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o feirniadaeth Ockenden o fethiant y Llywodraeth i gymryd rhan weithredol yn yr adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe. O ystyried hyn, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gyflwyno datganiad i'r Senedd ar ôl cyhoeddi'r ymchwiliad a arweinir gan deuluoedd, ac ymgysylltu'n ddidwyll â'i gasgliadau a'i argymhellion?

Yn drydydd, dylid bod wedi dysgu gwersi o'r achosion trasig a arweiniodd at wasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg yn cael eu rhoi mewn mesurau arbennig flynyddoedd yn ôl, ond mae'n ymddangos nad yw unrhyw wersi o'r fan honno wedi'u rhaeadru. Mae angen i ni weld y camau adfer penodol ym Mae Abertawe yn dod yn gatalydd ar gyfer ymgorffori safonau gwell ar raddfa genedlaethol. Mae'r datganiad ansawdd newydd ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn ddechrau da, ond nawr mae angen i ni weld cynnydd diriaethol ar droi'r weledigaeth hon yn ganlyniadau parhaol. Ond pa sicrwydd y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ei roi i ni bod y gwersi hyn yn cael eu dysgu a'u rhannu ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru?

Fe fyddwch chi'n cofio imi godi'r pwynt yn ystod cyhoeddi'r datganiad ansawdd, nad oes gan Gymru, yn wahanol i GIG Lloegr, darged penodol i leihau cyfraddau marw-enedigaethau, marwolaethau newyddenedigol, genedigaethau cynamserol, marwolaethau mamau ac anafiadau i'r ymennydd. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet o'r farn y byddai cyflwyno targed o'r fath yn fuddiol yma yng Nghymru? Byddwn i hefyd yn croesawu diweddariad ynghylch nifer y byrddau iechyd yng Nghymru sy'n bodloni'r lefelau staffio diogel a argymhellir ar gyfer bydwreigiaeth ar hyn o bryd, fel y nodir gan offeryn y gweithlu Birthrate Plus.

Yn olaf, mae'r gwasanaeth mamolaeth ym Mae Abertawe wedi bod o dan statws monitro uwch ers dwy flynedd, ac mae gennym ni'r pryderon sylweddol hyn o hyd. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gynyddu'r lefel ymyrraeth i fesurau arbennig nawr fel eu bod yn cael y gefnogaeth lawn sydd ei hangen i unioni pethau? Diolch.

17:05

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau hynny. Ydy, mae Mr Channon yma yn yr oriel gyhoeddus, ac fe ges i gyfle i gwrdd ag ef yn gyflym yn gynharach. Fel y soniais i yn fy natganiad, rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â nifer o deuluoedd yn yr wythnosau nesaf, i gael cyfle i fyfyrio'n hirach ar yr adroddiad fel yr ydym yn ei weld, a'r gwaith sy'n digwydd ar wahân i'r adroddiad hwn, yr ydym yn ei drafod heddiw.

Fe wnaeth nifer o bwyntiau o ran y berthynas rhwng y datganiad heddiw a'r adolygiad, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Rwy'n credu bod yr adolygiad wedi rhoi cyfle i gael adolygiad achos clinigol trylwyr, adolygiad llywodraethu, a hefyd i edrych ar ddangosyddion diogelwch cyfredol. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod o ran y ffaith bod y teuluoedd wedi ceisio mecanwaith ar wahân er mwyn i leisiau teuluoedd gael eu clywed yn ychwanegol at waith yr adolygiad, ac rwy'n gwybod y bydd canlyniad y darn hwnnw o waith, a fydd yn sicrhau bod modd ystyried ystod lleisiau'r teuluoedd, yn cael ei fwydo i mewn i'r adolygiad annibynnol, fel y bydd adroddiad Llais yr ydym yn ei drafod heddiw, fel y gall ystyried yn llawn yr ystod o brofiadau y byddem am iddo allu eu hystyried.

Gwnaeth yr Aelod nifer o bwyntiau o ran yr hyn y gellir ei ddysgu o'r profiad yn Abertawe ac, yn wir, mewn rhannau eraill o Gymru ac, yn wir, mewn mannau eraill. Soniais am y datganiad ansawdd—mae wedi cydnabod y datganiad hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iddo am y croeso y mae wedi'i roi iddo. Bydd y datganiad hwnnw'n nodi'n glir yr hyn a ddisgwylir gan fyrddau iechyd ac, yn bwysig, yr hyn y gall teuluoedd ei ddisgwyl, yr hyn y gall menywod ei ddisgwyl, wrth iddyn nhw ymgysylltu â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.

Ochr yn ochr â hynny, mae perfformiad a gwella GIG Cymru yn datblygu manyleb gwasanaeth amenedigol, sydd, i bob pwrpas, yn ffordd o ategu'r datganiad ansawdd, a bydd honno'n nodi sut y gall byrddau iechyd fodloni'r disgwyliadau, bodloni'r uchelgeisiau, yn y datganiad ansawdd. Bydd gofyn i fyrddau iechyd ddatblygu cynllun gweithredu mesuradwy i sicrhau bod modd bodloni'r disgwyliadau hynny, ac i'r cynllun hwnnw ei hun alinio â'r rhaglen gymorth, sydd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, wedi bod yn gyfrwng yr ydym wedi'i ddefnyddio i geisio gwella gwasanaethau ledled Cymru.

Yn y flwyddyn sydd i ddod, er mwyn gweithredu'r ystod honno o ymyriadau y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith, byddwn ni'n disgwyl i bob bwrdd iechyd, er enghraifft, ddefnyddio'r system mamolaeth ddigidol genedlaethol, a allai, rwy'n credu, fod yn drawsnewidiol—rydym yn sicr yn gobeithio y bydd yn cael yr effaith honno—i weithredu'r fframwaith ymgysylltu amenedigol, y cyfeiriais ato yn fy ateb i Joel James; gweithio gydag AaGIC i flaenoriaethu'r camau cynnar yn y cynllun gweithlu strategol amenedigol, a fydd yn sicrhau bod lefelau staffio lle mae angen iddyn nhw fod a bod argaeledd staff i'w recriwtio lle mae angen iddo fod; ac mae yna ystod o fesurau penodol eraill yn y datganiad ansawdd y byddwn ni'n disgwyl eu gweithredu yn ystod y flwyddyn.

Gofynnodd beth rydym yn ei wneud i fodloni ein hunain bod gwasanaethau ledled Cymru yn cyflawni'r safonau rydym yn eu disgwyl. Dyna fydd pwrpas yr asesiad, yr asesiad cenedlaethol y soniais amdano yn fy natganiad, i raddau helaeth. Felly, ni fydd hynny'n gymaint o asesiad o, os gallaf ei roi yn y termau hyn, y camau mewnbwn—felly, a yw byrddau iechyd wedi gweithredu'r ymyriadau rydym wedi gofyn amdanyn nhw—bydd yn fesur o'r canlyniadau, sef yr hyn y byddwn ni i gyd eisiau gweld eu bod wedi gwella. Felly, mae yna ystod gyfoethog o ddata y gallwn ni edrych arno—mae MBRRACE-UK yn un set, ond mae yna ystod o ddata arall y mae'r system yn adrodd i ni fel Llywodraeth. Felly, byddwn ni eisiau edrych ar hynny i gyd i ddeall yr allbwn ym mhob gwasanaeth yng Nghymru, a byddwn ni'n ymrwymo i gyhoeddi hynny hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd yn croesawu'r tryloywder wrth imi ddweud y byddaf yn adrodd i'r Senedd ddwywaith y flwyddyn ar weithredu'r rhaglen gymorth. Fy myfyrdodau arno yw bod cynnydd eithaf sylweddol wedi'i wneud, ond, mewn byd lle mae pobl yn ceisio hyder, sicrwydd, ac, i fod yn onest, y gallu i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth a gweithredoedd byrddau iechyd lleol hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hynny yn y parth cyhoeddus, fel bod yr Aelodau ac eraill yn gallu ymgysylltu â hynny'n llawn.

17:10

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad? Rwyf am gydnabod y trawma a'r straen y mae'r rhai sydd â phrofiadau gwael neu ganlyniadau andwyol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bae Abertawe yn eu hwynebu. Rwy'n ddiolchgar i Llais a phawb sydd wedi cyfrannu at waith Llais ac at y gweithgarwch ymgysylltu cynhwysfawr a gynhaliwyd gan yr adolygiad annibynnol hefyd. Mae'r adolygiad annibynnol wedi ymrwymo i gyhoeddi ei adroddiad terfynol erbyn diwedd mis Gorffennaf, ac rwy'n gwybod y bydd mewnbwn Llais yn elfen hynod bwysig o hynny, ochr yn ochr â'r adborth yn sgil gweithgarwch ymgysylltu ehangach, yn ogystal ag adolygiad trylwyr o achosion clinigol a dadansoddi data.

Rwy'n deall y bydd yr adolygiad annibynnol hefyd yn adrodd ar arweinyddiaeth a llywodraethu. Mae gen i ddau gwestiwn. Yn gyntaf, a fydd datganiad pellach yn dilyn yr adolygiad annibynnol? Oherwydd dydw i ddim eisiau i hwn fod yr unig un. Ac yn ail, a fyddai Cymru yn elwa o gael llai o ysbytai arbenigol sy'n darparu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol?

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. A gaf i gydnabod y pwynt a wnaeth ar ddechrau ei gwestiwn o ran y trawma y bydd teuluoedd a rhieni wedi'u profi yn y cyd-destun hwn? Un o'r tri cham nesaf y cynigiodd Llais y dylid eu cymryd yw gweithio gyda Llais, yr ydym yn edrych ymlaen at ei wneud, o ran sut y gallwn ni adlewyrchu hynny a chefnogi'r profiad hwnnw i deuluoedd sydd wedi cael profiadau gwael o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Felly, edrychwn ymlaen at fynd â'r darn hwnnw o waith ymlaen gyda Llais.

Rwy'n credu, o ran y pwynt cyntaf, byddaf, byddaf yn hapus i wneud datganiad arall yng ngoleuni'r—pan fydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi. Efallai y bydd yn well gwneud hynny ar ôl y toriad, fel y gallwn ni ystyried yr ystod lawn o gamau gweithredu y cyfeiriais atyn nhw yn y datganiad heddiw, ond byddaf yn hapus iawn i wneud datganiad pellach, yn sicr.

O ran cyflunio gwasanaethau, yn amlwg mae hynny'n farn a arweinir yn glinigol. Yr hyn sy'n ymddangos yn glir i mi yw y bydd disgwyliadau a dewisiadau pobl yn esblygu dros amser o ran sut mae teuluoedd, sut mae mamau, eisiau cael mynediad at wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, felly yn amlwg bydd y gwasanaeth iechyd yn ystyried hynny yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cyflunio yn y dyfodol.

Ysgrifennydd Cabinet, yn ymuno â ni heddiw yn yr oriel gyhoeddus mae fy etholwr Rob Channon, y trodd yr hyn y dylai fod wedi bod yn ddiwrnod hapusaf ei fywyd yn hunllef iddo ef a'i deulu pan anwyd ei fab chwe blynedd yn ôl. Yn y chwe blynedd hynny, mae wedi bod yn ymgyrchu dros nifer o'r materion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad hwn heddiw. Mae hefyd wedi bod yn ceisio cael cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru yn y cyfnod hwnnw, ac rwy'n deall bod y cyfarfod cyntaf o'i fath wedi'i gynnal dim ond 10 munud cyn i chi wneud y datganiad heddiw, sydd braidd yn siomedig, ond o leiaf rwy'n gwybod y byddwch chi'n gyfarwydd â'i achos ac achosion cynifer o deuluoedd eraill a oedd mewn sefyllfa debyg iddo.

Dro ar ôl tro, fe ddywedodd wrthyf fod ei brofiadau wedi'u gwadu, bod y bwrdd iechyd wedi gwadu i ddechrau bod yna broblem, ac mae'n teimlo, yn ddealladwy, pe bai pobl wedi gwrando arno'n gynt, efallai na fyddai llawer o deuluoedd eraill wedi gorfod mynd trwy lawer o'r profiadau y bu'n rhaid iddo fynd drwyddyn nhw. Rydym wedi gweld nifer o'r materion y mae wedi bod yn ceisio tynnu sylw atyn nhw ers peth amser nawr o ran ansawdd gofal, anwybyddu pryderon, a'r ffordd y mae pobl yn cael eu trin a'r ffordd y mae pobl yn siarad â nhw. Felly, mae e'n galw—ac rwyf innau fel ei Aelod Senedd ef yn galw ar ei ran—am ymddiheuriad llawn a chydnabyddiaeth y dylai pobl fod wedi gwrando arno ef a'i deulu yn gynt ac yn well ac y dylen nhw fod wedi cael eu cefnogi trwy'r sefyllfa anodd iawn hon, ac, yn ail, am i'r gwasanaeth mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gael ei uwchgyfeirio. Rydym wedi bod yn destun mesurau monitro uwch nawr ers peth amser ac mae'r materion hyn yn parhau. Felly, os nad yr adroddiad hwn yw'r sbardun i roi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bae Abertawe mewn mesurau arbennig, beth fyddai'r sbardun?

Rwy'n gobeithio bod yr Aelod wedi ffeindio bod rhai o'r atebion rwyf wedi'u rhoi eisoes wedi bod o ryw werth wrth ateb y cwestiynau y mae newydd eu gofyn. Rwyf am gydnabod y pwynt mae'n ei wneud mewn perthynas â Mr Channon. Fe wnes i allu cwrdd ag ef yn gyflym, gan ei fod wedi mynd i'r drafferth o ddod yma i wrando ar y datganiad heddiw, ac, fel y soniais yn fy natganiad yn gynharach, rwyf eisoes wedi trefnu i gyfarfod â theuluoedd dros yr wythnos nesaf fel y gallwn ni gael y trafodaethau hynny yn uniongyrchol, ac rwy'n gobeithio y bydd teuluoedd—. Rwy'n edrych ymlaen at y trafodaethau hynny, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw o werth i bawb arall sy'n cymryd rhan hefyd.

Y pwyntiau mae'r Aelod yn eu gwneud o ran y themâu yn adroddiad Llais—. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi cydnabod yn fy atebion cynharach bod y profiadau y cyfeirir atyn nhw yn yr adroddiad yn ymestyn o 2019 hyd at 2024, a fy nealltwriaeth i yw eu bod yn gyson â'r themâu sydd wedi dod i'r amlwg yn y gwaith y mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn ei wneud drwy'r adolygiad annibynnol, ac rwy'n dychmygu hefyd trwy'r gwaith y mae'r teuluoedd yn ei wneud i sicrhau bod eu profiadau a'u tystiolaeth nhw yn cael eu cofnodi'n llawn fel rhan o hynny.

Rwyf wedi nodi yn y datganiad heddiw sut rwy'n bwriadu ymateb i'r hyn rydym wedi'i ddysgu yn adroddiad Llais, ac y byddaf yn dod yn ôl i'r Senedd gyda datganiad pellach yng ngoleuni'r adolygiad annibynnol. Bydd y gwaith asesu, y byddwn ni'n ei wneud, yn ein helpu i gael sicrwydd bod y safonau a'r disgwyliadau a osodwyd gennym yn cael eu bodloni mewn gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod wedi clywed y sylwadau a wnes ar ddechrau fy natganiad am ba mor ddrwg rwy'n teimlo dros deuluoedd sydd wedi bod trwy'r profiad hwn, ac fe wnes i allu dweud hynny'n uniongyrchol wrth Mr Channon yn gynharach. Rwy'n barod iawn i ailadrodd hynny. Y dasg sydd gennym yw sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu o brofiadau Mr Channon a rhieni a theuluoedd eraill hefyd.

Yn fy natganiad, rwyf wedi ceisio adlewyrchu lle rwy'n teimlo bod gwelliant wedi bod. Mae enghreifftiau wedi bod o ran arweinyddiaeth, o ran staffio, o ran hyfforddiant, o ran ymgysylltu. Ond mae'n hollol glir, rwy'n credu, o'r hyn rwyf wedi'i ddweud eisoes, fy mod i'n credu bod y bwrdd iechyd ar daith, a bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld gwelliant pellach. Dyna union bwrpas cael trefn monitro uwch ar gyfer y bwrdd iechyd, a byddwn ni am wneud yn siŵr ei fod yn bodloni ei rwymedigaethau, yn ymateb i'r argymhellion, ac yn rhoi'r rheini ar waith cyn i ni allu ystyried cael gwared ar y lefel uwchgyfeirio honno. 

17:15

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n glir gyda'r adroddiad hwn heddiw yw bod y pryderon difrifol ynglŷn â'r sefyllfa honno yn y gorffennol ac yn wir y sefyllfa barhaus gyda gofal mamolaeth a newyddenedigol ym Mae Abertawe, a godwyd ar sawl achlysur, ers 2022 yn arbennig, yn ddilys, ac mewn gwirionedd dylid bod wedi rhoi sylw iddyn nhw'n gynharach, ac fe hoffwn i dalu teyrnged i'r holl deuluoedd sydd wedi siarad mor ddewr drwy'r adroddiad hwn ac ers blynyddoedd bellach. Mae'n anodd pan nad yw pobl yn eich credu, ac rwy'n credu bod llawer o Aelodau wedi cyfeirio at y ffaith bod menywod yn arbennig yn wynebu'r sefyllfa hon. Mae wedi cael ei brofi mewn llawer o adroddiadau ac mewn llawer o bapurau ar anghydraddoldeb iechyd menywod nad yw menywod yn cael gwrandawiad.

Felly, mae Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe nawr, y gwyddoch chi bod ganddo dros 100 o aelodau, maen nhw'n cwrdd i ddarparu cymorth a chyngor i deuluoedd sy'n teimlo eu bod wedi'u niweidio gan wasanaethau mamolaeth ac, fel y gwyddoch chi, maen nhw wedi colli ffydd yn yr adolygiad sydd i fod i adrodd cyn bo hir. Ac nid ydyn nhw'n meddwl bod pethau wedi gwella'n ddigonol, er gwaethaf ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn 2023, ac rwy'n meddwl ein bod ni'n gweld hyn yn Llais, onid ydym ni? Ni chafodd unrhyw un a siaradodd â Llais am yr adroddiad hwn brofiad cadarnhaol o'r dechrau i'r diwedd.

Felly, rwy'n croesawu'r camau rydych chi wedi'u rhestru, a hefyd roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed yn ymddiheuro yn y ffordd y gwnaethoch chi i bawb sy'n teimlo eu bod wedi cael gofal gwael. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol werthfawr. Ond fe hoffwn i wybod sut y byddwch chi'n sicrhau hyder llawn yr holl rieni pryderus—y gorffennol, y presennol a'r dyfodol—yn ardal Bae Abertawe, yn enwedig, wrth gwrs, y teuluoedd hynny a effeithwyd gan y pryderon a ddogfennwyd yn adroddiad Llais. Ydych chi'n derbyn y bu goruchwyliaeth y Llywodraeth o wasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe yn annigonol?

Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd hi wedi clywed, o'r ffordd yr wyf wedi ceisio disgrifio ymateb y Llywodraeth, fy mod yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn ceisio gwneud dau beth: yn gyntaf, nodi lle mae angen gwelliannau pellach, ac mae'n amlwg bod amrywiaeth o ffyrdd lle mae hynny'n wir, ac rwy'n gwybod bod yr argymhellion o'r adolygiad annibynnol—. Clywais yr hyn a ddywedodd yr Aelod, ond mae adolygiad llawn, a bydd yn ystyried yr hyn y mae Llais wedi'i ddweud yn yr adroddiad hwn a'r adroddiad o'r gwaith ymgysylltu â theuluoedd, sydd wedi'i wneud a'i arwain gan deuluoedd, ac rwy'n credu y bydd hynny'n caniatáu i'r ystod o brofiadau a lleisiau cleifion gael eu hystyried yn llawn. Ond bydd argymhellion yn hynny, a byddaf yn disgwyl gweld y rheini yn cael eu gweithredu, fel y byddwn ni i gyd.

O ran y sicrwydd, sydd gennym ni, mae hyn yn sylfaenol i'r broses o uwchgyfeirio, yntydi? Y ddealltwriaeth fanwl honno. Ac rwy'n credu bod yr ymgysylltu, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda'r bwrdd iechyd, wedi ein galluogi i ddeall lle y bu gwelliant a lle mae angen gwella o hyd. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig yma—dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi ei chlywed hi'n dweud hyn yn ei chwestiwn—yw sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod pob rhan o Gymru yn dysgu o'r profiadau rydym ni wedi'u gweld ym Mae Abertawe. Rwy'n credu bod yr adroddiad, fel y dywedais i, yn disgrifio profiadau menywod—. Dydw i ddim yn siŵr y byddwn i'n cytuno'n union â'r ffordd y disgrifiodd hi, os caf i ei fynegi fel yna; rwy'n credu bod profiadau yn yr adroddiad a oedd yn disgrifio gofal cadarnhaol, ond yn amlwg nid dyna fwriad yr adroddiad. Ni fyddai unrhyw un ohonom ni'n dweud hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, wrth i ni geisio cefnogi byrddau iechyd yn eu holl ymdrechion i geisio gwella, ein bod yn cydnabod lle mae cynnydd, yn ogystal â gosod disgwyliadau clir ar gyfer lle mae angen cynnydd pellach.

17:20

Diolch i Llais am ei adroddiad cytbwys iawn, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn mynd dros ben llestri. Mae yna rai pethau positif sy'n cael eu hadrodd gan Llais, o bobl sy'n cael profiadau da, ond serch hynny mae'n annerbyniol nad oedd 40 y cant o'r bobl y gwnaethon nhw siarad â nhw yn teimlo eu bod wedi cael eu cynnwys yn eu gofal, sy'n hollol syfrdanol, o ystyried, o'r holl gleifion sy'n defnyddio'r GIG, y gwahaniaeth yw nad yw pobl sy'n feichiog yn sâl. Efallai fod ganddyn nhw—. Efallai y bydd lleiafrif ohonyn nhw'n sâl am resymau eraill, ond mae'r broses o feichiogrwydd yn un hollol arferol, ac yn sicr mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cynnwys ynddo, oherwydd mai'r fenyw sy'n mynd i wneud y gwaith, nid y bobl eraill sy'n ymwneud ag ef. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn ceisio sicrhau bod y saga hon sy'n amlwg yn ofnadwy yn newid y diwylliant, fel bod cyd-gynhyrchu o'r gwasanaethau y mae pobl eu heisiau.

Mae'n eithaf rhyfeddol bod pobl yn cael eu gofyn i deithio i wahanol rannau o'r ardal. Mewn un achos, bu'n rhaid iddyn nhw fynd i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, bu'n rhaid iddyn nhw fynd i Ysbyty Singleton ac fe aethon nhw i ganolfannau iechyd eraill. Dylai fod tîm wedi'i ddiffinio'n glir sy'n gwasanaethu pob clwstwr meddyg teulu, fel eich bod yn cael y parhad gofal hwnnw, sy'n hanfodol ar gyfer paratoi menywod ar gyfer geni babi, felly pan fyddwch chi'n dod i sgyrsiau anodd am ymyraethau a allai fod yn angenrheidiol neu beidio, eu bod yn ymddiried yn yr hyn y mae'r fydwraig yn ei ddweud wrthyn nhw, oherwydd heb y parhad gofal hwnnw, mae hi wedi canu arnyn nhw. Sut ar y ddaear y gellir gwahodd pobl nad oes ganddyn nhw barhad gofal i ddatgelu'r risg o drais domestig, y gwyddom ei fod yn dyblu pan fydd pobl yn feichiog, a hefyd y posibilrwydd o iselder ôl-enedigol, y gellir ei adnabod mewn llawer o achosion yn y cyfnod cynenedigol? Ni ellir gwneud gwaith y fydwraig heb y parhad gofal hwnnw, felly rwy'n gobeithio y bydd hyn yn nodwedd bwysig o'r newidiadau yr wyf yn gobeithio y byddwn ni'n eu gweld.

Diolch, Jenny Rathbone, am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn dweud bod adroddiad Llais yn nodi mewn nifer o feysydd, y gwelliannau y mae'r bwrdd iechyd wedi'u cyflwyno, gan gyfleu rhai o'r pryderon a ddyfynnir yn yr adroddiad, ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod gwelliant lle bu hynny, er ein bod yn cydnabod bod angen gweithredu pellach a chynnydd pellach yn amlwg.

Dim ond o ran y sylw am barhad gofal, rwy'n credu bod dau neu dri pheth yn y maes yma'n benodol i Fae Abertawe. Un yw, fel y nodais i yn gynharach, y gwelliant yn y cymarebau staffio, sydd wedi galluogi gwasanaeth wedi'i staffio'n well, a fydd yn helpu gyda rhywfaint o'r parhad hwnnw a rhywfaint o'r mynediad hwnnw i'r gweithwyr proffesiynol y bydd menywod sy'n defnyddio'r gwasanaeth eisiau eu gweld, am yr union reswm y nododd Jenny Rathbone. Ond rwy'n credu, hefyd, wrth i ni weld y fframwaith ymgysylltu yn ymwreiddio yn ystod y flwyddyn nesaf—dyna'r fframwaith ymgysylltu amenedigol—rwy'n credu y bydd hynny'n sbarduno'r gwelliannau hynny hefyd. Mae'r ymgysylltiad wyneb yn wyneb yn hanfodol, ond rwy'n credu bod mynediad at gofnodion digidol, felly pan fydd pobl yn defnyddio gwahanol rannau o'r gwasanaeth, mae gallu cael parhad yn hynny yn bwysig hefyd, felly bydd cyflwyno hynny yn ystod y flwyddyn nesaf yn bwysig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r tôn rydych chi'n ei gymryd a'r empathi rydych chi'n ei ddangos yn yr ymatebion. Rwy'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth rili pwerus i bobl ei glywed.

Dydy'r bwrdd iechyd yma ddim yn rhan o fy rhanbarth, ond roeddwn i eisiau siarad achos mae'r straeon yn seinio cymaint. Mae cymaint o'r menywod a'r mamau hyn oedd yn mynd trwy un o'r cyfnodau mwyaf bregus yn eu bywydau nhw wedi profi poen annerbyniol a thrawma, a'r ffaith bod cymaint ohonyn nhw yn mynd trwy boen difrifol ac yn cael cynnig paracetamol yn unig, neu roedden nhw'n teimlo, roedd rhai ohonyn nhw'n dweud, eu bod nhw'n cael eu cosbi achos y poen roedden nhw ynddo fe, ac roedden nhw'n teimlo, fel mae Sioned Williams wedi dweud, eu bod nhw ddim yn cael eu credu am y poen.

Ydych chi'n cytuno ei fod yn destun cywilydd ar ein cymdeithas ni? Mae hynny'n cael ei adlewyrchu mewn cymaint o ffyrdd yn y gwasanaeth iechyd yn rhy aml, ac mae e'n rhywbeth am ein cymdeithas ni hefyd, ein bod ni'n derbyn poen menywod fel rhan anochel o fywyd. Dyw e ddim yn normal i deimlo poen yn y ffordd yma. Dwi wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod y cynllun iechyd menywod yn mynd i'r afael â'r broblem hon i sicrhau bod meddygon yn cael hyfforddiant arbenigol i sicrhau nad ydyn ni'n gallu normaleiddio poen menywod mwyach. Ydych chi'n cytuno â hynny ac ydych chi'n cytuno bod yr esiamplau hyn yn dangos pam mae hynny mor angenrheidiol o hyd?

17:25

Ie, byddwn i'n dweud, yr wythnos hon, rwy'n teimlo bod amryw bethau wedi ein hatgoffa ni o bwysigrwydd iechyd menywod a chymryd lleisiau menywod o ddifrif yn y gwasanaeth iechyd, am resymau amlwg yng nghyd-destun yr wythnos hon, ac mae'r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau o hynny hefyd, wrth gwrs, felly byddwn i'n cytuno â'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud.

Beth fyddwn i hefyd yn ei ddweud, ac mae hyn wedi dod yn glir i fi yn y trafodaethau rwy wedi eu cael gyda chadeirydd newydd y bwrdd, yw fy mod yn credu bod dealltwriaeth glir o hynny yn sut mae'r bwrdd yn mynd i'r afael ag ymateb i'r her hon o ran profiadau menywod, o ran y gwaith maen nhw wedi'i wneud gyda Llais, ond hefyd yr adolygiad fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.

7. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diweddariad ar y Rhaglen Dileu TB Buchol

Eitem 7 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: diweddariad ar y rhaglen dileu TB buchol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ychydig dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i ni lansio ein cynllun cyflawni newydd ar gyfer y rhaglen dileu TB. Rwy'n croesawu’r cyfle yma i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am hynt y gwaith.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Fe hoffwn i ddechrau'r datganiad, os caf i, drwy fyfyrio ar effeithiau dynol TB mewn gwartheg. Rwy'n ymwybodol iawn o'r trallod a'r pryder sy'n bodoli yn y cyfnod cyn prawf TB ac, yn wir, os ceir haint TB. Rydw i wedi bod yno yn uniongyrchol ac wedi gweld gyda theuluoedd yr effaith wirioneddol y mae hyn yn ei gael ar ffermwyr a'u teuluoedd a'u busnesau.

Ond fe hoffwn i ddweud hefyd bod y darlun TB presennol yng Nghymru yn amrywiol. Dros y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2024, mae'r ystadegau TB diweddaraf yn dangos gostyngiadau tymor byr a hirdymor mewn nifer yr achosion mewn buchesi newydd. Ond, i'r gwrthwyneb, gwelsom gynnydd yn nifer y gwartheg yr effeithiwyd arnyn nhw gan TB a laddwyd y llynedd. Rwy'n deall y gall hyn ymddangos yn frawychus, ond mae llawer o'r cynnydd yn 2024 oherwydd defnydd penodol o'r prawf gwaed interferon gamma sensitif iawn. Mae'n bwysig deall y gall defnyddio'r prawf gama hwn ochr yn ochr â phrawf croen safonol wella adnabod haint TB mewn buchesi. Dylai hyn arwain at ostyngiad mewn cyfraddau heintio yn y pen draw, gan leihau'r risg o ledaeniad y clefyd a heintiau cyson yn y tymor hwy. Fodd bynnag, mae mwy o brofion gama, ynghyd â chyfradd positifrwydd uwch mewn gwartheg, wedi cynyddu nifer yr anifeiliaid a laddwyd er mwyn rheoli TB mewn gwartheg yn ystod 2024.

Ond mae yna deuluoedd, mae bywydau a bywoliaethau y tu ôl i bob un o'r anifeiliaid hyn sy'n cael eu lladd. Gall lladd gwartheg adweithiol gyda TB ar y fferm, er ei fod weithiau'n anochel, fod yn arbennig o erchyll i'w weld. A dyna pam, mae'n rhaid i mi ddweud, mai adolygu'r polisi lladd ar y fferm oedd blaenoriaeth gyntaf y grŵp cyngor technegol. Yn dilyn cyngor gan y grŵp cyngor, rhoddwyd trefniadau dros dro ar waith yn gyflym yn haf 2024 i ganiatáu i ffermwyr ohirio symud gwartheg beichiog trwm cyn trefniadau parhaol a chyngor a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd. Mae adborth ar y newid polisi wedi bod yn gadarnhaol, gyda nifer o ffermwyr yn dewis nawr gohirio lladd gwartheg perthnasol.

Ers cyflwyno'r polisi newydd hwn flwyddyn yn ôl, mae lladd ar y fferm wedi'i osgoi ac mae symud wedi cael ei ohirio ar gyfer tua chwarter yr anifeiliaid, 242 o anifeiliaid, a fyddai wedi cael eu lladd ar y fferm yn flaenorol. A bydd fy swyddogion, a bwrdd y rhaglen, yn wir, yn parhau i weithio gyda chynrychiolwyr y diwydiant i gyd-ddylunio ac i ddarparu ymwybyddiaeth ledled y diwydiant i leihau ymhellach nifer y gwartheg sy'n gorfod cael eu lladd ar y fferm. Byddwn yn adolygu'r ffordd yr eir ati pan fydd angen lladd ar y fferm, ac i fonitro ac i gyfathrebu cyflawni ac effeithiolrwydd y trefniadau newydd hyn.

TB mewn gwartheg yw un o'r heriau niferus y mae'r diwydiant amaethyddol yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac mae gwaith yr elusennau ffermio sy'n bodoli yn bwysicach nawr nag erioed. Mae'n hanfodol bod unigolion yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, byddwn yn annog unrhyw un sy'n cael trafferth, sy'n gwrando ar hyn, i gysylltu ag un o'r sefydliadau sy'n darparu cymorth mewn amseroedd anodd. Mae eu staff hyfforddedig a gwybodus iawn wrth law i ddod o hyd i ffyrdd i'ch cefnogi a'ch helpu drwy'r cyfnod.

Gan ddeall pwysigrwydd cymorth iechyd meddwl i'r diwydiant ffermio yng Nghymru, rwy'n falch iawn o groesawu cynrychiolydd o'r Rhwydwaith Cymunedol Ffermio ar fwrdd y rhaglen dileu TB. Bydd cael y cysylltiad hwn rhwng bwrdd y rhaglen a'r sector cymorth iechyd meddwl yn amhrisiadwy wrth lunio sut y byddwn ni'n mynd ati yn y dyfodol.

Yn ymuno â bwrdd y rhaglen hefyd mae cynrychiolydd clybiau ffermwyr ifanc Cymru, sy'n cydnabod perthnasedd TB mewn gwartheg i bobl ifanc sy'n ymuno â'r sector ffermio, ac ar gyfer cynaliadwyedd ac olyniaeth i'r genhedlaeth nesaf wrth i ni weithio tuag at ddileu TB yn 2041.

Gyda sefydlu'r bwrdd rhaglen a'r grŵp cyngor technegol bellach wedi'i gwblhau, rydym ni wedi cyflawni'r ymrwymiadau llywodraethu a nodwyd gennym ni yn y cynllun cyflawni rhaglen pum mlynedd presennol i ddileu TB. Mae'r dull partneriaeth hwn wedi'i ymgysylltu'n llawn ac mae wedi dangos ei werth yn ddiweddar wrth weithio trwy opsiynau, tystiolaeth a chyngor mewn perthynas â pholisïau ynghylch gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant i'r prawf TB. Mae hyn, unwaith eto, yn dilyn ceisiadau gan y diwydiant i ystyried y polisïau hyn, oherwydd y risg y mae gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant i'r prawf TB yn ei achosi. Ystyriodd y grŵp cyngor technegol y dystiolaeth sydd ar gael a chlywed sylwadau gan randdeiliaid. Rhoddodd y grŵp eu cyngor i fwrdd y rhaglen yn eu cyfarfod agoriadol ar 3 Rhagfyr, sydd ers hynny wedi darparu eu hargymhellion i mi.

Yn unol â chyngor bwrdd y rhaglen a'r grŵp cyngor technegol, rwy'n cyhoeddi heddiw newidiadau ynglŷn â'r hyn a elwir yn 'adweithyddion safonol pendant'. Anifeiliaid yw'r rhain lle ceir canlyniad amhendant i'r prawf croen yn y dehongliad safonol, ond sydd wedyn yn profi'n glir. Mae tystiolaeth yn dangos bod y gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant safonol pendant hyn yn risg uwch nag anifeiliaid nad ydynt erioed wedi profi'n amhendant, oherwydd bod cyfran fwy ohonynt yn dod yn adweithyddion TB rywbryd yn ddiweddarach. Felly, mae risg y gallai gwartheg sydd â haint heb ei ganfod gael eu symud a gallent ledaenu TB i fuchesi eraill. Felly, o dan y trefniadau newydd, byddant yn cael eu cyfyngu i'w buches gyda dim ond symudiadau trwyddedig a ganiateir i'w lladd, neu i uned orffen gymeradwy. Rwy'n rhagweld y bydd y newid polisi hwn yn dod i rym o'r hydref hwn.

Fe hoffwn i ddiolch eto i aelodau o fwrdd y rhaglen a'r grŵp cyngor technegol am eu gwaith caled a'u hymroddiad hyd yn hyn. Rwy'n hyderus iawn bod gennym ni'r sgiliau, y profiad a'r arbenigedd cywir ymhlith y ddau grŵp i ddarparu'r cyngor gorau posibl i'r Llywodraeth ar TB mewn gwartheg.

Gyda'r trefniadau llywodraethu hynny bellach wedi'u cwblhau, Llywydd, rwy'n ymrwymedig i brysuro iddi i'n helpu i gyrraedd ein targed o Gymru ddi-TB erbyn 2041. Mae prosiect sir Benfro yn dangos sut mae agwedd arall ar ein dull partneriaeth yn gweithio'n dda iawn, ac mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol y berthynas rhwng y ffermwr a'r milfeddyg preifat. Rydym ni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y cysylltiadau â milfeddyg achosion yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion hefyd. Rydym ni'n helpu i rymuso milfeddygon a ffermwyr sy'n ymwneud â phrosiect sir Benfro drwy ddarparu data ac addysg i reoli TB ar eu ffermydd. Rydym ni'n dal i ddysgu, ond rwy'n awyddus i archwilio ffyrdd y gallwn ni hyrwyddo a chefnogi'r lefel hon o gydweithio ymhellach ac mewn meysydd eraill.

Gan fabwysiadu egwyddorion ac arferion da a ddysgwyd o'r fenter hon, mae prosiect newydd yn dechrau yn ardaloedd hynny o'r gogledd lle ceir llai o achosion o TB. Ei nod yw helpu i gadw'r clefyd draw. Mae milfeddygon rhagweithiol, profwyr twbercwlin cymeradwy a ffermwyr yn cael eu nodi ar hyn o bryd i gymryd rhan.

Mae'r cynllun cyflawni pum mlynedd wedi ein hymrwymo i adolygu trefniadau iawndal TB, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Mae'r gwaith cychwynnol yn canolbwyntio ar ystyried systemau mewn gwledydd eraill a datblygu opsiynau cychwynnol. Bydd y broses adolygu fewnol hon yn cael ei chwblhau cyn diwedd tymor y Senedd hwn cyn symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus. 

I gloi, Llywydd, mae llawer o waith i'w wneud o hyd, ond rwy'n parhau i gredu y gallwn gyflawni camau sylweddol trwy gydweithio. Gan fod rhanddeiliaid wrth wraidd ein holl waith, mae gennym bellach raglen gryfach a mwy gwydn ar gyfer dileu TB. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno mwy o ddiweddariadau wrth i'r rhaglen barhau. Diolch yn fawr.

17:35

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae TB mewn gwartheg yn parhau i gael effaith enfawr ar ffermydd ledled Cymru, ac rwy'n gwybod o brofiad personol gan fod fferm deuluol fy ngwraig yn parhau i gael ei heffeithio gan y clefyd hwn. Maen nhw, ynghyd â llawer o ffermwyr eraill, yn teimlo, er gwaethaf geiriau cysurus Llywodraeth Cymru, nad yw pethau'n gwella. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae ffermwyr ledled Cymru yn codi mater TB mewn gwartheg ac maen nhw'n annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r clefyd hwn yn holistaidd oherwydd bod y clefyd hwn yn cael effaith enfawr ar eu bywoliaethau a'u lles.

Mae'r ystadegau diweddaraf a gofnodwyd yn dangos bod dros 13,000 o wartheg wedi'u lladd yng Nghymru y llynedd oherwydd TB mewn gwartheg. Dyna'r cyfanswm blynyddol uchaf a gofnodwyd erioed. Mae'r datganiad heddiw yn dweud yn gywir bod teuluoedd, bywydau a bywoliaethau y tu ôl i bob un o'r anifeiliaid hynny sy'n cael eu lladd. I lawer o ffermwyr, mae'r nifer fawr o wartheg sy'n cael eu lladd yn dangos nad yw strategaeth ddileu Llywodraeth Cymru yn gweithio ac felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: a ydych chi wir yn credu y gellir ystyried cynnydd o 27 y cant yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd yn dystiolaeth o gynnydd? Beth yw eich neges i ffermwyr Cymru sy'n credu bod yr ystadegau hyn ond yn profi nad yw'r strategaeth bresennol yn gweithio?

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n falch eich bod wedi cydnabod gwaith pwysig elusennau ffermio yn eich datganiad. Byddwch hefyd yn ymwybodol o adroddiad Rhwydwaith y Gymuned Ffermio ar ddechrau'r flwyddyn a gadarnhaodd effaith ddifrifol TB mewn gwartheg ar iechyd o ran costau ariannol ac o ran iechyd a lles meddwl a chorfforol. Rwy'n falch o weld y bydd cynrychiolydd o Rwydwaith y Gymuned Ffermio a chynrychiolydd o glybiau ffermwyr ifanc Cymru nawr ar fwrdd y rhaglen dileu TB. Fodd bynnag, efallai y gallech chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am sut mae Llywodraeth Cymru yn estyn allan at ffermwyr sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl o ganlyniad i TB mewn gwartheg.

Nid yw TB mewn gwartheg yn effeithio ar ffermwyr yn emosiynol yn unig; mae'r clefyd hwn yn effeithio ar broffidioldeb ffermydd ac wedi arwain at rai ffermwyr yn gadael y diwydiant yn gyfan gwbl. Gadewir ffermwyr yn disgwyl yn hir am iawndal a gyda cholledion o £74 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf. Yn wir, fe wyddom ni fod Llywodraeth Cymru wedi gorwario ar iawndal TB bob blwyddyn ers 2015, gyda'r cyfrifon diweddaraf yn rhagweld gorwariant o £1 miliwn ar gyfer 2023-24. Mae hyn yn amlwg yn anghynaladwy yn y tymor hir, ac felly efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn y dyfodol.

Rwy'n croesawu'r diwygiadau diweddar i'r polisi lladd ar y fferm a grybwyllir yn y datganiad. Mae'n fater yr ydym ni ar yr ochr hon o'r Siambr wedi brwydro i'w newid ers amser maith. Roedd y dull blaenorol nid yn unig yn drawmatig i ffermwyr, ond doedd dim modd ei gyfiawnhau. Mae wedi cymryd llawer rhy hir i'r Llywodraeth weithredu ar y mater hwn ac mae'n hanfodol bod mecanweithiau bellach ar waith i sicrhau bod penderfyniadau iechyd anifeiliaid yn seiliedig nid yn unig ar gyngor clinigol ond hefyd ar dosturi ac ymarferoldeb hefyd.

Mae'r datganiad heddiw hefyd yn ei gwneud hi'n glir bod newidiadau ynglŷn â gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant safonol pendant. Mae hyn yn ffordd o dynnu'r anifeiliaid risg uchaf allan o'r farchnad, ond bydd angen cyfathrebu gofalus i sicrhau bod dealltwriaeth o'r rheolau a'r rhesymeg newydd, o ystyried y bydd cyfyngiad pellach ar ffermwyr. Felly, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n cyfathrebu'r newid hwn i ffermwyr ac, yn wir, i'r diwydiant.

Mae'r datganiad hefyd yn cyfeirio'n fyr at brosiect sir Benfro a sut mae'n grymuso milfeddygon a ffermwyr trwy ddarparu data ac addysg. Rwy'n gwybod eich bod chi'n dweud eich bod chi'n dal i ddysgu, ond efallai y gallwch chi roi asesiad i ni o effeithiolrwydd y prosiectau hyn a sut maen nhw'n llywio'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y prosiect newydd y cyfeirioch chi ato yn y gogledd.

Mae cyfathrebu â'r sector yn ehangach yn allweddol ac mae undebau ffermio fel NFU Cymru yn iawn i ddweud bod ffermwyr yn gorfod cydymffurfio â mwy a mwy o reolau a rheoliadau tra bod ansicrwydd ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy a diffyg hyder cyffredinol yn y sector. Mae NFU Cymru wedi galw am sefydlu grŵp adolygu annibynnol i ystyried baich cronnol rheoliadau a pholisïau ar fusnesau fferm yng Nghymru a byddwn yn ddiolchgar am eich barn ar y cynnig penodol hwn.

Ysgrifennydd Cabinet, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn credu bod yn rhaid ystyried pob offer sydd wedi'i brofi yn wyddonol os ydym ni o ddifrif am drechu'r clefyd hwn, gan gynnwys rheoli bywyd gwyllt. Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd i'n cenedl. Nhw yw ceidwaid ein tir, ac rwy'n credu eu bod yn haeddu gwell. Mae llywodraethau olynol wedi methu â mynd i'r afael â TB mewn gwartheg oherwydd amharodrwydd i ddelio â TB mewn bywyd gwyllt, a hyd nes y bydd hynny'n newid, byddwn yn parhau i gael yr un sgyrsiau flwyddyn ar ôl blwyddyn tra bod mwy o ffermwyr yn gadael y diwydiant. Ysgrifennydd Cabinet, mae angen inni weld gweithredu gennych chi a'ch Llywodraeth cyn ei bod hi'n rhy hwyr, o ystyried bod y mater hwn yn dal i gael effaith enfawr ar ddiwydiant ffermio Cymru. Diolch, Llywydd.

17:40

Diolch, Paul. Diolch. Llywydd, i ateb yr holl gwestiynau, efallai y byddaf yma am hanner awr, ond byddaf yn ceisio ateb cymaint ag y gallaf. Ac rwy'n fwy na hapus i drafod hyn ymhellach yn fanwl gyda chi hefyd, Paul. Ond rwy'n credu eich bod wedi codi tua chwech, saith neu wyth pwynt. Byddaf yn ceisio delio â nhw gymaint ag y gallaf.

Yn gyntaf oll, ar fater y data, rydych chi'n iawn, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, bod cynnydd wedi bod yn nifer y gwartheg sy'n cael eu difa—mae hynny'n ddiymwad. Ond, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n gwrando arnaf wrth i mi ei ddweud, mae hynny'n fesur o gyflwyno'r prawf interferon gamma newydd. Mae hynny'n brawf sensitifrwydd uwch, sy'n golygu y gallwn ni achub y blaen ar y clefyd, yn enwedig yn y buchesi hynny lle mae'r haint yn gyndyn o ymadael, lle mae achosion o fewn y buchesi hynny. Felly, ymhell o fod yn arwydd o fethiant, mae hynny'n arwydd o weithgarwch wrth geisio achub y blaen ar y clefyd mewn buchesi, ond bydd yn golygu bod gennym ni fwy yn cael eu difa. Y dewis arall yw nad ydym yn defnyddio profion mor sensitif ac yn caniatáu i'r haint bara yno yn y buchesi hynny ac yna i wartheg gael eu heintio gyda TB dro ar ôl tro ac eto yn y buchesi hynny.

Mae'n anodd cymharu. Nid yw'n fater o gymharu tebyg a thebyg chwaith. Caiff y data o Loegr a Chymru eu casglu mewn ffyrdd ychydig yn wahanol. Ond gadewch imi ddweud, o ran y tueddiadau rydym ni'n eu gweld, y tu hwnt i'r cynnydd mewn difa, yr wyf wedi'i esbonio, mae achosion newydd—ac mae hyn yn bwynt pwysig—wedi gostwng o 1,185 yn 2009 i 596 yn y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2024. Mae hynny'n ostyngiad o 49.8 y cant mewn achosion newydd. Rydym ni'n ceisio atal hyn a'i waredu. Ar sail 10 mlynedd, yn y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2024, gostyngodd achosion newydd 30.5 y cant. Ar duedd pum mlynedd, bu gostyngiad o 10.6 y cant. A gallwn fynd ymlaen. Felly, yr hyn rydw i'n ei ddweud wrthych chi, er ein bod ni'n dilyn dulliau gwahanol, neu y buom ni, ar ddwy ochr wahanol y ffin, yr hyn rydym ni'n ei weld yw bod y polisïau rydym ni'n eu rhoi ar waith, gweithio gyda ffermwyr, delio â bioddiogelwch, diogelwch o amgylch symudiadau ar y fferm, yr holl agweddau hynny, yn dwyn ffrwyth. Mae'n waith caled iawn. Ac mae rhai o'r pethau gorau rydym ni'n eu gweld, mewn gwirionedd, yn sir Benfro hefyd, gyda phrosiect sir Benfro, a rhoi ffermwyr wrth wraidd y ffordd ymlaen.

Fe wnaethoch chi sôn am iechyd meddwl yno, ac fe wnes i agor gyda hynny yn fy sylwadau, oherwydd ei fod mor bwysig. Mae'n dal i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl a lles, a'r gefnogaeth. Dyna pam rydw i bob amser yn siarad am hyn, ac, ym mhob sioe amaethyddol, mae gennym ni stondinau a byrddau gydag elusennau lleol yn rheolaidd, ond hefyd gyda rhwydwaith Cyswllt Ffermio, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ac mae yna blatfform ar-lein bellach hefyd, oherwydd bydd rhai ffermwyr yn dewis peidio â mynd yn bersonol, ond byddant eisiau edrych arno drwy ddefnyddio eu ffôn, eu dyfais symudol neu yn nhawelwch y nos. Felly, rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau sy'n cael eu harwain gan y diwydiant a'r trydydd sector, Rhwydwaith y Gymuned Ffermio, Tir Dewi, Sefydliad DPJ, y Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol, yn ogystal â chanolfan wybodaeth FarmWell Cymru sy'n cael ei redeg gan Rwydwaith y Gymuned Ffermio. Rydym ni wedi buddsoddi £45,000 i ddatblygu FarmWell Cymru, ac mae hon yn ganolfan sy'n rhoi sylw i wydnwch personol yn ogystal â gwydnwch busnes i ffermwyr a'u teuluoedd. Mae wedi cael 9,000 o ddefnyddwyr ers i ni ei lansio ym mis Mawrth 2020—mae'n profi'n ddefnyddiol.

Fe wnaethoch chi sôn am fater iawndal, y cyfeiriais i ato yn fy sylwadau agoriadol. Rydych chi'n iawn. Rydym ni'n gorwario yn barhaus o ran iawndal yn erbyn ein cyllideb TB. Y gorwariant yn 2023-24 oedd £2.8 miliwn. Rydym yn rhagweld gorwariant o tua £5 miliwn i £5.6 miliwn yn 2024-25, yn ddibynnol ar addasiadau diwedd y flwyddyn. Dyna lawer o arian rydym ni'n gorwario arno. Dyna pam y cyfeiriais i at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym ni yn ôl yn 2021-22, a ddenodd lawer o ddiddordeb gan ohebwyr. Roedd y safbwyntiau yn amrywiol iawn o ran y ffordd ymlaen, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod llai o gefnogaeth, pe baem yn gwneud unrhyw newidiadau, i'r cynnig o brisiad tabl syml, yr oedd llawer yn teimlo y byddai'n anfanteisiol, yn enwedig i'r da byw o'r ansawdd uchaf, y buchesi pedigri ac yn y blaen. Denodd y cynnig ar gyfer ardoll dan arweiniad diwydiant, dan arweiniad annibynnol y rhan fwyaf o'r gefnogaeth yno, ond roedd amrywiadau ynddo. Ond nid ydym ni, Paul, ar y pwynt lle gallwn ni gyhoeddi'r drefn taliadau TB diwygiedig. Mae mwy o waith, gwaith sylweddol, sydd ei angen. Ond fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni'n dechrau ar hynny nawr, ond yna bydd angen i ni symud i ymgynghoriad cyhoeddus, na fyddwn yn barod amdano tan ar ôl etholiad Mai 2026.

Roedd yna lawer o sylwadau eraill y gwnaethoch chi yn eich pwyntiau, ond a allaf fynd i'r afael â'r agwedd baich cronnus, y daethoch ati yn y diwedd? Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei drafod yn rheolaidd o fewn bwrdd crwn gweinidogol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac rwyf hefyd yn trafod yn uniongyrchol gyda chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru hefyd. Rwy'n rhannu'r uchelgais gyda nhw yn nyluniad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond hefyd y darn ehangach hefyd—. Mae yna reoleiddio da, gyda llaw. Mae'r rheoliad yno am reswm. Ond pan fyddwch chi'n mynd i weld ffermwyr ac maen nhw'n dod â phentwr o bethau allan o waelod eu cwpwrdd, rhai ohonynt yn bethau wedi eu dyblygu a'u hailadrodd—. Felly, wrth i ni fwrw ymlaen â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae angen i ni ddylunio cynllun sy'n symleiddio rhywfaint o hynny, fel nad oes rhaid i chi wneud yr un ffurflenni dro ar ôl tro ac eto at ddibenion gwahanol. Ond hefyd, yn y baich cronnus, wrth edrych ar hynny, mae'n ddarn sydd gen i ddiddordeb mawr ynddo.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych chi, fodd bynnag, Paul, ac i'r NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru a ffermwyr unigol, yw: allwn ni ddim ceisio gwneud popeth ar unwaith? Os gallwn ni gyrraedd y pwynt lle gallwn fwrw ymlaen â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn cael ei gyflwyno fis Ionawr nesaf, bydd gennym ni gyhoeddiadau arno cyn i ni gyrraedd yr haf, a gweithredu ym mis Ionawr. Mae yna elfen y mae angen i ni ei ddatrys hefyd, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, sef y baich cronnus. Ond rheoleiddio da i ddelio â phethau fel nid yn unig y broses ddyledus o ddyrannu arian cyhoeddus i ffermwyr i wneud ystod o nid yn unig bwyd ond nwyddau cyhoeddus, ond hefyd pethau fel ansawdd dŵr, ansawdd y pridd ac ati—. Mae rheswm da dros gael rheoleiddio, ond yr hyn y mae angen i ni edrych arno yw'r baich cronnus hwnnw. Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd, mae'n debyg bod tri neu bedwar cwestiwn arall na allwn roi sylw iddyn nhw.

17:45

Mae yna berygl ein bod ni’n mynd lawr twll cwningen, dwi’n meddwl, yn sôn am ystadegau, oherwydd rŷch chi wedi rhestru rhai ystadegau, ond dŷn nhw ddim yn gyson gyda rhai o’r ystadegau dwi wedi’u gweld. Roeddech chi’n sôn bod herd incidence lawr yn y tymor byr; wel, y ffigur y gwelais i oedd 6.8 y cant yn 2023 a 6.8 y cant 12 mis yn ddiweddarach. Felly, dyw hwnna ddim wedi mynd lawr. Mae herd prevalance wedi mynd lan—er dim ond o gyfran fach iawn, ond mae e wedi cynyddu.

Ac fel rŷn ni wedi clywed, wrth gwrs, rŷn ni’n gwybod am y ffaith ein bod ni wedi difa yng Nghymru'r nifer fwyaf erioed o wartheg yn y cyfnod 12 mis diwethaf y mae gyda ni ffigurau ar ei gyfer e. Nawr, rŷch chi wedi rhoi esboniad am hynny yn eich barn chi, ond y neges dwi'n ei chlywed yw ein bod ni ddim yn ennill y frwydr yn erbyn TB. Dŷn ni ddim yn mynd i nunlle. Rŷn ni’n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd unwaith eto, fel rŷn ni wedi gwneud ers degawd a mwy ar y mater yma. Pa ryfedd, felly, fod pobl yn colli ffydd, colli hyder ac yn tynnu gwallt eu pennau mewn rhwystredigaeth? A hynny, wrth gwrs, yn dangos ei hunan drwy broblemau iechyd meddwl.

Nawr, rŷn ni'n parhau yng Nghymru i dynhau'r rheolau ar wartheg a symud gwartheg. Fel Llywodraeth, rŷch chi’n parhau i gyflwyno cyfyngiadau pellach ar ffermydd, ond rŷch chi'n parhau hefyd i wrthod mynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt. Nawr, mi ddywedoch chi ar Ffermio rhai misoedd yn ôl—ac mi sylwais i, mi gofia i hyn—petai'r grŵp cynghori technegol yn dod nôl gydag argymhelliad i chi fod angen mynd i'r afael o ddifri â TB mewn bywyd gwyllt, byddai hynny'n rhywbeth y byddech chi yn ei ystyried. Os atebwch chi ddim ond un cwestiwn i fi y prynhawn yma, a wnewch chi gadarnhau mai dyna yw eich barn chi o hyd, ac y byddech chi, petai'r cyngor yn dod yn ôl fod angen symud i'r cyfeiriad yna, yn barod i wneud hynny?

Dwi'n croesawu'r ffaith fod y gwaith project yn sir Benfro yn cael ei estyn i ogledd Cymru, ac wrth gwrs mewn cyd-destun ychydig yn wahanol, ond yn bwysig yn yr un ffordd. Efallai y gallwch chi awgrymu a ydych chi'n teimlo bod hwn yn gam nesaf mewn ymdrech yn y pen draw i sicrhau bod y math yna o approach ar gael i bob rhan o Gymru. Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith fod y ffermwyr ifanc yn mynd i gael lle ar y bwrdd, yn ogystal, wrth gwrs, â'r FCN. Efallai y byddwch chi hefyd yn ymwybodol o waith sydd wedi digwydd yn sir Benfro drwy grŵp Agrisgôp, sydd wedi dod â’r rheini sydd o dan gyfyngiadau TB at ei gilydd. Maen nhw wedi rhoi cefnogaeth i'w gilydd wrth drafod, efallai, rai o'r elfennau ymarferol ar y fferm, yn rhannu profiadau, ond hefyd yn rhannu'r baich emosiynol yna, ac mae e wedi cael impact positif o ran iechyd meddwl. A ydy hwnna'n rhywbeth efallai y byddech chi fel Llywodraeth yn gallu edrych i geisio ei ariannu er mwyn annog hynny i ddigwydd mewn ardaloedd eraill, oherwydd yr impact positif mae e'n ei gael yn ymarferol ar y fferm, ond hefyd o safbwynt emosiynol yn ogystal?

Ac yn olaf, rŷch chi'n sôn am y resolved standard inconclusive reactor cattle a sut mae'r profi yna yn dangos ei hun, efallai, yn wahanol mewn rhai sefyllfaoedd. Beth mae hynny'n ei wneud i fi yw amlygu'r ffaith fod y system brofi sydd gyda ni ddim mor effeithiol ag y byddem ni i gyd eisiau, ac y dylai hi fod. Efallai y gallwch chi sôn wrthym ni am ba waith sydd yn digwydd er mwyn ceisio sicrhau bod gennym ni brosesau profi yng Nghymru sydd actually yn rhoi canlyniadau i ni y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw. Diolch.

17:50

Diolch yn fawr iawn, Llyr. Yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud, gadewch i ni beidio â chyfnewid ystadegau a data o flwyddyn i'r llall. Rwy'n credu mai un o'r pethau y gallwn i ei ddweud, o ran Lloegr ond hefyd o ran Cymru, yw bod dau beth diddorol iawn yn digwydd yma sy'n ei wahanu o'r hyn sy'n digwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol. Ceir tuedd hirdymor—ac mae wedi cael ei gynnal dros gyfnod hir—o nifer yr achosion mewn buchesi yn gostwng; o ran mynychder mewn buchesi, nid ydym ni'n gweld yr un llwyddiant.

Felly, mewn ymateb i chi, a phwyntiau blaenorol Paul hefyd, pam rydym ni'n gweld mwy o ddifa? Oherwydd rydym ni wedi rhoi ar waith nawr—. Y cyngor gorau sydd gennym ni ar gael gan y grŵp cynghori technegol ac eraill yw ein bod ni'n cynnal y profion interferon gamma hynny ar y buchesi hynny lle mae'r clefyd yn debygol o fod yno, ond yn gudd, i nodi'r anifeiliaid hynny, sy'n golygu ein bod ni'n ei ddarganfod, y rhai sy'n debygol o gael eu heffeithio, a cheir mwy o ddifa hefyd. Ond yn y tymor hir, oddi wrth cyfnewid ffigurau o un flwyddyn i'r llall, hoffwn ddweud, oherwydd mae'n bwysig iawn dweud, ein bod ni'n cael llwyddiant gyda'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda ffermwyr ar leihau TB ac achosion newydd mewn buchesi. Y mynychder yw'r cwestiwn y mae angen i ni ei ateb, gan gynnwys rhai o'r ardaloedd problemus, ac yna mewn lleoedd fel gogledd Cymru, ei gadw allan—ei gadw allan. Felly, dyna pam rwy'n frwdfrydig am y prosiectau yr ydym ni'n eu sefydlu  nawr yn y gogledd hefyd.

Ac mae'n debyg fy mod i wedi gwneud croes i'm cefn fy hun o wneud hyn, Llywydd, oherwydd rwy'n amau y bydd gennym ni, yn wir, lawer mwy o rannau o Gymru yn dweud, 'Wel, rydym ni wedi clywed beth sy'n digwydd, rydym ni'n hoffi'r ffaith fod y ffermwr yn ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau—byddem ninnau'n hoffi hynny hefyd.' Ond ceir rhai goblygiadau o ran adnoddau y tu ôl i hyn, ond rydym ni'n awyddus i wneud hyn gan ein bod ni'n meddwl bod hwn yn fodel. A Llyr, byddwch chi'n gwybod, a Paul, byddwch chi'n gwybod, pan fyddwch chi'n siarad â'r ffermwyr hynny sy'n rhan o brosiect sir Benfro, byddan nhw'n dweud lle mae angen i ni fynd ymhellach, ond byddan nhw'n efengylaidd ynglŷn â'r hyn y maen nhw'n ei wneud, o fod yn ganolog i roi'r data iddyn nhw, i roi'r arfau iddyn nhw, gadael iddyn nhw fod y sawl sy'n gwneud y penderfyniadau am eu gwartheg, am eu buchesi. Nhw'n sy'n adnabod y sefyllfa orau, ac fe allan nhw weithio gyda'u milfeddyg eu hunain. A dyna pam rydym ni'n edrych, yn wir, ar arloesi nawr i ogledd Cymru, sy'n ardal wahanol iawn. Mae gan bobl y dybiaeth yn aml mai dim ond un ardal homogenaidd o TB sydd yng Nghymru. Na, nid yw hynny'n wir. Does dim TB yn y mwyafrif llethol o'n hardaloedd. Yna, mae gennym ni ardaloedd eraill â sefyllfaoedd problemus, ac yna mae gennym ni ardaloedd eraill lle mae'n dechrau cynyddu. Mewn ardaloedd eraill, rydym ni'n ei yrru allan. Mae angen i ni drin pob un yn wahanol.

Fe wnaethoch chi gyfeirio yn y fan yna at brosiect gogledd Cymru. Dim ond i ddweud y byddwn ni'n adeiladu ar y gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu ym mhrosiect sir Benfro ac yn eu dysgu ohonyn nhw. Bydd wedi'i deilwra'n benodol tuag at y gogledd. Bydd yn helpu ffermwyr a milfeddygon ac yn rhoi'r hyfforddiant iddyn nhw tuag at lwyddo i gadw TB allan o fuchesi. Mae ar ei gamau cynnar, Llyr. Fodd bynnag, rydym ni'n datblygu'r gwaith yn gyflym i sicrhau llwyddiant y prosiect yn y dyfodol.

Felly, mae'r cam presennol—ac rwy'n mynd i ofyn am eich cymorth chi ac Aelodau eraill o'r gogledd yma mewn eiliad—yn ceisio dod o hyd i bobl i gymryd rhan yn y prosiect. Felly, pe gallwn i annog y rhai yn ardal y gogledd y mae pobl yn cysylltu â nhw am y prosiect i ystyried cymryd rhan a chynnig eu hunain. Rydym ni ar yr un cam â phan wnaethon ni ddechrau prosiect sir Benfro ychydig flynyddoedd yn ôl. Pan wnaethon ni ddechrau hwnnw, gyda llaw, roedd dipyn o amheuaeth amdano. Nid oes nawr. Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny.

Fe wnaethoch chi sôn yn briodol am fater bywyd gwyllt. A gaf i ddweud wrth gyd-Aelodau, bod yn rhaid i ni hefyd ddelio â mater TB mewn bywyd gwyllt, er lles bywyd gwyllt, mae'n rhaid i mi ddweud, yn ogystal â'r haint rhwng rhywogaethau? Rydym ni'n dal i wybod, gyda llaw, mai'r ffactor, neu'r penderfynydd, deg gwaith yma yw TB buchol rhwng gwartheg. Ond os oes gennych chi sefyllfa lle—. A'r ddwy brif rywogaeth yng Nghymru—mae'n wahanol mewn gwahanol wledydd wrth i chi edrych arno; bobl bach, rwyf i wedi treulio blynyddoedd yn edrych ar hyn—mae'n fater o geirw a moch daear, a cheir mater o les yn eu plith.

Nawr, ystyriodd y grŵp cynghori technegol yn eu cyfarfod diweddaraf y rhan sy'n cael ei chwarae gan fywyd gwyllt o ran lledaenu a chynnal TB buchol. Nawr, canolbwyntiodd y cyfarfod cychwynnol ar nodi'r bylchau tystiolaeth hynny— a cheir bylchau tystiolaeth o hyd—ac ardaloedd lle mae angen ymchwil ychwanegol i hysbysu penderfyniadau polisi. Ac a gaf i ddweud, dyma gryfder y grŵp cynghori ar TB, a chanolfan ragoriaeth TB Sêr Cymru yn Aberystwyth? Felly, cyflwynwyd  nifer o bapurau i'r grŵp cynghori technegol, gan gynnwys rhai gan NFU Cymru, a gymerodd ran yn y sesiwn holi ac ateb hefyd. Nawr, er bod swyddogaeth bywyd gwyllt o ran TB buchol yn gymhleth iawn ac ni ellir mynd i'r afael â hi mewn un cyfarfod, rwy'n credu ei fod yn gam cyntaf pwysig sy'n cael ei gymryd gan y grŵp cynghori technegol. Felly, rwyf i wedi gofyn i fwrdd y rhaglen a'r grŵp cynghori technegol ddatblygu eu syniadau ar bapur safbwynt ar ddileu TB, tuag at y dileu hwnnw erbyn 2041, yr ydym ni i gyd yn gweithio tuag ato. Felly, ar hyn o bryd maen nhw'n datblygu papur safbwynt y byddan nhw'n ei gyflwyno rywbryd yng ngwanwyn 2026 neu oddeutu hynny, ond bydd angen iddo lenwi'r bwlch tystiolaeth. Nid yw'r grŵp cynghori technegol wedi cynghori eto ar faint o ran y maen nhw'n meddwl y gallai moch daear fod yn ei chwarae o ran TB buchol yng Nghymru, felly mae'n rhaid iddyn nhw wneud eu gwaith.

Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cadarnhau na fyddwn ni'n cyflwyno trefn difa moch daear yng Nghymru, ac mae astudiaethau, fel y dywedais, wedi dangos bod cyfraddau trosglwyddo rhwng gwartheg yn llawer uwch na moch daear i wartheg. Felly, mae'n gywir bod y pwyslais sydd gennym ni ar ddulliau eraill o reoli TB mewn gwartheg, gan gynnwys—ac rwy'n diolch i ffermwyr am hyn—y mesurau bioddiogelwch gwell, trefn profi gwartheg well, rheolaethau symud ac yn y blaen. A cheir ffyrdd eraill y gall ffermwyr gyfyngu cyflwyniad TB i'w buchesi trwy'r bioddiogelwch da hwnnw, felly mesurau y credaf fod angen i ni eu dweud gyda'n gilydd, fel lleihau'r perygl o brynu gwartheg heintiedig i'w ffermydd, neu ganiatáu cyswllt rhwng gwartheg o ffermydd cyfagos, ynghyd â chyfyngu cyswllt â bywyd gwyllt. Ac rwyf i wedi gweld rhai o'r arferion da hyn ar waith. A gall ffermwyr hefyd ystyried brechu moch daear yn breifat pan fydd y grantiau brechu ar gael.

Y peth arall i'w grybwyll yw'r datblygiadau o ran dilyniannu genom hefyd, sy'n cael ei yrru gan rywfaint o'r gwaith sy'n digwydd yng Nghymru hefyd. Mae hyn yn caniatáu i ni olrhain y llwybrau trosglwyddo rhwng rhywogaethau. Ac mae'r canfyddiadau, mae'n rhaid i mi ddweud, yn awgrymu bod trosglwyddiadau o fewn rhywogaethau yn fwy cyffredin na rhwng rhywogaethau. Nawr, mae mwy y gallaf ei ychwanegu at hyn, ond rwy'n credu bod y gwaith y maen nhw wedi ei gychwyn o ran edrych ar y dull mwy cyfannol hwnnw yn ddarn da o waith, a byddwn yn gweld beth maen nhw'n ei ddarganfod. Ond mae'n cael ei yrru gan dystiolaeth, yn hytrach na dechrau o le'r ydych chi eisiau iddo fynd, a gweithio gyda'r dystiolaeth hefyd.

Fe wnaethoch chi hefyd sôn am ladd ar ffermydd. Na, na—. Fe wnaethoch chi sôm am ladd ar y fferm, ac rwy'n credu eich bod chi wedi croesawu ein dull yn hynny o beth. Ac ar adweithyddion amhendant—yr adweithyddion amhendant safonol datrysedig—dim ond i ddweud, mae'r dull partneriaeth sydd gennym ni yn gwbl weithredol. Mae wedi dangos ei werth yn ddiweddar wrth ddatblygu'r polisi hwn. Felly, mae sawl astudiaeth wedi dangos bod yr adweithyddion amhendant safonol datrysedig yn fwy tebygol o brofi'n bositif wedyn nag anifeiliaid nad ydynt yn adweithyddion amhendant safonol datrysedig. Mewn astudiaeth a ystyriodd dynged adweithyddion amhendant safonol a difrifol, canfu fod tua un rhan o dair o adweithyddion amhendant safonol datrysedig wedi troi naill ai'n adweithyddion neu achosion lladd-dy wedi'u cadarnhau o fewn cyfnod o bum mlynedd. Felly, rydym ni'n gwybod i le mae'r dystiolaeth wedi mynd â ni yn hynny o beth. O dan y polisi presennol, ceir perygl y gallai adweithyddion amhendant safonol datrysedig â haint heb ei ganfod gael eu symud a lledaenu'r TB hwnnw o amgylch buchesi eraill hefyd. Felly, dyna pam rydym ni wedi newid ein safbwynt ar hynny.

Ac i gloi, rydym ni'n croesawu pawb sy'n ceisio delio ag agweddau iechyd meddwl a llesiant meddyliol hyn. Nid ydym ni'n rhoi arian ym mhob sefydliad, ond rydym ni'n ei roi i rai, a'r rhwydwaith Cyswllt Ffermio a'r ganolfan sydd gennym ni hefyd. Ond rydym ni hefyd yn gefnogol iawn i'r elusennau eraill sy'n gwneud hyn, ac, yn wir, maen nhw hefyd wedi'u cynrychioli ar grŵp cynghori'r gweinidog ar y cynllun ffermio cynaliadwy hefyd, yn ogystal ag ar fwrdd y rhaglen ar gyfer TB.

17:55

Rydym yn wynebu her barhaus gyda TB mewn gwartheg ym Mhrydain. Mae TB mewn gwartheg yn ofnadwy i ffermwyr, gwartheg a bywyd gwyllt. Mae Cymru wedi cymryd agwedd wahanol at Loegr, llwybr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n gwneud yn well oherwydd hynny. Er bod Lloegr wedi mynd ar drywydd difa moch daear dadleuol, mae Cymru yn canolbwyntio ar brif sbardun achosion o TB mewn gwartheg: trosglwyddo o wartheg i wartheg.

Mae'n rhaid i mi ei gwneud hi'n glir bod yr ystadegau cymharu a ddarperir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar ystadegau TB mewn gwartheg rhwng gwledydd yn gwbl annigonol, gan nad yw'n dangos gofynion tebyg. Mae Lloegr yn dibynnu ar brawf sy'n caniatáu i 25 y cant o TB buchol mewn buchesi aros heb ei ganfod. Mae Cymru'n defnyddio profion a chyfundrefnau profi llawer gwell. I fynd gyda'r ystadegau, mae dolen fach i ochr un o'r rhestrau, sydd wedyn yn darparu tabl 15 tudalen o wahaniaethau rhwng y gwledydd a pholisi datganoledig. Dylai fod ymwadiad llawer cliriach yn cadarnhau nad yw'r ystadegau yn uniongyrchol gymaradwy. Mae'r data hwn yn rhoi golwg wedi ei ystumio i'n ffermwyr a'n haelodau yma o effaith Cymru ar gyfraddau TB mewn gwartheg. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n cytuno y gall y canlyniadau fod yn gamarweiniol i'r cyhoedd heb nodyn esboniadol clir?

18:00

Diolch, Carolyn, am hynny. Fe wnaethoch chi ei esbonio yn llawer mwy huawdl nag y gallaf i. Dywedais i yn gynharach ei fod weithiau fel cymharu afalau a gellyg oherwydd y ffordd wahanol rydym ni'n casglu ac yn monitro'r data, ac mae'n werth i mi ehangu'n fyr ar hynny, ond rwy'n credu bod yna ffordd ymlaen. Bydd yn cymryd ychydig mwy o waith. Mae'r ystadegau TB ar wefan Llywodraeth y DU yn cael eu cyhoeddi gan DEFRA, wrth gwrs, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Mae rhai polisïau yng Nghymru a Lloegr yn wahanol. Felly, er enghraifft—dim ond un enghraifft—yng Nghymru, rydym yn rhoi statws heb TB yn swyddogol i bob achos—i bob achos—o adfer o haint TB yn ddiofyn. Ac mae hyn, pan gaiff ei gyflwyno yn yr ystadegau TB yng Nghymru, yn cynyddu nifer y dadansoddiadau OTFW yng Nghymru. Mae'n wahanol i draw fan yna. Dim ond un enghraifft yw honno. Mae'n anodd iawn, felly, gwneud y gymhariaeth uniongyrchol hon rhwng lefelau TB mewn gwartheg yng Nghymru a Lloegr ar sail tebyg wrth debyg oherwydd mae'n rhaid i ni nodi'r gwahaniaeth mewn polisi a dadansoddiad a chyflawni ar lawr gwlad. Ond, dim ond i ddweud, rwy'n credu bod hwn yn un maes lle gallai'r bwrdd rhaglen a'r grŵp cynghori TB droi eu sylw ar sut y byddent yn cael cymariaethau gwell, oherwydd rwy'n credu, ym meddyliau'r cyhoedd, ac rydych chi'n iawn wrth ddweud yn aml i ffermwyr hefyd, gall fod yn eithaf camarweiniol. Wrth i Llyr a minnau gyfnewid ystadegau yn ôl ac ymlaen ac yna rydyn ni'n edrych ar eraill, rydyn ni weithiau'n cymharu tebyg ac annhebyg neu wahanol fathau o un peth o leiaf. Mae angen i ni gael mwy o eglurder iddo. Un o'r manteision, efallai, o'r gwaith y gallwn ni ei wneud hefyd gyda Llywodraeth y DU yw archwilio hyn a gweld a allwn ni gael dull mwy safonol.

8. Cyfnod 4 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Eitem 8 sydd nesaf, Cyfnod 4 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yw'r eitem yma. Cyn i ni fwrw ymlaen â'r trafodion yma, dwi'n credu ei fod e'n bwysig i ni jest nodi a chydnabod bod trafodion Cyfnod 3 yr wythnos diwethaf wedi cael eu cynnal yn y Gymraeg yn unig, ac mae hwnna siŵr o fod—neu bownd o fod—y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn y Senedd yma, ac yn wir unrhyw Senedd yn y byd, i drafod Cyfnod 3 yn y Gymraeg yn unig. Felly, diolch i bawb a gyfrannodd ar hynny. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg nawr i wneud y cynnig, a gobeithio yn y Gymraeg eto.

Cynnig NDM8900 Mark Drakeford

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, a phrynhawn da. Rwy'n symud y cynnig ac yn galw heddiw ar i'r Senedd basio Bil hanesyddol, sef Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), Bil a fydd yn rhoi cyfleoedd newydd i bob plentyn ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddyn nhw orffen addysg orfodol, Bil a fydd yn agor drysau i'n disgyblion, Bil i gynnig cyfleoedd swyddi newydd, yn rhoi mynediad i ddiwylliant cyfoethog y Gymraeg, ac yn eu galluogi i fwynhau defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd.  

Nawr, Llywydd, dwi'n siŵr bod pob un ohonom ni yma yn y Senedd bresennol eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu. Mae strategaeth 'Cymraeg 2050' a'r targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, ac mae'r Bil yma wedi cael ei drafod yn yr un ysbryd. 

Llywydd, rydw i wedi dweud sawl gwaith yn y Senedd nad ydw i erioed wedi gweld Bil sydd heb ei wella a'i gryfhau o ganlyniad i'r broses graffu. Mae'r Bil yma yn brawf o hynny. Mae gwelliannau'r Llywodraeth wedi ymateb i adroddiadau pwyllgorau'r Senedd a'r dystiolaeth a gafodd ei chlywed yng Nghyfnod 1, ac rydw i wedi bod yn falch o gael y cyfle i gydweithio â Cefin Campbell o Blaid Cymru a Sam Kurtz a Tom Giffard o'r Ceidwadwyr Cymreig wrth drafod gwelliannau pellach.

Mae'n rhaid inni hefyd, heddiw, ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o baratoi'r Bil. Hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid sydd wedi cynnig barn ar y Papur Gwyn ac sydd wedi cyfrannu at dystiolaeth Cyfnod 1; i aelodau'r pwyllgorau craffu yn y Senedd; i'r tîm bach o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu'r Bil o'r cychwyn cyntaf dros y blynyddoedd diwethaf; ac i staff y Senedd sydd wedi cefnogi'r broses ac wedi hwyluso'r gwaith craffu, yn arbennig felly gan mai Cymraeg oedd iaith drafftio'r Bil drwyddi draw. Mae yna gymaint o wahanol lefelau i'r gwaith o lunio unrhyw Fil, ac felly mae'r ffaith mai Cymraeg oedd iaith gweinyddu'r Bil—o ddrafftio'r Papur Gwyn ddwy flynedd yn ôl, hyd at ddrafftio'r geiriau sydd ar wyneb y Bil sydd o'n blaen ni heddiw—yn rhywbeth pwysig, ac rydw i'n falch iawn ohono. 

Rydw i'n gobeithio yn fawr y bydd y Senedd yn pasio'r Bil heddiw. Bydd y ffocws wedyn yn symud yn syth i weithredu'r Bil a phennod newydd yn hanes addysg Gymraeg. Ac mae'r gwaith yma yn dechrau ar sylfeini cadarn. Bydd nifer o ysgolion yn dechrau ar y daith mewn llefydd gwahanol. Mae'r Bil yn golygu y gallwn ni ffocysu'r gefnogaeth i ysgolion yn ôl yr angen, fel bod pawb yn cael yr help sydd ei angen. Mae enghreifftiau o arfer dda i'w gweld ledled Cymru, ac mae yna wersi y gallwn ni i gyd eu dysgu gan ein gilydd. Ac yna, wrth gwrs, mae heriau yr ydyn ni angen delio â nhw, gan gynnwys sicrhau bod gennyn ni'r gweithlu sydd ei angen i ddelifro'r Bil. Mae angen atebion deinamig, arloesol i sicrhau bod pob ysgol yn llwyddo i gyrraedd y nod. Ac mae angen inni barhau i ddatblygu dulliau dysgu effeithiol a fydd yn galluogi ein disgyblion i ddod yn siaradwyr hyderus.

18:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae'r Bil yn creu strwythur a fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd, nid dros nos, wrth gwrs, ond byddwn ni'n dechrau ar y gwaith ar unwaith. Bydd hyn yn cynnwys cychwyn gyda datblygu’r cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, sy'n seiliedig ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd, a fydd yn gallu cael ei ddefnyddio yn ein system addysg ac yn ein heconomi yn y dyfodol. A bydd sefydlu'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gam pwysig ymlaen. Yr athrofa fydd canolbwynt dysgu Cymraeg, a bydd yn help wrth gynllunio i ddatblygu'r gweithlu addysg. Bydd yn hybu arloesedd a gwelliant parhaus wrth ddysgu Cymraeg, ac yn helpu i godi safonau o ran dysgu Cymraeg. 

Dirprwy Lywydd, dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad Aelodau eraill y prynhawn yma, a dwi'n gobeithio cael cefnogaeth y Senedd i basio'r Bil hanesyddol sydd o'n blaen ni heddiw.

Allaf i ddechrau gan ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet ac i Cefin Campbell am eu gwaith trawsbleidiol i sicrhau ein bod ni wedi dod yma heddiw yng Nghyfnod 4 y Bil addysg a'r iaith Gymraeg? Dwi'n credu bod hwn yn gam pwysig, ac rŷn ni fel Ceidwadwyr Cymreig wastad wedi dweud ein bod ni o blaid beth mae'r Bil hwn yn trio ei wneud. Os bydd mwy o bobl yn moyn cael addysg yn y Gymraeg, mae'n bwysig bod provision ar gael i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud hynny.

Dwi'n ddiolchgar dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'n gwelliannau ni yng ngrŵp 8 o ran rhieni sydd eisiau mwy o gefnogaeth os nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg eu hunain ond mae eu plant nhw yn mynd i ysgolion Cymreig, a dwi'n credu bod y Bil, fel dywedodd Mark Drakeford, yn fwy cryf heddiw o ran y gwelliannau rŷn ni wedi eu rhoi yn y Bil hwn o ran y gefnogaeth nawr sydd ar gael i rieni ar draws Cymru sydd yn moyn helpu eu plant nhw gyda gwaith ysgol a gwaith cartref hefyd.

Nid yw pob gair yn y Bil hwn yn eiriau y buasem ni wedi moyn eu drafftio, pe byddai'r Ceidwadwyr Cymreig mewn Llywodraeth a phe byddem ni'n dod â'r Bil hwn ymlaen. Ond, mae'n bwysig ein bod ni'n dangos ein cefnogaeth ni am y rhan fwyaf o beth mae'r Bil hwn yn ei wneud, a dyna pam byddwn ni'n cefnogi Cyfnod 4 y Bil yma heno, oherwydd rŷn ni'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cyrraedd y targed yna o filiwn o siaradwyr. Ac rŷn ni wedi gweld heddiw, onid ydym ni, nad yw pob plaid yng Nghymru heddiw yn moyn gweld y targed hynny, nad yw pob plaid yn moyn gweld mwy o bobl yn siarad Cymraeg. Yn fy mhrofiad i, yn mynd ar draws Cymru, os yw rhywun yn siarad Cymraeg, neu os nad ydyn nhw, maen nhw wastad moyn gweld yr iaith yn llwyddo, ac maen nhw wastad yn moyn dweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Weithiau, mae pobl sydd heb gael y cyfle i siarad Cymraeg, neu o gael addysg yn Gymraeg, yn dweud wrthyf i ac, rwy'n siŵr, wrth bobl eraill, eu bod nhw wedi moyn cael y cyfle pan oedden nhw yn yr ysgol. A beth rŷn ni'n gwneud heddiw, dwi'n credu, yw sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i gael addysg Gymraeg pan fyddan nhw'n dewis gwneud hynny yn ein hysgolion ni ar draws Cymru.

Ond y gwaith trawsbleidiol hynny, sydd yn dechrau gyda ni yn moyn gweld mwy a mwy o bobl yn siarad Cymraeg ar draws Cymru—. Mae hwn yn risg, mae'n rhaid i mi ddweud, yn y dyfodol. Mae rhai o'r pleidiau tu allan i'r Senedd hyn, ond efallai y tu fewn i'r Senedd hyn, yn moyn ein gweld ni'n cael gwared o'r datblygiad rydym ni wedi'i weld, a bydd hynny yn fy mhoeni i'n enfawr dros y blynyddoedd i ddod. So, dwi'n ddiolchgar i'r Llywodraeth ac i Blaid Cymru am eu gwaith trawsbleidiol, a dwi'n gobeithio ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth enfawr heddiw i ddyfodol Cymru.

18:10

Dwi'n hynod o falch, os ydw i'n iawn, yn rhagweld y bydd yna gefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil arbennig yma. Ym 1962, yn y pamffled 'Cyfle Olaf y Gymraeg', fe ddywedodd Gwynfor Evans mai'r peth sy'n hanfodol i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg yw addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru. Dyma'r unig ffordd, meddai fe, i ddiogelu'r iaith, gan ychwanegu mai dyna hefyd yr addysg orau i blentyn o Gymru, p'un ai yw ei rhieni yn siarad Cymraeg neu beidio. A dyma ni, dros 60 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn trafod Bil gwir hanesyddol sydd yn garreg filltir bwysig ar daith yr iaith at y filiwn o siaradwyr a thu hwnt. Cred Plaid Cymru y dylai bod gan bob plentyn yr hawl i gael y rhodd gwerthfawr yna o ddwyieithrwydd drwy'r system addysg ac, fel rŷn ni i gyd yn gwybod, addysg gyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o greu siaradwyr Cymraeg hyderus a rhugl.

Wrth gyflwyno a chraffu ar gyfraith gwlad, mae sôn yn aml am y 'daith ddeddfwriaethol' mae Bil yn ei dilyn, ac yn wir, mae'r Bil y Gymraeg ac addysg sydd o'n blaenau ni heddiw wedi bod ar daith. Yn dilyn galwadau gan ymgyrchwyr a Phlaid Cymru, sicrhawyd ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i gyflwyno Bil addysg Gymraeg. Ond, wrth gwrs, ar ôl cydweithio ar y Papur Gwyn a cheisio ei gryfhau, fe gyflwynwyd y Bil drafft ar ei ffurf wreiddiol ar ôl i'r cytundeb ddirwyn i ben.

Mae'n wir i ddweud nad dyma'r Bil fyddai Plaid Cymru eisiau ei gyflwyno mewn byd delfrydol, ond mae'r Bil, mae'n rhaid i fi gydnabod, yn sicr yn llawer cryfach nag oedd e'n wreiddiol, o ganlyniad i ddylanwad Plaid Cymru dros y misoedd diwethaf a—mae'n bwysig i fi nodi hyn hefyd—chydweithrediad parod y Llywodraeth yn hynny o beth.

Ar draws y ddau gyfnod craffu, fe gyflwynais i dros 180 o welliannau, a derbynwyd dros 10 ohonynt ar wyneb Bil, a chafwyd ymateb cadarnhaol mewn nifer o feysydd eraill ar y record gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a dwi'n ddiolchgar iawn iddo fe am hynny. Un o'r prif newidiadau, wrth gwrs, yw'r diffiniad clir sydd yn y Bil ar gategorïau iaith ysgolion. Rwy’n falch o weld ymrwymiad yn y Bil y bydd yn rhaid i ysgolion prif iaith Cymraeg gyflwyno o leiaf 80 y cant o’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan alinio’r categori newydd yma i’r categori 3P presennol, ac ysgolion dwy iaith gyflwyno o leiaf 50 y cant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roeddwn i hefyd eisiau sicrhau targed ar wyneb y Bil i sicrhau bod 50 per cent o ddisgyblion Cymru yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050. Er na chafodd y gwelliant hwnnw ei gymeradwyo, roeddwn i’n falch derbyn sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos diwethaf o fwriad y Llywodraeth i ymgynghori ar y targed 50 y cant fel rhan o'r ymgynghoriad ar strategaeth y Gymraeg newydd.

Wel, y cam nesaf, wrth gwrs, fydd gweithredu’r Bil, i mewn a thu hwnt i dymor nesaf y Senedd. Yn greiddiol i hyn, wrth gwrs, fydd sicrhau gweithlu addysg dwyieithog safonol a digonol. Os bydd Plaid Cymru yn ffurfio Llywodraeth ym mis Mai y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd ymhellach ac yn gyflymach wrth sicrhau ein bod yn trawsnewid addysg Gymraeg ar draws Cymru, a byddwn yn edrych ymlaen at gydweithio â phob un o awdurdodau addysg Cymru i gyflawni’r nod hwnnw. Wrth gwrs, amser a ddengys os bydd y Bil hwn yn llwyddo yn ei uchelgais i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid dweud ei bod yn edrych fel tipyn o fynydd i’w ddringo, â’r copa’n teimlo’n bell i ffwrdd, ond un o bwrpasau mynyddoedd yw eu dringo nhw, felly beth am roi esgidiau iaith am ein traed a mynd amdani?

Bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil hwn fel y mae heddiw, nid oherwydd ei fod yn berffaith, ond gan ei fod yn gosod sylfaen y gellid adeiladu arni ar gyfer y dyfodol, fel y gall bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i siarad iaith eu mamwlad neu’r wlad y maent wedi ymgartrefu ynddi. Dyna yw eu hawl, a’n cyfrifoldeb ni fel Senedd yw sicrhau ein bod ni'n parchu’r hawl honno.

Dwi am gloi, unwaith eto, gyda geiriau Gwynfor Evans: y mae Cymru Gymraeg o Fôn i Fynwy eto’n bosibilrwydd. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Tom Giffard a Cefin Campbell am y gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi y prynhawn yma, a diolch iddyn nhw am y cyfleon i gydweithio i baratoi'r Bil sydd o flaen y Senedd y prynhawn yma. Roedd Tom wedi dweud dydy pob gair yn y Bil ddim yn y lle'r oedd y Blaid Geidwadol eisiau ei weld, ac mae Cefin wedi dweud bod rhai pethau yn y Bil roedd e eisiau eu gweld yn cael eu cryfhau, ond pwrpas y broses graffu yma yn y Senedd, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg, yw trio ein tynnu ni at ein gilydd tu ôl i bwrpas y Bil. Ac mae popeth dwi wedi ei glywed y prynhawn yma yn dweud wrthyf i ein bod ni wedi llwyddo i dynnu pobl at ei gilydd i wneud hynny. 

Ac rŷn ni i gyd yn gallu cyfeirio at bobl ar draws y pleidiau sydd wedi bod yn rhan o daith yr iaith dros y blynyddoedd. Clywais i Gwynfor Evans yn siarad nifer o weithiau pan oeddwn i'n tyfu lan yng Nghaerfyrddin, ond dwi'n cofio hefyd Wyn Roberts a'i bwysigrwydd e i'r iaith Gymraeg yn yr 1980au, ac, wrth gwrs, pobl fel Cledwyn Hughes a John Morris ar ochr y Blaid Lafur hefyd. Pan fyddwn ni'n gallu dod at ein gilydd fel hyn, rŷn ni'n gallu gwneud rhywbeth pwysig, nid jest yng Nghymru heddiw ond Cymru'r dyfodol hefyd. Yn fy marn i, rŷn ni wedi llwyddo fel Senedd i greu Bil pwysig, pellgyrhaeddol a fydd yn galluogi pob plentyn i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Ar ôl beth dwi wedi ei glywed, mae'n edrych fel y cawn ni basio'r Bil heddiw yn unfrydol, ac mae hynny'n rhywbeth pwerus. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio pellach wrth inni weithredu'r Bil. Diolch yn fawr. 

18:20

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Pleidleisiwn ar eitem 8, Cyfnod 4 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Cyfnod 4 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru): O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Symudwn ymlaen at eitem 10, Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).

Grŵp 1: Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru (Gwelliant 1)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud ag Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, a gwelliant 1 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn. Julie James.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Julie James, gyda chefnogaeth Adam Price).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn arbennig yn gyfarwydd â'r trefniadau ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth yn y DU, ond, ar gyfer Aelodau eraill sy'n bresennol yma heddiw, fe gymeraf eiliad i egluro bod Rhan 2 o'r Bil hwn yn mewnosod Rhan 2B newydd yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Bydd y Rhan newydd hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi, cadw, rhifo a dosbarthu Deddfau'r Senedd, offerynnau statudol Cymru ac is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae'r Rhan newydd, yn y bôn, yn codeiddio, ac, mewn rhai achosion, yn mireinio trefniadau deddfwriaethol ac ymarferol presennol. Ar hyn o bryd, mae Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin yn cyhoeddi Deddfau'r Senedd ac offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru. Yr un person hefyd yw Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban, Argraffydd y Llywodraeth ar gyfer Gogledd Iwerddon, Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus, Rheolwr Llyfrfa Ei Fawrhydi, a phrif weithredwr yr Archifau Cenedlaethol. Fodd bynnag, nid yw ei rôl mewn perthynas â deddfwriaeth Cymru yn cael ei hadlewyrchu yn y gyfraith. Mae'r Rhan 2B newydd yn ceisio unioni hynny drwy roi swyddogaethau cyhoeddi Deddfau'r Senedd, offerynnau statudol Cymru a dogfennau cysylltiedig i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Yn ymarferol, fel sy'n digwydd hefyd o dan y trefniadau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd y swyddogaethau hynny'n cael eu harfer gan Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, ond bydd yn cael ei adnabod fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru at ein dibenion ni.

Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i Adam Price ac Alun Davies am ofyn i'r Llywodraeth ystyried ymhellach a allai'r trefniadau yn y Bil gael eu cryfhau. Mae gwelliant 1 yn ceisio symleiddio'r ddarpariaeth sydd yn y Bil ar hyn o bryd, gan ei gwneud hi'n gliriach bod y Bil yn rhoi swyddogaethau i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn yr enw hwnnw. Felly, rwy'n cytuno ag Adam ac Alun ei bod yn bwysig sefydlu'r egwyddor bod y swyddogaethau mewn perthynas â chyhoeddi deddfwriaeth Cymru yn cael eu rhoi yn y gyfraith i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.

Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae'r ddarpariaeth yn adlewyrchu'r ffaith bod deddfwriaeth fodern Cymru, yn ymarferol, wastad wedi cael ei chyhoeddi gan Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, ac nid oes unrhyw fwriad i newid hynny. Er nad yw hyn yn mynd mor bell ag y byddai rhai Aelodau wedi dymuno, rwy'n gobeithio, serch hynny, y bydd y gwelliant hwn yn cael ei gefnogi, gan fy mod i o'r farn ei fod yn cynrychioli ffordd well o fynd i'r afael â'n hangen i gydbwyso egwyddor gyfansoddiadol â realiti ymarferol yn bragmataidd.

O'r cychwyn cyntaf, rwyf am gofnodi'n fyr fy nghefnogaeth gyffredinol i'r Bil pwysig hwn. Rwy'n credu y bydd yn dod â'r trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud a chyhoeddi deddfwriaeth Cymru at ei gilydd ac yn eu ffurfioleiddio, ac yn gwella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau eraill y Senedd sy'n gweithio ar y Bil hwn, a'r rhwydwaith cyfan o bobl y tu ôl i'r llenni sydd wedi cefnogi'r ddeddfwriaeth hon ac wedi sicrhau ei bod yn cael ei phasio yn ei Chyfnodau blaenorol, wedi bod yn agored, yn ddeallgar ac yn gydweithredol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu cefnogaeth, a hoffwn hefyd ddiolch i Tabitha Anthony yn swyddfa'r grŵp Ceidwadol am ei gwaith caled trwy gydol y broses hon hefyd.

O ran y gwelliant penodol hwn ar roi swyddogaethau i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, o ystyried mai nod y gwelliant hwn yw symleiddio adran, yna rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi'r gwelliant penodol hwn.

18:25

Hoffwn i ategu hefyd ein cefnogaeth ni i amcanion y Bil yma yn gyffredinol, a hefyd y diolchiadau i’r holl bobl o ran swyddogion y Llywodraeth, clercod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a hefyd staff Plaid Cymru sydd wedi helpu gyda fy nghyfraniadau i.

Mae yna rai ffyrdd rŷn ni wedi ceisio gwella'r Bil yn ystod Cyfnod 2, ac un ohonyn nhw oedd ffocws y gwelliant yma. Y cefndir hanesyddol i hyn, wrth gwrs, yw taw Cymru yw’r unig genedl o fewn y Deyrnas Gyfunol sydd wedi bod heb argraffydd swyddogol, Argraffydd y Brenin neu’r Frenhines, yn ystod hanes y Deyrnas Gyfunol. Mi grëwyd yr un canolog, os caf i ei ddisgrifio fel yna, felly, Argraffydd y Brenin, yn Llundain, dechrau'r pymthegfed ganrif; erbyn diwedd y ganrif yna, mi oedd yna Argraffydd y Brenin yn yr Alban ac yn Iwerddon. Does dim un erioed wedi bod yng Nghymru. Roedd yr un cyntaf yn Iwerddon efallai yn Gymro, Humphrey Powell, ac mae yna gofnod iddo fe ddod o Ledrod yng Ngheredigion—byddai’r Llywydd yn mwynhau hyn—ond does yna ddim Argraffydd y Brenin wedi bod i Gymru erioed.

Ac mae symbolau yn bwysig, onid ydyn nhw? Rwy'n edrych nawr ar y byrllysg ddaeth i'r Senedd ychydig flynyddoedd yn hwyr, onid oedd e, yn 2006, os ydw i'n iawn. Ond mae symbolau yn bwysig o ran ein democratiaeth ni ac o ran ein cenedligrwydd ni hefyd. Felly, mae cael Argraffydd y Brenin i Gymru yn symbol o statws ein deddfwrfa, ac mae'n dda iawn gweld bod yr anghydraddoldeb yna nawr yn cael ei ddatrys trwy'r gwelliant yma. Gaf i dalu teyrnged, a dweud y gwir, i gyfreithwyr y Llywodraeth am fod yn greadigol iawn, os caf i ei roi e fel yna, yn y ffordd maen nhw wedi saernïo'r gwelliant yma? Yn wreiddiol, mi oedd yr hyn sy'n cael ei ddileu gan y gwelliant yma yn dweud, yn y darn hwn, y cyfeirir at argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin—yn Lloegr, hynny yw—fel 'Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru', mewn dyfynodau, ie, ond maen nhw wedi cael gwared ar y dyfynodau nawr, felly, dyna fe. Mae hwnna’n rhyw fath o symbol ar gyfer ein democratiaeth ni, onid yw e, cael gwared ar y dyfynodau: nid Senedd mewn enw yn unig, mewn teitl, mewn dyfynodau, ond Senedd go iawn, ac Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru go iawn. 

Felly, dwi yn ei groesawu'n fawr iawn. Mae symbolau’n bwysig; maen nhw’n rhan o'r ffordd rŷn ni'n cyfleu ein democratiaeth ni, maen nhw’n rhan o'r ffordd mae dinasyddion yn deall ein democratiaeth ni. Felly, dwi yn croesawu'r datrysiad. Mae'n golygu, yn wahanol—. Hynny yw, mi fydd yna Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, ond, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, fydd ddim yn rhaid i ni dalu amdano fe, chwaith, felly hwre, efallai, i hynny hefyd. Ond rwy'n croesawu'r ffordd pragmataidd a chreadigol mae’r Llywodraeth wedi ymateb i'r gwelliant y gwnaethom ni ei osod yn ystod Cyfnod 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am y sylwadau hynny. Rwy'n gwybod ei fod yn ymddangos yn beth anarferol ar gyfer Bil mor dechnegol, ond rwyf wir wedi mwynhau mynd â'r Bil hwn drwodd. Rydym wedi cael cyfres o sgyrsiau adeiladol a defnyddiol iawn sydd wedi rhoi llawer o oleuni i ni mewn gwirionedd, ac rwyf wedi mwynhau'r sgwrs ynghylch hyn yn arbennig. Rwy'n credu bod y gwelliant yn mynd mor bell ag y gallwn fynd yn ymarferol. Mae'n adlewyrchu realiti ac, ar yr un pryd, mae'n parchu statws deddfwriaethol Cymru yn briodol am y tro cyntaf, fel y nododd Adam ac eraill. Ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliant. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Diddymiadau a diwygiadau cysylltiedig (Gwelliannau 2, 3, 4, 5)

Symudwn ymlaen at grŵp 2, diddymiadau a diwygiadau cysylltiedig. Mae'r ail grŵp o welliannau yn ymwneud â diddymiadau a diwygiadau cysylltiedig. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.

18:30

Cynigiwyd gwelliant 2 (Julie James).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Rhan 3 o'r Bil hwn yn ymwneud â diddymu deddfiadau a darpariaethau nad ydynt yn ddefnyddiol yn ymarferol nac yn cael effaith mwyach mewn perthynas â Chymru. Mae delio â darpariaethau diangen yn y modd hwn yn golygu y gellir tacluso'r llyfr statud rywfaint. Mae tacluso o'r fath yn rhan o'n hymdrechion i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o ddatganiad deddfwriaethol y Llywodraeth a gyflwynais ychydig wythnosau yn ôl a nododd y byddwn yn cyflwyno proses uchelgeisiol o gydgrynhoi cyfraith gynllunio yng Nghymru ym mis Medi—cam pellach i wella hygyrchedd ein cyfreithiau. Wrth baratoi ar gyfer y gweithgarwch cydgrynhoi hwnnw, mae'r Bil sydd o'n blaenau ar hyn o bryd yn dileu rhai darpariaethau cynllunio diangen.

Mae un o'r materion hynny yn ymwneud â chynlluniau lleol, cynlluniau strwythur a chynlluniau datblygu unedol. Mae Rhan 4 o Atodlen 1 i'r Bil yn cynnig diddymu agweddau penodol ar y trefniadau trosiannol a wnaed mewn cysylltiad â newidiadau blaenorol i'r system cynllunio datblygu. Fe wnaeth y rhain sicrhau bod cynlluniau datblygu o dan gyfundrefnau cynharach yn parhau i fod mewn grym nes bod cynlluniau newydd yn cael eu mabwysiadu.

Nodaf fod y Rhan hon o'r Atodlen yn cael ei disgrifio, mewn rhai chwarteri, fel 'sgrapio'r holl CDUau presennol sydd wedi dyddio'. Er mwyn y cofnod, rwyf am gadarnhau nad yw hyn yn wir. Nid yw'r Bil yn sgrapio CDUau o gwbl. Yn hytrach, mae'n ceisio cael gwared ar ddeddfwriaeth ddiangen sy'n ymwneud â'r pontio o ddeddfwriaeth CDU i drefniadau ôl-CDU.

Ar yr adeg y cyflwynwyd y Bil hwn, nid oedd unrhyw gynlluniau datblygu unedol ar ôl yng Nghymru. Roedd hyn oherwydd bod yr Uchel Lys wedi penderfynu, ym mis Rhagfyr 2023, fod angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyflwyno cynllun datblygu lleol yn lle ei CDU. Unwaith y mabwysiadwyd CDLl Wrecsam, roedd y Llywodraeth yn gallu penderfynu bod y darpariaethau trosiannol sy'n ymwneud â CDUau wedi darfod ac y gellid eu diddymu.

Fodd bynnag, ers i'r Bil gael ei gyflwyno, mae'r Llys Apêl wedi caniatáu apêl yn erbyn penderfyniad cynharach yr Uchel Lys. Rydym yn disgwyl i'r Uchel Lys ddiddymu penderfyniad cyngor Wrecsam i fabwysiadu'r CDLl. Mae disgwyliad y bydd angen i'r cyngor bleidleisio eto ynghylch a ddylid mabwysiadu'r CDLl yn y dyfodol agos. Hyd nes y bydd CDLl yn cael ei fabwysiadu, ni fyddwn yn gallu dweud yn sicr bod y darpariaethau trosiannol sy'n cadw CDUau wedi darfod yn llwyr, felly ni ddylai'r Bil ddiddymu'r darpariaethau trosiannol hynny.

Bydd cadw'r darpariaethau hyn ond yn berthnasol yng nghyd-destun cyngor Wrecsam, gan fod CDLlau a fabwysiadwyd ar waith yn yr holl awdurdodau cynllunio eraill. Oherwydd bod eu CDU wedi dyddio, mae'n debygol y bydd angen i'r cyngor ddibynnu ar 'Cymru'r Dyfodol' a pholisïau cynllunio cenedlaethol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, os na fyddan nhw'n pleidleisio i fabwysiadu eu CDLl. Bydd diffyg CDLl mabwysiedig yn cael goblygiadau andwyol sylweddol ar gyfer ei ardal a chymunedau lleol. 

Rwy'n ymwybodol bod y cyfryngau yn adrodd bod y cyngor o'r farn bod y gwelliannau hyn rywsut wedi arwain at gytundeb neu fargen yn cael ei tharo â'r Llywodraeth o ganlyniad i'r broses ymgyfreitha. Dirprwy Lywydd, rwyf am gofnodi nad yw hyn yn wir, ac rydym yn parhau i fod o'r farn y dylen nhw fynd ati i fabwysiadu'r CDLl, am y rhesymau rwyf eisoes wedi sôn amdanynt. 

Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn ond yn cael eu gwneud i adlewyrchu canlyniad presennol y broses ymgyfreitha. Byddan nhw'n sicrhau na fydd y darpariaethau trosiannol sy'n ymwneud â chynlluniau datblygu unedol sydd â defnydd ymarferol cyfyngedig yn cael eu diddymu gan y Bil mwyach. Ar y sail hon, hyderaf y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliannau hynny.

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Julie James).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Derbynnir gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Craffu ar ôl deddfu (Gwelliant 6)

Grŵp 3. Mae'r trydydd grŵp o welliannau yn ymwneud â chraffu ar ôl deddfu. Gwelliant 6 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Paul Davies i gynnig y prif welliant ac i siarad amdano.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Paul Davies).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig gwelliant 6, a gyflwynwyd yn fy enw i. Rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru ac i'r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am waith trawsbleidiol a chydweithrediad ar y gwelliant penodol hwn. 

Holl fwriad y gwelliant hwn yw caniatáu rhywfaint o graffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Bil. Os caiff ei basio, bydd y gwelliant hwn yn ei dro yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i'w gwneud yn ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol gynnal adolygiad o'r ddwy flynedd gyntaf o weithredu'r Rhannau 2A a 2B newydd. Mae hefyd yn gofyn i adroddiad gael ei osod gerbron y Senedd. Fel rhan o'r adolygiad, dylid ymgynghori â'r Llywydd, Clerc y Senedd ac, yn wir, personau eraill sydd â diddordeb, er enghraifft, Comisiynydd y Gymraeg. Felly, mae'r gwelliant hwn yn sicrhau y bydd craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Bil hwn yn digwydd, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi'r gwelliant penodol hwn. 

18:35

Rwy'n ddiolchgar i Paul am nodi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliant. Mae'n amlwg bod yr Aelodau'n awyddus i sicrhau bod Rhannau 2A a 2B newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gweithio'n ymarferol fel y bwriadwyd. Dydw i ddim yn anghytuno â'r safbwynt hwnnw a bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant.

Fel y dywedais i yn y trafodion yng Nghyfnod 2 y Bil hwn, rwy'n ystyried bod adolygiad ôl-ddeddfwriaethol yn rhan bwysig o'n proses o ddeddfu. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd ehangach yn y dyfodol yn edrych ar nifer o bethau a allai wella craffu. Mae adolygiad ôl-ddeddfwriaethol arferol yn un, ac rwy'n credu hefyd y dylem edrych ar yr hyn y mae Senedd Seland Newydd, fel deddfwrfa un siambr, yn ei wneud i ddod â barn annibynnol ac arbenigol ar agweddau technegol ar ddeddfwriaeth. 

O ran y gwelliant arfaethedig penodol i'r Bil hwn, bydd hyn, fel y dywedwyd eisoes, yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf 2019 i'w gwneud yn ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol gynnal adolygiad o'r ddwy flynedd gyntaf o weithredu Rhannau 2A a 2B newydd, a gosod adroddiad ar y canfyddiadau gerbron y Senedd. Fel rhan o'r adolygiad, dylid ymgynghori â'r Llywydd, Clerc Senedd Cymru a phobl eraill sydd â diddordeb. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r cynnig hwnnw, ac os caiff ei dderbyn gan yr Aelodau ac y caiff y Bil ei ddeddfu wedyn, byddai'r Llywodraeth yn ceisio dechrau'r adran newydd a gyflwynwyd gan y gwelliant hwn ochr yn ochr â chychwyn Rhannau 2A a 2B newydd i Ddeddf 2019. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei sylwadau ac, yn wir, ei chefnogaeth. Yn y pen draw, bydd y gwelliant hwn yn rhoi cyfle hanfodol i'r Senedd sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn gwneud yr hyn y bwriadwyd iddi ei wneud, ac rwy'n falch o symud y gwelliant i bleidlais.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 4: Gweithgareddau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru (Gwelliant 7)

Grŵp 4 sydd nesaf. Mae'r pedwerydd grŵp a'r grŵp olaf o welliannau yn ymwneud â gweithgareddau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Gwelliant 7 yw'r prif welliant, a'r unig welliant, yn y grŵp hwn. Galwaf ar Adam Price i gynnig y gwelliant ac i siarad amdano.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Adam Price).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn ystod Cyfnod 2, cyflwynais welliant a fyddai wedi galluogi cywiriad gweinyddol i offerynnau statudol Cymru ar unrhyw adeg, gyda gofyniad ar yr awdurdodau cyfrifol i hysbysu'r Llywydd am unrhyw gywiriadau o'r fath, yn ogystal â gwelliant arall a fyddai wedi creu cyfrifoldeb ar Weinidogion i baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar gywiriadau i offerynnau statudol Cymru bob 12 mis. Byddai hyn wedi sefydlu trefn newydd, modern, o gymharu â'r confensiwn gweddol feichus presennol o orfod cyflwyno slipiau cywiro, sydd yn golygu diddymu, gwella neu ailgyflwyno deddfwriaeth yn ei chyfanrwydd, 'ta waeth beth yw barn y Senedd.

Cefais i fy ysbrydoli yn hyn o beth gan feini prawf yng nghymal 2 Bil yr Arglwydd Thomas o Gresffordd, gyda'r bwriad o hybu gwell effeithiolrwydd a thryloywder yn y broses o gywiro mân wallau yn offerynnau statudol Cymreig—rhywbeth a gafodd ei argymell hefyd gan ein pwyllgor ni. Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol rwyf wedi'i gael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ers Cyfnod 2. Ac yn ystod y trafodion ar y mater ehangach yma, bydd yn rhaid inni drafod yn ehangach ynglŷn â sut i wella sylwedd offerynnau statudol a rhoi gwell cyfle i'r Senedd wneud hynny.

Ond, o ran y gwelliant yma rydym ni wedi dod ag ef gerbron—hynny yw, y cytundeb rhyngom ni—nid yw'n cyflawni fy mwriad gwreiddiol o greu grym penodol i'r Senedd fedru gwneud mân gywiriadau, ond bydd yn sicrhau, ym mhob rhaglen y mae Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn eu gwneud o dan adran 2 Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, fod yn rhaid cael set o weithgareddau sydd wedi'u hanelu at ddatrys amwysedd a chywiro gwallau yng nghyfraith Cymru. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys offerynnau diwygio omnibws rheolaidd, os yw'r un presennol y mae'r Llywodraeth yn gweithio arno yn profi i fod yn ffordd ddefnyddiol a phriodol o ddatrys y broblem yma, er enghraifft. Mae adran 2(7) hefyd yn ei wneud e'n ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol ddarparu adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn y rhaglen yma, a fydd yn sicrhau adroddiadau rheolaidd ar gywiriadau o'r fath. Felly, rwy'n cymeradwyo'r gwelliant i'r Senedd.

18:40

Rwy'n falch o gadarnhau fy nghefnogaeth i'r gwelliant penodol hwn. Wrth wraidd y Bil hwn mae awydd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac, yn wir, mae gwelliant yr Aelod yn ychwanegu darpariaeth newydd i ddatrys amwysedd a chywiro unrhyw wallau. Drwy gydol y broses hon, mae'r holl bleidiau gwleidyddol yn y lle hwn a Llywodraeth Cymru wedi ceisio cefnogi camau sy'n cael eu cymryd ar wallau ac amwysedd yng nghyfraith Cymru, ac felly rwy'n hapus i gofnodi fy nghefnogaeth i'r gwelliant hwn unwaith eto.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch hefyd i Adam am esbonio ei resymau dros ddod â hyn ymlaen, ac i Paul am ei gefnogaeth trwy gydol y broses. Gadewch imi ddweud ar y dechrau bod y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwn ac rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid ei gynnwys yn y Bil.

Fel y Cwnsler Cyffredinol, mae gennyf gyfrifoldeb statudol o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae hygyrchedd yn y cyd-destun hwnnw yn cynnwys sicrhau bod y gyfraith yn sicr yn ei heffaith. Mae gwallau yn amlwg yn tanseilio canlyniad bwriadedig y gyfraith, tra bod amwysedd, hyd yn oed os gellir ei ddatrys, yn tanseilio sicrwydd ac yn gwneud y gyfraith yn anoddach i'w deall.

Fel yr eglurodd Adam, bydd y gwelliant hwn i adran 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn darparu bod yn rhaid i bob un o raglenni'r Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru gynnwys gweithgareddau sy'n anelu at ddatrys amwysedd a chywiro gwallau yn y gyfraith honno. Bydd hyn yn golygu y bydd rhaglen y Llywodraeth ym mhob tymor y Senedd yn cynnwys ystod o brosiectau a fyddai'n sicrhau bod cywiriadau a gwaith arall yn gallu digwydd. Er mai Llywodraethau'r dyfodol fydd yn penderfynu ar y prosiectau gwirioneddol, gallent gynnwys sicrhau bod offeryn diwygio omnibws cyfnodol yn cael ei gyflwyno, er enghraifft.

Bydd diwygio adran 2 yn y ffordd a gynigir hefyd yn sicrhau y bydd angen i'r adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn pob rhaglen, sy'n ofynnol o dan adran 2(7) o Ddeddf 2019, gynnwys adroddiad ar y gwaith a wnaed i gywiro gwallau a datrys amwysedd. Unwaith eto, Llywodraethau'r dyfodol fydd yn penderfynu ar ffurf y gwaith adrodd hwnnw, ond gallai gynnwys tablau sy'n crynhoi'r gwallau sydd wedi'u nodi a'r cywiriadau a wnaed, er enghraifft.

Os gwneir y gwelliant hwn i'r Bil, bydd angen Gorchymyn cychwyn i ddod ag ef i rym. Byddai'r Llywodraeth yn ceisio sicrhau bod hyn yn dod i rym yn barod ar gyfer rhaglen nesaf y Senedd. Fodd bynnag, rwy'n hapus i sicrhau bod adroddiad blynyddol terfynol y rhaglen bresennol hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wallau a chywiriadau, pe bai hynny'n ddefnyddiol i'r Aelodau. Felly, i fod yn glir, rwy'n cefnogi'r gwelliant hwn ac, os cytunir arno, bydd y Llywodraeth yn dod ag ef i rym ar gyfer y rhaglen nesaf. Ond yn y cyfamser, byddwn ni'n sicrhau bod yr adroddiad blynyddol nesaf yn cynnwys gwybodaeth am waith sydd wedi'i wneud mewn perthynas â chywiro gwallau a datrys amwysedd.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, gan mai hwn yw fy nghyfle olaf i siarad yn y trafodion heddiw, hoffwn gofnodi fy niolch i holl aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith yn y camau cynharach, ac i glercod y pwyllgor hwnnw am eu cymorth yn y trafodion heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i dîm y Bil a'm holl swyddogion, sydd wedi gweithio'n galed iawn ac yn greadigol iawn, rwy'n credu, wrth ddod â'r Bil hwn yn gydsyniol i'r Senedd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau am eu hamser a'u diddordeb heddiw, ac fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, efallai mai Bil technegol yw hwn, ond mae'n dal i fod yn gam arall ymlaen yn ein gwaith i ddatblygu ein seilwaith cyfansoddiadol a chyfreithiol. Diolch.

Mae'n braf medru symud y gwelliant olaf yma yn y cyfnod yma ar nodyn o unfrydedd a chydweithrediad, a dweud y gwir. Mae yna sawl peth, wrth gwrs, rŷn ni'n anghytuno arnyn nhw, wrth reswm, ac mewn unrhyw Senedd ddemocrataidd yn y lle yma, ond un peth, dwi'n credu, sydd yn ein huno ni i gyd yw'r angen i'r hyn rŷn ni'n ei wneud yn fan hyn, y Deddfau rŷn ni'n eu pasio, fod yn hygyrch i'r bobl rŷn ni'n eu cynrychioli.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Derbynnir gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rydym wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Datganaf y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:44.