Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

17/05/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. A’r cwestiwn cyntaf, Caroline Jones.

Busnesau sy’n Ffynnu ar y Stryd Fawr

1. Pa gymorth economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu er mwyn sicrhau bod gennym fusnesau sy’n ffynnu ar y stryd fawr yng Nghymru? OAQ(5)0167(EI)

Rydym yn parhau i ddarparu ystod eang o gymorth i holl fusnesau’r stryd fawr yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, oherwydd gweithgarwch rhai o’r cadwyni manwerthu mwy, sy’n gallu fforddio ysgwyddo colledion, mae llawer o’n siopau bach annibynnol yn mynd i’r wal, gan ddinistrio amrywiaeth ein stryd fawr. Pa gymhellion economaidd y gall eich Llywodraeth eu cynnig i fanwerthwyr bach annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i oroesi, ac er mwyn osgoi dyfodol lle mae ein strydoedd mawr yn glonau o’i gilydd, dan oruchafiaeth y cadwyni corfforaethol? Ac a fyddwch yn trafod y posibilrwydd o ostwng y trothwy TAW gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal â graddio trothwyon TAW, ar gyfer busnesau llai?

Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a dweud bod hwn yn fater sy’n agos at galon llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon? Nid yw’r ffaith fod busnes bach yn ei chael yn anodd gweithredu yn golygu nad oes ganddo ddyfodol mewn amgylchedd gyda mwy a mwy o weithgarwch ar-lein. Credaf mai’r ffactor pwysig a fydd yn pennu llwyddiant neu fethiant manwerthwr bach yw a yw’n wahanol—yn wahanol i’r gystadleuaeth. Ac yng nghanol rhai trefi, megis Arberth, rydym yn gweld cryn dipyn, a chrynodiad uchel, o fusnesau bwtîg a manwerthwyr bach, yn arbennig.

Nawr, gall y Llywodraeth weithredu fel galluogydd, gan gefnogi busnesau bach ar y stryd fawr, drwy raglenni fel y rhaglen fanteisio i fusnesau, a weithredir ar y cyd â Cyflymu Cymru. Gallwn hefyd gynorthwyo drwy gynnig cymorth drwy Busnes Cymru, gan gynnig cyngor un i un ar dwf busnesau a sut i addasu ar gyfer chwaeth a thueddiadau manwerthu modern. Hefyd, gallwn gefnogi busnesau drwy ddatblygu ardaloedd gwella busnes a hyrwyddwyr canol trefi. Ac rydym yn gwneud hynny. Ond credaf mai’r hyn sy’n hanfodol bwysig, os yw busnes bach yn ei chael hi’n anodd ennill ei le, neu er mwyn goroesi mewn amgylchedd cystadleuol iawn, gallwch ffonio Busnes Cymru, gofyn am gyngor, a gofyn am gymorth o bosibl. Gofynnwch am gymorth ar ffurf benthyciad neu adnoddau ariannol eraill. Mae’n hanfodol gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd. Gallwn gynnig cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â hyfforddiant sgiliau a rheoli hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd o sicrhau bod busnesau ein stryd fawr yn ffynnu yng Nghymru yw sicrhau bod ein stryd fawr mor hygyrch â phosibl, drwy ddatblygu strategaethau parcio sy’n ystyried yr amgylchiadau lleol mewn perthynas â chynllun canol trefi unigol. Nawr, rwy’n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn gwerth £3 miliwn y llynedd i gynorthwyo awdurdodau lleol i dreialu cynlluniau parcio am ddim yng nghanol eu trefi. Felly, o dan yr amgylchiadau, a allwch ddweud wrthym sawl busnes canol tref a’r stryd fawr, a sawl stryd fawr yn unigol, sydd eisoes wedi elwa o’r cymorth hwn?

Nid yw’r data hwnnw gennyf wrth law. Cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yw hyn. Ond os yw’r data eisoes ar gael, yna byddaf yn gofyn iddo gysylltu â chi mewn perthynas â hynny’n benodol. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd nad meysydd parcio yn unig a all ddylanwadu ar lwyddiant neu fethiant stryd fawr; mae’n ymwneud hefyd ag i ba raddau y mae stryd fawr yn cynnwys busnesau bywiog. Ac mae llawer o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i edrych i weld a ellir lleihau’r stryd fawr, a ellir crynhoi busnesau, neu weithgaredd busnesau, mewn ardaloedd llai, tynnach, i greu mwy o weithgarwch wedi’i grynhoi o gwmpas canolbwynt.

Mae hyn yn rhywbeth rwy’n awyddus iawn i edrych arno fel rhan o elfen adeiladu lleoedd y strategaeth ffyniannus a diogel newydd. Credaf fod adeiladu lleoedd yn gwbl hanfodol wrth bennu rhagolygon economi leol. Ac mewn lleoliad trefol, mae’n hanfodol fod lle’n teimlo o’r safon uchaf, ei fod yn hygyrch ac yn fywiog, nid yn unig yn ystod y dydd, ond yn y nos hefyd. Ac oherwydd hynny, credaf ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn parhau i gynorthwyo busnesau i arallgyfeirio a sicrhau bod economïau canol y dref yn fywiog nid yn unig yn ystod y dydd, ond yn y nos hefyd.

Crybwyllwyd meysydd parcio gan yr Aelod hefyd fel ffordd o sicrhau mynediad at ganol y dref. Credaf ei bod yn hanfodol hefyd ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn teithio llesol ac mewn gwasanaethau bws lleol, sydd, i lawer o bobl, yn ffordd hanfodol—yn ffordd hollbwysig, mewn gwirionedd—o gael mynediad at y stryd fawr a chanol y dref. Ac rwy’n falch ein bod yn parhau â’r £25 miliwn ar gyfer gwasanaethau bysiau ledled Cymru, er mwyn sicrhau y gall y rhai na fyddai’n gweithredu ar sail fasnachol barhau i gyrraedd cymunedau gwledig a’u cysylltu â chanolfannau trefol.

Cofnodi ein Treftadaeth Ddiwylliannol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gofnodi ein treftadaeth ddiwydiannol yng Nghymru? OAQ(5)0166(EI)

Gwnaf. Rydym yn hynod falch o’n treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yng Nghymru. Mae dros 1,000 o adeiladau diwydiannol yn cael eu gwarchod yn statudol fel adeiladau rhestredig neu fel henebion cofrestredig. Mae treftadaeth ddiwydiannol hefyd yn elfen amlwg o’n cynllun dehongli treftadaeth ar gyfer Cymru gyfan, sy’n canolbwyntio ar ‘Cymru: y genedl ddiwydiannol gyntaf’.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae ymdeimlad o’n hanes a’i ddathlu yn bwysig, nid yn unig ar gyfer ein hymdeimlad o le heddiw, ond er mwyn adeiladu’r sylfaen ar gyfer ein dyfodol hefyd. Mae gennym dreftadaeth ddiwydiannol arbennig o gyfoethog ar hyd arfordir y Ddyfrdwy yng ngogledd-ddwyrain Cymru, o’r gwaith dur yn y dwyrain, draw i ble’r oedd Courtalds yn arfer bod yn y Fflint, ac ymlaen at Lofa’r Parlwr Du. Yn gynharach eleni, derbyniodd prosiect treftadaeth gymunedol y Parlwr Du grant o £40,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a bydd hyn yn galluogi’r Parlwr Du i adeiladu llwybr glowyr a thaith gerdded gylchol, a fydd yn cyfarfod â llwybr yr arfordir a safle’r lofa, ac yn cysylltu’r dref hefyd â Ffynnongroyw a Thalacre. Roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â’r Cadeirydd, John Wiltshire, mewn digwyddiad i lawr yn y Senedd, a’r mis diwethaf, roeddwn yn agoriad rhan gyntaf y llwybr. Roedd yn fraint bod yno fel yr Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli’r ardal, ond roedd hefyd yn foment arbennig o falch i mi, gan fod fy nhaid a fy ewythr, a sawl aelod o fy nheulu, wedi bod yn gweithio yn y Parlwr Du. Nawr, cynhelir agoriad mawreddog y llwybr ar 23 Gorffennaf, lle bydd un o’r hen olwynion pen pwll a adnewyddwyd yn cael ei hagor. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch prosiect treftadaeth y Parlwr Du, a John Wiltshire a’i dîm, am eu holl waith, ac annog eraill ledled Cymru i ddysgu gan y grŵp? Ac wrth gwrs, os ydych yn rhydd ar 23 Gorffennaf, rwy’n siŵr fod gwahoddiad i chi fynychu.

Wel, byddwn yn fwy na pharod i fynychu’r achlysur arbennig hwnnw, a hoffwn innau longyfarch y gwirfoddolwyr sy’n buddsoddi cymaint o amser ac egni’n hyrwyddo eu treftadaeth leol. Roeddwn yn falch o allu cyfarfod â rhai o’r gwirfoddolwyr gyda’r Aelod yn ddiweddar, ac yn ogystal, gwyddom fod y cyfleuster arbennig hwn, y safle hwn, Glofa’r Parlwr Du, yn hynod o bwysig i gymuned Talacre, ond hefyd i gymunedau Mostyn a Ffynnongroyw, Llanasa, Pen-y-ffordd, y Fflint a Threffynnon—yn wir, mae’n atyniad pwysig iawn i dwristiaid yn y rhan honno o ogledd-ddwyrain Cymru. Gerllaw hefyd, mae gennym waith haearn Brymbo, sydd wedi derbyn £110,000 mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar—unwaith eto, cyfleuster hollbwysig i ddenu twristiaid ac i ddod â’r gymuned ynghyd. Roeddwn yn falch hefyd o fynychu agoriad twneli Rhyd-y-mwyn yn ddiweddar, unwaith eto yn etholaeth fy ffrind Hannah Blythyn, yn Rhyd-y-mwyn, lle’r oedd yn eithaf amlwg pa mor werthfawr yw’r cyfleuster hwnnw i’r gymuned leol. A hoffwn dalu teyrnged i David Hanson yn arbennig. Fe’i hanrhydeddwyd am ei waith dros sawl blwyddyn i sicrhau y gall fod yn agored i’r cyhoedd, ac yn wir i Mark Isherwood, fel Aelod Cynulliad, sy’n parhau, fel Hannah Blythyn, yn frwd ei gefnogaeth i’r grŵp cymunedol a wnaeth i hyn ddigwydd.

Cyd-ddigwyddiad, ond diolch am eich sylwadau. Yng nghyd-destun safle treftadaeth y byd traphont Pontcysyllte, credaf fod wyth mlynedd wedi bod bellach ers ennill y statws hwnnw, a chredaf fod wyth mlynedd wedi bod ers i Lywodraeth Cymru ar y pryd sefydlu corff partneriaeth rhanbarthol cyntaf i lywio’r cynnig treftadaeth ddiwydiannol rhanbarthol, gan ymgorffori, o bosibl, rheilffordd Llangollen, y camlesi, dyffryn Ceiriog, a Brymbo, fel y crybwyllwyd gennych, ond gan ymestyn draw i lwybrau treftadaeth Sir y Fflint, dyffryn Rhyd-y-mwyn, Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas, a llawer iawn mwy. Ond rydym eto i gael yr ymagwedd gydgysylltiedig honno. Nid oes gennym y tocynnau trwodd y mae cyrff megis rheilffordd Llangollen yn eu cynnig. Ac un pryder a fynegwyd wrthyf oedd nad yw’r cyrff wedi cael eu cynrychioli’n ddigonol gan gyrff twristiaeth a threftadaeth y rhanbarth. Mae’n dda fod Glandŵr Cymru yn cefnogi, ond ble mae’r lleill? A ydych yn cytuno â mi, felly, fod angen i ni ymgorffori’r lleisiau ehangach hynny’n well, fel y gallant, gyda’i gilydd, gyflwyno’r argymhellion a all gyflawni, o’r diwedd, yr amcanion y credaf ein bod ein dau yn eu rhannu?

Cytunaf yn llwyr â’r Aelod. Rwyf wedi bod yn awyddus i annog symud yn gyflym, ac yn ddynamig, i’r cyfeiriad a amlinellwyd ganddo. Yn sicr, hoffwn weld mwy o docynnau trwodd. Hoffwn weld mwy o gydweithio rhwng ac ymhlith y gwahanol sefydliadau sy’n ymwneud â’r sector diwylliant a threftadaeth yng ngogledd-ddwyrain diwydiannol Cymru. Ac oherwydd hynny, credaf efallai y byddai’n syniad da cynnull uwchgynhadledd diwylliant a threftadaeth yn ystod yr haf, i ddod â’r sefydliadau hynny ynghyd, gan gynnwys Glandŵr Cymru yr oedd yr Aelod yn gywir i nodi ei fod yn brif bartner yng ngweithgaredd safle treftadaeth y byd Pontcysyllte, a thrwy ddod â’r gwahanol fuddiannau hynny ynghyd, credaf ei bod yn bosibl y gallwn wneud cynnydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos hon mewn ateb ysgrifenedig i mi, fe gyhuddoch chi’r cwmni sy’n gyfrifol am Gylchffordd Cymru o

lawer o fylchau sylweddol a gwallau yn y wybodaeth

y maent wedi ei darparu i chi. Nawr, mae hynny’n gryn dipyn o honiad i unrhyw un ei wneud, heb sôn am Lywodraeth, am barti i gontract y byddwch, mewn ychydig wythnosau, yn gwneud penderfyniad gyda hwy ynglŷn â phrosiect £425 miliwn y buoch yn ei drafod ers dros chwe blynedd. Onid y gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet, yw mai eich Llywodraeth chi sydd wedi bod yn wallus? Fe addawoch, wrth sefyll yn y fan honno ym mis Chwefror, broses rhwng pedair a chwe wythnos o hyd, sef yr amserlen safonol ar gyfer diwydrwydd dyladwy cadarnhaol. Yr hyn rydych wedi’i wneud yw cynnal archwiliad fforensig gyda’r bwriad penodol, ymddengys i mi, o ganfod rhyw esgus—unrhyw esgus o gwbl—i gyfiawnhau dweud ‘na’. Ac onid yw hefyd yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl gohirio’r penderfyniad yn gyntaf tan ar ôl etholiadau lleol mis Mai, eich bod bellach yn ei ohirio tan ar ôl 8 Mehefin? Nid oherwydd unrhyw fylchau yn y wybodaeth, ond am nad ydych eisiau bod yn agored ac yn onest gyda phobl Blaenau Gwent, sydd wedi cael eu camarwain gennych gyda gobeithion ffug ac addewidion gwag ers chwe blynedd.

Dim o gwbl. Mae’r Aelod yn gyfan gwbl anghywir. Gofynnodd gyfres o gwestiynau; rhoddais gyfres o atebion gonest. Nid wyf erioed wedi gweld llefarydd yr wrthblaid yn beirniadu Gweinidog am roi atebion gonest. Fy nyletswydd yw sicrhau bod prosiectau a all greu swyddi, sy’n gynaliadwy, yn cael cymorth gan y Llywodraeth hon. Fy ngwaith yw gwneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi ein hadnoddau lle ceir cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r prosiect hwn yn fy nghyffroi, ond ni fyddaf yn osgoi proses diwydrwydd dyladwy, yn wahanol i’r Aelod, a fyddai wedi’i gymeradwyo y llynedd gyda £18 miliwn arall, gyda llaw, o warantau arian cyhoeddus.

Rydych yn cyhuddo’r cwmni o’ch camarwain, ac rydych yn dweud eich bod yn rhoi atebion gonest. Wel, onid y gwirionedd yw, os oes unrhyw un wedi bod yn camarwain pobl, mai eich Llywodraeth chi sy’n euog o hynny? Yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, cyfeiria at ddatganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gan eich Llywodraeth mewn perthynas â chaffael FTR, gan ddweud yn blaen ei fod yn anghywir ac yn gamarweiniol. Barn yr archwilydd cyffredinol yw honno, nid fy un i, am y Llywodraeth hon. Nawr, yn eich ymateb i adroddiad yr archwilydd cyffredinol, dywedasoch eich bod yn synnu ac yn siomedig ei fod wedi ei ryddhau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Ond onid yw’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y dirprwy ysgrifennydd parhaol wedi cael gwybod ynglŷn â’r bwriad i gyhoeddi ar 10 Mawrth, bron i chwe wythnos ynghynt? Fel y dywedodd yr archwilydd cyffredinol wrthyf mewn llythyr, ac rwy’n dyfynnu:

Er y gallaf ddeall pam fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi siom ynglŷn ag amseriad fy adroddiad, rwy’n ei chael hi’n anodd deall sut y gall swyddogion fynegi syndod yn hyn o beth.

Rydych yn beio’r cwmni, yn beio’r archwilydd cyffredinol, yn beio pawb arall, ond onid yw’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, mai chi a’ch Llywodraeth sydd ar fai am y ffaith ein bod yma, chwe blynedd yn ddiweddarach, yn dal i aros am benderfyniad?

Rwy’n synnu, unwaith eto, fod yr Aelod wedi defnyddio’r term ‘camarweiniol’. Rwy’n syfrdanu—

Yn y cyd-destun a wnaeth. Dylai’r Aelod dynnu hynny yn ôl, gan fod yr hyn a ddywedais yn yr atebion ysgrifenedig hynny yn wir ac yn ffeithiol—yn wir ac yn ffeithiol. A dywedaf eto: fy ngwaith yw sicrhau bod prosiectau a all ennyn cefnogaeth y Llywodraeth, sydd wedi profi eu bod yn gynaliadwy ac yn creu’r swyddi y maent yn honni eu bod yn eu creu ar gyfer y cymunedau y mae’n rhaid iddynt eu gwasanaethu—. Pobl Glynebwy sydd o ddiddordeb i mi; ymddengys mai hunan-les gwleidyddol sydd o ddiddordeb i chi. Mae gwahaniaeth mawr—gwahaniaeth mawr—rhwng uchelgais a byrbwylltra. Ni fyddaf yn osgoi’r broses ddiwydrwydd dyladwy. Beth y credwch y byddai’r archwilydd cyffredinol yn ei ddweud amdanoch pe baech yn argymell osgoi’r broses ddiwydrwydd dyladwy, pe baech yn fy lle i? A ydych yn credu y byddai’r archwilydd cyffredinol yn eich cefnogi yn hynny o beth?

Yma, mae gennym Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gohirio penderfyniad, nid unwaith ond ddwywaith, tan ar ôl etholiad, am resymau amlwg, ac mae’n fy nghyhuddo i o weithredu er hunan-les. Mae ateb syml i’r cyhuddiad a wneir gennym ei fod yn osgoi gwneud penderfyniad, sef gwneud penderfyniad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei fod bellach wedi cael yr holl wybodaeth y mae ei hangen gan y cwmni a’i fod yn disgwyl cael yr adroddiadau diwydrwydd dyladwy terfynol cyn bo hir. Felly, a all gadarnhau nad oes unrhyw rwystr bellach, unrhyw atalfa, unrhyw esgus ar ôl a fydd yn ei atal rhag gwneud penderfyniad a chyhoeddiad cyn 8 Mehefin? A gaf fi atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet fod canllawiau Swyddfa’r Cabinet ar etholiadau cyffredinol San Steffan yn datgan yn glir y dylai swyddogaethau datganoledig barhau yn ôl yr arfer? Gwnaeth ei ragflaenydd, Edwina Hart, benderfyniad ynglŷn â Chylchffordd Cymru yng nghanol y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad. Os oedd hi’n ddigon gonest i wneud hynny, pam y dylech chi a’r Prif Weinidog guddio y tu ôl i’r esgus hwn ynglŷn â’r purdah cyn yr etholiad, yn hytrach na bod yn onest gyda phobl Blaenau Gwent sy’n ymddiried ynoch?

Dylwn awgrymu eich bod yn parhau i balu twll i chi’ch hun, gan mai’r hyn a ddywedwch yn y bôn yw y dylem, unwaith eto, anwybyddu’r broses ddiwydrwydd dyladwy. Y rheswm dros yr oedi yw am nad yw’r wybodaeth wedi cael ei chynnwys yn llawn yn y banc data. Dyna’r rheswm pam. Dyna’r rheswm pam. Peidiwch â beio’r Llywodraeth am fethu darparu’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r datblygwr ei darparu. Rydym yn parhau i fod wedi’n cyffroi ynglŷn â’r prosiect hwn—

A; wel, dyna ni. Dyna ni, a dyna’r pwynt. Rydych yma i graffu arnaf, ond nid ydych am wrando. Rydych ond eisiau rhoi pregeth ar sut i osgoi diwydrwydd dyladwy. Nid dyna eich rôl. [Torri ar draws.] Nid dyna eich rôl. [Torri ar draws.] Eich rôl yw sicrhau eich bod yn craffu—[Torri ar draws.]—ar y wybodaeth a gyflwynir i chi, ond nid ydych yn dymuno gwneud hynny. [Torri ar draws.] Nid ydych yn dymuno gwneud hynny. Yr hyn rydych yn dymuno’i wneud—

Diolch, Llywydd. Yr hyn a wnewch yw eich bod yn dymuno neidio o un polisi a phenderfyniad prosiect i’r llall. Er enghraifft, sut y byddai expo byd £12 biliwn yn helpu pobl y Cymoedd pe bai’n cael ei leoli yng Nghaerdydd? Dyna un arall o’ch awgrymiadau. Yn ôl pob tebyg, byddai’n dod law yn llaw â baich dyled enfawr—[Torri ar draws.] Mae llawer—[Torri ar draws.] Credaf eich bod wedi dod i gyfanswm o £1 biliwn y mis o ddyled ers ethol y Cynulliad hwn. Nid yw hynny’n gyfrifol; mae hynny’n fyrbwyll. Nid yw’n uchelgeisiol; mae’n rhithiol. Ein cyfrifoldeb yw creu—[Torri ar draws.] Ein cyfrifoldeb yw creu gwaith parhaol ar gyfer holl bobl Cymru, ac rydym yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae gennym y lefelau cyflogaeth uchaf erioed yng Nghymru o ganlyniad i’r Llywodraeth hon—ein hymyriadau, ein buddsoddiadau. Erbyn hyn, mae gennym ddiweithdra isel ar lefel is nag y gallai’r Llywodraethau blaenorol yn San Steffan byth fod wedi breuddwydio amdani, o ganlyniad i’n hymyriadau a’n buddsoddiadau. Ein cyfrifoldeb bellach yw mynd i’r afael â’r problemau strwythurol yn economi Cymru sydd wedi atal gormod o bobl rhag gweithio am gyfnod rhy hir, ond byddwn yn ei wneud drwy sicrhau y byddwn yn buddsoddi mewn gwaith sy’n gynaliadwy. Ni fyddaf yn osgoi unrhyw broses ddiwydrwydd dyladwy wrth sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi yn y ffordd gywir a phriodol ar ran pobl Cymru.

Diolch, Llywydd. Gan aros ar thema cefnogi economi Cymru—[Torri ar draws.]—Rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu addewid Theresa May i—[Torri ar draws.]

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu addewid Theresa May i gael gwared ar dollau pont Hafren ar ôl i’r berchnogaeth gael ei throsglwyddo i Highways England y flwyddyn nesaf, gan ddod ag o leiaf £100 miliwn, wrth gwrs, i economi Cymru bob blwyddyn—amserlen fwy uniongyrchol o lawer na’r un—efallai y gwnaiff Joyce Watson wrando ar hyn—ym maniffesto’r Blaid Lafur, sydd ond yn addo:

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y tollau ar Bont Hafren.

O gofio y byddai Llywodraeth Geidwadol ar 8 Mehefin yn agor Cymru i fwy byth o ffyniant economaidd, pa bryd y bydd y gwaith ar ffordd liniaru’r M4 yn dechrau er mwyn cefnogi’r cynnydd sylweddol yn y traffig a ddaw yn ei sgil?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau? Rwyf wrth fy modd gydag ymagwedd dro pedol y Ceidwadwyr yn San Steffan. Serch hynny, croesawaf y ffaith eu bod yn symud i’r cyfeiriad y mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi rhoi cyfarwyddyd clir a chadarn iawn yn ei gylch. Rwy’n hyderus fod yr ymchwiliad cyhoeddus lleol yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen a amlinellwyd. Yn dilyn canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol, bydd penderfyniad yn cael ei wneud, ac rwyf wedi amlinellu sut rwy’n rhagweld ac yn bwriadu sicrhau y gwneir gwaith yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw a heb unrhyw oedi.

Wel, wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod nad oes unrhyw dro pedol ar y meinciau hyn. Rydym wedi bod yn gefnogol iawn i’r syniad o gael gwared ar dollau pont Hafren ers peth amser. Gallaf glywed Joyce Watson yn gweiddi o’r rhes gefn, ‘O ble fydd yr arian hwnnw’n dod?’ Efallai y gallaf ateb hynny hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid sylweddol i hybu economi Cymru, o’r buddsoddiad o £1.2 biliwn ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, i gynnydd o £400 miliwn yn y cyllidebau cyfalaf, fel y cyhoeddwyd yn natganiad yr hydref, yn ychwanegol at y £500 miliwn y bydd modd i Lywodraeth Cymru ei fenthyg er mwyn ei fuddsoddi o 2018 ymlaen.

Fodd bynnag, mae’r broses o greu comisiwn seilwaith cenedlaethol, a fydd yn goruchwylio’r prosiectau seilwaith niferus sydd eu hangen arnom yng Nghymru, wedi’i gohirio tan ddiwedd y flwyddyn hon. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, am argymhelliad pwyllgor yr economi a’r seilwaith ym mis Mawrth, ac eto ni dderbyniwyd yr argymhelliad gennych i’w sefydlu fel corff anstatudol, gyda’r rhagdybiaeth y byddai deddfwriaeth yn dilyn, a chredaf fod hynny wedi bod yn siom i aelodau’r pwyllgor a llawer o bobl eraill. A ddylem gymryd y bydd hyn yn golygu na fydd y comisiwn seilwaith yn aros ar sail barhaol yng Nghymru?

Na ddylem. Mae’r comisiwn seilwaith cenedlaethol, yr argymhellion ar gyfer sut y caiff ei gyfansoddi a’i aelodaeth wedi’u hamlinellu’n glir. Ein bwriad yw sicrhau y ceir gwerthusiad, cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, o effeithiolrwydd y comisiwn, yn seiliedig ar fodelau a roddwyd ar waith mewn mannau eraill. Credwn y bydd yn ffordd effeithiol iawn o roi cyngor arbenigol. Credaf ei bod yn deg dweud mai un elfen hanfodol o waith comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru fydd y modd y bydd yn rhyngweithio â chomisiwn y DU, o ystyried arwyddocâd nifer o brosiectau seilwaith mawr ar y ddwy ochr i’r ffin, yn enwedig rheilffyrdd, dros y 10 i 20 mlynedd nesaf. O ran y rhagdybiaeth i’w roi ar sail statudol, credaf fod angen i ni sicrhau ein bod, yn gyntaf oll, yn gwerthuso effeithiolrwydd y comisiwn seilwaith cenedlaethol cyn i ni fwrw ymlaen ag unrhyw ddatblygiadau pellach mewn perthynas â’i gyfansoddiad neu sut y mae’n gweithio.

Ynghyd â’r buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi darparu cyfleoedd allweddol ar gyfer economïau rhanbarthol. Nodaf fod Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth ddiwydiannol. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi eich ymateb i’r ymgynghoriad i Aelodau’r Cynulliad ar unwaith, ac os na wnewch, pam hynny?

Mae hyn yn rhywbeth rwy’n fwy na pharod i’w wneud. Rwyf wedi dweud eisoes fy mod o’r farn fod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cynnig cyfleoedd ni o ran ble y gallwn weithio gyda’n gilydd mewn perthynas ag economïau rhanbarthol a datblygu mwy o ymyriadau sy’n seiliedig ar le. Credaf fod cyfleoedd gwych, yn yr un modd, mewn perthynas â’r cytundebau sector, ond yr hyn a fydd yn hanfodol wrth bennu llwyddiant neu fethiant, pan gaiff y strategaeth ei rhoi ar waith fel set o gamau gweithredu, yw i ba raddau y caiff ei chefnogi gan yr adnoddau priodol ac angenrheidiol, nid yn unig ledled Lloegr, ond ledled y DU gyfan, gan gynnwys Cymru. Am y rheswm hwnnw, rwy’n benderfynol, os aiff y strategaeth honno yn ei blaen—ac wrth gwrs, mae’n dibynnu ar ganlyniad etholiad cyffredinol y DU—ond os aiff y strategaeth honno yn ei blaen, mae’n hanfodol fod Cymru’n elwa o’i chyfran deg o gyllid, yn enwedig mewn perthynas â datblygu ymchwil ac arloesi.

Diolch, Llywydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r cynllun i wella ffordd Blaenau’r Cymoedd a’r dyddiad y mae disgwyl i ran ceunant Clydach gael ei gwblhau?

Rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynllun i ddeuoli ffordd Blaenau’r Cymoedd. Mae’n gynllun rydym yn hynod falch ohono yn y Llywodraeth. Credaf mai fy nghyd-Aelod Carl Sargeant a roddodd y cynllun ar waith ar ôl i Weinidog trafnidiaeth neu ddatblygiad economaidd blaenorol o blaid wahanol ei ohirio, rwy’n credu. Felly, byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â chynnydd mewn perthynas â’r darn hynod bwysig hwn o seilwaith ar gyfer ffordd Blaenau’r Cymoedd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gofynnais y cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fy mod yn meddwl tybed a fydd yn barod mewn pryd ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.

Mae hynny’n dibynnu’n llwyr ar gyfnod cyflenwi Cylchffordd Cymru. Ond mae cyfnod cyflenwi ffordd Blaenau’r Cymoedd yn mynd rhagddo’n dda, ac ni fu unrhyw oedi sylweddol o bwys dros yr wythnosau diwethaf. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau gyda manylion ynglŷn â phryd y bwriedir i’r gwaith gael ei gwblhau.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi symud ymlaen at fater arall? Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae Blaenafon yn safle treftadaeth y byd gyda miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn yn mwynhau nid yn unig y gweithfeydd haearn adferedig, ond Big Pit hefyd, a rheilffordd Blaenafon. Fodd bynnag, ymddengys nad yw hyn yn cael yr effaith a ddymunir ar y dref ei hun, gyda llawer o siopau’r stryd fawr wedi cau. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i wella cysylltedd rhwng atyniadau’r dref a’r dref ei hun?

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt da iawn, sy’n berthnasol, mewn gwirionedd, i lawer o gymunedau eraill sydd â safleoedd treftadaeth pwysig ar garreg eu drws. O ganlyniad i’r gwaith a fu’n mynd rhagddo wrth i’r grŵp llywio edrych ar addewid polisi Cymru Hanesyddol, bydd rhyngweithio llawer agosach bellach rhwng y rhai sy’n rheoli Big Pit a gweithfeydd haearn Blaenafon. Credaf, o ganlyniad i hynny, y bydd mwy o ffocws ar raglenni hygyrchedd ac allgymorth. Os gallant weithio ar y cyd gyda’i gilydd, a rhannu adnoddau—sy’n brin iawn, rwy’n cyfaddef—credaf y bydd cyfleoedd i hysbysebu’r asedau bendigedig hynny’n well i’r bobl sy’n byw yn yr ardal gyfagos, ond hefyd i alluogi gwell cysylltiadau trafnidiaeth a hygyrchedd ar gyfer y ddau safle. Credaf fod cryn botensial ar gyfer tocynnau ar y cyd ar draws y rhanbarth, fel y gall mwy o bobl gael mynediad i fwy o safleoedd treftadaeth yn fwy aml.

Lleddfu Tagfeydd i’r Dwyrain o Gaerdydd

4. Pa gynlluniau sydd gan Trafnidiaeth Cymru ar gyfer lleddfu tagfeydd i’r dwyrain o Gaerdydd? OAQ(5)0159(EI)

Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu cymorth a chyngor i ddatblygu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu system drafnidiaeth integredig drawsffurfiol yng Nghymru, gan ddarparu trafnidiaeth ddiogel, fforddiadwy, cynaliadwy ac o safon uchel i bawb.

Wel, yn sicr, gallwn gytuno ar hynny. Ond mae pum mlynedd bellach ers adroddiad Mark Barry, ‘A Metro for Wales’ Capital City Region’, a dwy flynedd ers i fwrdd prifddinas-ranbarth Caerdydd gytuno bod angen system drafnidiaeth integredig arnom fel catalydd ar gyfer newid economaidd. Yn y cyfamser, mae mwy a mwy o bobl yn tyrru i Gaerdydd a Chasnewydd mewn ceir ac yn cynyddu tagfeydd a phroblem llygredd awyr yn sylweddol. Ymddengys nad oes gan y map o orsafoedd metro posibl fwy statws na darn o waith celf. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pryd y gall pobl Caerdydd a Chasnewydd siapio’r map metro newydd er mwyn darparu’r newid moddol y mae pawb i’w gweld yn cydnabod bod ei angen.

Fel y dywedwyd yn rheolaidd, mae’r metro yn waith dynamig gydag amserlen rydym yn glynu wrthi, ac erbyn 2023, bydd y gwasanaethau yn cychwyn. Rwy’n falch ein bod yn ddiweddar wedi gallu rhoi manylion ynglŷn â dwy orsaf i’r dwyrain o Gaerdydd a fydd yn cael eu datblygu gyda’r bwriad o sicrhau’r cyllid priodol i’w huwchraddio, sef Llan-wern a Llaneirwg, ond roeddwn hefyd yn falch o gyfarfod yn ddiweddar â gwirfoddolwyr anhygoel yng ngorsaf Magwyr sy’n awyddus i weld eu cyfleuster penodol yn cael ei uwchraddio a’i foderneiddio hefyd. Yn ddiweddar, ysgrifennais at y grŵp hwnnw a’r Aelodau yn rhoi’r newyddion diweddaraf ynglŷn â sut y byddwn yn cefnogi’r gymuned benodol honno.

Credaf ei bod yn hanfodol, wrth i ni ddatblygu cam 3 y metro—ac rydym ar gam 2 ar hyn o bryd, lle rydym yn y broses o gaffael gweithredwr a phartner datblygu—ond yng ngham 3 byddwn yn gweld estyniadau i’r rheilffyrdd yn y dyfodol a rhagor o integreiddio bysiau ar draws ardal map y metro. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn darparu amrywiaeth eang o fanteision drwy ymgysylltu â phobl ar draws y cymunedau i bennu lle mae angen buddsoddi, a sut y gall y buddsoddiad hwnnw gysylltu â mathau eraill o deithio, teithio llesol yn bennaf, fel y gall pobl gyrraedd a gadael gwasanaethau metro ar droed, neu ar feic.

Ysgrifennydd y Cabinet, canfu arolwg diweddar gan INRIX Roadway Analytics fod busnes yng Nghaerdydd yn cael ei effeithio’n arbennig o wael gan dagfeydd. Credaf fod angen inni fod o ddifrif ynglŷn â’r arolygon hyn ar lefel y DU. Nawr, un ffordd o leddfu traffig ar adegau prysur yw buddsoddi mewn gorsaf drenau parcffordd Caerdydd yn Llaneirwg, a chyfleusterau parcio a theithio cysylltiedig. Credaf fod eich penderfyniad i archwilio dichonoldeb yr orsaf hon wedi cael ei groesawu gan lawer. Tybed lle mae’r gwaith craffu arni erbyn hyn.

Byddaf yn darparu gwybodaeth ysgrifenedig i’r Aelodau ynglŷn â chynnydd y camau ar bob un o’r prosiectau sydd ar waith gennym ar hyn o bryd. Yn sicr, gyda Llaneirwg, bydd creu cyfleuster parcio a theithio sylweddol yn lleihau tagfeydd i mewn i ganol dinas Caerdydd, ond bydd hefyd yn sicrhau y gall busnesau barhau i dyfu, mewn amgylchedd cystadleuol iawn dros y ffin.

Gwyddom, rhwng tagfeydd ar yr M4 a bodolaeth tollau ar bont Hafren, fod ffactorau arwyddocaol yn gweithio yn erbyn ein buddiannau wrth hybu twf economaidd. Rydym yn dymuno cael gwared ar y ddau fater hwnnw. Rwy’n falch fod y pleidiau gwleidyddol yn Llundain bellach wedi cydnabod yr angen i gael gwared ar dollau pont Hafren.

Mae’n hanfodol bellach ein bod yn datrys problemau tagfeydd yr M4. Ond ni fydd hynny’n digwydd drwy ffordd liniaru’r M4 yn unig—mae angen cryn fuddsoddiad yn y seilwaith a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac yn wir, i ymgymryd â theithio llesol i mewn i ganol y ddinas ac o’i amgylch.

Band Eang Cyflym Iawn

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth band eang cyflym iawn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0164(EI)

Hyd yn hyn, mae prosiect Cyflymu Cymru wedi buddsoddi dros £48.6 miliwn yn darparu mynediad i 171,498 o gartrefi a busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru at gysylltedd band eang cyflym iawn, gan ddarparu cyflymder cyfartalog o dros 73 Mbps.

Diolch i’r Gweinidog am hynny, ac rwy’n cydnabod y rhan y mae hi wedi’i chwarae yn cyflwyno’r rhaglen hon a gwella mynediad at fand eang ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond fe fydd yn gwybod bod llawer gennym i’w wneud eto. Rwy’n treulio cryn dipyn o amser yn y car yn croesi’r rhanbarth ac rydym yn colli signal ar brydiau felly mae’n anodd iawn gwneud unrhyw fusnes dros e-bost am unrhyw hyd o amser, ac mae gennyf etholwyr sy’n dal i gwyno eu bod yn cael eu trin yn wael gan y darparwyr sy’n gosod y gwasanaeth—fel un o Lansadwrn yn Sir Gaerfyrddin, sy’n ysgrifennu i ddweud bod ei ddyddiad ar gyfer gosod band eang cyflym iawn wedi cael ei ohirio. Y dyddiad gosod cyntaf oedd haf 2016, a gohiriwyd hynny tan fis Mawrth 2017 ac yna tan fis Gorffennaf 2017. Mae un arall yn dweud bod y dyddiad bob amser ‘ddau fis i ffwrdd’, pryd bynnag y caiff y dyddiad, ac mae hwnnw wedyn yn newid i ddau fis arall i ffwrdd. Felly, tybed a all y Gweinidog roi unrhyw obaith i fy etholwyr sy’n ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn y ceir gwelliant pellach o sylwedd cyn bo hir.

Rwy’n cydnabod y broblem o ran amserlenni’n symud, ac rydym wedi trafod hynny sawl gwaith yn y Siambr hon, ac rydym wedi gweithio’n galed iawn gyda BT i sicrhau eu bod yn rhoi amserlenni llawer mwy realistig. Weithiau, nid yw’n bosibl iddynt ddeall yr anawsterau peirianyddol posibl ar lawr gwlad, ond rydym yn cael cyfarfodydd rheolaidd iawn â hwy, lle byddaf yn mynd drwy’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Aelodau’r Cynulliad, fel chi, ac yn gofyn, ‘A allwn wella’r system gyfathrebu hon?’ Er ei bod yn rhwystredig iawn i’r unigolion sy’n dal yn y sefyllfa hon, mae nifer yr achosion wedi gostwng yn sylweddol ers i ni ddechrau gweithio’n galed iawn i wneud hynny, er fy mod yn cydnabod rhwystredigaeth y bobl sydd yn y sefyllfa honno.

Rydym wedi gwneud yn arbennig o dda o ran cyrhaeddiad. Ar hyn o bryd, mae gennym gyfraddau cwblhau o 80 y cant yn Sir Benfro, 75 y cant yn Sir Gaerfyrddin, 63 y cant yng Ngheredigion, a dros 71 y cant ym Mhowys. Bydd y ffigurau hynny’n gwella wrth i ni agosáu at ddiwedd y prosiect. Felly, i ailadrodd, bydd prosiect Cyflymu Cymru yn dod i ben ym mis Mehefin. Mae’n rhaid i’r holl waith a fydd yn cael ei wneud yn rhan o’r prosiect fod wedi dechrau erbyn mis Mehefin—bydd wedi’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr.

Cyn bo hir, ym mis Mehefin, byddaf yn gwneud rhai cyhoeddiadau ynglŷn â’r rhaglen yn y dyfodol i gyrraedd y bobl sy’n weddill. Rydym yn edrych ar nifer enfawr o ffyrdd arloesol i sicrhau cyflymderau cyflym iawn ar gyfer yr ychydig ganrannau sydd ar ôl. Byddwn yn buddsoddi dros £80 miliwn er mwyn gwneud hynny. Mae hynny’n dibynnu ar faint o adfachu a geir ar y contract presennol. Felly, fel arfer, rwy’n annog pob AC i sicrhau, lle mae band eang cyflym iawn ar gael, fod pobl yn prynu’r gwasanaeth, oherwydd yn amlwg, rydym yn cael cyfran o’r budd ar bopeth dros 21 y cant o ddefnydd, ac mae hynny’n ein galluogi i fuddsoddi’r arian hwnnw mewn gwelliannau pellach.

Fe sonioch hefyd am gysylltedd ffonau symudol. Mae’n wir fod y dechnoleg yn uno i’r pwynt lle’r ymddengys eu bod yr un peth â’i gilydd, ond yn anffodus nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd. Nid yw technoleg ffonau symudol wedi’i datganoli yng Nghymru—carwn pe byddai—ond rydym yn gweithio’n galed iawn gyda’r gweithredwyr ffonau symudol ar gyfres o fesurau a fydd yn helpu i wella cysylltedd, a byddaf hefyd yn gwneud datganiad ynglŷn â nifer o gyfarfodydd rydym yn eu cael gyda hwy ar wella cysylltedd. Rydym yn ymwybodol iawn o hyn.

Y peth olaf i’w ddweud ynglŷn â hyn yw y byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud am y broses o gyflwyno’r bumed genhedlaeth, fel nad oes rhaid i bobl ddringo’r grisiau—gallant lamu o ble maent ar hyn o bryd i fyny i’r ddarpariaeth orau bosibl. Mae honno hefyd yn sgwrs barhaus â phob un o’r gweithredwyr ffonau symudol.

Weinidog, mae gennyf ddau lythyr oddi wrthych yma, un sy’n ddyddiedig ym mis Mawrth ac un sy’n ddyddiedig ym mis Ebrill. Mae’r un ym mis Mawrth yn dweud bod swyddogion wedi siarad â chydweithwyr o BT sydd wedi cadarnhau y bydd y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn mynd rhagddi ym mis Mehefin, ond wedyn, fis yn ddiweddarach, mewn perthynas â’r un eiddo, ysgrifenasoch ataf eto i ddweud, ers y diweddariad, fod y wybodaeth bellach wedi newid, ac nad yw ar gael bellach ac yn anffodus, bydd yr eiddo penodol hwn yn rhy bell oddi wrth y cabinet. Nawr, mae hyn, wrth gwrs, a gobeithiaf y byddwch yn cytuno, yn gwbl annerbyniol, gan fod yr eiddo penodol hwn yn yr ardal hon wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ateb technolegol arall, ac ar eich cyngor ym mis Mawrth, gwrthodasant yr ateb arall gan ddweud, ‘Na, mae’n iawn, gan y byddwn yn cael band eang cyflym iawn yn dod ym mis Mehefin—nid oes ei angen arnom, mae’n flin gennym’, ac yna, gwta fis yn ddiweddarach, i gael eich—. Roedd yn rhy hwyr erbyn hynny, wrth gwrs, i fwrw iddi gyda’r ateb technolegol arall. A ydych yn cytuno bod hyn yn gwbl annerbyniol? Beth a wnewch i sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir yn y lle cyntaf?

Ydw, rwy’n derbyn bod hynny’n rhwystredig. Dywed y llythyrau hefyd, wrth gwrs, fod y dyddiadau bob amser yn agored i newid, yn dibynnu ar waith peirianyddol ac yn y blaen. Rydym yn ceisio rhoi’r wybodaeth gywiraf, ac rwy’n llwyr gydnabod rhwystredigaeth y rhai sydd wedi’u dal mewn sefyllfa sy’n newid yn y ffordd honno. Felly, rydym yn gweithio’n galed iawn i wneud yn siŵr fod y wybodaeth yn gywir, ac mae nifer yr achosion wedi gostwng yn sylweddol iawn, ond rwy’n llwyr gydnabod rhwystredigaeth pobl sydd wedi’u dal yn y sefyllfa honno, ac rwy’n fwy na pharod i weithio gyda chi ar sail unigol er mwyn sicrhau bod yr unigolion hynny’n cael yr atebion gorau.

Amrywiadau mewn Arian Treigl

6. Pa effaith y mae amrywiadau diweddar mewn arian treigl wedi’i chael ar allforion o Gymru? OAQ(5)0168(EI)

Yn gyffredinol, byddai disgwyl i werth is am sterling gefnogi allforion drwy ostwng prisiau nwyddau a allforir mewn marchnadoedd tramor. Fodd bynnag, mae ystod eang o ffactorau’n effeithio ar lefelau allforio. Waeth beth fo’r sefyllfa o ran arian treigl, mae Llywodraeth Cymru’n ymwneud yn frwd ag ystod o raglenni i hybu allforion o Gymru, a bydd yr ymdrechion hyn yn cael eu hailddyblu wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Rwy’n awyddus iawn i glywed beth yn benodol y mae ‘ailddyblu’ yn ei olygu mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn deg dweud, pan fydd y trafodaethau’n cychwyn rhwng y DU a’r UE ynglŷn â’n hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd, y gallai hynny arwain at ansefydlogrwydd yn y farchnad, efallai y bydd rhagor o amrywiadau mewn arian treigl wrth i bob agwedd ar y trafodaethau gael eu dadansoddi, a’r posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau’n answyddogol.

Pan ofynnais i Lywodraeth Cymru pa gymorth penodol oedd yn cael ei ddarparu ar gyfer y sector amaethyddol o ran lliniaru amrywiadau mewn arian treigl, yr ymateb oedd bod amrywiadau mewn arian treigl y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, a oedd yn ateb defnyddiol iawn. Mae Llywodraeth Iwerddon wedi sefydlu cynllun cymorth benthyciadau gwerth €150 miliwn ar gyfer llif arian amaethyddol, gan sicrhau bod arian ar gael i ffermwyr ar gost isel i helpu i fynd i’r afael ag effaith ansefydlogrwydd arian treigl a chyfraddau cyfnewid. Tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun cyfatebol yn y wlad hon er mwyn cefnogi allforwyr yn fwy cyffredinol mewn perthynas ag ansefydlogrwydd posibl yn y marchnadoedd arian ac arian treigl.

Credaf fod esiampl Iwerddon yn un sy’n sicr yn galw am graffu ac arfarnu, ond yn fy marn i, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd angen i ni weithio hyd yn oed yn agosach â’r Adran Fasnach a Buddsoddi ar lefel y DU, a dwysáu ein gweithgarwch o ran teithiau masnach ac o ran denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor. Rydym wedi mwynhau, mewn gwirionedd, yn ddiweddar iawn, y ffigurau a gyhoeddwyd a ddangosai fod allforion wedi cynyddu fwy nag erioed. Rydym yn gweld cynnydd mewn allforion yn gyflymach na’r DU yn gyffredinol, cynnydd o dros £700 miliwn, ond nid oes unrhyw amheuaeth y bydd angen i ni ddwysáu ein hymdrechion wrth i ni adael yr UE i ddod o hyd i ragor o farchnadoedd newydd a sicrhau bod mwy o fusnesau’n allforio.

Mae cyfraddau allforio gwlad yn ffactor pwysig wrth bennu pa mor gynhyrchiol yw’r economi, ac yn fy marn i—ac rwyf wedi bod yn pwysleisio’r neges hon gyda’r gymuned fusnes—mae angen i fwy o fusnesau yng Nghymru archwilio’r potensial i allforio i fwy o diriogaethau. Oherwydd hynny, rydym yn edrych ar fwy o gyfleoedd i gynnal teithiau masnach a rhagor o raglenni ymgysylltu i sicrhau bod busnesau mawr a bach yn cael yr holl gymorth y gallant ei gael gan Lywodraeth Cymru i’w galluogi i allforio.

Ond un pwynt olaf sy’n bwysig iawn hefyd wrth i ni adael yr UE—bydd sefydlogrwydd arian treigl, wrth gwrs, yn ffactor hollbwysig sy’n pennu crynswth y difrod neu’r manteision y bydd gadael yr UE yn ei sicrhau i Gymru a’r DU. Ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio, lle gallwn, gyda rhannau eraill o’r DU, yn fewnol ac fel y DU ar lwyfan rhyngwladol, nid yn lleiaf am fod cyfleoedd enfawr yn cael eu darparu ar ein cyfer gan Lywodraethau y tu allan i Gymru, ond o fewn y DU, o ran gwybodaeth am fuddsoddiadau masnach yn ogystal â gwybodaeth am diriogaethau allforio sy’n newydd neu’n datblygu. Felly, mae’n bwysig fod y Llywodraeth hon yn parhau i weithio gyda Llywodraethau eraill ledled y DU.

Mae dibrisiant yn golygu bod allforion yn rhatach mewn arian treigl sy’n prynu, ond mae cost mewnforion yn cynyddu mewn punnoedd. Mae’r bunt wedi gostwng o $1.5 fis Mehefin diwethaf i rhwng $1.2 a $1.3, gostyngiad o 14 i 20 y cant. Ac wrth i gost mewnforion gynyddu, bydd allforion a gefnogir yn cynyddu cost allforion i fod yn ddibynnol ar ddod â deunyddiau crai yma o dramor a chynhyrchu nwyddau i’w hallforio. Mae hefyd yn cyflwyno chwyddiant i’n heconomi, sydd wedi cynyddu naw gwaith ers y llynedd.

A yw’r Gweinidog yn rhannu fy mhryder y gall allforwyr o Gymru gael eu heffeithio gan y cynnydd yng nghost y deunyddiau crai a ddaw i mewn, a hwythau eisoes wedi gosod prisiau sefydlog am eu nwyddau i’w hallforio, a’u bod yn dioddef o ganlyniad i hynny, ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cytuno mai’r hyn sydd ei angen arnom yw rhyw fath o sefydlogrwydd o ran arian treigl, er mwyn i bobl fod yn ymwybodol o’u sefyllfa? Rydym wedi cael y dibrisiant—mae angen i ni aros yno yn awr. Ni allwn barhau i gael ein harian treigl yn neidio i fyny ac i lawr—mae pawb yn dioddef.

Nid ydym wedi cael cyfradd gyfnewid gadarn a sefydlog dros y misoedd diwethaf—yn sicr, mae’n rhywbeth sydd ei angen ar y gymuned fusnes a’n heconomi. Mae dibrisiant sterling ers canlyniad y refferendwm wedi bod yn gleddyf deufin o ran yr hyn y mae wedi ei olygu i rai allforwyr yng Nghymru. Fel yr awgryma Mike Hedges, un effaith yw cynyddu cost mewnforion, ac mae hyn yn effeithio’n andwyol ar allforwyr yn uniongyrchol, gan ei fod yn cynyddu cost mewnbwn a fewnforiwyd, ond hefyd yn anuniongyrchol, gan ei fod yn cynyddu prisiau ar draws yr economi gyfan, ac felly’n effeithio ar ffynonellau mewnbwn domestig, hyd yn oed.

Nawr, rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn edrych ar gyfleoedd cadwyn gyflenwi, yn arbennig, ar gyfer is-sectorau gweithgynhyrchu allweddol, lle mae cyfleoedd ledled Cymru i dyfu cwmnïau bach, ac yn wir, i ddechrau cwmnïau newydd. Gallaf feddwl am nifer o gyfleoedd yn y sector modurol, lle mae nifer sylweddol o rannau ceir a gynhyrchwyd yn y DU yn dod o’r tu allan i’r DU ar hyn o bryd mewn gwirionedd, ond wrth i ni adael yr UE, efallai y gellid tyfu busnesau yng Nghymru a all weithredu fel gweithgynhyrchwyr cadwyn gyflenwi mewn perthynas â nwyddau ar gyfer y sector modurol. Am y rheswm hwnnw, cynhelir uwchgynhadledd i ddod â chwmnïau fel Bentley, Toyota, Vauxhall, Ford a Jaguar Land Rover ynghyd er mwyn sicrhau ein bod yn archwilio’n llawn ac yn craffu ar y cyfleoedd i greu cadwyn gyflenwi gryfach yn y sector modurol.

Cefnogi Busnesau Bach

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0171(EI)[W]

Mae busnesau bach yn rhan bwysig o economi Cymru, ac rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth i entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig eu maint ddal ati a thyfu yng Nghymru drwy wasanaeth pwrpasol Busnes Cymru, ac yn wir, drwy fuddsoddi yn ein seilwaith.

Mae cyngor Wrecsam yn gwario rhyw £200 miliwn y flwyddyn ar gaffael gwasanaethau a nwyddau trwy gaffael cyhoeddus, ond mae llai na chwarter hwnnw, fel sydd yn rhy gyffredin ar draws Cymru, gyda chwmnïau o fewn y sir, a llai na hanner, neu tua hanner, yn mynd i fusnesau yn Lloegr. Nawr, mae hynny’n golled o ryw £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae yna datws ar gyfer cinio ysgol yn dod o Rochdale, er bod yna gwmni dosbarthu tatws yn y dref. Mae yna fara ar gyfer ciniawau ysgol yn dod o Lerpwl, er wrth gwrs bod cwmnïau fel Village Bakery yn fwy nag abl i ddarparu y cynnyrch yna. Felly, gyda chynghorau newydd yn cael eu ffurfio ar draws Cymru dros yr wythnosau yma, beth yw’ch neges chi i gynghorau Cymru ynglŷn â gwella y record siomedig iawn sydd gennym ni ar hyn o bryd o safbwynt caffael cyhoeddus yng Nghymru?

Credaf ei bod yn bwysig iawn fod cynghorau’n cwmpasu cyfleoedd i’r gymuned fusnes yn eu hardaloedd er mwyn sicrhau y cofrestrir busnesau ar gronfa ddata GwerthwchiGymru. Ar hyn o bryd, mae’n cynnwys oddeutu 34,000 o gyflenwyr cofrestredig. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu’r gronfa ddata, a bod unedau datblygu economaidd ac unedau caffael yr awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda sefydliadau busnes—yn enwedig gyda Busnes Cymru—i ledaenu gwybodaeth ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd, ac a allai ddod ar gael dros y misoedd nesaf. Credaf fod cyfle enfawr, gyda’r gwaith a fydd yn mynd rhagddo ar sail ranbarthol mewn llywodraeth leol, i wella’r gwaith o gwmpasu ac o ledaenu’r wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau i ennill prosiectau caffael pwysig ac i gael eu cynnwys yn rhan o faes sy’n tyfu yn economi Cymru.

Cefnogaeth i’r Diwydiant Twristiaeth

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau yn y diwydiant twristiaeth? OAQ(5)0165(EI)

Gwnaf. Mae ein strategaeth dwristiaeth, ‘Partneriaeth ar gyfer Twf’, yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer pob un o’r blynyddoedd hyd at ddiwedd y degawd er mwyn tyfu’r diwydiant twristiaeth ledled Cymru; i fuddsoddi yn y diwydiant; ac i sicrhau ein bod ni, fel partneriaeth, yn parhau i fwynhau datblygiadau o’r radd flaenaf a digwyddiadau sy’n denu miliynau ar filiynau o bobl bob blwyddyn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, daw’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru â dros £6.2 biliwn i’n heconomi, 13 y cant o gymharu ag 8 y cant yn unig yn Lloegr, 10 y cant yn yr Alban a 4 y cant yn unig yng Ngogledd Iwerddon, cyfraniad uniongyrchol o £2.7 biliwn sy’n cyfateb i 6 y cant o’n cynnyrch domestig gros. Rhagwelir y bydd y ffigur hwnnw’n cynyddu i 7 y cant erbyn 2020, ac mae hynny, wrth gwrs, yn 14 y cant o ran cyflogaeth. Mae’n amlwg y dylech chi, fel Llywodraeth, fod yn gwerthfawrogi, yn annog ac yn cefnogi’r diwydiant gwerthfawr hwn. Ond mae llawer ohono, wrth gwrs, yn cael ei gyflawni gan y rhai sy’n gweithio yn y sector preifat gyda llawer o fuddsoddiad personol a llawer o waith caled. O ystyried y baich enfawr sydd bellach yn wynebu llawer o weithredwyr twristiaeth bach—a gwn am westywyr yn Llandudno sy’n wynebu codiadau diweddar o dros 83 cant—sut rydych chi’n gweithio fel Llywodraeth i edrych, unwaith eto, ar y lluosydd ardrethi busnes er mwyn atal ein busnesau, i bob pwrpas, rhag tuag at yn ôl, a mynd i’r wal o bosibl?

Credaf fod yr Aelod yn tynnu sylw at nifer o bwyntiau pwysig. Yn gyntaf oll, mae’r Llywodraeth yma i helpu busnesau sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd oherwydd yr ailbrisio. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi manylion ynglŷn â’r cymorth a’r cynnydd yn yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi busnesau bach, nid yn unig yn y sector twristiaeth, ond mewn llawer o sectorau eraill. Ond credaf ei bod hefyd yn bwysig inni gydnabod pwysigrwydd tyfu gwerth yr economi ymwelwyr. Trwy dyfu gwerth y tyfwn lefelau elw i raddau helaeth, ac yng ngogledd Cymru, rhan o’r wlad y mae’r Aelod yn ei chynrychioli, rydym wedi gweld twf eithaf syfrdanol yn nifer y bwytai, y gwestai ac atyniadau twristiaeth o safon uchel.

Roeddwn gyda Sean Taylor, yr entrepreneur a fu’n gyfrifol am sefydlu casgliad Zip World o atyniadau o’r radd flaenaf, yr wythnos diwethaf i weld y Fforest Coaster newydd: strwythur rhyfeddol—y strwythur cyntaf o’i fath yn y byd—a rhywbeth y byddai llawer yn ei ystyried yn ecsentrig iawn, ond mae o’r safon uchaf. Fel yr amlygodd yr Aelod yn ei chwestiwn, fe’i darperir gan entrepreneur â syniadau braidd yn ecsentrig, ond maent yn syniadau sy’n darparu’r hyn sydd ei angen. Pan fo pobl yn cynnig syniadau sy’n ymarferol, byddwn yn eu cefnogi. Fel y dangosodd Zip World, ar draws ardal o ogledd Cymru a oedd ag angen taer am fuddsoddiad mewn swyddi a gwasanaethau, mae wedi creu dros 200 o swyddi yn y cyfnod hwnnw. Mae hynny’n llwyddiant anhygoel. Felly, hoffwn weld y sector yn parhau i dyfu, nid yn unig o ran niferoedd—o ran niferoedd cyflogaeth—ond hefyd o ran ansawdd.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yfory ynghylch y blynyddoedd thematig diweddar, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau’n cyffroi yn ei gylch. Ond rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau drwy’r gronfa arloesi cynnyrch twristiaeth a’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth i barhau i ddatblygu atyniadau o’r radd flaenaf sy’n gwneud enw iddynt eu hunain ac sy’n dod â mwy o bobl i Gymru, i wario mwy o arian, a chynyddu gwerth yr economi a sicrhau bod y busnesau sy’n gysylltiedig â’r economi ymwelwyr yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Hybu Economi Cymru Wledig

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y gall Cymru wledig hybu ei heconomi? OAQ(5)0172(EI)

Gwnaf. Mae gan Gymru wledig gyfleoedd a heriau penodol, a gafodd sylw mwy amlwg yn ddiweddar o ganlyniad i Brexit. Mae’n rhaid inni edrych ar gyfraniad pob ysgogiad sydd ar gael inni, ar draws pob portffolio gweinidogol, ac sydd â rhan i’w chwarae’n llunio ac yn dylanwadu ar agenda o ffyniant i bawb.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Clywsom yn ystod y refferendwm fod cefnogwyr Brexit fel R.T. Davies a Neil Hamilton wedi gwneud addewid ar ôl addewid—[Torri ar draws.]—ie, a chi, Janet Finch-Saunders, digon teg; fe wnaethoch chi’r addewidion hynny hefyd. Credaf fod angen dweud bod yr addewidion hynny wedi’u gwneud i ffermwyr Cymru a phobl Cymru, addewidion na fyddent yn gweld toriad yn y swm o arian a ddaw i Gymru. Nawr, yn y Gymru wledig, mae hynny’n cyfateb i oddeutu €350 miliwn y flwyddyn. Mae un peth yn glir i mi: pa bynnag ffordd y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn galed neu’n feddal, byddwn yn gweld y polisi amaethyddol cyffredin yn dod i ben.

Yn hytrach na chroesi ein bysedd a gobeithio’r gorau o ran yr hyn a ddaw nesaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod angen i ni ddechrau canolbwyntio bellach ar ein heconomi wledig mewn gwirionedd, a bod angen i ni ddatblygu cynllun datblygu economaidd gwledig penodol i Gymru? Dylai hynny gynnwys pethau fel darparu’r seilwaith cywir, a hoffwn longyfarch Julie James ar y gwaith anhygoel a wnaed ar fand eang cyflym iawn yng nghefn gwlad Cymru, ond pethau eraill fel yr economi sylfaenol, yr angen i wella twristiaeth a’r angen i ychwanegu gwerth. Ond yn benodol, sut rydym yn mynd i ddarparu cynllun datblygu economaidd ar gyfer y Gymru wledig? Beth yw’r sbardunau? Pwy sy’n mynd i’w darparu? Oherwydd mae’r pwysau enfawr ar yr awdurdodau lleol yn golygu ei bod yn anodd tu hwnt iddynt gyflawni heb gymorth gan Lywodraeth Cymru.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn, a diolch i’r Aelod hefyd am fy nghroesawu’n ddiweddar i un o’i fforymau—fforwm economaidd canolbarth a gorllewin Cymru—a oedd yn hynod ddiddorol, ac sy’n sicr wedi cyfrannu at fy syniadau ynglŷn â’r agenda datblygu economaidd ranbarthol newydd sy’n seiliedig ar le, a grybwyllwyd gennyf yn y gorffennol yn y Siambr hon ac mewn lleoliadau eraill? Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod y sector amaethyddol, yn arbennig, yn parhau i dderbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru wrth i ni adael yr UE, ond mae angen cydnabod hefyd y gall yr heriau a wynebir yng nghefn gwlad Cymru fod yn rhai unigryw sy’n galw am atebion pwrpasol. Oherwydd hynny, rwy’n awyddus i barhau i weithio nid yn unig â’r Aelod drwy ei fforwm economaidd, ond hefyd gyda fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac adnoddau naturiol, er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo er gwaethaf neu oherwydd Brexit, pa un bynnag y bo, a bod pob rhan o Gymru’n elwa o dwf economaidd yn y dyfodol. Nid yw pob rhan o Gymru wedi elwa’n gyfartal o dwf economaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Bwriad y Llywodraeth hon yw sicrhau ffyniant i bawb yn y dyfodol.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a’r cwestiwn cyntaf, Caroline Jones.

Profion Diagnostig

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran lleihau amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig? OAQ(5)0170(HWS)

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yn cael profion diagnostig a thriniaeth o fewn amseroedd targed? OAQ(5)0161(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Deallaf, Llywydd, eich bod wedi cytuno i gwestiynau 1 a 5 gael eu grwpio. Roedd nifer y bobl sy’n aros dros wyth wythnos am ddiagnosteg ar ddiwedd mis Chwefror 2017 41 y cant yn is nag ym mis Chwefror 2016. Dyma’r ffigur isaf ers mis Mehefin 2011. Y canolrif diweddaraf mewn perthynas ag amseroedd aros am brofion diagnostig ledled Cymru yw 2.6 wythnos.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae gormod lawer o bobl yn dal i aros yn rhy hir o lawer am brofion diagnostig. Mae gennym bron i 2,000 o bobl o hyd sy’n aros dros 24 wythnos am wasanaethau diagnostig a therapi. Diagnosteg yw asgwrn cefn ein gwasanaeth iechyd, ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i wella mynediad at brofion a chael gwared ar amseroedd aros dros 24 wythnos. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad oes neb yn y dyfodol yn gorfod aros hanner blwyddyn am brofion diagnostig?

Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a sylweddol, fel yr amlinellais yn fy ateb cynharach. Rwy’n argyhoeddedig fod y cynnydd yn sylweddol ac yn gynaliadwy. Yn benodol, ceir sawl bwrdd iechyd—Hywel Dda, er enghraifft—heb neb yn aros dros yr amser targed perthnasol. Bydd yr her yn ymwneud â’r niferoedd sydd ar ôl, yn bennaf yn ne-ddwyrain Cymru, a sut y cânt eu datrys. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda’r ddau swyddog gweithredol, ond hefyd, yn benodol, gyda chadeiryddion y byrddau iechyd, fy mod yn disgwyl i bobl gyfarfod er mwyn gwneud rhagor o gynnydd eleni, oherwydd er fy mod yn dathlu’r cynnydd a wneir, ni fyddaf yn hunanfodlon tra bo cynnydd ar ôl i’w wneud a thra bo rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir, ac rwy’n benderfynol y bydd GIG Cymru yn parhau i gyflawni ac i wella.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae mynediad at brofion diagnostig a thriniaeth yn arbennig o bwysig mewn argyfyngau, felly tybed a allwch roi sylwadau ar y ffaith fod crwner wedi dweud yn ei adroddiad diweddar yn dilyn achos trasig menyw a fu’n aros am saith awr mewn ambiwlans y tu allan i ysbyty Glan Clwyd, ac a fu farw’n fuan wedi hynny yn yr ysbyty, a dyfynnaf ei adroddiad yma:

Mae’n destun pryder mawr i mi fod fy nyletswydd statudol yn ei gwneud yn ofynnol i mi adrodd y pryderon hyn drwy adroddiadau rheoliad 28 yn rheolaidd iawn.

Felly, nid digwyddiad ynysig mo hwn. Mae’n rhywbeth sydd wedi digwydd yn rheolaidd—’yn rheolaidd iawn’, yn ôl y crwner—y tu allan i’r ysbyty penodol hwnnw. Ni allai’r fenyw druan hon, y fenyw 56 mlwydd oed hon, gael mynediad at y profion a’r driniaeth angenrheidiol yn ddigon cyflym, a gallai hynny fod wedi arwain a chyfrannu at ei marwolaeth, neu fel arall. O gofio ei fod yn fwrdd iechyd sy’n destun mesurau arbennig, ac mai chi, yn y pen draw, sy’n gyfrifol am y bwrdd iechyd hwnnw fel Ysgrifennydd y Cabinet, beth rydych yn ei wneud i gydnabod pryderon y crwner ac i sicrhau nad yw’r digwyddiadau hyn yn digwydd ‘yn rheolaidd iawn’ yn y dyfodol?

Wel, rwyf wedi disgrifio’r gwelliannau a wnaed, ond dylwn ddechrau drwy gydnabod nad yw aros am saith awr y tu allan i unrhyw adran ysbyty’n dderbyniol. Mae angen i ni fod yn glir, nid yn unig ynglŷn â lefel y gwelliant a wnaed gennym, ond i’r un graddau, o ran yr hyn nad ydym yn ei ystyried yn dderbyniol yn ein system gofal iechyd, er mwyn inni fod yn glir ynglŷn â’r gwelliant sydd ei angen. Rwy’n hyderus, gyda’r gwelliannau a wnaed—mewn gwirionedd, ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, o ran profion diagnostig, maent wedi gwneud gwelliannau sylweddol a pharhaus mewn perthynas ag aros am ddiagnosteg. Nid yw’r her ynglŷn â’r modd y mae ein system gyfan yn cydgysylltu wedi’i chwblhau. Gwn fod y cyfnodau aros y tu allan i ysbytai mewn rhai o’r safleoedd yng ngogledd Cymru yn llawer byrrach nag eraill. Felly, rwy’n disgwyl i hyn gael sylw parhaus—nid yn unig yr achos unigol y tynnwch sylw ato, ond deall y darlun ehangach—er mwyn inni gael sefyllfa sy’n dderbyniol, yn gyffredinol, ac sy’n darparu’r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae gan bob dinesydd yng Nghymru hawl i’w ddisgwyl.

Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y gostyngiad a nodwyd gennych yn yr amseroedd aros am brofion diagnostig. Mae’n bwysig iawn ein bod yn symud pobl drwodd mor gyflym â phosibl. Croesawaf hefyd y buddsoddiad yn y ganolfan yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a roddwyd ar waith i sicrhau bod diagnosteg yn gweithio gyda chlinigwyr ar y safle i wella’r gwasanaeth i bobl. A fyddwch yn creu mwy o’r canolfannau hyn ledled Cymru, ac os felly, a gaf fi gyflwyno cais ar ran Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sydd mewn lle delfrydol ar gyfer canolfan o’r fath?

Wel, rwy’n cydnabod mai ef yw’r Aelod lleol dros Aberafan. Edrychwch, mae cynnydd gwirioneddol wedi’i wneud ym mhob bwrdd iechyd. Unwaith eto, mae bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a sylweddol yn y maes hwn. Mae’r ganolfan ddiagnosteg sydd i’w lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn rhan o’r rhaglen ar gyfer de Cymru: datblygu gwasanaeth mwy cydgysylltiedig, a deall ble y gallai a ble y dylai’r profion hynny gael eu cynnal, gan ein bod yn cydnabod bod cael sicrwydd diagnostig, boed hynny mewn gofal heb ei drefnu neu ofal wedi’i drefnu, yn hynod bwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau priodol ynglŷn â thriniaethau yn dilyn hynny. Nid wyf am nodi ble rwy’n bwriadu lleoli, na hyrwyddo’r achos dros leoli canolfan ddiagnostig yn ysbyty lleol penodol unrhyw un arall, ond rwy’n disgwyl i’r gwasanaeth cyfan—y cynlluniwyd ar ei gyfer, y galw y gwyddom ei fod yn bodoli yn awr, y gwyddom y bydd yn bodoli yn y dyfodol—gael system sy’n barod i ateb y gofynion cwbl ragweladwy hynny. Gwyddom, fodd bynnag, y bydd hynny’n galw am rywfaint o ddiwygio yn y ffordd y trefnwn ein gwasanaeth. Bydd angen cael sgwrs aeddfed iawn am hynny yn y dyfodol. Yn amlwg, gobeithiaf y bydd—[Anghlywadwy.]—yn helpu i hyrwyddo eu hachos.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddoch fod yr ystod eang o gyfarpar diagnostig newydd yn ddrud iawn ac yn effeithiol tu hwnt, gan arwain, weithiau, at fwy o archwiliadau, ac mae defnyddio’r cyfarpar newydd mor effeithlon â phosibl yn allwedd i leihau rhestrau aros—yn y nos, er enghraifft, ac ar benwythnosau, sy’n aml yn cynnig amseroedd apwyntiadau mwy cyfleus i bobl sy’n gweithio, er enghraifft.

Rwy’n cydnabod rhai o’r pwyntiau a wnaed ganddo, fel y mae’r gwasanaeth. Rydym yn buddsoddi cyfalaf sylweddol er mwyn darparu’r cyfarpar diagnostig diweddaraf. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud y defnydd gorau ohono ac yn deall yr hyn y gall fod yn ddefnyddiol ar ei gyfer. Er enghraifft, ymwelais â chyfarpar a oedd yn angenrheidiol at un diben, ond mewn gwirionedd, roedd yn gallu cyflawni profion diagnostig gwahanol. Felly, deellir hynny’n iawn o fewn y gwasanaeth, ac mae’n rhan o’r pwynt ehangach ynglŷn â’r hyn y mae diwygio’n ei olygu. Nid ad-drefnu lleoliad ffisegol gwasanaethau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn unig y mae’n ei olygu. Mae hefyd yn golygu gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o’r asedau sydd gennym eisoes—sef y staff a’r cyfarpar sydd gennym. Felly, mae eich pwynt yn un da ac fe’i deellir yn iawn gan y gwasanaeth.

Heriau Economaidd Presennol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu’r gwasanaeth iechyd sydd ei angen ar bobl Cymru yng ngoleuni’r heriau economaidd presennol? OAQ(5)0172(HWS)

Diolch am eich cwestiwn. O ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad Llywodraeth y DU i galedi, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 9 y cant yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn. Er gwaethaf y toriadau a orfodwyd arnom, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi yn GIG Cymru. Golyga hynny y byddwn, yn nwy flynedd gyntaf y Llywodraeth hon, wedi buddsoddi dros £0.5 biliwn o gyllid ychwanegol yn GIG Cymru.

Mae hynny’n braf i’w glywed, ond credaf hefyd y dylid tanlinellu’r pwynt nad heriau economaidd yn unig y mae’r GIG yn eu hwynebu; ceir problemau penodol mewn perthynas â recriwtio. Ac yn ogystal â mewn rhannau o Loegr, ceir problemau penodol yn y Gymru wledig mewn perthynas â recriwtio, lle mae bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft, wedi ymrwymo i ailgyflwyno’r gwasanaeth ymgynghorol 12 awr yn yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Llwynhelyg, pan fyddant wedi llwyddo i gryfhau eu tîm clinigol. Y broblem yw bod Coleg Brenhinol y Pediatregwyr wedi awgrymu y dylid cau 41 y cant o’r clinigau newyddenedigol ar draws y DU dros dro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd anawsterau recriwtio, ac mae Llwynhelyg yn pysgota o’r un pwll am yr arbenigwyr hynny.

Tybed sut rydym yn mynd i afael â’r mater hwnnw, ac a allwch gadarnhau y gall adran ddamweiniau ac achosion brys Llwynhelyg ymdrin ag achosion pediatrig mewn argyfwng?

Diolch am eich cwestiwn. O ran y pwynt olaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gallu pediatrig yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys i ddiwallu anghenion cleifion sydd angen triniaeth mewn argyfwng.

Edrychwch, mae yna her ehangach yma rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw ati o ran ein gallu i recriwtio a’r prinder arbennig mewn rhai ardaloedd, lle maent yn broblemau ledled y DU a thu hwnt i hynny—ledled gorllewin Ewrop, mae heriau mewn rhai meysydd recriwtio. Felly, mae hynny’n rhan o’r her onest y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi ar gyfer gwella a diwygio’r ffordd y mae ein gwasanaeth iechyd yn gweithio yn y dyfodol. Dyna pam fod cael modelau gofal deniadol wedi’u trefnu ar draws y gymuned, a lle bo angen, mewn ysbyty, yn wirioneddol bwysig. Os ydym am recriwtio’r bobl orau, os ydym am recriwtio pobl i’r proffesiynau hyn sydd â phrinder staff, mae angen i ni sicrhau bod gennym le deniadol i weithio.

Ac er yr holl lwyddiant rydym wedi’i gael gyda cham cyntaf ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw.’ ar gyfer recriwtio meddygon—cam pwysig ymlaen i Gymru—rydym yn cydnabod bod angen inni wneud rhagor ac na fydd yr ymgyrch honno ynddi ei hun yn datrys y problemau mewn rhai o’r meysydd arbenigol hyn. Felly, mae meddwl yn glir ac yn ofalus iawn am ddyfodol y gwasanaeth, sut y caiff ei drefnu, pwy rydym yn awyddus i’w denu, ar ba delerau y byddwn yn gofyn i bobl weithio, a chyda phwy y byddant yn gweithio mewn gwirionedd yn bwysig iawn ar gyfer y dyfodol mewn ystod o wahanol feysydd.

Ym mis Mawrth, Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd yr Ysgrifennydd cymunedau a phlant fod tai da a diogel nid yn unig yn lleihau’r baich ar wasanaethau eraill, megis y GIG neu ofal cymdeithasol, ond y byddant hefyd yn gwella ansawdd bywyd pobl, ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn anghytuno â hynny. Fodd bynnag, byddwn yn mynd gam ymhellach ac yn dweud bod tai a gynlluniwyd i fod yn hawdd i’w haddasu, tai a gynlluniwyd o bosibl o dan arweiniad arbenigwyr adsefydlu, hefyd yn bwysig, gan eu bod yn caniatáu i bobl hŷn aros yn eu heiddo am gyfnod hirach heb orfod symud allan o ardal gyfarwydd, er enghraifft. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa fath o sgyrsiau trawsbortffolio rydych wedi’u cael ynglŷn â pharatoi canllawiau ar gyfer y diwydiant adeiladu, yn enwedig y rhai sy’n adeiladu tai cyngor, canllawiau a fydd yn rhagweld newidiadau ym mywydau pobl oherwydd iechyd a henaint ac a fydd yn ei gwneud yn rhatach iddynt addasu mewn gwirionedd a chael gofal adsefydlu yn eu cartrefi yn y dyfodol?

Diolch am eich cwestiwn. Rwy’n falch o gadarnhau bod y buddsoddiad a wnaeth Llywodraeth Cymru yn gwella ansawdd cartrefi pobl, yn enwedig sicrhau eu bod yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon, wedi bod o fudd gwirioneddol mewn termau ariannol, ond o ran canlyniadau iechyd hefyd. Mae tystiolaeth yn datblygu bod y bobl hynny’n cael gwell canlyniadau iechyd o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth Llywodraeth Cymru.

Ac o ran y pwynt ynglŷn â nid yn unig addasu, ond y math o dai a gomisiynwn drwy ein defnydd o gyfalaf, rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau ynglŷn â’r ffordd y gwneir defnydd o gyfalaf. Ac mae angen i hynny fod yn rhan o thema sy’n datblygu gan y Llywodraeth hon i sicrhau ein bod nid yn unig yn cyrraedd ein targedau mewn perthynas ag adeiladu tai, ond fod y math o dai a adeiladwn, y ffordd y mae awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd yn comisiynu gofal, a pha ddarpariaeth y maent yn chwilio amdani yn cael eu hystyried yn drylwyr gan adeiladwyr tai, ac yn arbennig, gan sector y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ond yn fwy cyffredinol hefyd. Ac rwy’n hyderus y byddwch yn gweld mwy o gynnydd ac ymagwedd fwy cydgysylltiedig gan y Llywodraeth hon. Rwy’n siŵr y bydd gennyf fwy i’w ddweud ynglŷn â hyn dros y misoedd nesaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch eto, Llywydd.

Minister, thank you very much for your statement on social care funding that came out this morning. In the face of the £2 billion extra that came from the Conservative UK Government for this, I think it was important for you to make an early statement that you are prepared to commit money that we’ve acquired through the Barnett consequential for the same purpose, and so I do welcome that. You’ve already announced additional moneys, aimed, I think—it seems to me, anyway—almost entirely to meet the additional cost of providing the national living wage; obviously, I support that. But this new £9 million from the Barnett consequential that you’ve announced today seems to be aimed at exactly the same purpose. Is that because your original allocation was insufficient, or do you have new figures that have revealed that the costs of this were higher than you anticipated?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn ac am y croeso cynnes a roesoch i’n cyllid ychwanegol a’n buddsoddiad ychwanegol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ac er budd yr Aelodau, roedd yr arian ychwanegol a gyhoeddais heddiw yn cynnwys y £9 miliwn ychwanegol hwnnw i helpu i fynd i’r afael â phwysau’r cyflog byw cenedlaethol yn y sector, ond hefyd £8 miliwn arall i gefnogi gwaith i atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal a gwella canlyniadau i’r rhai hynny sydd mewn gofal, a hefyd £3 miliwn i awdurdodau lleol i gefnogi seibiant i ofalwyr, o ystyried y rôl hollbwysig y gwyddom fod gofalwyr yn ei chwarae hefyd. Mae gan y gweithlu gofal cartref a gofal preswyl ran hanfodol i’w chwarae yn y gymdeithas ac rydym wedi bod yn pryderu ynglŷn â lefel trosiant yn y sector hwnnw, sydd oddeutu 30 y cant mewn rhai ardaloedd ar hyn o bryd. Felly, nod y cyllid yw galluogi awdurdodau lleol i fuddsoddi, a darparwyr i fuddsoddi, yn eu gweithlu—i godi’r cyflog, yn amlwg, y mae eu gweithlu yn ei gael ar hyn o bryd, ond hefyd i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i gadw pobl yn y sector hefyd. Felly, mae’n fuddsoddi mewn sgiliau ac yn fuddsoddi yn yr unigolion yn ehangach hefyd, gan sicrhau nad oes rhaid i bobl dalu am y dillad y maent yn eu gwisgo i gyflawni eu rôl, ac yn y blaen.

Felly, rhoddwyd y cyllid ychwanegol am ein bod yn gallu ei wneud oherwydd yr arian ychwanegol a gawsom drwy’r cyllid canlyniadol, ac mae wedi cael ei groesawu gan yr awdurdodau lleol. Byddwn yn ychwanegu hefyd ein bod wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol gan mai cyllid grant yw hwn yn y flwyddyn gyntaf. Felly, rydym wedi amlinellu’n eithaf clir yr hyn y disgwyliwn iddynt ei gyflawni ar gyfer y sector drwy’r cyllid ychwanegol a ryddhawyd gennym heddiw.

Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, yn enwedig am ran olaf eich ateb. Fel y dywedais, rwy’n fwy na pharod i groesawu popeth sydd yn y datganiad, ond yn amlwg, byddaf yn craffu arnoch i weld pa mor dda rydych yn gwylio sut y caiff hwnnw ei wario. Bydd y £3 miliwn a roddwyd i awdurdodau lleol ar gyfer seibiant, yn amlwg, ac yn enwedig o ystyried yr hyn y buom yn sôn amdano yma ddoe, yn bwysig iawn. Mae’n faes lle mae’r ddarpariaeth yn arbennig o wan, ac rwy’n awyddus iawn i wybod beth a wnewch i sicrhau bod hwnnw’n cael ei wario ar ddarpariaeth seibiant rheng flaen ac nad yw’n cael ei lyncu gan y prosesau caffael neu gomisiynu, sy’n tueddu i lowcio arian, yn enwedig yn achos seibiant ar gyfer gofal cymdeithasol, lle mae angen pob ceiniog arnom.

Blaenoriaethais seibiant i ofalwyr am fod hwn yn un o’r meysydd y mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson eu bod angen mwy o gefnogaeth ynddo, ac mae angen i ni edrych ar ôl ein gofalwyr i sicrhau eu bod yn gallu parhau i ofalu am y bobl y maent hwy’n gofalu amdanynt. Felly, byddaf yn gweithio ar y manylion penodol o ran yr hyn y byddwn yn gofyn amdano gan awdurdodau lleol mewn perthynas â’r cyllid ar gyfer gofal seibiant yn benodol, ac unwaith eto, bydd hwnnw’n cael ei roi drwy gyllid grant, gyda gofynion penodol i awdurdodau lleol ynglŷn â’r hyn y byddem yn disgwyl iddynt ei weld am yr arian hwnnw, ac ar gyfer cefnogaeth i ofalwyr yn lleol hefyd, oherwydd rydym yn gwbl glir fod yn rhaid i hyn wneud gwahaniaeth i ofalwyr ar y rheng flaen, a fydd yn cael seibiant, fel y dywedais, er mwyn eu galluogi i barhau â’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud. 

Wel, am yr union reswm hwnnw, rwy’n falch iawn nad yw wedi mynd i mewn i’r grant cynnal refeniw, felly diolch i chi am hynny. A gaf fi ofyn i chi: a ydych yn croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog ynglŷn â hawl statudol i wyliau ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu?

Pan fyddwch yn gweld yn gyntaf fod yna hawl i ofalwyr gael gwyliau statudol, gwych, ac yna fe welwch mai blwyddyn o wyliau di-dâl o’r gwaith ydyw, ac yna fe sylweddolwch fod hynny’n mynd i fod yn gyfan gwbl allan o gyrraedd y rhan fwyaf o bobl sy’n ofalwyr, yn anffodus. Nid wyf yn adnabod llawer o ofalwyr sy’n gallu fforddio cymryd blwyddyn o wyliau o’r gwaith, ac mae’n ymddangos unwaith eto ei fod yn bolisi Ceidwadol gan Lywodraeth y DU sy’n addewid gwag, ond sydd hefyd o fudd i’r rhai sydd â’r modd, ac felly mae o fudd i’r ychydig, nid i’r lliaws, yn yr ystyr mai’r bobl sy’n ennill y cyflog mwyaf a’r rhai sydd mewn teuluoedd sydd eisoes yn gyfoethog fydd yr unig rai, yn realistig, a fydd yn gallu cymryd blwyddyn gyfan o wyliau cwbl ddi-dâl o’r gwaith. Felly, yn yr ystyr hwnnw, nid wyf yn credu y caiff ei ddefnyddio gan nifer enfawr o bobl yng Nghymru. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod y gofal seibiant, a’r pethau y mae’r Cynulliad yn gallu eu cyflawni, yn diwallu anghenion gofalwyr ledled Cymru. Ac mewn gwirionedd, rydym yn gwybod hefyd fod gofalwyr yn ei chael hi’n anodd iawn dod o hyd i waith beth bynnag, felly mae llawer o ofalwyr yn ddi-waith oherwydd natur y cyfrifoldebau gofalu sydd ganddynt. Felly, mae yna rôl i ni hefyd i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru yn fwy ystyriol tuag at ofalwyr, yn fwy hyblyg, i ganiatáu i ofalwyr ddychwelyd i’r gwaith. Ac rydym hefyd yn edrych ar brosiectau diddorol i weld a oes rhyw fath o achrediad ar gael i ofalwyr, o bosibl, ar gyfer y gwaith gofalu y maent yn ei wneud. Felly, ar ryw adeg yn y dyfodol, gallant ddefnyddio’r profiad a’r arbenigedd y maent wedi’i ennill fel gofalwyr i gymryd y cam hwnnw, felly, tuag at waith cyflogedig ym maes gofal.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r ymgyrch recriwtio nyrsys a’r newyddion fod Llywodraeth Cymru yn cadw’r bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr nyrsio am flwyddyn arall. Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i annog pobl o bob cefndir yng Nghymru i ystyried gyrfa mewn nyrsio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i ymestyn y bwrsariaethau nyrsys yn y dyfodol i sicrhau y gall trigolion Cymru sy’n ystyried newid gyrfa fforddio hyfforddi fel nyrsys?

Rwy’n croesawu’r gefnogaeth a roddwyd i fwrsariaeth y GIG, a ddarperir nid yn unig i nyrsys, ond i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill, i’w helpu drwy eu hyfforddiant. Rydym yn cydnabod, o ystyried mai oedran cyfartalog nyrs dan hyfforddiant yw’r 20au hwyr, eu bod yn debygol o fod â chysylltiadau ag ardal leol ac yn debygol o fod â chyfrifoldebau. Mae diddymu’r gefnogaeth ariannol, fel y gwnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar draws y ffin i’r bobl sy’n hyfforddi yn Lloegr, yn cael effaith ddifrifol a sylweddol. Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol—24 y cant—yn nifer y bobl sy’n gwneud cais am hyfforddiant nyrsio ar draws y ffin o ganlyniad uniongyrchol i hynny. Gwnaethom benderfyniad, ar sail y dystiolaeth, i gefnogi pobl sy’n dilyn cyrsiau gofal iechyd, gan gynnwys nyrsys, ac roedd croeso mawr i’r penderfyniad hwnnw pan fynychais gynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl ddydd Sul a dydd Llun. Bydd y Llywodraeth hon yn darparu’r cyfeiriad teithio rydym wedi bod yn glir iawn yn ei gylch yn ddiweddar, yn ogystal ag ymagwedd hirdymor lawnach a mwy cynhwysfawr tuag at gefnogi pobl sy’n ymgymryd ag addysg gofal iechyd, pan fyddwn yn cyhoeddi ein hymateb llawn a therfynol i adolygiad Diamond maes o law.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Er y gall yr ymgyrch recriwtio nyrsio helpu i fynd i’r afael â materion staffio tymor byr, mae angen i ni feddwl am y tymor hwy a sut y gallwn ddenu mwy o bobl Cymru, yn enwedig siaradwyr Cymraeg, i’r byd nyrsio. Byddai UKIP yn hoffi gweld ailgyflwyno’r hyn sy’n cyfateb i nyrsys cofrestredig y wladwriaeth, a fyddai’n caniatáu i gynorthwywyr gofal iechyd ac eraill hyfforddi fel nyrsys heb fod angen gradd. Pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi’i roi i ailgyflwyno rhyw fath o nyrs gofrestredig yn y GIG yng Nghymru?

Wel, rwy’n croesawu’r gydnabyddiaeth fod yr ymgyrch ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw.’ yn gam cadarnhaol ymlaen i nyrsio yng Nghymru. Mae wedi cael ymateb anhygoel o gadarnhaol o’r cychwyn gan y gweithlu nyrsio presennol, sy’n falch iawn o weld eu hunain yn cael sylw—mae’r pedwar unigolyn a enwyd ac a ffotograffwyd yn nyrsys â llwybrau gyrfa gwahanol, ac mae hynny wedi’i groesawu’n fawr gan y gweithlu nyrsio presennol. Maent yn cydnabod ffocws y sylw ac, os mynnwch, peth gobaith ar gyfer y dyfodol ac ymagwedd fwriadol wahanol yma yng Nghymru.

Nid yw’r Llywodraeth hon yn cefnogi dychwelyd at rôl nyrs gofrestredig y wladwriaeth, yn rhannol oherwydd ein bod wedi treulio cryn dipyn o amser ac ymdrech yn gweithio gyda’r teulu nyrsio i ddatblygu llwybr gyrfa a llwybr datblygu ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd. Yn wir, roedd yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni y tu ôl i chi yn rhan o’r sgwrs am ddatblygu’r llwybr gyrfa a’r datblygiad hwnnw yn ei rôl flaenorol. Rydym hefyd yn gweld nifer o weithwyr cymorth gofal iechyd yn cael hyfforddiant o’u rôl bresennol i mewn i nyrsio, felly maent yn dal i gyflawni gwaith hefyd. Dyna ran o’r hyblygrwydd rydym wedi’i ddarparu, er mwyn sicrhau y gall hynny ddigwydd fel bod pobl sydd mewn gwaith ac sydd â chyfrifoldebau yn gallu parhau i weithio wrth gyflawni eu cymhwyster nyrsio. Nid oes unrhyw gefnogaeth gan gynrychiolwyr o’r gweithlu nyrsio i ni gael gwared ar y statws a’r gofyniad i nyrsio fod yn yrfa i raddedigion, ac rwy’n barod i wrando ar y bobl hynny ynglŷn â sut i ddatblygu’r gofal nyrsio gorau gan y teulu nyrsio cyfan, ac rydym yn llwyr werthfawrogi ac yn cefnogi rôl gweithwyr cymorth gofal iechyd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn olaf, nid yn unig y mae’n rhaid i ni recriwtio mwy o nyrsys, ond mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn cadw ein nyrsys presennol. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae nyrsys yng Nghymru yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi gan y GIG neu’r Llywodraeth. Bu gostyngiad o 14 y cant mewn termau real yng nghyflog nyrsys ers 2010, ac mae 69 y cant o nyrsys yn gweithio goramser o leiaf unwaith yr wythnos. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i wella cyflogau, telerau ac amodau nyrsys a sicrhau bod ganddynt fynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus er mwyn adlewyrchu pa mor bwysig yw’r proffesiwn i ni fel cenedl?

Rwy’n cydnabod y pwyntiau sy’n cael eu gwneud am deimladau nifer o bobl yn y gweithlu nyrsio. Mae’r hyn rydym yn ei wneud i gadw pobl, wrth gwrs—y bobl sy’n hyfforddi—yn cynnwys nid yn unig cymorth gyda’r fwrsariaeth, ond hefyd y ffaith fod hynny’n dod gyda’r disgwyliad y bydd pobl yn manteisio ar y cynnig o gyflogaeth am ddwy flynedd yma yng Nghymru, felly bydd pobl yn parhau i weithio yng Nghymru yn ogystal. Mewn gwirionedd, mae gennym gyfraddau cadw eithaf da hefyd ymhlith pobl sy’n cwblhau eu cyrsiau mewn gwirionedd.

O ran y pwynt ehangach am y gostyngiad o 14 y cant mewn termau real yng nghyflogau nyrsys ers i’r Ceidwadwyr ddod i arwain Llywodraeth y DU, y realiti yw bod gosod cap uniongyrchol ar gyflogau’r sector cyhoeddus yn rhwystr go iawn, nid yn unig i nyrsys, ond i ystod eang o weithwyr y sector cyhoeddus. Hoffwn yn fawr pe bawn mewn sefyllfa lle byddai gennym ddull gwahanol ar waith. Byddwch yn deall, wrth gwrs, fod addewidion maniffesto gwahanol yn cael eu gwneud y tu allan i’r lle hwn cyn yr etholiad cyffredinol, ac mae fy mhlaid ar lefel y DU yn gorfod addo torri cap cyflog y sector cyhoeddus os dychwelwn i rym yn Llywodraeth y DU. Mae hwnnw’n newyddion da i nyrsys. Byddem yn gallu eu gwerthfawrogi’n briodol a chydnabod cefnogaeth wirioneddol y cyhoedd iddynt yn eu cyflog.

Ond o ran eich pwynt nad yw nyrsys yn cael eu gwerthfawrogi gan y Llywodraeth, gallaf gadarnhau bod ymagwedd a dealltwriaeth wahanol iawn ar waith mewn perthynas â nyrsys yma yng Nghymru o gymharu â dros y ffin, a chafodd y pwynt hwnnw ei wneud yn glir i mi ar nifer o achlysuron yn gadarn, yn glir ac yn gwrtais gan nyrsys yng Nghymru ac yn Lloegr pan gyfarfûm â hwy yng nghynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl yn ddiweddar. Felly, stori dda i ni yng Nghymru. Mae mwy y gallem ei wneud pe bai gennym Lywodraeth y DU sydd ar ochr Cymru.

Diolch, Llywydd. Nawr, yr wythnos ddiwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac er bod honno wedi bod ac wedi mynd, mae’n rhaid i ni gadw’r mater yn amlwg ar ein hagenda wrth gwrs.

Yr wythnos diwethaf, codais fater gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru gyda’r Prif Weinidog, yn enwedig y nifer o gleifion iechyd meddwl a oedd wedi cael eu hanfon o ogledd Cymru, gannoedd o filltiroedd oddi wrth eu teuluoedd, gan gynnwys plant. Ymateb y Prif Weinidog oedd nad oedd yn derbyn y ffigurau. A ydych chi’n derbyn y ffigurau?

Gwyddom fod yna nifer o bobl sy’n cael eu hanfon y tu allan i ardal. Rydym wedi gweld gwelliant sylweddol yn nifer y bobl sy’n mynd y tu allan i ardal i gael triniaeth. Bydd rhai o’r bobl hynny’n mynd y tu allan i ardal am eu bod angen cymorth arbenigol nad yw ar gael yng Nghymru—nid oes gennym y niferoedd na’r gallu i gomisiynu a darparu’r gofal hwnnw’n uniongyrchol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn parhau i fynd y tu allan i ardal yn amhriodol, ond rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar hynny yn ystod y flwyddyn hon. Felly, er enghraifft, niferoedd un digid o blant sy’n cael eu lleoli y tu allan i ardal bellach. I bob unigolyn sy’n gorfod teithio’n hir i fynd i leoliad priodol, rwy’n derbyn y byddai hynny’n broblem go iawn iddynt, eu teulu a’u hanwyliaid. Fodd bynnag, y pwynt yw bod cynnydd go iawn wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn disgwyl cynnydd pellach yn y blynyddoedd i ddod.

Fel rydych yn cadw dweud wrthym. Rhai o’r ffigurau nad oedd y Prif Weinidog yn eu derbyn yr wythnos hon oedd nad oedd amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi gwella. Honnodd fod pethau wedi datblygu’n sylweddol. Mae pawb ohonom yn gwybod, os ydych am ddangos gwelliant, rydych yn cymryd y mis pan oedd y niferoedd ar eu gwaethaf fel man cychwyn ac yn cymharu â rhai mwy diweddar ac oni bai bod y perfformiad yn waeth, bydd y ffigurau’n dangos gwelliant. Dyna a wnaeth y Prif Weinidog ddoe. Mewn gwirionedd, mae cipolwg gonest ar amseroedd aros CAMHS yn dangos, cyn mis Gorffennaf 2013, nad aeth canran y plant a fu’n aros dros 26 wythnos byth yn uwch na 10 y cant. Yna, cododd amseroedd aros i’r entrychion gyda 36 y cant yn aros dros 26 wythnos ym mis Medi 2015, cyn gwella, do, i’r lefel bresennol o 20.5 y cant ym mis Chwefror eleni, a dyna’r ffigurau diweddaraf sydd gennym. Gwelliant mewn cyfnod o amser, ond nid yn gyffredinol. A ydych yn derbyn bod hwn yn adlewyrchiad mwy cywir o berfformiad CAMHS, a pha bryd y derbyniwch fod i’r Prif Weinidog neu chi sefyll yno a dweud bod targedau’n cael eu cyrraedd yn bell o’r realiti a wynebir gan staff sy’n anobeithio a chleifion sy’n anobeithio sy’n rhannu eu profiadau gyda ni fel Aelodau Cynulliad?

Wel, byddwn yn gobeithio y gallem gael sgwrs dreiddgar ond myfyriol am hyn, ac mae goslef y drafodaeth yn fy siomi. Nid wyf yn ceisio osgoi craffu o gwbl, ond y gwir amdani, wrth edrych ar y cyfnod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yw ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau a gallu ein system i ymdopi. Roedd yna adeg pan oedd pobl yn aros yn llawer hwy nag y dylent fod wedi’i wneud, ac mae rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir—mae gennym ôl-groniad i’w glirio—ond rydym wedi gwneud cynnydd diymwad, gwirioneddol a sylweddol. Mae’r penderfyniadau buddsoddi a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd sy’n mynd i mewn i system CAMHS. Ceir ffocws ychwanegol ar y gefnogaeth a ddylai fod ar gael y tu allan i rwydwaith CAMHS hefyd—cynnydd y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. Mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud, ac nid wyf yn gwadu eich hawl i graffu arnaf, nid wyf yn gwadu eich hawl i ofyn cwestiynau anodd a lletchwith, ond hoffwn pe gallent fod yn fwy myfyriol ac yn ddarlun mwy cywir o’r cynnydd sy’n cael ei wneud mewn gwirionedd. A phan welwn—. Bydd y ffigurau’n cael eu cyhoeddi yfory ar draws ystod eang o wasanaethau’r GIG, ond mae byrddau iechyd y GIG wedi ymrwymo i gyrraedd y safon o ran amseroedd aros ar gyfer pobl a ddylai gael eu gweld o fewn 28 diwrnod i gael eu hatgyfeirio. Maent yn dweud eu bod yn hyderus y byddant yn cyrraedd y safon honno, ac edrychaf ymlaen at weld y ffigurau’n cael eu cyhoeddi, i weld a ydynt wedi gwneud hynny. Byddaf yn sicr yn eu dwyn i gyfrif. Ni fydd unrhyw leihad yn y craffu na’r hyn a ddisgwylir gan Weinidogion yn y Llywodraeth hon i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn briodol a chan y gwasanaeth cywir.

Ond nid yw pobl yn dwp; maent yn gwybod pan fydd pobl yn bod yn ddetholus gyda ffigurau. Mae’n amlwg fod prinder staff ym maes iechyd meddwl, ac rwy’n gobeithio y byddech yn cytuno â hynny. Rhan arall o’r gweithlu iechyd lle mae gennym brinder yw meddygon teulu. Mae’n broblem i Gymru gyfan. Mae’n un o’r rhesymau dros gefnogi addewid Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol. Nawr, cleifion ym Mhorth Tywyn yw’r rhai diweddaraf i glywed bod yn rhaid iddynt adael yr ardal i weld meddyg teulu yn sgil cau’r feddygfa yno. Mae’r Aelod dros Lanelli wedi bod yr un mor fywiog ag arfer ar y meinciau cefn heddiw. Rwy’n deall bod gwleidyddion Llafur lleol yn protestio yn erbyn hyn. Tybed a fyddwch yn ymuno â hwy yn eu protest, fel rwy’n cofio’r Gweinidog addysg blaenorol yn ei wneud yn erbyn cau ysgol yn ei etholaeth? Neu a fyddwch yn wynebu’r ffaith mai methiannau’r Blaid Lafur, Llywodraeth Cymru, i gynllunio’r gweithlu sydd wedi arwain at y prinder hwn o feddygon teulu?

Nid yw’r dull gonest ac aeddfed y credais y byddem yn ei fabwysiadu wrth drafod gofal iechyd yn y dyfodol, dull a fabwysiadwyd gan yr adolygiad seneddol wrth gwrs, yn bodoli yn ystod cwestiynau i’r gweinidogion. Y gwirionedd yw ein bod yn recriwtio mwy o feddygon teulu. Rydym yn hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru. Bydd gennym ddull mwy llwyddiannus yn y dyfodol. Mae’r ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw wedi bod yn hynod o lwyddiannus gan y bydd gennym fwy o feddygon teulu yn dod i Gymru. Wrth i ni wneud penderfyniadau comisiynu yn y dyfodol, rwy’n disgwyl gweld y byddwn yn rhoi ystyriaeth briodol i’r gwaith cynllunio gweithlu sydd angen i ni ei wneud, mewn ffordd lawer mwy cydgysylltiedig. Mae gwelliant gwirioneddol wedi bod yn y maes hwn.

Nawr, pan fyddwch yn sôn wedyn am 1,000 o feddygon ychwanegol fel ateb, wel, dyna rywbeth y byddem, yn gwrtais, yn ei alw’n darged uchelgeisiol—nid yw’n un realistig na chyraeddadwy. Yn y sefyllfa hon, yn y Llywodraeth, mae’n rhaid i chi ymrwymo i bethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Dyna beth rwy’n ei wneud gyda hyn, ac rwy’n falch o’r ffaith ein bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ar draws y gweithlu meddygol yma yng Nghymru. Ac rwy’n dweud bod gan bob Aelod hawl i sefyll dros eu cymuned leol a gofyn cwestiynau lletchwith i fyrddau iechyd ac i mi. Mae hynny’n cynnwys yr Aelod dros Lanelli, sy’n sefyll dros ei gymuned ac yn gofyn pa drefniadau a fydd ar waith ar gyfer dyfodol gofal sylfaenol. Nid wyf yn cwyno am hynny gan unrhyw Aelod yn y lle hwn, ac ni ddylwn wneud. Gwneud eu gwaith y mae pobl. Nid wyf ond yn dymuno y gallem gael sgwrs lawer mwy gonest ac aeddfed rhyngom yn y Siambr hon, yn ogystal ag y tu allan iddi.

Effeithiau Llygredd Awyr ar Iechyd Cyhoeddus

3. Pa drafodaeth sydd wedi bod rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet a Llywodraeth y DU parthed effeithiau llygredd awyr ar iechyd cyhoeddus?  OAQ(5)0165(HWS)[W]

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn arwain ar ran Llywodraeth Cymru ar ansawdd aer, ac mae ei swyddogion yn parhau i ymgysylltu’n sylweddol gyda’u cymheiriaid cyfatebol yn y DU ar faterion fel modelu ansawdd aer ledled y DU, deddfwriaeth yr UE ar lygredd aer trawsffiniol, adroddiadau i’r UE, ymchwil ansawdd aer, a digwyddiadau llygredd aer.

Diolch am yr ateb, Gweinidog. Rwy’n deall bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn arwain, ond, wrth gwrs, roedd y cwestiwn yn benodol ar yr effaith ar iechyd cyhoeddus, achos mae e wedi cael ei dderbyn mai llygredd awyr, bellach, yw’r ail ffactor ymysg marwolaethau cynnar sydd gennym ni yng Nghymru, ac wedi cael ei ddisgrifio fel argyfwng iechyd cyhoeddus mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, gan bennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, yn benodol, beth ydych chi yn mynd i’w wneud i liniaru effaith llygredd awyr ar iechyd, ac, yn benodol, a ydych chi yn mynd i ymrwymo heddiw i’r Siambr y bydd gan y Llywodraeth, yn y cynlluniau awyr glân y soniwyd amdanyn nhw ddoe gan y Prif Weinidog, y targed i ostwng llygredd awyr yng Nghymru, a thargedau pendant y tu mewn i’r cynlluniau i ddangos ein bod ni ar y trywydd cywir i ostwng llygredd awyr yng Nghymru?

Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw a hoffwn ailadrodd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod difrifoldeb llygredd aer a’i effaith ar iechyd y cyhoedd, gan ein bod wedi cydnabod hyn drwy ddangosyddion ein fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, lle rydym, mewn gwirionedd, yn cynnwys y crynodiad cyfartalog o nitrogen deuocsid yn benodol mewn anheddau fel un o’r dangosyddion hynny.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau’n fuan iawn i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac iechyd y cyhoedd yn GIG Cymru drwy ddarparu negeseuon allweddol ynglŷn â’r rôl y gallant ei chwarae’n cefnogi awdurdodau lleol mewn perthynas ag ansawdd aer a chyfathrebu peryglon iechyd cyhoeddus ansawdd aer gwael i’r cyhoedd ac i asiantaethau eraill hefyd. Byddwn hefyd yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag ansawdd aer ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi’n cynnal prosiect ymchwil hefyd i wella trefniadau rheoli ansawdd aer lleol yng Nghymru i sicrhau cymaint ag y bo modd o ganlyniadau iechyd y cyhoedd yn ogystal. Felly, rydym yn bendant yn edrych ar lygredd aer yn y cyd-destun iechyd cyhoeddus pwysig hwnnw.

Gyda golwg ar y cwestiwn penodol ar y fframwaith parth aer glân, daw hyn wrth gwrs o ganlyniad i’r ymgynghoriad ar y cyd yn y DU ar nitrogen deuocsid. Rydych yn ymwybodol, wrth gwrs, o’n hymrwymiad i ymgynghori o fewn y 12 mis nesaf ar fanylion yr argymhellion ar gyfer fframwaith parth aer glân i Gymru. Mae hwn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatblygu. Ni fyddwn eisiau rhagdybio unrhyw beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu ei wneud yn hyn o beth.

Rwy’n sylweddoli mai cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd ydyw yn bennaf, ond rwy’n gobeithio y cawn weld ymagwedd system gyfan gan y Llywodraeth gyfan. Rwy’n siŵr y byddai gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg hefyd rywfaint o gyfrifoldeb dros sicrhau nad yw ein plant yn yr ysgol yn agored i lefelau diangen o nitrogen deuocsid. Felly, beth fyddai’r cyngor i ysgolion gan arbenigwyr iechyd y cyhoedd ynglŷn ag a yw’n ddiogel i blant fod yn chwarae yn yr awyr agored ar ddiwrnodau penodol?

Cytunaf yn llwyr fod gan ysgolion rôl hollbwysig i’w chwarae yn rheoli llygredd pan fo plant yn cyrraedd yr ysgol, gan ein bod yn gwybod bod dechrau a diwedd y dydd yn adegau penodol y bydd plant yn agored i lefelau uchel o lygredd aer. Mae hynny’n rhannol oherwydd y daith i’r ysgol, ac mae hynny’n dod â’r holl waith pwysig rydym yn ei wneud ar deithio llesol i’r amlwg hefyd. Ond mae gan ysgolion rôl bwysig yn addysgu plant a’u teuluoedd am beryglon llygredd aer. Nawr, mae yna bethau syml y gall pobl eu gwneud yn eu bywydau personol i leihau llygredd aer hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau polisi ansawdd aer newydd i awdurdodau lleol y mis nesaf, a gallaf gadarnhau y bydd y canllawiau hynny’n nodi ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymhlith pethau eraill, fel lleoliadau sensitif ar gyfer gosod derbynyddion. Mae gwir angen i awdurdodau lleol fabwysiadu dull o weithredu sy’n seiliedig ar risg ar gyfer lleoli eu monitorau, a dylai hynny fod yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ganddynt o ran yr ardaloedd sy’n debygol o fod yn agored, neu ardaloedd lle mae pobl yn debygol o fod yn agored i’r lefelau uchaf o lygredd aer.

Gwasanaethau a Chymorth Iechyd Meddwl

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0169(HWS)

Rydym yn cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gweithio’n galed i wneud y gwelliannau angenrheidiol i wasanaethau iechyd meddwl ar draws gogledd Cymru. Cytunwyd ar strategaeth iechyd meddwl newydd ar gyfer gogledd Cymru gan y bwrdd ar 20 Ebrill ac mae wedi cael ei chymeradwyo gan eu chwe phartner awdurdod lleol.

Diolch. Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn gydnabod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a’r ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â stigma iechyd meddwl. Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yng ngogledd Cymru wedi cael, ac yn cael eu cofnodi’n dda. Rwy’n croesawu dull amlasiantaeth newydd y bwrdd iechyd o ddatblygu’r strategaeth iechyd meddwl newydd rydych newydd ei chrybwyll, a’r ymrwymiad i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau yn ogystal â staff i wella ein gwasanaethau. Fodd bynnag, mae’n amlwg, a gwn fod y bwrdd iechyd hefyd yn cydnabod hyn, fod yna gymaint mwy y gallwn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ein hardal. Gobeithio y bydd y strategaeth newydd ac ymgysylltiad y bwrdd iechyd â defnyddwyr gwasanaethau’n gam i’r cyfeiriad cywir, ond yn amlwg, mae llawer mwy sydd angen ei wneud, ac mae’n rhywbeth y byddaf yn rhoi sylw agos iddo, gan eu dwyn i gyfrif ar ran fy etholwyr yn Nelyn. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi barhau i fonitro’n gadarn a gwneud yn siŵr fod gwella gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl yn flaenoriaeth yng ngogledd Cymru ac ar gyfer pobl gogledd Cymru?

Ydw, rwy’n fodlon rhoi’r sicrwydd hwnnw. Mae wedi bod yn gam gwirioneddol ymlaen, fodd bynnag, i gyrraedd y pwynt lle ceir strategaeth iechyd meddwl briodol i ymgynghori arni—nid yn unig i ymgynghori arni, ond fe’i lluniwyd yn dilyn gwaith y mae’r bwrdd iechyd wedi’i wneud gyda llywodraeth leol, fel y soniais, ond hefyd gyda’r trydydd sector a chyda staff yn y gwasanaeth, a chyda defnyddwyr y gwasanaeth yn ogystal. I fod yn deg, nid oedd hynny’n wir ac nid dyna oedd y sefyllfa cyn gosod mesurau arbennig. Nid oedd yn sefyllfa dderbyniol, ac roedd hyn yn ffactor arwyddocaol pan wnaed y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig. Nid y modd y darperir y gwasanaeth yn unig yw’r realiti, ond y ffaith mewn gwirionedd nad yw’r strategaeth ar gyfer y dyfodol wedi cyrraedd lle y gallai ac y dylai fod. Felly, mae yna gam gwirioneddol ymlaen, a dylai’r arweinyddiaeth newydd dan Andy Roach, a hefyd y cynnydd sylweddol a wnaed gan y prif weithredwr dros dro a’r prif weithredwr cyfredol, roi mwy o hyder i ni ar gyfer y dyfodol.

Ond yn sicr nid yw’n faes i’w anghofio neu i fod yn hunanfodlon yn ei gylch a dweud bod popeth wedi’i ddatrys oherwydd bod strategaeth newydd yn bodoli. Mae heriau gwirioneddol i’w goresgyn ac mae hwn yn rhan arwyddocaol sydd o ddiddordeb i’r rheoleiddwyr pan fyddant yn cyfarfod i gynghori Llywodraeth Cymru ar y cynnydd y mae Betsi Cadwaladr wedi’i wneud a’r cynnydd sy’n ofynnol eto. Felly, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn parhau i fod â diddordeb gweithredol yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl, rwy’n parhau i fod â diddordeb yn y cynnydd sy’n cael ei wneud a byddaf yn parhau â’r diddordeb hwnnw hyd nes y byddwn mewn sefyllfa lle bydd modd gweld y bwrdd iechyd yn dod allan o fesurau arbennig pan fydd y rheoleiddwyr yn ein cynghori ei bod yn briodol i ni wneud hynny, a hefyd bydd angen parhau i ganolbwyntio ar ddarparu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws gogledd Cymru ar ôl hynny hyd yn oed.

Mae’r ffaith fod bylchau parhaus yn y driniaeth ar gyfer diagnosis deuol i bobl â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau yng ngogledd Cymru yn golygu bod y drws tro yn dal i fod yn fyw ac yn iach yn anffodus. Mae degawd wedi bod ers i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu cleifion preswyl haen 4 gael ei ryddhau i mi ar ôl cael ei gladdu, adroddiad a nodai fod pobl yn aildroseddu’n fwriadol oherwydd y bylchau hyn a’r derbyniadau i’r ysbyty oherwydd absenoldeb y driniaeth hon. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fodel arfaethedig gan weithio gyda thri darparwr trydydd sector yng ngogledd, canolbarth a de Cymru. Ddegawd yn ddiweddarach, lle rydym ni arni o ran hynny, fel bod y bobl sydd angen triniaeth ar gyfer diagnosis deuol yn ddybryd yn gallu ei chael yn y rhanbarth lle maent yn byw?

Rydych yn gofyn ynglŷn â’r ddarpariaeth ar draws ystod o wahanol feysydd ac mae camddefnyddio sylweddau, yn amlwg, yn fater y mae’r Gweinidog yn arwain arno. Rwy’n hapus i ni ysgrifennu atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â lle rydym arni gyda gwasanaethau haen 4 yng ngogledd Cymru ac yn fwy cyffredinol, i Aelodau ar draws y wlad hefyd.

Rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud, wrth gwrs, na ddylem ni dwyllo’n hunain i feddwl bod y sefyllfa wedi’i datrys, oherwydd mi ges i gyfarfod reit frawychus, a dweud y gwir, gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal yng ngogledd Cymru rhyw wythnos neu ddwy yn ôl, ac roedden nhw’n sôn mai, wrth gwrs, diffyg capasiti, diffyg gwlâu a diffyg staffio yw un o’r problemau canolog sydd yn creu cylch dieflig lle mae yna bobl yn cael eu rhyddhau o unedau yn rhy gynnar oherwydd nad yw’r capasiti yna i dderbyn pobl newydd i mewn i gyfundrefn gymunedol sydd heb y capasiti i ddelio â’r niferoedd sydd, ar y pen arall wedyn, yn mynd i wthio mwy o bobl i mewn i’r unedau er mwyn gallu delio â’r baich gwaith. Yr hyn a ddywedon nhw wrthyf i oedd bod y sefyllfa nawr yn waeth nag y mae hi wedi bod erioed o’r blaen.

Nawr, rwy’n derbyn yr hyn rŷch chi’n ei ddweud ynglŷn â strategaeth tymor hir ac edrych ymlaen, yn ei lle, ond y realiti yw, wrth gwrs, fod yna ddwy flynedd nawr ers i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fod mewn mesurau arbennig, ac, fel y dywedoch chi, un o’r rhesymau am hynny oedd y diffygion yn y gwasanaethau iechyd meddwl. Felly, rwy’n siŵr y gwnewch chi gydnabod nad yw’r sefyllfa bresennol yn dderbyniol, ond yr hyn mae pobl eisiau ei wybod yw: beth yw’r cynllun i ddelio â’r trafferthion hyn nawr, heddiw, tra, wrth gwrs, yn symud ymlaen wedyn i gynlluniau mwy tymor hir yn y pen draw?

Diolch i chi am y cwestiwn ac rwy’n cydnabod bod yr heriau a wynebir gan y gwasanaeth yng ngogledd Cymru yn ymwneud â dealltwriaeth briodol o gapasiti a galw ac angen, ond hefyd y modd y caiff y gwasanaeth ei drefnu—mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr—a gwneud yn siŵr fod yr adnoddau sydd ar gael iddo’n cael eu defnyddio a’u trefnu’n briodol. Mae yna rywbeth ynglŷn â chael strategaeth briodol a chlir er mwyn deall yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni a pham, yn ogystal, ac mae yna gam sylweddol ymlaen wedi bod. Ond yn wrthrychol, mae darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl, yn gyffredinol, mewn lle gwell yng ngogledd Cymru nag yr oedd rai blynyddoedd yn ôl.

Ond fel ym mhob gwasanaeth arall, os ydych yn y rheng flaen a’ch bod mewn swydd brysur ac anodd a heriol, efallai na fyddwch yn gallu cymryd cam yn ôl a meddwl ‘Mae hyn yn well na lle roeddem flwyddyn yn ôl, 24 mis a 36 mis yn ôl.’ Dyna ran o’r rheswm pam fod gennym broses wrthrychol gyda’r rheoleiddwyr. Nid ydynt yn cymryd fy ngair i am y cynnydd a wnaed. Mae’r rheoleiddwyr yn rhoi asesiad cyflawn yn annibynnol ar y Llywodraeth ac yna maent yn rhoi cyngor i ni ynglŷn â’r cynnydd drwy’r mesurau arbennig. Beth bynnag sy’n digwydd gyda’r mesurau arbennig, bydd angen parhau i edrych, fel y dywedais wrth ateb Hannah Blythyn, ar y modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl, yr ansawdd a’r canlyniadau a gyflawnir gyda ac ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru. Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl fod yn rhaid i’r cynnydd rydym yn ei ddisgrifio fod yn onest, ond mae’n rhaid iddo hefyd gydnabod bod rhagor i’w wneud o hyd, yn y presennol, ar unwaith, yn ogystal ag yn y dyfodol tymor canolig a mwy hirdymor. Felly, yn sicr nid wyf yn ceisio gwadu’r heriau ac rwy’n siŵr y byddaf yn cael llawer mwy o gwestiynau yn y Siambr hon ynglŷn â ble rydym arni mewn gwirionedd.

Mynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru? OAQ(5)0160(HWS)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i welliant parhaus mewn perthynas â mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac i gefnogi hyn rydym wedi cynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i £629 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon.

Mae llawer o bryder wedi’i fynegi eisoes am wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru a gallaf ddweud wrthych fy mod yn cael cynifer o lythyrau yn awr ag a gawn cyn i sgandal Tawel Fan ddod i sylw’r cyhoedd. Mae un o’r pryderon a gafodd ei ddwyn i fy sylw’n ymwneud â chapasiti, ac mae Llyr eisoes wedi cyfeirio at hyn, ond mae’r broblem capasiti sydd gennym o ran gwelyau cleifion preswyl wedi golygu bod rhai pobl sy’n agored i niwed yn cysgu ar soffas mewn lolfeydd agored; mae rhai unigolion sy’n agored i niwed yn cael eu rhoi mewn wardiau gwrywaidd amhriodol—menywod ifanc, er enghraifft—ac mae rhai eraill, wrth gwrs, yn gorfod cael eu trosglwyddo dros gannoedd o filltiroedd i leoliadau gofal eraill ar gyfer cleifion preswyl, ac mae hyn oll, rwy’n sicr y byddwch yn cytuno, yn gwbl annerbyniol. O gofio bod hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig am bron i ddwy flynedd bellach, a bod y pethau hyn yn digwydd dan eich goruchwyliaeth chi, Ysgrifennydd y Cabinet, beth rydych chi’n bersonol yn ei wneud i sicrhau ein bod yn cael gwared ar y mathau hyn o arferion gwael ac annerbyniol yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ar unwaith?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn dilynol. Rwy’n deall eich bod wedi ymwneud yn uniongyrchol â’r bwrdd iechyd ar nifer o’r materion hyn. Fel y dywedais wrth ymateb i gwestiynau blaenorol, mae’n bwysig ein bod yn gweld gwelliant go iawn. Mae’r newid yn yr arweinyddiaeth wedi bod yn gam ymlaen. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, nad yw’r ffordd y mae rhai o’r gwasanaethau’n cael eu trefnu ar hyn o bryd fel y byddem yn dymuno iddi fod, ac mae hynny’n golygu nad yw rhai pobl yn cael y gwasanaeth y byddem yn dymuno iddynt ei gael.

O ran y pwynt ynglŷn â ble mae pobl sy’n agored i niwed yn cael eu rhoi am gyfnod o amser, ar y pwynt penodol ynglŷn â soffas, fy nealltwriaeth i yw bod trafodaeth wedi bod gyda’r defnyddiwr gwasanaeth hwnnw, yr unigolyn hwnnw, ynglŷn â’r hyn sydd orau ganddynt, oherwydd maent wedi cael cynnig trosglwyddiad ar rai achlysuron, ac maent wedi gwrthod, gan ddweud y byddent yn hoffi aros yn y lle penodol hwnnw. Mesur dros dro ydyw nes eu bod yn symud i leoliad priodol. Ond nid yw’n sefyllfa briodol i fod ynddi’n hirdymor, lle mae hynny’n digwydd i unrhyw un o’n cleifion. Dylai fod yn fesur mewn amgylchiadau eithafol yn hytrach nag un rheolaidd. Felly, rwyf wedi dweud yn glir, ac mae ein swyddogion yn dweud yn glir wrth y bwrdd iechyd, nad yw’r arfer presennol yn briodol, a bod angen iddynt symud ymlaen a gwella’r sefyllfa, a chael y capasiti priodol yn y lle priodol i ddiwallu’r anghenion sy’n bodoli.

Felly, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau eraill, ni fyddaf yn ceisio osgoi’r realiti nad yw rhai rhannau o’r gwasanaeth yn cyflawni fel y dylent, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliant, ac yn disgwyl i’r gwelliannau hynny gael eu cynnal hefyd.

Rwy’n falch iawn o glywed am y £500,000 sy’n cael ei roi tuag at drefniadau pontio ar gyfer unigolion ag anhwylderau bwyta rhwng CAMHS a gwasanaethau oedolion, drwy drafodaethau Plaid Cymru a’r Blaid Lafur ar gytundeb y gyllideb. Rwyf wedi clywed gan bobl a ddaeth i’r grŵp trawsbleidiol diwethaf a oedd yn dweud mai dyna ble roeddent eisiau i’r arian fynd, am eu bod yn cydnabod y newid yn strwythur y driniaeth o ddarpariaeth fwy teuluol ei natur i’r ddarpariaeth ar gyfer oedolion. Felly, roeddwn eisiau gwybod a fyddai’r cyllid hwnnw’n rheolaidd, yn barhaus, ac a ydych yn trafod gydag arbenigwyr ym maes anhwylderau bwyta ynglŷn â hyfforddi’r lefelau presennol o staff ar gyfer y ddarpariaeth newydd honno. Hefyd, o ran recriwtio staff newydd a fyddai’n gallu dod i mewn i’r maes anhwylderau bwyta mewn perthynas â’r cyllid newydd hwn, rwy’n credu y bydd yn gwneud llawer i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn llawer mwy effeithiol yn y dyfodol.

Rwy’n falch fod yna groeso cyffredinol i’r modd y mae’r arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i wella’r gwasanaeth yn ystod y flwyddyn hon. O ran y sefyllfa reolaidd, rwy’n credu bod gwir angen i ni siarad nid yn unig am yr arian ar gyfer eleni, ond am y gwasanaethau ehangach. Yn hytrach na fy mod yn ceisio meddwl ar fy nhraed faint o arian sydd wedi cael ei wario ym mhob maes, unwaith eto, rwy’n credu y byddai o gymorth pe bawn yn ysgrifennu atoch ac yn anfon copi at yr Aelodau ynglŷn â’r sefyllfa bresennol a datblygiadau yn y dyfodol. Felly, gall fod yn ddefnyddiol i chi a’r grŵp trawsbleidiol weld hwnnw hefyd.

Effaith Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr

7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r effaith a gaiff rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ar y strategaeth genedlaethol dros chwaraeon cymunedol? OAQ(5)0167(HWS)

Gall digwyddiadau chwaraeon mawr fod yn gam ar ein taith tuag at fod yn genedl iach a gweithgar. Mae rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf a mwyaf mawreddog ledled y byd. Mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddefnyddio’r digwyddiad i ysbrydoli rhagor o bobl i chwarae pêl-droed a chymryd rhan mewn chwaraeon, a chefnogi cymunedau egnïol drwy hynny.

Diolch am eich ateb, Gweinidog; mae hynny’n galonogol. Cyfeiriasom at hyn yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe—mae yna fater ehangach yn ymwneud â’r cysylltiad rhwng clybiau chwaraeon proffesiynol, megis ein clybiau pêl-droed proffesiynol, a’u gweithgareddau i hyrwyddo chwaraeon llawr gwlad, er mwyn gwella targedau iechyd a phethau felly. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa ystyriaethau a roddoch i’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwnnw.

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu y bydd rhai manteision gwirioneddol amlwg i gynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yma. Er enghraifft, bydd yna gwrt pêl-droed, sy’n rhodd gan UEFA i ddinas Caerdydd am gynnal y digwyddiad, a bydd hwnnw yn Grangetown. Bydd yn rhad ac am ddim i gymunedau ei ddefnyddio; rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Bydd gennym hefyd y cae nofiol ym Mae Caerdydd a bydd hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gynnal gêm rhwng cyn-chwaraewyr enwog. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol a thimau lleol gan gynnwys timau ffoaduriaid, sgwadiau byddar, timau menywod a merched, timau ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu, timau pêl-droed cerdded a thimau ieuenctid, ymhlith eraill. Felly, mae yna gyfle i gefnogi a hyrwyddo pêl-droed llawr gwlad o ddifrif o ganlyniad i’r digwyddiad chwaraeon hwn.

Mae hefyd wedi ysbrydoli Cymdeithas Bêl-droed Cymru i greu set newydd gyfan o ddeunyddiau trawsgwricwlaidd wedi’u cynllunio’n arbennig, sy’n cael eu dosbarthu i 1,300 o ysgolion ledled Cymru yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad. Bydd hynny’n sicr yn gwella’r cwricwlwm ac yn cynnwys dros 136,000 o blant, gan ddefnyddio grym chwaraeon i ymgysylltu o ddifrif â phlant ac i helpu dysgu hefyd.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at rownd derfynol y menywod. Mae gennym ŵyl ar gyfer menywod ar yr un diwrnod, felly bydd 2,500 o fenywod a merched yn cymryd rhan yn yr ŵyl bêl-droed honno ar ddiwrnod y rownd derfynol hefyd. Felly, bydd llawer o gyfle yno i ymgysylltu â phobl nad ydynt o bosibl wedi rhoi cynnig ar bêl-droed o’r blaen, gyda’r gamp benodol honno.

Rwyf hefyd wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan y gwaith sy’n digwydd drwy Gynghrair Pencampwyr UEFA yn rhan o’u rhaglen wirfoddoli, gan ddefnyddio grym chwaraeon a brwdfrydedd y rownd derfynol hefyd i helpu pobl i ddatblygu sgiliau sy’n drosglwyddadwy y tu hwnt i bêl-droed ar gyfer gwirfoddoli yn eu cymunedau lleol ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben.

Gwella Canlyniadau Iechyd yn Sir Drefaldwyn

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran gwella canlyniadau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0168(HWS)

Rydym yn parhau i weithio gyda’r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill yng Nghymru i roi amryw o gamau ar waith er mwyn gwella mynediad at wasanaethau gofal iechyd sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy ac mor agos i gartrefi pobl â phosibl ac o’r ansawdd gorau.

Rwy’n falch iawn o glywed yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o’r gwaith sy’n digwydd yn Swydd Amwythig ar ble y dylid lleoli gwasanaethau brys, naill ai yn Amwythig neu yn Telford. Barn mwyafrif llethol o fy etholwyr yw y dylai’r gwasanaethau hynny gael eu lleoli yn Amwythig. Dyna ble y dylid lleoli’r gwasanaethau brys—nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw etholwr sy’n dweud fel arall.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadw’n dawel yn flaenorol ynglŷn â’i dewis, ond roeddwn yn falch iawn pan gadarnhaodd y Prif Weinidog yn y Siambr rai wythnosau yn ôl y byddai’n well ganddo weld y gwasanaethau brys yn cael eu lleoli yn Amwythig. A gaf fi ofyn, a ydych wedi cyflwyno sylwadau i’r ymddiriedolaeth ac a ydych wedi cymryd rhan uniongyrchol yn yr ymgynghoriad? Rwy’n awyddus iawn i chi ymateb eich hun fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn hytrach na thrwy fwrdd iechyd Powys yn unig.

Diolch am y cwestiwn a’r gwahoddiad i gymryd rhan yn uniongyrchol yn y broses. Nid wyf yn credu ei bod yn briodol i mi gymryd rhan yn uniongyrchol drwy ysgrifennu at, neu geisio cymryd rhan yn y broses sydd ar y gweill. Mae yna broses anodd iawn yn mynd rhagddi gyda’r rhaglen Future Fit. Mae dwy farn gwbl groes, i bob pwrpas, rhwng dau weithredwr gwahanol a grwpiau comisiynu clinigol sydd yr un mor gytbwys yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae hynny’n newyddion drwg i drigolion yn Swydd Amwythig a Telford a Wrekin, ond hefyd i drigolion Cymru sy’n dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir yno. Rwy’n credu bod yna her go iawn yn wynebu Llywodraeth y DU, sy’n gweithredu fel Llywodraeth ar gyfer Lloegr, i ddatrys y modd y caiff y broses hon ei datrys mewn gwirionedd a’r sylfaen dystiolaeth a ddarperir. Ond mae bwrdd iechyd Powys wedi bod yn ymwneud â hyn ac maent yn cyflwyno sylwadau’n uniongyrchol ar ran trigolion Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny.

Nid y safbwynt anhunanol yn unig—yr effaith ar drigolion Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny—sydd angen i’r gwasanaethau yn Lloegr ei ystyried yn hyn, mae angen iddynt ddeall hefyd fod eu gwasanaethau’n cael eu comisiynu a’u hariannu gan drigolion Cymru. Os yw’r gwasanaethau hynny’n symud yna gall y llif ariannol ddiflannu wrth i drigolion gael eu cyfeirio i rywle arall. I fod yn deg, mae Powys wedi bod yn agored ynglŷn â’r ffaith y bydd yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau gwahanol o bosibl os gwneir dewis gwahanol ynglŷn â lleoliad gwasanaethau rhwng Amwythig a Telford.

Mae’n fater anodd, ond mae’n fater arbennig o anodd i GIG Lloegr ei ddatrys, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU. O’n safbwynt ni, byddwn yn parhau i wneud yn siŵr fod bwrdd iechyd Powys yn diogelu ac yn cynrychioli buddiannau trigolion Cymru a gynrychiolir gennych yn y lle hwn.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr Ymosodiadau Seibr yn y GIG yn Lloegr

Pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi bod y seilwaith TG yng Nghymru wedi’i ddiogelu, a sicrhau gofal parhaus i gleifion Cymru yn dilyn yr ymosodiadau seibr yn y GIG yn Lloegr? TAQ(5)0173(HWS)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig ddoe ynglŷn â’r ymosodiad meddalwedd wystlo yr wythnos diwethaf yn y DU a effeithiodd ar sefydliadau yn fyd-eang, gyda’r GIG yn Lloegr a’r GIG yn yr Alban yn brif ffocws y sylw. Er nad ydym wedi cael ein heffeithio ar yr achlysur hwn, mae’n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod ein systemau mor wydn â phosibl rhag ymosodiadau ar y rhwydwaith yn y dyfodol, sy’n anochel, yn anffodus.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod y digwyddiad yr wythnos diwethaf wedi codi llawer o gwestiynau, ac yn bwysicaf, oll sut y byddwn yn diogelu ein cleifion yn y GIG. Fel y dywedwch, mae’r adroddiadau wedi awgrymu bod 47 o ymddiriedolaethau yn Lloegr wedi cael eu heffeithio, a 13 yn yr Alban, am eu bod wedi methu cymhwyso diweddariadau diogelwch a allai fod wedi’u diogelu. Nawr, rwy’n credu ei bod yn werth nodi bod yr effaith yn fwy na’r aflonyddwch a’r anghyfleustra; gallai hyn, mewn gwirionedd, arwain at ganlyniadau sy’n newid bywydau ac sy’n bygwth bywydau. Os meddyliwch am yr effaith ar unigolion sy’n aros am sganiau ar gyfer triniaethau canser, rwy’n credu y gallai’r effaith fod yn anfesuradwy ac mae ymosodiad o’r fath gan derfysgwyr seiber, rwy’n credu, yn rhywbeth na ellir ei amddiffyn yn foesol.

Nawr, golygodd natur gydgysylltiedig y GIG yng Nghymru a’r buddsoddiad o £11 miliwn mewn cyfrifiaduron fod llai o fannau gwan yng Nghymru. Rwy’n credu, wrth gwrs, fod yn rhaid i ni nodi nad oes gennym unrhyw le i fod yn hunanfodlon, ond rwy’n credu y byddem yn esgeulus pe na baem yn cydnabod ymdrechion Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a’r timau TG ar draws y GIG yng Nghymru am ein hamddiffyn rhag yr ymosodiad diweddaraf hwn. Nid yw hynny’n golygu y dylem fod yn hunanfodlon—gallai ddigwydd eto—ond fe wnaethant ein diogelu ar yr achlysur hwn ac rwy’n credu y dylem ddiolch iddynt am hynny.

Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy’n hapus iawn i gydnabod a diolch i staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gyhoeddus, nid yn unig oherwydd y ffordd y maent wedi cyflwyno’r achos dros, a chymhwyso’r mesurau seiberddiogelwch ychwanegol a ddarparwyd gennym ar draws y gwasanaeth, ac nid yn unig oherwydd eu bod, mewn gwirionedd, wedi manteisio ar y diweddariadau diogelwch na fanteisiwyd arnynt yn y GIG yn Lloegr mae’n debyg, ond oherwydd y ffaith eu bod, dros y penwythnos ac ar ddechrau’r wythnos hon, wedi chwilio am wendidau yn y system, wedi canfod mannau lle cafodd y firws ei ddal gan y mesurau a roesom ar waith, ac wedi gallu datrys rhai o’r risgiau mewn gwirionedd. Roedd hynny, er enghraifft, yn cynnwys cau rhannau o’r GIG i negeseuon e-bost allanol: y peth cywir i’w wneud er mwyn sicrhau nad oedd ein system yn cael ei pheryglu. Ond mae’r proffesiynoldeb hwnnw yno i fod yn wyliadwrus o hyd, oherwydd nid mater sy’n mynd i ddiflannu yr wythnos hon yw hwn. Yn sicr ni allwn ddawnsio ymaith a dweud, ‘Ni fydd problem yr wythnos nesaf, yr wythnos wedyn na’r flwyddyn nesaf eto.’ Mae yna her yma sy’n ymwneud â phenderfyniadau ynglŷn â buddsoddi cyfalaf hefyd. Nid yw buddsoddi mewn meysydd fel hyn yn benderfyniad poblogaidd bob amser, ond mae’n hanfodol, mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ofal cleifion. Felly, gallwn ddiolch i’n lwc dda a synnwyr bod un cam ar y blaen drwy benderfynu buddsoddi mewn seiberddiogelwch.

Rydym yn croesawu’r datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog ddoe ynglŷn ag effaith yr ymosodiadau seiber byd-eang ar y GIG yn Lloegr yn ddiweddar. Mae’n gadarnhaol na chafodd y GIG yng Nghymru ei effeithio’n sylweddol a bod y gwasanaethau wedi parhau’n ddi-dor i raddau helaeth. Fodd bynnag, nodwn ei fod wedi tarfu ar driniaethau 40 o gleifion canser yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, ac mae’n rhaid bod hynny wedi bod yn go drawmatig iddynt. Mae’n amlwg o ailadrodd digwyddiadau o’r fath ein bod yn byw mewn byd lle mae data a gedwir yn electronig yn agored i berygl a gall gwasanaethau ddod i stop mewn eiliadau wedi ymosodiad. Mae’n amlwg yn annerbyniol fod defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu heffeithio yn y ffordd hon, ond rydym hefyd yn nodi nad ydym eisiau gorymateb a thaflu’r tedi o’r pram. Mae storio data electronig, i raddau helaeth, yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel na systemau papur. Felly, mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu ein seilwaith gwybodaeth ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod gennym y dechnoleg ddiweddaraf. O ystyried hyn, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ofyn i’r ganolfan seiberddiogelwch newydd sydd wedi’i lleoli ym Mhencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU i adolygu seiberddiogelwch ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru? Diolch.

Diolch am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, nid fi yw’r Prif Weinidog, ond rwy’n siŵr y bydd yn ystyried eich cais. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae yna adolygiad eisoes i’w gynnal yn y gwasanaeth yma i ddysgu gwersi o’r hyn a weithiodd a pham a beth arall sydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud hynny—er mwyn deall lefel y risg sydd gennym, er mwyn deall yr hyn rydym yn ei wneud o fewn y system, a sut i leihau’r perygl yn gynyddol yn y dyfodol. Dyna’r peth iawn i’w wneud a dyna rydym eisoes yn ei wneud ein hunain ac er ein mwyn ein hunain, fel y dylem ei wneud. Rydym yn ffodus i gael saernïaeth genedlaethol gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, lle mae pobl yn ymrwymedig—yn ymrwymedig i’r dull ‘unwaith i Gymru’ rydym yn ceisio’i fabwysiadu gan fanteisio ar y datblygiadau wrth ddefnyddio technoleg ddigidol i wella gofal iechyd—nid y broses yn unig ond y profiad a’r canlyniadau i bobl hefyd—yn ogystal â deall y risgiau sydd ynghlwm wrth hynny. Mae cyfarfod o’r bwrdd gwybodeg cenedlaethol—teitl bachog da yn y byd gofal iechyd—a byddant unwaith eto’n edrych yn ôl ar yr hyn a ddigwyddodd yn ogystal ag edrych i’r dyfodol hefyd. Felly, dull cytbwys priodol—heb fod yn hunanfodlon, ond heb anghofio, fel y dywedwch, y manteision gwirioneddol a’r potensial gwirioneddol i wella gofal iechyd drwy ryddhau’r potensial digidol mawr sy’n bodoli.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.

Mae’r cwestiwn amserol nesaf gan Simon Thomas.

Ceisiadau Glastir

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y 1,761 o geisiadau Glastir sydd heb eu talu o hyd? TAQ(5)0142(ERA)[W]

Diolch. Ers y bore yma, mae 1,198 o hawliadau arwynebedd Glastir i’w prosesu o hyd. Yn 2016, cafodd hawliadau cynllun y taliad sylfaenol eu blaenoriaethu, oherwydd gwerth a nifer sylweddol y busnesau fferm a oedd yn derbyn y taliadau hynny. Erbyn heddiw, mae dros 99.2 y cant o fusnesau fferm wedi cael eu talu, cyfanswm o £220.60 miliwn o gynllun y taliad sylfaenol. Ers mis Ionawr, mae ffocws Taliadau Gwledig Cymru wedi newid i brosesu hawliadau Glastir. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn parhau i weithio’n galed, a bydd ein holl achosion profiant ac achosion cyfreithiol cymhleth eraill yn cael eu talu erbyn diwedd y mis nesaf.

A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i’w lle, a gobeithio ei bod yn gwella’n dda? A gaf fi ddweud wrthi fy mod yn ddiolchgar am y ffigurau diweddaraf—roedd y ffigurau a oedd gennyf yn fy nghwestiwn gwreiddiol yn dyddio o oddeutu tair wythnos yn ôl, felly mae’n amlwg fod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud? Fodd bynnag, pan edrychais ar broffil y ffigurau hyn, a Gwynedd yn enwedig—mae Meirion Dwyfor wedi bod yn un ardal lle mae ffermwyr wedi cwyno’n benodol ac mae wedi cael proffil gwael iawn o fewn hynny, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cofnodi wrth gwrs fod y rhain, er ein bod yn eu galw’n daliadau Glastir—ym mhob achos bron, ad-daliadau ydynt am arian y mae’r ffermwyr wedi’i wario’n barod ar waith a wnaed eisoes ac sy’n aml wedi cael ei arolygu ar ffermydd.

Felly, a allwch gadarnhau’r hyn rydych eisoes wedi’i ddweud wrthym—neu yn hytrach, nid chi, rhywun a oedd yn cymryd eich lle ar y pryd—yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth wrthym ar 11 Ebrill, sef eich bod yn disgwyl y bydd y taliadau hyn i gyd, ac eithrio rhai anodd iawn, yn cael eu talu erbyn diwedd y mis hwn? Nodaf nad yw hynny’n edrych yn hollol debygol hyd yn hyn. Ac a allwch chi hefyd ddweud pa un a ydych yn ystyried unrhyw gamau pellach y gallwch eu cymryd fel Llywodraeth i helpu ffermwyr sy’n wynebu amser anodd iawn, amser ansicr hefyd, gyda Brexit? Er enghraifft, rwy’n deall bod Llywodraeth yr Alban wedi caniatáu i fenthyciadau gael eu gwneud, a bod manylion terfynol y taliadau’n cael eu gwneud wedyn yn nes ymlaen. A gaiff y rhain eu hystyried yn weithredol hefyd fel ffordd o helpu ffermwyr sydd o ddifrif angen i’r ad-daliadau Glastir hyn gael eu gwneud yn awr?

Diolch. Rydych yn hollol gywir—ers i gwestiwn ysgrifenedig, rwy’n credu, gael ei roi i Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae 563 o hawliadau pellach wedi’u talu, ac rwyf wedi egluro’r sefyllfa bresennol i chi heddiw. Rhoesom wybod i ffermwyr y byddai hyn yn digwydd, oherwydd y ffordd roeddem yn gwneud cynllun y taliad sylfaenol ar ôl y newidiadau y llynedd, felly nid wyf yn derbyn bod y taliadau Glastir yn hwyr, oherwydd ni ddywedwyd pryd y byddent yn cael eu talu mewn gwirionedd. Fodd bynnag, rwy’n deall yr anawsterau. Dywedasom, mewn gwirionedd, y byddem yn dechrau talu taliadau Glastir ym mis Chwefror—dechreusom ym mis Ionawr mewn gwirionedd, felly roeddem ychydig yn gynharach, ac fel y dywedais heddiw, byddant i gyd wedi’u talu erbyn diwedd mis Mehefin.

Fe ofynoch ynglŷn â benthyciadau, ac rwy’n ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban yn gwneud hynny. Byddai unrhyw gynllun benthyg yn debygol o dorri rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE, ac rwy’n credu y byddai hynny wedyn yn cynyddu’r perygl ohonom yn cael ein cosbi’n ariannol. Rwyf hefyd yn credu y byddai’n cymryd amser i’w sefydlu, ac a dweud y gwir byddai’n well gennyf gael staff Taliadau Gwledig Cymru allan yno’n prosesu’r ceisiadau hynny cyn gynted ag y bo modd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n hollol hanfodol fod pob un o’r 1,198 o geisiadau Glastir sy’n ddyledus yn cael eu talu cyn gynted â phosibl er mwyn diogelu hyfywedd y busnesau fferm hynny, ac mae’n gwbl annerbyniol fod 18 mis wedi bod ers i rai ffermwyr dderbyn taliad Glastir, ac rwy’n credu bod hyn yn dystiolaeth bellach fod anawsterau yn bla yn y cynllun Glastir o hyd a bod llawer gormod o fiwrocratiaeth yn y system. Felly, o dan yr amgylchiadau, a wnewch chi amlinellu pa gymorth ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer ffermwyr yr effeithiwyd arnynt gan yr oedi cyn gwneud taliadau er mwyn diogelu eu busnesau yn y cyfamser? Mae yna bryder gwirioneddol hefyd fod y system ar ei ffurf bresennol yn annigonol. Fel y byddwch yn gwybod o fy ngohebiaeth gyda chi ar y mater hwn, yn fy marn i dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei gwneud yn haws i fwy o ymgeiswyr gyflawni arferion amgylcheddol, yn hytrach na rhoi rhwystrau yn eu ffordd. O ystyried y pryderon presennol gyda’r system, a ydych yn cytuno felly ei bod yn awr yn bryd adolygu’r modd y caiff holl weithrediad Glastir ei reoli er mwyn sicrhau bod y cynllun yn fwy cydlynol ac yn annog tirfeddianwyr i gyflawni arferion rheoli mwy cyfeillgar i’r amgylchedd mewn gwirionedd yn hytrach na’u rhwystro?

Rwy’n credu bod Glastir wedi bod yn hynod o lwyddiannus mewn gwirionedd. Yn wir, eleni, gwelsom gynnydd yn nifer y contractau a hawliadau Glastir i’w prosesu. Rwy’n credu ein bod wedi cael 543 o geisiadau Glastir llwyddiannus ychwanegol. Felly, rwy’n credu ei fod wedi bod yn gynllun hynod o lwyddianus. Byddwch hefyd yn deall bod symleiddio polisi amaethyddol cyffredin yr UE yn golygu ein bod wedi gorfod cyflwyno gwiriadau ychwanegol ar gyfer Glastir—roedd angen i ni gyflwyno’r rheini’n unol â chynllun y taliad sylfaenol. Rydym hefyd wedi cael cymhlethdodau gyda mapio archwiliadau system integredig gweinyddu a rheoli 2016, a bydd hynny, unwaith eto, wedi effeithio ar Glastir.

Rwyf bob amser yn awyddus iawn i edrych ar sut y gallwn symleiddio unrhyw broses. Fe fyddwch yn gwybod am y cynllun grantiau busnes i ffermydd newydd a gyflwynwyd gennym, ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau bod hwnnw mor syml ag y bo modd. Ond rwy’n sicrhau pawb y bydd yr holl daliadau wedi’u gwneud erbyn diwedd mis Mehefin. 

Rwyf innau hefyd yn croesawu Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i’w lle yn y Cynulliad hwn ac yn gobeithio y bydd ei hiechyd yn parhau i wella.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n sicr, yn rhannu fy siom fod rhai ffermwyr, fel y mae Paul Davies newydd ei nodi, wedi bod yn aros am 18 mis am eu taliadau, o gofio, erbyn yr adeg hon o’r flwyddyn, fod llawer o ffermwyr yn cael anawsterau llif arian ar ddiwedd y gaeaf, a bod yn rhaid i ni geisio sicrhau bod yr hyn a ddisgrifir fel taliadau blynyddol yn golygu yn union hynny ac nid taliadau a wneir bob 18 mis yn y dyfodol. Rwy’n sylweddoli nad oes unrhyw gynllun gweinyddol yn mynd i fod yn berffaith ac yn anffaeledig ond dylem yn sicr wneud ein gorau i sicrhau bod yr hyn a ddisgrifir fel taliad blynyddol yn golygu yn union hynny. Pan fydd ffermwyr yn ffonio’r ganolfan gyswllt cwsmeriaid, ni roddir unrhyw syniad iddynt pa bryd y gallai eu taliadau fod yn cael eu gwneud. Rwy’n meddwl tybed a oes yna rai gwelliannau y gellid eu gwneud o ran y wybodaeth y gellir ei rhoi iddynt, hyd yn oed gwybodaeth fras, oherwydd mae’n amser pryderus i lawer o ffermwyr—sut y maent yn talu eu biliau ac maent yn dechrau ar eu cynlluniau busnes ar gyfer gweddill y flwyddyn.

Y trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud—heb gysylltiad â’r pwynt blaenorol—yw bod rhai ffermwyr wedi cael llythyrau mewn camgymeriad gan Taliadau Gwledig Cymru yn ddiweddar mewn perthynas â methiant i gyflawni gwaith cyfalaf Glastir er bod y gwaith wedi’i gwblhau mewn gwirionedd. A allwch gadarnhau y bydd Taliadau Gwledig Cymru yn cysylltu â hwy’n uniongyrchol cyn gynted â phosibl er mwyn cadarnhau mai camgymeriad oedd anfon y llythyr?

Diolch. Gallaf, cyn belled ag y gwn, maent eisoes wedi cysylltu â’r holl bobl, a hynny fis neu ddau yn ôl mae’n debyg, i ddweud mai camgymeriad oedd anfon y llythyrau.

Mewn perthynas â chael gwybodaeth ynglŷn â phryd y byddant yn cael eu talu, rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt teg iawn. Yn sicr, cefais gyfarfod heddiw gyda staff Taliadau Gwledig Cymru i ddweud y gallant o leiaf gael gwybod erbyn diwedd mis Mehefin, er enghraifft, ac nid wyf yn credu eu bod wedi cael gwybod. Ond rwyf wedi cael sicrwydd gan fy swyddogion y bydd hynny’n digwydd, ac rwy’n gobeithio y bydd pob ffermwr sy’n dal i aros yn clywed hyn neu y byddant wedi cael gwybod gan staff Taliadau Gwledig Cymru y byddant yn cael eu taliad erbyn diwedd mis Mehefin. 

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Heddiw yw’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia. Ers 2004 cafodd 17 Mai ei gydnabod fel cyfle i daflu goleuni ar y trais a’r gwahaniaethu y mae pobl LHDT yn dal i’w ddioddef ar draws y byd. Mae’r dyddiad yn arwyddocaol gan ei fod yn nodi penderfyniad Sefydliad Iechyd y Byd i ddad-ddosbarthu cyfunrhywiaeth fel anhwylder meddwl. Ers hynny, rydym wedi dod yn bell iawn mewn perthynas â hawliau a derbyniad LHDT a gallwn fod yn falch o’r camau rydym wedi’u cymryd yng Nghymru a’r DU.

Mae mynegai blynyddol Rainbow Europe heddiw, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Ryngwladol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol a Rhyngrywiol Ewrop, yn rhoi’r DU yn y trydydd safle. Gallai safle’r DU wella drwy gryfhau’r deddfau o ran cydnabod rhywedd ar gyfer pobl drawsrywiol. Felly, mae mwy y gallwn ei wneud o hyd i fynd i’r afael â’r rhwystrau a’r rhagfarn sy’n dal i fodoli. Ni allwn, ac ni ddylem, fod yn hunanfodlon. Dylai’r holl bobl LHDT allu byw eu bywydau yn rhydd rhag ofn ac mae gan bawb gyfrifoldeb i godi llais a gwrthsefyll casineb. Gallwn ni yng Nghymru ddangos arweiniad gartref a thramor wrth amddiffyn a hyrwyddo hawliau LHDT. Mae hyn yn cynnwys cynnig noddfa a chymorth i geiswyr lloches LHDT. Rwy’n gobeithio un diwrnod y byddwn yn byw mewn byd lle nad oes angen tynnu sylw at y trais a’r gwahaniaethu a ddioddefir gan bobl LHDT. Hyd nes y daw’r diwrnod hwnnw, rhaid inni barhau â’n gwaith fel cymuned a gwlad i chwalu’r rhwystrau, a chodi llais yn erbyn casineb a gwahaniaethu.

Rhwng mis Tachwedd 2015 a 2016, aeth prosiect Natur ein Pentref ati i nodi cyflwr bioamrywiaeth ym Mhenparcau, sy’n gartref i 3,000 o bobl ac sy’n cwmpasu 190 erw—hectar, dylwn ddweud—a dyna ble rwy’n byw. Cafodd cofnodion bywyd gwyllt eu creu gan 369 o wirfoddolwyr. Mae rhai uchafbwyntiau’r cofnodion hyn yn cynnwys: nodi tair cacynen newydd, nodi pum rhywogaeth arall o wenyn, gweld madfall ddŵr balfog ar Ben Dinas am y tro cyntaf erioed, ac ailddarganfod gwyfyn rhwyll bluog, a’i nodi, am y tro cyntaf ers 1937.

Roedd y prosiect yn annog pobl leol i feithrin sgiliau i adnabod a chofnodi bywyd gwyllt ar garreg eu drws, gan gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd am fywyd gwyllt, a’r bygythiadau y mae’n eu hwynebu. Defnyddiodd y prosiect gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Facebook, i recriwtio gwirfoddolwyr a hysbysebu arolygon, a hefyd i annog y gymuned, yn eu tro, i rannu eu darganfyddiadau bywyd gwyllt eu hunain.

Roedd yr adroddiad cenedlaethol ar gyflwr byd natur yn tynnu sylw at y diffyg data sylfaenol sydd gennym ar gyfer llawer o’n hamgylchedd, fel yn wir y mae’r adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol. Felly, mae gwyddoniaeth dinasyddion, fel y prosiect hwn ym Mhenparcau, a’r prosiect Capturing Our Coast, yn gallu llenwi bylchau pwysig a helpu cyrff cyhoeddus i ymateb i anghenion lleol.

Hoffwn longyfarch a diolch i Chloe Griffiths, a arweiniodd y prosiect, a Fforwm Gymunedol Penparcau, Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru, ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru am eu gwaith caled. Rwyf bellach yn edrych ymlaen at adroddiad nesaf Natur ein Pentref yn 2018.

Dydd Sadwrn yw Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol. O gwmpas y byd, bydd pobl yn dathlu’r diwrnod y cynhaliodd James Lind y treial clinigol ar hap cyntaf, ar fwrdd llong, ar 20 Mai 1747. Mae Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o dreialon clinigol, ac yn anrhydeddu ymchwilwyr clinigol proffesiynol a’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treialon, drwy gydnabod eu cyfraniad i iechyd y cyhoedd a chynnydd meddygol.

Mae treialon clinigol yn ffordd bwysig i ymchwilwyr brofi triniaethau newydd, gwella triniaethau cyfredol, a dod o hyd i ffyrdd gwahanol o reoli ac atal clefydau fel canser. Mae bywydau llawer o bobl yn well o ganlyniad i’r gwaith a wnaed drwy dreialon clinigol. Mae’r ganolfan meddygaeth canser arbrofol yng Nghaerdydd yn arloesi mewn triniaethau arbrofol cynnar, gan roi mynediad at therapïau newydd i gleifion yng Nghymru cyn eu bod ar gael fel gofal safonol. Ac mae treialon clinigol hwyr ar driniaethau gwell a mwy caredig ar gyfer canserau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ganser Felindre. Gall y treialon hyn newid arferion clinigol yn y dyfodol. Bydd Partneriaeth Canser Cymru hefyd yn tynnu sylw at arwyr ein treialon yng Nghymru, mewn prynhawn agored y dydd Gwener hwn yn uned treialon clinigol Felindre, ac yng nghyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru.

Rwy’n gobeithio y gallwn i gyd dalu teyrnged ddydd Sadwrn i waith anhygoel ac arloesol ymchwilwyr a gwyddonwyr blaenllaw Cymru, sy’n chwarae rôl hanfodol yn dod â gwaith ymchwil allan o’r labordy ac i mewn i fywydau pobl, a dathlu’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol yng Nghymru gan newid dyfodol miliynau o bobl.

5. 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, ac rwy’n galw ar Dawn Bowden i wneud y cynnig. Dawn Bowden.

Cynnig NDM6301 Dawn Bowden

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

2. Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy’n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn ar ffurf manteision rhywiol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Iawn. ‘Ystafell rad ac am ddim i fenyw sy’n barod i ymgymryd â gwaith tŷ yn noeth.’ ‘Llety am ddim, yn barod i gynnig ffafrau mwy personol.’ Dyfyniadau o gylchgrawn neu nofel ddi-chwaeth? Na. Mae’r rhain yn rhan o hysbysebion go iawn a osodwyd ar Craigslist neu Gumtree gan landlordiaid, yn cynnig llety di-rent yn gyfnewid am ffafrau rhywiol. Ai enghreifftiau ynysig yw’r rhain? Wel nage, yn anffodus.

Os chwiliwch am #sexforrent, fe welwch gannoedd o hysbysebion fel hyn. I ddechrau, mae’n ymddangos bod yr arfer wedi datblygu mewn dinasoedd mawr, fel Llundain, Birmingham a Bryste, ond mae’n sicr yn lledaenu ar draws y DU. Ac mae’n ymddangos yn awr ei fod wedi lledaenu i’r Alban, ac yn anffodus, rydym yn dechrau ei weld yn digwydd yng Nghymru.

Er enghraifft, roedd hysbyseb diweddar am fflatiau yng Nghaerdydd yn dweud, ‘Fflatiau i’w gosod. Fflatiau un ystafell wely a dwy ystafell wely yng Nghaerdydd a’r Cymoedd. Rhaid i denantiaid ar fudd-daliadau gynnwys llun wrth ateb.’ Ym Mhen-y-bont ar Ogwr: ‘Croeso i rywun sy’n mwynhau ffordd o fyw noethlymunwyr. Os ydych yn chwilio am ystafell i’w rhentu ac yn mwynhau’r ffordd o fyw honno, cysylltwch gan roi rhai manylion amdanoch eich hun. Nid yw hyn ar sail y cyntaf i’r felin, byddwn eisiau eich cyfarfod a dod i’ch adnabod, a thrafod y rheolau a’r gwasanaethau angenrheidiol.’

Roedd ymchwil gan Shelter yn Awst 2016 yn datgelu 288 o hysbysebion a gynigiai lety am ddim ar safle Craigslist, a 51 pellach a gynigiai llety am lai na £10 y mis, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt naill ai’n cynnwys cyfeiriadau uniongyrchol at ffafrau rhywiol yn gyfnewid am hynny, neu’n awgrymu hynny.

Diolch i’r Aelod am ildio. Pan glywodd un o fy etholwyr am y ddadl hon, daethant ataf i ddweud eu bod am dynnu sylw at y ffaith mai anaml iawn y bydd eiddo’n cael ei osod am ddim yn gyfnewid am ryw, ond eu bod yn aml yn cael eu gosod am bris gostyngol, a chredaf fod yr Aelod newydd gyfeirio at hynny. Ac yn ei phrofiad hi, dyma a ddigwyddai yn Llundain yn aml iawn, fod eiddo’n cael ei osod am bris gostyngol. Felly, a fyddai’n cytuno bod arfer o’r fath yn digwydd?

Yn sicr dyna’r wybodaeth a welsom, ac mae hyd yn oed rhai o’r hysbysebion a welsom yng Nghaerdydd mewn gwirionedd yn cynnig rhent am gyn lleied â £1 y mis am lety, ond gan gydymffurfio i roi ffafrau rhywiol. Felly, pam ein bod yn sydyn yn gweld lledaeniad yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel arfer ffiaidd ac ecsbloetiol? Rwy’n credu na all fod llawer o amheuaeth fod problem ddigartrefedd, sy’n effeithio ar lawer o ardaloedd yn y DU, ond sy’n fwy cyffredin mewn dinasoedd ac ardaloedd difreintiedig, wedi caniatáu i landlordiaid diegwyddor a rheibus fanteisio ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i fodloni eu hymddygiad aflan eu hunain. Gwelsom hyn yn digwydd ym Mharis yn ystod anterth eu hargyfwng tai yn y degawd blaenorol, pan ddaeth yr arfer o lety’n gyfnewid am ffafrau rhywiol yn gyffredin, a gorfu i’r Llywodraeth yno weithredu drwy gyflwyno rhaglen fawr i ddarparu tai fforddiadwy a nodwyd ganddynt fel y prif ffactor a gyfrannodd at y broblem.

Yn y wlad hon, mae rhai cyfryngau cenedlaethol wedi rhoi sylw i’r mater, gan gynnwys y BBC, ‘The Guardian’ a ‘The Times’, a chafodd ei drafod yn ddiweddar hefyd yn Senedd San Steffan gan yr AS dros Hove, Peter Kyle, mewn perthynas â’r problemau yn Lloegr. Cafodd ei ddwyn i fy sylw gan Cartrefi Cymoedd Merthyr, a diolch yn fawr iawn iddynt am wneud hynny.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn â chymhellion landlordiaid o’r fath, a’r sail sydd ganddynt dros gredu y gallant ymddwyn yn y fath fodd, nid oes ond angen i chi edrych ar y ffordd roeddent yn cyfiawnhau eu hymddygiad i’r cyfryngau pan gawsant eu holi ynglŷn â’r hysbysebion a osodwyd ganddynt. Roedd un landlord yn ei amddiffyn wrth BBC South East fel bod yn ‘ffrind gyda threfniant budd-daliadau’, gan ychwanegu,

Gallwch ddadlau bod y rhent uchel sy’n cael ei godi gan landlordiaid yn ffordd o gymryd mantais hefyd. Nid oes gorfodaeth arnynt i wneud hyn... Mae gan y ddwy ochr rywbeth y mae’r person arall ei eisiau. Rwy’n ei gweld fel sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

Rwy’n siŵr ei bod. Ond ni all fod unrhyw amheuaeth fod y landlordiaid hyn yn camfanteisio ar bobl agored i niwed nad ydynt yn gallu fforddio rhenti sy’n codi o hyd drwy eu hudo â bargen rhyw-am-rent. Heb os, byddent yn dadlau bod tenantiaid wedi dewis y trefniadau hyn o’u gwirfodd. Y drafferth yw pan fydd gennych rywun sy’n agored i niwed, sydd wedyn yn cael eu hecsbloetio, mae’r cysyniad o ddewis yn diflannu, ac mae hyn yn gyfystyr â rhyw fath o gaethwasiaeth fodern.

Trwy hysbysebion o’r fath, mae’r dynion hyn—ac ym mhob un o’r achosion a nodwyd, dynion ydynt—yn mynd ati’n fwriadol i dargedu menywod bregus, a dynion weithiau, sy’n teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall—menywod a dynion a allai fod wedi dioddef trais rhywiol neu drais domestig eisoes. Dangosodd ymchwil fod cyfran fawr o’r bobl sy’n cysgu allan, targed go amlwg i’r landlordiaid hyn, wedi profi rhyw fath o drais yn y cartref, rhywbeth y gallaf ei ategu o’r hyn a ddarganfûm yn ystod fy amser fel gwirfoddolwr yn y lloches nos ym Merthyr dros y gaeaf. Ond mae’n fwy na’r ecsbloetio sy’n digwydd pan fydd y person sy’n agored i niwed yn symud i mewn i’r eiddo o dan drefniant o’r fath. Mae llawer o’r hysbysebion yn debyg i’r un ym Mhen-y-bont ar Ogwr y cyfeiriais ato’n gynharach, ac yn gofyn i ddarpar denant gyfarfod â’r landlord ymlaen llaw i gael eu holi. Mae hyn ynddo’i hun yn gwneud y person bregus dan sylw yn agored i risg bellach.

Felly, fy mhryder mwyaf yw y bydd yr arfer hwn yn dod yn fwy cyffredin oni roddir camau ar waith i’w atal. Ac er bod y sylw i’r mater hwn gan y cyfryngau cenedlaethol i’w groesawu wrth gwrs, mae’n creu risg o wneud landlordiaid mwy diegwyddor yn ymwybodol o’r arfer, a’u hannog efallai i ymddwyn yn yr un modd ffiaidd. Ond ni allwn anwybyddu’r ffaith chwaith fod hyn yn digwydd yng nghyd-destun effaith rhaglen y Llywodraeth o doriadau i fudd-daliadau. Bydd cap y Torïaid ar lwfans tai lleol i rai dan 35 oed, a chapiau eraill ar fudd-daliadau i rai dan 22 oed, yn rhoi llawer mwy o bobl mewn sefyllfa fregus, gan eu gwneud yn dargedau ac yn ddioddefwyr mwyaf tebygol i’r ysglyfaethwyr rhywiol hyn. Llywydd, y peth rhyfeddol am yr holl fater aflan yw ei fod yn gyfreithiol mewn gwirionedd. Pam? Wel, oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes arian yn cael ei gyfnewid yn rhan o unrhyw drefniant, ac o’r herwydd nid yw’n cael ei gynnwys mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud â phuteinio.

Felly, rwy’n croesawu’r cyfle i gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw oherwydd na all y sefyllfa hon fod yn iawn, a chredaf y dylem wneud popeth a allwn i gynnal ein hanes balch yma yng Nghymru o fod ar flaen y gad yn cyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod o’r Cynulliad hwn yn rhannu fy ffieidd-dod tuag at arfer o’r math a ddisgrifiais yma y prynhawn yma, ac y byddwch yn ymuno â mi i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru i ystyried unrhyw ddiwygiadau i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a fyddai’n gwneud Cymru’n genedl gyntaf yn y DU i wneud yr arfer o hysbysebu rhent am ddim neu renti gostyngol yn gyfnewid am ffafrau rhywiol yn anghyfreithlon. Yn sicr, ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn a’r Llywodraeth hon yng Nghymru yn sefyll yn ôl a chaniatáu i ymelwa ofnadwy o’r fath barhau oherwydd bylchau yn y gyfraith. Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o roi diwedd ar hyn yng Nghymru.

Gallaf ddweud fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â chynnig yr Aelod, a hyd nes y gwelais hyn ar y papur trefn nid oeddwn yn gwybod ei fod yn arfer mor gyffredin ag y deallwn yn awr. Ac rwy’n ei llongyfarch am gyflwyno syniad sy’n amlwg yn cyfeirio at angen mawr ar hyn o bryd, a ffordd o newid y gyfraith i’w gwneud yn llawer mwy addas i’r diben a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Os yw’r arfer hwn yn amlwg—ac rwy’n credu ein bod wedi clywed tystiolaeth o hynny hyd yn oed yng Nghymru, ac mae’n sicr yn amlwg mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig—ac yn un sy’n tyfu, mae’n ddrwg gennyf ddweud, mae’n amlwg yn arfer sy’n foesol wrthun. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un edrych ar ffeithiau’r mater hwn a theimlo fel arall. Fel y dywedodd Dawn, gall y gyfraith fod yn amwys yn y maes ac felly dylid ei gwneud yn fwy eglur, ond nid oes amheuaeth fod arferion o’r fath yn ecsbloetiol tu hwnt. Mae’n rhaid ei fod yn rhoi rhai pobl mewn sefyllfa ofnadwy, lle maent yn agored i niwed o’r cychwyn yn sgil mympwy neu newid yn y sefyllfa honno, lle mae posibilrwydd o gam-drin a thrais, ac nid yw’n unrhyw fath o sefyllfa i neb fynd iddi mewn gwirionedd, ac wrth gwrs, ni fyddent yn mynd iddi o wirfodd; credaf fod hynny’n amlwg iawn. 

Rwy’n credu bod Dawn yn iawn i siarad am y materion ehangach, yn enwedig problem yr argyfwng tai. Mae gennym brinder enfawr o dai fforddiadwy, ac roedd yn ddiddorol clywed am y dull a ddefnyddiwyd ym Mharis—eu bod yn ei weld fel gwreiddyn y broblem, a dyna’r hyn y maent wedi ceisio mynd i’r afael ag ef. Rwyf wedi galw yn y Siambr hon ers amser hir am fwy o uchelgais o ran adeiladu tai, ac rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig tu hwnt. Rwy’n credu bod ein cenhedlaeth wedi colli golwg ar hyn—nid wyf yn gwneud pwynt pleidiol yma; rwy’n credu ei fod yn wir am bob plaid—ynglŷn ag angen mor hanfodol yw tai. Ar ôl yr ail ryfel byd, sylweddolodd pobl hyn, yn amlwg, yn yr amgylchiadau dychrynllyd hynny. Rwy’n credu y gallaf ddechrau deall sut y gallai rhai pobl fod mewn sefyllfaoedd mor enbyd fel y byddent yn meddwl am rywbeth mor ofnadwy â hyn fel dewis arall. Efallai y gallwn ddeall eu sefyllfa, ond nid wyf yn credu ein bod yn gwneud llawer i’r bobl hynny os nad ydym yn mynd i’r afael â gwreiddyn y broblem.

Roeddwn yn meddwl bod Dawn wedi edrych yn briodol iawn hefyd ar y ffordd y mae’r cyfryngau modern a llwyfannau hysbysebu wedi gwneud y math hwn o weithgaredd yn fwy dichonadwy, mae’n debyg. Ac unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni fod yn ymwybodol iawn o’r ffaith fod yna gyfran fechan, o blith yr holl bobl ar lawr gwlad sy’n landlordiaid da, a allai gael eu temtio i arfer y math hwn o ymddygiad ffiaidd. Nawr, yn anffodus, mae’r modd i gyflawni’r dibenion ysgeler hyn ar gael yn rhwyddach. Pe bai’n llawer anos gwneud hyn, efallai na fyddent yn cael eu temtio yn y lle cyntaf, ond ar hyn o bryd rwy’n meddwl bod rhaid i ni wynebu’r ffaith fod cyfryngau a hysbysebu modern yn agor y drws i gamfanteisio o’r fath.

A gaf fi orffen drwy ganmol Swyddfa’r Llywydd ar y fenter hon? Oherwydd mae’n beth newydd ein bod yn caniatáu i Aelodau nad ydynt yn anffodus wedi ennill y bleidlais—rwyf bob amser wedi meddwl ei bod yn rhyfedd eich bod yn ennill pleidlais, ond dyna ni, dyna, mae’n debyg, yw’r hyn y mae’n rhaid i ni ei alw. Wrth gwrs, mae’n serendipaidd os ydych yn ennill ac yn gallu datblygu eich syniad. Rwy’n credu bod dadleuon fel hyn yn caniatáu i Aelodau sydd wedi cael syniadau pwysig i sôn amdanynt. Wyddoch chi, mae’r Llywodraeth yn gwrando ac mae pleidiau eraill yn gwrando o ran ffurfio eu maniffesto nesaf. Rwy’n gobeithio y byddwn ar ryw adeg yn gweld newid yn y gyfraith yn dechrau o ddadl fel hon. Diolch yn fawr iawn.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma. Yn amlwg, mae’n hollol annerbyniol fod landlordiaid yn gosod eiddo yn ddi-rent gan ddisgwyl cael eu ‘talu’, mewn dyfynodau, efo ffafrau rhywiol. Rydw i wir yn gobeithio fod yna ffordd i atal hyn rhag digwydd. Yn anffodus, fel rydym ni wedi’i glywed, mae yna dystiolaeth fod hyn ar waith yn Llundain, Bryste, Birmingham, yr Alban, ac, yn anffodus, erbyn hyn yma yng Nghymru hefyd. Mae yna dystiolaeth i ddangos ei fod o’n digwydd ar draws y byd, ac fe gafwyd adroddiadau o bobl mewn sawl gwlad yn hysbysebu eiddo yn ddi-rent er mwyn cael manteision rhywiol, boed yn rhannu tŷ, fflat neu ystafell sbâr. Mae pobl yn cael eu gorfodi i’r sefyllfaoedd annerbyniol yma yn sgil cyfuniad o resymau mae’n debyg, gan gynnwys rhent drud a phrisiau tai drud mewn dinasoedd a’r ffaith fod angen i’r mwyafrif o bobl ifanc fyw yn y dinasoedd hyn er mwyn cychwyn eu gyrfaoedd.

Gobeithio y gall y gwelliant yma i’r Ddeddf tai atal hyn rhag digwydd yng Nghymru, os ydy’r gwelliant yn cael ei dderbyn. Ond, wrth gwrs, hyd yn oed os ydy’r ymarfer yn cael ei wahardd, mi fydd hi’n anodd gweithredu yn erbyn y rhai sy’n torri’r gyfraith oherwydd natur ddirgel y drosedd. Yn gyntaf, nid ydy pobl sy’n rhentu ystafell yn eu tŷ eu hunain ddim yn dod o dan y system trwyddedu landlordiaid, ac, yn ail, fe all dioddefwyr benderfynu peidio ag adrodd am y drosedd i’r heddlu gan eu bod nhw’n ofn wedyn y byddan nhw’n cael eu hel allan gan y landlord ac yn cael eu gwneud yn ddigartref. Mae adroddiad y Metropolitan Support Trust yn dweud y bydd adrodd am y drosedd yn creu gofid ychwanegol i rai dioddefwyr. Felly, nid oes yna ddim sicrwydd y byddai cynnwys y gwelliant yma a newid y ddeddfwriaeth yn arwain at y newid yr ydym ni am ei weld.

Felly, beth a fyddai’n gwneud gwir wahaniaeth yn y pen draw? Fel y mae David Melding yn sôn, rhan o’r ateb yn sicr ydy darparu mwy o dai fforddiadwy. Os oes yna fwy o dai addas ar gael ar rent fforddiadwy, yna bydd llai o bobl yn cael eu gorfodi i sefyllfaoedd annerbyniol. Mae hefyd angen sicrhau bod yna wasanaethau atal digartrefedd a llochesau o safon dderbyniol, fel bod pobl yn teimlo’n hyderus i adael sefyllfaoedd lle y maen nhw’n dioddef o gamdriniaeth. Ond efallai fod yna gwestiwn cymdeithasol, moesol efallai, ehangach, yn fan hyn hefyd ynglŷn â chyfartaledd rhwng y rhywiau a’r defnydd o ryw fel arf gan un person dros berson arall, ac, yn amlach na pheidio, gan ddyn dros ddynes. Ond efallai fod hynny’n bwnc trafod eang at ddiwrnod arall.

I gloi, felly, mi fyddai gwella’r ddeddfwriaeth yn gallu helpu. Mae trafod y pwnc yma heddiw yma a chodi proffil y mater hefyd yn helpu. Ond rwy’n credu hefyd fod angen rhoi sylw i’r materion hirdymor os ydym ni am weld gwir newid a dileu yr arfer yn llwyr. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am gyflwyno’r cynnig pwysig hwn heddiw. Rwy’n credu ei fod yn gadarnhaol iawn fod hwn wedi cael ei gyflwyno ar lawr y Senedd a bod pawb ohonom yn cael cyfle i’w drafod. Mae’n fater difrifol iawn ac rwy’n ofni y daw’n berygl llawer mwy yma yng Nghymru wrth i rai o’r newidiadau a welwn ddechrau gadael eu hôl. Gwyddom fod rhagor o ddiwygiadau lles yn ein taro a’n bod yn debygol o weld grwpiau mawr o bobl yn enwedig rhai rhwng 18 a 21 oed yn cael eu heithrio rhag hawlio budd-dal tai a chyfyngiadau ar rai o dan 35 oed, na fyddant ond yn gallu hawlio budd-dal tai ar ystafell mewn tŷ a rennir. Credaf y gallai hyn yn hawdd arwain at gynnydd yn nifer y landlordiaid heb eu cofrestru sy’n caniatáu i fenywod a dynion agored i niwed aros gyda hwy mewn llety sy’n eiddo iddynt, yn ddi-rent yn gyfnewid am ryw. Oherwydd bod rhai o’r bobl hyn wedi’u hymyleiddio i’r fath raddau ac mor agored i niwed, ac oherwydd na fydd y grŵp hwn o landlordiaid yn cael eu cofrestru o dan Rhentu Doeth Cymru, maent yn mynd i fod yn anodd iawn eu canfod a’u hamddiffyn rhag yr arfer hwn o bosibl.

Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig cadw mewn cof ar adeg pan fo cyllidebau’n crebachu mewn awdurdodau lleol ei bod yn debygol fod yna lai o gamau gorfodi yn y maes hwn, gan ei gwneud yn anos chwilio am landlordiaid o’r fath a dod o hyd iddynt. Felly, mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn ynglŷn â hynny hefyd. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn ddwys iawn, ac rwyf innau hefyd yn croesawu’r ffaith fod Swyddfa’r Llywydd yn rhoi’r cyfle hwn inni gael dadl gynnar ar y mater. Siaradais â Llamau—sydd â hanes cadarn iawn, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, o weithio gyda phobl ifanc a menywod agored i niwed—cyn y ddadl hon. Gwn eu bod wedi mynegi cefnogaeth i’r math hwn o fesur, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori yn awr â sefydliadau sy’n gweithio yn y maes i gael eu barn ar sut y gallai menter o’r fath weithio’n ymarferol. Ac rwy’n gobeithio hefyd y bydd gweithred werthfawr iawn Dawn yn cyflwyno hyn ar lawr y Senedd yn codi proffil y mater ac yn rhybuddio pobl am y peryglon sydd allan yno. Diolch yn fawr iawn.

Fel David Melding, nid oeddwn yn ymwybodol iawn o’r mater hwn nes i mi weld yr hyn a ymddangosodd ar yr agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Felly, rwyf wedi edrych ar yr hysbysebion ar Craigslist ac roeddent yn dipyn o agoriad llygad. Roeddwn yn synnu braidd i weld rhent gostyngol yn cael ei gynnig yn eithaf agored am ffafrau rhywiol, ac yn amlwg, mae hwn yn ddatblygiad anffodus sy’n ein hwynebu, wedi’i achosi gan faterion y mae Aelodau eraill wedi sôn amdanynt, megis diffyg tai, prinder tai. Felly, yn amlwg, mae wedi digwydd yn Llundain yn gyntaf, lle mae ganddynt y galw mwyaf am dai, ond mae Dawn wedi nodi’r ffaith ei fod mewn perygl o ddod yn arfer cyffredin yng Nghymru. Felly, os gallwn roi camau ar waith i atal y datblygiad hwn, yna rwy’n meddwl y byddai hwnnw’n gam da i’w gymryd.

Wrth gwrs, mewn gwirionedd, mae yna nifer penodol o landlordiaid—cyfran fach o landlordiaid—bob amser wedi bod â diddordeb brwd mewn cyfarfod â darpar denantiaid, neu eu sgrinio’n bersonol, a gwnaed cynigion o’r math hwn, efallai mewn ffordd ychydig yn llai amlwg, ond wrth gwrs, yn aml, gwrthodir y cynigion hyn. Tystiolaeth anecdotaidd yw hon—wyddoch chi, mae hwn wedi bod yn arfer, ond un sy’n effeithio ar nifer fach o denantiaid a landlordiaid yn unig. Felly, yn amlwg, nid ydym am weld hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol yn datblygu mewn gwirionedd, fel y dywedodd David Melding, i wneud hwn yn arfer mwy cyffredin. Felly, yn UKIP, rydym yn credu bod annog pobl ifanc yn bennaf yn agored—menywod ifanc yn bennaf, er bod rhai dynion, yn ogystal—i ddod yn rhan o ffurf ar buteindra, a hynny’n unig oherwydd eu hanghenion tai—. Mae’n amlwg yn fater i resynu’n fawr ato ac rydym yn cefnogi’r cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Dawn am roi’r cyfle inni fynegi ein pryder ynglŷn â’r arfer hwn fod landlordiaid, neu’n fwy cyffredin, y rhai sy’n derbyn lletywyr, yn hysbysebu llety am ddim yn gyfnewid am ffafrau rhywiol. Mae hynny’n ffiaidd i ni i gyd. Rwy’n condemnio’r arfer cyfrwys hwn, sy’n manteisio ar dlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol y bobl y mae’n camfanteisio arnynt, ac rwy’n cytuno’n llwyr y dylem wneud popeth yn ein gallu i ddatgelu ac atal y camfanteiswyr.

I baratoi ar gyfer y ddadl hon, Llywydd, gofynnais i fy swyddogion archwilio’r holl lwybrau posibl ar gyfer gweithredu ar hyn, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy synnu braidd gan rai o’u canfyddiadau. Er enghraifft, fel y cyfeiriodd Dawn Bowden, cyngor swyddogion y Swyddfa Gartref yw nad yw hysbysebu ar gyfer prynu a gwerthu rhyw ynddo’i yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr, ac er y gallai llawer o’r gweithgareddau cysylltiedig, megis camfanteisio, yn hawdd fod yn drosedd, maent yn honni mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd ganddynt fod camfanteisio gwirioneddol yn digwydd yn yr achosion penodol hyn. Wrth gwrs, gall hyn yn hawdd fod yn ganlyniad i lefel o dangofnodi yn hytrach nag absenoldeb camfanteisio. Rwy’n ategu pwynt Sian Gwenllian ar y mater hwnnw na ddylai’r unigolion sy’n cael eu hudo i mewn i’r sefyllfa hon fod ag ofn rhoi gwybod, ac er efallai nad yw’r mater yn anghyfreithlon, mae camfanteisio’n anghyfreithlon, a byddwn yn annog pawb sy’n wynebu sefyllfa o’r fath i ddefnyddio’r llinell gymorth am ddim Byw Heb Ofn sydd gennym ar waith. Gadewch i mi fod yn glir, Llywydd: mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, trais rhywiol a chamfanteisio o bob math yng Nghymru, ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r Swyddfa Gartref ac asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru i sicrhau cydweithrediad effeithiol.

Mae hwn yn fater cymhleth, ac mae’n yn mynd ymhell y tu hwnt i sut yr awn ati i reoleiddio tai ac yn datgelu rhai tueddiadau cymdeithasol sy’n peri pryder. Yr hyn sy’n fy nharo yma yw bod rhyw am rent yn symptom o broblem fwy sylfaenol: yr anawsterau cynyddol y mae pobl ifanc yn gyffredinol yn eu hwynebu i gael llety fforddiadwy, diogel. Ac er efallai nad oes gennym bwerau i fynd i’r afael â symptomau annymunol penodol, rydym eisoes yn gweithio i ymdrin â’r anawsterau gwaelodol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio cael llety diogel o ansawdd da. Mae’r ateb yn ein hymagwedd at fesurau ataliol ar gyfer lleihau digartrefedd, darparu tai fforddiadwy, lliniaru pwysau economaidd contractau dim oriau a newidiadau i fudd-daliadau, ein polisïau gwrth-gaethwasiaeth, a mentrau’n ymwneud â’n gwasanaethau cymorth i bobl sy’n agored i niwed sydd ag anghenion lluosog.

Gwrandewais ar gyfraniad David Melding, ac rwy’n gobeithio bellach y gallai fod wedi newid ei farn o ran ein safbwynt ar roi diwedd ar yr hawl i brynu. Mae’r Aelod wedi bod yn frwd ac yn glir iawn yn ei gyfraniadau yn y Siambr yma ac yn y pwyllgor am ei bryderon ynglŷn â chael gwared ar yr hawl a rhoi diwedd ar yr hawl i brynu, ond yr hyn y gwyddom am yr hawl i brynu yw bod llawer o’r eiddo sydd wedi cael eu gwerthu o dan yr hawl i brynu’n mynd i’r sector landlordiaid preifat yn y pen draw, a dyma ble mae’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch hwn yn digwydd. Felly, rwy’n bryderus iawn fod yr Aelod yn dweud y dylem gael mwy o dai, a hefyd y dylem ddiogelu’r cyfleoedd i bobl i fyw’n ddiogel—gobeithio bod yr Aelod wedi newid ei farn; efallai ei fod yn gallu datgan hynny heddiw.

Nid wyf wedi newid fy marn, ac rwy’n synnu braidd eich bod wedi gwneud y cysylltiad hwn. Yr hyn sydd angen i ni gytuno yn ei gylch yw bod angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae angen i lawer o’r cartrefi hynny fod yn y sector cymdeithasol. Mae’n ymddangos i mi nad oes unrhyw anghytundeb am hynny yn y Siambr hon, ac ar hynny y dylem ganolbwyntio.

Wel, rwy’n siŵr y bydd gan yr Aelod lawer o amser i ystyried ei gyfraniad eto, ac efallai y daw i gytuno â ni, ond rwy’n ddiolchgar iddo am ei sylwadau. Nid yw’r rhain yn faterion y gellir eu hateb yn gyflym ac yn hawdd, ac mae fy nghyd-Aelod yn iawn o ran yr angen inni edrych ar fater penodol rhent am ryw. Fodd bynnag, mae ein safbwyntiau’n gyfyngedig. Ni fydd diwygiad i’r system gofrestru a thrwyddedu o dan Ran 1 y Ddeddf Tai y cyfeiriai Dawn ati yn mynd i’r afael â’r mater hwn ar ei ben ei hun, ond yr hyn y mae’n ei olygu yw na ddylem beidio â gwneud unrhyw beth i geisio atal yr arfer ofnadwy hwn.

Rwy’n deall yn iawn pam y mae hyn yn cael ei weld fel mater sy’n ymwneud â chyfraith tai. Yn gyfreithiol, fodd bynnag, nid yw rolau landlordiaid a thenantiaid yn gymwys lle mae rhyw yn hytrach nag arian yn cael ei gyfnewid am lety, ac nid yw hwn yn syml iawn yn gontract cyfreithiol y gellir ei lywodraethu gan gyfraith tai. Mae hynny hyd yn oed yn gliriach pan fyddwn yn sôn am berchennog yn caniatáu i rywun rannu eu cartref. Mae’r cynllun cofrestru a system drwyddedu landlord ac asiant, Rhentu Doeth Cymru, yn golygu bod angen i landlordiaid ac asiantau sy’n cyflawni gweithgareddau gosod a rheoli tai fod yn unigolion addas a phriodol sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac yn cydymffurfio â’r cod. Rwy’n hapus i archwilio ffyrdd y gallem ddefnyddio’r prawf unigolyn addas a phriodol yn yr achos hwn i bennu bod camfanteiswyr sy’n landlordiaid yn anaddas i ddal trwydded fel landlordiaid. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y mater hwn.

Gallwn hefyd geisio atal hysbysebu hyn, ond mae cyfreithlondeb yr hysbysebion hyn yn amwys a cheir prinder manylion penodol yn eu cylch. Rwy’n ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban wedi ysgrifennu at Craigslist, a byddwn yn edrych ar fanylion yr ymateb hwnnw’n ofalus. Rwy’n bwriadu ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i dynnu sylw at ein pryderon yn y ddadl hon heddiw a’r hyn y dylid ei wneud i asesu, yr hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r materion mewn modd mwy rhagweithiol. Nid wyf yn credu nad yw’r achosion a gafodd sylw yn y wasg, ac eraill tebyg iddynt, yn gyfystyr â chamfanteisio neu unrhyw weithgarwch troseddol arall. Byddaf yn mynd ar drywydd hynny hefyd.

Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda’r heddlu i weld lle bydd hynny’n ein harwain, ac rwyf wedi gwrando’n ofalus iawn, wrth gwrs, ar gyfraniadau’r Aelodau heddiw. Rwy’n dal yn agored i awgrymiadau ynglŷn ag unrhyw gamau pellach y dylem eu cymryd. Rydym yn unedig yn ein ffieidd-dod tuag at y rhai sy’n camfanteisio ar bobl eraill ac anghenion pobl agored i niwed yn ein cymunedau. Mae’r cwestiwn yn ymwneud â dod o hyd i ffordd effeithiol o fynd i’r afael â hyn, ac rwy’n siwr y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddatrys y mater hwn.

Diolch i chi, Llywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl? Rwy’n credu bod yr ymatebion yn weddol gyson yn y ddadl o ran edrych ar rai o’r materion sy’n gyfrifol am ledaeniad y math hwn o gamfanteisio. Cydnabu David Melding, yn gwbl briodol, pa mor agored i niwed yw’r bobl sy’n caniatáu i’r math hwn o gamfanteisio ddigwydd, ac mewn gwirionedd, aeth Ysgrifennydd y Cabinet â’r geiriau o fy ngheg am yr argyfwng tai sy’n ein hwynebu yn awr, ac rwy’n croesawu’r mentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi ar waith i geisio mynd i’r afael â hynny—y cartrefi newydd fforddiadwy ac yn y blaen. Rwy’n credu y byddai’n rhy syml inni siarad yn unig am yr argyfwng tai yn yr ystyr ehangach heb edrych ar y rhesymau hanesyddol dros hynny. Rwy’n credu eich bod yn hollol gywir, Ysgrifennydd y Cabinet, yn nodi’r hanes sy’n sail i’r hawl i brynu, a’r hyn a etifeddwyd yn sgil hynny, sy’n golygu mai’r hyn a adawyd ar ôl yw’r nifer gyfyngedig o dai cymdeithasol sydd gennym, a’r anallu i ddarparu tai fforddiadwy.

Rwy’n credu bod rhaid i ni hefyd gydnabod, fel y cydnabu David Melding a Sian Gwenllian, a Lynne Neagle yn wir, ein bod hefyd yn gweld effeithiau newidiadau i’r system fudd-daliadau, ac nid yw hynny’n mynd i newid yn y dyfodol agos, cyn belled ag y bo gennym Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Rwy’n ofni bod honno’n digwydd bod yn ffaith. A gaf fi hefyd ddiolch i Gareth Bennett am gefnogaeth UKIP i’r cynnig hefyd? Mewn perthynas â safbwynt y Llywodraeth ar hyn, a gaf fi ddiolch, unwaith eto, i Ysgrifennydd y Cabinet, am ei gynnig i weithio gydag unrhyw sefydliadau a all ddod o hyd i ffordd i geisio ymdrin â’r mater hwn? Nid wyf yn gyfreithiwr; nid wyf yn deall y cyfyngiadau deddfwriaethol, ond rwy’n gwybod eich bod yn cael cyngor gan arbenigwyr cyfreithiol. Ond rwy’n credu y byddwn yn ddiogel i ddweud ei bod yn ymddangos bod cryn dipyn o gefnogaeth drawsbleidiol i’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni yma, sef mynd ati rywsut i gau’r bwlch deddfwriaethol sy’n caniatáu i bobl roi hysbysebion fel hyn ar safleoedd rhyngrwyd, neu mewn mannau eraill sy’n hollol gyfreithiol. Ac a allwn gael mynediad at, neu newid y ffordd o fynd i’r afael â hyn drwy ddefnyddio deddfau’n ymwneud â chamfanteisio—credaf y byddwn yn falch o weld Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny, naill ai drwy ysgrifennu at y Swyddfa Gartref, cael trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban, sy’n amlwg i’w gweld yn ceisio ymdrin â hyn, neu edrych ar unrhyw ffordd arall y gall Llywodraeth Cymru ddeddfu i geisio rhoi terfyn ar y camfanteisio hwn. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw nodi’r cynnig hwn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diogelwch Plant Ar-lein

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig: diogelwch plant ar-lein. Galwaf ar Darren Millar i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6305 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.

2. Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel ar-lein, a’u haddysgu o ran y camau y dylent eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb cynhwysfawr i bryderon a godwyd gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant), ynghylch cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi’u cael o ran diogelwch ar y rhyngrwyd.

4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethu diogelwch ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy’n anelu at ddarparu cymunedau mwy diogel i blant ledled Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle i agor y ddadl bwysig hon y prynhawn yma, a chynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies ar y papur trefn heddiw, gan gydnabod y llu o risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd, nodi pwysigrwydd rhoi camau ar waith i sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel ar-lein, a galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) a sefydliadau eraill, fel y gallwn gael pethau’n iawn o ran rhoi blaenoriaeth i hyn yn y dyfodol.

Nawr, cyn i mi gychwyn ar fy araith, hoffwn ddweud y byddwn yn cefnogi’r ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru heddiw. Credwn eu bod yn cydweddu â’n cynnig, ac maent yn cydnabod yr angen am ymagwedd gydgysylltiedig yma, gan bob Llywodraeth ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn wir, o amgylch y byd, er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r problemau real iawn.

Dangosodd yr ymosodiadau seiber a ddigwyddodd dros y penwythnos mewn termau eglur iawn, rwy’n meddwl, pa mor ddibynnol rydym wedi dod, fel cymdeithas, ar y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl ein bod, yn aml iawn, yn orddibynnol ar y pethau hyn. Ac wrth gwrs, rydym yn dod â’r pethau hyn i’r amlwg yn arbennig pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, ac fel y gwelsom, gallant fynd o’u lle i raddau helaeth iawn. Ond fel llunwyr polisi a deddfwyr yma yn y Senedd heddiw, mae llawer ohonom yn ddigon hen i gofio adeg heb gyfrifiaduron personol, heb ffonau clyfar; efallai y bydd rhai’n gallu cofio’r llechi—ac nid wyf yn siarad am y rhai a ddygwyd gan Foses o gopa mynydd Sinai—ond am lechi sialc yn yr ystafell ddosbarth i’w defnyddio fel cymhorthion dysgu. Os ydych yn siarad am y pethau hyn wrth berson ifanc yn awr, maent yn methu dirnad absenoldeb technoleg ers talwm. Oherwydd y realiti yw eu bod wedi arfer i’r fath raddau, ac mor gyfarwydd â’r dechnoleg sydd ym mhobman o’n cwmpas—yn yr ysgol ac yn y cartref—fel eu bod yn gwbl syfrdan pan fyddaf yn sôn amdanaf yn ifanc yn cael ZX Spectrum gan fy nhad a fy mam yn anrheg Nadolig ac roedd yn fendigedig, ac arferai gymryd hanner awr i lwytho rhaglen, gyda thâp casét bach. Felly, mae gennym genhedlaeth newydd sy’n fwy cyfarwydd â thechnoleg, yn aml iawn, na’r rhai sy’n eu dysgu yn ein hysgolion a’u rhieni gartref. Yn wir, rydym yn aml iawn yn fwy anllythrennog na hwy ym maes technoleg.

Nawr, wrth gwrs, mae’r ffaith fod gennym i gyd y dechnoleg hon yn cynnig cyfleoedd enfawr ar gyfer y dyfodol—cyfleoedd mewn addysg, mewn cyflogaeth, mewn rhwydweithio cymdeithasol—a’r cyfan ar y raddfa fyd-eang enfawr hon. Ond er cymaint o fendith yw technoleg, mae hefyd yn gallu bod yn felltith. Rydym wedi gweld nad yw cael y cyfoeth hwn o wybodaeth, yn enwedig dros y rhyngrwyd, yn dod heb risg, a gall wneud pobl—pobl fregus a phlant—yn agored i niwed go iawn. Mae pornograffi, gamblo, rhannu gwybodaeth a chynnwys rhywiol personol yn amhriodol, twyll, seiberfwlio, meithrin perthynas amhriodol ar-lein, blacmel, camfanteisio a radicaleiddio i gyd yn bethau y mae’r rhyngrwyd wedi’u dwyn i mewn i gartrefi pobl ac ar liniau pobl. Ac maent yn fygythiadau go iawn. Maent yn fygythiadau i iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl ifanc yma yng Nghymru heddiw. Dyna pam y mae’n rhaid inni sicrhau bod diogelwch ar-lein yn brif flaenoriaeth i ni yn awr ac mewn perthynas â’r ffordd rydym yn symud ymlaen.

I fod yn deg i Lywodraeth Cymru, rwy’n credu ei bod eisoes yn gwneud gwaith da iawn ar hyn. Maent eisoes wedi rhoi rhai mesurau ar waith i ddiogelu myfyrwyr yn ysgolion Cymru a chodi safonau e-ddiogelwch yn y lleoedd dysgu hynny. Rwy’n gwybod, er enghraifft, fod South West Grid for Learning wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ers 2014 ar y materion e-ddiogelwch hyn. Rwyf hefyd yn gwybod bod oddeutu 78 y cant o ysgolion Cymru hyd yn hyn wedi defnyddio’r offeryn hunanadolygu 360° Safe Cymru, sy’n gwerthuso pa mor ddiogel yw eu harferion ar-lein mewn gwirionedd. Wrth gwrs, maent hefyd yn darparu cyfleoedd drwy ymgyrchoedd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel er mwyn codi proffil a rhoi mwy o bwyslais ar y materion hyn.

Rwy’n falch iawn hefyd o weld Llywodraeth Cymru yn cefnogi Operation Net Safe, sef rhaglen ar y cyd â’r heddlu a Sefydliad Lucy Faithfull sy’n anelu at atal creu, gwylio a rhannu delweddau anweddus o blant ar-lein. Rwy’n falch iawn o weld adroddiad diweddar Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd—a dylwn fod wedi datgan y ffaith fy mod mewn gwirionedd yn hyrwyddwr gwarchod y rhyngrwyd ar ran y gymdeithas honno ar ddechrau fy araith—ond roeddwn yn falch iawn o weld bod llai na 0.1 y cant o’r delweddau cam-drin plant yn rhywiol byd-eang ar weinyddion wedi’u lleoli yn y DU bellach. Y rheswm am hynny yw ymagwedd dim goddefgarwch Llywodraeth y DU a phob un o’r gweinyddiaethau datganoledig ar y mater penodol hwn. Mae’n wych ein bod yn gwneud cynnydd yn hynny o beth, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy. Yr unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy gael ymagwedd fwy traws-sector yn y Llywodraeth ac oddi allan i’r Llywodraeth, ond gydag arweiniad y Llywodraeth i ddod ag unigolion at ei gilydd. Mae angen i’r sector addysg gydweithio gyda rhieni, gyda diwydiant, gydag arbenigwyr yn y gymdeithas sifil ac wrth gwrs, gyda phlant eu hunain, er mwyn addysgu ein pobl ifanc ynglŷn â’r ffordd orau o amddiffyn eu hunain, fel y gallwn ddatblygu’r offer sydd eu hangen ar bawb ohonom i ymateb i ryngrwyd sy’n esblygu’n barhaus a’r bygythiadau a’r niwed sy’n gallu bod yn gysylltiedig â hynny.

Yn amlwg, y man cychwyn amlwg i addysgu a grymuso plant a phobl ifanc ar ddiogelwch y rhyngrwyd yw drwy wreiddio rhai mesurau ac egwyddorion allweddol yn ein system addysg lle caiff llythrennedd digidol ei ddysgu, ac mae gennym gyfle gwych gyda’r cwricwlwm newydd sy’n cael ei lunio yng Nghymru i ymgorffori’r pethau hyn yn fwy parhaol, os mynnwch, yn y cwricwlwm newydd hwnnw. Ond yn fy marn i, mae’n galw am strategaeth fwy cynhwysfawr yn ogystal wrth symud ymlaen er mwyn cael y maen i’r wal—strategaeth a all fod yn destun adolygu cyson. Gwyddom fod NSPCC Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i ddiogelu plant ar-lein, gan gynnwys cyhoeddi cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cynhwysfawr wedi’i ategu gan grŵp ymgynghorol sy’n gallu sicrhau bod Cymru ar flaen y gad mewn gwirionedd o ran cadw plant yn ddiogel ar-lein yn y DU a ledled y byd. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb eto i’r argymhelliad penodol hwnnw gan yr NSPCC, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb i’r ddadl heddiw yn gallu dweud wrthym a yw hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w fabwysiadu, er mwyn inni allu ymgorffori’r cynllun hwn yn ein hysgolion, yn ein sector cyhoeddus ac ar draws y Llywodraeth, fel y gallwn gael dull gweithredu safonol o’r fath.

Rhaid i mi ddweud, er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod, rwy’n poeni bod 22 y cant o ysgolion yng Nghymru nad ydynt wedi gwerthuso diogelwch eu harferion ar-lein eto gan ddefnyddio’r teclyn hunanarfarnu. Credaf fod rôl gan arolygiaeth Estyn, er enghraifft, i’w chwarae o ran sicrhau bod hynny’n un o’r pethau sy’n cael llawer o sylw ar radar ysgolion er mwyn diogelu’r plant hynny. Mae gennym rai polisïau diogelu plant da iawn ar draws Cymru, ceir llawer o waith papur ynglŷn â diogelu plant, ond yn aml iawn, yr un peth sydd ar goll o’r holl ddarnau papur yw mater diogelwch y rhyngrwyd.

Cafwyd peth gwaith da iawn hefyd, fel y dywedais yn gynharach, dros y ffin yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn arwain ar hyn yn fyd-eang, mewn gwirionedd, mewn perthynas â diogelwch y rhyngrwyd. Fe wnaethant fabwysiadu ymagwedd ar draws y sectorau o’r cychwyn cyntaf. Yn 2013, gweithiodd y Prif Weinidog ar y pryd gyda’r diwydiant rhyngrwyd i gael darparwyr gwasanaethau i gynnig hidlwyr rhyngrwyd i rieni fel y gallent ddewis beth y gall a beth na all eu plant eu gweld ar-lein. Yn 2014, lluniodd pwyllgor dethol y Tŷ Cyffredin ar ddiwylliant a’r cyfryngau adroddiad ar ddiogelwch ar-lein a nodai rai o’r heriau a gwnaeth argymhellion clir y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithredu arnynt. Wrth gwrs, mae diogelwch ar y rhyngrwyd wedi bod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm yn Lloegr bellach ers 2014, a gwnaed peth gwaith allweddol, yn enwedig i atal bygythiad bwlio a seiberfwlio sydd wedi bod yn digwydd ar-lein ac wedi bod mor gostus, ac yn ddinistriol o gostus i rai pobl ifanc sydd, yn anffodus, o ganlyniad i fwlio o’r fath, wedi cyflawni hunanladdiad.

Yn 2015, gwelsom ei bod yn ofynnol i ysgolion yn Lloegr bellach hidlo’r holl gynnwys ar-lein amhriodol ac addysgu disgyblion ynglŷn â bod yn ddiogel. Gwn fod hidlo’n digwydd yn ein hysgolion ni, yn ogystal, a rhaid bod hynny’n beth da. Ond wrth gwrs, nid ar eu cyfrifiaduron yn yr ysgol yn unig y mae disgyblion yn cael mynediad at gynnwys amhriodol ar y rhyngrwyd. Maent hefyd yn mynd â ffonau symudol i’r ysgol. Maent yn mynd â’u llechi eu hunain i’r ysgol, ac wrth gwrs, mae risgiau’n gysylltiedig â hynny. Felly, mae gennym lawer mwy sydd angen i ni ei wneud er mwyn unioni’r sefyllfa hon, a chredaf fod angen i Gymru arwain, fel gwlad, mae angen i ni fod ar y droed flaen, ac mae angen i ni weithio gyda’r gweinyddiaethau eraill ar draws y DU os ydym yn mynd i ymdrin â’r broblem hon.

Un peth ymarferol cyn i mi drosglwyddo’r awennau i’r siaradwr nesaf yn y ddadl: ceir polisïau rhyngrwyd sy’n ystyriol o deuluoedd a fabwysiadwyd gan rai busnesau ym Mhrydain, ond nid yw pob un o’r busnesau hynny wedi achub ar y cyfle i gael rhyngrwyd sy’n ystyriol o deuluoedd ar eu safleoedd. Ceir llawer o grwpiau gwestai, bwytai a rhannau o’r sector cyhoeddus nad oes ganddynt hidlwyr sy’n ystyriol o deuluoedd ar waith ar eu gweinyddion rhyngrwyd, ac mae’n hanfodol, rwy’n credu, ein bod yn cael y pethau hyn ar waith os ydym am gael mesurau diogelwch priodol ar gyfer ein plant yn y dyfodol.

Felly, rwy’n annog pobl i dderbyn y cynnig yn yr ysbryd y caiff ei gynnig heddiw, mewn ffordd amhleidiol, ac i weithio gyda ni er mwyn siapio’r dyfodol fel y gallwn gadw ein pobl ifanc yn ddiogel. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi pwysigrwydd llythrennedd ddigidol i Gymru, a bod annog defnydd diogel o’r rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg plentyn.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda’r cwmnïau perthnasol i fynd i’r afael â cham-drin ar-lein, gan nodi’n arbennig y cam-drin y mae menywod a grwpiau lleiafrifol yn ei ddioddef.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn i allu cyfrannu i’r ddadl yma’r prynhawn yma. Fel rhywun sy’n dad i blant sy’n dod i oed lle mae ganddyn nhw nawr bresenoldeb ar-lein ac ar wefannau cymdeithasol, rwy’n gallu uniaethu gyda rhai o’r sylwadau agoriadol a wnaethpwyd i’r ddadl yma. Wrth gwrs, rwyf i o genhedlaeth nad oedd wedi tyfu i fyny â gwefannau cymdeithasol yn bodoli. Mae’n anodd i rywun fel fi uniaethu, rwy’n meddwl, gyda fy mhlant i, sydd nid yn unig yn cael y profiad o ddarganfod, dysgu am, a deall y cyfryngau cymdeithasol yma, ond hefyd yn gorfod gwneud hynny ar yr un pryd â wynebu holl bwysau a heriau tyfu i fyny. Felly, wrth gwrs, nid oes rhyfedd bod hynny’n arwain at ryw gymysgwch o brofiadau emosiynol, sydd yn arwain at ganlyniadau, yn aml iawn, llai na hapus.

Rydym yn gwybod, yn ôl y gwaith mae’r NSPCC wedi amlygu, fod rhyw 20 y cant o blant rhwng wyth ac 11 oed â phroffil ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hynny’n codi i ryw 70 y cant i bobl ifanc 12 i 15 oed. Mae chwarter o blant wedi cael profiad sydd wedi peri gofid iddyn nhw ar safle rhyngweithio cymdeithasol a thraean wedi dioddef bwlio ar-lein. Felly, dyna flas, mewn gwirionedd, o ba mor ddifrifol yw’r sefyllfa, a hynny, wrth gwrs, sy’n cael ei adlewyrchu yn y ffigurau mae Childline yn eu rhyddhau yn gyson, sydd yn dangos y galw cynyddol sydd yna am eu gwasanaethau nhw.

O dan y cwricwlwm cenedlaethol newydd—ac rydym wedi clywed cyfeiriad at hynny yn barod—mi fydd cymhwysedd digidol yn un o’r tri chyfrifoldeb traws-gwricwlwm. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl addas ac yn gwbl angenrheidiol. Mae’n rhywbeth y byddem ni i gyd yn ei groesawu. Mae’n hanfodol bod y fframwaith hwnnw yn grymuso plant a phobl ifanc i allu gwneud defnydd diogel o’r rhyngrwyd fel rhan sylfaenol o’u haddysg nhw. Dim ond heddiw roeddwn yn darllen adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd a oedd yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn y pedwerydd safle allan o 42 o wledydd o gwmpas y byd am y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chyfrifiadurol. Mae dros dri chwarter o ferched rhwng 11 a 15 oed, a bron 85 y cant o fechgyn, yn defnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn am ddwy awr neu fwy ar nosweithiau ysgol ar gyfer rhesymau heblaw chwarae gemau.

Nawr, nid oes angen arbenigwr i ddweud wrthym ni—er eu bod nhw wrth gwrs yn ategu’r neges—fod hynny’n cyflwyno perygl iechyd difrifol, o safbwynt iechyd meddwl a’n sicr oherwydd y peryglon seiber fwlio, ond hefyd y peryglon iechyd corfforol a’r risg cynyddol o ordewdra a chlefyd y siwgr math 2 yn y tymor hir, ac yn y blaen. Ac mi wnaeth arolwg o Chwefror y llynedd ar gyfer Safer Internet Day amlygu bod chwarter o bobl ifanc yn eu harddegau wedi dioddef casineb ar-lein yn y flwyddyn flaenorol. Nawr, ar gyfryngau cymdeithasol roedd pobl ifanc fwyaf tebygol o ddod ar draws y fath gamdriniaeth, ac mewn rhai achosion, mi fyddai’r achosion hynny’n cael eu cyfri fel trosedd casineb, sydd eto yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

Dros yr wythnos diwethaf, fel y clywsom ni gynnau, mae seiberdroseddu wedi bod ar frig y newyddion gyda’r ymosodiad seiber ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ac yn yr Alban, wrth gwrs, sydd wedi cael cryn effaith ar wasanaethau yn fanna. Ond mae’n rhaid, wrth gwrs, inni gymryd yr un mor o ddifri troseddu yn erbyn unigolion ar-lein, er bod hynny’n fwy cudd yn aml iawn nag ymosodiad fel y gwelsom ni ar y gwasanaeth iechyd yn ddiweddar.

Dim ond y flwyddyn ddiwethaf dechreuodd yr ONS gyhoeddi ffigurau arbrofol ar seiberdroseddu, ac roedd y ffigurau yn llawer iawn uwch nag yr oedd unrhyw un wedi ei ddisgwyl, gyda 5.8 miliwn o droseddau yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn hyd at Orffennaf y llynedd. Mae hynny yn ddigon i bron iawn ddyblu’r gyfradd o droseddu yma yng Nghymru ac yn Lloegr. Mi gynyddodd troseddau ‘harass-o’, gan gynnwys troseddau newydd fel cyfathrebu maleisus ar-lein, camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen, 90 y cant. Mi gynyddodd o 82,000 o achosion i 156,000. Felly, mae ‘scale’ y broblem nawr yn dod yn fwyfwy amlwg, ac felly mae ‘scale’ yr ymateb sydd ei angen yn wyneb hynny angen ei gynyddu hefyd.

Roedd merched yn derbyn bron i ddwywaith yn fwy o fygythiadau i’w lladd neu i ymosod arnyn nhw’n rhywiol na dynion. Yn ôl un astudiaeth—66 o achosion yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dim ond 10 y cant o’r merched a oedd wedi dioddef o gam-drin neu ‘harass-o’ ar-lein wnaeth adrodd hynny i’r heddlu. Felly, mae yna her ddifrifol yn ein hwynebu ni yn fanna hefyd.

Mae’r ffaith bod cymaint o gamdriniaeth yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynnu bod pobl ifanc yn cael yr addysg angenrheidiol er mwyn eu pweru nhw i warchod eu hunain a’u buddiannau, a hefyd yn tanlinellu, fel y mae gwelliannau Plaid Cymru yn eu hamlinellu, yr angen i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol weithio gyda chwmnïau perthnasol ac eraill i fynd i’r afael â hyn, ac, wrth gwrs, gorau po gynted.

Rydw i’n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae diogelu plant a phobl ifanc ar-lein yn parhau i fod yn her wirioneddol i gymdeithas heddiw, ac mae gyda ni gyd ddyletswydd i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn well rhag y peryglon o ddefnyddio’r rhyngrwyd. Fel dywedodd Darren Millar, mae’r rhyngrwyd yn offeryn anhygoel i addysgu ein plant i ehangu eu gorwelion dysgu a rhoi mynediad iddynt at adnoddau y gallai cenedlaethau blaenorol ond breuddwydio amdanynt. Wrth gwrs, nid yn unig mae’n arf gwych academaidd a all gefnogi dysgu ein plant, mae’r rhyngrwyd yn cynnig mynediad i’r adloniant diweddaraf drwy wasgu rhai botymau, ac mae’n annog plant i ddatblygu perthynas â’i gilydd drwy gyfryngau cymdeithasol. Ac er bod pob un o’r offerynnau hyn yn helpu i feithrin ac addysgu ein plant a’n pobl ifanc, mae’r rhyngrwyd hefyd yn gallu bod yn lle peryglus iawn.

Mae’r rhyngrwyd wedi dangos ei fod yn gallu helpu cryfhau perthnasoedd; gall hefyd roi plant mewn perygl o seiber fwlio, ecsbloetio a cham-drin, hyd yn oed, yn emosiynol a rhywiol. Nid oes angen i chi edrych yn rhy bell i ddod o hyd i straeon torcalonnus o blant ar draws y byd sydd wedi cymryd eu bywydau oherwydd y bygythiadau a’r bwlio maen nhw wedi’i ddioddef ar-lein. Dim ond yn ddiweddar, yn fy etholaeth i, fe fu farw merch 14 mlwydd oed yn ei chartref ar ôl brwydr gudd yn erbyn ‘cyber bullies’, mater roedd hi wedi cadw oddi wrth ei theulu. Yn anffodus, mae’r ferch ifanc yma yn un o llu o bobl eraill sydd, yn amlach na pheidio, yn dioddef yn dawel dan law bwlis sydd wedi defnyddio’r rhyngrwyd fel llwyfan i ledaenu casineb ac i gam-drin. Mae arnom ni ddyled enfawr i’r dioddefwyr hyn ac i’w teuluoedd, felly maen rhaid i ni wneud mwy i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel ar gyfer ein plant. Rydw i’n credu bod hyn yn dechrau drwy greu deialog llawer mwy agored ar draws ein cymdeithas am sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel ac yn fwy cyfrifol. Mae gyda ni ddyletswydd i sicrhau bod y deialog hwn yn digwydd mewn ystafelloedd dosbarth, cartrefi ac mewn cymunedau ledled Cymru. Rydw i’n annog yr Ysgrifennydd Cabinet—ac fe wnawn ni bopeth ar yr ochr hyn i’w chefnogi hi—i ystyried sefydlu ymgyrch gyhoeddus eang yng Nghymru, sy’n annog pobl i drafod y manteision a pheryglon o ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau drwy weithredu galwad yr NSPCC am gynllun gweithredu diogelwch ar-lein cynhwysfawr, sydd yn cael ei gefnogi gan grŵp cynghori digidol, i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran cadw plant yn ddiogel ar-lein. Byddai trafodaeth gyhoeddus ehangach am ddiogelwch ar-lein, ynghyd â chynllun gweithredu diogelwch ar-lein dan arweiniad y Llywodraeth, gobeithio yn anfon neges gref bod diogelwch plant ar-lein yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bod hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried o ddifri.

Wrth gwrs, mae gan ysgolion ran bwysig iawn i’w chwarae o ran amddiffyn plant a phobl ifanc, ac mae’n bwysig bod athrawon a chynorthwywyr addysgu’n cael hyfforddiant lawn a chyfredol ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, fel y gallant adnabod yn well y rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin ar-lein.

Felly, wrth ymateb i’r ddadl heddiw, efallai y gallai’r Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y lefel ac amlder yr hyfforddiant mae athrawon yn ei dderbyn mewn perthynas â dysgu plant a phobl ifanc am ddiogelwch ar-lein. Yn naturiol, dylai ysgolion ledled Cymru edrych i fabwysiadu polisïau ar gyfer atal a mynd i’r afael â seiber fwlio a hyrwyddo diogelwch ar-lein sy’n addas i’w cymunedau a’u diwylliant lleol. Rydw i’n derbyn bod rhywfaint o waith da iawn yn cael ei wneud ar draws Cymru. Fel dywedodd Darren Millar, mae Grid y De Orllewin ar gyfer Dysgu wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ers 2014 i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein ymhlith ysgolion Cymru, ac rwy’n nodi eu bod wedi lansio offeryn hunan-adolygu i helpu ysgolion yng Nghymru asesu a gwella eu polisïau a’u harferion diogelwch. Ond ar ôl dweud hynny, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, dim ond 78 y cant o ysgolion yng Nghymru sydd wedi cofrestru ac sydd yn defnyddio’r offeryn penodol hwn, sy’n golygu bod 22 y cant o ysgolion yn gwerthuso eu mesurau yn wahanol.

Nawr, tra bod rhaid i ysgolion fod yn rhagweithiol wrth lunio polisïau sy’n adlewyrchu orau eu hanghenion a’u heriau eu hunain, yn sicr mae peth sgôp ar gyfer safonau sylfaenol ac fel y dylai ysgolion fod yn mesur eu heffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael â diogelwch ar-lein. Mae Grid y De Orllewin ar gyfer Dysgu wedi galw ar Estyn i sefydlu safonau a disgwyliadau clir a chyson ar gyfer diogelwch ar-lein, ac i gefnogi ac arwain ysgolion ac asiantaethau eraill wrth gyrraedd y safonau hynny. Felly, efallai wrth ymateb i’r ddadl hon, gall Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch pa mor bell mae Estyn wedi mynd i ddatblygu’r safonau hynny.

Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae’r rhyngrwyd yn newid y ffordd yr ydym ni’n cyfathrebu, ac er fy mod i’n derbyn y gall y rhyngrwyd fod yn adnodd addysgol, cymdeithasol a diwylliannol gwych, gall hefyd fod yn lle peryglus iawn i bobl sy’n agored i niwed, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae’n hanfodol ein bod ni’n siarad yn agored am fanteision a risgiau defnyddio’r rhyngrwyd, ac annog plant i fod yn ddinasyddion digidol cadarnhaol, sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn hyderus ac yn ddiogel. Felly, rydw i’n annog Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.

Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r NSPCC, Stop It Now! Cymru ac Ymddiriedolaeth y Goroeswyr. Mae’r sefydliadau hyn yn ymroddedig i roi terfyn ar gam-drin ar-lein a chamfanteisio ar blant drwy ddull ataliol ac ymyrraeth gynnar. Rhaid gweld cam-drin plant yn rhywiol am yr hyn ydyw, a rhaid inni beidio â chilio rhag ei realiti. Rhaid codi llais ynglŷn â hyn. Mae cam-drin rhywiol yn ffynnu ar gyfrinachedd, ac er ein bod wedi treulio blynyddoedd yn addysgu plant am berygl dieithriaid, a sut i fod yn ddiogel pan fyddant allan yn yr awyr agored, mae anhysbysrwydd y rhyngrwyd yn galw am fesurau gwahanol i ddiogelu plant. Gan ein bod i gyd yn gyfrifol am gadw llygad ar y peryglon yn ein cymunedau, rhaid i gadw plant yn ddiogel ar-lein fod yn ymdrech gyfunol. 

Mae plant ymhlith y grwpiau sy’n gwneud fwyaf o ddefnydd o gynnwys ar-lein. Yn ôl ystadegau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae 95 y cant o blant Cymru rhwng 7 a 15 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd yn y cartref. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod plant a phobl ifanc yn treulio cyfartaledd o 15 awr yr wythnos ar-lein, sy’n fwy na’r amser y maent yn ei dreulio’n gwylio teledu. Mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol, gemau ac apiau ar-lein y mae plant yn eu defnyddio’n newid yn gyson, a gall fod yn anodd i rieni ac athrawon gadw rheolaeth ar hynny. Yn fwy penodol, yn aml ni fydd rhieni a gofalwyr yn gwybod am y gwahanol reolau a risgiau a ddaw gyda phob safle. Mae ymgyrch Net Aware yr NSPCC yn mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol, drwy roi adnoddau i rieni i gael gwybodaeth am y safleoedd y mae eu plant yn eu defnyddio, gan roi arweiniad iddynt ynglŷn â’r safleoedd hyn a’r risgiau cysylltiedig. Mae hon yn enghraifft wych o’r elusen yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau i ddiogelu ac amddiffyn plant.

O nifer y plant sy’n cysylltu â Childline, mae’n destun pryder mai edrych ar ddelweddau rhywiol penodol a welodd y cynnydd mwyaf o un flwyddyn i’r llall, cynnydd o 60 y cant rhwng 2014-15. Nododd pobl ifanc fod pobl sy’n meithrin perthynas amhriodol ar-lein wedi defnyddio nifer o wahanol fforymau i gysylltu â hwy. Fodd bynnag, mae tactegau ystrywgar a ddefnyddir gan droseddwyr yn golygu nad yw llawer o blant sy’n ddioddefwyr yn ymwybodol eu bod yn cael eu hudo neu eu hecsbloetio, ac yn aml nid yw oedolion yn gallu adnabod yr arwyddion. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos ar hyn o bryd gyda bwrdd Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ar sut i ymdrin â materion diogelwch ar-lein anodd, megis anfon negeseuon testun rhywiol. Ond mae angen gwneud rhagor o waith gyda darparwyr rhyngrwyd, a hoffwn weld Llywodraeth y DU yn arwain yn fwy cadarn ar hyn.

Mae heddluoedd ledled Cymru’n gweithio gydag ysgolion i addysgu disgyblion ar faterion megis meithrin perthynas amhriodol, camfanteisio rhywiol, rhannu delweddau a chadw’n ddiogel ar-lein. Rhoddodd Heddlu Gwent, er enghraifft, 1,874 o wersi i bron 50,000 o ddisgyblion yn 2014-15. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi Operation NetSafe, ymgyrch ar gyfer Cymru gyfan a arweinir gan Heddlu De Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Lucy Faithfull, sy’n ceisio atal edrych ar a rhannu delweddau anweddus o blant ar-lein. Mae’r gwaith hwn yn bwysig, a rhaid rhannu arferion da bob amser.

Mae perthnasoedd iach yn hanfodol i helpu plant i ddeall terfynau, a sut i ymddwyn ar-lein, ac rwy’n falch fod y panel arbenigol yn darparu cyngor a chefnogaeth ar faterion sy’n ymwneud â hyn yn y cwricwlwm. Yn ogystal, mae’r newyddion heddiw gan yr Ysgrifennydd addysg i’w groesawu’n fawr. Bydd cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol newydd ar gyfer plant a phobl ifanc yn adeiladu ar y rhaglen helaeth sydd eisoes ar y gweill mewn ysgolion i gynorthwyo pobl ifanc i gadw’n ddiogel ar-lein. Yn olaf, mae’r grŵp trawsbleidiol yn cynnal digwyddiad diogelwch ar-lein yn y Pierhead ym mis Hydref, ac rwy’n gobeithio y bydd llawer o’r Aelodau’n bresennol i ddangos cefnogaeth a phenderfyniad i wneud popeth a allwn i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein.

Diolch am y cyfle i siarad ar y cynnig y prynhawn yma, cynnig y credaf ei fod yn haeddu cefnogaeth drawsbleidiol. Mae’r ddadl hon yn ymwneud â sut y gallwn amddiffyn plant rhag peryglon y rhyngrwyd. Rydym i gyd yn ymwybodol o sut y mae’r rhyngrwyd wedi dod â manteision enfawr i’n cymdeithas. Boed ym meysydd busnes, masnach, addysg, neu’n syml yn y ffordd y down o hyd i wybodaeth, mae’r rhyngrwyd wedi trawsnewid y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Mae rhai o’r farn na ellir neu na ddylid gwneud dim i reoleiddio’r rhyngrwyd. Ond y ffaith amdani yw bod yna ochr dywyll i’r rhyngrwyd hefyd.

Mae angen diogelu ein plant rhag effaith niweidiol pornograffi ar-lein, sydd wedi cael ei grybwyll gan lawer o’n cyd-Aelodau yn awr, a delweddau anghyfreithlon. Dylai ein hysgolion, Gweinidog, gael rhyw fath o bolisi e-ddiogelwch cynhwysfawr ar gyfer ein plant a hefyd ar gyfer y plant sy’n defnyddio’r rhyngrwyd heb oruchwyliaeth rhieni yn y cartref. Yn gynharach, crybwyllodd fy nghyd-Aelod fod ein plant yn defnyddio’r rhyngrwyd am fwy na 15 awr neu fwy na 44 awr yr wythnos, sy’n gwbl annerbyniol. Dylid eu haddysgu a’u rheoleiddio’n briodol. Mae’r rhyngrwyd yn farchnad ac fel pob marchnad arall, mae’n rhaid ei rheoleiddio. 

Mae cynnydd wedi’i wneud eisoes ar wella diogelwch y rhyngrwyd. Yn 2013, cyhoeddodd y Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr gytundeb gyda’r pedwar darparwr gwasanaethau rhyngrwyd mawr i gynnig hidlwyr rhyngrwyd i rieni. Galluogai hidlydd i rieni ddewis yr hyn y gall a’r hyn na all eu plant ei weld ar-lein. Flwyddyn yn ddiweddarach, nododd pwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin ar ddiwylliant a’r cyfryngau a edrychai ar ddiogelwch ar-lein, rai o’r heriau allweddol yr oedd angen i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â hwy. Argymhellodd y dylid gosod proses ddilysu oedran gadarn ar waith ar gyfer safleoedd cyfreithlon i oedolion. Yn ogystal, argymhellodd y pwyllgor y dylid cyflwyno mesurau a allai ei gwneud yn haws i hidlwyr weithredu ac i beiriannau chwilio beidio â dychwelyd y deunydd pan fyddent yn gweithredu mewn modd chwilio diogel. Croesawodd Llywodraeth y DU yr argymhellion a gwnaeth ddiogelwch y rhyngrwyd yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd. Gall ysgolion yn Lloegr addysgu e-ddiogelwch mewn addysg bersonol, cymdeithasol, iechyd ac economaidd ac mae’n ofynnol yn gyfreithlon iddynt gael mesurau ar waith i atal bwlio a seiberfwlio.

Ceir meysydd penodol eraill, Dirprwy Lywydd, lle mae’r rhyngrwyd mewn gwirionedd yn rhoi cymaint o fantais. Ond i’n plant ifanc iawn, ceir agweddau hunanladdol, casineb hiliol, anorecsia, gamblo a phethau eraill sydd wedi cael eu crybwyll eisoes. Ar draws Lloegr, mae gofyn bellach i ysgolion hidlo cynnwys ar-lein amhriodol ac addysgu disgyblion ynglŷn â chadw’n ddiogel. Mae gofyn iddynt hefyd sefydlu a chryfhau mesurau i amddiffyn plant rhag niwed ar-lein, gan gynnwys seiberfwlio, pornograffi a’r risg o radicaleiddio, sydd fwy neu lai yn glefyd byd-eang y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef. Bydd gweithwyr proffesiynol fel nyrsys, meddygon ac athrawon sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ar-lein newydd er mwyn eu harfogi â’r offer sydd eu hangen arnynt i drin risgiau ar-lein a chefnogi pobl ifanc yn y byd digidol cyfoes. Ond mae mwy i’w wneud, Dirprwy Lywydd.

Mae’r Prif Weinidog wedi addo y bydd ei Llywodraeth yn cyflwyno hawliau a diogelwch digidol newydd os caiff ei hailethol y mis nesaf. Rhoddwyd mesurau ar waith i ddiogelu myfyrwyr mewn ysgolion yng Nghymru ac i godi safonau e-ddiogelwch. Fodd bynnag, mae angen i Gymru ymgorffori pob mesur yn y system addysg. Galwodd NSPCC Cymru ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau newydd i helpu i ddiogelu plant ar-lein. Roeddent yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cynhwysfawr. Byddai grŵp ymgynghorol digidol yn ei gefnogi i sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran cadw plant yn ddiogel ar-lein. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i weithredu ar argymhelliad NSPCC Cymru.

Dirprwy Lywydd, mae diogelu ein plant rhag perygl y rhyngrwyd yn achos a ddylai uno’r Siambr hon yn hytrach na’i rhannu. Gall pawb ohonom gytuno y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ddiogelwch ar-lein i gadw ein plant yn ddiogel. Rwy’n cefnogi’r cynnig; rwy’n gobeithio y bydd pawb yn gwneud yr un peth. Diolch.

Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig heddiw. Fel y mae’r cynnig yn nodi, mae yna nifer fawr o risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd y dyddiau hyn, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu hamlinellu yn y gwahanol gyfraniadau heddiw, gan gynnwys seiberfwlio, caethiwed i gamblo, meithrin perthynas rywiol amhriodol, annog hunan-niweidio a hefyd, fel y crybwyllodd Llyr, y problemau iechyd cyffredinol a allai ddatblygu o ganlyniad i bobl ifanc yn treulio gormod o amser ar y rhyngrwyd. Felly, rhaid ystyried yr holl bethau hyn, ac fel y mae’r cyfranwyr wedi cytuno yn gyffredinol heddiw, mae angen i ni gael ymagwedd gydgysylltiedig. Mae’n debyg y bydd angen ymateb cynhwysfawr ac amserol, fel y mae’r NSPCC wedi gofyn amdano. Rwy’n ymwybodol fod ysgolion ac awdurdodau lleol wedi rhoi mesurau ar waith mewn rhai ardaloedd, ac rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf i ni ar hynny. 

Wrth gwrs, y broblem gyda’r mater hwn yw ei fod yn datblygu’n gyflym, ac mae bygythiadau newydd yn dod i’r amlwg hyd yn oed wrth i wleidyddion fel ni eu trafod. Felly, mae’n anodd cadw rheolaeth ar y cyfan. Ac fel y dywedodd Darren yn ei ddatganiad agoriadol, mae’r plant eu hunain yn aml yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ar-lein nag oedolion, fel pobl mewn ysgolion a rhieni.

Mae’r ffocws, bron yn anochel gan Lywodraeth, yn debygol o fod ar gyfraniad yr ysgolion. Er bod hyn i’w groesawu, y broblem yw nad yw bob amser yn mynd i fod yn llwyddiannus oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn tueddu i wrando bob amser ar yr hyn a ddywedir wrthynt yn yr ysgol. Felly, ni fydd rhai o’r problemau hyn yn dod i’r amlwg drwy drafod yn yr ysgol ac wrth gwrs, gall rhieni fethu sylwi arnynt. Ond yr hyn roeddwn yn mynd i ganolbwyntio rhywfaint arno oedd rôl rhieni yn y maes hwn. Yn aml, os oes problemau’n codi o’r defnydd o’r rhyngrwyd, mae’n debygol mai rhieni fydd yn sylwi arnynt yn gyntaf, yn hytrach nag ysgolion. Felly, mae’n hanfodol fod gennym rieni sy’n cael eu hannog i dreulio amser gwerthfawr gyda’u plant, megis rhannu amser bwyd, am fod angen iddynt ddeall beth yw ymddygiad normal eu plant cyn eu bod yn gallu sylwi ar unrhyw newidiadau yn eu hymddygiad. Ac yn aml iawn, os oes problemau’n digwydd ar-lein, byddant yn dod yn amlwg i rieni o’r modd y maent yn rhyngweithio â’u plant, ond wrth gwrs, mae angen iddynt gael y berthynas agos honno gyda’u plant i ddechrau. 

Felly, er bod yn rhaid i ni edrych ar y math hwn o ymateb cynhwysfawr y mae pawb ohonom wedi bod yn ei drafod heddiw, mae angen i ni ganolbwyntio hefyd ar rôl rhieni, ac efallai fod yna rôl ym mha ymateb bynnag a ddyfeisiwn, neu ba ymateb bynnag y bydd y Llywodraeth yn ei awgrymu ar gyfer addysgu’r rhieni ynglŷn â’r angen am yr amser gwerthfawr gyda’u plant. Diolch.

Ychydig fisoedd yn ôl—ac rwy’n meddwl efallai fy mod wedi sôn am hyn fwy nag unwaith yn barod, felly ymddiheuriadau—euthum gyda chyd-Aelodau i weld y peiriant gwrthdaro hadronau mawr yn CERN yn Genefa. Mae’r cyfleuster yn enfawr, ond yn llai na brycheuyn yn hanes y bydysawd. Mae’r gwaith, wrth gwrs, y mae miloedd o’n pobl ddisgleiriaf o bob cwr o’r byd wedi ymrwymo iddo yn waith drud y mae gwledydd yn awyddus i gymryd rhan ynddo, ac mae wedi goresgyn rhyfeloedd a galwadau ar byrsiau cenedlaethol ar adegau o ddirwasgiad. Dyna gartref datblygiad y we fyd-eang hefyd wrth gwrs, ac mae’r fersiwn gyntaf ohoni’n dal i fod yno. Gallwch ei gweld; mae fel y warws yn y ffilm Indiana Jones lle mae’r dynion blaenllaw hynny’n cuddio yn arch y cyfamod, a’r rhyngrwyd gynnar oedd honno. Mae’n gwbl ddealladwy pan fyddwn yn ystyried y risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd ein bod yn digalonni’n llwyr wrth ystyried anferthedd y dasg. Nid yn unig ei fod yn fater o gydnabod y bydd angen ymateb byd-eang llawn yn ôl pob tebyg, fel y dywedodd Darren, ond y gydnabyddiaeth y bydd rhywun, ar bob cam y gallwn ei gymryd ar unrhyw lefel, o’r personol i’r rhyngwladol, bydd yna rywun sy’n gallu symud yn gyflymach na ni neu sy’n fwy cyfrwys na ni. 

Wel, nid wyf yn credu bod hwnnw’n esgus digon da. Os yw’r byd yn gallu cydweithio i ddod o hyd i foson Higgs, gall gydweithio i ddiogelu ei blant rhag peryglon ar-lein. Ac mae erthygl 4 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn mynnu hynny, gyda’r ddyletswydd ar bartïon i gyflawni’r holl fesurau deddfwriaethol a gweinyddol a mesurau eraill sy’n briodol ar gyfer gweithredu’r hawliau a gydnabyddir yn y Confensiwn presennol. Ceir corff cynyddol o ymchwil byd-eang ar sut y gallai gwladwriaethau gyflawni hyn—llawer gormod i’w drafod heddiw—ond ar ran pob un ohonom fel mae’n digwydd, rwy’n credu bod cadarnhad y Llywodraeth Geidwadol o’r Confensiwn ar Seiberdrosedd yn 2011 yn ddatganiad o fwriad i weithredu. Ni ddylai’r ffaith mai un wladwriaeth ydym pan fo UNICEF yn nodi nad yw llawer o awdurdodaethau cyfreithiol yn gweithredu’n ddigonol o gwbl ein hatal rhag anelu at sicrhau mai Prydain yw’r wlad fwyaf diogel yn y byd i blant a phobl ifanc fod ar-lein. Mae Papur Gwyrdd i ddod yn y DU yn yr haf. Mae’n faes y credaf ei fod yn mynnu ein sylw, a chraffu ar ran pawb ohonom yn sicr. Jayne Bryant, rwy’n cytuno â chi fod hyn yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn edrych arno ac yn rhywbeth y gallai Llywodraeth y DU barhau i allu gwneud mwy yn ei gylch. Rwy’n gobeithio, mewn gwirionedd, y cawn amser i drafod ei egwyddorion yma yn y Cynulliad. Er bod y ddeddfwriaeth yn dod o le arall, mae hyn yn bendant yn rhywbeth i bob un ohonom.

Ond mae’n rhaid i mi ddweud, o ran deddfwriaeth, fy mod yn ystyried hwn yn fater eithaf anodd mewn gwirionedd gan fy mod yn teimlo ychydig yn sâl wrth feddwl am y wladwriaeth yn dod i mewn i fy nghartref. Ond roeddwn yn ymchwilio hyn ar-lein neithiwr, yn edrych ar rai o’r hysbysebion sydd wedi cael eu rhoi allan yno gan wahanol elusennau’n rhybuddio pobl ifanc rhag meithrin perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin ar-lein, ac i fod yn onest, gwnaeth hynny i mi deimlo’n llawer iawn salach. Cefais fy hun yn cytuno gyda Claire Perry, yr AS y cyhoeddwyd ei hadroddiad seneddol ar ddiogelu plant ar-lein yn weddol ddiweddar, adroddiad sy’n argymell gwaharddiad diofyn ar gynnwys i oedolion, hidlwyr optio i mewn yn hytrach nag optio allan, ac ar gyfer cartrefi, y dull rheoli symlaf un clic ar gyfer rhieni. Rwy’n meddwl y gallwch gael rhywfaint o reolaeth dros fynediad at gynnwys yn eich cartref, ond y tu allan i’r cartref mae’n ymddangos ein bod yn dibynnu’n helaeth iawn ar addysgu plant a phobl ifanc, ac oedolion yn wir, ar sut i adnabod perygl, sut i’w osgoi a sut i roi gwybod amdano. Bûm mewn dosbarth, dosbarth o blant iau, yn Nyffryn Cellwen yn fy rhanbarth i weld sut olwg sydd arno yn yr ysgol honno ac roedd yn wych—yn gwbl briodol i’w hoedran. Ond mae Gareth Bennett yn iawn. I rai pobl ifanc yn eu harddegau a allai fod mewn gwirionedd yn deall yn iawn beth yw peryglon negeseuon testun a bwlio ac apiau trefnu oed, a pheryglon llai amlwg gemau ar-lein hyd yn oed, ar y pryd mae’r cyfan yn mynd yn angof yn wyneb gair o ganmoliaeth neu her.

Rwy’n credu y gallai fod angen i ni wynebu’r hyn sy’n dod yn natur gaethiwus cyfryngau cymdeithasol hefyd. Mae’r syniad fod pob rhiant yn eistedd wrth y bwrdd i drafod pethau gyda’u plant yn diflannu pan edrychwn ar deuluoedd yn awr, hyd yn oed os ydynt i gyd yn yr un ystafell, pob un ar eu dyfeisiau unigol, pob un a’i bethau unigol yn eu clustiau a phob un yn ei fyd ei hun. Fel pob dibyniaeth, mae’n tueddu i’ch gelyniaethu, i’ch pellhau oddi wrth y bobl sy’n gallu cynnig persbectif a diogelwch. Felly, rwy’n cymeradwyo’r holl operâu sebon a dramâu sy’n cyflwyno straeon am y peryglon i godi ymwybyddiaeth, ond am bob un sy’n gor-rannu sy’n postio llun, wyddoch chi, o ben-blwyddi plant neu ddiwrnodau chwaraeon neu gyngherddau ysgol, mae’n bosibl eu bod yn gwneud y plant hynny’n agored i risgiau, yn syml drwy gysylltiad â’r deunydd diniwed hwnnw. Wrth gwrs, daw hynny ochr yn ochr â’r math o bethau yr ydym wedi bod yn siarad amdanynt: mynediad at syniadau eithafol heb eu cymedroli, gamblo, cynnwys rhywiol anarferol, os mynnwch, ac wrth gwrs, malais y seibergyfaill newydd dengar sy’n gwneud i chi deimlo mor hynod o arbennig.

Mae’r gofod rhwng y sgrin a’r ymennydd ifanc yn fach, mae’n agos atoch ac mae’n gyfrinachol, ac nid wyf yn credu ei fod yn un y gall ymwybyddiaeth rhieni ei gyrraedd o reidrwydd. Felly, rwy’n sicr yn cefnogi’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn awr. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru, yn y maes lle mae ganddi gymhwysedd, i drin ei phwerau fel dyletswyddau ac edrych efallai ar ei phwyslais ei hun ar ryngweithio digidol o bosibl fel llwybr i gyrraedd y bobl ifanc sydd yn y gofod cyfrinachol hwnnw. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Darren Miller a’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl y prynhawn yma ac am y cyfraniadau meddylgar iawn a gawsom o bob rhan o’r Siambr? Rwy’n ofni, Dirprwy Lywydd, fod yn rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ddigon hen yn wir i gofio beth oedd ZX Spectrum, er bod rhaid i mi gyfaddef fy mod yn fwy o berson Commodore 64 fy hun. A gaf fi sicrhau’r Siambr fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i gadw ein plant a’n pobl ifanc yn ddiogel ar-lein? Nid oes unrhyw beth—unrhyw beth—yn bwysicach na diogelwch ein pobl ifanc ac mae gwybod sut i gadw’n ddiogel ar-lein yn hanfodol yn ein byd heddiw. Dywedaf hynny fel Ysgrifennydd y Cabinet a dywedaf hynny fel mam i dair o ferched—dwy yn eu harddegau y mae colli cysylltiad Wi-Fi gartref yn drasiedi genedlaethol a dim llai.

Nawr, mae diogelwch ar-lein wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i ni. Er bod llawer o fanteision i’w cael o gofleidio technoleg ddigidol, mae yna hefyd amrywiaeth o risgiau posibl a ddisgrifiwyd gan yr Aelodau yma y prynhawn yma. Mae Paul Davies yn iawn i’n hatgoffa am y bobl ifanc sydd wedi dewis rhoi diwedd ar eu bywydau o ganlyniad i seiberfwlio. Os ydym yn onest, rydym i gyd yn gwybod mai trolio gan ein gwrthwynebwyr yw un o agweddau lleiaf boddhaol y swydd hon, ac os yw’n ein diflasu ni, dychmygwch yr hyn y mae’n rhaid bod seiberfwlio di-baid yn ei wneud i’r meddwl ifanc roedd Suzy Davies yn siarad amdano.

Pan oeddwn yn blentyn, o leiaf pan oeddech yn mynd adref gallech ddianc rhagddo, ond mae bellach yn ddi-baid a 24 awr y dydd. Ac yna, wrth gwrs, mae’r mynediad at ddeunydd rhywiol penodol a’r effaith a gaiff hynny ar sut y mae bechgyn a merched yn gweld eu delwedd o’r corff a’r ffordd y gwelant sut beth yw perthynas rywiol iach mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, nid y rhai sy’n dioddef hyn yn unig sy’n wynebu canlyniadau. Weithiau, nid oes gan y rhai sy’n cyflawni rhai o’r problemau hyn fawr o syniad beth y gallai ei olygu iddynt hwy. Rwy’n ymwybodol o ddyn ifanc a gafodd ei ddal yn anfon negeseuon rhywiol. Pan ofynnodd yr heddlu iddo pam y gwnaethai hyn, dywedodd, ‘Wel, mae pawb yn ei wneud’. Nid oedd yn sylweddoli y bydd y rhybudd sydd bellach ar ei record yn ei atal am byth yn ôl pob tebyg rhag teithio i Awstralia neu’r Unol Daleithiau—oherwydd rhywbeth a wnaeth heb ddeall y canlyniadau, rhywbeth a wnaeth pan oedd yn fachgen 14 oed.

Felly, ein cyfrifoldeb fel cymdeithas yw arfogi ein pobl ifanc â’r sgiliau i allu meddwl yn feirniadol a gwneud eu ffordd drwy’r byd digidol mewn modd diogel a chyfrifol. Gwneir cryn dipyn o waith yng Nghymru i helpu pobl ifanc i gadw’n ddiogel ar-lein ac rwy’n falch fod hynny wedi cael ei gydnabod yma yn y Siambr y prynhawn yma. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, daeth y fframwaith cymhwysedd digidol yn weithredol. Dyma elfen gyntaf y cwricwlwm newydd i gael ei chyflwyno ledled Cymru. Mae elfen dinasyddiaeth y fframwaith cymhwysedd digidol yn canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso sgiliau a strategaethau meddwl yn feirniadol. Bydd yn cynorthwyo ein pobl ifanc i ddod yn ddefnyddwyr cyfrifol ac annibynnol, sy’n gwbl hanfodol yn awr ac yn fwy felly, yn anochel, yn y dyfodol. Mae’n cynnwys elfennau penodol sy’n canolbwyntio ar ymddygiad ar-lein, seiberfwlio, ac iechyd a lles.

Er mwyn hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol, mae Llywodraeth Cymru, fel y clywsom ar sawl achlysur y prynhawn yma, wedi bod yn gweithio gydag ymddiriedolaeth elusennol South West Grid for Learning ers 2014. Mae’r prosiect diogelwch ar-lein wedi cael nifer o lwyddiannau hyd yn hyn, yn cynnwys datblygu 360° Safe Cymru, offeryn hunanasesu diogelwch ar-lein dwyieithog, sydd, fel y clywsom, yn caniatáu i ysgolion feincnodi eu polisïau a’u darpariaeth diogelwch ar-lein cyfredol yn erbyn safonau cenedlaethol. Mae’r offeryn hefyd yn rhoi arweiniad a chymorth, gydag awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella ac ymestyn diogelwch ar-lein. Mae dros 85 y cant o ysgolion yng Nghymru eisoes wedi cofrestru ac rwy’n gweithio gyda’r consortia rhanbarthol i sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o’r manteision y gall yr offeryn eu cynnig a’n disgwyliad y dylent fod yn ei ddefnyddio.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu a chyhoeddi’r adnodd diogelwch ar-lein ar gyfer Cymru. Casgliad o adnoddau ymarferol a chynlluniau gwersi yw hwn i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno diogelwch ar-lein yn ein hystafelloedd dosbarth. Lluniwyd yr adnoddau hyn i rymuso dysgwyr i feddwl yn feirniadol, i ymddwyn yn ddiogel, ac i ymddwyn yn gyfrifol pan fyddant yn ar-lein. Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, cyhoeddasom dri modiwl hyfforddiant diogelu ar Hwb. Gwelwyd y modiwlau hyn dros 7,000 o weithiau eisoes ac yn fuan byddwn yn cyhoeddi dau fodiwl pellach yn canolbwyntio’n benodol ar ddiogelwch ar-lein.

Darparwyd sesiynau hyfforddiant diogelwch ar-lein ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru i wella sgiliau athrawon a llywodraethwyr i’w paratoi i ymdrin â materion y gallai pobl ifanc eu hwynebu ar-lein. Eleni, mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar hyn drwy gynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi ychwanegol a bydd y rhain yn canolbwyntio ar faterion penodol fel y defnydd diogel o gyfryngau cymdeithasol a seiberfwlio. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod nifer o ysgolion wedi gweithredu eu sesiynau hyfforddi eu hunain ar ôl ysgol ar gyfer rhieni, gan wahodd rhieni i’r ysgol er mwyn iddynt gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gallant gynorthwyo eu plant yn well.

Ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn gynharach eleni, lansiais y parth diogelwch ar-lein newydd ar Hwb. Fe’i datblygwyd i gefnogi rhanddeiliaid addysg, gan gynnwys pobl ifanc, yn y maes hollbwysig hwn. Mae’r parth penodedig yn cynnwys newyddion, digwyddiadau, ac ystod o adnoddau ar faterion diogelwch ar-lein, ac mae’r adnoddau hyn yn cynnwys deunyddiau a ddatblygwyd gydag amrywiaeth o bartneriaid trydydd sector. Mae’r parth hefyd yn cyfeirio rhai sy’n ymdrin ag effeithiau seiberfwlio tuag at wasanaethau cymorth priodol, ac rwy’n falch o weld, ers ei lansio, fod dros 40,000 o ymweliadau wedi bod â’r tudalennau. Wrth gwrs, mae angen i ni wneud rhagor, ac rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cydweithio i weld beth arall y gallwn ei wneud i helpu ysgolion ac athrawon i gryfhau materion yn ymwneud â lles ac iechyd meddwl, ac rydym yn gobeithio gwneud cyhoeddiad yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod Llywodraeth Cymru eisoes yn cyflwyno rhaglen eang o weithgareddau diogelwch ar-lein. Yn ogystal, rwy’n falch o gyhoeddi heddiw fy mod yn wir yn comisiynu cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol. Bydd hwn yn darparu trosolwg strategol o sut y byddwn yn parhau i wella cymorth diogelwch ar-lein yng Nghymru, a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei darparu wrth i’r gwaith ddatblygu.

A gaf fi unwaith eto ddiolch i bawb am eu cyfraniad i’r ddadl y prynhawn yma? Bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliannau a’r cynnig fel y’i diwygiwyd. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl eithriadol o dda, ac yn ddadl oleuedig iawn. Siaradodd llawer o’r Aelodau am eu profiadau personol o dechnoleg, ac yn wir maent wedi rhoi i ni rai o’r ffeithiau llwm iawn am gam-drin ar-lein, ecsbloetio ar-lein, a rhai o’r problemau y mae hynny wedi’u hachosi yn wir, gan gynnwys i unigolion mewn amgylchiadau tebyg i etholwr Paul, yn anffodus, a gyflawnodd hunanladdiad. Dylwn fod wedi talu teyrnged, mewn gwirionedd, i waith Jayne Bryant fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, gan ei bod wedi gwneud gwaith rhagorol yn tynnu sylw at hyn fel problem, ynghyd â’r NSPCC ac eraill, sydd wedi bod yn gweithio’n galed i’w gael yn fwy amlwg ar ein hagenda. Rydych wedi gwneud gwaith rhagorol, ac rwy’n falch eich bod wedi gallu cyfrannu at y ddadl heddiw.

Rwy’n meddwl hefyd—gwnaeth pwynt Gareth Bennett am rieni a rôl rhieni argraff fawr arnaf mewn gwirionedd, oherwydd ceir llawer o anwybodaeth ymysg rhieni, a dweud y gwir, am y cam-drin posib sy’n digwydd yn yr ystafell wely i fyny’r grisiau lle mae eu plentyn yn ymlochesu tra’u bod hwy i lawr y grisiau’n gwylio’r teledu, ac nid yw llawer o rieni yn ymwybodol o’r ffaith y gallant roi hidlwyr ar waith, y gallant roi apiau ar ffonau symudol pobl ac yn y blaen er mwyn diogelu eu teuluoedd yn well. Wyddoch chi, rwy’n dad—roedd yn dda clywed Kirsty fel Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at ei phlant hefyd—rwyf eisiau’r mesurau diogelwch gorau posibl ar waith ar gyfer fy mhlant, a gwnaeth yr adnoddau sydd ar gael os edrychwch amdanynt argraff fawr arnaf mewn gwirionedd. Felly, rwy’n meddwl bod y ffaith fod llawer o ysgolion yn ymgysylltu’n gwbl briodol gyda rhieni er mwyn eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd hynny’n beth da, ac roeddwn yn falch iawn o glywed hynny yn eich ymateb i’r ddadl, Gweinidog.

Fel y dywedodd Suzy Davies yn gwbl briodol, mae hwn yn fater rhyngwladol, nid rhywbeth y mae angen i Gymru’n unig fynd i’r afael ag ef, neu rywbeth y mae angen i’r DU yn unig fynd i’r afael ag ef, ac rwy’n falch fod y DU ar flaen y gad mewn gwirionedd, ac yn gwneud pethau sy’n arwain y byd ar fynd i’r afael â pheryglon y rhyngrwyd. Roeddwn yn falch iawn hefyd o’ch clywed yn sôn am arch y cyfamod ar ôl i mi grybwyll llechi cerrig Moses ar ben mynydd Sinai, llechi cerrig a roddwyd yn arch y cyfamod wedi hynny, felly dyna gyswllt da yn y fan honno. Ond yn bennaf oll, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wrth fy modd gyda’ch ymateb i’r ddadl, am fy mod yn credu ei fod yn dangos ein bod wedi cael consensws ar draws y Siambr ar y mater pwysig hwn—ac nid yn unig hynny, ond eich bod yn barod i weithredu. Felly, roeddwn yn falch iawn o’ch clywed yn sôn am y cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol y gobeithiwch ei ddatblygu yn awr. Byddwn yn awyddus i weithio gyda chi ar hwnnw a chefnogi ei weithrediad ym mha ffordd bynnag y gallwn. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio hefyd nad yw’n ymwneud yn unig â’r ysgolion, nid yw’n ymwneud yn unig â gweithio gyda rhieni, mae angen i ni weithio gyda’r gymdeithas ehangach hefyd, gyda busnesau a sefydliadau eraill, yn y bôn, lle bynnag y mae Wi-Fi am ddim ar gael.

Un pwynt olaf yn y fan hon: roeddwn yn pryderu’n fawr—. Yn ddiweddar, trefnais gontract ffôn symudol gyda Vodafone—rwy’n mynd i’w henwi—ac roedd yn fargen wych. Fodd bynnag, un o’r problemau gyda’r contract oedd ei fod yn dod gyda hidlydd diogelwch rhyngrwyd awtomatig, a oedd yn wych, ond ar ôl mis, cefais wybod ganddynt fod yn rhaid i mi dalu rhagor er mwyn i’r hidlydd barhau. Dylai’r rhain fod yn bethau sy’n awtomatig. A dweud y gwir, dylem fod yn talu mwy am gael gwared ar yr hidlwyr, yn hytrach na gorfod talu am eu rhoi ar waith mewn gwirionedd. Felly, gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd, ar sail gorfforaethol yn y Cynulliad, i herio’r mathau hyn o bethau a’r mathau hyn o agweddau gan ddarparwyr teleffoni, gan fusnesau, nad ydynt yn talu’r sylw dyledus sydd angen ei wneud i beryglon diogelwch y rhyngrwyd, a gobeithio, gallwn wneud Cymru’n lle mwy diogel i dyfu i fyny ynddo. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu, iawn. Felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Ysgol Feddygol ym Mangor

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

Symudwn yn awr at eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar ysgol feddygol ym Mangor, a galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig y cynnig. Sian.

Cynnig NDM6308 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi anawsterau parhaus o ran hyfforddi a recriwtio staff meddygol (gan gynnwys meddygon) mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig Cymru wledig a gogledd Cymru.

2. Yn galw am ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor fel rhan o ddatblygiad Cymru gyfan tuag at gynyddu hyfforddiant, recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, ac mae’n bleser gen i gynnig y cynnig yma. Mae prinder meddygon yn y gogledd, ac yn ardaloedd gwledig Cymru, yn creu her anferth i’r gwasanaethau gofal iechyd. Mae modd ceisio taclo’r broblem yn y tymor byr, ond hefyd mae angen symud ymlaen i gynllunio ar gyfer atebion parhaol, hirdymor. Mae angen hyfforddi mwy o ddoctoriaid yn y gogledd, yr ardal lle mae’r prinder ar ei waethaf. Dyma un ffordd i fynd i’r afael ar yr argyfwng mewn ffordd synhwyrol a pharhaol. Y llynedd, roedd hanner holl swyddi ymgynghorwyr arbenigol gogledd Cymru heb eu llenwi—hanner o’r swyddi yma yn wag—ac mae goblygiadau hynny yn bellgyrhaeddol.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Mae problem efo meddygaeth teulu, hefyd. Mae gan bwyllgor meddygol gogledd Cymru bryder ynglŷn â chynaladwyedd dros dreian o feddygfeydd yn y rhanbarth: mae un o bob tair meddygfa mewn perig. Mae’r pwyllgor yn dweud bod angen 70 meddyg teulu ychwanegol ar fyrder yng ngogledd Cymru. Yn ogystal â’r effaith ar gleifion, mae cost ariannol i’r prinder. Fe gododd gwariant ar staff meddygol o asiantaethau 64 y cant yn y ddwy flynedd a aeth heibio, tra mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn awgrymu y bydd Betsi Cadwaladr wedi gwario mwy na £21 miliwn ar staff meddygol o asiantaethau yn yr 11 mis hyd at ddiwedd Chwefror 2017—£21 miliwn; eu swm nhw eu hunain ydy hynny—ac nid ydy swm felly yn gynaliadwy nag yn synhwyrol. Ond fe ellid cynnal ysgol feddygol newydd am swm llawer llai na hynny.

Mae Plaid Cymru wedi dadlau yn gyson fod ysgol feddygol newydd yn y gogledd, yn gwasanaethau rhannau gwledig ein gwlad, yn rhan o’r ateb. Mae astudiaethau mewn gwahanol wledydd wedi dangos bod tair ffactor yn ganolog i ddenu meddygon i weithio mewn ardaloedd gwledig: yn gyntaf, cefndir gwledig, un ail, fod y darpar feddyg yn cael profiadau clinigol ac addysgol cadarnhaol mewn lleoliadau gwledig fel rhan o hyfforddiant meddygol israddedig, ac, yn drydydd, fod hyfforddiant ar gyfer lleoliadau gwledig wedi cael ei dargedu yn benodol ar y lefel ôl-raddedig.

Mae un o raglenni hyfforddi meddygol mwyaf llwyddiannus mewn ardal wledig yn gynllun rhwng pum talaith yn yr Unol Daleithiau, Washington, Wyoming, Alaska, Montana ac Idaho—cynllun WWAMI. Mae graddedigion y sefydliad yma yn dychwelyd i ymarfer mewn ardaloedd gwledig ar raddau llawer uwch na graddedigion o’r mwyafrif o ysgolion meddygol gwladwriaethol yn yr Unol Daleithiau. Mae 83 y cant o raddedigion WWAMI yn ymarfer mewn practis gwledig. Yn ysgol meddygaeth prifysgol Calgary, mae graddedigion o gefndiroedd gwledig ddwy a hanner gwaith mwy tebygol o ymarfer mewn practis gwledig na graddedigion o gefndir dinesig. Yn Norwy, roedd 56 y cant o raddedigion ysgol feddygol prifysgol Tromsø yn y gogledd yn aros mewn ardaloedd gwledig. Roedd 82 y cant o raddedigion a oedd yn dod yn wreiddiol o ogledd Norwy yn aros yno. Yn syml, mae darpar feddygon o ardaloedd gwledig yn tueddu i aros yn yr ardal wledig lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi.

Felly, a ydy hi’n ymarferol bosib cael ysgol feddygol ym Mangor? Ydy, yn bendant. Mae gan Iwerddon saith ysgol feddygol; mae gan yr Alban bump, gan awgrymu bod un ysgol feddygol ar gyfer pob miliwn o’r boblogaeth yn bosib. Tua miliwn yw poblogaeth ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a bwrdd iechyd Powys efo’i gilydd, ond wedyn, fe ellid ychwanegu poblogaeth rhan o diriogaeth wledig bwrdd Hywel Dda at y ffigwr i ddod â ni yn grwn at y miliwn. Felly, mi fyddai trydedd ysgol feddygol i Gymru yn cyd-fynd efo strwythurau’r Alban ac Iwerddon.

Mae Plaid Cymru wedi dadlau’n gyson mai ym Mangor y dylid lleoli yr ysgol feddygol newydd. Byddai ysgol feddygol newydd ym Mhrifysgol Bangor yn adeiladu ar arbenigedd ysgol gwyddorau meddygol y brifysgol a’r hyfforddiant clinigol sy’n barod yn cael ei gynnig yn nhri ysbyty cyffredinol y rhanbarth. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod angen i ysgol newydd weithio ar y cychwyn efo ysgol feddygol sydd wedi ei sefydlu’n barod. Mae sawl enghraifft o ysgolion newydd yn adeiladu ar arbenigedd gwyddorau meddygol eu prifysgolion. Felly, mae yna ffordd amlwg ymlaen, a gydag amser, gall Bangor ddatblygu yn ysgol feddygol yn sefyll ar ei thraed ei hun.

I grynhoi, mae ysgol feddygol newydd yn hanfodol os ydy Cymru am daclo’r prinder sylweddol o feddygon sy’n wynebu’r wlad. Yn y gogledd ac yn ardaloedd gwledig Cymru, mae nifer o feddygon yn agosáu at oed ymddeol ac nid oes digon o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi yno. Mae Llywodraethau ledled y byd yn ymateb i sefyllfaoedd tebyg drwy gynyddu’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael. Mewn ardaloedd gwledig sy’n wynebu problemau tebyg i Gymru, mae sefydliadau hyfforddi newydd yn cael eu sefydlu. Mae’r ysgolion meddygol yn cael eu lleoli yn yr ardaloedd gwledig eu hunain. Nid yw addasu’r strwythurau sy’n bodoli’n barod ddim yn gweithio. Mae’r sefydliadau newydd yma, yn eu tro, yn creu cenedlaethau newydd o ddoctoriaid sy’n aros i wasanaethu yn yr ardaloedd lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi, gan ddelio efo’r prinder a gwella ansawdd y gofal i bobl yr ardaloedd hynny.

Mae’n bryd symud ymlaen efo atebion tymor hir a chynllunio ar gyfer sefydlu ysgol feddygol newydd, law yn llaw â’r dulliau tymor byr sydd ar waith ar y funud. Diolch.

I have selected the two amendments to the motion. I call on the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport to move formally amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw sy’n annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, i ddewis Cymru fel lle i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

2. Yn nodi:

a) y cafwyd cynnydd o 19 y cant yn y gyfradd ymgeisio ar gyfer hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i feddygon teulu yn 2017 a bod 84 y cant o’r llefydd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi’u llenwi ers i Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw gael ei lansio, o’i gymharu â 68 y cant ar y cam hwn yn 2016;

b) bod mwy na 1,000 yn rhagor o ymgynghorwyr cyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru yn 2016 nag oedd ym 1999; ac

c) y cafwyd cynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu oedd yn gweithio yng Nghymru rhwng 1999 a 2016.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol, Gadeirydd.

I call on Mark Isherwood to move amendment 2, tabled in the name of Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau iechyd ac addysg ar ddwy ochr y ffin i lunio rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer gogledd Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch. Rydym yn cefnogi galwad y cynnig hwn am ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor fel rhan o ddull Cymru gyfan o gynyddu hyfforddiant, recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru. Fel y mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn dweud,

Mae problemau recriwtio’n bygwth bodolaeth llawer o ysbytai a meddygfeydd yng Nghymru. Mae angen i ni hyfforddi mwy o feddygon a nyrsys yng Nghymru gyda’r nod o’u cadw i weithio yma.

Ond roeddent yn dweud bod traean y lleoedd hyfforddiant meddygol craidd yng Nghymru heb eu llenwi yn 2016, gyda’r ffigur hwn yn codi i dros 50 y cant yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Fel y dywedodd pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor yr wythnos diwethaf, rhaid i Gymru ehangu ysgolion meddygol i fynd i’r afael â phrinder meddygon, yn enwedig meddygon teulu, yn y dyfodol. Ni fyddai angen ond nifer cymharol ychydig o staff academaidd ychwanegol ac mae Prifysgol Bangor mewn sefyllfa ddelfrydol i feithrin a recriwtio myfyrwyr o’r Gymru wledig a chymunedau Cymraeg eu hiaith.

Fel y dywed Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, mae mynediad digonol at wasanaethau meddygon teulu yn hanfodol er mwyn cynnal iechyd a symudedd cyffredinol, ac o ganlyniad, i helpu i atal unigedd ac unigrwydd, ond mynegodd yr ymatebwyr bryder fod anawsterau i gael apwyntiad mewn amser rhesymol yn gysylltiedig â niferoedd meddygon teulu.

Fel y dywedais yma bythefnos yn ôl,

‘Mae blynyddoedd lawer ers i mi drafod gyntaf yr angen am ysgol feddygol ym Mangor gyda’i his-ganghellor blaenorol... Mae tair blynedd ers i Bwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru rybuddio, mewn cyfarfod yn y Cynulliad, bod ymarfer cyffredinol yn y gogledd yn... wynebu argyfwng, yn methu â llenwi swyddi gwag, gyda meddygon teulu yn ystyried ymddeol.’

Ac roeddent yn mynegi pryder bod y cyflenwad blaenorol o feddygon teulu o ysgol feddygol Lerpwl, o ble roedd eu cenhedlaeth hwy o feddygon teulu wedi dod yn bennaf, wedi’i dorri i raddau helaeth.

Felly gofynnais i’r Prif Weinidog sicrhau bod yr achos busnes ar gyfer ysgol feddygol newydd ym Mangor yn cynnwys trafodaeth â Lerpwl, er mwyn sicrhau ein bod yn cadw meddygon lleol yn lleol. Fel y dywedodd yn ei ateb, yr hyn sy’n hynod o bwysig yw bod unrhyw ysgol feddygol yn gweithio’n agos gydag eraill

‘er mwyn sicrhau bod y cynaliadwyedd hwnnw yno yn y dyfodol.’

Felly rwy’n cynnig gwelliant 2, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau iechyd ac addysg ar y ddwy ochr i’r ffin i adeiladu rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach yng ngogledd Cymru.

Bydd sicrhau cynaliadwyedd yn galw am hyfforddi, recriwtio a chadw meddygon yn lleol, a bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r prifysgolion, bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a Glannau Mersi i weithio gyda’i gilydd ac adeiladu rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach yng ngogledd Cymru, gydag arbenigeddau’n cael eu darparu gan y prif ysbytai perthnasol ar y ddwy ochr i’r ffin.

Flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, diystyrodd Llywodraeth Lafur Cymru rybuddion ein bod yn wynebu argyfwng meddygon teulu yng ngogledd Cymru, rhybuddion a roddwyd gan gyrff proffesiynol yn cynnwys BMA Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru a gennyf i a fy nghyd-Aelodau yng nghabinet yr wrthblaid ar ran staff GIG Cymru a chleifion a fynegodd eu pryderon wrthym. Gyda’r rhybuddion hyn wedi’u hanwybyddu, gwelsom bractis meddyg teulu ar ôl practis meddyg teulu yng ngogledd Cymru yn rhoi rhybudd y byddant yn terfynu eu contractau gyda’r bwrdd iechyd. Eto i gyd yng nghynhadledd BMA Cymru y llynedd, ar yr un penwythnos ag yr hysbysodd practis meddyg teulu arall yn y gogledd y byddent yn terfynu eu contract gyda’r bwrdd iechyd, honnodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, nad oedd unrhyw argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu.

Wrth ymateb i ymgyrch Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru, ‘Rhoi Cleifion yn Gyntaf: Cefnogi Ymarfer Cyffredinol’ yn ystod y Cynulliad diwethaf, cyfarfûm â grŵp o feddygon teulu yng ngogledd Cymru, a’u prif bryder, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf, oedd recriwtio. Er bod oed cyfartalog meddygon teulu yng ngogledd Cymru dros 50, roeddent yn dweud wrthyf na allent gael myfyrwyr meddygol i ddod i hyfforddi yn y gogledd. Roeddent yn dweud wrthyf fod yna broblem benodol gyda’r ffordd—ac rwy’n dyfynnu—’y mae Caerdydd yn recriwtio myfyrwyr meddygol’, a bod angen i fyfyrwyr meddygol gael eu cymell i ddod i ogledd Cymru, yn enwedig siaradwyr Cymraeg, a datblygu meddygon sy’n hanu o Gymru.

Mae angen gweithredu hefyd i fynd i’r afael â’r sefyllfa hurt lle mae nyrsys yn cael eu recriwtio dramor i wneud iawn am brinder nyrsys yng Nghymru ond gwrthodir cyllid i brifysgol Glyndŵr i hyfforddi nyrsys lleol nad ydynt yn gallu mynd i ffwrdd i’r brifysgol, ac sydd felly’n mynd dros y ffin i system Lloegr yng Nghaer. Yn ôl y BMA, mae ffigurau 2014 yn dangos mai Cymru oedd â’r nifer isaf o feddygon teulu am bob 1,000 o bobl yn y DU. Fodd bynnag, fel arfer, gwrthododd Llywodraeth Lafur Cymru yr holl rybuddion hyd nes ei bod yn argyfwng arnom ac yna—rwy’n dyfynnu—’aethant ati i ddethol canrannau i gelu’r gwirionedd eu bod yn gwneud rhy ychydig, yn rhy hwyr’. Mae hyn yn rhan o’r ateb.

Diolch yn fawr, Cadeirydd. Nid oes amheuaeth fod cynnydd aruthrol wedi’i wneud gydag ymyrraeth Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu yng Nghymru ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu, ac yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu a lanwyd yn 84 y cant, tra oedd yn 60 y cant flwyddyn yn ôl. Felly, mae ymyrraeth Llywodraeth Cymru i gynnig cymhellion a thalu ffioedd arholiadau i feddygon teulu yn dangos arwyddion calonogol o gynnydd, ond mae’n amlwg fod y gweithlu yn newid, ac mae angen inni gydnabod nad oes ateb syml i’r angen i’r angen i recriwtio a hyfforddi mwy o feddygon teulu. Mae’n amlwg fod y gweithlu iau’n awyddus i weithio’n rhan-amser ac yn hyblyg, ac nad ydynt bellach yn cael eu denu yn y modd yr arferent gael eu denu i ardaloedd gwledig ac o’r dinasoedd. Mae angen i ni gydnabod hynny, felly rwy’n credu bod angen inni newid y model sydd gennym mewn gofal sylfaenol, ac mae hyn yn galw am drafodaeth aeddfed.

Cefais gyfarfod neithiwr ym Mhorth Tywyn lle roedd dros 250 o bobl yn bresennol—cyfarfod wedi’i drefnu gennyf i a Nia Griffith, sydd wedi bod yn Aelod Seneddol dros Lanelli—ac roedd pryder enfawr ymhlith y cyhoedd, wedi’i waethygu gan y ffaith fod y bwrdd iechyd lleol yn gwrthod trafod â phobl yn ddigon cynnar pan fo angen i wasanaethau newid. Ym Mhorth Tywyn, ym meddygfa Harbour View, practis sy’n cynnwys un meddyg teulu—un o’r practisau un meddyg teulu olaf yn Hywel Dda—mae’r meddyg teulu yno, Dr Lodha, wedi penderfynu ymddeol. Rhoddodd wybod i’r bwrdd iechyd am hyn ym mis Chwefror, ac nid yw cleifion wedi cael gwybod tan yn awr—gyda rhai ohonynt yn cael gwybod drwy sgrap o bapur ar ddrws y feddygfa—fod y feddygfa’n cau. Maent yn ofni cael eu gwasgaru ymhlith meddygon teulu ‘cyfagos’ yn Nhrimsaran, Cydweli a Phont-iets, lle nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn hwylus a lle mae’r meddygon teulu presennol wedi cau eu rhestrau. Felly, mae pryder dealladwy yn y dref ac mae’r bwrdd iechyd wedi gwrthod ymgysylltu â’r cyhoedd ar hyn. Rwy’n meddwl bod gennym broblem yma, oherwydd gwelsom ym mhractis Minafon yng Nghydweli yr oeddwn yn falch o wahodd yr Ysgrifennydd Iechyd draw i’w weld yn gynharach yn y flwyddyn—pan oeddent yn ymgysylltu â’r gymuned, gallent ddod â hwy gyda hwy wrth fynd ati i ddod o hyd i atebion mwy creadigol i fodel gwahanol o ymarfer cyffredinol, model y mae cleifion bellach yn cydnabod ei fod yn cynnig manteision wrth iddo ddechrau ymwreiddio. Yn hytrach na dibynnu’n unig ar feddygon teulu, gall cael fferyllwyr ac ymarferwyr nyrsio a ffisiotherapyddion wrth law gynnig gwasanaeth gwell.

Ond yn amlwg, mae newid yn achosi pryderon, a dyna pam ei bod yn bwysig cynnwys y cyhoedd yn y drafodaeth o’r cychwyn cyntaf. Ond tro hwn, fel o’r blaen, cynhaliodd Hywel Dda broses breifat lle bu’r panel dan arweiniad eu dirprwy gadeirydd yn dadansoddi data poblogaethau sy’n newid ac yn y blaen a phenderfynu, ar sail eu crebwyll gorau, y dylai’r feddygfa gau heb archwilio unrhyw ddewisiadau eraill yn gyhoeddus. Yn sicr mae hyn yn gamgymeriad, oherwydd, fel rhan o’r broses wirio gychwynnol y maent yn mynd drwyddi, rhaid cael ymgysylltiad â chleifion. Pan allwch drin cleifion fel oedolion a dangos iddynt beth yw’r opsiynau a dod â hwy gyda chi yn y dewis hwnnw, gallwch sicrhau ateb gwell.

Maent wedi methu gwneud hynny yn yr achos hwn. Maent wedi ymgysylltu â mi fel Aelod Cynulliad etholedig a chynrychiolwyr etholedig eraill yn yr ardal ac o ganlyniad, mae gennym fater bellach sy’n achosi pryder mawr yn lleol. Rwy’n gobeithio y byddant yn ailystyried hynny ac yn ymgysylltu’n briodol â’r gymuned, gan eu bod yn teimlo, yn gywir ddigon, eu bod yn haeddu gwasanaeth priodol, pan fo tref Porth Tywyn yn tyfu a phan fo anghenion y boblogaeth yn newid. Felly, byddwn yn annog y Llywodraeth i ystyried, pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd ledled Cymru, sut y caiff yr angen i ymgysylltu â chymunedau ei gynnwys ar y dechrau yn rhan annatod o’r broses honno, fel nad ydym yn cael y ffars o sefyllfa lle mae’r cleifion yn clywed gyntaf am newid i’w gwasanaeth ar sgrap o bapur ar ddrws.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon. Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn, ond mae’r cwestiwn a ofynnais y tro diwethaf y trafodwyd y syniad hwn yn y lle hwn yn dal i sefyll. Onid ydym yn meddwl bod angen gwneud mwy i wella a hyrwyddo’r cynnig bywyd sydd ar gael i weithwyr proffesiynol er mwyn eu cael i ddod i ogledd Cymru neu i beidio â gadael yn y lle cyntaf?

Yn bendant mae gennym broblem recriwtio yng Nghymru. Er y gallai ysgol feddygol yng Nghymru arwain at nifer o raddedigion meddygol yn aros yng Nghymru—gobeithio y byddant yn sylweddoli lle mor wych ydyw i fyw a gweithio ac aros ynddo—nid yw’n ateb i bob dim. Hoffwn ychwanegu hefyd fod gan ysgol feddygol yng ngogledd Cymru fwy o obaith o ddenu a chadw siaradwyr Cymraeg. Felly, rwy’n llwyr o blaid y cynnig. Ond gall meddygon cymwys ddewis byw a gweithio yn unrhyw ran o’r byd fwy neu lai. Felly, nid yw’r ffaith eu bod wedi symud ychydig gannoedd o filltiroedd i lawr y ffordd i hyfforddi yn mynd i wneud gwahaniaeth wrth benderfynu a ydynt yn mynd i ddychwelyd at eu gwreiddiau ai peidio.

Mae gwelliant Llafur yn dangos eu bod yn ceisio gwadu bod yna broblem. Mae GIG Cymru yn y cyflwr anobeithiol y mae ynddo heddiw oherwydd gwrthodiad Llafur i dderbyn y problemau nad ydynt wedi’u datrys. Mae Llafur yn gwneud cymaint o ddrama o hawlio mai hwy yw unig warcheidwaid y GIG, ond am resymau etholiadol, ni allant gyfaddef eu bod, ar ôl blynyddoedd o fod mewn grym, yn dal i fod heb ei gael yn gywir.

Mae angen i ni werthu’r ffordd o fyw sydd i’w chael yma. Mae Cymru’n lle prydferth a heddychlon i fyw ynddo, fe gewch fwy o werth am eich arian o ran eiddo, a gall cymudo’r pellter rhwng eich darn bach eich hun o’r nef a’r gwaith fod mor hir neu fyr ag y dymunwch. Rhyngom, rwy’n siŵr y gallem greu rhestr hir o resymau pam y mae’n lle mor wych i fyw a gweithio ynddo.

Ond hyd yn oed os gallwn werthu Cymru fel lle dymunol i weithio ac arddangos harddwch gogledd Cymru, os oes gennych deulu a’ch bod yn rhoi cymaint o bwys ar addysg ag y mae rhywun sydd â gradd feddygol yn amlwg yn ei wneud, a fyddech eisiau i’ch plant gael eu taflu ar drugaredd loteri system ysgolion Cymru, sy’n bendant yn ganlyniad methiannau’r Llywodraeth? Rhaid gwneud rhywbeth.

Er nad wyf yn argyhoeddedig y bydd ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn datrys y problemau recriwtio a chadw staff, rwy’n cefnogi cynllun fel hwn sy’n cynyddu posibiliadau o ran swyddi a chyflogaeth yng ngogledd Cymru, a byddai agor cyfleuster o’r fath yn gwneud hynny, yn ddi-os. Byddai’r ysgol feddygol hefyd yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi a fyddai ar gael yn genedlaethol. Felly, rwy’n cefnogi cynnig Plaid Cymru a byddwn yn annog Aelodau eraill y Cynulliad hwn i’w gefnogi hefyd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Fe gadwaf fy sylwadau yn fyr. Yn gynharach yn y Siambr fe fuom ni’n trafod bwriad Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio 1,000 yn rhagor o feddygon yng Nghymru. Roeddwn i’n hynod o siomedig, mae’n rhaid i mi ddweud, efo ymateb y Gweinidog.

This is aspirational, but not achievable’

oedd geiriau’r Ysgrifennydd Cabinet. Rydym ni’n sôn fan hyn am raglen 10 mlynedd. Mae hyn yn rhywbeth sy’n angenrheidiol—rydw i’n gobeithio ein bod ni’n gytûn ar hynny: ein bod ni angen rhagor o feddygon yng Nghymru. Mae o yn rhywbeth sy’n uchelgais, yn sicr, gennyf fi. Rydw i’n gobeithio y gall o fod yn rhywbeth rydw i’n ei rannu ar draws y Siambr efo Aelodau eraill. Ond mae o hefyd yn realistig, ond gall ddim ond fod yn realistig os ydym ni’n cynyddu faint rydym ni’n eu hyfforddi o ran meddygon yng Nghymru. Beth sy’n siomedig hefyd, o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet, ydy bod ysgolion meddygol yng Nghymru yn dweud wrthyf i eu bod nhw’n hyderus y gallan nhw hyfforddi hyn yn rhagor o feddygon yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf. Mae’n amlwg, rydw i’n meddwl, fod yna gonsensws yn tyfu o fewn y byd addysg meddygol yng Nghymru y gall Bangor chwarae ei rhan o ran cyfrannu y meddygon ychwanegol yma i ni.

Rydw i’n siomedig hefyd—rydw i’n siomedig ar sawl lefel heddiw—fod y Llywodraeth, yn eu gwelliant nhw, wedi tynnu unrhyw gyfeiriad at ddatblygu addysg feddygol ym Mangor allan o’r hyn rydym ni’n ei drafod heddiw. Rydw i’n deall pam eich bod chi am dynnu sylw at beth rydych chi’n ei weld fel llwyddiannau o ran recriwtio meddygon dros y blynyddoedd diwethaf—rydw i’n rhoi hynny i chi—ond pam tynnu’r cyfeiriad at Fangor allan o’n cynnig ni heddiw? Fel mae Sian wedi’i egluro, mi fydd cyrraedd ysgol feddygol ‘full blown’, os ydych chi’n licio, hunangynhaliol ym Mangor yn rhywbeth a allai gymryd rhai blynyddoedd. Rydym ni’n cydnabod hynny’n llawn, ond mae angen i hynny fod fel nod yn y pen draw, ac mae angen symud ar frys rŵan tuag at gael myfyrwyr meddygol wedi’u gwreiddio mewn adran addysg feddygol ym Mangor. Mi gyfeiriaf at Brifysgol Keele, sydd ag ysgol feddygol rŵan. Dechreuodd fel rhan o ysgol feddygol Prifysgol Manceinion. Mae yna’r mathau yna o bartneriaethau y gallwn ni eu dechrau rŵan, o’r flwyddyn nesaf ymlaen, yn gweithio efo Prifysgol Caerdydd ac Abertawe, er enghraifft. Mae angen hyn, mae angen y meddygon arnom ni, mae angen datblygu’r arbenigedd mewn meddygaeth cefn gwlad, ac mae angen datblygu’r arbenigedd o ran datblygu addysg feddygol cyfrwng Cymraeg hefyd yn hynny o beth. Felly, ar sawl lefel, rydw i angen gweld fan hyn yn symud tuag at gonsensws o ran y cyfeiriad rydym ni’n mynd iddo fo.

Now, I’ll finish with reference to a couple of points made from Michelle Brown. Does this solve the recruitment and training problem that we have in Wales? Goodness me, no. It doesn’t resolve it, but it could be one heck of a contribution to what we’re trying to achieve. And to Lee Waters—like yourself, I have spent a career in communications so I agree with you entirely that engagement is important. You can engage as much as you like. You can send the local health board and chief executives round to every single patient’s house to explain that there’s a problem with the local surgery, but unless you have the doctors coming through the system, you will always be faced with this problem that we have, which is leading to the closure of surgeries in Burry Port and in Porthcawl and in many other places that we’re hearing about in Wales. So, support this, and aim high. Let’s get this medical school in Bangor. Wales needs it. Wales’s patients need it.

Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon—Vaughan Gething.

Diolch, Cadeirydd. Rwy’n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Fel Llywodraeth, mae ein gwelliant yn ei gwneud yn glir: ers datganoli, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y niferoedd yn ein gweithlu meddygol, ond mae’r Llywodraeth hon yn bell o fod yn hunanfodlon. Er gwaethaf y llwyddiannau yr ydym yn tynnu sylw atynt, rydym yn cydnabod bod heriau o hyd mewn rhai arbenigeddau meddygol a rhai ardaloedd daearyddol yng Nghymru, yn union fel y mae heriau ar draws gweddill y DU. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo, yn ein rhaglen lywodraethu, i barhau i weithredu er mwyn denu a hyfforddi mwy o feddygon teulu, nyrsys, a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i Gymru. Er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw, lansiwyd ein hymgyrch i annog meddygon, gan gynnwys meddygon teulu, i ddod i Gymru i hyfforddi, gweithio a byw. Rydym wedi gweld effaith gynnar sylweddol gydag 84 y cant o lefydd hyfforddi meddygon teulu wedi’u llenwi ar ddiwedd rownd 1, o’i gymharu â 68 y cant ar yr un adeg y llynedd. Mae hynny’n cynnwys cyfraddau o 100 y cant o lefydd wedi’u llenwi yng nghynlluniau hyfforddi meddygon teulu Sir Benfro, gogledd-ddwyrain Cymru, a gogledd-orllewin Cymru.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol, wrth gwrs, fy mod wedi lansio ail gam Hyfforddi, Gweithio, Byw ar gyfer nyrsys yr wythnos diwethaf. Mae’r effaith gychwynnol o ran gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn galonogol iawn, gyda’n fideo hyrwyddo wedi cael ei gweld 30,000 o weithiau, a’n cynnwys yn cyrraedd dros 110,000 o bobl.

Nawr rwy’n gwybod bod y cynnig yn galw am ysgol feddygol ym Mangor, ac mae Sian Gwenllian wedi bod yn gyson iawn yn ei galwadau ar y mater hwn. Fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn glir yn y Siambr hon, yn yr wythnosau nesaf byddaf yn gwneud datganiad—fel y nodais y byddwn bob amser yn ei wneud—ar derfyn y gwaith a gomisiynais i ystyried y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yr achos dros ysgol feddygol newydd. Nid wyf am geisio ymrwymo un ffordd neu’r llall cyn i’r gwaith hwnnw ddod i ben—dyna esbonio’n syml pam nad yw gwelliant y Llywodraeth yn cyfeirio at ysgol feddygol. Mae’n rhan o achos cyflawn rwyf wedi ymrwymo i’w gyflawni, wedi ymrwymo i ymateb iddo a dod yn ôl at yr Aelodau yn ei gylch, a byddaf yn gwneud hynny.

Ond beth bynnag fydd canlyniad y gwaith hwn, rydym yn gwybod bod angen i ni fod yn hyblyg ac archwilio pob opsiwn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant yng ngogledd Cymru. Mae gweithio ar draws ffiniau eisoes yn digwydd mewn mannau megis hyfforddiant arbenigol ar gyfer pediatreg, a sefydlu swyddi hyfforddi is-arbenigol ar gyfer anesthesia. Felly, er gwaethaf y cyfraniad digyfaddawd o negyddol gan Mark Isherwood, rwy’n hapus i gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliant yn enw Paul Davies.

Rwy’n awyddus i ymdrin ag ailffurfio’r 1,000 o feddygon—1,000 o feddygon dros 10 mlynedd o ran yr hyn sy’n ychwanegol, neu o ran yr hyn rydym ar hyn o bryd yn eu hyfforddi yn awr. Rydym eisoes yn hyfforddi—dros 10 mlynedd, byddwn wedi hyfforddi’r nifer honno o feddygon. Ond mae hyfforddi meddygon yn rhan o ddyfodol hirdymor y gwasanaeth iechyd—yr amser, yn ôl yr hyn a ddeallwn, y mae’n ei gymryd i hyfforddi meddygon, felly mae recriwtio a chadw ein gweithlu presennol yn rhan fawr o ble mae angen i ni fod, gan gynnwys y cyfraddau hyfforddi y soniais amdanynt yn gynharach. Mae yna ddull hirdymor o fynd ati yn hyn i gyd, ac mae’n rhaid i hynny gynnwys y modelau gwaith y disgwyliwn i bobl ddod atynt, ac mae hefyd yn cynnwys y modd y byddwn yn darparu’r hyfforddiant hwnnw mewn gwirionedd hefyd.

Os ydym, fel y nododd Lee Waters, eisiau cael y pwynt ehangach ynglŷn â model gwahanol o ymarfer cyffredinol, lle mae meddygon teulu yn gweithio fel rhan o dîm ehangach, mae angen inni hyfforddi pobl i weithio yn y ffordd honno hefyd, oherwydd mae’r ffordd y mae ymarfer cyffredinol yn gweithio yn erbyn hyn yn wahanol iawn i 10 ac 20 mlynedd yn ôl, ac yn y 10 ac 20 mlynedd nesaf, bydd yn wahanol eto. Mae yna bob amser angen cyson i addasu—rydym yn gorfod deall pa niferoedd o wahanol weithwyr proffesiynol meddygol sydd eu hangen arnom i ddarparu’r math o wasanaeth y mae pobl, yn ddigon teg, yn ei ddisgwyl. Felly dyna pam rydym yn parhau i fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i’r gweithlu gofal iechyd ehangach—rydym yn dal i’w wneud yng nghyrsiau gogledd Cymru ac ym Mhrifysgol Bangor. Felly caiff cyrsiau eu comisiynu mewn nyrsio, bydwreigiaeth, radiograffeg a chyrsiau peilot ar gyfer cymdeithion meddygol, yn ogystal â’r cyrsiau a gynigir yn ysgol glinigol Bangor. Nawr mae cymdeithion meddygol yn enghraifft dda o ddatblygu’r gweithlu ehangach mewn gofal iechyd. Maent yn dal i fod ar y cam treialu, ond rydym yn meddwl eu bod yn rhan o’r dyfodol, felly mae deall beth y mae Abertawe a Bangor yn ei ddarparu o ran y garfan newydd o gymdeithion meddygol yn bwysig i ni, yn ogystal â’r camau a gymerwn i wneud yn siŵr eu bod yn rhan o’n system gofal iechyd yng Nghymru, gyda llwybr gyrfa go iawn mewn modelau gofal a fydd yn gwneud gwahaniaeth.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Nid wyf yn credu bod llawer i gytuno yn ei gylch mewn perthynas â chyfraniad Michelle Brown, ond rydym yn wirioneddol o ddifrif ynglŷn â diogelu a sefyll dros y gwasanaeth iechyd gwladol—nid yw’n ymwneud â chalcwlws etholiadol, mae’n ymwneud â’n hymrwymiad a’n gwerthoedd, nid yn unig o ran creu’r gwasanaeth, ond i’w gynnal ar gyfer y dyfodol. Ac rwy’n cydnabod yr heriau a amlinellodd Lee Waters eto—fel yr Aelod lleol, mae’n hollol iawn i dynnu sylw at bryderon yn ei gymuned, ac rwy’n deall y pwynt a wneir ynglŷn â’r modd y mae newid o unrhyw fath yn cael ei drafod gyda’r cyhoedd, yn hytrach na’i gyflwyno i’r cyhoedd ynglŷn â’r hyn sy’n rhaid digwydd yn awr. Mae hwnnw’n bwynt da a wnaed yn dda, ac rwy’n deall y byddwch yn cyflwyno sylwadau uniongyrchol i’r bwrdd iechyd yn y dyddiau nesaf.

Ond yma yn y Llywodraeth hon, rydym wedi ymrwymo i gyflenwi gweithlu GIG sy’n parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel, ac yn feddygol, mae’n parhau i dyfu yn wyneb caledi parhaus gan Lywodraeth y DU. Ceir nifer o heriau yr ydym yn eu cydnabod yn onest ac yn barod, ond maent yn heriau yr ydym yn eu hwynebu ar eu pen, ac edrychaf ymlaen at adrodd ar fwy o lwyddiant y bydd y Llywodraeth hon yn ei gyflawni gyda’n partneriaid yn y gwasanaeth iechyd gwladol a thu hwnt.

Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am eich sylwadau. Diolch i Mark Isherwood am gyflwyno nifer o ddadleuon, ac rydw i’n cytuno—oes, mae angen gweithio ar y cyd ar draws y gogledd ac efo Lerpwl a Manceinion, a phwy bynnag arall sydd eisiau gweithio efo ni i wella’r sefyllfa. Mi oedd Lee Waters yn sôn am broblemau yn ardal bwrdd Hywel Dda, ond peidied â rhoi yr holl fai ar y byrddau iechyd. Mae cynllunio gweithlu meddygol yn gyfrifoldeb i’ch Llywodraeth chi, ac mae diffyg cynllunio gennych chi wedi creu rhai o’r problemau rydych chi yn eu hwynebu heddiw yn eich ardal. Rydw i, fel rydych chi wedi sôn, yn siarad fel Aelod Cynulliad Arfon—ydw, ac wrth gwrs mi fuaswn i yn dadlau o blaid lleoli sefydliad newydd cenedlaethol yn fy etholaeth i. Ond rydw i hefyd yn argyhoeddedig y byddai trydedd ysgol feddygol ym Mangor yn gwella gwasanaethau gofal i bawb ar draws y gogledd, a hefyd ar draws ardaloedd gwledig Cymru.

Yr wythnos diwethaf, mi wnes i gyhoeddi hwn—’Delio â’r Argyfwng: ysgol feddygol newydd i Gymru’, sef adroddiad annibynnol sydd yn dod â’r dystiolaeth o wahanol wledydd a dadleuon i gyd ynghyd. Gobeithio’n wir y cewch chi i gyd yma gyfle i’w ddarllen o. Mae o’n gosod allan yr achos yn glir ac yn gadarn iawn fod angen yr ysgol feddygol yma. Felly, rwy’n gobeithio, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn, y cawn ni gyhoeddiad buan ynglŷn â hyn, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y cyhoeddiad yn un cadarnhaol—diolch; mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei ddarllen o—ond y cawn ni gyhoeddiad buan cadarnhaol yn dweud yn glir fod angen yr ysgol feddygol, a’ch bod chi fel Llywodraeth yn mynd i fod yn cynllunio yn fanwl ar gyfer hynny yn fuan iawn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Datblygu Economaidd yng Nghymoedd De Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Mae dadl nesaf Plaid Cymru ar ddatblygu economaidd yng Nghymoedd de Cymru, a galwaf ar Steffan Lewis i gynnig y cynnig—Steffan.

Cynnig NDM6310 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Gwerth Ychwanegol Gros y pen yn ardaloedd NUTS2 y cymoedd canolog a chymoedd Gwent yn gyson is na chyfartaledd Cymru.

2. Yn nodi bod diweithdra yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol cymoedd de Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru.

3. Yn nodi bod ansicrwydd o ran gwaith, cyflogau isel a thlodi yn broblemau sylweddol yng nghymoedd de Cymru.

4. Yn nodi hanes o danfuddsoddi yng nghymoedd de Cymru gan Lywodraethau Cymru a’r DU.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) creu Asiantaeth Ddatblygu’r Cymoedd sydd â’r grym a’r atebolrwydd priodol;

b) gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch prosiect Cylchffordd Cymru, yn amodol ar y diwydrwydd dyladwy arferol; ac

c) rhoi mwy o flaenoriaeth o ran buddsoddiad mewn swyddi a seilwaith yn y cymoedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf gynnig y cynnig yn enw Rhun ap Iorwerth.

Mae cyn-feysydd glo de Cymru, y Cymoedd, wedi bod mewn cyflwr o argyfwng economaidd ers o leiaf streic gyffredinol 1926 mae’n debyg. Ac ers hynny, cafwyd nifer o fentrau dros y degawdau, yn aml mewn ymateb i aflonyddwch cymdeithasol, a phob un yn methu cyflawni’r nod o ffyniant teg i gymunedau’r Cymoedd, yn seiliedig ar arallgyfeirio o’r hen ddiwydiannau i rai newydd. Yn wir, gallwn fynd yn ôl at Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934 pan gafodd ardal de Cymru yn ei chyfanrwydd ei dynodi’n ardal economaidd arbennig, hyd at oes y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd sydd ar fin dod i ben.

Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn nodi’n gyntaf beth yw cyflwr economaidd presennol ardal y Cymoedd, ac yn argymell camau i ailddiwydiannu, adfywio ac adfer cymunedau’r rhanbarth. Ym mhwynt (c) ein cynnig, rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd blaenoriaethu buddsoddiad. Mae hon yn thema bwysig iawn, gan y gallwn weld ar lefel gwladwriaethau ac is-wladwriaethau o gwmpas y byd effaith economi ddaearyddol anghytbwys yn llifo ac yn deillio o fuddsoddiad anghyfartal. Rydym yn ei weld yma yn y DU mewn perthynas â Llundain a de-ddwyrain Lloegr o gymharu â phob ardal arall, a hyd yn oed mewn gwledydd llai hefyd fel ein cymdogion yn Iwerddon sy’n ymyrryd yn gyllidol ac yn economaidd yn awr i ledaenu cyfle a buddsoddiad y tu allan i’r brifddinas-ranbarth yn Nulyn ac o amgylch y ddinas.

Yn fy marn i rydym angen Bil tegwch economaidd ac ariannol newydd yn y maes hwn, a dylid cyflwyno Biliau o’r fath ar lefel genedlaethol a lefel y wladwriaeth, ac y gallai hwnnw roi cyfle inni yn awr i weithredu polisi cymorth rhanbarthol pwrpasol newydd ar gyfer Cymru yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae pwynt (b) ein cynnig yn galw am benderfyniad cadarnhaol ar ran y Llywodraeth ar brosiect Cylchffordd Cymru, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy arferol, wrth gwrs. Mae hwn yn benderfyniad y dywedwyd wrthym y byddai’n cael ei wneud mewn pedair i chwe wythnos yn ôl ym mis Chwefror eleni ac mae fy ffrind, yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi mynegi yn gynharach yn y trafodion heddiw y gyfres drist o ddigwyddiadau a oedd ynghlwm wrth y mater hwnnw. Hoffwn ychwanegu at hynny fel rhywun, fel eraill yn y Siambr, sydd wedi treulio fy oes gyfan bron yng nghymunedau’r Cymoedd, ei bod yn siomedig ac yn drist ein bod yn dal i weld y broses o godi disgwyliadau lleol, dim ond i’w gadael heb eu cyflawni, ac mai dyma’r rheswm i raddau helaeth pam y mae cymaint o bobl, yn enwedig yn y Cymoedd, er nad yn y Cymoedd yn unig, mor sinigaidd am wleidyddiaeth a gwleidyddion a heb fawr o obaith ar gyfer y dyfodol, a pham eu bod yn teimlo’n ddi-rym ac wedi’u hymddieithrio. [Torri ar draws.]

Os ydych am daflu darn arian i benderfynu pwy. Fe ildiaf i’r Aelod dros—.

Iawn; fe gaiff Lee fynd yn ail. Mewn perthynas â buddsoddi yn y seilwaith, a fyddech yn cytuno y bydd mentrau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â buddsoddi yn y seilwaith o gwmpas y metro yn cael effaith sylweddol? A hefyd o ran y rhaglen galedi, o ran yr effaith enfawr y mae hynny wedi’i chael ar gymunedau’r Cymoedd, fod hwn yn ysgogiad y mae gwir angen inni fod yn gweithio’n galed i gyflwyno deiseb i Lywodraeth y DU yn ei gylch?

Rwy’n credu, yr Aelod dros Islwyn, y byddwn yn cytuno bod agenda caledi wedi bod yn hunandrechol, ei bod yn anghywir a bod cymunedau tlotaf y DU, gan gynnwys cymunedau’r Cymoedd, wedi dioddef mwy nag eraill o ganlyniad iddi. Wrth gwrs, mae’r prosiect seilwaith o gwmpas y metro yn rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi’n llawn. Yr hyn y mae gennyf broblem gyda Llywodraeth Cymru ac eraill yn ei gylch, o ran y seilwaith trafnidiaeth, yw ei bod yn gwneud synnwyr perffaith i ni gynllunio hwnnw ar sail prifddinas-ranbarth y de-ddwyrain—yn wir, roeddwn yn cefnogi SEWTA a ddiddymwyd o dan y Llywodraeth flaenorol, oherwydd roedd hwnnw’n gorff cydgysylltu trafnidiaeth ranbarthol y credaf ei fod wedi gweithio’n effeithiol—ond o ran cynllunio economaidd, rwyf eto i gael sicrwydd gan Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros yr economi ein bod yn mynd i gael ymagwedd briodol sy’n seiliedig ar le tuag at ddatblygu economaidd er mwyn gwneud y gorau o botensial y system metro. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld cynllun datblygu economaidd arloesol a strategaeth ddiwydiannol wedi’u cyhoeddi cyn yr haf gan Lywodraeth Cymru sy’n mynd i ddynodi cyfran economaidd benodol i bob rhan o’r wlad hon yn llwyddiant y wlad hon yn y dyfodol, gan mai dyna’r unig ffordd y cawn ffyniant teg i bawb.

Wrth gwrs, mae heriau’r Cymoedd, yn economaidd, wedi gwreiddio’n ddwfn, yn hirsefydlog ac angen mwy nag un ymyrraeth i wrthdroi’r duedd honno. Dyna pam ein bod yn galw am sefydlu asiantaeth ddatblygu’r Cymoedd, gydag adnoddau addas ac yn briodol atebol. Rydym wedi bod yn cymryd tystiolaeth yn ddiweddar yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol—mae rhai o’r aelodau yma y prynhawn yma—ar bolisi rhanbarthol yn y dyfodol yng Nghymru yn dilyn ein hymadawiad â’r UE. Byddwn yn cynghori’r holl Aelodau i edrych ar y dystiolaeth a gasglwyd gennym. Cawsom lawer iawn o dreiddgarwch a thystiolaeth ddefnyddiol, nid yn unig ar yr hyn sydd wedi gweithio o ran polisi rhanbarthol yng Nghymru yn y gorffennol a’r hyn nad yw wedi gweithio mor dda efallai, ond rydym hefyd wedi amlygu rhai posibiliadau diddorol a chyffrous ar gyfer y dyfodol. Ymhlith y darnau o dystiolaeth a gawsom roedd adroddiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Roeddent yn disgrifio’r newid y mae angen iddo ddigwydd ac sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd o safbwynt polisi rhanbarthol, ac mae un darn yr hoffwn ei ddyfynnu. Maent yn dweud bod polisïau rhanbarthol yn y gorffennol

yn tueddu i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â gwahaniaethau rhwng rhanbarthau drwy ddarparu cymorthdaliadau i’w digolledu am incwm is. Lluniwyd polisïau gan lywodraethau canolog drwy adrannau’r wladwriaeth a gyflwynai raglenni datblygu economaidd wedi’u diffinio’n gul. Câi’r dull hwn ei ystyried yn fwyfwy aneffeithiol ac anghynaliadwy o safbwynt ariannol. Mae’r ymagwedd newydd tuag at bolisïau rhanbarthol yn pwysleisio ffocws ar gystadleurwydd a gweithio gyda rhanbarthau i ddatgloi potensial twf. Mae goblygiadau pwysig i’r ymagwedd hon o ran sut y mae llywodraeth yn gweithio. Mae angen i lywodraethau weithio mewn ffordd fwy integredig ar lefel ranbarthol a lleol.

Hynny yw, nid gwneud pethau i bobl ac nid edrych ar ranbarthau’n benodol o ran eu hanfantais gystadleuol, ond datgloi’r potensial sydd eisoes yn bodoli yn y rhanbarthau a grymuso’r rhanbarthau hynny i fynd ymlaen i gyflawni eu potensial. Felly, mae hyn yn cyfateb i’r ymagwedd sy’n seiliedig ar le y soniais amdani yn fy ymateb i’r Aelod dros Islwyn yn gynharach, gan ddweud i bob pwrpas fod dyddiau llywodraethau’n gwneud pethau i ardaloedd ar ben a bod yn rhaid defnyddio polisi cyhoeddus i rymuso rhanbarthau i wneud pethau drostynt eu hunain.

Mewn astudiaethau a gynhaliwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ymhlith eraill, dangosir bod ymagwedd seiliedig ar le tuag at bolisïau rhanbarthol yn effeithiol am wella perfformiad rhanbarthol yn y rhanbarthau hynny lle ceir hunaniaeth ranbarthol ddiriaethol. Mae’r Cymoedd yn rhanbarth diriaethol. Rydym yn gydgysylltiedig yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn hanesyddol. Mae endid y Cymoedd ymhlith y cryfaf yn y wlad hon, felly ceir cyfle rhagorol i dynnu ar y sail ddiwylliannol, hanesyddol a chymdeithasol honno a rennir i ddatgloi’r potensial. Felly, mae yna sail ar gyfer ffyniant, boed i’r Llywodraeth roi modd i’r rhanbarth wireddu’r ffyniant hwnnw yn awr. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod effaith rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o gyni ar gymunedau cymoedd de Cymru a gweddill Cymru, ac yn galw ar lywodraeth nesaf San Steffan i fuddsoddi mewn twf economaidd mwy cytbwys ar draws y DU.

2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n genedl deg o ran swyddi lle y gall pawb fanteisio ar well swyddi sy’n nes at eu cartrefi.

3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru o ran:

a) cefnogi bron i 150,000 o swyddi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf. Roedd llawer o’r swyddi hyn yng nghymunedau’r cymoedd;

b) paratoi dull newydd o fynd i’r afael â datblygu economaidd er mwyn ysgogi twf rhanbarthol mwy cadarn;

c) cynllunio buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith yn y cymoedd ac ar draws Cymru mewn modd sy’n cefnogi economïau rhanbarthol mwy cydnerth ac sy’n atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol;

d) sefydlu Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru sy’n cydweithio â chymunedau lleol er mwyn denu swyddi newydd, codi lefelau sgiliau a gwella gwasanaethau lleol;

e) datblygu rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adre gan ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu swyddi o werth mewn ardaloedd ag anghenion economaidd, fel y cymoedd; ac

f) sefydlu Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i greu economi lle y gall mwy o bobl yng nghymunedau’r cymoedd ac ar draws Cymru fanteisio ar swyddi da ac incwm sefydlog.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol, diolch. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i ddatblygu dinas-ranbarth Abertawe a phrifddinas-ranbarth Caerdydd, a fydd yn cynnig llawer o gyfleoedd cadwyn gyflenwi i gymoedd de Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant yn enw Paul Davies. Mae’n rhaid i mi ddweud, mewn egwyddor, fe allaf fi a grŵp y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, sy’n ceisio hybu’r buddsoddiad mewn swyddi a seilwaith yn y Cymoedd yn sgil hanes o danfuddsoddi, rwy’n credu, ar ran y Llywodraeth yma. Nid wyf yn meddwl y gallai neb ddadlau chwaith gyda honiad Plaid Cymru fod perfformiad economaidd y Cymoedd wedi bod yn is na chyfartaledd Cymru a’r DU yn gyson. Mae’r cynnig, wrth gwrs, yn methu cydnabod y cyfleoedd buddsoddi a chadwyn gyflenwi sylweddol a grëwyd gan Lywodraeth y DU drwy ddinas-ranbarthau Caerdydd ac Abertawe. Yn ddiddorol, er gwaethaf cyllid sylweddol gan yr UE, ychydig iawn o welliannau go iawn i ffyniant economaidd a welodd gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Efallai mai dyna pam y pleidleisiodd cymaint o bobl y Cymoedd dros adael—teimlai’r bobl sy’n byw yn y Cymoedd nad oedd yr UE a Llywodraeth Cymru wedi cyflawni yn ôl eu haddewid.

Mae llywydd Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru wedi dweud bod gan fargeinion dinesig Abertawe a Chaerdydd botensial i drawsnewid economi de Cymru ac rwy’n cytuno â hynny. Felly, rwy’n—

A fyddai’n cydnabod mai’r cyfan y mae’r bargeinion dinesig, yn hytrach na’r dinas-ranbarthau y credaf ei fod wedi’u crybwyll, a sefydlwyd, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru yn ei wneud yw cymryd lle toriadau mewn gwariant cyhoeddus drwy galedi, a methiant Llywodraeth y DU i gydnabod yr achos dros ariannu teg? Felly, o’i roi yn ei gyd-destun llawn, mae’r ychydig gyllid hwn a basiwyd i lawr drwy’r bargeinion dinesig yn llawer llai na’r swm o arian a sugnwyd allan o Gymru gan y Llywodraeth.

Wel, roeddwn yn gwneud y pwynt fod yr ardal wedi cael buddsoddiad sylweddol gan yr UE, ond ni cheir gwahaniaeth go iawn. Mae hynny yng ngrym Llywodraeth Cymru—yn eu dwylo—o ran sut y gwerir yr arian hwnnw, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw welliannau go iawn gyda hynny.

Felly, yn fy marn i, wrth gwrs, rwy’n croesawu cefnogaeth Llywodraeth y DU i’r rhanbarth drwy’r fargen ddinesig, sy’n anelu at godi’r ardal i 90 y cant o lefelau cynhyrchiant y DU. Mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd hefyd yn fuddsoddiad mawr gwerth £1.2 biliwn a fydd, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yn creu 25,000 o swyddi newydd ychwanegol ac yn denu £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Felly, rwy’n credu y bydd datblygiadau o’r fath ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd yn gwella cyfleoedd Cymoedd y de. Felly, rwy’n ystyried gwelliant y Llywodraeth yn rhagrithiol iawn ar sawl lefel. Mae’n galw ar Lywodraeth San Steffan i fuddsoddi yng nghymunedau’r Cymoedd gan anwybyddu’r ysgogiadau sydd gan Lywodraeth Cymru at ei defnydd i sbarduno datblygiadau economaidd yn y rhanbarth.

Rydym eto i weld strategaeth economaidd, wrth gwrs, dros flwyddyn ar ôl iddi gael ei haddo gyntaf, ac mae hynny’n wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi nodi ei strategaeth ddiwydiannol uchelgeisiol, sy’n canolbwyntio ar economïau rhanbarthol a fydd yn darparu sefydlogrwydd a chyfeiriad i ddiwydiant Prydain. At hynny, nid yn unig y mae gwelliant y Llywodraeth yn anwybyddu’r buddsoddiad sylweddol arfaethedig gan Lywodraeth y DU ar brosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys cynnydd i gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru, ond mae hefyd yn galw am y defnydd o ysgogiadau caffael i hybu’r broses o greu cyflogaeth ystyrlon mewn ardaloedd lle ceir angen economaidd megis y Cymoedd.

Wrth gwrs, cafwyd adolygiad o gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn 2012, ac nid yw caffael wedi newid yn sylweddol yng Nghymru mewn perthynas â gwelliannau cyfalaf. Dim ond 44 o gontractau gwerth dros £0.5 miliwn a ddyfarnodd Llywodraeth Cymru yn 2016, a dim ond 36 y cant a aeth i fusnesau wedi’u lleoli yng Nghymru. Felly, rwy’n credu bod hynny’n rhagrith pellach ar ran y Llywodraeth yma ac mae’n dangos eu bod wedi methu cyflwyno cynllun cydlynol i nodi sut y bydd yn gwella economi’r Cymoedd. Felly, byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant, sy’n ceisio cydnabod, er tegwch, ymrwymiad Llywodraeth y DU i wella safonau byw, twf economaidd a Chymoedd de Cymru sy’n fwy llewyrchus. Mae hyn yn rhywbeth nad yw’n mynd i ddigwydd—a byddech yn disgwyl i mi ddweud hyn, wrth gwrs—os na etholwn Theresa May a Llywodraeth Geidwadol gref ar 8 Mehefin.

Rwy’n croesawu’r ddadl hon ac yn croesawu diddordeb Plaid Cymru yn ein cymunedau yng Nghymoedd de Cymru. Yn wir, rwy’n casglu gan y wasg fod yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghastell-nedd heno, felly gallaf argymell Neuadd Gwyn iddo fel lleoliad perfformio rhagorol. Mae ganddo lawer i’w gynnig o safbwynt theatr, ffilm, a phantomeim wrth gwrs [Chwerthin.] Rwy’n siŵr y bydd y cyfle i gyffroi aelodau’r blaid yn lleol gyda’i bregethu efengylaidd yn llesol iddo yn y dyfodol—ac efallai yn y dyfodol heb fod yn bell iawn. Ond bydd pobl yn ein cymunedau yn y Cymoedd yn barnu Plaid Cymru yn ôl ei gweithredoedd, ac nid yn ôl y pregethau a’r sloganau. Byddant yn cofio mai’r tro diwethaf y bu Plaid Cymru’n gyfrifol am y briff datblygu economaidd, pan oedd Lehman yn dymchwel, roeddent yn blaenoriaethu adeiladu ffyrdd osgoi ym Mhorthmadog, felly ni fyddant yn anghofio’r camau gweithredu hynny ar eu rhan—

A chymunedau—. A chymunedau yn—[Torri ar draws.] Ni fyddaf yn cymryd ymyriadau.

Na, nid wyf yn credu—[Torri ar draws.] Un eiliad. Nid wyf yn credu bod yr Aelod yn ildio. Nid wyf yn credu bod yr Aelod yn ildio—

Nac ydy, ac felly os hoffai’r Aelod ddechrau eto, gan fy mod wedi colli’r frawddeg olaf oherwydd yr holl weiddi. Felly, a allwch fynd yn ôl a dechrau eto. Diolch.

Mae cymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful a Rhymni, yn Ogwr, yn Rhondda Cynon Taf, ym Mlaenau Gwent, yng Nghaerffili, ac yn Nhorfaen yn gwybod un ffaith: pe bai Plaid Cymru yn cael ei ffordd byddai’r arian sydd ar gael i’r awdurdodau lleol hynny’n llai, nid yn fwy—arian yn cael ei gymryd oddi wrth gynghorau’r Cymoedd i rannau eraill o Gymru. Felly, pan fyddant yn dod i’r Siambr ac yn curo eu bronnau a phwyntio’u bysedd, mae’r cyfan yn swnio braidd yn wag.

A yw’r Aelod yn meddwl bod yr addewidion hynny’n swnio braidd yn wag, mewn gwirionedd, yn enwedig yn achos Cylchffordd Cymru? Oherwydd maent yn esgus cefnogi, ond mae eu prif weithredwr wedi dweud ar goedd mai prosiect Cylchffordd Cymru yw’r prosiect mwyaf chwerthinllyd a dinistriol erioed. Dyna brif weithredwr Plaid Cymru. O ble y daw hynny? O flog. Blog sydd bellach wedi’i dynnu i lawr—

Rwy’n credu ei bod yn werth nodi bod yr addewidion gwag hyn, yn wir, yn wag.

Diolch i chi am enghraifft arall o safon ddwbl. Diolch i chi am hynny. Ar ddiwedd y llynedd cynhaliais gynhadledd—[Torri ar draws.]

Mae’n ddrwg gennyf. A allwn ni gael rhywfaint o dawelwch? A allwn ni gael rhywfaint o dawelwch ar y meinciau, os gwelwch yn dda? A gawn ni ymdawelu? Mae hyn yn bwysig i’r Aelodau yn ne Cymru ac yn bwysig i Gymru gyfan, felly a gawn ni wrando, os gwelwch yn dda?

Ar ddiwedd y llynedd, cynhaliais gynhadledd yng Nghastell-nedd i edrych ar yr economi leol, ac rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am dasglu’r Cymoedd ac am sgiliau am wneud amser gyda’u swyddogion i drafod canfyddiadau’r digwyddiad hwnnw a’r adroddiad a ddeilliodd ohono. Fel y byddant yn gwybod, mae pobl yng nghymunedau’r Cymoedd yn fy etholaeth yn chwilio yn awr am ymagwedd newydd. Yr hyn y mae pobl o bob oedran ei eisiau yn ein Cymoedd yw gwaith, ac er fy mod o ddifrif yn canmol Llywodraeth Cymru ar ein ffigurau diweithdra isel yng Nghymru, mae pawb ohonom yn gwybod ei bod yn anodd dod o hyd i swyddi mewn rhannau o’n Cymoedd, yn enwedig os ydych heb weithio ers blynyddoedd neu efallai nad ydych erioed wedi gweithio. Felly, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi ei strategaeth economaidd newydd, fel y mae’n gwybod, bydd fy etholwyr yn chwilio am atebion penodol ar gyfer ein cymunedau, ac nid ateb un maint sy’n addas i bawb, ond mesurau sy’n mynd i’r afael â heriau penodol ein Cymoedd.

Byddem wrth ein bodd yn gweld cyflogwyr mawr yn dychwelyd i bennau ein Cymoedd, ond rydym hefyd yn gwybod ein bod wedi ceisio gwneud hynny, ac rydym wedi cael trafferth i gyflawni hynny. Mae’r heriau’n enfawr, ond gwyddom y gellid gwneud llawer mwy i ddefnyddio grym caffael y sector cyhoeddus er mwyn ceisio darparu gwell swyddi yn nes at adref. Felly, rwy’n croesawu rhaglen beilot y Llywodraeth i weld sut y gall ddefnyddio ei phŵer prynu’n ddeallus i greu a meithrin cyflenwyr a chyflogwyr mewn mannau lle mae swyddi’n brin, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fod mor uchelgeisiol ac mor feiddgar ag y gall fod. Ond hefyd rydym angen i’n busnesau preifat mawr weld eu hunain fel stiwardiaid ein heconomïau lleol a mynd ati’n rhagweithiol i helpu i gynorthwyo cyflogwyr lleol eraill i dyfu a chyflogi pobl leol.

Gadewch i ni hefyd ei gwneud yn haws i bobl ddechrau busnes bach yn y Cymoedd. Gadewch inni ddatblygu’r lleoedd byw/gweithio hynny, neu ganolfannau busnes a rennir, wedi’u cysylltu â band eang da a’u pweru ag ynni gwyrdd cost isel. Mae ynni’n ddiwydiant sy’n rhan o dreftadaeth ein Cymoedd a gall fod yn rhan o’u dyfodol hefyd, nid yn unig fel rhai sy’n derbyn manteision cymunedol, ond fel crëwr swydd ac fel ased cymunedol. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog yn deall potensial hyn, ac rwy’n gobeithio y gall y tasglu gyflwyno cynlluniau cadarn i ddarparu’r math hwnnw o gyfle.

Rwy’n gobeithio y gallaf arllwys ychydig o olew cydsyniol ar ddyfroedd cythryblus y berthynas rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur. Byddai unrhyw un yn meddwl, o’r areithiau a’r ymyriadau diwethaf, fod yna ymgyrch etholiadol yn mynd rhagddi. Gall UKIP gytuno â chynnig Plaid Cymru heddiw, ac yn wir, gyda gwelliant y Ceidwadwyr. Mae’r cynnig ei hun yn gyhuddiad amlwg o fethiant pob Llywodraeth dros y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf i wneud rhywbeth am y sefyllfa sy’n bodoli, a chafodd ei disgrifio’n eglur iawn gan Steffan Lewis yn ei araith, ac mae wedi bod felly ers nifer o ddegawdau. Mae’n rhywbeth a ddylai beri pryder i bawb ohonom, ond yr un peth na allwch ei ddweud yn gredadwy, rwy’n meddwl, yw bod hyn yn ganlyniad i bolisi caledi, fel y’i gelwir, y Llywodraeth bresennol. Hynny yw—

Ddim eto; nid wyf wedi bod wrthi ers munud eto. Go brin y gellid disgrifio Llywodraeth sydd wedi bod ag un o’r diffygion cyllidebol mwyaf erioed, ar wahân i ryfeloedd Napoleon a’r ail ryfel byd, dros y 10 mlynedd diwethaf—ac mae hyn yn cynnwys y Llywodraeth Lafur a ragflaenodd hon—fel un sy’n cyflawni polisi o galedi. Heddiw, mae gennym ddiffyg Llywodraeth o £52 biliwn y flwyddyn—3 y cant i 4 y cant o’r cynnyrch domestig gros—ac mae wedi bod cyfuwch â 10 y cant o’r cynnyrch domestig gros yn 2010. Mae dyled genedlaethol a oedd yn £1 triliwn yn 2010 yn £1.8 triliwn heddiw. Yn bendant, ni ellir ystyried bod gwario arian i’r graddau hynny yn galedi. Rwy’n credu ei bod yn sarhad ar y Groegiaid a’r Sbaenwyr a’r Portiwgeaid, sy’n dioddef cyfangu economaidd digynsail ers dirwasgiad mawr y 1930au, i alw’r hyn sydd wedi digwydd ym Mhrydain yn dilyn argyfwng ariannol 2008 yn ‘bolisi caledi’. Gallwn yn sicr feirniadu. Gallwn yn sicr feirniadu Llywodraeth y DU am ei blaenoriaethau yn ei chynlluniau gwariant, ond nid wyf yn meddwl y gallwn feirniadu’r raddfa gyffredinol o wariant fel pe bai ganddo unrhyw beth i’w wneud ag achos y problemau y mae Cymoedd de Cymru yn dioddef o’u herwydd heddiw.

Daw hynny â mi, rwy’n meddwl, at brif bwynt fy araith, sef ein bod wedi cael ymyrraeth ddiddiwedd gan y Llywodraeth yn y Cymoedd yn ystod fy oes, a beth y mae wedi’i gyflawni—y pwynt a wnaeth Russell George funud yn ôl. Ydym, rydym wedi gwella’r seilwaith, rydym wedi gwneud llawer o bethau da, ond nid yw wedi trawsnewid cyfleoedd bywyd a gobeithion pobl y Cymoedd mewn gwirionedd. Mae cyllid yr UE oddeutu £300 miliwn y flwyddyn. Diferyn o ddŵr yn y môr ydyw. Mae’n ddiwerth o gymharu â faint o arian y dylai’r sector preifat ei wario er mwyn creu’r niferoedd sydd eu hangen o’r mathau o swyddi sydd eu hangen arnom. Dyna’n union y byddai prosiect Cylchffordd Cymru, wrth gwrs, yn ei wneud—prosiect trawsnewidiol os gwelais un erioed. Ac mae’n siomedig iawn fod y Llywodraeth wedi bod mor wangalon ac mor hwyrfrydig—

Rwy’n rhoi rhywfaint o gydnabyddiaeth i chi: ar ôl bod yn rhan o Lywodraeth a gafodd effaith drawsnewidiol ar y Cymoedd, rydych mewn sefyllfa i farnu. [Chwerthin.] Ond ar Gylchffordd Cymru, fel aelodau o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rydym ein dau wedi darllen adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar hynny, ac mae pryderon sylweddol ynddo am y ffordd y mae’r prosiect wedi cael ei drin hyd yn hyn. Oni fyddai’n well rhoi amser i wneud hyn yn iawn, i wneud yn siŵr na chawn eliffant gwyn arall?

Er gwaethaf yr holl oedi, a’r hyn a elwir yn ‘ddiwydrwydd dyladwy’ a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru, y pwynt yw na wnaeth yr archwilydd cyffredinol unrhyw sylw dilornus am y prosiect sector preifat ei hun, ond gwnaeth lawer o sylwadau dilornus am allu gweision sifil a chynghorwyr Ysgrifennydd y Cabinet i ddod i benderfyniad ar yr hyn sy’n gyfran fechan iawn o gyfanswm yr arian a werir yn y pen draw os yw’r prosiect yn mynd rhagddo. Oes, wrth gwrs fod rhaid i ni wneud diwydrwydd dyladwy, ond nid yw’r cyfyngiadau ar y risgiau i’r cyhoedd sy’n amlwg yn y prosiect hwn yn gymesur o gwbl â’r buddiannau arfaethedig sy’n debygol o godi. Wedi’r cyfan, y cwbl y gofynnir i’r Llywodraeth ei wneud yw darparu gwarant amodol eilaidd o gyfran o’r cyllid sector preifat—nid oes arian cyhoeddus yn mynd tuag at y prosiect—ac ni ddaw’n weithredol hyd nes y caiff yr asedau eu creu mewn gwirionedd. Felly, bydd y rhwymedigaeth wrth gefn, sy’n llai na 50 y cant, yn cael ei sicrhau ar 100 y cant o’r asedau, ac ni fyddai Llywodraeth Cymru ond ar y bachyn am uchafswm o £8.5 miliwn y flwyddyn, oherwydd byddai’n gwarantu’r taliadau blynyddol sy’n ddyledus i Aviva, prif noddwr y cynllun, dros gyfnod o 20 mlynedd, felly pe bai’r prosiect, yn dechnegol, yn methu’n gyfan gwbl, byth yn gwneud unrhyw arian a heb fodd o werthu’r un o’r asedau byth, mae yna bosibilrwydd o golli £8.5 miliwn dros oddeutu 20 mlynedd, sydd o ystyried maint yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, yn ddim byd.

Pe bai’r prosiect hwn yn mynd rhagddo ac yn llwyddo, ar gefn y gwelliannau i’r seilwaith trafnidiaeth a gyflwynodd Rhianon Passmore i’r ddadl yn ei hymyriad yn gynharach, a llawer o bethau da eraill sy’n digwydd yn ogystal, fel y gwelliant i ffordd Blaenau’r Cymoedd, a thrydaneiddio’r rheilffyrdd hefyd gobeithio, yna hwn fyddai catalydd go iawn y newid a fyddai o fudd i gymunedau’r Cymoedd gogleddol sydd, ar hyd fy oes, wedi bod yn Sinderela’r Deyrnas Unedig.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, a hefyd am roi cyfle i mi ymateb. Hoffwn ailadrodd penderfyniad absoliwt Llywodraeth Cymru i ledaenu ffyniant i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Cymoedd de Cymru. Ein dyhead yw creu ffyniant i bawb.

Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym ar hyn o bryd yn gwneud gwaith i adnewyddu ein strategaeth economaidd er mwyn datblygu economi pob rhanbarth o Gymru’n llawnach, ac felly mae’r ddadl heddiw yn amserol iawn yn wir. Yng nghyfraniad ystyriol Steffan Lewis, rwy’n credu ei fod yn y bôn wedi cyflwyno’r cyfiawnhad dros y weledigaeth rwyf eisoes wedi’i hamlinellu ar gyfer ein hymagwedd ranbarthol newydd sy’n seiliedig ar le tuag at ddatblygu economaidd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig yn y ddadl hon ein bod yn cydnabod yr heriau, ond hefyd, yn hollbwysig, y cryfderau yn economi’r Cymoedd, er mwyn i ni ddatblygu’r strategaeth honno’n effeithiol, ac wrth edrych ar y data, ein bod yn deall yn union ble y dylid targedu ein hymdrechion cyfunol.

Nawr, er bod gwerth ychwanegol gros y pen yn is na chyfartaledd Cymru yn y Cymoedd canol a Chymoedd Gwent, cynhyrchiant y Cymoedd canol yw’r uchaf yng Nghymru, ond yng Nghymoedd Gwent, mae’r cynhyrchiant yr un fath â chyfartaledd Cymru. Felly, mae’n amlwg—yn hollol amlwg—fod pobl y Cymoedd yn gweithio’n galed. Ond nid ydynt o reidrwydd yn cael yr adenillion a haeddant am y gwaith caled hwnnw.

Mae anweithgarwch economaidd a’r gwaith a wnawn fel Llywodraeth Cymru drwy ein rhaglen gyflogadwyedd newydd yn hanfodol i fynd i’r afael â’r problemau strwythurol yng nghymunedau’r Cymoedd, ac mewn llawer o gymunedau mwy ôl-ddiwydiannol ledled Cymru. Mae diweithdra yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymoedd de Cymru wedi gostwng yn gyflymach na chyfartaledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn yr amser hwnnw gostyngodd y gyfradd ddiweithdra ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful 2.8 y cant ac 1.6 y cant yn y drefn honno, ond rydym i gyd yn gwybod bod camu ymlaen yn y gwaith i rai sydd â gwaith yn dal i fod yn broblem fawr, felly hefyd y swm o waith o ansawdd sydd ar gael i bobl. Yn rhy aml rydym wedi gweld gwaith achlysurol o ansawdd gwaeth yn cymryd lle gwaith da, medrus, sy’n talu’n dda, heb fawr o ddiogelwch na sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Nid economi wedi’i hachlysuroli yn y modd hwn yw’r dyfodol y mae unrhyw un ohonom ei eisiau ar gyfer cymunedau’r Cymoedd. Rhaid i ni gofio, fodd bynnag, nad un ardal unffurf yw’r Cymoedd wedi’i difetha gan yr un problemau ar draws yr holl gymunedau. Mewn rhai ardaloedd, rydym wedi gweld adfywio’r economi, gan hybu ffigurau cyflogaeth a gwella sgiliau, cyrhaeddiad addysgol, iechyd a lles. Mae enillion yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili yn agos at neu’n uwch na chyfartaledd Cymru, ac mae cyfradd gyflogaeth rhai rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru ar gynnydd, ac yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd y mae’n tyfu gyflymaf.

Mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn galonogol iawn, gan ddangos cyfradd gyflogaeth sy’n gwella, yn enwedig yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Yn nhymor diwethaf y Cynulliad, cafodd bron i 150,000 o swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi eu cefnogi neu eu creu gan y Llywodraeth. Roedd llawer o’r rhain yng nghadwyni cyflenwi nifer o sectorau, ac ar draws cymunedau’r Cymoedd, cafodd miloedd lawer o bobl waith o ganlyniad i’n hymyriadau. Nid oes ond angen edrych ar gwmnïau fel General Dynamics i weld y ffydd sydd gan gyflogwyr erbyn hyn mewn gweithwyr medrus ar draws cymunedau’r Cymoedd. Ond rydym hefyd yn gwybod nad yw’r enillion, fel y dywedais yn gynharach, yn y twf economaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gostwng yn gyfartal ar draws Cymru, y DU, neu’r byd yn wir. Mae llawer o gymunedau ym Mlaenau’r Cymoedd yn teimlo nad ydynt yn rhan o stori twf a welsom ar draws y wlad a’r byd. Felly, fel Llywodraeth, rydym yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr amodau economaidd cywir ar gyfer creu a diogelu swyddi cynaliadwy ledled y Cymoedd ac ar draws Cymru yn parhau—swyddi gwell yn nes at adref ym mhob rhan o Gymru.

Y llynedd, sefydlasom dasglu’r Cymoedd i helpu i hybu twf a ffyniant economaidd ar draws yr ardal. Mae’r tasglu’n rhoi cyfle go iawn i gefnogi dull sy’n seiliedig ar gryfderau ac i fanteisio ar gyfleoedd mewn hinsawdd sy’n newid i ddatblygu a thyfu economi’r Cymoedd. Mae gan y tasglu fandad clir iawn i ymgysylltu â’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu ac i gyflwyno cynllun uchelgeisiol, a bydd yn gwneud hynny ym mis Gorffennaf. Bydd yn cynnwys gosod targed o greu 10,000 o swyddi yn y Cymoedd. Ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr fod pobl sy’n byw yng ngymunedau’r Cymoedd yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i gystadlu am y swyddi hyn. Dyma pam y mae’r rhaglen gyflogadwyedd hefyd yn hanfodol bwysig. Bydd y tasglu’n gweithio’n agos gydag arweinwyr y fargen ddinesig i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i bobl yn y Cymoedd, a byddwn yn cynnal ein rhaglen fuddsoddi, gan gynnwys gwaith deuoli ar yr A465, y prosiect ffordd mwyaf sy’n cael ei gyflwyno heddiw—prosiect a gafodd ei atal gan Blaid Cymru, ond sy’n cael ei gyflawni gan y Blaid Lafur.

Bydd metro de Cymru, fel y nododd yr Aelodau, yn gatalydd allweddol ar gyfer buddsoddi, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid lleol i sicrhau bod buddion twf economaidd yn cael eu cysylltu’n agos â datblygiad y metro.

Credaf y bydd y gwaith a gyflwynwn fel Llywodraeth yn darparu ffyniant i bawb—ffyniant i’r Cymoedd, ffyniant i bob cymuned ar draws y Cymoedd. Dirprwy Lywydd, rydym yn deall bod Cymoedd de Cymru angen, ac yn wir yn haeddu bod yn ganolog i ffocws y Llywodraeth. O dan y Llywodraeth hon, fe fyddant.

Amser cyfyngedig iawn sydd gennyf, felly fe ddywedaf hyn yn unig. Rwy’n meddwl bod y Cymoedd—hanes economaidd, hanes gwleidyddol, y Cymoedd, wedi cael ei nodweddu gan ddau fath o ddyfalbarhad, rwy’n credu, dros y 80 mlynedd diwethaf: parhad y problemau sydd wedi bod yno yr holl ffordd yn ôl at yr argyfwng yn y 1920au a’r 1930au a chreu polisi rhanbarthol y DU yn Neddf Ardaloedd Arbennig 1934, a gafodd ei geni yng Nghymoedd de Cymru. Rydym yn dal i siarad am yr un problemau sylfaenol yn y bôn, ond ar ffurf wahanol. Y math arall o ddyfalbarhad yw parhad yr addewidion a wnaed gan wleidyddion—addewidion a wnaed i gael eu torri. Boed hynny’r ddwy fenter ar gyfer y Cymoedd a gawsom yn y 1980au a’r 1990au—a dyma ni, 40 mlynedd yn ddiweddarach, yn siarad am yr un problemau.

Rwy’n dymuno’n dda i Ysgrifennydd y Cabinet gyda’i strategaeth economaidd newydd. Mae angen syniadau economaidd newydd ar Gymru gyfan, gan nad yw’r rhai sydd gennym wedi ein gwasanaethu. Ond rhaid i mi ddweud hyn: rwy’n poeni, gan fod strategaeth yn dilyn strwythur, a’r strwythur yr ydym wedi’i fabwysiadu, y dull dinas-ranbarth, cafodd ei fewnforio gennym yn slafaidd o dros y ffin yn Lloegr. Dyma syniadau’r cyn-Ganghellor, cofiwch—y syniadau economaidd aflwyddiannus. Y problemau economaidd unigryw—a chyfleoedd, ie, oherwydd mae cyfleoedd yno hefyd—na ellir mynd i’r afael â hwy’n llawn, na fyddant yn cael eu didoli, os ydym yn mynd ati’n syml i fewnforio’r syniadau aflwyddiannus sy’n seiliedig ar fodel dinas-ranbarth. Wyddoch chi, nid yw’r syniad hwn fod llanw sy’n codi yn codi pob cwch—economeg o’r brig i lawr i lawr, neu o’r gwaelod i fyny—yn gweithio, ni fydd yn gweithio ar gyfer y Cymoedd. Nid yw wedi gweithio dros 70 mlynedd, a dyna pam y mae angen syniadau newydd go iawn. Yn anffodus, nid oes gennym syniadau newydd ym mholisi’r Llywodraeth.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 9. Dadl UKIP Cymru: Y Gyllideb Cymorth Dramor

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar y gyllideb cymorth tramor a galwaf ar Neil Hamilton i gynnig y cynnig—Neil Hamilton.

Cynnig NDM6309 Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu, er bod achos dros gefnogi cymorth dyngarol a brys i wledydd eraill, yn arbennig mewn argyfyngau penodol, nad yw’n gwneud synnwyr bod y gyllideb cymorth dramor yn aros ar 0.7 y cant o incwm cenedlaethol gros (GNI).

2. Yn nodi bod dyled genedlaethol y DU wedi dyblu ers 2009, a’i bod, bellach, yn £1.6 triliwn, sy’n gyfystyr â £22,000 ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn yn y DU.

3. Yn credu bod angen ystyried llesiant cenedlaethau’r dyfodol wrth wneud pob penderfyniad gwariant cyhoeddus ac y dylai Llywodraeth y DU werthuso’r gyllideb cymorth dramor yng nghyd-destun anghenion pwysig eraill gartref.

4. Yn galw am ddiddymu Deddf Datblygu Rhyngwladol (Targed Cymorth Datblygu Swyddogol) 2015, a oedd yn y diogelu’r ffigur targed o 0.7 y cant yng nghyfraith y DU.

5. Yn credu bod llawer o’r gyllideb cymorth dramor yn cael ei gwastraffu, yn cael ei dargyfeirio gan lygredd ac yn cael ei gwario’n anghynhyrchiol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ostwng y gwariant targed ar gymorth dramor i 0.2 y cant o’r GNI, sy’n debyg i gyllidebau cymorth yr Unol Daleithiau, yr Eidal a Sbaen.

7. Yn credu y dylai’r £8 biliwn o arbedion a fyddai’n cael eu rhyddhau gael eu dargyfeirio’n gyfrannol i wledydd y DU a chael eu gwario ar achosion haeddiannol fel y GIG neu dai cymdeithasol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw ar yr agenda. Wrth gwrs, mae llawer o’r gyllideb cymorth tramor yn gwneud llawer o dda yn y byd, ond 16 y cant yn unig o’r £13 biliwn, £14 biliwn, £15 biliwn a wariwn ar gymorth tramor sy’n mynd ar brosiectau o’r fath. Mae’r mwyafrif llethol yn mynd ar yr hyn a elwir yn nodau strategol hirdymor eraill y Llywodraeth, boed hynny ar bolisi newid yn yr hinsawdd neu heddychu neu geisio sicrhau bod llygredd yn cael ei ddiddymu. Efallai fod yr holl bethau hyn, i raddau mwy neu lai o bosibl, yn dda ynddynt eu hunain, ond mae’r gallu i fonitro a gwerthuso’r hyn a wnant yn gyfyngedig ac yn absennol weithiau, ac felly i bob pwrpas rydym yn arllwys arian i mewn i dwll du, lle mae’n cael ei ddargyfeirio i ddibenion na fyddem yn eu cymeradwyo o gwbl.

Caf gymorth yn y ddadl y byddaf yn ei rhoi heddiw gan erthygl a ysgrifennwyd gan Grant Shapps ychydig amser yn ôl. Ef oedd y Gweinidog Gwladol yn yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol tan lai na dwy flynedd yn ôl. Mae wedi cael tröedigaeth Ddamascaidd o’r math y mae ein cynnig heddiw yn ei amlinellu, oherwydd disgrifiodd y gwariant ar gymorth tramor fel rhywbeth sydd ‘allan o reolaeth’. Galwodd am ddiddymu’r adran yr oedd yn hanner llywyddu drosti ac mae wedi ymosod ar ei thuedd i rofio arian parod allan drwy’r drws sy’n peri pryder mawr.

Nawr, os ydym yn sôn am £8 biliwn efallai, sef y ffigur y mae ein cynnig yn ei grybwyll, arian y gallem ei wario ar bethau eraill, naill ai’r gwasanaeth iechyd neu unrhyw beth arall, mae hyn yn rhywbeth y dylem yn sicr ei ystyried yn ddifrifol iawn.

Disgrifiodd Grant Shapps yn ei erthygl sut y byddai, yn y Swyddfa Dramor, yn protestio wrth unbeniaid Affricanaidd ynglŷn â’r ffaith eu bod yn gwrthod hawliau dynol a gwerthoedd democrataidd, ond wedyn, gan wisgo het yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, mae’n dweud hyn:

Byddwn yn mynd drwy fy mocs coch (o bapurau gweinidogol) i ddod o hyd i sieciau am gannoedd o filiynau o bunnoedd yn daladwy i’r un gwledydd... Nid yw’n syndod eu bod wedi dod i’r casgliad nad yw Prydain yn poeni am fân dramgwyddau yn erbyn hawliau o’r fath. Pam arall fyddai’r holl arian Prydeinig hwn yn parhau i arllwys i mewn?

Felly, yn aml gall cymorth tramor fod yn wrthgynhyrchiol yn yr hyn y mae’n ei wneud. Mae bron i hanner canrif bellach ers i’r Athro Peter Bauer, athro datblygu rhyngwladol ac economeg yn Ysgol Economeg Llundain, ddweud bod cymorth tramor yn rhywbeth sy’n cael ei dalu gan bobl dlotach mewn gwledydd cyfoethog i bobl gyfoethog mewn gwledydd tlawd. Rydym i gyd yn gwybod am yr holl gamddefnydd sydd wedi digwydd dros nifer fawr o flynyddoedd.

Nawr, gwerir oddeutu £250 miliwn y flwyddyn, er enghraifft, yn Nigeria. Mae llawer o hwnnw’n mynd i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Nigeria i ddileu Boko Haram, sy’n un o’r peryglon mwyaf ym myd eithafiaeth Islamaidd bellach. Ond mae swyddogion y gorllewin sy’n gweithredu yn Nigeria yn bryderus iawn fod arweinydd Llywodraeth Nigeria a etholwyd yn ddiweddar, yr Arlywydd Muhammadu Buhari, yn camddefnyddio’r cymorth i erlid ei wrthwynebwyr gwleidyddol ei hun. Ers iddo ddod i rym ym mis Mai 2015, mae nifer o aelodau blaenllaw o Blaid Ddemocrataidd y Bobl a arferai reoli wedi cael eu harestio a’u carcharu heb eu cyhuddo, ac ymhlith y rhai a garcharwyd mae llefarwyr swyddogol y blaid.

Dylai’r mathau hyn o gamddefnydd beri i ni ddihuno. Efallai y bydd yn syndod i chi ddysgu fod gan Nigeria raglen ofod hefyd. Mae ganddynt asiantaeth ofod sy’n gobeithio anfon rocedi i’r gofod erbyn 2028. Honnir—[Torri ar draws.]

Fe wnaf ar ôl gorffen y pwynt.

[Yn parhau.]—ei bod yn amsugno cannoedd o filiynau o bunnoedd o wariant cyhoeddus Nigeria, ond nid ydynt yn cyhoeddi’r ffigurau, felly nid ydym yn gwybod. Ildiaf i Rhianon.

Diolch yn fawr iawn. O ran y defnydd o gymorth tramor, ceir problemau gyda’r ffordd y mae rhai gwledydd yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cael ei gydnabod a dylid ei blismona’n gywir, ond nid yw hynny’n tanseilio dibenion cymorth tramor mewn unrhyw fodd o gwbl, ac rydych wedi crybwyll Boko Haram. A fyddech yn cytuno bod 0.7 y cant o gynnyrch domestig gros yn briodol a bod yr holl wledydd Llychlyn yn gwario llawer mwy nag a wnawn ni ar gymorth tramor?

Pum gwlad yn y byd yn unig sy’n gwario mwy nag a wnawn ni ar gymorth tramor, ac mae 0.7 fel canran o gynnyrch domestig gros yn ffigur cwbl fympwyol a ddewiswyd ar hap ac nid oes mwy o arwyddocâd iddo na 0.5 neu 1 y cant. Gan gymryd pwynt yr Aelod mewn ystyr fwy cyffredinol, pam na ddylem gynyddu’r gyllideb cymorth tramor bedwar neu bum gwaith ar y sail honno? Mae’r holl bethau hyn yn werth eu gwneud yn y byd. Ceir llawer o broblemau sydd gan wledydd eraill sy’n ddifrifol iawn, ond ni allwn barhau yn syml i ysgwyddo’r beichiau hyn ein hunain pan fo gennym gynifer o broblemau i’w datrys yn ein gwlad ein hunain. Hyd nes y cawn systemau ar waith i ni allu gwerthuso gwerth am arian yn briodol, nid yw hwn yn ddim ond ymarfer ‘rhofio arian allan drwy’r drws’, fel y’i disgrifiwyd gan Grant Shapps. Dywedodd Mr Andrew Dickens, a oedd yn swyddog yn yr adran cymorth tramor yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, pan oedd yn archwilio datblygu tramor, yr unig archwiliad posibl o gymorth amlochrog oedd gwirio bod y symiau a delid i sefydliadau rhyngwladol yn cyfateb i’r symiau a addawyd. Roedd yn rhaid i archwilwyr y sefydliad ei hun gynnal unrhyw archwiliad go iawn o’r prosiectau a gefnogid. Wel, nid yw archwiliadau hunanarchwilio yn werth y papur y cânt eu hargraffu arnynt.

Ceir llawer o enghreifftiau o gamddefnyddio dybryd, na fyddaf am drethu amynedd y Cynulliad drwy eu hailadrodd heddiw, pethau a welid yn archifau’r ‘Daily Mail’ ac sy’n hawdd dod o hyd iddynt, ond mae’r mathau o brosiectau y soniais amdanynt mewn perthynas â Nigeria yn amsugno symiau sylweddol iawn yn wir, symiau y byddai’n well eu gwario gartref ar feysydd fel y gwasanaeth iechyd, yn ein barn ni. Mae maniffesto’r Blaid Lafur yn yr etholiad ar gyfer San Steffan ar hyn o bryd yn dweud eu bod yn mynd i wario £37 biliwn arall ar y gwasanaeth iechyd gwladol—ffigur wedi’i dynnu o’r awyr. Mae cystal ag unrhyw ffigwr arall, am wn i, ond gallech bob amser ychwanegu sawl sero ato, yn bendant, ar yr egwyddor fod arian yn tyfu ar goed. Mae’r Blaid Lafur heddiw fel pe bai’n credu mai’r model economaidd y dylem ei ddilyn yw’r un sydd gan Venezuela, a ddylai fod yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, ond sydd wedi’i darostwng i dlodi, amddifadedd a distryw economaidd gan bolisïau Hugo Chávez, sy’n gymaint o arwr i Jeremy Corbyn.

Gallem wario £40 biliwn yn ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd pe baem eisiau gwneud hynny dros gyfnod y senedd nesaf drwy dynnu £8 biliwn y flwyddyn allan o’r gyllideb cymorth tramor. Yna byddem yn gwybod ei fod yn cael ei wario ar rywbeth gwerth chweil. Felly, mae’n ddewis sy’n rhaid inni ei wneud. Mae’n ddewis deuaidd. Gallwn ddewis gwario arian ar bobl yn ein gwlad ein hunain sy’n haeddu cymorth, neu gallwn wario’r arian ar bobl dramor nad ydynt o reidrwydd angen y cymorth am nad y bobl y bwriadwyd y cymorth tramor ar eu cyfer yw’r rhai sy’n ei dderbyn. Felly, nid oes unrhyw werth moesol, mewn gwirionedd, i gyfrannu arian pobl eraill. Rhoi eich arian eich hun yn unig sy’n cynnwys gwerth moesol. Felly, mae’n amhriodol siarad am foesoldeb gwariant cymorth tramor, rwy’n meddwl, mewn perthynas â’r defnydd o arian trethdalwyr. Gallwch, fe allwch gyflwyno achos dros brosiectau cymorth tramor o’r math dyngarol, yn amlwg, i helpu gydag argyfyngau megis effeithiau daeargrynfeydd neu gorwyntoedd neu beth bynnag. Ni fyddai neb yn gwadu’r angen i chwarae ein rhan yn y gymuned ryngwladol yn helpu pobl heb obaith mewn sefyllfaoedd enbyd. Ond lle rydym yn gwneud penderfyniadau gwleidyddol, polisïau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, sy’n ddadleuol, a bod y rhai sy’n derbyn neu’r gwledydd sy’n derbyn y taliadau hyn mewn gwirionedd yn mynd i fod yn dyblu, neu dreblu yn achos India a Tsieina, eu hallyriadau carbon dros y 30 mlynedd nesaf, er gwaethaf cytuniadau hinsawdd Paris—maent yn cael eu heithrio, i bob pwrpas, am eu bod yn economïau sy’n tyfu ac yn datblygu—yna nid ydym hyd yn oed yn cyflawni’r amcanion polisi y credwn eu bod yn ddymunol yn y byd yn gyffredinol os ydych yn credu mewn newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan bobl. Felly, ceir wrthdaro yno yn y polisi na ellir ei ddatrys. Felly, mae arnaf ofn mai’r hyn y mae fy mhlaid yn ei ddweud, yn y cyswllt hwn o leiaf, yw bod elusen yn dechrau gartref, ac ar hynny y dylem fod yn ymladd yr etholiad hwn.

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran lleddfu dioddefaint dynol.

2. Yn cefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol drwy fentrau fel Cymru o Blaid Affrica.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy’n cynnwys gwella gweithgareddau cymorth rhyngwladol y genedl.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae cymorth rhyngwladol yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n lliniaru dioddefaint dynol pan fo argyfyngau dyngarol yn taro. Mae’n arbed bywydau ac yn cryfhau cymunedau. Trwy weithio gyda’n gilydd, er enghraifft, rydym wedi haneru tlodi eithafol yn y 40 mlynedd diwethaf, ac wedi haneru niferoedd marwolaethau plant ers 1990. Mewn gwledydd sy’n datblygu, mae 91 y cant o blant bellach wedi’u cofrestru mewn ysgolion cynradd. Rhwng 2000 a 2014, mae dros 6.2 miliwn o farwolaethau malaria wedi’u hosgoi, gan achub bywydau—gan achub bywydau plant dan 5 oed yn bennaf. A gallwn fod yn hynod o falch o hanes Cymru. Efallai fod ein cyllideb a chyrhaeddiad ein pwerau yn gyfyngedig, fel arfer, ac o’u cymharu â’r gwaith a wnaed ar lefel y DU gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, ond mae’r gwaith a wneir gan sefydliadau ac unigolion i feithrin cysylltiadau gyda rhai sydd angen ein help o gwmpas y byd yn dangos haelioni rhyfeddol a llwyddiant mawr. Mae prosiect Cymru o Blaid Affrica wedi bod yn weithredol dros y 10 mlynedd diwethaf ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwnaeth waith anhygoel gyda phartneriaid ar draws Affrica. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru gysylltiadau gweithredol ag Affrica, gan helpu i hyfforddi meddygon, nyrsys a bydwragedd i ddarparu gofal iechyd yn eu cymunedau a datblygu sgiliau gweithwyr yn y GIG yng Nghymru hefyd yn eu tro.

I nodi enghraifft o’r de-ddwyrain, mae Midwives@Africa a leolir yn y Fenni yn darparu cyrsiau hyfforddi effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i diwtoriaid bydwragedd a bydwragedd yn ne Ethiopia. Mae’n bartneriaeth sy’n helpu’r ddwy ochr—mae’n gilyddol—gyda gweithwyr iechyd yn Ethiopia yn cael hyfforddiant hanfodol, a’r bydwragedd o Gymru sy’n gysylltiedig â’r cynllun yn datblygu eu sgiliau addysgu, cyfathrebu ac arweinyddiaeth. Maent yn glod i’n cenedl ac i Ethiopia hefyd.

Bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld newid sylfaenol ac ail-lunio perthynas Cymru â gweddill y byd, wrth gwrs, o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r rhethreg elyniaethus a ddaw ar hyn o bryd o rai rhannau o’r sefydliad gwleidyddol yn peri gofid. Pan fo’r Prif Weinidog yn defnyddio iaith sy’n ymosod ar ein ffrindiau a’n cymdogion agosaf, mae’n peryglu statws ein cenedl ar y llwyfan byd-eang, nid yn unig mewn perthynas â chymorth rhyngwladol, ond mewn materion eraill hefyd, ac nid wyf am weld enw Cymru’n cael ei lychwino ar yr un pryd. Yn y cyd-destun hwnnw, Dirprwy Lywydd, mae’n bwysicach nag erioed fod gan Gymru ei brand byd-eang ei hun, ein bod yn parhau i fod yn genedl sy’n edrych tuag allan, i greu cysylltiadau ar draws y byd, ac ni allwn adael i’r cenedlaetholdeb cul sydd ar gynnydd mewn rhannau o wleidyddiaeth Prydain leihau ein proffil byd-eang. Mae arnom angen polisi rhyngwladol penodol i Gymru, a dylai gynnwys ymrwymiad i gymorth rhyngwladol yn ogystal. Rwyf o’r farn gadarn fod angen Ysgrifennydd y Cabinet dynodedig ar y wlad hon ar gyfer materion allanol yn Llywodraeth Cymru i arwain y strategaeth honno, ac nid wyf yn deall pam y mae’r Llywodraeth hon, unwaith eto, yn gwrthod gwneud hynny.

Dylai hefyd gynnwys yn y polisi rhyngwladol hwnnw ein bwriadau ynglŷn â sut rydym yn dymuno adeiladu ar gysylltiadau datblygu, a gallwn edrych tuag at wledydd eraill ar yr ynysoedd hyn, hyd yn oed. Gallwn edrych tua’r Alban i weld sut y mae strategaeth cymorth dyngarol uchelgeisiol wedi bod yn effeithiol, hyd yn oed gyda’r cyfyngiadau sydd ganddynt yno. Mae eu cronfa ddatblygu o £9 miliwn yn seiliedig ar weledigaeth yr Alban fel dinesydd byd-eang da ac yn rhan o strategaeth ryngwladol ehangach ynghlwm wrth fasnach a chynlluniau cyfnewid addysgiadol yn ogystal. Felly, wrth i ni ymdrechu i wella statws Cymru ar y llwyfan byd-eang, rwy’n gobeithio y bydd datblygu rhyngwladol yn ffurfio rhan annatod o’r strategaeth honno yn y dyfodol, fel y mae wedi ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf.

Er fy mod yn cytuno ei bod yn ddyletswydd arnom i helpu’r rhai sy’n wynebu afiechyd, rhyfel neu newyn, y ffaith drist amdani o hyd yw bod llawer o’r gyllideb cymorth tramor yn cael ei gwario’n amhriodol. Ac nid ydym yn sôn am symiau pitw o arian yma, gan ein bod yn gwario £30 miliwn y dydd ar gymorth tramor, a dim ond oddeutu 16 y cant o’r gyllideb hon sy’n cael ei defnyddio fel cymorth dyngarol neu gymorth mewn argyfwng. Mae Diane Abbot AS yn dweud mai

yr hyn sydd wedi peri pryder mawr i mi’n ddiweddar yw ymddangosiad yr hyn a elwir yn "Arglwyddi Tlodi". Ymgynghorwyr rheoli yw’r rhain sy’n cael cyflogau enfawr o gyllideb yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn eu rôl fel ymgynghorwyr rheoli.

Targed y DU yw gwario 0.7 y cant o’r incwm gwladol crynswth ar gymorth tramor, ac ar ddiwedd 2013, aeth gweision sifil ar sbri wario gwerth £1 biliwn er mwyn cyrraedd y targed hwn. Ni ddylai unrhyw berson gael ei ruthro i wario arian trethdalwyr er mwyn cyrraedd targed. Cafwyd llawer o feirniadaeth ynglŷn â’r ffordd y mae arian cymorth tramor yn cael ei wario, yn enwedig ar adeg pan ydym ni yng Nghymru’n wynebu argyfwng mewn iechyd a gofal cymdeithasol. O ganlyniad i galedi, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi’n anodd. Ers 2010, mae gwariant ar draws nifer o adrannau’r Llywodraeth wedi gostwng dros chwarter. Ar adeg pan ddylem fod yn buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd er mwyn ateb heriau, gwelwn gyllidebau’n rhewi. Mewn cyferbyniad—

Na, mae’n ddrwg gennyf, oherwydd byddaf yn cymryd y pedwar munud i siarad.

Mewn cyferbyniad, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, bydd y swm o arian y mae’r DU yn ei wario ar ddatblygu rhyngwladol yn cynyddu £1 biliwn arall y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf, a fydd yn dod â’r gyllideb i bron £15 biliwn y flwyddyn, bron cymaint â chyllideb Cymru gyfan.

Mae angen ailwampio dull cymorth tramor y DU yn llwyr, ac mae hawl gan drethdalwyr Prydain i wybod ble mae’r arian yn cael ei wario. Wrth i’n dyled genedlaethol barhau i godi i’r entrychion, sut y gallwn gyfiawnhau rhaglen gymorth sy’n rhoi miliynau o bunnoedd i genhedloedd gyda rhaglenni niwclear a gofod, pan fo’n dinasyddion yn byw mewn tlodi? Mae fy rhanbarth, Aberafan, yn un o’r ardaloedd tlotaf, a hyd yn oed wrth gerdded yn y dref mae nifer o bobl ddigartref yn gorwedd yn y drysau, ac mae hyn yn gywilyddus. Felly, sut y gallwn gyfiawnhau rhaglen gymorth sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd ynni diwydiant Brasil pan fo trethdalwyr Cymru yn cael trafferth i wresogi eu cartrefi? Mae angen diwygio cymorth tramor drwyddo draw gan ddechrau drwy ollwng targedau gwariant mympwyol yn erbyn incwm gros cenedlaethol. Y cyfan y mae’r targed hwn wedi’i wneud yw cynyddu’r gyllideb, gan orfodi gweision sifil yr adran dros ddatblygu rhyngwladol i feddwl am ffyrdd mwyfwy rhyfedd o wario arian trethdalwyr Prydain. Mae ein cenedl yn ei chael hi’n anodd, ac mae ein dinasyddion yn haeddu ystyriaeth.

Fodd bynnag, mae gennym dystiolaeth o arian yn cael ei wario’n dda dramor mewn ymateb i Affrica, lle buom yn ymladd yn erbyn Ebola yn Sierra Leona a Liberia. Ymrwymodd Llywodraeth y DU £427 miliwn o gymorth uniongyrchol i helpu i gynnwys, i reoli, i drin ac yn y pendraw i drechu Ebola. Roedd cymorth uniongyrchol y DU yn cynnwys defnyddio arbenigwyr meddygol o’r GIG a’r fyddin, a ddarparodd ganolfannau triniaeth—1,400 o welyau ar gyfer triniaeth, gan gynnwys gwelyau ynysu, i frwydro yn erbyn y clefyd. Hefyd, adeiladwyd chwe chanolfan ar gyfer trin Ebola ar draws y wlad, a chafwyd timau hyfforddi i hyfforddi gweithwyr ar y rheng flaen. Cafodd 4,000 o weithwyr gofal iechyd addysg ar logisteg a sut i fod yn lanweithwyr yn y proffesiwn meddygol, a oedd yn cynnwys staff y fyddin a staff carchar yn Sierra Leone. Hefyd, addysgwyd pobl mewn timau ar draws y wlad sut i gladdu’r meirw’n ddiogel. Cafwyd cyflenwadau brys fel bwyd a chlorin, a gwnaed gwaith ymchwil gwyddonol drwy adeiladu labordai i ddeall sut yr oedd Ebola wedi lledaenu. Cafodd yr ymgyrch ei chyd-drefnu gan y fyddin. Fe weithiodd yr ymgyrch am fod mwy wedi’i wneud na dosbarthu arian i’r llywodraethau a’r gwledydd a dweud wrthynt fwrw yn eu blaenau. Roedd y bobl yn falch iawn o’r hyn a ddysgwyd a chawsant eu gadael gyda gwaddol o glinigwyr hyfforddedig, canolfannau gofal iechyd, a chymorth gwyddonol ac ymchwil. Roedd y bobl yn falch o’r hyn a ddysgwyd, a gallai trethdalwyr Prydain weld prawf pendant a thystiolaeth o ble roedd yr arian wedi cael ei wario. Ac er bod pobl Prydain yn hael, mae atebolrwydd a thryloywder ynglŷn ag arian trethdalwyr yn hollbwysig.

Rwy’n falch iawn fod Llafur wedi ymrwymo i wario 0.7 y cant o’n hincwm cenedlaethol gros ar ddatblygu rhyngwladol. Yn 2013, y DU oedd gwlad gyntaf y G7 i gyrraedd targed gwariant y Cenhedloedd Unedig ar ei chyfer, ac ymrwymodd Llafur i’r gwariant o 0.7 gwariant y cant ar gymorth tramor yn ei maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 2015, ac yn ein maniffesto a gyhoeddwyd ddoe. Dyna ymrwymiad i 0.7 y cant—credaf ei bod yn bwysig dweud wrth yr Aelodau sy’n siarad mai targed y Cenhedloedd Unedig ydyw; dyna faint y mae’r Cenhedloedd Unedig am i wledydd ei wario.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A wnewch chi gydnabod bod yr ymrwymiad hwnnw’n ymrwymiad a wnaed yn gyntaf gan y Prif Weinidog Ceidwadol, David Cameron? Oherwydd, fel chi, rwy’n falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd, a gwn fod y Blaid Lafur wedi cefnogi’r uchelgais hwnnw.

Mae hyn yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi’i gefnogi, ac rwy’n falch ein bod yn cytuno ar y mater hwnnw. Hoffwn pe bai pob plaid yn y Senedd hon yn cytuno.

Dywedai ein maniffesto ddoe ein bod yn addo datblygu agenda datblygu wedi’i thargedu, yn seiliedig ar egwyddorion ailddosbarthu, cyfiawnder cymdeithasol, hawliau menywod a lleihau tlodi. Ac mewn gwirionedd, fe enillodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y DU gydnabyddiaeth i Brydain fel arweinydd byd ym maes datblygu rhyngwladol drwy sefydlu Adran benodol ar gyfer Datblygu Rhyngwladol. Credaf ei bod yn bwysig iawn dweud bod yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn cael ei chraffu’n ofalus iawn. Caiff ei chraffu gan y Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol yn Nhŷ’r Cyffredin, caiff ei chraffu gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a chaiff ei harchwilio gan y Comisiwn Annibynnol ar Effaith Cymorth. Caiff ei chraffu’n drylwyr. Mae’r amheuon a’r ymholiadau sy’n codi ynglŷn â chymorth rhyngwladol yn cael eu creu gan y wasg asgell dde, y cyfeiriwyd ati heddiw, ac nid wyf yn credu bod angen i ni seilio ein barn ar y pwnc o bapurau megis y ‘Daily Mail’ a ‘The Mail on Sunday’, a fyddai ond yn rhy hapus i ni wario 100 y cant o’n harian arnom ein hunain a pheidio â meddwl mewn unrhyw ffordd am y ffaith ein bod yn ddinasyddion byd-eang a’n bod yn byw mewn byd byd-eang.

Credaf fod gan bawb ym mhob gwlad yr hawl i ddŵr glân, digon o fwyd, gofal iechyd sylfaenol ac addysg, ac mae gennym ymrwymiad i sicrhau y dylai’r hawliau dynol hyn ddod yn realiti i dlodion y byd a dioddefwyr gormes a gwrthdaro. Ac wrth gwrs, mae hyrwyddo hyn yn llesol i ninnau hefyd, oherwydd lle ceir tlodi a phrinder addysg, mae’n llawer mwy tebygol y bydd yna ansefydlogrwydd gwleidyddol, gwrthdaro a mudo gorfodol. Nid oes ond yn rhaid i chi edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr argyfwng mudo Ewropeaidd i weld hyn. Nid oes neb yn gadael eu gwlad os yw’n lle sefydlog i fyw ynddo gyda digon o fwyd, gyda darpariaeth gofal iechyd a chyfle i gael addysg, felly mae’n fuddiol i ni sicrhau ein bod yn gwneud y byd mor sefydlog ag y gallwn, ac rwy’n credu bod cymorth yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Meddyliwch am yr hyn a gyflawnwyd gennym. Mae’r DU wedi ymrwymo i ddileu polio yn fyd-eang a hi yw’r wlad sy’n cyfrannu fwyaf ond dwy i’r Fenter Dileu Polio yn Fyd-eang. Erbyn hyn nid oes ond tair gwlad yn y byd lle mae polio’n endemig: Nigeria, Affganistan a Phacistan. Y rheswm pennaf am hynny yw’r cymorth a roesom.

Yn ystod fy amser yn San Steffan, roeddwn yn ffodus i ymweld â phrosiect yn Affrica a oedd wedi elwa ar gymorth rhyngwladol gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a edrychai’n arbennig ar drin TB a HIV ar y cyd yn Kenya, Rwanda a Malawi. Ar ôl gweld drosof fy hun, fel y gwn fod eraill yn y Siambr hon wedi gwneud, cymaint o dlodi y mae pobl yn y gwledydd hynny’n ei wynebu, yn enwedig y menywod a’r plant, mae’n atgyfnerthu fy ymrwymiad yn llwyr y dylai Cymru a’r DU fod yn wlad sy’n edrych tuag allan lle rydym yn cydnabod ein rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn gweithredu mewn ysbryd hael. Mae’n ofid i mi fod yna blaid yn y Cynulliad hwn nad yw’n cefnogi edrych tuag allan—nad ydynt yn hael yn eu meddyliau nac yn meddwl bod yn rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu yn unedig gyda’n gilydd i geisio gwella pethau ar gyfer pobl y byd. Oherwydd o’m rhan i, a’r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon rwy’n credu, mae’r plant yn y byd—mae’r plant yn rhyngwladol yn blant i bawb ohonom.

A gaf fi ddweud fy mod wedi fy nghyffroi’n fawr—roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol mewn gwirionedd—pan gyflwynodd comisiwn Brandt eu hadroddiad? Rwy’n gwybod na fydd hyn yn ei wneud ronyn yn fwy apelgar i blaid benodol ond wrth gwrs, Edward Heath oedd un o’i brif aelodau. Sefydlodd y comisiwn y targed o 0.7 o’r cynnyrch gwladol gros y dylid ei neilltuo ar gyfer cymorth rhyngwladol. Fel rhan o’r adroddiad hwnnw, roedd hefyd yn pwysleisio, er mwyn ymateb yn uniongyrchol i Neil Hamilton, nad cymorth oedd y peth pwysicaf—er ei fod yn beth hanfodol ar gyfer trawsnewid bywydau pobl yn y gwledydd tlotaf—ond masnach oedd yn ganolog i drefn ryngwladol fwy cyfiawn. Cafodd hynny effaith fawr yn y 1980au ar rowndiau’r Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach, a dorrodd yn gyntaf mewn gwirionedd drwy’r hen systemau diffyndollol a oedd wedi cynnal grym i raddau helaeth ers yr ail ryfel byd. Arweiniodd hynny ynddo’i hun wedyn at Sefydliad Masnach y Byd, sydd wedi agor a thrawsnewid masnachu rhyngwladol, a dyna pam y mae ffigurau Cymorth Cristnogol a ddyfynnodd Steffan yn gynharach am ostyngiadau enfawr yn lefelau tlodi’r byd—. Pan edrychwch ar dlodi absoliwt, mae’r gostyngiadau hyd yn oed yn fwy rhyfeddol. Gwn fod UKIP, a bod yn deg, yn gyson iawn ar hyn. Mae’n gas ganddynt beth sydd wedi digwydd i’r economi fyd-eang, yn ogystal, ond mae wedi rhyddhau cannoedd o filiynau o bobl, gan fod gennym system fasnachu fwy effeithiol erbyn hyn, yn rhyngwladol. Felly, masnach a chymorth—dyna sy’n arwain at gymdeithas ryngwladol gyfiawn.

Rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn gyfrifol am waith addysg UNICEF yng Nghymru yn y 1990au cynnar, ac yn rhan o hynny, ymwelais â rhai o’r prosiectau. Rwy’n cofio’r cymorth technegol a welais ym Mrasil a gâi ei roi i blant y stryd, yn enwedig yn Fortaleza, un o’r dinasoedd tlotaf ym Mrasil bryd hynny, fel yn awr—yn agos iawn at y cyhydedd. Gwelais brosiect plant y stryd yno lle câi’r plant eu helpu gan UNICEF i weithredu trefniant byw cymunedol, ac yna byddai’r plant yn mynd allan ac yn perfformio syrcas stryd. Mae Fortaleza yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid o Ogledd America, ac roedd y plant hyn yn ennill bywoliaeth weddus. Nawr, pe na baent yn ennill bywoliaeth weddus a chyfreithiol, roeddent yn agored i gael eu llofruddio gan gangiau vigilante, ac roedd yn bwysig iawn fod plant yn eu harddegau, yn arbennig, yn gallu dangos i gymdeithas eu bod mewn cyflogaeth gynhyrchiol. Oherwydd, efallai y gallwch roi arian—ac mae Neil wedi sôn am roi eich arian eich hun ac rwy’n siŵr fod llawer o bobl yn y Siambr hon yn gwneud hynny ac yn cadw hynny’n beth preifat—i blentyn y stryd sy’n bump neu’n chwech oed ar gornel stryd, ond gadewch i mi ddweud wrthych, rydych yn llai tebygol o roi’r un cymorth i unigolyn ifanc 14 neu 15 oed ar y gornel, ond sydd yr un mor dlawd o bosibl. Felly, roedd y cymorth technegol a welais yn gwbl ryfeddol.

Hefyd gwelais brosiect yng Ngwlad Thai a oedd yn helpu gweithwyr rhyw, a gwnaeth y rhyddid roedd hynny’n ei roi iddynt argraff fawr arnaf. Roedd cynhadledd ynghlwm wrth y gwaith a welsom yno a chefais fag gwaith ar gyfer y gynhadledd gyda phatrwm tecstilau hardd ar ei flaen, a defnyddiais y bag gwaith am nifer o flynyddoedd pan gefais fy ethol gyntaf i’r Cynulliad. Roedd yn arbennig iawn ac roeddwn yn falch iawn o ddweud wrth bobl pan fyddent yn gofyn, ‘O ble y cawsoch chi’r bag?’ Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn inni osod hyn mewn cyd-destun.

Rwy’n falch fod Llywodraeth Prydain gyda chefnogaeth drawsbleidiol, os nad cefnogaeth pob plaid, wedi gweithredu’r targed o 0.7 y cant. Mae’n rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono ac eisiau ei weld. Rydym yn arwain ac mae gwledydd eraill yn dilyn ein hesiampl, er yn rhy araf.

Yn ystod y pum neu chwe blynedd diwethaf, mae cyllideb yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol wedi arwain at roi gwasanaethau ariannol i 69.5 miliwn o bobl i’w helpu i weithio eu ffordd allan o dlodi. Dyna bethau fel microfenthyciadau i fenywod ym Mangladesh. Wyddoch chi, nid yw’r cyfan yn ymwneud â rhoi cymorth ar unwaith; mae’n ymwneud â buddsoddi yn y dyfodol: mae 11.3 miliwn o blant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd iau, a bron eu hanner yn ferched, oherwydd ein cyllideb; rydym wedi helpu i gynnal bron i 400,000 o athrawon; ers 2010, mae dros 67 miliwn o blant wedi cael eu himiwneiddio oherwydd arian ein pobl, os caf ei roi felly, drwy Gavi, y Gynghrair Frechu. Ni fyddai llawer o’r plant hyn yn fyw heddiw pe na bai’r cymorth wedi’i roi. Rydym yn falch o’r hyn a gyflawnwyd gennym ac rydym am fynd ymhellach.

Rwy’n meddwl bod Julie Morgan wedi cyfeirio at y gweithdrefnau archwilio. Maent hyd yn oed yn fwy cadarn nag y cafodd Julie amser i nodi, mewn gwirionedd. Yn yr archwiliad diwethaf, adroddwyd bod 0.3 y cant o wariant yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol wedi’i golli drwy dwyll, a chafodd dwy ran o dair ohono ei adfer wedyn. Felly, collwyd 0.01 y cant o’r gyllideb, ac rwy’n meddwl mai dyna sy’n rhaid i ni ei gofio—fod gennym weithdrefnau trwyadl.

A gaf fi gloi, Dirprwy Lywydd? Mae Prydain wedi bod yn rhan o’r ateb yn y maes hwn. Gadewch i ni beidio â mynd yn rhan o’r broblem yn awr. Gwrthodwch y cynnig tila hwn.

Yn 1964, etholwyd Llywodraeth Lafur o dan Harold Wilson. Roedd yn Llywodraeth a wnaeth newidiadau adrannol ar unwaith a sefydlwyd pum gweinyddiaeth Lywodraethol newydd. Un ohonynt, yn ddiddorol, oedd y Swyddfa Gymreig. Un arall, sy’n fwy perthnasol i ddadl heddiw, oedd y Weinyddiaeth Datblygu Tramor, dan arweiniad Barbara Castle. Efallai mai dyna oedd cychwyn y diwydiant cymorth tramor. Nawr, yn 2015, dechreuodd papur newydd arall—nid y ‘Daily Mail’; efallai na fydd y bobl ar y dde i mi yn ei ystyried yn ddim gwell, ond ‘The Times’ oedd y papur—gyfres o erthyglau ymchwiliol ar bwnc cymorth tramor. Mae’r papur newydd hwnnw wedi parhau i fonitro’r sector hwn yn agos ers hynny. Pan ddechreuodd ‘The Times’ archwilio’r mater hwn, derbyniodd y papur newydd lythyr diddorol gan Gordon Bridger. Ef oedd cyfarwyddwr economeg y Weinyddiaeth Datblygu Tramor pan gafodd ei sefydlu yn 1964. Tynnodd Gordon Bridger sylw at y ffaith fod gwahanol fathau o gymorth tramor, ac un ohonynt yw cymorth cyllidebol. Cymorth a roddir yn uniongyrchol yw hwn gan un Llywodraeth i Lywodraeth arall, a dyma oedd gan Gordon Bridger i’w ddweud am gymorth cyllidebol—gyda llaw, roedd yn cyfeirio at erthygl a oedd wedi ymddangos yn ddiweddar mewn papur newydd lle honnwyd bod cymorth Prydeinig yn cyllido llu o weision sifil yn Ghana nad oeddent yn bodoli mewn gwirionedd.

Nawr, dywedodd Gordon Bridger hyn: ‘Nid yw’r camddefnydd enfawr o gymorth cyllidebol Ewropeaidd a Phrydeinig yn Ghana yr adroddwyd yn ei gylch yn ddiweddar yn syndod, gan fod bron yr holl gymorth ariannol o’r DU bellach ar y ffurf honno. Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn awr yn rhoi bron i £300 miliwn y flwyddyn i Ethiopia, a miliynau lawer i Nigeria, Pacistan, Kenya a nifer o wledydd eraill. Mae archwilio cymorth cyllidebol yn amhosibl, yn wir, yn beryglus. Ceisiwyd llofruddio cyn-gyfarwyddwr cyllidebol Malawi y llynedd ar ôl iddo gynllunio i ddatgelu llygredd y Llywodraeth. Cafwyd sgandalau anferth ynglŷn â’r ffordd y mae Llywodraethau Uganda, Mozambique, Kenya, Rwanda a Nepal wedi camddefnyddio’r math hwn o gymorth, ac os oes unrhyw un yn meddwl bod y £268 miliwn sy’n mynd i Bacistan yn cyrraedd pobl dlawd, rhaid eu bod yn naïf iawn. Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn wynebu achos llys yn sgil honiadau ynglŷn â chamddefnyddio cymorth yn Ethiopia, ac fe’i condemniwyd gan Amnest Rhyngwladol. Cawsom ein cyfarwyddo gan Barbara Castle, a gafodd ei rhoi yng ngofal y Weinyddiaeth Datblygu Tramor newydd yn 1964, a lle roeddwn yn gweithio fel cyfarwyddwr economeg, i ddiddymu cymorth cyllidebol yn raddol am ei fod yn tanseilio ymdrechion lleol, yn cael ei ddargyfeirio ac yn amhosibl ei archwilio—[ Torri ar draws.] Yn sicr.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar gymorth uniongyrchol i Lywodraethau. Nid yw’n digwydd rhagor. Rydym yn rhoi cymorth i bartneriaid rhyngwladol fel UNICEF, i sefydliadau, i elusennau Prydeinig sy’n gweithio yno, ac i fentrau cydweithredol a’u tebyg cyrff cymunedol eraill yn y gwledydd hyn. Nid ydym yn rhoi arian i Lywodraethau tramor fel cymorth.

A ydych hefyd yn cytuno â’r gwariant ar ymgynghorwyr, fodd bynnag, sydd wedi dyblu i dros £1 biliwn y flwyddyn ers 2012—[Torri ar draws]—arbenigwyr ar fuddion, iawn. O fudd i lawer o gwmnïau sy’n arbenigo mewn cyfrifyddiaeth, fel PricewaterhouseCoopers, nad ydynt yn arbennig o enwog am eu harferion moesegol, ond os ydych am barhau i roi’r—[Torri ar draws].

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn y 10 mlynedd y bûm yn gweithio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd o gwmpas Cynulliad hwn, nid wyf yn credu fy mod wedi gweld cynnig sy’n hala ysgryd arnaf yn fwy na’r un ger ein bron heddiw. Nid wyf yn dweud nad yw diben neu’r swm o gymorth tramor yn bwnc ar gyfer dadl dda ac ystyrlon—mae’n amlwg ei fod. Ond ni allai’r ddeilen ffigys a wisgwyd gan Neil Hamilton i guddio ei wyleidd-dra ar dudalennau cylchgrawn ‘GQ’ guddio’r modd digywilydd y mae UKIP yn ceisio codi mater nad yw’n gysylltiedig â phwerau’r Cynulliad, mater sydd prin yn cyffwrdd o gwbl â’n rôl gynrychioliadol fel ACau, er mwyn bwydo cig coch asgell dde i’r ychydig gefnogwyr sydd ganddynt ar ôl.

Mae’r cynnig hwn yn gamarweiniol ac yn anghywir ac fe ddangosaf pam. Mae’n cyfeirio at darged mympwyol cynnyrch domestig gros o 0.7 y cant ar gyfer cymorth tramor. Nid oes dim yn fympwyol yn ei gylch, fel y mae David Melding newydd ei nodi—mae iddo hanes rhyngwladol hir ac wedi’i gyfrifo’n drylwyr. Yn wir, mae’n darged sy’n cael ei gydnabod i’r fath raddau fel bod Neil Hamilton wedi’i ethol ar sail ymrwymiad maniffesto i’r targed, gan fod maniffesto’r Ceidwadwyr yn 1997 yn dweud hyn:

Byddwn yn parhau i gynnal rhaglen gymorth ddwyochrog ac amlochrog sylweddol sy’n adlewyrchu’r dyhead i gyrraedd targed y Cenhedloedd Unedig o 0.7% o’r cynnyrch domestig gros ar gyfer cymorth fel amcan hirdymor.

Felly, fe safodd Neil Hamilton etholiad ar faniffesto o’r fath. Mae hyd yn oed—[Torri ar draws] Na, rydych wedi arllwys eich bustl. Rydych wedi cael eich cyfle i arllwys eich bustl yn y lle hwn. Mae hyd yn oed yn rhannol gyfrifol am y ffaith fod gennym y 0.7 y cant hwn, oherwydd wedi i fy hen gydweithiwr Martin Bell ei drechu yn Tatton, bu’n rhaid i Geidwadwyr Tatton ddod o hyd i groen glân, a’r croen glân y daethant o hyd iddo oedd rhyw George Osborne a aeth ati wedyn, pan oedd yn Ganghellor yn 2013, i gyflwyno’r union ymrwymiad hwn o 0.7 y cant, felly mae dwbl y bai ar Neil Hamilton am y sefyllfa rydym ynddi.

Mae rhan nesaf y cynnig yn cwyno am ddyled genedlaethol y DU o £1.6 triliwn. Wel, unwaith eto, pwy sy’n gyfrifol am ddyled y DU? Y cynllun economaidd hirdymor a gefnogir gan y Ceidwadwyr, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn anffodus, ond a gefnogir hefyd gan y Meistri Reckless a Carswell, a oedd bob amser yn pleidleisio’n gyson dros broses y gyllideb sydd wedi arwain at ein dyled genedlaethol o £1.6 triliwn. Rwyf wrth fy modd yn gweld Mark Reckless yn y lle hwn. Roeddwn yn meddwl nad oedd strategaeth long danfor y grŵp Ceidwadol yn mynd i’w adael i ddod i fyny i anadlu rhagor, ond mae wedi dod atom gyda—

Mark Reckless a gododd—

Nid wyf am ildio; mae gennyf ormod i’w ddweud, mae’n ddrwg gennyf. Rwy’n falch iawn o’i weld dyna i gyd. Yna dywedir wrthym faint sy’n cael ei wastraffu neu ei ddargyfeirio drwy lygredd. Wel, os gallwch alw 0.01 y cant, fel y mae David Melding newydd ei nodi, yn wastraff, yna mae eich mathemateg yn rhy debyg i un Diane Abbott i mi, rhaid i mi ddweud. Ond mae’r mater llygredd hwn yn ddiddorol, onid yw? Beth yw’r mater llygredd hwn? Ai’r hyn sydd gan UKIP dan sylw yw HSBC yn talu bron i $2 biliwn i reoleiddwyr yn yr Unol Daleithiau mewn dirwyon o ganlyniad i wyngalchu arian cyffuriau, neu’r setliad o £30 miliwn a dalwyd gan BAE Systems i’r Swyddfa Twyll Difrifol, dros gytundeb awyrennau jet Al-Yamamah gyda Saudi Arabia? Nid wyf yn credu mai dyna sydd ganddynt dan sylw.

Gadewch i ni weld sut y treuliodd cynigydd y cynnig ei amser fel Aelod Seneddol. Bu’n gweithio i gwmni lobïo o’r enw Strategy Network International, a oedd â chysylltiadau â chwmnïau mwyngloddio yn Ne Affrica o dan drefn apartheid, cwmni a oedd yn ymgyrchu i godi sancsiynau ac a oedd yn talu i ASau Torïaidd i ymweld â De Affrica. Cymerodd yr ymchwiliad ‘arian am gwestiynau’ i ddatgelu nad oedd erioed wedi datgan yr ymgynghoriaeth hon i Dŷ’r Cyffredin. Fel AS—

Neil Hamilton a gododd—

Nac ydw, nid wyf yn ildio. Rydych wedi cael eich cyfle. Nac ydw. [Torri ar draws.] Ie, wel mae’r gwir yn yr ymchwiliad ‘arian am gwestiynau’, a gall pawb ei ddarllen. Fel AS, datgelais fod BAE Systems wedi talu miliynau o bunnoedd mewn comisiynau cudd i werthu awyrennau Hawk i Dde Affrica. Rwy’n credu bod y ddau ohonom wedi ymddangos ar dudalen flaen ‘The Guardian’ oherwydd ein hymchwiliadau fel Aelodau Seneddol, ond rwy’n gwybod fy mod yn falchach o’r hyn a wnes i na’r hyn a wnaeth ef; rwy’n credu fy mod wedi’i wneud am y rhesymau cywir. Rwyf hefyd yn meddwl fy mod yn sôn am y math o lygredd y dylem fod yn bryderus yn ei gylch heddiw, ac nid y dadleuon cyfeiliornus y mae’r Aelod wedi’u cyflwyno.

Nawr, ar ôl i etholwyr Tatton ddod i’r un casgliad ag y daw pleidleiswyr Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr iddo’n fuan, siaradodd yr Aelod yn y Springbok Club a gefnogai apartheid yn 1998. Mae nodiadau swyddogol y cyfarfod hwnnw, a ysgrifennwyd gan gyn-aelod o’r National Front, yn datgan hyn:

Rhoddodd Mr Hamilton araith gyfareddol, lle’r oedd yn cofio’i atgofion melys o Dde Affrica yn ystod oes y rheolaeth wâr. Hefyd mynegodd bleser mawr wrth weld gwir faner De Affrica yn cael ei harddangos yn falch... a mynegodd y gobaith y byddai un diwrnod i’w gweld yn hedfan yn Cape Town a Pretoria unwaith eto.

Baner cyfnod apartheid oedd honno, wrth gwrs. Nawr, rydym hefyd yn gwybod bod Mr Hamilton yn weithgar gyda’r Ceidwadwyr Ifanc pan oeddent wrthi’n llawen yn gwerthu ac yn gwisgo crysau-T ‘Hang Nelson Mandela’. Yr unig gasgliad rhesymol y gallwn ddod iddo—[Torri ar draws.] Yr unig gasgliad rhesymol y gallwn ddod iddo yw bod ystumio ffugdduwiol y cynnig hwn, ei esgus ei fod yn pryderu am faich cymorth ar bobl sy’n gweithio yng Nghymru, mai’r hyn y dylai ei ddweud mewn gwirionedd yw: ‘mae bywydau pobl dduon yn llai pwysig’. Yr hyn y mae UKIP o ddifrif yn hiraethu amdano yw’r adeg pan oedd brodorion yn gwneud yr hyn y dywedid wrthynt am ei wneud, a pheidio â bod yn hyf.

Wel, os oes unrhyw fustl yn y Siambr hon, mae newydd ddod gan y gŵr sydd newydd eistedd yn ei ymosodiadau ofnadwy o bersonol ar ACau eraill yn y Siambr hon. Hollol warthus. [Torri ar draws.] Hollol warthus.

O’r £250 miliwn mewn cymorth a anfonwyd gennym i Ethiopia y llynedd, cyfran fach iawn yn unig a aeth tuag at greu cyfoeth. Mewn geiriau eraill, nid ydym yn helpu’r gwledydd hyn i ddod yn hunangynhaliol, ond yn hytrach yn eu clymu at ddibyniaeth gynyddol a diddiwedd ar gymorth tramor. Mae ein hymdrechion mawr i ddarparu gwell iechyd, addysg a glanweithdra wedi achosi ffrwydrad poblogaeth, gan ddyblu yn Ethiopia o 74 miliwn yn 1990, i 134 miliwn heddiw. Y drasiedi yw: ychydig iawn o ansawdd bywyd fydd gan y rhan fwyaf ohonynt.

Rwy’n falch eich bod wedi llwyddo i gymryd ymyriad; ni allwn ddioddef gwrando arnoch lawer yn fwy. Ond hoffwn eich gwahodd i gyfarfod â’r bydwragedd o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n gwirfoddoli yn Lesotho. Hoffwn wahodd yr holl aelodau UKIP sy’n siarad yma heddiw hefyd i ymweld â Cyswllt Carbon Cymunedol Llanbedr Pont Steffan, sy’n helpu i blannu 0.5 miliwn o goed yn Kenya, neu’r Tools for Self Reliance yng Nghrucywel, sydd wedi gweithio yn Nhanzania ers 20 mlynedd. Byddai’n fwy buddiol i chi, fel Aelodau o’r Cynulliad hwn yng Nghymru, pe baech yn siarad â’r bobl o Gymru a gweld realiti’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd yn lle’r hyn rydych ar fin—

Diolch. Ie, ie, rydych yn sôn am ganran fechan iawn o’r boblogaeth. Dyna i gyd rydych chi’n sôn amdano—canran fach iawn o’r bobl hynny—[Torri ar draws.] Maent bron yn sicr yn byw mewn tlodi truenus, heb unrhyw obaith o waith ystyrlon. Nid yw’n ddigon i ni eu hachub rhag newyn; mae’n rhaid i ni roi gobaith a phosibilrwydd o wella eu bywydau mewn ffordd gynaliadwy iddynt. Rhaid targedu unrhyw gymorth a roddwn i’w helpu i greu cyfoeth. Po fwyaf cyfoethog y daw cenedl, y lleiaf yw nifer y plant sy’n cael eu geni i bob teulu, gan roi llawer mwy o obaith i bob plentyn o gael bywyd hapus a llawn. Nid yw dull gwasgarog presennol Prydain o weithredu cymorth tramor yn helpu i ddileu tlodi, mae’n ei barhau. Trwy ddefnyddio dull mwy diffiniedig a phenodol o roi cymorth, byddwn yn gallu darparu cymorth mawr ei angen a lleihau’r gyllideb cymorth tramor. Dylem anelu i leihau’r angen am gymorth—

[Yn parhau.]—nid ehangu ei gyllideb yn barhaus. Dim diolch.

Rwy’n ei hystyried yn hollol warthus fod llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon yn hapus iawn i weld y dosbarth gweithiol yn y wlad hon yn cael arian wedi’i ddwyn o’u pocedi er mwyn cadw unbeniaid mewn grym—[Torri ar draws.]—pobl fel Mugabe ac ati, eich bod yn hapus fod arian enfawr yn cael ei wastraffu yn syml er mwyn i chi allu boddio’ch cydwybod a dweud, ‘Rydym yn rhoi 0.07 y cant o’n cynnyrch domestig gros’. [Torri ar draws.] Boddio eich cydwybod a wnewch. [Torri ar draws.] Nid yw’n cyflawni dim mewn gwirionedd o ran yr hyn sydd ei angen. Diolch.

Mae gen i ddau siaradwr arall. [Torri ar draws.] Mae gen i ddau siaradwr arall sy’n dymuno siarad yn y ddadl hon. Os byddant yn fy sicrhau na fyddant yn cymryd y pum munud llawn, gall y ddau ohonynt siarad. Dau o fy nghyd-Aelodau ar y meinciau Llafur ydynt, felly rwy’n erfyn arnoch, os wyf yn eich galw, i beidio â chymryd y pum munud llawn, ac yna gallwn eich cynnwys i gyd. John Griffiths.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth wraidd y ddadl hon heddiw, rwy’n credu, mae’r ffaith fod pob un ohonom yma’n byw mewn rhan ddiogel, sefydlog a ffyniannus o’r byd, ond fel y gŵyr pawb ohonom, ac fel y clywsom eisoes, ac fel y mae’r deunydd briffio gan Oxfam Cymru, Achub y Plant a’r Groes Goch a ddarparwyd ar gyfer y ddadl hon yn ei ddangos gyda’u hystadegau trasig, nid yw llawer iawn o bobl yn y byd yn y sefyllfa ffodus honno ac maent yn byw gyda marwolaeth fel realiti dyddiol—marwolaeth a dioddefaint diangen, glanweithdra gwael, safonau iechyd gwael, diffyg cyfleoedd addysgol, a diffyg cyfleoedd economaidd. A hefyd, wrth gwrs, llawer o ryfel a chythrwfl. Felly, rydym yn ffodus iawn, ac mae hynny’n rhoi cyfrifoldeb moesol arnom i helpu pobl mewn angen dybryd o’r fath.

Rwy’n falch iawn, mewn gwirionedd, Dirprwy Lywydd, fod Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen â’r rhaglen o blaid Affrica, gan gydnabod ein cyfrifoldeb moesol. Roeddwn yn ffodus iawn i fynd i Mbale yn Uganda a gweld drosof fy hun y plant, y gwragedd, a’r teuluoedd sydd wedi cael budd o’r gwaith—gwaith iechyd, gwaith addysgol, datblygu economaidd a gwaith amgylcheddol—y mae pobl Cymru ei wneud mewn partneriaeth â phobl Mbale, ac mae’n hynod o galonogol, pan fyddwch yn cerdded o gwmpas y cartrefi plant amddifad, a gweld drosoch eich hun pa mor bwysig ydyw i bobl, ac rwy’n cymeradwyo’r gwaith hwnnw.

Rwyf hefyd yn canmol Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn fawr iawn am sefydlu’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, am dreblu’r gyllideb cymorth, ac rwy’n cymeradwyo Llywodraeth Geidwadol y DU yn fawr iawn am gyrraedd y targed o 0.7 y cant. Mae hynny’n gwbl wych i’w weld, pan edrychwch ar yr angen o gwmpas y byd. O ran dadleoli a symudiadau torfol pobl ar draws y byd yn sgil dadleoli dros 60 miliwn o bobl, gyda’r rhyfel a’r helbul sy’n ei achosi, a mudo economaidd o ganlyniad i dlodi, gwyddom fod hynny nid yn unig yn creu problemau amlwg iawn i’r gwledydd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ond i’r byd i gyd, gan fod symudiadau torfol pobl yn creu problemau ac anawsterau i bawb. Yn amlwg, fel y dywedwyd eisoes, os ydym yn datblygu economïau’r gwledydd sy’n dlawd ar hyn o bryd, yna maent yn bartneriaid masnachu cryf yn y dyfodol. Felly, mae yna fudd uniongyrchol i ni yn y byd datblygedig fel y’i gelwir os ydym yn helpu’r byd sy’n datblygu fel y’i gelwir.

Felly, rwy’n meddwl mai dyna’r cefndir go iawn i’r ddadl hon heddiw, Dirprwy Lywydd, lle cafwyd rhai datganiadau cryf iawn. Rwy’n ymuno â’r bobl sy’n ei hystyried yn gwbl warthus fod UKIP wedi cyflwyno’r cynnig hwn i’r Cynulliad heddiw. Rwy’n credu ei fod yn dangos gwir liwiau UKIP, a bydd yn ddiddorol iawn gweld beth y mae pobl y tu allan i’r Siambr a sefydliadau sy’n weithredol ym maes datblygu rhyngwladol yn ei wneud o’r ddadl hon a’r cyfraniadau iddi.

A gaf fi ddweud wrth gloi, Dirprwy Lywydd, fy mod yn gwrthwynebu’r cynnig hwn gan UKIP yn llwyr ac yn sylfaenol a’r gwerthoedd, yr ymagweddau a’r wleidyddiaeth sy’n sail ôl iddo? Rwy’n credu, fel y mwyafrif llethol yma heddiw rwy’n tybio, mewn rhyngwladoliaeth, mewn cydraddoldeb a thegwch, yng Nghymru, y DU a’r byd. Diolch byth fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydnabod eu rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn ddigon egwyddorol a dewr i’w rhoi ar waith er mwyn achub bywydau a gwella bywyd yn y lleoedd hynny, y rhannau hynny o’r byd, sy’n wynebu’r angen mwyaf.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n addo peidio â chymryd fy mhum munud llawn.

Rwyf am ddechrau’n gyntaf oll drwy ddweud fy mod wedi bod yn y Siambr hon ers 10 mlynedd, ac nid wyf erioed wedi clywed dim sy’n debyg i’r hyn a glywais yn cael ei arddel yn y Siambr hon y prynhawn yma oddi ar feinciau UKIP. Mewn gwirionedd byddai’n fuddiol iawn iddynt, rwy’n meddwl, fynd i ymweld, gyda’i gilydd, y prosiect PEN Cymru sydd wedi rhoi llais i ffoaduriaid mewn digwyddiadau ar benrhyn Llŷn; Sector 39 o Bowys, sy’n rhannu eu harbenigedd mewn permaddiwylliant â phartneriaid yn Uganda a Kenya; Dolen Ffermio ym Mhowys; Marit Olsson a Get Set Cymru, y ddau ym Machynlleth—[Torri ar draws.]; rwyf wedi clywed digon gennych chi. A hefyd, yn fwy hanfodol a phwysig, dylai’r sawl a gynigiodd y cynnig ac a agorodd y ddadl hon fynd i Goleg Sir Gâr i gyfarfod â’r myfyrwyr o Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn ymwneud â phrosiect Care for Uganda, y newidiwyd eu bywydau—ac rwyf wedi siarad, gyda llaw, â’r bobl ifanc y newidiwyd eu bywydau, a helpodd i adeiladu ysbyty yno, ac a ddychwelodd yn well pobl.

Pe bawn wedi cael y symudiad hwn y byddent yn ei hoffi heddiw yn enw UKIP i droi cefn ar bawb, nid yn unig byddai’r bobl sydd wir angen cymorth yn cael eu hamddifadu, ond byddai’r bobl sydd mewn gwirionedd yn elwa o’i ddarparu hefyd yn cael eu hamddifadu o gyfleoedd. Felly, rwy’n awgrymu wrth aelodau UKIP y byddai’n wers dda iawn iddynt yn wir pe baent yn rhoi unrhyw amser o gwbl i addysgu eu hunain am yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd i helpu a chefnogi pobl, yn hytrach na dod yma a dyfynnu o bethau fel y ‘Daily Mail’ neu ‘The Times’ a dewis darnau bach o wybodaeth ddethol mewn gwirionedd. Gwn eu bod yn galw eu hunain yn gŵn gwarchod Brexit, ac rwy’n gwybod eu bod yn chwilio am ffordd ymlaen, ond gadewch i mi ddweud hyn wrthych, drwy ymddwyn yma y prynhawn yma fel cŵn cynddeiriog, nid yw’n mynd i helpu eich achos.

Dirprwy Lywydd, rwy’n falch o allu ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma. Mae’r Aelodau wedi dweud hyn ac rwy’n credu bod y ddadl hon wedi amlygu rhaniad gwleidyddol llydan iawn yn y Siambr hon, un nas gwelais o’r blaen dros 18 mlynedd y Cynulliad hwn. Mae’n rhaniad, ac mae’n rhaniad yr ydym wedi dadlau yn ei gylch y prynhawn yma; mae’n rhaniad ac yn wahaniaeth sylfaenol yn y gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n sail i’n hymrwymiadau gwleidyddol, ein blaenoriaethau a’n cymhellion.

Ac wrth gwrs, wrth ymateb i’r ddadl hon, mae’n rhaid inni edrych ar beth yw ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau gwleidyddol a sut rydym yn ymdrin â hynny, yn enwedig fel Llywodraeth Lafur Cymru sydd hefyd yn gorfod rheoli’r heriau sydd gennym o ran caledi parhaus, gan edrych ar ffyrdd y gallwn wneud cynnydd o ran buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, tai ac addysg, gan wneud dewisiadau anodd, ac edrych ar sut y gallwn wasanaethu pobl Cymru, ond rydym hefyd yn credu’n glir iawn mewn chwarae ein rhan, chwarae rhan sy’n rhaid i ni ei chwarae fel dinasyddion byd-eang a chynorthwyo’r byd ehangach.

Rydym yn cefnogi ein gwariant ar gymorth oherwydd mai dyna’r peth iawn i’w wneud yn foesol, a’r peth iawn i’w wneud os ydym eisiau byd mwy diogel lle mae pawb yn cael cyfle i ffynnu. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn cynnig UKIP ac yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, sy’n cydnabod pwysigrwydd cymorth rhyngwladol a phwysigrwydd rhaglen Cymru o Blaid Affrica, y soniwyd amdani, ac a nododd Steffan Lewis heddiw. Mae’n rhaid i ni gydnabod, wrth gwrs, nad yw cymorth rhyngwladol wedi’i ddatganoli i Gymru—cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw—ond mae’r ddadl hon yn rhoi cyfle inni adrodd ar raglen lwyddiannus Cymru o Blaid Affrica ac edrych ar ffyrdd y gallwn gyflawni’r rhwymedigaethau a ddisgrifiwyd gan John Griffiths fel rhai sy’n amlwg iawn ar sail ryngwladol.

A gaf fi ddweud y bydd y grŵp Ceidwadol yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru hefyd oherwydd ein bod yn credu bod angen i ni gael mynegiant unedig, ar ran y pleidiau eraill o leiaf? Rydym yn dehongli’r alwad am bolisi rhyngwladol cynhwysfawr fel un sy’n gweithio drwy sefydliadau Prydeinig megis y swyddfa dramor a’r Cyngor Prydeinig, rhag ofn y bydd pobl yn meddwl ein bod wedi mynd i ganlyn y weledigaeth fwy, o bosibl, a allai fod gan Blaid Cymru ynghylch annibyniaeth.

Diolch i chi, David Melding, am dynnu sylw at adroddiad Brandt yn eich cyfraniad, a oedd yn argymell y targed 0.7 y cant. Diolch i chi unwaith eto am ein hatgoffa ynglŷn â’r drefn archwilio a monitro gadarn a thrylwyr, fod 0.01 y cant yn bitw o ran y ffyrdd rydym ni, a Llywodraeth y DU yn wir, yn cyflawni ei rhaglen cymorth rhyngwladol.

Rwyf am nodi ychydig o ffeithiau eto am gymorth rhyngwladol. Mae’r DU yn un o wyth o wledydd yn y byd sy’n cyrraedd y targed gwariant swyddogol ar gyfer cymorth datblygu o 0.7 y cant o incwm gwladol gros. Mae llai na 2c o bob £1 a werir gan y Llywodraeth yn mynd ar gymorth tramor. Affrica sy’n derbyn y gyfran fwyaf o gymorth y DU. Cymorth dyngarol yw’r maes unigol mwyaf o wariant, ac mae’n un rhan o chwech o gyfanswm cymorth dwyochrog. Cafodd cyfran sylweddol o gymorth dyngarol y DU ei wario yn Sierra Leone i helpu gyda’r argyfwng Ebola, yn ogystal ag yn Syria, Yemen a De Swdan.

Mae swyddogaeth economaidd a diplomyddol bwysig i wariant cymorth y DU, swyddogaeth a ddaw’n bwysicach fyth ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Trwy ddarparu cymorth i wledydd i gefnogi eu datblygiad a’u twf parhaus, mae’n helpu i gynyddu cyfoeth eu poblogaeth. Mae gan gymorth rôl i’w chwarae’n sicrhau ac yn sefydlu diogelwch rhyngwladol. Fel y dywedodd Julie Morgan, mae ein plaid, y Blaid Lafur, yn cefnogi’r targed o 0.7. Byddai Llywodraeth Lafur newydd yn parhau i wario 0.7 y cant o incwm gwladol gros ar gymorth datblygu tramor. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y ffaith fod David Cameron wedi cyflwyno hyn fel blaenoriaeth a pholisi Llywodraeth clir. Ac er mai cyfrifoldeb yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, wrth gwrs, yw datblygu rhyngwladol, mae galwad wedi bod—gwnaeth Steffan Lewis y pwynt hwn—am ymateb Cymreig penodol i ddatblygu rhyngwladol.

Ers dros ddegawd bellach, rydym wedi cael perthynas gref a dwyochrog gyda gwledydd ledled Affrica is-Sahara. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog cannoedd a miloedd o bobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau a phrosiectau drwy ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rwy’n datgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr elusen y Fro o Blaid Affrica, sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Uganda NGO, gan ysbrydoli a grymuso pobl a sefydliadau yn ardal Tororo gyda phobl a phartneriaid ym Mro Morgannwg. Mae rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn arbennig iawn, gydag egwyddorion partneriaeth yn sail i’r gwaith sy’n seiliedig ar gyd-barch a lles cyffredin. Mae pob prosiect unigol a gefnogir gan y rhaglen wedi dod â llawn cymaint o fudd i Gymru ag i’w bartner yn Affrica. Mae hynny’n digwydd drwy gysylltiadau iechyd a chymunedol; grwpiau masnach deg; diaspora; drwy gyfleoedd datblygiad proffesiynol; gan wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl yng Nghymru ac Affrica. Nid oes amheuaeth fod Cymru, fel gwlad, yn llawer gwell ei byd o ganlyniad i’r rhaglen hon mewn cymaint o ffyrdd, ac mae’r llwyddiannau wedi mwy na gwneud iawn am ei chyllideb gymedrol ac rydym yn haeddiannol falch o’i llwyddiant. Gadewch i ni edrych ar rai o’r cyflawniadau hynny: 500 o brosiectau Cymreig unigryw ar draws 25 o wledydd Affrica; yn 2015 yn unig, elwodd 80,000 o bobl yng Nghymru a 260,000 o bobl yn Affrica ar ein cynllun grantiau bach. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru o leiaf un cyswllt gweithredol gydag ysbyty yn Affrica. Rydym wedi plannu’r nifer syfrdanol o 5.5 miliwn o goed mewn ardal lle ceir datgoedwigo uchel yn Mbale, man yr ymwelodd John ag ef yn Uganda, fel rhan o’r prosiect 10 miliwn o goed. Mae hyn yn helpu i wella bywydau mwy na 544,000 o ffermwyr Uganda, gan wrthbwyso effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd. Rydym yn cefnogi mwy na 160 o leoliadau drwy ein rhaglen cyfleoedd dysgu rhyngwladol, ac yn rhannu mwy na 47,000 o oriau o arbenigedd gyda phartneriaid yn Affrica.

Felly, Dirprwy Lywydd, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir ein bod am fod yn genedl sy’n edrych tuag allan, yn agored i syniadau da, ac yn ymwneud â gweddill y byd. Rwy’n credu mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau hefyd: gofal a thosturi tuag at eu cymdogion yma ac ar draws y byd. Rydym wedi cael llawer o sylwadau’n nodi pryder a thystiolaeth ynglŷn â pha mor bwysig yw cymorth rhyngwladol pwysig yma yng Nghymru ac i’r byd. Gan y Groes Goch Brydeinig, Achub y Plant ac Oxfam, rydych i gyd wedi cael eu sylwadau yn eu tystiolaeth heddiw. Cawsom ein hatgoffa’n briodol gan Carol Wardman, o’r Eglwys yng Nghymru, fod dameg y Samariad da, a roddir mewn ymateb i’r union gwestiwn, ‘Pwy yw fy nghymydog?’, yn dangos yn benodol mai ein cymdogion yw’r rhai sydd â’r angen mwyaf, yn enwedig pan nad ydynt yn perthyn i’n llwyth, ein cenedl na’n crefydd ni ein hunain.

Felly, siaradais ar ddechrau fy ymateb ynglŷn â’r rhaniad yma heddiw: rhaniad y mae UKIP wedi’i ddwyn i’r lle hwn. Cyflwynodd UKIP y cynnig hwn i hyrwyddo addewid etholiad culfrydig ei naws, ond yn ffodus, mae cefnogaeth i UKIP i’w weld yn cilio. Dyna pam y byddwn yn parhau i chwarae ein rhan fel dinasyddion byd-eang, yn wlad sy’n edrych tuag allan, yn barod i ffurfio cysylltiadau newydd, ac i estyn llaw i gynorthwyo’r rhai sydd angen cymorth, ac ailddatgan ein diben gwleidyddol a moesol yma heddiw. Felly, gadewch i ni wrthwynebu’r ‘cynnig tila hwn’, fel y dywedodd David Melding, cynnig y mae Simon Thomas yn dweud ei fod yn ‘hala ysgryd arnom.’

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n ymddangos ein bod wedi taro targed yma, yn ôl adwaith yr Aelodau eraill. Rydym wedi torri ar draws y consensws clyd a oedd yn bodoli cyn i ni gyrraedd. Dyna yw diben Cynulliad democrataidd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth: Steffan Lewis, Julie Morgan, David Melding, Caroline Jones, Gareth Bennett, David Rowlands, John Griffiths a Joyce Watson. Nid wyf yn diolch, wrth gwrs, i Simon Thomas, am wneud ei araith ffiaidd, ddi-chwaeth, eithafol, sarhaus yn bersonol a chamarweiniol, a oedd yn carthu o ddyfnderoedd y rhyngrwyd rai o’r celwyddau a’r enllibion a ddywedwyd amdanaf yn flaenorol gan ei gydwleidyddion, yn ddiau. Ond nid wyf yn bwriadu rhoi bysedd fy nhraed ym mhydew ei araith. Gadawaf iddo ymdrybaeddu yn ei fudreddi ei hun yn eithaf hapus.

Ond er mwyn ymateb i weddill y ddadl, fe ddywedaf nad wyf yn credu y gallai’r Aelodau anrhydeddus fod wedi gwrando ar y ffordd yr agorais fy araith, neu fod wedi darllen y cynnig. Oherwydd byddai’r enghreifftiau niferus o gymorth da a grybwyllwyd yn ystod y ddadl hon heddiw—ac yn sicr, cafodd rhai ohonynt eu crybwyll yn araith Caroline Jones—yn ennyn cefnogaeth pawb bron ac yn sicr, cânt eu cefnogi gan UKIP.

Dechreuais fy araith drwy ddweud mai 16 y cant yn unig o’r gyllideb cymorth sy’n mynd ar brosiectau o’r math hwnnw; mae 84 y cant yn mynd ar y math o gymorth sydd â nod gwleidyddol strategol hirdymor o’r math y soniais amdano, ym maes newid yn yr hinsawdd ac yn y blaen. Y math hwn o gymorth Llywodraeth i Lywodraeth neu gymorth Llywodraeth drwy asiantaeth ryngwladol, fel y byddai David Melding wedi’i roi y dylid ei gwestiynu. Nawr, mae’r ffigur o 0.7 y cant o gynnyrch domestig gros yn un mympwyol; nid oes iddo unrhyw gyfiawnhad gwrthrychol o gwbl. Ni all fod; mae’n ffigur goddrychol—gallai fod yn 0.6, gallai fod yn 1.6, gallai fod yn 10.6. Ac felly mae’r cyfle i nodi rhinweddau—a fachwyd gan lawer o’r Aelodau o gwmpas y Siambr heddiw i hysbysebu’r hyn a welant fel eu rhagoriaeth foesol drosom ni ar y meinciau hyn—o ran sut i wario arian pobl eraill yn rhywbeth nad yw’n fater o egwyddor, ond yn hytrach yn fater o raddau. Oherwydd ni fydd yn dechrau bod yn foesol fanteisiol nes y bydd yn dechrau brifo, ac nid wyf yn gwybod a yw’r swm y mae Aelodau unigol yn ei gyfrannu o’u hadnoddau eu hunain bob blwyddyn i—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwneud pan—[Torri ar draws.] Ie, digon. Nid oes amheuaeth fod yr Ysgrifennydd Addysg, sy’n byw bywyd cyfforddus iawn yn wir—. Nid wyf yn credu bod beth bynnag y mae’n ei roi mewn elusen i achosion eraill yn effeithio llawer iawn ar ei ffordd o fyw. Nid wyf yn gwneud unrhyw—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwneud unrhyw sylw personol; rwy’n ymateb—[Torri ar draws.] Rwy’n ymateb—[Torri ar draws.] Rwy’n ymateb i’r awgrym—[Torri ar draws.] Rwy’n ymateb i’r ddadl ymhlyg yn hynny—

Tybed a wnewch chi gydnabod, mewn gwirionedd, mai rhai o’r bobl fwyaf hael yng Nghymru yw’r rhai o’r cefndiroedd mwyaf tlawd.

Y bobl hynny sy’n tueddu i roi fwyaf, am eu bod yn aml wedi cael help llaw eu hunain yn y gorffennol. A wnewch chi dderbyn hynny?

Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf. Wrth gwrs y gwnaf. Yr hyn a wnewch gyda’ch arian eich hun yw craidd y mater. A’r hyn rwy’n ei ddweud yw na all unrhyw gwestiwn o foesoldeb godi pan fydd y Llywodraeth yn cyfrannu arian trethdalwyr, oherwydd mae’n ymwneud â rhywun yn cyfrannu arian pobl eraill. Nid oes unrhyw elfen o foesoldeb yn rhan o hynny. Felly, pwynt y ddadl hon yw—[Torri ar draws.] Pwynt y ddadl hon—[Torri ar draws.] Y pwynt, os caf orffen fy sylwadau—. Pwynt y ddadl hon, yn syml, yw hysbysebu’r ffaith fod llawer iawn o’r arian sy’n cael ei wario ar gymorth tramor yn cael ei wario ar brosiectau amheus, prosiectau dadleuol, nad ydynt o reidrwydd yn arwain at leddfu tlodi, dileu clefydau, gwella cyfleusterau dŵr, ac yn y blaen—yr holl bethau y gall pawb ohonom eu cymeradwyo. Efallai nad yw anfon grwpiau dawns i Ethiopia yn rhywbeth y gallwn ei gymeradwyo—£5 miliwn neu beth bynnag oedd y ffigur a wariwyd ar hynny o’r gyllideb yn 2013. Yn fwriadol ni roddais enghreifftiau lliwgar o’r math hwnnw o archifau ‘The Daily Mail’—rhywbeth y cyfeiriais ato fel sylw eironig yn fy araith yn gynharach—oherwydd nad oeddwn am fychanu’r drafodaeth neu ganiatáu iddi gael ei bychanu.

Ond mae yna bwynt difrifol yn y fan hon. Gallwn ddewis gwario’r arian a gymerwn gan drethdalwyr mewn pob math o wahanol ffyrdd. Rydym yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd yn cael ei danariannu ym mhob man. Mae’n sicr o fod, o ystyried natur ei adeiladwaith a’r gofynion diddiwedd a osodir arno. Gallwn ddewis rhoi £10 biliwn arall i’r gyllideb cymorth a’i dynnu o gyllideb arall. Wel, os felly, beth yw’r gyllideb arall honno? A yw honno’n enghraifft o ragoriaeth foesol ar ran y rhai sydd ar yr ochr arall i’r ddadl heddiw? Wyddoch chi, mae yna ddigon o bethau: beth am gyngor y celfyddydau a phethau felly? Maent i gyd yn bethau rhinweddol ynddynt eu hunain, ond a yw’n well ariannu theatr neu gerddorfa symffoni na lleddfu tlodi go iawn a dileu clefydau? Mae’r rhain yn gwestiynau anodd ac yn ddewisiadau anodd sy’n rhaid i bawb ohonom eu gwneud.

Ond rwy’n credu bod arddel y safbwynt hunanfodlon, uwchraddol, nawddoglyd a glywsom y prynhawn yma yn diraddio’r ddadl. Yn fy marn i, rydych yn twyllo eich hunain yn meddwl mai cyfran fach iawn o bobl yn y wlad yn gyffredinol a fyddai’n cefnogi cynnig UKIP heddiw. Pe baech yn cynnal rhyw fath o refferendwm ar gymorth tramor byddai’n cynhyrchu canlyniad gwahanol iawn yn wir—[Torri ar draws.] Ac rwy’n gweld yn awr nad yw’r Aelodau lawn mor awyddus i ofyn i’r bobl beth yw eu barn am yr hyn a wnawn gyda’n harian yn y ffordd honno. Felly—

[Yn parhau.]—rwy’n meddwl fy mod wedi dod i ddiwedd fy araith am heddiw, ac rwy’n cymeradwyo ein cynnig i’r tŷ.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio.

10. 10. Cyfnod Pleidleisio

Iawn. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod a gynigiwyd gan Dawn Bowden, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 36, roedd 11 yn ymatal, ni chafwyd unrhyw bleidleisiau yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 36, Yn erbyn 0, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6301.

Symudwn yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiogelwch plant ar-lein. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly pleidleisiwn ar y gwelliannau.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 13, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6305.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 47, felly derbyniwyd y bleidlais.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6305.

Rydym yn galw yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 47, a derbyniwyd y gwelliant hwnnw. Nid oedd neb yn ymatal, neb yn erbyn, ar y naill na’r llall o’r gwelliannau.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6305.

Cynnig NDM6305 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.

2. Yn nodi pwysigrwydd llythrennedd ddigidol i Gymru, a bod annog defnydd diogel o’r rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg plentyn.

3. Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel ar-lein, a’u haddysgu o ran y camau y dylent eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb cynhwysfawr i bryderon a godwyd gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant), ynghylch cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi’u cael o ran diogelwch ar y rhyngrwyd.

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethu diogelwch ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy’n anelu at ddarparu cymunedau mwy diogel i blant ledled Cymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda’r cwmnïau perthnasol i fynd i’r afael â cham-drin ar-lein, gan nodi’n arbennig y cam-drin y mae menywod a grwpiau lleiafrifol yn ei ddioddef.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6305 fel y’i diwygiwyd: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6305 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn yn awr at y ddadl Plaid Cymru, ysgol feddygol ym Mangor, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 14, Yn erbyn 33, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6308.

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6308.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 46, neb yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 46, Yn erbyn 1, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6308.

Cynnig NDM6308 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw sy’n annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, i ddewis Cymru fel lle i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

2. Yn nodi:

a) y cafwyd cynnydd o 19 y cant yn y gyfradd ymgeisio ar gyfer hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i feddygon teulu yn 2017 a bod 84 y cant o’r llefydd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi’u llenwi ers i Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw gael ei lansio, o’i gymharu â 68 y cant ar y cam hwn yn 2016;

b) bod mwy na 1,000 yn rhagor o ymgynghorwyr cyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru yn 2016 nag oedd ym 1999; ac

c) y cafwyd cynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu oedd yn gweithio yng Nghymru rhwng 1999 a 2016.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau iechyd ac addysg ar ddwy ochr y ffin i lunio rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer gogledd Cymru.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 26, roedd 16 yn ymatal, 5 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6308 fel y’i diwygiwyd: O blaid 26, Yn erbyn 5, Ymatal 16.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6308 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar ddatblygiad economaidd yng Nghymoedd de Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 13, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6310.

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd gwelliant 1: O blaid 27, Yn erbyn 20, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM6310 fel y’i diwygiwyd:

1. Yn cydnabod effaith rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o gyni ar gymunedau cymoedd de Cymru a gweddill Cymru, ac yn galw ar lywodraeth nesaf San Steffan i fuddsoddi mewn twf economaidd mwy cytbwys ar draws y DU.

2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n genedl deg o ran swyddi lle y gall pawb fanteisio ar well swyddi sy’n nes at eu cartrefi.

3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru o ran:

a) cefnogi bron i 150,000 o swyddi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf. Roedd llawer o’r swyddi hyn yng nghymunedau’r cymoedd;

b) paratoi dull newydd o fynd i’r afael â datblygu economaidd er mwyn ysgogi twf rhanbarthol mwy cadarn;

c) cynllunio buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith yn y cymoedd ac ar draws Cymru mewn modd sy’n cefnogi economïau rhanbarthol mwy cydnerth ac sy’n atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol;

d) sefydlu Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru sy’n cydweithio â chymunedau lleol er mwyn denu swyddi newydd, codi lefelau sgiliau a gwella gwasanaethau lleol;

e) datblygu rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adre gan ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu swyddi o werth mewn ardaloedd ag anghenion economaidd, fel y cymoedd; ac

f) sefydlu Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i greu economi lle y gall mwy o bobl yng nghymunedau’r cymoedd ac ar draws Cymru fanteisio ar swyddi da ac incwm sefydlog.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6310 fel y’i diwygiwyd: O blaid 25, Yn erbyn 22, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6310 fel y diwygiwyd.

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl UKIP ar y gyllideb cymorth tramor. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 5, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 5, Yn erbyn 42, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6309.

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 42, neb yn ymatal, 5 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd gwelliant 1: O blaid 42, Yn erbyn 5, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1.

Cynnig NDM6309 fel y’i diwygiwyd:

1. Yn nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran lleddfu dioddefaint dynol.

2. Yn cefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol drwy fentrau fel Cymru o Blaid Affrica.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy’n cynnwys gwella gweithgareddau cymorth rhyngwladol y genedl.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6309 fel y’i diwygiwyd: O blaid 47, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6309 fel y diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:12.