Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ôl i Chwilio

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/04/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r cwestiwn cyntaf, David Melding. 

Cefnogi Pobl sydd mewn Dyled

1. Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol i gefnogi pobl sydd mewn dyled? OAQ51998

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae cyllid ychwanegol ar gyfer undebau credyd a'r gronfa cymorth dewisol wedi'i gynnwys yn y gyllideb llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer 2018-19. Pan fydd y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau yn cwblhau ei daith drwy Senedd y DU, rydym yn rhagweld y bydd cyfrifoldeb a chyllid cyngor ar ddyledion yn cael eu trosglwyddo i Gymru.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod o'r Cabinet am ei ateb? Efallai y gwyddoch ei bod yn Fis Ymwybyddiaeth Straen cenedlaethol y mis hwn, ac yn ôl y Debt Support Trust, o’r rheini sydd â dyledion difrifol, mae oddeutu hanner y bobl yn y sefyllfa honno yn dioddef o anawsterau iechyd meddwl ac yn ystyried hunanladdiad. Mae'n straen aruthrol ar bobl. Yn 2017, rhoddodd canolfannau cyngor ar bopeth gymorth i 28,500 o bobl â phroblemau dyled ledled Cymru, ac roedd llawer o'r problemau hynny yn ymwneud â chardiau a dyledion benthyciadau. Felly, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar faint y gallwn ei roi i'r maes cyngor a chymorth. Gwn fod £4.4 miliwn wedi’i nodi yn y Cynulliad diwethaf ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, a chan mai ni bellach fydd yn bennaf gyfrifol am gyngor ar ddyledion yn y dyfodol agos, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn flaenoriaeth uchel yn ystyriaethau'r Gweinidog.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Rydym yn darparu bron i £6 miliwn eleni i gefnogi sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, Shelter ac Age Cymru, i ddarparu cyngor ledled Cymru ar faterion lles cymdeithasol, gan gynnwys gwella incwm aelwydydd a rheoli dyledion aelwydydd. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr y llynedd, rhoddodd canolfannau cyngor ar bopeth gymorth i 43,000 o bobl yn y categori hwnnw, gan helpu i sicrhau incwm ychwanegol o £28 miliwn i'r teuluoedd hynny yma yng Nghymru.

Cytunaf yn llwyr â'r Aelod fod cysylltiad anochel rhwng dyled a lefelau uchel o straen ac anawsterau mewn rhannau eraill o fywydau pobl. Rwy’n cymryd rhan mewn trafodaethau â llywodraeth leol yng Nghymru ynglŷn â dyled y dreth gyngor. Mae dyled y dreth gyngor i fod i nodi a yw aelwydydd yn fregus mewn meysydd eraill. Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud hyn yn dda iawn. Nid oes gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru unrhyw bolisi o gwbl ar fregusrwydd, felly yn sicr, mae mwy y gellir ei wneud, nid yn unig o ran cyllid, ond o ran y ffordd y caiff y gwasanaethau hyn eu cyflawni ar lawr gwlad.

Un peth sy'n debygol o achosi i fwy o bobl fynd i ddyled ydy'r cyfnod y bydd rhaid iddyn nhw ddisgwyl ar gyfer eu taliad cyntaf o gredyd cynhwysol. Bydd derbyn taliadau bob mis ar ôl y taliad cyntaf yn creu problemau mawr, problemau dyled i lawer. Methu deall ydw i pam mae eich Llywodraeth chi mor gyndyn i gymryd rheolaeth o elfennau o weinyddu'r system budd-daliadau a'r fframwaith gyllidol a fyddai'n dilyn hynny. Byddai modd wedyn i Gymru symud i system o wneud taliadau credyd cynhwysol bob pythefnos, gan liniaru rhai o'r problemau dyled y mae awdurdodau lleol Cymru yn mynd i'w hwynebu yn sgil credyd cynhwysol. 

Wel, rwy'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno gyda hi am yr effaith mae'r problemau yn y byd budd-daliadau yn cael ar bobl sy'n dibynnu ar fudd-daliadau. Mae'r cwestiwn ai'r peth gorau i'w wneud yw trosglwyddo cyfrifoldebau am fudd-daliadau i Gymru yn rhywbeth bach yn fwy eang na'r cwestiwn sydd gyda ni heddiw, ac mae lot o bethau, yn fwy na'r pwynt roedd yr Aelod yn ei godi, i'w hystyried os ydym ni'n mynd i fynd lawr y llwybr yna. Ar hyn o bryd, nid wyf yn meddwl bod yr achos wedi cael ei wneud yn ddigon cryf i gytuno ar y llwybr yna. 

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar y ffaith mai un o'r prif resymau dros ddyledion cynyddol yn y DU yw effaith andwyol toriadau pellach Llywodraeth y DU i fudd-daliadau oedran gweithio o 1 Ebrill? Dyma’r set fwyaf ond un o doriadau i'r gyllideb fudd-daliadau yn y degawd diwethaf. Maent yn effeithio ar oddeutu 11 miliwn o deuluoedd, gyda thoriadau o £2.5 biliwn i fudd-daliadau oedran gweithio, a budd-daliadau oedran gweithio yn cael eu rhewi, ar gyfer y flwyddyn hon, ac elfen deuluol y cymorth ar gyfer hawliadau credyd treth a chredyd cynhwysol newydd gan deuluoedd â phlant wedi ei diddymu, gan gostio hyd at £545 i'r teuluoedd hynny. A wnaiff roi sylwadau pellach hefyd ar y rôl fuddiol y soniwyd amdani heddiw, ac y gallai'r gwasanaethau cynghori, yr undebau credyd, a mabwysiadu'r cyflog byw go iawn ei chwarae er mwyn cefnogi pobl mewn dyled, gyda chymorth Llywodraeth Cymru?

13:35

A gaf fi gytuno'n llwyr â Jane Hutt? Dywedais yn fy ateb gwreiddiol fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn awyddus i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cynghori. Ond mae'n warthus fod yn rhaid inni ddarparu'r gwasanaethau hynny i bobl y mae Llywodraeth y DU yn lleihau eu hincwm yn fwriadol pan fo’r bobl hynny'n byw ar ymylon tlodi.

Yn y Cynulliad ddoe, ceisiodd nifer o Aelodau benywaidd gael trafodaeth ynglŷn ag adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gyhoeddwyd yn ystod y toriad, gan gynnwys arweinydd Plaid Cymru, gan fod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw yn hollol syfrdanol, a dylent beri pryder i bob Aelod o'r Cynulliad hwn. Caiff 50,000 o blant ychwanegol eu gorfodi i fyw mewn tlodi yng Nghymru, nid drwy ddamwain, nid oherwydd bod rhywun wedi colli eu gwaith, nid oherwydd bod dirywiad wedi bod yn yr economi, ond o ganlyniad i benderfyniadau bwriadol Llywodraeth y DU i rewi budd-daliadau’r teuluoedd sy’n byw ar y lleiaf oll. A bydd hynny’n effeithio nid yn unig ar blant, ond bydd yn effeithio'n anghymesur ar fenywod hefyd. Awgrymai'r amcangyfrifon yn yr adroddiad hwnnw y bydd menywod yn colli £350 y flwyddyn ar gyfartaledd o ganlyniad i’r toriadau hyn i’r budd-daliadau, tra bydd dynion yn ennill oddeutu £15. Mae'r Aelod yn berffaith iawn i nodi'r achosion sydd wrth wraidd yr angen am gyngor ar ddyledion yng Nghymru, ac i nodi'r atebion, megis y cyflog byw go iawn, a fyddai'n cael effaith wirioneddol ar amgylchiadau'r teuluoedd sy'n byw yn yr amgylchiadau gwaethaf, mewn tlodi cynyddol, a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol o dan y fath fygythiad.

Trethi Datganoledig Newydd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r trethi datganoledig newydd cyntaf ers iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2018? OAQ51976

Diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Mae’r arwyddion cychwynnol yn awgrymu dechrau llwyddiannus i’r gwaith o weinyddu trethi datganoledig ers 1 Ebrill. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru y cyntaf mewn cyfres reolaidd o ddatganiadau ystadegol. Mae’n dangos bod 1,100 o sefydliadau wedi cofrestru gyda’r awdurdod ar gyfer y dreth trafodiadau tir.

Diolch am y diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n siŵr ein bod ni'n diolch i Awdurdod Cyllid Cymru am ei waith ac am beth sydd yn ymddangos, felly, yn gychwyn llwyddiannus, fel mae e'n ei ddweud, ar gyfnod newydd yn hanes cyfansoddiadol Cymru. Byddwch chi, wrth gwrs, yn gwybod bod y pethau yma yn broses yn hytrach na digwyddiad, ac, fel rhan o'r broses, rydych chi wedi gosod allan hefyd yn y rhaglen waith drethiannol syniadau ar gyfer trethi newydd, neu ddatblygiadau trethi yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar lefi plastig o bosibl, a gweithio fan hyn yng Nghymru ar dreth ar dir gwag. A fedrwch chi ddiweddaru'r Siambr ynglŷn â'r broses yna a'r rhaglen waith yna, ac ym mha ffordd rydych chi wedi llwyddo i drafod, ai peidio, gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r trethi newydd yma hefyd.

Diolch i Simon am y cwestiwn yna. Jest i ddweud, mae'r llwyddiant y mae'r awdurdod yn ei gael ar hyn o bryd yn dod mâs o'r gwaith caled sydd wedi bod ar y gweill dros y blynyddoedd, yn cynnwys gwaith y pwyllgor hefyd, sydd wedi bod yn rhan o baratoi'r awdurdod am y gwaith maen nhw nawr yn ei wneud. Ar y trethi newydd a'r awgrymiadau yna, rydym ni'n bwrw ymlaen i wneud gwaith gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fwy nag un ochr. Rydym ni'n siarad gyda nhw am beth maen nhw'n ei wneud ym maes plastig, ac rydym ni wedi cytuno i helpu arwain y ddadl yma yng Nghymru, ac i fwydo i fewn am y galw am evidence—rydw i wedi anghofio'r gair am 'evidence'. Tystiolaeth, wrth gwrs—yr alwad am dystiolaeth y mae'r Trysorlys wedi ei gwneud ym mis Mawrth.

Rydym ni hefyd eisiau dechrau trafod pethau gyda nhw am waith Gerry Holtham a beth mae e wedi awgrymu ym maes gofal. Ond rydw i wedi ysgrifennu—ac rydw i wedi rhannu'r llythyr gyda'r Pwyllgor Cyllid—yn swyddogol nawr at y Trysorlys i ddechrau'r broses ym maes tir gwag. Dyna'r un rydym ni eisiau ei dreialu i ddefnyddio'r system newydd sydd gyda ni yn Neddf 2014. Rydw i wedi ysgrifennu at y Trysorlys. Rydym ni'n paratoi ar lefel swyddogol y gwaith sydd i'w wneud gyda nhw, ac rydw i'n edrych ymlaen i gael ateb positif ganddyn nhw ac i ddechrau'r gwaith yma yn y Cynulliad—y gwaith mwy manwl ar y polisi—ac i weld a fydd e'n bosibl i ddod â'r Bil ymlaen ar lawr y Cynulliad ac i greu'r dreth gyntaf jest i Gymru drwy'r broses sydd gyda ni. 

13:40

Yn ei ddadansoddiad diweddaraf o swyddfeydd Caerdydd, dywed Ross Griffin, cyfarwyddwr buddsoddi y DU yn Savills, y bydd cynyddu’r dreth stamp i 6 y cant ar ddatblygiadau swyddfeydd sylweddol yn rhwystro buddsoddiad drwy wneud Cymru yn lle drytach wrth i fuddsoddwyr dargedu dinasoedd rhanbarthol yn Lloegr yn lle Caerdydd, gan dorri llif y cyfalaf i farchnad Caerdydd. Daw i'r casgliad y bydd hyn yn cyfyngu ar dwf marchnad swyddfeydd Caerdydd yn y dyfodol a thwf cyflogaeth yn y ddinas yn y dyfodol. Sut y bydd hyn o gymorth i fy etholwyr a phobl eraill sy'n awyddus i weithio yng Nghaerdydd?

Wel, Lywydd, byddwn bellach yn canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth yn hytrach na chyfnewid damcaniaethau. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi gwneud y penderfyniad ar lefelau trethiant eiddo annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bydd 90 y cant o'r trafodion masnachol yng Nghymru yn denu'r gyfradd isaf o drethiant ledled y Deyrnas Unedig, gan fod 90 y cant o drafodion masnachol yn digwydd ar lefel o £1.1 miliwn neu lai, ac mae gennym y cyfraddau treth isaf ar gyfer y rhan honno o’n heconomi o gymharu ag unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Clywais y ddadl a wnaed gan Mr Reckless ac eraill sy'n ei gwneud. Rwyf wedi cyfarfod â'r cwmnïau a'r unigolion hynny fy hun. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â hwy wedi hynny. Nid oedd y dadansoddiad a wnaed gan Fangor fel rhan o'n paratoadau yn awgrymu mai dyna fyddai’r canlyniadau, ond byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar y dystiolaeth, ac os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod y canlyniadau a awgrymir yn yr erthygl honno'n rhywbeth a ddylai ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, wrth gwrs, byddaf yn ystyried hynny mewn penderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

A gaf fi groesawu'r atebion a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i Simon Thomas? A gaf fi ychwanegu fy llais, unwaith eto, at y galwadau am dreth ar blastigion, sy'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn ei ddweud ar fwy o achlysuron nag y byddai wedi hoffi gwrando arnynt, yn ôl pob tebyg?

Fy nghwestiwn, fodd bynnag, yw: a yw Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu proffil o dderbyniadau treth disgwyliedig o'r trethi datganoledig fel y gallwn wirio, yn y Pwyllgor Cyllid neu yn y Cynulliad yn llawn, sut y mae'r proffil yn gweithio yn erbyn yr hyn a ddisgwylir?

Lywydd, rydym wedi cynhyrchu amcangyfrifon o'r fath. Fe’u cyhoeddwyd gennym ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr y llynedd. Roeddent yn dangos, er enghraifft, ein bod yn rhagweld y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn darparu £26 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gan ostwng, fel y bwriedir i’r dreth honno ei wneud, i £20 miliwn yn y flwyddyn 2021-2022. Ategir ein rhagolygon gan waith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Cyhoeddwyd rhagolygon wedi'u diweddaru ganddynt ar gyfer dwy dreth ddatganoledig Cymru a chyfraddau treth incwm Cymru ym mis Mawrth eleni. Maent yn debyg ar y cyfan i'r ffigurau a gynhyrchwyd gennym ym mis Rhagfyr, a bydd y ddwy set o ffigurau ar gael i’r Pwyllgor Cyllid allu craffu ar berfformiad gwirioneddol y trethi hyn wrth i'r wybodaeth honno ddod ar gael eleni a thu hwnt.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton. 

Diolch, Lywydd. Ar 13 Chwefror eleni, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai bwriad y dreth ar dir gwag yw effeithio ar ymddygiad yn hytrach na chodi refeniw. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, prin y mae'r dreth yn talu am gost ei chasglu, sy'n rhywbeth y dylid ei gadw mewn cof. Tybed i ba raddau y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud bod bancio tir yn broblem wirioneddol yng Nghymru, yn hytrach na chanfyddiad yn unig, gan y dywed Laura Harry, ymgynghorydd cynllunio gyda Barton Willmore, ymgynghoriaeth gynllunio a dylunio annibynnol,

tra bwriedir, mewn egwyddor, i Dreth ar Dir Gwag arwain at gynnydd o ran adeiladu tai, fe all gael yr effaith groes i hynny a gwneud Cymru'n lle llai deniadol i adeiladwyr tai a thanseilio dyheadau tai Llywodraeth Cymru,

sy'n amlwg yn rhywbeth na fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i'w weld. Felly, tybed a yw'r dreth hon wedi'i chyfeirio at broblem sy'n fwy dychmygol na gwirioneddol?

13:45

Ni chredaf fod hynny'n wir. Credaf fod tystiolaeth fod bancio tir yn digwydd mewn rhai rhannau o Gymru. Rwyf eisoes wedi cyfeirio yn y Siambr at ein cronfa safleoedd segur, sy'n dangos bod yna dros 400 o safleoedd yng Nghymru na ellir eu cyflwyno i'w defnyddio at ddibenion cynhyrchiol, gan fod angen gwaith adfer, neu am fod yr angen i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y tir hwnnw yn golygu nad yw'r tir yn cael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol. Mae ein cronfa safleoedd segur, gyda £40 miliwn o fuddsoddiad ar gael gan Lywodraeth Cymru ar ei chyfer, wedi'i chynllunio i helpu i unioni'r sefyllfa honno.

Credaf ei bod yn bwysig iawn i mi nodi nad diben treth ar dir gwag yw cosbi unrhyw un sy'n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod y tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio, ond darparu cymhelliad ychwanegol i bobl sy'n eistedd ar dir gan obeithio y bydd y gwaith y mae'r cyhoedd wedi'i wneud yn darparu caniatâd cynllunio iddynt ac ati yn arwain at gynyddu gwerth y tir, a heb wneud unrhyw beth o gwbl eu hunain, byddant yn gallu elwa ar hynny drwy werthu'r tir yn y dyfodol.

Fodd bynnag, Lywydd, mae'r broses yn bwysig iawn, oherwydd ar hyn o bryd rydym megis dechrau'r broses hon a bydd llawer o'r cwestiynau a godwyd gan yr Aelod a chwestiynau manwl eraill yn rhan o'r gwaith y byddwn yn awyddus i'w wneud pan fyddwn yn gwybod bod y grym wedi'i drosglwyddo inni fwrw ymlaen ymhellach â'r syniad hwn.

Rwy'n derbyn yr hyn a ddywed yr Ysgrifennydd cyllid yn llwyr. Yn amlwg, os ydym am gael treth o'r fath, mae angen inni sylweddoli y gall yr effeithiau ymddygiadol y gallai eu hachosi fod yn groes i hynny hefyd—pwynt y dof ato yn y man. Er y credir yn gyffredinol fod hon yn broblem y mae angen mynd i'r afael â hi mewn ardaloedd trefol, mae effaith bosibl ar ardaloedd gwledig hefyd. Yn ôl syrfëwr gwledig ar gyfer Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, Charles De Winton,

Efallai na fydd datblygu rhai plotiau gwledig bach yn ymarferol. Mae'n anochel y bydd treth sy'n eu gorfodi i gael eu datblygu yn cynyddu cost eu datblygu—cost a fydd yn cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr terfynol. Nid yw hyn o gymorth inni fynd i'r afael â'r argyfwng o ran argaeledd cartrefi gwledig.

Awgrymai ymchwil y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru fod mwy na thraean o'r £1.3 biliwn sy'n mynd i mewn i'r economi'n flynyddol gan dirfeddianwyr gwledig eisoes yn mynd i mewn i ddatblygu preswyl. Un o'r problemau mawr gyda safleoedd datblygu, wrth gwrs, yw caniatâd cynllunio a'r oedi a all ddeillio o hynny weithiau. Felly, mae datblygwyr posibl yn aml mewn sefyllfa lle maent yn eistedd ar dir gwag yn erbyn eu hewyllys. Gwyddom fod llawer o safleoedd o'n cwmpas yma ym Mae Caerdydd sy'n edrych fel safleoedd ardderchog ond sy'n parhau i fod heb eu datblygu am nad oes prynwyr am ba reswm bynnag. Felly, mae hwn yn fater y dylid mynd i'r afael ag ef mewn ffordd sensitif a gofalus.

Mae'r holl bwyntiau a wnaeth yr Aelod yn rhai pwysig ac yn bwyntiau y byddem yn dymuno bod o ddifrif yn eu cylch. Ni fyddai unrhyw Weinidog cyllid, pan fydd y gwaith manwl wedi'i gwblhau, os yw'r gwaith hwnnw'n dangos y byddai treth bosibl yn creu mwy o broblemau nag y byddai'n eu datrys—ni fyddai unrhyw un yn awyddus i fwrw ymlaen â hi. Felly, mae'r rhain yn bwyntiau pwysig, ac yn sicr, maent yn rhai y byddwn yn awyddus i'w hystyried.

Rwy'n cydnabod pwynt yr Aelod ynglŷn â chymunedau gwledig a bod datblygu'n aml yn cymryd mwy o amser am resymau penodol. Ond fe ailadroddaf y pwynt a wneuthum ar y dechrau un: nid bwriad treth ar dir gwag yw cosbi'r bobl sy'n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod tir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cynhyrchiol. Mae'n rhaid i chi ei chynllunio mewn ffordd sy'n sicrhau nad yw pobl sy'n gwneud popeth yn eu gallu yn cael eu cosbi ganddi, gan ddarparu cymhelliad ychwanegol—a chredwn fod hyn yn bodoli yn economi Cymru, yn yr un modd ag yr oedd Canghellor y Trysorlys yn bryderus ei fod yn bodoli yn economi Llundain—ar gyfer y bobl a ddylai fod yn cyflwyno tir at ddibenion cynhyrchiol, ond sy'n dewis peidio â gwneud hynny, yn y gobaith o wneud elw hawdd.

Hoffwn droi at dreth arall yn awr i archwilio'r effaith ar ymddygiad. Yn achos y dreth siwgr, a orfodir bellach gan Lywodraeth San Steffan, ymddengys y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £47 miliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd o ganlyniad i wariant sy'n gysylltiedig â hynny yn Lloegr. Mae'r rhagolygon o faint y byddai'r ardoll yn ei godi wedi gostwng o £520 miliwn i £240 miliwn. Gwelir newidiadau mewn ymddygiad eisoes o ganlyniad i'r dreth siwgr wrth i Coca-Cola, er enghraifft, leihau maint eu caniau Coke arferol o 330 ml i 250 ml, er nad yw hynny wedi arwain at ostyngiad tebyg yn y pris mewn llawer o achosion. Felly, erbyn hyn, gallem fod mewn sefyllfa lle mae pobl, yn hytrach na phrynu un rhan o dair o litr mewn can, yn prynu dau gan chwarter litr. Felly, mewn gwirionedd, maent yn prynu mwy o ddiod llawn siwgr nag o'r blaen, am bris uwch. Felly, byddai hyn yn ganlyniad gwrthnysig i dreth o'r fath. Ond mae gan Gymru broblem sylweddol gyda gordewdra—gwaeth nag unrhyw ran arall o'r DU—gyda 59 y cant o oedolion, mae'n debyg, dros eu pwysau—mae'n debyg fy mod i'n un ohonynt—a 23 y cant wedi'u categoreiddio'n ordew. O ran dyraniad yr arian a godir, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r arian hwn yn bennaf ar gyfer datrys gordewdra, heb ei hystyried yn dreth a neilltuwyd yn gyfan gwbl? Os yw'r arian yn cael ei godi er mwyn newid ymddygiad, dylid cyfeirio'r arian a fydd yn cael ei wario o'r refeniw hwnnw at y broblem y bwriedir iddo'i datrys.

13:50

Wel, Lywydd, fe ddechreuaf drwy groesawu'r ffaith bod gweithgynhyrchwyr wedi cymryd camau i leihau faint o siwgr sydd yn eu cynnyrch, ac i ailffurfio'r ffordd y caiff cynhyrchion eu dwyn i'r farchnad er mwyn dylanwadu ar ordewdra. Rwy'n gresynu at y ffaith bod y dreth siwgr wedi'i chyhoeddi mewn cyllideb heb unrhyw gyfeiriad at y gweinyddiaethau datganoledig, er ei bod yn effeithio'n uniongyrchol ar ein cyfrifoldebau. Felly, nid oedd modd inni gyfrannu at ddadl a allai fod wedi tynnu sylw at rai o ganlyniadau anfwriadol posibl y dreth fel y mae ar hyn o bryd.

Mae arian wedi'i drosglwyddo i gyllideb Cymru o ganlyniad i hynny. Bydd o gymorth, yn rhannol, i fwrw ymlaen â chynlluniau megis y rhaglen ordewdra ataliadwy y mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn ei rhoi ar waith, ond mae'n caniatáu inni wneud pethau eraill hefyd. Mae'n caniatáu inni gefnogi'r rhaglen brecwast iach am ddim yn ein hysgolion cynradd; mae'n ein cynorthwyo i gyflwyno'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol newydd, sy'n helpu i fwydo plant yn ystod gwyliau'r ysgol, a fyddai'n mynd heb fwyd fel arall; ac mae'n caniatáu inni wneud sawl peth arall yn y maes a grybwyllwyd gan yr Aelod, i'n helpu i ddylanwadu ar broblemau gordewdra, sy'n dra hysbys ac yn dra chyfarwydd.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wedi gweld fy nghyn gyd-aelod o'r Pwyllgor Cyllid, Peter Black, i fyny yn yr oriel? Cefais fy atgoffa o etholiad diwethaf y Cynulliad, pan oeddem yn edrych ymlaen at ddatganoli treth fel rhywbeth anochel a phell, er ei fod yn agosáu. Rydym bellach ar ochr arall y datganoli hwnnw.

Wrth ateb Mark Reckless yn gynharach, mewn perthynas â'r dreth trafodiadau tir, ac rwyf am eich holi ynglŷn â hynny hefyd, fe ddywedoch chi ein bod ar hyn o bryd mewn cyfnod o gasglu tystiolaeth ynghylch cyflwyno'r trethi, ac effaith y trethi hynny, yn hytrach na dim ond dyfalu. Os yw'n ymddangos ar unrhyw adeg, fel y dywedoch chi wrth ateb Mark Reckless, fod problem gyda chyfraddau'r dreth trafodiadau tir, pryd y byddwch yn cymryd camau gweithredu i sicrhau bod y cyfraddau hynny yn cael eu gostwng er mwyn iddynt fod yn debycach i'r rhai dros y ffin?

Wel, Lywydd, fel y dywedais, rydym yn y broses o gasglu tystiolaeth ar hyn o bryd. Byddwn yn edrych ar sut y mae'r farchnad eiddo amhreswyl yn datblygu dros y flwyddyn. Byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw dystiolaeth fod y cynnydd bach iawn yn y dreth yn ffactor tyngedfennol mewn penderfyniadau enfawr gwerth miliynau o bunnoedd a wneir gan gwmnïau. Fy namcaniaeth i—sef yr un a gefnogwyd yn adroddiad Bangor—yw y bydd gan gwmni a fydd yn gwario miliynau lawer o bunnoedd wrth benderfynu ble i leoli ddiddordeb mewn pethau fel pris tir, pris eiddo, sydd ill dau yn rhatach yng Nghymru nag mewn dinasoedd sy'n cystadlu ar hyd y ffin; byddant yn edrych ar gyflenwad sgiliau, ac mae gennym boblogaeth fedrus iawn; byddant yn chwilio am sefydlogrwydd hirdymor, ac rydym yn cynnig hynny yma yng Nghymru; ac ni chredaf y bydd swm bach mewn cost untro wrth brynu'r eiddo yn ffactor tyngedfennol ym mhenderfyniadau'r bobl hyn i ddod yma ai peidio, ond fy marn i yw hynny. Mae safbwyntiau eraill i'w cael. Nawr, bydd gennym dystiolaeth, a byddaf yn ystyried hynny yn y broses o wneud penderfyniadau a fydd gennym yma bob blwyddyn wrth inni osod cyfraddau treth ar gyfer y dyfodol.

13:55

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych feddwl agored, ac mae'n ddiddorol fod eich tôn heddiw yn wahanol i'r hyn ydoedd cyn datganoli treth. Fe ddywedoch chi o'r blaen—fe ofynnoch chi gwestiwn rhethregol a'i ateb:

'A wyf o'r farn mai'r swm bychan ychwanegol yn y dreth trafodiadau tir fydd y prif ffactor mewn cytundebau busnes…? Nac ydw.'

Er y byddech yn dal i ddweud mai dyna yw eich barn bersonol, o'ch ateb heddiw rwy'n casglu nad ydych yn cau'r drws ar y ffaith y gallai fod yn achosi problemau i rai busnesau. Cyn ichi ateb, hoffwn grybwyll rhai prosiectau, megis y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, er enghraifft, lle byddai'r cynnydd ymylol o 1 y cant yn y cyfraddau'n golygu bod buddsoddwyr yn talu oddeutu 20 y cant yn fwy ar eu heiddo nag y byddent gyda'r dreth stamp, ac o leiaf 32 y cant yn fwy na'r dreth trafodiadau tir ac adeiladau. Felly, gofynnais ichi yn flaenorol pryd y byddech yn gweithredu ar y dystiolaeth honno. A ydych yn barod i dderbyn bod yna achosion eisoes ar hyn o bryd, mewn prosiectau o'r fath, lle nid yn unig y gallai hyn wneud gwahaniaeth, ond y bydd yn gwneud gwahaniaeth? Efallai ei fod yn ymylol, ond mewn termau economaidd, mae gwahaniaethau ymylol yn aml yn gwneud gwahaniaeth o ran elw neu golled.

Ni chredaf y gall yr Aelod ddisgwyl cyfeirio at yr achosion hynny a dweud eu bod yn dystiolaeth go iawn. Rydym gwpl o wythnosau i mewn i gyfundrefn dreth newydd, ac ni chredaf y gall ef nac unrhyw un arall nodi un penderfyniad lle y gallai cwmni ddweud, 'Rydym wedi penderfynu peidio â dod i Gymru oherwydd y gyfradd o 6 y cant.' Mae'n gallu cynhyrchu'r canrannau uchel hynny am fod ganddo rifau isel, a dengys y rhifau isel fod effaith wirioneddol yr 1 y cant hwnnw'n fwy cymedrol o lawer nag y mae'n ei awgrymu.

Rwy'n glynu wrth y farn a oedd yn sail i'r penderfyniad a wneuthum ac a gyflwynais ar lawr y Cynulliad hwn, na fydd y gyfradd yn atal pobl rhag dod yma i Gymru, ac y bydd gostwng trethi i'r 90 y cant o drafodiadau eiddo masnachol yng Nghymru, gan sicrhau mai hwy yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig, yn cael effaith ysgogol fwy o lawer ar fusnesau yng Nghymru na'r agwedd y mae'n cwyno amdani.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i unrhyw unigolyn synhwyrol fod yn agored i'r dystiolaeth a cheir safbwyntiau gwahanol o ran sut y gall hyn effeithio ar y farchnad, a bellach, dros y misoedd nesaf, byddwn yn darganfod a oes effaith o'r fath, ac os cadarnheir hynny ac y ceir tystiolaeth go iawn, yna rwy'n ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud, Lywydd, a byddai unrhyw un yn ystyried hynny wrth i'r penderfyniadau hyn gael eu hadolygu.

A bod yn deg ag Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn llygad eich lle, mae'n ddyddiau cynnar, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ac yn amlwg, mae'n rhaid inni edrych ar y dystiolaeth. Byddem yn awyddus i gael ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth at hyn, a buaswn hefyd yn derbyn fy mod wedi nodi ac wedi siarad cryn dipyn am un dreth, ond un dreth yn unig o becyn cyffredinol yw honno, ac mae'r economi yn cynnwys ysgogiadau gwahanol, ac efallai wir nad yw hyn ond yn un agwedd ar hynny. Fodd bynnag, ni ellir diystyru'r un agwedd honno wrth ymdrin â sefyllfaoedd ar ymylon economi. Gall hynny wneud gwahaniaeth. Rwy'n falch, mewn gwirionedd, eich bod wedi gadael y drws ar agor o ran newid cyfundrefn y dreth stamp o bosibl—cyfundrefn y dreth trafodiadau tir, dylwn ddweud—yn y dyfodol, os yw'r dystiolaeth honno'n peri problem.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl eich bod yn dymuno bod yn gyfeillgar i fusnesau, fod Llywodraeth Cymru yn dymuno bod yn gyfeillgar i fusnesau, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl mai eich bwriad yw bod yn gyfeillgar i fusnesau, gan mai gwallgofddyn yn unig na fyddai'n dymuno hynny. Fodd bynnag, pan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth sydd gennym hyd yn hyn, buaswn yn dweud bod busnesau'n bryderus. Felly, a allwch ddweud wrthym, os edrychwch ar y lluosydd ardrethi yng Nghymru, er enghraifft, o gymharu â rhannau eraill o'r DU, mae'n sylweddol uwch. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mewn perthynas ag ardrethi busnes. A allwch ddweud wrthym pa ryngweithio a fu rhyngoch hyd yn hyn, er ei fod yn gyfnod byr, ond pa ryngweithio a fu rhyngoch chi a busnesau hyd yn hyn, ac a oes unrhyw fusnesau wedi mynegi pryderon go iawn na fyddant yn buddsoddi yng Nghymru oherwydd y newidiadau hyn?

Wel, rwyf wedi ateb y cwestiwn hwnnw, ond fe ailadroddaf unwaith eto: cyfarfûm â grŵp o fusnesau a oedd yn dadlau'r achos a wnaed yn blwmp ac yn blaen gennych chi y prynhawn yma, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gyfarfod â hwy wedi hynny fel y gallwn barhau mewn cysylltiad â hwy ac mewn sefyllfa dda i gasglu'r dystiolaeth y soniais amdani y prynhawn yma.

Mae ei bwynt ynglŷn a'r lluosydd yn un rhyfedd oherwydd yn Lloegr, lle mae ei blaid ef mewn grym, mae ganddynt luosydd ardrethi uwch, wrth gwrs, ar gyfer yr union fath o fusnesau y sonioch amdanynt y prynhawn yma. Mae'r busnesau mwyaf yn Lloegr yn talu cyfradd lluosydd uwch ac nid oes gennym y gyfradd lluosydd uwch honno yma yng Nghymru. Ac mae hynny oherwydd yn Lloegr, wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt gasglu arian gan y busnesau ar y gyfradd uwch am fod y busnesau hynny ar y gyfradd uwch yn talu am y cynlluniau rhyddhad ardrethi y mae'r busnesau llai yn eu mwynhau yn Lloegr, tra bo'n cynlluniau rhyddhad ardrethi busnes yng Nghymru yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

14:00

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg yn sgil adroddiad yr archwilydd cyffredinol, er enghraifft, ac wedyn y dystiolaeth y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi ei derbyn yn ddiweddar, bod un o gonglfeini polisi caffael Llywodraeth Cymru, sef y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn tangyflawni a dweud y lleiaf. Hynny yw, y targed, os ydy’r Aelodau’n ei gofio, yn ôl yn 2012, pan grëwyd y gwasanaeth, oedd creu £25 miliwn o arbedion ar wariant o £4.3 biliwn o fewn y sector cyhoeddus. Ond, yn y flwyddyn mwyaf cyfredol sy’n cael ei dangos yn adroddiad yr archwilydd, dim ond £15 miliwn sydd yna, felly 60 y cant, ar wariant o £6 biliwn, felly. Ac, wrth gwrs, rŷm ni’n darganfod hefyd yn yr adroddiad mai dim ond 19 y cant o aelodau’r gwasanaeth sydd yn datgan eu bod nhw yn cael cynilon ariannol a thraean, dim ond traean, o’r holl awdurdodau lleol sydd yn fodlon gyda’r gwasanaeth. Ac mae hyd yn oed Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw’n anfodlon gyda’r gwasanaeth y maen nhw eu hunain wedi ei greu. Onid yw e’n glir, Ysgrifennydd, fod polisi caffael Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn methu?

Wel, Lywydd, rwyf wedi croesawu'r gwaith a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â chaffael, a chroesawaf y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes hwn hefyd. O ganlyniad i bryderon ynglŷn â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, nid y gwasanaeth ei hun, ond y cyd-destun newidiol y mae'n rhaid i wasanaeth o'r fath weithredu ynddo—Brexit, cyni parhaus, modelau newydd ar gyfer gweithio'n rhanbarthol, er enghraifft—cyhoeddais yn ôl ym mis Medi ein bod yn cynnal adolygiad o'r gwasanaeth. Nawr, ers hynny, fel y dywedodd Adam Price, mae gwybodaeth wedi dod i'r amlwg ynglŷn ag i ba raddau y mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gallu cyrraedd y meincnodau a nodwyd ar ei gyfer yn wreiddiol ac ynglŷn â lefel yr hyder y mae wedi'i ennyn ymysg y rhai sy'n ei ddefnyddio. Dyna pam fod cynllun i ailffocysu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru yn bwysig. Dyna pam fy mod yn awyddus i fwrw ymlaen ag ef. Mae arnom angen gwasanaeth sy'n gallu defnyddio grym caffael er budd economi Cymru i'r graddau mwyaf posibl, ond mae'n rhaid iddo ennyn hyder ei randdeiliaid allweddol, ac mae angen gwneud newidiadau i sicrhau y gall hynny ddigwydd.

Un o brif wendidau, fel y'i welaf i, caffael ar hyn o bryd yng Nghymru yw’r diffyg staff â chymwysterau priodol a’r gallu i gyrff cyhoeddus gadw’r staff profiadol hynny. Yn 2012, dywedodd Prifysgol Caerdydd, mewn adroddiad gan yr Athro Kevin Morgan, fod prinder sgiliau difrifol wrth galon y sector cyhoeddus yng Nghymru yng nghyswllt â chaffael cyhoeddus. Roedd e wedyn yn amcangyfrif bod angen swyddog gyda chymhwyster sefydliad siartredig prynu a chyflenwi i bob £15 miliwn o wariant cyhoeddus. Nawr, roedd Llywodraeth Cymru wedi mynd un cam ymhellach na hynny wrth gwrs a dilyn argymhelliad McClelland, ac yn eu polisi nhw ar gaffael cyhoeddus yn sôn am ffigur o £10 miliwn o wariant ar draws y sector cyhoeddus fel y meincnod. Wel, ar y sail honno, wrth gwrs, rŷm ni ryw 274 o reolwyr caffael proffesiynol yn brin yng Nghymru, felly pa gamau gweithredol y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i recriwtio a hyfforddi mwy o staff ac arbenigwyr caffael?   

Wel, a gaf fi ddechrau drwy gydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod? Mae'r angen am gapasiti a galluogrwydd priodol ym maes caffael yn her. Siaradais â Kevin Morgan ynglŷn â hyn, ac roedd yr Aelod yn llygad ei le wrth nodi bod methodoleg McClelland yn awgrymu diffyg yng Nghymru i'r graddau a nodwyd ganddo. Nawr, rydym eisoes wedi gwneud rhai pethau am hyn yng Nghymru. Cawsom brosiect Doniau Cymru, sydd wedi llwyddo i ddod â phobl newydd i mewn i'r system. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r gronfa o weithwyr caffael proffesiynol yng Nghymru. Rydym yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i godi ymwybyddiaeth o gaffael fel proffesiwn dymunol. Ond mae angen inni weithio gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus hefyd er mwyn iddynt roi'r un ymdeimlad o statws a chydnabyddiaeth i weithwyr caffael proffesiynol ag y gwnânt i eraill. Yn rhy aml, ymddengys i mi, mae sefydliadau cyhoeddus yn ystyried caffael yn ymarfer troi handlen braidd, lle nad ydych yn meddwl bod y bobl sy'n ymwneud â chaffael yn gwneud cyfraniad arloesol i waith y sefydliad. Ond gwyddom—rhai o'r pwyntiau a wnaed eisoes gan Adam Price—am allu caffael i hybu gwerth ar gyfer y cyhoedd, ac nid gwerth yn unig, ond gweithgarwch o ran cyflogaeth a buddion cymunedol ac ati. Mae angen gwell cydnabyddiaeth i statws y proffesiwn, ac mae hynny'n rhan o'r gwaith rydym yn awyddus i'w wneud i geisio mynd i'r afael â'r materion recriwtio a chadw staff a nodwyd gan Adam Price.

14:05

A gaf fi droi, i gloi, at enghraifft benodol, gan y credaf ei bod yn codi cwestiynau pellach ynglŷn ag a yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a fframwaith ehangach polisi caffael yn addas at y diben? Yn ddiweddar, dyfarnodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gontract tair blynedd o'r enw Arbed 3, sef contract Cymru gyfan i inswleiddio miloedd o gartrefi, i gwmni o'r Alban, Everwarm, sy'n is-gwmni i gwmni llawer mwy o'r enw Lakehouse, o Essex, rwy'n credu—cwmni sydd wedi cael ei gymharu â Carillion oherwydd ei ffyrnigrwydd wrth wneud cynigion am gontractau yn y sector cyhoeddus ar sail ei allu i dorri costau. Mae hyn wedi arwain at gwestiynau ynglŷn â safonau ac uniondeb, a dylid nodi mai'r cwmni hwn oedd yn gyfrifol am y contract ar gyfer gosod larymau tân yn Nhŵr Grenfell.

Nawr, yn y datganiad y cyfeirioch chi ato, Ysgrifennydd y Cabinet, ar addasu polisi caffael Llywodraeth Cymru y llynedd, roeddech yn pwysleisio gwerth cymdeithasol. A yw'r ymrwymiad hwn yn cydweddu â phenderfyniad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i benodi cwmni a fu'n destun cyfres o adroddiadau negyddol, o rybuddion elw i honiadau o dwyll a phryderon ynghylch diogelwch—o gymharu â Cartrefi Melin, a lwyddodd, ynghyd â phartneriaid eraill yng Nghymru, yn y rhaglen flaenorol, i sicrhau cyfraddau caffael o 100 y cant gan fusnesau bach a chanolig Cymru? Yn hytrach nag addasu polisi caffael Llywodraeth Cymru, onid oes angen inni ailfeddwl yn llwyr ynglŷn â hyn?

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r pwynt hwnnw, ac fe'i codwyd hefyd yn y Siambr ddoe gan Mark Isherwood yn ystod y cwestiynau busnes. Lywydd, heddiw fe ysgrifennais at bob un o Aelodau'r Cynulliad sydd wedi gohebu â mi ar y mater hwn. Gan na fydd rhai o'r Aelodau yma wedi cael yr atebion hynny, tybed a gaf fi ddarllen dau baragraff olaf y llythyr hwnnw, fel y gallaf gofnodi'r safbwynt cyfredol ar gyfer yr Aelodau. Felly, mae'r llythyr yn nodi'r broses a arweiniodd at nodi cynigydd llwyddiannus. Dywed wedyn, o dan Reoliadau Cytundebau Cyhoeddus 2015, ei bod yn ofynnol inni ganiatáu cyfnod segur gorfodol o 10 niwrnod fan lleiaf. Yn ystod y cyfnod cychwynnol, cododd un o'r cynigwyr nifer o bwyntiau o esboniad yn ffurfiol drwy eu cynghorwyr cyfreithiol, a gofynasant i Lywodraeth Cymru ymestyn y cyfnod segur. Mae'r cyfnod segur hwnnw wedi cael ei ymestyn. Bellach, bydd yn para tan 30 Ebrill a bydd hynny'n rhoi amser i ganiatáu ystyriaeth glir a chynhwysfawr o'r pwyntiau a godwyd fel rhan o'r ymarfer hwn.

Bydd yr Aelodau'n deall, gyda'r mater hwnnw o dan ystyriaeth bellach, na fyddai'n briodol imi wneud sylwadau pellach ar ganlyniad y broses gaffael, ond byddaf yn gwneud datganiad pellach pan ddaw proses y cyfnod segur i ben.

Portffolio Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant mewn perthynas â'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52006

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn? Diau y caf i’r ateb iddo unrhyw eiliad nawr. Lywydd, bydd y portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn gwario £5.4 biliwn yn 2018-19, yn cynnwys £3.7 biliwn mewn refeniw, £209 miliwn mewn cyfalaf ac £1.1 biliwn mewn gwariant a reolir yn flynyddol. Mae’r buddsoddiad hwnnw yn cwmpasu ystod o feysydd hanfodol bwysig, gan gynnwys tai, digartrefedd, gofal plant a chynllun lleihau’r dreth gyngor.

14:10

Iawn. Diolch am eich ateb. Byddai goblygiadau ariannol i wariant y Llywodraeth pe bai carchar arfaethedig ym Mhort Talbot neu mewn man arall yng Nghymru yn mynd yn ei flaen. A ydych wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r effaith o ran sut y byddai angen i chi ddyrannu adnoddau ychwanegol i adrannau? Deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi gwneud datganiad yn ystod y toriad, lle y nodwyd yr effeithiau ar agweddau eraill ar wasanaethau cyhoeddus a pholisi fel rhan o'r rheswm dros gyhoeddi gohiriad. Felly, rwyf wedi cael peth gwybodaeth sy'n dangos effaith sylweddol ar adnoddau cyhoeddus mewn perthynas â charchardai sy'n bodoli eisoes, felly hoffwn ofyn: a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, yn benodol, i'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus yn ne Cymru a sut y byddai angen ichi newid y gyllideb, o bosibl, pe bai angen gwneud hynny?

Diolch iddi am ei chwestiwn pellach. Wrth gwrs, gwelais y datganiad ar bolisi cyfiawnder a wnaed gan fy nghyd-Aelod Alun Davies yn ystod y toriad. Pa bryd bynnag y ceir datblygiadau yn y maes hwn, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau, os yw gweithgarwch heb ei ddatganoli yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, y daw'r adnoddau angenrheidiol gydag ef. Rydym yn gwneud hynny, fodd bynnag, ar yr adeg pan wneir cynnig penodol y gellir cynnal y trafodaethau hynny yn ei gylch. Felly, yr ateb cyffredinol i gwestiwn yr Aelod yw, pe bai unrhyw gynigion, wrth gwrs y byddai'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt, ond nid ydynt yn mynd rhagddynt yn yr achos penodol hwn, gan nad oes unrhyw beth ar y bwrdd y gellir canolbwyntio arno mewn trafodaethau o'r fath.

Ysgrifennydd y Cabinet, dadneilltuwyd oddeutu £100 miliwn o grantiau yn y gyllideb ar gyfer awdurdodau lleol a llywodraeth leol eleni, ac wrth gwrs, rydym yn ystyried hwnnw'n gam cadarnhaol ymlaen. Yn amlwg, mae'r costau gweinyddol yn uchel iawn. Fodd bynnag, mae nifer o awdurdodau lleol wedi mynegi pryderon difrifol fod y £13 miliwn a ddyrannwyd yn flaenorol ar gyfer elfen leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn/Teithwyr a Roma y grant gwella addysg wedi'i ddal yn ôl mewn gwirionedd a heb ei drosglwyddo i'r llinell gyllideb benodol hon. Ers hynny, mae'r Ysgrifennydd addysg wedi cyfaddef bod gwall wedi digwydd yn hyn o beth, ac o ganlyniad wedi trosglwyddo'r cyllid ychwanegol hwn i wneud iawn am y diffyg. Fodd bynnag, unwaith eto, hepgorwyd ein hawdurdodau lleol mwy gwledig yn llwyr o'r cywiriad hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hyn yn ennyn hyder yng ngallu Llywodraeth Lafur Cymru i bennu'r gyllideb. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi imi y bydd unrhyw gyllid a ddadneilltuir yn y dyfodol yn cyrraedd yr awdurdodau hynny a'r cyllidebau y bwriedir iddynt eu cyrraedd?

Wel, rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd yr Aelod ar ddechrau ei chwestiwn ynglŷn â'i chefnogaeth i egwyddor gyffredinol dadneilltuo, ac roeddwn yn awyddus iawn, yn y cylch cyllidebol ar gyfer y flwyddyn hon, i gymryd cam ymlaen yn hynny o beth, oherwydd, ar adeg pan fo cyllidebau awdurdodau lleol o dan y fath bwysau, rydym yn ymateb i'r sylwadau a wnânt inni, os aiff arian i mewn i'r grant cynnal refeniw, y gallant wneud defnydd mwy hyblyg, a mwy effeithiol ac effeithlon felly, ohono.

O ran y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig, rydym wedi dod i gytundeb, Lywydd, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwnnw. Rwyf wedi darparu £5 miliwn ychwanegol o gronfeydd canolog i helpu gydag addysg plant o'r cefndiroedd hynny, ac mae fy nghyd-Aelod Kirsty Williams wedi ychwanegu £2.5 miliwn ychwanegol at y swm hwnnw i sicrhau y gellir datblygu'r ddarpariaeth hon ar sail ranbarthol yn y dyfodol. Roeddem yn falch o ddod i'r cytundeb hwnnw gyda CLlLC. Wrth inni symud rhagor o grantiau i'r grant cynnal refeniw, rwy'n derbyn y pwynt cyffredinol a wnaed gan yr Aelod—fod yn rhaid gwneud hynny'n ofalus a thrwy drafodaeth drwyadl ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod yr elfen benodol honno yn y fformiwla gyllido a ddefnyddiwn yn golygu bod yr arian hwnnw'n cyrraedd y mannau lle mae ei angen fwyaf.

Arian Strwythurol Ewropeaidd

4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol am beth fydd yn cymryd lle arian strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn dilyn Brexit? OAQ51987

14:15

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae cyllid yn lle cronfeydd strwythurol yn fater rydw i wedi codi gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a Gweinidogion eraill Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd, nid ydyn nhw wedi rhoi unrhyw fanylion am eu cynigion. Mae ein safbwynt ni am y cyllid hwn, a rheolaeth dros dro, i'w weld yn glir yn ein papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'.

Diolch yn fawr. Mae'n ymddangos o'r papur hwnnw mai prif ddadl y Llywodraeth ydy bod angen codi'r gwaelodlin ar gyfer y cyllid mae Cymru yn ei gael o San Steffan er mwyn unioni'r golled o gronfeydd strwythurol a buddsoddi'r Undeb Ewropeaidd. Ond gyda phob parch, nid ydw i'n eich clywed chi yn gweiddi yn uchel iawn ynglŷn â hyn ar hyn o bryd. Mae Cymru yn wynebu colli arian sylweddol iawn—£2 biliwn—efo cymunedau tlawd a bregus y gorllewin a'r cymoedd yn cael eu taro waethaf, er mai fanna mae'r angen mwyaf. Felly, a fedrwch chi roi sicrwydd i ni heddiw y byddwch chi yn cynnal y trafodaethau penodol yma sydd eu hangen efo Llywodraeth San Steffan er mwyn sicrhau'r cyllid ar ôl Brexit? Buaswn i hefyd yn hoffi gwybod pa sicrwydd sydd yna y bydd Llywodraeth Cymru, o gael yr arian, yn dosbarthu'r cyllid hwnnw ar sail angen, fel na fydd cymunedau yn y gorllewin a'r cymoedd yn colli allan.

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn yna. Safbwynt y Llywodraeth yma yng Nghymru yw'r un gafodd ei roi mas yn y ddogfen a gyhoeddwyd rhwng Plaid Cymru a ni nôl ym mis Ionawr y flwyddyn diwethaf. Hynny yw, pob punt rydym ni'n ei gael yma yng Nghymru o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhaid i'r arian yna ddod i ni ar ôl Brexit, fel roedd y bobl a oedd yn trio perswadio pobl i bleidleisio yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd yn ei ddweud bob tro. So, dyna ein polisi ni, ac rydw i'n gallu dweud wrth yr Aelod: pob cyfle sydd gyda fi i wneud y pwynt yna gyda Gweinidogion yn San Steffan yn y Trysorlys, a mwy na hynny hefyd—rydw i'n cymryd pob cyfle sydd gyda fi i wneud yr achos yna. A ydym ni'n hyderus yr ŷm ni'n mynd i gael yr arian? Nid ydw i'n gallu dweud hynny ar hyn o bryd, achos nid ydym ni wedi cael manylion o gwbl mas o Lywodraeth y Deyrnas Unedig am beth maen nhw'n mynd i wneud ar ôl y cyfnod o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Ar y pwynt roedd Siân Gwenllian yn ei godi am sut ydym ni'n mynd i ddefnyddio'r arian os bydd arian yn dod i ni, dyna pam rŷm ni wedi cyhoeddi'r papur ar y polisi rhanbarthol, i fod yn glir gyda phobl sy'n gweithio yn y maes rŷm ni eisiau cael eu syniadau nhw ac rŷm ni eisiau rhedeg y polisi yn y dyfodol ar sail angen, ond hefyd ar y basis y bydd rheoliadau gyda ni lle mae pobl yn gallu gweld yn glir sut bydd y system yn rhedeg ac yn gallu bod yn hyderus y bydd tegwch yn y system yma yng Nghymru.

Buddsoddi mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

5. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y bydd arian a godir gan y ddwy dreth ddatganoledig newydd yn cyfrannu tuag at fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ52000

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Bydd y refeniw a godir drwy drethi datganoledig yn ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae cymunedau a busnesau ledled Cymru yn dibynnu arnynt, gan gefnogi ein hamcanion cymdeithasol a helpu i sicrhau twf economaidd teg.

Diolch. A pha arsylwadau cynnar y gellir eu gwneud ar Awdurdod Cyllid Cymru, a'u gwaith rheoli a choladu?

Diolch i'r Aelod. Os caf wneud ychydig o bwyntiau ar hynny, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bodoli bellach ers rhwng dwy a thair wythnos, ac roedd y dyddiau cynnar bob amser yn mynd i gynnwys rhywfaint o bryder y byddai'r broses o newid o'r system bresennol i'r un newydd yn mynd rhagddi'n rhwydd. Credaf y gallaf adrodd bod yr ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn llwyddiannus. Gwnaed y cofrestriadau cyntaf ar gyfer trethi newydd yng Nghymru erbyn 3 Ebrill. Mae'r adborth gan ddefnyddwyr hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'r buddsoddiad mewn systemau digidol, a oedd yn un o bwyntiau allweddol y Pwyllgor Cyllid, a fu'n ein hatgoffa drwy gydol y broses o ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru y dylem sicrhau, gyda'r cyfle i greu system o'r newydd, ei bod yn gwbl ddigidol. Mae ochr ddigidol gwaith Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn, o ran y ffordd y mae'n rhyngwynebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac o ran y ffordd y mae'n gallu defnyddio data o fewn yr awdurdod cyllid hefyd.

14:20
Cynnydd mewn Trethi Cyngor

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn trethi cyngor ar drigolion Gorllewin De Cymru? OAQ51993

Mae awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd yn gyfrifol am bennu'r dreth gyngor bob blwyddyn. Mae awdurdodau lleol yn atebol i'w poblogaethau lleol am y penderfyniadau a wnânt, gan gynnwys pennu cyfraddau'r dreth gyngor. Yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae trigolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cynnydd o 4.5 y cant, Castell-nedd wedi cael 3.7 y cant ac Abertawe wedi cael cynnydd syfrdanol o 4.9 y cant. Ar yr un pryd ag y mae fy etholwyr yn gorfod talu'r codiadau hyn sy'n uwch na chwyddiant, nid yw cyflogau ond wedi codi hanner cymaint â'r symiau hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gellir cyfiawnhau'r codiadau hyn pan fo gwasanaethau'n cael eu torri? Sut y gallwn gyfiawnhau gofyn i fy etholwyr dalu mwy o'u hincwm prin am lai o gasgliadau biniau, ffyrdd heb eu trwsio, goleuadau stryd sydd wedi torri a thoriadau i wasanaethau?

Mae arnaf ofn, Lywydd, fod yr ateb yn syml iawn: y cyfiawnhad yw effaith wyth mlynedd o gyni ar gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru—wyth mlynedd lle bu llai o arian ar gael, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, i'r Llywodraeth hon ac i awdurdodau lleol wneud y gwaith hanfodol y cyfeiriodd yr Aelod ato. Gwn fod awdurdodau lleol o bob plaid ledled Cymru yn meddwl yn galed iawn am effaith eu penderfyniadau ar eu poblogaeth leol. Yma yng Nghymru, o leiaf, mae'n gysur i'r aelwydydd tlotaf nad ydynt yn talu'r dreth gyngor, tra bo dros 2 filiwn o'r aelwydydd tlotaf dros y ffin yn Lloegr bellach yn gorfod gwneud cyfraniadau sylweddol, nid o'u hincwm nad yw'n codi, ond o'u hincwm budd-daliadau sydd wedi'i rewi, am wasanaethau cyhoeddus lleol.

Cyllidebau'r Heddlu

7. Beth yw'r goblygiadau posibl ar gyfer penderfyniadau ariannu Llywodraeth Cymru o'r gostyngiad yng nghyllidebau'r heddlu gan Lywodraeth y DU? OAQ51974

Lywydd, mae trefniadau partneriaeth cryf ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a holl heddluoedd Cymru. Mae'n anochel fod gostyngiadau mewn cyllidebau ar y ddwy ochr yn rhoi mwy fyth o bwysau ar ein gallu cyfunol i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi gweld y ddadl gynyddol ar ddiogelwch cymunedol, yn enwedig y digwyddiadau, yn Llundain er enghraifft, i grybwyll un ardal yn unig, y twf mewn troseddu â chyllyll, a'r ddadl ynghylch effaith y toriadau i gyllideb yr heddlu mewn perthynas â hynny. Wrth gwrs, dadl Llywodraeth y DU yw nad yw toriadau'r Torïaid i blismona wedi arwain at y cynnydd hwnnw mewn troseddu treisgar. Wel, a gaf fi dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at y sefyllfa yng Nghymru? O ganlyniad i golli 682 o heddweision dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 18 y cant mewn troseddu treisgar, cynnydd o 14 y cant mewn troseddu â chyllyll yn ne Cymru, cynnydd o 25 y cant mewn troseddu â chyllyll yng Nghymru ac 84,000 o droseddau heb eu datrys, ac rydym wedi gweld y cynnydd uchaf mewn troseddau o'r mathau hyn. Onid yw'n wir na ellir dadlau bellach fod toriadau'r Torïaid i blismona dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf iddynt fod mewn grym wedi arwain at ganlyniad uniongyrchol, nid yn unig o ran llai o heddweision a llai o arian ar gyfer yr heddlu, ond cynnydd uniongyrchol mewn troseddu treisgar, troseddu â chyllyll a throseddu yn gyffredinol ledled Cymru, a bod hon yn broblem na all barhau?

Lywydd, mae hanes trychinebus Prif Weinidog y DU fel Ysgrifennydd Cartref yn dod yn ôl ar ei phen. Mae ei phenderfyniad—gadewch inni gofio mai ei phenderfyniad hi ydoedd—flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn i leihau'r cyllid ar gyfer yr heddlu—[Torri ar draws.] Rydych yn anghofio'r troeon pan fynychodd gynadleddau'r Ffederasiwn Heddlu a rhoi pregeth iddynt ar y ffordd y dylent wneud eu gwaith, pan oedd hi, ar yr un pryd, yn cael gwared ar yr adnoddau a oedd yn galluogi awdurdodau'r heddlu ledled Cymru a Lloegr i wneud y gwaith hanfodol a wnânt. Nid oes gwahaniaeth sawl gwaith y mae Gweinidogion Ceidwadol yn ymddangos ar y teledu a'r radio i honni nad yw'r toriadau llym i gyllidebau awdurdodau'r heddlu wedi cael unrhyw effaith ar droseddu, gan fod y bobl sy'n byw bywydau go iawn mewn cymunedau go iawn yn gwybod nad yw hynny'n wir, ac amlygir hynny'n dda iawn gan y ffigurau a amlinellwyd gan Mick Antoniw. Yn ymgyrch etholiadol drychinebus y Prif Weinidog y llynedd, un o'r materion na chafodd unrhyw sylw ganddi drwy gydol yr ymgyrch oedd addewid y Blaid Lafur, pe baem yn cael ein hethol, i adfer y cyllidebau hynny a sicrhau bod niferoedd yr heddlu'n cael eu hadfer i ble roeddent cyn i'r Prif Weinidog ddechrau ar ei hymgyrch i'w lleihau. Wrth gwrs bod lleihau cyllidebau awdurdodau'r heddlu yn effeithio ar y gwaith y gallant ei wneud, ac wrth gwrs bod y gwaith y gallant ei wneud yn effeithio ar fywydau pobl mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru.

14:25
2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi)

Y cwestiynau nesaf i arweinydd y tŷ. Y cwestiwn cyntaf—Simon Thomas. 

Derbyniad Ffôn Symudol

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd derbyniad ffôn symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51977

Diolch am eich cwestiwn. Er nad oes gennym wybodaeth benodol am dderbyniad ffonau symudol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, rwy'n cydnabod bod yr ardal yn dioddef. Rydym wedi llwyddo i lobïo Ofcom i gynnwys rhwymedigaethau cysylltedd yn eu harwerthiant sbectrwm sydd ar y ffordd ar gyfer y band 700 MHz, a gobeithiwn y bydd hynny'n arwain at wella argaeledd gwasanaethau.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet—nid wyf yn siŵr beth yw hi pan fydd hi'n gwneud hyn, arweinydd y tŷ neu Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n Aelod o'r Cabinet, beth bynnag. Diolch am eich ateb. Rwy'n cael cryn drafferth deall sut y gallwn symud ymlaen mewn sawl rhan o'r Gymru wledig i'r dyfodol awtomataidd, y dyfodol roboteg rydym wedi bod yn sôn amdano ym mywyd cyhoeddus Cymru heddiw os nad oes gennym signal ffôn symudol hyfyw a dibynadwy. Ni allwch gael fferm awtomataidd, er enghraifft, os nad oes gennych hynny. Ni allwch gael ceir awtomataidd os nad oes gennych hynny. Ni allwn gael datblygiadau, hyd yn oed os cawn reilffordd newydd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, heb signal ffôn symudol dibynadwy ar gyfer peirianneg y trac a phopeth arall.

Rydych yn dweud na wyddoch beth yw ei argaeledd, ac rwy'n deall nad yw wedi'i ddatganoli, ond mae ffyrdd o lenwi'r bwlch. Mae gan Lywodraeth yr Alban raglen fewnlenwi 4G. Maent wedi ystyried newid rheoliadau cynllunio, a gwneud eu gorau glas gyda rhannu mastiau, gorfodi cwmnïau i weithio gyda'i gilydd, ac yn wir, peth buddsoddiad cyhoeddus gan y Llywodraeth er mwyn llenwi'r mannau gwan. A yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, ac a allem weld rhaglen 4G/5G genedlaethol, yn debyg i'r rhaglen band eang rydych wedi'i rhoi ar waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf? Rwy'n siŵr fod eich bag post yn haeddu ychydig mwy o lythyrau ar y materion hyn hefyd.

Mae'r setliad datganoli yn gymhleth iawn yma ac mae'r ymylon yn anodd, ac felly mae beth yn union sydd wedi'i ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli yn destun sgwrs gyson rhyngom ni, Llywodraeth y DU, Ofcom a'r diwydiant o ran pwy sy'n gallu gwneud beth. Felly nid yw lawn mor syml â'r sefyllfa yn yr Alban, yn anffodus, a gresyn na fyddai mor syml â hynny. Mae rhai gwelliannau wedi bod. Nid wyf yn honni o gwbl fod pethau'n wych, ond cafwyd rhai gwelliannau o ganlyniad i'n sgyrsiau gydag Ofcom a'u pwysau ar y diwydiant. Ar hyn o bryd, mae gan oddeutu 90 y cant o safleoedd ledled Cymru signal ffonau symudol y tu allan. Rydym wedi gweld cynnydd o 33 pwynt canran mewn argaeledd 4G y tu allan rhwng 2015 a 2016, gan gyrraedd 53 y cant.

Dyfarnwyd trwydded arwerthiant diwethaf y sbectrwm 4G, y soniais amdani, i Telefónica O2, ac roedd yn cynnwys rhwymedigaeth i ddarparu cysylltedd i 95 y cant o boblogaeth Cymru fan lleiaf erbyn diwedd 2017, a bu'n rhaid inni ymladd yn gryf i sicrhau ei bod yn sicrhau hynny. Yn hwyr yn 2015, cyhoeddodd Ofcom fod ganddynt arwerthiant sbectrwm ar y ffordd yn y bandiau 2.3 GHz a 3.4 GHz. Mae hwnnw'n sbectrwm capasiti mawr iawn a bydd yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti'r cysylltedd 4G presennol. Rydym yn pwyso ar Ofcom i gynnwys rhwymedigaeth cysylltedd daearyddol yn yr arwerthiant sydd ar y ffordd ar gyfer y sbectrwm 700 MHz, neu os nad yw'n ei gynnwys, i gynnwys rhwymedigaeth amser cyfyngedig i'w roi'n ôl i ni os na chaiff ei gyflawni. Rwyf wedi sôn yn y Siambr o'r blaen am effaith bancio tir yr arwerthiannau sbectrwm, a pha mor anodd yw hynny i ni.

Felly, rydym yn rhoi llawer o bwysau arnynt. Mae rhai pethau eraill yn digwydd. O ran cyflwyno system y Swyddfa Gartref, deallwn fod y ceisiadau cynllunio wedi cyrraedd yr awdurdodau lleol bellach ac yn mynd rhagddynt yn dda. Bydd hynny'n darparu gallu ychwanegol i ymdrin ag ef. Hefyd, wrth gwrs, y fasnachfraint reilffyrdd. Byddwn yn gosod rhwymedigaethau ar ddeiliad y fasnachfraint reilffyrdd i ledaenu signal ffonau symudol ar hyd y rhwydwaith hwnnw, ac rydym yn edrych hefyd ar ein rhwydwaith ffyrdd. Felly, rydym yn defnyddio'r setliad datganoli, fel y mae, hyd eithaf ein gallu ac yn rhoi llawer o bwysau ar Lywodraeth y DU ac Ofcom o ran y ffordd y mae'r diwydiant yn rhoi pethau ar waith. Rydym hefyd yn parhau i gynnal fforwm y cynllun gweithredu ar gysylltedd symudol, a gadeirir gennyf, ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn destun ymgynghori ar hyn o bryd ar leoliad a maint mastiau. Felly, ceir llawer o weithgarwch, ond rwy'n rhannu rwystredigaeth yr Aelod o ran yr arafwch a'r anawsterau.

Y peth olaf a ddywedaf yw ein bod wedi targedu pobl sydd wedi'u hallgáu o'r sbectrwm 4G yn ein prosiect band eang Cyflymu Cymru 2, er mwyn ceisio rhoi hwb iddynt mewn ffordd wahanol.

14:30

Arweinydd y tŷ, rwy'n gwerthfawrogi'r ateb a roddwyd gennych i Simon Thomas yn awr, ond wrth gwrs, y realiti yw bod ardaloedd helaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru lle nad oes gan bobl fynediad at fand eang na signal ffôn symudol. A bod yn deg, rwy'n llwyr gydnabod eich ymrwymiad i fynd i'r afael â hyn, a gwn eich bod wedi ymrwymo i gynorthwyo bron i 100, yn llythrennol mae'n debyg, o fy etholwyr i geisio datrys eu problemau.

Fodd bynnag, mae 90 y cant o gysylltedd ffôn symudol yn swnio'n wych, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu 90 y cant o un darparwr. Ac felly, weithiau, gallwch gael ychydig o signal gydag un darparwr, ond nid yw eich darparwr chi'n gweithio. Felly, er enghraifft, mae gennyf aelwyd lle—nid wyf yn gwybod a ddylwn enwi'r darparwyr—pe baent ar EE, gallant gael signal yn llythrennol wrth eu drws, ond dyna ni, ddim yn unman arall yn eu hardal. Felly, mewn gwirionedd, nid dyna'r darparwr gorau ar eu cyfer hwy. Tybed a allai ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen fod yn ffordd ymlaen, fel y gallant edrych yn benodol ar sut y gallwn roi darnau o'r holl fethodolegau cyfathrebu at ei gilydd fel jig-so mewn ardaloedd gwledig er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion wedi'u galluogi'n ddigidol yn y dyfodol, gan fod hynny'n hanfodol ar gyfer busnesau ac ar gyfer gwaith cartref, plant, pawb. Mae pob un ohonom angen ein ffics ddigidol.

Ie, dyna'n union y mae'r cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol yn ceisio'i wneud, dod â'r gweithredwyr at ei gilydd a sicrhau bod y jig-so'n ffitio, os mynnwch. Nid wyf yn dymuno gwneud hwn yn fater gwleidyddol, ond mae rhai pethau sylfaenol yn codi. Un o'r materion mawr yw trawsrwydweithio. Nid yw'r cwmnïau ffôn symudol yn hoff o'r syniad o drawsrwydweithio, ac mae Ofcom yn eu cefnogi ar hynny. Ac rydym yn deall yn iawn pam, yn fasnachol, nad ydynt yn awyddus i ganiatáu trawsrwydweithio mewn canolfannau poblogaeth mawr ac ati. Ond mewn ardaloedd gwledig, mae'n debyg mai dyna'r unig obaith gan nad ydych byth yn mynd i gael cysylltedd i bum rhwydwaith gwahanol ledled holl dir gwledig Cymru a mannau eraill yn y DU. Ac felly, rydym wedi bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar drawsrwydweithio y tu hwnt i'r cytrefi mawr, er enghraifft. A'r peth rhwystredig yw, os oes gennych SIM o'r tu allan i Brydain—os oes gennych SIM Ffrengig, bydd yn trawsrwydweithio'n ddigon diffwdan. Felly, bydd yn gweithio'n ddiffwdan gan fod yr UE yn gwneud trawsrwydweithio'n ofynnol. Yn yr un modd, os ewch â SIM o Brydain i Ewrop, mae'n trawsrwydweithio'n ddiffwdan. Felly, rydym yn pwysleisio hynny, a rhannaf rwystredigaeth yr Aelod yn ei gylch.

Bydd gennym gysylltedd daearyddol gan un darparwr—cysylltedd daearyddol o 98 y cant, dylwn ychwanegu; bydd 2 y cant heb gysylltedd o hyd—a fydd yn wych gan y gobeithiaf y bydd y trigolion yn siarad â'u traed ac yn newid i'r darparwr hwnnw. Ond nid yw hynny o gymorth i'r diwydiant twristiaeth. Ni allwch ddweud wrth eich twristiaid, 'Croeso i Gymru, os gwelwch yn dda, defnyddiwch y darparwr hwn neu fel arall ni allwch gael mynediad at unrhyw beth.' Mae hynny'n amlwg yn ddiwerth. Felly, rydym yn parhau i bwysleisio pa mor ddiwerth yw hynny i raddau helaeth ac i ddefnyddio ein rhwydweithiau cyhoeddus a'n seilwaith cyhoeddus i'w ymestyn cyn belled ag y gallwn. Mae yna broblemau, fel rwy'n dweud, gyda'r setliad datganoli mewn perthynas â hynny.

Y Cynllun Gweithredu Digidol

2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi adroddiad ar hynt cynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru? OAQ51970

Gwnaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr holl themâu: arweinyddiaeth, trawsnewid, sgiliau a gweithlu, gwasanaethau platfform, ymgysylltu a deialog ddigidol, a data. Mae'n bwysig iawn i mi gan ei fod yn hybu gwelliannau wrth gyflawni gwaith y Llywodraeth, ac wrth gwrs, rwy'n goruchwylio cynnydd y cynllun, sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Parhaol, yn y grŵp digidol a data, a gadeirir gennyf.

Diolch am eich ateb. Arweinydd y tŷ, mynychais y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol ddiwedd y tymor diwethaf. Yno, nodwyd rhwystr i weithio'n fwy effeithiol a chyfathrebu ar draws disgyblaethau, sef anallu gwahanol systemau technoleg gwybodaeth i siarad â'i gilydd, er fy mod yn deall bod gwelliannau ar y gweill. Ddoe ddiwethaf, yn ystod y datganiad ar wasanaethau iechyd rhywiol, amlygwyd diffyg systemau TG effeithiol fel problem unwaith eto. Rwy'n sylweddoli nad yw systemau iechyd yn rhan o'ch cylch gwaith, ond mae hyn wedi gwneud imi feddwl am arloesedd y gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn addas ar gyfer y presennol, heb sôn am y dyfodol.

Mae fy ymchwil wedi fy arwain i ddarllen eich cynllun gweithredu digidol ar gyfer 2017-20, enghraifft wych o syllu ar eich bogail, os gwelais un erioed, gydag un paragraff yn unig—29—yn sôn am un o'r prif resymau pam rydym yma: ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Cefais fy arwain wedyn at yr adroddiad 'digidol yn gyntaf' yn 2012. Dyma'r cyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru, lle yr ystyriwyd bod arweinyddiaeth, strategaeth a chyfeiriad yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon yn y dyfodol. Nawr, mae hi bellach yn 2018—dyma'r dyfodol. Wedi 20 mlynedd o ddatganoli, mewn gwlad fechan iawn, a allwch amlinellu pa arweinyddiaeth, strategaeth a chyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dangos yn y maes allweddol hwn?

14:35

Fe geisiaf fynd i'r afael â hynny. Mater y gwasanaethau iechyd: mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau yn cydweithio ar faterion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd, ac yn wir, rwy'n mynychu'r bwrdd rheoli gwybodeg cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, a elwir yn NIMBY—sydd bob amser yn gwneud imi wenu, mae arnaf ofn, ond nid yw'n golygu'r hyn y mae'n ei olygu fel arfer; dyna yw'r enw ar system y bwrdd gwybodeg. A holl bwynt hynny yw cydgysylltu cynnydd TG ar draws y gwasanaeth iechyd, ar sail unwaith i Gymru, ac i sicrhau bod gennym systemau sy'n gweithio—wel, (a) bod gennym gyn lleied o systemau â phosibl, er mwyn sicrhau bod gennym systemau tebyg ar draws pob bwrdd iechyd, ac yn wir, eu bod yn siarad gyda'i gilydd, ac mae'r gwaith o wneud hynny'n mynd rhagddo. Ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ein cynnydd mewn perthynas â hynny. Ond gallaf eich sicrhau ein bod yn bwrw drwyddi ar hynny, ac rydym yn cael sgyrsiau bywiog iawn yn ei gylch.

O ran Llywodraeth Cymru ei hun, credaf fod tair agwedd ar eich cwestiwn. Un yw busnes mewnol Llywodraeth Cymru, a amlinellwyd gennyf yn awr yn nhermau'r cynllun gweithredu digidol, sy'n ymwneud â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn gweithio. Ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod ein bod newydd ddod i ben ag un o'r prif gontractau TG mawr, Atos, a'n bod yn newid i system fwy hyblyg. Roedd y comisiwn sawl blwyddyn ar y blaen i'r Llywodraeth yn hyn o beth, ac mae'n ffordd wahanol o weithio. A dyna roeddwn yn ei amlinellu, a byddaf yn adrodd ar gynnydd ar y cynllun hwnnw cyn bo hir. Ac yna, mae'r gwaith a wnaf gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, mewn llywodraeth leol ac yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, ar arloesi digidol a gwella ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym agenda enfawr yn hynny o beth, lle'r ydym yn cysylltu â'r holl wasanaethau cyhoeddus—gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru—er mwyn sicrhau, unwaith eto, fod gennym system unwaith i Gymru â chyswllt digidol, lle'r ydym yn rhoi'r systemau ar waith gyda'i gilydd. A soniodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ei atebion yn awr am y llwyddiant gwirioneddol rydym wedi'i gael gydag Awdurdod Cyllid Cymru, a ddaeth yn weithredol yn gynharach y mis hwn—a gwn ei fod wedi'i amlinellu yn gynharach—gyda'r holl broses ar-lein o gasglu a rheoli'r trethi trafodiadau a thirlenwi wedi'i galluogi'n ddigidol, a chyda'r holl gyfreithwyr a thrawsgludwyr, ac yn y blaen, yn gallu mewngofnodi ar y system, a chwblhau eu trafodion yn ddigidol.

Felly, rydym ar flaen y gad yn hynny o beth. Mae llawer o waith ar ôl i'w wneud, ac mae problem fawr yma o ran deall sut y mae'r dyfodol yn edrych, o ran yr agenda sgiliau hefyd. Ond heb os, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn bwrw drwyddi'n dda gyda'r agenda honno.

Arweinydd y tŷ, ymddengys bod gan gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru ddau nod—Cymru fwy cysylltiedig a Chymru fwy cyfartal. Nawr, fe gyhoeddoch ddiweddariad i'ch cynllun cynhwysiant digidol y bore yma, ac rwyf wedi ei ddarllen, ac mae'n nodi cynnydd da. Ond mae'n rhaid imi ddweud mai'r gwir amdani, wrth gwrs, yw bod cysylltedd band eang miloedd o fy etholwyr, yn Sir Drefaldwyn, yn dal i fod yn araf neu heb fodoli o gwbl. Felly, golyga hynny, wrth gwrs, na allant gael mynediad at wasanaethau Llywodraeth Cymru ar-lein. Nid ydynt yn teimlo'n fwy cysylltiedig, ac nid ydynt yn teimlo'n rhan o Gymru fwy cyfartal yn y cyswllt hwn, ac ni fydd yn syndod, wrth gwrs, fy mod yn dweud hyn wrthych. Ond a gaf fi ofyn am ddiweddariad ar gaffael cam 2 y prosiect Cyflymu Cymru, a phryd y byddwch mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr gyflawn o'r 88,000 o safleoedd a fydd yn elwa ar y cynllun nesaf?

Wel, mae'n rhaid imi ddweud, hoffwn longyfarch yr Aelod am lwyddo i sicrhau bod band eang yn rhan o'r sgwrs am gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru, a chredaf fod nifer o gwestiynau eraill ar hynny yn ddiweddarach ar yr agenda. Ond yr ateb byr yw: byddaf yn gwneud datganiad tuag at ddiwedd mis Mai ar gynnydd prosiect Cyflymu Cymru 2, y tri phrosiect a dendrwyd, a mater y gymuned benodol, a byddaf yn ymhelaethu ar hynny mewn cwestiynau diweddarach, Lywydd.

14:40

Mae e yn deg i ddweud, wrth gwrs, fod llawer mwy o ryngwyneb rhwng gwasanaethau cyhoeddus ac etholwyr yn digwydd ar-lein, felly rydw i'n meddwl bod y cwestiwn yn ddilys. Mae'n rhaid i mi ddweud: mae nifer o'm hetholwyr i wedi cael llond bol ar yr addewidion gwag maen nhw wedi bod yn eu cael yn y gorffennol gan bobl fel BT Openreach gynt, Openreach erbyn hyn. Mae pentrefi fel Ysbyty Ifan, i bob pwrpas, wedi cael eu camarwain gan gwmni sy'n amlwg â mwy o ddiddordeb mewn gwarchod buddiannau eu cyfranddalwyr nag mewn darparu gwasanaethau i'r cymunedau maen nhw fod i'w gwasanaethu. Ac yn waeth na hynny, mae Llywodraeth Cymru, hyd yn oed, wedi rhoi addewidion ffals i etholwyr, gyda chopïau o lythyrau rydw i wedi eu gweld yn dyddio yn ôl i Dachwedd 2015 yn addo datrysiadau yn y maes yma—un ohonyn nhw gennych chi, gyda llaw, mewn cyd-destun neu mewn rôl flaenorol fel Gweinidog Sgiliau a Thechnoleg, dros ddwy flynedd yn ôl. Felly, pryd fydd y cymunedau gwledig yma, fel Ysbyty Ifan, o'r diwedd yn cael y gwasanaethau maen nhw'n eu haeddu, yn hytrach na'r addewidion gwag maen nhw wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf? 

Mae'n ddrwg gennyf fod yr Aelod yn teimlo eu bod yn addewidion gwag. Rydym yn pwysleisio y gall y dyddiadau a grybwyllir yn y llythyrau newid ac na allwn addo mai dyna fydd y dyddiadau cysylltu. Ond rwyf wedi dweud sawl tro yn y Siambr hon fy mod yn rhannu ei rwystredigaeth a rhwystredigaeth y bobl y trefnwyd iddynt fod yn rhan o'r rhaglen, ac yna, am ba bynnag reswm cymhleth, ni chawsant eu cynnwys yn y diwedd. Bydd rhaglen Cyflymu Cymru 2 yn ceisio ymdrin â phobl a fu'n rhan o'r rhaglen Cyflymu Cymru 1 ac na chawsant eu cynnwys am ba reswm bynnag. Ni allaf addo y gellir ymdrin â phob un ohonynt. Mae yna faterion cymhleth ynghlwm wrth hyn.

Mae llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu rhwystro gan broblemau sy'n ymwneud â fforddfreintiau, er enghraifft. Credaf fod gennym oddeutu 10,000 o safleoedd sydd wedi'u rhwystro gan fforddfreintiau ar hyn o bryd, ac yn anffodus, gan nad yw hyn yn cael ei ystyried yn gyfleustod, nid oes gan Lywodraeth Cymru na'r contractwyr y mae Llywodraeth Cymru yn eu caffael unrhyw hawl i groesi tir. Os yw perchennog tir yn gwrthod mynediad i dir, nid oes gennym unrhyw ffordd o fynnu ein bod yn cael mynediad, ac un enghraifft yn unig yw honno o blith llawer sy'n bodoli ledled Cymru.

Ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod. Rwy'n ymweld â nifer fawr o gymunedau yng Nghymru i drafod a oes ateb cymunedol yn bosibl ar gyfer pentrefi, fel yr un a grybwyllwyd gennych yn awr, ac a allwn ddarparu un o'n hatebion pwrpasol i grŵp o bobl sy'n ddaearyddol agos neu a fyddai ateb arall yn well, a byddaf yn mynd i Geredigion yr wythnos nesaf, rwy'n credu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.  

Diolch yn fawr iawn. Ac mae yna wahoddiad wedi mynd i'ch swyddfa chi i ddod i Arfon hefyd, os caf ddweud? 

Yn ystod y mis diwethaf, yn ystod araith yn Rhydychen, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd yn cynnal adolygiad o bolisïau rhywedd a chydraddoldeb Llywodraeth Cymru a fyddai'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, ystyried sut i symud rhywedd i'r blaen wrth wneud bob penderfyniad, gofalu bod cynllunio economaidd yn cyd-fynd â'r rhethreg ar rywedd, a gwneud Cymru, drwy ddeddfwriaeth newydd, y lle diogelaf i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan—swnio'n wych, onid ydy, ond beth ydy'r manylion? Pryd fydd yr adolygiad yma yn cychwyn? Pwy fydd yn ei gynnal o? A fydd yna dargedau penodol a deilliannau penodol, a beth fydd pwrpas yr adolygiad yma? 

Wel, mae'r cwestiynau i'w croesawu'n fawr ac yn amserol iawn. Rydym newydd gwblhau cytundeb y cylch gorchwyl, ac fe'i rhoddwyd gennyf heddiw yn llyfrgell yr Aelodau, fel y gall pob Aelod eu gweld o heddiw ymlaen. Felly, mae'r cwestiwn yn un amserol iawn. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cytuno ar y cylch gorchwyl. Byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad cychwynnol i randdeiliaid, un ar 26 Ebrill ac un ar 3 Mai, lle byddwn yn dod â phob un o'r rhanddeiliaid sy'n weithgar yn y maes hwn ynghyd—un yn ne Cymru ac un yng ngogledd Cymru—i geisio denu cynifer o bobl â phosibl, ac rwyf wedi ysgrifennu at yr holl grwpiau rydym yn ymwybodol ohonynt. Os gwyddoch am unrhyw rai nad ydynt wedi cael unrhyw beth gennym, hoffwn pe baech yn eu hannog i ymateb—nid y bobl y gwyddom amdanynt yn unig rydym yn ceisio eu cyrraedd—a gofynnwch iddynt, pe baent yn gallu gwneud un peth yn y tair blynedd nesaf yn y maes hwn, beth fyddai hwnnw, fel y gallwn gychwyn trafodaeth yn y ddau ddigwyddiad i randdeiliaid ynglŷn â'r blaenoriaethau y mae pobl yn eu nodi. Ac rwy'n falch iawn o ddweud y byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yn fuan, yr hyn y gallwn ei wneud yn y tymor canolig a'r hyn a allai gymryd mwy o amser i'w gyflawni fel rhan o'r adolygiad hwn rwy'n falch iawn o'i wneud.

Diolch yn fawr. Rydw i'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth yna. Yng nghyswllt y pwynt a wnaed yn araith y Prif Weinidog yn Rhydychen am greu Cymru fel y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan drwy ddeddfwriaeth, rydych yn gwybod, wrth gwrs, mai dyna beth oedd un o'r bwriadau y tu ôl i'r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac rydw i'n falch iawn fod yna ychydig o gynnydd rŵan yn digwydd yn sgil materion rydw i wedi eu codi yn y Siambr yma ynglŷn â gweithredu'r Ddeddf honno. Ond mae yna un prif wendid o hyd ynglŷn â'r Ddeddf, onid oes, sef y penodi addysg am berthynas iach? Ac er gwaethaf gwaith diweddar gan y grŵp gorchwyl a gorffen, mae'n edrych fel pe na baem ni'n dal i fod yn nes i'r lan efo hyn, felly. Nid oes dim sôn am beth sy'n mynd i ddigwydd o ran dysgu sylfeini perthynas iach a gosod trafodaeth ynglŷn â beth sy'n ymddygiad derbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol, ac yn y blaen. Felly, mi gollwyd cyfle efo'r Ddeddf. Gobeithio bod yna gyfle rŵan, ond nid wyf i'n gweld cynnydd ar hyn. Beth sydd yn dal pethau yn ôl efo hyn?

14:45

Felly, mae'r Aelod, yn briodol, yn nodi mater sydd wedi bod ar feddyliau llawer ohonom ers peth amser. Cyn bo hir bydd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad ar addysgu—ni allaf gofio'r union deitl—addysg rhyw a pherthnasoedd, i bob pwrpas. Mae'n bosibl nad dyna'r union deitl, maddeuwch i mi, ond dyna ydyw yn ei hanfod. Rydym wedi bod yn adeiladu ar y prosiectau llwyddiannus a gyflawnir gan Hafan Cymru mewn llawer o ysgolion yng Nghymru mewn perthynas ag addysg rhyw a pherthnasoedd iach. Cefais y fraint o fynychu sesiwn yn un o'n hysgolion cynradd yn y Cymoedd, ac roedd yn anhygoel. Roedd y gwahaniaeth yn y grŵp ar ddechrau'r sesiwn ac ar y diwedd, a'r fenyw ifanc a oedd yn ei addysgu, yn ysbrydoledig. Felly, rydym wedi bod yn edrych i weld a allwn adeiladu ar hynny. Ond bydd fy nghyd-Aelod—nid wyf am ddwyn ei chlodydd—Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud rhai cyhoeddiadau yn fuan iawn.

Wel, rydw i'n falch iawn o glywed hynny ac mae'n hen bryd, os caf fi ddweud. Mae addysg yn allweddol, wrth gwrs, i daclo'r maes penodol yma.

Ddoe, fe soniodd rhai Aelodau yn y Siambr am yr adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol, sy'n tynnu sylw at y loteri cod post sy'n bodoli o ran gwasanaethau erthylu yng Nghymru. Mae'r adolygiad yn dweud hyn: mae gwasanaethau erthylu yng Nghymru yn anghyfartal ac fe all hyn arwain at erthyliadau hwyr neu i fenywod fod mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt ddewis ond parhau â beichiogrwydd na fwriadwyd ganddynt. Yn glir, nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol. A fydd yr adolygiad mawr yma rydych chi'n mynd i fod yn ei wneud yn mynd ar ôl hyn yn benodol o ystyried bod y ddarpariaeth yn hollol anghyfartal ar hyn o bryd? Mae o'n fater sydd rhaid ymdrin ag o os ydy'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn mynd i gael eu cymryd o ddifrif, neu fel arall fe fydd pobl yn meddwl mai geiriau gwag—dataganiad tocenistaidd—i'r wasg a wnaed yn fyrfyfyr yn Rhydychen?

Un o ddibenion yr adolygiad yw edrych ar bolisïau sy'n canolbwyntio ar rywedd ar draws Llywodraeth Cymru. Felly, dyna un enghraifft rydych newydd ei rhoi. Mae llawer o rai eraill yn ymwneud â sut a pham y mae gwasanaethau fel ag y maent yng Nghymru. Un o'r rhai rwy'n ei dyfynnu'n aml yw eich bod yn aml yn gweld gwasanaethau ar gyfer llochesau, er enghraifft, yn datblygu lle mae nifer o bobl wedi gweld yr angen ac wedi dod at ei gilydd ddegau o flynyddoedd yn ôl ac yna rydym wedi parhau â'r gwasanaeth hwnnw yn hytrach na dull sy'n seiliedig ar anghenion ledled Cymru. Nid bod unrhyw beth o'i le ar y gwasanaethau sydd yno, ond nid wyf yn gwbl argyhoeddedig fod gennym y cyrhaeddiad a bod pobl yn cael yr un profiad lle bynnag y maent yn defnyddio'r gwasanaethau hynny, oherwydd y ffordd y cânt eu datblygu a'r ffordd rydym—. Felly, mae hynny'n rhan o bwrpas yr adolygiad. Felly, rydych wedi tynnu sylw at un arall. Mae yna wasanaethau eraill—tynnwyd fy sylw at wasanaethau endometriosis, er enghraifft, ac mae nifer o rai eraill. Felly, ie, diben yr adolygiad yw edrych ar bolisïau ar draws Llywodraeth Cymru ac argaeledd gwasanaethau a chanolbwyntio ar yr hyn y gellid ei wneud i wella hynny.

Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiynau'n ymwneud â'ch cyfrifoldebau dros gydraddoldeb a hawliau dynol. Ddydd Llun, cynhaliais a siaradais yn nigwyddiad Going for Gold Autistic Acceptance yn y Senedd. Roedd yn ddigwyddiad a arweiniwyd gan oedolion awtistig, lle roeddent hwy—oedolion awtistig huawdl a deallus iawn—yn trafod y meysydd sy'n peri pryder iddynt, ond hefyd yn cyflwyno syniadau ynglŷn â sut y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd yn gydgynhyrchiol, yn eu geiriau hwy, i sicrhau ein bod yn dechrau mynd i'r afael â'r gwahaniaethu sy'n wynebu pobl awtistig

sydd bellach yn arferol yn hytrach nag yn eithriad.

Mynegwyd pryder ganddynt yn benodol nad yw ymwybyddiaeth yn gyfystyr â derbyniad na chydraddoldeb, a dyna lle mae eich rôl chi'n berthnasol i hyn, ac eto ceir pryder cynyddol fod hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth yn gyffredinol, a hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd yn ehangach, ar draws Cymru, yn cael ei arwain yn gynyddol gan bobl nad ydynt yn anabl, sy'n weithwyr proffesiynol mewn proffesiynau meddygol neu ofal gyda ffocws meddygol, sy'n hysbysu pobl am namau pobl anabl a ffyrdd o oresgyn anabledd, tra bod hyfforddiant cydraddoldeb awtistiaeth, fel y dywed y sector, bob amser yn cael ei arwain gan hyfforddwyr sy'n bobl anabl, gyda ffocws ar bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yn y gymdeithas, gan gydnabod y bydd cael gwared ar y rhwystrau corfforol, ariannol ac ymagweddol yn creu cymdeithas fwy cynhwysol a hygyrch.

Sut y byddwch, drwy weithio gyda'ch cyd-Aelodau, yn mynd i'r afael â'r pryderon cynyddol yn y gymuned awtistig, ac yn ehangach ymhlith pobl anabl yng Nghymru, fod yr hyfforddiant ymwybyddiaeth hwn yn cael ei ddarparu hebddynt neu er eu gwaethaf ar fodel meddygol, yn hytrach nag ar y cyd â hwy ar sail gydgynhyrchiol i fynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu?

14:50

Nid yw'r mater hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw yn uniongyrchol, Mark Isherwood, a buaswn yn croesawu sgwrs hirach gyda chi ynglŷn â lle y codwyd y pryderon hynny. Rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny. Yn sicr, ein polisi datganedig yw bod gennym fodel cydgynhyrchu; ein bod yn gweithio gyda'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn cael eu darparu gyda hwy a chyda'u mewnbwn hwy. Felly, mae eich clywed yn dweud hynny yn peri pryder i mi a buaswn yn croesawu sgwrs gyda chi ynglŷn â lle y codwyd pryderon hynny gan nad ydynt wedi cael eu dwyn i fy sylw'n uniongyrchol.

Wel, diolch i chi am hynny. Edrychaf ymlaen at y sgwrs honno. Efallai y gallech, yn eich ateb, ddweud wrthyf a ydych eisiau i mi gysylltu gyda chi neu fod eich swyddfa'n cysylltu—

Diolch yn fawr iawn.

Wel, ar bwnc tebyg, ac unwaith eto, ar fater cydraddoldeb, yn gynnar y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r—gair rwy'n gobeithio y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'w ddefnyddio; 'cyflwr' ddylai'r gair fod—sbectrwm awtistig: adroddiad interim, a gwelodd fod gwendidau ac anghysondebau yn y gwasanaethau asesu a'r gwasanaethau diagnostig i oedolion ag awtistiaeth a'r gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion a phlant sydd ag awtistiaeth, ac er bod llwyddiant yn galw am ddull cydgynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn y modd y caiff y gwasanaeth ei gynllunio, ei weithredu a'i werthuso, dywedodd:

Mae yna bryderon bod y dull "o'r brig i'r bôn"...wedi mygu hyn

Unwaith eto, o'r digwyddiad ddydd Llun, ac yn fwy cyffredinol, mae'r gymuned yn teimlo bod hyn yn tanseilio eu cydraddoldeb a'u hawliau dynol. Mae'n fwy na systemau; mae'n fwy na gwasanaethau; mae'n fater sy'n seiliedig ar hawliau. Unwaith eto, felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno i ystyried y mater hwn yn ehangach ac o bosibl, yn y cyfarfod rydych yn ei gynnig.

Yn sicr. Nid yw'r gwasanaethau a grybwyllwyd gennych yn fy mhortffolio mewn gwirionedd, ond rwy'n fwy na pharod i drafod gyda'r Aelod sut y gallwn ddatblygu hynny gyda nifer o Ysgrifenyddion Cabinet sy'n cymryd rhan.

Ac mae fy nghwestiwn olaf, unwaith eto, yn dilyn thema debyg, mae gennyf—mae llawer mwy o bobl yn dwyn hyn i fy sylw, oherwydd fy mod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth mae'n debyg—lwyth achosion cynyddol o deuluoedd lle y gwrthodir asesiad a diagnosis awtistiaeth i blant, yn enwedig merched, a hynny oherwydd camsyniadau ynghylch sut y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun. Mae gennyf enghraifft yma gan yr Inns of Court College of Advocacy, y mae eu canllawiau eu hunain yn dweud y gall menywod sydd ag awtistiaeth ymddangos yn fwy cymdeithasol na'u cymheiriaid gwrywaidd. Awgrymwyd bod menywod a merched ag awtistiaeth yn cymryd rhan yn well mewn sefyllfaoedd cymdeithasol oherwydd eu bod yn debygol o arsylwi a dynwared eraill yn eu sgiliau cymdeithasol a'u defnydd o iaith. Gall strategaethau o'r fath guddio unrhyw anawsterau sydd ganddynt a gwneud iddynt ymddangos yn fwy abl nag y maent mewn gwirionedd.

Mae gennyf nifer cynyddol o achosion, lle mae byrddau iechyd ac ysgolion yn gweld y mwgwd yn hytrach na'r person, ac mae mwy a mwy o'r merched hyn a'u teuluoedd—mae rhieni rhai ohonynt ar y sbectrwm yn ogystal—yn dioddef problemau gorbryder difrifol, iselder, absenoldeb o'r ysgol, tangyflawni, ac er gwaethaf hynny, maent hwy, a minnau pan fyddaf yn eu cynrychioli, yn cael ymateb cwerylgar ac anghynhyrchiol gan y cyrff statudol. Gwn fod hyn yn cwmpasu briffiau ar wahân i'ch rhai chi, ond unwaith eto, mae'r rhieni hyn, a'r plant pan fyddaf yn eu cyfarfod, yn dweud wrthyf fod hyn yn tanseilio eu hawliau dynol. Ac unwaith eto, rwy'n gobeithio y byddwch yn cadarnhau y byddwch yn ystyried mynd i'r afael â'r pryderon hyn oherwydd maent yn achosi niwed go iawn i fywydau go iawn.

Rwy'n ymwybodol iawn o gamsyniadau ynglŷn â sut y mae plentyn sydd ar y sbectrwm awtistig yn ymddangos. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol fod gennyf achos yn fy nheulu fy hun, sydd ar flaen fy meddwl.

Rwy'n fwy na pharod, fel rhan o'n trafodaeth, i gynnwys fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gwasanaethau, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonynt yn wasanaethau addysg yn ogystal mae'n debyg. Felly, os cawn y sgwrs honno, rwy'n fwy na pharod i fwrw ymlaen â hynny.

Hoffwn ailadrodd nad yw'r pryderon hynny wedi cael eu dwyn i fy sylw yn uniongyrchol, ond rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael â hwy.

14:55

Diolch, Lywydd. Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, mae fy nghwestiwn yn dilyn rhai o'r pethau a godwyd gan Sian Gwenllian yn gynharach.

Ym mis Ebrill 2015, pasiodd y Cynulliad Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Roedd hon yn ddeddfwriaeth ganmoladwy a luniwyd i ddiogelu, yn benodol, dioddefwyr benywaidd cam-drin domestig. Fel gydag unrhyw ddeddfwriaeth, mae'n ddyletswydd arnom i gwestiynu ei heffeithiolrwydd ar ôl cyfnod o amser. A yw arweinydd y tŷ yn credu bod y Ddeddf yn cyflawni ei nodau?

Mae'n ddyddiau cynnar ar y Ddeddf o hyd, wrth gwrs; nid ydym ond newydd benodi'r ymgynghorwyr cenedlaethol newydd. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd hynod o ddefnyddiol ac adeiladol gyda hwy, gan gynnwys cyfarfod hanner diwrnod pan fuom yn trafod yr ystod o wasanaethau sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd a beth sydd angen ei wneud i sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd fwy cydweithredol. Yr wythnos hon, cefais y fraint o fynychu lansiad Consortiwm Seren Fôr ym Mae'r Gorllewin, sy'n croesawu'r dull cydweithredol hwnnw o ganlyniad i'n canllawiau cenedlaethol newydd. Felly, credaf fod y Ddeddf yn profi ei gwerth.

Roedd y cychwyn yn araf, fel y crybwyllodd Sian Gwenllian, ond credaf ein bod wedi cyrraedd bellach. Rydym ar fin cyhoeddi ein canllawiau ariannu cynaliadwy yn ogystal. Felly, credaf fod y Ddeddf yn un y gallwn fod yn falch iawn ohoni, ac mae'n dechrau gwneud y gwahaniaeth rydym yn disgwyl ac eisiau iddi ei wneud.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb cynhwysfawr, ond nid yw'r ffigurau mewn perthynas â thrais rhywiol a cham-drin domestig yn galonogol o gwbl. Ym mis Mawrth 2017, dangosodd y data gynnydd o 23 y cant yn y math hwn o droseddu dros y tair blynedd flaenorol. Hyd yn oed o ystyried bod pobl yn fwy parod i roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, mae'n dal i ddangos tueddiadau sy'n peri pryder. Fodd bynnag, yr hyn sy'n peri llawer mwy o bryder yw'r diffyg arian ar gyfer ymyriadau wedi i ddioddefwr wneud y penderfyniad dewr i adael y cartref lle y digwyddodd y cam-drin domestig, weithiau dros flynyddoedd lawer. Mae ffigurau'n dangos bod 47 y cant o ddioddefwyr o'r fath wedi cael eu gwrthod gan lochesau oherwydd diffyg llety. O ystyried bod y llochesau hyn yn chwarae rôl hanfodol yn helpu pobl i ddianc rhag trais domestig, a yw arweinydd y tŷ yn teimlo bod y cyllid yn ddigonol?

O na bai'n ddigonol. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn, canlyniad blynyddoedd o gyni Llywodraeth Geidwadol yw hyn. Mae gennym lai a llai o arian flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae gennym lai a llai o arian. Nid oes unrhyw ddewisiadau hawdd. Nid ydym byth yn torri rhywbeth nad yw'n gweithio. Mae pob un o'r gwasanaethau hyn yn hanfodol. Nid ydym mewn unrhyw—. Ni allaf ddweud bod y cyllid yn ddigonol, gan ei bod yn hollol amlwg nad yw'n ddigonol, ac ar ôl y nifer fawr o doriadau y bu'n rhaid i ni eu hysgwyddo flwyddyn ar ôl blwyddyn, nid yw'n syndod.

Wel, unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond y gwir cas amdani yw bod asiantaethau megis Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig a Cymorth i Fenywod Cymru yn datgan, ymhell o fod cyllid yn ddigonol i ariannu llochesau ychwanegol, maent bellach yn ofni y bydd rhai llochesau'n gorfod cau. Felly, a yw symud cyllid o'r prosiectau hyn i awdurdodau lleol yn ddewis amgen synhwyrol, o ystyried y posibilrwydd o frigdorri'r ffynhonnell hanfodol hon ar gyfer costau gweinyddol?

Iawn, nid dyna a wnawn; nid ydym yn symud y cyllid i awdurdodau lleol. Yr hyn rydym yn ei wneud yw bod gennym ddull rhanbarthol cydgysylltiedig o ariannu'r gwasanaethau hyn. Fel y dywedais mewn ateb blaenorol, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol ac yn ddigonol ar draws Cymru, i bob un o fenywod Cymru heb ddibynnu ar loteri cod post o unrhyw fath. Felly, fel rhan o'n hadolygiad cyflym, byddwn yn dadansoddi pam a lle mae'r gwasanaethau hynny, ac a ydynt yn ddigonol i gyflawni eu tasg.

Rydym hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn datrys yr holl broblemau eraill yn ogystal. Felly, mae'n broblem sy'n ymwneud â goroeswyr, mae yna broblem sy'n ymwneud ag amddiffyn pobl sy'n ffoi rhag trais domestig uniongyrchol, ond mae yna broblem fawr mewn perthynas â hyfforddiant, mewn perthynas ag atal, ac mewn perthynas â throseddwyr yn ogystal, problemau sy'n rhaid rhoi sylw iddynt yn rhan o'r agenda hon hefyd. Felly, mae 70,000 o bobl wedi astudio ein cwrs e-ddysgu codi ymwybyddiaeth hyd yma, ac rydym yn cyflwyno ein hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen. Roedd yn fraint fawr cael ymweld â'r gwasanaeth tân yn ddiweddar, sef y gwasanaeth tân Rhuban Gwyn cyntaf yn y DU, a chael gweld, drosof fy hun, eu hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' ar gyfer pob un o'u gweithwyr proffesiynol rheng flaen, oherwydd atal yw'r ateb go iawn i hyn, er fy mod yn derbyn yn llwyr fod yn rhaid i ni ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl mewn perygl uniongyrchol o niwed yn ogystal.

15:00
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 dair blynedd ers ei chymeradwyo? OAQ51978

Gwnaf, gyda phleser. Ers i'r Ddeddf ddod i rym, mae'r dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael ei drawsnewid. Mae gweithredu'r Ddeddf wedi arwain at fwy o hyfforddiant, canllawiau cryfach, newid arferion a chyfeiriad strategol clir yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru drwyddi draw. Mae'r trydydd sector yn parhau i chwarae rôl bwysig iawn yn hyn oll.

Wel, wrth gwrs, fel rydym wedi'i glywed heddiw, mae'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn faes hollbwysig yn eich portffolio, ac rwy'n croesawu'r ffordd rydych yn ymgysylltu mor llawn yn y maes polisi hanfodol hwn. Mae gan y Ddeddf hon dri diben: atal, diogelu a chefnogi, ac ym mis Tachwedd siaradais yn nigwyddiad aml-ffydd blynyddol Cynnau Cannwyll BAWSO yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a thynnais sylw at y ffaith bod dwy fenyw yr wythnos, ar gyfartaledd, yn cael eu lladd gan bartner neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Felly, o ystyried cymaint o drais sy'n parhau yn erbyn menywod a merched, a wnewch chi roi sylw pellach ar y cynnydd mewn perthynas â gweithredu'r ddeddfwriaeth arloesol hon, o ystyried yr heriau sy'n wynebu sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau arbenigol i fenywod, y pwysau ar ddarparwyr amlasiantaethol fel yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd, y mae pob un â rôl i'w chwarae, a'r GIG, yn enwedig o ganlyniad i gyni a'r pwysau y mae'r Llywodraeth hon yn ei wynebu o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU?

Gwnaf, yn wir. Rydym wedi gwneud cynnydd enfawr er gwaethaf yr heriau, ac mae sefydliadau ledled Cymru wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i'r Ddeddf ac i'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Nid yw hyn yn syndod i ni; gwyddom fod pobl yn ymroddedig iawn yn y maes hwn.

Rydym, fel y gŵyr Jane Hutt, yn y broses o symud i sylfaen gomisiynu ranbarthol gydgysylltiedig, a arweinir gan anghenion, ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gwnawn hynny er mwyn gwella'r ffordd y bydd gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u cydgysylltu, fel y dywedais mewn atebion blaenorol, yn ogystal ag arbedion maint. Ond mae gennym wasanaethau trydydd sector arbenigol a fydd yn rhan hanfodol o'r dull rhanbarthol cydweithredol hwnnw, ac er mwyn ymhelaethu rhywfaint, mynychais lansiad consortiwm Seren Fôr bae'r gorllewin, sef consortiwm o bum sefydliad sydd wedi dod at ei gilydd i weithio ar y cyd. Rwy'n credu bod angen gwirioneddol i ni wneud yn siŵr nad yw'r ffordd rydym yn comisiynu gwasanaethau yn esgor ar ganlyniadau anfwriadol o ran lleihau cydweithio, ac rydym yn gobeithio y bydd y dull rhanbarthol hwn yn allweddol wrth ddwyn y gwasanaethau hynny ynghyd â sicrhau eu bod yn cydweithio mewn modd cydlynol ac yn rhannu eu data i gyd, yn hytrach na'n bod yn caffael gwasanaethau unigol a'u bod yn cystadlu â'i gilydd, ac yn tynnu eu data'n ôl yn naturiol. Felly, rydym yn ymrwymedig iawn i wneud hynny.

Mae ein fframwaith hyfforddiant cenedlaethol yn sicrhau bod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn rhan greiddiol o'r gwasanaeth y mae ein cydweithwyr iechyd, tân ac achub ac awdurdodau lleol yn ei gynnig. Fel y dywedais yn gynharach, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dangos eu hymrwymiad i'r hyfforddiant ac mae dros 70,000 o bobl wedi'u hyfforddi hyd yma. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gyhoeddi eu strategaethau lleol o dan y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol erbyn dechrau'r mis nesaf. Mae'n ymrwymiad allweddol yn y Ddeddf, ac mae'n ei rhoi ar sail strategol newydd, a fydd, yn ein barn ni, yn sicrhau'r arweinyddiaeth a'r cyfeiriad cryfach y mae'r sector eu hangen. Rydym yn falch iawn o fod wedi cyhoeddi ein canllawiau ein hunain, wrth i'r trydydd pen-blwydd agosáu.

Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017, bu Heddlu De Cymru yn ymdrin â bron i 36,000 achos o gam-drin domestig, a'r rheini yw'r rhai y maent wedi ymdrin â hwy. Felly, mae hon yn broblem enfawr, ac mewn llawer o ffyrdd, nid yw ond yn cael cydnabyddiaeth lawn yn awr. A wnewch chi ymuno â mi a chanmol gwaith Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru? Yn wir, rwy'n credu bod yr arweiniad a ddangoswyd gan gomisiynwyr yr heddlu yn allweddol yn y maes hwn, ond cafodd comisiynydd heddlu De Cymru grant o £1.4 miliwn gan y Swyddfa Gartref y llynedd i helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, gan ganolbwyntio ar ddiogelu ac atal, ac rwy'n deall mai hwn oedd y grant mwyaf a roddwyd i gomisiynydd yr heddlu. Credaf fod rhywfaint o waith gwych yn digwydd yn awr, ond mae'n dasg enfawr, ac mae llawer ohono'n ymwneud ag addysgu pobl, atal ymddygiad cyn iddo waethygu, ac ymagwedd dim goddefgarwch tuag at gam-drin.

15:05

Ie, rwy'n cytuno'n llwyr. Cefais y pleser mawr o fynd gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu o amgylch y ganolfan wasanaeth amlasiantaethol, yng ngorsaf heddlu canol Caerdydd. Ni wn a yw'r Aelod wedi cael cyfle i wneud hynny, ond buaswn yn ei argymell i bob Aelod, os nad ydych wedi cael cyfle. Mae'n dangos yr arweiniad go iawn y mae gwasanaeth yr heddlu, yn arbennig, wedi'i roi i'r dull cydweithredol hwnnw. Roeddwn yn gallu gweld drosof fy hun sut y gallent wneud yn siŵr eu bod yn ymateb yn llawer cyflymach ac yn fwy priodol i'r holl ddigwyddiadau roeddent yn ymdrin â hwy, a gwneud defnydd llawer gwell o'r cyfoeth o ddata, a'r gweithwyr proffesiynol gwahanol i gyd yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael y canlyniad gorau posibl o dan yr amgylchiadau a wynebent.

Buom yn cydweithio gyda hwy, a—fel y dywedais—gyda nifer fawr o'n partneriaid statudol yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn cyflwyno ein hyfforddiant a'n cwrs e-ddysgu 'gofyn a gweithredu', a lansiwyd gennym yn gynharach y llynedd, ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ogystal. Y syniad yw sicrhau bod pob un o'n hymatebwyr cyntaf a'r bobl sy'n ymdrin â phobl o ddydd i ddydd yn sylwi ar arwyddion cynnar y math hwn o gam-drin domestig. Felly, mae ein staff addysgu, ein cynorthwywyr addysgu, ein gwasanaethau tân ac achub, ein gwasanaethau heddlu, ein gwasanaeth ambiwlans ac ymatebwyr eraill, i gyd yn cwblhau'r hyfforddiant 'gofyn a gweithredu'. Mae sawl haen i'r hyfforddiant, felly mae'r ymatebwyr rheng flaen yn cael pecyn hyfforddiant penodol, ac mae yna becynnau hyfforddiant cydgysylltiedig i bobl sy'n ymdrin â'r canlyniadau—gyda digwyddiadau byw go iawn, er enghraifft, yn y ganolfan ddiogelu amlasiantaethol.

Mae gennym nifer o ymgyrchoedd eraill hefyd oherwydd rydym yn ceisio mynd i'r afael ag achos llawer o hyn yn ogystal. Felly, lansiwyd ein hymgyrch Dyma Fi ym mis Ionawr. Roeddwn yn falch iawn o allu ei lansio yng Ngholeg Gŵyr, gyda chriw brwdfrydig iawn o bobl ifanc yng nghanol eu harddegau a gymerodd ran frwdfrydig iawn ynddi. Mae honno'n un o'r ymgyrchoedd sydd wedi cael y derbyniad gorau o'r holl ymgyrchoedd a gynhaliwyd gennym fel Llywodraeth, rwy'n credu. Mae'r ymateb iddi wedi bod yn anhygoel. Oherwydd bod hwn yn fater cymdeithasol mawr yn ogystal, a diben hynny—. Rydym yn gwybod bod stereoteipio ar sail rhywedd yn rhan fawr o'r hyn sy'n gyrru trais domestig, wrth i bobl geisio cydymffurfio â stereoteipiau nad ydynt yn realistig nac yn bosibl eu gwireddu. Rydych yn gweld y pwynt rwy'n ei wneud. Mae'n bwysig dros ben nad yw dynion yn teimlo bod yn rhaid iddynt fod yn gryf a beth bynnag arall, ac nad yw menywod yn teimlo bod yn rhaid iddynt fod yn ostyngedig mewn sefyllfaoedd lle mae trais domestig yn digwydd. Dyna un enghraifft yn unig. Ceir ystod fawr o rai eraill. Felly, mae honno wedi bod yn ymgyrch lwyddiannus iawn.

Gobeithio bod yr holl Aelodau wedi cael cyfle i weld yr ymgyrch. Mae i'w gweld ar lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi cael mwy o ymateb i'r ymgyrch hon nag i unrhyw ymgyrch arall, rwy'n credu. Mae wedi bod yn rhyfeddol. Oherwydd fe welwn hyn fel angen i newid. Mae angen newid cymdeithasol er mwyn newid rhai o'r pethau, ac yn y cyfamser wrth gwrs, rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhai sy'n cael eu heffeithio.

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gweithredu ei pholisi ar geiswyr lloches a ffoaduriaid? OAQ52009

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i gydgynhyrchu cynllun i wella canlyniadau ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae drafft 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' yn mynd i'r afael â materion a godwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y llynedd, ac yn destun ymgynghoriad tan 25 Mehefin.

Diolch i chi am hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, yn fwy cyffredinol, a minnau wedi cael fy magu yng Nghasnewydd, rwy'n adnabod llawer o bobl sy'n rhan o genhedlaeth Windrush, a ddaeth i Gymru o'r Caribî yn dilyn yr ail ryfel byd, a gwneud cyfraniadau enfawr i'n cymunedau, ein heconomi ac yn wir, i'n gwasanaethau cyhoeddus. Rhannaf y dicter presennol tuag at y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn cynnal gwiriadau ar statws y rheini a ymfudodd i'r DU o wledydd y Gymanwlad rhwng 1948 a 1971, gan arwain at nifer ohonynt yn cael gwybod nad oes ganddynt hawl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac yn wir, y gallent gael eu halltudio. A wnewch chi, a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i unioni'r camweddau hyn fel mater o frys, ac i atal y sefyllfa bresennol, a gwrthdroi'r sefyllfa bresennol, lle mae'r aelodau hyn o'n cymunedau yn destun amarch dybryd a llawer iawn o ansicrwydd a phryder?

Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod. Credaf fod y mater hwn yn destun nifer o gyfraniadau ddoe, yma yn y Senedd yn ogystal. Rwy'n cefnogi safbwynt y Prif Weinidog yn llwyr, fel yr amlinellir yn y llythyr y mae'r holl Aelodau bellach, rwy'n gobeithio, wedi gweld copïau ohono. Mae'n hanfodol fod yr Ysgrifennydd Cartref yn rhoi proses syml, effeithiol a chyflym ar waith i gefnogi pob un o'r aelodau hyn yn ein cymunedau. Rwyf wedi gweld y wefan newydd sydd wedi cael ei chyhoeddi, ac nid wyf yn credu ei bod yn gyflym, yn hawdd na'n syml, mae arnaf ofn, felly byddwn yn ysgrifennu unwaith eto i ddweud ei bod yn wych fod y wefan wedi cael ei chyhoeddi, bod pobl yn cael mynediad ati, ond y dylid ei gwneud yn llawer mwy hygyrch. Ni wn a yw Aelodau wedi cael cyfle i edrych arni, ond mae'n anhygyrch iawn ac yn eithaf brawychus o ran peth o'r iaith a ddefnyddir, felly mae angen ei gwneud yn llawer mwy syml.

Ac yna, wrth gwrs, y bore yma, daeth yn amlwg fod y dogfennau cyrraedd wedi cael eu dinistrio, gan golli rhai o'r darnau olaf o ddogfennaeth a oedd gan rai o'r bobl a gafodd eu dal yn y llanastr hwn, a bod y rhai y dinistriwyd eu dogfennau cyrraedd wedi cael neges yn dweud, 'Nid oes unrhyw gofnod ohonoch yn ein cofnodion, yn ein ffeiliau', ac nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol o gwbl. Felly, gan fod hynny wedi dod yn amlwg, byddwn yn ysgrifennu ymhellach i nodi ein syndod bod hynny wedi cael ei wneud ac i ofyn am ragor o fanylion mewn perthynas â'r hyn sy'n cael ei wneud i unioni hynny.

15:10

Un o flaenoriaethau cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ceiswyr lloches oedd dod o hyd i fwy o gyfleoedd i geiswyr lloches gael mynediad at addysg uwch, ac roedd yn dweud yn benodol iawn yn y cynllun hwnnw y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cymorthfeydd misol gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i roi cyngor i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar lwybrau posibl i brifysgolion. Gallwch weld i ble rwy'n mynd, mae'n debyg, a chithau'n cynrychioli Abertawe eich hun: a oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno hyn mewn rhannau eraill o Gymru?

Yn ddiddorol iawn, cododd hyn—. Bûm yn cadeirio'r fforwm rhyng-ffydd yn gynharach yr wythnos hon ac fe gafwyd sgwrs ynglŷn ag adnewyddu'r strategaeth hon a'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod ceiswyr lloches sydd â chymwysterau proffesiynol, sydd yn amlwg o ddefnydd enfawr iddynt hwy ac i'n heconomi, yn gallu manteisio i'r eithaf ar y cymwysterau hynny. Tynnwyd sylw yn y drafodaeth at yr ymgyrch lwyddiannus i sicrhau bod cymwysterau meddygon cymwysedig yn cael eu cydnabod yn gyflym a'u bod yn gallu gweithio yng Nghymru, ac mae nifer o—maddeuwch i mi, ni allaf gofio faint yn union—mae nifer fawr o bobl wedi cwblhau'r rhaglen honno'n llwyddiannus. Felly, rydym wrthi'n edrych i weld beth y gallwn ei wneud i adnewyddu'r rhaglen honno, nid yn unig yn y prifysgolion, ond yn gyffredinol ar gyfer pobl sydd â chymwysterau proffesiynol a chymwysterau eraill y gallent eu defnyddio.

Rwy'n gwneud llawer gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ac mae'n ymddangos i mi fod llawer o broblemau o hyd mewn perthynas ag arwahanrwydd a thrafnidiaeth. Mae rhai o'r bobl rwy'n cyfarfod â hwy yn famau sengl gyda thri neu bedwar o blant ac maent yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cludo gwahanol blant i wahanol leoedd ar wahanol adegau, ac ymrestru wedyn ar gyfer dosbarthiadau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill neu gyrsiau mynediad coleg.

Felly, tybed a allech chi gael golwg arall ar y mater hwn, yn ogystal â'r ail fater yr hoffwn ei ddwyn i'ch sylw, sef y ffaith bod gwaith ymchwil rwyf wedi'i wneud yn dangos nad yw ceiswyr lloches yn gallu gwneud gwaith gwirfoddol yn y sector preifat. Rwyf wedi siarad â rhai ceiswyr lloches yn Abertawe sy'n dymuno gwirfoddoli mewn salon gwallt lleol oherwydd bod ganddynt ddiddordeb mewn datblygu eu sgiliau yn y maes hwn, ond dywedwyd wrthynt, oherwydd rheoliadau'r Swyddfa Gartref, eu bod yn cael gwirfoddoli mewn elusen ond ni chânt wirfoddoli mewn busnes. Mae hynny'n cyfyngu ar eu hymdrechion personol i ehangu eu gorwelion. Maent yn gwybod yn iawn na allant weithio am arian, ond maent eisiau gallu gweithio ar sail wirfoddol mewn busnes lleol. Felly, buaswn yn falch iawn pe gallech edrych ar y ddwy agwedd hon.

Ie, rwy'n ymwybodol o'r agweddau hynny eisoes. Yn ddiweddar, mewn grŵp ffoaduriaid a cheiswyr lloches yr wyf, unwaith eto, yn gadeirydd arno, tynnwyd sylw at hyn a gofynnwyd i'r Swyddfa Gartref ynghylch canlyniadau anfwriadol rhai o'u polisïau, oherwydd mae rhai o'r pethau hyn yn digwydd oherwydd nad oes gan bobl hawl i arian cyhoeddus hyd nes bod ganddynt wahanol lefelau o statws. Yn anffodus, rydym yn ceisio ymestyn trafnidiaeth am ddim i'r holl geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, ond mae angen i ni fod yn siŵr na fydd hynny'n cael ei ychwanegu wedyn at y rhestr o gronfeydd cyhoeddus nad oes gennych hawl iddo cyn gynted ag y gwnawn y datganiad hwnnw. Rydym yn y broses o geisio datrys peth o gymhlethdodau hynny mewn gwirionedd, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r pethau hyn.

Yn fy etholaeth, mae gan nifer o'r bobl rwy'n gweithio gyda hwy broblem debyg iawn. Yn yr un modd, gyda'r gwaith gwirfoddol, rydym yn credu ei fod yn ganlyniad anfwriadol i'r amgylchedd gelyniaethus, a elwir bellach yn amgylchedd cydymffurfio, y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi ar waith, ond rydym yn credu ei fod, mewn gwirionedd, yn ganlyniad anfwriadol, felly rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i dynnu eu sylw at hynny a sicrhau bod y rheolau hynny'n cael eu newid.

15:15
Menywod mewn Diwydiant

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cynrychiolaeth menywod mewn diwydiant? OAQ52007

Mae ein camau gweithredu yn canolbwyntio ar ddarparu'r cyfleoedd a'r gefnogaeth y mae menywod eu hangen i ddod o hyd i swydd, i ddychwelyd i'r gwaith a chamu ymlaen yn y gweithle er mwyn cyflawni a ffynnu. Mae hyn yn cynnwys ein cynnig gofal plant, annog menywod i ddilyn gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, rhaglenni gwella sgiliau a hyfforddiant, prentisiaethau i bobl o bob oed a mynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle.

Diolch. Mae prinder peirianwyr yn y DU ynghyd ag anawsterau i ddenu menywod i fyd diwydiant. Yn ddiweddar, mynychais ffair recriwtio yng Nghasnewydd ar gyfer prosiect newydd arloesol CAF Rail yn adeiladu trenau a thramiau. Maent yn cynnig amrywiaeth o rolau, gan gynnwys rolau rheoli, technegol a gweithredol. Mae 40 y cant o weithdy CAF Rail yn Sbaen yn fenywod. Yn y DU, 11 y cant yn unig o'r gweithlu peirianneg sy'n fenywod—y ganran isaf o weithwyr proffesiynol benywaidd ym maes peirianneg yn Ewrop. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer o waith cadarnhaol gyda phobl ifanc ac ysgolion, ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i ymgysylltu â busnesau sy'n awyddus i gynyddu nifer y menywod yn y sector hwn?

Fel y mae'n digwydd, rwyf wedi dod yn syth o gadeirio cyfarfod y bwrdd Menywod ym meysydd STEM ac rydym newydd ehangu aelodaeth y bwrdd i gynnwys pobl o fyd diwydiant am yr union reswm hwnnw. Felly, mae'r Aelod yn gwneud pwynt da ac amserol iawn. Ac un o'r pethau y mae'r bwrdd wedi bod yn ei bwysleisio yw'r holl fater hwn sy'n ymwneud ag arferion cymdeithasol, os mynnwch. Pam fod mwy o beirianwyr mewn rhai gwledydd Ewropeaidd na sydd yma? A'r rheswm yw ei bod yn fwy derbyniol yn gymdeithasol i fenywod wneud y mathau hynny o swyddi, ond yn anffodus, mae wedi bod yn llai derbyniol yn gymdeithasol yma. Felly, rydym yn edrych ar ystod o bethau sy'n gallu mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Soniais ychydig am yr ymgyrch Dyma Fi, sy'n herio stereoteipiau ar sail rhywedd. Felly, os ydym yn meddwl am y peth, mae hynny'n rhan bwysig iawn o hyn. Hefyd, mae gennym ein rhaglen STEM Cymru II, sy'n annog mwy o fenywod ifanc i gamu ymlaen i yrfaoedd ym maes peirianneg, a hyd yma, mae dros 3,000 o fenywod ifanc wedi ymgymryd â'r rhaglen honno. Ni wn a oes llawer ohonoch wedi cyfarfod â Jessica Jones o Gaerdydd, sef un o'r llwyddiannau cyntaf a aeth ymlaen wedyn i fod y fenyw gyntaf i ennill gwobr Peiriannydd Ifanc y Flwyddyn y DU yn sgil ei rhan yn dyfeisio system optegol ar gyfer monitro cyfyngiadau.

Mae Jessica yn llysgennad da ar ran myfyrwyr peirianneg benywaidd ac mae hi newydd gwblhau ei gradd mewn astroffiseg. Roedd ein rhaglen yn gymorth iddi ar y ffordd, ac rydym yn ymgysylltu â menywod ifanc fel Jessica i sicrhau bod cynifer ag y bo modd o lysgenhadon yn ymweld â'n hysgolion ac rwyf wedi bod yn cael trafodaethau hir gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynglŷn â sut y gallwn annog busnesau, fel rhan o'r cynllun gweithredu economaidd, i ymgysylltu'n llawnach â'r rhaglen honno.

Gwella Cysylltedd Rhyngrwyd Symudol

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd rhyngrwyd symudol yn y Rhondda? OAQ52008

Rydym yn parhau i ymgymryd â nifer o fesurau i hwyluso'r broses o wella cysylltedd rhyngrwyd symudol ar draws pob rhan o Gymru, gan gynnwys darparu'r cynllun gweithredu cysylltedd symudol, treialu technolegau celloedd bach, trafodaethau parhaus ynghylch 5G a darparu'r rhwydwaith ffibr cysylltiol hanfodol.

Mae llawer o leoedd yng Nghymru sydd â chysylltedd rhyngrwyd symudol eilradd, fel y clywsom yn gynharach, ac nid yw fy etholaeth yn ddiogel rhag y broblem hon. Mae llawer o gymunedau wedi'u heffeithio, ond yn ddiweddar, yn y Porth, er enghraifft, nid oedd y cyngor yn gallu casglu data ar nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref oherwydd nad oedd y rhifydd yn gallu cael signal cyson. Wrth gwrs, mae hyn yn ddrwg i drigolion lleol, ond mae hefyd yn ddrwg i fusnesau. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw'r polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, ond mae yna ddulliau ar gael i chi ac rydych wedi amlinellu rhai ohonynt mewn atebion i gwestiynau yn gynharach. A wnewch chi gytuno i edrych ar leoedd, fel y Porth yn y Rhondda, sydd ar ei hôl hi mewn perthynas â'r hyn sy'n dderbyniol o ran cysylltedd rhyngrwyd symudol? Ac a wnewch chi ddefnyddio'r pwerau a'r dylanwad sydd gennych i ddatrys y problemau lleol hyn cyn gynted ag y bo modd?

Yn bendant. Rwy'n hapus iawn i gytuno â hynny ac rwy'n ategu'r sylwadau a wnaeth Leanne Wood yn llwyr. Fel y mae'n digwydd, rwy'n cadeirio cyfarfod tasglu'r Cymoedd fore Llun sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â chysylltedd digidol a bydd y mater hwnnw'n cael sylw blaenllaw yn y cyfarfod hwnnw gyda'r bwriad o wneud yn union hynny. Ac ymhlith y nifer o bethau y dywedais yn gynharach ein bod yn eu gwneud, rydym hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud gyda seilwaith cyhoeddus—felly, rhedeg signalau Wi-Fi oddi ar adeiladau cyhoeddus ac ati. Felly, mae cryn dipyn o waith ar y gweill mewn perthynas â chymhlethdodau'r gyfraith yn hynny o beth, oherwydd, yn anffodus, mae yna broblemau sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol yn codi o'i ddefnyddio, ond rwy'n hyderus y gallwn ddatrys y rheini a darparu Wi-Fi da ar gyfer ein holl gymunedau ledled Cymru pan fyddwn wedi gwneud hynny. Ond yn ddigon diddorol, mae'r cyfarfod i drafod hynny ar gyfer y Cymoedd ddydd Llun.

15:20
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Rydw i’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. A gaf i gydnabod cyn dechrau ar y datganiad y cwestiynau sydd wedi’u cynnig gan Aelodau â diddordeb yn y testun pwysig a chyfredol hwn?

Pasiwyd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gan y Cynulliad ar 21 Mawrth. Rydym wedi bod yn glir, cyn cyflwyno'r Bil, yn ystod ei daith ac yn dilyn hynny, mai dewis wrth gefn yw'r Bil. Drwy gydol y broses, rydym wedi ffafrio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) diwygiedig sy'n parchu datganoli, ac rydym yn parhau i ffafrio hwnnw. Rydym wedi dweud yn glir, hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r Bil, ac yn wir, ar ôl pasio'r Bil, mai dyna yw ein prif ffocws o hyd. Mae cyd-Aelodau o fewn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddiflino yn eu hymdrechion, sy'n parhau, i ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar welliannau a fyddai'n gwneud Bil y DU yn dderbyniol i ni. Byddai cytundeb o'r fath yn ein galluogi i argymell i'r Cynulliad y dylai roi ei gydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE, a fyddai'n cael gwared ar yr angen am ddeddfwriaeth ein hunain.

Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw gytundeb, roeddem yn teimlo bod angen gwneud trefniadau cyfrifol ar gyfer y posibilrwydd na fyddai'r Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE. Cefnogwyd y dull hwn o weithredu gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad hwn pan basiodd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gyda mwyafrif mawr.

Fodd bynnag, yn amlwg, nid yw pasio Bil yw ddiwedd ar y broses. Fel y bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol, ar ôl cyfnod 4 pob Bil Cynulliad, mae cyfnod hysbysu yn dilyn ar unwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, mae gan y Twrnai Cyffredinol a'r Cwnsler Cyffredinol bŵer i gyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys am benderfyniad ynglŷn ag a yw'r Bil, neu unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi penderfynu arfer y pŵer mewn perthynas â'r Bil hwn, a ddoe, cyfeiriodd y Bil at y Goruchaf Lys. Yn yr un modd, mae'r Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban wedi cyfeirio Bil parhad yr Alban at y Goruchaf Lys.

Er ei fod yn anffodus, nid wyf yn credu y dylem wneud môr a mynydd o'r datblygiad. Cyflwynasom ein deddfwriaeth ein hunain er mwyn osgoi cyrraedd sefyllfa lle nad oedd cytundeb wedi'i gyrraedd ar welliannau a lle nad oedd gennym Fil parhad mwyach fel dewis amgen. Yn yr un modd, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y cyfeiriad ar ddiwedd y cyfnod hysbysu, oherwydd nad oes cytundeb wedi'i gyrraedd eto ar gynnwys y Bil ymadael â'r UE ac oherwydd y byddent wedi colli'r hawl i wneud cyfeiriad pe na baent wedi gwneud hynny yn awr.

Mae trafodaethau'n parhau, ac rydym ni a Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cytundeb. Felly, mae hwn yn fesur amddiffynnol ar ran y Twrnai Cyffredinol. Yn wir, nodaf ei fod, yn ei ddatganiad i'r wasg, yn pwysleisio:

Mae'r Llywodraeth yn mawr obeithio y bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys heb fod angen parhau â'r ymgyfreitha hwn.

Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi cyfeirio'r Bil yn ei gyfanrwydd at y Goruchaf Lys am benderfyniad, yn hytrach na chyfyngu'r cyfeiriad i adrannau penodol. Mae wedi dyfynnu nifer o seiliau yn y cyfeiriad, yn cynnwys nad yw'r Bil yn ymwneud â'r pynciau a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, fod y Bil yn anghydnaws â chyfraith yr UE, yn gosod swyddogaethau nas caniateir ar Weinidogion y Goron, yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn deall mai ychydig o amser yn unig a gawsom i ystyried y dadleuon hyn, ond rydym yn parhau i fod yn glir yn ein safbwynt fod y Bil a basiwyd gan y Cynulliad o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol. Byddwn yn parhau i ystyried y cyfeiriad a'r dadleuon mwy manwl y bydd angen i'r Twrnai Cyffredinol eu darparu maes o law i gefnogi ei benderfyniad i gyfeirio fel rhan o'r trafodion, ond gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn, os bydd angen, yn amddiffyn y cyfeiriad yn llawn. Yn benodol, rydym yn cymryd camau i geisio cael gwrandawiad cyflym a byddwn yn rhoi gwybod i'r Cynulliad am unrhyw ddatblygiadau yn y cyswllt hwn.

Fel y pwysleisiais eisoes, rydym yn parhau i weithio tuag at sicrhau cytundeb ar y Bil ymadael â'r UE. Os ceir cytundeb o'r fath, bydd angen gwneud gwelliannau priodol i'r Bil ymadael â'r UE. Yna, bydd angen i'r Cynulliad ystyried y Bil terfynol fel rhan o'r broses o gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Os yw'r Cynulliad yn y pen draw yn cymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil ymadael â'r UE, ni fydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn angenrheidiol mwyach, a byddwn yn rhoi camau ar waith yn sgil hynny i ddiddymu'r Bil. Bryd hynny, byddem yn disgwyl i'r cyfeiriad gael ei dynnu'n ôl.

15:25

A gaf fi ddechrau drwy nodi tôn bwyllog y Cwnsler Cyffredinol? Rwy'n croesawu hyn fel arwydd fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu o ddifrif i sicrhau cytundeb ar y materion hyn. Rwyf hefyd yn credu y dylid ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys fel ymgais i egluro'r sefyllfa gyfreithiol gyfredol. Wedi'r cyfan, roedd Llywydd yr Alban yn credu bod eu Bil y tu hwnt i'w cymhwysedd hwy, ac rydych wedi pwysleisio, Lywydd, wrth fynegi barn bendant mewn perthynas â'n Bil ni, fod y mater yn gytbwys iawn. Felly, ymddengys i mi fod ceisio'r eglurder hwn, o dan yr amgylchiadau hyn, yn beth rhesymol i'w wneud.

Fel y Cwnsler Cyffredinol, ar yr ochr hon i'r Cynulliad, credwn fod sicrhau cytundeb er mwyn gallu pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn hanfodol ac yn sicr ar hynny y dylem fod yn canolbwyntio, ac yn amlwg mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Bil ymadael â'r UE gael ei ddiwygio'n briodol, mewn perthynas â chymal 11 yn benodol, er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd, ac rydym wedi cefnogi pob ymdrech resymol i gyflawni hyn a dyna fydd ein hagwedd. Mae sut y bydd y fframweithiau a'r dull o'u llywodraethu yn gweithredu yn berthnasol iawn i'r mater hwn. Unwaith eto, rydym wedi ceisio rhoi cymorth adeiladol i Lywodraeth Cymru wrth fynd ar drywydd y materion hyn yn seiliedig yn gyffredinol ar ryw fath o gysyniad o gydlywodraethu. Mae'r rhain yn faterion pwysig iawn i'r cyfansoddiad Prydeinig, i ddatblygiad datganoli, tra bôm yn y sefyllfa ryfedd hon o ymwahanu â'r Undeb Ewropeaidd.

Felly, er ein bod yn gwrthwynebu'r Bil parhad, rydym yn barod yn awr i weld y sefyllfa gyffredinol ac rydym yn annog pob plaid i fod yn bwyllog ac yn adeiladol. Tybed a all y Cwnsler Cyffredinol roi unrhyw arwydd pellach i ni o sefyllfa'r trafodaethau ar hyn o bryd. Ymddengys i mi, yn ôl y dôn ar y ddwy ochr, y gallem fod yn eithaf agos at sicrhau cytundeb ac rwy'n meddwl tybed a yw hwnnw'n ddarlleniad teg o'r sefyllfa—neu a oes cymhlethdodau mwy nag y gwyddom amdanynt ar hyn o bryd, efallai, sy'n gysylltiedig ag awdurdodaethau eraill a'u hagweddau hwy? Ond rwyf am gloi gyda hyn: o ystyried y datganiad hwn y prynhawn yma a'i naws adeiladol, byddwn yn annog pob plaid i weithio a dyblu eu hymdrechion i groesi'r llinell, fel y gallwn gael cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n amddiffyn y setliad datganoli yn briodol ac un y gall pob plaid gytuno arno.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Dylwn fod yn glir, yn amlwg, y byddai wedi bod yn well gennym pe na bai'r mater hwn wedi cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys, ond yn sicr, rydym yn deall pam y gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw ar y pryd, heddiw—ddoe, yn hytrach—sef y diwrnod olaf yr oedd y dewis hwnnw ar gael i'r Twrnai Cyffredinol.

Fe gyfeirioch chi at y trafodaethau mewn perthynas â chymhwysedd. Rydym yn credu o hyd fod gennym y cymhwysedd yn y lle hwn i weithredu'r Bil rydym wedi'i basio. Yr hyn y mae'r Twrnai Cyffredinol wedi'i nodi yn y cyfeiriad yw ei seiliau dros geisio barn y llys ar hynny. Nid yw wedi nodi'r rhesymau dros y seiliau hynny eto, felly nid ydym wedi gallu ymgysylltu â'r rhesymau dros hynny eto, er ein bod yn amlwg yn ystyried y seiliau rydym wedi'u cael. Byddwn yn cael y rhesymau llawnach maes o law.

Yn amlwg, mae trafodaethau wedi bod, ac yn parhau i fod, rhwng y tair Llywodraeth mewn perthynas â gwelliannau priodol i'r Bil ymadael â'r UE, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Rydym yn mawr obeithio y byddant yn dod i ben mewn ffordd gadarnhaol. Rwyf am ailadrodd, rhag ofn bod unrhyw rithyn o amheuaeth, ein bod yn gobeithio'n gryf y bydd y Bil ymadael â'r UE yn cael ei ddiwygio'n briodol drwy gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, ac yn yr achos hwnnw, wrth gwrs, ni fydd y Bil, a gyfeiriwyd at y Goruchaf Lys ddoe, yn angenrheidiol mwyach.

Rydw i'n croesawu'r ffaith bod datganiad wedi cael ei wneud gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw, ond mae'n rhaid imi ddweud hyn: fe wnaed addewid gan Weinidog y Goron ar lawr Tŷ'r Cyffredin cyn Nadolig, ganol mis Rhagfyr, y byddai hwn yn cael ei sortio. A dyma ni, mae'r Lady Boys of Bangkok wedi cyrraedd y bae, fel maen nhw'n ei wneud pob gwanwyn, ac nid ydym wedi cael ateb i'r broblem yma. Mae wedi bod yn glir, ers i'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd gael ei gyflwyno, bod angen gwella adran 11, ac mae yna o leiaf bedwar mis wedi mynd heibio heb unrhyw arwydd bod y Ceidwadwyr yn deall beth yw natur y datganoli maen nhw'n gyfrifol amdano fe.

Fe ddywedodd, heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, Jeremy arall, Jeremy Wright, nad oedd cytundeb ynglŷn ag ystyr y gair continuity. Ai dyna ddehongliad y Cwnsler Cyffredinol o'r problem fan hyn yn ogystal? Ac os ydym ni yn gweld bod y Bil bellach wedi cael ei gyfeirio i'r Goruchaf Lys, pa sefyllfa ydyn ni ynddo nawr o ran gwariant gan y Llywodraeth hyn, a Llywodraeth San Steffan, i baratoi tuag at achos llys, i gymryd cwnsel, i ddechrau ymwneud a pharatoi? Achos rydym yn dechrau gwario arian cyhoeddus am rywbeth a ddylai fod wedi cael ei benderfynu yn wleidyddol dim jest heddiw, ond bedwar mis yn ôl. Ac felly, rwyf eisiau clywed gan y Cwnsler Cyffredinol, os yn bosib, mwy o syniad o amserlen fan hyn. Mae'n dweud bod e'n gobeithio y bydd y Goruchaf Lys yn cyflymu'r broses, achos mae yna broses yn bodoli, wrth gwrs, i'r Goruchaf Lys wneud hynny, ac mae'n ymddangos i mi y gallem ni gael penderfyniad ar y Bil yma cyn ein bod ni'n cael penderfyniad a chytundeb yn wleidyddol ynglŷn â natur datganoli a chymal 11.

Felly, beth yw'r cynlluniau sydd gan y Llywodraeth nawr i baratoi ar gyfer yr achos llys yma, a pha wariant cyhoeddus fydd yn rhan o hynny? A ydych chi am wneud hyn mewn unrhyw ffordd ar y cyd gyda Llywodraeth yr Alban? Ond wrth gwrs, rhaid cydnabod o bosib bod achos Cymru yn gryfach y tro yma nag achos Llywodraeth yr Alban, oherwydd ein bod ni wedi gwasgu'r Bil yma drwy'r darn olaf o'r toothpaste tube o dan y pwerau diwethaf, ac felly, o bosib, ein bod ni mewn sefyllfa gryfach. Ond a ydyn ni'n cydweithio gyda Llywodraeth yr Alban? A beth yn union nawr bydd y trefniadau os yw hwn yn mynd i'r Goruchaf Lys? Os oes yna wedyn gytundeb gwleidyddol, a oes yna wedyn welliannau yn cael eu gwneud i'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi neu efallai yn cyfeirio yn ôl at Dŷ'r Cyffredin? Ac wedyn, wrth gwrs, rhywbryd, bydd rhaid i ni gael penderfyniad fel Llywodraeth, os yw hyn yn digwydd—neu fel Senedd dylwn i ddweud; mae Llywodraeth yn dod mewn tair blynedd—os yw hyn yn digwydd, i rhoi cydsyniad deddfwriaethol, fel mae David Melding wedi dweud. A fyddai sicrwydd gyda ni, ac a wnewch chi roi'r sicrwydd i ni, y byddwn ni fel Cynulliad yn meddu ar yr holl wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad ar gydsyniad deddfwriaethol os daw at hynny?

15:30

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. I fod yn hollol amlwg am y peth, wrth gwrs, nid fy newis i oedd danfon y Mesur, y Bil, i'r Goruchaf Lys. Felly, y cwestiwn i Lywodraeth Cymru yw beth yw'r camau sydd yn briodol i'w cymryd yng nghyd-destun y ffaith bod hynny wedi digwydd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer bod hyn yn mynd i'r Llys. Bydd rhaid i ni baratoi. Mae gyda ni broses gyfreithiol nawr i'w ddilyn, ac maen rhaid i ni sicrhau bod buddiannau y lle hwn yn cael eu gwarchod drwy wario yr hyn sydd angen er mwyn sicrhau bod yr hawliau a bod y Mesur yn cael eu hamddiffyn yn y broses gyfreithiol sydd o'n blaenau ni. 

Y cam nesaf un yw ein bod ni wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y broses o gael dyddiad cynnar am unrhyw achos llys fydd angen. Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau ynglŷn â hynny. Dyna'r cam nesaf un. O ran y cwestiwn ynglŷn â'r berthynas gyda'r Alban, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cydweithio ac wedi bod yn gweithredu ar y cyd drwy'r broses yma, ac mae'r camau rydym ni wedi'u llwyddo i'w cael ar hyd y broses wedi digwydd yn sgil cydweithio fel yna. A'r bwriad yw, wrth ein bod ni'n mynd yn ein blaenau, ein bod ni'n dal yn gweithio mewn partneriaeth. Fel y gwnaeth yr Aelod gydnabod, mae sefyllfa yr Alban yn wahanol i sefyllfa Llywodraeth Cymru yn nhermau sut mae Bil yr Alban wedi'i strwythuro a'r dadansoddiad cyfansoddiadol sydd yn dod yn sgil hynny, ond, er hynny, rydym yn mynd i gydweithio gyda Llywodraeth yr Alban.

Ynglŷn â'r camau gyda chydsyniad yn y Senedd, yn y Cynulliad, bydd angen sicrhau amryw o bethau cyn ein bod ni'n gallu argymell bod y Cynulliad yn derbyn y Mesur yn San Steffan—hynny yw, bod cytundeb wedi ei gyrraedd, bod gwelliannau wedi eu cyrraedd a'u bod nhw wedi eu cynnig. Wedyn byddwn yn dod a gofyn am gydsyniad y Cynulliad yn y cyd-destun hwnnw. Buaswn i'n tybio, ar ôl hynny, y buasai camau'n cael eu cymryd i dynnu'r Mesur hwn yn ôl, ond mae angen edrych ar y camau hynny yn sgil beth sy'n digwydd ar hyn o bryd. 

15:35

A gaf fi longyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei ddull digyffro a phwyllog o fynd i'r afael â'r mater hwn, yn ogystal â chanmol y ffordd y disgrifiodd y sefyllfa rydym ynddi bellach fel datblygiad na ddylid gwneud môr a mynydd ohono? Os oes amheuon cyfreithiol dilys ynglŷn â chydnawsedd y Bil parhad â'r ddeddfwriaeth gyfredol sy'n sefydlu'r Cynulliad hwn ac yn datganoli pwerau, mae'n debyg ei bod hi'n iawn y dylid rhoi barn ar y mater, er mor anffodus yw hynny. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas, sef bod hwn, yn y bôn, yn fater gwleidyddol a ddylai fod wedi ei ddatrys ar lefel wleidyddol. Ac a yw'n rhannu fy nryswch parhaus ynglŷn ag arafwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymdrin â'r mater hwn a bod Llywodraeth sydd i bob golwg yn ymrwymedig i warchod y Deyrnas Unedig yn ceisio ysgogi argyfwng cyfansoddiadol diangen sy'n bygwth ei rhannu? Os gall arweinydd UKIP ddweud hynny, rydym bellach mewn sefyllfa ryfedd iawn yn hanes gwleidyddiaeth Prydain.

Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ôl cymeradwyo'r setliad deddfwriaethol sy'n gyfrifol am ein bodolaeth—ni ddylai hwnnw gael ei danseilio, yn uniongyrchol na'n anuniongyrchol, gan ei ddeddfau na'i fwriadau ei hun. Ni allaf ddeall, felly, pam fod Llywodraeth y DU wedi bod mor araf, ac yn parhau i fod yn araf mae'n ymddangos, yn ei hymateb i'r dadleuon a gyflwynwyd dros yr hyn rydym i gyd eisiau ei gyflawni yn y pen draw. Mae un o'r seiliau hynny a ddyfynnwyd gan y Twrnai Cyffredinol yn peri dryswch i mi, sef anghydnawsedd â chyfraith yr UE, o ystyried na fydd y Bil parhad yn dod i rym hyd nes y byddwn wedi gadael yr UE yn gyfreithiol mewn gwirionedd. Felly, ni wn a oes gan y Cwnsler Cyffredinol unrhyw wybodaeth ynglŷn â safbwynt y Twrnai Cyffredinol ar hyn, neu a yw hyn yn enghraifft o daflu sinc y gegin atom rhag ofn.

Mae'r cyfan yn ymddangos braidd yn broblemus ac anghyffredin, ond rwy'n falch y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn lliniaru'r mater yn y ffordd y mae wedi'i nodi, oherwydd mae'n angenrheidiol fod unrhyw ansicrwydd neu amwysedd yn cael ei ddatrys. Ni allwn gael ein rhoi mewn sefyllfa, sef yr hyn y lluniwyd y Bil parhad ei hun i ymdrin ag ef, lle y ceir rhyw fath o fwlch deddfwriaethol yn y gyfraith fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Felly, mae'n eithaf rhyfedd. Mae gennym sefyllfa yn awr lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgyfreitha ar Fil rydym wedi'i basio yn y lle hwn ac a gafodd ei lunio er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd amheuon cyfreithiol yn bodoli pan fyddwn yn gadael yr UE. Felly, mae'n baradocs a fydd, o bosibl, yn cael ei ddatrys gan hyn yn y pen draw.

Rhannaf y farn sydd wedi cael ei mynegi gan nifer o'r Aelodau sef bod hwn yn fater y dylid ei ddatrys ar lefel wleidyddol. Ac er mwyn bod yn glir, dyna yw dull Llywodraeth Cymru o weithredu; mae wedi cadw hynny mewn cof wrth fynd ati i drafod â llywodraethau eraill drwy gydol y broses. Yr amcan drwy'r adeg oedd dod i gytundeb mewn perthynas â'r Bil a oedd yn mynd drwy Senedd y DU, fel na fyddai'r broses rydym wedi'i dilyn drwy broses frys yn y lle hwn yn angenrheidiol yn y pen draw. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol, mewn ymateb i gwestiynau eraill, fod amser wedi bod yn brin ers peth amser mewn perthynas â chytuno ar y gwelliannau hynny. Ond fel rwy'n dweud, rydym yn obeithiol y byddwn yn croesi'r llinell ac yn cytuno ar welliannau rydym ni fel Llywodraeth yn teimlo'n hapus i'w hargymell i'r Cynulliad, gyda'r ddwy Lywodraeth arall.

Mae'n tynnu sylw at un o'r seiliau y mae'r Twrnai Cyffredinol wedi'u nodi, sy'n ymwneud ag anghydnawsedd â chyfraith yr UE. Fel rwy'n dweud, rydym yn ystyried y dadansoddiad ar hyn o bryd a byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach iddo pan fyddwn yn cael dadleuon llawnach maes o law, er, yn amlwg, roedd yn un o'r seiliau a gafodd eu hystyried yn y trafodaethau yn y Siambr hon ac yn nadansoddiad y Llywydd yn ei datganiad. Mae'n ymddangos i mi mai'r hyn rydym wedi'i wneud yn y lle hwn yw cymryd camau o fewn y pwerau sy'n bodoli i'n paratoi ar gyfer cyfnod pan fyddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn yr un modd, os caf ddweud, ag y mae Tŷ'r Cyffredin wedi'i wneud gyda'u Bil hwy.

15:40

Rwyf am osgoi ailadrodd gormod o'r hyn y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddweud eisoes, ond rwyf am eich llongyfarch ar y ffordd rydych wedi cyflwyno dadl bwyllog y prynhawn yma. A gaf fi hefyd gofnodi'r ddadl bwyllog a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid pan fo'n cynnal y trafodaethau? Efallai fod hynny'n fwy rhwystredig o ran pam nad yw Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb eto mewn gwirionedd, oherwydd ymddengys eu bod yn peri rhwystredigaeth i ni'n gyson. 

Mae gennyf ychydig o bwyntiau. Rwy'n derbyn nad oeddem eisiau cyflwyno Bil parhad, ond rydym wedi gwneud hynny oherwydd mai dyna'r peth cywir i'w wneud, ac mae'n rhaid i ni gofio hynny. Felly, pe bai'n dod i achos llys yn y pen draw, rwy'n gobeithio y byddwch chi, fel Llywodraeth Cymru, yn mynd ati'n frwd i amddiffyn hawliau'r sefydliad hwn i gyflwyno'r Bil hwn a gadael iddo weithio, oherwydd gwelsom yr angen am y Bil ac nid yw'r angen hwnnw wedi diflannu. Rydym yn rhagweld, o'r hyn a ddywedwyd, y byddwn yn cael trafodaeth gadarnhaol ynghyd â gwelliannau, ond fel y crybwyllodd Simon Thomas yn gynharach, dywedodd y Gweinidog Cabinet hynny o'r blaen yn San Steffan ac rydym yn dal heb ei chael. Felly, hyd nes y cytunir ac y cymeradwyir y gwelliannau, a hyd nes y byddant yn y Bil, rydym mewn sefyllfa lle mae'r Bil parhad hwnnw'n dal i gyflawni'r hyn rydym ei eisiau.

Yn yr ystyr hwnnw, a allwch roi eglurhad—? Fe wnaethoch sôn ychydig am yr hyn a fyddai'n digwydd. Yn gyntaf oll, os ceir cytundeb ac os gwelwn y gwelliannau hynny'n cael eu cymeradwyo a'u cynnwys yn y Bil, beth fydd y broses a fydd yn digwydd i'r Bil penodol hwn? Oherwydd rydym ni, fel Cynulliad, wedi cytuno ac wedi pasio'r Bil, felly beth yw'r broses wedyn ar gyfer diddymu'r Bil fel rydych newydd ei ddweud? Ac o ran amseru—heb fwrw sen ar gyfreithwyr, ond dyma ni eto—mae'r gyfraith yn cymryd amser hir iawn; nid yw'n broses gyflym. Gallem fod mewn sefyllfa lle bydd y Bil ymadael â'r UE yn cael ei gymeradwyo, heb ei ddiwygio, cyn i hyn fynd i'r llys. Beth fydd y sefyllfa os yw hynny'n digwydd? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hynny fel y gallwn sicrhau bod yr hyn a gymeradwywyd gennym ym mis Mawrth yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru mewn gwirionedd?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a diolch iddo hefyd am gydnabod gwaith fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn bwrw ymlaen â'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n ategu hynny'n llwyr, os caf. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch pwysigrwydd amddiffyn y trafodion hyn yn egnïol, ac yn sicr dyna yw fy mwriad i a bwriad Llywodraeth Cymru.

O ran yr hyn a fydd yn digwydd maes o law gyda diddymu, os mynnwch, bydd yr Aelod yn cofio bod y Bil, fel y'i pasiwyd gan y Cynulliad, yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r Ddeddf, ar ôl iddi gael ei phasio, i gael ei diddymu o dan amgylchiadau o'r fath. Er mwyn i hynny ddigwydd, wrth gwrs, byddai angen iddi gael Cydsyniad Brenhinol yn gyntaf. Felly, byddai cyfres o gamau, os mynnwch, y byddem angen cytuno arnynt gyda'r Twrnai Cyffredinol pe baem ni yma, maes o law, yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'n bod yn ystyried y gwelliannau i Fil Tŷ'r Cyffredin yn dderbyniol yn y lle hwn. Ond yn amlwg, byddai angen i'r camau gynnwys diddymu'r cyfeiriad i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol ac yna byddai'r pwerau hynny ar gael i Weinidogion Cymru yn y lle hwn ymdrin â'r broses honno o ddiddymu'r Bil.

Pwynt o Drefn

Diolch, Llywydd. Hoffwn i godi pwynt o drefn o dan Reolau Sefydlog, ac yn benodol Rheol Sefydlog 13.9, ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr. Wrth ymateb i Angela Burns ac wedyn Adam Price ddoe, fe gyfeiriodd y Prif Weinidog ddwywaith ataf fi a'm gwaith fel ymgynghorydd arbennig i Weinidogion Plaid Cymru rhwng 2007 a 2010. Dywedodd e, o ran y gweithredoedd a ddisgrifiwyd gan Angela Burns, ac rwy'n dyfynnu:

Mae hynny'n arferol. Gwnaeth Gweinidogion Plaid Cymru, fel y bydd Simon Thomas yn gallu dweud wrthych chi, yn union yr un fath pan oedden nhw mewn Llywodraeth.

Rwyf eisiau ei wneud yn glir na wnes i, fel ymgynghorydd arbennig, byth gysylltu ag unrhyw gorff cyhoeddus i holi am gynnwys neu natur gohebiaeth gydag Aelodau'r Cynulliad, ac nid oedd hynny yn rhan o ddiwylliant Gweinidogion Llywodraeth Cymru'n Un hyd fy ngwybodaeth i. Felly, nid yw honiad y Prif Weinidog yn gywir.

15:45

Nid yw hynny'n bwynt o drefn i fi wneud dyfarniad arno, ond mae'r Aelodau wedi clywed beth oedd gyda chi i'w ddweud, Simon Thomas, ac mae bellach yn rhan o'r cofnod.

Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria

Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig ar gyfer dadl frys, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, rwyf wedi derbyn cais gan Leanne Wood i wneud cynnig am ddadl frys, ac rydw i'n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig.

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.69, yn ystyried yr ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria fel mater brys sydd o bwys cyhoeddus. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fore dydd Sadwrn, 14 Ebrill, ymunodd lluoedd y DU â byddinoedd yr Unol Daleithiau a Ffrainc i gyflawni cyrchoedd awyr yn erbyn targedau yn Syria. Cafodd safleoedd y credid eu bod yn gysylltiedig â chynhyrchu a storio arfau cemegol gerllaw Damascus a Homs eu taro mewn ymateb i ymosodiad cemegol honedig ar 7 Ebrill. Ni ymgynghorodd Llywodraeth y DU ag unrhyw un o Seneddau eraill y DU i geisio eu cymeradwyaeth i'r ymosodiad. Rwyf wedi cyflwyno cais am ddadl frys ar y mater hwn cyn gynted â phosibl. Lywydd, ni ellir gorbwysleisio brys a difrifoldeb y pwnc hwn, ac ni ellir ei grynhoi mewn araith fer fel hon. Fodd bynnag, mae fy nghais am ddadl yn seiliedig ar dair elfen allweddol.

Yn gyntaf, heb y mymryn lleiaf o gyfreithlondeb democrataidd, heb un bleidlais yn Senedd y DU, cymeradwyodd Llywodraeth y DU yr ymosodiad. Yn dilyn cyhoeddi manylion yr ymosodiad, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad yn dangos ei gefnogaeth iddo. Mae'n rhaid i'r ACau gael cyfle i graffu ar y Prif Weinidog mewn perthynas â'r datganiad hwn a'i resymau dros gefnogi'r ymosodiad. At hynny, mae'n rhaid i'r Aelodau gael cyfle i drafod rôl ein sefydliadau democrataidd yn cymeradwyo ymosodiad milwrol.

Yn ail, Lywydd, mae cyfran sylweddol o rengoedd milwrol y DU yn cynnwys menywod a dynion Cymru. Yn wir, rydym yn gwneud cyfraniad mwy na chyfran ein poblogaeth. Felly, nid yw ond yn iawn i'r Cynulliad hwn gael cyfle i drafod goblygiadau posibl y penderfyniad hwn, ac unrhyw ymosodiad milwrol dilynol, i aelodau o'r lluoedd arfog o Gymru ac yng Nghymru.

Yn olaf, Lywydd, mae'r gwrthdaro yn Syria eisoes wedi arwain at ddadleoli degau o filoedd o bobl. Rwy'n falch fod Cymru wedi cynnig diogelwch a lloches i rai o'r bobl hyn. Mae'r ffaith bod y rhyfel cartref yn Syria yn dwysáu yn debygol o orfodi mwy o bobl i ffoi o'u cartrefi a'r ardal. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon flaenoriaethu ymdrechion i sicrhau bod Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu ac i ddarparu ar gyfer y bobl hyn sydd mewn angen dybryd. Gwaith y Cynulliad hwn yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ac yn barod i gynorthwyo'r ffoaduriaid a greodd y gwrthdaro hwn.

Lywydd, mae yna lawer mwy o resymau cymhellol pam y mae'n rhaid i ni drafod y mater hwn, boed yn ymwneud â diffyg democratiaeth y penderfyniad i ymosod, datganiad y Prif Weinidog, yr effaith ar filwyr Cymru, y gost, nad yw'n ymddangos ei bod yn cael ei chwestiynu'n aml, er gwaethaf cyni, neu, yn syml, ein dyngarwch fel cenedl. Buaswn yn annog pob un ohonoch i gefnogi'r cais a rhoi cyfle i ni drafod y mater difrifol hwn.

Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb ar ran y Llywodraeth. Julie James.

Diolch, Lywydd. Mae materion rhyngwladol a phenderfyniadau ynglŷn ag a ddylid rhoi camau milwrol ar waith yn erbyn cenedl sofran arall yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac o ganlyniad, maent fel arfer yn cael eu trafod yn nau Dŷ'r Senedd yn hytrach nag yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae trafod cyrchoedd awyr y DU yn Syria yn y Siambr hon yn bygwth pylu'r ffin rhwng yr hyn a drafodir yn y Cynulliad Cenedlaethol a'r hyn a drafodir yn y Senedd. Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau gan arweinydd Plaid Cymru ddoe ynglŷn â'r ymyrraeth filwrol yn Syria; roedd yna gwestiynau hefyd yn ystod y datganiad busnes.

Mae gan bawb ohonom ein safbwyntiau personol am rinweddau a gwendidau penderfyniad Llywodraeth y DU i lansio ymosodiad cosbol ar y cyd ochr yn ochr â'r Unol Daleithiau a Ffrainc yn erbyn y gyfundrefn yn Syria dros y penwythnos. Fel pleidiau gwleidyddol, y fforwm ar gyfer lleisio'r safbwyntiau hyn yw dau Dŷ'r Senedd. Cafwyd naw awr o ddadlau yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon, ac roedd llawer o'n cydweithwyr yn cymryd rhan. Am y rhesymau hyn, bydd y Llywodraeth yn ymatal yn y bleidlais ar y cais am ddadl frys ar gyrchoedd awyr y DU yn Syria, a bydd gan Aelodau Cynulliad Llafur y meinciau cefn bleidlais rydd.

Y cwesitwn yw: a ddylid derbyn y cynnig am ddadl frys? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oni bai, felly, fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r bleidlais ar y cynnig. Galwaf felly am bleidlais ar y cynnig am ddadl frys. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 15 yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. 

15:50

Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69: O blaid: 27, Yn erbyn: 9, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Gan fod y Cynulliad wedi penderfynu ystyried y mater yma, yn unol â Rheol Sefydlog 12.70, rwyf wedi penderfynu y bydd y ddadl yn cael ei chynnal fel yr eitem olaf o fusnes cyn y cyfnod pleidleisio heddiw.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf o fusnes, felly, yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a'r cwestiwn cyntaf—Julie Morgan. 

Dileu Eitemau Plastig Untro

1. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran dileu eitemau plastig untro o ystâd y Cynulliad? OAQ51992

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau gwastraff plastig untro ar yr ystâd. Rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i leihau'r swm o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi i sero erbyn 2018. Ym mis Ionawr, gwnaethom ymrwymiad i ddefnyddio dewisiadau amgen yn lle plastig untro, lle bo'n bosibl, o fewn chwe mis. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd gyda hyn, gan gynnwys dileu cynwysyddion dresin salad unigol, a chyn hir, byddwn yn newid i ddefnyddio cyllyll a ffyrc y gellir eu compostio ar gyfer bwyd tecawê. Mae amrywiaeth o opsiynau eraill yn cael eu harchwilio.

Diolch i'r Comisiynydd am yr ateb hwnnw, ac rwy'n falch fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud. Sylwaf eich bod wedi sôn am gyllyll a ffyrc plastig untro, felly bydd hwnnw'n gam da, ond hefyd beth am y cwpanau plastig ar gyfer yfed dŵr, nad ydym wedi rhoi unrhyw gamau ar waith i'w dileu eto? Potiau salad, a'r caeadau plastig ar gyfer cwpanau coffi tecawê—mae llawer o'r eitemau hyn yn parhau i gael eu defnyddio yn y ffreutur, a gwn fod gennych gynllun. Credaf eich bod wedi cyhoeddi'r cynllun hwnnw ym mis Ionawr, felly rwy'n ceisio eich annog i fwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw, i wneud cynnydd, a phryd y byddwch yn mynd i'r afael â'r eitemau rwyf wedi sôn amdanynt?

Diolch i'r Aelod eto, a hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar un neu ddau o bethau. Rydym bellach wedi cael gwared ar gwpanau coffi untro, ac rydym yn defnyddio cynwysyddion diodydd alwminiwm yn awr. Mae'r hidlyddion dŵr o gwmpas yr ystâd yn lleihau'r defnydd o boteli dŵr—poteli plastig. Mae prydau poeth ac oer mewn cynwysyddion y gellir eu compostio bellach. Mae nifer helaeth o arwyddion ailgylchu deunyddiau ar draws yr ystâd. Cafodd gwellt plastig sylw y tro diwethaf hefyd—y defnydd o wellt plastig—ac er nad ydynt wedi cael eu defnyddio'n aml iawn, roeddent yn cael eu defnyddio, ac rydym bellach wedi newid i ddefnyddio gwellt papur, felly hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar hynny. O ran dod o hyd i ddewis amgen yn lle cwpanau plastig ar gyfer y ffynhonnau dŵr—rydym yn chwilio am ddewis amgen ar gyfer y rheini, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar sut rydym yn bwrw ymlaen â hynny cyn bo hir. Rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Felly, dyna'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf i chi.

Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd hyd yn hyn, ac mae yna rywfaint o newyddion calonogol mewn perthynas â'r ymdrechion i leihau'r defnydd o blastig untro yn y Cynulliad. Roeddwn eisiau gofyn pa gamau pellach y gellir eu cymryd fel prynwr mawr yng Nghaerdydd a de Cymru, ac fel arweinydd yn hyn o beth. A yw'r Comisiwn yn siarad â'i gyflenwyr? Oherwydd, yn ogystal â'r plastig untro rydym yn ei ddefnyddio, y gadwyn gyflenwi sy'n darparu'r bwyd a phopeth arall a ddefnyddiwn yn y lle hwn sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o blastig. Mae pawb yn ceisio lleihau hyn, ac o bosibl, yn ceisio ei ddileu'n llwyr dros gyfnod o amser. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut rydych yn defnyddio eich pŵer prynu i ddylanwadu ar gyflenwyr yn ogystal?

Wel, yn amlwg, Simon, mae gennym rywfaint o stoc y mae'n rhaid i ni ei ddefnyddio. Ni fyddai'n ymarferol i daflu stoc, felly rydym yn lleihau ein stoc ar hyn o bryd, ac rydym bob amser yn edrych ar gyflenwyr amgen sy'n cynhyrchu'n union beth rydym ei eisiau i leihau ein hôl troed carbon yma, ac i leihau'r plastig rydym yn ei ddefnyddio. Felly, byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi mewn perthynas â'r cwestiwn hwnnw, a gallaf eich sicrhau ein bod yn edrych ar yr holl gyflenwyr i edrych ar y ffordd orau o ateb y cwestiwn rydych newydd ei ofyn.

15:55
Cyfathrebu â'r Cyhoedd yng Nghymru

2. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y ffyrdd y mae Cynulliad i cyfathrebu â'r cyhoedd yng Nghymru? OAQ51973

Mae'r Cynulliad yn ymgysylltu â phobl Cymru mewn nifer o wahanol ffyrdd. Rydym yn ymgysylltu â phobl ar-lein, yn cyfathrebu ar brint ac yn cwrdd â hwy mewn digwyddiadau a gweithdai i'w hannog i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad. Llynedd, siaradom â bron i 50,000 o bobl mewn ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, grwpiau cymunedol ac mewn digwyddiadau ledled y wlad.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Gyda phob dyledus barch i'r Aelodau eraill sydd wedi cyflwyno cwestiynau heddiw, mae'r math o gwestiynau rydym yn eu gofyn i'r Comisiwn yn eithaf cyfyngedig ac mae'n ymddangos i mi eu bod yn canolbwyntio ar faterion mewnol y Comisiwn i raddau helaeth, ac nid oes amheuaeth mai croeso oer a gaiff hynny gan lawer o aelodau'r cyhoedd. Nodaf fod yr ymgynghoriad ar greu Senedd i Gymru wedi dod i ben yn ddiweddar, ac mai pedwar cyfarfod cyhoeddus yn unig a gynhaliwyd ledled y wlad. Ni fyddai llawer o bobl wedi bod yn ymwybodol o'r cyfarfodydd hyn hyd yn oed, ac o'r rheini a oedd yn ymwybodol ohonynt, ni fyddai llawer—y rhai sy'n gweithio, yn gofalu neu'n edrych ar ôl plant—wedi gallu mynychu'r sesiynau hynny. Gwn fod ffyrdd eraill o geisio casglu barn, ond maent yn teimlo fel yr un hen bethau i mi. O ystyried datblygiadau mewn technoleg, ymgynghori a dulliau casglu gwybodaeth, a yw'r Comisiwn yn bwriadu ceisio gwthio ffiniau o ran ei ddulliau ymgysylltu a sut y mae'n gwerthuso ei ddulliau cyfredol? Sut y gwyddom eu bod yn gweithio?

Peidiwch â theimlo'n gyfyngedig o gwbl wrth ofyn cwestiynau i mi, Mandy Jones. Rwy'n croesawu'r cwestiwn rydych wedi'i ofyn. Cynhaliwyd pedwar cyfarfod cyhoeddus i drafod yr ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol ledled Cymru. Mynychais bob un o'r cyfarfodydd a fynychwyd gan nifer weddol o bobl, yn enwedig y cyfarfod diwethaf a fynychais, yn Wrecsam yn eich rhanbarth chi, ac roedd yn nos Wener fywiog yn Wrecsam. Mwynheais fy hun yn fawr iawn a dysgais lawer gan bobl yr ardal honno am eu barn ar ddiwygio etholiadol a nifer o faterion diddorol eraill yn ogystal.

Ond rydych yn nodi pwyntiau pwysig iawn ynglŷn â'r angen bob amser i fod yn arloesol yn y ffordd rydym yn cyflawni ein gwaith ymgynghori. Nid ydym yn gallu cynnal cyfarfodydd ym mhob neuadd bentref yng Nghymru i drafod unrhyw fater—ni fel Comisiwn neu Lywodraeth Cymru neu unrhyw un—ond mae angen i ni feddwl a chwestiynu ein hunain drwy'r amser, fel rydych chi wedi'i wneud yn y cwestiwn hwn heddiw, mewn perthynas â sut rydym yn cyfathrebu â phobl Cymru ac yn caniatáu iddynt fynegi eu barn wrthym yn fwy uniongyrchol, yn fwy egnïol, a hynny ym mhob rhan o Gymru. Mae honno'n her i mi ac yn her i bob un ohonom, fel aelodau etholedig, sydd yma'n cynrychioli cymunedau ledled Cymru, ac rydym eisiau gwella hynny drwy'r amser.

Diolch. Bydd y ddau gwestiwn nesaf yn cael eu hateb gan y Comisiynydd Caroline Jones. Cwestiwn 3—Simon Thomas.

Lleihau Allyriadau Carbon

3. Pa waith y mae’r Comisiwn yn ei wneud i leihau allyriadau carbon? OAQ51979

Diolch, Simon. Mae'r Comisiwn yn falch o fanteisio ar y cyfle hwn i gyhoeddi ein bod wedi ennill ardystiad yn ddiweddar i'r safon ryngwladol ar gyfer rheoli amgylcheddol, ISO 14001. Fel rhan o'r system amgylcheddol hon, mae gennym darged lleihau carbon hirdymor o ostyngiad o 30 y cant yn ein hôl troed ynni erbyn 2021. Mae hyn yn adeiladu ar darged blaenorol oedd gennym am ostyngiad o 40 y cant yn ein hôl troed carbon erbyn 2015. Rydym yn gwneud cynnydd da gyda'r targed newydd hwn drwy ystod o gamau gweithredu, ac rydym wedi cyflawni gostyngiad o 23 y cant hyd yn hyn, fel rhan o'n KPI. Mae camau diweddar i gefnogi cynaliadwyedd yn cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar yr ystâd.  

16:00

A gaf i ddiolch i'r Comisiynydd am ateb, ac am ateb yn Gymraeg? Nid y jargon gorau a'r iaith orau mewn unrhyw iaith yw iaith amgylcheddol, rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny.

A gaf i longyfarch y Comisiwn ar ddau beth, yn gyntaf oll am ennill yr ISO ac am y safon amgylcheddol yna ac, yn ail, am y newyddion bod pwyntiau gwefru ceir trydan bellach wedi eu gosod? Rwy'n edrych ymlaen at edrych arnyn nhw fy hun, ac i fanteisio arnyn nhw.

Y cwestiwn ehangach roeddwn am ei ofyn heddiw oedd ynglŷn â sut mae'r Cynulliad yn annog teithio i'r Cynulliad mewn ffordd fwy cynaliadwy. Rwy'n sylwi wrth ymweld â phrif ddinasoedd eraill sydd â seneddau ynddyn nhw fod llwybrau cerdded neu seiclo i'r senedd wedi eu marcio gyda'r amseroedd arnyn nhw—'20 munud o gerdded i'r senedd hwn a'r llall'. Os ydych chi yng nghanol Caerdydd fyddech chi ddim yn gweld unrhyw arwydd yn dweud, 'Ffordd hyn lawr i gerdded at Senedd Cymru'. Ac rwy'n gofyn a fydd y Comisiwn efallai yn siarad â Chyngor Dinas Caerdydd, sydd yn cynllunio llwybrau diogel a hefyd llwybrau cynaliadwy o gerdded a seiclo, i wneud yn siŵr bod y ddinas yn gwneud llawer mwy o hysbysebu y ffyrdd amgen o deithio i fan hyn i'r Senedd ac, wrth gwrs, i Fae Caerdydd yn ogystal.  

Diolch, Simon, ac rydych yn nodi pwynt dilys iawn am gysylltu â meysydd eraill, megis y cyngor, i egluro ein bod yn ceisio lleihau ein hôl troed carbon, ac yr hoffem edrych ar y gwahanol ffyrdd drwy deithio llesol, ac ati, o ddod i'r Senedd a mynd oddi yma, a hoffem annog ffyrdd amgen i Aelodau, teuluoedd yr Aelodau ac ymwelwyr â'r Senedd i ddod yma drwy ddulliau eraill o deithio, neu ffyrdd amgen. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i chi.

Rydym yn cynhyrchu adroddiad amgylcheddol blynyddol ac fe'i cyhoeddir ar y wefan, felly tybed a ydych chi'n manteisio ar hynny, ac mae ein system amgylcheddol yn cael ei gwirio'n flynyddol. Mae gennym dargedau carbon hirdymor a chynlluniau gweithredu ar waith lle'r ydym yn gobeithio cyflawni hyn. Felly, byddaf yn ystyried eich cwestiwn ymhellach a dof yn ôl atoch gydag ateb. Diolch yn fawr.

Rheoli Asbestos

4. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y trefniadau ar gyfer rheoli asbestos ar ystâd y Cynulliad? OAQ52003

Un eiliad. Diolch ichi am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau ar gyfer rheoli asbestos, ac mae'n cadw cofrestr asbestos ar gyfer pob adeilad ar ei ystâd. Cynhaliwyd arolygon ac adolygiadau asbestos manwl yn 2002 a 2014, ac mae'r cofrestr asbestos yn cadarnhau nad oes deunydd asbestos yn bresennol ar yr ystâd. Adolygir y gofrestr yn flynyddol a chyfeirir ati cyn cychwyn ar waith neu brosiectau perthnasol.

Iawn, diolch ichi am yr ateb hwnnw, oherwydd mae'n amlwg eich bod yn ymwybodol fod yna 3,000 o wahanol ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos ar draws y wlad, ac rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar asbestos, sy'n edrych yn bennaf ar asbestos mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill. Felly, roeddwn o'r farn ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn y dylid ei wneud ar ein hystâd ein hunain os ydym yn edrych ar hyn mewn mannau eraill. Felly, rwy'n falch o glywed yr hyn a ddywedwch am y gofrestr; mae angen inni reoli'r risg yn briodol. Mae'r risg yn galw am weithdrefnau manwl i sicrhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu gosod mewn cynlluniau rheoli asbestos, ac nid wyf yn siŵr mai am hynny roeddech chi'n sôn, ond os mai dyna ydyw, a allech gadarnhau hynny, a bod gennym gynlluniau rheoli o'r fath ar waith.

Hoffwn ddweud wrth Dawn fod y gofrestr asbestos yn cael ei hadolygu'n flynyddol fel rhan o gydymffurfiaeth a gweithdrefnau statudol, felly credaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn. Yn ôl yr adolygiadau a'r arolygon manwl a gynhelir, y diweddaraf yn 2014, ni chanfuwyd unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos naill ai yn Nhŷ Hywel nac yn y Senedd, nac mewn unrhyw ddeunyddiau adeiladu chwaith. Diolch.

16:05
5. Cwestiynau Amserol

Eitem 5 ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol. Mae gennym gwestiwn amserol gan Neil McEvoy.

Yr Ail Bont Hafren

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn y cynnig arfaethedig i ailenwi’r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru? 159

Gwnaf. Ased Llywodraeth y DU yw'r ail bont Hafren. Ysgrifennodd Llywodraeth y DU i hysbysu'r Prif Weinidog ynglŷn â newid yr enw ym mis Medi 2017, ac nid oedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'r cynnig.

Diolch. Ysgrifennydd Cabinet, mae bron 40,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn ailenwi'r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru. Roedd pobl Cymru yn siomedig iawn, i ddweud y lleiaf, nad ymgynghorwyd â hwy, ond mae'n ymddangos, fel rydych wedi cadarnhau, eu bod wedi ymgynghori â'ch Llywodraeth, ond nad oedd gennych unrhyw wrthwynebiad. Ac nid yw hwn yn ddigwyddiad unigryw, oherwydd rai misoedd yn ôl yn unig cawsom ffiasgo'r 'fodrwy haearn' fel y'i gelwid a dathlu'r goncwest, y teimlai cynifer o bobl ei fod yn sarhaus. Roeddwn i'n meddwl mai'r syniad wrth wraidd cael Cynulliad Cenedlaethol i Gymru oedd adeiladu democratiaeth fodern, felly pam y credech ei bod yn syniad da gadael i Alun Cairns ailenwi'r bont yn 'bont Tywysog Cymru'? Pam na wnaeth eich Llywodraeth wrthwynebu, a hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol y byddem yn hoffi i'r brif fynedfa i'n gwlad gael ei henwi ar ôl rhywun o Gymru, sydd wedi cyflawni rhywbeth dros ein gwlad mewn gwirionedd? Mae gennym gynifer o bobl dalentog yn Nghymru, yn y gorffennol a'r presennol, felly pam nad ydynt yn ddigon da i gael y bont wedi'i henwi ar eu hôl?

Wel, mae'r Llywodraeth hon wedi cydnabod llawer o bobl ddawnus a galluog o'n gorffennol drwy enwi, er enghraifft, byrddau iechyd a darnau eraill o seilwaith ar eu holau, ond mae'n werth ailadrodd y pwynt fod hon yn bont sy'n eiddo i Lywodraeth arall, ac mae ei hanner mewn gwlad arall, ac rwy'n poeni mwy am ddiddymu'r tollau dros y bont i leddfu llif y traffig nag am enwi'r bont ei hun. Ac er y credaf fod y bont wedi cael ei henwi i anrhydeddu a chydnabod y Tywysog Cymru presennol, ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles, ni welaf unrhyw reswm pam na ellir ei dathlu fel cofeb i holl dywysogion Cymru yn y gorffennol hefyd.

Mae'n ymddangos i mi, rwy'n credu, ei bod yn deyrnged briodol i nodi'r berthynas bwysig ac arbennig sydd gan Dywysog Cymru â'n cenedl drwy ailenwi'r bont ar achlysur ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain, ac i nodi hanner can mlynedd ers i'r Frenhines ei wneud yn Dywysog Cymru. Yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth y mae mwyafrif llethol y cyhoedd yng Nghymru yn ei groesawu.

A fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, ei bod yn llawer pwysicach i bobl Cymru ein bod yn sicrhau bod pontydd yr Hafren yn parhau i fod yn symbol o gyfraniad economaidd cryf Cymru i'r Deyrnas Unedig, ac y dylem fod yn hyrwyddo diddymu'r tollau ar bont Hafren, a fydd, wrth gwrs, yn hwb enfawr i economi Cymru, yn hytrach na chanolbwyntio ar fater cymharol ddibwys ailenwi'r bont?

Wel, buaswn yn wir. Credaf y bydd cael gwared ar y tollau ar bont Hafren yn anfon neges glir fod Cymru ar agor ar gyfer busnes, ac wrth inni adael yr UE, mae'n hanfodol ein bod yn achub ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, ac mae'n ffaith mai ychydig iawn o ffigurau eraill sy'n fwy adnabyddus o gwmpas y byd na'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, ac felly credaf y dylem nid yn unig gydnabod y gwaith gwerthfawr y mae wedi'i wneud, a llawer o aelodau eraill o'r teulu brenhinol—ac nid wyf yn dweud hyn fel breniniaethwr, ond fel gweriniaethwr—a'n bod yn parhau i wneud popeth a allwn i hyrwyddo Cymru'n fyd-eang.

A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y pwynt ehangach ynglŷn â sut y mae'r Cynulliad hwn, Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd, neu beidio, a sut y gallwn ni fel Cynulliad graffu ar berfformiad yr Ysgrifennydd Gwladol? Nawr, nid wyf am ddychwelyd at yr hen ddyddiau o gael ymddangosiad blynyddol gan y rhaglaw yma, ond mae gennym gynifer o faterion lle rydym wedi bod angen cymorth pwrpasol, lefel uchel gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru deinamig: fel cael morlyn llanw ym Mae Abertawe, fel trydaneiddio prif linell reilffordd De Cymru, fel cael carchar mawr ym Maglan. Cymaint o faterion lle y gallai cefnogaeth ymroddedig, lefel uchel gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Yn lle hynny, cawn ailenwi dibwrpas pont ffordd na fydd yn gwneud dim i helpu sefyllfa economaidd Cymru a gwneud dim ond atgyfnerthu'r farn y dylai Cymru fach wrando ar ei meistri yn Llundain.

Ai dyn Cymru yn San Steffan yw'r Ysgrifennydd Gwladol neu ddyn San Steffan yng Nghymru? Hynny yw, lle mae diwedd hyn? Mae cymaint o bontydd ffyrdd yng Nghymru heb enw; mae cynifer o aelodau o'r teulu brenhinol yn parhau i fod heb gysylltiad ag unrhyw strwythurau o'r fath. Er hynny, cafwyd ymdrechion glew dros y blynyddoedd i rwbio ein trwynau ynddo fel cenedl a orchfygwyd drwy eneinio sawl ysbyty ag enwau brenhinol.

Felly, ai dyna ni? Neu a all y Prif Weinidog, neu unrhyw un arall, ddefnyddio eu dylanwad i ddylanwadu mwy ar ymddygiad yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn sicrhau'r penderfyniadau rydym o ddifrif am eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru, fel y morlyn llanw ym Mae Abertawe? Diolch yn fawr.

16:10

Nid ydym bellach—. Mae fy nghyd-Aelod a'm cyfaill, Dafydd Elis-Thomas, yn llygad ei le, nid ydym wedi ein goresgyn mwyach; rydym yn genedl falch, rydym yn genedl hyderus, a dylai fod gennym hyder yn ein hunaniaeth yn ogystal. Drwy gael hyder, gallwn estyn allan yn fyd-eang, gallwn fod yn oddefgar, gallwn fod yn agored i bobl, a gallwn gydnabod, fel cenedl hyderus, y cyfraniad a wna pobl megis ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i'n lles a'n ffyniant.

Mae'r Aelod yn iawn, ceir nifer enfawr o bontydd sydd heb eu henwi eto, ac roedd hi'n ddiddorol fod yna ymgyrch gyhoeddus enfawr ynghanol y 1990au, ymgyrch gyhoeddus enfawr, gyda degau o filoedd o bobl yn gwthio am enwi'r bont newydd yn Sir y Fflint yn bont y Foneddiges Diana. Ni ddigwyddodd hynny, ond mae'n dangos, er efallai fod 30,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb a nodwyd heddiw, fod dros 3 miliwn o bobl heb lofnodi'r ddeiseb. Yn wir, roedd llawer o ddegau o filoedd o bobl yn gwthio am enwi pont yng ngogledd y wlad ar ôl aelod o'r teulu brenhinol yn y 1990au.

Er nad oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i enwi'r bont ar ôl Tywysog Cymru, sydd â chysylltiadau Cymreig hysbys—bu ef a minnau yn cydfyw unwaith mewn rhyw ffordd fel preswylwyr yn Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth pan oeddem yn fyfyrwyr yn ôl yn 1969—rwy'n cytuno gyda Russell George fod angen inni hysbysebu rhan Cymru yn y Deyrnas Unedig yn cael ein rheoli gan frenhiniaeth hynafol.

Ond mae gennym ail bont, wrth gwrs, i'w henwi ar draws afon Hafren, ac oni fyddai'n syniad da, felly, inni gydnabod y traddodiad arall, sy'n eistedd ar fy ochr chwith yma yn y Cynulliad hwn? Efallai y gellid enwi honno ar ôl Owain Glyndŵr neu Lywelyn Ein Llyw Olaf.

Gallai hynny fod, ac unwaith eto, mae llawer iawn o bontydd o amgylch Cymru yn dal heb eu henwi. O ran rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i leoedd, cymunedau, a gwella ansawdd lle, ni welaf unrhyw reswm pam na ellid enwi rhagor o bontydd ar ôl unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'n gorffennol, ac yn wir, i'n presennol. Buaswn yn croesawu enwi ein pontydd ar ôl unigolion o Gymru, ac yn wir, unigolion o dramor.

Mae yna nifer enfawr o bobl sydd naill ai wedi eu geni dramor neu sy'n byw dramor ar hyn o bryd, neu sydd wedi byw dramor, sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i Gymru. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellid enwi mwy o asedau i'w hanrhydeddu.

Fodd bynnag, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall cyd-destun ehangach hyn? Mae'n Ysgrifennydd Gwladol sydd mewn gwirionedd yn gweld de-ddwyrain Cymru fel maestref i Fryste, sydd eisiau—ynghyd â'i gyfaill a'i gydweithiwr—ailgategoreiddio Cymru fel tywysogaeth. Mae'n rhan o ymgais fwriadol i ailintegreiddio Cymru mewn rhyw fath o gysyniad hiraethus o Brydain nad yw erioed wedi bodoli yn ôl pob tebyg; ymdrech i ailgoloneiddio yw hi. Dyna pam y mae wedi taro nerf oherwydd nid yw mewn gwirionedd yn cyd-fynd â'r syniad o Gymru fel y mae heddiw, heb sôn am y Gymru rydym am ei hadeiladu yn y dyfodol. Gallwn weld mai 15 parti stryd yn unig a gynhelir ledled Cymru gyda'r briodas frenhinol. Roedd 15 parti stryd yn fy mhentref i 40 mlynedd yn ôl. Mae Cymru wedi symud ymlaen, ac mae enwi pethau—. Mae symbolau'n bwysig oherwydd maent yn dweud rhywbeth am y genedl ydym ni, a dyna pam y mae hyn wedi corddi'r bobl. A gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru—rydych yno i gynrychioli pobl Cymru—oni wnewch chi ofyn i Lywodraeth y DU feddwl eto?

16:15

Na wnaf, ni wnawn ofyn i Lywodraeth y DU feddwl eto. Credaf ei bod hi'n hollol iawn fod Tywysog Cymru yn cael ei gydnabod, a chredaf fod enwi'r bont ar ei ôl, er mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw hynny, yn rhywbeth y bydd llawer iawn o bobl yng Nghymru yn ei gefnogi. Ond hoffwn ddweud hefyd fod yna nifer enfawr o bontydd eraill y gallem eu henwi i anrhydeddu pobl eraill. Buaswn yn annog yr Aelod i ailystyried y defnydd o'r term 'ailgoloneiddio', oherwydd nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth fod hynny'n digwydd, a buaswn hefyd yn dweud bod fy ffrind da a'm cyd-Aelod yn gwneud gwaith rhagorol yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan gwych i dwristiaid, ac i bobl fyw ynddo.

6. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae 'canlyniad syfrdanol' yn derm a orddefnyddiwyd mewn chwaraeon o bosibl. Mewn gwirionedd, mae enghreifftiau o dimau'n goresgyn sefyllfaoedd sy'n ymddangos yn anorchfygol yn gymharol brin. Mae buddugoliaeth Olympaidd yr USSR dros dîm pêl-fasged UDA yn 1972 yn enghraifft ddadleuol. Mae Dinas Caerlŷr yn ennill uwchgynghrair Lloegr yn dyst, mewn chwaraeon, i sut y gall gwaith tîm wneud y canlyniadau mwyaf annhebygol yn realiti. Felly, mae'n eithaf rhyfeddol fod gorchest chwaraeon wedi cael eu chyflawni gan dîm o Gymru, ond ymddengys mai ychydig iawn o bobl sy'n gwybod amdani.

Y llynedd, aeth tîm codi hwyl newydd ei ffurfio o Gymru i'r UDA a'u curo yn eu camp eu hunain ar eu tir eu hunain i ddod â'r fedal aur adref i Gymru. Hyfforddwyd y tîm o Drefforest yn fy etholaeth i, sef tîm Cymru ParaCheer, gan wirfoddolwyr, ac mae'n cynnwys athletwyr ifanc anabl a rhai nad ydynt yn anabl. Dyma o bosibl yw ein trysor chwaraeon mwyaf cudd.

Ddydd Sadwrn, mae'r tîm yn hedfan i'r UDA i amddiffyn eu teitl, ac roedd yn wych croesawu'r tîm i'r Senedd fis diwethaf i roi rhagflas o'u hact, fel y dangosir ar y sgriniau. Ni allech gael grŵp mwy trawiadol o bobl ifanc. Maent yn athletwyr gwych, ac maent hefyd yn llysgenhadon gwych dros chwaraeon a thros Gymru.

Er bod ParaCheer wedi'i restru dros dro gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol fel camp, nid yw'n denu llawer o sylw yn y cyfryngau. Dyna pam roedd y tîm wrth eu bodd yn cael y Gweinidog Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas yn dymuno 'pob lwc' iddynt ddoe. Roedd yn golygu llawer iawn i'r tîm gael eu cydnabod yn y ffordd hon, ac rwy'n siŵr, heddiw, yr awn gam ymhellach ac anfon ein dymuniadau gorau i'r tîm gan y Cynulliad Cenedlaethol cyfan ar gyfer y pencampwriaethau byd sydd i ddod.

7. Dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?'

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?' A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw, David Rees, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6704 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit, a hefyd i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i.

Dirprwy Lywydd, fis diwethaf, nodwyd un flwyddyn hyd nes y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol, ar ôl i'r Prif Weinidog rhoi erthygl 50 o gytundeb Lisbon mewn grym. Yn ystod cam cyntaf y drafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, cytunwyd bod cynnydd digonol wedi'i wneud ar ddwy agwedd allweddol ar ymadawiad y DU, a bod llawer i'w drafod o hyd. Mae llawer o gwestiynau am sut y mae Cymru am baratoi ar gyfer Brexit wedi dod yn gliriach.

Ac yn ystod yr ymchwiliad hwn, aethom ati i archwilio sut y dylai Cymru, a Llywodraeth Cymru yn benodol, fod yn paratoi ar gyfer Brexit. Cafodd ansawdd ein sylfaen dystiolaeth ei wella'n fawr gan ein proses ymgynghori draddodiadol a sesiynau tystiolaeth lafar yn y Senedd, ac ymweliadau â rhanddeiliaid ym Mhrifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Calsonic Kansei yn Llanelli. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, y rhanddeiliaid yr aethom i gyfarfod â hwy, y rhai a ddaeth i roi tystiolaeth a'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig. Ac fel pwyllgor, rydym bob amser yn ddiolchgar i'n tîm pwyllgor sy'n darparu'r cymorth i'n galluogi i gwblhau ein gwaith.

Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn gwneud cyfanswm o saith argymhelliad, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r saith. Fel arfer, nid wyf yn mynd drwy bob un o'r saith, ond y tro hwn fe wnaf hynny.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r angen i Lywodraeth Cymru archwilio ar frys beth yw paramedrau tebygol senarios Brexit amrywiol, gan gynnwys senario 'dim bargen', ac adrodd i'n pwyllgor o fewn chwe mis. Nawr, wrth baratoi'r adroddiad hwn, rydym wedi gweithio yn y gobaith diffuant y bydd y negodiadau erthygl 50 yn dod i ben gyda chanlyniad llwyddiannus i bawb, ac mae cynnydd wedi'i wneud yn ddi-os, yn enwedig ers i ni gyhoeddi ein hadroddiad. Ond mae'n bwysig i ni beidio â chilio rhag mynd i'r afael â chanlyniad 'dim bargen' a allai ddigwydd o hyd. Er ein bod yn glir nad yw hwn yn ganlyniad yr ystyriwn ei fod yn ddymunol mewn unrhyw ffordd, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ran cynllunio senarios er mwyn paratoi Cymru. Yn ei hymateb, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr angen am hyn, a dywedir wrthym yn aml ei fod ar y gweill.

Roedd ein hail argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei hymchwil ar effaith gwahanol senarios Brexit ar economi Cymru, ac rydym yn falch o ddarllen dadansoddiad Ysgol Fusnes Caerdydd o'r effeithiau ar fusnesau mwy yng Nghymru. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, sylwaf fod ymchwil pellach ar y gweill ar hyn o bryd. Hoffwn gofnodi'r ffaith bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld canlyniad y gwaith ymchwil hwnnw maes o law. Mae'n hanfodol fod gennym fynediad at wybodaeth a thystiolaeth sy'n llywio gwaith y Llywodraeth a'r ddadl gyhoeddus ehangach am ffurf canlyniad ymadael. Mae hynny'n ein galluogi i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth a gwneud penderfyniadau mewn mwy o fanylder.

Mae'r trydydd argymhelliad yn ymwneud ag agwedd allweddol ar ein hymchwiliad, sef cyfathrebu. Yn ystod yr ymchwiliad, clywsom bryderon gan rai rhanddeiliaid nad oes gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi ar gyfer Brexit. At hynny, clywsom fod diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU a'r amrywiaeth eang, o bosibl, o senarios a allai ddigwydd o hyd yn llesteirio gallu gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector ac eraill i gynllunio a pharatoi'n ddigonol ar gyfer Brexit. Er inni glywed bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar lefel gynrychioliadol, clywsom hefyd fod yna heriau mewn perthynas â rhaeadru'r wybodaeth honno i lawr i sefydliadau a chyrff unigol a staff rheng flaen. I helpu i fynd i'r afael â hyn, mae argymhelliad 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ei gwaith cyfathrebu â sefydliadau unigol drwy annog cyrff cynrychioliadol i raeadru gwybodaeth i lawr, ac ymhellach, i sefydliadau unigol edrych ar ymgysylltu dwy ffordd, oherwydd ceir gwybodaeth sy'n dod i fyny o'r gwaelod y dylid ei ystyried yn bwysig.

Yn ein hadroddiad, roeddem hefyd yn cydnabod bod gennym ein rôl ein hunain i'w chwarae o ran sicrhau bod y cyhoedd a chymdeithas sifil yng Nghymru â mynediad at wybodaeth ddibynadwy ac awdurdodol ar Brexit. Rwy'n manteisio ar y cyfle hwn—ac  rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn caniatáu i mi wneud hynny—i atgoffa pawb am y newyddion rheolaidd ynghylch Brexit ac adroddiadau monitro a gynhyrchir gan Wasanaeth Ymchwil diduedd y Cynulliad sydd ar gael ar wefan y Cynulliad ac yn arbennig, hefyd, ar wefan ein pwyllgor. Felly, defnyddiwch y cyfle i gadw llygad ar yr holl wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r adroddiadau monitro yn rhagorol, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r staff sy'n cynhyrchu'r adroddiadau hynny.

Yn yr un modd, mae argymhelliad 4 yn ymwneud â mater gwybodaeth a chyfathrebu ac yn benodol, galwn ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau clir a hygyrch ac arweiniad i fusnesau, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ar oblygiadau senarios amrywiol, gan gynnwys senario 'dim bargen'. Yn ei hymateb, dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cytuno â'n hargymhelliad i raddau, ond mae'n dadlau nad yw'r amseru'n iawn. At hynny, mae ymateb y Llywodraeth yn codi mater pwysig o gyfnod pontio a beth y gall hynny ei olygu ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru. Rwy'n derbyn hynny i gyd, ac rwy'n cytuno ag ef. Byddwn yn cadw llygad ar sut y mae'r trafodaethau ar bontio'n datblygu, ond fel pwyllgor, nid ydym wedi dod i gasgliad pendant ynghylch pryd yn union y dylid cyhoeddi'r canllawiau hyn. Rwy'n cydnabod y dadleuon a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar yr angen i osgoi sbarduno mwy o ansicrwydd. Ond mae ansicrwydd yn bodoli, a rhaid inni ymdrin â'r ansicrwydd hwnnw gystal ag y gallwn. Fel y cyfryw, buaswn yn croesawu'r newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y ddadl heddiw ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y bydd yr amserlenni ar gyfer y canllawiau'n datblygu, yn enwedig o ystyried cyfarfod diweddaraf y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd tuag at ddiwedd mis Mawrth.

I droi at argymhelliad 5, clywsom bryderon gan randdeiliaid am golli cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol a'r her y byddai hyn yn ei chreu i wasanaethau a sefydliadau yng Nghymru. Dyna pam y galwasom ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mwy o eglurder gan Lywodraeth y DU ar sut y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei dyrannu a'i gweinyddu. Gwn y gallai hyn fod yn heriol oherwydd ar hyn o bryd nid wyf yn meddwl bod gan unrhyw un syniad beth y mae'n ei olygu hyd yn oed y tu hwnt i'r tri gair 'cronfa ffyniant gyffredin', ond mae'n bwysig eich bod yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fanylion pellach ar hynny. Fel y mynegwyd gennym eisoes mewn gwaith cynharach ar bolisi rhanbarthol yng Nghymru, mae'n hanfodol nad yw Cymru yn waeth ei byd o ran arian cyfatebol o ganlyniad i DU yn gadael yr UE nag y byddai wedi bod pe baem wedi aros yn yr UE. Mae bod heb y wybodaeth honno yn peri anhawster i lawer o gyrff cyhoeddus yn benodol.

Mae ein chweched argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar y cyd â'r gweithgor addysg uwch, i gyhoeddi unrhyw waith a wnaeth o ran ymchwil ac arloesi yn y sector addysg uwch ac i ystyried goblygiadau Brexit yn y sector hwnnw. Gwn ei fod wedi'i roi ar waith, ond nid ydym wedi gweld unrhyw gyhoeddiadau o hynny.

Clywsom yn uniongyrchol gan fyfyrwyr a'r sector prifysgolion am rôl hollbwysig cyllid Ewropeaidd ar gyfer ymchwil, cydweithio ac arloesi yn y gorffennol, a'r angen i sicrhau bod y sector prifysgolion yn chwarae rôl yn paratoi Cymru ar gyfer cyfleoedd posibl ar ôl Brexit. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y DU yn dymuno parhau i gymryd rhan mewn meysydd ymchwil ac arloesedd ledled yr UE, ac rydym yn croesawu hynny, ond dylai gwaith paratoi cynnar yng Nghymru sicrhau ein bod ar y flaen y gad yn hyn o beth.

Mae ein seithfed argymhelliad, a'r un terfynol, yn ymwneud â'r arian canlyniadol Barnett disgwyliedig y mae Llywodraeth Cymru i fod i'w gael o ganlyniad i'r arian ychwanegol a werir ar lefel y DU i baratoi ar gyfer Brexit. Rydym yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad am y gronfa bontio o £15 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi ar gyfer ei ddefnyddio er mwyn paratoi busnesau a sefydliadau ar gyfer Brexit. Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ac eraill yng Nghymru yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i baratoi'n ddigonol ar gyfer Brexit. Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i adolygu'r sefyllfa ac fel pwyllgor, edrychwn ymlaen at graffu ar sut y caiff yr arian ei ddefnyddio.

Ond mae hefyd yn cydnabod bod y Canghellor yn ei ddatganiad ym mis Tachwedd wedi nodi y byddai £3 biliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer Brexit. Edrychwn ymlaen at ddysgu pa arian canlyniadol a ddaw i Gymru a sut y caiff ei wario i gefnogi busnesau a chyrff cyhoeddus yr effeithir arnynt gan y paratoadau ar gyfer Brexit a'i effeithiau, ond hefyd efallai, sut y caiff y busnesau a'r sefydliadau hynny eu cynorthwyo i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi o ganlyniad i Brexit er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu at y diben hwnnw mewn gwirionedd.

Ddirprwy Lywydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben, hoffwn atgoffa'r Siambr y bydd gan Brexit oblygiadau pwysig i lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru ac wrth i'r broses fynd rhagddi'n gyflym—ac mae'n mynd rhagddi'n gyflym; mae'n newid bron bob wythnos—mae'n ddyletswydd ar y Siambr hon i sicrhau, mewn meysydd lle mae gan Gymru ei phwerau a'i chyfrifoldebau ei hun, ein bod yn barod ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau, nid yn unig er mwyn lleihau unrhyw effeithiau negyddol, ond hefyd er mwyn bachu ar y cyfleoedd a fydd yn deillio o Brexit.

16:25

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion ein hadroddiad yn honni ei bod wedi symud

'yn gyflym yn dilyn canlyniad y refferendwm i greu’r gallu ar draws y Llywodraeth i ymateb i’r heriau ac i archwilio’r cyfleoedd y mae ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.'

Fodd bynnag, gwyddom o'r adborth a gafwyd yn ystod ymweliadau pwyllgorau'r Cynulliad sy'n gysylltiedig â Brexit â Brwsel, Dulyn a mannau eraill mai ni, y pwyllgorau, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, a arweiniodd yr ymgysylltu a'r agenda hon. Rydym yn croesawu'r ffaith eu bod yn dilyn ein harweiniad.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad cyntaf mewn egwyddor yn unig, dywed Llywodraeth Cymru y byddai senario 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, ond mae'n methu ymrwymo i ddarparu adroddiadau cynnydd ar ei harchwiliad o senarios Brexit amrywiol.

Yn ei haraith Mansion House y mis diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog:

Nid yn unig y mae'n rhaid i ni negodi ein hymadawiad o sefydliad sy'n cyffwrdd â chynifer o rannau pwysig o'n bywyd cenedlaethol, rhaid inni hefyd adeiladu perthynas newydd barhaol gan baratoi ar gyfer pob sefyllfa.

Ac fel y dywedodd yn Fflorens,

rydym yn rhannu'r un set o gredoau sylfaenol; cred mewn masnach rydd, cystadleuaeth drwyadl a theg, hawliau defnyddwyr cryf, a bod ceisio trechu diwydiannau gwledydd eraill drwy sybsideiddio eich diwydiant eich hun mewn modd annheg yn gamgymeriad difrifol.

Dywedodd hefyd:

Bydd angen i gytundeb dwfn a chynhwysfawr gyda'r UE gynnwys ymrwymiadau sy'n adlewyrchu i ba raddau y mae economïau'r DU a'r UE ynghlwm wrth ei gilydd.

Wel, dechreuodd cam olaf y trafodaethau yr wythnos hon, gyda'r wasg yn datgan bod cysylltiadau rhwng yr UE a'r DU wedi'u normaleiddio lawer mwy a bod rhai o fewn yr UE yn credu y bydd llawer o'r manylion a'r sylwedd sy'n llywodraethu perthynas yr UE a'r DU yn y dyfodol yn cael eu datrys wedi i'r DU adael y bloc ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf mewn gwirionedd.

Wrth dderbyn ein hail argymhelliad mewn egwyddor yn unig, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi gweithio'n agos gyda'i

'holl dimau sy’n ymwneud â’r sectorau, er mwyn... [c]ael gwell dealltwriaeth o’r darlun ar draws pob un o’r sectorau y bydd ymadawiad y DU â’r UE yn effeithio arnynt.'

Ac wrth dderbyn ein trydydd argymhelliad, dywed ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gydag

amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, ffermwyr, undebau llafur, cyrff addysg, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r cyhoedd... i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o'u blaenoriaethau, eu pryderon a'u mannau gwan, gan gyfathrebu â safbwynt Llywodraeth Cymru ar ystod o faterion Brexit a bydd y gweithgarwch hwn yn parhau.

Fodd bynnag, fel y dywed ein hadroddiad, dywedodd Michael Trickey o Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 wrthym:

Nid wyf yn meddwl ein bod yn llawer iawn mwy datblygedig o ran ein dealltwriaeth o oblygiadau Brexit nag yr oeddem flwyddyn yn ôl mewn gwirionedd.

Cydnabu Mr Trickey a Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, fod unrhyw waith cynllunio senarios a wnaed hyd yma i'w weld yn gymharol gyfyngedig. At hynny, er bod y sefydliadau ymbarél yn ymwneud â Brexit, dywedodd Mr Trickey fod y mater—rwy'n dyfynnu—'yn teimlo'n bell iawn, iawn' ar lefel sefydliadau unigol.

Wrth dderbyn ein hargymhelliad 4 mewn egwyddor yn unig, mae Llywodraeth Cymru yn nodi

'Bydd angen meddwl yn ofalus cyn darparu canllawiau ar gyfer busnesau a’r trydydd sector, o ystyried pa mor eang yw ystod y buddiannau.'

Fodd bynnag, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrthym y byddent yn hoffi gweld cyngor penodol ar gynllunio busnesau fferm yn ymwneud â'r gwahanol senarios masnachu ar ôl Brexit. Galwodd Undeb Amaethwyr Cymru ar Lywodraeth Cymru i 

fesur effeithiau posibl senarios ôl-Brexit gwahanol.

Ac er bod Conffederasiwn GIG Cymru o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wedi anfon negeseuon e-bost at Aelodau ddoe yn datgan ei fod wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried ac asesu maint yr effaith ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru ar ôl Brexit, dywedodd y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol y cyfarfuom â hwy ym mwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan yng Nghaerllion wrthym fod

diffyg eglurder a chyfeiriad

mewn perthynas â Brexit

yn gwneud cynllunio wrth gefn yn anodd, ac o ganlyniad, nid yw'r sgyrsiau ynghylch cynllunio senarios wedi dechrau eto.

Fel y dywed Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'n hargymhelliad 5, rhaid i'r hyn a ddaw yn lle cronfeydd strwythurol yr UE weithio o fewn cyd-destun datganoledig. Er gwaethaf hyn, wrth gwrs, rydym hefyd yn nodi mai bwriad y cronfeydd hyn oedd cau'r bwlch ffyniant cymharol, ond yn wahanol i nifer o rai eraill sy'n eu derbyn ledled Ewrop, mae hyn wedi ehangu yng Nghymru.

Wrth dderbyn ein chweched argymhelliad, mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at

'oblygiadau Brexit i ymchwil ac arloesedd a gomisiynir gan y Llywodraeth yng Nghymru'.

Rhaid inni felly groesawu datganiad y Prif Weinidog sy'n dweud bod

y DU hefyd wedi ymrwymo i sefydlu cytundeb gwyddoniaeth ac arloesi pellgyrhaeddol gyda'r UE, i hwyluso cyfnewid syniadau ac ymchwilwyr. Byddai hyn yn galluogi'r DU i gymryd rhan mewn rhaglenni allweddol ochr yn ochr â'n partneriaid yn yr UE.

Rydym yn dymuno'n dda i Lywodraeth Cymru yn ei gwaith ymgysylltu yn y dyfodol ar y mater hwn ond yn gobeithio y bydd yn ailystyried rhai agweddau ar ei hymateb ac yn ystyried ymhellach y dystiolaeth a gawsom. Diolch.

16:30

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor materion allanol am eu gwaith ar yr adroddiad hwn a hoffwn hefyd ddiolch i Steffan Lewis, nad yw'n gallu bod yma i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ond sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith y pwyllgor a bydd yn parhau i wneud hynny pan fydd yn gallu ymuno â hwy eto yn y dyfodol. Efallai nad oedd Brexit yn bolisi a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, ond bydd goblygiadau sylweddol yn deillio o weithredu canlyniad refferendwm yr UE i ddyfodol ein cenedl. Ein heconomi, ein hamgylchedd, ein gwasanaethau cyhoeddus—ychydig iawn a fydd heb ei effeithio gan delerau'r cytundeb gwahanu rhwng y DU a'r UE. Mae'r ansicrwydd y mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw ato y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n creu her go iawn i barodrwydd y Llywodraeth, busnes a'r sector cyhoeddus fod ein dyfodol yng Nghymru yn nwylo negodwyr o'r DU a'r UE ac yn dibynnu i'r fath raddau ar siâp y fargen derfynol.

Mae'r adroddiad hwn yn datgelu nifer o fylchau sy'n peri pryder yn y gwaith sy'n cael ei wneud i gael Cymru'n barod ar gyfer y nifer o ganlyniadau terfynol posibl a fydd yn deillio o'r negodiadau Brexit. Mae'n hanfodol fod craffu priodol yn digwydd ar waith paratoi Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit. Mae angen inni weld gwell cyfathrebu ac arweinyddiaeth fel y gall Cymru fod yn barod ar gyfer Brexit mewn pryd ar gyfer gwahanu oddi wrth yr UE. Mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i hyd yn oed ystyried y camau angenrheidiol ar gyfer paratoi ar gyfer senario Brexit 'dim bargen' yn peri pryder mawr. Rwy'n derbyn y byddai 'dim bargen' Brexit yn drychinebus. Pan wnaeth Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi ymchwil ar Brexit 'dim bargen', ni allent weld unrhyw fantais bosibl. Gallem weld silffoedd gwag mewn uwchfarchnadoedd a chynnydd o 20 y cant ym mhrisiau bwyd, gallai teithiau hedfan i Ewrop gael eu canslo ar y diwrnod ymadael, a gallem weld milltiroedd o dagfeydd yn ein porthladdoedd. Mae'n dra esgeulus ar ran y Torïaid i chwarae gyda dyfodol economaidd y DU drwy ystyried Brexit 'dim bargen' fel opsiwn. Rwy'n deall mai'r syniad yw y byddai Brexit 'dim bargen' yn llanastr a wnaed gan y Torïaid ac mai cyfrifoldeb y Torïaid yn San Steffan fyddai ei glirio, ond lle yr effeithir ar feysydd cymhwysedd datganoledig, bydd cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud beth bynnag sy'n bosibl i liniaru'r effeithiau. Rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gynllunio ar gyfer y canlyniad hwn sydd bron y tu hwnt i amgyffred.

I sefydliadau unigol, y mae llawer ohonynt eisoes yn teimlo dan bwysau, nid oes ganddynt gapasiti i feddwl am Brexit pan fo cymaint o waith o ddydd i ddydd i'w wneud. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw darparu'r canllawiau a sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cyrraedd y bobl iawn, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n frawychus fod yr adroddiad hwn yn canfod bod nifer o sectorau yn teimlo eu bod yn brin o'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi'n ddigonol. Gwyddom y gallai goblygiadau Brexit i'n gwasanaethau cyhoeddus fod yn enfawr. Bydd colled o £680 miliwn o arian Ewropeaidd bob blwyddyn, heb unrhyw sicrwydd gwirioneddol eto gan Lywodraeth y DU y byddwn yn cael cyllid yn ei le.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y felin drafod Global Future yn awgrymu y byddai cytundeb terfynol yn unol â'r fargen benodol a ddymuna Llywodraeth y DU yn torri £615 miliwn yr wythnos oddi ar y swm o arian a fyddai ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y DU—sy'n cyfateb i 22 y cant o'r hyn a werir ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rydym yn gwybod y gallai ein mynediad at feddyginiaethau ac ymchwil feddygol gael eu amharu. Cafodd apêl Theresa May i gael parhau'n aelod cysylltiol o Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ar ôl Brexit ei gwrthod gan y Comisiwn oherwydd ei bod hefyd am adael y farchnad sengl. Gallai cleifion Cymru gael eu hamddifadu o driniaethau sydd eu hangen arnynt a'r ymchwil fwyaf arloesol. Mae Canada yn aml yn cael cyffuriau newydd chwech i 12 mis ar ôl yr UE. Os mai bargen debyg fydd gan y DU, a fyddwn ninnau yn yr un cwch?

Ni allwn fod yn hunanfodlon ynglŷn â maint yr her a allai ein hwynebu, ond mae'r ansicrwydd parhaus a wynebwn ynghylch canlyniad y negodiadau Brexit yn gwneud unrhyw waith paratoi yn anodd iawn. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad gwerthfawr i'r drafodaeth ynglŷn â sut y gall Cymru ddechrau paratoi ar gyfer effaith bosibl Brexit, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar ei argymhellion.

16:35