Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/09/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Rŷn ni'n cychwyn nawr. Croeso, bawb, i'r cyfarfod y prynhawn yma. 

Os caf i groesawu pawb i'r cyfarfod y prynhawn yma. 

Cyn i ni ddechrau busnes heddiw, dwi eisiau nodi y newyddion trist a glywyd dros y bythefnos diwethaf yma am farwolaeth ein cyn-Aelod ni, Mick Bates. Mae nifer ohonom ni, mae'n siŵr, yn cofio presenoldeb Mick yn ein plith ni yn ystod tri thymor cyntaf y Senedd yma, ac roedd yn gyfrannwr pwysig, cyson a blaengar ar faterion cynaliadwyedd yn ystod y cyfnod yna. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn dymuno estyn pob cydymdeimlad at deulu a chyfeillion Mick Bates yn ystod y cyfnod anodd yma iddyn nhw. 

Dwi eisiau hefyd hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) wedi cael Cydsyniad Brenhinol.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies. 

Rhagoriaeth Addysgol yn Sir Ddinbych

1. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau rhagoriaeth addysgol yn sir Ddinbych? OQ58379

Llywydd, mae darparu addysg yn sir Ddinbych yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i'r cyngor sir a phan fo'n berthnasol, awdurdodau'r esgobaeth. Maen nhw'n gweithredu o fewn y fframwaith a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Fis Medi eleni, er enghraifft, bydd ysgolion ar draws y genedl yn dechrau cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel efallai y byddwch chi'n gwybod, dros yr haf, derbyniodd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl adroddiad damniol gan Estyn yn dilyn arolygiad, sydd wedi arwain at orfodi mesurau arbennig ar yr ysgol. Nawr, mae'r ysgol yn dal i fod yn ifanc iawn ar ôl cael ei hagor yn 2020 yn unig ar ôl uno hen ysgolion Ysgol Mair a Bendigaid Edward Jones. Ac mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith bod Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â'i chyd wledydd yn y DU yn y tabl cynghrair canlyniadau TGAU, gan adael fy etholwyr yn bryderus efallai na fydd cyfleoedd addysg bellach a/neu brifysgol ar gael i'r rhai sydd â'r uchelgais o lwyddo mewn bywyd. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl yn y Rhyl bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag uwch dîm arweinyddiaeth yr ysgol, Cyngor Sir Ddinbych a'r corff llywodraethu i ddatrys y problemau hyn a darparu cynllun o ran sut yr ydych chi'n bwriadu gwella canlyniadau arholiadau fel nad yw fy etholwyr yn cael eu gadael ar ôl?

Wel, Llywydd, yn anffodus, mae'r Aelod yn cymysgu dau fater cwbl wahanol. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r adroddiad arolygu ar Grist y Gair. Llwyddais i drafod hyn gydag arweinydd newydd Cyngor Sir Ddinbych a gyda'r aelod cabinet sy'n gyfrifol am addysg. Mae hi, fel y mae'r Aelod yn gwybod, dybiwn i, yn sefyllfa gymhleth gan ei bod hi'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir. Yr awdurdodau esgobaethol sy'n gyfrifol am gyflogi staff yn yr ysgol, ac mae gwaith i'w wneud yn hynny o beth, fel mae'r adroddiad arolygu yn nodi, i wneud yn siŵr bod safonau addysgu a dysgu yn yr ysgol yn cael eu codi i'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn dderbyniol mewn mannau eraill. 

Mae llawer iawn o gymorth yn cael ei gynnig gan y consortiwm a chan yr awdurdod lleol, a bydd angen tystiolaeth nawr—a chyfrifoldeb y corff llywodraethu yw darparu'r cynllun gweithredu—sy'n dangos sut y bydd argymhellion adroddiad Estyn yn cael eu rhoi ar waith. Mae angen tystiolaeth bod y cyngor sy'n cael ei ddarparu yn cael ei ddilyn yn iawn. Cefais fy nghalonogi o ddarganfod bod yr aelod cabinet newydd dros addysg, y Cynghorydd Gill German, yn cyfarfod ag awdurdodau'r ysgol yn yr wythnos neu ddwy nesaf, a bod pennaeth y gwasanaeth addysg yn sir Ddinbych yn cyfarfod ag Esgob Wrecsam yr wythnos hon. Felly, rwy'n credu y gallwn ni fod yn hyderus bod llawer iawn o sylw yn dod at ei gilydd gan yr awdurdodau perthnasol i wneud yn siŵr bod y gwelliannau sy'n amlwg yn angenrheidiol yn yr ysgol yn cael eu rhoi ar waith. 

Yn syml, mae'r pwyntiau mwy cyffredinol a wnaeth yr Aelod am ganlyniadau arholiadau yn wallus mewn gwirionedd ac nid oes ganddyn nhw unrhyw berthnasedd i'r camau a fydd yn cael eu cymryd gan yr awdurdodau yn achos yr ysgol unigol.

COVID mewn Cartrefi Gofal

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad sy'n benodol i Gymru i farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal? OQ58416

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae rhai categorïau o breswylwyr cartrefi gofal eisoes wedi eu cynnwys yn y rhaglen waith genedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni gan y Gweinidog iechyd. Mae'r hyn a ddysgwyd o gyfnod cynnar y rhaglen yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r sector cartrefi gofal i ymchwilio i weddill y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID.

13:35

Diolch, Prif Weinidog. Cafodd y wybodaeth y byddai ymchwiliad mwy a phenodol i gartrefi gofal ei rannu'n eang ar y cyfryngau cymdeithasol gan grŵp ymgyrchu COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, yn dilyn eu cyfarfod gyda chi ychydig wythnosau yn ôl, a byddai'n ddefnyddiol cael eglurder ynghylch amserlen y dull a pha un a fydd yn ymdrin â rhyddhau'r henoed o'r ysbyty i gartrefi gofal heb brawf. Yn ogystal â gofyn am eglurder ynghylch hyn, dywedodd y teuluoedd mewn profedigaeth hefyd eu bod nhw wedi trafod ymchwiliadau i heintiau mewn ysbytai yng Nghymru gyda chi. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pryd y bydd adrodd a gweithredu'r argymhellion yn digwydd? Ac rwy'n deall bod y grŵp ymgyrchu wedi holi eich tîm chi a thîm y Gweinidog iechyd ar hyn ddwywaith ond heb glywed unrhyw beth ers hynny, ac, o ystyried bod 1,619 o ymchwiliadau wedi'u cwblhau, rwy'n clywed na chysylltwyd â theuluoedd o hyd ac maen nhw'n ysu am ddiweddariad.

Wel, diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau ychwanegol yna. Mae hi'n iawn i ddweud fy mod i, unwaith eto, wedi cyfarfod â'r grŵp teuluoedd mewn profedigaeth yn gynharach y mis yma, felly nid oes llawer o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y cyfarfod hwnnw, ac, o dan amgylchiadau eithriadol yr wythnos ddiwethaf, rwy'n credu ei bod hi'n ddealladwy na ymatebwyd i bob cwestiwn ar unwaith. At ddibenion eglurder, felly, Llywydd, unrhyw un y mae'r GIG yn ariannu ei ofal, gan gynnwys pobl a drosglwyddwyd o'r ysbyty i gartref gofal, ac a ddaliodd coronafeirws wedyn a fu farw o fewn 14 diwrnod o gael ei drosglwyddo, mae rheoliadau 'Gweithio i Wella' eisoes yn cwmpasu'r achosion hynny, ac mae'r digwyddiadau hynny eisoes yn cael eu hymchwilio yn dilyn y camau a amlinellodd y Gweinidog iechyd yn gynharach eleni. Rydym ni'n gallu gwneud hynny oherwydd bod llinell uniongyrchol o'r GIG i ofal y cleifion hynny.

Mae'r sector cartrefi gofal cyffredinol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn llawer mwy amrywiol na hynny: dros 1,000 o gartrefi gofal oedolion cofrestredig yng Nghymru, y mwyafrif helaeth o'r rheini dan berchnogaeth breifat. Yn anochel, mae hynny'n ychwanegu cymhlethdodau a heriau at y broses ymchwilio pan fyddwch chi'n dibynnu ar y set lawer ehangach honno o unigolion ac amgylchiadau. Mae byrddau iechyd unigol eisoes yn adrodd canlyniadau'r ymchwiliadau y maen nhw'n eu cynnal. Adroddodd a chyhoeddodd bwrdd iechyd Aneurin Bevan eu hadroddiad cyntaf ar eu gwefan ym mis Mehefin eleni, ac fe wnaeth Bae Abertawe yr un peth ym mis Gorffennaf, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd barhau i wneud hynny. Bydd yr uned gyflawni, a ariannwyd gan y Gweinidog er mwyn cynorthwyo gyda chysondeb o ran y dull gweithredu ym mhob rhan o Gymru, yn llunio ei hadroddiad interim ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a bydd adroddiad terfynol yn cael ei ddarparu ym mis Mawrth 2024.

Prif Weinidog, mae data sy'n gysylltiedig â nifer y marwolaethau o ganlyniad i COVID mewn cartrefi gofal yn dangos, yng Nghymru, mai COVID-19 oedd yr ail brif achos o farwolaeth ymhlith preswylwyr cartrefi gofal gwrywaidd a benywaidd yn ystod ton gyntaf ac ail don y pandemig. O gofio bod y gaeaf ac, yn wir, tymor y ffliw yn prysur agosáu, rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn poeni am ddiogelwch pobl oedrannus ac agored i niwed, yn enwedig os gwelwn ni straen COVID-19 marwol arall yn dod i'r amlwg. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cael ymchwiliad COVID i Gymru yn unig, rwy'n awyddus i wybod pa dystiolaeth a gwaith dadansoddi data y mae'r Llywodraeth hon wedi eu defnyddio wedi hynny i ddatblygu ei chynllun strategol ar gyfer cartrefi gofal a nyrsio, yn y dyfodol, a sut rydych chi wedi defnyddio'r gwaith dadansoddi hwn i ddatblygu cynlluniau ar gyfer trosglwyddo preswylwyr yn ddiogel i lety gofal ac oddi yno, y driniaeth a'r gofal diogel y maen nhw'n eu cael tra'u bod nhw mewn gofal, a pha fesurau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i atal a rheoli achosion yn y dyfodol. Diolch.

Wel, ni fyddai ymchwiliad Cymru gyfan o unrhyw gymorth i rywun sydd eisiau edrych ymlaen, fel y gwnaeth y rhan fwyaf o gwestiwn yr Aelod, at amodau mewn cartrefi gofal yng Nghymru dros y gaeaf nesaf. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd, oherwydd mae'n caniatáu i mi atgoffa pawb yn y Siambr a thu hwnt nad yw coronafeirws wedi diflannu. Gwelsom, yn gynharach yn yr haf eleni, y niferoedd uchaf erioed o bobl yn mynd yn sâl gyda'r don omicron o'i gymharu ag unrhyw ran arall o gyfnod y pandemig. Ac er bod y cysylltiad rhwng mynd yn sâl a salwch difrifol wedi cael ei erydu yn llwyddiannus gan frechu, mae bod yn sâl gyda'r coronafeirws ei hun yn brofiad anodd, a'r mwyaf agored i niwed ydych chi, y mwyaf anodd y mae'n debygol o fod. Felly, dyna pam rydym ni wedi blaenoriaethu preswylwyr cartrefi gofal ar gyfer ymgyrch pigiad atgyfnerthu'r hydref. Cafodd y llythyrau cyntaf yn gwahodd pobl i ddod ymlaen i gael eu brechu eu hanfon ar 15 Awst. Digwyddodd y brechiadau cyntaf ar 1 Medi. Ddoe, tra'r oedd y mwyafrif o bobl yn canolbwyntio ar y digwyddiadau a oedd yn mynd rhagddynt yn Abaty Westminster, roedd timau brechu yng Nghymru allan yna mewn cartrefi gofal yn gwneud yn siŵr bod yr holl drigolion agored i niwed hynny yn cael y cyfle cyntaf posibl i gael eu brechu.

Mae honno'n neges gyffredinol yr wyf i'n gobeithio y bydd Aelodau yma yn helpu i'w chyfleu i'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae ofn ymhlith y gymuned broffesiynol, oherwydd bod pobl yn teimlo bod y coronafeirws y tu ôl i ni, na fydd gennym ni'r niferoedd yn manteisio ar y brechiad y byddem ni wedi eu gweld mewn tonnau cynharach. Fydd dim byd yn bwysicach i'w wneud ar y diwrnod y cewch chi'r gwahoddiad na mynd i gael y brechiad hwnnw, ac mae hynny'n arbennig o wir, wrth gwrs, i breswylwyr oedrannus ac agored i niwed yn ein cartrefi gofal, a dyna pam maen nhw wedi cael eu rhoi ym mlaen y ciw yng Nghymru.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog nesaf. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Os caf i, gyda'ch caniatâd, gofnodi fy niolch diffuant a diolch fy ngrŵp i staff y Comisiwn dros ddigwyddiadau'r cyfnod o alaru, ac yn arbennig y paratoadau helaeth a wnaed ar gyfer derbyniad y Brenin yma ddydd Gwener diwethaf? A gaf i hefyd ddiolch i'r Prif Weinidog am y gweision sifil a wnaeth lawer iawn o waith ar fyr rybudd ar y trefniadau o ran eglwys gadeiriol Llandaf, a'r haelioni a ddangosodd y Prif Weinidog tuag at arweinwyr y pleidiau ac eraill i fod yn bresennol yn y digwyddiadau yn Llundain yn rhan o ddirprwyaeth Cymru? Hoffwn gofnodi fy niolch am hynny, Prif Weinidog. 

Prif Weinidog, mae argyfwng costau poen o fewn ein GIG. Mae llawer o bobl, yn anffodus, ym maes orthopaedeg yn aros am driniaethau am gryn dipyn o amser, rhai cyn hired â dwy flynedd a mwy. Clywsom gennych chi ym mis Gorffennaf bod uwchgynhadledd orthopedig yn cael ei chynnal gan y Gweinidog ym mis Awst, ond nid ydym ni wedi cael unrhyw ddiweddariad ynglŷn ag unrhyw bethau cadarnhaol a allai fod wedi deillio o'r uwchgynhadledd honno. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni nawr ynglŷn â beth yn union sydd wedi digwydd o'r uwchgynhadledd honno a'r hyn y gallem ni ei weld wrth i ni gyrraedd misoedd y gaeaf fel y gall pobl fod yn hyderus y byddan nhw'n cael y triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw?

Llywydd, gwn y bydd y Gweinidog iechyd yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ganlyniadau manylach yr uwchgynhadledd. Yn gyffredinol, mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn i dynnu sylw at y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd a'r gwaith caled iawn sy'n cael ei wneud i geisio adennill y tir a gollwyd yn ystod y pandemig. Mae arosiadau hir iawn yn GIG Cymru yn parhau i ostwng. Mae gweithgarwch yn ein GIG yn parhau i wella. Yn ystod y mis diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer, rydym ni yn ôl i 97 y cant o'r holl weithgarwch cleifion allanol, o'i gymharu â'r mis cyn i'r pandemig ddechrau. Ac mewn llawdriniaethau wedi'u cynllunio, rydym ni'n ôl i dros 80 y cant. Nawr, mae hynny'n golygu bod gwaith i'w wneud o hyd. Mae'r mater COVID a gododd Joel James yn dal i fod yn rhan o'r darlun hwnnw. Nid yw mil o staff yn y GIG yng Nghymru yn gweithio heddiw naill ai oherwydd bod ganddyn nhw COVID eu hunain neu maen nhw wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â rhywun sydd â COVID. Felly, mae llawer iawn o waith yn digwydd y tu mewn i'r gwasanaeth iechyd i geisio adennill tir a gallu ymdrin â phobl sy'n disgwyl am eu llawdriniaethau. Mae'r cyd-destun yn parhau i fod yn un anodd.

Rwy'n gwerthfawrogi bod y cyd-destun yn ddarlun heriol, a dweud y lleiaf, Prif Weinidog. Mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi llwyddo i leihau'r rhestrau aros helaeth yr oedd ganddyn nhw yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd ac, mewn gwirionedd, mewn rhai achosion, wedi dileu'r rhestrau aros hynny. Yng Nghymru, rydym ni'n gweld dros 60,000 o unigolion ar y rhestrau aros hynny. Roeddwn i wedi gobeithio y byddwn i wedi clywed rhywbeth mwy pendant am yr uwchgynhadledd y gwnaethoch chi eich hun gyfeirio ati ym mis Gorffennaf a oedd yn digwydd ym mis Awst ynghylch gwasanaethau orthopedig. Mae hybiau llawfeddygol wedi cael eu trafod yn helaeth yn y Siambr hon gennyf i a chi mewn cwestiynau, ond hefyd mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi tynnu sylw at fanteision hybiau llawfeddygol pwrpasol o ran lleihau amseroedd aros. Nawr, rwy'n sylweddoli bod llawdriniaeth yn digwydd ym mhob ysbyty cyffredinol ardal, ond mae'r diffiniad o hyb llawfeddygol, fel y'i diffinnir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn caniatáu i'r holl driniaethau ddigwydd mewn lleoliad diogel, a chanolfan staffio ddiogel yn y pen draw, i ganiatáu i'r prosesau barhau i leihau'r amseroedd aros. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw ynghylch cyflwyno hybiau llawfeddygol yma yng Nghymru, a pha adnoddau a wnaed ar gael gan Lywodraeth Cymru i fyrddau iechyd er mwyn caniatáu i'r sefydliadau hynny gael eu creu o fewn ein hysbytai cyffredinol ardal?

13:45

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae arosiadau hir iawn yng Nghymru yn parhau i ostwng hefyd. Roedden nhw 4 y cant yn is yn ystod y mis diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. Gair o rybudd am dybio bod popeth yn iawn mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig o ran y GIG, a rhai o'r honiadau sy'n cael eu gwneud: pan edrychwch ar yr eithriadau sydd y tu ôl iddyn nhw—'Rydym ni wedi cyflawni hyn, ac eithrio hyn, ac eithrio hynna, ac eithrio'r llall'—rwy'n credu na ddylid derbyn y ffigurau ar sail y penawdau yn unig. 

O ran hybiau llawfeddygol, rydym ni yn wir wedi eu trafod nhw yma o'r blaen. Bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod bod heriau daearyddol penodol yng Nghymru o ran neilltuo unrhyw ysbyty yn llwyr i lawdriniaeth wedi'i chynllunio, gan fod yr ysbytai hynny yn parhau i ddarparu ymatebion brys angenrheidiol hefyd. Serch hynny, mae ymdrechion mewn gwahanol rannau o'r GIG yng Nghymru i geisio canolbwyntio mwy o lawdriniaeth wedi'i chynllunio mewn nifer lai o safleoedd er mwyn gallu diogelu'r adnoddau—y lle mewn theatrau, y lle ar wardiau—i alluogi llawdriniaeth wedi'i chynllunio i ddigwydd.

Yn yr uwchgynhadledd orthopedig, trafodwyd amrywiaeth eang o'r materion hyn. Sut gallwn ni, ym maes orthopaedeg, wneud gwell defnydd o bethau sy'n atal pobl rhag gorfod cael llawdriniaethau yn y lle cyntaf? Os ydych chi'n aros am lawdriniaeth, beth arall y gellir ei wneud i wneud yn siŵr, drwy ffisiotherapi ac yn y blaen, y gallwch chi gael gofal tra eich bod chi'n aros? Wrth i ni ddod allan o brofiad COVID, beth arall allwn ni ei wneud i ddychwelyd theatrau i lefel y cynhyrchiant yr oedden nhw'n gallu ei chyrraedd cyn i'r cyfundrefnau glanhau ychwanegol ddod yn angenrheidiol i atal lledaeniad y feirws? Trafodwyd yr holl bethau hyn a bydd y Gweinidog, fel y dywedais, yn rhoi mwy o fanylion amdanyn nhw.

Mewn rhannau o Gymru, fel y dywedais i—yn Hywel Dda, yn Ysbyty'r Tywysog Phillip; ym mae Abertawe yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot—mae lle gwarchodedig penodol yn cael ei ddarparu. Nid ydyn nhw'n hybiau llawfeddygol yn y ffordd y defnyddir y diffiniad hwnnw mewn mannau eraill, ond maen nhw'n cyflawni'r un swyddogaeth.

Rwy'n cymryd o'ch ateb, Prif Weinidog, nad oes gennym ni hybiau llawfeddygol penodedig yma yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli eich bod chi wedi nodi tri, rwy'n credu, o ysbytai yn y fan yna sydd ag adrannau wedi'u nodi ar gyfer llawdriniaethau arbenigol, ond ni fydden nhw'n cael eu cwmpasu o dan feini prawf hybiau llawfeddygol. A yw'n uchelgais i'ch Llywodraeth, os bydd pobl yn cael eu hunain ar restr aros am gyfnod sylweddol, y dylai allu cynnig ail gynnig mewn gwirionedd, fel y gallen nhw fynd i sefydliad amgen a chael y lawdriniaeth honno, fel sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig?

Yn wir, mae Llywodraethau Cymru blaenorol wedi gwneud hyn ar gael i bobl sydd wedi cael eu hunain, yn eu hardal eu hunain, yn gorfod dioddef arosiadau difrifol am eu llawdriniaethau, sydd, fel y dywedais i, yn rhoi argyfwng cost poen i'r unigolyn hwnnw, boed hynny'n emosiynol, boed hynny'n golled ariannol, oherwydd nad yw'n gallu gweithio, neu boed hynny'n lu o broblemau eraill sy'n cymhlethu gallu'r unigolyn hwnnw i fwrw ymlaen â bywyd. A fyddai'n uchelgais i Lywodraeth Cymru greu cynllun ail gynnig a fyddai'n caniatáu i gleifion gael mynediad at y gallu hwnnw, lle mae'r cyfleusterau hynny'n bodoli, fel y gallen nhw gael y llawdriniaeth honno yn brydlon?

Wel, diolch eto i arweinydd yr wrthblaid am hynna. Rwy'n gyfarwydd iawn â'r cynllun ail gynnig a oedd gennym ni yma yng Nghymru dros ddegawd yn ôl, ar ôl cymryd rhan fawr ynddo ar y pryd. Rydym ni eisoes yn defnyddio capasiti y tu allan i'r ardal lle mae rhywun yn byw er mwyn gallu cyflymu triniaeth lle bynnag y gallwn. Rydym ni'n defnyddio capasiti yn y sector di-elw. Rydym ni'n annog byrddau iechyd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cydweithio os ydyn nhw'n gallu, felly os oes capasiti mewn bwrdd iechyd cyfagos, mae hwnnw cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion hefyd. 

Roedd anfanteision i'r cynllun ail gynnig y bydd y rhai ohonom ni a gymerodd ran ynddo yn eu cofio. Mae nifer o gleifion yn amharod iawn i deithio pellteroedd maith i gael triniaeth. Yr hyn y maen nhw'n chwilio amdano yw triniaeth effeithiol mor agos at adref â phosibl, ac nid oes gan bawb adnoddau—nid yn unig o safbwynt ariannol, ond dim ond o ran cael rhywun sy'n gallu mynd gyda chi. Roedd ein cynllun ail gynnig ni yn talu i aelod o'r teulu neu ffrind fynd gyda chi os oeddech chi'n teithio pellter maith i gael llawdriniaeth orthopedig, er enghraifft. Nid yw pawb mewn sefyllfa i allu dod o hyd i rywun mewn sefyllfa i wneud hynny i gyd, felly'r hyn a welsoch chi oedd bod rhai pobl yn gallu manteisio ar y cynllun ail gynnig—nid y bobl a oedd â'r angen clinigol mwyaf bob amser—tra bod pobl eraill, roedd eu hamgylchiadau yn golygu'n syml nad oedd modd iddyn nhw ddefnyddio'r cynllun. Felly, dychweliad syml i gynllun o'r math a oedd gennym ni o'r blaen, dydw i ddim yn meddwl mai dyna fyddwn ni'n chwilio amdano. Ond rydym ni'n disgwyl i'r gwasanaeth iechyd ddefnyddio pob darn o gapasiti sydd ar gael, ac nid disgwyl yn syml y bydd pobl yn defnyddio'r capasiti sydd ar gael yn uniongyrchol yn eu hardal bwrdd iechyd lleol eu hunain.

13:50

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Llywodraethau ledled Ewrop yn gofyn ar frys beth arall y gallan nhw ei wneud i helpu eu dinasyddion gyda'r argyfwng costau byw, a gyda chost gynyddol tanwydd, mae gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy wedi dod yn thema allweddol. Mae Sbaen wedi cyhoeddi teithiau trên am ddim o fis Medi tan ddiwedd y flwyddyn. Yn yr Almaen, rydym ni wedi gweld y tocyn €9 y mis hynod lwyddiannus yn cael ei dreialu dros yr haf, a fydd bellach yn troi'n gynllun €49 y mis ar gyfer y flwyddyn nesaf i gyd, yn dilyn cytundeb gyda Llywodraethau rhanbarthol Länder ddoe. Yn Awstria, rydyn ni wedi gweld y tocyn hinsawdd, sy'n cyfateb i €3 y dydd, ac fe wnaeth Gweriniaeth Iwerddon ostwng prisiau tocynnau 20 y cant ym mis Mai.

Mae'r polisïau hyn yn gwneud dau beth ar unwaith: maen nhw'n gwthio arian i bocedi pobl ac maen nhw'n tynnu llygredd allan o'u hysgyfaint. A ydych chi'n gweld rhinweddau'r math yma o ddull, ac a fyddwn ni'n ei weld yn cael ei roi ar waith yma yng Nghymru?

Wel, rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau, ac rwy'n ymwybodol o'r ddau rinwedd y soniodd yr Aelod amdanyn nhw, Llywydd. Maen nhw'n gwneud trydydd peth hefyd: maen nhw'n lleihau'r refeniw sydd ar gael i'r cwmnïau hynny sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, felly mae gostwng prisiau tocynnau yn gadael bwlch y mae'n rhaid ei lenwi. Bydd arweinydd Plaid Cymru yn ymwybodol o'r degau ar ddegau o filiynau o bunnoedd y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu darparu i wasanaethau bysiau a chwmnïau trenau er mwyn unioni chwalfa'r llyfrau tocynnau o ganlyniad i'r coronafeirws. Felly, ydw, rwy'n gwbl ymwybodol o'r cynlluniau, rwy'n gweld eu rhinweddau, dydyn nhw ddim yn dod am ddim, ac mae cyllideb Llywodraeth Cymru heddiw werth mwy na £600 miliwn yn llai o ran grym prynu nag yr oedd ym mis Tachwedd y llynedd, pan y'i pennwyd gan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Felly, er fy mod i'n gweld y rhinweddau, byddai angen i mi ddeall yn well o le mae arweinydd Plaid Cymru yn credu y gellir dod o hyd i'r cyllid ar gyfer cynlluniau o'r fath yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

Nid yw gostyngiadau i brisiau tocynnau trafnidiaeth gyhoeddus yn arwain yn awtomatig, yn anochel at y math yna o ostyngiad refeniw mewn gwirionedd. Mae'n dibynnu ar hyblygrwydd y galw am drafnidiaeth gyhoeddus. Dyma'r ddadl y mae'r undebau rheilffyrdd wedi bod yn ei gwneud, sef, mewn gwirionedd, os byddwch chi'n gostwng prisiau tocynnau, rydych chi'n cynyddu nifer y defnyddwyr, ac wrth gwrs mae gennych chi sefyllfa ar hyn o bryd lle mae teithiau trên, o hyd, wedi dychwelyd i tua 50 i 70 y cant o'r lefelau cyn COVID yn unig. Felly, rwy'n credu bod y Prif Weinidog yn anghywir yn ei ddadansoddiad yn y fan yna.

Nawr, yn gyffredinol, mae cynnydd i brisiau tocynnau trafnidiaeth reilffordd yng Nghymru yn dilyn y mynegai prisiau manwerthu ym mis Gorffennaf, fyddai'n golygu cynnydd o 11.8 y cant ar gyfer y flwyddyn nesaf. A all y Prif Weinidog o leiaf ddweud nad ydym ni'n mynd i weld hynny? Mae'r Alban a Lloegr wedi cyhoeddi y bydd prisiau tocynnau yn cael eu rhewi tan o leiaf fis Mawrth y flwyddyn nesaf; yng Ngogledd Iwerddon, mae prisiau tocynnau rheilffordd wedi cael eu rhewi ers 2019. Os nad yw'r Prif Weinidog yn barod i ddweud y gwnaiff ostwng prisiau tocynnau, a all o leiaf ymrwymo i'r math o rewi prisiau tocynnau yr ydym ni wedi ei weld yn cael ei gyflwyno mewn mannau eraill?

Wel, mae'n ddadl ddiddorol y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei gwneud. Mae eisiau ein perswadio ni y gallai hyblygrwydd y galw am drafnidiaeth gyhoeddus gael ei effeithio yn y ffordd yr awgrymodd, ac eto mae'n rhaid iddo ddweud wrthyf i ar yr un pryd nad yw nifer cwsmeriaid y diwydiant rheilffyrdd yn agos at yr hyn yr oedd cyn y pandemig, er gwaethaf y £100 miliwn a mwy y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario i gadw prisiau tocynnau ar lefel na fyddai wedi bod y tu hwnt i'r hyn yr oedden nhw gynt. Felly, mae gen i ofn nad yw'n sail y gellir llunio polisi cyhoeddus arni yn gyfrifol i ddweud y gallem ni gamblo ar y syniad y gallem ni ostwng prisiau tocynnau ac byddai'n talu amdano'i hun. Yn anffodus, mae gen i ofn mai'r profiad yn y byd go iawn yw nad yw hynny'n wir, ac mae cyllideb Llywodraeth Cymru—. Er, rwy'n hapus iawn i gymryd cyngor gan Blaid Cymru ar hyn. Os ydych chi'n barod i ddweud wrthyf i o ble y gellid cymryd yr arian er mwyn cynnal arbrawf o'r fath, byddwn yn falch iawn yn wir o edrych ar hynny.

Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r ffordd y caiff prisiau tocynnau eu graddnodi drwy'r mynegai prisiau defnyddwyr ar lefel chwyddiant ar adeg yn y mis, ac mae Llywodraeth Cymru yn edrych, gyda'r rhai sy'n darparu ein gwasanaethau trafnidiaeth, ar beth fydd effaith hynny ar brisiau tocynnau ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r hyn y gallem ni ei wneud i ymateb i'r cyfyng-gyngor hwnnw.

13:55

Mae'n rhaid i mi ddweud bod y ddadl yr ydych chi'n ei gwneud yn gwbl groes i'r hyn y mae undebau sy'n gysylltiedig â Llafur fel ASLEF yn ei ddweud, y gallai gostyngiad sylweddol, mewn gwirionedd, ein helpu ni i gynyddu newid dulliau teithio a fydd yn creu arfer newydd o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a fydd wir yn arwain at fanteision o ran cynhyrchu refeniw.

Gadewch i ni symud o'r rheilffordd i fysiau. Mae maer Llafur gogledd-orllewin Lloegr, Andy Burnham, wedi capio prisiau tocynnau bws ym Manceinion Fwyaf i £2 i oedolion a £1 i blant, ac, yn wir, mae Llywodraeth y DU bellach yn mynd i ddilyn hynny ar gyfer Lloegr ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Pam na allwn ni wneud yr un peth yng Nghymru? Byddai ei gapio i £2 yn haneru, fwy neu lai, cost gyfartalog un daith yn Abertawe. Byddai'n mynd i'r afael â'r cynnydd aruthrol yr ydym ni wedi ei weld i brisiau tocynnau bws Arriva yng ngogledd-orllewin Cymru. A ydych chi'n gyfforddus, Prif Weinidog, gyda maer rhanbarthol Llafur yn Lloegr a Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr yn gwneud mwy i deithwyr ar fysiau ar hyn o bryd na Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru?

Wel, Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru wedi cael tri chyfle y prynhawn yma i egluro i bobl yng Nghymru sut y byddai'n ariannu'r cynigion y mae'n eu rhoi o'n blaenau. Bob tro mae'n codi i'w draed, mae'n gwario mwy o arian. Bob tro mae'n gwneud hynny, nid yw'n gallu cynnig yr un awgrym i ni—dim un awgrym—o ba wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru y byddai'n rhaid ei leihau er mwyn ariannu ei fentrau diweddaraf. Nawr, rwy'n credu y gallai Aelodau yma ddeall bod undebau sy'n gysylltiedig â'r Blaid Lafur ychydig yn fwy tebygol o siarad â ni nag ydyn nhw o siarad ag ef, a gallaf eich sicrhau—[Torri ar draws.] Efallai nad ydych chi'n ei hoffi, ond mae'n digwydd bod yn wir. A gallaf eich sicrhau chi, pan fyddwn ni'n siarad â nhw, eu bod nhw'n deall cyfyngiadau'r hyn y gall cyllidebau Llywodraeth Cymru ei wneud, hyd yn oed os nad yw ef.

Y Sector Darlledu yng Nghymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r sector darlledu yng Nghymru? OQ58389

Diolch yn fawr i Hefin David am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae'r sector yn chwarae rôl bwysig yn rhoi gwybodaeth i bobl yma yng Nghymru, ac i'n helpu ni i greu pethau i'n dinasyddion. Rydym ni'n cefnogi'r sector drwy becyn o bethau. Rydym ni'n gweithio gyda'r sector, ac i'w helpu nhw i wrthwynebu beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud yn y maes hwn. 

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r cynghorydd Plaid Cymru y tynnwyd llun ohono yn dal gwn, gan fygwth atal pobl o Loegr rhag dod i mewn i Gymru, a adroddwyd gan y Local Democracy Reporting Service. [Torri ar draws.] Mae'r cynghorydd wedi cael ei wahardd gan eich plaid; peidiwch â gweiddi 'Dewch ymlaen' arnaf i. Mae wedi cael ei wahardd gan eich plaid. Cafodd ei adrodd gan y Local Democracy Reporting Service, a Rhiannon James wnaeth gyhoeddi'r stori i'r Caerphilly Observer. Cafodd ei rhannu'n genedlaethol wedyn—roedd yn The Times, The Daily Telegraph, Daily Mail, The Mirror, The Sun; fe'i rhannwyd hefyd ar y BBC. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd adrodd ar ddemocratiaeth leol yng Nghymru, ac yn enwedig gwerth y Caerphilly Observer.

Nawr, rwy'n gwybod bod grŵp gorchwyl a gorffen sy'n mynd i fod yn adrodd yn ôl i Dawn Bowden yn ddiweddarach eleni ar sut y gallwn ni gefnogi'r sector hwnnw ymhellach. Un o'r pethau yr hoffwn i ei ddweud cyn hynny yw bod rhai pethau y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud, ac yn gyntaf oll byddwn yn dweud y dylid sicrhau bod hysbysebion Llywodraeth Cymru yn cael eu targedu at yr asiantaethau newyddion bach hyperleol hynny, fel y Caerphilly Observer. Bydden nhw'n elwa yn enfawr o gael hysbysebion Llywodraeth Cymru ynddyn nhw. A hefyd, y £100,000 y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar y bwrdd eleni, rwy'n credu y gellid cyfeirio hwnnw nid at bobl fel Newsquest neu Reach, sydd eisoes â chyd-dyriad cenedlaethol; rwy'n credu y byddai'n cael ei dargedu'n well at y bobl hyperleol hynny, fel y Caerphilly Observer. Nid yw hynny'n bwriadu achub y blaen ar y grŵp gorchwyl a gorffen, ond rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y safbwyntiau hynny'n cael eu cymryd i ystyriaeth gan y Dirprwy Weinidog pan ddaw'r amser?

14:00

Diolch i Hefin David. Mae dau wahanol swm o arian ar gael drwy Lywodraeth Cymru. Mae cronfa newyddiaduraeth budd cyhoeddus Cymru, ac mae naw dyfarniad wedi cael ei gwneud ohoni'n barod. Roedd y Caerphilly Observer yn un o'r buddiolwyr ohoni, ynghyd â sefydliadau fel Llanelli Online a Wrexham.com, yr oedd pob un ohonyn nhw'n gyfranogwyr rheolaidd iawn yn y gyfres o gynadleddau newyddion a gynhaliwyd gennym ni yn ystod argyfwng COVID ac a wnaeth waith da iawn yn wir o hysbysu eu darllenwyr am y materion hyperleol hynny.

Yna, ceir swm arall o £100,000, wedi ei neilltuo o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu. Fel y dywedodd Hefin David, mae grŵp yn gweithio ar y ffordd orau y gellir defnyddio'r arian hwnnw. Gwn eu bod nhw'n edrych ar y mater o sut y gellir tynnu mwy o arian tuag atyn nhw o gyllideb hysbysebu Llywodraeth Cymru, trwy gyfuno grym prynu. Bydd y Gweinidog wedi clywed y sylwadau y mae'r Aelod wedi eu gwneud y prynhawn yma, ac rwy'n eithaf sicr y byddan nhw'n cael eu cyfleu i'r gweithgor hwnnw. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at allu manteisio'n iawn ar eu harbenigedd.

Prif Weinidog, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sydd wrth wraidd yr economi greadigol yng Nghymru, gan roi hwb i'r sector cynhyrchu teledu, gan greu swyddi a meithrin talent ar draws Cymru a gweddill y DU. Ar wahân i'w cyfraniad economaidd, maen nhw'n dod â phobl at ei gilydd ar draws ein gwlad i gyd. Mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn eu hanterth yn enwedig ar adegau pan ddaw ein cenedl at ei gilydd, fel y gwelsom ni gyda rhywfaint o'r darlledu rhagorol o farwolaeth ac angladd Ei Mawrhydi dros yr wythnos a hanner diwethaf, sydd, yn fy marn i, wedi bod yn enghraifft wych o hynny. Fodd bynnag, mae'r cyfraniad o dan fygythiad mewn oes lle mae teledu yn cael ei ddarparu a'i ddefnyddio fwyfwy ar-lein, gyda'r perygl bod platfformau technoleg ar-lein byd-eang yn dod yn borthmyn i raglenni darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Heb ddiwygio'r system bresennol, gallai cynulleidfaoedd y DU ei chael hi'n anodd dod o hyd i gynnwys y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y maen nhw'n ei werthfawrogi, a bydd symiau ariannol mawr yn cael eu tynnu o'u hecosystem ac economi greadigol y DU gan y platfformau ar-lein hyn. Felly, Prif Weinidog, er fy mod i'n ymwybodol, fel y cyfeiriodd Hefin David ato, o fodolaeth y panel arbenigol hwnnw a sefydlwyd gan eich Llywodraeth i archwilio'r posibilrwydd o ddatganoli darlledu i Gymru, o ystyried ymgysylltiad pobl â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus dros yr wythnos a hanner diwethaf, y pryder ynghylch defnydd ar-lein a'r potensial y gallai cynulleidfaoedd ei chael yn anodd dod o hyd i'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y maen nhw'n eu gwerthfawrogi, sut fyddech chi'n sicrhau, pe bai darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru, y byddai'n cadw'r cynnwys y mae pobl Cymru yn ei werthfawrogi fwyaf?

Siawns bod y bygythiad mwyaf i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yn dod o gynigion ei Lywodraeth ef yn San Steffan i breifateiddio Channel 4—yn gwbl ddi-gefnogwr fel cynigion ac wedi'u hysgogi'n llwyr ar sail ideolegol gan yr Ysgrifennydd diwylliant blaenorol—y methiant i ddod o hyd i sail briodol ar gyfer gwneud yn siŵr y gellir sicrhau cyllid y BBC yn y dyfodol, a methiant Llywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyn yr haf, fel y gwnaeth addo i ni y byddai ym mis Mehefin. Rydym ni'n dal i ddisgwyl gweld yr ymarfer ymgynghori hwnnw'n cael ei lansio. Nawr mae'n rhaid i ni obeithio bod y Llywodraeth Geidwadol ddiweddaraf yn San Steffan yn mabwysiadu gwahanol safbwynt ar y materion yma. Oherwydd rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud: mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gwbl gynhenid i'r ffordd y mae dinasyddion y DU a dinasyddion Cymru yn gallu derbyn newyddion y maen nhw'n ei ystyried yn ddibynadwy ac sy'n caniatáu iddyn nhw fod yn ddinasyddion sy'n cymryd rhan yn iawn. Y peryglon mawr i hynny oll yw'r ymosodiadau ideolegol sydd wedi cael eu gwneud ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gan ei gyfeillion yn San Steffan.

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ58385

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i ddatblygu ei gynigion ar gyfer darparu gwasanaethau ar draws ei ardal yn y dyfodol. Mae hynny wedi cynnwys gweithdai gydag aelodau'r cyhoedd, staff a phartneriaid. Gwnaed y penderfyniadau diweddaraf gan y bwrdd yn ei gyfarfod ar 4 Awst.

14:05

Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod gofal deintyddol o ansawdd uchel ar gael i bobl pan fyddan nhw ei angen, ac eto rwy'n parhau i dderbyn gohebiaeth gan etholwyr rhwystredig ac yn wir dig sy'n byw gydag anghysur a phoen gan nad ydyn nhw wedi gallu cael mynediad at ddeintydd GIG lleol. Mewn un achos, cafodd etholwr ei gynghori i brynu pecyn hunan lenwi er mwyn cynnig rhyw ateb dros dro wrth aros am apwyntiad. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n gweld hynny'n gwbl annerbyniol. Rwy'n sylweddoli ein bod ni wedi dioddef pandemig COVID, ond mae hon yn broblem hirsefydlog a oedd yn gyffredin ymhell cyn pandemig COVID. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad, neu yn wir cofrestru, gyda deintydd GIG? A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni pa gymorth dros dro sy'n cael ei gynnig i gleifion sy'n aros am gyfnodau hir am wasanaethau a thriniaeth deintyddol?

Diolch i Paul Davies am hynna. Rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, am bwysigrwydd deintyddiaeth. Nid yw mor bell yn ôl â hynny yn y Siambr, Llywydd, yr oedd hi'n cael ei awgrymu y byddai'r holl ddeintyddion ar draws Hywel Dda yn gwrthod cytuno ar y contract deintyddol newydd sydd wedi bod ar gael ers 1 Ebrill. Rwy'n falch iawn o ddweud bod 92 y cant o'r contractau yn Hywel Dda bellach yn cael eu darparu o dan y contract newydd, a bod y contract newydd eisoes yn gweithio i wneud yr hyn yr oeddem ni'n gobeithio y byddai'n ei wneud, sef lleihau faint o waith troi handlenni a oedd yn ofynnol o dan yr unedau blaenorol o gontract gweithgarwch deintyddol, ac i ryddhau amser deintyddol i dderbyn cleifion newydd.

Mae 28 mil o gleifion newydd ledled Cymru wedi cael triniaeth ddeintyddol y GIG yn nhri mis cyntaf y flwyddyn galendr hon, ac rydym ni'n disgwyl y bydd unrhyw beth hyd at 110,000 i 120,000 o gleifion newydd yn cael gofal deintyddol gan y GIG dros y flwyddyn o ganlyniad i'r contract. O ystyried y niferoedd mawr iawn sydd wedi manteisio ar y contract yn ardal Hywel Dda, bydd hynny'n dechrau gwneud gwahaniaeth i rai o'r cleifion y cyfeiriodd Mr Davies atyn nhw. Fel Llywodraeth, rydym ni'n parhau i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer deintyddiaeth ledled y GIG—cyllid cylchol a ddarparwyd y llynedd ac eto eleni er mwyn cynorthwyo ein cydweithwyr yn y byrddau iechyd lleol i geisio sicrhau bod gwasanaethau deintyddol ar gael.

Ceir mater mwy hirdymor yma, y mae'n bwysig iawn ein bod ni'n mynd i'r afael ag ef, sef natur y proffesiwn. Fel y gwyddoch chi, os ewch chi i feddygfa deulu a'ch bod chi angen cael gwneud pethau cymharol fach, rydych chi'n debygol iawn o gael eich gweld gan nyrs practis, gan barafeddyg neu, os oes angen ffisiotherapydd arnoch chi, gan ffisiotherapydd—ni fyddwch chi'n gweld meddyg teulu yn awtomatig. Rydym ni angen arallgyfeirio tebyg i ddigwydd yn y proffesiwn deintyddol, fel y bydd pobl wedi'u hyfforddi'n iawn, sy'n gallu gwneud hynny o dan oruchwyliaeth deintydd pan fydd angen triniaethau cymharol fach ar bobl, gan ryddhau'r deintyddion eu hunain—y bobl fwyaf hyfforddedig sydd gennym ni—i wneud y pethau mai dim ond deintydd sy'n gallu eu gwneud. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd ar ei drywydd yn weithredol gyda'r proffesiwn yn ystod gweddill tymor y Senedd hon.

Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ynglŷn ag ad-drefnu lleoliadau gorsafoedd yng Nghymru? OQ58386

Diolch i Russell George am y cwestiwn yna, Llywydd. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n gyfrifol am drefnu canolfannau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi trafod y cydadolygiad strategol a gynhaliwyd gan yr elusen a'r gwasanaeth adalw a throsglwyddo meddygol brys, ac mae'r trafodaethau hynny wedi cael eu cynnal gyda'r ddau sefydliad. 

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Byddwch yn sylweddoli nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, ac mae rhannau helaeth o Bowys yn anodd iawn eu cyrraedd ar y ffordd. Mae cynnig i symud y ganolfan a'r criw ambiwlansys awyr o'r Trallwng wedi cael ymateb dealladwy o bryder a gwrthwynebiad enfawr yn fy etholaeth i. Cafodd pobl y canolbarth eu synnu a'u siomi dros yr haf gan y cynnig gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a gwasanaeth adalw a throsglwyddo meddygol brys GIG Cymru. A gaf i ofyn beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y cynnig hwn? A fydd ymgynghoriad iawn, o ystyried cyfranogiad GIG Cymru? A ydych chi wedi gweld y data a'r gwaith dadansoddi sy'n sail i'r cynnig hwn, ac a fyddech chi a Llywodraeth Cymru yn fodlon gwneud yr wybodaeth hon ar gael? Er gwaethaf y ffaith bod yr elusen wedi dweud nad ydyn nhw eisiau cyllid gan y Llywodraeth, a fyddai'r Llywodraeth yn barod i ystyried cyllid fel bod gwasanaeth ambiwlans awyr digonol yn y canolbarth a chanolfan yn cael ei chadw yn y canolbarth? Byddwch yn sylweddoli bod y gwerthfawrogiad a chariad mawr at y gwasanaeth hwn, a dyna pam mae cymaint o bobl yn rhoi i'r elusen hon, a dyma pam mae wedi achosi cymaint o rwystredigaeth a dicter ar draws y canolbarth.

14:10

Wrth gwrs rwy'n deall y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ar ran y bobl mae'n eu cynrychioli. Safbwynt Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ers tro yw nad ydyn nhw'n dymuno cael cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw'n gwneud hynny am resymau da iawn yn ymwneud â'u model eu hunain. Maen nhw'n ffyrnig o annibynnol yn hynny o beth. Rwy'n gwybod eu bod nhw wedi rhoi sicrwydd i'r cyhoedd nad yw dim o hyn yn ymwneud â thorri costau. Y cwbl y mae'n ymwneud ag ef yw optimeiddio'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu. Rwyf i wedi gweld ffigurau sy'n dod o'r gwaith a wnaed, ond dydyn nhw ddim yn ffigurau sy'n perthyn i Lywodraeth Cymru; maen nhw'n perthyn i'r elusen ambiwlans awyr ei hun. Ni fyddai'n briodol i mi, rwy'n credu, roi cyhoeddusrwydd i'r ffigurau hynny ar eu rhan, ond byddan nhw'n sicr yn y parth cyhoeddus. Gwn fod y prif gomisiynydd ambiwlans yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r cyngor iechyd cymuned ynghylch natur ymgynghori neu ymgysylltu a fydd bellach yn angenrheidiol gyda rhanddeiliaid pan fydd cynigion ffurfiol i'w rhoi o flaen pobl, a bod y prif gomisiynydd ambiwlans yn hapus i gynnig briff uniongyrchol i Aelodau'r Senedd fel bod modd gofyn cwestiynau iddo ac ymchwilio'n briodol i'r cynigion. 

Dwi eisiau rhoi ar gofnod, i gychwyn, fy niolch diffuant i'r elusen ambiwlans awyr am eu gwaith yn achub bywydau. Maen nhw'n elusen sydd wedi profi i fod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau, ac mae ein cymunedau ni yn codi miloedd o bunnoedd yn flynyddol fel arwydd o ddiolch. Ond ers i'r newyddion dorri fod yr ambiwlans awyr yn edrych i ganoli gwasanaethau hedfan, mae nifer fawr o etholwyr wedi bod mewn cyswllt efo fi, Cefin, Rhun a Siân yn mynegi pryderon am effaith hyn ar gymunedau diarffordd a gwledig y gogledd a'r canolbarth. Os ydy'r hofrennydd i'w gael ei ganoli yn Rhuddlan, er enghraifft, gan gau'r safle yn Ninas Dinlle, yna mae'n debyg y byddai hynny yn ychwanegu 20 munud ar daith i ben draw Llŷn neu i Gaergybi neu dde Meirionnydd. Gan fod canran o arian yr elusen yn dod o'r pwrs cyhoeddus, faint o ran ydych chi wedi chwarae fel Llywodraeth yn y broses hyd yma, a beth fyddwch chi fel Llywodraeth yn ei wneud yn wyneb y datblygiadau yma? Hefyd, roeddech chi'n dweud rŵan nad data'r Llywodraeth oedd hyn. Dim ond i'ch cywiro chi; data EMRTS ydy'r data sydd wedi cael ei roi. Felly, a wnewch chi ystyried rhyddhau'r data yna inni hefyd? Diolch.

Wrth gwrs dwi'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ar ran y bobl sy'n byw yn ei etholaeth e, a phobl eraill, ond nid cwestiynau i'r Llywodraeth ydyn nhw. Nid ni sydd wedi gwneud y gwaith. Mae'r elusen yn arwain y gwaith, gyda'r bobl sy'n arbenigwyr yn y maes. Y data yw eu data nhw. Mae'r ddadl yn ddadl i'w gael gyda nhw. Fel y dywedais i wrth Russell George, maen nhw wedi dweud eu bod nhw’n fodlon dod fan hyn i gwrdd gydag Aelodau o'r Senedd, ac i ymateb i'r cwestiynau sydd gyda nhw. Hynny ydy'r ffordd orau i fynd ymlaen gyda rhywbeth lle dwi'n glir mai'r rheswm pam y mae'r elusen a'r bobl yn y maes wedi gwneud y gwaith yw eu bod nhw eisiau gwella'r gwasanaeth. Mae hynny'n bwysig i gydnabod o'r dechrau.

Prif Weinidog Newydd y Deyrnas Unedig

6. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i ymgysylltu â Phrif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig? OQ58388

Rwyf i wedi cael sawl sgwrs gynhyrchiol gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, ond ni chafwyd unrhyw gyfle i gyfarfod â Phrif Weinidog newydd y DU eto.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Cefais fy annog i weld eich trydariad yn croesawu Liz Truss i'w swydd newydd. Hi, wrth gwrs, yw'r drydedd fenyw Geidwadol i feddu ar y swydd honno. Mae'n aruthrol o bwysig i bobl Cymru eich bod chi a Phrif Weinidog newydd y DU yn cydweithio â pharch at ei gilydd gan y ddwy Lywodraeth i fynd i'r afael â'r heriau cyffredin y mae pobl yn eu hwynebu. Gwn ar adegau, Prif Weinidog, bod gennych chi berthynas gymhleth, gadewch i ni ddweud, gyda phreswylydd blaenorol Rhif 10 Downing Street, felly a allwn ni gael sicrwydd gennych chi a'ch Gweinidogion y byddwch chi'n gweithio'n adeiladol gyda Phrif Weinidog y DU a'i Llywodraeth mewn modd adeiladol i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru yn yr hyn a fydd yn fisoedd heriol iawn i ddod?

14:15

Wel, Llywydd, fel y dywedodd yr Aelod, fe wnes i groesawu penodiad Prif Weinidog diweddaraf y DU—y pedwerydd mewn chwe blynedd—ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n bosibl cynnal cysylltiadau rhwng Llywodraeth y DU a chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig yn yr ysbryd hwnnw o barch tuag at ei gilydd. Ni chafwyd cyfle eto i brofi awydd Prif Weinidog newydd y DU i ddilyn dull o'r fath. Rwy'n credu y byddai hi'n deg i mi ddweud, ar y diwrnod iddo gael ei benodi, fe wnaeth Prif Weinidog y DU ar y pryd, Boris Johnson, fy ffonio i a ffonio Prif Weinidog yr Alban, a digwyddodd yr un peth ar y diwrnod cyntaf i Theresa May gael ei phenodi a'r diwrnod y cafodd David Cameron ei benodi. Nawr, rwy'n deall nad yw Prif Weinidog newydd y DU wedi cael yr wythnos gyntaf y byddai wedi ei disgwyl ac nad yw busnes fel arfer wedi bod yn nodweddiadol o'r dyddiau diwethaf, ac mae Prif Weinidog y DU wedi gadael y wlad bellach. Ond, rwy'n gobeithio na fydd llawer o oedi cyn iddi gael cyfle i siarad gydag arweinwyr etholedig Seneddau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Prif Weinidog, yn eich ymgysylltiad â Phrif Weinidog newydd y DU, pan fydd hynny'n digwydd, a allwn i ofyn i chi godi'r mater dybryd o eglurhad ar y mater o ffracio? Nawr, mae ffracio yn anghynaliadwy ac yn annaliadwy yn amgylcheddol ac o ran yr argyfwng newid hinsawdd. Mae'n cyfrannu dim byd o gwbl at fforddiadwyedd nac at gyflenwi marchnadoedd domestig y DU gan ei fod yn cael ei werthu i farchnadoedd byd-eang i sicrhau elw i gyfranddalwyr y cwmnïau hynny. Felly, gall Prif Weinidog y DU a'r Aelod Gwir Anrhydeddus dros dde-orllewin Norfolk ffracio cymaint ag y mae'n dymuno yn ei hetholaeth hi a chael, rwy'n siŵr, diolch tragwyddol ei hetholwyr, ond os cewch chi gyfle, Prif Weinidog, a allech chi esbonio i Brif Weinidog y DU, mewn idiom y gallai ei ddeall yn iawn, 'Ffraciwch chi os dymunwch. Nid yw Cymru am ffracio'?

Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Gallaf ei sicrhau nad yw cyhoeddiad Prif Weinidog y DU o ran ffracio yn cael unrhyw effaith yma yng Nghymru, ac nid yw polisi Llywodraeth Cymru wedi newid o gwbl. Ni fyddwn yn datrys yr argyfwng ynni trwy droi'n ôl at ffyrdd o gyflenwi ynni sydd wedi gwneud cymaint o ddifrod i'n planed. Ac mae'n arbennig o rwystredig gweld amser, egni ac arian yn cael eu dargyfeirio i'r cyfeiriad hwnnw pan fo cymaint y gellid ei wneud, a'i wneud yn gynt a'i wneud yn well trwy fuddsoddi'r amser, yr egni a'r arian hynny mewn cynhyrchu ffurfiau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni lle mae gan Gymru gymaint o botensial. Bydd ein hymdrechion ni fel Llywodraeth i'r cyfeiriad hwnnw, gan geisio defnyddio ein hadnoddau naturiol i ganfod y pŵer y bydd ei angen yma yng Nghymru i ddatblygu'r syniadau hynny a fydd yn ddefnyddiol ledled y byd ac i amddiffyn diogelwch ynni'r Deyrnas Unedig ar yr un pryd â gwneud yn siŵr nad ydym ni'n agored i'r newidiadau byd-eang sydd wedi creu rhan o'r argyfwng costau byw sy'n wynebu teuluoedd yng Nghymru yn ystod gaeaf i ddod. 

Gwasanaethau Iechyd yng Ngogledd Cymru

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? OQ58418

Diolch i Mabon ap Gwynfor, Llywydd, am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd lleol, er enghraifft drwy roi cymorth ariannol uniongyrchol, mynediad at arbenigedd clinigol cenedlaethol a chymorth ar gyfer datblygu'r bwrdd. Diben yr ymdrechion hyn ar y cyd yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.

Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ateb. Dwi am gymryd y cyfle yn sydyn i ddiolch i'r prif weithredwr, Jo Whitehead, am ei harweiniad o'r bwrdd dros y 18 mis diwethaf. Rôn i'n obeithiol y buasai pethau yn gwella o dan ei harweiniad hi, ond yn ei hadroddiad blynyddol olaf a gyhoeddwyd ym mis Awst, fe ddywedodd y prif weithredwr,

'Ceir prosesau y mae angen eu gwella yn sylweddol o ran diogelwch cleifion a sicrwydd cydymffurfio' 

—pan fo'n dod i'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru. Bwrdd iechyd gogledd Cymru ydy'r unig fwrdd yng Nghymru i dderbyn sicrwydd cyfyngedig gan eu harchwilwyr. Mae'r adroddiad blynyddol yn un damniol, ac mae'n amlwg fod y bwrdd yn methu. Mae'n amlwg hefyd fod pob dim yr ydych chi fel Llywodraeth wedi trio'i wneud i ddatrys problemau'r bwrdd wedi methu. Ydych chi rŵan yn derbyn ei bod yn bryd edrych ar strwythur newydd ar gyfer darparu gofal iechyd yn y gogledd?

14:20

Wel, Llywydd, dwi eisiau talu teyrnged hefyd i Jo Whitehead am bopeth mae hi wedi'i wneud, a thalu teyrnged i aelodau'r bwrdd. A hefyd, rŷn ni'n lwcus i ailapwyntio Mark Polin fel cadeirydd y bwrdd ar gyfer y tymor nesaf hefyd. A dwi'n gwybod bod y bwrdd a'r bobl sy'n arwain y bwrdd ar lefel clinigol yn dal ati i wneud beth yr oedd Jo Whitehead yn ei ddweud yn ei hadroddiad blynyddol hi. Fel rŷn ni wedi esbonio nifer o weithiau ar lawr y Cynulliad, dŷn ni fel Llywodraeth ddim yn meddwl mai'r ffordd orau i helpu pobl yn y gogledd yw rhoi'r bwrdd mewn sefyllfa ble nad ydyn nhw'n gwybod os bydd y bwrdd yn parhau. Dydy hwnna ddim yn mynd i helpu pobl i ganolbwyntio ar y gwaith sydd yna i'w wneud, gwaith rŷn ni'n awyddus, fel Llywodraeth, i helpu'r bwrdd gydag e yn y gwaith caled sydd o'u blaenau nhw.

Yr Argyfwng Hinsawdd

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y bydd agenda'r Prif Weinidog newydd yn effeithio ar strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? OQ58414

Llywydd, allwn ni ddim lleddfu argyfwng uniongyrchol costau ynni drwy waethygu argyfwng hirdymor newid hinsawdd. Yng Nghymru, rydym ni'n dal i fod yn benderfynol o gyflawni ein hymrwymiadau sero-net a rhoi lle blaenllaw i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn ein hymdrechion i wneud hynny. 

Rwy'n poeni y bydd benthyg dros £100 biliwn ar gefnogi marchnadoedd ynni sy'n rhy ddrud ac yn anghynaliadwy yn dal i adael yr aelwydydd tlotaf yn fy etholaeth yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Beth, os rhywbeth, all Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn dinasyddion rhag gorfod talu am y mynydd hwn o ddyled am yr 20 mlynedd neu fwy nesaf? A pha ysgogiadau, os o gwbl, y mae'n eu rhoi i Lywodraeth Cymru gael cwmnïau sy'n cynhyrchu ynni i ddatgarboneiddio i ddiogelu ein heconomi rhag y gwallgofrwydd neo-ryddfrydol hwn a bodloni ein targed sero-net?

Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig yna. Llywydd, os bydd yn ymddangos ddydd Gwener, fel rydym ni'n clywed, bod Llywodraeth y DU yn bwriadu talu am y cymorth y bydd yn ei ddarparu i ddinasyddion sy'n wynebu cynnydd enfawr i'w prisiau ynni trwy roi'r ddyled a fydd yn cael ei chodi i wneud hynny yn ôl yn nwylo'r aelwydydd hynny, yna ni fydd wedi cynnig ateb o gwbl. Mae gwell ffyrdd—ffyrdd sy'n cael eu defnyddio gan wledydd eraill—i gymryd rhywfaint o'r elw annisgwyl ac enfawr sy'n cael ei wneud gan gwmnïau ynni er mwyn eu helpu i ymdopi â'r argyfwng presennol. Ac mae angen, Llywydd, diwygiad sylfaenol i'r ffordd y mae marchnadoedd ynni'n gweithredu.

Yma yng Nghymru eleni, rydym ni'n disgwyl y bydd 56 y cant o'r holl ynni sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddadwy. Nawr, ni wnaeth yr haul ddechrau codi mwy yr haf hwn ac nid yw'r gwynt yn costio mwy chwaith, ac eto, er gwaethaf y ffaith bod mwy a mwy o'r ynni rydym ni'n ei ddefnyddio yn cael ei gynhyrchu gan ffynonellau lle nad oes argyfwng byd-eang o ran costau, mae'r biliau hynny yn cynyddu ar yr un raddfa â phopeth arall. Mae hyn yn dweud wrthych chi nad yw'r ffordd y mae'r farchnad ynni wedi'i threfnu yn adlewyrchu realiti newydd cynhyrchu ynni.

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi y bydd yn torri cost trydan o'r thermo nwy drytaf sy'n cael ei brynu ar y diwrnod blaenorol. Dyna sut mae prisiau ynni yn cael eu hysgogi—rydych chi'n edrych ar y thermo nwy drytaf roedd yn rhaid i chi ei brynu ac rydych chi'n prisio'r holl ynni yn unol â hynny, pa un a yw'n dibynnu ar nwy neu ar ffynonellau adnewyddadwy. Yn syml, nid yw honno'n ffordd gynaliadwy o drefnu'r marchnadoedd hyn ac mae'n arwain at afluniadau enfawr o'r mathau o elw y byddwn ni'n ei weld—mae'r Trysorlys ei hun yn amcangyfrif y bydd gwerth hyd at £140 biliwn o elw na chwiliwyd amdano yn mynd i ddwylo cwmnïau ynni dros y ddwy flynedd nesaf. Wrth gwrs, mae gwell ffyrdd o ymdrin â'r argyfwng hwnnw na gwneud i deuluoedd tlawd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig dalu am yr 20 mlynedd nesaf am y cynlluniau y mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno.

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae busnes Cyfarfod Llawn yr wythnos hon yn ôl yr hyn sydd wedi'i nodi ar yr agendâu y Cyfarfod Llawn a gafodd eu cyhoeddi y bore yma. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Gweinidog, gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog addysg ar ddatblygu sgiliau codio yma yng Nghymru?

Yr wythnos cyn diwethaf, gwnes i ymweld â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd lle cafodd pryderon eu codi gan fynegi nad oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu sgiliau codio mewn ysgolion a'i bod yn alwedigaeth sy'n canolbwyntio'n gryf ar ddynion ar hyn o bryd. Yn ddiau, mae codio'n sgil sydd ei angen ar bob sefydliad, a heddiw, mae codio wedi'i gyfannu mor llwyr, nid yn unig ledled busnesau, ond hefyd ledled ein bywydau cyfan, bod gan bron bob busnes rhyw fath o god wrth ei graidd.

Mae dysgu pobl ifanc sut i lwyddo yn y byd digidol yn gwbl hanfodol, yn fy marn i, ac un mater mawr yw bod y sgiliau sydd eu hangen arnom i ni lwyddo yn ein bywydau digidol yn newid mor gyflym fel bod addysgwyr wir yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae lefel gallu digidol unigolyn yn prysur ddod yn un o'r pethau allweddol sy'n penderfynu ei rym i ennill cyflog, ac eto yng Nghymru, mae'n ymddangos ei fod yn glytwaith o sgiliau digidol. Ym mis Mehefin 2017, lansiodd y Gweinidog addysg ar y pryd 'Cracio'r cod: Cynllun i ehangu clybiau codio ym mhob rhan o Gymru', a wnaeth sawl ymrwymiad o dan benawdau strategol gwahanol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad o ran canlyniadau'r strategaeth a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol nawr i sicrhau bod disgyblion Cymru yn cael sgiliau digidol arbenigol i gyd-fynd â maint yr heriau sydd o'n blaenau ni? Diolch.

Diolch. Fel mam i ferch sy'n codio, rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y sector; ei fod yn un i ddynion yn bennaf. Nid wyf i'n gwybod a ydych chi'n ymwybodol—rwy'n siŵr eich bod chi—ei bod hi'n Wythnos Codio Genedlaethol yr wythnos hon. Gwnaeth hynny ddechrau rai blynyddoedd yn ôl nawr i gydnabod yr angen i lenwi'r bwlch sgiliau cynyddol hwnnw a oedd yno.

Gwnaeth y Gweinidog gyflwyno'r fframwaith cymhwysedd digidol yng Nghymru 2022 dim ond eleni. Mae'n rhan annatod, yn amlwg, o'r cwricwlwm newydd sydd wedi dod i fodolaeth y mis hwn, ac mae'n faes dysgu sy'n nodi sut i ddysgu'r wybodaeth, y gallu a'r sgiliau sydd eu hangen ar blant i allu defnyddio technoleg a systemau yn hyderus, a hefyd yn greadigol ac yn feirniadol. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn parhau i weithio'n agos gyda'r pedair partneriaeth sgiliau rhanbarthol i nodi blaenoriaethau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol, ac mae hynny'n gwbl seiliedig ar yr hyn y mae cyflogwyr yn ei ddweud wrthym ni eu bod angen wrth symud ymlaen. Gofynnodd y Gweinidog yn benodol bod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ystyried sgiliau digidol fel rhan o'r gwaith hwn.

Oes modd cael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â chyfathrebu gyda'r cyhoedd am newidiadau i wasanaethau Trafnidiaeth i Gymru, yn arbennig rhai munud olaf? Mae nifer o bobl wedi cysylltu gyda fi y bore yma wedi cael trafferth yn cyrraedd y gwaith, coleg, ysgolion ac apwyntiadau brys oherwydd bod trenau ddim yn rhedeg rhwng Pontypridd a Chaerdydd. Nid peth unigryw mo hwn; mae'n digwydd yn aml bod gwasanaethau yn cael eu canslo ar y funud olaf gyda dim digon o fysus ar gael i fynd â phobl pan nad yw'r trenau yn rhedeg. Mewn un enghraifft y bore yma, gwerthwyd tocyn trên i berson tua wyth cyn yna dweud wrthynt yn syth bin nad oedd trên yn rhedeg a byddai bws mini bob 15 munud. Gyda chymaint yn aros, roedd yn amlwg y byddai yn oriau tan fyddant yn cyrraedd Caerdydd, gan olygu eu bod wedi gorfod ffeindio ffordd amgen o gyrraedd. Nid yw hyn yn ddigon da ac mae cyfathrebu gyda'r cyhoedd yn echrydus, felly hoffwn wybod pa drafodaethau mae'r Llywodraeth yn eu cael er mwyn gwella cyfathrebu.

Yn ail, hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan Wenidog yr Economi ynglŷn â'r paratoadau ar gyfer manteisio ar y proffil a ddaw yn sgil tîm dynion Cymru yn y pêl-droed yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.

Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf, rydych chi'n hollol gywir, mae'r diffyg cyfathrebu'n annerbyniol os oedd fel yr oeddech chi wedi'i amlinellu, yn enwedig yn yr achos y gwnaethoch chi ei nodi y bore 'ma. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod yn rheolaidd â phrif weithredwr a swyddogion eraill Trafnidiaeth Cymru, ac yn sicr, byddaf yn gofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau os oes unrhyw beth arall i'w ddweud. 

O ran manteisio ar y llu o gyfleoedd yr wyf yn credu y bydd yna ar draws nifer o'n portffolios yn Llywodraeth Cymru o ran Cwpan y Byd ym mis Tachwedd yn Qatar, yn amlwg, mae Gweinidog yr Economi yn arwain ar ddigwyddiadau mawr, ond bydd Gweinidogion eraill hefyd yn cymryd rhan. Rwy'n gwybod, o safbwynt fy mhortffolio i, bwyd Cymru, ac hyrwyddo bwyd Cymru, byddwn ni'n cynnal digwyddiad cyn Cwpan y Byd yn Qatar i hyrwyddo hynny, a bydd Gweinidogion yn cyflwyno datganiadau fel bo'n briodol. 

14:30

Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl. Rydym ni'n deall bod datganiad economaidd neu gyllidol yn cael ei wneud gan Lywodraeth y DU yn ddiweddarach yr wythnos hon. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut bydd hynny'n effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rydym ni eisoes yn bryderus, rwy'n credu, llawer ohonom ni ar bob ochr y Siambr, fod camreolaeth economaidd ac anllythrennedd economaidd yn Llundain eisoes yn effeithio ar ein gallu ni yma i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Mae effaith chwyddiant ar garlam yn mynd i gael effaith ar ein cyllidebau, ac, ar yr un pryd, os yw Llywodraeth y DU yn mynd i ddilyn polisi toriadau treth i'r cyfoethog, rydym ni'n mynd i weld effeithiau gwirioneddol yn ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bawb yn y wlad hon. Felly, byddwn i'n ddiolchgar os gallem ni gael datganiad ar hynny. 

Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano, Gweinidog, yw hyn: un o'r materion yr ydym ni wedi'i weld yn ystod y misoedd diwethaf yw'r effaith gynyddol a'r niwed a gafodd ei wneud i'n heconomi drwy adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi gweld penderfyniadau buddsoddi yn barod yn symud i ffwrdd o Gymru, yn symud i ffwrdd o'r DU. Rydym ni wedi gweld twll du gwerth £40 biliwn yn Nhrysorlys y DU o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni'n gweld twf yn cael ei effeithio arno o ganlyniad i Brexit. A fydd Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf reolaidd i'r holl Aelodau yma ynghylch y niwed sy'n cael ei wneud i'n lles economaidd gan Brexit a drwy ddilyn y polisïau economaidd ffôl y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn, fel y gallwn ni i gyd ddeall y niwed y mae Brexit yn ei wneud i'n heconomi a'n cymunedau?

Diolch. Wel, os oes yna ddatganiad cyllidol yn dod gan Lywodraeth y DU, rwy'n sicr y bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Rydych chi'n hollol gywir am y misoedd diwethaf. Fel Llywodraeth, mae gennym ni £600 miliwn yn llai o bŵer gwario ers yr adolygiad gwariant cynhwysfawr a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU y llynedd, felly rydym ni'n ymwybodol iawn o'r effaith ar ein cyllideb. Felly, rwy'n credu y bydd y Gweinidog yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau os oes datganiad o'r fath yn ddiweddarach yr wythnos hon neu yn wir y mis hwn. 

O ran eich cais ynghylch rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar yr effaith gronnus, os mynnwch chi, o'r difrod yr ydym ni'n credu sydd wedi'i wneud i'n gwlad o adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n credu y byddai'n anodd iawn dod â'r cyfan at ei gilydd mewn datganiad, ond rwy'n credu yn sicr y ffordd yr ydym ni wedi cyflwyno ein polisïau—ac yn sicr, yn fy mhortffolio fy hun, bydda i'n cyflwyno'r Bil amaethyddol er enghraifft ac yn dangos sut, y gefnogaeth i ffermwyr, sut yr ydym ni'n gorfod addasu i hynny oherwydd nid ydym ni'n gwybod beth fydd ein cyllideb ni. 

Gweinidog, ym mis Chwefror eleni, cwympodd tyrbin gwynt yn Gilfach Goch i'r llawr, gan ddinistrio ei lafnau. Ers hynny, rwyf i wedi herio'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch y potensial i hyn ddigwydd rhywle arall a pha fesurau y mae modd eu cymryd gyda thirfeddianwyr i sicrhau diogelwch. Wrth i ni o bosibl weld cynnydd yn natblygiad ynni gwynt ar y tir, ac wrth i ni werthuso sut i sicrhau ein diogelwch ynni tymor hir, mae angen hyder ar bobl bod tyrbinau o'r fath yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei nod o blaid ynni glân, felly a wnaiff y Gweinidog drefnu dadl ynghylch sut y mae modd cyflawni hyn mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy? Diolch.

Yn sicr fe gaf drafodaeth gyda'r Gweinidog priodol ac adrodd yn ôl atoch. 

Trefnydd, rŷn ni wedi clywed yn barod am y pryderon sydd wedi cael eu mynegi gan drigolion canolbarth a gogledd Cymru am y bwriad posibl o ad-drefnu gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru. Ac rŷn ni wedi clywed gan y Prif Weinidog efallai mai nid lle Llywodraeth Cymru yw delio â hyn. Ond buaswn i'n dadlau bod y gwasanaeth ambiwlans yn rhan o'r jig-sô mawr yna, yn rhan o'r ystod o wasanaethau sydd yn delio ag achosion brys mewn ardaloedd gwledig. 

Nawr, yn ogystal â'r pryder am yr ambiwlans awyr, mae yna bryder hefyd am amseroedd ymateb ambiwlansys cyffredin. Ym Mhowys, dim ond 43 y cant o alwadau coch ddechrau'r flwyddyn hon oedd yn cael eu hateb o fewn yr amser targed. Felly, yn sgil yr holl bryderon, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth am ba gamau sy'n cael eu cymryd i wella darpariaeth iechyd brys yn ein cymunedau gwledig? 

14:35

Diolch. Wel, fel y gwnaethoch chi ddweud, gwnaeth y Prif Weinidog gyfeirio at hyn yn ystod ei sesiwn holi ac ateb, ac yn bendant, nid wyf i'n anghytuno, a dydw i ddim yn credu y byddai'r Prif Weinidog, bod yr ambiwlans awyr yn rhan o jig-so. Fodd bynnag, mae'n ffyrnig annibynnol. Rwy'n cofio, pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd, 11 mlynedd yn ôl, roedden nhw'n ffyrnig annibynnol bryd hynny hefyd. Nid ydyn nhw'n cael unrhyw arian uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, felly mae'r penderfyniadau y maen nhw'n eu cymryd nawr yn fater iddyn nhw'n llwyr, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn derbyn y gwahoddiad gan eu prif weithredwr i gael trafodaethau parhaus gydag Aelodau. O ran amseroedd ambiwlans a gwasanaethau ambiwlans, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiadau yn rheolaidd o ran hynny. 

Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar gefnogaeth i blant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan feigryn. Yn ystod wythnos olaf toriad haf y Senedd, ar 4 Medi i 10 Medi, cafodd Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn ei chynnal, ac ar ddechrau'r wythnos, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Meigryn adroddiad byr yn nodi ymchwil y maen nhw wedi'i gynnal i'r effaith ar blant a phobl ifanc a chyflwyno argymhellion i wella eu lles yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill, oherwydd yr amcangyfrif yw bod un o bob 10 plentyn a phobl ifanc yn byw gyda meigryn a gall hyn effeithio ar eu datblygiad a'u cyfranogiad mewn addysg, gweithgareddau cymdeithasol a rhannau allweddol eraill o dyfu i fyny. Eu nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael gwybodaeth a chefnogaeth a chanllawiau effeithiol yn benodol ar gyfer gofalwyr, ysgolion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny. 

Mae fy nghais olaf am ddatganiad yn ymwneud â chefnogi a grymuso pobl fyddar yng Nghymru. Y mis hwn, mis Medi, mae'n Fis Ymwybyddiaeth o Fyddardod Rhyngwladol. Yr wythnos hon, 19 Medi i 25 Medi, mae'n Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar, a dydd Sul nesaf mae'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Fyddardod y Byd. Mae ymwybyddiaeth o fyddardod yn gyfle gwych—neu mae'r mis ymwybyddiaeth o fyddardod yn gyfle gwych—i wir ddathlu a chefnogi'r gymuned fyddar, annog hygyrchedd ac addysgu ein hunain ac eraill am fyddardod. Thema Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar eleni yw datblygu cymunedau cynhwysol i bawb, ac mae Diwrnod Byd Pobl Fyddar ddydd Sul yn cydnabod hawliau pobl fyddar ledled y byd ac yn galw ar sefydliadau gwahanol i gynnal yr hawliau hyn.

Rydych chi'n ymwybodol, ar lefel y DU, fod Deddf Iaith Arwyddion Prydain wedi bod yn ddiweddar, ond nid yw honno'n ymestyn dyletswyddau adrodd na chanllawiau i Lywodraethau Cymru na'r Alban, a dim ond deddfwriaeth Cymru a all wneud hynny. Fel y gwnaeth etholwr o'r gogledd a defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain ddweud mewn e-bost ataf yn ddiweddar, 'nid yw llais pobl anabl yn cael ei glywed o hyd. Mae bron pob cynnyrch a gwasanaeth yn dal i gael eu rheoli gan bobl nad ydyn nhw'n anabl a phobl sy'n gallu clywed sy'n ddefnyddio'r model meddygol o anabledd. Mae symud i'r model cymdeithasol o anabledd yn hanfodol i fy nghymuned a defnyddwyr anabl'. Felly, rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny yng nghyd-destun y mis, yr wythnos a'r diwrnod sydd i ddod ddydd Sul, ond hefyd yng nghyd-destun cynigion Llywodraeth Cymru i lenwi'r bwlch yng Nghymru sydd nawr wedi'i lenwi yn Lloegr o ran deddfwriaeth nad yw'n berthnasol i wasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw. 

Diolch. Y ddau gwestiwn y gwnaethoch chi eu gofyn, rwy'n credu ei bod yn dangos pwysigrwydd cael diwrnodau neu wythnosau neu fisoedd ymwybyddiaeth. Nid oeddwn i'n ymwybodol mewn gwirionedd ei bod hi'n fis ymwybyddiaeth o fyddardod. Fel arfer mae gen i restr hir cyn y datganiad busnes, ond nid oeddwn i'n ymwybodol o hynny, felly diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at hynny. Mae'r ddau gyflwr yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn gwanychu'n fawr, ac rwy'n credu bod y pwyntiau yr ydych chi'n eu codi ynghylch meigryn mewn plant a phobl ifanc—os hoffech chi anfon yr adroddiad hwnnw at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol rwy'n siŵr y byddai'n hapus iawn i edrych ar yr argymhellion. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n datblygu cynwysoldeb gymaint ag y gallwn ni ar gyfer pobl sy'n dioddef o fyddardod. Rwy'n credu bod allgáu yn rhywbeth sy'n annerbyniol yn yr oes sydd ohoni. 

14:40

Hoffwn godi ddau fater efo'r Trefnydd y prynhawn yma. Gobeithio bydd y teulu brenhinol yn cael cyfle am alaru tawel, personol, rŵan bod y cyfnod galaru cyhoeddus ar ben. Mae yna rai cwestiynau pwysig yn codi o rai o gyhoeddiadau'r wythnos diwethaf, a hoffwn wybod sut mae'r Llywodraeth am ymateb i'r rhain. Yn benodol, wrth gwrs, mae'r penderfyniad i roi'r teitl 'Tywysog Cymru' i William, a hynny heb ymgynghori efo Llywodraeth na phobl Cymru. Yna, mae adroddiadau am gynllunio arwisgiad. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol rŵan i arwain sgwrs genedlaethol efo pobl Cymru ar y materion yma, ac mae gan y Senedd hefyd rôl hollbwysig fel y corff gafodd ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli barn pobl Cymru. Felly, a wnewch chi gadarnhau bod y Llywodraeth yn cynllunio i neilltuo amser yn yr amserlen seneddol i ganiatáu i'r Senedd gael pleidlais ystyrlon ar y materion yma?

Ac, yn ail, mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn rhoi diweddariad am gyflwyno addysg rhyw a pherthnasoedd fel rhan statudol o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae Plaid Cymru'n gwbl gefnogol i'r newid yma, ond rydym ni'n ymwybodol bod newyddion ffug yn cael ei ledaenu a bod protestiadau ar sail cam wybodaeth wedi cael eu cynnal, gan gynnwys yn fy etholaeth i yng Nghaernarfon. Mae aelod cabinet addysg Gwynedd, Beca Brown, wedi'i thargedu mewn modd cwbl anfoddhaol, ond rwy'n sefyll efo hi. Hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth egluro beth maen nhw'n ei wneud i atal lledaenu newyddion ffug o'r math yma, sydd yn arwain at ymddygiad cwbl amhriodol gan rai o fewn ein cymdeithas.

Diolch. O ran eich ail gwestiwn, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 26 Awst ynghylch yr wybodaeth ffeithiol anghywir iawn a oedd, yn anffodus, yn cael ei thrafod mewn parth cyhoeddus gan grŵp penodol o bobl. Rwy'n credu bod y Gweinidog addysg yn glir iawn yn ei ddatganiad ysgrifenedig—rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael y cyfle i'w weld—i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru. 

O ran eich cwestiwn cyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fy mod i'n gobeithio y bydd y teulu brenhinol nawr yn gallu galaru. Rwy'n meddwl ei fod wedi bod yn hollol anhygoel y ffordd maen nhw wedi bod yn mynd o amgylch y wlad, yn enwedig y Brenin a'r Frenhines Gydweddog, i siarad â phobl ac ymweld â gwahanol rannau'r DU. Rwy'n gobeithio bod ganddyn nhw'r amser preifat yna nawr. 

Byddwch chi'n ymwybodol, oherwydd ei fod wedi bod yn y parth cyhoeddus, hyd yn oed os nad oedd y Prif Weinidog wedi gallu dod o hyd i ddwy funud i siarad â'r Prif Weinidog, gwnaeth Tywysog Cymru, yn ystod ei gyfnod o alaru, ffonio'r Prif Weinidog. Mae'r penderfyniad yma wedi cael ei wneud nawr, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w gydnabod. Ond yr hyn y gwnaeth y Prif Weinidog yn glir iawn oedd ei bod hi'n bwysig sut mae'n datblygu ei rôl wrth fwrw ymlaen, ac mae dadl i'w chael ynghylch hynny. 

Diolch yn fawr. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg—wrth iddo droi o gwmpas. Yn ystod yr yr haf, rydw i, fel nifer o Aelodau eraill y Senedd, wedi gweld llwyth o e-byst gan rieni pryderus yn ofni bwriad Llywodraeth Cymru pan ddaw hi at newidiadau posibl mewn addysgu gartref. Mae pryderon gwirioneddol bod cynigion sydd wedi'u gosod gan y Llywodraeth hon yn mynd yn rhy bell, ac yn negyddol tuag at y gymuned addysgu gartref. A gaf i ofyn am ddatganiad llafar gan y Gweinidog addysg a fydd yn rhoi eglurder i addysgwyr gartref ar hyd a lled Cymru ar unrhyw gynigion gan y Llywodraeth a allai effeithio arnyn nhw'n sylweddol? Diolch.

Diolch. Wel, nid oes unrhyw gynigion wedi'u cyhoeddi ar hyn o bryd—fe fyddan nhw maes o law—ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn siarad â'r sefydliadau a'r partneriaid perthnasol.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Gostau Byw

Datganiad gan y Prif Weinidog sydd nesaf, ar ddiweddariad ar gostau byw. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.

Llywydd, diolch yn fawr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein gwaith fel Llywodraeth ac fel Senedd wedi ei ddominyddu gan gyfres o argyfyngau cenedlaethol, o effaith mesurau cyni i baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, fel roedd Alun Davies yn sôn amdano yn gynharach, i ymateb i argyfwng yr hinsawdd a delio â phandemig y coronafeirws. 

Llywydd, nid oes unrhyw un o'r materion hyn wedi dod i'w derfyn. Fe gaiff y cyfan ohonyn nhw eu dwysáu gan yr argyfwng diweddaraf i wynebu'r Deyrnas Unedig: sef costau byw cynyddol.

Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi gweld miliynau o bobl yn ceisio lloches a noddfa rhag yr ymladd. Mae miloedd lawer o bobl, menywod a phlant yn bennaf, wedi cael eu croesawu yma yng Nghymru. Mae'r rhyfel hwn yn un o'r rhesymau pam mae prisiau bwyd, tanwydd ac ynni yn cynyddu drwy'r byd ac yn achosi i chwyddiant gynyddu. Mae'r pwysau hwnnw'n cael ei deimlo ym mhob rhan o fywyd Cymru, boed hynny yn fusnesau sy'n wynebu biliau na ellir dim ond eu pasio ymlaen i ddefnyddwyr, yn ffermwyr sy'n ymdopi â chostau sy'n saethu i fyny, neu'n wasanaethau cyhoeddus sy'n ceisio ymateb i alwadau nad ydyn nhw fyth yn prinhau a chostau sy'n cynyddu o hyd wrth i gyllidebau gael eu herydu gan y cyfraddau uchaf o chwyddiant ers 40 mlynedd. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ei hun nawr werth o leiaf £600 miliwn yn llai na phan gafodd ei bennu yn adolygiad gwariant cynhwysfawr Llywodraeth y DU lai na blwyddyn yn ôl. Ac wrth gwrs, mae teuluoedd dros Gymru yn wynebu gaeaf heb wybod sut y byddan nhw'n gallu fforddio hanfodion bwyd, gwres a chysgod. Brynhawn heddiw, Llywydd, rwy'n dymuno canolbwyntio ar y camau gweithredu y byddwn ni, gydag eraill, yn eu cymryd i fynd i'r afael ag effeithiau domestig yr argyfwng hwn. Fe fydd cydweithwyr gweinidogol eraill yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â sectorau eraill wrth i ni ddeall mwy am y cynigion a ddaw i'r amlwg oddi wrth lywodraeth y DU.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu unrhyw gamau i leihau effaith yr argyfwng costau byw hwn ar deuluoedd, ond os caiff y cap ar filiau ynni ei ariannu trwy fenthyca, yna mae hynny mewn gwirionedd, i ddyfynnu llawer iawn o Weinidogion Ceidwadol blaenorol, yn golygu gwerthu dyfodol ein plant ni. Yn hytrach na dewis ariannu hyn drwy ddefnyddio treth ffawddelw ar yr elw rhyfeddol ac annisgwyl a wnaeth cynhyrchwyr olew a nwy, mae hi'n ymddangos bod y Llywodraeth newydd yn dewis llwytho'r ddyled ar fywydau pob dinesydd yn y DU am flynyddoedd lawer iawn i ddod. Ac wrth wneud hynny, fe fydd hi, drwy benderfyniad bwriadol, yn rhoi'r cymorth mwyaf i'r rhai sydd â'r angen lleiaf amdano, a'r cymorth lleiaf i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdano. Mae'r Resolution Foundation wedi amcangyfrif y bydd y cap ynni, ynghyd â'r gwrthdroad disgwyliedig yn y cynnydd a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol flaenorol o ran cyfraniadau yswiriant gwladol, yn rhoi i'r 10 y cant uchaf o enillwyr y DU £4,700, ac i'r 10 y cant isaf £2,200—canlyniad a ddisgrifir gan y Prif Weinidog newydd fel un sy'n 'deg'. Nawr, wrth i'r bunt ddibrisio ymhellach ar y cyfnewidiadau rhyngwladol, a'r marchnadoedd bond yn mynnu cyfraddau llog uwch wrth fenthyca arian i'r Deyrnas Unedig, y canlyniad fydd cynnydd pellach yng nghost benthyca domestig, ac mae hynny'n golygu morgeisi drytach a chredyd drytach i ddinasyddion Cymru. Dirprwy Lywydd, dyma pam y byddwn ni'n canolbwyntio ein holl ymdrechion ni'r hydref hwn ar wneud popeth sydd yn ein gallu i gefnogi pobl trwy gydol yr argyfwng hwn.

Mae pwyllgor Cabinet costau byw wedi ei sefydlu o'r newydd i ddatblygu'r gwaith hwn. Bydd hwnnw'n cyfarfod yn wythnosol. Fi fydd yn ei gadeirio, ac fe fydd yn cynnwys partneriaid cymdeithasol allweddol o'r tu hwnt i'r Llywodraeth. Dyma bedair ffordd yn unig yr ydym ni'n gobeithio y bydd yr holl waith hwnnw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn gyntaf, fe fyddwn ni'n ail-lunio, yn canolbwyntio eto ac yn ychwanegu at y llu o gamau yr ydym ni'n eu cymryd eisoes i wneud y mwyaf o'r arian sydd ar ôl ym mhocedi dinasyddion Cymru i ymestyn y cymorth sydd eisoes ar gael. Ac fe fyddwn ni'n gosod disgwyliadau newydd ar ein partneriaid ni wrth iddyn nhw fod â'u rhan yn yr ymdrech hon. Eleni yn unig, fe fyddwn ni'n gwario dros £1.5 biliwn ar gynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl—cynlluniau sy'n cael effaith uniongyrchol ar yr argyfwng costau byw. Rhaglenni yw'r rhain fel y cynllun gostwng treth gyngor, presgripsiynau rhad ac am ddim yma yng Nghymru, y lwfans cynhaliaeth addysg, teithio rhad ac am ddim ar fysiau i bobl dros 60 oed, brecwast rhad ac am ddim mewn ysgolion cynradd, y cynlluniau mwyaf hael ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a gofal plant a ariennir, yn ogystal â chymorth i deuluoedd â chost y diwrnod ysgol.

Dirprwy Lywydd, dyna ddim ond ychydig o'r cynlluniau y gallwn i fod wedi eu nodi. Ac yn awr fe fydd yna fwy. Yn gynharach y mis hwn, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu, fe wnaethom ni ddechrau cyflwyno prydau ysgol yn rhad ac am ddim yn ein hysgolion cynradd ni. Wythnos nesaf, fe fyddwn ni'n agor ceisiadau eto ar gyfer ein taliad cymorth tanwydd gaeaf unigryw, gan ymestyn y cymhwysedd fel y bydd hawl, y tro hwn, i 400,000 o bobl yng Nghymru gael eu helpu.

Wythnos nesaf, fe fydd ein cynllun banc tanwydd newydd, sy'n cynnig help i bobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw a'r rhai sy'n prynu ynni oddi ar y grid, yn dod yn weithredol. Ac yn y mis nesaf, fel bydd y Gweinidog addysg yn ei nodi mewn datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac wrth drafod â'n partneriaid yn y cytundeb cydweithredu, fe fyddwn ni'n ymestyn prydau ysgol am ddim eto yn ystod gwyliau'r ysgol am weddill y flwyddyn ariannol hon. Mae'r holl fesurau hyn, Dirprwy Lywydd, yn arwain at gadw arian ym mhocedi'r dinasyddion hynny sydd ag angen mwyaf am gymorth.

A'r ail bwynt, fe fyddwn ni'n ariannu rownd arall yr hydref hwn o'n hymgyrch lwyddiannus ni Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi. Rydym ni'n gwybod bod gwerth miliynau o bunnoedd o gymorth oddi wrth gynlluniau Llywodraeth y DU yn mynd heb eu hawlio yma yng Nghymru. Nid yw 40% o dalebau Dechrau Iach, sydd ar gael i deuluoedd sydd â phlant o dan bedair oed, yn cael eu hawlio. Mae hynny'n werth £4.25 bob wythnos. I deulu gyda dau o blant dan bedair oed, mae hynny'n golygu £442 y flwyddyn. Ac fe fydd pob punt ychwanegol y gallwn ni ei thynnu i lawr o'r cynlluniau hynny y mae pobl eisoes â hawl iddyn nhw'n mynd yn uniongyrchol i gyllidebau'r teuluoedd mwyaf anghenus yng Nghymru.

Wrth i ni fynd i mewn i'r gaeaf hwn a fydd yn un anodd iawn, mae hi'n hanfodol y bydd pob rhan o'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru yn gwneud ei ran i sicrhau y bydd pobl yn gallu elwa ar y ffynonellau o gymorth hyn i gyd—boed hynny'n gyrff llywodraethu mewn ysgolion sy'n sicrhau bod pob plentyn cymwys yn cael pryd ysgol am ddim, neu ystyried sut y gallan nhw leihau costau gwisg ysgol, i ymwelwyr iechyd yn annog teuluoedd i hawlio'r holl gymorth sydd ar gael yno ar eu cyfer nhw. Mae angen i ni sicrhau, y gaeaf hwn, fod pob cyswllt yn cyfrif yn wirioneddol.

Dirprwy Lywydd, mae'r trydydd pwynt sydd gen i heddiw yn canolbwyntio ar allgáu ariannol. I lawer o aelwydydd Cymru, hyd yn oed heb ystyried y pwysau cyfredol o ran chwyddiant, nid oes fawr yn weddill, os o gwbl, o'r arian sy'n dod i mewn i'r aelwyd ar ôl i'r biliau gael eu talu. Nawr, mae gennym ni rwydwaith o undebau credyd yma yng Nghymru, sy'n gallu helpu, ac mae gennym ni sefydliadau cyllid arloesol sy'n darparu benthyca cyfrifol i drigolion Cymru. Ond fe geir enghreifftiau eraill y gallwn ni dynnu arnyn nhw mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i helpu mwy o bobl sy'n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol iawn o fynd i ddyled y gaeaf hwn. Fe fyddwn ni'n dwyn y rhwydwaith hwn o sefydliadau ac unigolion yng Nghymru at ei gilydd. Fe fyddwn ni'n cynnwys sefydliadau eraill, fel y sector cydfuddiannol, ein cynlluniau ni ein hunain ar gyfer banc cymunedol, a darparwyr gwasanaethau hanfodol, fel Dŵr Cymru, i ddod o hyd i atebion newydd sydd â'r nod o helpu'r rhain sy'n wynebu'r perygl mwyaf.

Am y prynhawn yma, mae'r maes olaf yr wyf i'n awyddus i ganolbwyntio arno yn un sydd eisoes yn denu sylw a gweithgarwch eang: 'banciau cynnes', fel y'u gelwir nhw, mewn cymunedau lleol—lleoedd y gall pobl ddod i gadw yn gynnes y gaeaf hwn. Dirprwy Lywydd, mae hi'n anodd iawn credu ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae cynghorau cymuned, grwpiau ffydd, clybiau chwaraeon, canolfannau cymunedol yn gorfod cynllunio ar gyfer rhwystro pobl rhag wynebu tlodi tanwydd eithafol y gaeaf hwn. Ac er ein bod ni'n cymeradwyo'r ymdrechion hyn, wrth gwrs, a ysgogir drwy benderfyniad i wneud gwahaniaeth, mae pob sefydliad yr wyf i wedi cyfarfod ag ef dros yr haf eleni wedi dweud wrthyf i eu bod nhw'n gresynu bod cymorth fel hyn yn angenrheidiol.

Yn fan cychwyn, fe fyddwn ni'n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £1 miliwn ychwanegol ar gael i gefnogi'r ymdrechion hyn, gan ymestyn eu cyrhaeddiad a'u cylch gwaith nhw. Fe all ychwanegiad cymedrol o, dyweder, £10,000 olygu'r gwahaniaeth rhwng sicrhau llwyddiant i'r ymdrech yr wyf i wedi sôn amdani, a methu â'i rhoi hi ar waith o gwbl.

Dirprwy Lywydd, mae'r gaeaf fel arfer yn gyfnod heriol i ni i gyd, yn ogystal ag i'n gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r argyfwng costau byw a biliau ynni eithriadol, hyd yn oed gyda chap y Llywodraeth, yn rhoi pwysau anhygoel ar bob teulu a busnes yng Nghymru. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhybuddio y gallai effaith yr argyfwng yma arwain at y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw a welwyd erioed yn y cyfnod modern. Fel Llywodraeth yma yng Nghymru, byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi pobl drwy'r argyfwng. Diolch yn fawr. 

14:55

Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Yn ddiamau, hwn yw'r argyfwng mwyaf yr ydym ni'n ei wynebu yn yr hinsawdd sydd ohoni—yr argyfwng costau byw y mae pob aelwyd a phob busnes yn ei wynebu, boed hynny yma yng Nghymru, boed hynny ar draws gweddill y Deyrnas Unedig, neu'n fyd-eang yn wir, mewn gwirionedd. Nid oes unrhyw wlad yn ddiogel rhag y pwysau sy'n dod oherwydd yr ymladd yn Wcráin, nac yn wir oherwydd canlyniadau pandemig COVID a'r wasgfa sydd ar gynhyrchiant ledled y byd.

Mae hi'n ffaith y bydd datganiad ariannol o bwys ddydd Gwener yn tynnu sylw at sut y bydd llywodraeth newydd San Steffan yn darparu arian i aelwydydd hyd at £150 biliwn—£50 biliwn i fusnesau a thua £100 biliwn i aelwydydd. Mae hynny'n dangos cryfder yr undeb yn cydweithio wrth ddod ag arian i'r fei i leddfu llawer o'r pwysau yr ydym ni'n ei weld o ran costau byw, gan adeiladu ar y gwaith a wnaeth Llywodraeth y DU hyd yma, gyda'r £37 biliwn sydd wedi ei roi gerbron i leddfu'r pwysau costau byw a welsom ni hyd yn hyn. A dim ond heddiw fe welsom ni £150 i'w roi i 6 miliwn o unigolion sy'n elwa ar hawliadau anabledd, yn mynd yn uniongyrchol i'w helpu nhw gyda phwysau costau byw, ynghyd â'r taliadau ynni a wnaethpwyd hyd yn hyn ledled y Deyrnas Unedig yn rhan o'r £37 biliwn hwnnw.

Ond rwy'n croesawu rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â nhw, yn enwedig y ffordd y mae'r Prif Weinidog yn trefnu'r Llywodraeth i ymdrin â hyn trwy gael is-bwyllgor o fewn y Llywodraeth i edrych ar hyn o wythnos i wythnos, o ddydd i ddydd, o fis i fis. Bydd hwn yn aeaf heriol; nid oes neb yn dibrisio hynny o gwbl. Ond mae hi'n ffaith ei bod hi'n rhaid i ni i gyd sicrhau, pan fyddwn ni'n rhoi polisïau gerbron, eu bod nhw'n fforddiadwy ac, yn anad dim, y gellir eu cyflawni nhw ac nid yn rhoi gobaith ffug i bobl, ble bynnag maen nhw'n byw yn yr ynysoedd hyn.

Ac mae gen i bryderon—ac rwy'n ddigon hapus i roi hynny ar y cofnod—o ran maint yr arian a fyddai ei angen. Ond rwy'n credu bod faint o arian sydd ei angen yn pwysleisio maint y broblem a wynebir nid yn unig yn y wlad hon, ond ym mhob gwlad. Mi wnes i sylwi bod y Prif Weinidog yn sôn am ffermwyr a'r pwysau y mae ffermwyr yn ei wynebu. Nid yw ffermwyr yn ddiogel rhag y pwysau hynny o ran costau, fel pawb arall. Ond fe wnes i gynnig datrysiad ryw bedwar mis yn ôl, lle'r oedd gan y Llywodraeth o fewn ei phwerau—ac rwy'n datgan buddiant fel partner mewn busnes ffermio—a lle gallen nhw fod wedi cyflwyno ffenestr y taliad sengl i ffermydd ym mis Gorffennaf, i roi arian yng nghyfrifon banc y ffermydd fel y gellid prynu hadau a gwrtaith ac fel y gallai'r tymor plannu yn yr hydref hwn fod wedi rhoi cnydau yn y ddaear y gellid bod yn eu cynaeafu. Fe gefais i wybod bryd hynny gan y Gweinidog materion gwledig mai dim ond mynd ar ôl datganiad i'r wasg yr oeddwn i. Heddiw, mae'n rhaid i ffermwyr yng Nghymru sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â ffermwyr yn Lloegr sydd wedi cael eu taliad sengl yn eu cyfrifon banc, ond, yma yng Nghymru, nid yw hwnnw i'w gael gennym ni. Dyna un o'r goblygiadau pendant o'r hyn y gallai'r Llywodraeth fod wedi ei wneud i un sector penodol fod ag arian yn y cyfrifon banc.

Rwy'n croesawu'r fenter o ran prydau ysgol, er nad ydw i wedi fy argyhoeddi o ran pa mor gyffredinol y dylai'r cysyniad o brydau ysgol am ddim fod. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi trafod hyn, ond pan fo adnoddau yn brin, a yw hi'n synhwyrol bod 40, 45 y cant o drethdalwyr yn elwa ar gyffredinolrwydd prydau ysgol? Ond mae honno'n ddadl ideolegol y gallai'r Prif Weinidog a minnau ei chael. Y sefyllfa wirioneddol ar lawr gwlad yw bod y Llywodraeth yn cyflwyno'r cynllun hwn, felly'r hyn yr hoffwn ei glywed gan y Prif Weinidog yw a fydd ysgolion ac awdurdodau addysg yn cael eu had-dalu am yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu ceginau, y cynnydd mewn lefelau staffio a allai fod yn ofynnol ar gyfer y polisi hwn, ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill sy'n ymwneud yn benodol â'r broses hon o gyflwyno'r polisi y mae'r Llywodraeth yn dal i'w gyflwyno ledled Cymru.

Fe hoffwn i geisio deall hefyd a fydd y Prif Weinidog yn defnyddio unrhyw un o'r ysgogiadau o ran trethiant sydd ganddo i godi arian yma yng Nghymru. Mae'r Prif Weinidog wedi tynnu sylw at sut na ddylid torri trethiant. Rwy'n un sy'n credu mewn torri trethi fel ffordd o annog pobl i fynd allan, a gweithio'r sifft ychwanegol honno, a gweithio sifft goramser sy'n dod â mwy o arian i'r aelwyd, ond mae gan y Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Mae gan y Prif Weinidog—. Wel, gallaf glywed y meinciau cefn yn grwgnach a'r Ysgrifennydd cyllid hefyd, ond os yw'r Gweinidog yn dymuno codi arian, mae ganddo ef y gallu i wneud hynny drwy ddefnyddio'r ysgogiadau ariannol a roddwyd iddo gan wahanol Ddeddfau Cymru gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar o gael deall a yw'r Prif Weinidog yn ystyried defnyddio unrhyw un o'r ysgogiadau hynny ar gyfer y cyfraddau treth o 40 neu 45 y cant y gellir eu haddasu yn unol â hynny, pe byddai'r Llywodraeth yma o'r farn bod angen. Nid llwybr y byddwn i'n ei awgrymu mohono, ond, yn y pen draw, o'i safbwynt ideolegol ef, o'ch safbwynt ideolegol chi, pan fyddwch chi'n sôn am godi trethi, mae'r gallu gennych chi i wneud hynny.

Yr hyn yr hoffwn i ei gymeradwyo yn llawn hefyd a chefnogi'r Prif Weinidog yw ei fesurau ef o ran codi ymwybyddiaeth, oherwydd mae ei ddatganiad ef yn nodi yn eglur fod arian yn mynd heb ei hawlio. Mae'r enghraifft y mae ef yn ei defnyddio o deulu a allai fod yn hawlio £450 yn ychwanegol i'w cyllideb ar yr aelwyd yn enghraifft dda, oherwydd mae hwnnw'n arian go iawn sy'n mynd heb ei hawlio gan lawer o bobl ledled Cymru, ac fe fydd hwnnw'n gymorth mawr gyda'r pwysau o ran costau byw y gallen nhw fod yn eu hwynebu heddiw.

Fe hoffwn i geisio deall hefyd sut mae'r Prif Weinidog am fynd i'r afael â'r niferoedd o ran tlodi plant yr ydym ni'n eu gweld yma yng Nghymru. Cyhoeddodd Prifysgol Loughborough rywfaint o waith ymchwil o'u gwaith ryw ychydig cyn toriad yr haf a oedd yn nodi, ledled gweddill y DU, bod cyfraddau tlodi plant yn gostwng i 27 y cant—sy'n parhau i fod yn ffigwr rhy uchel—ond yn anffodus, yma yng Nghymru, maen nhw wedi cynyddu i 34 y cant. Nawr, mae gan y datganiad hwn lawer o fentrau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyflwyno dros nifer o flynyddoedd, ond, yn anffodus, rydym ni'n gweld cyfraddau uwch o dlodi plant yma yng Nghymru yn hytrach na dilyn tuedd y DU, sy'n lleihau. Nid fy ffigyrau i yw'r rhain; ffigyrau Prifysgol Loughborough ydyn nhw. A hefyd, dim ond heddiw—

15:00

Mae'r Aelod wedi defnyddio llawer iawn o'i amser, ac wedi mynd drosto. Rwyf i wedi bod yn hael iawn. 

Fy mhwynt olaf felly, os caf i. A dim ond heddiw, rydym ni wedi gweld cyhoeddi ffigurau ynglŷn â chyflogaeth menywod yn y gweithle sydd, unwaith eto, yn nodi bod y niferoedd yn codi yng ngweddill y DU, a mwy o fenywod yn cael eu cyflogi yn y gweithle, ond, yn anffodus, yng Nghymru rydym ni wedi gweld niferoedd yn gostwng yn y gweithle—gostyngiad o 3.5 y cant. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle, i ninnau allu dilyn gweddill y DU o ran cynnydd yng nghyfranogiad menywod yn y gweithle er mwyn gweld pobl yn dod â chyflog adref i dalu'r biliau aelwyd? Diolch i chi, Prif Weinidog.

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i chi. A gaf i ddweud wrth agor fy mod i'n credu, wrth ateb cwestiynau'r Prif Weinidog, fy mod i wedi methu â chydnabod haelfrydedd sylwadau arweinydd yr wrthblaid o ran gwaith swyddogion Llywodraeth Cymru dros yr wythnos ddiwethaf? Ac os methais i â gwneud hynny, yna fe hoffwn i wneud yn siŵr fy mod i'n gwneud hynny ar y cofnod nawr, oherwydd fe wnaethpwyd ymdrechion rhyfeddol ac roeddwn i'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am y ffordd y gwnaeth gydnabod hynny.

Rwyf i am ganolbwyntio, os caf i, ar y pwyntiau penodol a godwyd. O ran ffermwyr a'r pwysau sydd arnyn nhw o ran costau, fe fydd 70 y cant o daliadau sengl pobl yn nwylo bron i bob ffermwr yng Nghymru ym mis Hydref eleni. Fe dderbyniodd 97% o holl ffermwyr Cymru'r taliadau hynny ym mis Hydref y llynedd, a byddwn â'r nod o wneud yr un peth eto.

O ran prydau ysgol, nid wyf i o'r farn ei bod yn deg dweud mai gwahaniaeth ideolegol rhyngom ni yw hynny. Bydd y mesurau a gaiff eu cyhoeddi gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn mynd i bob teulu yn y wlad. Yn wir, fe fydd yna fwy o gymorth yn mynd i'r teuluoedd mwyaf cefnog nag a fydd yn mynd i'r teuluoedd mwyaf anghenus. Dull cyffredinol yw'r un y bydd Llywodraeth y DU yn ei gymryd. Ac mae hi'n ymddangos i mi os yw hi'n briodol i wneud yn siŵr bod cymorth yn mynd at bawb yn yr argyfwng ynni, yna ni all dweud y dylai cymorth fynd i bob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru fod yn wahaniaeth ideolegol o ran prydau ysgol am ddim. Fe geir rhesymau da iawn pam mae'r dull cyffredinol yn cael ei fabwysiadu, yn enwedig gyda phrydau ysgol am ddim, i wneud yn siŵr ein bod yn osgoi'r gwarthnod sydd, yn anffodus, wedi bod, ers cymaint o flynyddoedd, yn gysylltiedig â manteisio ar brydau ysgol am ddim.

Y pwynt y mae Andrew R.T. Davies yn ei godi o ran cost y cyfan: rydym ni am ddarparu £260 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni'r polisi hwnnw; mae £60 miliwn o hwnnw'n gyfalaf ac fe gyhoeddwyd £35 miliwn o'r £60 miliwn yn fanwl ar 7 Medi, i wneud yn siŵr bod eich awdurdodau addysg lleol yn cael y sicrwydd bod yr arian ar gael iddyn nhw ar gyfer gwella ceginau, prynu offer ac yn y blaen, a chyflwyno'r polisi yn llwyddiannus.

Rwy'n parhau i fod ychydig yn bryderus ynglŷn â chwestiwn yr Aelod, wrth iddo ddweud wrthyf i ei fod o blaid torri trethi, ond yn dymuno gwybod pa gynlluniau sydd gennyf i i'w codi nhw. Ac rwyf i wedi egluro iddo o'r blaen, pe byddech chi'n ystyried yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud yn ein rhaglen lywodraethu, fe wnaethom ni benderfyniad ar ddechrau'r tymor hwn i beidio â chodi mwy o arian gyda threthiant ar bobl yng Nghymru tra bydd yr economi yn ceisio adfer ar ôl effaith y pandemig. Mae'r straen a'r pwysau ar ein heconomi ni, am yr holl resymau a esboniwyd gennym ni eisoes—effaith y rhyfel yn Wcráin; effaith barhaus ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—yn fy arwain i ddod i'r casgliad y bydd yr amgylchiadau a'n harweiniodd ni i'r casgliad hwnnw wedi cael eu lleddfu.

Ar y mater budd-dal heb ei hawlio, rydym ni'n gwbl awyddus, wrth gwrs, i dynnu i lawr popeth y mae gan deuluoedd Cymru hawl i'w gael. Ac i roi enghraifft arall o hynny, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n credu y gallai hyd at £70 miliwn, ar hyn o bryd, yng Nghymru heddiw, fod heb ei hawlio o gronfeydd ymddiriedolaeth plant. Felly, fe fydd plant yr adneuwyd cronfeydd ymddiriedolaeth plant ar eu cyfer—ac rwy'n gwybod y bydd arweinydd yr wrthblaid yn cofio ein bod ni wedi penderfynu yma yn y Siambr hon i ychwanegu arian at gronfeydd ymddiriedolaeth plant i blant sy'n derbyn gofal, er enghraifft, yng Nghymru—wel, mae'r arian hwnnw wedi gorwedd yno am 18 mlynedd ac fe fydd plant â'r hawl nawr i dynnu allan ohono. Ond am fod y cynllun wedi cael ei derfynu nôl yn 2010 gan Lywodraeth y glymblaid, mae'r cyhoeddusrwydd o amgylch y cynllun wedi lleihau yn sylweddol. Ac mae £70 miliwn eisoes, sydd yno'n aros i gael ei hawlio gan bobl ifanc yng Nghymru, heb gael ei dynnu allan. Felly, mae hi'n amlwg bod yna fwy y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud yn well yn hynny o beth, ac fe fydd hynny'n helpu, fel gwna llawer o'r mesurau a amlinellais i heddiw, gyda materion ynglŷn â thlodi mewn teuluoedd a gyda phlant.

O ran cyfraddau cyflogaeth, mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn uwch na chyfraddau cyflogaeth ledled y Deyrnas Unedig, ac mae'r twf mewn cyfraddau cyflogaeth wedi rhagori ar y twf mewn cyfraddau cyflogaeth ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Un o'r heriau gwirioneddol i Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn yw bod cyfanswm y gweithlu yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn is nag yr oedd cyn i'r pandemig daro. Mae llawer o bobl, am ba reswm bynnag a allai hynny fod, wedi penderfynu peidio â dychwelyd i'r gweithlu, ar ôl cael eu hunain y tu allan iddo o ganlyniad i brofiadau COVID. Wrth gwrs rydym ni'n dymuno sicrhau, yma yng Nghymru, fod menywod a dynion â chyfartaledd o ran y farchnad gyflogaeth, ond fe geir materion mwy sylfaenol ar waith yn hyn o beth. Fe ddechreuodd arweinydd yr wrthblaid drwy gyfeirio at y bwlch cynhyrchiant ac un o'r cyfyngiadau gwirioneddol o ran gallu mynd i'r afael â'r bwlch cynhyrchiant yw'r ffaith nad oes gennym ni weithwyr, digon o weithwyr yn y Deyrnas Unedig, i allu cyflawni'r swyddi sydd ar gael iddyn nhw.

15:05

Mae yna nifer o bethau i'w croesawu yn y datganiad heddiw, yn arbennig, wrth gwrs, y cytundeb rŷn ni wedi dod iddo fe o ran medru darparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Mae hynny’n mynd i helpu llawer iawn o deuluoedd sy’n wynebu cyni ar hyn o bryd. A hefyd, yn arbennig, y banciau cynhesu roedd y Prif Weinidog wedi cyfeirio atyn nhw ar y diwedd. Er ei fod yn resyn o beth ein bod ni’n gorfod cyfeirio at y math hwn o beth, wrth gwrs, yn yr unfed ganrif ar hugain, mawr yw eu hangen ysywaeth ar hyn o bryd.

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban gyfres o gynigion yn ddiweddar yn rhan o'i hymateb i'r argyfwng costau byw, a meddwl oeddwn i tybed a gawn i ofyn i chi, Prif Weinidog, a oes gennych chithau hefyd gynlluniau i gyflwyno mesurau fel yr un a gyhoeddwyd yno o ran tai, yn enwedig moratoriwm ar droi allan yn debyg i'r un a gyflwynwyd yn y pandemig a rhewi rhent cysylltiedig ar draws pob sector—cyhoeddus, preifat a chymdeithasol. Rydym ni'n gweld chwyddiant aruthrol, on'd ydym ni, mewn costau rhent yng Nghymru? Yn wir, fe dynnodd y Centre for Cities sylw yn ddiweddar at y ffaith mai Cymru, mewn gwirionedd, oedd un o'r ardaloedd gwaethaf o ran costau chwyddiant yn y DU. Yn wir, Cymru a gogledd Lloegr sydd, mewn gwirionedd, yn gweld y cynnydd uchaf mewn costau i deuluoedd. Felly, mae'r cynnig y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei gyflwyno, rwy'n credu, yn gwbl hanfodol yma yng Nghymru.

O ran ynni, wrth gwrs, mae buddsoddi mewn insiwleiddio, sy'n bwysig am resymau amgylcheddol, hirdymor, yn bwysicach fyth erbyn hyn o ganlyniad i'r argyfwng uniongyrchol hwn. Felly, mae hi'n ymddangos ein bod ni mewn cyfnod pontio rhwng yr hen raglenni sy'n dod i ben a'r cynlluniau helaeth iawn, uchelgeisiol sy'n pennu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyrraedd ei nodau ar gyfer datgarboneiddio ac inswleiddio ynni erbyn diwedd y degawd hwn. A gawn ni hybu gweithgarwch drwy fuddsoddi nawr? A gawn ni gyflwyno'r cynlluniau buddsoddi cyfalaf hynny, ar gyfer gallu darparu cymaint o gymorth ar unwaith i deuluoedd ag y gallwn ni, unwaith eto gan ddefnyddio'r pwrpas deuol hwnnw o fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw wrth wneud rhywbeth y mae angen i ni ei wneud am resymau mwy hirdymor?

Gan ddod â chi yn ôl, wrth gwrs, at drafnidiaeth, y gwnaethom ni ei drafod yn gynharach. A gyda llaw, mae Plaid Lafur yr Alban yn beirniadu rhewi prisiau teithio yn yr Alban, gan ddweud nad yw hynny'n mynd yn ddigon pell; mae'n galw am haneru prisiau tocynnau rheilffordd yn yr Alban. Ond a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa bryd y gallwn ni ddisgwyl cyhoeddiad o leiaf ynglŷn â phrisiau trenau yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn nesaf?

Fe wnaethoch chi sôn am y lwfans cynhaliaeth addysg. Wrth gwrs, rwy'n creu i hwnnw gael ei greu tua 20 mlynedd yn ôl; nid yw wedi cadw i fyny gyda chwyddiant. Felly, oni chawn ni weld y cynnydd hwnnw i £45, sef yr hyn a fyddai pe bai wedi cadw i fyny â chwyddiant? Nawr, siawns gen i, yw'r amser i wneud hynny, pan fo cymaint o bobl ifanc yn dioddef effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw hwn.

Fe wnaethoch chi sôn am ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Rwy'n llwyr gefnogi sicrhau bod pobl yn hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo. A ydym ni'n gwneud yr un peth ar gyfer cronfeydd Llywodraeth Cymru, fel ein bod ni'n gwneud yn siŵr nad oes yna ddiffyg hawlio yn hynny o beth hefyd? Efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa gynlluniau sydd gennych chi ynglŷn â hynny.

Ac, o ran Llywodraeth yr Alban hefyd, un peth y maen nhw wedi gallu ei wneud yn y meysydd lle ceir datganoli taliadau lles—felly, tua 15 y cant, neu tua hynny, o daliadau lles sydd wedi'u datganoli—maen nhw wedi cynyddu'r rhai hynny gan ddefnyddio'r pŵer sydd ganddyn nhw. Yn ddiamau, dyma'r ddadl gryfaf o blaid datganoli taliadau lles. Ni chaiff y 15 y cant hwn o daliadau lles eu datganoli i Gymru, felly rydym ni'n gwbl ddibynnol ar benderfyniadau'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, nad yw hi mor flaengar. Felly siawns mai nawr yw'r amser i wneud yn siŵr hefyd ein bod ni'n dadlau'r achos cryfaf posibl ar gyfer datganoli'r pwerau hynny.

Roeddech chi'n dweud eich bod chi'n canolbwyntio yma ar agwedd ddomestig yr argyfwng, ond a gaf i ddim ond gofyn, yn amlwg, fe fydd yr effaith ar fusnesau yn cael effaith ddomestig, oni bydd, os bydd pobl yn colli eu swyddi? Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cynyddu cyfradd y cyllid i fusnesau sy'n wynebu pwysau economaidd eithafol hefyd, a fydd, mewn llawer o achosion, yn gwneud y busnesau hynny'n fethdalwyr ac yn arwain at ddiweithdra? Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar fyrder i'r sector busnes yn hanfodol bwysig ar hyn o bryd hefyd.

15:15

Diolch yn fawr i Adam Price am beth ddywedodd e i ddechrau. Rŷn ni'n awyddus nawr i wneud mwy i helpu teuluoedd yn ystod y gwyliau ym mis Hydref, dros y Nadolig, ym mis Chwefror ac yn y Pasg hefyd. Mae hynny yn mynd i gostio miliynau o bunnoedd, a dwi'n ddiolchgar am y trafodaethau rŷn ni wedi'u cael i ddod at y casgliad hwnnw.

Llywydd, rwy'n fy ngweld fy hun yn yr un sefyllfa i raddau helaeth ag yr oeddwn i ynddi yn gynharach yn y prynhawn. Mae yna achos cryf dros, rwy'n gwbl sicr, bopeth bron yr hoffai arweinydd Plaid Cymru i ni wario mwy o arian arno: mwy o arian ar insiwleiddio, mwy o arian ar lwfansau cynhaliaeth addysg, mwy o arian ar docynnau trenau, mwy o arian ar fusnesau. Mae achos i'w ddadlau dros bob un o'r rhain.

Mae Llywodraeth yr Alban, wrth gwrs, yn wynebu'r un cyfyng-gyngor â ninnau. Er mwyn ariannu'r mesurau ychwanegol y gwnaethon nhw eu cymryd, bu raid iddyn nhw leihau cyllidebau eraill £700 miliwn, ac ochr yn ochr â'r pethau ychwanegol y maen nhw'n eu gwneud, maen nhw eisoes wedi amlinellu £560 miliwn o doriadau y bydd yn rhaid eu gwneud i bethau y bydden nhw wedi gallu eu gwneud fel arall. Dyna'r pwynt yr wyf i'n ei wneud i'r Aelod, mewn gwirionedd: am bob un o'r pethau y gallem ni fod yn gwneud mwy yn ei gylch, dim ond trwy wneud llai ynghylch rhywbeth arall yr ydych chi wedi bwriadu ei wneud eisoes y gallwch chi wneud hynny. Mae 100 y cant a mwy o'n cyllideb ni wedi ei hymrwymo. Mae ein cyllideb gyfalaf yn y flwyddyn hon wedi'i gorymestyn hyd at £100 miliwn. Nid oes dim wrth gefn. Nid oes swm o arian yn aros i gael ei dynnu i lawr at y dibenion newydd hyn.

Fel y gŵyr ef, fe gawsom ni drafodaethau maith ynghylch y symiau o arian yr oedd eu hangen i gefnogi'r 47 eitem sydd yn y cytundeb cydweithredu i wneud yn siŵr y gellir eu gweithredu nhw'n iawn, gan gynnwys y £260 miliwn ar brydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd. Felly, nid oes unrhyw anghytundeb rhyngom ni o ran y syniad o fod â mwy y gallem ni ei wneud, neu y byddem ni'n hoffi ei wneud, ond rydym ni'n wynebu'r un cyfyng-gyngor ag y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wynebu, sef na ellir gwneud unrhyw beth newydd heb ddiarddel rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud eisoes. Dyna'r sgwrs fwy anodd sy'n rhaid ei chael, ochr yn ochr â rhestru'r holl bethau da y gellid eu hychwanegu at y rhestr hon.

Bydd ein rhenti ni'n cael eu rhewi yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru tan ddiwedd mis Mawrth, am ein bod ni wedi cyhoeddi unrhyw gynnydd o ran y rhenti hynny eisoes. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio, fel rydym ni wedi ymrwymo, ar gynigion y byddwn ni'n eu cyflwyno mewn Papur Gwyn ar reolaethau rhent yma yng Nghymru. Oherwydd fy mod i'n cytuno yn hyn o beth hefyd ag arweinydd Plaid Cymru sef bod costau penodol sy'n ysgogi chwyddiant a'r effaith ar deuluoedd yma yng Nghymru, gan gynnwys, fel y dywedwn ni'n aml yn y fan hon, effaith taliadau sefydlog ym maes ynni—taliadau sefydlog yr wyf i wedi bod o'r farn ers amser y dylen nhw fod yn rhan o'r gorffennol, ac nid yn ffordd gyfredol o godi tâl arnom ni am ynni, ac sy'n dod i ran defnyddwyr yng Nghymru yn arbennig o drwm.

Ni allaf fod yr unig un sy'n teimlo fy ngwaed yn berwi wrth wrando ar eiriau bwriadol amwys y Blaid Geidwadol a phan fyddaf yn gwylio eu dagrau crocodeil wrth iddyn nhw wasgu eu dwylo mewn anobaith oherwydd canlyniadau'r polisïau y maen nhw eu hunain yn eu darparu: codi'r cyfyngiadau ar fonysau bancwyr, toriadau yn y trethi i'r cyfoethog, a hynny wrth dorri gwasanaethau i'r mwyaf anghenus. Mae hynny'n warthus. Ac maen nhw'n golchi eu dwylo o hynny, wrth gwrs. Maen nhw'n gadael y Siambr pan fyddwn ni'n siarad am bobl dlawd a phan fyddwn ni'n sôn am sut mae pobl dlawd yn dioddef canlyniadau eu polisïau nhw, oherwydd nid oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb.

Ni allai'r gymhariaeth rhwng yr hyn yr ydym ni'n ei glywed o'r fan honno a'r hyn yr ydym ni'n ei glywed gan Brif Weinidog Cymru fod yn fwy eglur. Mae'r Llywodraeth hon yn cymryd yr holl gamau y gall hi yng Nghymru i ddiogelu pobl, Llywodraeth sy'n defnyddio ei phŵer fel catalydd i ddod â phobl at ei gilydd, i ddod â chymunedau at ei gilydd, a gweithredu fel catalydd i amddiffyn pobl, ac yn Llywodraeth sy'n ysgogi holl adnoddau trethdalwyr Cymru i helpu pobl pan fyddan nhw yn eu hangen mwyaf. Dyna'r math o Lywodraeth sydd ei hangen arnom ni. Prif Weinidog, mae hi'n glod i chi ac i'r tîm o Weinidogion ein bod ni'n gallu dibynnu ar Lywodraeth Cymru mewn cyfnod o argyfwng fel hwn, ac mae hi'n glod i'r Llywodraeth hon ei bod hi'n cymryd y camau y mae hi'n eu cymryd.

A wnewch chi, Prif Weinidog, fy sicrhau i y byddwch chi'n gwneud popeth y gallwch chi i gyfathrebu'r hyn yr ydych chi'n ei wneud i amddiffyn pobl i bobl ym Mlaenau Gwent a thros Gymru gyfan fel bod pobl yn gwybod pa gymorth sydd ar gael, a bod pobl yn deall beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, bod pobl yn gwybod bod ganddyn nhw Lywodraeth sydd ar eu hochr nhw pan ydyn nhw'n wynebu cyfnod o argyfwng? Mae hi'n bwysig, pan fyddwn ni'n clywed gan Ganghellor honedig y Trysorlys yn ddiweddarach yr wythnos hon eu bod nhw'n amddiffyn buddiannau'r cyfoethocaf a'r rhai sy'n cyfrannu at eu plaid yn Llundain, fod pobl Blaenau Gwent a phobl Cymru yn gwybod mai Llywodraeth yw hon a fydd yn sefyll gyda nhw ac yn sicrhau y bydd pob adnodd sydd ar gael i ni yn cael ei estyn i'r anghenus, y mwyaf bregus a'r tlotaf yn y genedl hon. 

15:20

Rwy'n cytuno'n llwyr ag Alun Davies ein bod hi'n rhaid i ni, yn yr argyfwng hwn, wneud popeth a allwn ni ac nid gwaith i Lywodraeth Cymru yn unig mohono. Rydym ni'n ariannu gwasanaeth cynghori unigol yma yng Nghymru. Dyma un o'r pethau a nododd yr Arglwydd Thomas, yn ei adroddiad ar ddatganoli cyfiawnder—bod mwy a mwy o Lywodraethau Cymru wedi gorfod ysgwyddo cyfrifoldebau dros lenwi'r bwlch mewn gwasanaethau sydd heb eu datganoli. Rydym ni'n falch o wneud hynny, oherwydd mae'r gwasanaethau cynghori hynny o bwys gwirioneddol i bobl. Ond os ydym ni'n credu bod y gwasanaethau cynghori hynny yn ysgwyddo'r baich i gyd o ran yr holl angen am gyngor a fydd yng Nghymru'r hydref a'r gaeaf hwn, yna mae gen i ofn nad yw hynny'n debygol iawn o fod yn rhywbeth sy'n gynaliadwy iddyn nhw.

Rwy'n eglur iawn fy meddwl, ym mhob un cyfarfyddiad a fydd gan weithiwr gwasanaeth cyhoeddus â theulu mewn angen y gaeaf hwn, y bydd cyfrifoldeb ar y gwasanaeth cyhoeddus hwnnw i wneud yn siŵr bod yr unigolyn hwnnw neu'r teulu hwnnw'n cael pob cymorth posibl. Pan fydd gweithiwr cymdeithasol ar lawr gwlad yn cwrdd â theulu, bydd pob cynllun y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig, bob tamaid o gymorth y gellir ei ddwyn i lawr oddi wrth Lywodraeth y DU—. Fe ddylai hwnnw fod yn gyfrifoldeb y maen nhw'n barod i'w ysgwyddo. Fel y dywedais i o ran ymwelwyr iechyd, pan fydd ymwelydd iechyd gyda theulu, fe fydd iechyd ariannol y teulu hwnnw'n cael effaith uniongyrchol ar iechyd corfforol y teulu hwnnw hefyd. A'r gaeaf hwn, o bob gaeaf, fe ddylai pob cyswllt gwasanaeth cyhoeddus fod â gwneud y mwyaf o'r incwm hwnnw, gan dynnu i lawr pa gymorth bynnag sydd ar gael, flaenaf yn eu hystyriaethau nhw. Fe fyddwn ni'n awyddus i wneud hynny yn y Llywodraeth yng Nghymru, ond mae angen i ni ddibynnu ar y fyddin ehangach yna o bobl sydd gennym ni yng Nghymru, boed honno yn y trydydd sector, mewn sefydliadau gwirfoddol ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni. Pan fydden nhw mewn cysylltiad â theulu sydd ag angen am gymorth, yn ogystal â'r holl bethau eraill yr wyf i'n gwybod eu bod yn rhaid iddyn nhw eu gwneud, y gaeaf yma, fe fydd yn rhaid iddyn nhw edrych ar y cyfan mewn perthynas â chostau byw yn fy marn i. Drwy wneud hynny, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu gwneud y cynnydd yr ydym ni'n awyddus i'w gael fel na fydd unrhyw un yn colli allan ar gymorth sydd ar gael, oherwydd fe fydd y cymorth hwnnw'n gwbl angenrheidiol. 

Prif Weinidog, nid oes amheuaeth o gwbl fod llawer iawn o deuluoedd dan yr amgylchiadau mwyaf bregus yng Nghymru yn gofidio llawr iawn ynglŷn â'r hyn sydd o'u blaenau y gaeaf hwn, ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd ddeall hynny, o ystyried y sefyllfa sy'n ein hwynebu ni. Mae hyn yn gofyn am weithredu ar unwaith, yn fy marn i, ar bob lefel o'r Llywodraeth a sefydliadau partner. Ac wrth gwrs, Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb pennaf, o ystyried yr ysgogiadau sydd ar gael iddi, gan gynnwys y system fudd-daliadau. Rwyf i'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi yn y Senedd, fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, ac rydym ni'n bryderus iawn ynghylch dull Llywodraeth y DU o ran credyd cynhwysol: diddymu'r codiad o £20; yr amser maith y mae pobl yn aros wrth hawlio o'r newydd; y didyniadau sy'n cael eu gwneud, yn aml iawn, i'r buddion hynny oherwydd naill ai ordaliadau neu ddyledion; a dull Llywodraeth y DU o gosbi hefyd. Fe wn i fod Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin wedi galw am oediad i ddidyniadau ar gyfer adennill dyledion i roi rhyw gymaint o gyfle i deuluoedd ennill ychydig o dir ar adeg mor anodd. A fyddech chi, Prif Weinidog, yn cefnogi galwadau'r pwyllgor hwnnw, ac yn manteisio ar bob cyfle i annog Llywodraeth y DU i wneud y peth cyfiawn a helpu ein teuluoedd ni sy'n ei chael hi'n anodd yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn sydd i ddod? 

15:25

Diolch i John Griffiths am y pwyntiau pwysig hynny. Mae'n iawn; mae teuluoedd ledled Cymru yn wynebu'r hydref a'r gaeaf hwn sy'n dod gydag ymdeimlad gwirioneddol o anesmwythder. Rydym ni wedi bod mewn rhyw fath o ryfel ffug, onid ydym ni, yn hyn, mewn gwirionedd, oherwydd nid yw pobl wedi gweld gwir effaith y biliau cynyddol eto a ddechreuodd ar 1 o fis Ebrill eleni. Yn ystod misoedd hir yr haf, mae pobl mewn rhai ffyrdd yn gallu gwneud addasiadau—nid oes raid i chi wresogi'r tŷ, nid oes raid i chi droi'r golau ymlaen yn gynnar gyda'r nos—ond maen nhw'n gweld mis Hydref yn dod ac maen nhw'n gwybod na fydd y ffordd honno o ymdopi ar gael iddyn nhw bellach. Mae John Griffiths yn llygad ei le o ran yr ymdeimlad drwgargoelus y mae hynny'n ei greu i gymaint o deuluoedd.

Fe ddylai'r system fudd-daliadau ysgwyddo'r gwaith trymaf yn hyn o beth. Dyna beth y cafodd ei chynllunio i'w gyflawni. Dyna pam y dyluniodd James Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli, y system nawdd cymdeithasol yn y ffordd y gwnaeth, fel na ddylai'r un teulu fod yn ofni ansefydlogrwydd yma yn y Deyrnas Unedig. Ond gyda £1,200 yn cael ei dynnu allan o gyllidebau teuluoedd yn union wrth i'r biliau hyn ddechrau codi, mae'r tyllau yn y rhwyd ddiogelwch yn dod yn fwy amlwg nag erioed. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn dibynnu erbyn hyn ar y gronfa cymorth dewisol i'w cynnal trwy'r cyfnod aros o bum wythnos, y pum wythnos cyn i chi gael unrhyw gymorth o system y DU. Diolch byth, mae ein cronfa cymorth dewisol ni'n caniatáu i deuluoedd gael rhywfaint o gymorth yn ystod y cyfnod anodd iawn hwnnw.

Er nad wyf i'n cytuno â phob pwynt y gwnaeth arweinydd Plaid Cymru yn gynharach o ran drylliad y system fudd-daliadau yn y DU—oherwydd yn y diwedd, mae'r posibilrwydd ganddi hi i fod yn beiriant rhagorol ar gyfer ailddosbarthu yn nwylo'r Llywodraeth gywir—rwyf i'n cytuno, ac wedi dweud hynny o'r blaen, gyda chasgliadau'r pwyllgor yn nhymor diwethaf y Senedd a gadeiriodd John Griffiths, y byddai datganoli gweinyddu nawdd cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yma yng Nghymru. Wrth gwrs fe fyddai gennym ni drefn wahanol o gosbi pe byddai hynny yn nwylo'r Senedd hon; wrth gwrs, fe fyddai gennym ni ddull gwahanol o dynnu didyniadau o fudd-daliadau llwm pobl oherwydd dyledion sydd ganddyn nhw mewn mannau eraill. Mae'r achos dros ddatganoli gweinyddu lles wedi mynd yn gryfach eto ers i'w bwyllgor ef ymchwilio i hyn yn gyntaf a gwneud yr argymhellion hynny. Rwyf i'n falch iawn yn wir o allu ategu'r cynigion hynny'n gadarn.

Rwyf i wir yn gwerthfawrogi'r mesurau hyn sy'n cael eu cyflwyno, ond i'w cyflawni nhw, bydd angen gwasanaethau cyhoeddus arnom ni, ac rwy'n wirioneddol bryderus; rwyf wedi clywed oddi wrth y Prif Weinidog am gyllid i fusnesau ac aelwydydd hefyd, ond dim o ran gwasanaethau cyhoeddus, ac maen nhw'n wynebu costau ynni cynyddol hefyd, a'r argyfwng costau byw. Maen nhw wedi gweld 10 mlynedd o gyni, felly maen nhw eisoes wedi cael eu torri hyd yr asgwrn wrth symud ymlaen, yn cael trafferthion wrth recriwtio, ac yn ymdrin â'r pandemig hefyd, ac mae'r angen amdanyn nhw'n fwy nag erioed, yn fy marn i, i helpu pobl. A yw'r Prif Weinidog yn gwybod a fydd yr arian ar gyfer busnesau yn cynnwys gwasanaethau cyhoeddus? Os na fydd, a allech chi gael sgyrsiau gyda Thrysorlys Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus i'r dyfodol, fel gallan nhw ymdrin â chostau ynni cynyddol hefyd? O ran y gronfa cymorth dewisol, mae gwahanol asiantaethau wedi cysylltu â mi gan gynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. A gaf i ofyn i chi edrych a allai hwnnw godi o daliad o £250 i daliad o £500, er mwyn i drigolion allu fforddio prynu llond tanc o olew? Oherwydd gallan nhw ddim ar hyn o bryd gyda £250. Diolch i chi. 

Rwy'n diolch i Carolyn Thomas am y cwestiynau hynny, Llywydd. O ran cyllid i wasanaethau cyhoeddus, mae dau fater ar wahân, onid oes? Fe geir mater o ran costau ynni, ac roedd y cyhoeddiad ar 8 Medi yn awgrymu y byddai cymorth ar gael i wasanaethau cyhoeddus gyda chostau ynni, yn ogystal â chymorth i fusnesau, ond ni fyddwn ni'n gwybod mwy na hynny tan y byddwn ni'n gweld y gyllideb fach, neu beth bynnag y bydd hi'n cael ei galw, ddydd Gwener yr wythnos hon.

Ond, y tu hwnt i'r costau ynni, fe geir effaith gyffredinol chwyddiant, sy'n erydu pŵer prynu cyllidebau'r gwasanaethau cyhoeddus i gyd. Fe ddywedais i'n gynharach: fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru ei hun yn prynu dros £600 miliwn yn llai o werth nag y byddai hi ym mis Tachwedd y llynedd. Ym mis Tachwedd y llynedd, fe benderfynodd Llywodraeth y DU, yn ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant, faint o arian oedd ei angen ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei chyfrifoldebau. I bob pwrpas, mae gennym ni gannoedd o filiynau o bunnoedd yn llai erbyn hyn na'r hyn a ddywedon nhw y byddai ei angen arnom ni bryd hynny. Felly, rwy'n credu mai disgwyliad cwbl ddilys yw i Lywodraeth y DU roi gwasanaethau cyhoeddus yn ôl yn yr un sefyllfa â'r hyn y penderfynwyd ganddyn nhw eu hunain oedd ei angen lai na blwyddyn yn ôl.

O ran y gronfa cymorth dewisol, mae honno dan bwysau aruthrol. Mae'r galwadau arni hi'n codi bob mis oddi wrth bobl sydd heb unrhyw le arall i droi. Yn ffodus, o ran pwynt penodol a wnaeth Carolyn Thomas am bobl sydd heb brif gyflenwad nwy ac felly'n gorfod prynu olew i wresogi, fe fydd y cynllun banc tanwydd a fydd yn dod yn weithredol y mis hwn yn cynnig cymorth i bobl yn yr amgylchiadau hynny. Pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw—dim byd o gwbl yng nghyhoeddiad y Llywodraeth i'w helpu nhw, y bobl fwyaf anghenus sy'n prynu egni yn y ffordd fwyaf costus, a dim oll i helpu pobl sydd oddi ar y grid chwaith. Fe fydd ein cynllun banc tanwydd ni'n gwneud y ddau beth hynny.

15:30

Ceir cyfle yr tu ôl i unrhyw fygythiad ac rwyf i wedi cefnogi ysgolion bro ers amser maith iawn. Felly, rwyf wedi cael sgyrsiau eisoes ynglŷn â banciau gwres mewn ysgolion, mewn canolfannau cymunedol, mewn eglwysi, ac mae pobl yn gwneud trwy ei gilydd yn wirioneddol. Ac roeddwn i'n meddwl tybed a allwn ni ymestyn cylch gwaith ysgolion bro mewn rhyw ffordd i'n galluogi ni i gynnig gwaith cartref sy'n canolbwyntio ar y gymuned, chwaraeon cymunedol yn yr ysgolion yr ydym ni'n eu hariannu eisoes yn rhan o gyfraniadau'r trethdalwyr. Fe fyddai hyn yn hynod fuddiol, yn amlwg, o ran galluogi pobl i ddod at ei gilydd a dysgu gyda'i gilydd, yn hytrach na dim ond rhynnu o flaen bocs metel. 

Llywydd, mae'r rhain yn bwyntiau pwysig iawn y mae Jenny Rathbone yn eu codi. Yr unig ffordd y byddwn ni'n gallu creu banciau y gall pobl eu defnyddio yn llwyddiannus yw drwy ddefnyddio cyfleusterau sydd yno eisoes ac ar waith. Ac mae ysgolion bro yn un o'r rhain, ond mae yna lawer, llawer o rai eraill—clybiau rygbi sydd ar agor ac sy'n ganolbwynt i lawer o gymunedau; efallai y gallan nhw wneud mwy pe byddai dipyn o gymorth ar gael iddyn nhw. Fe allai canolfannau sy'n cael eu rhedeg gan grwpiau gwirfoddol a ffydd ymestyn eu horiau agor efallai pe byddai ychydig o gymorth ychwanegol ar gael. 

Ni allwn ni ddechrau gwneud hyn o ddim byd; sôn am fis Hydref sydd ar ddod yr ydym ni. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar yr hyn sydd ar gael yn barod a gwneud mwy â hwnnw. Ac wedyn, mae'n rhaid i ni blygu cyllidebau sefydliadau eraill i'w cefnogi nhw gyda'r gwaith hwnnw. Rwy'n llawn ddisgwyl i gyngor y celfyddydau a'r cyngor chwaraeon, er enghraifft, fod yn edrych ar eu cyllidebau nhw a gofyn a oes yna bethau y gallen nhw eu gwneud, felly pe byddai pobl yn dod at ei gilydd mewn cyfleusterau newydd o'r math yna, fe fyddai ganddyn nhw bethau i'w gwneud. Nid yw'r syniad y bydd pobl yn mynd yno i wneud dim ond eistedd drwy'r dydd a gwneud dim byd arall am fod yn ddeniadol i neb. Felly, mae'n rhaid i ni weld y bydd yr holl gyllidebau sydd ar gael, ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus, yn cael eu harchwilio unwaith eto drwy'r lens yr ydym ni wedi bod yn ei drafod y prynhawn yma. Ac yna, fel dywed Jenny Rathbone, bydd cyfleoedd i chwaraeon, cyfleoedd i ddysgu, cyfleoedd i greadigrwydd—yr holl bethau hynny a fydd yn gwneud amser pobl, pe bydden nhw'n mynd i ganolfannau o'r fath, yn gynhyrchiol ac yn werth chweil, ac mae angen i ni weld popeth sy'n rhan o'r gyfres newydd hon sydd ei hangen ar fyrder.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, rydych chi, yn briodol, wedi amlinellu pwysigrwydd hanfodol rhoi y cymorth sydd ar gael yn nwylo'r bobl sy'n gymwys i'w gael. Felly, a gaf i ofyn i chi: pa werthusiad sydd wedi bod ar draws yr awdurdodau lleol o ran y rownd ddiwethaf o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf? Oherwydd rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi ynglŷn â'r angen i ni wybod beth oedd yn gweithio yn dda a'r hyn sydd ag angen ei wella, yn enwedig o ran gweithdrefnau ac arferion prosesu ac ymgysylltu, i sicrhau y gall y nifer mwyaf posibl fanteisio arno.

15:35

Diolch i Sioned Williams am y cwestiwn pwysig hwnnw. Felly, mae yna werthusiad o'r cyfan. Mae wedi arwain at y newid yn y meini prawf cymhwysedd y soniais amdanyn nhw yn gynharach i wneud yn siŵr y bydd rhai pobl nad oedd y rheolau, y tro cyntaf, yn eu cwmpasu, yn ymateb i'w hamgylchiadau, nawr yn gallu manteisio ar y cynllun. Dyna pam y gall nifer y bobl yr ydym ni'n gobeithio eu helpu fod mor uchel â 400,000 o bobl.

Mae yna bethau y bydd awdurdodau lleol eisiau ei wneud i helpu hefyd. Gwyddom fod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud yn well yn y busnes o awtomateiddio. Os oes gennych hawl i un math o gymorth, heb i chi orfod gwneud unrhyw beth, mae'n agor y drws i bob math o gymorth arall y gallech chi ei gael efallai. Mae awdurdodau lleol eraill yn mynnu bod pobl yn gwneud cais dro ar ôl tro; bob tro yr ydych chi eisiau darn o gymorth, mae'n rhaid i chi wneud cais eto. Nid yw'n syndod bod gan awdurdodau lleol sydd â'r dull cyntaf lefelau uwch o bobl sy'n derbyn na'r awdurdodau lleol sy'n mynd am yr ail ffordd o wneud pethau. Ac rydym ni wedi bod yn siarad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud yn siŵr bod profiad yr awdurdodau lleol hynny sy'n—alla i ddim meddwl am y gair cywir—rhoi'r cymorth yn awtomatig y mae gan bobl hawl iddo cyn gynted ag y byddan nhw'n gofyn am gymorth i wneud yn well wrth ddarparu banciau tanwydd, yn ogystal ag mewn pethau eraill; wrth ddarparu tanwydd yn y gaeaf, yn ogystal ag mewn agweddau eraill. Ac rydym ni eisiau i fwy o awdurdodau lleol ddysgu o brofiad y rhai llwyddiannus.  

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Eitem 4, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, gosododd y Gweinidog Newid Hinsawdd Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) gerbron y Senedd, ynghyd â'r memorandwm esboniadol. Rwy'n gwneud yr anerchiad hwn oherwydd nad yw'n gallu bod yma i wneud hynny ei hun.

Mae gwastraff plastig yn hollbresennol, yn barhaus ac yn llygru, ac mae'n hanfodol cymryd camau ar fyrder i'w atal rhag llifo i mewn i'n hamgylchedd. Mae'n gallu bod yn anodd ailgylchu nwyddau plastig ac yn aml, maen nhw'n cael eu gollwng fel sbwriel neu eu tipio yn anghyfreithlon. Mae gweddillion microblastigion wedi cael eu canfod ar ein mynyddoedd uchaf, yn ein bwyd, y cyflenwadau dŵr, yn yr aer rydym ni'n ei anadlu ac yn ein cyrff. Yng Nghylch yr Arctig gellid dod o hyd i wastraff plastig o'r Deyrnas Unedig sy'n mynd i mewn i'r môr. Ar ôl iddo fynd i'r amgylchedd, mae plastig yn atynnu llygryddion eraill, gan eu gwneud yn fwy peryglus i anifeiliaid, planhigion a phobl sy'n dod ar eu traws. 

Mae cynhyrchion plastig wedi cefnogi datblygiad technolegol mewn meysydd fel gofal iechyd, diogelwch yn y gweithle ac effeithlonrwydd ynni. Eto i gyd, mae'r manteision hyn wedi dod gyda chost amgylcheddol gynyddol nad yw'n gynaliadwy. Fel rhan o ddatblygu dull mwy cyfrifol o ddefnyddio plastigion, y cam cyntaf gofynnol yw dileu ei ddefnydd diangen, yn enwedig ar gyfer eitemau sydd wedi'u cynllunio at ddefnydd untro. 

Mae'r rhan fwyaf o blastig wedi'i wneud o danwydd ffosil. Gall ei leihau helpu ein hymdrechion tuag at sero net, gan helpu i leihau ein hôl-troed carbon i leihau effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd. Yn ôl astudiaeth yn 2015, mae dwywaith gymaint o ynni ffosil yn cael ei losgi ar gyfer cynhyrchu plastig nag sydd yn y plastig ei hun. Felly, bydd newid ein harferion i leihau'r galw am blastigion ac annog ailddefnyddio yn helpu i arbed y gwastraff aruthrol hwn. Nid newid cyfan gwbl i blastigau o blanhigion yw'r ateb. Er y gall y cynhyrchion hyn helpu i leihau carbon, gall y broses o'u cynhyrchu gystadlu â chnydau bwyd ar dir amaethyddol a dŵr cynyddol werthfawr. Pryd bynnag y bo modd, rhaid i ni leihau'r angen am gynhyrchion plastig yn gyntaf, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, drwy newid i bethau y gellir eu hailddefnyddio.

Mae pobl a busnesau yng Nghymru eisoes yn gwneud newidiadau. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi nhw, gan adeiladu ar eu brwdfrydedd dros newid. Mae pobl yn mynnu bod y Llywodraeth hon a'u Senedd yn adeiladu ar eu hymdrechion, a dyna mae'r Bil hwn yn ei wneud heddiw. Mae'n anfon neges glir at bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd yn annog mwy ohonon ni i newid ein harferion a lleihau gwastraff plastig. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ni gyd ddod i arfer â gwneud pethau'n wahanol. Rydyn ni'n ymwybodol o'r ffaith y bydd rhai pobl a busnesau yn gweld newidiadau anos nag eraill, a bydd angen amser ac arweiniad arnyn nhw i wneud hynny. Serch hynny, mae newid o'r fath yn gwbl bosibl. Fel Llywodraeth, rhaid i ni beidio ag osgoi yr angen brys i gyflymu cyfradd y newid sydd eisoes ar waith.

Pwrpas y Bil yw lleihau llif llygredd plastig i'n hamgylchedd. Mae'r Bil hwn yn rhan o'n hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd y Bil yn adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan gymunedau ledled Cymru sydd eisoes wedi dewis mynd yn ddi-blastig, diwylliant taflu i ffwrdd, a helpu i fynd i'r afael â sbwriel.

Dirprwy Lywydd, ar 15 Awst, cyhoeddwyd drafft o'r Bil er mwyn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd â buddiant weld cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil, a chyfle i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ymgynghori ar y cynnig. Yn yr un ysbryd o fod yn agored, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith heddiw i nodi rhai newidiadau yr ydym yn bwriadu eu cynnig i'r Bil yng Nghyfnod 2. Mae'r newidiadau yn esboniadau technegol a chyfreithiol nad ydynt yn newid pwrpas na bwriad y Bil. Wrth i ni weithio gyda'n gilydd dros y misoedd nesaf, gobeithio y byddwch yn cefnogi'r gwelliannau hyn a fydd yn rhoi'r eglurder angenrheidiol i'r Bil.

Bydd y Bil yn ei gwneud yn drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi i ddefnyddiwr yng Nghymru yr eitemau plastig untro yn yr Atodlen. Bydd hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion gyflwyno cosbau sifil fel ffordd amgen o orfodi'r gwaharddiad ar gynhyrchion plastig untro sydd wedi'u gwahardd, sy'n debyg i'r trefniadau ar gyfer y gwaharddiad presennol ar ficrobelenni plastig sydd ar waith ers 2018. Bydd y Bil hefyd yn caniatáu inni gyflwyno rheoliadau i wahardd neu gyfyngu mwy o gynhyrchion wrth i dystiolaeth o niwed ac effaith y camau hyn ddod ar gael. Bydd yn ofynnol i Weinidogion adrodd ar yr eitemau y maen nhw'n ystyried eu gwahardd o dan y ddarpariaeth hon. Bydd rheoliadau o'r fath yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd drwy weithdrefnau cadarnhaol.

Mae llawer o'r eitemau yn yr Atodlen o eitemau i'w gwahardd yn cynnwys cynhyrchion bob dydd sy'n gysylltiedig â bwyd a diod pan fyddwch allan. Mae hyn yn cynnwys eitemau plastig untro fel cyllyll a ffyrc, platiau, troyddion diod, cynwysyddion bwyd a chwpanau wedi'u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog, yn ogystal â chaeadau polystyren ar gyfer cynwysyddion bwyd a chwpanau. Rydym hefyd yn gwahardd gwellt yfed, sydd ag eithriad i sicrhau eu bod yn dal i allu cael eu darparu i'r bobl hynny sydd, am resymau meddygol, eu hangen i fwyta neu yfed. Rydym hefyd wedi cynnwys ffyn cotwm sydd â choesau plastic a ffyn balwnau plastig. Ac rydym hefyd yn bwriadu gwahardd yr holl gynhyrchion sydd wedi'u gwneud o blastig ocso-diraddadwy, sy'n fath o blastig y mae ychwanegion wedi'u hychwanegu ato sydd wedi'i ddangos i newid y ffordd y mae'n torri i lawr.

Dirprwy Lywydd, i ategu llwyddiant y tâl 5c am fagiau siopa untro, bydd y Bil yn mynd â'n huchelgais i atal gwastraff o'r cynhyrchion hyn i'r lefel nesaf. Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o aelwydydd wedi newid eu harferion fel nad oes angen y cynhyrchion hyn arnyn nhw mwyach. Felly, bydd bagiau tenau, untro hefyd bellach yn cael eu gwahardd.

Bydd y Bil hwn yn galluogi Cymru i fod ar flaen y gad o ran gweithredu ar blastigau drwy dynnu eitemau untro o'r gadwyn gyflenwi. Bydd yn helpu i gyflawni ein huchelgais i ddatblygu'r economi gylchol drwy ganolbwyntio ar ailddefnyddio, cynhyrchu gwerth gan leihau'r galw cyffredinol. Bydd yn helpu i fynd i'r afael ag effaith weledol ac ecolegol sbwriel plastig ac yn mynd â ni gam yn nes at fod yn genedl sy'n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn yr ydym ni'n ei ddefnyddio, gan ddefnyddio dim mwy na'n cyfran deg o adnoddau'r byd. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a gallwn greu amgylchedd gwell ar gyfer cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Felly, Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn cytuno mai nawr yw'r amser i weithredu. Bydd holl Aelodau'r Senedd wedi cael cais yn eu hetholaethau i weithredu ar y mater pwysig hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn gefnogol i'n cynigion drwy gydol y broses graffu a fydd yn awr yn dilyn, gan fy mod yn awyddus i weld bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio i sicrhau Cymru werddach a mwy ffyniannus ac i helpu i sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant. Diolch, Dirprwy Lywydd.

15:45

Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, nad yw'r Gweinidog yma i gyflwyno hyn heddiw, ond mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi tynnu sylw yn fedrus iawn at y problemau sydd gennym gyda chymaint o blastig. Erbyn i mi roi fy nghyfraniad i, bydd tua 5 miliwn o boteli plastig wedi'u prynu mewn gwirionedd, oherwydd bod 1 miliwn yn cael eu prynu bob munud ar ein planed.

Mae'r pla plastig, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Cafwyd hyd i blastig untro ar 64.2 y cant o'n strydoedd yn 2021. Mae tri sesiwn glanhau traeth yr wyf i wedi bod yn gysylltiedig â nhw, sy'n cael eu gynnal gan y Marine Conservation Society ac One Global Ocean yn Llandudno, Bae Colwyn a'r Rhyl wedi gweld bron i 100 o wirfoddolwyr yn glanhau ac yn cofnodi dros 70 kg o sbwriel. Ac os ydych chi erioed wedi gwneud sesiwn glanhau traeth, dyna un o'n problemau mwyaf.

Yn sicr, wrth i'r ddeddfwriaeth hon gael ei chyflwyno, a'r Bil, yr ydym yn ei groesawu, yn ogystal â'r datganiad hwn, byddwn i'n gobeithio y gallwn ni fel Ceidwadwyr Cymreig gael rhywfaint o lais a rhywfaint o ddylanwad i sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn edrych ar fynd i'r afael â phob math o fathau eraill o blastig, er enghraifft, y miloedd o sigaréts â phen plastig yr ydych yn dod o hyd iddynt ar draethau, sy'n niweidiol iawn i'n hamgylchedd morol. Os ydym ni'n dilyn model busnes-fel-arfer, lle nad yw gwledydd yn lleihau faint o blastig sy'n cael ei gynhyrchu neu ei ailgylchu, mae Fforwm Economaidd y Byd wedi amcangyfrif y bydd mwy o blastig na physgod yn y cefnforoedd erbyn 2050.

Eisoes, mae'r Alban wedi cyflwyno gwaharddiadau ar droyddion diod plastig, ffyn cotwm sydd â choesau plastig, gwellt yfed plastig, platiau plastig tafladwy, cyllyll a ffyrc plastig untro, ffyn balwnau a chynhwysyddion polystyren ehanedig, sy'n bethau hollol ofnadwy, yn fy marn i, pan fyddwch chi'n prynu bwyd. Ers mis Hydref 2020, mae Llywodraeth y DU eu hunain wedi gwahardd cyflenwi troyddion diod plastig, ffyn cotwm sydd â choesau plastig a gwellt yfed plastig.

Felly, er mai'r Cwnsler Cyffredinol sy'n cyflwyno hyn heddiw, hoffwn ofyn rhai cwestiynau. Cwnsler Cyffredinol, ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n anffodus ein bod wedi gorfod aros cyhyd am y ddeddfwriaeth hon pan ydym ni mor bell y tu ôl i Loegr a'r Alban ac mae wir yn cyfrannu at ein hargyfwng hinsawdd? Hyd yn oed wrth ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar leihau plastig untro yng Nghymru, roedd hi'n amlwg bod yna siom nad yw'r gwaharddiadau eisoes mewn grym. Rydym ni wedi galw am hyn ers blynyddoedd.

Felly, ar ôl darllen y Bil drafft, mae gen i bryderon difrifol am orfodaeth. Rydych chi'n dibynnu llawer iawn, unwaith eto, fel rydych chi'n aml yn ei wneud gyda'r ddeddfwriaeth yr ydych yn ei chynnig, ar ein hawdurdodau lleol, ac yn arbennig ein hadrannau rheoleiddio gorfodi. Nodir droeon yn ein Senedd nad oes digon o adnoddau gan yr adrannau hyn. Yn fy awdurdod fy hun, does dim digon o adnoddau o gwbl oherwydd setliad gwael iawn gan Lywodraeth Lafur Cymru. Felly, sut ar wyneb y ddaear yr ydych chi'n disgwyl i awdurdodau lleol gymryd y cyfrifoldeb am hyn? Pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi'n eu rhoi yn y ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd? Rwy'n poeni bod adran 7 yn rhoi hawl gyfreithiol i awdurdodau lleol ymchwilio i gwynion o ran troseddau o dan adran 5. Pa gamau eraill ydych chi'n eu cymryd gyda'r bwriad o leihau nifer yr achosion o droseddau o dan adran 5?

Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi egluro a ymgynghorwyd â phob awdurdod lleol yng Nghymru ar eu gallu i ysgwyddo cyfrifoldeb rhagor o orfodaeth, ac a allwn ni gael rhywfaint o'r adborth hwnnw yma heddiw? Rydw i wir, ac mae fy nghydweithwyr yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig wir eisiau i'r ddeddfwriaeth yma weithio. A wnewch chi weithio gyda ni i ystyried gwelliannau posibl i'r Bil drafft fel bod y cyfrifoldeb am orfodi yn cael ei roi i gorff arall, efallai, nad yw'n awdurdod lleol? Fel mae'n sefyll, mae'r Bil hwn a wnaed yng Nghymru, fel y'i gelwir, sydd i fod i alluogi Llywodraeth Cymru i fod ar flaen y gad o ran gweithredu ar blastig a rhoi Gweinidogion Cymru wrth y llyw ar gyfer gweithredu yn y maes hwn yn y dyfodol, yn pasio'r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Mae cymaint o'r Bil hwn—. Mae'r Bil sy'n cael ei gyflwyno yn un da, ond mae'n rhaid i chi fod yn agored—dim o'r dogma gwleidyddol yr ydym wedi'i weld mewn deddfwriaeth yn y gorffennol sy'n cael ei chyflwyno, lle mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cynnig awgrymiadau gwirioneddol dda ac adeiladol dim ond iddyn nhw gael eu diystyru a'u gwrthod dim ond oherwydd eu bod wedi dod gan Aelodau Ceidwadol yn y Senedd. Os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd—

15:50

Gwnaf wrth gwrs. Os gwnawn ni i gyd gydweithio ar hyn, yna gallem fod â Bil i ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru. Diolch.

Gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am y sylwadau cynharach? Y pwynt yr wyf, rwy'n credu, yn cytuno â hi yw bod mater plastig untro, halogi ein hamgylchedd, yr angen i fynd i'r afael â'r her honno, yn un byd-eang, ond mae'n un lle mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn o fewn Cymru o ran ein cyfrifoldebau ein hunain, a bod hynny, yn gyffredinol, yn fater trawsbleidiol; dydy e ddim yn fater sy'n creu rhaniadau gwleidyddol rhyngom ni. Gallwn ni i gyd weld beth sy'n digwydd. Rwyf wedi bod allan gyda gwirfoddolwyr fy hun yng nghoedwig Beddau yn fy etholaeth i; rydych chi'n gweld faint o blastigion a'r gwaith ffantastig mae'r gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu casglu. Rwy'n croesawu'r ysbryd hwnnw o gefnogaeth i amddiffyn ein hamgylchedd yn fawr.

Rydych chi'n gofyn pam mae'n cymryd cyhyd a pham ein bod mor bell ar ei hôl hi. Rwyf i wastad yn anobeithio ryw ychydig pan fo deddfwriaeth yn cael ei thrin fel petai yn rhyw fath o ras Olympaidd o ran cyntaf, ail a thrydydd. Mae amryw o bethau gwahanol yn digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr. Mae Lloegr wedi cyflwyno deddfwriaeth eilaidd, yn ôl ym mis Ebrill 2020, yn ymwneud â gwellt, ffyn cotwm a throellwyr. Mae'n ystyried ehangu ei rhestr i gynnwys rhai o'r pethau yr ydym ni mewn gwirionedd yn dechrau deddfu arnon nhw ein hunain, ac, wrth gwrs, rwy'n credu y byddech chi'n gefnogol i'r ffaith ein bod ni, o ran ein cyfrifoldebau datganoledig, yn deddfu o fewn Cymru ei hun ac y dylen ni fod yn gwneud hynny. Gwaharddodd yr Alban ffyn cotwm yn 2019; ym mis Mehefin 2022, fe wnaethon nhw ychwanegu rhai eitemau eraill. Maen nhw'n edrych ar fater plastig ocso-diraddadwy, yr ydym ni'n deddfu arno. Yr hyn y dywedaf i yw, wrth ddeddfu yn y meysydd hyn, nad mater o geisio edrych ar restr yn unig ydyw mewn gwirionedd; mae'r mater o ddiffiniadau ac effaith yn gymhleth iawn. Rwy'n credu bod ein Bil ni yn mynd ymhellach, a Bil Cymru fydd y darn mwyaf helaeth o ddeddfwriaeth. Ond, yn bwysig, yr hyn y mae hefyd yn ei wneud yw y bydd yn creu pwerau—ac, unwaith eto, yn amodol ar benderfyniad cadarnhaol yn y Senedd—i'n galluogi ni i barhau i weithio ar y rhestr, oherwydd mae hyn yn amgylchedd sy'n newid. Rydym ni'n gwybod bod eitemau eraill yr hoffem ni eu gweld yn cael eu hychwanegu ond pan fo gwaith tystiolaeth pellach o hyd sydd ei angen. Ond mae angen fframwaith arnom, sef yr hyn y mae'r Bil yn ei greu, i ychwanegu ati mewn gwirionedd, neu, yn wir, i ddileu ohoni.

O ran gorfodaeth, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw mai awdurdodau lleol, rwy'n credu, gyda'u cyfrifoldebau amgylcheddol ac, mewn gwirionedd, cyfrifoldebau sy'n ymestyn ymhell i feysydd iechyd a diogelwch hefyd, yw'r corff naturiol i gymryd camau gorfodi mewn gwirionedd. Wrth gwrs, bydd unrhyw gynnig rhesymol sy'n cael ei gyflwyno yn cael ei ystyried yn iawn. Rwy'n gwrthod y ffaith—. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wrthod, unrhyw gynnig yn cael ei wrthod, ar y sail ei fod yn dod gan y Ceidwadwyr. Rwy'n credu bod yna resymau ideolegol clir iawn, yn amlwg, pam mae cynigion sy'n dod gan y Ceidwadwyr yn cael eu gwrthod, ond rwy'n credu bod hynny'n fater gwahanol.

Ac yna efallai dim ond un pwynt olaf. Yn amlwg, mae unrhyw welliannau technegol ac ati a fyddai'n gwella'r ddeddfwriaeth yn amlwg yn bethau y byddem eisiau eu hystyried. Ac eto, fel y dywedais, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ei gwelliannau ei hun, sydd o natur dechnegol gan fwyaf. Ac eto, cafodd y Bil ei gyflwyno'n gynnar ar ffurf ddrafft i alluogi'r pwyllgor i ddechrau proses ymgynghori. Mae'r broses honno, rwy'n deall, wedi bod ar y gweill ac—os ydw i'n iawn—wedi ei chwblhau, ac mae'r Llywodraeth ar hyn o bryd yn ystyried ei hymateb i'r ymgynghoriad hwnnw ar hyn o bryd.

15:55

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Rŷm ni fel plaid yn croesawu'r datganiad yma. Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu i wahardd plastig untro am flynyddoedd. Ond, ers y cynnydd ym mhoblogrwydd plastig yn y 1960au, mae wedi dod yn rhan amlwg iawn o'n bywydau ni, o becynnu bwyd i gael ei blethu i mewn i'n dillad ni—y plastig gweladwy, ond hefyd y plastig anweladwy sydd o'n cwmpas ni yn llwyr.

Er bod llygredd plastig yn wybodus i ni—llawer o waith da gan rywun fel Syr David Attenborough, gyda rhaglen The Blue Planet wedi gwneud hynny yn amlwg iawn inni—mae enghreifftiau fel COVID-19 wedi cyflymu effaith niweidiol plastig ar ein hamgylchedd a bioamrywiaeth. Byddwn i gyd, siŵr o fod, yn cofio'r ddelwedd drist yna o aderyn yn methu â symud oherwydd bod mwgwd o amgylch ei goesau, ac yna y pysgodyn â'i fol yn llawn o blastigau. Fel y dywedasoch chi yn y datganiad, o'r uchelderau i ddyfnderau y ddaear hon, mae plastig ym mhob man.

Gallwn ni i gyd gytuno ein bod ni eisiau cael gwared ar wastraff plastig o'r fath, ond mae gen i ofn bod y llwybr sydd o'n blaenau yn llawn rhwystrau—yn llawn rhwystrau a grëwyd gan ddyn, rhwystrau a grëwyd gan San Steffan. Mae'r Ddeddf marchnad fewnol ddrwgenwog—nid yn unig y mae'r Ddeddf honno'n galluogi Llywodraeth y DU i wario o fewn meysydd datganoledig ac anwybyddu'r setliad datganoledig, mae hefyd yn galluogi Llywodraeth y DU i anwybyddu safonau bwyd ac amgylcheddol a bennwyd yma yng Nghymru.

Pam mae hynny'n bwysig? Rwy'n clywed rhai yn cwyno o'r meinciau gyferbyn. Pam mae hynny'n bwysig? Mae'n bwysig oherwydd ei fod yn golygu, os yw'r Senedd hon yn deddfu—llais democrataidd pobl Cymru yn deddfu—i wahardd plastig untro, byddai cynhyrchion a wneir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn gallu cael eu gwerthu'n gyfreithiol yma.

Yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, mae'r Ddeddf Marchnad Fewnol a'i hegwyddorion, a elwir yn gwbl amhriodol yn 'gydnabyddiaeth gilyddol'—dim ond cydnabyddiaeth unffordd sydd yna—yn debygol o leihau gallu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn sylweddol i basio deddfwriaeth effeithiol o ran rheoleiddio nwyddau a gwasanaethau. Bydd y safon reoleiddiol ofynnol yn unrhyw un o bedair rhan cyfansoddol y DU yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig. Ac mewn gwirionedd, beth fydd hynny'n ei olygu yw y bydd rheolau marchnad Lloegr, sef blaenoriaethu unrhyw beth wrth fynd ar drywydd elw, dros yr amgylchedd, yn berthnasol yma yng Nghymru.

Ni allwn ganiatáu i waith caled y traddodiad da yma, yn ein Senedd ifanc, o ddiogelu'r amgylchedd, megis y tâl cyntaf ar fagiau siopa yn ôl ar ddechrau'r degawd diwethaf—ni allwn ganiatáu i'r gwaith da hwn gael ei ddadwneud gan ddogma gwleidyddol, gan y Ddeddf marchnad fewnol. Mae'n rhaid i ni barhau i wrthsefyll ei effeithiau. Fel arall, gyd-Aelodau, rydym yn wynebu marwolaeth datganoli a'n hamgylchedd. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ar effeithiolrwydd y gwaharddiad arfaethedig ar blastig untro? Ac a fyddwch chi'n ei defnyddio fel esiampl ymarferol mewn her llys newydd yn erbyn y Ddeddf?

Rwy'n cytuno bod hon yn enghraifft dda, ymarferol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ei defnyddio ar gyfer her yn y dyfodol. Ond rwy'n gobeithio, yn y rhuthr i wneud hynny, nad ydym yn osgoi craffu'n briodol ar y Ddeddf hon. Mae'r Ddeddf hon yn llawer rhy boblogaidd i'w rhuthro drwyddi heb graffu priodol mewn pwyllgorau ac yma ar lawr y Senedd. Gobeithio y gwnewch chi ddwyn hynny mewn cof. 

Yn olaf, rwyf eisiau gwneud y pwynt am ddewisiadau amgen hygyrch. Mae llawer o ddewisiadau amgen i blastigion; yn anffodus, mae llawer ohonyn nhw'n llawer drytach na phlastigion. Er mwyn dwyn perswâd, er mwyn galluogi pobl i newid o blastig i ddewisiadau amgen, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y dewisiadau cywir—bod y dewisiadau hynny o ran deunyddiau mewn gwirionedd yn fforddiadwy i'r mwyafrif helaeth o'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod dewisiadau di-blastig amgen yn fforddiadwy yn rhwydd ac yn hygyrch i ddefnyddwyr? Diolch yn fawr.

16:00

Diolch am y cwestiynau hynny, ac efallai dim ond un ystadegyn i'w ychwanegu at y rhai hynny: wrth gwrs, o fewn Cymru yn unig, mewn un flwyddyn—neu, rwy'n credu, yn y ddwy flynedd ddiwethaf—mae amcangyfrif o 100 miliwn o gaeadau cwpanau plastig wedi'u cynhyrchu. Felly, mae hynny'n arwydd, rwy'n credu, o'r raddfa. Ac wrth gwrs fe gyfeirioch chi at lygru'r moroedd, ac wrth gwrs dyna pam mae ein pryder am wahardd eitemau ocso-ddiraddadwy hefyd, oherwydd y cyfan maen nhw'n ei wneud yw torri lawr y plastig mewn gwirionedd, ond dydyn nhw ddim yn cael gwared ar y plastig—mae'r plastig yn mynd yn ddarnau llai byth, darnau bach bach, i halogi ein moroedd, ein dyfrffyrdd a'n tir.

Gwnaethoch chi godi rhai materion pwysig iawn o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac wrth gwrs mae hwn yn fater yr wyf wedi sôn amdano droeon. Mewn gwirionedd, fe wnes i ddatganiad ar 18 Awst am y Goruchaf Lys yn gwrthod ein cais am ganiatâd i apelio yn erbyn gorchymyn y Llys Apêl bod ein cais am adolygiad barnwrol o'r Ddeddf yn gynamserol. Felly, cawsom ein siomi gyda hynny, ond roedd hynny'n ddyfarniad a oedd yn bennaf yn ymwneud â phroses. Ond o ran y ddeddfwriaeth hon, ac mae'n debyg fy mod yn cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi, ein safbwynt ni—a dyma pam y gwnaethom ofyn am yr adolygiad barnwrol drwy'r Goruchaf Lys—yw nad oes gan y ddeddf hon y gallu i ddileu ein cymhwysedd datganoledig, ac rwy'n hyderus bod y ddeddfwriaeth hon o fewn ein cymhwysedd. Os cymerir golwg wahanol, yna mae yna opsiynau sydd ar agor. Mae yna opsiynau i mi, pe bawn i'n credu ei bod yn briodol, i gyfeirio'r mater o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i gyfeirio Bil at y Goruchaf Lys. Ni welaf unrhyw reswm pam y byddai hynny'n codi y tro hwn. Roedd hefyd yn agored, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU gymryd camau tebyg. Ond ein barn ni yw bod y Bil o fewn cymhwysedd. Nid ydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU gyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys, ac os bydd camau'n cael eu cymryd, yna yn amlwg byddwn yn ystyried ein safbwynt ar y cam hwnnw, ac yn benodol gyda'r holl faterion a dadleuon yr oeddem ni eisiau eu codi yn y Goruchaf Lys, lle dywedodd y Goruchaf Lys y byddai'n well ganddynt gael enghraifft o ddeddfwriaeth y gallent ei phrofi yn ei herbyn. Mae'n ymddangos i mi mai'r cwrs gweithredu priodol ar hyn o bryd yw seilio'r cymhwysedd a aseswyd ar ein dadansoddiad ni o'r hyn yw'r cymhwysedd, sef nad oes gan y ddeddf y cymhwysedd i wrthdroi ein pwerau datganoli statudol, ac felly mae o fewn cymhwysedd.

Rydych yn gywir wrth godi materion craffu. Rydym yn dymuno i'r Bil symud ymlaen yn gyflym. Dyma un o'r rhesymau pam y cafodd y Bil drafft ei gyflwyno mor gynnar â phosib, er mwyn galluogi ymgynghoriad pellach eto gan y pwyllgor. Ond mae'n Fil cymharol syml. Mae cymhlethdodau technegol—y rhai hynny, fel y soniais yn gynharach, o ran sut rydych chi'n diffinio rhywbeth mewn gwirionedd, ac wrth gwrs mewn deddfwriaeth, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'n rhaid i chi fod yn glir iawn am yr hyn yr ydych chi'n ei ddiffinio, yr hyn yr ydych yn sôn amdano a pha gamau y gellir eu cymryd mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs mi wnaf bopeth y gallaf, ac rwy'n gwybod y gwnaiff y Gweinidog hynny, o ran cefnogi'r craffu.

O ran y materion tymor hirach, wrth gwrs mae yna waith parhaus y mae'n deg i mi sôn amdano, efallai, yn awr—nid o fewn fy mhortffolio, ond yn sicr o fewn portffolio'r Gweinidog—gan edrych ar faterion poteli y gellir eu hailddefnyddio a banciau poteli ac ati; cynlluniau dychwelyd ernes, pecynnu ac ati. Mae'r rheiny'n drafodaethau sydd ar y gweill. Mae polisi yn cael ei ddatblygu ac, mewn gwirionedd, mae'r ddeddfwriaeth hon hefyd yn ein galluogi nid yn unig i ychwanegu at y rhestr, ond hefyd i gefnogi ychwanegu at y rhestr honno drwy edrych ar gynlluniau amgen ac annog y cynlluniau hynny, a hefyd drwy brosesau addysgol a'r gwaith y mae llywodraethau'n naturiol yn ei wneud i symud diwylliant ymlaen, i newid diwylliant o ran ein cyfeiriadaeth, ein dibyniaeth ar a'n caethiwed i'r defnydd o blastig untro. Ond rwy'n credu bod y Bil penodol hwn yn gam sylweddol iawn ymlaen a dyma'r darn mwyaf cynhwysfawr o ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn y DU.

16:05

Diolch yn fawr iawn i chi am wneud y datganiad hwn, ac mae'n ddrwg gen i nad yw ein Gweinidog Newid Hinsawdd galluog iawn yn gallu bod gyda ni, ond rydym yn dymuno gwellhad buan iddi, rwy'n siŵr. Roeddwn i ond eisiau gofyn i chi pam mae'r Bil yn cynnig ei gwneud yn drosedd i rywun gyflenwi plastig untro, ond y byddai'n drosedd sifil dim ond i rywun adael eu sbwriel plastig ar y traeth neu yng nghefn gwlad yn fwriadol yn hytrach na mynd ag ef adref. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, pan fo'r fath eglurder ynghylch yr angen i beidio â gwneud hyn y dylen ni gael cosbau eithaf cryf, o ystyried goblygiadau'r canlyniadau. 

Y cwestiwn arall oedd gen i oedd: pam y petruster wrth wahardd gwellt plastig untro? Oherwydd, i godi pwynt Rhys ab Owen, mae yna eisoes—ac wedi bod ers blynyddoedd a blynyddoedd—dewisiadau amgen i wellt plastig. Yn bersonol, cefais fy magu ar wellt papur, ond, yn yr un modd, mae gwellt metel rhagorol y gellir eu golchi a'u hailddefnyddio, ac felly nid oes angen unrhyw wellt plastig o gwbl ar gyfer nifer y bobl sydd angen gwellt i'w helpu i yfed. P'un a ydyn nhw'n bobl ifanc iawn, yn bobl oedrannus fregus neu'n bobl ag anableddau penodol, mae gwellt yn ddefnyddiol iawn, ond does dim angen gwellt plastig o gwbl. Felly, meddwl oeddwn i tybed pam nad ydyn ni'n bod ychydig yn gadarnach ar hyn, yn yr ystyr bod dewisiadau amgen da iawn ar gael.

Diolch i chi am y cwestiwn. O ran y materion yn ymwneud â'r drosedd a'r pŵer ar gyfer cosbau sifil, wel, wrth gwrs, trosedd yw pan fo rhywun wedi creu trosedd ac rydych chi yn y bôn yn cosbi neu'n eu herlyn am dorri'r gyfraith. Mae cosbau sifil yn rhoi pŵer ychwanegol i chi, yn yr ystyr, os ydych chi'n gwybod bod rhywbeth yn digwydd neu os cynigir gwneud rhywbeth a fyddai'n ei dorri, mae'n rhoi'r pŵer i chi hefyd geisio rhyddhadau sy'n eu hatal mewn gwirionedd rhag ei wneud—i wneud cais, efallai, am waharddeb neu beth bynnag, i atal rhywbeth rhag cael ei wneud, felly, mewn rhai ffyrdd, i atal y drosedd rhag cael ei chyflawni yn y lle cyntaf mewn gwirionedd.

Dyma'r math o beth sy'n bodoli hefyd mewn iechyd a diogelwch. Gallwch chi ddweud o ran iechyd a diogelwch y gallwch chi gael eich erlyn am weithred droseddol, ond mae cosbau hefyd y gellir eu defnyddio y byddech chi'n eu galw mwy fel cosb sifil, a allai eich atal rhag gwneud rhywbeth, gwneud rhywbeth, neu weithredu neu gynhyrchu mewn ffordd a allai arwain at drosedd. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n credu, mae'n rhoi set fwy cynhwysfawr o bwerau o ran sicrhau y gellir gorfodi amcanion y ddeddfwriaeth.

O ran gwellt plastig o'u cymharu â rhai papur, wrth gwrs, fel plentyn mae'n rhaid i mi ddweud na chefais i erioed fy mhenodi yn fonitor llaeth, felly ni chefais erioed y profiad personol uniongyrchol o orfod dosbarthu'r gwellt hyn, ond dim ond y gwellt cwyr papur a gawsom ni erioed, felly roedd gwellt plastig yn rhywbeth cymharol fwy modern yn fy mywyd i. Rwy'n credu ei fod o ganlyniad i'r hyn sy'n dod o'r ymgynghoriadau. Mynegwyd pryderon, mewn rhai sectorau gweddol fach, ond meysydd lle'r oedd mathau penodol o angen, fod rhesymau pam y teimlwyd na fyddai math gwahanol o wellt—gwellt papur, er enghraifft—efallai yn briodol a rhoddwyd plastig a'r enghreifftiau hynny. Teimlwyd yn briodol y dylid bod ag eithriadau lle gellid cyfiawnhau hynny.

Felly, rwy'n credu o fewn graddfa pethau, roedd yn rhan gymharol fach ohono. Does dim cymhariaeth o ran graddfa y nifer o wellt sydd mewn defnydd cyffredinol yn hytrach na'r rhai sydd at ddefnydd eithaf arbenigol. A dim ond o fewn y cyd-destun hwnnw y byddai hynny'n dderbyniol, ond am resymau sydd wedi codi a chael eu derbyn yn ddilys o fewn y broses ymgynghori.  

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae fy mhlaid yn falch iawn bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno oherwydd mae angen i ni wneud cymaint ag y gallwn i leihau plastigion untro ledled y byd, oherwydd dyma bla mawr ein cyfnod ein bod yn gweld plastigion yn ein cefnforoedd ac yn lladd ein hanifeiliaid, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol.

Gan fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhellach, a gwahardd mwy o eitemau nag a wnaed yn Lloegr, mae hyn yn mynd i achosi problemau—fel mae fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen wedi dweud—gyda'r Ddeddf marchnad fewnol. Aeth Llywodraeth yr Alban ymhellach na'r hyn wnaethon nhw yn Lloegr gan lwyddo i gael eithriadau wedi'u cytuno ar y rhestr. Ac fe hoffwn i wybod, Cwnsler Cyffredinol—mae'n debyg ei fod yn fwy eich briff chi na'r Gweinidog newid hinsawdd—pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni gael eithriadau wedi'u cynnwys, er mwyn sicrhau y gall y ddeddfwriaeth hon basio drwy'r Senedd hon yn eithaf di-drafferth, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cael hyn ar waith i leihau plastig untro. Oherwydd, yn wahanol i fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen, dydw i ddim eisiau gweld hyn yn mynd i'r Goruchaf Lys; rwyf am i hyn fynd lle mae'r ddwy Lywodraeth yn gallu cydweithio i fod â deddfwriaeth dda drwy'r lle hwn ac i barchu'r setliad datganoli yma yng Nghymru.

16:10

Wel, gwrandewch, diolch am y sylwadau hynny, ac efallai gan gymryd o'r rhan olaf a godwyd gennych, wrth gwrs bu trafodaethau fframwaith, felly doedd y Ddeddf marchnad fewnol byth yn angenrheidiol. Holl amcan y fframweithiau oedd, yn y bôn, cael cytundeb cydweithredol arno, a Deddf y farchnad fewnol wnaeth luchio'r egwyddorion sylfaenol hynny o'r neilltu.

Bu ymgysylltu â swyddogion ar lefel y DU. Does dim arwydd wedi bod bod unrhyw agwedd ar y Bil hwn fyddai'n cael ei herio, ond, wyddoch chi, dydy hynny ddim yn golygu na fydd yna. Mae'n fater, yn amlwg, y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried maes o law. Mae'n debyg mai'r cyfan y gallaf i ddweud mewn gwirionedd yw hyn: fy asesiad o hyn yw bod hyn o fewn cymhwysedd. Ac mae o fewn cymhwysedd oherwydd, fel yr wyf wedi egluro yn y Siambr hon o'r blaen, dydw i ddim yn credu bod Deddf y farchnad fewnol mewn gwirionedd yn dileu'r cymhwysedd datganoledig hwnnw, ond roedd yna amwysedd yno yr oeddem eisiau ei fod wedi'i ddatrys. Mae'r amwysedd hwnnw yn parhau mewn gwirionedd, ond fy marn i, a barn Llywodraeth Cymru, yw bod y Bil hwn o fewn ein cymhwysedd ni, ac os bydd materion yn codi, wel, byddwn yn asesu'r rheini pan fyddant yn codi, o dan y prosesau arferol.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac wrth gwrs rwy'n croesawu'r Bil. Rydyn ni i gyd wedi gweld yr effaith ddinistriol ddiangen y mae plastigau untro yn ei chael ar ein hamgylchedd a'n bywyd gwyllt. Felly, am beth rydym ni'n siarad? Wel, ar hyn o bryd, mae 11 miliwn tunnell fetrig o wastraff plastig yn mynd i mewn i'n cefnfor bob blwyddyn. Os ydyn ni'n dal ati fel yr ydym ni nawr, bydd hynny'n dyblu erbyn 2040. Ac, yn ôl Ymddiriedolaethau Elusennol Pew, os yw'n wir, yn fyd-eang, na allwn ymdopi ag ailddefnyddio dim o'r plastig hwnnw, mae'n mynd i dreblu erbyn 2040. Felly, rydyn ni'n sôn am 33 miliwn tunnell fetrig posib o wastraff plastig yn ein môr yn unig erbyn 2040. Felly, dyna pam rwy'n croesawu'r Bil hwn. Mae'n rhaid i ni weithredu ac mae'n rhaid i ni weithredu nawr.

Yr un cwestiwn sydd gen i yw fy mod i'n sylwi bod yna restr o bethau sy'n blastig untro, ond rydyn ni i gyd yn gwybod ein bod ni'n darganfod yn sydyn fod yna blastig mewn pethau eraill nad oedden ni'n gwybod amdanyn nhw, ac mae cadachau gwlyb yn enghraifft dda o hynny. Felly, mae fy nghwestiwn i'n glir: a allwn ni wedyn ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol honno, os oes angen i ni, i ychwanegu pethau rydyn ni'n dod yn ymwybodol ohonyn nhw, ac efallai nad ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw nawr, sy'n ddefnydd untro ac sydd â phlastig ynddyn nhw? Diolch.

Diolch. Mae hynny'n gwestiwn pwysig iawn, oherwydd, wyddoch chi, dydym ni ddim mewn amgylchedd statig. Nid cynhyrchu rhestr yw hyn ac yna gallwn ni gyd fynd i ffwrdd a bod yn fodlon fod popeth yn foddhaol. Ac, wrth gwrs, roedd eich cwestiwn yn arwain yn rhannol at yr hyn a ofynnwyd yn gynharach, sef, 'Beth yw'r meysydd eraill?' Ac, wrth gwrs, gallwn ni i gyd nodi, rwy'n credu, meysydd eraill y byddem yn pryderu amdanyn, ac yn meddwl tybed a ddylai fod newidiadau yn y fan yno—yn enwedig cynlluniau dychwelyd ernes. Soniais am y gwellt papur yn gynharach. Wel, fel plentyn, treuliais lawer o fy amser yn hongian o gwmpas safleoedd adeiladu yn chwech a saith oed, yn codi'r poteli, oherwydd roedd pedair ceiniog—pedair hen geiniog—ar bob potel, a dyna sut yr oeddech chi'n cael eich arian poced yn y dyddiau hynny. Ac roedd yn siomedig iawn na wnaethon ni erioed gadw rhywbeth oedd mor rhesymegol i'w ddefnyddio.

Ond rwy'n credu y gwnaethoch chi sôn am eitemau eraill, fel cadachau gwlyb, er enghraifft, wel, mae'r rheiny'n bethau sy'n cael eu hystyried. Mae rhai cymhlethdodau ynghylch cadachau gwlyb, oherwydd mae problemau yn ymwneud â labelu. Mae'n debyg nad yw cadachau gwlyb yn gynnyrch mor syml ag y mae'n ymddangos; mae rhai ohonyn nhw'n cynnwys gwahanol sylweddau ac yn y blaen. Mae'n debyg bod rhesymau da pam y dylid gwahardd cadachau gwlyb beth bynnag oherwydd yr effaith maen nhw'n ei gael ar y systemau carthion. Ond, wrth gwrs, un o'r materion yw labelu hefyd. Nid yw labelu cynnyrch wedi'i ddatganoli i Gymru ond mae wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Ond, mae'n faes yr ydym ni'n ei ystyried ac mae meysydd eraill hefyd y byddwn yn eu hystyried.

Pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon yw ei bod yn creu pwerau, ond mae'n amlwg yn cadw unrhyw beth sy'n cael ei ychwanegu neu ei dynnu oddi ar y rhestr—mae'r pŵer yn parhau i fod drwy benderfyniad cadarnhaol o fewn y Senedd hon. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth hynod o bwysig. Am wn i, dylwn i ychwanegu hefyd, wrth gwrs, mai o dan adran 79(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid cynhyrchu adroddiad cynaliadwyedd bob blwyddyn, a'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei wneud, sydd eto yn bwysig yn fy marn i, yw mae'n creu dyletswydd ar Lywodraeth i nodi mewn gwirionedd i'r Senedd yn yr adroddiad hwnnw pa eitemau eraill y mae'n eu hystyried, pa gynnydd sy'n cael ei wneud, pa eitemau eraill y gellir eu rhestru. Felly, mae hon yn ddadl barhaus, fel y dylai fod, a gynhelir o fewn y Senedd hon. Felly, y ddeddfwriaeth hon, mewn gwirionedd, yw dechrau'r broses honno ac nid ei chasgliad, mae'n debyg. Proses yw gwahardd eitemau plastig untro, nid digwyddiad.

16:15
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Rebecca Evans.

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll ymwelwyr. Mae'r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad wedi'u datblygu gyda Phlaid Cymru yn rhan o'r cytundeb cydweithredu. Ein huchelgais ar y cyd yw datblygu twristiaeth er lles Cymru gyda thwf economaidd, cynaliadwyedd amgylcheddol a lles cymdeithasol a diwylliannol wrth wraidd yr uchelgais honno. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein cymunedau lleol yn cael y gefnogaeth a'r offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Nid Cymru yw'r unig un sy'n dilyn y dull hwn. Mae gan dros 40 o wledydd ardollau ymwelwyr, gan gynnwys Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Ffrainc a Seland Newydd. Bydd llawer ohonom ni wedi talu ardoll wrth deithio dramor, a bydd rhai wedi gwneud hynny heb sylwi hyd yn oed. Ar draws y byd, mae mwy a mwy o gyrchfannau yn dewis defnyddio ardollau ymwelwyr i wella gwasanaethau a seilwaith lleol. Gall y trethi hyn alluogi math mwy cynaliadwy o dwristiaeth. Yn dilyn galwad am syniadau cyhoeddus am drethi newydd yn 2017, awgrymwyd y dylid ystyried ardoll ymwelwyr. Rydym ni bellach yn bwrw ymlaen â'r syniad hwn drwy ein hymrwymiad rhaglen lywodraethol.

Mae trethi lleol yn cefnogi'r gwaith o ariannu seilwaith a gwasanaethau lleol, o gadw traethau, llwybrau troed ac arfordiroedd yn lân, darparu seilwaith trafnidiaeth leol a chynnal ardaloedd o harddwch naturiol. Mae'r rhain yn gynhwysion hanfodol ar gyfer cyrchfannau twristiaeth llwyddiannus. Onid yw'n deg y dylai ymwelwyr wneud cyfraniad bach at y costau hyn? Mae hwn yn ddull sy'n fwyfwy cyffredin ac y mae dealltwriaeth gynyddol well ohono, y mae mwy a mwy o lefydd yn ceisio ei fabwysiadu. Gallai refeniw sy'n cael ei godi o ardoll ddarparu arian ychwanegol i ddiogelu ardaloedd lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn y Deyrnas Unedig, efallai mai Cymru fydd un o'r llefydd cyntaf i gyflwyno ardoll ymwelwyr, ond rwy'n amau mai hon fydd yr olaf. Mae rhannau eraill o'r DU wedi galw'n frwd am gyflwyno pwerau tebyg, gan gydnabod y buddion y gall ardoll eu cynnig i ardaloedd lleol.

Wrth gyhoeddi'r ddogfen ymgynghori hon, hoffwn fod yn glir am ein bwriadau. Mae'r polisi hwn yn gyson â'n cefnogaeth hirsefydlog i ddiwydiant twristiaeth Cymru. Amcangyfrifwyd bod gwariant sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru dros £5 biliwn yn 2019 ac fe hoffem ni barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru yn rhan o adferiad cryf yn dilyn effaith COVID-19. Mae'n hysbys bod seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o brofiad yr ymwelwyr, a bydd ardoll yn helpu i annog buddsoddiad parhaus ynddynt.

Hoffwn bwysleisio y cai'r ardoll arfaethedig ei gymhwyso'n deg mewn modd sy'n gyson â'n hegwyddorion treth craidd. Byddai unrhyw ardoll ymwelwyr a gyflwynir yn glir, sefydlog a syml, a byddai'n ymdrechu i greu Cymru fwy cyfartal. Ein bwriad yw sicrhau ymdeimlad o gydgyfrifoldeb rhwng trigolion ac ymwelwyr, er mwyn gwarchod a buddsoddi yn ein hardaloedd lleol. Byddai ardoll yn cynrychioli tâl bychan a byddai'n annog ymagwedd fwy cynaliadwy at dwristiaeth. Mae'n bwysig cofio bod ein cynnig yn ystyried pwerau dewisol i awdurdodau lleol; hoffem i ardaloedd lleol benderfynu a yw ardoll yn iawn iddyn nhw. Rydym ni'n ffodus i fyw mewn gwlad sydd ag arlwy mor amrywiol i ymwelwyr. Rydym yn cydnabod bod graddfa ac effaith yr economi ymwelwyr yn amrywio ar draws Cymru. Ein nod ar gyfer unrhyw gynnig ardoll a weithredir arno yw y bydd y cyrchfannau hynny sy'n dewis ei weithredu yn gyson wrth wneud hynny. 

Dros yr wyth mis diwethaf, rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o bartneriaid i ddeall ac ystyried safbwyntiau gwahanol. Caiff y safbwyntiau hyn eu hadlewyrchu yn y ddogfen ymgynghori a'r asesiad effaith, i gefnogi eraill wrth ddarparu eu hymatebion. Cynhaliwyd trafodaethau gydag awdurdodau lleol, busnesau, cynrychiolwyr o'r trydydd sector, cyrff diwydiant a swyddogion mewn gweinyddiaethau tramor sydd ag ardollau ymwelwyr aeddfed eu datblygiad. Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yn hyn.

Byddwn ni'n cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol rhannol ochr yn ochr â'r ymgynghoriad a fydd yn amlinellu costau a manteision posibl y gwahanol ddewisiadau ar gyfer cyflwyno ardoll ymwelwyr. Gobeithiwn fod hyn yn rhoi sylfaen gadarn i ennyn mwy o dystiolaeth ac adborth arno. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio asesiad effaith terfynol ar gyfer unrhyw fesurau a weithredir arnynt, ochr yn ochr â chanlyniadau o'r ymchwil annibynnol yr ydym wedi'i gomisiynu.

Penderfynir ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen yn dilyn ystyriaeth ddyledus o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a thystiolaeth arall. Byddai galluogi ardoll ymwelwyr yn ôl disgresiwn ar draws Cymru yn cymryd sawl blwyddyn yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, ac yn dilyn proses ofalus o ddylunio a gweithredu. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i fusnesau, llywodraeth leol a chymunedau lleol gynllunio o flaen llaw.

Llywydd, fe fydd yna wastad groeso cynnes i ymwelwyr yng Nghymru. Bwriad y polisi blaengar yma yw cefnogi ardaloedd lleol, sicrhau bod ymwelwyr, boed nhw wedi teithio o rywle arall yng Nghymru neu o bellach i ffwrdd, yn gwneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella'r lle y maent yn ymweld ag o. Wedi'i wneud yn iawn ac yn deg, gall hyn fod o fudd mawr, a rhoi cyfle i wella ein gwlad brydferth. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i sicrhau bod eu barn yn helpu i lywio ein cynlluniau wrth i ni eu symud ymlaen.

16:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Mae'n rhaid i mi gyfaddef, bu'n rhaid i mi wirio pwy oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am dwristiaeth heddiw, oherwydd y Gweinidog cyllid, unwaith eto, sy'n gwneud cyhoeddiad arall o'r fainc flaen ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â thwristiaeth, yn hytrach na Gweinidog yr Economi sy'n gyfrifol am hynny. Yn wir, nid yw Gweinidog yr Economi, sy'n gyfrifol am y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru, erioed wedi gwneud datganiad llafar yn y Siambr ar gynlluniau ar gyfer y sector ers ysgwyddo'r swyddogaeth. Mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gweld twristiaeth yng Nghymru nid fel rhywbeth i'w feithrin, ei amddiffyn a'i wella, ond yn rhywbeth i'w drethu yn lle. Ac mae'r ffaith ein bod yn bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ar dreth dwristiaeth ond yn sail bellach i hynny.

O ran Llywodraeth Cymru ac ymgynghori i wneud â'r diwydiant twristiaeth, mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid ichi faddau i mi, Weinidog, am beidio â bod yn or-frwdfrydig o ystyried eich hanes yn y maes yma. Dim ond 1 y cant o gyfanswm yr ymatebwyr oedd yn cefnogi'r cynnydd i 182 diwrnod yn yr ymgynghoriad diweddar ar y newidiadau i lety gwyliau, ond fe wnaethoch chi anwybyddu eu barn yn llwyr a bwrw ymlaen gyda'r newidiadau beth bynnag. Sut yn y byd y gall y sector twristiaeth yng Nghymru gael unrhyw ffydd y bydd hwn yn ymgynghoriad teg a gynhaliwyd gan eich Llywodraeth pan fo gennych chi hanes mor wael?

Mae'r diwydiant hwn wedi teimlo ei fod wedi ei anwybyddu gymaint ac wedi ei gymryd yn ganiataol gan y Llywodraeth hon ers cyhyd fel ein bod ni, dros yr haf, wedi gweld sefyllfa chwerthinllyd lle gwaharddwyd Gweinidogion Llywodraeth Cymru rhag ymweld ag un o brif atyniadau twristiaeth Cymru, ogofâu Dan-yr-Ogof, oherwydd hynny. Mewn datganiad a ryddhawyd ganddyn nhw wrth gyhoeddi'r cam digynsail hwn, fe ddywedon nhw, ac rwy'n dyfynnu:

'Oherwydd bod pholisïau gwrth-dwristiaeth a gwrth-Seisnig Llywodraeth Cymru yn cael eu gorfodi ar ddiwydiant twristiaeth Cymru, does dim croeso bellach i aelodau Llywodraeth Cymru yn yr atyniad yma. Bydd eu polisïau yn arwain at orfodi busnesau twristiaeth i gau, a cholli miloedd o swyddi twristiaeth.'

Mae eich tystiolaeth eich hun yn cefnogi hynny. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol rhannol y gwnaethoch chi sôn amdano yn datgan, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae llai o gystadlu yn bosibilrwydd'.

Fe wnaethon nhw gyfeirio hefyd at astudiaeth sy'n datgan yn glir yn y crynhoad fod

'tystiolaeth empirig yr astudiaeth yn awgrymu achos cryf dros drethi llai ar dwristiaid er mwyn gwella cystadleurwydd cyrchfannau twristiaeth a chefnogi'r sector twristiaeth leol.'

Mae hynny yn eich tystiolaeth. Bydd gwir effaith y dreth hon sy'n cael ei chyflwyno yn peryglu bywoliaeth yng Nghymru, gan fod un ym mhob saith swydd—tua 200,000—yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth. Dyma'r polisi anghywir ar yr adeg anghywir. Mae pobl ar draws y byd yn delio gyda chwyddiant mawr a chostau byw uwch. Mae ychwanegu bil arall ond yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd ymwelwyr posib yn dewis cadw draw.

Rydym yn gwybod mai'r sector lletygarwch yng Nghymru'n benodol, sy'n cynnwys twristiaeth, sydd wedi dioddef waethaf o COVID-19 ar ôl cael eu cadw ar gau yn hirach na'u cymheiriaid yng ngweddill y DU. Nid yn unig hynny, ond mae treth o'r fath yn targedu yr union bobl yr ydym ni am eu hannog i ddod i Gymru yn y lle cyntaf. Os yw'r dreth hon, fel sy'n ymddangos yn debygol, yn cymryd ffurf tâl ar ymwelwyr dros nos, rydym yn trethu'r union bobl sy'n gwario'r fwyaf o arian yn ein heconomïau lleol. Ond mae'r sector wedi bod yn dweud hyn wrthych chi drwy'r adeg, Weinidog, a byddan nhw'n dweud wrthych chi eto yn yr ymgynghoriad, ond bydd angen iddyn nhw deimlo fel eu bod nhw wedi cael gwrandawiad. Dywedwch hefyd fod trethi twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, ond o dan 'diben a chwmpas y dreth' yn y ddogfen, mae'n dweud bod rhai cyrchfannau yn defnyddio ardollau ymwelwyr fel dull o gyfyngu neu leihau nifer yr ymwelwyr—sgil-effaith allweddol eich polisi a eglurir yn eich dogfen eich hun mewn du a gwyn.

Ac yn olaf, gan fy mod wedi gofyn dro ar ôl tro yn ystod y datganiadau hyn, rydw i'n dal eto i glywed unrhyw sicrwydd gan y Gweinidog, neu unrhyw un yn Llywodraeth Cymru o ran hynny, y bydd cyflwyno'r dreth hon yn cynyddu gwariant gan gynghorau ar dwristiaeth mewn gwirionedd. Wedi'i gladdu ym mhrint mân yr ymgynghoriad, mewn gwirionedd, yw'r consesiwn gan Lywodraeth Cymru, er y bydd yna ddisgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r refeniw a godwyd trwy ardoll ymwelwyr i ariannu gweithgarwch sydd o fudd i brofiad yr ymwelwyr ac yr ymgynghorir gyda rhanddeiliaid lleol yn y broses hon, na fydd gofynion ffurfiol wedi'u nodi mewn fframwaith cenedlaethol. Felly, dyna ni: rydym ni'n lansio ymgynghoriad ar dreth lle mae gan Lywodraeth Cymru hanes o anwybyddu'r canlyniadau. Bydd yn niweidio busnesau ledled y wlad, yn lleihau cystadleurwydd ac ni fydd hyd yn oed yn gweld unrhyw fudd ariannol i'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio. Siawns nad nawr, Weinidog, yw'r amser i anghofio'r cynllun hwn am byth?

16:25

O'r diwedd holodd gwestiwn yn y frawddeg olaf un. Na, nid dyma'r amser i anghofio'r syniad hwn. Dyma'r amser i lansio ymgynghoriad i ymgysylltu'n eang ac i ystyried cymaint o safbwyntiau â phosib ar y syniad a gyflwynwyd.

Mae hyn yn deillio'n ôl, wrth gwrs, i waith Holtham, a awgrymodd y gallai hyn fod yn faes treth arbennig a fyddai'n addas iawn i Gymru. Cyflwynwyd y syniad eto yn 2017 pan ofynnodd Prif Weinidog Cymru bellach i bobl Cymru am eu syniadau o drethi allai gael eu cyflwyno yng Nghymru, ac ardoll twristiaeth neu ardoll dros nos oedd un o'r syniadau hynny. Cafodd pobl y syniad hwnnw am eu bod wedi ei brofi drostynt eu hunain ac roedden nhw wedi gweld y manteision drostynt eu hunain pan oedden nhw wedi mynd dramor i amryw o wledydd ledled y byd sydd wedi cyflwyno ardoll twristiaeth, ac wedi gwneud hynny gyda llwyddiant a gwneud hynny mewn ffordd y maen nhw'n gallu ail-fuddsoddi yn eu seilwaith twristiaeth lleol i greu'r amodau hynny ar gyfer twristiaeth lwyddiannus, gynaliadwy. 

Rwy'n credu bod yna, fel y nodir yn y dogfennau a welwch chi o'ch blaen heddiw, beth wmbreth o fanteision y gellir eu cyflwyno o ganlyniad. Rydym ni wedi gweld buddsoddiad mewn mannau cyhoeddus, er enghraifft, mewn gwledydd sydd ag ardoll twristiaeth, rydym ni wedi gweld buddsoddiad mewn trafnidiaeth leol gynaliadwy. Bydd sawl posibilrwydd, rwy'n credu, i awdurdodau lleol eu hystyried o ran ble mae'r pwysau oherwydd twristiaeth yn eu hardaloedd a sut y gellir lleddfu'r rheini, ond hefyd y ffyrdd y gall y buddsoddiad yn y seilwaith wella'r ardal leol a buddsoddi yn yr amodau hynny sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant.

Rydym ni wedi ymgynghori'n eang yn ystod datblygiad y polisi hwn. Rydym ni wedi ymgysylltu gryn dipyn â'r sector, gyda llywodraeth leol, gyda'r trydydd sector, gyda phob math o bobl a chyrff sydd â diddordeb yn hyn, a byddwn yn gwneud mwy o'r gwaith hwnnw yn y cyfnod sydd i ddod. Byddaf i a'r Aelod dynodedig, Cefin Campbell, yn y gogledd ddydd Gwener, ym Mhortmeirion, yn cynnal digwyddiad bwrdd crwn ar gyfer y sector fel y gallant graffu ar rai o'r cynigion a rhoi eu hymatebion penodol i'r rheini. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn bwriadu cynnal digwyddiadau tebyg i wrando'n uniongyrchol ar farn y rhai fydd â diddordeb yn y cynigion yma.

Mae'n wir y gellir cyflwyno unrhyw dreth am un o ddau reswm. Mae gennych chi drethi ymddygiad, sy'n ceisio newid ymddygiad pobl. Mae gennym ni rai enghreifftiau o'r rhai hynny yr ydym yn eu hystyried yng Nghymru a'n bod eisoes yn gweld y cânt eu gweithredu ar draws y DU. Er enghraifft, yng Nghymru, mae gennym ni'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hynny'n ymwneud â newid arferion a lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Ond wedyn ar yr un pryd, mae gennym ni'r trethi hynny sy'n anelu at godi refeniw. Yn Fenis, er enghraifft, maen nhw eisiau lleihau nifer y twristiaid sy'n ymweld â Fenis oherwydd y pwysau eithafol sydd arnyn nhw. Fodd bynnag, mewn amrywiaeth fawr a bron yn y mwyafrif llethol o feysydd eraill, maent yn cyflwyno'r trethi hyn i godi refeniw i ail-fuddsoddi yn y cymunedau hynny a'r gwasanaethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant. A dyna lle'r ydym ni; dydym ni ddim yn ceisio lleihau nifer y bobl sy'n dod i Gymru, rydym ni'n ceisio cefnogi twristiaeth gynaliadwy lle gall pobl sy'n ymweld â Chymru wneud cyfraniad teg a bach i gynnal a chadw ardaloedd lleol.

Felly, fel y dywedais i, dim ond heddiw yr ydym ni'n lansio'r ymgynghoriad. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod hynny. Rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, fel ar feinciau eraill, i gyd yn manteisio ar eu cyfle i fod yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed rhagor o safbwyntiau wrth i ni symud ymlaen.

16:30

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod pwysigrwydd y sector twristiaeth yn ddiamau; byddwn i a fy mhlaid a phawb arall fan hyn, dwi'n meddwl, yn cydnabod y cyfraniad pwysig mae'r sector yn ei wneud. Yr hyn y mae'n rhaid inni ochel rhagddo fe yw ffeindio'n hunain mewn sefyllfa lle mae yna ormod o dwristiaeth echdynnol. Hynny yw, rŷn ni wedi ffeindio enghreifftiau dros y blynyddoedd diwethaf o le mae hynny wedi bod yn broblem mewn cymunedau ar draws Cymru, felly, symud tuag at sefyllfa fwy cynaliadwy sydd angen i ni ei wneud.

Rŷn ni wedi gweld y straen ar adnoddau seilwaith lleol, gwasanaethau lleol ac adnoddau naturiol. Y llynedd, mae yna gynnydd wedi bod, ac mae ystadegau i ddangos cynnydd mewn gwersylla anghyfreithlon, sbwriel, gwastraff dynol yn cael ei adael ar lwybrau, meysydd parcio ac yn y blaen, ac erydu llwybrau yn broblem gynyddol. Felly, er mwyn creu dyfodol mwy llewyrchus i'r sector, mae angen inni symud at fodel o dwristiaeth mwy cynaliadwy, ac nid mecanwaith—yn fy marn i, beth bynnag—yw lefi fel hyn i gosbi y sector nac i gosbi unrhyw un. Dwi'n gweld e fel ffynhonnell fydd yn creu refeniw fydd yn gallu cael ei fuddsoddi mewn isadeiledd, nid yn unig i wella profiad cymunedau sy'n croesawu pobl, ond y bobl sydd yn ymweld, a bod e'n gwella profiad ymwelwyr, fydd, yn y pen draw, gobeithio, yn help i ddenu mwy o ymwelwyr—virtuous circle, hynny yw, bod gennym ni sefyllfa fwy cynaliadwy na beth sydd gennym ni nawr.

Ymgynghoriad, wrth gwrs, yw hwn; cychwyn ymgynghoriad, trafodaeth, sgwrs. Gobeithio bydd y sylwadau rŷn ni'n clywed gan y Ceidwadwyr ddim yn golygu na fydd y sector yn dod i'r bwrdd, a bod nhw ddim yn rhannu'r un sinigiaeth rŷn ni wedi clywed yn y cyfraniad blaenorol. Mae e yn gyfle i bawb—y sector, y cymunedau a phawb arall—i rannu eu barn, ac os caiff e ei wneud yn iawn, ac os ydy e yn rhywbeth sydd yn cael ei gyd-gynhyrchu, yna dwi yn teimlo y byddai rhywbeth fel hyn â photensial i ddod â budd i'r sector. A phŵer disgresiwn rŷn ni’n sôn am fan hyn i awdurdodau lleol. Bydd neb yn cael eu gorfodi i weithredu hwn.

Mae'r Ceidwadwyr yn licio'n hatgoffa ni yn aml iawn: dyw datganoli ddim yn stopio ym Mae Caerdydd—digon teg. Wel, dyma chi enghraifft ymarferol o ymbweru awdurdodau lleol i fynd i'r afael â mater—ac rŷch chi'n gwrthwynebu. Os ŷch chi o ddifrif ynglŷn â helpu'r sector yng Nghymru, yna siaradwch â'ch Canghellor eich hunain ynglŷn â threth ar werth. Mae yna ddigon o gyfleoedd eraill y gallwch chi fod yn cefnogi'r sector. Mae'r Ceidwadwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn cefnogi'r cam yma. Mae Ceidwadwyr yn arwain yn Ynys Wyth, mae Cyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf wedi bod yn galw am hyn; mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cotswolds hefyd yn dweud eu bod nhw'n cefnogi hyn. Rŷn ni wedi clywed am y dwsinau lawer o wledydd eraill sydd â lefi o'r fath, felly mae'n rhaid inni weithiau weld y cyfle mewn pethau fel hyn, a ddim jest gweld y broblem.

Felly, cwpwl o gwestiynau gen i, Weinidog. Mae yna wahanol ffyrdd, wrth gwrs, o gyflwyno lefi—aros dros nos yw'r un amlwg—ond dwi jest eisiau eglurder ynglŷn ag a ydy'r Llywodraeth yn meddwl mai dyna yw'r modd rŷch chi'n bwriadu symud ymlaen, neu ydych chi'n feddwl agored i ffyrdd eraill o gasglu lefi o'r fath? 

Rŷn ni wedi clywed, ac yn berffaith iawn i glywed, fod yna greisis costau byw; sut rŷch chi, felly, am sicrhau y byddai unrhyw ardoll yn gymesur ac yn deg ar bocedi'r bobl fydd disgwyl iddyn nhw gyfrannu tuag ato fe? Allwch chi hefyd gadarnhau mai'ch bwriad chi yw—mae e'n implicit; dwi ddim yn siŵr os ydy e'n ddigon explicit—mai'r bwriad yw y bydd unrhyw bres sy'n cael ei godi'n lleol yn cael ei wario'n lleol? Dwi'n meddwl bod yna gwestiwn pwysig angen ei ateb yn fanna.

Ac rŷn ni'n clywed pobl yn dweud y bydd e'n cymryd ambell i flwyddyn i hwn ddod yn realiti, os ydy e yn digwydd. Ai'r bwriad yw y bydd hynny'n digwydd o fewn y Senedd yma, neu ydych chi'n rhagweld efallai y gallai fod yn linell amser hirach na hynny? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y gyfres honno o gwestiynau, ac am y cyfraniad a ddechreuodd, mewn gwirionedd, gan sôn am sut nad oes rhaid i hyn fod yn rhywbeth sy'n achosi drwgdeimlad rhwng y Llywodraeth a'r sector twristiaeth. I'r gwrthwyneb, gall fod yn rhywbeth y gellir ei gyd-gynhyrchu'n effeithiol gyda'r sector, gan ddeall y manteision y gellid eu cyflwyno i'r arlwy lleol ar gyfer twristiaeth trwy ardoll. Rydym ni'n ei weld ar draws y byd, mewn gwirionedd, o ran y buddion sy'n cael eu cyflwyno.

Yn Seland Newydd, er enghraifft, fe wnaethon nhw ariannu 10 prosiect yn eu cynllun 2019-20 drwy eu hardoll cadwraeth ymwelwyr a thwristiaeth rhyngwladol. Eu nod yw diogelu tirweddau sensitif ac ecolegol werthfawr; uwchraddio mwynderau, llwybrau troed ac arwyddion i ymwelwyr; amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl; gwella mynediad i ymwelwyr trwy agor meysydd parcio newydd a llwybrau cerdded a beicio; a hyrwyddo gyrfaoedd twristiaeth. Rwy'n credu bod yr holl bethau hynny'n bethau yr hoffem fod yn gweld mwy ohonynt yn digwydd yma yng Nghymru. Byddai ardoll twristiaeth yn caniatáu i awdurdodau lleol allu mentro a gwneud hynny hefyd. Felly, rwy'n credu bod enghreifftiau gwych y gallwn ni edrych atynt yn y llefydd hynny sydd wedi eu cyflwyno.

Cyfeiriodd Llyr Gruffydd hefyd at rai o rannau eraill y DU sydd hefyd wedi galw am ardoll twristiaeth. Wrth gwrs, rydym ni'n gweld y gwaith yn cael ei ddatblygu nawr o ddifrif gan yr Alban, ond hefyd y cynghorau Ceidwadol hynny a'r cyn-gynghorau Ceidwadol sydd wedi galw am roi'r pŵer iddyn nhw gyflwyno ardoll twristiaeth. Ac mi roddodd Llyr Gruffydd restr gyfan ohonynt, gan gynnwys Ynys Wyth a Chaerfaddon, a arferai fod yn Geidwadol, ac fe fyddwn i'n ychwanegu Cernyw at y rhestr honno hefyd. Felly, rwy'n credu bod diddordeb cynyddol ledled y DU mewn cyflwyno ardoll.

O ran pa fath o ardoll, rwy'n credu bod ein hymgynghoriad yn glir bod datblygiad y meddylfryd hyd yma wedi bod ynghylch ardoll dros nos, o ystyried mai dyna'r math mwyaf poblogaidd o ardoll yn fyd-eang a dyma fu craidd ein hysbrydoliaeth ohono. Ond mae'n bwysig cydnabod bod y ddogfen ymgynghori yn holi'r cwestiwn agored hwnnw i bobl: a ydym yn canolbwyntio ein hymdrechion yn y lle cywir neu a oes ganddynt syniadau ar gyfer ardoll ymwelwyr dydd, er enghraifft? Rydych chi'n ei weld yn gweithio'n eithaf effeithiol ar gyfer teithwyr ar longau mordaith neu deithwyr fferi; gwelwch hynny'n digwydd mewn llefydd fel Amsterdam, Rotterdam a Chatalonia, lle mae ganddyn nhw'r ardoll ymwelwyr dydd hwnnw ar gyfer teithwyr ar longau mordaith a theithwyr fferi. Mae hynny, rwy'n credu, yn adlewyrchu'r nifer fawr o'r ymwelwyr hynny sydd ganddyn nhw yn aml iawn.

Mewn mannau eraill, mae gennych chi drethi adloniant, er enghraifft, yn Amsterdam, a hynny ar gyfer gweithredwyr teithiau cychod, rhentwyr canŵs a chychod pedol, gweithredwyr teithiau a theithiau dinas. Nid dyna'r maes y buom yn canolbwyntio arno o ran datblygu polisi, ond rydym yn ymwybodol bod modelau gwahanol mewn mannau eraill, ac rydym yn croesawu'n agored iawn unrhyw gyfraniadau, drwy'r ddogfen ymgynghori, i hynny.

Mae 'cymesur' a 'teg' yn ddau o'r pethau sy'n egwyddorion craidd i ni sy'n arwain, mewn gwirionedd, ein ffordd o feddwl o ran treth, a dyna pam rydyn ni'n awyddus iawn i archwilio rhai o'r cwestiynau ynglŷn ag ymhle rydym ni'n cyflwyno'r gyfradd. Felly, rydym ni wedi gwneud ychydig o waith ynghylch elastigrwydd prisiau, yr ydym yn ei gyhoeddi ochr yn ochr â'n dogfen heddiw, a fydd yn ein helpu gyda rhywfaint o'r meddylfryd ynghylch hynny. Hefyd, mae'r ddogfen ymgynghori yn gofyn i bobl am eu barn o ran ydym ni'n codi tâl ar yr ystafell fesul noson, ydym ni'n codi tâl fesul person y noson, neu ydym ni'n gwneud rhywbeth fyddai'n ymwneud â chanran o gost yr ystafell y noson neu gyfuniad o'r pethau hynny. Felly, eto, mae hyn yn gynnar iawn o ran ein hymgynghoriad ac rydym yn awyddus i glywed barn pobl a'u syniadau ynglŷn â'r hyn maen nhw'n meddwl fyddai'n gweithio orau.

O ran a gai'r cyllid ei wario'n lleol, mae'n wir, o ran rhoi'r grym i awdurdodau lleol godi arian yn lleol, y bydden ni'n disgwyl i'r arian gael ei defnyddio i wella ac amddiffyn y gwasanaethau y daw twristiaid i Gymru o'u herwydd gan eu bod yn gwybod ein bod yn eu cynnig a'u bod nhw yn eu hoffi. Mae gennym ni syniad yn ein dogfen ymgynghori, eto, am sut y gallwn ni ychwanegu rhywfaint o dryloywder ynghylch hynny, felly adroddiad blynyddol gan lywodraeth leol efallai. Mae'n rhaid i ni fod yn gymesur o ran faint o adrodd sydd ei angen arnom ni ar hyn, gan gofio y byddwn yn sôn am symiau cymharol fach ond pwysig o arian ond, eto, mae hynny'n rhywbeth yn y ddogfen ymgynghori o ran faint o dryloywder y gallwn ei gynnig i'r bobl a fydd â'r diddordeb priodol, yn ymwelwyr ac, wrth gwrs, y diwydiant twristiaeth.

16:35

Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog. Bydd yr Aelodau'n falch o glywed y byddaf ond yn gwneud ymyrraeth fer y prynhawn yma. Rwy'n llwyr gefnogi ymgynghoriad, ac yn llwyr gefnogi'r ardoll yr ydych yn ei chynnig. Rwy'n credu bod angen i ni gael dadl go iawn am natur twristiaeth ac effaith twristiaeth ar ein cymunedau. Yn rhy aml o lawer yn y Siambr hon, rydym yn gwneud rhagdybiaethau ac rydym yn gweithio ar sail rhagdybiaethau, ac un o'r rhagdybiaethau hynny yw mai dim ond er lles y mae twristiaeth dorfol. Ond rydym ni'n gwybod bod twristiaeth dorfol yn effeithio'n negyddol iawn ar nifer o gymunedau, ac rydym wedi cael y drafodaeth honno am le tai, digartrefedd a gallu pobl i fyw yn eu cymunedau eu hunain. Felly, rwy'n credu bod angen trafodaeth go iawn ynglŷn â sut mae twristiaeth yn effeithio ar Gymru mewn ffordd gadarnhaol, yn ogystal â rhai o'r materion mwy negyddol.

Rwy'n talu ardoll ymwelwyr, neu dreth twristiaeth—beth bynnag rydych chi am ei alw—pan fyddaf yn teithio, mewn llawer o lefydd, ac nid yw'n effeithio arnaf i o gwbl. A dweud y gwir, rwy'n credu bod gen i ddyletswydd wirioneddol i dalu am y gwasanaethau rwy'n eu defnyddio pan wy'n ymweld â lle arall, ac rwy'n credu bod gen i gyfrifoldeb i wneud hynny hefyd. Mae arnaf i eisiau i'r dwristiaeth rwy'n cychwyn arni fel unigolyn neu fel teulu, beth bynnag, i fod o fudd i lefydd eraill, ac os yw hynny'n golygu cyfrannu tuag at seilwaith, rwy'n falch iawn o allu gwneud hynny, ac rwy'n credu y dylem ni ddadlau dros hynny.

Byddwn yn dweud wrthoch chi, Weinidog: Gobeithio y byddwch yn archwilio'r posibiliadau fydd ar gael i lywodraeth leol o ran darparu'r ardoll dwristiaeth hon. Gobeithio hefyd y byddwch yn edrych ar enghreifftiau mewn mannau eraill yn y byd. Er enghraifft, rwyf wedi talu toll, os mynnwch chi, i yrru i mewn i barc cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â thalu treth ystafell, neu dreth dinas, mewn mannau ar draws Ewrop. Rwy'n credu bod yna amryw o bosibiliadau gwahanol ar gael i ni. A gobeithio, Weinidog, na fyddwch yn gwrando ar y lleisiau croch y tu ôl i chi, ond y byddwch yn edrych ar y ffeithiau caled o wahanol rannau o'r byd, lle mae ardoll twristiaeth yn helpu i gyfrannu at uniondeb y gymuned sy'n cael ei gwasanaethu, ac fe ddylem ni sicrhau bod y gymuned, bod pobl, yn dod yn gyntaf. Rwy'n gwybod bod y Torïaid wastad yn blaenoriaethu elw—byddan nhw'n gwneud hynny ddydd Gwener eto yn Llundain, maen nhw'n ei wneud heddiw. Ond fe hoffwn i i'r Llywodraeth yma flaenoriaethu cymunedau, pobl a bywoliaeth pobl, achos rwy'n credu mai dyna mae pobl Cymru yn disgwyl i ni ei wneud.

16:40

Rwy'n ddiolchgar iawn i Alun Davies am ei sylwadau a'i gefnogaeth i'r ymgynghoriad sy'n cael ei lansio heddiw. Mae'n hollol gywir bod arnom ni wrth gwrs eisiau rhannu beth sydd gyda ni yma yng Nghymru gyda phobl o bob cwr o'r byd, mae angen i ni hefyd sicrhau bod twristiaeth yn gynaliadwy ac nad yw'n niweidio cymunedau. Ac mae'n bwysig cael y cydbwysedd yna'n iawn. Hefyd, rwy'n credu bod hyn yn cysylltu mewn gwirionedd â rhywfaint o'r gwaith y mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn ei wneud o ran sicrhau bod y math yna o dwristiaeth gydol y flwyddyn yn gallu tyfu yng Nghymru, fel bod gennym ni well cydbwysedd trwy gydol y tymhorau, ac y gallwn ni fodloni disgwyliadau pobl yn well pan ddônt i ymweld â ni yma yng Nghymru. A byddan nhw wastad yn sicr o groeso Cymreig cynnes iawn pan fyddan nhw'n dod atom ni yma yng Nghymru.

Rwy'n credu bod y sylw am deimlo'r cyd-gyfrifoldeb hwnnw yn un pwysig iawn, oherwydd pan fyddwch chi'n teimlo'r cyfrifoldeb hwnnw i'r gymuned rydych chi'n ymweld â hi, mae hynny yn rhoi cwlwm emosiynol gwahanol i chi, rwy'n credu, gyda'r lle rydych chi ar eich gwyliau ynddo neu'n ymweld ag o. Ac rwy'n credu ei bod hi'n beth hyfryd, i bobl gael cwlwm emosiynol gyda Chymru ac wedyn gadael, a bydden nhw siŵr o fod yn awyddus iawn i ddychwelyd i'n gweld ni eto.

Mae'r lleisiau y tu ôl i mi yn sawl peth; ni fyddwn yn eu disgrifio yn lleisiau croch. Ond, yn bendant, byddwn ni'n edrych ar beth mae'r dystiolaeth yn ei dweud wrthym ni o ran datblygu'r cynigion ar gyfer yr ardoll dwristiaeth. Byddwn ni'n edrych yn fanwl iawn ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill. Rydym ni wedi trafod â llefydd fel Philadelphia yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, i gael ymdeimlad o'u profiad. Cawsom gynrychiolwyr o Amsterdam yn siarad yn ein cynhadledd dreth y llynedd. Ac rydym ni'n dysgu llawer o bethau ganddyn nhw, nid yn unig am sut mae'r trethi'n cael eu datblygu'n lleol, ond gweithredu'r trethi hynny. Does dim rhaid i ni fod yr un fath â rhan arall o'r byd i ddysgu ganddyn nhw o ran gweithredu trethi a darparu trethi ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu mai gorau po fwyaf y gallwn ni ei ddysgu o wledydd eraill. Mae gennym ni gyrchfannau twristiaeth o'r radd flaenaf sy'n rhoi ardollau twristiaeth ar waith ac nid yw'n rhwystr i bobl. Pam nad oes gan y Ceidwadwyr yr un uchelgais i Gymru fod yn gyrchfan dwristiaeth o'r radd flaenaf lle bydd pobl yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn?

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Gweinidog, rydych chi yma heddiw yn cyflwyno'r syniad o ardoll ymwelwyr, a elwir hefyd yn dreth dwristiaeth, i bobl a busnesau Cymru ar ffurf ymgynghoriad, er ei fod yn gwbl syfrdanol ei fod wedi mynd mor bell â hyn. Bydd yn cosbi'r sector twristiaeth, ac fel Llyr, cyfaddefodd arweinydd eich plaid eich hun, Adam Price, nad oes bwriad i'r arian a godir gan y Llywodraeth hon hyd yn oed fynd yn ôl i'r sector twristiaeth. Dyma dreth y mae arbenigwyr yn y diwydiant fel Jim Jones, prif swyddog twristiaeth y gogledd, yn ei wawdio, wrth ddweud, a dyfynnaf:

'Byddai treth ar dwristiaeth yn gam mawr yn ôl a fyddai'n niweidio diwydiant sydd eisoes yn gwegian ar ôl dioddef y pandemig'.

Mae arnom ni eisiau ac angen annog pobl i aros yng Nghymru a chymryd gwyliau gartref, nid yn unig am resymau amgylcheddol, ond i ysgogi ein heconomi ac i ddiogelu ein busnesau lleol. Felly, ar adeg o argyfwng economaidd, pan fo llawer yn ein sector twristiaeth wedi cael eu lambastio gan y pandemig a'r argyfwng economaidd ac angen ein cefnogaeth a'n helpu fwyaf, yr hyn rydych chi'n ei wneud, Gweinidog, yw cyflwyno i bobl Cymru rywbeth a brofwyd sydd wedi cael effaith andwyol mewn llawer o wledydd hefyd ar draws y byd: treth dwristiaeth, treth fydd yn annog pobl i beidio â dod i Gymru ac i aros yng Nghymru.

Gweinidog, rydych chi wedi sôn am eithriadau. Rydych chi wedi dweud y byddech chi'n gwneud rhai eithriadau, ond nid ydych chi wedi dweud beth allai'r eithriadau hynny fod. A allen ni gael rhywfaint o eglurder ynghylch mewn gwirionedd, pwy fyddai'n cael eu heithrio o'r dreth dwristiaeth, a thryloywder ynghylch ble mae'r arian yn mynd, os yw hyn yn mynd yn ei flaen, y syniad chwerthinllyd hwn? Os yw'n mynd yn ei flaen, mae angen i ni ddilyn yr arian yna i weld os yw, mewn gwirionedd, yn mynd yn ôl i'r diwydiant twristiaeth, gan nad yw'n rhywbeth y gallwch chi sefyll yma a gwarantu y bydd, yn enwedig os mai llywodraeth leol sy'n gyfrifol am hynny. Felly, nid yw'n rhywbeth, siawns, Gweinidog, y gallwch ei hyrwyddo fel rhywbeth sy'n gwneud hynny. 

16:45

Felly, fe wnaf i ddechrau gyda'r pwynt yma ynghylch ei fod yn gyfnod o argyfwng economaidd, ac mae hynny'n hollol wir. Rydym yn wynebu argyfwng costau byw, a gadewch i ni obeithio y bydd y Canghellor yn cyflwyno pecyn o gefnogaeth gref iawn i fusnesau pan fydd yn gwneud ei gyhoeddiad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rydym ni'n sôn am ardoll dros nos, ond dydyn ni ddim yn sôn am ei gyflwyno dros nos. Y pwynt yma yw bod yr hyn yr ydym ni'n ei lansio heddiw yn ymgynghoriad ar y syniad, fel y gall pobl ymgysylltu â ni a'n helpu i lunio'r cynnig hwn.

Bydd cyd-Aelodau yn gwybod yn iawn y bydd hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddeddfwriaeth gael ei symud drwy'r Cynulliad hwn—mae'n ddrwg gennyf, drwy'r Senedd hon—a bydd angen gwaith difrifol ar gyfer hynny. Mae'n broses pedwar cymal, felly mae llawer iawn o amser i gyd-Aelodau geisio craffu ac i ddatblygu'r syniad gyda ni. Felly, ni chaiff ei gyflwyno dros nos. Mae'n cymryd nifer o flynyddoedd er mwyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, i ddatblygu'r syniadau yn llawn ac yna symud i'r cyfnod gweithredu, sydd ynddo'i hun yn ymgymeriad sylweddol.

Rwy'n credu bod y cwestiwn am eithriadau yn un pwysig. Rwy'n hapus i rannu gyda chyd-Aelodau y mathau o feysydd yr ydym yn eu hystyried o ran eithriadau. Un fyddai safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Byddem yn ystyried eithrio prif safleoedd preswyl Roma a Sipsi o'r ardoll gan fod eu ffordd o fyw yn gynhenid grwydrol am resymau diwylliannol. Byddem hefyd yn ystyried efallai—ac mae hyn i gyd yn rhan o'n hymgynghoriad, felly byddai safbwyntiau'n cael eu derbyn yn ddiolchgar—eithrio arosiadau brys a drefnir gan awdurdodau lleol; er enghraifft, pobl sy'n dioddef digartrefedd neu sy'n ffoi rhag trais yn y cartref.

Hefyd, gallai eithriadau gynnwys arosiadau wedi'u trefnu gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid a hefyd eraill sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, sydd efallai'n aros mewn llety arbenigol at y diben hwnnw, ac yna arosiadau brys mewn safleoedd sy'n cael eu gweithredu gan sefydliadau elusennol neu ddi-elw—eto, yn aros at ddibenion seibiant neu loches. Y sefyllfa rydym ni'n ei ffafrio yw nad yw llety ymwelwyr a ddarperir gan elusen neu sefydliad dielw at ddibenion seibiant, lloches neu gysgod yn cael ei gynnwys yng nghwmpas yr ardoll.

Felly, mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi ystod o amgylchiadau lle credwn y gallai hi fod yn amhriodol cyflwyno ardoll, ond wrth gwrs rydym yn gofyn i bobl rannu eu sylwadau a'u casgliadau ar hynny i'n helpu, eto, i lunio'r ardoll. Ac rwy'n credu fy mod eisoes wedi sôn am y sylw ynghylch tryloywder a phwysigrwydd y cwestiwn yn y ddogfen ymgynghori sy'n cyfeirio at adrodd blynyddol a mecanweithiau eraill. Mae'r ddogfen hefyd yn sôn am neilltuaeth rannol ac yn edrych ar wahanol fodelau sydd wedi cael eu defnyddio mewn gwahanol fannau, er mwyn ein helpu i ddatblygu ein syniadau wrth i ni symud ymlaen.

Mae'r Aelod yn sôn am lefydd sydd wedi cael eu dinistrio gan ardollau twristiaeth ar draws y byd, ond dydym ni ddim yn gweld hynny. Rydym wedi edrych ar enghreifftiau o ble nad yw ardollau twristiaeth wedi bod yn llwyddiannus—un fyddai'r ynysoedd Balearaidd, a gyflwynodd dreth eco yn 2001, efallai cyn ei amser, ac fe ddiddymwyd y dreth yn fuan ar ôl hynny, oherwydd bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng, ond roedd hynny yn erbyn cefndir o niferoedd ymwelwyr yn gostwng yn fyd-eang beth bynnag ar draws nifer o gyrchfannau ar y pryd. Ond maen nhw wedi ailgyflwyno'r dreth wedyn, flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Fe wnaethon nhw hynny yn 2015, ac fe welon nhw gynnydd o 11.2 y cant yn yr ymwelwyr rhyngwladol y flwyddyn ganlynol. Felly, rwy'n credu, pan ydych chi'n edrych yn fanwl ar yr enghreifftiau lle mae hyn wedi'i gyflwyno mewn mannau eraill, rydych chi'n gweld gwaith cadarnhaol y bu modd ei wneud oherwydd yr ardoll twristiaeth, ac nid yw'n cael ei weld, yn y gwledydd hynny sy'n gweithredu'r fath ardoll, fel un sy'n mygu busnes; mae'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n creu buddsoddiad i gefnogi'r busnesau hynny.

16:50

Fe wnes i gyfarfod â Thwristiaeth Bannau Brycheiniog yn ddiweddar, Gweinidog, ac mae ganddyn nhw lawer o bryderon, ond un o'u pryderon mwyaf oedd y diffyg eglurder gan y Llywodraeth dros hyn. Mae'r newid mewn iaith a ddefnyddir o ganolbwyntio ar dwristiaeth i ardoll ymwelwyr wedi cyfrannu at ansicrwydd. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun nad dim ond ar gyfer pobl sy'n dod i Gymru at ddibenion twristiaeth fydd hyn—bydd yr ardoll yn berthnasol i ymwelwyr am resymau eraill hefyd. Mae hwn yn newid mawr ac fe fydd canlyniadau enfawr, ond ni fu unrhyw fanylion ynghylch hynny, felly tybed a allwch chi ehangu ar yr hyn yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdano. Ydy hyn yn mynd i fynd ymhellach nag aros dros nos? Oherwydd does dim manylion ynghylch hynny.

Rydym ni hefyd wedi clywed arweinydd Plaid Cymru'n dweud y bydd arian yn mynd tuag at dalu am brydau ysgol am ddim, ac rydych chi wedi dweud eich hun heddiw, ac mewn datganiadau ysgrifenedig, y caiff yr arian yma ei fuddsoddi i wasanaethau lleol. Felly, beth fydd yn digwydd? Oherwydd nid yw'r glymblaid rhyngoch chi eich hunain a Phlaid Cymru ddim i'w gweld yn gwybod i ble mae'n mynd. Dydy'r llaw chwith ddim yn gwybod pa mor bell i'r chwith y mae'r llaw arall yn mynd. Ac fe hoffwn i wybod hefyd: a all y Gweinidog roi sicrwydd priodol i'r busnesau dilys hynny y bydd hyn yn effeithio arnynt—y bydd eu bywoliaeth yn cael ei heffeithio, eu teuluoedd yn cael eu heffeithio—y byddwch chi'n gwrando ar yr ymgynghoriad ac, os nad oes ar y diwydiant twristiaeth eisiau hyn, y byddwch chi'n parchu eu barn a'u sylwadau? Oherwydd dyna mae Llywodraethau a etholwyd yn ddemocrataidd yn ei wneud—maen nhw'n gwrando ar eu pobl; dydyn nhw ddim yn eu gorchymyn o'r brig.