Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/03/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf ar yr agenda heddiw, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. 

Cynllun Adfer ar gyfer Busnesau

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawni cynllun adfer COVID-19 ar gyfer busnesau? OQ56423

Llywydd, i gynorthwyo busnesau i adfer yn sgil COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael o'i gymharu ag unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Ddydd Mercher diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog cyllid y bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes 100 y cant, sy'n cynorthwyo dros 70,000 o fusnesau, yn parhau drwy'r holl flwyddyn ariannol nesaf.

Diolch. Mae ein Prif Weinidog yn y DU cryf wedi rhoi llawer o sicrwydd a chymorth i'n busnesau. Dim ond yr wythnos diwethaf, estynnodd ein Llywodraeth ni yn y DU faint y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws a'r gyfradd TAW ostyngedig o 5 y cant i'r sectorau twristiaeth a lletygarwch. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n frwdfrydig i ymuno â mi a chydnabod bod camau Llywodraeth y DU wedi achub swyddi a busnesau yng Nghymru, gan ddiogelu bron i 400,000 o fywoliaethau, cynorthwyo mwy na 100,000 o bobl hunangyflogedig a chefnogi dros 50,000 o fusnesau drwy fenthyciadau. A dweud y gwir, mae ein Prif Weinidog y DU wedi mynd gam ymhellach na chi, oherwydd er ei fod wedi darparu map ffordd allan o'r cyfyngiadau symud i Loegr, rydych chi'n dal i fethu â chyflawni dros Gymru. Er gwaethaf y pryderon a godais gyda chi yn y pwyllgor ar 11 Chwefror ynglŷn â'r angen am eglurder ynghylch pryd y gallai lletygarwch fod yn agor, fe'n gadawyd i ganolbwyntio ar eich system haenau, sydd wedi chwalu'n llwyr, oherwydd ei bod yn nodi y dylai fod cyfradd achosion a gadarnhawyd o fwy na 150 o achosion fesul 100,000 i fod yn lefel 3. Yr wythnos diwethaf, cofnododd Cymru gyfartaledd saith diwrnod treigl o 57, ac mae eisoes wedi gostwng i 44 erbyn hyn. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n wirioneddol ofnadwy yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i fusnesau yng Nghymru drwy wrthod darparu map ffordd eglur allan o'r cyfyngiadau symud a pheidio â glynu wrth eich system haenau eich hun? Diolch.

Llywydd, rwy'n croesawu'r holl gefnogaeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei rhoi i fusnesau yng Nghymru, ac rwyf i wedi gwneud hynny ers dyddiau cynharaf y pandemig. Wrth gwrs, yma yng Nghymru rydym ni wedi darparu cannoedd o filiynau o bunnoedd yn ychwanegol at y cymorth sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i'r ymdrechion hynny ar lefel y DU.

Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth yr Aelod o lwyddiant y mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i reoli coronafeirws, mesurau y bydd yn cofio iddi hi a'i phlaid eu gwrthwynebu yn chwyrn ar yr adeg y cawsant eu cymryd. Pe byddem ni wedi dilyn ei chyngor hi bryd hynny, yn sicr ni fyddem ni yn y sefyllfa gymharol radlon yr ydym ni ynddi yng Nghymru heddiw. Byddwn yn adeiladu o'r sefyllfa honno, gan gofio drwy'r amser ansefydlogrwydd parhaus yr adferiad yn sgil coronafeirws, a chyda chylchrediad amrywiolyn Caint o'r coronafeirws yma yng Nghymru i'w gadw mewn cof yn arbennig wrth i ni ailagor ein heconomi.

Ddydd Gwener yr wythnos hon, Llywydd, byddaf yn cyflwyno rhagor o fanylion am sut y gellir ailgyflwyno rhyddid ym myd busnes, yn ein bywydau personol, gan roi blaenoriaeth fel erioed i'n plant a'n pobl ifanc, a bydd hynny yn rhoi'r eglurder sydd ei angen ar bobl, gyda'r realaeth sydd ei hangen hefyd.

Prif Weinidog, beth bynnag fo'ch cynlluniau ar gyfer helpu busnesau Cymru, a wnewch chi sicrhau eu bod nhw'n deg ac yn gyfiawn? Rwyf i wedi codi trafferthion arcedau'r stryd fawr o'r blaen, y mae eich Llywodraeth yn gwrthod eu helpu. Mae'r busnesau hyn wedi dioddef yr un colledion â busnesau hamdden eraill, ac eto rydych chi'n gwrthod unrhyw hawl iddyn nhw gael cymorth busnes. Mae Llywodraeth Cymru yn hapus i gasglu eu hardrethi busnes, ond eto nid yw eisiau helpu'r busnesau hyn i barhau i weithredu. Fel busnesau eraill yn y sector hamdden, mae eu costau wedi parhau i gynyddu, ond, gan eu bod nhw'n dal i fod ar gau, nid oes ganddyn nhw unrhyw incwm. Heb gymorth, gallai'r busnesau hyn gau yn barhaol, gan arwain at golli llawer o swyddi, ac mae'r swyddi hyn ar gyfer eu cyflogeion a fydd yn ysgwyddo baich hyn i gyd yn y pen draw. Mae eu sefyllfa yn enbyd erbyn hyn, felly a wnewch chi ailystyried eich safbwynt, os gwelwch chi'n dda? Diolch.

13:35

Wel, Llywydd, nod Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig fu defnyddio'r cyllid sydd gennym ni i lenwi'r bylchau yn y cymorth a ddaw oddi wrth Lywodraeth y DU. Nid yw'n bosibl gyda'r cyllid sydd gennym ni i lenwi pob un bwlch sy'n bodoli. Serch hynny, mae £1.9 biliwn wedi gadael coffrau Llywodraeth Cymru ac mae eisoes yn nwylo busnesau yma yng Nghymru—degau o filoedd o fusnesau, ym mhob rhan o'n gwlad, yn elwa ar y cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith a pha mor gyflym y mae'r cymorth hwnnw wedi ein gadael ni ac wedi cyrraedd y busnesau eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £200 miliwn yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i allu parhau'r cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu i fusnesau Cymru. Ac wrth i ni wneud hynny, rydym ni bob amser yn adolygu'r cynlluniau sydd gennym ni, i weld a yw hi'n bosibl gwneud mwy i helpu mwy o fusnesau yn y dyfodol. Ond, fel y dywedais, defnyddiwyd ein cyllid erioed i lenwi'r bylchau yn y cynlluniau y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanyn nhw, ac nid yw'n bosibl ymestyn hynny i bob posibilrwydd.

Bydd y dull 'ar gyfer Cymru, gweler Lloegr' y mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr yn ei fabwysiadu yn arwain mewn gwirionedd at lai o gymorth busnes, fel yr ydym ni wedi ei weld dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Prif Weinidog, wrth symud Cymru allan o'r cyfyngiadau symud—rydym ni'n gallu gwneud hyn oherwydd llwyddiant, wrth gwrs, yr agwedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru—rwy'n pryderu'n benodol am y cymorth y byddwch chi'n gallu ei roi i fusnesau bach. Mae llawer o fusnesau yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent sy'n ddiolchgar iawn am y cymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Maen nhw'n edrych tuag at ddechrau masnachu unwaith eto erbyn hyn ac yn edrych ar sut y gallan nhw ailadeiladu eu busnesau. A yw hi'n bosibl amlinellu sut y bydd y busnesau llai hynny yn cael eu cynorthwyo wrth i ni symud ymlaen dros y misoedd nesaf?

Llywydd, diolchaf i Alun Davies am hynna. Mae yn llygad ei le, wrth gwrs, fel y dangosodd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru dim ond ychydig wythnosau yn ôl, pe byddem ni wedi dilyn y cynlluniau sydd ar waith dros ein ffin, y byddai busnesau Cymru filiynau a miliynau o bunnoedd yn waeth eu byd nag y maen nhw drwy fod wedi eu lleoli yng Nghymru, oherwydd y cymorth yr ydym ni wedi gallu ei roi iddyn nhw. Ac rwy'n gwybod nad yw Plaid Geidwadol Cymru yn hoffi cydnabod hynny; yn wir, fel y dywedodd Alun Davies, dim ond un presgripsiwn sydd ganddi ar gyfer Cymru, a hynny yw y dylem ni efelychu yn union yr hyn sy'n cael ei wneud gan bobl dros y ffin—byddai £300 miliwn yn llai wedi bod ar gael i fusnesau yng Nghymru. Mae bron yr holl gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, wrth gwrs, yn mynd i fusnesau bach a chanolig eu maint. Fe wnaethom benderfyniad ymwybodol iawn i beidio ag ymestyn rhyddhad ardrethi i fusnesau â gwerth ardrethol o dros £500,000, a rhyddhaodd hynny ddegau a degau o filiynau o bunnoedd yr ydym ni wedi eu rhoi yn nwylo busnesau bach yma yng Nghymru. Gwn fod Alun Davies wedi croesawu'r £30 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gennym ni ar gyfer y gronfa sector-benodol ym maes hamdden, twristiaeth a lletygarwch dim ond wythnos neu ddwy yn ôl. A bydd y £200 miliwn sydd gennym ni wrth gefn, y byddwn ni'n ei ddefnyddio y flwyddyn nesaf, yn cael ei dargedu at y busnesau hynny sy'n bodoli ym mhob stryd fawr yma yng Nghymru. A byddai'n llawer yn well ganddyn nhw, yn sicr, fel y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies yn ei ddweud, fod yn masnachu a byddai llawer yn well ganddyn nhw fod yn ennill bywoliaeth nag yn aros am y siec nesaf gan Lywodraeth Cymru. Ond tra bod y pandemig presennol yn parhau, byddwn yn gwneud yn siŵr, pan na allan nhw fasnachu, y bydd Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i'w cynorthwyo.

Mynediad i Addysg Bellach ac Uwch

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad i addysg bellach ac uwch i weithwyr yng Nghymru a allai fod yn bwriadu ailhyfforddi? OQ56422

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £40 miliwn mewn swyddi a sgiliau eleni, gan gynorthwyo unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth neu hyfforddiant newydd neu amgen. Mae ein rhaglen cyfrif dysgu personol yn helpu pobl gyflogedig i wella eu sgiliau neu ailsgilio mewn sectorau â blaenoriaeth, gan ddarparu dysgu mewn modd hyblyg gan ystyried gwaith ac ymrwymiadau eraill presennol pob unigolyn, ac yn gwneud hynny drwy golegau ledled Cymru.

13:40

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o weld yng nghyllideb eich Llywodraeth yr ymrwymiad i ehangu'r rhaglen cyfrif dysgu personol. Nawr, mae'r rhaglen hon, fel y dywedwch, yn rhoi cymorth hanfodol i weithwyr cyflogedig, ond hefyd i'r gweithwyr hynny sydd ar ffyrlo ac unigolion sydd mewn perygl o gael eu diswyddo. Rydym ni'n gwybod mai un o effeithiau pandemig y coronafeirws fu colli swyddi a mwy o betruso ymhlith busnesau o ran buddsoddi, a fyddai wedi creu swyddi newydd ac wedi cynnig mwy o gyfleoedd i'r rhai sy'n chwilio am waith. Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl i ennill sgiliau a chymwysterau lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth erbyn hyn yn paratoi ein gweithlu ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd wrth i ni weld yr economi yn adfer. A allech chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa hon a sut y bydd yn cael ei darparu i'r unigolion hynny?

Llywydd, diolchaf i David Rees am y cwestiwn pwysig yna. Gwn fod fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans, fel Gweinidog cyllid, yn awyddus iawn i ddod o hyd i gyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfrif dysgu personol—£5.4 miliwn o gyllid ychwanegol yn y fan honno—oherwydd y llwyddiant ysgubol a fu eisoes. Ac, fel y dywedodd David Rees, Llywydd, i weithwyr mae'n cynnig cyrsiau a chymwysterau sy'n cael eu hariannu yn llawn gan Lywodraeth Cymru, wedi'u trefnu i fod yn hylaw o amgylch ymrwymiadau presennol yr unigolion hynny. Maen nhw ar gael waeth beth fo cymwysterau blaenorol pobl, ac mae 3,000 o bobl eisoes wedi dechrau cyrsiau cyfrif dysgu personol ac mae gennym ni 6,000 a mwy o geisiadau ar gyfer y cynllun.

Ac i gyflogwyr, Llywydd, mae'n cynnig cynllun hyblyg ac ymatebol sydd â'r nod o oresgyn prinder sgiliau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, sy'n benodol i'r sector, wedi'i dargedu at ardaloedd twf newydd ac uchel yn yr economi werdd, peirianneg, adeiladu, yr economi ddigidol ac mewn gweithgynhyrchu uwch. Ac yn y modd hwnnw, fel y mae David Rees yn ei ddweud, byddwn yn datblygu cronfa o weithwyr medrus ac ymroddedig sy'n barod i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hynny a denu'r cyfleoedd newydd hynny i rannau o Gymru, gan greu swyddi'r dyfodol.

Hyd yn oed cyn y pandemig, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod ffurf yr economi fyd-eang yn newid, a dyna pam, gan gydnabod hyn, y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn ogystal â ReAct, yn cyflwyno cronfa ail gyfle i helpu unrhyw un o unrhyw oedran i astudio ar gyfer cymwysterau lefel 3 yn y coleg i'w helpu i symud o'r fagl cyflog isel, sgiliau isel i fyny'r ysgol yrfaol waeth ble y dechreuon nhw. A dyna'r meddylfryd sy'n sail i'n cynlluniau ar gyfer cynyddu prentisiaethau gradd hefyd. Onid ydych chi'n cytuno, serch hynny, bod llwybrau i ragoriaeth wedi culhau o dan y Llywodraeth hon yng Nghymru ac, yn hytrach na sianelu pawb drwy raddau Meistr, y dylem ni fod yn edrych ar ddoniau ac agweddau i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yn bersonol ac i gredu eu bod nhw'n chwarae rhan werthfawr i helpu ein gwlad i ffynnu?

Wel, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am natur newidiol yr economi fyd-eang a'r angen i'r Llywodraeth barhau i fuddsoddi yn y sgiliau y bydd eu hangen ar ein gweithlu i wynebu'r dyfodol hwnnw. Nid wyf i, wrth gwrs, yn cytuno o gwbl â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am gyfleoedd yn culhau. Mae cyfleoedd dros y pum mlynedd diwethaf wedi ehangu yn aruthrol oherwydd y newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud ym maes addysg uwch. Yn dilyn adolygiad Diamond, mae gennym ni'r niferoedd uchaf erioed o fyfyrwyr mewn addysg uwch yng Nghymru, gan greu cyfleoedd yn enwedig i bobl sydd eisiau astudio yn rhan-amser ar lefel nad yw'n cael ei weld yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.

Rwy'n falch o gael cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i raglen prentisiaeth gradd Llywodraeth Cymru: buddsoddwyd £20 miliwn yn y rhaglen arloesol hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae 200 o gyflogwyr yn rhan ohoni a 600 o fyfyrwyr. Mae'n enghraifft arall o'r ffyrdd arloesol y mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu cyfleoedd drwyddynt, ochr yn ochr â'r cyfrifon dysgu personol y cyfeiriodd David Rees atyn nhw—ystod eang o ffyrdd y mae pobl yng Nghymru yn gallu manteisio erbyn hyn ar gyfleoedd i ailsgilio ac uwchsgilio a fydd yn gwneud yn siŵr, pan fydd y cyfleoedd hynny ar gael, bod gennym ni weithlu yma yng Nghymru sy'n barod i fanteisio arnyn nhw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.  

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, beth yw eich barn chi am y sefyllfa yn ymwneud â Liberty Steel a'i gwmnïau cysylltiedig, a'i effaith debygol ar swyddi yma yng Nghymru?

13:45

Nid wyf i'n mynd i ddyfalu am ddyfodol Liberty Steel—cwmni pwysig iawn yma yng Nghymru, ac un y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gefnogi yn y gorffennol. Mae gen i lythyr o fy mlaen gan Mr Gupta, cadeirydd gweithredol GFG Alliance, sef rhiant gwmni Liberty Steel, a ysgrifennwyd at fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar 4 Mawrth, felly diwedd yr wythnos diwethaf, lle mae Mr Gupta yn nodi sefyllfa fasnachu Liberty Steel ac yn atgyfnerthu'r ymrwymiad sydd gan GFG i Gymru. Byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r cwmni a chyda'r sector dur yn fwy cyffredinol i sicrhau'r dyfodol yr ydym ni'n ffyddiog, o dan yr amodau cywir ac yn y ffordd gywir, sydd gan y diwydiant dur yma yng Nghymru.

Rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog; mae Liberty Steel yn gwmni pwysig yma yng Nghymru, a dyna'r rheswm am y cwestiwn. Mae'n bwysig deall pa gymorth ariannol a roddwyd ar gael i Liberty Steel yn y gorffennol ac a yw'r cwmni wedi gofyn am unrhyw gymorth ychwanegol, o ystyried eich bod chi wedi cyfeirio at lythyr yn cael ei anfon gan y cwmni at Weinidog yr economi, i sicrhau ei weithrediadau yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthym ni pa un a oes cynnig ar y bwrdd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithrediadau Liberty Steel neu gwmnïau cysylltiedig yma yng Nghymru?

Nid oedd y llythyr gan Liberty Steel yn gofyn am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru; nid dyna oedd diben yr ohebiaeth. Diben yr ohebiaeth oedd nodi'r anawsterau y mae Greensill, y darparwr ariannol i GFG Alliance, wedi eu cael, ond i roi ar y bwrdd hefyd sefyllfa fasnachu bresennol gref Liberty Steel Group. Ar hyn o bryd, mae prisiau dur yn Ewrop yn masnachu ar y lefel uchaf ers 13 mlynedd ac mae'r farchnad alwminiwm yn fwy bywiog nag y bu ers cryn amser yn y gorffennol. Yn ei lythyr, mae Mr Gupta yn ei gwneud yn eglur bod ffatrïoedd y mae'r gynghrair yn berchen arnyn nhw yn y meysydd hyn yn gweithredu yn llawn i fodloni'r galw mawr ac i gynhyrchu llifau arian parod cadarnhaol. Yr hyn y mae'r llythyr yn ei ddangos, yn fy marn i, yw'r berthynas agos sydd wedi bodoli rhwng y cwmni a Llywodraeth Cymru, a'r hyder y mae'r cwmni yn dymuno parhau i'w greu yn ei ddyfodol. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r cwmni er mwyn sicrhau'r swyddi y mae'n eu darparu yma yng Nghymru ac er mwyn sicrhau dyfodol y sector yn fwy cyffredinol.

Wrth sôn am gymorth, Prif Weinidog, mae dydd Gwener yn ddiwrnod nodedig, gyda'r adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau symud yma yng Nghymru. Mae eich Gweinidog iechyd a llesiant meddwl wedi dweud, gyda'r cyfyngiadau symud a phobl yng Nghymru, os byddwch chi'n rhoi modfedd, y byddan nhw'n cymryd milltir. A gaf i wirio yn gyntaf ai dyma eich asesiad chi? A ydych chi'n cytuno â hi? Neu a ydych chi'n derbyn fy asesiad i mai gwaith caled pobl Cymru dros y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud a fydd yn eich galluogi chi, nawr, i lacio rhai o'r cyfyngiadau hyn? A allwch chi gadarnhau pa fath o gyhoeddiadau y gallem ni fod yn edrych arnyn nhw ddydd Gwener, yn enwedig o ran manwerthu nad yw'n hanfodol? A fyddwch chi'n agor campfeydd fel y mae'r Gweinidog llesiant wedi ei awgrymu yn y gorffennol? Ac a fyddwch chi, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato yn y wasg dros y dyddiau diwethaf, yn diddymu'r rheol aros gartref ac yn cyflwyno rheol pum milltir, fel y gwelsom ni yr haf diwethaf?

Rwy'n ofni y bydd yn rhaid i arweinydd yr wrthblaid aros tan ddydd Gwener. Dyna pryd y bydd y cylch tair wythnos yn dod i ben. Bydd y Cabinet yn parhau i drafod y pecyn o fesurau y byddwn ni'n gallu ei gynnig bryd hynny yn ystod gweddill yr wythnos hon. Ond mae e'n iawn wrth ddweud, ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos diwethaf, i mi ddweud fy mod i'n gobeithio mai hwn fydd y cyfnod tair wythnos olaf pan fydd yn rhaid i ni ofyn i bobl yng Nghymru aros gartref ac y byddem ni'n gallu symud y tu hwnt i hynny. Dywedais bryd hynny hefyd y byddem ni'n parhau i wneud dychwelyd i addysg cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl i'n plant yn brif flaenoriaeth, ac y byddem ni, ochr yn ochr â hynny, yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o ganiatáu i bobl wneud mwy yn eu bywydau personol a dechrau ailagor agweddau newydd ar economi Cymru. Dyna'r rhestr o faterion yr ydym ni'n eu trafod fel Cabinet o hyd ac rwy'n edrych ymlaen at allu gwneud cyhoeddiadau ar hynny ddydd Gwener.

Mae'r ffaith fod niferoedd y bobl yng Nghymru sy'n dioddef o coronafeirws yn parhau i ostwng, y ffaith bod y straen a'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn lleihau yn y ffordd y mae—dyna'n sicr y llwyddiant sy'n perthyn i bobl yma yng Nghymru, am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i gadw at y gofyniad anodd yr ydym ni wedi ei orfodi arnyn nhw yn ystod yr wythnosau diweddar, er mwyn rheoli'r don ddiweddaraf hon o'r pandemig. Wrth i ni lacio cyfyngiadau, byddaf yn apelio unwaith eto ar bobl yng Nghymru i beidio â mynd i'r afael â hyn drwy ofyn iddyn nhw eu hunain, 'Pa mor bell y gellir ymestyn y rheolau, beth yw'r mwyaf y gallaf i wthio pethau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio?' Rydym ni'n dal i wynebu argyfwng iechyd y cyhoedd. Nid oes neb yn gwybod sut y bydd amrywiolyn Caint yn ymateb wrth i ni ddechrau ailgyflwyno agweddau ar ein bywydau bob dydd. Byddaf yn apelio unwaith eto i bobl yng Nghymru ofyn y cwestiwn iddyn nhw eu hunain nid, 'Beth allaf i ei wneud?' ond, 'Beth ddylwn i ei wneud er mwyn parhau i wneud fy nghyfraniad at gadw fy hun, pobl eraill a Chymru gyfan yn ddiogel?'

13:50

Prif Weinidog, ar ôl ennill etholiad arweinyddiaeth eich plaid ym mis Rhagfyr 2018, dywedasoch y dylai Aelodau'r Senedd, mewn byd toredig, ymdrechu i gael 'math mwy caredig o wleidyddiaeth'. Yr wythnos diwethaf, gorfodwyd eich cyd-aelod Llafur ac arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, i gamu o'r neilltu ar ôl i recordiad ddod i'r amlwg ohono yn gwneud sylwadau ffiaidd am ein cyd-Aelod o'r Senedd Bethan Sayed. Roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddoe, gyda thema eleni, 'dewis herio', yn annog pobl i herio stereoteipiau a rhagfarn lle bynnag y maen nhw'n codi er mwyn sicrhau newid. Gyda hynny mewn golwg, a wnewch chi gofnodi eich condemniad o sylwadau'r Cynghorydd Jones, a dewis herio ei gasineb ofnadwy at fenywod? Ac, a ddylai ei ymddiswyddiad dros dro, yn eich barn chi, fod yn barhaol?

Roeddwn i'n bryderus o ddarllen adroddiadau am yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Jones, ac rwy'n siŵr ei fod wedi gwneud y peth iawn wrth gamu o'r neilltu o arweinyddiaeth cyngor Castell-nedd Port Talbot tra bod y swyddog monitro a'r ombwdsmon yma yng Nghymru yn ymchwilio yn briodol i'r sylwadau hynny. Dyna pam y mae wedi cael ei wahardd o'i aelodaeth o'r Blaid Lafur tra gellir cwblhau'r ymchwiliadau hynny. Rwy'n credu y byddai'n synhwyrol i unrhyw un aros am ganlyniad yr ymchwiliadau hynny cyn dod i gasgliadau am yr hyn a ddylai ddigwydd nesaf. Ond rwy'n siŵr bod y Cynghorydd Jones yn iawn i gamu i lawr o arweinyddiaeth y cyngor ac i gyfeirio ei hun at y swyddog monitro ac at yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn aros nawr am ganlyniad yr ymchwiliadau hynny.

Ond siawns, Prif Weinidog, hyd yn oed nawr y gallwch chi gondemnio ei sylwadau yn llwyr. Mae'r recordiad hefyd yn datgelu ffordd sinistr o ymgymryd â gwleidyddiaeth, onid yw? Yn rhyfeddol, mae'n cyfeirio at ffafrio prosiectau a gefnogir gan gynghorwyr Llafur ar gyfer arian cyhoeddus. Gan gyfeirio at enghraifft mynwent Alltygrug yn Ystalyfera, mae'n sôn am ddweud wrth swyddogion am fynd i chwilio i lawr y tu ôl i gefn y soffa i dalu am brosiect a arweiniodd, mae'n brolio, at bobl yn troi at y Blaid Lafur. Rwyf i wedi ysgrifennu at yr archwilydd cyffredinol, Prif Weinidog, yn gofyn iddo nid yn unig ymchwilio i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn y recordiad, ond iddo hefyd sicrhau bod mesurau rhwystrau a gwrthbwysau cadarn ar waith i ddiogelu rhag y camddefnydd posibl o arian cyhoeddus at ddibenion plaid wleidyddol mewn awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. A fyddech chi'n cefnogi ymchwiliad o'i fath?

Mae'n bwysig bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal, ac mae'n bwysig bod yr ymchwiliadau hynny yn cael dod i'w casgliadau eu hunain, yn hytrach na gwleidyddion ar lawr y Senedd yn rhagweld y casgliadau hynny ac yn gofyn i eraill gytuno â'r casgliadau y maen nhw eisoes wedi eu cyrraedd, yn ôl pob golwg .Nid oes unrhyw le i gasineb at fenywod mewn unrhyw ran o fywyd Cymru nac mewn unrhyw blaid wleidyddol. Rwy'n cofio bod Mr Price ei hun wedi lansio ymchwiliad i gasineb at fenywod ym Mhlaid Cymru ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2019. Rwyf i wedi edrych i weld a allaf i ddod o hyd i ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw, ond nid wyf i wedi gallu dod o hyd iddo fy hunan, ac efallai mai'r rheswm am hynny yw nad wyf i wedi edrych yn y lle iawn. Ond yn union fel yr oedd ef yn iawn, rwy'n siŵr, i sicrhau bod yr ymchwiliad hwnnw yn cael ei gynnal yn ei blaid, mae hefyd yn iawn y dylid ymchwilio i'r honiadau a wnaed yn erbyn y Cynghorydd Jones, ac yn sicr bydd canlyniadau'r ymchwiliadau hynny yn cael eu cyhoeddi.

13:55

Gofynnaf iddo yn derfynol: a wnewch chi gyfaddef bod y geiriau a ddefnyddiwyd gan y Cynghorydd Jones i ddisgrifio Bethan Sayed yn gwbl warthus? Mae gennych chi yr holl wybodaeth, siawns, sydd ei hangen ar unrhyw un i wneud y datganiad hwnnw nawr.

Yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, wynebodd Llywodraeth y DU feirniadaeth ffyrnig am y ffordd yr oedd ei chronfa lefelu i fyny, fel y'i gelwir, yn ffafrio etholaethau Ceidwadol. Yn y gyfran gyntaf o gyllid, cynrychiolir 39 o'r 45 ardal sydd i fod i gael cymorth gan Aelodau Seneddol Ceidwadol. Fel y dywedodd fy nghydweithiwr Liz Saville Roberts,

mae ein harian cyhoeddus yn cael ei ddwyn ar gyfer y gyllideb o byngs y Torïaid.'

Ceir atsain o hynny sy'n peri pryder yn y datgeliadau sydd wedi dod i'r amlwg yn rhan o saga Castell-nedd Port Talbot, Prif Weinidog. A ydych chi'n ffyddiog nad crib y rhewfryn yn unig yw achos Castell-nedd Port Talbot, ac nad oes gan Gymru ei phroblem ei hun o ran arian i gydweithwyr o dan oruchwyliaeth y blaid Lafur?

Rwy'n condemnio casineb at fenywod lle bynnag y'i gwelir. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn y dylai fod ymchwiliadau i'r materion hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn i'r ymchwiliadau hynny gael eu cyhoeddi wedyn. Bydd hynny yn digwydd yn achos y Cynghorydd Jones, ac rwy'n meddwl bod hynny yr un mor berthnasol i'w blaid ef ag y mae i'm plaid i.

Nid yw'n ymddangos i mi bod ceisio tynnu achos o daflu baw cyffredinol o un digwyddiad i'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru yn ffordd synhwyrol na chymesur o ymateb i hynny. Cymerais y rhagofal, gan feddwl y gallai hyn gael ei godi y prynhawn yma, i edrych ar hanes Llywodraeth Cymru yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio arian ledled Cymru gyfan. Gadewch i mi roi ychydig o ganlyniadau iddo o hynny. Yn wir, canolbwyntiaf am gyfnod ar un yn unig, rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—un o brif raglenni y Llywodraeth, sy'n darparu ysgolion a cholegau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ceir 25 o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin o dan reolaeth Plaid Cymru, 11 ysgol yn Sir Benfro o dan reolaeth annibynnol, naw ysgol yng Ngheredigion o dan reolaeth Plaid Cymru, 18 yng Ngwynedd a reolir gan Blaid Cymru, 14 yn Ynys Môn o dan reolaeth Plaid Cymru a 14 yng Nghonwy o dan reolaeth y Ceidwadwyr. Mae hanes Llywodraeth Cymru yn gwrthsefyll archwiliad ym mhob cynllun sydd gennym ni, ac nid oes unrhyw oblygiad posibl y gellid ei wneud, am y ffordd y mae arian yn cael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, ar linellau pleidiol wleidyddol. Rydym ni bob amser yn gwneud hynny ar sail meini prawf agored, tryloyw sy'n seiliedig ar anghenion. Dyna'r ffordd gywir a phriodol.

Mae'r gronfa lefelu i fyny, y cyfeiriodd Adam Price ati, i'r gwrthwyneb o hynny. Bydd honno bellach yn nwylo'r Ysgrifennydd Gwladol yn adran cymunedau, llywodraeth leol a thai Llywodraeth y DU, adran nad yw'n gwybod llawer iawn am Gymru, ac nid oes neb yma i'w cynorthwyo i ddarganfod mwy. Rwy'n cofio'r hyn a ddywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin am yr Ysgrifennydd Gwladol pan ddyfarnodd gyllid cronfa trefi i 60 o'r 61 etholaeth yn Lloegr a oedd naill ai yn rhai ymylol yn nwylo'r Ceidwadwyr neu ar y rhestr o seddi yr oedd y blaid Geidwadol yn gobeithio eu hennill mewn etholiad. Mae hwnnw yn gynsail sy'n peri pryder mawr, ac yn un sy'n wahanol iawn i'r ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn mynd ati i ddefnyddio arian cyhoeddus yng Nghymru.

Potensial Economaidd Casnewydd

3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu potensial economaidd Casnewydd yn llawn? OQ56414

Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio yn agos gyda'r awdurdod lleol ac eraill yng Nghasnewydd i gefnogi mentrau sy'n hybu potensial economaidd yn y ddinas, o ddatblygiad Arcêd y Farchnad i adnewyddu Tŵr y Siartwyr a'r cyfleusterau i ymwelwyr ym mhont gludo nodedig Casnewydd.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r diwydiant dur yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o economi Casnewydd, gyda Tata Steel yn Llanwern, er enghraifft, a hefyd, wrth gwrs, Liberty Steel ym Mrynbuga. Rydym ni'n gwybod, Prif Weinidog, os yw'r DU yn ei chyfanrwydd yn mynd i gael y math o ddyfodol diwydiannol y mae'n ei haeddu, bod yn rhaid i ddur chwarae rhan bwysig yn hynny fel sector strategol. Ac rydym ni hefyd yn gwybod bod sefydliadau fel Liberty Steel yn bwrw ymlaen â pholisïau dur gwyrdd a chynaliadwy a fydd yn galluogi'r dyfodol cryf hwnnw i'r diwydiant dur. Fel y soniwyd yn gynharach yn y cwestiynau hyn, Prif Weinidog, ceir anhawster ariannu ar hyn o bryd i Liberty Steel. Mae Greensill Capital wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, a nhw oedd prif gefnogwyr ariannol Liberty Steel, felly mae angen ail-gyllido nawr, ac mae'r cwmni yn bwrw ymlaen â hynny, a chafwyd cyfarfod gyda'r undebau i drafod materion y bore yma. Prif Weinidog, cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, a allwch chi fy sicrhau i y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfathrebu yn agos iawn gyda'r cwmni, gyda'r undebau llafur ac, yn wir, gyda Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr bod dyfodol cryf i'r gwaith hwn yng Nghasnewydd? Mae'n perfformio yn gryf, mae'n gynaliadwy, ac mae'n rhan o'r sector dur cryf hwnnw yr ydym ni eisiau ei weld yn parhau yng Nghymru.

14:00

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â John Griffiths am bwysigrwydd y sector dur—sector strategol, sector sydd wedi bod angen mwy o gymorth gan Lywodraeth y DU nag y mae wedi ei gael yn ystod y pandemig. Roeddwn i'n falch bod cyfarfod o'r Cyngor Dur wedi ei gynnal ddydd Gwener yr wythnos diwethaf; bu bwlch rhy fawr o lawer rhwng cyfarfod diwethaf y cyngor a'r un yma. Ond roedd nifer dda yn bresennol—ac roedd Ken Skates yn bresennol ar ran Llywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr o Lywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Llywodraeth y DU, yr undebau llafur ac eraill. Felly, mae'n dda bod y Cyngor Dur yn cyfarfod unwaith eto. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn yn y cyngor. Byddwn yn gwneud y ddadl dros gynhyrchu dur yma yng Nghymru, gan gynnwys y datblygiadau, fel y dywedodd John Griffiths, sydd wedi bod yn bwysig iawn yng Nghasnewydd. Mae'r gwaith arloesol y mae Liberty Steel wedi ei wneud, y cynlluniau y mae Tata Steel, mi wn, yn awyddus iawn i barhau i'w trafod gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor a gwyrdd i'r diwydiant hwnnw, hefyd, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu, fel yr ydym ni wedi ei wneud erioed, i gefnogi'r diwydiant dur, a galw ar bartneriaid eraill sydd â rhannau eraill i'w chwarae, i wneud yn siŵr eu bod nhw yn ymgysylltu i'r un graddau.

A gaf i gytuno yn llwyr â'r safbwyntiau sydd newydd gael eu mynegi o ran yr angen i ddarparu diwydiant dur cynaliadwy ledled Cymru?

A gaf i ehangu hyn i ffawd economi ehangach Casnewydd ac economi'r de-ddwyrain—economi Sir Fynwy, dylwn i ddweud—y mae'r ddwy ohonyn nhw yn dibynnu ar seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy modern? Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiad metro de Cymru, lle'r ydym ni gyda hynny, ac, yn benodol, a yw'r potensial ar gyfer canolfan fetro yn y Celtic Manor, yr wyf i wedi ei godi o'r blaen gyda Gweinidog yr economi—Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth—wedi ei drafod gyda rhanddeiliaid perthnasol. Byddai canolfan yn y man hwnnw o fewn y system metro yn darparu'r cyswllt coll rhwng gorsaf reilffordd Casnewydd a threfi yn fy etholaeth i, fel Trefynwy, sydd, ar ôl 6 o'r gloch, wedi eu torri i ffwrdd yn llwyr o seilwaith trafnidiaeth Casnewydd. Felly, tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiad y metro.

Llywydd, diolchaf i Nick Ramsay am y cwestiwn yna, ac er gwaethaf yr heriau y mae cyfnod y pandemig wedi eu hachosi, mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer metro de Cymru yn dal i fod yno, yn dal i fod wedi eu hariannu ac yn dal i fod mor uchelgeisiol ag y buon nhw erioed. Byddaf yn gofyn i'm cyd-Weinidog Ken Skates roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am fater penodol cyswllt y Celtic Manor â'r metro.FootnoteLink

Ochr yn ochr â hynny, Llywydd, rydym ni'n edrych ymlaen at gyhoeddiad adolygiad cysylltedd y DU Peter Hendry, y darparodd Llywodraeth Cymru dystiolaeth iddo, ac y darparodd yr Arglwydd Burns, fel cadeirydd comisiwn Burns, dystiolaeth iddo hefyd, oherwydd ochr yn ochr â'r metro ar gyfer economi de-ddwyrain Cymru a Sir Fynwy, rydym ni angen i Lywodraeth y DU ymrwymo i uwchraddio'r ail reilffordd honno sy'n bodoli eisoes, gyda chynlluniau ar gyfer comisiwn Burns wedi eu nodi yn fanwl—chwe gorsaf newydd o bosibl ar ei hyd—gan wneud llawer iawn o wahaniaeth i gysylltedd yn y rhan honno o Gymru, a chyda chyfle gwirioneddol yn yr adolygiad cysylltedd i Lywodraeth y DU ddangos ei hymrwymiad i gysylltedd rhwng y de-ddwyrain a'n partneriaid masnachu dros y ffin, a'i wneud yn unol â chynllun sydd eisoes wedi ei lunio, ac wedi ei gyflwyno yn argyhoeddiadol iawn.

14:05
Cadw

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad Cadw ledled Gogledd Cymru? OQ56393

Llywydd, mae Cadw yn parhau i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, ac i gynnal ei geidwadaeth o safleoedd ledled Cymru, mewn ffyrdd sy'n cadw at y cyfyngiadau sy'n angenrheidiol oherwydd argyfwng y coronafeirws.

Diolch. Prif Weinidog, roedd Neuadd Cinmel yn y penawdau unwaith eto yn ddiweddar. Mae wedi cael ei alw yn Versailles Cymru, ond mae wedi dadfeilio i gyflwr peryglus, ac mae'r darn hwn o dreftadaeth Cymru mewn perygl difrifol iawn o gael ei golli am byth, er ei fod yn adeilad rhestredig gradd I. Rwy'n gweld mai un o flaenoriaethau cyntaf Cadw yw gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Prif Weinidog, beth yw diben y system restru a beth yw diben Cadw os nad yw'r naill na'r llall yn diogelu treftadaeth Cymru? Diolch.

Llywydd, diolchaf i Mandy Jones am hynna, ac rwy'n rhannu ei phryderon am Neuadd Cinmel a'r adroddiadau am y dirywiad i gyflwr yr adeilad y byddaf i a hithau wedi eu darllen mewn adroddiadau. Fodd bynnag, dyma'r sefyllfa: Mae Neuadd Cinmel yn gyfleuster sy'n eiddo preifat; nid yw mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae Cadw wedi cyflawni ei gyfrifoldeb, sef rhestru'r adeilad. Ar ôl hynny, mater i'r awdurdod lleol—yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr adeilad yn cael ei gynnal mewn cyflwr sy'n cyfateb i'r rhestriad y mae Cadw wedi ei ddyfarnu iddo. Ac mae gan yr awdurdod lleol y grym i gyhoeddi atgyweiriadau statudol a hysbysiadau gwaith brys. Nawr, rwy'n deall, er bod y perchnogion presennol yn y gorffennol wedi bod yn amharod i gydnabod yr angen i weithredu i fynd i'r afael â chyflwr yr adeilad, yn fwy diweddar, bu mwy o awydd ar eu rhan i gymryd y camau sy'n angenrheidiol, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn trafodaethau gyda nhw i wneud yn siŵr bod y camau hynny yn cael eu cymryd. Mae Cadw yn dal i gymryd rhan, ond mewn swyddogaeth ategol i'r awdurdod cynllunio lleol, gan roi dewisiadau iddyn nhw sydd ar gael i ddiogelu'r busnes—yr adeilad, mae'n ddrwg gen i. Ond nid cyfrifoldeb Cadw, ar ôl i'r rhestriad gael ei wneud, yw gwneud yn siŵr bod yr adeilad yn cael ei gadw mewn cyflwr priodol. Cyfrifoldeb y perchnogion yw hynny, a phan fo'r perchnogion yn methu â chyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw, mater i'r awdurdod lleol yw dod i'r amlwg a gwneud yn siŵr bod y camau y dylid eu cymryd yn cael eu cymryd.

Prif Weinidog, rwyf i wedi gwrando yn astud iawn ar eich ateb am Neuadd Cinmel, sydd, fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i. Mae'n adeilad gwerthfawr iawn, mae'n rhan bwysig iawn o'n treftadaeth genedlaethol ni fel cenedl, ac, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i gamu i mewn, caffael yr adeilad hwn, a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y byddwch chi'n gwybod, mae Cadw nid yn unig yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn rhestru adeiladau, maen nhw mewn gwirionedd yn gweithredu fel ceidwad ar gyfer llawer o adeiladau hanesyddol pwysig ledled Cymru. Felly, hoffai fy etholwyr weld Llywodraeth Cymru a Cadw yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a'r perchnogion presennol, ond pan nad oes gan y perchnogion presennol hynny yr awydd na'r adnoddau i ddiogelu'r adeilad hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a gaf i ofyn: a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried camu i mewn a chaffael yr adeilad hwn yn rhan o'n treftadaeth genedlaethol? Dyma gartref gwledig mwyaf Cymru, fe'i gelwir yn Versailles Cymru, ac mae'n haeddu'r lefel ychwanegol honno o ddiogelwch nad oes ei hangen ar adeiladau eraill a allai fod mewn cyflwr adfeiliedig tebyg. Felly, a allwch chi gamu i mewn os bydd yr angen yn codi?

14:10

Llywydd, diolchaf i Darren Millar am y cyfraniad yna, ac rwy'n rhannu llawer o'r hyn y mae wedi ei ddweud am arwyddocâd Neuadd Cinmel, ei phwysigrwydd i Gymru gyfan. Lle mae Cadw yn gyfrifol am gynnal a chadw henebion, adeiladau a safleoedd, y rheswm yw bod y safleoedd hynny mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac nad yw Neuadd Cinmel mewn perchnogaeth gyhoeddus, mae ganddi berchnogion preifat, a hyd y gwn i, nid yw'r perchnogion hynny erioed wedi dangos awydd i'r adeilad gael ei dynnu allan o'u perchnogaeth a chael ei gaffael gan y Llywodraeth ar ran poblogaeth Cymru yn fwy cyffredinol. Byddai'n gam mawr iawn, oni fyddai, i'r Llywodraeth dynnu adeilad o berchnogaeth breifat yn orfodol, ac nid dyna fyddai fy newis i o ran ffordd o weithredu. Os oes awydd ar ran y perchnogion am wahanol fodel perchnogaeth yn y dyfodol, yna, wrth gwrs, byddai Llywodraeth Cymru yn rhan o'r sgwrs honno. Nid ni yw'r unig bosibilrwydd yn hynny o beth, wrth gwrs. Gwn y bydd Darren Millar yn ymwybodol iawn o weithrediad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yma yng Nghymru, ac mae nifer o ffyrdd y gall adeiladau preifat wneud eu ffordd i fathau ehangach o berchnogaeth â gwahanol lefelau o warchodaeth ar gyfer y dyfodol.

Cyllid sydd Heb ei Ddyrannu

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o gyllid sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb flynyddol y llynedd? OQ56385

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am hynna, Llywydd? Mae trydedd gyllideb atodol y flwyddyn ariannol hon, a fydd yn cael ei thrafod yn y Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn cwblhau ein cynlluniau gwariant cyllidol. O gyfanswm yr adnoddau sydd ar gael o £23.3 biliwn, mae 99.6 y cant o'r arian hwnnw wedi ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru fel y nodir yn y drydedd gyllideb atodol.

Prif Weinidog, diolch i chi am egluro hynna, a gofynnais y cwestiwn hwn i chi gan fod Llywodraeth Cymru, er iddi ddyrannu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrthym ni oedd yn 99.6 y cant o'i adnodd, wedi ei beirniadu yn barhaus gan y Torïaid yma yng Nghymru, ac ar yr un pryd mae gan eu Canghellor yn San Steffan gronfa COVID wrth gefn sy'n £19 biliwn ar hyn o bryd. Felly, Prif Weinidog, mae'n amlwg erbyn hyn pe byddai Llywodraeth Cymru wedi gwario ei holl sicrwydd COVID a oedd ar gael erbyn mis Hydref 2020, fel yr awgrymwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghymru, yna ni fyddech chi wedi gallu cyfateb y cyfnod atal byr a chyfyngiadau'r Nadolig gyda'r cymorth busnes pellgyrhaeddol a roddwyd ar waith yn gyflym. Nawr, os oes un cysondeb, Prif Weinidog, gyda'r blaid Geidwadol yng Nghymru ar hyn o bryd, ffugio dicter pan fydd ein Llywodraeth ni yng Nghymru yn gwneud y penderfyniadau cywir i gadw Cymru yn ddiogel yw hwnnw, dim ond i ymdawelu pan fydd eu plaid nhw yn San Steffan yn dilyn ein hesiampl Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod y Ceidwadwyr Cymreig erbyn hyn mor bell oddi ar radar Rishi Sunak fel eu bod nhw'n teimlo'n hyderus na fydd hyd yn oed yn sylwi pan fyddan nhw'n ymosod arno ef a'i bolisïau yn anfwriadol?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies. Mae'n sicr mai un peth yw peidio â gallu bod yn ddoeth cyn y digwyddiad, a dyna'n sicr yw hanes plaid Geidwadol Cymru, ond mae'n blaid sydd ddim hyd yn oed yn llwyddo i fod yn ddoeth ar ôl y digwyddiad, ychwaith. Pe byddem ni wedi cymryd cyngor y blaid honno yn ôl ym mis Hydref, yna, wrth gwrs, mae Huw Irranca-Davies yn iawn, ni fyddem ni wedi bod mewn sefyllfa o gwbl i gynorthwyo busnesau Cymru yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol bresennol. Yn ôl ym mis Hydref, roeddem ni wedi gwario dwy ran o dair o'n cyllideb ddwy ran o dair o'r ffordd i mewn i'r flwyddyn ariannol hon. Roeddem ni wedi gwario tri chwarter ein cyllideb pan oeddem ni dri chwarter y ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, ac fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, byddwn ni wedi gwario 99.6 y cant o'r holl arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac mae hwnnw, Llywydd, yn batrwm sydd wedi ei ailadrodd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod holl gyfnod datganoli. Bob blwyddyn, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn defnyddio'r cyllid mwyaf posibl sydd ar gael gennym ni i gynorthwyo busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac mae ein record hanes yn cymharu yn eithriadol o ffafriol ag adrannau Llywodraeth y DU, nad ydyn nhw byth yn rheoli unrhyw beth tebyg i'r un gyfatebiaeth rhwng yr arian sydd ar gael a'r gallu i'w ddefnyddio yn dda. Mae hanes Llywodraeth Cymru yn y fan yma yn gallu gwrthsefyll archwiliad gan unrhyw un, ac mae cyngor Plaid Geidwadol Cymru a'r lol, y lol llwyr, a gynigiwyd ganddyn nhw i bobl yn ôl ym mis Hydref wedi cael ei amlygu yn eglur iawn ers hynny gan y digwyddiadau a ddaeth i'r amlwg ers hynny.

14:15

Caiff cronfa wrth gefn Llywodraeth Cymru ddal hyd at £350 miliwn; ar 1 Ebrill 2020, roedd y balans yn £335.9 miliwn. Dair wythnos yn ôl, cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar hyblygrwydd ychwanegol, y tu hwnt i gronfa wrth gefn Cymru, yn parhau i 2021-22, gan alluogi Llywodraeth Cymru i gario drosodd unrhyw elfen heb ei dyrannu o'r £650 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i mewn i flwyddyn ariannol 2021-22, ar ben y ddarpariaeth bresennol i drosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae Llywodraeth Cymru yn cario tua £660.2 miliwn o gyllid ychwanegol 2020-21 drosodd i 2021-22. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad alldro ar gyfer 2020-21, gyda lefel debyg o fanylder i'r adroddiad ar gyfer 2019-20. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hyn, a sut y byddwch chi'n sicrhau tryloywder ychwanegol o ran cyllidebau Llywodraeth Cymru pan fo Llywodraeth Cymru, er enghraifft, wedi methu â dyrannu dim o gyllid ychwanegol Llywodraeth y DU, yn wahanol i'r Alban, sy'n golygu eich bod chi wedi methu â dyrannu £1.3 biliwn yn y gyllideb y mae eich Llywodraeth yn ei chyhoeddi heddiw?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu y bydd y Llywodraeth hon angen unrhyw wersi gan yr Aelod ar fwy o dryloywder. Dyma'r drydedd gyllideb atodol yr ydym ni wedi ei gosod yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'n nodi yn gwbl fanwl yr holl ffyrdd y defnyddiwyd yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Ni chyhoeddodd ei Lywodraeth ef, ei Lywodraeth ef yn San Steffan, unrhyw gyllideb atodol, a dim ond, yn hwyr iawn yn y flwyddyn, wythnosau lawer yn ddiweddarach nag yr oedden nhw wedi ei addo, pan gynhyrchwyd yr amcangyfrifon, y darparwyd yr arian ychwanegol ac, yn synhwyrol o'r diwedd, cytunodd y Trysorlys ei bod hi'n rhy hwyr yn y flwyddyn ariannol i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio yn synhwyrol ac y ceid ei gario drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf. Dyna'n union, felly, y mae fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn bwriadu ei wneud. 

Rydym ni wedi adrodd yn ffyddlon ac yn rheolaidd ar bob penderfyniad gwario yr ydym ni wedi ei wneud i'r Senedd, yn wahanol iawn i berfformiad ei blaid ef ar lefel y DU. Wrth gwrs y byddwn ni'n cyhoeddi adroddiad alldro. Mae hynny'n digwydd bob blwyddyn, fel mater o drefn. Mae'n rhaid i ni adrodd ar ganlyniad terfynol ein cyllideb, a byddwn ni'n gwneud yn union hynny. Mae'n siom fawr i mi bod y Canghellor wedi gwrthod, ac yn parhau i wrthod, caniatáu unrhyw hyblygrwydd ychwanegol i ni gyda'n harian ein hunain, Llywydd. Dyna'r hyn yr ydym ni wedi gofyn amdano o ran cronfa wrth gefn Cymru. Nid ydym ni wedi gofyn am yr un geiniog ychwanegol gan y Canghellor; rydym ni wedi gofyn yn syml am y gallu i'r arian sydd gennym ni fel Llywodraeth gael ei reoli gennym ni mewn ffordd a fyddai'n sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r arian cyhoeddus hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn hytrach, rydym ni'n dal i gael ein trin gan Lywodraeth y DU fel pe byddem ni'n adran arall o'r Llywodraeth, yn hytrach na Llywodraeth a Senedd yn ein rhinwedd ein hunain. Ac rwy'n credu bod honno ddim ond yn un enghraifft arall o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod cydnabod gwirioneddau'r Deyrnas Unedig ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli. 

Cwestiwn 6, Lynne Neagle.

Ni allaf eich clywed chi ar hyn o bryd, Lynne Neagle. Gallaf weld eich bod chi wedi dad-dawelu, ond a ydych chi wedi eich tawelu yn ganolog ar eich—?

Lles Plant a Phobl Ifanc

6. Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod lles plant a phobl ifanc yn cael ei flaenoriaethu wrth ystyried llacio'r cyfyngiadau symud? OQ56425

Llywydd, a gaf i ddiolch i Lynne Neagle am y cwestiwn yna ac am ei diddordeb a'i chefnogaeth barhaus i'r maes cyfan hwn? Ein blaenoriaeth wrth lacio'r cyfyngiadau yw cael cynifer o blant a phobl ifanc â phosibl mewn modd mor ddiogel â phosibl yn ôl i addysg wyneb yn wyneb. Wrth i'r amodau wella, byddwn yn archwilio sut y gall gweithgareddau awyr agored dan oruchwyliaeth ailddechrau ar gyfer plant yng Nghymru hefyd.

14:20

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, yn anaml y bydd COVID yn achosi salwch difrifol mewn plant a phobl ifanc, ond rydym ni'n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar eu dysgu, ar eu hiechyd meddwl ac ar agweddau eraill ar eu hiechyd corfforol. Rwyf wir yn cefnogi y dull gofalus o lacio'r cyfyngiadau symud, a dull lle'r ydym ni'n parhau i ddilyn tystiolaeth a chyngor gwyddonol. Fodd bynnag, rwy'n bryderus iawn y bydd penderfyniadau yn y dyddiau nesaf i lacio cyfyngiadau eraill yn cael gwared ar yr hyblygrwydd hanfodol sydd ei angen i ddychwelyd plant i'r ysgol yn llawn. Pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi y bydd sicrhau y gall pob plentyn ddychwelyd i'r ysgol ar 15 Ebrill ar ôl y Pasg yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth iddo, a pha sicrwydd all ef ei roi y bydd yr angen i gynnal yr hyblygrwydd i blant ddychwelyd i'r ysgol yn gwbl ganolog i benderfyniadau yn y dyfodol ar lacio'r cyfyngiadau symud? Ac a gaf i ofyn hefyd pa un a yw'r Prif Weinidog yn bwriadu cyhoeddi asesiad o effaith ar hawliau plant wedi ei ddiweddaru er mwyn cyd-fynd â'r adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau? Diolch.

Llywydd, diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna, ac am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud yn cadeirio'r pwyllgor plant a phobl ifanc yn y Senedd, sydd wedi gwneud cymaint o gyfraniad at y ffordd yr ydym ni wedi gallu ymdrin â'r materion heriol hyn. Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru o hyd yw cael ein plant a'n pobl ifanc yn ôl i addysg wyneb yn wyneb, ei wneud mor gyflym ond mor ddiogel ag y gallwn, a dyna pam yr ydym ni wedi datblygu'r dull cam wrth gam, oherwydd dyna y mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, ein grŵp cell cynghori technegol ein hunain a'r prif swyddog meddygol wedi ei ddweud wrthym ni o'r cychwyn. Felly, mae gennym ni tua 30 y cant o blant yn ôl yn yr ysgol eisoes o ganlyniad i ddychweliad y cyfnod sylfaen. Ddydd Llun yr wythnos nesaf, byddwn yn dychwelyd pob plentyn o oedran cynradd i addysg wyneb yn wyneb, myfyrwyr arholiad yn yr ysgol uwchradd, a bydd hi wedi gweld ac wedi croesawu, mi wn, yr hyblygrwydd ychwanegol y mae'r Gweinidog addysg wedi ei gynnig i awdurdodau addysg lleol a phenaethiaid ddod â mwy o blant yn ôl i'r ysgol cyn gwyliau'r Pasg. Byddwn yn ceisio defnyddio'r hyblygrwydd sydd gennym ni i ailgyflwyno rhai agweddau eraill ar fywyd Cymru, ond rydym ni bob amser yn gwneud hynny gan roi sylw manwl i beidio â gwneud dim a fyddai'n amharu ar ein gallu i ddychwelyd ein plant a'n pobl ifanc i gyd i'r ysgol yn syth ar ôl gwyliau'r Pasg, a gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddi mai dyna, bob amser, yw'r safbwynt sy'n sail i'n hystyriaeth o'r agweddau eraill yr ydym ni'n gobeithio gallu gwneud rhywfaint o gynnydd rhagarweiniol arnyn nhw ar ôl cwblhau adolygiad y dydd Gwener hwn. Yn y cyfamser, byddwn yn cyhoeddi'r holl asesiadau o effaith a'r dogfennau ategol yr ydym ni wedi eu datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wrth i ni gwblhau'r adolygiad tair wythnos hwn.

Buddsoddiad mewn Prosiectau Cyfalaf

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf? OQ56426

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud pob ymdrech i sicrhau'r gwerth gorau posibl o'i buddsoddiadau cyfalaf, yn unol â'r arferion gorau ar gyfer stiwardiaeth arian cyhoeddus.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Pe na byddai Llywodraeth Cymru newydd roi grant o £42.6 miliwn i Faes Awyr Caerdydd, gallai fod wedi recriwtio 1,000 o nyrsys GIG newydd a'u talu nhw am ddwy flynedd. Yn ddiweddar, rhoddodd y Gweinidog trafnidiaeth y bai am yr angen i ddileu £40 miliwn o ddyled sy'n ddyledus i drethdalwyr Cymru gan y maes awyr a dyfarnu'r grant aruthrol o fawr hwn iddyn nhw ar bandemig COVID, ond nid COVID sy'n gyfrifol am hyn, nage? Nid yw Maes Awyr Caerdydd erioed wedi gwneud elw o dan berchnogaeth y Llywodraeth, ac yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth diwethaf—pan roedd ganddo, yn ôl Mr Skates, y niferoedd uchaf o deithwyr erioed yn mynd drwy'r maes awyr—gwnaeth ei golled fwyaf erioed, hyd yn oed pan fyddwch chi'n cymryd y gwariant untro ar gyfer y flwyddyn honno i ystyriaeth. Mae'n wir bod COVID wedi gwthio ein holl feysydd awyr i wneud colled, ond roedd Caerdydd eisoes yn gwneud colledion mawr cynt, gan golli £20 miliwn y flwyddyn i'r trethdalwr. Ni ddisgwylir i niferoedd teithwyr ddychwelyd i lefelau cyn COVID am fwy na thair blynedd, felly, hyd y gellir rhagweld, bydd yn rhaid i chi roi o leiaf £20 miliwn y flwyddyn i Faes Awyr Caerdydd, yr un swm o arian â chyflog blwyddyn arall ar gyfer y 1,000 o nyrsys ychwanegol hynny y gallech chi fod wedi eu recriwtio yn hytrach na hynny. Nid bargen wael i'r gogledd yn unig yw hon, mae'n fargen wael i'r wlad gyfan. Onid yw'n wir, Prif Weinidog, eich bod chi'n cadw Maes Awyr Caerdydd mewn perchnogaeth gyhoeddus am resymau gwleidyddol, gan ei fod yn achosi gormod o gywilydd i chi gyfaddef na fydd byth yn hyfyw ac na ddylech chi fyth fod wedi buddsoddi yr un geiniog o arian pobl Cymru ynddo yn y lle cyntaf? Mae'r achubiad diweddaraf i Faes Awyr Caerdydd mor ddi-sail yn fasnachol fel na fyddai hyd yn oed Banc Datblygu Cymru, sy'n cymryd mwy o risg yn fwriadol na'r farchnad, wedi rhoi benthyg unrhyw arian iddo. Felly, Prif Weinidog, a oes terfyn i faint o arian da ar ôl drwg yr ydych chi'n barod i'w daflu at Faes Awyr Caerdydd, neu a wnewch chi ddiogelu arian cyhoeddus Cymru nawr, rhoi'r gorau i ariannu'r maes awyr, a'i wario ar wella GIG Cymru yn hytrach?

14:25

Llywydd, nid wyf i'n rhannu gelyniaeth yr Aelod tuag at Faes Awyr Caerdydd. Roedd ei chrynodeb mor anghywir ag yr oedd yn hir. Yn wir, o'r brig i'r gwaelod mae'n camliwio'r achos dros fuddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd, llwyddiant y buddsoddiad hwnnw, ac mae hi—. Mae'n gamliwiad mor sylfaenol i honni y gellid defnyddio'r arian a ddarparwyd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn GIG Cymru. Nid yw ar gael yn y ffordd honno, a byddai'r ddealltwriaeth symlaf—symlaf—o sut y mae cyllid yn gweithio wedi ei hatal rhag gwneud y camgymeriad hwnnw. Oherwydd nid yw'n gamgymeriad, nac ydy? Mae'n haeriad gwleidyddol y mae hi'n ceisio ei wneud. Mae hi'n anghywir am y maes awyr, mae hi'n anghywir am y cyllid, ac nid wyf i'n meddwl y byddai unrhyw un sy'n angerddol am fuddiannau Cymru yn barod i'w dilyn yn y ddadl y mae hi wedi ei gwneud.

Maes Awyr Caerdydd

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd? OQ56388

Ah, wel, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna am Faes Awyr Caerdydd. Mae'r pandemig byd-eang wedi cael effaith drychinebus ar y diwydiant hedfan byd-eang. Yma, rydym ni wedi gweithredu mewn modd pendant i helpu i sicrhau dyfodol Maes Awyr Caerdydd, i sicrhau bod ganddo ddyfodol cynaliadwy ac i ddiogelu gwerth y buddsoddiad cyhoeddus yn y maes awyr.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Gwrandewais ar y cwestiwn hir gan Michelle Brown. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod mwy na 5,000 o swyddi yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd, ac mae bodolaeth Maes Awyr Ynys Môn yn ddibynnol ar Faes Awyr Caerdydd, ond, i Michelle Brown, mae'r swyddi hyn yn y rhan anghywir o Gymru i fod yn bwysig, a dyna'r argraff a gefais i. Roedd Maes Awyr Caerdydd yn gwneud yn dda dros ben hyd at yr argyfwng COVID.

Ond helpwch fi gyda hyn, os gwnewch chi, Prif Weinidog. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, drwy eu Llywodraeth yn Llundain, wedi rhoi cymorth i feysydd awyr yn Lloegr, ond maen nhw'n condemnio ein Llywodraeth ni yng Nghymru gan ei bod hi wedi rhoi cymorth i'n meysydd awyr yng Nghymru. A allwch chi fy helpu i ynghylch pam mae ganddyn nhw'r safonau dwbl hynny? Neu a yw oherwydd, yn nwfn yn enaid y Blaid Geidwadol, yn rhan annatod o'u DNA, ynghyd â'u cyd-deithwyr fel Michelle Brown, bod awydd cryf i weld Cymru yn methu?

Wel, Llywydd, mae Llywodraeth yr Alban wedi rhoi cymorth i feysydd awyr yr Alban, mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi rhoi cymorth i faes awyr Belfast; gwrthododd Llywodraeth y DU roi cymorth i Faes Awyr Caerdydd. Rhoddodd gymorth i Faes Awyr Bryste, yr oedd wedi dweud wrthym ni erioed ei fod yn gystadleuydd uniongyrchol i Gaerdydd, y rheswm pam nad oedd yn bosibl datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i ddiogelu ased cenedlaethol, sef Maes Awyr Caerdydd. Fel y mae Carwyn Jones wedi ei ddweud, Llywydd, roedd y maes awyr wedi bod ar lwybr o welliant cryf o ganlyniad i'r camau a gymerodd ef pan oedd yn Brif Weinidog i wneud yn siŵr bod yr ased y mae'n rhaid i Faes Awyr Caerdydd ei fod i economi Cymru yn cael ei gadw ar gyfer pobl Cymru. Y 5,000 o swyddi sy'n dibynnu ar y maes awyr yn fwy cyffredinol, y 2,400 o swyddi sy'n dibynnu arno yn uniongyrchol—ni fydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn troi ein cefn ar yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael ar y maes awyr. Byddwn yn ei gefnogi, hyd yn oed pan na fydd eraill yn gwneud hynny.

Prosiect Skyline yn y Rhondda

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddwyd i brosiect Rhondda Skyline? OQ56421

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae cronfa her yr economi sylfaenol wedi cefnogi prosiect Rhondda Skyline i adeiladu ar ei astudiaeth o ddichonoldeb ac ymchwilio i sefydlu prosiect stiwardiaeth tir cymunedol, hirdymor cyntaf Cymru ar raddfa tirwedd o amgylch tref Treherbert.

14:30

Prif Weinidog, pan ddadorchuddiwyd prosiect Skyline am y tro cyntaf, roedd yn addo cymaint. Fel Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ymateb i gwestiwn a ofynnais i am greu swyddi a chyfleoedd yn y Rhondda, gan ddadlau bod prosiect Skyline yn dystiolaeth nad oedd y Blaid Lafur wedi anghofio am y Rhondda. Ym mis Hydref 2019, fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n barod i, ac rwy'n dyfynnu:

wneud beth bynnag a allwn ni i helpu'r prosiect cyffrous iawn hwnnw i ddwyn ffrwyth.

Wel, mae'r prosiect wedi'i wanhau o sefyllfa lle mae'r gymuned â rheolaeth dros 650 hectar fel y crybwyllwyd, i ddim ond 80 hectar erbyn hyn, gan gorff eich Llywodraeth chi, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fel pe na byddai hyn yn ddigon siomedig, mae hyd yn oed y prosiect llawer llai, cymedrol, hwn wedi ei wrthod yn llwyr oherwydd materion technegol mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru/Llywodraeth Cymru. Mae cynlluniau tebyg yn cael eu rhedeg yn llwyddiannus mewn llawer o wledydd ledled y byd. Mae dros 200 o gymunedau sy'n berchen ar dir yn yr Alban yn gwneud yn union yr hyn y mae prosiect Skyline eisiau ei wneud, ac eto mae'n ymddangos na all model o reolaeth economaidd gymunedol ar dir coedwigaeth gyhoeddus ddechrau yn briodol yma yng Nghymru.

Pam nad yw Llywodraeth Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Lafur yn gallu gwneud hyn? A allwch chi ddweud wrthym ni beth sydd wedi mynd o'i le gyda'r prosiect hwn?

Wel, Llywydd, rwy'n siomedig o weld yr Aelod mor awyddus i gyhoeddi diwedd y prosiect. Fe gyfarfûm gydag uwch swyddogion ar hyn i gyd bore ddoe. Gallaf ei sicrhau hi nad yw'r trafodaethau ar ben. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r prosiect. Mae'n rhaid i'r trafodaethau hynny ystyried y cyngor y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei gael gan Swyddfa Archwilio Cymru; fyddai hi ddim yn disgwyl iddyn nhw wneud dim byd llai. Mae cyfarfod arall wedi'i gynllunio heddiw rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r prosiect. Rwy'n credu ei bod hi'n gynamserol, Llywydd, ac rwy'n credu nad yw'n helpu i ruthro i gasgliad yn y ffordd y gwnaeth hi.

Ymwelais i â'r prosiect Skyline ac fe wnaeth y bobl y cyfarfûm â nhw a'r cynlluniau a oedd ganddyn nhw argraff fawr arnaf. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi darparu £95,000 drwy'r gronfa her economi sylfaenol i gefnogi'r prosiect, ac rwy'n obeithiol y bydd y trafodaethau sy'n parhau rhwng y prosiect a Cyfoeth Naturiol Cymru yn dod o hyd i ffordd o wireddu'r manteision economaidd a chymdeithasol y mae'r prosiect yn eu cynnig i bobl yn y rhan honno o'r Rhondda.

Ysgrifennodd y Gweinidog sy'n gyfrifol, Lesley Griffiths, at Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Rhagfyr, gan ddweud wrthyn nhw ei bod hi eisiau dyfodol i'r prosiect a fyddai'n gwneud hynny'n union, a fyddai'n caniatáu i'r manteision economaidd a chymdeithasol llawn y mae'n eu cynnig gael eu gwireddu, ac rwyf eisiau i'r trafodaethau hynny barhau ar y sail honno.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges. 

Hawliau Dynol Pobl Anabl

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol pobl anabl? OQ56381

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Mike Hedges. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain y ffordd o ran dileu gwahaniaethu tuag at bobl anabl. Mae ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl wedi arwain y ffordd o ran amlygu effaith COVID-19 ar bobl anabl yn ystod y pandemig.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Mae pobl ag anabledd, yn enwedig y rhai ag anableddau cudd fel arthritis, sglerosis ymledol, encephalomyelitis myalgic a byddardod, yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gellir rhoi mwy o gymorth i bobl sydd â'r mathau hyn o anableddau i sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais?

Rwy'n cydnabod yr heriau sylweddol, fel y dywedodd yr Aelod, y mae pobl sy'n byw gyda chyflyrau fel MS, ME, arthritis a byddardod yn eu hwynebu. A hefyd, yr effaith ychwanegol, wrth gwrs, y mae COVID wedi'i chael ar ofalwyr, ffrindiau a theuluoedd. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn cydnabod y model cymdeithasol o anabledd, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w ddefnyddio, ac mae'n gwneud y gwahaniaeth pwysig hwnnw rhwng nam ac anabledd, gan gydnabod bod pobl â namau yn cael eu hanalluogi gan rwystrau sy'n bodoli yn gyffredin mewn cymdeithas. Ac rydym ni hefyd yn cydnabod nad yw pob nam, fel y dywedwch chi, Mike Hedges, yn weladwy, a bod yn rhaid rhoi'r un pwysoliad i namau cudd. Ac mae'r model cymdeithasol yn cefnogi'r rhai hynny sydd ag anabledd cudd.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod gennym ni, yn ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, aelodaeth eang, gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, Cyngor Pobl Fyddar Cymru, y Gymdeithas MS, yn ogystal â llawer o sefydliadau anabledd eraill. Ac rydym ni newydd gyflogi rhwydwaith o chwech o bobl anabl fel hyrwyddwyr cyflogaeth, a fydd yn gweithio gyda chyflogwyr ac yn cydnabod y namau cudd hyn, o ran y rhwystrau a'r cyfleoedd sydd gennym ni i'w goresgyn.

14:35
Caethwasiaeth Fodern

2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i atal caethwasiaeth fodern yng ngogledd Cymru? OQ56405

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna. Rydym ni'n benderfynol o wneud pob rhan o Gymru yn elyniaethus i gaethwasiaeth fodern. Rydym yn parhau i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a'n partneriaid amlasiantaeth yng Nghymru, a ledled y DU, i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed, ac i atal a rhoi terfyn ar y drosedd ffiaidd hon.

Diolch am yr ateb yna. Mi ges i gyfarfod yn ddiweddar efo Soroptimist International Ynys Môn, mudiad sy'n gwneud gwaith gwerthfawr iawn ym maes caethwasiaeth fodern a county lines, ac yn codi ymwybyddiaeth ac ati. Maen nhw'n poeni bod y pandemig wedi ei gwneud hi'n anoddach i adnabod caethwasiaeth fodern, efo dioddefwyr o bosibl yn fwy ynysig, wedi eu cuddio o'r golwg fwy, yn ystod cyfnodau clo. Mae yna berygl hefyd y gallai caledi economaidd yn sgil y pandemig roi mwy o bobl mewn sefyllfa fregus, lle y gallen nhw fod yn agored i gael eu hegsploitio. Ac mae yna hefyd bryder bod y ffaith bod ysgolion wedi cau yn ei gwneud hi'n anoddach i adnabod plant sydd wedi cael eu tynnu i mewn i county lines. Gaf i ofyn pa astudiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud o effaith y pandemig ar gaethwasiaeth fodern, a pha fesurau sy'n cael eu rhoi mewn lle i helpu dioddefwyr ar un llaw, ac i atal y troseddwyr ar y llaw arall?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae'r ffaith fod sefydliadau fel Soroptimist International yn dod ymlaen ac yn cymryd hwn fel mater y maen nhw yn pryderu amdano ac yn ceisio tystiolaeth ar ei gyfer, ac yn cyflwyno sylwadau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern—. Wrth gwrs, mae grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl, o dan gadeiryddiaeth Joyce Watson, a oedd hefyd mewn gwirionedd yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn penodi cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru. Ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth, er, wrth gwrs, nad y Llywodraeth ddatganoledig sy'n gyfrifol am holl ganlyniadau caethwasiaeth.

Ond mae eich pwyntiau am nodi effaith COVID, nid yn unig o ran pobl ddim yn dod ymlaen, ond o ran nodi dioddefwyr a chodi ymwybyddiaeth, yn hollbwysig, ac rydym ni'n gweithio'n agos gydag asiantaethau allweddol ledled y gogledd. Ac rwy'n credu eich bod chi hefyd yn gwneud pwynt pwysig o ran y materion sy'n ymwneud â llinellau cyffuriau. Felly, rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth mewn troseddau sy'n gysylltiedig â llinellau cyffuriau, er mwyn diogelu pobl sy'n agored i niwed rhag dioddef camfanteisio. Felly, mae cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gydag asiantaethau allweddol yng Nghymru i bennu graddfa, mathau a lleoliad caethwasiaeth, a hefyd i wella gwybodaeth a chofnodi digwyddiadau yng Nghymru, gan ddefnyddio'r dull atgyfeirio cenedlaethol, y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, i gynyddu achosion o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Tynnwyd cwestiwn 3 [OQ56396] yn ôl. Cwestiwn 4, Nick Ramsay. Cwestiwn 4, Nick Ramsay.

Cwestiwn 4, Nick Ramsay. Ydw i'n cael fy nglywed? Ydw, rwy'n cael fy nglywed. Mae Nick Ramsay newydd ddiflannu o'm sgrin. Na, mae Nick Ramsay ar fy sgrin. Iawn, rwy'n mynd i symud ymlaen.

Cwestiwn 5, Helen Mary Jones.

Cefnogaeth i'r Trydydd Sector yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r trydydd sector yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56413

14:40

Diolch, Helen Mary Jones, am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i'w galluogi i gefnogi mudiadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddoli ledled Cymru, ac rydym ni wedi darparu £4 miliwn drwy ein cronfa ymateb COVID trydydd sector i'r trydydd sector yn y canolbarth a'r gorllewin.

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hateb. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol bod llawer o sefydliadau'r trydydd sector yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae Cysylltu Ieuenctid, Plant ac Oedolion yn Llanelli, yn fy rhanbarth i, yn un, wedi bod yn arallgyfeirio ac yn ceisio gwneud eu gweithrediadau yn fwy masnachol. Er enghraifft, yn CYCA, maen nhw wedi bod yn ceisio gosod man swyddfa ar gyfer desgiau poeth, y math yna o beth. Nawr, gydag effaith argyfwng COVID, mae'r ymdrechion hyn i ddod yn fwy masnachol o dan fygythiad, maen nhw wedi mynd yn anoddach, efallai y bydd yn rhaid cael pwyslais gwahanol. A all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni y prynhawn yma pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r mathau hynny o sefydliadau trydydd sector y mae eu hincwm wedi ei effeithio yn y tymor canolig?

Mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn o ran y pwysau ar y sector gwirfoddol yn ystod y pandemig a'r ffaith ei fod wedi gorfod arallgyfeirio, ac mae llawer wedi arallgyfeirio er mwyn ymateb i'r pandemig mewn gwahanol ffyrdd. Rwy'n cofio, wrth gwrs, ymweld â phrosiect CYCA fy hun yn y gorffennol a gweld y gwaith da y maen nhw wedi ei wneud.

Wrth gwrs, yn ôl ym mis Ebrill y llynedd, wrth ymateb i'r pandemig, cyhoeddais y pecyn cymorth hwn gwerth £24 miliwn i drydydd sector Cymru, a'r pwynt pwysig am y pecyn oedd ei fod yn ymwneud ag ymateb brys, ond roedd hefyd yn ymwneud â chadernid, ymateb i'r pandemig a chydnabod yr angen i gefnogi'r rhai a oedd yn arallgyfeirio. Felly, rwy'n credu bod y grant adfer ar gyfer gwirfoddoli yn sgil y coronafeirws yn hollbwysig o ran diwallu'r anghenion newydd hynny, ond hefyd i gydnabod ei fod yn adferiad i gyllid y gwasanaethau gwirfoddol, sydd bellach yn £7.5 miliwn, gan ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas ac adnoddau ar gyfer newid a datblygu, gan gynnwys hefyd cymorth seilwaith, yn ogystal ag Ymddiriedolaethau Adfywio Cymru, ailadeiladu ar ôl coronafeirws. A dyma lle gallwn ni hefyd sicrhau bod sefydliadau'r trydydd sector yn gallu cael gafael ar ffynonellau cymorth eraill. Felly, mae'n gadernid, mae'n gyllid brys ac mae'n adferiad i gefnogi'r sefydliadau hyn.

Cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders. Cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders.

Galw bae Llandudno. Janet Finch-Saunders, a allwch chi fy nghlywed i? Rwy'n gallu eich gweld chi, Janet Finch-Saunders. Ydych chi'n gwrando? Na.

Nick Ramsay, cwestiwn 4. 

Da iawn. Dydw i ddim yn siŵr beth sy'n digwydd. [Chwerthin.] Gremlins yn y system. Iawn.

Y Sector Gwirfoddol

4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu cyfraniad y sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn ystod y pandemig? OQ56401

Diolch yn fawr iawn, Nick Ramsay. Wrth gwrs, mae'r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi chwarae  rhan bwysig a hanfodol yn ein hymdrechion i ymladd y pandemig, fel y dywedais i. Mae'n ymwneud â darparu gwasanaethau allweddol, cydgysylltu cefnogaeth leol a helpu i gefnogi ein gwirfoddolwyr ymroddedig a thosturiol. Rwy'n siŵr y byddech chi'n ymuno â mi, a phob un ohonom ni heddiw, i ddweud 'diolch' enfawr i'n holl wirfoddolwyr a sefydliadau'r sector gwirfoddol.

Diolch, Dirprwy Weinidog, fe fyddwn i'n cytuno â hynny. Ledled Cymru rydym ni wedi gweld gweithredoedd o wir arwriaeth, gyda phobl yn cymryd rhan yn eu cymunedau lleol, yn cefnogi'r rhai sydd wedi bod yn unig ac yn ynysig. Yn ôl Age Cymru, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn realiti dyddiol i lawer o bobl hŷn: mae 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud eu bod bob amser neu yn aml yn teimlo'n unig. Rwyf wedi codi mater unigrwydd gwledig o'r blaen, Dirprwy Weinidog. Tybed pa drafodaethau y gallech chi fod wedi eu cael neu y gallech chi eu cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i drafod sut y gellir ymdrin â'r agwedd benodol honno ar unigrwydd mewn ardaloedd gwledig, a sut y gall y sector gwirfoddoli helpu i ddarparu cymorth.

Wel, mae Nick Ramsay yn codi mater pwysig iawn ynglŷn â'r gwasanaethau a ddarperir gan y sector gwirfoddol, ond yr anghenion newydd, os mynnwch chi, sydd wedi codi. Bu anghenion erioed o ran pwysau a materion penodol mewn ardaloedd gwledig, ond rydych chi hefyd yn canolbwyntio ar unigrwydd ac arwahanrwydd. Rwy'n credu mai dyna ble mae'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol wedi ymateb yn dda i'r sefyllfa mewn gwirionedd, oherwydd mae gennym ein cynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru ym mhob sir, ac maen nhw, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig—Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, wrth gwrs, yn cwmpasu sir Fynwy—yn edrych ar yr anghenion penodol hynny. Mae gan lawer hefyd eu fforymau pobl hŷn sy'n edrych ar y materion hyn sy'n ymwneud ag arwahanrwydd ac unigrwydd.

Byddwn i'n dweud bod hwn yn fater traws-Lywodraethol, ac felly, ie, o ran y materion gwledig, mae'n fater i'w rannu a gweithio arno gyda Gweinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ond mae hefyd yn sicr yn gyfrifoldeb i'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sy'n amlwg wedi ymarfer swyddogaeth allweddol wrth weithio gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sefydliadau pobl hŷn, yn enwedig o ganlyniad i'r pandemig, i edrych ar ffyrdd y gallwn ni estyn allan a lliniaru'r unigrwydd a'r arwahanrwydd hwnnw. Ond mae'n ymwneud â sut y gallwn ni sicrhau bod gan y trydydd sector yr adnoddau a'r cymorth, yn enwedig, o ran gwirfoddoli, Age Cymru, Cyswllt Oedran Cymru, i wneud y cysylltiadau sefydliadol cyfeillio hynny sydd mor bwysig i bobl hŷn.

14:45
Hawliau Dynol Pobl Hŷn

6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddiogelu hawliau dynol pobl hŷn yng Nghymru? OQ56424

Diolch, Janet Finch-Saunders. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a diogelu hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Trwy gydol y pandemig, rydym ni wedi gweithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ac Age Cymru i fonitro ei effaith ar hawliau pobl hŷn a chymryd camau priodol.

Ydych, a byddwn i yn erfyn arnoch chi fel Llywodraeth Cymru i wrando ar Helena Herklots, ein comisiynydd pobl hŷn eithriadol. Yn ei maniffesto ar gyfer 2021, mae hi wedi nodi'r camau y mae eu hangen ar unwaith ac yn y tymor hwy i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r fframwaith cyfreithiol cywir ar waith i ddiogelu a hybu hawliau pobl hŷn, felly ni ddylai fod yn syndod o gwbl i chi fy mod i wrth fy modd yn darllen galwadau'r comisiynydd am Ddeddf hawliau pobl hŷn (Cymru), a fyddai'n ymgorffori egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn yn y gyfraith ddomestig i ddiogelu a hybu hawliau pobl hŷn wrth ddarparu pob gwasanaeth cyhoeddus. Y llynedd, fe wnaethom ni alw am ddeddfwriaeth i ddiogelu a hybu hawliau pobl hŷn yng Nghymru, felly rwy'n gefnogol iawn i alwadau'r comisiynydd am ddeddfwriaeth. A fyddwch chi'n cefnogi'r galwadau hynny? Diolch.

Diolch, Janet Finch-Saunders. Wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, mae gennym ni hanes hir a balch o gefnogi hawliau pobl hŷn. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu comisiynydd pobl hŷn, ac mae'r comisiynwyr pobl hŷn hynny dros y blynyddoedd—gan gynnwys Helena yn awr, wrth gwrs—wedi chwarae rhan mor bwysig wrth eirioli a hyrwyddo pobl hŷn. Rydym ni'n buddsoddi £1.5 miliwn y flwyddyn i gefnogi swydd y comisiynydd pobl hŷn. Ond, trwy gydol y pandemig yn arbennig, rydym ni wedi gweithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ac Age Cymru i fonitro'r effaith ar hawliau pobl hŷn. Mae'r comisiynydd pobl hŷn yn cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r ddeialog, wrth gwrs, yn ymwneud â sut y gallwn ni ddiogelu hawliau pobl hŷn, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol iawn o gyhoeddi 'Diogelu ein Hiechyd' yn ddiweddar, adroddiad arbennig y prif swyddog meddygol ar y pandemig. Mae hyn hefyd wedi tynnu sylw at yr holl anghenion sy'n pontio'r cenedlaethau, ac mae gennym ni ein hymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth newydd ar gyfer pobl hŷn. Mae egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon, ac mae hynny'n seiliedig i raddau helaeth ar ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gwrthod rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran.

Ond rwy'n credu, yn olaf, Janet Finch-Saunders, y byddwch chi'n falch o glywed ein bod ni'n disgwyl canlyniad yr adroddiad terfynol ar ein hymchwil i hybu cydraddoldeb a chryfhau hawliau dynol, sy'n edrych ar ffyrdd y dylem ni eu defnyddio i ystyried pa un a ddylem ni gael deddfwriaeth i ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yn neddfwriaeth Cymru. Mae'r ymchwil hwnnw, sydd wedi ei gynnal gan brifysgolion Abertawe a Bangor gyda Diverse Cymru, i fod i gael ei gyhoeddi cyn diwedd y Senedd hon ac, rwy'n gwybod, y bydd yn ein llywio o ran bwrw ymlaen â hyn.

14:50
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl ar y pedair set o reoliadau newid hinsawdd wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y pythefnos sydd ar ôl o'r tymor wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i reilffordd Llangollen. Cyhoeddodd cyfarwyddwyr y rheilffordd treftadaeth wych hon yr wythnos diwethaf eu bod, yn anfoddog, wedi cymryd y cam o wahodd eu banc i benodi derbynnydd. Dywedodd bwrdd yr ymddiriedolaeth y bydd

angen cymryd camau i drafod gyda'r derbynnydd er mwyn ceisio sicrhau'r rheilffordd a chadw cerbydau a seilwaith gyhyd â phosibl. Bwriedir ailddechrau gweithredu maes o law ond mae hyn yn dibynnu ar gymeradwyaethau cyfreithiol a rheoliadol, gan gynnwys trwyddedu, a bydd pob un ohonynt yn amlwg yn cymryd amser.

Gallai effaith hyn ar eu staff, gwirfoddolwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr, perchnogion locomotifau a'u sefydliadau, ac unrhyw un arall sydd â chysylltiadau â'r rheilffordd, fod yn ddifrifol, yn ogystal â'r effaith ehangach bosibl ar yr economi ymwelwyr yn Llangollen a ledled dyffryn Dyfrdwy. Felly, gofynnwyd imi godi hyn yn Senedd Cymru a rhybuddio'r Prif Weinidog a gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.

Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi mater rheilffordd Llangollen yn y Siambr y prynhawn yma, ac mae'n sefyllfa sy'n peri pryder, fel y mae'n ei disgrifio. Rwy'n ei wahodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn y lle cyntaf, ac rwy'n gwybod y bydd ef yn trafod y mater hwn gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, i roi'r wybodaeth ysgrifenedig ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa i Mark Isherwood, o gofio mai dim ond pythefnos o fusnes sydd ar ôl gennym ni nawr yn y Siambr.

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, Trefnydd, os caf i. A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg ynghylch a fyddai'n ystyried estyniad i Gymru gyfan ar ymgynghoriadau ysgolion sydd wedi bod yn digwydd dan amgylchiadau pandemig? Rwy'n gwybod bod hyn yn broblem i lawer o gymunedau yn fy rhanbarth i, ym Mhowys yn arbennig, ac yn sir Gaerfyrddin. Yn dilyn adolygiad diweddar o ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, penderfynodd bwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos diwethaf i ymestyn ymgynghoriadau ar bedwar cynnig gwahanol, gan gynnwys y cynigion o ran Ysgol Mynyddygarreg, tan 16 Gorffennaf. Byddwn i'n gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch a yw'n teimlo, o ystyried pa mor anodd y bu i gymunedau drefnu ac ymateb i ymgynghoriadau yn ystod y pandemig, y byddai'n briodol cael estyniad cenedlaethol ar yr ymgynghoriadau hyn.

Hoffwn i ofyn ymhellach i'r Trefnydd am ddatganiad ynghylch y sefyllfa yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe. Bydd y Trefnydd yn ymwybodol iawn, rwy'n siŵr, bod gweithwyr yn ystyried streicio oherwydd yr amodau gwaith yno. Nid ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel. Nawr, yn amlwg, nid yw'r DVLA ei hun wedi'i ddatganoli, ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am orfodi arferion gweithio diogel. A gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddatganiad gan y Gweinidog Cymru priodol i amlinellu beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r gweithwyr hynny, y mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn byw yn Llanelli, yn fy rhanbarth i? Ac a fyddai hi'n barod i ymuno â mi heddiw i anfon neges o undod i'r gweithwyr hynny wrth iddyn nhw ystyried a oes raid iddynt gymryd camau diwydiannol ai peidio, fel yr wyf fi, fel Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, yn hapus i'w wneud?

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones am godi dau fater pwysig y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Addysg wedi gwrando'n astud ar y cais am estyniad i Gymru gyfan o ran ymgynghoriadau a'r enghreifftiau yr ydych chi wedi'u rhoi ynghylch ymestyn tri ymgynghoriad o'r fath yn sir Caerfyrddin. Bydd hi'n rhoi ystyriaeth briodol i'r cais hwnnw, rwy'n siŵr iawn.

O ran mater y DVLA, mae'n amlwg ei fod yn destun pryder mawr i ni nad yw pobl yn teimlo'n ddiogel yn y gweithle, a byddwch chi'n ymwybodol o'r sylwadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gweithlu yno yn y DVLA yn y cyfnod yn arwain at nawr, ac wrth gwrs rydym ni'n parhau i gefnogi'r gweithwyr hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau cyfreithiol ar waith i gadw pobl yn ddiogel yn y gweithle, ond, yn amlwg, mae angen i'r mesurau hynny gael eu gweithredu, wedyn, gan y cyflogwyr. Felly, byddwn i'n hapus iawn i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf honno i'r Senedd drwy fy nghydweithiwr, Gweinidog yr Economi, o ran y gefnogaeth yr ydym ni wedi gallu ei chynnig i weithwyr DVLA hyd yma a'r sylwadau yr ydym ni wedi bod yn eu cyflwyno ar eu rhan i sicrhau eu bod yn ddiogel yn y gweithle.FootnoteLink

14:55

Tybed a fyddai modd inni gael rhywfaint o eglurder ynghylch perthnasedd yr ymgynghoriad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar ddiwygio rheoliadau arolygu bwyd, a lansiwyd ganddi ychydig cyn inni wybod am gytundeb pontio gwan â'r UE. Mae'n codi cwestiwn ynghylch a yw'n ceisio tanseilio'r safon yr ydym ni wedi dod i'w disgwyl, yn hytrach na'i fod yn fater o addasu'r cod. A chafodd hyn ei nodi, yn wir, fel pryder gan yr Athro Terry Marsden pan oedd ef yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lesley Griffiths i roi barn y Llywodraeth ynghylch yr hyn y gallai hyn ei olygu o ran tanseilio safonau uchel iawn bwyd Cymru, fel sydd gennym ni ar hyn o bryd.

Wel, mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'n llwyr y pryderon y mae Jenny Rathbone wedi bod yn eu codi ers amser maith o ran effaith cytundeb gwan ar y safonau sydd gennym ni o ran bwyd, a hefyd safonau ehangach o ran yr amgylchedd a hawliau gweithwyr, ac yn y blaen. Byddaf i'n gofyn i Lesley Griffiths roi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i Jenny Rathbone o ran goblygiadau'r ymgynghoriad penodol hwnnw y mae'r ASB yn ei gynnal ar hyn o bryd.

Ddoe, fel y gwyddoch chi, Trefnydd, oedd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac, ynghyd ag Aelodau eraill, roeddwn i'n hapus i ddangos fy nghefnogaeth ac ymrwymiad i ddatblygu Cymru fwy cyfartal. Cefnogais i'r ymgyrch Picau ar y Maen ar gyfer Cymorth i Fenywod Cymru drwy gynnal bore coffi rhithwir gyda fy staff i drafod gwaith Cymorth i Fenywod Cymru, ac i atgoffa ein hunain o'r gwasanaethau cymorth y maen nhw'n eu cynnig a sut i fanteisio ar eu gwasanaethau. Yng ngoleuni hynny, a gaf i ofyn am ddatganiad cyfredol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i hymdrechion i fynd i'r afael â cham-drin domestig? Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod Heddlu Dyfed Powys, ym mis Awst y llynedd, wedi cael 900 o adroddiadau am gam-drin domestig, o'i gymharu â 350 o achosion y mis yn 2017, ac mae hynny'n dangos yr angen i ymdrin ar frys â cham-drin domestig mewn cymunedau ledled Cymru.

Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag ailddechrau llawdriniaeth ddewisol ledled Cymru? Rwyf i wedi cael sylwadau gan bobl yn Sir Benfro sydd mewn cryn boen ac anghysur ac yn aros am driniaethau, ac maen nhw'n galw am gefnogaeth a sicrwydd y byddan nhw yn cael eu triniaethau. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi egluro y gallai gymryd pum mlynedd i GIG Cymru fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau, ac rwy'n sylweddoli y bydd dadl ar y mater hwn yfory. Ond rwy'n credu ei bod yn hollbwysig inni gael datganiad gan y Gweinidog ar ei gynlluniau penodol i ailddechrau holl driniaethau a llawdriniaethau'r GIG ledled Cymru, a sut mae'n bwriadu hwyluso'r gwasanaethau hynny fel y gall pobl sy'n aros am driniaeth ledled Cymru fod yn sicr bod gan Lywodraeth Cymru gynllun ar waith i ddarparu triniaethau nad ydyn nhw'n rhai COVID cyn gynted ag y bo modd.

Byddwn i'n falch iawn o ofyn i fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, roi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i gydweithwyr ynghylch ymdrechion Llywodraeth Cymru i ymdrin â cham-drin domestig yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn bryder parhaus inni drwy gydol y cyfyngiadau symud, a'r ffaith nad yw'r cartref, i lawer o bobl, yn fan diogel. Ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn falch iawn o ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gamau'r Llywodraeth Cymru yn hyn o beth.

Ac, fel y dywedwch, bydd dadl brynhawn yfory ar ailddechrau llawdriniaethau dewisol. Ond rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, yn gweithio ar gynllun ar gyfer y camau nesaf i'r GIG a'i fod yn bwriadu cyhoeddi rhywbeth erbyn diwedd y mis hwn a fydd yn crynhoi, gobeithio, y math o weledigaeth y mae Paul Davies yn ei cheisio y prynhawn yma.

Mae pryderon wedi'u codi gan elusennau sy'n gweithio gyda phobl â chanser y gallai llawer o bobl ledled y wlad hon fod wedi colli diagnosis o ganser. Nawr, yn y Rhondda, roedd yn broblem, cyn argyfwng COVID, fod pobl yn gadael pethau'n rhy hwyr cyn mynd i weld y meddyg am symptomau pryderus a pharhaus. Roedd llawer gormod o bobl yn cael diagnosis o ganser yn hwyr, a hynny'n aml wrth iddyn nhw fynd i gael triniaeth yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Wrth inni symud y tu hwnt i COVID, mae angen i'r Rhondda weld ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn o ddiagnosis canser. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth fel y gallwn ni ddeall sut y mae'r Llywodraeth yn cynllunio'n benodol i wneud hynny, yn enwedig mewn ardal fel ein hardal ni sydd â mwy o anghydraddoldebau iechyd? A allech chi gynnwys yn y datganiad hwnnw gefnogaeth i ganolfan diagnosis canser arbenigol a hygyrch yn y Rhondda?

A wnewch chi hefyd gytuno i oleuo holl adeiladau cyhoeddus Llywodraeth Cymru er cof am bawb yr ydym ni wedi'u colli i COVID ar ddiwrnod coffa 23 Mawrth?

15:00

Diolch am godi dau fater pwysig iawn. Ar y cyntaf, hoffwn i ategu'r hyn y mae Leanne Wood wedi'i ddweud y prynhawn yma ynglŷn â pha mor bwysig yw mynd at eich meddyg teulu pe bai gennych chi unrhyw bryderon am symptomau a allai fod yn gysylltiedig â chanser. Y neges mewn gwirionedd yw bod eich GIG yn dal i fod yno ichi yn y cyfnod anodd hwn. Mae ein canllawiau adfer canser wedi bod yn rhan o system cynllunio fframwaith y GIG ers chwarter 2 y llynedd. Mae'r byrddau iechyd eisoes yn cynllunio eu capasiti i drin gofal canser bob chwarter, a hefyd yn ymateb o ddydd i ddydd i ddarparu cymaint o driniaethau canser ag y gallan nhw yng nghyd-destun y pwysau ar eu gwasanaethau. Wrth inni ddechrau dod allan yn awr o'r ail don hon, rydym ni'n edrych yn benodol ar sut y gallwn symud yn barhaol i adfer gwasanaethau canser, a throsglwyddo hynny i'n cynlluniau adfer ffiniol ar gyfer y GIG, yr wyf i newydd gyfeirio atyn nhw mewn ateb i Paul Davies. Gallaf  ychwanegu hefyd fod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, wedi cynnal cyfarfod cenedlaethol ym mis Chwefror, gyda GIG Cymru, i drafod adfer gwasanaethau canser yn benodol. Mae cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i gefnogi'r adferiad hwnnw, unwaith eto fel rhan o'r dull adfer ehangach hwnnw yr oeddwn i wedi'i ddisgrifio. Felly, bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyflwyno maes o law—fel y dywedais i, erbyn diwedd y mis—o ran adferiad y GIG.

Ar fater y diwrnod coffa, gallaf gadarnhau ein bod ni ar hyn o bryd yn ystyried yn ofalus iawn y ffordd orau y gallwn ni nodi'r hyn a fydd yn foment ddwys iawn, yn fy marn i, ar y daith yr ydym ni i gyd wedi bod drwyddi o ran y coronafeirws. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu dweud mwy am hynny cyn bo hir.

Trefnydd, rwy'n gwybod mai un o'r Gweinidogion sy'n gwylio hyn yn ofalus yw ein Gweinidog Twristiaeth. Felly, tybed a allwn i, drwoch chi, ofyn am ddatganiad neu am rywfaint o eglurhad ar y cam diweddaraf gan Tripadvisor, sydd wedi poeni llawer o'r gweithredwyr twristiaeth bach a chanolig eu maint yn fy etholaeth i. Mae Tripadvisor eisoes yn cymryd comisiwn o 15 y cant ar unrhyw werthiannau sy'n dod drwy ei safle. I'r gweithredwr bach, mae hynny'n rhan eithaf sylweddol. Ond, yn ddiddorol, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, anfonwyd e-bost at bob gweithredwr i ddweud, o dan eu telerau ac amodau newydd, eu bod yn cyflwyno hawliau, am byth, iddyn nhw gael defnydd llawn o unrhyw luniau a deunyddiau eraill ar y gwefannau. Nawr, gallai hyn fod yn ymarfer gwbl normal. Pwy â ŵyr? Ond, maen nhw'n poeni, os byddan nhw'n gwrthod y cynnig caredig hwn gan Tripadvisor i gael hawliau am byth dros bob deunydd sy'n cael ei gynnwys ar eu gwefannau—a gyda llaw, Trefnydd, mae rhywfaint o'r deunydd cynnwys ar eu gwefannau, yn golygu deunydd Croeso Cymru hefyd—yna byddan nhw'n cael eu taflu oddi ar Tripadvisor. Ni waeth beth a ddywedwch chi am Tripadvisor, da neu ddrwg, maen nhw'n bwerus o ran creu diddordeb mewn gweithredwyr bach a chanolig eu maint. Byddaf i'n ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch hyn hefyd, Trefnydd, ond tybed a gaf i, drwy eich swyddogaethau, ofyn am ddatganiad neu rywfaint o eglurhad ynghylch pa ganllawiau y mae modd eu rhoi i weithredwyr bach a chanolig eu maint ar y cam pendant newydd hwn gan Tripadvisor.

Diolch i Huw Irranca-Davies am godi hyn. Rwy'n gallu gweld, yng nghornel y sgrin, fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Twristiaeth, ac mae ef wedi bod yn gwrando'n astud ar y sefyllfa yr ydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i archwilio pa gymorth y gallwn ni ei gynnig i'r busnesau bach yr effeithir arnynt yn y sector twristiaeth ac y bydd yn edrych ymlaen at eich gohebiaeth fanylach.

15:05

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl ar fanteision iechyd meddwl a lles pysgota yng Nghymru. Mae llawer o bobl sy'n hoffi mynd i bysgota, yn aml ar eu pennau eu hunain, mewn mannau unig, wedi cysylltu â mi. Maen nhw wedi ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â bywyd yn ystod y cyfyngiadau symud diweddaraf, oherwydd nid ydynt wedi gallu gyrru i fannau pysgota lleol. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei ystyried yn ofalus yn yr adolygiad a gawn cyn bo hir o gyfyngiadau coronafeirws. Pa un a yw'r adolygiad yn ystyried pysgota ai peidio, rwy'n credu bod y diddordeb hwn sy'n bwysig i filoedd lawer o bobl ledled Cymru yn haeddu rhywfaint o ystyriaeth gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn y dyfodol.

A gaf i hefyd, Trefnydd, alw am ddatganiad gennych chi, fel Gweinidog Cyllid, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch datblygu nodyn cyngor caffael ar y rheoliadau contract cyhoeddus am resymau dewisol dros ystyried eithrio busnesau rhag tendrau cyhoeddus? Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cael rhywfaint o ohebiaeth ar y mater hwn y llynedd yn dilyn eich ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a arweiniodd at bryderon bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi nodyn cyngor caffael a fyddai'n effeithio'n bennaf ar genedl Israel. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y mater penodol hwn, oherwydd fe wnaethoch chi awgrymu yn eich gohebiaeth ddiwethaf y byddech chi'n gwneud rhai penderfyniadau terfynol ar hyn ym mis Rhagfyr. Mae bellach yn fis Mawrth, ac rwy'n credu bod pobl yn haeddu cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Diolch.

O ran y mater cyntaf, sef y cais ynghylch datganiad ar fanteision pysgota o ran iechyd meddwl a lles, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl wedi gwrando'n astud iawn ar y cais hwnnw. Wrth gwrs, pan fyddwn ni'n trafod yr holl faterion sy'n ymwneud â'r cyfyngiadau yr ydym ni'n eu rhoi ar fywydau pobl, rydym ni'n deall pa mor anodd yw pethau i bobl. Mae'r holl bethau sydd fel arfer yn cefnogi ein lles, boed hynny'n bysgota neu gampfa neu weld teulu a ffrindiau—mae cael y pethau hynny wedi'u eu cymryd oddi wrthym ni yn amlwg yn cael effaith gryf ac anodd ar fywydau pobl. Rydym ni'n ymwybodol iawn o hynny wrth wneud ein penderfyniadau. Ond fel y dywedais i, bydd y Gweinidog wedi clywed y cais penodol hwnnw.

Fel y dywedais i y tro diwethaf y cawsom drafodaeth ar y nodyn cyngor caffael, rwyf wedi cytuno i gael rhagor o gyngor. Rydym wedi cael y cyngor hwnnw nawr, ac rwy'n dal i ystyried hynny. Ond byddaf i'n ysgrifennu atoch chi cyn bo hir ynghylch y ffordd ymlaen. Diolch.

Dau fater, os caf i, Trefnydd. Yn gyntaf, a gaf i ychwanegu fy llais—gan gynnwys Darren Millar, mewn gwirionedd, yr wythnos diwethaf—at y rhai sy'n galw am ailagor canolfannau garddio ledled Cymru? Nawr bod achosion COVID-19 yn ymddangos yn is na'r nifer a sbardunodd y cyfyngiadau symud yn wreiddiol, os ydym yn bwriadu ailagor busnesau, yn gyntaf yn y tymor byr, yna dylai canolfannau garddio, rwy'n credu, fod ar frig y rhestr honno. Maen nhw'n ardaloedd mawr, yn yr awyr agored yn bennaf, gyda digon o gyfleoedd i gadw pellter cymdeithasol. Felly, tybed a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch unrhyw drafodaethau gyda'r sector canolfannau garddio o ran eu hailagor cyn gynted â phosibl.

Yn ail, cafodd rhaglen ddogfen y BBC The Story of Welsh Art ei dangos yn ddiweddar. Nid wyf yn siŵr faint o'r Aelodau a welodd y rhaglen. Roedd yn dangos y goeden Jesse fyd-enwog yn y Fenni, cerflun o'r bymthegfed ganrif yn eglwys priordy'r Santes Fair sy'n dangos llinach Crist o'r Beibl. Roedd trysorau Cymreig eraill o bob cwr o Gymru yn rhan o'r rhaglen honno. Mae Cymru wedi'i bendithio â thrysorau diwylliannol sydd wedi denu twristiaid i Gymru ers blynyddoedd lawer a bydd yn gallu gwneud hynny eto yn y dyfodol. Felly, tybed a gawn ni fframwaith neu'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog, wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau symud, ynghylch sut y mae modd defnyddio treftadaeth ddiwylliannol Cymru i roi hwb cychwynnol i'r economi dwristiaeth eto ledled Cymru. Drwy adeiladu'n ôl yn well a thyfu'n wyrddach, gallwn hefyd dyfu'n ôl yn gryfach yn ddiwylliannol a rhoi trysorau Cymru wrth wraidd y broses honno o dyfu'n ôl .

Bydd Nick Ramsay wedi clywed y Prif Weinidog yn amlinellu'r camau yr ydym ni'n eu cymryd wrth symud tuag at yr adolygiad tair wythnos hwnnw ar 12 Mawrth. Bydd ef yn ystyried yr holl gynrychiolaethau a gyflwynwyd gan gydweithwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond wedyn hefyd, wrth gwrs, yn cymryd y cyngor a gawn ni gan ein cynghorwyr gwyddonol a meddygol i benderfynu ar ble y gallwn ni lacio pethau. Nid wyf i eisiau achub y blaen ar unrhyw beth y gallai'r Prif Weinidog ei ddweud ddydd Gwener. Mae trafodaethau'n dal i fynd rhagddynt o fewn y Cabinet ac mae cyngor yn dal i gael ei gymryd wrth inni symud tuag at y pwynt adolygu hwnnw.

Rwy'n cytuno'n llwyr fod gan ein trysorau diwylliannol botensial enfawr o ran ein helpu ni gyda'r gwaith adfer, o ran y math o dwristiaeth y byddem ni eisiau ei gweld o fannau eraill yn y DU, ond hefyd ein gwyliau ni yma yng Nghymru a'n twristiaeth ein hunain y byddwn ni fwy na thebyg eisiau manteisio arnynt yn ein gwlad ein hunain yn ystod yr haf. Oherwydd rwy'n credu os yw'r coronafeirws wedi dysgu unrhyw beth inni, mae'n ymwneud â gwerthfawrogi'r pethau hynny sydd gennym yma ar garreg ein drws. Rwy'n credu bod y trysorau diwylliannol hynny megis coeden Jesse yn eglwys y Santes Fair, y mae Nick Ramsay wedi'i disgrifio, yn enghreifftiau da iawn o hynny. Rwy'n gallu gweld bod y Gweinidog yn gwrando'n astud eto ar yr awgrym am y rhan y gall y trysorau hyn ei chwarae yn ein hadferiad.

15:10

Wrth inni nesáu at ddiwedd y tymor Seneddol hwn, Trefnydd, ac wrth inni nodi Wythnos Genedlaethol Pontio'r Cenedlaethau, fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Llywodraeth ynglŷn â phwysigrwydd pontio rhwng cenedlaethau. Fe hoffwn i gael datganiad sy'n cydnabod yr unigrwydd gwirioneddol a ddioddefodd aelodau iau a hŷn yn ein cymdeithas ni, yn ogystal â'r rhagfarn ar sail oedran sydd wedi bod yn rhan rhy amlwg o'n sgwrs genedlaethol ni drwy gydol y pandemig. Yn aml, roedd yr hen a'r ifanc yn cael eu rhoi benben â'i gilydd yn y wasg yng nghyd-destun cyfyngiadau symud, gyda rhywfaint o'r sylwebaeth yn canolbwyntio ar hunanoldeb ymddangosiadol pobl ifanc ac eraill yn awgrymu bod amddiffyn pobl hŷn a mwy agored i niwed mewn rhai ffyrdd yn bris a oedd yn rhy uchel i'w dalu. Mae'r ddau naratif hyn wedi bod yn niweidiol iawn. Mae grwpiau o bobl ifanc a phobl hŷn fel ei gilydd wedi cael eu gwthio i'r ymylon; ac mae angen cymorth a llais cryfach ar y ddwy garfan wrth wneud penderfyniadau ar gyfer bod wrth galon ein cymunedau ni.

Ddiwedd y llynedd, Trefnydd, fe sefydlodd nifer ohonom grŵp trawsbleidiol ar bontio'r cenedlaethau, a'r wythnos hon fe fyddwn ni'n cyhoeddi ein hargymhellion ni i nodi wythnos pontio'r cenedlaethau. Mewn ymateb i'r rhain fe hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda. Mae ein grŵp ni'n teimlo, gydag un llais, y dylai cynlluniau ar gyfer adferiad wedi COVID hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau, y dylai Gweinidog fod yn gyfrifol am oruchwylio hynny, y dylid rhoi mwy o arian i grwpiau cymunedol i hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau, ac y dylai hynny gael ei ymgorffori yn y cwricwlwm. Wrth inni ymlwybro ar ein ffordd allan o'r pandemig, mae'r penderfyniadau ynghylch blaenoriaethu brechlynnau, diogelu'r cyhoedd, ac ailagor cymdeithas yn gyfredol, maen nhw'n amrywiol ac yn gymhleth. Mae ailgyhoeddi pwysigrwydd dealltwriaeth rhwng cenedlaethau yn hanfodol yng nghyd-destun pob un o'r penderfyniadau hyn, oherwydd mae'r berthynas rhwng cenedlaethau yn cyfoethogi ein cymdeithas ni, mae'n bwysig, ac fe ddylid ei chryfhau.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae Delyth Jewell newydd bortreadu'r gwaith a wnaeth y grŵp trawsbleidiol. Os nad oes copi gan Lywodraeth Cymru eto, fe fyddwn i'n awyddus iawn inni gael un, fel y gallwn ni ystyried ac archwilio'r argymhellion hyn yr ydych chi newydd eu disgrifio. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y dull o fynegi peth o'r ddadl a gawsom ni drwy gydol y pandemig wedi ceisio rhoi grwpiau benben â'i gilydd. Ond, mewn gwirionedd, rydym ni i gyd yn rhan o hyn, ac mae'r rhai sydd wedi gweld effaith fwyaf y pandemig wedi bod o blith ein dinasyddion hynaf ni, ac o blith ein dinasyddion ieuengaf ni hefyd; y ddau grŵp hyn sydd wedi talu'r pris uchaf mewn gwahanol ffyrdd. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld y darn hwn o waith ac archwilio'r syniadau y bydd Delyth a'i chydweithwyr yn eu cyflwyno.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddaraf am frechiadau COVID-19. Y Gweinidog, Vaughan Gething.

Rwy'n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi cael wythnos arall o gynnydd ac uchafbwyntiau gwirioneddol yn ein rhaglen frechu ni yma yng Nghymru. Erbyn hyn, fe gafodd miliwn o bobl eu dos cyntaf o'r brechlyn hwn sydd â'r gallu i achub bywydau. Newyddion rhagorol, felly—carreg filltir bwysig arall i'r rhaglen wirioneddol ryfeddol hon. Unwaith eto, rydym ni wedi cyrraedd y nod hwn o flaen y dyddiad a ymddangosodd yn ein diweddariad ni o'r strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fe ddigwyddodd hynny oherwydd gwaith caled a phenderfyniad y cannoedd ar gannoedd o bobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni ac mewn clinigau i weinyddu'r brechlynnau ledled y wlad.

Rwy'n ddiolchgar iawn i bob unigolyn sydd wedi manteisio ar gynnig o'r brechlyn. Maen nhw wedi gwneud eu rhan, wedi sefyll yn y bwlch, yn yr ymdrech genedlaethol hon i gadw Cymru'n ddiogel, ac fe ddylen nhw fod yn falch o'r cyfraniad a wnaeth pob un ohonynt yn yr ymdrech genedlaethol hon. Mae pob un dos yn wirioneddol bwysig. Mae pob brechlyn a roddir yn golygu un cam yn nes at ddyfodol mwy disglair i bob un ohonom ni. Mae'r brechlynnau yn ddiogel ac yn effeithiol, ac rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig pan ddaw eu tro nhw. Rwy'n edrych ymlaen at gael fy mrechlyn cyntaf innau yn ystod y dyddiau nesaf.

Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol o ran cyrraedd yr ail garreg filltir, fel y'i nodir yn ein diweddariad ni ar y strategaeth frechu. Mae dros 85 y cant o bobl rhwng 65 a 69 oed wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn eisoes, ac mae pobl yn y grwpiau oedran 50 i 64 oed wedi cael eu galw am eu hapwyntiadau nhw. Gyda phedwar o bob 10 o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu brechu unwaith o leiaf erbyn hyn, rydym ni'n gwneud cynnydd ardderchog.

Fe hoffwn i orffen drwy ddiolch i bawb sydd wedi gwneud eu rhan nhw, nid yn unig yn y llwyddiant a fu hyd yn hyn, ond yn fwy felly, i gydnabod bod hyn wedi digwydd gyda chefnogaeth o bob ochr yn y fan hon a'r tu allan, ac rwy'n edrych ymlaen at gael mwy o gefnogaeth i'n rhaglen frechu yn y dyddiau a'r wythnosau sydd i ddod. Mae gennym dasg sylweddol o'n blaenau ni o hyd, ond rwy'n hyderus y byddwn ni'n ei chyflawni mewn da bryd ac mewn ffordd wirioneddol lwyddiannus, fel y gwnaethom ni hyd yn hyn. Diolch, Llywydd.

15:15

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac unwaith eto, dyma newyddion da ein bod ni'n brechu cynifer o bobl ar hyn o bryd yng Nghymru. Er hynny, mae gennyf i un neu ddau o gwestiynau i'w gofyn i chi, am y rhaglen frechu, yn gyffredinol.

Y cyntaf yw nad yw 15 y cant o staff cartrefi gofal wedi cael eu brechu eto, o'i gymharu â llai na 5 y cant o breswylwyr, ac mae hwnnw'n rhif llawer is na'r staff gofal iechyd—mae 87.5 y cant ohonyn nhw wedi cael eu brechu. A ydych chi'n fodlon bod popeth yn cael ei wneud i argyhoeddi'r aelodau staff mwy amheus i gael eu brechu, a beth a allwn ni ei wneud i'w hannog nhw, oherwydd, fel y gwyddom ni, mae trigolion ein cartrefi gofal ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni?

Mae fy ail gwestiwn i'n ymwneud ag achosion coronafeirws mewn ysbytai. Pa adolygiad sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd o ran achosion yn torri allan mewn ysbytai? Maen nhw'n digwydd yma a thraw o hyd, ac maen nhw'n rhwystr i ailddechrau gwasanaethau. Esgusodwch fi. Rwyf wedi darllen eich fframwaith chi ar gyfer profion COVID-19 i gleifion mewn ysbytai yng Nghymru, ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n cynnwys atal yr haint mewn ysbytai mewn gwirionedd, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi'n teimlo y dylem ni wneud mwy i geisio symud yr agenda honno ymlaen. Fe wn i, er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod gennym nifer o achosion wedi torri allan ar hyn o bryd yn Llwynhelyg, ac mae hynny'n rhwystr i ailddechrau gwasanaethau.

Gan ein bod yn sôn am fyrddau iechyd, a fyddech chi'n ystyried pa gyngor y gellid ei roi i fyrddau iechyd o ran gohirio ac aildrefnu apwyntiadau brechu? Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod nhw wedi cael negeseuon testun, ac maen nhw'n awyddus iawn i fynd i gael eu brechlyn nhw, ond ni allant gyrraedd y fan am ryw reswm neu ei gilydd, ond nid ydyn nhw wedi llwyddo i gael gafael ar neb i aildrefnu. Ac mae yna deimlad o euogrwydd—mae'n rhaid imi gyfaddef, rwyf i'n un o'r rhain—lle na allwn gael gafael ar neb i aildrefnu fy apwyntiad i, felly fe gollais i'r un cyntaf, ond ni allwn i ddweud wrth neb, ac maen nhw'n ceisio gwneud yr ail un nawr. Ond dim ond un llais yn unig ydw i; mae torreth o bobl wedi cysylltu â mi. Maen nhw naill ai'n cael negeseuon testun lle nad oes rhif ffôn i'w ffonio na chyfeiriad e-bost i'w ddefnyddio. Ac, wrth gwrs, mae'n amhosibl i bawb ymddangos yn sydyn bob amser ar gyfer dyddiad neu amser penodol. A allwn ni wneud rhywbeth ynghylch hynny? Oherwydd rwy'n credu bod hyn yn atal rhai rhag cael y brechlynnau, yn enwedig rhai o'r grwpiau sy'n fwy anodd eu cyrraedd yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw lawer tro cyn hyn.

Mae Andrew Evans, y prif swyddog fferyllol, wedi dweud bod y capasiti gennym ni yng Nghymru i weinyddu mwy na 30,000 o frechlynnau bob dydd. Nawr, nid ydym wedi taro 30,000 o frechlynnau mewn diwrnod ers 4 Mawrth. Rwy'n deall bod rhywfaint o hynny'n ymwneud â diffyg cyflenwad, ond wrth ddarllen eich diweddariad chi ar COVID, dyddiedig 9 Mawrth, rydych chi'n disgwyl i hynny gynyddu gyda'r cyflenwad o frechlynnau, gan ddechrau o'r wythnos hon ac wrth symud ymlaen, na ddylai fod unrhyw broblemau. A ydych chi o'r farn y byddwn ni'n gallu cyflawni'r nod hwnnw o 30,000?

Yn olaf, roeddwn i'n awyddus i'ch holi chi ynglŷn â chynlluniau'r dyfodol. Canolfannau brechu torfol—mae nifer ohonyn nhw mewn adeiladau a chyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer pethau eraill, fel canolfannau hamdden, ac yn y pen draw fe fyddan nhw'n dechrau cynnal eu gweithgareddau priodol nhw unwaith eto, ac, felly, ni fyddwn ni'n gallu eu defnyddio nhw'n ganolfannau brechu torfol. Mae staff a gwirfoddolwyr yn ein helpu ni ar hyn o bryd, ond rywbryd, fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddychwelyd at eu bywydau a'u swyddogaethau arferol. Pa gynlluniau sy'n cael eu rhoi ar waith neu a ystyrir ar hyn o bryd i sicrhau y bydd gennym gyfleusterau ac adnoddau dynol i allu parhau o hyd i frechu ar gyflymder, yn enwedig os ydym yn rhagweld trydedd don? Wrth gwrs, rydym ni'n dechrau meddwl efallai y bydd angen cael brechiad blynyddol rheolaidd er mwyn ein hamddiffyn ni rhag coronafeirws a'r gwahanol fwtadiadau sy'n dod i'r amlwg, ac felly fe fydd angen inni allu cynnwys hyn yn ein system ni. Tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am hynny? Diolch yn fawr iawn. Ymddiheuriadau am y pwl o beswch.

15:20

Diolch am y cwestiynau. Nid oes angen ymddiheuro am orfod cymryd hoe fach oherwydd peswch. O ran staff cartrefi gofal a'r gyfradd frechu, rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y niferoedd is ymhlith staff sy'n manteisio ar y brechlyn o'u cymharu â niferoedd y preswylwyr. Mae honno'n nodwedd o'r petruster am y brechlyn a welwn ni mewn amrywiaeth o grwpiau oedran. Wrth gwrs, mae staff cartrefi gofal yn cynnwys pobl o wahanol oedrannau, gan gynnwys y grŵp oedran iau, lle rydym ni'n sylweddoli bod mwy o betruster ynghylch yr angen neu'r rheswm dros fanteisio ar y brechlyn i bobl dan 40 oed. Mae rhai o'r mythau hyn ynglŷn â brechlynnau a gaiff eu lledaenu gan y garfan wrth-frechu, y gweithiau ffuglen, yn effeithio ar bobl sy'n awyddus, efallai, i gael plant eto yn y dyfodol. Felly, mae yna bryder y gallai hyn effeithio ar ffrwythlondeb dynion neu fenywod; nid oes sail o gwbl i hynny, ond mae hon yn chwedl barhaus sy'n ailymddangos ym mhob rhan o'r DU a'r tu hwnt hefyd. Dyma un o'r meysydd hynny lle rwyf i'n credu mai un o'r pethau gorau y gallwn ni ei wneud, unwaith eto, yw gweithio ledled y DU, ni waeth beth fyddo lliw ein cotiau gwleidyddol ni ym mhob un o'r Llywodraethau, ac yn y fan hon hefyd hyd yn oed, i fod yn eglur iawn nad oes yna unrhyw wirionedd o gwbl yn hynny. Ac mae'n ymwneud â chyflwyno neges ddibynadwy ac unol i berswadio pobl i fanteisio ar y brechlyn, ac ailystyried y dystiolaeth amdano. Fel y dywedais, nid yw diogelwch nac effeithiolrwydd y brechlyn yn digwydd oherwydd fy mod i'n dweud ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol, ond mae gennyf gyfrifoldeb i fod yn eglur iawn ynghylch hynny. Mae hynny'n deillio o'r sgyrsiau mwyaf dibynadwy a gaiff pobl gyda'r bobl y maen nhw'n eu credu: sef staff ein gwasanaeth iechyd, gwyddonwyr a theulu a ffrindiau yn aml, pobl yr ydych chi'n agos atyn nhw. Ac yn anffodus, er y gall pobl rannu gwybodaeth sy'n ddibynadwy, mae cyfeiliorni a chamwybodaeth hefyd yn digwydd fel hyn. Felly, mae'r gwaith o berswadio pobl yn waith parhaus. Er gwaethaf hynny, rydym yn gweld cyfraddau uchel iawn o frechu mewn cartrefi gofal, ond yn sicr mae mwy i'w wneud, ac fe fyddwch chi'n gweld hynny eto pan fyddwn yn symud i'r cam brechu ar ôl cwblhau grwpiau 1 i 9.

O ran achosion yn torri allan mewn ysbytai, a'r gwaith a wnawn ni ynglŷn â throsglwyddiad nosocomiaidd, hynny yw trosglwyddiad rhwng staff iechyd a gofal a phobl eraill, dyna ran o'r rheswm pam rydym ni'n credu bod yr ystyfnigrwydd yn parhau n y gogledd-orllewin. Bu achosion yn Ysbyty Gwynedd, ac rydym ni'n credu bod hynny wedi arwain at ffigurau uwch yn y fan honno nag a fyddai wedi bod fel arall. Rydym ni ar fin cyhoeddi diweddariad ar y cyngor a'r arweiniad ynglŷn â phrofi mewn ysbytai. Mae rhan sylweddol o hynny'n ymwneud â'n gwaith ni ar drosglwyddiad nosocomiaidd, ac rydym yn nodi yno sut rydym yn defnyddio dyfeisiau llif ochrol yn ogystal â phrofion adwaith cadwyn polymerase. Wrth gwrs, fe gaiff y gwaith hwnnw ei arwain gan y dirprwy brif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio yma yng Nghymru, felly fe gaiff ei arwain gan bobl sydd ag arweinyddiaeth a pharch proffesiynol gwirioneddol. Fe gaiff ei gefnogi hefyd gan y cyngor parhaus a ddarparodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â sut i leihau'r rhagolygon ar gyfer trosglwyddiad nosocomiaidd, oherwydd fe all yr achosion hynny achosi niwed gwirioneddol. Nodwedd gadarnhaol o'r gostyngiad yng nghyfraddau coronafeirws fydd bod yr achosion hynny'n llai lluosog nag y bydden nhw wedi bod fel arall, a diolch am waith caled pawb ledled y wlad wrth helpu i leihau'r cyfraddau trosglwyddo.

O ran eich pryder chi ynghylch byrddau iechyd yn canslo neu'n aildrefnu apwyntiadau, rwy'n cydnabod bod hyn yn digwydd o bryd i'w gilydd, ac mae hyn yn ymwneud â phobl yn gallu aildrefnu eu hapwyntiadau nhw neu beidio. Fe fu'n rhaid i mi aildrefnu apwyntiad fy mam innau hefyd, ac fe gymerodd beth amser imi fynd trwodd ar y ffôn, ond fe wnes i yn y pen draw, ac nid oedd yna unrhyw drafferth o gwbl i aildrefnu'r apwyntiad. Mae'n ymwneud ag annog pobl i wneud yr ymdrech i aildrefnu a bod yn eglur iawn na fydd y GIG yn gadael neb ar ôl. Felly, os yw pobl yn ei chael hi'n anodd bod yn bresennol ar gyfer eu hapwyntiadau nhw, ac nad ydyn nhw wedi gallu mynd drwodd ar y ffôn, fe allan nhw aildrefnu o hyd ac fe ddylen nhw wneud hynny a derbyn y cynnig sydd ar gael, ac mae hynny'n cynnwys pobl sydd newydd newid eu meddyliau ac yn dymuno cael y brechlyn nawr.

Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at yr heriau a fydd gennym ni yn y dyfodol ynghylch canolfannau aml-frechu yn dychwelyd i'w diben blaenorol yn y dyfodol. Ond mae honno'n broblem dda i'w chael, mae'n ymwneud â'n llwyddiant ni wrth yrru'r trosglwyddiad i lawr a'r angen i sicrhau bod cyfleusterau cyfredol ar gael mewn ffordd arall. Yr agwedd gadarnhaol, serch hynny, yw bod gennym 546 o wahanol leoliadau lle mae'r brechlyn yn cael ei weinyddu eisoes. Felly, wrth inni fynd trwy fwy o gamau eto a brechu'r grwpiau presennol o'r boblogaeth yn llwyddiannus, fe fydd yr her yn lleihau. Ond mae eich pwynt chi am ddyfodol y tymor hwy yn un teg hefyd. Fe fyddwn ni'n dysgu llawer o'r cam brechu hwn am yr hyn y mae'n debygol y bydd angen inni ei wneud o ran gweinyddu brechlyn COVID eto yn y dyfodol. Yr hyn nad ydym ni'n ei wybod eto yw pryd y gallai hynny fod a'r math o raglen a fyddai'n rhaid inni ei chael. Mae'r rhaglen frechu bresennol rhag y ffliw, er enghraifft, yn cael ei gweinyddu mewn practisau cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol yn bennaf. Nid ydym yn gwybod eto a fydd y normaleiddio hwnnw'n bosibl yng ngham nesaf y brechlyn, os mynnwch chi, ar ôl inni ddiogelu'r boblogaeth o oedolion yng Nghymru. Ond rydym yn credu bod yr hyblygrwydd gennym ni eisoes ar gyfer cyflawni yn y dyfodol i gynnwys pob oedolyn yn y wlad.

Yn olaf, ynglŷn â phwynt Andrew Evans am ein hangen ni i gyflawni a'n gallu i ddarparu mwy na 30,000 dos y dydd, ydym, rydym yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud hynny. Nid ydym wedi gwneud hynny yn y gorffennol diweddar. Maint y cyflenwad yw'r unig reswm am hynny. Ond, rydym ni yn credu, yn ystod gweddill yr wythnos hon, y byddwch chi'n dechrau gweld y ffigurau hynny'n mynd yn ôl i tua 30,000 dos y dydd, ac fe fyddwch chi'n gweld hynny'n parhau am gyfnod byr, yna fe fydd cyfnod tawelach ac yna fe fydd cyfradd gyson o weinyddu brechlynnau wrth i'r cyflenwad normaleiddio. Ac, ar y sail honno, rydym ni'n dal i fod yn y sefyllfa ffodus o gael y gyfradd orau o frechu yn unrhyw un o wledydd y DU, gyda chyfran fwy o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Mae hynny'n newyddion da i ni, ond mae'n dangos hefyd ein bod ni ar frig grŵp llwyddiannus iawn o genhedloedd ledled y DU ar hyn o bryd, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd am fwy o lwyddiant yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf. 

15:25

A gaf i eto longyfarch pawb sydd wedi sicrhau ein bod ni wedi cyrraedd y cerrig milltir rhyfeddol yma—dros 1 filiwn o bobl wedi cael y dos gyntaf, ac 1.2 miliwn, bron, wedi cael y dos gyntaf neu'r ail. Mae'n argoeli'n dda ar gyfer cyrraedd y targedau yn y misoedd i ddod.

Gwnaf i gwpwl o bwyntiau, fel dwi'n ei wneud bob wythnos. Does dim eisiau ichi ymateb i'r rhain, Weinidog, achos rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n anghytuno arnyn nhw. Dwi'n meddwl ein bod ni mewn lle mor dda y gallem ni fod yn rhedeg cynllun paralel efo hwn er mwyn sicrhau bod gweithwyr sy'n fwyaf tebygol o ddod ar draws y feirws yn gallu cael eu brechu ynghynt. Ond dydyn ni ddim yn cytuno ar hynny. Hefyd, mi wnaf i ofyn eto, fel dwi wedi ei wneud gymaint, plis gawn ni'r data llawn ar faint o bob brechiad sy'n cael ei roi i bob gwlad? A dweud y gwir, mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn enghraifft dda o pam y byddai hynny'n ddefnyddiol. Mae yna lot wedi bod yn cysylltu efo fi dros y dyddiau diwethaf yn tynnu sylw at y ffaith bod yna fwy yn gymharol o'r ail ddos wedi bod yn cael ei roi yng Nghymru. Mae pobl yn gweld ein bod ni'n disgyn ar ei hôl hi, yn eu llygaid nhw, o ran y dos cyntaf. Buasai'n ddefnyddiol cael eglurhad gennych chi ar y record yn fan hyn o beth sy'n digwydd yma, pam fod y strategaeth yma wedi sifftio tuag at yr ail ddos, ac a oes a wnelo hynny mewn unrhyw ffordd â'r ffaith bod yna ddiffygion yn y cyflenwad o un o'r ddau frechiad yn dod i Gymru. Felly, eglurwch beth sydd wedi digwydd yn y fan honno, achos mae pobl yn edrych yn ofalus iawn ar y data—lot o bobl—ac maen nhw'n gallu gweld patrymau ac maen nhw'n gallu gweld bod yna newid wedi bod mewn dyddiau diweddar. 

Dau gwestiwn sydyn arall: gofalwyr di-dâl—dwi'n sicr yn falch eu bod nhw wedi cael eu cynnwys rŵan yng ngrŵp blaenoriaeth chwech ar gyfer y brechiad. Dwi'n gwybod bod y ffurflen ar-lein rŵan ar gael iddyn nhw i'w lenwi gan y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd. Dwi'n meddwl bod pob un heblaw un wedi ei wneud o ar gael. A gaf i jest gofyn pa waith cyhoeddusrwydd sy'n cael ei wneud i wneud yn siŵr bod gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o'r ffurflen yna a lle i ddod o hyd iddo fo?

A'r ail gwestiwn ydy ynglŷn ag asthma. Mae ymchwil yn dangos bod pobl efo asthma mewn perygl ychydig yn uwch o fynd i'r ysbyty os ydyn nhw'n cael y feirws yma, a hefyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef COVID hir. Ond, dwi wedi cael un enghraifft o etholwraig yn methu â ffeindio allan os oedd hi'n gymwys i gael y brechiad. Yn y pen draw, mi gafodd hi. Bues i'n cyfathrebu efo'r bwrdd iechyd ar ei rhan hi. Ond dwi'n deall bod yna wybodaeth wedi cael ei rhannu efo meddygfeydd rŵan ynglŷn â phwy efo asthma ac ati ddylai fod yn gymwys. A fyddech chi'n gallu gwneud y wybodaeth yna'n gyhoeddus? 

Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. Rwy'n croesawu eich bod chi'n llongyfarch y tîm a arweinir gan y GIG oherwydd y cyflawniad sylweddol a wnaed hyd yma, a'r hyder wrth gyflawni'r rhaglen frechu hon a arweinir gan y GIG yng Nghymru i'r dyfodol. Ac, unwaith eto, rydych chi'n iawn, rydym yn anghytuno ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, a sut y dylem ni ddilyn hwnnw, ac a ddylem ni flaenoriaethu un grŵp ac amddifadu un arall o flaenoriaeth. Felly, mae honno'n ffaith ein bod ni'n anghytuno ar hynny.

O ran dosbarthu ail ddos, rydym wedi gwneud dewis o ran rheoli ein stoc ni o frechlyn Pfizer fel y gallwn ni weinyddu'r ail ddos yn effeithiol. Mae hyn yn ymwneud â pha mor effeithlon yw ein rhaglen ni o ran sicrhau bod pobl yn cael eu hail ddos nhw mewn da bryd, a'n bod ni'n osgoi problem yn ddiweddarach yn y mis hwn pan na fydd digon o stoc o'r ail ddos ar gael inni o bosibl. Ac fe fyddai honno'n broblem fawr iawn, yn fy marn i. Mae llawer o bobl yn pryderu am orfod cymysgu brechlynnau. Wel, nid ydym ni am wneud hynny yng Nghymru: mae'r agwedd at hyn yn glir iawn. Rydym ni'n ceisio bod yn effeithlon, ac mae ein hagwedd ni tuag at risg yn wahanol, rwy'n credu, o'i chymharu â gwledydd eraill ynglŷn â'u dull nhw o weinyddu'r dosau hyn yn fwriadol, oherwydd rydych chi'n iawn fod yna rywfaint o wahaniaeth yn y ffigurau. Cyfanswm cyffredinol y dosau cyntaf a ddarparwyd—cyfartaledd y DU yw 33.5 y cant o'r dosau cyntaf ar gyfer y boblogaeth gyfan; mae ychydig o dan hynny yma yng Nghymru. Ar gyfer yr ail ddos, mae'n 1.7 y cant, ond mae'n 5.8 y cant ar gyfer yr ail ddos yng Nghymru. Ac ar gyfer cyfanswm y dosau a ddarparwyd, cyfartaledd y DU yw 35.2 y cant; yng Nghymru, mae'r cyfanswm yn 37.5 y cant. Felly, rydym ni'n gweinyddu mwy o frechlynnau y pen nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ac mae'r wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n cyhoeddi nid yn unig y tablau ar y ffigurau, ond rhai o'r ffigurau hynny ynglŷn â phwyntiau o gymhariaeth â'r DU hefyd. Felly, nid oes raid ichi aros am fy natganiad i; fe fyddan nhw'n rhan reolaidd o'r ffordd yr ydym ni'n cyhoeddi gwybodaeth. Ac mae pob gwlad yn cyhoeddi ei ffigurau eisoes ynglŷn â sut maen nhw'n defnyddio eu stociau nhw o frechlynnau. Felly, yn hytrach nag ymgais gennyf i yn rhoi sylwebaeth ar y sefyllfa mewn gwledydd eraill, rwy'n gallu siarad am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a sut rydym ni'n rheoli'r stociau sydd gennym ni'n effeithiol mewn ffordd sydd, yn fy marn i, yn llwyddiannus i raddau helaeth iawn.

O ran gofalwyr di-dâl, mae'n bosibl y byddaf i'n siarad yn nes ymlaen yr wythnos hon gyda chadeirydd un o'r byrddau iechyd lle nad yw'r ffurflen ar-lein yn weithredol er mwyn deall pam nad yw'r ffurflen ar-lein honno ar gael ganddyn nhw. Mae ar gael ar-lein, ac mae pobl yn cael eu gwneud yn ymwybodol ohoni nid yn unig drwy ofal sylfaenol ond, yn hollbwysig, drwy sefydliadau'r gofalwyr, sydd—. Fe aethom ni drwy raglen o gyd-ddylunio'r ffurflen—y Llywodraeth, y GIG a'r sefydliadau hynny i ofalwyr—ac fe wnaethom ni setlo ar rywbeth yr ydym ni o'r farn y bydd yn gweithio. Ac mae'r ffurflen honno'n eich tywys chi drwy gyfres o gwestiynau i sicrhau eich bod chi'n cael yr hyn sy'n haeddiannol. Yna, fe gaiff yr wybodaeth honno ei bwydo i system imiwneiddio Cymru, ac yna fe ddylai hynny gynhyrchu'r apwyntiad. Felly, rydym ni'n awyddus i weld cymaint o ddefnydd â phosibl o'r ffurflen ar-lein honno er mwyn darparu profiad cyson i bobl ledled y wlad.

O ran asthma, rydych chi'n iawn, mae llythyr wedi cael ei anfon gan un o'r uwch arweinwyr clinigol yn y Llywodraeth, ac mae llythyr wedi mynd allan i ofal sylfaenol, ac, o ystyried y bydd hwnnw wedi mynd allan i ystod eang o ddarparwyr gofal sylfaenol, rwy'n credu ei fod yn gyhoeddus yn y bôn. Fe fyddaf yn sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud i gyhoeddi'r cyngor hwnnw, fel y gall pawb weld sut y darparwyd y cyngor hwnnw ac fe all gofal sylfaenol reoli eu rhestrau nhw o bobl wedyn mewn ffordd a ddylai fod, unwaith eto, mor gyson â phosibl ledled y wlad. Nid wyf i o'r farn fod unrhyw anhawster wrth wneud hynny, ac rwy'n siŵr y gallwn ni gyhoeddi datganiad ysgrifenedig syml ar hynny yn ystod y dyddiau nesaf. 

15:30

Mae pobl Islwyn, yr wyf i'n eu cynrychioli, yn eich llongyfarch chi a Llywodraeth Lafur Cymru ar achlysur cyrraedd carreg filltir hanesyddol, sef miliwn o frechiadau. Yn fy etholaeth i, sef Islwyn, mae'r brechu torfol yng nghanolfan hamdden Trecelyn yn effeithiol iawn, ac yn fedrus iawn, yn brechu niferoedd mawr o bobl. Gweinidog, gyda phedwar o bob 10 ymhlith poblogaeth oedolion Cymru wedi cael o leiaf un dos, beth yw eich neges chi i gymunedau Islwyn o ran y cynnydd sy'n cael ei wneud i frechu pob oedolyn erbyn 31 Gorffennaf?

Rwy'n credu y gall pobl fod â lefel uchel iawn o hyder am ein sefyllfa ni, ar ganol mis Ebrill, ac, yn wir, erbyn diwedd mis Gorffennaf hefyd, gan ddibynnu ar y cyflenwadau. A'r cyflenwad yw'r unig fater a allai ein dal ni'n ôl. Rwy'n credu, a bod yn deg, mai'r un fyddai'r ateb pe byddech chi'n siarad ag unrhyw un o'r rhaglenni a arweinir gan y GIG yn y DU. Fe allem fod  wedi gwneud mwy erbyn hyn pe byddai yna fwy o gyflenwad wedi bod ar gael. Nid beirniadaeth mohoni; dim ond datgan ein sefyllfa ni, ac rwy'n credu bod hynny'n mynd yn ôl at gwestiynau Angela Burns hefyd. Felly, os ydych chi'n aros am eich brechlyn chi, a'ch bod chi yn perthyn i grwpiau 1 i 9, fe allwch fod yn hyderus y byddwch wedi cael cynnig un, neu fe ddylech gael cynnig un, erbyn canol mis Ebrill. Rwyf i o'r farn fod hynny'n golygu ein bod ni mewn sefyllfa dda i fod yn cynnig brechlyn i weddill y boblogaeth oedolion yng Nghymru, os bydd y cyflenwadau yn ateb y gofyn, o ganol mis Ebrill ymlaen. Ac, unwaith eto, fe ddylai'r rhagolwg i'r tymor hwy, o ran sefydlogrwydd y cyflenwad o frechlynnau, olygu y gallwn ni wneud hynny erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae'n mynd yn fwy ansicr po bellaf i'r dyfodol yr edrychwn. Ond, yn y sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael nid yn unig â Gweinidog y DU ynglŷn â'r cyflenwad o frechlynnau, ond gyda Gweinidogion Iechyd eraill yn y DU, ac, yn wir, gyda'r ddau gwmni sy'n cyflenwi'r brechlynnau yr ydym ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd, sef Pfizer ac AstraZeneca, rwyf i o'r farn y bydd gennym y lefel o gyflenwad i ganiatáu inni wneud hynny. Ac fe fydd hynny, unwaith eto, yn rhoi dewisiadau amrywiol inni ynglŷn â sut y gall y cyhoedd fwrw ymlaen â'u bywydau a chael mwy o normalrwydd, gan barhau i reoli'r perygl oherwydd yr hyn sy'n dal i fod yn bandemig nad yw wedi dod i ben eto. Ond rwy'n falch iawn o glywed bod yr etholaeth yr ydych chi'n ei chynrychioli yn gwerthfawrogi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y rhaglen hon dan arweiniad y GIG.

15:35
4. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021. A dwi'n galw ar y Gweinidog unwaith eto i gyflwyno'r rheoliadau yma—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7614 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger bron. Mae'r Aelodau yn ymwybodol bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi cael eu hadolygu ar 18 Chwefror, ac fe ddaethpwyd i'r casgliad y dylai Cymru i gyd aros ar lefel rhybudd 4. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb ddal ati i aros gartref am y tro. Mae'n rhaid i'r holl siopau nad ydynt yn hanfodol, mannau lletygarwch yn ogystal â safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau. Mae hyn yn golygu nad yw pobl, ar y cyfan, yn gallu ffurfio aelwydydd estynedig, sef yr hyn a elwir hefyd yn 'swigod'. Hyd nes i'r diwygiadau diweddaraf gael eu gwneud i'r rheoliadau, yr unig eithriad fu ar gyfer aelwydydd un oedolyn cyfrifol, oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu sy'n byw ar eu pennau eu hunain gyda phlant, a allai ffurfio swigod cymorth gydag un aelwyd arall. Ers i Gymru symud i rybudd lefel 4, mae aelwydydd sydd angen cyswllt ar sail dosturiol, neu i gynorthwyo gyda gofal plant, wedi gallu gwneud hynny.

Fodd bynnag, cafodd y rheoliadau eu diwygio fel y gall aelwydydd ag unrhyw blant dan un oed ffurfio swigod cymorth—unwaith eto, gydag un aelwyd arall. Mae hyn yn ceisio sicrhau y gall rhieni newydd neu warcheidwaid plant dan flwydd oed gael cymorth gan ffrindiau neu deulu yn ystod blwyddyn gyntaf hanfodol bywyd baban. Fe fydd hyn yn helpu gyda datblygiad y baban hefyd. Yn ogystal â hynny, mae'r rheoliadau diwygiedig ar gyfer y cyfyngiadau yn caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu gyda phobl o'r un oedran, heb unrhyw oedolion, ffurfio swigod cymorth yn yr un modd. Ac yn olaf, mae'r rheoliadau diwygiedig yn caniatáu i bob lleoliad a gymeradwyir ar gyfer gweinyddu priodasau, seremonïau partneriaeth sifil, neu seremonïau priodas amgen, agor at y diben cyfyngedig hwn. I fod yn eglur, ni chaniateir ciniawau priodas ar hyn o bryd.

Rydym wedi nodi'n glir mai ein blaenoriaeth gyntaf ni yw gweld cymaint o blant a myfyrwyr â phosibl yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb cyn gynted ag y bo modd. Gyda hyn mewn golwg, fe fydd ein dull ni o lacio'r cyfyngiadau yn digwydd mewn camau graddol. Fe fyddwn ni'n parhau i wrando ar y cyngor meddygol a gwyddonol ac, wedi hynny, fe fyddwn ni'n asesu effaith y newidiadau a wnaed. Er gwaethaf y cynnydd enfawr o ran gweinyddu brechlynnau yr ydym ni newydd sôn amdano, a'r sefyllfa sy'n gwella o ran iechyd y cyhoedd, rydym wedi gweld pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio. Yn wyneb amrywiolion newydd o'r coronafeirws, yn arbennig amrywiolyn Caint, sy'n ymledu ar raddfa lawer cyflymach, ni allwn  ddarparu cymaint o sicrwydd na rhagweld cymaint ag y byddem ni'n ei hoffi fel arall. Fe fyddwn ni'n rhoi cymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn ni cyn gwneud unrhyw newidiadau. Pan fyddwn ni o'r farn ei bod yn ddiogel llacio'r cyfyngiadau, fe fyddwn ni'n gwneud hynny. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n parhau i fod â rhan bwysig wrth addasu rheolau coronafeirws yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod nhw'n dal i fod yn effeithiol a chymesur. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch i chi. A gaf i alw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gennyf i ychydig o sylwadau byr i'w rhoi. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ni bore ddoe, ac mae ein hadroddiad ni'n cynnwys tri phwynt teilyngdod sy'n gyfarwydd iawn i'r Aelodau. Mae ein pwynt teilyngdod cyntaf ni'n nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Rydym wedi tynnu sylw arbennig at nifer o baragraffau allweddol yn y memorandwm esboniadol sy'n cyfeirio'n uniongyrchol at erthyglau 2, 5, 8, 9 ac 11 o siarter hawliau sylfaenol Ewrop ac erthygl 1 o'r protocol cyntaf. Ac mae ein hail a'n trydydd pwynt teilyngdod yn nodi na fu yna ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith rheoleiddiol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Dau newid yn y fan hyn rydyn ni'n cytuno â nhw, y cyntaf yn ymwneud â mangreoedd ar gyfer seremonïau priodas sifil a phartneriaethau sifil, y llall yn caniatáu i aelwydydd efo, beth bynnag, un plentyn dan un oed ffurfio aelwyd estynedig. Dwi yn falch o weld hyn yn digwydd o ran llesiant, a dwi'n cyfeirio'n benodol at y gwaith mae Bethan Sayed wedi'i wneud yn y maes yma'n benodol, dwi'n meddwl, yn codi ymwybyddiaeth, fel rhiant ifanc ei hun hefyd, wrth gwrs. Felly, fel dwi'n dweud, mi fyddwn ni'n cefnogi hwn.

Gwnaf i gyfeirio, os caf i, jest yn sydyn, at yr adolygiad nesaf. Dwi yn gobeithio, eto o ran llesiant, y byddwn ni'n gallu symud i gyfnod 'aros yn lleol', rŵan, yn hytrach nag 'aros gartref'. Dwi'n credu buasai fo yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran llesiant pobl, a dwi'n edrych ymlaen at gael mwy o fap ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Ond Ynys Môn ydy fy etholaeth i. Rydym ni'n gwybod bod Ynys Môn yn un o'r ardaloedd lle mae nifer yr achosion ar ei uchaf. Rydym ni'n gwybod am yr effaith mae'r math newydd o goronafeirws yn ei gael, pa mor hawdd ydy o i ledaenu. Rydym ni'n gweld y ffigurau diweddaraf, eto'r prynhawn yma, ynglŷn â nifer yr achosion yn Ysbyty Gwynedd ac yn y blaen. Felly, mae'n rhaid symud ymlaen yn bwyllog iawn, iawn, iawn. Felly, jest cwestiwn sydyn: sut bydd y Llywodraeth yn cyfathrebu mor glir â phosib na all pobl ddefnyddio'r ffaith bod cil y drws yn agor fel rheswm i wthio'r drws yna ar agor led y pen, achos dydyn ni ddim yn barod am hynny?  

15:40

Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.

Diolch i'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder, unwaith eto, am graffu ar y rheoliadau. Unwaith eto, mae adolygiadau rheolaidd y pwyllgor hwn yn ein helpu ni i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn ateb ei diben a'i bod wedi ei drafftio'n addas, ac mae'r pwyllgor, o bryd i'w gilydd, wedi sylwi ar wahaniaethau bychan, ond pwysig iawn, yn fy marn i, yn y rheoliadau, y gwnaethom ni eu cywiro, ar ôl i'r pwyllgor eu hadolygu. Mae hynny o gymorth mawr bob amser.

Ynglŷn â phwynt Rhun ap Iorwerth, rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth i'r rheoliadau hyn. Ynglŷn â'ch pwynt ehangach chi am reoliadau posibl yn y dyfodol, rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog a minnau'n cyfeirio at y posibilrwydd o gyfnod 'aros yn lleol' cyn y gellir cael symudiad ehangach o ran teithio. Ac nid oes dim byd yn berffaith yn hynny, ond rydym ni'n cydnabod, wrth symud o un cam i'r llall, y gallai cyfnod pontio 'aros yn lleol' fod yn ddefnyddiol. Ac mae hyn yn golygu pobl yn ymddwyn yn synhwyrol gydag unrhyw reolau neu ganllawiau. Ac os byddwn ni'n rhoi arweiniad ar hyn, dyna'n union fyddai hynny, nid rheol haearnaidd. Rydym yn gofyn i bobl fod yn synhwyrol ynglŷn â sut y maen nhw'n mynd o gwmpas hynny. Ac rwy'n sylweddoli, pe byddwn i'n byw yng nghanol Powys, y gallai 'aros yn lleol' olygu rhywbeth gwahanol iawn i fyw yma ym Mhenarth neu yn y rhan o Gaerdydd sydd yn fy etholaeth i. Ac felly rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio eu synnwyr cyffredin a dangos y gefnogaeth sydd wedi ein cynnal ni hyd yr awr hon. Yr hyn nad ydym yn awyddus i'w weld yw pobl yn cymryd agwedd tuag at unrhyw lacio posibl sy'n ein dwyn ni ymhell y tu hwnt i'r sefyllfa y mae angen inni fod ynddi hi, oherwydd rwy'n eiddgar i weld cynnydd graddol a diogel wrth symud oddi wrth ein cyfyngiadau presennol a fyddai'n golygu na fyddai angen inni arafu unwaith eto.

Os ydyn nhw'n mynd i deithio, mae angen i bobl gydnabod a gwneud yn siŵr eu bod yn dal i gadw at y cyfyngiadau eraill a fydd yn parhau i fod yn weithredol ac yn eu lle, ac yn enwedig yr heriau i bob un ohonom ni wrth sicrhau ein bod yn cadw pellter oddi wrth bobl, yn cofio am hylendid dwylo, ac yn enwedig ddim yn cymysgu dan do. Hwnnw yw'r dull mwyaf peryglus o gysylltu â phobl o hyd ac, fel y dywedais i, mae amrywiolyn Caint yn golygu ei fod yn amrywiolyn sy'n llawer haws iddo drosglwyddo na'r un yr ydym wedi bod yn ymdrin ag ef hyd yma, ac felly dyna pam mae angen gofal ychwanegol. Mater i bob un ohonom ni, serch hynny, yw gwneud ein rhan fel y gallwn wneud dewisiadau eraill yn y dyfodol, a dewisiadau eraill yr wyf i'n sicr yn gobeithio y gallwn ni i gyd gytuno na fyddem yn dymuno eu bod yn cael eu gwrthdroi.

Felly, diolch am eich sylwadau a'ch cefnogaeth gyffredinol, ac rwy'n edrych ymlaen at obeithio y bydd yr Aelodau yn cytuno nawr ar y rheoliadau sydd ger bron. 

Diolch. Y cynnig yw ein bod ni'n derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, nid wyf i'n gweld unrhyw un sy'n gwrthwynebu. Gan hynny, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5., 6., 7. & 8. Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021 a Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
9. Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021

Felly, eitem 9 yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-Gymdeithasol) (Cymru) 2021, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig, Jane Hutt.

Cynnig NDM7616 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r Aelodau yn ymwybodol bod y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad rhaglen ddeddfwriaethol ar 15 Gorffennaf 2020, wedi cyhoeddi bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn un o bum maes i'w cyflawni cyn diwedd y tymor Seneddol hwn. Dyma un o'n hysgogiadau ni i leihau anghydraddoldeb, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu trafod y rheoliadau a osodwyd gerbron Aelodau'r Senedd heddiw, sef rhan allweddol o gyflawni'r ymrwymiad hwn. Os byddant yn cael eu pasio, fe fydd y rheoliadau'n rhoi dyletswydd ar rai cyrff cyhoeddus, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt, wrth wneud penderfyniadau strategol fel penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion, ystyried sut y gallai eu penderfyniadau nhw helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron yn rhestru cyrff cyhoeddus Cymru sy'n cael eu cynnwys o ran y ddyletswydd hon, felly mae'r diffiniad o awdurdod perthnasol yn golygu fy mod i wedi fy nghyfyngu i'r cyrff cyhoeddus hynny y gall y ddyletswydd hon fod yn berthnasol iddyn nhw. Serch hynny, rwyf wedi cynnwys pob corff cyhoeddus y mae'r diffiniad hwn yn berthnasol iddo, gan sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl Cymru. Mae'r ddyletswydd yn cysylltu hefyd â chynlluniau ar gyfer y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) drafft, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Mae'r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn ceisio cryfhau ein trefniadau ni gyda'r bartneriaeth gymdeithasol a'r agenda gwaith teg sydd gennym ni, gan fod y ddau beth yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o wahanol safbwyntiau.

15:45

Diolch. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ystyried y rheoliadau hyn ar 1 Mawrth ac mae ein hadroddiad ni'n cynnwys dau bwynt teilyngdod, y byddaf i'n eu crynhoi yn fyr ar gyfer yr Aelodau y prynhawn yma.

Nododd ein pwynt teilyngdod cyntaf ni nad oes asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau ac fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau a wnaed i gyhoeddi adroddiad ar asesiad o'r fath, yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Mewn ymateb i'n pwynt teilyngdod cyntaf, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod asesiad effaith integredig llawn ar y rheoliadau wedi cael ei gwblhau. At hynny, fe gadarnhaodd ymateb y Llywodraeth hefyd fod adrannau 1, 3 a 7 o'r asesiad effaith integredig wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar 23 Chwefror, a bod crynodeb o'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb i'w weld yn adran 7.2. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym hefyd y byddai'r gweddill o adrannau'r asesiad effaith integredig ar gael, fel mater o drefn, pe byddai gofyn amdanynt.

Roedd ein hail bwynt teilyngdod yn ymwneud ag adolygiad ôl-weithredu o'r rheoliadau. Roeddem yn tynnu sylw at y ffaith bod asesiad yr effaith rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn nodi, o ystyried y canlyniadau lluosog a ragwelir o ganlyniad i'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, y caiff rhaglen fonitro a gwerthuso ei datblygu i gyfateb i weithgareddau allweddol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr adroddiad ar deilyngdod. Fe lwyddodd ef i ateb y pwyntiau a wnaed yn eich cwestiynau chi am yr asesiad effaith integredig, a beth fyddai effaith y gwaith hwnnw o ran canllawiau, o ran cyhoeddi'r adrannau hynny a oedd yn crynhoi pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried. Ac fe fyddwn i'n dweud hefyd y byddwn ni'n parhau i gefnogi cyrff cyhoeddus ar ôl i'r ddyletswydd honno ddod i rym.

Felly, fe fydd dechreuad y ddyletswydd yn ein dwyn ni ymlaen, wrth gwrs, o ran y canllawiau anstatudol a gyhoeddwyd gennym llynedd. Fe baratowyd pecyn sylweddol o gymorth ar gyfer cyrff cyhoeddus oherwydd y ddyletswydd ac mae yna rai eisoes yn gweithio yn y ffordd a fwriadwyd, ac felly rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn.

Diolch. Y cynnig yw ein bod ni'n derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiadau, felly, fe fyddwn ni'n pleidleisio ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021

Eitem 10 ar yr agenda yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021. Rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig, Julie James.

Cynnig NDM7615 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Wedi i'r Senedd ystyried a phasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 y llynedd, rwy'n ceisio gwneud y darpariaethau angenrheidiol erbyn hyn ar gyfer gweithredu rhai o'r diwygiadau a ddarparwyd gan y Ddeddf. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei hanfod wedi cryfhau a grymuso llywodraeth leol. Mae'r drefn perfformiad a llywodraethu newydd a nodir yn Rhan 6 y Ddeddf yn elfen sylfaenol o hynny, gan ddiffinio, yn ddi-syfl, brif gynghorau yn sefydliadau sy'n gwella eu hunain drwy gyfrwng system sy'n seiliedig ar hunanasesu ac ar asesu perfformiad panelau. Bwriad y drefn newydd hon o ran perfformiad a llywodraethu yw cefnogi ac adeiladu ar ddiwylliant lle mae cynghorau'n herio'r sefyllfa bresennol trwy'r amser, ac yn gofyn cwestiynau am sut y maen nhw'n gweithredu a rhoi ystyriaeth i'r arfer gorau yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Fy mwriad i yw gwneud y drefn newydd yn rhannol berthnasol o 1 Ebrill eleni, gyda'r darpariaethau sy'n weddill yn dod i rym yn etholiadau llywodraeth leol 2022. Fe fydd y rheoliadau diwygiadau canlyniadol sydd ger eich bron heddiw yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth bresennol yn adlewyrchu'n gywir y newidiadau deddfwriaethol sy'n deillio o'r gyfundrefn newydd, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch.

15:50

Diolch. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y rheoliadau blaenorol a drafodwyd y prynhawn yma, fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn hefyd ar 1 Mawrth ac mae ein hadroddiad ni'n cynnwys dau bwynt teilyngdod.

Mae'r rheoliadau yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1999 er mwyn, ymhlith pethau eraill, ganiatáu i grantiau gael eu rhoi gan Weinidogion Cymru i Swyddfa Archwilio Cymru o ran gwariant a fu neu i ddod eto gan Archwilydd Cyffredinol Cymru dan bennod 3 o Ran 6 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd ein pwynt teilyngdod cyntaf ni'n nodi nad yw pennod 3 o Ran 6 Deddf 2021 mewn grym eto. Fel y cyfryw, fe ofynnodd ein hadroddiad ni i Lywodraeth Cymru gadarnhau pryd a sut y byddai'r darpariaethau yn y bennod hon o Ddeddf 2021 yn cael eu rhoi ar waith.

Gan symud ymlaen at ein hail bwynt teilyngdod ni, mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn cyfeirio at Orchymyn 2021, sy'n dod â phennod 1 o Ran 6 Deddf 2021 ac adran 169 Deddf 2021 i rym. Roedd ein hail bwynt adrodd ni'n nodi nad oedd Gorchymyn 2021 wedi ei wneud ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, ac roeddem ni'n gwahodd Llywodraeth Cymru i gadarnhau pryd y disgwylir i hyn ddigwydd.

Yn ein cyfarfod ni ddoe, fe wnaethom ystyried ymateb gan y Llywodraeth, ynghyd â llythyr gan y Gweinidog, sy'n rhoi trosolwg o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gefnogi gweithredu Deddf 2021. Mewn ymateb i'n dau bwynt adrodd ni, mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bwriedir cychwyn pennod 3 o Ran 6 Deddf 2021 yr un pryd â phennod 1, ar 1 Ebrill 2021. Mae wedi cadarnhau hefyd y bwriedir gwneud y Gorchymyn cychwyn sy'n dod â'r darpariaethau hyn i rym ym mis Mawrth ar yr un pryd â'r rheoliadau hyn sydd ger ein bron heddiw, yn ddarostyngedig i'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

Nid oes angen ymateb. Fe nododd Cadeirydd y pwyllgor yr ateb i'w gwestiynau ef ei hun eisoes, ac rwy'n hapus iawn gyda hynny, felly rwy'n galw ar yr Aelodau i gymeradwyo'r rheoliadau heddiw. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw un yn gwrthwynebu, felly fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21

Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar drydedd gyllideb atodol 2020-21, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.

Cynnig NDM7622 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30:

1. Yn cymeradwyo'r Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021.

2. Yn nodi bod y categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021.

3. Yn nodi ymhellach yr addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'n adolygu'r cynlluniau ariannu a gwariant a gafodd eu cymeradwyo gan y Senedd yn yr ail gyllideb atodol ym mis Tachwedd. Mae cynnydd o £2 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae hwn yn gynnydd pellach o 8 y cant ar y sefyllfa a nodwyd yn yr ail gyllideb atodol a hynny'n adlewyrchu'r holl gynnydd o fwy na 32 y cant ar ben y cynlluniau gwariant a bennwyd ar ddechrau'r flwyddyn.

Yn y gyllideb atodol hon, mae cynlluniau gwariant cyllidol Llywodraeth Cymru wedi cynyddu £2.13 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £318 miliwn ar gyfer y pecyn ailadeiladu a gyhoeddwyd ym mis Hydref, ynghyd â dyraniadau allweddol sy'n parhau i gefnogi ymateb y Llywodraeth i effaith y pandemig coronafeirws. Darparwyd cyfanswm o £660 miliwn ar gyfer cymorth busnes hyd at ddiwedd mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys £134.5 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer cyfnod atal byr mis Hydref, £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, a chymorth a anelir o £220 miliwn ar gyfer cronfa cyfyngiadau busnes y Gronfa Cadernid Economaidd, a chymorth sy'n benodol i'r sector. Felly, cafodd £12.2 miliwn ei ddyrannu ar gyfer y gronfa adferiad diwylliannol i roi cymorth hanfodol i theatrau, safleoedd cyngherddau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau a sinemâu annibynnol, ac yn cynnwys y gronfa gyntaf yn y DU ar gyfer gweithwyr llawrydd.

Rydym wedi dyrannu £32 miliwn i roi taliad o £500 i gefnogi pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu, neu rieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy wasanaethau profi, olrhain a diogelu, a dyrannwyd £16.7 miliwn i ychwanegu at dâl salwch statudol i weithwyr gofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â'n hymdrechion ni o ran olrhain cysylltiadau a chymorth ar gyfer hunanynysu, rydym ni'n cyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf a welodd Cymru erioed. I sicrhau llwyddiant y rhaglen, rydym wedi dyrannu £27 miliwn ar gyfer gweinyddu brechlynnau, ac fe roddir y rhan fwyaf ohono i'r byrddau iechyd. Rhoddwyd £69 miliwn ar gyfer cymorth caledi i addysg uwch ac addysg bellach i gefnogi'r nifer fawr o fyfyrwyr sydd wedi wynebu trafferthion yn sgil y pandemig, ac rydym ni'n parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda £30.7 miliwn ychwanegol ar gyfer cynllun lleihau'r dreth gyngor a cholledion gyda chasglu'r dreth gyngor.

Yn ogystal â'r mesurau hyn i ymateb i'r pandemig, fe ddyrannwyd tua £825 miliwn yn y gyllideb atodol hon i gefnogi meysydd eraill, fel £62 miliwn ar gyfer bargeinion dinas a thwf, gan roi £36 miliwn i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, £16 miliwn i fargen twf y gogledd a £10 miliwn i fargen dinas-ranbarth Caerdydd. Fe ychwanegwyd £30 miliwn i fynd i'r afael â'r gost a welwyd wrth ymdrin â'r atgyweirio oherwydd effaith y llifogydd ym mis Chwefror 2020, ac ar gyfer diogelwch tomennydd glo. Fe ychwanegwyd estyniad o £270 miliwn i gronfa fuddsoddi hyblyg Cymru, yn ogystal â £50 miliwn i gefnogi costau cyfalaf cynnal a chadw ysgolion i awdurdodau lleol.

Fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y drydedd gyllideb atodol hon, ac fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth ac yn ymateb yn llawn i'w chwe argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru maes o law. Ond gallaf i ddweud nawr fy mod i'n bwriadu eu derbyn nhw. Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o'r heriau sy'n ein hwynebu eleni o ran ymgysylltu a chyfathrebu â Llywodraeth y DU, o ran yr angen am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu, ac o ran materion penodol megis seilwaith ar gyfer porthladdoedd Cymru a'r diffyg manylion ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU. Rwy'n cydnabod argymhelliad y pwyllgor hefyd i gynnal tryloywder gwariant Llywodraeth Cymru yn ei adroddiad alldro blynyddol, a'r ymrwymiad i'n protocol cytûn ni a oedd yn sefydlu'r elfen bwysig hon o'n fframwaith adrodd.

Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig. 

15:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mi gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 24 Chwefror i drafod trydydd cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Fel y bydd y Siambr yn gwybod, mae cael trydedd cyllideb atodol yn beth anghyffredin iawn, wrth gwrs, ond mae'n adlewyrchu efallai’r effaith y mae COVID-19 yn ei chael o hyd. Felly, rŷn ni yn diolch i'r Gweinidog am ddwyn y gyllideb atodol yma ymlaen a’r tryloywder y mae hyn yn ei gynnig i'r Senedd.

Mae'r gyllideb hon yn cydgrynhoi addasiadau sy'n deillio o amcangyfrifon atodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethom ni glywed bod hyn yn rheoleiddio dyraniadau i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, a throsglwyddiadau o fewn a rhwng portffolios. Mae hefyd yn cynnwys addasiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilio Cymru.

Yn ystod yr ail gyllideb atodol, roedd llawer o argymhellion y pwyllgor yn ymwneud â’r mater o dryloywder. Dyw'r sefyllfa hon ddim wedi newid, ac er ein bod ni'n cydnabod bod y pandemig yn parhau i roi straen ar y fframwaith cyllidol, mae wedi bod yn anodd i'r pwyllgor a'r Senedd hon gael darlun clir o'r cyllid sy’n cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru. Ein hargymhelliad cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu mewn perthynas â strwythur digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig.

Fe gafwyd cynnydd o £244.5 miliwn ym mhrif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o'i gymharu â'r ail gyllideb atodol, a rŷn ni'n credu bod hyn yn ddoeth o ystyried yr ansicrwydd a fydd yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'r pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar incwm awdurdodau lleol a bydd hyn yn parhau, wrth gwrs, tan ddiwedd y flwyddyn ariannol o leiaf a'r flwyddyn ariannol nesaf hefyd wrth gwrs, o leiaf. Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid brys i awdurdodau lleol, gyda'r mwyafrif yn dod drwy'r gronfa caledi awdurdodau lleol. Hoffem ni gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y cyllid sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i’r effaith wahaniaethol y mae COVID-19 yn ei chael ar incwm awdurdodau lleol.

Mae’r sefyllfa hefyd wedi cael effaith ar allu'r trydydd sector i godi refeniw. Mae'r trydydd sector yn chwarae rhan allweddol o ran darparu cymorth a gwasanaethau sy'n cefnogi gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a lleol. Er ein bod ni'n croesawu'r cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn y drydedd gyllideb atodol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol a chronfa ymateb y trydydd sector, mae lefel y cyllid ychwanegol yn gymedrol o'i chymharu â'r cymorth sy’n cael ei roi i'r gwasanaethau iechyd. Dylai Llywodraeth Cymru felly gadarnhau bod y cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu yn adlewyrchu'n llawn yr effaith ar wahanol feysydd a sefydliadau y trydydd sector.

Y gyllideb atodol hon yw'r un gyntaf ers cytuno ar fargen fasnach yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth y Gweinidog ddweud wrthym ni fod trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau ynghylch ariannu'r costau seilwaith i ddiweddaru porthladdoedd. Rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad am y trafodaethau hyn pan fydd modd gwneud hynny. 

Mae cronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig yn parhau i fod o ddiddordeb i'r Pwyllgor ers 2017, pan gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyntaf y byddai'n disodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Bryd hynny, ychydig iawn o fanylion oedd yn hysbys a dyw'r sefyllfa hon ddim wedi gwella ryw lawer er gwaethaf ymdrechion y pwyllgor a Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth ar sut y bydd y gronfa hon yn cael ei dyrannu neu ei gweinyddu. Yfory, mi fydd y Pwyllgor Cyllid, ynghyd ag aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yn cymryd tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac mi fyddwn ni'n mynd ar drywydd y newidiadau ariannu hyn. Rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau setliad cyllido teg i Gymru ac nad yw Cymru yn colli allan ar yr un geiniog.

Fel y soniwyd ar y dechrau, mae'r cynnig hwn ar y gyllideb hefyd yn cynnwys addasiadau i gyllidebau Comisiwn y Senedd, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilio Cymru, ac mae'r pwyllgor yn fodlon â'r amrywiad yn y cyllidebau hyn.

Yn olaf, rŷn ni’n falch bod Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru gario cyllid o £650 miliwn drosodd, a ddarparwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, a hynny ar ben y cyfyngiadau cyfredol i gronfa wrth gefn Cymru. Hoffwn bwysleisio bod y pwyllgor o blaid hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Byddai cael hyblygrwydd, hefyd, ynghylch terfynau benthyca, a chronfeydd wrth gefn, yn helpu gwaith cynllunio Llywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol. Diolch.

16:00

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid y mis hwn, fel y clywsoch chi, ar drydedd gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn nodi bod hyn yn dyrannu bron i £1.3 biliwn o adnoddau cyllidol ychwanegol a bron i £837 miliwn mewn cyfalaf, gyda'r prif gynnydd yn yr economi a thrafnidiaeth, tai a llywodraeth leol, ac addysg. Y cefndir yw'r £5.2 biliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru er mwyn brwydro yn erbyn pandemig COVID-19 yn 2020. Mae'r £650 miliwn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon yn dod â hyn i £5.85 biliwn, ar ben £1.4 biliwn yn fwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn dilyn mwy o wariant ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Mae Canghellor Trysorlys y DU eisoes wedi cadarnhau y bydd gan Lywodraeth Cymru o leiaf £1.3 biliwn ychwanegol i'w wario yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, ac ychwanegodd ei gyllideb yr wythnos diwethaf £740 miliwn pellach o gyllid i Lywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am newidiadau clir a systematig i'r broses ariannu mewn cysylltiad â strwythur digwyddiadau cyllidol y DU.

At hynny, dywedodd y Gweinidog wrthym fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran bwrw ymlaen ag unrhyw symiau canlyniadol a gynhyrchwyd drwy weithredu fformiwla Barnett yn ychwanegol at y £5.2 biliwn o gyllid gwarantedig a gadarnhawyd yn flaenorol ar 23 Rhagfyr. Felly, mae'r gyllideb atodol yn manylu ar y £660 miliwn a ddygir ymlaen i'r flwyddyn nesaf, ac mae hynny oherwydd yr hysbysiad hwyr iawn. Fodd bynnag, nid yw'n cydnabod bod yr esgus a roddir yn gyson gan Lywodraeth Cymru am ei hymatebion araf i bopeth bron iawn, pandemig COVID-19, hefyd yn berthnasol i Lywodraethau eraill, a bod Trysorlys y DU, er gwaethaf hyn, wedi gweithio'n agos gyda phob un o'r tair Llywodraeth ddatganoledig yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Fel y dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ei lythyr ar 23 Chwefror at y Pwyllgor Cyllid, mae swyddogion wedi ymgysylltu'n amlach fyth; darparwyd dadansoddiad llawn o gyllid 2021-22 yn adolygiad gwariant 2020 fis Tachwedd diwethaf, a byddant hefyd yn cyhoeddi'r iteriad nesaf o dryloywder y grant bloc yn ddiweddarach eleni, a fydd, unwaith eto, yn cynnwys dadansoddiad llawn a manwl o'r cyllid. Mewn gwirionedd, felly, mae'r Gweinidog yn ymdrechu'n rhy galed i gyfiawnhau dwyn cymaint o arian ymlaen i'w wario yn ddiweddarach.

Fel y dywed ein hadroddiad hefyd, mae angen sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod yr arian a ddarperir i awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith wahaniaethol COVID-19 ar incwm awdurdodau lleol. Ac mae'r pwyllgor yn cydnabod yr effeithiwyd hefyd ar swyddogaeth y trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau sy'n cefnogi gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a lleol, o ran y gallu i godi refeniw. Mae lefel y cyllid ychwanegol y mae'r sector hwn yn ei gael yn fach o'i gymharu, fel y dywedodd y Cadeirydd, â'r cymorth a roddir i'r gwasanaeth iechyd, a bydd hynny'n costio'n ddrud i'r gwasanaeth iechyd.

16:05

Does dim ond eisiau ichi ddarllen y nodiadau esboniadol efo'r drydedd gyllideb atodol yma ac rydych chi'n gweld blwyddyn mor ddigynsail mae hon wedi bod. Dwi'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno ar hynny. Dydy dyraniadau enfawr fel hyn o fewn blynyddoedd ariannol ddim yn rhywbeth yr ydym wedi'i weld fel rhan o brosesau cyllidebol arferol dros y blynyddoedd.

Gaf i gymeradwyo sylwadau Llyr Gruffydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a gwneud ychydig o sylwadau pellach fy hun? Dwi'n deall y demtasiwn i'r Ceidwadwyr ddweud, cyn gynted ag y mae unrhyw arian yn dod ar gael, 'Gwariwch o yn syth', ond dwi yn credu, yn gyffredinol, bod pwyll a dal rhywfaint yn ôl wedi bod yn bwysig, yn enwedig pan rydych chi, ar un llaw, yn ystyried bod y tirwedd wedi bod yn esblygu lot o fis i fis dros y flwyddyn diwethaf, ond hefyd bod yna symptom fan hyn o'r ffaith nad yw system ffisgal Cymru ddim yn un sy'n gweithio i ni, yn enwedig ar amser mor heriol â hyn.

Mi wnaf i gyfeirio at ddau fater. Yn gyntaf, mae'r fformiwla Barnett wedi profi i fod yn arf hynod aneffeithiol—ffordd llawer rhy simplistig o ddosbarthu cyllid o Whitehall i Lywodraethau datganoledig. Gallaf fynd â chi'n ôl at un o'r papurau cyntaf a gafodd ei ysgrifennu gan y tîm Dadansoddi Cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddechrau'r pandemig, a oedd yn awgrymu efallai na fyddai dyrannu arian ar sail poblogaeth yn adlewyrchu'r heriau penodol y mae COVID wedi golygu i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ac roeddent yn iawn; mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn a phobl sydd â phroblemau iechyd nag sydd gan Loegr, rhywbeth sydd ddim yn cael ei ystyried gan beth sy'n cael ei alw'n 'needs-based factor'. Mi awgrymodd y papur hefyd, er i Lywodraeth Cymru roi ymrwymiad i roi'r un gefnogaeth i fusnesau drwy ryddhad ardrethi busnes ac ati ag sydd yn cael ei roi yn Lloegr, na fyddai'r gost o ddarparu'r gefnogaeth honno ddim yn angenrheidiol yn rhywbeth mae arian canlyniadol Barnett yn ddigon i dalu amdano fo. Dwi'n dyfynnu o'r papur:

'Er enghraifft, mae gan Gymru gyfran uwch o eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch (43%) o'i gymharu â Lloegr (38%)—er bod hyn yn debygol o gael ei wrthbwyso gan eu gwerthoedd ardrethol cyfartalog is. Roedd eu gwerthoedd ardrethol is yn golygu bod cyfran gymharol fwy o safleoedd Cymru (75%) yn gymwys ar gyfer y grant o £10,000 o'i gymharu â Lloegr (70%). Mae hyn er gwaethaf y ffaith mai dim ond i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 yng Nghymru y mae'r grant ar gael, tra bod busnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,000 a £15,000 hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn yn Lloegr.'

Credaf fod y papur yn gywir. O ran cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, dadleuodd Plaid Cymru y dylid bod wedi gwneud diwygiadau dros dro i'r fformiwla o leiaf, er enghraifft gan gynnwys ffactor penodol sy'n seiliedig ar anghenion oherwydd y coronafeirws. Ond yn y pen draw, credaf fod y pandemig wedi dangos bod arnom ni angen y math hwnnw o ddiwygio ar Fformiwla Barnett yn y tymor hwy, ac mae arnom ni ei angen ar frys.

Yr ail fater yw'r anhyblygrwydd a osodir ar Lywodraeth Cymru o ran y gallu i fenthyca a defnyddio cronfa wrth gefn Cymru. Rwy'n sicr—fel y gwnaeth y Pwyllgor Cyllid—yn croesawu'r ffaith bod y Trysorlys wedi ildio ychydig ynghylch hyn, gan gyfeirio at y ffaith iddyn nhw gytuno i ganiatáu dwyn £650 miliwn ymlaen i gyllideb 2021-22. Ond, nid ydym ni mewn sefyllfa well o hyd o ran pwerau cyllidol gwirioneddol y Llywodraeth nag yr oeddem ni ar ddechrau'r pandemig. Mae'r Gweinidog wedi dweud dro ar ôl tro fod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran mynd i'r afael â'r anhyblygrwydd hwn. Nid ydym ni ddim callach o ran canlyniad y trafodaethau hynny, neu eu hynt ar hyn o bryd, sy'n awgrymu i mi nad yw pethau'n mynd yn dda; heb fawr o syndod, o ystyried y ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi bod yn barod i wneud pethau y mae wedi gallu eu gwneud—er enghraifft, benthyca. Dyfynnaf Gerry Holtham yma:

'Mae methu â benthyca mewn dwy flynedd ariannol olynol'—

hynny yw 2019-20 a 2020-21—

'yn ymddangos yn anuchelgeisiol.' Cytunaf ag ef. Felly, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod digynsail. Mae llawer yn y gyllideb atodol hon—y drydedd, yn rhyfeddol—i'w croesawu yma. Ond, yr hyn y mae'r flwyddyn ariannol hon wedi'i ddangos yw na all y Llywodraeth fforddio anwybyddu pethau fel cyfangorff o ran yr angen i symud ymlaen ar ymreolaeth ariannol Cymru.

16:10

Rwy'n croesawu'n fawr y drydedd gyllideb atodol gan Lywodraeth Cymru. Mae ein dull clir yng Nghymru o graffu ar gyllid cyhoeddus yn dryloyw ac yn ddibynadwy. Fel aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid, rwyf yn gwerthfawrogi'n fawr ein bod yn blaenoriaethu ac yn gwario'n ddoeth yr arian cyhoeddus sydd ar gael inni yng Nghymru.

Fodd bynnag, yng Nghymru, rhaid inni weithredu—fel y dywedwyd—o fewn cyfyngiadau sylweddol iawn, yn wahanol i'n cymheiriaid ledled y DU, fel y'i cyflwynwyd inni gan Ganghellor Torïaidd y Trysorlys sy'n gwrthod yn bendant anrhydeddu datganoli'r lle hwn fel Senedd aeddfed, rhoi hyblygrwydd i Gymru a rhoi rheolaeth yn ôl dros y ffordd yr ydym ni'n gwario elfennau allweddol o'n harian. Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn disgwyl fawr ddim gan Ganghellor sy'n cyhoeddi cyllideb gyda llu—toreth—o ddeunydd yn hyrwyddo ei hun ar Instagram a fideos cyfryngau cymdeithasol, ac yn methu'n llwyr â sôn yn ei araith am anhrefn damniol y cynnig cyflog o 1 y cant i nyrsys Lloegr, sydd wedi ymladd, ac sy'n parhau i ymladd, ar reng flaen eithaf pandemig COVID-19.

Yng Nghymru, rydym yn gwerthfawrogi tryloywder yn ein cyllid cyhoeddus, ac ni allai hyn fod mewn gwrthgyferbyniad mwy uniongyrchol ac amlwg â Lloegr, lle nad yw Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi craffu ar ei chynigion ariannol ar hyd y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru, felly, i'w chanmol am ei hadroddiadau ffyddlon a rheolaidd i'r Senedd hon ar bob cam o'r broses—gan geisio proses o graffu cyhoeddus ar ei chynigion, a llwyddo i sicrhau hynny. Wrth inni aros am y distawrwydd di-ateb ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n hanfodol i Gymru, hoffwn ddiolch ichi, Gweinidog, am y cyfan yr ydych chi a Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i wneud, er gwaethaf cyfyngiadau sylweddol, i gynhyrchu trydedd gyllideb atodol glir a strategol, a fydd yn ailgodi'n decach i Gymru.

Mae'r drydedd gyllideb atodol hon yn rhan bwysig iawn o broses y gyllideb. Bydd cymeradwyo'r gyllideb atodol hon yn awdurdodi cynlluniau gwariant diwygiedig Llywodraeth Cymru. Mae'n pennu'r terfynau ar gyfer cymharu ein sefyllfa alldro ariannol. Mae hefyd yn awdurdodi'r arian y gellir ei ddefnyddio o gronfa gyfunol Cymru i gefnogi'r gwariant hwnnw. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon heddiw. Ymatebaf i nifer o'r pwyntiau a godwyd.

Roedd cwestiwn yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran y trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar borthladdoedd a ffiniau. Gallaf roi gwybod i'm cyd-Aelodau fy mod bellach wedi cael ymateb i'm sylwadau i Drysorlys EM ynglŷn â'r cyllid ar gyfer y seilwaith a'r gweithrediadau parhaus sydd eu hangen ar ffin Cymru, ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Trysorlys wedi cytuno, mewn egwyddor, i ariannu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r safleoedd mewndirol yn 2021-22 drwy hawliad wrth gefn. Mae'r Trysorlys wedi cydnabod ein pryderon ynghylch y costau gweithredol sylweddol ar gyfer y cyfleusterau hyn ac wedi cadarnhau yr eir i'r afael â hyn yn yr adolygiad o wariant sydd i ddod. Dylai Llywodraeth y DU dalu costau gweithredol ychwanegol y swyddogaeth sylweddol a hollol newydd hon sy'n deillio'n uniongyrchol o ymadael â'r UE, ac sy'n rhan bwysig o seilwaith bioddiogelwch Prydain Fawr, a fydd yn sail i elfen bwysig o'r cytundeb masnach yn y dyfodol. Felly, bydd y costau gweithredu ychwanegol hynny'n bwysig hefyd.

Roedd gennyf ddiddordeb mawr clywed dadansoddiad Mark Isherwood o ran dwyn cyllid ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Rwy'n credu ei bod hi'n anghrediniol bod Llywodraeth y DU wedi gweld yn dda darparu swm ychwanegol mor sylweddol o gyllid—£660 miliwn—gyda chwe wythnos i fynd tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, roeddwn yn falch ein bod wedi gallu negodi'r trosglwyddo hwnnw. Ond os yw Mark Isherwood neu aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru yn meddwl tybed sut yr ydym ni mewn sefyllfa i ddwyn swm mor fawr o arian ychwanegol ymlaen i'r flwyddyn nesaf ar gyfer buddsoddi yn ein hymateb i bandemig COVID wrth inni symud ymlaen, gallaf ddweud wrthych mai'r rheswm yw ein bod wedi rheoli arian cyhoeddus Cymru yma yng Nghymru. Rydym ni wedi ymdrechu i gael gwerth am arian ar bob cam yn ein proses. Rydym ni wedi bod yn ofalus iawn gyda'r buddsoddiadau yr ydym ni wedi'u gwneud a'r penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud, a gallwch weld nad oes dim yn adlewyrchu hynny'n gliriach na'r penderfyniadau a wnaethom ynghylch olrhain cysylltiadau. Mae ein system yma yng Nghymru yn cael ei darparu fel gwasanaeth cyhoeddus, mae'n cael ei darparu drwy awdurdodau lleol a'n byrddau iechyd, gan sicrhau bod gwerth am arian a'n bod wedi gofalu am arian pobl Cymru. Er bod y system ar draws y ffin wrth gwrs, yn gwneud yn llawer gwaeth na'n system ragorol ni yma yng Nghymru, ac mae wedi'i rhoi ar gontract allanol i'r sector preifat lle mae elw enfawr yn cael ei wneud, ac nid yw pobl yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael yma yng Nghymru.

Ac, wrth gwrs, mae'r math o benderfyniadau yr oeddem ni yn gallu eu gwneud ynglŷn â chyfarpar diogelu personol yma yng Nghymru hefyd wedi ceisio sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr. Felly, dyna pam y gallwn ni gario cyllid ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf, ac nid wyf yn credu y dylai'r un ohonom ni anghofio hynny. Ac i mi, dyma fydd un o straeon mawr y pandemig, pan fydd pobl yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn yn y blynyddoedd i ddod ac yn cymharu gwahanol ddulliau ac ymatebion gwahanol Lywodraethau â'r pandemig a'r blaenoriaethau gwahanol sydd wedi llywio'r penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud.

Dywedaf, o ran y dyfodol, rwy'n gwybod fod gennym ni ein dadl ar y gyllideb derfynol yn nes ymlaen, ond ni fu unrhyw gysylltiad ystyrlon â Llywodraeth y DU o gwbl ar gyllideb 2021-22, diffyg ymgysylltu hollol warthus ar y gronfa codi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin, ond rwy'n siŵr y cawn ni gyfleoedd i drafod y pethau hynny'n fanylach maes o law y prynhawn yma.

Felly, mae hon wedi bod yn flwyddyn o ansicrwydd, ac yn un pryd y gwelsom newidiadau digynsail i'n sefyllfa ariannol. Ymrwymais i sicrhau y byddai'r newidiadau hynny'n dryloyw ac yn destun craffu llawn gan y Senedd, a ddechreuodd gyda chyhoeddi ein cyllideb atodol gyntaf fis Mai diwethaf—yn gynnar iawn yn yr argyfwng—ail gyllideb atodol dros dro ym mis Hydref, a arweiniodd at y drydedd gyllideb atodol hon heddiw.

Felly, mae cyfanswm o dros £6 biliwn wedi'i ychwanegu at ein cynlluniau gwariant yn ystod y flwyddyn, sydd wedi bod yn hanfodol i ymdrin â'r ymateb uniongyrchol i bandemig y coronafeirws, ac i ddechrau mynd i'r afael ag effeithiau hirdymor y pandemig ar wasanaethau, ar fusnesau ac unigolion, ac mae'r cyllid hwn wedi'i ddyrannu drwy gydol y flwyddyn i sicrhau'r canlyniadau mwyaf effeithiol yng Nghymru, gan ddefnyddio'r hyblygrwydd sydd ar gael inni. A chredaf, fel y mae pob cyd-Aelod sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi cydnabod y prynhawn yma, y bu hi'n flwyddyn gwbl eithriadol. Hoffwn ddiolch ar goedd, Llywydd, i'r swyddogion sydd wedi gweithio mor ofalus a diwyd i'm cefnogi i sicrhau ein bod yn rheoli ein sefyllfa yn ystod y flwyddyn ac yn cyflwyno'r gyllideb atodol mor llwyddiannus, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw. Diolch yn fawr. Rwy'n cynnig y cynnig.

16:15

Mae arnaf i ofn eich bod wedi eich tawelu, Dirprwy Lywydd. Neu o leiaf ni allaf i eich clywed chi.

Mae'n ddrwg gennyf. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Do, gwelais wrthwynebiadau. Felly, mae hynny'n iawn. Felly, gohiriwn bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021-22

Felly, symudwn ymlaen yn awr at eitem 12, sy'n ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.

Cynnig NDM7611 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2021-22 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;

b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac

c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch am y cyfle i agor y ddadl hon ar gyfraddau treth incwm Cymru. Fel y gwyddoch chi, cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru ym mis Ebrill 2019 ac maen nhw'n berthnasol i dalwyr treth incwm sy'n byw yma yng Nghymru. Cafodd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf eu nodi yng nghyhoeddiad y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Yn unol ag ymrwymiadau blaenorol, ni fydd unrhyw newidiadau i lefelau treth incwm Cymru yn 2021-22. Bydd hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn parhau i roi sefydlogrwydd i drethdalwyr wrth i ni geisio mynd i'r afael ag effeithiau tymor hwy y pandemig a chytundeb Brexit Llywodraeth y DU.

Ynghyd â'r grant bloc, mae trethi Cymru yn hanfodol i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae llawer mewn cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw. Mae diogelu'r gwasanaethau hyn bellach yn bwysicach nag erioed, ac mae heriau sylweddol wrth symud ymlaen. Mae'n siomedig bod y bwriad yn y dyfodol i rewi trothwy cyfradd sylfaenol treth incwm, a gynhwyswyd yng nghyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, wedi effeithio mwy ar y rhai lleiaf abl i fforddio talu. Mae hyn yn mynd yn groes i'n hymrwymiad i ddarparu systemau treth blaengar yma yng Nghymru.

Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy'n gyfrifol am weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Rwy'n falch o adrodd bod y prosiect Cyfraddau Treth Incwm Cymru wedi'i derfynu’n ffurfiol ar ôl ei weithredu'n llwyddiannus. Ychydig o dan £8 miliwn oedd cost derfynol y prosiect gweithredu, a oedd yn llai na'r rhagolwg gwreiddiol. Un o elfennau olaf y prosiect oedd diwygio'r crynodeb treth blynyddol sydd ar gael i bob trethdalwr, drwy eu cyfrif personol gyda CThEM. I drethdalwyr Cymru, mae hyn bellach yn dangos faint o gyfraddau treth incwm Cymru y maen nhw wedi'u talu am y flwyddyn dreth. Ochr yn ochr â hyn, rydym ni wedi datblygu cyfrifiannell Cyfraddau Treth Incwm Cymru ar-lein, gan roi dadansoddiad o le mae cyfraniadau unigol wedi'u dyrannu ar draws gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae'r ddau gynnyrch hyn yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gyfraddau Treth Incwm Cymru a sut y maent cael eu gwario, gan ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.

Roeddwn hefyd yn falch bod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, wedi cadarnhau bod gan Gyllid a Thollau EM reolau a gweithdrefnau digonol ar waith i sicrhau bod cyfraddau treth incwm Cymru yn cael eu hasesu a'u casglu'n briodol, yn ogystal â'r mesurau llywodraethu priodol. Gofynnir i'r Senedd heddiw gytuno ar benderfyniad cyfraddau trethi Cymru, a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2021-22, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.

16:20

Nid ydym yn cefnogi, ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru, y cyfraddau treth incwm hyn yng Nghymru, ac fe hoffem ni bleidleisio yn eu herbyn, ond nid wyf am wneud hynny, oherwydd os na chânt sêl bendith, byddwn yn gweld twll enfawr yn ein gwariant cyhoeddus oherwydd y swm a dynnwyd oddi ar y grant bloc. Felly, byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn.

Yn sicr, nid ydym yn cefnogi'r cyfraddau treth incwm hyn yng Nghymru oherwydd ni ddylid cael cyfraddau treth incwm Cymru, oherwydd cawsom refferendwm yn 2011, pan sicrhawyd pleidleiswyr, ar y papur pleidleisio, 'Ni all y Cynulliad ddeddfu ar dreth, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais hon.' Mae'r addewid hwnnw wedi'i dorri, ac mae arnaf ofn bod y refferendwm hwnnw wedi'i annilysu o ganlyniad.

Yn 2016, mis Rhagfyr, cytunodd Mark Drakeford, y Gweinidog Cyllid, y Prif Weinidog erbyn hyn, â Llywodraeth San Steffan i ddatganoli cyfraddau treth incwm Cymru, ar ôl cytuno'n flaenorol i beidio â gwneud hynny, gyda'r sicrwydd hwnnw ar y papur pleidleisio. Ac fe dorrwyd yr addewid hwnnw. Gwelsom, yn Neddf Cymru 2017, y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn torri eu haddewid hefyd. Cawsom ein sicrhau na fyddai cyfraddau treth incwm Cymru heb refferendwm pellach. Nid felly y bu.

Croesawaf yr hyn a ddywed y Prif Weinidog am roi cyhoeddusrwydd i gyfraddau treth incwm Cymru. Mae llawer o bobl nad ydynt yn ymwybodol ohonyn nhw, oherwydd nid ydyn nhw wedi newid. Ond, mewn un agwedd bwysig iawn, bu newid, oherwydd pan gawsom ni y cyfraddau treth incwm hynny yng Nghymru wedi'u datganoli, lleihawyd y grant bloc o swm cyfatebol, ac roedd angen rhagweld faint y cai'r grant bloc ei leihau yn y dyfodol, gan gynnwys ystyried rhagolwg ar gyfer y cyfraddau treth incwm hynny yng Nghymru. Nawr gwelwn ein bod yn cael £35 miliwn yn llai o arian nag y byddem ni, oherwydd y cyfraddau treth incwm hynny yng Nghymru, oherwydd nad ydyn nhw wedi esgor ar gymaint ag y rhagwelwyd, ac yr ydym ni yng Nghymru mewn perygl oherwydd hynny, oherwydd datganoli cyfraddau treth incwm Cymru. Wrth gwrs, mae materion eraill y gall y Gweinidog cyllid siarad amdanyn nhw o ran y compact cyllidol, ond ni ddylai'r cyfraddau treth incwm hynny yng Nghymru fod wedi'u datganoli, ac mae cost o £35 miliwn yn rhwym wrth hynny.

Nawr, beirniadodd y Prif Weinidog Lywodraeth y DU am rewi'r trothwy treth incwm personol, gan ddweud mai'r rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf talu fyddai'n dioddef fwyaf. Wrth gwrs, nid yw'r rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf talu yn talu'r dreth incwm, oherwydd mae llawer yn ennill llai na'r trothwy hwnnw, ac yn arbennig felly yng Nghymru. Gwelwn hefyd rewi'r trothwy cyfradd uchaf, sydd, wrth gwrs, yn arwain at gostau'n cael eu talu gan y rhai sy'n fwy abl i dalu'r costau hynny, felly synnais o glywed y feirniadaeth honno. Mae angen i ni ddeall bod datganoli'r cyfraddau hyn, hyd yn oed os nad ydynt wedi newid, yn costio £35 miliwn y flwyddyn, o ystyried y refeniw nad ydym yn ei gael, a'i fod yn tanseilio ffydd, ac mae'n annilysu'r refferendwm hwnnw yn 2011 oherwydd bod yr addewid y seiliwyd ef arno wedi'i dorri.

16:25

Diolch yn fawr iawn i Mark Reckless am ei sylwadau yn y ddadl. Mae gennyf ddiweddariad iddo a allai newid ei feddwl o ran gwerth cyfraddau treth incwm Cymru, oherwydd yn seiliedig ar ragolygon cyfredol, effaith net cyfraddau treth incwm Cymru yw cynnydd o £30 miliwn yn 2021-22, a hynny, wrth gwrs, yn wahanol i'r rhagolwg o finws £35 miliwn yn rhagolygon trethi Cymru ym mis Rhagfyr. Ac mae hynny'n ymwneud yn rhannol â chanlyniad data diweddar sy'n dangos perfformiad enillion cymharol uwch i dalwyr y dreth incwm yma yng Nghymru. Felly, gallai hynny newid barn Mark Reckless o bosibl am gyfraddau treth incwm Cymru, er fy mod yn amau na fydd yn ddigon i wneud hynny. Ond rwy'n falch ei fod yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu â threthdalwyr, oherwydd rydym ni yn gweithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau bod pobl yma yng Nghymru yn fwyfwy ymwybodol o gyfraddau treth incwm Cymru. Ac mae ein harolygon, yr ydym ni wedi'u comisiynu gan Beaufort Research, yn dangos bod cynnydd o ran ymwybyddiaeth pobl. Ac fel yr wyf wedi sôn yn y Pwyllgor Cyllid ac yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni wedi cyflwyno rhai eitemau newydd eleni, gan gynnwys y gyfrifiannell cyfraddau treth incwm Cymru y gall unigolion ei defnyddio ar-lein i weld yn union i le mae eu cyfraddau treth incwm Cymru yn mynd o ran cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gam arall ymlaen o ran addysg, ymwybyddiaeth, a hefyd, yn bwysig, tryloywder yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i Mark Reckless am ei gyfraniad, ond byddwn yn gofyn i bob cyd-Aelod gefnogi ein cyfraddau treth incwm Cymru heddiw. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad, felly pleidleisiwn eto ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Dadl: Cyllideb Derfynol 2021-22

Eitem 13 ar ein hagenda yw dadl ar gyllideb derfynol 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig hwnnw—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7613 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22, sef cyllideb derfynol y weinyddiaeth hon.

Mae'r amgylchiadau eithriadol sydd wedi llywio'r gwaith o baratoi'r gyllideb eleni yn hysbys iawn, ond rwyf yn falch ein bod wedi ymateb i'r her gyda chyllideb 2021-22 sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn weinyddiaeth sy'n cyflawni ein haddewidion ac yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus wrth iddynt barhau â'u brwydr yn erbyn y pandemig hwn. Pan gyhoeddais y gyllideb ddrafft cyn y Nadolig, addewais gyllid pellach gan ein bod yn deall troeon y pandemig yn well dros fisoedd y gaeaf. Yn y gyllideb derfynol, rwy'n dyrannu mwy na £680 miliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru dros y misoedd nesaf. Mae hyn yn golygu, ynghyd â'r mesurau COVID cynnar a gyhoeddwyd gennym ni yn y gyllideb ddrafft, ein bod yn dyrannu'r holl gyllid COVID a gawsom yn adolygiad gwariant y DU fis Tachwedd diwethaf.

Mae hon yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a rhoi iddynt y sicrwydd y maent yn ei haeddu o ran arian. Mae'r pecyn yn cynnwys mwy na £630 miliwn i'r GIG a llywodraeth leol i'w helpu i gefnogi pobl Cymru dros y chwe mis nesaf. Bydd yr hwb ariannol sylweddol hwn yn cefnogi ein rhaglen frechu sy'n arwain y byd fel y gallwn ni amddiffyn cynifer o bobl â phosibl cyn gynted â phosibl, rhoi hwb i'n gallu i brofi, a rhoi hwb i'n rhaglen olrhain cysylltiadau hynod effeithiol.

Mae hyn hefyd yn cynnwys £206.6 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa galedi llywodraeth leol, a fydd yn cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol, yn darparu cymorth digartrefedd, ac yn sicrhau bod ysgolion yn addasu i'w ffyrdd newydd o weithio. Rydym ni'n parhau i gydnabod yr effaith anghymesur y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar ein bywydau a'n cymunedau, ac rydym ni wedi dyrannu £10.5 miliwn arall i ymestyn y gronfa cymorth dewisol, gan roi cymorth i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym ni yn ymateb i'r effaith barhaus ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn darparu £18.6 miliwn arall i ymestyn cymorth bysiau i ail chwarter 2021-22. Rydym yn cydnabod y swyddogaeth bwysig y bydd i gyflogadwyedd a sgiliau yn ein hadferiad. Rydym yn buddsoddi £16.5 miliwn mewn prentisiaethau i gynnal y lefelau presennol o leoedd prentisiaeth yn 2021-22.

Rydym yn Llywodraeth sy'n dyrannu cyllid lle gall gael yr effaith fwyaf. Mae'r pandemig hwn wedi chwalu sylfeini ein heconomi, ac rydym yn cydnabod yr angen i weithredu'n awr i greu swyddi a galw mewn proses o adferiad sy'n dechrau heddiw. Mae ein cyllideb derfynol yn cynnwys ysgogiad cyfalaf o fwy na £220 miliwn i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Mae hyn yn cynnwys £147 miliwn ychwanegol i gynyddu rhaglenni adeiladu tai a £30 miliwn ychwanegol i gyflymu'r rhaglen uchelgeisiol o adeiladu ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, gan helpu i gefnogi twf economaidd, swyddi cynaliadwy a chyfleoedd hyfforddi ar draws y sector.

Gwyddom fod angen sicrwydd ar ein busnesau sydd wedi dioddef waethaf hefyd. Rwy'n neilltuo £200 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth busnes ychwanegol y flwyddyn nesaf os oes angen ymateb i heriau'r pandemig sy'n esblygu. Cyn y gyllideb, galwais ar Lywodraeth y DU i ehangu'r pecyn cymorth busnes yn Lloegr, a dyna pam y penderfynais ar unwaith yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU, ar ôl inni gael sicrwydd ynghylch y cyllid sydd ar gael, i gyhoeddi estyniad i'r rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch, gydag uchafswm ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol o dros £500,000, a'r cynllun rhyddhad ardrethi hamdden a lletygarwch gwell am 12 mis.

Cyflwynwyd cyllideb y DU ar adeg dyngedfennol i'r economi, ac, er ein bod yn croesawu'r £735 miliwn ychwanegol o refeniw i Gymru, ni chawsom yr un geiniog yn ychwanegol mewn cyfalaf y flwyddyn nesaf i gefnogi'r adferiad economaidd. Yn siomedig, nid oedd unrhyw arwydd o gymorth hirdymor gwirioneddol i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Cafodd y Canghellor gyfle i wneud y cynnydd mewn credyd cynhwysol ychwanegol yn barhaol, ond ni wnaeth, ac mae'r newidiadau tymor hwy i lwfansau treth personol yn dreth lechwraidd a fydd yn taro'r rhai â'r cyflogau isaf galetaf. Yr un mor bryderus oedd y distawrwydd ar bwysau gwario i wasanaethau cyhoeddus, heb unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer adferiad yn y GIG a blaenoriaethau strategol eraill, gan gynnwys diwygio gofal cymdeithasol yn ehangach.

Ni wnaeth cyllideb y DU unrhyw beth i roi hyder ynghylch patrwm cyllid cyhoeddus yn y dyfodol y tu hwnt i 2021-22. Rydym yn wynebu gostyngiad yn ein cyllideb o 2021-22, wedi'i sbarduno'n rhannol gan dynnu cymorth COVID yn ôl, ond hefyd gan ostyngiadau sylfaenol i wariant cyhoeddus arfaethedig sydd wedi'i gynnwys yng nghynlluniau tymor canolig Llywodraeth y DU. Fel y nodwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid:

Mae cynlluniau gwariant tymor canolig y Canghellor yn edrych yn amhosibl o isel.

Yn wahanol i Lywodraeth y DU, rydym ni wedi parhau â'n dull gweithredu penodol a chyfrifol, gan ddarparu cymorth effeithiol yn ystod y pandemig hwn sy'n newid yn gyflym, gan wneud penderfyniadau amserol a darparu cymorth pan fo'i angen. Er mwyn rhoi amser ychwanegol i brynwyr tai gwblhau trafodion, cyhoeddais yr wythnos diwethaf estyniad yn ein cyfnod gostyngiadau treth trafodiadau tir yng Nghymru tan 30 Mehefin. Ddoe cyhoeddwyd pecyn cyllid gwerth £72 miliwn, gan fynd â chyfanswm y buddsoddiad i dros £112 miliwn, i gefnogi athrawon a dysgwyr y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw eleni. Gan adeiladu ar gyllid a gyhoeddwyd gennym ni yn y gyllideb derfynol, ac i gefnogi ein hadferiad, rwyf heddiw'n cyhoeddi £8.7 miliwn ychwanegol yn rhan o gyfanswm buddsoddiad ychwanegol o £18.7 miliwn i gefnogi ehangu ein cynllun cymhelliant cyflogwyr ac i gryfhau ein cynnig prentisiaeth gwaith hyblyg.

Er na allwn ni fychanu maint yr heriau sy'n ein hwynebu, rydym ni wedi rhoi sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn helpu i ailgodi ein heconomi gyda diben cymdeithasol ac amgylcheddol go iawn, ac yn diogelu Cymru rhag effeithiau gwaethaf y pandemig. Rwy'n falch ein bod wedi darparu sylfeini cadarn i'r weinyddiaeth nesaf greu Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal a mwy gwyrdd. Diolch. 

16:35

Diolch yn fawr iawn unwaith eto, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma hefyd, y tro yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, a gwneud hynny, wrth gwrs, yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n falch hefyd fod y Gweinidog wedi derbyn neu wedi derbyn mewn egwyddor pob un o'r 36 argymhellion mae'r pwyllgor wedi eu gwneud.

Yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, fe wnaeth y Siambr hon gydnabod yr ansicrwydd ynghylch y cylch cyllideb hwn eto eleni oherwydd oedi wrth gwrs gyda digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig a diffyg ffigurau cyllido at y dyfodol. Ac wrth siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid yn y ddadl honno, fe wnaeth Siân Gwenllian y pwynt perthnasol mai drafft yn wir ystyr y gair oedd y gyllideb ddrafft a bod Llywodraeth Cymru yn dal cronfeydd wrth gefn sylweddol oedd heb eu dyrannu. Er bod y pwyllgor yn cydnabod bod angen rhywfaint o hyblygrwydd eleni i ddelio ag ansicrwydd y pandemig, dyw hynny ddim yn ddelfrydol, wrth gwrs, er mwyn craffu ar y gyllideb yn effeithiol, a ddylai'r dull sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer y gyllideb hon ddim gosod cynsail ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Mae'r gyllideb derfynol hon yn dyrannu £800 miliwn yn fwy na'r hyn a graffwyd arno fe fel rhan o'r gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft. Yn sicr, nid yw'n ddelfrydol ein bod ni'n ystyried cyllideb derfynol yma heddiw, gan fod cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gafodd ei chyhoeddi ddiwrnod ar ôl cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi £735 miliwn yn ychwanegol i Gymru sydd heb ei ystyried fel rhan o'r broses gyllidebol hon. Dwi'n nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gyhoeddiadau polisi yng nghyllideb y Deyrnas Unedig trwy gyhoeddi estyniad i rai elfennau o ryddhad ardrethi annomestig COVID ac estyn y gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir hyd at ddiwedd mis Mehefin, fel y clywon ni nawr gan y Gweinidog. Dwi'n falch bod y Gweinidog wedi amlinellu'r newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol a goblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig. Mi fydd hyn yn cynorthwyo'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, i ystyried newidiadau posib i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. 

Mae'r gyllideb derfynol hon yn dyrannu tua £11.2 miliwn ar gyfer materion sy'n ymwneud â Brexit. Fodd bynnag, mae'n hynod siomedig bod cyllideb y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd cyllid i ddisodli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddyranu'n uniongyrchol yng Nghymru ar faterion datganoledig trwy gronfa adfywio cymunedol y Deyrnas Unedig a chronfa codi'r gwastad, efallai—y levelling up fund—gan osgoi'r Senedd. Nawr, fel y soniais i wrth y Siambr yn gynharach y prynhawn yma yn ystod y ddadl ar y drydedd gyllideb atodol, bydd y Pwyllgor Cyllid, ynghyd ag aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol ac Ewropeaidd, yn clywed tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yfory ynglŷn â'r gronfa ffyniant cyffredin. 

Rŷn ni'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 2, a byddwn yn parhau i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig fel arfer yn cael eu cynnal erbyn dyddiad penodol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan weinyddiaethau datganoledig ddigon o amser i bennu cyllideb a chynnal gwaith craffu ystyrlon. Yn ogystal, rŷn ni'n falch bod argymhelliad 3 wedi ei dderbyn ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod setliadau aml-flwyddyn yn cael eu hadfer mewn pryd ar gyfer cylch cyllideb y flwyddyn nesaf. Am y tair blynedd diwethaf, cafodd y gyllideb ddrafft ei llunio ac fe graffwyd arni o dan amgylchiadau eithriadol yn sgil Brexit a'r pandemig. Mae oedi o ran digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig yn arwain at oedi wrth gyhoeddi cyllidebau drafft Llywodraeth Cymru, ac mae hynny yn ei dro wedi lleihau'r amser sydd ar gael i graffu. Mae hyn yn peri pryder mawr o ystyried y bydd Brexit a'r ymateb ariannol i'r pandemig yn cael effaith ar wariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod. 

Nawr, dyma gyllideb olaf y pumed Senedd, wrth gwrs, ac mae sawl her wedi dod yn sgil COVID-19, ac mae'r effeithiau ariannol wedi bod yn sylweddol. Mae'n debygol y bydd ymateb i'r pandemig yn dal i fod yn flaenllaw ac yn rhan flaenllaw o flwyddyn 2021-22, ond rŷn ni'n obeithiol y bydd y ffocws yn symud i adferiad yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae'n amlwg y bydd llawer o waith i'w wneud, felly, gan Lywodraeth nesaf Cymru ac, yn sicr, gan y Pwyllgor Cyllid nesaf hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

16:40

Ar ôl mwy na dau ddegawd o gyllidebau Llafur ers datganoli, Cymru sydd â'r lefelau cyflog a chyflogaeth isaf o hyd a'r gyfran uchaf o swyddi â chyflogau isel ym Mhrydain a'r lefelau ffyniant isaf a thwf cyflog hirdymor a'r gyfradd dlodi uchaf o holl wledydd y DU. Roedd angen cyllideb arnom ni i drwsio'r sylfeini ac adeiladu economi fwy diogel a ffyniannus ar gyfer y dyfodol. Yn hytrach, yr hyn a gawsom oedd cyllideb a oedd yn papuro dros y craciau yn hytrach nag ailadeiladu'r sylfeini; cyllideb sy'n dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn deall yr hyn a aeth o'i le yn ystod y ddau ddegawd diwethaf na'r hyn sydd ei angen yn y nesaf. Mae gwariant Llywodraeth Cymru wedi cynyddu 4.2 y cant mewn termau arian parod i £22.3 biliwn, gydag 83 y cant o'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU. Dim ond oherwydd y camau doeth a gymerwyd gan Lywodraeth y DU ers 2010 i leihau'r diffyg a etifeddwyd y bu hyn yn bosibl. Gallent fod wedi mynd yn gyflymach, ond byddai hynny wedi creu toriadau mwy. Gallent fod wedi gweithredu'n gynt, ond byddai hynny wedi arwain at orfodi toriadau mwy. Wedi'r cyfan, fel y gŵyr unrhyw un sydd erioed wedi cael benthyg, mae'r rhai sy'n cael benthyg yn cael benthyg ond y rhai sy'n rhoi benthyg sy'n gosod y telerau.

Er bod dyfodol y pandemig yn ansicr, mae'n destun pryder bod adroddiad dadansoddi cyllidol Cymru y mis hwn wedi canfod nid yn unig fod Llywodraeth Cymru wedi methu â dyrannu'r £650 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar 15 Chwefror, gan drosglwyddo'r cyllid i'r flwyddyn nesaf, ond hefyd, gyda symiau canlyniadol ychwanegol o gyllideb y DU a newidiadau i refeniw datganoledig rhagamcanol, mae hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru tua £1.3 biliwn ar hyn o bryd i'w ddyrannu mewn cyllidebau atodol yn y dyfodol. Nawr, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud darpariaethau ar gyfer argyfyngau. Fodd bynnag, mae £1.3 biliwn yn ormodol, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn gwybod ers peth amser y byddai cyllid ychwanegol ar gael. Er bod y Gweinidog yn beio hyn ar hysbysiad hwyr gan Lywodraeth y DU, mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi'i gwneud hi'n glir y bu'n rhoi gwarant ymlaen llaw o gyllid adnoddau ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru am sicrwydd i'w helpu i gynllunio eu trefniadau cymorth eu hunain yng Nghymru. Cadarnhaodd adolygiad o wariant y DU fis Tachwedd diwethaf hefyd £1.3 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru, gan ddod â chyllid ar sail Barnett a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru i £16.6 biliwn yn 2021-22. Mae hyn yn cyfateb i tua £123 y pen am bob £100 y pen a wariwyd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr ar faterion a ddatganolwyd yng Nghymru. Cadarnhaodd hefyd y gall Llywodraeth Cymru gario unrhyw gyllid atodol ychwanegol gan Lywodraeth y DU sy'n seiliedig ar Barnett, ymlaen i 2021-22, ond ychwanegodd mai mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu sut i wneud defnydd llawn o hyn er mwyn cyflawni cyfrifoldebau datganoledig.

Roedd newidiadau trethiant yn y gyllideb mor atchweliadol ag yr oeddent cyn i'r pandemig daro. Mae'r dreth ar gyfleoedd uchelgeisiol yn ôl, gyda threth trafodiadau tir ar gyfer cartrefi a brynwyd rhwng £180,000 a £250,000 yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, ar 3.5 y cant. Mae fy ngwaith achos yn dangos bod hynny'n achosi problem enfawr i bobl, yn enwedig y rheini o Gymru sydd am symud yn ôl o dros y ffin yn Lloegr. Ac ardrethi busnes yw'r uchaf yn y DU o hyd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ar y Llywodraeth Lafur hon i ddefnyddio'r £650 miliwn a roddwyd iddynt gan Lywodraeth y DU ar 15 Chwefror i weithredu rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn honni nad oedd yn gallu cyhoeddi rhyddhad ardrethi busnes yn gynt, gan nad oedd cynlluniau ariannu Llywodraeth y DU wedi'u cyhoeddi. Fodd bynnag, mae Llywodraeth yr Alban wedi amlygu mai nonsens yw hyn drwy gyhoeddi y bydd hi yn diddymu ardrethi busnes ar gyfer y diwydiannau manwerthu, hamdden, lletygarwch ac awyrennau ar 15 Chwefror, gan ddefnyddio ei £1.1 biliwn o gyllid canlyniadol sy'n deillio o wariant coronafeirws Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd bryd hynny. Roedd cyllid i gyhoeddi'r polisi hwn ar gael, ond dewisodd y Llywodraeth Lafur hon unwaith eto betruso, oedi a chwarae gwleidyddiaeth plaid a bwrw'r cyfrifoldeb ar eraill, gan beidio â rhoi'r eglurder hwnnw y mae mawr ei angen ar gyllid i fusnesau yng Nghymru.

Nawr mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld na fydd allbwn Cymru yn gwella i lefelau cyn COVID-19 tan fisoedd ar ôl y DU. Mae economi Cymru yn gofyn am newid cyfeiriad radical, yn hytrach na mwy o'r un polisïau economaidd hen a gynhyrchwyd gan Lywodraethau Llafur Cymru un ar ôl y llall. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun adfer i Gymru, nid yn unig i warchod Cymru drwy bandemig COVID-19, ond hefyd i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar Gymru ar ôl dros 20 mlynedd o fethiannau Lywodraeth Lafur Cymru un ar ôl y llall. Mae'n destun pryder mawr felly nad yw'r gyllideb hon yn cyflawni'r chwyldro ariannol sydd ei angen i ddarparu cynllun adfer ar gyfer economi a phobl Cymru.

16:45

Dyma'r gyllideb rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn gobeithio ei hetifeddu mewn ychydig dros ddeufis, ac felly mi wnaf i ddechrau efo'r rhannau ohoni rydyn ni'n eu croesawu, er ein bod ni'n credu y gallai'r Llywodraeth fod wedi mynd ymhellach. Y £380 miliwn ychwanegol i'r NHS. Rydyn ni'n croesawu unrhyw arian ychwanegol i iechyd a gofal ar hyn o bryd, o ystyried y pwysau acíwt yn ystod y pandemig, ac felly hefyd y £50 miliwn i'r gwaith olrhain. Dwi'n falch bod y gronfa galedi llywodraeth leol wedi derbyn dyraniad ychwanegol o £207 miliwn, efo dyraniad pellach o £224 miliwn i addysg a thai, a £200 miliwn at gefnogaeth i fusnes. Mae hynny i'w groesawu.

Ond wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod mai crafu'r wyneb mae hynny'n ei wneud o ran ystyried anghenion busnesau a'r economi Gymreig ar ôl blwyddyn o gyfyngiadau COVID. Fanna rydyn ni'n dechrau cyrraedd at y pwynt lle dwi'n gweld y gyllideb yma fel un sydd ddim yn ddigon beiddgar. Diwrnod ar ôl cyhoeddi'r gyllideb yma, mi gyhoeddwyd dros £700 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol o ganlyniad i benderfyniadau i gynyddu gwariant yn Lloegr. Felly, mae yna rywfaint o hyblygrwydd ychwanegol yn fan hyn, ac mae yna falans, onid oes, i'w daro?

Fel gwnes i ddadlau wrth i ni drafod y drydedd gyllideb atodol yn gynharach y prynhawn yma, rydyn ni wedi cefnogi'r elfen yma o bwyll yn sut i wario'r arian ychwanegol sydd wedi dod yn ystod y flwyddyn, yr angen i ddal rhywfaint o arian yn ôl yn hytrach na gwario'r cyfan heddiw, fel mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei annog, sy'n agwedd braidd yn anghyfrifol o ystyried sut mae amgylchiadau'r pandemig wedi bod yn newid o hyd. Ond pan rydyn ni'n sôn am gyllideb flwyddyn gyfan fel hyn, dwi'n meddwl bod yna le i fapio allan yn gliriach ac, mewn sawl ffordd, yn fwy radical sut i ddefnyddio cyllid ychwanegol dros y flwyddyn sydd o'n blaenau ni.

Felly, dwi eisiau mwy o eglurder ar gefnogaeth i fusnes, er enghraifft. Pa gamau nesaf sydd i ddod? Ydy'r Gweinidog cyllid a'r Gweinidog economi wedi trafod sut orau i wario'r arian sydd rŵan ar gael uwchlaw'r hyn y cynlluniwyd ar ei gyfer o? Ydy cynnig parhad efo lefel presennol prentisiaethau ar gost o £16.5 miliwn yn wir yn ddigon da yn yr hinsawdd yma? Dwi ddim yn meddwl ei fod o pan rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu her fawr iawn o ran diweithdra ieuenctid. Mi ddylem ni, siawns, fod yn trio cynyddu llefydd hyfforddi a phrentisiaethau rŵan. Ac mewn Llywodraeth o fis Mai, rydyn ni ym Mhlaid Cymru eisiau cyflwyno gwarant cyflogaeth i bobl ifanc 16 i 24 oed, ochr yn ochr â phrentisiaeth neu gwrs coleg neu brifysgol—fersiwn fodern o new deal Roosevelt gyda'r pwyslais ar adeiladu dyfodol gwyrdd.

Roedd yna gyfle, dwi'n meddwl, go iawn i Lywodraeth Cymru osod ei stondin ar gyfer adferiad, ond hefyd ar gyfer creu tegwch lle mae yna annhegwch ar hyn o bryd. Dwi'n poeni wrth edrych ar ffigurau sydd gennym ni o'n blaenau. Dwi'n gweld bod £1.3 biliwn ar ôl i'w ddyrannu dros y flwyddyn nesaf, yn ôl y tîm dadansoddi cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Dwi'n poeni wrth edrych ar hynny, a gweld ar yr un pryd pobl wirioneddol fregus mewn angen rŵan. Felly, rydyn ni o'r farn bod yna arian ar ôl ar gyfer ymestyn cinio ysgol am ddim ac i rewi'r dreth gyngor—pethau fuasai wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl. Ydy, mae fyny i Aelodau Llafur i ateb i'w etholwyr nhw pam eu bod nhw wedi pleidleisio yn erbyn ymestyn cinio ysgol am ddim, ac i beidio penderfynu blaenoriaethu tegwch yn y ffordd yma, lle rydym ni'n meddwl bod yna gyfle gwirioneddol i fod wedi gwneud hynny. Ond fel dwi'n dweud, roedd yna gyfle i osod stondin ar gyfer adferiad economaidd yn fan hyn hefyd.

Mae 20 mlynedd o arwain Llywodraeth Cymru wedi gweld Llafur, dwi'n meddwl, yn methu ag arwain y math o drawsnewidiad fyddai yn gosod yr economi Gymreig ar lwybr tuag at swyddi'n talu'n well, sgiliau uwch, ac yn y blaen, ac mae yn gyfle rŵan ac mae'n rhaid cymryd y cyfleon. Mae yna weledigaeth, dwi'n meddwl, yn cael ei gosod gan Blaid Cymru o ddyfodol—

16:50

—sy'n cael ei yrru gan—mi wnaf i ddod i ben rŵan—stimwlws economaidd gwyrdd, yn creu 60,000 o swyddi, fel rydym ni'n sôn amdano fo, ateb ein anghenion o ran yr hinsawdd ac o ran cyflogaeth a chyflogau uwch ar yr un pryd, a thanio'r economi Gymreig. A dyna pam dwi'n credu y byddai'r gyllideb Gymreig mewn gwell dwylo yn nwylo Plaid Cymru ar ôl yr etholiad ym mis Mai, a pham fyddwn ni'n pleidleisio'n erbyn y gyllideb yma.

Hoffwn groesawu datganiad y Gweinidog y prynhawn yma a'r gyllideb hon. Mae'n debyg mai dyma'r gyllideb anoddaf y mae unrhyw un ohonom ni yn y fan yma wedi'i gweld, ac yn sicr yn y tair Senedd yr wyf wedi eistedd ynddynt, dyma'r flwyddyn anoddaf i unrhyw Lywodraeth ar unrhyw adeg. Felly, rwy'n credu beth bynnag yw ein gwleidyddiaeth unigol a beth bynnag yw ein barn unigol am y penderfyniadau y mae'r Gweinidog yn eu gwneud, rwy'n credu y dylem ei llongyfarch a diolch iddi hi, ei thîm a'r Llywodraeth sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod arian yn mynd drwy'r system ac allan trwy'r drws, gan gynnal a chefnogi swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn y cyfnod anoddaf.

Hoffwn ymdrin â thair agwedd ar y gyllideb y prynhawn yma. Yn gyntaf oll, gwariant cyffredinol ar COVID dros y cyfnod hwn; yn ail, effaith cyllideb y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf; ac yn olaf, cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad a arweinir gan fuddsoddiad, a arweinir gan swyddi, ar ôl COVID. Mae'n deg dweud y bu ein trafodaethau'n canolbwyntio ar COVID dros y flwyddyn ddiwethaf ac wrth edrych yn ôl dros y gyllideb bresennol, ond mae hefyd wedi bwrw cysgod dros ein trafodaethau a'n dadleuon ar y gyllideb hon ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd.

Rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth a'r cymorth sydd ar gael i bobl, ac rwy'n parhau i wneud hynny. Mae'r cymorth brys a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf yn rhywbeth sydd wedi cynnal llawer o deuluoedd a llawer o gymunedau ledled y wlad, ond rydym yn gwybod nad yw hynny'n mynd i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, ac rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth yn rhoi'r strwythurau, y fframweithiau a'r cyllid ar waith i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gefnogi pobl dros y cyfnod sydd i ddod.

Yr ail agwedd yw cyllideb y DU. Yr hyn a welsom ni yr wythnos diwethaf oedd cyni gyda gwell cysylltiadau cyhoeddus: mwy o fuddsoddiad ym mrand ac uchelgeisiau'r Canghellor ei hun na buddsoddiad yn y bobl a gynrychiolwn. Gwelsom gonsuriaeth, geiriau cynnes ond mwy o'r cyni aflwyddiannus. A wyddoch chi, gwrandewais ar Aelodau Ceidwadol yn darllen eu llinellau'n slafaidd? Byddwn yn dweud wrth yr Aelodau hynny: gwnewch eich gwaith eich hun, darllenwch eich hunain, gwnewch eich ymchwil eich hun, a'r hyn a welwch fydd rhywbeth gwahanol. Byddwch yn gweld y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn disgrifio ffigurau'r gyllideb fel rhai sy'n amhosibl o isel. Fe welwch y Resolution Foundation yn dweud nad yw'n teimlo fel diwedd cyni, yn enwedig os ydych chi'n rhedeg awdurdod lleol neu garchar. Yr hyn yr ydych chi'n ei weld yw cyllideb i Gymru sydd 4 y cant yn is mewn termau real na degawd yn ôl, a'r hyn yr ydych chi'n mynd i'w weld yw gwasgfa wirioneddol ar wasanaethau cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni eisoes wedi gweld barn Llywodraeth y DU am weithwyr y gwasanaeth iechyd. Wel, rydym ni'n mynd i weld hynny'n cael ei ymestyn dros y degawd nesaf i bob gweithiwr gwasanaeth cyhoeddus, ac mae hynny'n rhywbeth i beidio â bod yn falch ohono ond i fod â chywilydd mawr ohono.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, beth yw'r cynlluniau ar gyfer adferiad sy'n cael ei arwain gan fuddsoddiad ac sy'n cael ei arwain gan swyddi? Mae gwaith y Gweinidog cyllid a Gweinidogion eraill o fewn Llywodraeth Cymru wedi creu argraff fawr arnaf, gan gronni arian i fuddsoddi yn ein cymunedau. Rydym eisoes yn gwybod nad oes cyllid cyfalaf ychwanegol yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond mae wedi mynd ymhellach na hynny, ac rydym wedi gweld rhagor o gonsuriaeth ac addewidion wedi torri. Mae Llywodraeth y DU yn gwbl anonest yn ei dull gweithredu. O'r gronfa ffyniant gyffredin i'r gronfa codi'r gwastad, rydym yn gweld arian yn cael ei dynnu allan o Gymru, buddsoddiad yn cael ei dynnu allan o Gymru. Rydym yn gweld Llywodraeth sy'n pryderu am ei delwedd a'i hunaniaeth ond un nad yw'n poeni dim am ei phobl, ac mae hynny'n fy mhoeni i'n fawr, oherwydd bydd yn rhaid inni weld mwy o fuddsoddi mewn pobl a strwythurau a busnesau yn y flwyddyn nesaf nag yr ydym ni wedi'i weld ers degawdau, ac nid yw'n cael ei wneud yn deg ac nid yw'n cael ei wneud ar y lefel y mae angen iddi ddigwydd. Rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn sianelu arian i seddi'r Torïaid yng ngogledd Lloegr ac yn tynnu arian allan o Gymru, yn torri addewidion ar ddisodli cyllid Ewropeaidd, torri addewidion ynghylch sicrhau buddsoddiad, torri addewidion ynghylch bod yn chwaraewr teg. Rydym yn gweld Llywodraeth anonest yn gweithredu mewn ffordd na allwn fyth fod wedi credu y byddai Llywodraeth yn gweithredu yn y gorffennol.

Felly, i gloi, byddaf yn cefnogi Llywodraeth Cymru y prynhawn yma o ran y Bil hwn, ond ni fydd hynny'n syndod i neb. Ond yr hyn yr wyf eisiau ei wneud hefyd dros y flwyddyn i ddod, ac os caf fy ailethol ym mis Mai i gynrychioli Blaenau Gwent, yw y byddaf i'n ymgyrchu dros y buddsoddiad sydd ei angen ar y fwrdeistref hon, sydd ei angen ar ein pobl, bod angen i'r cymunedau hyn wella o COVID, ac mae hynny'n golygu Llywodraeth Cymru yn darparu'r buddsoddiad hwnnw, oherwydd rydym ni'n gwybod na allwn ymddiried yn y Torïaid i wneud hynny.

16:55

Er bod rhai agweddau ar gyllideb Llywodraeth Cymru sydd i'w croesawu, megis yr arian ychwanegol ar gyfer y GIG, yn gyffredinol mae llawer yn y cynllun gwariant hwn i fod yn anfodlon yn ei gylch. 

Un o'm prif bryderon yw diffyg cymorth busnes. Nid argyfwng iechyd yn unig fu'r pandemig coronafeirws; mae wedi bod yn drychineb economaidd. Cymru a brofodd y cynnydd mwyaf mewn anweithgarwch economaidd mewn unrhyw wlad yn y DU. Gallai canlyniad economaidd ein hymateb i'r pandemig hwn gael ei deimlo am genedlaethau. Nid ydym yn gwybod eto beth yw gwir gost economaidd y pandemig hwn; faint o fusnesau fydd yn gorfod cau eu drysau'n barhaol; faint o swyddi a gollir; a faint o bobl fydd yn cael eu gwthio i dlodi o ganlyniad. Roedd 28 y cant o bobl mewn rhannau o'm rhanbarth i eisoes yn byw mewn tlodi. Faint o bobl ifanc fydd yn gweld eu cyfleoedd mewn bywyd yn lleihau? Mae llawer o ddaroganwyr economaidd yn credu y gallai'r pandemig ail-greu dirwasgiad mawr y ganrif ddiwethaf. Gwelodd y DU ei gostyngiad mwyaf mewn allbwn ers canrifoedd—y gostyngiad mwyaf mewn CDG blynyddol ers rhew mawr 1709. Felly, er inni gael rhywfaint o newyddion da gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd economi'r DU yn tyfu yn y dyfodol, nid yw'r ffaith y bydd yr economi fyd-eang yn parhau i wastatáu yn rhoi darlun gwych. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyfyngu ar y difrod. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu rhaglen gynhwysfawr o gymorth busnes yn y gyllideb hon yn warthus.

Mae hefyd yn eironig eu bod, yn gynharach y prynhawn yma, wedi dewis gweithredu dyletswydd anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010. Felly, er ei bod yn wir fod gan Lywodraeth Cymru rywfaint o gymorth busnes mwyaf hael y DU, mae hefyd yn wir fod llawer gormod o fusnesau a phobl yn cael eu gadael ar ôl. Mae llawer gormod o fusnesau nad ydynt yn gymwys i gael cymorth, oherwydd nid yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo eu sector busnes, ac mae'r rhai sy'n gymwys yn gweld y prosesau ymgeisio'n ddryslyd, ac maen nhw eu hunain wedi drysu. Mae'r ffaith mai awdurdodau lleol yw canolwyr rhai pecynnau cymorth wedi arwain at loteri cod post o gefnogaeth, gyda busnesau tebyg yn cael gwahanol lefelau o gymorth, oherwydd i bwy y maen nhw'n talu eu hardrethi busnes.

Cawsom gyfle perffaith i gyflwyno pecyn cymorth busnes pwrpasol i helpu economi Cymru i oroesi storm COVID ac adfer, ond mae'r gyllideb hon wedi siomi busnesau Cymru. O ganlyniad i wariant pandemig Llywodraeth y DU, cafodd Cymru £0.66 biliwn o bunnau ychwanegol. O'r £30 miliwn ychwanegol o wariant ar adnoddau a ddyrannwyd i brif grŵp gwariant yr economi, ni wariwyd yr un geiniog ar helpu busnesau Cymru. Bydd hanner yr arian yn cael ei wario ar gymorth bysiau a'r llall ar ddysgu yn y gweithle. Ac er bod y ddau yn achosion teilwng, nid dyna sydd ei angen ar economi Cymru ar hyn o bryd. Ble mae'r hwb i'r galon a addawodd Canghellor y Trysorlys i fusnesau Lloegr? Yn anffodus, mae busnesau Cymru yn parhau i gael eu siomi a'u gadael ar ôl gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, ac o ganlyniad, bydd pobl Cymru'n dioddef a bydd tlodi'n parhau i dyfu, er gwaethaf dyletswydd newydd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol. Diolch yn fawr. Diolch.

17:00

Yn fy nghyfraniad byr i'r ddadl hon, roeddwn eisiau gneud ychydig o sylwadau cyffredinol ar un neu ddau yn unig o'r meysydd allweddol yn y gyllideb derfynol. Gwnaf agor drwy ddweud fy mod yn falch iawn o fod yn ei chefnogi, oherwydd yn wahanol i gyllideb Llywodraeth Dorïaidd y DU, mae'r gyllideb hon yng Nghymru yn rhoi ein GIG a'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn gyntaf—gwasanaethau cyhoeddus sydd unwaith eto wedi dangos eu gwir werth a'u pwysigrwydd i ni—tra bod Llywodraeth y DU unwaith eto wedi dangos yn glir bod hyn yn werth nad ydynt yn ei gydnabod. Bydd y gyllideb hefyd yn rhoi cymorth pellach i fusnesau Cymru, er gwaethaf yr hyn y mae Caroline Jones yn ei ddweud. Rydym i gyd yn gobeithio y byddant yn dechrau gadael dyddiau gwaethaf y pandemig hwn ar eu hôl, oherwydd mae busnesau wedi bod yn byw ar fin y gyllell dros y flwyddyn ddiwethaf, ond yng Nghymru, rydym wedi cael Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'w cefnogi'n fwy hael nag yn unman arall yn y DU. Pwy a ŵyr faint o fusnesau a swyddi a fyddai fel arall wedi'u colli'n barhaol i'n heconomi heb y cymorth hwnnw? 

Bydd y gyllideb hefyd yn sicrhau bod y broses anhygoel o gyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf yn ein hanes yn parhau i gael ei chefnogi ac yn adeiladu ar lwyddiant ein system tracio ac olrhain a wnaed yng Nghymru—system, unwaith eto, a ddarperir yma gan ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio o blaid ac er budd gwasanaethau cyhoeddus ac nid er elw preifat. Diolch byth, oherwydd y penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, mae Cymru wedi osgoi sgandal y biliynau a wastraffwyd yn Lloegr. Rwyf hefyd yn falch o weld y gefnogaeth a roddir i adeiladu mwy o gartrefi. Rydym wedi gweld cynnydd mor dda ynghylch hyn eisoes, ond mae cymaint mwy i'w wneud o hyd os ydym ni am ddiwallu anghenion cymaint o bobl a welaf yn fy etholaeth sydd angen cartref fforddiadwy, boed hynny i'w brynu neu i'w rentu.

Ond wrth gwrs, gwyddom y bydd llawer o'n hamcanion yn cael eu tanseilio os nad yw Canghellor y DU yn rhoi hwb cynaliadwy i'n gwariant. Dyma lle yr wyf yn cytuno'n llwyr ag Alun Davies mai ein neges i'r Canghellor yw nad dyma'r amser i ddechrau tynhau llinynnau'r pwrs. Os yw'r 10 mlynedd diwethaf wedi dweud unrhyw beth wrthym ni, nid yw cyni yn ffordd gynaliadwy o reoli'r economi, gan ei fod yn ymgorffori ac yn dyfnhau anghydraddoldeb. Gadawodd cyni ein gwasanaethau cyhoeddus yn anghyflawn i ymdrin ag argyfwng mor enfawr â'r pandemig. Gadawodd y rhan fwyaf o'r bobl agored i niwed yn ein cymdeithas hyd yn oed yn fwy agored i effaith y pandemig a gwanhau llawer o sectorau o'n heconomi y bydd angen cymorth arnyn nhw am flynyddoedd lawer i ddod os ydym am ailgodi'n decach ar ôl yr argyfwng hwn. Nid dyma'r amser o gwbl i ddychwelyd at gyni'r Torïaid. Dyma'r amser i ailgodi'r wlad hon fel bod gennym ni gymdeithas decach ac economi decach. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi dangos i ni na fydd yn gwneud hynny, ond mae'r gyllideb hon, a ddarperir gan Lywodraeth Lafur Cymru, yn dangos sut y gallwn ni wneud hynny. Rwy'n falch o gefnogi'r gyllideb hon, Llywydd, ac rwy'n falch o gefnogi Llywodraeth Lafur Cymru.

Rwy'n falch iawn o gefnogi'r gyllideb hon—cyllideb wirioneddol anodd. Gyda'r diffyg gallu i ragweld mwy na blwyddyn ymlaen llaw, credaf y bu hyn yn ddeallus iawn mewn sawl ffordd yn rhai o'r dewisiadau a'r blaenoriaethau a wnaed. Achosodd imi fyfyrio, mewn gwirionedd, ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf, er—fel yr oedd Dawn Bowden, fy nghyd-Aelod, yn ei ddweud—heriau cyni, ac yna i goroni'r cyfan, heriau'r pandemig.

Trof at y gyllideb hon yn y man a sut y mae'n effeithio ar fy etholaeth. Rwy'n edrych dros y pum mlynedd diwethaf yn fy ardal i, ac nid oes un dref na chymuned nad yw wedi cael ysgol newydd wedi'i hadeiladu sy'n effeithio ar ei phlant ysgol gynradd neu uwchradd, neu goleg sydd wedi cael buddsoddiad. Dyma'r buddsoddiad mwyaf ers y 1960au yn seilwaith ein hysgolion a'n colegau, ac mae hynny wedi dod o dan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Wrth inni edrych ymlaen, mae gennym ymrwymiadau yno o dros £50 miliwn o ran ysgolion band B yr unfed ganrif ar hugain, wrth symud ymlaen o 2021 i 2026. Gwn y bydd mwy o ysgolion. Bydd pob un o'r ysgolion Fictoraidd hynny, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw bellach wedi mynd, yn cael eu trawsnewid yn ganolfannau dysgu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ein pobl ifanc.

Edrychaf ar y buddsoddiad mewn teithio llesol, parc technoleg Pencoed—£2.5 miliwn—y bron i £50 miliwn sydd wedi'i sicrhau i'r rhan hon o ddinas-ranbarth Caerdydd, i Ben-y-bont ar Ogwr ac Ogwr. Rydym yn gobeithio cael cyhoeddiad da iawn o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf a fydd yn caniatáu i ardal y gwn fod y Gweinidog yn ei hadnabod yn dda iawn o'i chefndir, safle strategol Ewenni—rydym yn gobeithio cael newyddion da am hynny fel rhan o gyllid bargen ddinesig a chyllid Llywodraeth Cymru, er mwyn caniatáu i hwnnw gael ei adfer yn dir llwyd, fel y gallwn fwrw ymlaen â datblygiad ar raddfa fawr. Mae hyn er gwaethaf yr heriau sydd gennym.

Os edrychwch ar Neuadd y Dref Maesteg, mae buddsoddiad o £7 miliwn yno. Gwn ein bod yn colli'r arian Ewropeaidd nawr, ac nid yw cronfa ffyniant gyffredin y DU i'w gweld yn unman ar hyn o bryd, ond mae gennym arian Ewropeaidd ac arian Llywodraeth Cymru yn dod i mewn i drawsnewid yr adeilad eiconig hwnnw, a adeiladwyd gyda cheiniogau'r glowyr o'r dref hon, fel llawer ar draws ardaloedd y Cymoedd. Bydd nawr yn cael ei drawsnewid yn lleoliad eiconig, fel yr hyn a wnaethant gyda Neuadd Gwyn yng Nghastell-nedd, ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae gennym dai gofal ychwanegol wedi'u hadeiladu ar gost o £3 miliwn yn Nhondu ac ym mhen uchaf cwm Llynfi, gan ddarparu nid yn unig gofal preswyl i bobl hŷn, ond gofal cofleidiol i'r henoed, gan gynnwys byngalos, lle gall pobl symud o fflatiau i fyngalos y tu allan, ac ati, wrth i'w cyflwr newid.

Dyna pam yr wyf yn credu ei bod hi'n werth myfyrio, wrth i ni edrych ar y gyllideb hon, wrth symud ymlaen, ar yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei gyflawni yn y pum mlynedd hyn, er gwaethaf, rhaid imi ddweud, ben ôl y cyni. Credaf y bu hi'n rhyfeddol. Mae wedi cael blaenoriaethau da. Mae wedi bod ynghylch ein plant, mae wedi bod ynghylch ein henoed, mae wedi bod ynghylch swyddi a sgiliau i gael pobl i mewn i swyddi hefyd, gydag adeiladu cartrefi ac ysgolion a datblygu priffyrdd ac ati.

Gadewch imi sôn am rai o'r agweddau ar hyn a pham y byddaf yn cefnogi hon heddiw. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod wedi llwyddo i ddod o hyd i dros £630 miliwn ar gyfer ein GIG ac ar gyfer llywodraeth leol, nid yn unig mewn ymateb i'r pandemig, ond y mathau ehangach o straen sydd arnyn nhw. Ar ryw adeg, hyd yn oed gyda'r heriau, bydd yn rhaid i Lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol ymdrin â phen ôl hir cyni, sydd wedi gwastrodi rhannau o lywodraeth leol. Maen nhw wedi gwneud gwaith anhygoel, a'n GIG a'n gofalwyr, dan bwysau mawr. Ond, mae'r £630 miliwn ychwanegol hwnnw i'w groesawu'n fawr yn wir.

Croesawaf yn fawr y buddsoddiad ychwanegol o £220 miliwn i adeiladu tai ac ar gyfer y rhaglen ysgolion. Gwn fy mod, yn fy ardal i, wedi cerdded i mewn i'r cartrefi sy'n cael eu hadeiladu gyda'r arian hwnnw. Rwyf wedi cyffwrdd â'r waliau, wedi gweld y trydan yn cael ei gysylltu, wedi gweld y bobl yn eistedd yno, yn adeiladu'r cartrefi hyn. Dyna yw diben yr arian hwn. Nid brics a morter yn unig sy'n bwysig ond pobl mewn swyddi ar adeg pan fydd ei angen arnom fwyaf. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw'r rhain. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, o ran pawb arall yn y Cabinet, eu bod yn flaenoriaethau Llafur Cymru ar waith hefyd, ac rwy'n cymeradwyo hynny'n llwyr.

Rwyf eisiau dweud y bydd yn anodd i'r Llywodraeth nesaf a ddaw i mewn. Bydd hynny'n wir, yn bennaf oherwydd ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn dileu llawer o'r gefnogaeth yr ydym wedi'i gweld o'r blaen o gyllid yr UE. Nid yw cronfa ffyniant gyffredin y DU ac ati i'w gweld yn unman o gwbl o hyd. Mae'n edrych fel gwleidyddiaeth pot mêl i mi. Ond, mae angen i ni barhau gyda'r gyfres hon o flaenoriaethau. Yn y pen draw, mae'n ymwneud â gofalu am y cymunedau sydd eu hangen fwyaf, a chadw pobl mewn swyddi, nawr ac i'r dyfodol hirdymor hefyd, a rhoi gobaith i bobl. Dyna mae'r gyllideb hon yn ei wneud. Mae'n rhoi gobaith i bobl, hyd yn oed yn y cyfnod mwyaf heriol. Felly, da iawn, Gweinidog, a diolch am yr hyn yr ydych wedi'i wneud, nid yn unig nawr, ond yn y blynyddoedd a aeth heibio hefyd.

17:10

Mae'n ddigon posibl y bydd y gyllideb hon yn cael ei disodli gan gyllideb sydd wedi newid yn sylweddol yn y gyllideb atodol gyntaf a gynhyrchir ar ôl mis Mai, yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad. Er bod cyllid y dreth gyngor wedi'i bennu ar gyfer y flwyddyn, gellir naill ai cynyddu neu leihau pob maes gwariant arall. Gyda llai na naw wythnos i fynd tan y diwrnod pleidleisio, byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cynhyrchu eu cynlluniau gwariant eu hunain, ac yn gwneud iddyn nhw gydbwyso. Mae Plaid Cymru wedi nodi nifer fawr o feysydd y maen nhw eisiau cynyddu gwariant ar eu cyfer, ond nid ydyn nhw wedi nodi o ble y mae'r cyllid hwnnw'n dod. Mae gan y Ceidwadwyr bolisi o dorri trethi a chynyddu gwariant, sydd, fel y gwyddom i gyd, yn amhosibl.

Er y byddaf yn cefnogi'r gyllideb, nid yw'n gefnogaeth anfeirniadol. Yn gyntaf, rwy'n siomedig na ddaethpwyd o hyd i arian i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant rhieni ar gredyd cynhwysol o fis Medi pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf. Gobeithio y caiff hyn ei ddatrys yn y gyllideb atodol gyntaf.

Yn ail, nid wyf yn credu bod y gyllideb hon ar gyfer byd ar ôl COVID, gyda disgwyliad o ddychwelyd i fis Mawrth 2020 yn bennaf. Mae'n ymddangos mai dyna thema llawer iawn o bobl sydd wedi bod yn siarad o'm blaen i. Gweithio gartref, manwerthu ar-lein a chyfarfodydd ar-lein yw'r normal newydd. Bydd rhywfaint o ddychwelyd i weithgarwch cyn mis Mawrth 2020 yn y meysydd hyn. Rydym wedi gweld y newidiadau a grybwyllir uchod yn dod yn normal newydd, sef y cyfeiriad yr oeddem yn symud iddo cyn COVID. Gwn fod nifer o bobl o'r farn bod y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn mynd i fod ynghylch deallusrwydd artiffisial. Roedden nhw'n anghywir; mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn ymwneud â gweithio gartref.

Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ohirio cynlluniau ffyrdd nad ydynt wedi dechrau eto nes i ni weld maint y galw. Yn sicr, byddwn unwaith eto'n annog Llywodraeth Cymru i fod yn wyliadwrus iawn o ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol. Ychydig o dystiolaeth a ganfu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod buddsoddiad y Llywodraeth mewn mwy na 700 o brosiectau cyhoeddus-preifat presennol wedi sicrhau budd ariannol. Gall cost ariannu prosiectau cyhoeddus yn breifat fod hyd at 40 y cant yn uwch na dibynnu ar arian y Llywodraeth yn unig, yn ôl archwilwyr. Mae unrhyw un sy'n credu bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn arwain at y sector preifat yn cymryd y risg yn twyllo eu hunain. Bydd y risg yn cael ei gynnwys mewn unrhyw gais. Byddai hyd yn oed 10 y cant yn ychwanegol yn costio £10 miliwn am bob contract gwerth £100 miliwn.

Gan droi at gyllideb yr amgylchedd, mae'r amgylchedd bob amser yn brif flaenoriaeth i bawb yn y Siambr, ac eithrio pan gyrhaeddwn amser y gyllideb. Yna mae'n lleihau mewn pwysigrwydd, yn anffodus. Rwy'n croesawu rhai o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud o ran yr amgylchedd, megis mwy o ddyrannu cyllideb ar gyfer tlodi tanwydd. Gobeithio y bydd yn ddigon i gyflawni cynnydd i gyrraedd y targed tlodi tanwydd arfaethedig a nodir yn y cynllun. Croesawaf ymhellach arian ychwanegol ar gyfer sicrhau effeithlonrwydd ynni cartref drwy Arbed a Nyth. Mae'r disgwyliad y bydd 5,500 o gartrefi yn elwa ar Arbed a Nyth, ynghyd â'r miloedd lawer sy'n elwa ar gyngor effeithlonrwydd ynni cartref gan Nyth, i'w groesawu. Mae gormod o bobl yn fy etholaeth i ac eraill yn byw mewn cartrefi oer, llaith. Mae llawer gormod o bobl yn byw mewn cartrefi sy'n ddrud iawn i'w gwresogi, sy'n effeithio ar bopeth o'u hiechyd i gyrhaeddiad addysgol eu plant. Rwyf hefyd yn croesawu gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cymorth i gyrff y sector cyhoeddus i'w helpu i ddatblygu cynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Rwyf hefyd yn ymwybodol o sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n defnyddio 'buddsoddi i arbed' i wella effeithlonrwydd ynni. Mae angen i'r sector cyhoeddus arwain ar wella effeithlonrwydd ynni. Rwy'n gobeithio y cawn ddiweddariad pellach ar yr hyn y mae 'buddsoddi i arbed' wedi'i wneud i wella effeithlonrwydd ynni yn y dyfodol agos.

Fis Awst diwethaf, cyflwynwyd y cynllun aer glân i Gymru i bennu cyfeiriad strategol ar ddatblygu capasiti a gallu ledled Cymru. Os credwch, fel fi, fod y gostyngiad tymor byr mewn trafnidiaeth yn debygol o fod yn un hirdymor wrth i fwy weithio gartref, o leiaf rhan o'r amser, yna bydd llygredd aer o gerbydau'n lleihau. Croesawaf yr arian ychwanegol ar gyfer cynlluniau treialu i hyrwyddo cerbydau allyriadau isel iawn ar draws y sector cyhoeddus. Rwyf hefyd yn croesawu'r cynnydd a wnaed gan gynghorau fel Abertawe o ran cynyddu nifer y cerbydau trydan y maen nhw'n eu defnyddio.

Byddwn yn annog y Llywodraeth i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr dros ddeunydd pacio plastig. Buddugoliaeth hawdd fyddai i'r holl bapur lapio a cherdyn fod yn bapur yn unig yn hytrach na phlastig a phapur llawn gliter. Gellir cyflawni hynny am ddim. Er nad yw cyllid ar gyfer cyfrifoldeb ychwanegol cynhyrchwyr yn y gyllideb, dylai Llywodraeth Cymru gael arian o'i chyfran o unrhyw wariant gan San Steffan ar gyfer hyn.

Yn olaf, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar gyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Pan na allant gyflawni gweithgarwch sylfaenol llygredd aer a llygredd dŵr yr arferai Asiantaeth yr Amgylchedd ei wneud, mae yna broblem. Diolch.

17:15

Rwyf innau hefyd yn cefnogi'r gyllideb hon, ac unwaith eto cymeradwyaf y Gweinidog a Llywodraeth Lafur Cymru am yr ymrwymiad deuol i fynd i'r afael yn uchelgeisiol â'r ymdrechion llwyddiannus yng Nghymru i drechu'r pandemig ac i ddechrau'r broses o ailgodi ein heconomi'n decach, ar ôl degawd o ddiffyg cyllid a thanfuddsoddi i Gymru. Mae hefyd yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei chyllidebau atodol mewn modd dibynadwy a phriodol ger bron y lle hwn, yn wahanol i Lywodraeth y DU. Ac, er fy mod yn croesawu'n fawr iawn yr wybodaeth ddiweddaraf heddiw gan y Gweinidog cyllid am ei thrafodaethau, mae'r sefyllfa'n gyson yn parhau'n annheg yn amlach na pheidio lle nad yw Cymru'n cael yr hyblygrwydd ar unwaith i ddefnyddio ein harian ein hunain, ac yn aml yn cael ei thrin fel adran ddi-nod o'r Llywodraeth. Rydym yn bartner cyfartal yng ngwledydd y DU, a dylem allu llywodraethu felly. Mae hefyd yn destun pryder bod Llywodraeth y DU, 20 mlynedd yn ddiweddarach mewn Cymru ddatganoledig, yn ymddangos yn benderfynol o danseilio a rhwystro mandad democrataidd Cymru i fod yn fframwaith llywodraethu cyllidol datganoledig aeddfed.

Dirprwy Lywydd, mae'r gyllideb derfynol hon yn ychwanegu £682.2 miliwn ar gyfer ymdrechion COVID-19, gan gynnwys £630 miliwn i ymestyn olrhain cysylltiadau cyhoeddus i ddiogelu gwasanaethau craidd y GIG, ac i gefnogi awdurdodau lleol ar gyfer chwe mis cyntaf 2021-22. Nid tanddweud yw dweud y bydd yr arian hwn yn cefnogi rhaglen frechu Cymru, sy'n un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae miliwn o frechiadau yn dyst i waith gwych Llywodraeth Cymru, y GIG a phawb sy'n cyflawni dros Gymru.

Dirprwy Lywydd, gwelwn, yn y gyllideb derfynol hon, sosialaeth y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wrth inni nodi sut yr ydym yn ailgodi Cymru wirioneddol decach: pecyn cyfalaf cryf o fwy na £220 miliwn i ysgogi gweithgaredd economi Cymru. Dyma economeg Keynesaidd ar ei orau. £147 miliwn i gynyddu'r gwaith o adeiladu tai, £30 miliwn ar gyfer ein rhaglen adeiladau ysgolion uchelgeisiol i helpu i greu swyddi. Ond, unwaith eto, beth a welwn ar y pegwn gwleidyddol arall? Wel, mae eisoes wedi'i ddweud: dim byd ond gwastraffu biliynau o arian cyhoeddus ar dracio ac olrhain gwarthus a dim ond cyfleuster ac ymelwa gwleidyddol, er mai Cymru sy'n darparu'r pecyn cymorth gorau o holl wledydd y DU. Felly, efallai y gallaf faddau i arweinyddiaeth Dorïaidd y DU yma am beidio â chael amser—ac arweinyddiaeth Dorïaidd Cymru—i gyflawni eu rhifyddeg, ond ni faddeuaf iddyn nhw am beidio â sefyll dros Gymru. Mae'n ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru, yn 2021, wedi ymrwymo cannoedd o filiynau yn fwy o gyllid ar gyfer cymorth busnes yng Nghymru nag y mae wedi'i gael mewn symiau canlyniadol.

Ac wrth gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, p'un a ydych yn ifanc neu'n hen yng Nghymru, yn fusnes, neu'n blentyn ysgol, yn rhiant unigol neu'n gartref teulu sy'n addysgu o amgylch bwrdd y gegin, gwyddom fod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ar eich ochr chi. Mae'r gyllideb hon yn cyflawni dros bobl Cymru a'u blaenoriaethau, a byddwn yn dod allan o'r pandemig coronafeirws hwn, yn barod ac abl i ailgodi Cymru'n gryfach ac yn decach, ac ar gyfer y mwyafrif ac nid ar gyfer yr ychydig breintiedig yn unig. Diolch.

Diolch. Galwaf nawr ar yr Aelodau hynny sydd wedi nodi eu bod am wneud ymyriad byr. Nick Ramsay.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn y ddadl hon, ond dyma fyddai wedi bod y gyllideb derfynol gyntaf o fewn cof nad oeddwn wedi cyfrannu ati, felly fe wnaeth Mike Hedges fy nghymell. 

Dywedodd Mike Hedges fod lleihau treth a chynyddu gwariant yn anghydnaws. Wrth gwrs, bydd yn cytuno â mi y gallant fod yn gydnaws dros y tymor hwy, ar yr amod fod yr economi'n cael ei hysgogi a bod menter yn cael ei hannog. Felly, a gaf i erfyn ar y Gweinidog i wrando ar yr hyn y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi'i ddweud, ac mae Aelodau eraill ac Aelodau meinciau cefn wedi'i ddweud, dros dymor diwethaf y Senedd, ac edrychwn ar ffyrdd y gellir alinio amcanion tymor hwy Llywodraeth Cymru yn well â chyllidebau unigol? Oherwydd rwy'n credu ein bod yn aml yn siarad am y tymor byr ond nid ydym yn edrych i le yr ydym yn mynd dros y tymor hwy. Siaradodd Rhianon Passmore am y term pwysig iawn hwnnw, 'Ailgodi'n well', a buom yn siarad am ailgodi'n decach. Dyna beth yr ydym ni eisiau ei wneud, ond bydd hynny dim ond yn digwydd dros nifer o flynyddoedd. Felly, gadewch i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau y gellir priodoleddu'r agweddau da ar y gyllideb hon ac y gall Cymru fod yn lle gwell mewn pum mlynedd nag ydyw ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf nawr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans.

Diolch. Rwyf wedi croesawu'r cyfle y prynhawn yma i drafod ein cyllideb derfynol ar gyfer 2021-22, a diolchaf i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Fel yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol, mae hon yn gyllideb sydd wedi ei llunio yng nghanol ansicrwydd ac amgylchiadau sy'n esblygu, ac rwy'n ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau. Hoffwn geisio ymateb i rai o'r themâu allweddol hynny. Wrth wneud hynny, fe osodaf y cyd-destun eto, yn yr ystyr bod ein cyllideb graidd ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd yn 2021-22 yn dal i fod 4 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11, a chredaf fod hynny'n wir yn dangos lefel yr her sy'n ein hwynebu. Mae ein setliad cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf yn arbennig o siomedig; mae £131 miliwn yn llai na'r flwyddyn ariannol hon.

Ac rwy'n dal yn sigledig yn dilyn cyfarfod eithaf rhyfeddol a gawsom ddoe ochr yn ochr â Ken Skates a Jeremy Miles gyda'r Gweinidog yn y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, lle cawsom ein trin, yn y bôn, fel rhanddeiliaid mewn sesiwn friffio ar y gronfa codi'r gwastad, ac ni fu unrhyw ymgysylltu o gwbl â Llywodraeth Cymru ar hynny hyd yma.

Synnais pan ddywedodd y Gweinidog yn y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth leol wrthyf, yn falch iawn, ei fod yn bwriadu gosod rhai pobl i weithio yng Nghaerdydd fel bod pobl ar lawr gwlad a oedd yn adnabod ac yn deall Cymru, ac felly, wrth gwrs, bu'n rhaid imi ddweud wrtho, 'Wel, mae gennym eisoes bobl yng Nghymru sy'n adnabod ac yn deall Cymru, sef Llywodraeth Cymru, ein partneriaid ni, y Senedd, a dyma lle mae angen gwneud y penderfyniadau hynny, yn unol â'r setliad datganoli.' A'r hyn yr ydym yn ei weld yn ei hanfod yw ymosodiad gwarthus ar hynny, ac mae popeth a ddywedodd Alun Davies yn ei gyfraniad am y ffordd y mae Deddf y farchnad fewnol yn cael ei defnyddio i osgoi Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn taro tant.

Mae arnaf eisiau rhoi sylw i rai o'r sylwadau a wnaed mewn cysylltiad â'r penderfyniadau treth yr wyf wedi'u gwneud yn y gyllideb derfynol hon. Wrth gwrs, yn y gyllideb derfynol, rydym wedi cyhoeddi estyniad i gyfnod gostyngiad treth dros dro'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru tan 30 Mehefin. Ers mis Gorffennaf diwethaf, mae pob prynwr tai yma sydd wedi bod yn ddarostyngedig i brif gyfraddau'r Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo sy'n costio mwy na £180,000 wedi elwa ar ostyngiad treth o hyd at £2,450, ac nid yw'r rhai sy'n talu mwy na £250,000 wedi talu unrhyw dreth o gwbl. Felly, dim ond tua 25 y cant o bobl sy'n prynu eu cartrefi sydd wedi bod yn talu treth yn hynny o beth. Ac, wrth gwrs, os yw'r unigolion y cyfeiriodd Mark Isherwood atynt eisiau symud yn ôl i Gymru, ond i wneud hynny mae angen iddyn nhw brynu'r eiddo pontio hwnnw, wel, wrth gwrs, gallant gael y dreth ychwanegol y maen nhw'n ei thalu yn ôl os gwnânt y symudiad hwnnw a gwerthu'r eiddo ychwanegol hwnnw o fewn tair blynedd. Felly, mae gennym y mesurau diogelu hynny o fewn y system i sicrhau bod ein treth yma yng Nghymru yn flaengar. Os ydych eisiau gwybod am yr hyn nad yw'n flaengar, unwaith eto, fel yr wyf wedi sôn o'r blaen y prynhawn yma, nid oes rhaid inni ond edrych ar yr hyn y mae'r Canghellor wedi'i wneud o ran cyfraddau'r lwfans personol, a fydd yn taro'r gweithwyr â'r cyflogau isaf galetaf. Ac, wrth gwrs, y bobl â'r cyflogau isaf fydd yn talu'r pris uchaf am bandemig y coronafeirws.

Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu 12 mis llawn o ryddhad ardrethi i fusnesau yn y sectorau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch. Ac, wrth gwrs, fe'm syfrdanwyd o glywed beirniadaeth Mark Isherwood ar hynny, oherwydd mae'r cynnig yr ydym yn ei wneud i fusnesau yma yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae'r Canghellor wedi'i gynnig i'w fusnesau dros y ffin. A chredaf y gallwn fod yn falch iawn o'n hanes o gefnogi busnes yma yng Nghymru. Rydym wedi dweud droeon fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o gymorth ariannol i fusnesau nag yr ydym wedi'i gael mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ac felly mae hynny'n golygu bod £1.9 biliwn bellach yng nghyfrifon banc busnesau yma ledled Cymru. Ac mae dros £1 biliwn wedi'i ddarparu drwy 178,000 o ddyfarniadau grant mewn partneriaeth unigryw, gan weithio gydag awdurdodau lleol sydd wedi gwneud gwaith rhyfeddol o dda i'n helpu i ddarparu'r grantiau hynny. Ac mae dros £520 miliwn wedi'i ddarparu'n uniongyrchol drwy Lywodraeth Cymru a Busnes Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r cymorth busnes hwnnw wedi helpu i ddiogelu mwy na 165,000 o swyddi yma yng Nghymru, drwy gyfuniad o gymorth grant a benthyciadau. A chredaf fod hynny'n dangos yn glir y flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i rhoi ar achub swyddi pobl a'u bywoliaeth drwy'r hyn yr ydym i gyd yn cydnabod sydd wedi bod yn argyfwng economaidd.

Ac wrth symud ymlaen, mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn neilltuo £200 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth busnes ychwanegol y flwyddyn nesaf, i ymateb i heriau esblygol y pandemig, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny.

Diddorol oedd clywed syniad newydd Plaid Cymru am warant. Wel, wrth gwrs, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein gwarant i bobl ifanc yn llawer cynt yn yr argyfwng, pan wnaethom warantu i bobl ifanc y byddwn yn eu cefnogi i gael naill ai swydd neu fathau pellach o addysg, neu eu cefnogi i hunangyflogaeth. Roeddwn yn falch iawn yn fy sylwadau agoriadol heddiw o gyhoeddi £18.7 miliwn i ymestyn cymhellion busnes i recriwtio mwy o brentisiaid yma yng Nghymru. Mae hyn yn estyniad i'r cynllun a lansiwyd gennym yn yr hydref, sydd eisoes wedi gweld mwy na 1,300 o brentisiaethau newydd yn cael eu darparu yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae newid yn yr hinsawdd wedi bod yn thema barhaus yn ein trafodaethau ar y gyllideb eleni. Cofiaf yn y gyllideb y llynedd, y stori fawr bryd hynny oedd ein bod yn darparu'r pecyn o gefnogaeth fwyaf erioed i'r amgylchedd drwy ein buddsoddiad mewn datgarboneiddio a bioamrywiaeth. Wel, eleni, rydym wedi cadw'r mwyafrif helaeth o'r cyllid hwnnw ar waith, ond rydym wedi mynd ymhellach ac wedi dyrannu bron i £80 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i ddarparu ymyriadau sy'n hyrwyddo datgarboneiddio ac yn gwella eto ein bioamrywiaeth gyfoethog yma yng Nghymru, ochr yn ochr â £17 miliwn ychwanegol o refeniw i gefnogi'r ymyriadau. Mae'r pethau hynny'n cynnwys, er enghraifft, £20 miliwn yn ychwanegol ar gyfer teithio llesol, gan ddod â'n buddsoddiad mewn teithio llesol i £50 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf; £26.6 miliwn i hybu'r economi gylchol; £20 miliwn ar gyfer Nyth, i wella hwnnw ac Arbed, a'n cynlluniau ynni glân; a £5 miliwn ar gyfer y goedwig genedlaethol, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth yr ydym i gyd yn arbennig o gyffrous yn ei gylch. Mae hynny'n mynd â'r gyllideb gyffredinol i £32 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae hynny ochr yn ochr ag ymyriadau eraill, megis £5 miliwn ar gyfer bwrw ymlaen â chyflawni prosiect treialu di-garbon a fydd yn ceisio datgarboneiddio ysgolion a cholegau yng Nghymru. Felly, gallwch weld nad yw ein pwyslais ar newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wedi'i leihau gan y pandemig.

Felly, er mwyn dechrau dwyn fy sylwadau i ben, rwy'n falch iawn o hanes y weinyddiaeth hon. Er gwaethaf degawd o gyni, rydym yn buddsoddi ymhellach yn ein GIG, gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiad dros dymor hwn y Llywodraeth i £37 biliwn, gyda mwy nag £8.4 biliwn yn 2021-22, ac eithrio cymorth COVID. Mae cyfanswm y buddsoddiad a roddwn i awdurdodau lleol dros y tymor hwn yn fwy na £25 biliwn gyda £16.6 biliwn arall o gyllid yn 2021-22, ac, unwaith eto, mae hyn heb gynnwys y cymorth ychwanegol o ganlyniad i COVID-19.

Ac rydym yn cyflawni'r addewidion gwariant allweddol a wnaethom i bobl Cymru yn 2016. Rydym wedi buddsoddi mwy na £200 miliwn ar ein cynnig gofal plant; £689 miliwn ar brentisiaethau pob oed, ochr yn ochr ag arian sylweddol gan yr UE i mewn i 2021-22; £100 miliwn ar wella safonau ysgolion; y gronfa driniaeth newydd gwerth £80 miliwn; a mwy na £610 miliwn i mewn i 2021-22 gan ddarparu rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Ac fel yr wyf newydd ei nodi, rydym yn cymryd camau difrifol a pharhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yn ystod tymor y Senedd hon, mae £2 biliwn wedi'i fuddsoddi mewn tai, gan ddarparu dros 20,000 o dai fforddiadwy, gyda £200 miliwn arall ar gyfer tai cymdeithasol yn 2021-22 i ddarparu 3,500 o gartrefi newydd ychwanegol. Ac rydym yn buddsoddi yn yr ardaloedd lle byddwn yn cael yr effaith fwyaf ar atal, ac mae hynny wrth wraidd ein dull gweithredu, a byddwch yn gweld hynny gyda'n lefelau buddsoddi uchaf erioed yn y grant amddifadedd disgyblion o fwy na £100 miliwn yn 2021-22. Felly—

17:25

Gorffennaf fy sylwadau drwy ddiolch ar goedd i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r bobl eraill sydd wedi bod yn craffu ar hyn am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud gyda'r gyllideb hon, ond hefyd eu gwaith dros y blynyddoedd eithriadol diwethaf, a diolchaf eto i'm swyddogion am y gwaith eithriadol y maen nhw wedi'i wneud. Cymeradwyaf y cynnig i'm cyd-Aelodau.

Diolch yn fawr iawn. Gan fod y pleidleisio ar gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2021-22 wedi'i ohirio tan y cyfnod pleidleisio, gohiriaf y bleidlais ar y gyllideb derfynol tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22

Felly, symudwn ymlaen at y ddadl nesaf, sef setliad llywodraeth leol 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7617 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, mae'n bleser gennyf gyflwyno setliad llywodraeth leol 2021-22 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru i'r Senedd i'w gymeradwyo.

Cyn imi ddechrau, gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i lywodraethau lleol am y gwaith hollbwysig y maen nhw yn ei wneud o ddydd i ddydd i gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Mae staff awdurdodau lleol yn gweithio ar gyfer cymunedau drwy gydol y flwyddyn, o dimau sbwriel ac ailgylchu, athrawon a gweithwyr cymdeithasol, i swyddogion gorfodi a thimau tai. Mae hyn yn wir bob blwyddyn ond byth yn fwy felly na thros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i gynghorau, eu staff ac aelodau etholedig ymateb a pharhau i ymateb i effeithiau pandemig COVID-19. Ac nid dim ond y rhai yn y swydogaethau rheng flaen, ychwaith. Heb y rheini yn yr hyn a alwn yn aml yn swyddi'r swyddfa gefn, ni fyddem wedi gallu cael cymorth mor gyflym i fusnesau ledled Cymru na gallu darparu bwyd i aelwydydd sy'n agored i niwed ac a warchodir, na chael trefniadau profi ac olrhain mor llwyddiannus yn cyfrannu at y gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o'r coronafeirws. Ni allwn anghofio ychwaith fod llawer o awdurdodau hefyd wedi ymateb i'r llifogydd digynsail sydd wedi achosi cymaint o ofid i gynifer o drigolion a busnesau yng Nghymru dros y 13 mis diwethaf. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ac weithiau effaith a ailadroddwyd dro ar ôl tro ar lawer o gymunedau.

Wrth baratoi ar gyfer cyllideb Cymru a'r setliad hwn, mae'r Llywodraeth wedi ymgysylltu â llywodraeth leol drwy gydol proses y gyllideb. Mae cyd-Weinidogion yn y Cabinet a mi wedi ystyried gydag arweinwyr llywodraeth leol, drwy'r cyngor partneriaeth a'i is-grŵp cyllid, y sefyllfa ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol ac ar wasanaethau allweddol, megis addysg a gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau strategol eang hyn yn parhau yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn paratoi ar gyfer adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Eleni, rwy'n falch o allu cynnig setliad i'r Senedd hon sy'n golygu, yn 2021-22, mai 3.8 y cant fydd y cynnydd yn y dyraniad refeniw cyffredinol i lywodraeth leol yng Nghymru. Dyma'r cynnydd ail uchaf ar sail cymharu tebyg â thebyg mewn 14 mlynedd; yr uchaf, wrth gwrs, oedd eleni. Mae hwn yn setliad da i lywodraeth leol, ac mae llywodraeth leol wedi'i groesawu. Mae'n rhoi llwyfan cadarn i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod i barhau i ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen sydd eu hangen ar Gymru. Yn 2021-22, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael £4.65 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae'r cynnydd hwn o £176 miliwn yn y setliad sylfaenol hwn yn adlewyrchu cynnydd yn y grant cynnal refeniw i ymateb i effaith negyddol y pandemig ar gasglu ardrethi annomestig. Mae hefyd yn cyfrif am effaith rhewi lluosydd yr ardrethi annomestig. Drwy'r setliad hwn, rydym hefyd yn parhau i ddarparu £4.8 miliwn i awdurdodau ddarparu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol i fusnesau lleol a threthdalwyr eraill er mwyn ymateb i faterion lleol penodol.

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi bod yn glir mai un o'r dewisiadau anodd yr ydym wedi'u hwynebu wrth bennu ein cynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf yw ein dull o ymdrin â thâl y sector cyhoeddus. Y gwir bellach yw na chawsom unrhyw arian ychwanegol drwy fformiwla Barnett i ddarparu ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws y sector cyhoeddus y flwyddyn nesaf, o gofio penderfyniad Llywodraeth y DU i oedi codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus ac eithrio'r GIG a'r rhai ar y cyflogau isaf un. Cadarnhaodd cyllideb yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth y DU yn bwriadu capio codiadau cyflog yn y GIG ar 1 y cant a pharhau i rewi cyflogau mewn llywodraeth leol. Bydd pobl yng Nghymru a'r rhan fwyaf ohonom yn y Senedd hon yn arswydo at y methiant hwn i gydnabod cyfraniad gweithwyr y sector cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Cynhelir trafodaethau cyflog mewn llywodraeth leol gan awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr. Rwy'n gresynu at safbwynt Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu'r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd angen cynnwys goblygiadau dyfarniadau cyflog yn 2021-22, beth bynnag y byddent, o fewn cynllunio cyllideb awdurdodau yng ngoleuni'r setliad hwn.

Wrth benderfynu ar ddosbarthiad cyllid ar draws awdurdodau ar gyfer y setliad, rydym wedi cyfeirio cyllid i'r ysgolion yn rhan o'r fformiwla i gydnabod y penderfyniadau a wnaed ar gytundeb cyflog athrawon 2020-21. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer ein cynigion ar gyfer meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim, o ystyried yr oedi parhaus cyn cyflwyno credyd cynhwysol gan Lywodraeth y DU. Drwy'r setliad hwn, bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd o 2 y cant o leiaf dros 2020-21 ar sail cymharu tebyg â thebyg, rhywbeth a fyddai tu hwnt i amgyffred yn y 10 mlynedd cyn 2020-21. Gwn fod rhai awdurdodau wedi gwneud sylwadau ar yr amrywiant rhwng y cynnydd uchaf ac isaf. Mae'r amcangyfrif gwell o boblogaeth gymharol yn golygu bod awdurdodau sydd â thwf cymharol uwch yn y boblogaeth yn gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu cyllid. Fel sy'n digwydd bob amser, cytunwyd ar y newidiadau hyn gyda llywodraeth leol drwy'r is-grwpiau dosbarthu a chyllid. Dylem i gyd fod yn ffyddiog bod ein fframwaith dosbarthu yn seiliedig ar ddata tryloyw a rennir yn gyhoeddus sydd wedi'i gytuno a'i ddatblygu mewn partneriaeth â llywodraeth leol.

Efallai y bydd Aelodau'r Senedd yn wir yn cyferbynnu'r trefniant hwn â'r dull pot mêl o ymdrin ag ariannu lleol sy'n ymddangos fel pe bai'n nodweddu gweinyddiaethau eraill y Llywodraeth. Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r posibilrwydd o gynnwys cyllid gwaelodol ar gyfer y setliad. Egwyddor cyllid gwaelodol yw sicrhau nad oes yr un awdurdod yn dioddef newid na ellir ei reoli o un flwyddyn i'r llall. Rwyf wedi penderfynu peidio â chynnwys cyllid gwaelodol yn yr achos hwn. Yn ogystal â'r cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarparwyd drwy'r setliad, rwy'n ddiolchgar bod fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet wedi darparu gwybodaeth ddangosol gynharach am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2021-22. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn fwy nag £1 biliwn ar gyfer refeniw a thros £760 miliwn ar gyfer cyfalaf ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin gyda llywodraeth leol.

Gan droi at gyfalaf, bydd cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2021-22 yn £198 miliwn. Mae hwn yn cynnwys £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus a pharhad o £35 miliwn ychwanegol y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb ar gyfer 2020-21. Bydd hwn yn galluogi awdurdodau i barhau i ymateb i'n blaenoriaethau ar y cyd o ddatgarboneiddio, yr argyfwng hinsawdd ac adferiad economaidd yn dilyn COVID-19.

Dim ond cryfhau'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol a wnaeth digwyddiadau'r 12 mis diwethaf. Gobeithio y bydd y berthynas gadarnhaol hon yn parhau y tu hwnt i dymor y Llywodraeth hon. Oherwydd y berthynas gadarnhaol hon rydym ni, yng Nghymru, yn cydnabod yr angen i gefnogi awdurdodau lleol i ymateb i'r pandemig. Gwyddem fod gan lywodraeth leol y bobl a'r sgiliau i ymateb. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi darparu dros £600 miliwn i lywodraeth leol i'w galluogi nhw i wneud hynny. Mae wedi cefnogi awdurdodau gan roi rhywbeth yn lle eu hincwm a gollwyd ac i dalu costau ychwanegol eu gwasanaethau craidd. Mae wedi ariannu cymorth i fusnesau ac unigolion, i ysgolion ac i deuluoedd. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi ymateb gyda'i gilydd i heriau pandemig COVID-19. Gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd i ateb heriau'r dyfodol, yn enwedig i adeiladu Cymru wyrddach a mwy cyfartal.

Rwy'n ymwybodol fodd bynnag nad yw ail setliad da mewn cynifer o flynyddoedd yn gwneud iawn am 10 mlynedd o agenda cyni Llywodraeth y DU. Ar ôl bod yn rhan o'r gwaith o bennu cyllideb cyngor, gwn am yr heriau y bydd awdurdodau lleol wedi gorfod eu hwynebu o hyd wrth bennu eu cyllidebau. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac, yn ei thro, y dreth gyngor. Bydd awdurdodau'n cydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau a thrawsnewid gwasanaethau gyda'r pwysau ariannol ar drigolion lleol. Dim ond nawr y mae lefelau cyflog ar y lefel yr oeddent cyn yr argyfwng ariannol, a chaiff codiadau yn y dreth gyngor eu hystyried yn ofalus yn y cyd-destun hwnnw. Bydd y cadarnhad yng nghyllideb Cymru o dros £206 miliwn ar gyfer parhau i ddarparu cronfa galedi llywodraeth leol yn sicrhau na fydd effeithiau ariannol y pandemig ar lywodraeth leol yn bwysau ychwanegol ar dalwyr y dreth gyngor. Fel yr wyf wedi dweud droeon, nid oes neb yn mynd i wleidyddiaeth gan ddymuno torri gwasanaethau. Rwy'n falch ein bod, drwy gefnogi llywodraeth leol, yn cynnal ac yn darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu heisiau a'u hangen. Mae'r setliad llywodraeth leol terfynol hwn yn rhan greiddiol o'n cyllideb i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi, i adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid i Gymru fwy cyfartal. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd hon gefnogi'r cynnig. Diolch.

17:35

Gweinidog, yn gyntaf, hoffwn ymuno â chi i ganmol y gwaith anhygoel y mae ein cynghorau wedi ei wneud yn ystod y pandemig; y ffordd y maen nhw wedi ymateb i'r pandemig ar bob ffurf ac i'r llifogydd wedi bod yn eithriadol.

Mae'r setliad llywodraeth leol yn gyfle a gollwyd. Bydd cynghorau lleol yng Nghymru yn cael llai o gyllid o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Mae hyn er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu cynghorau o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae'r Gweinidog yn honni mai dyma'r setliad gorau posibl, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn wir. Mae'n siomedig, er iddi gael cyllid ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y DU, nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi setliad cyllido hirdymor uchelgeisiol i lywodraeth leol i helpu ein cymunedau i ailadeiladu yn well. Ac eto, mae cynghorau wedi rhybuddio dro ar ôl tro y byddan nhw'n wynebu pwysau ariannol sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a gallai'r diffyg sicrwydd ariannol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru roi gwasanaethau lleol hanfodol mewn perygl yn y dyfodol.

Croesawaf y cynnydd yn y cyllid i gynghorau ac yn enwedig y ffaith y bydd cynghorau gwledig yn cael cyfran fwy o'r cyllid. Mae hynny i'w groesawu, fel y mae ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes, yn dilyn gweddill y DU o'r diwedd, ond mae'r setliad yn dal i ffafrio cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan Lafur yn y de. O'r pum cyngor sydd â'r cynnydd mwyaf yn eu setliad, mae pob un ohonyn nhw wedi eu lleoli yn y de; pedwar o'r pum cyngor i gyd dan arweiniad Llafur. Yn gyffredinol, mae cynghorau yn y gogledd wedi cael cynnydd is o gymharu â mewn mannau eraill, gyda dim ond Sir y Fflint yn cael cynnydd mewn cyllid yn agos at gynnydd cyfartalog Cymru. Unwaith eto, mae cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan Geidwadwyr Cymru yn cael cynnydd is na'r cyfartaledd yn eu setliad, gan gael y cynnydd cyfartalog ail isaf yn setliad 2021-22, sy'n dod ar ben y cynnydd cyfartalog isaf y tro diwethaf. Mae'n siomedig bod galwadau gan awdurdodau lleol a CLlLC i gyflwyno cyllid gwaelodol, fel y soniasoch o'r blaen, i sicrhau bod pob cyngor yn cael setliad teg wedi cael eu hanwybyddu gennych chi, Gweinidog. Hefyd, mae dyraniadau cyllid a wnaed drwy gronfa galedi awdurdodau lleol wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau cyllid rhanbarthol presennol.

Rydym yn croesawu'r gefnogaeth a roddwyd i gynghorau yn ystod y pandemig drwy'r gronfa galedi leol. Fodd bynnag, mae'r cyllid wedi ei dargedu'n bennaf at leihau pwysau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yn hytrach na darparu'r cyllid cynaliadwy hirdymor sydd ei angen ar y cynghorau. Mae'n wir hefyd fod cynghorau yn y de wedi cael tua 63 y cant o'r arian a ddyrannwyd drwy'r gronfa galedi hyd yma, tra bod cynghorau yn y gogledd wedi cael dim ond 19 y cant. Wrth i ni ddechrau adfer o effaith pandemig COVID-19, mae'n bwysig cydnabod costau ariannol ac economaidd y pandemig a wynebir gan deuluoedd ledled Cymru drwy eu helpu i gadw mwy o'u harian y maen nhw wedi gweithio yn galed amdano i gynnal eu hunain a'u teuluoedd. Dyna pam yr ydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i leihau costau byw yng Nghymru drwy rewi'r dreth gyngor eleni.

Llywydd, mae'r setliad hwn yn gyfle a gollwyd i helpu cynghorau a chymunedau i ailadeiladu yn well yn dilyn pandemig COVID-19. Er gwaethaf adnoddau sylweddol gan Lywodraeth Geidwadol y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu setliad cyllido uchelgeisiol hirdymor i gynghorau sy'n eu galluogi i fuddsoddi yn y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu ac ymateb i'r effaith a gaiff pandemig COVID yn y dyfodol. Mae arnom angen setliad cyllido teg i'r holl gynghorau hynny i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau y mae ar bobl eu hangen, ac adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael eu cyfran deg o gyllid. Diolch.

17:40

Fe wnaf i ddechrau hefyd trwy ddiolch i staff llywodraeth leol am y gwaith caled maen nhw wedi'i wneud, ledled Cymru, yn delio ag effeithiau'r pandemig dros y 12 mis diwethaf. Trwy gydol y cyfnod cythryblus, mae cynghorau yn aml wedi llwydo i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu darparu, a hynny mewn amgylchiadau aruthrol o anodd, boed hynny yn y sector gofal, y sector casglu gwastraff, neu athrawon. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig rhoi'r diolch hwnnw ar y record.

Mae'r cynnydd ariannol yn y setliad yn rhywbeth i'w groesawu, ac rwy'n ymwybodol bod ambell i gyngor sir yn fodlon iawn gyda'r setliad. Ond mae'n bwysig cofio'r cyd-destun yma, sef bod y gyllideb hon yn dilyn blynyddoedd o doriadau sylweddol, gyda chynghorau wedi gorfod gwneud arbedion anferthol dros y degawd diwethaf. Mae dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos bod gwariant wedi cwympo gan 7.7 y cant mewn termau real rhwng 2010 a 2019. Mae yn siom, ac mae hyn wedi cael ei ddweud yn barod, ond mae yn siom bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio â gosod llawr cyllido er mwyn sicrhau bod y ddau gyngor sy'n derbyn cynnydd sylweddol yn llai na'r lleill, sef Ceredigion a Wrecsam—maen nhw'n derbyn cynnydd o 2 y cant a 2.3 y cant; maen nhw'n dal yn mynd i golli allan. Rwy'n amcangyfrif mai'r gost gweithredu hyn byddai oddeutu £2.4 miliwn, ac mae'n anodd i ddeall, yn anffodus, pam mae hyn heb gael ei ddarparu, o ystyried y gallai wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i'r cynghorau hynny.

Dyw dadansoddi anghenion ariannol cynghorau ddim yn syml, o ystyried bod arian i ddelio â COVID yn cael ei darparu ar wahân a bod angen ystyried y ffaith bod incwm cynghorau wedi gostwng, er enghraifft, drwy ffioedd a thaliadau sydd heb eu derbyn ar gyfer parcio, a hefyd bod refeniw trethiant wedi gostwng o'r meysydd hamdden a thwristiaeth. Bydd angen i'r cynghorau sy'n dod i'r casgliad nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i ddarparu eu holl wasanaethau wneud penderfyniadau anodd i'w gwneud unwaith eto: dewis rhwng torri ar wasanaethau a swyddi, neu godi'r dreth gyngor yn eithaf sylweddol.

Fe wnes i alw arnoch chi, Gweinidog, ar ddechrau mis Chwefror, i ystyried defnyddio peth o'r arian sydd heb gael ei dyrannu ar gyfer ei roi i gynghorau er mwyn eu galluogi i osgoi cynyddu'r dreth gyngor eleni—ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae'n flin gen i. Ers hynny, mae'r Ceidwadwyr wedi mabwysiadu y polisi hwnnw gan Blaid Cymru hefyd, gan alw am yr un peth. Mae hyn yn eironig, ac mae'n rhaid i fi bwyntio hyn mas, achos mai canlyniad uniongyrchol polisi'r Ceidwadwyr o lymder yw'r ffaith bod cynghorau wedi gorfod cynyddu'r dreth gyngor yn ormodol dros y blynyddoedd diwethaf yn y lle cyntaf. Fel mae'r Gweinidog yn llwyr ymwybodol—rwy'n gwybod ein bod ni'n cytuno ar hyn—mae'r dreth gyngor yn un hynod regressive, a nawr mae tymor pum mlynedd arall wedi mynd heibio gyda Llywodraeth Lafur ddim yn gwneud digon i wneud y system yn decach. Bydd wynebu codiad mewn treth gyngor yn ergyd drom i lawer o deuluoedd ac unigolion sydd wedi wynebu caledi yn ystod y flwyddyn diwethaf. Ydy, mae'r gyllideb ar gyfer cefnogaeth gyda'r dreth gyngor i bobl sy'n methu talu, mae hynny'n bwysig—bydd yn darparu cefnogaeth hanfodol, rwy'n cydnabod hynny—ond sticking plaster yw hwnna'n unig, ateb tymor byr i broblem hirdymor o dreth sydd yn taro'r tlotaf waethaf. Os yw Plaid Cymru mewn llywodraeth ar ôl mis Mai, byddwn yn mynd ati i ddiwygio'r dreth hon i'w gwneud yn decach fel blaenoriaeth, gan y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i gyllidebau rhai o'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf.

Ond i orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: a ydy hi'n cytuno bod angen darparu staff llywodraeth leol gyda thâl teg sy'n adlewyrchu'r gwaith hanfodol maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig? Oherwydd, yn anffodus, dydy'r setliad ddim yn darparu hyn, sy'n golygu y bydd yn rhaid i gynghorau geisio canfod yr arian o fewn cyllidebau presennol sydd eisoes yn dynn iawn ar hyn o bryd. Mae undebau Unite, Unison a GMB wedi galw am godiad cyflog o 10 y cant i weithwyr cyngor a staff ysgolion. Eto, does dim darpariaeth yn y setliad hwn ar gyfer unrhyw gynnydd. Buaswn i'n hoffi clywed sylwadau'r Gweinidog ar hynny pan fydd hi yn ymateb. Diolch yn fawr.

17:45

Mae tri pheth sydd naill ai'n cael eu hanwybyddu neu'n cael eu cyflwyno mewn modd dryslyd yn y ffordd y cyflwynir y swm y mae pob awdurdod lleol yn ei gael. Ni allaf feddwl am unrhyw faes arall o wariant y Llywodraeth lle y cyhoeddir y cynnydd canrannol yn hytrach na'r swm gwirioneddol, felly caiff y swm gwirioneddol ei golli ac mae trafodaeth yn ymwneud â'r newid canrannol. Cafodd Ceredigion, fel y clywsom amdano yn gynharach, un o'r codiadau canrannol isaf, ond mewn gwirionedd mae'n ddeuddegfed yn nhabl cynghrair cyllid fesul pen y Llywodraeth. A byddwn i'n annog pobl i edrych ar dabl cynghrair cyllid fesul pen y Llywodraeth. Maen nhw yn ei guddio ar dudalen 5 o'r data maen nhw'n eu darparu, ond mae yno.

Diben grant llywodraeth leol y Llywodraeth yw ychwanegu at y dreth gyngor, a dyna pam mai Blaenau Gwent sydd â'r cyllid allanol cyfanredol mwyaf. Mae ganddi dros 50 y cant o'i heiddo ym mand A, a Sir Fynwy sydd â'r isaf, gan fod dros hanner ei heiddo ym mand E neu'n uwch. Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng bandiau cyngor mewn ardal a'r cyllid allanol cyfanredol y mae pob cyngor yn ei gael. Mae'n dra hysbys bod y cynnydd hwnnw yn cael ei ysgogi yn bennaf gan newid cymharol yn y boblogaeth. Gan na fyddaf yn gallu ymyrryd ar Russell George, hoffwn i bwysleisio bod Powys yn cael £16 y pen yn fwy nag Abertawe. Roedd gan Bowys y gost ychwanegol o wledigrwydd, ond mae gan Abertawe y gost o ddarparu cyfleusterau rhanbarthol ac ar gyfer pethau fel digartrefedd ar y stryd. O'r pedwar cyngor sy'n cael y cyllid allanol cyfanredol mwyaf, mae dau yn cael eu rheoli gan Lafur. O'r pedwar sy'n cael y lleiaf, mae dau hefyd yn cael eu rheoli gan Lafur. O ran y gogledd, mae tri o'r cynghorau yn hanner uchaf cymorth y Llywodraeth a'r tri arall yn y gwaelod—prin eu bod yn rhagfarnu yn erbyn y gogledd.

Yn rhan o'r setliad llywodraeth leol, mae awdurdodau lleol yn cael bron i £4.5 biliwn o gyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. A dyna beth y mae awdurdodau lleol yn ei wneud: maen nhw'n darparu gwasanaethau allweddol. Bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol heb ei neilltuo yn £198 miliwn, cynnydd o £15 miliwn yn fwy na'r hyn a gyhoeddwyd yng nghyllideb derfynol Cymru y llynedd. Galluogodd y cynnydd mewn cyllidebau cyfalaf dros y tair blynedd diwethaf llywodraeth leol i fuddsoddi mewn cynyddu'r cyflenwad o dai, a fydd yn lleihau'r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol a'r gwasanaethau digartrefedd. Bydd hefyd yn caniatáu i gynghorau ddechrau ymateb i'r angen dybryd am ddatgarboneiddio yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd y mae Llywodraeth Cymru a llawer o gynghorau wedi ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn gyffredinol, mae'r setliad yn gynnydd o 4.3 y cant ar sail tebyg am debyg. Nid oes gan yr un awdurdod gynnydd o lai na 3 y cant, a'r uchaf yw 5.4 y cant. O ran cymorth i lywodraeth leol, mae'n setliad da o'i gymharu â'r cyfartaledd 10 mlynedd a'r rhan fwyaf o flynyddoedd yn ystod yr amser yr wyf i wedi bod yn y fan yma. Hoffwn i ganmol awdurdodau lleol am gadw eu gwasanaethau sylfaenol yn gweithio a chefnogi busnesau lleol yn ystod y pandemig. Mae awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith aruthrol, ond mae awdurdodau lleol bob amser yn gwneud gwaith aruthrol.

Mae'n bwysig nad yw pob rhan o Lywodraethau San Steffan a Chymru wedi perfformio cystal. Er fy mod i'n aml yn galw ar sefydliadau i helpu eu hunain yn hytrach na gofyn am fwy o arian, dyna y mae cynghorau yn ei wneud. Cafwyd gwelliant o £18 miliwn yn sefyllfa gyllideb Cyngor Abertawe ar gyfer 2019-20 o'i gymharu â'r amcangyfrif a nodwyd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Mae cyllideb y cyngor o £445 miliwn ar gyfer 2019-20 wedi creu sefyllfa well na'r disgwyl yn y gwasanaethau cymdeithasol, a defnydd gofalus o gronfa wrth gefn y cyngor, yn golygu bod ychydig dros £11 miliwn wedi ei arbed rhyngddyn nhw. Mae £7 miliwn o arbedion cyllid cyfalaf wedi ei ychwanegu at hyn yn rhan o'r strategaeth tymor canolig i ariannu'r rhaglen gyfalaf gyffredinol a benthyca yn y dyfodol.

Dyma sut y bydd Cyngor Abertawe yn gwario'r arian ychwanegol: bydd ysgolion yn cael £6.85 miliwn ychwanegol yn syth i'r ystafelloedd dosbarth, a £7.1 miliwn am gyfarpar TG newydd, sydd wedi bod yn gymaint o gymorth i addysg gartref yn ddiweddar. Bydd rhieni yn gweld bod prisiau prydau ysgol yn cael eu rhewi am y flwyddyn. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol, sydd wedi ysgwyddo her COVID-19 wrth gefnogi'r rhai sy'n agored i niwed, yn cael £7.7 miliwn yn fwy, a bydd £5.5 miliwn ychwanegol i dalu am unrhyw bwysau eraill y pandemig. Ar gyfer yr amgylchedd, bydd £6.1 miliwn ychwanegol a thîm newydd i ymdrin â sbwriel, glanhau strydoedd, ac ymestyn gwasanaethau trwsio tyllau yn y ffordd. Bydd tîm ymateb cyflym newydd i ymdrin â phroblemau llifogydd. Bydd mwy o arian ar gyfer gwell parciau chwaraeon a chyfleusterau cymunedol, gan gynnwys £100,000 ar gyfer gwell toiledau cyhoeddus, gwasanaethau Wi-Fi cyhoeddus am ddim newydd, a buddsoddi mewn plannu miloedd o goed newydd a datblygu mwy o fannau gwyrdd.

Dim ond un o'r cynghorau sy'n gwneud gwaith aruthrol yw Abertawe. Dyma'r ardal yr wyf i'n ei chynrychioli, a'r un y mae'r Gweinidog yn ei chynrychioli, ond mae'n wir: rhowch yr arian i'r cynghorau a byddan nhw'n gwneud y gwaith. Byddan nhw'n ei wneud yn well nag unrhyw sefydliadau eraill. Rydym ni wedi gweld, yn Lloegr, yn ystod y pandemig, fod y sector preifat yn dda iawn am wneud elw ond nid yw'n dda iawn am ddarparu pethau fel prydau ysgol. Trwy roi'r cyllid i gynghorau, maen nhw'n cyflawni ar gyfer ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ariannu cynghorau yn deg ac yn dda, gan fod yr arian y maen nhw'n ei wario er lles bob un ohonom.

17:50

Diolch. A gaf i alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau. Wrth ymateb i'r pwyntiau penodol a gododd yr Aelodau, am eiliad, bron nad oes gen i'r geiriau ar gyfer haerllugrwydd Laura Jones, a geisiodd gyhuddo Llywodraeth Cymru o'r math o wleidyddiaeth pot mêl y mae'n amlwg wedi dod i'w ddisgwyl mewn setliad llywodraeth leol, gan ei bod yn cynrychioli plaid sydd wedi'i chyhuddo gan athro yng Nghaergrawnt, yr Athro Diane Coyle, athro polisi cyhoeddus Bennett ym Mhrifysgol Caergrawnt, o fod yn eithaf amlwg o ran eu gwleidyddiaeth pot mêl wrth gyfeirio £4.8 miliwn o gyllid i seddi'r Torïaid heb unrhyw gyfiawnhad o gwbl. Gallwch chi ddweud mai dyna y mae'n ei ddisgwyl gan eraill, ond rwyf i yma i ddweud wrthi nad ydym ni'n ymddwyn yn y modd hwnnw yng Nghymru. Fel y nododd Mike Hedges, gallwch edrych ar y gwariant fesul pen mewn ffordd gwbl wahanol, a'r cynnydd bob blwyddyn, a gallwch chi weld nad oes unrhyw duedd o gwbl tuag at awdurdodau Llafur nac at unrhyw ranbarth penodol. Mae'r setliad dosbarthu yn gweithio'n deg ac yn dda, a dyna pam mae gennym ni berthynas cystal gydag awdurdodau lleol, ac nid yw hynny ychwaith yn wir dros y ffin, lle mae'r dybiaeth ar lefel y cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol yn rhagdybio cynnydd o 4.99 y cant yn y dreth gyngor yn gyffredinol.

Gan droi at yr hyn a ddywedodd Delyth, rwy'n cytuno â chanran fawr o'r hyn a ddywedodd Delyth. Fe wnes i ddweud mewn gwirionedd, serch hynny, yn fy sylwadau agoriadol, Delyth, ein bod ni wedi ein harswydo yn llwyr gan safbwynt Llywodraeth y DU ar gyflogau'r sector cyhoeddus. Maen nhw'n cefnu ar yr addewidion a wnaethon nhw i staff y GIG, a cheir diffyg parch llwyr i'r gwaith y mae pobl wedi ei wneud mewn gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y pandemig, yn Lloegr ac yn wir ledled Cymru, lle'r ydym ni, wrth gwrs, wedi cadw ein holl wasanaethau ymateb yn y sector cyhoeddus ac mae pobl wedi ymateb yn llwyr i'r her honno mewn ffordd yr wyf i'n hynod ddiolchgar amdani. Rwy'n dweud unwaith eto, heb unrhyw ymddiheuriad o gwbl, na fyddem ni wedi gallu dod trwy'r pandemig yn y modd yr ydym ni wedi ei wneud heb weithwyr llywodraeth leol, ac rwyf i'n hynod ddiolchgar iddyn nhw. Fodd bynnag, nid ydym yn cael ein hariannu i ddarparu'r setliad hwnnw, ac mae'n warthus nad ydym ni'n cael ein hariannu i ddarparu'r setliad y byddem ni wedi hoffi ei ddarparu, oherwydd wrth gwrs ni fyddwn yn cael swm canlyniadol o'r setliad cyflog yn Lloegr, gan nad ydyn nhw'n mynd i wneud hynny. Mae'n waradwyddus, a dweud y gwir.

O ran y sylwadau ynghylch digonolrwydd y setliad, mae'r Llywodraeth yn cydnabod y blaenoriaethau a'r pwysau yr ydym ni a llywodraeth leol yn eu hwynebu trwy'r setliad a'r cyllid ehangach sydd ar gael i lywodraeth leol. Fel y nodir yng nghyllideb Cymru gan fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Rebecca Evans, y Gweinidog cyllid, ein blaenoriaethau cyllid o hyd yw gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol. Mae'r setliad ariannol hwn yn welliant parhaus sylweddol mewn cyllid ar gyfer llywodraeth leol ac mae'n cyflawni o ran yr flaenoriaeth honno.

I fyfyrio ar yr hyn a ddywedodd Mike Hedges, mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf, ac rydym yn gwybod mai trwy ein cynghorau lleol y gellir cyflawni hynny'n bennaf. Fel y dywedodd ef, mae'r amrywiaeth o bethau y gall awdurdodau lleol eu cyflawni ledled Cymru, oherwydd y setliad rhagorol hwn, yn rhywbeth a fydd er lles bob un ohonom. Wrth gwrs, byddem ni wedi hoffi gwneud setliad tymor hwy, ond wrth gwrs nid ydym ni ein hunain yn cael y setliad tymor hwy hwnnw, ac felly ni allwn drosglwyddo ymlaen i'r awdurdodau yr hyn nad ydym ni'n ei gael ein hunain. Rydym ni wedi cael y drafodaeth honno lawer gwaith gyda llywodraeth leol ac rwy'n gwybod eu bod wedi gwneud y pwynt hwnnw yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol eu hunain fod hyn yn rhywbeth y mae bob un ohonom ei angen, a dywedodd y Gweinidog cyllid yn gynharach y byddai'n well o lawer pe byddai gennym ni setliad aml-flwyddyn fel y gallem i gyd gynllunio ar gyfer y dyfodol mewn modd llawer mwy myfyriol.

Fe wnaeth Delyth bwyntiau da iawn hefyd ynghylch y pandemig parhaus a'i effaith eang ac anghymesur ar drigolion difreintiedig ledled Cymru. Ond rwy'n falch o allu dweud, Delyth, fod y gronfa galedi wedi ymdrin yn llwyr â'r meysydd y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, a hynny'n briodol, fel meysydd sy'n peri pryder. Felly, rydym ni wedi gallu rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd o feysydd parcio a lleoliadau eraill ledled Cymru, ac rydym ni hefyd wedi gallu rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd nad yw cartrefi gofal wedi ei gael, ac rydym hefyd wedi rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd ar gyfer y dreth gyngor ac ar gyfer ardrethi annomestig. Felly, nid yw awdurdodau lleol mewn sefyllfa lle mae'r pandemig wedi eu hatal rhag gallu gwneud pethau y bydden nhw wedi gallu eu gwneud fel arall.

Ni ofynnwyd i mi yn y ddadl hon—ond gofynnwyd i mi mewn mannau arall, ac felly byddaf yn myfyrio arno—pam ydym ni'n defnyddio 'cyllid COVID' i ganiatáu i awdurdodau wneud pethau fel, er enghraifft, trwsio tyllau yn y ffyrdd. A'r ateb i hynny yw oherwydd ei fod yn rhoi incwm yn lle'r hyn y bydden nhw wedi ei ddefnyddio fel arall i drwsio'r tyllau yn y ffyrdd. Dyna bwrpas y peth. Nid at ddibenion iechyd y cyhoedd yn unig y mae hyn, mae er mwyn rhoi incwm yn lle'r incwm a gollwyd a chyfleoedd a gollwyd. Felly, rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod ni wedi gwneud hynny mewn modd parhaus, ac, unwaith eto, mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wedi gallu dweud y byddwn ni'n gallu gwneud hynny wrth symud ymlaen am o leiaf y chwe mis nesaf yn rhan o'r ymateb i COVID, ac mae awdurdodau lleol wedi bod yn falch iawn o fod wedi cael y cadarnhad hwnnw o'u hymdrechion parhaus.

Felly, byddwn ni'n gallu parhau i gynnal hawliau llawn o dan ein cynllun gostyngiadau i'r dreth gyngor ar gyfer 2021-22, ac unwaith eto rydym ni'n darparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn, a hynny oherwydd, fel yr ydym wedi ei ddweud, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i amddiffyn aelwydydd incwm isel ac sy'n agored i niwed, er gwaethaf y diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl iddi ddiddymu budd-dal y dreth gyngor. Hoffwn i dynnu sylw Laura Jones at y ffaith nad yw'r budd-dal hwn i'r dreth gyngor yn bodoli yn Lloegr. Efallai ei bod hi wedi anghofio hynny. Rydym ni yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag effaith anghymesur y dreth gyngor, ac nid yw hynny'n wir yn Lloegr.

Mae'r setliad heddiw yn parhau i ddarparu cyllid cyfalaf heb ei neilltuo i awdurdodau lleol i gyflawni eu blaenoriaethau eu hunain ac i fuddsoddi gyda Llywodraeth Cymru yn ein blaenoriaethau cyffredin. Mae'n parhau â'r £35 miliwn ychwanegol y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb ar gyfer 2021, ac £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus, a all gynnwys cymorth ar gyfer seilwaith teithio llesol. Cyhoeddodd y gyllideb heddiw raglen ysgogi cyfalaf o dros £224 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £147 miliwn ychwanegol i gynyddu rhaglenni tai, a £30 miliwn ychwanegol i gyflymu'r rhaglen uchelgeisiol ar gyfer ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r buddsoddiad cyfalaf hwn yn helpu i gefnogi twf economaidd, swyddi cynaliadwy a chyfleoedd hyfforddi ym mhob rhan o Gymru, yn ogystal â buddion y strwythurau cyfalaf eu hunain.

Mae llawer ohonoch heddiw wedi pledio achos eich awdurdod lleol eich hun, wrth gwrs. Mae'r fformiwla yn arwain at enillwyr a chollwyr cymharol, ond gwelodd pob awdurdod gynnydd mewn cyllid ar sail tebyg am debyg eleni, ac mae pob awdurdod yn gweld cynnydd y flwyddyn nesaf. Ni ddylai unrhyw awdurdod fod mewn sefyllfa lle mae o dan anfantais, gan mai'r tybiaethau cynllunio y gwnaethom eu rhoi iddyn nhw yw'r hyn a gawsant, o leiaf. Mae'r fformiwla ddosbarthu yn fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rydym yn cytuno ar bob newid drwy weithgorau sefydledig. Mae'r fformiwla yn parhau i ddefnyddio'r data diweddaraf a mwyaf priodol, ac mae rhaglen waith barhaus i'w mireinio ac i archwilio datblygiad yn y dyfodol. Mae llywodraeth leol yn cynnig newidiadau i'r fformiwla ddosbarthu neu elfennau ohoni trwy'r trefniadau llywodraethu ar y cyd sefydledig sydd gennym ni ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod ni yma yng Nghymru yn gwbl ffyddiog ein bod yn darparu dosbarthiad teg a gwrthrychol o'r cyllid sydd ar gael, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr o flaen eich llygaid. Hoffwn i sicrhau pob rhan o Gymru nad oes unrhyw ragfarn nac annhegwch bwriadol yn ein fformiwla, ac mae awgrymu hynny yn gwbl annheg i'r rhai hynny sy'n ymwneud mewn modd mor gadarnhaol â'r gwaith o'i chyflawni, ac mae hynny ar draws yr holl awdurdodau lleol a'r arbenigwyr hefyd sy'n aelodau o'n his-grŵp dosbarthu.

Fel y dywedais i, mae unrhyw fformiwla, wrth gwrs, yn golygu bod enillwyr a chollwyr. Os yw llywodraeth leol gyda'i gilydd yn dymuno adolygu'r fformiwla mewn modd mwy manwl, rwy'n agored i wneud hynny. Rwyf yn dweud hynny yn ddiddiwedd ar lawr y Senedd hon, Dirprwy Lywydd. Fe'i dywedaf eto. Ond dylem ni fod yn ymwybodol o ba mor hir y mae'r adolygiad ariannu teg wedi ei gymryd yn Lloegr i lunio cysyniad tebyg i'r hyn a oedd gennym ni eisoes yng Nghymru, ond heb yr un lefel o gyllid ar gyfer cynghorau yn Lloegr ag yr ydym ni'n ei darparu yma yng Nghymru. Ond nid oes unrhyw system na ellir ei newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu a chyhoeddi nifer o bapurau ymchwil ar ddiwygio'r dreth leol yn rhan o raglen waith helaeth ar ddewisiadau ar gyfer cyllid posibl i lywodraeth leol a diwygio'r dreth leol. Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil hwn yn llywio datblygiad y system cyllid llywodraeth leol yn ystod y tymor Senedd nesaf, pwy bynnag fydd mewn grym.

Rwy'n fwy na bodlon i gymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd; rwy'n falch ohono. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus ac yn parhau i gefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni dros bobl Cymru. Rwy'n dal i fod yn ddiolchgar i lywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i fy nhîm fy hun o swyddogion sydd wedi gweithio mor galed i gyflwyno'r setliad hwn i ni. Cymeradwyaf y cynnig, Dirprwy Lywydd.

18:00

Diolch yn fawr iawn. A'r cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ai gwrthwynebiad yw hynny gan—? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Nid oeddwn i'n gwybod a oeddech chi'n fflicio'ch pen ai peidio bryd hynny. Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn pleidleisio ar hyn yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

15. Dadl: Setliad yr Heddlu 2021-22

Symudwn yn awr at y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sydd ar setliad yr heddlu yn 2021-22. Unwaith eto, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7612 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2021-2022 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w cymeradwyo, fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, neu'r Comisiynwyr, yng Nghymru ar gyfer 2021-22. Cyn i mi wneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn i dalu teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein heddluoedd wedi gorfod ymdrin â heriau digynsail o ganlyniad i'r pandemig. Maen nhw wedi rhoi eu hunain ar y rheng flaen wrth orfodi cyfyngiadau cenedlaethol, gan beryglu eu hiechyd a'u lles eu hunain a'u teuluoedd. Nid y pandemig, wrth gwrs, yw'r unig ddigwyddiad brys y mae'r heddlu wedi helpu i ymdrin ag ef yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â chadw ein cymunedau yn ddiogel, mae'r rhai sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd ledled Cymru hefyd yn cynnal y safonau uchaf o ran dyletswydd, ymroddiad ac, ar adegau, dewrder. Yn arbennig o ystyried y digwyddiadau diweddar, hoffwn i gofnodi fy niolch i holl wasanaethau brys Cymru am eu cydnerthedd, ac rwy'n siŵr y bydd y sylwadau hyn yn cael eu hatseinio ar draws y Siambr hon.

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd heddluoedd Cymru a'u swyddogaeth hanfodol wrth ddiogelu a gwasanaethu ein cymunedau yma yng Nghymru. Mae gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru yn enghraifft gadarnhaol o sut y gall gwasanaethau datganoledig a gwasanaethau nad ydyn nhw wedi eu datganoli gydweithio yn effeithiol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu trwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, mae'r darlun cyffredinol o gyllid yn cael ei bennu a'i lywio gan y Swyddfa Gartref. Felly, mae'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru wedi'i seilio ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.

Hoffwn i ddiolch i'r Comisiynwyr unwaith eto am eu hamynedd eleni. Oherwydd yr oedi yn yr adolygiad o wariant Llywodraeth y DU, ni chafodd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi tan 2 Mawrth. Unwaith eto, mae hyn wedi golygu bod Comisiynwyr wedi gorfod gosod eu praeseptau cyn i setliad yr heddlu fynd trwy'r Senedd. Fel yr amlinellwyd yn y cyhoeddiad o setliad terfynol yr heddlu ar 4 Chwefror, cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2021-22 yw £408 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn trwy'r grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu yw £143.4 miliwn, a dyma'r cyllid y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda dull llawr. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2021-22, y bydd yr holl Gomisiynwyr ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd o 6.3 y cant mewn cyllid o'i gymharu â 2020-21. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth cyfanswm o £23.1 miliwn i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent yn cyrraedd lefel y llawr. O ran cyllid craidd, setliad arian gwastad yw hwn.

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud mai diben y cynnydd o 6.3 y cant yw darparu cyllid i recriwtio 6,000 o swyddogion heddlu ychwanegol, wedi'i rannu ymhlith y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gryfhau'r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth ledled y wlad. Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl ledled Cymru ystyried gyrfa yn yr heddluoedd. Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i darged o 20,000 o swyddogion newydd erbyn diwedd 2022-23. Fodd bynnag, ni ddylid cyrraedd y targed hwn ar draul gwasanaethau craidd yr heddlu. Fel yn 2020-21, bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu grant penodol i'r Comisiynwyr yn 2021-22 i ariannu'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth y DU i'r cyfraddau cyfraniadau pensiwn. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadw gwerth y grant ar £143 miliwn yn 2021-22, ac mae £7.3 miliwn o hyn wedi ei ddyrannu i Gomisiynwyr yng Nghymru.

Mae gan Gomisiynwyr hefyd y gallu i godi arian ychwanegol trwy eu praesept treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod terfyn uchaf y praesept ar gyfer Comisiynwyr yn Lloegr yn £15 yn 2021-22, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi £288 miliwn yn ychwanegol. Yn wahanol i'r terfynau sy'n berthnasol yn Lloegr, mae gan Gomisiynwyr Cymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch codiadau yn y dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol.

Rydym yn sylweddoli bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod pan mai cyllideb un flwyddyn yn unig sydd gennym. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiynwyr a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod heriau cyllid yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru, yn ei chyllideb ar gyfer 2021-22, wedi parhau i ariannu'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol a recriwtiwyd o dan ymrwymiad blaenorol y rhaglen Lywodraethu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal yr un lefel o gyllid ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn ag yn 2020-21, gyda'r £18.6 miliwn y cytunwyd arno yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn amodol, wrth gwrs, ar y bleidlais y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd. Un o'r prif sbardunau y tu ôl i'r prosiect hwn oedd ychwanegu at bresenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar gyllid yr heddlu. Mae nifer llawn y swyddogion wedi eu defnyddio ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Byddan nhw'n parhau i weithio gyda chymunedau a phartneriaid lleol i wella canlyniadau i'r rhai y mae troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt.

Gan ddychwelyd at ddiben y ddadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu sydd wedi ei osod gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.

18:05

Hoffwn i, wrth gwrs, Gweinidog, ymuno â chi wrth ganmol gwaith yr heddluoedd yn ei gyfanrwydd, a'r gwasanaethau brys hefyd, yn enwedig yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, rwyf i yn credu y gallai fod wedi bod yn bosibl eu diogelu yn well ar y rheng flaen.

Cyfanswm y cymorth canolog i heddluoedd yng Nghymru yn 2021-22 fydd £408.2 miliwn. Mae hwn yn gynnydd o ryw £24 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. O ganlyniad i'r cynnydd yn y cymorth ariannol gan Lywodraeth Geidwadol y DU, bydd heddluoedd yng Nghymru yn cael cynnydd o 6.3 y cant i'r cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Daw hyn ar ben cynnydd o 7.5 y cant i gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Bydd hyn yn helpu heddluoedd i fynd i'r afael â throseddu a darparu strydoedd mwy diogel, gan alluogi cymunedau Cymru i ailadeiladu yn fwy diogel.

Fodd bynnag, mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i setliad yr heddlu wedi aros yr un fath. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfanswm o £143.4 miliwn, sef yr un lefel o gyllid ag yn 2019-20 a 2020-21. Mewn gwirionedd, mae cymorth Llywodraeth Cymru i setliad yr heddlu wedi cynyddu gan £4.7 miliwn yn unig rhwng 2017-18 a 2021-22. O'i gymharu â hyn, mae cymorth Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cynyddu gan £53.6 miliwn rhwng 2017-18 a 2021-22, sy'n golygu bod cyfanswm y cymorth canolog i heddluoedd Cymru wedi cynyddu gan fwy nag 16 y cant ers 2017. Mae hyn yn gynnydd o 5.7 y cant o'i gymharu â 2020-21, sy'n sylweddol uwch na chyfradd chwyddiant. Mae hyn yn golygu y bydd heddluoedd Cymru yn rhannu cyfanswm cyllid adnoddau o dros £780 miliwn, gan dynnu sylw at fuddion bod yn rhan o'r undeb trwy sicrhau bod gan heddluoedd yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gadw Cymru yn ddiogel.

Mae comisiynwyr heddlu a throseddu Llafur Cymru a Plaid wedi cynyddu praesept yr heddlu, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, bron i draean ers etholiadau diwethaf y Comisiynwyr, gan dynnu hyd yn oed mwy o arian o bocedi'r bobl. Er gwaethaf cwyno ynghylch diffyg cyllid, mae Comisiynwyr Cymru wedi gwario mwy nag £8 miliwn ar gysylltiadau cyhoeddus a chostau staffio rhwng 2016 a 2020. Byddai Comisiynwyr Ceidwadol Cymru yn mynd i'r afael â'r gwastraff anfaddeuol hwn o arian cyhoeddus ac yn hytrach yn canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau'r bobl—rhoi mwy o swyddogion yr heddlu ar ein strydoedd, mynd i'r afael â throseddu a chreu strydoedd mwy diogel. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 309 o swyddogion yr heddlu ychwanegol wedi eu recriwtio hyd yma yng Nghymru o dan strategaeth recriwtio Llywodraeth y DU. Yn y cyfamser, mae'r DU wedi cyhoeddi y bydd 283 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yn cael eu recriwtio yng Nghymru o dan flwyddyn 2 rhaglen ymgodiadau'r heddlu yn 2021-22.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Hefyd, bydd Cymru yn elwa ar swyddogion heddlu arbenigol ychwanegol, gan sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth a throseddu cyfundrefnol. Mae ystadegau diweddar yn dangos, er gwaethaf pandemig COVID-19, fod troseddu yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng gan 6 y cant yn y 12 mis hyd at fis Medi 2020, gan dynnu sylw at y ffaith fod buddsoddiad Llywodraeth y DU yn ein heddlu yn cyflawni canlyniadau.

Wrth i'r Ceidwadwyr gefnogi'r heddlu a darparu strydoedd mwy diogel, mae gan Lafur Cymru a Plaid Cymru obsesiwn ynghylch datganoli cyfiawnder, cyfreithloni cyffuriau a phleidleisiau i droseddwyr a gollfarnwyd. Argymhellodd adroddiad Comisiwn Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylid datganoli cyfiawnder yn llawn i Lywodraeth Cymru, ac eto mae hyn yn methu â chydnabod natur drawsffiniol gweithgaredd troseddol a phwysigrwydd cydweithio i fynd i'r afael â throseddu. Gall unrhyw ddatganoli cyfiawnder troseddol lesteirio cydweithio rhwng heddluoedd yng Nghymru a mannau eraill yn y DU. Llywydd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn cyflawni blaenoriaethau pobl Cymru trwy sicrhau bod mwy o swyddogion yr heddlu ar ein strydoedd, yn ogystal â phwysleisio ei hymrwymiad i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar ein heddluoedd. Diolch yn fawr.

18:10

Fel pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae'r gwasanaeth heddlu wedi bod yn destun cyni ers cwymp bancio 2008, ac mae pob gwasanaeth heddlu yn y wlad hon wedi gweld ei gyswllt rheng flaen â'r cyhoedd yn lleihau wrth i orsafoedd heddlu gau a chanolfannau heddlu gael eu sefydlu ymhellach i ffwrdd o'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae pawb yr wyf i wedi siarad â nhw sy'n gweithio yn y gwasanaeth heddlu yn dymuno cael mwy o adnoddau. Erbyn hyn mae materion penodol yn ymwneud â COVID sydd wedi gosod gofynion eraill, gofynion ychwanegol, ar amser ac adnoddau yr heddlu. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ychwanegu fy niolch i bawb sydd wedi gweithio ar reng flaen y gwasanaeth heddlu a'r holl weithwyr allweddol eraill, sydd wedi gweld eu bywydau gwaith yn newid yn gyfan gwbl o'i gymharu â'r hyn yr oedden nhw'n gyfarwydd ag ef o ganlyniad i'r argyfwng COVID hwn. Mae'n bwysig i roi ar y cofnod bod pob un ohonom ni yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr iawn.

Mae COVID yn golygu bod mwy o gyfreithiau i'w gorfodi bellach, ac er y gallai rhywfaint o ystyriaeth fod wedi ei rhoi i hynny mewn termau ariannol, mae'r ffaith yn parhau bod blynyddoedd o doriadau un ar ôl y llall yn y gyllideb wedi cyflwyno heriau i'r heddlu yn ystod COVID, yn union fel y mae pob gwasanaeth cyhoeddus arall wedi wynebu heriau o ganlyniad i COVID. Ac, wrth gwrs, mae toriadau i wasanaethau cyhoeddus eraill yn effeithio ar yr heddlu hefyd. Mwy o bobl ddigartref, mwy o waith i'r heddlu. Mae toriadau i wasanaethau iechyd meddwl yn golygu bod yn rhaid i'r heddlu ymdrin â mwy o bobl â phroblemau iechyd meddwl, pryd y byddai wedi bod yn bosibl iddyn nhw gael gafael ar y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw yn llawer rhwyddach flynyddoedd lawer yn ôl.

Nawr, gwn fod gan ymgeiswyr comisiynydd heddlu a throseddu Plaid Cymru syniadau gwych ynglŷn â'r hyn y gellid ei wneud yn y swyddogaeth honno. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddau gomisiynydd heddlu a throseddu sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn y swyddogaeth honno. Ond, wrth gwrs, bydd eu holl uchelgeisiau wedi'u cyfyngu, o leiaf i ryw raddau, gan gyllidebau. Nid yw'n gyfrinach bod Plaid Cymru yn dymuno gweld yr heddlu—y system cyfiawnder troseddol gyfan mewn gwirionedd—yn cael ei datganoli. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i rai o'r gwasanaethau cyhoeddus gael eu datganoli ond nid yr heddlu. Rydym ni'n dymuno gallu trin sylweddau fel mater iechyd ac nid fel mater troseddol, pan fo hynny'n berthnasol, ond ni allwn wneud hynny heb gyfrifoldeb dros heddlu a throseddu. Sut gallwn ni fynd i'r afael yn briodol â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod pan fo iechyd ac addysg wedi eu datganoli ond nid plismona a chyfiawnder troseddol? Mae'r Alban yn dangos i ni sut y gallwch chi, gyda heddlu datganoledig, fod ag ymagwedd systemau cyfan, gan ganolbwyntio yn fwy ar atal troseddu, ymyrraeth gynnar, cymorth amlddisgyblaethol i ddargyfeirio pobl i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol pan mai dyna'r peth iawn i'w wneud—rhywbeth y dylem ninnau allu ei wneud, yn enwedig pan fo problem yr unigolyn yn fwy o broblem iechyd na phroblem droseddol.

Cyn bo hir bydd Plaid Cymru yn amlinellu ein cynlluniau cyn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i wneud cyllid yr heddlu yng Nghymru yn decach. Mae cymaint mwy y gallem ni ei wneud i fynd i'r afael ag ofn trosedd, i fod yn fwy gweladwy mewn cymunedau, i leihau troseddu ac aildroseddu, i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, i gefnogi dioddefwyr a mynd i'r afael â throseddau casineb. Ond, er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen buddsoddiad teilwng yn yr heddlu. Mae'r Llywodraeth yn gwybod bod y setliad hwn yn annigonol, ac mae'n gwybod nad yw'r hyn sydd ger ein bron heddiw yn ddigon. 

Rwy'n cytuno i raddau helaeth iawn â siaradwyr eraill yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae gan bob un ohonom ni ddyled fawr iawn i swyddogion heddlu ac i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen yn y gwasanaethau brys, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf gyda phwysau ychwanegol COVID a'r pwysau ychwanegol y maen nhw wedi gorfod eu hwynebu. Ac wrth dalu teyrnged iddyn nhw, ni ddylem ni geisio esgus nad ydyn nhw'n dioddef y pwysau sydd arnyn nhw, ac ni ddylem ni geisio esgus eu bod wedi cael y cyllid a'r adnoddau y maen nhw'n eu haeddu ac sydd eu hangen arnyn nhw.

Pe bawn i'n llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yn y ddadl hon, mae'n debyg y byddwn i'n gwneud yr hyn a wnaeth Laura Jones, mewn gwirionedd, sef dewis blwyddyn—rwy'n credu iddi ddewis 2017—pan oedd cyllid ar ei isaf, ac yna dangos bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi bod yn hael drwy roi rhywfaint o'r cyllid yr oedden nhw eu hunain eisoes wedi ei dorri o'r gyllideb yn ôl. Pe bai hi wedi bod yn gwbl onest yn ei hymagwedd, byddai hi wedi mynd yn ôl i 2013, oherwydd dyna'r pellaf yn ôl y gallwn ni fynd o dan y cymariaethau presennol, a byddai hi wedi edrych ar y cyllid a oedd ar gael i heddluoedd gan y Swyddfa Gartref yn 2013 a 2014. Rwyf i wedi gwneud hynny; yr oedd yn £240 miliwn, sy'n ffigur rhyfedd, oherwydd yr un ffigur hwnnw sydd yn y gyllideb gan y Swyddfa Gartref heddiw. Rydym ni wedi cael wyth mlynedd o gyllid sydd wedi ei dorri gan y Swyddfa Gartref a'i roi yn ôl yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf, felly mae cyllid y Swyddfa Gartref i heddluoedd Cymru heddiw yn union yr un fath mewn termau arian parod ag yr oedd yn ôl yn 2013 a 2014, ac mae ceisio esgus bod hynny mewn rhyw ffordd yn hael neu fod y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU mewn rhyw ffyrdd yn cynyddu cyllid i'r heddlu yn hynod o ffuantus ac, mewn gwirionedd, yn anonest; nid yw'n dweud y gwir ynghylch cyllid yr heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ond mae gwireb arall yno hefyd, a hynny yw bod y Swyddfa Gartref wedi newid trwy ei thoriadau ei hun a thrwy strategaeth ehangach. O ran cydbwysedd y cyllid ar gyfer yr heddlu yn ôl yn 2013 neu 2014, roedd praesept y dreth gyngor fel rhan o gyllid cyffredinol yr heddlu yn ffurfio tua 37 y cant o gyfanswm y gyllideb a oedd ar gael i heddluoedd. Heddiw, 47 y cant yw'r ffigur hwnnw. Mae bron i hanner cyllid yr heddlu yng Nghymru heddiw yn cael ei godi yng Nghymru. Nid yw'n cael ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref. Ac wrth gwrs, mae'r praesept cyfartalog wedi cynyddu o £198 yn 2013-14 i £274 heddiw. Ac mae hynny i ddisodli'r toriadau sydd wedi eu gwneud gan y Swyddfa Gartref i gyllid yr heddlu. Felly, gadewch i ni fod yn onest ynghylch y ddadl hon, a gadewch i ni fod yn onest ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny'n drasiedi i swyddogion heddlu unigol, mae'n drasiedi i'r gwasanaeth heddlu, ac mae'n drasiedi i'r cymunedau y mae angen yr heddlu arnyn nhw i'n cadw ni'n ddiogel. Mae angen i ni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny.

Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn yr oedd gan Leanne Wood i'w ddweud yn y ddadl hon, oherwydd nid yw'r mater ynghylch cymorth a strwythur plismona yn ymwneud â dosbarthiad troseddu yn unig; pe bai hynny'n wir, ni fyddai Llywodraeth y DU erioed wedi tynnu'r DU allan o system gyfiawnder yr UE, sef y peth mwyaf dinistriol sydd wedi ei wneud yn ystod y degawdau diwethaf, mae'n debyg, o ran mynd i'r afael â throseddu a dal troseddwyr, a dweud y gwir. Bydd mwy o bobl yn osgoi cyfiawnder heddiw oherwydd yr un penderfyniad hwnnw nag yr ydym ni wedi eu cael ar unrhyw adeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ond mae angen i ni fynd ymhellach a gwneud mwy na hynny. Pe bai gennym ni system gyfiawnder a oedd yn addas i'w diben yng Nghymru, byddai gennym ni system gyfiawnder a fyddai'n ymdrin â materion y menywod ynddi. Nid ydym ni'n gwneud hynny. Ers canrifoedd, mae ein cyfiawnder troseddol wedi ei reoli gan San Steffan heb hidio dim am fuddiannau pobl Cymru. Nid oes un ganolfan ar gyfer menywod wedi'i sefydlu drwy gydol yr holl ddegawdau a chanrifoedd hynny o reolaeth ganolog, ac mae hynny'n drasiedi. Rydym ni'n gwybod hefyd, hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl, nad oedd unrhyw gyfleuster diogel yn y gogledd, ac yna crëwyd uwchgarchar yn Wrecsam nad yw'n diwallu anghenion y gogledd, ond sydd yn diwallu anghenion y system gyfiawnder yn Lloegr i raddau helaeth.

Felly, nid oes gennym ni system cyfiawnder troseddol sy'n addas i'w diben. Nid oes gennym ni system cyfiawnder troseddol sy'n cael ei hariannu'n briodol. Dangosodd y ddadl a gawsom yn y ddadl ar y gyllideb yn glir iawn y bydd gennym ni Weinyddiaeth Gyfiawnder a fydd yn gweld toriadau pellach yn y pump neu chwe blynedd nesaf a bydd hynny'n arwain at fwy byth o bwysau ar yr heddlu a hyd yn oed mwy o bwysau ar y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n credu nad geiriau cynnes a chydymdeimlad ac, a dweud y gwir, lefel o anonestrwydd, y mae'r heddlu yn ei ddymuno gan y Senedd hon; yr hyn y mae'n ei ddymuno yw cyllid ac adnoddau a'r gallu i gael ei strwythuro, ei lywodraethu'n briodol ymysg gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru, a bod yn atebol i'r cymunedau y maen nhw'n eu plismona, a'r gallu i wneud y gwaith.

18:20

Dwi nawr yn galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Julie James.

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw.

Unwaith eto, beth i'w ddweud wrth Laura Jones? Nid wyf i'n gwybod ai peidio â deall neu fod yn ffuantus y mae hi, fel y mae Alun yn ei ddweud. Ond i ailadrodd unwaith eto, mae'r cyllid sydd wedi ei ddarparu trwy Lywodraeth Cymru yn cyfrif am 35 y cant o'r cyllid grant refeniw craidd ar gyfer plismona yng Nghymru. Wrth gynnwys y dreth gyngor, mae 65 y cant o'r cyllid cyffredinol ar gyfer plismona yng Nghymru yn cael ei weinyddu yn y fan yma. Yn amlwg, byddai angen i unrhyw ddatganoli plismona sy'n digwydd ddod gyda'r cyllid priodol. Rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood ac Alun Davies ynglŷn â phwysigrwydd cael rheolaeth dros hynny er mwyn gwneud yr holl bethau y mae'r ddau ohonyn nhw wedi eu nodi, ac yr wyf i'n cytuno yn llwyr â nhw, a'n gallu i ariannu'r strategaethau hynny, o bosibl.

Mae Laura Anne Jones, rwy'n siŵr, yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo'r swm y cytunwyd arno ac a drosglwyddir i Lywodraeth Cymru o Drysorlys Ei Mawrhydi a'r Swyddfa Gartref. Nid yw plismona wedi ei ddatganoli, fel y mae hi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, ac yn amlwg nid yw'n briodol lleihau'r cyllid ar gyfer cyfrifoldebau datganoledig er mwyn ei gynyddu ar gyfer cyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Rwy'n credu bod hynny yn amlwg ynddo'i hun. Felly, fel y dywedais i, roedd hi naill ai yn bod yn ffuantus neu mae hi wedi camddeall y diben yn sylfaenol. Rwyf i'n amau yn gryf, fel y dywedodd Alun Davies, mai dim ond ceisio gwneud pwynt gwleidyddol yn wael iawn yr oedd hi.

Hoffwn i ailadrodd unwaith eto fod diogelwch cymunedol yn amlwg yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, er ei bod yn ymddangos bod y setliad hwn yn un da ar y wyneb, fel y nododd Alun a Leanne, mewn gwirionedd mae'n arian parod digyfnewid o ran cyllid craidd, ac felly nid yw'n setliad da o gwbl mewn gwirionedd. Nid yw ond yn adfer yr heddlu i'r lle yr oedden nhw gynt.

Rwy'n gwybod bod rhai comisiynwyr heddlu a throsedd wedi mynegi pryder, er bod cyllid ychwanegol wedi ei ddarparu ar gyfer swyddogion newydd, fod cyllid annigonol o hyd ar gyfer y cyflenwadau presennol. Fodd bynnag, mae hwn yn fater, yn anffodus, i'r Swyddfa Gartref, gan nad yw wedi ei ddatganoli i ni, ac nid oes dim y gallwn ni ei wneud er mwyn gwneud yn iawn am hynny. Fodd bynnag, rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau hyn yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth, fel erioed, i nodi a datblygu cyfleoedd yn bwysig iawn, fel y mae defnydd llwyddiannus ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol yn ei ddangos, sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i bresenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel ag erioed.

Ar y sail honno, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi yn gweld gwrthwynebiad—[Torri ar draws.]

Do, fe wnes i weld. Diolch.

Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

16. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Rŷn ni nawr yn cyrraedd y ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i gyflwyno'r eitem yma—Kirsty Williams.

Cynnig NDM7627 Kirsty Williams

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol.

Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal ag Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at graffu ar y Bil hanesyddol hwn. Diolch hefyd i staff y Comisiwn am eu gwaith cydwybodol a diwyd, yn ogystal â chyngor hael ac ymdrechion rhagorol fy swyddogion i ac eraill ledled y Llywodraeth. Maen nhw wedi mynd y tu hwnt i gynnal eu gobaith nhw, a fy ngobaith i, wrth ddarparu ar ran disgyblion, rhieni, athrawon a'n system addysg gyfan yn ystod y misoedd heriol hyn.

Yn ysbryd yr hyn yr wyf i wedi ei alw 'ein cenhadaeth genedlaethol' yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rwyf i hefyd yn ddiolchgar i bawb ledled y wlad sydd wedi helpu i lunio'r Bil a'r canllawiau cysylltiedig. Nid y daith hawsaf yw hi pan fydd Llywodraethau yn mynd ar drywydd diwygio radical ac yn gwneud hynny drwy gyd-ddatblygu, cydweithredu ac ymdrech ar y cyd. Efallai—yn wir, mae'n debyg y byddai—wedi bod yn symlach drafftio cynlluniau ym Mharc Cathays mewn swyddfa gefn a chyflwyno cynnig 'hwn neu ddim amdani'. Ond mae ein hymdrechion cyfunol gydag athrawon, academyddion, rhieni, a llawer o sefydliadau yma a thramor yn werth cymaint mwy oherwydd yr ysbryd 'cenhadaeth genedlaethol' hwnnw.

Llywydd, fel y gwyddoch chi, rwy'n fyfyriwr hanes America, a dywedodd John F. Kennedy, yn ystod cyfnod heriol o'i lywyddiaeth:

Mae ein hyder ysbrydol dwfn y bydd y genedl hon yn goroesi peryglon heddiw—a allai yn wir fod gyda ni am ddegawdau i ddod—yn ein gorfodi ni i fuddsoddi yn nyfodol ein cenedl, i ystyried a bodloni ein rhwymedigaethau i'n plant a'r cenedlaethau di-rif a fydd yn dilyn.

Llywydd, mae hi wedi bod yn flwyddyn yn llawn peryglon, ond rydym ni wedi parhau â'n pwyslais a'n hymrwymiad i fuddsoddi yn nyfodol Cymru a bodloni ein rhwymedigaethau fel Llywodraeth ac fel Senedd. Mae hi wedi cymryd llawer iawn o amser ac ymdrech i gyrraedd y pwynt hwn. Efallai ei fod wedi cymryd sawl blwyddyn, ond erbyn hyn mae gennym ni'r Fil hanesyddol ac arloesol hwn, wedi ei greu yng Nghymru ar gyfer Cymru, a fydd yn diwygio ac yn cyflawni diben a gweledigaeth y cwricwlwm yn effeithiol. Rwy'n falch iawn o fod yn Weinidog i fod wedi cyrraedd y pwynt hwn, ond, yn yr un modd, rwyf i'n seneddwr balch. Rwyf i wedi ceisio ystyried hynt y Bil hwn trwy'r Senedd nid yn unig o safbwynt Llywodraeth, ond trwy fy llygaid fel Aelod ers tro o'r ochr arall. Rwy'n gobeithio bod cyd-Aelodau wedi gwerthfawrogi'r tensiwn creadigol, yr ystyriaeth o'r syniadau mawr ac, ie, y cyfaddawdau ar hyd y ffordd, oherwydd fy mod i yn sicr wedi gwneud.

Yn benodol, mae'r her adeiladol sydd wedi ei gynnig gan y pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg, wedi rhoi darn gwell a mwy beiddgar o ddeddfwriaeth i ni. Mae pob Aelod a phob plaid wedi cyfrannu, ac mae ein hymdrechion ar y cyd a'n diben cyffredin wedi dangos y Senedd hon ar ei gorau. Efallai na fyddai wedi bod yn bosibl, yr her a'r cydweithredu gwirioneddol hynny, heb egni a phenderfyniad Cadeirydd y pwyllgor. Lynne, mae'r ddau ohonom ni'n Aelodau o ddosbarth 1999 ac efallai fy mod i'n graddio eleni, ond rwyf i'n credu'n gryf bod gennych chi lawer mwy i'w gyfrannu at ddiwygio addysg ac, yn benodol, hyrwyddo iechyd meddwl da a chefnogi lles i bawb.

Un o egwyddorion craidd y Bil yw lleihau rhagnodi yn y cwricwlwm, a rhoi'r rhyddid i'n hathrawon ni a'n hymarferwyr addysg eraill wneud penderfyniadau ynghylch dysgu ac addysgu sy'n briodol i'w dysgwyr, ond o fewn fframwaith cenedlaethol. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn canolbwyntio ar alluogi plant a phobl ifanc i gyflawni'r dyheadau sydd wedi eu nodi yn ein pedwar diben. Bydd y Bil yn cefnogi hyn trwy ddarparu fframwaith ar gyfer cwricwlwm eang a chytbwys, yn seiliedig ar hyrwyddo hawliau plant a rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl dysgwyr o ran gweithredu. Agwedd allweddol arall yw cefnogi gwell dysgu ac addysgu'r Gymraeg, ac, yn wir, ieithoedd eraill, ym mhob ysgol a lleoliad.

Llywydd, wrth gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol yn ystod y blynyddoedd hyn, rwyf i'n aml wedi cyfeirio at yr addysgwr blaengar arbennig o Gymru, Elizabeth Phillips Hughes. Hi oedd yr unig fenyw ar y pwyllgor a ddrafftiodd siarter wreiddiol Prifysgol Cymru, a hi oedd pennaeth cyntaf coleg athrawon i fenywod Caergrawnt. Mewn pamffled o 1884 yn dadlau dros addysg ar y cyd a hyrwyddo addysg menywod, a phwysigrwydd dimensiwn Cymreig yn ein system addysg, dywedodd fod yn rhaid i addysg fod yn genedlaethol ac mae'n rhaid iddi fod yn ein dwylo ni. Mae heddiw yn ddiwrnod lle gallwn ni ddweud ein bod ni'n cyflawni'r addewid hwnnw, oherwydd ein Llywodraeth ni ein hunain, ac oherwydd ein Senedd ni ein hunain. Mae addysg y dyfodol yn wirioneddol yn nwylo ein hathrawon, ein hysgolion a'n cenedl.

Mae'r Bil hwn yn gynnyrch awydd ar y cyd i ddiwygio addysg a gwella cyfleoedd bywyd a dyfodol ein holl blant a phobl ifanc. Os caiff ei gymeradwyo heddiw, bydd yn darparu ar gyfer y diwygiad deddfwriaethol mwyaf arwyddocaol i addysg orfodol yng Nghymru ers degawdau. Rwy'n annog Aelodau ein Senedd i'w gefnogi. Diolch yn fawr.

18:25

Mae'n rhaid i mi ddechrau trwy ddiolch i'n Cadeirydd ymroddedig, fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, clercod, ymchwilwyr a chyfreithwyr y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y gwaith aruthrol a gafodd ei wneud i graffu ar y Bil hwn a'i wella. Roedd y sesiynau tystiolaeth yn gytbwys iawn, cafodd tystion eu herio yn drwyadl ar eu tystiolaeth, a gallwch chi weld o nifer yr argymhellion a wnaeth y pwyllgor yng Nghyfnod 1 ein bod ni wedi ei fyw a'i fod bron cymaint â'r Gweinidog a'i hadran hi.

Fe wnaethom ni dderbyn a dadansoddi llawer o dystiolaeth—llawer ohono ar yr un pryd ag yr oedd y pwyllgor yn craffu ar COVID—felly mae angen i gydnabyddiaeth haeddiannol i waith y Cadeirydd a'r staff fod ar gofnod. Ac rwy'n diolch i'r Gweinidog hefyd, sydd wedi rhoi ei chorff a'i henaid i hyn, a bydd hi'n cael ei chofio amdano. Yn amlwg, rydym ni'n croesawu ei pharodrwydd i symud ar y mater sgiliau bywyd—rhywbeth y mae ei chyd-Aelodau yn y Cabinet wedi ei wrthsefyll dros y blynyddoedd heb unrhyw reswm cymhellol—ac rydym ni hefyd yn ddiolchgar iddi am sicrhau lle amlwg i addysgu lles y mislif, y ddau beth yn faterion y mae fy nghyd-Aelod, Suzy Davies, wedi brwydro'n ddiwyd drostyn nhw.

Mater i'r Senedd nesaf yn awr fydd sicrhau bod bwriadau'r Gweinidog yn cael eu hadlewyrchu a'u haddysgu'n briodol, ond yr hyn sydd wedi creu argraff arnaf i yw parodrwydd y Gweinidog i ystyried newidiadau i'r Bil ym mhob cam, hyd yn oed i feysydd dadleuol y Bil, pe bai'n golygu ffordd decach o gyflawni ei nodau ynddo. Roedd y derbyniad cyflym bod yr angen i ddatrys darpariaethau'r Gymraeg a'r newid safbwynt o ran dyletswydd gyfartal ar bob ysgol i roi sylw dyledus i gwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y cytunwyd arno yn ymwneud â chael gwared ar wahaniaethu. Roedd y sylw newydd ar iechyd meddwl a hawliau plant yn gydnabyddiaeth o bolisïau a oedd yn gwella effeithiolrwydd y Bil, hyd yn oed os oedden nhw'n tarfu ar ddyluniad y Bil. Un o'r gwersi mawr sydd wedi ei dysgu yw y byddai'r Bil wedi bod yn llawer haws ei ddeall a chraffu arno pe byddai wedi ei ddrafftio o'r newydd; roedd angen llawer o'r gwaith rhedeg o gwmpas ar ôl Cyfnod 1 oherwydd y gwaith o dorri a gludo ymadroddion o Ddeddfau addysg cyn datganoli a chyfeiriadau yn ôl atyn nhw. Mae gennym ni'r Ddeddf ddeddfwriaeth, a gymerodd amser prin i'r Cynulliad pan oeddem ni yng nghanol gadael yr UE. Rwy'n gobeithio na fydd y chweched Senedd yn ei gadael ar y silff. Prawf y Bil hwn yn y pen draw fydd ei fod yn codi safonau i bawb ac yn galluogi ein pobl ifanc i fod yn ddatryswyr problemau sy'n chwilfrydig, yn hyblyg, yn gyfrifol ac yn hyderus ac sy'n tyfu i fyny gan feddwl bod dyletswydd arnyn nhw i gyfrannu at y gymdeithas, ni waeth beth fo'u cefndir.

Heb fuddsoddiad enfawr o ran amser a hyfforddiant i'r gweithlu presennol a'i ehangu, mae perygl o hyd y bydd y newidiadau aruthrol hyn yn methu neu'n dod i rym yn rhy araf. Rwy'n gobeithio hefyd y byddwn ni'n gweithio'n galed i sicrhau, yn y Senedd nesaf, y bydd ysgolion yn meithrin cysylltiadau cryf â busnesau ac arbenigwyr lleol i sicrhau a galluogi'r addysg orau oll o fywyd go iawn, yr wyf i'n gwybod y bydd y cwricwlwm newydd yn ei chaniatáu. Bydd angen craffu'n fanwl ar y cod Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb a rhywfaint o waith yn ymwneud ag asesu—dyma'r Bil cwricwlwm ac asesu, wedi'r cyfan—ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Mae Suzy Davies, llefarydd yr wrthblaid ar y Cabinet ar addysg, yn haeddu llawer iawn o ddiolch am ei holl waith caled wrth graffu ar y Bil hwn. Mae'n drueni na all fod gyda ni heddiw, ond mae angen cofnodi diolch iddi am ei holl gyfraniadau tuag at hyn.

Ond llongyfarchiadau, Gweinidog. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cwricwlwm newydd yn cyflawni popeth yr ydym ni'n gobeithio y bydd yn ei gyflawni, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r Bil hwn. Diolch.

18:30

Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cyfeiriad y mae'r cwricwlwm addysg newydd yn mynd â ni. Mae pobl ifanc Cymru wedi bod yn crefu am gael dysgu sgiliau sy'n addas ar gyfer bywyd a byd gwaith cyfoes. Rydyn ni hefyd yn credu mewn grymuso athrawon a rhoi'r rhyddid iddyn nhw gynnal eu dysgu mewn ffordd greadigol. Mae'r pwyslais ar ddatblygiad a chynnydd yr unigolyn hefyd i'w groesawu'n fawr. Mae galluogi pob person, beth bynnag fo'r amgylchiadau, i gyrraedd eu llawn potensial yn greiddiol i'n gwerthoedd fel cenedl.

Mae cyfle gwirioneddol, drwy'r cwricwlwm, i ddechrau trawsffurfio'r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Os ydy o am wreiddio'n iawn, mae'n hathrawon ni'n mynd i fod angen y gofod a'r cyfle i ddod i adnabod gofynion y cwricwlwm newydd yn llawn. Mae hyn yn bwysicach nac erioed yn sgil COVID, pan fydd cymaint o heriau'n wynebu ein hysgolion ni. Ond dwi'n cytuno efo'r Gweinidog y gall y pwyslais ar anghenion y cwricwlwm newydd fod yn fuddiol yn yr adferiad, efo'r pwyslais ardderchog sydd ynddo fo ar lesiant meddyliol.

Os ydy'r cwricwlwm am lwyddo, mae rhoi cyfle i'n hathrawon ni i addasu yn hollbwysig, ac i wneud hynny fe fydd angen cefnogaeth athrawon llanw, a bydd hynny'n amhrisiadwy. Mi fydd hefyd angen adnoddau dysgu digonol, ac i gyflawni hynny, mae angen chwistrelliad o fuddsoddiad ariannol newydd i gyrraedd yr ysgolion. Mae hefyd angen alinio'r gyfundrefn asesu a'r gyfundrefn atebolrwydd ysgolion i'r cwricwlwm newydd, ailddylunio cymwysterau, a symud i ffwrdd o arholiadau a thuag at asesu parhaus. Mae'r pwyslais ar gynnydd yr unigolyn angen ei adlewyrchu yn y ffordd yr ydym yn asesu hefyd.

Troi at y ddeddfwriaeth—y Bil—sydd gerbron heddiw, dwi yn credu bod y Bil ei hun yn wallus. Does yna ddim cysondeb ynddo fo, oherwydd mae o'n pwysleisio rhai elfennau mandadol, ond yn gwrthod cynnwys rhai eraill. Tra'n cyd-fynd efo cynnwys cyd-berthynas ac addysg ryw, a chynnwys crefydd, gwerthoedd a moeseg ar wyneb y Bil, fe wnaeth Plaid Cymru ddadlau dros gynnwys yn fandadol ddwy agwedd arall allai hefyd gyfrannu tuag at greu trawsnewidiad cymdeithasol pellgyrhaeddol, sef hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw, ac addysg amgylcheddol, yn cynnwys newid hinsawdd.

Tra bydd sicrwydd y bydd y ddwy elfen drawsnewidiol sydd ar wyneb y Bil yn cael eu dysgu, does dim sicrwydd y bydd y ddwy agwedd arall yn cael y sylw haeddiannol, ac i mi mae hynny'n wendid sylfaenol yn y Bil. Dydy canllawiau ddim digon da. Mae'n hawdd iawn cael gwared ar ganllawiau a'u newid, yn wahanol iawn i faterion sydd yn gadarn statudol ar wyneb y Bil.

Dwi ddim wedi cael esboniad rhesymegol sydd wedi fy argyhoeddi pam na ddylid cynnwys y gwelliannau rhoesom ni gerbron a oedd hefyd yn cynnwys cryfhau'n sylweddol y ffordd y dysgir yr iaith Gymraeg yn ein hysgolion ni. Felly, fe fyddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth, ac fe fyddwn ni, mewn Llywodraeth, yn chwilio am gyfle cynnar i'w ddiwygio.

18:35

Diolch, Llywydd, am y cyfle hwn i wneud cyfraniad byr at yr hyn sydd, yn fy marn i, yn achlysur pwysig heddiw. Bydd pasio'r Bil hwn, yn ogystal â gosod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer adolygiad cyntaf y cwricwlwm ers dros 30 mlynedd—hwn fydd ein Cwricwlwm cyntaf i Gymru, wedi ei datblygu ar y cyd â'r proffesiwn ac wedi ei wneud yng Nghymru. Ac os bu amser erioed ar gyfer cwricwlwm sydd wedi ei wreiddio mewn lles, hon yw'r adeg honno, ar ôl popeth y mae ein plant a'n pobl ifanc wedi bod drwodd.

Er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig a'r trafodion rhithwir, fe wnaeth y pwyllgor ymgymryd â phroses Cyfnod 1 lawn, ac rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sydd wedi darllen ein hadroddiad Cyfnod 1 yn cytuno ein bod ni wedi gwneud ein gorau i wneud cyfiawnder â'r Bil hwn. Felly, hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor cyfan am eu gwaith caled ar y Bil hwn, ond hefyd i ddiolch yn arbennig iawn i fy nhîm pwyllgor i. Gweithiodd Llinos Madeley a Michael Dauncey yn anhygoel o galed, gan fynd i'r afael â rhai materion cymhleth a heriol iawn, ac maen nhw wedi rhoi cefnogaeth hollol wych i waith y pwyllgor ar y Bil hwn. A gan ei bod yn ddigon posibl mai hwn fydd fy nghyfle olaf i wneud hyn yn y Siambr, hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i dîm cyfan y pwyllgor, yn clercio ac yn ymchwilio, am y gefnogaeth gwbl ryfeddol y maen nhw wedi ei rhoi i mi a gweddill y pwyllgor yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Diolch o galon.

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei pharodrwydd cyson i ymgysylltu â'r pwyllgor a gwrando arno drwy gydol y broses gyfan hon. Rwyf i wedi credu erioed bod craffu cryf gan bwyllgorau yn darparu gwell Lywodraeth, ac mae tystiolaeth amlwg iawn o hyn, yn fy marn, yn y Bil hwn, a hefyd i ddiolch i'w swyddogion, sydd, yn fy marn i, wedi gwneud popeth yn eu gallu i ymgysylltu â'r pwyllgor, trefnu sesiynau briffio ychwanegol a bod yno bob tro i ymateb i'n hymholiadau. Felly, fy niolch o galon iddyn nhw hefyd.

Yn benodol, rwyf i wrth fy modd bod y Gweinidog wedi cytuno i roi iechyd meddwl ar wyneb y Bil hwn, gan nodi bod iechyd meddwl, yn ogystal â bod yn agwedd hollbwysig ar yr hyn sy'n cael ei addysgu yn ein cwricwlwm newydd, ei fod hefyd yn ystyriaeth ar draws y system gyfan i lywio pob penderfyniad yn ymwneud â'r cwricwlwm. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mor enfawr a sylfaenol i bobl ifanc yng Nghymru. Ac wrth ddweud hynny, hoffwn i ddiolch i Samariaid Cymru a Mind Cymru sydd wedi gweithio mor galed gyda mi y tu ôl i'r llenni i wthio am y gwelliant hwn. Wrth gwrs, mae mwy o waith i'w wneud, ac rwy'n siŵr na fydd y Gweinidog yn synnu fy nghlywed i'n dweud fy mod i'n edrych ymlaen, os caf i fy ailethol, at weithio gyda'i holynydd i sicrhau bod y ddyletswydd newydd yn cael ei chefnogi gan ganllawiau cryf a'i bod wedi'i chysylltu'n glir â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl.

Ond wrth gloi heddiw, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno—a Llywodraeth Cymru gyfan—y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd hyn yn gwneud cyfraniad enfawr at sicrhau bod gennym ni  blant a phobl ifanc cyflawn, llwyddiannus ac, yn anad dim, iach eu meddwl yng Nghymru. Diolch o galon.

18:40

Rydym ni yn y Blaid Diddymu Cynulliad Cymru yn gwrthwynebu'r Bil hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae yna rannau da yn y Bil hwn, ac nid wyf i'n dadlau yn groes i hynny, ac mae rhywfaint ohono wedi ei amlinellu gan y Gweinidog heddiw—rhai o'r rhannau da hynny—ac mewn sawl ffordd, mae hi wedi bod, er gwaethaf fy ngwahaniaethau gwleidyddol mawr â hi, yn Weinidog galluog iawn. Ac fe wnaeth cyfraniad Laura Jones dynnu sylw at rai o'r rhannau da hefyd, a oedd, yn fy marn i, yn ddefnyddiol iawn o ran dangos sut y mae'r Bil, mewn rhai ffyrdd, wedi newid, wrth i'r Gweinidog ryngweithio â'r pwyllgor perthnasol. Felly, maen nhw yn bwyntiau da, ond mae gan fy mhlaid i wahaniaethau barn cryf iawn i'r Gweinidog a'r Llywodraeth ar y Bil hwn, ac rwy'n credu, er mwyn bod yn gryno, fod angen i mi, efallai, fynd dros y pwyntiau gwahaniaeth hynny yn gyflym.

Rydym ni'n credu y bydd y Bil yn arwain at fwy o ymwahanu oddi wrth y cwricwlwm yn Lloegr, gan arwain at fwy o anhawster wrth gymharu perfformiad myfyrwyr ysgol yng Nghymru â'u cyfoedion yn Lloegr. Mae parhad bagloriaeth Cymru, sydd i bob pwrpas yn gorfodi myfyrwyr yng Nghymru i astudio ar gyfer pwnc Safon Uwch ychwanegol, nad yw'n cael ei gydnabod yn eang gan brifysgolion Lloegr, yn faes ymwahanu arall a fydd yn rhwystro myfyrwyr yng Nghymru. Ar lefel fwy sylfaenol, mae israddio addysgu Saesneg er budd trochi yn y Gymraeg yn ddatblygiad sinistr a fydd yn sicr yn rhoi plant ysgol Cymru nad ydyn nhw o gefndir lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gartref dan anfantais—ac rydym ni'n gwybod bod rhai o'r plant hyn o'r cefndiroedd hyn yn mynd i addysg cyfrwng Cymraeg erbyn hyn. O ran addysgu'r Gymraeg i ddisgyblion cyfrwng Saesneg, ein hegwyddor sylfaenol fel plaid yw mai'r hyn sydd ei angen yw elfen o ddewis, nid gorfodaeth. Felly, nid ydym ni'n cyd-fynd ychwaith â pharhau â'r polisi Cymraeg orfodol hyd at 16 oed.

Nawr, er fy mod i'n gwybod bod y Gweinidog ei hun, mewn gwirionedd, yn dymuno i fyfyrwyr Cymru lwyddo nid yn unig yng Nghymru ond ymhellach i ffwrdd hefyd—ac yn sicr nid yw'n bwriadu cyfyngu gorwelion ein pobl ifanc—yn anffodus, rwy'n credu mai dyma fydd effaith hirdymor rhai o'r mesurau hyn. Rydym ni yn y Blaid Diddymu o'r farn mai'r effaith fydd gwthio myfyrwyr Cymru yn gynyddol tuag at astudio mewn prifysgolion yng Nghymru, a pheidio â mentro ymhellach i ffwrdd. I bob diben, gall hyn fod yn rhan o fudiad i arwain pobl ifanc yng Nghymru i aros yng Nghymru. Mae'n sicr na all y cyfyngu ar gyfleoedd y bydd hyn yn ei olygu fod yn beth da, ac felly, am y rhesymau hyn, rydym ni'n pleidleisio yn erbyn y Bil heddiw.

Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei hymdrechion, er gwaethaf ein hanghytuno yn ystod y tymor Senedd, ac rwyf i yn dymuno yn dda iddi hi ym mha beth bynnag y mae hi'n penderfynu ei wneud nesaf. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddiolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma? Rwyf wedi fy siomi o glywed nad yw Suzy Davies yn gallu ymuno â'r sesiwn y prynhawn yma, gan fy mod i'n gwybod ei bod hi wedi gweithio'n eithriadol o galed ar y Bil hwn, ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi ymrwymo'n llwyr i'r broses graffu. Ac, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol heddiw, rwy'n credu bod gennym ni Fil gwell o ganlyniad i ymdrechion y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwyf i wedi ymdrechu'n fawr iawn i geisio ymateb yn gadarnhaol i'r adroddiad trawsbleidiol a gyhoeddodd y pwyllgor i geisio cyflawni'r dyheadau hynny.

A gaf i ddiolch i Gareth Bennett am ei eiriau caredig ar fy ymddeoliad? A gaf i ei atgoffa'n dyner fod bagloriaeth Cymru yn cael ei derbyn gan y mwyafrif llethol o sefydliadau ledled Cymru a Lloegr. Yn wir, Llywydd, cafodd fy merch fy hun ei hachub gan ei gradd bagloriaeth Cymru, a oedd wedi caniatáu iddi fynd ymlaen i'r brifysgol eleni, ac mae llawer o fyfyrwyr fel hynny. Mae'n destun siom na fydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi'r Bil heddiw, ond efallai nad yw'n gymaint o destun siom â'r ffaith na fydd Plaid Cymru yn manteisio ar y cyfle hanesyddol hwn, am y tro cyntaf yn hanes ein cenedl, i fod â'n cwricwlwm ein hunain, wedi ei lunio gan athrawon Cymru ar gyfer plant Cymru.

A gaf i ddweud unwaith eto, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth o gwbl, y bydd hanesion Cymru a stori Cymru yn rhan orfodol o'r cwricwlwm hwn? Mae wedi ei gynnwys yn y canllawiau statudol sydd eisoes wedi eu cyhoeddi a bydd ganddyn nhw sail statudol o ganlyniad i'r bleidlais hon—pleidlais lwyddiannus gobeithio—heno. Ni fydd unrhyw ffordd na all ysgol addysgu hanes Cymru, ac, yn wir, mae'n ofynnol bod gan bob un maes dysgu a phrofiad linyn aur o ddathlu hunaniaeth Cymru yn ei holl amrywiaeth ym mhob maes, ac mae hyn wrth wraidd y ddeddfwriaeth sydd ger ein bron. Mae'r un peth yn wir hefyd o ran materion sy'n ymwneud ag addysgu am yr amgylchedd a'r argyfwng hinsawdd. Nawr, rwy'n derbyn ei bod hi'n amser etholiad, ac mae deisebau a negeseuon e-bost i'w hanfon, ond mae'n destun gofid, fel y dywedais i, ar y diwrnod hanesyddol hwn, gyda'r cyfle am y tro cyntaf yn hanes ein cenedl i fod â'n cwricwlwm ein hunain, y bydd Plaid Cymru yn dewis pleidleisio yn ei erbyn.

A gaf i gloi trwy ddiolch i Lynne Neagle am ei hymagwedd galed, graff, ddygn, bengaled ar adegau at y ddeddfwriaeth hon? Rwy'n dweud hynny fel canmoliaeth, Lynne. Fel y dywedais i'n gynharach, mae canlyniadau gwaith y pwyllgor wedi gwneud hwn yn Fil gwell, ac rwyf i wedi dwlu ar bob munud—wel, bron bob munud—o fod yn Weinidog, ond fy mhrofiad o fod ar y meinciau cefn, o eistedd trwy ddadleuon diddiwedd gan y Llywodraeth a darnau o ddeddfwriaeth y Llywodraeth sydd wedi llywio fy ymwneud â'ch pwyllgor dros y cyfnod hwn. Rwy'n ddiolchgar i chi am eich arweinyddiaeth, ac rwy'n eich cymeradwyo am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud sydd wedi ein harwain ni at y pwynt hwn. Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r darn hwn o ddeddfwriaeth i'n Senedd.

18:45

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly bydd y bleidlais ar y cynnig yma yn cael ei chymryd yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac felly fe gymrwn ni doriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:49.

18:50

Ailymgynullodd y Senedd am 18:51, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yna a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, dau yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 9 - Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021: O blaid: 46, Yn erbyn: 3, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 11, y ddadl ar y drydedd gyllideb atodol 2020-21, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 11 yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 11 - Dadl: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21: O blaid: 28, Yn erbyn: 12, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 12 yw'r bleidlais nesaf, y ddadl honno ar gyfraddau treth incwm Cymru 2021-22, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig hwnnw yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, dau yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 12 - Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021-22: O blaid: 48, Yn erbyn: 1, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Y cynnig nesaf i'w bleidleisio arno yw'r cynnig ar y gyllideb derfynol 2021-22. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, dau yn ymatal, 21 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

18:55

Eitem 13 - Dadl: Cyllideb Derfynol 2021-22: O blaid: 28, Yn erbyn: 21, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 14 sydd nesaf, y cynnig ar y setliad llywodraeth leol 2021-22. Galw am bleidlais ar y cynnig hwnnw yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, pedwar yn ymatal, 19 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 14 - Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22: O blaid: 28, Yn erbyn: 19, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 15 sydd nesaf, y cynnig ar setliad yr heddlu 2021-22. Galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, pedwar yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 15 - Dadl: Setliad yr Heddlu 2021-22: O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 4

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf fydd ar eitem 16 a'r cynnig hwnnw ar Gyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Kirsty Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, un yn ymatal, 18 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 16 - Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): O blaid: 32, Yn erbyn: 18, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio a diwedd ar ein gwaith am y dydd. Diolch yn fawr i chi i gyd. Prynhawn da—noswaith dda.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.

Neges gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, Pennaeth y Gymanwlad

Dros yr wythnos nesaf, wrth i ni ddathlu cyfeillgarwch, undod a chyflawniadau'r Gymanwlad, dyma gyfle inni fyfyrio ar y cyfnod digynsail a fu.

Er bod ein profiadau ni oll dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn wahanol ar draws y Gymanwlad, gwelwyd enghreifftiau nodedig o ddewrder, ymrwymiad ac ymroddiad gwirioneddol i ddyletswydd ym mhob un o wledydd a thiriogaethau’r Gymanwlad – yn arbennig felly gan y rheiny a fu’n gweithio ar y rheng flaen yn sicrhau bod gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill ar gael yn eu cymunedau. Mae hefyd wedi bod yn galondid gweld y cynnydd rhyfeddol sydd wedi ei wneud wrth ddatblygu brechlynnau a thriniaethau newydd.

Wrth i gynifer o bobl wynebu cyfnod anodd tu hwnt, dyfnhau wnaeth ein gwerthfawrogiad o’r gefnogaeth a’r gynhaliaeth a gawsom, a hynny drwy ein perthnasoedd ag eraill.

I nifer o bobl ar draws y Gymanwlad, profiad anarferol oedd gorfod cadw pellter cymdeithasol a byw a gweithio ar wahân. Yn ein bywyd bob dydd, bu’n rhaid inni ddod i arfer â chysylltu a chyfathrebu â phobl drwy dechnoleg arloesol – ac mae hyn wedi bod yn brofiad newydd i nifer ohonom. Ar-lein y cynhaliwyd sgyrsiau a chyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd y Gymanwlad, a golygodd hyn y gallai pobl gysylltu â’u ffrindiau, eu teulu a’u cydweithwyr neu gymheiriaid nad oedd modd cwrdd â hwy yn y cnawd. Wrth i amser fynd rhagddo, rydym wedi mynd i fwynhau cyfathrebu fel hyn fwyfwy, gan iddo olygu y gallwn gysylltu â’n gilydd ar unwaith a goresgyn unrhyw rwystrau neu raniadau, ac mae hyn yn ei dro wedi lleddfu unrhyw deimlad o bellter.

Rydym oll wedi parhau i werthfawrogi’r gefnogaeth, y profiadau eang a’r wybodaeth a ddaw yn sgil gweithio gydag eraill, ac rwy’n mawr obeithio y gallwn gadw’r ymdeimlad newydd hwn o agosatrwydd a chymuned. Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd perthnasoedd ag eraill ar draws y Gymanwlad yn parhau i fod yn bwysig wrth inni weithio i greu dyfodol sy’n gyffredin rhyngom ac sy’n gynaliadwy ac yn saffach. Gan hynny, gall y gwledydd a’r cymunedau yr ydym yn byw ynddynt, lle bynnag y bônt, fod yn iachach ac yn hapusach inni oll.