Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/02/2020 i'w hateb ar 12/02/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu addysg ôl-16 i ddysgwyr ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod pob awdurdod lleol ac ysgol yn defnyddio'r canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer darparwyr addysg yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelu plant sy'n mynychu ysgolion preifat yng Nghymru?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i sicrhau bod cwnselydd ysgol ar gael i ddisgyblion ym mhob ysgol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu perthynas mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd prawf i wneud diagnosis o ddyslecsia ar gyfer plant sy'n siarad Cymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion yn Abertawe?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo ysgolion yn Islwyn wrth iddynt baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ehangu ymgysylltiad gwleidyddol mewn ysgolion?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o'r celfyddydau i wella iechyd a lles mewn lleoliadau gofal cymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau mân anafiadau yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am therapïau seicolegol yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio mewn lleoliadau gofal iechyd cymunedol?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cyfraddau sgrinio ceg y groth yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio a hyfforddi deintyddion yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru dros y 12 mis nesaf?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i osgoi presenoldeb diangen y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o honiadau llawfeddyg cyffredinol yr Unol Daleithiau nad yw e-sigaréts yn ddiogel i bobl ifanc?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i blant mewn gofal?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws Rhaglen De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth gweithlu'r GIG?