Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/11/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar yr agenda. Dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Busnesau yng Ngogledd Cymru

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith pandemig COVID-19 ar fusnesau yng ngogledd Cymru? OQ55812

Mae'r pandemig, ynghyd â diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd sydd ar fin digwydd, yn golygu ei bod yn gyfnod ansicr a phryderus iawn i fusnesau ledled gogledd Cymru. Y risg fwyaf i'r economi wrth gwrs yw peidio â gwneud digon yn ddigon buan, a dyna pam mai ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn yw'r mwyaf hael yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

Diolch. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd arolwg o effaith cyfyngiadau symud ar y sectorau twristiaeth, lletygarwch, manwerthu, hamdden a'u cadwyni cyflenwi yng ngogledd Cymru, arolwg a gynhaliwyd gan Twristiaeth Gogledd Cymru gyda chymorth Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy. Fe'i cynhaliwyd dros bedwar diwrnod, o 21 Hydref ymlaen, gyda 364 o fusnesau'n ymateb o bob rhan o'r rhanbarth, a chanfu y byddai 31 y cant yn diswyddo rhagor o staff cyn diwedd mis Mawrth 2021, y byddai 39 y cant yn rhoi'r gorau i fasnachu os oes unrhyw gyfnodau pellach o gyfyngiadau symud cyn hynny, a bod 81 y cant o ymatebwyr wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi'i effeithio'n negyddol wrth redeg busnes o dan amgylchiadau pandemig. Sut rydych chi'n ymateb felly i'w galwad am ymgysylltiad busnes ystyrlon â chi, yn rhanbarthol a lleol, ar draws pob sector, cyn y daw rhagor o gyfyngiadau symud, i gynnwys amlinellu'r broses o fynd i mewn i gyfnodau newydd sydd i ddod o gyfyngiadau symud, y dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau, canllawiau gweithredol i fusnesau a manylion y cymorth busnes sydd ar gael, cyn i unrhyw gyfnodau o gyfyngiadau symud ddechrau?

A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn atodol a dweud ein bod yn ymwybodol iawn o effeithiau difrifol iawn coronafeirws nid yn unig o ran iechyd y cyhoedd, ond hefyd o ran cadernid meddyliol ac emosiynol dinasyddion ac wrth gwrs, y bobl sy'n gyfrifol am fusnesau ar hyd a lled Cymru? Mae'r arolwg yn cyfeirio at lawer o ffactorau y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, a Llywodraeth y DU hefyd wrth gwrs. Ac wrth ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau a busnesau cynrychioliadol, y brif alwad yn ystod y misoedd diwethaf oedd i'r cynllun ffyrlo gael ei ymestyn hyd at fis Mawrth. Mae hynny wedi digwydd erbyn hyn. Byddai'n dda gennym pe bai wedi digwydd yn gynharach oherwydd, wrth gwrs, mae angen sicrwydd ar fusnesau.

O ran busnesau twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru, gallaf ddweud bod dros 1,200 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint yn y sectorau hynny yno wedi llwyddo i gael arian o ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd, ac yng ngogledd Cymru, mae 105 o fusnesau eraill ym maes twristiaeth a lletygarwch wedi llwyddo i gael cyllid gan Fanc Datblygu Cymru. Dyma'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, roedd y cyfnod atal byr o 17 diwrnod yn anodd i fusnesau, nid oes amheuaeth am hynny, ond mae'n well cael cyfnod atal byr o 17 diwrnod na chyfyngiadau symud am bedair wythnos, fel y bu'n rhaid i Lywodraeth y DU ei wneud ar ôl gohirio camau gweithredu.

Dwi'n croesawu'r arian sydd wedi cael ei roi i fusnesau ar draws y gogledd, ac yn fy etholaeth i, drwy wahanol gamau y gronfa cadernid economaidd. Ond dwi'n dal i weld busnesau sy'n methu â chael cymorth, er enghraifft oherwydd nad ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer treth ar werth neu dydyn nhw ddim yn cyflogi pobl drwy PAYE. Rŵan, dwi'n croesawu'r ffaith y bydd yna bedwerydd cam o'r gronfa cadernid economaidd, ond a all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa asesiad y mae o am ei weld yn cael ei wneud o'r busnesau, neu'r sectorau o fusnesau, sydd wedi colli ar bob cyfle, mae'n ymddangos, i gael cymorth hyd yma? Ac a fydd yna fodd i newid y gofynion yn y dyfodol er mwyn i'r busnesau hynny allu gwneud cais am arian o'r rowndiau nesaf o gymorth sydd ar gael?

A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiwn? Mae nifer o'r Aelodau wedi gofyn cwestiynau tebyg yn ystod yr wythnosau diwethaf, a gallaf gadarnhau bod disgresiwn yn nhrydydd cam y gronfa cadernid economaidd, o fewn y £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau sydd ar gael ledled Cymru, i alluogi'r busnesau sydd wedi disgyn drwy'r rhwyd hyd yma i gael y cymorth angenrheidiol. Mewn perthynas â thrydydd cam y gronfa cadernid economaidd, rwy'n falch hefyd o allu dweud wrth yr Aelod dros Ynys Môn heddiw fod dros 940 o ddyfarniadau eisoes wedi'u gwneud i fusnesau yn ei etholaeth, er mwyn cefnogi a diogelu gwaith i fwy na 3,500 o bobl. Mae hynny'n dangos gwerth cam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd, cronfa sy'n rhan o'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r DU.

13:35

Weinidog, mae'n amlwg fod y coronafeirws wedi cael effaith ar fusnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant yn yr ardal hon, ac mae eu methiant a'u harafwch i ymateb wedi costio mewn swyddi. Nawr, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i barhau i helpu. Ers cael fy ethol i'r Senedd hon, rwyf wedi bod yn gefnogwr mawr i ganolfan logisteg Heathrow, y gellid ei lleoli yng ngwaith dur Tata yn Shotton, a'r ardal ymchwil technoleg uwch a Phorth y Gogledd yn Sealand. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi prosiectau fel y rhain?

Wel, a gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am nodi potensial ei etholaeth mewn sectorau pwysig yn ardal Glannau Dyfrdwy ac ardal ehangach Sir y Fflint? Gallaf gadarnhau hefyd i Jack Sargeant heddiw fod dros 3,500 o ddyfarniadau wedi'u gwneud i fusnesau fel rhan o'n pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn. Mae hynny'n gyrhaeddiad enfawr ar draws Sir y Fflint i gefnogi busnesau a gweithwyr. Rydym yn arwain ar nifer o brosiectau cyffrous hefyd. O ran y ganolfan ymchwil technoleg uwch, rydym yn arwain tîm trawslywodraethol. Mae'r tîm hwnnw'n cynnwys Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ond hefyd yr Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn, Llywodraeth y DU a'r Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn. Mae rhaglen waith hynod bwysig ar y gweill yno gyda'r ganolfan ymchwil technoleg uwch. Rydym hefyd yn gweithio gydag Airbus ar raglen Adain Yfory, a bydd Jack Sargeant yn ymwybodol o werth y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn cael y rhaglen waith hollbwysig honno.

Mae gennyf ddiddordeb enfawr yn y ganolfan logisteg arfaethedig yn Tata yn Shotton. Comisiynwyd prif gynllun safle Glannau Dyfrdwy gan fy swyddogion i gefnogi datblygiad Heathrow, ac mae Tata Steel bellach yn defnyddio hwnnw fel prosbectws i ddenu buddsoddiad nid yn unig gan Heathrow, ond gan nifer o fuddsoddwyr ar draws nifer o wahanol sectorau. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda Tata, gallaf ddweud wrth Jack Sargeant, i ddeall rhai o'r rhwystrau i ddatblygu cyfleuster o'r fath, ac maent hefyd yn edrych ar sut y gallent agor trydydd mynediad i'r safle. 

Ac yn olaf, o ran safle Porth y Gogledd, rydym yn gweithio tuag at gytundeb â thirfeddianwyr ar safle Porth y Gogledd, gyda'r bwriad o fuddsoddi mewn seilwaith allweddol a fydd yn hwyluso mynediad i 200 erw o dir datblygu masnachol, ac mae'r trafodaethau hynny ar gam datblygedig iawn. Disgwylir y bydd y cytundeb hwn wedyn yn cael ei ddilyn, yn gyflym iawn, gan brosiectau buddsoddi preifat a chyflogaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud datganiad cadarnhaol iawn ynglŷn â hynny yn y dyfodol agos. 

Busnesau yng Nghanol De Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn sgil pandemig y coronafeirws? OQ55825

Gwnaf wrth gwrs. Rydym yn gwneud popeth posibl i gefnogi busnesau ar draws pob rhan o Gymru. Ym Mro Morgannwg, er enghraifft, mae 612 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint wedi cael arian drwy'r gronfa cadernid economaidd i Gymru'n unig, gan sicrhau miloedd o swyddi, ac wrth gwrs, mae ein pecyn gwerth £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn dal ar agor i geisiadau.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn anffodus wrth gwrs, caewyd un edefyn o gymorth—y grant datblygu busnes—ar ôl 24 awr. Dywedai un neges fod hynny wedi digwydd er mwyn asesu'r ceisiadau, a dywedai neges arall nad oedd rhagor o arian ar gyfer ceisiadau pellach. A all y Gweinidog roi unrhyw hyder heddiw i'r ddadl y dylid ailagor y gronfa hon, os yw'n denu cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth, ac y bydd y rhai a wnaeth gais aflwyddiannus yn cael ail gyfle os caiff y gronfa ei hailagor?

Wel, gallaf ddweud wrth Andrew R.T. Davies ein bod ar hyn o bryd yn asesu'r ceisiadau sydd wedi'u gwneud hyd yma. Yn wir, mae arian eisoes wedi'i ddyfarnu. Fel rhan o'r gronfa cadernid economaidd, mae cam 3 eisoes wedi darparu dros £40 miliwn o ddyfarniadau i fusnesau. Roedd angen gweithredu ar frys ym mhob un o'r camau. Mae hynny'n cynnwys cam 3. Dyna pam y gwnaethom oedi proses y ceisiadau am grantiau datblygu, fel y gallwn eu hasesu'n gyflym, i ni allu cael arian i fusnesau. Mae camddealltwriaeth wedi bod ynghylch pwrpas y grantiau datblygu. Grantiau datblygu yw'r rhain; nid dyfarniadau arian brys ydynt. Y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol sy’n cynnig hynny, cronfa sydd ar gael i bob busnes o hyd. Wrth gwrs, byddwn yn dysgu o'r ceisiadau a gyflwynwyd fel y gallwn deilwra pedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd yn ôl anghenion busnesau, ac os yw hynny'n golygu datblygu ffurf newydd ar gyllid grantiau datblygu, bydd hwnnw ar gael i fusnesau. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fecanwaith ar gyfer mynegi diddordeb trwy wefan Busnes Cymru. Felly, hoffwn ddweud wrth unrhyw fusnes a oedd yn bwriadu gwneud cais 'Daliwch eich gafael ar eich ceisiadau ac yn bwysig, daliwch eich gafael ar eich holl dystiolaeth ddogfennol ategol hefyd oherwydd gallai fod yn hanfodol bwysig yn yr wythnosau i ddod wrth inni symud o gam 3 y gronfa cadernid economaidd i gam 4 y gronfa cadernid economaidd'.

13:40

Ers COVID, mae gwasanaeth y Post Brenhinol yn y Rhondda wedi dirywio'n ddramatig. Mae etholwyr wedi adrodd am enghreifftiau fel llythyr dosbarth cyntaf yn cymryd wyth diwrnod i fynd o Porth i Pentre, a chwe diwrnod arall i fynd o Porth i Bontypridd. Dywedir wrth bobl am wneud apwyntiadau gyda'r swyddfa ddidoli yng Nghlydach os na allant aros am bost brys. Nawr, byddai hyn yn ddigon drwg ar adegau arferol, ond gyda niferoedd cynyddol o bobl yn gweithio gartref, a niferoedd cynyddol o bobl yn aros am apwyntiadau meddygol brys, mae’n amharu ar yr economi leol yn ogystal ag iechyd pobl. Ysgrifennais at y Post Brenhinol bron i fis yn ôl, yn gofyn iddynt am welliannau ac am esboniad, ac rwy'n dal i aros am ateb. Yng ngoleuni'r problemau y mae hyn yn eu hachosi i gynifer o bobl mewn cymaint o gymunedau yn Rhondda, beth y gall y Llywodraeth ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn? A wnewch chi atgoffa'r Post Brenhinol am eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau i'n cymunedau ledled y wlad?

A gaf fi ddweud wrth Leanne Wood fy mod yn siomedig iawn o glywed am lefel y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i'w hetholwyr yn Rhondda? Ac wrth gwrs, er bod yn rhaid i fusnesau weithredu mewn ffordd sy'n ddiogel o ran COVID, sy’n gallu arwain weithiau at oedi yn y gwasanaethau a ddarperir, mae hyn yn newyddion siomedig, a byddaf yn gwneud ymholiadau ar ran yr Aelod lleol, ac yn dwyn y mater i sylw'r Post Brenhinol. Cyn gynted ag y clywaf ganddynt, fe gysylltaf â chi.

Weinidog, mae llawer o ddegau o filoedd o weithwyr yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar sail hunangyflogedig, neu fel gweithwyr llawrydd. Mae llawer o fy etholwyr yn y sefyllfa honno, ac wrth gwrs, y brif ffynhonnell o gymorth ar eu cyfer fu'r cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig. Nawr, a gaf fi ddweud yn gyntaf pa mor bwysig i'r busnesau unigol hynny yw'r gronfa cydnerthedd diwylliannol—cronfa'r gweithwyr llawrydd—ac mae llawer o bobl wedi elwa ohoni. Ond y brif ffynhonnell o gymorth yn amlwg yw cymorth Llywodraeth y DU. Nawr, mae yna bum miliwn o bobl hunangyflogedig yn y DU, sy'n golygu bod tua 250,000 i 300,000 neu fwy yn ôl pob tebyg yng Nghymru, sy'n golygu, yn llythrennol, na fydd 50,000, 60,000, 70,000 ohonynt yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Mae llawer ohonynt yn etholwyr i mi, a chefais sylwadau ganddynt i'r perwyl hwn. Beth arall y gellir ei wneud i gefnogi'r hunangyflogedig a'r gweithwyr llawrydd? Pa sylwadau sy'n cael eu gwneud i Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig? Disgrifiodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Sefydliad y Cyfarwyddwyr y gronfa fel un wastraffus, ddigyfeiriad ac wedi'i thargedu'n wael. A ydych chi'n cytuno â hynny, ac a ydych chi'n cytuno bod angen cynllun newydd go iawn i gefnogi gweithwyr hunangyflogedig yng Nghymru?

Rwy'n credu y gellid gwneud mwy bob amser o ran bod yn ymatebol ac yn gyfrifol. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i fod yn fwy cyfrifol ac ymatebol i anghenion pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd, i'r bobl sy'n parhau i ddisgyn trwy'r rhwyd nad ydynt eto wedi cael cymorth yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi'i nodi. Ac yma yng Nghymru, rydym wedi cau llawer o'r bylchau hynny, fel y nodwyd eisoes, drwy greu’r gronfa adferiad diwylliannol, cronfa i weithwyr llawrydd. Mae'r gronfa cymorth dewisol wedi cael cymorth ariannol ychwanegol, ac wrth gwrs, rydym wedi sefydlu dyfarniadau dewisol i awdurdodau lleol, sy'n werth cyfanswm o £25 miliwn. Ac mae'r grantiau hynny ar gael i unig fasnachwyr, ac yn amodol ar feini prawf penodol wrth gwrs. Ond mae hyn yn dangos sut rydym yn camu i’r adwy, gan gau bylchau a grëwyd gan gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU. Ond rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i fynd i'r afael ag anghenion pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.

Diolch yn fawr, Lywydd. Os caf ddechrau drwy fynd â'r Gweinidog yn ôl at drydydd cam y gronfa cadernid economaidd—ac wrth gwrs, cawsom gyfle i'w holi am y sefyllfa, am orfod cau'n gynnar, yr wythnos diwethaf. Wrth gwrs, mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth medd yr hen air, a tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym a yw'n gallu rhoi amserlen i ni bellach i nodi erbyn pryd y mae'n disgwyl i'w swyddogion fod wedi gallu prosesu'r holl geisiadau, er mwyn didoli, fel y mae eisoes wedi awgrymu yn ei ateb i Andrew R. T. Davies, y rhai a oedd mewn gwirionedd yn fwy addas ar gyfer cymorth brys a'r rhai sy'n gyfleoedd datblygu. Ac a yw'r Gweinidog yn disgwyl gallu ailagor y gronfa honno, neu o ystyried faint o geisiadau y mae eisoes wedi'u cael, a yw'n debygol y byddwn yn edrych mewn gwirionedd ar rownd arall ychydig yn ddiweddarach yn y flwyddyn?

Mae'n sicr yn ymddangos y bydd angen rownd arall o gymorth yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn hytrach na rhoi arwydd y gallai'r trydydd cam gael ei ailagor, byddai'n well gennyf ddweud y bydd pedwerydd cam o'r gronfa ar gael i fusnesau. Ni fyddwn am greu unrhyw ddisgwyliadau artiffisial y gellid ailagor y trydydd cam. Efallai y bydd tanwariant yn y gronfa grantiau datblygu. Os oes tanwariant yn y gronfa honno, byddem yn ceisio ei ddefnyddio ar gyfer y pedwerydd cam. Ond fel y dywedais wrth Andrew R.T. Davies, byddwn yn annog unrhyw fusnesau a roddodd o'u hamser i lunio ceisiadau gyda'r holl dystiolaeth ategol, i ddal eu gafael ar y ceisiadau hynny'n barod ar gyfer y mecanwaith mynegi diddordeb a fydd yn mynd yn fyw ar wefan Busnes Cymru yn ddiweddarach yr hydref hwn.

Wrth gwrs, rydym eisoes wedi dechrau ar y broses o ddyfarnu arian i fusnesau sy'n gwneud cais am grantiau datblygu. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi nodi yn y pwyllgor rai enghreifftiau gwirioneddol dda o fusnesau a gyflwynodd geisiadau llwyddiannus. A hyd yn hyn, fel rhan o gam 3 y gronfa cadernid economaidd, mae cyfanswm o 14,000 o ddyfarniadau wedi'u gwneud, gwerth mwy na £43 miliwn. Felly, mae cyflymder yn hanfodol. Rydym yn ateb y galw drwy dalu arian brys yn gyflym. Ond wrth gwrs rwy'n cydnabod bod y galw am grantiau datblygu yn aruthrol, a dyna pam ein bod yn dysgu mor gyflym ag y gallwn er mwyn inni allu llunio'r rownd nesaf o gymorth yn ôl yr hyn y mae busnesau ei angen mewn gwirionedd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb ac am y sgyrsiau preifat a gafodd gyda mi, a chyda llefarwyr y pleidiau eraill ar y mater hwn. Tybed a all fanteisio ar y cyfle i ddweud mwy wrthym am y gwersi a ddysgwyd o'r materion a gododd gyda cham 3 ac y cyffyrddodd â hwy eisoes yn ei atebion, er enghraifft y broses mynegi diddordeb, a allai helpu i gael gwared ar geisiadau nad ydynt yn addas.

Ac o ran yr hyn y gallai'r pedwerydd cam fynd i'r afael ag ef, bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod gennyf bryder parhaus am fusnesau a ddylai, neu sy'n gorfod 'gaeafgysgu', fel petai—busnesau na allant fasnachu, neu na allant fasnachu gydag unrhyw fath o elw, hyd nes y cawn frechlyn a hyd nes y gallwn ddychwelyd at ryw fath o fywyd normal. Ac mae'n cynnwys popeth o—gwn fy mod wedi sôn wrtho yn y gorffennol am bethau fel llogi dillad, lleoliadau cerddoriaeth fyw a allai agor gyda gigs dan fesurau cadw pellter cymdeithasol, ond na fyddant yn gallu gwneud unrhyw arian, a mathau penodol o fusnesau gwyliau. Yn amlwg, bydd y ffaith bod gennym ffyrlo nawr o gymorth enfawr i'r busnesau hynny, ond mae ganddynt gostau parhaus ar bethau eraill, fel rhent, cynnal a chadw cyfarpar a gwasanaethu benthyciadau. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ystyried a ddylid cael cymorth penodol wedi'i dargedu i fusnesau yn y sectorau hynny yn y pedwerydd cam o gofio'r hyn a ddywedodd o'r blaen am unrhyw fusnesau a oedd yn hyfyw ym mis Chwefror eleni, ein bod am iddynt fod yn hyfyw ac yn cyfrannu at yr economi erbyn y gwanwyn nesaf?

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn a chroesawu hefyd y sgyrsiau hynod werthfawr a gawsom yn ystod y pandemig, ac a gawsom gyda llefarwyr y gwrthbleidiau eraill hefyd? Mae eich mewnbwn wedi bod yn hynod bwysig yn helpu i lunio ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng economaidd. Ac wrth gwrs, bydd rhai o'r sectorau a'r is-sectorau a nodwyd gennych hyd yma yn sicr o ymadfer yn eithaf cyflym—gobeithio—pan gawn amrywiaeth o frechlynnau at ein defnydd. Yr hyn sy'n ofynnol yn y cyfamser yw'r cymorth i dalu am gostau sefydlog amrywiol eraill yn ychwanegol at gostau llafur. Wrth gwrs, mae ymestyn y cynllun ffyrlo i'w groesawu'n fawr, ond diben y gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau lleol yw sicrhau ein bod yn darparu arian brys i gynorthwyo busnesau i dalu'r costau eraill hynny, boed yn rhent, yn wres ac yn y blaen, a byddwn yn defnyddio pedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd i sicrhau ein bod yn creu'r bont honno o nawr hyd at y pwynt lle gwyddom y gall busnesau—busnesau hyfyw, da—weithredu'n llwyddiannus eto.

Ac o ran peth o'r cymorth penodol y gellir ei ystyried, fel rhan o gam 3 y gronfa cadernid economaidd, gwnaethom ddarparu cronfa wedi'i chlustnodi o £20 miliwn ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch. Byddwn yn asesu pa mor effeithiol y mae honno wedi bod. Cafwyd ymyriadau eraill hefyd mewn adrannau eraill, er enghraifft, y gronfa adferiad diwylliannol, sydd wedi bod yn bwysig i fusnesau yn y sector celfyddydau a diwylliant. Unwaith eto, byddwn yn dysgu gwersi gan y rheini mewn pedwaredd rownd o gymorth hollbwysig, yn fy marn i, i fusnesau i'w cynnal hyd at ddiwedd y chwarter cyntaf, hyd at y pwynt pan fo llawer o arbenigwyr gwyddonol yn awgrymu y gallai bywyd ddychwelyd at ryw fath o normalrwydd

13:50

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny. Os caf fynd â ni i gyfeiriad ychydig yn wahanol, cyfeiriad mwy tymor canolig, roeddem yn ddiolchgar iawn am fewnbwn y Gweinidog i'n trafodaethau yn y pwyllgor y bore yma, ac un o'r meysydd a grybwyllwyd gennym oedd y ffordd—. Mae sefydliadau cydraddoldeb wedi bod yn dweud wrthym fel pwyllgor nad yw ystyriaethau cydraddoldeb, tegwch, bob amser wedi bod yn hawdd eu prif ffrydio mewn polisi datblygu economaidd. Cafwyd mentrau penodol, ond nid yw o reidrwydd wedi'i brif ffrydio.

Er mwyn canfod a fydd unrhyw fentrau yn y dyfodol yn gweithio, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cydnabod bod angen system fonitro effeithiol, ond hefyd nad ydym am wneud hynny'n rhy fiwrocrataidd i fusnesau ymateb iddo. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog y prynhawn yma a fydd yn ystyried gweithio gyda phartneriaid sy'n arbenigwyr yn y maes hwn, o ran cydraddoldeb rhywiol, cydraddoldeb hiliol a chan feddwl am y mudiadau anabledd hefyd, i weld a allwn gynhyrchu system syml lle bydd yn gallu monitro, ac felly bydd y rheini ohonom ar y pwyllgor priodol yn gallu monitro, a yw ei fwriadau o ran prif ffrydio agenda gwaith teg yn mynd i'r afael â rhai o'r gwahaniaethau rhwng dynion a menywod yn y farchnad swyddi, gwahaniaethau rhwng pobl dduon a phobl liw—? A yw'n bosibl, ac a wnaiff ystyried creu system wirioneddol gadarn a chlir nad yw'n rhy fiwrocrataidd ond lle gallwn weld beth sy'n digwydd pan ddaw'n fater o adeiladu nôl yn well yn hyn o beth?

Wel, rwy'n croesawu cwestiwn yr Aelod yn fawr. Rwy'n credu ei fod yn haeddu trafodaeth bellach, a byddaf yn sicr mewn cysylltiad i drafod yr argymhelliad pwysig hwn. Credaf fod adnewyddu'r contract economaidd yn eithriadol o bwysig—mae hynny'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae'n rhoi cyfle inni edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r systemau monitro hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rydym bob amser yn agored i her; rydym bob amser yn agored i gyngor a chymorth. Dyna pam rydym wedi tynnu'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i mewn i asesu dyfodol buddsoddi rhanbarthol. Ac wrth gwrs, cynlluniwyd y cynllun gweithredu economaidd i ysgogi twf cynhwysol, i leihau anghydraddoldebau, ac ar yr un pryd, i fuddsoddi neu, os mynnwch, i sbarduno diwydiannau yfory.

Yn ystod y pandemig, un grŵp pwysig sydd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd iawn yw'r grŵp cynghori COVID-19 du, Asiaidd, lleiafrifol ethnig economaidd-gymdeithasol, ac wrth gwrs, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod argymhellion y grŵp hwnnw'n cael eu hymgorffori yng ngwaith Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, ym mhob portffolio, gan gynnwys fy mhortffolio i, ac yn hollbwysig, yn y broses o adnewyddu'r contract economaidd. Ond yn sicr, byddwn yn croesawu trafodaethau pellach gyda'r Aelod ynghylch yr awgrym a wnaeth heddiw.

Diolch, Lywydd. Rhaid imi ddweud, Weinidog, mae'r sedd arbennig honno yn y Siambr yn gweddu i chi y prynhawn yma.

Weinidog, byddwn yn croesawu'r £600 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf mewn symiau canlyniadol gwarantedig i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny, wrth gwrs, ar ben yr £1.1 biliwn a warantwyd yn gynharach eleni. Daw hynny â chyfanswm y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i £5 biliwn i ymladd y pandemig yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n sylweddoli mai dim ond yr wythnos diwethaf y digwyddodd y cyhoeddiad, ond a allwch ddweud wrthyf faint o arian sy'n dal i fod yng nghoffrau Llywodraeth Cymru yn hytrach na'i fod wedi cael ei ddosbarthu i fusnesau i'w cefnogi yn ystod y pandemig hwn?

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn? Rhaid i mi ddweud fy mod braidd yn bryderus fod cymaint o Geidwadwyr wedi cymeradwyo pan awgrymodd fod cadair y Prif Weinidog yn gweddu i mi. [Chwerthin.]

Yn gyntaf oll, rwyf am ddweud nad wyf am fod yn bitw fy meddwl, nid wyf am fod yn wleidyddol. Ar adeg o argyfwng cenedlaethol, mae'n bwysig iawn fod pleidiau'n rhoi eu gwahaniaethau i'r naill ochr ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n eu huno gymaint â phosibl, yn canolbwyntio ar yr achos cyffredin. Felly, dechreuaf fy ateb drwy ddweud fy mod yn croesawu pob ceiniog y mae Llywodraeth y DU yn ei darparu i fynd i'r afael â'r argyfwng economaidd sy'n ein hwynebu. Rwy'n awyddus i weithio gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU lle bynnag a phryd bynnag y gallaf. Rwy'n credu mai dyna mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gennym—rhoi gwahaniaethau pleidiol o'r neilltu a gweithio mewn undod cyffredin.

O ran y symiau canlyniadol, mae arnaf ofn ei fod yn gwestiwn sy’n fwy addas i’w ofyn i’r Gweinidog cyllid, ac yn sicr, fe wnaf ofyn iddi ymateb iddo’n fanwl, ond o ran yr arian sydd ar gael i fusnesau, gallaf ddweud bod y Gweinidog cyllid eisoes wedi neilltuo £300 miliwn o arian ychwanegol os bydd ei angen, ac mae’n siŵr y bydd. Fe fydd yn ffurfio pedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd. Ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio’r tanwariant o drydydd cam y gronfa cadernid economaidd; bydd yr Aelodau’n cofio fod tanwariant o £35 miliwn gyda’r grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a weinyddwyd, arian y gallem ei addasu at ddibenion gwahanol, ac rydym yn edrych ar sut y gallem wneud hynny. Ar hyn o bryd, rwy'n credu ein bod yn ffafrio ymestyn y dyfarniadau dewisol y mae awdurdodau lleol yn eu rhoi, oherwydd yn fy marn i mae awdurdodau lleol yn adnabod eu hardaloedd, eu cymunedau, eu busnesau, yn hynod o dda ledled Cymru ac felly, mae cael y gallu hwnnw i fuddsoddi mwy ar sail ddewisol yn gwneud synnwyr perffaith. 

13:55

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n cytuno â'ch safbwyntiau hefyd. Rwy'n credu ei bod yn well fod pleidiau'n gweithio gyda'i gilydd lle gall hynny ddigwydd. Roedd yn gwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf, ac efallai eich bod yn iawn i ddweud bod hwn yn gwestiwn i'r Gweinidog cyllid, ond mae Prifysgol Caerdydd wedi amcangyfrif bod mwy na £1 biliwn yn parhau i fod heb ei ddyrannu o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru, felly rwy'n gobeithio'n fawr y gall Llywodraeth Cymru, naill ai chi'ch hun neu'r Gweinidog Cyllid, gadarnhau, os yw hyn yn wir, pam nad yw Llywodraeth Cymru'n ymrwymo'r arian hwn nawr i gefnogi busnesau yn hytrach na'i gadw’n ôl. Felly, rwy'n sylweddoli bod rhan o'r cwestiwn hwnnw i'r Gweinidog cyllid, ond yn sicr, byddwn yn croesawu eich persbectif chi o ran bod yr arian sydd gan Lywodraeth Cymru yn ei chronfeydd wrth gefn yn cael ei wario yn eich maes portffolio chi. Ac os ydych chi'n cytuno â hynny, ai dyma'r math o sgwrs y gallwn ddisgwyl i chi ei chael gyda'r Gweinidog cyllid?

Ie, ac mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn y bydd symiau canlyniadol sy'n deillio o gynnydd mewn gwariant ar gymorth busnes yn Lloegr yn cael eu dyrannu i gymorth busnes yng Nghymru. Y broblem sy'n ein hwynebu yn Llywodraeth Cymru yw ansicrwydd parhaus ynghylch yr arian sydd ar gael. Mae hon yn farathon hefyd; bydd yn para am fisoedd lawer. Bydd hyn yn para am sawl blwyddyn ar sawl ystyr. Bydd yna ganlyniad economaidd i'r argyfwng uniongyrchol, a gwyddom y bydd costau uwch yn gysylltiedig â bron bob gwasanaeth cyhoeddus ac felly, mae'n iawn ac yn gyfrifol i gadw rhywfaint o adnoddau ar gyfer yn nes ymlaen yn yr hydref ac i mewn i'r flwyddyn newydd. Dyna pam y credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod y Gweinidog cyllid wedi rhoi £300 miliwn o gymorth datblygu busnes mewn cronfa wrth gefn.

Diolch am eich ateb. Fe symudaf ymlaen efallai o'r pwynt hwn i fy nghwestiwn olaf heddiw. Pan gyfeiriwn at gefnogi busnesau, rydym yn siarad wrth gwrs nid yn gymaint am fusnesau mawr gyda phentwr o gronfeydd wrth gefn, rydym yn siarad am gwmnïau teuluol bach, busnesau bach sy'n cael eu rhedeg gan unigolion. Mae busnesau angen eglurder ar frys. Nawr, rwy'n gwybod, Weinidog, fod disgwyl i chi wneud datganiad ar y gronfa cadernid economaidd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf ac mae hwnnw bellach wedi'i ohirio tan fis nesaf. O’m rhan i, mae'r pandemig hwn yn niweidio bywoliaeth a bywydau pobl—rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno. Ond mae angen eglurder arnom a hoffwn weld y cyllid hwnnw a'r cam nesaf yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl, oherwydd gwyddom fod bywoliaeth pobl yn dibynnu ar hynny.

Nid wyf yn credu ei bod yn gwbl annheg awgrymu na chafodd cam 3 y gronfa cadernid economaidd ei drefnu cystal ag y gallai fod ac yn sicr—. O'm rhan i, os dywedwch wrth fusnesau fod cronfa gyfyngedig ar gael, ar sail y cyntaf i’r felin, ni ddylem synnu bod gwefannau’r Llywodraeth a Busnes Cymru wedi eu gorlethu o fewn 24 awr. Nawr, mae angen adnoddau priodol ar Busnes Cymru wrth gwrs, a tybed pa mor fanwl oedd y sgyrsiau a gafwyd gyda hwy cyn y cyhoeddiad i sicrhau eu bod mor barod â phosibl ar gyfer lefel y cyswllt a gafwyd â busnesau bach. Roedd peth dryswch hefyd ymhlith awdurdodau lleol mewn perthynas â chael gwahanol ganllawiau a gwahanol ddulliau gweithredu a’r ffaith bod gwahanol setiau o ganllawiau wedi dod i law, felly fy nghwestiwn olaf, yn debyg i un Helen Mary, ond yn y cyd-destun rwyf newydd siarad amdano: pa wersi a ddysgwyd gennych dros y pythefnos diwethaf y gellir eu cymhwyso i'r rownd nesaf o gyllid rydych yn bwriadu ei gyhoeddi?

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Roedd nifer o gwestiynau yno, bob un yr un mor bwysig, rwy'n meddwl. Yn amlwg, bydd gwersi'n cael eu dysgu o bob un o gamau'r gronfa cadernid economaidd ac o gronfeydd eraill sy'n gweithredu mewn portffolios eraill. Un o'r gwersi clir sy'n rhaid inni ei dysgu o ran grant datblygu cam 3 y gronfa cadernid economaidd yw sicrhau bod busnesau'n gwneud ceisiadau ar sail diben y gronfa, nid yn y gobaith o ddenu cyllid at ddiben gwahanol. Gwyddom fod cyfran sylweddol o'r busnesau sy'n gwneud cais am grantiau datblygu yn chwilio am arian brys mewn gwirionedd. Mae'r arian brys yn dal i fod ar gael drwy'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau gwerth £200 miliwn sy'n dal ar gael. Ac felly bydd angen arweiniad clir iawn yn y dyfodol i sicrhau nad yw busnesau'n ceisio gwneud ceisiadau lluosog am ddyfarniadau arian brys, ac i sicrhau bod busnesau'n deall beth y maent yn gwneud cais amdano a'r meini prawf sydd angen eu bodloni hefyd, oherwydd mae meini prawf llym ynghlwm wrth gynllun y grantiau datblygu.

O ran y gronfa cadernid economaidd a'r datganiad ar adfer ac ailadeiladu, mae'r ddau'n wahanol iawn. Y gronfa cadernid economaidd yw'r gronfa sy'n weithredol ar hyn o bryd; mae'n dal yn fyw. Mae'r rhan £200 miliwn o'r gronfa honno ar gael o hyd i fusnesau, ond roedd y datganiad a oedd i fod i gael ei wneud yn y Siambr yr wythnos diwethaf yn ymwneud â'r cynigion hirdymor i ailadeiladu ac adfer yr economi gan Lywodraeth Cymru. O ystyried lle roeddem arni gyda'r cyfnod atal byr, ac o gofio'r ymateb uniongyrchol oedd ei angen i gefnogi busnesau drwy'r cyfnod anodd hwnnw, teimlwyd bod oedi bach cyn amlinellu'r uchelgeisiau hirdymor ar gyfer yr economi yn ddoeth ac yn briodol, ac y dylai'r ffocws yr wythnos diwethaf fod yn gyfan gwbl ar y cymorth uniongyrchol sydd ei angen ar fusnesau, ac mae'n briodol mai felly y bu.

Byddwn yn cytuno bod angen brys ac eglurder bob amser, a dyna pam y mae gennym un pwynt cyswllt ar gyfer busnesau, sef Busnes Cymru. Roeddent dan bwysau—pwysau aruthrol—yn ystod y broses ymgeisio pan oedd y grantiau datblygu'n fyw. Rydym mewn deialog gyson â hwy o ran capasiti. Rydym yn amrywio capasiti yn ôl y galw, ac roeddent yn amlwg yn gweithredu ar y capasiti mwyaf pan oedd y gronfa grantiau honno'n mynd yn fyw. Yr hyn na ragwelais, yn anffodus, oedd yr achosion niferus iawn o gam-drin geiriol. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno ei bod hi'n bwysig iawn i bobl fusnes ddangos parch a chwrteisi at y bobl sy'n eu helpu, ni waeth pa mor anodd yw'r amgylchedd gweithredu iddynt.

14:00
Cynlluniau Gwella Ffyrdd yn Sir Drefaldwyn

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gwella ffyrdd yn Sir Drefaldwyn? OQ55811

Gwnaf, wrth gwrs. Mae cynlluniau mannau cyfyng arfaethedig yn Sir Drefaldwyn yn camu ymlaen tuag at ymgynghoriad cyhoeddus. Rydym bellach wedi cytuno ar raglen adeiladu ddiwygiedig ar gyfer cynllun Pont ar Ddyfi, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ar ddechrau'r gwaith.

Diolch, Weinidog. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf ac fe roesoch ateb i mi, felly byddai'n dda gwybod pryd rydych yn disgwyl gwneud y rhaglen ymgynghori ddiwygiedig honno'n gyhoeddus o ran—. Mae peth oedi wedi bod ar Bont ar Ddyfi oherwydd y pandemig, felly byddai'n dda gwybod pryd y gallwn ddisgwyl gweld cynnydd pellach yn hynny o beth.

Ac os caf hefyd ofyn cwestiynau i chi ynglŷn â chefnffordd yr A470 yng Nghaersŵs. Gosodwyd signalau traffig ar y bont—y bont restredig—yng Nghaersŵs dros y penwythnos, a deallaf fod hynny oherwydd y problemau strwythurol gyda'r bont yr adroddwyd yn eu cylch yn ddiweddar. Felly, efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â beth yw'r pryderon hynny a phryd y gallai’r gwaith arfaethedig fynd rhagddo, ac yn y pen draw, pryd y gellid cael gwared ar y signalau traffig. O ran y bont honno, fe fyddwch yn cofio inni gyfarfod ar y bont honno rai blynyddoedd yn ôl mewn perthynas â phryderon cerddwyr sy’n ei chroesi, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynnig am bont ar ei phen ei hun. Yn fy marn i, byddai'n well lleoli pont ochr yn ochr â’r bont sydd yno eisoes, ond roedd problemau gyda Cadw ar y pryd ynglŷn â bwrw ymlaen ar y trywydd hwnnw, ond efallai y gallai'r broblem bresennol hon a'r bont newydd fod yn brosiect sy'n cysylltu â'i gilydd. Felly, efallai fod angen ailedrych ar hynny.

Ac yna, ychydig lathenni i fyny'r ffordd, ceir cynigion ar gyfer cylchfan ar gyffordd yr A470—

A allwch ddod â'ch cwestiwn i ben? Rydych wedi cael hen ddigon o amser ar hyn y prynhawn yma.

Felly, ar y gylchfan honno, rydym yn aros am ymgynghoriad pellach hefyd, felly efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny hefyd.

Credaf fod nifer y cynlluniau y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atynt yn dangos pa mor awyddus yr ydym i fuddsoddi yn etholaeth yr Aelod—[Chwerthin.]—a pha mor awyddus yr ydym i fwrw ymlaen â’r cynlluniau hynny cyn gynted â phosibl.

O ran y cynllun newydd Pont ar Ddyfi ar yr A487, yn amlwg, mae COVID-19 wedi cael effaith, o ran ein gallu i ymgynghori â'r gymuned, ond mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gydag Alun Griffiths (Contractors) Limited i gwblhau a chytuno ar raglen adeiladu ddiwygiedig. Fel y dywedais, byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ynglŷn â phryd y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn cyn bo hir iawn, ond rydym yn hynod o awyddus i fwrw ymlaen â hynny fel mater o frys, gan y gallai gyfrannu at yr adferiad ar ôl y coronafeirws—yr adferiad economaidd, hynny yw.

O ran y prosiectau eraill, a'r cyfyngiad lonydd ar yr A470 ar bont Caersŵs, mae'r Aelod yn llygad ei le y bu pryderon ynghylch cyflwr y bont, yn benodol cyflwr y tri bwa cerrig rydym yn edrych arnynt fel mater o frys. Rydym yn comisiynu dadansoddiad pellach o'r strwythur ar fyrder, a bydd y gwaith, wedi iddo gael ei gwblhau, yn llywio'r angen am unrhyw waith a mesurau diogelwch pellach.

Mae'r Aelod yn llygad ei le fod cynnig y bont droed yn dod yn ei flaen. Mae cam 2 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru wedi symud ymlaen er mwyn darparu digon o wybodaeth am yr opsiwn a ffafrir ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Wedi i fanylion amlinellol y groesfan gael eu cwblhau, a disgwylir i hynny gymryd tan ddiwedd eleni, byddwn mewn sefyllfa i ymgynghori â'r cyhoedd. Gallaf roi gwybod i’r Aelod, yn amlwg, y cysylltwyd â pherchnogion tir a bod eu sylwadau'n cael eu hystyried lle bynnag y bo hynny'n berthnasol. Ar ôl i mi gael canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus, gallaf ystyried y camau nesaf, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud bryd hynny gyda manylion am y rhaglen wrth symud ymlaen.

Wedyn, o ran y gylchfan hefyd, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â'r wybodaeth ddiweddaraf ar raglen waith cam 2 WelTAG ar gyfer cylchfan Caersŵs ar yr A470.

14:05
Isadeiledd Rheilffyrdd yn y Gogledd

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am isadeiledd rheilffyrdd yn y gogledd? OQ55838

Mae metro gogledd Cymru yn allweddol i’r broses o ddarparu system drafnidiaeth integredig, effeithlon a gwell ar gyfer y rhanbarth. Bydd hyn yn cynnwys yr angen i wella’r seilwaith rheilffyrdd, darparu gorsafoedd newydd, ac wrth gwrs, cyflwyno gwasanaethau newydd.

Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol, dwi'n siŵr, o'r camau sydd ar y gweill i wneud cais i gronfa syniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn edrych ar y posibilrwydd o ailagor y llinell rhwng Bangor ac Afonwen. Nawr, mi fyddai hynny, wrth gwrs, yn cwblhau loop pwysig iawn o safbwynt y gogledd-orllewin, a gyda datblygiad posibl y llinell o Aberystwyth i Gaerfyrddin, mi fyddai hynny yn trawsnewid yr isadeiledd rheilffyrdd yng ngorllewin Cymru. Ond, a gaf i ofyn yn benodol ynglŷn â Bangor ac Afonwen, pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu i wireddu'r uchelgais hwnnw a pha gefnogaeth, yn ymarferol ac mewn egwyddor, wrth gwrs, y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i'r cynllun?

A gaf fi ddiolch i Llyr Huws Gruffydd am ei gwestiwn? Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU yn parhau i reoli'r seilwaith rheilffyrdd ac maent yn gyfrifol am fuddsoddi ynddo yma yng Nghymru. Yn amlwg, byddai’n well gennym pe bai gennym reolaeth drosto, ond am y tro, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol amdano.

Rydym wedi cyflwyno cais i gronfa syniadau newydd Llywodraeth y DU ar gyfer astudiaethau ar ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch, ynghyd â mesurau teithio llesol ategol. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen, drwy Trafnidiaeth Cymru, â’r astudiaeth arloesedd rheilffyrdd, a disgwylir cam 1 yr astudiaeth honno yn gynnar y flwyddyn nesaf. Nod yr astudiaeth honno yw datblygu galluoedd posibl ar gyfer llwybrau rheilffyrdd newydd, a fyddai'n lleihau costau ac yn gwella gweithrediadau, a bydd hynny'n effeithio ar wasanaethau lleol a chenedlaethol.

Yn ddaearyddol, mae'r astudiaeth yn ystyried—a gwn y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn sawl prosiect yma—cysylltedd lleol rhwng Ynys Môn, arfordir gogledd Cymru ac arfordir y Cambrian, gan gynnwys aneddiadau allweddol Amlwch, Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Aberystwyth, Pwllheli, Abermaw a Blaenau Ffestiniog, a chan gynnwys, wrth gwrs, rheilffordd dyffryn Conwy. Mae'r astudiaeth hefyd yn edrych ar gysylltedd rhwng Aberystwyth, bae Abertawe a Chaerfyrddin, a hefyd cysylltedd gogledd-de rhwng Caerdydd, Abertawe, Bangor a Chaernarfon.

Nawr, bydd yr adroddiad ar yr astudiaeth honno’n cael ei gyhoeddi ar ôl iddo gael ei gwblhau, a byddwn yn ei ystyried, ond mae’n astudiaeth hynod bwysig a fydd yn ein galluogi i lywio gwariant Llywodraeth y DU yn y dyfodol wrth iddi geisio codi lefelau yn y DU, a chynyddu ei gwariant ar seilwaith yng Nghymru drwy hynny wrth gwrs.

Busnesau yng Ngorllewin De Cymru

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar fusnesau yng Ngorllewin De Cymru? OQ55827

14:10

Wel, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru i ymdrin â'r effaith uniongyrchol yn ogystal â chynllunio ar gyfer yr adferiad. Mae ein timau rhanbarthol yn barod i gynnig cymorth i fusnesau ac mae ein gwasanaeth Busnes Cymru hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor i'r rheini sydd ei angen.

Diolch, Weinidog. Mae'r pandemig wedi difetha economi fy rhanbarth, ac er y gall y feirws ddinistrio bywydau, mae'r mesurau i'w reoli wedi dinistrio bywoliaeth pobl, ac mae gormod lawer o fy etholwyr wedi colli eu swyddi a'u busnesau. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn rhy aml o lawer, nid yw wedi bod yn ddigon.

Cysylltodd un o fy etholwyr â mi, ac roeddent yn gresynu at broses y grantiau datblygu busnes yng ngham 3 y gronfa cadernid economaidd. Treuliodd y cwmni ddyddiau'n paratoi cynllun busnes i’w gyflwyno gyda'u cais, cyn darganfod bod y ceisiadau wedi cau'n gynnar. Maent yn credu—ac rwy'n cytuno â hwy—y dylid prosesu ceisiadau yn ôl teilyngdod yn hytrach na'r cyntaf i'r felin. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried mabwysiadu'r dull hwnnw o weithredu os gwelwch yn dda?

A gaf fi ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiwn a'r cyfle y mae’n ei roi i mi ddarparu sicrwydd i bob busnes, ledled Cymru, y bydd yr holl geisiadau am gyllid grant datblygu yn cael eu hasesu ar sail ansoddol, yn ôl teilyngdod, ac na fyddwn yn dyfarnu arian ar sail y cyntaf i'r felin, ond yn ôl safon y ceisiadau? Dyna pam ein bod eisoes wedi gwrthod nifer o geisiadau, gan nad oeddent o safon ddigonol neu am nad oeddent wedi cynnwys y ddogfennaeth angenrheidiol a amlinellwyd yn nhudalennau meini prawf Busnes Cymru.

Gallaf ddweud, mewn ymateb i'r argyfwng economaidd—ac mae wedi bod yn ddigynsail—yn Abertawe yn unig, mae mwy nag 8,500 o ddyfarniadau eisoes wedi mynd i fusnesau drwy ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn, y pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Yn hanfodol, mewn perthynas â phwynt a godwyd gan Russell George, mae’r rhan fwyaf o’r dyfarniadau hynny'n mynd i’r microfusnesau a’r busnesau bach a chanolig sydd wrth wraidd ein cymunedau a'n heconomïau lleol. Felly, mae ein hymyrraeth wedi bod yn ddigynsail. Fe'i lluniwyd i ategu cynlluniau cymorth ffyrlo a hunangyflogaeth Llywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, wrth inni edrych ymlaen tuag at rownd cam 4 y gronfa cadernid economaidd yn y dyfodol, byddwn yn dysgu o bob un o'r tri cham cyntaf, yn ogystal ag o'r cronfeydd eraill a weithredir gan fy nghyd-Aelodau.

Weinidog, rydych wedi ateb llawer o gwestiynau ar letygarwch yng ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill, ond hoffwn atgoffa pobl fod lletygarwch yn bodoli ledled Cymru, ac yn enwedig yn fy etholaeth i, sy'n gwneud cryn dipyn i wasanaethu'r economi ymwelwyr, ac yn enwedig y llwybrau beicio mynydd gwych yng nghwm Afan. Mae busnesau fel yr Afan Lodge, sy'n darparu ar gyfer yr ymwelwyr hynny, wedi dioddef cwymp sylweddol yn eu busnes o ganlyniad i gyfyngiadau lleol yma yng Nghymru, ac yna'r cyfyngiadau symud cenedlaethol yma yng Nghymru, ond bellach y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn Lloegr hefyd. Maent yn ei chael hi’n anodd o ganlyniad i'r cyfyngiadau hyn, ac mae busnesau fel y cyfryw yn mynd i’w chael hi’n anodd dros fisoedd y gaeaf. Cafodd y cynllun ffyrlo ei ymestyn yn rhy hwyr iddynt, yn anffodus, oherwydd erbyn i'r estyniad gael ei roi, roeddem hanner ffordd drwy ein cyfnod atal byr ein hunain. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y gall y busnesau hyn, a oedd yn broffidiol iawn cyn y pandemig, barhau'n weithredol a goroesi drwy’r gaeaf er mwyn bod yn ddigon cryf i ailddechrau gweithredu y flwyddyn nesaf?

Wel, a gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn a chydnabod gwerth yr economi ymwelwyr i'w etholaeth? Mae'n sylweddol iawn yn wir. Ledled Cymru, mae nifer y swyddi sy'n cael eu diogelu yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch yn hynod bwysig ac yn darparu cyfleoedd i gymunedau ffynnu. Felly, yn ystod y cyfnod atal byr, roeddem yn pryderu ynglŷn â hyfywedd busnesau, a dyna pam y gwnaethom ddarparu £300 miliwn o gefnogaeth, gan gynnwys y £200 miliwn hanfodol hwnnw o gymorth grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud. A gallaf hysbysu’r Aelod fod mwy na 1,000 o ddyfarniadau eisoes wedi'u gwneud fel rhan o'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn ei etholaeth, ac mae hynny wedi diogelu 3,750 o swyddi—gyda llawer iawn ohonynt yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.

Economi Gogledd Cymru

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyfyngiadau symud ar economi gogledd Cymru? OQ55819

Fel y nodais mewn ymateb i gwestiwn 1, mae’r pandemig, ac wrth gwrs, diwedd cyfnod pontio’r UE sydd ar y gorwel, yn peri cryn ansicrwydd a chyfnod pryderus i fusnesau ledled gogledd Cymru, a dyna pam ein bod yn parhau i gynnig y pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

14:15

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae economi ein rhanbarth yn dibynnu’n fawr ar dwristiaeth a’r sector lletygarwch, fel y mae pobl eraill wedi’i ddweud hefyd. Diolch i waith caled y sector lletygarwch, mae data profi ac olrhain yn awgrymu mai 1 y cant yn unig o’r bobl sydd wedi dal COVID-19 a’i daliodd mewn tafarndai, bwytai neu gaffis. Felly, ymddengys i mi fod risg eithriadol o isel ynghlwm wrth dafarndai a bwytai. Rwy'n eu llongyfarch ar eu dewrder a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Weinidog, a wnewch chi ddadlau y dylai unrhyw gyfyngiadau pellach, gan gynnwys cyrffyw, fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o drosglwyddiadau? Awgrymaf fod eich Llywodraeth yn canolbwyntio ei sylw lle mae angen gwneud hynny ac nid ar fusnesau sydd o ddifrif yn gwneud popeth a allant i gefnogi eich nodau a gwneud bywoliaeth onest. Diolch.

A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn a dweud fy mod yn cytuno’n llwyr fod dewrder ac arloesedd a chyfrifoldeb busnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch wedi bod yn anhygoel yn ystod y pandemig hwn? Rydym yn dymuno cefnogi busnesau ym mhob ffordd y gallwn i barhau i fod yn hyfyw, i oroesi’r pandemig hwn. Wrth gwrs, mae'r risg o drosglwyddiad mewn gofod wedi'i reoli bellach yn llai na'r risg mewn annedd ddomestig, lle ceir risg y bydd nifer o aelwydydd yn cymysgu. Serch hynny, mae'r risg yn bodoli o hyd. Ac yn ystod y cyfnod atal byr yn enwedig, bu’n rhaid inni sicrhau bod unrhyw feysydd gweithgarwch lle ceir risg mewn perthynas â ​​throsglwyddo'r feirws—fod y risg honno naill ai'n cael ei dileu neu ei gostwng i’r lefel isaf bosibl. Dyna pam y gwnaethom gymryd camau gweithredu am gyfnod byr iawn. Roedd yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol o'r gell cyngor technegol, sy'n cyhoeddi'r dogfennau sy'n darparu'r dystiolaeth i Weinidogion. Ac wrth gwrs, wrth inni symud ymlaen nawr ar ôl y cyfnod atal byr, mae'r busnesau hynny sydd wedi dangos cyfrifoldeb yn ôl yn weithredol unwaith eto erbyn hyn, ac rydym yn gobeithio bod y cyfnod atal byr wedi rhoi hyblygrwydd i ni rhwng nawr a diwedd y flwyddyn.

Weinidog, efallai y caniateir i'r busnesau hynny weithredu, ond mae 90 y cant o'u cwsmeriaid yn byw mewn rhan o'r DU na chaniateir iddynt ei gadael a dod i mewn i Gymru. A ydych yn derbyn bod y cyfyngiadau teithio yn cael cymaint o effaith, yn enwedig ar ein busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth—ac unrhyw fusnes, mewn gwirionedd, sy'n dibynnu ar yr economi ymwelwyr, fel y rheini yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Clwyd? A ydych yn derbyn bod angen cymorth penodol ychwanegol arnynt, yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir ar hyn o bryd gan y gronfa cadernid economaidd? Fe fyddwch yn ymwybodol fod y busnesau hynny yn y gornel honno o ogledd-ddwyrain Cymru nid yn unig wedi wynebu'r cyfnod atal byr, ond hefyd wedi wynebu tair wythnos o gyfyngiadau lleol ar ben hynny. Felly, dyna bum wythnos o gyfyngiadau difrifol, cyfyngiadau teithio, sydd wedi bwyta i mewn i’w busnesau. Mae arnynt angen yr holl gymorth y gallant ei gael, ac mae arnaf ofn, er gwaethaf haelioni Llywodraeth Cymru drwy ei chronfa cadernid economaidd, nad yw'r gefnogaeth honno'n ddigonol eto.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Gallai’r problemau a nodwyd fod wedi’u hosgoi pe bai Prif Weinidog y DU wedi cytuno i gael cyfnod atal byr ar yr un pryd â ni, yn union fel roedd yr arbenigwyr gwyddonol yn ei argymell. Yn fy marn i, mae cyfnod atal byr 17 diwrnod yn llawer mwy dymunol i fusnesau na chyfnod atal pedair wythnos, fel sydd bellach ar waith yn Lloegr. Mae’n drueni na phenderfynodd Prif Weinidog y DU roi cyfnod atal byr ar waith ar yr un pryd â’r Prif Weinidog yng Nghymru. Ond wrth edrych tua’r dyfodol, rwy'n falch fod trafodaethau ynglŷn â'r Nadolig ar y gweill, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn mabwysiadu dull cyffredin o weithredu ledled y DU.

O ran y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fusnesau, rwyf eisoes wedi dweud ar sawl achlysur bellach ein bod yn cyflwyno'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae cam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd wedi cynnwys cronfa o £20 miliwn wedi’i chlustnodi ar gyfer busnesau ym maes twristiaeth a lletygarwch. Ac rwyf hefyd yn cydnabod, yn yr ardaloedd ffiniol hynny—y math o ardal rwy’n ei chynrychioli—ei bod yn anodd i fusnesau sy'n dibynnu ar gwsmeriaid o'r ochr arall i'r ffin. I’r un graddau, serch hynny, mae ganddynt farchnad gaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, o gofio bod y cyfnod atal byr wedi dod i ben yng Nghymru ac na all pobl deithio i Loegr i fynd i dafarndai, caffis neu fwytai. Ac felly, mae cyfle i'r lleoliadau hynny yng Nghymru ffynnu yn seiliedig ar gwsmeriaid o Gymru. Ond wrth gwrs, yn y dyfodol, byddem yn dymuno gweld y DU, y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU yn cytuno ar ddull cyffredin o weithredu, ac mae’n rhaid i'r dull hwnnw fod yn seiliedig ar y wyddoniaeth a gyflwynir i Weinidogion.

14:20
Busnesau Lletygarwch

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau lletygarwch ar ôl y cyfnod atal byr? OQ55818

Gwnaf, wrth gwrs. Mae ein pecyn presennol o £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn agored i geisiadau. Yn y cyfamser, rydym yn asesu ceisiadau a wnaed i’n cronfa gwerth £100 miliwn ar gyfer grantiau datblygu busnes, a oedd yn cynnwys £20 miliwn o gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch. Bwriad y gronfa honno yw cefnogi busnesau i ddatblygu prosiectau er mwyn iddynt allu ffynnu yn y tymor hwy.

Weinidog, mae busnesau lletygarwch mewn anobaith llwyr yn Aberconwy. Mae'r gyfradd o eiddo llety sy’n llawn wedi gostwng i ddim mewn rhai achosion, gan ei bod yn ffaith bod 80 y cant o'r fasnach yn dod o Loegr. O gofio bod Conwy wedi cael cyfyngiadau lleol hefyd, y gwir amdani yw na fydd busnesau yn Aberconwy wedi gallu masnachu ers oddeutu wyth wythnos erbyn i gyfyngiadau Lloegr ddod i ben. Ni wnaeth 75 y cant o'r ymatebwyr i arolwg Twristiaeth Gogledd Cymru lwyddo i wneud cais cyn y dyddiad cau sydyn ar gyfer cam 3 y gronfa cadernid economaidd—75 y cant. Pa gymorth y mae'r Gweinidog yn ei gynnig i gefnogi'r rheini sydd bellach ar ymyl y dibyn? A wnewch chi ddarparu grantiau ariannol i gefnogi busnesau twristiaeth sy'n dioddef cwymp yn nifer y cwsmeriaid y mis hwn? Ac a oes unrhyw arian yn weddill o'r £20 miliwn a glustnodwyd i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch fel rhan o gam 3 y gronfa cadernid economaidd? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn? Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi fod y pwysau ar ddarparwyr llety o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud yn Lloegr yn anffodus, yn amlwg, ond mae'n angenrheidiol. Mae’n angenrheidiol dod â'r feirws dan reolaeth yn Lloegr, fel y buom yn ei ddwyn dan reolaeth yng Nghymru, er mwyn diogelu gweddill tymor 2020 i fusnesau ac er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi hyblygrwydd i’r GIG rhwng nawr a'r flwyddyn newydd. Rydym wedi bod yn darparu, a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i'r busnesau a effeithiwyd yn ddifrifol. Mae'r gronfa gwerth £200 miliwn i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn dal i fod ar gael i fusnesau—y busnesau yr effeithiwyd arnynt nid yn unig yn ystod y cyfnod atal byr ond hefyd yn ystod y cyfnod cyn hynny, pan oedd trefniadau cyfyngiadau lleol ar waith. Mae'r gronfa honno ar gael o hyd. Byddwn yn annog pob Aelod i gyfeirio at y gronfa honno pan fydd busnesau'n cysylltu â hwy. Ac er ei bod yn annhebygol iawn y ceir tanwariant sylweddol yn y gronfa grantiau datblygu sydd wedi’i chlustnodi ac sy’n werth £20 miliwn, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, rydym yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio tanwariant o £35 miliwn o gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd i gefnogi busnesau, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn rhoi’r disgresiwn i awdurdodau lleol fel y gallant roi arian i fusnesau gan ddefnyddio'r tanwariant hwnnw, y £35 miliwn hwnnw. Dyna fyddai orau gennyf.

Busnesau yng Nghaerffili

8. Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghaerffili yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr a'r cyfyngiadau lleol a oedd ar waith cyn hynny? OQ55824

Diolch. Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau eraill, mae ein pecyn presennol o £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn agored i geisiadau, ac mae £40 miliwn eisoes wedi'i dalu i fwy na 14,000 o fusnesau ledled Cymru ers dechrau'r cyfnod atal byr.

Diolch, Weinidog. Mae fy signal yma yn gwbl warthus, felly nid wyf wedi gallu dilyn yr hyn rydych chi wedi bod yn ei ddweud hyd yma. Felly, rwyf am nodi rhai achosion sydd gennyf, ac efallai y gallwch egluro beth y gall y bobl hyn ei wneud. Mae nifer wedi cysylltu â mi yn ystod y chwe wythnos y bu Caerffili dan gyfyngiadau lleol—busnesau yr effeithiwyd yn ddifrifol ar eu hincwm. Ni lwyddodd un perchennog tŷ llety yn nhref Caerffili i gael mynediad at gymorth drwy gam 3 y gronfa cadernid economaidd oherwydd, fel y dywedodd wrthym, mae gwiriwr cymhwysedd grantiau Busnes Cymru yn gwahardd unig berchnogion hunangyflogedig fel yntau. Ni chafodd triniwr gwallt ym Margoed sy'n hunangyflogedig ac sy’n rhentu ei heiddo—llawr cyntaf adeilad yng nghanol y dref—unrhyw gefnogaeth yn gynharach yn y flwyddyn ac nid yw wedi gallu cael cefnogaeth drwy gam 3 y gronfa cadernid economaidd chwaith. Dau fusnes yn unig yw'r rhain sydd wedi cysylltu â mi i rannu eu rhwystredigaeth gyda’r broses o wneud cais am gymorth mawr ei angen drwy gam 3 y gronfa cadernid economaidd, cronfa a oedd wedi’i dihysbyddu o fewn llai na 48 awr i agor. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau nad yw'r etholwyr a'r busnesau hyn yn cwympo drwy'r bylchau hynny?

Diolch i Hefin David am ei gwestiynau. Byddaf mor gryno ag y gallaf. Bydd y busnesau sydd wedi cofrestru i dalu ardrethi busnes yn derbyn grantiau yn awtomatig. Y cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw diweddaru eu manylion. Os hoffent dderbyn ychwanegiad disgresiynol, bydd angen iddynt wneud cais byr iawn, ond mae'r dyfarniadau hynny'n awtomatig pan fydd busnes wedi diweddaru eu manylion, ar gyfer unrhyw fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer ardrethi busnes gwerth hyd at £50,000.

Ac yna o ran y busnesau y cyfeiriodd atynt—y rheini sy'n hunangyflogedig neu'n unig fasnachwyr—mae cronfa ddewisol o £25 miliwn ar gael sy'n cael ei gweithredu gan awdurdodau lleol i gynorthwyo'r mathau hynny o fusnesau. Felly, unwaith eto, byddwn yn eu cyfeirio tuag at yr awdurdod lleol yng Nghaerffili, sy'n gweithredu'r gronfa ddewisol. Mae'n werth dweud, o ran y cymorth rydym wedi gallu ei roi i Gaerffili hyd yn hyn fel rhan o gam 3 y gronfa cadernid economaidd, fod mwy na 1,200 o ddyfarniadau eisoes wedi'u gwneud i fusnesau yng Nghaerffili. Mae nifer enfawr o fusnesau wedi derbyn cyllid, ac mae 5,000 o swyddi, sy’n ffigur rhyfeddol, wedi cael eu cefnogi drwy drydydd cam y gronfa cadernid economaidd yng Nghaerffili yn unig hyd yn hyn. Mae hwnnw'n ffigur rhyfeddol, o ystyried nad yw’r rhan helaethaf o’r cymorth ariannol wedi cyrraedd busnesau eto.

14:25
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn rhinwedd ei gyfrifoldebau am bontio Ewropeaidd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.

Polisi Masnach y DU

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi masnach y DU fel y mae'n ymwneud â Chymru? OQ55823

Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod cychwynnol gyda Gweinidog Gwladol y DU dros fasnach, Greg Hands. Rwy'n bwriadu parhau i adeiladu ar y patrwm o ymgysylltu a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd a byddaf yn cynnal trafodaethau dwyochrog rheolaidd gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys bod yn rhan o'r fforwm gweinidogol ar gyfer masnach.

Diolch am eich ateb, ond ceir pryderon penodol. Y mis diwethaf, gwrthododd Llywodraeth y DU y gwelliannau i’r Bil Amaethyddiaeth a osodwyd gan Dŷ’r Arglwyddi a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gytundebau masnach fodloni safonau diogelwch bwyd a safonau lles anifeiliaid y DU o leiaf. Rwyf wedi cael cryn dipyn o sylwadau gan ffermwyr a'u grwpiau, yn ogystal â diwydiannau fel y sector lletygarwch, sy'n wirioneddol bryderus am yr hyn y gallai hynny ei olygu i safonau bwyd y DU, a chystadleuaeth annheg hefyd. Y pryder yw, os gwneir cytundebau masnach â gwledydd a chanddynt safonau cynhyrchu bwyd is o lawer nag sydd gennym ni ar hyn o bryd—yr hyn y gallai hynny ei olygu iddynt hwy. Felly, rwy'n falch eich bod wedi dweud eich bod yn cael cyfarfodydd, ond pa asesiad a wnaethoch o’r posibilrwydd y bydd y bwyd is-safonol hwnnw'n llifo i’r DU, ac i Gymru'n benodol, gan effeithio ar ein marchnad a chynhyrchiant ein bwyd, a'r effaith, y sgil effaith, ar gynhyrchwyr bwyd yma, yn enwedig yn fy etholaeth i?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol ac am ei chefnogaeth barhaus i gynhyrchwyr bwyd yn ei rhanbarth. Rydym wedi dadlau’r achos yn gyson i Lywodraeth y DU yng nghyd-destun y trafodaethau masnach rhyngwladol o ran pa mor bwysig yw cynnal safonau bwyd er mwyn amddiffyn ein cynhyrchwyr bwyd yma yng Nghymru. Mae'n rhan bwysig, mewn gwirionedd, nid yn unig o'r sicrwydd a roddwn i ddefnyddwyr yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, ond hefyd o frand Cymru yn rhyngwladol, wrth inni geisio manteisio ar gyfleoedd pellach i allforio yn y dyfodol. Felly, rydym yn bryderus iawn ynghylch unrhyw bosibilrwydd o ostwng safonau a'r tandorri prisiau y gallai hynny ei olygu o bosibl. Mae'n rhaid inni beidio â rhoi ein cynhyrchwyr mewn sefyllfa lle maent yn wynebu cystadleuaeth annheg. Felly, rwy'n rhoi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn parhau i ddadlau’r achos hwnnw i Weinidogion Llywodraeth y DU. Fe fydd hi hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod y bygythiad o safonau is, yn anuniongyrchol o bosibl o ganlyniad i fewnforion o rannau eraill o'r byd, yn un o'r rhesymau pam ein bod wedi bod mor bryderus ynghylch cynigion Llywodraeth y DU yn y Bil marchnad fewnol, sydd, fel y gŵyr, wedi’i gynllunio i raddau helaeth i sicrhau mai'r safonau isaf a fydd i'w gweld ar draws unrhyw ran o'r DU. Gwn y bydd yn rhannu ein pryderon difrifol ynglŷn ag effaith y Bil hwnnw a'n gwrthwynebiad i'w ddarpariaethau.

14:30

Gwnsler Cyffredinol, mae'n ymddangos eich bod wedi dweud yn eich ateb i Joyce Watson mai Llywodraeth y DU a ddylai fod yn arwain ar negodiadau masnach gyda pha barti bynnag sy'n cymryd rhan. Yn y gorffennol, rydych wedi cwyno nad yw Cymru'n gallu cyflwyno ei rheolau a'i rheoliadau gwahanol i rai'r DU yn gyffredinol. Onid ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y DU yn dangos safbwynt unedig yn y negodiadau hyn, yn enwedig gyda'r rheolau a'r rheoliadau mewn perthynas â mewnforio ac allforio nwyddau, a gwasanaethau yn wir? Ac mae'n rhaid inni beidio ag anghofio bod llawer o achosion wedi bod o gynhyrchion bwyd gwael iawn yn dod o'r UE dros y blynyddoedd.

Wel, rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi'i chael hi'n anodd ymatal rhag gwneud y sylw diwethaf hwnnw. Ond rwyf eisiau bod yn glir gyda'r Aelod fod ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU mewn perthynas â safbwynt negodi Llywodraeth y DU â thrydydd gwledydd, h.y. y tu hwnt i'r UE, wedi bod yn gadarnhaol. Ac fel y soniais yn fy ateb i Joyce Watson, mae yna batrwm o ymgysylltiad rydym wedi bod yn manteisio arno. A'r rheswm pam fod hwnnw mor bwysig yw oherwydd ei fod yn ein galluogi ni fel Llywodraeth, ar ran cynhyrchwyr a defnyddwyr bwyd Cymru, i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU dros y mathau o safonau rwyf newydd fod yn sôn amdanynt yn fy atebion blaenorol.

O ran y pwynt y mae'n ei wneud am safbwynt unedig yn y DU—cytunaf yn llwyr ag ef fod hynny'n well, os gellir ei gyflawni, mewn trafodaethau rhyngwladol. Rwy'n gresynu, fodd bynnag, nad yw'r ffordd y cynhaliwyd y negodiadau gyda'r UE wedi ceisio cyflawni'r safbwynt DU gyfan hwnnw. A chredaf, yn y pen draw, y bydd hwnnw'n gyfle a gollwyd i Lywodraeth y DU.

Brexit heb Gytundeb

2. Pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb? OQ55841

Mae 'Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020', a gyhoeddais heddiw, yn nodi'r camau y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid eu cymryd i liniaru rhai o'r heriau i Gymru ar ôl diwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys yn yr amgylchiadau trychinebus ein bod yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach.

Diolch. Mae'r risg y bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb, a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol, yn real iawn, fel y cydnabuwyd. Mae'r holl dystiolaeth gredadwy yn awgrymu y bydd canlyniadau economaidd andwyol sylweddol yn sgil unrhyw newid sydyn a llym o'r fath i'n perthynas fasnachu o fewn yr UE. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith niweidiol bosibl y gallai hyn ei chael ar gyflogaeth yn Islwyn, a pha fesurau lliniaru sydd ar gael i wrthdroi hyn, o gofio'r niwed y gallai cynigion presennol y Bil marchnad fewnol ei wneud i reolaeth Cymru dros wariant Cymru?

Cytunaf â'r Aelod fod yr holl dystiolaeth gredadwy yn dangos y bydd canlyniad 'heb gytundeb' yn cael effaith andwyol iawn ar yr economi, ac y gallai hynny, dros y tymor hir—10 i 15 mlynedd, efallai—arwain at incymau oddeutu 10 y cant yn is na'r hyn y byddent wedi bod fel arall. A gyda llaw, mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn gyson â'r darlun hwnnw ar y cyfan. Byddai gadael y cyfnod pontio heb gytundeb yn effeithio'n sylweddol iawn ar sectorau mawr. A byddai hynny'n digwydd, ac nid oes angen i mi ei hatgoffa o hyn, ar adeg pan fo'r economi eisoes yn dioddef effaith pandemig COVID. Felly, yn yr ystyr honno, ni allai dewis gadael ar y sail honno ddigwydd ar adeg waeth.

Fe fydd hi'n ymwybodol o'r ymyriadau economaidd y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u gwneud, naill ai drwy'r gronfa bontio'r UE neu'n fwy diweddar, drwy gamau diweddarach y gronfa cadernid economaidd, a gynlluniwyd i helpu busnesau i fod yn fwy gwydn, ac i fod yn fwy gwydn fel cyflogwyr, yn y dyfodol. Ac mae ystod eang o gymorth busnes ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o gynorthwyo cyflogwyr i gynnal eu sefyllfa. Ac yn wir, bydd nifer o'r ymyriadau sydd wedi'u cyflwyno yng nghyd-destun COVID, mewn perthynas â chyflogadwyedd a chymorth swyddi yn arbennig, o fudd i'w hetholwyr yng nghyd-destun gadael y cyfnod pontio heb gytundeb hefyd wrth gwrs.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Hoffwn ofyn rhai cwestiynau mewn perthynas â'ch cyfrifoldebau adfer COVID, os yw hynny'n iawn, Weinidog? Ers inni siarad ddiwethaf, mae ein cenedl gyfan, a'r rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi bod dan ryw fath o gyfyngiadau, ac maent bellach wedi dod i ben. A allwch chi ddweud wrthym pa effaith y mae'r cyfyngiadau hynny wedi'i chael ar strategaeth adfer COVID hirdymor Llywodraeth Cymru?

Wel, mae fy nghyfrifoldebau mewn perthynas ag adfer COVID wedi dod i ben gyda chyhoeddi'r cynllun gweithredu ar ddechrau mis Hydref. Felly, rwy'n hapus iawn i gyfeirio ei gwestiwn at y cyd-Weinidog perthnasol a fydd yn gallu rhoi ateb iddo.

Felly, nid oes yna Weinidog adfer COVID ar hyn o bryd, Weinidog? Nid oeddwn yn ymwybodol fod eich cyfrifoldebau adfer COVID wedi dod i ben. Ond mae'n ddefnyddiol iawn cael o leiaf ryw fath o gadarnhad o hynny i Aelodau'r Senedd hon. Byddwn wedi meddwl y dylem fod wedi cael gwybod hynny ymhell cyn i chi ymddangos ger ein bron heddiw.

Mewn perthynas â'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych, felly, a gaf fi ofyn pa drafodaethau a gafwyd gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet ynglŷn ag effaith COVID-19 ar ailadeiladu Cymru ar ôl y pandemig? Yn amlwg, rwyf wedi bod yn bryderus iawn, ac rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd, o weld bod lefel diweithdra yng Nghymru wedi bod yn codi, a hynny'n gyflymach nag y gwnaeth mewn rhannau eraill o'r DU. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i benderfynu a oes cysylltiad rhwng hynny a hyd a llymder y cyfyngiadau lleol, ar y cyd â'r cyfnod atal rydym newydd fod drwyddo gyda'r cyfyngiadau cenedlaethol ledled Cymru?

Wel, rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt a wneuthum yn gynharach, Lywydd. Bydd y cwestiwn ar y papur trefn yn dangos yn gwbl glir yn rhinwedd pa swyddogaeth rwy'n ateb y cwestiynau heddiw, a chyfeiriaf yr Aelod at sylwadau'r Prif Weinidog mewn perthynas â hyn yn y pwyllgor y gwnaethom ein dau fynychu yn ddiweddar iawn.

Ond y pwynt y mae'n ei wneud, mewn perthynas â'r ddogfen ei hun—rwy'n credu bod y ddogfen yn amlinellu rhai o'r risgiau sylweddol y mae economi Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i COVID ac mae'n rhagweld y bydd nifer sylweddol o swyddi'n cael eu colli, yn enwedig ymhlith carfannau penodol o bobl yng Nghymru. A dyna'n union pam fod un o'r blaenoriaethau a nodwyd ynddi'n ymwneud â sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod pobl yn aros mewn gwaith lle mae ganddynt waith, neu yn y sefyllfa orau i gael gwaith newydd, os mai dyna'r llwybr sydd ar gael iddynt. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â buddsoddiad sylweddol mewn swyddi a chyflogadwyedd o'r math y mae Gweinidog yr economi eisoes wedi'i gyhoeddi. Mae rhywfaint ohono'n ymwneud ag ysgogi'r economi drwy fentrau sydd â chanlyniadau cadarnhaol eraill yng nghyd-destun COVID. Felly, bydd rhai o'r ymyriadau sy'n ymwneud â thai gwyrdd ac adeiladu tai yn digwydd yn y fan honno. Ac mae'r edefyn hwnnw, rwy'n credu, yn rhedeg drwy'r ddogfen i gyd mewn ffordd sy'n dangos, rwy'n credu, fod effaith COVID ar ein cymdeithas yn amlweddog iawn, yn anffodus.

Mae'n amlweddog yn wir, ac rwy'n falch fod y ddogfen honno wedi'i llunio. Fel y gwyddoch, roedd gennyf bryderon am rai elfennau nad oeddent yn cael sylw helaeth yn y ddogfen honno, yn enwedig mewn perthynas ag absenoldeb ymgysylltiad â phobl hŷn a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn y cyfnod cyn ei chyhoeddi. A allwch chi ddweud wrthyf pa drafodaethau a fu ers ei chyhoeddi er mwyn rhoi sicrwydd i'r Aelodau o'r Senedd fod y comisiynydd pobl hŷn a rhanddeiliaid a grwpiau pobl hŷn eraill bellach wedi bod yn rhan o drafodaeth ar adfer ar ôl y pandemig COVID?

Wel, fel pan ofynnodd yr Aelod y cwestiwn hwn ddiwethaf yn y Siambr, mae arnaf ofn fy mod yn gwrthod y rhagdybiaeth sy'n sail i'w gwestiwn. Mae'r ddogfen yn disgrifio, mewn ffordd ymarferol iawn, cyfres o fesurau sylweddol iawn, y bydd llawer ohonynt yn cael effaith hynod o fuddiol, yn enwedig ar fywydau pobl hŷn, ac yn wir, rwy'n credu bod y comisiynydd pobl hŷn yn amlinellu rhai o'r rheini yn ei gohebiaeth â mi. Rwy'n credu'n bendant fod y comisiynydd, ac yn sicr y grwpiau sydd wedi bod mewn cysylltiad, a'r Aelod hefyd, byddwn yn gobeithio, yn canolbwyntio llawer mwy ar effaith sylweddol y strategaeth honno nag ar gyfeiriadau penodol o'i mewn. Fel y gŵyr—soniodd wrthyf o'r blaen nad oedd unrhyw gyfeiriadau at bobl hŷn yn y ddogfen. Rwy'n siŵr y bydd yn gwybod erbyn hyn, ar ôl cael cyfle i ddarllen y ddogfen, nad yw hynny'n wir. Rwyf wedi cael dwy sgwrs gynhyrchiol iawn—[Torri ar draws.]—Rwyf wedi cael dwy sgwrs gynhyrchiol iawn gyda'r comisiynydd pobl hŷn mewn perthynas â'r ddogfen, ac rwy'n siŵr y bydd yn falch o wybod bod eu buddiannau'n cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y ddogfen, mewn ffordd nad wyf yn credu sy'n digwydd, efallai, yn ei bolisi ei hun mewn perthynas â'r ymateb i COVID.

14:40

Diolch, Llywydd. [Anghlywadwy.]—yn dod rownd i feddwl na allai pethau fynd yn waeth efo'r trafodaethau Brexit, dyma ni'n cael Bil y farchnad fewnol, sy'n torri deddfwriaeth ryngwladol ynglŷn â Gogledd Iwerddon, yn ogystal â llwyr danseilio datganoli, a'r Senedd yn colli pwerau drwyddi draw. Mae'r Bil ar ei daith drwy San Steffan ar hyn o bryd, fel rydych chi'n gwybod, ond os bydd eich gwelliannau fel Llywodraeth Cymru yn ffaelu, fel y disgwyl, beth fydd ymateb Llywodraeth Cymru i ddinistr datganoli, ac i'r sarhad diweddaraf yma i'n Senedd a'n cenedl?

Wel, rŷch chi'n gwybod, fel mae Dai Lloyd yn gwybod, rŷn ni wedi gosod gwelliannau, ac mae'r Arglwyddi wedi cymryd yr awenau ar gyflwyno rhai o'r gwelliannau hynny, ond rwy'n credu, ar y cyfan, fod pob un wedi cael ei gyflwyno mewn rhyw ffordd. Mae'r memorandwm rŷn ni wedi gosod o flaen y Senedd ynglŷn â'r cydsyniad yn disgrifio yn fanwl, rwy'n credu, ein gofidiau ni yng nghyd-destun y Bil. Rŷn ni'n disgwyl i bob un o'r rheini gael eu delio â nhw. Os na ddigwyddith hynny, bydd dim newid ar y cyngor rŷn ni'n ei roi i'r Senedd i wrthod cydsyniad i'r Bil fel mae e wedi'i gyflwyno, ac rwy'n gobeithio, ac yn disgwyl, y bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddim yn parhau gyda'r Bil yn wyneb gwrthwynebiad y Seneddau. 

Diolch am hynna, Gweinidog. Nawr, i droi at faterion a heriau diwedd y cyfnod pontio, ac, wrth gwrs, rydyn ni gyd wedi darllen yr ymateb rydych chi wedi ei gyflwyno heddiw yn y 'Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020'—. Nawr, yn benodol ynghylch Brexit a phorthladdoedd Cymru, mae porthladd Dulyn wedi buddsoddi €30 miliwn i ddatblygu adnoddau tollau yno. Mewn cymhariaeth, bychan iawn ydy'r datblygiadau angenrheidiol yng Nghaergybi ac Abergwaun. Felly, pam fod trefniadau Brexit porthladdoedd Cymru gymaint ar ei hôl hi o gymharu efo'n cefndryd Gwyddelig?

Mae'r newidiadau sy'n digwydd yn y porthladdoedd yn dod yn sgil penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i chwilio am y math o gytundeb sy'n mynd i greu rhwystredigaethau i allforion a mewnforion yn ein porthladdoedd ni. Rŷn ni wedi bod yn galw ar y Llywodraeth yn San Steffan i'n cynnwys ni yn y trafodaethau maen nhw wedi bod yn cael ers dechrau'r flwyddyn. Dim ond yn ddiweddar iawn mae hynny wedi digwydd, er mae e wedi digwydd erbyn hyn. Ond rŷn ni wedi colli'r cyfnod yna o amser. Rŷn ni fel Llywodraeth yn awyddus i gydweithio â'r Llywodraeth yn San Steffan, wrth gwrs, ynglŷn â hyn.

Mae rhan o'r trafodaethau ynglŷn â'r isadeiledd sydd ei angen ger y porthladdoedd i ddelio â'r gwirio fydd ei angen o fis Ionawr o safbwynt y Llywodraeth yn San Steffan, a mis Gorffennaf o'n safbwynt ni. Dyna pryd fydd ein cyfrifoldebau ni fel Llywodraeth yn dod i rym, yng nghanol y flwyddyn nesaf. Rŷn ni'n dal yn aros am eglurder, gyda 50 o ddiwrnodau i fynd cyn diwedd y cyfnod pontio. Mae'r lleoliadau posib yn y gogledd wedi cael eu cyfyngu nawr i un neu ddau, ond does dim penderfyniad yn y pen draw wedi'i wneud gan y Llywodraeth yn San Steffan am hynny, felly rŷn ni'n dal yn aros am eglurder am hynny. 

Mae hyn wrth gwrs yn cael effaith ar rai o'n cyfrifoldebau ni o ran cefnogi cymunedau, a hefyd o ran delio gyda thraffig at ati. Dwi wedi codi'r pethau yma mewn cyfarfodydd gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, yn cynnwys y bore yma, ac rwy'n disgwyl gwneud hynny eto mewn cyfarfod penodol wythnos nesaf sy'n delio â'r porthladdoedd yma yng Nghymru.

Diolch am yr ateb yna. Dwi'n gweld beth rydych chi'n ei ddisgrifio fel tipyn bach llai o gydweithredu na fuasai'n ddelfrydol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, nid fy mod i'n eich beio chi yn y mater yna, Gweinidog. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod porthladdoedd Iwerddon wedi bod yn buddsoddi'n drwm mewn llwybrau gwahanol i'w llongau i gyrraedd y cyfandir, drwy osgoi porthladdoedd y Deyrnas Unedig, gan osgoi llefydd fel Caergybi. A allaf i ofyn felly, pa asesiad ydych chi fel Llywodraeth Cymru nawr wedi ei wneud ar effaith unrhyw ostyngiad yn y traffig drwy borthladdoedd Cymru?

Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, os caf i ddweud, ac mae'r risg o arallgyfeirio masnach yn un lle mae lot o gonsyrn gyda ni fel Llywodraeth. Mae dau gwestiwn mawr ar hyn o bryd rŷn ni'n dal yn aros am eglurder ynglŷn â nhw, sy'n deillio'n rhannol o'r gweithgaredd ynglŷn â'r protocol yng Ngogledd Iwerddon. Hynny yw, y cwestiwn cyntaf yw nwyddau o Ogledd Iwerddon—maen nhw'n cael mynd i Loegr a'r Alban yn uniongyrchol, felly heb wirio. Ond os ydyn nhw'n dod trwy'r Weriniaeth, byddan nhw'n cael eu gwirio yn ein porthladdoedd ni yng Nghymru. Felly, mae risg yn fan yna o ran arallgyfeirio. A hefyd, ar nwyddau o'r Weriniaeth i Gymru, bydd checks fan yna, ond os ânt trwy Ogledd Iwerddon, mae'n debygol y bydd llai o checks, felly mae'r ddau gwestiwn hynny'n awgrymu bod y risg o arallgyfeirio yn risg go iawn. Rŷn ni'n dal i aros am eglurder, am ddadansoddiad o impact y rheini o'r Llywodraeth yn San Steffan, ac mae pwyllgor yn gweithio ar hyn o bryd i edrych ar yr impact ar fasnach. Rŷn ni'n dal i aros am ganlyniadau'r gwaith hynny.

14:45
Cytundebau Masnach

3. Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i sicrhau bod ffermwyr yn ganolog i unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol yn y dyfodol? OQ55817

Rydym wedi bod yn glir iawn gyda Llywodraeth y DU na ddylai unrhyw gytundebau masnach rydd yn y dyfodol danseilio ein sector amaethyddol. Mae'n rhaid sicrhau nad yw ein ffermwyr yn gweld eu prisiau'n cael eu tandorri yn sgil cystadleuaeth annheg ar fewnforion nad ydynt yn cyrraedd ein safonau diogelwch bwyd, iechyd a lles anifeiliaid neu'r amgylchedd.

Diolch. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog a Mrs von der Leyen wedi cytuno i gadarnhau ymdrechion ar y cytundeb masnach ar ôl Brexit. Yn wir, mae'r cytundeb partneriaeth economaidd cynhwysfawr rhwng y DU a Japan bellach wedi'i lofnodi, gan roi hwb i frandiau'r DU gydag amddiffyniadau ar gyfer cynnyrch amaethyddol mwy eiconig y DU, o saith yn unig o dan delerau cytundeb yr UE-Japan i dros 70, gan gynnwys cig oen Cymru. Ac fel y dywedoch chi yn y datganiad ysgrifenedig ar 3 Tachwedd 2020, mae Llywodraeth y DU bellach wedi llofnodi 21 o gytundebau parhad hyd yma ac mae negodiadau'n mynd rhagddynt ar oddeutu 17 o rai eraill. Fodd bynnag, rydych wedi nodi yn y gorffennol fod llawer o'r gwledydd hyn yn fach ac nad oes ganddynt fawr o fasnach â Chymru. Nawr, mae gweinyddiaethau datganoledig yn ymgysylltu'n ystyrlon â Llywodraeth y DU, megis drwy'r fforwm gweinidogol ar gyfer masnach. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i hybu allforion, yn enwedig cynnyrch amaethyddol i wledydd y mae gennym gytundeb â hwy hyd yma ond ychydig iawn o fasnach? Diolch.

Wel, mae hwnnw'n gwestiwn pwysig gan yr Aelod. Y rheswm pam fod y lefelau masnach mor isel yw oherwydd y patrwm masnachu o ran ein hallforion cig coch gyda'r Undeb Ewropeaidd, sy'n golygu bod 90 y cant o'n hallforion cig oen yn cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, ac mae hynny o ganlyniad i ffermwyr yng Nghymru yn gwneud penderfyniad cwbl resymegol i allforio i un o'r marchnadoedd mwyaf yn y byd sydd ar garreg eu drws. Fel y dywedais, mae hwnnw'n benderfyniad economaidd cwbl resymegol. Byddwn wedi meddwl eu bod yn tybio yn ôl pob tebyg y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau economaidd cwbl resymegol hefyd, ac mae'n amlwg nad ydynt yn gwneud hynny yn y cyd-destun penodol hwn. Gwn y bydd hi'n ymuno â mi i resynu at sylwadau Liz Truss, er enghraifft, a oedd fel pe bai'n beirniadu ffermwyr Cymru am roi eu hwyau mewn un fasged. Os na chaiff buddiannau ffermwyr Cymru eu diogelu yng nghyd-destun y trafodaethau hyn, nid eu bai hwy fydd hynny; Llywodraeth y DU fydd ar fai.

Yng nghyd-destun cytundebau masnach â gwledydd eraill, rydym yn llwyr groesawu unrhyw gyfle i wella'r marchnadoedd sydd ar gael i ffermwyr Cymru. Nid oes amheuaeth am hynny. Byddwn yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd, byddwn yn cefnogi allforwyr mewn unrhyw ffordd y gallwn, ac rydym eisoes yn gwneud hynny wrth gwrs. Ond realiti'r sefyllfa yw y bydd y cyfraniad y bydd y marchnadoedd hynny'n ei wneud i'r allforion gryn dipyn yn llai am resymau economaidd sylfaenol na'r lefel bresennol o allforion i'r UE. Nid yw hynny'n golygu na ddylem fynd ar drywydd y cyfleoedd hynny—dylem wneud hynny ac rydym yn gwneud hynny, ond credaf fod angen ymdeimlad o realiti ynglŷn â gallu'r cytundebau hynny i gymryd lle y tamaid lleiaf hyd yn oed o'r fasnach a fyddai'n cael ei cholli gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Mae dadansoddiadau gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth yn awgrymu y gallai tariffau Sefydliad Masnach y Byd ychwanegu unrhyw beth o 38 y cant i 91 y cant at bris cig defaid o Brydain i brynwyr Ewropeaidd, yn ogystal â'r rhwystrau heblaw am dariffau i fasnach, ac rydym i gyd yn gwybod hynny. Mae Tsieina, mewnforiwr cig defaid mwyaf y byd, yn gosod tariff ad valorem o 12 y cant i 15 y cant ar gig oen a 23 y cant ar fewnforion cig dafad, ond mae ganddynt gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd ac Awstralia, eu prif gyflenwyr. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn rhannu fy mhryder ynglŷn â ffermio defaid os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac yn gorfod ceisio cystadlu â phrisiau Seland Newydd ac Awstralia?

14:50

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n rhannu ei bryder. Mae cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio a gyhoeddwyd gennym y bore yma yn nodi'r risgiau y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiynau i'r sector cig coch pe baem yn dod â'r cyfnod pontio i ben heb y math o gytundeb masnach y mae'n sôn amdano. Dyna pam ei bod mor bwysig sicrhau nad ydym yn y sefyllfa honno, a phe baem yn mynd i'r sefyllfa honno, mae'r cynllun yn disgrifio'r math o gymorth y bydd ei angen ar ffermwyr yng Nghymru, a byddai hwnnw'n gymorth sylweddol iawn. Nawr, bydd rhywfaint o'r gwaith a wnaethom ar y cynlluniau wrth gefn y llynedd, pan oeddem yn wynebu'r risg o adael heb unrhyw fath o gytundeb, wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda eleni i ryw raddau, ond os byddwn yn gadael heb gytundeb, mae'n sicr yn wir y byddai graddau'r ymyrraeth angenrheidiol yn galw am gymorth sylweddol ar draws y DU.

Ffermwyr Cymru

4. Pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi ffermwyr Cymru drwy'r broses bontio Ewropeaidd? OQ55828

Rydym yn parhau i ddarparu arweiniad a chymorth ariannol i ffermwyr drwy Cyswllt Ffermio, drwy'r grant cynhyrchu cynaliadwy a'r grant busnes i ffermydd. Rydym hefyd yn ymgysylltu â DEFRA a'r Llywodraethau datganoledig eraill ar gynlluniau i gefnogi'r sector defaid os na cheir cytundeb masnach â'r Undeb Ewropeaidd.

A ydych yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol, er mwyn allforio cig oen gwych o Gymru, fod gennym farchnad ddiogel, ein bod yn gwybod cyn gynted ag sy'n bosibl fod y farchnad honno yno ac fel y dywedoch chi, ei bod yn yr Undeb Ewropeaidd yn bennaf? Ac a ydych yn ofni, fel finnau, os na fyddwn yn sicrhau bod cig oen yn flaenllaw ac yn ganolog mewn cytundeb, bydd marchnadoedd llai effeithlon yn yr Eidal, Ffrainc a Sbaen yn gystadleuwyr difrifol? Hyd yn hyn, mae cig oen Cymru wedi bod yn gystadleuol iawn yn eu herbyn, a gallai'r marchnadoedd lleol hynny'n hawdd ddod yn ôl.

Rwy'n cytuno â phryder David Melding a'i ddadansoddiad. Cig oen Cymru yw un o'n hallforion mawr ac mae'n cael ei allforio i'r Undeb Ewropeaidd oherwydd bod marchnad dda ar ei gyfer yno. Mae'n farchnad agos ac mae ar raddfa sylweddol, felly mae diogelu'r cynnyrch allforio hwnnw'n gwbl hanfodol. Rydym wedi bod yn argymell y math hwnnw o safbwynt—a gwn ei fod yn gwybod hyn—ers amser maith iawn, ac rydym wedi nodi hyn fel un o'r risgiau allweddol. Roeddwn yn wirioneddol siomedig o glywed sylwadau Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffocws y mae ffermwyr Cymru wedi'i roi ar farchnad yr UE. Maent wedi gwneud hynny am resymau economaidd da iawn. Mae'n farchnad fawr ar garreg y drws, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith i'w wneud, ac maent wedi gwneud hynny'n eithriadol o lwyddiannus. Os na fydd Llywodraeth y DU yn sicrhau cytundeb sy'n diogelu eu buddiannau, rwy'n cytuno ag ef y bydd eraill yn llenwi'r bwlch yn y farchnad y bydd hynny'n ei greu.

Cytundeb Masnach â'r UE

5. Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o'r siawns o gael cytundeb masnach â'r UE? OQ55820

Mae cytundeb yn dal i fod yn bosibl, ond mae angen i'r ddwy ochr ddangos symudiad a hyblygrwydd gwleidyddol nawr. Ond hyd yn oed gyda chytundeb, bydd niwed hirdymor i'r economi ac yn sicr ni allwn fforddio'r anhrefn a fyddai'n deillio o adael y cyfnod pontio heb gytundeb yng nghanol pandemig iechyd byd-eang.

Mae ethol Joe Biden yn ei gwneud yn llai tebygol y gall Llywodraeth y DU ddibynnu ar gefnogaeth Donald Trump i strategaeth liwt-ei-hun, ond rydym wedi gweld yn y gorffennol pa mor anodd yw negodi gyda'r Unol Daleithiau gyda'r cytundeb partneriaeth masnach a buddsoddi trawsatlantig aflwyddiannus, a gymerodd dros dair blynedd a hynny'n bennaf oherwydd ein pryder fod yr Unol Daleithiau eisiau gallu cymryd rheolaeth ar ein gwasanaeth iechyd gwladol. Heddiw, mae'n amlwg ein bod yn poeni mwy am danseilio ein safonau bwyd a lles anifeiliaid. Ond rwy'n credu mai un o'r prif rwystrau i unrhyw gytundeb gyda 27 gwlad yr UE bellach, mae'n ymddangos, yw'r Bil marchnad fewnol, oherwydd yr elfennau cymorth gwladwriaethol o fewn y Bil marchnad fewnol, a ddylai fod yn achos pryder enfawr i unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig ac unrhyw un sy'n pryderu am gyflwr yr undeb yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd Joe Biden yn nodi hyn yn glir, yn enwedig yng nghyswllt cytundeb Gwener y Groglith. Ond beth, os unrhyw beth, y gallwn ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU i roi'r gorau i'r ddeddfwriaeth hynod o niweidiol hon, sydd bron â bod yn gwarantu 'dim cytundeb'?

14:55

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud pa mor falch yr oeddwn o weld bod Joe Biden wedi'i ethol yn arlywydd gyda chanlyniad mor ysgubol. Mae'n fuddugoliaeth i ryngwladoliaeth, egwyddor a rheswm. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y drafodaeth hon yn y cyd-destun hwnnw.

Mae'n llygad ei lle i ddweud bod y rhagolygon ar gyfer cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd wedi cymryd cam yn ôl yn sgil cyflwyno'r Bil marchnad fewnol, oherwydd ei fod yn codi mater ymddiriedaeth. Ac os ydych ynghanol y broses o negodi cytundeb rhyngwladol, mae cael un parti'n dangos yn ddigamsyniol iawn ei bod yn gwbl barod i dorri cytundebau rhyngwladol yn amlwg yn niweidiol i ymddiriedaeth yn y negodiadau hynny. A chredaf fod hynny wedi cael effaith sylweddol ar drafodaethau.

Fel finnau, fe fydd hi wedi dilyn y trafodaethau yn Nhŷ'r Arglwyddi, sydd wedi dangos bod yna gynghrair eang a dwfn iawn o wrthwynebiad i'r Bil, am y rhesymau y mae'n eu rhoi. A chredaf y byddwn yn parhau—. Rydym wedi trafod gyda chymheiriaid y dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn ac rydym wedi cefnogi'r dull hwnnw, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Credaf y byddai Llywodraeth ddoeth yn ymateb i hynny drwy ddiwygio'r ddeddfwriaeth, mewn nifer fawr iawn o ffyrdd, gyda llaw. Ac rwy'n annog Llywodraeth y DU i fanteisio ar y cyfle i ymateb i gynghrair mor eang a dwfn o wrthwynebiad a chymryd camau i ddiwygio'r ddeddfwriaeth yn y ffordd y mae ei chwestiwn yn ei awgrymu.

Y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu cylch gwaith y grŵp cynghori ar bolisi masnach a gyhoeddwyd yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 3 Tachwedd 2020? OQ55839

Gwnaf. Mae'r grŵp cynghori ar bolisi masnach yn rhoi cyngor strategol arbenigol i Lywodraeth Cymru ar faterion masnach rhyngwladol ac yn helpu i lunio ein safbwyntiau mewn perthynas â chytundebau masnach rydd.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Ers nifer o flynyddoedd, mae gan Lywodraeth yr Alban fwrdd masnach, a oedd yn un o'r ymrwymiadau yn eu strategaeth masnach a buddsoddi, gyda'r nod o nodi a chefnogi allforion i farchnadoedd newydd, gan ddod ag arbenigedd amrywiol ynghyd i gynghori Llywodraeth yr Alban. Mae'n amlwg fod Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau breision tuag at ddeall ei marchnad allforio. Mae'n teimlo fel pe baem ymhell ar ei hôl hi yn hyn o beth. A allech chi ddweud wrthym pa dystiolaeth y gallwch ei chael o'r Alban a sut y gallwch ddatblygu polisi Cymreig fel bod gennym bolisi masnach yr un mor dda yma yn ogystal â pherthynas â'r sector hwnnw?

Wel, nid yw gwaith y grŵp cynghori ar bolisi masnach ond yn un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd i ymgysylltu'n rhyngwladol. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn ddiweddarach heddiw mewn perthynas â'r strategaeth ryngwladol yn fwy cyffredinol. Ac fel bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n credu, rydym wedi buddsoddi'n sylweddol i gefnogi allforwyr Cymru i lywio'r newidiadau sydd o'n blaenau o ganlyniad i adael y cyfnod pontio Ewropeaidd, gan gynnwys adnoddau ychwanegol i roi cyngor penodol, pwrpasol iawn i allforwyr ynglŷn â rheoli'r dirwedd newydd honno. A chredaf fod y ffordd ymarferol iawn honno o gefnogi ein busnesau a'n cyflogwyr yn un o'r meysydd allweddol lle gallwn gefnogi'r economi yma yng Nghymru.

Diben y grŵp cynghori ar bolisi masnach yw ein helpu i nodi rhai o'r meysydd allweddol sy'n helpu i lunio ein safbwynt mewn perthynas â'r cytundebau masnach hynny. Ond rhaid inni ddeall y marchnadoedd sydd ar gael i'n hallforwyr fel rhan o ystod eang o ymyriadau, yn cynnwys presenoldeb dramor, ac mae'n ymddangos i mi y daw hynny'n gynyddol bwysig yn y blynyddoedd i ddod.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

7. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran nodi manylion y gronfa ffyniant gyffredin? OQ55831

8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin a'i goblygiadau i Gymru? OQ55836

Rwy'n deall, Llywydd, eich bod chi wedi cytuno i gyfuno hwn â chwestiwn 8. 

Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhannu unrhyw fanylion eto am ei chronfa ffyniant gyffredin ag unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig, er gwaethaf ein hymdrechion i ymgysylltu. Disgwyliwn i rai manylion gael eu cyhoeddi yn ystod yr adolygiad o wariant, sydd i'w gynnal, fel y bydd yn gwybod, fis cyn i'n cyllid UE ddechrau dod i ben.

15:00

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, ac fel y gwyddoch, cynhyrchodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig adroddiad ddechrau'r mis diwethaf yn mynegi eu pryder ynghylch y diffyg manylion sy'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin. Ac ers hynny, mae'r Bil marchnad fewnol wedi'i osod ac rydym wedi gweld arwyddion clir y gallai hwnnw fod yn gyfrwng i ddefnyddio arian o'r gronfa ffyniant gyffredin i ariannu prosiectau seilwaith, gan osgoi mynediad at Lywodraeth Cymru yn llwyr.

Nawr, mae llawer o sefydliadau ledled Cymru'n elwa o gyllid Ewropeaidd ac sydd â gweithwyr sy'n ddibynnol ar y cyllid hwnnw. Mae'r diffyg eglurder ar hyn o bryd ac ar y cam hwn yn creu ansicrwydd mawr ynghylch parhad y prosiectau a'r swyddi hynny. A wnewch chi annog Llywodraeth y DU nawr i gael trefn arni ei hun, i gyflwyno'r manylion, fel y gall ein cymunedau a'n pobl sy'n gweithio yn y cymunedau hynny gael mwy o sicrwydd ynghylch y cyfleoedd i'r prosiectau hynny yn y dyfodol?

Diolch i David Rees am y cwestiwn hwnnw, a chredaf ei fod yn iawn i ddweud bod y Bil marchnad fewnol yn amlwg yn ymgais i roi pwerau i Lywodraeth y DU allu darparu rhannau o'r gronfa ffyniant gyffredin, na fyddai'n gallu ei wneud fel arall. Caiff ei phwerau cymorth ariannol eu disgrifio fel pethau sydd yno i weithio gyda ni, ond mae'n amlwg eu bod yno i weithio o'n hamgylch, ac felly rhannaf ei bryder ynglŷn â hynny.

Beth bynnag fo barn rhywun ar wleidyddiaeth y sefyllfa, fel petai, mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol, mor agos at ddiwedd y pwynt lle mae gennym sicrwydd o'n cyllid, nad ydym yn gwybod o hyd sut y mae pethau'n edrych ar gyfer y cyfnod sydd o'n blaenau. Bydd rhaglenni'n cael eu colli, bydd doniau yn ein gwahanol raglenni ac ymyriadau yn cael eu golli o ganlyniad i hynny, a hynny heb fod angen, ac ni fyddai wedi digwydd pe bai mwy o eglurder wedi bod yn gynharach a phe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn gliriach yn gynt ynglŷn â'i hymrwymiad i'r addewidion y mae wedi'u gwneud yn y gorffennol.

Fel y bydd yn gwybod, rydym wedi arwain ar waith cyson a sylweddol yng Nghymru gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i gynllunio fframwaith ar gyfer rhaglenni olynol. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd gwaith rhanddeiliaid ym mhob sector ym mhob rhan o Gymru yn cael y clod a'r pwysigrwydd y dylai ei gael gan Lywodraeth y DU wrth iddi fyfyrio ar hyn, oherwydd maent yn cynnig ffordd wirioneddol adeiladol o fwrw ymlaen â'r rhaglenni hynny yma yng Nghymru i'r dyfodol, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ffurfiol i'r Aelodau yr wythnos nesaf, drwy ddatganiad ysgrifenedig, ar y cynnydd rydym wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â buddsoddi rhanbarthol gyda'n rhanddeiliaid ledled Cymru.

Diolch, Lywydd. Weinidog, clywais eich ateb i David Rees yno, ac ymhellach, a gaf fi ofyn—? Yn amlwg, mae ein colegau addysg bellach yn pryderu am golli arian yr UE. Mae'r arian hwnnw wedi bod yn ffynhonnell bwysig o gyllid i gefnogi'r gwaith o ddarparu sgiliau, sy'n bwysig i ddyfodol pob un ohonom. Nawr, heb gyllid newydd, bydd yn fwyfwy anodd i golegau gefnogi economïau lleol. Felly, a gaf fi eich gwthio ymhellach a gofyn am unrhyw gynnydd mewn trafodaeth â Gweinidogion y DU ynghylch ariannu sgiliau a phrentisiaethau yn y dyfodol, yn enwedig yn y sector addysg bellach?

Wel, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi siomi Dai Lloyd ar hynny. Rydym yn aros am eglurder ynglŷn â'r ymrwymiadau sylfaenol hyn mewn perthynas â chronfeydd olynol yr UE, a gallaf glywed y rhwystredigaeth yn ei lais, a gallaf ei sicrhau fy mod yn ei rhannu'n llwyr. Mae'n gywir i ddweud mai ym maes prentisiaethau ac addysg bellach y cafwyd un o'r llwyddiannau arwyddocaol yn ein defnydd o gyllid yr Undeb Ewropeaidd, ac yn wir o ran darparu mynediad at Erasmus+ i ddysgwyr mewn lleoliadau addysg bellach ac yn y blaen. Rwyf wedi cyfarfod droeon â dysgwyr yn y gweithle sydd wedi manteisio'n llawn ar hynny. Rydym wedi bod yn dadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU. Gobeithiwn glywed mwy cyn yr adolygiad o wariant, ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr pan fydd hynny'n digwydd.

Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE)

9. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y mae penderfyniadau a wneir yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn ei chael ar bobl Cymru? OQ55829

Mae prif bynciau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r DU) yn cynnwys negodiadau, parodrwydd, fframweithiau a'r farchnad fewnol—mae pob un ohonynt yn feysydd sy'n effeithio'n fawr ar bobl Cymru. Yn anffodus, mae ymrwymiad annigonol Llywodraeth y DU i gydweithio yn y meysydd hyn wedi tanseilio cyfraniad y Llywodraethau datganoledig ym mhob agwedd ar baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Wel, onid yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gweld nad yw'n debygol o gael ymateb ffafriol i hyn gan Lywodraeth y DU os yw'n parhau â'i wrthwynebiad sylfaenol i sicrhau Brexit go iawn, yn enwedig drwy gefnogi galwad eithriadol yr UE y dylai eu sefydliadau deddfwriaethol a'u llys yn Lwcsembwrg barhau i ddeddfu a dehongli'r ddeddfwriaeth honno er anfantais Prydain? Ni allai'r un Lywodraeth annibynnol fyth dderbyn gwarchodaeth o'r fath, a dyna yw hanfod y Bil marchnad fewnol. Felly, os yw eisiau cydweithrediad gan Lywodraeth y DU ac ennill consesiynau, nid yw'n debygol o gael hynny drwy barhau â'r awyrgylch o ystumio gwleidyddol a glywsom ganddo y prynhawn yma yn ei atebion i nifer o gwestiynau.

15:05

Wel, rydym ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle dylai ymateb Llywodraeth y DU gael ei liwio gan ystyriaethau gwleidyddol—50 diwrnod cyn diwedd y cyfnod pontio—ac rydym yn ymdrechu'n barhaus i gydweithio â Llywodraeth y DU i baratoi Cymru gystal ag y gallwn ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond nid wyf am esgus am eiliad fod gennym farn wahanol iawn ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae hynny'n gwbl glir, ac rydym yn credu bod angen i Lywodraeth y DU newid trywydd ar pwynt hwn a blaenoriaethu swyddi a bywoliaeth pobl. Rwyf am wrthsefyll y gwahoddiad yng nghwestiwn yr Aelod i fynd i'r afael â'r pwynt am rôl yr Undeb Ewropeaidd yn y gyfres hon o negodiadau. Mae gan ddinasyddion y DU hawl i ddisgwyl i Lywodraeth y DU ddiogelu eu buddiannau. Fe wnaeth Llywodraeth y DU adfer ei rheolaeth. Llywodraeth y DU sy'n rheoli, ac os nad yw'r cytundeb hwn yn digwydd, neu os yw'n digwydd ar sail wan, hwy fydd yn gyfrifol.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhoi'r Strategaeth Ryngwladol ar Waith

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar gyflawni'r strategaeth ryngwladol, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford. 

Llywydd, diolch yn fawr. Rwy'n croesawu’r cyfle hwn heddiw i adrodd i’r Senedd ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru. Ein bwriad yw meithrin cysylltiadau gyda gwledydd a rhanbarthau ar draws y byd er mwyn hyrwyddo allforion a buddsoddi yng Nghymru, ac felly cryfhau ein economi.

Ar yr un pryd, rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r holl gryfderau sydd gennym fel gwlad a'r cyfraniad y gallwn ni ei wneud wrth ymateb i heriau fel newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae'r gwaith yma yn fwy pwysig nag erioed wrth inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd y flwyddyn.

Lywydd, cafodd ein strategaeth ryngwladol ei llunio yng nghyd-destun Brexit. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod yn rhaid inni weithio hyd yn oed yn galetach i gynnal proffil ac enw da Cymru yn y byd. Nawr yn fwy nag erioed mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i godi proffil rhyngwladol Cymru, tyfu ein heconomi drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad, ac fel mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu, sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang.

Ni allai neb fod wedi rhagweld beth fyddai'n digwydd ychydig wythnosau ar ôl i'n strategaeth ryngwladol gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Dechreuodd COVID-19 ennill ei blwy ym mis Chwefror, ac wrth gwrs mae'r pandemig wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflawniad ein huchelgeisiau rhyngwladol, ond rydym wedi gwneud defnydd cadarnhaol o'n rhwydweithiau tramor o hyd, gan gadw mewn cysylltiad â Llywodraethau ym mhob cwr o'r byd a chasglu gwybodaeth hanfodol am eu dulliau o fynd i'r afael â'r feirws. Fe wnaethant weithio i nodi ffynonellau o gyfarpar diogelu personol yn y dyddiau cynnar, pan oedd cyflenwadau'n brin. Chwaraeodd ein swyddfeydd yn Tsieina ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod cyfarpar gweithgynhyrchu masgiau llawfeddygol yn cael eu darparu i gwmni yng Nghaerdydd sy'n cynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau wyneb y dydd i weithwyr allweddol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Aeth ein rhaglen Cymru ac Affrica ati'n gyflym i gyhoeddi 26 o grantiau a ganolbwyntiai ar gymorth COVID-19.

Symudwyd ein rhaglenni rhyngwladol ar-lein a defnyddiwyd cysylltiadau a nodwyd yn y strategaeth ryngwladol i ddatblygu uchelgeisiau ar y cyd, nid yn unig i ganolbwyntio ar yr argyfwng uniongyrchol, ond i feithrin cadernid yn y dyfodol ac ailadeiladu ein heconomïau. Hyd yn oed yn nyfnder yr argyfwng, rydym wedi cynnal cyfarfodydd rhithwir a chyfarfodydd wyneb yn wyneb â llysgenhadon o Japan, yr Almaen, yr Undeb Ewropeaidd, Canada ac eraill.

Heddiw, Lywydd, rydym yn cyhoeddi pedwar cynllun gweithredu a ddeilliodd o'r strategaeth ryngwladol, wedi’u ffurfio gan gyd-destun y pandemig byd-eang ac sy'n adlewyrchu ein hymgysylltiad â ffrindiau ledled y byd. Hoffwn gofnodi fy niolch i Eluned Morgan am yr holl waith a wnaeth ar y strategaeth a'r cynlluniau tra oedd yn Weinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mae'r dogfennau'n ymdrin â diplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel, cysylltiadau a rhwydweithiau rhanbarthol, Cymru ac Affrica, a Chymry ar wasgar, ac maent yn deyrnged i'r ddawn a'r ymrwymiad a gyfrannodd Eluned i'r gwaith hwnnw.

Mae ein cynllun diplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel yn nodi sut y bydd Cymru'n gwella ein proffil byd-eang. Mae'n nodi'r cyfraniad byd-eang y gallwn ei wneud fel cenedl gyfrifol, gan weithio'n rhyngwladol gyda phartneriaid ar lesiant, cynaliadwyedd, addysg ieuenctid, diwylliant, chwaraeon, gwyddoniaeth a hyrwyddo'r Gymraeg. Mae'n gwneud cysylltiadau â chefnogi economi Cymru, cryfhau masnach a thwristiaeth, fel y gwnaethom yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd yn Japan. Ynghyd â'n rhaglen Cymru ac Affrica, mae'n ymateb i'r materion diweddar a amlygwyd gan ymgyrch Black Lives Matter i hyrwyddo ethos o degwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae cynllun gweithredu Cymru ac Affrica hefyd yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara ac yma yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, a hynny mewn dau faes yn arbennig: newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, lle byddwn yn plannu 25 miliwn o goed yn Uganda erbyn 2025, ac yn ail, hyrwyddo Cymru fel cenedl deg drwy gefnogi masnach deg a grymuso menywod.

Ar ôl llofnodi datganiad o fwriad gyda Llywodraeth Quebec yn gynharach eleni, mae ein cynllun perthnasoedd rhanbarthol sy’n cael blaenoriaeth yn canolbwyntio ar adeiladu a chryfhau cysylltiadau rhanbarthol allweddol, yn enwedig gyda thri rhanbarth Ewropeaidd—Llydaw, Gwlad y Basg a Fflandrys—yn ogystal â rhwydweithiau Ewropeaidd a rhyngwladol.

Llywydd, mae ein rhaglen rhyngwladol wedi symud ar-lein. Eleni, byddwn yn dathlu Diwali digidol am y tro cyntaf. Bydd hon yn raglen o ddigwyddiadau yng Nghymru ac India i ddathlu gŵyl y goleuni, yn ogystal â chysylltiadau busnes, addysgol a diwydiannol rhwng ein gwledydd. Y flwyddyn nesaf byddwn yn lawnsio Cymru yn yr Almaen 2021 i arddangos yr ystod eang o weithgaredd sy'n digwydd rhwng y ddwy wlad. Dyma'r gyntaf mewn cyfres o raglenni blynyddol fydd yn canolbwyntio ar ein perthynas gydag un partner allweddol bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.

A Llywydd, mae cyfle i'r diaspora Cymreig wneud cyfraniad pwysig i'r strategaeth drwy hyrwyddo enw da Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Wrth weithio gyda'n diaspora, byddwn yn cynnwys nid yn unig ein Cymry alltud ar draws y byd, ond hefyd pobl eraill sydd â chysylltiadau Cymreig ac sy'n awyddus i gyfrannu. Dyma'r bobl orau i adrodd stori Cymru ac i ledaenu'r stori honno. Ein targed yw recriwtio 0.5 miliwn o bobl at y gwaith erbyn 2025. Mae'r cynllun gweithredu diaspora yn amlinellu sut byddwn yn manteisio ar egni'r diaspora er mwyn codi proffil rhyngwladol Cymru.

Lywydd, fel rhan o'n dull ehangach o gefnogi twf busnesau Cymru, rydym yn parhau i feithrin cydnerthedd economi Cymru yn wyneb COVID-19 a chyfnod pontio'r UE drwy roi cyngor a chymorth i allforwyr Cymru drwy ein rhwydwaith o gynghorwyr masnach rhyngwladol, gweminarau a rhaglenni cymorth allforio eraill. Rydym wedi gwella cymorth ar-lein sy'n darparu teithiau masnach rhithwir i farchnadoedd sy'n cynnwys Singapôr, Qatar a Japan, ac rydym wedi lansio hyb allforio ar-lein newydd sy'n rhoi cyngor cynhwysfawr i allforwyr. Ar yr un pryd, rydym wedi parhau i gryfhau ein dealltwriaeth o ble mae gan Gymru allu dosbarth rhyngwladol, mewn meysydd fel lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch a gwyddorau bywyd, gan weithio gyda rhanddeiliaid a rhwydweithiau i hyrwyddo'r asedau Cymreig hyn i gynulleidfa fyd-eang.

Lywydd, mae'r pandemig wedi atgyfnerthu pwysigrwydd ein cysylltiadau rhyngwladol. Nawr yn fwy nag erioed, mae'n rhaid inni werthfawrogi gwerth Cymru sy'n edrych tuag allan. Mae'n rhaid inni gefnogi ein hallforwyr a denu buddsoddiad i helpu ein heconomi ddomestig i wella. Mae'n rhaid inni ddefnyddio diwylliant, chwaraeon, addysg ac ymchwil a datblygu i gefnogi cydweithredu rhyngwladol. Mae ein brwdfrydedd ynghylch partneriaethau cryf, cydfuddiannol ag Affrica yn sail i'n huchelgeisiau i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang. Dim ond drwy gydweithio â'n partneriaid rhyngwladol y gallwn helpu ein gilydd i ymadfer, ailadeiladu ac atgyfnerthu enw da Cymru fel cenedl sy'n edrych tuag allan, ac sy'n benderfynol o chwarae ein rhan yn y byd ac elwa, yn ei thro, o'r holl gyfoeth a ddaw yn sgil hynny. Lywydd, diolch yn fawr.

15:15

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at nifer o adroddiadau a gweithgarwch diddorol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu gyda phartneriaid, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae rhai datblygiadau wedi bod o ran gweithio gydag eraill i gryfhau ymateb Llywodraeth Cymru i ymladd COVID-19. Er enghraifft, mae'r cynllun gweithredu perthnasoedd a rhwydweithiau rhanbarthol sy’n cael blaenoriaeth yn amlinellu lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhannu gwybodaeth ag eraill mewn perthynas ag effaith y feirws, ac yn archwilio cyfleoedd ar gyfer y cyfnod adfer. Yn y tymor byr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rannu ei gwybodaeth â Llywodraethau rhanbarthol eraill ledled Ewrop, gan ganolbwyntio'n benodol ar gydnerthedd economaidd a lliniaru gwendidau. Felly, mewn ymateb i'r datganiad heddiw, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud rhagor wrthym ynglŷn â pha wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael gan Lywodraethau eraill hyd yma, a sut y mae hynny wedi cael effaith ar benderfyniadau a pholisïau Llywodraeth Cymru. Ac a all ddweud wrthym hefyd pa wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhannu gyda Llywodraethau rhanbarthol eraill mewn perthynas â COVID-19?

Wrth gwrs, mae'r datganiad yn dweud yn glir fod strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru wedi'i llunio'n wreiddiol mewn ymateb i Brexit a datblygu cydnerthedd i Gymru a'n heconomi. Mae yna ymrwymiad clir o ran cymryd rhan yn rhai o'r un rhwydweithiau Ewropeaidd a rhyngwladol y mae Cymru'n cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir fod cyfleoedd broceriaeth ar gyfer rhaglenni Ewropeaidd. Fodd bynnag, nid yw'r cynllun gweithredu perthnasoedd a rhwydweithiau rhanbarthol sy’n cael blaenoriaeth na'r cynllun gweithredu cysylltiadau rhyngwladol drwy ddiplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel yn rhoi enghreifftiau pendant o'r hyn y mae'r cyfleoedd broceriaeth hynny wedi'i ddarparu i Gymru hyd yma mewn gwirionedd. Felly, wrth ymateb i'r datganiad heddiw, efallai y gall y Prif Weinidog gyhoeddi rhestr o'r cyfleoedd broceriaeth a amlygwyd yn y cynlluniau gweithredu hyn, ochr yn ochr â rhestr o ble y manteisiwyd ar y cyfleoedd hynny, a beth y mae hynny wedi'i ddarparu i bobl Cymru.

Wrth gwrs, bydd llawer o effaith Brexit yn dibynnu ar ba delerau y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio lle gallant er budd pobl Cymru. Felly, yn dilyn cyfarfod diweddar cyd-bwyllgor y Gweinidogion yr wythnos diwethaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym am unrhyw benderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwnnw, ac am ddiweddariad cyffredinol ar gysylltiadau rhynglywodraethol cyfredol ar hyn o bryd, gan y bydd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf yn sicr yn allweddol bwysig i godi proffil rhyngwladol Cymru a'r DU ar ôl Brexit. 

Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at ddatblygiadau diddorol mewn perthynas ag ymgysylltiad â Chymry ar wasgar, ac mae'n amlwg o gynllun gweithredu 2020-25 fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymdrech sylweddol i ddatblygu ei rhwydweithiau Cymry ar wasgar a chenhadon er mwyn hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Fodd bynnag, mewn perthynas â rhwydwaith busnes y Cymry ar wasgar a'r rhwydweithiau Cymry ar wasgar byd-eang a grybwyllir yn y cynllun gweithredu, nid oes llawer o fanylion am y contractwyr sydd â'r dasg o fynd i'r afael â'r rhwydweithiau, ac o ganlyniad, mae'n anodd gwerthuso unrhyw ganlyniadau cychwynnol yn briodol. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym am y contractwyr a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, a'r rhesymau dros eu penodi? Ac a all y Prif Weinidog ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwerthuso canlyniadau'r rhwydweithiau hynny'n briodol, a sut y mae'n pennu lefel eu llwyddiant?

Mae strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gomisiynu adolygiad annibynnol cyflym o weithgarwch iechyd rhyngwladol presennol a'r seilwaith iechyd rhyngwladol presennol yng Nghymru, ac mae'r adolygiad hwnnw'n arbennig o bwysig yng ngoleuni pandemig COVID-19 a bydd yn llywio cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru. Felly, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad cyflym hwnnw, pryd y caiff ei gynnal a phryd y bydd casgliadau'r adolygiad hwnnw ar gael i'r cyhoedd?

Lywydd, mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ac un ffordd y gallwn gyflawni hynny yw drwy fynd i'r afael â datgoedwigo, sy'n sbardun sylweddol iawn i newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd, yn ogystal â risg pandemig. Mae adroddiad 'Riskier Business' y WWF a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn dangos bod llawer o nwyddau sy'n gyrru datgoedwigo mewn lleoedd fel yr Amazon yn cael eu mewnforio i Gymru a'u defnyddio mewn eitemau bob dydd, gan gynnwys bwyd. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau p'un a yw'n cefnogi galwadau Maint Cymru, WWF Cymru ac RSPB Cymru i sicrhau mai Cymru fydd y genedl dim datgoedwigo gyntaf? Os felly, a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i gyflawni'r nod hwnnw?

I gloi, Lywydd, er bod yn rhaid i rai adrannau Llywodraeth ystyried datblygiadau a thueddiadau rhyngwladol, mae'r Prif Weinidog yn gwybod fy mod o'r farn mai Llywodraeth y DU ddylai fod yn gyfrifol am y strategaeth drosfwaol ar gyfer datblygu rhyngwladol, gyda chydweithrediad Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, caiff pobl Cymru eu gwasanaethu'n well o fod yn rhan o Deyrnas Unedig gref, ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn parhau i ddadlau mai gweithio gyda Llywodraethau ledled y DU, dan strwythur ar y cyd, sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru. Diolch.

15:20

A gaf fi ddiolch i Paul Davies am y cwestiynau hynny? Fe wnaf fy ngorau i fynd i'r afael â nifer ohonynt. Gofynnodd am rai enghreifftiau o'r ffordd y mae ein cysylltiadau mewn rhannau eraill o'r byd wedi bod o fantais i ni yn ystod y pandemig hwn. Wel, nodais yn fy sylwadau agoriadol y ffordd y gallem ddefnyddio ein cysylltiadau yn Tsieina i sicrhau offer pwysig iawn a phrin i gwmni yma yng Nghaerdydd, sydd wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad mawr mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol, nid yn unig i Gymru ond i'r Deyrnas Unedig gyfan.

Gwn y bydd yr Aelod yn cofio'r awyrennau a ddaeth i Faes Awyr Caerdydd yng nghamau cynnar y pandemig, gan ddod â chyflenwadau o gyfarpar diogelu personol o rannau eraill o'r byd. Cawsom y cyflenwadau hynny—cawsom hwy i Gymru—oherwydd y presenoldeb sydd gennym yma ar lawr gwlad. Cawsom rodd o rai masgiau pwysig iawn o Fiet-nam yn gynnar, pan oeddent yn brin iawn. Cawsom hwy o Fiet-nam oherwydd yr ymweliad a wnaeth y Gweinidog addysg â Fiet-nam a'r cysylltiadau sydd wedi datblygu ers hynny â'r wlad honno ym maes addysg. Oherwydd y berthynas honno â Chymru, roeddem yn gallu sicrhau'r cyflenwad pwysig hwnnw.

Yn fwy cyffredinol, drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a thrwy gysylltiadau ein prif swyddog meddygol, rydym wedi cael cyfres o drafodaethau gyda gwledydd eraill sydd wedi cael profiad gwahanol, a phrofiad mwy llwyddiannus mewn ffordd, o ymdrin â'r coronafeirws na llawer o wledydd Ewrop a'r wlad hon—felly, trafodaethau gyda De Korea a thrafodaethau gyda Seland Newydd, er enghraifft. Rydym yn ffodus iawn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gorff sy'n cael ei gydnabod yn dda iawn yn rhyngwladol fel ffynhonnell arbenigedd. Yn gyfnewid am hynny, rydym wedi gallu dysgu oddi wrth eraill.

Gofynnodd Mr Davies am y trefniadau broceriaeth sydd gennym a'r cyfleoedd rydym wedi'u cael o ganlyniad. Wel, Lywydd, gadewch i mi ganolbwyntio ar un o'r pedair perthynas ranbarthol sy'n cael blaenoriaeth a nodwyd gennym yn ein dogfennau, sef ein perthynas â Gwlad y Basg. Cefais lythyr heddiw gan Arlywydd Gwlad y Basg yn ein gwahodd i ymweld â Gwlad y Basg eto cyn gynted ag y gallwn yn 2021, ac i fynd â thaith fasnach i Wlad y Basg.

Roedd Gwlad y Basg wedi nodi Cymru fel un o'i phum cyrchfan ryngwladol â blaenoriaeth cyn i'n dogfennau ein hunain gael eu cyhoeddi. O ganlyniad i hynny, rydym wedi gallu dod o hyd i gyfleoedd i weithio gyda Mondragon, cyfres gydweithredol fwyaf y byd o fusnesau. Byddwn wedi elwa drwy ddod â Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles, y cwmni gweithgynhyrchu trenau, i Gasnewydd. Ymwelais â CAF fy hun pan oeddwn yng Ngwlad y Basg yn trafod materion trethiant gyda Llywodraeth Gwlad y Basg. Mae gennym gysylltiadau seiberddiogelwch â Gwlad y Basg; mae gennym gysylltiadau gwyddorau bywyd; mae gennym gysylltiadau bwyd-amaeth â Gwlad y Basg. A llwyddasom mewn ffordd gwbl wahanol, Lywydd, i gael trafodaeth gyda swyddogion Llywodraeth Gwlad y Basg yn gynharach yr hydref hwn am y ffordd roeddent yn gallu cynnal eu hetholiadau rhanbarthol ym mis Mehefin eleni ar anterth y pandemig coronafeirws, gan feddwl ymlaen at ein hetholiadau ein hunain ym mis Mai y flwyddyn nesaf, a chanfod sut y gallwn gynnal yr etholiadau hynny mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag y feirws a pharhau i gynyddu cyfranogiad pobl.

Felly, gallwn ailadrodd y rhestr honno mewn perthynas â'r rhanbarthau eraill rydym yn canolbwyntio arnynt, ond rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi syniad o'r manteision cadarn iawn sy'n deillio o'r cyfleoedd a ddaw i Gymru pan fyddwch yn sefydlu'r cysylltiadau hyn, o ran cyfnewid diwylliannol, o ran cysylltiadau economaidd, ac o ran cysylltiadau hirsefydlog.

Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid am gysylltiadau rhynglywodraethol. Wel, nid wyf am ailadrodd y prynhawn yma, Lywydd, y nifer fawr o siomedigaethau a gafwyd wrth geisio perswadio Llywodraeth y DU i sefydlu cysylltiadau rhynglywodraethol o fewn y Deyrnas Unedig. Gadewch i mi fod yn gadarnhaol yn lle hynny a dweud ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU wrth hyrwyddo Cymru dramor. Rydym bob amser wedi cael gwasanaeth da iawn gan lysgenadaethau dramor pan fydd Gweinidogion Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd, dirprwyaethau masnach, a ffyrdd eraill o hyrwyddo Cymru mewn rhannau eraill o'r byd. Cefais y fraint, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, o gynrychioli Cymru mewn digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel ac ym Mharis. Ar y ddau achlysur hwnnw, cawsom ymgysylltiad cryf a chadarnhaol iawn â Llywodraeth y DU, gan ddefnyddio cysylltiadau ac adeiladau llysgenadaethau yn y prifddinasoedd Ewropeaidd hynny, ac ar yr agenda hon, yn wahanol i rai eraill, credaf y gallwn ddweud bod ein hymdrechion yno i ategu rhai o'r pethau y mae'r Deyrnas Unedig yn eu gwneud, ond hefyd i siarad yn uniongyrchol ar ran Cymru.

Un o'r pethau rwy'n credu y byddai arweinydd yr wrthblaid wedi ei nodi yw bod busnesau yng Nghymru yn troi at Lywodraeth Cymru yn arbennig i wneud y pethau hynny sy'n eu helpu i ddod o hyd i farchnadoedd ar gyfer eu cynnyrch a chyfleoedd economaidd newydd sy'n dod i bobl sy'n gweithio yng Nghymru drwy hyrwyddo Cymru ym mhopeth a wna. Pan oeddwn yn Japan fel rhan o Gwpan Rygbi'r Byd, cafwyd taith fasnach o Gymru yn Japan ar yr un pryd. Cawsom ddigwyddiad mawr yn y llysgenhadaeth yn Tokyo, a gynhaliwyd gan lysgennad y DU a minnau ar y cyd. Daeth cannoedd o bobl, yn llythrennol, i'r derbyniad, yn cynrychioli cyfleoedd economaidd Japan i Gymru, a dyna'r ffordd y mae ein strategaeth ryngwladol yn ein galluogi i weithredu ochr yn ochr â'r manteision busnes hynny yng Nghymru.

Rydym wedi tanddefnyddio'r Cymru ar Wasgar yma yng Nghymru, Lywydd. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Fi oedd y prif siaradwr yn nigwyddiad croeso adref Belfast ym mis Hydref y llynedd. Cannoedd a channoedd o bobl o dras Gwyddelig, sy'n flaenllaw bellach yn yr Unol Daleithiau, yn dod adref i Belfast—unwaith eto, dathliad o gysylltiadau diwylliannol, a chyfleoedd busnes hefyd. Rydym wedi gweithio'n agos ers hynny gyda phobl sydd wedi helpu gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon i fanteisio i'r eithaf ar ei diaspora ac rydym eisiau manteisio ar y cyfleoedd hynny nawr i wneud mwy yma yng Nghymru.

O ran gweithgarwch iechyd, rwy'n falch iawn ein bod, yr wythnos hon, wedi gallu llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd gyda Sefydliad Iechyd y Byd, gan sicrhau unwaith eto fod y pethau y gallwn eu cynnig yn y byd yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei ddysgu gan y byd yn gyfnewid am hynny, yn enwedig ym maes iechyd.

Ac o ran datgoedwigo, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gweithio'n agos iawn gyda'r sefydliadau a nododd Paul Davies. Drwy'r sefydliadau hynny rydym wedi datblygu cynllun plannu coed Mbale, y cyfeiriais ato yn fy sylwadau agoriadol—plannwyd 10 miliwn o goed eisoes yn y rhan honno o Uganda. Unwaith eto, cefais y fraint wirioneddol, cyn i argyfwng y coronafeirws ddechrau, o blannu coeden yma yng Nghaerdydd i nodi bod 10 miliwn o goed wedi cael eu plannu yn Uganda, ac i weld y bobl ifanc rydym mewn partneriaeth â hwy yn y rhan honno o'r byd, y brwdfrydedd enfawr y maent yn ei gyfrannu i'r prosiect hwnnw a'r ffordd y mae eu gwybodaeth am Gymru yn rhan o'u profiad bob dydd. Lywydd, un enghraifft yn unig yw honno o'r gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwnnw. Dyna ein cyfraniad at fater newid yn yr hinsawdd a datgoedwigo. Ac mae mwy, rwy'n siŵr, y byddwn eisiau ei wneud yn y dyfodol, gan gynnwys yn y meysydd y cyfeiriodd Paul Davies atynt.

15:30

A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am y datganiad hwn ar gyflawniad y strategaeth ryngwladol? Roeddwn am ganu clodydd Gwlad y Basg hefyd, ond o ystyried yr amser, nid wyf am ddweud cymaint, heblaw am grybwyll, yn amlwg, fod yr iaith Fasgeg, y Wyddeleg a'r Gymraeg bob amser mewn cystadleuaeth gyfeillgar o ran pa un yw'r iaith fyw hynaf yn Ewrop. Rydym mewn cystadleuaeth gyfeillgar drwy'r amser; dylid annog pob math o gystadlaethau rhyngwladol cyfeillgar o’r fath.

Nawr, yn amlwg, rydym wedi trafod y strategaeth ryngwladol o'r blaen. A gaf fi ddiolch i Eluned Morgan am yr holl gyfarfodydd ynghylch hynny yn ei rôl flaenorol? Rydym bellach yn symud ymlaen i gyflawni yn hytrach na disgrifio yn unig—mor bwysig yn y cyfnod cythryblus hwn. Felly, ceir un neu ddau o faterion penodol. O ran ymagwedd Cymru tuag fasnach a brand Cymru-Wales, mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn gwthio brand Cymru-Wales. Yn amlwg, gyda Brexit ar y gorwel, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn mabwysiadu ymagwedd Gymreig unigryw tuag at fasnachu, rhywbeth sy’n cael ei golli'n rhy aml o lawer yn strategaeth Invest in GREAT Britain Llywodraeth y DU. Felly, a gaf fi ofyn pa rôl y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd busnesau bach a chanolig Cymru yn ei chwarae yn y strategaeth ryngwladol hon ar gyfer Cymru?

Gan symud ymlaen at y Cymry ar wasgar a’r rhan o'r strategaeth hon sy’n ymwneud ag ymgysylltu â Chymry ar wasgar, fe’i disgrifiwyd, fel y nododd y Prif Weinidog, fel ased a danddefnyddiwyd. Rwy’n sicr yn cytuno â hynny, yn sicr mewn perthynas ag Unol Daleithiau America. Credaf y bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod fy mab a fy ŵyr yn byw yn Oklahoma, fel oddeutu 2 filiwn o bobl eraill o dras Gymreig. Pan oeddwn allan yn yr Unol Daleithiau ddiwethaf, rwy'n cofio Llywodraethwr talaith Wisconsin yn arwain y dathliadau ar Ddydd Gŵyl Dewi i gydnabod cyfraniad 40,000 o drigolion Wisconsin—Wisconsin yn unig—a oedd o dras Gymreig. Gwnaed cryn dipyn o sioe o bopeth Cymreig ar 1 Mawrth. Nawr, flynyddoedd yn ôl, roedd 300 o gapeli Cymraeg eu hiaith yn Wisconsin. Cafodd Frank Lloyd Wright, y pensaer mawr ei fri, ei eni a'i fagu mewn teulu Cymraeg eu hiaith mewn cymuned wledig Gymraeg—nid yng Ngheredigion fel ei fam, ond yng nghefn gwlad Wisconsin.

Y gamp, felly, yw sut i droi hanes rhamantus yn rhagor o fasnach, gan ddefnyddio ein cysylltiadau hanesyddol. Yn ychwanegol at yr hyn a grybwyllir mewn cryn fanylder yn y dogfennau, mae gefeillio yn un ffordd. Rwyf wedi sôn am hyn o'r blaen wrth Eluned Morgan, ac yn amlwg, rydym wedi cael llawer o drefniadau gefeillio ffurfiol ac anffurfiol dros y blynyddoedd, yn cynnwys trefi a phentrefi, a dinasoedd, yn wir, yma yng Nghymru. Nawr, flwyddyn neu ddwy yn ôl, bu arweinwyr busnes o Oklahoma draw yma a chawsant gyfarfod ag Eluned Morgan a minnau, ac roeddent yn awyddus i greu cysylltiadau a mynd ar drywydd trefniadau gefeillio â Chymru—gefeilliodd Dinas Oklahoma â Chaerdydd, a gefeilliodd Tulsa, yr ail ddinas, ag Abertawe. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn rhagweld y bydd y Llywodraeth yn adeiladu ar gysylltiadau o'r fath wrth gyflawni’r strategaeth?

Gan ein bod yn trafod Cymry ar wasgar, yn amlwg, yn y ddogfennaeth, mae’r ymdrechion penodol ac wedi'u targedu i ymgysylltu â Chymry ar wasgar i’w croesawu’n fawr, ac rwy'n cydnabod y gwaith sy'n mynd rhagddo. Mae'n peri pryder i mi, serch hynny, fod Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen iddynt gontractio rhai o'r cyfrifoldebau i gyflawni'r rhwydwaith busnes Cymry ar wasgar a chynllun Cymry ar wasgar byd-eang i drydydd parti allanol. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai’n well pe bai’r cyfrifoldeb am ymgysylltu â'r Cymry ar wasgar o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, er mwyn denu pobl yn ôl i Gymru i weithio neu i ymweld, yn ogystal â'u galluogi i weithredu fel llysgenhadon yn eu gwledydd mabwysiedig? Gallech efelychu croeso adref Belfast, efallai.

Trof at un neu ddau o gwestiynau olaf, cyn imi gloi, ar fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r pwynt eisoes wedi'i wneud ynglŷn â datgoedwigo, ond mae hynny'n hanfodol bwysig. Mae cyfraniad Cymru i'r byd—. Mae pob un ohonom yn edrych tuag allan yn rhyngwladol. A ydych yn bwriadu cymryd camau, Brif Weinidog, ar ddatgoedwigo a chael gwared ar gynhyrchion mewn cadwyni cyflenwi byd-eang sy'n cael eu mewnforio i Gymru ac yn achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd mewn mannau eraill, megis y datgoedwigo sy'n gysylltiedig â chynhyrchu blawd ffa soia ar gyfer da byw a’r olew palmwydd a geir mewn eitemau cyffredin mewn archfarchnadoedd? Mae'n ymwneud â mwy na phlannu coed yn rhywle arall; mae’n ymwneud hefyd â'r hyn a wnawn gyda chynhyrchion niweidiol.

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â’r fasnach arfau. Mae'r cynlluniau gweithredu hefyd yn nodi bod Cymru yn anelu at ddod yn genedl noddfa, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau dynol, fel rydych wedi'i ddweud, a hyrwyddo heddwch a masnach foesegol—heddwch yn enwedig ar ddiwrnod fel hwn, 11 Tachwedd. Ym mis Medi 2019, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n adolygu presenoldeb Llywodraeth Cymru yn un o ffeiriau arfau mwyaf y byd. Felly, Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r adolygiad hwnnw o'ch presenoldeb mewn ffeiriau arfau, a rhoi gwybod inni hefyd sut y byddwch yn sicrhau nad yw strategaeth ryngwladol Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol yn cyfrannu at wrthdaro byd-eang neu at y fasnach arfau, sy'n achosi dinistr i gymunedau mewn rhannau eraill o'r byd?

15:35

Diolch yn fawr i Dai Lloyd.  

Rwyf ar fai am beidio â sôn am yr iaith mewn perthynas â Gwlad y Basg, gan fod rhai o'n cysylltiadau mwyaf hirsefydlog â'r wlad honno yn deillio o'r cymorth a roddodd Cymru i ddatblygiad Gwlad y Basg, ar ôl marwolaeth Franco, ym maes cynllunio ieithyddol. Nawr, mewn rhai ffyrdd, gallech ddadlau eu bod wedi cael mwy o lwyddiant mewn rhai ffyrdd ers adfywiad yr iaith Fasgeg. Ond bûm yn ddigon ffodus i ymweld â Mondrágon pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf, a phan oeddwn yn Vitoria, prifddinas Gwlad y Basg, cyfarfûm â grŵp o bobl roeddwn yn eu hadnabod o Gaerdydd, ac roeddent yno’n helpu Llywodraeth Gwlad y Basg gyda chynllunio ieithyddol, gan bwyso ar ein profiad yma yng Nghymru. Felly, dyna gysylltiad pwerus iawn arall rhyngom.

Gofynnodd Dr Lloyd am fusnesau bach a chanolig Cymru a'u rôl yn allforio a brand Cymru-Wales. Mae hwn yn gyfnod anodd iawn, iawn i fusnesau bach a chanolig Cymru. Mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt, ac maent bellach yn wynebu'r rhwystrau newydd enfawr a fydd yn cael eu rhoi yn eu ffordd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau gwannaf neu heb delerau o gwbl. Felly, mae'r cymorth y gallwn ei gynnig i'r cwmnïau hynny hyd yn oed yn bwysicach yn y ffordd honno. Ond bydd eu gallu i fasnachu, ac i fasnachu'n rhydd gyda'n marchnad fwyaf ac agosaf, wedi’i beryglu gan yr hyn sydd wedi digwydd, ac ni ellir gwadu hynny. Mae eu gwneud yn rhan o frand Cymru-Wales yn rhan o'n hymdrech i geisio gwneud iawn iddynt am y rhwystrau newydd sy'n cael eu rhoi yn eu ffordd mewn perthynas â'r cysylltiadau masnach hynny.

Diolch i Dr Lloyd am bopeth y tynnodd sylw ato mewn perthynas â'r profiad Cymreig-Americanaidd a'r ffordd rydym yn troi hanes yn gyfle. Rhoddaf un enghraifft nad yw’n cymharu efallai, ond sydd o leiaf yn ategu'r enghraifft a roddodd gyda Frank Lloyd Wright. Bydd llawer o’r Aelodau yma yn y Senedd yn gwybod am yr hyn a ddigwyddodd yn Birmingham yn Alabama yn ôl yn haf 1963, pan arweiniodd Dr Martin Luther King grŵp o blant i barciau cyhoeddus gwahanedig yn y ddinas honno, a sut y cafodd eglwys y Bedyddwyr yn Alabama ei bomio gan ymwahanwyr gwyn, gan ladd pedair merch ddu ifanc a oedd yn mynychu'r ysgol Sul. Cododd yr arlunydd o Gymro, John Petts, arian yma yng Nghymru, apêl a arweiniwyd yn rhannol gan y Western Mail, i greu ffenestr yn yr eglwys honno, ffenestr anhygoel gan bobl Cymru, fel y mae'n dweud ar y ffenestr.

Ymwelodd ein Gweinidog addysg â Birmingham, Alabama ym mis Medi y llynedd. Ymwelodd â'r eglwys. Rhoddodd feibl Cymraeg yn anrheg ar ran pobl Cymru i gyd-fynd â'r ffenestr Gymreig fel y’i gelwir, yn yr eglwys honno. Yn fuan iawn wedi hynny, cafwyd seremoni, seremoni fawr, yn yr eglwys ei hun i fyfyrio ar yr holl hanes hwnnw. Siaradodd arweinydd ein cenhadaeth yn yr Unol Daleithiau o’r platfform y prynhawn hwnnw, a phwy oedd yn rhannu'r platfform ag ef? Wel, y siaradwr arall yn y digwyddiad oedd neb llai na darpar-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden. A dyna sut, fel y dywedodd Dr Lloyd, y gallwn droi ein hanes yn gyfle. A gwn y bydd hwnnw’n floc adeiladu yn ein gallu i greu perthynas â'r weinyddiaeth newydd yn UDA.

Holodd Dai Lloyd ynghylch contractio'r gwaith ar y Cymry ar wasgar. Wel, wyddoch chi, Dai, daeth y syniad yn rhannol o fod yn nigwyddiad croeso adref Belfast, gan mai dyna sut y maent hwy’n ei wneud. Mae ganddynt gwmnïau yno a chanddynt arbenigedd gwirioneddol mewn adeiladu rhwydweithiau dramor, y modd rydych yn dod o hyd i bobl o dras Gymreig, sut i ennyn eu diddordeb mewn dod yn llysgenhadon dros Gymru mewn rhannau eraill o'r byd. A dyna rydym yn ceisio ei wneud. Rydym yn ceisio defnyddio arbenigedd sydd gan eraill ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn dechrau o le gwahanol, onid ydym, i’n cymheiriaid yn yr Alban neu Iwerddon.

Rydym am wneud mwy ym maes datgoedwigo. Rwy'n llwyr gydnabod y pwyntiau a wnaeth Dr Lloyd. Weithiau, mae'n rhaid inni fod yn realistig ynghylch y pwerau sydd gennym yn nwylo Llywodraeth Cymru i gymryd camau a all wneud gwahaniaeth o ran y materion a nodwyd gan Paul Davies ac yntau hefyd y prynhawn yma.

Ac yn olaf, ar y fasnach arfau, fe wnaethom gynnal adolygiad. Bydd ein presenoldeb mewn digwyddiadau o'r fath yn wahanol yn y dyfodol o ganlyniad i hynny. Ond mae'r term 'masnach arfau' weithiau'n cael ei ddefnyddio fel term cyffredinol i ddisgrifio ystod eang o weithgareddau, gyda rhai ohonynt yn chwarae rhan fuddiol yn y byd, drwy gynnig diogelwch i boblogaethau a fyddai fel arall yn agored i niwed gan eraill. Felly, mae pethau y gellir eu gwneud sy'n gadarnhaol ac yn werth chweil, ac mae yna weithwyr yng Nghymru sy'n ennill eu bywoliaeth yn y meysydd hyn. Rwyf am i Lywodraeth Cymru fod wedi’i halinio â'r dibenion cadarnhaol hynny, ac os bydd gennym bresenoldeb mewn ffeiriau masnach yn y dyfodol, bydd hynny er mwyn pwysleisio'r pethau y gellir eu gwneud ac a fyddai'n unol â'n hymagwedd foesegol, ac yn unol â’r ymagwedd a nodwyd gennym yn y cynlluniau gweithredu a gyhoeddwyd heddiw.

15:40

Brif Weinidog, yn gyntaf, a gaf fi ganmol y gwaith a wnaed gan Eluned Morgan yn datblygu ein strategaeth ryngwladol a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol am gydnabod pwysigrwydd sylfaenol ymgysylltu rhyngwladol a chysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol, ac economaidd, a hefyd yn cefnogi rhaglen Cymru o Blaid Affrica? Mae'r rhai ohonom sydd wedi bod yn ymwneud â’r rhaglen honno wedi gweld yr effaith sylweddol y mae wedi’i chael ar fywydau llawer o bobl yn Uganda. Ac rwy’n meddwl hefyd am y rheini sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen o Gymru. Mae elusen PONT, sydd wedi'i lleoli ym Mhontypridd fel y gwyddoch, wedi chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y rhaglen honno, ac roeddwn yn arbennig o awyddus i gofnodi fy nghefnogaeth i'r gwaith gwych a wnânt.

A gaf fi ddweud hefyd fod y pedair blynedd diwethaf yn UDA wedi dangos i ni pa mor bwysig yw'r cysylltiadau hyn a pha mor bwysig yw ein sefydliadau rhyngwladol yw hynny—yr Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Iechyd y Byd a'r rhwydweithiau amgylcheddol rhyngwladol, fel cytundeb Paris? Credaf y bydd ethol Joe Biden yn Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau yn adnewyddu rhai o’n gobeithion a’n credoau mai drwy ymgysylltiad rhyngwladol a chwalu rhwystrau rhyngwladol y byddwn yn datrys rhai o broblemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y byd er budd holl ddinasyddion y byd.

Nawr, fel rydych wedi dweud, mae gadael yr UE a'r amheuon ynghylch cytundeb masnach yn cyflwyno llawer o heriau economaidd. Felly, mae'n rhaid inni ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael at ein defnydd. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am statws cyfredol ein cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd a sut y gallent ddatblygu? Mae ymgysylltu â Phwyllgor Rhanbarthau Ewrop yn hanfodol i Gymru a gwn fod trafodaethau'n mynd rhagddynt ar barhau â hynny wedi inni adael yr UE. Mae ein haelodaeth o Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop yn un arall. A tybed a allech roi diweddariad i ni, efallai, ar statws cyfredol Swyddfa Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae hwn yn gyfleuster hanfodol—mae'n llysgenhadaeth i Gymru mewn perthynas sydd, er ei bod yn wynebu rhwystr, yn cyflwyno llawer o gyfleoedd i Gymru yn y dyfodol serch hynny.

A fyddwch hefyd yn arwain dirprwyaeth i’r Unol Daleithiau pan fydd COVID yn caniatáu, i adeiladu ar ein proffil yno, ond hefyd i sicrhau ein bod yn ymgysylltu i’r graddau mwyaf posibl â busnesau Americanaidd, fel General Electric yn Cincinnati—wrth gwrs, busnes a diwydiant pwysig yn fy etholaeth i—ond hefyd i ymgysylltu â Llywodraeth newydd yr Unol Daleithiau i godi proffil Cymru yn ogystal â’r meysydd sy'n bwysig i ni ynghylch cytundeb masnach yn y dyfodol?

Tybed a wnewch chi ystyried hefyd sut i hybu cefnogaeth, pan fydd COVID yn caniatáu, i’n llysgenhadon diwylliannol adnabyddus—ein corau, ein ensemblau dawns a gwerin a’n bandiau, fel y Band y Cory, sy’n bencampwyr y byd—pan fyddant yn teithio’r byd i ddatblygu pecyn cynhwysfawr o gymorth sy'n cysylltu ag agendâu diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd?

Ac yna, yn olaf, ar y maes gwleidyddol rhyngwladol, y bwriad yn y flwyddyn newydd yw dadorchuddio plac i goffáu gweithredoedd arwrol y Cymro, y Capten Archibald Dickson, a achubodd filoedd o ddynion, menywod a phlant o’r blocâd ffasgaidd yn Alicante yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Nawr, mae'r Capten Dickson yn cael ei goffáu yno fel arwr—yn Alicante—ond hyd yn hyn, nid yw yr un mor gyfarwydd yng Nghymru. Felly, y bwriad yw cynnal digwyddiad dinesig ar y cyd yng Nghymru, gyda Sbaen a Chymru. Yn Kiev, prifddinas Ukrain, mae stryd wedi'i henwi nawr ar ôl y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, a tybed a wnewch chi ystyried ffyrdd o gydnabod y ddau ddigwyddiad pwysig hwn, sydd mewn gwirionedd yn ficrocosm o rai o'r cyfraniadau pwysig y mae Cymru wedi eu gwneud i'r byd ac sy'n arwydd o faint yn fwy y gallwn ei wneud yn y dyfodol. Diolch, Brif Weinidog.

15:45

Lywydd, diolch i Mick Antoniw am bob un o'r pwyntiau diddorol a phwysig hynny. Credaf fod rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn un o lwyddiannau di-glod hanes datganoli. Pan oeddwn yn Weinidog iechyd, cefais gyfres o gyfleoedd i gyfarfod â phobl: pobl a ddoi o Affrica i Gymru i gymryd rhan mewn digwyddiadau neu i gael eu hyfforddi mewn sgiliau penodol y gallent eu defnyddio wedyn yn yr arena iechyd, a hefyd i gyfarfod â'r bobl wych hynny, y grwpiau gwirfoddol hynny ym mhob rhan o Gymru a'r aelodau o'n gwasanaeth iechyd, sy'n rhoi eu hamser yn ystod eu gwyliau. Maent yn gweithio drwy'r flwyddyn yng ngwasanaeth iechyd Cymru ac maent yn defnyddio'r ychydig wythnosau o wyliau sydd ganddynt i fynd i Affrica ac i fynd â’u sgiliau ac i hyfforddi pobl eraill yno. Dyma rai o'r pethau gorau rydym yn eu gwneud, ac mae'r holl ymdrech wirfoddol honno drwy PONT a sefydliadau yn etholaethau'r holl Aelodau, rwy'n siŵr, yn enghraifft mor dda o’r ysbryd hael a welwn yma yng Nghymru.

Mae Mick Antoniw yn gwneud pwynt pwysig iawn, Lywydd, am y ffordd y mae'r pedair blynedd diwethaf wedi datgelu bregusrwydd rhai sefydliadau rhyngwladol allweddol roedd llawer ohonom wedi'u cymryd yn ganiataol, boed yn NATO neu'n Sefydliad Iechyd y Byd, neu gytgord hinsawdd Paris. A gadewch inni obeithio y gallwn edrych ymlaen at rywbeth llawer gwell na hynny yn y pedair blynedd i ddod.

Efallai fod Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn gadael Ewrop, ac mae'r holl bethau a ddywedodd Mick Antoniw yn parhau i fod yn bwysig iawn i bobl yma yng Nghymru. Lywydd, ni soniais yn fy natganiad, ond gallwn fod wedi gwneud, am yr holl waith rhyngwladol a wneir ar ochr seneddol y Senedd, a phwysigrwydd hynny—ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, drwy'r gymdeithas seneddol ac yn y blaen, fel y soniodd Mick. Bydd Swyddfa Cymru yn parhau i fod ar agor ym Mrwsel. Bydd yn parhau i fod yn ganolbwynt hanfodol i'n sefydliadau addysg uwch pan fyddant yn cymryd rhan mewn ymchwil gydweithredol â sefydliadau eraill yn Ewrop. Bydd yn lle y gall pobl fusnes fynd. Siaradais yno mewn cynhadledd i fusnesau seiberddiogelwch ychydig cyn i argyfwng y coronafeirws daro. Bydd yn parhau i fod yn fan lle gall y cawcws newydd rydym yn ei ddatblygu o seneddwyr yn Senedd Ewrop i ddangos diddordeb yng Nghymru gyfarfod a rhyngweithio â ni.

Yn yr Unol Daleithiau, mae'r cawcws yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr, y cawcws Cymreig, yn cael ei roi at ei gilydd o’r newydd unwaith eto, gan fod yr etholiadau newydd eu cynnal. Rydym yn ffodus iawn i gael cefnogaeth gref nifer o gyngreswyr. Ac fe chwaraeodd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, ran weithgar iawn fel y gwyddoch yn arwain dirprwyaethau i’r Unol Daleithiau, yn enwedig o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, gan fanteisio ar lawer o gyfleoedd i sicrhau bod y Cymry ar wasgar sydd gennym yno eisoes yn cael cefnogaeth lawn y Senedd a Llywodraeth Cymru, a llysgenhadon diwylliannol, fel y dywedodd Mick Antoniw, yn y celfyddydau, ond ym maes chwaraeon hefyd. Am beth y mae Cymru'n adnabyddus ledled y byd? Rydym yn adnabyddus am ein llysgenhadon diwylliannol, boed yn unigolion neu’n sefydliadau fel Band y Cory neu Opera Cenedlaethol Cymru, ond yn y byd chwaraeon hefyd. Dyna'r pethau sy'n tynnu sylw’r byd at Gymru, ac mae ein strategaeth ryngwladol yn ymwneud â sicrhau cymaint o hynny â phosibl er budd Cymru gyfan.

Edrychaf ymlaen yn fawr at fod yn bresennol pan gaiff y plac i'r Capten Dickson ei ddadorchuddio. Mae wedi cymryd gormod o amser i sicrhau bod hynny'n digwydd, ond o’r diwedd, gyda chefnogaeth gref nifer o'r Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys Mick Antoniw a minnau, fe welwn ni hynny—cofeb go iawn i rywun a ddangosodd yn eu bywyd eu hunain yr holl rinweddau rydym wedi bod yn sôn amdanynt ac sy'n gwneud Cymru yn rym cadarnhaol er daioni yn yr arena ryngwladol.

15:50

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwyf wrth fy modd fod y DU ar fin dod yn wlad sofran annibynnol, a chroesawaf y wybodaeth ddiweddaraf ar y strategaeth a fydd yn parhau â'r daith i roi Cymru ar fap y byd, a'i chadw yno.

Hoffwn godi mater brandio. Gwn fod hen frand Awdurdod Datblygu Cymru hefyd yn cael ei ystyried yn frand Cymru, ond nid wyf erioed wedi gweld na deall sut olwg sydd ar frand Cymru mewn gwirionedd, ers ei dranc. Ac os nad wyf i’n gwybod, sut y bydd busnesau a phobl ar ochr arall y byd yn gwybod? Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: beth y mae eich strategaeth yn ei olygu ar gyfer brand i Gymru?

Credaf fod chwaraeon yn faes allweddol bwysig, lle gallwn adeiladu ar ein henw da am ragoriaeth. Ond mae angen inni fod yn barod i fachu ar gyfleoedd annisgwyl, yn enwedig nawr, yn y cyfnod ar ôl y pandemig.

Soniais yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl am fuddugoliaeth debygol Elfyn Evans yng nghyfres Pencampwriaeth Rali'r Byd. Mae hyn, yn fy marn i, yn un o'r cyfleoedd annisgwyl hynny y mae angen bachu arnynt. Yn wir, cefais ateb gan y Gweinidog ar ddyfodol Rali Cymru GB y flwyddyn nesaf, ond roedd mor anymrwymol nes ei fod yn ddiystyr mewn gwirionedd. Brif Weinidog, a yw eich strategaeth yn caniatáu i Gymru fod yn chwim ac i allu ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau a buddugoliaethau a allai ddigwydd yn annisgwyl? Rwy'n gwerthfawrogi'r ffocws ar Gymru fel cenedl o greadigrwydd, arloesedd a thechnoleg. Fodd bynnag, ymddengys nad yw cau Inner Space yng Nghasnewydd, sefydliad a grëwyd i fonopoleiddio'r union feysydd hyn, yn cyd-fynd yn dda â'r rhan hon o'r strategaeth. Felly, sut y byddwch yn sicrhau bod penderfyniadau polisi yn gydgysylltiedig ac yn bodloni holl ofynion eich Llywodraeth, fel cenedlaethau'r dyfodol, cynaliadwyedd a'r amgylchedd? Mae Cymru, am y tro, yn dal i fod yn rhan annatod o'r Deyrnas Unedig, ac mae pedair Llywodraeth yn cystadlu yn yr un gofod, pob un, rwy'n dychmygu, yn gwneud honiadau tebyg am dirwedd, diwylliant a hanes. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda Llywodraethau eraill y DU i sicrhau bod pob gwlad yn cael cyfran deg o sylw? Ac fel arall, pa gamau rydych yn eu cymryd i ddod o hyd i bwynt gwerthu unigryw ar gyfer Cymru?

Brif Weinidog, gwelais y cyhoeddiad diweddar ynghylch y llysgennad i'r Emiraethau Arabaidd Unedig. Rwy'n canmol yr ymagwedd hon yn fawr. Ymddengys bod gennym bobl drawiadol a chanddynt gymwysterau rhagorol yn chwifio'r faner, yn llythrennol, dros Gymru. Fy nghwestiwn olaf, Brif Weinidog, yw sut y bydd eich Llywodraeth yn asesu effeithiolrwydd eich strategaeth? Byddai'n dda gennyf wybod sut olwg sydd ar lwyddiant i chi a'ch Llywodraeth ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Diolch i Mandy Jones am ei chwestiynau. Wel, credaf mai Cymru yw'r brand, ac mai'r ymagwedd rydym yn ei mabwysiadu tuag at frand Cymru-Wales yw hynny’n union—defnyddio Cymru ei hun fel y brand rydym yn ei ddefnyddio i gyfathrebu â gweddill y byd. Rwy'n fwy na pharod i ddarparu’r deunydd diweddaraf rydym yn ei ddefnyddio i wneud hynny i’r Aelod.

Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am allu chwilio am gyfleoedd lle maent yn codi. Yn sicr, gwnaethom hynny mewn perthynas â beicio, er enghraifft, camp arall lle mae cynnydd Cymro i amlygrwydd rhyngwladol ar ôl ennill y Tour de France wedi rhoi cyfleoedd newydd inni sicrhau bod Cymru'n adnabyddus yn y gamp honno, a’r dimensiwn rhyngwladol ar y gamp honno. Rydym wedi dod â mwy o ddigwyddiadau beicio yma i Gymru. Rydym yn trafod a oes cyfleoedd pellach y gallem eu defnyddio, fel yr awgrymodd Mandy Jones, i edrych am y cyfleoedd hynny wrth iddynt godi. Mae'n rhaid inni weithio gydag eraill, mae hynny'n sicr. Cyfeiriais at y groeso adref Belfast; cydweithrediad oedd hwnnw a gawsom gydag aelod o'r—wel, nid oedd Gweithrediaeth ar y pryd, ond rhywun a oedd wedi bod yn aelod o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Ac rydym wedi cael trafodaethau gyda'r Alban. Er enghraifft, mae gennym bresenoldeb mewn rhai rhannau o'r byd lle nad oes ganddynt hwy; yn yr un modd mae ganddynt hwythau bresenoldeb mewn rhai rhannau o'r byd lle nad oes swyddfa gan Gymru. Rydym wedi sôn ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio'r pethau hynny yn gydweithredol i hyrwyddo gwaith ein gilydd lle byddai hynny'n gwneud synnwyr i'r ddwy wlad.

Diolch am yr hyn a ddywedoch chi am fenter cennad Cymru. Credaf y bydd cyd-Aelodau sy'n edrych ar y rhestr o enwau yn gweld, er bod rhai ohonynt yn bobl sy'n dod o Gymru, wedi eu magu yng Nghymru, a bellach mewn rhannau eraill o'r byd, fod rhai ohonynt yn bobl sy'n dod o rannau eraill o'r byd ond wedi gweithio yma yng Nghymru, ac mae'r ymdeimlad hwnnw o fod yn Gymry ar wasgar yn bwysig iawn. Nid ydym yn sôn am bobl sy'n dod o Gymru eu hunain. Rydym yn sôn am bobl sy’n hoff o Gymru, sydd â chysylltiad â Chymru, sydd â diddordeb mewn gallu hyrwyddo Cymru mewn rhannau eraill o'r byd. Pan oeddwn yn Tokyo ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, cyfarfûm â llywydd Clwb Hiraeth. Grŵp o bobl fusnes o Japan yw Clwb Hiraeth sydd wedi treulio rhan o'u gyrfaoedd yma yng Nghymru. Maent bellach yn ôl yn Japan. Mae'r llywydd yn ei 80au a bu’n gweithio yn Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr 40 mlynedd yn ôl, ond roedd ei atgofion melys o fod yng Nghymru yn gwbl amlwg, ac mae ei lywyddiaeth ar Glwb Hiraeth yn enghraifft o sut y gallwn ddefnyddio nid yn unig pobl o Gymru mewn rhannau eraill o'r byd, ond pobl mewn rhannau eraill o'r byd sydd â phrofiad o fod yma yng Nghymru ac sy'n awyddus oherwydd hynny i hyrwyddo a gweithio ochr yn ochr â ni, a bydd ein cenhadon yn dod—bydd rhai ohonynt yn dod o’r grŵp hwnnw hefyd.

16:00

Hoffwn innau hefyd ddathlu gwaith Eluned Morgan a'n rhaglen wych, Cymru o Blaid Affrica. Felly, un o gyflawniadau Eluned oedd sicrhau marchnad Gymreig ar gyfer mentrau cydweithredol tyfwyr coffi Mount Elgon yn rhanbarth Mbale yn nwyrain Uganda, a dywedir wrthyf fod 6,000 kg o'u coffi eisoes ar werth yn siop Fair Do's yn eich etholaeth chi. Dyna pam roedd yn fraint i mi a sawl un arall gael cyfarfod â Jenipher Wetaka Sambazi, a oedd yn un o arweinwyr y mentrau coffi cydweithredol o'r ardal honno, yn y Senedd ym mis Chwefror yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Mae'n teimlo fel amser maith yn ôl.

Ond nid ffermwr coffi yn unig yw hi, mae hi'n arweinydd cymunedol, fel cadeirydd ei menter gydweithredol lleol, ac yn ystod yr ymweliad hwnnw, siaradais â hi am urddas mislif a'r ymgyrch a oedd gennym yn y wlad hon. Rhoddais rai cynhyrchion misglwyf y gellir eu hailddefnyddio iddi hefyd, yn y gobaith y gallai rhai o'r menywod o'i chymuned eu hatgynhyrchu i'w gwerthu gan fenywod yn Uganda. Ers hynny rwyf wedi dysgu bod sefydliad arall y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ef, Teams4U, yn ymwneud â dosbarthu padiau y gellir eu hailddefnyddio a wnaed yn lleol i ysgolion yn Uganda. Felly, tybed a allwch ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y gallem ymestyn y gwaith hwnnw, gan ei fod yn agwedd mor eithriadol o bwysig o ran pam y mae merched yn gadael ysgol ac yn un o'r ffyrdd y gallwn atal hynny rhag digwydd.

Yn ail—

Iawn, ond rhoddwyd dros dair munud i Mandy Jones a dim ond un pwynt arall sydd gennyf.

Nid wyf yn mynd i fargeinio gydag Aelodau unigol ynglŷn â faint o amser a gewch i ofyn eich cwestiwn. Rydych eisoes ddwy funud i mewn i gwestiwn a oedd i fod yn gwestiwn un funud

Wel, Lywydd, diolch i Jenny Rathbone am gyfeirio at rannau pwysig iawn o raglen Cymru o Blaid Affrica. Roedd yn fraint cyfarfod â Jenipher a'i thîm pan oeddent yn y Senedd, ac mae'n wych gweld coffi gan y cwmni cydweithredol y mae'n ei arwain ar werth yma yng Nghaerdydd bellach. Ond mae cydraddoldeb rhywiol a grymuso menywod bob amser wedi bod yn thema annatod o raglen Cymru o Blaid Affrica. Mae'n sicr yn un roedd gan Eluned Morgan ddiddordeb arbennig yn ei hyrwyddo. Mae Hub Cymru Affrica wedi derbyn grant peilot yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda menywod a merched yn Uganda a Lesotho. Mae'n canolbwyntio ar y pethau bob dydd sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau menywod ifanc yn y rhan honno o'r byd yn yr union ffordd y soniodd Jenny, ac mae'r rhaglen bob amser yn edrych am ffyrdd newydd y gallwn sicrhau bod y diddordeb sydd gennym yma yng Nghymru yn canolbwyntio ar raglenni rhyw a chydraddoldeb yn y gwledydd hynny. Rwy'n siŵr y bydd yr awgrym y mae Jenny wedi'i wneud y prynhawn yma o ddiddordeb i eraill sy'n ymwneud â'r rhaglen, a byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddwyn i'w sylw.

Diolch, Lywydd. Dim ond ychydig eiriau gennyf fi fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol rhyngwladol Cymru, ac rydym wedi canfod fel grŵp fod cynifer o agweddau, fel y mynegwyd gan y Prif Weinidog heddiw, ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru—chwaraeon, diwylliannol, dyngarol—cynifer o gysylltiadau â'r hyn y gallem ei alw'n gymell tawel, ac wrth gwrs, y Cymry ar wasgar. Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog yn cyfeirio at bob un o'r rheini. O ran y Cymry ar wasgar, roeddwn braidd yn eiddigeddus o'n cefndryd Gwyddelig, gan edrych ar Arlywydd etholedig newydd yr Unol Daleithiau fel un o ddisgynyddion mewnfudwyr o Iwerddon. Efallai nad yw o linach Gymreig, ond mae'n adnabod digon o bobl sydd, gan ei fod yn hanu o Scranton ynghanol Pennsylvania'r Cymry, ac rwy'n sicr yn gyffrous ynglŷn â'r posibiliadau o feithrin cysylltiadau agosach byth â'r Unol Daleithiau yn dilyn ei ethol. Fel cynifer o bobl sy'n pwyso am annibyniaeth Cymru ac yn ymgyrchu drosti, rwy'n ystyried fy mod yn gydwladolwr, ac er nad ydym wedi perswadio'r Prif Weinidog yn llwyr yn hynny o beth, mae'n dda clywed ei benderfyniad heddiw i adeiladu ar y cysylltiadau rhyngwladol sydd gan Gymru er budd cenedlaethau i ddod yma yng Nghymru.

Diolch i Eluned Morgan am ei gwaith fel Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mantais cael Gweinidog penodol yw'r amser y gellir ei neilltuo i hynny, felly wrth ddiolch iddi, a gaf fi ofyn am sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd yn sicrhau y gall neilltuo'r amser sydd ei angen i adeiladu'r cysylltiadau rhyngwladol hyn a fydd mor bwysig inni yn y blynyddoedd i ddod wrth inni barhau i ffynnu fel cenedl?

16:05

Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y sylwadau yna.

A diolch iddo ef ac aelodau eraill y grŵp trawsbleidiol am bopeth a wnânt yn y maes hwn hefyd. Fel y clywsom y prynhawn yma, Lywydd, mae cymaint o agweddau ar berthynas Cymru â'r byd. Rwy'n gwybod ein bod ymhell dros amser, ond rwy'n siŵr y gallem fod wedi treulio hyd yn oed yn hirach yn archwilio ystod eang o bethau rydym wedi cyffwrdd â hwy y prynhawn yma.

Edrychaf ymlaen yn fawr at allu bwrw ymlaen â'r agenda hon. Ni fu erioed adeg bwysicach i atgyfnerthu Cymru fel cenedl sy'n edrych tuag allan gyda rhan i'w chwarae yn y byd, ac er ein bod, wrth gwrs, yn drist fod Eluned wedi gorfod symud i'n helpu gyda her fawr arall a wynebwn yn ein gwasanaethau iechyd meddwl a'n hymateb i'r coronafeirws yn y ffordd honno, wrth fynd â'r cyfrifoldebau rhyngwladol i swyddfa'r Prif Weinidog—ac roeddwn yn awyddus iawn i wneud y datganiad hwn fy hun y prynhawn yma—gobeithio bod hynny'n anfon neges i'r Aelodau yma, ond i eraill y mae gennym ddiddordeb ynddynt drwy ein strategaeth, fod cysylltiadau rhyngwladol a Chymru yn y byd yn ganolog i Lywodraeth Cymru. Drwy fy swyddfa i, gallwn ddwyn ynghyd y gwahanol gyfraniadau niferus y mae pob cyd-Weinidog yn eu gwneud i'r agenda hon i'w hatgyfnerthu, i danlinellu ei harwyddocâd, ac fel y clywsom y prynhawn yma, i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r cyfraniad y gallwn i gyd ei wneud gyda'r holl filoedd o bobl eraill sydd â lle i Gymru yn eu calonnau ac sy'n barod i siarad drosom ar y llwyfan rhyngwladol. Rwy'n gobeithio fod y ddadl neu'r drafodaeth y prynhawn yma yn atgyfnerthu ymhellach ein penderfyniad ar y cyd i barhau i wneud hynny. Diolch yn fawr.

4. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiwn amserol sydd i'w ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae i'w holi gan Andrew R.T. Davies.

Brechlyn COVID-19

1. Yn sgil y datganiad ar frechlyn COVID-19 gan Pfizer, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch strategaeth ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru? TQ503

Fel arall rownd yw hi fel arfer. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod o'r ddau gwestiwn a atebais yr wythnos diwethaf i'w gyd-Aelod Nick Ramsay a'r Aelod dros Islwyn, Rhianon Passmore, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos ers misoedd lawer gyda Llywodraeth y DU, gwledydd datganoledig eraill, ac ar sail Cymru gyfan gyda rhanddeiliaid allweddol megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol ar ein cynlluniau i ddosbarthu brechlyn yng Nghymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. A gaf fi ofyn am sicrwydd gennych ar ddau beth, a rhywfaint o'r cynllunio sydd ar gael hyd yma? Ddoe, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, tynnodd y Prif Weinidog sylw at y ffaith bod y prif swyddog meddygol wedi bod mewn trafodaethau ers mis Mehefin, ac yna mewn trafodaethau uniongyrchol gyda'r byrddau iechyd o fis Gorffennaf ymlaen, ynghylch argaeledd a dosbarthiad y brechlyn yma yng Nghymru. A gaf fi ofyn i'r trafodaethau hynny gael eu darparu a bod canlyniadau'r trafodaethau hynny ar gael i Aelodau'r Cynulliad eu gweld, fel y gallwn ddeall pa mor barod yw Cymru i sicrhau bod y logisteg ar waith pan fydd y brechlyn ar gael? A ydych yn ddigon hyderus i fod mewn sefyllfa, fel y gwnaeth Ysgrifennydd iechyd y DU ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin, i ymrwymo y bydd GIG Cymru, o 1 Rhagfyr ymlaen, mewn sefyllfa, ni waeth pryd y daw'r brechlyn, i allu dosbarthu a gweinyddu'r brechlyn yma yng Nghymru?

16:10

Ar y pwynt ynglŷn â pha bryd y byddwn yn barod yng Nghymru, rydym wedi cael senarios cynllunio fel y gallwn sicrhau, os daw brechlyn—ac mae'n dal yn 'os'—ar gael cyn diwedd eleni, y byddwn yn gallu cyflawni'r rhaglen honno yma yng Nghymru. A phe bai hynny'n digwydd erbyn 1 Rhagfyr, yna gallem wneud hynny. Ond mae hynny'n dibynnu ar nifer o ffactorau. Mae'n dibynnu i bwy y byddem yn rhoi'r brechlyn, ac mae'n dibynnu ar ddyrannu hynny a'r ddealltwriaeth o'r cyngor y byddem ni a phob gwlad arall yn y DU wedi'i gael gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, y pwyllgor arbenigol sy'n ein cynghori ar effeithiolrwydd a blaenoriaethau yn y boblogaeth ar gyfer unrhyw frechlyn newydd. Mae hefyd, wrth gwrs, yn dibynnu ar fod y brechlyn ar gael. Er bod y treialon yn addawol, nid yw'n barod ac ar gael i ni. Mae hefyd yn dibynnu ar briodoleddau penodol y brechlyn hwn, sy'n galw am ddau frechiad, ac sydd hefyd angen ei storio ar lefelau isel iawn. Felly, gallaf roi'r sicrwydd a roddais yr wythnos diwethaf hefyd, os ydym mewn sefyllfa i gael brechlyn wedi'i ddosbarthu i ni, gallwn ei ddarparu a'i ddosbarthu ledled Cymru ym mis Rhagfyr eleni.

O ran y sgyrsiau a'r ystod o sgyrsiau sy'n digwydd gyda'r prif swyddog meddygol ac eraill, yr hyn a fyddai'n fwy defnyddiol yn fy marn i fyddai pe bawn yn rhoi nodyn i'r Aelodau'n fwy cyffredinol, yn hytrach na dim ond rhyddhau data, i amlinellu natur y trefniadau sydd gennym. A byddwn yn hapus i ddarparu datganiad ysgrifenedig yn y dyddiau nesaf i nodi natur ein cynlluniau a ble rydym arni gyda phob un o'n sefydliadau. A bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn deall bod y sgyrsiau hynny, fel y dywedais yn gynharach, yn dibynnu ar briodoleddau penodol pob brechlyn, a'r brechlyn hwn yn benodol, gyda'r angen i'w storio ar dymheredd isel iawn. 

Diolch yn fawr iawn. Diolch am yr ateb yna. Mi gawson ni gyfle yn y pwyllgor iechyd y bore yma, a dweud y gwir, i holi aelodau o'r grŵp cynghori technegol ynglŷn â'r camau nesaf. Tybed a allwch chi ddweud ychydig bach mwy wrthym ni, Weinidog, ynglŷn â pha bryd fydd y cyfleon sy'n cael eu cynnig gan y brechiad yn cael eu cynnwys mewn modelu ar gyfer patrwm tebygol y pandemig dros y misoedd i ddod? Dim ond datblygiad ydy hyn yr wythnos yma, wrth gwrs. Rydym ni'n falch o'i gael o, ond rydym ni ymhell iawn, fel rydych chi'n ei ddweud, o fod mewn sefyllfa lle bydd y brechlyn ar gael i'w roi i bobl. Ond hyd yn hyn, wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gwybod beth ydy effaith disgwyliadwy cyflwyniad brechlyn ar batrwm y lledaeniad mewn misoedd i ddod. Felly tybed a oes yna ragor o fanylion ynglŷn â hynny, a rhagor o sicrwydd, os gallwch chi ei roi inni, ynglŷn â'r guarantee y bydd Cymru yn cael o leiaf ei siâr poblogaeth wrth i'r brechiad gael ei rannu, pa bynnag bryd fydd hynny?

Iawn, rwy'n hapus i ateb y pwynt olaf yn gyntaf, fel petai, ynglŷn â Chymru'n cael ei chyfran deg. Mae hynny'n bendant yn mynd i ddigwydd. Felly, o ran caffael hwn ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU, mae cytundeb eisoes ynglŷn â sut y caiff ei ddosbarthu a cheir cytundeb ysgrifenedig clir rhwng y gwledydd ar hynny, a bydd Cymru, fel gwledydd eraill y DU, yn cael cyfran Barnett ar sail poblogaeth. Felly, byddwn yn cael 4.78 y cant o gyfanswm y stoc. Wedyn ein cyfrifoldeb ni a'n dewis ni fydd sut y caiff ei ddosbarthu i bobl yma yng Nghymru. 

Ar eich pwynt cyntaf, rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol, unwaith eto, inni gymryd cam yn ôl ac atgoffa ein hunain nad yw'r brechlyn ar gael heddiw, ac mae llawer o frechlynnau eraill yn cael eu datblygu hefyd. Felly, mae'n bosibl y gallai fod rhwystr posibl i'r brechlyn hwn rhag cael ei gymeradwyo gan y rheoleiddwyr, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Felly, ni allwn fodelu ar sail hynny eto, oherwydd nid ydym yn gwybod ei fod ar gael. Ac felly fe fydd diogelwch ac effeithiolrwydd eu data diogelwch—bydd yn rhaid cyhoeddi hwnnw—yna bydd ein rheoleiddiwr meddyginiaethau yn gallu gwneud dewisiadau a phenderfyniadau ynghylch pryd neu os yw'n mynd i allu bod ar gael.

Wedyn bydd angen i ni geisio modelu beth fydd hynny'n ei olygu. Bydd angen i ni gael dealltwriaeth wedi'i modelu o sut rydym yn mynd ati nid yn unig i'w ddarparu, ond yr effaith bosibl ar y boblogaeth. Ond unwaith eto, mae hynny'n dibynnu ar union briodoleddau'r brechlyn, nad ydym yn eu deall eto. Gallai fod yn bosibl fod y brechlyn hwn yn effeithiol iawn yn ein grwpiau sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Mae hefyd yn bosibl y gallai'r brechlyn fod yn llai effeithiol yn y grwpiau sy'n fwyaf tebygol o wynebu'r niwed mwyaf. Felly, mae angen inni wybod yr holl bethau hynny cyn inni ddarparu rhyw fath o dystiolaeth wedi'i modelu. Ond gan ein bod yn darparu sesiynau briffio wythnosol i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a hefyd yn darparu cyfleoedd gwybodaeth rheolaidd, gallaf ddweud y byddwn yn sicrhau, wrth i ni ddatblygu hynny ac wrth i ni gael mwy o sicrwydd i'w ddarparu, y byddwn yn rhannu hynny gydag Aelodau a chyda'r cyhoedd. Nid ydym yn ceisio cadw effeithiau posibl brechlyn yn gyfrinachol, ond mae angen i bob un ohonom ystyried y ffaith bod rhai misoedd i fynd o hyd cyn y byddai'n cael effaith.

Yr hyn na ddylem ei wneud, o ystyried yr holl waith caled a'r aberth rydym newydd fynd drwyddo gyda'r cyfnod atal byr, yw difa hynny o bosibl drwy weithredu fel pe bai'r brechlyn yma heddiw. Bydd ein hymddygiad heddiw ac yn yr wythnosau nesaf yn penderfynu faint ohonom sydd yma i ddathlu gyda'n gilydd ar ddiwedd y flwyddyn hon ac i mewn i'r flwyddyn newydd. Efallai y bydd brechlyn yn cael effaith wrth fynd i mewn i'r flwyddyn newydd, ond ar hyn o bryd, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ymddwyn ac yn parhau i newid ein hymddygiad er mwyn cadw ein gilydd yn ddiogel, ac unwaith eto, fel rydym wedi dweud droeon o'r blaen, i feddwl nawr am yr hyn y dylem ei wneud i gadw ein gilydd yn ddiogel.

16:15

Weinidog, mae'r newyddion am y brechlyn Pfizer yn addawol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyflawni ei botensial. Fodd bynnag, bydd cryn amser cyn y gallwn sicrhau'r bron i 6 miliwn dos sydd eu hangen. Gan droi at ymarferoldeb cyflwyno'r rhaglen, os yw'r brechlyn hwn a brechlynnau eraill yn bodloni safonau diogelwch ac effeithiolrwydd, cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau a chylchlythyrau meddygon teulu y bydd gwasanaethau meddygon teulu eraill yn cael eu gohirio er mwyn gwneud lle i'r rhaglen frechu. Weinidog, a wnewch chi sicrhau'r cyhoedd yng Nghymru na fydd hyn yn digwydd, ac na fydd gwasanaethau'n cael eu gohirio mewn lleoliadau gofal sylfaenol yng Nghymru? Diolch.

Nid ydym eto wedi cwblhau ein trafodaethau gyda gofal sylfaenol ynglŷn â darparu unrhyw frechlyn, ac unwaith eto mae'n bwysig cofio 'unrhyw frechlyn', oherwydd mae brechlynnau eraill yn cael eu datblygu, nid dim ond yr un gan Pfizer, nad yw eto wedi'i gymeradwyo ar hyn o bryd. A bydd hynny'n effeithio ar sut y byddem yn darparu'r brechlynnau hynny, oherwydd yn ôl yr hyn rwy'n ei gofio byddai angen storio'r brechlyn hwn ar dymheredd is na -75 gradd canradd ac ychydig iawn o gyfleusterau sy'n gallu gwneud hynny. Nid ydych yn dod o hyd i gyfleusterau felly ym mhob practis nac ym mhob canolfan iechyd gymunedol. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am fodel gwahanol a'r gallu i ddosbarthu'r brechlyn yn dibynnu ar ei briodoleddau, a bydd hynny wedyn yn helpu i benderfynu pwy sy'n ei ddarparu a ble maent yn ei ddarparu.

Felly, mae amrywiaeth o bethau i weithio drwyddynt a bydd yn rhaid inni edrych arno'n gytbwys wedyn. Os ceir brechlyn sy'n effeithiol ac a fydd yn osgoi'r niwed sylweddol rydym eisoes wedi gweld coronafeirws yn ei achosi, ac y gallai ei achos eto i raddau sylweddol drwy'r gaeaf hwn, mae angen inni ffurfio barn gytbwys ynghylch cynnig y brechlyn hwnnw a'i gynnig i'r cyhoedd gyda'r grwpiau sydd mewn perygl yn dod gyntaf, a deall effaith hynny ar wasanaethau iechyd a gofal eraill. Felly, dyna pam ei bod mor bwysig peidio â mynd ar goll yn ein hawydd i gael cynllun manwl a chyflym nawr ar gyfer brechlyn nad yw ar gael eto, a bydd pob brechlyn yn cyflwyno heriau gwahanol hefyd wrth gwrs, yn ogystal â chyfleoedd gwahanol i helpu i ddiogelu'r cyhoedd.

5. Datganiadau 90 eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Gareth Bennett.

Diolch, Llywydd. Hoffwn longyfarch tîm dartiau Cymru ar ennill cwpan dartiau'r byd. Yn Salzburg dros y penwythnos, enillodd Cymru fuddugoliaeth dros Loegr yn y rownd derfynol i ennill y tlws am y tro cyntaf. Felly, da iawn Gerwyn Price o Markham ger Caerffili a Jonny Clayton o Bontyberem, ger Llanelli, am chwarae'n ardderchog yn Awstria dros y penwythnos. Roedd Gerwyn Price yn arfer chwarae rygbi cyn iddo ddewis canolbwyntio ar chwarae dartiau. Caiff ei adnabod yn y byd dartiau fel 'The Ice Man', a chaiff ei bartner dartiau, Jonny Clayton, ei adnabod fel 'The Ferret'. Ddydd Sul roedd yr Ice Man a'r Ferret yn anorchfygol, a Chymru bellach yw pencampwyr y byd. Felly, unwaith eto, da iawn i'r Ice Man a'r Ferret. Diolch.

16:20

Wythnos yma, hoffwn dynnu sylw at lwyddiant arbennig Coleg Elidyr, sydd wedi'i leoli yn Rhandirmwyn ger Llanymddyfri. Eleni, mae Coleg Elidyr wedi ennill gwobr Tes fel darparwr arbenigol y flwyddyn am eu gwaith arbennig yn cynorthwyo unigolion gydag anghenion dysgu cymhleth.

Yn wreiddiol, roedd y coleg wedi sefydlu fel cymuned Camphill ar sail athroniaeth Karl König a Rudolf Steiner gydag ymrwymiad canolog fod pob un yn haeddu parch a chyfle cyfartal mewn bywyd. Mae'r cwricwlwm wedi esblygu ar sail rhaglen o weithgareddau sy'n gallu gwella lles a sicrhau cyfle am dwf personol.

Yn fwy diweddar, mae'r coleg wedi ehangu ei ddarpariaeth er mwyn cefnogi gwell annibyniaeth i'w ddysgwyr drwy'r rhaglen bywydau cynhwysol. Mae'r coleg wedi ennill clod gan gylchgrawn Tes am ei gwricwlwm amrywiol sydd yn darparu canlyniadau arbennig, gyda ffocws ar ddinasyddiaeth, sgiliau cartref, hunan-eiriolaeth, sgiliau hanfodol a llythrennedd digidol. Roedd ei broses o hunan-werthuso a'r lefel o ymgynghori gyda dysgwyr a'u teuluoedd a rhanddeiliaid eraill hefyd yn cael eu nodi fel ffactorau allweddol i ennill y wobr. Mae'r cyfleoedd am brofiad gwaith ymarferol uniongyrchol ar y campws yn sicrhau bod modd i'r disgyblion wneud ystod eang o bethau, o waith pensaer i gynhyrchu canhwyllau. Hoffwn estyn llongyfarchiadau gwresog i Goleg Elidyr ar eu llwyddiant a'u canmol am y gwaith arbennig sy'n cael ei wneud yno i weithio gyda phobl ifanc.

Nawr fe fyddwn ni'n cymryd egwyl fer tra bod newidiadau’n cael eu gwneud yn y Siambr. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:21.

16:25

Ailymgynullodd y Senedd am 16:29, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau

Symudwn ymlaen â'n hagenda y prynhawn yma at gynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau, ac yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod ac ar gyfer pleidleisio. A gaf fi alw nawr ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol? Caroline Jones.

Cynnig NDM7471 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

Cynnig NDM7472 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o Bwyllgor y Llywydd.

Cynnig NDM7473 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Cynnig NDM7474 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

2. Caroline Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynigion.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig. Suzy.

16:30

Cynnig NDM7458 Suzy Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, a osodwyd gerbron y Senedd ar 4 Tachwedd 2020 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2021-22, sef blwyddyn gyntaf y chweched Senedd wrth gwrs, a fydd yn gymwys o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Gofynnaf fel rhan o'r cynnig i hyn gael ei ymgorffori yn y cynnig cyllidebol blynyddol.

Fel y byddwch wedi gweld o ddogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm cyllidebol o £62 miliwn, naw cant a phedair punt ar ddeg, £62.914 miliwn. Dyna ni, mae'n debyg ei bod yn haws ei ddeall felly. Mae'n cynnwys £39.445 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, felly dyna ein cyllideb weithredol yma, £16.819 miliwn i'w bennu gan y bwrdd taliadau, £2.6 miliwn ar gyfer gwariant sy'n gysylltiedig ag etholiadau a £4.05 miliwn ar gyfer eitemau nad ydynt yn arian parod, megis dibrisiant a chostau cyllid pensiwn. Fel deddfwrfa, efallai ein bod yn fach o ran nifer, ond rydym yn wynebu'r un heriau a phwysau â Seneddau eraill, ac maent yn sylweddol. Mae'r Comisiwn yn bodoli er mwyn sicrhau bod gennym offer i wneud ein gwaith, ac rwyf am ei gwneud yn glir bod y gyllideb yn adlewyrchu'r galwadau hynny, gan gydnabod bod hwn yn gyfnod economaidd anodd.

Mae'r pwysau ar gyllideb 2021-22 yn sylweddol fel y dywedais, ond rydym wedi cyfyngu'r cynnydd yn y gyllideb weithredol i 1 y cant. Mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd gyda'r galwadau sy'n ymrafael am ein sylw y flwyddyn nesaf, ond bu'n bosibl drwy stiwardiaeth ofalus ar y gyllideb gyfredol eleni, gan leihau'r galw ar gyllideb y flwyddyn nesaf. Mae'r cynnydd fel y mae yn deillio'n bennaf o gostau staffio, sy'n cael eu cynnwys o ganlyniad i gytundeb cyflogau a gyrhaeddwyd o'r blaen, a rhwymedigaethau contract presennol—a dof yn ôl at hyn mewn munud—ond y prif nod oedd cyllidebu mor dynn ag y gallwn am flwyddyn pan fydd gwariant cyhoeddus o dan bwysau mawr. Pe na bai hon wedi bod yn flwyddyn etholiad, y gyllideb fel rydych wedi arfer ei gweld, gan gynnwys penderfyniad y bwrdd taliadau a symiau nad ydynt yn arian parod, yw 2.1 y cant. Fodd bynnag, mae'n flwyddyn etholiad, felly mae cyllideb y Comisiwn yn cynnwys llinell ychwanegol o £2.6 miliwn o gostau sy'n gysylltiedig ag etholiad, sy'n golygu bod cyfanswm y cynnydd yn y gyllideb yn 5.4 y cant.

Gosodwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn ar 1 Hydref 2020 a chynhaliwyd sesiwn graffu'r Pwyllgor Cyllid yn fuan wedyn ar 5 Hydref. Mae'n amlinellu'r gofyniad ariannol ar gyfer blwyddyn gyntaf y chweched Senedd, yn ogystal â ffigurau dangosol ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn, sy'n nodi sut y mae'r gyllideb hon yn cefnogi'r Comisiwn newydd. Ac er ein bod wedi bod yn llym iawn gyda'n rhagdybiaethau, rydym wedi ceisio rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i'r Comisiwn newydd o fewn y gyllideb i hybu eu nodau a'u huchelgeisiau eu hunain, o gofio, wrth gwrs, fod y gyllideb yn cael ei chyflwyno yng nghyd-destun byd gwahanol iawn i'r un roeddem ynddo pan oeddwn yn sefyll yma yr adeg hon y llynedd.

Fe fuom yn ystyried rhewi'r gyllideb i herio a dilysu ein rhagdybiaethau. Gan fod ein dwylo wedi'u clymu â llawer o'r costau staffio, roedd hynny bron yn amhosibl, ac fel y mae, mae cynnydd o 1 y cant yn golygu ein bod yn torri ein cronfa brosiectau ac yn gwneud penderfyniadau anodd ar linellau cyllideb gweithredol eraill. A chredwn fod hyn yn iawn ac yn briodol o ystyried y pwysau ychwanegol disgwyliedig ar gyllid cyhoeddus. 

Hoffwn dynnu eich sylw at ddau newid mawr rhwng y gyllideb hon a'r gyllideb ddiwethaf a gyflwynais: yn gyntaf, cynnwys y gyllideb fawr honno ar gyfer blwyddyn etholiad, fel y soniais yn gynharach, ac addasiad o ganlyniad i brydlesi dan Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16. Bydd yr etholiad yn 2021 yn arwain at gostau ychwanegol, gan gynnwys taliadau ymaddasu a diswyddo i Aelodau a staff cymorth sy'n ymadael, ac offer TGCh newydd i'r Aelodau yn lle offer sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes. Ac fel ym mhob blwyddyn etholiad, mae llinell gyllideb ar wahân ar gyfer y costau hyn yn glir ac mae wedi'i chynnwys yn y gyllideb. Fel y dywedais yn gynharach, mae wedi'i gosod ar £2.6 miliwn, sydd £100,000 yn fwy na'r hyn a gymeradwywyd ar gyfer 2016. A hoffwn sicrhau'r Aelodau y bydd unrhyw arian nas defnyddir o'r llinell gyllideb honno'n cael ei ddychwelyd i gronfa gyfunol Cymru. 

Nid wyf yn gwybod a ydych yn cofio mater prydlesi dan IFRS 16, sef y prydlesi dan safon 16 yn yr adroddiadau ariannol rhyngwladol. Gofyniad yw hwn i sefydliadau roi cyfrif am asedau prydles fel pe baent yn berchen arnynt, a gohiriwyd ei weithrediad o'i ddyddiad gweithredu gwreiddiol, 1 Ebrill 2020, oherwydd COVID. Nid wyf yn gwybod a ydych yn cofio, Aelodau, ond golygai hynny fod yn rhaid dileu'r effaith o gyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn gyfredol drwy gyllideb atodol yn gynharach eleni. Ac er bod disgwyl inni roi cyfrif o dan IFRS 16 o fis Ebrill 2021, yn unol â Llywodraeth Cymru, rydym yn hepgor effaith hynny o gyllideb 2021-22 ac yn lle hynny, byddwn yn addasu'r gyllideb i adlewyrchu IFRS 16 drwy gynnig cyllideb atodol yn ystod 2021, oherwydd, yn amlwg, rydym yn dal mewn cyfnod o ansicrwydd ynglŷn â sut y bydd COVID yn effeithio arnom. Felly, pan fydd y dyddiad gweithredu wedi'i gadarnhau, gellir meintioli'r effaith a chyflwyno cyllideb atodol. Fel gydag addasiadau blaenorol ar gyfer IFRS 16, i dawelu meddwl yr Aelodau unwaith eto, nid oes unrhyw oblygiadau ariannol i ni eu hystyried.

Soniais yn gynharach ein bod wedi siarad â'r Pwyllgor Cyllid, ac rydym yn diolch iddynt, fel arfer, am eu gwaith craffu ar y gyllideb hon a'u hymrwymiad parhaus i sicrhau bod gan y Senedd ddigon o adnoddau i wneud ei gwaith, gan barhau i ofyn cwestiynau sy'n ein helpu i wella perfformiad a sicrhau rhagoriaeth. Eleni, mae'r pwyllgor wedi gwneud wyth argymhelliad, ac rydym wedi mynd i'r afael â hwy yn ein hymateb, sydd ynghlwm wrth y papurau y byddwch wedi'u gweld. Mae'r rheini'n cynnwys cais am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym wedi ymateb i argyfwng COVID. Yn amlwg, nid ydym ond hanner ffordd drwy'r flwyddyn gyfredol, felly bydd mwy o wybodaeth i ddod.

Un effaith y gallwn adrodd yn ei chylch eisoes yw ein bod wedi gweld cynnydd yn y gwyliau blynyddol a gronnwyd gan staff, yn rhannol am fod rhai o'r staff wedi gweithio oriau hwy, gan gynnwys drwy doriad yr haf, pan fyddent wedi cymryd gwyliau ar adegau arferol. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor Cyllid at hyn, a hefyd at y ffaith ei bod yn debygol y bydd arnom angen cyllideb atodol ar gyfer y flwyddyn gyfredol i wneud iawn am y ddarpariaeth ychwanegol hon, ond unwaith eto, hoffwn dawelu meddwl yr Aelodau nad oes unrhyw oblygiadau ariannol yn deillio o hyn. Roedd y Pwyllgor Cyllid yn awyddus inni roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch a lles staff, oherwydd, yn amlwg, mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn ac mae iechyd a lles ein staff yr un mor bwysig ag iechyd a lles ein harian. Gofynnodd y pwyllgor hefyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut rydym yn cynllunio gwariant prosiectau yn y tymor canolig a'r tymor hir.

Yn y cyfamser, rwy'n hapus i gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn, ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, ac i sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. 

16:35

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw. Yn ystod tymor y Senedd yma, mae’r Comisiwn a’r prif weithredwr wedi gweithio gyda’r pwyllgor i baratoi gwybodaeth ariannol dryloyw, a dwi yn gobeithio y bydd y berthynas waith effeithiol yna yn parhau, wrth gwrs, i mewn i'r chweched Senedd.

Mae'r pwyllgor yn croesawu'r newyddion fod y prosiect i gaffael meddalwedd deddfwriaeth yn mynd rhagddo o fewn yr amserlen wreiddiol a bod y gost yn is na’r gyllideb wreiddiol, sydd yn beth positif iawn, wrth gwrs. Fodd bynnag, rydyn ni’n dal yn pryderu nad yw’r Comisiwn wedi rhoi digon o wybodaeth am y prosiect i osod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel. Does dim penderfyniad eto ynglŷn â’r cyllid cyffredinol sydd ei angen ar gyfer hynny, nac am y ffordd y bydd y prosiect yn cael ei roi ar waith fesul cam, er bod hynny, wrth gwrs, yn cael ei ystyried yn rhan o’r gwaith o graffu ar y gyllideb flynyddol ers mis Medi 2018.

Er bod y pwyllgor yn cydnabod y byddai’n bosib defnyddio cyllidebau gweithredol i dalu am y costau hyn, ac yn cytuno o ran egwyddor â phenderfyniad y Comisiwn i fwrw ymlaen â phrosiectau cynnal a chadw hanfodol fesul cam, mae’r pwyllgor yn credu y dylai prosiectau o’r maint yma fod yn destun proses graffu gyhoeddus. Felly, dwi'n falch o weld bod y Comisiwn wedi derbyn ein hargymhelliad ni i ddod i sesiwn dystiolaeth gyda’r pwyllgor ym mis Chwefror i’n helpu ni i ddeall sut y gall roi ei gynlluniau tymor hir ar gyfer prosiectau fel hyn ar waith fesul cam, a sut, wrth gwrs, y gall ariannu’r gwaith hwnnw.

Mae'r pwyllgor yn croesawu'r newidiadau i'r ffordd y mae'r costau sy’n cynorthwyo’r comisiynydd safonau yn cael eu cyflwyno yn y gyllideb ddrafft yma, ac mae hynny, wrth gwrs, yn dilyn un o argymhellion blaenorol y pwyllgor. Fodd bynnag, er bod y pwyllgor wedi gofyn am adroddiad ar y cynllun ymadael gwirfoddol, mae’n siomedig nad oedd yr adroddiad hwnnw yn barod erbyn y sesiwn graffu flynyddol, ond rydyn ni yn cydnabod, wrth gwrs, fod blaenoriaethau wedi gorfod newid oherwydd effaith COVID-19. Er bod y pwyllgor yn cydnabod nad ffordd o dorri costau’n unig oedd y cynllun ymadael gwirfoddol, mae angen i'r pwyllgor ddeall sut mae’r Comisiwn wedi cyflawni’r nod a osodwyd, wrth gwrs, o sicrhau arbedion hirdymor pan fo modd.

Yn ei ymateb, mae’r Comisiwn yn dweud bod pob un swydd heblaw un wedi’i hailsefydlu neu ei hailddosbarthu ac y bydd arbedion ariannol yn y dyfodol yn codi wrth recriwtio staff ar bwyntiau is o fewn y strwythur cyflogau. Felly, dydy’r Comisiwn ddim yn bwriadu rhoi rhagor o fanylion am yr arbedion ariannol. Ond mae’n anarferol cynnig cynllun ymadael gwirfoddol na fydd yn sicrhau arbedion ariannol, ac mae'n siomedig nad yw cynllun o’r gwerth hwn yn cynnig unrhyw arbedion hirdymor.

Mae'r cyfnod ers mis Mawrth eleni, wrth gwrs, wedi bod yn un anodd iawn, fel roeddwn i'n awgrymu yn gynharach, ac mae'r pwyllgor yn cydnabod yr hyn mae’r Comisiwn a’i staff wedi’i gyflawni, gan lwyddo i gynnal busnes y Senedd, trefnu i staff weithio o adref, a chefnogi lles staff drwy gydol y pandemig. Er bod salwch a throsiant staff wedi bod yn is nag arfer yn ystod y flwyddyn, fe glywsom ni fod cynnydd cyffredinol wedi bod yn y gwyliau blynyddol y mae staff wedi’u cronni—cyfeiriodd Suzy Davies ato fe yn gynharach—ac mae hynny’n peri pryder i’r pwyllgor, wrth gwrs, o safbwynt llesiant staff yn enwedig. Os bydd angen i'r Comisiwn gyflwyno cyllideb atodol oherwydd yr holl wyliau blynyddol sydd wedi’u cronni, yna mi fyddai'r Pwyllgor yn disgwyl iddo asesu a oes unrhyw risgiau ynghlwm wrth gario costau ychwanegol drosodd i 2021-22, a rhoi gwybodaeth am lefelau salwch ac absenoldebau eraill, ac absenoldeb arbennig, wrth gwrs, yn benodol.

Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod y Comisiwn wedi gorfod newid ffocws ei waith ymgysylltu yn gyflym iawn, gan wneud llai o ryngweithio wyneb yn wyneb a mwy o waith ymgysylltu digidol oherwydd COVID-19, ac rydyn ni'n canmol y Comisiwn am ei ymdrechion i ymgysylltu yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, nid pawb, wrth gwrs, sydd yn ymgysylltu’n ddigidol, ac mae'r pwyllgor yn annog y Comisiwn i wneud yn siŵr nad yw’n anghofio am anghenion y rhain pan fydd yn ystyried llwyddiant y gwaith ymgysylltu digidol hwnnw. Rydyn ni’n cydnabod nad dim ond drwy ddulliau digidol mae’r Comisiwn wedi bod yn ymgysylltu, ac rydyn ni wedi cyfeirio at hyn yn ein hadroddiad, ond rydyn ni’n argymell ei fod yn adeiladu ar y gwaith hwn i liniaru effaith y pandemig o ran y ffordd y mae wedi ymwneud â rhyngweithio wyneb yn wyneb.

Gan fod y gwaith ymgysylltu digidol wedi cynyddu’n gyflym, fe ddywedodd y Comisiwn ei fod yn buddsoddi mewn uwch staff i gynorthwyo'r cyfarwyddwr cyfathrebu ac ymgysylltu newydd. Nid oedd y dystiolaeth yn dangos yn glir sut roedd strwythur y gwasanaeth cyfathrebu ac ymgysylltu’n cyd-fynd ag amcanion y cynllun ymadael gwirfoddol, a gofynnodd y pwyllgor am ragor o wybodaeth am hyn, ynghyd â manylion ychwanegol am y modd y mae cynllun cyfathrebu’r Comisiwn yn pennu blaenoriaethau, yn mesur effaith, ac yn ceisio codi proffil gwaith y pwyllgorau a’r Senedd, wrth gwrs. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar am y wybodaeth ychwanegol a gafodd gan y Comisiwn mewn perthynas â’r mater hwn, ond nid oedd yn cynnwys digon o fanylion am y modd y mae’r cynllun ymgysylltu yn gweithio i godi proffil pwyllgorau'r Senedd, ac mae hyn yn siomedig.

Mae'r pwyllgor yn gefnogol o’r modd y mae buddsoddiad y Comisiwn yn y gwaith o feithrin gallu yng nghyd-destun Brexit a chyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd nawr wedi’i brif-ffrydio yn y gyllideb. Mae hynny yn beth positif, yn ein barn ni. Mae’r pwyllgor eisoes wedi cydnabod, wrth gwrs, gwaith staff y Comisiwn wrth iddynt ymateb i’r gwaith sydd ynghlwm wrth Brexit, a hoffwn i gloi heddiw drwy gydnabod ac ategu hyn, gan nodi bod staff y Comisiwn wedi gorfod cyflawni eu gwaith yn 2020 o dan yr anawsterau a’r cyfyngiadau anodd sydd wedi dod oherwydd COVID-19. Diolch.

16:40

Rwyf am wneud dau bwynt byr iawn a gofyn tri chwestiwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nad yw'r Comisiwn, ac eithrio eitemau y tu allan i'w rheolaeth a bennwyd gan y pwyllgor cyflogau, yn cael eu trin yn fwy ffafriol na'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd. Mater o gyflwyniad yw hwn, ond nid wyf yn deall pam na allwn gael y costau a bennwyd gan y pwyllgor cyflogau ar wahân i gytuno ar gyllideb y Comisiwn. Nid oes gan y Comisiwn na ninnau fel Aelodau reolaeth dros benderfyniadau'r pwyllgor cyflogau, felly y cyfan y gall y Comisiwn a'r Senedd ei wneud yw derbyn y costau a'r gyllideb ar eu rhan. Y cwestiynau sydd gen i yw'r rhain. Mae nifer o bobl a gyflogir gan y Comisiwn yn gweithio gartref ar hyn o bryd. Ar ôl i'r pandemig ddod i ben, yn y flwyddyn ariannol nesaf gobeithio, pa gyfran o staff y disgwyliwch iddynt barhau i weithio gartref, a beth yw'r costau a'r arbedion misol disgwyliedig? Fel y gŵyr y Comisiynydd, polisi'r Ceidwadwyr yw rhewi gwariant ar wasanaethau'r Comisiwn. Pa waith y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i gyfrifo cyllideb ar gynigion y Blaid Geidwadol, ac a fyddant yn rhannu'r meysydd a fyddai'n cael eu torri yn ystod y flwyddyn i fodloni cynigion y Blaid Geidwadol? Yn olaf, mae'r Comisiwn yn ddigon priodol yn cyhoeddi cost postio pob Aelod bob mis, ond er cymhariaeth a allant gyhoeddi cost postio pob canolfan gostau Comisiwn bob mis?

16:45

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A diolch yn fawr i Llyr ac i Mike hefyd.

Fe ddechreuaf gyda Llyr, os yw hynny'n iawn. Diolch yn fawr am gydnabod, fel y gwnawn ni, fel y mae'r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud, ein bod, drwy gydweithio, yn cael cyflwyniad mor gynyddol dryloyw o'r gyllideb ag sy'n bosibl. Rydym bob amser yn hapus i gymryd argymhellion ar sut i wneud hynny'n well. Efallai fod hynny'n rhywbeth roedd Mike yn cyfeirio ato ar y diwedd, ond collais ei gwestiwn olaf mewn gwirionedd—dof yn ôl at hynny.

Ie, fel yr eglurais yn fy nghyflwyniad agoriadol, rydym wedi gweithio'n galed iawn yma. Dechreuasom o ddim cyllideb i nodi'r hyn roedd angen inni wario arian arno, neu'r hyn roeddem yn credu y byddai angen i'r Comisiwn nesaf wario arian arno, ac fel arfer, mae swm sylweddol o'n costau'n eithaf—wyddoch chi, rydym eisoes wedi ymrwymo iddynt, gan ein gadael gydag isafswm o ddisgresiwn ynglŷn â lle gallwn fod yn arloesol, os mynnwch.

Y pwynt am y ffenestri, mae'n amlwg ein bod wedi tynnu sylw at hyn gyda chi o'r blaen, ac rydych chi'n llygad eich lle, Llyr, mae astudiaeth ddichonoldeb wedi'i gwneud ar hyn, ond yn anffodus, nid yw'r Comisiynwyr eu hunain wedi gweld honno eto, a chyn gynted ag y byddwn wedi gwneud hynny, mae'n amlwg y byddwn mewn sefyllfa i wneud yr adroddiadau addas i'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r hyn a ddywedant. Rydych chi'n iawn ei fod—. Nid yw'r astudiaeth ddichonoldeb ei hun mor ddrud â hynny, ond fe fydd y costau cyffredinol. Ond rwy'n credu ei bod yn werth inni gofio nad yw hyn yn ymwneud â chael ffenestri newydd yn unig; mae hyn, i raddau helaeth, yn ymwneud ag iechyd a diogelwch—mae rhai o'r ffenestri yn ymylu ar fod yn beryglus. Ond hefyd, mae gennym ymrwymiad, fel Senedd, i weithio tuag at ein nodau cynaliadwyedd, ac mae'n eithaf clir nad yw'r ffenestri sydd gennym ar hyn o bryd yn ein helpu i wneud hynny. Felly, mae mwy nag un rheswm dros newid y ffenestri, os mynnwch. Fodd bynnag, bydd yn gost fawr ac mae eich sylwadau ynglŷn ag a ddylai'r cyhoedd allu craffu ar hyn yn sicr wedi'u nodi, ac mae'n amlwg y byddwn yn mynd â hynny'n ôl i'r Comisiwn.

Y comisiynydd safonau—ie, credaf i chi gael ymddiheuriadau yn y Pwyllgor Cyllid am nad oedd yr adroddiad hwnnw'n barod, ac rydym yn ddiolchgar i chi am gydnabod mai blaenoriaethau COVID i bob pwrpas sydd wedi gwthio hynny i lawr y rhestr o bethau i'w gwneud. Ond byddwch yn sicr yn ei gael.

Gyda'r arbedion hirdymor, rhan o'r hyn a wnawn wrth gyflwyno'r gyllideb, ar ddechrau Comisiwn yn sicr, yw ceisio edrych ar draws y pum mlynedd, ond yn sicr y tair blynedd, a rhoi ffigurau dangosol o'r hyn y byddem yn disgwyl i gyllideb y flwyddyn nesaf ei gynnwys. Ac yn rhan o hynny ceir lefel o edrych ymlaen i weld pa arbedion y gallwn eu gwneud, neu'n anffodus, fel sy'n digwydd yn amlach, beth yw cost pethau. Ond er enghraifft—rydym wedi bod yn y cylch hwn o'r blaen—rydym yn edrych ymlaen ar hyn o bryd at weld rhai contractau'n dod i ben, ac at weld pwy sy'n cael y contract newydd, neu hyd yn oed os mai'r un unigolion ydynt—i weld a allwn wneud arbedion yno. 

Credaf ichi sôn am y cynllun ymadael gwirfoddol. Rwy'n credu ein bod yn eithaf clir ar y dechrau fod hynny'n ymwneud ag ail-lunio'r gweithlu er mwyn ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r Comisiwn nawr, ac mae hynny'n cynnwys cyflwyno sgiliau newydd. Roedd modd cadw rhai aelodau o staff, wrth gwrs, gyda gwahanol fathau o hyfforddiant. Ond yn fwy arbennig—nid wyf ond yn sôn am hyn oherwydd eich bod wedi sôn am ymgysylltu ychydig yn nes ymlaen—mae'r olwg sydd ar y gyfarwyddiaeth honno nawr a'r hyn y mae'n ceisio'i wneud yn gwbl wahanol i'r hyn roeddem yn ei wneud o'r blaen, ac mae angen y sgiliau newydd arni i wneud hynny. Mae pob cyfarwyddiaeth yn cyd-fynd â'r tri nod strategol nawr, ac maent yr un mor bwysig.

Efallai fy mod wedi methu rhywbeth, felly ymddiheuriadau—. O, ie, y pwyllgorau—

O, iawn, mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn cadw llygad. Maddeuwch i mi, Ddirprwy Lywydd.

Yn y bôn, mae holl egwyddor y strategaeth ymgysylltu'n ymwneud â phobl Cymru, ac wrth gwrs, mae'r pwyllgorau'n rhan o hynny. Os ydym am gael pobl i ymgysylltu â ni, mae angen iddo fod amdanynt hwy, yn hytrach na'r hyn rydym yn galw ein hunain.

Cafodd Brexit ei brif ffrydio—ie, roedd hwnnw'n bwynt da.

Mike—os caniatewch i mi'r un olaf hwn, Ddirprwy Lywydd—ar weithio gartref, mae'r gwaith sydd wedi'i wneud ar hyn yn awgrymu y byddai'n bosibl i 30 y cant o'r staff weithio gartref. Fodd bynnag, peidiwch â chymryd hwnnw fel ffigur—[Anghlywadwy.]—oherwydd mae sut y mae hynny'n edrych yn gwestiwn pwysig. Ni allwch gael 30 y cant o bobl yn unig yn gweithio gartref a byth yn dod i mewn, felly mae'n ymwneud â sut i ddarparu ar gyfer hynny mewn ffordd sy'n ymateb yn bennaf i weithrediad y lle hwn mewn ffordd synhwyrol a lles ein staff. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Rydych chi'n gwrthwynebu? Rwy'n gweld gwrthwynebiad, felly gohiriwn y bleidlais hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

16:50
7. Dadl ar Ddeiseb P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau 'nad ydynt yn hanfodol' yn ystod y cyfyngiadau symud

Eitem 7 yw dadl ar y ddeiseb P-05-1060, 'Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Janet Finch-Saunders.

Cynnig NDM7460 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud’ a gasglodd fwy na 67,000 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch yn fawr iawn i chi, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am y cyfle i gynnal dadl ar y ddeiseb hon heddiw. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i amserlennu'r ddadl hon ar fyr rybudd.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gareth Howell. Mae'n ymwneud â'r cyfyngiadau a osodir ar y math o nwyddau y gallai siopau eu gwerthu yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar. Casglodd y ddeiseb 67,940 o lofnodion, sy'n golygu mai hon yw'r ddeiseb unigol fwyaf a gawsom erioed yma yn y Senedd. Nawr, cyn i mi drafod y ddeiseb ymhellach, hoffwn nodi'n fyr y twf diweddar yn niferoedd a maint y deisebau rydym yn eu cael nawr. Mae'r Pwyllgor Deisebau ar y trywydd i ystyried yr un nifer o ddeisebau newydd yn ystod 2020 ag y gwnaeth yn nhair blynedd a hanner flaenorol y Senedd hon gyda'i gilydd. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym hefyd wedi ystyried llawer o'r deisebau mwyaf a gyflwynwyd ers sefydlu'r broses yn 2007. Yn amlwg, mae amgylchiadau penodol wedi gwneud 2020 yn flwyddyn eithriadol mewn cynifer o ffyrdd. Ar hyn o bryd, mae tua hanner y deisebau rydym yn eu derbyn yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r pandemig hwn. Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd fod niferoedd cynyddol o bobl yn ymgysylltu â'r Senedd a gwleidyddiaeth ddatganoledig drwy'r broses ddeisebu. Ni all hyn ond bod yn gadarnhaol i'n democratiaeth yn fy marn i.

Mewn perthynas â'r ddeiseb hon, rwy'n ymwybodol fod cwestiynau wedi'u gofyn ynglŷn â ble mae rhai o'r bobl a'i llofnododd yn byw. Felly, ar gyfer y cofnod, mae'n bwysig nodi bod 92 y cant, dros 62,000 o'r llofnodion hyn, wedi dod gan bobl yng Nghymru. Casglwyd y rhan fwyaf o'r llofnodion hefyd dros gyfnod o un penwythnos ar ddechrau'r cyfnod atal byr. Ac wrth gwrs, oherwydd bod hyn yn cyd-daro â thoriad hanner tymor yr hydref, nid yw wedi bod yn bosibl cynnal y ddadl hon yn ystod y cyfnod atal byr o bythefnos. Fodd bynnag, o ystyried cryfder y gefnogaeth i'r ddeiseb a pherthnasedd y pwnc i gyfnodau o gyfyngiadau posibl yn y dyfodol, teimlwn ei fod yn parhau i fod yn bwnc gwerth chweil i'r Senedd ei drafod yn y Cyfarfod Llawn.

Bydd y ddadl ynghylch yr ystod o nwyddau y gellid eu gwerthu yn ystod y cyfnod atal byr yn ddiweddar yn debygol o fod yn gyfarwydd i bawb sy'n gwylio heddiw ac yn wir, i'n Haelodau. Felly, oherwydd amser, gadawaf i siaradwyr eraill amlinellu'r pryderon hynny. Nid wyf ychwaith yn mynd i amlinellu unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor Deisebau ar y mater hwn oherwydd, o ganlyniad i'r amserlenni dan sylw, nid yw rhinweddau neu wendidau'r ddeiseb, ac ymagwedd Llywodraeth Cymru, wedi'u trafod eto yn ein cyfarfod pwyllgor arferol. Mae'r pwyllgor wedi cytuno i gyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl yn y fforwm hwn fel y ffordd fwyaf priodol o wyntyllu'r materion y mae'n eu codi. Fel y nodais yn gynharach, er fy mod yn siŵr mai gobaith pawb yma heddiw yw y byddwn yn gallu rheoli'r feirws ofnadwy hwn heb unrhyw gyfyngiadau pellach, nid oes yr un ohonom yn gwybod yn union beth fydd y dyfodol. Felly, mae angen inni sicrhau bod mesurau sy'n rhaid eu cymryd i gyfyngu ar ledaeniad y feirws yn gymesur a bod pobl Cymru yn ymddiried yn y rhesymeg sy'n sail iddynt ac yn wir, yn eu deall.

Rwy'n siŵr y bydd amrywiaeth o safbwyntiau ar y mesurau penodol a gwmpesir gan y ddeiseb hon yn cael eu clywed yn ystod y ddadl heddiw. Yn wir, dyna union bwrpas y ddadl hon. Dyna hefyd yw diben darparu'r broses ddeisebu a mecanwaith y gall y cyhoedd yng Nghymru ei ddefnyddio i godi materion yma yn ein Senedd. Edrychaf ymlaen, Ddirprwy Lywydd, at wrando ar weddill y cyfraniadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym mewn sefyllfa braidd yn rhyfedd yma heddiw. Rydym yn trafod deiseb, fel y dywedwyd wrthym nawr, a gododd yn bennaf ar un penwythnos ar un agwedd fach ond dadleuol iawn o'r cyfnod atal byr 17 diwrnod a gynlluniwyd i ddiogelu ein GIG ac i achub bywydau, cyfnod y mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu ei fod wedi cael effaith lesteiriol ar y cynnydd sydyn mewn achosion o'r coronafeirws. Rydym yn trafod deiseb a oedd yn ymwneud â chyfnod o 17 diwrnod, cyfnod o 17 diwrnod sydd bellach ar ben ac a oedd yn eithaf amlwg yn mynd i fod drosodd erbyn iddi gael ei thrafod. Ond dyma ni. Felly, gadewch i ni ei thrafod, gan ei bod yn codi rhai materion pwysig iawn, a gadewch inni edrych ar hyn yn ei gyd-destun.

Yn fy ardal i, a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rwy'n gwybod, fel y mae fy nghyd-Aelod, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, sydd wedi cwyno yn erbyn y mesurau atal byr yn eu cyfanrwydd mewn modd Trumpaidd, ac mae wedi eistedd yn yr un sesiynau briffio yng Nghwm Taf ac wedi gwrando a chlywed, er nad yw erioed wedi herio'r hyn a glywodd gan y rhai ar reng flaen ein gwasanaeth iechyd, yn wythnos olaf y cyfnod atal byr, o'r chwe gwely COVID gofal dwys sydd ar gael yn Ysbyty Frenhinol Morgannwg, fod y chwech mewn defnydd, o'r 10 gwely COVID dwys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, roedd naw mewn defnydd, ac o bedwar yn Ysbyty Tywysoges Cymru, roedd dau mewn defnydd, neu fod 69 o'r 84 o welyau COVID nad ydynt yn welyau dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn defnydd, fod 97 o'r 120 yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, a 110 o'r 115 yn Ysbyty Tywysoges Cymru mewn defnydd. A dyma'r cyd-destun lle roedd yr ymosodiadau ar y cyfnod atal byr yn digwydd gan y Blaid Geidwadol a chan Blaid Brexit, UKIP ac amrywiol rai eraill, yn ogystal ag ymyriadau enfawr ar-lein o'r tu allan i ffiniau Cymru—heb sôn am y bobl a lofnododd y ddeiseb, yr ymosodiadau o'r tu allan. Mae'n rhyfedd faint o hyn a gafodd ei ysgogi a'i gymell gan gyfryngau gwrth-Lafur Llundain-ganolog. Nid wyf yn cwyno am hynny, dim ond ei nodi fel ffaith. Mae pobl sy'n cwyno am y polisi hwn o'r tu allan i Gymru, yn gwawdio Cymru, yn wir, tra bod Llywodraeth Boris Johnson wedi petruso ac oedi nes cael ei gorfodi yn y diwedd gan wyddoniaeth na ellir dadlau yn ei herbyn i gychwyn ar gyfnod o gyfyngiadau hwyr yn y dydd o bedair wythnos a allai, oherwydd yr oedi a chanlyniad y cynnydd yn yr achosion o COVID yno, fod wedi arwain yn ddiangen at farwolaethau yn Lloegr.

Ar un adeg, disgrifiodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mewn cenllif o eiriau hallt yn erbyn y cyfnod atal byr a gefnogwyd gan gyfrif cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, y mesurau fel 'breuddwyd wlyb sosialydd'. Nawr, rwy'n cymryd bod y sylwadau chwerw hyn wedi'u cymeradwyo gan arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Paul Davies. Gofynnaf yn gwrtais i Andrew R.T. Davies a Paul Davies ystyried eu hymagwedd at hyn a'u gwrthwynebiad adeiladol yn gyffredinol yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus cenedlaethol. A yw'r math hwn o iaith ac ymagwedd gan lefarwyr y fainc flaen yn anweddus ac yn ddiurddas? Wyddoch chi, nid oes ots gennyf o gwbl. Mater i'r Aelodau unigol yw hyn. A yw'n ddoeth? Nid os yw'n tanseilio hyder y cyhoedd mewn mesurau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth i fynd i'r afael â'r coronafeirws, ac mae'n sicr yn gwneud hynny. A yw'n rhagrithiol? Wel, dim ond os yw'n mynd yn groes i'r union bolisi a gefnogir gan y Ceidwadwyr fel rhan o set o fesurau ledled y DU i achub bywydau. Felly, gan fod Boris Johnson yn hwyr yn y dydd wedi gosod y cyfyngiadau pedair wythnos yn Lloegr, gan gynnwys gwaharddiad ar werthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol o siopau y caniateir iddynt aros ar agor, gofynnaf i fainc flaen y Ceidwadwyr a ellir disgrifio eu harweinydd yn y DU a Phrif Weinidog y DU nawr fel rhywun sydd mewn rhyw ffordd yng nghanol 'breuddwyd wlyb sosialydd' yng ngeiriau'r cyn arweinydd Ceidwadol yng Nghymru.

Ond gadewch i mi fod yn glir, fel Aelod ar y meinciau cefn yn y Senedd hon, gwn y bydd gwersi'n cael eu dysgu am eglurder cyfathrebu a gweithrediad manylion y cyfnod atal byr gan Lywodraeth Cymru. Gellid gwerthu dillad plant, gyda llaw, gellid cael gafael ar eitemau brys. Ac edrychaf ymlaen, gyda llaw, at gyfarfodydd yn y dyfodol gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru i archwilio eu dull o ymdrin â hyn a sut y gallent hwy a'u haelodau weithio'n fwy effeithiol gyda'r cyngor meddygol a gwyddonol yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus, gyda chanllawiau a deddfwriaeth wedi'u hanelu at ddiogelu bywydau a rheoli lledaeniad y clefyd.

Ond gadewch i mi gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy fyfyrio ar ddigwyddiad coffa diddorol a fynychais y bore yma. Nododd y ficer a arweiniodd y gwasanaeth, er bod ein milwyr yn y rhyfel byd cyntaf wedi wynebu bwledi saethwyr cudd a bomiau morter wrth wasgu at ei gilydd yn y ffosydd, roeddem ni'n wynebu 17 diwrnod heb allu siopa am nwyddau traul nad ydynt yn hanfodol ar adeg o argyfwng iechyd cyhoeddus. Gofynnaf i'r Aelodau ystyried hynny. Diolch.

17:00

Rwy'n ddiolchgar am gael cyfrannu'n fyr at hyn heddiw. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond cefais i, fel llawer o Aelodau'r Senedd, lawer o ymholiadau dros y cyfnod atal byr pythefnos o hyd hwnnw, yn sicr yn ystod yr wythnos gyntaf, ynglŷn â gwahardd archfarchnadoedd rhag gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol, felly rwy'n siarad o safbwynt hynny. Gallaf ddweud yn bendant, mewn ymateb i Huw Irranca-Davies, nad oeddwn i yn sicr yn Aelod a ddefnyddiodd unrhyw fath o iaith ymfflamychol dros y cyfnod hwnnw, ac yn sicr ni siaradais am safbwynt Llywodraeth y DU ychwaith, yn ystod y cyfnod hwnnw. Fel Aelod o'r Senedd hon, cefais fwy o ymholiadau gan etholwyr am hyn na dim byd arall dros y sawl mis diwethaf, a chredaf fod angen inni gydnabod, ar wahân i wleidyddiaeth hyn, sydd, yn fy marn i, wedi'i daflu o gwmpas o'r ddwy ochr mewn gwirionedd, i ryw raddau—credaf, ar wahân i hynny i gyd, fod yna broblem yma y dylid mynd i'r afael â hi.

Fe fyddaf yn onest—rwy'n credu, ar ddechrau hyn, fod hyn wedi dechrau fel ymgais yn llawn bwriadau da gan Lywodraeth Cymru i gael tegwch ac i sicrhau nad oedd siopau bach yn dioddef o'u cymharu ag archfarchnadoedd. Nawr, p'un a ddigwyddodd hynny'n ymarferol ai peidio, credaf y bydd adolygiad yn datgelu hynny. Rwy'n tybio mai'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd mai'r rhai a gafodd fwyaf o fudd o'r broses hon oedd y defnyddwyr ar-lein, Amazons y byd hwn a'u tebyg. Dyna oedd fy mhryder, a dyna'n sicr oedd pryder yr etholwyr a gysylltodd â mi.

Huw Irranca-Davies, rydych chi'n iawn i ddweud, wrth gwrs, mai cyfnod byr oedd hwn, ac rydym yn y sefyllfa ryfedd nawr o'i drafod o gyfeiriad arall, yn y cyfnod a'i dilynodd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, efallai ein bod yn edrych ar gyfnod arall o gyfyngiadau, neu gyfnod atal byr fel rydym yn ei alw yma, yn y flwyddyn newydd; gobeithio na fydd angen hynny, ond efallai y byddwn. Felly, credaf mai'r hyn y mae angen inni ei wneud wrth symud ymlaen yw sicrhau ein hetholwyr fod y camau a gymerwyd yn ystod y cyfnod atal byr hwnnw—ac rwy'n cefnogi llawer ohonynt ac yn credu eu bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn—ond i dawelu meddwl ein hetholwyr fod angen y mesurau hyn. Rydym mewn sefyllfa anarferol, mae angen i ni i gyd ddod at ein gilydd a sicrhau ein bod yn ymladd y pandemig, ond rhaid inni hefyd ddod â'r cyhoedd gyda ni. Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU hefyd yn wynebu'r heriau hyn ac yn ei chael hi'n anodd dod â'r cyhoedd gyda hwy gyda'r cyfyngiadau y maent yn eu hwynebu, ac yn sicr yn y dyfodol, os cawn gyfyngiadau yma yn y dyfodol, bydd yn anodd i ni dawelu meddwl pobl yn llwyr fod angen y mesurau hyn. Gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd.

Rwy'n falch fod hyn wedi'i drafod heddiw, ac rwyf am weld adolygiad i sicrhau yn y dyfodol—. Mae'r term 'nwyddau nad ydynt yn hanfodol', er enghraifft—credaf na soniwyd am 'nwyddau cyfleus' o gwbl, ac eto mae manwerthwyr yn deall beth a olygir wrth 'nwyddau cyfleus'. Credaf fod hynny ar goll yn gynnar yn y ddadl, felly gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ymladd y pandemig hwn.

Dim ond ychydig o sylwadau gen i ar hwn. Mae'n braf, wastad, gweld cymaint o ymgysylltu efo'r Senedd, ac dwi'n llongyfarch y deisebydd yn hynny o beth. O ran y ddeiseb benodol yma, dwi'n meddwl mai'r ffaith bod cymaint o bobl wedi'i llofnodi yn dangos bod hwn wir yn fater roedd yna ddiddordeb gwirioneddol ynddo fo. Mi ddaeth hi yn drafodaeth genedlaethol. Mae hefyd yn brawf, dwi'n meddwl, fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwneud beth oedd ei angen i sicrhau bod (1) y bwriad ei pholisi ei hun yn glir, a bod y cyfathrebu o gwmpas hyn yn effeithiol. Mi ddywedais i hynny droeon ar ddechrau'r cyfnod clo—fy mod i'n gallu gweld beth oedd y Llywodraeth yn trio ei wneud o ran y polisi ar nwyddau allweddol yn unig, a fy mod i'n deall pam fod y Ceidwadwyr wedi mynd ar ôl yr agenda o geisio gwarchod masnachwyr llai, ond mi oeddwn i'n meddwl bod yna rywbeth wedi mynd o'i le o ddifrif yn y ffordd y cafodd hyn ei wneud. Mi wnaeth y Llywodraeth ymateb wedyn efo rhywfaint rhagor o eglurder. Rydym ni'n gweld y broblem yng ngeiriau'r ddeiseb:

'nid ydym yn cytuno y dylai rhieni gael eu gwahardd rhag prynu dillad ar gyfer eu plant yn ystod y cyfyngiadau symud wrth siopa.'

Beth ddywedodd Gweinidogion wedyn oedd, 'Gwrandewch, os oes rhywun wir angen rhywbeth, wrth gwrs y gallan nhw brynu dillad i'w plant.' Mi oedd angen y math yna o neges cyn hyn, ac eglurder hefyd ar sut y byddai hynny'n digwydd, yn hytrach na roi pwysau ar weithwyr siopau. Felly, mae yna wersi, dwi'n gobeithio, sydd wedi cael eu dysgu o hyn. Ond mae'n rhaid dweud hyn hefyd: mi oedd agwedd y Ceidwadwyr yn gwbl, gwbl haerllug trwy'r cyfan. 

Credaf fod y Ceidwadwyr newydd anghofio, fel y gwnânt mor aml, fod ymdrin â'r pandemig hwn yn fater go ddifrifol mewn gwirionedd. Rwyf wedi bod yn feirniadol o'r Llywodraeth—yn feirniadol iawn o'r Llywodraeth ar adegau— yn ystod y pandemig hwn. Rwyf wedi ceisio gwneud hynny mewn ffordd eithaf adeiladol. Mae edrych ar ffrwd Twitter Andrew R.T. Davies, yn sôn am y 'barmy ban', 'the ludicrous, insane lockdown', 'lockdown madness', ac yn cyfeirio at 'trolley cops', y newyddion ffug hwnnw am werthu cynhyrchion mislif—mae arnaf ofn nad oes dim o hynny wedi dyddio'n dda i'r Ceidwadwyr Cymreig, o ystyried y rheolau bron yn union yr un fath i archfarchnadoedd a'r cyfnod o gyfyngiadau ddwywaith mor hir a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr eu hunain yn Lloegr ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Nawr, gwn eich bod yn cael eich ysbrydoli gan Donald Trump, y collwr mwyaf enwog yn y byd, ac yn ceisio ei efelychu mewn unrhyw ffordd y gallwch, ond nid yw'n edrych yn dda i gael eich gweld yn codi bwganod am resymau poblyddol mor amlwg asgell dde ar adeg o argyfwng cenedlaethol.

17:05

Dim ond ychydig o bethau sydd gennyf i'w dweud yn y ddadl hon. Yn gyntaf, credaf ei bod yn bwysig i'r Llywodraeth gydnabod yr anawsterau y mae ei pholisïau'n eu creu weithiau. Cyfarfûm â nifer o bobl nad oeddent yn deall ac nad oeddent yn barod ar gyfer realiti'r polisi a gyhoeddwyd wythnos ynghynt ac nad oeddent yn barod, yn y negeseuon roeddent wedi'u cael gan y Llywodraeth, i ddeall beth oedd hyn yn ei olygu iddynt hwy a'r hyn a olygai i'w cymuned.  

Nawr, gwyddom fod y polisi ei hun mewn gwirionedd yn boblogaidd iawn. Mae arolygon barn wedi dweud wrthym fod polisi'r cyfnod atal byr a'r dull polisi, y fframwaith polisi a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, yn boblogaidd iawn, ond rwy'n credu bod teimlad nad oedd pobl yn deall y rhesymeg dros yr elfen benodol hon ohono. Ni chafodd ei egluro'n ddigon da gan y Llywodraeth, ac felly nid oedd y bobl yn deall pam oedd hyn yn digwydd yn eu harchfarchnad leol a sut oedd hynny wedyn yn effeithio ar y neges iechyd y cyhoedd ehangach. Felly, credaf fod materion yn codi yn hynny o beth y mae angen i'r Llywodraeth ddysgu ohonynt.

Ond rwy'n credu hefyd fod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hyn hefyd, oherwydd mae gan archfarchnadoedd gyfrifoldeb i chwarae eu rhan yn hyn i gyd. Ers gormod o amser, mae archfarchnadoedd wedi manteisio ar statws sydd bron yn fonopoli yn y farchnad. Mae pob un ohonom yn adnabod ac yn gwybod am gynhyrchwyr a chyflenwyr llai sydd wedi gweld archfarchnadoedd yn camddefnyddio eu statws yn y farchnad. Ac mae honno wedi bod yn thema gyson mewn polisi, a bydd Huw Irranca, fel cyn Weinidog amaeth, yn gwybod sut y mae cynhyrchwyr a chyflenwyr llai wedi cael eu cam-drin gan archfarchnadoedd ers blynyddoedd lawer. A gwyddom hefyd fod archfarchnadoedd mewn rhai ffyrdd wedi ceisio tanseilio'r polisi hwn yn weithredol, yn hytrach na'i gefnogi. A chredaf fod angen inni fod yn glir iawn gydag archfarchnadoedd yno, oherwydd naill ai ni allent reoli rheoliadau newydd, sy'n codi cwestiynau sylweddol am eu systemau rheoli, neu nid oeddent am wneud hynny. Ac rwy'n amau mai'r olaf sy'n wir, ac rwy'n tybio eu bod hwy hefyd—roedd yn fater o roi eu helw o flaen y bobl a'r cwsmeriaid y maent yn eu gwasanaethu. A chredaf fod angen inni fod yn glir iawn am y gweithredoedd hynny gan archfarchnadoedd.

Yn drydydd, ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ategu geiriau Rhun ap Iorwerth a Huw Irranca-Davies. Roedd yn braf gwrando ar Nick Ramsay, a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma gyda safbwynt deallus a rhesymegol sy'n rhoi'r bobl y mae'n eu cynrychioli yn Sir Fynwy yn gyntaf. Ni chlywsom ddigon o hynny, ac nid ydym wedi clywed digon o hynny. Er bod arweinwyr Ceidwadol yng Nghymru'n bod yn ddifrïol ar gyfryngau cymdeithasol, yn cymell storm ar gyfryngau cymdeithasol, yr hyn roeddent yn ei wneud mewn gwirionedd oedd tanseilio neges iechyd cyhoeddus hollbwysig. Wythnos yn ddiweddarach, chwalodd eu polisi yn Lloegr. Chwalodd yn llwyr, gyda'r gwaradwydd o weld y Prif Weinidog yn cael ei orfodi ar y teledu i gyhoeddi newid polisi, a'r amseriad wedi ei bennu gan Strictly Come Dancing ac nid gan anghenion y bobl y mae i fod i'w cynrychioli—newid cyfeiriad a oedd yn destun cywilydd i Brif Weinidog nad oes ganddo reolaeth ar y sefyllfa.

Ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod beth ddigwyddodd yno, oherwydd cafodd pobl eu camarwain yn fwriadol, a'u gyrru'n fwriadol i gyfeiriad a oedd yn tanseilio iechyd y cyhoedd gan y Ceidwadwyr a'u ffrindiau ar yr asgell dde eithafol y cyfrannodd pob un ohonynt at greu sefyllfa lle nad oedd y bobl rwy'n eu cynrychioli, a'r bobl y mae Nick yn eu cynrychioli ychydig i lawr y ffordd yn Sir Fynwy, yn deall beth oedd y polisi mewn gwirionedd. A sylwaf fod y bobl hynny heddiw'n ddistaw ynglŷn â'r sefyllfa yn Lloegr—dim i'w ddweud. Nid oes gan yr holl grwpiau diddordeb arbennig a ddisgrifiodd Huw Irranca-Davies yn Llundain ddim i'w ddweud nawr am yr hyn sy'n digwydd yn eu harchfarchnadoedd eu hunain—dim i'w ddweud am fethiant polisi yn Lloegr; dim i'w ddweud am eu gallu i yrru'r polisi hwn dros y ffin. Felly, yn bendant mae angen inni sicrhau ein bod i gyd yn gallu dysgu gwersi o hyn, ond rhaid i un ohonynt fod ar gyfer gwleidyddion Ceidwadol, boed yn y Blaid Geidwadol neu gyd-deithwyr ar y dde eithafol—mae'n bryd i chi ddod allan o'r gwter a rhoi pobl yn gyntaf, rhoi iechyd y cyhoedd yn gyntaf, a mantais ddallbleidiol yn ail. Diolch.

17:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fis diwethaf, gyda'r coronafeirws ar gynnydd ac yn lledaenu'n gyflym ym mhob rhan o Gymru, a chan weithredu ar gyngor clir ein cynghorwyr meddygol a gwyddonol, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfnod atal byr 17 diwrnod o hyd i helpu i reoli'r coronafeirws, i atal y GIG rhag cael ei lethu ac yn y pen draw, i achub bywydau.

Er mwyn adfer rheolaeth ar y feirws, y consensws oedd mai'r ffordd orau o gyflawni hyn oedd i bobl aros adref gymaint â phosibl. Nod y cyfyngiadau oedd lleihau nifer y bobl a oedd yn mynd allan, faint o deithio diangen a wnaed, a'r amser a dreuliai pobl yn siopa. Roedd angen cau'r holl fannau hamdden a manwerthu nad yw'n hanfodol, ac fe fydd yr Aelodau'n gwybod bod polisïau tebyg wedi'u dilyn mewn rhannau eraill o'r DU a gwledydd eraill, fel rydym newydd glywed mewn sawl cyfraniad. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn bendant, rydym wedi gallu cyfyngu'r cyfnod atal byr i 17 diwrnod, sydd gryn dipyn yn fyrrach na chyfnod atal byr ein cymydog.

Caniatawyd i siopau aros ar agor—roedd hynny'n cynnwys archfarchnadoedd a manwerthwyr bwyd eraill, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post—ac roedd y dull o weithredu'n ei gwneud hi'n ofynnol i fanwerthwyr lluosog mawr roi'r gorau i werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol. Roedd y rheoliadau a'r canllawiau'n ei gwneud hi'n bosibl gwerthu eitemau sy'n hanfodol er lles unigolyn neu les person agored i niwed—ac roedd hynny'n cynnwys plant—gan gynnwys eitemau angenrheidiol fel dillad plant.

Mae'n destun gofid fod yna beth dryswch cychwynnol, ac mae'r Aelodau wedi cyfeirio at y ffaith bod angen inni ddysgu gwersi, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, a'r adborth rwyf wedi'i gael gan y sector manwerthu oedd ei bod yn bwysig iawn ymgysylltu'n gynharach ynglŷn â'r rheoliadau hyn. Ond mae'n rhaid diogelu iechyd y cyhoedd yn gyflym ar adegau, ac nid oes gennym foethusrwydd amser i wneud hynny bob amser.

Credaf hefyd nad oedd delweddau a ddosbarthwyd ar gyfryngau cymdeithasol wedi helpu pethau gan iddynt achosi gofid pan oedd hi'n ymddangos nad oedd rhai cynhyrchion ar gael. Felly, rwyf am fod yn glir iawn fod llawer o'r problemau hyn wedi digwydd oherwydd ffactorau na ellid eu rheoli. Un ohonynt oedd bod lladrad wedi arwain at gau eil mewn archfarchnad, ac roedd pobl yn symud arwyddion yn y siop gyda bwriad maleisus i achosi dryswch, a chredaf ei bod yn drueni mawr fod lleiafrif difeddwl wedi ceisio difyrru eu hunain drwy achosi braw a gofid i eraill. Ond rwy'n ddiolchgar fod y mwyafrif llethol o'r cyhoedd heb gynhyrfu, roeddent yn deall, ac wedi parhau i ddangos gofal am eraill.

Yn y dyddiau yn union cyn y cyfnod atal byr, a thrwy gydol y cyfnod, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru yn helaeth â sefydliadau masnach a chydag ystod eang o fanwerthwyr unigol i esbonio'r rheoliadau a'r camau gweithredu roedd gofyn iddynt eu cymryd. Cyhoeddwyd canllawiau gennym i fanwerthwyr ac atebwyd ymholiadau ganddynt. Galluogodd hyn iddynt fod yn bragmatig wrth reoli eu siopau, ac roeddwn yn falch iawn o allu cytuno ar ddatganiad ar y cyd â hwy a bwysleisiai fater hollbwysig diogelwch staff. Un o nodweddion gwaethaf COVID-19 yn fy marn i yw'r cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gwsmeriaid manwerthu tuag at ei gilydd ac yn enwedig tuag at staff manwerthu. Rwyf wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref ar y mater hwn o'r blaen, ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at holl heddluoedd Cymru, i ofyn am eu cefnogaeth gadarn i fanwerthwyr wrth fynd i'r afael â'r broblem hon. Hoffwn gofnodi diolch Llywodraeth Cymru unwaith eto i'r sector manwerthu a'u gweithwyr niferus ledled Cymru am reoli sefyllfa anodd yn dda iawn. Roeddent yn wynebu heriau sylweddol, ac fe wnaethant weithio'n galed i wneud y newidiadau hynny'n gyflym.

Gan fod y cyfnod atal byr bellach ar ben, mae'n bwysig iawn ein bod yn cynnal y cynnydd a wnaethom yn ymladd COVID-19. Anogir y cyhoedd i barhau i osgoi teithio diangen a mannau gorlawn, ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, y nifer uchaf o bobl sy'n cael ymgynnull yw pedwar. Uchafswm yw hwnnw, nid targed, a pho leiaf y nifer o bobl a ddaw at ei gilydd, y lleiaf yw'r risg wrth gwrs. Drwy gymryd y camau synnwyr cyffredin hyn, gall pawb helpu i gadw Cymru'n ddiogel, diogelu ein GIG, ac wrth gwrs, amddiffyn ein hunain a'n hanwyliaid. Mae'r cyfnod atal byr wedi bod yn brofiad anodd i lawer iawn o bobl, ac mae'n rhaid inni ddysgu gwersi. Rwy'n derbyn hefyd mai'r ddeiseb hon oedd yr un fwyaf a gyflwynwyd erioed, ond rwy'n credu mai'r rheswm am hynny yw mai COVID-19 yw'r her fwyaf rydym wedi'i hwynebu ers blynyddoedd lawer. Diolch.

17:15

Diolch. Ni chefais unrhyw arwydd fod Aelodau wedi gofyn am wneud ymyriad, felly galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl ac i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Yn anffodus, nid yw'r amser sy'n weddill yn caniatáu imi gyfeirio'n ôl at eich cyfraniadau'n unigol, ond wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r deisebydd a'r holl bobl eraill sydd wedi cysylltu â'n pwyllgor ar y mater. Mae'r ddadl hon wedi ei gwneud hi'n bosibl codi materion pwysig a gobeithio y bydd y pwyntiau a godwyd heddiw yn gallu cyfrannu mewn rhyw fodd at wneud penderfyniadau yn y dyfodol. Byddwn yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb hon mewn cyfarfod o'n pwyllgor yn y dyfodol, pan fyddwn yn gofyn am sylwadau'r deisebydd ar y pwyntiau a wnaed. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad, felly nodir y ddeiseb yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones.

Cynnig NDM7461 Helen Mary Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith yr achosion Covid-19 ar y diwydiannau creadigol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o godi heddiw i argymell yr adroddiad hwn i'r Senedd. Mae'n sicr yn wir fod COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy a dinistriol ar draws ein bywyd cenedlaethol, ac mae'r effaith honno ar ei gwaethaf yn y diwydiannau creadigol, sy'n dibynnu cymaint ar gyfathrebu wyneb yn wyneb, boed i recordio rhaglen deledu neu i gyflawni rhyw elfen o newyddiaduraeth ymchwiliol neu fod yn gyfrifol am y gwallt a'r colur mewn stiwdio deledu. Ymatebodd y pwyllgor yn gyflym i'r sefyllfa, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl dystion. Rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i'r Dirprwy Weinidog, sydd wedi cynnal deialog gadarnhaol gyda'r pwyllgor drwy gydol yr argyfwng hwn.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r amser, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am glywed gan eraill yn y ddadl hon, felly hoffwn sôn am ychydig o brif bethau, o gofio, wrth gwrs, fod yr adroddiad ar gael i'r Aelodau, a dechrau drwy ganolbwyntio ar y pwysau y mae'r argyfwng wedi'u rhoi ar weithlu bregus iawn, y perfformwyr, wrth gwrs, ond hefyd y technegwyr, yr artistiaid gwallt a colur, yr holl bobl sy'n gweithio yn y diwydiant pwysig hwn. Mae llawer ohonynt, wrth gwrs, yn weithwyr llawrydd, ac un o'r pethau a ystyriodd y pwyllgor oedd y risg wirioneddol o'u colli. Mae hwn yn weithlu symudol iawn; mae'r rhain yn bobl sy'n gallu gweithio, lawer ohonynt, yn unrhyw le yn y byd, a byddai'r effaith ar ein gallu i adeiladu ein bywyd diwylliannol yn ôl, ac yn wir ein heconomi, pe bai hynny wedi digwydd wedi bod yn ddinistriol.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid sydd eisoes wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i weithwyr llawrydd ac roeddem yn falch iawn o weld adnoddau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi heddiw ar gyfer y sector diwylliannol yn rhannol at y diben hwnnw. Rwy'n gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog gadarnhau yn ei gyfraniad i'r ddadl hon fod y rheini'n adnoddau newydd ychwanegol i'w linell gyllideb. Ond rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn cydnabod y bu rhai problemau gyda dosbarthu'r gronfa i weithwyr llawrydd, a gobeithio y gall ein sicrhau bod gwersi wedi'u dysgu ar gyfer y cam nesaf.

Yn ystod ein gwaith hefyd, nodwyd problemau gwirioneddol gydag amrywiaeth yn y sector diwylliannol cyfan, gan gynnwys yn y gweithlu, a chydnabuwyd hyn yn fras ar draws y sector a thynnodd llawer o dystion ein sylw at hyn, a dyna'r rheswm dros ein hargymhelliad 18—argymhelliad 8, mae'n ddrwg gennyf. Rhaid i gyllid Cymru Greadigol gefnogi newid y diffyg amrywiaeth hwnnw, ac mae angen i sefydliadau allu dangos beth y maent yn ei wneud i fynd i'r afael â'r her fawr hon.

Edrychasom yn ystod ein hymchwiliad ar rôl darlledwyr y sector cyhoeddus ac wrth gwrs, daeth hynny'n amlwg yn sydyn iawn, pwysigrwydd adrodd yn gywir am wahanol sefyllfaoedd wrth i'r argyfwng fynd rhagddo, safbwyntiau gwahanol gan wahanol Lywodraethau yn y DU. Mae wedi dangos o ddifrif pa mor bwysig yw darlledu cyhoeddus effeithiol. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno, fel gwnaethom argymell, i ymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Rwy'n gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym y prynhawn yma am yr hyn y mae'r ymateb i'r ymgynghoriad yn debygol o'i ddweud, ond os na all wneud hynny heddiw, byddwn yn cael trafodaethau pellach gydag ef ar y mater hwnnw wrth gwrs.

Mae'r pwyllgor wedi cymryd rhagor o dystiolaeth ers yr adroddiad hwn ar effaith yr argyfwng ar leoliadau celfyddydau byw a cherddoriaeth fyw. Mae'r gefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth wedi cael ei chroesawu'n fawr, ac rydym ni fel pwyllgor yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Ond bu rhai problemau gyda thalu'r grantiau hynny mewn modd amserol ac rwy'n gobeithio, unwaith eto, y gall y Dirprwy Weinidog adrodd yn ôl wrthym ar y cynnydd yno. Mae'r sector hwnnw hefyd yn gofyn am fframwaith ar sut y gall ailagor ddigwydd—map llwybr, cynllun—tebyg i'r hyn sydd wedi'i ddarparu ar gyfer y sector teledu a ffilm wrth gwrs. Byddwn yn paratoi adroddiad pellach ar y mater hwn, ac rwy'n gobeithio, pan wnawn hynny, y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu ymateb i'r cais hwnnw fel y gall pobl weld y ffordd allan o'r argyfwng.

Rwyf am rannu gyda'r Siambr, Ddirprwy Lywydd, rai negeseuon cadarnhaol iawn a gawsom yn ein tystiolaeth am Cymru Greadigol a sut y mae wedi ymateb i'r argyfwng. Roedd hwn, wrth gwrs, yn gorff newydd iawn nad oedd ond newydd ddod i fodolaeth pan ddaeth yr argyfwng, ac mae tystion wedi dweud ei fod wedi ymateb yn arloesol iawn, yn hyblyg iawn ac yn ymatebol iawn. Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i holi sut y mae'n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cydgynhyrchu, gan weithio gyda'r sector, yn cael ei ymgorffori. Nid yw hyn yn ymwneud ag ymgynghori; mae angen iddo ymwneud â gweithio gyda'r sefydliadau yr effeithir arnynt fwyaf, ac fel pwyllgor, gobeithiwn yn fawr y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod lleisiau sefydliadau diwylliannol llai yn cael eu clywed yn y broses. Sylweddolwn ei bod yn fwy o her, ond teimlwn ei bod yn hanfodol.

Felly, gyda'r ychydig sylwadau byr hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau pobl eraill a gobeithio y bydd gennyf ychydig o amser i ymateb i'r ddadl. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Rwy'n credu bod hwn yn adroddiad pwysig iawn. Mae ein diwydiannau creadigol yn faes twf i ni ac yn faes lle mae gennym hanes o ragoriaeth yn mynd yn ôl o leiaf i'r 1980au, pan sefydlwyd S4C. Ac mae'n rhywbeth roeddem ar fin ei godi i lefel arall hefyd, a'i ffocysu oedd un o'n meysydd twf allweddol i ddod â mwy o ffyniant i'n heconomi. Felly, nid oes amheuaeth nad yw COVID wedi bod yn gam yn ôl gwirioneddol i'r potensial. Soniodd Helen Mary fod perygl y gellid colli rhywfaint o'r capasiti strwythurol, ac i economi fel Cymru, ar ôl datblygu'r sector hwn mor ofalus dros y blynyddoedd, a gwneud cymaint i ddenu llawer o gynhyrchwyr yma, credaf y byddai'n drueni mawr os gwelwn, pan fyddwn yn ymadfer ar ôl COVID, nad ydym yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y dychweliad i ryw lefel o normalrwydd.

Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y pwyllgor a'r Llywodraeth a'r sector cyfan, fel y dywedodd Helen Mary, yn cydweithio i sicrhau bod gennym gynllun rhagorol i ddychwelyd a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw cyn gynted ag y byddwn yn symud ymlaen o COVID. Rwy'n credu mai elfen allweddol yw'r angen i weithio. Mae cynlluniau hael ar waith—y cynllun ffyrlo, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi llawer o arian, ac wedi defnyddio arian yn ogystal gan Lywodraeth y DU sydd wedi dod yn ychwanegol—a cheir rhai cynlluniau sy'n ymddangos yn effeithiol iawn, wedi'u darparu gydag isafswm o fiwrocratiaeth, ac mae hynny i'w groesawu, ond mae angen i bobl weithio. A phan fydd cynyrchiadau ar waith, er enghraifft, mae'r gadwyn gyfan yn gweithio wedyn, i lawr i'r artistiaid colur llawrydd a phawb yn y canol—yr actorion sydd hefyd yn gwneud swyddi eraill, ond os ydynt yn perfformio, mae angen y cyfleoedd hyn arnynt. Felly, mae'r holl bethau hynny'n wirioneddol bwysig.

Un o'r problemau yw'r diffyg yswiriant, neu o leiaf yswiriant am gost resymol, a chlywsom fod hyn yn broblem i gynyrchiadau—cynyrchiadau teledu a chynyrchiadau ffilm—a hefyd i leoliadau cerddoriaeth a theatrau. Mae hwn yn faes arall lle credaf fod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ar y raddfa honno, edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau efallai fod rhai o'r adnoddau rydym yn eu darparu yn cael eu gwneud i alluogi gwaith, yn hytrach na gallu diogelu pobl a'u cadw gartref, ac o leiaf beidio â'u gorfodi i faes gwaith arall lle byddant o bosibl yn gadael y diwydiannau creadigol yn barhaol wedyn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Hoffwn wneud un pwynt olaf, ac mae hyn yn mynd ar draws ein gwaith yn casglu tystiolaeth ar y diwydiannau creadigol, ein sefydliadau diwylliannol gwych a'r gwahanol gwmnïau theatr sydd ar gael. Y rhai sydd wedi arallgyfeirio eu sylfaen incwm fwyaf yn y pum neu chwe blynedd diwethaf, yn aml mewn ymateb i anogaeth y Llywodraeth, sydd yn y sefyllfa fwyaf agored i niwed yn aml, tra bod y rhai sy'n dibynnu fwyaf ar grantiau cyhoeddus wedi tueddu i weld y grantiau hynny'n cael eu cadw, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Ond wrth gwrs, y bobl a symudodd fwy tuag at incwm masnachol ac amrywiaeth o ffynonellau incwm a gafodd eu taro oherwydd y diffyg gweithgarwch. Mae hyn yn wir hefyd mewn meysydd cyhoeddi lle mae'r refeniw hysbysebu wedi'i golli. Felly, rwyf am gloi fy sylwadau a dweud fy mod yn falch iawn o'r ffordd y mae'r pwyllgor yn gweithio'n drawsbleidiol iawn, ac yn ymgysylltu'n dda iawn â'r sector, a dyna pam y mae gennym sylfaen dystiolaeth mor ardderchog ar gyfer yr adroddiad hwn a'n hadroddiadau eraill.

17:25

Hoffwn eich llongyfarch ar adroddiad gwirioneddol ragorol, a byr hefyd drwy drugaredd, gyda dim ond 19 tudalen—gwych—ond yn wirioneddol lawn o wybodaeth. Mae hwn yn waith rhagorol iawn.

Hoffwn dalu teyrnged i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus am ddal i fynd drwy'r pandemig, a darparu'r wybodaeth hollbwysig sydd ei hangen arnom i gyd i ddarganfod beth yn union sy'n digwydd. Os cymharwn yr hyn sydd wedi digwydd yn y wlad hon â'r hyn a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau, lle caniatawyd i bob math o sïon gwallgof a newyddion ffug ledaenu am nad oes gwasanaeth darlledu cyhoeddus craidd y gall pawb droi ato, ac mae hynny o bosibl yn beryglus iawn. Rhaid inni gydnabod bod colli refeniw hysbysebu wedi effeithio'n ddifrifol ar ITV a Channel 4. Rydym mewn perygl o'u colli, yn syml oherwydd y gallent gael eu llethu gan y brodyr mawr hyn, Amazon a Netflix, sy'n amlwg wedi elwa ar y ffaith bod pawb wedi'u gorfodi i aros gartref. Felly, mae honno'n broblem wirioneddol ddifrifol i'n diwylliant yn y dyfodol.

Ond rwyf hefyd yn talu teyrnged i Cymru Greadigol, oherwydd mae honno'n llinell gyson drwyddo, eu bod wedi ymateb yn dda iawn yn y ffordd yr aethant ati i ddefnyddio'r swm bach o arian grant a roddwyd iddynt i roi'r arian lle byddai'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol iawn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wych iawn.

Rwy'n credu bod y diwydiant ffilm, a chynhyrchu dramâu teledu yn wir, yn dechrau dod yn ôl, ac mae hynny'n newyddion da iawn i bawb sy'n ymwneud â ffilm a theledu, ac mae llawer o arwyddion o hynny. Ac mae hynny'n dda iawn, oherwydd gallant weithredu'n well o fewn y rheoliadau. Ond mae yna lawer iawn o anobaith allan yno.

Mae'r £7 miliwn a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lenwi'r bylchau enfawr y methodd Llywodraeth y DU ei gynnig i weithwyr llawrydd na allent brofi eu bod wedi bod yn llawrydd am ddwy neu dair blynedd yn ddifrifol iawn. Fel y dywedodd Mick Antoniw yn gynharach mewn cwestiwn i'r Gweinidog, os ydym yn sôn am 250,000 o bobl, mae rhywun wedi cyfrifo pe baem yn rhoi £2,500 iddynt y byddai'n dod yn gyfanswm o £40 miliwn, ac mae'n amlwg nad oes gennym y mathau hynny o adnoddau. Mae yna bobl sydd bob amser yn llithro allan o'r diwydiant pan nad oes ganddynt waith, actorion sy'n gorffwys, fel y'u gelwir, sy'n fricis neu'n yrwyr tacsi, ond nid yw'r gwaith hwnnw'n bodoli ychwaith, felly rwy'n credu ei bod yn sefyllfa wirioneddol ddiobaith i'r rhai nad oes ganddynt waith ac na allant droi at ffynonellau gwaith amgen. I bobl fel cerddorion, nid oes golau o gwbl ym mhen draw'r twnnel ar hyn o bryd, ac mae honno'n broblem ddifrifol iawn, yn enwedig o gofio cymaint rydym yn cymeradwyo ein cerddoriaeth a'n diwylliant cerddorol—mae'n ddifrifol iawn.

Credaf fod enghreifftiau da iawn, y siaradais amdanynt mewn dadl flaenorol, o sefydliadau'n newid y ffordd y maent yn gwneud pethau, fel Sherman a Rubicon Dance, ond pa mor bosibl yw hynny? Mae'n ymddangos yn gwbl amhosibl i gerddorion weithredu o gwbl ar hyn o bryd, oni allwn eu cael i ddarparu adloniant mewn cartrefi gofal a lleoedd eraill fel hynny, lle mae pobl yn ddigalon am wahanol resymau. Efallai fod honno'n ffordd y gallem roi gwaith i bobl yn hytrach na dim ond grantiau na fyddant yn mynd yn bell iawn. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Rydyn ni'n croesawu casgliadau ac argymhellion yr adroddiad yma, ac yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion, er bod yna lawer iawn o waith i'w wneud o hyd, wrth gwrs. Does dim amheuaeth bod y diwydiannau creadigol wedi cael eu taro'n galed iawn gan COVID-19 a bod yn rhaid i'r Llywodraeth helpu'r sector i ailadeiladu. Dwi, felly, yn croesawu'r datganiad gawson ni yn gynharach heddiw yn amlinellu rhagor o gymorth i'r sector. Dyma ni ddiwydiant cyflog uchel sydd wedi'i wreiddio yn ein cymunedau ni. Mae'r diwydiannau creadigol yn un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, efo throsiant blynyddol o £1.9 biliwn, ac mae'n bwysig cofio'r cyfraniad aruthrol mae'r sector yn ei wneud i fywyd ac economi ein gwlad ni.

A gaf i jest droi at dair agwedd benodol y prynhawn yma? I ddechrau, yr agwedd o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Yn sicr, mae'r argyfwng wedi dangos eu gwerth nhw, fel y mae eraill wedi sôn yn barod. Er hyn, maen nhw'n wynebu heriau digynsail wrth iddyn nhw weld lleihad incwm a refeniw, ac mae angen ymdrech enfawr i sicrhau bod y sefydliadau yma ar gyfer y dyfodol. Dwi yn croesawu'r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth yn union fydd yn yr ymateb yna. Mae'r pandemig wedi amlygu'r angen i ddatganoli darlledu. Mae yna lawer o ddadleuon dros hynny, ac mae lles iechyd cyhoeddus wedi dod i'r amlwg fel un o'r dadleuon—dadl na chafodd lawer o sylw tan yr argyfwng presennol. 

I droi at y cyfryngau digidol, hoffwn i sôn am Golwg360. Dyma chi wefan sy'n cael ei hariannu drwy'r cyngor llyfrau, gyda swm o £200,000 y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd. Mae'r swm yma wedi aros yn gyson, ar yr un lefel, ers cychwyn y gwasanaeth yn ôl yn 2009—dim cynnydd yn y grant, er, yn amlwg, bod costau wedi cynyddu ac mae yna ddisgwyliad iddyn nhw wneud mwy wrth i dechnoleg a'r tirlun newyddiadurol newid a datblygu. Dwi yn credu bod angen sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael iddyn nhw wrth symud ymlaen a chofio am eu cyfraniad annibynnol amhrisiadwy at newyddiaduraeth yng Nghymru.

Rwy'n troi, yn olaf, at un agwedd arall sydd yn peri pryder ar hyn o bryd. Mae'n siomedig iawn clywed unwaith eto, tra bod sinemâu, neuaddau bingo, amgueddfeydd ac orielau yn gallu agor, dydy'n theatrau ni ddim yn gallu gwneud—maen nhw'n parhau i fod ar gau. Mae angen cynllun clir arnom ni ar frys gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ailagor ein theatrau yng Nghymru, a hynny mewn ffordd ddiogel, wrth gwrs. Mi gawson ni ddigwyddiadau awyr agored, arbrofol llwyddiannus iawn, fel yr un gan Theatr Clwyd dros yr haf, ac mae'r sector yn teimlo ei bod hi'n bwysig cadw'r momentwm yma i fynd dros y misoedd nesaf a chwblhau'r fframwaith llawn ar gyfer ailagor. Dydy hi ddim yn bosibl aros tan y gwanwyn i ailgychwyn digwyddiadau arbrofol.

Rydyn ni'n gwybod bod hawl i 15 unigolyn gwrdd tu fewn, a 30 tu allan, am ddigwyddiad sydd wedi ei gynllunio, ac mae staff proffesiynol theatrau'n ymwybodol iawn o'r canllawiau. Gellid dadlau bod theatrau mewn safle da i allu rheoli'n effeithiol ddigwyddiad tu fewn neu tu allan, ac mae yna chwant yna ar gyfer hyn. Mae yna arolwg yn dangos y buasai 67 y cant o bobl sy'n arfer mynd i'r theatr yn ystyried mynychu digwyddiadau pe bai lleoliadau'n ailagor efo ymbellhau cymdeithasol, a 94 y cant wedi dangos diddordeb mewn digwyddiadau'n cael eu cynnal y tu allan, hyd yn oed yn y gaeaf. Felly, mae'n amlwg bod yna alw i ailagor ein theatrau, a hoffwn i gael eich sylwadau chi ar hynny y prynhawn yma os ydy hynny'n bosib.

Does yna ddim dwywaith bod yna waith ardderchog yn digwydd. Mae yna waith positif yn digwydd. Mae Dawns i Bawb yn un enghraifft o hwnnw sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i. Mae yna gymaint o gwmnïau ac unigolion yn cyfrannu'n egnïol i gynnal ein bywyd diwylliannol ni er gwaethaf yr heriau di-ri, ac mae angen cofio hynny. 

17:35

Rwy'n cael anawsterau gyda'r rhyngrwyd. Rwy'n croesawu gwaith y pwyllgor wrth gwrs, y Cadeirydd, a hefyd, gobeithio, ymateb y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas. Fel y gŵyr yr Aelodau o'r Senedd, gwerth y diwydiant cerddoriaeth fyw ledled Cymru, yn ei holl ffurfiau, yw £5.2 biliwn ledled y DU, ac mae ei werth cyfatebol yng Nghymru yr un mor bwysig i greadigrwydd Cymru yn rhyngwladol, fel brand Cymru, a hefyd yr economi. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr adroddiad hwn gan yr Athro Paul Carr o Brifysgol De Cymru, ac awgrymaf fod yr Aelodau hefyd yn darllen ei adroddiad blaenorol, 'Gwlad y Gân'. 

Rwy'n cytuno'n llwyr ag argymhellion 2 a 3—fod gennym ddull cydgysylltiedig ac fel ledled Ewrop a Seland Newydd, strategaeth benodol ar gyfer ailagor perfformio, ochr yn ochr â strategaeth datblygu cynaliadwy ar gyfer yr holl ddiwydiannau cerddoriaeth yn ein sector cerddoriaeth. Nid oes gennyf amheuaeth na fyddai Cymru, gwlad y gân, mewn sefyllfa dda wedyn. Fel y mae'r adroddiad hwn yn ei nodi, mae angen inni fynd ati ar y cyd gyda'n rhanddeiliaid hefyd i ddechrau llunio strategaeth gerddoriaeth genedlaethol newydd i Gymru gyda chynllun addysg cerddoriaeth yn sail iddi a rhwydwaith wedi'i ariannu o wasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru, i ddiogelu perfformwyr cerddoriaeth y dyfodol. Ac felly ni fu erioed amser pwysicach, wrth i ni wynebu'r storm berffaith hon o effeithiau COVID-19 ar y sector a'r materion sy'n codi yn sgil gadael yr UE. Fel y dywedodd Siân Gwenllian, os gall sinemâu agor, rwy'n siŵr fod angen ystyried ailagor theatrau a neuaddau hefyd mewn modd cyfyngedig.

Gadewch inni beidio ag anghofio bod y sector wedi bod yn wynebu heriau gwirioneddol ers peth amser, ac ar ôl degawd o gyni Llywodraeth y DU, mae hyn hefyd wedi effeithio'n ddifrifol ar gefnwlad gerddorol a diwylliannol Cymru. Ac wrth gwrs, mae'r pandemig wedi rhoi mwy o ofid i ni gyda chanlyniadau economaidd atchwel pandemig COVID-19. Felly, rwyf hefyd yn croesawu'r £53 miliwn a'r £18 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi yn ei le o fewn y gronfa adferiad diwylliannol, ac rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad o £3.5 miliwn heddiw ynglŷn â'r gefnogaeth sydd newydd ei chyhoeddi. Ond hoffwn ddatgan yn fyr hefyd, os caf, Ddirprwy Lywydd, fod hyn i gyd yn iawn, ond yr hyn y bydd yn rhaid inni ei gael hefyd yw'r gallu i ymarfer ar lawr gwlad. Mae wedi bod yn anodd iawn dilyn y gwahanol ganllawiau a'r dogfennau a ddaeth gan Lywodraeth Cymru, felly rwy'n croesawu'n fawr unrhyw welliant ac eglurhad o fewn y canllawiau hynny, a chredaf fod hynny'n mynd i ddigwydd nawr.

I gloi, mae'n gwbl hanfodol fod ein corau meibion, ein cymdeithasau corawl, ein bandiau pres hanesyddol, nad ydynt yn gallu perfformio ar hyn o bryd, tra bod pobl fel y rhai mewn addysg, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ar draws ein cerddorfeydd proffesiynol, yn gallu ymarfer—hoffwn erfyn ar Lywodraeth Cymru: edrychwch ar y dystiolaeth mewn perthynas â pherfformio o ran canu ac offerynnau chwyth. Rhaid inni wneud hyn, nid yn unig i Gymru, ond i'r holl sector sydd yno, sy'n taer obeithio y gwnawn ni arwain y ffordd nawr, ac rwy'n siŵr y gellir gwneud hynny. Diolch.

17:40

A gaf fi alw nawr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Beth gwnaf i'n gyntaf yw rhoi ymrwymiad i bawb ohonoch chi sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac wedi codi nifer fawr o bwyntiau y gwnawn ni ymateb yn ysgrifenedig i chi yn briodol, yn hytrach na fy mod i'n mynd dros fy amser—rhyw bum munud sydd gen i, rwy'n credu, i ymyrryd yn y ddadl yma—os yw hwnna'n dderbyniol gennych chi, ac yna, gallwn ni barhau'r drafodaeth. Gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, yn arbennig, am ei haraith agoriadol? Mi garwn i gadarnhau beth mae hi wedi'i ddweud—a dwi'n dweud hyn, wrth gwrs, gan fy mod i'n ymddangos ger bron y pwyllgor yma'n eithaf cyson—i ddiolch am y cwrteisi, bob amser, ac i ddiolch am y cydweithrediad.

Felly, fe wnaf i ymateb i un mater a gododd hi. Dwi wedi edrych eto dros y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r gair 'ychwanegol', mae'n dda gennyf i ddweud, yn digwydd bedair gwaith yn y datganiad yna. Felly, mae'r cyllid o £10.7 miliwn yn ychwanegol at yr hyn rydyn ni wedi'i ddarparu'n barod. Ac mae hynny'n bwysig iawn i mi, fel Gweinidog â chyfrifoldeb yn y maes, ac mae'n bwysig iawn i'r Llywodraeth, oherwydd fel y dywedodd y Prif Weinidog mor glir wrth drafod materion rhyngwladol mewn datganiad blaenorol heddiw, mae diwylliant yn rhan allweddol o frand Cymru, ac mae cynnal a datblygu'r brand yna'n ddyletswydd arnon ni i gyd.

Mae yna nifer o gyfeiriadau caredig wedi'u gwneud hefyd am Cymru Greadigol. Roeddwn i'n falch iawn pan ges i gynnig y swydd yma dair blynedd yn ôl bod yna gyfle i mi weithredu ar argymhelliad a oedd yn rhan o faniffesto Llafur Cymru ac yn cael ei gefnogi ar draws y pleidiau, sef i greu Cymru Greadigol ac i'w weithredu fo a'i greu o fel corff a oedd yn lled annibynnol, ond o fewn y Llywodraeth, gan ddefnyddio, fel dwi wedi esbonio o'r blaen wrth y Senedd, y model yr oeddem ni wedi'i ddatblygu ar gyfer Cadw—eto, tair blynedd yn ôl—sef, ei fod o'n gorff gweithredol, a'i fod o'n lled annibynnol, gyda bwrdd a chadeirydd. Ac mae'r cyfarfod cyntaf wedi bod—yn anffodus, methais i i fynd i'r cyfarfod, oherwydd roedd yna argyfwng mewn twristiaeth mewn cyfarfod arall, ond dwi'n gobeithio y gallaf i ymuno â nhw yn eu cyfarfod nesaf. Mae yna fwrdd o bobl o ddoniau amrywiol o bob rhan o Gymru ac o gydbwysedd o safbwynt cefndir cenedligol ac ethnig, ac yn y blaen, ar y bwrdd yna. Mae hynny'n bwysig iawn i sicrhau bod y creadigrwydd sydd yn ein cymunedau ni i gyd yn cael ei adlewyrchu.

Nawr, mae pawb sydd wedi siarad wedi cyfeirio at effaith andwyol arbennig y pandemig ar y sector diwylliannol, ac mae'r hyn sydd wedi digwydd ar lawr gwlad, fel y gwyddom ni, wedi bod yn boenus i unigolion ac yn boenus i gynulleidfaoedd. Ac mae rhywun yn gofidio sut y gallwn ni adfer cynulleidfaoedd pan fydd hynny'n bosib. Ond, beth sydd yn ddiddorol iawn ac yn bwysig iawn i mi ydy bod yna ddatblygiadau sydd wedi dangos pa mor gydnerth ydy sefydliadau Cymru, hyd yn oed yn yr argyfwng hwn. Mae cyfeiriad wedi'i wneud yn bositif iawn tuag at y cyfryngau Cymreig. Os buodd yna erioed ddadl dros bwysigrwydd sicrhau cyfryngau lle mae pobl Cymru a newyddiadurwyr a sylwebwyr Cymru yn gallu siarad â chynulleidfaoedd Cymreig, dyma'r cyfnod sydd wedi dangos pwysigrwydd hynny.

Dwi'n nodi'r sylwadau a wnaed ynglŷn â Golwg360, ond dwi hefyd, fel y gŵyr rhai ohonoch chi'n sicr, erbyn hyn, wedi bod yn ystyried sut y gallwn ni ddatblygu trefn gyfatebol yn Saesneg, fel bod yna fframwaith newyddiadurol lled annibynnol ar gael yn yr iaith Saesneg, yn ogystal â beth sydd gyda ni yn Gymraeg—nid yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan y Llywodraeth, dwi'n boenus am hynny, ond yn cael ei gynnal o led braich.

Ac felly, dau bwynt arall roeddwn i eisiau ei wneud: rydyn ni'n gweithredu drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, ac mi fydd y gronfa yma yn parhau i gefnogi gweithwyr llawrydd yn arbennig. Roedden ni'n sylweddoli ein bod ni ddim wedi darparu'n ddigonol tuag at y llif o weithwyr llawrydd, a gweithwyr llawrydd yn arbennig yma yng Nghaerdydd, oherwydd mae yna gynifer o bobl yn y dinasoedd sydd wedi bod yn gweithio yn llawrydd dros y blynyddoedd ac yn gweithio i bob math o gwmnïau yn yr holl sectorau gwahanol sydd yn rhan o'n diwylliant ni. Ac felly, dyna pam mae'r £3.5 miliwn wedi cael ei ychwanegu at y gronfa yma, cronfa gweithwyr llawrydd, er mwyn inni fynd â'r cyfanswm sydd wedi'i dargedu i weithwyr llawrydd i £10.5 miliwn. Ac mae'r cyllid yma, rydyn ni'n gobeithio, yn mynd i barhau i drawsnewid y sefyllfa.

A gaf i bwysleisio hefyd beth arall rydyn ni wedi ei wneud, sef sefydlu'r contract diwylliannol? Y mae hwn yn rhywbeth a oedd wedi bod ar fy meddwl i ers blynyddoedd, oherwydd mae'n bwysig iawn, os ydyn ni'n rhoi arian cyhoeddus, ein bod ni hefyd yn gallu disgwyl ymateb sydd yn greadigol am yr arian yna, nid jest cynnal sefydliadau, nid jest cynnal adeiladau, er mor bwysig ydy hynny, ond sicrhau bod gyda ni gontract diwylliannol sy'n gweithio ochr yn ochr â'r addewid i weithwyr llawrydd fel ein bod ni yn gallu gweld materion sydd yn cael eu trin yn greadigol yn tyfu allan o'r sefyllfa argyfyngus yma.

Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig—

17:45

Rwyf am gadarnhau'r £500 miliwn hwn, dyna i gyd.

Mae £500 miliwn ar gyfer cynllun ailddechrau cynhyrchu ffilm a theledu, sydd yn amlwg yn allweddol. A chan fy mod i unwaith wedi bod yn y swydd y mae'r Dirprwy Lywydd ynddi ar hyn o bryd, mi gaeaf fy ngheg. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod nifer ac ehangder yr ymatebion i'r ddadl hon, y cyfraniadau, yn dangos bod consensws eang ar draws y Siambr ynglŷn â pha mor bwysig yw'r diwydiannau creadigol i'n bywyd cenedlaethol ac ynglŷn â pha mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i'w cefnogi a'u cynnal drwy'r cyfnod anodd hwn.

Ni allaf ymateb i bopeth y mae pawb wedi'i ddweud. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol fod nifer o gyfranwyr wedi gwneud sylwadau ar yr angen am lwybr yn ôl at berfformiadau byw, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei gymryd o'r ddadl hon heddiw. Nid oes neb yn meddwl y gallwn fynd yn ôl at berfformiadau byw ar hyn o bryd, ond mae angen i'r sector ddeall sut olwg fydd ar y llwybr hwnnw. A'r pwyntiau a wnaeth Rhianon Passmore, Jenny ac eraill am y posibilrwydd o gigs gan gadw pellter cymdeithasol—mae ffyrdd o wneud pethau'n ddiogel. Ac mae hyn yn cyd-fynd â'r pwyntiau a wnaeth David Melding am bobl yn y sector sydd am weithio. Mae angen iddynt weithio, mae angen iddynt ddefnyddio eu sgiliau. At ei gilydd, nid pobl yw'r rhain sy'n mynd i'w swyddi i wneud ffortiwn; maent yn ei wneud er mwyn gwneud yr hyn y maent yn ei garu ac er mwyn cyfrannu at ein bywyd diwylliannol. Ac er ei bod yn bwysig ein bod yn eu cefnogi'n ariannol, y neges glir sy'n dod i ni fel pwyllgor yw bod y bobl hyn am fod yn weithgar eto.

Roedd David Melding yn iawn wrth gwrs i dynnu sylw unwaith eto at y materion yswiriant. Ac rwy'n falch, yn ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad, fod y rheini'n cael eu hystyried o ddifrif, oherwydd dyna, o bosibl, fydd un o'r rhwystrau mwyaf i agor y sector eto. A gwn y bydd y Gweinidog eisiau ymateb i bwynt David am y sefydliadau sydd wedi arallgyfeirio, sydd wedi chwilio am ffynonellau incwm eraill ac sydd efallai'n fwy bregus nawr na'r rhai nad ydynt wedi gwneud hynny, yn eironig ddigon.

Roeddwn am ddiolch i Jenny Rathbone am ei geiriau caredig am waith y pwyllgor, ac mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Ac mae nifer o bobl hefyd wedi dweud, fel y gwnaeth Jenny, pa mor dda y mae Cymru Greadigol wedi ymateb. Mae'n her enfawr i sefydliad newydd a ffordd newydd o weithio, ac roedd y sylwadau cadarnhaol hynny'n bendant yn cael eu cadarnhau gan yr hyn a glywsom yn ein tystiolaeth.

Cyfeiriodd Siân Gwenllian at nifer o faterion pwysig iawn. Mae'n iawn i dynnu sylw at faint o waith sydd i'w wneud a phwysigrwydd y sector hwn i'r economi. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod ei fod yn bwysig am lawer o resymau eraill, ond mae'n bwysig i'n heconomi, a soniodd David Melding am hynny hefyd. A soniodd nifer o gyfranwyr am bwysigrwydd darlledu cyhoeddus, a byddwn yn edrych i weld sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i ymgynghoriad Ofcom.

Soniodd Siân am Golwg360, ac mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn cyfeirio at hwnnw fel model posibl ar gyfer cefnogi'r wasg yng Nghymru yn fwy cyffredinol, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn ni fel pwyllgor am fynd ar ei drywydd.

Mae'n amlwg—cyfraniad Rhianon Passmore a Siân Gwenllian—fod yna gynulleidfa allan yno. Nid yw pawb yn barod i ddychwelyd at berfformiadau byw, ond mae rhai pobl, yn sicr, ac mae angen inni gael y cynllun hwnnw, a gofynnaf eto i'r Gweinidog amdano.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymrwymiad heddiw i roi ymateb manwl i rai o'r materion a godwyd. Rwy'n falch iawn ei fod yn arian newydd. Rwy'n hoffi'r gair 'ychwanegol'. Rwy'n falch iawn fod hynny wedi'i gadarnhau, a'i sylwadau am bwysigrwydd y diwydiannau creadigol i frand Cymru a sut y cawn ein gweld yn rhyngwladol.

Dof â fy sylwadau i ben nawr, Ddirprwy Lywydd; gallaf weld fy mod yn brin o amser. Mae cymaint mwy y gellid ei ddweud, ond rwyf am orffen drwy gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd ac ymrwymo i'r sector y byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i weithio gyda hwy drwy'r cyfnod anodd hwn i sicrhau, fel y dywedodd David Melding, fod diwydiant sydd mor bwysig i ni yno pan fydd hyn i gyd ar ben. Diolch yn fawr.

17:50

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, nodir adroddiad y pwyllgor.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol

Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Caffael yn yr Economi Sylfaenol', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.

Cynnig NDM7459 Russell George

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad 'Caffael yn yr Economi Sylfaenol' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn gennym ym mis Chwefror, ond yn ddealladwy, gohiriwyd ymateb y Llywodraeth oherwydd y pandemig, a daeth hwn i law ym mis Gorffennaf. Canolbwyntiodd ein hymchwiliad ar sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiadau hirdymor i gynyddu caffael lleol fel rhan o'r ymgyrch i greu cadwyni cyflenwi lleol cryfach ac adeiladu cyfoeth mewn cymunedau ledled Cymru. Roedd ein hargymhellion yn cynnwys nifer fawr o gwestiynau, oherwydd gwelsom nad oedd gan y Llywodraeth strategaeth wedi'i chyhoeddi na safbwynt clir ar ei diffiniad o gaffael lleol.

Wrth roi tystiolaeth, nid oedd y Dirprwy Weinidog yn ymddiheuro am fabwysiadu ymagwedd arbrofol ac am nad oedd eto'n meddu ar yr holl atebion. Cyfeiriwyd y pwyllgor at lwyddiant y cynllun peilot Swyddi Gwell yn Nes at Adref yn y Cymoedd, ond yn erbyn maint yr amcanestyniadau diweithdra presennol, mae nifer y swyddi a grëwyd yn gymharol fach. Wrth i Lywodraeth Cymru geisio adeiladu nôl yn well, bydd cynyddu'r broses o greu swyddi ledled Cymru yn hanfodol yn fy marn i.

Gofynnai ein hargymhelliad cyntaf am eglurder ynglŷn â sut y byddai Gweinidogion yn diffinio llwyddiant, beth oedd eu cynlluniau pendant a ble roeddent yn bwriadu canolbwyntio fwyaf o ymdrech. Gofynnai'r argymhellion diweddarach sut y bwriadent wneud hynny. Er enghraifft, sut y bydd Llywodraeth Cymru'n monitro gwaith byrddau gwasanaethau cyhoeddus i ysgogi manteision economaidd caffael lleol? Sut y bydd yn ateb pryderon busnesau bach sy'n dal i fethu dod yn rhan o brosesau caffael rhy gymhleth? Sut y bydd mwy o gydweithio ar geisiadau ar y cyd yn cael ei gefnogi a'i gymell? Sut y gellir gwella ymgysylltiad â chadwyni cyflenwi? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn mesur llwyddiant ac yn casglu a rhannu data? A sut y caiff arferion gorau eu rhannu a'u datblygu, rhywbeth na fu'n bosibl ei gyflawni, mae'n ymddangos, mewn 20 mlynedd o ddatganoli?

Mae llawer o ymateb y Llywodraeth yn galonogol. Ym mis Mawrth, nodwyd cyfeiriad teithio'r Llywodraeth mewn adroddiad gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol o'r enw 'Cynnydd tuag at ddatblygu tirwedd caffael newydd yng Nghymru', ac mae'n amlwg fod gwaith yn mynd rhagddo, gan gynnwys comisiynu'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol, neu CLES yn fyr, i weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wella dealltwriaeth o werth lleol gweithgarwch caffael a mireinio eu diffiniad o gaffael lleol. Credaf ei bod yn hen bryd i ddadansoddi gwariant caffael fynd y tu hwnt i ddosbarthiad cod post traddodiadol dim ond cyfrif anfonebau cwmnïau a restrir mewn cyfeiriad yng Nghymru. A gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw, y gall y Llywodraeth ddweud mwy ynglŷn â pha bryd y gwelwn ganlyniadau mesuradwy a chadarnhaol o'r gwaith gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus.

Disgwylir i'r cyfnod gwaith presennol redeg y tu hwnt i'r pumed Cynulliad hwn, a disgwylir adolygiad canol tymor ym mis Ebrill 2021, felly mater i Aelodau'r chweched Senedd fydd monitro llwyddiant hirdymor. Mae hon yn broses hir. Yn y rhagair i'n hadroddiad dywedais fod y pwyllgor blaenorol yn ôl yn 2012 wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol i hybu manteision caffael cyhoeddus i economi Cymru, ac er gwaethaf y camau hynny, rydym yn dal i weld yr un problemau dyrys ac annatod wyth mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n dal i fod agweddau diwylliannol tuag at reoli risg yn y sector cyhoeddus sy'n gweithio yn erbyn arloesedd a newid. Ceir diffyg capasiti sgiliau cyson a methiant i ymgysylltu'n gynnar ac yn barhaus â chadwyni cyflenwi lleol.

Dywedodd arbenigwyr o'r byd academaidd a'r sector preifat wrthym fod yr atebion eisoes i'w cael yng Nghymru. Mae ein hymchwiliad yn nodi rhai arferion caffael rhagorol yn y sector tai, ond nid yw arferion da'n trosglwyddo i sectorau eraill o'r economi. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i arian cyhoeddus gylchredeg yng Nghymru o gwmpas yr economi yn hytrach na'i fod yn llifo allan, er mwyn creu prentisiaethau a swyddi a chyfoeth cymunedol a manteision cymunedol eraill, a bwydo i mewn i gadwyni cyflenwi lleol. Dywedodd yr Athro Karel Williams y dylai ymdrechion ganolbwyntio ar sectorau strategol allweddol gyda'r potensial ar gyfer yr effaith fwyaf cadarnhaol yn deillio o benderfyniadau caffael lleol, sectorau fel gofal, adeiladu a bwyd. Fodd bynnag, dywed y Llywodraeth ei bod yn dal i ddilyn dull sector-niwtral, ac y penderfynir ar unrhyw ffocws sector drwy ddadansoddi gwariant caffael hanesyddol a chontractau sydd ar y gweill, a'u datblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. Yn amlwg, dylai data lywio'r broses o wneud penderfyniadau, ond pa mor hyderus yw Gweinidogion y bydd dull mwy eang ac ymarferol yn arwain at ganlyniadau?

Mae angen ymgysylltu cryfach â'r sector preifat hefyd. Cynigiodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru y dylai Llywodraeth Cymru ehangu ei hymgysylltiad â sefydliadau angori, i gynnwys cwmnïau mwy o faint o'r sector preifat. Dywed y Llywodraeth fod hyn yn digwydd a bod ei hymagwedd at gwmnïau angori yn dal i esblygu. Un ffactor yn llwyddiant model caffael Preston oedd llofnodi datganiadau o fwriad gyda sefydliadau angori'r sector caffael lleol yn ôl y sôn, ond mae ymateb y Llywodraeth yn awgrymu bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn dal i fod ymhell o fod yn barod i ymrwymo i unrhyw gytundebau o'r fath.

Gwelwn ddarlun cymysg o'r ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn anelu tuag at y nod o sicrhau'r gwariant lleol mwyaf posibl, ac roedd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn eithaf negyddol ynglŷn ag i ba raddau y mae deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol yn llywio penderfyniadau caffael. Felly, mae gwaith byrddau gwasanaethau cyhoeddus a datblygiad cymuned o ymarfer yn cael ei groesawu, a chan fod hwn yn fuddsoddiad parhaus mewn pobl a sgiliau, ac yn ymdrech ar y cyd i geisio newid y diwylliant ym maes caffael cyhoeddus, gobeithio y bydd y mentrau diweddaraf hyn yn dechrau dwyn rhywfaint o ffrwyth o'r diwedd. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ac ateb y Gweinidog, a fy nghasgliad byr iawn ar y diwedd, Ddirprwy Lywydd.

17:55

Rwy'n edrych ymlaen at eich casgliad byr iawn ar ddiwedd y ddadl hefyd. [Chwerthin.] Diolch. Helen Mary Jones.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon. Wrth gwrs, digwyddodd yr ymchwiliad cyn i mi ymuno â'r pwyllgor, er fy mod yno mewn pryd i gymryd rhan yn y broses o gymeradwyo'r adroddiad, a mwynheais ddarllen yr hyn sy'n adroddiad rhagorol yn fy marn i. Rwy'n hapus iawn i'w gymeradwyo i'r Senedd. Mae'n gyfres gref a manwl o argymhellion ac fel y dywedodd Russell George eisoes, mae'n gofyn yr holl gwestiynau cywir. Yn y cyfamser, nid wyf yn credu ein bod wedi cael yr holl atebion eto, fel y dywedodd Russell George, a bydd yn ddiddorol clywed ymateb pellach Llywodraeth Cymru heddiw.

Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion, ond mae'n dod yn ôl at y cwestiwn sut, oherwydd mae angen newid enfawr er mwyn cyflawni hyn. Mae'n newid diwylliannol yn y ffordd y mae'r sector cyhoeddus yn ymgysylltu â'r sector preifat. Ac mae'r pandemig wedi'i gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn datrys hyn, ein bod yn ei gael yn iawn. Fe roddaf un enghraifft. Ar ddechrau'r argyfwng, fel y cofiwn i gyd, rhoddwyd contract i gwmni mawr o dros y ffin i ddarparu blychau bwyd i bobl a oedd yn hunanynysu. Nawr, nid oedd hyn yn llwyddiant diwahân. Gallwch ddeall ei fod yn rhywbeth roedd angen ei wneud yn gyflym, ond yn sicr roedd gennyf etholwyr yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn cael bwyd a oedd yn anaddas iddynt, a hen fwyd weithiau, bwyd a oedd wedi pasio'i ddyddiad am ei fod wedi dod o fannau rhy bell i ffwrdd. Nawr, yn yr ail gam o ddarparu cymorth i'r rhai a oedd yn hunanynysu, darparwyd y blychau bwyd wedyn drwy'r cynghorau sir, ac fe wnaeth hynny wahaniaeth enfawr. Roedd Sir Gaerfyrddin yn gallu gweithio gyda chwmni Castell Howell sydd wedi'i leoli yn Cross Hands, ynghyd â chyflenwyr lleol eraill. Roedd hynny nid yn unig yn gwella ansawdd y ddarpariaeth, ond golygai hefyd fod arian cyhoeddus Cymru'n cael ei ailgylchu yn ein heconomi i ddiogelu swyddi lleol a chefnogi busnesau lleol ar adeg dyngedfennol.

Nawr, rhaid i'r dull blaengar hwn fod yn ddull gweithredu lleol, a rhaid iddo lywio'r ffordd rydym yn gwario arian cyhoeddus gyda'r sector preifat o hyn ymlaen. Rhaid mai ailgylchu punt gyhoeddus Cymru yn ein heconomi ein hunain yw'r safbwynt rhagosodedig—ac mae Russell George eisoes wedi crybwyll hyn. Clywn drwy'r amser gan Lywodraeth Cymru nad oes ganddynt ddigon o arian, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir, a fi fyddai'r cyntaf i ddweud y dylent gael mwy o ysgogiadau economaidd at eu defnydd, ond mae angen i bob ceiniog sydd gennym, boed yn ein sector iechyd, yn ein hawdurdodau lleol, neu'n gaffael uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gael ei gwario yn ein heconomi ni. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddangos sut y byddant yn sicrhau hynny. Mae hwn yn newid enfawr ac mae angen iddynt nodi inni sut y byddant yn monitro ac yn gwerthuso'r camau a gymerant—sut y byddant yn gwybod bod hyn wedi gweithio? Oherwydd nawr yn fwy nag erioed, ar yr adeg anodd hon i'n cymunedau ac i'n heconomi, nid oes angen inni wastraffu un geiniog o arian cyhoeddus Cymru y tu allan i'n cymunedau. Diolch yn fawr iawn.

18:00

Yn amlwg, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn canolbwyntio ar yr economi sylfaenol ar hyn o bryd, oherwydd rydym ar fin mynd i mewn i ddirwasgiad economaidd gwirioneddol anodd. Mae caffael lleol yn gwbl allweddol i gadw pa arian bynnag sy'n cylchredeg mewn unrhyw gymuned benodol o fewn y gymuned honno, oherwydd bydd prinder gwirioneddol ohono. Felly, darllenais gydag ychydig o anobaith fod caffael yn rhan o bolisi sy'n esblygu ar draws Llywodraeth Cymru, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod gwir angen inni fwrw ymlaen â hyn. A dyma lle mae'n rhaid i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus gamu i'r adwy, oherwydd os nad ydynt hwy'n poeni faint o arian sy'n cael ei wario'n lleol gyda chwmnïau lleol ac felly'n aros o fewn yr ardal leol honno, nid oes neb arall yn mynd i wneud hynny. Mae'n bryd bwrw iddi, oherwydd yn y cyfamser, bydd yr holl gwmnïau mawr eraill sydd wedi'u lleoli yn rhywle arall yn fwy na pharod i gymryd arian pobl, a bydd yr holl elw'n mynd i rywle arall wedyn. 

Ni fyddwch yn synnu clywed y byddwn i, yn amlwg, yn hoffi gweld llawer mwy o rwydweithiau bwyd lleol, gan ein bod ar fin wynebu'r posibilrwydd enbyd y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Nid oes gennym syniad faint o darfu a fydd ar ein cyflenwadau bwyd. Ac mae'n ymddangos i mi fod angen gwneud hyn ar frys mawr, ond o leiaf bum mlynedd yn ôl dywedodd Rachel Lewis-Davies sy'n flaenllaw gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wrthyf y bydd ffermwyr yn cynhyrchu unrhyw beth cyn belled â bod marchnad ar ei gyfer, ond mater i'r ochr gaffael yw nodi'n union beth sydd ei angen arnynt yn y farchnad honno fel y gall ffermwyr gynllunio a'i gynhyrchu wedyn gan wybod y bydd yn cael ei ddefnyddio. Mae llawer iawn y gallem ei ddysgu gan Puffin Produce, sy'n un o fusnesau mwyaf llwyddiannus Cymru ac sydd wedi datblygu garddwriaeth ar raddfa fecanyddol. Maent wedi cornelu'r farchnad datws yn ei chyfanrwydd fwy neu lai a llawer o lysiau eraill hefyd, ond mae angen busnesau bach arnom i gynhyrchu'r mathau o bethau nad ydynt yn hawdd eu ffermio'n fecanyddol, fel llysiau salad a ffrwythau, er mwyn inni allu darparu bwyd ffres yn ein hysgolion i'n plant, sydd cymaint o angen bwyd o'r fath.

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau bach ar waith gyda grantiau i fusnesau fferm o rhwng £3,000 a £12,000 i alluogi mwy o gynhyrchu garddwriaethol a defnydd o offer a thechnoleg newydd ar gyfer garddwriaeth ar raddfa cae, ond mewn gwirionedd, rhaid gwneud hyn ar raddfa fwy fel mater o frys, oherwydd nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd rownd y gornel. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn taflu rhywfaint o oleuni ar beth yn union y bydd y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud yn y cyfnod nesaf, sy'n mynd i fod yn heriol dros ben wrth gwrs.

18:05

A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor economi a sgiliau am gynhyrchu'r adroddiad rhagorol hwn a'i ymgais i ddadansoddi beth yw'r economi sylfaenol? Hoffwn nodi hefyd ymateb cyffredinol gadarnhaol y Llywodraeth i'r argymhellion a wnaed. Credaf mai'r hyn sy'n amlwg o'r adroddiad hwn yw'r angen clir i ddiffinio beth yw'r economi sylfaenol. Efallai y gellid dweud mai un disgrifiad teg yw'r gweithgareddau sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n hanfodol i gynnal bywyd bob dydd, ni waeth beth fo statws cymdeithasol y defnyddwyr. Byddai'r swyddogaethau cyflenwi'n cael eu cyflawni gan nifer o gyfranogwyr lleol—awdurdodau lleol, iechyd, addysg, gwasanaethau lles a phrosiectau seilwaith lleol—ynghyd â darparwyr cyfleustodau. Dylai pob un ohonynt fod yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi sylfaenol. Os ychwanegwn gynhyrchu a phrosesu bwyd at y rhain, ynghyd â manwerthu a dosbarthu bwyd, efallai fod gennym ddarlun cyflawn o'r hyn y byddem yn ei alw'n economi sylfaenol. Felly, sut rydym yn sicrhau bod y rhannau cyfansoddol hyn yn cael eu dwyn ynghyd i gynnal ardal benodol? Wel, mae hyn ynddo'i hun yn codi'r cwestiwn ynglŷn â pha ffurf a fyddai i unrhyw ardal benodol—ardaloedd awdurdodau lleol, rhanbarthau lleol, neu ryw endid daearyddol arall wedi'i ddiffinio'n ofalus?

Un o'r gwirioneddau amlwg a nodwyd yn yr adroddiad yw prinder y sgiliau sydd eu hangen o fewn yr awdurdodau lleol mewn perthynas â gweithredu polisïau caffael lleol. A yw hyn yn golygu y dylem symud at endidau mwy o faint er mwyn sicrhau'r sgiliau hyn, neu a yw'r Llywodraeth yn creu'r cyllid fel y gall awdurdodau lleol brynu'r sgiliau o'r tu allan neu eu datblygu'n fewnol? Ffactorau eraill sy'n effeithio ar strategaeth gaffael leol wedi'i strwythuro'n dda yw'r anawsterau wrth fesur canlyniadau a rhannu arferion gorau. Felly, a fydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn allweddol wrth sefydlu'r egwyddorion sy'n rheoli'r meini prawf ar gyfer mabwysiadu gan sefydliadau angori lleol ac yn arwain y gwaith o sefydlu byrddau craffu i gasglu a dadansoddi data ar gyfer yr economi sylfaenol?

Nid oes fawr o amheuaeth fod caffael lleol gan y sector cyhoeddus yn mynd i chwarae, neu i raddau helaeth eisoes yn chwarae, rôl bwysig yn creu economi sylfaenol leol. Er y bydd y sector cyhoeddus yn darparu cymorth angori i'r economi sylfaenol, bydd cadwyni gweithgynhyrchu a chyflenwi bwyd hefyd yn chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o wneud iddo weithio. Mae bwyd lleol nid yn unig yn ddymunol yn economaidd, dylai hefyd gael y fantais o fod yn ffres ac wrth gwrs, byddai'n osgoi costau cludo o bell. Mae gweithgynhyrchu ar sail leol yn fwy cymhleth oherwydd yr angen i gael arbedion maint. Gellir goresgyn y rhain yn rhannol wrth gwrs drwy gael marchnad i Gymru gyfan neu farchnad allforio i Loegr a gweddill y DU efallai, a hyd yn oed allforion tramor. Nid oes amheuaeth na allai ehangu'r economi sylfaenol ddod â llawer o fanteision yn ei sgil, yn enwedig i gymunedau sydd wedi'u caethiwo'n rhy hir o lawer gan dwf economaidd gwan. Rwy'n argyhoeddedig fod y Gweinidog a Dirprwy Weinidog yr economi wedi ymrwymo i wella perfformiad economi Cymru, ond mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddechrau cyflawni'r addewidion niferus a wnaed dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn mynnu hynny.

Pan gyhoeddasom ein canfyddiadau am y tro cyntaf, ymhell yn ôl ym mis Chwefror, ni allai neb fod wedi rhagweld sut y byddai'r pandemig a oedd yn datblygu yn rhwygo drwy'r economi, na sut y byddai ein canfyddiad a'n gwerthfawrogiad o gyflogaeth yn newid, a gweithwyr allweddol mewn sectorau sylfaenol yn y rheng flaen. Hwy oedd y bobl na allent weithio gartref. Roeddent yn rhan o'r economi na ellid ei chau. Roeddent yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol a oedd yn cadw olwynion bywyd bob dydd i droi pan ddaeth stop ar gymaint o bethau eraill—yn ein siopau bwyd, cyfleusterau gofal plant, safleoedd adeiladu ac yn y blaen. Ac eto, maent yn aml ar y cyflogau isaf. Felly, nawr, yn fwy nag erioed, ac wrth symud ymlaen, rhaid defnyddio caffael cyhoeddus fel catalydd ar gyfer newid, er mwyn helpu i feithrin cyfoeth a chadernid cymunedol drwy gadwyni cyflenwi lleol cryf.

Mae Aelodau eraill wedi sôn am yr hyn y mae 'lleol' yn ei wneud a beth y mae 'lleol' yn ei olygu, ac nid wyf am ailadrodd y pwyntiau hynny, ond edrychaf ymlaen at ateb y Gweinidog. Rwy'n mynd i ganolbwyntio yma ar ofal plant, ac rwyf hefyd yn mynd i ailffocysu'r ddadl o gwmpas y model cymdeithasol a'r parch a'r graddfeydd cyflog y dylai pobl eu cael, a sut y mae'n rhaid cynnwys hynny mewn caffael lleol. Nid oedd hyn yn amlwg yn ein hymchwiliad, ond fel y dywedais, mae'r pandemig wedi ail-lunio'r ddadl ac mae gofal plant yn rhan o'r ddadl honno. Prif rôl caffael cyhoeddus yw sicrhau nwyddau a gwasanaethau i bob dinesydd—a dyma'r rhan bwysig—mewn ffordd gyfrifol yn gymdeithasol, ac os nad oeddem eisoes yn sylweddoli hynny, mae'r pandemig wedi datgelu nwydd cyhoeddus mor hanfodol yw gofal plant, yr un mor hanfodol â'n seilwaith ffisegol a thelathrebu.

Ym mis Awst, dyrannodd Llywodraeth Cymru £4 miliwn tuag at y grant darparwyr gofal plant, a helpodd hynny fwy o feithrinfeydd i aros ar agor. Yn yr un mis, canfu arolwg gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol fod un o bob wyth gweithiwr gofal plant yn y DU yn ennill llai na £5 yr awr, ac mai £7.42 yw'r cyflog cyfartalog yr awr yn y sector, ac mae hynny'n llai, wrth gwrs, na'r cyflog byw o £8.72. Ond er bod staff meithrin ymhlith y gweithwyr sy'n ennill y cyflogau isaf, os ydych yn cyferbynnu hynny, rhieni'r DU sy'n dal i wynebu'r costau gofal plant uchaf yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gan wario traean ar gyfartaledd o'u henillion ar ofal plant. Felly, os yw caffael yn gwneud unrhyw beth, rhaid iddo godi'r anghysondebau i'r un lefel. Ar yr un pryd, bydd llawer o deuluoedd wedi teimlo ergyd talu'r ffioedd meithrinfa hynny ymlaen llaw dim ond i'w plant golli dyddiau neu wythnosau tra'n hunanynysu neu'n aros am ganlyniadau profion coronafeirws. Felly, wrth gwrs, mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru yn achubiaeth i deuluoedd ledled Cymru, a dim ond cyfartaledd yw cyfartaledd y DU: mae polisi Cymru'n llawer mwy hael na rhannau eraill o'r DU.

Ond wrth symud ymlaen ac edrych ar yr hyn sy'n bwysig o fewn cymuned, mae'n amlwg fod yn rhaid i gaffael edrych ar brofiad ehangach y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau y gwerir y bunt Gymreig arnynt, a rhaid iddo sicrhau cydraddoldeb o fewn y ffrwd honno o ran graddfeydd cyflog y bobl sy'n darparu'r hyn rydym i gyd yn cydnabod erbyn hyn yw'r swyddi rheng flaen a gadwodd yr economi, ac a gadwodd Gymru i fynd ar adeg o argyfwng.

18:10

Ie, diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae wedi bod yn ddadl ddadlennol oherwydd roeddwn wedi anghofio pa mor syml oedd hyn i gyd i'w ddatrys. Mae fy 23 mis diwethaf yn y Llywodraeth wedi fy nysgu ei fod ychydig yn fwy cymhleth, ond mae'n dda cael eich atgoffa ei fod yn llawer symlach na hynny.

Roeddwn i'n meddwl ei fod yn adroddiad defnyddiol iawn, ac roedd y gwrandawiadau eu hunain yn ffordd hynod o ddefnyddiol o amlygu'r materion a'u cael wedi'u gwyntyllu a'u trafod, ac nid wyf am ailadrodd ymateb y Llywodraeth a'i ddarllen ar gyfer y Cofnod. Ceisiodd fod yn ymateb llawn, er ei bod yn ddrwg gennyf glywed bod rhai Aelodau'n meddwl ei fod yn dal yn dawedog ar rai materion, felly rwy'n hapus i ddychwelyd at hynny ar ôl y ddadl oherwydd rwy'n credu bod hwn yn fater trawsbleidiol. Mae'n amlwg fod llawer o gonsensws ynglŷn ag ysbryd yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yma. Mae hyn wedi bod yn gymhleth ac yn anodd ei weithredu.

Roeddwn yn meddwl bod Russell George wedi llwyddo i wneud adroddiad braidd yn ddiflas a chydsyniol yn rhywbeth go bigog gyda'i gyfraniad. Ac rwy'n credu ei bod yn iawn inni gael ein herio, oherwydd mae hyn yn hanfodol bwysig i economi Cymru a'r brys a wynebwn nawr gyda'r pandemig a hefyd y cwymp economaidd—hanfodol bwysig. Fel y dywedodd Helen Mary yn gywir, mae angen inni sicrhau bod cynifer o bunnoedd Cymru ag sy'n bosibl yn cael eu hailgylchu drwodd i economi Cymru.

Ac rydym yn cael rhai llwyddiannau, ond mae rhwystredigaethau hefyd, nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. A chredaf fod Jenny Rathbone yn iawn i herio'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn hyn o beth. Mae byrdwn y sylwadau hyd yma wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru, ond rydym angen dull system gyfan, ac mae gan bob corff cyhoeddus gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn defnyddio eu gwariant er budd eu cymunedau. Ond gadewch inni beidio â bod o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â pha mor anodd yw hyn. Unwaith eto, fel y dywedodd Helen Mary, mae angen newid diwylliannol. Rydym wedi cynnwys o fewn y system y syniad y dylem bob amser fod yn cyflawni am y pris isaf, ac nid yw newid hynny'n ymdeimlad o werth cymdeithasol yn rhywbeth y gellir ei wneud yn syml nac yn gyflym, a chredaf fod Russell George, wrth ein herio gan ddweud, 'Pam na fu'n bosibl cyflawni hyn mewn 20 mlynedd o ddatganoli?'—wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrtho, nid yw wedi'i gyflawni yn unrhyw ran arall o'r DU ychwaith. A'r rheswm am hynny yw ei fod yn mynd yn groes i raen degawdau o ymarfer—ymarfer ei Lywodraeth ef hefyd, rhaid dweud.

Ond rwy'n credu bod cyfleoedd drwy'r argyfwng. Felly, i roi un enghraifft i'r Senedd, sef caffael cyfarpar diogelu personol drwy'r pandemig. Wel, rydym wedi gallu defnyddio'r argyfwng i dorri drwy fiwrocratiaeth a allai fel arfer arafu pethau i sicrhau o leiaf 20 y cant o gyfarpar diogelu personol gan gyflenwyr o Gymru, ac mae'r pandemig hefyd wedi dangos i ni, o ran nwyddau sy'n hanfodol i les—ac ymwneud â hynny y mae'r economi sylfaenol, yr economi bob dydd; mae'n ymwneud â gwasanaethau sy'n hanfodol i les—rhaid i ni gael gwytnwch yn ogystal â chyflenwad. Oherwydd, pan drawodd y pandemig, roedd yn ddigon hawdd prynu pethau am y gost rataf yn Tsieina, ond pan na allem ei gael allan o Tsieina, roeddem mewn trafferth, a gweithgynhyrchwyr yng Nghymru a'n helpodd i godi o'r twll hwnnw. Ac mae angen inni sicrhau, wrth inni ailadeiladu allan o'r pandemig, fod gwytnwch a chyflenwad lleol a byrhau'r cadwyni cyflenwi rhyngwladol ar flaen ein meddyliau wrth inni adeiladu systemau newydd. Ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn gweithio arno.

Ond i roi un enghraifft i chi, rydym wedi bod yn gweithio gyda chwmni peirianneg ym Mhontardawe sydd wedi trosglwyddo eu gweithgarwch i gynhyrchu masgiau. Ond nid yw mor syml â gallu cynhyrchu'r masgiau am bris cystadleuol—cystadleuol â Tsieina—mae angen iddynt hefyd sicrhau y gellir eu caffael o fewn y rheoliadau a'u bod yn bodloni'r safonau ardystio. Ni allwch greu unrhyw hen beth a'i alw'n fasg a'i werthu i'r GIG; rhaid iddo fodloni safonau rheoleiddio ac mae proses hir i fynd drwyddi i gael y tystysgrifau hynny. Nawr rydym wedi bod yn gweithio'n brysur iawn gyda'r cwmnïau hyn i'w cael drwy'r rhwystrau hynny, ac rydym yn gobeithio cael canlyniad llwyddiannus. Lle na fyddech yn cael ffatri arall i agor ym Mhontardawe, gallwn ddefnyddio'r hyn sydd yno drwy wariant cyhoeddus i sicrhau bod gwerth yn cael ei sicrhau o fewn economi Cymru. Ond rwy'n rhoi honno fel enghraifft i'r Aelodau, dim ond er mwyn deall y broses y mae'n rhaid mynd drwyddi—yr holl elfennau sy'n rhaid eu rhoi yn eu lle i lwyddo. Mae angen parodrwydd polisi caffael a gweithwyr proffesiynol i gaffael yn lleol. Mae angen i chi allu cael pris ar bwynt sydd o fewn awydd y sector cyhoeddus i wario. Mae angen i chi sicrhau bod y mesurau i gyd ar waith o ran rheoleiddio ac ardystio.

Ac mae hynny yr un mor wir gyda bwyd. Cyfarfûm â Castell Howell ddoe, gyda swyddogion fel mae'n digwydd, i geisio deall sut y gallwn annog prynu mwy o fwyd o fewn economi Cymru. Mae'r gwaith y soniodd Russell George amdano yn y dechrau, gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol, wedi gwneud dadansoddiad i ni ar wariant ar fwyd yn economi Cymru, a gwyddom fod tua hanner yr holl arian a werir ar fwyd yng Nghymru drwy'r GIG yn mynd i gyflenwyr o Gymru, ond mae tua hanner yn llifo allan o Gymru, ac ym mron pob un o'r achosion hynny, mae yna gyflenwyr o Gymru a allai gyflawni'r contractau hynny. Felly, beth sy'n ein hatal rhag symud hynny i mewn i'r economi leol? Wel, mae nifer o bethau, ac rydym yn gweithio drwyddynt yn systematig nawr gyda chleientiaid, gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym wedi gwneud cynnydd. Mae COVID wedi arafu pethau, mae wedi torri ar ein traws—yn ddealladwy, rwy'n credu, oherwydd mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn canolbwyntio ar ymdrin â'r argyfwng o ddydd i ddydd, ac nid yr hyn sy'n dod yr ochr arall iddo. Ond rydym wedi ailafael ynddi; rydym bellach yn gwneud cynnydd gyda phum clwstwr byrddau gwasanaethau cyhoeddus.

I fynd i'r afael â phwynt Jenny Rathbone ynglŷn â bwyd, credaf ei bod yn llygad ei lle ynglŷn â sicrhau bod gennym arddwriaeth a gynhyrchwyd yng Nghymru y gellir ei chyflenwi i ysgolion ac ysbytai Cymru. Mae gennym brosiect drwy'r gronfa her arbrofol yn sir Gaerfyrddin i gael bwyd lleol ar blatiau lleol, ond hefyd, o ran garddwriaeth, rydym wedi ariannu—soniodd am symiau bach o arian, ond rydym wedi rhoi ychydig llai na £0.5 miliwn o arian tuag at brosiect sy'n defnyddio amaethyddiaeth amgylcheddol reoledig ar gyfer tri safle ledled Cymru i geisio tyfu cnydau mewn dull anghonfensiynol, prosiect sydd â photensial gwirioneddol yn ein barn ni, ac mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau, a byddwn yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi am yr hyn sy'n digwydd yno.FootnoteLink

18:20

Mae hynny'n anhygoel, oherwydd roeddwn ar fin gofyn i chi faint o amser oedd ar ôl gennyf.

O'r gorau. Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud cynnydd. Nid yw'r cyflymder yn foddhaol i mi; mae'n peri rhwystredigaeth fawr, oherwydd mae'r rhwystrau, yn ddiwylliannol ac yn ymarferol mewn pandemig, yn sylweddol, ond byddwn yn eich annog i'n dwyn i gyfrif, oherwydd mae angen inni barhau i fwrw ymlaen â hyn. Nid agenda ar gyfer y tymor byr fydd hon; bydd yn cymryd amser i drawsnewid y diwylliant. Ond mae'r camau yn yr adroddiad yn ddefnyddiol, a byddwn yn hapus i ddychwelyd at y pwnc gyda'r pwyllgor yn y dyfodol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n beio fy hun, oherwydd cytunais i gais y Pwyllgor Busnes i leihau'r amser ar gyfer y ddadl hon, felly rwy'n beio fy hun—dim ond 50 eiliad sydd gennyf, neu 45 nawr. Roedd Helen Mary yn canolbwyntio ar ailgylchu'r bunt gyhoeddus yng Nghymru. Dadleuodd Jenny Rathbone—wel, ei bod yn pryderu bod y polisi'n dal i ddatblygu ar y cam hwn. Roedd David Rowlands yn gywir, rwy'n credu, fod arnom angen diffiniad da o'r economi sylfaenol, a hefyd yn pryderu—yn gywir, rwy'n credu—ynglŷn â sgiliau o fewn yr awdurdodau lleol. Roedd Joyce Watson yn codi materion yn ymwneud â gofal plant a sut y gallwn godi lefelau yn hynny o beth. Y Dirprwy Weinidog—roeddwn ychydig yn ansicr ynglŷn â rhai o'i sylwadau; mae'r hyn a ddywedodd yn peri dryswch i mi. Gallaf sicrhau'r Dirprwy Weinidog nad fy sylwadau personol i oeddent, ond barn y pwyllgor, y pwyllgor trawsbleidiol, ac rwy'n siomedig ei fod i'w weld yn meddwl fel arall. Roeddwn yn falch o glywed ei sylw ynglŷn â masgiau, a chredaf fod hynny'n dangos, mewn gwirionedd, fod hyn yn gyraeddadwy, felly rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, gan gynnwys Mohammad Asghar, a oedd yn aelod o'r pwyllgor y pryd hwnnw. Diolch hefyd i'n tîm clercio gwych a'n tîm integredig, sy'n ein cefnogi. Rwy'n siŵr, Ddirprwy Lywydd, nad dyma'r tro olaf y byddwn yn trafod caffael cyhoeddus yn y Siambr hon, ond rwy'n gobeithio, erbyn y tro nesaf y byddwn yn ei drafod, y bydd y brys a'r cyflymder wedi symud ymlaen ychydig. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. A'r cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiad, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, nodir adroddiad y pwyllgor.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:22.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:29, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

18:25
10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Felly, rydym yn ailymgynnull gydag eitem 10, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y lluoedd arfog. Cyn i mi alw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig, rwyf wedi edrych ar nifer y siaradwyr sydd gennym ac rwyf wedi torri'r amser siarad i lawr i dair munud. Nid yw hynny'n effeithio ar y Gweinidog na'r rhai sy'n cynnig neu'n cloi'r ddadl, ond bydd yn ofynnol i'r holl siaradwyr gadw at dair munud a byddaf yn eich torri i ffwrdd ar dair munud. Drwy wneud hynny, cawn bawb yn y ddadl. Felly, galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark.

Cynnig NDM7456 Darren Millar, Rebecca Evans, Siân Gwenllian, Caroline Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai heddiw yw Diwrnod y Cadoediad.

2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethau ein gwlad, gan gynnwys clwyfedigion sifil gwrthdaro.

3. Yn diolch i'r holl sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gweithio i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr.

4. Yn mynegi diolch am gyfraniad sylweddol y Lluoedd Arfog i'r ymateb COVID-19 cenedlaethol yng Nghymru. 

5. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth iddi geisio cynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y bore yma, ar yr unfed awr ar ddeg o unfed diwrnod ar ddeg yr unfed mis ar ddeg, roeddem yn cofio aberth y rhai a wasanaethodd yn y lluoedd arfog, a'r rhai yn y boblogaeth sifil a gollodd eu bywydau neu y newidiwyd eu bywydau'n barhaol gan ryfeloedd ers 1914. Mae'r cynnig trawsbleidiol hwn yn cynnig ein bod yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethu ein gwlad, gan gynnwys sifiliaid a anafwyd mewn rhyfeloedd.

Eleni mae'n 80 mlynedd ers Dunkirk a brwydr Prydain a 75 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. Mae hefyd yn 60 mlynedd ers i argyfwng Malaya ddod i ben; 38 mlynedd ers rhyfel y Falklands; 30 mlynedd ers i'n lluoedd arfog gael eu hanfon i'r Gwlff yn dilyn yr ymosodiad ar Kuwait; a 25 mlynedd ers i gam cyntaf gweithrediadau'r DU i gynnal yr heddwch yn yr hen Iwgoslafia ddod i ben.

Yn ystod y cilio i Dunkirk, ymladdodd John Edwards a'i gefnder Llewellyn Lewis yn yr amddiffyniad enciliol gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig—neu'r RWF—cyntaf. Ganed John Edwards yn Rhuthun yn 1911 ac roedd yn was i swyddog. Ganed Llewellyn Lewis ger Dolgellau yn 1919 ac fe'i galwyd i wasanaethu ar ddechrau'r rhyfel. Roedd yn 20 pan gafodd ei ddal. Roedd Edwards yn 28.

Ar 26 Mai 1940, roedd Edwards a Lewis ymhell o draethau Dunkirk. Roeddent wedi cael eu gorchymyn i sefyll ac ymladd i'r pen ac i'r dyn olaf mewn ymdrech i arafu cynnydd yr Almaen, tra bod eraill yn cael eu tynnu allan. Ymladdodd yr RWF cyntaf yn nhref fach Saint-Venant a phentrefi cyfagos, gan ail-gymryd pontydd dros ddyfrffyrdd pwysig. Fodd bynnag, gyda'r Almaenwyr yn parhau i ddal pontydd eraill, cafodd y cwmni ei amgylchynu, dioddefodd golledion gwael a chafodd y dynion olaf eu dal wrth iddynt ymdrechu i ddianc y noson honno. Gorymdeithiodd Edwards, Lewis a'r milwyr eraill a ddaliwyd tuag at yr Almaen heb fawr o fwyd a dŵr, ac aethpwyd â hwy yn y pen draw i Toruń yng Ngwlad Pwyl. Treuliodd Edwards weddill y rhyfel mewn caethiwed, gan weithio fel carcharor rhyfel ar fferm. Dychwelodd i Brydain yn 1945 yn edrych fel ysgerbwd ac yn ddieithr i'r sawl a'i hadwaenai. Bu farw Lewis yn Stalag XX-A yn 1941, yn 21 oed.

Wyth mlynedd ar ôl brwydr Prydain, cofiwn yr ychydig o Gymru, 67 o ddynion o bob cwr o Gymru a wasanaethodd gyda rhagoriaeth yn yr awyr ac a wnaeth gyfraniad sylweddol a dewr i frwydr Prydain. Roeddent yn rhan o'r criw awyr o 2,947 o Brydain, y Gymanwlad a llawer o wledydd eraill a ymladdodd yn y frwydr. Cofiwn hefyd y rhan hanfodol a chwaraewyd gan ganolfannau'r Llu Awyr Brenhinol yng Nghymru yn darparu peilotiaid ac awyrennau yn y frwydr enbyd honno yn ystod haf hir a phoeth 1940.

Ar 5 Medi 1940, saethodd Sarjant Glyn Griffiths o Landudno, a oedd yn hedfan awyrennau Hurricane gyda sgwadron 17, awyren fomio Heinkel He 111 i lawr dros Chatham. Roedd wedi mynychu Ysgol John Bright yn Llandudno cyn ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol fel peilot yn 1938. Daeth yn un o 'aces' brwydr Prydain—peilot gyda phump o fuddugoliaethau a gadarnhawyd—a saethodd 10 o awyrennau'r gelyn i lawr yn ystod y frwydr, a dyfarnwyd y fedal hedfan nodedig iddo. Mae ei fedalau a'i lyfr log hedfan i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd erbyn hyn.

Swyddog peilot o Lanelwy oedd Denis Crowley-Milling, a fu'n hedfan awyrennau spitfire gyda sgwadron 242, a saethodd awyren ryfel Messerschmitt 110 i lawr dros ddwyrain Llundain. Yn ddiweddarach yn y rhyfel, saethodd nifer o awyrennau'r gelyn i lawr a dyfarnwyd fedal hedfan nodedig y groes a'r bar iddo. Ym mis Awst 1941, cafodd ei saethu i lawr dros Ffrainc, ond llwyddodd i osgoi cael ei ddal a chyda chymorth gwrthryfelwyr tanddaearol Ffrainc, llwyddodd i ddianc yn ôl i Brydain ac ailymuno â'i sgwadron. Yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, cafodd Denis Crowley-Milling yrfa nodedig gyda'r Awyrlu Brenhinol, gan godi i safle marsial yr awyrlu a chael ei urddo'n farchog hefyd.

Ar gyfer Diwrnod Treftadaeth Gwlad Pwyl ar 9 Mai eleni, recordiais neges ar gyfer canolfan integreiddio Bwylaidd Wrecsam, gan gyfeirio at y rôl allweddol a chwaraewyd gan sgwadron ymladd Bwylaidd 303 a hedfanai awyrennau Hawker Hurricane, y saethwyd y nifer fwyaf o awyrennau i lawr o'r 66 sgwadron a gymerodd ran ym mrwydr Prydain. Bu farw 31 o'r 145 o beilotiaid Pwylaidd a gymerodd ran ym mrwydr Prydain tra'n gwasanaethu.

Mae'r rôl a chwaraewyd gan yr RAF yng Nghymru yn diogelu'r awyr uwchben Prydain yn parhau hyd heddiw. Mae criwiau ein hawyrennau jet Typhoon, sy'n amddiffyn ein hawyr bob dydd o'r flwyddyn, i gyd wedi'u hyfforddi yn RAF y Fali ar Ynys Môn, ac mae Sain Tathan yn chwarae rhan hanfodol yn hyfforddi technegwyr peirianneg ar gyfer rheng flaen yr RAF.

Ar 8 Mai, buom yn coffáu 75 mlynedd ers Diwrnod VE—Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop—y diwrnod y cyhoeddodd lluoedd y cynghreiriaid yn ffurfiol fod yr Almaen wedi ildio, gan ddod â'r ail ryfel byd i ben yn Ewrop. Fodd bynnag, roedd miloedd lawer o bersonél y lluoedd arfog yn dal i ymladd brwydrau chwerw yn y dwyrain pell. Ar 15 Awst, roedd yn 75 mlynedd ers Diwrnod VJ, i goffáu'r diwrnod y bu i Japan ildio a diwedd yr ail ryfel byd.

Eleni, rhaid i ni hefyd ddiolch i'n lluoedd arfog am y cyfraniad sylweddol y maent wedi'i wneud ar adegau o heddwch i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol y GIG yn dal i redeg a bod cyflenwadau'n cael eu dosbarthu i'n gwasanaethau rheng flaen pwysig yn ystod pandemig COVID-19. Fel y dywed y cynnig trawsbleidiol hwn, mae Senedd Cymru yn mynegi ei diolch am gyfraniad sylweddol y lluoedd arfog i'r ymateb cenedlaethol i COVID-19 yng Nghymru. Fodd bynnag, dylem hefyd sicrhau eu bod yn parhau i gael ein cefnogaeth drwy gynnal cyfamod y lluoedd arfog.

Croesawyd y cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y mis diwethaf y bydd cyn-filwyr milwrol yng Nghymru yn elwa o gerdyn rheilffordd newydd sy'n cynnig teithio rhatach ar y rheilffyrdd, ar ôl i Lywodraeth y DU yn Lloegr gyhoeddi'r cynllun yn gynharach eleni. Yn dilyn ymgyrch dan arweiniad y Lleng Brydeinig Frenhinol a Poppy Scotland y soniais amdani yma o'r blaen, croesawyd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf y bydd cyfrifiad 2021 bellach yn cynnwys cwestiwn i ddarparu gwybodaeth i ddynodi a yw rhywun wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i'r lleng, cyrff cyhoeddus ac elusennau milwrol eraill er mwyn sicrhau y gallant ddiwallu anghenion personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd yn y ffordd orau.

Lansiwyd menter Great Place to Work for Veterans yn ddiweddar gan y Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn Swyddfa Cabinet y DU i annog mwy o gyn-filwyr i ymuno â'r gwasanaeth sifil pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog, gan sicrhau bod y gwasanaeth sifil yn elwa o'r ystod eang o sgiliau a doniau yng nghymuned ein lluoedd arfog. Felly, roeddem hefyd yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y penwythnos diwethaf y byddant yn ymuno â'r fenter hon. Gall gadael y lluoedd arfog fod yn arbennig o heriol i gyn-filwyr, sy'n aml yn ei chael yn anodd ymdopi â bywyd sifil a dod o hyd i waith. Yn ogystal â bod o fudd i'r gwasanaeth sifil, mae'r fenter hon yn rhoi hwb i ragolygon cyflogaeth pobl sydd wedi gwasanaethu, gan eu helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd y tu hwnt i'r lluoedd arfog.

Mae'n hanfodol fod gwaith caled GIG Cymru i Gyn-filwyr yn parhau ac yn parhau i ehangu, gan roi asesiadau a thriniaeth seicolegol i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru ar gyfer problemau iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma. Rhwng mis Ebrill 2010, pan lansiwyd ei wasanaeth, a mis Mawrth 2019, maent wedi derbyn 4,319 o atgyfeiriadau. Yn 2018-19 yn unig, derbyniwyd 808 o atgyfeiriadau. Mae achos busnes GIG Cymru i Gyn-filwyr dros fwy o arian bellach yn ddiymwad, ac felly gofynnaf i Lywodraeth Cymru pa bryd y gwneir penderfyniad, lle mae cyflogaeth nifer o therapyddion yn ansicr ar ôl mis Mawrth 2021.

Pwysleisiwyd maint yr angen i mi unwaith eto yn ystod galwad ym mis Medi gyda'r elusen Icarus Online, sydd yn ei thrydedd flwyddyn ar ôl cael ei sefydlu mewn ymateb i'r problemau a wynebir gan gyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma a difrifoldeb eu symptomau. Mae Icarus yn darparu gofal, asesiadau a gwasanaeth adsefydlu uniongyrchol i gyn-filwyr milwrol, y gwasanaethau mewn lifrai a'u teuluoedd. Mae tîm o ddim ond 16 o bobl, pob un yn wirfoddolwr, yn trin 1,100 o bobl bob blwyddyn, gan lenwi bwlch o ran mynediad at driniaeth. Maent yn derbyn tri achos newydd bob dydd drwy eu gwasanaeth ateb a ddarperir gan Moneypenny yn Wexham.

Fel y dywed gwelliant 2, rhaid inni ymdrechu i gael penderfyniadau heddychlon i bob gwrthdaro ac i roi diwedd ar ryfeloedd, ac felly rydym yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru. Byddwn yn cefnogi gwelliant 2 yn unol â hynny.

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn penodi comisiynydd lluoedd arfog ar gyfer Cymru i fod yn atebol i Senedd Cymru, i hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog a sicrhau bod Cymru'n cynnal cyfamod y lluoedd arfog; sefydlu cerdyn y lluoedd arfog i ddarparu teithio am ddim ar fysiau, mynediad â blaenoriaeth i driniaeth y GIG, ac addasiadau yn y cartref ar gyfer anafiadau neu salwch sy'n gysylltiedig â gwasanaeth; mynediad am ddim i ganolfannau hamdden a safleoedd treftadaeth Cadw; cyflwyno premiwm i bobl y lluoedd arfog ar gyfer plant y rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog; dod â 150 eiddo tai cymdeithasol gwag yn ôl i ddefnydd, yn benodol ar gyfer cyn-filwyr milwrol sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref; a sicrhau bod gwaith cynnal a chadw'n digwydd ar gofebau rhyfel. Ni â'u cofiwn hwy.

18:40

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliant 1 a gyflwynwyd i'r cynnig, ac felly, galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Dai.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.

Yn credu bod yn rhaid i Gymru, ar adeg o heriau cenedlaethol a byd-eang na welwyd eu tebyg o'r blaen, chwarae ei rhan wrth lunio dyfodol heddychlon ac felly yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, ar yr unfed awr ar ddeg, ar yr unfed dydd ar ddeg, o'r unfed mis ar ddeg, bu i bawb dawelu, fel ar y Dydd Cadoediad cyntaf. Wrth gofio aberth y rhai a gollwyd, rydym ni hefyd yn cofio dioddefaint y rhai sydd wedi goroesi.

Bu fy nhaid yn ymladd ym mrwydr y Somme yn y rhyfel byd cyntaf ym 1916 ac, yn rhyfeddol, bu iddo oroesi, neu buaswn i ddim yma yn naturiol, ond goroesi mewn cryn ddioddefaint byth wedyn, tan ei farwolaeth gynamserol, yn wir, pan oeddwn i'n fachgen bach iawn. Wrth gwrs, mae aeolau a chyn aelodau ein lluoedd arfog ni wedi gweld pethau erchyll ac mae'n anodd iawn fyth ymdopi efo hynna, ac mae eisiau cefnogaeth yn wastadol ac mae yna lu o fudiadau yn darparu hynna, achos mae pobl wedi eu creithio am oes.

Wrth gofio taid, rhaid cael cynnydd hefyd ar waith heddwch. Rydym ni'n croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru, sef testun ein gwelliant, a gofynnaf yn garedig am eich cefnogaeth mewn ysbryd trawsbleidiol, a dwi'n croesawu cefnogaeth Mark Isherwood.

Mae Dydd y Cadoediad eleni yn dra wahanol—y cofio yn digwydd ar wahân, y fintai fechan o'r rhai sy'n goroesi yn lleihau bob blwyddyn, a'r cofio yng nghanol unigrwydd didostur y pandemig. Mae'n dyled yn enfawr i genhedlaeth taid a chenedlaethau mwy diweddar, eu haberth yn ingol.

Collwyd y bardd Hedd Wyn ym 1917, a'i eiriau iasol am ryfel, fel dwi wedi eu hadrodd o'r blaen mewn sawl gwasanaeth cadoediad:

'Mae'r hen delynau genid gynt / Ynghrog ar gangau'r helyg draw, / A gwaedd y bechgyn lond y gwynt, / A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.'

Felly, i gloi, yn ein dagrau, Dirprwy Lywydd, ac fel cyd-gyflwynwyr y cynnig, yn naturiol yr ydym yn cefnogi'r cynnig gerbron y Senedd heddiw ac yn diolch i bawb fu ynghlwm yn ei gyflwyno gerbron. Yn dechnegol, er mwyn cael pleidlais ar ein gwelliant ni, byddwn yn ymatal ar y cynnig cychwynnol, a dwi yn diolch yn fawr iawn am arweiniad Mark Isherwood, fel y byddan nhw hefyd yn cefnogi ein gwelliant. Mi fyddwn ni'n mynd am bleidlais ar ein gwelliant cyn cefnogi yn frwd y cynnig terfynol wedi ei wella. Diolch yn fawr.

Fel hyrwyddwr lluoedd arfog Cyngor Sir Fynwy ac fel wyres i uwchgapten fy hun, gwn am bwysigrwydd cydnabod gwaith, anghenion ac ymrwymiad ein lluoedd arfog. Mae'n briodol, felly, ein bod heddiw, ar Ddiwrnod y Cadoediad, yn cydnabod y ddyled enfawr sydd arnom i'r rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Maent yn gwasanaethu ein gwlad gydag ymroddiad, er gwaethaf y perygl i'w bywydau eu hunain, a'n dyletswydd iddynt yw darparu'r gofal a'r cymorth y maent yn eu haeddu i'r fath raddau.

Yn anffodus, mae'r cofio eleni wedi gorfod bod yn wahanol iawn: dim gorymdeithio, dim parêd, dim gŵyl. Mae'r ffaith bod y cofio eleni'n wahanol yn dangos pam ei fod yn bwysicach. Fel y mae Mark Isherwood eisoes wedi nodi, mae personél milwrol Prydain wedi chwarae ac yn parhau i chwarae rôl allweddol yn ymateb y wlad hon i'r pandemig. Ar anterth ymateb y lluoedd arfog, roedd 20,000 o filwyr yn barod fel rhan o lu cymorth COVID, gyda mwy na 4,000 yn cael eu defnyddio ar y tro. Yng Nghymru, helpodd personél milwrol i adeiladu'r ysbyty maes yn Stadiwm y Principality. Cafodd personél y lluoedd arfog eu cynnull i helpu gwasanaeth ambiwlans Cymru, fel yr amlinellwyd eisoes, a gweithiodd lluoedd milwrol yn Aberhonddu ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth cynllunio.

Mae gennym ddyletswydd i sicrhau nad anghofir ein lluoedd arfog yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Credaf fod ar Gymru angen comisiynydd y lluoedd arfog sy'n atebol i'r Senedd hon i hyrwyddo anghenion personél ein lluoedd arfog ac i sicrhau ein bod yn cynnal cyfamod y lluoedd arfog. Mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried a'u hymgorffori ym mhob maes polisi, ac mae angen i arian ddilyn i'r cynghorau er mwyn iddynt fodloni'r gofynion hynny.

Mae gadael y fyddin, yn aml ar ôl cyfnod hir o wasanaeth, yn cyflwyno llawer o heriau i gyn-bersonél y lluoedd arfog. Mae'n aml yn golygu eu bod yn gorfod adleoli, symud cartref, dod o hyd i waith newydd a newid ffordd o fyw. Yn aml, gall cyn-filwyr ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt wrth ddychwelyd i fywyd sifil. Mae cynllun adnabod cyflogwyr cyfamod y lluoedd arfog wedi gwneud llawer i ymgorffori a thynnu sylw at eu hanghenion wrth ddarparu gwasanaethau ar lefel cyngor sir, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Cyngor Sir Fynwy ar dderbyn eu gwobr aur yn ddiweddar, a chynghorau a chyflogwyr eraill ar draws fy ardal i yn Nwyrain De Cymru sydd wedi gwneud llawer o waith caled i newid meddyliau ac agweddau yng nghyswllt cyn-filwyr a'u hanghenion.

Byddem yn cyflwyno cerdyn y lluoedd arfog a fyddai ar gael i gyn-filwyr a phersonél presennol y lluoedd arfog. Byddai'n cynnig amrywiaeth eang o fanteision gan gynnwys teithio am ddim ar fysiau a mynediad am ddim i byllau nofio a safleoedd treftadaeth Cadw. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd cyn-filwyr milwrol o bob cenhedlaeth yn gallu elwa cyn bo hir ar deithio ar y rheilffyrdd am bris is diolch i fenter gan Lywodraeth y DU. Nod y cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr yw cefnogi cyn-filwyr ar ôl eu gwasanaeth, gan ddarparu hyd at draean o docynnau adegau tawel i oedolion, cymdeithion a phlant. Ar y pwynt hwn, hoffwn dalu teyrnged i holl waith caled Johnny Mercer AS, y Gweinidog dros bobl amddiffyn a chyn-filwyr, sydd â'r gorchwyl o ddwyn ynghyd holl swyddogaethau'r Llywodraeth i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael y gofal y maent yn ei haeddu. Mae ei waith caled a'i benderfyniad yn ei waith, gan dynnu ar ei brofiadau ei hun yn aml, wedi bod yn rhagorol. Dechreuodd y fenter Great Place to Work for Veterans, i helpu cyn-filwyr i ymuno â'r gwasanaeth sifil, ac mae'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn.

Lywydd, mae gan Gymru berthynas hir a balch â'r lluoedd arfog. Mae ein lluoedd arfog yn gwneud aberth enfawr i gadw'r wlad hon yn ddiogel. Mae'n iawn ein bod yn parhau i ddangos cymaint rydym yn gwerthfawrogi eu hymdrechion ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog. Mae llawer wedi'i wneud, ond mae llawer mwy y gallwn ac y dylem ei wneud. Diolch.

18:45

Credaf fod pob un ohonom yn cymryd amser i fyfyrio a chymryd amser i edrych eto ar y gwasanaeth a'r aberth y mae aelodau o'r lluoedd arfog wedi'i wneud, heddiw ac yn y gorffennol. I mi, rhywbeth y teimlwn ei fod yn arbennig o ingol eleni oedd canmlwyddiant claddu'r milwr dienw yn Abaty Westminster, ac efallai fod Aelodau wedi clywed hanes hynny'n cael ei adrodd ar Radio 4 yn y boreau ar hyn o bryd. Mae'n ffordd ryfeddol o dalu teyrnged i'r holl bobl ifanc a gollwyd yn y rhyfel byd cyntaf, ond mae'r stori ei hun a'r ffordd y digwyddodd hefyd yn ysbrydoliaeth inni heddiw.

Bydd cytundeb cyffredinol, rwy'n meddwl, ar draws y Siambr ynglŷn â phwysigrwydd canolog y cyfamod milwrol, a thalu ein dyled i gyn-filwyr ac i deuluoedd y rhai sy'n gwasanaethu. Rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros y blynyddoedd ar hyn, ac fel Gweinidog cyn-filwyr, yn sicr roeddwn am sicrhau bod y Llywodraeth—ac a bod yn deg, fel Senedd rydym bob amser wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol ar yr holl faterion hyn—yn sicrhau bod teuluoedd a chyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru yn cael y gefnogaeth orau, a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu'n barhaus.

Yr hyn yr hoffwn glywed mwy amdano gan Lywodraeth Cymru yw sut y gallwn sicrhau ein bod yn cefnogi ein lluoedd arfog presennol hefyd. Mae Cymru eisoes yn gwneud mwy na'r disgwyl o ran cyfrannu pobl ac adnoddau i luoedd arfog y DU, a hoffai llawer ohonom weld nifer lawer mwy o bersonél sy'n gwasanaethu wedi'u lleoli yng Nghymru, a strategaeth sy'n cysylltu cymorth i gymuned ehangach y lluoedd arfog â chymorth i'r rheini sy'n gwasanaethu heddiw. Mae hynny'n golygu cefnogi a buddsoddi yn y diwydiannau amddiffyn, sy'n rhan bwysig o'n heconomi eisoes, ac rydym am weld Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agosach gyda'r weinyddiaeth amddiffyn ar gaffael a datblygu'r adnoddau y gallwn eu darparu ar gyfer y lluoedd arfog heddiw.

Credaf ein bod i gyd hefyd am weld y pencadlys yn Aberhonddu yn cael ei gadw a'i gryfhau ynghanol rhwydwaith a seilwaith newydd, gan gynnal rôl newydd ac estynedig i'r lluoedd arfog yng Nghymru, gyda chanolfannau'n sicr ar gyfer y catrodau a'r trefniannau Cymreig, ond gan chwarae mwy o ran hefyd yn cynnal a chefnogi'r sefydliad milwrol ehangach. Hoffwn weld rheoliadau'r Frenhines, er enghraifft, yn cael eu diwygio i ddarparu lle i Gymru yn nhrefniadau rheoli ein lluoedd arfog. Mae sedd i Lundain ar fwrdd y fyddin—pam ddim i Gymru hefyd? Credaf fod yna agenda sy'n gofyn am weledigaeth ac uchelgais, gan gydweithio â phersonél sy'n gwasanaethu heddiw i sicrhau, wrth gofio aberth y gorffennol, ein bod hefyd yn buddsoddi mewn pobl a theuluoedd heddiw, ac ar gyfer y dyfodol.

Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i bob dyn a menyw sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd. Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dathlu rhyfel a nodi aberth unigolion. Yr olaf y byddwn i'n dymuno ei wneud. Pan oeddwn yn gweithio fel ymchwilydd yn San Steffan, gweithiais yn agos gydag Elfyn Llwyd a'n cyfaill rydym yn gweld ei golli'n fawr, y diweddar Harry Fletcher, ar faniffesto ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog. Cyhoeddwyd hwn yn 2014, a dilynai flynyddoedd o waith gan ein plaid, gan gynnwys sefydlu grŵp seneddol hollbleidiol ar gyfer cyn-filwyr ac ym mis Ionawr 2010, cyhoeddi papur gwaith gyda'r nod o gryfhau'r darpariaethau lles i gyn-filwyr.

Fel y dywedwyd, er bod y mwyafrif helaeth o gyn-filwyr yn ymaddasu nôl i fywyd sifil, bydd lleiafrif sylweddol yn wynebu anawsterau gyda digartrefedd, camddefnyddio sylweddau a chwalu perthynas. Nid oes unrhyw gyfeirio awtomatig at gymorth yn y broses gyfarwyddo wrth adael y fyddin. Galwodd ein maniffesto am i'r cyfamod milwrol gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, am i asesiadau iechyd meddwl fod yn rhan o'r weithdrefn drafod, yn ogystal â chymorth lles, gan gynnwys cyngor ar dai, cyflogaeth a rheoli arian, a galwasom am sefydlu system o lysoedd cyn-filwyr. Mae gormod o'r argymhellion heb gael gwrandawiad o hyd chwe blynedd yn ddiweddarach, felly rwy'n falch o gefnogi'r cynnig heddiw. Ond rwyf hefyd yn cymeradwyo gwelliant Plaid Cymru i'r Siambr. Mae'n dweud ein bod yn cefnogi'r angen i ymdrechu i sicrhau atebion heddychlon i bob gwrthdaro.

Dywedais ar ddechrau fy sylwadau fod gwahaniaeth rhwng cefnogi a diolch i unigolion a mawrygu'r rhyfeloedd roeddent yn ymladd ynddynt. Ar Ddiwrnod y Cadoediad, mae ymwybyddiaeth gyfunol Ewrop yn canolbwyntio ar ddiwedd rhyfel penodol, y rhyfel a oedd i fod i roi diwedd ar bob rhyfel. Yn Goodbye to All That, dywed Robert Graves am y cadoediad,

Achosodd y newyddion i mi fynd allan i gerdded ar fy mhen fy hun ar hyd y gorglawdd uwchben morfeydd Rhuddlan... gan regi ac wylo a meddwl am y meirw.

Enillwyd yr heddwch, ond ni allai guddio oferedd rhyfel na thrueni disynnwyr y ffaith bod cynifer wedi marw. Rwyf am orffen fy sylwadau ag englyn gan William Ambrose, neu 'Emrys':

'Celfyddyd o hyd mewn hedd—aed yn uwch / O dan nawdd tangnefedd; / Segurdod yw clod y cledd, / A rhwd yw ei anrhydedd.'

Gellir aralleirio'r cwpled olaf yn llac fel,

Mae cleddyf ar ei orau pan fo'n segur a'r rhwd arno sy'n ei wneud yn wych.

18:50

Wyndham Davies, Arthur Jenkins, Richard Jones, David Lumley, Edward Meredith, Albert Metcalfe, Thomas Shelton a William Davies—enwau'r rhai a fu farw yn yr ail ryfel byd a ddarllenwyd yn y gwasanaeth coffa a fynychais yn Rhaglan y bore yma. Ac mewn trefi a phentrefi ledled y wlad, roedd nifer dirifedi'n fwy o enwau'n cael eu darllen ar yr un pryd—enwau rhai a wasanaethodd na fyddai neb ond eu teuluoedd yn eu hadnabod bellach mae'n debyg, ond hebddynt, mae hi bron yn sicr na fyddem yn y Siambr hon heddiw gyda'r rhyddid i drafod y pynciau rydym am eu trafod heddiw.

Mae gan Gymru dreftadaeth filwrol falch—dynion a menywod yn ein gorffennol diweddar a alwyd i amddiffyn, ymosod ac mewn rhai achosion, i roi eu bywydau yn enw rhyddid. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i bob un ohonom ac unwaith eto, mae'r lluoedd arfog wedi parhau i ddangos eu cyfraniad i Gymru yn wyneb adfyd y pandemig byd-eang. Fel cenedl, rydym bob amser wedi bod yn falch o'n lluoedd arfog am yr hyn y maent wedi'i aberthu ac am y rôl y maent bellach yn ei chwarae yn cefnogi buddiannau'r DU o gwmpas y byd. Ar nodyn personol, deuthum yn arbennig o ymwybodol o'r pethau a wynebir gan deuluoedd y lluoedd arfog pan briodais i mewn i deulu o'r fath. Mae fy nhad-yng-nghyfraith ei hun yn gyn-filwr. 

Mae fy etholaeth i, Mynwy, yn gartref i Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy, y gatrawd uchaf ym myddin Prydain o filwyr wrth gefn, ac mae wedi rhoi gwasanaeth ffyddlon parhaus i'r Goron ers 1539. Mae'n rhan o'n lluoedd wrth gefn a dyma'r unig fyddin sirol sydd ar ôl ym myddin Prydain. Fel y bydd yr Aelodau'n deall rwy'n siŵr, yn y ddadl hon ni allwn beidio â sôn am ein cysylltiadau ag HMS Monmouth yn yr etholaeth. Y llong drawiadol hon yw'r seithfed i dwyn yr enw hwnnw yn y Llynges Frenhinol, ac mae iddi hanes sy'n rhychwantu 354 o flynyddoedd. Yn 2018, hi oedd y llong gyda'r nifer fwyaf o anrhydeddau brwydr o'r holl longau sy'n gwasanaethu yn y llynges ar hyn o bryd. 

Nawr, mae Paul Davies ac Aelodau eraill yn y Siambr heddiw wedi sôn yn flaenorol am bwysigrwydd ein cofebau rhyfel ledled Cymru. Mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled Cymru, maent yn rhan o'n hanes cyffredin, gan gysylltu teuluoedd a lleoedd yn eu hymdrechion cyffredin yn y gorffennol ar ran y wlad. Y maent yn ein hatgoffa o'r hyn sydd wedi digwydd, a hefyd yr hyn sy'n siapio ein dyfodol. Rydym yn ffodus i gael byw mewn democratiaeth ryddfrydol, lle rydym yn mwynhau'r math o ryddid a chyfle nad yw cynifer o bobl eraill yn eu cael. Mae'r cofebau hyn yn fy atgoffa o'r ffaith bod yr hyn a amddiffynnwyd yn wyneb adfyd yn y ganrif ddiwethaf mor hynod o werthfawr, ond hefyd, rhaid inni barhau i werthfawrogi, parchu ac amddiffyn y rhyddid hwnnw bob dydd, nid yn unig i ni ein hunain, ond i'n gilydd. 

Dylem fod yn falch ac yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae ein lluoedd arfog wedi'i rhoi i Gymru dros y saith mis diwethaf, ond nid yw'n ddigon i ni fod yn ddiolchgar. Rhaid inni ddangos angerdd dros ein holl wasanaethau arfog am eu hymroddiad, ac am yr hyn y maent yn parhau i'w wneud ar ein rhan ni oll.

18:55

Fel y dywedwyd o'r blaen, fel yn achos llawer o gymunedau ledled Cymru, roedd Sul y Cofio yn wahanol iawn yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac roedd yr un fath ar draws y Deyrnas Unedig. Ond roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cyfle i osod torch i gofio'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf i gadw ein rhyddid. Fodd bynnag, gwelais golli gweld ffrindiau a chymdogion ar yr hyn sydd fel arfer yn achlysur mawr yn y calendr dinesig. Fodd bynnag, roedd hi'n iawn fod cyn-filwyr yn parhau i fod yn ganolog yn nigwyddiadau dydd Sul a heddiw, a gwn y bydd y Gweinidog wrth ei fodd yn gwybod bod Tom Oldfield, sy'n 94 oed, yn bresennol yn y gwasanaeth, er mawr falchder i'w deulu, fel bob amser. Bydd y Gweinidog yn gwybod ein bod yn hynod ddiolchgar i Tom yng Nghei Connah.

Lywydd, cawsom newyddion trist yn Alun a Glannau Dyfrdwy yr wythnos hon. Collasom wir arwr. Roedd Gilbert Butler yn 19 oed pan gymerodd ran yng nglaniadau D-day. Yn 91 mlwydd oed, cafodd Gilbert anrhydedd uchaf Ffrainc am ei ddewrder—y Légion d'honneur. Ac fe'i cyflwynwyd i Gilbert gan fy nhad bedair blynedd yn ôl. Hoffwn fanteisio ar y cyfle heddiw i ddweud, 'Gorffwyswch mewn hedd, Gilbert, diolch am bopeth a roesoch i ni'. Rwy'n meddwl am anwyliaid Gilbert ar yr adeg drist hon.

Lywydd, os caf, hoffwn gofnodi hefyd fy niolch i'r lluoedd arfog am y ffordd y maent wedi gweithio i fynd i'r afael â her y coronafeirws, a'r holl waith y byddant yn parhau i'w wneud yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r ddadl hon yn gyfle i gofio, ac i gofnodi ein teyrnged drawsbleidiol i bawb a roddodd gymaint fel y gallem fod yn rhydd. Wrth gloi, Lywydd, hoffwn ddweud: pan elo'r haul i lawr, ac ar wawr y bore, ni â'u cofiwn hwy.

Mae'r newyddion heddiw'n sôn am y rhyfeloedd newydd—Affganistan ac Irac—ac mae ein helusennau a'n Llywodraethau'n ceisio ailadeiladu'r bywydau ifanc presennol sydd wedi'u clwyfo, a chefnogi'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid mewn rhyfeloedd diweddar. Rwyf am sôn am gyn-filwyr y rhyfeloedd anghofiedig—pobl fel fy nhad, oherwydd mae'n cynrychioli hanfod y dynion a'r menywod cyffredin iawn yn y lluoedd arfog sydd wedi gwasanaethu ers yr ail ryfel byd mewn rhyfeloedd llai adnabyddus. Fel llawer o'i genhedlaeth, dyn cyffredin a wnaeth bethau eithriadol.

Yn iau nag unrhyw Aelod o'r Senedd erioed, ef oedd un o'r ychydig bobl a arweiniodd ddynion i jyngl Myanmar yn ystod y gwrthryfel comiwnyddol, ac arweiniodd y rhan fwyaf ohonynt yn ôl allan eto. Dyn cyffredin a weithiai'n gudd mewn sefyllfaoedd peryglus nad yw ei deulu ond yn dysgu amdanynt yn awr wrth i'w oed ennill y frwydr. Dyn cyffredin a gymerodd ran yn y Falklands, ac y gwelodd ei gyfoeswyr wasanaeth mewn rhyfeloedd a anghofiwyd fel rhyfel Korea, argyfwng Suez, Kenya, Nigeria, Sierra Leone, Cyprus, Dhofar, Lebanon, Bosnia, Kosovo, Iwerddon. Ac yn rhy aml, pan fyddent yn dychwelyd, byddent yn wynebu gelyniaeth gyhoeddus a chyflogwyr di-hid. Ac eto, nid personél y lluoedd arfog sy'n gyfrifol am yr hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir am ein hymwneud mewn rhyfel, ond ni fel gwleidyddion yn llunio polisïau, a ni fel dinasyddion sy'n pleidleisio dros y gwleidyddion hynny, a dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r Bil Gweithrediadau Tramor (Personél a Chyn-filwyr y Lluoedd Arfog), er mwyn mynd i'r afael â'r ymlid diddiwedd ar bersonél y lluoedd arfog sy'n gwneud penderfyniadau bywyd a marwolaeth o dan bwysau eithriadol mewn amgylcheddau gelyniaethus. 

Hoffwn hefyd gydnabod a diolch i'r elusennau a'r sefydliadau niferus sy'n cefnogi personél y lluoedd arfog, ond y realiti yw na ddylid dibynnu ar yr elusennau hyn fel y prif fecanweithiau cymorth i gyn-filwyr. Gwn fod honno'n bregeth gyson a glywir gan y Llywodraeth, ond dylem gofio bod gan gyn-bersonél y lluoedd arfog set wahanol o brofiadau i'r rhan fwyaf ohonom. Maent wedi bod yn rhan o gymuned unigryw iawn, lle mae ymddiriedaeth, trefn a pharch yn gerrig sylfaen, mae'r gadwyn reoli'n gryf, ac mae cychwyn ar fywyd sifil i rai yn mynd yn groes i'r cyfan y maent yn ei wybod, ac mae'n eu torri. Mae llawer yn mynd yn ddi-waith, yn ddigartref ac yn teimlo'n ddiwerth. A dyna pam y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau bod 150 o dai cymdeithasol gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, yn benodol ar gyfer cyn-filwyr milwrol sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Lywydd, pobl gyffredin wirioneddol ryfeddol yw personél y lluoedd arfog. Maent yn gwasanaethu ac yn aberthu heb ddisgwyl gwobr, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd gydnabod hynny a chefnogi'r cynnig hwn.

19:00

Ar y diwrnod hwn rydym yn coffáu'r diwrnod y distawodd y gynau yn y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Yn anffodus, nid dyma oedd diwedd rhyfeloedd, ond nodwn ddiwedd y rhyfel mwyaf enbyd hwn bob blwyddyn a choffáu pawb a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd arfog drwy gydol yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Yn anffodus, mae angen mynd i ryfel weithiau er mwyn trechu'r drwg a diogelu'r diniwed. Diolch byth, mae dynion a menywod yn barod i roi eu bywydau i amddiffyn ein bywydau a'n rhyddid ni. Ar y diwrnod hwn cofiwn yr aberth hwnnw.

Dechreuodd y traddodiad o nodi Diwrnod y Cadoediad yn 1919. Y flwyddyn ganlynol, datgladdwyd cyrff milwyr dienw o Brydain o bedair ardal lle bu brwydro. Daethpwyd â'u gweddillion i'r capel yn St Pol. Aeth y Brigadydd L. J. Wyatt i mewn i'r capel lle gorweddai'r cyrff ar stretsieri wedi'u gorchuddio â baneri'r undeb. Nid oedd ganddo syniad o ba ardal y daethai'r cyrff. Dewisodd y Brigadydd Wyatt un, a oedd wedi'i osod mewn arch blaen wedi'i selio. Cafodd y tri chorff arall eu hailgladdu. Cludodd y llong ryfel, HMS Verdun, yr arch i Dover, ac yna fe'i cludwyd ar drên i orsaf Victoria, yn Llundain, lle bu'n gorffwys dros nos. Ar fore 11 Tachwedd, gosodwyd yr arch gan y cludwyr o drydydd bataliwn y Coldstream Guards ar gerbyd gwn a dynnwyd gan chwe cheffyl du o Fagnelau'r Ceffylau Brenhinol. Yna dechreuodd ar ei thaith drwy'r torfeydd ar y strydoedd, gan aros yn gyntaf yn Whitehall, lle dadorchuddiwyd y Senotaff gan y Brenin George V. Gosododd y Brenin ei dorch o rosynnau coch a dail llawryf ar yr arch, ac ar ei gerdyn roedd y geiriau, Er cof balch am y rhyfelwyr a fu farw'n ddienw yn y Rhyfel Mawr. Dienw, ac eto'n enwog. Yna aethpwyd â'r arch i Abaty Westminster, a gosodwyd corff y milwr dienw i orffwys ym mhen gorllewinol yr eglwys. Dyma fedd y milwr dienw.

Felly, bob blwyddyn, ar Ddiwrnod y Cofio, rwy'n diolch ac yn talu teyrnged i'r milwyr dienw a roddodd eu bywydau ar ein rhan. A hyd yn oed heddiw, 102 mlynedd yn ddiweddarach, mae milwyr yn dal i aberthu i ddiogelu ein rhyddid. A chofiwn yr aberth a wnaed ac anrhydeddwn a oroesodd, a gwnawn hyn drwy anrhydeddu cyfamod y lluoedd arfog. Ni â'u hanrhydeddwn, ni â'u cofiwn. Diolch yn fawr.

Ledled y byd, mae gwledydd yn coffáu Diwrnod y Cadoediad a Diwrnod y Lluoedd Arfog. Mae'n gydnabyddiaeth o'r aberth a wneir gan filwyr, lle bynnag y bônt, i gefnogi rhyddid a democratiaeth, ym mha wlad bynnag y maent yn byw. Ymhlith gwledydd y byd, yn anffodus, rhyfel fu'r digwyddiad mwyaf cyffredin rhyngom drwy gydol ein hanes modern. Gwahanol ddiwylliannau, ffurfiau gwahanol iawn ar Lywodraeth yn aml, ond i gyd â chred gyffredin ym mhwysigrwydd amddiffyn rhyddid cyffredinol. Mae miliynau o bobl wedi aberthu eu bywydau fel hyn, ac yng Nghymru a'r DU a ledled y byd, rydym yn cydnabod yr aberth eithaf a wnaed gan gynifer yn y gorffennol, y presennol ac yn anffodus, y rheini a ddaw yn y dyfodol.

Rydym i gyd yn dod o gefndir a threftadaeth wahanol, ond mae gan bob un ohonynt barch cyffredin. Roedd fy nhad yn ffoadur o Ukrain, gwlad a gollodd 10 miliwn o bobl yn ystod yr ail ryfel byd, a gwlad sydd, yn anffodus, yn dal i ryfela. Bu farw un o fy ewythrod yn y Fyddin Goch, wrth iddo groesi Afon Oder, yn y cyrch ar Berlin. Bu farw ewythr arall yn y rhyfel pleidiol yn erbyn Stalin, ym mis Hydref 1951. A gwelwn heddiw brotestiadau ym Melarws, lle mae pobl yn ymladd dros ddemocratiaeth—gwlad a gollodd tua 6 miliwn o bobl yn ystod yr ail ryfel byd a gallwn hefyd edrych ar ein ffrindiau yn Ewrop sydd â phrofiadau tebyg. Mae gan bob un ohonom yn y Senedd hon ein hanesion teuluol ein hunain i fyfyrio arnynt ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gofio'r miloedd o bobl a'u teuluoedd a wasanaethodd eu gwlad, pobl sydd wedi aberthu eu bywydau neu eu lles, naill ai drwy salwch corfforol neu feddyliol. Ac rwy'n falch fod hwn yn fater sydd mor aml yn ein meddyliau ac yn ein dadleuon yn y Senedd hon.

Un ffactor sy'n uno'n derfynol i bawb sy'n gwasanaethu yn lluoedd arfog eu gwlad, ym mha ran bynnag o'r byd y maent ynddi, yw cydnabyddiaeth o erchyllterau rhyfel ac mai'r fuddugoliaeth bwysicaf iddynt hwy, iddynt i gyd, fyddai sicrhau gwaddol o fyd lle gallwn i gyd fyw gyda'n gilydd mewn heddwch, rhyddid a ffyniant. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

19:05

Mae'r Aelodau'n aml yn dechrau cyfraniad drwy ddiolch neu longyfarch yr Aelod sydd wedi gwneud y cynnig i'w drafod. Yn y modd hwnnw, diolch i Mark Isherwood fel y sawl a gyflwynodd y cynnig, a Darren Millar am ei osod. Fodd bynnag, hoffwn fynd y tu hwnt i'r fformiwla safonol honno heddiw i gydnabod y gwaith sylweddol iawn y mae Darren Millar wedi'i wneud dros flynyddoedd lawer mewn nifer o wahanol ffyrdd i gefnogi'r lluoedd arfog yng Nghymru ac i gysylltu'r sefydliad hwn mor gryf â'u gwaith. Diolch, Darren.

Wrth gwrs, nid yw'r gwaith y bydd unrhyw un ohonom fel Aelodau yn ei wneud yn cymharu â'r risgiau a'r aberth y mae aelodau o'n holl luoedd arfog yn ei wneud ar ein rhan. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn cofio'r aberth eithaf a wnaed gan gynifer dros y rhyddid a'r heddwch cymharol a fwynhawn heddiw a gwaith ein lluoedd arfog heddiw i helpu i gynnal hynny.

Soniodd Mick cyn i mi siarad am ein gwahanol dreftadaethau, ac mae fy mam yn Wyddeles a bu fy nhad-cu yn gwasanaethu fel aelod o Fianna Fáil yn y Dáil yn Nulyn, ac eto dim ond un tymor a wasanaethodd. A chredwn, neu o leiaf dyma rwy'n ei ddeall gan y teulu, fod hyn yn rhannol o leiaf am ei fod yn credu y dylai Iwerddon fod wedi mabwysiadu polisi mwy cefnogol i Brydain yn ystod yr ail ryfel byd yn hytrach na niwtraliaeth lem a ddaeth i ben gyda'r neges honno ar farwolaeth Hitler gan Arlywydd Iwerddon.

Rwy'n falch nawr bod pobl yn Iwerddon a wasanaethodd yn lluoedd arfog Prydain, boed yn y rhyfel byd cyntaf neu'r ail ryfel byd neu fel arall, bellach yn cael eu cofio ac yn cael eu haeddiant. Mae hynny'n rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr ac yn bwysig iawn i'w teuluoedd.

Rydym hefyd yn cydnabod heddiw y gefnogaeth y mae ein lluoedd arfog yn ei rhoi i awdurdodau sifil mewn ffyrdd allweddol eraill, gan gynnwys rhaglen frechu COVID nawr o bosibl. Oherwydd COVID, nid yw llawer ohonom wedi gallu mynychu gwasanaethau coffa eleni yn y ffordd y gwnawn fel arfer. Felly rwy'n cloi gyda'r geiriau cyfarwydd hynny, nad ydynt byth yn pylu o'u hailadrodd:

Ni heneiddiant hwy, fel ni, a adawyd: / Ni ddwg oed iddynt ludded, na’r blynyddoedd gollfarn mwy. / Pan elo’r haul i lawr ac ar wawr y bore, / Ni â’u cofiwn hwy.

Ar Ddiwrnod y Cadoediad, nodwn aberth eithaf y rhai a roddodd eu bywydau fel y gallwn heddiw fyw ein bywydau ni yn rhydd o orthrwm, hiliaeth a ffasgaeth. Ni fyddwn yn anghofio'r holl rai sydd wedi marw yn sgil eu galw i wasanaethu eu gwlad na'r rhai yr effeithir arnynt mewn cynifer o ffyrdd o hyd heddiw mewn rhyfel a gwrthdaro. Ni fyddwn ychwaith yn anghofio'r miliynau o deuluoedd Iddewig—plant a babanod, brodyr a chwiorydd—a arteithiwyd ac a lofruddiwyd yn systematig ac yn erchyll, ynghyd â grwpiau ethnig eraill, yr anabl a charcharorion gwleidyddol. Ni fyddwn yn eich anghofio.

Y bore yma, nodais foment hanesyddol y cadoediad ar yr unfed awr ar ddeg ar yr unfed diwrnod ar ddeg o'r unfed mis ar ddeg yn Nhŷ Penallta, pencadlys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, lle cyfarfu cynrychiolwyr y lluoedd arfog a bywyd dinesig mewn seremoni gan gadw pellter cymdeithasol i anrhydeddu'r rhai a fu farw.

Heddiw, mae'r defnydd o'r lluoedd arfog yn ystod argyfwng y pandemig hwn yn ein hatgoffa o'r aberth sy'n dal i gael ei wneud, ond mae llawer wedi talu a byddant yn parhau i dalu'r pris eithaf. Ac mae hyn yn rhywbeth na all neu nad yw llawer o bobl yn ei ystyried yn ganlyniad i'r gwaith a wnawn. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn anrhydeddu'r rheini sydd wedi marw mewn brwydrau a'n bod yn anrhydeddu'r rhai sy'n barod i frwydro yn ein henw. Heddiw gwnaeth ysgolion ar draws Islwyn yr un peth, fel y gwnaeth Ysgol Gynradd y Coed Duon, a oedd hefyd yn anrhydeddu pawb sydd wedi rhoi eu bywydau, gyda gwasanaeth rhithwir i'r ysgol gyfan. Ac rwyf am gofnodi fy ngwerthfawrogiad i ysgolion fel ysgol gynradd y Coed Duon, a oedd, yn y flwyddyn ryfedd hon, yn coffáu gyda'r genhedlaeth nesaf o gymuned yr ysgol yn dod at ei gilydd i nodi'r achlysur arbennig hwn. Y plant hyn yw ein dyfodol, a byddwn yn eu cofio.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, gwn hefyd faint y mae Darren Millar yn ei wneud i gefnogi ein lluoedd arfog. Mae'n gadeirydd galluog ar y grŵp trawsbleidiol, ac felly, ar y mater hwn, hoffwn adleisio ei alwad yn llwyr, a galwad Llywodraeth Cymru, am gefnogaeth barhaus i gyfamod y lluoedd arfog. Gwn, yn bersonol, fod cymuned y lluoedd arfog yn gwerthfawrogi'r cyfamod yn fawr, fel y mae'r awdurdodau sy'n ei weithredu, eu hyrwyddwyr lluoedd arfog ac wrth gwrs, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae'n arwydd o ddod ynghyd, lle mae cymaint yn ein rhannu. Felly, heddiw, yfory ac am byth, byddwn yn cofio'r rhai a fu farw o Islwyn a Chymru a phawb sy'n parhau i wasanaethu er mwyn ein cadw'n rhydd.

19:10

Diolch. Bob mis Tachwedd, wrth inni oedi ar gyfer Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad, cawn ein hatgoffa o ddewrder ac aberth aruthrol ein lluoedd arfog blaenorol a phresennol ynghyd â'u teuluoedd. Mae'n dyst i'r gwasanaeth a'r aberth hwnnw fod y cynnig sydd ger ein bron wedi'i gyflwyno gyda chefnogaeth drawsbleidiol ac mae'n iawn ein bod gyda'n gilydd yn cofio ac yn cydnabod cymunedau ein lluoedd arfog yma heddiw ar Ddiwrnod y Cadoediad. Rwy'n falch o allu ymateb ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'n fraint cael arwain ar ein gwaith i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yng Nghymru.

Cynhelir digwyddiadau'r cofio eleni o dan amgylchiadau gwahanol iawn. Ar adeg pan ofynnir i bawb yng Nghymru aberthu, cofiwn y cenedlaethau o'n blaenau a aberthodd—yr aberth eithaf yn achos llawer ohonynt—i'n cadw'n ddiogel. Arweiniodd y Lleng Brydeinig Frenhinol yr ymgyrch i annog pobl i roi pabi yn eu ffenestri ac ymuno â gweithred goffa gyfunol i nodi'r ddwy funud o ddistawrwydd ar garreg ein drws. Mae'r cyfryngau lleol a chenedlaethol wedi darlledu llawer o straeon gwych ynglŷn â sut y mae pobl a chymunedau wedi dod o hyd i ffyrdd diogel ac arloesol o gofio a pharhau i godi arian ar gyfer apêl y pabi.

Wrth fwrw golwg ar y cyfryngau cymdeithasol, bu bron i mi grio wrth weld ffigur cyfarwydd, mewn gorchudd wyneb, yn y cefndir mewn gwasanaeth llai na'r arfer yng Nghei Connah, y tu ôl i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy. A diolch i fy nghyd-Aelod am ei deyrnged garedig i fy hen ewythr Tommy Oldfield, sydd bellach yn 94 oed, ac yn un o gyn-filwyr balch glaniadau D-day. Manteisiodd llawer ohonom yma heddiw hefyd ar y cyfle i nodi'r achlysur yn briodol yn ein cymunedau ein hunain, a chefais y fraint o fynychu gwasanaeth bach gan gadw pellter cymdeithasol yn yr Wyddgrug, y tu allan i eglwys y Santes Fair, yn ogystal â thalu teyrnged yn ddiogel ac ar wahân yn Neuadd Treffynnon, y Fflint a Llaneurgain.

Ddirprwy Lywydd, mae'n iawn ein bod yn cofio maint y dinistr y gall rhyfel ei achosi. Roedd yr ail ryfel byd ei hun yn un o'r rhyfeloedd mwyaf angheuol mewn hanes, a chollodd llawer o pobl gyffredin eu bywydau hefyd. Ni ddylid anghofio aberth dewr y rhai a ymladdodd dros ein rhyddid ac a roddodd eu bywydau dros ein gwlad. Eleni, rydym wedi coffáu digwyddiadau arwyddocaol. Er eu bod efallai wedi'u nodi mewn ffordd wahanol oherwydd COVID-19, ni wnaeth leihau ein gwerthfawrogiad, ein cydnabyddiaeth a'n parch mewn unrhyw fodd.

Buom yn nodi 80 mlynedd ers brwydr Prydain a dathlwyd 75 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ hefyd. Eleni cefais y fraint o siarad â chyn-filwyr o'r ail ryfel byd a chefais fy nghyffwrdd a fy ysbrydoli gan eu profiadau. Un o'r rhain oedd Mr Ronald Jones. Er gwaethaf anafiadau yn ystod yr ymosodiad ar Ffrainc, dychwelodd Mr Jones, cyn-sarjant o Ail Blatŵn 17eg Cwmni Maes y Peirianwyr Brenhinol, yn ddewr i faes y gad ar ddau achlysur gwahanol. Bydd llawer ohonom yn ymwybodol o straeon rhyfeddol eraill tebyg, ac rydym wedi clywed y rheini'n cael eu rhannu mewn cyfraniadau heddiw—atgofion y dylid eu rhannu a'u cadw am genedlaethau i ddod.

Rydym yn falch iawn o'r genhedlaeth hynod honno a ddaeth o'n blaenau, ac rwy'n falch o'r cyfan a wnawn heddiw yng Nghymru i gefnogi ein cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, gan gydweithio tuag at achos cyffredin, drwy grŵp arbenigol y lluoedd arfog a'r grŵp trawsbleidiol, gan fynd ati ar y cyd i roi llais i gymuned y lluoedd arfog.

Mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi ehangder y cymorth sydd ar gael a'r cynnydd cydweithredol rydym wedi'i wneud, o'r gefnogaeth barhaus o £700,000 y flwyddyn i GIG Cymru i Gyn-filwyr; darparu £120,000 i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol, cyllid sydd wedi galluogi Blesma i sefydlu eu prosiect brecinio a chynhwysiant digidol; hyrwyddo rhaglen Cefnogi Addysg Plant y Lluoedd Arfog, SSCE Cymru, a sicrhaodd gyllid ymddiriedolaeth y cyfamod mewn cydweithrediad â'r fyddin yng Nghymru ar gyfer pedwar swyddog cyswllt ysgolion rhanbarthol; ac roeddwn yn falch o allu cadarnhau £275,000 ychwanegol y flwyddyn am ddwy flynedd o 2021 ymlaen er mwyn galluogi swyddogion cyswllt rhagorol a gweithredol y lluoedd arfog i barhau yn eu rolau. Rydym yn parhau i gyfarfod a gweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol gyda'i gilydd, gan ystyried a datrys unrhyw faterion a nodir. Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, rydym yn cefnogi ac yn cymryd rhan yn y cynllun cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr, i alluogi cyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd i deithio am bris gostyngol ar draws y DU.

Byddwn bob amser yn ymdrechu i fynd ymhellach yn ein cefnogaeth i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu a'u teuluoedd. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno'r fenter Great Place to Work for Veterans o fewn y Llywodraeth yma, i gydnabod y sgiliau a'r galluoedd y mae cyn-filwyr yn eu cynnig i'r gweithle. Ar 30 Tachwedd, byddaf yn lansio ein dogfen 'Manteisio ar Dalent Filwrol'. Wedi'i chreu mewn partneriaeth â Llywodraeth yr Alban a Busnes yn y Gymuned Cymru, mae'r ddogfen wedi'i hanelu at wŷr a gwragedd priod a phartneriaid personél sy'n gwasanaethu ac mae'n nodi'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr. Sefydlwyd grwpiau gweithredu newydd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chyflogaeth, pontio, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, a chyllid, yn dilyn ein hymarfer cwmpasu cynhwysfawr ar y lluoedd arfog. Mae'r grwpiau eisoes yn cyfarfod ac yn gwneud cynnydd ac yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sy'n cefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd.

Er bod cyfnod y cofio yn naturiol yn cynnig cyfle i dalu teyrnged i wasanaeth blaenorol, byddai'n esgeulus ohonof i beidio â manteisio ar y cyfle heddiw i dalu teyrnged i aelodau presennol ein lluoedd arfog, sydd wedi camu i'r adwy eleni i gefnogi ein cymunedau a'n gwlad wrth inni wynebu heriau'r pandemig coronafeirws. Mae eu cymorth wedi bod yn ganolog i gefnogi ein GIG a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau drwy ddarparu arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau hanfodol i helpu i fynd i'r afael â COVID-19, ond gwyddom fod eu cyfraniad yn mynd yn llawer pellach, ac mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod nid yn unig y rôl flaenllaw y mae ein lluoedd arfog yn ei chwarae, ond y manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach a roddant i'r cymunedau lle maent wedi'u lleoli.

Rydym yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru, a dylem bob amser ymdrechu i sicrhau atebion heddychlon a chydnabod y rôl y mae ein lluoedd arfog wedi'i chwarae mewn gweithrediadau i gadw'r heddwch ledled y byd. Fel cynnydd, nid yw heddwch yn anochel. Rydym wedi dod mor bell wrth ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn a thrwy barhau i weithio mewn partneriaeth yng Nghymru, byddwn yn adeiladu ar ein cefnogaeth i'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu. Ni fyddwn yn anghofio, byddwn yn cofio, a byddwn bob amser yn cefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Diolch yn fawr.

19:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl dda iawn ei hysbryd? Cafwyd rhai cyfraniadau rhagorol, ac fel bob amser, rhaid imi atgoffa fy hun fod y lluoedd arfog a'r cyfraniad a chwaraeant i'r Gymru fodern yn ogystal â'n hanes wedi bod yn gwbl aruthrol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed mwy, unwaith eto, am hanesion teuluol pobl, gan gynnwys y Gweinidog, gyda Dewyrth Tom; Angela Burns yn sôn am gyfraniad ei thad i wasanaeth milwrol; ac wrth gwrs y straeon a glywsom gan Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol a'i sylwadau ar y ddadl, ac wrth gwrs, y gŵr bonheddig o Alun a Glannau Dyfrdwy—credaf mai Gilbert oedd ei enw. Ni chlywais ei gyfenw'n iawn; rwy'n credu mai Gilbert Butler ydoedd. Am ddyn hynod. Pobl a ymladdodd dros ein gwlad, pobl sydd wedi aberthu'n aruthrol, a rhai ohonynt yn dal gyda ni—arwyr y gallwn eu hanrhydeddu a dewis eu hanrhydeddu cymaint ag y gallwn—ond mae gormod ohonynt, yn anffodus, wedi syrthio ar faes y gad a ddim yma heddiw. A dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod, ar Ddiwrnod y Cadoediad eleni, yn eu cofio i gyd.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb hael i'r ddadl hefyd? Rwy'n credu y bu cydweithio rhagorol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran hyrwyddo'r gefnogaeth i deulu'r lluoedd arfog ac i gyn-filwyr, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, roedd yn wych cael gwahoddiad i gymryd rhan yng ngrŵp arbenigol Llywodraeth Cymru. Eich rhagflaenydd, Alun Davies, cyn Weinidog y lluoedd arfog a gyfrannodd at y ddadl heddiw, a agorodd y cyfle i wneud hynny, a chredaf fod yr ymgysylltiad wedi bod yn wirioneddol gadarnhaol ac mae wedi dwyn manteision sylweddol i gymuned ein lluoedd arfog.

Gwyddom nad oes dim yn berffaith, mae gwelliannau y gallwn eu gwneud o hyd, ond cafwyd cyflawniadau aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig i'n cyn-filwyr gyda'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaethoch restru rhai ohonynt ychydig funudau'n ôl, gyda'r cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr eleni, y fenter lle gwych i weithio, sy'n gwarantu cyfle i gyn-filwyr gael cyfweliad os oes ganddynt set sgiliau iawn ar gyfer swyddi yn y gwasanaeth sifil. Mae'r rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol iawn, fel oedd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yn y flwyddyn ar gyfer swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog, sy'n gwneud gwaith hollbwysig ar y rheng flaen yn ein hawdurdodau lleol a chan weithio gyda byrddau iechyd hefyd, i geisio cydgysylltu popeth. Felly, hoffwn dalu teyrnged i chi, fel Gweinidog y Llywodraeth, am y gwaith hwnnw. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud bob amser. Gwyddom fod angen mwy o gapasiti ar GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn gallu cynyddu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu i'n cyn-filwyr i gau'r bylchau yn yr amseroedd aros, a gwyddom fod angen gwneud gwaith pellach ar ochr Llywodraeth y DU hefyd, yn enwedig mewn perthynas â chynnal yr ôl troed milwrol yma yng Nghymru, sydd wedi bod dan bwysau dros y blynyddoedd wrth gwrs, ond rydym yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chi fel Llywodraeth Cymru yn ein hawydd i gynnal yr ôl troed milwrol hwnnw. Rydym yn cydnabod y budd economaidd sylweddol y mae Cymru'n ei gael ohono.

Mae'n ingol iawn heddiw ein bod yn dathlu—neu'n nodi, yn hytrach—can mlynedd ers claddu'r milwr dienw yn Westminster. Roedd yn ddiddorol clywed manylion llawn y stori honno gan Caroline Jones—stori deimladwy iawn, rwy'n credu, ynglŷn â sut y bu i'r corff hwnnw gael ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Westminster. A bydd stori ar ôl stori y gall pobl eu rhannu am unigolion a ddioddefodd, sy'n arwyr di-glod allan yno, ond roedd honno yn arbennig yn fy nghyffwrdd yn fawr.

Llongyfarchiadau i Sir Fynwy ar gyflawni ei statws cyflogwr aur yn y cynllun adnabod ar gyfer y lluoedd arfog. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o awdurdodau lleol eraill yn dilyn yr arweiniad hwnnw, ac y bydd rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yn dilyn yr arweiniad hwnnw hefyd. Rydych wedi gwneud gwaith rhagorol fel llysgennad i'r lluoedd arfog fel hyrwyddwr y lluoedd arfog, Laura, ac mae'n wych cael rhywun arall sydd â diddordeb mawr yn y lluoedd arfog yma yn Aelod o'r Senedd.

Wrth gloi, rwyf am droi at gyfraniad ein lluoedd arfog i'r ymateb i COVID yn y misoedd diwethaf. Cafodd Llywodraeth Cymru lawer iawn o gymorth logistaidd gan y lluoedd arfog yn ystod y pandemig. Rydym wedi'u gweld yn dosbarthu cyfarpar diogelu personol i wasanaethau rheng flaen. Rydym wedi eu gweld yn ymgynnull i gyflawni Ysbyty Calon y Ddraig. Rydym wedi'u gweld yn cefnogi ein gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru gyda'u hymateb, gan gynorthwyo i eni babi hyd yn oed ar un o'r galwadau hynny, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthym yn ein grŵp trawsbleidiol. Ac wrth gwrs, maent wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'r gwaith o gyflwyno a chynyddu'r capasiti profi hefyd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, wrth gloi, i ddiolch nid yn unig iddynt hwy am eu gwasanaeth dros ganrifoedd lawer i Gymru, ond hefyd am eu gwasanaeth heddiw, eu gwasanaeth byw ledled y wlad i'n cynorthwyo gyda'r argyfwng newydd hwn sydd yn ein plith, ac i dalu teyrnged i bob un ohonynt. Byddwn yn eich cofio, nid yn unig heddiw, ond ar bob adeg o'r flwyddyn, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn ar sail drawsbleidiol yn y Senedd hon i sicrhau ein bod yn cynnal cyfamod pwysig y lluoedd arfog y mae pawb ohonom wedi ymrwymo iddo. Diolch.

19:20

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, felly byddwn yn gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod am bum munud cyn symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio, pan fydd cymorth TGCh wrth law i helpu gydag unrhyw faterion sy'n codi cyn inni ddechrau'r cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:24.

Ailymgynullodd y Senedd am 19:29, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

19:25
11. Cyfnod Pleidleisio

Iawn, felly rydym yn barod i bleidleisio nawr. Bydd y bleidlais gyntaf heno ar gynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 41, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd.

Cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22: O blaid: 41, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rwy'n symud yn awr at y bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y lluoedd arfog. A galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Darren Millar, Rebecca Evans, Siân Gwenllian a Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 45, roedd wyth yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

19:30

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 45, Yn erbyn: 1, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig

12. Dadl Fer: Mynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yn GIG Cymru

Trown yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Caroline Jones i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Caroline Jones.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ddegawd newydd wawrio yng Nghymru, roedd ein GIG unwaith eto'n cael trafferth gyda phwysau'r gaeaf. Nid oedd Ionawr 2020 yn anarferol. Bob gaeaf dros y blynyddoedd diwethaf, llusgodd ein GIG i stop wrth iddo gael trafferth i ymdopi â thymor anwyd a ffliw. Cafodd triniaethau nad oeddent yn rhai brys eu torri wrth i'r GIG redeg allan o welyau unwaith eto. Gwelodd adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru eu hamseroedd aros gwaethaf erioed. Dim ond 72 y cant o gleifion a dreuliodd lai na phedair awr mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn aros i gael eu trin, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, o gymharu â'r targed o 95 y cant. Roedd y ffigurau hyn yn sylweddol waeth na blynyddoedd blaenorol. Roedd mwy o gleifion nag erioed wedi aros dros 12 awr—ymhell dros 6,500—er bod y targed yn datgan na ddylai neb aros cyhyd â hynny. Methodd y gwasanaeth ambiwlans gyrraedd ei darged ar gyfer ymateb ar unwaith i alwadau sy'n bygwth bywyd am yr eildro ers cyflwyno'r targed hwnnw. Felly, er gwaethaf gaeaf ysgafn, cafodd ein GIG ei wthio bron i'r pen unwaith eto. 

Yna, daeth syndrom anadlol difrifol acíwt newydd i'r amlwg yn un o daleithiau dwyreiniol Tsieina. Nid oedd yn hir cyn i feirws SARS-CoV-2 ledaenu o gwmpas y byd, a dechreuodd pobl yng Nghymru ddal COVID-19—y clefyd anadlol a fasgwlaidd acíwt a achosir gan y feirws. Wrth i nifer yr achosion gynyddu ac wrth i'n hysbytai ddechrau llenwi ag achosion o'r coronafeirws, cafodd yr holl driniaethau nad ydynt yn rhai brys eu hatal unwaith eto. Yr hyn oedd yn wahanol y tro hwn oedd bod gwasanaethau sgrinio wedi cael eu hatal hefyd. Ac fel rwyf wedi dweud yn y Siambr hon droeon, mae sgrinio'n achub bywydau, ac mae'n un o'r gwasanaethau pwysicaf a gynigir gan y GIG. Mae'r ffaith mai dim ond nawr y mae'r gwasanaethau hyn wedi ailgychwyn yn anffodus iawn. Fel goroeswr canser, gwn yn rhy dda mai diagnosis cynnar yw'r allwedd i oroesi, a heb y gwasanaethau sgrinio, faint o ganserau sydd bellach wedi mynd heb eu canfod? Mae rhai amcangyfrifon yn rhoi nifer y bobl â chanserau na wnaed diagnosis ohonynt yng Nghymru mor uchel â 3,000. Dywedodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf fod atgyfeiriadau canser wedi dychwelyd i lefelau arferol bron, ond faint o bobl sydd wedi cael eu gobaith o oroesi yn lleihau o ganlyniad i'r misoedd ers hynny? Yn ôl cyfarwyddwr Rhwydwaith Canser Cymru, yr Athro Tom Crosby, gallai cynifer â 2,000 o bobl farw oherwydd oedi'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru. Yr wythnos hon, tynnodd y BBC sylw at achos un o athletwyr anabl Cymru a gafodd sgan MRI am diwmor ar yr ymennydd wedi'i ohirio am ddau fis, ac yn anffodus ni ellir rhoi llawdriniaeth i dynnu tiwmor yr unigolyn hwnnw bellach. Pe bai wedi cael y sgan mewn pryd, efallai y gellid bod wedi trin ei ganser sy'n tyfu'n gyflym. Mae'r achos dinistriol hwn ymhell o fod yn unigryw, ac mae fy mag post wedi bod yn llawn o lythyrau gan etholwyr y gohiriwyd eu triniaeth tra bo'r gwasanaeth iechyd yn ymladd y pandemig.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe wedi bod yn olrhain cofnodion iechyd dienw poblogaeth gyfan Cymru yn ystod y pandemig. Mae eu canfyddiadau'n dangos bod lefel y llawdriniaethau ledled Cymru, ym mis Ebrill, wedi gostwng i lai na chwarter yr allbwn arferol.

Yn gyffredinol, yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, cafodd tua 62,000 yn llai o gleifion lawdriniaethau yng Nghymru, o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol—gadawyd 62,000 o bobl mewn poen a dioddefaint heb unrhyw ddiwedd yn y golwg. Ac nid yw pobl wedi stopio mynd yn sâl. Nid yw clefyd y galon, dementia a chanser wedi diflannu. Nid COVID-19 yw lladdwr mwyaf Cymru. Yn eironig, mae'n bedwerydd ar bymtheg ar y rhestr o'r achosion marwolaeth mwyaf cyffredin yng Nghymru. Felly, bydd y pandemig hwn yn arwain at lawer o farwolaethau anuniongyrchol gan nad yw ein gwasanaeth iechyd yn gweithredu ar y capasiti y dylai. Mae amcangyfrifon yn rhoi gwasanaethau'r GIG ar hanner eu capasiti blaenorol at ei gilydd, a hynny cyn y gaeaf hwn, sy'n debygol o fod yn un drwg iawn, o gofio bod de Cymru yn gartref i rai o'r cyfraddau COVID-19 uchaf yn y DU.

Mae'r pandemig hwn wedi amlygu pa mor fregus yw ein GIG. Aethom i mewn i'r cyfnod o gyfyngiadau symud ym mis Mawrth er mwyn cynyddu ein capasiti yn y gwasanaeth iechyd, ac eto, wyth mis yn ddiweddarach, rydym newydd ddod allan o gyfnod arall o gyfyngiadau symud, ond mae ein GIG yn dal mewn perygl o gael ei orlethu, yn ôl Llywodraeth Cymru. Ar ddechrau'r pandemig hwn, sefydlwyd ysbytai maes i ymestyn capasiti gwelyau'r GIG, a chrëwyd cyfanswm o bron i 10,000 o welyau ychwanegol—bron yn union yr un nifer o welyau ag y mae ein GIG wedi'u colli ers 1990.

Cyn i'r pandemig daro'r wlad hon, roedd y GIG yn gweithredu ar gyfradd defnydd gwelyau o bron 90 y cant. Nid oedd gennym gapasiti dros ben, a dyna pam ein bod wedi cael cyfnod o gyfyngiadau symud a pham y cafodd yr holl driniaethau nad oedd yn rhai brys eu hatal. Yr hyn sy'n fy nharo i'n rhyfedd, fodd bynnag, oedd bod Llywodraeth Cymru wedi dewis cau hanner gwelyau'r ysbytai maes ddiwedd yr haf, am mai prin oedd y defnydd o'r capasiti ychwanegol. Prin y'i defnyddiwyd, oherwydd ataliodd y GIG yr holl driniaethau rheolaidd, ataliwyd gwasanaethau sgrinio a daeth mesurau atal afiechyd i ben. Yn ôl ym mis Ebrill, ddechrau mis Mai, gwyddem ein bod wedi osgoi'r gwaethaf, yn bennaf am nad yw'r coronafeirws yn lledaenu cystal yn yr awyr agored, a chawsom ein rhybuddio y byddai'r hydref a'r gaeaf yn llawer gwaeth wrth i bobl symud gweithgarwch dan do. Felly, pam y caewyd bron i 5,000 o welyau ysbyty—gwelyau a sefydlwyd i ymdopi â chleifion COVID, gwelyau a ddylai fod wedi rhyddhau ysbytai i ymdopi â'r degau o filoedd o gleifion a oedd yn daer eisiau triniaeth? Ond mewn llawer o achosion, ni dechreuodd triniaethau rheolaidd tan ganol mis Medi, ac roedd hyn yn golygu nad oedd y capasiti ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i raddau helaeth, gan arwain Llywodraeth Cymru i ddod i'r casgliad nad oedd ei angen. Mae ei angen. Mae ei angen yn ddybryd.

Felly, mae angen inni barhau â thriniaethau nad ydynt yn rhai brys nawr, cyn iddi fynd yn argyfwng. Dylai'r ysbytai maes ganolbwyntio ar drin cleifion sy'n cael prawf positif ar gyfer y feirws SARS-CoV-2, gan adael gweddill y GIG yn rhydd i ymdrin â thriniaethau nad ydynt yn rhai COVID, a gweithio i leihau'r ôl-groniad o driniaethau hefyd—ôl-groniad sy'n parhau i dyfu wrth i'r pandemig barhau. Nid rhifau ar daenlen yn unig yw'r rhain; pobl yw'r rhain sy'n dal i aros, yn byw mewn poen, anghysur—cleifion y bydd eu cyflyrau'n parhau i ddirywio. Efallai y byddant yn gwaethygu i'r fath raddau fel bod angen triniaeth barhaus arnynt—gan olygu cost ychwanegol i'r GIG, ond yn bwysicach, gan effeithio ar fywydau a bywoliaeth y cleifion hynny a'u teuluoedd.

Felly, cawsom ein dal gan y coronafeirws ar y dechrau, ond rydym wedi cael peth amser i baratoi. Ac nid yw'r feirws yn mynd i ddiflannu dros nos, ond ni allwn adael iddo ddinistrio ein gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Ni allwn adael i bobl farw am nad ydynt yn cael eu trin oherwydd bod adnoddau'n cael eu canolbwyntio ar y pandemig. Ni allwn ychwanegu at ddioddefaint cleifion oherwydd bygythiad COVID-19. Mae ein dinasyddion yn haeddu gwell. Ni ellir atal gwasanaethau GIG yn barhaus oherwydd y pandemig. Rhaid inni barhau i drin cleifion Cymru drwy gydol yr ail don hon, gan roi camau ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau. Rhaid inni ehangu'r ysbytai maes unwaith eto, gan eu neilltuo ar gyfer trin cleifion sy'n cael prawf positif ar gyfer COVID, a chynyddu nifer y profion a wneir er mwyn sicrhau canlyniadau ar yr un diwrnod a'r gallu i brofi pawb sydd angen triniaeth. Drwy wneud hynny, mae gennym gyfnod atal byr go iawn ar waith i ganiatáu i driniaethau'r GIG barhau, gan achub bywydau a rhoi diwedd ar ddioddefaint drwy fynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth. Diolch yn fawr.

19:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am ei haraith a'i dewis o ddadl heno.

Mae mynediad amserol at wasanaethau'r GIG wedi bod ac yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. O 2015 ymlaen, gwnaethom fuddsoddiad blynyddol ychwanegol sylweddol mewn gofal a gynlluniwyd. Arweiniodd hyn at bedair blynedd o ostyngiad parhaus yn nifer y cleifion a oedd yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth. Erbyn mis Mawrth 2019, o'i gymharu â mis Mawrth 2015, roedd dros 36 wythnos wedi gwella 53 y cant, roedd amseroedd diagnostig wyth wythnos wedi gwella 75 y cant, ac roedd amseroedd therapi 14 wythnos wedi gwella 100 y cant. Roedd cyfanswm yr achosion brys lle ceid amheuaeth o ganser a gafodd eu trin yn y flwyddyn rhwng mis Medi 2019 a mis Awst 2020 16 y cant yn uwch na phum mlynedd yn ôl.

Ein cynlluniau GIG Cymru ar gyfer 2019-20 oedd parhau â'r gwelliannau blynyddol hynny. Fodd bynnag, o ganlyniad i effaith ddiymwad y newidiadau a orfodwyd gan Lywodraeth y DU i dreth a phensiynau staff y GIG, ni ellir cyflawni cynlluniau'r GIG. Arweiniodd effaith gychwynnol COVID ym mis Mawrth eleni, ynghyd â'r llanastr treth a phensiynau, at dros 28,000 o bobl yn aros dros 36 wythnos—mae hynny deirgwaith yn uwch nag ym mis Mawrth 2019.

Yn ystod misoedd cyntaf 2020, roedd y pandemig COVID-19 yn dechrau cael effaith ar draws systemau iechyd cyhoeddus y byd. Gan ddysgu o'r gwersi a welwyd yn Ewrop, ein blaenoriaeth strategol oedd cefnogi ein GIG i helpu i achub bywydau yma yng Nghymru. Ar 13 Mawrth, gwneuthum y penderfyniad anodd iawn i atal gofal a gynlluniwyd nad yw'n ofal brys. Cefnogwyd y penderfyniad hwn gan gyngor clinigol a'i nod oedd diogelu ein GIG fel y gallai helpu i achub bywydau'n well. Yn fuan ar ôl ein penderfyniad beiddgar yma yng Nghymru, gwnaeth gweddill y DU yr un peth. Parhaodd y gwaith o ddarparu gofal brys a gofal brys nad yw'n COVID, gan gynnwys ar gyfer canserau, lle roedd hi'n glinigol ddiogel i wneud hynny, drwy gydol yr haf. Yn ystod y misoedd diwethaf, lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, mae rhywfaint o weithgarwch rheolaidd hefyd wedi dechrau cael ei ddarparu.

Roedd gweithgarwch dewisol i gleifion mewnol rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf eleni wedi gostwng 55 y cant yng Nghymru, o'i gymharu â mis Mawrth i fis Gorffennaf yn 2019. Mae gwybodaeth reoli wedi dangos bod gweithgarwch gofal a gynlluniwyd i gleifion mewnol ac achosion dydd wedi cynyddu 56 y cant rhwng mis Mehefin 2020 a mis Medi 2020. Yn y Llywodraeth, rwyf wedi cydnabod bod rhaid inni gydbwyso'r risg o niwed o bedwar maes, a dyma sy'n sail i'n dull gweithredu eang ar draws y Llywodraeth: niwed uniongyrchol COVID ei hun, niwed gan system GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi'i gorlethu, niwed o ostyngiadau mewn gweithgarwch nad yw'n COVID, a niwed o gamau gweithredu cymdeithasol ehangach, gan gynnwys cyfyngiadau symud. Mae ein penderfyniad i atal gweithgarwch rheolaidd ym mis Mawrth i leihau niwed COVID ei hun wedi arwain at godi'r risg o niwed o leihau gweithgarwch nad yw'n COVID. Mae hyn wedi arwain at dwf digynsail yn y rhestr aros am ofal a gynlluniwyd.

Gwelir y nifer sylweddol sy'n aros ym mis Awst 2020 yn y GIG yn Lloegr hefyd, yn ogystal ag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ddiwedd mis Awst 2020, cofnododd GIG Lloegr eu nifer fwyaf erioed o gleifion sy'n aros dros 18, 36 a 52 wythnos. Yn ddi-os, bydd cyflwr rhai o'r cleifion hyn yn gwaethygu a byddant yn wynebu niwed mewn rhai achosion. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i gadw rheolaeth ar ledaeniad coronafeirws. Os bydd y feirws yn dechrau lledaenu'n eang eto, bydd tarfu ar wasanaethau nad ydynt yn rhai COVID a bydd mwy o niwed yn cael ei achosi—yn uniongyrchol o COVID, ond hefyd o niwed anuniongyrchol yn sgil lleihau gweithgarwch nad yw'n COVID. Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd newid y ffordd rydym i gyd yn byw ein bywydau. Rhaid inni beidio â cholli'r enillion yr ymladdwyd yn galed i'w cael o'r cyfnod atal byr a dychwelyd at y ffordd roedd pethau cyn inni ddechrau'r cyfnod diwethaf o ddwy wythnos a hanner.

Fodd bynnag, rydym wedi blaenoriaethu cleifion canser a chleifion gofal brys eraill. Rwy'n falch o ddweud ein bod, ym mis Awst 2020, wedi trin 623 o gleifion ar y llwybr brys i gleifion yr amheuir bod ganddynt ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 13 y cant ar yr un cyfnod yn 2019, ond mae hefyd yn welliant o 13 y cant ers pum mlynedd yn ôl. O fis Mehefin eleni, fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer chwarter 2, mae'r GIG wedi dechrau darparu mwy o weithgarwch gofal wedi'i gynllunio. Bu hyn yn her i'w weithredu ochr yn ochr â gofal COVID, gan fod angen ailgynllunio gwasanaethau ac adleoli staff i weithredu o fewn parthau gwarchodedig.

Mae'r mesurau diogelwch ychwanegol sydd eu hangen i ddiogelu cleifion a staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi, gan fod nifer y cleifion COVID yn parhau i godi unwaith eto yn ein cymunedau. Mae hyn yn effeithio ar y math o wasanaethau sydd ar gael yn ogystal â'u nifer. Lle roedd rhestrau llawdriniaethau cyn COVID yn cynllunio i gyflawni pedair llawdriniaeth er enghraifft, mae'r gofynion iechyd a diogelwch sy'n cynnwys cyfarpar diogelu personol a chadw pellter cymdeithasol wedi lleihau cynhyrchiant i ddau. Mae'r gwaith o gynnal adolygiadau wyneb yn wyneb yn ein hadrannau cleifion allanol, canolbwynt llawer o ysbytai, wedi lleihau 40 y cant i 50 y cant ar y gweithgarwch a gyflawnwyd yn flaenorol. Rwy'n falch o nodi, fodd bynnag, fod gweithgarwch rhithwir wedi cymryd lle rhywfaint o'r gweithgarwch a gollwyd. Mae tua 36 y cant o weithgarwch cleifion allanol bellach yn rhithwir. Bu modd gwneud hyn oherwydd ymroddiad parhaus ein staff, sydd wedi gallu cynyddu ein gweithgarwch rheolaidd yn y misoedd diwethaf, ac rwy'n dal i fod yn hynod ddiolchgar i'n GIG a'n staff gofal cymdeithasol. Maent wedi parhau i ddangos eu hymrwymiad proffesiynol a'u tosturi drwy gydol y cyfnod digynsail hwn.

Rydym wedi gweithredu ffyrdd newydd o weithio ar gyfer cefnogi cleifion mewn gwahanol ffyrdd. Fodd bynnag, ni fydd y ffyrdd hynny ar eu pen eu hunain yn ddigon i atal y twf parhaus yn ein hamseroedd aros. Byddwn yn ailddechrau cyhoeddi amseroedd aros cenedlaethol y GIG eto, gan ddechrau ar 19 Tachwedd. Bydd hyn yn rhoi darlun llwm o'r realiti sy'n ein hwynebu. Fel y dywedais o'r blaen, nid yw hyn yn unigryw i Gymru; mae'n broblem yn y DU ac mewn gwirionedd, mae'n broblem fyd-eang.

Mae'n bwysig ein bod ni fel Llywodraeth, a'r cyhoedd, yn sylweddoli maint yr her. Bydd angen inni gydweithio, ac mae gan bob un ohonom—y Llywodraeth, y GIG a'r cyhoedd—rôl i'w chwarae. Bydd y GIG yn cefnogi'r cyhoedd drwy addysg ac offer ar sut i chwarae mwy o ran yn eu gofal a'u hunanofal eu hunain. Ond nid oes ateb cyflym. Bydd yn cymryd blynyddoedd i bob gwlad yn y DU gael amseroedd aros yn ôl i ble roeddent, ac yma yng Nghymru, i barhau'n ôl ar ein llwybr gwella. Nawr, nid dyma'r sefyllfa y byddai'r GIG, y Llywodraeth, fi nac unrhyw un yng Nghymru ei heisiau. Rydym yn gwbl ymwybodol o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar unigolion sy'n aros hyd yn oed yn hwy am eu triniaeth. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda chlinigwyr ar draws ein GIG i ddeall pa gymorth arall y gellid ei roi i gleifion wrth iddynt aros.

Mae ein fframwaith adsefydlu cenedlaethol yn cydnabod y rôl allweddol y gall adsefydlu ei chwarae yn cynorthwyo pobl i gadw'n iach wrth iddynt aros. Mae byrddau iechyd yn dechrau datblygu gwasanaethau rhagsefydlu i gynorthwyo cleifion i gadw'n iach wrth iddynt aros ar restrau aros. Er y gallai hyn leihau'r angen am lawdriniaeth mewn rhai achosion, mewn achosion eraill, bydd angen llawdriniaeth o hyd. Rwy'n glir fod y Llywodraeth yn dal i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r elfen bwysig hon. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda chlinigwyr i ddeall yr opsiynau sydd angen inni eu hystyried i fynd i'r afael â'r effaith a welwn. Bydd angen i'r opsiynau fod yn sylweddol er mwyn ymdrin â maint y broblem. Ond fel ym mhob gwlad ym mhob cwr o'r byd ac yma yn y DU, byddwn yn byw gyda chanlyniadau effeithiau COVID am flynyddoedd lawer, hyd yn oed ar ôl i ni gael y feirws dan reolaeth. Rydym i gyd yn wynebu tasg sylweddol o'n blaenau. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

19:45

Daeth y cyfarfod i ben am 19:49.