Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

03/06/2020

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 10:58 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rhain wedi eu nodi ar yr agenda. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma, a'r cyfyngiadau amser o ran hyd cwestiynau a gaiff eu cymhwyso i'r cyfarfod hwn.

Hoffwn hefyd hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mehefin. Hon, felly, yw Deddf gyntaf Senedd Cymru.

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem gyntaf y bore yma yw'r datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad busnes hwnnw—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud datganiad y prynhawn yma ar ddiweddariad i'r ddarpariaeth addysg, ac wedyn bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar ddigartrefedd. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

11:00
2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar goronafeirws. Galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Unwaith eto, byddaf yn rhoi adroddiad i'r Senedd ar y camau diweddaraf wrth inni ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Wythnos diwethaf, daethom i ddiwedd y trydydd cyfnod o dair wythnos pryd mae'n rhaid inni adolygu'r cyfyngiadau sydd mewn lle. Byddaf yn amlinellu'r penderfyniadau a ddaeth i rym ar ddydd Llun, 1 Mehefin. Fel o'r blaen, fe wnaethom ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf gan SAGE a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru. Ar sail y dystiolaeth honno, rydym wedi cymryd camau gofalus tuag at lacio'r cyfnod clo er mwyn galluogi pobl i gwrdd â'i gilydd mewn amodau lle mae'r risg yn isel. Er bod y ffigurau yn mynd i'r cyfeiriad cywir, dydy hi ddim yn saff eto inni fynd ymhellach na hynny.

Llywydd, fel yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn rhoi sylw i faterion yn y datganiad hwn nad ydyn nhw'n cael sylw yn y datganiadau sy'n dilyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Yn fy natganiad blaenorol ar 20 Mai, tynnais sylw at effaith coronafeirws ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi nodi'r newidiadau yn y gyllideb atodol gyntaf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae hyn yn cynnwys £2.4 biliwn i gynorthwyo'r ymateb i'r coronafeirws, gan gynnwys £750 miliwn i ariannu ein GIG a'n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym ni wedi ariannu mwy na 55,000 o grantiau i fusnesau yng Nghymru, am gost o £660 miliwn. Mae'r busnesau hyn hefyd yn elwa ar ryddhad ardrethi drwy'r pecyn £1.4 biliwn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.

Llywydd, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r symiau a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU, ond rydym ni'n dal i fod yn gaeth i reolau'r Trysorlys sy'n cyfyngu ar ein gallu i ymateb i'r argyfwng. Bydd y Gweinidog cyllid yn parhau i bwyso am fwy o hyblygrwydd i'n galluogi i gyfeirio adnoddau i'r mannau lle mae eu hangen nhw fwyaf.

Ac, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud dyraniadau newydd mewn ymateb i'r argyfwng. Cynorthwyodd ein cyllid cychwynnol o £10 miliwn fwy nag 800 o bobl ddigartref i mewn i dai ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Roedd yn adeg bwysig o ran datganoli, Llywydd, pan oedd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gallu nodi £20 miliwn arall i helpu sicrhau nad oes yn rhaid i neb ddychwelyd i'r strydoedd yma yng Nghymru, a bydd ganddi fwy i'w ddweud am hynny, mi wn, yn nes ymlaen yn y trafodion.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gyllid o £65 miliwn i sicrhau bod gwasanaethau rheilffordd yn parhau i weithredu ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Mae hyn yn dilyn cyllid o £40 miliwn a gadarnhawyd ym mis Mawrth, gan ddod â chyfanswm y cymorth i uchafswm o £105 miliwn. Byddwn yn parhau i sicrhau bod cysylltiadau cludiant cyhoeddus hanfodol yn cael eu cynnal.

Llywydd, rwy'n falch bod y canllawiau a gyhoeddwyd gennym ni yr wythnos diwethaf ar ddiogelwch yn y gweithle wedi cael eu cymeradwyo gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a Chyngres yr Undebau Llafur. Yr wythnos diwethaf hefyd, cynhaliwyd cyfarfod y cyngor partneriaeth cymdeithasol estynedig, pryd yr oedd cynrychiolwyr y trydydd sector a chomisiynwyr yn bresennol, yn rhan o'n hymateb partneriaeth.  

Llywydd, trof nawr at ganlyniad yr adolygiad tair wythnos a ddaeth i ben ddydd Iau, 28 Mai. Y cyd-destun yw bod coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad creulon i iechyd yng Nghymru. Ddoe, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ym mhob lleoliad, hyd at 22 Mai, bod 2,122 o farwolaethau yn ymwneud â coronafeirws yng Nghymru. Er bod y niferoedd hyn yn gostwng, gyda chleifion mewn gwelyau gofal critigol, er enghraifft, yn lleihau o wythnos i wythnos, rydym ni'n cofio colled pob bywyd unigol, y teuluoedd sy'n eu galaru nhw a'r angen parhaus i ni i gyd fod yn ofalus.

Bydd yr Aelodau yn gwybod bod yn rhaid adolygu ein rheoliadau coronafeirws bob 21 diwrnod. Y prawf y mae'n rhaid i ni ei ddefnyddio yw a yw'r cyfyngiadau ar fywyd yng Nghymru yn gymesur ac yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Wrth ddefnyddio'r prawf hwn, mae'n rhaid i ni ystyried cyngor y prif swyddog meddygol ac rydym ni hefyd yn dibynnu ar y dystiolaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau.

Dyma'r trydydd adolygiad, Llywydd, a byddaf yn crynhoi'r broses yr ydym ni wedi ei dilyn. Yn gyntaf, rydym ni'n llunio rhestr o'r dewisiadau posibl ar gyfer llacio cyfyngiadau, sy'n deillio o syniadau a gynhyrchwyd o fewn ac y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr awgrymiadau niferus yr ydym ni'n parhau i'w cael gan bobl ledled Cymru gyfan. Mae'r rhestr honno'n cael ei byrhau ar gyfer trafodaeth ac archwiliad i restr fer o ddewisiadau, a chaiff y rheini eu gwerthuso'n fanwl yn erbyn y cwestiynau a nodir yn y ddogfen fframwaith a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Ebrill, gan gynnwys egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ein nod yw nodi mesurau sy'n cael effaith gadarnhaol ac yn arwain at y perygl lleiaf i iechyd y cyhoedd. Rydym ni bob amser yn ystyriol o'r niwed sy'n cael ei achosi gan y cyfyngiadau, nid yn unig drwy coronafeirws yn uniongyrchol, ond mewn ffyrdd eraill, i iechyd y cyhoedd ac i lesiant cymdeithasol ac economaidd pobl.

Rydym ni wedi cynnal trafodaethau gyda'r llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig a maer Llundain yn ystod y cyfnod hwnnw o dair wythnos er mwyn rhannu syniadau a dadansoddiadau, i ddeall dulliau ein gilydd a'r dystiolaeth ym mhob un o'n hawdurdodaethau. Nid yw cydlyniaeth yn golygu mabwysiadu'r un dull yn union o lacio nac, mewn gwirionedd, o gyflwyno cyfyngiadau. Mae'n rhaid i bob Llywodraeth fod yn atebol am gydbwysedd y mesurau yr ydym ni'n penderfynu eu mabwysiadu.

Yn olaf, rydym ni wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf o drosglwyddiad y feirws, sy'n pennu faint o hyblygrwydd sydd i unrhyw lacio heb beryglu'r cynnydd a wnaed hyd yma. Daethom i'r casgliad yng Nghymru bod yr amodau yn caniatáu rhai addasiadau i'r cyfyngiadau, ond y cyngor eglur iawn gan SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd yw gwneud un newid ar y tro yn unig a monitro ei effaith.

Penderfynasom roi blaenoriaeth i alluogi pobl i gyfarfod ag eraill, gan fod gwahanu oddi wrth deulu a ffrindiau wedi bod mor anodd i bobl yn ystod y ddau fis diwethaf. Trwy wneud hynny, fe wnaethom ymateb i'r neges eglur gan bobl yng Nghymru mai diffyg cyswllt â phobl oedd y mater a oedd fwyaf pwysig iddyn nhw. Roedd y dystiolaeth yn dweud mai'r ffordd fwyaf diogel o wneud hyn oedd yn yr awyr agored, lle mae'r feirws yn goroesi am gyfnod llawer byrrach o amser nag y mae o dan do. Yn unol â hynny, gall pobl gyfarfod bellach a phobl eraill o un aelwyd arall yn yr awyr agored yn eu hardaloedd lleol, ar yr amod y cedwir pellter cymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn bosibl i bobl yn y grŵp a warchodir, ar yr amod eu bod nhw'n cadw pellter cymdeithasol, a bydd hynny'n fwy hanfodol fyth, wrth gwrs, iddyn nhw.

Llywydd, fe wnaethom rai mân addasiadau eraill i alluogi myfyrwyr i ddychwelyd i golegau addysg bellach ar gyfer yr asesiadau sy'n hanfodol i rai allu cwblhau eu cyrsiau ac i alluogi priodasau i gael eu cynnal lle mae un o'r pâr yn angheuol wael. Rwyf i hefyd wedi cyfarwyddo y caiff busnesau nad ydyn nhw'n hanfodol sy'n gallu cydymffurfio â'r ddyletswydd cadw pellter corfforol ddechrau gwneud paratoadau dros y tair wythnos nesaf fel y byddan nhw mewn sefyllfa i ailagor ar ôl 18 Mehefin, ar yr amod—a bob amser ar yr amod—bod y dystiolaeth ar y pryd yn eu cefnogi i wneud hynny.

Llywydd, rydym ni eisoes hanner ffordd drwy wythnos gyntaf y cyfnod adolygu nesaf. Rydym ni'n dechrau ystyried dewisiadau ar gyfer unrhyw lacio pellach a allai fod yn bosibl ar ddiwedd y cyfnod, wedi eu cefnogi gan y system olrhain cyswllt a ddechreuodd o ddifrif ddydd Llun. Byddwn yn parhau i gymryd camau pwyllog tuag at leihau'r cyfyngiadau, mewn dull pedair gwlad, cydweithredol, gan ddiogelu iechyd y cyhoedd ac ymateb i flaenoriaethau pobl yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

11:05

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, fel yr ydych chi newydd sôn, gwnaed y penderfyniad gennych chi i ddechrau llacio'r cyfyngiadau symud yng Nghymru, gan gyflwyno'r rheol i ganiatáu i bobl ymweld â'u hanwyliaid o fewn radiws o 5 milltir gan gadw pellter cymdeithasol. Efallai fod y rheol honno wedi bod yn rhywfaint o gysur i'r rhai sy'n byw mewn rhai ardaloedd, ond mae llawer mewn ardaloedd eraill hefyd wedi ymateb gyda dicter a rhwystredigaeth i hyn, a llawer ohonyn nhw'n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru yn poeni o gwbl am y rhai sy'n byw yn y rhannau mwy anghysbell o'r wlad. Dywedasoch eich hun bod annhegwch yn anochel. Prif Weinidog, gan eich bod chi'n awyddus i ddweud wrthym ni bod eich polisïau yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf sydd ar gael, ble mae'r cyngor gwyddonol a meddygol yr ydych chi wedi ei gael ynglŷn â'r polisi penodol hwn, ac a wnewch chi gyhoeddi'r cyngor gwyddonol a meddygol hwnnw nawr fel y gall pobl Cymru ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad penodol hwn?

11:10

Llywydd, gadewch i mi gywiro arweinydd yr wrthblaid ar rywbeth a ddywedodd, a gobeithio na fydd ef na'i gyd-Aelodau yn parhau i ailadrodd rhywbeth nad yw'n wir o gwbl: nid oes unrhyw reol am 5 milltir yng Nghymru. Pe byddai rheol, byddai honno wedi bod yn y rheoliadau. Ceir canllaw, cyfarwyddyd bras i bobl yng Nghymru ddeall yr hyn y gallai 'lleol' ei olygu, ac rwyf i wedi dweud dro ar ôl tro mai cyfrifoldeb pobl yw dehongli, mewn ffordd synhwyrol, yr hyn y mae 'lleol' yn ei olygu yn eu daearyddiaeth unigol hwy eu hunain, gan ei bod yn anochel bod 'lleol' yn wahanol mewn dinas fel Caerdydd, lle bydd 5 milltir yn mynd â chi i filoedd o wahanol aelwydydd, a'r hyn y gallai ei olygu mewn rhan wledig o Gymru.

Y cyngor gwyddonol yw aros yn lleol, ac rydym ni'n gwybod bod aros yn lleol yn bwysig iawn gan ei fod yn atal y feirws rhag lledaenu o un gymuned i'r llall. Mae'r rheol 5 milltir fras yno am yr union reswm o ddiogelu pobl yn ngorllewin a gogledd pellach Cymru oddi wrth pobl o fannau lle mae'r feirws wedi lledaenu'n fwy rhag teithio i'r cymunedau hynny a dod â'r feirws gyda nhw. Bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod yn iawn pa mor bendant y mae pobl yn yr ardaloedd hynny wedi bod ynglŷn â'u hamddiffyn rhag ymwelwyr sy'n dod i'r ardaloedd hynny a'u rhoi mewn perygl. Mae'r neges 'aros yn lleol' yn diogelu unigolion ac eraill, ac mae'r canllaw 5 milltir—a dyna beth yw ef; nid rheol yw hi, ond canllaw—yno i ddiogelu'r cymunedau hynny yng nghefn gwlad Cymru rhag pobl sy'n credu fel arall ei bod hi'n iawn teithio mewn niferoedd mawr o'r tu allan i'r ardaloedd hynny, ac er mwyn osgoi'r golygfeydd sy'n peri gofid yr ydym ni wedi eu gweld dros y ffin lle nad yw'r cyngor synhwyrol hwnnw yn cael ei roi.

Yn amlwg, Prif Weinidog, mae hyn yn ddryslyd iawn i bobl, gan eich bod chi newydd ddweud mai canllaw bras yw hwn nawr, felly ni fydd pobl yn gwybod bellach a ydyn nhw'n cael teithio 5, 10, 15 milltir. Mae'n ffaith fod y polisi hwn wedi peri gofid i filoedd o bobl ledled Cymru sy'n gwylio eraill yn aduno â'u hanwyliaid ond nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis heblaw aros gartref.

Nawr, Prif Weinidog, rhybuddiodd y Gweinidog iechyd ddoe y gallai fod yn rhaid ailgyflwyno rhai mesurau cyfyngiadau symud yn y gaeaf yn dibynnu ar gyffredinolrwydd COVID-19 bryd hynny, ac er fy mod i'n sylweddoli na ellir cau unrhyw ddrws ar gyfyngiadau yn y dyfodol, mae'r sylwadau wedi bod yn frawychus iawn i lawer o bobl ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'n rhaid ystyried cynllunio strategol i sicrhau bod Cymru yn barod ar gyfer cyfyngiadau symud yn y dyfodol ym misoedd y gaeaf, ac mae'n rhaid rhoi dyraniadau o'r neilltu pe byddai Cymru yn y sefyllfa lle mae angen i Lywodraeth Cymru ailgyflwyno rhagor o gyfyngiadau symud. Felly, a allwch chi gadarnhau pa fodelu ariannol sy'n digwydd ar hyn o bryd i sicrhau bod Cymru wedi dysgu o'r pandemig hwn? A allech chi hefyd ddweud wrthym ni pa ddyraniadau cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn eu neilltuo os bydd angen mwy o gyfyngiadau yn y gaeaf? A pha wersi sydd eisoes wedi'u dysgu am ymateb Cymru i bandemig o'r cyfnod hwn a fydd yn llywio'r cyfeiriad teithio ar gyfer unrhyw gynnydd i achosion o'r pandemig yn y dyfodol?

Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y cwestiynau yna. Mae'n bwysig atgoffa pobl yng Nghymru, er ein bod ni'n credu ein bod ni wedi mynd heibio'r uchafbwynt cyntaf o heintiadau coronafeirws yn bron i bob rhan o Gymru, ac wedi gwneud hynny diolch i ymdrechion aruthrol pobl ledled Cymru, wedi gwneud hynny gan osgoi pethau'n mynd yn drech na'n gwasanaeth iechyd, nid yw hynny'n ddim sicrwydd o gwbl na allem ni gael ail uchafbwynt yn ddiweddarach yn y flwyddyn oni bai ein bod ni'n parhau i wneud yr holl bethau synhwyrol yr ydym ni'n eu gwneud. Bydd yr amodau yn yr hydref yn fwy ffafriol i'r feirws, nad yw'n hoffi golau'r haul ac nad yw'n hoffi'r awyr agored, ond sy'n hoffi'r tu mewn, y tywyllwch a'r lleithder, a byddwn yn y rhan honno o'r flwyddyn wrth i ni symud i ail ran yr hydref. Felly, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Paul Davies wedi ei ddweud am yr angen i ddefnyddio'r cyfle hwn i baratoi, pe byddem ni'n canfod ein hunain mewn amodau mwy anodd yn ail ran y flwyddyn. A bydd ef yn gwybod mai un o'r profion yr ydym ni wedi'i gymhwyso i lacio'r cyfyngiadau symud yn ein dogfen fframwaith yw, 'A ellid ail-orfodi unrhyw fesur pe byddai'n cael effaith andwyol annisgwyl?'

Felly, rydym ni'n gwneud mwy o fodelu ar y clefyd ei hun, gan wneud yn siŵr, er enghraifft, o ran cyfarpar diogelu personol, ein bod ni'n defnyddio'r sefyllfa gymharol sefydlog yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd i ailgyflenwi ein stociau, fel y byddai gennym ni ddeunydd yn barod pe byddai ei angen yn yr hydref. Mae modelu ariannol yn llawer anoddach, oherwydd mae anghenion busnesau, llywodraeth leol, pobl sydd wedi bod heb waith yng Nghymru yn y cyfnod coronafeirws cyntaf hwn wedi bod mor daer ac mor angenrheidiol. Rydym ni wedi trosglwyddo'r holl arian, y symiau canlyniadol yr ydym ni wedi eu derbyn gan Lywodraeth y DU, mor gyflym ag yr ydym ni wedi gallu gwneud hynny. Nid oes pot mawr o arian yn eistedd yn segur yn Llywodraeth Cymru yn aros am bethau a allai ddigwydd yn ail hanner y flwyddyn. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog cyllid yn cadw cronfa wrth gefn, gan y byddai ei hangen arnom ni mewn cyfnodau arferol, ac mae ein cyllideb—yr un a basiwyd yn y Cynulliad ym mis Mawrth—wedi'i modelu dros gyfnod o 12 mis. Ond pe byddai ail uchafbwynt a phe byddem ni'n canfod ein hunain yn ôl yn yr anawsterau yr ydym ni wedi'u hosgoi hyd yma, yna byddai'n rhaid i ganlyniadau ariannol hynny gael eu llywio gyda chymorth pellach gan Lywodraeth y DU.

11:15

Prif Weinidog, mae llofruddiaeth droseddol George Floyd drwy law swyddogion yr heddlu yn yr Unol Daleithiau wedi ail-gynnau'r ddadl ynghylch hiliaeth ar y naill ochr a'r llall i Fôr yr Iwerydd. A ydych chi'n cytuno bod hiliaeth strwythurol wrth wraidd yr anghyfiawnder hwn, ac os ydym ni wir yn credu bod bywydau pobl dduon yn bwysig bod yn rhaid i ni gydnabod hynny a mynd i'r afael ag ef? Ac a yw'r hiliaeth strwythurol honno, yn eich barn chi, yn un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n gweld nifer llawer uwch o farwolaethau mewn cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig o ganlyniad i COVID-19?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Adam Price am y cwestiwn yna am un o faterion pwysig ein hoes? Bydd llawer o Aelodau wedi gweld y lluniau cwbl ofnadwy hynny o farwolaeth George Floyd; rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf ofnadwy yr wyf i'n cofio gorfod edrych arno erioed. Fe'm hatgoffwyd ynddo—dim ond i ddweud un peth cadarnhaol i ddechrau—am y berthynas hirsefydlog iawn sydd wedi bodoli rhwng Cymru a'r gymuned pobl dduon yn America, o'r 1930au pan fyddai Paul Robeson, y canwr a'r ymgyrchydd ardderchog hwnnw dros hawliau sifil yn ymweld â Chymru mor rheolaidd, gan siarad yn gofiadwy yn Aberpennar ym 1938 mewn cynulliad enfawr o bobl o dde Cymru i gefnogi rhyfel cartref Sbaen, a'r bobl o Gymru a aeth i ymladd yn y fan honno, hyd at y 1960au gyda'r eglwys yn Birmingham, Alabama, sydd â ffenestr y talwyd amdani gan bobl o Gymru yn rhan o'n diddordeb yn y mudiad hawliau sifil bryd hynny. Felly, mae ein diddordeb yn y boblogaeth pobl dduon a phobl o'r cymunedau hynny yn America yn mynd yn ôl ddegawdau lawer iawn, a chefais fy atgoffa'n rymus o hynny pan welais y lluniau erchyll hynny.

Ceir anfantais strwythurol i bobl dduon yn America, ond mae Adam Price yn iawn i ni beidio â meddwl mai dim ond mewn mannau eraill y mae'n bodoli. Mae'n bodoli yn ein cymunedau ni ein hunain hefyd. Ac ar y gwaethaf, mae'n hiliaeth syml, fel y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i ddweud—pobl yn ymddwyn yn fwriadol tuag at eraill ar sail lliw eu croen. Ond ceir anfantais i bobl o'r cymunedau hynny sy'n llai amlwg na hynny—nid hiliaeth ydyw yn yr ystyr fwriadol honno, ond mae'n rhan annatod o'r ffordd y mae sefydliadau'n gweithredu ac y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Ac mae'r ffordd y mae'n amlwg bod pobl dduon wedi cael eu heffeithio'n andwyol gan argyfwng y coronafeirws, yn fy marn i, yn frigiad amlwg o'r anfanteision strwythurol sylfaenol hynny, ac mae'n rhaid i ni allu mynd i'r afael â nhw yma yng Nghymru, fel y mae angen mynd i'r afael â nhw mewn mannau eraill.

11:20

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi dweud nad yw'r offeryn asesu gwaith COVID a gyflwynwyd gan GIG Cymru, er ei fod yn cael ei groesawu, yn nodi ar hyn o bryd bod y gweithwyr hynny o gefndiroedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn perygl uchel iawn. Pam mae hynny'n wir, ac a wnewch chi weithio gyda nhw i gael hyn yn iawn ar frys? Ac a wnewch chi hefyd sicrhau bod lleisiau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli'n dda yn y gwaith ar adeiladu'n ôl yn well? Ym mis Mehefin y llynedd, adroddodd y BBC, o 170 o benodiadau diweddar i gyrff cyhoeddus gan Weinidogion Cymru, bod llai na chwech yn dod o gefndiroedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. A allwch chi ddweud sut y mae'r sefyllfa wedi gwella ers hynny? Ac o gofio bod gennym ni yng Nghymru, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, gyfradd garcharu sy'n fwy anghyfartal o ran hil na Lloegr, sydd ei hun yn fwy anghyfartal o ran hil na'r Unol Daleithiau hyd yn oed, a wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad eang i wreiddiau a chamau i unioni hiliaeth strwythurol ac anfantais hiliol yma yng Nghymru?

Diolchaf i Adam Price am yr holl gwestiynau ychwanegol yna. Arweiniwyd y dull hunanasesu a fabwysiadwyd gennym ni ar gyfer y GIG gan waith clinigwyr duon yng Nghymru. Roedd yr Athro Keshav Singhal—y gwn y bydd Adam Price wedi ei glywed yn cyflwyno'r offeryn—yn eglur iawn pan wnaeth hynny ei fod bob amser yn mynd i fod yn waith sy'n datblygu'n barhaus, ac y byddai mwy y gellid ei ddysgu wrth ei roi ar waith. A gwn y bydd eisiau siarad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol a chyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac eraill sydd wedi datblygu offerynnau eraill. Ond rwy'n cael fy nghysuro'n fawr gan y ffaith bod ein dull hunanasesu yng Nghymru wedi cael ei arwain a'i hysbysu'n weithredol gan brofiad rheng flaen uniongyrchol gweithwyr duon yn y GIG yma yng Nghymru, gan edrych ar eu profiad beunyddiol o fod ar y rheng flaen, a gwneud yn siŵr bod yr offeryn hunanasesu yn adlewyrchu hynny i gyd. Rwy'n awyddus dros ben i'r lleisiau hynny barhau i fod yn ddylanwadol wrth i ni weithio ein ffordd y tu hwnt i'r coronafeirws, a bydd y grŵp yr ydym ni wedi ei ffurfio dan gadeiryddiaeth y Barnwr Ray Singh yn rhan bwysig o hynny ar hyn o bryd, a bydd ffyrdd y gallwn ni ddatblygu hynny ymhellach i'r dyfodol.

Nid yw ein hanes o benodi pobl o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd lleiafrifol i benodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn ddigon da. Cawsom adolygiad trwyadl o'n proses benodi yn ystod ail hanner y llynedd, ac roeddem ni ar fin cyflwyno dull hollol wahanol o ymdrin â'r penodiadau hynny pan darodd argyfwng y coronafeirws. Un o'm huchelgeisiau i yw gallu dod â'r darn hwnnw o waith yn ôl i'r amlwg, o'r cefndir, cyn gynted ag y gallwn ni yn yr argyfwng. Oherwydd mae'n rhaid i ni wneud yn well; mae'n rhaid i ni wneud yn well o ran poblogaethau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, mae'n rhaid i ni wneud yn well o ran pobl ag anableddau. A dydyn ni ddim yno o bell ffordd, lle'r ydym ni eisiau bod, er ein bod ni wedi gwneud ychydig yn well o ran cydraddoldeb rhywiol yn y meysydd hynny hefyd.

Mae gwaith y ganolfan wrth edrych ar y profiad o garchar yng Nghymru yn arswydus mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, ac yn sicr yn syfrdanol o ran yr hyn y mae'n ei ddatgelu am driniaeth pobl dduon yn y system cyfiawnder troseddol. A cheir tystiolaeth ehangach bod pobl dduon yn fwy tebygol o gael eu clystyru ym mhen rheoli pethau, gydag unrhyw system sydd â dewis rhwng ymateb i ymddygiad drwy helpu neu drwy reoli, boed hynny ym maes iechyd meddwl neu yn y system cyfiawnder troseddol. Byddaf yn meddwl am y pwynt a wnaeth Adam Price ar ddiwedd ei gyfraniad, ond hoffwn gytuno â llawer o'r pwyntiau pwysig y mae wedi eu gwneud y prynhawn yma.

11:25

Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau bod y data yn dangos bod pump o'r 10 ardal cyngor sydd â'r nifer uchaf o achosion o coronafeirws yn y DU yng Nghymru? Bydd ymchwiliadau a'u dosraniad o gyfrifoldeb yn dod maes o law, ond ar gyfer eich cynllunio presennol, beth ydych chi'n ei feddwl yw'r rheswm am hyn? A ydych chi'n credu y gallai'r ffaith fod gofal iechyd wedi'i ganoli mwy a mwy o integreiddiad â gofal cymdeithasol yng Nghymru fod wedi bod yn ffactor a arweiniodd at ryddhau mwy o gleifion i gartrefi gofal lle'r oedd y profi yng Nghymru yn llai cyffredin nag yn Lloegr?

Mae llawer o bobl yn dweud wrthyf i nad ydyn nhw'n meddwl bod y rheoliadau sy'n cyfyngu ar symud yng Nghymru nawr yn rhesymol a chymesur. A wnewch chi gadarnhau, os ydyn nhw'n gywir yn yr asesiad hwnnw, yna na fyddai'r rheoliadau a wnaed ar gyfer Cymru yn gyfreithlon? Soniasoch nawr yn eich datganiad am brawf angenrheidrwydd yn ogystal â phrawf cymesuredd wrth adolygu rheoliadau, a fyddech chi cystal â chysoni hynny â chael gwared ar brawf angenrheidrwydd o'r rheoliadau yn eich trydydd cyfres o reoliadau diwygio? A ydych chi'n meddwl bod pobl yn eglur ynghylch y gwahaniaeth rhwng y rheoliadau hynny, a allai rwymo o dan y gyfraith, a'ch canllawiau chi, nad ydyn nhw, yn enwedig pan ddisgrifiwyd y ddau fel 'rheolau' yn flaenorol?

Rydym ni wedi siarad o'r blaen am y dryswch a ysgogwyd gan y ffaith eich bod chi'n mynnu gwneud rheolau Cymru rhyw fymryn yn wahanol i reolau Llywodraeth y DU sy'n berthnasol yn Lloegr, does bosib nad oes dryswch pellach yn deillio o'r ffaith eich bod chi'n newid a diwygio rheolau Cymru yn gyson. Pan roesoch chi yn y drydedd gyfres o reoliadau diwygio bod yn rhaid i ymarfer corff fod yn 'lleol', yna dywedasoch, yn y canllawiau ategol, y byddai'n gamgymeriad ceisio diffinio 'lleol', gan y byddai hyn o reidrwydd yn wahanol yn y Gymru wledig i Gaerdydd, er i chi roi'r enghraifft bod Porthcawl, 30 milltir i ffwrdd, yn rhy bell o Gaerdydd. Pam felly ydych chi wedi gwneud tro pedol llwyr erbyn hyn ac wedi diffinio 'lleol' fel pum milltir? Efallai mai dyna'r safbwynt o Bontcanna, ond gyda'r awgrym o wrthwynebiad hwyr gan Aelodau Ceidwadol, a ydych chi'n cydnabod bod eich safbwynt wedi methu â sicrhau consensws, ac y bydd eich rheolau, pa un a honnir eu bod nhw'n gyfraith neu'n ganllawiau, yn dod yn fwyfwy aneffeithiol felly?

Wel, Llywydd, mae'r pwynt cyntaf yng nghyfraniad yr Aelod yn un rhesymol. Pam mae ardaloedd cynghorau yng Nghymru ymhlith y rhai sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf? Rwy'n credu bod nifer o resymau y gallem ni eu hawgrymu am hynny ar hyn o bryd. Mae'n bwysig iawn cofio bod y ffigurau hynny yn dibynnu i raddau helaeth ar faint o brofion sy'n cael eu cynnal. Y mwyaf o brofi a wneir, y mwyaf y byddwch chi'n eu darganfod, a bydd rhai mannau lle cynhaliwyd mwy o brofion ac felly mae nifer yr achosion yn edrych yn fwy, ond mewn gwirionedd, dim ond canlyniad gwahanol drefnau profi yw hynny.

Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod am y feirws yw ei fod yn ymosod ar fannau lle mae pobl yn hŷn, yn salach, yn dlotach ac yn byw'n agos at ei gilydd, ac mae Cymru wedi ei gorgynrychioli yn yr holl ffactorau hynny. A phan fydd y pethau hynny i gyd yn dod at ei gilydd, fel y maen nhw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yna mae'n debyg—. Efallai nad dyna'r esboniad cyfan, a bydd mwy y byddwn ni'n ei ddarganfod. Ond mae'n rhan o'r esboniad pam eich bod chi'n gweld rhai crynodiadau mewn cymunedau yng Nghymru a fyddai mewn tablau cynghrair eraill, yn yr un math o leoedd difreintiedig ac yn ysgwyddo baich y cyfnod o gyni cyllidol a hyrwyddwyd mor llon gan yr Aelod mewn rhan arall o'i fywyd gwleidyddol.

Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef ac rwy'n credu ei bod hi'n beryglus iddo ddechrau awgrymu i bobl yng Nghymru nad yw rheoliadau yn gyfraith briodol. Maen nhw yn gyfraith briodol; dyna gyfraith Cymru. Peidiwch â chael eich camarwain gan yr hyn y mae unrhyw un yn ei awgrymu i chi wrth feddwl nad ydyn nhw; maen nhw. Ac mae gwahaniaeth hawdd iawn rhwng rheoliadau a chanllawiau, ac nid yw'r Llywodraeth erioed wedi drysu pobl. Ceir pobl sydd wedi ceisio drysu pobl drwy ddweud bod y terfyn pum milltir yn rheol, ond rwyf i wedi bod yn eglur iawn bob amser, o'r cychwyn cyntaf, ei bod yn gyfarwyddyd bras, canllaw ydyw i bobl ei ddehongli yn eu daearyddiaeth lleol o ran yr hyn y gallai 'lleol' ei olygu iddyn nhw. Ac, fel yr eglurais wrth Paul Davies, un o'r brif ystyriaethau iddo oedd gwneud yn siŵr na fyddem ni'n cael rhaeadr enfawr o bobl o'r tu allan i ardaloedd llai poblog Cymru yn teithio i'r lleoedd hynny, lle mae coronafeirws wedi bod, diolch byth, mewn cylchrediad cymedrol iawn, ac na fyddem ni'n gweld ymchwydd o coronafeirws yn y mannau hynny am fod pobl wedi teithio o'u hardaloedd eu hunain ac wedi dod â'r feirws gyda nhw.

Llywydd, ymhell iawn o newid a diwygio'n gyson, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yw cyflwyno newidiadau cymedrol iawn ar ddiwedd pob cyfnod o dair wythnos. Rydym ni'n dilyn y dull mwyaf gofalus a phwyllog. Rydym ni'n datblygu'n araf repertoire newydd o bethau y gall pobl eu gwneud yn ddiogel yng nghyd-destun y coronafeirws.

Rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd yn llwyr â'r hyn y mae pobl yng Nghymru eisiau i ni ei wneud, ymhell o'r math o awgrym yr wyf i'n credu y mae'r Aelod yn ei wneud bod pobl yng Nghymru yn ysu i gael mynd ymhellach a gwneud mwy. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddarganfod yw bod pobl yng Nghymru yn deall nad yw'r feirws hwn wedi'i drechu o bell ffordd. Teimlir ei effaith bob dydd yn y marwolaethau y mae'n rhaid i ni eu cyhoeddi bob un dydd o'i herwydd, ac yn ogystal â'r ffaith mai ein dull o gymryd un cam ar y tro, gan ei wneud yn ofalus ac yn bwyllog, a datblygu pethau mewn ffordd sy'n parhau i roi hyder i bobl yng Nghymru mai eu hiechyd a'u lles sydd yn flaenllaw ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud, mae'n cyd-fynd yn rymus iawn â'r ffordd y byddai pobl yng Nghymru yn hoffi gweld eu Llywodraeth yn gweithredu.

11:30

Prif Weinidog, un o ganlyniadau'r pandemig yw'r effaith ar y diwydiant awyrennau. Mae pob cyflogwr yn y diwydiant hwn wedi ymgysylltu yn adeiladol ag undebau llafur ar ran eu gweithluoedd i reoli'r amgylchiadau anodd iawn hyn, i ddiogelu swyddi ac i ddiogelu sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Fodd bynnag, yn anffodus, ceir un cyflogwr sydd wedi cael ei ddisgrifio fel 'ysglyfaethwr masnachol', nad yw wedi ymgysylltu yn y ffordd arbennig hon, sef British Airways. Byddwch yn ymwybodol o hyn, Prif Weinidog, eu bod nhw'n cyflogi 42,000 o bobl ledled y DU, ac maen nhw'n cynnig oddeutu 12,000 o ddiswyddiadau o leiaf. Ond wrth geisio cyflawni hyn, eu bwriad, i bob pwrpas, yw gwneud y gweithlu cyfan yn ddi-waith, dileu 12,000 o swyddi, a chael 30,000 o bobl a fydd wedyn yn cael eu cyflogi ar delerau ac amodau a allai olygu eu bod nhw'n cael 60 neu 70 y cant yn llai o gyflog nag y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd.

Nawr, mae'n ymddangos bod hwn yn gyfle—. Yr hyn y mae British Airways yn ei wneud yw ceisio achub mantais economaidd ar gefn COVID. Yn fy etholaeth i, bydd British Avionics yn cau a chynigir y bydd 130 o 186 o swyddi yn cael eu colli, ceir 30 o 169 o swyddi yn Islwyn, ac yng ngwaith cynnal a chadw British Airways Caerdydd ym Maes Awyr Caerdydd, 239 allan o 546. Felly, 400 o swyddi i gyd. Nawr, mae'r cwmni'n gwybod ei bod hi'n amhosibl negodi ac ymgynghori dros 40,000 o ddiswyddiadau posibl gyda 40,000 o aelodau mewn 45 diwrnod. Mae'r undeb wedi mynnu mai'r peth priodol a'r peth moesol a moesegol i'w wneud yw tynnu'r hysbysiadau hynny yn ôl.

Nawr, bydd hyn yn destun cwestiwn brys yn San Steffan heddiw, ond a gaf i ofyn y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ei chefnogaeth lawn i undeb Unite a'r holl weithwyr hynny yn ne Cymru sy'n ddibynnol ar y swyddi hyn, a phawb ym Maes Awyr Caerdydd, oherwydd y diwydiannau cysylltiedig, i'w diogelu nhw a chael British Airways i wneud y peth iawn—i sefyll yn gadarn a negodi gyda'i weithwyr mewn ffordd briodol a moesegol i achub swyddi a sgiliau ar gyfer y dyfodol? Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r gefnogaeth honno a phwyso ar Lywodraeth y DU i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r sector hedfan?

11:35

Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno â Mick Antoniw am bwysigrwydd y sector hedfan yma yng Nghymru? Mae gan y sector rai o'r cyflogwyr gorau yng Nghymru—cyflogwyr fel Airbus, gyda hanes mor gryf o gydweithio ag undebau llafur yn y gyd-fenter, sy'n gwneud llwyddiant o'r cwmnïau hynny. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, wedi ysgrifennu yn uniongyrchol at y cwmni arall y mae Mick Antoniw wedi tynnu sylw ato, yn eu hannog nhw i dynnu'n ôl y mesurau y maen nhw wedi'u cynnig ar hyn o bryd i gydweithio â'r undeb llafur sy'n cynrychioli gweithwyr yn y fan honno. Mae cwmnïau doeth yn gwybod nad cydymffurfio'n syml â llythyren y ddeddf yn unig yw'r ffordd orau o lunio dyfodol ar gyfer y cwmnïau hynny sy'n dod â'u gweithlu gyda nhw—eu hased pwysicaf un. Yn y termau hynny y mae Gweinidog yr economi wedi ysgrifennu at y cwmni ac rwy'n annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio pa bynnag bwerau perswadio sydd ganddyn nhw hefyd i wneud yn siŵr nad dim ond llythyren y ddeddf ond ysbryd a moeseg y ddeddf, fel y dywedodd Mick Antoniw, y cydymffurfir â nhw yma hefyd.

Prif Weinidog, roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n cadarnhau unwaith eto nad yw'r 5 milltir y cyfeiriwyd atyn nhw'n gynharach yn rheol fel y cyfryw, oherwydd nid dim ond mewn ardaloedd gwledig y mae hynny'n broblem, fel y gwyddoch; mae hefyd yn broblem mewn llawer o gymunedau yn y Cymoedd, gan gynnwys fy un i, lle, pe glynwyd at hynny'n llym, byddai'n golygu na allai rhywun fynd, er enghraifft, o Gwmbrân i Flaenafon i weld eu teulu, felly rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Roeddwn i eisiau gofyn am gadw pellter cymdeithasol, oherwydd rwy'n pryderu, wrth i ni fynd drwy'r cyfyngiadau symud hyn, bod erydiad cyffredinol i ymateb pobl i'r rheoliadau cadw pellter cymdeithasol yn gyffredinol. Rwy'n ei weld mewn archfarchnadoedd, rwy'n ei glywed gan etholwyr o ran cyflogwyr, felly hoffwn ofyn i chi beth arall y gallwn ni ei wneud i ail-bwysleisio i'r cyhoedd nad ydym ni'n agos o fod allan o berygl o ran y pandemig hwn eto, a bod y materion hyn, y rheolau hyn, yn wirioneddol bwysig, a bod yn rhaid i bobl barhau i'w dilyn. Diolch.

Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i Lynne Neagle am wneud y pwynt yna eto? Rwy'n credu bod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru yn dal eisiau gwneud y peth iawn ac yn dal i wneud eu gorau i wneud y peth iawn, ac mae'n rhaid i ni beidio â gweld hynny'n dechrau treulio ar yr ymylon mewn ffordd a fyddai'n arwain at fwy o bobl ddim yn cydymffurfio â'r hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud, oherwydd nid ydym ni'n gofyn i bobl gadw pellter cymdeithasol fel rhyw faith o gosb; rydym ni'n gofyn i bobl ei wneud gan ei fod wir yn eu diogelu ac yn diogelu pobl eraill. Ac mae hwn yn glefyd ffyrnig; mae'n byw am oriau ac oriau ar arwynebau. Gallwch fod yn dioddef o goronafeirws eich hun heb wybod ei fod yn digwydd i chi ac rydych chi'n heintus i bobl eraill, felly efallai y byddwch chi'n teimlo'n iawn ac yn meddwl, 'Wel, beth yw'r niwed i mi fod yn nes at rywun?' Mewn gwirionedd, gallech chi fod yn gwneud llawer iawn o niwed yn anfwriadol, ond gyda chanlyniadau sylweddol iawn, iawn.

Felly, mae gennym ni i gyd waith i'w wneud, mae gen i yn sicr a chan y Llywodraeth, ond mae gennym ni i gyd, o ran atgoffa pobl bod y pethau syml yr ydym ni'n gofyn i bobl eu gwneud—cadw pellter o 2m, sicrhau hylendid dwylo, yr holl bethau syml hynny. Gyda'i gilydd ac yn gronnol, dyma'r pethau sy'n gwneud gwahaniaeth. Maen nhw wir yn achub bywydau ac mae angen i bobl barhau i wneud y pethau hynny, oherwydd fel y dywedais mewn ateb cynharach, bob dydd, mae gennym ni'r ddyletswydd drist ofnadwy o orfod cyhoeddi'r nifer ddiweddaraf o bobl sydd wedi marw o'r feirws hwn mewn gwahanol rannau o Gymru a gallwn ni i gyd wneud mwy i helpu i hynny beidio â digwydd.

Suzy Davies. Nid yw'r meicroffon yn gweithio i Suzy. A allwch chi roi cynnig arall arni, Suzy? Iawn, galwaf ar Mohammad Asghar ac fe ddown ni yn ôl atoch chi, Suzy. Mohammad Asghar.

11:40

Diolch, Llywydd, a diolch i chithau, Prif Weinidog, am eich datganiad. Mae nifer o bractisau deintyddol yn fy rhanbarth i wedi cysylltu â mi, sy'n poeni am yr amserlen a gynigiwyd gan Brif Swyddog Deintyddol Cymru i ailgyflwyno gofal deintyddol. Y cynnig yw ailddechrau mwy o ofal brys wyneb yn wyneb o 1 Gorffennaf ymlaen, ac yna archwiliadau rheolaidd ym mis Hydref a gweithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol, fel llenwadau a choronau, o fis Ionawr 2021. Deintyddiaeth breifat yw mwy na hanner y gwasanaethau deintyddol yng Nghymru, ac mae nifer y practisau sy'n gweithredu 100 y cant o dan y GIG yn isel iawn. Mae eu hyfywedd ariannol yn dibynnu naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl ar daliadau a dderbynnir gan gleifion sy'n cael gweithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol. Mae gwledydd eraill yn caniatáu i ddeintyddion ddilyn gweithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol drwy ddefnyddio masgiau anadlu a chyfarpar diogelu personol arall. Prif Weinidog, a wnewch chi edrych eto ar yr amserlen a'r hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud fel mater o frys i sicrhau hyfywedd ariannol practisau deintyddol yng Nghymru? Ac, yn ail, soniasoch yn gynharach am salwch ymhlith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn. Hoffwn wybod faint o bobl, o'r 2,122 o'r rhai sydd wedi marw o'r salwch y soniasoch amdanyn nhw'n gynharach, sy'n dod o'r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig mewn gwirionedd, sydd, yn ôl a ddeallaf, yn nifer eithaf uchel, a pha gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd, ar lefel eich Llywodraeth, i sicrhau ein bod ni'n ei atal yn y dyfodol. Diolch.

Diolch, Llywydd. A gaf i ateb yr ail o gwestiynau Mohammad Asghar yn gyntaf? Nid yw'r ffigur hwnnw gen i o fy mlaen, ond bydd gennym ni, ac rwy'n hapus, wrth gwrs, i rannu hwnnw gydag ef. Gwn y bydd wedi bod yn cymryd diddordeb yn y grŵp a gadeirir gan y Barnwr Ray Singh, a gwn ei fod yn adnabod yn bersonol yr Athro Keshav Singhal a chlinigwyr blaenllaw eraill sydd wedi cyfrannu at yr offeryn hunanasesu yr ydym ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru. Felly, hoffwn roi sicrwydd iddo ein bod ni'n manteisio ar yr holl arbenigedd y gallwn ni ddod o hyd iddo o'r gymuned yng Nghymru, yn ogystal â thu hwnt, i geisio gwneud yn siŵr bod gennym ni fesurau ar waith i ddiogelu pobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn briodol rhag yr effaith ychwanegol y mae'r clefyd hwn yn ei chael ar bobl o'r cymunedau pwysig hynny.

O ran y pwynt cyntaf am bractisau deintyddol, byddwn yn cyhoeddi, Llywydd, y llythyr y mae'r prif swyddog deintyddol wedi'i ddarparu i bractisau deintyddol yng Nghymru, gan nodi ei chynllun tri cham ar gyfer ailagor deintyddiaeth yng Nghymru. Gwn y bydd hi'n parhau i drafod gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain a buddiannau pwysig eraill yn y proffesiwn deintyddol yng Nghymru. Wrth gwrs, hoffem weld mwy o weithgarwch deintyddol ar gael—mae'n rhan bwysig iawn o'r hyn y mae darpariaeth gofal sylfaenol yng Nghymru yn ei gynnig i ddinasyddion Cymru. Ond ceir rhai heriau penodol o ran ymarfer deintyddol. Ni allwch chi ymarfer deintyddiaeth o bellter o 2m, ac mae risg uchel iawn yn gysylltiedig â gweithdrefnau aerosol yn arbennig o ran trosglwyddo'r feirws o gleifion i ddeintyddion ac o ddeintyddion i gleifion. Felly, bydd y prif swyddog deintyddol yn parhau i fod yn y trafodaethau hynny. Byddwn yn cyhoeddi ei chyngor. Rydym ni eisiau i fwy o ddeintyddiaeth ddigwydd yng Nghymru, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ei wneud mewn ffordd sy'n diogelu iechyd a lles ymarferwyr deintyddol a'u staff, yn ogystal â'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Prif Weinidog, cyhoeddodd eich Llywodraeth ddydd Sul bod y canllawiau i bobl y dywedwyd wrthyn nhw am warchod yn newid y diwrnod canlynol. Rwy'n ymwybodol bod llawer o bryder ymhlith pobl y dywedwyd wrthyn nhw i warchod i ddiogelu eu bywydau bod y newidiadau hyn wedi eu cyflwyno heb fawr o rybudd a phan fo'r gyfradd R yn dal i fod yn uchel. Y bore yma, byddwch wedi cael llythyr gan 32 o elusennau iechyd sy'n weithredol yng Nghymru, yn amlinellu eu pryderon dwys am y newidiadau hyn. Maen nhw eisiau esboniad am y rhesymeg dros y newid sydyn o'r canllawiau presennol. Maen nhw'n gofyn i'r rhai sy'n gwarchod gael eu hysbysu'n uniongyrchol am newidiadau yn hytrach na darganfod trwy ddatganiad i'r wasg, ac maen nhw eisiau i'r sector gael ei hysbysu am newidiadau ymlaen llaw yn y dyfodol, fel ei fod yn gallu paratoi. Maen nhw'n gofyn i chi gyfarfod â nhw i drafod eu pryderon. Prif Weinidog, a wnewch chi hynny?

Llywydd, bydd y prif swyddog meddygol yn ysgrifennu at bawb sydd ar y rhestr a warchodir yr wythnos hon yng Nghymru, gan nodi ein cyngor iddyn nhw ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Gadewch i ni fod yn eglur mai cyngor yw hwn. Nid oes neb yn cyfarwyddo pobl sy'n gwarchod i wneud unrhyw beth nad ydyn nhw'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud.

Y cyngor meddygol gan y pedwar prif swyddog meddygol, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, pan fo'r feirws yn llawer iawn llai arwyddocaol yn yr awyr agored, yw y dylem ni fod wedi cynnig y cyfle i bob a warchodir a oedd eisiau mynd allan mewn amodau wedi'u rheoli'n ofalus—i roi gwybod iddyn nhw ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Ond nid oes neb yn mynnu bod unrhyw berson sy'n gwarchod yn gwneud dim nad yw'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud.

Bydd y prif swyddog meddygol yn nodi ei gyngor diweddaraf mewn llythyr a fydd yn mynd at bob person a warchodir yng Nghymru. Maen nhw'n sicr yn dal i fod ar frig ein rhestr o flaenoriaethau, i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i gynnig y cyngor gorau iddyn nhw fel eu bod nhw'n cadw'n ddiogel ac yn cadw'n iach.

Ni ddylai neb anghofio bod mwy nag un niwed o'r coronafeirws, a bod cael eich cyfyngu i'ch cartref heb ddim gobaith o allu ei adael yn dod â niwed gwirioneddol hefyd i synnwyr pobl o les a rhannau eraill o'u hiechyd. Dyna pam y daeth y pedwar prif swyddog meddygol i'r casgliad a wnaethant, nid oherwydd bod unrhyw un eisiau gwneud unrhyw beth a fyddai'n niweidio pobl a warchodir—nage wrth gwrs. Ond y cyngor iddyn nhw yw os ydyn nhw'n teimlo'n hyderus ac yn barod i wneud hynny, eu bod nhw'n cael gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored bellach a chyfarfod ag un aelwyd arall yn yr awyr agored, o dan yr amodau iawn, cyn belled â bod hynny'n rhywbeth y bydden nhw eu hunain yn dewis ei wneud.

11:45

Prif Weinidog, fe wnaethoch gyhoeddi ar 1 Mai y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref ledled Cymru:

'Diben y taliad hwn yw rhoi cydnabyddiaeth bellach o’n gwerthfawrogiad am bopeth'

y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud i

'gefnogi ein GIG a’r gymdeithas ehangach.'

Dyma fy nghwestiynau i: pryd y bydd yn cael ei dalu? Sut y bydd yn cael ei dalu? Ai taliad untro ydyw neu a fydd yn cael ei ychwanegu at gyflogau? A fydd yn cael ei drin fel cyflog ac yn cael ei drethu, neu'n cael ei drin fel rhodd a ddim yn cael ei drethu?

Wel, Llywydd, fe fydd atebion i'r holl gwestiynau yna, ond roedd yr atebion hynny yn amodol ar ateb gan Lywodraeth y DU i'n ple iddyn nhw wneud y taliad hwn yn rhydd o dreth ac yn rhydd o gyfraniadau yswiriant gwladol. Siomedig iawn oedd cael ymateb gan yr Ysgrifennydd Ariannol i'r Trysorlys ddydd Llun yn gwrthod gwneud hynny. Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bellach y bydd yn rhaid i ni roi ystyriaeth i amrywiaeth eang o faterion i geisio sicrhau bod effaith y penderfyniad hwnnw gan y Trysorlys cyn lleied â phosibl. Nid yw'n bosibl ateb holl gwestiynau Mike Hedges y bore yma, gan ein bod ni wedi gobeithio y byddai ateb gwahanol a llawer gwell.

Roeddem ni eisiau i'n £500 fynd yn syth i'r bobl yr ydym ni wedi eu cydnabod am y cyfraniad y maen nhw wedi ei wneud, oherwydd maen nhw ymhlith y bobl sy'n cael y cyflog lleiaf yn ein gweithlu. Nid oeddem ni'n gofyn i'r Trysorlys am arian, dim ond gofyn yr oeddem ni iddyn nhw beidio â dwyn yr arian yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r bobl hynny oddi wrthyn nhw. Nawr, bydd swm sylweddol o'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn dal i fynd i'w ddarparu i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny yn y pen draw nid yn eu pocedi nhw ond ym mhocedi'r Trysorlys.

Bydd yn rhaid i ni ailystyried nifer fawr o'r cwestiynau y mae Mike Hedges wedi eu codi yn gwbl briodol i geisio dod o hyd i ffyrdd o liniaru'r penderfyniad hwnnw, ond yr ateb gwirioneddol yw na ddylai hyn fod yn destun treth ac na ddylai fod yn destun yswiriant gwladol, ac wedyn ni fyddai'n rhaid i ni boeni am ddod o hyd i ffyrdd o geisio gwneud yr effaith honno'n llai sylweddol.

Dim ond i ymateb i'r hyn a ddywedasoch yn gynharach am ddeintyddiaeth, ar ôl i ni weld y cynllun tri cham y bydd y prif swyddog meddygol yn ei gyhoeddi, rwy'n gobeithio ein bod ni'n mynd i allu cyflymu'r amserlen ar gyfer ailddechrau deintyddiaeth fodern lle'r ydym ni'n drilio ac yn llenwi pydredd dannedd yn hytrach na gorfod tynnu'r dant, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, na ellir byth cael un yn ei le yn amlwg, mae hyn yn bwysig iawn i iechyd cyffredinol pobl.

Fel arall, byddwn i eisiau edrych ar fusnesau bach sy'n gwbl ddibynnol ar allu gweithredu'n lleol, ac yn amlwg mae enillion eu busnesau yn aros yn lleol hefyd—yn enwedig trin gwallt. Nid oes neb yn mynd i farw o beidio â chael torri ei wallt, ond i bobl oedrannus yn arbennig, gall yr achlysur cymdeithasol hwnnw o fynd at y triniwr gwallt fod yn rhan bwysig iawn o'u hymgysylltiad â'r gymuned. Er enghraifft, mae gan siop trin gwallt Headmistress, sy'n cael ei rhedeg gan Alison Corria yn y Maelfa yn Llanedeyrn ers dros 40 o flynyddoedd, nifer fawr iawn o gwsmeriaid oedrannus. Mae'n awyddus iawn i ailgychwyn cyn gynted ag y bydd ganddi ganiatâd i wneud hynny, ac mae wedi gallu cyflwyno'r holl gyfyngiadau y mae canllawiau'r NHBF yn eu nodi, y gwn fod y Llywodraeth wedi bod yn eu trafod gyda nhw. Felly—

11:50

Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym ni, os mai dim ond un newid y byddwn ni'n gallu ei wneud ar y tro, fel yr argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd a SAGE, a allwn ni wir fforddio i wneud unrhyw newid ar ôl pob cyfnod o dair wythnos yn unig?

Llywydd, diolch. Yr ateb i'r cwestiwn ar y diwedd yw nad oes yn rhaid i ni aros tan ddiwedd cyfnod o dair wythnos i wneud newid, ac rydym ni wedi cael enghreifftiau yn ystod yr argyfwng lle'r ydym ni wedi gwneud newidiadau rhwng cyfnodau o dair wythnos lle bu achos cymhellol dros wneud hynny.

Llywydd, hoffwn gytuno a chydnabod yr hyn y mae Jenny Rathbone wedi ei ddweud am bwysigrwydd ehangach trin gwallt. Pan mai fi oedd y Gweinidog iechyd, rwy'n cofio'n eglur feddyg teulu mewn rhan wledig o Gymru yn dweud wrthyf i bod ei ffynhonnell orau o wybodaeth am bobl sy'n dechrau dioddef o ddementia yn dod gan siop trin gwallt leol yn ei gymuned, gan ei bod hi'n rhywun a oedd wedi adnabod ei chleientiaid dros 30 mlynedd. Roedd hi'n gweld pan nad oedd pobl a oedd yn dod i'w siop mor siŵr o'u pethau ag yr oedden nhw'n arfer bod, a gallai wneud ryw fath atgyfeiriad anffurfiol cynnar at y gwasanaeth dementia yr oedd ef yn ei redeg yn ei gymuned. Felly, rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr oedd Jenny yn ei olygu pan roedd hi'n sôn am y ffaith ei fod yn fwy na dim ond torri gwallt. Ond byddwn yn ystyried trin gwallt ochr yn ochr â phopeth arall.

Un o'r anawsterau gwirioneddol, Llywydd, y mae'n rhaid i mi geisio ei egluro i bobl yw bod cymaint o agweddau ar fywyd lle gallwch chi wneud dadl unigol dros eu hailagor, ac ar eu pennau eu hunain mae pobl yn gwneud y ddadl na fyddai hyn yn ychwanegu'n sylweddol at y risg o coronafeirws yn cylchredeg—bydd yn fân ychwanegiad ymylol yn unig. Y broblem i'r Llywodraeth yw bod yn rhaid i chi adio'r holl ychwanegiadau ymylol hynny at ei gilydd, ac yn eithaf buan mae'r holl ychwanegiadau ymylol hynny yn diweddu fel bod yn risg eithaf sylweddol. Mae'n rhaid i ni bwyso a mesur, nid dim ond practisau deintyddol neu drin gwallt neu chwarae tenis neu'r holl bethau y mae pobl, yn ddealladwy, yn ymddiddori ynddyn nhw, ac yna gwneud penderfyniad cyffredinol.

Byddwn ni'n gwneud hynny gyda deintyddiaeth hefyd. Gwn, fel y dywedais wrth Mohammad Asghar, y bydd y prif swyddog deintyddol yn ei thrafodaethau gyda'r proffesiwn eisiau ailgyflwyno pethau cyn gynted a phosibl, ac wrth gwrs mae ei phwyslais gyda'r proffesiwn ar ddeintyddiaeth ataliol. Rydym ni eisiau i ddeintyddion beidio â gorfod drilio na llenwi hyd yn oed, heb sôn am dynnu. Rydym ni eisiau iddyn nhw weithio fel y mae'r contract newydd yn eu gwobrwyo: am wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn tyfu i fyny gan ofalu am eu dannedd mewn ffordd sy'n golygu nad oes angen y math hwnnw o ddeintyddiaeth arnyn nhw, ac eithrio yn y ffordd leiaf posibl.

Prif Weinidog, dechreuasoch y sesiwn hon drwy ddweud ychydig wrthym ni y dull a ddefnyddiwyd gennych chi i gyflwyno rheolau a rheoliadau, a hoffwn godi'r pwynt y gall achosion mynych o dorri rheoliadau coronafeirws, o 22 Mai, arwain at ddirwy o £1,920. Cyflwynwyd hynny o dan y pedwerydd gwelliant i'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws, drwy'r weithdrefn a wnaed yn gadarnhaol, sy'n rhoi 28 diwrnod i'r Senedd hon gadarnhau'r gyfraith honno ai peidio. Nawr, roedd y rheoliadau hyn yn barod cyn toriad y Sulgwyn, cyn i'r cloc deddfwriaeth stopio. Fel y dywedasoch yn gynharach yn y sesiwn hon, deddfau yw'r rhain—deddfau a wneir gan y Weithrediaeth, nid y ddeddfwrfa—ac maen nhw'n gorfodi cosb. Felly, pam nad ydym ni'n eu trafod nhw heddiw yn hytrach na 17 Mehefin, ychydig yn llai na mis ar ôl iddyn nhw ddod i rym fel deddf a wnaed gan y Llywodraeth?

11:55

Wel, Llywydd, byddan nhw'n cael eu trafod yn unol â'r rheolau sy'n bodoli ar gyfer y pethau hynny. Dydyn ni ddim yn torri'r terfynau hynny. Nid wyf i'n ceisio bychanu'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud; mae'n bwysig iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi mai cyfrifoldeb y ddeddfwrfa yw cymeradwyo neu beidio â chymeradwyo'r newidiadau y mae'r Llywodraeth yn eu cynnig, ac mae'n bwysig iawn bod y ddeddfwrfa'n cael y cyfle hwnnw. Ond rydym ni yn cynnig y cyfle hwnnw.

Roeddem ni eisiau dod â phecyn o fesurau at ei gilydd fel y gallai'r Senedd edrych arnyn nhw yn y ffordd gynhwysfawr honno, gan fod dewisiadau y mae'n rhaid eu gwneud, ac, yn union fel y dywedais i wrth Jenny Rathbone mai effaith gronnol gwahanol newidiadau y mae'n rhaid i chi feddwl amdanyn nhw, mewn rhai ffyrdd, effaith gronnol yr holl newidiadau i'r gyfraith y bydd gan Aelodau'r Cynulliad ddiddordeb ynddyn nhw hefyd. Felly, nid gydag unrhyw fwriad o beidio â chydymffurfio â'r gofyniad angenrheidiol a phwysig i Aelodau'r Cynulliad gael y gair olaf yn y pethau hyn yr ydym ni wedi cynnig yr amserlen yr ydym wedi ei chynnig; mae er mwyn dod â chyfres o newidiadau yr ydym ni'n eu cynnig ynghyd, gan alluogi Aelodau'r Cynulliad i'w gweld gyda'i gilydd a phenderfynu a ydyn nhw eisiau eu cefnogi nhw ai peidio, ar sail cyfanrwydd yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Prif Weinidog, mae mwyafrif llethol y bobl ym Mlaenau Gwent yn gwbl gefnogol o'r dull yr ydych chi wedi ei fabwysiadu ac mae Llywodraeth Cymru wedi ei fabwysiadu dros y misoedd diwethaf, ac maen nhw'n cydnabod pwysigrwydd parhau â dull gofalus iawn. Mae gen i ddiddordeb mewn deall sut yr ydych chi'n gweld hyn yn symud ymlaen.

Dywedasoch mewn cynhadledd i'r wasg ei bod hi'n bosibl, gyda'r system olrhain a phrofi ar waith erbyn hyn, y bydd cyfyngiadau symud lleol lle gallai fod achosion lleol o ran y clefyd yn y dyfodol. Tybed a allech chi egluro sut yr ydych chi'n gweld hynny'n gweithio ac a ydych chi'n gweld y gallu i wahanol reolau gael eu gweithredu mewn gwahanol rannau o'r wlad. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fydd o ddiddordeb i lawer o bobl.

A hefyd, wrth i ni symud ymlaen dros yr ychydig fisoedd hyn, rydych chi wedi penodi Jeremy Miles i edrych ar adferiad o COVID ac o effaith COVID. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Mick Antoniw yn gynharach yn y sesiwn hon am effaith colli swyddi yn y sector hedfan, ond rydym ni'n gwybod y bydd yr effaith economaidd gyffredinol yn cael ei theimlo fwyaf mewn cymunedau fel Blaenau Gwent. Sut ydych chi'n gweld y gwaith y mae Jeremy yn ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r materion hynny o effaith economaidd COVID? Rydym ni wedi cael cefnogaeth wych gan y cyhoedd i gadw pobl yn ddiogel drwy'r haint hwn. Nawr, sut yr ydym ni'n parhau i gadw pobl yn ddiogel o ran cyflogaeth a swyddi a'r economi wrth i ni symud ymlaen i adferiad?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Alun Davies am y cwestiynau gwirioneddol bwysig yna? Bydd fy nghyd-Weinidog, Vaughan Gething, yn rhoi rhagor o fanylion am gyflwyno'r broses profi, olrhain a diogelu yn ystod rhan gyntaf yr wythnos hon, ac mae yn rhoi i ni—ynghyd â'r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch y gobeithiwn fod yn aelodau ohoni, bydd yn rhoi mwy o wybodaeth fanwl iawn a lleol i ni am achosion o coronafeirws. Ac mae'n ddigon posibl mai'r ffordd orau yn y dyfodol o geisio gwneud yn siŵr nad yw coronafeirws yn lledaenu unwaith eto fydd cael mwy o weithredu lleol. Mewn rheolaethau heintiau iechyd cyhoeddus arferol, dyna'n union y byddech chi'n ei weld. Mewn achosion llawer llai o'r frech goch neu rywbeth fel yna, gweithredu lleol fyddai'n cael ei roi ar waith.

Nid yw'n sicr o fod fel hynny. Os oes camau'n cael eu cymryd mewn mannau eraill sy'n arwain at ymchwydd sydyn a llawer mwy cyffredinol i coronafeirws, yna ni allwn ddiystyru'r posibilrwydd y gallai mesurau mwy sylweddol ar raddfa ehangach ddal i fod yn angenrheidiol. Ond rydym ni eisiau osgoi hynny os gallwn ni yng Nghymru, ac un ffordd fydd defnyddio profi, olrhain a diogelu a ffynonellau eraill o wybodaeth i geisio mireinio ein hymateb mewn ardaloedd mwy lleol—

12:00

Yn gyflym iawn, oherwydd fe gododd Alun Davies gwestiynau pwysig iawn am adferiad a bywyd y tu hwnt i coronafeirws. Argyfwng iechyd y cyhoedd yw hwn, ond mae'n argyfwng economaidd hefyd. Mae'n rhaid i ni lywio ein ffordd drwy'r misoedd sydd i ddod a pharhau i wneud y pethau hynny sy'n ymateb i'r argyfwng uniongyrchol, ond, ar ôl hynny, bydd yn rhaid i ni feddwl o ddifrif iawn am sut yr ydym ni'n llunio dyfodol i bobl y tarfwyd arnyn nhw gan effaith coronafeirws nid yn unig yn ystod y misoedd hynny, ond am ymhell y tu hwnt i hynny, a dyna'r gwaith y mae Jeremy Miles yn ei arwain.

Prif Weinidog, os caf i eich holi am ddau faes, yn gyntaf, yn gryno, mae etholwr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu, wrth i fusnesau ddod allan o'r cyfyngiadau symud, y gallai fod nifer o broblemau sydd wedi datblygu dros gyfnod hir o fusnesau ar gau, fel clefyd y llengfilwyr, er enghraifft, a allai greu problemau iechyd cyhoeddus dilynol. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthyf i pa gyngor a chyfarwyddyd sy'n cael eu rhoi i fusnesau, neu a fydd yn cael eu rhoi i fusnesau, wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio ac i bobl ddychwelyd i'w gwaith ac i'w busnesau.

Yn ail, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba gymorth sydd ar gael i wasanaethau iechyd meddwl ar yr adeg hon yn ystod y pandemig? Rydym ni'n gwybod bod y cyfyngiadau symud parhaus yn arwain at broblemau iechyd meddwl i lawer o bobl—llawer o'r rheini mewn teuluoedd, ond yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Ac, wrth gwrs, yn y sefyllfaoedd gwaethaf gall hyn arwain at broblemau difrifol iawn, a hyd yn oed, mewn rhai achosion, hunanladdiad. Tybed pa ddata sy'n cael eu casglu i fonitro sefyllfa iechyd meddwl pobl a beth sy'n cael ei wneud i gynorthwyo'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny, gan gynnwys atal hunanladdiad.

Llywydd, hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am hynna. Felly, cyhoeddwyd cyngor a chyfarwyddyd i fusnesau gennym ni ddiwedd yr wythnos diwethaf, ar ôl i'r cyngor partneriaeth cymdeithasol cysgodol eu cymeradwyo, ac, fel y dywedais, roeddwn i'n falch iawn bod y cyngor hwnnw wedi cael ei gymeradwyo ar y cyd gan y TUC a'r CBI yng Nghymru. 'Diogelu Cymru yn y gwaith' yw enw'r canllawiau, a bydd rhagor o ganllawiau mwy penodol i sectorau yn cael eu cyhoeddi hefyd. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod y pwynt penodol y mae Nick Ramsay wedi'i godi ynglŷn â phethau a allai fod wedi codi tra bod busnes wedi cau y mae angen i fusnesau feddwl amdanyn nhw a rhoi sylw iddyn nhw—byddaf yn mynd i ffwrdd ac yn gwneud ymholiad i wneud yn siŵr bod y cyngor yn ymdrin â'r mater pwysig hwnnw.

O ran gwasanaethau iechyd meddwl, Llywydd, yn fwy cyffredinol, mae'r GIG yn ailddechrau rhai o'i weithgareddau mwy cyffredin. Mae nifer y gwelyau sy'n rhydd yn ein gwasanaeth iechyd wedi gostwng o 3,500 ar ei anterth i lawr i 1,700 heddiw, ac mae hynny oherwydd bod mwy o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty am resymau nad ydyn nhw'n ymwneud â COVID. Rydym ni wedi cadw ein gwasanaethau iechyd meddwl i fynd drwy'r argyfwng hwn i gyd, ond rydym ni'n gallu ailafael mewn gwasanaethau iechyd meddwl mwy cyffredin hefyd ar hyn o bryd. Rwy'n credu, yr wythnos diwethaf, bod fy nghyd-Weinidogion Vaughan Gething a Kirsty Williams wedi cyhoeddi ar y cyd rhagor o gymorth ariannol i bobl ifanc, yn enwedig mewn teuluoedd. Gallaf roi sicrwydd i Nick Ramsay, ac Aelodau eraill sy'n cymryd diddordeb mawr ynddo, bod iechyd meddwl bob amser wedi bod yn agos at frig y pethau yr ydym ni wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd barhau i'w gwneud yn ystod yr argyfwng ac rydym ni'n awyddus dros ben i gryfhau'r ymateb yr ydym ni'n gallu ei gynnig i'r rhai y mae eu cyflyrau iechyd meddwl wedi eu gwaethygu yn benodol gan brofiad y salwch erchyll hwn.

Yn gyntaf oll, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gyfleu nodyn o rybudd i'r bobl hynny a gaiff eu temtio i dorri eu gwallt eu hunain yn ystod cyfnod y coronafeirws, gan fy mod i'n enghraifft o hynny? Hoffwn esbonio hynny i'r Aelodau.

Ond dau bwynt difrifol: yn gyntaf oll, tenis. Gofynnwyd i mi pam nad yw tennis wedi'i ganiatáu eto. Ac, yn ail, mae gen i, o fewn 5 milltir i'm hetholaeth, ddim llai nag wyth traeth, sy'n boblogaidd iawn. Fel arfer, byddai gan bump ohonyn nhw wasanaethau achubwyr bywyd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Nawr, maen nhw'n ddiolchgar iawn nad ydyn nhw wedi gweld y math o anhrefn yr ydym ni wedi ei weld ar rai traethau yn Lloegr—Durdle Door, wrth gwrs, yn un enghraifft. Ond y cwestiwn sydd gennyf yw: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r ffaith nad oes unrhyw wasanaethau achubwyr bywyd, er y byddai fel rheol ar yr adeg hon o'r flwyddyn? A pha wybodaeth sy'n cael ei rhoi i'r cyhoedd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ddiogel, o ystyried y ffaith nad yw'r ddarpariaeth honno ar gael?

12:05

Diolch yn fawr iawn i Carwyn Jones am ei gwestiynau. Bydd gwylwyr hyn, rwy'n meddwl, yn credu bod rhywfaint o gydgynllwynio rhyngddo ef a Jenny Rathbone yn ei chwestiwn yn annog ailagor siopau trin gwallt yng Nghymru.

Ond, ar ei bwyntiau difrifol, o ran tenis, y pwynt yw hyn—rwyf wedi ei ateb unwaith yn barod, Llywydd—y gall tenis wneud ei achos ei hun o fod yn gallu cael ei ailagor, o gael ei drefnu mewn modd ddiogel. Mae rhai heriau mewn tenis nad yw pobl bob amser yn meddwl amdanyn nhw yn hynny o beth. Gall y feirws hwn fyw ar bêl tenis, a, phan fyddwch chi'n chwarae tenis, fel arfer, yn sicr, mae pêl yn dod dros y rhwyd ac mae person yn ei chodi ac mae'r person ar yr ochr arall i'r rhwyd yn codi'r un bêl hefyd. Felly, nid yw gwneud tenis yn ddiogel heb ei heriau, ond, hyd yn oed os gellir ei wneud yn ddiogel, yna wyddoch chi, gall gleidio gael ei wneud yn ddiogel, gall sgïo jet gael ei wneud yn ddiogel, gall bowlio gael ei wneud yn ddiogel. Bydd llawer o'r Aelodau yma wedi derbyn llythyrau gan rai â gwahanol ddiddordebau. Yr hyn y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud yw cyfrifo'r holl risgiau ymylol ychwanegol hynny a phenderfynu a yw hynny, yn gyffredinol, yn risg yr ydym ni'n gallu ei chymryd ar hyn o bryd. Fe wnaethom ni benderfynu yr wythnos diwethaf y byddai'r holl hyblygrwydd sydd gennym, fwy neu lai, yn cael ei ddefnyddio i ganiatáu i deulu a chyfeillion weld ei gilydd unwaith eto, ac nid oeddem ni'n teimlo y gallem ni gymryd y risg ychwanegol o agor rhannau eraill o'n bywyd arferol. Byddwn yn parhau i ystyried tenis gyda chwaraeon awyr agored eraill yn rhan o'r adolygiad tair wythnos presennol.

Llywydd, mae Carwyn Jones yn gwneud pwynt pwysig iawn am wasanaethau achubwyr bywyd a diogelwch ar draethau. Ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, bydd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn gweithredu dim ond 30 y cant o'u gwasanaeth arferol eleni oherwydd y cyfyngiadau y mae'r coronafeirws wedi eu hachosi, ac yng Nghymru mae hynny'n golygu mai dim ond ar 10 traeth yng Nghymru gyfan y bydd gofal gan achubwr bywyd, a hynny o 20 Mehefin hyd at ddechrau mis Medi. Felly, mae'n bwysig iawn i ddweud wrth bobl, hyd yn oed pobl sy'n byw yn lleol, hyd yn oed pobl sy'n gallu cyrraedd traeth o fewn 5 milltir, y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd gofal ychwanegol arbennig eleni, oherwydd ni fydd y cymorth a fyddai wedi bod yno fel arfer, yr oruchwyliaeth a fyddai wedi bod yno fel arfer i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r môr yn ddiogel, ar gael yng Nghymru yn y modd y bu o'r blaen, a bydd yn rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb uniongyrchol iawn dros sicrhau eu bod yn ystyried hynny yn eu cynlluniau, oherwydd bydd angen i ddiogelwch fod yn brif ystyriaeth iddyn nhw, ac ni fydd ganddyn nhw wasanaeth cwbl weithredol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub o'r math yr ydym ni i gyd wedi bod mor falch o'i weld yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiwn amserol. Mae'r cwestiwn amserol i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, ac, yn gofyn y cwestiwn amserol, dwi'n galw ar Neil McEvoy.

Cydlyniant Cymunedol yn dilyn marwolaeth George Floyd

1. Yng ngoleuni'r digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, ar draws y byd a phrotestiadau yng Nghymru yn dilyn marwolaeth George Floyd, a wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu ei pholisïau ar gydlyniant cymunedol? TQ441

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae marwolaeth George Floyd yn drychineb. Caiff effeithiau'r achos hwn eu teimlo yn fyd-eang, ac nid yw Cymru yn rhydd rhag hiliaeth. Mae'n rhaid i ni barhau i'w wynebu. Mae ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant a chydlyniad cymunedol yn ymgorffori ymgysylltiad agos â chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn meithrin cysylltiadau da a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Diolch, Gweinidog. Rwy'n eistedd yma heddiw fel y person croenliw cyntaf i'w eni yng Nghymru i gael ei ethol i'n Senedd genedlaethol. Mae fy mhrofiad bywyd wedi bod yr un fath â llawer o bobl â chroen brown neu ddu yng Nghymru: ymosodiadau treisgar, arestio ar gam, sarhad hiliol a stereoteipio negyddol gyda'r hiliaeth dosbarth canol hynod glyfar sy'n dod i'n rhan. Dim ond yr wythnos diwethaf, roedd yn rhaid i mi gywiro erthygl a gyhoeddwyd i ddweud wrthyn nhw fy mod i'n bodoli a bod AC croenliw cyntaf erioed Cymru ar y pryd, sef Dr Altaf Hussain, yn bodoli. Ac roedd BBC Cymru wrthi eto ddoe, wrth anwybyddu dau aelod croenliw o'r Senedd.

Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd, ond a ydym ni wedi gwneud y cynnydd yr ydym yn credu ein bod ni wedi'i wneud o ran dosbarth a hil? Mae angen i ochr broffesiynol y Senedd fod yn fwy cynrychioliadol o'r Gymru yr ydym yn byw ynddi. Yn ein Senedd ni mae'n anghyffredin gweld pobl croenliw nad ydyn nhw'n gweithio ym meysydd diogelwch, arlwyo neu lanhau. Efallai y dylem ni edrych yn ôl i'r dyfodol. Mae Welsh National Party yn credu y dylai fod gan Gymru gyfansoddiad gyda bil o hawliau, sy'n golygu y gallwn ni i gyd gytuno i fod yn Gymry a siarad am yr hyn sy'n ein huno. Does dim gwahaniaeth o ble'r ydym ni'n dod, gallwn ni i gyd ddewis bod yn Gymry. Dangosodd ein cynfamau a'n cyndadau yn Tiger Bay y ffordd o ddatblygu cymdeithas amlddiwylliannol, gariadus a chytûn yn ardal y dociau, lle cafodd fy mam ei magu. Felly, a wnewch chi gefnogi diffinio yn y gyfraith yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gymro yng Nghymru drwy gyfansoddiad?

Cyn gorffen, mae'n rhaid i mi ddweud bod llofruddiaeth George Floyd yn erchyll. Gorffwysed mewn hedd, a gobeithio mai ei etifeddiaeth fydd newid cymdeithasol ledled y byd. Diolch yn fawr.

12:10

Diolch yn fawr, Neil McEvoy, a diolch i chi am ofyn y cwestiwn hwn ac am ei fynegi mewn ffordd mor uniongyrchol a phersonol, o ran eich profiadau eich hun a'r profiadau yr ydych chi wedi eu rhannu gyda ni heddiw. Caf fy atgoffa o'r ffaith ein bod, ychydig dros flwyddyn yn ôl, wedi cael ein dadl gyntaf ar hil yn y Cynulliad, ar fynd i'r afael â hiliaeth ledled Cymru. Yr hyn a oedd yn dda am y ddadl honno oedd ei bod yn ddadl drawsbleidiol. Fe wnaethom ni i gyd ymrwymo i'r ddadl honno. Ond yr hyn sy'n gwbl glir—ac mae'n gyfrifoldeb ar bob plaid wleidyddol, wrth gwrs, ond yn enwedig ar Lywodraeth Cymru ac, yn wir, o ran yr holl waith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf i fynd i'r afael ag effaith anghyfartal COVID-19 ar gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'r rhai sydd ar y rheng flaen, nid yn unig yn y GIG, gofal cymdeithasol, ond hefyd llawer yn yr holl swyddi gweithwyr allweddol. Felly dyna pam yr wyf i'n falch iawn ein bod ni'n cael y drafodaeth hon heddiw, y cwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru a'r ymateb gan y Prif Weinidog yn ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n unedig o ran bod wedi ein harswydo gan farwolaeth ddychrynllyd George Floyd yr wythnos diwethaf. 

Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod Vaughan Gething wedi siarad fel y Gweinidog du cyntaf o unrhyw un o lywodraethau datganoledig y DU yn 2013, yn siarad ar ôl rhoi ei fideo ar-lein, gan alw ar bob un ohonom ni i uno. Rwy'n parchu gwaith Black Lives Matter. Fe wnaeth Black Lives Matter, wrth gwrs, ddweud eu barn a dod at ei gilydd dros y penwythnos. Yn wir, yr wyf newydd ddod y bore yma o grŵp trawsbleidiol, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, ar hil, lle y clywsom y manylion am offeryn asesu risg Cymru, a grybwyllwyd eisoes y bore yma, a gyhoeddwyd ac a lansiwyd yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym hefyd, yn allweddol, yn bwysig, yn ystyried y materion economaidd-gymdeithasol, ac ymrwymais eto y bore yma, fel y gwnes i ychydig fisoedd yn ôl, i gynllun gweithredu ar hil i Gymru.

Mark Isherwood. Mark Isherwood. Nid yw'n ymddangos fy mod i'n gallu ei weld ar fy sgrin ychwaith, felly nid yw ef bellach—

Mae'n ddrwg gennyf, efallai fod y sŵn wedi ei droi i ffwrdd , ond rwyf i yno.

Iawn. O ran troseddau casineb, anwybodaeth a rhagfarn, ceir peth gwaith gwych, er enghraifft yn y gogledd, NWAMI, Networking for World Awareness of Multicultural Integration, sy'n cydnabod mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â hynny yw drwy integreiddio, drwy ymgysylltu, drwy rannu gyda'n gilydd. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych yn ystod y pandemig o ddosbarthu parseli bwyd, yn enwedig i aelodau o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n ynysu ac sydd â gofynion dietegol oherwydd anghenion meddygol neu ddiwylliannol. Felly, sut gallwn ni gydnabod gwaith da sefydliadau fel NWAMI yn well a chefnogi'r gwaith hwnnw, pan gaiff ei golli'n aml oherwydd ei fod yn feddal yn hytrach na chaled? Mae'n ymgysylltu â phobl drwy weithgareddau a dathliadau diwylliannol, a bwyd, cerddoriaeth a dawns, ar y cyd â'r prosiectau cadarn a mwy sylweddol y mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn ymgysylltu â hwy hefyd.

12:15

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a NWAMI. Rwyf yn gyfarwydd iawn â'u gwaith; rydym wedi ei drafod. Buom yn siarad amdano mewn fforwm yn ddiweddar, mewn cyfarfod pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a gynhaliwyd, wedi ei drefnu gan y Tîm cymorth Ieuenctid Ethnig a Race Council Cymru, sydd wedi trefnu nifer o fforymau dros yr wythnosau diwethaf. A'r un yn y gogledd, clywais yn arbennig gan NWAMI am eu gwaith ym Mangor yn enwedig ynghylch cefnogi'r gymuned—nid myfyrwyr rhyngwladol yn unig, ond y gymuned. A hefyd, rwyf wedi codi gyda Lesley Griffiths, y Gweinidog, ynglŷn â phwysigrwydd cydnabod anghenion diwylliannol o ran cyflenwi blychau bwyd, ac adlewyrchir hyn yn helaeth iawn yn y cydlyniad cymunedol yr ydym wedi ei weld yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Felly, mae NWAMI yn rym pwysig er daioni ar gyfer cynnydd a chydlyniad cymunedol yn y gogledd, ynghyd â llawer o'r sefydliadau eraill yr wyf wedi siarad â nhw. Mewn gwirionedd, yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi cael rhith-fforymau ar-lein; mae fforwm hil Cymru wedi cyfarfod ddwywaith; rydym wedi cyfarfod â'r grwpiau rhanbarthol hyn, un yng Nghasnewydd yr oedd John Griffiths yn bresennol ynddo. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod ein bod eisoes wedi rhoi arian i brosiectau troseddau casineb: £480,000 o gronfa bontio'r UE, a'r prosiectau troseddau casineb hynny ac, yn wir, cyllid pellach o £350,000 ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion. Gwyddom fod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth mewn ysgolion yn cael effaith enfawr ar ddysgu a dealltwriaeth plant. A'r gwaith hwnnw, sydd eisoes yn cael ei wneud gan y sefydliadau hynny, y trydydd sector a sefydliadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac mae bob amser yn cynnwys y rhai hynny ar lefel llawr gwlad oherwydd eu bod yn cael cymaint o effaith ac yn gwneud y gwaith, fel y dywedwch, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol a chan fodloni anghenion rhai o'r rhannau o'n cymuned sydd wedi'u hallgáu fwyaf.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Fe fyddwn ni nawr yn torri am awr cyn i'r sesiwn brynhawn gychwyn. Ac felly, fe ddaw'r darlledu i ben am y tro. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 12:18.

13:20

Ailymgynullodd y Senedd am 13:20 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Wel, rydym yn ailymgynnull ar gyfer ein cyfarfod llawn y prynhawn yma, a'r eitem nesaf ar ein hagenda yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y coronafeirws, COVID-19, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da.

Bydd y datganiad heddiw yn canolbwyntio ar roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ailddechrau mwy o weithgarwch y GIG yma yng Nghymru. Rwyf yn falch o ddweud, er ein bod yn dal i gefnogi'r rhai sydd â'r coronafeirws arnyn nhw, fod nifer yr achosion a gadarnhawyd yn gostwng, fel y mae nifer y bobl sydd wedi colli eu bywydau yn y pandemig. Ddoe, cadarnhawyd 67 o achosion newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac roedd y ffigurau marwolaethau mewn ffigurau sengl. Fodd bynnag, roedd pob rhif yn unigolyn, ac yn atgof poenus o'r angen am ofal a phwyll gan bob un ohonom ni, nawr ac yn y dyfodol rhagweladwy os ydym ni eisiau lleihau lledaeniad y feirws.

Ni ddylai neb ddiystyru pwysigrwydd parhau i fod yn barod os ydym ni'n gweld unrhyw gynnydd yn y feirws yn y dyfodol ac eisiau ymdopi â hynny. Mae angen o hyd i ni gefnogi pobl yn ein cymunedau sydd angen ein gwasanaeth iechyd am resymau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Cymeradwyais fframwaith gweithredu GIG Cymru a gyhoeddwyd ar 6 Mai. Mae'n disgrifio pedwar math o niwed: niwed uniongyrchol o COVID ei hun; niwed gan y GIG a system gofal cymdeithasol wedi'u llethu, fel y gwelsom ni yn yr Eidal, er enghraifft; niwed yn sgil lleihad mewn gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID; a niwed gan gamau gweithredu cymdeithasol ehangach, gan gynnwys y cyfyngiadau symud.

Rwy'n cydnabod bod angen i ni weithredu yn araf ac yn bwyllog. Felly, mae cynllunio tymor byrrach ar gylchoedd chwarterol yn bwysig er mwyn i'n sefydliadau ddangos y gallant fod yn ystwyth ac yn hyblyg. Mae gallu dargyfeirio adnoddau yn hawdd ac yn gyflym er mwyn addasu i'r galw, rhwng y gwasanaethau hanfodol yn ymwneud â COVID-19 â'r rhai nad ydynt yn ymwneud â COVID, yn hollbwysig. Gan gydnabod pob un o'r pedwar niwed posib, mae cynlluniau chwarter 1 wedi'u hanelu'n benodol at gynyddu gweithgarwch hanfodol y GIG yn raddol, gan fynd i'r afael â'r gofynion presennol sy'n deillio o COVID-19. Rydym ni i gyd yn cydnabod ei bod hi'n bwysig sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn gweithredu'n effeithlon i'r rhai sydd eu hangen, ond mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Y ffaith yw y bydd bygythiad COVID-19 gyda ni am beth amser eto.

Cafwyd cynlluniau chwarter 1 yn ôl y gofyn ar 18 Mai. Maent yn nodi sut y mae ein byrddau a'n hymddiriedolaethau iechyd yn bwriadu darparu'r amrywiaeth o wasanaethau hanfodol, gan gynnwys canser, y galon, offthalmoleg a gwasanaethau eraill, yn aml mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Mae llawer o sefydliadau'n gweithio i aildrefnu eu hadeiladau, i ddarparu ardaloedd lle mae staff a chleifion yn teimlo y gellir cynnal profion diagnostig a chael triniaeth yn ddiogel. Mae defnyddio ysbytai ychwanegol yn y sector annibynnol wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer rhai o'r triniaethau hynny. Mae byrddau iechyd wrthi'n adolygu'r defnydd o'r cyfleusterau sydd ar gael i weld sut y gellid eu defnyddio yn y dyfodol. Ein nod yw i'n system gofal iechyd ail-gydbwyso o fewn amgylchedd ysbyty mwy arferol. Mae'r gwaith hwn gyda'r sector annibynnol wedi bod yn ddefnyddiol, ond wrth gwrs bydd angen i ni adolygu ei ddefnydd, sy'n cael ei archwilio yn y cynlluniau.

Mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd wedi gwneud trefniadau i greu capasiti ychwanegol mewn ysbytai maes. Mae'n beth cadarnhaol iawn ac ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith nad ydym ni wedi gorfod gwneud defnydd sylweddol o ysbytai maes yn ystod anterth cyntaf y feirws. Mae'r cynlluniau'n adlewyrchu'r angen i adolygu ac ailasesu wrth i ni gamu i'r dyfodol. Bydd adolygiad cenedlaethol o gyfleusterau ysbytai maes yn ystod mis Mehefin yn cefnogi'r gwaith hwn.

Mae problemau i'w goresgyn o hyd wrth inni ddechrau diweddaru ein gwasanaethau hanfodol. Bydd angen sicrhau bod digon o gyfarpar diogelu personol, meddyginiaethau, profion, staff a hyfforddiant ar gael, a dyma'r hyn y mae'r cynlluniau'n ei amlinellu. Yn ogystal, rwyf wedi gofyn i'r GIG barhau i ystyried lle y gall wneud mwy o ddefnydd o ddatrysiadau rhanbarthol, gan gronni adnoddau ac arbenigedd i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau.

Fodd bynnag, o'r argyfwng hwn, rydym ni hefyd wedi gallu cofleidio arloesedd. Mae llawer mwy o dechnoleg wedi'i defnyddio dros y 10 wythnos diwethaf. Yn y pythefnos rhwng 19 a 26 Mai, cafwyd 977 yn fwy o ymgynghoriadau o bell ar draws y GIG drwy ddefnyddio gwasanaeth ymgynghori fideo newydd GIG Cymru. Gan ddefnyddio'r ffyrdd newydd hyn o weithio i'r GIG, gallwn wneud llawer mwy o hyd, gyda modd cynnal cyfran gynyddol o ymgynghoriadau yn rhithwir. Yr un mor bwysig, nododd 97 y cant o gleifion ac 85 y cant o glinigwyr fod y ffordd newydd hon o weithio yn 'ardderchog', 'da iawn', neu'n 'dda'. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y gwasanaethau dilynol y gellid eu cynnal i gleifion allanol dros y ffôn. Mae hynny'n dangos sut yr ydym ni, yn ein hymateb i'r pandemig, yn defnyddio offer a gwasanaethau sy'n bodoli eisoes i ddarparu gofal mewn ffyrdd mwy effeithlon. Felly, rydym ni'n newid y ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau, ac yn defnyddio ein hadnoddau'n wahanol.

Er enghraifft, sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ganolfan ar gyfer y bwrdd iechyd hwnnw yn ei gyfanrwydd i gydgysylltu'r llif cleifion, gan gynnwys rhyddhau cleifion yn gyflym, uwchgyfeirio cymunedol, ac unrhyw gapasiti ychwanegol o fewn eu hysbytai maes o ran ymchwydd neu ymchwydd sylweddol. Mae ganddyn nhw hefyd grŵp moderneiddio gwasanaethau i gleifion allanol sy'n cynllunio i ailgychwyn gwasanaethau. Ac mae'r rhain yn datblygu modelau gofal newydd a ffyrdd o weithio a fabwysiadwyd mewn ymateb i COVID.

Bydd fy swyddogion yn cyfarfod â phob sefydliad dros yr wythnosau nesaf i adolygu eu cynlluniau a'u cynorthwyo i sicrhau y cânt eu rhoi ar waith. Roedd y fframwaith gweithredu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau i Lywodraeth Cymru fel y corff sy'n galluogi hyn fel modd o gefnogi'r broses weithredu. Ymysg peth o'r gweithredu hwnnw mae'r gronfa fuddsoddi mewn blaenoriaethau digidol a gyhoeddais fis Medi diwethaf. Fe'i defnyddiwyd i gyflymu rhaglenni a mentrau digidol newydd. Mae hyn yn cynnwys cyflymu'r broses o gynnal ymgynghoriad fideo ledled Cymru, seilwaith a dyfeisiau i alluogi gweithio o bell, a system ddigidol newydd ar gyfer olrhain cysylltiadau, a gyflwynwyd i gyd mewn wythnosau. Mae rhaglen i sicrhau bod Microsoft Teams ac Office 365 ar gael i holl staff y GIG, a ddechreuodd yr hydref diwethaf, wedi'i chywasgu o dair blynedd i un. Byddaf hefyd yn cyflwyno system ddigidol newydd i'w defnyddio mewn unedau gofal dwys, adnodd digidol newydd ar gyfer gofal llygaid, a chyflymu'r broses o uwchraddio ein gwasanaethau patholeg digidol. Mae'r modd y mae sefydliadau wedi gweithio gyda'i gilydd mor gyflym i ddefnyddio technolegau digidol newydd wedi bod yn drawiadol.

Mae Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru wedi datblygu cyngor drafft ar ofal critigol yn ystod y cam nesaf o'r pandemig ac yn ailddechrau gwasanaethau'r GIG, ynghyd â chanllawiau sydd newydd eu cyhoeddi. Mae ymgyrch gyfathrebu barhaus yn cael ei datblygu i annog cleifion i ddefnyddio'r gwasanaethau hanfodol hynny, a darparwyd arian ar gyfer sefydlu ysbytai maes, capasiti sector preifat, ac, yn wir, ein gweithlu myfyrwyr.

Gan ddefnyddio'r adborth a'r adolygiad o chwarter 1, byddwn yn symud tuag at ddull fframwaith parhaus ar gyfer chwarter 2. Bydd hyn yn cynnwys deall y camau nesaf yn y cynllunio dros fisoedd yr haf ac ar gyfer cynlluniau wrth gefn y gaeaf yn chwarter 3. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd. Rwyf hefyd wedi rhoi mwy o fanylion i'r Aelodau am gynlluniau chwarter 1 mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw.

Dydd Llun yr wythnos hon, lansiwyd ein gwasanaeth profi, olrhain a gwarchod cenedlaethol gyda GIG Cymru. Mae olrhain cyswllt yn gam nesaf hanfodol yn ein brwydr yn erbyn COVID-19. Bydd yn ein helpu i atal trosglwyddo'r feirws, diogelu'r cyhoedd, canfod achosion o'r haint a gweithredu'n gyflym i reoli clystyrau ac achosion. Dechreuodd y gwasanaeth cenedlaethol newydd, yn ôl y bwriad, ddydd Llun 1 Mehefin. Felly, cysylltir ag unrhyw un sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws yng Nghymru nawr gan ofyn am fanylion yr holl bobl y buont mewn cysylltiad â nhw pan oedd ganddyn nhw'r symptomau.

Fel y dywedais o'r blaen, ein dull ni o weithredu yw meithrin a chynyddu ein gallu i olrhain cysylltiadau'n lleol. Y gwir amdani yw na fydd cynllun cenedlaethol yn gweithio oni bai ein bod yn gwneud defnydd llawn o'r wybodaeth, y sgiliau a'r arbenigedd lleol sydd wedi'u datblygu dros flynyddoedd lawer o fewn timau diogelu iechyd yn ein hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd. Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn wedi ein galluogi i ddod â gweithlu o dros 600 o olrheinwyr cyswllt ynghyd drwy Gymru benbaladr i ddechrau'r gwasanaeth cenedlaethol newydd yn gyflym. Bydd cynlluniau rhanbarthol, a gytunir ar y cyd gan bartneriaid llywodraeth leol a byrddau iechyd, yn ein galluogi i gynyddu'r gweithlu'n gyflym, os a phan fydd angen. Mae hyn yn dilyn ymarfer arbrofol llwyddiannus pythefnos o hyd mewn pedwar rhanbarth bwrdd iechyd yng Nghymru. Pwyslais allweddol y cynlluniau arbrofol oedd sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant, y canllawiau a'r cymorth safonol sydd eu hangen arnyn nhw i allu gwneud y swyddogaeth hynod bwysig a heriol hon yn effeithiol.

Ers dydd Sul, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi 208 o achosion cadarnhaol, ac mae pob un ohonyn nhw wedi'u trosglwyddo i'n timau olrhain cyswllt. Lle bo'n briodol, mae pobl wedi cael eu cyfweld ac, ar gyfartaledd, mae hyn yn dynodi tri neu bedwar o gysylltiadau dilynol pellach fesul achos cadarnhaol. Mae'r adborth cynnar hefyd yn dangos bod yr unigolion y cysylltwyd â nhw gan ein timau olrhain yn cymryd rhan yn gadarnhaol. Hyd yn hyn, mae'r arwyddion yn galonogol, ond ni ddylem ni, ac ni ddylem ni fyth gymryd y gefnogaeth gyhoeddus yn ganiataol. Felly, am y tro, canolbwyntir ar yr wythnosau nesaf, lle gallwn ni wneud gwahaniaeth, a chael y cydbwysedd cywir rhwng pob un o'r pedwar maes niwed wrth i ni geisio helpu i gadw Cymru'n ddiogel.

13:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Byddwch yn ymwybodol bod y sefyllfa drasig yng nghartrefi gofal Cymru wedi sbarduno'r comisiynydd pobl hŷn i gyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae wedi tynnu sylw at oedi wrth brofi fel pryder allweddol.

Ar 16 Mai, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddai profion yn cael eu hehangu i bawb mewn cartrefi gofal. Fodd bynnag, yn ôl un awdurdod lleol, mae gobaith y caiff eu cartrefi gofal, o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu profi erbyn 8 Mehefin. Fodd bynnag, fe'i disgrifiwyd fel targed uchelgeisiol. Pam y mae wedi cymryd dros dair wythnos ers eich cyhoeddiad i brofi pob cartref gofal, i gynnwys ein preswylwyr a'n gweithwyr gofal yno? A gytunwch chi hefyd fod y ffaith y cafodd cleifion eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal heb unrhyw brofion, gan roi llawer mewn perygl, yn gwneud hyn yn fwy gwarthus byth?

Ac yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi egluro pam na chaiff data eu casglu na llygaid eu cadw ar y rhai sy'n derbyn gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain o ran COVID-19? Mae hyn yn ymddangos i mi yn rhan anghofiedig o'n cymdeithas, gan eu rhoi nhw, ein gweithwyr gofal cymdeithasol a'n gweithwyr gofal cartref ein hunain mewn perygl.

Diolch i'r Aelod am y tri chwestiwn, rwy'n credu, ond dechreuaf gyda'r sylw cyntaf. Mae'n glir iawn nad ydym ni'n llac nac yn gamarweiniol gyda'n hiaith: ni wnaeth y comisiynydd pobl hŷn gyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Hawliau Dynol—mae hi wedi cael sgwrs ac mae hi wedi egluro ei bod hi eisiau gweld y sefyllfa mewn cartrefi gofal ledled y DU yn cael ei gwerthuso, ac, fel y nododd y Prif Weinidog, ac yn wir fel y gwneuthum i, rydym ni yn disgwyl cynnal ymchwiliadau gwerthuso a byddwn yn hapus i gydweithredu â phob un o'r ymchwiliadau swyddogol hynny. A bydd y Senedd hon, rwy'n tybio, eisiau cynnal ei hymarfer ei hun o ran ystyried y gwersi a ddysgwyd a'r penderfyniadau a wnaed ar y pryd.

Felly, o ran gofal cartref, o ran eich cwestiwn olaf, mae'n peri pryder penodol i mi ac i'r Dirprwy Weinidog. Mae'n faes y buom eisoes yn ymwneud ag ef o ran profi gweithwyr allweddol. Ac mae'n faes sydd, rwy'n gwybod, yn bryder rheolaidd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, oherwydd yr ydym ni'n cydnabod bod problem o ran trosglwyddo a sut yr ydym yn amddiffyn pobl, a hynny'n aml yn sgil pobl yn dod i mewn i gartref yr unigolyn hwnnw. Felly, mae ar y staff eu hunain eisiau'r sicrwydd nad ydyn nhw, i bob pwrpas, yn gweithredu i drosglwyddo'r coronafeirws i'r bobl agored i niwed y maen nhw'n helpu i ofalu amdanynt, a dyna pam yr oedden nhw bob amser yn un o'r gweithwyr allweddol yn ein system, ac, wrth gwrs, mae mynediad ar-lein bellach ar gyfer y system o brofion sydd gennym ni yng Nghymru.

Bydd pob cartref gofal yn cael ei brofi o fewn y pythefnos nesaf. Mae rhai byrddau iechyd yn meddwl y gallan nhw gael y prawf hwnnw o fewn yr wythnos i 10 diwrnod nesaf. Bydd eraill ychydig yn hwyrach, ond, o fewn y pythefnos nesaf, disgwyliaf i bob cartref gofal, preswylwyr a staff gael eu profi. Dyna'r dewis polisi bwriadol a wnaethom ni, a chredaf mewn gwirionedd fod yr amser a gymer hi i wneud hynny'n cymharu'n dda â phob gwlad arall yn y DU, gan gynnwys, wrth gwrs, Lloegr dros y ffin, lle deallaf nad yw oddeutu chwech o bob 10 cartref gofal wedi cael eu profi eto. Ond fel y dywedais, rydym yn disgwyl, o fewn pythefnos, y bydd pob cartref gofal yng Nghymru wedi cael ei brofi. 

Peth arall, o ran y sylw olaf a wnaethoch chi, y mae angen imi ymateb iddo, yw y dylai pobl â symptomau fod wedi cael prawf cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty bob tro. Dylai wastad fod prawf cyfredol wedi bod i bobl sydd wedi gadael yr ysbyty. Fe wnaethom ni symud i sefyllfa—a gydnabuwyd gennym ni ar y pryd y tu hwnt i gyngor gwyddonol a chyngor ein prif swyddog meddygol ynghylch a oedd sail wyddonol i wneud hynny—i brofi pawb a ryddheir i gartref gofal, pa un a oes symptomau ganddyn nhw neu beidio, ond roedd a wnelo hynny'n benodol â sicrhau bod hyder o fewn y system, gan ein bod yn cydnabod y gellid achosi mwy o niwed pe bai'r system gyfan wedi ei gorlwytho. Mewn cyfnod arferol, trafodwn y niwed a achosir i bobl nad ydynt yn cael eu rhyddhau'n effeithiol ac yn gyflym, ac felly roedd hyn, rwy'n credu, yn fesur pragmatig a phriodol. Ac rwy'n siŵr y bydd gennyf fwy o amser i ail-drafod y gorffennol ar achlysuron eraill, ond rwy'n fodlon ein bod yn gwneud y peth priodol ar y sail dystiolaeth gywir ar hyn o bryd ar gyfer pobl Cymru.  

13:35

Diolch yn fawr, Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud, er eich bod yn dweud y bydd y profion hyn yn digwydd o fewn pythefnos, gwyddoch am y ffigurau uchel sydd wedi'u cofnodi yma yn y gogledd, yn fy marn i, pe byddech yn profi pob cartref yn sydyn, dyweder o fewn dau neu dri diwrnod, ni fyddem yn gweld ein ffigurau'n cynyddu yn unig, byddem yn eu gweld yn saethu i fyny.

Nawr, agorwyd y ganolfan brofi yma yn Llandudno ar 29 Ebrill. Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth a gyflwynais i fwrdd Betsi Cadwaladr, dim ond 258 o weithwyr cartref nyrsio ac awdurdod lleol a brofwyd ar safle Llandudno erbyn 28 Mai. Mae hyn mewn gwirionedd yn cyfateb, ar gyfartaledd, i wyth gweithiwr y dydd. Mae beirniadaeth ynghylch y ffaith nad oes llawer o ddefnydd ar y ganolfan brofi pan fo hi'n dal yn angenrheidiol cynnal profion torfol yma yn y gogledd. Felly, hoffwn gael eich barn ar hynny. Pam y gwelwyd cyn lleied o weithwyr allweddol yn y ganolfan hon y mis diwethaf? A beth ydych chi'n ei wneud i fonitro faint o brofion a gynhelir ym mhob canolfan profi drwy ffenest y car drwy Gymru gyfan? Hoffwn weld y ffigurau hynny'n cael eu hadrodd.

Mae profi yn parhau'n drafferthus yn hyn o beth. O 27 Mai, gellid cynnal dros 9,000 o brofion bob dydd. Ddydd Llun, dim ond 2,492 o brofion a gynhaliwyd. Pam na ddefnyddir yr holl gapasiti sydd yna i brofi, pan wyddom ni yn ein cymunedau fod gennym ni'r bobl hyn—pobl sy'n agored i niwed—y mae angen y profion hyn arnynt? Sut y gallwn ni felly fod â ffydd mewn profi, olrhain a diogelu os nad yw nifer y profion beunyddiol yn ddim ond tua 10 y cant o'r 20,000 o brofion beunyddiol y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol y byddid eu hangen i olrhain cysylltiadau?

Ymdriniaf â'r sylw olaf yn gyntaf. Mae angen hyd at 20,000 o brofion i olrhain cysylltiadau, yn dibynnu ar le yr ydym ni arni o ran codi'r cyfyngiadau symud a chyfradd lledaeniad yr haint. Mae ceisio cymharu lle yr ydym ni arni nawr â'r hyn a allai ddigwydd fisoedd yn y dyfodol yn beth pur ffôl i geisio ei wneud ac nid yw'n ffordd onest o ddisgrifio'r sefyllfa sydd ohoni. Ac rwy'n credu, ar adeg pan fo pobl yn poeni, bod ceisio rhoi syniadau a ffigurau sy'n amlwg ac yn ddiymwad yn gamarweiniol, yn hynod anghyfrifol.

O ran eich ffigurau ar gyfer profion yn y gogledd ac mewn cartrefi gofal, rydym ni mewn gwirionedd yn cloriannu ac yn gweld mai yn y gogledd y mae'r gymhareb fwyaf o ran profion y pen o holl ardaloedd byrddau iechyd y wlad. Felly, cafodd mwy o brofion eu cynnal yma eisoes nag mewn unrhyw le arall. Ond y newyddion da ynghylch hynny yw, er bod yna fwy o bobl a ddynodwyd fel rhai â COVID-19 arnyn nhw, rydym ni'n cydnabod, mewn gwirionedd, o ran y niwed sy'n cael ei achosi, o ran derbyniadau i ysbytai ac, yn wir, wedyn o ran cyfraddau marwolaeth, o ran cyfraddau marwolaeth dyma'r isaf ond un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae hynny'n newyddion da i bobl yn y gogledd.

O ran canolfan brofi Llandudno, byddaf yn cael adborth yn rheolaidd gan fforymau cydnerthedd lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys pobl sy'n cynrychioli staff a chyflogwyr yn y sector gofal cymdeithasol, ac maen nhw wedi dweud ers cryn amser bod gwelliant sylweddol o ran gallu cael profion a defnyddio'r trefniadau atgyfeirio. Maen nhw wedi'u gwella ymhellach nawr, ac mae hi bellach yn haws i'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr allweddol gael prawf, gyda phob un ohonyn nhw bellach yn gallu mynd ar y we i archebu eu prawf eu hunain yn y ganolfan profi drwy ffenest y car. Felly, rydym ni wedi ei gwneud hi'n bosib nid yn unig i'r labordy gynnal mwy o brofion, ond ei gwneud hi'n haws cael y profion hynny. 

Nac oeddwn, roeddwn i'n siarad ar y pryd. Daeth neges yn dweud bod fy nghysylltiad rhyngrwyd yn ansefydlog. Efallai fy mod wedi tewi am eiliad. Dim ond pwysleisio yr oeddwn i—

Iawn. Mae'n ddrwg gennyf, Rhun, dof yn ôl atoch chi. A ydych chi eisiau gorffen yn fyr, felly, Gweinidog?

Roeddwn ar fy mhwynt olaf. Mae'r ddwy i dair mil o brofion yr ydym yn eu cynnal bob dydd nawr yn fesur o'r angen a'r galw presennol sy'n bodoli o fewn ein system, ond rhagwelwn y bydd hynny'n cynyddu wrth inni godi'r cyfyngiadau symud ymhellach, a chan fod mwy o gyswllt rhwng pobl a mwy o angen, gallwn fynd ar drywydd a phrofi mwy o bobl mewn gwirionedd. Daw hyn â ni'n ôl at yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yn gyson—mae angen seilwaith mwy ar ein system profi, olrhain a diogelu, ac rydym ni mewn sefyllfa nawr lle mae gennym ni gapasiti llawer mwy sylweddol i allu gwneud hynny.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

13:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nawr, mae Llywodraeth Cymru hyd yma wedi gwrthod argymell y dylai pobl wisgo mygydau wyneb pan fyddant allan yn gyhoeddus. Y cyngor diweddaraf y gallwn ddod o hyd iddo gan Lywodraeth Cymru yw y gallai pobl eu gwisgo os ydyn nhw'n dymuno, ac nid yw hynny'n arbennig o ddefnyddiol, gan fod pobl yn edrych at y Llywodraeth am arweiniad ar adegau fel hyn.

Mae'n rhaid imi ddweud, mae'r dystiolaeth yr wyf yn ei gweld yn cryfhau fwyfwy ar hyn. Canfu adroddiad pwysig yn The Lancet yr wythnos hon y gallai gwisgo mygydau wyneb gyfrannu mewn modd defnyddiol iawn at gadw cyfraddau heintio yn isel. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud yn bendant nad yw defnyddio mygydau yn ddigon ar ei ben ei hun, ond maen nhw yn dweud y gall gwisgo mwgwd gyfyngu ar ymlediad rhai clefydau feirysol anadlol, gan gynnwys y coronafeirws. Mae'r Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau yn yr Unol Daleithiau yn eu hargymell. Cafwyd astudiaeth ddiddorol yng Nghaliffornia a Taiwan ddiwedd mis Mai yn dweud y gall y feirws aros yn heintus mewn mannau dan do am oriau, a

bod yn rhaid gweithredu mesurau a luniwyd i leihau trosglwyddiad aerosol,—

ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma—

gan gynnwys cymell pawb i wisgo mygydau.

Mae tua 50 o wledydd, rwy'n credu, bellach yn mynnu bod pobl yn gwisgo mygydau, mewn rhai sefyllfaoedd o leiaf—dim ond ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai gwledydd, ac yn llawer mwy cyffredin mewn eraill. Nawr, nid oes iddynt y sgil-effeithiau corfforol, a geir o bosib gyda chyffur newydd dyweder, na goblygiadau'r cyfyngiadau symud i iechyd meddwl, felly heb os nac oni bai, dylai'r baich profi fod yn is. Ac os yw'n gwneud cyfraniad, yna pam ddim? Hyd yn oed pe bai dim ond manteision cyfyngedig iawn iddo. Felly, a wnaiff y Llywodraeth wrando ar y dystiolaeth gynyddol honno a chyflwyno canllawiau clir gan fynd ati i annog defnyddio gorchuddion wyneb?

Wel, mae canllawiau a phenderfyniadau'r Llywodraeth y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, wrth gwrs, yn dibynnu ar gyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton. Mae wedi adolygu'r dystiolaeth, ac mae'r cyngor cyfredol yng Nghymru yn dod o'i gyngor a'i argymhellion i ni, a hynny yw nad oes fawr o fudd ac nad yw yntau mewn sefyllfa lle mae'r dystiolaeth yn ddigon cryf i argymell bod pobl yn gwisgo mygydau mewn sefyllfaoedd penodol y tu allan i waith gofal rheng flaen, wrth gwrs, fel rhan o gyfarpar diogelu personol. 

O ran yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, fel rwyf wedi'i ddweud ac y byddaf yn ei ddweud ar sawl achlysur, lle mae'r dystiolaeth yn newid, byddwn yn hapus i newid ein safbwynt. Ac yn wir, bydd y prif swyddog meddygol, wrth gwrs, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth. Ym mhob un o'r sefyllfaoedd hyn—fel y gwelsom ni o ran y polisi profi—mae'n bosib i'r dystiolaeth honno newid yn eithaf cyflym.

Gwnaethom dri dewis polisi gwahanol dros gyfnod o chwe wythnos ynglŷn â phrofi mewn cartrefi gofal oherwydd bod y sail dystiolaeth wedi newid yn gyflym iawn. Ac mae hynny'n peri cryn anesmwythyd i'r cyhoedd, rwy'n gwybod, ond mae hefyd yn peri cryn anesmwythyd i'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hefyd. Ond os nad ydym ni'n barod i fod yn hyblyg wrth wneud penderfyniadau a bod yn barod i ailystyried lle yr ydym ni arni fel mae'r sylfaen dystiolaeth honno'n dod yn gynyddol amlycach, yna ni fyddwn yn y sefyllfa briodol. 

Felly, mae'n bosib y bydd newid yn y dyfodol, ond y cyngor presennol gan ein prif swyddog meddygol yw peidio â gwneud hynny. Ond fel rwy'n dweud, ni fyddwn i eisiau gwadu'r realiti y gallai'r cyngor hwnnw newid ac y gallai cyngor y prif swyddog meddygol newid. Bryd hynny, wrth gwrs, byddech yn disgwyl i Weinidogion wneud penderfyniad gwahanol.

A byddwn i'n eich annog i ofyn i'r prif swyddog meddygol ystyried hyn. Rydych chi'n dweud y gallai fod yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol, ond pan fyddwn ni'n ymladd y coronafeirws, nawr yw'r dyfodol mewn ffordd. Gall y penderfyniadau a wneir nawr effeithio ar yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i batrwm y clefyd yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Rwyf wedi treulio llawer o'r tri mis diwethaf yn pwyso am y diogelu gorau posib i staff rheng flaen. Fe wnaethoch chi sôn amdanyn nhw, wrth gwrs. Mae angen imi wneud hynny o hyd. Efallai y gallech chi sôn am ar adroddiadau am gyfarpar diogelu personol yn dal i gael eu defnyddio y tu hwnt i ddyddiad terfyn eu hoes—nyrsys yn gweld mygydau â'u hoes wedi dod i ben yn 2008 gyda sticeri oddi tanyn nhw yn dweud 'defnyddiwch erbyn 2016'. Byddwn yn ddiolchgar am gopi o arweiniad ar y broses a ddilynir er mwyn penderfynu pryd y mae cyfarpar diogelu personol a ddaeth i ddiwedd ei oes yn addas ar gyfer ei ailddefnyddio. 

Unwaith eto, i orffen, ar y mater hwnnw o'r cyhoedd yn gwisgo mygydau—mae mwgwd cartref yn llawer gwell na dim. Wrth gwrs, mae'n golygu nad oes unrhyw effaith wedyn ar gyflenwad cyfarpar diogelu personol i weithwyr allweddol. Dim cost gwirioneddol ychwaith, felly mae materion cydraddoldeb yn cael sylw yn hynny o beth. Ledled y byd, ceir cynlluniau cymunedol sy'n gwneud mygydau, gan gynnwys grwpiau yng Nghymru. Dyma fy mwgwd i, mewn gwirionedd. Mae hwn wedi teithio ar draws y byd. Fe'i gwnaed gan gyfaill yn yr Unol Daleithiau—rhan o grŵp cymunedol yn gwneud mygydau i'w rhoi i eraill. A wnewch chi gefnogi menter mygydau Cymru i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwneud mygydau, rhannu templedi syml ac ati? Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud, gan ein huno fel cymunedau. Gallwn hyd yn oed gael cystadlaethau: pwy sy'n gallu gwneud y mygydau sy'n edrych orau a'r math yna o beth. Mae'n cyfrannu at normaleiddio gwisgo gorchuddion wyneb, ac efallai, os yw'r dystiolaeth gynyddol yn gywir, fel y credaf ei bod, gallai achub bywydau hefyd.

13:45

O ran eich sylw am gyfarpar diogelu personol, mae ein cyfarpar diogelu personol a ddosberthir i gyd yn mynd trwy broses rheoli ansawdd, gan gynnwys enghreifftiau pan fo'r dyddiadau terfyn oes gwreiddiol yn golygu y gellir parhau i ddefnyddio'r cyfarpar diogelu personol, er gwaethaf hynny, a hynny yn ddiogel, oherwydd dyna'r maen prawf yr ydym yn ei ddefnyddio: a oes gennym ni gyfarpar diogelu personol digonol—digonol o ran y diogelwch y mae'n ei ddarparu, gan sicrhau nad yw wedi cyrraedd terfyn ei oes a'i fod yn briodol i staff ei ddefnyddio? Ac fel y gwyddoch chi, rydym ni mewn sefyllfa lle nid yn unig yr ydym ni wedi llwyddo i ddatrys yr heriau y mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn eu hwynebu o ran cyfarpar diogelu personol, ond rydym ni wedi darparu cyd-gymorth mewn niferoedd sylweddol i wledydd eraill y DU, gan gynnwys Lloegr, a dyna oedd y peth cywir i'w wneud.

Felly, rydym ni mewn sefyllfa dda o ran cyfarpar diogelu personol o'i chymharu â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi dim ond ychydig wythnosau yn ôl. Rhaid dweud hynny gyda pheth gochelgarwch, oherwydd wrth i ni symud ymlaen gyda'r clefyd ar ei anterth, mae'n gwbl bosib y bydd mwy o bwysau ar le yr ydym ni fel y byddwn ni'n llacio ac yn codi'r cyfyngiadau symud a'r hyn a allai ddigwydd yn y gaeaf, ac yn yr un modd, gallai'r galw mewn rhannau eraill o'r byd olygu bod yna fwy o gystadleuaeth am gyflenwadau cyfarpar diogelu personol yr ydym yn eu caffael, ond unwaith eto, hoffwn ddiolch ar goedd i'r cwmnïau hynny o Gymru sydd wedi creu cyfarpar diogelu personol ar gyfer ein staff rheng flaen. Cafwyd ymateb aruthrol ar hyd a lled y wlad.

O ran eich sylw am fygydau a gorchuddion wyneb, credaf ei fod yn bwysig oherwydd pan fydd pobl yn siarad am fygydau, rwy'n credu bod llawer o ddryswch ynglŷn â'r ffaith bod y rheini yn bethau o'r fath safon yr ydych yn disgwyl i weithwyr iechyd a gofal rheng flaen neu eraill eu crybwyll, ond rwy'n cydnabod eich bod yn sôn am orchuddion wyneb, sy'n wahanol. Petai'r cyngor yn newid, yna, wrth gwrs, byddai angen i ni ystyried sut y byddem yn adlewyrchu hynny, oherwydd nid wyf yn credu y bydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i ddarparu gorchuddion wyneb i bob aelod o'r cyhoedd, ond mae'r rhain yn bethau y gall pobl eu darparu eu hunain. Ac mae'n bwysig cofio bod hyn yn ymwneud ag amddiffyn pobl eraill rhag ofn fod y coronafeirws arnoch chi. Ond y man cychwyn yw, os oes gennych chi symptomau, ni ddylech fod allan yn gyhoeddus beth bynnag: dylech chi fod yn hunanynysu a chael eich profi.

Os yw'r cyngor yn newid, wrth gwrs bydd angen i ni ystyried beth y mae hynny'n ei olygu o ran sut y darperir y gorchuddion wyneb hynny ac ym mha leoliadau. Felly, fel rwy'n dweud, gan fynd yn ôl at fy ateb cyntaf, os bydd y dystiolaeth yn newid, os yw'r cyngor yn newid, bydd y Llywodraeth yn hapus i egluro hynny ac i newid ein safbwynt oherwydd ein nod, fel erioed, yw cadw Cymru'n ddiogel.  

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Er gwaethaf eich haeriad, nid oedd yr hyn a welsom ni yr wythnos hon yn enghraifft o liniaru'r cyfyngiadau symud yn sylweddol. Mewn gwirionedd, newid bach ydyw, oherwydd i'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n byw yng Nghymru, bydd teulu'n byw mwy na 5 milltir i ffwrdd. Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd y Prif Weinidog fod y penderfyniad i osod egwyddor gyffredinol o beidio â theithio mwy na 5 milltir yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gyhoeddi'r dystiolaeth honno? A yw'r dystiolaeth honno wedi'i hadolygu gan gymheiriaid? Gweinidog, a allwch chi egluro i'm hetholwyr nad ydynt yn gallu ymweld ag anwyliaid pam ei bod hi'n berffaith iawn iddynt deithio mwy na 5 milltir i giwio gyda dieithriaid mewn canolfan arddio, ond na allant deithio i sefyll 2 fetr oddi wrth aelod o'r teulu neu gyfaill? 

Ddydd Llun, fe wnaethoch chi gyhoeddi pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc, sy'n cydnabod yr effaith enfawr y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar iechyd meddwl pawb, a po hwyaf y bydd y cyfyngiadau'n para, mwyaf fydd yr effaith a gânt. Gwn fod mynd i'r afael â'r clefyd hwn yn golygu cadw'r ddysgl yn wastad rhwng niwed uniongyrchol COVID-19 a niwed anuniongyrchol. Gweinidog, a gredwch eich bod wedi taro'r cydbwysedd cywir yn yr achos hwn?

Mae ein cynllun i godi'r cyfyngiadau symud yn dibynnu ar dracio, olrhain a diogelu. Fodd bynnag, mae'n cymryd gormod o amser ar hyn o bryd i gynnal profion. Gweinidog, beth ydych chi'n ei wneud i gyflymu'r broses ac ehangu ein gallu i brofi? Bydd llawer o'r gweithgareddau'n gofyn am drefn brofi lawer ehangach a symlach, a gwyddom na all triniaethau deintyddol arferol ddechrau tan y flwyddyn nesaf, ond siawns, pe baem yn profi deintyddion a chleifion ac yn ardystio nad yw'r haint arnyn nhw, yna gellid gwneud y driniaeth. Heb system o'r fath ar waith, sut y bydd fy etholwr, perchennog siop gwisgoedd priodas, Elin Baker, yn cynnal ei busnes? Mae hi'n defnyddio ei hamser hamdden nawr a'i chyfleusterau a'i gwybodaeth i wneud cyfarpar diogelu personol i'r GIG, felly mae hi'n defnyddio'i hamser yn ddoeth, ond mae'n rhaid inni ddeall bod rhaid ffitio ffrogiau priodas, ac nad oes modd eu mygdarthu, felly a oes rhaid iddi aros nes bod brechlyn ar gael cyn iddi allu ailagor?

Ac yn olaf, Gweinidog, dywedodd Prif Weinidog Cymru ddydd Llun na allwch chi ond gwneud un newid i fesurau bob tair wythnos oherwydd y cyngor gwyddonol gan SAGE a Sefydliad Iechyd y Byd. Felly, a wnewch chi gadarnhau mai dyma'r dull yr ydych yn ei ddilyn ac a wnewch chi amlinellu pa mor hir yr ydych chi'n rhagweld y bydd hi cyn i'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau symud gael eu llacio? Diolch.

13:50

Efallai y gallaf ddechrau gyda'r sylw olaf yna, oherwydd rydym ni wastad wedi dweud—ac mae hyn wedi ei gynnwys yn rhai o'r papurau yr ydym ni eisoes wedi'u cyhoeddi ar y dystiolaeth wyddonol—rwy'n credu y buom ni mor agored os nad yn fwy agored nag unrhyw Lywodraeth arall yn y DU o ran darparu'r dystiolaeth yr ydym ni Weinidogion yn ei chael—y cyngor hwnnw—ac yna bwrw iddi mewn gwirionedd a gwneud ein penderfyniadau a bod yn atebol amdanynt. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod ein hymgynghorwyr yn deall ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb fel Gweinidogion ac yn cymryd eu cyngor o ddifrif. Mae hynny'n cynnwys y sylw hwn ynglŷn â bod un ymyriad sylweddol, ac rwyf eisiau asesu a deall ei effaith cyn cynnwys ymyriad sylweddol arall hefyd. A dyna pam y byddai'n hollol anghyfrifol ac yn gwbl anghywir i mi geisio darogan pryd y bydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben ac y bydd bywyd yn dychwelyd i'r hyn yr oedd ym mis Chwefror eleni. Rwy'n credu bod y cyhoedd yn ddoeth yn hynny o beth ac yn cydnabod nad yw'r mathau hynny o derfynau amser artiffisial yn rhoi'r math o sicrwydd y maent yn chwilio amdano ac mae'n llawer gwell bod yn onest ac yn onest ynghylch faint yr ansicrwydd yr ydym yn ymdrin ag ef.

O fewn pob adolygiad, pan fyddwn yn cynnal adolygiad o'n rheoliadau ynghylch y cyfyngiadau symud, byddwn yn ystyried yr hyn yr ydym yn ei wneud, byddwn wedyn yn cadarnhau ein bod yn gwneud hynny ac fel rwy'n dweud, byddwn yn parhau i hysbysu'r cyhoedd o'r cyhoeddiadau a'r cyngor rheolaidd yr ydym yn eu cael fel modd o'u cynorthwyo, i gynnal yr ymddiriedaeth hanfodol sydd ei angen arnom ni hefyd. Ac rwyf yn credu bod un newid sylweddol a wnaethom ni y tro hwn yn—. Gall pobl fynd allan a chwrdd ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol, ehangu hynny a diffinio rhyw gymaint ar deithio, oherwydd yn y cyfnod blaenorol, cawsom gryn dipyn o feirniadaeth gan amrywiaeth o bobl, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli'r cymoedd ac ardaloedd gwledig, nad oedd dweud wrth bobl am ddefnyddio eu crebwyll ar yr hyn oedd yn lleol yn gweithio mewn gwirionedd. Ac wrth ddarparu 5 milltir fel rheol gyffredinol, fel y nododd y Prif Weinidog o'r funud y cyflwynodd y rheolau newydd, credaf ei fod wedi rhoi peth pendantrwydd i hynny heb iddi fod yn rheol gadarn, oherwydd ni fyddai hynny wedi ystyried yr amgylchiadau gwahanol y mae rhai pobl yn byw ynddynt, felly credaf ein bod wedi gwneud y peth iawn, ac mae'r rhesymeg dros aros yn lleol yn ymwneud â chyfyngu'r feirws ac atal ei ledaeniad. Pe baem yn dileu cyfyngiadau er mwyn i bobl deithio o amgylch y wlad, rwy'n credu bod digon o bobl yng Nghymru a fyddai'n gweithredu yn y fath fodd fel y byddech yn dechrau gweld pobl yn heidio i rannau o'r wlad—mannau prydferth a llecynnau eraill—mewn modd na fyddai'r un ohonom ni eisiau ei weld na'i annog. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud y peth iawn wrth gadw neges 'aros yn lleol' a byddwch yn gweld nad yw hynny'n anghyson â'r negeseuon o'r Alban a Gogledd Iwerddon ac, yn wir, mae arweinydd Cyngor Bournemouth ei hun wedi dweud ei bod eisiau gweld yr un dull yn Lloegr.

O ran pa mor gyflym yr ydym ni'n profi, mae hynny'n gwella drwy'r amser; o ran ailddechrau gwasanaethau deintyddiaeth, caiff y llythyr at y prif swyddog deintyddol ei gyhoeddi; byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig byr er mwyn rhoi gwybod i'r Aelodau pryd y bydd ar gael. Nid wyf yn credu eich bod yn awgrymu bod dim ond ardystio nad oes COVID ar bobl o reidrwydd mor syml ag y mae hynny'n ymddangos. Mae'n dweud wrthych beth yw'r sefyllfa ar yr adeg y mae rhywun wedi cael y prawf, ac felly dydw i ddim yn credu bod hynny o reidrwydd yn ffordd ddefnyddiol o weithredu.

O ran eich etholwraig, sy'n gwneud ffrogiau priodas, fel y gwyddom ni, nid yw'r rhan fwyaf o briodasau'n cael eu cynnal, ac felly, mewn gwirionedd, nid oes busnes iddi hi yn ei busnes arferol ac mae hynny oherwydd y ffaith bod pobl yn mynd i briodasau ac yn cymysgu â phobl eraill. Cefais amser gwych ar fy niwrnod priodas, ond yn sicr ni allech gael priodas fel honno ar hyn o bryd.

Yna, yn olaf, o ran cydbwyso niweidiau, byddwch wedi gweld y cydbwyso hwnnw ar niweidiau yn y penderfyniad anodd a wnaeth y Gweinidog Addysg heddiw. Mae cydbwyso'r niwed y mae'r cyfyngiadau symud yn ei achosi drwy gau ysgolion, yr angen a'r awydd i ddychwelyd mewn modd mor ddiogel â phosib ac nid dim ond wrth wneud hynny, ond wrth feddwl am ffordd hollol wahanol o reoli'r diwrnod ysgol, a chydnabod y byddai peidio â darparu addysg i fwy o blant nes dechrau Medi yn achosi niwed i'r plant, a byddai'r niwed mwyaf i'r plant mwyaf agored i niwed a'u teuluoedd. Felly, rydym ni bob amser yn gorfod cydbwyso'r gwahanol niweidiau sy'n dod o'r coronafeirws, sy'n dod o'r cyfyngiadau symud, a byddwn yn parhau i weld Gweinidogion Cymru yn gwneud y gwaith anodd o ddal y ddysgl yn wastad wrth i ni barhau i gadw Cymru'n ddiogel.

13:55

Iawn, Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, roedd yn rhaid i mi droi fy meicroffon ymlaen.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Un o'r pethau yr hoffwn ei ddweud oedd fy mod yn ddiolchgar iawn am y sesiynau briffio a diweddaru parhaus yr ydym yn eu cael—Aelodau o'r Senedd ac Aelodau o Senedd y DU yn fy ardal—am gyfarfod â'r byrddau iechyd a chael yr wybodaeth reolaidd ganddynt. Rwy'n credu ei bod hi'n werth rhoi ar gof a chadw unwaith eto ein diolch i bawb sy'n gweithio yn y GIG ac yn gwneud pethau anhygoel, rhyfeddol yn ystod y pandemig hwn. Heb fod yn hunanfodlon mewn unrhyw ffordd, rwyf wedi bod yn falch iawn o weld nifer y bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty wedi gwella'n llwyr o COVID, a gweld bod y capasiti mewn ysbytai ar draws fy ardal, gan gynnwys mewn unedau gofal dwys—yn ymdopi'n eithaf da mewn gwirionedd. Fodd bynnag, yr hyn sy'n parhau'n bryder i mi yw'r cyfraddau sylweddol o heintiau ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ac mae hynny'n ymddangos yn gwbl groes i'r hyn sy'n digwydd yng ngweddill Cymru. Nawr, gwyddom fod gennym ni lawer o strydoedd teras a theuluoedd yn byw yn agos at ei gilydd ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf, ac mae'n ddigon posib yr ystyrir hynny'n un o'r rhesymau dros y niferoedd sylweddol o heintiau, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato, mi gredaf, wrth ymateb i gwestiynau am ei ddatganiad y bore yma. Ond mae hefyd yn wir fod gan gymunedau eraill yn y Cymoedd a rhai o'n hardaloedd canol dinas dai teras a theuluoedd yn byw'n agos at ei gilydd ac nid yw'n ymddangos bod ganddyn nhw'r un niferoedd o heintiau yn y mannau hynny. Nawr, rydym ni wedi clywed straeon anecdotaidd—

Rydym ni wedi clywed adroddiadau am bobl yn peidio â pharchu gofynion cadw pellter cymdeithasol mewn rhai ardaloedd, ond hoffwn wybod a oes rhywbeth mwy yn digwydd yn y cymunedau hyn? A byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud pa waith y mae epidemiolegwyr y Llywodraeth yn ei wneud i geisio sefydlu a oes unrhyw beth arall, mewn gwirionedd, heblaw am ymddygiad yn y cymunedau hyn sy'n cadw cyfradd yr heintio mor gymharol uchel.

Diolch am y cwestiwn, Dawn, ac mae'n ffaith—i roi hyn mewn rhyw gyd-destun—er bod uchafbwynt yr epidemig yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, mae'n ffaith bod ardaloedd Byrddau Iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf wedi cael mwy o achosion y pen o ran heintiau, a'r niwed sydd wedi'i achosi ac, yn ei dro, y cyfraddau marwolaethau—mae gan ardal Cwm Taf Morgannwg gyfradd marwolaethau uwch nag unrhyw ardal Bwrdd Iechyd arall yng Nghymru. Felly, mae'n fater o bryder amlwg. Ond rydych chi'n iawn i nodi bod gan gymunedau eraill nodweddion ffisegol a daearyddol tebyg, ac nid ydym ni eto wedi cael ar ddeall yn iawn gan ein hepidemiolegwyr yr union resymau pam y mae hyn yn wahanol yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr, oherwydd hyd yn oed y sylwadau am iechyd a lles corfforol y cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu—wel, dydyn nhw ddim mor wahanol i lawer o gymunedau eraill y Cymoedd, ond rydym ni yn gweld cyfradd heintio sylweddol wahanol. Felly, rydym yn dal i edrych ar hynny wrth i ni arsylwi ar y pandemig yn ei gyfanrwydd a dysgu ohono.

Rwyf eisiau rhoi mwy o wybodaeth, nid yn unig am le yr ydym ni arni, ond am yr hyn y credwn y mae angen i ni gynghori pobl i'w wneud. Ond rwy'n credu mai'r man cychwyn yw y dylai pawb gymryd y negeseuon cadw pellter cymdeithasol o ddifrif. Mae'r canllawiau yno i helpu pobl i gadw at y rheolau, i egluro beth sy'n cael ei ganiatáu ac o fewn y rheolau ac ysbryd y rheolau yr ydym ni wedi'u creu, a byddant hefyd yn helpu pobl i ddeall yr hyn nad yw'n cael ei ganiatáu, ac i gydnabod bod hyn yn ymwneud ag atal niwed i'r bobl hynny a'u teuluoedd a'u cymunedau a phobl na fyddant efallai byth yn eu cyfarfod. Os nad yw pobl yn dilyn y canllawiau a ddarparwyd gennym ni ac nad ydynt—. Ym mhob rhan o Gymru yn ddieithriad bron, roedd gennym ni gryn gytundeb â'r rheolau a chefnogaeth sylweddol iddynt, ac mae angen i bob un ohonom ni lynu wrthynt oherwydd mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos hon yn dangos dros 2,100 o farwolaethau yng Nghymru, a cheir marwolaethau o hyd bob dydd. Felly, ni ddylai neb feddwl y gallwn ni ddychwelyd i sut yr oedd pethau ac ymddwyn fel petai hyn heb ddigwydd erioed. Bydd misoedd a misoedd o ymddygiad anodd yn ein hwynebu pan fyddwn yn gofyn i bobl fod yn hunan-ddisgybledig, oherwydd os na fyddwn ni, os gwelwn y coronafeirws yn dechrau lledaenu'n gyflym eto, byddwn yn gweld miloedd lawer mwy o bobl yn cael eu niweidio gan y coronafeirws. Ac, unwaith eto, yr ymrwymiad gwych yr ydym ni wedi'i gael gan ein holl wasanaeth iechyd gwladol a'r bobl sydd nawr wedi gwella—bydd angen i ni alw ar y bobl hynny hyd yn oed yn fwy, ac nid wyf yn credu y dylem ni bwyso eu hymrwymiad y tu hwnt i hynny. Mae'n rhaid i ni wneud ein dewisiadau ein hunain, pob un ohonom ni, o ran sut y byddwn i gyd yn gwneud ein rhan yn cadw Cymru'n ddiogel.

14:00

Diolch. Roeddwn yn meddwl ei fod yn awtomatig, ymddiheuriadau.

Mae cartrefi nyrsio yn cael cynnydd tâl dros dro ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol i oedolion, ond nid yw hyn yn cynnwys lleoliadau a ariennir gan y bwrdd iechyd. O ran cyllid gofal iechyd parhaus, mae Fforwm Gofal Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod cartrefi nyrsio yn y gogledd o dan anfantais o'u cymharu â mannau eraill. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i bryder y sector, er bod gan drigolion sy'n cael cyllid ar gyfer gofal iechyd parhaus anghenion mwy cymhleth fyth, ni fu sôn am gynnydd yn gysylltiedig â COVID-19?

Yn Lloegr, caniateir i bractisau deintyddol ailagor o 8 Mehefin, ar yr amod bod meini prawf caeth wedi'u bodloni cyn y gellir cynnal triniaethau sy'n ymwneud â chynhyrchu aerosol. Yng Nghymru, ni wnaed unrhyw ddarpariaeth i ganiatáu i bractisau deintyddol wneud hyn. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i lawfeddygon deintyddol yn y gogledd sy'n dweud wrthyf, oni newidiwch chi'r rheolau, y bydd gwasanaethau deintyddol a bywoliaeth miloedd o weithwyr proffesiynol ymroddedig ac ymrwymedig yng Nghymru yn cael eu dinistrio?

Diolch. O ran y ddau gwestiwn—ynglŷn â ffioedd cartrefi nyrsio, rydym ni'r Llywodraeth yn trafod yn rheolaidd â Fforwm Gofal Cymru. Buom yn trafod hynny yn yr ymwneud rheolaidd rhyngof i a swyddogion ynglŷn â gwella'r broses o brofi pobl, ac mae hynny bellach mewn gwell sefyllfa o lawer i'r sector gofal preswyl yn arbennig. Ac mae'r Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, yn cyfarfod â Fforwm Gofal Cymru yn rheolaidd bob wythnos. Felly, mae trafodaethau a chyfleoedd rheolaidd i Fforwm Gofal Cymru godi pryderon, yn ogystal â'r Dirprwy Weinidog, ond, wrth gwrs, yn y drafodaeth reolaidd a gânt gyda swyddogion hefyd. Felly, byddwn yn parhau i adolygu—[torri ar draws.]

Mae'n ddrwg gennyf, a wnaiff rhywun ddiffodd meicroffon Mr Isherwood? Nid ydym yn derbyn tarfu ar gwestiynau na thorri ar eu traws, mae'n ddrwg gennyf. Vaughan Gething.

Byddwn yn parhau i siarad â nhw am yr hyn sy'n bosib wrth i ni barhau i adolygu'r hyn y gallwn ni ei wneud wrth ymateb i'r pandemig. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau'n gynharach, os bydd y dystiolaeth yn newid, byddwn yn fwy na pharod i newid y sefyllfa yr ydym ni ynddi ac, wrth gwrs, y ffordd yr ydym yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni.

O ran y sefyllfa ynghylch deintyddiaeth yn Lloegr, nid yw mor syml ag yr adroddwyd amdani. Credaf y rhoddwyd yr argraff yn gynharach yr wythnos hon y byddai gwasanaethau deintyddiaeth yn agor ar raddfa eang yn Lloegr, ac nid yw hynny'n hollol gywir. Rydym ni wedi cael cyngor uniongyrchol gan y prif swyddog deintyddol yng Nghymru. Mae wedi ysgrifennu at bob practis deintyddol i egluro sut yr ydym ni eisiau ailddechrau gweithgarwch deintyddol yn ddiogel.

Ond mae a wnelo hynny ag ailddechrau gweithgarwch deintyddol yn ddiogel, oherwydd mae perygl i'r claf a'r unigolyn sy'n gweithio'n agos iawn ato. Yn union fel y bu'n rhaid i ni gydbwyso'r holl risgiau, y niwed a'r dystiolaeth sydd gennym ni yn y penderfyniad anodd y mae'r Gweinidog Addysg wedi'i wneud heddiw ynghylch ffurf wahanol ar weithrediad ysgolion am bedair wythnos erbyn diwedd y flwyddyn ysgol hon, rhaid inni feddwl am gydbwysedd y risgiau i bobl sy'n gweithio ym maes deintyddiaeth. Ni fyddwn i eisiau rhoi'r cyfle i wneud arian o flaen gweld ystod o'n gweithwyr deintyddol proffesiynol yn colli eu bywydau os ydym yn mynd ati mewn modd di-hid. Dyna pam mae cyngor proffesiynol y Prif Swyddog deintyddol mor bwysig. Fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth, a byddaf yn cyhoeddi ei llythyr a'i chyngor i ddeintyddion ledled Cymru.

Gweinidog, fis diwethaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi y byddai gweithwyr gofal yng Nghymru yn cael taliad bonws o £500 am eu cyfraniad yn ystod pandemig COVID-19. Mae wedi dod yn amlwg erbyn hyn y bydd angen tynnu treth incwm ac yswiriant gwladol o hynny, sy'n golygu mai'r swm gwirioneddol y bydd pobl sy'n ennill dros y lwfans personol yn ei gael fydd £360, nid £500. Nid yw Plaid Cymru yn credu y dylid trethu'r taliad bonws hwn ac y dylid ei gynnig i bob gweithiwr cartref gofal, gan gynnwys staff glanhau a staff cegin.

Gweinidog, mae'n bosib bod y gofalwyr a glywodd eich cyhoeddiad y mis diwethaf wedi gwneud cynlluniau i wario'r £500 hwnnw eisoes ar wyliau haeddiannol wedi i hyn i gyd ddod i ben neu i dalu biliau hwyr. A yw'n edifar gan Lywodraeth Cymru na fuont yn agored ynghylch y ffaith y cai'r taliad bonws hwn ei drethu pan wnaed y cyhoeddiad gennych chi ar ddiwrnod rhyngwladol y gweithwyr?

Rwy'n credu bod dau beth—y cyntaf yw nad oedd Llywodraeth Cymru erioed mewn sefyllfa i roi gwarant na fyddai'n cael ei drethu. Gwnaethom yn glir yn gyhoeddus ein bod eisiau i Lywodraeth y DU gytuno i beidio â threthu hyn fel y gellid ei drin, fel y dywedodd Mike Hedges yn gynharach, fel rhodd, nid fel taliad trethadwy. Maen nhw wedi gwneud hynny yn y gorffennol o dan amgylchiadau eithriadol—er enghraifft, roedd yn gam a oedd i'w groesawu ar ran Llywodraeth y DU i beidio â threthu'r taliadau caledi yr oedd rhai cynghorau'n gallu eu gwneud yn ystod y llifogydd a welsom yn ddiweddar. Rwy'n siomedig dros ben bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu trethu'r taliad hwn.

Bu Llywodraeth Cymru yn pwyso'n uniongyrchol ar Lywodraeth y DU, nid yn gwneud datganiadau cyhoeddus yn unig, ac maen nhw bellach wedi ymateb drwy ddweud eu bod yn disgwyl gwneud didyniad treth. Penderfyniad i Lywodraeth y DU yw hynny. Credaf y dylent ailystyried, dylent ailfeddwl, er mwyn sicrhau y dylai'r hyn sydd yn ei hanfod yn weithlu isel ei gyflog, sy'n fenywaidd yn bennaf, gael y £500 llawn. Ond mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a yw'n bwysicach iddynt gymryd treth o'r taliad hwn neu wneud y peth iawn i'n gweithwyr gofal. Gobeithio y gwnânt y peth iawn.

14:05

Gweinidog, rydym ni wedi clywed cyfeiriad heddiw at y gwasanaeth iechyd yn mynd i'r afael yn gynyddol ag amgylchiadau nad oes a wnelon nhw â COVID, ac mae cynlluniau chwarter 1, rwy'n gwybod, i'w cyflwyno'n fuan. Ond rwy'n gwybod bod yr elusennau canser, er enghraifft, yn dal yn bryderus iawn nad ydym ni yn gweld yr ymgynghoriadau, y diagnosis, y canfod a'r driniaeth gynnar o'r cyflyrau canser hynod ddifrifol hyn, sydd yn llawer rhy gyffredin, a ddylai fod yn digwydd. Felly, tybed sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r elusennau canser, y byrddau iechyd, y sector iechyd yn gyffredinol, i sicrhau bod dychwelyd i ymdrin â'r achosion hyn nad oes a wnelon nhw â COVID, fel y byddai wedi digwydd cyn y pandemig, yn digwydd yn gynhwysfawr ac yn gyson ledled Cymru, ac ar yr un pryd, wrth gwrs, yn cydbwyso'r ymdriniaeth â'r pandemig, fel sy'n gorfod digwydd.

Diolch am y cwestiwn. Mae'n un o'r pryderon y bu gennyf ac rwyf wedi ei fynegi ers sawl wythnos bellach, nad yw pobl wedi defnyddio ein gwasanaethau gofal brys sydd wedi aros ar agor, yn rhannol oherwydd y bu pobl yn fwy ofnus o fynd i gyfleuster gofal iechyd na'r symptomau neu'r pryderon y byddent wedi'u cael. Chwe mis ynghynt, byddai pobl wedi bod yn fwy tebygol o fynd i ofyn am gymorth neu gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol. Mae hefyd yn wir ein bod yn darganfod ystod o ganserau pan fydd pobl yn mynychu am reswm gwahanol. Ar gyfer pob un o'r apwyntiadau a'r ymweliadau hynny nad ydynt yn digwydd, mae perygl nid yn unig o'r niwed uniongyrchol y mae rhywun yn ei ddeall sy'n gallu digwydd ond niwed arall sy'n cael ei ddarganfod.

Rydym ni nawr yn dechrau gweld cynnydd yn y niferoedd hynny o bobl sy'n mynd i'r cyfleusterau. Soniais rywfaint am hyn ddoe yn y gynhadledd i'r wasg ac rwyf wedi cyfeirio ato yn y datganiad ysgrifenedig hefyd. Fodd bynnag, rydym ni hefyd wedi gweld newid sy'n cael ei groesawu o ran atgyfeirio hefyd, felly po fwyaf o bobl sy'n mynd, mwyaf o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio, er enghraifft, drwy ofal sylfaenol. Gwelsom gwymp yn nifer y bobl a gawsant eu hatgyfeirio, ond erbyn hyn rydym yn dechrau gweld adferiad.

Yn y datganiadau a wnaed ar gynlluniau chwarter 1, rydym ni hefyd yn y sefyllfa lle yr ydym ni'n gweld gwasanaethau diagnostig yn gwella. Ein bwriad yw bod gwasanaethau endosgopi yn ail-gychwyn. Mae hynny'n mynd i fod yn anodd oherwydd bydd llawer iawn o alw am y gwasanaethau hynny, ond rydym yn dechrau gweld adferiad graddol.

Ac yn y cynlluniau rhanbarthol y cyfeiriais atyn nhw, mae gwasanaethau canser yn faes amlwg iawn lle y byddai angen cydweithredu dros fwy nag un ardal bwrdd iechyd. Rydym ni eisoes yn darparu gwasanaethau canser dros fwy nag un ardal bwrdd iechyd yn rheolaidd. Bydd angen i ni weld mwy o hynny o ran cynllunio ein hadferiad. Ac o ran gweithio gyda'r elusennau canser, rwy'n disgwyl gweld y cynghrair canser cyn diwedd y mis hwn, rwy'n credu.

Ond mae hyn yn rhan o'n rhaglen ehangach, ac os caf wneud sylw yng nghyswllt rhywbeth arall, sef ein bod, mewn amrywiaeth o feysydd, yn gorfod meddwl am sut yr ydym yn gwneud pethau'n wahanol. Enghraifft dda y tu allan i'r ward ganser o orfod gwneud pethau'n wahanol oherwydd bod risg o hyd yw'r ffordd yr ydym wedi ail-gynllunio ein gwasanaeth retinopatheg diabetig i bobl sy'n feichiog. Felly, mae menywod beichiog sydd â diabetes mewn perygl penodol o ddioddef niwed i'w golwg. Mae gennym ni bellach ffordd newydd o'u trin a gyflwynwyd i sicrhau y gallwn ni ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, fel arall gallai niwed sylweddol a pharhaol fod wedi'i achosi i'w golwg. Felly, rydym ni eisoes yn ymateb i hyn, ac ym mhob maes gweithgarwch, nid yn unig mewn gwasanaethau canser, gan orfod ailgynllunio ein gwasanaethau mewn modd fydd yn gwneud y lles mwyaf er mwyn osgoi achosi'r niwed mwyaf.  

Gweinidog, rwyf wedi dioddef crawniad deintyddol yn ystod y cyfyngiadau symud. Dywedir wrthyf bod posibilrwydd cryf y gallai ddychwelyd; mae'n digwydd yn aml ar ôl i bobl gael y gwrthfiotigau. Nid mater brys mohono, felly ni allaf ond byw mewn gobaith. Felly, mae'r ffaith na chaiff ei drin yn briodol tan fis Ionawr 2021 yn amlwg yn effeithio'n uniongyrchol arnaf, ond mae llawer o gleifion a llawer, llawer o ddeintyddion yn ysgrifennu atom ni—ac rwy'n siŵr y byddai pob aelod yn cytuno â hyn—ac rwyf yn annog ystyried y cynllun ymhellach. Ac rwyf yn derbyn yn llwyr fod angen ei ystyried yn ofalus iawn, ond mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, mewn ymateb i'r awgrymiadau diweddar, wedi dweud fod galw mawr, cynyddol am weithredu'n gyflymach cyn Ionawr 2021. Hynny yw triniaethau nad ydynt yn rhai brys. Ac maen nhw hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Mae polisïau cadarn, rhagorol ar waith i sicrhau y caiff y cleifion a'r tîm eu diogelu.

Felly, a allwn ni edrych ar hyn yn ofalus iawn? Oherwydd rwy'n credu y bu sylwadau dirifedi ynghylch y cynllun cychwynnol ac mae'n debyg bod angen ei adolygu'n ofalus, ac rwy'n gobeithio y bydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn cymryd rhan lawn yn hynny.

14:10

Wel, fe fyddwn i'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth a'r arweiniad proffesiynol a ddarperir gan ein prif swyddog deintyddol yn parhau â'r trafodaethau rheolaidd hynny yr ydym yn eu cael gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yma yng Nghymru. Unwaith eto, rwy'n credu y dylem ni gyflymu'r broses o ddiwygio'r ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau deintyddol er mwyn canolbwyntio mwy ar wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael i ni. Rwyf i, a'r prif swyddog deintyddol, yn dymuno dychwelyd i gael mwy o weithgarwch deintyddol yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, ond mae'n rhaid iddo fod mewn ffordd ddiogel, a dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Felly, er y byddaf yn glir ac yn dryloyw wrth gyhoeddi ei chyngor presennol i weithwyr deintyddol proffesiynol yng Nghymru, os bydd diweddariad pellach yn y drafodaeth barhaus honno, yna byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ac i wneud hynny. Ac os oes unrhyw newid pellach yn y ffordd y gallwn ni wneud hynny a pha mor gyflym y gallwn ni wneud hynny i gadw cleifion a gweithwyr deintyddol proffesiynol yn ddiogel, yna byddaf yn hapus iawn i sicrhau bod yr holl Aelodau'n cael gwybod am hynny ar yr un pryd.

Gweinidog, dim ond dau bwynt: rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cyhoeddiad y byddai'n profi'r holl breswylwyr a'r staff mewn cartrefi gofal. Mae fy mwrdd iechyd fy hun yn dangos eu bod yn disgwyl cwblhau eu rhai nhw yn y maes hwn erbyn diwedd yr wythnos hon.

Fodd bynnag, rwyf yn pryderu am y sefyllfa o ran ailbrofi, oherwydd ceir sefyllfaoedd lle mae rhai profion wedi dod yn ôl yn gadarnhaol, am eu bod yn asymptomatig, ac felly ceir preswylwyr a staff nad oeddent yn dangos arwyddion na symptomau COVID-19 ond sydd wedi profi'n gadarnhaol drwy'r profion. A gallai fod sefyllfa lle y gallai aelodau eraill o'r staff, o ganlyniad i hynny, brofi'n bositif yn y dyfodol gan roi mwy o breswylwyr mewn perygl. Felly, a wnewch chi roi diweddariad manwl ynghylch pryd y gellid dechrau ailbrofi staff cartrefi gofal yn arbennig i sicrhau, wrth iddynt fynd i mewn ac allan o'r cartrefi, nad ydynt yn mynd â'r feirws yn ôl i mewn gyda nhw, gan eu bod yn asymptomatig?

A gaf i hefyd gytuno ar y sefyllfa gyda deintyddion? Rwy'n siŵr, fel yr amlygodd David Melding, ein bod i gyd wedi cael gohebiaeth ynglŷn â deintyddiaeth. Gwn, o dan glefyd Creutzfeldt-Jakob, fod y deintyddion wedi cymryd camau arbennig iawn, felly maen nhw eisoes yn hyddysg mewn arferion diogel o ran ymdrin â chleifion. Ond rwyf hefyd yn derbyn y cyfrifoldebau sydd gennych i sicrhau diogelwch y staff yn y practis deintyddol hefyd.

Wel, mae'r sylw ynglŷn â deintyddiaeth yn ddealladwy ac, wrth gwrs, o'm rhan fy hun yn Aelod etholaeth, mae gen i bobl a fydd eisiau defnyddio gwasanaethau deintyddol. A dweud y gwir, rydym ni wedi cael trafferth yn y gorffennol i gael pobl i fanteisio ar y gwasanaethau hynny yn y ffordd y byddem yn dymuno iddyn nhw wneud, ac agwedd arall yw arferion plant a phobl ifanc mewn gwirionedd a'n gallu i ymyrryd yn gynharach i annog arferion da ynghylch hylendid deintyddol. Felly, rwyf yn cymryd o ddifrif y pwyntiau y mae Aelodau o wahanol bleidiau wedi'u gwneud, yma ond hefyd y tu allan i'r lleoliad hwn, am yr awydd a'r budd a gafwyd o ailgychwyn gwasanaethau deintyddol. Felly, dydw i ddim yn anwybyddu nac yn diystyru hynny; rwyf yn wirioneddol yn ei gymryd o ddifrif.

O ran eich sylw am ailbrofi mewn cartrefi gofal: cyn diwedd y cyfnod cychwynnol, disgwyliaf gael cyngor am y cyfnod o amser y byddir yn ailbrofi o'i fewn a sut beth fydd y rhaglen ailbrofi honno, felly ni fydd sefyllfa gennym ni, ymhen tri mis, lle bydd pwl arall o ailbrofi pobl yn y sector cartrefi gofal, ond bod gennym ni raglen reolaidd a dealladwy. Ac yna mae'n rhaid i mi gydbwyso hynny â'r rheidrwydd y bydd angen i ni gynnal a diogelu capasiti o fewn ein rhaglen brofi i wneud hynny, a dal i wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o gapasiti i wneud yn siŵr nad yw olrhain cyswllt yn cael ei beryglu hefyd. Oherwydd yn sicr ni fyddwn i eisiau peryglu gwasanaeth newydd profi, olrhain, diogelu GIG Cymru. Ond, yn yr un modd, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cydbwyso'r risgiau sy'n bodoli ym mhob rhan o'r gwasanaeth. Dyna pam y mae'r cynnydd a welsom ni yng nghapasiti labordai i gynnal mwy na 9,500 o brofion yn newyddion mor dda; mae'n caniatáu inni gael y dewisiadau hynny, i beidio â chael ein cyfyngu gan gapasiti. Ond mae angen i mi weld y dystiolaeth, i weld y cyngor, a, chyn gynted ag y bydd y rheini ar gael, byddaf yn falch o hysbysu nid yn unig yr Aelod ond yr holl Aelodau am yr hyn y mae hynny'n ei olygu a'n disgwyliad o ran ailbrofi staff a phreswylwyr yn y sector cartrefi gofal.

14:15

A allwn ni—a wnaiff rhywun helpu Helen Mary? Ni allwn ei chlywed hi. A all rhywun ei helpu i droi ei meicroffon ymlaen, os gwelwch yn dda? Na. A gaf i adael Helen? Dof yn ôl atoch, Helen, oni bai—a yw eich meicroffon yn agored nawr? Nac ydy. Iawn, dof yn ôl atoch chi. Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, bydd y coronafeirws, yr angen i ynysu a'r doll ariannol y mae trigolion ledled Cymru yn ei thalu yn cael effaith enfawr, wrth gwrs, ar eu hiechyd meddwl. Nawr, nid yw newyddion bod 1,700 o gleifion wedi'u rhyddhau mewn camgymeriad yn y gogledd yn rhoi hyder i neb fod gwasanaethau yn y gogledd yn union fel y dylent fod. Nawr, rwy'n deall bod pwysau enfawr ar ein GIG ar hyn o bryd, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn ddigon da. Mae angen i drigolion yn y gogledd gael ffydd mewn gwasanaethau.

Gweinidog, rydym ni i gyd wedi bod yn dioddef o bandemig iechyd meddwl ymhell cyn COVID-19. Felly, nid dim ond fel seneddwyr a Llywodraethau, ond fel bodau dynol, mae angen i ni wneud mwy. Gweinidog, beth allwch chi ei ddweud wrth fy etholwyr i roi sicrwydd iddynt fod gwersi'n cael eu dysgu a bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen fel mater o frys?

Rwy'n credu ei fod yn sylw yr wyf wedi ymdrin ag ef o'r blaen, ond mae'n sylw cwbl deg i'r Aelod ei godi yn y fan yma hefyd, am y camgymeriad, ac fe roedd yn gamgymeriad, a wnaethpwyd wrth ryddhau pobl pan na ddylid bod wedi gwneud hynny. Mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn gwella hynny, oherwydd roedd y canllawiau a ddarparwyd gennym ni i bob bwrdd iechyd yn fy marn i yn glir iawn bod gwasanaethau iechyd meddwl yn wasanaethau hanfodol ac y dylent barhau drwy'r pandemig.

Ac mae yna agwedd ehangach yn hyn o beth—ac mae'n rhan, unwaith eto, o'r sylw a wnaethpwyd yn gynharach mewn cwestiynau am y niwed gwahanol sy'n cael ei achosi gan y coronafeirws, ac un o'r niweidiau, wrth ein cadw'n fyw yn gorfforol ac wrth achub bywydau, yw y byddwn yn ddiau wedi gweld niwed yn cael ei achosi i iechyd meddwl a lles pobl. Felly, bydd mwy o alw ar bob haen o'n gwasanaethau, felly mae'r gwasanaethau haen 0 a haen 1, sy'n rhai lefel gymharol isel, yn ddi-os yn gweld mwy o alw, yn union fel y bydd meysydd eraill lle mae galw mwy sylweddol.

Dyna pam y bu i mi a'r Gweinidog addysg wneud ein cyhoeddiad ynghylch darparu mwy o adnoddau i blant a phobl ifanc, a dyna pam y byddaf yn parhau i edrych ar y materion iechyd meddwl sy'n cael eu codi nid yn unig yn y pwyllgor plant a phobl ifanc, ac a fydd efallai'n cael sylw yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yfory, ond i wneud yn siŵr bod y seilwaith ychwanegol yr ydym ni wedi'i roi ar waith i brofi a gwirio bod gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i weithredu ac yn ymdrin ag angen, yn dal ar gael. Fe wnaethom ni brynu mwy o welyau ar ddechrau'r pandemig hwn ar gyfer yr angen mwyaf posib; rwyf wedi darparu mwy o arian drwy'r gyllideb. Felly, gallaf sicrhau Jack Sargeant nad dim ond yr agweddau yn ymwneud â thriniaeth, ond yr agwedd sydd gennym ni ynghylch y sgwrs yr ydym ni'n ei chael am iechyd meddwl yn y wlad hon, mynd yn ôl at y geiriau, 'mae'n iawn dweud nad ydych chi'n iawn'—mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny hefyd yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau ein hunain gyda'r bobl o'n hamgylch, a'r hyn yr ydym yn ei ddweud a sut yr ydym yn gweithredu yn gyhoeddus hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Felly, mae'n ddrwg iawn gennyf, Gweinidog, ond nid wyf wedi fy nhawelu mwyach. [Chwerthin.] Os caf fynd â chi'n ôl at y mater o ran gwarchod a godwyd yn gynharach gyda'r Prif Weinidog gan fy nghyd-Aelod Delyth Jewell, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi i'r 32 o sefydliadau sydd wedi ysgrifennu atoch yn pryderu am y ffordd y cafodd y cyhoeddiad hwnnw ei wneud, ac yn gofyn am fwy o eglurder—gobeithio y gallwch chi roi ateb llawnach iddyn nhw nag y gwnaeth y Prif Weinidog ei roi i Delyth Jewell y prynhawn yma.

Ond, yn benodol iawn—a gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle hwn i dawelu meddyliau pobl—a yw'n wir, Gweinidog, y bydd y bobl hynny sydd wedi cael cyngor i warchod eu hunain yn parhau i gael y gwasanaethau cymorth y maen nhw yn eu cael ar hyn o bryd? Rwy'n meddwl am bethau fel y blychau bwyd, amseroedd penodol yn yr archfarchnadoedd. Nid wyf yn gwybod a yw Aelodau eraill wedi profi hyn, ond yn sicr mae etholwyr wedi cysylltu â mi sydd mewn peth dryswch ynghylch pa un a fyddant yn parhau i gael y gwasanaethau hynny ac am ba hyd. Felly, rwy'n gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi'n manteisio ar y cyfle i dawelu eu meddyliau y prynhawn yma.

14:20

Efallai ei bod yn werth i mi nodi bod y cyhoeddiad am warchod wedi dod yn dilyn cyngor gan y prif swyddog meddygol. Felly, nid oedd hwn yn achos lle penderfynais fy mod i eisiau newid y categori ac felly gwneud hynny heb unrhyw dystiolaeth na chyngor. Roeddem yn credu ein bod yn mynd i fod mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad unedig gyda gwledydd eraill y DU, ond yna newidiodd yr amserlen ar gyfer hwnnw. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad yn Lloegr ar nos Sadwrn, pan oeddwn yn disgwyl y byddai wedi bod yn hwyrach. Byddem yn sicr wedi gallu ei wneud ar brynhawn Sul. Dyna oedd fy nisgwyliad, a byddem wedi cael nid yn unig dydd Sadwrn i fod yn barod, ond wedyn dydd Sul i gyd i siarad â rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl mewn llywodraeth leol—nid llywodraeth leol yn unig, wrth gwrs, ond y galwedigaethau gofal iechyd sy'n gofalu am bobl, ac amrywiaeth o rai eraill—i nodi bod newid ar y ffordd ac i nodi beth ydoedd.

Pan wnaethpwyd y cyhoeddiad yn Lloegr, i bob pwrpas, drwy erthygl papur newydd a aeth ar-lein nos Sadwrn, a chefais alwad ffôn anarferol ac annisgwyl ar nos Sadwrn i ddweud wrthyf fod hynny wedi ei gyhoeddi, yna cefais ddewis eithaf amlwg i'w wneud, ac roedd y ddau ddewis yn anniben. Y cyntaf oedd ceisio gweithredu yn ôl y bwriad a gwneud cyhoeddiad yn ail hanner dydd Sul, a fyddai wedi golygu'n anorfod y byddem wedi cael cwestiynau am yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn ystod hanner cyntaf y Sul, ac rwy'n credu y byddai hynny wedi ein rhoi mewn sefyllfa chwerthinllyd lle, er i ni ddweud wrth randdeiliaid i baratoi ar gyfer cyhoeddiad, byddem yn dweud wrth y wasg, 'Dim sylw. Nid oes gennym unrhyw beth i'w ddweud', a byddai hynny wedi bod yn chwerthinllyd. Erbyn hynny, byddai ansicrwydd eisoes wedi bod ymhlith pobl a warchodir, eu teuluoedd a'u ffrindiau, yn ogystal â phobl sy'n darparu gofal a chymorth iddyn nhw yng Nghymru, ynghylch pa un a oeddem am wneud cyhoeddiad yng Nghymru ai peidio. Felly penderfynais-ac, unwaith eto, fy mhenderfyniad i oedd gwneud hyn-y dylem wneud ein cyhoeddiad fore'r dydd Sul. Nid yw'n ddelfrydol gwneud y cyhoeddiad hwnnw drwy ddatganiad i'r wasg pan nad oedd y datganiad ysgrifenedig ar gael a heb ei gwblhau tan yn ddiweddarach yn y dydd. Fel y dywedais, roedd yn anniben, ond fy marn i oedd mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, yn hytrach na threulio'r bore yn esbonio pam nad oeddem yn mynd i wneud unrhyw beth ac osgoi cwestiynau.

Byddai'n well gennyf i, wrth i ni adolygu'r categori gwarchod a'r gefnogaeth a roddir iddyn nhw ledled y DU, nid dim ond yng Nghymru, ein bod yn gallu gwneud hynny drwy sgwrs agored rhwng prif swyddogion meddygol ac yn wir y pedair adran iechyd, a gwn fod hynny'n farn a rennir gan gydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU. Ar gyfer y bobl a warchodir yng Nghymru, bydd y prif swyddog meddygol yn ysgrifennu'n uniongyrchol. Mae llythyrau'n cael eu hargraffu a byddant yn dechrau cael eu hanfon yfory. Byddant yn clywed yn uniongyrchol ganddo am ddyfodol y categori gwarchod. Gall pobl ddisgwyl i'r gwarchod hynny ddigwydd am o leiaf ychydig fisoedd eto. Bydd yn nodi manylion hynny, a bydd hefyd yn arwain y gynhadledd i'r wasg yfory i siarad yn uniongyrchol â'r cyhoedd, ond gall yr Aelodau ddisgwyl gweld copi o'r llythyr a fydd yn mynd i'ch etholwyr hefyd. Byddaf yn sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu i chi gan ei fod yn barod ac wedi'i gymeradwyo. Gwnaethom ni hynny o'r blaen. Gallwch ddisgwyl gweld hynny eto, oherwydd gall Aelodau mewn etholaethau a rhanbarthau o bob plaid ddisgwyl i etholwyr gysylltu i ofyn beth sy'n digwydd. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig eich bod yn gweld testun y llythyr hwnnw.

O ran eich pwynt am y cymorth, fel yr wyf wedi egluro ar sawl achlysur, ac rwy'n falch o wneud hynny yn awr ar gofnod yn y Senedd, yr unig newid a wnaed yw bod pobl a warchodir bellach yn cael gwybod y gallant fynd allan, os ydyn nhw'n dymuno, i wneud ymarfer corff ac i weld un teulu arall gan gadw pellter cymdeithasol. Dyna'r unig newid yr ydym yn ei wneud-felly, gweld pobl y tu allan, mynd allan i wneud ymarfer corff. Mae pob mesur arall yn ei le, felly rydym ni'n dweud wrth unigolion a warchodir, 'Peidiwch â mynd i wneud eich siopa eich hunan. Peidiwch â mynd i mewn i siop i wneud hynny.' Rydym ni'n dweud wrth unigolion a warchodir, 'Os na allwch chi weithio o gartref, peidiwch â mynd i weithle gyda phobl eraill, oherwydd mae'r risgiau o fod mewn amgylchedd dan do yn dal yn sylweddol'. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, ein bod yn parhau i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwnnw o ran bwyd, felly, y blaenoriaethau ar gyfer dosbarthu archfarchnadoedd, y bobl hynny sy'n mynd â'r bocsys bwyd, mae'r cymorth hwnnw ar gael o hyd, ac mae'n cynnwys pethau eraill fel darparu meddyginiaethau hefyd. Felly, mae'r cymorth hwnnw i gyd yn dal ar waith, ond, ar gyfer unigolion a warchodir, y gallu i fynd allan nawr, y cyngor o'r blaen oedd i beidio â mynd allan ar gyfer ymarfer corff y tu allan i'ch cartref eich hun, mae hynny wedi newid, ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig i unigolion a warchodir. Ond efallai y bydd angen i ni ailedrych ar hynny. Os bydd hyn yn mynd i mewn i fisoedd y gaeaf, yn yr hydref, efallai y byddwn mewn sefyllfa lle bydd angen i'r cyngor hwnnw newid eto, ac mae'n atgyfnerthu fy mhwynt ein bod yn bell o fod yn gweld diwedd y coronafeirws.

Gweinidog, fe wnes i wrando ar yr ateb yna i Helen Mary ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod bob amser yn ymddangos mai problem cyfathrebu rhywun arall ydyw, onid yw? Gadewch i ni fynd yn ôl i'r £500 ar gyfer gofalwyr. Clywais ymateb y Prif Weinidog i Mike Hedges, a oedd yn annidwyll yn fy marn i, a chlywais eich ymateb i Delyth Jewell. Felly, a ydych yn dweud wrthyf naill ai nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod, o dan gyfraith y DU, fod cyflogau'n cael eu trethu yn unol â lefelau ennill ac felly y byddai'r £500 hynny yn cael ei drethu, neu a ydych yn dweud wrthyf fod Llywodraeth Cymru eisiau i'r Canghellor ei roi fel rhodd, ond nad oeddech wedi trafferthu gofyn iddo cyn i chi wneud y cyhoeddiad?

Yn olaf, a allwch chi egluro i bawb pwy fydd yn cael y taliad hwn? Oherwydd, ar 28 Mai, dywedoch chi wrthyf na fyddai'r holl weithwyr cartrefi gofal sy'n gweithio mewn cartref gofal a ariennir yn breifat—hynny yw cartref gofal nad yw'n derbyn unrhyw bobl sy'n cael cymorth gan y wladwriaeth—yn cael y £500 hwnnw. Felly, pan ydym yn dweud y bydd yr holl weithwyr gofal yng Nghymru yn ei gael, mae hynny, yn dechnegol, fel y deallaf o'm sgwrs â chi ar 28 Mai, yn anghywir, a byddwn yn ddiolchgar iawn am eich eglurhad oherwydd pan ddefnyddiwn y geiriau 'wedi'u hariannu'n breifat', rhaid i ni gofio bod hyn yn golygu bod llawer o Gymry yn byw ar eu cynilion olaf i fynd i gartref gofal preifat. Nid oes ganddyn nhw lawer o arian, ni fydd gan eu staff lawer o arian.

14:25

Wel, bydd y manylion terfynol ynglŷn â phwy sy'n mynd i gael y taliad yn cael eu cyhoeddi pan fyddwn wedi cwblhau'r trafodaethau gyda chyflogwyr ac undebau llafur, sydd, yn ôl yr hyn yr wyf yn ei ddeall, yn derfynol, felly byddwch yn clywed hynny yn y dyddiau nesaf, ac rwy'n credu y bydd yn rhoi'r eglurder yr ydych chi'n chwilio amdano, Angela.

O ran y dreth ar yr £500, mae hynny wedi bod yn benderfyniad i'r DU erioed. Gwnaethom gyflwyno sylwadau drwy swyddogion ymlaen llaw ynglŷn â'r driniaeth o ran treth, ac fe wnaethom ni ysgrifennu yn uniongyrchol i gyflwyno sylwadau. Fe'i codwyd hefyd gan y Gweinidog cyllid mewn sgyrsiau. Felly, mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a ddylid rhoi'r arian hwn fel rhodd ai peidio, a'u dewis hwy oedd gosod treth arno. Rwy'n dal i gredu mai'r peth iawn iddyn nhw ei wneud yw ailystyried a pheidio â gosod treth ar y £500 ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Byddaf yn siomedig, fel rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill ar draws y pleidiau eraill, os na fydd Llywodraeth y DU yn ailystyried cymryd treth o'r arian hwn fel nad yw'n mynd yn uniongyrchol i bocedi menywod sy'n gweithio am gyflog cymharol isel ond yn hytrach yn mynd i'r Trysorlys. Rwy'n credu y byddai hynny—. A dweud y gwir, ni fyddai'n sefyllfa dda i Lywodraeth y DU fod ynddi, ac nid ydyn nhw'n disgwyl cael yr arian hwn, felly byddai yn ei hanfod yn ffawdelw treth i'r Trysorlys, ac yn sicr nid wyf yn credu dylai Trysorlys y DU fod yn cael ffawdelw o ofalwyr gofal cymdeithasol. Mae'r pŵer ganddyn nhw i sicrhau nad yw treth yn cael ei gosod ac unwaith eto rwy'n eu hannog i wneud hynny.

O ran y gwarchod, wel, mae beth ddigwyddodd ynglŷn â gwarchod yn fater o ffaith. Nid yw'n fater o ddweud mai—. Mae'n ffaith mai dyna a ddigwyddodd. Rwyf wedi gallu gweithio'n adeiladol iawn gyda Gweinidogion iechyd ar draws llywodraethau eraill, gyda'r Gweinidog iechyd unoliaethol yn y Llywodraeth amlbleidiol yng Ngogledd Iwerddon, Gweinidog iechyd yr SNP yn yr Alban ac, yn wir, Gweinidog iechyd y Cabinet Ceidwadol yn Lloegr, ond mae adegau pryd nad ydym ni bob amser yn cytuno. Rydym ni'n aeddfed ynghylch hynny. Mae yna adegau pan fydd yr hyn y mae pob un ohonom yn ei wneud yn effeithio ar y llall; roedd hyn yn un o'r achlysuron hynny. Felly yn syml, mae'n ffaith. Nid oeddem yn disgwyl cyhoeddiad ar warchod yn Lloegr i gael ei gyhoeddi drwy golofn papur newydd nos Sadwrn, ond dyna a ddigwyddodd.

Gweinidog, mae llawer o effeithiau i'r coronafeirws, nid y clefyd yn unig. Rydym wedi trafod effeithiau sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau symud, megis iechyd meddwl. Fodd bynnag, yr un yr wyf eisiau ei godi yw'r risg gynyddol o ran dibyniaeth ar gamblo. Byddwch yn gyfarwydd, Gweinidog, am wn i, ag achos Chris Bruney, a oedd yn 25 mlwydd oed a gollodd £119,000 mewn pum diwrnod. Yna cafodd gynnig bonws o £400 gan y cwmni gamblo. Cymerodd ei fywyd ei hun, ac mae'r cwmni newydd gael dirwy. Nawr roedd hynny'n un o'r enghreifftiau cyn y coronafeirws.

Wrth gwrs, yr hyn sydd gennym nawr yw marchnad gaeth o ran gamblo ar-lein, ac mae data mis Mawrth yn unig ar gyfer 2020 yn dangos bod betio rhithwir wedi cynyddu 40 y cant, pocer 38 y cant ac, o'r rhai a oedd yn gosod mwy nag un bet, cynyddodd betio ar-lein 88 y cant, 53 y cant ar gyfer pocer ar-lein ac wrth gwrs, roedd llawer o ddata eraill oedd yn debyg hefyd. Dwi'n tybio y bydd ffigurau mis Ebrill yn dangos lefelau uwch fyth o gamblo ar-lein, gan arwain at y risgiau iechyd cyhoeddus a nodwyd cyn y cyfyngiadau symud. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi roi gwybod i ni a yw hyn yn rhywbeth yr ydych wedi ei drafod gyda'r prif swyddog meddygol. Os nad ydych, a wnewch ei drafod gyda'r prif swyddog meddygol i weld beth y gallwn ei wneud mewn gwirionedd i baratoi ar gyfer yr hyn sy'n mynd i fod yn gynnydd sylweddol yn y problemau sy'n gysylltiedig â dibyniaeth ar gamblo ar-lein, a bydd yn waddol y bydd yn rhaid i ni ymdrin ag ef wrth inni ddod allan o'r coronafeirws?

14:30

Rwy'n credu bod pwynt yr Aelod yn un da, ac rwy'n cydnabod y diddordeb sydd ganddo ers tro, ac y mae ganddo o hyd, yn y niwed gwirioneddol y mae gamblo yn ei wneud i iechyd y cyhoedd. Nid wyf yn credu mai nawr yw'r amser i fanylu ynglŷn â sut mae pwerau wedi eu rhannu ar hyn o bryd, ond mae yn dal angen i ni ddeall beth mae hynny'n ei olygu ac rydym yn deall y bu cynnydd sylweddol mewn gamblo ar-lein, fel y mae'r Aelod yn ei nodi. Felly, byddaf yn sicr yn ei godi'n benodol gyda'r Prif Swyddog Meddygol, ynghylch lle yr ydym ni arni a beth y mae hynny'n ei olygu, nid yn unig o ran ein dealltwriaeth o'r niwed a achosir nawr, ond o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn y dyfodol. Os yw mwy o bobl yn treulio mwy o amser yn gamblo ar-lein, does dim sicrwydd—yn wir, byddem yn disgwyl na fyddai'r bobl hynny yn diflannu ac yn rhoi'r gorau i gamblo ar-lein yn yr union niferoedd wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud. Gallem fod yn sôn am heriau tymor hwy o ran pobl yn mynd yn gaeth i gamblo yn anffodus. Felly, byddaf yn fodlon ei godi gyda'r Prif Swyddog Meddygol, ac rwy'n fodlon ymrwymo i ysgrifennu at yr Aelod maes o law.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, o ran COVID, rydych chi'n dweud eich bod wastad wedi dilyn cyngor gwyddonol. Ni fyddwn i'n cytuno â hynny, mewn gwirionedd, ond rydych chi'n dweud eich bod wedi dibynnu ar wyddoniaeth. Felly, mae yna gynnig i waredu 780,000 o dunelli o fwd o du allan i orsaf bŵer niwclear Hinkley Point i mewn i'r dyfroedd ychydig y tu allan i Gaerdydd, un filltir oddi ar yr arfordir. Nawr, mae gwyddonwyr yn dweud wrthym eu bod yn argyhoeddedig—ac maen nhw wedi dweud hynny ar goedd—maen nhw wedi'u hargyhoeddi bod y mwd yn cynnwys plwtoniwm. Felly, a chithau'n Weinidog Iechyd a hefyd yr AC dros Dde Caerdydd, a wnewch chi gefnogi galwad y gwyddonwyr i brofi'r mwd am blwtoniwm, am nad yw erioed wedi cael ei brofi am hynny? Diolch.

Fel y gŵyr yr Aelod, rwyf yma i ateb cwestiynau yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog Iechyd yn Llywodraeth Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o'm cyfrifoldebau ar gyfer yr etholaeth yr wyf wedi cael y fraint o gael fy ethol yn uniongyrchol i'w chynrychioli ddwywaith yn y senedd hon. Ac fel y gŵyr yr Aelod, mae digon o dystiolaeth a chyngor gwyddonol ynglŷn â symud a throsglwyddo mwd mewn aberoedd, a chofiaf y sgwrs bigog a gafodd yr Aelod yn y Siambr gydag Alun Davies, a oedd wedi treulio rhywfaint o amser yn edrych ar hyn yn ystod ei amser ger bron y Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, ac yn wir yn ystod ei gyfnod yn Weinidog yr Amgylchedd. Ac mae'r Aelod yn dilyn barn rhai gwyddonwyr yn hytrach na'r consensws gwyddonol a dderbyniwyd.

Felly, bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb yn y maes hwn, yn cael ei harwain gan y cyngor gwyddonol a gaiff. Mater i Gyfoeth Naturiol Cymru, fodd bynnag, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, yw deall y wyddoniaeth honno a phenderfynu beth i'w wneud wrth roi trwyddedau. Ac rwy'n credu bod ceisio dychwelyd at stori frawychus am fwd niwclear ar adeg pan rydym ni'n ymdrin â phandemig sydd ymhell o fod ar ben yn beth hollol anghywir i'w wneud o ran holi'r Gweinidog Iechyd ynglŷn â lle yr ydym ni arni o ran y digwyddiad unwaith mewn canrif hwn. Ond, yn ddiau, bydd Mr McEvoy yn parhau i wneud ei ddewisiadau ei hun.

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddarpariaeth Addysg

Symudwn ymlaen nawr at eitem 5 ar ein hagenda, sef datganiad gan y Gweinidog Addysg a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth addysg. Felly, galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da, gyd-Aelodau. Mae'r ymateb i COVID-19 wedi bod yn her enfawr i'r gymuned addysg gyfan. Mae ein hysgolion a'n colegau eisoes wedi camu i'r adwy yn erbyn COVID, gan sefydlu darpariaeth ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed, a rheoli dysgu o bell ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen gyda chyflymder rhyfeddol. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r gweithwyr addysg proffesiynol yn gyffredinol, ac yn enwedig i'r rhai sydd wedi cefnogi gweithredu'r hybiau, am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled dros y cyfnod hwn.

Mae'r Llywodraeth heddiw wedi cyhoeddi papur gan ei grŵp cynghori technegol ar COVID-19, sy'n cynrychioli'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o'r feirws mewn cysylltiad â phlant ac addysg. Rwy'n fodlon bod lle a chyfle bellach i gynyddu gweithgarwch. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gwneud y penderfyniad y dylai ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion gynllunio i gynyddu eu gweithgarwch o 29 Mehefin. Mae hyn yn rhoi tair wythnos a hanner i ysgolion, ac yn wir i rieni, barhau i baratoi ar gyfer y cam nesaf o ran addysg. Ac mae hefyd yn rhoi'r amser sydd ei angen ar gyrff llywodraethu a chynghorau i ddatblygu'r camau statudol angenrheidiol.

Bydd bron pob un dysgwr yn cael cyfle i fynychu ei ysgol. Rwy'n disgrifio hyn fel cyfle i gydweithio ar gyfer disgyblion er mwyn iddyn nhw allu dod i'r ysgol, dal ati i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi. Rwy'n cydnabod y gallai bod angen i rai dysgwyr a warchodir ddefnyddio ddulliau digidol.

Rwyf hefyd yn cynnig bod ysgolion yn agor am wythnos ychwanegol, gan gau ar 27 Gorffennaf, ac y bydd yr wythnos hon o wyliau yn cael ei throsglwyddo i dymor yr hydref. Mae hyn yn caniatáu mwy o amser cyswllt i ysgolion cyn yr haf ac yn rhoi egwyl ychwanegol yn nhymor yr hydref sy'n debygol o fod yn hir ac yn heriol.

Yn ymarferol, byddwn yn disgwyl i ysgolion gymryd nifer llai o ddysgwyr bob dydd yn dibynnu ar eu capasiti unigol eu hunain, gan sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol priodol. Disgwylir y bydd hyn yn golygu na fydd mwy na thraean o'r disgyblion yn bresennol ar unrhyw un adeg, er fy mod yn cydnabod ei bod hi'n bosib na fydd rhai ysgolion yn gallu gweithredu yn y modd hwn.

Yn y cyfnod hwn, byddwn yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r amser i gefnogi iechyd a lles dysgwyr a'u staff, a dyna ddylai fod eu blaenoriaeth bennaf; trafod gyda'r dysgwyr a'u cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer dysgu ac ystyried y camau dysgu nesaf fel y bo'n briodol; i brofi'r gweithrediadau yn barod ar gyfer tymor yr hydref; a pharhau i feithrin hyder teuluoedd yn y modd gofalus iawn yr ydym yn ei ddilyn. Mae hwn yn gyfle i ddysgwyr a staff baratoi a dod i arfer â'r sefyllfa 'normal newydd' fel y bydd ym mis Medi.

Yn y dyfodol rhagweladwy, bydd dysgwyr yn cael cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Yn yr hydref, disgwyliaf y bydd yn rhaid i ysgolion barhau i ddarparu ar gyfer yr holl ddysgwyr sy'n gallu bod yn bresennol am lai o amser er mwyn cadw pellter cymdeithasol. A phan fyddant yn yr ysgol, bydd yn teimlo'n wahanol iawn, gydag amser cyrraedd, amser gadael ac amseroedd chwarae ar adegau gwahanol, gyda llawer mwy o amser yn cael ei dreulio yn yr awyr agored, pan fydd y tywydd yn caniatáu, ac mewn dosbarthiadau llawer llai. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl iddyn nhw fwynhau amser diogel, pwrpasol gydag athrawon a chyd-ddisgyblion y maen nhw'n eu hadnabod yn dda.

Mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, boed yn Weinidog, yn rhiant neu'n bennaeth, gydbwyso risgiau bob amser. Yn y cyfnod presennol hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom ni ystyried y posibiliadau o niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau cyn gwyliau'r haf am nifer o resymau allweddol. Byddai aros tan fis Medi yn golygu na fyddai'r rhan fwyaf o blant wedi tywyllu ysgol ers o leiaf 23 wythnos, a chredaf y byddai hyn yn niweidiol i'w datblygiad, i'w dysgu ac i'w lles. Rwy'n argyhoeddedig mai dim ond drwy ddychwelyd i'w hysgolion eu hunain y byddwn yn gweld mwy o bresenoldeb gan ein plant mwyaf agored i niwed a difreintiedig.

Mae'n caniatáu inni fanteisio i'r eithaf ar y tywydd cynnes a'r heulwen, sy'n cael effaith bwysig o ran brwydro i atal trosglwyddo'r feirws. Mae'n sicrhau y bydd y system profi, olrhain a diogelu wedi bod ar waith am fis ac y bydd yn parhau i ehangu. A gallaf gadarnhau y bydd staff ysgol yn grŵp â blaenoriaeth yn ein rhaglen profi gwrthgyrff newydd, gan ddechrau gyda staff sydd wedi bod yn gweithio yn ein hybiau ar hyn o bryd. Ac, yn hollbwysig, mae'r wyddoniaeth sy'n esblygu yn dweud wrthym fod cynnydd sydyn o ran y feirws yn yr hydref yn bosibilrwydd real iawn. Gallem fod yn colli hyd yn oed mwy o amser dysgu, a byddai hyd yn oed yn waeth heb y cyfnod hwn yr wyf yn ei gynllunio heddiw.

Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod gan ysgolion y gefnogaeth briodol i weithredu ar hyn o bryd, ac rydym ni'n gweithio gyda chynghorau ac ysgolion i gael yr holl stoc hylendid angenrheidiol, mesurau diogelwch a chyfundrefnau glanhau yn barod. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi canllawiau i gynorthwyo ysgolion i weithredu o dan yr amodau newydd hyn, ac i gefnogi dysgu. Bydd y canllawiau'n cael eu hadolygu a'u diweddaru dros yr haf er mwyn helpu ysgolion i baratoi ar gyfer yr hydref, yng ngoleuni'r profiadau hyn.

Ar gyfer addysg bellach, o 15 Mehefin, bydd colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn dechrau ailagor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i grŵp cyfyngedig o fyfyrwyr a dysgwyr. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant i gytuno ar grwpiau blaenoriaeth o ddysgwyr a fydd yn cael eu cynnwys yn y cyfnod ailagor cychwynnol hwn, gan ganolbwyntio ar y rhai y mae angen iddyn nhw ddychwelyd i'w coleg neu eu canolfan hyfforddi er mwyn parhau i wneud cynnydd gyda'u dysgu. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr y mae angen iddyn nhw gynnal asesiadau ymarferol i gwblhau eu cymwysterau, a'r myfyrwyr hynny sydd angen cymorth a chyfarwyddyd ychwanegol i aros ar y trywydd iawn ac i aros mewn addysg.

Bydd canllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf, gan eu cynorthwyo i gynyddu nifer y plant sy'n mynychu ochr yn ochr ag ysgolion.

Ar gyfer ysgolion, mae gennym ni dros dair wythnos bellach i barhau i gynllunio, ac i barhau i fod yn barod, ac yn hanfodol, i barhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles. Byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn i sicrhau y cânt eu cefnogi nawr ac yn yr hydref. Bydd penaethiaid yn cael y cyfle i weithio gyda'u staff mewn ysgolion i baratoi'n llawn ar gyfer disgyblion. Mae hefyd yn rhoi'r amser sydd ei angen ar gyrff llywodraethu a chynghorau i ddatblygu'r camau statudol angenrheidiol a'r asesiadau risg er mwyn cynorthwyo staff a disgyblion i ddychwelyd.

Rwy'n cydnabod bod hwn yn gyfnod pryderus iawn i ni i gyd, ac mae hynny'n parhau. Gwn y bydd llawer yn teimlo'n bryderus. Ond rwyf eisiau dweud nad ydym ni wedi rhuthro'r gwaith hwn na'r penderfyniad hwn. Mae'r cyfnod tair wythnos a hanner cyn y cyfnod nesaf hefyd yn rhoi amser i mi gadw golwg ar ddatblygiadau mewn mannau eraill, a rhoi cyfleoedd gwirio pellach i adolygu'r dystiolaeth, ac i wylio'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen profi ac olrhain yn llwyddiannus.

Dyma'r dewis ymarferol gorau sy'n bodloni fy mhum egwyddor. Drwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n gwybod y byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddod i'r ysgol, dal ati i ddysgu a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

14:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. A diolch i chi hefyd, Gweinidog; rwy'n credu y bydd llawer—plant yn enwedig— ar draws Cymru wedi bod yn edrych ymlaen at gyhoeddiad o'r math hwn. Ac a gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaethoch chi ynghylch ein holl athrawon a theuluoedd, ac, wrth gwrs, staff cymorth sydd wedi helpu i weithio yn yr hybiau yn ogystal â gweithio gartref yn ystod y cyfnod hwn?

Roeddwn eisiau gofyn hyn i chi: os edrychwn ar wledydd ar draws Gorllewin Ewrop lle y gorfodwyd cyfyngiadau symud tua'r un adeg ag yn y DU, mae codi'r cyfyngiadau yn digwydd mewn modd gwahanol mewn gwahanol wledydd ac, mewn gwirionedd, o fewn rhai o'r gwledydd hynny. Ac ar yr wyneb, nid yw'r un gweithredoedd bob amser yn arwain ar yr un canlyniadau, rhwng y rhanbarthau hyn, heblaw am y ffaith amlwg fod ynysu yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Er hynny, eu ffordd nhw ymlaen, bron yn gyfan gwbl, fu agor yn raddol mewn grwpiau blwyddyn. Felly, beth sydd wedi digwydd i'ch bodloni bod lle a chyfle i gynyddu gweithrediadau? A pham ydych chi wedi mynd ati i wneud hyn drwy gyflwyno cylch tair wythnos i draean o'r boblogaeth ysgolion, yn hytrach na'r dull mwy poblogaidd hwnnw o weithredu mewn grwpiau blwyddyn? Ac wrth wneud hynny, sut ydych chi wedi pwysoli ffactorau megis lles emosiynol a cholli dysgu o'u cymharu â'r prif bryder o gyfyngu lledaeniad y feirws yn y gymuned?

Bydd llwyddiant y dull hwn, wrth gwrs, yn dibynnu ar hyder y gymuned, ac rwy'n croesawu eich sylwadau am ddiogelu staff a phlant sy'n dal yn agored i niwed, fel na fydd neb yn cael ei gosbi am beidio â manteisio ar y cynnig i fynychu'r ysgol. Ond a fydd eich arweiniad i ysgolion yn cynnwys y gwaith o ganfod pa blant nad ydynt eisiau dychwelyd i'r ysgol? A allwch ddweud wrthym beth y mae cylch tair wythnos yn ei olygu mewn gwirionedd? A fydd hyn yn cael ei ymestyn i'r cyfnod sylfaen, ar gyfer plant rhwng tair a phump oed—ac os felly, a gaiff hyn effaith ar leoliadau nad ydynt yn ysgolion? Ac a fydd plant gweithwyr allweddol yn gallu mynychu eu hysgolion eu hunain bum diwrnod yr wythnos ynghyd â dysgwyr sy'n agored i niwed, neu a fyddant yn gorfod parhau i fynd i hybiau?

Diolch yn fawr iawn. Fe wnaf fy ngorau i geisio ymdrin â'r cwestiynau lluosog y mae Suzy Davies wedi'u gofyn. Bydd plant gweithiwr allweddol yn gallu mynychu eu hysgolion eu hunain, am yr un oriau ag y maen nhw'n mynychu eu hysgolion hyb ar hyn o bryd. Ac mae hynny'n wir ar gyfer plant agored i niwed y mae ganddyn nhw hawl eisoes—byddant yn gwneud hynny nawr yn eu hysgol gartref, pan symudwn at y cam nesaf ddiwedd mis Mehefin.

O ran y teuluoedd hynny, rwy'n parchu'r ffaith y bydd pob teulu'n gwneud penderfyniad ar sail nifer o ffactorau, a'r hyn sy'n iawn iddyn nhw, ac rwy'n parchu teuluoedd a'u gallu i wneud yr union beth hwnnw. Os bydd teulu, am ba reswm bynnag, yn penderfynu peidio â manteisio ar y cyfle i blentyn ddod i'r ysgol, yna byddwn yn parchu hynny ac ni fydd neb yn cael dirwy, ac ni fydd presenoldeb yn rhan o unrhyw fesur o berfformiad ysgol ychwaith. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i'w ddweud wrth athrawon.

Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, bod 4,000 o blant sydd eu hunain wedi cael llythyr gwarchod. Ni fydd pob un o'r plant hynny o oedran ysgol, a'n cyngor i'r plant hynny yw na ddylai'r plant hynny fanteisio ar y cyfle hwn i ddod i'r ysgol, a'n bod yn disgwyl y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn ffordd wahanol. Ac i'r rhieni hynny sy'n cael llythyr gwarchod, unwaith eto, ein cyngor ni yw na ddylai eu plant o anghenraid fanteisio ar y cynnig, er mai mater iddyn nhw yw pwyso a mesur. Ond unwaith eto, ni fyddant o dan anfantais—bydd y broses o ddod i'r ysgol yn digwydd mewn ffordd wahanol i'r plant hynny hefyd.

Yr hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn i mi yw'r egwyddor o degwch a chydnabod bod pob plentyn i gael cyfle cyfartal, ac er y byddai mewn rhai ffyrdd yn symlach yn logistaidd i gael grwpiau blwyddyn, mae hynny'n golygu, i rai plant, na fyddent wedi tywyllu ysgol, fel y dywedais, ers amser maith a chredaf fod hynny'n niweidiol iddyn nhw.

Rydym yn symud yn ofalus iawn ac, fel y dywedais, byddwn yn cyfyngu'n ddifrifol ar nifer y plant a all fod ar y safle ar unrhyw un adeg. Rydym yn disgwyl i'r dosbarthiadau fod yn rhai bach iawn, gydag aelod o staff penodol. Ac mae angen imi ei gwneud yn glir iawn i Aelodau, fel y gwnes i, gobeithio, i rieni yn gynharach heddiw, nad yw hyn yn debyg o gwbl i ysgol yn dychwelyd i'r sefyllfa arferol. Felly, ni fydd plant yn gwneud wythnos lawn yn yr ysgol, yn mynychu'r ysgol bob dydd—byddant yn cael amseroedd penodol i fynychu er mwyn iddyn nhw wneud hynny.

Nawr, o ran canfod faint o alw sydd yna, byddwn yn disgwyl i benaethiaid yn y tair wythnos a hanner nesaf gysylltu â rhieni i weld pa rieni fydd yn derbyn y cynnig i'w myfyrwyr ddod i'r ysgol ar adegau penodol ac yna byddant yn gallu cynllunio'n unol â hynny i sicrhau nad yw'r niferoedd yn fwy na'r hyn sy'n ddiogel i'w rheoli. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pob un plentyn yn cael y cyfle i drafod gyda'i athro, bod modd asesu dysgu'r holl blant ar yr adeg hon ac y gellir helpu'r holl deuluoedd ar gyfer y cam nesaf o ran addysg.

14:45

Diolch am hynny. Credaf fod pwynt difrifol yma am hyder rhieni, ac mae'n debyg mai un ffordd y gallech helpu i wella hynny yw drwy eu helpu i ddeall, er enghraifft, sut y profwyd unrhyw oedolion mewn hybiau ysgol ledled Cymru a pha ganlyniadau a gafwyd, ac a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer profi oedolion asymptomatig mewn ysgolion yn ystod y cyfnod o ddychwelyd fesul cam, a hefyd a fydd rhywfaint o gyllid ychwanegol yma i ysgolion weithredu'r mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid, ac i gynghorau ddarparu digon o gludiant ysgol i gydymffurfio â'r un gofynion.

Rwy'n credu bod cwestiwn hefyd ynglŷn â chysondeb y broses o weithredu'r canllawiau presennol ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi ei godi gyda chi o'r blaen. Os na fydd rhai plant yn mynd i'r ysgol o hyd, a bydd dwy ran o dair o'r rhai sy'n gwneud hynny yn dal i gael eu dysgu gartref, rwy'n credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni mewn gwirionedd ynghylch sut yr ydych chi wedi bod yn dilyn cynghorau ac ysgolion dros y cyfnod hwn i gadarnhau y dilynwyd y canllawiau yr ydych chi wedi'u darparu yn gyson ledled Cymru.

Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni drefn brofi, olrhain a diogelu sy'n gadarn i gefnogi'r cyfnod nesaf o weithrediadau addysgol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod papurau SAGE wedi ei gwneud hi'n glir iawn, wrth agor ysgolion i fwy o ddisgyblion, bod yn rhaid profi ac olrhain. Bydd gennym ni fis o'r drefn profi ac olrhain yma yng Nghymru cyn y bydd plant ychwanegol yn mynd i'r ysgol. Mae hynny'n rhoi hyder inni fod y system honno ar waith ac yn gadarn.

O ran profi gwrthgyrff, byddwn yn cynnwys staff addysgu ac addysgol sydd wedi bod yn gweithio yn ein hybiau ar gyfer profion gwrthgyrff. Gall hynny wella ein dealltwriaeth o sut—os oes rhai—mae'r clefyd yn gweithio mewn ysgol, lleoliad gofal plant. Mae'r ffigurau diweddaraf a welais yn dangos bod y mwyafrif helaeth o'r profion sydd wedi'u cynnal ar y rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau addysgol wedi dod yn ôl yn negyddol. Rydym wedi cael rhai achosion ond, wrth gwrs, mae'n amhosib gwybod a gafodd yr unigolyn hwnnw'r feirws yn y gweithle neu a gafodd ei heintio pan oedd yn ei archfarchnad leol neu pan oedd, o bosib, yn rhyngweithio mewn ffordd arall. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw mai anaml iawn, iawn, y mae plant yn trosglwyddo'r clefyd mewn unrhyw fodd—mae'n annhebygol iawn eu bod wedi trosglwyddo'r clefyd hwnnw, y feirws, i unrhyw un arall. Ac, wrth gwrs, mae pob athro yn gymwys ar hyn o bryd—felly hefyd y cyhoedd yng Nghymru—i gael eu profi, a byddwn yn cymryd cyngor pellach ynglŷn â sut y dylid cynnal profion rheolaidd, ond mae'r drefn profi, olrhain a diogelu yn gwbl hanfodol inni.

O ran gwirio'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, mae gennym ni rydym ni'n gwneud hynny mewn sawl ffordd. Yn ddiweddar, gwnaeth Parentkind arolwg annibynnol o rieni. Dywedodd 84 y cant o rieni Cymru eu bod yn fodlon gyda'r gefnogaeth yr oedden nhw wedi ei gael gan ysgolion eu plant. Yn amlwg, mae trefn yma i awdurdodau addysg lleol barhau â hi. Nid yw eu gwaith o gefnogi eu hysgolion wedi diflannu, na'r rhan sydd gan y gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i'w chwarae ychwaith.

Rydym ni wedi gofyn i wasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion ddechrau dull trefnus o edrych ar arferion ar hyn o bryd. Bydd eu hadroddiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar 19 Mehefin, ac yna byddem yn disgwyl adroddiad dilynol rheolaidd i ganfod faint o ymgysylltu sydd yna a natur y broses o ymgysylltu â dysgu ar-lein, a bydd hwnnw'n adroddiad rheolaidd er mwyn inni gael sicrwydd ynghylch yr hyn y mae ysgolion yn ei wneud. Mae Estyn eisoes wedi dechrau gweithio ar ganllawiau arfer da, gan edrych ar sut y mae'r system wedi ymateb i'r argyfwng a sicrhau bod arferion gorau yn cael eu deall a'u lledaenu wrth i ni symud ymlaen.

A gaf i ddweud fy mod yn credu bod ysgolion wedi symud gyda chyflymder aruthrol i gofleidio ffyrdd newydd o ddysgu? Bydd hynny'n parhau i ddatblygu, oherwydd yr hyn sy'n ein hwynebu yw cyfnod estynedig o addysg lle bydd cymysgedd o ddysgu ar-lein a chyswllt wyneb yn wyneb. Ond mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod dysgu ar-lein yn gwella'n fawr pan ellir cefnogi hynny â sesiynau wyneb yn wyneb rheolaidd.  

14:50

Mae gen i amheuon mawr ynglŷn ag ailagor ysgolion ddiwedd Mehefin. Mae'n rhy gynnar. Mi fydd llawer o rieni ac athrawon a phlant a phobl ifanc yn bryderus hefyd. Dydy'r gyfundrefn profi ac olrhain ddim mewn lle eto. Dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn sut mae'r feirws yma yn gweithredu—sut mae o'n trosglwyddo rhwng plant a rhwng plant ac oedolion. Dwi'n credu bydd ennyn hyder teuluoedd ei bod hi'n ddiogel hyd yn oed i grwpiau bach o blant i ddychwelyd cyn yr haf yn dasg anodd iawn.

Mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru wedi awgrymu cynllun arall, cynllun fyddai yn golygu newid patrwm y tymhorau, peidio ailagor yr ysgolion ym Mehefin a Gorffennaf, ac wedyn, dim ond os oedd hi'n saff, i ailagor yn raddol ac i grwpiau bychain o blant o ganol Awst ymlaen, pan, erbyn hynny gobeithio, fyddai gennym ni well darlun o'r hyn sy'n digwydd efo'r feirws. Hoffwn i wybod pam wnaethoch chi ddim mynd efo'r cynllun hwnnw, achos dwi'n deall ei fod o wedi bod yn cael ei drafod.

O ran agor i bob disgybl—ac rydych wedi bod yn trafod hynny rŵan—mae'r undebau, fel y gwyddoch chi, o blaid agor i flynyddoedd 6, 10 a 12 fel blaenoriaeth. Rydym ni wedi trafod hyn, ac mae gen i gydymdeimlad efo'ch safbwynt chi o gynnig cyfle i bob disgybl fedru siecio i mewn. Sut ydych chi'n mynd i ofyn i ysgolion roi'r cyfle hwnnw? Ac a fyddwch chi'n annog ysgolion i chwilio'n benodol am y plant hynny, am y bobl ifanc hynny, sydd ddim wedi bod yn cyfranogi o'r gwersi ar-lein neu o'r dysgu ar-lein, ac sydd ddim wedi bod yn cynnal cyswllt rheolaidd efo'r ysgolion? A fyddwch chi'n annog blaenoriaeth ar gyfer y grŵp penodol yna o blant?

14:55

A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei chwestiynau? Bydd yn rhaid iddi faddau i mi, nid wyf yn cofio iddi drafod dychwelyd ym mis Awst gyda mi yn ein cyfarfodydd wythnosol, ond mae hi'n gywir yn awgrymu ein bod wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o ddod â thymor yr haf i ben yn gynnar a dechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Awst. Roedd llawer o atyniadau i'r cynllun penodol hwnnw. Yn gyntaf, gwneud y gorau o fisoedd yr haf, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn gwybod bod heulwen a'r tywydd gwell a'r gallu i gael plant y tu allan ac awyru adeiladau ysgolion yn haws yn ystod misoedd yr haf, a byddai wedi caniatáu hyd yn oed mwy o amser i'r gyfundrefn profi, olrhain a diogelu ymwreiddio.

Trafodwyd hyn gyda phob un o'n cydweithwyr yn yr undebau—undebau penaethiaid, undebau athrawon ac undebau staff cymorth. Byddem wedi torri tymor yr hydref hwnnw yn nifer penodol o gyfnodau i greu toriadau naturiol. Ond mewn gwirionedd, gwrthododd pob un undeb y cyfle hwnnw. Ac o ystyried y ffaith y byddai hyn, wrth gwrs, yn newid sylweddol i delerau ac amodau ein staff addysgu, ni allwn ond symud ymlaen gyda newid mor ddirfawr os gwneir hynny gyda chydsyniad ein gweithwyr proffesiynol, ac ni chafwyd eu cydsyniad. Felly, roedd yn gynnig da, ond credaf fod yr hyn a gyflwynwyd gennym ni heddiw yn rhannu llawer o'r cyfleoedd tebyg: mae'n caniatáu i'r rhaglen profi ac olrhain ymwreiddio dros fis cyfan; mae'n ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd dysgu yn yr haf; mae'n rhoi toriad naturiol i ni i fyfyrio ar ein hymarfer yn ystod y chwe wythnos o wyliau haf; ac yn caniatáu inni roi ychydig o doriad ychwanegol—saib—yn nhymor yr hydref pan allai pethau fod yn anodd unwaith eto, o bosib. A dyna sut yr ydym ni wedi penderfynu bwrw ymlaen.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ei bod hi'n anodd iawn nodi addysg pa blant sy'n bwysicach nag addysg pobl eraill. I blant hŷn, nid dim ond mater o nodi grwpiau arholiadau ydyw—mae gan ysgolion gwahanol batrymau arholiadau gwahanol. Byddai rhai plant sydd ym mlwyddyn 8 ar hyn o bryd yn dechrau eu cyrsiau TGAU yn yr hydref. Mae yna blant a fydd yn sefyll uned 1 eu harholiadau TGAU. Felly, mae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau arholiadau—nid dim ond y rhai y mae Siân Gwenllian wedi'u hamlinellu, ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol, o ran blwyddyn 6, eu bod yn cael cyfle i ffarwelio â'u hathrawon a'u hysgolion cyn iddyn nhw symud ymlaen i'r ysgol uwchradd. Ond o ran y cwricwlwm, mewn gwirionedd, maen nhw wedi dod i ddiwedd eu cwricwlwm cyn iddyn nhw symud ymlaen i gyfnod nesaf eu haddysg. Cefais nifer o sylwadau gan weithwyr addysgu proffesiynol a oedd yn dweud y dylai blwyddyn 5 gymryd blaenoriaeth dros flwyddyn 6.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw sicrhau bod pob un plentyn yn cael cyfle i drafod gyda'i athro, i gael y newyddion diweddaraf ynghylch yr hyn a fu'n digwydd yn eu bywydau, sut y bu pethau, sut y bu pethau gartref, sut y bu'r dysgu, beth sydd wedi bod yn anodd, beth sydd wedi bod yn hawdd, a oes ganddyn nhw y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw o ran y pecyn a'r offer i ganiatáu iddyn nhw ddysgu, a beth yw'r camau nesaf y mae angen iddyn nhw weithio arnyn nhw dros yr haf ac wrth baratoi ar gyfer mis Medi.

A phan ystyriwn ni y gallem fod wedi bod yn gofyn i rai plant ifanc iawn fynd yn ôl ym mis Medi, heb iddyn nhw dywyllu'r ystafell ddosbarth ers dros 23 o wythnosau, mae hynny'n ofyn mawr i blentyn bach, a hefyd, mae'r ystafell ddosbarth honno'n mynd i edrych yn wahanol iawn o'i chymharu â'r tro diwethaf yr oedden nhw ynddi, a bydd eu hysgol yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn i'r tro diwethaf yr oedden nhw ynddi. Mae hyn yn caniatáu i ni ddychwelyd fesul cam er mwyn gallu cyflwyno ein plant yn araf i'r hyn y bydd addysg yn y dyfodol, a dyna pam y mae angen i ni gymryd y cyfle i wneud hynny cyn diwedd tymor yr haf.

15:00

Mae hi'n hanfodol, wrth gwrs, nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl a bod pob plentyn yn cael yr addysg orau posib o dan yr amgylchiadau presennol. Mae'n hathrawon ni wedi bod yn hyblyg iawn ac yn gwneud gwaith arbennig, ond ydych chi'n hyderus bod pob plentyn yn ymgysylltu efo'u haddysg? Oes gan bob plentyn ddyfais, band-eang, gofod i weithio ynddo fo a digon o gefnogaeth er mwyn cymryd rhan yn eu gwersi? A sut ydych chi'n mynd i osod disgwyliadau cadarn i bob awdurdod lleol a phob ysgol bod rhaid i ddysgu o bell fod yn rhan greiddiol o'n system addysg ni i'r dyfodol, ddim jest yn ystod cyfnod y coronafeirws, ond mi fydd yna ddisgwyliadau i addysg newid yn sylweddol yn sgil y cwricwlwm newydd, er enghraifft, efo llawer iawn o bwyslais ar ddefnyddio technoleg? Ydych chi'n credu ar hyn o bryd bod yna ddigon yn cael ei wneud i fireinio a datblygu dysgu o bell, gan gynnwys ffrydio gwersi'n fyw? Dydw i ddim yn siŵr ydy hwnna'n digwydd yn gyson ar draws Cymru.

A gaf i jest droi'n olaf at Fil y cwricwlwm? Fedrwch chi gadarnhau wrthym ni pa bryd y bydd y drafft yn cael ei gyhoeddi? Dwi'n deall bod hyn ar fin digwydd ond dwi'n deall hefyd bod yna fygythiad i'r arfer o drochi plant ifanc yn y Gymraeg oherwydd y geiriad fydd ar wyneb y Bil, ac mi fyddai hynny'n ergyd drom iawn i'r nod miliwn o siaradwyr. Fedrwch chi ymrwymo felly i newid y cymal yma cyn cyhoeddi'r fersiwn drafft o Fil y cwricwlwm? Diolch.

Wel, mae Siân Gwenllian yn iawn: mae'r cyfnod hwn yn sicr wedi bod yn hwb gwirioneddol i ddatblygu sgiliau cymhwysedd digidol pawb—plant, athrawon, yn wir, Aelodau'r Senedd. Rydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn llawer mwy cymwys yn ddigidol heddiw nag yr oeddem ni 10 wythnos yn ôl er bod rhai ohonom ni, o bryd i'w gilydd, yn dal i frwydro gyda'n botymau distewi.

Mae'n bwysig iawn i mi fod pawb yn cael cyfle i ddysgu ar-lein. Dyna pam y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r cymorth ariannol yr ydym ni wedi'i roi i fynd i'r afael ag allgáu digidol disgyblion. Hyd yma, o ganlyniad i gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae tua 10,849 o unedau wi-fi wedi cael eu dosbarthu. Mae hynny'n gymorth a ddarparwyd ac a ddefnyddiwyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, ac fe barheir i wneud ceisiadau am gymorth ychwanegol ac rydym yn bodloni'r ceisiadau hynny.

O ran dyfeisiau sydd wedi'u haddasu at ddibenion gwahanol, gallaf ddweud ein bod wedi rhoi trwyddedau ar gyfer tua 8,966 o ddyfeisiau. Mae'r rheini'n ddyfeisiau sy'n cael eu dosbarthu ar draws 14 o awdurdodau lleol sydd wedi elwa ar drefniadau canolog Llywodraeth Cymru, ond mae cyfanswm nifer y dyfeisiau sydd wedi'u benthyca yn uwch na hynny gan fod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth ddyrannu'r dyfeisiau hynny ar ddechrau'r argyfwng, ac felly nid ydynt o anghenraid wedi manteisio ar hyn. Felly, gwyddom fod cryn dipyn o gymorth wedi'i ddarparu o ran allgáu digidol. A dyna pam, Siân, mae angen i bawb ddod i'r ysgol neu o leiaf gael y cyfle i ddod i'r ysgol oherwydd, rydych chi'n iawn, ni allaf eich sicrhau bod pob plentyn wedi bod yn dysgu, a gallai hynny fod am amryw byd o resymau, boed hynny'n allgáu digidol, boed hynny am fod mamau a thadau yn gweithio'n galed iawn o gartref ac yn cael trafferth i ddarparu'r gefnogaeth honno. I rai, gallai'r cymhelliant o beidio â bod ymhlith eu cyd-ddisgyblion fod yn anodd iawn. A dyna'n union pam y mae'n rhaid i ni beidio â dewis grwpiau blwyddyn, ond mewn gwirionedd rhoi cyfle i'r holl fyfyrwyr weld eu hathrawon fel y gellir cael y trafodaethau hyn fel y gallwn ni ddarganfod beth sydd wedi bod yn digwydd ym mywydau plant; gallwn ddarganfod pam nad ydynt wedi bod yn ymgysylltu, a'r hyn y mae angen i ni i gyd ei wneud i'w cefnogi'n well.

Mae gwersi byw yn fater i ymarferwyr ac ysgolion unigol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar sut y gall ymarferwyr wneud hynny'n ddiogel ac yn briodol, felly efallai y byddant yn gallu gwneud hynny a gallaf sicrhau'r Aelod nad oes dim yn y Bil cwricwlwm sydd ar y gweill sy'n atal neu'n tanseilio'r arfer o drochi; yn wir, i'r gwrthwyneb: am y tro cyntaf bydd sail gyfreithiol i'r arfer o drochi.

15:05

Roeddwn yn siomedig fod hwn wedi dod ar ôl yn hytrach na chyn y datganiad i'r wasg yn gynharach, ond serch hynny, hoffwn groesawu'r datganiad hwn gan yr Ysgrifennydd Addysg, a'n bod yn mynd i weld o leiaf rhywfaint o ailagor ysgolion. Yn wahanol i Siân Gwenllian, byddai'n well gennyf i petai hynny'n gynharach yn hytrach nag yn hwyrach ond mae'n digwydd ac rwy'n croesawu hynny, a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Addysg am ei gwaith i sicrhau hynny. Roeddech yn onest iawn, fe deimlais, yn eich sylwadau'n gynharach, pan ddywedsoch chi mai'r undebau a rwystrodd yr hyn a oedd yn swnio fel eich dewis cyntaf, sef agor ysgolion yng nghanol mis Awst. A gaf i hefyd fod yn glir a oedd yr undebau hefyd yn ddylanwadol wrth benderfynu pryd y dylid rhoi'r wythnos ychwanegol hon sydd i'w gweithio'n hwyr yng Ngorffennaf yn ôl? Oni fyddai wedi bod yn well efallai i rieni a disgyblion pe bai'r wythnos honno wedi bod yn ystod yr wythnosau nesaf pan nad oedd ond cyfleoedd ar-lein ar gael, yn hytrach na'i bod yn wythnos ychwanegol a gaiff ei cholli nawr yn nhymor yr Hydref? Ni fyddwn yn hoffi, fodd bynnag, i'r cwestiwn hwnnw gael ei ddehongli fel un yn erbyn yr undebau nac fel beirniadaeth o'r Gweinidog am ymgysylltu â'r undebau. Yn amlwg, os yw'r undebau'n gallu cael cefnogaeth eu haelodau, mae'n bragmatig ac yn synhwyrol gweithio gyda nhw i geisio cael mwy o athrawon yn ôl i'r gwaith ac i ddychwelyd mewn ffordd fwy cadarnhaol, cyfranogol a chefnogol. Mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, a gaf i hefyd ofyn: a yw hi wedi ystyried buddiannau rhieni a disgyblion hefyd, oherwydd maen nhw hefyd yn amlwg yn rhanddeiliaid pwysig iawn yn hyn i gyd?

Yn gyffredinol, credaf fod yr hyn y mae'n ei ddweud am ddod â'r holl blant yn ôl o leiaf i gael rhywfaint o addysg yn fy nharo fel cynllun sydd â rhinweddau. Soniodd am yr agwedd o gydraddoldeb yn hynny, ond o ran cefnogi dysgu ar-lein a chyfarfod yn gorfforol hefyd, yn amlwg bydd manteision i hynny: cadw llygad ar blant, gwybod lle mae plant, gallu cyfeirio ac ymyrryd pan fo'n briodol, ac mae cefnogi dysgu ar-lein gyda pheth cyswllt corfforol i bawb yn ymddangos yn gadarnhaol.

Yn olaf a gaf i gadarnhau'r hyn y mae'r datganiad ysgrifenedig yn ei ddweud sef bod tua thraean o'r disgyblion yn dychwelyd? Credaf ichi ddweud nawr nad oedd yn fwy na thraean o'r disgyblion. Yn yr un modd, mae cyfeiriad at eu capasiti, eu capasiti unigol eu hunain ar gyfer ysgolion, a chredaf mewn datganiad ysgrifenedig: efallai y bydd angen amser ar ysgolion i allu gweithredu yn y modd hwn. Rwy'n credu i hynny gael ei newid wedyn i: efallai na fydd ysgolion yn gallu gweithredu yn y modd hwnnw. Yn amlwg, mater i'r Gweinidog yw diweddaru datganiadau ysgrifenedig a rhoi'r fersiwn lafar, sef y cofnod, wrth gwrs, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond tybed, serch hynny, a yw hynny'n awgrymu bod y pwnc hwnnw'n un dadleuol? A gwestiynwyd ei datganiad yn gynharach a arweiniodd at unrhyw newid meddwl neu bwyslais ar hynny? A soniodd am fwy o ysgolion a allai ei chael hi'n anodd gweithredu yn y modd hwnnw, a oes ysgolion eraill sy'n teimlo y gallant weithredu'n ddiogel gyda mwy o ddisgyblion na thraean, ac a wnaiff hi roi rhyddid i ysgolion ar ddwy ochr yr hafaliad i arfer eu doethineb? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am hynny, Mr Reckless. O ran ei siom nad oeddwn wedi gwneud hyn yn gynharach, nid wyf yn teimlo y byddai wedi bod yn ddiogel gwneud hyn yn gynharach. Fel y dywedais, roedd Cyngor SAGE yn glir iawn, mae angen inni gael trefn i'w defnyddio ar gyfer yr holl waith cyn y gallem ni weld mwy o blant yn cael addysg. Dim ond yr wythnos hon y mae'r system wedi dechrau, ac nid oeddwn yn barod i weld mwy o blant yn mynd yn ôl i'r ysgol nes y bu'r system honno ar waith ac wedi cael ei phrofi. Felly, dyna pam nad ydym ni wedi mynd yn ôl yn gynharach. Mae hefyd yn ddiddorol iawn darllen cyngor SAGE—grŵp annibynnol SAGE, mewn gwirionedd—a oedd yn dweud bod y gwahaniaeth rhwng plant yn dychwelyd ar 1 Mehefin a phlant yn dychwelyd ar 15 Mehefin yn haneru'r tebygolrwydd y bydd plentyn yn cael y feirws. Rydym yn mynd yn ôl hyd yn oed yn hwyrach, sy'n unol â'r ymagwedd ofalus iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymryd tuag at bob un o'r mesurau llacio, ac mae hynny'n seiliedig ar gyngor SAGE, fel y dywedais, sy'n hysbys i'r cyhoedd erbyn hyn, rwy'n credu.

O ran yr wythnos ychwanegol, rwy'n bwriadu ymestyn y tymor gan roi wythnos ychwanegol i fachu ar y cyfle hwnnw i ddysgu yn ystod yr haf, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, gwyddom fod hynny'n rhoi'r cyfle gorau inni gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Rydym ni'n dod i ddiwedd y flwyddyn academaidd; mae'r wythnos ychwanegol honno'n golygu y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn a sicrhau cymaint â phosib o gyfleoedd i gael cyswllt wyneb yn wyneb rhwng plant a'u hathrawon yr ochr hon i'r haf. O ran wythnos ychwanegol ym mis Hydref, rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw i ailddyrannu'r wythnos honno. Rwyf wedi gwneud hynny, eto, oherwydd fel y trafodwyd yn hirfaith ddoe, mi gredaf gan y Gweinidog Iechyd, rydym yn pryderu fwyfwy am batrwm y clefyd yn yr hydref. Rwy'n gobeithio o ddifri, nid oes neb—ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yr un fath—nid oes neb eisiau gweld y feirws yn cynyddu eto yn yr hydref. Mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd hynny'n digwydd, ond mae—. Y cyngor yr ydym yn ei gael yw ei bod yn ddigon posib y gwelwn y feirws yn dychwelyd. Felly, mae cael egwyl naturiol a blaenoriaethu cyswllt wyneb yn wyneb nawr, a ninnau'n gwybod y gallwn ni ei wneud, yn hytrach na cholli amser cyswllt wyneb yn wyneb ychwanegol yn yr hydref, yn rhan bwysig o'm strategaeth. Hefyd, mae'n dymor hir iawn beth bynnag, ac mae'n rhoi'r cyfle i ni greu egwyl naturiol ar adeg pan allai'r clefyd—ac rydym i gyd yn gobeithio na fydd—ddechrau amlygu ei hun eto.

O ran maint—mae'n ddrwg gennyf. Does dim dadl. Rwy'n aml yn hollti blew ac unwaith y bydd popeth mewn print ac yn cael ei roi i bobl, weithiau byddaf yn newid fy ngeiriau gan fy mod yn hoffi gair gwahanol, Mr Reckless. Dyna fy hawl fel Gweinidog. Weithiau rwyf eisiau newid fy ngeiriau, ond yn sicr nid yw oherwydd unrhyw beth dadleuol. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw cydnabod bod addysg Gymraeg yn hynod amrywiol. Wyddoch chi, mae gennym ni rai ysgolion sydd â 40 o ddisgyblion ynddyn nhw, ac mae gennym ni rai ysgolion sydd â llawer o ddisgyblion ynddyn nhw, ac mae'n rhaid i ni ymddiried yn ein penaethiaid a'n hawdurdodau addysg lleol i wneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd i adlewyrchu natur wahanol iawn ein hysgolion. Rhaid inni dderbyn hefyd na fydd y gweithlu o bosib ar gael yn llawn. Gwyddom, a'n hargymhelliad a'n cyngor ni yw na ddylai athro sy'n cael llythyr gwarchod ddychwelyd i'r gweithle ffisegol. Mae pethau y gallant eu gwneud gartref ac ar-lein i gefnogi dysgu, ond ni ddylen nhw fod yn y gweithle. Felly, mae'n rhaid inni gael rhywfaint o hyblygrwydd yn y system. Y traean yw'r nifer fwyaf o blant y byddem eisiau eu gweld. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o hyblygrwydd a rhaid i ni ddibynnu ar ddoethineb penaethiaid a chyrff llywodraethu unigol o ran sut y bydd yn gweithio yn eu lleoliad nhw, cyn belled â bod hynny'n gweithio o fewn y cyd-destun cenedlaethol a'r fframwaith y byddwn wedi'i osod iddyn nhw. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod addysg Gymraeg yn amrywiol, ac y gall adeiladau a lleoliadau ysgolion unigol fod yn haws i'w rheoli nag eraill, a rhaid inni gydnabod hynny fel ymateb ymarferol iawn i'r sefyllfa. Nid yw un ateb yn addas i bob sefyllfa. 

15:10

Diolch. Galwaf nawr ar Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Lynne Neagle.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel llawer o bobl, mae arnaf eisiau cymryd rhywfaint o amser i ddarllen y ddogfen ynghyd a'r dogfennau cysylltiedig cyn rhoi ymateb ystyriol a phwyllog iddo, ond roeddwn eisiau dweud mai un o'r pryderon mawr i mi yn y pandemig hwn yw bod y rhan fwyaf o'n plant yn anweledig a chudd i raddau helaeth. Felly, mae'r cyfle i gael archwiliadau lles i'n plant, a'r cyfle i gysylltu â'r athrawon yn uniongyrchol, yn rhywbeth y byddwn i, yn bersonol, yn ei groesawu, rwy'n credu.

Mae gennyf rai cwestiynau penodol. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch sut y mae cadw pellter cymdeithasol yn mynd i weithio'n ymarferol. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ganllawiau a gyhoeddir yr wythnos nesaf. A allwch chi ddweud a fydd hynny'n digwydd—faint o gyfarwyddyd fydd yn y canllawiau hynny? Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol gwybod hynny.

Fe ddywedsoch chi mewn ymateb i Suzy Davies mai'r hyn a'ch arweiniodd at gael yr holl blant yn ôl yn hytrach na grwpiau blwyddyn penodol, sef yr hyn a drafodwyd o'r blaen, oedd y ffaith eich bod eisiau cael dull o weithredu sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei weld. A wnewch chi gadarnhau mai dyna oedd yr unig beth a oedd yn troi'r fantol o blaid cael pob plentyn yn ôl?

Byddwn â diddordeb hefyd mewn cael gwybod i ba raddau y mae hawliau plant wedi bod yn ffactor yn y penderfyniad hwn. Hoffwn wybod a wnaed asesiad o'r effaith ar hawliau plant ynghylch hyn, fel yr wyf wedi bod yn gofyn drwy gydol y broses hon, mewn gwirionedd.

Hoffwn ofyn beth yw'r pethau allweddol neu'r sbardunau a allai arwain at ailfeddwl ynghylch hyn neu at atal hyn rhag digwydd yn yr amserlen yr ydych wedi'i gosod. Ai newid yng ngwerth yr 'R' fyddai hynny? Beth fyddai'r ffactorau y byddech chi yn eu hystyried?

Yn olaf gennyf fi, rwy'n credu bod y cyfyngiadau symud wedi bod yn drawmatig i bob un ohonom ni, ond i neb mwy felly nag i'n plant, mewn gwirionedd. Sut y byddwch yn sicrhau bod ysgolion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rheoli a chefnogi'r hyn a allai fod yn llawer o blant sydd wedi dioddef trawma mawr, pan fyddant yn dod yn ôl yn y pen draw? Wrth gwrs, mae yna hefyd fater o les staff ein hysgolion hefyd. Diolch yn fawr.

15:15

Diolch, Lynne. Byddwn, byddwn yn cyhoeddi canllawiau gweithredol yr wythnos nesaf. Mae hynny'n cael ei gwblhau—rydym yn dal i ymgynghori â'n hawdurdodau addysg lleol, undebau athrawon a'r grwpiau yr ydym wedi'u sefydlu i sicrhau bod y canllawiau hynny cystal ag y mae angen iddyn nhw fod, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Bydd yn ymdrin â'r holl faterion gweithredol sy'n gysylltiedig â'r sesiynau dod i'r ysgol sy'n cael eu darparu i blant.

Rwy'n cytuno â hi: un o'r pethau sy'n fy nghadw'n effro yn y nos yw plant agored i niwed. Er gwaethaf ymdrechion gorau awdurdodau lleol ac athrawon unigol, ac ers gwyliau'r Pasg, rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y plant agored i niwed sy'n mynd i'r ysgol, ac nid wyf yn teimlo'n gyfforddus â'r niferoedd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod plant sy'n agored i niwed yn fwy tebygol o fynd i'r ysgol os mai hi yw eu hysgol nhw a'i bod hi yn eu cymuned nhw. Felly, un ystyriaeth bwysig yn y penderfyniad yr wyf wedi'i wneud yw cael mwy o blant sy'n agored i niwed yn ôl.

Gall hyn fod yn fater penodol sy'n ymwneud â rhai o'n plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Er bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wedi gallu mynd i'n hybiau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, yn aml nid yw hynny wedi bod—mewn gwirionedd, nid yw wedi bod ar gael, oherwydd i rai plant mae'n amgylchedd estron, amgylchedd nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus ynddo. Yn aml, mae'r hybiau hynny, yn ddigon dealladwy, yn cael eu staffio ar sail rota. Mae'r staff yn newid, wyddoch chi drwy'r amser, ac, unwaith eto, gall hynny fod yn gythryblus iawn i rai plant.

Bydd y gallu i ddisgyblion fynd yn ôl i'w hysgolion eu hunain, mewn adeilad ac amgylchedd sy'n gyfarwydd iddyn nhw, gydag unigolion sy'n gyfarwydd iddyn nhw, gobeithio yn lliniaru rhywfaint ar y pwysau sydd, yn ddi-os, wedi bod ar rai teuluoedd, y mae'r sefyllfa o ran hybiau—er ei fod yn hawl, nid ydyn nhw wedi teimlo eu bod yn gallu defnyddio'r hawl honno oherwydd nad yw wedi diwallu anghenion eu plant. Rwy'n credu, unwaith eto, dyna pam y mae hwn yn gam pwysig ymlaen o ran gwneud yn siŵr bod plant mwy agored i niwed yn gallu cael y cymorth hwn.

Mae hawliau plant yn hollbwysig ac roedd yn benderfyniad anodd dweud bod addysg rhai plant yn bwysicach nag addysg eraill, ac y dylai hawliau rhai plant fod yn wahanol i hawliau eraill. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal.

Lynne, rydych chi'n iawn i ddweud bod yr holl benderfyniadau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw yn dibynnu ar a yw'r feirws yn ein galluogi ni i wneud y newidiadau hyn. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhan bwysig o'r tair wythnos a hanner nesaf o ran gwneud yn siŵr nad yw'r cyfyngiadau sydd eisoes wedi cael eu llacio yn arwain nid yn unig at gynnydd yn y rhif 'R' ond at nifer y derbyniadau i'r ysbyty a lefelau'r haint, a hefyd at gadernid y drefn o brofi, olrhain a diogelu.

Felly, fel y dywedais yn fy natganiad, byddwn yn defnyddio'r tair wythnos a hanner hyn i wneud yn siŵr y gall y penderfyniad yr ydym ni wedi'i amlinellu heddiw fynd rhagddo mewn gwirionedd. Ac os nad wyf yn fodlon, yna dywedaf hynny.

15:20

Diolch. Darren Millar. Na, mae'n ddrwg gennyf. Mae angen inni droi eich meicroffon ymlaen. Dyna chi, rhowch gynnig arall arni.

A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, Gweinidog? Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn falch iawn bod ysgolion yn ailagor. A gaf i ofyn am ychydig mwy o eglurhad o ran y plant dan bump oed, ac yn enwedig y rheini sy'n blant oedran meithrin mewn meithrinfeydd a leolir mewn ysgolion? Pa ddarpariaeth fydd ar gael iddyn nhw o dan y trefniadau hyn?

Ac yn ail, un maes na wnaethoch chi roi diweddariad amdano heddiw oedd prifysgolion Cymru. Mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael bargen wael iawn gan brifysgolion am eu ffioedd dysgu ar hyn o bryd. Yn amlwg, am gyfnod sylweddol nawr, maen nhw wedi bod yn gwneud eu cyrsiau drwy ddysgu o bell. Manteisiais ar y cyfle i gael golwg ar wefan y Brifysgol Agored heddiw ac am rywbeth sy'n cyfateb i werth blwyddyn lawn o addysg yn y Brifysgol Agored, byddai'n costio ychydig dros £2,000 am hynny, ond mae prifysgolion Cymru yn dal i godi £9,000. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n gobeithio mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol? Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi cymorth ariannol i brifysgolion, ond nid ydych chi wedi gwneud hynny ar gyfer myfyrwyr hyd yn hyn.

O ran ein plant ieuengaf, gwn fod hwn yn faes sy'n peri pryder penodol i lawer o bobl oherwydd gallu ein dysgwyr ieuengaf i ddeall y cysyniad o gadw pellter cymdeithasol. Gallwch gael sgwrs gyda phlant hŷn a gallant ddeall yr hyn y cânt ac na chânt ei wneud; greddf naturiol ein dysgwyr ieuengaf oll yw bod gyda'i gilydd, a gall hynny fod yn heriol iawn.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn i'w ddweud yw ein bod, dros y 10 wythnos diwethaf, wedi magu llawer o brofiad ynglŷn â sut i leihau'r risg yn y sefyllfaoedd hynny. Mae'n bwysig cofio bod chwarter o'n hysgolion wedi bod ar agor am y 10 wythnos diwethaf i blant o bob oed, felly hefyd ein darparwyr gofal plant ar gyfer plant hyd yn oed yn iau. Felly, rydym ni wedi gallu dysgu o'r profiad hwnnw ynglŷn â sut y gallwch chi reoli risg yn effeithiol. Ond rwy'n cydnabod ei bod yn anhygoel o anodd esbonio i blentyn pedair oed sut i gadw pellter cymdeithasol. Felly, mae ffyrdd ymarferol i leihau eu rhyngweithio.

Felly, yn gyntaf oll, byddwn yn cadw plant mewn grwpiau bach iawn, felly nid yn eu dosbarthiadau traddodiadol ond mewn grwpiau bach iawn gydag aelod penodol o staff. Byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad, er enghraifft, ar adnoddau a rhannu adnoddau. Ond heb rithyn o amheuaeth, Darren, mae'n heriol iawn i'r plant hynny. Ond rydym wedi edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o'r ffordd y mae hynny wedi llwyddo, ac mae'n rhaid i mi ddweud ein bod yn gwybod mai'r plant hynny sydd leiaf tebygol o fod mewn perygl. Felly, yr eironi yw ar gyfer y rhai sydd leiaf tebygol o gadw pellter cymdeithasol, byddai'r dystiolaeth yn awgrymu mai nhw sydd leiaf tebygol o fod mewn perygl. Ond mae gennym ni brofiad o sut y gallwn ni reoli'r broses honno a lleihau'r risg gymaint â phosibl. Ac fel y dywedais, o ran gwarchod plant a gofal plant, cyhoeddir mwy o ganllawiau yr wythnos nesaf.

O ran prifysgolion, yn union fel eich cydweithiwr yn Llywodraeth San Steffan, nid oes gennyf gynlluniau i ostwng ffioedd yma ym mhrifysgolion Cymru.

Na, mae'n ddrwg gennyf, Helen. Rydym ni'n dal i gael problemau gyda'ch meicroffon. Gadewch i ni roi cynnig arall arni.

Diolch. Diolch, Dirprwy Lywydd. O ran—af â chi i addysg ôl-16, os caf i, Gweinidog. O ran y trefniadau ar gyfer colegau addysg bellach, a wnewch chi gadarnhau y bydd rhai o'r myfyrwyr hynny a fydd yn gallu dychwelyd, yn fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau galwedigaethol y bydd angen iddyn nhw sefyll arholiadau ymarferol er mwyn gallu cwblhau eu cymwysterau?

Os gallaf fynd â chi wedyn i'r sector prifysgolion, pa drafodaethau pellach ydych chi wedi'u cael ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr i roi uchafswm ar nifer y myfyrwyr sy'n dod o brifysgolion Lloegr i brifysgolion Cymru? Yn amlwg, bydd gan hyn oblygiadau posibl o ran adnoddau i brifysgolion a fydd eisoes dan bwysau, ac a ydych chi wedi ystyried eto sut tybed y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb?

15:25

Iawn. Yn gyntaf, o ran colegau addysg bellach, ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn fy natganiad: bydd colegau addysg bellach yn agor ar gyfer mwy o ddysgu wyneb yn wyneb ar 15 Mehefin. Mae hynny ychydig yn gynharach, oherwydd, mewn trafodaethau gyda phenaethiaid y colegau, ColegauCymru a'r undebau, maen nhw'n credu y gallant symud yn gyflymach i wneud hynny. Ac mae hi'n hollol iawn, wrth gytuno ar rai blaenoriaethau, mae'r grŵp hwnnw o fyfyrwyr y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato yn flaenoriaeth. Felly, dyma'r un garfan o ddysgwyr—dyma'r un garfan fawr o ddysgwyr nad ydym ni wedi gallu dod i hyd i ffordd arall o ganiatáu iddyn nhw gwblhau eu cyrsiau gyda gradd. Felly, rydym ni wedi gallu gwneud hyn i bawb arall fwy neu lai, ond mae angen i'r grŵp hwn o ddysgwyr ddangos eu cymhwysedd technegol i ennill eu cymhwyster—ac mae hynny'n briodol. Os ystyriwch chi osodwyr nwy neu adeiladwyr, mae angen y dystysgrif dechnegol honno arnyn nhw ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael cyfle i gwblhau eu cwrs, felly nhw yw'r flaenoriaeth o ran y gwaith y mae'n rhaid i golegau ei wneud er mwyn iddyn nhw allu cwblhau eu cymhwyster a symud ymlaen i'r camau nesaf.

O ran addysg uwch a rheoli nifer y myfyrwyr, rydym yn cytuno bod y sefyllfa y mae addysg uwch ynddi yn golygu bod yn rhaid inni gyflwyno dull o reoli nifer y myfyrwyr. Yn wir, mae'r sector wedi cytuno bod hyn yn un ffordd bwysig o gyflwyno elfen o sefydlogrwydd ar adeg heriol iawn i'r sector.

Yr hyn a oedd yn syndod, ar ôl cytuno y byddem i gyd yn cyflwyno rhywfaint o reoli o ran nifer y myfyrwyr, a byddaf yn gwneud hynny yng Nghymru gyda'n sefydliadau, oedd canfod wedyn, mai'r ymagwedd a oedd gan Loegr oedd nid yn unig i gyflwyno rheolaethau ar nifer myfyrwyr eu sefydliadau eu hunain, ond i weithredu hynny ar draws awdurdodau eraill, sydd yn fy marn i yn anffodus iawn ac yn ddiangen, oherwydd rydym yn bwriadu gweithredu i gyflwyno sefydlogrwydd yma yng Nghymru. Nid ydym eisiau gweld ein prifysgolion yn ymddwyn mewn ffordd sy'n ansefydlogi ei gilydd yng Nghymru nac yn ansefydlogi sefydliadau eraill; mae angen inni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Ac mae'n hollol anffodus bod hyn wedi digwydd. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu at y Gweinidog yr wythnos diwethaf, fel y gwnaeth swyddogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban. Siaradais â'r Gweinidog fore Llun, ac nid oedd y Llywodraeth yn barod i newid ei meddwl, sy'n destun gofid i mi.

Mae CCAUC wedi bod yn cynnal ymgynghoriad i ni ar sut y byddai'r rheolaethau ar nifer y myfyrwyr yn gweithio yng nghyd-destun Cymru. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 1 Mehefin. Rwy'n credu mai 3 Mehefin yw'r dyddiad nawr, felly rwy'n aros am adroddiad gan CCAUC o ganlyniad i'w sgwrs, ac yna byddwn yn gwneud cyhoeddiadau ar gyfer Gymru. Ond mae'n destun gofid, oherwydd roedd cytundeb rhwng y ddwy Lywodraeth y byddem yn gweithredu i gyflwyno rheolaethau ar nifer myfyrwyr. Gallem fod wedi darparu'r sefydlogrwydd o fewn ein gwledydd ein hunain. Nid oedd angen inni dresmasu ac ymestyn rheolaethau ar nifer y myfyrwyr i sefydliadau y tu allan i'n gwledydd ein hunain, ac mae'n destun gofid i mi ein bod yn y sefyllfa hon. Ond byddaf yn myfyrio ar ymgynghoriad CCAUC ac yn gwneud cyhoeddiad cyn gynted ag y gallaf.

Gweinidog, hoffwn groesawu natur ymarferol eich penderfyniad heddiw. Mae hwn yn feirws a allai fod gyda ni am flwyddyn neu ddwy neu hyd yn oed fwy, ac ni allwn ni amddifadu ein pobl ifanc o addysg wyneb yn wyneb am gyfnod mor hir â hynny. Ond mae hwn yn ddull o ddychwelyd fesul grŵp, ac mae angen ei wneud yn ddiogel, felly hoffwn ofyn i chi am ychydig mwy o fanylion ynghylch sut yr ydych yn gweithio gydag athrawon i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel yn yr ystafell ddosbarth, a hefyd gyda'r staff glanhau mewn ysgolion yn ogystal, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o amser a digon o adnoddau i lanhau amgylchedd yr ysgol yn drylwyr.

Yn ail, hoffwn ofyn am ychydig mwy o fanylion ynghylch cludiant i'r ysgol, sut y bwriadwch sicrhau bod disgyblion yn cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol pan fyddant yn cael eu cludo i'r ysgol, a hefyd, os bydd unrhyw gostau ychwanegol i awdurdodau lleol o ran darparu bysiau ychwanegol, sut y bwriedir talu'r costau hynny.

Mae a wnelo fy nghwestiwn olaf â phrydau ysgol am ddim, a gyda'r dull hwn o ddychwelyd fesul grŵp, mae'n amlwg y bydd rhai disgyblion yn bresennol yn amgylchedd yr ysgol, tra bo eraill gartref ar wahanol adegau. Sut byddwch chi'n sicrhau bod pob teulu'n cael y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, boed hynny o fewn yr ysgol neu gartref?

15:30

Diolch, Vikki. Un o'r rhesymau rydym yn cymryd tair wythnos a hanner—rydym ni wedi archwilio rhai o'r rhesymau iechyd cyhoeddus ynghylch pam y mae angen i ni roi mwy o amser i ni ein hunain, ond un o'r rhesymau pwysig iawn eraill yw bod angen i ni roi amser i staff ein hysgolion roi'r system hon ar waith a darparu hyfforddiant i benaethiaid, athrawon a'r rhai sydd â chyfrifoldeb am gynnal ein hysgolion ar sut i wneud hyn yn ddiogel. Ni allwn ddisgwyl gwneud cyhoeddiad heddiw a chael popeth yn ei le yn ddiogel ddydd Llun, felly mae angen i ni ddefnyddio'r amser hwn i wneud yn siŵr bod yr hyfforddiant priodol ar waith. Rwyf eisiau sicrhau Vikki, pan rydym yn sôn am ymgynghoriadau gydag undebau, fod hynny'n cynnwys y GMB ac Unsain, sy'n cynrychioli'r staff, a'u bod wedi cael eu cynnwys yn llawn yn y trafodaethau. Felly, dyna un o'r rhesymau ymarferol pam mae'n rhaid i ni gael bwlch rhwng cyhoeddiad a gweithredu'r cyhoeddiad hwnnw, fel y gallwn ni wneud yn union yr hyn y mae Vikki yn ei ddweud: sicrhau bod yr hyfforddiant a'r adnoddau yn cael eu rhoi yn eu lle. Ac rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ynghylch pa gymorth ymarferol ac ariannol y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig o ran yr arferion hylendid hynny a'r cyflenwadau y bydd eu hangen ar ysgolion.

Fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi canllawiau yr wythnos nesaf ar sut y dylai hynny weithio, ac mae hynny'n cynnwys canllawiau ynghylch trafnidiaeth i ysgolion. Yn amlwg, os yn bosib, dylai rhieni gerdded, gyrru sgwter, beicio, ond, mae gan fy mhlant fy hun daith 25 milltir un ffordd i'r ysgol. Dydy hi ddim yn bosib mynd ar sgwter na cherdded y pellter yna. Felly, bydd llawer o deuluoedd yn dibynnu ar gludiant i'r ysgol ac, unwaith eto, rydym yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol. Mae'n un o'r problemau anodd y mae'n rhaid i ni eu goresgyn. Ond allwn ni ddim ildio. Vikki, rydych chi'n hollol gywir; gallai hyn fod gyda ni am gyfnod sylweddol o amser. Nid yw gwneud dim a gobeithio y gallai fod yn well yn ddewis mewn gwirionedd; mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r materion hyn ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i atebion diogel a chynaliadwy i drafnidiaeth, a byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny.

O ran prydau ysgol am ddim, mae awdurdodau lleol yn parhau i wneud gwaith anhygoel yn cefnogi teuluoedd prydau ysgol am ddim mewn amrywiaeth o ffyrdd—popeth o ddosbarthu bwyd yn uniongyrchol i dalebau neu i arian parod. Bydd angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei reoli'n briodol dros y pedair wythnos heb rywbeth sy'n rhy fiwrocrataidd, oherwydd dydym ni ddim eisiau sefyllfa lle mae rhywun mewn am ddiwrnod, ond mae eu taliad yn peidio a dydyn nhw ddim mewn am weddill yr wythnos. Felly, rhaid i ni fod yn ymarferol o ran sut y gwnawn hyn. Yn wir, un o'r ystyriaethau y gallai ysgol unigol ei ystyried yw a yw pobl yn mynychu fesul hanner diwrnod, ac felly, yn caniatáu'r bwlch hwnnw yng nghanol y dydd. Ond rydym yn ymwybodol iawn nad ydym ni eisiau proses fiwrocrataidd sy'n golygu y gallai teuluoedd unigol neu blant golli allan ar eu hawl.

Mae awdurdodau lleol yn dal i ddweud wrthym eu bod yn cefnogi mwy o deuluoedd nag erioed. Os gallwch ddychmygu, fel arfer, mae'n rhaid i chi fod yn yr ysgol i gael eich cinio ysgol am ddim, ac weithiau nid yw plant yn mynychu, neu efallai, am ba bynnag reswm, nad ydynt eisiau defnyddio hynny o fewn yr ysgol—am ba reswm bynnag. Mewn gwirionedd, rydym ni'n cefnogi mwy o blant a mwy o deuluoedd nag a fyddem ni pan fydd ysgolion yn gweithredu fel arfer, a bydd y gefnogaeth, rwy'n ailadrodd, ar gael dros wyliau'r haf. Rydym ni hefyd yn ymestyn rhywfaint o gefnogaeth i fyfyrwyr sydd mewn colegau addysg bellach ac yn ceisio darparu rhywfaint o gymorth ariannol o ran hawl rhai dysgwyr addysg bellach i gael prydau ysgol am ddim hefyd. 

15:35

Diolch. Rwyf yn mynd i alw ychydig yn rhagor. Rydym ni wedi dod at yr amser sydd wedi'i neilltuo, ond rwyf yn dymuno cael cwestiwn gan aelodau'n awr, ac, os gofynnwyd eich cwestiwn eisoes, yna peidiwch â'i ofyn eto. Rhianon Passmore.

Na, mae'n ddrwg gennyf—mae angen i chi droi eich meicroffon ymlaen. Dyna chi.

Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Diolch. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag effaith COVID-19 ar gwblhau asesiadau statudol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? Mae llawer o staff awdurdodau addysg leol yn parhau i gael eu trosglwyddo ar draws y gwahanol adrannau er mwyn darparu'r gallu proffesiynol i weithio gyda'r plant sydd fwyaf agored i niwed, felly a wnaiff y Gweinidog ddatgan pa mor barod yw hi felly i ddarparu arweiniad a chymorth pellach yn yr ardal asesu statudol os a phan fydd angen, ac a wnaiff y Gweinidog ystyried ymhellach y defnydd o offer asesu rhithwir fel na fydd darpariaeth a cherrig milltir allweddol yn cael eu colli, fel bod ein plant ADY sydd mwyaf agored i niwed yn cael eu meithrin ar gyfer y dyfodol?

Dirprwy Lywydd, yr ateb i'r ddau beth hynny yw 'gwnaf', ac adroddaf yn ôl i Rhianon Passmore wrth i ni ystyried y sylwadau y mae wedi'u gwneud.

Gweinidog, maddeuwch i mi os yw fy nghwestiwn yn torri ar draws yr hyn sydd wedi'i ofyn eisoes, ond rwyf wedi bod yn cael trafferthion gyda fy fideo heddiw. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych chi—. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad, a tybed a allech chi roi amlinelliad i mi o'r hyn a addysgir ym mlynyddoedd 10 a 12. Rwy'n deall bod CBAC a Chymwysterau Cymru wedi dweud y gallai rhannau o'r cwricwlwm gael eu gollwng. A yw hyn yn gywir? Os felly, a allwch chi gadarnhau y gellir cynnal cyfanrwydd y cwricwlwm, ac na fydd athrawon yn y blynyddoedd hynny yn gwastraffu amser yn addysgu unedau a fydd yn cael eu gollwng wrth ddychwelyd yn raddol? Ac yn olaf, a allech chi gadarnhau pryd y gwnaethoch chi ofyn i'r consortia rhanbarthol a chynghorau lleol ymgymryd â'r gwaith monitro hwn?

Yn sicr, Angela, gallaf gadarnhau bod Cymwysterau Cymru a CBAC eisoes yn dechrau ceisio canfod beth yw cyfnod parhaus o darfu ar addysg—yr effaith a gaiff hynny ar y gyfres nesaf o arholiadau. Rydych chi yn llygad eich lle; maen nhw wrthi'n ystyried beth fyddai'n briodol o ran elfennau a fyddai'n draddodiadol yn cael eu cyflawni, a sut y byddai hynny'n effeithio ar arholiadau'r flwyddyn nesaf—felly, er enghraifft, a oes angen cael yr holl waith cwrs arferol sy'n gysylltiedig â'r cymhwyster, ac yn hytrach na chanolbwyntio ar waith cwrs, canolbwyntio ar yr amser addysgu yn barod ar gyfer yr arholiad allanol ar y diwedd. Felly, mae'r ystyriaethau hynny'n cael sylw ar hyn o bryd a bydd angen eu cyfleu'n glir i'r staff a'r myfyrwyr hynny cyn pryd, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Mae'n ddrwg gen i, rydw i wedi colli rhediad fy meddwl. Beth oedd yr ail gwestiwn, Angela, mae'n ddrwg gen i?

—bydd athrawon—. A'r consortia rhanbarthol a phryd oedd yn rhaid iddyn nhw edrych arno, ie.

Ie. Felly, ni allaf gofio'r union ddyddiad y rhoesom ni'r cyfarwyddiadau hynny i'r consortia rhanbarthol, ond disgwylir i'w hadroddiad cyntaf gael ei gyhoeddi ar 19 Mehefin.

Mewn perthynas â'r cwestiwn gwnaeth Siân Gwenllian ei ofyn yn gynharach ynglŷn â'r Bil cwricwlwm, ble mae'r dystiolaeth sy'n cefnogi bod gwneud y Saesneg yn statudol ar wyneb y Bil yn y cyfnod sylfaen yn cryfhau addysg Cymraeg? Ble mae'r dystiolaeth yna? Ac o ystyried y pryderon mae'ch cyn-gydweithiwr Aled Roberts, fel Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, wedi'u lleisio eisoes, a wnewch chi dynnu'r cymal arfaethedig allan o'r Bil cyn ei gyflwyno ddydd Gwener?

Wel, Dai, nid yw'r Bil wedi'i strwythuro mewn ffordd sy'n—. Mae'r Saesneg ar wyneb y Bil ar gyfer pob cyfnod addysg, ac mae'r Bil yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn yr un ffordd yn union. Mae'r Bil hefyd yn caniatáu i'r Saesneg gael ei datgymhwyso yn y lleoliadau hynny lle deallir yn dda bod trochi yn ffordd briodol i'n myfyrwyr ieuengaf gaffael sgiliau Cymraeg. Yr hyn y mae arnaf ei eisiau o'n cwricwlwm yw i fwy o'n myfyrwyr adael eu cyfnod addysg statudol yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru, ac nid oes unrhyw beth yn y Mesur sy'n atal hynny rhag digwydd. Fel y dywedais, i'r gwrthwyneb, mae mewn gwirionedd yn caniatáu sail statudol i'r broses drochi drwy ganiatáu i'r Saesneg gael ei datgymhwyso yn y lleoliadau hynny.

Rwy'n credu bod mater yma ynglŷn â chynnwys cwricwlwm, statws ieithyddol ysgol a chyfrwng yr addysgu o fewn yr ysgol. Byddwn yn awgrymu i'r aelod fod y rheini'n dri pheth gwahanol, a'r hyn y mae'r Bil cwricwlwm yn canolbwyntio arno yw'r cwricwlwm. Nid yw'n canolbwyntio ar y cyfrwng addysgu nac yn canolbwyntio ar gategori iaith ysgol unigol.

15:40

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad rhagorol. Rwy'n falch iawn, iawn y byddwn yn cynnig rhywfaint o gyfle i bob myfyriwr fod yn yr ysgol peth o'r amser am o leiaf bedair wythnos cyn toriad mis Awst. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod myfyrwyr difreintiedig ac sy'n agored i niwed yn annhebygol o fynychu unrhyw beth heblaw am eu hysgol leol eu hunain, ac felly mae hyn yn newyddion da iawn iddyn nhw.

O gofio nad yw'r pandemig drosodd eto, mae'n ymddangos i mi y dylai hwn fod yn oes aur o addysg awyr agored, oherwydd dyma'r ffordd orau o beidio â lledaenu'r coronafeirws ymhlith myfyrwyr a staff. Felly roeddwn yn meddwl tybed pa ran fyddai i'r consortia rhanbarthol o ran hybu rhagoriaeth mewn addysg awyr agored a chynorthwyo'r ysgolion hynny nad oes ganddyn nhw ddarpariaeth awyr agored arbennig o ysgogol i wneud gwelliannau i wella ar hynny.

Wel, mae'r Aelod yn hollol gywir, un o'r rhesymau pam y mae angen inni fanteisio ar fisoedd yr haf yw oherwydd y gallwn ni wneud mwy o'n haddysgu y tu allan, a dyna un o'r rhesymau pam yr ydym wedi gwneud y penderfyniad a wnaethom ni.

O ran ei sylwadau ar hybu rhagoriaeth mewn addysg awyr agored, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i sicrhau bod adnoddau ac arferion da ar gael i ymarferwyr. Yn sicr, ychydig cyn y pandemig, cefais gyfarfod â Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r hyn y gallent ei wneud fel asiantaeth statudol yma yng Nghymru i gefnogi'r agenda hon, a byddwn yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i sicrhau bod ysgolion yn defnyddio'r arferion gorau. Mae eich sylw yn un da, a byddaf yn sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n defnyddio'r llygoden sydd ddim yn gweithio. [Chwerthin.]

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, tybed a allech chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am addysg y rhai dan bump oed y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn gynharach wrth ateb Darren Millar. Rwy'n credu eich bod wedi dweud ei fod yn amhosib glynu mewn gwirionedd at ymbellhau cymdeithasol gyda'r math hwnnw o grŵp oedran, ac rwy'n credu eich bod wedi sôn ei bod hi'n debygol ei bod hi'n haws eu rhannu'n grwpiau bach. Mae'n ymddangos i mi fod rhai meithrinfeydd mewn ardaloedd trefol yn llawer llai, bod llawer llai o ofod ac felly efallai eu bod yn ei chael hi'n llawer anos gwneud hynny na meithrinfeydd mewn ardaloedd gwledig. Tybed a edrychwyd ar neu a ystyriwyd unrhyw ran o hynny.

Diolch, Nick. Wrth gyhoeddi'r canllawiau yr wythnos nesaf, yn amlwg dyna'r cyd-destun cenedlaethol yr ydym yn disgwyl i ddarparwyr, sefydliadau a lleoliadau weithredu ynddo, ond fel y dywedais wrth ateb Mr Reckless yn gynharach, rhaid i mi dderbyn nad yw un ateb yn addas i bob sefyllfa a rhaid i ni ddibynnu ar grebwyll proffesiynol a phroffesiynoldeb arweinwyr lleoliadau a phenaethiaid unigol. Os ydym yn meddwl am ofal preifat i blant, efallai y bydd angen hynny—ac mae'n rhaid i bob un ohonom ni dderbyn y gallai arwain at rywfaint o amrywiad yn y niferoedd sy'n dychwelyd ac yng ngallu lleoliadau unigol i ymateb. Ac rwy'n credu, er ein bod ni fel gwleidyddion yn aml yn hoffi i bethau fod yn dwt, yn unffurf ac yn daclus—mae'n apelio at ein natur—yn y sefyllfa hon, mae'n rhaid i ni gael rhywfaint o hyblygrwydd i gydnabod, fel rydych chi newydd ei ddweud, y gall adeiladau a lleoliadau unigol wneud pethau mewn ffyrdd gwahanol, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny.

15:45
6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ddigartrefedd, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Er mwyn sicrhau na fyddai neb wedi ei adael heb lety a chefnogaeth yn ystod yr argyfwng hwn roedd y flaenoriaeth honno yn fater o hyd yn oed mwy o frys. Ym mis Mawrth, ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, cymerais gamau cynnar i ddarparu £10 miliwn o arian ychwanegol a chanllawiau clir ynghylch sut y dylid gwarchod a chefnogi pobl. Rwy'n falch o'n hymateb yng Nghymru; mae'r camau pendant a thosturiol y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi eu cymryd, mewn partneriaeth ag iechyd, y trydydd sector, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a sefydliadau gwirfoddol, i ddod â phobl i mewn o'r strydoedd yn ddiau wedi achub bywydau.

Mae ein hymdrechion ar y cyd wedi sicrhau bod pawb wedi eu cynnwys yn y mesurau a gynlluniwyd i amddiffyn pobl a chymunedau. Mae dros 800 o bobl wedi cael llety a chymorth brys ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Yn flaenorol, roedd llawer yn cysgu ar ein strydoedd, roedd eraill yn ddiymgeledd gan nad oedd hawl ganddyn nhw i gael arian cyhoeddus, ac roedd llawer yn ddigartref cudd, yn byw yn ansefydlog fel syrffwyr soffa neu mewn llety dros dro anaddas.

Mae awdurdodau lleol wedi cefnogi pobl sy'n wynebu digartrefedd i fyw mewn llety diogel a sefydlog, efallai am y tro cyntaf yn eu bywydau, ac wedi helpu pobl i ddechrau ymddiried mewn gwasanaethau nad ydyn nhw erioed, neu ddim ond prin iawn, wedi ymgysylltu â nhw o'r blaen, a hynny i gyd mewn dim ond ychydig o wythnosau byr. Mae'r ymateb i'r argyfwng hwn wedi ein tynnu yn nes at ein gilydd mewn sawl ffordd, gan gydnabod ein pwrpas cyffredin cytûn, ond hefyd yn agosach at gyflawni ein gweledigaeth o wneud digartrefedd yng Nghymru yn brin, dim ond am gyfnod byr a heb gael ei ailadrodd.

Rydym yn ymwybodol iawn nad yw darparu llety dros dro yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd. Mae yn rhoi cyfle unigryw i ni harneisio'r creadigrwydd, yr arloesedd, y cydweithredu a'r parodrwydd i weithio mewn modd gwahanol er mwyn gwneud newid hirdymor, cynaliadwy a sylfaenol i wasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle unigryw i ni weddnewid bywydau pobl.

Ni allwn lithro yn ôl o'r cynnydd enfawr yr ydym ni wedi ei wneud. Mae'n rhaid i ni weithio i sicrhau bod pobl sy'n wynebu digartrefedd yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag y feirws, eu bod nhw wedi eu cynnwys mewn unrhyw fesurau diogelu iechyd y cyhoedd a fydd yn parhau neu rai newydd a fydd yn cael eu cyflwyno, ac nad oes unrhyw un yn cael ei orfodi i ddychwelyd i'r strydoedd nac unrhyw fath arall o ddigartrefedd. Cyhoeddais yr wythnos diwethaf gyllid ychwanegol o hyd at £20 miliwn, refeniw a chyfalaf, i gefnogi cam nesaf ein hymateb i ddigartrefedd yng nghyd-destun COVID-19.

Rydym yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi cynllun cam 2 sy'n nodi sut y bydd yn sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i'r stryd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu er mwyn gweddnewid y cynnig llety ledled Cymru. Heddiw, rwyf i wedi cyhoeddi dogfen fframwaith i bennu disgwyliadau clir a chynorthwyo awdurdodau lleol a'u partneriaid i ddatblygu eu cynlluniau cam 2. Mae'r ddogfen fframwaith wedi ei seilio yn gadarn ar yr argymhellion a gefais gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd ychydig cyn y cyfyngiadau symud. Rwyf i unwaith eto yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad arbenigol a'u hymgysylltiad parhaus â'r gwaith hwn.

Nid dim ond yn gofyn i eraill ddiwygio'r ffordd y maen nhw'n gweithio yr ydym ni; rydym ni'n diwygio ein ffyrdd ninnau o weithio hefyd. Rydym ni wedi elwa'n fawr iawn ar y cydweithio agos a fu rhwng fy swyddogion ac awdurdodau lleol yn ystod y cam cyntaf hwn. Rwy'n gwybod bod awdurdodau wedi croesawu'n gadarnhaol yr ymgysylltiad agosach a'r cymorth; mae wedi helpu i nodi a datrys problemau yn gyflym, ac mae'n llywio datblygiad polisi gwell. Rydym yn bwriadu dysgu ac adeiladu ar y gwaith agosach hwn yn y cam nesaf, gan helpu i ddatblygu'r cynlluniau, a sicrhau y gallwn ni ddechrau eu rhoi ar waith yn gyflym o fis Gorffennaf ymlaen.

Bydd y cymorth hwn yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu hefyd i gefnogi awdurdodau lleol a'u partneriaid. Cymerais ran yn y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf a chefais fy nghalonogi gan yr ymateb cadarnhaol, a chlywed am y gwaith a'r cynllunio arloesol, amlasiantaeth sydd eisoes ar y gweill mewn rhai ardaloedd ledled Cymru.

Ein nod ar y cyd yw sicrhau bod pawb yr ydym ni wedi rhoi llety dros dro iddyn nhw yn cael cymorth i lety hirdymor. Mae hyn yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Fel yr wyf wedi ei ddweud droeon, nid mater tai yn unig yw digartrefedd; mae'n fater gwasanaeth cyhoeddus ac mae'n galw am ymateb ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Ein nod yw gweddnewid ein hymagwedd gyfan at ddarpariaeth digartrefedd fel bod y rhai sy'n cyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref bob dydd yn cael profiad o system sy'n canolbwyntio ar atal gwirioneddol.

Yn y cam nesaf hwn, rwyf i'n disgwyl gweld creadigrwydd, partneriaeth a pharodrwydd i fuddsoddi yn y rhaglenni hyn, a fydd yn cyflwyno arbedion a manteision hirdymor i'n gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â'r potensial i weddnewid bywydau'r bobl dan sylw. Mae'n rhaid i arloesi, ailfodelu ac adeiladu fod yn sylfaen i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â digartrefedd, yn ei atal ac yn rhoi terfyn arno yng Nghymru.

Nodais y llynedd yn ein strategaeth digartrefedd ddiwygiedig, ein nod o symud i ffwrdd o atebion llety dros dro ac addasu dull ailgartrefu cyflym—mabwysiadu, ddylwn i ddweud, dull ailgartrefu cyflym. Mae gennym ni gyfle i symud yn gyflymach i weithredu'r strategaeth hon. Yn y cam nesaf hwn, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ymrwymo i, a chynllunio sut i symud yn gyflym oddi wrth y defnydd o lochesi nos a lle ar lawr a dulliau lle mae angen adnoddau sylweddol, yn enwedig gan y sector gwirfoddol, i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd.

Rydym yn gofyn iddyn nhw flaenoriaethu cynlluniau ailgartrefu cyflym a hirdymor, wedi eu hategu gan ddarpariaeth frys o ansawdd gwell. Rydym yn canolbwyntio ar roi cymorth cyflym i bobl fynd yn ôl i dai parhaol, gan ddarparu dewisiadau dros dro urddasol o ansawdd uchel a bod yn glir bod gwasanaethau stryd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer allgymorth grymusol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddatrys digartrefedd. Mae'r cam nesaf hwn yn ymwneud â mwy na dim ond sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i gysgu ar y stryd, mae hefyd yn ymwneud â gweddnewid.

Mae'r cynllun hwn yn uchelgeisiol iawn, a hynny'n briodol. Mae'n ein herio ni i gyd i feddwl, cynllunio a gweithio'n wahanol. Mae'r buddsoddiad newydd yr wyf i wedi ei gyhoeddi i gefnogi'r cynllun hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth Cymru i arwain a buddsoddi yn yr hyn yr ydym ni'n credu ynddo. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a'u partneriaid fuddsoddi, gan ddefnyddio cyllid a grantiau presennol, a benthyca trosoledd. Buddsoddiad ar gyfer y tymor hir yw hyn.

Mae'r ychydig wythnosau diwethaf wedi dangos i ni gymaint yn fwy na'n rhannau unigol y gallwn ni fod pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Rwyf i'n llawn cyffro ynghylch y cyfle sydd gennym ger ein bron. Bydd yn her, ond ar sail yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda'n gilydd hyd yma, rwyf i'n ffyddiog y gallwn ni newid yn sylweddol erbyn hyn i gyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Diolch.

15:50

A gaf i ddechrau trwy gofnodi gwerthfawrogiad Plaid y Ceidwadwyr Cymreig o'r cynnydd a wnaed wrth roi terfyn, i bob pwrpas, ar gysgu ar y stryd? Rydym ni'n falch y bu hyn yn llwyddiannus iawn yng Nghymru, gydag 800 o bobl wedi eu symud i lety dros dro erbyn hyn. Byddai llawer ohonyn nhw wedi bod ar y stryd. Ac rwy'n sylwi hefyd bod cynnydd tebyg wedi ei wneud yn Lloegr. Rwyf yn gwneud y sylw hwn er mwyn atgoffa pawb, hyd yn oed mewn argyfwng taer, fod ffyrdd newydd o feddwl, a blaenoriaethau newydd, a mathau newydd o dosturi yn dod i'r amlwg. Ac mae hwn yn sicr yn un, ac rwy'n falch ein bod ni yng Nghymru yn gallu dweud bod gennym ni lwyddiannau gwirioneddol i ddatblygu arnyn nhw.

Fy nghwestiwn cyntaf yw fy mod i'n dymuno ystyried y mater o ôl-ddyledion a throi allan, oherwydd, yn anffodus, pan fydd y caniatâd cyfreithiol i droi pobl allan yn dychwelyd, a all ddigwydd y mis hwn neu a all ddigwydd yn yr hydref yn dibynnu ar benderfyniad Meistr y Rholiau, wrth gwrs, gallai hyn arwain at gynnydd sylweddol mewn digartrefedd ac at bobl yn dychwelyd i'r strydoedd hyd yn oed. Canfu arolwg Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, Gweinidog, fod dwy ran o dair o rentwyr preifat yn gwybod ble i fynd i gael cymorth pe byddai ganddyn nhw broblemau ôl-ddyledion, ond mai dim ond chwarter y tenantiaid cymdeithasol oedd yn gwybod ble i fynd am y math hwnnw o gymorth a gwybodaeth. Felly, gofynnaf i chi edrych ar hyn, gan ei bod yn rhyfedd braidd bod y diffyg mor sylweddol o safbwynt tenantiaid cymdeithasol, a byddech chi wedi disgwyl iddyn nhw fod yn fwy ymwybodol o'r ffynonellau cymorth.

A, hefyd, a gaf i gyfeirio at alwadau diweddar gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru o ran troi allan—rwy'n credu eich bod chi efallai wedi gweld hyn—bod angen cynllun cenedlaethol arnom ni yng Nghymru i fynd i'r afael â throi allan? Ni allwn ni reoli'r holl ysgogiadau oherwydd y newidiadau yn y gyfraith, ond bydd yn rhaid i ni ymdrin â hyn. Ac maen nhw'n galw am gynllun ad-dalu ar gyfer ôl-ddyledion, wedi ei ymestyn dros ddwy flynedd, felly mae gennym ni gynllun a all helpu pobl yn y sefyllfa honno. Ac yna, os bydd landlordiaid yn cytuno i'r math hwnnw o gynllun i wasgaru taliadau dros ddwy flynedd, ni fyddai unrhyw droi allan. Mae'n ymddangos i mi yn ffordd eithaf adeiladol ymlaen, ond rwy'n credu yr hoffem ni gael gwybod beth yw eich gwerthusiad presennol chi o beth fydd y sefyllfa o ran troi allan, ac a ydym ni'n debygol o weld rhywfaint o estyniad i'r moratoriwm presennol er enghraifft.

Diolch, David, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffordd drawsbleidiol yr ydym ni wedi gallu gweithio yn hyn o beth. Rwyf i yn credu bod y cynllun i Gymru yn un yr ydym ni'n ei rannu'n fras ar draws pob plaid yng Nghymru, a dyna un o'r rhesymau yr ydym ni wedi gallu gwneud yr hyn yr ydym ni wedi gallu ei wneud oherwydd ein bod ni wedi cydweithio ar draws pob sector. Ac mae wir yn profi yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud trwy weithio gyda'n gilydd.

Ond mae rhai pryderon. Yn amlwg, mae ôl-ddyledion rhent yn un ohonyn nhw. Un o'r pethau yr oeddwn i'n cytuno â'n partneriaid tai cymdeithasol yng Nghymru pan wnaethom ni gytuno ar y polisi rhenti ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru—mae'n teimlo fel degawd yn ôl ond dim ond rhyw 13 wythnos yn ôl oedd hi—oedd na fydden nhw'n troi pobl allan i fod yn ddigartref oherwydd ôl-ddyledion rhent nac unrhyw beth arall. Roeddem ni newydd ddechrau rhoi'r cynllun hwnnw ar waith pan ddaeth y cyfyngiadau symud. Rydym ni'n dal i weithio gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau i sicrhau bod y cynllun hwnnw'n parhau i fod ar waith. Ac yn rhan o'r cynllun hwnnw, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw sicrhau bod unrhyw denant sy'n wynebu ôl-ddyledion rhent ac a fyddai'n wynebu llwybr troi allan o ganlyniad i hynny—ac mae amryw o gymhlethdodau yn y gyfraith yr wyf i'n gwybod eich bod yn gyfarwydd â nhw, ond mae yna sail orfodol ar gyfer troi allan, ac yn y blaen; rhai cymhlethdodau, ni fyddaf yn mynd i fanylder yn y fan yma—ein bod ni'n gweithio gyda'r tenantiaid hynny, mewn protocol cyn gweithredu, er mwyn sicrhau, cyn y gellir ystyried unrhyw brosesau troi allan, y sicrheir dealltwriaeth lawn o amgylchiadau ariannol y person hwnnw a beth yw ei allu i ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion a beth yw ei allu i gynnal y denantiaeth, ac unrhyw gymorth y gellir ei roi yn hynny o beth, gan gynnwys, o dan rai amgylchiadau, i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ddileu'r ôl-ddyledion rhent yn arbennig mewn amgylchiadau penodol unigol. Hoffwn i bwysleisio nad yw hynny'n bolisi cyffredinol, am resymau amlwg yn ymwneud â pholisi cyhoeddus, ond rydym ni'n dymuno deall sut y mae pob unigolyn wedi cyrraedd y sefyllfa y maen nhw ynddi, a deall pa gymorth y byddai ei angen arno i ddychwelyd i gredyd. A byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ad-dalu dros ddwy flynedd, ac yn y blaen—rwy'n cytuno bod hynny'n sicr ymhlith y cymysgedd o bethau y byddai angen eu hystyried.

Rydych chi yn llygad eich lle, wrth gwrs, wrth ddweud ein bod ni'n aros am benderfyniad Meistr y Rholiau ynghylch a fydd y protocol cyn gweithredu hwnnw yn cael ei roi ar waith ar gyfer achosion troi allan yn y sector preifat. Rydym ni wedi mynegi ein barn yn glir iawn i Lywodraeth y DU, ac rwy'n dal yn obeithiol iawn y bydd hynny'n gam gweithredu a fydd yn digwydd. A, beth bynnag, byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda'n landlordiaid cofrestredig yma yng Nghymru—fel y gwyddoch chi, mae gennym ni berthynas dda iawn â nhw, ac rydym ni mewn cysylltiad â nhw mewn ffordd sy'n unigryw; oherwydd Rhentu Doeth Cymru, rydym ni'n gwybod pwy yw pawb—i roi protocol cyn gweithredu gwirfoddol ar waith, hyd yn oed os nad yw'r llys yn rhoi un gorfodol ar waith, fel y bydd y mwyafrif helaeth o denantiaid yn cael y gwasanaeth hwnnw beth bynnag.

Yr oedd yn ddiddorol iawn clywed yr hyn a ddywedasoch chi am beidio â deall ffynonellau cymorth. Rwy'n synnu braidd at hynny—hoffwn i weld o ble y daeth hynny. Ac yn sicr, hoffem ni godi hynny gyda'n cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, oherwydd mae'n sicr yn rhan bwysig o'r ffordd yr ydym yn goruchwylio eu gweithrediadau—eu bod nhw'n darparu'r math hwnnw o gymorth tenantiaid wedi ei dargedu, a ddylai olygu bod eu tenantiaid yn gwybod o ble y mae'r cymorth hwnnw yn dod. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn o gael golwg manylach ar yr wybodaeth sydd gennych chi yn y fan yna, i gael gwybod beth y gallwn ni ei wneud i unioni'r sefyllfa.

15:55

Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru y mae'r arolwg, a gafodd 500 o ymatebion rwy'n credu—roedd yn nifer eithaf uchel. Ond yn sicr gallaf i roi'r cyfeiriad hwnnw i chi.

Tybed a gaf i egluro'r sefyllfa o ran gwariant, ac rwy'n gwneud hyn yn syml er mwyn i ni allu ei deall yn llawn. Nid wyf i'n amau o gwbl na fydd yr adnoddau yn cyfateb i'r uchelgais, oherwydd fy mod i wirioneddol yn credu bod penderfyniad i weld terfyn ar gysgu ar y stryd a digartrefedd. Ond fe wnaethoch chi gyhoeddiad ddechrau mis Mawrth ynghylch cynnydd o £10 miliwn, ac yna yr wythnos diwethaf cynnydd arall o £10 miliwn, felly mae cyfanswm y gwariant ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn cyfateb i gyfanswm o £20 miliwn erbyn hyn. Rwy'n credu eich bod chi'n sôn weithiau am £10 miliwn yn fan yma ac yna £20 miliwn ychwanegol, ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog bron wedi syrthio i hyn pan oedd yn siarad yn nhermau £30 miliwn yn fwy yn cael ei wario. Ond rwy'n credu mai ffigur gwirioneddol y cyllid yw £20 miliwn. Os nad dyna ydyw, a wnewch chi egluro hynny? Mae Llywodraeth y DU, wrth wneud cynnydd tebyg mewn gwariant—ac nid wyf i'n mynd i ddechrau cymharu; mae'n anodd iawn gwneud hynny—wedi pwysleisio eu bod nhw'n gweithio tuag at gynnydd o 37 y cant mewn gwariant refeniw ar wasanaethau cymorth i denantiaid agored i niwed, a bydd honno'n ffordd allweddol o gadw'r rhai sydd mewn llety brys ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw symud i dai mwy sefydlog, a'u cadw nhw yn y sefyllfa honno fel nad ydyn nhw'n syrthio'n ôl ac yna'n mynd yn ôl ar y stryd. Roeddwn i'n meddwl tybed a oes gennych chi farn debyg.

Ac rwy'n croesawu'r cynlluniau cam 2 y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu llunio bellach, a'r pwyslais ar ddull ailgartrefu cyflym. Rwy'n credu bod hynny'n iawn. Ond a gaf i hefyd nodi galwad gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl, pan eu bod yn cymeradwyo cynllun Casnewydd, sy'n cynnig rhent gwarantedig o chwe mis ac unrhyw atgyweiriadau sydd i'w gwneud os bydd landlordiaid yn cofrestru i gynlluniau lle byddai pobl ddigartref yn cael llety yn eu heiddo. Ac maen nhw'n dweud efallai y gallem ni wneud hynny yn gynllun cenedlaethol. Ac mae yn ymddangos bod cynllun Casnewydd wedi gweithio yn dda iawn, ac y gall fod yn ffordd adeiladol iawn ymlaen sy'n defnyddio adnoddau'r sector preifat, sydd mor helaeth wrth ddarparu llety i'w rentu, fel y gwyddom.

16:00

Ie, diolch i chi. Felly, o ran y gwariant, mae'n ddrwg gen i os oes rhywfaint o ddryswch, ond mae dau swm o £10 miliwn o refeniw—felly, y £10 miliwn o wariant refeniw gwreiddiol, ac wedyn £10 miliwn o wariant refeniw ychwanegol yn yr ail gam hwn. Ond mae £10 miliwn o gyfalaf hefyd. Felly, mae'n £30 miliwn, os ydych chi'n cynnwys y cyfalaf—£20 miliwn o refeniw a £10 miliwn o gyfalaf. Felly, rwy'n credu mai dyna ble mae'r dryswch yn codi. Felly, mae'n amlen gwerth £30 miliwn, ond mae £20 miliwn o hynny yn refeniw, i fod yn gwbl glir. Rydym ni'n disgwyl—. Y rheswm am y cymysgedd yw bod y cynlluniau cymorth cyfalaf, cynlluniau eraill a'r refeniw, yn amlwg, yn darparu cymorth ar gyfer benthyca a nifer o gynlluniau eraill. Felly, fe aethom ni ati yn fwriadol i ddefnyddio'r gymysgedd. Felly, rwy'n gobeithio bod hynna'n egluro hynny.

Yn amlwg, pan fyddwn yn gweld y cynlluniau yn cael eu cyflwyno, byddwn yn gallu gweithio'n agosach gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar sut yn union y bydd yr arian hwnnw yn gweithio, ond roeddem ni'n awyddus i sicrhau eu bod nhw'n gallu cynllunio, gan wybod bod cymorth ar gael ar gyfer hynny ac na fyddai hynny yn rhwystr rhag gwneud y cynlluniau yn y lle cyntaf.

O ran llwybrau eraill, ydw, rwy'n ymwybodol o gynllun Casnewydd—rwy'n ei gymeradwyo yn llwyr. Byddwn yn ceisio cyflwyno nifer o'r cynlluniau hynny ledled Cymru gyfan. Rydym ni hefyd wedi bod yn rhedeg cynllun mewn un neu ddau o awdurdodau lleol lle'r ydym ni'n meddiannu tŷ rhent preifat am bum mlynedd, gan addo i'r landlord y lwfans tai lleol am y cyfnod cyfan hwnnw ac yna dychwelyd y tŷ iddo yn y cyflwr y cawsom ef neu'n well.

Sori, cefais i fy ngwneud yn fud am ryw reswm.

Roeddwn i ar fin dweud, byddai hynny yn sicr yn rhan o'r gymysgedd ac rydym ni'n disgwyl y bydd y math hwnnw o beth yn ymddangos yn y cynlluniau wrth i ni symud ymlaen.

Sori, dydyn ni ddim yn eich clywed chi. Mae'n ddrwg gen i. A all rhywun helpu Delyth gyda'i meic, os gwelwch yn dda? Trïwch eto.

Rydym ni'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch dileu digartrefedd. Rwy'n credu mai un o'r pethau cadarnhaol a allai ddeillio o'r argyfwng hwn yw sylweddoli bod tai yn hawl am oes, nid dim ond rhywbeth brys dros dro yn ystod pandemig. Rwyf i hefyd yn croesawu'n fawr y ffordd adeiladol yr ydych chi wedi gweithio, Gweinidog, ar draws y pleidiau wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Mae'r argyfwng wedi dangos hefyd bod digartrefedd wedi bod yn ddewis gwleidyddol, nid yn rhywbeth anochel. Ni all neb gael ei feirniadu mwyach am ddweud bod cynlluniau 10 mlynedd i roi terfyn ar ddigartrefedd yn uchelgais sarhaus.

Nawr bydd rhai efallai yn petruso ynghylch y symiau o arian yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw, ond byddwn i'n dweud wrthyn nhw, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi yn hyn o beth, Gweinidog, y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at arbedion sylweddol i'n gwasanaethau cyhoeddus—fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny yn eich datganiad—heb sôn am y bywyd gwell i bobl ddirifedi yn y dyfodol. Hoffwn i ofyn, Gweinidog, a ydych chi'n gresynu na wnaethoch chi dyrannu'r symiau i roi terfyn ar ddigartrefedd ynghynt o lawer.

Ond, wrth edrych i'r dyfodol, mae'n ymddangos y bydd y sector rhentu preifat yn debygol o weld cynnydd yn y galw, wrth i Rightmove ddweud bod y galw am osodiadau wedi cynyddu gan 22 y cant. Nawr, rwy'n cymryd mai yn Lloegr y mae hynny yn bennaf, lle nad yw'r cyfyngiadau mor ddifrifol, ond gall hyn, wrth gwrs, arwain at demtasiwn i landlordiaid droi allan meddianwyr presennol neu eu perswadio i adael er mwyn iddyn nhw allu cynyddu'r rhent i denantiaid eraill. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, a fyddwch chi'n ymestyn y cyfnod dim troi allan o beidio â chymryd camau pellach, er mwyn atal hyn ymhellach ar ôl i ni barhau i ganolbwyntio ar atal digartrefedd? Rwy'n gwerthfawrogi yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrth David Melding, ond tybed a wnewch chi gadarnhau am ba hyd yr ydych yn gobeithio y bydd y cymorth hwnnw ar gael ac, yn wir, y bydd hynny'n rhywbeth na fydd â chyfyngiad amser iddo.

Ie, yn amlwg, yr hyn y mae'r argyfwng wedi ei wneud yw ei gwneud yn bosibl i ni wneud pethau y byddem ni wedi dymuno eu gwneud erioed, ond y mae wedi ei gwneud yn bosibl i wneud hynny mewn ffyrdd na fyddem ni wedi gallu eu gwneud. Felly, er enghraifft, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, rydym ni wedi meddiannu llety gwely a brecwast neu westai neu lety i fyfyrwyr yn y sector preifat nad oedd eu hangen oherwydd yr argyfwng, na fyddai wedi bod ar gael i ni o dan 'amgylchiadau arferol'. Felly, rydym ni wedi gwneud y gorau o sefyllfa ofnadwy ac rydym ni wedi manteisio ar rai o'r cyfleoedd hynny, ac mae hynny wedi ein galluogi i wneud pethau llawer ynghynt nag a fyddai wedi bod yn bosibl o dan amgylchiadau arferol. Ond rydych chi'n iawn—y mae wedi profi y gellir ei wneud, a'r hyn y mae wedi ei wneud yw profi i bawb y gellir ei wneud. Ac felly mae pobl yn benderfynol iawn, ac rwy'n teimlo'n sicr y byddan nhw'n gallu cyflwyno'r cynlluniau ar gyfer y cam nesaf oherwydd ein bod ni'n gwybod erbyn hyn y gellir ei wneud. Nid damcaniaeth yn unig ydyw, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Felly, rwy'n obeithiol iawn y byddwn ni'n gallu gweithio yn y ffordd gydweithredol honno drwyddi draw.

O ran atal achosion o droi allan—o ran atal yn gyfreithiol achosion o droi allan—ar hyn o bryd rwy'n ystyried gyda fy swyddogion ymestyn y cyfnod tri mis sydd gennym ni ar hyn o bryd. Mae posibilrwydd ei ymestyn o dan y Ddeddf coronafeirws a'r rheoliadau. Mae'n amlwg bod hynny yng nghyd-destun y pandemig. Felly, rydym ni'n gobeithio ei ymestyn tra bydd y pandemig yn parhau, gan mai dyna sail y pwerau hynny, ac, yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yr ydym ni'n dymuno ei gyflwyno, os yn bosibl, yn y tymor Senedd hwn, a fyddai'n rhoi hynny ar waith yn y tymor hwy. Ond mae yn gofyn am y ddau, ac nid yw'n bosibl, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, ymestyn y rheoliadau coronafeirws pan fydd y pandemig ar ben. Felly, nid yw'n bosibl gwneud hynny. Felly, rydym ni'n gobeithio y gallwn ni gyflwyno'r diwygiad i'r Bil mewn pryd er mwyn peidio â chael bwlch yn hynny o beth, ond mae'n rhaid i ni wneud y ddau beth hynny ar yr un pryd. Ac rwy'n siŵr y cawn ni lawer o gydweithrediad gan y Senedd wrth wneud hynny hefyd. Rwy'n gwybod bod agenda ar y cyd yn y fan honno hefyd.

Ac yna, o ran y sector preifat, fel y dywedais, mae gennym ni amryw o gamau gweithredu ar y gweill gyda landlordiaid sector preifat. Ond byddwch chi'n gwybod o'n sgyrsiau ein bod ni'n dibynnu'n fawr iawn ar Lywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr nad yw'r lwfans tai lleol yn mynd yn ôl i ble yr oedd o'r blaen, oherwydd, yn yr achos hwnnw, ni fydd pobl yn gallu fforddio llety cyfartalog yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i rymoedd y farchnad y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn rhan o hynny.

16:05

Diolch am hynna, Gweinidog. Mater arall yr oeddwn i'n dymuno ei godi oedd y cymorth sy'n cael ei gynnig i bobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Nawr, mae'r statws hwnnw yn etifeddiaeth ymgais Tony Blair i dawelu'r Daily Mail flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi gadael etifeddiaeth hir a gwaedlyd. Rydym ni'n gwybod bod Shelter Cymru ac eraill wedi bod yn ysgrifennu am y problemau y mae wedi eu hachosi i fenywod mudol ers o leiaf 2010. Nawr, yn anffodus mae'r statws hwnnw ar waith o hyd, ac nid yw pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus wedi gallu cael credyd cynhwysol, y cynllun ffyrlo na gwasanaethau cymorth eraill. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i ni, Gweinidog, na fydd eich mesurau chi i roi terfyn ar ddigartrefedd yn anwybyddu sefyllfa'r grŵp hwnnw o bobl.

Ac, yn olaf, hoffwn i ofyn am y gwersi hirdymor mwy cyffredinol y gallwn eu dysgu o'r pandemig hwn. Rydym ni'n gwybod bod yr argyfwng wedi effeithio'n fwy garw ar gymunedau tlotach. Ac un o'r rhesymau y gellir eu tybio dros hyn, mae'n debyg, yw bod tai mewn ardaloedd tlotach yn nes at ei gilydd, y risg o orlenwi ac, wrth gwrs, cyflwr gwaeth y tai yn arwain at gyflyrau iechyd sylfaenol i fod yn fwy cyffredin. Gweinidog, a fyddwch chi'n ystyried newidiadau i'r system gynllunio yn y dyfodol agos er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau hyn fel y gall ystadau tai yn y dyfodol gael eu gwneud yn ddiogel rhag pandemig?

Felly, o ran yr hawl i gael arian cyhoeddus, Delyth, byddwch chi'n gwybod ein bod ni eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau nad oes neb yn dychwelyd i'r strydoedd, gan gynnwys pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Rydym ni, wrth gwrs, wedi rhoi llety a chymorth i bobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus y mae'r pandemig wedi caniatáu i ni weithredu oddi tano. Felly, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, mae'n rhaid i ni allu amddiffyn unigolion ac, felly, mae gennym ni'r pŵer i wneud hynny.

Unwaith eto, pan fydd y pandemig ar ben, ni fyddwn yn gallu defnyddio'r ddeddfwriaeth honno, ac felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn edrych ar hynny. Rydym ni wedi pwysleisio dau beth: dyngarwch cyffredin hynny a'r angen i drin pawb fel bod dynol; ac yn ail, mewn gwirionedd, pe byddech chi'n dymuno yn wirioneddol ei wneud ar sail ariannol, nid oes llawer iawn o bobl—nid ydych chi'n sôn am lawer iawn o arian ac mae hynny'n ei wneud yn waeth fyth os na fydd pobl yn ystyried ei wneud. Felly, byddwn i'n croesawu yn fawr iawn unrhyw beth y mae unrhyw Aelod unigol o'r Senedd neu blaid yn y Senedd yn dymuno ei wneud i'n cefnogi ni drwy ysgrifennu at Lywodraeth y DU. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi trafod hynny o'r blaen, a hoffwn i allu gwneud hynny yn fawr iawn.

Ac yna, o ran y gweddill, mae yna dair elfen ar yr ochr gyflenwi. Felly, o ran cyflwr y farchnad dai bresennol, rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi gweithio'n galed iawn ar safon ansawdd tai Cymru, a chredwyd bod hynny'n amhosibl pan wnaethom ni ei roi ar waith, ac yn wir rydym ni wedi ei gyrraedd, a hyd yn oed yn ystod y pandemig, rydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y targed a oedd gennym ni. Rydym ni'n newid Rhan L, fel y'i gelwir, rheoliadau adeiladu, a byddan nhw'n cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yn fuan, fel bod adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu yn y modd hwnnw. Ac yna mae problem enfawr ynghylch ôl-osod yn y sector preifat. Felly, byddwn yn mynd i'r afael â hynny.

Yn anffodus, yn sgil y pandemig byddwn yn colli rhywfaint o'r ddeddfwriaeth a'r offerynnau statudol yr oeddem ni'n gobeithio eu cyflwyno yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwyf i'n fodlon iawn gweithio gyda phob plaid i sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi unrhyw beth y gallwn ni i gyd gytuno arno ym mhob maniffesto fel y gall swyddogion barhau i weithio arno gan wybod yn iawn y bydd y sawl sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Senedd Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â hynny, a bydd hynny yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r darn hwnnw o waith.

16:10

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r cynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd. Ond, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd y cynlluniau yn berthnasol i bawb sy'n ddigartref yn ystod y pandemig hwn, ac nid y rhai sydd mewn llety brys yn unig?

Rwyf i wedi bod yn siarad â grwpiau cyn-filwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf sy'n pryderu bod llawer o gyn-filwyr digartref yn syrthio drwy'r rhwyd gan mai syrffio soffa y maen nhw. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddelfrydol o safbwynt iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig presennol hwn. Gweinidog, a wnewch chi gysylltu â grwpiau, fel Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd, i sicrhau y darperir llety hirdymor i'r holl gyn-filwyr digartref?

Os oes unrhyw bethau cadarnhaol i ddeillio o'r pandemig hwn, mae'n rhaid bod rhoi terfyn ar gysgu ar y stryd ar frig y rhestr. Wrth gwrs, os ydym ni am fynd i'r afael â digartrefedd mewn ffordd barhaol ac ystyrlon, mae'n rhaid i ni symud i farchnad dai weithredol cyn gynted â phosibl. Felly, Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda swyddogion iechyd y cyhoedd ynglŷn â'r ffordd fwyaf diogel o adfer marchnad dai weithredol yng Nghymru?

Hefyd, a gaf i ofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar y cyflenwad tai yn y dyfodol, a pha gamau, os o gwbl, ydych chi'n eu cymryd i'w lliniaru?

Ni allwn ni ddychwelyd i'r farchnad dai a oedd gennym ni cyn y pandemig nes bydd brechlyn ar gael, ond fe allwn ni wneud addasiadau i sicrhau bod prosesau adeiladu, prynu a gwerthu tai mor ddiogel â phosibl. Bydd cadw pellter cymdeithasol yn cael effaith ar ba mor gyflym y gellir adeiladu cartrefi newydd, felly, a ydych chi wedi trafod gydag adeiladwyr tai yng Nghymru ffyrdd o wrthbwyso'r oedi, fel gweithredu nifer o safleoedd ar yr un pryd i ddarparu ar gyfer y gweithlu?

Mae'r feirws yn effeithio ar y farchnad rentu hefyd, wrth i lawer o landlordiaid fethu â dod o hyd i denantiaid ar gyfer eu heiddo, neu ddim yn cael incwm rhent oherwydd bod tenantiaid yn ddi-waith. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i hepgor y dreth gyngor ar eiddo gwag drwy gydol cyfnod y pandemig hwn?

Ac yn olaf, Gweinidog, mae gweithwyr llywodraeth leol yn chwarae rhan allweddol wrth olrhain cysylltiad yn rhan o gynllun tracio, olrhain a diogelu Llywodraeth Cymru. A ydych chi'n ffyddiog na fydd y swyddogaeth newydd hon yn arwain at brinder mewn meysydd eraill, yn enwedig iechyd yr amgylchedd? Diolch.

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Byddaf i'n gwneud fy ngorau i ymdrin â nhw i gyd. Yn sicr, nid ydym ni'n dymuno hepgor unrhyw grŵp o bobl, ac rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth beidio â gwneud hynny yn ystod cam cyntaf y camau digartrefedd yr ydym ni wedi eu cymryd. Fel y dywedais yn benodol iawn yn fy natganiad, mae nifer y bobl yr ydym ni wedi rhoi llety iddyn nhw yn cynnwys pobl nad oedden nhw'n cysgu ar y stryd, ond a oedd mewn llety ansefydlog iawn—llety dros dro, 'syrffwyr soffa' fel y'u gelwir.

Nid oes gennym ni wybodaeth am nifer y cyn-filwyr sydd wedi eu cynnwys gan nad ydym ni'n ei chasglu yn y ffordd honno, ond nid ydym ni'n ymwybodol o unrhyw bobl sydd wedi eu hepgor o hynny, ac rydym ni wedi bod yn cynnal ymgyrch i sicrhau bod pobl sy'n syrffio soffa yn cydnabod eu bod yn ddigartref ac yn cyflwyno eu hunain. Ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny yn fwriadol iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym ni'n wynebu nifer llethol ar ddiwedd y pandemig. Ac rydym ni wedi cael llif cyson o bobl yn cyflwyno'u hunain i gael cymorth drwy gydol cyfnod yr argyfwng hwn. Nid oedd hi'n nifer sefydlog ar y dechrau a oedd wedyn yn cael llety—mae pobl wedi bod yn cyflwyno'u hunain yn ddyddiol drwy gydol y pandemig ac rydym ni wedi gallu rhoi llety iddyn nhw o ganlyniad i weithio mor agos ac ar y cyd â nifer o bartneriaid, gan gynnwys ein hawdurdodau lleol—wel, ein hawdurdodau lleol yn bennaf. Hynny yw, mae'r bobl hynny yn cynnwys cyn-filwyr, wrth gwrs, ond maen nhw'n cynnwys pobl eraill sy'n cyflwyno eu hunain: dioddefwyr cam-drin domestig, pobl sy'n cael eu dadleoli o ganlyniad i deulu neu berthynas yn chwalu a nifer o bethau eraill—y pethau sy'n arwain at ddigartrefedd yn y lle cyntaf. Mae'r pethau hynny wedi parhau drwy gydol y pandemig ac mae ein partneriaid wedi camu i'r adwy o ran darparu llety ar gyfer yr holl grwpiau hynny, gallaf eich sicrhau, gan gynnwys cyn-filwyr. Ac, wrth gwrs, rydym ni yn gweithio yn agos iawn gyda nifer o grwpiau cyn-filwyr. Fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yw Gweinidog y lluoedd arfog, ac mae hi'n cael amrywiaeth o gyfarfodydd rheolaidd iawn gyda llawer o grwpiau cyn-filwyr, ac rwyf i fy hun wedi cwrdd â nifer ohonyn nhw hefyd; rydym ni'n ofalus iawn i ddeall yr amgylchiadau penodol.

O ran y cyflenwad tai, mae'n bosibl ar hyn o bryd i symud yng Nghymru os oes angen i chi wneud hynny oherwydd unrhyw amgylchiadau brys neu os, er enghraifft, na byddai eich trefniant gwerthu yn digwydd pe na byddech yn gwneud hynny. Rwyf i wedi ateb llawer iawn o ymholiadau gan bobl nad ydyn nhw wedi deall hynny, felly hoffwn i nodi hynny yn glir iawn. Yng ngham nesaf yr adolygiad—felly, fel y gwyddoch chi, rydym ni'n adolygu'r rheoliadau bob tair wythnos ac rydym ni'n dechrau gweithio arnyn nhw yr eiliad y mae'r adolygiad diwethaf ar ben—rydym ni'n edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud yn y farchnad dai o ran pethau fel gallu mynd i weld eiddo gwag, caniatáu i bobl sy'n dymuno chwilio am denant ar gyfer eiddo gwag wneud hynny ac yn y blaen. Byddwn ni, mae'n debyg, rwy'n credu—wel, mae'r adolygiad ar y gweill, felly mae'n amhosibl dweud yn bendant—ond byddwn ni fwy na thebyg, rwy'n credu, yn aros cyn caniatáu i bobl weld eiddo sydd â thenantiaid neu sydd wedi eu meddiannu, a hynny am resymau amlwg, gan y bu nifer o broblemau dros y ffin yn hynny o beth. Ond rwy'n derbyn eich pwynt, Caroline. Yn amlwg, rydym ni'n awyddus i'r farchnad weithio.

Rwyf i hefyd yn poeni'n fawr am bobl sy'n rhentu sy'n canfod eu hunain mewn amgylchiadau lle nad ydyn nhw'n gallu fforddio eu rhent mwyach ac sy'n dymuno chwilio am rywle arall y gallan nhw ei fforddio, ein bod yn gallu hwyluso hynny cyn gynted ag y gallwn. Ac rwy'n manteisio ar y cyfle hwn i ddweud, drwy gydol yr argyfwng hwn, ein bod ni wedi gweithio yn galed iawn gyda phob un o'n landlordiaid cymdeithasol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n troi yr hyn a elwir yn 'unedau gwag', felly eiddo gwag, cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eu bod nhw ar gael fel tai parhaol i bobl y mae angen y tai hynny arnyn nhw, pa un a ydyn nhw'n dod trwy'r ffrwd ddigartrefedd neu oherwydd eu bod nhw'n denantiaid sy'n ystyried symud i lety gwahanol, mwy addas. Felly, rydym ni yn sicr wedi bod yn gwneud hynny.

O ran y cyflenwad tai, unwaith eto, mae gwaith adeiladu wedi ei ganiatáu cyn belled â'ch bod chi'n gallu cadw pellter cymdeithasol drwy gydol y cyfnod hwn ac mae llawer o waith adeiladu wedi parhau. Rydym ni yn sicr wedi gweld llawer o landlordiaid tai preswyl cymdeithasol, felly mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yn parhau i adeiladu eu tai ac rydym ni'n gwybod bod nifer o fusnesau bach a chanolig yn parhau i adeiladu ar gyfer y farchnad honno oherwydd bod hynny'n rhoi llif arian parod iddyn nhw na fydden nhw wedi ei gael fel arall, ac rydym ni wedi bod yn annog hynny. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n siarad yn rheolaidd iawn â'r cymdeithasau adeiladwyr tai ynghylch eu hanghenion yn ystod yr argyfwng hwn a sut y gallwn ni gadw'r rhan honno o'r farchnad yn gweithredu.

Ac yna, o ran ein llwybr allan o'r argyfwng hwn, wrth gwrs, bydd pob un ohonoch chi wedi fy nghlywed i'n siarad am yr angen i sicrhau adferiad gwyrdd wedi ei arwain gan dai ac rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny i sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r tai cymdeithasol sydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol yng Nghymru fel ein bod yn sicrhau bod digartrefedd yn wirioneddol anghyffredin, dim ond am gyfnod byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd.  

16:15

Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cymryd diddordeb arbennig mewn cysgu ar y stryd a pholisi Llywodraeth Cymru. Yn wir, rydym ni wedi llunio dau adroddiad yn y Cynulliad hwn, un ddiwedd y llynedd ar wasanaethau arbenigol o ran iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, ac un mwy cyffredinol y flwyddyn gynt. Felly, ar ôl rhoi'r flaenoriaeth honno a'r pwyslais hwnnw i gysgu ar y stryd fel pwyllgor, mae'n braf iawn gweld y cynnydd hwn ar adeg o argyfwng, fel yr ydych chi wedi ei nodi, ac mae'n dangos, hyd yn oed wrth ymateb i argyfwng o'r fath, ei bod hi'n bosibl cael rhai pethau cadarnhaol o'r trallod cyffredinol, fel petai, ac mae'n wirioneddol bwysig gwneud hynny i ddangos bod rhyw lygedyn o obaith. Felly, rwy'n credu eich bod chi a Llywodraeth Cymru yn haeddu llongyfarchiadau mawr am y cyllid hwn a'r polisi hwn, gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel yr awdurdodau lleol, y sector iechyd, y trydydd sector, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a mudiadau gwirfoddol. Rwy'n credu y bu'n ymdrech tîm wirioneddol ac rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn adlewyrchu un o'r heriau a'r ymatebion mwy cadarnhaol drwy'r pandemig, sydd wedi arwain at sefydliadau, cymunedau a sectorau yn cyd-dynnu er lles y bobl, gan gydnabod maint y cynnydd y mae angen i ni ei wneud a'r her yr ydym ni'n ei hwynebu. Felly, mae'n wirioneddol dda gweld hynny i gyd. Fel cymuned, roeddem ni'n gobeithio—

16:20

A gaf i ddweud—gwnaf, Dirprwy Lywydd—fel pwyllgor, rydym ni'n gobeithio am y math hwnnw o ddull ataliol—tai yn gyntaf. Fe wnaethom ni gyfarfod â'r grŵp gweithredu, ac roeddem ni'n chwilio am y math o hawliau corfforaethol sy'n—[Anghlywadwy.]—cyflawni. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yn fawr o ran cynllunio dilynol ac osgoi llithro'n ôl, oherwydd mae pobl yng Nghasnewydd yn dweud wrthyf i eu bod nhw mor falch o weld y cynnydd sydd wedi ei wneud, ond eu bod nhw'n poeni'n fawr, yn amlwg, nad ydym ni'n gweld unrhyw lithro yn ôl, rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gael argyfwng economaidd a'n bod ni'n mynd i gael anawsterau mawr o ran gwariant cyhoeddus, Gweinidog. Felly, wrth ystyried sut yr ydym ni'n osgoi unrhyw lithriant ac, yn ôl y dywediad, adeiladu, gweithredu'n well ar gyfer y dyfodol, a ydych chi'n ystyried o ddifrif faint y problemau economaidd a gwariant cyhoeddus a fydd yn ein hwynebu, ac a ydych chi'n hyderus, gyda'ch cyhoeddiadau, gyda dull newydd, gyda'r cyllid, y byddwn ni'n gallu cynnal y cynnydd a wnaed?

Ydw, John, rwy'n hapus iawn i ddweud, oherwydd y gwaith aruthrol yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yn y ffordd gydweithredol yr oedd y pwyllgor wedi ei hargymell yn y lle cyntaf, ac rydym ni bellach wedi ei gweld ar waith o ganlyniad i dderbyn argymhellion y grŵp gweithredu ar dai—gwn eich bod chi wedi cael sgyrsiau da â nhw yn ogystal â'r pwyllgor—fy mod i'n hyderus iawn y byddwn ni'n gallu ei wneud, oherwydd mae pobl wedi gweld yr hyn sy'n bosibl ac maen nhw wedi cael eu grymuso o'r newydd o wybod y gellir ei wneud os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Ac, wrth i ni ddod allan o'r pandemig hwn, byddwn ni eisiau ystyried ysgogiad economaidd ac yn y blaen ac fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n sôn am adferiad gwyrdd wedi ei arwain gan dai, a gallwn ni wneud hynny.

Nid wyf i wedi gallu ateb yr holl gwestiynau y mae pob Aelod wedi eu gofyn i mi heddiw gan fod llawer iawn o gwestiynau gan yr Aelodau; mae'n braf gweld y brwdfrydedd. Un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, er enghraifft, yw gwneud yn siŵr y gallwn ni, trwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern, fel y'u gelwir, gyda phren o Gymru a chadwyni cyflenwi yng Nghymru, godi tai yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw'n gweithio oherwydd eu bod nhw wedi dod trwy ein rhaglenni tai arloesol, felly profwyd eu bod nhw'n llwyddiannus; tai carbon niwtral hardd y gellir eu hadeiladu'n gyflym iawn, sy'n cael eu hadeiladu mewn gweithfeydd bach sy'n cyflogi pobl leol ledled Cymru, felly mae'n darparu cyflogaeth—cyflogaeth sgiliau uchel, cyflogaeth dda. Mae hefyd yn darparu tai, mae hefyd yn darparu defnydd i'n coedwigoedd, mae'n darparu ffordd o gyflawni coedwigaeth gynaliadwy, sy'n beth da. Mae'n gwthio pob botwm y gallwch chi feddwl amdano ac, wrth gwrs, mae'n darparu'r tai sydd eu hangen arnom ni i sicrhau bod gan bobl lety diogel wrth symud ymlaen i'r dyfodol, a bod y llety hwnnw nid yn unig yn ddiogel, ond hefyd yn hardd ac yn garbon niwtral. Beth sydd i'w wrthwynebu?

Felly, rwy'n hollol siŵr y gallwn ni wneud hyn ac rwy'n siŵr o hynny gan fod ein holl bartneriaid yn credu hynny hefyd ac maen nhw wedi ymrwymo i'r broses honno, a cheir consensws ar draws y Senedd hon. Felly, mewn gwirionedd, gyda'n gilydd, rydym ni wir yn fwy na'n rhannau unigol, ac rwyf i wir yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud hyn yn y dyfodol.

Diolch am y datganiad. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'n hawdurdod lleol ni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu gwaith partneriaeth a'r gefnogaeth aruthrol a roddwyd i'n pobl ddigartref yma yn Aberconwy. Rydym ni wedi gweld unedau preswyl yn cael eu lleoli yn Llandudno a Bae Colwyn i ddarparu llety i'n pobl ddigartref ac sy'n cysgu ar y stryd sy'n hynod agored i niwed, ac maen nhw wedi ei wneud mewn modd mor gyflym yn ystod argyfwng y pandemig hwn.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi gytuno â Byddin yr Iachawdwriaeth bod yn rhaid canolbwyntio hefyd ar fynd i'r afael â'r rhesymau pam mae pobl yn mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Felly, fy nghwestiynau i yw: a fydd ein hawdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am rywfaint o'r £20 miliwn o gyllid i gefnogi cynigion ar gyfer targedu achosion digartrefedd, yn rhan o'ch cynlluniau cam 2 a gyhoeddwyd, a hefyd, fel y mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl wedi tynnu sylw ato, ceir llawer o sefyllfaoedd lle mae tenantiaid yn wynebu ymrwymiadau ac anawsterau enfawr erbyn hyn i fforddio eu tai. A wnewch chi egluro na fydd y cyfyngiadau presennol hyn yn eu hatal rhag cael gafael ar lety fforddiadwy, ac, yn wir, symud i mewn iddo ar yr adeg hon?

Gwnaf. Mae'r holl gynghorau wedi gweithio'n galed iawn ac mae Conwy yn enghraifft dda ond mae'r holl awdurdodau lleol wedi gweithio mewn cydweithrediad â ni. Ceir dulliau arloesol ledled Cymru gyfan i gael pobl i mewn i lety addas. Dros dro yw rhywfaint o'r llety hwnnw, ond mae'n llety dros dro da. Ond, yn amlwg, yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw gweithio i gael pobl i mewn i lety diogel, hirdymor y gallan nhw ei fforddio ac y gallan nhw ei gynnal. Ac mae hynny'n golygu gweithio gyda'n holl bartneriaid, gan gynnwys partneriaid cymorth. Felly, mae hynny'n golygu gweithio gyda gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau cymorth tenantiaid, gwasanaethau lles a chymorth, ac yn y blaen, gan sicrhau bod gan bobl gymaint o incwm â phosibl, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r sgiliau angenrheidiol i gynnal tenantiaeth. Nid yw pedair wal a nenfwd yn ddigon; mae gennym ni i gyd ddodrefn yn ein tai a llenni a charpedi a phethau felly. Mae angen i bobl gael yr holl bethau sydd eu hangen arnyn nhw i gynnal eu hunain mewn llety. Ac felly yr hyn a ddangoswyd yw y gellir gwneud hynny. Gallwn ni wneud hynny, gallwn ni drefnu'r gwasanaethau o'u cwmpas, gallwn ni wneud yn siŵr bod pobl yn dod at ei gilydd i'w cefnogi. Ac mae'r cynlluniau cam 2 yr ydym ni'n gofyn i awdurdodau lleol eu hystyried yn ystyried yr holl bethau hynny, gan gynnwys y cymorth sydd ei angen i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cynnal y tenantiaethau hynny, ac mae hynny'n cynnwys asesiad o'u gallu i dalu am fathau penodol o lety, a'r hyn y mae angen ei wneud i sicrhau bod y gallu hwnnw cystal ag y gall fod.

Fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach fy mod i'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn cadw lefel y lwfans tai lleol lle y mae. Fe wnaeth y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, Thérèse Coffey, ddweud yn un o'r cyfarfodydd yr es i iddo y byddai hynny'n cael ei wneud, ond hoffwn i weld hynny'n cael ei gadarnhau yn ehangach, oherwydd byddai hynny yn rhoi llawer o obaith i bobl y bydden nhw'n parhau i allu ei fforddio. Ac yna, fel y gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud, Janet, o ran gallu symud i rywbeth os ydych chi wir yn canfod na allwch chi fforddio lle'r ydych chi, rydym ni wedi bod yn gweithio yn galed iawn gyda phobl i drwsio unedau gwag, i wneud yn siŵr bod yr eiddo hynny ar gael, ac i wneud yn siŵr bod hynny'n gallu digwydd. Yng ngham nesaf yr adolygiad o'r cyfyngiadau symud, ein nod yw gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu symud i eiddo gwag. Mae problem fawr, yn amlwg, o ran mynd i weld eiddo sydd â thenantiaid neu sydd wedi eu meddiannu, ond os ydyn nhw'n wag, yna rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhyddhau hynny cyn gynted â phosibl. Hoffwn ddefnyddio'r pwynt hwn i bwysleisio'r pwynt y gwnes i'n gynharach, sef y bu'n bosibl o'r cychwyn, wrth gwrs, symud os yw amgylchiadau yn golygu ei bod yn hanfodol symud ac na ellir ei oedi.

16:25

Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Mae gen i rai cwestiynau ynghylch manylion yr hyn yr ydych chi'n gallu ei dynnu o'r data sydd gennych chi. Er enghraifft, a ydych chi'n gweld unrhyw dueddiadau neu gysylltiadau annisgwyl o ran nodweddion sydd wedi'u gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, o ran y rhai sy'n ddigartref yng Nghymru ar hyn o bryd? A oes unrhyw amrywiadau rhanbarthol sy'n amlwg i chi o ran daearyddiaeth Cymru hefyd? Ac, yn olaf, o ran hyd y digartrefedd yr ydym ni'n ei weld, pa fath o ddata sy'n dod i'r amlwg o ran a yw digartrefedd yn fyrdymor neu'n hirdymor yn bennaf, oherwydd, yn amlwg, ceir gwersi y gallwn ni eu dysgu o archwilio'r data mor fanwl?

Diolch, Vikki. Nid yw'r holl ddata gennym ni yn yr union ffordd yr ydych chi'n ei hawgrymu, ond gallaf i ddweud wrthych chi yr hyn yr ydym ni'n ei wybod. Felly, yn gyntaf oll, mae'r amrywiaeth o bobl sy'n ddigartref yn enfawr. Felly, mae gennym ni bobl sy'n ddigartref dim ond yn ddiweddar oherwydd chwalfa deuluol ddiweddar neu ddigwyddiadau trais yn y cartref neu rywbeth tebyg arall, ac mae eraill sydd wedi bod yn ddigartref ers amser maith ac sydd â phroblemau sydd wedi ymwreiddio ac sydd wedi dod i wasanaethau am y tro cyntaf erioed. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae angen i ni fanteisio ar y ffaith eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â'r gwasanaethau hynny bellach a'n bod ni wedi gallu ymgysylltu â nhw, ac y gallwn ni barhau i ymgysylltu a nhw, ac mae hwnnw wedi bod yn gam enfawr ymlaen. Yn y gorffennol, wrth weithio gyda phobl ddigartref, gallai gymryd cymaint â naw mis i'n gweithiwr allgymorth penodedig greu cysylltiad o ymddiriedaeth â'r unigolyn hwnnw er mwyn iddo ddod i mewn a derbyn gwasanaethau, ac rydym ni wedi gallu cyflymu'r broses honno i bron pawb. Mae gennym ni un neu ddau o bobl nad ydym ni wedi gallu eu cyrraedd, ond mae gan bob un ohonyn nhw weithwyr allgymorth penodedig yn gweithio gyda nhw gyda'r bwriad o gyflawni hynny.

Fodd bynnag, un o'r nodweddion y gallaf i ddweud wrthych chi amdano yn hawdd yw bod digartrefedd yn gysylltiedig â thlodi, oherwydd os oes gennych chi deulu neu berthynas sy'n chwalu ac nad ydych chi'n dlawd, yna gallwch chi ddod o hyd i dŷ arall i'ch hun. Felly, mae'n gysylltiedig yn fwyaf amlwg ag amddifadedd economaidd. A dyna'r hyn y mae angen i ni ei wneud: mae angen i ni wneud yn siŵr bod incwm pobl mor fawr â phosibl, eu bod nhw'n cael y math cywir o gymorth i sicrhau'r incwm mwyaf posibl hwnnw a dychwelyd i'r gwaith pan fo hynny'n broblem, neu gynnal eu gwaith pan fo hynny'n broblem, oherwydd gall mynd yn ddigartref olygu eich bod chi'n colli eich swydd, sydd, wrth gwrs, yn gwneud y sefyllfa yn waeth o lawer. Felly, rydym ni wedi gweithio yn galed iawn gydag amrywiaeth o elusennau a sefydliadau trydydd sector a'n landlordiaid cymdeithasol a'n landlordiaid i sicrhau bod cymaint a phosibl o'r math hwnnw o gymorth, i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cynnal eu tenantiaeth ac felly sicrhau bod eu gallu economaidd gymaint â phosibl. Fel y dywedais, mae gennym ni wasanaethau cofleidiol. Rwyf i wedi dweud erioed nad yw digartrefedd yn ymwneud â thai yn unig, mae'n ymwneud â'r holl wasanaethau eraill, ac rwyf i wrth fy modd gyda'r ffordd y mae'r gwasanaethau hynny wedi dod at ei gilydd yn ystod yr argyfwng hwn i weithio. Yn ein huwchgynhadledd yr wythnos diwethaf, cawsom ni gyfraniadau gan bobl o'r holl wasanaethau hynny ac roedden nhw i gyd yn dweud cymaint yr oedden nhw wedi ei ddysgu o'r cydweithio a fu'n bosibl a faint y maen nhw'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hynny.

Felly, mae gen i deimlad gwirioneddol bod hyn yn bosibl bellach a bod pobl yn cydnabod hynny. Felly, rwyf i wir yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud gwahaniaeth yng Nghymru y tro hwn a gwneud yn siŵr bod digartrefedd yn anghyffredin, am gyfnod byr a heb ei ailadrodd.

16:30

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, fy mod i'n siomedig braidd i chi awgrymu yn eich ateb cynharach i gwestiwn am gyn-filwyr nad oedd Llywodraeth Cymru yn casglu data ar y rhai sydd wedi cael eu hailgartrefu yn ystod y pandemig a pha gyfran o'r rhain sy'n bobl o'r gymuned o gyn-filwyr. Byddwch chi'n ymwybodol bod llawer iawn o waith da yn cael ei wneud gan sefydliadau fel Alabaré a'u cartrefi i gyn-filwyr yma yng Nghymru. Mae ganddyn nhw gartref i lawr y ffordd nepell oddi wrtha i yma ym Mae Colwyn, ac maen nhw'n barod i wneud mwy eto, cyn belled â'u bod nhw'n gwybod ble mae'r angen mewn gwirionedd.

Felly, a gaf i ofyn pa waith y byddwch chi'n ei wneud gydag awdurdodau lleol nawr i geisio olrhain pa gyfran o'r rhai sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd sy'n bobl o'r gymuned o gyn-filwyr, fel y gallwch chi ymgysylltu ymhellach â'r sefydliadau da fel Alabaré sydd ar gael ac sy'n dymuno gwneud mwy ac sy'n chwilio am y mannau lle gallan nhw ddatblygu'r mathau hyn o gyfleusterau y maen nhw eisoes wedi eu sefydlu mor llwyddiannus mewn mannau eraill?

Ydw, Darren, rwy'n hapus iawn i weithio gyda nhw. A dweud y gwir, mae awdurdodau lleol eisoes yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau cyn-filwyr, ac, fel y dywedais, mae Hannah wedi cyfarfod â llawer iawn ohonyn nhw. Rwyf i fy hun wedi cyfarfod â nifer rhyw fymryn yn llai ohonyn nhw. Felly, rydym ni'n hapus iawn i ymgysylltu a chyfeirio pobl at y cymorth y gall asiantaethau cymorth i gyn-filwyr ei ddarparu. Ac mae honno'n amrywiaeth enfawr, fel y gwyddoch chi ac fel y gwn i. Ceir amrywiaeth eang iawn o gymorth, o gwnsela a chymorth gydweithredol i ddim mwy na chyfeillgarwch, llety, ystod lawn o gymorth iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac yn y blaen. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhan benodol honno o'r trydydd sector sy'n darparu'r cymorth hwnnw.

Mae awdurdodau lleol yn cyfeirio pobl sy'n gymwys i dderbyn y cymorth hwnnw ato, ond nid ydym ni'n casglu'r data yn ganolog. Felly, nid wyf i eisiau i chi feddwl nad oes ots gennym ni, oherwydd mae ots gennym ni, ond nid ydym ni wedi gweld unrhyw angen i gasglu'n ganolog faint o bobl yw hynny. Rwy'n disgwyl pe baech chi'n gofyn i'r awdurdodau lleol y bydden nhw'n gwybod yn unigol. Rwy'n hapus i ymchwilio a yw'n beth hawdd i ni ei wneud. Byddwn yn gyndyn o ddargyfeirio adnoddau iddo, ond os yw'n rhywbeth y gallem ni ei wneud yn gymharol hawdd, rwy'n sicr yn fodlon ymchwilio i hynny. Ond nid yw'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei wneud yn ganolog ar hyn o bryd.

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud yn ei dau ddatganiad. Mae argyfwng COVID wedi bod yn anodd, ond ceir llawer o fuddugoliaethau hefyd, ac mae rhoi terfyn dros dro ar ddigartrefedd yn un ohonyn nhw.

Mae awdurdodau lleol a'r trydydd sector wedi ymateb yn wych o dan amgylchiadau anodd dros ben. Rwy'n nodi'r buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn a buddsoddiad arall o £20 miliwn nawr drwy refeniw, gan arwain at gyfanswm o £30 miliwn. Mae hyn i'w groesawu'n fawr.

Rwyf i wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am fy mhrofiad fy hun o syrffio soffas a'i effeithiau hirdymor ar fy mywyd, felly rwyf i mor falch o weld mai eich bwriad yw gwneud popeth yn eich gallu i gadw'r 800 a mwy o bobl mewn llety o ryw fath. Mae'n eglur o ystadegau a rhestrau aros nad oes digon o gartrefi i bawb. Fodd bynnag, efallai bod COVID wedi cyflwyno cyfle i feddiannu sefydliadau gwely a brecwast gwag a llety myfyrwyr.

A gaf i ofyn i chi beth yw eich cynlluniau ar gyfer sicrhau cyflenwad digonol ar ôl i'r economi agor unwaith eto? Mae eich datganiad diweddaraf yn nodi eich bod chi eisiau gweld creadigrwydd, partneriaeth a pharodrwydd i fuddsoddi yn y rhaglenni hyn. Onid yw creadigrwydd a phartneriaeth eisoes wedi eu hymwreiddio yn y math hwn o wasanaeth?

Mae cost ddynol digartrefedd yn enfawr, ond bydd goblygiadau gwariant ataliol cael hyn yn iawn yn dwyn ffrwyth ar draws llywodraeth leol, iechyd a'r heddlu. Roeddwn i'n hoffi yn arbennig eich sylw ar adeiladu tai cynaliadwy—

Wel, rwy'n credu bod hynny'n iawn, felly. Diolch. Gofynnwn i'r Gweinidog ymateb. Mae eich amser ar ben. Diolch. Gweinidog, a wnewch chi ymateb, os gwelwch yn dda?

16:35

Daeth y Llywydd i'r Gadair.

Iawn, o ran y cyllid, i fod yn glir: mae'n £20 miliwn o refeniw—£10 miliwn yn y lle cyntaf, £10 miliwn yn y gyfran hon—a £10 miliwn o gyfalaf, ac mae hynny'n ychwanegol at yr arian yr ydym ni bob amser yn ei gyfrannu i wasanaethau tai a digartrefedd. Felly, nid wyf i am i chi feddwl mai dyna'r cyfan sydd ar gael; arian ychwanegol yw hynny sy'n ategu'r arian yr ydym ni'n ei fuddsoddi eisoes. Felly, mae hynny'n swm sylweddol o arian yn gyffredinol.

O ran cyflenwad, rydych chi'n hollol gywir, Mandy, mae cost ddynol y peth yn enfawr, ac yno ond er gras Duw yr ydym ni i gyd yn mynd, a bod yn gwbl onest. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn aros mewn llety. Rydym ni'n gweithio yn galed iawn gydag awdurdodau lleol—dyna y bydd cynlluniau cam 2 yn ymwneud ag ef. Mae gan rai ohonyn nhw bobl mewn llety 'dros dro' sy'n llawer llai dros dro a byddan nhw'n gallu cynnal hynny am gryn amser. Ond rydych chi'n llygad eich lle bod rhai ohonyn nhw yn ei gael mewn sectorau sy'n wag ar hyn o bryd, ond byddan nhw yn amlwg yn awyddus i fynd yn ôl at eu grŵp craidd o gwsmeriaid ar ôl i'r cyfyngiadau symud ddod i ben. Ac rydym ni'n gweithio yn galed iawn gyda'r awdurdodau lleol hynny i wneud yn siŵr bod gennym ni lety priodol i symud ymlaen iddo. Rwyf i hefyd yn awyddus iawn, o ganlyniad i argymhellion y grŵp gweithredu ar dai, i sicrhau nad yw symud ymlaen yn rhywbeth sy'n gorfod digwydd mwy nag unwaith, fel nad oes rhaid i bobl symud sawl gwaith oherwydd bod hynny'n peri ansefydlogrwydd mawr. Felly, rydym ni'n gweithio yn galed iawn i wneud yn siŵr eu bod nhw naill ai yn gallu symud yn syth i lety diogel neu, yn y sefyllfa waethaf oll, unwaith eto.

Y peth arall yw, fel yr wyf i'n siŵr y gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach, rydym ni'n gweithio'n galed iawn yn awr i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu sefydlu'r dulliau modern hyn o adeiladu—tai hardd—a ddeilliodd o'n rhaglen dai arloesol. Mae'n rhyfeddol pa mor gyflym y gall tai gael eu hadeiladu. Yn ddiweddar, fe wnaeth fy nghyd-Aelod Jeremy Miles a minnau ymweld ag ysbyty maes y mae Abertawe wedi ei godi, ac mae maint hwnnw a'r modd y gwnaed hynny mewn 17 wythnos wedi bod yn ysbrydoliaeth wirioneddol o ran dweud wrthym ni beth y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol i adeiladu llety gwirioneddol briodol y byddem ni i gyd yn falch o fod ynddo, cyn gynted ag y gallwn ni, i wneud yn siŵr bod y bobl hynny yn cael y cartrefi y byddech chi a mi yn falch o fyw ynddyn nhw.

7. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Felly, yr eitem nesaf yw'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynnig—Julie Morgan.

Cynnig NDM7327 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu datblygu i liniaru effeithiau y coronafeirws ar ofal cymdeithasol i oedolion mewn tair prif ffordd. Yn gyntaf, maen nhw'n mynd i'r afael â'r angen posibl i ehangu'r sector drwy ganiatáu i ddarpariaeth frys gael ei sefydlu'n gyflym dan nawdd comisiynwyr statudol gofal cymdeithasol mewn amrywiaeth o leoliadau. Yn ail, maen nhw'n mynd i'r afael â'r angen posibl i hwyluso trefniadau recriwtio staff trwy lacio rhai o'r gofynion sy'n ymwneud â thystiolaeth sydd ar ddarparwyr ar hyn o bryd. Ac yn drydydd, maen nhw'n caniatáu i gartrefi gofal, gyda chymeradwyaeth y rheoleiddiwr, roi defnydd i ystafelloedd nad ydyn nhw wedi eu meddiannu ar hyn o bryd, fel ystafelloedd gwely a rennir.

Mae'r newidiadau yn berthnasol i leoliadau preswyl i oedolion a gwasanaethau cymorth cartref i oedolion yn unig. Er mwyn cyflawni'r diben cyntaf, mae rhai gwasanaethau, a grëwyd yn benodol i ymateb i COVID-19, wedi eu heithrio rhag cael eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'n bosibl iddyn nhw gael eu sefydlu'n gyflymach ac mewn ystod ehangach o safleoedd nag a fyddai'n bosibl ar gyfer gwasanaeth rheoleiddiedig. Gan na fydd ganddyn nhw oruchwyliaeth rheoleiddiwr, dim ond gwasanaethau a ddarperir gan neu ar ran comisiynwyr gofal a chymorth, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, gyda darparwyr sydd eisoes wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru neu'r Comisiwn Ansawdd Gofal, sy'n gymwys. Comisiynwyr fydd yn gyfrifol am ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarperir, a gellir eu harolygu yn hyn o beth gan y rheoleiddiwr, Arolygiaeth Gofal Cymru neu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae hyn yn gam diogelu pwysig i unrhyw un sy'n derbyn gofal dros dro gan y gwasanaethau hyn.

Mae'r ail ddiben yn ymwneud â chadw tystiolaeth ynghylch aelodau newydd o staff. Ar hyn o bryd, mae rheoliadau yn cynnwys gofynion manwl ynghylch tystiolaeth yn ymwneud â materion megis cymwysterau. Oherwydd y gallai amgylchiadau'r pandemig ei gwneud yn anodd cael gafael ar yr ystod lawn o dystiolaeth, mae'r diwygiad yn caniatáu i'r gofynion hyn gael eu cyflawni trwy ddarparu cymaint o dystiolaeth ag sy'n rhesymol ymarferol. Nid yw'r gofyniad i gynnal gwiriadau wedi newid, ac mae'n rhaid i'r dystiolaeth barhau i fod ar gael i'r rheoleiddiwr fel arfer. Nid yw'r newidiadau yn effeithio ar y gofynion sy'n ymwneud â chadw tystiolaeth o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yn olaf, mae'r trydydd diben yn ymwneud â rhannu ystafelloedd. Ni ddylai preswylwyr presennol deimlo dan bwysau i rannu ystafell, felly mae'r gwelliant dim ond yn caniatáu i gartref gofal roi defnydd i ystafelloedd nad ydyn nhw wedi eu meddiannu ar hyn o bryd, fel ystafelloedd ychwanegol a rennir. Arolygiaeth Gofal Cymru fydd yn eu cymeradwyo a byddan nhw'n yn cael eu hystyried bob amser er budd pennaf y preswylwyr.

Mae'r newidiadau hyn yn rhai tymor byr, sy'n ymatebol i'r argyfwng presennol, a byddan nhw'n cael eu gwrthdroi mewn ffordd bwyllog sy'n rhoi amser i'r sector addasu cyn gynted ag y bo'n gyfrifol gwneud hynny. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.

16:40

Mae'n bosibl y bydd rhai o'r safleoedd y gellid eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau preswyl brys yn annhebygol o fodloni'r safon sy'n ofynnol i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf 2016. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi y bydd y darparwyr sy'n bodloni'r eithriad yn destun rheoleiddio ac arolygu priodol?

Hefyd, yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru, nid yw'n ymgymryd ag arolygiadau rheolaidd, a phan ddaw'r pandemig i ben, ni fydd yn ystyried camau gweithredu ôl-weithredol. Felly, sut y bydd hyn yn effeithio ar ddiogelwch preswylwyr a chamau i nodi esgeulustod bwriadol neu, yn wir, niwed bwriadol?

Nawr, fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae rhai gwasanaethau yn cael anawsterau o ran recriwtio, cadw, offer a chyllid. Felly, a ydych chi wedi ystyried yr effaith negyddol y gallai safleoedd newydd ei chael ar y problemau presennol?

Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, nodwyd nad yw'n ymddangos bod y rheoliadau yn berthnasol i'r sector preifat nad yw'n darparu gwasanaethau i'r sector cyhoeddus. Cwestiwn arall: pam felly?

Ac yn olaf, anogodd ymatebwr i'r ymgynghoriad fod gwiriadau cyn cyflogi yn hanfodol i ddiogelu unigolion. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o'r risg o lacio'r rheolau hyn ac a allwch chi gadarnhau na fydd rheoliad 7 yn tanseilio'r gofyniad cyfreithiol bod oedolion yn cytuno i rannu ystafell ac y gallai cam o'r fath fod yn gyson â'u lles? Diolch.

Hoffwn i ddiolch i Janet Finch-Saunders am y sylwadau yna, a hoffwn i ailadrodd mai mesurau dros dro yw'r rhain i'w rhoi ar waith mewn argyfwng. Ni fyddan nhw'n fesurau parhaol, ac mae pob un o'r pwyntiau a wnaeth wedi eu hystyried yn ofalus iawn.

O ran un o'r pwyntiau diwethaf a wnaeth, ynghylch a yw'n berthnasol i ddarpariaeth breifat, hoffwn i roi gwybod iddi fod y ddarpariaeth o ran rhannu ystafelloedd yn berthnasol i gartrefi gofal i oedolion preifat, awdurdodau lleol a'r trydydd sector fel ei gilydd. Felly, maen nhw yn berthnasol i ddarpariaeth breifat. Hefyd, mae'r hawddfreintiau sy'n ymwneud â thystiolaeth yn berthnasol i'r broses o benodi staff gofal cartref a phreswyl preifat, awdurdodau lleol a'r trydydd sector, a'r unig wahaniaeth yw'r hyn a wneir o ran darpariaeth frys COVID-19. Yma, roeddem ni o'r farn ei bod yn gwbl hanfodol bod y ddarpariaeth yn cael ei goruchwylio'n statudol. Gall darparwyr preifat ddarparu'r ddarpariaeth a gomisiynir. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny wedi egluro hynny ynghylch y ddarpariaeth breifat.

Hoffwn i hefyd bwysleisio, o ran y bobl sy'n cael eu recriwtio, eu bod yn dal yn destun gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r cyfrifoldeb ar berchennog y cartref gofal i sicrhau bod pobl addas yn cael eu recriwtio. Ond rwy'n credu y bydd yr Aelod yn derbyn, o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, fod yn rhaid cael rhywfaint o hyblygrwydd i sicrhau ein bod ni'n gallu ehangu'r ddarpariaeth os bydd yn rhaid i ni er mwyn ymdopi â'r cyfnod eithriadol o anodd hwn.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog.

Y cynnig, felly, yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, gallaf weld gwrthwynebiad, ac felly byddaf yn gohirio'r bleidlais ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad annibynnol i COVID-19

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Y ddadl nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymchwiliad annibynnol i COVID-19. Dwi'n galw ar Paul Davies i gyflwyno'r cynnig. Paul Davies.

16:45

Cynnig NDM7328 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw am ymchwiliad annibynnol wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth, ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig sydd wedi'i gyflwyno yn enw fy nghydweithiwr, Darren Millar. Mae ein cynnig yn glir: rydym ni'n galw am ymchwiliad annibynnol, dan arweiniad barnwr ac wedi'i benodi gan Senedd Cymru, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19. Bydd cwestiynau niferus gan bobl Cymru yn parhau ynghylch yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig hwn, pa mor barod y bu Cymru amdano, a phenderfyniadau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig. Gan fod Llywodraeth Cymru bellach wedi dechrau llacio cyfyngiadau symud yng Nghymru, mae'n bryd i ddechrau ystyried sut y dylid holi ac ateb y cwestiynau hynny. Yn bwysicach byth, mae'n gwbl hanfodol bod gwersi'n cael eu dysgu o bandemig COVID-19 pe bai'r Llywodraeth hon neu Lywodraethau'r dyfodol yn wynebu pandemig fel hwn yn y dyfodol. Felly, gan fod cyfyngiadau'n dechrau cael eu llacio erbyn hyn, mae'n briodol inni ystyried yn awr sut i fwrw ymlaen a gweithredu'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw.

Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod pwyllgorau'r Senedd eisoes yn ystyried eu hymchwiliadau eu hunain i COVID-19 a'r effaith a gafodd ar feysydd pwnc eu pwyllgorau, ac mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi'u galw i ateb cwestiynau ar feysydd eu portffolio. Fodd bynnag, o ystyried yr effaith aruthrol y mae COVID-19 wedi'i chael ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, credaf ei bod yn briodol lansio ymchwiliad cyhoeddus llawn, o dan arweiniad barnwr annibynnol wedi'i benodi gan y Senedd, nid Llywodraeth Cymru.

Rhaid inni ei gwneud yn hollol glir i bobl Cymru y bydd yr ymchwiliad hwn yn agored ac yn dryloyw a bod modd rhoi cyfrif am y camau gweithredu. Bydd penodi barnwr annibynnol yn datgan bod y sefydliad hwn wedi'i ymrwymo i atebolrwydd, a bod yr ymchwiliad hwn, yn syml iawn, yn haeddu'r awdurdod y byddai gan uwch farnwr. Yn wir, pan fydd y broses yn cyrraedd y cam lle mae gwrandawiadau ar y gweill, byddai gan Gwnsler y Frenhines a'i dîm y sgiliau mwyaf priodol i holi'r cwestiynu mewn modd teg a chwilfrydig. Am y rheswm hwnnw, byddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant 1, sy'n dileu'r pwynt y dylai ymchwiliad cyhoeddus gael ei arwain gan farnwr, oherwydd fe ddylai gael ei arwain gan farnwr, a'i benodi gan y Senedd yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Rwyf i o'r farn bod pobl Cymru yn haeddu gweld yr ymchwiliad hwn yn cael ei gynnal gan ddefnyddio'r lefel uchaf bosibl o dryloywder ac awdurdod. Ni allwn fforddio gadael i Lywodraeth Cymru bennu cyfeiriad nac agenda, ac felly ni allaf weld unrhyw beth afresymol nac anffafriol wrth alw i'r ymchwiliad gael ei arwain gan farnwr sydd wedi'i benodi'n annibynnol ar y Llywodraeth y byddai'n ei harchwilio.

Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal yn gyflym, a dyna pan mae angen inni ddechrau gweld rhywfaint o'r gwaith paratoi yn dechrau. Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol o'r llythyr diweddar yn y Financial Times wedi'i ysgrifennu gan grŵp o Arglwyddi, a alwodd am ddeialog a chonsensws trawsbleidiol ar gylch gorchwyl ymchwiliad y DU i COVID-19. Wel, rwy'n galw ar y trafodaethau hynny i ddechrau yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio, mewn ysbryd agored ac atebol, y bydd pob plaid wleidyddol yn dymuno bod yn rhan o'r ddeialog hon. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud, mewn egwyddor, ei fod yn hapus i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ymchwiliad cyhoeddus ar yr adeg gywir, ac mae hwnnw'n gam ymlaen i'w groesawu. Gallwn ni yn awr ddatblygu'r consensws hwnnw a dechrau meddwl sut y gall yr ymchwiliad hwnnw ddigwydd. Felly, rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y bydd Llywodraeth Cymru yn dweud ychydig mwy wrthym am eu syniadau o ran pryd y gall yr ymchwiliad hwn ddechrau. Ni chredaf ei bod yn afresymol inni ystyried rhai o'r amserlenni y gall pobl Cymru ddisgwyl cael clywed atebion i'w cwestiynau am y modd yr ymdriniwyd â materion sy'n ymwneud â COVID-19 yng Nghymru.

Llywydd, rydym ni'n gofyn bod y canfyddiadau ar gael cyn etholiadau seneddol Cymru y flwyddyn nesaf. Yn y pen draw, dylai pobl Cymru gael y cyfle i wrando ar y dystiolaeth a dod i'w casgliadau eu hunain o ran yr ymchwiliad—a gallan nhw ddweud eu dweud—ac, yn bwysicach, allu dwyn Gweinidogion presennol y Llywodraeth i gyfrif yn yr etholiad y flwyddyn nesaf. Am yr union reswm hwnnw, ni allwn gefnogi gwelliant 2, sy'n ceisio dileu'r angen bod y canfyddiadau ar gael cyn etholiadau Seneddol nesaf Cymru. Rhaid dangos i'r byd na fyddwn ni, yma yng Nghymru, yn petruso rhag gofyn cwestiynau anodd a chael atebion anodd. Mae gan bobl Cymru yr hawl i fod mor wybodus â phosibl yn yr etholiad nesaf, a rhaid inni o leiaf geisio darparu ar eu cyfer yr atebion y maen nhw'n eu ceisio, fel y gallan nhw fynd i'r blwch pleidleisio mor wybodus â phosibl.

Nawr, mae gwelliant 4 yn galw bod yr ymchwiliad yn cael ei gychwyn ochr yn ochr â'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â phandemig COVID-19. Rwy'n hapus i weld hynny'n digwydd, ac felly byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant hwn. Ond ni ddylem golli golwg ar hynny, ac yma yng Nghymru mae cyfle hefyd i arwain ar hyn, a dylem gymryd y cyfle hwnnw.

Yn briodol, bydd gan bob Aelod ei farn ynghylch y materion systemig y bydd modd eu hystyried yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad. Rwy'n credu y dylai cwmpas yr ymchwiliad hwn fod yn eang a dylai edrych ar holl benderfyniadau polisi COVID-19 Llywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod hwn. Er enghraifft, mae'n gwbl hanfodol bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn ystyried strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â'r sector cartrefi gofal yng Nghymru. Fe wyddom, er gwaethaf apeliadau gan Fforwm Gofal Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn cynnal profion ar breswylwyr a staff cartrefi gofal yma yng Nghymru.

Nawr, y gred yw bod chwarter y marwolaethau oherwydd coronafeirws yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â phreswylwyr cartrefi gofal. Ac eto i gyd bu'n rhaid aros tan 22 Ebrill cyn bod y Gweinidog Iechyd yn penderfynu profi preswylwyr cartrefi gofal oedd â symptomau a'r rhai a oedd yn dychwelyd o'r ysbyty i gartrefi gofal, yn ogystal â gweithwyr cartref gofal oedd â symptomau. Yn dilyn hynny, ar 2 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal oedd ag achosion coronafeirws yn cael eu profi gan ddilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, a oedd yn dangos y dylai'r profion mewn cartrefi gofal gael eu hymestyn i reoli unrhyw achosion. Newidiodd hynny eto wedyn, ac erbyn 6 Mai, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai'n dechrau cynnal profion yn gyffredinol mewn cartrefi gofal, ond y tro hwn dim ond i'r cartrefi gofal hynny lle'r oedd dros 50 o welyau. Gyda chyfartaledd o 33 gwely yng nghartrefi gofal Cymru, roedd y cyhoeddiad hwn yn golygu bod y cartrefi gofal llai o faint wedi cael eu gadael heb brofion tan bythefnos yn ddiweddarach, pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru yn y pen draw brofion i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal. Felly, dim ond un enghraifft yw honno, ac rwy'n siŵr, yn ystod y ddadl heddiw, y bydd yr Aelodau'n cyfrannu eu syniadau eu hunain, yn seiliedig ar yr ohebiaeth a'r adborth y maen nhw wedi'u cael gan eu hetholwyr eu hunain.  

Y pwynt pwysig yr wyf i'n dymuno ei wneud yw y dylai'r ymchwiliad fod yn ymarfer eang ei gwmpas sy'n edrych ar bob mater a thystiolaeth. Bydd yr Aelodau wedi cael gohebiaeth gan etholwyr ar amrywiaeth o bolisïau COVID-19, gyda chwestiynau difrifol o ran y ffordd y mae rhaglenni a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar eu bywydau, ac mae'n rhaid i'r ymchwiliad graffu ar bob maes polisi er mwyn darparu'r atebion hynny. Mae pryderon ynghylch materion fel profi a chyflenwi a dosbarthu cyfarpar diogelu personol yn feysydd ymchwil dilys iawn y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Dywedwyd wrthym gan Goleg Brenhinol Nyrsys Cymru fod diffyg cysondeb ac arweiniad o ran defnyddio a darparu cyfarpar diogelu personol ar lefel byrddau iechyd lleol. Yn wir, dangosodd arolwg diweddar gan Goleg Brenhinol y Nyrsys, fod 74 y cant o'r staff nyrsio, yn ystod y pandemig hwn, wedi codi pryderon ynghylch cyfarpar diogelu personol a bod dros hanner y staff nyrsio wedi teimlo dan bwysau i ofalu am glaf heb y diogelwch digonol a amlinellwyd yn y canllawiau cyfarpar diogelu personol presennol.  

Y materion systemig hyn yw'r rhai y mae'n rhaid eu hamlygu a'u harchwilio'n llawn gan ymchwiliad cyhoeddus. Felly, i gloi, Llywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein cynnig heddiw ac y gallwn ni ddechrau symud ymlaen a gosod y sylfeini ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw. Mae angen atebion ar bobl Cymru ac maen nhw'n eu haeddu, ac mae'n rhaid i ni ymrwymo i broses sy'n rhoi'r union beth hwnnw iddyn nhw. Diolch.

16:50

Dwi wedi dewis y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os bydd gwelliant 2 yn cael ei dderbyn, yna bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans—Jeremy Miles. 

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu 'wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd'.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu 'ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru'.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Yn ffurfiol. Ac felly dwi'n galw nawr ar Adam Price i gyflwyno gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—Adam Price. 

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Dileu 'ac i'w gwblhau' a rhoi yn ei le 'ac i adroddiad cychwynnol ar ei ganfyddiadau gael ei gyflwyno'. 

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gychwyn ymchwiliad annibynnol yn cydredeg, wedi'i arwain gan farnwr, i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19.

Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4.

Diolch, Llywydd. Nid oes amheuaeth ynghylch yr angen am ymchwiliad COVID yn y ddadl heddiw. Yr hyn y mae'r cynnig a'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno yn ceisio ei wneud yw dod o hyd i'r atebion i gwestiynau eraill ynghylch natur yr ymchwiliad: pwy fydd yn ei benodi, pwy fydd yn ei gadeirio, pryd y bydd yn dechrau, pryd y bydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau? Yn ogystal â'r 'pwy a'r 'pryd', mae cwestiwn ynghylch sut, ac yn benodol, a ddylai hyn fod yn ymchwiliad cyhoeddus statudol a llawn.  

Nawr, gan ddechrau gyda'r 'pwy', mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant sy'n dileu 'dan arweiniad barnwr wedi'i benodi gan Senedd Cymru'. Nawr, nid wyf i'n siŵr a yw'n wrthwynebiad i 'wedi'i benodi gan Senedd Cymru', neu i 'dan arweiniad barnwr', neu i'r ddau. Nawr, rwy'n deall, yn ffurfiol, ers pasio Deddf Ymchwiliadau 2005, mai Llywodraethau sy'n sefydlu ymchwiliadau statudol. Ond rwy'n credu mai ysbryd y cynnig yw bod angen math o ddeialog drawsbleidiol y cyfeiriodd Paul Davies ati ac y cyfeiriodd llythyr yr FT ati ynghylch cylch gorchwyl yr ymchwiliad. Os mynnwch, mae angen consensws cyhoeddus er mwyn rhoi hyder i'r cyhoedd y bydd yr ymchwiliad yn drylwyr ac yn annibynnol. Felly, rwy'n gwahodd y Llywodraeth heddiw i ymrwymo i ymwneud â'r math hwnnw o ddeialog gyda'r gwrthbleidiau, ond hefyd yn ehangach gyda'r cyhoedd a gyda rhanddeiliaid perthnasol ynglŷn â chylch gorchwyl yr ymchwiliad.

Ein barn ni, o gofio difrifoldeb yr ymchwiliad a'r dioddefaint cysylltiedig, yw bod angen i hwn fod yn ymchwiliad cyhoeddus statudol â phwerau i gymell cynhyrchu dogfennau, cymryd tystiolaeth ar lw a gofyn am ddatganiadau gan dystion, mewn ffordd debyg i ymchwiliad Tŵr Grenfell. Mae proses ymchwilgar o'r fath yn gofyn am sgiliau a phrofiad uwch farnwr i'w chadeirio. Ac mae angen dechrau chwilio am y Cadeirydd hwnnw ar unwaith, os nad yw eisoes wedi dechrau, sy'n ein harwain wedyn at gwestiwn amseru.

Mae'n cymryd pedwar i chwe mis, ar gyfartaledd, i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus, a dyna pam mae angen dechrau'r gwaith i'w sefydlu nawr os yw'r sesiynau tystiolaeth i ddechrau eleni. Mae hynny oherwydd bod angen llawer o waith rhagarweiniol i goladu dogfennau a datganiadau, ac ati, fel bod modd i dîm Cwnsel y Frenhines ofyn cwestiynau gwybodus a fyddai'n gweithredu ar ran yr ymchwiliad.  

Bydd adroddiad llawn gan ymchwiliad statudol gwirioneddol gynhwysfawr, wrth gwrs, yn cymryd amser i'w gwblhau. Mae hynny i raddau helaeth oherwydd cymhlethdod pwnc yr ymchwiliad yn yr achos hwn, ond hefyd o ran yr amrywiaeth eang o bobl y bydd angen i'r ymchwiliad wrando arnyn nhw. Mae angen i'r ymchwiliad greu'r amser a'r lle i glywed lleisiau pawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Yn hynny o beth, bydd hwn yn ymchwiliad sy'n wahanol i unrhyw un arall yn hanes ein cenedl ac, wrth gwrs, bydd angen iddo gael ei lywio gan ymchwiliad cyfochrog sydd i'w gynnal ar lefel y DU.

Ond mae rhai cwestiynau yn rhai brys, ac rwy'n credu y byddai'n briodol mabwysiadu'r math o ddull gweithredu graddol a gafodd ei ddilyn yn achos ymchwiliad Tŵr Grenfell. Bydd angen adroddiad interim wedi'i gynhyrchu cyn diwedd tymor y Senedd hon yn nodi ffeithiau'r hyn a ddigwyddodd, pa mor barod yr oeddem ni, pwy oedd yn gwybod a phwy a wnaeth beth o ran yr ymateb cynnar i'r pandemig, a beth yw'r casgliadau interim ar yr hyn y mae angen ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.  

Rydym ni wedi gwneud ein cyfraniad ein hunain fel plaid i'r broses ddysgu hanfodol honno heddiw wrth gyhoeddi adroddiad ar ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, wedi'i ysgrifennu gan y meddyg teulu ac ymgynghorydd iechyd y cyhoedd, Dr Camilla Ducker. Yn sicr fe fyddwn yn wynebu pandemig arall ar ryw adeg, ac efallai y byddwn yn ymdopi â'r un hwn am flynyddoedd lawer i ddod. Bydd ymchwiliad cynnar yn ein helpu ni i wneud y ddau yn fwy effeithiol, ac rwy'n annog y Llywodraeth i'w sefydlu heddiw heb unrhyw oedi pellach.  

16:55

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn dyst i benderfyniad a dycnwch pobl Cymru ac, yn arbennig, i'r nifer fawr sydd wedi bod yn barod i roi eu hunain mewn perygl er gwell, a hoffwn i ddiolch o galon i bob un ohonyn nhw. Dyma'r pandemig cyntaf gwirioneddol fyd-eang mewn mwy na chanrif, ers i ffliw Sbaen daro'r byd wrth i'r rhyfel byd cyntaf dynnu at ei derfyn, ac er bod ein byd ni sydd wedi'i gysylltu'n fyd-eang, yn wahanol iawn, mae'r awydd dwfn i fod gyda theulu a ffrindiau, i weithredu rhwydwaith cymdeithasol, yn parhau i ysgogi'r ddynoliaeth.  

Mae dyfodiad technoleg wedi bod yn gymorth sylweddol, ond rydym hefyd yn bobl sydd wedi ein cyfyngu'n llai, ac nid ydym yn gyfarwydd â chyfyngiadau o'r fath gan y Llywodraeth ar ein hawliau. Mae penderfyniadau anodd wedi'u gwneud, ond rhaid inni asesu'r penderfyniadau hynny a dysgu oddi wrthynt. Rhaid rhannu arferion gorau a chynnal dadansoddiad llawn a gonest o ble'r aeth pethau o chwith, beth a gafodd ei wneud yn dda a sut y gallai pethau newid y tro nesaf y bydd hyn yn digwydd. A dyna pam mae'n rhaid inni gael ymchwiliad gwirioneddol annibynnol wedi'i arwain gan farnwr. Ein hetifeddiaeth fydd rhoi'r mesurau diogelu ar waith i'n plant ac i blant ein plant.

Y cwestiwn cyntaf y dylid ei ofyn mewn ymchwiliad yw a gafodd y cyfyngiadau symud eu gorfodi ar yr adeg iawn. Roedd yn rhaid i lawer o'r penderfyniadau gael eu pennu gan Lywodraeth San Steffan gan fod ein ffin mor dreiddadwy a bod y feirws hwn wedi llifo drwy'r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, roedd rhai penderfyniadau o fewn pwerau Llywodraeth Cymru. Dylai'r adolygiad ystyried a ddylid bod wedi caniatáu i gyngerdd y Stereophonics yn Stadiwm y Mileniwm gael ei gynnal. Daeth degau o filoedd o bobl i ganol y ddinas yn sgil y digwyddiad hwn. Er bod gêm y chwe gwlad, Cymru yn erbyn yr Alban, wedi'i gohirio, dim ond ar y funud olaf oedd hynny, unwaith eto, ar ôl i lawer o gefnogwyr deithio o rannau eraill o Gymru ac o'r Alban.

Ond yn fwy cyffredinol, pa wersi y gallwn ni eu dysgu o'r cyfyngiadau symud? A ddylem ni edrych ar gyfyngiadau symud lleol gwahanol? Ai'r rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m yw'r un fwyaf priodol? Beth yw profiad y rhai sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain? A wnaeth ein cadwyn fwyd ni ymdopi? Os na, pam? A sut, o sut, y cafodd cartrefi gofal eu hanwybyddu yn y brys i ddiogelu ein GIG?

Bydd angen i'r ymchwiliad ystyried a oedd digon o ddarpariaeth a defnydd o gyfarpar diogelu personol drwy gydol yr argyfwng. Byddem ni eisiau i'r ymchwiliad ystyried a oedd digon o gyflenwad yn gyffredinol, ar gyfer pob bwrdd iechyd, awdurdod lleol, cartref gofal preifat, cyhoeddus a gofal preswyl cymysg. Dylai'r ymchwiliad asesu a oedd y defnydd gorau wedi ei wneud o'r cyfarpar diogelu personol ac a oedd hyfforddiant digonol wedi'i ddarparu i sefydliadau prynu a staff rheng flaen, ac yn wir mae angen i'r ymchwiliad adolygu diffiniad 'staff rheng flaen'. Pwy all wadu bod fferyllfeydd wedi bod ar y rheng flaen? Ac eto, roedd eu darpariaeth cyfarpar diogelu personol yn llanast: dim cydlyniant, dim llawer o feddwl y tu ôl iddi, ac yn anodd ei chyrchu. Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae'n ymddangos ein bod mewn gwell sefyllfa o ran cyfarpar diogelu personol, ond roedd diffygion amlwg. Dim ond 24 awr o stoc oedd gan rai sefydliadau ar ôl. Mae angen inni adolygu stociau, opsiynau gweithgynhyrchu a mynediad at gyfarpar diogelu personol, ac a oes gennym ddigon i gynnal unrhyw bandemig pellach neu gyfnodau pellach o gynnydd.

Un o'n prif feysydd eraill sy'n peri pryder yw'r sefyllfa o ran profi yma yng Nghymru, ac mae hwn yn faes allweddol ar gyfer unrhyw ymchwiliad. Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd ar y cychwyn cyntaf mai'r neges allweddol yw 'profi, profi a phrofi '. Ac mae hon yn neges yr wyf i a fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi'i chefnogi erioed. Mae profi yn un o'r elfennau pwysicaf o ran mynd i'r afael ag ymlediad coronafeirws a helpu gwledydd i lacio'r cyfyngiadau symud.

Beth yw'r feirws? Ble mae e? O ble y tarddodd? Sut y neidiodd ef ffiniau? Pa effaith y mae'n ei gael ar wahanol bobl? Ydy e'n newid ac yn datblygu? Beth all ei ladd? Beth all ein diogelu rhagddo? Pam? Pam? Pam? Dyna gwestiynau nad ydym ni wedi ystyried eu gofyn eto heb sôn am eu hateb. Bydd system brofi gynhwysfawr yn darparu data i'n galluogi ni i ateb rhai o'r cwestiynau hyn, ond mae profi yng Nghymru wedi bod yn warthus.

Cafodd targedau eu gosod, eu gwadu a'u gollwng. Roedd gan y Gweinidog iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru uchelgeisiau a nodau gwahanol. Ers dechrau'r argyfwng rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael tîm profi pwrpasol ac atebol, dan arweiniad unigolyn sydd â phrofiad sylweddol o logisteg. Mae angen i'r ymchwiliad edrych ar faint yr her a gallu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni. Dylai'r ymchwiliad edrych ar beth yn union ddigwyddodd gyda'r 5,000 o brofion coll bob dydd. A oedd gan Roche gytundeb ag Iechyd Cyhoeddus Cymru neu a oedden nhw ond mewn cyfnod o drafod rhagarweiniol? Mae angen eglurder ynghylch a oedd gan Lywodraeth Cymru fargen ffurfiol erioed ynteu a oedd honiadau'r Prif Weinidog yn gwbl gywir.

Rhaid i'r ymchwiliad ganolbwyntio ar y rheswm pam, gerbron un o bwyllgorau'r Cynulliad, y gwadodd Pennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyson unrhyw wybodaeth am y targed prawf 9,000 cyn ysgrifennu at y pwyllgor yn ddiweddarach i egluro ei sylwadau. Dylai'r ymchwiliad adolygu pam y gorfodwyd y cyfyngiad o 15 prawf y diwrnod ar awdurdodau ac yna ei godi dim ond ar ôl i adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru ar 18 Ebrill nodi y gallai fod wedi lleihau'r galw. Ai hwn oedd y cam cywir? Beth oedd y syniad y tu ôl i'r terfyn? A ddylai profion fod wedi'u dechrau yn rheolaidd cyn 18 Mawrth? A oedd ffactorau rhyngwladol yn ffactor cyfrannol, fel yr oedd Lywodraeth Cymru wedi'i honni? A gafodd arbenigwyr logistaidd o'r fyddin eu defnyddio yn ddigon cynnar? A ddylai canolfannau profi fod wedi cau ar wyliau banc? Rwy'n croesawu tro pedol Llywodraeth Cymru ar 2 Mai, ond roedd yn fater o beidio gwneud digon mewn pryd.

Pam y cafodd cartrefi gofal eu hanwybyddu er gwaethaf y rhybuddion? Pam na chafodd staff a phreswylwyr eu profi'n rheolaidd? A oedd gennym ddigon o gapasiti labordai? Pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r labordai a oedd ar gael yn gynt? Pam y cymerodd ddiwrnodau i brosesu profion o'r Gogledd a'r Gorllewin? Sut y dylai'r broses hysbysu gael ei symleiddio? Mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ond mae angen i ni ystyried profi o ddifrif. Ac mae angen i'r ymchwiliad edrych hefyd ar gasglu data oherwydd, dan bwysau—

17:00

Angela Burns, rydych chi dros amser erbyn hyn. Os gallwch chi ddod â'ch cyfraniad i ben.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwyf i eisiau dweud bod cymaint i'r ymchwiliad hwn ei ystyried. Mae'n hanfodol ein bod ni'n dysgu'r gwersi wrth symud ymlaen. Nid hwn fydd y pandemig olaf y bydd yn rhaid inni ei wynebu yng Nghymru. Mae angen yr etifeddiaeth honno arnom ni i amddiffyn Cymru, ein plant ni a'u plant nhw.

Rwy'n cefnogi ymchwiliad yn llwyr, ond yn gyntaf rwyf eisiau cofnodi a thalu teyrnged i'r holl weithwyr rheng flaen hynny sydd wedi bod yn ein cadw ni'n ddiogel, ac y byddwn ni'n dibynnu arnyn nhw yn y dyfodol agos a'r dyfodol rhagweladwy, i barhau i wneud y gwaith hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn iawn cofnodi bod pobl wedi cydymffurfio â'r cyfyngiadau a roddwyd arnynt mewn ffordd na fydden nhw wedi'i disgwyl erioed, ac na fyddem ni erioed wedi disgwyl gofyn iddyn nhw wneud hynny.  

Rwy'n cytuno bod angen adolygiad neu ymchwiliad cyhoeddus arnom, ar ba bynnag ffurf, i'r ymdriniaeth o'r pandemig hwn o COVID-19; rwy'n cytuno y bydd yn ein helpu ac yn ein harwain drwy'r posibilrwydd o ymdrin â phandemig arall yn y dyfodol, a hefyd barhau i ymdrin â hyn. Ond rwy'n mynd i ofyn rhywbeth gwahanol o ran yr hyn sydd ger ein bron y prynhawn yma: ble rydym ni'n dechrau'r ymchwiliad hwnnw a ble rydym yn ei ddwyn i ben? Oherwydd, yn ddigon amlwg, mae hynny'n hynod o bwysig.

Rwy'n credu bod yn rhaid inni ei ddechrau drwy edrych ar y cynllun pandemig cenedlaethol a oedd ar waith ac yna a gafodd ei ollwng gan y Llywodraeth Dorïaidd. O ganlyniad i hynny, rydym wedi gweld llawer iawn o ddatganiadau, gan lawer iawn o arbenigwyr, yn gyffredinol, yn dweud nad oedd y DU mewn gwirionedd mewn sefyllfa dda i ymdrin ag unrhyw bandemig. Ac mewn gwirionedd, gwelsom gyhuddiadau gan Weinidogion Torïaidd, yn dweud bod gorymateb a bod gormod o arian yn cael ei wario ar swyddogion San Steffan a oedd yn paratoi ar gyfer cynllun o'r fath, a'u bod wedi gollwng y cynllunio cychwynnol hwnnw. Nawr mae gan hynny ganlyniad; mae ganddo ganlyniad i'r DU gyfan, a dyna pam rwyf yn tynnu sylw ato yma heddiw.

Rwy'n credu bod angen inni hefyd edrych ar arbenigwyr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Johns Hopkins, lle'r oeddent wedi gosod pob gwlad ledled y byd yn ôl eu parodrwydd ar gyfer pandemig. Ac fe wnaethon nhw ddatgan, ar ôl degawd o gyni gan y Torïaid, mai'r DU oedd yr olaf ond un o 195 gwlad, a'r wlad olaf oedd yr Unol Daleithiau. Mae'r holl bethau hyn yn berthnasol gan eu bod i gyd yn gysylltiedig â pha mor barod yr oeddem ni. Felly mae'n weddol amlwg, er fy mod yn cytuno bod angen ymchwiliad arnom, bod angen ymchwiliad hollgynhwysol. Os ydym yn canolbwyntio ar Gymru yn unig, ni fyddwn yn datgelu'r angen dwys a gwirioneddol i ddeall yr achosion, ac ni chawn ni'r atebion priodol drwy anwybyddu pob un o'r agweddau hynny—ac mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu crybwyll yma heddiw.

Mae angen edrych ar y datganiad cynnar iawn ar imiwnedd torfol a wnaed gan Boris Johnson. Yn ddiamau, cafodd imiwnedd torfol, a'r methiant hwnnw i gyfyngu symudiadau yn gynnar iawn, ei roi i'w gynghorwyr allweddol. Pe baem ni wedi cyfyngu symudiadau yn gynharach o lawer, byddai hynny'n wir wedi bod o gymorth. Petai Cymru wedi mynd yn ei blaen a phenderfynu cyfyngu symudiadau ymhell o flaen Lywodraeth y DU, ni allaf ddychmygu am un funud y byddai Llywodraeth y DU wedi rhoi'r arian angenrheidiol i ni gefnogi'r busnesau petaem ni wedi mynd ar ein pen ein hun. Felly, er fy mod yn deall hynny—. Mae Angela Burns wedi rhoi rhestr o rai o'r pethau y gallem ni fod wedi'u gwneud ar ein pen ein hun yn llwyr; un o'r pethau y byddem ni yn amlwg wedi methu ei wneud ar ein pen ein hun, heb gefnogaeth Trysorlys y DU, oedd gofyn i bobl rhoi eu staff ar ffyrlo.

Eto, o ran cyfarpar diogelu personol, rwy'n cael fy atgoffa i ystyried y llwyth a ddaeth o Dwrci, a'r 400,000 darn o gyfarpar diogelu personol a gafodd ei ddychwelyd. Rwy'n sicr y byddai rhywfaint ohono wedi bod ar ei ffordd i Gymru. A chafwyd datganiad mawreddog—gall pob un ohonom gofio ei weld ar y teledu a bod yn falch iawn bod rhywfaint o gyfarpar diogelu personol ar ei ffordd atom, dim ond iddo gael ei roi'n ôl ar yr awyren oherwydd bod methiant llwyr i brofi a fyddai, yn y lle cyntaf, o unrhyw ddefnydd. Roedd yn gwbl ddiwerth. Felly rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y fan hon yw ein hatgoffa ein hunain yn glir iawn o'r holl fethiannau, edrych ar sut a pham y maen nhw wedi digwydd, ac yna—a dim ond bryd hynny—pan fydd gennym ni ymchwiliad hollgynhwysol sy'n ystyried yr holl agweddau, y byddwn ni'n symud ymlaen. Dyna fy marn i, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi hyn heddiw yn y ffordd y mae wedi'i ysgrifennu.

Gallwn ni hefyd —

17:05

David Rowlands. David Rowlands. A ydych chi'n gallu—? Na, nid ydym yn gallu eich clywed chi ar hyn o bryd. Dof yn ôl atoch chi, David, a galwaf ar Russell George.

17:10

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau heddiw, os gallaf i, ar effaith y pandemig ar fusnesau Cymru ac economi Cymru. Rwy'n credu, ar y cyfan, bod pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydweithio'n dda, gan ymdopi â heriau'r pandemig. Ond er i ni ddechrau'n dda gyda'n gilydd, mae problem wedi codi ac mae mor siomedig i mi ein bod yn llacio'r cyfyngiadau symud ar gyflymder gwahanol. I mi, mae hyn yn creu mwy o broblemau, rwy'n credu, nag atebion. Mae'n rhoi busnesau Cymru dan anfantais benodol i'n cymdogion yn Lloegr, wrth gwrs.

Ac i mi, byddai wedi bod yn well pe bai'r DU gyfan wedi bod yn gweithredu mewn ffordd unedig, oherwydd, yn fy marn i, mae'r gwahaniaeth rhwng y dulliau gweithredu yn mynd i ddwysáu dryswch a rhwystredigaeth busnesau, yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli ar hyd y ffin, a bydd nifer ohonom ni yma heddiw yn cynrychioli etholaeth o'r fath. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus ystyried sut mae gwahanol ddulliau ac amserlenni o ran cymorth busnes wedi effeithio ar fusnesau bob ochr y ffin. Gallaf feddwl am rai enghreifftiau—Hafren Furnishers yn fy etholaeth i a sut mae eu cystadleuwyr, ar draws y ffin i bob pwrpas, yn gallu gweithredu ac ni allant hwy.

Ac mae yna enghraifft arall, Llywydd, yn y gwahaniaeth mewn cyfyngiadau ar weithrediadau hedfan gyffredinol yng Nghymru, lle mae cyfyngiadau wedi'u codi yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Ac mae hyn yn golygu bod peilotiaid hedfanaeth gyffredinol sydd wedi lleoli eu hawyrennau ym maes awyr Canolbarth Cymru yn y Trallwng—. Bydd yn rhaid i rai o'r bobl sy'n defnyddio'r maes awyr hwnnw ddefnyddio awyrennau ar feysydd awyr yn Lloegr, a gallai hynny ddigwydd yn barhaol, ac, wrth gwrs, dyna'r pryder i'r maes awyr ac i mi. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni ymddiried mewn busnesau i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain ac o ran eu gallu i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Gan droi at rai materion eraill hefyd, rwy'n siŵr y bydd y gronfa cadernid economaidd yn achubiaeth i lawer o fusnesau, ond nid wyf yn credu bod arian yn cyrraedd y busnesau hynny'n ddigon cyflym nawr,. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog a fydd yn ymateb heddiw ddweud wrthym ni faint o fusnesau sydd wedi llwyddo i gael eu cyllid hyd yma o'r gronfa honno.

Ac rwy'n ymwybodol hefyd bod yna broblem gydag awdurdodau lleol ledled Cymru—mae rhai wedi bod yn rhoi eu grantiau ardrethi busnes yn llawer cyflymach nag eraill. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus hefyd ystyried y gwahaniaeth yn y dull o weithredu rhwng gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru. Oherwydd mae cael yr arian hwnnw'n gyflym i fusnesau, fel y mae rhai awdurdodau lleol wedi'i wneud—gan gynnwys fy un i, a oedd wedi’i wneud yn dda iawn—yn mynd i fod o fantais fawr i'r busnesau hynny, ond nid felly mewn rhannau eraill o Gymru.

Felly, rwy'n credu, hefyd, gyda nifer o fesurau nawr— rydym ni'n sôn am ymchwiliad cyhoeddus yn y dyfodol—yn sicr, rwy'n credu bod bylchau sydd angen eu llenwi ac rwy'n credu ei bod hefyd yn hanfodol bod cam nesaf y gronfa cadernid economaidd yn cael ei symud ymlaen o'r dyddiad o 29 Mehefin yn enwedig. Ac rwy'n credu bod yna feysydd penodol o gymorth busnes y mae dal angen mynd i'r afael â nhw, a byddaf i'n mynd drwyddynt yn fyr: y bobl hunan-gyflogedig diweddar; masnachwyr unigol llai; perchenogion busnes nad ydyn nhw'n cyflogi unrhyw un arall, ond sy'n talu eu hunain mewn difidendau, nad ydyn nhw'n gwmnïau cyfyngedig; ac yn sicr, pecyn hirdymor ar gyfer y sector twristiaeth. Rydym wedi gweld hynny mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid yma yng Nghymru. Felly, rwy'n credu y bydd yn rhaid i hynny fod yn rhan o ymchwiliad cyhoeddus hefyd. Ac, wrth gwrs, cymorth ardrethi busnes i'r busnesau hynny sy'n rhan o safle ehangach.

Felly, gan edrych i'r dyfodol, rwy'n credu hefyd y bydd yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu pecyn parhaus o gymorth nad yw'n gyfyngedig i'r cyfyngiadau symud presennol. Ac er fy mod i'n gwerthfawrogi ein bod ni mewn cyfnod anghyffredin, rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy i roi hwb i adferiad Cymru nawr. Fel arall, rwy'n credu y bydd busnesau Cymru ac economi Cymru dan anfantais sylweddol. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus ystyried sut rydym ni'n ymdrin â chymorth busnes nawr o'i gymharu, yn sicr, â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.  

17:15

A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, nad oes gennyf i wrthwynebiad i'r syniad o ymchwiliad? Rwy'n credu na ellir osgoi hynny. Fe fydd yna gwestiynau y mae'n rhaid eu gofyn, a rhai cwestiynau y bydd angen ateb arnyn nhw. Rwyf i o'r farn fod hynny'n wir am bob un o lywodraethau'r DU. Felly, nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad i gyfeiriad y cynnig, ond rwy'n amau'n gryf iawn nad hon yw'r ffordd iawn o wneud hynny.

Yn gyntaf, hyd y gwn i, nid oes gan y Senedd hon mo'r gallu i gychwyn ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, sef yr hyn yr wyf i'n credu i'r Aelodau awgrymu eu bod yn ei ddymuno. Ac nid wyf i'n credu ychwaith fod y ffaith ei fod yn nwylo'r Senedd hon yn ei gwneud yn llai, nac yn fwy annibynnol, nag y byddai pe bai yn nwylo'r Llywodraeth. Diogelir annibyniaeth yr ymchwiliad gan y barnwr neu'r sawl sy'n arwain yr ymchwiliad, nid y sawl sy'n ei sefydlu yn y lle cyntaf. Fe fyddai angen pleidlais ar y telerau a'r amodau, fe fyddai angen pleidlais ar y ffordd y byddai'r ymchwiliad yn cael ei sefydlu, ac fe fyddai yna bleidlais ar bwy fyddai cadeirydd yr ymchwiliad. Felly, nid wyf i'n credu ei bod hi'n realistig nac yn synhwyrol i hyn fod yn ffurfiol yn nwylo'r Senedd hon, er fy mod i'n derbyn y pwynt ei bod hi'n bosibl iawn y bydd angen trafodaeth yn y dyfodol rhwng y pleidiau o ran sut y gallai hyn weithio.

A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, rhaid wynebu hyn, nad dadl mo hon am gael ymchwiliad? Dadl yw hon heddiw ar gyfer gwneud a sgorio pwyntiau gwleidyddol. Fe allwn innau hefyd eistedd yn y fan hon a dweud, 'Wel, ydym, rydym yn awyddus i wybod pam oedd Llywodraeth y DU mor gyndyn i atal pobl rhag dod i mewn i'r wlad? Pam cyflwyno'r rheol cwarantin o 14 diwrnod sy'n ymddatod ar hyn o bryd? Pam mae'n iawn teithio 260 milltir os ydych chi'n gynghorydd arbennig a 60 milltir arall i roi prawf ar eich llygaid os ydych chi'n gyrru? Pam, er enghraifft, ledled y DU, neu yn Lloegr yn hytrach, y cafwyd targed dyddiol o 100,000 o brofion a gafodd ei ollwng, oherwydd na chafodd y targed hwnnw ei gyrraedd? A hyd yn oed wedyn roedd hwnnw'n cynnwys profion, wrth gwrs, a oedd wedi cael eu hanfon allan ond na chafodd eu cwblhau mewn gwirionedd.' Mae pob math o gwestiynau sy'n gofyn am atebion. Ar gyfer y dyfodol y mae hynny.

Ond gadewch imi ganolbwyntio, ar ôl gwneud y pwyntiau hynny, ar yr agweddau cyfreithiol yn y cyswllt hwn a rhai ymarferol efallai. Nid dyma'r amser i ddechrau paratoi ar gyfer ymchwiliad. Rydym ynghanol argyfwng. Nid yw'n syniad da i swyddogion fod yn ystyried sefydlu ymchwiliad ar yr un pryd ag ymdrin â'r argyfwng gwaethaf a wynebodd unrhyw un ohonom erioed. Nid dyma'r amser i ddechrau ystyried sefydlu ymchwiliad i rywbeth nad yw wedi dod i ben hyd yn oed. Mae'n rhaid ichi gadw mewn cof ei bod yn bosibl—rydym ni'n gobeithio nad felly, ond mae'n bosibl—y gwelwn ni ail benllanw ym mis Hydref. Mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n dal i ymdrin â hyn adeg y Nadolig. Ni ellir sefydlu ymchwiliad i adrodd erbyn mis Mawrth ar y mater hwn, hyd yn oed pe byddai hwnnw'n dechrau heddiw oherwydd—. Fe soniodd Adam Price am ymchwiliad Grenfell. Wel, fe ddechreuodd hwnnw ar ei waith ar 4 Mehefin 2018. Fe gymerodd 16 mis i lunio dim ond canfyddiadau rhagarweiniol i gam un. Fe gymerodd sawl mis i'w sefydlu. Nid yw'r pethau hyn yn digwydd dros nos; maen nhw'n cymryd amser maith iawn i'w sefydlu ac amser maith iawn i roi'r broses yn ei lle ac amser maith i glywed yr holl dystiolaeth. Nid oes gobaith o gwbl y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn adrodd yn ôl cyn mis Mawrth. Gellid cael rhywbeth ffwrdd â hi, ond nid ymchwiliad cyhoeddus. Ni allai unrhyw ymchwiliad a fyddai'n cyflawni'r hyn y gofynnodd yr Aelodau amdano gyflwyno adroddiad erbyn hynny. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n werth gwneud y pwynt hwnnw.

O ran cynnig y Ceidwadwyr, wel, oni bai eich bod yn barod i ohirio'r etholiadau tan ddyddiad amhenodol, yna nid oes modd gwarantu y byddai'r canfyddiadau gyda ni erbyn mis Mawrth. Ni fyddai'r un barnwr rhesymol yn ystyried llywio ymchwiliad fel hwn pan fyddai rhywun y dweud wrtho, 'Bydd yn rhaid ichi gyflwyno eich tystiolaeth a llunio adroddiad mewn dau fis, i bob pwrpas.' Ni wnaiff hynny ddigwydd. Gadewch inni fod yn realistig: nid hon yw'r ffordd iawn. Er y cynhelir ymchwiliad rywbryd—nid wyf i'n amau hynny—nid oes unrhyw ffordd o allu gwneud hynny cyn mis Mawrth.

Fe fyddwn i'n annog y Ceidwadwyr yn y Cynulliad i beidio â chwarae gwleidyddiaeth yn hyn o beth. Rydym wedi gweld eu ASau nhw'n gwneud hynny—llythyr arall ddoe. Fe aeth hynny i lawr yn wael, credwch chi fi. Dro ar ôl tro, rwyf wedi clywed pobl yn dweud, 'Beth sydd a wnelo hyn â nhw?' a 'Pam maen nhw'n canolbwyntio ar hynny ac nid ar ymdrin â'r feirws?' Os ydyn nhw'n dymuno ysgrifennu eto, wel eu busnes nhw yw hynny. Ond, credwch chi fi, ni wna hynny unrhyw les o gwbl iddyn nhw.

Yr ail fater yw—rwy'n edrych ar y cloc, Llywydd—os bydd ymchwiliad o dan y Ddeddf Ymchwiliadau yng Nghymru yn unig, yna bydd yn rhaid iddo fod yn cydredeg ag ymchwiliad sy'n digwydd yn y DU. Cofiwch, nid wyf yn credu bod y pŵer yn bodoli, hyd yn oed ar ran Llywodraeth Cymru, i orfodi tystion o'r tu allan i'r meysydd datganoledig: yr heddlu, yr Asiantaeth Ffiniau, yr holl bobl hynny y byddai unrhyw ymchwiliad yng Nghymru yn awyddus i glywed ganddyn nhw, ond a fyddai'n gallu penderfynu, ar gyfarwyddyd o Lundain, i beidio â rhoi tystiolaeth, ac ni fyddai dim y gallem ni ei wneud yn ei gylch. Mae'n anochel, yn fy marn i, er mwyn cael y darlun llawnaf posibl, fod yn rhaid cael ymchwiliadau yn cydredeg yn Lloegr neu'r DU ac yng Nghymru ar yr un pryd er mwyn cael y math o atebion y byddai pobl yn awyddus i'w clywed.

Felly, i mi, mae'n rhaid dweud, nid oes gobaith cael unrhyw fath o ganfyddiadau erbyn mis Mawrth, hyd yn oed pe gallai ymchwiliad o'r fath ddechrau yfory nesaf, trwy ryw ryfedd wyrth. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw tryloywder. Yr hyn sy'n bwysig yw bod ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ryw adeg—nid wyf i'n amau hynny—ond mae'n rhaid iddo fod yn ymchwiliad llawn a phriodol ac nid yn rhyw fath o lys cangarŵ ar ras, oherwydd nid yw pobl Cymru yn haeddu dim llai na hyn.

17:20

Rwy'n diolch i'r Blaid Geidwadol am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon i'r cyfarfod llawn, ac a gaf i adleisio'r sylwadau a wnaeth Joyce Watson ac Angela Burns ynglŷn â staff rheng flaen a'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud drwy gydol yr epidemig coronafeirws hwn? Nid ydym yn sôn am ymchwiliad i'w hymddygiad nhw; rydym yn sôn am ymchwiliad i ymddygiad llywodraethau'r DU.

Mae'n bwysig inni ddangos i'r cyhoedd ein bod ni'n barod—a defnyddio'r ystrydeb honno y mae'r gwleidyddion yn hoff ohoni—i ddysgu gwersi. Rydym ni'n cefnogi'r cynnig hwn ac yn gobeithio y bydd y Senedd yn dangos aeddfedrwydd i gydnabod yr angen am ymchwiliad, nid ar gyfer pwyntio bys, ond i geisio dod o hyd i'r hyn a wnaed yn effeithiol—ac roedd yna lawer o bethau—ond i dderbyn bod llawer o bethau eraill y gellid bod wedi eu gwneud yn well nid yn unig gan Lywodraeth Cymru , ond gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd.

Mae'n hanfodol bwysig nad ydym ni'n gwneud yr un camgymeriadau y tro nesaf, ac mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym y bydd argyfyngau o'r fath eto. Drwy gydol yr argyfwng hwn, dywedwyd lawer gwaith mae amseroedd digynsail yw'r rhain. Wel, nid yw hyn yn wir mewn gwirionedd—fe gafwyd rhybuddion mor ddiweddar â 2016. Rhybuddiodd Sefydliad Iechyd y Byd mai coronafeirws sy'n gysylltiedig â SARS a fyddai achos tebygol epidemig yn y dyfodol. Roedden nhw'n annog llywodraethau i gynllunio i gael profion diagnostig a datblygu brechlynnau. Ac eto ni wnaed dim am hynny. Fe wnaethom ni yn y DU fethu â rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod holl asiantaethau'r GIG wedi cael eu harfogi â'r diogelwch angenrheidiol y byddai ei angen arnynt.

Mae'n anffodus bod gwleidyddiaeth ar ei gwaethaf wedi ymddangos mewn rhai agweddau ar y ffordd yr ymdriniwyd â'r argyfwng hwn. Roedd yr awydd ymddangosiadol yn y Llywodraethau datganoledig i fynnu eu hawdurdod eu hunain, ar brydiau, yn ymddangos fel ystryw i elwa ar ddiffygion Llywodraeth y DU, yn hytrach na gweithredu gydag unffurfiaeth ledled y gwledydd. Weithiau, roedd yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ailgodi Clawdd Offa o ochr Cymru yn hytrach na gweithredu fel Llywodraeth ymrwymedig i'r Deyrnas Unedig.

Mae'r rhybuddion yno: fe fydd pandemigau fel hyn yn digwydd eto, ac o bosibl yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, sy'n golygu ei bod yn sylfaenol bwysig y bydd yna archwiliad o'r bôn i'r brig ynghylch pam roeddem ni mor gyndyn i baratoi er gwaethaf y rhybuddion. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny i raddau helaeth, ond mae yna lawer o feysydd lle'r ydym ni yng Nghymru hefyd wedi bod yn wan.

Mae'n rhaid ei bod hi'n amlwg i bawb na all y wlad, unrhyw wlad mewn gwirionedd, roi cyfyngiadau symud llwyr yn y modd sydd gennym ni nawr, fel yr ydym ni'n tystio iddo, ar sail reolaidd. Mae'r costau economaidd yn rhy uchel o lawer. Bydd ieuenctid y wlad hon yn talu am y pandemig hwn mewn trethi uwch am flynyddoedd i ddod, am ddegawdau efallai. Bydd yn rhaid gwrthweithio'r pandemigau hyn mewn rhyw ffordd arall.

Mae'n ffaith mai dim ond trwy wyddoniaeth y byddwn ni'n gallu osgoi canlyniadau trychinebus pandemigau ar raddfa mor fyd-eang. O gofio bod gennym ni yma yng Nghymru rai o'r cyfleusterau gorau yn y byd ar gyfer ymchwil yn y meysydd hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu'r sefydliadau hynny a rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ledled y DU fel y gallwn ni yng Nghymru aros ar flaen y gad ym maes ymchwil o'r fath.

Llywydd, gwyddoniaeth, ac nid cyfyngiadau symud, yw'r unig ateb i bandemigau feirysol.

Mark Isherwood, a wnewch chi aros am eiliad? Iawn, fe gewch chi ddechrau nawr, Mark.

Diolch. Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Vaughan Gething fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar reoli coronafeirws yn cael ei gefnogi gan fwyafrif llethol y cyhoedd,. Felly, gadewch i mi ddryllio eu camargraffiadau nhw drwy ddyfynnu o rai o'r cannoedd o negeseuon e-bost a anfonwyd ata i sy'n dweud yn wahanol. Ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, gosodwyd yr olygfa gan bobl wedi'u hynysu yn dweud nad oedd nemor ddim gwybodaeth yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru; roedd y cyfan yn dod o San Steffan, a bod angen i Mr Drakeford, rwy'n dyfynnu, dynnu'r ewinedd o'r blew.

Ysgrifennodd Cymorth i Fenywod Cymru at y Dirprwy Weinidog i fynegi bod angen neilltuo arian ar frys i wasanaethau sy'n darparu cymorth ledled Cymru mewn achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Er gwaethaf gohebiaeth flaenorol, roedden nhw'n dweud na chafodd hwnnw ei ddarparu hyd yma. Ddoe, dywedasant wrth y pwyllgor mai arian sy'n bodoli eisoes yw'r arian a gyhoeddwyd hyd yn hyn.

Ysgrifennodd Hourglass Cymru, sef yr hen Gweithredu ar Gam-drin Pobl Hŷn, i fynegi eu bod nhw'n wynebu argyfwng oherwydd maint y gefnogaeth y gofynnir iddyn nhw ei darparu. Wrth ymateb i alwad Llywodraeth Cymru am lonydd beicio dros dro a lledu palmentydd, ysgrifennodd Cŵn Tywys Cymru ac RNIB Cymru y gallai unrhyw elfen newydd annisgwyl ar y strydoedd eu rhoi nhw mewn perygl.

Pan godais i bryder RNIB Cymru fod pobl ddall neu rannol ddall yn cael trafferth wrth gael eu negeseuon bwyd, atebodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mai dim ond y rhai a nodir fel unigolion a warchodir sy'n cael blaenoriaeth.

Ysgrifennodd busnesau gwely a brecwast, 'Rebecca Evans, os na chawn ni'r grant atodol, fe fydd ein busnes ni'n dod i ben. Mae'r sylwadau a wnaeth Ken Skates yn rhai sarhaus ac yn ein diystyru ni, yn y bôn, fel busnesau di-nod, dibwys sy'n chwarae ennill bywoliaeth'.

Ac, yn anffodus,

'Mae diffyg gweithredu gan Ken Skates yn cefnogi'r ddadl yn erbyn datganoli'.

Ysgrifennodd busnesau llety gwyliau i ddweud bod canllawiau Llywodraeth Cymru nid yn unig yn annheg, ond yn gwahaniaethu'n glir yn erbyn busnesau llety wyliau. Ni chafwyd unrhyw ymgynghori â'r diwydiant, ac, yn anffodus, mae ganddynt ddiffyg hyder amlwg yn ymateb Llywodraeth Cymru.

Ysgrifennodd busnes parc gwyliau, 'Mae'r rhain yn ddyddiau blin ac rwy'n ymbil dros ddyfodol fy musnes i. Fe wnes i gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig brys i'r Prif Weinidog ar 30 Ebrill yn gofyn iddo ymateb i alwadau gan y British Holiday & Home Parks Association Ltd am gynllun arbennig i gefnogi busnesau twristiaeth yng Nghymru. Ar wahân i'r ymateb dros dro, ni chafwyd ateb hyd yn hyn'.

Ysgrifennodd practisau deintyddol i fynegi bod Lloegr, Iwerddon a'r Alban wedi dechrau cynllunio ar gyfer ailagor practisau deintyddol gyda phrotocolau newydd llym, ac nad oes unrhyw reswm pam na ddylid ailagor practisau deintyddol Cymru cyn gynted ag y byddan nhw wedi paratoi yn llawn.

Cartref nyrsio, a ysgrifennodd, 'Rwy'n pryderu'n ddirfawr ynglŷn â sut yr ymdriniwyd ag argaeledd cyfarpar diogelu personol a chynhyrchion hylendid iechyd yn y sector gofal ac mae'n dal i gael ei reoli'n chwerthinllyd,' ac ysgrifennodd eto i ddweud bod pump o'r trigolion wedi marw oherwydd COVID-19 ac nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfrannu'r un ddimai goch hyd yma tuag at yr argyfwng COVID-19.

Ysgrifennodd etholwr,

'Mae gen i gyfaill a oedd i fod cael tynnu ei aren ddechrau mis Ebrill—oherwydd canser—ac fe gafodd hynny ei ohirio. Mae'n dal i ddisgwyl ac mae'n wael iawn erbyn hyn. Er gwneud dau gais, ni all fy ngwraig gael sgan na phelydr-x ar gyfer rhywbeth a allai fod yn ddifrifol'.

Ysgrifennodd practisau milfeddygol fod y proffesiwn milfeddygol wedi cael ei esgeuluso hyd yma. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £6.3 ar gyfer hosbisau, ond mae'n derbyn £12 miliwn o arian canlyniadol o ymrwymiad Llywodraeth y DU i ariannu hosbisau yn Lloegr, ac fe ysgrifennodd hosbisau,

'Nid ydym o hyd yn gwybod sut y gwnaiff Llywodraeth Cymru ddyrannu'r £5.7 miliwn ychwanegol, ond mae'n ymddangos yn annhebygol iawn y caiff hwnnw ei drosglwyddo. Pe byddai'r argyfwng yn para llawer mwy, yna fe fydd yr hosbisau mewn trafferthion'.

Mae e-byst diweddar yn cynnwys y canlynol.

'Fe'n siomwyd ni, fel y rhan fwyaf yn y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru, gan gyhoeddiad Mark Drakeford, nad ydyw'n cynnig fawr ddim gobaith i'n sector ni sydd eisoes wedi gweld difrod mawr'.

'Mae fy nghydweithwyr i sy'n gwerthu tai yn Lloegr yn hynod brysur erbyn hyn, ac yn helpu llawer iawn ar yr economi, tra ein bod ni yn y Gogledd yn parhau i fod â chyfyngiadau symud. Fe allem ni agor yn hawdd gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol'.

'Gwan fu ymateb y Prif Weinidog, a dryslyd, ac yn sicr yn canolbwyntio ar Gaerdydd a'r De',

a,

'Mae'n ddigon brawychus i fod yn byw drwy'r pandemig hwn, ond mae'r llanast a wnaeth Mark Drakeford a Vaughan Gething a'r lleill wrth reoli a gwleidyddoli'r argyfwng yn droseddol'.

Pob un o'r rhain yn ddyfyniadau gwirioneddol. Drwy geisio dirymu ein cynnig ni heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn dangos nad ydyn nhw byth yn wir wedi dirnad y sefyllfa.

17:25

Gaf i ddweud i ddechrau ei bod hi'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, cael y balans yn iawn yn ein sgrwtini rhwng edrych ar beth sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig yma ac edrych ymlaen ar y camau sy'n dal angen eu datblygu er mwyn gwarchod y cyhoedd. Dwi wedi clywed rhai'n awgrymu eto heddiw beth bynnag sydd wedi digwydd, pa bynnag gamgymeriadau gafodd eu gwneud gan Lywodraethau, wel, dyna ni, mi gawn ni ofyn hynny rywbryd eto; canolbwyntiwch yn unig ar beth all gael ei wneud rŵan.

Yn gyntaf, mae'r rhai sydd yn gwneud sylw fel yna, dwi'n meddwl, yn amlwg yn cymryd yn ganiataol y bydd yna ymchwiliad, ac mi fydd yna, fel y dywedodd Adam Price yn gynharach, does yna ddim cwestiwn ynglŷn â'r angen am ymchwiliad. A dweud y gwir, mi fydd angen ymchwiliadau ar sawl lefel. Ond, dwi ddim yn meddwl bod modd gwahanu cweit mor hawdd â hynny yr hyn sydd wedi digwydd efo beth sydd ar ôl i'w ddysgu a beth sydd ar ôl i'w wneud. Y cynharaf dŷn ni'n gallu dysgu rhai gwersi, y gorau, achos mae'r pandemig yn parhau ac mi fydd efo ni am sbel; mae'r risg yn dal yn sylweddol ac mi fydd am sbel. Mae yna sôn, wrth gwrs, am o leiaf ail begwn o'r pandemig yn y misoedd i ddod, a dyna pam y gwnaeth Plaid Cymru gynnig wythnosau yn ôl erbyn hyn y dylai'r gwaith ar sefydlu ymchwiliad wedi'i arwain gan farnwr ddechrau ar unwaith, a bod gwerth gwirioneddol i hynny, yn ychwanegol wrth gwrs at y gwaith sgrwtini dŷn ni'n ei wneud fel Senedd.

Yr awgrym gan y Llywodraeth, yr awgrym gafodd ei wneud gan y Prif Weinidog heddiw, oedd y buasai barnwr a'i dîm yn mynd o dan draed rywsut, yn cael yn y ffordd, yn amharu ar y gwaith ymarferol o frwydro pandemig. Dwi'n ddigon hyderus y byddai tîm ymchwil yn gallu gweithredu mewn ffordd sydd nid yn unig ddim yn ymyrryd efo'r gwaith, ond fyddai'n gallu helpu yn yr hir dymor drwy gael gwybodaeth real-time o beth sy'n digwydd.

Does neb yn awgrymu bod sgrwtini ganddon ni yn cael yn ffordd y gwaith o ddelio efo'r pandemig; mae sgrwtini yn bwysig. Mi fyddai ymchwiliad o'r math yr ŷm ni'n sôn amdano yn gallu cynnig canllawiau ar gyfer unrhyw bandemig arall; hefyd, dim cweit mewn real time yn y ffordd dŷn ni'n ei wneud o fel Senedd, ond i amserlen llawer, llawer tynnach nag y mae'r Llywodraeth i weld yn dymuno'i weld yn digwydd, ac y byddai yna adborth yn dod yn ôl ar gyfer tonnau neu peaks hwyrach o'r pandemig yma.

Mi fyddai angen, wrth gwrs, ymchwiliadau i fethiannau hysbys iawn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhedeg ochr yn ochr efo heddiw. Dwi'n gobeithio cawn ni gefnogaeth i welliant 4 yn enw Siân Gwenllian heddiw, sy'n gwneud y pwynt hwnnw, ond sôn ydyn ni fan hyn am edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru, yn benodol, yn ogystal â'r cydlynu sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a Whitehall. Dŷn ni ym Mhlaid Cymru, fel dŷn ni wedi clywed, wedi comisiynu a chyhoeddi gwaith ymchwil yn barod sy'n adnabod nifer fawr o gwestiynau eithaf sylfaenol, ac mae rhai o'r rheini yn berthnasol er mwyn dysgu gwersi o fewn y pandemig ar gyfer peaks eraill. Os oedd Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o operation Cygnus yn 2016 cyn dechrau'r pandemig yma, ydyn nhw o leiaf yn gallu dangos eu bod nhw wedi dysgu ohonyn nhw erbyn rŵan?

Mi fydd angen gwybod pa effaith a gafodd teithio rhyngwladol i mewn i Gymru ar ddechrau’r pandemig yma er mwyn gwybod pa effaith all hynny gael ar ail don bosib, pan fydd teithio rhyngwladol wedi dechrau mwy yn sicr nag y mae o ar hyn o bryd. Mae angen dysgu o'r arafwch oedd yna i godi'r lefel risg er mwyn gallu ymateb yn gynt y tro nesaf. Mae yna dystiolaeth glir bod lockdown wedi ei alw yn rhy hwyr; mi all fod angen galw lockdown eto yn y dyfodol, a'r tro yma, byddai angen gwneud yn gynt. Mi allai'r mathau yna o benderfyniadau fod angen eu gwneud o fewn misoedd, felly mae pobl angen hyder bod gwersi wedi cael eu dysgu'n barod.

Mi benderfynodd Llywodraeth Cymru i beidio dilyn rhai o ganllawiau mwyaf sylfaenol y WHO. Dŷn ni angen gwybod pam, a phryd maen nhw'n meddwl mai canllawiau'r WHO ydy'r rhai i'w dilyn, a phryd dŷn nhw ddim. Nid er mwyn gallu pwyntio'r bys rywbryd yn y dyfodol pell, ond er mwyn gallu dysgu gwersi rŵan. Mae yna gwestiynau am strategaeth gyfathrebu'r Llywodraeth am sut i roi hyder i bobl mewn prosesau rhannu PPE, er enghraifft; hynny ydy, hyd yn oed os ydy'r Llywodraeth yn hyderus, 'Ydyn, dŷn ni wedi dysgu gwersi o'r dyddiau cynnar,' mae yna fudd go iawn mewn rhoi'r hyder yna i'r cyhoedd, ac wrth gwrs i weithwyr allweddol. Mi allwn i fynd ymlaen; y pethau byr dymor rydyn ni eisiau atebion iddyn nhw ydy'r rheina. Pan ddaw hi i'r tymor canolig a'r hir dymor, wrth gwrs, mae'r rhestr o gwestiynau yn llawer, llawer hirach: beth aeth o'i le efo profi? Beth aeth o'i le efo PPE a'r paratoi am bandemig o'r math yma ac ati? 

Dŷn ni angen ymchwiliad wedi'i arwain gan farnwr. Dŷn ni angen iddo fo ddechrau cyn gynted â phosibl. Dŷn ni angen iddo fo adrodd yn ôl mewn ffyrdd interim yn fuan er mwyn dysgu gwersi yn fuan, er y bydd ymchwiliad llawn, wrth gwrs, yn cymryd hirach, a dyna pam cyflwyno gwelliant 3 heddiw. Mae angen ymrwymiad digwestiwn y Llywodraeth, dwi'n meddwl, i hynny, er mwyn rhoi, fel dwi'n dweud, hyder i'r cyhoedd.

17:35

Mae'n rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus sy'n annibynnol. Mae'n ddyletswydd arnom oherwydd y rhai a fu farw ac i'r staff rheng flaen sydd wedi rhoi eu bywydau yn y fantol yn yr argyfwng hwn. Ond, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod ar sail y pedair gwlad, gan gynnwys archwiliad trwyadl o'r ymdriniaeth yng Nghymru, ac oherwydd i'r holl benderfyniadau cychwynnol allweddol gael eu gwneud ar sail y pedair gwlad. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud droeon, fe ddechreuwyd ar y cyfyngiadau symud ar yr un pryd ac mae eisiau inni ddod â'r cyfyngiadau hynny i ben gyda'n gilydd os oes modd, ac yna fe ddylem ddysgu'r gwersi gyda'n gilydd hefyd.

Y cwestiwn cyntaf y dylai unrhyw ymchwiliad cyhoeddus edrych arno yw pam na ddigwyddodd y cyfyngiadau symud yn gynharach. Fe fydd y lluniau hynny o ŵyl Cheltenham wedi eu serio ar feddyliau'r cyhoedd am flynyddoedd i ddod. Fel y dywedodd Angela Burns, yng Nghymru, roedd gennym gyngerdd mawr gan y Stereophonics, ac yng Ngwent, gêm rygbi fawr rhwng y Dreigiau a Benetton ychydig ddyddiau cyn y cyfyngiadau symud. Roeddem yn gallu gweld yr hyn a oedd yn digwydd yng ngweddill Ewrop, ac mae'n amlwg bod newid cyfeiriad wedi digwydd, ond yn rhy hwyr yn fy marn i. Mae'r cwestiynau hyn a rhai eraill yn haeddu atebion, ac atebion gwirioneddol o ran hynny, nid y math yr ydym ni'n gyfarwydd â gweld Matt Hancock yn eu rhoi yn y sesiynau briffio dyddiol i'r wasg.

Rydym ni ymhell i ffwrdd o fod yn barod i gynnal ymchwiliad priodol. Mae angen canolbwyntio heddiw, yfory ac yn y dyfodol rhagweladwy ar achub bywydau, gan leihau effaith COVID-19 ar ein cymunedau a chyflwyno normalrwydd newydd yn ddiogel yn ein bywydau ni i gyd. Yn ôl unrhyw fesur, rydym ymhell i ffwrdd o sicrhau hynny. Nid wyf i, felly, am gefnogi cynnig y Torïaid heddiw, na allasai fod yn fwy digywilydd yn ei wleidyddiaeth pe byddai wedi ei ysgrifennu mewn geiriau glas a'i selio â rhosglwm glas. Drwy nodi'r etholiad nesaf fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, rydych chi'n dweud, yn syml, eich bod chi'n dymuno gwneud hon yn frwydr wleidyddol, ac nid yn ymarfer dysgu gwirioneddol a fydd yn achub bywydau. Fe fyddai tynnu sylw oddi wrth y bobl hynny sy'n brwydro yn erbyn y pandemig ar hyn o bryd drwy eu cael nhw i mewn i sefyllfa o ymchwiliad cyhoeddus nawr, wrth i'r pandemig barhau i fod yn angheuol, yn resynus o anghyfrifol. Fe fyddai'n debyg i gadw awyrennau Spitfire a Hurricane ar y ddaear ynghanol y Battle of Britain ar gyfer trafod cynlluniau hyfforddiant peilotiaid i'r dyfodol.

Oes, mae yna bethau y gallwn ni eu dysgu wrth fynd ymlaen, ac mae gan bwyllgorau'r Cynulliad swyddogaeth hanfodol wrth graffu ar yr ymateb i'r COVID ar sail barhaus. Rwy'n falch fod y ddau bwyllgor yr wyf i arnyn nhw wedi ymrwymo i wneud hynny mewn ffordd egnïol. Nid oes dim synnwyr yn fy meddwl i fod unrhyw un yn ffoi rhag craffu. Yn wir, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando'n ofalus ar farn y pwyllgorau, ac anwesu ein hargymhellion ni'n wirioneddol fel cyfle i ychwanegu gwerth a gwella'r ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Un o'r unig bethau synhwyrol a ddywedodd Dominic Cummings erioed oedd ei fod ef wedi gwneud camgymeriadau'n ddyddiol yn ystod yr argyfwng hwn. Ac felly, do, fe fu camgymeriadau yng Nghymru hefyd, ac mae'n rhaid inni ddysgu oddi wrthyn nhw. Ond nid oes un foment wedi bod yn y pandemig hwn y bu i mi amau am eiliad hyd yn oed nad prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru oedd diogelwch fy etholwyr i a phawb arall yng Nghymru. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallai neb ei ddweud mewn difrif am Lywodraeth y DU, ac rwy'n credu y dylem weld y cynnig hwn heddiw am yr hyn ydyw—ymgais ryfygus i dynnu sylw oddi wrth hynny. Diolch.

Diolch, Llywydd. Gaf i ddechrau gan fod yn gwbl ddiamwys ar y cwestiwn canolog wrth wraidd y cynnig? Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu ymchwiliad cyhoeddus ac annibynnol a fydd yn gallu edrych ar sut yr ydyn ni ac eraill wedi ymateb i'r pandemig hwn. Mae'r amgylchiadau mae pob un ohonom ni wedi bod yn byw trwyddyn nhw yn ystod y misoedd diwethaf mor arwyddocaol fel y bydd hynny yn gwbl briodol ac yn angenrheidiol.

Mae coronafeirws wedi effeithio ar bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol a'r byd i gyd mewn gwahanol ffyrdd. Does dim amheuaeth bod gwersi i'w dysgu, pethau y gallwn ni eu gwella, a chamau y gallwn ni eu cymryd i ddiogelu pobl yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Y flaenoriaeth bresennol, wrth gwrs, yw inni ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng, ac rwy'n achub ar y cyfle i danlinellu ein neges i bobl Cymru. Fe wnaeth y Prif Weinidog gyhoeddi canlyniad ein hadolygiad un diwrnod ar hugain ddiweddaraf ddydd Gwener. Rŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl Cymru allu cwrdd â'u ffrindiau a'u teulu, ac rŷn ni'n gwybod mai ychydig iawn o sgôp sydd i lacio'r cyfyngiadau. Rydyn ni wedi dewis llacio'r cyfyngiadau yn ofalus i ganiatáu mwy o ymweliadau lleol, gan ddefnyddio ardal o 5 milltir fel canllaw i bobl allu dechrau gweld ffrindiau a theulu unwaith eto.

Llywydd, rydym yn parhau i fod, mewn llawer ffordd, yn nyddiau cynnar yr achos hwn o coronafeirws. Hyd nes y cawn ni feddyginiaethau effeithiol ac, ymhen amser, gobeithio, frechlyn effeithiol, fe fydd yn rhaid inni ganolbwyntio ar ymdrin â choronafeirws fel argyfwng iechyd cyhoeddus.

Mae'r cynnig yn nodi nad yn awr yw'r amser i gynnal unrhyw ymchwiliad, a bod y bobl a fyddai'n rhoi tystiolaeth i ymchwiliad yn canolbwyntio'n llwyr ar ymgodymu â'r argyfwng presennol, ac rwy'n disgwyl y bydd hynny'n wir am gryn amser eto. Fe wyddom ni, o brofiad pandemigau eraill, ei bod yn ddigon posibl y byddwn wedi cyrraedd y flwyddyn nesaf cyn inni allu dweud gyda hyder ein bod wedi cefnu ar y gwaethaf; ond amser a ddengys wrth inni drafod heddiw.

Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb, ac wedi gwneud hynny, yn destun balchder i mi ac rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am eu hymateb nhw. Mewn nifer o ffyrdd, mae'r argyfwng hwn wedi ennyn y gorau ym mhobl pob un o'n cymunedau ni wrth iddyn nhw wynebu'r adfyd hwn gyda'i gilydd. Ond, wrth gwrs, mae yna wersi i'w dysgu a meysydd i'w gwella, ac rydym yn cymryd camau o fewn Llywodraeth Cymru i wneud hynny o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos wrth ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng.

Llywydd, mae angen sefydlu ymchwiliad annibynnol. Fe ddylai hwnnw ddigwydd ar yr amser priodol, a dyma'r egwyddorion allweddol a ddylai fod yn ein tywys ni wrth ei sefydlu: bydd ymchwiliad yn fwyaf effeithiol o ran deall y digwyddiadau a'r camau a gymerwyd, pe bai'n cynnwys holl weinyddiaethau'r DU. Mae'r pandemig hwn wedi effeithio ar bob rhan o'r DU, a gwnaed llawer o benderfyniadau ledled y pedair gwlad. Mae llawer o'r ymateb i'r pandemig wedi ei reoli, a hynny'n briodol, ar lefel y DU, ac mae wedi cynnwys nifer o bobl eraill ynghyd â Llywodraethau. Felly mae'n bwysig inni gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r ymchwiliad, gan Lywodraeth y DU, gan y Llywodraethau datganoledig ac eraill. Fe fyddem ni'n gobeithio y gellid cyflawni hynny, ond os na, fe fyddem ni'n amlwg yn bodloni ar ymchwiliad sy'n gyfyngedig i ddigwyddiadau a chamau gweithredu yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, bydd y Senedd yn parhau i graffu ar Lywodraeth Cymru a'i chamau gweithredu parhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng, fel y gwnaeth heddiw, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau'n deall pam nad wyf yn bwriadu rhoi sylw i bob un o'r pwyntiau penodol a wnaed am y camau a gymerwyd yn ystod y ddadl.

Fe ddylid cytuno ar arweinyddiaeth yr ymchwiliad rhwng holl weinyddiaethau'r DU. Ni ddylai gael ei orfodi ar, na chan, neb ohonom ni. Rydym yn cytuno y dylai'r ymchwiliad fod yn un annibynnol. Rwy'n awyddus i fod yn glir nad ydym ni'n gwrthwynebu, o ran egwyddor, unrhyw ymchwiliad wedi ei lywio gan farnwr, ond mae hynny'n gofyn am drafodaethau gydag eraill ac mae'n dod gydag ambell i gyfyngiad yn ei sgil. Mae rhai pleidiau wedi galw am gael epidemiolegydd i lywio unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol, ac mae hwn yn fater i'w ystyried yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd yr unigolyn a ddewisir i arwain yr ymchwiliad yn awyddus iawn i fod â rhan yn y gwaith o bennu'r telerau. Fe ddylai'r rhain ystyried Llywodraeth ond agweddau eraill hefyd, fel bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r ymateb yn ei gyfanrwydd. Bydd angen i'r ymchwiliad barchu cymhwysedd datganoledig y Senedd hon a phob rhan o'r DU. Fe ddylai ddechrau, adrodd a dod i gasgliad yn yr amserau y gall ymgymryd â'i waith o ymchwilio a chraffu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Ni ddylem geisio rhagbennu heddiw pryd y gallai hynny fod.

Yn hanfodol i fater amseru fydd yr angen i ystyried y broses barhaus o reoli argyfwng. Wrth i'r haf droi'n aeaf, mae'n bosibl iawn y byddwn ni'n ymdrin â phenllanw arall a phwysau eraill oherwydd y gaeaf, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau yn cytuno y bydd angen i'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen, wrth gwrs, allu gwneud eu gwaith heb gael eu llesteirio gan bwysau eraill. Yn yr un modd, fe fydd yr ymchwiliad yn haeddu'r sylw llawnaf gan y rhai sy'n rhoi tystiolaeth iddo, ac rwy'n rhagweld y bydd y sawl sy'n arwain yr ymchwiliad yn dymuno ystyried dull gweithredu sy'n caniatáu hynny.

Gan droi'n fyr at y cynnig gwreiddiol, rwyf wedi nodi'r egwyddorion, yn ein barn ni, a ddylai dywys y broses o sefydlu ymchwiliad. Mae ein gwelliannau ninnau'n gyson â'r rhain, ac rwy'n gwahodd yr Aelodau i'w cefnogi nhw. Er ein bod ni'n cytuno â diben y gwelliannau yn enw Siân Gwenllian, mae'n amhosibl i'r Llywodraeth eu cefnogi heddiw, gan eu bod nhw'n pennu amserau ar gyfer adroddiad yr ymchwiliad a phenodi'r arweinyddiaeth, ac mae'n rhy gynnar i fod mor gyfarwyddol. Mae'n rhaid inni geisio cytuno yn gyntaf ar ddull sy'n cynnwys y DU gyfan a rhoi arweiniad wedyn i'r ymchwiliad annibynnol maes o law.

17:45

Diolch, Llywydd. Mae cost enfawr i'r pandemig yng Nghymru. Mae dwy fil, un cant a dau ddeg dau o unigolion wedi colli eu bywydau hyd yn hyn, yn anffodus, ac mae'r sefyllfa ymhell o fod dan reolaeth, neu wedi ei ffrwyno hyd yn oed. Nid oes angen i neb edrych ymhellach nag yma yn y Gogledd, sydd ag 635.7 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth, gyda llawer mwy o brofion yn angenrheidiol. Mae etholwyr gyda phob rheswm yn amau a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth sy'n bosibl i'w cefnogi nhw.

Ydym, rydym yn wynebu amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ond mewn democratiaeth wirioneddol ac iach, mae'n rhaid i'r mesurau a gymerir gan y Llywodraeth hon fod yn agored i dryloywder a chraffu. Mae hynny'n amlwg o wrando ar rai o'r cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon. Angela Burns—diffyg cyfarpar diogelu personol, methiant i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cartrefi gofal ni, trefn brofi afreolus, diffyg casglu data. Russ George ar y problemau sy'n wynebu ein busnesau ni gyda negeseuon cymysglyd, dryswch ynghylch cymorth ariannol a'r difrod enfawr i'n heconomi leol.

Mae'r profi wedi bod yn annibendod ac mae'n parhau i fod felly. Er gwaethaf targedau'r Llywodraeth ei hunan o 5,000 a 9,000 o brofion y dydd, dim ond 2,492 yr ydym ni'n llwyddo i'w cwblhau; oedi difrifol wrth brofi ein preswylwyr mewn cartrefi gofal sy'n symptomatig a'r rhai sy'n dychwelyd o'r ysbyty i gartrefi gofal, gyda gweithwyr cartref gofal sy'n symptomatig yn achosi risg enfawr; ac yna sgandal y cyhoeddiad ynglŷn â phrofi cyffredinol ar gyfer cartrefi gofal a wnaed ddim ond ar 16 Mai, a hynny er gwaethaf llawer o alwadau amlwg, gennym ni hyd yn oed, fod angen i hyn ddigwydd yn gynt er mwyn diogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Yn anffodus, maen nhw wedi cael eu siomi.

Torrodd un o'm hetholwyr i, a oedd yn 94 oed, ei chlun wrth syrthio a mynd i mewn i Ysbyty Glan Clwyd, lle daliodd hi'r COVID-19 ac fe gollodd hi'r dydd wedi hynny. Roedd eraill dan bwysau i lofnodi ffurflenni 'peidiwch ag adfywio'. Roedd elusennau canser yn pryderu nad yw Cymru yn agor canolfannau canser sy'n rhydd o COVID-19, fel sy'n digwydd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Anfonwyd tair mil ar ddeg o lythyrau i'r unigolion a warchodir sydd fwyaf agored i niwed i'r cyfeiriadau anghywir. Cyhoeddiadau camarweiniol gan Lywodraeth Cymru: £40 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ar 17 Ebrill—y gwirionedd: nid yw hyn ond yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion a gomisiynir gan yr awdurdod lleol yn unig. A £500 o fonws i staff gofal a gyhoeddwyd ar 1 Mai—y gwirionedd: ni fydd pawb sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn cael y bonws hwn, ac fe fydd y rhai sy'n ei gael yn ei weld yn lleihau drwy drethiant a'i effaith ar fudd-daliadau, am nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gwaith cartref yn hyn o beth cyn ei gyhoeddi. Cyhoeddiad ar 6 Mai o £26 miliwn i gefnogi ein helusennau bach—mae ansicrwydd mawr o hyd ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei ddyrannu ac i bwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am anfon negeseuon cymysg ynglŷn ag addysg, hunanynysu a chymorth i fusnesau.

Rwyf am bwysleisio y byddwn ni'n gwrthod y gwelliant gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd. Mae ei gwelliant a'i hawgrymiadau i hepgor 'A benodir gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan farnwr' yn dweud y cwbl ac yn arwydd o ymgais i gilio'n llwyr oddi wrth graffu a her annibynnol. Mae'r awydd i ddileu'r targed gwirioneddol a bennwyd yn dangos anallu llwyr i dderbyn cael eu barnu. Yn rhy aml yn y Senedd hon, yn fy amser i'n Aelod yma, dros y naw mlynedd diwethaf, mae ymchwiliadau difrifol wedi cael eu comisiynu cyn hyn, ond ni chawsant erioed eu cwblhau. Yn awr, gydag argyfwng byd-eang fel hwn, sy'n gofyn am arweiniad cryf a thryloyw gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, yr unig ffordd o geisio'r gwirionedd a chael atebion gonest yw dim llai nag ymchwiliad annibynnol, a benodir gan y Senedd, ac a arweinir gan farnwr, ac mae'n rhaid i hwn, iddo fod yn deg, gael ei gyflwyno cyn yr etholiadau i'r Senedd fis Mai nesaf. Fel y dywedwyd yn gynharach yn y ddadl hon, mae'r rhai sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau, a'u teuluoedd nhw, y rhai sydd wedi gweithio'n galed ym meysydd gofal cymdeithasol a'r GIG a gwasanaethau eraill ledled Cymru—maen nhw'n haeddu hynny. Yn y pen draw, bydd ymchwiliad annibynnol yn cynnig y tryloywder yr ydym ni i gyd yn ei geisio, ac rwy'n gofyn ac yn ymbil ar Lywodraeth Lafur Cymru i beidio ag osgoi'r cyfrifoldeb mwyaf sydd ganddyn nhw, sef rhoi cyfle i graffu a herio hyd yr eithaf. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Y cynnig yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes yna wrthwynebiad? A oes yna wrthwynebiad i gytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio? [Gwrthwynebiad.] Oes, rwy'n credu y gallaf i weld gwrthwynebiad—neu ei glywed, beth bynnag. Nid oeddwn i'n gallu gweld yn hollol pwy oedd yn gwrthwynebu. Ond rwy'n clywed gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, sy'n dod nawr.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, fe wnawn ni gynnal y pleidleisiau nawr. Fel y nodir ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un Aelod o'r grŵp i fod â'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o Aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd gan yr enwebydd yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o Aelodau'r grŵp hwnnw, ynghyd ag unrhyw Aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. Byddaf yn cynnal y bleidlais drwy alw'r gofrestr. 

Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020. Felly, y bleidlais gyntaf ar y rheoliadau hynny. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais?

O blaid. Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais?

Canlyniad, felly, y bleidlais yw bod 45 o blaid, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn. 

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7327 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn Ymatal (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid 

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid 

Derbyniwyd y cynnig.

Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr ar ymchwiliad annibynnol i COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais?

Canlyniad y bleidlais yna, ar y cynnig heb ei ddiwygio, yw bod 17 o blaid, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7328 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid 

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid 

Gwrthodwyd y cynnig.

17:55

Symud felly i bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais? 

Y canlyniad, felly, i'r bleidlais ar welliant 1 yw bod 30 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn. 

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 1 i NDM7238 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil McEvoy - Annibynnol: Yn erbyn

Derbyniwyd y gwelliant.

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, ac os caiff gwelliant 2 ei dderbyn, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Ar ran grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais? 

Canlyniad y bleidlais yna yw: o blaid 30, pedwar yn ymatal, yn erbyn 22. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. Mae gwelliant 3 felly yn cael ei ddad-ddethol. 

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 2 i NDM7238 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil McEvoy - Annibynnol: Yn erbyn

Derbyniwyd y gwelliant.

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 4, sydd wedi ei gyflwyno yn enw Siân Gwenllian. Ar welliant 4,felly, grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?

Mae'r bleidlais yna wedi'i chwblhau a'r canlyniad yw bod 21 o blaid, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Ac felly, nid yw gwelliant 4 wedi ei dderbyn. 

Cynhaliwyd y bleidlais ar welliant 4 i NDM7238 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: Yn erbyn (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil McEvoy - Annibynnol: O blaid 

Gwrthodwyd y gwelliant.

Cynnig NDM7238 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth.

Ac felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?

Canlyniad y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio, felly, yw bod 40 0 blaid, fod neb yn ymatal, fod 11 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. A dyna ni'n dod at ddiwedd ein canlyniad—[Torri ar draws.]

Ie, Mark Isherwood. Nid 'Isherwood', rwy'n ymddiheuro. Mark Reckless.

Fe wnaethom ni ymatal yn y bleidlais honno. Rwyf ychydig yn ansicr o ran sut y cafodd hynny ei grynhoi. 

Ie, iawn. Os wnes i ei ddarllen yn anghywir yn fy mrys i ddirwyn materion i ben, rwy'n ymddiheuro. Gadewch imi ailddarllen y bleidlais, ac mae'n darllen bod 40 o blaid, pump wedi atal eu pleidlais, ac 11 yn erbyn. A chan hynny, derbyniwyd y cynnig. Rwy'n ymddiheuro os wnes i ei ddarllen yn anghywir gynnau.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7238 fel y'i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Jayne Bryant ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Ymatal (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: O blaid

Neil McEvoy - Annibynnol: Ymatal

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Felly, diolch i bawb am eich cyfraniad i'r cyfarfod yma o'r Senedd heddiw, a phob dymuniad da i chi. Rŷm ni'n dod â'r cyfarfod i ben. 

18:00

Daeth y cyfarfod i ben am 18:00.