Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/03/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.

Pobl Ifanc Byddar mewn Addysg

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir i bobl ifanc byddar mewn addysg er mwyn gwella eu siawns o gyflogaeth? OAQ55258

Mae ein diwygiadau addysg wedi’u cynllunio i sicrhau bod pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gael mynediad at y cwricwlwm, a chredaf y bydd hyn yn helpu i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc byddar i gyflawni eu potensial llawn.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Heb os, fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, 'Byddar yn Gweithio ym Mhobman', sy'n ceisio sicrhau bod mwy o bobl ifanc byddar yn gwneud gwaith a swyddi sy'n eu hysbrydoli. Yn anffodus, mae llawer o bobl ifanc byddar yn credu bod eu hopsiynau o ran gyrfaoedd yn gyfyngedig. Gyda'r gefnogaeth gywir, fodd bynnag, gwyddom y gall pobl fyddar weithio ym mhobman, serch hynny, maent ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na'u cyfoedion sy’n gallu clywed.

Mewn ymateb i'r ymgyrch Byddar yn Gweithio ym Mhobman, pa gamau pellach rydych yn barod i'w cymryd i sicrhau gwell cymorth gyrfaoedd, mwy o brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli, a herio’r disgwyliadau o ran yr hyn y gall pobl ifanc byddar ei gyflawni?

Wel, rydych yn llygad eich lle, Dai, yn yr ystyr na ddylem fyth roi unrhyw gyfyngiadau ar unrhyw un o'n plant a'n pobl ifanc am fod gennym syniadau anghywir ynghylch yr hyn y gallant ei gyflawni. Yn amlwg, dyna sydd wrth wraidd ein rhaglen anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn sicrhau bod pob plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn gadael ein system addysg gyda'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad y bydd eu hangen arnynt i fwrw ati gydag addysg bellach, neu i'r byd gwaith.

Rwy'n ymwybodol o adroddiad diweddar bwrdd cynghori ieuenctid y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar ar brofiadau pobl ifanc o gyngor gyrfaoedd ledled y DU. Yma yng Nghymru, rydym yn cymryd rhan weithredol mewn proses i ddiwygio ein cymorth gyrfaoedd, ac rwy’n awyddus iawn i weithio gyda’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Cymru er mwyn bod yn rhan o hynny. Mae ein fframwaith gyrfaoedd a’r byd gwaith cyfredol yn nodi’r angen i ddarparwyr dysgu leihau rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol i gynhwysiant, ac rydym yn parhau â hynny fel rhan o'n gwaith yn diwygio ein gwybodaeth a’n cyngor gyrfaoedd. Yn amlwg, ni ddylid atal unrhyw unigolyn ifanc rhag ymgymryd â phrentisiaethau y gallent elwa ohonynt, ac o ganlyniad i'ch cwestiwn, byddaf yn ymrwymo i weithio gydag adran Ken Skates i oruchwylio ein rhaglen brentisiaethau, i weld pa gamau eraill y gall y Llywodraeth eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn.

A gaf fi gychwyn drwy ddweud bod fy chwaer yn fyddar iawn? Felly, rwy’n datgan buddiant. Ond os ydych yn fyddar, rydych yn llai tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig; os ydych mewn gwaith cyflogedig, rydych yn debygol o fod ar gyflog isel, ac mae'n debygol na fydd gennych lawer o gymwysterau, os o gwbl. Yr un peth a fyddai’n gwella hyn yw gwella sefyllfa Iaith Arwyddion Prydain, gan ei thrin a’i gwneud yn bwnc TGAU fel y Gymraeg a’r Saesneg, oherwydd i’r gymuned fyddar, Iaith Arwyddion Prydain yw eu hiaith gyntaf. Ac mae angen inni sicrhau bod plant eraill yn ymwybodol o hanfodion Iaith Arwyddion Prydain hefyd er mwyn cyfathrebu â hwy.

Rydym wedi cael deiseb o Abertawe sy’n hyrwyddo Iaith Arwyddion Prydain, ac mae llawer o ohebiaeth yn digwydd ynghylch Iaith Arwyddion Prydain. Ond y gwir amdani yw, oni bai ein bod yn cefnogi Iaith Arwyddion Prydain, ac yn cefnogi’r gwaith o’i haddysgu, ac yn cefnogi plant â hi, bydd plant yn waeth eu byd o hyd.

Diolch, Mike, yn gyntaf oll, am eich cwestiynau, ond am eich eiriolaeth barhaus ar ran y gymuned sy'n siarad Iaith Arwyddion Prydain. Rydym yn gweithio gydag athrawon Iaith Arwyddion Prydain, a rhanddeiliaid eraill sydd â phrofiad ac arbenigedd mewn Iaith Arwyddion Prydain, i ddatblygu canllawiau cwricwlwm ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain i blant sy'n ei defnyddio fel cyfrwng addysg, a/neu fel eu hiaith gyntaf, a chanllawiau i'r ysgolion sy'n ei chyflwyno fel trydedd iaith neu iaith ddilynol, yn ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y canllawiau hyn ar gael cyn i ysgolion ddechrau rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith, a gwn fod diddordeb mewn ysgolion i sicrhau y gallant ddarparu Iaith Arwyddion Prydain yn eu cwricwlwm newydd.

Rydym yn cydnabod yr angen i wneud mwy i ddatblygu dull cydgysylltiedig o hyrwyddo a chefnogi Iaith Arwyddion Prydain, ac rydym yn ystyried siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd.

Addysgu Hanes Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y deunyddiau a'r adnoddau sydd ar gael i addysgu hanes Cymru mewn ysgolion? OAQ55267

Diolch, David. Mae cannoedd o adnoddau addysgu, sy'n ymwneud yn benodol â hanes Cymru, ar gael i athrawon eu defnyddio ar ein platfform ar-lein, Hwb. Mae Cadw, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chymdeithasau hanes lleol wedi cynhyrchu adnoddau, a chawsant eu cynnwys yn adolygiad diweddar Cymdeithas Ddysgedig Cymru o adnoddau o'r fath.

13:35

Weinidog, mae hwnnw'n ateb calonogol. Ac ar hyn o bryd, pan fyddwn yn ymdrin â'r coronafeirws, credaf ei bod yn bwysig sylweddoli y gall digwyddiadau hanesyddol fod yn addysgiadol, fel epidemig ffliw Sbaen, a elwid yn 'Ffliw Sbaen' am nad oedd Sbaen o dan gyfyngiadau newyddiadurol, gan nad oeddent yn cymryd rhan yn y rhyfel byd cyntaf. A chlywais yr Athro Syr Deian Hopkin yn dweud ar raglen Sunday Supplement fod David Lloyd George yn ddifrifol wael yn ystod y ffliw pandemig hwnnw. Ac mae hynny'n rhywbeth nad oeddwn yn ymwybodol ohono. Rwyf wedi gweld beddau llawer o filwyr mewn gwahanol leoedd yng Nghymru, sy'n dweud bod rhyw filwr neu sarsiant wedi marw yn 1919. A chafodd llawer o'r rheini, wrth gwrs, eu hachosi gan y ffliw pandemig. A bydd pobl yn awyddus i astudio ein cyfnod presennol rhyw ddydd hefyd, a dyna pam fod cadw cofnodion, ac adnoddau, a'r holl bethau hyn mor bwysig.

Yn wir. Mae'n ddiddorol eich bod yn codi'r cwestiwn atodol hwn. Rwyf wedi cynghori fy nhair merch i gadw dyddiadur o'r cyfnod hwn, fel y gallant, mewn blynyddoedd i ddod, pan fydd popeth yn normal eto yn y wlad hon, fel y byd—fel y bydd—gallant fyfyrio ar eu profiadau fel pobl ifanc, a'u meddyliau ynglŷn â sut rydym ni, fel oedolion, yn ymateb. Felly mae'n awgrym diddorol, ac efallai y bydd yn adnodd pwysig i Hwb yn y dyfodol.

Ond o ran mater ehangach y cwricwlwm newydd, fel y gŵyr pawb, mae'r cwricwlwm newydd yn ymbellhau oddi wrth nodi rhestrau o gynnwys a phynciau i'w haddysgu. Ond wrth gwrs, mae adnoddau o ansawdd da yn hanfodol i'r broses honno, a dyna pam y gwnaethom gomisiynu Cymdeithas Ddysgedig Cymru i fapio'r adnoddau presennol sydd ar gael y gellir eu defnyddio i gefnogi'r dimensiwn Cymreig a'r persbectif rhyngwladol yn ein cwricwlwm newydd. Mae Dr Sarah Morse, o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, wedi nodi nad oes prinder adnoddau. Mae rhestr hirfaith ar gael eisoes, ond lle rydym wedi nodi bylchau, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r bylchau hynny.

Credaf fod David Melding wedi codi pwynt pwysig iawn, gan fod llawer gormod o ddigwyddiadau cyfoes, a fydd yn cael sylw fel hanes yn y dyfodol, yn fyrhoedlog—maent yn cael eu cofnodi'n ddigidol, a byddant yn diflannu. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom bryderu yn ei gylch.

Ond hoffwn godi dau beth. Yn aml, mae dwy ran o hanes Cymru yn cael eu hanwybyddu. Yn gyntaf, ymdrechion y dosbarth gweithiol yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Ac yn ail, anaml iawn y bu Cymru yn un deyrnas yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid yn y bumed ganrif—esblygodd i fod yn gyfres o deyrnasoedd. A wnaiff y Gweinidog gefnogi addysgu, a darparu adnoddau ar hanes y dosbarth gweithiol yng Nghymru, a'r teyrnasoedd gwych a fu'n bodoli o fewn ffiniau'r hyn a elwir bellach yn Gymru?

Fel y dywedais yn fy ateb i David Melding, nid yw'r Gymdeithas Ddysgedig wedi nodi bod diffyg adnoddau yn her i ddarparu ein cwricwlwm newydd. Ond lle ceir bylchau mewn adnoddau, byddwn yn ceisio gweithio gyda phartïon â buddiant, o bob math—hyd yn oed chi, efallai, Mike—i allu datblygu adnoddau i lenwi'r bylchau hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch cyn inni ddod i'r Cyfarfod Llawn heddiw? Rwy'n siŵr y byddwch yn cael cwestiynau ynglŷn â chau ysgolion, ond bydd fy nghwestiynau'n canolbwyntio ar addysg ôl-16.

Fodd bynnag, mae'n anochel fod hynny'n golygu dechrau gyda chwestiwn am y rheini sy'n astudio ar gyfer arholiadau allweddol yn 16, 17 a 18 oed, yn ogystal â myfyrwyr TAR, sy'n gorfod cwblhau eu lleoliadau mewn ysgolion er mwyn cymhwyso. Ac efallai y bydd eich ateb hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr gofal plant, sydd ar leoliadau efallai, os nad mewn ysgol, yna o leiaf ar safle sy'n cael ei rannu ag ysgol. Os yw'r ysgolion yn mynd i gau, neu gau'n rhannol, credaf y bydd yr amserlen hon ar gyfer paratoi myfyrwyr ar gyfer eu hasesiadau a'u harholiadau terfynol yn cael ei heffeithio'n sylweddol. Rydym yn cyrraedd adeg o'r flwyddyn, yn enwedig ar gyfer TGAU, pan fo asesiadau dan reolaeth ar gyfer TGAU ar fin cael eu cynnal. Mae i hyn oblygiadau uniongyrchol i ddisgyblion ac athrawon—p'un a ydynt yn absennol ai peidio. A hyd yn oed gydag athrawon cyflenwi, am wn i ei bod hi'n bosibl secondio athrawon cymwys yn ôl i'r ystafelloedd dosbarth o leoliadau eraill. Mae gan hyn oblygiadau hefyd i fyrddau arholi a Cymwysterau Cymru o ran marcio a chymedroli canlyniadau. Felly, pa opsiynau rydych yn eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer arholiadau sydd i gael eu sefyll y tymor nesaf? Gyda phwy rydych chi'n siarad am hyn? A phryd, yn realistig, y gallwn ddisgwyl penderfyniad ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd naill ai ynghylch gohirio neu raddau a ragwelir, neu unrhyw ddewisiadau amgen eraill?

13:40

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr fod hyn yn peri straen a phryder, yn enwedig i'r bobl ifanc sydd wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi ar gyfer arholiadau allanol, yn ogystal â'r athrawon a fu'n gweithio ochr yn ochr â hwy.

Y bore yma, cyfarfûm â Cymwysterau Cymru a CBAC i gael cyngor ar y mater hwn. Rwyf hefyd mewn cysylltiad agos â Gavin Williamson. Siaradais ag ef ddoe, ac rwyf wedi siarad ag ef eto y bore yma ynglŷn â’i ystyriaethau mewn perthynas ag arholiadau, a neithiwr, siaradais â John Swinney, y Gweinidog addysg yn yr Alban. Mae'r tri ohonom yn ymrafael â'r un problemau, ac rwy'n gobeithio wneud cyhoeddiad mewn perthynas â'r arholiadau yn y dyfodol agos iawn.

Wel, diolch am hynny, ac am gadarnhau bod yr holl wledydd yn cydweithio ar hyn. Credaf fod hynny'n sicr yn gwneud synnwyr, yn enwedig wrth inni sôn am arholiadau sy’n cael eu sefyll—ym mlwyddyn 13, ynte—er mwyn camu ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch lle mae mwy o gystadleuaeth, gan nad am Gymru'n unig rydym yn siarad.

Fodd bynnag, ar y pwnc hwnnw, mae gennyf gryn ddiddordeb ym mha sgyrsiau rydych wedi'u cael gydag addysg bellach ac addysg uwch a rhai lleoliadau dysgu seiliedig ar waith, ond yn enwedig gydag addysg uwch—pa fath o arweiniad rydych wedi'i gael gan y dirprwy brifathrawon a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ynglŷn â sut y byddant yn ymdrin â gofynion mynediad ar gyfer tymor yr hydref mewn ffordd sy'n deg â charfannau mewn blynyddoedd blaenorol, o ran y safonau ar gyfer y gofynion mynediad hynny.

Tybed hefyd a allech ddweud ychydig wrthym ynglŷn ag a ydych wedi siarad â dirprwy brifathrawon a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am eu hagwedd tuag at gyllid myfyrwyr sy'n mynd i gael eu hamddifadu o gyfle i astudio dan oruchwyliaeth—ac rwy'n golygu astudio dan oruchwyliaeth—yn sgil penderfyniadau prifysgolion unigol i gau.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud y bydd unrhyw benderfyniad a wnaf o ran yr arholiadau yn seiliedig ar egwyddor tegwch a chwarae teg i bobl ifanc? Nid eu bai hwy yw eu bod yn y sefyllfa hon. Ni ddylai’r sefyllfa gyfyngu nac effeithio'n negyddol ar eu hymdrechion, ac rydym am sicrhau ein bod yn eu trin yn deg ac yn gyfiawn, ond mewn ffordd drylwyr hefyd, fel y gallant fod â hyder yn y system yn y dyfodol.

Mae trafodaethau wedi’u cynnal, yn ôl yr hyn a ddeallaf, rhwng pob un o fersiynau’r DU o Cymwysterau Cymru, a thrafodaethau agos gydag UCAS, yn ogystal ag Universities UK, ynglŷn â sut y gallwn reoli'r sefyllfa hon gyda'n gilydd. Yn amlwg, gallai hyn effeithio ar brifysgolion a’u gwaith recriwtio i raglenni sy'n dechrau yn yr hydref. Felly, mae dull cydgysylltiedig ar waith rhwng y cyrff arholi unigol, y cyrff rheoleiddio, Gweinidogion, yn ogystal â phrifysgolion ac UCAS eu hunain.

Wel, diolch am eich ateb. Byddaf i, ynghyd â llefarwyr eraill yma, rwy’n credu, yn cysylltu ag aelodau o'r sector addysg uwch i edrych ychydig ymhellach na hynny eto, yn enwedig ar sut y bydd rhai benthyciadau i fyfyrwyr yn cael eu heffeithio gan y ffaith y bydd rhai myfyrwyr yn colli o leiaf un tymor o'u rhaglen astudio yn y bôn, a chredaf fod cwestiwn o degwch yno hefyd.

Ond i gloi, ac mae yn yr un gofod mewn gwirionedd, mae bron i flwyddyn hyd nes y daw’r Cynulliad hwn i ben, ac mae dau ddarn o ddeddfwriaeth bwysig ar y gweill gennych yn eich portffolio, ac os ydym am weithio ar y cynsail gan y Llywodraeth hon, rwy'n rhagweld mai Biliau fframwaith fydd y ddau ohonynt i raddau helaeth, a bydd angen craffu’n llawn arnynt, ar drylwyredd datblygiad polisi ac ar fanylion ansawdd cynnwys tebygol unrhyw reoliadau a ddefnyddir wedi i’r ddeddfwriaeth sylfaenol gael ei chyflwyno er mwyn ei chwblhau. Ac rwyf am fod yn onest, ni allaf weld fy hun yn cefnogi unrhyw gwtogi neu gyfyngu ar yr amser sydd ei angen i'r ddeddfwrfa hon gyflawni ei phrif bwrpas, sef craffu’n drylwyr ar ddeddfwriaeth.

Nawr, mae pawb ohonom ar drugaredd llai o gapasiti, o ganlyniad i'r coronafeirws. Mae deddfwriaeth i roi’r cwricwlwm newydd ar waith yn ddibynnol ar amser, ac mae eisoes wedi'i gohirio am resymau rydym yn eu deall, ond mae angen inni roi ein sylw a’n cefnogaeth lawn iddi o hyd o ran tystiolaeth brofedig er mwyn ennyn hyder. Ac rwy'n amau'n fawr y gallwn roi'r sylw hwnnw iddi os bydd gofyn inni roi sylw cyfartal hefyd i'r ddeddfwriaeth gymhleth iawn, sy'n newid y broses o reoleiddio addysg bellach ac addysg uwch yn sylfaenol, gyda holl oblygiadau hynny o ran safonau. Felly, nid yw addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn ddibwys, ond nid ydynt mor ddibynnol ar amser.

Ac ar y sail fy mod yn amau nad ydych yn bwriadu gohirio’r Bil hwnnw tan Senedd nesaf Cymru, a allwch warantu, yn gyntaf, na fyddwch yn gofyn am gyfyngu ar yr amserlenni ar gyfer craffu ar y ddau Fil er gwaethaf y coronafeirws, ac yn ail, pe bai’r Senedd hon yn penderfynu na all ddarparu ar gyfer craffu priodol oherwydd y coronafeirws, y byddwch yn ystyried peidio â bwrw ymlaen â'r Bil addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn y pumed Cynulliad?

13:45

Roeddwn ar fai, Lywydd, am beidio â rhoi sylw i gwestiynau Suzy Davies mewn perthynas â’r cwmni benthyciadau i fyfyrwyr. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cwmni benthyciadau i fyfyrwyr i sicrhau bod cynghorwyr ar gael i ymateb i fyfyrwyr a phrifysgolion sy'n awyddus i gael sicrwydd mewn perthynas â'u hastudiaethau a'u cyllid.

Dylwn ddweud yn glir hefyd fod prifysgolion yn gwneud eu gorau glas i newid i system lle gallant barhau i ddarparu addysg i'w myfyrwyr, gan ystyried darlithoedd o bell a materion felly. Felly, maent yn gweithio'n galed iawn ym mhob rhan o'r sector i allu darparu cymaint o barhad â phosibl i fyfyrwyr.

O ran yr amserlen, mewn rhai ffyrdd, rwyf ar drugaredd y Rheolau Sefydlog yn y Siambr hon. Mae fy neddfwriaeth—nid fy neddfwriaeth i, ond y—[Anghlywadwy.]—mae'r ddeddfwriaeth gyda'r Llywydd ar hyn o bryd, yn mynd drwy'r prosesau arferol a gyflawnir gennym cyn ei chyflwyno'n ffurfiol yma yn y Siambr hon. Ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn awyddus i weithio gyda'n gilydd, os gallwn, i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iawn ac yn arwyddocaol—deddfwriaeth radical iawn, mewn gwirionedd, a fydd, rwy'n credu, yn darparu mwy o gydlyniant, mawr ei angen yn fy marn i, i'n sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Diolch yn fawr iawn. Gaf innau hefyd groesawu'r cyhoeddiad rydych chi wedi'i wneud am 1 o'r gloch heddiw y bydd ysgolion rŵan yn cau ar gyfer darpariaeth statudol? Ond rydyn ni wrth gwrs angen eglurder ar fyrder a chanllawiau clir gennych chi ar gyfer yr ysgolion ynglŷn â beth fydd y diffiniad rŵan o ysgol—beth fydd rôl ein hysgolion ni wrth inni symud ymlaen? Bydd dim angen iddyn nhw wneud y ddarpariaeth statudol ond mae ganddyn nhw rôl allweddol i sicrhau bod ein gweithwyr allweddol ni yn y gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, yn medru parhau i gael cefnogaeth ar gyfer eu plant a hefyd y plant mwyaf bregus a'r plant sydd yn cael cinio am ddim. Mae angen y canllawiau clir yna.

Gair am yr arholiadau; mae Suzy wedi cyfeirio at hyn: dwi'n credu rŵan fod yr amser wedi dod i ddweud yn hollol, hollol glir: cewch wared ar yr arholidadau—gohiriwch nhw, o ran y GCSE a lefel-A, efo'r bwriad o'u cynnal nhw eto neu addasu'r anghenion. Rydych chi wedi sôn am hynny—er enghraifft, defnyddio amcan graddau ar gyfer mynediad i brifysgol. Mae'r amser wedi dod rŵan, dwi'n credu, i symud y pwysau sydd ynghlwm â hynny a'r gwaith mae'r athrawon yn teimlo maen nhw'n gorfod gwneud ynghlwm ag arholiadau. Os ydy'r pwysau yna'n symud oddi wrthyn nhw, mae hi wedyn yn bosib i'r ysgolion fedru rhoi'r gefnogaeth i'r lle mae o angen bod—y ffocws lle mae o angen bod a lle rydych chi a fi yn cytuno y dylai fod.

Felly, hoffwn ni jest ofyn ychydig o gwestiynau ynglŷn â hynny. Beth fydd diffiniad newydd 'ysgol'? Sut mae'r ysgolion yn mynd i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd at y plant mwyaf bregus er mwyn rhoi'r gefnogaeth yma iddyn nhw? Beth ydy'r canllawiau i'r ysgolion sydd wedi cau yn barod? Rydyn ni'n gwybod bod yna nifer fawr wedi cau yn barod—oes disgwyl iddyn nhw ailagor yn eu rôl newydd? Ac, wrth gwrs, materion diogelwch plant—sut mae hynny'n mynd i ddod i mewn rŵan i'r diffiniad newydd o ysgol?

Lywydd, fel y nododd yr Aelod, yn gwbl gywir, am 1 o’r gloch y prynhawn yma, cyhoeddais ein bod yn cael gwyliau’r Pasg yn gynt i ysgolion yng Nghymru, sy’n golygu y bydd ysgolion yn cau o ran darpariaeth statudol ddydd Gwener, 20 Mawrth. O'r wythnos nesaf ymlaen, bydd gan ysgolion bwrpas newydd, yn wir—pwrpas nad yw'n annhebyg i'r un a ddisgrifiodd Siân Gwenllian. Pwrpas i sicrhau bod ein plant mwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, gyda phwyslais arbennig ar y plant a fyddai fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim yn ogystal â'n plant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan fod mynychu'r ysgol yn rhan bwysig o'r gwaith o gadw eu lles cystal ag y gall fod.

Mae'n rhaid inni hefyd gofio anghenion y rhieni sydd ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, ac yn wir, mae hynny'n cynnwys meddygon a nyrsys, ond mae'r rhestr honno o bobl ar y rheng flaen yn y frwydr i gynnal y wlad yn mynd ymhell y tu hwnt i'r gweithwyr meddygol proffesiynol ymroddedig sy'n gweithio yn ein hysbytai. Felly, er enghraifft, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal cartref, yn ogystal â gweithwyr eraill sy'n sicrhau bod bwyd yn ein harchfarchnadoedd a bod ein gwasanaethau lleol sylfaenol yn parhau i gael eu cynnal. Rydym eisoes yn gweithio—cyfarfu'r Prif Weinidog, cyd-Aelodau o'r Cabinet a minnau ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eto y bore yma i archwilio gydag ef pa ddarpariaethau y byddwn yn eu rhoi ar waith.

Wrth gwrs, nid yw hyn yn rhywbeth sy'n hollol newydd i ni. Byddwn yn adeiladu ar sylfeini cryf a phrofiadau cadarnhaol iawn rhai o'n cynlluniau Bwyd a Hwyl, y mae awdurdodau lleol wedi hen arfer eu cynnal, a byddwn yn nodi, gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, safleoedd a phersonél allweddol a all ein helpu i sicrhau y gellir mynd i'r afael ag anghenion y plant mwyaf agored i niwed ac anghenion y gweithwyr rydym am iddynt fod yno ar y rheng flaen dros yr wythnosau nesaf.

13:50

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni, wrth gwrs yn ddiolchgar—hynod ddiolchgar—i'r athrawon a'r staff ategol yn ein hysgolion ni yn y cyfnod yma. Maen nhw hefyd yn weithwyr allweddol, onid ydynt, ac o ran eu rôl nhw, mae disgwyl iddyn nhw newid wrth symud ymlaen, os ydyn nhw'n gallu, ac mae rhywun yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd yna sydd yn mynd i fod ei angen rŵan.

Felly, a fedraf i ofyn ichi, ynglŷn â'r athrawon a'r cymorthyddion dysgu? Beth fydd eu rôl nhw yn y trefniadau newydd yma rŵan? Os ydy'r diffiniad o ysgol yn newid ond rydych chi'n dal i ddisgwyl iddyn nhw fod ar agor gymaint ag y maen nhw'n medru, beth fydd rôl yr athrawon? A oes yna rôl i athrawon llanw yn y trefniadau newydd yma? Mi fyddwch chi'n gwybod y byddan nhw'n awyddus iawn, rhai ohonyn nhw, i barhau i weithio oherwydd eu bod nhw'n gweithio i asiantaethau ac efallai yn mynd i fod heb bres beth bynnag. Felly, mae yna rôl benodol yn fanna. Beth hefyd am bobl sydd â chymwysterau dysgu ond sydd, ar hyn o bryd, ddim yn yr ysgolion? Efallai eu bod nhw'n gweithio yn y consortia neu mewn mannau eraill. Rydych chi wedi sôn yn fras am hynny. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ychydig bach ar hynny, os gwelwch yn dda? 

Yn wir, mae gweithwyr addysg proffesiynol wedi bod ar y rheng flaen ac yn ein hamddiffyn wrth i'r wlad hon wynebu'r epidemig hwn, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt, pob un ohonynt, am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn. Hyd yn oed pan fyddant wedi bod yn poeni, efallai, am eu hanwyliaid eu hunain, mae eu disgyblion wedi bod yn hollbwysig iddynt ac maent wedi bod yn gwbl ymroddedig wrth geisio darparu profiad mor normal â phosibl i'n plant a'n pobl ifanc yn y cyfnod cythryblus hwn. Ac fel y dywedais, maent wedi bod yn gwneud hynny o dan bwysau enfawr, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny.

Wrth gwrs, bydd rôl barhaus i'n hathrawon a'n cynorthwywyr addysgu ei chwarae, ac rydym mewn cysylltiad dyddiol—fy adran i—gydag undebau'r athrawon i drafod y ffordd orau o fwrw ymlaen â phethau. Cyfarfûm ddoe â Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol i drafod rôl gweithwyr ieuenctid yn y senario hon. Fel y dywedais, cyfarfûm yn gynharach ag arweinydd CLlLC i edrych ar y llu o staff proffesiynol sydd gennym yn ein hawdurdodau lleol sydd â'r sgiliau a'r ddawn i allu ein cynorthwyo wrth inni symud ymlaen. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r Aelodau wrth i'r cynlluniau hynny ddatblygu, ond mae rôl i bawb sydd â'r cymwysterau, y sgiliau a'r wybodaeth briodol i weithio gyda'n plant ar yr adeg hon.

13:55

Diolch. Dwi jest yn mynd i fynd yn ôl at gwpwl o bethau sydd ddim wedi cael eu hateb—dwi wedi'u gofyn nhw'n barod, ac mae'n ddrwg gen i, dwi wedi gofyn lot o gwestiynau, dwi'n gwybod. Felly, dwi'n meddwl bod hwn yn bwysig: beth ydy'r canllawiau i'r ysgolion sydd wedi cau yn barod? Rydyn ni'n gwybod bod yna restr o ysgolion sydd wedi anfon at y rhieni yn dweud, 'Rydyn ni wedi cau' yr wythnos yma. A oes disgwyl iddyn nhw ailagor yn eu rôl newydd nhw? Ac wedyn, o ran rôl newydd yr ysgol, beth fydd—? Sut byddwch chi'n delio efo materion cymhleth diogelwch plant, i wneud yn siŵr bod y plant fydd yn dal yn mynd i'r ysgol yn parhau i fod yn ddiogel os nad ydy'r ysgolion yma'n cael eu diffinio fel 'sefydliadau addysgol' ar hyn o bryd? 

Mae'n rhaid imi ddweud yn gwbl glir wrth yr Aelodau nad wyf yn rhagweld, ar ddiwedd y toriad estynedig hwn dros y Pasg, y byddwn mewn sefyllfa i fynd yn ôl i'r ysgol fel arfer. Ni allaf roi unrhyw warantau ac ni ddylai unrhyw un ddisgwyl hynny. Felly, ni fyddwn yn disgwyl, ac nid wyf yn rhagweld, y bydd pob ysgol ar agor. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid llywodraeth leol i nodi rhai safleoedd lle gellir trefnu a chynnig y gwasanaethau hyn, ond nid wyf yn disgwyl y bydd pob ysgol yn agor ac yn gweithredu fel arfer ar ôl toriad y Pasg. Yn amlwg, byddwn yn adolygu'r sefyllfa honno'n gyson, ond byddwn yn ceisio gweithio gydag awdurdodau lleol i reoli ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf pragmatig wrth inni wynebu'r pwysau digynsail hwn.

Coronafeirws

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor a roddir i athrawon am coronafeirws? OAQ55254

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau diweddaraf ar gyfer ysgolion yng Nghanol De Cymru yng ngoleuni'r achosion o coronafeirws? OAQ55248

Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 3 a 7 gael eu grwpio.

Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion ynghylch addysg a lleoliadau addysgol eraill ar y coronafeirws, a bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad a wneuthum am 1 o’r gloch y prynhawn yma.

Diolch. Ac unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sy'n ymwneud â'r ysgolion a'r athrawon. Fel y nodwch, yn gwbl gywir, mae'n gyfnod pryderus iawn i bawb.

Yn yr amser byr—. Roedd fy nghwestiynau'n hollol wahanol, ond gan fod pethau'n newid bob munud a bob awr, gofynnwyd i mi eisoes—. Mae rhai athrawon yn mynegi pryderon ynghylch terfynau amser ar gyfer gwaith cwrs, gan mai'r bwriad oedd iddo gael ei gyflwyno erbyn y Pasg, ac mae gan rai disgyblion 30 y cant o'r gwaith ar ôl i'w gwblhau, yn enwedig mewn perthynas â grwpiau arholiadau blynyddoedd 11 a 13, felly beth yw eich cyfarwyddiadau a'ch arweiniad yn hynny o beth? A fydd CBAC a'r Cyd-Gyngor Cymwysterau yn cyhoeddi datganiad o gwbl? A phryder arall yw addysgu ar-lein—mae rhai pobl bellach, gyda dysgu gartref, yn credu y bydd llawer o hyn yn digwydd ar-lein. Wel, fel y gwyddoch, mewn llawer o gymunedau gwledig, nid oes ganddynt gyfleusterau band eang, felly pa fesurau y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod rhyw fath o gydraddoldeb yn y disgwyliadau o ran ble—? Yn sicr, o ran fy etholwyr fy hun, mae band eang rhai ohonynt—wel, nid oes ganddynt fand eang cyflym iawn, felly bydd cymhlethdodau ynghlwm wrth hynny. Diolch.

A gaf fi gydymdeimlo â'r Aelod? Mae'n llygad ei lle wrth ddweud bod hon yn sefyllfa sy'n newid yn gyflym—mewn gwirionedd, mae munudau'n teimlo'n hir ar hyn o bryd, heb sôn am oriau a dyddiau, felly rwy'n cydymdeimlo â'r Aelod. Mae'n llygad ei lle, bydd materion sy'n ymwneud ag asesu—asesiadau ffurfiol ac arholiadau yn hollbwysig i'n haddysgwyr uwchradd, a dyna pam, fel y dywedais wrth ateb eich cyd-Aelod, Suzy Davies, y byddaf yn ceisio gwneud cyhoeddiad cyn gynted â phosibl yn dilyn fy nghyfarfod â Cymwysterau Cymru a CBAC y bore yma.

O ran dysgu ar-lein, mae hi'n gwbl gywir. Mewn gwirionedd, mae buddsoddiad y Llywodraeth hon yn Hwb a datblygiad yr Hwb wedi sicrhau ein bod yn gallu darparu cymaint ag sy'n bosibl o ddysgu ar-lein, yn ogystal â'r ffaith bod gan bob plentyn yng Nghymru, drwy Hwb, fynediad at Microsoft Office a meddalwedd o'r fath, fel ein holl weithwyr addysg proffesiynol. Felly, gallant gael hwnnw—gallant ddefnyddio'r feddalwedd honno yn rhad ac am ddim gartref. Ond mae hi'n gwbl gywir, mae'n rhaid inni gofio tegwch yn y sefyllfa hon, er fy mod yn gobeithio y bydd yn cytuno â mi nad ydym yn mynd i wneud popeth yn berffaith gan ein bod yn wynebu amgylchiadau mor eithriadol. Ond fe fydd yn ymwybodol ein bod wedi bod yn gweithio'n agos gydag ysgolion cyn gwneud y penderfyniad hwn, ac mae ysgolion lle rwy'n gwybod—lle maent hwy'n gwybod—y gallai mynediad at y rhyngrwyd fod yn anodd i'w plant wedi cynhyrchu pecynnau dysgu gartref ar ffurf copïau caled, ac maent yn eu hanfon adref gyda'r plant. Felly, mae'r athrawon sy'n gwybod y gallai hyn fod yn broblem eisoes wedi bod yn rhagweld ac yn edrych ar wahanol ffyrdd y gallant gefnogi addysg plant yn y dyfodol.

14:00

Rwy'n gwerthfawrogi'r atebion rydych chi wedi'u rhoi hyd yma, Weinidog, ac mae'n sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn. Un cwestiwn a fydd wedi'i ofyn sawl gwaith heddiw yw'r un am agor ysgolion. Rydych eisoes wedi ateb y cwestiwn hwnnw gyda'ch cyhoeddiad cyn y cwestiynau. Rwy'n sylweddoli eich bod wedi rhoi amserlenni hyd at bwynt, dyweder, yn y dyfodol agos, ac nid wyf yn edrych am ddiwrnod, nid wyf yn edrych am wythnos, gan fy mod yn derbyn bod hynny'n anodd ar hyn o bryd, ond a ydym yn debygol o gael unrhyw wybodaeth bellach ynghylch arholiadau erbyn diwedd yr wythnos, neu a ddylem ddisgwyl tan yr wythnos nesaf i gael mwy o wybodaeth am hynny? Oherwydd ni chredaf ei bod yn rhagdybiaeth afresymol y bydd llawer o etholwyr yn dod atom—fel y dywedais, nid wyf yn edrych am yr union ddyddiau, oriau neu funudau pan ddaw'r datganiad, ond os gallwn roi naratifau eang ynglŷn â pha bryd y gallai'r wybodaeth hon fod ar gael, credaf y byddai hynny o gymorth, o leiaf, ar hyn o bryd. Felly, a ddylem ddisgwyl mwy o wybodaeth yr wythnos nesaf, neu a allem gael rhywbeth erbyn diwedd yr wythnos?

Andrew, rwy’n sylweddoli pa mor heriol fydd y cyhoeddiadau ar gael toriad y Pasg yn gynt i fyfyrwyr, i athrawon ac i rieni, a dywedaf hynny fel rhiant i blant sydd ym mlwyddyn 13 ac ym mlwyddyn 11. Felly, gwn pa mor hollbwysig yw hyn a pha mor bryderus yw plant. Buaswn yn siomedig iawn pe na allem wneud penderfyniad pellach cyn diwedd yr wythnos, gan y bydd angen inni roi'r prosesau sydd ynghlwm wrth y penderfyniad hwnnw ar waith.

Safonau Ysgolion

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau ysgolion yng Nghymru? OAQ55257

Cenhadaeth ein cenedl yng Nghymru yw codi safonau ar gyfer pob un o'n plant. Roeddwn yn falch o ddarllen yn adroddiad blynyddol Estyn 2018-19 fod safonau'n dda neu'n well yn y rhan fwyaf o ysgolion Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg iawn i mi fod angen gwneud gwelliannau, yn enwedig yn ein sector uwchradd.

Pan gyflwynais y cwestiwn yr wythnos diwethaf, fy mwriad oedd dathlu'r gwelliannau yn y safonau, yn enwedig yn Ysgol Babanod Hendre, Ysgol Cae'r Drindod, Ysgol Gynradd Nant-y-Parc, Ysgol Gymunedol Sant Cenydd, ac yn fwyaf diweddar, Cylch Meithrin Tonyfelin. Mae croeso mawr i'r gwelliannau hyn, ond mae pethau'n newid gydag ysgolion, fel y gwelsom gyda'r drafodaeth a gawsom heddiw a'r cyhoeddiad a wnaethoch. Felly, a gaf fi ofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith yr hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf ar system gategoreiddio ysgolion Llywodraeth Cymru, ac unrhyw arolygiadau yn y dyfodol, yn enwedig gyda rhieni sydd wedi cadw eu plant o'r ysgol, er na chawsant eu cynghori i wneud hynny, ac athrawon sydd efallai wedi bod yn hunanynysu ac yn methu mynychu? Sut y gallwn fod yn sicr na fydd hynny'n cael effaith hirdymor ar gategoreiddio ysgolion ac ar safonau mewn ysgolion ledled Cymru?

Wel, yn gyntaf, hoffwn ymuno â chi i ddathlu llwyddiannau'r ysgolion y sonioch chi amdanynt. Fel y gwyddoch, mae gennyf feddwl mawr o Ysgol Cae'r Drindod yn enwedig, sy'n un o'n hysgolion arbennig rhagorol, nid yn unig yn eich ardal chi, ond ledled Cymru.

Hoffwn ddweud yn gwbl glir wrth ein gweithwyr addysg proffesiynol nad ydym yn gweithredu mewn cyfnod arferol. Fe fyddwch yn gwybod, ar ôl trafodaethau dros y penwythnos gydag Estyn, fod pob arolwg wedi’i ohirio. Rydym hefyd wedi gohirio holl waith ein cynghorwyr herio o'r consortia rhanbarthol ar ddechrau'r wythnos hon i gael gwared ar y pwysau hwnnw ar ysgolion. Hoffwn ddweud yn gwbl glir, er ein bod wedi parhau i gofnodi data presenoldeb, rydym wedi gwneud hynny i sicrhau bod gennym wybodaeth fyw am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, ac ni fydd y data hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw fath o fesurau atebolrwydd neu berfformiad. Nid ydym yn gweithredu mewn cyfnod arferol, ac ni fyddai’n deg i’n hysgolion pe baem yn parhau i weithredu ein cyfundrefnau atebolrwydd arferol ar hyn o bryd. Hoffwn roi sicrwydd i'r proffesiwn fy mod i'n deall hynny, mae Estyn yn deall hynny, ac mae'r consortia rhanbarthol a'r awdurdodau addysg lleol yn deall hynny. Mae'r holl reolau'n amherthnasol. Os gallwn fod mewn sefyllfa i ailagor ysgolion, er enghraifft, ni fyddem yn disgwyl iddynt gynnal profion—yr asesiadau sy'n dal i gael eu cynnal ar bapur, er enghraifft. Ond mae'n debyg nad yw hynny'n berthnasol bellach. Ond hoffwn roi sicrwydd i ysgolion na fyddwn yn defnyddio ein dulliau arferol ar yr adeg hon, gan ein bod mewn amgylchiadau eithriadol.

14:05
Hyfforddiant Parhaus i Athrawon

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu hyfforddiant parhaus i athrawon sy'n gweithio yng Nghymru? OAQ55270

Mae dysgu proffesiynol yn hanfodol i sicrhau bod gan bob aelod o staff—staff ysgolion—sgiliau i gyflawni ein diwygiadau addysg yng Nghymru. Rydym yn disgwyl trawsnewidiad llwyr yn y ffordd y mae ein haddysgwyr yn meddwl am ddysgu proffesiynol yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd, yn enwedig. Fel y gallwch ddychmygu, yn gynharach yr wythnos hon, bu'n rhaid inni dynnu ein cynnig dysgu proffesiynol yn ôl. Nid oedd yn briodol ar y pryd, pan oeddem angen i'r holl bersonél fod yn yr ystafell ddosbarth a pheidio â mynychu digwyddiadau dysgu proffesiynol.

Na, ac rwy'n deall hynny'n iawn. Mewn gwirionedd, bûm yn meddwl tynnu'r cwestiwn hwn yn ôl; rwyf wedi tynnu rhai eraill yn ôl heddiw gan y credaf mai'r peth pwysicaf sy'n digwydd ar hyn o bryd, yn amlwg, yw'r coronafeirws. Ond cedwais yr un hwn gan y gwn, wrth i'r toriad barhau ac wrth inni ddod at yr haf, y byddwch yn edrych ar ddatblygiad athrawon o fis Medi ymlaen, ac mae'r cwestiwn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â chefnogi ein hathrawon a rhoi'r gallu iddynt drin plant anodd, plant â phroblemau ymddygiad. Tybed—nid nawr, ond yn y dyfodol—. Mae penaethiaid ac athrawon yn fy etholaeth wedi mynegi llawer o bryderon am nad yw'r athrawon wedi cael eu hyfforddi sut i drin plant aflonyddgar ac ymosodol iawn mewn ysgolion cynradd. Nid ydynt am eu gwahardd o'r ysgol—nid yw hynny'n helpu unrhyw un—ond mae angen mwy o gadernid, mwy o sgiliau ymdopi, mwy o hyfforddiant ar yr athrawon eu hunain, a tybed a wnewch chi roi sylw i hynny?

Ac a wnewch chi faddau i mi—neu fod yn amyneddgar â mi—ond pan fyddwch yn gwneud eich datganiad yr wythnos nesaf, a gaf fi ofyn ichi ystyried rhoi diweddariad inni, os yw'r ysgolion yn mynd i fod ar gau am gyfnod hwy o amser na'r Pasg yn unig efallai, p'un a fyddem yn gallu defnyddio cyfleusterau ysgolion ar gyfer plant gweithwyr gofal iechyd pwysig iawn ar y rheng flaen, gweithwyr gofal cymdeithasol, neu beth y gallem ei wneud? Oherwydd os ydym yn eu tynnu allan o'n gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, ein fferyllwyr, ein heddlu, rydym mewn trafferth mawr. Diolch.

Wel, mae'r Aelod yn llygad ei lle; mae angen inni nodi a chefnogi athrawon gyda'u holl anghenion datblygu proffesiynol. Os caf dorri'r rheolau ychydig y prynhawn yma hefyd, fel yr ymddengys bod pob un ohonom yn ei wneud, cododd Siân Gwenllian fater addysg gychwynnol i athrawon a'r myfyrwyr a fydd ar leoliad. Bydd yr Aelodau yma'n ymwybodol fod angen i fyfyrwyr AGA gwblhau nifer penodol o oriau i ennill eu cymhwyster. Rwyf wedi cadarnhau gyda'n holl ddarparwyr AGA fod y rheolau arferol hynny wedi'u hatal. Mae'r mwyafrif helaeth o oriau eisoes wedi'u cwblhau, ac nid wyf yn barod i golli'r myfyrwyr talentog hynny sy'n dod yn rhan o'n gweithlu ar gorn ychydig oriau ychwanegol yn ein hysgolion. Felly, rwyf am roi sicrwydd iddynt na fyddant ar eu colled am na allant gwblhau eu lleoliadau gwaith mewn ysgolion. Mae arnom eu hangen yn ein gweithlu addysgu ac ni fyddwn yn peryglu'r sefyllfa honno.

Mae'r Aelod yn llygad ei lle—mae'n ddrwg gennyf os nad wyf wedi dweud hynny'n glir eisoes—pan fyddwn yn meddwl am ail-bwrpasu ein hystâd ysgolion, byddwn yn sicr yn ystyried darparu cyfleoedd i'r bobl hynny rydym angen iddynt barhau i weithio, yn yr ystyr ehangaf posibl, i allu manteisio ar gyfleoedd i'w plant fynychu gweithgareddau ystyrlon, pwrpasol, mewn adeilad ysgol yn ôl pob tebyg. Byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau lleol i nodi'r lleoedd gorau i wneud hynny. Byddwn yn pwyso ar ein holl adnoddau proffesiynol—athrawon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr datblygu chwaraeon, ymarferwyr celfyddydol—i sicrhau bod yr amser hwnnw'n hwyl, yn ystyrlon ac yn ddefnyddiol ac y gall roi gwir hyder i rieni fel y gallant wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud, a bobl bach, rydym angen iddynt barhau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud a pheidio â gorfod meddwl am bwy sy'n gofalu am eu plant a beth y mae eu plant yn ei wneud.

Mae hynny'n gwbl—. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi cadw ysgolion ar agor cyhyd ag y gwnaethom, gan eu wedi bod yn chwarae'r rôl hanfodol honno. Ni allwn ddweud hyn yn rhy aml. Rydym mor ddiolchgar. Gwyddom fod ein gweithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen, ond mae ein hathrawon wedi bod yn chwarae eu rhan hefyd i gefnogi'r ymdrech genedlaethol hon.

Pwysigrwydd Perthnasau Iach

8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r ffordd y caiff disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghwm Cynon eu haddysgu ynghylch pwysigrwydd perthnasau iach? OAQ55240

Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel ran bwysig i'w chwarae yn cynorthwyo dysgwyr i nodi ac i ddeall beth yw perthynas iach a diogel. Dyna pam y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhan orfodol o'n cwricwlwm newydd.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n eich canmol am wneud hynny'n rhan orfodol o'r cwricwlwm.

Yn ddiweddar, cefais y pleser o gyfarfod â Hafan Cymru i drafod prosiect Sbectrwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gwnaeth argraff fawr arnaf, gyda’r cynnwys sy’n briodol i oedran ar berthnasoedd iach a cham-drin domestig y maent yn ei gynnig i ysgolion Cymru, ac yn hollbwysig, yn rhad ac am ddim hefyd, sy’n beth prin y dyddiau hyn. Pan fydd ein hysgolion yn ailymgynnull ar ôl i epidemig y coronafeirws ddod i ben, rwy'n siŵr y bydd angen mwy o gefnogaeth nag erioed ar ein disgyblion yn y meysydd hyn. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion yng Nghymru i fanteisio ar y sesiynau y mae Sbectrwm yn eu cynnig?

14:10

A gaf fi, ynghyd â Vikki, gymeradwyo'r gwaith hwn a phrosiect Sbectrwm? Yn eithaf aml yn y Siambr hon, rydym yn trafod mater trais domestig a'n hymateb i drais domestig. Un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn eu gwneud yw sicrhau bod pob un o'n plant, ni waeth pwy ydynt, o ble maent yn dod, yn deall sut beth yw perthynas iach, yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas, ond hefyd yn deall eu hawliau mewn perthynas a sut i herio ymddygiad a sut i geisio cymorth os yw hynny'n briodol. Yn y pen draw, dyna sut y gobeithiaf y gallwn fynd i'r afael â malltod trais domestig—drwy addysgu pob un o'n plant a'n pobl ifanc yn well.

Rydych yn llygad eich lle; mae nifer o ffyrdd y gallwn hyrwyddo'r prosiect a'r ffaith bod yr adnoddau hyn a'r hyfforddiant hwn yn rhad ac am ddim, ac rwy'n fwy na pharod i rannu rhai o'r rheini â Vikki pan fyddwn yn ôl wrthi, ar waith fel arfer, a gallwn sicrhau bod ein hysgolion a'n plant yn ôl i'r arfer cyn gynted ag y gallwn.

Rhwystrau rhag Mynediad i Ddisgyblion Anabl mewn Ysgolion

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dileu rhwystrau rhag mynediad i ddisgyblion anabl mewn ysgolion? OAQ55247

Diolch, Mark. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau system addysg gynhwysol, lle mae pob un o'n dysgwyr yn cael eu cefnogi'n effeithiol i oresgyn rhwystrau rhag dysgu. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol i anghenion dysgu ychwanegol yn llywio gwelliannau ac yn codi ymwybyddiaeth o ADY i sicrhau y gall pob un o'n dysgwyr gyflawni eu potensial llawn.

Mae dwy flynedd bellach, rwy'n credu, ers i'r comisiynydd plant gynhyrchu ei hadroddiad dilynol ar hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn ysgolion yng Nghymru, 'Bywydau Llawn: Mynediad Cyfartal', a nodai nifer o feysydd i'w gwella, gyda rhai ohonynt yn ddyletswyddau llym o dan Deddf Cydraddoldeb 2010, a rhai nad oeddent. Daeth i'r casgliad, er enghraifft, fod

'gor-ddibyniaeth... ar ysgolion unigol i gynllunio ar gyfer anghenion disgyblion ag anableddau corfforol'

ac mai un yn unig o'r 22 cyngor yng Nghymru a ofynnodd am farn pobl ifanc wrth ddrafftio eu strategaeth hygyrchedd. Ymhlith y pethau y dywedodd fod angen iddynt ddigwydd oedd ymgynghori â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd, sy'n ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'n rhaid i hynny ffurfio rhan o'r strategaethau a chynlluniau hygyrchedd i wneud y rhain yn ystyrlon ac i gynnal hawliau plant ledled Cymru. Felly, dylai pob awdurdod lleol ac ysgol ymgynghori â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth baratoi eu strategaeth neu gynllun.

Sut rydych chi'n ymateb felly i sefyllfa y tynnwyd fy sylw ati, lle dywedodd awdurdod addysg lleol, ar ôl mynychu safle ysgol, wrth rieni defnyddiwr cadair olwyn ifanc nad oeddent yn barod i dalu am yr addasiadau angenrheidiol ar gyfer y safle, a bod y disgybl yn mynd i gael ei symud i ysgol arall cyn trafod anghenion y plentyn gyda'r rhieni? Yn ffodus, roedd y rhieni'n deall y gyfraith, eu hawliau datganoledig a heb eu datganoli, ac maent bellach yn ymgysylltu, ond dim ond am eu bod wedi brwydro i wneud hynny, ac maent yn trafod addasiadau amgen arfaethedig. Sut, felly, ddwy flynedd ar ôl yr adroddiad allweddol hwnnw, y gallwch neu y byddwch yn ail-ymgysylltu ag awdurdodau addysg lleol, gan fod rhai ohonynt yn dal i weithredu'r arferion hynafol a gwahaniaethol hyn?

Wel, Mark, fel y dywedoch chi, mae'n gwbl deg fod gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol am baratoi strategaeth hygyrchedd ar gyfer eu hystâd addysg gyfan, ac mae gan ysgolion eu hunain gyfrifoldeb statudol tebyg. Mae'n rhaid i'r strategaethau a'r cynlluniau hyn gael eu paratoi, eu gweithredu, eu hadolygu a'u hadnewyddu bob tair blynedd, ac mae'n hynod—mae'r sefyllfa rydych newydd ei disgrifio wedi fy mrawychu. Nid yw'n dderbyniol o gwbl yn fy marn i.

Wrth gwrs, un o'r ffyrdd rydym yn mynd i'r afael â hyn fel Llywodraeth Cymru yw drwy ein rhaglen adeiladu ysgolion a cholegau yr unfed ganrif ar hugain, lle rydym yn rhoi ystyriaeth hollbwysig i hygyrchedd mewn perthynas â'r hyn rydym am ei gyflawni yn ein hystâd addysg. Ond mae gan ysgolion gyfrifoldebau cyfreithiol eisoes, mae gan awdurdodau addysg lleol gyfrifoldebau cyfreithiol eisoes, ac rwyf bob amser yn fwy na pharod i ymchwilio i'r achosion rydych newydd dynnu sylw atynt ac i herio ymddygiad awdurdodau lleol os nad ydynt yn glynu at y cyfrifoldebau hynny.

14:15
2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones. 

Cefnogaeth i'r Diwydiant Twristiaeth

1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant twristiaeth i liniaru'r effaith y gallai coronafeirws ei chael yng Nghymru? OAQ55252

Mae hon yn sefyllfa sy'n datblygu. Hoffwn roi sicrwydd i'r sector ein bod yn monitro effaith y coronafeirws ar dwristiaeth yn barhaus ac yn gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i roi camau priodol ar waith mewn ymateb i'r sefyllfa sy'n datblygu.

Diolch, Weinidog. Pan gyflwynais y cwestiwn hwn yr wythnos diwethaf, pwy allai fod wedi dychmygu y byddai'r tymor twristiaeth yn cael ei ganslo i bob pwrpas cyn iddo ddechrau hyd yn oed? Weinidog, gobeithio y bydd y mesurau rydym yn eu cymryd i atal lledaeniad y coronafeirws yn golygu y gall bywyd ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd ymhen mis neu ddau.

Yn y cyfamser, mae'r effaith y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar fusnesau twristiaeth a'r rheini sy'n gweithio ym maes twristiaeth yn ddwys. Mae angen i ni sicrhau bod pob busnes, mawr a bach, yn goroesi'r argyfwng hwn. Bydd gwaharddiadau ar deithio rhyngwladol yn golygu mwy o wyliau gartref ar ôl i'r DU lacio'r cyfyngiadau presennol. Fodd bynnag, oni bai fod y sector yn cael yr help sydd ei angen arno yn y tymor byr, ni fydd gennym sector erbyn yr haf.

Weinidog, pa fesurau eraill rydych wedi'u trafod gyda swyddogion cyfatebol ledled y DU? A ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r syniad o asiantaethau Llywodraeth yn defnyddio llety gwyliau ar osod, gwestai a llety gwely a brecwast i ddarparu llochesi i bobl ddigartref, neu fel llety dros dro i weithwyr allweddol? Mae hon yn sefyllfa ddigynsail ac mae angen inni geisio dod o hyd i atebion digynsail ar ei chyfer.

Diolch, Caroline Jones. Credaf eich bod yn llygad eich lle yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa i'r sector penodol hwn. Gwyddom fod oddeutu 11,700 o fentrau twristiaeth yng Nghymru, a'u bod yn cyflogi oddeutu 135,000 o bobl. Felly, mae'n enfawr, ac rydym yn llwyr o ddifrif yn ei gylch. Yn sicr, rydym yn gobeithio y bydd rhai o'r mesurau rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith yn helpu rhai ohonynt. Rydym yn darparu £200 miliwn i sicrhau y bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant. Ond bydd £100 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd, ac yn sicr, ceir gwir ymwybyddiaeth a dealltwriaeth fod hwn yn sector sydd angen help ar unwaith.

A gaf fi ddechrau drwy ofyn i chi ddiolch i swyddogion y Dirprwy Weinidog ar fy rhan ac ar ran y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, gan eu bod bellach wedi rhoi rhywfaint o ganllawiau ar y wefan?

Ar y pwynt diwethaf, serch hynny, rwy’n derbyn mai ddoe yn unig y rhoddodd y Canghellor fanylion ychwanegol ynglŷn â'r cyllid a oedd ar gael i Gymru, ond hyd yn oed cyn hynny, roedd yr Alban wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden sydd â gwerth ardrethol o £69,000 neu lai o 1 Ebrill ymlaen. Mae hynny ychydig yn fwy o gymorth i'r busnesau sydd dros y trothwy o £51,000, fel y byddem yn ei weld yma yng Nghymru.

Rwy'n derbyn bod gostyngiad o £5,000 yn yr ardrethi busnes ar gyfer busnesau sy'n werth dros £51,000, ond mewn gwirionedd, mae'n debyg fod y gostyngiad o 75 y cant yn well iddynt. Os ystyriwch fod rhai o'r rhain yn fusnesau gwirioneddol leol yn hytrach na chadwyni cenedlaethol mawr, ac yn cyflogi mwy o bobl hefyd, buaswn yn ddiolchgar pe baech chi neu'r Dirprwy Weinidog yn barod i ddefnyddio'r ddadl honno ddydd Iau, pan fydd y defnydd o'r £100 miliwn y cyfeiriwch ato yn cael ei drafod.

Ond dyma fy nghwestiwn: rydym ar ddechrau'r prif dymor twristiaeth pan fo'r busnesau hyn, mawr neu fach, yn ystyried cyflogi eu staff tymhorol. Os ydym am osgoi ffrwydrad o gontractau dim oriau, tybed a allech rannu eich syniadau cyfredol ynghylch cefnogi'r gyflogres dymhorol, yn ogystal â rhoi syniad, efallai, o ba mor fuan y bydd gweithredwyr twristiaeth yn gwybod sut y mae'r rhyddhad ardrethi y cyfeirioch chi ato eisoes yn mynd i weithredu o ran cyflymder, gan fod hynny'n amlwg yn bwysig iawn iddynt ar hyn o bryd. Diolch.

Diolch. Yn sicr, rydym yn hynod o ymwybodol mai'r busnesau bach a chanolig sydd dan fygythiad sylweddol yma, ac efallai eu bod yn amharod i fenthyca. Mae cyfleoedd ar gael iddynt fenthyca drwy Fanc Datblygu Cymru, ond yn amlwg, mae rhai ohonynt yn gyndyn o wneud hynny. Felly, yr hyn a wyddom yn awr yw y byddwn yn cael cyllid canlyniadol yn sgil cyhoeddiad y Canghellor o £1.16 biliwn, ac rydym yn gobeithio y bydd rhywfaint ohono'n cael ei gyfeirio'n benodol tuag at y sector manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.

Rydym yn teimlo y dylai'r Canghellor fod wedi mynd ychydig ymhellach nag y gwnaeth o bosibl o ran tanysgrifennu cyflogau gweithwyr sy'n cael eu diswyddo. Felly, mae rhai ohonynt eisoes wedi cael eu contractio. Rwy'n deall eich pwynt y byddai rhai ohonynt wedi bod ar fin cael eu cyflogi, ond ar hyn o bryd, rwy'n credu ein bod yn teimlo bod yn rhaid i'r Canghellor wneud mwy o lawer o ran diogelu a thanysgrifennu cyflogau'r gweithwyr sy'n debygol o gael eu diswyddo oni bai fod rhywbeth yn newid yn sylweddol.

14:20
Mentrau Gefeillio Trefi Rhyngwladol

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau gefeillio trefi rhyngwladol ledled Cymru? OAQ55268

Nid oes gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses ar gyfer gefeillio trefi, dinasoedd a rhanbarthau, ond rydym yn cydnabod budd trefniadau gefeillio trefi a'r hyn y gallant ei gynnig. Rwyf wedi ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau gefeillio, ond o ystyried y sefyllfa bresennol, nid wyf yn disgwyl ymateb ar y mater yn fuan.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, cyflwynwyd y cwestiwn hwn cyn i ddifrifoldeb y sefyllfa bresennol ddatblygu. Mae'n debyg y byddwch yn ymwybodol fod y freuddwyd o efeillio'r Fenni yn fy etholaeth â thref Chinamhora yn Zimbabwe wedi newid o fod yn freuddwyd i fod yn realiti sy'n datblygu'n gyflym, wrth i sawl cyfarfod gael eu cynnal yn ddiweddar. Mae hyn yn wych ar gyfer cysylltiadau Cymru-Affrica. Rydych wedi bod yn rhan o'r broses o'r dechrau, gyda maer y Fenni a minnau, a hefyd Dave a Martha Holman o Love Zimbabwe, felly rydych yn ymwybodol o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yno.

Sut rydych yn cefnogi cysylltiadau cymdeithasau gefeillio ledled Cymru, ac yn benodol rhwng trefi yng Nghymru a threfi mewn rhannau eraill o'r byd y tu allan i'r UE? Ac ar yr adeg hon, pan welwn sefyllfa sy'n datblygu'n gyflym gyda'r coronafeirws, ac i ble yr aiff hynny â ni, sut y gwelwch y bydd datblygu gefeilldrefi yn ffordd werthfawr yn y dyfodol i drefi ledled y byd gyfathrebu a rhannu arferion gorau ar adegau o argyfwng byd-eang?

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud pa mor falch yr oeddwn wrth weld y cysylltiad hwnnw rhwng y Fenni a Chinamhora yn Zimbabwe? Yn sicr, mae arweinyddiaeth ysbrydoledig Martha a David wedi bod yn anhygoel. Credaf ei fod yn rhywbeth yr hoffem ei annog o safbwynt Llywodraeth Cymru, ond fel y dywedaf, mae hyn yn rhywbeth y dylid ei arwain ar lefel llywodraeth leol i raddau helaeth.

Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â Chymru ac Affrica yw bod prosiectau wedi'u sefydlu sawl blwyddyn yn ôl, pan sefydlwyd diwrnod tlodi'r byd y Cenhedloedd Unedig i gyflawni nodau datblygu'r mileniwm. Dyna pryd y cawsom y rhaglen flaenllaw, cysylltiadau cymunedol Cymru o Blaid Affrica, a dyna pryd y cychwynnodd y mentrau mewn lleoedd fel Pontypridd gyda Mbale. Os edrychwch ar sut y mae'r prosiect hwnnw wedi datblygu dros y blynyddoedd, mae'n rhywbeth y mae'r gymuned wedi mynd i'r afael ag ef eu hunain. Rwy'n credu mai dyna'r math o fodel yr hoffem ei weld yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi faint o bobl o Gymru sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws?

Nid oes gennym yr union ffigurau o ran nifer y bobl sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn arwain ar hynny, ond yn amlwg, rydym yn annog pobl i ddod adref ar unwaith os yw'n bosibl iddynt wneud hynny. Dyna'r cyngor a gafwyd gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i rai o'r bobl sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd, ac yn arbennig i'w teuluoedd a fydd yn poeni'n fawr am eu lles. Felly, a gaf fi eich annog i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi'r unigolion hynny a allai fod angen cymorth i gyrraedd adref?

Un o'r grwpiau eraill o bobl y bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt yw gweithwyr Llywodraeth Cymru sydd dramor ar hyn o bryd—a llawer ohonynt mewn gwledydd sydd wedi teimlo effeithiau cryfaf problem COVID-19. Tybed a allech ddarparu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â pha gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r gweithwyr hynny, pa ymgysylltiad a gawsoch â'u teuluoedd, ac a oes trefniadau iddynt gael eu dychwelyd i Gymru yn y dyfodol agos?

Rydym mewn cysylltiad cyson, yn amlwg, â'r 21 swyddfa sydd gan Lywodraeth Cymru ym mhob rhan o'r byd. Mae'r cynrychiolwyr sydd wedi'u lleoli yn y tair dinas yn Tsieina wedi bod yn gweithio gartref ers amser hir bellach. Mae'r rhan fwyaf o'n swyddfeydd wedi'u lleoli yn adrannau'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, felly, ynghyd â Llywodraeth y DU, yn amlwg, maent yn dilyn eu cyngor hwy, ond rydym yn cyfathrebu'n gyson â hwy. Mewn gwirionedd, roedd grŵp ohonynt i fod i ddod yn ôl yr wythnos diwethaf i gael math o ôl-drafodaeth flynyddol; yn amlwg, cafodd honno ei chanslo. Ond mae'r cyfathrebu hwnnw'n rhywbeth sy'n mynd rhagddo'n barhaus, ac yn amlwg, mae lles ein staff ein hunain yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni.

14:25

Yn amlwg, Weinidog, rydym yn cydymdeimlo â hwy ar hyn o bryd mewn amgylchiadau a allai fod yn heriol iawn yn yr ardaloedd lleol y maent wedi'u haseinio iddynt.

Weinidog, yn y strategaeth ryngwladol, yn amlwg, fe nodoch fod gan Gymru lawer o gysylltiadau pwysig, o ran masnach, â llawer o wahanol genhedloedd a rhanbarthau ledled y byd, gan gynnwys ein partneriaid pwysicaf ar garreg ein drws yn yr Undeb Ewropeaidd, Gogledd America, ac yn wir, yn Asia—gan gynnwys dwyrain Asia, sydd wrth gwrs wedi dioddef baich y coronafeirws. Credaf ei bod yn deg dweud ein bod mewn cyfnod ansicr iawn yn economaidd, ac mae'n ddigon posibl y bydd y cysylltiadau hynny'n dod dan fwy o straen o gofio effaith llawer o'r cyfyngiadau sydd bellach yn effeithio ar fusnesau ym mhob rhan o'r byd.

Nawr, mae'r busnesau sy'n dibynnu'n fawr ar fasnach allforio a mewnforio yn debygol o gael eu heffeithio'n fwy o lawer na llawer o fusnesau eraill yng Nghymru. Tybed pa drafodaethau y gallech fod wedi'u cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ac yn uniongyrchol gyda'r busnesau mewnforio-allforio hynny i benderfynu pa gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnynt wrth symud ymlaen? Oherwydd o gofio bod gennych rywfaint o hyblygrwydd yn awr o ganlyniad i adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau, credaf fod angen gwell dealltwriaeth o'r effaith ar y mewnforwyr a'r allforwyr hynny oherwydd natur eu gwaith ar sail fyd-eang.

Diolch. Rydych yn llygad eich lle yn nodi pwysigrwydd masnach. Mae masnach yn cyfrannu oddeutu 22 y cant o'r cynnyrch domestig gros i economi Cymru, felly mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Yn amlwg, rydym yn arbennig o bryderus am y negodiadau masnach a ddylai fod ar y gweill gyda'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â Brexit, gan wybod bod y terfyn amser hwnnw ar y ffordd. Wrth gwrs, byddem yn dadlau y dylid ei ohirio, yn ôl pob tebyg, o dan yr amgylchiadau.

Roedd negodiadau masnach i fod i gychwyn yr wythnos nesaf gyda’r Unol Daleithiau, ac yn amlwg, mae bellach yn amhosibl i’r negodwyr masnach hynny gyrraedd yr Unol Daleithiau er mwyn cychwyn y negodiadau hynny. Felly, credaf fod yn rhaid inni fod ychydig yn fwy creadigol yn y ffordd rydym yn mynd ati i wneud y pethau hyn. Yn sicr, mewn perthynas â mewnforio ac allforio, mae cadwyni cyflenwi ar gyfer economi Cymru yn gwbl hanfodol, ac yn sicr, mae hwn yn faes rydym yn cadw llygad arno. Oherwydd yn amlwg, os na all pobl ddod â'r cydrannau sydd eu hangen arnynt i mewn, bydd hynny'n peri problemau mawr, ac yn y pen draw, gallai hynny orfodi ffatrïoedd i gau.

Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth gwrs, gyda chwmwl du enfawr coronavirus, yn naturiol, mae'r rheolau yn newid i gyd. Ac wrth basio—yn dilyn cwestiwn Nick Ramsay, wrth gwrs—mae dinas Abertawe wedi'i gefeillio efo dinas yn China ers rhai blynyddoedd, dinas o'r enw Wuhan. Rôn i'n arfer cael her yn trio esbonio i bobl lle'r oedd Wuhan, ond ddim rhagor.

Ond wrth gwrs, mae'r her hon o'r coronafeirws yn ymestyn ar draws holl adrannau'r Llywodraeth—wrth gwrs, mae yna adrannau allweddol, yn naturiol—gan gynnwys yn benodol eich adran chi, felly. Yn enwedig o ddilyn y cwestiynau ar fasnach ac arbenigedd eich adran chi ar fasnach, allaf i ofyn pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ar argaeledd rhyngwladol masnach feddygol? Hynny yw, cyfarpar meddygol yn yr argyfwng meddygol yma sydd gyda ni rŵan. Hynny yw, dwi'n sôn am anadlyddion peiriannol—ventilators—ac ati, a chyfarpar arbenigol rhyngwladol eraill sydd eu hangen ar y wlad yma yn y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni.

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae'n ddiddorol iawn i glywed bod Abertawe wedi'i gefeillio gyda Wuhan. Dyna un o'r rhesymau pam dwi wedi ysgrifennu at y llywodraethau lleol i ffeindio mas yn union pwy sydd wedi gefeillio gyda phwy.

O ran masnach, chi'n eithaf iawn i danlinellu pwysigrwydd trio gweld lle gallwn ni gael y cyfarpar yma. Beth mae'n rhaid i ni nodi, wrth gwrs, yw bod y gwledydd yma i gyd yn awyddus i gadw eu ventilators eu hunain; dyna pam mae'r Llywodraeth ym Mhrydain, a ni yma yng Nghymru hefyd, yn ceisio annog busnesau, yn arbennig y rheini sy'n beirianwyr, i weld os allan nhw addasu beth maen nhw'n ei gynhyrchu fel eu bod nhw yn creu ventilators ar gyfer y drychineb yma sydd o'n blaenau ni. 

14:30

Diolch yn fawr am hynna. Ac, wrth gwrs, yn dilyn o hynny, ie, dŷn ni mewn sefyllfa argyfyngus ar hyn o bryd, ond mae'r sefyllfa argyfyngus yma yn beryg o bara am rai wythnosau, os nad misoedd. Ac, wrth gwrs, fel y cyfeiriodd Darren Millar, mae gyda ni bobl o Gymru sydd mewn gwahanol wledydd ar draws y byd rŵan yn dilyn eu gwahanol fusnesau, hyd yn oed yn cynrychioli'r wlad yma. Felly, a allaf ofyn i chi pa drafodaethau ydych chi'n eu cael fel Gweinidog, ac fel adran, ynglŷn â chefnogi'r bobl yma, yn ychwanegol i'r gefnogaeth arferol felly, achos, wrth gwrs, byddan nhw'n teimlo'n ynysig nawr achos mae cyfyngiadau ar deithiau rhyngwladol ac ati? Felly, sut ydych chi'n cynnal—? Ar ben y gwaith sy'n mynd ymlaen yn arferol, ond mewn sefyllfa o argyfwng rŵan, pan fo'r cysylltiadau arferol wedi mynd, pa waith cynnal ychwanegol sydd gyda chi yn edrych ar ôl pobl o Gymru sydd allan o Gymru ar hyn o bryd?

Un o'r pethau rŷn ni wedi gwneud, wrth gwrs, yw i sicrhau bod y bobl yna sydd yn gweithio drostyn ni dramor, eu bod nhw ddim yn mynd mewn i gysylltiad gyda gormod o bobl. Mae lot o weithgareddau oedd ar y gweill wedi cael eu canslo; lot o export missions, mae'r rheini i gyd, wrth gwrs, wedi'u canslo; pobl oedd i fod i ddod mewn i Gymru, y rheini hefyd wedi'u canslo. Ac, felly, rŷn ni yn ceisio sicrhau eu bod nhw yn cadw'n saff. Wrth gwrs, maen nhw yn gyffredinol yn cydweithredu gyda'r tîm Prydeinig sydd yna. Felly, dŷn nhw ddim yn gweithredu fel unigolion fel y cyfryw, felly maen nhw yn dilyn y cyfarwyddyd, nid yn unig sy'n dod gennym ni, ond y cyfarwyddyd sy'n dod gan Lywodraeth Prydain. Ond dwi yn meddwl—. Dwi'n cael cyfarfod y prynhawn yma gyda'r person sydd â chyfrifoldeb dros gydweithredu ac edrych ar sut rŷn ni'n gweithredu dramor. 

Diolch am hynna, Weinidog. Ac, wrth gwrs, dŷn ni wedi clywed cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys yn Llundain yr wythnos yma ynglŷn â'r arian ychwanegol sydd ar gael. Ac, wrth gwrs, yn amlwg, mae yna effaith enfawr yn mynd i fod o achos yr holl gyfyngu ar gysylltiadau, yr holl gyfyngu ar gyfarfodydd, cyfyngu ar deithio, yn ogystal â chyfyngu ar deithio rhyngwladol—yr holl effaith enbydus yna ar fywyd celfyddydol Cymru yn benodol. Dŷn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd i'r Urdd, a chanslo Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd tan y flwyddyn nesaf, a chau'r gwersylloedd, ac ati. Felly, yn nhermau ariannol rŵan, achos, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i ni siarad am bethau fel yna hefyd, yn sgil cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael i drefnu mesurau lliniarol gogyfer y sector gelfyddydol yma yng Nghymru?

Wel, rŷn ni wedi bod mewn trafodaethau gyda'r sector gelfyddydol, ac, wrth gwrs, y sector sy'n gyfrifol am major events. Ac mae lot fawr o arian yn dod mewn i'r wlad oherwydd major events. Wrth gwrs, dwi wedi bod yn cael trafodaethau eithaf manwl gyda chynrychiolwyr yr Urdd dros y penwythnos, ond mae pob math o weithgareddau eraill a mudiadau eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw. Yn sicr, rŷn ni wedi gweld bod y Big Retreat wedi cael ei ganslo, bod y Machynlleth Comedy Festival wedi'i ganslo, Tafwyl hefyd, ac mae bwrdd Llangollen yn cwrdd heno. Felly, mae yna lot fawr o fudiadau sydd yn mynd i gael eu heffeithio gan hyn, ac felly, rŷn ni mewn trafodaethau gyda nhw i weld os oes rhywbeth gallwn ni ei wneud, ond, wrth gwrs, mae hi'n amser argyfyngus i bawb, a beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw gweld beth yw'n blaenoriaethau ni, wrth gwrs. 

Cymru a'r Byd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r cysylltiadau a'r berthynas rhwng Cymru a'r byd? OAQ55260

14:35

Ym mis Ionawr, cyhoeddais strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, sy'n nodi'n glir y camau y byddwn yn eu cymryd yn ystod y pum mlynedd nesaf, nid yn unig i gryfhau ein cysylltiadau rhyngwladol, ond i godi ein proffil, tyfu'r economi, a sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang.

Weinidog, rwy'n meddwl bod yr argyfwng coronafeirws presennol yn dangos unwaith eto pa mor gydgysylltiedig yw'r byd modern o ran cyfathrebu, o ran masnach, o ran y ffordd y mae pawb ohonom yn cydweithio, ac i raddau helaeth buaswn yn dweud, sut rydym naill ai'n ffynnu neu'n dioddef gyda'n gilydd. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n meddwl bod datblygu rhyngwladol yn bwysig iawn ac yn werth chweil, a hynny mewn termau moesol yn wir, yn ogystal ag ymarferol. Ac rwy'n credu bod y rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn enghraifft dda o Gymru a Llywodraeth Cymru yn deall hynny, ac yn gweithredu yn unol â'r gofynion hynny. A gwn pan euthum i Mbale yn Uganda, er enghraifft, gwelais weithgareddau PONT yno, yn cefnogi'r sector iechyd lleol, yn adeiladu clinigau iechyd, yn eu helpu i ddatblygu, a chysylltu â llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol yn y rhan honno o Uganda yn effeithiol iawn. Felly, rwy'n credu, pan fyddwn yn edrych ar y gwersi sydd i'w dysgu maes o law, o ran yr argyfwng coronafeirws presennol, buaswn yn gobeithio, Weinidog, y byddai'n cryfhau ein gwaith a'n cydweithrediad ag Affrica is-Sahara, gan gydnabod ein cydgysylltiad a'r budd i bawb a gawn o'r cysylltiadau cryf hynny.

Diolch yn fawr iawn. Ac rwy'n meddwl eich bod yn llygad eich lle: os bu erioed dystiolaeth ein bod yn fyd cydgysylltiedig, dyma hi. A chredaf fod unrhyw un sy'n credu y gallant ynysu eu hunain yn y gymdeithas fyd-eang hon yn amlwg yn camgymryd yn awr. O ran Uganda'n unig, a'r sefyllfa gydag Affrica, rydym wrth gwrs yn bryderus iawn ynglŷn â phryd a sut y mae'r coronafeirws yn mynd i effeithio ar y rhan honno o'r byd, oherwydd yn amlwg mae eu darpariaethau iechyd yn llawer gwannach yn y gwledydd hynny. Mae'n digwydd bod gennym rywun a oedd yn mynd i fynd allan i Mbale, ac fel mater o drefn, fe wnaethant hunanynysu am 14 diwrnod rhag ofn wrth gwrs gan fod hynny'n rhywbeth nad oeddent am fod yn gyfrifol amdano. Felly, rydym yn rhoi camau pendant iawn ar waith i sicrhau bod unrhyw gysylltiadau sydd gennym—. Wrth gwrs, rydym wedi rhoi'r gorau i'r holl deithio ar ran y sefydliadau sy'n mynd o Gymru i Affrica ar hyn o bryd.

Weinidog, yn amlwg rwy'n derbyn yn llwyr nad yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac mai'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n arwain ar y materion penodol hyn, ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i Gymry dramor yw deall a allwn ni mewn unrhyw ffordd chwarae ein rôl yn rheoli gwybodaeth y gallem ei chael gan ein hetholwyr. Ac rwy'n datgan buddiant: mae gennyf fab dramor, sydd i fod i ddychwelyd ddiwedd y mis hwn, ynghyd â fy nai. Mae hynny'n ystyriaeth arbennig o heriol ar hyn o bryd, hynny yw, yn enwedig gan fod y cwmni hedfan yn gwrthod aildrefnu. Felly, a yw'n well inni gyfeirio etholwyr at ein Haelodau Seneddol yn y gymdogaeth, neu a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfryngau yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad y gallwn ni, fel Aelodau Cynulliad, chwarae ein rhan i drosglwyddo'r wybodaeth honno iddynt? Y peth olaf y dylem ei wneud yw drysu sefyllfa sydd eisoes yn ddryslyd a dyrys iawn.

Rwy'n credu mewn perthynas â hyn, gan mai'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n arwain o ran dod â phobl adref, buaswn yn awgrymu y dylent fynd yn uniongyrchol i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Effaith Coronafeirws ar Ddigwyddiadau Diwylliannol

6. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith coronafeirws ar ddigwyddiadau diwylliannol, yn enwedig digwyddiadau Cymraeg fel Eisteddfod yr Urdd? OAQ55272

Rydyn ni'n monitro effaith y feirws corona ar y sector digwyddiadau yn agos iawn, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau priodol mewn ymateb i sefyllfa sy'n dal i ddatblygu. Rydyn ni hefyd, wrth gwrs, yn cadw mewn cysylltiad agos â mudiadau fel yr Urdd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb, ac mae'n amlwg ei bod yn ddyddiau cynnar eto. Ond buaswn yn ddiolchgar pe bai'n gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd pellach ei bod hi'n deall yn llawn yr effaith ariannol ar yr Urdd—a chan edrych ymlaen o bosibl at yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr haf hefyd, er na fydd raid, gobethio—a gwyddom fod maint yr elw y mae'r sefydliadau yn gweithredu arno'n eithaf cul beth bynnag, ac mae colli'r gallu i wneud rhywfaint o elw o redeg y canolfannau ac o'r eisteddfod yn ergyd fawr i'r Urdd. Felly, a wnaiff y Gweinidog ein sicrhau y bydd yn cadw'r mater dan ystyriaeth agos iawn, ac na fydd yn diystyru cynnig cymorth ariannol uniongyrchol, os mai dyna'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod y sefydliad pwysig hwn—? Rwy'n credu y gallwn i gyd fod yn falch iawn mai gennym ni y mae'r sefydliad ieuenctid mwyaf o ran aelodaeth yn Ewrop, sef yr Urdd. Mae'n amhrisiadwy, nid yn unig oherwydd yr iaith, ond oherwydd yr holl gyfleoedd y mae'n eu rhoi i bobl ifanc a byddai'n drasiedi lwyr pe caniateid i'r sefyllfa ofnadwy hon ddod â'r traddodiad rhyfeddol hwnnw i ben.

14:40

Wel, dwi yn cytuno bod yn rhaid inni edrych, nid yn unig ar y tymor byr, ond beth sy'n mynd i ddod allan yn y pen draw. Ac mae'r Urdd, wrth gwrs, yn un o gyflogwyr mwyaf y trydydd sector yng Nghymru. Mae'n cyflogi tua 320 o bobl; yn cyfrannu tua £31 miliwn i'r economi yng Nghymru; ac, wrth gwrs, yn un o gyflogwyr mwyaf cefn gwlad ac mae hwnna hefyd yn bwysig. Mae 10,000 o wirfoddolwyr ac mae'n bosibl efallai i ni weld sut gallwn ni ddefnyddio y rheini i'n helpu ni. 

Rŷch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod Llangrannog eisoes wedi cau; bod Glan-llyn a Chaerdydd hefyd wedi cau neu yn mynd i gau erbyn diwedd yr wythnos yma. Maen nhw'n mynd i ganslo'r eisteddfodau lleol a rhanbarthol; maen nhw'n mynd i ohirio eisteddfod yr Urdd yn Ninbych am flwyddyn; maen nhw wedi canslo y cystadlaethau chwaraeon a hefyd y gweithgareddau cymunedol. Felly, wrth gwrs, mae'n gyfnod pryderus iawn. Dwi wedi cael sgyrsiau eithaf dwfn gyda'r Urdd ynglŷn ag a oes yna fodd inni helpu y rheini ac, wrth gwrs, dwi yn trafod hynny gyda Gweinidogion eraill.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs. Mae llawer iawn o fudiadau yn yr un math o sefyllfa. Mae'r trafodaethau yna yn parhau. Ond, wrth gwrs, fe fydd hi ddim yn bosibl i helpu pob un, ac felly, mae'n rhaid inni edrych ar beth fydd y ffordd orau i ni helpu ac efallai ceisio rhoi y rhain mewn suspension am damaid bach, a dyna beth efallai yw'r ffordd orau. Ond rydyn ni yn cael trafodaethau dwys gyda'r cwmniau yma. 

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cefnogi sefydliadau fel yr Urdd. Byddai fy etholaeth i wedi elwa o'r ffaith y bwriedid cynnal yr eisteddfod yr Urdd benodol hon yn Ninbych, sydd ychydig y tu allan i Orllewin Clwyd, ond sydd, er hynny, yn effeithio'n sylweddol ar fusnesau twristiaeth lleol yn benodol.

Tybed pa becyn cymorth y gallech ei adeiladu o amgylch y cymunedau a oedd yn edrych ymlaen at allu croesawu pobl o bob cwr o Gymru, ac yn rhyngwladol yn wir, i ddigwyddiadau fel eisteddfod yr Urdd, oherwydd, yn amlwg, maent yn mynd i fod dan anfantais sylweddol o ganlyniad. Bydd llawer ohonynt wedi cael archebion, ac mae'n rhaid iddynt eu canslo yn awr, er y byddant wedi gorfod talu am rai pethau eisoes.

Felly, pan fydd gennych ddigwyddiad arwyddocaol fel hwn wedi'i ganslo, a oes cymorth penodol y gallech ei gynnig er mwyn digolledu'r rhai sydd eisoes wedi talu symiau sylweddol er mwyn paratoi ar eu cyfer?

Wel, rwy'n meddwl, o dan amgylchiadau arferol, mae'n debyg mai'r ateb fyddai, 'Ydym, byddem yn ystyried creu pecyn.' Mae'r rhain yn amgylchiadau eithafol ac felly, rydym yn ymateb o ddydd i ddydd i'r sefyllfa. Rwy'n credu mai'r flaenoriaeth yw gweld sut y gallwn gefnogi'r bobl sy'n gweithio i'r Urdd ar hyn o bryd. A oes unrhyw ffordd o ddiogelu eu swyddi ac edrych tua'r dyfodol?

Y peth allweddol, fel rwy'n dweud, yw inni weld sut y gallwn gadw'r sefydliadau gwych hyn i sicrhau y gallant ffynnu yn y dyfodol. Gwn y bydd gan y Llywydd ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth sy'n debygol o ddigwydd gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r rhain i gyd yn drafodaethau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Mae cwmpas hyn yn enfawr. Rydych yn meddwl am yr holl sefydliadau eraill—gŵyl y Gelli, gŵyl Llangollen. Mae yna nifer enfawr o ddigwyddiadau, ac yn amlwg mae'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau hynny bellach wedi'u canslo. Felly, mae yna oblygiadau difrifol. Nid wyf yn credu, ar hyn o bryd, y gallwn gynnig pecyn estynedig i'r cymunedau a oedd yn disgwyl i hynny ddigwydd, mae arnaf ofn.

Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ55263], 8 [OAQ55271] a 9 yn ôl. Felly, cwestiwn 10, Vikki Howells. 

Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OAQ55249].

Hyrwyddo'r Amgylchedd Hanesyddol

10. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i ddiogelu a hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru? OAQ55241

Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cymeriad a gwerth unigryw ein hamgylchedd hanesyddol i bobl Cymru a'r byd. Mae Cadw yn nodi asedau hanesyddol o bwys cenedlaethol, yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol iddynt ac yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a pherchnogion preifat i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Yn amlwg, mae blaenoriaethau'r sector hwn yn cael eu hadolygu yng ngoleuni coronafeirws.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n credu'n gryf fod gennym un o'r sectorau treftadaeth gorau yn y byd yma yng Nghymru, o ran ei arwyddocâd diwylliannol a'i fanteision i economi Cymru hefyd. Felly, a allech amlinellu ychydig ymhellach imi, os gwelwch yn dda, y math o arweiniad rydych chi wedi bod yn ei roi i'r sector hwnnw i'w tywys drwy'r argyfwng coronafeirws?

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch. Wel, gallaf ddweud bod pob safle Cadw—y 24 ohonynt—wedi cau erbyn hyn. Mae'r amgueddfeydd sy'n gyfrifoldeb i Llywodraeth Cymru hefyd ar gau. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd wedi cau ei drysau ac wrth gwrs, rydym mewn cysylltiad rheolaidd â hwy.

Rydym hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a chymdeithasau. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r rheini wneud penderfyniadau drostynt eu hunain, ond os ydynt yn dilyn canllawiau'r DU, sydd wedi'u gosod—na ddylai pobl ymgasglu mewn niferoedd mawr—yna, yn amlwg, mae angen iddynt ystyried hynny hefyd.

Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

11. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ55246

O ystyried yr amgylchiadau presennol, mae ein twristiaeth yn wynebu cyfnod anodd iawn. Mae hon yn sefyllfa sy'n datblygu ac rwyf am sicrhau'r sector ein bod yn monitro effaith coronafeirws ar dwristiaeth yn barhaus ac yn gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ar ba gymorth y gallwn ei gynnig.

Yn ddiweddar, cefais y pleser o ailedrych ar brosiect peirianneg mawr Rheilffordd Llangollen yng ngorsaf ganolog Corwen, a gaiff effaith aruthrol ar hybu twristiaeth yn y rhanbarth, er mwyn gweld drosof fy hun y cynnydd y maent wedi'i wneud. Rwyf bob amser yn rhyfeddu at yr hyn y mae grŵp o wirfoddolwyr ag oedran cyfartalog o 68, sy'n gweithio ar sail ran-amser, yn gallu ei gyflawni.

Flwyddyn yn ôl, wrth siarad yma, gelwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am gefnogaeth i'n rheilffyrdd treftadaeth safonol. Rydym yn gwybod ac yn cymeradwyo'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rheilffyrdd treftadaeth cul, ond roeddem am weld sut y gellid bwrw ymlaen â'r ymdrech wirfoddol fawr hon, a darparu prosiectau treftadaeth, a chynnig llawer i dwristiaeth ac economïau ehangach hefyd mewn ardaloedd sy'n aml angen llawer o symbyliad. Felly, sut yr ymatebwch i'r cwestiwn neu'r pwynt a godwyd gyda mi yn ystod fy ymweliad diweddar fod angen i Lywodraeth Cymru symud ymlaen o edrych ar hyn mewn perthynas â rheilffyrdd treftadaeth cul a safonol ar wahân ac uno'r sector rheilffyrdd treftadaeth yng ngogledd Cymru ac ar draws Cymru er budd twristiaeth ac economïau lleol fel ei gilydd? Ac wrth gwrs, o ystyried eich sylwadau agoriadol, mae hyn hyd yn oed yn fwy allweddol yn yr amgylchedd presennol.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr y byddai gennych ddiddordeb mewn clywed bod tad Gweinidog yr economi yn arfer gweithio yn y lle roeddech yn sôn amdano, felly mae hynny'n ddiddorol iawn.

Gwn fod y dwristiaeth a nifer y twristiaid sy'n cael eu denu gan ein rheilffyrdd cul, ac fel y dywedwch, ein rheilffyrdd safonol, yn dod â chyllid sylweddol i economi Cymru. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei drysori. Mae'r brwdfrydedd dros y sector hwn yn werth ei weld mewn gwirionedd, yn enwedig nifer y gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser. Felly, ni allaf ddweud wrthych a yw hynny—. Mae'n ymddangos yn syniad da rhoi'r rheilffyrdd cul a'r rhai safonol at ei gilydd mewn pecyn hyrwyddo. Efallai fod rhywfaint o sensitifrwydd ynglŷn â hynny, ond mae hynny'n rhywbeth y gallwn ei ystyried efallai ar ôl i'r argyfwng hwn dawelu.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol ac mae'r cwestiwn amserol y prynhawn yma i'w ofyn gan Alun Davies a'i ateb gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Alun Davies.

Cefnogaeth i Fusnes

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar gymorth i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020? 408

Gwnaf wrth gwrs. Roeddwn yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor, ond mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yn y dyddiau nesaf, yn enwedig i gefnogi busnesau gyda chostau cyflogau a chymorth ariannol i weithwyr sydd wedi cael eu diswyddo. Nawr, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ynglŷn â rhoi grantiau i fusnesau bach sy'n cyfateb i'r hyn a roddir yn Lloegr yn ogystal â darparu rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, mae diffyg sylweddol o gannoedd o filiynau o bunnoedd rhwng y swm canlyniadol Barnett a gawsom a'r gost o roi arian sy'n cyfateb i bob agwedd ar becyn y Canghellor i fusnesau yn Lloegr, a disgwyliwn i Lywodraeth y DU lenwi'r bwlch hwn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n meddwl bod pob un ohonom yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi deffro i'r argyfwng sy'n wynebu llawer o bobl ledled y wlad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod dros ddegawd yn awr ers inni achub crwyn y banciau—nawr mae'n bryd cefnogi ein pobl. Mae llawer ohonom yn teimlo bod y Canghellor, yn ei ddatganiad ddoe, wedi methu mewn tair ffordd. Yn gyntaf, nid oedd datganiad y Canghellor yn edrych ar yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl a theuluoedd. Mae llawer o bobl sy'n hunangyflogedig ac sy'n rhedeg busnesau bach wedi cysylltu â mi, ac mae pob un ohonynt yn ofni oherwydd y feirws sy'n cylchredeg yn ein cymuned, ond hefyd yn ofnus oherwydd mae'n bosibl iawn y byddant yn colli eu swyddi ac yn colli eu busnesau. Mae'n ddyletswydd ar unrhyw Lywodraeth i ymateb yn llawn i'r argyfwng sy'n wynebu pobl yn ein cymunedau heddiw, ac nid yw'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig wedi cydnabod yr effaith hon ar fusnesau bach a phobl hunangyflogedig.  

Hefyd, Ddirprwy Lywydd, mae wedi methu cydnabod pwysigrwydd busnesau bach i economi Cymru. Mae wedi methu cydnabod pwysigrwydd y busnesau hyn i'n heconomi ehangach ac i'n cymunedau. Mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud yn ei ateb na fydd Barnett yn gweithio. Rhaid ei bod yn bryd rhoi Barnett o'r neilltu yn awr a chael fformiwla newydd sy'n seiliedig ar anghenion i ddarparu'r gefnogaeth lawn y mae Cymru ei hangen ac yn ei haeddu.  

Yn olaf, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi am y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio ar hyn o bryd? Mae hwn yn argyfwng ledled y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, ond mae'n ymddangos mai un wlad yn unig yn y Deyrnas Unedig sydd o ddiddordeb i'r Deyrnas Unedig ac nid y pedair gwlad. Rwy'n ymwybodol fod Gweinidogion Cymru wedi cynnig cyfarfodydd preifat i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chyfleoedd i weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar bob busnes ledled y DU. Onid yw'n bryd i'r DU lywodraethu dros y Deyrnas Unedig gyfan a sicrhau bod y DU gyfan yn cael y gefnogaeth y mae busnesau, yr hunangyflogedig a'n cymunedau ei hangen ac yn ei haeddu?

14:50

A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Ffurfiwyd y sefydliad hwn i fynd i'r afael â phroblemau Cymreig, ond wrth gwrs, rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol. Mae coronafeirws yn broblem fyd-eang ac mae'n galw am ymateb byd-eang ac am ymateb cryf iawn gan y DU hefyd. Mae'n galw am ymateb lle mae'r pedair gwlad yn cyfrannu at yr atebion, ac roeddwn yn falch y bore yma o gymryd rhan yn yr hyn y gobeithiaf y bydd yn gylch wythnosol o drafodaethau pedairochrog â'm cymheiriaid ledled y DU, gan gynnwys Gweinidogion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Rhaid imi ddweud nifer o bethau am y cyhoeddiad a wnaethpwyd ddoe. Mae angen gwneud llawer mwy. Dywedwyd wrthym y bore yma y bydd datganiadau pellach yn cael eu gwneud. Gwn fod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad y prynhawn yma ynglŷn â phobl sy'n rhentu eiddo a oedd, tan heddiw, yn eithriadol o bryderus am y sefyllfa y byddent yn ei hwynebu. Rwy'n gobeithio y rhoddir mwy o gefnogaeth i bobl sy'n wynebu cyflogau is o lawer neu a fydd yn colli eu cyflogau'n gyfan gwbl. I'r perwyl hwn, siaradais â'r Ysgrifennydd Gwladol ddoe yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac fel rhan o'r trafodaethau pedairochrog heddiw, codasom y posibilrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynllun cymhorthdal cyflog. Ni fyddai hyn yn ddigynsail. Rydym wedi ei weld yn cael ei fabwysiadu mewn llawer o wledydd eraill ledled y byd, a dywedwyd wrthyf y byddai'r union gynnig hwnnw'n cael ei ystyried. Rwy'n gobeithio y gwneir cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU yn y dyddiau nesaf.

Bydd yn rhaid cynnig pecyn ariannol enfawr o gymorth ochr yn ochr ag ef wrth gwrs. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn y 24 awr ddiwethaf, wedi dweud bod yn rhaid i'r Llywodraeth weithredu mewn modd diamwys, ac mae hynny'n golygu, yn hytrach na gwario tua 1.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros i gryfhau'r economi, y dylid buddsoddi rhywbeth tebycach i 5 y cant ynddi, a dyna'n union rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried wrth iddi ddyfeisio—fel rwy'n gobeithio y bydd yn ei wneud—polisi ymyraethol cryf mewn perthynas â chymorth cyflogau. O ran y £330 biliwn a gyhoeddwyd, roedd hwnnw'n canolbwyntio i raddau helaeth ar fusnesau a allai fforddio benthyca, ond gwyddom fod yna lawer o fusnesau nad ydynt yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd ac mae angen cymorth arnynt ar unwaith.  

Nawr, rwyf wedi gofyn am eglurder ynglŷn â beth y gallai'r bwlch yn y cynigion ar gyfer Lloegr fod. Mae £20 biliwn wedi'i ddyrannu i'r set honno o gynigion, ond nid ydym yn hollol siŵr a ellir fforddio'r cynigion yn llawn gyda'r £20 biliwn a ddyrannwyd ar eu cyfer. Fy nealltwriaeth i yw na fydd grantiau yn Lloegr ar gael tan fis Ebrill. Awdurdodau lleol fydd yn eu gweinyddu. Rydym yn edrych yma yng Nghymru ar sut y gallwn gael arian drwy'r drws yn gynt, oherwydd mae taer angen cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint, a busnesau mwy o faint hefyd yn wir, a hynny ar unwaith.

14:55

A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb cytbwys, rwy'n meddwl, i Alun Davies? A chwestiwn Alun Davies—rwy'n siomedig iawn gyda thôn ei ymagwedd oherwydd, fel y dywedais ddoe, Weinidog, rwyf am weithio gyda chi a'r Llywodraeth, gan graffu ond hefyd mewn ffordd gytbwys a chyda chydweithrediad, ar yr adeg hon nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen. Cawsom y Canghellor ddoe, yn ychwanegol at gyllideb yr wythnos diwethaf, yn cyhoeddi £330 biliwn, swm digynsail, gydag arian canlyniadol Barnett o £1.1 biliwn, gyda mwy o arian—mwy o arian—yn dod yn ôl yr angen hefyd. Felly, gadewch i ni gadw hynny yn y cyd-destun a fwriadwyd. [Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda—

Ond rwyf mor rhwystredig nad ydym yn gweithio ar sail consensws, Ddirprwy Lywydd. Dewch, gadewch inni ddod at ein gilydd ar yr adeg hon. Rwy'n mynd i geisio mynd drwy fy nghwestiynau mewn ffordd bwyllog.  

Ddoe, Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth fesurau ychwanegol ar gyfer cymorth i fusnesau. Fe ddywedoch chi y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw, rwy'n credu, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn gan fy mod yn credu bod angen i hynny fod mor gyflym ag sy'n bosibl. Rwy'n sylweddoli bod swyddogion yn mynd i orfod gweithio drwy'r symiau canlyniadol a'r manylion hynny, ond yn sicr cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ni waeth beth yw'r gwerth ardrethol, fod pob busnes—boed yn dafarndai, yn lleoliadau cerddoriaeth neu'n theatrau neu'n fwytai—yn cael rhyddhad ardrethi o 1 Ebrill yn gyfan gwbl. A buaswn yn gobeithio, wrth gwrs, y gall Llywodraeth Cymru wneud yr un peth yma yng Nghymru cyn gynted â phosibl, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny'n digwydd yn gyflym oherwydd os na fydd yn digwydd, bydd ein mewnflychau'n llenwi, a bydd pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar Busnes Cymru gyda busnesau'n gofyn y cwestiynau. Felly, mae'n bwysig iawn fod hynny'n digwydd cyn gynted ag y bo modd. Wrth gwrs, mae'r grant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gael—nid benthyciad ond grant sydd ar gael i fusnesau, i fyny o £3,000 i £10,000, ac mae'n amlwg y bydd lle yno i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei chynllun ei hun. Unwaith eto, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith eich bod yn gallu gwneud hynny, ac os ydych chi'n gallu gwneud hynny'n gynt nag y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr ar gyfer busnesau Cymru, mae hynny'n wych ac fe gewch fy nghefnogaeth lwyr yn hynny hefyd.

O ran Busnes Cymru, fe sonioch chi ddoe mai dyna yw'r siop un stop, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac fe ddywedoch chi fod ganddo gapasiti, neu ei fod   wedi dynodi hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi bod yn cyfeirio busnesau at y llinell honno ac maent wedi dod yn ôl ataf i ddweud eu bod wedi bod yn ceisio mynd trwodd ers dau ddiwrnod. Rwyf wedi ceisio cysylltu â Busnes Cymru fy hun—roeddwn mewn ciw am 30 munud ac ar y pwynt hwnnw rhoddais y gorau iddi. Nid beirniadaeth yw hynny, dim ond rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd yn y cyfnod digyffelyb hwn, a hefyd, nid wyf yn credu bod yr opsiynau a oedd ar gael yn berthnasol i'r argyfwng presennol a wynebwn. Nid oedd unrhyw sôn am y sefyllfa bresennol. Opsiwn 1, wyddoch chi, yw 'A ydych chi eisiau dechrau busnes newydd? Pwyswch 1.' Pwysais y pumed opsiwn, sef 'arall', felly credaf fod angen edrych ar hynny er mwyn sicrhau bod busnesau'n mynd drwodd i siarad â rhywun cyn gynted â phosibl, gymaint ag y gellir.   

O ran ardrethi busnes, mae'n gwestiwn hefyd a yw awdurdodau lleol wedi anfon biliau allan ai peidio. Ond wrth gwrs, os gellir atal hynny neu os gellir dweud wrth fusnesau yn gyffredinol, 'Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes', bydd hynny eto'n lleihau'r pwysau. Mater gweinyddol yw hwn i awdurdodau lleol, lle gellid arbed llawer o adnoddau ac amser os gallwn weithio drwy rai o'r problemau hyn cyn gynted â phosibl cyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd.  

Ac yn olaf, mae Banc Busnes Prydain hefyd yn darparu cyllid, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder, os oes modd—os nad yn awr, drwy ddatganiad, efallai, i'r Aelodau—fod banc datblygu Prydain, er enghraifft, yn darparu cyllid i'r DU gyfan ar gyfer cymorth i fusnesau, a sut y mae hynny'n cydgysylltu â Banc Datblygu Cymru? A all busnesau Cymru fynd drwy'r ddau fanc? A chyda'r swm canlyniadol hwnnw, sut y mae hynny'n gweithio o ran y ffaith nad yw rhai agweddau ar gymorth busnes yn dod drwy Lywodraeth Cymru, ond eu bod yn dod drwy ddulliau eraill hefyd? Byddai'n ddefnyddiol deall hynny er mwyn inni allu rhoi'r wybodaeth gywir i fusnesau. Rwy'n dal i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chi ar sail amhleidiol i helpu busnesau ledled Cymru, Weinidog.  

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Mae wedi crybwyll nifer o feysydd a phynciau y prynhawn yma.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud ynglŷn â Busnes Cymru—mae'n amlwg fod Busnes Cymru yn cael eu llethu gan alwadau ar hyn o bryd? Cefais wybod y bore yma fod staff ychwanegol wedi'u symud o'u swyddi arferol, eu swyddogaethau arferol, er mwyn ateb y nifer enfawr o alwadau a wneir i'r gwasanaeth penodol hwnnw. Crybwyllais y negeseuon llais a chyfeirio pobl drwy'r system negeseuon llais. Mae hynny'n cael sylw wrth inni siarad. Buaswn yn awgrymu y dylai busnesau, fel cam cyntaf, ymweld â'r wefan a'r wybodaeth a ddarperir arni. Hefyd, mae modd logio galwad yn ôl os na all busnesau aros mwy na phump, 10 neu'n wir, 30 munud, ac rwy'n cydnabod—rwy'n cydnabod—fod pwysau aruthrol yno gyda Busnes Cymru. Rydym yn edrych ar bob cyfle i gryfhau ymhellach nifer y bobl sy'n cynghori busnesau o fewn Busnes Cymru.

O ran hysbysiadau ardrethi busnes, os gellir eu hatal, mae'n amlwg y bydd hynny'n digwydd, ond os na ellir eu hatal a'u bod eisoes wedi cael eu hanfon, bydd hysbysiadau pellach yn mynd allan i roi gwybod i fusnesau na fydd ganddynt ddim i'w dalu. O ran y £330 biliwn a gyhoeddwyd, benthyciadau'n unig ydyw ar hyn o bryd ac rydym angen swm ychwanegol o arian—swm sylweddol iawn yn wir—i fod ar gael i dalu am gostau sefydlog busnesau wrth iddynt geisio brwydro drwy'r cyfnod hwn neu os byddant yn penderfynu gaeafgysgu wrth iddynt roi'r gorau i weithredu am gyfnod dros dro. Dylid defnyddio'r arian hwnnw i sicrhau bod incwm ar gael i bobl y mae coronafeirws yn effeithio arnynt ac sydd mewn gwaith ond hefyd i gadw'r gweithwyr gwerthfawr hynny ar lyfrau'r busnesau yr effeithir arnynt. Mae'n gwbl hanfodol fod camau'n cael eu cymryd yn hynny o beth.

Gwn fod y Gweinidog Cyllid yn siarad y prynhawn yma â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a bydd Rebecca Evans yn cyflwyno achos grymus iawn dros y bwlch y soniais fod angen ei lenwi. Mae'n gwbl hanfodol os ydym am gyflwyno'n union yr un lefel o gymorth o ran ardrethi annomestig ar gyfer y sectorau a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddoe. Mae costau enfawr yn gysylltiedig â chefnogi archfarchnadoedd cadwyn, siopau cadwyn a gwestai cadwyn, ond o leiaf, rydym yn edrych ar y cyfle i ddarparu cymorth yn ôl disgresiwn i gynghorau, gan gydnabod mewn sawl rhan o Gymru fod busnesau mawr annibynnol, fel y gwestai hynny a geir mewn llawer o'n cymunedau, yn gallu rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i'r gadwyn gyflenwi.

15:00

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb i gwestiwn Alun Davies. Credaf ei bod yn sicr yn wir, oherwydd strwythur ein heconomi, y bydd arnom angen lefel uwch o gymorth i fusnesau o bosibl, ac fe'm calonogir gan yr hyn a ddywed y Gweinidog, ei fod yn cael peth ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i gydnabod hynny. Rwy'n siŵr y gallwn gael pob ffydd yn y Gweinidog cyllid y bydd yn cyflwyno'r achos hwnnw'n rymus tu hwnt, oherwydd mae gennym strwythur gwahanol iawn. Rydym yn dibynnu mwy ar dwristiaeth, er enghraifft, mewn rhai cymunedau. Mae'n dal i fod gennym—diolch byth—fwy o gapasiti gweithgynhyrchu na llawer o rannau eraill o'r DU, ond unwaith eto, mae'n bosibl fod y busnesau hynny dan fygythiad. Ac mae gennym hefyd—a dyma fy nghwestiwn cyntaf i'r Gweinidog—lawer iawn o ficrofusnesau, fel roedd fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, yn sôn ddoe, llawer iawn o bobl sy'n sefydliadau un person neu'n sefydliadau un neu ddau o bobl. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth inni symud ymlaen, fod yna fodd o drosglwyddo unrhyw becyn cymorth busnes iddynt yn rhwydd ac yn effeithiol iawn. Nid yw'r ffaith y gellir cael tâl salwch yn gynharach yn mynd i ddatrys y broblem i bobl sy'n hunanynysu nid oherwydd eu bod hwy'n sâl ond oherwydd bod rhywun arall yn sâl, ac yn sicr nid yw'n mynd i ddatrys y broblem i rywun nad yw'n hunanynysu ond nad ydynt yn cael unrhyw fusnes, er enghraifft, os ydynt yn adeiladwyr ac y byddent fel arfer yn mynd i mewn i gartrefi pobl ac nid ydynt yn cael unrhyw fusnes.

Felly, hoffwn glywed ychydig mwy gan y Gweinidog heddiw ynglŷn â beth yw ei argymhellion i sicrhau y gall y microfusnesau hynny gael cymorth. Roeddwn yn mynd i nodi'r pwyntiau ynglŷn â mynediad at y llinell gymorth y mae Russell George eisoes wedi'u crybwyll, ond nid oes angen ailadrodd hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn arbennig—. I'r busnesau hynny mae'n arbennig o bwysig fod mynediad at gymorth yn hawdd a bod gwybodaeth yn hawdd ei chael, oherwydd nid oes ganddynt adrannau gweinyddol mawr i'w cefnogi gyda hynny.  

Fe'm calonogwyd wrth glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am ryddhad ardrethi i rai o'n busnesau twristiaeth mwy o faint. Rwy'n meddwl am sefydliadau fel Gwesty'r Harbourmaster yn fy rhanbarth i ac etholaeth y Llywydd, sy'n fusnes annibynnol Cymreig, ond fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n gwbl hanfodol yn y gadwyn gyflenwi yn yr ardal honno. Mae'n fusnes cyrchfan y daw pobl i'r dref honno i ymweld ag ef, i aros ynddo, i ddefnyddio'r bwyty ardderchog, a gwyddom fod gennym gannoedd o'r rheini ar hyd a lled Cymru. Felly, os caf ofyn i'r Gweinidog gadw'r rhyddhad ardrethi busnes dan ystyriaeth ac edrych eto i weld a oes modd inni wahaniaethu, o bosibl, rhwng y busnesau sydd mewn perchnogaeth leol y byddem am roi cymhorthdal iddynt, os mynnwch, a'r cadwyni mawr y byddem neu na fyddem eisiau eu cefnogi. Oherwydd yn sicr nid wyf yn credu y byddai unrhyw fwriad ar ran y Gweinidog i'r busnesau hynny beidio â chael eu cefnogi.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd—rwy'n cymryd nad oes angen dweud hyn—yn y darlun hwn sy'n symud yn gyflym iawn, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb ohonom am yr hyn sy'n digwydd ynghylch yr ymateb gan Lywodraeth San Steffan. Gobeithio y bydd cyd-Aelodau ar y meinciau gyferbyn hefyd yn cefnogi unrhyw sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i Weinidogion ar ben arall yr M4, oherwydd rwy'n siŵr eu bod yn deall strwythur gwahanol ein busnes. Ond po fwyaf y caiff pawb ohonom ei wybod ynglŷn â beth sy'n digwydd, y mwyaf y gallwn rannu'r wybodaeth honno gydag etholwyr pryderus, a'r mwyaf y gallwn weithredu fel Tîm Cymru cyn belled ag y bo modd. Gŵyr y Gweinidog y byddwn ni ar y meinciau hyn a gweddill y gwrthbleidiau bob amser yn craffu'n drwyadl ar ei waith, ond yn yr amgylchiadau hyn, byddwn am weithio gyda'n gilydd lle gallwn wneud hynny.

15:05

Wel, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones? Roedd hi'n anhygoel o adeiladol a chymwynasgar ddoe, ac mae hi felly heddiw hefyd. Er nad wyf am ychwanegu at faich fy swyddogion, yng ngoleuni'r hyn a awgrymodd Helen Mary Jones, credaf y byddai'n ddefnyddiol i mi ddarparu datganiad ysgrifenedig wythnosol ynghylch ein hymwneud â Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig eraill, a'r diweddaraf ynghylch ymyriadau'n ymwneud â'r economi, a byddaf yn ceisio gwneud hynny.

O ran y pwyntiau a godwyd ynghylch unig fasnachwyr a microfusnesau, fel y dywedais, yn ddiweddarach heddiw, rydym yn disgwyl gallu cyhoeddi y byddwn yn cynnig grantiau o £10,000 i bob busnes bach. Bydd hynny'n cynnwys unig fasnachwyr. Os nad oes gan unig fasnachwyr a microfusnesau safleoedd, bydd angen iddynt ddibynnu ar gynllun cymhorthdal cyflog. Dyna pam rwy'n credu ei bod mor bwysig, cyn gynted ag y bo modd, i Lywodraeth y DU allu datblygu cynllun cymhorthdal cyflog teg ar gyfer busnesau o bob maint er mwyn sicrhau y gall busnesau naill ai aeafgysgu neu ymladd drwy'r argyfwng penodol hwn.

Ac yna, yn drydydd, cododd Helen Mary Jones y pwynt pwysig ynglŷn â pha mor arwyddocaol y gall gwestai annibynnol fod i lawer o'n cymunedau—siopau mawr annibynnol hefyd mewn sawl rhan o Gymru. Buaswn yn dweud y gallai rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn fod ar gael i gefnogi nifer ohonynt, ond os ydym o ddifrif yn dymuno rhoi'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gynnig i Loegr, ac os ydym am sicrhau bod cynifer o fusnesau ag y bo modd yn elwa o hyn, mae angen i Lywodraeth y DU lenwi'r bwlch enfawr o gannoedd o filiynau o bunnau.

Weinidog, rwy'n falch iawn fod y cwestiwn hwn wedi'i gyflwyno—a diolch i Alun Davies am wneud hynny—i roi cyfle i ni, a chyfle i chi, gynrychioli ein hardaloedd. Mae economi Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth a busnesau bach, ond mae gan hynny, yn ei dro, ganran uchel o weithlu rhan-amser a dim oriau i'w gefnogi. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am gymorth Llywodraeth y DU i'r graddau y mae wedi mynd, ond rwy'n bryderus, ac rydych wedi'i ailadrodd yma sawl gwaith, ei fod wedi'i anelu at y busnesau mwy o faint ac nad yw o anghenraid yn mynd i gefnogi'r llu o fusnesau bach a chanolig sydd gennym yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Ond yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno go iawn heddiw yw'r gweithlu, ac yn enwedig tâl salwch statudol. A fyddech cystal â dweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch swyddog cyfatebol yn y DU i sicrhau bod y gweithwyr rhan-amser a dim oriau nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer tâl salwch statudol yn cael y cymorth hwnnw? Ac a wnewch chi bwyso ar Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU i'w dalu'n gyflym i'r rhai sy'n sâl neu sy'n gorfod hunanynysu ar gyfradd sy'n cyfateb i'r cyflog byw go iawn? Bydd hynny, yn ei dro, yn helpu'r teuluoedd a'r unigolion i oroesi'r argyfwng hwn, oherwydd mae'n sicr yn argyfwng iddynt, ac nid hwy a'i creodd.

Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn annog Llywodraeth y DU i gael gwared ar yr angen i aros am bum wythnos i gael credyd cynhwysol. Cefais fy nghalonogi wrth glywed o feinciau'r Torïaid yma eu bod am weithio gyda ni a'n cefnogi, a gobeithio y byddant yn dechrau ysgrifennu at y Gweinidogion yn eu Llywodraeth i ofyn iddynt am y tâl salwch statudol hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gael copïau o'r llythyrau hynny.

Fe wyddom fod y Pasg yn dod. Fe wyddom, yn anffodus, na fydd o anghenraid yn ddathliad hapus fel roeddem i gyd yn ei obeithio, ond serch hynny, rwy'n siŵr y gwnaiff pawb yma ymuno â mi i obeithio y caiff pawb Basg mor ddigynnwrf ac mor dda ag y gallant ei gael.

15:10

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau, ac am hyrwyddo'r angen i gefnogi pobl a busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn wir, ledled y wlad? Codwyd cwestiwn tâl salwch statudol heddiw mewn cyfarfod pedairochrog. Fe'i codwyd gan y Prif Weinidog hefyd yn ei lythyr at y Canghellor dyddiedig 17 Mawrth, a gwn ei fod wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau. Gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn cymryd camau yn y modd y mae'r Aelod wedi'i amlinellu.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn rhoi sylw i anawsterau eraill y mae unigolion a busnesau bach yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn enwedig yn y rhanbarth y mae'r Aelod yn ei gynrychioli. Mae'r rheini'n cynnwys y costau sefydlog a all fod yn symiau enfawr, gan gynnwys costau cyfleustodau. Rwy'n galw ar gwmnïau cyfleustodau i gyflwyno cynnig sylweddol i unigolion a busnesau o ran gwyliau talu, gan adlewyrchu'r hyn y mae banciau wedi'i wneud yn gyfrifol o ran cynnig gwyliau ad-dalu morgais. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol i bawb gyfrannu at yr ymdrech i weld pobl a busnesau yn dod drwy'r cyfnod hynod anodd hwn. Ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau cyfleustodau yn gwneud yr hyn y gallant ei wneud hefyd.

Un pwynt olaf, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n ymwneud â chwestiwn a ofynnwyd gan Russell George. Roeddwn i fod i gyfarfod â banc datblygu Prydain yn gynharach yr wythnos hon. Yn anffodus, oherwydd yr argyfwng, ni fu modd iddynt gyfarfod. Mae trafodaeth gyda hwy yn cael ei rhoi yn fy nyddiadur, a byddaf yn adrodd yn ôl i'r Aelodau cyn gynted ag y gallaf.

Ni allaf weld, Weinidog, sut y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi disgrifio'r pecyn ariannol a roddwyd yn ei le hyd yn hyn fel un 'hollol annigonol'. Ar draws y Siambr hon ddoe, safodd Aelodau ysgwydd wrth ysgwydd yn wyneb y feirws sy'n ein hwynebu. Mae £430 biliwn wedi'i chwistrellu i mewn i'r economi ac yn mynd i gael ei chwistrellu i'r economi—15 y cant o'r cynnyrch domestig gros, dyna ydyw. Nid 1.5 y cant, nid 5 y cant, ond 15 y cant o'r cynnyrch domestig gros.

A dim ond—[Torri ar draws.] Ddoe ddiwethaf, nodais ddau beth i chi, Weinidog: (1), yn eich datganiad, ni wnaethoch dynnu sylw at y £100 biliwn o fenthyca ychwanegol roedd y Canghellor wedi'i chwistrellu i'r gyllideb yr wythnos diwethaf, ac roedd y Llywodraeth yn sefyll wrth 80 y cant o'r benthyciadau a gafodd eu tanysgrifennu gan y £100 biliwn hwnnw. Yn ail, gofynnais i chi'n benodol ynglŷn ag adnoddau Busnes Cymru—a fyddent yn gallu ymdrin ag ymholiadau. Nid beirniadaeth oedd hynny ond ymgais i gael sicrwydd o ystyried y don o ymholiadau—a hynny'n briodol—a fydd yn dod o'r byd busnes.

Heddiw, rydym wedi clywed gan fy llefarydd yma a ddywedodd fod negeseuon ar y system yn dal i fethu mynd i'r afael â'r pryderon hyn, ac mae pobl yn rhwystredig, a dweud y lleiaf, ac yn ddig ar y gwaethaf. A allwch roi sicrwydd inni fod yr adnoddau'n cael eu darparu? Rydych wedi cyfeirio at y ffaith honno, ond a allwch roi syniad inni faint yn fwy o adnoddau a ryddhawyd i Busnes Cymru o ran nifer y gweithredwyr a fydd ar gael a'r math o wybodaeth y byddant yn gallu ei rhoi i fusnesau sy'n holi, a hynny'n gyfiawn, lle mae angen iddynt fynd i ofyn am yr help hwn? Rwy'n sylweddoli ein bod mewn argyfwng, ond os ydych yn cyfeirio pobl i rywle, mae angen inni eu cyfeirio i'r cyfeiriad iawn er mwyn iddynt gael y cymorth y gallant ei gael.

Pan fyddwch yn rhyddhau'r datganiadau i'r wasg, rwy'n erfyn arnoch i sicrhau bod y datganiadau'n gywir. Roedd y datganiad i'r wasg a aeth allan am gymorth ariannol Llywodraeth y DU neithiwr yn gwbl anghywir gan Lywodraeth Cymru.

Y rheswm pam rwy'n credu ei fod wedi'i ddisgrifio fel cymorth 'hollol annigonol' yw oherwydd bod bwlch o gannoedd o filiynau o bunnau. Mae'n ffaith na ellir ei gwadu. Ac nid wyf yn golygu hyn fel beirniadaeth; mae'n ddigon posibl mai'r rheswm oedd na wnaeth Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni i gynllunio'r ymyrraeth. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael sylw wrth inni weithio drwy'r argyfwng, oherwydd rwy'n awyddus i gydweithio â Llywodraeth y DU hefyd, fel y credaf fy mod wedi gwneud dros flynyddoedd lawer.

Ond y rheswm pam y mae'n annigonol yw oherwydd bod siâp economi Cymru'n wahanol i un Lloegr, ac ni chafodd hynny ei gydnabod yn fformiwla Barnett, fel y mae Alun Davies eisoes wedi nodi. Mae angen mynd i'r afael â hynny ar frys, oherwydd yr hyn na allwn ei gael—. Edrychwch, rhowch y wleidyddiaeth o'r neilltu—yr hyn na allwn ei gael yw cyhoeddiad yn Lloegr ynglŷn â chynlluniau na ellir eu fforddio o fewn cwmpas penodol, a bod gofyn inni wneud yn union yr un peth yma heb yr arian i'w wneud mewn gwirionedd. Dyna'r her a wynebwn os na chydnabyddir y gwahaniaeth rhwng economïau Cymru a Lloegr. Ac yn wir, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn wynebu problemau hefyd, nid ni'n unig. Dyma oedd diben y drafodaeth heddiw, a rhaid imi ddweud bod y drafodaeth honno'n golegaidd iawn. Credaf i'r her gael ei chydnabod gan gydweithwyr yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Nawr, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod yr her honno'n cael sylw, a bod yr adnodd digonol y galwn amdano'n dod i Gymru fel y gallwn gefnogi busnesau Cymru yn yr un modd. Oherwydd yr hyn rwyf wedi bod yn ei ddweud wrth fusnesau, a'r hyn y mae busnesau wedi bod yn ei ddweud wrthyf fi yw, os gallwn osgoi ymwahanu o gwbl, yna gadewch i ni osgoi ymwahanu. P'un a ydych wedi'ch lleoli yn Llundain neu Landaf, rydych am wybod yn y termau cliriaf pa gefnogaeth sydd ar gael, a dylai fod yn gyson yn fy marn i. Dyna pam rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr, fel y Gweinidog Cyllid ac eraill, fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda ni i fynd i'r afael â'r diffygion yn y trefniadau ariannol presennol.  

Rwy'n derbyn y pwynt hefyd am argaeledd adnoddau dynol o fewn Busnes Cymru. Mae'r rhain yn adegau eithriadol ac rydym yn ceisio llywio cynifer o aelodau staff â phosibl at wasanaethau rheng flaen. Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i'r Aelodau mewn perthynas â gwasanaeth Busnes Cymru, oherwydd yn fy marn i, bydd yn rhaid inni dynnu adnoddau dynol ychwanegol i mewn yn awr o asiantaethau eraill i gefnogi Busnes Cymru, a hynny oherwydd y galw eithriadol am gymorth. Rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod llywodraeth leol yn cynorthwyo Busnes Cymru drwy gynnig gwasanaeth cynghori di-dor a chyson sy'n llywio busnesau ac yn cyfeirio busnesau os oes angen at asiantaethau a gwasanaethau cymorth Llywodraeth y DU hefyd. Oherwydd yr hyn y mae busnes ei eisiau yn fwy nag unrhyw beth arall yw gwybodaeth a negeseuon clir, syml a chyson y gellir cael gafael arnynt drwy un pwynt cyswllt, a dyna'n union y ceisiwn ei gyflawni gyda Busnes Cymru.

15:15

Mae'n sicr yn wir fod y rhain yn adegau sy'n peri pryder gwirioneddol i deuluoedd nad oes yr un ohonom wedi gweld ei debyg erioed yn ystod ein hoes. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed manylion y datganiad y dywedoch chi y byddwch yn ei gyhoeddi yn ddiweddarach.

Roeddwn am ofyn yn benodol, fodd bynnag, am y sector modurol. Fel y gwyddoch, mae gennyf lawer o bobl wedi'u cyflogi yn y sector modurol yn Nhorfaen. Mae cryn nifer o gwmnïau ar draws y byd modurol wedi rhoi'r gorau i weithio yn y bôn, ac mae hynny'n bryder enfawr i'r cyflogwyr mawr yn Nhorfaen. A gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda'r sector modurol ac a wnewch chi edrych yn benodol iawn ar eu hanghenion?

Yn amlwg, nid pobl sy'n gallu gweithio o gartref yw'r rhain. Maent yn ddiwydiannau cystadleuol iawn, ac os ydym yn eu colli mae risg sylweddol iawn na fydd modd dod â hynny'n ôl o ymyl y dibyn. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa fesurau penodol rydych yn edrych arnynt i roi sylw i bryderon yr holl aelodau o staff sy'n gweithio yn y sector modurol yn Nhorfaen?

A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn? Buaswn yn cytuno'n llwyr â hi. Nid wyf erioed wedi profi cyfnod mor ddifrifol ac ansicr i deuluoedd a busnesau ym mhob cwr o'n gwlad, ac ym mhob cwr o'r byd yn wir. Mae'n dangos pam fod angen inni fachu ar bob cyfle i weithio mor agos â phosibl fel Llywodraethau, fel pleidiau gwleidyddol hefyd, i oresgyn yr heriau sy'n ein hwynebu.

Mae Lynne Neagle yn nodi un rhan benodol o'r economi sy'n wynebu anawsterau difrifol iawn ar hyn o bryd: y sector modurol. Roedd eisoes yn wynebu heriau o ganlyniad i'r newid cyflymach tuag at allyriadau sero a dyfodiad cerbydau hunan-yrru. Mae hyn yn awr, ac ar ben ansicrwydd Brexit wrth gwrs, yn her aruthrol y bydd yn anodd ei goresgyn, ond rwy'n credu bod y sector yn gryf ac yn gadarn ac y bydd yn ei oresgyn, ond bydd arno angen cymorth.

Bydd llawer o'r Aelodau wedi gweld y newyddion yn ystod y 24 awr diwethaf ynglŷn â'r penderfyniad a wnaed gan Toyota, sy'n debyg iawn i'r rhai a nodwyd gan Lynne Neagle yn ei chwestiwn. Daw hyn yn sgil y penderfyniad a wnaed ynghylch gweithgarwch Vauxhall yn y DU, ac mae 400 neu fwy o bobl yn byw yng Nghymru sy'n cael eu cyflogi ar safle Ellesmere Port. Felly, bydd nifer helaeth o bobl yng ngweithlu Cymru yn cael eu heffeithio gan benderfyniadau a wneir yn y sector modurol.

Rydym yn trafod yn feunyddiol â fforwm modurol Cymru, sef corff cynrychioliadol y sector modurol, a'r neges a gawn ganddynt yw na all y sector modurol, fel llawer o'r sectorau busnes yn economi Cymru, barhau os oes angen iddynt gael llawer iawn o bobl yn gweithio o adref. Rhaid i chi fod ar y safle yn gwneud pethau, ac felly efallai mai gaeafgysgu yw'r unig ddewis.

Er mwyn sicrhau bod busnesau'n dod allan o gyfnod o aeafgysgu cyn gynted â phosibl a chael pobl yn ôl i'r gwaith, yn hytrach na methu yn ystod y cyfnod hwn, mae angen cynllun cymhorthdal cyflog. Ac nid ar gyfer y busnesau eu hunain yn unig y mae ei angen, mae ei angen hefyd ar unigolion i allu gwarantu eu lles drwy'r cyfnod hwn.

15:20
4. Cynnig i atal Reolau Sefydlog

Yr eitem nesaf yw cynnig i atal Rheolau Sefydlog 11.16 a 12.20 er mwyn caniatáu i'r eitemau busnes nesaf gael eu trafod. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd.

Cynnig NNDM7309 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7310, NNDM7311, NNDM7312 and NNDM7313 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 18 Mawrth 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig hwnnw yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog

Eitem 5 ar yr agenda yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: newidiadau sy'n deillio o newid enw'r sefydliad. Galwaf eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd.

Cynnig NNDM7310 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i diwygiadau i’r  Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i newid enw y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y cynulliad i y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Eitem 6 yw'r cynnig i newid enw y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. Unwaith eto, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd.

Cynnig NNDM7311 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

1. Yn cytuno i newid enw a chylch gwaith Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd.

2. Yn nodi y bydd y newidiad yn dod i rym ar 6 Mai 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig, eto yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog

Eitem 7 yw cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog: newidiadau sy'n ymwneud â busnes y Cynulliad mewn amgylchiadau eithriadol. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd.

Cynnig NNDM7312 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro mewn ymateb i Coronafeirws (Covid-19)' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig yr hyn sydd o'n blaenau ni nawr. Mae'r newidiadau hyn i'r Rheolau Sefydlog yn angenrheidiol er mwyn galluogi'r Cynulliad i barhau â'n gwaith hyd gorau ein gallu mewn amgylchiadau digynsail.

Yn gyntaf, felly, y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chyfarfod yn gyhoeddus. Byddwn yn parhau i ddarlledu'r Cyfarfod Llawn i'r cyhoedd yn unol â Rheol Sefydlog 12.1, ond mae'r newid i'r Rheol sydd o'n blaenau ni yn golygu nad oes angen i'r galeri aros ar agor am resymau iechyd a diogelwch cyhoeddus. Pe bai'r sefyllfa eithriadol yn codi lle nad oedd modd darlledu hefyd, byddai'r Cyfarfod Llawn yn medru mynd yn ei flaen heb hynny.

Yn ail, mae'r Pwyllgor Busnes hefyd wedi cytuno i newid y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi Cadeirydd dros dro i gadeirio Cyfarfod Llawn gyda holl bwerau'r Llywydd pan na all y Llywydd na'r Dirprwy ddod i'r Cynulliad. Mae yma hefyd ddarpariaeth i ethol Llywydd dros dro dynodedig i weithredu pe na bai'r Llywydd na'r Dirprwy Lywydd mewn lle i weithredu o gwbl. Os bydd y Rheolau Sefydlog yma'n cael eu cymeradwyo mewn munud, yna mi fydda i'n gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ethol David Melding i'r ddwy rôl yma.

Er gwybodaeth hefyd, leiciwn i ddiweddaru ac ychwanegu ambell i fater o ddiddordeb i'r Aelodau sy'n deillio allan o gyfarfod brys o'r Pwyllgor Busnes y bore yma. Cytunwyd y bydd y Cyfarfod Llawn yn cwrdd ar un diwrnod yn unig yr wythnos nesaf, sef dydd Mercher, gyda sesiwn lawn yn y bore a sesiwn yn y prynhawn. Bydd hyn yn galluogi i gwestiynau i'r Prif Weinidog fynd yn eu blaen fel arfer, ac i Weinidogion gael gwneud datganiadau er mwyn ein diweddaru ar effeithiau diweddaraf y coronafeirws yn eu meysydd polisi, a hefyd unrhyw faterion deddfu. Bydd hyn hefyd yn cyfyngu ar yr amser y bydd yn rhaid i Aelodau a staff ei dreulio yn y Senedd yma.

Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes yn trafod ffyrdd i alluogi'r Cynulliad i gwrdd ac i barhau â'n gwaith dros gyfnod y toriad a thu hwnt, er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn gallu diweddaru'r Aelodau ar faterion coronafeirws, a bod y gwrthbleidiau'n cael y cyfle i graffu mewn modd amserol a phriodol, ac wrth gwrs Aelodau'r meinciau cefn yn yr un modd.

Mae'r rhain yn faterion ac yn gyfnod eithriadol, a dwi'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yma, sy'n mynd i adlewyrchu hynny a'n galluogi ni i gario ymlaen â'n gwaith yn y modd mwyaf priodol ar yr amser yma. [Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n deall yn iawn y rhesymeg a'r ddadl rydych yn eu cyflwyno, ond mewn cwestiynau busnes ddoe, fe wneuthum bwyso ar arweinydd y tŷ ynglŷn â gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr amgylchedd ar faterion amaethyddol a chyfyngiadau yn y sector amaethyddol. Nawr ein bod ni wedi cael ein cyfyngu i un diwrnod—rwy'n deall y gallai'r datganiad hwnnw gael ei gyflwyno ddydd Mercher, ond clywais Weinidog yr economi'n dweud y byddai'n barod i ddarparu datganiadau ysgrifenedig i'r Aelodau, gan eu diweddaru'n gyson. A gaf fi, drwoch chi, ofyn am gefnogaeth i sicrhau bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf gan bob Gweinidog yn eu portffolios yn rheolaidd ar sefyllfa sy'n newid yn gyflym ac sydd â goblygiadau dramatig i'r meysydd sy'n peri pryder i'n hetholwyr?

15:25

Y busnes a gyflwynwyd ar gyfer dydd Mawrth nesaf—mae'n cynnwys amryw o ddatganiadau ac os cofiaf yn iawn, mae datganiad gan Weinidog yr amgylchedd yn un o'r rheini yng nghyd-destun coronafeirws—caiff yr holl ddatganiadau hynny eu cynnal a byddant yn digwydd ar y dydd Mercher. Felly, ni fydd dim wedi newid o'r datganiad busnes rydych wedi cyfeirio ato. Rydych wedi cael cyfle i godi rhai materion ychwanegol yno; nid ydynt yn faterion uniongyrchol i mi fel Llywydd, ond yn ffodus, mae rheolwr busnes y Llywodraeth a'r Trefnydd wedi clywed y pwynt.

Felly, rwy'n annog Aelodau i gefnogi y cynigion yma, y newidiadau i'n Rheolau Sefydlog.

Fe ddalioch chi fi mewn pryd, mewn amgylchiadau eithriadol. Nid wyf ar frys i eistedd.

Rydych yn gwybod y rheolau'n well na fi. O ran y pwyllgorau, mae gennym Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yfory lle mae'r Gweinidog addysg yn rhoi tystiolaeth, ac rwy'n ystyried hynny'n ddefnyddiol iawn. Beth yw'r cynlluniau mwy hirdymor ar gyfer pwyllgorau? Nid wyf yn credu eich bod wedi sôn am bwyllgorau yn eich datganiad.

Mae'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau y byddwn yn eu hystyried dros y dyddiau nesaf er mwyn sicrhau bod gwaith craffu parhaus ar y Llywodraeth a busnes parhaus y Llywodraeth yn gallu parhau yng nghyd-destun coronafeirws. Mae'r Pwyllgor Busnes eisoes wedi penderfynu mai materion yn ymwneud â coronafeirws sy'n allweddol bellach i'r Llywodraeth ac i'r Cynulliad wrth inni graffu ar weithredoedd y Llywodraeth.

Lywydd, rwy'n ddiolchgar i chi, ac rwy'n gwybod fy mod yn profi amynedd pawb yn hyn o beth. Mae'r mater a drafodwyd gennym o dan y cwestiwn amserol yn fater sydd o bwys mawr i'r cyhoedd, gan ei fod yn ymwneud â'r adnoddau a sut y caiff yr adnoddau eu dyrannu i Lywodraeth Cymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli'r adnoddau hynny ar adeg o argyfwng. Mae'n hanfodol sicrhau bod ein pwyllgorau'n gallu cyfarfod lle bynnag y bo modd er mwyn sicrhau y ceir craffu ar y materion hyn, hyd yn oed mewn sefyllfa o argyfwng, fel y gallwn warantu a dweud wrth bobl y wlad hon ein bod yn sicrhau ac yn gwneud popeth a allwn i sicrhau eu bod hwy a fy etholwyr i'n cael eu trin yn yr un ffordd ag etholwyr Canghellor y Trysorlys. Felly, mae'r pwynt y mae fy nghyd-Aelod wedi'i wneud am bwyllgorau yn un pwysig iawn, ac yn un y credaf y gallai fod cefnogaeth eang iddo ar draws y Siambr.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni daro'r cydbwysedd cywir yma. Mae nifer o Gadeiryddion pwyllgor yma ar hyn o bryd. Y penderfyniad oedd mai materion yn ymwneud â'r coronafeirws yw'r materion a ddylai gael ein sylw cyntaf dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Byddwn yn meddwl ymhellach, gan ystyried y ddau gyfraniad yma ar waith pwyllgorau. Bydd y Pwyllgor Busnes yn edrych ar y mecanwaith cywir ar gyfer busnes yr wythnos nesaf, ond yn arbennig drwy gyfnod y gwyliau a thu hwnt, er mwyn galluogi'r Llywodraeth i gael ei dwyn i gyfrif ac i aelodau'r meinciau cefn a'r gwrthbleidiau allu craffu ar benderfyniadau'r Llywodraeth. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Llywodraeth; mae'r Llywodraeth am inni graffu ar ei phenderfyniadau ac mae'n awyddus i'r broses ddemocrataidd alluogi hynny i ddigwydd. Felly, diolch am y pwyntiau a wnaethoch. Nid wyf wedi eistedd eto, ond gwnaf hynny yn awr, a gobeithio eich bod yn cefnogi'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog.

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr yn y ddadl. Felly, y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


 

8. Cynnig i ethol Gadeirydd Dros Dro a Llywydd Dros Dro dynodedig

Eitem 8 ar yr agenda yw'r cynnig i ethol Cadeirydd dros dro a Llywydd dros dro dynodedig, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig i ethol David Melding i'r rolau hynny—Lywydd.

Cynnig NNDM7313 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24D, yn ethol David Melding yn Gadeirydd Dros Dro o dan y telerau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24A, yn ethol David Melding yn Llywydd Dros Dro dynodedig.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw ethol Cadeirydd dros dro a Llywydd dros dro dynodedig: David Melding. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15:30

Mae pob busnes arall wedi cael ei ohirio neu ei atal. Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 15:30.