Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/10/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

A'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, a dwi'n galw'r cwestiwn cyntaf—Delyth Jewell. 

Polisi Ffracio

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffracio? OAQ54464

Diolch. Mae'r Llywodraeth hon wedi egluro ein gwrthwynebiad i ffracio yn gyson, fel y nodwyd yn ein rhaglen lywodraethu. Yn dilyn cefnogaeth enfawr y cyhoedd i argymhellion yr ymgynghoriad, gwneuthum ddatganiad polisi fis Rhagfyr diwethaf, yn nodi na chaiff ffracio ei gefnogi yng Nghymru ac ni ddylid caniatáu unrhyw drwyddedau petrolewm newydd.

Rwy'n falch o glywed hynny, Weinidog, gan fy mod wedi clywed bod yna bryderon gan rai grwpiau amgylcheddol y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi lleihau ei gwrthwynebiad yn sgil y cyhoeddiad y bydd Ineos yn agor ffatri yng Nghymru. Wrth gwrs, prif ddiddordeb Ineos ar dir mawr Prydain yw echdynnu nwy siâl. Mae buddsoddiad Ineos ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer adeiladu ei gerbyd 4x4 newydd, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn teimlo'n dawelach eu meddwl yn awr oherwydd eich ateb na fydd yn effeithio ar bolisi ffracio Llywodraeth Cymru. Nawr, nid ffracio yw'r unig ddull o echdynnu petrolewm sy'n peri pryder, fodd bynnag. Yn ddiweddar, gwnaed cais i gynnal profion seismig ym Mae Ceredigion, i ddod o hyd i leoliadau posibl ar gyfer drilio. Ataliwyd y drwydded honno, ond nid yw hynny'n atal ceisiadau tebyg rhag cael eu gwneud yn y dyfodol. Felly, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i osod gwaharddiad effeithiol ar brofion seismig, yn union fel y gwnaethoch gyda ffracio?

Diolch. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n tawelu meddwl unrhyw un sydd wedi cael unrhyw bryderon. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un wedi cysylltu â mi'n bersonol i dynnu fy sylw at y mater hwnnw. Yn amlwg, roeddwn yn ymwybodol o'r cais ynghylch cynnal profion seismig ac fe gefais sgyrsiau â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i fynegi ein barn ar hynny.

Weinidog, yn ôl Gweinyddiaeth Gwybodaeth Ynni yr Unol Daleithiau, gellir priodoli bron i ddwy ran o dair o'r lleihad mewn allyriadau carbon deuocsid sy'n gysylltiedig ag ynni dros y degawd diwethaf yn yr Unol Daleithiau i ffracio. Mae panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd yn nodi bod ffracio wedi cynyddu ac wedi arallgyfeirio'r cyflenwad nwy, gan ganiatáu ar gyfer newid mwy helaeth yn y cynhyrchiant pŵer a gwres o lo i nwy. Maent hefyd yn cadarnhau bod hyn yn rheswm pwysig dros leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn yr Unol Daleithiau. Yng ngoleuni'r uchod, a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r sefydliadau hyn fod ffracio yn arwain at lai o allyriadau carbon?

Nid wyf yn ymwybodol o'r erthygl na'r gwaith ymchwil y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt. Rwy'n ailadrodd ein bod wedi gwrthwynebu ffracio'n gadarn ac yn bendant iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymgynghoriad a gawsom y llynedd, ac yn sicr, y farn gyhoeddus oedd bod newid i ddewisiadau ynni sy'n allyrru llawer llai o lygredd yn gyraeddadwy ac yn well, a gwelwyd hefyd nad oes dyfodol mewn dechrau diwydiant tanwydd ffosil newydd. Mae fy holl ymdrechion, ac ymdrechion fy nghyd-Aelodau, yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gyflwyno mwy o ynni adnewyddadwy.

Weinidog, mae'n galonogol iawn clywed bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i gwrthwynebiad cadarn i ffracio, yn enwedig y goblygiadau y mae hynny'n eu creu i'n hamgylchedd yn gymaint ag unrhyw beth arall. Ond o ran ffracio, ceir profion ar dyllau turio dwfn hefyd, ac mae peth o'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal. Oherwydd hynny, a allwch gael trafodaethau gyda'ch cyd-Weinidog yn y Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio i sicrhau y caiff ceisiadau ar gyfer tyllau turio dwfn eu hystyried hefyd fel allbwynt i ffracio, ac fel y cyfryw, a ddylai cynghorau ystyried hynny ai peidio? Ac a wnewch chi roi arweiniad i gynghorau mewn perthynas â hynny, gan y gallai arwain at wneud llawer o gymunedau'n bryderus iawn, yn nerfus iawn o ganlyniad i gais y byddwn yn gwybod na fydd dim yn digwydd yn ei gylch oherwydd y datganiad cadarn rydych newydd ei wneud?

Mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae angen trwydded petrolewm a chaniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol ar bob twll turio sy'n chwilio am betrolewm a'i echdynnu. Mae'r ddwy gyfundrefn wedi'u datganoli, ac maent yn gwbl ddarostyngedig i bolisi Cymru. Felly, fel y dywedais, ein hamcan polisi yw osgoi parhau i echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil, ac mae hynny'n cynnwys nwy siâl a echdynnir drwy ffracio. Pan oeddwn yn Weinidog cynllunio, gwn yn sicr ein bod yn darparu cyngor ac arweiniad i awdurdodau lleol, ond rwy'n hapus iawn i siarad â fy nghyd-Weinidog, Julie James, sydd yn ei sedd, i sicrhau, os oes angen i ni ddiweddaru neu adnewyddu cyngor, y gallwn wneud hynny.FootnoteLink

Rheoli Argaeau

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli argaeau yng nghanolbarth Cymru? OAQ54459

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli cronfeydd dŵr yng nghanolbarth Cymru, gyda chronfeydd dŵr Clywedog ac Efyrnwy yn dod o fewn eu hardal weithredol yn y gogledd. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon ynghylch rheoli'r cronfeydd dŵr hyn, ac mae fy swyddogion yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys unrhyw broblemau.

13:35

Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch o glywed yr ateb hwnnw. Mae pryder gwirioneddol yn bodoli, ac wedi bodoli ers peth amser bellach, ynghylch rheolau a chytundebau gweithredu'r ddau argae, gan fod dŵr wedi bod yn gorlifo dros y ddau argae, fel y crybwyllodd y ddau ohonom, ac mae hyn wedi achosi llifogydd mawr mewn rhannau helaeth o fy etholaeth. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallem hwyluso adolygiad o'r rheolau a'r cytundeb gweithredu, a phe gallech gysylltu â'ch swyddogion, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Severn Trent Water, i roi'r adolygiad hwnnw ar waith cyn gynted â phosibl, oherwydd rwy'n credu ein bod wedi cyrraedd pwynt yn awr lle mae tirfeddianwyr yn teimlo'n ddig dros ben.

Diolch. Rwy'n ymwybodol eich bod yn bresennol yng nghyfarfod diwethaf grŵp cyswllt Clywedog ac Efyrnwy, rwy'n credu, cyfarfod a fynychwyd hefyd gan fy swyddogion wrth gwrs. A cheir y cytundeb teirochrog rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Hafren Dyfrdwy. Gwn eu bod eisoes wedi gweithredu rhai camau dros dro, i newid amserau rhyddhau dŵr, er enghraifft, ac mae hynny'n seiliedig ar ddangosyddion i lawr yr afon. Ond yn amlwg, mae hwn yn waith sydd angen ei barhau. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y trigolion yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd hefyd. Felly, gofynnais i fy swyddogion ddod i gyfarfod arall ar y mater, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n credu y byddai'n dda pe gallech chi fod yn bresennol hefyd; os nad ydych wedi cael gwahoddiad, yn sicr fe wnaf yn siŵr eich bod yn cael un. Ac yn amlwg, byddaf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfod hwnnw, i benderfynu ar ba gamau pellach y bydd angen i ni eu cymryd, os o gwbl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Y cwestiwn cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Lywydd. Y bore yma, Weinidog, cyfarfûm â chanolfan Achub Hope. Ar ôl eu cyfarfod, tynnwyd sylw at bwysigrwydd ffermio cŵn bach a'r rheoliadau sy'n ymwneud â ffermio cŵn bach. Ac mae llawer ohonom yn ymwybodol, yn amlwg, o raglen y BBC a wnaeth ddwyn gwarth yn fy marn i ar enw Cymru yng ngweddill y DU, a'r byd yn wir, pan welsom luniau o'r fath yn cael eu darlledu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar gyfraith Lucy, a'r cynigion yng nghyfraith Lucy a fydd yn mynd beth o'r ffordd at fynd i'r afael â rhai o'r achosion o gam-drin yn y diwydiant bridio cŵn bach. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn y broses o ystyried yr ymgynghoriadau hynny. A allwch roi syniad inni heddiw pryd y gallech fod yn cyflwyno argymhellion? Oherwydd ni allwn barhau i weld lluniau mor erchyll ar ein sgriniau teledu, a gwrando ar adroddiadau uniongyrchol, fel y clywais y bore yma, sy'n dwyn gwarth ar Gymru.

Diolch. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein brawychu'n fawr gan y rhaglen ddogfen a ddarlledwyd yr wythnos diwethaf. Ac rydych chi'n llygad eich lle, fe wnaethom ymgynghori yn gynnar eleni mewn perthynas â chyfraith Lucy. Cefais gyfarfod—ac nid wyf yn gwybod a welodd yr Aelodau y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ar y mater—y diwrnod wedyn, gyda Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, i weld beth y gallem ei wneud ar unwaith. Rwy'n credu bod sawl peth y gallwn ei wneud. Rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr fod awdurdodau lleol yn ymwybodol o—. Yn amlwg, dyna'r grŵp gorfodi a ddylai fynd i'r ffermydd cŵn bach hyn i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y drwydded. Felly, gofynnais i'r prif swyddog milfeddygol gyfarfod â phob un o'r 22 awdurdod lleol. Ysgrifennais yn bersonol at y prif weithredwyr i ofyn iddynt gyflwyno cynrychiolydd i ddod i'r cyfarfod gyda'r prif swyddog milfeddygol. Rwyf wedi gofyn i'r grŵp lles anifeiliaid edrych ar y rheoliadau, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad mewn perthynas â chyfraith Lucy.

Mae'r prif swyddog milfeddygol hefyd wedi gofyn i'r Coleg Milfeddygol Brenhinol edrych ar y rhaglen, oherwydd, yn amlwg, ceir goblygiadau mewn perthynas â milfeddygon hefyd. Ac rwy'n meddwl ei fod yn fater i unigolion hefyd, os ydynt yn dod ar draws un o'r ffermydd hyn, os ydynt yn mynd i brynu ci bach—. Oherwydd mae'n ymddangos bod yr angen am gŵn bach yn cynyddu. Mae'n ymddangos bod llawer mwy o bobl nag arfer yn prynu, ac eisiau cael cŵn bach. Felly, rwy'n credu bod angen i ni ddeall pam y mae hynny'n digwydd hefyd. Bydd gwaith yn digwydd, ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi—roedd yn erchyll.

Diolch am gytuno ynglŷn â'r lluniau; rwy'n credu y byddai unrhyw berson call yn dweud yr un peth, Weinidog. Ac nid wyf yn beirniadu'r un o'r camau a gymerwyd gennych hyd yma, oherwydd ymddengys eu bod yn gamau gweithredu y dylid eu cymryd: ymgysylltu â phobl a fydd yn ymwneud â'r gwaith gorfodi—awdurdodau lleol—y proffesiwn, h.y. milfeddygon, ac yn amlwg y sector bridio cŵn bach ei hun. Rwy'n meddwl mai'r hyn y mae pobl yn awyddus i'w ddeall, o ystyried faint o ymgynghori a fu ynghylch cyfraith Lucy a chynigion eraill y mae'r Llywodraeth wedi'u cyflwyno, yw beth yw amserlen waith y Llywodraeth ar gyfer gweithredu mesurau diogelu a mesurau gorfodi a fydd yn dod â'r arferion erchyll hyn i ben? Gwaetha'r modd, bydd yna bob amser ddihirod a fydd yn ceisio osgoi'r rheoliadau, ond yn amlwg, mae hyn ar raddfa ddiwydiannol—mae hyn yn digwydd—ac yn wir, yn y cyflwyniad a gefais y bore yma, cyfrifwyd bod sector y diwydiant ffermydd cŵn bach yn werth tua £12 miliwn yng Nghymru yn unig, sy'n swm enfawr o arian, a phan fyddwch yn cael arian o'r fath, bydd pobl yn ceisio trechu'r rheoliadau. Felly, rhag ein bod yn gwylio'r un lluniau neu luniau newydd ar y teledu neu ar y cyfryngau cymdeithasol ymhen chwe mis, yr hyn y mae angen inni ei wybod yw ein bod wedi rhoi camau ar waith ac wedi rhoi gwaith adfer ar waith i sicrhau y gallwn roi diwedd ar yr arferion hyn. Felly, ar y mesurau y sonioch chi wrthyf amdanynt yn eich cwestiwn cyntaf, a oes gennych amserlen ar gyfer gweithredu a fydd yn dweud, 'Ymhen deufis, ymhen pedwar mis, ymhen chwe mis, byddwn mewn lle gwell o lawer'?

13:40

O ran y camau a gymerais yn dilyn y rhaglen ddogfen, mae'n amlwg fod hynny'n fater brys, a byddwn yn gwneud hynny yn ystod y mis nesaf. Yn sicr, bydd y grŵp yn edrych ar y rheoliadau bridio yn gyflym iawn ar fy rhan—erbyn diwedd y flwyddyn buaswn yn gobeithio.

Mewn perthynas â'r ymgynghoriad ar gyfraith Lucy, nid oeddwn am gael unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil hynny, ond unwaith eto, rwyf wedi gofyn i'r prif swyddog milfeddygol ystyried pa bryd y gallwn gyflwyno hynny'n llawer cyflymach nag a ragwelwyd gennym o ganlyniad i'r holl waith parhaus arall sydd gennym, yn enwedig mewn perthynas â Brexit. Rwy'n ymwybodol fod swyddfa'r prif swyddog milfeddygol dan bwysau neilltuol. Felly, mewn perthynas ag amserlen ar gyfer cyfraith Lucy, rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod, ond yn sicr erbyn y gwanwyn, buaswn yn gobeithio.

Diolch i chi am yr amserlen ddangosol honno, ac edrychaf ymlaen at gael y llythyr, Weinidog. Un peth sy'n gwbl glir, yn anffodus, yw bod asiantaethau gorfodi—ac rwy'n sôn am awdurdodau lleol yma—wedi cael eu torri at yr asgwrn dros flynyddoedd lawer, yn enwedig adrannau safonau masnach, ac er efallai ein bod yn dymuno rhoi rheoliadau a deddfau ar waith a chael gwared ar yr arfer hwn, oni bai eu bod yn cael eu gorfodi ar lawr gwlad, byddant yn ddiystyr. Yn y cyfarfod y bydd y prif swyddog milfeddygol yn ei gael gydag awdurdodau lleol a nodwyd gennych yn eich ateb cyntaf i mi, a fydd capasiti'n cael sylw? Ac a geir asesiad cyffredinol o'r hyn y gall awdurdodau lleol ei gyflawni, oherwydd dywedwyd wrthyf fod arferion da i'w gweld mewn rhai awdurdodau lleol, ond mewn awdurdodau lleol eraill, nid oes gweithredu o gwbl? Ac yn sicr, yr hyn sydd ei angen arnom yw ymagwedd unedig fel y gallwn gael y safon aur ar draws y 22 o awdurdodau lleol sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, a allwch gadarnhau y bydd hynny ar yr agenda pan fydd y prif swyddog milfeddygol yn cyfarfod â chynrychiolwyr awdurdodau lleol ac yn fwy na dim, y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith i ddeall beth sydd ei angen ar yr ochr orfodi i sicrhau y gellir gweithredu'r rheolau gorfodi hyn yn ardaloedd yr awdurdodau lleol?

Yn sicr, y bwriad o gyfarfod â phob un o'r 22 awdurdod lleol oedd cael gwybod, er enghraifft, beth y maent yn ei weld fel rhwystrau i orfodi. Gallai capasiti fod yn broblem. Yn amlwg, mae awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn dros y degawd diwethaf o gyni, ond rwy'n credu bod angen i ni ddeall beth yw'r problemau, ac o'r cyfarfod hwnnw, rwy'n credu y byddwn yn penderfynu wedyn pa gamau sydd angen eu cymryd. Felly, nid wyf yn dweud y byddem yn cael adolygiad yn syth, ond, yn dibynnu ar yr hyn a ddaw allan o'r cyfarfod hwnnw—. Ni allaf gofio dyddiad y cyfarfod, ond rwy'n credu y bydd o fewn y mis nesaf, yn sicr, pan fydd y prif swyddog milfeddygol yn cyfarfod â phob un o'r 22 awdurdod lleol, oherwydd rwyf am glywed am yr anawsterau—os oes anawsterau—ganddynt hwy, ac nid ydym am gael loteri cod post. Felly, fel y dywedwch, mae'n hollol iawn ein bod yn sicrhau cysondeb ar draws y 22 awdurdod lleol.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn ôl yn 2013, pan wnaeth y cyn-Weinidog materion gwledig, Alun Davies, wthio modiwleiddio i'r eithaf, os cofiwch, gan symud yr uchafswm o 15 y cant o golofn 1 i golofn 2, cafodd ei ddisgrifio ar y pryd fel rhywbeth a fyddai'n arwain at 'newid trawsnewidiol' yn ei eiriau ef. A yw wedi gwneud hynny?

Rwy'n credu ein bod wedi gweld rhywfaint o newid. A yw'n drawsnewidiol? Nid wyf yn credu ein bod wedi gweld y newid y byddem yn dymuno ei weld mewn rhai mannau o bosibl. Nid wyf yn credu y gallwch gyffredinoli a dweud yn ysgubol—. Mae'n rhywbeth rwy'n ystyried a ydym yn bwrw ymlaen ag ef mewn gwirionedd oherwydd, ar ôl Brexit, byddaf yn sicr mewn sefyllfa i edrych ar hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r undebau ffermio. Gwn eu bod yn anhapus ag ef yn ôl yn 2013. Mae'n rhywbeth sy'n cael ei ddwyn i fy sylw'n gyson ac rwy'n credu bod angen i ni edrych arno yn ei gyfanrwydd.

Felly, bum mlynedd yn ddiweddarach, nid ydych yn siŵr; nid ydych yn gwybod. Efallai fod hynny'n awgrymu bod angen i rywun wneud gwaith i edrych ar y defnydd o'r arian penodol hwnnw, oherwydd wrth gwrs, dywedwyd wrth ffermwyr ar y pryd y byddai'r arian a gâi ei dynnu o'u taliadau uniongyrchol yn dod yn ôl iddynt mewn gwirionedd drwy'r rhaglen datblygu gwledig. Mae'r realiti, wrth gwrs, yn wahanol iawn, oherwydd gwelsom sut y gostyngodd cyllideb y rhaglen yn sylweddol yn 2016, o £956 miliwn, o ganlyniad i ddiwygio'r gyfradd gydgyllido ddomestig a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, i'r hyn sydd bellach yn gyllideb gyfan o £828 miliwn ar gyfer cyfnod y rhaglen, wrth gwrs, sy'n dod i ben y flwyddyn nesaf.

Nawr, yn waeth byth, o ddiwedd mis Awst eleni, dim ond 41 y cant o gyfanswm cyllideb y cynllun datblygu gwledig a wariwyd gennych. Felly, ar ôl mynd ag arian o bocedi ffermwyr Cymru ar y sail y câi'r arian ei gynyddu i'r eithaf mewn perthynas â datblygu economaidd yn y Gymru wledig, a allwch roi sicrwydd i bawb na fydd rhagor o erydu ar gronfeydd y cynllun datblygu gwledig oherwydd gostyngiadau pellach yn y gyfradd gydgyllido? Ac a ydych yn cydnabod, ar y cam diweddar hwn, fod perygl real iawn y bydd eich Llywodraeth yn methu gwario'r gyllideb yn effeithiol ac yn llawn?

13:45

Wel, yn sicr, nid wyf am weld hynny a dyna'r drafodaeth a gefais gyda swyddogion. Cyfarfûm â phennaeth Taliadau Gwledig Cymru yr wythnos diwethaf i drafod yr union fater hwn. Fel y gwyddoch, mae'n rhaglen saith mlynedd. Mae'r cynigion ar gyfer gweddill y gweithgarwch o dan y cynllun datblygu gwledig presennol wedi'u cytuno fis Rhagfyr diwethaf. Bydd angen addasu'r rhaglen ar gyfer y cynigion. Felly, maent yn amlwg yn amodol ar gymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd. Ond y neges rwy'n ei rhoi yw fod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o'r arian hwn, ac yn sicr nid wyf am i hynny fod yn fethiant.

Rhaid inni wneud y mwyaf o hyn gymaint ag sy'n bosibl—nid yw hynny'n swnio fel sicrwydd pendant i mi y defnyddir yr arian hwnnw'n llawn ac yn effeithiol. Ac wrth gwrs, os yw'r arian yn hwyr yn cael ei ddyrannu, fel sy'n digwydd yn aml iawn mewn meysydd eraill, y pryder yw y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wthio allan drwy'r drws mewn panig dall ar y diwedd er mwyn gwneud yn siŵr fod yr arian yn cael ei wario.

Nawr, ysgrifennais at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw i ofyn iddynt edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n trin cyllid y rhaglen datblygu gwledig, a'i effeithiolrwydd, yn enwedig, wrth gwrs, yng ngoleuni sylwadau gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru fod eu haelodau'n dweud wrthynt, ac rwy'n dyfynnu:

Mae'r cyfleoedd i fusnesau ffermio allu manteisio ar gronfeydd y cynllun datblygu gwledig wedi bod yn gyfyngedig, mae'r cyfnodau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi bod yn ysbeidiol ac yn aml heb ddigon o adnoddau gydag ymgeiswyr yn cael eu troi ymaith. Mae'r broses wneud ceisiadau a hawlio wedi bod yn gymhleth ac yn gostus, gyda llawer o ffermwyr yn gorfod troi at dalu cynghorwyr ac ymgynghorwyr i'w cynorthwyo.

Nawr, mae'r materion gweithredol hyn, wrth gwrs, i gyd o dan reolaeth eich Llywodraeth, ac mae argymhellion eich 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yn seiliedig ar argymhellion dan arweiniad cynghorwyr sy'n eithaf tebyg. Felly, a wnewch chi, fel y maent yn gofyn, ac fel rwyf i'n gofyn i chi ei wneud heddiw—a wnewch chi gomisiynu adolygiad annibynnol ar frys o'r rhaglen datblygu gwledig yng Nghymru fel y gallwn ddysgu gwersi a chael hyder mewn unrhyw gynlluniau newydd y dymuna'r Llywodraeth eu dilyn?

Rwy'n credu nad dyma'r amser iawn i gael adolygiad. Fel y gwyddoch, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' ac rwy'n credu bod barn pobl am y cynllun datblygu gwledig yn rhywbeth y gallant ei gyflwyno yn yr ymgynghoriad hwnnw, yn enwedig, fel y dywedwch, pan fydd y cynllun yr ydym yn ei gynnig yn defnyddio cynghorwyr yn y ffordd rydych chi'n awgrymu.

Tir Ffermio

3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cadwraeth tir ffermio yng Nghymru? OAQ54489

Diolch. Mae 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yn amlinellu fy argymhellion ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru. Fy uchelgais yw cadw ffermwyr ar y tir mewn ffermydd cynaliadwy, i gynhyrchu bwyd a manteision amgylcheddol mewn system sy'n gwella lles ffermwyr, cymunedau a phobl Cymru.

Mae adroddiad pwyllgor craffu Cyngor Sir Ddinbych ar y tân ar fynydd Llantysilio yn codi nifer o gwestiynau a gyfeiriwyd at nifer o wahanol asiantaethau. Tybed a allech ddweud wrthyf pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o'r digwyddiad hwn, ac yn enwedig o ystyried bod nifer o'r argymhellion yn eu hadroddiad yn cyfeirio at Cyfoeth Naturiol Cymru, pa gyngor a roddwyd gennych i CNC ar eu rôl yn gweithio gyda thirfeddianwyr ac asiantaethau eraill er mwyn osgoi sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd nid wyf wedi cael y cyngor y gofynnais amdano yn dilyn yr adroddiad hwnnw, ond pan fyddaf wedi'i gael, fe ysgrifennaf at yr Aelod neu byddaf yn rhannu'r cyngor a roddaf i Cyfoeth Naturiol Cymru, beth bynnag fydd yn fwyaf priodol.FootnoteLink

Mae'r prosiect O'r Mynydd i'r Môr yng nghanolbarth Cymru wedi'i gyhuddo o adlewyrchu ffocws y partneriaid ar yr amgylchedd a rhoi llawer llai o sylw i agweddau diwylliannol, ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd datblygu cynaliadwy, sydd, wrth gwrs, yn sylfaenol i ddatblygiad y gymuned gyfan. Weinidog, beth y gallwch ei wneud i sicrhau, pan sefydlir prosiectau o'r fath yn y dyfodol, y gwneir gwaith ymgynghori cymunedol gwell cyn y caniateir i unrhyw brosiect gael ei roi ar waith?

Rwy'n cytuno'n llwyr fod yna rai prosiectau a fyddai, o'u hailweithredu, yn well o gael y ffocws cymunedol hwnnw. Nid wyf yn ymwybodol o'r un a nodwyd gennych yn benodol. Rwy'n credu bod popeth a ddywedwch wedi'i gynnwys yn yr hyn y chwiliaf amdano wrth ddechrau ymgynghori—. Felly, rwyf wedi dweud yn glir iawn fod gennym wahaniaethau ieithyddol i'r hyn a geir mewn gwledydd eraill yng Nghymru, felly mae'n bwysig iawn—. Felly, 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', er enghraifft, y soniais amdano yn awr yn fy ateb gwreiddiol i Llyr Huws Gruffydd—dywedais yn glir iawn fod angen i'r holl agweddau hynny ar ddatblygu cynaliadwy ddod at ei gilydd. Felly, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r pethau a wnawn yn y gymuned bob amser yn fwy cydweithredol os ydych chi wedi cael y cysylltiad cychwynnol â r gymuned nad yw yno bob amser, gwaetha'r modd.

13:50

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Prif—? A wnaiff y Gweinidog ddatganiad—? Rhoddais ddyrchafiad i chi.

Cefnogi Ffermio

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ffermio? OAQ54478

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth sylweddol i helpu busnesau fferm i wella eu perfformiad ariannol ac amgylcheddol. Drwy 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', mae Llywodraeth Cymru'n datblygu polisi amaethyddol modern, cynhwysfawr a fydd yn annog cadernid, cynaliadwyedd a ffyniant.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n credu bod Llyr Gruffydd wedi tynnu sylw at y mwyafrif posibl o bynciau i'ch holi ynglŷn â ffermio yn y ddau gwestiwn diwethaf. Mae hyd yn oed wedi ysgrifennu ataf fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Ond mewn perthynas ag ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' y soniodd Llyr amdano, mae hwnnw'n amlwg wedi bod ar y gweill—ac wedi bod ar y gweill ers peth amser. Cefais drafodaethau helaeth gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, yn enwedig dros yr haf—rwy'n siŵr eich bod chi wedi'u cael hefyd—yn y sioeau amaethyddol amrywiol ledled Cymru. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â ble rydym arni ar hyn o bryd gyda'r ymgynghoriad hwnnw. Mae'r ffermwyr a welais wedi croesawu rhai o'r newidiadau a gafodd eu hystyried gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod mwy o ddefnydd ar y term 'rheolwyr tir'—'ffermwyr' yn y ddogfen bellach, a gwn fod hynny'n eu bodloni, ac yn dweud mwy ynglŷn â sut y maent yn ymdrin â'u materion rheoli tir penodol. A ydych chi'n cynllunio unrhyw newidiadau arwyddocaol eraill? A phe gallech roi syniad cyffredinol inni o ble rydym arni gyda'r ymgynghoriad hwnnw ac os oes unrhyw beth arall yr hoffech ei weld gan y gymuned ffermio yng Nghymru o ran awgrymiadau cadarnhaol ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, fel y gallwn gael y polisi gorau i bawb ohonom allu cytuno yn ei gylch yn y tymor hir.

Diolch. Yn sicr, yn fy nhrafodaethau dros yr haf yn Sioe Frenhinol Cymru a sioeau amaethyddol eraill a fynychais, roedd yn amlwg iawn fod yr undebau ffermio yn arbennig, a ffermwyr unigol, wedi croesawu'r newid cywair efallai o 'Brexit a'n tir' i 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Mae'r ymgynghoriad wedi cychwyn—mae gennym tan 30 Hydref—felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i atgoffa pawb i gyflwyno eich ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw os gwelwch yn dda. Y tro diwethaf i mi ofyn, sef tua thri diwrnod yn ôl mae'n debyg, cefais ddeall ein bod wedi cael dros 2,000 o ymatebion hyd yma. Y llynedd, cawsom 12,000, felly gallwch weld y buaswn yn hoffi cael oddeutu'r un nifer eto—yn enwedig ymatebion gan unigolion; mae gennyf ddiddordeb mawr yn safbwyntiau penodol pobl. Felly, mae'n rhy gynnar, yn amlwg, i ddweud beth rwy'n disgwyl ei weld o'r ymgynghoriad hwnnw, ond rwyf am ailadrodd ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon ac rwy'n awyddus iawn i glywed gan bawb.

Diwydiant Bwyd Cymru

5. Sut mae'r argyfwng yn yr hinsawdd, a gafodd ei ddatgan ym mis Ebrill 2019, yn ail-lunio cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant bwyd Cymru? OAQ54492

Diolch. Mae cynaliadwyedd yn ystyriaeth bwysig yn ein cynigion ar gyfer cynllun strategol newydd i'r diwydiant bwyd a diod, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac sy'n cau ar 15 Hydref. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, a bydd cynaliadwyedd yn nodwedd o'r cynllun terfynol.

Wel, bydd yn ddiddorol gweld yr ymatebion. Yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, cawsom wybod bod yr adroddiad ar gyflwr byd natur a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at golli pryfed i raddau brawychus, gan gynnwys 60 y cant o loÿnnod byw a saith rhywogaeth o wenyn yng Nghymru. Nawr, mae gorddefnyddio plaladdwyr, yn hytrach na gadael i natur ffynnu ochr yn ochr â defnydd pobl o'r tir, yn amlwg yn destun pryder. Felly, dau gwestiwn: pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau'r defnydd o blaladdwyr sy'n peryglu peillio ffrwythau, llysiau a blodau? Ac yng nghyd-destun bygythiad Brexit heb gytundeb, sy'n creu problemau difrifol iawn mewn perthynas â'n diogelwch bwyd, sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio caffael cyhoeddus i brynu mwy o gynnyrch o Gymru, a fyddai, fel sgil-effaith, yn amlwg yn lleihau milltiroedd bwyd?

Diolch. Wel, o ran lleihau plaladdwyr, mae hynny'n rhywbeth y buom yn ei annog ers cryn amser, a gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir eraill mewn perthynas â hynny. Rwy'n credu bod rhannau o'r adroddiad ar gyflwr byd natur, sydd dan ystyriaeth gennym ar hyn o bryd, yn eithaf digalon. Yn amlwg, mae gennym ein hadroddiad ein hunain, ein hadroddiad ein hunain am gyflwr adnoddau naturiol, felly rwy'n credu ein bod ar flaen y gad, ond rwy'n credu bod rhannau ohono'n ddigalon iawn.

O ran Brexit heb gytundeb, mae'n amlwg ein bod yn dal i ddweud bod yn rhaid cael cytundeb, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. O ran caffael cyhoeddus, rwyf wedi dweud fy mod yn credu bod hwnnw'n gyfle ar ôl Brexit mewn gwirionedd os ydym yn chwilio am gyfleoedd. Yn amlwg, sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r bwydydd a'r diodydd sydd ar gael yn eu sefydliadau. Mae gennym y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, lle mae gennym gytundebau fframwaith bwyd a diod, ond rwy'n credu y bydd mwy o gyfleoedd ar ôl Brexit, os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd, ar gyfer mwy o gaffael cyhoeddus. Crybwyllais ein bod yn ymgynghori ar y cynllun gweithredu bwyd a diod ar hyn o bryd. Mae'r cynllun gweithredu presennol gennym ac mae hwnnw'n llwyr gydnabod, ac yn ei chweched flwyddyn bellach o fod—mae'n llwyr gydnabod pwysigrwydd y gadwyn cyflenwi bwyd leol i'r diwydiant bwyd yng Nghymru, gan gwmpasu manwerthu lleol, lletygarwch, gweini bwyd, manwerthu uniongyrchol ac wrth gwrs, ein gwasanaethau cyhoeddus hefyd.

13:55

Weinidog, yn amlwg, mae pobl yn ymwybodol y gallai'r ffordd y maent yn bwyta gael effaith ar newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng newid hinsawdd y mae'r Llywodraeth yma ac mewn rhannau eraill o'r DU wedi'i ddatgan. Yr hyn a wyddom yw bod y sector cig coch yma yng Nghymru yn gylch cynhyrchu sy'n seiliedig ar laswellt yn bennaf, ac mae hynny'n gadarnhaol i'r amgylchedd. A ydych wedi cael unrhyw geisiadau gan Hybu Cig Cymru ynghylch sicrhau cyllid fel bod modd hyrwyddo'r agwedd gadarnhaol i'r defnyddiwr ar yr hyn yw cig eidion a chig oen Cymru i'r amgylchedd, yn y ffordd y maent yn seiliedig ar laswellt o ran y deiet a ddefnyddiant, yn hytrach na rhai o'r systemau mwy dwys sy'n dod o rannau eraill o'r byd o bosibl, sy'n cael effaith niweidiol ar ein hôl troed carbon?

Nid wyf wedi cael cais penodol am gyllid gan HCC mewn perthynas â hynny, ond fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi rhoi—rwy'n credu ei fod dros £2 filiwn i Hybu Cig Cymru i helpu i hyrwyddo ein sector cig coch, ac yn wir, mae HCC wedi bod allan yn Japan fel rhan o'r daith fasnach i wneud yn union hynny. Ond rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac mae llawer yn holi i mi am gig coch ac arferion bwyta pobl, ac rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chydbwysedd. Ond rwyf am ddweud wrth bobl mai'r peth gorau i'w wneud os ydynt am fwyta'n gynaliadwy yw cefnogi ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd lleol.

Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft 2020-40

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â materion ynni sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft 2020-2040? OAQ54482

Diolch. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau wedi mabwysiadu agwedd gwbl gydweithredol tuag at faterion ynni yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Rwyf wedi ymwneud â hi drwy gydol ei ddatblygiad, ac yn parhau i ymgysylltu wrth i ni ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad presennol.

Yn wyneb yr argyfwng hinsawdd yma, mae'n rhaid inni gynyddu faint o drydan rydyn ni'n ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddol. Mae hefyd angen inni gael cefnogaeth y cyhoedd i hynny. Mae'r fframwaith drafft yn adnabod ardal sylweddol o Ynys Môn y dylid ei hystyried yn ardal flaenoriaeth ar gyfer cynhyrchu ynni solar a gwynt. Mae'r ymchwil yn seiliedig ar godi tyrbinau o hyd at 250m o daldra. Os meddyliwn ni am y pethau talaf yn Ynys Môn, dydy Tŵr Marcwis ond yn 106m, simdde'r hen Alwminiwm Môn ddim ond yn 122m. Mae'r tir uchaf yn Môn, Mynydd Twr ar Ynys Cybi, ddim ond yn 220m. Ar dirwedd isel Môn, mae'n berffaith amlwg bod awgrymu tyrbinau o'r maint yma, neu unrhyw beth yn agos at y maint yna, yn gwbl amhriodol. Oes, mae yna le i ystyried y gwynt ar raddfa fach sy'n gweddu i'r tirwedd, ond ydy'r Gweinidog yn sylweddoli mai'r oll sydd wedi digwydd yn fan hyn, mewn difrif, ydy codi ofn a chodi gwrychyn? A wnaiff hi roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru'n tynnu'r bygythiad yna yn ôl? Ond hefyd, efo cymaint o sgôp i Ynys Môn gynhyrchu trydan adnewyddol yn y môr, yn ynni gwynt ac ynni llanw, sydd ddim hyd yn oed yn cael ei grybwyll yn y fframwaith, a ydy'r Gweinidog yn gweld mai dyna'r ffordd orau i allu cynhyrchu mwy o ynni adnewyddol a chael cefnogaeth y cyhoedd i hynny?

Credaf eich bod yn gwneud un neu ddau o bwyntiau pwysig, a dof atynt yn y man. Ond i ddechrau, rwy'n credu y dylwn ailadrodd ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd, felly os yw pobl yn pryderu am hynny, credaf y dylent gyflwyno eu hymatebion a bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn edrych arnynt fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad wrth gwrs.

Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn Nulyn, yng nghynhadledd ynni'r cefnfor. Yn amlwg, mae cyfle enfawr i arloesi. Gwelais gyflwyniadau ar gynhyrchu ynni na allech ond breuddwydio amdanynt; ni fyddech yn meddwl ei bod hi'n bosibl. Felly, rwy'n credu bod y cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag ynni'r llanw a'r môr yn enfawr ac yn amlwg, mae Ynys Môn yn bendant ar y blaen mewn perthynas â hynny. Felly, gan fynd â'r cyhoedd gyda chi, mae cadw hyder y cyhoedd yn bwysig iawn, ond rhaid i bawb dderbyn, os ydych am gael trydan, fod yn rhaid inni edrych ar ffyrdd newydd o'i gyflenwi.

14:00

Weinidog, nid yw'r argymhellion presennol yn yr adran ar ynni yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cynnwys unrhyw fanylion ynglŷn â sut y byddai'r ynni a gynhyrchir yn cael ei gysylltu â'r grid cenedlaethol wedyn. Tybed pa sylwadau a gyflwynoch chi i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar hyn, a chyrff eraill, o ran siarad â'r grid cenedlaethol eich hun hefyd. Os yw canlyniadau'r ymgynghoriad yn dangos yn glir nad oes cefnogaeth i'r argymhellion yn yr adran ar ynni yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a wnewch chi ddiwygio neu ddileu'r argymhellion hynny?

Yn amlwg, cefais drafodaethau gyda'r grid cenedlaethol, a gwn fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ei hun wedi cyfarfod â'r grid cenedlaethol. Mae capasiti'r grid yn amlwg yn broblem ac anogwn Lywodraeth y DU i sicrhau bod y seilwaith priodol yn ei le. Yn amlwg, rydym yn ymgynghori ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ar hyn o bryd, a bydd y Gweinidog yn edrych ar yr holl ymatebion ac yna'n cyflwyno'r cynllun maes o law.

Cyfoeth Naturiol Cymru

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ54476

Diolch. Mae staff ymroddedig Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni amrywiaeth o rolau heriol, gan ein diogelu ni a'n hamgylchedd 24 awr y dydd. Roedd hyn yn amlwg eto yn ystod y llifogydd diweddar. Mae gennyf bob ffydd yn eu gallu i reoli ein hadnoddau naturiol ac rwy'n credu'n gryf y byddant yn sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch i chi, Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf, ond nid wyf yn rhannu eich ffydd. Rwy'n cysylltu'n rheolaidd â physgotwyr ar Afon Dyfrdwy y mae ei dalgylch yn cyflenwi dŵr i 3 miliwn o bobl yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Y pysgotwyr hyn yw ein llygaid a'n clustiau ar yr afonydd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru eu hangen. Rwy'n pryderu'n fawr eu bod yn disgrifio gwahaniaeth nos a dydd rhwng eu hymwneud â hen asiantaeth yr amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent yn fwyfwy rhwystredig ac yn teimlo bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli diddordeb yn eu hadroddiadau ynghylch lygredd, mewn darparu unrhyw gymorth i glirio coed sydd wedi cwympo, ac yng nghynefin ac iechyd pysgod a rhywogaethau eraill yn yr afonydd. Beth y gallwch ei ddweud wrthynt i ddechrau ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru?

Mae'n ddrwg iawn gennyf nad ydych yn rhannu fy marn ynglŷn â staff Cyfoeth Naturiol Cymru. O ran y mater penodol rydych yn ei ddwyn i fy sylw, byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd. Yn sicr, nid dyna'r argraff a roddwyd i mi. Rydym wedi gweld digwyddiadau llygredd sylweddol yn ein hafonydd eleni, a chefais fy nghalonogi gan y ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ateb y galwadau i fynd i ymchwilio iddynt. Felly, mae clywed yr hyn a ddywedwch yn peri pryder mawr i mi, ond mae'n ddrwg gennyf nad ydych yn rhannu fy marn am staff Cyfoeth Naturiol Cymru.

Llygredd Aer ar hyd yr A470

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch mynd i'r afael â llygredd aer ar hyd yr A470? OAQ54495

Diolch. Mae mynd i'r afael â llygredd aer i gefnogi iechyd, bioamrywiaeth a gwelliannau amgylcheddol ar yr A470 a ledled Cymru yn parhau'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae camerâu cyflymder wedi cael eu gosod ar yr A470 i orfodi terfynau cyflymder o 50 mya, a byddwn yn parhau i ddatblygu camau ychwanegol i leihau lefelau nitrogen deuocsid.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n amlwg nad wyf yn wyddonydd nac yn beiriannydd traffig, felly caf fy arwain gan arbenigwyr a'u gwybodaeth am hyn a'r hyn y maent wedi'i ddweud wrthym am lefelau niweidiol ac effaith llygredd yn y cymunedau ar hyd yr A470. Ond yn ddealladwy, ers i'r camerâu cyflymder ddod yn weithredol, cafwyd trafodaeth fwy cyffredinol ar y mater, yn enwedig gan bobl sy'n teithio i lawr o'r Cymoedd mewn lleoedd fel Merthyr Tudful. Roedd y datganiad gan Weinidog yr economi yn gynharach yn yr wythnos yn rhoi esboniad da iawn am hynny, a chredaf fod hwnnw'n ddefnyddiol. Mae'r mathau hynny o gyfathrebiadau â phobl yn gyffredinol am yr angen i ni fonitro cyflymder ac allyriadau yn ddefnyddiol iawn. Ond yr un mor bwysig, a allwn wneud mwy i helpu i reoli ffynhonnell y llygredd, neu'r broblem lygredd ei hun, er enghraifft drwy beidio ag ychwanegu pwysau traffig pellach ar rannau penodol o'r A470 yn sgil datblygiadau mawr, a thrwy wella ymdrechion i gadw'r gwasanaethau presennol, fel swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn ein trefi yn y Cymoedd, a pheidio â'u lleoli mewn ardaloedd sydd eisoes yn dioddef lefelau llygredd annerbyniol a dod â mwy o draffig i'r ardaloedd hynny pan allem ei wasgaru drwy ddod â swyddi gwell yn nes at adref yn y Cymoedd?

14:05

Diolch yn fawr i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae gennyf finnau un o'r terfynau cyflymder hyn yn fy etholaeth hefyd, felly rwy'n ymwybodol iawn—rwyf wedi cael yr un peth yn union yn digwydd i mi. Mae'r camerâu newydd fynd yn weithredol, ac fel y dywedwch, mae llawer mwy o siarad amdanynt. Credaf fod yr adroddiad monitro a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar 7 Hydref wedi cadarnhau, ers cyflwyno'r terfyn cyflymder 50 mya ym mis Mehefin 2018, fod y lefelau ar yr A470 rhwng Glan-bad a chyfnewidfa Bridge Street wedi gostwng, ond wrth gwrs, maent yn parhau i fod yn uwch na therfyn cyfarwyddeb yr UE o 40 μg/cu m. Felly mae'n rhy gynnar i ffurfio unrhyw gasgliadau cadarn, ac mae gwaith monitro pellach yn cael ei wneud wrth gwrs, ond roedd yn galonogol iawn gweld gostyngiad ar draws pob un o'r pum safle. Gan fod camerâu cyflymder ar waith bellach, credaf y bydd hynny'n annog pobl i gadw at y terfynau cyflymder hynny eto, rhywbeth nad yw wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf o bosibl, ers i'r terfynau gael eu cyflwyno gyntaf.

Yn anffodus, oherwydd tywydd gwael, mae'r arwyddion—oherwydd roeddwn yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyfleu, yn llawer mwy eglur, pam roeddem yn rhoi'r terfynau cyflymder hynny ar waith. Yn y pedwar safle arall, mae'r arwyddion i gyd wedi'u gosod erbyn hyn, ond yn anffodus nid ydynt wedi gallu gwneud hynny ar yr A470. Ond rydym yn edrych—yn sicr mae swyddogion y Gweinidog yn bwriadu gwneud hynny fel mater o frys. [Torri ar draws.] Mae'n dda clywed hynny. Mae'n golygu bod pobl yn deall pam ein bod yn gwneud hyn, oherwydd rwy'n credu bod rhywfaint o ddryswch ynghylch yr angen am y parth 50 mya ar y cychwyn. Credaf fod y pwynt a wnewch ynglŷn â meddwl ble i leoli swyddi, yn enwedig swyddi sector cyhoeddus, yn dangos pam y mae'n rhaid iddo ddigwydd ar draws y Llywodraeth, pam nad yw ond yn gyfrifoldeb i Weinidog yr economi, neu fi fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr amgylchedd. Mae'n rhaid iddo fod yn drawslywodraethol, a dyna pam fod angen i bob Gweinidog edrych ar eu polisïau i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu mewn perthynas â llygredd aer.

Weinidog, rwy'n credu y bydd y bobl sy'n defnyddio neu'n byw ger yr A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd eisiau gwybod pryd y byddwn yn symud ymlaen o'r gwaith monitro, gwaith rwy'n ei groesawu, i orfodi cyfarwyddeb yr UE ar nitrogen deuocsid mewn gwirionedd. Pryd y cawn sicrwydd ein bod yn cyflawni'r gostyngiad gwirioneddol bwysig hwn mewn llygredd aer?

Soniais y bydd monitro pellach wrth gwrs yn dilyn yr adroddiad a gyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos diwethaf. Rydym yn disgwyl i lefelau cydymffurfiaeth wella'n sylweddol, fel y dywedais, ar ôl gosod y camerâu cyflymder cyfartalog a'r cynllun arwyddion cynhwysfawr. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni barhau i weithio arno. Rydym eisiau sicrhau cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl, felly dyna pam ein bod, er enghraifft, yn parhau i ddatblygu ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid ar y mesurau rhagofalus a ddargedwir, ac yn achos yr A470, mae'r mesurau'n cynnwys parth aer glân, rhwystrau ansawdd aer a chyfleusterau parcio gwell.

Prosiectau Ynni

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau lleol i chwarae mwy o ran mewn prosiectau ynni? OAQ54460

Rydym eisoes yn cynorthwyo cymunedau ac awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ac yn annog cydweithio er mwyn cynyddu'r manteision o gymryd rhan yn y broses o gynhyrchu ynni. Rwyf wedi sefydlu gweithgor i ddatblygu canllawiau ar ranberchnogaeth ar ddatblygiadau ynni, a fydd yn ein helpu i ddeall pa gamau pellach y gallai fod eu hangen.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod y gwaith sy'n mynd rhagddo, yn enwedig fel Aelod Llafur a Chydweithredol, ar y berchenogaeth gymunedol honno. Ond yn ôl yn 2017, cafodd Canolfan Ymchwil Ynni y DU olwg ar draws awdurdodau lleol ledled y DU, gan gynnwys Cymru, a darganfu fod eu hymgysylltiad â'r gwaith o reoli ynni yn gyfyngedig, a chapasiti cyfyngedig oedd ganddynt, mewn gwirionedd, i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ynni'n strategol. Mae hyn er gwaethaf prosiectau unigol gwych, gan gynnwys yr un yng Nghaerau yn fy etholaeth, sef y prosiect dŵr mwynglawdd geothermol. Ond aeth yr adroddiad rhagddi i wneud 10 o argymhellion pellgyrhaeddol eithaf radical, gan gynnwys y syniad o ddyletswydd statudol ar awdurdod lleol i ddatblygu a gweithredu cynlluniau carbon isel ardal gyfan, cynlluniau lleol gorfodol ar gyfer gwres carbon isel a chronfa effeithlonrwydd ynni ganolog ar gyfer buddsoddi mewn darpariaeth a gwasanaethau ynni lleol. Roeddent yn argymhellion eithaf radical, ac ni allwn wneud pob un dros nos, ond mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a yw wedi cael amser i edrych ar yr argymhellion hynny a rhai eraill i weld sut y gallwn ddefnyddio pŵer awdurdodau lleol a'u harbenigedd, gan ddatganoli rhywfaint o gyllid ochr yn ochr â hynny—oherwydd dyna oedd un o'r argymhellion—i weddnewid ynni lleol a rhoi pŵer, yn llythrennol, yn nwylo pobl leol, drwy fesurau cydweithredol, ond hefyd drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud yr hyn a ddylent.

14:10

Yn gyntaf, rwy'n falch iawn eich bod yn cefnogi prosiect Caerau—fe ddaeth i fodolaeth yn dilyn gwaith caled iawn, rwy'n credu, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond hefyd yn sgil y gefnogaeth gan ein rhaglen Byw yn Glyfar, a sicrhaodd rôl ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr fel arddangoswr yn y peilot cynllunio ynni Catapult. Ac yn amlwg, cawsant gefnogaeth gennym ni fel Llywodraeth i gyrraedd y cam hwnnw. Fel y dywedwch, gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion. Roeddent yn bendant yn galw am y cyfeiriad a osodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel'. Rwy'n credu bod rôl awdurdodau lleol ym maes ynni, a gollwyd ar ôl preifateiddio—rwy'n credu y bydd yn gwbl allweddol i ddyfodol ein system ynni. Felly, rydym wedi gwneud llawer i gefnogi awdurdodau lleol. Rydym wedi cyflwyno prosiectau effeithlonrwydd ynni a phrosiectau cynhyrchu ynni newydd. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at y rôl bwysig iawn sydd ganddynt i'w chwarae o ran carbon isel. Mewn perthynas â'r argymhellion, rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi'r argymhellion. Felly, er enghraifft, un ohonynt oedd cyflwyno'r ddyletswydd statudol, fel y sonioch chi, i ddatblygu a gweithredu cynlluniau carbon isel ar draws ardal gyfan dros amserlen a osodwyd. Nid oedd yn yr adroddiad terfynol, ond rydym wedi edrych ar hynny ac rydym wedi dechrau gwneud gwaith cynllunio ynni, er enghraifft, a modelu i sicrhau bod cyfleoedd a chyfyngiadau penodol yn cael eu hystyried yng nghyd-destun system ynni sy'n esblygu'n barhaus.

Fe sonioch chi'n gynharach am gydweithrediad cynghrair y môr Celtaidd a arwyddwyd gennych, sydd i'w groesawu'n fawr. Fy nghwestiwn, yn syml iawn, yw: mewn perthynas â'r ymrwymiad hwn, a fydd, gobeithio, yn datblygu mwy o brosiectau ynni cynaliadwy o fewn y môr Celtaidd—ac yn benodol, ffermydd gwynt sy'n arnofio, yn ôl yr hyn a ddeallaf—pa ddarpariaethau a geir o fewn y cydweithrediad hwn i sicrhau bod cymunedau ac awdurdodau lleol hefyd yn rhan o'r gwaith datblygu hwn, yn ogystal ag ar lefel genedlaethol?

Fel y sonioch chi, rhoddais fy nghefnogaeth i gynghrair y môr Celtaidd a chyfarfûm â chydweithwyr o'r gynghrair honno yn Nulyn yr wythnos ddiwethaf. Cyfarfod rhagarweiniol oedd hwnnw, yn amlwg. Bydd swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda hwy yn awr er mwyn sicrhau ein bod yn cael pob budd a allwn o'r gynghrair honno. Ond yn amlwg, mae gan awdurdodau lleol ran enfawr i'w chwarae yma—awdurdodau lleol penodol—a byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda hwy wrth i ni aeddfedu'r gynghrair honno.

Ailblannu Coed yng Nghwm Afan

10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ailblannu coed yng Nghwm Afan ar ôl cwympo coed yn yr ardal? OAQ54499

Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n ddiwyd i barhau i dorri coed a heintiwyd â phytophthora ramorum yng nghwm Afan. Maent yn ailblannu'r ardal â chymysgedd mwy amrywiol o rywogaethau coed conwydd a llydanddail, ac yn adfer cynefinoedd agored ar yr ucheldiroedd hyn. Bydd hyn yn sicrhau strwythur mwy amrywiol, bioamrywiol a gwydn.

Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall pa gynlluniau sydd gennym. Pe gallem gael amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw, byddai'n ddiddorol. Oherwydd ar ddechrau'r ddegawd, gwelsom ddatgoedwigo o ganlyniad i'r clefyd. Gwelsom y difrod a wnaed i goedwigaeth oherwydd bod ffermydd gwynt yn cael eu hadeiladu yng nghwm Afan. Canlyniadau'r rheini yw colli twristiaeth, o ran cerdded a beicio yn yr ardal, ac rydym yn ceisio denu hynny'n ôl. Rydym yn awr yn gweld mwy o gwympo coed yn yr ardal, o ganlyniad i benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i dorri mwy o goed—ac mae hynny, unwaith eto, yn effeithio ar y cynnig twristiaeth. Rydym angen y cynnig hwnnw oherwydd mae'n esblygu ac yn datblygu economi'r ardaloedd hynny. Felly, byddai amserlen o'r cynlluniau i ailblannu, a rhestr o ble y bydd hynny'n digwydd, fel y gallwn ddeall sut y gallwn adeiladu ar yr economi leol, yn ddefnyddiol. Byddai'n braf pe gallech annog Cyfoeth Naturiol Cymru i roi hynny i ni.

Fel y dywedais, nid cynaeafu pren masnachol arferol yw'r gwaith cwympo coed a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru; mae'n waith hanfodol i reoli lledaeniad P. ramorum. Gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Yn amlwg, mae ailblannu'n mynd rhagddo, fel y gwyddoch, a hyd yn hyn, cafodd cyfanswm o 745 hectar eu cwympo, ac ailblannwyd 720 hectar yng nghwm Afan rhwng 2011 a 2019. Felly, rwyf am ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru a allant roi amserlen a rhestr i chi i ddangos ble yn union y byddant yn ailblannu, fel bod gennych yr wybodaeth honno. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn am dwristiaeth, ac rwy'n deall bod coedwigoedd yn rhan gynhenid o fywydau pobl fel llefydd i fyw a gweithio ynddynt, neu i ymlacio a gwneud ymarfer corff, felly credaf eu bod yn bwysig iawn. A gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau edrych ar gynyddu eu hymgysylltiad â chymunedau a busnesau lleol, ac annog pobl i rannu eu syniadau, eu safbwyntiau a'u mewnbwn ar ddyfodol eu coedwig leol.

14:15

Diolch yn fawr, Llywydd. Efallai y bydd yn help mawr i rannu'r amserlen gydag Aelodau rhanbarthol hefyd ynglŷn â'r pwynt a gododd David Rees. 

Rwy'n siŵr eich bod chi'n cofio, yn sgil cwestiynau blaenorol, y gwnes i ofyn am y posibilrwydd y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ac ysgolion weithio gyda'i gilydd i blannu rhai coed bach er mwyn i'n plant allu dysgu am wyddoniaeth, natur, hanes Cymru a'r amgylchedd, wrth gwrs—paratoad perffaith ar gyfer y cwricwlwm newydd. Ar y pryd, doeddech chi ddim yn siŵr a oedd gwaith presennol Cyfoeth Naturiol Cymru gydag ysgolion yn ymwneud yn benodol â phlannu coed a dywedoch y byddech yn siarad â'r Gweinidog Addysg. A gafwyd cynnydd ar hyn?

Buaswn yn hapus iawn i rannu'r wybodaeth honno gydag Aelodau rhanbarthol, os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus i wneud hynny.

Ni allaf gofio a wyf wedi cael y drafodaeth benodol honno gyda'r Gweinidog addysg, ond rwy'n sicr wedi cael y drafodaeth honno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'n rhywbeth y maent yn awyddus iawn i'w ystyried ac wedi dweud y byddent yn ei ddatblygu.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth. 

Dyraniadau Cyllid

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2020-21? OAQ54481

Gwnaf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi setliad dros dro i lywodraeth leol ar 26 Tachwedd, wythnos ar ôl cyllideb ddrafft arfaethedig Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu manylion am y cyllid craidd i gynghorau ar gyfer 2020-21. Ynghyd â'r setliad, byddaf yn cyhoeddi dynodiadau cynnar o grantiau penodol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn ichi. Yn gyntaf, a wnaiff y Gweinidog ymuno â fi i longyfarch Cyngor Sir Ynys Môn ar gael ei farnu'r ail orau yng Nghymru mewn astudiaeth newydd? Mae'r arweinydd o Blaid Cymru, Llinos Medi, a'i thîm yn haeddu pob clod, felly hefyd y cyn prif weithredwr, Gwyn Jones, a'i dîm, ac a gaf i ddymuno'n dda iawn i'w olynydd o, Annwen Morgan, wrth iddi hi ddechrau ar ei gwaith? Ond mae'r llwyddiant yna wedi dod yn wyneb heriau ariannol difrifol iawn. Mi fu'n rhaid i'r cyngor wneud toriadau o ryw £2.5 miliwn eleni, yn dod â chyfanswm y toriadau i ryw £25 miliwn. A'r unig ffordd y llwyddwyd i gydbwyso'r llyfrau eleni oedd efo cynnydd treth cyngor o bron i 10 y cant, fel gymaint o gynghorau eraill. Ond all hynny ddim bod yn opsiwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Does yna'r unlle ar ôl i dorri, ar wahan i addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ac efo'r gwella sylweddol mewn gwasanaethau plant a'r pwysau cynyddol ar wasanaethau oedolion, allwn ni ddim bygwth y gwasanaethau i'n pobl fwyaf bregus. 

Rŵan, efo chwyddiant a chynnydd yn y galw am wasanaethau, mae cyngor Môn angen £6 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf dim ond i sefyll yn llonydd. Mi fyddai cynnydd treth cyngor o 5 y cant, sy'n dal yn ormod, yn dod â rhyw £2 miliwn i mewn, ond ar ben hynny byddai angen £4 miliwn yn fwy arnyn nhw—nid cyllideb fflat, nid rhewi, nid eu hachub nhw rhag toriadau pellach, nid grantiau penodol, ond arian ychwanegol yn y gyllideb graidd. Ydy'r Gweinidog yn sylweddoli mai dyna'r sefyllfa bellach? Ydy hi'n sylweddoli bod gwaith ataliol cynghorau'n arbed arian i gyrff eraill, fel gwasanaethau iechyd, a does yna'r unlle i'w dorri yn Ynys Môn? Rydym ni angen addewid ac rydym ni angen sicrwydd bod yna newid ar fyd. 

Ie, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am sefyllfa awdurdodau lleol ym mhob cwr o Gymru. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn hapus iawn i ymuno ag ef i longyfarch Ynys Môn. Mae Llinos wedi gwneud gwaith anhygoel yno. Mae'n ddynes ifanc ysbrydoledig iawn, y math o berson y dylem fod yn denu mwy o'i thebyg i wleidyddiaeth. Mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda hi ar y rhaglen tai arloesol, ac maent wedi gwneud gwaith gwych, felly rwy'n hapus iawn i ymuno â chi i ddweud hynny. Llongyfarchiadau iddi hi a'i thîm, y rhai blaenorol a'r rhai a fydd yn dechrau. 

O ran y pwysau cyffredinol, roedd Ynys Môn, fel y gwyddoch, yn un o'r rhai a oedd ar gyllid gwaelodol y tro diwethaf. Cawsant yr arian ychwanegol a oedd gennym er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd yr un cyngor yn gostwng yn is na 0.2 y cant, rwy'n credu. Gwnaethom hynny am nad oeddem eisiau i bobl gael amrywiadau enfawr yn eu cyllid yn wyneb cyni. Dyma'r nawfed flwyddyn o gyni. Nid ydym yn honni bod unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gwneud unrhyw beth heblaw gwneud dewisiadau erchyll am raglenni mawr eu hangen. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen: nid ydym yn torri pethau sy'n 'braf eu cael' yma. Mae'r toriadau hyn yn torri i'r asgwrn, felly rwy'n cydnabod hynny'n llwyr.

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddeall yr hyn rydym yn edrych arno yn gyffredinol. Rwyf wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid, i sicrhau bod gennym y setliad gorau posibl, o ystyried ein sefyllfa. Nid wyf am ailadrodd ein sefyllfa ar hyn o bryd, ond mae gennym addewidion o rai symiau canlyniadol, ond addewidion yn unig ydynt ar hyn o bryd. Nid ydym eto wedi gweld cyllideb, pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin na dim byd arall. Mae'n amlwg ein bod mewn cyfnod cyfnewidiol iawn, ond rydym yn bwrw ymlaen ac yn cynllunio cymaint ag y gallwn ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi cael perthynas dda gyda CLlLC, a chyfarfod da iawn gyda hwy yn y cyngor partneriaeth a'r is-grŵp cyllid, sgwrs agored a thryloyw ynglŷn â ble rydym arni mewn perthynas â chyllid a ble y byddwn arni yn y dyfodol. Felly, ni allaf ddweud mwy na hynny ar hyn o bryd; rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny.

Y peth arall y buaswn yn ei ddweud—a gwn fod gan lywodraeth leol ddiddordeb mawr yn hyn—rydym yn gweithio'n galed iawn ar draws y Llywodraeth i roi'r grantiau penodol ar waith cyn gynted ag y gallwn, ac i sicrhau na fydd unrhyw doriadau anfwriadol yn y gyllideb mewn mannau eraill o ganlyniad i symudiadau ar draws y Llywodraeth. Felly, mae'n waith eithaf cymhleth, ond rydym yn gobeithio cyflwyno darlun mor bendant â phosibl, mor gynnar â phosibl, o'r hyn y byddant yn ei gael, fel y gallant fod yn y sefyllfa orau bosibl i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch: rydym yn sicr mewn sefyllfa lle mae pobl yn gwneud dewisiadau anodd iawn ynglŷn â gwasanaethau wrth symud ymlaen.

14:20

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod dangosyddion amddifadedd yn dylanwadu'n drwm ar ei fformiwla ariannu llywodraeth leol. Mae Ynys Môn yn un o bum awdurdod lleol lle mae 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw gwirfoddol, a lefelau ffyniant y pen ar Ynys Môn yw'r rhai isaf yng Nghymru, ar ychydig o dan hanner lefelau ffyniant y pen yng Nghaerdydd. Eto i gyd, y flwyddyn ariannol hon, cafodd Caerdydd godiad o 0.9 y cant, oherwydd rydych yn nodi bod Ynys Môn yn y grŵp gyda'r toriadau mwyaf ynghyd â phedwar arall, gan gynnwys Conwy a Sir y Fflint. Sut y sicrhewch na fydd dull gwell o fesur y dangosyddion amddifadedd hynny'n rhoi Ynys Môn a chynghorau eraill yr effeithiwyd arnynt mewn sefyllfa debyg eto?

Mae is-grŵp dosbarthu'r cyngor partneriaeth yn gweithio'n galed iawn ar y dangosyddion yn gyffredinol. Mae gennym grŵp adolygu cyson sy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y dangosyddion fel ag y maent. Y teulu llywodraeth leol ei hun sy'n gyfrifol am hyn, ac mae gan Ynys Môn, fel llawer o gynghorau eraill, seddau ar yr is-grŵp ariannol a'r is-grŵp dosbarthu. Mae arweinydd Ynys Môn, y cyfeiriais ati yn awr, yn dod i gyfarfodydd y cyngor partneriaeth; rwy'n cyfarfod â hi'n aml iawn. Y llynedd, dioddefodd Ynys Môn o amrywiaeth o symudiadau anffafriol yn y dangosyddion, megis amcanestyniadau poblogaeth, niferoedd disgyblion ysgolion uwchradd, prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd a phlant mewn teuluoedd di-waith, ac mae'r dangosyddion hynny'n amrywio. Felly, yn amlwg, mae'r dosbarthiad yn gweithio'n wahanol yn ôl ystod o ddangosyddion. Rwyf wedi cael y sgwrs hon gydag Aelodau sawl gwaith; rydym yn cynnig, drwy'r amser, i awdurdod lleol sy'n credu nad yw'r dulliau o fesur yn iawn gynnig ei awgrymiadau ynghylch addasiadau i fformiwla'r is-grŵp dosbarthu, ac rydym yn gweithio drwy'r hyn y byddai hynny'n ei olygu i deulu'r awdurdod lleol yn gyffredinol. Mae'r cynnig hwnnw bob amser ar y bwrdd, fel y mae yn awr.

Nifer y Cynghorau yng Nghymru

2. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r arbedion ariannol sydd wedi'u colli o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i gynigion i leihau nifer y cynghorau yng Nghymru? OAQ54494

Nid oes tystiolaeth fod cynghorau mawr yn fwy effeithiol neu effeithlon na chynghorau bach. Bydd ein Bil llywodraeth leol yn grymuso cynghorau, yn diwygio ac yn cryfhau democratiaeth leol, yn creu amodau ar gyfer darparu gwasanaethau lleol yn well, ac yn darparu fframwaith cadarn i awdurdodau weithio ar sail ranbarthol lle mae manteision iddynt o wneud hynny.

Mae ymateb y Gweinidog yn ymddangos yn dra gwahanol i'r rhai rwy'n cofio eu cael gan ei rhagflaenwyr ar bynciau tebyg, ond nid yw eu hareithiau ynghylch awgrymiadau fod mwy yn well yn gyffredinol yn rhai sydd wedi arwain at wneud i gynghorau, neu gynghorwyr o leiaf, fod eisiau uno. Tybed a yw Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig amcangyfrif neu ryw ddadansoddiad neu rywbeth i gynorthwyo gyda'r costau sefydlog o redeg cyngor, o gofio bod gennym nifer o gynghorau bach iawn sydd â threthi cyngor uchel iawn?

Nid dyna sut y mae'n gweithio. Rydym yn credu y dylai democratiaeth fod mor agos at y bobl ag sy'n bosibl, er mwyn i'r penderfyniadau gael eu gwneud mor agos at y bobl ag sy'n bosibl. Rwy'n synnu'n fawr, o ystyried eich cefndir, Mark Reckless, nad ydych yn cytuno â mi mai'r math hwnnw o sybsidiaredd yw'r hyn y dylem fod yn chwilio amdano mewn democratiaeth leol. Felly, yr hyn rydym yn ei ddweud yw nad yw un maint yn addas i bawb; nid yw'n gweddu i bawb mewn unrhyw drefniant ledled Cymru. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau ar draws ystod o wahanol fecanweithiau a gwahanol feintiau, ac fel y dywedaf, nid oes unrhyw dystiolaeth yn unman sy'n dweud bod awdurdod lleol o faint penodol bob amser yn fwy effeithiol ac effeithlon nag awdurdod lleol o unrhyw faint arall. Yr hyn a wnawn yw gweithio'n agos iawn gyda CLlLC ac arweinwyr llywodraeth leol, drwy is-grŵp llywodraeth leol y cyngor partneriaeth, i ddatblygu mecanwaith i gefnogi gwaith rhanbarthol a chydweithredu lle bo hynny'n briodol, i leihau cymhlethdod i'r awdurdodau sy'n darparu gwahanol fathau o drefniadau gweithio rhanbarthol, ac i sicrhau bod y penderfyniadau'n cael eu gwneud mor agos at y bobl leol ag sy'n bosibl er mwyn sicrhau democratiaeth effeithiol ac effeithlon.

14:25

Os ydych yn credu mai sefydliadau mwy o faint yng Nghymru, fel Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw'r mathau o sefydliadau sy'n gweithio orau yn ein barn ni, mae manteision i uno ar raddfa eang.

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y byddai'r gost o ad-drefnu systemau TGCh, cydraddoli cyflogaeth a graddfeydd, symud staff, newid arwyddion—a gallwn fynd ymlaen, ond teimlaf na fyddai'r Dirprwy Lywydd yn gadael i mi wneud hynny—yn fwy drud nag unrhyw arbedion a ragwelid, heb sôn am arbedion gwirioneddol, a bod costau uno ar adeg yr ad-drefnu diwethaf, lle y gwelwyd uno'n digwydd mewn ardaloedd fel Abertawe, yn cyfateb i tua 5 y cant o'r gyllideb refeniw?

Wel, mae'n gêm genedlaethol, mewn gwirionedd, mewn llywodraeth leol i ddadlau am y costau neu'r arbedion sy'n gysylltiedig ag unrhyw broses ad-drefnu. Yr hyn sy'n amlwg os ydych yn ad-drefnu ar lefel dorfol yw y bydd yr awdurdodau'n mynd yn fewnblyg wrth i bobl geisio sicrhau bod eu swyddi a'u gwasanaethau'n cael eu diogelu. Nid oes arnom angen gwasanaethau mewnblyg. Rydym angen gwasanaethau cydweithredol ac effeithlon sy'n eang eu gorwelion. Felly, rydym yn cytuno â CLlLC mai gweithio ar y cyd fel yr amlinellais yw'r ffordd fwyaf effeithiol. Ac fel y dywedais eisoes, ac mae Mike Hedges yn gwybod hyn o'n cysylltiad hir, nid wyf yn cytuno bod mwy bob amser yn well.

O gofio bod y gwaith o ad-drefnu llywodraeth lleol yng Nghymru wedi'i wthio i'r naill ochr, Weinidog, a allwch chi ddweud pa gamau rydych yn eu cymryd i annog a chyflymu'r cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol presennol mewn perthynas â darparu gwasanaethau a swyddogaethau corfforaethol i gynhyrchu arbedion ariannol, os gwelwch yn dda?

Ie. Felly, mae gan y Bil sydd ar y ffordd amrywiaeth o drefniadau ar gyfer cydweithio. Bydd yn cynnwys dyfais o'r enw cyd-bwyllgor corfforaethol a fydd yn caniatáu i endid cyfreithiol gael ei ffurfio rhwng awdurdodau lleol sy'n dymuno cydweithio'n rhanbarthol. Bydd pedwar maes gorfodol ar wyneb y Bil fel y caiff ei gyflwyno, Ddirprwy Lywydd, ond wrth gwrs, y Senedd fydd yn penderfynu lle bydd y Bil yn mynd ar ôl hynny drwy ei phrosesau pwyllgor ac yn y blaen.

Mae awdurdodau lleol eisoes yn cyflawni ystod o wasanaethau pwysig ar y cyd, ac ni cheir un ateb sy'n addas i bawb. Felly, mae yna gydweithrediad rheoleiddiol yn ne-orllewin Cymru, er enghraifft, nad yw'n bodoli mewn mannau eraill. Ceir nifer o drefniadau amrywiol eraill. Mae CLlLC wedi bod yn gweithio'n galed iawn, gyda chymorth Derek Vaughan a arferai fod yn ASE Cymreig, i greu gwaith da iawn ar gyfer dadansoddi sut y mae hynny'n gweithio, a byddwn yn bwrw ymlaen mewn partneriaeth â hwy i'w helpu i wneud y trefniadau hynny.

Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod y Bil hefyd yn cynnwys cyfres gyfan o bwerau i awdurdodau lleol uno'n wirfoddol, er enghraifft, pe baent yn dymuno, a newid eu system a'u trefniadau pleidleisio. Ond maent yn wirfoddol. Felly, os bydd dau awdurdod lleol yn dod ynghyd ac yn credu y byddent yn gweithio'n fwy effeithiol ac effeithlon gyda'i gilydd, mae peirianwaith ar gael a fyddai'n eu galluogi hwy i wneud hynny, ond nid ydym yn eu gorfodi i wneud hynny am nad ydym yn credu mai dyna'r cyfeiriad teithio mwyaf effeithiol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar y llefarwyr i holi'r Gweinidog, a'r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Y mis diwethaf, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn dweud eich bod yn ymwybodol o nifer o adeiladau uchel iawn a adeiladwyd o fewn y 10 i 15 mlynedd diwethaf sydd â diffygion sylweddol. Nawr, rwyf wedi derbyn gohebiaeth yn ymwneud ag adeiladau sy'n perthyn i'r categori hwn ac mae'n warthus darllen straeon am deuluoedd ifanc sydd wedi'u dal mewn fflatiau anaddas na allant eu gwerthu gan nad oes unrhyw un wedi ysgwyddo cyfrifoldeb am gywiro'r diffygion hynny er mwyn sicrhau y gall teuluoedd sy'n dymuno symud werthu'r eiddo hwnnw. Weinidog, beth y bwriadwch ei wneud i helpu teuluoedd yn y sefyllfa hon a fydd yn eu helpu yn awr?

Mae gennym amrywiaeth o bethau rydym yn eu gwneud. Mae nifer o'r cwestiynau sy'n codi yn y sesiwn hon yn ymwneud â'r hyn a wnawn mewn perthynas â rheoleiddio a diogelwch adeiladau. Ond rydym wedi cael anhawster lle nad yw rhai o'r landlordiaid sector preifat wedi gallu camu ymlaen, neu mewn un sefyllfa wirioneddol anodd yn fy etholaeth, lle mae amryw o bobl wedi mynd yn fethdalwyr un ar ôl y llall, ac wedi gadael pobl mewn sefyllfa enbyd iawn. Rydym yn gohebu'n helaeth ac yn cyfarfod â'r awdurdod lleol yno i weld beth y gellir ei wneud i leddfu rhai o'r anawsterau rydych wedi'u mynegi. Nid oes gennym gymaint â hynny y gwn amdanynt yng Nghymru, ond lle mae gennym broblem, mae'n un ddifrifol. Felly, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo pobl gyda chymorth i aros, er enghraifft, neu eu helpu os ydynt yn mynd i drafferthion gyda thaliadau morgais ac yn y blaen. Ond mae'n broblem anodd tu hwnt os yw rhywun yn mynd i'r hyn a elwir yn gyffredin yn 'ecwiti negyddol' o ganlyniad i'r atgyweiriadau sy'n angenrheidiol.

Rydym yn helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau cynghori, fel y gallant roi camau ar waith yn erbyn unrhyw bobl broffesiynol sydd wedi rhoi cyngor anghywir neu gamarweiniol iddynt, fel sydd wedi digwydd i rai pobl. Ond mae'n broblem anodd iawn, felly mae arnaf ofn nad oes gennyf ateb hawdd i'w gynnig i'r teuluoedd hynny.

14:30

Os mai ymwneud â nifer fach o bobl y mae hyn, Weinidog, efallai y byddech yn barod i gyfarfod â rhai o'r bobl yr effeithiodd hyn arnynt, oherwydd mae'n rhywbeth sy'n cael effaith ddifrifol ar—

Ar hynny, mewn gwirionedd—dylwn ddweud bod fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Cynulliad, yn dod â phobl i gyfarfod â mi i'r union berwyl hwnnw cyn bo hir.

O'r gorau. Diolch yn fawr iawn. Weinidog, rwy'n credu mai un peth a allai ddigwydd yw y gallai fod newid yn y gyfraith gynllunio, er mwyn sicrhau, yn enwedig yn achos datblygwyr mawr sydd wedi elwa o'r fath dwyll—ac rwy'n defnyddio'r gair yn fwriadol—y rhoddir sylw i'w record flaenorol fel ystyriaeth berthnasol o fewn y system gynllunio. Rydych wedi dweud ar goedd mai slymiau'r dyfodol fydd rhai o'r datblygiadau newydd hyn. Nawr, nid wyf yn meddwl ei bod hi'n bwysig a oeddech yn cyfeirio at y diffyg gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi'r datblygiadau hynny, neu at ansawdd gwael y datblygiadau eu hunain, oherwydd mae'r casgliad y daethoch iddo yn un rwy'n cytuno ag ef.

Un o'r esboniadau yw bod cwmnïau llai wedi diflannu ers y chwalfa ariannol, gan adael cwmnïau mwy yn dominyddu'r farchnad ac yn gwneud elw gormodol o system gynllunio lac ac o reoleiddio llac. A ydych yn cytuno â mi ei bod hi'n bryd codi treth ffawdelw ar y cwmnïau mawr hyn, i dalu am unioni'r diffygion a achoswyd gan ddatblygiadau gwael?

Mae hynny'n amlwg y tu hwnt i gymhwysedd y Cynulliad, ond rwy'n sicr yn credu bod angen gwneud rhywbeth, o ran yr effaith adferol ar beth o'r gwaith a welsom. Heddiw ddiwethaf cyfarfûm ag adeiladwyr tai yng Nghymru i drafod y ffordd ymlaen, ac i nodi ein huchelgais ar gyfer cartrefi gwell, gwell safonau o ran gofod, cynlluniau carbon gwell, cynllunio cymunedol gwell, creu lleoedd gwell, ac roedd hwnnw'n gyfarfod cymharol gydsyniol ynglŷn â'r hyn y gellir ei gyflawni os gweithiwn gyda'n gilydd. Hoffwn ailadrodd y pwynt, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn hapus iawn i weithio gyda'r holl adeiladwyr yng Nghymru, cyn belled â'u bod yn dod ar y daith hon gyda ni, er mwyn inni gael ymdeimlad o le a chymuned yn ôl yn ein proses gynllunio.

Rwyf am ddweud ein bod yn gweithio'n galed iawn ar ein rhan L o'r rheoliadau adeiladu, y byddwn yn dod ati mewn cwestiynau yn ddiweddarach yn y sesiwn hon, fel y gallwn roi system reoleiddiol ar waith a fydd yn atal rhai o'r problemau hyn rhag digwydd. Rydym yn arbennig o bryderus, er enghraifft, lle mae breciau rhag tân mewn waliau ceudod wedi cael eu hepgor oherwydd cyflymder neu gymhwysedd y fethodoleg adeiladu a ddefnyddiwyd. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i ymdrin â rhai o'r rheini, ond nid yw'n helpu'r bobl sydd eisoes yn y sefyllfa honno. Rydym hefyd yn edrych yn fanwl iawn ar drefniadau'r ombwdsmon cartrefi newydd yn Lloegr. Nid oes gennyf ddigon o fanylion eto i ddweud a fyddwn ni'n gallu cyd-fynd â hynny, ond rydym yn awyddus iawn i gael system o'r fath, fel bod pobl yn gallu hawlio iawn os ydynt yn wynebu'r amgylchiadau anodd hyn.

O'r gorau. Wel, rwy'n falch o glywed eich bod yn cael y sgyrsiau hynny, oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na'r gorffennol yn unig—mae datblygiadau gwael yn mynd drwy'r pwyllgorau cynllunio yn awr wrth inni siarad. Ym mis Awst, cafodd Persimmon ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad ger canol y dref ym Mhen-y-bont ar Ogwr—tir datblygu o'r radd flaenaf. Nid oedd yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy, gyda thaliad arian parod cyfwerth â £50,000 yn unig am bob tŷ fforddiadwy y dylid bod wedi'i ddarparu—datblygiad yn ffinio ag ardal a ddynodwyd yn ardal reoli ansawdd aer yn ddiweddar, gyda swyddogion yn cydnabod y byddai'r datblygiad yn gwneud y sefyllfa'n llawer gwaeth. Oherwydd bod eu cynllun datblygu lleol, a ysgrifennwyd yn 2013, wedi dyrannu'r tir hwn ar gyfer tai, mynnodd swyddogion cynllunio bod y penderfyniad hwnnw'n bwysicach na'r pryderon llygredd aer nad oeddent yn hysbys ar y pryd. Cafodd flaenoriaeth dros Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a phe bai'r pwyllgor yn gwrthod rhoi caniatâd, byddai'r awdurdod lleol yn colli apêl ac yn gorfod talu costau. Pan oeddwn yn gynghorydd awdurdod lleol, rwy'n cofio cael fy mygwth â thâl ychwanegol. Mae cynghorwyr awdurdodau lleol yn dal i gael eu bygwth â thâl ychwanegol, ac nid yw hynny'n iawn. Felly, gyda'r datblygiadau gwael sy'n mynd drwy bwyllgorau cynllunio yn awr, a allwch ddweud wrthym beth y gallwch ei wneud i'w hatal?

14:35

Rydym yn bendant am annog pob awdurdod lleol gyda chynlluniau sy'n fwy na phum mlwydd oed, ac mae'n swnio debyg mai dyna yw hwnnw, i fod yn y broses adolygu. Holl bwrpas y broses a arweinir gan gynllun yw ei gadw'n gyfoes, fel bod datblygiadau newydd yn dod i'r amlwg—posibiliadau adeiladu di-garbon, materion ansawdd aer ac ati—mae'r cynllun yn ystyried y rheini. Dylent fod yn ddogfennau byw, mewn gwirionedd.

Ni allaf wneud sylw am y cais unigol—nid wyf yn gwybod digon amdano—ond rydym yn gweithio ar draws Cymru gydag awdurdodau cynllunio lleol, a chyda llefarwyr cynllunio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mewn gwirionedd gyda'n cymheiriaid priffyrdd ar draws Cymru, er mwyn rhannu gweledigaeth gyda'n gilydd o'r hyn y gellir ei gyflawni o fewn y broses gynllunio. Bydd Leanne Wood yn gwybod ein bod yn ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol ar hyn o bryd, ac rydym yn gweithio'n galed iawn ar sicrhau bod yr haen gynllunio strategol yn ei lle, fel bod gennym set mor ddiweddar â phosibl o gynlluniau, sydd â chymaint o atebolrwydd democrataidd o'u mewn ag y bo modd. Oherwydd mae hi'n hollol gywir: mae pethau'n newid dros bum mlynedd—mae pum mlynedd yn rhy hir o lawer, mewn amgylchedd technoleg sy'n symud yn gyflym, i wneud y mathau hynny o benderfyniadau. Ond mae arnaf ofn na allaf wneud unrhyw sylw ar y cais penodol hwnnw.

Yn ystod toriad y Cynulliad dros yr haf, cyhoeddodd Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth adroddiad, 'Leadership development and talent management in local authorities in Wales', a luniwyd ar ran Academi Wales, sefydliad datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth cyhoeddus, sy'n gweithio o fewn Llywodraeth Cymru. Nodai'r adroddiad fod rhai awdurdodau o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi sefydlu rhaglenni datblygu arweinyddiaeth hirsefydlog, tra bo eraill yn methu darparu adnoddau ar gyfer buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygiad, ac nad oes llawer yn wybyddus am resymeg, cynllun, gweithrediad, nac effeithiau'r rhaglenni, ac nid oes digon o wybodaeth am y cysylltiadau sydd i'w gwneud rhwng awdurdodau lleol mewn perthynas â rhannu ac ailadrodd dulliau o ddatblygu arweinyddiaeth. Sut ydych chi'n ymateb felly i'w hargymhellion, sy'n cynnwys y pwynt y dylai awdurdodau lleol ystyried datblygu mecanweithiau i gynnwys llais y dinesydd fel sail i'w gweithgareddau cynllunio'r gweithlu, a bod cyfle i awdurdodau lleol, drwy ddarparu byrddau gwasanaethau cyhoeddus a chynlluniau llesiant lleol, sicrhau bod safbwyntiau a dyheadau hirdymor dinasyddion wedi'u cynnwys wrth ddatblygu gweithlu ar gyfer y dyfodol sy'n meddu ar y sgiliau a'r ymddygiad i fodloni gofynion y gymuned leol, ac yn ogystal y dylai Academi Wales ystyried y gefnogaeth y mae'n ei rhoi i awdurdodau lleol i fonitro, mesur a gwerthuso effaith gyfunol datblygu arweinyddiaeth?

Credaf ei fod yn adroddiad da iawn, ac mewn gwirionedd, mae'n rhoi cyfle i mi hyrwyddo'r uwchgynhadledd ar wasanaethau cyhoeddus y byddaf i a'r Prif Weinidog yn ei hannerch yfory, sydd i'w chynnal dros ddau ddiwrnod yn Stadiwm Liberty, i lawr yn Abertawe, gyda'r union bwrpas o ledaenu arferion da yn eang yng Nghymru, ar thema un gwasanaeth cyhoeddus i Gymru. Mewn gwirionedd, mae Academi Wales yn sefydliad eithriadol o dda, ac fe'i canmolwyd, ac yn wir caiff ei ganmol yn yr adroddiad hwnnw, am ei allu i fframio'r sgwrs am arweinyddiaeth mewn llywodraeth leol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn hefyd gyda CLlLC, ac yn wir gyda pheth arian sydd gennym gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, cyllidwyd posibiliadau arweinyddiaeth ar gyfer swyddogion trydedd haen ac is ar draws yr awdurdodau lleol yng Nghymru, fel bod ganddynt gyfleoedd arweinyddiaeth sy'n gwella gyrfa. Ac rydym yn awyddus iawn i weithio gydag Academi Wales ar gyfleoedd ar gyfer secondiadau—o wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, allan i adrannau gweithredol llywodraeth leol, ac fel arall, fel bod gan y naill ddealltwriaeth well ynglŷn â sut y mae'r llall yn gweithio, gyda golwg ar wella'r agweddau arweinyddiaeth ar hynny.

O ran llais y cyhoedd, rydym yn annog awdurdodau lleol yn gryf  i ymgysylltu â'u cyhoedd mewn cyfres mor eang â phosibl o ddigwyddiadau, gyda'r nod o wella'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, ond gyda'r nod o wella dealltwriaeth swyddogion yr awdurdodau o sut y maent yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn eu maes penodol.

Nid wyf yn gwybod a oedd Mark Isherwood yn ceisio dweud ei fod am hyrwyddo hyn, ond i fod yn glir, nid wyf—nid wyf yn meddwl bod un ateb sy'n addas i bawb yng Nghymru. Felly, nid wyf yn meddwl y gallwch ddweud, 'Mae hyn yn edrych fel arweinyddiaeth dda—rhaid i chi ei wneud fel hyn.' Rwy'n credu ei fod yn wahanol iawn, yn dibynnu ar ble rydych chi, sut un yw eich awdurdod, sut un yw eich poblogaeth leol. Ond rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Academi Wales ar ledaenu arferion da ledled Cymru, ac mae'r deuddydd nesaf i lawr yn Abertawe yn enghraifft dda o hynny.

A gaf fi ddweud, nid wyf yn canolbwyntio ar geisio nodi sut beth yw arweinyddiaeth dda, ond yn hytrach ar sut y datblygwn arweinyddiaeth dda. Ac yn fy nghefndir proffesiynol, byddem yn bradychu pobl, o'r swyddi isaf i'r swyddi uchaf, pe na bai gennym system rheoli perfformiad ar waith a oedd yn gwbl ryngweithiol, ac a oedd yn parchu pobl ac yn cytuno ar ffyrdd ymlaen, fel y gallent ddatblygu'n broffesiynol, yn unigol a chyfrannu'n unol â hynny.  

Wrth ddatblygu thema debyg, yr wythnos hon mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi llunio adroddiad ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, gan nodi bod angen iddynt ddechrau meddwl a gweithredu'n wahanol, a chael y rhyddid i weithio'n fwy hyblyg. Wrth gwrs, sefydlwyd y byrddau gan Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i wella llesiant cymunedau, ond dywedodd nad ydynt yn debygol o gyflawni eu potensial oni bai fod newidiadau'n cael eu cyflwyno. Unwaith eto, sut y byddech yn ymateb i'r argymhellion a wnaed, a oedd yn cynnwys y dylai Llywodraeth Cymru alluogi byrddau gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu modelau gweithio hyblyg, gan gynnwys uno, lleihau ac integreiddio eu gwaith gyda fforymau eraill, megis byrddau partneriaeth rhanbarthol, a rhoi hyblygrwydd iddynt dderbyn, rheoli a gwario arian grant; gwella tryloywder ac atebolrwydd drwy sicrhau bod cyfarfodydd, agendâu, papurau a chofnodion byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn hygyrch ac ar gael i'r cyhoedd; ac y dylai byrddau gwasanaethau cyhoeddus a chyrff cyhoeddus ddefnyddio canfyddiadau papur trafod blaenorol gan yr archwilydd cyffredinol ar graffu effeithiol i gryfhau'r trefniadau trosolwg yn eu gwaith? Rwy'n gobeithio y cytunwch â mi fod hyn yn cyd-fynd â'r cwestiwn cyntaf, oherwydd byddai rheoli effeithiol ar bob lefel yn gofyn am y math hwn o newid yn y dull rheoli.

14:40

Buaswn yn cytuno'n llwyr â chi. Cafwyd adroddiad da gan yr archwilydd ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac maent yn gymharol newydd. Fe'u hystyrir yn y gweithgor rhanbarthol sydd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a grybwyllais wrth ymateb i gwestiwn cynharach. Mae'r gymdeithas yn gwneud gwaith da gyda'i chydweithwyr ym maes iechyd o ran sut y gallwn ledaenu arfer da ar draws y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sut y gallwn leihau dyblygu lle mae i'w weld yn digwydd gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol, a sut y gall y ddau fecanwaith weithio'n fwy effeithiol ochr yn ochr â threfniadau rhanbarthol eraill. Mae'n waith y gobeithiaf y bydd yn cael ei wneud yn gyhoeddus tuag at y Nadolig eleni, wrth i ni gwblhau'r gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Ond rydym wedi bod yn gweithio ar hyd y llinellau a awgrymwyd yn yr adroddiad hwnnw ers cryn amser, ac rwy'n cytuno â Mark Isherwood fod cwestiwn deuol yno. Nid yw'n ymwneud yn unig â rheoli pobl—nid wyf yn anghytuno o gwbl â'r hyn a ddywedodd am systemau arfarnu—mae hefyd yn ymwneud â meddwl strategol a threfniadau arweinyddiaeth a roddir ar waith ar gyfer y byrddau hynny. Ac felly, rwy'n credu bod hwn yn arf da yn yr arfogaeth, os mynnwch, ar gyfer gwella'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ond mae'n werth cofio nad ydynt wedi bod yno ers cymaint â hynny o amser, ac maent yn dal i ymsefydlu. Fel y dywed yr adroddiad, gwelsom rai arferion da iawn ledled Cymru, a mater o sut y lledaenwn hynny yn unig ydyw.

Mynychodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol gynhadledd, neu ymarfer ymgysylltu undydd beth bynnag, ar y ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gweithio gyda'i gilydd. A chafwyd gwersi a chanlyniadau da a ddatblygir gennym o hynny hefyd.

Wel, mae systemau arfarnu i fod i ddarparu cipolwg fel rhan o system rheoli perfformiad. Ni ddylai system arfarnu ddatgelu canlyniadau annisgwyl. Ni ddylai unrhyw gyflogai ar unrhyw lefel gael ei feirniadu na'i ganmol am rywbeth nad oeddent eisoes yn ymwneud ag ef. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn datblygu hynny'n rhan o'r gwaith rheoli perfformiad, yn hytrach na systemau arfarnu'n unig.

Ond amlygwyd hyn oll efallai gan neges e-bost a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol a gynrychiolai Sir y Fflint ym mis Awst, gan bwyllgor trosolwg a chraffu cymdeithasol a gofal iechyd Sir y Fflint, ar ôl iddynt ystyried ymgynghoriadau gofal iechyd parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc ac oedolion, sy'n destun ymgynghori ar hyn o bryd. Dywedasant fod yr aelodau'n teimlo y byddai'r wybodaeth a'r newidiadau y manylir arnynt yn y fframwaith arfaethedig yn niweidiol i awdurdodau lleol ledled Cymru, nad yw'r fframwaith wedi'i eirio'n glir mewn modd a fyddai'n lleihau anghydfod rhwng byrddau iechyd a'u gwasanaethau, lle mae nifer o achosion yn destun anghydfod â'r sir ar hyn o bryd, ac y bydd y diffyg eglurder yn cael effaith bellach ar y mater hwn, gan effeithio'n sylweddol ar amser ac adnoddau staff. Dywedasant y byddai'r fframwaith newydd yn arwain at fwy fyth o bwysau ariannol, ac na fyddai nifer o becynnau gofal a ariennir ar hyn o bryd gan y bwrdd iechyd lleol neu ar y cyd â'r bwrdd iechyd lleol yn dod yn gymwys mwyach i gael arian ar gyfer gofal iechyd parhaus ac yn dod yn gyfrifoldeb y bwrdd iechyd yn llwyr.

Ac yn olaf, dywedasant fod y fframwaith yn parhau i fethu cysoni'r defnydd o daliadau uniongyrchol, gan na fydd unigolyn yn gymwys i ddefnyddio taliad uniongyrchol i ariannu anghenion iechyd sylfaenol, gan arwain at wrthdaro o ran yr egwyddor o gysondeb a rheolaeth. Mae hyn yn mynd i graidd y gwaith a wneir gan fyrddau partneriaeth lleol a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn ogystal â gwaith awdurdodau lleol. Ac rwy'n sylweddoli na allwch wneud sylwadau ar ganlyniad ymgynghoriad, ond sut y byddwch yn ymateb i'r materion ehangach y dangoswyd tystiolaeth ohonynt gan y pwyllgor cyngor hwn?

14:45

Ie, felly, fel rwy'n dweud, mae'n ddyddiau cynnar o ran y ffordd y mae'r ddau fwrdd yn cydweithio. Mae'n ddyddiau cynnar ar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Ac yn amlwg, dechreuodd y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn fwy diweddar hyd yn oed. Nid wyf yn mynd i wneud sylw ar fanylion hynny. Rydym yn ymwybodol o arferion gwahanol ledled Cymru, ac un o'r pethau a ddywedais wrth ateb eich ail bwynt oedd ein bod yn chwilio am ffyrdd o ledaenu arferion da. Felly, heb roi sylwadau am y manylion yma, mae'n ddiddorol nad ydynt wedi gallu gwneud pethau drwy'r mecanweithiau hynny mewn rhai rhannau o Gymru er iddi fod yn gwbl bosibl mewn mannau eraill yng Nghymru yn ôl pob golwg. Felly, mae angen inni wneud rhywfaint o waith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae'r ddau Ddirprwy Weinidog wedi bwrw ymlaen â'r gwaith ar sut y mae'r ddau'n cyd-dynnu. Ac wrth gwrs, byddwn yn ystyried yr holl bethau a ddysgwyd gan bwyllgorau craffu a threfniadau craffu o bob cwr o Gymru.

Mae cwestiwn yn codi ynghylch lledaenu arferion da yng Nghymru a pha mor araf y mae arferion da wedi teithio. Rwyf am ganmol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y gwaith y bu'n ei wneud dros yr haf ar hynny. Ac yn sicr, gallaf ddweud, Mark Isherwood, y byddwn yn rhoi sylw i ganfyddiadau craffu pob un o'r pwyllgorau ledled Cymru wrth ystyried sut i fwrw ymlaen â'r ddau drefniant.

Gwasanaethau Archwilio a Rheoleiddio

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd gwasanaethau archwilio a rheoleiddio awdurdodau lleol? OAQ54483

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am arolygu a rheoleiddio llawer o wasanaethau gwahanol, yn rhai datganoledig a heb eu datganoli. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r fframweithiau statudol ar gyfer y rheini mewn meysydd datganoledig, a chaiff y rhain eu hadolygu o bryd i'w gilydd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn dilyn yr ymchwiliad diweddar gan y BBC a ddangosodd nad yw'r system drwyddedu'n gweithio a bod cŵn yn cael eu cadw mewn amgylchiadau ffiaidd a chreulon, mae eich Llywodraeth wedi dweud ei bod yn mynd i adolygu'r rheolau. Os credwch fod adroddiad y BBC yn peri gofid, dylech weld peth o'r stwff ar wefan ymgyrch C.A.R.I.A.D.. Mae'r hyn y mae'r cŵn hyn yn gorfod ei ddioddef yn gwbl frawychus. Rwy'n siŵr fod pawb yn cytuno bod y ffaith ei fod yn dal i ddigwydd yng Nghymru yn gwbl gywilyddus.

Nawr, mae'r cyfryngau a rhai gwleidyddion wedi beio awdurdodau lleol a milfeddygon am y problemau, ond rhaid inni gofio mai'r ffermwyr cŵn bach eu hunain sy'n gyfrifol am gadw'r anifeiliaid hyn mewn amgylchiadau mor wael mewn gwirionedd. Rwy'n sylweddoli bod awdurdodau lleol yn brin o arian, mae ganddynt lawer iawn o flaenoriaethau i ymdrin â hwy. Mae gweithredu system drwyddedu a system arolygu yn briodol yn galw am lawer o arian ac adnoddau. Mae gwneud archwiliadau dirybudd, er enghraifft, yn galw am arian ychwanegol, ac nid ydynt i'w gweld yn digwydd. Felly, onid ydych yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o roi diwedd ar y dioddefaint rheoleiddiedig hwn yw gwahardd ffermio cŵn bach yn gyfan gwbl? Rwy'n gredwr cryf yn y dywediad 'lle mae ewyllys, mae yna ffordd', a does bosibl na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio gyda sefydliadau megis C.A.R.I.A.D. i sicrhau ffurf ar waharddiad a fyddai'n effeithiol. Felly, er mwyn mynd i'r afael â chreulondeb i anifeiliaid yng Nghymru, rwy'n credu mai gwaharddiad llwyr yw'r unig ateb. A ydych chi'n cytuno?

Yn ei chwestiynau cynharach, amlinellodd y Gweinidog ystod eang o fesurau y mae hi wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar ar hyn, ac wrth gwrs, mae'r hanesion a roddwyd am ddiffyg cydymffurfiaeth yn rhaglen ddogfen y BBC yn peri gofid mawr i ni i gyd. Roedd yn ofnadwy—yn gwbl dorcalonnus.

Amlinellodd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, gyfres o bethau y mae hi'n eu gwneud i'r perwyl hwn. Mae'n demtasiwn bob amser i feddwl bod ateb cyflym i'r pethau hyn, ond mae iddynt bob amser ganlyniadau eraill nas bwriadwyd. Felly, mae angen inni weithio drwy'r rheini'n ofalus. Credaf fod Lesley Griffiths eisoes wedi dweud yn y sesiwn hon, Ddirprwy Lywydd, y bydd yn cyflwyno rhagor o wybodaeth i'r Senedd wrth i'r pethau hynny weithio drwy'r system.

Rwy'n credu bod pawb wedi ffieiddio ac wedi'u siomi i'r un graddau gan yr hyn a welsom ar ein sgriniau yr wythnos diwethaf, ond mae fy nghwestiwn yn glir iawn: rwy'n gofyn yn awr am foratoriwm ar unrhyw drwyddedau newydd o gwbl sy'n ymwneud â ffermio cŵn bach. Oherwydd, yn unol â'r atebion a gefais gan gynghorau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, maent wedi'u llethu ar hyn o bryd. Os ydynt wedi'u llethu yn awr gyda'r hyn sydd ganddynt, mae'n weddol amlwg i mi nad oes angen mwy arnynt. Gwn fod yna gais ger bron yng Ngheredigion, a gwn fod 4,500 o lofnodwyr yn gwrthwynebu'r cais hwnnw. Buaswn yn rhoi fy nghefnogaeth iddo oherwydd ni allwn barhau i ganiatáu trwyddedau neu ganiatáu i awdurdodau ganiatáu trwyddedau a hwythau, yn ôl eu cyfaddefiad eu hunain, wedi'u llethu.

14:50

Ie, ac fel y dywedais, nododd Lesley Griffiths lawer o bethau yn ei hatebion cynharach, a gwn ei bod wedi ysgrifennu at grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru i dderbyn eu cynnig o gymorth ac i ofyn am adolygiad brys a heb ymdroi o'r rheoliadau bridio cŵn. Efallai, o ystyried cymaint o ddiddordeb a geir ar draws y Siambr, a'r peth trawsbortffolio—rydych newydd ryddhau datganiad ysgrifenedig, rwy'n gwybod—buaswn yn hapus, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, i drefnu cyfarfod rhwng gwahanol Aelodau Cynulliad a ni ynglŷn â'r ffordd ymlaen ar draws y ddau bortffolio.

Weinidog, dros flynyddoedd lawer, bûm yn pryderu'n fawr ynglŷn â nifer yr achosion y mae safonau masnach wedi'u dwyn yn erbyn ein ffermwyr, sy'n mynd i'r llys, ddim ond i weld yr achos yn cael ei ollwng. Ceir honiad bod ffermwr—yng ngogledd Cymru oedd hyn—wedi cymryd amser afresymol i gael gwared ar garcasau wedi'i ollwng. Aeth achos yn erbyn tri ffermwr a'u rheolaeth o ddiadell o ddefaid mynydd Cymreig i'r llys ac fe'i gollyngwyd. A gwn am ffermwr y bu'n rhaid iddo fynd i'r llys am fethu darparu gwellt ffres euraid i'w anifeiliaid orwedd arno. Roedd yr achos hwnnw'n aflwyddiannus yn y llys hefyd. Felly, nid yw'n syndod fod yna deimlad ei bod hi'n ymddangos bod awdurdodau lleol yn benderfynol o erlyn yn gyntaf yn hytrach na cheisio gweithio'n fwy adeiladol.

Yn ddiweddar iawn, aethpwyd â ffermwr yn fy etholaeth i'r llys, dros fisoedd lawer o boeni ynghylch penderfyniad—a gallaf weld Aelodau eraill yn cytuno â mi. Roedd costau'r llys yn £100,000, a chafodd yr achos ei ollwng. Mae'n rhaid newid y sefyllfa hon, gan fod ffermwyr yn cael eu cosbi'n annheg gan gost ymladd achosion troseddol. A wnewch chi adolygu effeithlonrwydd awdurdodau lleol a'u cyfundrefnau arolygu er mwyn edrych am ffordd well o weithio'n fwy cydweithredol â ffermwyr, yn hytrach na mynd â ffermwyr i'r llys gan ddefnyddio arian y trethdalwyr i awdurdodau lleol dalu treuliau llys, a gadael ein ffermwyr gweithgar, yn y pen draw, i wynebu costau llys enfawr am achosion llys aflwyddiannus?

Wel, nid oes gennyf unrhyw syniad ynglŷn â manylion yr achosion y mae Janet Finch-Saunders yn eu disgrifio. Os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf, mae hynny'n iawn. Ond yn gyntaf oll, gwasanaeth heb ei ddatganoli a ddarparir gan ein hawdurdodau lleol yw safonau masnach, ac yn ail, mae'n anodd iawn gwneud datganiad cyffredinol am effeithiolrwydd neu ddiffyg effeithlonrwydd polisi erlyn ar sail tri achos rwyf newydd glywed amdanynt. Felly, os ydych am ysgrifennu ataf a rhoi manylion hynny i mi, rwy'n hapus i edrych arno.

Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol yn ochelgar iawn rhag rhoi achos llys ar waith oherwydd mae'n ddefnydd enfawr ar eu hadnoddau mewn amgylchiadau cyfyngedig. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych ar fanylion yr achosion a nododd.

Polisi Cynllunio ar gyfer Tai Newydd

4. Sut mae polisi cynllunio ar gyfer tai newydd yn ystyried darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ54488

Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer tai newydd wedi'i ddiwygio'n llwyr i adlewyrchu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhoi lle canolog i greu lleoedd yn y system gynllunio ac yn hytrach nag adeiladu ystadau tai ynysig, mae'n canolbwyntio ar greu mannau cynaliadwy sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant.

Tua diwedd 2016, gwnaeth Mark Lang Barc Lansbury yn destun astudiaeth ddofn i geisio deall achosion gwaelodol amddifadedd cymharol yr ardal. Ac er nad oes atebion hawdd, arweiniodd at benderfyniad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fabwysiadu cynllun dwfn i fynd i'r afael â'r problemau amlochrog hyn. Yng nghynhadledd flynyddol fwyaf diweddar bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Caerffili, a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, canmolodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ym Mharc Lansbury a phwysleisiodd bwysigrwydd cynnal mynediad i fannau gwyrdd naturiol ar gyfer trigolion yr ystâd. Crybwyllwyd hyn yn benodol yn y gynhadledd honno. Dylai pobl heblaw'r cymunedau mwy cefnog gael mwynhau mannau gwyrdd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod codi tai drud newydd ar fannau gwyrdd ger cymunedau—fel Parc Lansbury er enghraifft—yn peryglu hyn ac yn nodwedd o ddatblygu anghynaliadwy, yn groes i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol?

Ie. Wel, fel y gŵyr Hefin David, ni allaf roi sylwadau ar fanylion unrhyw gais cynllunio penodol, ond yn gyffredinol, rwy'n hapus iawn i ddweud fy mod yn cytuno â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am bwysigrwydd mynediad i fannau gwyrdd i bob un o'n cymunedau, yn enwedig y rhai sydd â llai o fynediad, mewn gwirionedd. Ac mae hynny'n gwella iechyd a lles yn fawr, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, ac adlewyrchir hynny ar hyn o bryd yn y polisi cynllunio, ac mae angen ei adlewyrchu ym mhenderfyniadau pwyllgorau cynllunio ac ym mhenderfyniadau'r arolygiaeth.

14:55

Weinidog, yr wythnos diwethaf, cafodd cais cynllunio ar gyfer 111 o dai newydd yn fy etholaeth, a gymeradwywyd yn flaenorol gan yr awdurdod lleol cyn cael ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru, ei wrthod wedyn gan yr arolygiaeth ar y sail ei fod yn groes i ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol y soniodd Hefin David amdani yn awr. Fe'i gwrthodwyd ar y sail y byddai'r datblygiad yn dibynnu gormod ar geir, yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Nawr, nid wyf yn gofyn i chi wneud sylwadau mewn unrhyw ffordd ar yr achos hwn, oherwydd rwy'n gwybod y byddwch yn dweud na allwch, ac rwy'n gwybod sut y mae'r pethau hyn yn gweithio. Ond rwy'n mynd i ofyn cwestiwn mwy cyffredinol am y ddeddfwriaeth hon a sut y mae'n rhyngweithio â chynllunio lleol. O gofio bod deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cael effaith gynyddol ar gynllunio yn arbennig, a wnewch chi ystyried rhoi gwell arweiniad i awdurdodau cynllunio lleol, a hyfforddiant efallai i gynghorwyr a swyddogion sy'n ymwneud â'r broses gynllunio, fel eu bod yn gwbl gyfarwydd â'u rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth yn gynnar yn y broses ac fel y gellid osgoi'r holl gymhlethdodau a'r costau cysylltiedig a welwn yn nes ymlaen gyda galw i mewn ac atgyfeiriadau—llawer o hynny—gan y byddai awdurdodau cynllunio'n gwybod yn iawn beth oedd eu rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ar y cychwyn cyntaf?

Ie, rwy'n hapus i gytuno â hynny. Mewn gwirionedd, mynychodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, a minnau gyfarfod o'r ffederasiwn adeiladu tai—ni allaf gofio'r union deitl; i ddrysu Gweinidogion, druain, mae gan bob un ohonynt enwau sydd bron yn union yr un fath—ond y ffederasiwn adeiladu tai, y bore yma, lle y rhoddwyd ymrwymiad gennym i gydweithio gyda'r arweinyddion cynllunio a phriffyrdd yn CLlLC i wneud yn union fel y mae Nick Ramsay newydd ei awgrymu.

Felly, mae hwn yn bolisi cynllunio cymharol newydd a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, wrth iddi adael y portffolio yr oeddwn yn hapus iawn i'w etifeddu, ac mae'n newid sylweddol yn y ffordd yr edrychwn ar gynllunio. Rwy'n falch iawn o glywed ei fod yn cael effaith ar lawr gwlad, ond rydych yn llygad eich lle fod angen i ni sicrhau bod calonnau a meddyliau pawb sy'n gweithredu'r broses, gan gynnwys ein hadeiladwyr a'n datblygwyr, gyda ni. A dyna oedd diben y cyfarfod a fynychwyd gennym y bore yma—gwneud yn siŵr fod pawb yn deall ein cyfeiriad polisi'n glir fel y gallant fod yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth ei weithredu.

Roeddwn am sôn am rywbeth y gofynnodd Leanne Wood i chi yn gynharach, rhywbeth na wnaethoch ymateb iddo'n uniongyrchol, felly roeddwn am roi cynnig arall arni a gofyn am 'ie' neu 'na' syml, os oes modd. Roeddwn yn meddwl tybed a allech gadarnhau y dylid defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel ystyriaeth berthnasol gan bwyllgorau cynllunio wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, ac na ddylid rhoi mwy o bwysau i gynlluniau datblygu lleol a gynhyrchwyd cyn y Ddeddf hon na'r hyn sy'n ofynnol yn y Ddeddf mewn penderfyniadau a wneir gan bwyllgorau heddiw. 'Dylid' neu 'na ddylid'?

Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi hynny. 'Polisi Cynllunio Cymru' yw'r polisi cynllunio sydd mewn grym ar gyfer Cymru, sef yr hyn y dylid ei ystyried pan fydd pwyllgorau cynllunio yn gwneud eu penderfyniadau. Mae'n eithaf syml.

Roeddwn i'n meddwl fy mod wedi dweud 'dylid' ar y dechrau. Y polisi diweddaraf yw'r un y dylid ei ystyried.

Safonau Diogelwch Tân

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau diogelwch tân ar gyfadeiladau preswyl yng Nghanol De Cymru? OAQ54490

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pwerau datganoledig presennol i wella safonau diogelwch tân yn yr holl adeiladau preswyl uchel iawn yng Nghymru, gan sicrhau bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. Rwy'n gweithio tuag at Bapur Gwyn sy'n nodi diwygiadau arfaethedig cyn y ddeddfwriaeth newydd yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

Weinidog, mae hwn yn waith pwysig iawn. Efallai eich bod yn gwybod bod y gwasanaeth tân wedi cyhoeddi hysbysiadau gorfodi yng Celestia Homes, lle y ceir diffygion yn ymwneud â blociau a chladin allanol. Mae'r ffordd y caiff yr adeiladau hyn eu hadrannu'n annigonol, ac o ganlyniad, mae lesddeiliaid bellach yn wynebu symiau sylweddol o arian i unioni'r pethau hyn. Adeiladwyd y rhain yn 2006, a rhoddwyd sicrwydd gan y datblygwyr bryd hynny, Redrow a Laing O'Rourke, eu bod o'r safon uchaf, gan gyfeirio'n benodol at eu rhagoriaeth o ran diogelwch tân. A nawr, er bod Redrow wedi gwneud elw mwy nag erioed yn ddiweddar, nid ydynt yn rhoi cyngor digonol, a llai fyth o gymorth; maent yn gadael i'r bobl wynebu'r taliadau sylweddol hyn eu hunain. Nawr, nid yw hyn yn ddigonol. Yn amlwg, mae'r sefyllfa o ran diogelwch tân wedi'i llywio'n aruthrol gan Grenfell, ac mae arnom angen partneriaeth fan lleiaf â'r rhai a adeiladodd yr eiddo a'r preswylwyr presennol, ac nid symud y cyfrifoldeb yn llwyr ar ysgwyddau'r rhai sy'n dal i fyw yno mewn tai annigonol.

15:00

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ein blaenoriaeth gyntaf yw diogelwch preswylwyr a thenantiaid ac rydym wedi ceisio sicrwydd, ar yr holl adeiladau rydym yn ymwybodol ohonynt, fod y mesurau diogelwch interim priodol ar waith ar unwaith, a bod cynllun clir ar gyfer lliniaru hirdymor hefyd yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosibl. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol perthnasol, y gwasanaethau tân ac achub, perchnogion yr adeilad a'r asiantaethau rheoli. Fel y mae'r gyfraith ar hyn o bryd, cyfrifoldeb perchnogion adeiladau a'u hasiantaethau rheoli yw diogelwch adeiladau fel y'i gorfodir drwy'r gwasanaethau. Mae pwerau gorfodi gan yr awdurdodau lleol o dan y Ddeddf tai a'r gwasanaethau tân ac achub o dan y Gorchymyn diogelwch tân, fel y gŵyr David Melding eisoes, rwy'n gwybod. Felly, rydym wedi bod yn gyson wrth ddweud yn union yr hyn y mae newydd ei ddweud—na ddylid disgwyl i lesddeiliaid a phreswylwyr dalu i unioni problemau sy'n deillio o fethu adeiladu i safonau ansawdd priodol neu lle mae materion yn torri rheoliadau adeiladu. Rwy'n rhoi datganiad llafar i'r Cynulliad yn ddiweddarach y mis hwn i fanylu mwy ar hynny, ond yn fras rwy'n cytuno â'r hyn y mae'n ei awgrymu.

Y Sectorau Tai ac Iechyd

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwella cydweithio rhwng y sectorau tai ac iechyd? OAQ54498

Byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i drafod tai, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gweithio ar y cyd rhwng tai ac iechyd yn hanfodol er mwyn cyflawni 'Cymru iachach'.

Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun yn y Siambr hon yn canfod, bron yn ddieithriad, fod gan yr etholwyr a ddaw i fy ngweld ynghylch problemau tai broblemau iechyd, a phroblemau iechyd meddwl hefyd fel arfer. Mae'n gwbl hanfodol gan hynny fod byrddau iechyd yn gweithio'n rhagweithiol gyda darparwyr tai i ddiwallu anghenion y cymunedau. Yn fy mhrofiad i, gall y gwaith hwnnw fod yn dameidiog ac nid yw'n canolbwyntio digon ar ymyrryd yn gynnar. A wnewch chi drafod hyn gyda'r Gweinidog iechyd i geisio sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi anghenion tai cymunedau?

Gwnaf, rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Mae'n rhywbeth a wnawn yn rheolaidd eisoes. Bydd Lynne Neagle yn gwybod ein bod wedi hwyluso cydweithio gwell rhwng iechyd a thai yn ddiweddar drwy wneud cynrychiolwyr o'r sector tai yn aelodau statudol o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Felly, mae hynny wedi dechrau digwydd. Mae'n ddyddiau cynnar ar hynny ond rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ei fod yn dechrau gweithio. Ac mae gennym y gronfa gofal integredig, a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog tai, ac sydd erbyn hyn yn dechrau cael effaith mewn gwirionedd. Rydym yn gweld argymhellion arloesol iawn yn cael eu cyflwyno i wneud yn union hynny—i fynd ati mewn ffordd ataliol i ddiwallu anghenion cyfunol y gymuned o ran tai ac iechyd, ac i wneud yn siŵr fod y cyfleusterau ar gael gennym i fwrw ymlaen â hynny. Ond rwy'n hapus iawn i gynnal perthynas barhaus gyda'r Gweinidog iechyd, a'r Dirprwy Weinidog hefyd Rydym yn cael trafodaeth am agweddau gofal cymdeithasol hynny yn rheolaidd.

Diolch. Ac yn olaf, cwestiwn 7, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Bethan Sayed.

Amodau Gwaith Priodol

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau amodau gwaith priodol mewn cwmnïau preifat sy'n darparu gwasanaethau ar ran llywodraeth leol? OAQ54471

Dylai arferion gweithio teg fod yn norm ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Er mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am eu contractau, rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy drwy'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi a'r cod dwy haen i ddileu arferion gwaith annheg.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Fel y gwyddoch, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi trosglwyddo'u gwasanaethau hamdden—fel y gwnaeth llawer o gynghorau eraill ar y pryd—i Celtic Leisure, a rhybuddiodd llawer ohonom ar y pryd y byddai amodau gwaith yn gwaethygu oherwydd hynny yn y pen draw. Yr hyn a welsom yn ddiweddar, felly, yw Celtic Leisure yn dweud, os nad yw pobl yn cytuno i newidiadau yn eu telerau ac amodau, byddant yn cael eu diswyddo a'u hailgyflogi ar amodau gwannach. Nawr, mae hyn yn rhywbeth y dylem i gyd arswydo yn ei gylch a gwn fod Unsain wedi dweud y bydd yn cychwyn streic. Rhoddodd cyngor Castell-nedd Port Talbot £1.5 miliwn i Celtic Leisure gynnal eu gwasanaethau yn y gymuned leol. Beth a wnewch fel Llywodraeth Cymru i ddweud bod hyn yn annerbyniol ac yn anfoesol, ac i gefnogi'r undeb llafur yn hynny o beth?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'r—. Rwy'n ymwybodol o'r hyn y cyfeiriwch ato, ac rwy'n deall bod y cynnig wedi'i dynnu'n ôl bellach a bod negodiadau'n mynd rhagddynt gyda'r undebau llafur, a hoffwn annog y negodiadau hynny i barhau, yn enwedig gydag Unsain, i gynrychioli'r gweithlu yno. Yn amlwg, fel y nodir yn ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, byddem yn disgwyl cyrraedd lefel uwch, nid lefel is, yn y pethau hyn. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei drafod yn fwy manwl, wrth gwrs, fel cadeirydd cyngor partneriaeth y gweithlu, gydag aelodau yno i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod y cod cyflogaeth yn cael ei weithredu a'i orfodi ar draws llywodraeth leol wrth symud ymlaen.

15:05
3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, ac mae dau wedi'u dewis. Daw'r cwestiwn amserol cyntaf, sydd i'w ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan Dawn Bowden.

Triumph Furniture ym Merthyr Tudful

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gwymp Triumph Furniture ym Merthyr Tudful? 349

Gwnaf. Mae hwn yn amlwg yn ddatganiad a chyfres o ddigwyddiadau hynod o siomedig sydd wedi arwain at gwymp y cwmni. Mae ein meddyliau, yn amlwg, gyda'r gweithwyr a'u teuluoedd ar yr adeg anodd hon, a byddwn yn ceisio gweithio gyda'r gweinyddwr i wneud popeth yn ein gallu i leihau'r effaith ar y gymuned leol a'r economi ehangach.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cau'r cwmni hwn a cholli 250 o swyddi yn amlwg yn newyddion drwg i fy etholaeth, ond mae'n sicr yn newyddion drwg iawn i'r unigolion hynny a'u teuluoedd ac i economi leol Merthyr Tudful. Yn anffodus, daw hyn ar ben colli swyddi eraill, gan gynnwys y rhai yn Hoover, a'r bwriad i symud 250 o swyddi'r Adran Gwaith a Phensiynau o Ferthyr Tudful. Ond a gaf fi ddiolch i'ch swyddogion am eu cyfarfodydd â'r cwmni yn ddiweddar? Yn amlwg, er gwaethaf ymdrechion i ddod o hyd i ateb, roedd problemau'r cwmni'n rhy fawr i allu eu datrys y tro hwn.

Yn amlwg, rhaid mai'r flaenoriaeth yn awr yw cael cymaint o gymorth ag sy'n bosibl i'r bobl sydd, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, yn ddibynnol yn awr ar y Gwasanaeth Taliadau Diswyddo i dalu eu harian diswyddo. Felly, a allwch fy sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'ch partneriaid yn gweithredu cyn gynted ag sy'n bosibl i gynorthwyo staff, yn enwedig gan fy mod yn gwybod bod rhai o'r gweithwyr a ddiswyddwyd eisoes yn byw o'r llaw i'r genau? Gwn fod hynny'n swnio'n ddramatig, ond i lawer dyna realiti eu bywydau bob dydd mewn gwirionedd, er eu bod yn gweithio.

Y tu hwnt i hynny, mae angen inni hefyd ddysgu gwersi o'r sefyllfa hon, felly a gaf fi ofyn i chi ein helpu i ddeall union achosion y gostyngiad trychinebus a fu yn nifer yr archebion ers mis Gorffennaf eleni ac i ba raddau y gellid bod wedi lliniaru hynny? Gwn fod fy nghydweithiwr, Gerald Jones AS, wedi bod mewn cysylltiad â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch colli eu harchebion gyda'r cwmni, a byddai'n dda gwybod pam y bu i'r adran honno, heb ymgynghori mae'n debyg, atal archebion gwerth tua £400,000 i Triumph Furniture, gan adael twll mawr yn eu llyfr archebion a phroblem fawr o ran llif arian. A oedd hyn yn gysylltiedig â moratoriwm gan Lywodraeth y DU ar gontractau'r sector cyhoeddus, ac os felly, pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau'r gweithredu hwnnw?

Mae'r cwmni wedi dweud hefyd fod llawer o'u harchebion o'r sector preifat wedi diflannu oherwydd yr ansicrwydd ynghylch Brexit. A wyddom faint o gwmnïau eraill a allai wynebu sefyllfa debyg? Mae'n rhaid inni edrych ar y sefyllfa gyfan o ran Brexit a'r effaith y mae'n ei chael ar yr hinsawdd fusnes yn gyffredinol ac amharodrwydd cwmnïau i fuddsoddi mewn offer newydd ac yn y blaen. Gyda'r economi'n arafu, ofnaf y byddwn yn gweld llawer mwy o hyn wrth i'n sylfaen weithgynhyrchu yn y Cymoedd gael ei tharo'n galed gan ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol, felly buaswn yn croesawu datganiad manwl gan y Llywodraeth ar sut y mae'n ceisio mynd i'r afael â hyn o fewn ei strwythur economaidd.

Yn olaf, Weinidog, a gaf fi ddiolch i bob un o'r partneriaid lleol niferus sydd yn awr, rwy'n gwybod, eisoes yn gweithio mewn ymateb i'r sefyllfa druenus hon ac yn ceisio helpu staff sydd wedi colli eu swyddi? Gwerthfawrogir eu hymdrechion wrth i bawb ohonom geisio gwneud ein gorau dros y gweithwyr di-waith hyn yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi rannu diolch Dawn Bowden i'r partneriaid a fu'n gweithio'n ddiflino ers i'r cyhoeddiad gael ei wneud i gefnogi'r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt? A gaf fi ddiolch hefyd i Dawn Bowden am gydnabod yr ymdrechion a wnaed gan fy swyddogion i geisio arbed ac ailstrwythuro'r cwmni? Rwy'n cydnabod y bydd cau Triumph Furniture yn effeithio'n fawr ar economi Merthyr a'r cyffiniau.

Nawr, mae Dawn Bowden yn gofyn nifer o gwestiynau pwysig, yn bennaf mater y taliadau diswyddo a pha mor gyflym y gellir bwrw ymlaen â hwy a'u prosesu a hefyd y rôl y mae Brexit wedi'i chwarae yng nghwymp y cwmni, yn ogystal â ffactorau eraill, sef yn benodol, colli un contract mawr. Gyda golwg ar daliadau diswyddo, byddaf yn ysgrifennu at Wasanaeth Taliadau Diswyddo Llywodraeth y DU i ofyn a ellir prosesu hawliadau mewn modd yr un mor gyflym â'r hyn a ddigwyddodd gyda Thomas Cook, lle y rhoddwyd taliadau diswyddo i gyflogeion yn gyflym. O'r hyn a ddywedodd Dawn Bowden heddiw, ac o'r hyn y gallais innau hefyd ei ganfod, rwy'n credu bod llawer iawn o weithwyr yn byw o'r llaw i'r genau ac angen cymorth ar frys oherwydd hynny. A byddaf yn ysgrifennu heddiw ynghylch y mater hwnnw.

O ran Brexit a ffactorau eraill, wel, os ymdriniwn â chwestiwn archeb yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gyntaf, mae hwn yn gwestiwn y mae angen ei gyfeirio at Lywodraeth y DU ac yn rhywbeth y byddwn yn sicr yn mynd ar ei drywydd. Gwn fod Aelodau Seneddol, Gerald Jones yn bennaf, yn gofyn y cwestiwn yn San Steffan hefyd. Rwyf am ddeall i ba raddau y cyfrannodd colli'r un archeb fawr hon at gwymp dramatig a sydyn yn y busnes. Ond nid oes amheuaeth o gwbl fod Brexit wedi parhau i chwarae rhan. Yn wir, yng nghyfrifon y cwmni ei hun, nodwyd yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit, yn ogystal â'r gostyngiad yng ngwerth y bunt. Mae gwerth y bunt wedi gostwng eto wrth i'r tebygrwydd ein bod yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb gynyddu. Felly, yn y bôn, mae'r syniad o 'weld Brexit wedi'i wneud o'r diwedd' wedi rhoi diwedd ar y cwmni hwn. Ofnaf y bydd llawer o gwmnïau eraill yn wynebu cwymp tebyg.

Mae Dawn Bowden yn gofyn pa asesiadau a pha ymateb y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i fusnesau sy'n debygol o wynebu anawsterau difrifol iawn yn ystod yr wythnosau nesaf. Wel, gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw ein bod wedi cynnal asesiad ar draws pob un o'r 22 o ardaloedd awdurdodau lleol o swyddi yr ystyrir eu bod yn wynebu risg canolig i uchel o gael eu colli os byddwn yn gadael Ewrop heb gytundeb. Mewn rhannau o Gymru, mae'r risg mor uchel â 30 y cant o'r swyddi sy'n cael eu categoreiddio fel risg ganolig i uchel. Mae honno'n sefyllfa ofnadwy i fod ynddi. Felly, rhaid i mi bwysleisio wrth yr Aelodau na fydd unrhyw waith paratoi gan y Llywodraeth hon na chan Lywodraeth y DU yn llwyr liniaru'r effaith ar y canlyniadau pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

15:10

Rwy'n ategu'r sylwadau a wnaed gan eraill o ran ein bod yn meddwl am y rhai a gyflogwyd yn Triumph. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—? Cafwyd rhai awgrymiadau bod y sefyllfa ariannol wedi'i hachosi gan oedi mewn perthynas â chontractau newydd gan y Llywodraeth gan effeithio ar elw a gwerthiannau. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech wneud sylwadau ar hynny. Yn anffodus, rydym wedi gweld cyfres o gwmnïau'n mynd i'r wal ar draws de Cymru dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n meddwl tybed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltedd trafnidiaeth er mwyn i gwmnïau ledled de Cymru allu cynnal mantais gystadleuol o gymharu â chystadleuwyr mewn rhannau eraill o'r wlad. Tybed pa drafodaethau a gawsoch chi hefyd gyda chydweithwyr ym Manc Lloegr a'r Trysorlys i gymryd camau—ar y cyd, wrth gwrs, â Llywodraeth Cymru—i liniaru effaith trefniadau ariannol ar gwmnïau gweithgynhyrchu canolig a mawr.

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei sylwadau a'i gwestiynau? Yn gyntaf oll, mae'r cyfryngau wedi adrodd bod cwymp y cwmni—yn rhannol o leiaf, os nad yn bennaf—yn deillio o golli, neu'r oedi cyn sicrhau contractau Llywodraeth. Hyd y gwn i, mae hynny'n ymwneud â'r contract â'r Adran Gwaith a Phensiynau gan nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw berthynas gontractiol â Triumph Furniture. Unwaith eto, hoffwn bwysleisio bod y rhain yn gwestiynau y mae angen eu cyfeirio at Lywodraeth y DU i'w hateb.

O ran cysylltedd, mae Dawn Bowden ei hun yn cadeirio is-grŵp o dasglu'r Cymoedd sy'n edrych ar ffordd Blaenau'r Cymoedd a sut y gallwn sicrhau'r manteision economaidd mwyaf posibl o gysylltiadau trafnidiaeth gwell yng nghymunedau'r Cymoedd, ac rwy'n siŵr bod Dawn yn gwneud cynnydd da ar hynny.

Ac o ran cymorth ariannol ac achub ac ailstrwythuro, rwyf wedi gofyn i Fanc Datblygu Cymru ddefnyddio cymaint o'r arian sydd ar gael iddo i'r union berwyl hwnnw. Ond hoffwn ddweud hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod angen i Lywodraeth y DU roi arian go iawn yn awr i gefnogi'r rhaglen Kingfisher, sy'n edrych ar fusnesau sy'n wynebu risg ar hyn o bryd ac a fydd mewn perygl wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Weinidog, wythnos arall, cyhoeddiad arall am golli cannoedd o swyddi yn y de-ddwyrain. Y mis diwethaf yn unig, roeddem yn trafod cau gwaith dur Orb yng Nghasnewydd, ac ym mis Mehefin, buom yn trafod cau Quinn Radiators. Heddiw, gyda chau Triumph Furniture, daw hynny â chyfanswm y nifer o swyddi a gollwyd dros gwta bedwar mis i 912, o gau tri chwmni yn unig. Nid yw hynny'n normal, Weinidog, ac ni ddylai fod yn digwydd. Nid wyf eto wedi clywed unrhyw fath o esboniad pendant gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r achosion cyffredin sy'n sail i'r holl gau. Rwy'n gwybod eich bod wedi siarad heddiw am rai o'r rhesymau pam y credwch fod y cwmni hwn wedi mynd i'r wal, ond byddai'n dda clywed eich dadansoddiad o'r achosion cyffredin sy'n sail i fethiant pob un o'r busnesau hyn. Beth bynnag, mae'n amlwg na all hyn barhau.

Roeddwn hefyd yn falch o glywed ar yr achlysur hwn fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi camau ar waith ar unwaith i gefnogi gweithwyr Triumph, a hoffwn annog pob gweithiwr yr effeithir arnynt i wneud defnydd o'r cymorth sydd ar gael iddynt. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru roi pob gewyn ar waith yn awr i atal colli rhagor o swyddi wrth i gyfnod y Nadolig agosáu, a rhoi cynllun gweithredu ar waith ar gyfer economi ddiwydiannol y de-ddwyrain. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo heddiw felly i gynnal uwchgynhadledd frys ar yr economi i ddadansoddi beth sy'n mynd o'i le gyda strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth Cymru, ac i nodi mannau gwan economaidd posibl er mwyn i chi allu rhoi camau ar waith i amddiffyn gweithwyr ac i atal rhagor o sgiliau rhag cael eu colli o economi'r de-ddwyrain?

15:15

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau a dweud bod ei phlaid wedi rhybuddio'n gyson am ganlyniadau Brexit? Mae'r canlyniadau hynny bellach yn dod yn amlwg, ac mae yna achos cyffredin: Brexit yw hwnnw. Mae hynny'n hollol amlwg ac yn gwbl eglur. Nid yw hyn yn digwydd oherwydd strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth Cymru; i'r gwrthwyneb yn hollol, mewn gwirionedd. Mae gennym fwy na 250,000 o fusnesau yng Nghymru bellach, y nifer uchaf erioed o fusnesau â'u pencadlys yng Nghymru, ac mae diweithdra ar y lefel isaf erioed, ac anweithgarwch yn yr un modd. Ceir gwrthgiliad sylweddol yn yr economi, ond mae tuedd ar hyn o bryd oherwydd Brexit i swyddi gael eu colli neu fod mewn perygl o gael eu colli, yn enwedig ym maes gweithgynhyrchu. Felly, i ateb cwestiwn yr Aelod ar ei ben, os oes achos cyffredin, does bosibl nad yr achos cyffredin hwnnw yw Brexit. Mae ffactorau eraill ar waith yn yr economi. Gadewch i ni fod yn realistig. Mae yna ffactorau eraill. Er enghraifft, mae'r newid i awtomeiddio yn achosi anawsterau i lawer o fusnesau, a dyna pam y datblygwyd y cynllun gweithredu economaidd gennym a pham y gwnaethom un o'r galwadau allweddol i weithredu ar ddigido ac awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial, i sicrhau bod busnesau'n cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol. Dyna pam y gwnaethom sicrhau, drwy'r contract economaidd, fod angen i fusnesau allu dangos eu bod yn buddsoddi yn sgiliau eu gweithlu er mwyn manteisio ar ddiwydiant 4.0 yn hytrach na chael eu gadael ar ôl. Felly, er bod ffactorau eraill yn bodoli, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i'r rhai sydd yn y cynllun gweithredu economaidd. Yr her fawr nad yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU o dan unrhyw blaid—gadewch i ni fod yn realistig; o dan unrhyw blaid—yn gallu mynd i'r afael â hi na'i lliniaru'n llawn yw Brexit heb gytundeb. Byddai hynny'n drychinebus i'r wlad.

Hoffai fy nghyd-Aelodau a minnau gofnodi ein cydymdeimlad â'r 252 o weithwyr Triumph Furniture. Mae'n drist iawn fod busnes teuluol sydd wedi bodoli ers dros 60 o flynyddoedd wedi rhoi'r gorau i fasnachu, a hoffwn ganmol cyngor Merthyr Tudful, y dywedir eu bod yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i gynnal diwrnod recriwtio ar gyfer y gweithwyr yr effeithiwyd arnynt. Gall colli gwaith mor gyflym mewn niferoedd o'r fath gael effaith wirioneddol andwyol ar gymuned, ac mae'n galonogol fod y cyngor yn gweithio'n rhagweithiol i helpu. Gyda'r busnes wedi colli cannoedd o filoedd o bunnoedd o elw mewn gwerthiannau sector cyhoeddus yn y misoedd diwethaf, byddai wedi bod yn hanfodol ailstrwythuro neu werthu'r busnes, ac mae'n drueni gennym glywed na lwyddodd yr ymdrechion i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ailstrwythuro. Mae'n ymddangos bod problemau wedi dod i'r amlwg yn rhy hwyr i Lywodraeth Cymru allu ymyrryd.

Nodwn hefyd y byddai ansicrwydd ynghylch Brexit wedi cael effaith. Anogwn ein cyd-Aelodau ar draws y Cynulliad i wneud yn siŵr ein bod yn cael Brexit yn gynt yn hytrach nag yn ddiweddarach fel bod busnesau'n gwybod beth fydd eu dyfodol a gallu addasu yn unol â hynny. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod rhai o'r cwmnïau y cyfeiriwyd atynt gynnau a oedd wedi colli swyddi wedi dweud yn glir nad oedd a wnelo Brexit â'u cwymp mewn unrhyw fodd? Mae prynu a gwerthu tai yn parhau'n sefydlog—[Torri ar draws.] Mae'n ffaith fod prynu a gwerthu tai yn parhau'n sefydlog o'r data sydd ar gael i ni, a byddai hynny'n awgrymu y dylai'r galw am ddodrefn aros yn sefydlog hefyd, ond mae cwmni sy'n colli contractau gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd o elw bob amser yn mynd i wynebu her ddifrifol. Mae Triumph wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwr o'r blaen, ond ar y pryd roedd modd eu hachub ac roeddent yn gallu newid eu ffocws. Mae'n anffodus tu hwnt na chafodd y cwmni amser i wneud newidiadau yn yr achos hwn. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog gadarnhau y bydd yr ymyriadau arferol pan fydd cwmni'n methu yn cael eu rhoi ar waith yn yr achos hwn? Unwaith eto, hoffwn orffen drwy ddweud mai'r gost go iawn yw'r gost ddynol i'r gweithwyr, ac ailadroddaf fod fy nghyd-Aelodau a minnau'n cydymdeimlo'n fawr â'r 252 o weithwyr yr effeithir arnynt.

15:20

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yna broblemau difrifol i lawer o'r teuluoedd o ganlyniad i'r cyhoeddiad yn sgil cwymp y cwmni, ond rydym yn barod i helpu pob un o'r gweithwyr hynny a phob teulu yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad. Gallaf sicrhau'r Aelod y caiff ein rhaglen ReAct ei rhoi ar waith, ac mae ganddi hanes cadarn o gefnogi unigolion yr effeithir arnynt yn sgil colli swyddi, nid yn unig o ran dod o hyd i waith, ond hefyd o ran cefnogaeth emosiynol a'u lles teuluol hefyd. Bydd Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru wrth law i gynorthwyo pobl sy'n colli eu swyddi o ganlyniad i'r cwymp.

Cyfarfûm â phartneriaid cymdeithasol ar y gweithgor ymadael â'r UE yn gynharach yr wythnos hon—cyrff cynrychiadol o blith cyflogwyr, undebau llafur a'r trydydd sector. Trafodasom yn faith y problemau presennol y mae llawer o fusnesau'n eu hwynebu oherwydd Brexit, ac er bod ansicrwydd yn bendant yn peri anhawster mawr i lawer o gyflogwyr, y farn unfrydol oedd na ddylem roi diwedd ar yr ansicrwydd hwnnw mewn unrhyw ffordd os yw'n golygu gyrru oddi ar ymyl clogwyn. Ac yn hytrach, roedd y partneriaid cymdeithasol hynny ar y gweithgor ymadael â'r UE yn croesawu'n fawr yr eglurder y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi drwy ddweud y byddem yn ymladd dros aros yn yr UE pe baem yn cael cynnig ail refferendwm.

Weinidog, clywais fy holl gyd-Aelodau a ofynnodd y cwestiwn—dyna fy araith i fwy neu lai. Mae'r newyddion fod 252 o swyddi wedi'u colli gan Triumph Furniture ym Merthyr Tudful yn ergyd drom i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Rwy'n cydymdeimlo â hwy ar yr adeg anodd hon. Darparodd Triumph Furniture swyddi medrus iawn ac allforiwyd eu cynnyrch o gwmpas y byd, nid yn unig i Ewrop. Mae'n golled wirioneddol i Ferthyr Tudful, a raddiwyd yn ddiweddar yn agos at waelod y gynghrair ar gyfer cystadleurwydd economaidd yn y Deyrnas Unedig. Gwn fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud y bydd gwasanaeth ymateb cyflym Canolfan Byd Gwaith yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru a chyflogwyr lleol i ddarparu cymorth wedi'i deilwra. Felly, a gaf fi ofyn pa gymorth y byddwch chi'n ei ddarparu i'r gweithwyr hyn er mwyn iddynt gael gwaith newydd? Ac a allwch hefyd gadarnhau y bydd camau buan yn cael eu cymryd i helpu'r rhai yr effeithir arnynt heddiw fel nad yw eu sgiliau a'u doniau'n cael eu colli, ond y gellir eu hailgyfeirio i gyfrannu at dyfu economi Merthyr Tudful? Weinidog, rydych chi wedi bod yn dweud mai Brexit yw prif achos hyn. Mae'r cwmni hwn wedi bod yn masnachu ers 1946, ac mae ganddo enw ym mhob rhan o'r byd. Rhaid inni ddiogelu ein brand—brand y DU a chynnyrch y DU. A ydych wedi rhoi unrhyw strategaeth ar waith fel na fydd yn rhaid i gwmnïau eraill yng Nghymru wynebu tynged debyg i'r hyn y mae'r cwmni hwn yn ei wynebu ar hyn o bryd? Dylem fod yn barod o leiaf, oherwydd mae pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid Brexit, a rhaid inni wneud yn siŵr fod y cwmnïau hyn yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith yn y Siambr hon a chan Lywodraeth Prydain. Diolch.

Ni fydd unrhyw fesur o ddiogelwch yn atal pob busnes yng Nghymru rhag cael ei losgi mewn Brexit heb gytundeb. Bydd busnesau'n dioddef. Bydd unrhyw un ym myd diwydiant yn dweud wrthych fod Brexit heb gytundeb yn beryglus i'n heconomi. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu gweithwyr yn ystod y misoedd nesaf. Rydym yn barod i neilltuo mwy na 500 o bobl ar draws Banc Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru ar gyfer helpu busnesau. Ond mae perygl Brexit heb gytundeb yn real a bydd yn effeithio ar bob cymuned ar draws Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. A phan soniwn am gystadleurwydd economaidd, rhaid i mi ddweud na fydd ein gallu i gystadlu yn gwella drwy ras i'r gwaelod o ran costau llafur. Bydd cystadleurwydd yn gwella o ganlyniad i fuddsoddi mewn swyddi sgiliau uwch, a datblygu systemau sy'n ein galluogi i gystadlu'n fwy cystadleuol yn oes awtomeiddio. Dyna'n union ble y byddwn yn canolbwyntio ein buddsoddiad.

15:25
Marco Cable Management

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Marco Cable Management eu bod yn cau eu safle ar Ynys Môn? 347

Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â phawb y mae'r newyddion pryderus hyn yn effeithio arnynt. Mae hwn yn gyfnod ansicr iawn i'r gweithwyr yn Marco Cable, i'w teuluoedd ac i gymuned ehangach Ynys Môn hefyd yn fy marn i, ond byddwn yn cydweithio'n agos â phawb sydd ynghlwm wrth hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori i archwilio pob opsiwn sydd ar gael i gynorthwyo a chefnogi pobl.

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n wirioneddol siomedig o glywed y newyddion yma. Rydym ni'n sôn am swyddi da efo cwmni roeddem ni'n meddwl oedd â phresenoldeb cynaliadwy yn Llangefni, a does yna ddim llawer iawn ers oeddwn i'n trafod efo Marco y posibilrwydd o ehangu. Rŵan, rydym ni'n sôn am golli swyddi a dwi'n meddwl mwy na dim heddiw am y 40 o staff sy'n wynebu colli eu swyddi, a'u teuluoedd nhw. Er bod yna sôn am gynnig swyddi iddyn nhw yn safle arall y cwmni yn West Bromwich, (1) ni fydd yna ddim llawer yn gallu neu'n dymuno symud, a (2) dydyn ni ddim eisiau i bobl orfod gadael eu cymuned. Felly, dwi'n gofyn am sicrwydd ar sawl lefel: yn gyntaf, y bydd popeth yn cael ei wneud i weld a oes modd cefnogi'r cwmni i newid ei feddwl, wrth gwrs; bod pob cefnogaeth yn cael ei roi, os methu yn y pwynt cyntaf yna, i reolwyr fyddai'n dymuno mynd â'r busnes ymlaen eu hunain mewn rhyw fodd; bod popeth yn cael ei wneud i helpu'r rhai sy'n colli eu swyddi i ddod o hyd i gyflogaeth newydd; ac y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau y defnydd gorau o'r safle ar gyfer gweithgaredd economaidd ar frys.

Roedd hwn yn gwmni a oedd wedi'i wreiddio ar Ynys Môn. Fe'i sefydlwyd yn 2003 yn Llangefni ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o grŵp ATCO International. Stori mor gyffredin—ac onid yw hon yn enghraifft arall o'r hyn sy'n digwydd pan fydd cwmnïau cynhenid yn gwerthu i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw ymlyniad gwirioneddol tuag at gymuned? Ceir y bygythiad cynhenid hefyd o fod ar drugaredd buddsoddwyr allanol—rhywbeth sy'n gallu bod mor werthfawr, wrth gwrs, i economi Cymru, ond mae'n ein gadael yn agored iawn i niwed. Gwelsom gyda Rehau yn Amlwch yn ddiweddar, oni wnaethom, gwmni arall a fu'n gyflogwr hynod o dda yn lleol yn penderfynu tynnu allan ar fympwy. Nawr, mae'r gwendid hwn yn rhywbeth a ddylai beri pryder enfawr i ni. Rydym wedi cael cyhoeddiad ar ôl cyhoeddiad ar ôl cyhoeddiad ynglŷn â cholli swyddi ar raddfa fawr, nid yn unig ar Ynys Môn, ond ledled Cymru. Os gwelwch yn dda, Weinidog, dywedwch wrthym beth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i atal y llif.

Mae'r Aelod yn nodi cyfres o bwyntiau a chwestiynau pwysig. Ar y pwynt olaf a gododd, credaf ei bod yn werth cydnabod, er ein bod wedi colli llawer o swyddi yn ddiweddar, ein bod hefyd wedi arwain at greu llawer o swyddi yn ogystal. Ac mae'n hynod o siomedig fod Marco wedi penderfynu ymgynghori ynglŷn â chau, ond mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn busnesau newydd a busnesau sy'n bodoli'n barod sydd wedi helpu i ostwng lefelau anweithgarwch economaidd i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed. Rydym wedi gallu creu'r nifer uchaf erioed o swyddi yn ein gwlad hefyd. Felly, er y buaswn yn dweud bod colli 40 o swyddi yn anhygoel o niweidiol i'r gymuned, mae gennym hanes da o greu swyddi eraill a byddwn yn defnyddio ein holl adnoddau yn yr ardal, yn y gymuned, i sicrhau bod gwaith arall i'w gael yno. Fodd bynnag, buaswn yn rhannu ac yn adleisio pwynt yr Aelod mai ychydig iawn o'r bobl a allai gael eu heffeithio—a dywedaf 'a allai gael eu heffeithio'—gan y cau a fyddai'n dewis symud i West Bromwich yn ôl pob tebyg, ac ni ddylent orfod gwneud hynny ychwaith. Fy marn i erioed yw na ddylech orfod symud o'ch cymuned os ydych yn ymdrechu i gamu i fyny yn y byd. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a chyda rhanddeiliaid eraill i nodi cyfleoedd eraill. Byddwn yn defnyddio'r dulliau arferol a llwyddiannus o gefnogi unigolion, gyda chymorth Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith.  

Tan y cyhoeddiad, fel y nododd yr Aelod yn gywir, roeddem wedi bod yn cefnogi Marco ers peth amser gyda chynlluniau i ehangu ac ymestyn eu safle presennol, sy'n eiddo i ni, Llywodraeth Cymru, felly roedd y newyddion hwn yn syndod ac yn gwbl annisgwyl. Ond rwy'n falch o ddweud bod fy swyddogion yn symud yn gyflym i ymateb i'r newyddion. Y bore yma, cyfarfu fy swyddogion ag is-lywydd adran adnoddau dynol y cwmni, ynghyd â chynrychiolydd o Gyngor Sir Ynys Môn. Hefyd, mae fy swyddogion wedi hysbysu'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â'r sefyllfa. Maent wedi cael gwybod am y datblygiad, a'n dealltwriaeth ni yw nad oedd y cwmni eu hunain wedi rhoi gwybod i'r adran yn ffurfiol. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn gwrthwynebu cau'r busnes, ond byddwn yn paratoi ar gyfer y gwaethaf er hynny. Mae gennym tan fis Mawrth 2020 i ddod o hyd i gyfleoedd amgen i'r 40 unigolyn y gallai'r cyhoeddiad hwn effeithio arnynt, ond ein gobaith yw y byddem yn dal i allu newid ffawd y cwmni a'i gadw ar Ynys Môn.  

15:30
4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r adroddiad ar gyflwr byd natur yn rhoi'r darlun cliriaf hyd yma o gyflwr rhywogaethau ar draws y tir a'r môr, ac mae'n seinio rhybudd i fyd natur. Mae un rhywogaeth o bob chwech yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Mae nifer y gloÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant ers 1976, ac ar draws y DU ceir 40 miliwn yn llai o adar o gymharu â 50 mlynedd yn ôl. Mae 30 y cant o famaliaid sy'n byw ar y tir mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl, ac fel hyrwyddwr y gornchwiglen yn y Cynulliad, mae'n dorcalonnus fod poblogaethau nythu wedi gostwng o 14,000 o barau yn 1970 i ddim ond 700 heddiw. Ac ar draws y byd, mae bioamrywiaeth dan fygythiad cynyddol. Ym mis Mai, rhybuddiodd y Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (IPBES), fod 1 filiwn o rywogaethau yn fyd-eang mewn perygl o ddiflannu.

Ond nid yw'n ddu i gyd. Pan fyddwn yn buddsoddi mewn tir, mewn natur, gall ffynnu. Ceir hanesion am lwyddiant cadwraethol yn yr adroddiad. Mae rhywogaethau fel aderyn y bwn a glöyn byw y glesyn mawr wedi'u hachub drwy weithredu cyfunol. Ond mae amser yn brin. Mae cadeirydd IPBES wedi rhybuddio bod disgwyl y bydd y cyfnod pan allwn weithredu i adfer ecosystemau yn dod i ben dros y degawd nesaf. Felly, mae angen i ni gryfhau ein hamddiffyniad o fyd natur, cynnal prosiectau adfer rhywogaethau, sicrhau bod ein safleoedd gorau yn cael eu rheoli'n dda, gwella safonau amgylcheddol, a sicrhau bod taliadau rheoli tir yn y dyfodol yn gyrru adferiad ecolegol, a mwy. Mae'r mudiad sy'n mynnu'r newid hwn yn tyfu, ac fel llunwyr polisi, ein cyfrifoldeb ni yw galluogi gwaith i adfer rhywogaethau a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. A nawr yw'r amser i weithredu, fel y dywed yr adroddiad.

Yfory yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Ledled ein gwlad, ac ar draws y byd, mae lles meddyliol pobl yn dirywio. Mae hynny'n cynnwys y rheini sydd, yn ddamcaniaethol, ymhlith y bobl fwyaf breintiedig, sef ein myfyrwyr. Mae holl Aelodau'r Cynulliad ond un wedi llofnodi'r adduned iechyd meddwl myfyrwyr a gefnogir gan Amser i Newid a Mind Cymru. Mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod y rheini sy'n dechrau ar y cyfnod mwyaf cyffrous yn eu bywydau, ond y cyfnod sydd hefyd yn achosi'r straen mwyaf, yn cael yr amddiffyniad iechyd meddwl sydd ei angen arnynt ac nad ydynt yn cael eu rhwystro rhag ceisio cymorth oherwydd y stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.

Mae'r cynnydd o 500 y cant yn nifer y myfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n datgelu cyflyrau iechyd meddwl yn frawychus. Mae ein prifysgolion a'n colegau wedi sefydlu ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, gwasanaethau a ddarperir yn aml gan eu cyfoedion clodwiw. Gall unigrwydd bod oddi cartref am y tro cyntaf fod yn llethol, gyda'r disgwyl iddynt wneud ffrindiau newydd yn rhy frawychus. Yn fwy difrifol, os ydynt yn cael eu bwlio neu eu blacmelio, mae cymorth arbenigol ar gael.

Mae'r llinell gymorth pornograffi dial yn tynnu sylw at y ffaith bod troseddwyr yn targedu glasfyfyrwyr, gan sbeicio eu diodydd a defnyddio lluniau amheus ohonynt wedyn i'w blacmelio. Mae'n hanfodol nad yw pobl yn teimlo gormod o embaras i ofyn am gymorth. Nid yw talu'r hyn y mae blacmelwyr yn gofyn amdano yn ateb. Ar y pen mwyaf difrifol i'r broblem, yr unig ffordd o fynd i'r afael â hunanladdiad ymhlith myfyrwyr yw drwy wasanaethau iechyd arbenigol sy'n gweithio'n agos gyda phrifysgolion a cholegau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, yfory yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith gwych y mae eich swyddfa'n ei wneud ar hynny. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd elusen y Samariaid frecwast briffio a diolch i fy nghyd-Aelod o'r meinciau gyferbyn, Dai Lloyd, am gefnogi hwnnw. Y thema eleni yw atal hunanladdiad, ac roedd canfyddiadau'r briff hwnnw'n glir iawn. Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o hunanladdiad ledled y DU. Mae cyfraddau hunanladdiad ledled y DU ymhlith pobl ifanc wedi bod yn cynyddu hefyd. Mae'r cyfraddau hunanladdiad ar gyfer menywod ifanc ar eu cyfradd uchaf erioed erbyn hyn, ac ar draws y DU mae dynion yn dal i fod deirgwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad na menywod.

Yn ddiweddar, bûm yn gweithio gyda chlybiau pêl-droed Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe, Wrecsam, a Chasnewydd ar atal hunanladdiad, ac i godi ymwybyddiaeth o'r 84 o ddynion sy'n cyflawni hunanladdiad bob wythnos. Nawr, ers hynny, ac yn seiliedig ar y 5,185 o ddynion sy'n cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, mae'r ffigur hwnnw bellach wedi codi i bron 100 o ddynion yr wythnos. O brofiad personol, rwy'n gwybod beth yw effaith hunanladdiad, a gwn am yr effaith y mae'n ei chael ar aelodau o'r teulu a ffrindiau a chymunedau. Dyna pam y byddaf yn meddwl yfory am bawb yr effeithir arnynt, a dyna pam y byddaf yn parhau i weithio er mwyn sicrhau gwell cymorth iechyd meddwl i bawb. Wedi'r cyfan, ni ddylai fod diwedd ar y lefelau o gymorth a gynigiwn. Mae'n fater dyngarol; mae'n gyfrifoldeb i bawb ohonom. Diolch.

15:35

Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion y Cyfarfod Llawn heddiw i ben.

Felly, awn ymlaen yn awr i gael egwyl, cyn i Bwyllgor y Cynulliad Cyfan ymgynnull i ystyried Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Cenir y gloch bum munud cyn inni ailgynnull, ond buaswn yn annog yr Aelodau i fod yn y Siambr gan fy mod yn bwriadu dechrau Cyfnod 2 am 3.45 p.m. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 15:36.