Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/09/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle.

Portffolio Addysg

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllid i'r portffolio addysg? OAQ54345

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy nghyd-Weinidogion i drafod ystod o faterion ariannol ar draws pob portffolio. Fel rhan o broses y gyllideb ddrafft, byddaf yn cynnal rownd arall o gyfarfodydd cyllideb dwyochrog, gan gynnwys gyda'r Gweinidog Addysg, y mis hwn.

Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch digonolrwydd cyllid ysgolion yn ein hadroddiad diweddar ar ein hymchwiliad i gyllid ysgolion. Roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'n hargymhellion. Nodaf hefyd y swm sylweddol iawn o arian ychwanegol a fuddsoddwyd mewn ysgolion yn yr adolygiad gwariant diweddar. Yn wyneb y pwysau sylweddol iawn ar gyllid mewn ysgolion, a'r diwygiadau mawr sydd ar y gweill yn ein system addysg, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd buddsoddi yn nyfodol ein plant a'n pobl ifanc yn brif flaenoriaeth i chi yn y cylch cyllidebol nesaf?

Diolch i Lynne Neagle am godi'r mater pwysig hwn, sef, yn ei hanfod, dyfodol ein pobl ifanc yma yng Nghymru. A bydd Lynne yn ymwybodol fod blynyddoedd cynnar a sgiliau a chyflogadwyedd yn ddwy o'r blaenoriaethau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru ar draws y Llywodraeth, a byddwn yn edrych yn agos iawn ar y rheini o ran gosod y gyllideb. Ond byddaf yn cael y trafodaethau manwl hynny gyda'r Gweinidog Addysg, a chyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth, o ran gosod y gyllideb. Mae Lynne yn llygad ei lle wrth gyfeirio at yr adolygiad gwariant diweddar. Mae'n drueni mawr fod Llywodraeth y DU wedi teimlo eu bod yn gallu rhoi sicrwydd adolygiad tair blynedd, os mynnwch, i’r GIG yn Lloegr ac addysg yn Lloegr—neu ragolwg tair blynedd o wariant. Yn anffodus, ni wnaethant yr un peth ar gyfer Cymru, felly blwyddyn yn unig sydd gennym, ac nid oes gennym unrhyw sicrwydd o gyllid y tu hwnt i hynny.

Rwyf wedi gweld rhai sylwadau diddorol yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol gan y Ceidwadwyr Cymreig. A chredaf ei bod yn werth nodi’r ffeithiau o ran gwariant ar addysg yma yng Nghymru, gan iddo gynyddu 1.8 y cant yn 2017-18, a dyna'r twf cyflymaf o bob un o bedair gwlad y DU, ac roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru yn £1,369, sef 5 y cant yn uwch na gwariant y pen yn Lloegr, ac mae'n cyfateb i £65 y pen yn ychwanegol. Felly, credaf ei bod yn bwysig gallu nodi’r ffeithiau.

Weinidog, ym mis Ebrill, datgelodd ymchwil newydd y bydd gwariant y disgybl yn ysgolion Cymru wedi gostwng 9 y cant dros 10 mlynedd. Mae hyn yn doriad o £500 y disgybl mewn termau real. Yn wyneb y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.25 biliwn o arian ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau i sicrhau bod ysgolion Cymru yn cael yr adnoddau y maent yn eu haeddu?

Wel, ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.25 biliwn dros y tair blynedd nesaf; bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £593 miliwn yn ychwanegol at ein cyllideb gyfredol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae hwnnw'n gynnydd o 2.3 y cant mewn termau real, a byddwn hefyd yn derbyn £18 miliwn yn ychwanegol mewn cyfalaf, sef cynnydd o 2.4 y cant ar ein cyllideb gyfredol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod hyn yn dychwelyd at y pwynt a wnaed fod y GIG ac addysg yn Lloegr yn cael edrych dair blynedd i’r dyfodol o ran eu cyllidebau. Cawsom addewid, mewn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, y byddai adolygiad gwariant cynhwysfawr tair blynedd yn cael ei gynnal eleni. Yn hytrach, cylch gwario byr yn unig a ddyrannwyd inni, cylch nad yw'n ein galluogi i gynllunio ymlaen llaw yn yr un ffordd. Nid yw'n ein galluogi i ganiatáu i awdurdodau lleol gynllunio ymlaen llaw yn yr un ffordd. Felly, mae'n gwbl anghywir i awgrymu ein bod wedi cael setliad tair blynedd o dros £1 biliwn.

Ymddiheuriadau. Sylweddolais fod fy nghlustffonau wedi torri, ac nid oedd unrhyw un i fy nghynorthwyo.

Er gwaetha'r darlun dŷch chi yn ei beintio o'r sefyllfa o safbwynt y Deyrnas Unedig, cyfrifoldeb y Llywodraeth yma ydy pennu blaenoriaethau o fewn ei chyllideb. Ac mi fyddwch chi'n gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi awgrymu'n gryf fod angen cydbwyso gwariant tuag at wariant ataliol, efo addysg ag ysgolion yn rhan ganolog o hynny. Fel arall, fe fyddwn ni'n parhau i golli'n hathrawon mwyaf profiadol, yn gweld mwy a mwy o blant mewn dosbarthiadau, yn gweld erydu pellach ar addysg blynyddoedd cynnar, ac yn gweld gwasanaethau lles a bugeiliol yn diflannu, efo'r canlyniad anochel y bydd safonau yn disgyn. Felly, dwi yn gobeithio y byddwch chi'n cymryd y neges yna'n glir yn ystod eich trafodaethau efo gweddill y Cabinet.

Gaf i ofyn cwestiwn penodol am gefnogaeth i'r sector addysg bellach o ran tâl a phensiynau staff? A fedrwch chi roi diweddariad, os gwelwch yn dda, oherwydd does yna ddim manylion wedi bod am ddyraniad cyllid ychwanegol i addysg bellach?

13:35

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. O ran cost y pensiynau, fe fyddwch yn ymwybodol mai cyfanswm cost y newidiadau pensiwn ar gyfer cynlluniau pensiwn cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru yw £255 miliwn ar gyfer eleni, a £219 miliwn yn unig a roddodd Llywodraeth y DU i ni mewn perthynas â’r codiadau hynny, gan ein gadael â bwlch cyllido eleni o £36 miliwn y bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddo. Gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, credaf y gallwn ddisgwyl y bydd y bwlch cyllido hwnnw'n cynyddu, hyd at £50 miliwn o bosibl. Felly, mae hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar Lywodraeth Cymru, ac mae'n bwysig cydnabod hefyd, o ran ein cylch cyllido ar gyfer y flwyddyn nesaf, fod y toriad o 15 y cant a gawsom eleni wedi'i wneud yn rhan o’r gyllideb sylfaenol. Felly, bydd y toriad hwnnw o 15 y cant gennym yng nghyllidebau'r dyfodol hefyd. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth yr ydym yn parhau i fynd i’r afael ag ef gyda Llywodraeth y DU, oherwydd o ran ein cytundeb cyllido gyda Llywodraeth y DU, pan fyddant yn rhoi pwysau arnom fel Llywodraeth o ganlyniad i bethau y maent wedi’u codi, yna mae'n ddyletswydd arnynt i roi'r cyllid hwnnw i ni, ac nid ydynt wedi gwneud hynny.

Yn benodol o ran addysg bellach a'r pensiynau yn y fan honno, mae'r rheini'n drafodaethau rwy’n eu cael gyda'r Gweinidog addysg.

Gwasanaethau i Bobl dros 60 Oed

2. Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i sicrhau nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, yn lleihau gwasanaethau i rai dros 60 oed yng Nghymru? OAQ54305

Rydym yn asesu effaith ystod o ffactorau ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru yn barhaus, gan gynnwys yr amcanestyniadau demograffig diweddaraf. Byddaf yn cyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn ar 9 Hydref, fel rhan o fy ngwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn y gyllideb sydd i ddod.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Ac mae'n bwysig iawn eich bod yn cyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn i drafod yr anghenion hyn. Rydym wedi gweld toriadau Llywodraeth y DU i bensiynwyr; maent wedi taro Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth er enghraifft, gan sicrhau bod ganddynt ystyriaethau anos i'w gwneud mewn perthynas â'u pensiwn y wladwriaeth. Rydym wedi gweld sut y cawsant wared ar drwyddedau teledu, neu'r modd y maent wedi goruchwylio’r broses o gael gwared ar drwyddedau teledu i rai pobl. Mae'n bwysig fod y grŵp hwn o bobl bob amser wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Maent bob amser wedi gallu elwa ar y consesiynau teithio i bobl dros 60 oed ar fysiau. Maent hefyd wedi gallu elwa ar nofio am ddim i bobl dros 60 oed. Yn amlwg, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig y llythyr gan y Dirprwy Weinidog yr wythnos diwethaf, a nododd y newidiadau i'r consesiynau nofio am ddim. Mae'r bobl hyn yn ystyried hyn yn fuddiol i'w hiechyd, i’w lles, er mwyn cael gwared ar unigrwydd ac arwahanrwydd, i fod yn rhan bwysig iawn o gymdeithas sifil mewn gwirionedd. A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau na fydd y cymunedau hyn yn cael eu hanghofio yng nghyllideb Cymru, ac y cânt gymorth i barhau â'r gweithgareddau hyn?

Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Mae gofal cymdeithasol yn un maes sy'n arbennig o bwysig i bobl hŷn, a dyna un o'n prif feysydd blaenoriaeth trawslywodraethol. Fel rhan o fy ystyriaethau ar gyfer y gyllideb, bûm ar gyfres o ymweliadau dros yr haf, a bydd ambell i un ohonynt o ddiddordeb arbennig. Y cyntaf oedd un o brosiectau’r gronfa gofal integredig yng Nghaerdydd, sydd yno i gefnogi pobl hŷn, ac yna, roedd yr ail ymweliad â datblygiad tai Maes Arthur yn Aberystwyth, datblygiad tai cymdeithasol sy'n helpu pobl hŷn i symud i eiddo llai o faint sy’n haws ymdopi ag ef, ac mae hynny’n rhyddhau eiddo gyda mwy o ystafelloedd gwely i deuluoedd hefyd. Felly, mae’r ddau ymweliad a wneuthum yn berthnasol i bobl hŷn yn benodol.

O ran y fenter nofio am ddim, wrth gwrs, mae cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog yn ddiweddarach y prynhawn yma o ran gallu archwilio hynny ymhellach, ond mae'n bwysig cydnabod y bydd cynnig nofio am ddim ar gael i bobl ifanc a phobl dros 60 oed o hyd, cynnig wedi'i ddarparu gan awdurdodau lleol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth awdurdodau lleol o'u cymunedau, gyda ffocws ar ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig. Ond bydd pobl dros 60 oed hefyd yn parhau i fod yn gynulleidfa darged, ac mae'n bwysig fod awdurdodau lleol yn dod o hyd i'r ffordd orau o ymgysylltu â'r gynulleidfa darged honno i ddeall sut y gall nofio am ddim ddiwallu'r anghenion hynny orau.

Ac o ran mater y pàs bws am ddim, gwn i chi gael cyfle i drafod eich pryderon gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd y trafodaethau hynny'n parhau, oherwydd wrth gwrs, mae honno'n ddeddfwriaeth a fydd yn ddarostyngedig i'r broses graffu lawn yn y Cynulliad.

13:40

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, wrth gwrs, yn darparu gwasanaethau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr, a gwasanaethau y mae mawr eu hangen ar ein pobl hŷn yn wir. Fodd bynnag, er bod ganddynt y ganran uchaf o bobl dros 65 oed yng ngogledd Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn hanesyddol, wedi cael eu taro gan eich setliadau gwael. Mae'r awdurdod lleol bellach yn wynebu diffyg o £12.5 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Byddai'n cymryd cynnydd o 23.1 y cant yn y dreth gyngor i dalu am y pwysau ar y gwasanaeth, gan olygu unwaith eto fod llai fyth o arian yn mynd i bocedi ein pensiynwyr. Mae’n rhaid i hyn ddod i ben, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gwneud hynny. Mae’r arian yn cael ei ddarparu i chi gan Lywodraeth y DU. Caiff £1.20 ei wario yma yng Nghymru am bob punt a werir yn Lloegr. Y peth yw, a wnewch chi ymrwymo yn awr i ddefnyddio peth o'r £600 miliwn ychwanegol hwn gan y Canghellor i roi terfyn ar y strategaeth o gwtogi setliadau llywodraeth leol yn barhaus, yn enwedig ein hawdurdodau lleol yng ngogledd Cymru?

Wel, dyna i chi wyneb. Mae'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi wynebu toriadau i’w chyllideb ers degawd—. Mae pobl wedi bod yn byw gyda chyni ers degawd, a Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond wedi dweud hynny, credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir yn ein trafodaethau cynnar ar y gyllideb y bydd iechyd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth, ond rydym yn wirioneddol awyddus i sicrhau y gallwn gynnig y setliad gorau posibl i awdurdodau lleol.

O ran fformiwla ariannu'r awdurdodau lleol, caiff honno ei phennu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau wedi dweud yn glir iawn ein bod yn agored i syniadau ynglŷn â ffyrdd eraill o ymdrin â'r fformiwla, ond nid yw'r awdurdodau lleol eu hunain wedi pwyso arnom am newidiadau i'r fformiwla honno.

Pryder mawr i lawer o bobl yn y Rhondda ar hyn o bryd, a rhywbeth a allai leihau mynediad at wasanaethau, yw mater adnewyddu pasys bws. Ni fydd y pàs bws presennol yn ddilys ar ôl mis Rhagfyr, felly yn naturiol, mae pobl yn awyddus i sicrhau bod ganddynt yr hyn sydd, i lawer o bobl, yn cynrychioli'r unig ffordd o gyrraedd y byd y tu allan i ddrws eu tŷ. Yn anffodus, gwelwyd problemau mawr o'r cychwyn cyntaf. Am ryw reswm, dim ond ar-lein y bu modd gwneud ceisiadau, ac rydym yn sôn am bensiynwyr. Nid yw rhai pensiynwyr ar-lein, wrth gwrs, ac ni fydd ganddynt ffrindiau na theulu i'w helpu, ac mae'r awgrym gan Trafnidiaeth Cymru y gallai gofalwr helpu yn chwerthinllyd, gan y gŵyr pob un ohonom nad yw gofalwyr yn cael digon o amser i wneud eu gwaith fel y mae hi.

Ar ôl wythnos, cyhoeddwyd y byddai ceisiadau papur yn cael eu derbyn. Ni allwn ond dyfalu a yw hynny'n ymwneud â'r ffaith fod gwefan adnewyddu pasys bws Trafnidiaeth Cymru wedi methu ac na fu modd ei defnyddio ers wythnos diwethaf. Pam na chafodd y pasys bws hyn eu hadnewyddu'n awtomatig? Nid oes unrhyw un wedi mynd yn iau ers gwneud eu cais cyntaf, nac oes? Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth hon dderbyn cyfrifoldeb am y llanast hwn, ac os oes angen, rhoi mwy o adnoddau tuag at hyn fel nad oes unrhyw un sy'n gymwys am bàs bws ar eu colled o ganlyniad i aflerwch rhywun arall?

Wel, ailadroddaf yr hyn a ddywedais ddoe, a chredaf fod Leanne Wood yn y Siambr pan ddywedais hyn ddoe, sef y bydd y cardiau teithio consesiynol presennol yn parhau i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr. Felly, y neges allweddol yw nad oes brys i wneud cais am eich pàs bws newydd; mae gennym tan ddiwedd y flwyddyn. A'r rheswm pam fod gennym basys bws newydd yw na fydd y sglodion cyfredol yn gweithio yn y system ar ôl 31 Rhagfyr, ond caiff y rhai newydd eu fformatio fel y gallant weithio mewn lleoliad trafnidiaeth integredig, ac rydym yn siarad o hyd am bwysigrwydd teithio integredig. Mae'n wir, wrth gwrs, fod llawer iawn o draffig ar y wefan yn y dyddiau cynnar, ac arweiniodd hynny at fethiant y wefan, sy'n amlwg yn anffodus, ond mae gwaith wedi'i wneud bellach i wella profiad a chapasiti'r wefan honno. Ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i weld sut y gellir cynorthwyo pobl hŷn i wneud cais am eu pàs bws os nad oes ganddynt rywun i'w helpu i wneud hynny. Rwy'n siŵr y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gallu darparu diweddariadau pellach maes o law.

13:45

Weinidog, o ganlyniad i doriadau i gyllidebau llywodraeth leol dros y blynyddoedd, mae pobl dros 60 oed wedi cael eu heffeithio'n anghymesur. Rydym wedi gweld canolfannau dydd a llyfrgelloedd yn cau, ac mae hynny wedi cynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd yn y grŵp oedran hwn. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw eich penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol yn cyfrannu at gynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn flaenoriaeth i ni. Gwnaed gwaith gwych gan y pwyllgor a fu'n edrych ar hynny, ac mae'n llywio gwaith Llywodraeth Cymru o ran sut y gallem fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn y dyfodol.

Drwy awdurdodau lleol, mae cyllid Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at gydgysylltwyr cymunedol neu froceriaid lleol—rhoddir enwau gwahanol iddynt mewn gwahanol rannau o Gymru. Maent yn gwneud gwaith cwbl anhygoel yn cysylltu pobl hŷn sy'n wynebu unigrwydd ac arwahanrwydd â'r math o wasanaethau a'r holl gyfleoedd cymdeithasol sydd i'w cael mewn cymunedau. Ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n wirioneddol awyddus i barhau i'w gefnogi, gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwaith anhygoel a wnânt.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Ddoe, cawsom y wybodaeth ddiweddaraf gennych ar oblygiadau cylch gwario Llywodraeth y DU a'ch blaenoriaethau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru. Clywaf yr hyn rydych newydd ei ddweud yn ateb i gwestiwn blaenorol ynghylch yr awydd i gael amcanestyniad cynaliadwy o wariant bob tair blynedd yng Nghymru, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr hoffai pob un ohonom ei weld yn y pen draw.

Fodd bynnag, a allech roi ychydig rhagor o fanylion inni ynglŷn â sut y bwriadwch fanteisio i'r eithaf ar y cyllid ychwanegol o £600 miliwn neu fwy, gan fod hwnnw i'w groesawu, sy'n dod i Gymru yn sgil y cylch gwario hwn?

Diolch. Yn gyntaf, byddaf yn cwblhau fy rownd gyfredol o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy Ngweinidogion. Felly, rwy'n cael trafodaethau yn gynnar yn y flwyddyn—felly ym mis Mawrth—pan fyddwn yn edrych ar beth allai ein blaenoriaethau cyffredinol fod, ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y Llywodraeth. Ac unwaith eto, byddech yn dychmygu bod iechyd yn rhan bwysig o'r trafodaethau hynny, yn ogystal â chefnogaeth i lywodraeth leol. Fodd bynnag, drwy'r flwyddyn, rydym yn cael ystod a chyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda Gweinidogion lle maent yn siarad am y blaenoriaethau yn eu portffolio, cyflawniad yn erbyn ein rhaglen lywodraethu, y pwysau sy'n dod i'r amlwg o fewn y cyllidebau hynny, ond hefyd, yn hanfodol, cyfleoedd newydd i ymateb i faterion cyfredol. Felly, mae gennym yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru, felly rydym wedi cael trafodaethau da gyda phob Gweinidog o ran y ffordd orau o ymateb i hynny.

Diolch, Weinidog. Mae'r Gweinidog addysg wedi ymuno â ni yn y Siambr. Yn amlwg, mae ganddi chweched synnwyr, gan fy mod ar fin canolbwyntio ychydig ar rai o'r cyhoeddiadau a wnaeth ddoe mewn perthynas â gwariant ar addysg. Nid yw cyllid ysgolion yn arbennig, fel y dywedais ddoe, wedi cadw i fyny â chwyddiant yng Nghymru. Rhwng 2010-11 a 2018-19, mae gwariant gros y gyllideb ar ysgolion wedi wynebu toriad mewn gwirionedd o 2.9 y cant mewn termau real—rwy'n sôn am dermau real nawr, nid yn nhermau arian parod—ac mae cyllid ysgolion y disgybl wedi ehangu i £645 y disgybl yn 2017-18. Sut y defnyddiwch y dyraniad cyllid newydd i fynd i'r afael â hyn?

Mae'n braf fod Nick Ramsay wedi ymuno â ni oherwydd wrth ateb y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma wrth gwrs, roeddwn yn gallu siarad â Lynne Neagle am ein hymagwedd tuag at addysg a'r flaenoriaeth a roddwn i hynny. Mae'r Gweinidog addysg yn llygad ei lle fod y bwlch yn cau mewn gwirionedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth i'w groesawu. Gallais amlinellu ar y cychwyn fod gwariant addysg y pen yng Nghymru wedi cynyddu i fod 5 y cant yn uwch bellach na gwariant addysg y pen yn Lloegr, a chredaf fod hynny'n bwysig.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi darparu mwy na £265 miliwn drwy grantiau addysg uniongyrchol i awdurdodau lleol, ac mae hynny'n cynnwys grantiau gwella ysgolion rhanbarthol, y grant amddifadedd disgyblion, a grant addysg awdurdodau lleol, sy'n cynnwys mynediad at y grant amddifadedd disgyblion ac yn y blaen. O ran gwariant cyfalaf, rydym yn gwneud cryn dipyn o waith drwy ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac mae cannoedd o filiynau o bunnoedd wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen honno hefyd.

13:50

Rwy’n sicr yn cefnogi’r Gweinidog ar fater rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rwyf wedi lleisio fy nghefnogaeth i hynny yn y Siambr hon. Mae hwnnw'n gynllun da iawn. Fe sonioch chi fod y bwlch yn cau, ond wrth gwrs, mae'r bwlch hwnnw'n dal i fod yn sylweddol, ac mae'n dal i fod yn fwlch sylweddol o gymharu â gwariant dros y ffin yn Lloegr, felly gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau i gau'r bwlch hwnnw ymhellach, gan ystyried chwyddiant hefyd.

Fodd bynnag, nid mater o gyllid yn unig mohono i ysgolion yn y flwyddyn gyfredol. Mae adroddiad diweddar wedi dangos bod y cronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion ar hyn o bryd wedi gostwng 28 y cant ers 2016-17. Roedd gan ysgolion gyfanswm o £50 miliwn wrth gefn yn 2018, neu £111 y disgybl, ac mae hynny i lawr o £64 miliwn yn 2016. Nid wyf yn siŵr a oes gennych ffigurau eleni ar gyfer y cronfeydd wrth gefn, ond mae'n amlwg fod cyllidebau ysgolion o dan bwysau o bob cyfeiriad. Felly, Weinidog, gan roi adeiladau newydd, sydd i'w croesawu, i'r naill ochr, sut rydych yn sicrhau bod sefyllfa ariannol ysgolion yng Nghymru, sefyllfa ariannol wirioneddol ysgolion, yn cael ei diogelu?

Os caf gloi drwy ofyn i chi, nododd y Gweinidog Addysg yng nghyllideb 2019-20 fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100 miliwn ar gyfer codi safonau ysgolion dros bumed tymor y Cynulliad, ond deallaf nad yw'r cyllid hwnnw i gael ei ddyrannu i ysgolion drwy gyllid craidd, ond drwy'r grant cynnal refeniw. A ydych yn credu ei bod yn bryd edrych ar hyn, a bod ffordd well i'w chael o ariannu ysgolion yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cyllidebau'n cael eu gwarchod, fel ein bod yn gweld y gwelliant rydym am ei weld yn sefyllfa ariannol ysgolion, yn hytrach na bod yr arian yn diflannu i feysydd eraill y byddai'n well gennym pe na bai'n mynd iddynt?

Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr ag angen pobl i ddeall yn well beth fydd ein cynigion yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rwy'n deall yr awydd sydd gan bobl i gael rhai cyhoeddiadau cynnar. Ond credaf y byddai'n annheg bwrw ymlaen a gwneud cyhoeddiadau cyn i ni gael rownd arall o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Weinidogion, a hefyd cyn i mi gael cyfle i gyfarfod a thrafod pethau ymhellach gyda'r comisiynydd plant, y comisiynydd pobl hŷn, Comisiynydd y Gymraeg, rownd arall o drafodaethau gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a thrafodaethau gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Credaf fod llawer o wrando a siarad i'w wneud cyn i ni gyrraedd y pwynt lle y gallwn ddarparu'r cyllidebau dangosol hyn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wedi dweud hynny, gwn fod y Gweinidog addysg wedi bod yn falch o dderbyn holl argymhellion ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid ysgolion, ac rwy'n siŵr y bydd ganddi fwy i'w ddweud ar hynny maes o law.

Diolch yn fawr iawn. Ar ôl degawd o wasgu ar eu cyllidebau, all lywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o doriadau, neu hyd yn oed aros yn llonydd o ran eu cyllid. A allwch chi roi sicrwydd y bydd llywodraeth leol yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer 2020-21 gyda chynnydd sylweddol termau real yn eu cyllidebau nhw?

Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd, yn y trafodaethau a gawsom, y trafodaethau cynnar ynghylch blaenoriaethau, fod iechyd yn amlwg yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth, ond mae pob un ohonom wedi dweud yn glir ein bod am roi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. O ran beth arall y gallaf ei ddweud am hynny, ar hyn o bryd, heb gael trafodaethau manwl pellach, nid wyf yn awyddus i ddweud gormod heddiw.

Dydy 'best possible settlement', mae gen i ofyn, ddim yn rhoi i fi'r hyder dwi'n chwilio amdano fo, a dwi'n eithaf siŵr na fydd o'n rhoi'r hyder y mae llywodraeth leol yn chwilio amdano fo, chwaith. Yn y gorffennol, mae setliad fflat wedi cael ei werthu i lywodraeth leol fel bod yn newyddion da. Dydy o ddim. Gwnes i grybwyll Ynys Môn yma yn y Siambr ddoe, yn dweud eu bod nhw angen £6 miliwn. Mae'r ffigwr yn amrywio o gyngor i gyngor, wrth gwrs. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am doriadau o £35 miliwn; mi fyddai angen cynnydd yn y dreth gyngor o dros 13 y cant er mwyn gwneud iawn am y twll yn eu cyllideb nhw. Allwn ni ddim mynd yn ôl yn 2020-21 at drethdalwyr lleol Cymru i ofyn iddyn nhw lenwi'r gap, achos mae'r pwysau yn ormod arnyn nhw. Mae'n rhaid i arian ychwanegol ddod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynghorau yn wynebu pwysau o dros £0.25 biliwn y flwyddyn nesaf, ac efo cyllidebau lle mae yna ddisgresiwn arnyn nhw wedi cael eu torri cymaint, does yna nunlle i dorri erbyn hyn heb fynd i wasanaethau cwbl greiddiol a sylfaenol, fel gwasanaethau plant, ac allwn ni ddim fforddio torri'r rheini. Felly, dwi'n gofyn eto: a gaf i sicrwydd na fyddwch chi’n dathlu rhyw fath o setliad fflat fel newyddion da, ond y byddwch chi, y tro yma, yn chwilio am gynnydd i gyfateb i’r hyn y mae llywodraeth leol yng Nghymru yn ei ddweud sydd ei angen arnyn nhw dim ond i sefyll yn llonydd?

13:55

Felly, rydym yn cael y trafodaethau clir hynny gyda llywodraeth leol, o ran yr hyn y maent wedi'i nodi yw'r pwysau arnynt yn eu cyllideb, ond hefyd eu huchelgeisiau i wneud mwy yn y blynyddoedd i ddod. Mae gennyf gyfarfod gyda'r Gweinidog llywodraeth leol gyda'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol, sef y grŵp lle mae gan holl arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdodau lleol gyfle i siarad â mi a'r Gweinidog llywodraeth leol am faterion cyllid. Felly, byddwn yn siarad yn ein cyfarfod nesaf, yr wythnos nesaf rwy'n credu, ac yn cael trafodaethau cynnar am y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Oddeutu pythefnos yn unig sydd wedi bod ers ein cyhoeddiad ar gyllid y cylch gwariant, felly, ar hyn o bryd, ni allaf wneud y math o gyhoeddiadau y mae pob un ohonom yn awyddus i'w clywed, ond fe geisiaf roi'r math hwnnw o sicrwydd cyn gynted â phosibl.

Mewn atebion i mi ac i Aelodau Cynulliad eraill heddiw, nodaf eich bod wedi crybwyll iechyd yn gyntaf oll fel y flaenoriaeth, ac mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn blaenoriaethu iechyd, ond a gaf fi ofyn i chi ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd wrth i chi ystyried beth sy'n digwydd i gyllid llywodraeth leol? Oherwydd drwy bwmpio arian i mewn i iechyd, sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd yn nhyb rhai, mae pob perygl mai ychydig iawn o adnoddau a fydd ar ôl i'w gwario ar lywodraeth leol. Heb arian ar gyfer gofal cymdeithasol mewn llywodraeth leol, ni fyddwn byth yn datrys mater cronnol a chyfunol iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd gofal cymdeithasol a ddarperir drwy lywodraeth leol yn cael ei flaenoriaethu i'r un graddau ag iechyd yn y gyllideb ar gyfer 2020-21?

Cytunaf yn llwyr fod iechyd a gofal cymdeithasol ynghlwm wrth ei gilydd—ni allwch wahanu'r ddau beth. Mae'n anochel y bydd pwysau mewn un maes yn arwain at bwysau mewn maes arall. A gall buddsoddiad mewn un maes fod o fudd i faes arall, a dyna pam fod gennym y gronfa gofal integredig. Roeddwn yn falch, yn fy rôl flaenorol, o gyhoeddi £130 miliwn o gyllid ychwanegol, cyllid cyfalaf, i'r gronfa gofal integredig allu edrych ar atebion sy'n seiliedig ar dai ar gyfer materion iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'r gronfa gofal integredig, ar y cyfan, yn gwneud gwaith gwych yn newid y llwybr hwnnw i bobl, os mynnwch, fel eu bod yn gallu osgoi mynd i'r ysbyty, neu os yw pobl yn mynd i'r ysbyty, mae'n sicrhau y gallant adael yr ysbyty yn llawer cynt a dychwelyd naill ai adref neu i wasanaeth cam-i-lawr arall. Felly, rydym eisoes wedi cydnabod y cysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn amlwg, bydd hynny'n rhan o'n hystyriaethau yn y gyllideb.

Weinidog, fe sonioch chi gryn dipyn am y grant bloc ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r hyn a wyddom bellach yn dilyn yr adolygiad gwariant un flwyddyn. Ochr arall y refeniw y bydd modd i chi ei ddefnyddio i ariannu ymrwymiadau gwariant yng Nghymru yw'r refeniw o'r trethi datganoledig, a tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r rheini yn y gyllideb atodol. Er i ni gael hanner blwyddyn arall o ddata, ni welsom unrhyw newidiadau yn y rhagolwg. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi craffu ar y cytundeb hwn, a gefnogir gennym at ei gilydd, gyda’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ond tybed, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth y DU—. Credaf ichi ddweud ddoe nad oedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cael y dasg o lunio rhagolwg ar gyfer y DU gyfan eto. Pa effaith a gaiff hynny ar y ffordd y maent yn eich cefnogi gyda'r rhagolwg ar gyfer trethi a ddatganolwyd i Gymru? A fyddant yn cael eu rhagfynegi ar sail annibynnol ar gyfer Cymru'n unig, neu a fydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dal i edrych ar gymhariaeth â Lloegr o ran beth fydd y trethi hynny?

Rydym yn trafod yn gyson â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ac mae'r rhan fwyaf o'n cyllid yn dal i gael ei bennu, wrth gwrs, gan benderfyniadau gwario Llywodraeth y DU, sydd newydd gael eu cyhoeddi. Fel y dywedwch, nid oes unrhyw ragolygon ariannol newydd ynghlwm wrth y cyhoeddiad, felly nid oes diweddariad i'r rhagolwg refeniw datganoledig ar gyfer Cymru. Ond bydd y rhagolwg refeniw treth nesaf ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021. Felly, dywedais ddoe fy mod yn gobeithio symud dyddiad cyhoeddi'r gyllideb ddrafft i ddechrau mis Tachwedd, yn amodol ar gydsyniad y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Busnes. Felly, byddwn yn cyhoeddi'r manylion hynny ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Ac wrth gwrs, mae'r ddwy dreth a ddatganolwyd yn llawn yn dal i fod ar y trywydd iawn i ddod â dros £1 biliwn i mewn yn eu dwy flynedd gyntaf i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn eu rhagolwg ym mis Mawrth, y bydd cyfraddau treth incwm yn codi oddeutu £2.2 biliwn yn eu blwyddyn gyntaf. Felly, mae gennym y rhagolygon hynny, ond rydym yn disgwyl i ragolygon manylach gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb ym mis Tachwedd.

14:00

Ond os nad yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cael y dasg, hyd yn hyn o leiaf, gan Lywodraeth y DU o lunio rhagolygon ar gyfer y DU, sut y byddant yn llunio'r rhagolygon hynny ar gyfer Cymru? A oes ganddynt fodel o economi Cymru ar gyfer edrych ar Gymru ar ei phen ei hun, neu a fyddant yn llunio rhagolwg ar gyfer y DU, er na chawsant y dasg o wneud hynny gan Llywodraeth y DU, ac yna'n defnyddio amrywiant ar gyfer Cymru? Ac a wnaiff y Gweinidog ddweud ychydig rhagor am yr hyn y mae ei thîm yn ei wneud a'r adnoddau sydd ganddi i gefnogi'r cysylltiad â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol? Oherwydd Trysorlys Cymru sy'n gyfrifol am lunio'r rhagolygon hynny, ac yna bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn eu profi a'u dilysu, ac mae hwn yn waith newydd iddi hi a'i hadran. Er enghraifft, gwelsom yn gynharach heddiw fod chwyddiant prisiau tai yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw un o wledydd a rhanbarthau eraill y DU. Pam hynny? A yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hynny barhau, oherwydd bydd yn effeithio ar refeniw? Yn yr un modd, twf cyflogaeth yng Nghymru a thwf cyflogau yng Nghymru—sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hynny gymharu â'r DU a pham, gan y bydd ein refeniw a'n gallu i gefnogi gwariant yn dibynnu ar y dyfarniadau hynny, er y byddant yn cael eu dilysu, gobeithio, gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol?

Yn y gynhadledd dreth flynyddol, a gynhaliais yn ôl ym mis Gorffennaf—ac roeddwn yn falch iawn fod Mark Reckless wedi gallu ymuno â ni ar gyfer honno—rhoddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol gyflwyniad manwl iawn a oedd yn nodi sut y maent yn ystyried amryw o elfennau a'r hyn y maent yn ei ystyried o ran gallu darparu'r rhagolygon hynny. Felly, roeddent yn darparu rhagolygon yn benodol ar ein cyfer ni yma yng Nghymru, ond yn amlwg yn defnyddio amrywiaeth o ddata o fannau eraill. Credaf y byddant yn gwneud y gwaith manwl i ni yma yng Nghymru. Buaswn yn dychmygu, erbyn hynny, y byddent wedi'i wneud ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd o bosibl. Mae'n rhaid i ni ragdybio y bydd datganiad yn yr hydref ac y byddant, buaswn yn tybio, yn cael y dasg o gyflawni gwaith i lywio hynny bron yn syth.

Os byddai o ddefnydd, Lywydd, gallwn drefnu briff technegol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer yr Aelodau, a allai roi cyfle i archwilio rhai o'r cwestiynau manwl a allai fod o ddiddordeb i ni ymhellach wrth i ni ddechrau symud tuag at gyhoeddi rhagolygon wedi'u diweddaru.

Rhyddhad Ardrethi Busnes

3. A wnaiff y Gweinidog esbonio sut y gall dyfarnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl disgresiwn gefnogi busnesau bach a chanolig? OAQ54311

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i ostwng biliau ardrethi annomestig i fusnesau a threthdalwyr eraill lle y tybiant y bydd hynny'n cael yr effaith fwyaf yn lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2019-20 i ddarparu rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn.

Diolch am eich ateb, Drefnydd. Rydych wedi sôn eisoes, ac mae eich rhagflaenwyr wedi sôn, am ddiwygio'r system ardrethi busnes yng Nghymru. O ran rhyddhad ardrethi busnes llawn, gall eiddo, wrth gwrs, sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 elwa o ryddhad ardrethi yn Lloegr, ond yng Nghymru, mae'r ffigur hwnnw'n berthnasol i eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn unig. A gaf fi ofyn ichi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba gynnydd a wneir mewn perthynas â'r gwaith ar ddiwygio ardrethi busnes er mwyn cefnogi busnesau bach a chanolig, fel eu bod ar sail gyfartal o ran gwerth ardrethol, yn hytrach na'u bod dan anfantais am fod eu busnesau wedi'u lleoli yng Nghymru yn hytrach na thros y ffin yn Lloegr?

Diolch am godi'r mater hwn. Credaf ei bod yn bwysig fod y trothwyon sydd gennym yma yng Nghymru yn adlewyrchu sylfaen drethu Cymru. Mae ein cynllun yn adlewyrchu'r ffaith fod gwerthoedd ardrethol yma yng Nghymru—y gwerth ardrethol cyfartalog—yn is o lawer na thros y ffin yn Lloegr. Credaf ein bod yn edrych yng Nghymru ar werthoedd ardrethol cyfartalog o £33,000, ond yn Lloegr credaf ein bod yn edrych ar fwy na £50,000. Felly, mae'n bwysig fod ein cynlluniau yma yng Nghymru yn adlewyrchu'r sefyllfa wahanol sydd gennym yma yng Nghymru. Ond wedi dweud hynny, rydym yn gwneud rhywfaint o waith sy'n edrych ar y posibilrwydd o ddiwygio ardrethi busnes yn y dyfodol. Rydym hefyd yn edrych ochr yn ochr â hynny ar ddiwygiadau posibl i'r dreth gyngor yn y dyfodol. Felly, rydym yn edrych ar ein dwy dreth leol i weld sut y gallwn eu gwella, o bosibl, ar gyfer y dyfodol. Rydym yn disgwyl adroddiad canol tymor ar y gwaith o ran ardrethi annomestig erbyn tua mis Hydref a buaswn yn fwy na pharod i ddarparu rhyw fath o amlinelliad o beth fydd canfyddiadau cynnar y gwaith hwnnw.FootnoteLink Cefais drafodaeth dda y bore yma gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru. Mae ganddynt gryn dipyn o ddiddordeb yn y gwaith hwnnw, ac rwy'n awyddus i ddefnyddio'u harbenigedd a chael gwybod ganddynt a ydynt yn teimlo bod yr ymchwil yn mynd â ni i'r cyfeiriad cywir. Ond mae popeth a wnaf mewn perthynas â threthi, ardrethi annomestig—wrth i ni geisio diwygio a newid pethau, rwyf am ei wneud ar y cyd ac mewn ffordd agored a thryloyw, felly rwy'n fwy na pharod i drafod pethau ymhellach.

14:05
Ariannu Ailgylchu

4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o ran darparu dyraniad cyllideb ychwanegol i ariannu ailgylchu yng Nghymru? OAQ54324

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i drafod ystod o faterion ariannol, gan gynnwys ailgylchu. Er gwaethaf y toriadau i’n cyllideb gyfalaf, rydym wedi buddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol dros y cyfnod 2018/19 i 2020/1 i gefnogi’r rhaglenni newid cydweithredol ar gyfer caffael gwastraff.

Diolch am eich ateb. Weinidog, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn anfon llawer o'r deunydd ailgylchu a gasglwyd ganddynt i ganolfannau ailgylchu yn Lloegr ac ymhellach dramor. Yn ein sir ein hunain yn Abertawe, er enghraifft, mae'r cyngor yn anfon miloedd o dunelli o wastraff i Dwrci, Tsieina, India, Indonesia a Gwlad Pwyl. A ydych chi'n cytuno felly fod angen i ni wneud mwy i ganolbwyntio ar yr agenda hon? A pha gyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w ddarparu i awdurdodau lleol i ddatblygu canolfannau ailgylchu rhanbarthol neu genedlaethol i sicrhau ein bod yn ailgylchu popeth a allwn yng Nghymru, gan leihau ein hôl troed carbon a chreu swyddi i bobl yng Nghymru?

Wel, yn sicr, mae angen i mi gydnabod bod angen i ni wneud mwy yn y maes penodol hwn, oherwydd mae'n wir fod peth o'n gwastraff yn cael ei allforio i Ewrop, ac fel y dywedoch chi, i wledydd eraill o gwmpas y byd, ond mae'n bwysig cydnabod bod y rhan fwyaf ohono'n cael ei brosesu yma yng Nghymru. Rydym wedi cefnogi datblygiad seilwaith i brosesu ein gwastraff yma, gyda'r nod mwy hirdymor o brosesu cymaint o'n gwastraff ag y gallwn yma. Yn amlwg, nid ydym am i wastraff gael ei allforio o'r DU i wledydd eraill a pheidio â chael ei drin yn briodol, ac rydym wedi gweld rhai straeon yn y wasg ynglŷn â hynny.

Serch hynny, credaf mai'r rheswm pam ein bod wedi gallu cael y ffigurau rydych wedi'u dyfynnu i ni yw am mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU sy'n gorfodi awdurdodau lleol i ddefnyddio WasteDataFlow, sef system ar gyfer cofnodi data gwastraff trefol. Fel rhan o hynny, mae'n ofynnol bellach i awdurdodau lleol roi gwybod i ble mae eu gwastraff yn mynd yn y pen draw. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol gadarnhaol fod gennym eglurder a thryloywder o'r fath yn hynny o beth.

Bydd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ddydd Mawrth nesaf ar ailgylchu, a chredaf y bydd hwnnw'n gyfle arall i drafod hyn yn fanylach.

Clywaf yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog cyllid, am lif gwastraff a monitro hynny o fewn awdurdodau lleol, ond does bosibl nad un o'r pethau y mae'n rhaid i chi boeni amdanynt fel Gweinidog cyllid yw cryfder y trywydd archwilio. Mae llawer ohonom wedi gweld lluniau ar y teledu ac mewn papurau newydd yn dangos gwastraff a ailgylchwyd o Gymru—ac mae pobl wedi mynd ati i wneud hynny gyda'r ewyllys gorau—yn ymddangos ar draethau filoedd o filltiroedd i ffwrdd o'r ynysoedd hyn. Felly, pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i sicrhau bod y broses archwilio yn gadarn, ac y gellir defnyddio unrhyw arian newydd y gallech fod yn ei roi i'r mentrau ailgylchu i ailgylchu'r cynnyrch sydd ar gael yma yng Nghymru, neu yn wir, yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn hytrach na'i ddympio'n ddiseremoni ar draethau, fel y dywedais, filoedd o filltiroedd i ffwrdd?

Wel, fel y dywedaf, mae gofyniad statudol i awdurdodau lleol Cymru roi gwybod i ble mae'r gwastraff y maent yn ei gasglu yn mynd yn y pen draw, ond credaf fod pob un ohonom yn ymwybodol iawn o'r erthygl ddiweddar ar WalesOnline a ddangosodd fod 0.8 y cant o'r gwastraff a gasglwyd yng Nghymru yn cael ei anfon i gyrchfannau terfynol amhenodol. Yn amlwg, er mai canran fach iawn yw honno, mae'n rhywbeth sy'n peri cryn bryder i bob un ohonom. Felly, gallaf gadarnhau bod pob awdurdod lleol bellach wedi cael cais i adolygu eu contractau i sicrhau y gallwn roi diwedd ar hynny.

Trethi Ail Gartrefi

5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau trethi ail gartrefi Llywodraeth Cymru? OAQ54333

Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i adolygu sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu pwerau disgresiwn i godi premiymau'r dreth gyngor. Byddant yn ystyried unrhyw dystiolaeth a ddarperir i gynorthwyo'r adolygiad ac yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu yn ôl y bwriad.

Fe gafwyd trafodaeth ar y pwnc yma ddoe, os ydych chi'n cofio, a rhaid imi ddweud, roeddwn i'n rhyfeddu bod y Prif Weinidog yn methu'r pwynt yn llwyr am hyn. Y sefyllfa gwbl annerbyniol ydy fod yna anomali yn y system, sy'n golygu bod nifer fawr o berchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi. Dydyn nhw ddim yn talu treth gyngor, a dydyn nhw chwaith ddim yn talu treth fusnes drwy iddyn nhw weithredu fel busnes am gyfnod byr iawn o'r flwyddyn. Rŵan, hwnna ydy'r anomali yn y system sydd angen sylw, ac rydych chi'n gwybod fy mod i wedi tynnu sylw at hyn sawl gwaith, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cytuno bod angen gwneud rhywbeth ar fyrder. Fel rydych chi'n dweud, mae'ch swyddogion chi yn edrych ar y sefyllfa. Ces i gyfarfod efo nhw nôl ym mis Mehefin, ac fe addawyd y byddai yna ryw fath o adroddiad, neu ryw fath o gynnydd yn y maes yma, ond dwi'n dal i ddisgwyl i weld beth fydd yr argymhellion yn union. Mae hwn yn sgandal ac mae'n rhaid ei sortio fo ar fyrder.

14:10

Diolch am godi hyn, a diolch hefyd am eich diddordeb yn y mater ac am siarad â fy swyddogion am eich syniadau ynglŷn â sut y gallwn ddechrau mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Mae'n wir fod yn rhaid i fusnes allu dangos bod yr eiddo y maent yn ceisio'i osod fel llety gwyliau, er enghraifft, ar gael am o leiaf 140 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis, ac wedi'i osod am 70 diwrnod. Nawr, y cwestiwn yma yw: a yw'r cydbwysedd yn iawn gennym? A yw 140 diwrnod o fod ar gael i'w osod yn iawn, ac a yw 70 diwrnod o fod wedi'i osod—a yw hynny'n iawn? A yw hynny'n dangos bod yr eiddo hwnnw'n cael ei ddefnyddio fel llety hunanddarpar? Felly, mae hwn yn fater arall y byddaf yn ei drafod â'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol yn ein cyfarfod nesaf, yr wythnos nesaf rwy'n credu, ond mae'n fater rwy'n sicr yn ymwybodol ohono.

Fe ofynnom ni i awdurdodau lleol roi gwybod i ni am unrhyw achosion lle roeddent yn teimlo bod eiddo'n cael ei farchnata fel llety hunanddarpar heb ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno mewn gwirionedd. Cafwyd rhai enghreifftiau gan awdurdodau lleol, gan gynnwys Gwynedd, o eiddo y credent ei fod yn perthyn i'r categori hwnnw. Edrychodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar bob un o'r achosion a daethant i'r casgliad fod pob un ohonynt yn gweithredu o fewn y gyfraith, ond mae'r cwestiwn yn codi i ba raddau yr ydym yn ei gael yn iawn o ran nifer y dyddiau, ac rwy'n sicr yn awyddus i edrych ar hynny.

Os nad yw'r eiddo yn talu ardrethi busnes, dylent fod yn talu'r dreth gyngor. Ymddengys mai dyna sydd wrth wraidd hyn, ac mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater.

Gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yn cael y trafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol o ran eu profiadau o'r mater, i ba raddau y mae'n broblem. Credaf ei fod yn amrywio ledled Cymru o ran faint o ail gartrefi a geir a faint o eiddo gwyliau ar osod a geir, ac yn sicr, mae'n broblem ddifrifol mewn rhai ardaloedd. Ond mae'n un yr ydym yn awyddus iawn i fynd i'r afael â hi oherwydd, fel y dywedais, mae gwaith ar y gweill gennym sy'n edrych ar ddyfodol y dreth gyngor, ac yn archwilio gwahanol ffyrdd o edrych ar y dreth gyngor, i geisio'i gwneud yn fwy blaengar, ac mae'n edrych ar drethi gwerth tir, ac ar dreth incwm leol—pob math o wahanol ffyrdd o godi trethiant lleol yn y dyfodol. Ac yn sicr, mae hyn yn rhan o hynny.

Buaswn yn rhoi ateb syml i chi: pam na wnewch chi ddod â'r rhyddhad ardrethi busnes ar dai a fflatiau i ben? Pe baech yn gwneud hynny, ni fyddai’n gwneud unrhyw les iddynt gael eu galw’n fusnesau. Ni allaf weld unrhyw reswm da dros roi rhyddhad ardrethi busnes i dai a fflatiau. Pe baech yn dod â hynny i ben, byddech yn cael gwared ar yr anghysondeb, a gallwch wneud hynny yfory.

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y mater hwn yn y gorffennol mewn perthynas ag a ddylai dosbarthiadau o eiddo penodol fod wedi'u heithrio rhag rhyddhad ardrethi busnesau bach. Yn sicr, roedd hynny'n rhywbeth yr edrychwyd arno'n fanwl pan ddatblygwyd y cynllun parhaol gennym. Ni ystyriwyd bod cael gwared ar ryddhad ardrethi ar gyfer eiddo hunanddarpar yn briodol a chredaf, os cofiaf yn iawn, fod hynny oherwydd yr effaith y gallai ei chael ar y diwydiant twristiaeth, lle mae'r eiddo hyn yn arbennig o bwysig mewn rhai ardaloedd i gadw'r diwydiant twristiaeth yn fyw. Mae'n amlwg fod yma gydbwysedd eithriadol o anodd a bregus i'w sicrhau.

Cyhoeddiad Ariannol Llywodraeth y DU

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyhoeddiad ariannol Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ54320

Yn seiliedig ar gylch gwario Llywodraeth y DU, bydd ein cyllideb ar gyfer 2020-21 yn is o 2 y cant mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £300 miliwn yn is mewn termau real na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Yn fy natganiad llafar ddoe, nodais effaith adolygiad gwariant Llywodraeth y DU.

14:15

Diolch i chi am eich ateb. Dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am wneud ple eto arnoch chi i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru'n cael setliad gwell eleni. Dŷn ni wedi clywed eisoes am y £6 miliwn sydd ei angen ar sir Fôn i aros yn ei hunfan. Dŷn ni wedi gweld yn y papur bore yma bod Cyngor Sir y Fflint yn sefyll ar ymyl dibyn ariannol, a fydden i ddim yn licio dychmygu beth fyddai'r goblygiadau petai'r hwch yn mynd drwy'r siop yn fanna.

Nawr, yn flaenorol, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi dweud fe fydd awdurdodau lleol ar flaen y ciw petai yna arian yn dod ar gael a byddwn i'n gofyn i chi o leiaf ailadrodd yr ymrwymiad yna ac i wneud hynny, wrth gwrs, gan wybod y byddai ariannu tecach i awdurdodau lleol, fel dŷn ni wedi'i glywed, yn gallu cyfrannu'n helaeth tuag at faterion iechyd drwy ariannu gwasanaethau cymdeithasol yn iawn, ond mi fyddai hefyd yn gallu caniatáu inni ddechrau mynd i'r afael â than-gyllido ysgolion yn eithriadol. Felly, yr hyn dwi eisiau clywed yw—ganddoch chi a'r Llywodraeth—y bydd awdurdodau lleol ar flaen y ciw eleni.

Diolch. Mae'r holl ddadleuon hyn o blaid gwell setliadau ar gyfer awdurdodau lleol wedi'u gwneud yn dda iawn ac wedi'u clywed yn dda iawn, a byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud o'r blaen, pe bai cyllid ychwanegol ar gael, yna byddai awdurdodau lleol a llywodraeth leol ar flaen y ciw.

Soniodd Lynne Neagle yn gynharach am adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a oedd yn beirniadu'r ddwy Lywodraeth yn hallt mewn perthynas â chyllid ysgolion. Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb ac wedi cynyddu bloc Cymru o ganlyniad i ddarparu cynnydd o £14 biliwn i'w chyllideb ysgolion ei hun ar gyfer y DU. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith ar hyn, ac mae arnaf ofn, Weinidog, na allwch gyfiawnhau blynyddoedd o danariannu yn ein hysgolion yng Nghymru—mae hwn yn bwynt a wnaed gan undebau, nid ar yr ochr hon i'r Siambr yn unig—drwy dynnu sylw at Lywodraeth arall sydd wedi gweithredu ar unwaith i wyrdroi'r peryglon a oedd yn effeithio arnynt.

Gofynnodd Lynne Neagle am y blynyddoedd cynnar, ond a allwch gadarnhau y bydd y rhan fwyaf os nad yr holl arian yn mynd i ysgolion neu awdurdodau lleol ar gyfer eu cyllidebau ysgolion? Rwy'n derbyn na allwch roi manylion am hynny, ond mewn egwyddor. Ac os bydd yr arian hwnnw'n mynd i awdurdodau lleol ar gyfer eu cyllidebau ysgolion, a fydd yn cael ei warchod fel na fydd cynghorau'n cael eu denu i ddargyfeirio'r arian hwnnw i feysydd blaenoriaeth ac angen eraill?

Wel, ni allaf gytuno bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â chyllid mewn ysgolion. Maent wedi bod mewn grym ers degawd, felly mae wedi cymryd cryn dipyn o amser iddynt gydnabod pwysigrwydd addysg, ac maent hefyd wedi rhoi sicrwydd o ragolwg gwariant tair blynedd i ysgolion a'r GIG yn Lloegr. Nid oedd ganddynt y cwrteisi i wneud hynny yma yng Nghymru, lle yr addawyd adolygiad gwariant tair blynedd. Felly, o ran gwneud cyhoeddiadau heddiw ac addewidion heddiw, nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny. Rydym newydd gael ein dyraniadau gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda dwy flynedd i wneud hynny. Ond hoffwn sicrhau pobl ein bod yn gwrando ar yr holl ddadleuon a wnaed gennych chi, yr awdurdodau lleol, a'r gwahanol sectorau, ac ystyrir hynny i gyd wrth i ni osod y cyllidebau yn y dyfodol.

Weinidog, yng nghyd-destun y cyni hwn, os gallwn gael rhywfaint o eglurder ynghylch y sefyllfa ariannol, efallai y gallech ddweud wrthym faint o arian a gollwyd gennym ers 2010 pan ddaeth y Torïaid i rym, efallai y gallech ddweud wrthym pa warantau a gawsoch mewn perthynas â chyllid yr Undeb Ewropeaidd pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac o ran yr arian ychwanegol sy'n cael ei addo, a ydym wedi gweld rhywfaint o'r arian hwn mewn gwirionedd, neu a yw'n dal i fod yr un mor ddychmygol—[Torri ar draws.] A yw'n dal i fod yr un mor ddychmygol â chytundeb Brexit Prif Weinidog y DU?

Diolch i Mick Antoniw am godi hynny. O ran, 'A ydym wedi gweld rhywfaint o'r arian eto?', wel, yr ateb i hynny yw 'na', ac nid oes unrhyw warant gadarn y byddwn yn ei weld, wrth gwrs, gan fod yn rhaid i hynny ddibynnu ar Fil cyllid yn mynd drwy'r Senedd, ac nid yw'r Senedd, wrth gwrs, yn eistedd ar hyn o bryd. Felly, mae hwnnw'n amlwg yn faes sy'n peri pryder i ni. Felly, ni fyddwn yn gweld yr un geiniog ohono hyd nes y bydd y prosesau seneddol angenrheidiol wedi'u cwblhau.

O ran cyllid yr UE, unwaith eto, roedd y Canghellor yn hollol dawel ynglŷn â chyllid yn lle cyllid yr UE a'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig. Gofynnais i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin, ac unwaith eto, cafodd y mater ei wthio i lawr y lôn—'Cynhelir ymgynghoriad maes o law'. Mae'r ymgynghoriad hwnnw wedi'i addo inni ers oddeutu 18 mis bellach ac rydym yn wirioneddol awyddus i gymryd rhan ynddo. Nid yw'n iawn mai ymgyngoreion ydym ni beth bynnag, gan fod hwn yn fater mor sylfaenol, ond rydym yn parhau i wneud y pwyntiau na allwn fod mewn sefyllfa lle y caiff datganoli ei anwybyddu o ganlyniad i'r gronfa honno.

Tynnais sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys at y ffaith na ddylai Cymru fod geiniog yn waeth ei byd, a'i atgoffa bod hwnnw'n addewid allweddol yn ystod y refferendwm, ond fe atebodd, wrth gwrs, mai addewid a wnaed gan yr ymgyrch dros 'adael' oedd hwnnw, ac mai'r Llywodraeth Geidwadol ydynt hwy, ond fe wnaethom ei atgoffa wedyn fod Prif Weinidog y DU, mewn gwirionedd, yn un o'r bobl a arweiniodd yr ymgyrch honno, felly byddem yn disgwyl iddo gadw at yr addewid hwnnw i bobl Cymru.

Mae Mick Antoniw yn gwbl iawn i godi’r ffaith ein bod wedi gweld degawd o doriadau ac nad yw’r cyllid ychwanegol a roddwyd o'n blaenau yn awr yn agos at allu ein codi i'r lefel yr oeddem arni 10 mlynedd yn ôl.

14:20
2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

1. Pa bwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar bobl ifanc 16-18 oed wrth feddwl am ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ54321

Diolch yn fawr. Mae pobl ifanc with galon Cymraeg 2050 ac rŷn ni’n gweithio gydag ysgolion a cholegau addysg bellach i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc i gael defnyddio’r Gymraeg. Rŷn ni hefyd, wrth gwrs, wedi ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ond rŷn ni hefyd yn cydnabod bod angen inni wneud mwy.

A wnewch chi ddweud wrthyf fi, felly, beth yw pwrpas ehangu’r ddarpariaeth pan fo mwy a mwy o bobl ifanc yn cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw'n methu â chael at y ddarpariaeth honno? Mae nifer ohonon ni yn y Siambr fan hyn, dwi’n siŵr, wedi gweld cynnydd yn y gwaith achos rŷn ni’n ei dderbyn gan fyfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion Cymraeg sydd yn wynebu sefyllfa lle mae’r drafnidiaeth oedd yn cael ei ddarparu i’r ysgolion hynny gan yr awdurdodau lleol yn cael ei thorri. Dwi wedi delio ag achosion yn Wrecsam, yn sir y Fflint, yn sir Ddinbych ac mewn siroedd eraill ar draws y gogledd—rhai ohonyn nhw wedi'u datrys; yn anffodus, rhai ohonyn nhw ddim. Felly, a gaf i ofyn beth ydych chi am ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad trwy drafnidiaeth i’r ysgolion hynny lle mae’r ddarpariaeth ychwanegol yma rŷch chi’n sôn amdano fe yn cael ei darparu?

Wel, rŷn ni'n treulio eithaf lot o amser ar hyn o bryd yn treial sicrhau ein bod ni yn gwella’r sefyllfa sydd wrthi ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyfarfod arall y bore yma gyda’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros addysg. Mae’r ddwy ohonon ni wedi ysgrifennu at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, felly mae yna ymgais nawr i fynd ati i sicrhau ein bod ni’n gallu dod i le gwahanol gyda’r broblem yma. Mae yna refresh yn mynd i fod o’r Learner Travel (Wales) Measure 2008—mae hwnna’n digwydd yn yr hydref. Wrth gwrs, mae hwnna’n gyfle i bobl ymateb i ymgynghoriad, ond rŷn ni yn cydnabod bod yna broblem, ac, yn arbennig, fod yna broblem yn sir y Fflint a hefyd yn ardal Castell Nedd hefyd.

Weinidog, gwnaeth Llyr Gruffydd bwynt dilys iawn ynghylch pwysigrwydd gallu cael mynediad at y gwasanaethau cyfrwng Cymraeg hynny pan gânt eu darparu. Ac er bod pob un ohonom yn croesawu’r targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ac yn cydnabod pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg i'r gwaith o gyflawni hynny, credaf ei bod hi'n debygol fod y pwysau y cyfeiriodd Llyr ato'n waeth byth mewn ardaloedd o Gymru sydd wedi'u Seisnigeiddio, fel yr ardal rwy'n ei chynrychioli, na'r hyn ydyw yn rhai o'r ardaloedd lle y ceir mwy o siaradwyr Cymraeg. Felly, gan gyfeirio at yr ateb a roesoch i Llyr ynglŷn â'r drafnidiaeth y gall myfyrwyr cyfrwng Cymraeg—ni chlywais eich ateb, ond yr ateb a roesoch—a allwch ddweud pa ffocws penodol yr ydych yn ei roi ar sicrhau bod fy etholwyr sy'n dymuno cael mynediad at wasanaethau Cymraeg, mewn ardal lle na fu modd gwneud hynny yn draddodiadol, yn cael cymorth penodol i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau Cymraeg ar gael i bawb?

Pan fydd awdurdodau lleol yn datblygu eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'r materion trafnidiaeth mewn perthynas â sut y mae'r plant hynny'n cyrraedd yr ysgol. Wrth gwrs, mae gofyniad statudol iddynt ddarparu hynny i ysgolion cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr o dan 16 oed. Ceir problem i rai dros 18 oed, a dyma lle y cyfyd y broblem hon, oherwydd nid yw'n sefyllfa statudol ar hyn o bryd, ac rydym yn asesu beth yw'r posibiliadau i ailedrych ar y sefyllfa honno. Mae'n eithaf cymhleth, ac yn amlwg, gall fod rhai sgil effeithiau. Rydym yn treulio cryn dipyn o amser ar hyn o bryd yn ceisio mynd i'r afael â'r union fater hwn mewn gwirionedd.

Byddech chi'n cytuno gyda fi, Gweinidog, dwi'n siŵr, bod hi'n bwysig mewn ardaloedd lle nad oes gan y Gymraeg wreiddiau mor ddwfn, sy'n gwneud mwy i helpu i dyfu'r gwreiddiau hynny. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau lleol yn Ogmore i hyrwyddo'r Gymraeg? A pha mor uchelgeisiol fydd targedau addysg ar flynyddoedd cynnar i helpu gyda hyn?

14:25

Diolch yn fawr. A gaf i ddiolch i chi am ofyn y cwestiwn yn Gymraeg? Wrth gwrs, rŷm ni yn gosod targedau ar lywodraethau lleol. Mae ein swyddogion ni wedi bod wrthi dros yr haf yn trafod gyda swyddogion ar draws rhai awdurdodau lleol, yn cynnwys ym Mhen-y-bont. Wrth gwrs, beth rŷn ni'n ceisio'i wneud yw sicrhau ein bod ni'n arwain y galw nawr, nid jest yn ymateb i'r galw. Ym Mhen-y-bont, dwi'n meddwl ein bod ni'n gobeithio y byddwn ni'n cyrraedd targed o tua 30 y cant dros y 10 mlynedd nesaf. A beth rŷn ni wedi bod yn ei wneud yw cynnig cefnogaeth ychwanegol i geisio hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny a cheisio ennyn mwy o ddiddordeb oddi wrth y bobl leol.

Beth sy'n bwysig hefyd, wrth gwrs, yw bod yna ddilyniant, bod pobl sy'n mynd i ysgolion cynradd yn symud ymlaen i'r ysgolion uwchradd. Mae hynny wedi bod yn broblem yn y gorffennol—yn arbennig yn eich ardal chi, mae arnaf i ofn. Ond, wrth gwrs, nid jest ysgolion rŷn ni'n sôn amdano; mae yna bethau eraill rŷn ni'n eu gwneud i hybu'r Gymraeg mewn ardaloedd fel Pen-y-bont, fel y mentrau iaith sydd yn rhoi lot o gefnogaeth i bobl i gael cyfleoedd i siarad Cymraeg yn gymdeithasol.

Hamdden a Chwaraeon yn y Gymuned

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hamdden a chwaraeon yn y gymuned? OAQ54335

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Mae annog ein cymunedau i fod yn fwy egnïol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn y flwyddyn 2018-19, darparodd ein partner cyflenwi, Chwaraeon Cymru, oddeutu £16 miliwn i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol a phartneriaid eraill yn benodol er mwyn datblygu chwaraeon cymunedol ac i'w cynorthwyo i ddarparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy'n adlewyrchu anghenion lleol.

Diolch am eich ateb. Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect Agor Drenewydd ym Mhowys ac mae'n rhan o brosiect trosglwyddo asedau cymunedol gyda 130 erw o fannau gwyrdd a sicrhaodd brydles 99 mlynedd gan gynghorau Powys a'r Drenewydd. Ac mae sawl elfen i'r prosiect hwn, a byddant yn cael eu cyflawni dros bum mlynedd, gyda chyllid o sawl ffynhonnell. Ond prif nod y prosiect yw gwella mannau gwyrdd yn y Drenewydd ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr, ac mae'n cynnwys pwyslais cryf iawn ar wella chwaraeon a hamdden i bawb. Mae'n gwneud hynny mewn sawl ffordd: gwella llwybrau, caeau pêl-droed, mannau chwarae ac adeiladu pont droed ar gyfer cerddwyr a beicwyr. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad, Weinidog, o'r defnydd posibl o brosiectau trosglwyddo asedau cymunedol i wella gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden yn y cymunedau hynny?

Credaf fod gan bob un ohonom yn y lle hwn brofiad yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau o lwyddiant trosglwyddo asedau cymunedol. Mae'n ffordd o ymgymryd â gweithgarwch awdurdodau cyhoeddus mewn ffordd sy'n cysylltu ag anghenion y gymuned. Felly, byddwn yn sicr yn parhau i asesu effeithiolrwydd modelau ymddiriedolaeth a throsglwyddo asedau cymunedol, ac yn ein gwaith gyda Chwaraeon Cymru a chyrff cyhoeddus eraill y mae gennyf gyfrifoldeb amdanynt, rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o effeithiolrwydd trosglwyddo asedau cymunedol. Ac os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, buaswn yn argymell i chi ymweld ag Atebion Clwb ar wefan Chwaraeon Cymru, sy'n pwysleisio sut y gall modelau ymddiriedolaeth a throsglwyddo asedau cymunedol fod yn ffordd effeithiol iawn i gymunedau reoli cyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau eraill eu hunain. Nid wyf wedi sôn, wrth gwrs, am y pwll nofio bendigedig a'r wal ddringo yn Harlech, ac ni ddylwn fod wedi gwneud hynny.

14:30

Dirprwy Weinidog, efallai y byddwch chi yn ymwybodol o'r bartneriaeth hirsefydlog rhwng purfa Valero, Penfro a Chwaraeon Sir Benfro, sydd wedi cefnogi chwaraeon cymunedol ledled sir Benfro ers blynyddoedd bellach. Mae hyn, dwi'n credu, yn enghraifft arbennig o fusnesau yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a chymunedau lleol i gefnogi chwaraeon cymunedol, ac yn sicr mae'r bartneriaeth wedi cael effaith wirioneddol ar chwaraeon cymunedol ledled sir Benfro. Yn sgil hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o berthnasoedd fel hyn, rhwng busnesau ac awdurdodau lleol, i ddatblygu rhaglenni chwaraeon cymunedol?

Dwi'n ddiolchgar iawn am y wybodaeth benodol yna. Dwi'n gyfarwydd â sir Benfro—yn wir, roeddwn i yno yr wythnos yma. Mae'n bleser wastad i weld fel y mae cwmnïau mawr rhyngwladol, megis Valero, yn buddsoddi yn ôl yn y gymuned. Fe edrychaf i yn fwy manwl ar hynna. Ac yn sicr dwi'n barod iawn i dynnu sylw llywodraeth leol a chymunedau lleol tuag at y posibilrwydd cyson o wella eu gwasanaeth drwy gael nawdd masnachol effeithlon. Mae hyn yn wir ym maes y celfyddydau, ac mae o hefyd yn wir ym maes chwaraeon. Ac y mae cwmni Valero, fel y gwyddost ti yn dda iawn, wedi cyfrannu yn y ddau gyfeiriad yna—i ddatblygu'r ddarpariaeth gelfyddydol, a'r ddarpariaeth o fewn chwaraeon a'r ddarpariaeth gymunedol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Gweinidog, mae'r strategaeth ryngwladol ddrafft a gyhoeddoch dros yr haf yn cynnwys tri nod. Y trydydd o'r rhain yw amlygu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Allwch chi esbonio sut mae hynny yn gydnaws â phresenoldeb Llywodraeth Cymru yn ffair arfau Defence and Security Equipment International yr wythnos ddiwethaf?

Mae hi'n bwysig ein bod ni yn sicrhau bod ein hegwyddorion a'n gwerthoedd yn cael eu gweld drwy'r byd. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig, ynghyd â'r strategaeth yna, i ddweud yn glir hefyd bod cyber security yn un o'r prif bethau rŷm ni eisiau sicrhau bod pobl yn ei ddeall—bod Cymru yn un o'r llefydd lle mae yna arbenigrwydd yn y maes yma. A dyma'r peth dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n amlygu. Ac mae yn anodd gweld ble—. Mae yna berthynas agos, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod, rhwng beth sy'n digwydd ym maes amddiffyn a cyber security commercial. Ac felly, wrth gwrs, mae'n anodd i ni dynnu'r rheini oddi wrth ei gilydd. Mae yna berthynas, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig nad ydym ni'n tynnu i ffwrdd o wthio cyber security pan mae yna gyfle gyda ni.

Weinidog, dwi ddim yn meddwl bod yr ateb yna yn ddigon da. Dro ar ôl tro, rydym ni'n cael addewidion gan eich Llywodraeth yn honni eich bod am fod yn gyfrifol, yn foesol, yn flaengar, a, dro ar ôl tro, rydych chi'n tanseilio'r addewidion hyn drwy weithredu mewn ffordd anghyfrifol, anfoesol a beth bynnag ydy'r gwrthwyneb i blaengar. Un maes sydd yn cael ei neilltuo yn llwyr yn y strategaeth yw gwneud defnydd o'r iaith Gymraeg er mwyn hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a bywyd cymdeithasol unigryw ein cenedl. Mae strategaeth ryngwladol Gwlad y Basg, er enghraifft, yn cynnwys rôl ar gyfer y Etxepare Basque Institute, er mwyn hyrwyddo'r iaith Fasgeg a chynyddu proffil yr iaith a'r diwylliant yna o amgylch y byd. Er enghraifft, fe wnaethon nhw fynd eleni i'r Edinburgh fringe festival. Yr unig sôn am y Gymraeg yn eich strategaeth ryngwladol chi yw ambell gyfeiriad at y ffaith bod yr iaith yn bodoli. Ydych chi'n cytuno bod angen i chi ailystyried hyn eto, a rôl y Gymraeg o fewn eich strategaeth ryngwladol? A wnewch chi ymrwymo heddiw, fel cam cyntaf i unioni'r cam, y byddwch yn gwyrdroi'ch penderfyniad gwarthus i wrthod darparu gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid yng Nghymru—penderfyniad sy'n mynd yn gwbl groes i'r ymrwymiad yn eich cynllun noddfa i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cynnwys mewn cyfleoedd i ddysgu Cymraeg?

Dwi yn meddwl ein bod ni yn gwneud lot mwy na hynny o ran gwthio yr hyn rŷm ni'n ei wneud tuag at yr iaith Gymraeg. Rŷm ni eisoes wedi bod yn y Cenhedloedd Unedig, yn dangos arweinyddiaeth yn y maes ieithoedd lleiafrifol. Rŷm ni'n mynd i gynnal cynhadledd arbennig yn Aberystwyth ym mis Tachwedd i ddathlu gŵyl ryngwladol UNESCO ac ieithoedd lleiafrifol.

Mae yna ddigwyddiad yn y Senedd heno ble rŷm ni'n dod â phobl o Gatalwnia i helpu. Felly, wrth gwrs bod y Gymraeg yn rhan o hynny. Dwi eisoes wedi comisiynu fideo i ni allu darparu a dangos i'n llysgenhadon o gwmpas y byd ein bod ni eisiau arwain yn y maes yma. Ac, felly, dwi yn meddwl bod y Gymraeg yn rhan hanfodol o'r strategaeth yna.

Jest ar y mater o ffoaduriaid, dwi yn meddwl ei bod hi werth tanlinellu'r ffaith ein bod ni yn sianelu yr holl ffordd rŷm ni'n dysgu Cymraeg i bobl sydd ddim yn iaith gyntaf trwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae yna ddau beilot eisoes yn bodoli, un yng Nghaerdydd, un yn Abertawe, lle mae gwersi Cymraeg yn cael eu rhoi am ddim i ffoaduriaid.

14:35

Wel, mae hynny'n ateb annigonol yn anffodus. Mae'n dda iawn i glywed am y gwaith da sy'n digwydd gan y Llywodraeth am yr iaith Gymraeg, ond dylai hynny fod yn y strategaeth. Ac am y ffoaduriaid, dylech chi ailystyried hynny fel mater o frys, byddwn i'n argymell. 

Hoffwn droi yn awr at wendidau eraill y strategaeth ryngwladol. Mae'n gymysgedd rhyfedd o orgyffredinoli a gorfanylder ar yr un pryd. Rydych chi'n canolbwyntio ar dri diwydiant i'w hyrwyddo yn rhyngwladol, sef, fel rydych chi wedi sôn amdano fe yn barod, seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol. Nawr, dwi ddim yn gwadu o gwbl fod y rhain yn ddiwydiannau pwysig i'n heconomi, ond a ddylen ni roi lled-ddargludyddion cyfansawdd wrth ganol ein strategaeth? Oni fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i hyrwyddo diwydiant sy'n cyd-fynd â'r nod o gyfrifoldeb rhyngwladol, er enghraifft ynni adnewyddol? Pam nad ydych wedi gosod llwybr uchelgeisiol, wedi ei seilio ar wneud Cymru yn wlad carbon sero erbyn 2040 neu gynt?

Ble mae'r cynllun er mwyn gwneud y mwyaf o'r diaspora Cymraeg, a hyrwyddo cyfraniad diaspora o wledydd eraill sy'n byw yng Nghymru? Ble mae'r cynllun strategol ar gyfer gwneud y mwyaf o swyddfeydd tramor Cymru? Dyw sôn am gyhoeddi cylch gwaith yn y dyfodol, pan mae'r rhain wedi bodoli ers blynyddoedd, ddim yn ddigon da. Ble mae'r weledigaeth ar gyfer hyrwyddo'r gwaith ymchwil ardderchog sy'n cael ei wneud gan ein sector addysg uwch, a'r ymrwymiad i sicrhau bod hyn yn gallu parhau? Ble mae'r targedau sydd yn angenrheidiol er mwyn gallu mesur llwyddiant y strategaeth? Sut allwch chi gyfiawnhau'r ffaith mai dim ond dau gyfarfod y flwyddyn rydych yn bwriadu eu cynnal er mwyn mesur cynnydd? A ble mae'r weledigaeth fawr ar gyfer dyfodol ein cenedl rhyngwladol? 

Byddwn i'n argymell eich bod yn dechrau eto, gan adeiladu strategaeth unigryw ac uchelgeisiol, strategaeth all ond Cymru ei chael, o hyrwyddo cenedl groesawgar, werdd, Gymreig, sydd yn barod i lwyddo a chymryd ei phriod le ar lwyfan y byd, yn hytrach na'r ddogfen hon, sy'n darllen, ar adegau, fel ymarferiad PR, mae arna i ofn. 

Wel, dwi ddim yn derbyn hynny. Dwi yn meddwl bod y gwerthoedd sydd gyda ni yng Nghymru yn dod drwodd yn glir yn y strategaeth. Beth mae'n rhaid i ni gydnabod yw ei bod hi'n anodd i ni ysgrifennu strategaeth ar hyn o bryd, achos sut ydych chi'n gwneud hynny pan rŷm ni yng nghanol trafodaeth ynglŷn â Brexit? Un o'r pethau roeddwn i'n awyddus i'w wneud oedd i ddenu sylw at ein hunain. Mae yna lot o lefydd rownd y byd yn gwneud lot o bethau gwahanol. Ble mae yna arweinyddiaeth glir gyda ni fel cenedl? Sut ydyn ni'n gallu denu sylw at ein hunain fel cenedl sydd ar flaen y gad? A newid y feddylfryd sydd gan lot o bobl tuag at Gymru, neu fod dim syniad gyda nhw am Gymru. A dyna beth oedd y syniad tu ôl i jest pigo ar rai sectorau. 

Wrth gwrs bydd pethau'n dod allan o'r strategaeth yma, felly bydd strategaeth ar gyfer y diaspora. Rŷm ni wedi bod yn cael cyfarfod y bore yma ynglŷn â hynny. Mae'r targedau—. Roeddwn i'n awyddus iawn i roi targedau i mewn. Dwi'n siŵr y byddech chi'n cytuno ei bod hi'n rili anodd i roi targedau ar hyn o bryd pan rŷn ni mewn sefyllfa mor wahanol. Jest i roi enghraifft i chi—rŷch chi wedi bod yn sôn am addysg uwch. Wrth gwrs, mae'r ffaith bod y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf wedi dweud, 'Reit, caiff pobl aros am ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw raddio' yn mynd i ddenu mwy o bobl. Felly, mae pethau'n symud mor gyflym. Ar hyn o bryd, mae'n anodd i ni osod targedau, ond dwi'n awyddus iawn i sicrhau bod hwnna yn dod yn rhan, unwaith y byddwn ni'n setlo pethau yn y byd yma sy'n newid yn llwyr ar hyn o bryd. 

14:40

Weinidog, mae chwe blynedd wedi bod bellach ers i'r Llywodraeth gyflwyno ei strategaeth dwristiaeth ar gyfer Cymru, y bartneriaeth ar gyfer twf, a bydd cylch gwaith y strategaeth yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Y prif uchelgais oedd cynyddu enillion twristiaeth o leiaf 10 y cant erbyn hynny. Sylwaf fod yr Alban, sydd wedi bod â strategaeth ar waith am yr un cyfnod o amser yn union, bellach yn gwneud llawer o waith adolygu ac ymgynghori, a tybed beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i adolygu gweithrediad y bartneriaeth ar gyfer twf, yn enwedig y targed hwnnw o 10 y cant, a pha fath o waith a wneir ar ddatblygu a pharatoi strategaeth newydd.

Diolch yn fawr am y proc defnyddiol iawn hwnnw i'r cof. Gallaf roi trywydd i chi nawr ar gyfer datganiad llafar y gobeithiaf ei wneud i'r Siambr hon ym mis Hydref ar ein strategaeth dwristiaeth. Fy uchelgais yw cynhyrchu blaenoriaethau ar gyfer pob un o brif feysydd fy nghyfrifoldebau fel Dirprwy Weinidog. Rwyf wedi ceisio nodi blaenoriaethau eisoes ym maes treftadaeth, ac rwy'n falch o ddweud wrthych mai twristiaeth yw'r nesaf. Felly, bydd cyhoeddiad tebyg i'r blaenoriaethau a luniwyd gennym ar gyfer treftadaeth ar dwristiaeth, a byddaf yn croesawu ymateb gan yr Aelodau a chan y sector. Efallai eich bod yn cofio inni gynnal uwchgynhadledd dwristiaeth yn Llandrindod y llynedd, ac roedd ymateb y sector i'r cyfarfod hwnnw'n gadarnhaol iawn, ac mae'n ddigon posibl y penderfynwn gynnal digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf.

Wel, diolch i'r Gweinidog am ei ymateb defnyddiol ar y cyfan, yn enwedig y syniad y dylai pob un ohonom ymgymryd â'r gwaith o adolygu'r strategaeth a llunio un newydd, ac yn arbennig ar gyfer y sector. Ni ddywedoch a yw'r targed o 10 y cant yn mynd i gael ei gyflawni. Yn amlwg, mae blwyddyn i fynd eto, ond credaf ei bod yn allweddol ein bod o leiaf yn onest ynglŷn ag a ydym wedi cyflawni hynny, ac os nad ydym, pam, a beth sydd angen i ni ei wneud ynglŷn â hynny.

Nawr, yn amlwg, mae gennym ddwy farchnad—y farchnad ddomestig ar gyfer y DU ac ymwelwyr o dramor. A chredaf ei bod yn deg dweud ein bod yn gwneud yn dda iawn yn y farchnad ddomestig, ond nid ydym yn cyflawni'r hyn y credwn y dylem ei gyflawni mewn perthynas ag ymwelwyr o dramor. Felly, tybed a fydd y strategaeth newydd yn cynnwys dwy set o farchnadoedd twf gwirioneddol uchelgeisiol ar gyfer y marchnadoedd hynny, gan y credaf fod angen dulliau gweithredu gwahanol ar eu cyfer, ac efallai nad ydym wedi darparu ar gyfer hynny yn y strategaeth bresennol.

Cytunaf â'r dadansoddiad hwnnw. A gaf fi ddweud hefyd ein bod yn credu bod cyfle gwych o hyd ar gyfer yr hyn a elwir yn 'staycation'? Nid yw'n un o fy hoff eiriau, er i mi gael ychydig o wyliau gartref yr haf hwn a'i fwynhau'n fawr, gan gynnwys llawer o amser—treuliais beth ohono yn Sir Fynwy—ond llawer o amser ar y gororau yn edrych ar sut y gallwn weithio'n agosach ar hyd y cyswllt gwych hwnnw rhwng gogledd a de Cymru ar y ffin ddwyreiniol a elwir yn Glawdd Offa. Ac rydym yn gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn yn pwysleisio bod lle eto i fwy o ymwelwyr ddod, o'r cytrefi a'r rheini sy'n glanio ym Maes Awyr Manceinion a'r rheini sydd wedi dod drwy Heathrow. Ond rwy'n derbyn y pwynt fod angen i ni roi pwyslais ar farchnata rhyngwladol. Rydym wedi nodi rhai gwledydd ar dir mawr Ewrop, a byddwn yn mynd ar drywydd y strategaeth hon er mwyn sicrhau bod y bobl hynny'n ymwybodol fod y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn dal i fod ar agor, beth bynnag a allai ddigwydd i ffiniau'r Deyrnas Unedig.

A gaf fi ddweud fy mod yn rhannu ei hoffter o Glawdd Offa? Rwyf wedi cwblhau'r daith gerdded, er bod hynny, mae arnaf ofn, dros 40 mlynedd yn ôl bellach. Eleni, bûm yn cerdded yn y Gŵyr, a oedd yr un mor brydferth. Weinidog, un ffordd y gallwn harneisio apêl twristiaeth ryngwladol, yn sicr, yw gwneud Cymru'n brifddinas twristiaeth gynaliadwy yn y DU, ac yn wir yn Ewrop. Er enghraifft, mae mwy a mwy o dwristiaid amgylcheddol graff yn chwilio am gyrchfannau gwyrdd i dwristiaid. Canfu arolwg diweddar fod 64 y cant o ymatebwyr yn ystyried materion amgylcheddol wrth archebu eu gwyliau, a bod 82 y cant yn barod i dalu mwy am wasanaethau a chynhyrchion gwyrdd. Mae cymdeithasau teithio byd-eang fel National Geographic bellach yn defnyddio cynaliadwyedd amgylcheddol fel maen prawf allweddol wrth roi sgôr i gyrchfannau. Felly, rwy'n credu'n wirioneddol, os ydym am gymryd cam ymlaen a bod yn wirioneddol gystadleuol, fod hwn yn faes lle y gallem weld cryn dipyn o gynnydd yn ein cynnig, ac mae'n cyd-fynd â'n strategaethau cyffredinol—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er enghraifft. A ydych yn cytuno â mi fod Cymru mewn sefyllfa dda i arwain ar yr agenda hon a bod angen i hynny fod yn rhan ganolog o'n strategaeth newydd bellach?

14:45

Diolch am ein helpu i ysgrifennu'r strategaeth. Mae gennym ddrafft yn barod, a byddaf yn sicrhau bod cynaliadwyedd ar y brig, oherwydd yn amlwg, mae twristiaeth werdd a thwristiaeth sy'n darparu ar gyfer y boblogaeth gyfan a phob grŵp oedran—. Mae pobl ag anawsterau symudedd yr un mor bwysig fel ymwelwyr â phobl nad ydynt yn anabl ac yn gallu mwynhau hamdden yng nghefn gwlad. Felly, mae angen inni sicrhau bod yr hyn a ddarparwn yn hygyrch ni waeth i ble y mae pobl yn awyddus i fynd, os ydynt yn gallu symud ac yn gallu manteisio ar y cyfleoedd mynediad. Ond mae angen inni ddangos hefyd fod twristiaeth gynaliadwy yn golygu cynaliadwy i bawb sy'n dymuno manteisio ar y cynnig sydd gennym yng Nghymru.

Ac felly, ar fy ymweliad diweddar â Sir Benfro, y cyfeiriais ato, gwnaeth ymrwymiad un datblygwr i sicrhau bod pobl ag anableddau dwys yn gallu mwynhau cyfleusterau twristiaeth yn Sir Benfro argraff arbennig arnaf. Cynaliadwyedd a hygyrchedd ein cynnig i dwristiaid i'r holl ddinasyddion sy'n dymuno dod yma neu ymweld â chyrchfannau yma, ac mae hynny'n cynnwys pobl yng Nghymru a'r bobl o'r ochr arall i'r bont neu dros y clawdd, beth bynnag y dymunwn ei alw, ac o ble bynnag y dônt, a sut bynnag y dônt i Gymru, er mwyn iddynt deimlo, ar ôl y profiad o fod yng Nghymru, eu bod wedi cael croeso go iawn. A hoffwn ddiolch i arweinydd yr wrthblaid, ac yn wir, i Angela Burns, a fu'n rhan o fy ymweliad â Sir Benfro a dwyrain Sir Gaerfyrddin, ble bynnag yr oeddwn ar y diwrnod; nid wyf hyd yn oed yn cydnabod ffiniau yng Nghymru, heb sôn am rhwng Cymru a Lloegr. Diolch.

Manylebau Swyddi Llywodraeth Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw ychwanegu'r gallu i siarad Cymraeg fel sgìl dymunol ar fanylebau swyddi ar gyfer swyddi gwag yn Llywodraeth Cymru wedi cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y sefydliad? OAQ54342

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu sgiliau iaith Gymraeg mewn hysbysebion swyddi ers nifer o flynyddoedd a gallaf gadarnhau bod cynnydd bach wedi'i weld yn nifer y staff sy'n siarad Cymraeg ers i'r safonau iaith Gymraeg ddod yn weithredol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae swydd wag gan y Llywodraeth ar hyn o bryd yn rhestru'r Gymraeg fel rhywbeth 'dymunol' yn unig, ond mae'n nodi wedyn y dylai'r sawl sy'n cael y swydd allu darllen rhywfaint o ddeunydd sy'n gysylltiedig â'r gwaith gyda chymorth geiriadur, cynnal rhai sgyrsiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith a pharatoi rhywfaint o ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith i gyd yn Gymraeg. I mi, mae hynny'n rhoi'r argraff na fyddai rhywun na allant siarad Cymraeg yn cael eu hystyried yn addas. Mae hyd yn oed swyddi gwag nad ydynt yn rhestru'r Gymraeg fel rhywbeth 'dymunol' yn dal i nodi bod y Llywodraeth yn croesawu ceisiadau gan bobl ddwyieithog. Does bosibl nad yr awgrym felly yw bod llai o groeso i'r rheini nad ydynt ond yn gallu siarad Saesneg wneud cais. Mewn cyfnod o ddiweithdra cynyddol yng Nghymru o dan eich Llywodraeth, onid ydych yn cytuno â mi, oni bai fod sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd benodol, na ddylem wneud unrhyw beth a allai berswadio pobl nad ydynt ond yn siarad Saesneg i beidio â gwneud cais i weithio yma, fel y gallwn gael cronfa mor fawr â phosibl o ymgeiswyr i allu dewis yr unigolyn gorau ar gyfer y swydd?

Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod gennym uchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a bod rhan o hynny mewn gwirionedd yn golygu bod yn rhaid i ninnau hefyd fod yn rhan o'r prosiect trawsnewid hwnnw sy'n mynd rhagddo. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 22 y cant o staff Llywodraeth Cymru yn siarad Cymraeg, sy'n adlewyrchu'r boblogaeth ddemograffig, ond mae cynnydd wedi bod ers 2015.

Yr hyn sy'n amlwg yw bod gennym ni, fel Llywodraeth Cymru, gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd, ac er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid fod gennym staff sy'n gallu darparu hynny. Ar yr un pryd, wrth gwrs, nid ydym am i'r anallu i siarad Cymraeg fod yn rhwystr i bobl rhag gwneud cais i weithio yn Llywodraeth Cymru. Ac yn amlwg, yr hyn y gallwn ei wneud a'r hyn rydym yn ei wneud yw rhoi cefnogaeth gynhwysfawr i bobl i'w galluogi i gael gwersi Cymraeg ar ôl iddynt gael eu penodi. Ymwelais â Nant Gwrtheyrn yr wythnos diwethaf. Roedd pobl o Lywodraeth Cymru, o Gynulliad Cymru, yn cymryd rhan yn y gwersi hynny. Felly, mae digon o gyfleoedd i bobl sy'n ymuno â'r sefydliad ddysgu Cymraeg.

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dwi'n siŵr y byddwch chi yn cytuno, yn unol ag ysbryd strategaeth miliwn o siaradwyr, fod angen symud i ffwrdd o'r drefn hen ffasiwn a simplistaidd a oedd yn nodi gofynion ieithyddol swyddi fel swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol, gan symud i system fwy pwrpasol sy'n nodi lefel y sgiliau ieithyddol sydd eu hangen o un i bump, ac yn gwneud cwrteisi sylfaenol yn ofynnol ar gyfer pob swydd. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi profi cryn lwyddiant yn barod yn gwneud hyn, ond mae'n rhaid imi ddweud bod Llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed, er i weithgor o uwch-swyddogion argymell ym mis Mawrth 2017 y dylai Llywodraeth Cymru symud i'r un cyfeiriad. Fe wnaeth y gweithgor yma hefyd argymell y dylai'r Llywodraeth fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog a gweithio tuag at fabwysiadu'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn weinyddol erbyn 2036. Ond wrth gadarnhau eich bod chi fel llywodraeth yn gweithredu o'r diwedd, yn ystod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu cyn yr haf, dwi'n sylwi mai erbyn 2050 y byddwch chi'n anelu, yn hytrach na 2036 fel oedd yn cael ei argymell yn wreiddiol. A fedrwch chi egluro pam? Diolch.

Beth dwi yn gallu dweud yw bod yna gynllunio ieithyddol manwl nawr yn mynd ymlaen y tu fewn i Lywodraeth Cymru. Bydd swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol yn cyhoeddi'r symudiadau ymlaen a beth yw'r cynllun o ran cyrraedd y targed yna o 2050, a beth yw ein cyfrifoldeb ni y tu fewn i Lywodraeth Cymru tuag at y targed yna. Mae hwn yn gwestiwn i'r Ysgrifennydd Parhaol. Byddwn i'n cymryd mai'r ateb fyddai, os ydych chi eisiau symud ymlaen, ei bod hi'n gwneud synnwyr i symud ymlaen ar yr un pryd, pan fyddwch chi'n gwybod y bydd mwy o blant yn dod allan o ysgolion Cymraeg. Felly, mae hon yn strategaeth hirdymor, ac felly bydd hi'n haws wedyn i recriwtio pobl wrth inni symud ymlaen achos bydd addysg Cymru a nifer y plant sy'n dod allan o ysgolion Cymraeg yn cynyddu. Felly, fe fydd hi'n haws, wedyn, i gael mwy o bobl i ymgeisio am y swyddi yna sydd â'r anghenion ieithyddol y bydd eu hangen.

Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ54304

Diolch yn fawr, David. Mae'ch Cymraeg chi yn ardderchog, a liciwn i'ch clywed chi yn siarad mwy ohoni hi, os gwelwch yn dda. Rydym ni'n cymryd camau pwrpasol mewn llawer o feysydd er mwyn symud tuag at y filiwn. Mae hyn yn cynnwys camau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac i osod seilwaith a chyd-destun i ganiatáu i hynny ddigwydd.

Diolch am yr ateb, Gweinidog. Rwyf eisiau gofyn am deithio i ysgol, thema debyg i gwestiwn Llyr—mae wedi mynd nawr. Mae'n annog disgyblion i gael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ffactor allweddol i sicrhau uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Yn ddiweddar, gwnaeth cyngor Castell-nedd Port Talbot gynnig newidiadau i drafnidiaeth a fyddai'n gweld tâl ychwanegol ar ddisgyblion sydd eisiau parhau efo addysg ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf yn croesawu'r penderfyniad i ohirio'r cynnig yma, ond mae'n bosibl y gallan nhw ailgyflwyno hwn yn y blynyddoedd nesaf. Fe fydd newid Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc yma ac annog mwy i barhau gydag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg heb ofn taliadau teithio ychwanegol. Rwy'n falch eich bod chi wedi cwrdd â'r Gweinidog Addysg i drafod newid y Mesur, ond pryd fydd y newidiadau ar gael i'w gweld ac yn dod yn ddeddfwriaeth?

Diolch am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rôn ni yn pryderu fel Llywodraeth am yr hyn sy'n digwydd, yn arbennig yn ardal Ystalyfera gydag Ysgol Ystalyfera Bro Dur, ac rŷm ni’n falch dros ben i weld bod y llywodraeth leol yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gohirio'r penderfyniad. Wrth gwrs, rŷm ni yn edrych ar y mater yma. Wrth gwrs, mae yna bwysau ariannol ar lywodraeth leol. Rŷm ni’n deall hynny, ond beth dŷn ni ddim eisiau gweld yw ei bod hi’n anoddach i bobl gael eu haddysg chweched dosbarth neu dros-16 drwy gyfrwng y Gymraeg. Dŷn ni ddim eisiau ei gweld hi’n anoddach, Ar hyn o bryd, mae hynny’n bosibl, yn gallu digwydd, ac felly dyna pam rŷm ni’n ceisio gweld sut bydd hyn yn bosibl. Wrth gwrs, os ydych chi eisiau newid guidance, mae hynny’n un peth. Os ydych chi eisiau newid deddfwriaeth, mae hynny’n fwy cymhleth, ac felly rŷm ni’n trafod ar hyn o bryd beth yw’r ffordd orau i fynd ati i edrych ac i sicrhau ein bod ni’n cael diwedd ar y broblem yma.

14:55

Weinidog, mae hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mywyd bob dydd pobl yn bwysig os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei tharged uchelgeisiol. Yn ddiweddar, datgelwyd bod llai na hanner 1 y cant o brentisiaethau yng Nghymru yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau i gynyddu'r cyfleoedd i'r rheini sy'n dymuno dysgu a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig yn ein sector diwydiannol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes y mae'n rhaid i ni roi sylw iddo a dyna pam yr ydym bellach wedi pennu targed ar gyfer 50 y cant o'r rheini sydd â TGAU Cymraeg iaith gyntaf, fod 50 y cant o'r cwrs y maent yn ei ddilyn, yn enwedig mewn rhai sectorau—. Rydym yn dechrau gyda'r sector iechyd, y sector gofal, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rydym yn dechrau gyda'r prentisiaethau hynny yn gyntaf. Felly, rydym yn cymryd camau ymarferol iawn, ac mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn amlwg, yn ein cynorthwyo gyda hyn.

Fydd targed y filiwn o siaradwyr byth yn cael ei gyrraedd, wrth gwrs, heb ein bod ni’n creu chwyldro o fewn y system addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r gyfundrefn ar hyn o bryd yn hollol ddiffygiol, er gwaethaf twf mawr mewn galw, fel dŷn ni wedi’i weld ym Merthyr yr wythnos yma, lle does yna’r un ysgol uwchradd Gymraeg er gwaetha’r galw. Ac wedyn mae rhywun yn gweld y sefyllfa efo cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n sefyllfa syfrdanol a dweud y gwir, pan fyddwn ni’n meddwl yn wreiddiol fod y cyngor ond am greu llefydd newydd i 22 o ddisgyblion dros bedair blynedd i gael addysg Gymraeg. Rŵan, dŷn ni wedi clywed bod y ffigwr yna wedi gwella erbyn hyn, ond mae o’n dangos bod y gyfundrefn yma o gynlluniau strategol addysg Gymraeg yn ddiffygiol a bod angen deddfwriaeth newydd. Wnewch chi felly roi sylw i’r adroddiad yma wnes i ei gyhoeddi yn ystod yr haf gan un o arbenigwyr y byd addysg yng Nghymru, Gareth Pierce, sydd yn gosod yr achos ynglŷn a’r angen am ddeddfwriaeth ar gyfer cryfhau addysg Gymraeg? Buaswn i’n falch iawn tasech chi’n ei ddarllen o ac yn falch iawn o gael eich adborth. Diolch.

Wel, diolch yn fawr. Dwi yn meddwl ein bod ni wedi cymryd camau cadarnhaol. Dwi’n meddwl bod y WESPs wedi gweddnewid y ffordd mae llywodraeth leol yn edrych ar beth yw eu darpariaeth nhw. Mae’r ffaith ein bod ni’n ehangu faint o amser mae’n rhaid i lywodraeth leol gynllunio—. Mae’r ymgynghoriad yma wedi cymryd lle dros yr haf. Ac rŷm ni’n cydweithio'n agos â'r cynghorau lleol yma i sicrhau bod help gyda nhw i fynd drwy’r system, ac rŷm ni wedi rhoi targedau i bob un ohonyn nhw, yn ddibynnol ar ble maen nhw a beth yw eu disgwyliadau nhw. Rŷm ni wedi rhoi £30 miliwn o gyfalaf ychwanegol i helpu pobl ar y daith yma.

Wrth gwrs y byddwn i’n hapus i ddarllen yr hyn sydd gennych chi i’w gynnig a byddwn i’n hapus i edrych ar hynny. Ond fe gawn ni weld yn gyntaf sut mae'r WESPs yma a beth yw’r ymateb wedi bod cyn ein bod ni’n symud ymlaen. Ond dwi’n fwy na hapus i’w ddarllen. Diolch yn fawr.

Cwpan Rygbi'r Byd yn Siapan

5. Pa amcanion allweddol y mae'r Gweinidog wedi'u gosod ar gyfer gweithgarwch hyrwyddo Llywodraeth Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Siapan? OAQ54332

Wel, credaf fod pob un ohonom yn gyffrous iawn, onid ydym, ynglŷn â chwpan y byd? Mae hwn yn gyfle enfawr, yn fy marn i, i ni fel cenedl Gymreig roi cyhoeddusrwydd i ni'n hunain ar lwyfan y byd. Gwn ein bod eisoes wedi anfon cynrychiolwyr bwyd a diod yno, a chafwyd ymateb eisoes ac rydym wedi sicrhau rhai contractau yn barod o ganlyniad i hynny. Mae gennym daith fasnach. Mae gennym 17 o gwmnïau yn cyfranogi yn y daith honno. Mae gennym dargedau clir iawn o ran ein disgwyliadau. Hoffem weld cynnydd mewn allforion o ganlyniad i hynny, ond mae'n ymwneud â mwy na busnes yn unig; mae'n ymwneud â chodi ein proffil. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ddôm 9 troedfedd a fydd yn cael ei osod yng nghanol Japan, a dyma fydd canolbwynt ein gweithgarwch hyrwyddo. Mae hyn yn ymwneud â chodi proffil Cymru yn rhyngwladol. Yn amlwg, bydd bwyd a diod yn rhan allweddol o hynny. Twristiaeth: byddai gweld cynnydd yn nifer y twristiaid hefyd yn rhan allweddol o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl fel budd.

15:00

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rhaid i mi ddweud, mae'n rhaid na wneuthum sylwi, nid oeddwn yn sylweddoli bod gennym ddôm yn Japan. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dal ein hanadl yn aros am y lluniau o'r dôm hwnnw pan fydd yn cyrraedd y glannau hynny. Ond yr hyn sy'n allweddol, ar ddiwedd y broses hon, yw nad ydym yn dweud, 'Gwariodd Llywodraeth Cymru x ac anfon y o bobl yno.' Mae angen i ni fesur pa mor llwyddiannus y buom.

Mae'n braf clywed bod y broses o hyrwyddo bwyd a diod yn dangos difidendau eisoes, ond wrth ddatblygu'r strategaethau hyrwyddo ar gyfer cwpan rygbi'r byd, pwy a ddefnyddioch i gefnogi datblygiad y strategaeth, er mwyn i ni wybod ein bod yn cael y gwerth gorau am ein harian? Oherwydd bydd llawer o wledydd eraill yn ei ddefnyddio fel llwyfan i hyrwyddo'u nwyddau, a'r hyn sy’n hanfodol bwysig, fel yr arferai'r WDA ei wneud, yw sicrhau bod Cymru'n sefyll allan ar lwyfan gorlawn. Felly, a ydych wedi ymgysylltu'n llawn â'r conswl anrhydeddus ar gyfer Japan yma, er enghraifft, ac yn arbennig, cwmnïau Japaneaidd sydd wedi lleoli yma sy’n gallu rhoi'r arbenigedd mewnol hwnnw i ni ynglŷn â sut i ymdrin â diwylliant Japan er mwyn i ni allu agor drysau i'r cwmnïau y bwriadwn eu hanfon yno?

Diolch. Rwy'n credu y dylwn bwysleisio nad dôm fel un Peter Mandelson ydyw; dôm oddeutu 9 troedfedd ydyw. Nid yw mor ddrud â hwnnw, ond rwy'n credu y bydd yn denu llawer iawn o sylw. Rydym wedi cael pobl i noddi’r dôm ac mae'n gyfleuster hollgynhwysol lle mae pethau'n cael eu taflunio ar y waliau ac mae'n gyffrous iawn. Mae llawer o gwmnïau wedi manteisio ar y cyfle i hyrwyddo'u hunain allan yno. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos iawn ag undeb rygbi Cymru ac rwy'n credu eu bod wedi gwneud gwaith gwych hyd yn hyn, os edrychwch ar y croeso a gafodd y tîm yn Kitakyushu.

Ac wrth gwrs, mae gennym bresenoldeb Cymreig yn Japan yn barod. Mae gennym swyddfa yno. Mae gennym 40 mlynedd o sefydlu perthynas â chwmnïau Japaneaidd. Mae gennym Glwb Hiraeth, felly mae llawer o bobl sydd wedi gweithio yng Nghymru wedi dychwelyd i Japan. Mae'r holl rwydweithiau hynny'n cael eu gweithredu o ganlyniad i'r gweithgarwch hyrwyddo hwn. Felly, wrth gwrs, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r conswl anrhydeddus ar gyfer Japan ac mae'r holl rwydweithiau hynny’n fwy prysur o ganlyniad i gwpan y byd.

Y Prawf Gyrru Theori yn Gymraeg

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn ag argaeledd profion a deunydd adolygu ar gyfer y prawf gyrru theori yn Gymraeg? OAQ54328

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau bod profion theori ar gael yn Gymraeg ym mhob canolfan yng Nghymru, a bod y DVSA yn bwriadu cyhoeddi fersiwn ar-lein o’r deunydd adolygu cyn diwedd y flwyddyn. Mae’r deunydd adolygu eisoes ar gael yn Gymraeg mewn ffurf papur.

Wel, dwi bron ag eistedd lawr yn syth a dweud diolch yn fawr iawn am hynny. Mae hwn yn fater sydd wedi mynd yn ôl sbel. Dwi'n meddwl mai yn 2014-15 roeddwn i'n cyfathrebu efo'r DVSA ynglŷn â'r mater yma, achos dŷch chi'n hollol iawn wrth gwrs fod y profion ar gael yn Gymraeg ers blynyddoedd, ond wrth nad ydy'r deunydd ymarfer ar-lein ar gael yn Gymraeg—sypreis, sypreis—beth mae pobl yn ei wneud wrth ymarfer yn Saesneg yw penderfynu gwneud y prawf yn Saesneg hefyd. Dwi'n falch bod hyn yn digwydd rŵan. Mi ges i lythyr, 19 Ionawr 2015 oedd hi:

Fe welwch o'n llythyrau at y Comisiynydd ein bod yn cynnig ail-archwilio costau a buddion posibl datblygu gwasanaeth ar-lein ar gyfer ymarfer y prawf gyrru theori drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae wedi cymryd pedair blynedd a hanner, ond mi wnaf i ei hawlio fe fel buddugoliaeth fach.

15:05

Wel, dwi'n falch eich bod chi'n gallu gwneud hynny. Wrth gwrs, beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth a'n bod ni'n gweld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n gwneud hynny achos, ar hyn o bryd, dim ond 58 o bobl gwnaeth y prawf theori, sef 0.07 y cant. Ac, wrth gwrs, mae pobl yn deall pam mae hynny'n digwydd, ond gobeithiaf nawr y gwelwn ni gynnydd yn hynny o beth. Y cam nesaf, wrth gwrs, yw i gael yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddefnyddio i fynd trwy'r test yna, sef cael app yn Gymraeg. Felly, efallai y byddai'n syniad i'r comisiynydd weld os byddai'n gallu rhoi pwysau ymlaen i gael app yn Gymraeg, achos dyna'r ffordd y mae pobl ifanc yn dysgu o ran pasio'r prawf theori yma. 

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a bydd yr holl gwestiynau'n cael eu hateb gan y Llywydd heddiw. Cwestiwn 1, Mark Reckless.

Carole Cadwalladr

1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y penderfyniad i ddewis Carole Cadwalladr fel siaradwraig Gŵyl y Gelli'r Cynulliad yng ngŵyl GWLAD—Gŵyl Cymru'r Dyfodol? OAQ54306

Mae rhaglen gŵyl GWLAD yn cael ei darparu mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau allanol. Un o'r partneriaid yw Gŵyl y Gelli, sydd wedi cytuno i gynnal darlith Gŵyl y Gelli yng ngŵyl GWLAD, a Carole Cadwalladr fydd siaradwraig darlith Gŵyl y Gelli yn ystod yr ŵyl, sy'n para am y penwythnos mewn ychydig llai na phythefnos. Hi, Carole Cadwalladr, oedd enillydd medal flynyddol Gŵyl y Gelli ar gyfer newyddiaduraeth eleni. 

Carole Cadwalladr sydd wedi bod yn gyfrifol am rai o'r damcaniaethau cynllwyn mwyaf rhyfeddol sy'n ymwneud â refferendwm yr UE. Fe ffoniodd hi fi am y tro cyntaf oddeutu tair blynedd yn ôl ynglŷn â hyn, roedd yn ymwneud â Rwsia a gweithwyr Putin yn cyflyru miliynau o bobl i gefnogi’r ymgyrch i adael drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Yn fwy diweddar, rwy'n credu mai ei honiad yw bod rheolwyr cronfeydd rhagfantoli yn cynllwynio i sicrhau Brexit heb gytundeb oherwydd eu bod wedi lleihau gwerth y bunt. Mae hi ei hun, hyd yn oed, wedi cyfaddef bod llawer o'i herthyglau wedi bod yn anghywir iawn, a buaswn yn cwestiynu’r penderfyniad i ddewis y cyfryw unigolyn i siarad ar ran y Cynulliad. Onid yw hyn yn tanlinellu'r argraff fod y lle hwn yn siarad dros yr ymgyrch aros, yn hytrach na thros bobl Cymru, a bleidleisiodd i adael?

Diolch i chi am eich cyfraniad. Rwy'n tybio eich bod yn swnio’n fwy gwybodus a than gyfaredd Carole Cadwalladr na’r rhan fwyaf ohonom. Buaswn yn dweud bod rhyddid i lefaru a'r hawl i fynegi unrhyw farn yn rhywbeth y mae'r Cynulliad hwn yn ei ystyried yn bwysig iawn ac yn awyddus i'w hyrwyddo, ac mae cymaint o groeso i Carole Cadwalladr siarad yma ag unrhyw un arall. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ei chlywed yn siarad, ac rwy'n gobeithio eich bod chi hefyd.

Mae'n bwysig fod y Cynulliad yn cynnwys sawl ffordd o feddwl a chynifer o siaradwyr â phosibl fel y gall cynifer o bobl ag sy'n bosibl wrando ar yr amrywiaeth honno. Rydym yn sefydliad democrataidd. Ond mae'n ffaith fod Carole Cadwalladr wedi gorfod egluro a chywiro llawer o'i gwaith, ac mae gennyf ddiddordeb mewn deall pam nad oes barn amgen yn cael ei chynnig hefyd, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, dim ond un siaradwr sy'n siarad ar y pwnc penodol hwn. Fel y dywedais, nid wyf yn amau y dylai pobl allu cynnig cynifer o safbwyntiau ag sy'n bosibl, ond mae'n ymddangos bod hon yn farn unochrog gan unigolyn sydd wedi gorfod egluro a chywiro llawer o'r pwyntiau a gyflwynodd yn ei herthyglau.

Rwy’n sicr yn derbyn y pwynt ein bod am gefnogi amrywiaeth barn a chynnig llwyfan i'r holl safbwyntiau hynny, yn y Siambr hon ac yn y gwaith sy'n digwydd ar ein hystâd yn gyffredinol. Mae hon yn ddarlith sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth â Gŵyl y Gelli. Enillydd y wobr newyddiaduraeth yng Ngŵyl y Gelli eleni oedd Carole Cadwalladr a hi yw'r darlithydd gwadd. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig cofio ei bod yn dod o Gaerdydd. Mae’n newyddiadurwr ymchwiliol sydd wedi ennill llawer o wobrau. Pa un a ydych yn cytuno â'i barn ar unrhyw fater y mae'n ei arddel, mae'n rhywun y gallwn fod yn falch ohoni a hithau’n Gymraes sydd wedi cael cryn ganmoliaeth a sylw gan gefnogwyr yr ymgyrch i aros, sydd yr un mor ddilys yn y lle hwn â chefnogwyr yr ymgyrch i adael. Ac rwy'n eich annog i gyd, os oes tocynnau ar ôl, oherwydd mae wedi bod yn boblogaidd iawn—pob tocyn sydd ar ôl—rwy'n eich annog i gyd, os gallwch ddod o hyd i’r amser, i wrando ar Carole Cadwalladr a gofyn cwestiwn iddi, efallai, yn hytrach na gofyn y cwestiwn hwn i mi. [Chwerthin.

15:10
Dathlu 20 Mlynedd o Ddatganoli

2. A wnaiff y Comisiwn gadarnhau pam nad yw Ei Mawrhydi y Frenhines, yn wahanol i Senedd yr Alban, wedi cael gwahoddiad i'r Cynulliad i nodi dathliadau 20 mlynedd o ddatganoli? OAQ54309

Cytunodd y Comisiwn ar ei raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli ym mis Mawrth 2019. Drwy'r rhaglen, cafwyd cyfle i nodi'r pen-blwydd ac i bobl Cymru drafod eu dyfodol nhw a dyfodol democratiaeth yng Nghymru. Nid oes dim ymweliadau brenhinol wedi cael eu trefnu ar gyfer eleni. 

Rwy'n credu ein bod wedi colli cyfle drwy beidio ag estyn y gwahoddiad. Mae'n ddrwg gennyf, syrthiodd fy offer cyfieithu o fy nghlust wrth i chi wneud eich sylwadau agoriadol. Ond rwy'n credu fy mod yn gywir yn dweud na chafodd pennaeth y wladwriaeth wahoddiad i ddod i'r ddeddfwrfa hon, y Senedd hon, sy'n rhan bwysig o gyfansoddiad democrataidd y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod hwnnw wedi bod yn gyfle a gollwyd ar ran y Comisiwn.

Rwy'n sylweddoli ein bod yn dod at ddiwedd y flwyddyn erbyn hyn, ac mae'n debyg ei bod yn llawer rhy hwyr i gyhoeddi gwahoddiad o'r fath, ond ni waeth a ydych yn weriniaethwr neu'n frenhinwr, mae'n ffaith ein bod yn byw mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol, ac rwy'n credu mai ni sy'n waeth ein byd o beidio â chael pennaeth y wladwriaeth i'n cyfarch yn ein hugeinfed flwyddyn, rhywbeth a ddathlwyd yn briodol gan y Comisiwn. A buaswn yn gofyn i'r Comisiwn feddwl am hyn o bosibl ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, digwyddiadau allweddol, ac ystyried cael pennaeth y wladwriaeth yn westai y byddem ei heisiau yn ein plith i'n cyfarch fel Senedd Cymru.

Do, wrth gwrs, mynychodd y Frenhines y digwyddiadau yn Senedd yr Alban fel rhan o'i hwythnos Holyrood ar ddechrau mis Gorffennaf. Gallaf gadarnhau nad anfonwyd unrhyw wahoddiad ac ni thrafodwyd y mater penodol hwn yn y Comisiwn. Wrth gwrs, gofynnir i bennaeth y wladwriaeth fynychu agoriad pob Cynulliad a bod yn rhan o seremoni agoriadol y Cynulliad, fel y gwnaeth dair blynedd yn ôl. Byddaf yn ystyried y farn rydych wedi'i mynegi. Yn amlwg, mae'n hwyr i wneud hynny yn awr. Bydd dathliadau, gobeithio, ymhell i'r dyfodol lle bydd angen ystyried a gynigir y gwahoddiad hwnnw i bennaeth y wladwriaeth ai peidio. Mae'n debyg mai mater i Gomisiynau'r dyfodol fydd hynny bellach wrth ddathlu dathliadau eraill a gawn yn y dyfodol, ond rwy'n derbyn bod y farn honno'n un rydych wedi'i mynegi wrthyf yn awr. Fel y dywedais, cafodd ein penderfyniadau ar hyn eu gwneud ym mis Mawrth eleni, ond diolch i chi am fynegi'r farn honno ac am ei nodi, ac yn sicr bydd yn rhywbeth y bydd angen atgoffa Comisiynau'r dyfodol yn ei gylch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bosibl fod y cwestiynau hyn wedi'u paru, mewn gwirionedd, felly mae'n ddrwg gennyf os byddaf yn ymddangos ychydig yn ailadroddus.

GWLAD—Gŵyl Cymru'r Dyfodol

3. Pa ymdrech a wnaed i sicrhau bod amrywiaeth eang o siaradwyr yn rhan o ŵyl GWLAD—Gŵyl Cymru'r Dyfodol? OAQ54315

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a darparwyr allanol i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau yn ystod gŵyl GWLAD yma yn y Senedd ddiwedd mis Medi, a hefyd mewn digwyddiadau rhanbarthol a fydd yn digwydd yn Nhachwedd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Wrecsam.  

Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, mae GWLAD yn cael ei hysbysebu fel digwyddiad dechrau sgwrs a fydd yn annog trafodaeth am ddyfodol Cymru. Nawr, er nad yw'r ŵyl wedi bod eto, gallwch yn sicr fod yn falch ei bod wedi cyflawni ei nod yn dechnegol—mae'n bendant yn dechrau sgyrsiau yn awr. Yn anad dim, mae hyn oherwydd rhai o'r gwahoddiadau a roddwyd i siaradwyr yn y digwyddiad. Felly, rwyf wedi dychryn braidd yn sgil y diffyg sylw a roddwyd i gydbwysedd teg o siaradwyr, oherwydd mae cynnwys Carole Cadwalladr yn debygol o weld y drafodaeth yn crwydro i gyfeiriad penodol mewn perthynas â Brexit, ac mae pawb ohonom yn gwybod ei bod yn siarad mewn ffordd wleidyddol iawn. Felly, mewn ymateb i'r cwestiynau sydd wedi'u gofyn yma a chwestiynau sydd wedi'u codi gyda mi, pa gamau a gymerwyd i wrthsefyll hyn? Dywedwch wrthym, o ran cydbwysedd, pwy arall a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr ŵyl fel y gallwn sicrhau cynrychiolaeth wirioneddol gytbwys yn y digwyddiad hwn?

15:15

Gallaf gadarnhau bod Guto Harri, a oedd yn arfer gweithio i Boris Johnson o'r Telegraph, ymysg y siaradwyr a wahoddwyd i gymryd rhan yn Gwlad, ac mae'n rhaid i mi ddweud—ac fe'i clywais yn cael ei ddweud wrth i chi siarad, Janet Finch-Saunders—fod trafodaeth wleidyddol yn rhywbeth rydym yn rhagori arni yn y Siambr hon, yn yr adeilad hwn, ac mae angen i ni hyrwyddo mwy o drafodaeth wleidyddol yng Nghymru yn hytrach na llai ohoni. Felly, mae'r rhestr o siaradwyr—mae rhai yn siaradwyr, rhai yn gyfranwyr, bydd rhai'n aelodau o'r cyhoedd, gobeithio, a ddaw i'r adeilad hwn, a chymryd rhan mewn dadl ddemocrataidd am y tro cyntaf. Dylid annog hynny i gyd, ac rwy'n annog pob un ohonoch, os yn bosibl, i fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau a gofyn i'ch etholwyr ac eraill o'ch cwmpas i fynychu cynifer o ddigwyddiadau—. Mae angen i ni gael gŵyl ddemocratiaeth yn y lle hwn ac ar yr adeg hon.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiynau amserol y prynhawn yma'n cael eu hateb gan y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth. John Griffiths.

Gwaith Dur Orb yng Nghasnewydd

1. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ers cyhoeddi'r bwriad i gau gwaith dur Orb yng Nghasnewydd? 339

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r cwmni i ddeall beth y mae'r cyhoeddiad hwn yn ei olygu a beth yw'r ffordd orau o gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Rwy'n ddiolchgar am ymwneud Llywodraeth Cymru ac yn wir, wrth gwrs, yr ymgyrch gref gan yr undebau llafur ar ran y gweithlu a'r ymrwymiad a gafwyd na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol ond adleoli, o bosibl, yng ngweithfeydd Tata yn Llanwern a Phort Talbot. Ond yr ymgyrch sylfaenol, wrth gwrs, yw cadw'r gwaith ar agor a buaswn yn ddiolchgar am rywfaint o wybodaeth am weithgareddau Llywodraeth Cymru o ran gweithio gyda'r undebau llafur a'r gweithlu, gyda'r diwydiant, a chyda Llywodraeth y DU i edrych ar y posibilrwydd o wneud y buddsoddiad angenrheidiol, y nodwyd gan Tata ei fod yn £50 miliwn, rwy'n credu, i gadw'r gwaith ar agor a'i gyfarparu ar gyfer darparu dur trydanol ar gyfer y ceir trydan y mae pawb ohonom yn disgwyl eu gweld yn cael eu cynhyrchu en masse yn y dyfodol agos iawn. Yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedais fod hanes y gwaith hwnnw a'r gweithlu wedi ymwneud â hyblygrwydd, addasu i newidiadau, datblygu sgiliau newydd, dulliau newydd o gynhyrchu, cynnyrch newydd. Felly, mae hanes o arloesi ac addasu a hyblygrwydd yno, a chredaf fod hynny'n addawol iawn ar gyfer y dyfodol. Y cynhwysyn coll, mewn gwirionedd, yw'r buddsoddiad angenrheidiol, a dyna lle yr hoffwn yn fawr gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru eich bod yn gweithio gyda'r gweithlu, yr undebau llafur, Llywodraeth y DU a'r diwydiant i hwyluso ac annog y buddsoddiad hwnnw.

Diolch am y cwestiwn. Fel y dywedaf, rydym wedi bod mewn trafodaethau agos gyda'r cwmni a chyda'r undebau llafur. Siaradodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, â'r cwmni ar unwaith pan gyhoeddwyd y newyddion ac ers hynny mae swyddogion wedi bod yn y gwaith yn lleol i gyfarfod â'r tîm yno. Rydym wedi cael sicrwydd y bydd y gweithlu presennol yn cael ei adleoli'n llawn, yn ôl yr hyn a ddeallwn, o fewn Tata—ac na fydd yr un gweithiwr sydd eisiau parhau i weithio yn cael ei adael heb gyfle—sy'n rhywfaint o gysur, er, wrth gwrs, mae'n destun gofid mawr fod y cyfleuster wedi'i golli i Gasnewydd ac i'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Yn amlwg, penderfyniad i Tata yw hwn. Rydym wedi rhoi swm sylweddol o arian i gefnogi Tata. Oni bai am ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ni fyddai Tata yn cynhyrchu dur yn y DU o gwbl mwyach, yn sicr pe bai'r mater wedi cael ei adael i Lywodraeth y DU, a gynigiodd lawer o eiriau ond fawr o weithredoedd ar adeg yr argyfwng dur yn ôl yn 2016. Felly, rwy'n credu bod gennym hanes cadarn o ymyrryd i wneud yn siŵr fod cynhyrchiant dur yn aros yng Nghymru. Wrth gwrs, mae safle Orb wedi bod ar werth ers Mai 2018. Mae'r cwmni'n dweud wrthym eu bod wedi bod yn rhedeg ar golled ac nid ydynt wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd ymarferol ymlaen ar gyfer y gwaith. Nid yw'n gywir dweud bod y dur a wneir yn Orb yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cerbydau trydan, fel y mae rhai cyfryngau wedi dweud. Cynhyrchir y math hwnnw o ddur gan ffatri Tata yn eu gwaith yn Sweden, ond nid yw'n cael ei gynhyrchu yn Orb, ac er mwyn paratoi'r ffatri i gynhyrchu'r dur hwnnw, byddai angen buddsoddiad sylweddol, ac nid oedd Tata yn credu bod modd cyfiawnhau hynny, o ystyried cyflwr y farchnad, o ystyried yr ansicrwydd o ran amodau masnachu, ac o ystyried, hefyd, yr ansicrwydd yn y farchnad mewn perthynas â cherbydau trydan—efallai nad yw'r galw yno ar hyn o bryd ac efallai na fydd yno am gryn dipyn o amser. Felly, penderfyniad i Tata yw hwn yn y pen draw. Ni allant hwy, a hwythau'n gwmni sy'n gwneud elw, ddod o hyd i ffordd o wneud elw o fuddsoddiad pellach yn y gwaith hwn. Rydym yn gweithio gyda hwy i geisio sicrhau bod gan y gweithlu presennol ddyfodol mor ffyniannus â phosibl, ond rydym yn parhau i weithio gyda John Griffiths, fel yr Aelod Cynulliad, y cyngor lleol a'r undebau llafur, i weld a oes ffordd arall ar gael o sicrhau bod rhywfaint o weithgynhyrchu'n parhau i ddigwydd ar y safle. Mae rôl i Lywodraeth y DU yn y fan hon i gamu i mewn ac edrych yn strategol ar y sefyllfa. Rydym wedi bod yn galw arnynt i gyflwyno cytundeb sector i'r sector dur. Mae'r undebau llafur ac UK Steel wedi gwneud galwadau tebyg, ac nid ydynt wedi gwneud eu rhan. Felly, o ran rhagolygon mwy hirdymor y diwydiant yn y DU, mae angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i sicrhau bod ganddo ddyfodol hyfyw.

15:20

Weinidog, mae'r newyddion bod hyd at 380 o swyddi mewn perygl yng ngwaith Orb Tata Steel yn ergyd drom i'r gweithwyr a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol ac i Gasnewydd yn gyffredinol. Mae Tata wedi dweud eu bod yn gobeithio cynnig swyddi i'r rheini yr effeithiwyd arnynt mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, a gaf fi ofyn pa gymorth y byddwch yn ei roi i'r gweithwyr sy'n gallu adleoli, a sut y byddwch yn sicrhau bod y gweithwyr sy'n methu symud neu'n anfodlon i wneud hynny yn ymwybodol o'r cymorth a'r posibiliadau hyfforddi sydd ar gael fel y gallant chwilio am gyflogaeth newydd yn rhywle arall?

At hynny, rwy'n deall bod Tata Steel wedi bod yn ceisio dod o hyd i brynwr ar gyfer Orb Electrical Steels. A gaf fi ofyn, Weinidog, a yw Tata wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am gymorth i ddod o hyd i brynwr? Ac os na, a wnewch chi roi sicrwydd y bydd pob cymorth yn cael ei ddarparu i Tata industries, hyd yn oed os yw hynny'n digwydd yn hwyr yn y dydd? Diolch.

Diolch. Gallaf gadarnhau nad yw Tata wedi gofyn am unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru, er ein bod yn gweithio'n agos gyda hwy i sicrhau bod unrhyw gymorth sydd ei angen ar y gweithlu yn cael ei ddarparu.

Mae'n werth nodi bod ansicrwydd ynghylch y farchnad y mae Tata yn gweithredu ynddi wedi cyfrannu at eu penderfyniad i gau'r gwaith. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yna bydd mewnforion dur i'r UE yn wynebu cwota o 25 y cant—mae hwnnw'n gynnydd o chwarter ar bris dur sy'n cael ei allforio i Ewrop. Ac yn yr un modd, os ceir sefyllfa Sefydliad Masnach y Byd, fel y clywn yn aml gan Mark Reckless ac eraill, i ddarparu rhyw fath o ateb masnach rydd gwladaidd i ddyfodol economi'r DU, gallai hynny olygu bod mewnforion o Tsieina yn gorlifo marchnad y DU wrth i'r tariffau arnynt gael eu gostwng. Felly, mae'r ddau senario Brexit—tariffau i mewn i'r UE neu dariffau'n dod oddi ar ddur o Tsieina a ddaw i mewn—yn ffactorau real iawn yn y penderfyniadau y mae'r cwmnïau masnachu byd-eang hyn yn eu gwneud mewn perthynas â dyfodol y diwydiant dur. Rydym yn siarad yma mewn termau eang, ideolegol am Brexit, ond dyma realiti caled ac ymarferol effaith y dadleuon a gawn ar ddiwydiant Prydain. Nid trafodaethau heb fod neb ar eu colled yw'r rhain, ac mae diwydiant dur y DU eisoes yn dioddef o agwedd laissez-faire Llywodraeth y DU sy'n gwrthod ymyrryd i'w helpu gydag ymchwil a datblygu, yn gwrthod ymyrryd i'w helpu gyda chostau ynni, ac yn gwrthod rhoi dyfodol hyfyw iddo, a chefnogi'r gofynion caffael y mae UK Steel a'r undebau llafur wedi galw amdanynt. Ac yn awr, ar ben y diffyg cymorth iddynt, maent yn cyflwyno ansicrwydd o ran yr amodau masnachu a dyna'i diwedd hi yn yr achos hwn.

Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers llai na blwyddyn ac rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith rydym wedi gorfod trafod colli swyddi yn ein cymunedau yn y Siambr hon. Schaeffler yn Llanelli, Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rehau ar Ynys Môn, Quinn Radiators yng Nghasnewydd ac yn awr Orb yng Nghasnewydd eto—gyda'i gilydd, mae'n fwy na 3,000 o swyddi mewn mater o fisoedd. Felly, Ddirprwy Weinidog, hoffwn ofyn beth sy'n mynd o'i le gyda strategaeth ddiwydiannol y Llywodraeth a beth yw eich dadansoddiad o'r rhesymau pam fod yr holl weithfeydd hyn wedi cau mewn cyn lleied o amser.

Mewn perthynas â chyhoeddiad Orb, hoffwn ofyn pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r gweithwyr sy'n wynebu cael eu diswyddo ac a fyddwch yn cynnig cymorth iddynt gael taliadau diswyddo mewn achosion o ddiswyddiadau anwirfoddol. Sut y byddwch yn eu helpu i gael swyddi newydd, yn enwedig os yw hynny'n galw am ailhyfforddi? Ac yn olaf, sut y bwriadwch ddwyn Tata i gyfrif am dorri eu haddewid i weithwyr y byddai eu swyddi'n ddiogel yn gyfnewid am doriadau pensiwn? Dywedodd un gweithiwr wrth Newyddion 9 ei fod yn teimlo eu bod wedi dweud celwydd wrtho. Felly, a ydych wedi cynnal cyfarfod gyda Tata i ailadrodd y dicter cyfiawn hwn? Rwy'n credu y byddai pawb yn y Siambr hon yn gwerthfawrogi atebion i'r cwestiynau hyn ynghyd ag esboniad o sut y bwriadwch sicrhau na fydd mwy o swyddi'n cael eu colli yn y dyfodol agos.

15:25

Wel, rwy'n credu bod nifer o'r cwestiynau hynny eisoes wedi cael eu hateb mewn atebion blaenorol, felly nid wyf am eu hailadrodd. O ran y darlun cyffredinol o'r newidiadau yn yr economi a dirywiad rhai cwmnïau gweithgynhyrchu—soniodd yr Aelod am Schaeffler yn fy etholaeth a Ford—mewn sawl ffordd, rydym yn wynebu storm berffaith, ac rwy'n casáu'r trosiad hwnnw a orddefnyddir, ond mae'r newidiadau yn y sector modurol yn amlwg yn cael effaith aruthrol wrth i'r galw am ddiesel ddisgyn. Ynghyd â'r ansicrwydd masnachu y soniais amdano eiliad yn ôl, nid yw'n rhoi hyder i fusnesau fuddsoddi, yn enwedig y posibilrwydd o dariffau sylweddol uwch wrth allforio o'r DU. Felly, mae'r effeithiau hyn ar y cyd, sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, yn amlwg yn cael effaith enfawr. Er gwaethaf hynny, hyd yn hyn, mae'r ffigurau cyflogaeth wedi bod yn galonogol, ond wrth gwrs, maent yn dameidiog.

Rydym yn gweithio'n galed i ddod o hyd i farchnadoedd newydd a hefyd, ar gyfer gweithlu'r dyfodol, ddydd Llun byddwn yn cyhoeddi adroddiad yr Athro Phil Brown ar ddyfodol awtomeiddio a digido, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn sicrhau bod economi Cymru yn y sefyllfa orau i fanteisio ar ddiwydiannau newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn hynod siomedig wrth gwrs o glywed bod rhagor o swyddi wedi'u colli eto yn ne Cymru, ac yn amlwg rwy'n cydymdeimlo â'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Rydym yn ymwybodol wrth gwrs fod nifer o fusnesau'n cael anawsterau ar hyd coridor yr M4—crybwyllwyd rhai o'r busnesau yng nghwestiwn Delyth Jewell wrth iddi amlinellu rhai o'r busnesau yr effeithiwyd arnynt. Tybed i ba raddau y tybiwch chi fod arafwch Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r tagfeydd a'r problemau trafnidiaeth ar hyd yr M4 wedi cyfrannu at benderfyniad Tata. A pha gamau a gymerwch, Ddirprwy Weinidog, i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r problemau cysylltedd ehangach y buaswn yn dweud eu bod yn tagu busnesau mewn rhanbarth allweddol hynod o bwysig yng Nghymru?

Wel, byddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw dystiolaeth sydd gan Russell George fod y penderfyniadau a nododd wedi cael unrhyw effaith o gwbl. Rwy'n credu ei fod yn taflu llwch i'n llygaid yma, yn ceisio taflu'r bai am fethiant ei Lywodraeth ei hun yn San Steffan i ymyrryd a helpu'r diwydiant dur, gan greu ansicrwydd mawr yn ein hamgylchedd masnachu drwy hyrwyddo'n agored y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, rhywbeth a fyddai'n cynyddu tariffau 25 y cant, a'r ffaith fod llawer yn ei blaid, gan gynnwys Jacob Rees-Mogg, yn siarad yn optimistaidd am Sefydliad Masnach y Byd, y gŵyr pawb ohonom y byddai'n gorlifo'r farchnad â dur o Tsieina. Felly, yn hytrach na cheisio meddwl am ffyrdd o feio Llywodraeth Cymru am hyn—nid wyf yn credu y bydd unrhyw un o'r gweithwyr yn cael unrhyw gysur o'r sgwrs hon—mae angen i ni ganolbwyntio ar sut y gallwn eu cefnogi. [Torri ar draws.] Mae'n dweud o'i sedd mai gofyn cwestiwn yn unig a wnaeth; mae'n gwybod yn iawn beth y mae'n ei wneud. Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod gan unrhyw un o'r penderfyniadau a nododd ddim oll i'w wneud â hyn o gwbl. Yn wir, nid yw Tata wedi sôn amdanynt wrthym; nid yw Tata wedi gofyn am unrhyw gymorth gennym. Mewn cyferbyniad, maent wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer cytundeb sector dur ac nid ydynt wedi cael unrhyw beth yn ôl.

Ni ofynnwyd cwestiwn amserol 340.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch. Roedd diwrnod Owain Glyndŵr ar 16 o Fedi yr wythnos hon. Mae'n werth cydnabod Owain Glyndŵr eleni yn arbennig, gan fod Cymru, yn llythrennol, yn gorymdeithio. Mewn tair gorymdaith All Under One Banner yn olynol, yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr, mae miloedd o bobl wedi gorymdeithio dros sofraniaeth ac annibyniaeth ein gwlad. Roeddwn yn falch o gymryd rhan mewn dwy o'r gorymdeithiau, yng Nghaerdydd a Chaernarfon—cymaint o obaith ac optimistiaeth wych ynglŷn ag adeiladu Cymru gyfiawn a rhydd.

Roedd Owain Glyndŵr yn weledydd, ymhell o flaen ei amser. Roedd ganddo weledigaeth o Gymru eangfrydig, ddiogel a hyderus o'i lle yn y byd. Cyferbynnwch hynny â'r deyrnas ranedig sydd gennym yn awr, lle nad yw Cymru'n cyfrif. Nid oes ryfedd fod cynifer o bobl bellach yn dewis gweld Cymru'n sefyll ar ei thraed ei hun. Ychydig iawn y mae'r Cynulliad hwn yn ei wneud i gydnabod arwyddocâd hanesyddol ein gwaredwr cenedlaethol, ond gwn y bydd hyn yn newid pan ddaw'r sefydliad hwn yn senedd sofran i wladwriaeth Gymreig. Gyda mudiad cenedlaethol Cymreig mor fywiog, cadarnhaol a chynhwysol wrthi'n gorymdeithio bellach, mae'r diwrnod hwnnw'n nesáu. Diolch yn fawr.

15:30
6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Eitem 6 ar yr agenda yw cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17 mewn perthynas â'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). A galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7134 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai trafodion Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Cynulliad Cyfan.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor

Eitem 7 yw cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor, a galwaf ar y Llywydd eto i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7136 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Gwasanaethau endosgopi yng Nghymru'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.

Cynnig NDM7132 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau endosgopi yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ebrill 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau endosgopi yma yng Nghymru. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ymchwiliadau manwl a gynhaliwyd gan y pwyllgor, a thros y misoedd nesaf byddwn yn cyflwyno dadleuon byr ar ein canfyddiadau mewn nifer o feysydd, fel deintyddiaeth, hepatitis C a gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd i wasanaethau endosgopi oherwydd, ar yr adeg honno, roedd mwyafrif y byrddau iechyd yng Nghymru yn methu â chyflawni amseroedd aros am brofion a all wneud diagnosis o ganser y coluddyn. Dywedwyd wrthym hefyd fod nifer frawychus o fach o bobl gymwys yn cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio coluddion. Sgrinio ydy’r ffordd orau i wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, ond, rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, dim ond 55 y cant o’r bobl sy’n gymwys i sefyll y prawf sgrinio coluddyn yng Nghymru a gwblhaodd y broses. Mae nifer y rhai sy’n manteisio yn uwch ymhlith menywod o'i gymharu â dynion. Mae cydberthynas gref hefyd ag amddifadedd, oherwydd mae nifer y rhai sy’n cymryd rhan yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 45 y cant o’i gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, sy’n 63.3 y cant.

Ynglŷn â chyflwyno'r prawf FIT, ers mis Ionawr 2019, dechreuodd Cymru ddisodli’r prawf sgrinio cyfredol gyda phrawf symlach a chywirach o’r enw prawf imiwnogemegol ysgarthol—y prawf FIT—y disgwylir iddo gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio. Mae pryderon, fodd bynnag, bod unedau endosgopi yn ysbytai Cymru eisoes yn ei chael hi’n anodd ymdopi efo'r galw, ac felly, er bod y prawf sgrinio newydd yn welliant cadarnhaol, gallai roi rhagor o straen ar wasanaeth sydd eisoes wedi’i or-ymestyn.

Rydym yn derbyn bod yn rhaid rheoli’r galw’n briodol, ond rydym yn siomedig bod y trothwyon ar gyfer y profion imiwnogemegol ysgarthol yn is yng Nghymru, ac rydym yn pryderu y bydd Cymru, heb gynllun clir i wneud y defnydd gorau o’r rhaglen, yn cwympo ymhellach y tu ôl i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Hoffem pe bai Llywodraeth Cymru, drwy’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol, yn gosod cerrig milltir ar gyfer sicrhau bod y rhaglen yn cael ei defnyddio i’r eithaf, o ran oedran a sensitifrwydd, fel y gellir mesur yn ôl y cerrig milltir hyn a monitro cynnydd yn y gobaith y gellir sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o’r rhaglen cyn 2023. 

Gan droi at amseroedd aros, yn 2015, ymrwymodd Llywodraeth Cymru arian ychwanegol i wella amseroedd aros am brofion diagnostig, gan gynnwys ar gyfer pobl sy'n aros am driniaethau endosgopi ar ôl cael canlyniad sgrinio cadarnhaol. Darparwyd cyllid ychwanegol hefyd yn 2016-17. Fodd bynnag, er gwaethaf y cyllid ychwanegol hwn, mae ystadegau amseroedd aros yn dal i beri pryder, ac mae angen ymrwymiad clir y bydd byrddau iechyd yn cyrraedd y targed amseroedd aros uchaf am brofion diagnostig, sef wyth wythnos, erbyn diwedd 2019.

Disgrifiodd tystion yn ystod ein hymchwiliad ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â chapasiti fel dull adweithiol a thymor byr. Rhoddodd nifer o fyrddau iechyd fanylion am ysbytai sy’n contractio darparwyr allanol preifat ar gyfer darparu gwasanaethau’n fewnol i wneud triniaethau endosgopi o fewn y bwrdd iechyd ar benwythnosau, yn ogystal â rhoi gwaith ar gontract allanol, lle caiff cleifion eu hanfon at ddarparwyr preifat mewn safleoedd y tu allan i’r bwrdd iechyd, i ymdopi efo’r galw. Er bod angen rhagor o fuddsoddiad i reoli amseroedd aros, mae angen dull mwy cynaliadwy hefyd, gan fod rhoi gwaith ar gontract allanol a chontractau i ddarparu gwasanaethau’n fewnol yn ddrud ac nid yw’n darparu datrysiad hirdymor.

At y gweithlu nawr: mae angen newidiadau i natur a sgiliau’r gweithlu presennol, ac ymrwymiad nid yn unig i gynyddu nifer y gastroenterolegwyr ac endosgopyddion meddygol eraill, ond hefyd i ddatblygu endosgopyddion nyrsio ac endosgopyddion anfeddygol eraill. Roedd y pwyllgor yn siomedig, felly, i glywed bod rhai nyrsys yn cael cyflogau llai nag eraill yng Nghymru i wneud gwaith endosgopi. Mae angen mynd i’r afael efo hyn.

Y neges gan dystion oedd bod angen ffocws a brys i sicrhau nad yw Cymru ar ei hôl hi o’i chymharu â chenhedloedd eraill. Roedd Bowel Cancer UK, er enghraifft, eisiau gweld cynllun gweithredu cenedlaethol, gyda cherrig milltir allweddol, fel y gallai Llywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif am gyflawni a gweithredu’r cynllun. Nododd tystion y pwynt hefyd y bu nifer o adolygiadau, a bod y materion, neu'r problemau, yn amlwg. Gweithredu ac atebion yw’r hyn sydd ei angen nawr.

Felly, gwnaethom un argymhelliad cyffredinol yn ein hadroddiad: erbyn mis Hydref 2019, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol i greu a chyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol sy’n mynd i’r afael efo’r galw nawr ac yn y dyfodol am wasanaethau sydd ag amserlenni a thargedau clir ar gyfer gwella. Rwy’n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog i’n hadroddiad, a dwi’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac wedi ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau endosgopi o fewn yr amserlen chwe mis a nodwyd gan y pwyllgor. Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen endosgopi genedlaethol yn gynharach heddiw. Dwi'n falch bod y cynllun gweithredu wedi ei ddrafftio, ac edrychaf ymlaen at ei gyhoeddi, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor.

I gloi, fel y dywed y Gweinidog ei hun, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau endosgopi fel y gall pobl gyrraedd yr archwiliadau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Mae’n bryd gwneud cynnydd nawr, a hyderaf y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r arweinyddiaeth gref sydd ei hangen i gyflawni’r agenda hwn. Diolch yn fawr.

15:35

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor am wneud yr adroddiad hwn. Yn anffodus, roeddwn yn absennol ar y diwrnod y gwnaethoch yr adroddiad undydd, ond rwyf wedi darllen eich adroddiad, rwyf wedi darllen ymateb y Llywodraeth, ac wrth gwrs rwy'n adlewyrchu sylwebaeth llawer o fy etholwyr sy'n dod i fy ngweld mewn perthynas â'r mathau hyn o wasanaethau. A sylwais ar ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor, ac a bod yn blwmp ac yn blaen, roeddwn yn meddwl bod rhywfaint ohono—dim ond rhywfaint ohono—yn wan iawn, oherwydd rydych wedi derbyn yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor. Fodd bynnag, rydych yn dweud bod gwasanaethau endosgopi o dan bwysau oherwydd newidiadau yn y boblogaeth, trothwy is ar gyfer archwiliadau canser, galw cynyddol am drefniadau cadw gwyliadwriaeth, a'r angen i ehangu rhaglen sgrinio'r coluddyn. Mewn ymateb, buaswn yn dweud, fan lleiaf, y dylai'r gwasanaeth allu ymateb yn awr i amcanion rhaglen sgrinio'r coluddyn. O ystyried bod cyfradd y rhai a gaiff eu sgrinio mor isel—55 y cant yn unig—dylai fod rhywfaint o slac yn y system eisoes beth bynnag. Mae'r cysyniad o anelu at gael cyfradd uwch o bobl wedi'u sgrinio heb sicrhau bod yr adnoddau wrth law i ddarparu'r rhaglen yn baradocs llwyr. A hoffwn nodi hefyd, er gwaethaf yr argymhellion a wnaed mor bell yn ôl â 2013, mai ychydig o gynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â'r heriau y mae gwasanaethau endosgopi ledled Cymru yn eu hwynebu. Felly, Weinidog, nid yw'r heriau a nodwch yn eich ymateb i'r pwyllgor yn newydd o gwbl. Mae awgrymu fel arall yn anonest ac yn bwysicach na dim, mae'n caniatáu rhywfaint o raff nad ydynt yn ei haeddu i'r rhai sy'n gyfrifol am gynllunio gwasanaethau. Gwelaf fod y grŵp gweithredu endosgopi eisiau i'r Llywodraeth fabwysiadu dull mwy cyfarwyddol, a phob clod i chi am symud i'r cyfeiriad hwnnw. Ond mae'n codi cwestiynau ynglŷn â'r gallu i gynllunio a darparu yn y byrddau iechyd.  

O ystyried yr argyfwng sy'n wynebu gwasanaethau endosgopi, Weinidog, a allwch chi gyflymu'r broses o gyflwyno cynllun cenedlaethol? Cafodd yr ymrwymiad ei wneud ym mis Medi 2018, ond, flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r cylch gorchwyl yn dal i gael ei gwblhau. Nid yw'n gyflym iawn ac yn y cyfamser, rwy'n pryderu bod gwasanaethau'n parhau'n ddisymud a bywydau pobl yn parhau i gael eu heffeithio. Os oes unrhyw ffordd y gallwch symud y broses honno yn ei blaen yn gyflymach fel y gallwn ddarparu gwasanaethau endosgopi da ledled Cymru, credaf y byddai hwnnw'n gam cadarnhaol iawn ymlaen.  

Gallai cyflwyno'r Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion wella'r nifer sy'n manteisio ar y rhaglen sgrinio. Dylai wella cyfraddau canfod canser y coluddyn a pholypau cyn-ganseraidd yn y coluddyn—fodd bynnag, ceir paradocs eto, oherwydd yr amseroedd aros annerbyniol, ac mae angen ymrwymiad clir gan y byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r broblem hon, gan na all unrhyw raglen weithio heb fod y seilwaith yn ei le a phersonél wedi'u hyfforddi'n briodol.

Mae'r gweithlu presennol yn enbyd o brin o gastroenterolegwyr ac endosgopwyr meddygol ac anfeddygol eraill. Mae nyrsys sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau endosgopi ar gyfraddau cyflog anghyfartal ac is, ac rydym angen gweld bod achrediad y cyd-grŵp cynghori ar gyfer endosgopi gastroberfeddol—mawredd, onid yw'r GIG yn creu geiriau eithriadol o hir ar brydiau, a gaf fi ddweud y darn hwnnw eto? Mae angen inni weld bod achrediad y cyd-grŵp cynghori ar gyfer endosgopi gastroberfeddol yn cael ei roi ar waith fel ein bod yn gwybod, fel y gallwn fod yn sicr, fod pob bwrdd iechyd yn darparu gwasanaethau yn unol â'r arfer clinigol gorau.

Ond Weinidog, yr hyn sy'n peri rhwystredigaeth go iawn yw diffyg cynllunio ac ymrwymiad priodol gan rai byrddau iechyd. Gadewch i mi roi enghraifft i chi: roedd gan Ysbyty Glan Clwyd dîm sefydlog o dri gastroenterolegydd: mae un wedi ymddeol ac un wedi symud, ac eto nid oedd unrhyw flaengynlluniau wedi'u gwneud i ymdopi â'r newid hwn; nid oedd ganddynt gynllun B. Mae Wrecsam Maelor yn cael trafferth gyda staff locwm; mae trafferthion gyda'r capasiti ar benwythnosau. Felly, mae hon yn enghraifft wych o gamreoli. Nid oes cynllun wrth gefn, nid oedd unrhyw flaengynllunio, ac mae'n arwain at ganlyniadau dinistriol i unigolion. Derbyniodd claf terfynol yn dioddef o ganser y coluddyn ei wahoddiad i gyfarfod â'r meddyg ymgynghorol yn yr un mis ag y dywedodd meddyg ymgynghorol arall mewn ysbyty arall na fyddent yn byw i wneud hynny. Meddyliwch pa mor ofnadwy fyddai hynny, cael llythyr yn dweud, 'Dewch draw y mis hwn i gael cadarnhad o'ch diagnosis' a rhywun arall eisoes wedi dweud wrthych, 'Mae'n debyg y byddwch wedi marw erbyn hynny'. Mae angen i'r bwrdd iechyd hwnnw wneud yn well. Mae angen i'r GIG wneud yn well. Mae angen i ni i gyd wneud yn well.

15:40

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr adroddiad, yn ddealladwy, ar bwysigrwydd gwasanaethau endosgopi i drin canser y coluddyn yng Nghymru, ac yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi eu bod hefyd yn bwysig i driniaethau ar gyfer cyflyrau difrifol nad ydynt yn ganser fel clefyd Crohn a llid briwiol y coluddyn, a gwn fod Crohn's and Colitis UK wedi ymgyrchu dros wasanaethau endosgopi gwell yng Nghymru.

Yn ogystal â hynny, gyda'r adroddiad hwn mewn golwg, cyfarfûm â Norgine, cwmni yn fy etholaeth, sydd wedi'i leoli yn Nhir-y-Berth—cyflogwr mawr iawn, ac un o gwmnïau angori Llywodraeth Cymru, sy'n cynhyrchu cynhyrchion fferyllol sy'n trin y cyflyrau hyn ac a ddefnyddir hefyd wrth baratoi ar gyfer colonosgopïau. Felly, mae ganddynt ddiddordeb cryf iawn yn y maes hwn. Ac roedd cyfarfod â'r staff yno a thrafod rhai o'r materion yn dipyn o addysg. Mewn gwirionedd, pan euthum yno, roedd copi o adroddiad y pwyllgor ar eu desg. Felly, roedd yn dda fod y pwyllgor wedi ymchwilio i hyn ac mae'n dangos gwerth y gwaith rydych yn ei wneud. Mae'n cael ei glywed gan bobl ac mae wedi cael ei glywed gan y cwmni hwn.

Gofynasant i mi godi rhai materion allweddol, ac fe'u trafodais gyda hwy, oherwydd nid wyf yn arbenigwr yn y maes hwn. Nid oeddwn yn deall y materion yn llawn hyd nes i mi gael y sgwrs honno gyda hwy a darllenais eich adroddiad, sy'n adroddiad da iawn. Y mater allweddol iddynt hwy yw sut y gallwn fynd i'r afael ag effeithlonrwydd gwasanaethau—felly, gwneud mwy gyda'r hyn sydd gennym yn barod. Ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi hynny yn eu hymateb i argymhelliad allweddol yr adroddiad. Roedd Norgine yn pryderu nad archwiliwyd effeithlonrwydd yn benodol yn yr adroddiad ei hun. Dywedasant fod gwaith o ansawdd uchel ar baratoi'r coluddyn cyn colonosgopi yn faes allweddol y dylid mynd i'r afael ag ef fel rhan o'r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol a bod mentrau i ysgogi enillion effeithlonrwydd a chynaliadwyedd cyffredinol yn allweddol i'r hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud nesaf. Dywedasant wrthyf mai gwaith annigonol ar baratoi'r coluddyn yw'r prif reswm dros driniaethau colonosgopi aflwyddiannus a gall arwain at oedi neu golli diagnosis, triniaethau hwy ac anos a'r angen wedyn i ailadrodd triniaethau. Dywedasant eu bod yn gweithio'n barhaus i geisio gwella'r broses honno a bod eu cynnyrch wedi'i gynllunio i wneud hynny.

Felly, maent wedi gofyn am dri pheth allweddol mewn perthynas â chanlyniad yr adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru. Maent eisiau tri pheth: maent eisiau gweld y cynllun gweithredu endosgopi yn cael ei gyhoeddi ar fyrder, ac mae'r adroddiad wedi pwyso am hynny ac rydym yn dechrau gweld hynny'n digwydd. Ond yn ogystal â hyfforddiant a chapasiti ysbytai, mae'n bwysig fod meysydd ehangach ar gyfer gwella yn cael y lefel briodol o graffu—felly, gan edrych y tu hwnt i hyfforddiant a chapasiti ysbytai yn unig—ac os oes angen, dylai'r pwyllgor a/neu'r rhaglen endosgopi genedlaethol ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i archwilio pa welliannau y gellid eu gwneud mewn perthynas â pharatoi'r coluddyn. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthych, Weinidog, yw bod ganddynt arbenigedd ac y byddent yn fwy na pharod i drafod hynny gyda chi. Cwmni Cymreig ydyw; maent wedi bod yn Nhir-y-Berth ers 50 mlynedd a byddent yn croesawu sgwrs gyda chi, yn enwedig mewn perthynas â'r broses baratoi well honno.

Nodaf eich bod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw yn annog enillion effeithlonrwydd, ond rwy'n eich annog i ymgysylltu â'r cwmni hwnnw oherwydd dysgais lawer y diwrnod hwnnw a chredaf y gall deialog o'r fath helpu'n fawr yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.

15:45

Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar wasanaethau endosgopi. Fel rwyf fi a llawer o bobl eraill wedi'i nodi, mae'r pwysau ar wasanaethau diagnostig yng Nghymru yn llesteirio ein gallu i wella cyfraddau goroesi canser. Canser y coluddyn yw'r ail ar y rhestr o ganserau sy'n lladd y nifer fwyaf o bobl yng Nghymru. Mae tua 17 o bobl yn marw o ganser y coluddyn bob wythnos. Rydym wedi colli dau o'n pobl ein hunain i'r clefyd erchyll hwn.  

Fel gyda phob canser, mae diagnosis cynnar yn allweddol i oroesiad hirdymor. O gael diagnosis ar gam 1, mae 90 y cant o gleifion canser y coluddyn yn goroesi. Mae hyn yn gostwng i lai nag un o bob 10 pan gaiff ei ganfod ar gam 4. Sgrinio'r coluddyn yw'r ffordd orau o sicrhau diagnosis cynnar, ond caiff llai na 10 y cant o ganserau'r coluddyn eu canfod gan raglen sgrinio'r coluddyn Cymru.

Yn gynharach y mis hwn, disodlodd y Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion yr hen brawf gwaed, a oedd yn llai cywir, ar gyfer sgrinio'r coluddyn i unrhyw un rhwng 60 a 74 oed. Yn anffodus, bydd y Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion yn llawer llai sensitif oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti mewn gwasanaethau endosgopi. Byddwn yn parhau i golli llawer o ganserau oherwydd nad oes gennym weithlu digonol. Unwaith eto, mae diffyg cynllunio gweithlu strategol dros y degawd neu ddau diwethaf yn golygu na fydd ein GIG yn gallu ymdopi â phwysau yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni ostwng ein gallu i ganfod canser am nad oes gennym weithlu i gynnal profion pellach.  

Mae pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU o'r farn y dylid sgrinio pawb dros 50 oed am ganser y coluddyn er mwyn mynd i'r afael â'r 16,000 o farwolaethau blynyddol o ganlyniad i'r clefyd dychrynllyd hwn. Unwaith eto, nid ydym wedi mynd i'r afael â'r argymhelliad hwn oherwydd problemau capasiti. Nid prinder arian yw'r rheswm am hyn; canlyniad diffyg blaengynllunio ydyw a methiant llwyr Llywodraethau olynol i weithredu cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu.

Rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor a galwadau am gynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion y pwyllgor a'i fod wedi dweud yn glir mai gofyniad sylfaenol ac nid targed yw'r trothwy sgrinio o 60 y cant. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod yn nes at 100 y cant yn defnyddio'r gwasanaeth, ond er mwyn gwneud hynny, mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti yn awr i ymdopi â'r cynnydd aruthrol a ragwelir yn y garfan o bobl dros 50 oed.

Bydd hyn yn gofyn am gynllunio strategol ar lefel Cymru a'r DU. Rwy'n annog y Gweinidog ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i weithio'n agos gyda'r gwledydd cartref eraill, yn ogystal â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod gennym ddigon o staff wedi'u hyfforddi'n dda ar draws ein gwasanaethau diagnostig. Gallwn drechu'r clefyd ofnadwy hwn drwy sicrhau bod pawb sydd mewn perygl yn cael eu sgrinio'n rheolaidd a'u bod yn ymwybodol o arwyddion cynnar canser y coluddyn. Bryd hynny yn unig y gallwn sicrhau nad oes yn rhaid i deuluoedd eraill ddioddef yr hyn y bu'n rhaid i deuluoedd Sam a Steffan ei ddioddef. Diolch yn fawr.

15:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am gyflwyno'r ddadl heddiw ar eu hadroddiad yn dilyn eu hymchwiliad i'r mater pwysig hwn. Rwy'n cydnabod nad yw'r mater wedi cael llawer o ffocws a sylw o ran adroddiadau pwyllgor a gwaith craffu yn y gorffennol, ac rwy'n credu ei bod yn dda fod hynny wedi digwydd yn awr. Mae'n darparu cwestiynau i'r Llywodraeth ac mae'n wir nad oes gennym atebion cyfforddus bob amser, ond mae atebion gonest yn ein hymateb am y sefyllfa bresennol, ac yn wir, yn ein hymrwymiad i fuddsoddi'r amser a'r ymdrech sy'n angenrheidiol i gyflawni'r math o wasanaeth y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon ei eisiau i'n hetholwyr. Oherwydd rwy'n cydnabod bod gwasanaethau endosgopi yn hanfodol os ydym am fod mewn sefyllfa i gynnal archwiliadau amserol o ansawdd uchel ar gyfer ystod o feysydd triniaeth. Mae'n rhagofyniad ar gyfer cyflawni'r amseroedd aros ar gyfer diagnosteg a chanser, cyflawni achrediad uned endosgopi, ac wrth gwrs darparu gwell canlyniadau ar gyfer cyflyrau fel canser. Fodd bynnag, ni ddylem ddiystyru'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu ein GIG. Mae'n cynnwys gwelliannau angenrheidiol mewn data a chynllunio, recriwtio a hyfforddi, diwygio a safoni ein llwybrau clinigol, yn ogystal â buddsoddi cyfalaf mewn unedau a galluogwyr digidol newydd.

Felly, mae'n her amlochrog, a'r cyfan yn erbyn cefndir o gynnydd gwirioneddol yn y galw o flwyddyn i flwyddyn, a gaiff ei lywio gan boblogaeth sy'n heneiddio a chanllawiau clinigol sy'n newid. Felly, mae'n galw am weithredu ar unwaith, wrth gwrs, ond mae'n rhaid i hynny gyd-fynd â'r ffocws mwy hirdymor a pharhaus y gwn fod y pwyllgor wedi'i gydnabod a'i ddeisyfu gan y Llywodraeth. Ac rydym yn cytuno ar hynny, felly nid mater syml o roi arian ychwanegol er mwyn lleihau rhestrau aros yw hyn. Dyna pam y byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor erbyn diwedd mis Hydref, a byddaf yn sicrhau ei fod yn rhoi sylw i'r pwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u codi. Yn y cyfamser, rydym wedi gweithredu amryw o gamau brys sy'n ofynnol ac wedi rhoi rhaglen genedlaethol fanwl a chynhwysfawr ar waith. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw, a gwn fod y Cadeirydd wedi cyfeirio ato, i amlinellu'r dull rydym wedi'i fabwysiadu yn fanylach, y cynnydd a wnaed hyd yma, ac wrth gwrs, y gwaith a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Felly, bydd angen inni symud yn gyflym wedyn at yr amcan a'r gweithredoedd sy'n ofynnol yn y tymor canolig er mwyn sefydlogi gwasanaethau endosgopi, ac yna'r amcanion a'r camau mwy hirdymor sydd eu hangen i sicrhau gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy. Felly, sefydlwyd y rhaglen fel gwasanaeth a gyfarwyddir yn genedlaethol gan y Llywodraeth, yn hytrach na'i harwain gan y GIG, ac mae hynny'n gyson, os mynnwch, yng nghyd-destun yr uchelgeisiau a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach'. Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithredu arweiniad canolog cryfach.

Felly, cadeirir bwrdd y rhaglen endosgopi newydd gan ddirprwy brif weithredwr y GIG a'r dirprwy brif swyddog meddygol. Mae'r bwrdd yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o'r byrddau iechyd a phobl sy'n cynrychioli rhaglenni gwaith cysylltiedig pwysig fel canser, patholeg a sgrinio'r coluddyn. Rwy'n meddwl am bwynt Hefin David ynglŷn â’r diddordeb sydd gan Norgine yn y maes hwn, ac rwy'n credu y gallai fod yn briodol gweld a fyddent yn cyfarfod ac yn cael trafodaeth uniongyrchol â'r bwrdd endosgopi. Fe af ar drywydd hynny mewn sgwrs gydag ef am y cwmni lleol. Ond bydd y bwrdd hwnnw'n goruchwylio pedair ffrwd waith, gan edrych ar gynllunio galw a chapasiti, addysg a hyfforddiant y gweithlu, datblygu llwybrau clinigol a gofynion cyfleusterau a seilwaith. Darparir cefnogaeth sylweddol eisoes gan gydweithrediaeth y GIG. Mae hynny'n cynnwys arweinydd y rhaglen genedlaethol a'u tîm, yn ogystal ag arweinwyr clinigol a rheolaethol ar gyfer pob un o'r pedair ffrwd waith a amlinellais. Cefnogir y rhaglen gan y £1 miliwn a ddyrannais fel rhan o gyllideb y GIG ar gyfer 2019-20. Mae mwy na hanner hwnnw wedi'i ddyrannu eisoes i gefnogi'r rhaglen waith a nodais.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd pob uned ledled Cymru yn cael ymweliadau cyn-asesu i bennu'r hyn sydd ei angen yn lleol i gyflawni'r safon achredu a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Nid wyf am geisio dweud y teitl llawn fel y bu Angela Burns yn ddigon dewr i wneud, ond mae yna her wirioneddol i sicrhau bod y seilwaith yn ei le er mwyn cyrraedd y safonau hynny. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r tîm yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac maent yn cydnabod nad ydynt yn debygol o fodloni'r safon oherwydd eu lleoliad ffisegol ar hyn o bryd. Ac mae’n bosibl nad yw hyn yn ddiddorol iawn o ran trafodaeth wleidyddol, ond mae’r ffordd dechnegol y mae angen i chi gynllunio lle, y gofod sydd ei angen arnoch chi—mae'r holl bethau hynny'n elfennau gwirioneddol bwysig yn y gwaith o gyflawni'r canlyniadau y mae pob un ohonom yma eisiau eu gweld. Felly, bydd yn galw am fuddsoddiad cyfalaf, a fydd yn cymryd cryn dipyn o amser. Dylem wybod beth yw cyflwr pob un o'n hunedau, felly mae gweithdy cenedlaethol wedi'i gynllunio i roi ystyriaeth bellach i hynny a disgwylir y bydd adroddiadau'r unedau'n dod i law y byrddau iechyd erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym hefyd wedi cwmpasu’r rhaglen hyfforddi, wedi sicrhau'r elfennau sy’n allweddol i’r gwaith o’i chyflawni, ac rwy'n gobeithio y bydd yr hyfforddeion endoscopi clinigol cyntaf yn dechrau ar eu hyfforddiant cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. A bydd y rolau hyn yn allweddol i wasanaethau cynaliadwy o ystyried y sefyllfa recriwtio heriol ar gyfer meddygon, sef prif ddarparwyr archwiliadau ac ymyriadau hyd yma.

Gallaf weld bod amser yn brin, Gadeirydd, ond rwyf wedi rhoi ymateb manwl i'r pwyllgor ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r pwyllgor ei hun ar y camau rydym yn eu cymryd a'r cynnydd a wneir, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y pwyllgor ei hun yn dychwelyd at yr adroddiad hwn yn y dyfodol, a'r camau y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'w cymryd heddiw.

15:55

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byr ydy'r amser sydd gennyf innau hefyd. Allaf i longyfarch a diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma? Angela Burns yn gyntaf, yn olrhain yr her sylweddol—gweithredu ac atebion sydd eu hangen nawr. Ac, wrth gwrs, i ddweud y peth sy'n amlwg: mae angen mwy o staff arbenigol a mwy o unedau endosgopi nawr i fynd i'r afael â'r her yma.

Dwi'n ddiolchgar iawn i Hefin David am olrhain ei brofiad diweddar e, a hefyd am ddweud, yn amlwg, bod yna glefydau eraill y dylem ni fod yn meddwl amdanynt, ddim jest cancr y coluddion, megis clefyd Crohn ac ulcerative colitis, a phwysigrwydd paratoi'r coluddion gogyfer colonosgopi yn y lle cyntaf. Weithiau dyn ni'n anghofio am baratoi y pethau mwyaf sylfaenol.

Dwi hefyd yn diolch i Caroline Jones am bwysleisio'r pwysau sydd ar wasanaethau a phwysigrwydd diagnosis cynnar yn hyn o beth. A hefyd dwi'n diolch i'r Gweinidog am ei ymateb cadarnhaol i argymhelliad y pwyllgor. Dyn ni'n edrych ymlaen at weld y cynllun gweithredu yma'n gweld golau dydd. Mae'r her yn sylweddol, ac mae'r her yn mynnu ateb cadarn nawr. Diolch yn fawr.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ansawdd Aer

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudwn yn awr at eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ansawdd aer, a galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7133 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai  yng Nghymru y mae peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU a bod rhai ardaloedd wedi torri rheoliadau'r UE ers sawl blwyddyn, gan arwain at gymryd Llywodraeth Cymru i'r llys am ddiffyg gweithredu.

2. Yn gresynu bod tua 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn (6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru) o ganlyniad i ansawdd aer gwael.

3. Yn nodi ymhellach bod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol ar yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad oes dealltwriaeth lawn eto o effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael.

4. Yn galw ar y Cynulliad hwn i basio bil aer glân, a'i ddeddfu, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn etholiadau nesaf y Cynulliad.

5. Yn credu y dylai'r Ddeddf:

a) ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd;

b) mandadu Llywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd;

c) rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a chymryd camau yn ei erbyn;

d) cyflwyno 'hawl i anadlu' lle y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu grwpiau agored i niwed pan fydd rhai lefelau yn torri'r canllawiau a argymhellir.   

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Yn ystod y ddadl heddiw, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos mai Cymru sydd â'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU—ystadegyn damniol ynddo'i hun—ond yn ogystal â hynny, caiff ei waethygu ymhellach gan y realiti ofnadwy fod 6 y cant o'r marwolaethau blynyddol yng Nghymru yn digwydd o ganlyniad i ansawdd aer gwael a'r effaith y mae ansawdd aer gwael yn ei chael ar asthma, cyflyrau'r ysgyfaint a chyflyrau'r galon a chylchrediad y gwaed. A dyma pam ei bod yn hanfodol i'r Cynulliad roi blaenoriaeth i gyflwyno Bil aer glân cyn diwedd y pumed Cynulliad.

Mae problemau anadlu'n effeithio ar un o bob pump o'r boblogaeth. Wrth i elusennau a gweithwyr meddygol proffesiynol weithio'n galed i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o drin ac atal clefydau anadlol, maent yn ymladd brwydr yn erbyn ansawdd aer sy'n gwaethygu'n barhaus. Amcangyfrifodd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2014 fod dros 13,500 o flynyddoedd bywyd wedi'u colli yng Nghymru. Am frawddeg ingol yw honno. Nid pobl ydynt mewn gwirionedd, ond y blynyddoedd y gallent fod wedi byw pe na baent wedi cael y clefydau erchyll hyn oherwydd ansawdd aer gwael. Ac mae 13,500 o flynyddoedd bywyd yn nifer enfawr o flynyddoedd bywyd. Maent hefyd yn dweud mai llygredd aer yw'r ail flaenoriaeth iechyd cyhoeddus ar ôl ysmygu. Amcangyfrifir bod cost llygredd aer i GIG Cymru o ran costau i'r gwasanaeth iechyd a diwrnodau gwaith a gollir yn fwy na £1 biliwn y flwyddyn. Mae hynny'n 11 y cant o gyllideb GIG Cymru ar gyfer 2019-20.

Diffinnir llygrydd aer fel unrhyw sylwedd yn yr aer sy'n gallu niweidio pobl. Mae deunydd gronynnol a nitrogen deuocsid yn ddau lygrydd. Mae deunydd gronynnol yn gymysgedd o solidau a hylifau, sy'n cynnwys carbon, sylffadau, nitradau, llwch mwynol a dŵr yn hongian yn yr aer. Mae grŵp arbenigol Llywodraeth y DU ar ansawdd aer yn nodi bod hanner y llygredd gronynnol o drafnidiaeth ffyrdd yn cynnwys gronynnau sy'n ymwneud â thraul breciau, cyflwr wyneb y ffordd a theiars yn dirywio, sy'n ffactorau enfawr sy'n cyfrannu at y broblem. Mae'n syndod fod peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU yng Nghymru, o ystyried ein dwysedd poblogaeth cymharol isel a'n dinasoedd llai. Ond mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau uwch o rai llygryddion na Birmingham neu Fanceinion, ac mae rhan o Gaerffili wedi'i dynodi fel y ffordd fwyaf llygredig yn y DU y tu allan i Lundain.

Ni sydd ar fai am hyn. Mae'r mwyafrif llethol o lygryddion aer yn rhai a wneir gan bobl ac mae'r lefelau cynyddol yn deillio o'r dewisiadau y mae Llywodraethau a dinasyddion yn eu gwneud bob dydd. Mae'n rhaid i ni dderbyn bod ein penderfyniadau—[Torri ar draws.]

16:00

Diolch am ildio ac mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws eich sylwadau agoriadol. Pa mor bell y credwch y dylem fynd fel deddfwyr a llunwyr polisi i gydnabod yr her y mae hi wedi'i nodi mewn perthynas â dinasyddion unigol hefyd, o ran presgripsiynu pethau megis teithio llesol o amgylch ysgolion, y tu hwnt i ddarparu llwybrau'n unig, ond dweud mewn gwirionedd, 'Bydd rhieni'n gweithio gyda'r ysgolion hynny i sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol drwy gerdded neu feicio neu ar sgwter, ac nid mewn ceir'? Oherwydd mae'r effaith ar iechyd plant o amgylch ysgolion yn enfawr.

Os gwnaiff fy nghyd-Aelod aros ychydig funudau, fe ddatblygaf ychydig mwy ar hynny. Ond mae'r hyn rydych newydd ei ddweud yn atgyfnerthu ein galwad am Fil aer glân, oherwydd dyna'r math o drafodaethau y gallem ni fel Cynulliad, ym mhob un o'n pwyllgorau a chan gymryd tystiolaeth briodol gan y bobl, ddechrau eu cael—pa mor bell y gallwn ei wthio, ble y gallwn arwain, beth yw'r addewidion, beth sy'n gorfodi, beth sy'n cymell, sut y mae'n gweithio?

Oherwydd mater i ni yw hyn. Mae'r mwyafrif llethol o'r llygryddion hyn yn rhai a wnaed gan bobl, a ni sy'n dewis cynyddu'r defnydd ohonynt. Rhaid inni dderbyn bod ein penderfyniadau ni, y rhai a wnawn wrth fwrw ati i deithio yn y car neu fynd ar wyliau tramor neu beth bynnag, yn effeithio ar ansawdd yr aer a anadlwn. Nid wyf yn awgrymu y dylem ddeddfu i leihau'r defnydd o geir, ond rwy'n dweud y dylem i gyd ystyried sut y defnyddiwn ein ceir, a golyga hynny fod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus wella ac mae angen inni wneud llai o ddefnydd o geir a gwella ein defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

Un ateb syml, a dyma un peth y gallem ei roi yn ein Bil aer glân, fyddai lleihau'r llygredd yn rhai o'n dinasoedd a'n trefi drwy annog awdurdodau lleol i orfodi'r is-ddeddfau presennol ynglŷn â cheir sy'n segura, sef ceir ar stop â'u hinjan yn rhedeg am gyfnod afresymol o amser. Mae pawb ohonom wedi'i weld, mae yna amrywiaeth o bobl sy'n gwneud y math yma o beth. Rydym yn gwybod hynny, mae'n siŵr ein bod wedi'i wneud ein hunain. Am bob £1 a fuddsoddwyd ar fynd i'r afael â'r broblem hon gan awdurdod lleol, ceir tystiolaeth fod dros £4 yn dychwelyd. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gellid mynd i'r afael â'r mater hwn yn well, oherwydd byddai'n rhywbeth y gellid ei wneud yn hawdd ac yn gyflym.    

Mae Llywodraeth Cymru yn aml wedi cuddio y tu ôl i'r dadleuon amgylcheddol yn eu hamharodrwydd i fwrw ymlaen ag uwchraddio'r M4, ond yr wrthddadl a anwybyddir yn gyfleus yw bod y draffordd o amgylch Casnewydd wedi'i blocio am sawl awr bob dydd â cherbydau ar stop neu'n teithio ar gyflymder araf iawn—yr un broblem—gan bwmpio llygryddion i'r atmosffer. Ymddengys hefyd fod y Llywodraeth yn credu y bydd buddsoddi mewn seilwaith cerbydau trydan yn helpu i ddatrys problem allyriadau, ond nid yw'n datrys y broblem yn ei chyfanrwydd. Er nad yw cerbydau o'r fath yn cynhyrchu'r un lefelau o nwyon tŷ gwydr, maent yn dal i allyrru llygryddion gronynnol, ac mae 45 y cant o'r llygryddion hynny, fel y dywedais yn gynharach, yn dod o lwch breciau a theiars. Yr hyn y mae angen inni ganolbwyntio arno yw llai o geir yn hytrach na cheir mwy newydd. Mae angen inni edrych—mae angen i chi fod yn edrych—ar sut y mae tynnu pobl oddi ar y ffordd ac ehangu'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael yn hysbys iawn. Mae clefydau cardiofasgwlaidd presennol yn gwaethygu a cheir risg uwch o asthma a chanser yr ysgyfaint. Fel y crybwyllodd Huw Irranca-Davies eisoes rwy'n credu, mae plant yn arbennig o agored i niwed. Bydd effeithiau'r llygredd y maent yn ei anadlu heddiw i'w weld yn y dyfodol. Maent yn tueddu i anadlu'n gynt nag oedolion ac mae eu hysgyfaint yn dal i dyfu. Mae cysylltiad rhwng anadlu llygredd aer yn ystod beichiogrwydd a phwysau geni isel a genedigaeth gynamserol. Mae plant yn llai o faint felly maent yn aml yn llawer is ac felly'n nes. Yn eu cadeiriau gwthio bach, cânt eu gwthio i fyny ac i lawr y palmentydd ac maent yn anadlu'r holl fygdarthau o bibelli ecsôst.

Yn ôl Asthma UK, gwelwyd cynnydd o 8 y cant yn nifer y bobl a fu farw o bwl o asthma yn 2018 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ac mae 33 y cant yn fwy—mwy na thraean—o bobl yn marw ers 2008 oherwydd hyn. At hynny, ymhlith y boblogaeth hŷn, gall ansawdd aer gwael effeithio'n andwyol ar gyflyrau presennol. Cafodd cysylltiad cronig â lefelau uchel o lygredd aer uwch eu cysylltu ag achosion o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, broncitis cronig, asthma ac emffysema.

Mae niferoedd y marwolaethau a briodolir i lygryddion yn uwch o lawer mewn ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig a cheir graddiant amddifadedd, gyda'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gweld y crynodiadau nitrogen deuocsid uchaf a'r nifer fwyaf o farwolaethau a briodolir i lygryddion. Mae'n ddiddorol ac yn drist nodi, yn ôl adroddiad 'Toxic air at the door of the NHS' gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn 2018, fod dau ysbyty yng Nghaerdydd a mwy na hanner meddygfeydd meddygon teulu'r ddinas yn cofnodi lefelau o ddeunydd gronynnol sy'n uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae marwolaethau y gellir eu hatal sy'n deillio o glefydau anadlol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn uwch na 60 y cant ymhlith dynion a 66 y cant ymhlith menywod, o gymharu â dim ond 11 y cant ymhlith dynion a menywod os ydych yn digwydd byw mewn maestref ddeiliog braf neu allan yn y wlad. Ystadegyn ysgytwol, sy'n ofnadwy o annheg ac sy'n arwain at ragor o anghydraddoldebau mewn cymdeithas.

Nid ar gyflyrau anadlol yn unig y mae llygredd aer yn effeithio, ond ar gyflyrau cylchrediad y gwaed hefyd. Mae ymchwil gan Sefydliad Prydeinig y Galon wedi canfod bod mewnanadlu crynodiadau uchel o ddeunydd gronynnol yn y tymor byr yn unig yn cynyddu'r risg o drawiad ar y galon o fewn y 24 awr gyntaf i ddod i gysylltiad â llygredd o'r fath. Mae astudiaethau hefyd wedi canfod bod gronynnau mewn pibelli ecsôst diesel yn gwaethygu'r clefyd atherosglerosis—mawredd, heddiw yw fy niwrnod ar gyfer dweud geiriau anodd, onid e?—y cyfeirir ato'n fwy cyffredin fel braster sy'n crynhoi o gwmpas y rhydwelïau. Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod 80 y cant o'r marwolaethau a briodolir i lygredd aer yn deillio o glefyd cardiofasgwlaidd.

Nawr, Weinidog, rwyf wedi nodi llawer o'r cefndir yma i ddangos pam y mae angen i ni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael a hoffwn sôn yn fyr am y camau y byddwn yn gofyn i chi eu cymryd. Fel plaid, rydym yn croesawu'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo wrth fynd i'r afael â llygredd aer ac ansawdd aer, ond galwn arnoch i fynd lawer ymhellach. Ym mis Mehefin 2019, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wrth y Siambr fod aer glân yn ganolog i'n llesiant, a galwaf arni i ystyried y datganiad hwn pan fyddwch yn ystyried ein cynnig heddiw.

Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gosod cynllun uchelgeisiol i leihau lefelau deunydd gronynnol 30 y cant y flwyddyn nesaf a 46 y cant erbyn 2030, gan dorri £5.3 biliwn oddi ar gostau llygredd aer i gymdeithas yn flynyddol o 2030 ymlaen. Ac mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr arweiniad hwn. Mae strategaeth aer glân Llywodraeth y DU yn gweithio law yn llaw â'r strategaeth twf glân ac mae'r cynllun amgylcheddol 25 mlynedd yn creu ymagwedd gyfannol tuag at lanhau aer y DU a gwella iechyd pawb ohonom. Ond credwn eich bod wedi llusgo'ch traed ar leihau allyriadau'n ddigonol yng Nghymru. Yma, cynyddodd yr allyriadau 5 y cant rhwng 2015 a 2016 ac 1.4 y cant arall y flwyddyn, ar gyfartaledd, rhwng 2009 a 2016, ond gostyngodd allyriadau'r DU 5 y cant. Rydym eisiau'r Bil aer glân hwn. Credwn y byddem yn hoffi cael syniadau clir iawn o'r hyn y gallai ei wneud. Rydym yn credu y gallem ei gyrraedd drwy gydweithio cydlynol ar draws y pleidiau ar Fil da a fyddai'n mynd i'r afael â'r broblem ofnadwy ac anodd iawn hon.

Rwyf am droi'n gyflym iawn at y gwelliannau. Rydym wrth ein boddau ac yn ddiolchgar iawn am welliant Plaid Cymru. Rydym yn ei gefnogi. Mae arnaf eisiau gwneud un pwynt, sef bod gwir angen inni annog gwneuthurwyr y dechnoleg i gyd-fynd â'n huchelgais gwleidyddol, oherwydd rydym am gael y targedau 2030 hyn, ond mae angen iddynt ysgwyddo'u cyfrifoldeb a gwneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd. Ac o ran y Llywodraeth, mae'n rhaid i mi ddweud bod gwelliant y Llywodraeth, gwelliant 'dileu popeth', mor ddi-fudd mewn dadl eang ac mae'n mynd yn groes i'r ysbryd cydweithredol yr ydym eisiau ei weld ar fater mor bwysig yn fyd-eang. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pawb heddiw i weld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddarparu awyr lanach a gwell i bobl Cymru.  

16:05

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop.

Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng Nghymru.

Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella.

Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru.

Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Llyr.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Cynnwys is-bwyntiau newydd ym mhwynt 5:

mynnu bod cerbydau sy'n defnyddio diesel yn unig a phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddol erbyn 2030;

creu parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd;

rhoi'r hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai;

galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd;

llunio cynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol i leihau llygredd aer yng Nghymru;

diwygio'r gyfraith gynllunio i'w gwneud yn ofynnol y rhoddir mwy o bwys ar effaith llygredd aer yn y system gynllunio.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu'r cynnig yma? Mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn hapus iawn i gefnogi'r cynnig, ond rŷm ni am gynnig gwelliant jest er mwyn ymhelaethu ychydig ynglŷn â'r hyn rŷm ni'n teimlo y gellid ei weithredu.

Mi wnaeth Plaid Cymru, wrth gwrs, gynnal trafodaeth ar y pwnc yma yn gynharach eleni, felly rŷm ni'n hapus iawn i weld bod y gefnogaeth yn parhau a bod hwn yn rhywbeth rŷm ni gyd, wrth gwrs, yn awyddus i'w weld, neu gobeithio bod pob un ohonom ni yn awyddus i'w weld. Oherwydd mae'r difrod sy'n cael ei achosi gan lygredd yn yr aer yn ddiamheuol. Rŷm ni wedi clywed rhai o'r ystadegau.

Rydym wedi clywed rhai o'r ystadegau sydd eisoes wedi'u rhestru. Gwyddom fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod llygredd aer bellach yn argyfwng iechyd cyhoeddus gwaeth na dim heblaw ysmygu, ac mae'r ffigur o 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yn ffigur syfrdanol. Efallai fy mod i ac eraill yn euog o grybwyll y ffigur gynifer o weithiau fel eich bod yn colli'r synnwyr o faint—2,000 o farwolaethau, neu oddeutu 40 marwolaeth yr wythnos, o rywbeth y gallem ei atal mewn gwirionedd. Dyna'r realiti. Ac wrth gwrs—

16:10

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Wrth gwrs, dyna'r ffigur ar gyfer marwolaethau a roddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond faint o salwch, a salwch difrifol, a achosir sy'n cuddio o dan y ffigur graffig hwnnw rydych newydd ei roi?

Pwynt cwbl ddilys, ac rwy'n falch eich bod wedi'i wneud oherwydd mae'n bwysig ein bod yn cofio hynny hefyd.

Mae'n effeithio'n anghymesur, wrth gwrs, ar bobl mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth sy'n peri pryder enfawr. Rydym yn gwybod y gall cysylltiad tymor byr a hirdymor â llygredd aer amgylchynol arwain at gyfyngu ar weithrediad yr ysgyfaint, heintiau anadlol ac asthma sy'n gwaethygu. Mae cysylltiad rhwng mamau a anadlodd lygredd a chanlyniadau geni anffafriol, fel pwysau geni isel, genedigaethau cyn amser a babanod sy'n fach o ystyried oedran y beichiogrwydd. Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd sy'n awgrymu y gall llygredd aer amgylchynol effeithio ar ddiabetes a datblygiad niwrolegol mewn plant. Gall achosi llawer o ganserau, fel y gwyddom, ac mae rhai llygryddion aer hefyd yn gysylltiedig â chyflyrau seiciatrig.

Fel llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, wrth gwrs, ceir effeithiau ecolegol hefyd. Gall llygredd aer achosi niwed amgylcheddol difrifol i'r aer wrth gwrs, ond hefyd i ddŵr daear ac i bridd, a gall fygwth amrywiaeth bywyd yn ddifrifol. Mae astudiaethau ar y berthynas rhwng llygredd aer a lleihad yn amrywiaeth rhywogaethau yn dangos yn glir effeithiau niweidiol halogion amgylcheddol ar ddiflaniad anifeiliaid a rhywogaethau o blanhigion.

Bydd llawer o'r Aelodau'n ymwybodol fod gennym grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân yn y Cynulliad hwn wrth gwrs, a Dr Dai Lloyd sy'n ei gadeirio. Mae'n rhaid imi ddweud, pan ddefnyddiodd Dai ei ddadl fer, nifer o fisoedd yn ôl bellach, i alw am Ddeddf, rhannodd gyda ni un peth a arhosodd gyda mi: 150 a mwy o flynyddoedd yn ôl roedd pobl yn goddef dŵr yfed brwnt, ac rydym yn edrych yn ôl ac yn meddwl, 'Dyna warthus oedd hynny'. Wel, rydym ni'n goddef, neu rydym wedi bod yn goddef aer brwnt. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, byddwn yn edrych yn ôl yn yr un ffordd ac yn meddwl, 'Sut ar y ddaear y gallasom ddychmygu y gallem oddef hynny?' Rwy'n gobeithio'n awr fod pobl yn sylweddoli bod yr amser wedi dod i weithredu.

Felly, gan symud ymlaen at ein gwelliant, yn amlwg, fel y dywedais, rydym yn gefnogol i'r cynnig a'r egwyddor y tu ôl iddo, ac roeddem am sôn ymhellach efallai am rai o'r camau y teimlwn fod eu hangen.

Mae angen bod cerbydau sy'n defnyddio disel yn unig a phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddol erbyn 2030, a chyn hynny os yn bosibl, ond yn sicr mae angen i'r dechnoleg fedru caniatáu inni wneud hynny. Mae yna opsiynau. Mae yna le yng nghanolbarth Cymru sy'n cynhyrchu ceir hydrogen. Bues i ar ymweliad yna—Riversimple. Hynny yw, mae yna opsiynau yn bodoli. Yr hyn sydd yn rhaid inni ei wneud yw sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny.

Rydym ni angen gweld parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd. Mi glywom ni am Gaerdydd a Phort Talbot â lefelau uwch o particulate matter na Birmingham a Manceinion, a rhai o'r strydoedd, wrth gwrs, sydd ymhlith y mwyaf llygredig ym Mhrydain y tu allan i Lundain.

Rydym ni angen rhoi hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai. Rydym ni angen galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd. Rydym ni angen llunio, ie, cynlluniau cenedlaethol ond cynlluniau rhanbarthol hefyd er mwyn lleihau llygredd aer yng Nghymru, a dwi yn teimlo'n gryf bod angen diwygio'r gyfraith gynllunio hefyd, i'w gwneud yn ofynnol i roi mwy o bwys ar effaith llygredd aer o fewn y gyfundrefn honno.

Mae yna lawer mwy y gellir ei wneud. Y rhwystredigaeth fwyaf i fi yw nad yw lot o hyn wedi'i wneud yn barod. Mae yna ormod o lusgo traed wedi bod. Fel yr oeddwn yn ei ddweud yn gynharach, mae pob wythnos arall rydym ni'n aros yn golygu tua 40 o farwolaethau diangen, i bob pwrpas. Felly, mae'r amser am siarad yn gorfod dod i ben, a dwi'n edrych ar y Llywodraeth fan hyn gan ddweud, 'Mae'n amser gweithredu.'

16:15

Roedd Margaret Barnard yn ysgrifennydd Anadlu'n Rhydd yng Nghastell-nedd a gefnogir gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, grŵp o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd yr ysgyfaint, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn bennaf. Roedd y grŵp yn cynnig cymorth i'w gilydd ac yn codi arian ar gyfer cyfarpar adsefydlu'r ysgyfaint. Roedd Margaret yn gwbl fythgofiadwy i bawb a oedd yn ei hadnabod. Soniaf amdani, nid yn unig oherwydd ei gwaith arobryn gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ond oherwydd ei phenderfyniad i fyw'n dda, i osod esiampl, er gwaethaf y cyflwr gwanychol a'i lladdodd yn y diwedd yn 2016.

Efallai fod Margaret yn wych, ond nid yw mygu'n rhywbeth gwych o gwbl. Dyna pam y mae angen inni weithredu i helpu pob Margaret arall yng Nghymru—5,500 o flynyddoedd bywyd yn cael eu colli bob blwyddyn yn hen ardal bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 368 o farwolaethau o nitrogen deuocsid, a llygredd deunydd gronynnol lleiaf bob blwyddyn, ac un ardal bwrdd iechyd yn unig yw honno. Yn fy ardal fy hun, yn Nwyrain De Cymru, amcangyfrifir bod 300 o farwolaethau bob flwyddyn ymhlith rhai 25 oed a hŷn wedi'u priodoli i lygredd aer.

Nawr, efallai nad yw'r rhain yn ffigurau sy'n llenwi'r penawdau fel y gwelwn ar gyfer clefyd y galon a chanser, ond wrth gwrs, mae llygredd aer yn chwarae rhan mewn achosion cardiofasgwlaidd a chanser hefyd. Efallai y byddech yn disgwyl i nifer y marwolaethau oherwydd llygredd aer edrych yn eithaf gwael mewn ardaloedd lle mae'r dwysedd mwyaf o ddefnyddwyr ceir, gorsafoedd pŵer a diwydiant trwm wrth gwrs. Ond mewn gwirionedd, y dystiolaeth orau o statws llygredd aer fel lladdwr anweledig yw'r ffaith mai yng ngogledd Cymru y gwelwn y nifer fwyaf o farwolaethau, oherwydd y deunydd gronynnol lleiaf, a grybwyllwyd gan fy nghyd-Aelod Angela Burns yn gynharach—y llwch peryglus sy'n dod o draul breciau, traul teiars ac o draul wyneb y ffordd. Efallai fod gogledd Cymru'n fwy gwledig, yn llai poblog, ond fel ardaloedd yn y de—Casnewydd a chytrefi—nid oes yno draffig sy'n llifo'n rhydd. Y traffig hwnnw, yn hytrach na ffynonellau eraill, yw'r halogydd aer mwyaf yng Nghymru, ac mae'n broblem frawychus. Mae cael cerbydau trydan cyfatebol yn lle rhai petrol a diesel yn dal i olygu bod ceir, lorïau a bysiau sy'n cynhyrchu'r llwch peryglus hwnnw—y PM2.5—gyda ni heddiw. Eto i gyd, mae ein gwahanu oddi wrth ein ceir, fel y trafodwyd gennym, yn galw am newid diwylliant enfawr yn ogystal â dewisiadau amgen realistig. Wrth gwrs, mae newid wedi digwydd yn y gorffennol; rwy'n cofio pan gyflwynwyd petrol swlffwr isel iawn am y tro cyntaf—a châi hynny ei ystyried yn enghraifft o arloesi gwych. Roedd yn arloesi—roedd yn well na'r petrol plwm a oedd wedi dod cyn hynny—ond dyma ni, nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae arnom angen datblygiadau eraill hefyd, a rhaid i gerbydau trydan fod yn rhan o hynny.

Mae angen inni fod yn ddewr ac yn feiddgar, ac mae hynny'n llawer llai brawychus os ydym i gyd yn cytuno bod angen ei wneud. Rwy'n credu bod ewyllys gwleidyddol yma yn y Siambr hon, er mor gelfydd y mae'r gwelliant a grybwyllodd Angela Burns yn gynharach yn cuddio hynny—y gwelliant 'dileu popeth'. Rydym yn croesawu gwelliant Plaid Cymru, sy'n cyflwyno elfen werthfawr i'r ddadl hon yn ein barn ni, ond cawn weld a fydd yn cael ei dderbyn.

Nid dyma'r amser i Lywodraeth, boed yn Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, fod yn amddiffynnol; mae'n bryd i bob un ohonom droi ymrwymiad yn weithredoedd. Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei barth rheoli ansawdd aer cyntaf yn Ionawr 2019 ar gyfer Stryd y Parc, nad yw, gyda llaw, yn ardal arbennig o ddifreintiedig. Nid yw mor hawdd dod o hyd i fanylion ynglŷn â sut yn union y mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud gwelliannau, er y gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut y bydd caniatâd cynllunio ar gyfer dau ddatblygiad adeiladu dadleuol yn ychwanegu ymhellach at dagfeydd traffig yno.

Mae'n broblem y dylid ei thrafod, nid yn unig gennym ni, ond gan awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n gwneud llawer o'r gwaith ar lawr gwlad, i sicrhau bod eu gweithrediadau'n dryloyw er mwyn i bobl allu cael gafael ar wybodaeth o'r fath i allu gwneud penderfyniadau gwybodus. Un peth yw lleihau cyfaint y traffig ar y ffyrdd, ond mae llawn cymaint o fai ar reolaeth draffig wael ag sydd ar ein cariad at y car, ac mae'n gofyn llawer i gynghorau ôl-osod newidiadau mawr eu hangen i seilwaith lleol, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau o dan bwysau wrth gwrs.

Mae parthau 50 milltir yr awr yn rhan bosibl o'r ateb, ond nid yr ateb cyfan y byddai Llywodraeth Cymru yn gobeithio amdano. Yn fy ardal i, mae gennym obeithion mawr ar gyfer metro de Cymru, ond mae llawer o'r newidiadau arloesol mwy addawol yn perthyn i'r dyfodol: yn ne-orllewin Cymru, gallai metro yno fod yn rhan o'r ateb, ac edrychwn am gynllunio tuag at hynny; rhaid i reoli traffig fod yn rhan o'r ateb a lleihau cyfaint y traffig dros amser; mae Aelodau'r Cynulliad wedi crybwyll mwy o deithio llesol; trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, y bydd pobl yn gallu ei defnyddio'n effeithiol, a soniais yn y datganiad busnes ddoe sut y mae cyrraedd Caerdydd i weithio yn y bore yn un peth yn fy ardal i, ond mae'n anodd iawn cyrraedd adref yn y nos pan nad oes gwasanaeth bws ar ôl 5.30 pm. Dylai cynlluniau datblygu lleol fynnu bod lleoliad safleoedd ceisiadau tai yn helpu ac nid yn gwaethygu'r broblem mewn mannau lle y ceir problemau eisoes—yn hytrach, dylent eu lliniaru. Fel y dywedais yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn cefnogi'r gwelliant 'dileu popeth'. Rydym yn cefnogi'r hyn y mae gwelliant Plaid Cymru yn ei gynnig i'r ddadl.

16:20

Diolch. Ni allaf ddweud fy mod yn anghytuno â dim y mae'r siaradwyr wedi'i ddweud hyd yn hyn ac rwy'n credu bod llawer iawn o gytundeb ynglŷn â'r argyfwng sy'n ein hwynebu a'r camau gweithredu sydd eu hangen. Felly, gobeithiaf y bydd y Gweinidog, yn ei hymateb, yn dweud wrthym pam y mae'n credu mai dim ond 1,400 o bobl yng Nghymru sy'n marw o lygredd aer pan fo Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn dweud ei fod yn 2,000, oherwydd mae hwnnw'n wahaniaeth eithaf sylweddol.

Rwy'n mynd i siarad am y sefyllfa yng Nghaerdydd, gan fy mod i'n gynrychiolydd o Gaerdydd, ac mae gan Gaerdydd lygredd aer sy'n cyfateb i, neu'n waeth na'r llygredd aer ym Manceinion a Birmingham ac mae hwnnw'n ystadegyn eithaf damniol o ystyried bod Birmingham a Manceinion yn gytrefi llawer iawn mwy o faint. Felly, mae gennym broblem wirioneddol ddifrifol yma yng Nghaerdydd, a gallwn weld pam, gan ein bod yn gwybod bod pedwar o bob pump o bobl yn cymudo i Gaerdydd mewn car a dim ond 8 y cant sy'n cerdded a 2 y cant yn unig sy'n beicio. Felly, mae angen gweld newid mawr yn y diwylliant a newid ymddygiad.

Un o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn fy etholaeth i yw Ffordd Casnewydd, sy'n cynnwys Ysbyty Brenhinol Caerdydd—cyn-ysbyty, canolfan iechyd estynedig bellach—ond sydd drws nesaf i ysgol gynradd, sydd â lefelau hollol erchyll o lygredd aer oherwydd nifer y cymudwyr sy'n mynd heibio'r drws yn y bore. Felly, maent wedi cyflwyno sgrin werdd, coeden werdd artiffisial ar y ffens i geisio diogelu eu buarth rhag mwg gwenwynig, ac mae'n syniad da—yn wir, yn ôl cynlluniau peilot mewn mannau eraill, bydd yn lleihau'r llygredd oddeutu 20 y cant, ond yn amlwg, nid yw hynny'n ddigonol mewn ardal hynod o lygredig. Hoffwn weld y ffordd honno'n cau ond dywedir wrthyf fod y traffig sy'n mynd ar y llwybr amgen eisoes ar 106 y cant o'r capasiti. Felly, nid yw'r mathau hynny o atebion lleol yn ddigon.

Rhaid inni gyfyngu ar y traffig a ddefnyddir i gymudo ar gyfer teithiau ysgol a phobl sy'n mynd i'r gwaith yn gyffredinol, ac mae hynny'n golygu wrth gwrs fod angen gwell system trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae angen inni hefyd newid yn gyfan gwbl y ffordd y meddyliwn am sut y mae ein plant yn mynd i'r ysgol. Mae angen inni beidio â dangos unrhyw oddefgarwch tuag at rieni sy'n dal i fynnu mynd â'u plentyn yn syth at gatiau'r ysgol, sy'n ddrwg i'r plentyn ac yn ddrwg i'r gymuned gyfan. Yr wythnos diwethaf, euthum gyda'r aelod cabinet dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth ar Gyngor Caerdydd ar daith feicio o Ysgol Uwchradd Llanisien i Ben-twyn, o ble y bydd llawer o fyfyrwyr yn fy etholaeth yn teithio i Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae bron yn 3 milltir ac mae cost cludiant i'r ysgol yn rhwystr enfawr i lawer o bobl ifanc nad ydynt yn mynd i'r ysgol oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio'r tocyn bws erbyn diwedd yr wythnos, er eu bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae honno'n sefyllfa enbyd ac mae angen inni sicrhau bod gan y disgyblion hyn ddulliau amgen o deithio, ac os gallwn roi cynllun prynu beiciau iddynt, mae llwybrau ar gael eisoes, gydag un neu ddau o fannau cyfyng y mae angen mynd i'r afael â hwy, i'w galluogi i gyrraedd yr ysgol yn eithaf rhwydd—maent yn 11 oed a hŷn—heb orfod dibynnu ar gludiant ysgol drud. Felly, dyna un peth.

Bydd bysiau trydan yn dod i Gaerdydd am eu bod wedi llwyddo i gael arian gan yr Adran Drafnidiaeth, ac mae hynny'n mynd i fynd—. Mae pedwar o'r llwybrau bws hyn ar Ffordd Casnewydd yn mynd i fod yn lanach o ganlyniad. Ond mae gwir angen i ni weld y math o barthau aer glân sy'n mynd i gael eu cyflwyno yn Birmingham, ac sydd wedi'u haddo ym Manceinion hefyd, er mwyn sicrhau bod ein prifddinas yn teimlo fel prifddinas yn hytrach na man lle mae'r boblogaeth fwyaf difreintiedig yn gorfod byw mewn ardaloedd lle y ceir llygredd helaeth.

Hoffwn atgoffa Aelodau'r Blaid Geidwadol fod peidio â thrydaneiddio'r brif lein i Abertawe hefyd yn cyfrannu'n helaeth at y llygredd sy'n parhau yng Nghaerdydd, a hynny am fod y drafnidiaeth ddeufodd yn golygu, pan fydd y trên naill ai'n mynd tuag at Abertawe neu'n dod yn ôl o Abertawe, ei bod yn chwydu nwyon diesel allan yn hytrach na thrydan sy'n llawer glanach. Felly, mae angen inni weld newid enfawr.

A'r newid mawr arall y mae angen inni ei weld yw e-feiciau, y rhoddodd llawer ohonom gynnig arnynt pan ddaethant yma ddoe. Mae hwn yn gyfle enfawr i bobl newid o ddefnyddio ceir i ddefnyddio, nid beiciau ond e-feiciau, am eu bod yn galluogi rhai llai abl yn gorfforol i ddefnyddio beic, maent yn eich galluogi i fynd i fyny bryniau serth, fel sydd gennyf yn fy etholaeth, ac maent hefyd yn eich galluogi i gario siopa trwm adref yn ddidrafferth. Felly, rwy'n credu bod e-feiciau yn un o'r ffyrdd y gallwn hyrwyddo ffordd wahanol o symud o gwmpas ein dinas. Ond mae'n rhaid i ni feddwl hefyd am bethau fel barthau gwahardd traffig ger ysgolion i atal pobl rhag gwneud y peth anghywir a gwaethygu traffig y tu allan i'r ysgol gan beryglu pob disgybl.

16:25

Mewn araith yn y Brifysgol Americanaidd yn Washington ym mis Mehefin 1963, dywedodd yr Arlywydd John F. Kennedy:

yr hyn sy'n ein cysylltu yn fwyaf sylfaenol yw ein bod i gyd yn byw ar y blaned fach hon. Mae pob un ohonom yn anadlu'r un aer.

Roedd hwnnw'n ddyfyniad enwog gan ddyn enwog iawn ac wrth gwrs, mae'n ddatganiad mor wir. Yn ddiweddarach yn yr un araith, siaradodd am hawliau dynol ac aeth ymlaen i ddweud—dyma'r dyfyniad:

yr hawl i anadlu fel y darparodd natur—hawl cenedlaethau'r dyfodol i fod yn iach.

Am hynny y mae'r ddadl hon y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ffaith drist fod Cymru'n cynnwys rhai o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn y Deyrnas Unedig, ac mae cysylltiad clir rhwng ansawdd aer, amddifadedd ac iechyd. Mae astudiaethau wedi dangos bod perygl i iechyd y cyhoedd yn sgil cysylltiad mynych â llygredd aer. Mae llygredd aer yn cynyddu'r cysylltiadau â marwolaethau drwy gael effaith andwyol ar gyflyrau presennol yr ysgyfaint. Mae hefyd yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint. Mae'r risg hon yn arbennig o ddifrifol i blant sy'n dod i gysylltiad â llygredd aer. Mae'n gysylltiedig â diabetes, gweithredoedd gwybyddol, namau geni, canlyniadau, a niwed i organau fel yr iau a'r arennau—rhannau hynod o bwysig o'n cyrff. Mae rhai o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn fy rhanbarth i, sef de-ddwyrain Cymru. Ar draws ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, mae tua 15 y cant o oedolion yn cael triniaeth ar gyfer problemau anadlu.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai cartrefi wrth yr A472 yn Hafodyrynys sy'n dioddef y lefel uchaf o nitrogen deuocsid yng Nghymru. Dim ond y rhai a gofnodwyd yng nghanol Llundain oedd yn uwch na'r lefelau a gofnodwyd yn 2015 a 2016. Mewn ymateb, mae cyngor Caerffili wedi penderfynu rhoi camau drastig ar waith i brynu 23 o'r adeiladau yr effeithiwyd arnynt waethaf er mwyn eu dymchwel. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu'r cyllid angenrheidiol, yr amcangyfrifir y bydd yn £4.5 miliwn. Caniatawyd i'r sefyllfa hon yn Hafodyrynys barhau'n rhy hir. Mae polisi cyngor Caerffili o wneud cyn lleied â phosibl ac aros i dechnoleg newid erbyn 2025 wedi bod yn druenus o annigonol.

Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn pwysleisio'r angen am Ddeddf aer glân yng Nghymru. Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Awyr Iach Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn ymateb i'r risgiau iechyd a achosir gan ansawdd aer gwael yng Nghymru. O ganlyniad i'r methiant hwn i weithredu, mae ClientEarth wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith. Mae Gweinidogion wedi methu gosod targedau clir yn hytrach na gwneud datganiad amwys sy'n gwadu atebolrwydd. Byddai Deddf aer glân Gymreig yn ymgorffori yn y gyfraith y canllawiau ansawdd aer a gynhyrchwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Byddai'n mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol gyda thargedau clir i wella ansawdd aer yng Nghymru. Byddai dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer ac i roi camau buan ac effeithiol ar waith yn unol â hynny, a byddai'n cyflwyno gorfodaeth ar awdurdodau lleol i hysbysu grwpiau diamddiffyn pan fydd lefelau llygredd yn torri'r canllawiau a argymhellir.

Ddirprwy Lywydd, fel y dywedodd yr Arlywydd Kennedy dros 50 mlynedd yn ôl, mae'r hawl i anadlu aer glân yn hawl ddynol. Rydym oll yn anadlu'r un aer; mae gan bob un ohonom hawl i anadlu aer glân. Hoffwn annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.

16:30

Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon. Fel y nodais droeon, ansawdd aer gwael yw un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli ac yn byw ynddo, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r ansawdd aer mwyaf brwnt yn y DU. Mae lefelau PM10 yn aml yn uwch na'r trothwy dyddiol diogel; mewn sawl ysgol yn fy rhanbarth, rydym wedi cael llawer o ddyddiau yn yr ychydig fisoedd diwethaf lle'r oeddent yn ddwbl y trothwy dyddiol diogel.

Llygryddion aer sy'n gyfrifol am farwolaethau o leiaf bump o bobl y dydd yng Nghymru a'r cyfrannwr mwyaf i lygredd aer yw trafnidiaeth. Ers i Lywodraeth Lafur y DU gymell y newid i ddiesel, cynyddodd nifer y gronynnau a'r nitrogen deuocsid yn ein hatmosffer yn ddramatig. Cydnabu Llywodraeth bresennol y DU ffolineb y polisi hwn ac mae wedi cyflwyno system dreth cerbydau newydd i gosbi'r cerbydau sy'n llygru fwyaf. Maent hefyd wedi cyflwyno cynllun sgrapio newydd wedi'i gynllunio i dynnu hen gerbydau sy'n llygru oddi ar y ffordd, a gwnaethant ymrwymiad i symud tuag at ddyfodol o gerbydau trydan yn unig drwy gael gwared ar yr holl injans tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2040.

Rwy'n croesawu'r camau hyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu i gefnogi'r camau hyn gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu achos llys am ei diffyg gweithredu i fynd i'r afael â llygredd aer. Mae'n hen bryd iddi gyflawni ei dyletswyddau i'r cyhoedd yng Nghymru. Gall ddechrau drwy weithredu i leihau tagfeydd traffig, sy'n chwyddo effaith llygredd traffig. Mae wedi cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 50 mya ar yr M4 ger fy nghartref, ac eto ychydig iawn o dystiolaeth os o gwbl a geir y bydd yn helpu i wella ansawdd yr aer. Y cyfan y mae wedi'i wneud yw cynyddu tagfeydd traffig. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system gynllunio yn rhoi ystyriaeth i'r effaith y bydd datblygiadau newydd yn ei chael ar dagfeydd traffig.

Rwyf bob amser wedi dweud bod llygredd aer yn broblem iechyd y cyhoedd a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ar lefel genedlaethol—

Rwy'n ei chael hi'n anodd deall sut y credwch ei bod yn broblem fawr, ond rydych chi'n dal i wrthwynebu 50 mya, sy'n amlwg yn lleihau faint o—

Wel, oherwydd bod y tagfeydd traffig ar gyffordd 41 ac yn y blaen yn erchyll.

Gallech gael pawb yn rhuthro o gwmpas ar 100 mya, ond ni fyddai ond yn cynyddu'r llygredd, oherwydd byddai mwy fyth o gerbydau.

Gallwn gael sgwrs yn nes ymlaen.

Yn ogystal ag awdurdodau lleol yn monitro ansawdd aer, mae angen cael system adrodd i rybuddio trigolion am ansawdd aer gwael. Gellid defnyddio datblygiadau fel y lloeren Sentinel-5C a wnaed ym Mhrydain, sy'n monitro llygryddion aer, ar lefel genedlaethol i wella'r dull o ragfynegi lefelau uchel o lygredd aer a dylid eu defnyddio i rybuddio'r cyhoedd am ddigwyddiadau o'r fath, yn yr un modd ag y mae adroddiadau tywydd yn cynnwys cyfrif paill. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithredu ar hyn ar frys. Mae lefelau llygredd uchel yn lladd.

Rhaid inni ystyried yr heriau enfawr o ran seilwaith a ddaw yn sgil trydaneiddio trafnidiaeth. Sut y gallwn gyflwyno pwyntiau gwefru i'r bobl nad ydynt yn ddigon ffodus i feddu ar dramwyfa neu garej? Buaswn yn annog y Llywodraethau, yng Nghymru ac yn San Steffan, i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu dulliau di-wifr o wefru cerbydau.

16:35

O ran pwysigrwydd llygredd, a yw eich plaid bellach yn deall ac o'r farn fod cysylltiad agos iawn rhwng llygredd a newid yn yr hinsawdd?

Rwyf wedi credu hynny erioed. [Torri ar draws.] Rwy'n siarad drosof fy hun. Rydych wedi gofyn cwestiwn i mi; nid gofyn i fy mhlaid a wnaethoch. Fe ofynnoch chi i mi—fy mhwynt, ac rwyf wedi'i bwysleisio. Diolch.

Felly, mae angen i Gymru a San Steffan fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu dulliau di-wifr o wefru cerbydau. Mae angen i'r ddwy Lywodraeth sicrhau hefyd na rwystrir y broses o gyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan gan y system gynllunio. Rhaid inni fynd benben â'r her iechyd cyhoeddus fawr hon. Rhaid inni wella ein ffordd o weithredu. Dylid annog ffyrdd amgen o deithio—cerdded, pan fo modd. Mae'n rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd, er mwyn sicrhau nad oes neb yn marw o ganlyniad i ansawdd aer gwael yn y dyfodol. Mae arnom angen Deddf aer glân, gan nad yw dymchwel tai mewn ardaloedd sydd wedi'u llygru'n helaeth yn ateb. Rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem ac nid y symptomau. Diolch yn fawr.

Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, am resymau cywir iawn, mae newid hinsawdd wedi dod i ddominyddu ein hagenda wleidyddol. Ond i lawer o bobl, oherwydd nad ydynt yn gweld effaith uniongyrchol yn yr hyn y maent yn ei wneud, ni chânt eu darbwyllo i wneud rhai o'r dewisiadau a fyddai o fudd mawr i ni yn hirdymor. Ond o ran ansawdd aer, mae'n faes sy'n cael effaith ar unwaith, ac mae gwella ansawdd aer yn cynnig mantais uniongyrchol. Rwy'n credu mai dyna sydd angen i ni ei bwysleisio y prynhawn yma.

Rwyf wedi cefnogi hyn yn gyson. Dyma oedd un o'r areithiau cyntaf imi eu gwneud yn y pumed Cynulliad hwn, pan heriais y Llywodraeth ynglŷn â pham nad oedd ganddynt adran ar ansawdd aer yn eu rhaglen lywodraethu. Yn ffodus, fe wnaethant unioni hynny'n gyflym iawn, ac rwy'n credu ein bod wedi datblygu'n sylweddol. Roedd yn rhan ganolog o'r strategaeth a lansiwyd gennym y llynedd ar ddinasoedd byw, ac rwy'n falch iawn o weld y camau arloesol a gyflwynir ac awgrymiadau yn y maes polisi hwn, ac yn wir rwy'n cynnwys gwelliant Plaid yn y categori hwnnw.

Drwy gyd-ddigwyddiad, Ddirprwy Lywydd, ceir erthygl ragorol yn y Financial Times heddiw sy'n crynhoi rhywfaint o'r gwaith ymchwil diweddar sy'n dangos effeithiau tymor byr aer gwael, ac nid wyf yn credu bod neb wedi canolbwyntio ar hynny y prynhawn yma mewn gwirionedd, felly efallai y caf amlinellu rhai o'r astudiaethau diweddaraf. Yn y bôn, mae'n dangos yr effeithiau tymor byr ar ddatblygiad plant, ar gynhyrchiant, ar effeithiolrwydd gwybyddol—mae'r holl bethau hyn yn cael eu gweld fel rhai ag iddynt effeithiau tymor byr mawr, yn ogystal â rhai hirdymor. Darganfu ymchwil a wnaed yn Israel fod cynnydd cymedrol mewn deunydd gronynnol ar ddiwrnod arholiad ysgol uwchradd myfyrwyr Israelaidd yn gysylltiedig â gostyngiad sylweddol yng nghanlyniadau arholiadau'r myfyrwyr hynny. Pan fyddwch yn meddwl amdano o ddifrif, gallai un diwrnod arwyddocaol o lygredd aer gael effaith ddramatig ar eich addysg a'ch rhagolygon ar gyfer y dyfodol—mae hynny'n syfrdanol.

Edrychodd gwaith ymchwil arall ar staff canolfannau galwadau a weithiai i'r un cwmni ond mewn gwahanol ddinasoedd yn Tsieina. Ar ddiwrnodau llygredig, gostyngai'r cynhyrchiant rhwng 5 a 6 y cant. Mae ansawdd aer gwael hefyd yn achosi perfformiad gwannach—ac nid wyf yn dychmygu hyn—ymhlith pêl-droedwyr proffesiynol yn yr Almaen. Ar ddiwrnod gêm, os ydych wedi dod i gysylltiad ag aer o ansawdd gwael, maent wedi gallu mesur ei fod yn cael effaith ar eich gallu corfforol a meddyliol. Dengys astudiaeth arall fod byw mewn rhan o'r Unol Daleithiau sydd â chyfradd uchel o lygredd carbon monocsid yn gwneud mwy o niwed i faban yn y groth na phe bai'r fam yn ysmygu 10 sigarét y dydd, a dengys astudiaeth arall fod bron i 3,000 o blant yn Barcelona a ddaeth i gysylltiad â mwy na'r cyfartaledd o lygredd aer yn dioddef yn sgil datblygiad gwybyddol arafach. Mae'r rhain yn ganfyddiadau arwyddocaol iawn sy'n peri pryder, ac mae angen inni roi ystyriaeth ddifrifol iawn iddynt.

Hoffwn edrych hefyd ar faes hollol wahanol i orffen, sef ansawdd llygredd aer dan do. Mae astudiaethau wedi dangos y gall fod dros dair gwaith yn waeth na llygredd awyr agored, ac mae ymgyrchwyr yn y DU wedi galw'r effaith hon ar ein cartrefi yn 'flychau gwenwynig' oherwydd nifer y gronynnau llygredd aer sy'n gallu cael eu dal y tu mewn i'n cartrefi. Mae ymchwil wedi dweud bod hyn yn deillio o ganlyniad i gyfuniad o weithgareddau dan do, fel coginio neu losgi coed, ynghyd â llygredd awyr agored o drafnidiaeth, sy'n dod i mewn, gan greu crynhoad o lygredd y tu mewn i'r cartref, ac mae'r crynoadau hyn o lygredd yn cymryd llawer mwy o amser i wasgaru na llygredd awyr agored. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cofio, o ran ansawdd cynllunio tai a'n polisi presennol, o ran sut yr awn ati i adnewyddu a gwella effeithlonrwydd ynni ac yn y blaen, fod yna effaith real ar ansawdd aer, ac y gall y llygryddion sy'n cronni yn y cartref droi ein mannau mwyaf gwerthfawr yn fannau sy'n peri niwed sylweddol.

Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni gael strategaeth gynhwysfawr yn awr ar gyfer ansawdd aer. Mae'n cyd-fynd â newid yn yr hinsawdd, ond mae hefyd yn cyd-fynd â llawer o faterion iechyd y cyhoedd, cynhyrchiant, effeithlonrwydd yr economi a chanlyniadau addysgol. Ond rwy'n falch iawn ynglŷn â chywair y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu o ddifrif fod hyn y tu hwnt i wleidyddiaeth bleidiol, a'r hyn yr hoffem ei gael gan bawb a chan y Llywodraeth yw mwy o uchelgais, a byddwn yn eich annog pan fyddwch yn gosod targedau mwy uchelgeisiol, ac rwy'n credu o ddifrif hefyd mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau.

16:40

Ers dod yn Aelod Cynulliad, rwyf bellach yn teithio rhwng gogledd Cymru a de Cymru'n rheolaidd, ac rwy'n defnyddio'r M4 o amgylch Casnewydd i wneud hyn. Fel gyrwyr eraill, rwy'n cadw at y cyfyngiad cyflymder. Fodd bynnag, mae gostwng y cyflymder ar yr M4 yn dipyn o syndod, gan nad yw'r arwyddion yn rhoi unrhyw reswm dros y newid, ac nid oes rhybuddion. Yr adwaith naturiol weithiau yw arafu cryn dipyn, yn is o dipyn na'r terfyn cyflymder o 50 mya, ac mae hyn hefyd yn beryglus. Yn yr amgylchiadau hyn, gallaf weld sut y mae damweiniau'n digwydd, a gwn fod hyd yn oed mân ddamweiniau'n dod â'r darn pwysig hwn o seilwaith i stop, a dim ond unwaith yr wythnos yn unig y byddaf yn gwneud hyn; rhaid i rai pobl wneud hyn bob dydd er mwyn cyrraedd y gwaith, dosbarthu pethau ac yn y blaen. A wnewch chi feddwl am arwyddion mwy effeithiol i dynnu sylw gyrwyr at y gostyngiad yn y terfyn cyflymder sydd ar ddod a'r rheswm pam?

Ac rwyf hefyd yn gwybod bod yr M4 o amgylch Casnewydd a'r ffordd sy'n bwydo i mewn iddi yn aml ar stop, oherwydd mae'n rhaid i mi yrru arnynt i ddod i mewn i Gaerdydd, gyda cheir yn segura ar y ffyrdd am gyfnodau hir ac yn creu tagfeydd enfawr. Ni allaf weld sut y mae'r gostyngiad yn y terfyn cyflymder yn helpu pan fydd ceir yn sefyll yn llonydd yn chwydu nwyon ecsôst. Rwyf hefyd yn deall bod asesiadau o ansawdd aer wedi'u cynnal ar ôl i'r terfynau cyflymder gael eu gostwng a bod y canlyniadau'n amhendant. Roeddwn yn meddwl bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau a pholisi yn seiliedig ar dystiolaeth, ac nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd yma—efallai y gallech egluro hynny imi. Gan i hyn ddigwydd, a yw'r Llywodraeth yn bwriadu parhau i asesu, profi a chyhoeddi'r canlyniadau, a rhoi camau ar waith megis ymestyn y cyfyngiadau ar derfynau cyflymder, neu eu hadfer lle nad ydynt yn gwneud gwahaniaeth? Fel rhywun sy'n byw mewn ardal wledig tu hwnt gydag ansawdd aer da, rwy'n sylwi ar y gwahaniaeth pan fyddaf yn cyrraedd de-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, rwy'n derbyn bod cydbwysedd da i'w daro rhwng yr ymdrech i gael aer glân a gallu pobl i wneud bywoliaeth a chyrraedd lle mae angen iddynt fod, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw, a byddaf yn cefnogi'r ddadl hon.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd i alluogi pobl yng Nghymru i anadlu aer glân. Ac ers fy natganiad diwethaf ar y pwnc hwn yn gynnar eleni, mae ein hymdrechion wedi canolbwyntio ar fynd i'r afael â llygredd aer yn yr ardaloedd o Gymru y mae'n effeithio arnynt waethaf, ac fe wneir cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân. Yn ogystal â nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd tuag at ddeddfwriaeth newydd, mae gwelliannau'r Llywodraeth yn cywiro gwallau yn y cynnig gwreiddiol, sy'n cynnwys hen ffigurau a datganiadau gwallus.  

Wrth ateb cwestiwn penodol Jenny Rathbone ynghylch ffigurau, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn pwysleisio bod y ffigurau a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith llygredd aer yn seiliedig ar astudiaethau gwyddonol sy'n ceisio rhoi amcangyfrif rhesymedig o'r lefel gyffredinol o niwed a achosir. Mae'n gyfrifiad i ddangos maint y niwed. Nid yw'r un peth, er enghraifft, â dweud bod 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn o ganlyniad i ddamweiniau ceir. Byddai rhestr o'r fath mewn gwirionedd yn tanddatgan y gwir niwed. Nid yw'n hawdd priodoli effaith llygredd aer yn yr un modd a bydd tybiaethau gwahanol a wneir yn y cyfrifiadau a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon yn cynhyrchu ffigurau gwahanol. Ond ar wahân i'r heriau ystadegol hynny, mae'r ffigur yn ein galluogi i ddweud yn hyderus mai llygredd aer yw'r risg iechyd cyhoeddus mwyaf sydd gennym.

Mae'r camau cyfreithiol y cyfeiria cynnig yr wrthblaid atynt yn ymwneud â materion ansawdd aer lleol yng nghanol dinas Caerdydd a Heol Hafodyrynys yng Nghaerffili. Mae'n wir, wrth gwrs, fod problemau ansawdd aer hyd yn oed yn waeth wedi arwain at yr un her gyfreithiol yn Lloegr, ac yn wir mewn gwledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Ers ein dadl ddiwethaf, mae awdurdodau lleol Caerdydd a Chaerffili wedi cynhyrchu eu cynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem o dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ac mewn ymateb i gyngor arbenigol annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac rydym hefyd wedi defnyddio ein swyddogion ein hunain i gynorthwyo'r awdurdodau lleol gyda chapasiti ac arbenigedd ychwanegol. Rydym wedi llunio set arall o gyfarwyddiadau ar gyfer y ddau awdurdod lleol ac rydym wedi dyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi'r gwaith o gyflawni fel y gallwn fod yn sicr yr eir i'r afael â'r materion hyn yn yr amser byrraf posibl. Rwy'n cymeradwyo'r ddau awdurdod am fwrw ymlaen â'r gwaith hwn heb betruso nac oedi.  

Yn fy natganiad diwethaf ar ansawdd aer, cyhoeddais benderfyniad fy nghyd-Aelod, Ken Skates, i wneud y cyfyngiadau cyflymder o 50 mya a gyflwynwyd gennym mewn ardaloedd â phroblem llygredd aer ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn rhai parhaol. Ers hynny, rydym wedi parhau i fonitro eu heffeithiolrwydd ac rydym wedi gosod camerâu cyflymder cyfartalog i sicrhau bod yr holl yrwyr sy'n defnyddio'r ffyrdd yn cadw at y terfynau. Ar hyn o bryd rydym— [Torri ar draws.] Ddim am funud. Rydym wrthi'n cyflwyno arwyddion cliriach, yn ateb i gwestiwn penodol Mandy Jones. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr arwyddion yn esbonio pam y mae'r parthau 50 mya hynny yno fel bod y cyhoedd yn deall y rhesymau sy'n sail iddynt, oherwydd rwy'n credu mai dyna lle y gwnaethom gamgymeriad gyda hynny. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae gennyf un yn fy etholaeth i, fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen, ac nid yw pobl yn deall y rheswm drosto. Felly, rydym wrthi'n cynllunio hynny a byddant yn cael eu gosod yn y dyfodol agos iawn. Fe ildiaf.

16:45

A gaf fi ofyn, Weinidog, a oes tystiolaeth rymus eto fod y parthau hyn yn llwyddo i leihau llygredd aer?

Rydym yn disgwyl—rwy'n credu y bydd gennym flwyddyn o ddata ddiwedd y mis hwn, ond yn sicr mae'r ffeithiau a'r data a welsom yn dangos ein bod yn gwbl gywir i wneud y rheini'n barhaol yn awr.

Ers ein dadl ddiwethaf, rydym hefyd wedi parhau i wneud cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân i Gymru a'r cam nesaf wrth ddatblygu'r Ddeddf fydd cyhoeddi cynllun aer glân i ymgynghori arno cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Yn ogystal ag amlinellu'r angen am bwerau newydd drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, bydd y cynllun hefyd yn egluro sut y byddwn yn gwneud gwell defnydd o'r pwerau presennol, y camau y byddwn yn eu cymryd i gryfhau monitro, a sut y byddwn yn gwella hygyrchedd yr wybodaeth am ansawdd aer yr ydym am ei chyhoeddi gan ganolbwyntio ar ddiogelu grwpiau agored i niwed. Felly, anogaf yr holl Aelodau Cynulliad sydd â diddordeb yn y pwnc i gyfrannu eu syniadau i'r broses hon, a chroesawaf y consensws trawsbleidiol sy'n datblygu ar y mater hwn, oherwydd bydd ein hiechyd a'r amgylchedd yn elwa o ganlyniad.  

Mae'r cynnig gan y Blaid Geidwadol yn dweud y byddai'n well cyflwyno Deddf aer glân yn ystod y tymor Cynulliad hwn—felly, o fewn y 18 mis nesaf. Wrth gwrs, byddai llawer mwy o gapasiti deddfwriaethol ar gael i'r Cynulliad hwn oni bai am lanastr Brexit y Torïaid y mae eu plaid yn llywyddu drosto. Rwy'n teimlo y byddai'n werth i Aelodau Ceidwadol Cymru gydnabod, wrth wneud yr alwad hon, y pwysau dwys ar y ddeddfwrfa hon a'n swyddogion oherwydd methiannau eu plaid.  

Mae'r Torïaid yn yr wrthblaid yng Nghymru yn awyddus i siarad am hawliau hefyd, er ei bod yn amlwg i'r gweddill ohonom, o'u gweithredoedd mewn Llywodraeth, fod eu parch at hawliau yn denau iawn. Mae'r Torïaid yn ein beirniadu am barchu dyfarniadau'r Llys Ewropeaidd, er enghraifft, a pholisi eu plaid yw osgoi awdurdodaeth y llys yn llwyr er mwyn tanseilio rheoliadau amgylcheddol, hawliau gweithwyr ac unrhyw amddiffyniadau cymdeithasol eraill y credant y gallant ein hamddifadu ohonynt.  

Felly, credaf y bydd angen Deddf aer glân i Gymru er mwyn sicrhau'r lefel o amddiffyniad sydd ei angen arnom, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn gweithio tuag at hyn ac yn ein cefnogi i'w wneud.  

16:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfraniadau o bob cwr i'r llawr ar y pwnc pwysig hwn. Gallwn hollti blew ynglŷn â'r rhifau, boed yn 1,400 neu'n 2,000; rwy'n credu mai'r hyn y mae pawb ohonom yn ei dderbyn yw bod nifer annerbyniol o farwolaethau cynamserol yng Nghymru. Daeth y ffigur yn ein cynnig ni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef corff y Llywodraeth ei hun, yn ôl yr hyn a ddeallaf, sy'n ei chynghori ar faterion iechyd cyhoeddus. I roi rhif mesuradwy, mae hynny'n fwy na 40 o farwolaethau yr wythnos. Nawr, pe bai rhywun yn dod i'r Siambr hon neu i'r ddeddfwrfa hon a dweud bod y nifer hon o farwolaethau cynamserol yn digwydd mewn unrhyw agwedd arall ar ein bywydau, byddai gweithredu cyflym yn y maes penodol hwn.

Nodaf yr hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd am ddadl fer Dai Lloyd, lle y tynnodd sylw at y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i lanhau dŵr budr. Gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, câi ei weld fel peth arferol i bobl dynnu dŵr o ffynhonnau llygredig ac ati, a dyna beth oedd cymdeithas yn ei dderbyn. Fel y dywedodd Angela Burns yn ei sylwadau agoriadol, ni all fod yn dderbyniol i ni ddioddef rhywbeth sy'n hawl. Mae gennym hawl i gael aer glân. A lle bynnag yr ydych yn byw, ym mha gymuned bynnag yr ydych yn byw, dylech gael yr hawl honno, a soniodd Mohammad Asghar am yr hyn a ddywedodd yr Arlywydd John F. Kennedy: dylem ei chael fel y bwriadodd natur. Ac mae gennym fodd o wneud hynny. Gwyddom beth yw'r peirianwaith mewn perthynas â llygredd, fel y nododd llawer o siaradwyr, yn enwedig ym maes trafnidiaeth, ond hefyd ym maes cynllunio.  

Tynnodd Jenny Rathbone, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, sylw at ffordd brifwythiennol yng Nghaerdydd yr wyf yn gyfarwydd iawn â hi—Ffordd Casnewydd, er enghraifft. Ac am rannau mawr o'r dydd, mae tagfeydd arni, ac mae'r tagfeydd hynny'n digwydd am nad oes gan lawer o bobl ddewis arall. Mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r car. Ac oni bai ein bod ni fel llunwyr polisi, gan weithio gyda rhannau eraill o Lywodraeth, Llywodraeth Leol ac ar lefel y DU yn genedlaethol, yn gwneud y newidiadau hyn, byddwn yn parhau i weld y lefel hon o farwolaethau cynamserol.

Ac wrth gwrs, yr hyn y mae pobl yn ei weld yn amlwg hefyd yw'r afiechydon critigol sy'n arwain at y marwolaethau cynamserol hynny. Mae llawer o ddegau o filoedd o bobl, fel y crybwyllodd Nick Ramsay yn ei sylwadau, wrth sôn am Margaret Barnard, yn mygu i farwolaeth. A allwch chi ddychmygu gwylio rhywun annwyl yn mygu i farwolaeth araf dros fisoedd a blynyddoedd, gan wybod y gallai'r bobl sy'n gyfrifol am ein hamgylchedd ac yn gyfrifol am ein deddfwrfeydd a'n safbwyntiau polisi wneud gwelliannau dramatig ym mhob ffordd pe baent eisiau? A dyna pam y mae'r cynnig hwn yn galw am gyflwyno Deddf aer glân yn y rhaglen ddeddfwriaethol.

Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi dewis peidio â gwneud hynny, ac nid wyf yn derbyn ateb y Gweinidog mai'r rheswm na ellir gwneud hyn yn y pen draw yw Brexit. Mae'r Llywodraeth wedi profi dro ar ôl tro y gallant gyflwyno'r ddeddfwriaeth pan fydd ganddynt fater pwysig dan sylw, fel y profodd y Bil cyflogau amaethyddol, a gyflwynwyd yn gyflym iawn. Onid yw 2,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn argyfwng cenedlaethol, Weinidog, argyfwng y mae gennych arfau i ymdrin ag ef? Pam na wnewch chi fel Llywodraeth ymdrin â hynny? Does bosibl nad yw hyn yn rhywbeth a ddylai fod ar eich radar ac na ddylid ymdrin ag ef mewn modd amserol, yn hytrach na beio Brexit am beidio â chyflwyno'r broses ddeddfwriaethol.

Yn yr un modd, gan gefnogi argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch aer glân, sef yr hyn y mae ein cynnig yn galw amdano—gallwch fynd ymhellach. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny? Pam nad ydych chi'n defnyddio hynny fel meincnod, yn hytrach na dweud bod Llywodraeth y DU, fel y dywedwch, yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr, ac ati? Onid dyna'r gwir? Mae'r Prif Weinidog ac arweinwyr eraill yn San Steffan wedi dweud y byddant yn ymgorffori yn y gyfraith yr hawliau a enillwyd drwy waith caled dros ddegawdau lawer. Mae hynny'n ffaith. Gallwch godi eich ysgwyddau cymaint ag y dymunwch, Weinidog, ond mae hynny'n ffaith. O dan eich goruchwyliaeth chi, mae pobl yn marw oherwydd ansawdd aer gwael ac nid yw'r Llywodraeth hon yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael iddi.  

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Buaswn hefyd yn tynnu sylw at yr hyn a ddywedodd David Melding am feinciau'r Ceidwadwyr yn cyflwyno'r ddogfen 'Dinasoedd Byw', sydd bellach oddeutu 12 neu 18 mis oed, gydag atebion go iawn ar gyfer enillion cyflym iawn y gallwn eu cyflawni yn y maes penodol hwn. A buaswn yn annog y Llywodraeth i ddyblu ei hymdrechion yn y maes penodol hwn.

Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad Plaid Brexit hefyd a'r arwydd o gefnogaeth gan Caroline Jones a Mandy Jones, oherwydd gwyddom fod trafnidiaeth yn chwarae rhan fawr yn hyn, ac mae gweld llawer o bobl yn troi at geir trydan wedi bod yn rhan o'r ateb a symud tuag at yr agenda honno, ond rydym yn gwybod hefyd mai padiau breciau a gronynnau teiars yn yr aer sydd i gyfrif o hyd am 40 y cant o'r deunydd gronynnol sy'n cael ei anadlu gan ddinasyddion ar hyd a lled Cymru. Felly, buaswn yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd ger eu bron heddiw, wedi'i ddiwygio gan y gwelliant derbyniol a gawsom gan Blaid Cymru, ac yn gwrthod y gwelliant 'dileu popeth' a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, sy'n destun gofid mawr yn yr hyn a ddylai fod yn ddadl gydsyniol.

16:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl Plaid Cymru: Cyfiawnder Hinsawdd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar gyfiawnder hinsawdd. Rwy'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7137 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r alwad gan Greta Thunberg ac ymgyrchwyr ieuenctid o Fridays for Future, i oedolion ymuno â myfyrwyr a phobl ifanc sydd ar streic ar 20 Medi 2019 i fynnu cyfiawnder hinsawdd.

2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd.

3. Yn cefnogi'r streiciau a'r gwrthdystiadau a drefnwyd gan bobl ifanc ac oedolion ar 20 Medi 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i siarad i'r cynnig yma gan Blaid Cymru i ddatgan cefnogaeth y Cynulliad yma i'r streiciau ysgol dros yr hinsawdd. Fridays for future, youth for climate, youth strike for climate—beth bynnag neu pa bynnag fathodyn ŷch chi eisiau rhoi arno fe, nid oes amheuaeth ei fod e nawr yn fudiad rhyngwladol o bobl ifanc sydd wedi penderfynu bod yr amser wedi dod i'w llais nhw gael ei glywed yn y drafodaeth a'r gwrthsafiad sydd ei angen i fynnu gweithredu i atal cynhesu byd eang ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd rŷm ni yn ei brofi ar hyn o bryd.

Nawr, rŷm ni'n gwybod y stori, wrth gwrs, yn dyddio yn ôl i weithred Greta Thunberg, pan gynhaliodd hi'r brotest yn Awst 2018—dim ond 12 mis yn ôl—y tu allan i'r Riksdag yn Sweden, yn dal arwydd 'school strike for the climate', a hithau wedyn yn penderfynu ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n gorfod gwneud hyn bob dydd Gwener tan y byddai Llywodraeth Sweden yn alinio â chytundeb Paris. Hi fathodd y slogan 'Fridays for future', ac, fel rwy'n dweud, mewn cwta 12 mis rŷm ni wedi gweld y mudiad yma yn ymledu i bob rhan o'r byd.

Mi fydd hi, wrth gwrs, yn cymryd rhan mewn streiciau ysgol yn yr Unol Daleithiau ddydd Gwener yma, 20 Medi, ac mi fydd yna streiciau nawr yn digwydd ar bob cyfandir ar draws y byd, o Wlad yr Iâ i Gyprus yn Ewrop, i India a Phacistan, i Awstralia, Japan, y Philippines, De Affrica, gwledydd De America, yr Unol Daleithiau, fel yr oeddwn i'n ei ddweud, a Chanada. Yma yng Nghymru, wrth gwrs, mi fydda i'n ymuno â chriw o bobl ifanc o sir Conwy a fydd yn dod at ei gilydd ym Mae Colwyn. Rwy'n gwybod y bydd yna weithredu hefyd yn Wrecsam, fel y bydd mewn sawl tref a rhan o Gymru. Mae'r amseru yr wythnos yma yn arwyddocaol hefyd, wrth gwrs, o gofio bod yna uwchgynhadledd ar yr hinsawdd yn cael ei chynnal gan y Cenhedloedd Unedig yr wythnos nesaf.

Nawr, mae'r streiciau yma wedi bod yn hynod, hynod o effeithiol, nid yn unig yn troi pennau ac yn denu sylw ac yn ennyn trafodaeth o gwmpas yr argyfwng hinsawdd mewn ystafelloedd dosbarth ac ar fuarthau ysgol, ie, ac mewn cartrefi, mewn tafarndai ac mewn senedd-dai, wrth gwrs, fel rŷm ni yn ei wneud heddiw ac fel rŷm ni wedi'i wneud lawer tro cyn heddiw. Ond, ar y cyd â'r hyn y mae Extinction Rebellion wedi bod yn ei wneud dros y cyfnod diwethaf, mae'r naratif gwleidyddol, wrth gwrs, o gwmpas newid hinsawdd wedi newid yn llwyr. Yn wir, mae'r derminoleg wedi newid. Dŷn ni ddim yn dweud 'newid hinsawdd' bellach—rŷm ni'n cydnabod mai argyfwng hinsawdd sydd gennym. Ac roeddwn yn falch iawn, wrth gwrs, fod y Senedd yma wedi cefnogi cynnig Plaid Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, sef y Senedd gyntaf, o beth rwy'n ddeall, yn y byd i wneud hynny. Roedd hi'n dda hefyd gweld Llywodraeth Cymru yn datgan yr un peth yn ogystal.

Mae'r momentwm sydd wedi cael ei adeiladu gan y bobl ifanc yma, ac eraill, wrth gwrs, wedi creu yr amgylchfyd newydd yna o safbwynt gwell dealltwriaeth ynglŷn â'r hyn sydd angen ei gyflawni. Nawr, dwi yn deall y bydd rhai pobl efallai'n meddwl dŷn ni ddim eisiau annog pobl ifanc i beidio â bod yn y dosbarth—i fod yn colli ychydig oriau neu ddiwrnod o addysg bob hyn a hyn—a bod yna risg i addysg y plant yn sgil hynny. Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n ddim byd o'i gymharu â'r risg sy'n dod yn sgil goblygiadau'r newid hinsawdd y maen nhw yn ei wynebu llawer mwy nag y bydd nifer ohonom ni yn ei wynebu.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni osod colli diwrnod o ysgol yn achlysurol mewn persbectif. O'r blaen, ers llawer dydd—gallaf weld y Gweinidog addysg yn ei sedd yno yn edrych arnaf yn ofalus ac yn pendroni beth rwy'n mynd i'w ddweud nesaf. Ond cyn i mi gael fy ethol i'r Cynulliad hwn, ers llawer dydd, roeddwn i'n arfer bod yn weithiwr ieuenctid. Wrth gwrs, fe wyddom fod yna gwricwlwm gwaith ieuenctid, a bod addysg ffurfiol yn bwysig iawn—wrth gwrs ei bod.

Ond nid diystyru diwrnod o addysg a wnawn. Mae pobl ifanc yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol—gwyddom hynny—ac mae rhan allweddol o'r cwricwlwm gwaith ieuenctid yn sôn am roi profiadau mynegiannol, cyfleoedd cyfranogol i bobl ifanc, a'u grymuso. Pa ffordd well o gyflawni'r canlyniadau hynny na thrwy'r gweithgareddau hyn? Rydym yn gweld dinasyddiaeth weithgar ar waith gan ein pobl ifanc yma, pobl ifanc yn dod at ei gilydd, yn ysgogi, yn codi eu lleisiau ac yn sefyll dros yr hyn sy'n iawn yn eu golwg hwy. A'r lleiaf y gallwn ei wneud, rwy'n credu, fel Cynulliad Cenedlaethol, yw cynnig ein cefnogaeth iddynt yn yr ymdrechion hynny.

Nawr, un o'r placardiau mwyaf trawiadol a welais erioed mae'n debyg oedd un o'r rhai a gâi eu dal gan unigolyn ifanc yn un o'r digwyddiadau hyn, a dywedai, 'Erbyn i mi gael fy nwylo ar rym, fe fydd yn rhy hwyr'. Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi rhybuddio bod gennym 11 neu 12 mlynedd i wyrdroi hyn, a rhaid inni wrando ar leisiau'r bobl ifanc hynny. Wrth gwrs, mae'r streiciau'n amserol iawn oherwydd yr uwchgynhadledd hinsawdd sy'n digwydd yr wythnos nesaf, a chredaf y bydd Greta Thunberg yn annerch yr uwchgynhadledd honno hefyd.

Rydym ynghanol argyfwng hinsawdd. Rydym wedi'i ddweud o'r blaen: ni all fod yn fusnes fel arfer, ac mae gan bobl ifanc lawer mwy i'w golli. Byddant yn ysgwyddo baich ein methiannau. Oes, mae angen i ni weithredu. Mae angen i ni ymateb gyda chamau ymarferol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond rwy'n credu mai'r peth lleiaf y gallwn ei wneud y prynhawn yma yn y ddadl hon yw rhoi ein cefnogaeth i'r bobl ifanc a fydd yn sefyll dros yr hyn y maent yn credu ynddo ddydd Gwener.

17:00

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rwy'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies. 

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn cymeradwyo'r rôl y mae pobl ifanc wedi'i chwarae o ran llywio'r agenda newid yn yr hinsawdd, fodd bynnag, yn credu nad streic a phobl ifanc yn colli ysgol yw'r ateb.

Yn cydnabod y pryder cyhoeddus eang ynghylch cynhesu byd-eang a bod cyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd yn gofyn am ymdrech a chydweithrediad rhyngwladol, ac yn nodi'r camau canlynol a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon o'r fath:

a) y rôl flaengar y mae Llywodraeth y DU wedi'i chwarae o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a symud i dwf glân;

b) bod y DU wedi lleihau allyriadau dros 40 y cant ers 1990 tra'n tyfu'r economi fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl arall yn y G7;

c) bod Llywodraeth y DU wedi gosod targed sero net â rhwymedigaeth gyfreithiol i roi terfyn ar gyfraniad y DU i gynhesu byd-eang yn gyfan gwbl erbyn 2050.

Yn nodi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ond yn gresynu at fethiant y llywodraeth i gyflwyno cyfres gynhwysfawr o fesurau sy'n addas ar gyfer argyfwng o'r fath.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar o'r grŵp Ceidwadol heddiw. A buaswn i'n un o gefnogwyr mwyaf pobl ifanc yn mynegi eu barn drwy weithredu, ond credaf fod yn rhaid inni oedi a meddwl pan fyddwn yn annog myfyrwyr a disgyblion i ddod allan o'r ysgol ar streic, a'r niwed y gallai ei wneud i unigolion.

Cafodd ei roi ar orsaf radio y bore yma—wel, gallaf glywed llais Aelod ar eu heistedd; rwy'n hapus i dderbyn ymyriad—ond roeddwn i'n gwrando ar raglen Jason Mohammad, ac roedd cyfrannwr wedi ffonio i mewn i ddweud, 'Mae'r rhai nad ydynt yn streicio ddydd Gwener yn gwadu newid hinsawdd.' Ac mae hynny'n rhoi llawer o bwysau ar bobl sy'n credu'n gyfan gwbl yn yr hyn a wneir i wella'r amgylchedd yn ôl pob tebyg, ond am ba bynnag reswm—efallai eu bod yn sefyll arholiad, papur ffug-arholiad efallai, neu wers anghenion arbennig a drefnir o fewn yr ysgol—ond oherwydd pwysau gan gyfoedion, efallai eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael y lleoliad sefydliadol hwnnw, gan mai dyna beth yw ysgol—mae'n lleoliad sefydliadol, ac amser cyfyngedig sydd gan athrawon a'r ysgol i gyflwyno'r cwricwlwm a gweithio drwy'r cwricwlwm—ac os yw'n newid hinsawdd yr wythnos hon, ac mae pawb ohonom yn cefnogi symud ymlaen yn gadarnhaol ar hynny a chymryd camau cadarnhaol, beth fydd yr achos yr wythnos nesaf? Beth fydd yr achos yr wythnos ganlynol?

Rwyf am rymuso pobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn cymryd rhan—. [Torri ar draws.] Rwy'n fodlon derbyn ymyriad gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ond credaf fod angen i chi fyfyrio ar y pwynt hwnnw pan fyddwch yn galw ar bobl i ddod allan ar streic o'r ysgol, ac mae pobl yn teimlo pwysau gan eu cyfoedion i ddod allan drwy gatiau'r ysgol, oherwydd dyna beth y mae'r cynnig hwn a gyflwynwyd gennych heddiw yn ei gymeradwyo.

Ac mae'n werth myfyrio ar y daith y buom arni dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf, a'r gwelliannau a wnaed, yn enwedig â ninnau wedi cadw twf economaidd i fynd yn ogystal er mwyn gwneud yn siŵr fod yr economi'n cynnal lefelau cyflogaeth. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Gan eich bod wedi fy ngwahodd, a ydych chi wedi siarad â rhai o'r bobl ifanc ynglŷn â pham y maent allan ar streic, yn hytrach na dim ond eu beirniadu am eu bod 'allan ar streic', sy'n gwyro oddi wrth y broblem go iawn yn fy marn i? Maent yn ymgyrchu am fater y maent yn poeni'n fawr yn ei gylch. A ydych chi wedi gofyn iddynt pam y maent yn ei wneud?

Rwy'n digio'n fawr at yr awgrym fy mod yn beirniadu pobl ifanc. Rwy'n siarad â phobl ifanc bob dydd o'r wythnos; mae gennyf bedwar o blant fy hun. Nid wyf yn beirniadu neb. Yn wir, yn fy sylwadau agoriadol gwneuthum y pwynt fod angen inni rymuso pobl ifanc i ymgysylltu â'r broses a chyflwyno eu barn. Ond yn ôl eich cynnig chi, sy'n sôn am streiciau mewn addysg a gadael lleoliad addysg ffurfiol—

Na, ddim o gwbl. Yn y pen draw, pe bai hyn yn digwydd ar fater arall, rwy'n siŵr y byddai gan Leanne Wood farn wahanol ar hyn. Ond sut y gallwch chi orfodi pobl—gorfodi pobl, oherwydd dyna beth rydych chi'n ei wneud a defnyddiais yr enghraifft a oedd ar raglen Jason Mohammad y bore yma—i ddweud os nad ydych yn cymryd rhan yn y streic hon ddydd Gwener, y byddech chi'n gwadu newid hinsawdd?

Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ar newid yn yr hinsawdd ac mae angen inni barhau, mae angen inni barhau i wneud hynny. Ac yn arbennig, y targed carbon niwtral a osodwyd ar gyfer 2050; y gefnogaeth a roesom i'r diwydiant i newid i ynni gwyrdd. Gadewch inni beidio ag anghofio bod yr holl gynhyrchiant ynni o fewn y DU ar lawer o ddiwrnodau erbyn hyn yn ddi-lo ac yn ddi-garbon, ac ynni gwyrdd sy'n pweru hynny ac mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol yn yr economi go iawn.

Ac felly, yn lle galw am weithredu aflonyddgar o fewn yr ysgol, gadewch inni rymuso pobl ifanc i gymryd rhan yn y daith y mae angen i gymdeithas gyfan—y gymdeithas gyfan—ei gwneud, a sicrhau eu bod yn aros yn rhan o'r daith hon, oherwydd, yn y pen draw, bydd pob sector o gymdeithas yn elwa o amgylchedd gwell a glanach sydd â newid yn yr hinsawdd yn ganolog iddo, oherwydd gwyddom fod y cloc yn tician a gwyddom fod yr amser wedi'i gyfyngu'n fawr i 11 neu 12 mlynedd inni wneud y gwaith arwyddocaol hwnnw a'r gwelliant hwnnw yn ein hamgylchedd. Ond nid ydym yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru sydd, yn ein barn ni, ond yn chwilio am bennawd.

17:05

Galwaf ar Weinidog yr amgylchedd i gynnig yn ffurfiol gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. 

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi galwad mudiad Fridays for Future ar gyfer holl wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon isel.

Gwelliant 3—Rebecca Evans

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Beth am gofio o ble y daw hyn: caiff ei gymell nid yn unig gan fater y mae pobl yn poeni yn ei gylch, ond gan rwystredigaeth enfawr ar ran pobl ifanc ac ofn—ac ofn—ynglŷn â'r dyfodol sy'n eu hwynebu. Nid unrhyw ymgyrch yw hi. Mae'n rhywbeth sy'n berthnasol iawn ac yn real i fywydau ein plant a'u dyfodol. A meddyliwch am y peth, maent yn gweld pobl fel Donald Trump yn cael eu hethol yn America; maent yn gweld Llywodraeth China; maent yn gweld beth sy'n digwydd yn Brasil; maent yn gweld David Cameron yn dweud ei fod yn mynd i arwain y Llywodraeth wyrddaf erioed ac yna'n dweud, 'Gadewch i ni gael gwared ar yr holl gachu gwyrdd yma', yn ddiweddarach—esgusodwch fi, Lywydd—yn ystod ei Lywodraeth. Mae ofn ar y bobl hyn.

Rwyf wedi siarad ag ymgyrchydd Llafur ifanc 18 oed sy'n mynd i'r brifysgol y mis hwn, Morgan Paulett, yn fy etholaeth, ynghylch pa mor o ddifrif y dylem fod ynglŷn â hyn. Credwch fi, roeddwn yn eistedd gydag ef yn y swyddfa ac nid dim ond ymgyrch yw hon; mae pobl yn teimlo'n ddwfn am eu dyfodol. Anfonodd un neu ddau o baragraffau ataf, a dywedodd, 'Pe bawn i yn eich sefyllfa chi, dyma'r hyn y buaswn yn ei ddweud.' Felly, gyda'ch caniatâd, Lywydd, hoffwn ddarllen yr hyn y byddai wedi hoffi ei ddweud.

Mae'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang yn golygu bod miloedd o filltiroedd o rew parhaol yng nghylch yr Arctig yn toddi, a gallai hynny olygu dau beth sy'n peri pryder mawr. Bydd y carbon deuocsid sy'n cael ei storio yn y rhew parhaol hwnnw'n cael ei ryddhau i'r atmosffer pan fydd yn toddi ac mae pathogenau wedi'u cloi yn y rhew ers y cyfnod cynhanesyddol nad yw bodau dynol wedi dod i gysylltiad â hwy hyd yma. Gallai tymereddau cynyddol olygu hefyd fod afon Indus ym Mhacistan yn sychu yn ogystal â monsynau anrhagweladwy yn India, sy'n golygu y gallai dau rym niwclear gelyniaethus sy'n ffinio â'i gilydd gyda phoblogaethau sy'n tyfu'n gyflym brofi prinder bwyd dirfawr yn y dyfodol agos. Dim ond dau yw'r rhain o'r argyfyngau mawr niferus a fydd yn wynebu cenedlaethau'r dyfodol yn y degawdau i ddod ac mae llawer o bobl ifanc yn fwyfwy pryderus a rhwystredig am Lywodraethau, methiant Llywodraethau cyfunol i ymdrin â'r bygythiadau hyn o ddifrif ac ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Ei eiriau ef yw'r rheini. Dyma'r hyn y mae wedi'i ysgrifennu i mi ac eisiau i mi ei ddweud, ac nid oes gennyf unrhyw broblem yn ei ddweud. Ychwanegodd at hynny y byddai'n hoffi streic gyffredinol ymhlith ieuenctid ar draws y byd i ymdrin â hyn. Dyna yw ei farn ef.

Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yma, ac rwy'n teimlo'n gryf, ac rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, mae angen diwygio sylfaenol o'r bôn i'r brig ar ein democratiaeth gynrychiadol yn y wlad hon, a chredaf mai rhan ohono yw sicrhau bod gan bobl ifanc 16 oed lais, a rhan ohono yw sicrhau, pan fyddwch yn pleidleisio, fod y pleidiau y pleidleisiwch drostynt yn cael eu cynrychioli wedyn a'u bod yn gorfod gweithio ar y materion hyn neu byddant yn colli grym. Ni chafodd Donald Trump ei ethol gan system sy'n gweithio. Nid yw'n ddemocratiaeth wirioneddol gynrychioliadol, yn fy marn i, yn America. Yn sicr nid yn Tsieina a'r un fath yn Brasil. Mae angen i leisiau pobl ifanc gael eu clywed ac rwy'n credu y bydd y newidiadau hynny yn ein democratiaeth yn galluogi hynny.

Hefyd, hoffwn dynnu sylw'r Siambr at—. Rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben. Tair munud sydd gennym ar gyfer yr areithiau hyn, Lywydd.  

O'r gorau. Wel, hoffwn ddweud hefyd fod Coleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach yn cynnal protest rhwng 12.30 p.m. a 1.30 p.m. ar gampws y coleg, ac mae staff a myfyrwyr y coleg yn gweithredu'n glir iawn ynghylch y mater hwnnw hefyd. Ymddiheuriadau, roeddwn i'n meddwl fod gennyf fwy o amser. Felly, roeddwn eisiau tynnu sylw at hynny, ond mewn gwirionedd, yr hyn rwy'n ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl hyn a newidiwch ein system i'w helpu.

17:10

Mae'r mudiad dros fwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol yn un hir ac mae wedi bod yn adeiladu momentwm ers y 1960au a'r 1970au ar draws y byd, ac mae'r mudiad presennol y gellir dadlau ei fod yn llawer mwy wedi digwydd ar ôl blynyddoedd o godi ymwybyddiaeth a lleisio pryderon. Felly, rydym wedi cyflwyno'r cynnig hwn am fod pobl iau yn iawn i boeni am yr amgylchedd y maent yn mynd i'w etifeddu.

Pan fydd pobl ifanc yn gweld llunwyr polisi byd-eang yn peidio â gwneud digon, neu'n cytuno i fesurau a nodau rhyngwladol y mae gwyddonwyr a'r rhai sy'n gweithio yn y maes mewn swyddi o bob math yn eu beirniadu fel rhai nad ydynt yn ddigonol, neu'n rhy ychydig yn rhy hwyr, wel, gallaf ddeall pam y byddent yn teimlo rheidrwydd i weithredu'n uniongyrchol er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac i wneud i'r lleisiau hynny gael eu clywed yn awr. Os yw plant a phobl ifanc am golli ysgol i streicio ynglŷn â'r mater hwn—. Galwch hyn yn beth bynnag a ddymunwch: yn weithredu uniongyrchol; yn brotest. Gadewch i ni beidio â gwyro oddi wrth yr hyn ydyw: pobl ifanc yn mynd allan ac yn cael llais, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr.

Sawl gwaith yn y Siambr hon y buom yn eistedd yma, eisiau cael mwy o bobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth? Weithiau rydym yn cael trafferth neu nid oes ganddynt ddiddordeb neu maent wedi ymddieithrio neu ni allwn wneud iddynt ddod atom i roi eu barn, ac yna dônt allan, a bryd hynny rydym yn dweud, 'O mawredd, onid yw'n ofnadwy fod Joni bach wedi dod o'r ysgol am eu bod wedi dod allan ac wedi lleisio barn ar rywbeth? Gogoniant, sut y beiddiant gael barn ar rywbeth?' Gadewch i ni eu trin yn hynod nawddoglyd yn lle hynny a dweud, 'Wel, gadewch i ni fynd i eistedd mewn ystafell gyda hwy a gofyn iddynt beth y maent yn ei feddwl, ond na foed inni wrando mewn gwirionedd; gadewch inni fynd oddi yno a chymryd arnom ein bod wedi gwrando ac yna bydd pawb yn iawn a gallwn ddychwelyd at yr hyn y buom yn ei wneud erioed a'u hanwybyddu.' Nid ydynt yn mynd i gael eu hanwybyddu y tro hwn, ac rydym yn ffyliaid os ydynt yn mynd i gael eu hanwybyddu y tro hwn oherwydd rwy'n gobeithio y gwelwn fwy o bobl ifanc yn cael eu hethol er mwyn iddynt allu dweud wrthym, 'Wel, a dweud y gwir, rydym yn ei wneud i ddial arnoch chi am ein hanwybyddu.'

A pheth arall: sawl gwaith y gwelsom bobl ifanc o ysgolion—mae'n ddrwg gennyf, mae fy nwylo ar fy nghanol; rwy'n siŵr na fydd Elin Jones yn fy ngheryddu—yn cael eu gwthio allan i gyfarfod â'r teulu brenhinol, i chwifio eu baneri bach i'r Frenhines? Cânt ganiatâd gan eu hysgol, ond a ydych chi'n clywed pobl yn cwyno? A ydym yn clywed meinciau'r Torïaid yn cwyno eu bod wedi colli awr o ysgol? Nac ydym. Felly, mae'n iawn iddynt wneud hynny, ond nid yw'n iawn iddynt gael barn wleidyddol, un nad yw'n cyd-fynd â'u barn hwy.

Ac os ydych chi'n siarad am streiciau, wel, cefais tête-à-tête ar Twitter gydag Andrew R.T. Davies ynglŷn â'r cludwyr nwyddau a oedd yn blocio'r ffyrdd. Roeddent yn symud yn araf iawn, ond roeddent yn dal i flocio'r ffyrdd. Ac rydych chi, a Nick Bourne o'r blaen, wedi dod allan a'u cefnogi'n gyfan gwbl. Fe aethoch i orsaf betrol yr M4 a sefyll yno gyda hwy gyda deiseb, yn dweud eich bod yn eu cefnogi. Os nad yw hynny'n weithredu uniongyrchol, beth ydyw?

[Anghlywadwy.]—yn ystumio pethau, ond roeddwn yn aelod, fel chithau, o'r Pwyllgor Deisebau, ac roeddwn yn derbyn deiseb ganddynt gan fod yr heddlu wedi'u hatal rhag dod i'r Cynulliad. Fe'u corlannwyd yng Nghaerdydd—[Torri ar draws.] Gallaf glywed yr Aelod dros y Rhondda yn heclo eto, fel y mae'n arfer gwneud, ond peidiwch â cheisio ystumio'r sefyllfa. Ni allent ddod i'r Cynulliad y diwrnod hwnnw am fod yr heddlu wedi'u hatal.

Nid wyf yn ceisio ystumio'r sefyllfa. Fe wnaethoch chi gefnogi hynny ac rwy'n dweud bod hynny'n hollol iawn, ond peidiwch â diystyru achos arall am y bernir mai streic ydyw a rhywbeth nad ydych chi'n meddwl ei fod yn addas yn wleidyddol i bobl ifanc ei wneud.

Rwy'n brin o amser, felly yr unig beth yr hoffwn ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl ifanc pan fyddant yn dod â'r materion hynny atom. Dylech eu cymryd o ddifrif, eu clywed, cyfarfod â hwy a pheidio â'u trin yn nawddoglyd.

Cefais fy synnu wrth gael e-bost o un o ysgolion fy mhlant yn gynharach yn dweud, 'Rydym yn fodlon awdurdodi absenoldeb i unrhyw fyfyrwyr. Rhowch wybod i ni os bydd eich plentyn yn absennol o ganlyniad i gymryd rhan yn y streic.' Cefais fy synnu'n arbennig gan fod y plentyn dan sylw yn ddwyflwydd oed.

Ond rwy'n gwrthwynebu'r streiciau hyn; nid wyf yn cefnogi streiciau yn gyffredinol. Rwy'n credu bod streiciau'n awgrym o fethiant, boed yng nghyd-destun cyflogaeth neu yma, ac mae Plaid Cymru yn brolio sut y mae'r rhain yn digwydd ym mhobman yn y byd. Rhan o'r broblem yw eu bod yn anwahaniaethol. Fe ildiaf.

Diolch yn fawr iawn am ildio. Y cyfan y dymunwn ei wneud oedd y pwynt fod y streic hon, ydy, yn symptom o fethiant, y methiant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd.

Mae'r wlad hon wedi lleihau allyriadau carbon deuocsid fwy na bron unrhyw wlad yn y byd. Gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid ers 1990. Rydym wedi lleihau lefelau ein hallyriadau nid i rai'r 1980au ond i rai'r 1880au. Ble mae'r gydnabyddiaeth i hynny?

17:15

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A ydych chi'n meddwl bod newid hinsawdd yn rhywbeth go iawn, neu a ydych chi'n meddwl ein bod ni'n ei ddychmygu?

Mae Rhianon Passmore hefyd yn ceisio ymyrryd, felly os caf ymdrin â'r pwynt a wnaeth hi hefyd yn gynharach, oherwydd ei fod yr un mor berthnasol—gofynnodd i un o fy nghyd-Aelodau, 'A yw Plaid Brexit bellach yn derbyn bod cysylltiad agos iawn rhwng problemau ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd?' Ydym, rydym yn derbyn hynny. Ac un ffordd allweddol y maent wedi'u cysylltu'n agos yw polisi Llywodraethau Llafur a'r Undeb Ewropeaidd i gymell newid o betrol i ddiesel, gan mai'r lleihad ymylol mewn allyriadau carbon deuocsid mewn gwirionedd yw'r hyn sy'n arwain at lawer o'r problemau yr oeddem yn eu trafod yn ein dadl ddiwethaf ar lygredd aer a phobl yn marw na fyddent fel arall yn marw—

Rwyf bob amser—wel, ers imi astudio'r pwnc, ers i Margaret Thatcher roi hyn ar yr agenda am y tro cyntaf drwy siarad â'r Cenhedloedd Unedig am yr hyn a allai fod yn digwydd gyda'r hinsawdd—[Torri ar draws.] Fy marn i, byth ers i mi ddechrau edrych ar y mater hwn 20 neu 30 mlynedd yn ôl, yw ei bod hi'n debygol fod gweithgarwch dynol yn cynyddu'r hinsawdd. Yr hyn a gwestiynais yw beth y dylid ei wneud am y peth, beth yw'r polisïau a roddir ar waith? Fel y newid o betrol i ddiesel, yn llawer ohonynt, mae costau'r polisïau hynny'n fwy nag unrhyw fudd. Yn y wlad hon, rydym wedi lleihau allyriadau 40 y cant. Roedd gennym darged o doriad o 80 y cant; roedd rhywfaint o gonsensws, bron, yn datblygu o'i gwmpas. Ond erbyn hyn rydym wedi mynd i doriad o 90 neu 100 y cant ac rydym yn siarad amdano ac yn siarad yn rhinweddol, ond a ydym eisiau'r gallu i wneud yr hyn y byddai ei angen mewn gwirionedd? A ydym am gau Port Talbot? A ydym am gael gwared ar yr holl ffermio da byw yng Nghymru? Beth am pan fydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y biliynau y bydd yn rhaid inni eu symud o flaenoriaethau eraill i newid hinsawdd os ydym am gyrraedd y gostyngiad o 90 y cant hyd yn oed, heb sôn am sero net? O, ni allent ymdopi â hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio—na, deuaf i ben oherwydd rwyf eisoes yn y coch. Ac rwy'n dweud, a ydych am dynnu pob boeler nwy ar gyfer pob cartref yn y wlad hon? Os felly, sut ydych chi'n mynd i dalu amdano? Dechreuwch fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, dechreuwch gydnabod bod y wlad hon wedi gwneud mwy nag unrhyw wlad arall yn y byd hyd yma i leihau ei hallyriadau a chael polisi synhwyrol yn hytrach na'r holl siarad rhinweddol, a streiciau.

Rwyf wedi clywed llawer o feirniadaeth yma heddiw yn erbyn ein Llywodraeth gan y Torïaid, ond rwy'n gobeithio y byddant yn beirniadu'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan am eu penderfyniad i ganslo Wythnos Prydain Fawr Werdd ym mis Tachwedd. Er bod y Torïaid yn honni bod ganddynt gymwysterau gwyrdd pan fydd hynny'n gyfleus iddynt, mae'n ein hatgoffa eto nad yw eu cefnogaeth i'r agenda newid hinsawdd yn mynd mor bell â hynny. Ond cyferbynnwch hynny â'r mis nesaf pan fydd cynhadledd newid hinsawdd Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd rhagddi yn ôl y bwriad, ac ni fydd Brexit yn tynnu sylw'r Llywodraeth rhag canolbwyntio ar y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy er mwyn dyfodol ein plant a chenedlaethau'r dyfodol sy'n eu dilyn.

Un o'r camau pwysicaf y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith yw newid y ffordd y mae ffermwyr yn derbyn cymorthdaliadau gan y Llywodraeth, gyda chynigion y bydd pob ffermwr yn cael eu gwobrwyo am y cyfraniadau hanfodol y maent yn eu gwneud i ofalu am yr amgylchedd, gan warchod cynefinoedd a mynd i'r afael â newid hinsawdd. A bydd y newid hwnnw'n gweld biliynau'n cael eu buddsoddi i ddiogelu'r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Sylwaf hefyd fod Plaid Cymru yn gwrthwynebu rhai o'r newidiadau hynny ac yn ffafrio yn lle hynny fod ffermwyr yn cael taliadau'n seiliedig ar faint o dir y maent yn ei ffermio, gyda'r taliad mwyaf yn mynd i'r ffermydd mwyaf. Os gall Plaid Cymru ymrwymo heddiw i newid y safbwynt hwnnw ar y mater hwn, rwy'n siŵr y bydd pawb yn croesawu hynny'n fawr.

Buaswn hefyd yn croesawu'n gynnes ymrwymiad gan Blaid Cymru i groesawu rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar O'r Mynydd i'r Môr. Prosiect arloesol ydyw i ddad-ddofi'r ardal rhwng masiff Pumlumon, yr ardal uchaf yng nghanolbarth Cymru, i lawr drwy'r dyffrynnoedd coediog i aber afon Dyfi ac allan i fae Ceredigion. Ac o fewn pum mlynedd bydd yn dwyn ynghyd un ardal natur-gyfoethog ddi-dor sy'n cynnwys o leiaf 10,000 hectar o dir a 28,500 hectar o fôr. Dyna'r math o weithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.

Rwyf wedi clywed llawer o bobl yn bod yn emosiynol iawn yma heddiw, ac mewn rhai ffyrdd mae'n fater sy'n ennyn teimladau cryf, ond nid oes llawer o ddiben i neb, pwy bynnag ydynt, eistedd ar gadair heb eu bod wedi meddwl o ble y daeth y pren ar ei chyfer mewn gwirionedd. Felly, mae pobl yn mynd i siopau adrannol ac maent yn prynu nwyddau sy'n eithaf rhad, maent yn mynd â hwy adref ac yn aml iawn maent yn eistedd ar yr union seddi sydd wedi peri i fforest law Brasil gael ei chlirio, tra byddant yn eistedd yno'n crio mewn anobaith am yr hyn y mae hynny'n ei wneud i hinsawdd y byd. Felly, mae'n debyg mai fy mhwynt yma yw: er y bydd y gwleidyddion yn gwneud yr hyn a allant, bydd rhai'n gwneud mwy nag eraill, ac mae'n rhaid i'r dinasyddion hefyd edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud a gofyn y cwestiynau go iawn pan fyddant yn mynd ati i brynu pethau at eu defnydd eu hunain.

17:20

Diolch, Lywydd. Mae'n amlwg iawn o'r cynigion a'r gwelliannau heddiw fod pob un o'r prif bleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cymeradwyo plant a phobl ifanc am y rôl y maent yn ei chwarae yn y ddadl ar y newid yn yr hinsawdd. Ni ddylai fod ganddynt unrhyw amheuaeth ynghylch y gwahaniaeth y maent wedi'i wneud eisoes, ac y byddant yn parhau i'w wneud. Rwyf fi a Gweinidogion eraill Cymru yn trafod materion newid hinsawdd yn rheolaidd gyda'r bobl ifanc yr ydym yn cyfarfod â hwy. Yn ddiweddar, derbyniais y magna carta newid hinsawdd, a gynhyrchwyd gan un disgybl ysgol gynradd, ac mae'n rhaid imi ddweud ei fod yn dangos dealltwriaeth graffach o'r problemau ac yn cynnwys set lawer mwy cynhwysfawr o fesurau na'r rhai a awgrymwyd wrthyf gan rai o Aelodau'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad hwn.

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n nodi manylion ynglŷn â tharddiad yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru a'n cynlluniau i'w lleihau. Ar y diwrnod y lansiwyd y cynllun, cynhaliodd y Prif Weinidog drafodaeth bwrdd crwn gyda phlant a phobl ifanc i ateb eu cwestiynau am y cynllun a'r camau yr ydym yn eu cymryd. Credwn na allwn ddibynnu'n bennaf ar unigolion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar eu pennau eu hunain. Nid yw hwn yn fater y gallwn fforddio gadael iddo gael ei benderfynu gan y farchnad rydd. Credwn fod yn rhaid i Lywodraeth chwarae rôl weithredol o ran gwneud gweithredu ar y cyd yn bosibl.

Un enghraifft o hyn yw'r fenter eco-ysgolion lle mae miloedd o blant a phobl ifanc yn rhoi camau ar waith yn eu hysgolion bob wythnos sy'n cael effaith uniongyrchol ar fynd i'r afael â newid hinsawdd a materion amgylcheddol hanfodol eraill. Eleni rydym hefyd yn gweithio gyda Maint Cymru i ddarparu pum uwchgynhadledd newid hinsawdd ar ffurf cynadleddau Cynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn cynnwys disgyblion o 80 o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae mentrau fel hyn yn cryfhau lleisiau plant a phobl ifanc ac yn eu cynorthwyo i weithredu yn eu cymunedau.

Rhaid inni gofio bod gennym gyfrifoldeb hefyd i gynrychioli'r plant a'r bobl ifanc nad ydynt yn dewis streicio. Dyna pam y mae gwelliant ein Llywodraeth i'r cynnig yn adlewyrchu galwad ganolog ymgyrch Fridays for Future ar bob gwleidydd ac arweinydd busnes i wrando ar yr hyn sydd gan blant a phobl ifanc i'w ddweud am newid hinsawdd. Un ffordd bwysig y gallwn ychwanegu mwy o bwysau at farn plant a phobl ifanc yng Nghymru—a chyfeiriodd Hefin David at hyn—yw drwy ein hymrwymiad i ostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru o 18 i 16 mewn pryd ar gyfer yr etholiadau nesaf i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn 2021. Dyma'r peth iawn i'w wneud, ond mae'n gwbl angenrheidiol hefyd er mwyn i blant a phobl ifanc gyflawni'r rôl sydd angen iddynt ei chwarae er mwyn creu Cymru carbon isel.

A gaf fi ddiolch i bawb am gymryd rhan? Mae'n eironig fod Andrew R.T. Davies, mewn dadl gynharach, yn difrïo gwelliant 'dileu popeth' ac yna'n codi i siarad i gefnogi gwelliant 'dileu popeth' yn y ddadl hon, ond dyna ni.

Mae Hefin David yn llygad ei le: rhwystredigaeth ac ofn—mae pobl ifanc yn ofni canlyniadau'r argyfwng hinsawdd, a rhestrodd eich etholwr rai pethau a fyddai'n digwydd mewn degawdau i ddod. Wel, wyddoch chi, maent yn digwydd nawr. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd ym Mozambique, gyda seiclonau Idai a Kenneth yn ddiweddar. Symudodd yr arfordir 15 milltir i mewn i'r tir, a chafodd dinas Beira ei dinistrio—cafodd 90 y cant ohoni ei difa'n llwyr, gyda miloedd wedi'u lladd a 0.5 miliwn wedi'u dadleoli. Mae'n digwydd heddiw; nid yw'n rhywbeth a allai ddigwydd yn y dyfodol. Mark Reckless, rwy'n credu fy mod yn cytuno â chi am y tro cyntaf erioed—mae streiciau'n arwydd o fethiant. Fe restroch chi'r gost o leihau allyriadau carbon, ond ni ddywedasoch ddim wrthym am y gost o fethu ymdrin, neu o geisio ymdrin â rhai o ganlyniadau trychinebus y digwyddiadau hinsawdd a wynebwn o ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd.

Nid wyf yn siŵr pam oedd Joyce Watson yn chwilio am ffrae gyda Phlaid Cymru, oherwydd fe gamliwioch chi ddau o'n polisïau, ond dyna ni; efallai y bydd yn rhaid inni fynd ar drywydd hynny yn nes ymlaen, oherwydd nid oes gennyf lawer o amser.

Dywedodd Greta Thunberg, ac rwy'n dyfynnu:

Gan fod ein harweinwyr yn ymddwyn fel plant,

ac nid wyf i'n dweud dim—ei geiriau hi yw'r rhain—

Gan fod ein harweinwyr yn ymddwyn fel plant, bydd yn rhaid i ni ysgwyddo'r cyfrifoldeb y dylent hwy fod wedi'i ysgwyddo ymhell yn ôl.

A dyna'n union y maent yn ei wneud ddydd Gwener yma drwy gymryd rhan yn y streiciau ysgol hyn. Felly, gadewch i ni ei gwneud yn glir ein bod ni fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'n pobl ifanc ar y daith honno, a gadewch i ni gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Dadl Plaid Cymru: Tâl ac amodau gweithwyr y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar dâl ac amodau gweithwyr y gwasanaeth iechyd, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7138 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymestyn sifftiau nyrsio heb dâl ar gyfer dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

2. Yn ofni colli ewyllys da ymysg staff sydd eisoes yn gweithio drwy eu cyfnodau egwyl neu sydd ar alwad ar eu wardiau neu eu hunedau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu tâl ac amodau gweithwyr rheng flaen o fewn y GIG drwy sicrhau bod y cynnig atchweliadol hwn yn cael ei ddiddymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ddoe, daeth ymgynghoriad ar newidiadau i rotâu nyrsio ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i ben. Mae'r argymhelliad, i bob golwg, i safoni a symleiddio cyfnodau egwyl nyrsys a throsglwyddiadau yn ceisio arbed arian i'r bwrdd iechyd mewn gwirionedd, ar adeg, wrth gwrs, pan fo'i gadeirydd yn cyfaddef ei fod yn cael trafferth cyrraedd targedau i leihau ei ddiffyg o £42 miliwn. Nawr, yn y cyd-destun hwn—ymgais daer i arbed arian—y lluniwyd y cynllun. A gallai'r ysfa daer honno esbonio pam y mae'r argymhelliad wedi arwain uwch-reolwyr yn y bwrdd i lunio'r syniad gwallgof hwn i arbed arian. Yn gryno, mae'n ymestyn sifftiau nyrsys hanner awr yn ychwanegol yn ddi-dâl. Byddai'n golygu y bydd disgwyl i nyrs sy'n gweithio sifft 12.5 awr ar hyn o bryd, sy'n cynnwys egwyl o hanner awr yn ddi-dâl, weithio'r un sifft a chael ei thalu am 11.5 awr yn unig.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod bod llawer o nyrsys yn treulio'u cyfnodau egwyl ar eu wardiau neu eu hunedau ar hyn o bryd, a'u bod ar alwad i bob pwrpas mewn argyfwng. Nawr, ewyllys da staff gweithgar yn unig sydd i gyfrif am hynny, ac mae'r argymhelliad hwn yn ceisio manteisio ar yr ewyllys da hwnnw. Yr hyn y mae'r rheolwyr yn methu ei ddeall yw—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf, mae arnaf ofn—mae angen i mi gael hyn—. Gallwch siarad yn y ddadl. Mae'n ddadl fer iawn. Yr hyn y mae rheolwyr yn methu deall yw bod yr argymhelliad yn bygwth tanseilio morâl ac ewyllys da nyrsys yn llwyr. Bydd y newidiadau'n golygu, i bob pwrpas, fod nyrsys amser llawn yn gorfod gweithio sifft ychwanegol y mis i gyflawni'r oriau di-dâl.

Nawr, nid newidiadau bach yw'r rhain—os cânt eu gweithredu bydd yn effeithio ar dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd ar draws fy rhanbarth yng ngogledd Cymru. Mae nyrsys yr ydym wedi siarad â hwy'n ddienw yn dweud, os aiff y cynllun yn ei flaen, y byddant yn ystyried lleihau eu horiau, bydd rhai'n ystyried rhoi'r gorau iddi yn llwyr, dywed rhai y byddant yn treulio'u cyfnodau egwyl i ffwrdd o'u huned neu eu ward, a bydd rhai'n cymryd gwyliau blynyddol yn hytrach na gweithio sifftiau ychwanegol.

Mae newidiadau tebyg wedi'u rhoi ar waith mewn ysbytai yn Lloegr, ond mae'n bosibl mai dyma un o'r adegau cyntaf, er ei bod yn bosibl bod Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg—efallai eu bod hwy wedi gwneud rhywbeth tebyg. Ond teimlaf yn gryf fod yn rhaid inni herio'r argymhellion hyn, ac fel cynrychiolydd o ogledd Cymru, mae'n amlwg fod lles ein nyrsys yng ngogledd Cymru yn agos at fy nghalon.

Nawr, yn sail i'r argymhelliad y mae'r angen, yn ôl y gyfraith wrth gwrs, i sicrhau lefelau staffio diogel ar bob ward, gan leihau costau nyrsys asiantaeth ar yr un pryd, drwy sicrhau niferoedd cymwys o staff nyrsio a gweithwyr cymorth gofal iechyd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae rheoli gwael hefyd yn golygu bod amrywiaeth enfawr o ran cyfnodau egwyl i staff, o ddim egwyl o gwbl i 75 munud o egwyl â thâl. Ni ddylai safoni'r rhain olygu gorfodi baich ychwanegol annheg ar nyrsys.

Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn destun mesurau arbennig, wrth gwrs, oherwydd amrywiaeth o fethiannau clinigol ers 2015. Mae'n dechrau ar ei bumed flwyddyn o reolaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth, ac eto nid yw'n dangos unrhyw arwydd ei fod yn ymdopi â heriau'n ymwneud â'r gweithlu sy'n sail i lawer o'i broblemau. Mae prinder dybryd o feddygon a nyrsys, fel y gwyddom, ac yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd 500 o swyddi nyrsio gwag yn y gogledd—un o bob 10 o'r gweithlu. Felly, gallwch ddeall pam y mae'r staff sydd yno eisoes o dan bwysau, a pham y mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i dorri ei fil nyrsys asiantaeth enfawr. Nawr, datgelodd ymateb rhyddid gwybodaeth i mi yr wythnos diwethaf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn gwario dros £1 miliwn y mis ar nyrsys asiantaeth yn unig. Yn wir, ar un adeg, roedd yn gwario £3 miliwn y mis ar feddygon locwm a staff asiantaeth. Nawr, mae'r nyrsys hyn yn llenwi bylchau, ond mae cyflogi staff asiantaeth yn costio mwy wrth gwrs, ac nid ydynt yn gallu cyflawni rhai o'r dyletswyddau y mae nyrsys staff yn eu gwneud fel mater o drefn.

Felly, faint fydd yr argymhelliad hwn yn ei arbed? Wel, yn ôl y bwrdd iechyd ei hun, maent yn disgwyl arbed £25,000 y mis oddi ar eu bil nyrsys asiantaeth. Mae hynny oddeutu 2 y cant—2 y cant o'r bil misol. Rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn dadlau bod yn rhaid i chi gyfri'r ceiniogau pan fyddwch yn wynebu'r fath fynydd o ddyled, ac ni fuaswn yn anghytuno â hynny, ond ofnaf eu bod wedi colli golwg ar sut y mae hyn wedi cael ei dderbyn ar lefel y ward. Nid yw'r bwlch rhwng y bwrdd a'r ward erioed wedi bod yn fwy, o farnu wrth yr ymateb.  

Mae nyrsys pryderus wedi cysylltu â ni oherwydd bydd yr argymhelliad yn effeithio'n wael ar y bwrdd iechyd. Bydd colli ewyllys da ymhlith miloedd o nyrsys sydd eisoes yn gweithio o dan bwysau aruthrol yn gwneud pethau'n waeth, nid yn well. Nid dyma'r ffordd i drin staff medrus, profiadol ac arbenigol. Rwyf am i'r bwrdd iechyd ailystyried yr argymhelliad. Mae'n achosi pryder ymhlith staff nad oes angen straen pellach arnynt yn eu bywyd gwaith. Mae morâl y staff eisoes yn isel ac efallai mai dyma fydd ei diwedd hi. Efallai y bydd y bwrdd iechyd yn arbed £25,000 y mis, ond ni allwch roi pris ar ewyllys da dros 4,000 o nyrsys.

Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog iechyd, y mae ei adran, wrth gwrs, yn goruchwylio Betsi Cadwaladr yn uniongyrchol, yn deall hyn. Gobeithio—. Wel, rwy'n deall bod ei gyd-Aelod, yr AS dros Crewe a Nantwich, Laura Smith, wedi gwrthwynebu newidiadau tebyg a orfodwyd ar nyrsys yn ysbyty Leighton yn ei hetholaeth yn hallt iawn. Felly, os nad yw'n gwrando ar Blaid Cymru, tybed a fyddai'n gwrando ar ei dadl hi.

A yw'n gwrando ar yr undebau, fel Unite, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, sydd ill dau'n gwrthwynebu'r newidiadau hyn yn y modd cryfaf posibl? Buaswn yn ei annog i gamu i mewn a sicrhau y rhoddir y gorau i'r polisi hwn cyn iddo achosi problemau gwirioneddol gyda'r gweithlu, ac yn y pen draw, wrth gwrs, gyda'r GIG ar draws gogledd Cymru.

A wnaiff wrando ar y dros 6,000 o bobl, gyda llawer ohonynt yn nyrsys a'u teuluoedd, sydd wedi llofnodi deisebau i roi'r gorau i'r newid hwn? Mae nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn rheng flaen y gwaith o ddarparu gwasanaeth gwych ledled y gogledd. Mae nyrsys yn gweithio'n aruthrol o galed ac nid oes angen mwy o bwysau arnynt gan y rheolwyr, sy'n gallu gadael eu swyddfeydd am 5 p.m, wrth gwrs, doed a ddêl Felly, a yw'r uwch-reolwyr yn meddwl o ddifrif y bydd y newid yn helpu i gadw a recriwtio staff?

Fe orffennaf fy nghyfraniad agoriadol gyda dyfyniad gan nyrs staff a lofnododd ein deiseb ac a adawodd y neges hon ar yr hysbysfwrdd:

Dyma'r hoelen olaf yn yr arch i nyrsys sy'n gweithio i Betsi Cadwaladr. Rydym eisoes yn gweithio ar ward sy'n brin o staff, felly rydym yn lwcus os ydym yn cael egwyl. Bydd hyn yn golygu bod llawer o nyrsys yn symud o'r proffesiwn nyrsio a byddaf yn un ohonynt. Rwyf wrth fy modd yn bod yn nyrs, ond nid wyf yn mynd i beryglu fy iechyd wrth i'r ymddiriedolaeth roi mwy o bwysau arnaf. Mae Betsi Cadwaladr yn dangos eu gwir liwiau yn fy marn i. Maent yn poeni mwy am arian na lles y claf na'r staff. Pe baent yn rhoi arian tuag at staff rheng flaen drwy sicrhau bod wardiau'n cael eu staffio'n ddiogel a pheidio â thalu cwmnïau i gynnig syniadau dwl, efallai y gallent arbed arian yn y pen draw.

Ei geiriau hi oedd y rheini. Nawr, rwy'n annog y Cynulliad i gefnogi cynnig Plaid Cymru ac i gefnogi ein nyrsys y prynhawn yma.

17:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol.

Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach bod nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd o ganlyniad i straen a phroblemau'n ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014.

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn mynegi pryder na fydd y cynnig hwn o gymorth i forâl y staff ac y bydd yn gosod disgwyliadau ychwanegol ar nyrsys a gweithwyr gofal iechyd i aberthu eu cyfnodau egwyl cytundebol.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ym mhwynt 3, dileu 'drwy sicrhau' a rhoi yn ei le:

'ac i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymyrryd er mwyn sicrhau'

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau hynny'n ffurfiol. Ond rwy'n ofni bod fy nghyd-Aelod ar yr ochr arall i'r Siambr, Llyr Huws Gruffydd, wedi dweud yn eithriadol o huawdl bopeth yr oeddwn am ei ddweud. Oherwydd mae gennym GIG sydd o dan bwysau aruthrol. Mae gennym staff sy'n gwneud mwy nag sy'n ofynnol o ran dyletswydd. Maent yn gweithio oriau hwy ac nid ydynt yn mynd ar drywydd taliadau goramser, na fyddent yn aml iawn yn eu cael beth bynnag. Maent yn aros ac nid ydynt yn cael y cyfnodau egwyl y dylent eu cael, am fod yna bob amser rywun sydd angen ychydig o help, rhywun sydd angen ei godi, rhywun sydd angen eu bwydo, a moddion i'w roi, trosglwyddiad i'w wneud. Nid ydynt yn gofyn am yr arian ychwanegol; maent yn mynd ati i wneud y gwaith. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud yn glir iawn pe bai pob un nyrs yn y GIG yng Nghymru yn gweithio'r amser y mae i fod i'w weithio, byddai gennym brinder affwysol o nyrsys ledled Cymru—tua 3,500 i 4,000 o bersonél.

Felly, pan fyddwch o dan bwysau aruthrol o'r fath—fel y dywedoch chi, Llyr—mae cael pobl yn potsian o gwmpas yr ymylon ac yn gwneud y mathau hynny o newidiadau yn gwneud i chi deimlo nad oes neb yn eich gwerthfawrogi. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n mynd yn groes i'r graen yw bod yr adolygiad seneddol yn wirioneddol glir ynglŷn â phwysigrwydd staff a chleifion yn y dyfodol yn y weledigaeth ar gyfer iechyd a'n bod yn mynd i fod yn GIG sy'n canolbwyntio llawer mwy ar bobl.  

Oherwydd fe ofynnaf hyn i chi, Aelodau—mae'r GIG, os nad yw'n ddim arall, yn fusnes pobl. Mae'n ymwneud yn llwyr â phobl—y bobl sy'n gleifion, y bobl sy'n gweithio ynddo, sy'n gwneud pobl yn iach, sy'n eu hanfon yn ôl allan i'r byd. Mae'n ymwneud â rhyngweithio rhwng pobl, mae'n ymwneud â chyfathrebu, mae'n ymwneud â medr, mae'n ymwneud ag un person yn helpu person arall neu'n rhan o fywyd person arall am ennyd fer iawn, ac mae'n rhaid i chi deimlo'n dda amdanoch eich hun er mwyn gwneud hynny. Ac rwyf am wneud cymhariaeth gyflym, ac rwy'n cyffesu hyn: ar y dyddiau pan nad wyf yn teimlo'n wych, pan fyddaf wedi blino, pan fyddaf wedi ymlâdd, pan fyddaf wedi cael llond bol, pan fyddaf yn darllen 450 o bapurau pwyllgor mewn cyfnod byr iawn o amser, rwy'n eithaf diamynedd gyda fy ngŵr, rwy'n eithaf diamynedd gyda fy mhlant, rwy'n eithaf, wyddoch chi, oherwydd fy mod yn teimlo o dan bwysau, rwy'n teimlo straen. Dyma sut y mae bodau dynol yn adweithio. Felly, beth ydym yn ei wneud i'r holl staff hyn yn y GIG sy'n gweithio'n ddyfal drosom? Rydym yn eu rhoi o dan fwy byth o bwysau, ond yn disgwyl iddynt fod yn hapus ac yn llawen, i wneud eu gwaith mor dda ag y gallant ei gwneud a chydag angerdd yn eu calon.

Nawr, mae'n ymwneud ag arbed costau, ac mae angen i Betsi Cadwaladr docio peth ar ei gwariant, ond mae llefydd gwell i docio arnynt. A buaswn yn awgrymu bod PricewaterhouseCoopers, sydd wedi'u helpu i wneud yr ymarfer bach hwn, yn dda iawn yn ôl pob tebyg am edrych ar y ffigurau ac yn dda iawn am edrych ar y llyfrau, ond rwy'n eu herio i gerdded drwy'r wardiau hynny ynghanol nos a mynd i weld a gwneud beth y mae'r staff hyn yn ei wneud.  

Rydym yn cefnogi eich cynnig yn llwyr. Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau, ond ymdrech i geisio'i dacluso a'i wneud yn gryfach oedd hynny, oherwydd un peth yr ydym yn galw amdano, Weinidog, yw i chi yn bersonol ymyrryd yn hyn yn uniongyrchol, i edrych yn hir ac yn fanwl, oherwydd rydych eisoes wedi dweud mewn dadleuon blaenorol heddiw eich bod yn ymateb ac yn gwneud i bethau fod yn gyfarwyddol am nad yw byrddau iechyd yn perfformio. Nid yw Betsi Cadwaladr yn perfformio, ac mae'r peth diweddaraf hwn yn mynd i gynhyrfu cymaint o bobl ac achosi i forâl—.   Mae fy amser wedi dod i ben, ond rwyf am wneud un pwynt terfynol Mae absenoldeb salwch staff yn sgil problemau iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac yn 2018-19—a ffigurau bach yw'r rhain, ac ni allwn gredu'r peth pan ddarllenais hwy—y dyddiau amser llawn a gollwyd, dros 72,000. Pe baech chi'n cael y dyddiau hynny yn ôl i Betsi Cadwaladr, yn ôl i'r GIG, byddai gennych GIG hollol wahanol. Dim ond gyda staff hapus ac iach sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo ac sy'n teimlo bod pobl yn ymroddedig iddynt y gallwch wneud hyn.  

17:35

Rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r hyn y mae Llyr ac Angela newydd ei ddweud. Yn aml yn y Siambr hon cyfeiriwn at 'ein gwasanaeth iechyd', 'ein staff gwasanaeth iechyd gweithgar' a chredaf fod hon yn ffordd o ddweud ein bod yn rhoi gwerth enfawr ar y gwasanaethau a gawn a'r bobl sy'n eu rhoi i ni.

Mae'r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau hanfodol—mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt yn helaeth iawn ar adegau a phan fyddant yn fregus, yn sâl ac yn ofidus. Mae pawb ohonom yn gwybod bod nyrsio neu ofalu'n alwedigaeth nad yw pawb am ei gwneud ac nid yw pawb yn gallu nyrsio rhywun yn iach, cysuro'r rhai sydd wedi cael profedigaeth neu ymdopi ag argyfwng meddygol. Pan fyddwch yn rhoi eich calon a'ch enaid yn eich swydd, pan fydd yn alwedigaeth, gwyddom y byddwch yn rhoi mwy, yn gwneud mwy, yn ddi-wobr a heb gael eich cydnabod.

Ond mae hynny'n iawn efallai pan fyddwch yn teimlo bod eich cleifion a'ch cyflogwr yn eich gwerthfawrogi. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i fod o dan fesurau arbennig. Golyga hyn nad yw lefel ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei brofi gan bobl ar draws gogledd Cymru gystal â'r hyn y maent yn ei gael mewn rhannau eraill o'r wlad. Er ei fod yn cael ei oruchwylio'n uniongyrchol gennych chi, Weinidog iechyd, mewn meysydd penodol, nid oes dyddiad gorffen yn y golwg ar gyfer rhoi'r gorau i'r mesurau hyn ac a gaf fi awgrymu bod y sefyllfa druenus hon yn fy arwain i feddwl bod angen mynd i'r afael â diffygion strwythurol yn y system gyfan?

Nawr, mae'n ymddangos i mi mai cryfder unrhyw sefydliad yw ei bobl, ac o ystyried faint o negeseuon e-bost a gefais ar fater y bwrdd iechyd hwn, mae bellach yn y broses o erydu ewyllys da ei staff drwy geisio newid telerau ac amodau a gwneud i staff weithio un sifft ychwanegol y mis am ddim i bob pwrpas. Nid yw hyn yn iawn. Gwelaf eu bod yn sôn am safoni a rhesymoli patrymau sifftiau—wel, yn burion, ond nid ar draul staff sydd eisoes o dan bwysau, o dan ormod o straen ac sy'n gweithio y tu hwnt i'w gallu eu hunain.  

Daw un neu ddau o gwestiynau i'r meddwl, a buaswn yn ddiolchgar i gael eich barn ar hyn. Os yw'r bwrdd iechyd wedi bodoli ers 2009, pam mai yn 2019 y sylweddolodd fod angen i resymoli ddigwydd? Ac mae pawb ohonom yn gwybod pa mor sinigaidd y mae ymgyngoriadau'n gallu bod. A wnaiff y Gweinidog iechyd wneud popeth yn ei allu, os gwêl yn dda, i sicrhau bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried o ddifrif?

Yn olaf, mae rhywun nad yw'r newidiadau arfaethedig hyn yn effeithio arnynt am eu bod wedi newid eu swydd wedi ysgrifennu ataf, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae angen inni edrych ar ôl ein nyrsys a'n cynorthwywyr gofal iechyd, a dangos iddynt pa mor werthfawr ydynt mewn gwirionedd, ac atal y newidiadau hyn rhag cael eu rhoi ar waith'. Ni allwn fod wedi rhoi hynny'n well fy hun. Diolch.

17:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl. Fe ddechreuaf drwy egluro bod rotâu staff yn fater gweithredol ac yn gyfrifoldeb i sefydliadau unigol. Dylent sicrhau bod pob un o'u rotâu yn ystyried cydymffurfiaeth â Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, wedi'u llunio i ddiwallu anghenion staff a'r gwasanaeth, ac yn gosod angen y claf yn ganolog yn y gwaith o reoli'r gweithlu.

Rwy'n disgwyl i holl gyflogwyr y GIG gydweithio'n agos â'r undebau llafur ar ochr y staff ar y newidiadau arfaethedig, i ystyried yr holl sylwadau a phryderon ac ymateb yn briodol iddynt. Mae'r argymhelliad cyfredol sy'n destun ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ceisio safoni patrymau sifftiau, cyfnodau trosglwyddo a chyfnodau egwyl ar draws pob is-adran, ac nid yw'r ymgynghoriad cyfan wedi dod i ben eto; maent yn dal i ymgysylltu ac ymgynghori ar yr argymhelliad.

Mewn ymateb i gais gan bartneriaid undebau llafur, rwy'n deall bod y cyfnod ymgynghori wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau digon o amser i'r holl staff y gallai'r argymhelliad effeithio arnynt ystyried yr wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Deallaf hefyd fod cynrychiolwyr undebau llafur wedi mynegi pryderon am yr effaith bosibl, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, y posibilrwydd o gynnydd yng nghostau gofal plant, a chostau teithio, golchi dillad a bwyd. Rwy'n disgwyl i reolwyr y bwrdd iechyd ystyried unrhyw effaith ar gydraddoldeb a'r holl adborth cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Felly, nid yw'r cynnig yn adlewyrchu'r realiti nad yw prosesau ymgynghori lleol wedi'u cwblhau eto—maent yn mynd rhagddynt ac ni wnaed penderfyniad hyd yma.

Mae'r cynnig hefyd yn cyfeirio at ddiogelu cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr rheng flaen yn y GIG. Mae'r argymhellion ar gyfer y rotâu yn ymwneud â chynllunio sifftiau ac ni fyddent yn effeithio ar gyflog, telerau ac amodau cytundebol a nodwyd o dan yr 'Agenda ar gyfer Newid' y cytunwyd arni ar y cyd.

Wrth wrthwynebu'r cynnig, rwyf hefyd wedi cynnig gwelliannau i ategu'r gwerth a roddwn ar weithlu'r GIG a threfniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a'n bod yn parhau i ddisgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori â'u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar unrhyw newid gweithredol sy'n effeithio ar staff.

Mae'r bartneriaeth gymdeithasol ac ymwneud undebau llafur yn drefniadau arferol yma yng Nghymru. Mae'n ddealladwy fod cymheiriaid undebau llafur yn Lloegr, lle mae'r dull o weithredu yn sylfaenol wahanol, yn eiddigeddus o'n trefniadau yng Nghymru. Rwy'n falch o ddweud bod ansawdd y data wrth gofnodi absenoldebau yn gwella, a bydd hyn yn helpu i nodi a mynd i'r afael â themâu a meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled Cymru, yn dilyn y cytundeb 'Agenda ar gyfer Newid', i leihau absenoldeb oherwydd salwch ym mhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Mae sefydliadau'r GIG yn ymwneud ag ystod o fentrau i gefnogi iechyd a lles corfforol ac emosiynol eu staff. Fel pob un o fy nghyd-Aelodau, rwyf hefyd yn pryderu am straen a materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl sy'n effeithio ar ein staff iechyd a gofal. Rhaid i gyflogwyr ystyried iechyd a lles eu gweithwyr yn llawn. Mewn gwirionedd—mae'r drafodaeth ar sut i leihau absenoldeb oherwydd salwch wedi cael ei datblygu ar y cyd gan yr undebau llafur a chan gyflogwyr, ac fe'i cefnogwyd gan adnoddau ychwanegol gan y Llywodraeth. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gynigiwyd gan Darren Millar. Fel y dywedais yn gynt, mae'r argymhellion hyn, yn gwbl briodol, yn amodol ar ymgysylltu ac ymgynghori â staff, undebau llafur a chyrff cynrychiadol.

Rwyf am ei gwneud yn glir fy mod yn cadw budd gorau ein staff a'r cyhoedd a wasanaethwn mewn cof ym mhob penderfyniad a wnaf. Gwn fod hynny'n rhywbeth y byddai Aelodau eraill yn ei ddweud—eu bod hwythau'n cadw hynny mewn cof wrth wneud cyfraniadau yn y Siambr hon. Ond rwy'n disgwyl i gyflogwyr y GIG fabwysiadu ymagwedd debyg wrth wrando ar ein staff a'u cynrychiolwyr etholedig ar ochr yr undebau llafur a gweithio gyda hwy.  

Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu bod cyflogwyr ac undebau llafur yn cytuno ar bob argymhelliad a wneir. Er hynny, yng Nghymru, mae gennym hanes o ddod o hyd i ffordd o ddod i gytundeb ar y ffordd ymlaen. Rwy'n disgwyl i'r dull adeiladol ac aeddfed o weithredu yr ydym wedi'i feithrin, ei annog a'i ymgorffori drwy bartneriaeth gymdeithasol ganfod ffordd ymlaen yn yr achos hwn, ac wrth gwrs, byddaf yn parhau i fod â diddordeb yn y cynnydd ar hynny yn y mater hwn ar ôl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ddod i law. Yna bydd yn rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried unrhyw argymhelliad a fydd yn dal i fod ganddynt ar y pwynt hwnnw, neu ei adolygu, ei drafod, a chytuno arno, gobeithio, yn y bartneriaeth yr ydym wedi'i meithrin, ac rwy'n falch o ddweud, wedi'i sicrhau yma yng Nghymru.  

17:45

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r amser yn brin. Allaf fi longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, yn benodol felly Llyr Gruffydd a hefyd Angela Burns, sydd wedi olrhain beth sydd o'n blaenau ni a'r her? Ac, wrth gwrs, galwedigaeth ydy nyrsio, ac mae hynny'n golygu bod pobl yn mynd y filltir ychwanegol yna dros eu cleifion. Weithiau, mae nyrsys, fel meddygon, yn gallu cael eu gweld gan weinyddwyr fel rhyw fath o soft touch, achos wnawn ni aros ymlaen beth bynnag mae'n gymryd achos mae'n claf ni fanna yn sâl. Mae eisiau dangos parch i'r agwedd yna bod nyrsio yn alwedigaeth, a dangos y parch angenrheidiol a chefnogi'r cynnig yma. Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym yn awr wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio ar yr agenda, felly oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen at y bleidlais.

12. Cyfnod Pleidleisio

Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw pleidlais ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7136 - Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor: O blaid: 35, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ansawdd aer, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, awn ati wedyn i bleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7133 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7133 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM7133 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop.

Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng Nghymru.

Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella.

Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru.

Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7133 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar gyfiawnder hinsawdd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig wyth, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7137 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, un yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM7137 - Gwelliant 1: O blaid: 12, Yn erbyn: 34, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 27, wyth yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM7137 - Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 13, Ymatal: 8

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 30, roedd tri yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.

NDM7137 - Gwelliant 3: O blaid: 30, Yn erbyn: 15, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

17:50

Cynnig NDM7137 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi galwad mudiad Fridays for Future ar gyfer holl wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon isel.

2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd.

3. Yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, roedd 15 yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7137 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 6, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dâl ac amodau gweithwyr y GIG. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, ac unwaith eto, os gwrthodir y cynnig, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwnnw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7138 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Pleidleisiodd 27 o blaid gwelliant 1, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7138 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM7138 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol.

Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 33, tri yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7137 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 33, Yn erbyn: 11, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, felly os yw'r Aelodau'n gadael, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn ddistaw os gwelwch yn dda?

13. Dadl Fer: Hapus i Redeg

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Rhianon Passmore i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Rhianon.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn awr yn fwy nag erioed efallai, rydym yn dechrau deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i hybu lles meddyliol a chymdeithasol unigolyn. Heddiw, ledled Cymru, bydd bechgyn, merched, dynion a menywod o bob oed, pob cefndir a phob maint wedi manteisio ar y cyfle yn heulwen yr haf bach mihangel hwn yr ydym yn ei fwynhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau elfennol fel cerdded, loncian a rhedeg, ac eto nid yw'n gyfyngedig i'r haf.

Mewn llai na thair wythnos, bydd prifddinas Cymru yn cynnal hanner marathon mwyaf ond un y Deyrnas Unedig, a ddydd Sul, bydd Abertawe yn cynnal ras 10k Bae Abertawe. Ac eleni'n unig, gwelsom Athletau Cymru a'u partneriaid yn cynnal digwyddiadau rhedeg cymunedol a chymdeithasol proffil uchel ledled ein gwlad, yn amrywio o 10k Bae Caerdydd, 10k Casnewydd, hanner marathon Casnewydd a marathon Casnewydd, ras Porthcawl—a gallwn barhau. Cyfranogiad pobl mewn rhedeg torfol sy'n nodweddu'r digwyddiadau hyn, gyda chymaint o'r rhedwyr yn rhedeg nid yn unig drostynt eu hunain ond er mwyn codi arian ar gyfer elusennau ac achosion sy'n agos at galonnau eu teuluoedd. Mae'n rhedeg cymdeithasol a chymdeithasgar. Ac yn aml, byddwch yn gweld tyrfa fawr ar y strydoedd yn dod at ei gilydd i gymeradwyo ac i godi calonnau'r rhedwyr, oherwydd nid yw rhedeg yn hawdd, beth bynnag yw eich safon neu lefel eich ffitrwydd corfforol. Bydd y torfeydd yn annog y rhedwyr, a'r rhedwyr yn cymryd rhan am lawer iawn o resymau, ond hefyd yn rhannol er mwyn ymateb i'r her. Mae yna ddywediad adnabyddus, 'Rydych yn rhedeg eich ras eich hun', ac fel mewn bywyd, cawn ein herio i wella'n hunain i fod y gorau y gallwn fod, ac mae'r un peth yn wir am wledydd. Yng Nghymru, rydym yn herio ein hunain i fod y gorau y gallwn fod.

Un o ddyffrynnoedd balch Gwent yw Islwyn, lle mae gennym ninnau hefyd draddodiad rhedeg cadarn. Mae clybiau rhedeg lleol fel clwb rhedwyr enwog Islwyn yn ganolog i'w bywyd cymunedol ac yn parhau i ymestyn allan at bobl newydd, gyda mentrau newydd i annog cyfranogiad ehangach. Ar hyn o bryd mae rhedwyr Islwyn yn cynnal prosiect o'r enw Future Flyers, sy'n targedu menywod i ddechrau rhedeg am y tro cyntaf. Mae rhedwyr Islwyn yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos bob dydd Mawrth a dydd Iau ym Mhontllan-fraith—rhag ofn fod gan unrhyw un ddiddordeb—ac mae'r sesiynau'n rhad ac am ddim i gyfranogwyr o bob gallu ac mae croeso i bawb. Mae'r ffaith fod dros 50 o fenywod yn cymryd rhan mewn sesiynau bob wythnos yn tystio i ba mor gynhwysol yw'r clwb a'r rhedeg. Ddydd Sul diwethaf, cynhaliodd Clwb Rhedeg Islwyn ras y Scenic 7, ras ffordd saith milltir ar hyd ffordd goedwig Cwmcarn. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn ddi-baid pa mor bwysig yw ailagor ffordd goedwig Cwmcarn yn llawn, nid yn unig ar gyfer Islwyn, ond ar gyfer Cymru ac yn rhyngwladol. Mae digwyddiadau fel un dydd Sul diwethaf yn dystiolaeth wirioneddol o'r ffordd y gallwn drawsnewid cymunedau'n gyfannol—digwyddiad torfol cyfranogol i'r teulu cyfan a gynhelir yn rhai o'r tirweddau naturiol mwyaf syfrdanol sydd gennym fel gwlad. Dewch i ymweld â ni.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi hybu manteision gweithgarwch corfforol a rhedeg yn gyson i'r genhedlaeth nesaf yng Nghymru, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld y filltir ddyddiol wedi'i lansio'n swyddogol yng Nghymru. Lansiwyd y fenter hon yn swyddogol yn Islwyn, yn Ysgol Gynradd Pontllan-fraith yn y Coed Duon gan y Gweinidog iechyd cyhoeddus ar y pryd, Rebecca Evans, a sylfaenydd y filltir ddyddiol, Elaine Wyllie. Mae'r fenter arloesol hon yn sicrhau bod plant oedran cynradd yn rhedeg, cerdded neu loncian am 15 munud bob dydd yn yr ysgol. Mae'r llawenydd a geir o redeg yn sicrhau ei fod yn gynhwysol, yn syml ac am ddim, heb fod angen unrhyw offer na gwaith paratoi. Yn Islwyn, mae'r rhestr o ysgolion sydd wedi ymrwymo i'r Filltir Ddyddiol yn cynnwys Pantside, Cefn Fforest, Pengam, Trelyn, Fleur de Lis, Bryn, Pontllan-fraith, Libanus, Cwm Gwyddon, Waunfawr, Tŷ Sign, Tŷ Isaf, a mwy i ddilyn. Yn ogystal, mae'n digwydd o fewn ardal Trecelyn yn lleoliadau gwarchod plant Hannah's Bananas, gan helpu'r cynnig cyfannol i ymgeiswyr gofal plant.

Mae potensial gan y filltir ddyddiol i sicrhau nifer o fanteision y tu hwnt i wella ffitrwydd yn unig. Ac fel cerddoriaeth, ac yn debyg i hygyrchedd cerddorol, gall helpu plant i gymryd mwy o ran yn yr awyr agored, adeiladu hunan-barch a hyder yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm. Nid yw Fitbit a chyfrif camau wedi'u cyfyngu i oedolion yn unig, ac felly, fel cyn-athrawes ac addysgwr, rwy'n falch o weld mwy a mwy o blant yn ymwybodol o'r angen i fod yn egnïol, yn enwedig gyda'r holl demtasiynau y maent yn eu hwynebu i aros yn llonydd o flaen sgriniau a myrdd o ddyfeisiau eraill bellach, a hynny am oriau lawer o bosibl. Felly, o'r filltir ddyddiol, athletau o fewn y cwricwlwm addysg gorfforol, i hyrwyddo ras lwyddiannus parc Penallta bob bore dydd Sadwrn, mae'n dda i fy etholwyr. Mae poblogrwydd syml a syfrdanol rasys parciau ledled y Deyrnas Unedig bellach yn lledu ar draws y byd. Mae'n ddigwyddiad y byddaf yn gweithio arno gyda fy nghymunedau lleol er mwyn cynnal y ras parc gyntaf yn Islwyn.

Mae ychwanegu rasys parciau i rai iau ar ddydd Sul mewn rhai lleoliadau yn dystiolaeth bellach o'r ffordd y mae rhedeg yn rhywbeth i bawb. Mae llawer o rasys parciau yn ymgorffori'r rhaglen Couch to 5K sy'n dilyn cynllun y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, gan annog pobl ar y daith o weithgarwch eisteddog i allu rhedeg 5K erbyn diwedd y rhaglen. Mae gan ein cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer rhedeg ar gaeau'r ysgol a leolir yn ysgol gynradd Rhiw Syr Dafydd yn Oakdale yn Islwyn, a datblygwyd y gwaith adeiladu ar y cyd ag ymgynghorydd trac a maes, gan gynnwys y corff llywodraethu chwaraeon, Athletau Cymru. Bydd y cyfleusterau chwaraeon newydd yn y cynnig hwn yn rhoi cyfle i 90 o ysgolion a'r gymuned ddefnyddio trac athletau a fydd yn helpu i gefnogi'r cynnydd yn y galw. A bydd yn gyfle pellach yn Islwyn i gefnogi'r ymgyrch i gynyddu cyfranogiad i gynnwys menywod a merched drwy ymyriadau wedi'u targedu, a thrwy weithio mewn partneriaeth gyda thîm datblygu chwaraeon yr awdurdod, Chwaraeon Caerffili, Chwaraeon Anabledd Cymru, a nifer o bartneriaid allweddol eraill.

Ond y diffyg cyfleusterau fydd bob amser yn rhwystr i gyfranogiad elitaidd pellach, ac mewn degawd o gyni, pan fo'r Torïaid wedi ceisio gwasgu Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i'r eithaf, pa gymorth ariannol pellach y gall, ac y bydd, Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau bod rhedwyr Islwyn yn y dyfodol yn cael y cyfleoedd y maent yn eu haeddu?

Byddai trac rhedeg athletau newydd wedi'i leoli yn Islwyn yn cynnig y cyfleusterau y maent yn awchu amdanynt i ardal ehangach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hen ardaloedd a dderbyniai arian Amcan, a fy nghymunedau i—cyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, cyfleusterau sy'n addas i wasanaethu'r oddeutu 10 o glybiau rhedeg cymdeithasol yn yr ardal yn ogystal â'r gymuned ehangach o redwyr cymdeithasol. Ac yn wir, buaswn yn croesawu cyfle y tu hwnt i'r ddadl hon i drafod y mater a'r cyfleoedd sydd gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid ardal Islwyn ar gyfer ei phobl gyda'r Dirprwy Weinidog. Ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn eu gallu i wneud i Islwyn redeg yn hapus, a rhaid inni ei wneud yn nod gyda'n gilydd i wneud Cymru yn wlad hapus ac iachach. Yn y byd rhedeg, ceir mynegiant o anogaeth sy'n dweud, 'Mae hi 'da ti'. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwybod ei bod hi 'da chi. Diolch.

17:55

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl? Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Rhianon. Mae'n bleser cael cyfle ar ddiwedd sesiwn heddiw i drafod mater sydd yn bleser personal i mi. Dwi'n parhau, os caf gychwyn ar nodyn personol, yn rhedwr, ddim mor gyflym, efallai, ag y dylwn i fod, ond yr amcan sydd gyda fi ydy cwblhau 5 cilomedr dair gwaith yr wythnos, ond nid gyda'i gilydd—ar ddyddiau ar wahân, dwi'n trio dweud. Felly, mae'r cyfle i mi gael dod mas, fel petai, fel un sydd yn parhau i redeg llwybrau yn y de ac yn y gogledd, yn dangos fy mod i fy hun yn gwbl gefnogol i'r hyn y mae Rhianon wedi'i ddweud. Yn sicr, fe fyddaf i'n barod iawn i gyfarfod â hi i drafod yr hyn y mae hi wedi'i osod gerbron ynglŷn ag anghenion Islwyn.

Ond, beth sydd gen i i'w ddweud y prynhawn yma yw ymateb yn fwy cyffredinol ynglŷn â phwysigrwydd symud ac ymarfer corfforol, ac i droi'r ddadl fer yma, fel, yn wir, mae Rhianon wedi gwneud yn barod, yn rhyw fath o apêl ar i bawb ohonom ni yng Nghymru ddysgu gwers pwysigrwydd ymarfer corff yn rheolaidd a'r manteision i iechyd corfforol a meddyliol sy'n dod yn sgil hynny. Fel y dywedwyd, mae ymarfer yn gostwng y risg o ddioddef afiechydon, ac mae'n ffordd o reoli cyflyrau sydd gyda ni eisoes. Mae'r dystiolaeth yn amlwg ac mae pwysigrwydd gweithgaredd corfforol rheolaidd bob dydd yn glir. Pe bai ymarfer corff yn gyffur, fe fyddai'n cael ei ystyried yn rhyw fath o ffisig neu driniaeth wyrthiol—moddion gwyrthiol ar gyfer iechyd—gan fod modd iddo atal a helpu cymaint o afiechydon.

Yn ogystal â bod yn dda ar gyfer iechyd yr unigolyn, fel y dywedaist ti, Rhianon, mae ymarfer corff hefyd yn ffordd o ddod ag unigolion at ei gilydd i fwynhau gweithgareddau ar y cyd. Mae o'n ffordd o gryfhau ysbryd cymunedol, a dyma'n union y mae'n ei wneud pan fydd yna gymaint o redwyr yn dod at ei gilydd, a dyna mae o'n ei wneud hefyd pan fydd rhedwyr unigol hyd yn oed yn pasio'i gilydd ar lwybrau yn ddyddiol, wrth redeg. Mae pobl yn dod i adnabod ei gilydd gan eu bod nhw'n rhannu ymarfer corfforol. Ac mae teimladau o unigrwydd ac o fod yn ynysig mewn cymdeithas yn deimladau, dŷn ni'n deall, sydd yn cynyddu ac mae cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol yn gyhoeddus gyda'r wisg briodol, yn amlwg, a gyda'r esgidiau priodol—mae hynny'n bwysig iawn, yn enwedig pan fydd rhywun yn mynd yn hŷn—. Af i ddim i hysbysebu siop arbennig yng Nghaerdydd lle byddaf i'n mynd i adnewyddu fy esgidiau rhedeg, ond mae o'n beth pwysig iawn i ni gael esgidiau cyfforddus a diogel bob amser, ac mae'r ffordd dŷn ni'n gwisgo a'r ffordd dŷn ni'n paratoi ar gyfer rhedeg yn allweddol.

Yn anffodus, mae'r sefyllfa rydym ni ynddi hi, yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf sydd gyda ni fel Llywodraeth yn arolwg cenedlaethol Cymru, yn datgelu mai dim ond 53 y cant o oedolion—hynny yw, ychydig dros hanner oedolion Cymru—sydd yn dweud iddyn nhw wneud 150 o funudau o ymarfer corff yn yr wythnos flaenorol. Dwi ddim eisiau swnio fel rhyw bregethwr anghydffurfiol—er bod gen i bregethwr anghydffurfiol ardderchog yn y gynulleidfa'n gwrando arnaf i, a diolch yn fawr i ti—drwy ddweud ein bod ni'n condemnio hyn, ond mae o yn rhywbeth y dylai pobl ei ailystyried. A beth sydd yn arbennig o boenus ydy bod dynion yn fwy tebygol o ymarfer na menywod, bod pobl ddifreintiedig o ardaloedd llai breintiedig a phobl dros 75 oed yn llai tebygol o wneud unrhyw fath o ymarfer nag unrhyw ran arall o'r boblogaeth. Hynny yw, mae hwnna, mewn gwirionedd, yn groes i beth fyddai rhywun yn gobeithio amdano fo o ran gwerth ymarfer.

Felly, mae codi graddfeydd gweithgaredd corfforol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae gen i, fel Dirprwy Weinidog yn y swydd yma, gyfrifoldeb penodol ynglŷn â hyn ac mae o'n gyfirfoldeb yr ydw i'n ei gymryd o ddifrif. Rydyn ni wedi ymrwymo i godi lefelau gweithgarwch corfforol. Er mwyn cyflawni hynny, dŷn ni wedi sefydlu Partneriaeth Gweithgarwch Corfforol Cymru. Dyma un o'r cyfarfodydd mwyaf adeiladol dwi wedi bod ynddo, a dwi wedi bod yn y swydd yma bron i ddwy flynedd erbyn hyn, gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dod at ei gilydd, yn swyddogion a phenaethiaid, a swyddogion Llywodraeth Cymru, i ysgogi a chefnogi cydweithio o bob math. A dyma, dwi'n meddwl, ydy'r ffordd ymlaen yn y maes yma, sef bod y cyrff cyhoeddus sydd gyda ni yn gweithio drosom ni mewn gwahanol gyfeiriadau—Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr ochr iechyd, Chwaraeon Cymru o ran fy adran i, a Chyfoeth Naturiol Cymru o ran yr adran sydd yn gyfrifol ynglŷn â'r amgylchedd—yn dod at ei gilydd. Ac mi fydd yna, mae'n dda gen i gyhoeddi, gynhadledd genedlaethol yn y gwanwyn i'r rhanddeiliaid yma ddod at ei gilydd i ddatblygu cynllun gweithredu.

Fel dwi wedi dweud yn aml iawn yn y lle hwn, dydw i ddim yn ffan o'r hyn a elwir yn 'strategaeth'. Dwi'n fwy o ffan o'r hyn mae rhywun yn ei alw yn 'gynlluniau gweithredol', a dyna pam mae'r bartneriaeth yma mor bwysig, yn gweithio ar nifer o flaenoriaethau i wella data a ffyrdd o newid ymddygiad drwy ddatblygu'r hyn dŷn ni'n ei alw'n 'arsyllfa gweithgarwch corfforol'. Mae hwnna wedyn yn datblygu gwaith cyfathrebu ac ymgyrchu ar y cyd, ac yn integreiddio ein rhaglenni mewn ysgolion, Campau'r Ddraig, rhwydwaith ysgolion iach Cymru ac ysgolion eco er mwyn i hyn i gyd fod yn gynnig cynhwysfawr o ymarfer corfforol i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor yn y Cynulliad yma, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Yn dilyn eu hymchwiliad nhw i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc, dŷn ni'n gallu symud ymlaen gyda'r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y pwyllgor, ac mi fydd y camau yma yn dod yn rhan annatod o gynllun gweithredol 'Pwysau iach, Cymru iach'. Ac mae hyn yn ategu'r gwaith o wella iechyd ar draws ein poblogaeth.

Dwi'n falch iawn o glywed Rhianon yn sôn am hanes datblygu milltir y dydd, oherwydd dwi wedi cael y cyfle i fynd i sawl ysgol i weld milltir y dydd yn digwydd. Dwi am fod bach yn blwyfol a sôn yn arbennig am ysgol yn ardal hyfryd iawn o'r enw Llansantffraid Glan Conwy, ar waelod dyffryn Conwy lle dwi'n byw, a chael gweld y disgyblion yn gallu mwynhau rhedeg ar hyd cae ysgol a oedd ddim yn rhy wastad. Roedden nhw'n gallu rhedeg lan a rhedeg lawr, ac roedden nhw wirioneddol yn mwynhau eu hunain, ac roedden nhw'n deall beth oedden nhw'n ei wneud a pham oedden nhw'n ei wneud o. Mae 36 y cant o'n hysgolion, sef 450 ohonyn nhw, yn cymryd rhan yn y filltir y dydd. Felly, mae yna waith eto i wella yn y fan yna, ac mi fuaswn i'n annog hynny.

Dŷn ni hefyd wedi ymrwymo i gynyddu nifer y plant sy'n beicio, yn cerdded neu yn mynd ar sgwter i'r ysgol. Rydym ni'n aildendro ar gyfer rhaglen teithio llesol i'r ysgol, ac mae'n rhaid imi ddweud, fel tad-cu i bedwar o blant ifanc o oed ysgol, er bod un ohonyn nhw wedi mynd i'r ysgol uwchradd yn ddiweddar iawn, mae o'n beth annifyr iawn gen i i weld y perygl gwirioneddol sydd tu fas i gymaint o ysgolion pan fydd pobl yn defnyddio ceir a'u gyrru nhw mor agos ag y medran nhw tuag at yr ysgol. Wnaf i ddim enwi ysgolion, ond dwi'n ei weld o'n digwydd yn y de ac yn y gogledd, a dyna pam mae damweiniau wedi digwydd—mae damweiniau difrifol wedi digwydd yn y sefyllfa yna. Felly, mae angen inni weithredu nodau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, yn sicr gan gynnwys mwy o lwybrau diogel o lawer i ysgolion, er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r llwybrau yna yn hytrach na defnyddio ceir rhieni neu deulu i bigo pobl lan o'r ysgol.

Mae ein hysgolion ni'n rhan hanfodol, gyda rhan hanfodol i'w chwarae, yn annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o weithgaredd corfforol, ac mae yna lot o waith wedi cael ei wneud, gan gynnwys darpariaeth yn y cwricwlwm newydd. Un o'r pedwar pwrpas ydy i ddysgwyr yn y cwricwlwm newydd ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, ac mae hynna yn golygu cymryd mwy o weithgaredd corfforol, medru defnyddio gwybodaeth am effaith ymarfer corff a deiet ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl, a'r holl ddaioni a ddaw o hynny. Mae ymarfer corff a chwaraeon yn creu cyfleoedd hefyd i newid cymunedau, fel y dywedodd Rhianon, yn dod â phobl ynghyd at ei gilydd. A dyna pam rydym ni wedi bod yn gwario, fel Llywodraeth, yn barod yn y maes yma. Yn 2018-19, fe wnaethom ni gyfrannu dros £21 miliwn—£21.64 miliwn—i Chwaraeon Cymru o gyfanswm eu cyllideb o £43.24 miliwn. O'r swm hwn, mae £16 miliwn ar gyfer gweithredu ac ymarfer chwaraeon cymunedol. Mae hwnna'n neges glir iawn o beth yw blaenoriaeth y Llywodraeth yma. 

Mae cyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon Cymru hefyd yn benderfynol o'n cefnogi ni wrth greu Cymru egnïol drwy eu gwaith ar chwaraeon cymunedol. A gaf i ganmol yn arbennig Athletau Cymru? Yn 2015, fe wnaethon nhw lansio rhaglen rhedeg cymdeithasol, Rhedeg Cymru. Dwi yn un sydd yn hapus yn gwisgo dillad glaw coch gyda 'Rhedeg Cymru' wedi ei ysgrifennu arno fo, yn dilyn cymryd rhan yn lansio'r gweithgaredd yna. Mae'r rhaglen wedi cael effaith aruthrol ers cychwyn. Mae yna, erbyn hyn, 331,000 o oedolion yn rhedeg yn rheolaidd ledled Cymru. Mae yna gynnydd wedi bod o 176,000 o oedolion yn 2009.  Felly, mae yna gynnydd yn parhau i ddigwydd yn y niferoedd sydd yn rhedeg. Mae llwyddiant rhaglen Athletau Cymru yn seiliedig ar gyfleoedd rhedeg cyfeillgar, cefnogol a chynhwysol ar gyfer unigolion a grwpiau sydd am redeg.

Rydyn ni am i bobl fwynhau gwell iechyd a lles drwy fwy o hamddena yn yr awyr agored a byw bywydau mwy egnïol. Roeddwn i'n mwynhau'n fawr clywed Rhianon yn cyfeirio at Gwmcarn. Mae o'n lle nodedig iawn, dwi'n meddwl. Dwi wedi bod yna sawl gwaith, yn enwedig ar ymweliad yn ddiweddar, a dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd y cyfan wedi gallu cael ei ailagor. Dwi'n siŵr y bydd yr ymarfer arbennig a welwn ni—pobl yn rhedeg yn yr ardal yna—yn rhan o hynny. Ond dwi hefyd yn cymeradwyo pobl efallai sydd ddim yn teimlo fel rhedeg, ond sydd yn gerddwyr cyflym a thalog, a dwi wedi cael cyfle i gerdded gyda cherddwyr Treorci ac eraill yn ystod y cyfnod yn y swydd yma. 

Ond i grynhoi bellach, mae'r holl gyllid rydyn ni wedi'i wario—cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a finnau ym mis Mehefin—wedi tynnu sylw at 17 o brojectau cronfa iach ac egnïol sydd yn werth £5.4 miliwn. Dŷn ni hefyd yn cydweithio â'r adran iechyd ynglŷn â phapurau doctor, 'presgripsiynu' cymdeithasol, os mai dyna'r gair cywir—a dwi'n edrych ar y meddyg da dros y ffordd i mi yn fanna. Mae hyn yn cysylltu pobl ag asedau cymunedol, yn rhoi pŵer iddyn nhw reoli eu hiechyd a'u llesiant. Mae'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff wedi bod yn gynllun dŷn ni'n sicr yn meddwl y bydd yn cyfrannu tuag at heneiddio yn dda yng Nghymru.

Diolch yn fawr i Rhianon am roi cyfle i mi ddod mas fel rhedwr, os rhedwr hŷn, rhesymol yn ei redeg, ac a gaf i ddiolch iddi hi am ei disgrifiad o bwysigrwydd rhedeg. Ac, felly, dewch i ni wneud hi'n rhan o ddyletswydd pob un ohonom ni fel Aelod Cynulliad ac aelod o'r Llywodraeth i redeg Cymru bob amser. Diolch yn fawr.  

18:10

Daeth y cyfarfod i ben am 18:14.