Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/03/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr wyf wedi cael gwybod o dan Reol Sefydlog 12.58 y bydd Gweinidog yr Amglychedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn ateb cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf, felly, gan Siân Gwenllian. 

Gwasanaethau Fascwlaidd Brys yn Ysbyty Gwynedd

1. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pryd, ar ôl 1 Mawrth 2018, y diddymwyd y penderfyniad i gadw gwasanaethau fascwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd? OAQ53524

Diolch. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthi'n gweithredu newidiadau i wasanaethau fasgwlaidd yr ymgynghorwyd arnynt yn gyhoeddus ac a gytunwyd ym mis Ionawr 2013 yn rhan o'i raglen newid gwasanaeth. Ni wnaed unrhyw newidiadau i'r penderfyniad hwn. Rydym ni'n rhagweld y bydd y gwasanaeth yn weithredol o 8 Ebrill 2019 ymlaen.

Dwi heddiw yn sôn am y broses, nid yr egwyddor, o symud gwasanaethau brys o Fangor—ond am y broses ei hun—a sut y cyrhaeddwyd at y penderfyniad. Yn y gwanwyn y llynedd, fe roddodd y bwrdd iechyd ei sêl bendith i gadw gwasanaethau brys ym Mangor, ac fel gafodd holl feddygon teulu yr ardal lythyr yn dweud hyn. Dydy'r bwrdd ddim wedi newid y penderfyniad yma, ac mewn datganiadau di-ri, mae hi, ysywaeth, yn amlwg fod y gwasanaethau fascwlaidd brys yn cael eu symud o Fangor. Dwi'n gofyn eto felly, os gwelwch yn dda: pryd y cafwyd y newid meddwl yma? Dŷch chi'n sôn am 2013; yn 2018 fe newidiwyd meddwl. Pryd aed yn ôl felly at y penderfyniad gwreiddiol yn 2013, ac a fedrwch chi ddangos i mi lle mae'r cofnod ar gyfer hwnnw ym mhapurau'r bwrdd?

Diolch, Siân Gwenllian. Aeth papur i'r Bwrdd ar 1 Mawrth 2018, a oedd yn datgan:

Bydd cleifion sydd ag afiechydon yn ymwneud â chylchrediad y coesau yn cael eu rheoli yn Ysbyty Glan Clwyd a'r uned achub breichiau a choesau yn Ysbyty Gwynedd gyda darpariaeth ar gyfer derbyniadau dewisol a brys a thriniaethau cleifion mewnol yn y ddau safle.

Rwy'n credu mai'r frawddeg honno sydd wedi arwain at y dryswch. Dylai'r papur fod wedi ei gwneud yn fwy eglur bod y ddarpariaeth ar gyfer derbyniadau dewisol a brys i Ysbyty Gwynedd yn ymwneud ag achosion traed diabetig ac achosion nad ydynt yn rhedwelïol. Bydd achosion rhedwelïol yn mynd i Ysbyty Glan Clwyd—rydych chi'n ymwybodol o'r ganolfan newydd sy'n cael ei hadeiladu yno—ond mae'r rheini'n achosion cymhleth, arbenigol. Bydd hynny'n dod i gyfanswm o tua 300 o achosion, a byddan nhw'n mynd i'r ganolfan newydd.

Rydych chi'n gofyn am y llythyr a anfonwyd at feddygon teulu, ac, unwaith eto, roedd y llythyr yn cynnwys yr un geiriad, ac, felly, rwy'n dyfalu y gallai'r un dryswch fod wedi cael ei achosi. Ni fu unrhyw benderfyniad i ddiddymu unrhyw beth. Bydd 80 y cant o wasanaethau fasgwlaidd yn dal i gael eu darparu'n lleol. Tua 20 y cant o'r holl weithgarwch fasgwlaidd fydd yn digwydd yn y ganolfan newydd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r pryder yn parhau ynghylch y problemau eraill y gall cleifion eu dioddef, hyd yn oed os byddan nhw'n manteisio ar wasanaethau fasgwlaidd, ac mai Ysbyty Gwynedd yw'r pwynt cyswllt cyntaf. Fis Chwefror diwethaf, dywedodd y bwrdd iechyd wrthym y byddai gwasanaethau fasgwlaidd brys yn aros yn ddiamod yn y tri ysbyty cyffredinol dosbarth yn y gogledd, wedi ei gefnogi gan ddeiseb a lofnodwyd gan dros 3,000 o bobl, a chwestiynau a godwyd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, yn ogystal ag yn y Siambr hon. Pa ystyriaeth a roddwyd i gynnal asesiad o effaith, yn enwedig o ystyried natur wledig y boblogaeth sy'n cael ei heffeithio, i ddarganfod anghenion gwirioneddol y boblogaeth hon os oes yn rhaid iddyn nhw deithio ymhellach erbyn hyn ac os gallai eu cyflyrau eu gwneud yn agored i ganlyniadau eraill efallai na fyddant ar gael iddyn nhw oni bai eu bod yn gallu cyrraedd Ysbyty Glan Clwyd?

Felly, fel y dywedais yn fy ateb i Siân Gwenllian, bydd 80 y cant o ofal cleifion yn parhau ar y ddau safle arall—Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd. Dim ond yr achosion cymhleth fydd yn mynd i Ysbyty Glan Clwyd. Felly, lle adeiladwyd y ganolfan newydd, mae honno wedi denu meddygon ymgynghorol a meddygon, nad wyf i'n credu y bydden nhw wedi cael eu denu i ogledd Cymru pe na byddai gennym ni'r ganolfan arbenigol honno. Ond mewn achosion lle mae o fudd i gleifion gael eu trin mewn achos brys yn Ysbyty Gwynedd neu yn Ysbyty Maelor Wrecsam, fel sy'n digwydd nawr, bydd gwasanaeth newydd, cadarn, a fydd yn galluogi arbenigwr fasgwlaidd ar alwad i gynnig cyngor a phan fo'n briodol, mynd at y claf, felly gallai'r cleifion ddal i gael y driniaeth yn Ysbyty Gwynedd neu yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Buddsoddiad Arfaethedig yn Seilwaith Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y canlyniadau i Gymru pe bai Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl o fuddsoddiad arfaethedig yn seilwaith Cymru? OAQ53508

Diolch. Rydym ni'n siomedig gyda phenderfyniadau buddsoddi diweddar Llywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith yng Nghymru. Mae morlyn llanw bae Abertawe, trydaneiddio prif reilffordd Abertawe, a methiant i sicrhau prosiect Wylfa Newydd yn dair enghraifft ddiweddar o fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith nad yw wedi ei ddatganoli yng Nghymru.

13:35

Diolchaf i chi am hynna, ac rwy'n rhannu eich siom enfawr, fel y gwn y mae llawer o Aelodau yn yr ystafell hon yn ei wneud. Mae'n siomedig iawn canfod faint mae economi Cymru ar ei cholled oherwydd i Lywodraeth y DU fethu â chadw addewidion ar y prosiectau hynny yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw. Ond rwyf i hefyd yn bryderus ynghylch sut y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu yn ôl o'r buddsoddiadau arfaethedig hynny yn seilwaith Cymru yn effeithio ar brentisiaethau a swyddi hyfforddi i raddedigion yng Nghymru. Mae hi'n Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol yr wythnos hon, wedi'r cyfan. Os cymharaf y penderfyniadau hynny i dynnu yn ôl â darpariaeth ein prosiect ni, ffordd osgoi y Drenewydd, roedd yn enghraifft dda iawn o greu prentisiaethau. Ac euthum i siarad â nhw, a chrëwyd 18 o'r prentisiaethau a'r swyddi hyfforddiant i raddedigion hynny o ganlyniad i ni'n mynd ymhellach. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn a wnewch chi ystyried, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried, sut y gallwn ni fwrw ymlaen ac annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi yng Nghymru a'r seilwaith yng Nghymru, fel y gallwn ni roi gobaith i'r bobl hynny y dylen ni fod yn diogelu eu dyfodol?

Diolch. Credaf eich bod chi yn llygad eich lle—mae colli'r prosiectau seilwaith sylweddol iawn hyn i Gymru yn mynd i fod yn ergyd enfawr i lawer o bobl ifanc, oherwydd rwy'n credu y byddai'r tri phrosiect y cyfeiriais atyn nhw yn cynnig cyfleoedd gyrfaol sylweddol i bobl ifanc. Fodd bynnag, rydym ni wedi ymrwymo i gynorthwyo ein pobl ifanc ledled Cymru i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Soniasoch ei bod hi'n Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol yr wythnos hon. Yn amlwg, mae gennym ni ein targed o 100,000 o brentisiaid yn ystod y tymor Cynulliad hwn, ac rydym ni'n sicr ar y trywydd iawn yn hynny o beth.

Rydych chi'n holi ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i annog Llywodraeth y DU. Wel, mae'r Prif Weinidog yn ysgrifennu'n aml, rwy'n credu, at Weinidogion Llywodraeth y DU; gwn ei fod wedi ysgrifennu at Greg Clark am seilwaith ynni. Rydym ni'n parhau i ystyried ffyrdd o atgyfodi cynlluniau ar gyfer morlyn bae Abertawe. Mae Wylfa Newydd, yn amlwg, wedi'i rewi, ac rydym ni'n parhau i geisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU ynghylch hynny. A hefyd, o ran trydaneiddio Abertawe, gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfarfod â swyddogion cyfatebol, yn ogystal â chael ymgysylltu gweinidogol, i geisio bwrw ymlaen â hynny hefyd.

Cytunwyd bargen ddinesig prifddinas Caerdydd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a 10 o awdurdodau lleol yn ôl ym mis Mawrth 2016, ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod hon yn enghraifft dda o Lywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu prosiectau seilwaith mawr. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd Llywodraeth y DU yn darparu cannoedd o filiynau o bunnoedd o gyllid i fargeinion twf ledled Cymru, gan gynnwys yn fy ardal i yn y canolbarth hefyd, ac, yn ei dro, bydd y cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio i ddarparu seilwaith newydd a seilwaith trafnidiaeth ar gyfer prosiectau yn y dyfodol hefyd. A wnaiff y Gweinidog gydnabod heddiw cymorth ariannol Llywodraeth y DU i fargeinion twf a chroesawu'r cyfraniad y bydd y cyllid hwn, yn ei dro, yn ei wneud i welliant hirdymor seilwaith trafnidiaeth trwy Gymru gyfan?

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael yr arian a fwriedir ar gyfer y bargeinion twf hynny. Gwn fod pryderon am hynny i fyny yn y gogledd, yn sicr. Ond mae gan brosiect prifddinas Caerdydd ac Abertawe gefnogaeth y ddwy Lywodraeth.

Mae effaith cyfres, catalog erbyn hyn, o fethiannau o ran buddsoddi yng Nghymru yn helaeth—y prosiectau mawr y cyfeiriwyd atynt gan fy nghyd-Aelodau, ond maen nhw hefyd yn cael effeithiau lleol. Yn etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, mae'r buddsoddiad sydd ei angen arnom ni yn y brif reilffordd, ond hefyd mewn signalau, ac ati, yn fesur o danfuddsoddiad flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan UK Network Rail. Nawr, rydym ni angen i Lywodraeth y DU a'r Adran Drafnidiaeth gamu ymlaen o ran y prosiectau hynny hefyd, a chyflwyno'r arian a fydd yn rhyddhau capasiti ar ein prif reilffordd, a fydd yn caniatáu i fwy o deithwyr a nwyddau gael eu cludo, a fydd yn symud pobl oddi ar y ffyrdd hynny. Felly, nid yw'n fater o brosiectau mawr yn unig. A byddwn yn awgrymu i'r Gweinidog, yn ei thrafodaethau gyda'r Prif Weinidog, efallai mewn trafodaethau gyda Phrif Weinidog y DU, Theresa May, y gellid gwneud apêl iddi—teitl hen ffasiwn y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol—os ydyn nhw eisiau ei gynnal fel undeb y Deyrnas Unedig, yna gwnewch fuddsoddiad gwirioneddol yn yr undeb.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt perthnasol iawn. Er bod gan lwybrau Network Rail Cymru 11 y cant o hyd y llwybr, 11 y cant o'r gorsafoedd ac 20 y cant o'r croesfannau rheilffordd ledled Cymru a Lloegr, dim ond cyfartaledd o tua 2 y cant o arian a wariwyd ar welliannau rhwydwaith ledled Cymru a Lloegr ers 2011 sydd wedi ei wario yma. Dylai ymhell dros £1 biliwn fod wedi cael ei ddyrannu i ni yn y pum mlynedd diwethaf yn unig. Dychmygwch beth y gallem ni ei wneud â hynny.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Sero yw targedau eich Llywodraeth ar gyfer y bobl sy'n aros mwy na 12 awr am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae ganddyn nhw'r un targed yn yr Alban ac maen nhw wedi llwyddo i ddod yn agos iawn ato. Gyda mwy o boblogaeth, sicrhawyd ffigur o lai na 200 gydag amseroedd aros annerbyniol o hir ganddynt yn y ffigurau diweddaraf. Ond, yng Nghymru, mae'n rhaid cyfrif yr un ystadegyn hwnnw mewn miloedd. 1,277 oedd y nifer ym mis Ionawr 2014, ac mae wedi bod yn dirywio'n raddol ers hynny: 3,006 yn 2015; 4,048 yn 2017; 5,099 y llynedd. Yn y ffigurau diweddaraf, ar gyfer mis Ionawr eleni, mae'n waeth eto: 5,264—yr ail ffigur gwaethaf ar gyfer Cymru ers dechrau cadw cofnodion. A dylwn i nodi bod dros 700 o'r achosion hyn yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn eich etholaeth chi. Felly, mae fy nghwestiwn yn syml, Gweinidog: a ydych chi'n derbyn bod yr amseroedd aros annerbyniol o hir hyn sydd bron yn ddigynsail mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn argyfwng gwirioneddol erbyn hyn? Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech chi, yn eich ymateb, ddweud ar goedd y rheswm pam yr ydych chi'n dirprwyo dros y Prif Weinidog heddiw.

Y rheswm yr wyf i'r dirprwyo dros y Prif Weinidog heddiw yw ei fod yn Llundain yn cynrychioli Cymru mewn digwyddiad yno.

O ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, rwy'n ymwybodol o nifer yr achosion yn fy etholaeth fy hun, yn amlwg. Y broblem yw ein bod ni wedi gweld nifer nad ydym wedi gweld ei debyg o'r blaen o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, ac rwy'n credu bod angen i ni edrych ar y rheswm am hynny. Ac rwy'n credu bod mwy o waith i'w wneud o ran gwasanaethau y tu allan i oriau hefyd. Ond yn sicr dylem ni dderbyn hefyd ein bod ni'n gweld lefelau uchel iawn o foddhad yn cael eu nodi o fewn y GIG ac mae gwaith yn cael ei wneud mewn adrannau achosion brys ledled Cymru. Dylwn i ddweud bod mwy na miliwn o gleifion wedi mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru y llynedd.

Gwn fod y Prif Weinidog wedi dweud nad yw'n edrych ymlaen at gwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n debyg ei fod unwaith wedi methu â chyfarfod Prif Weinidog y DU er mwyn mynd i barti, ond a ydych chi'n credu ei bod hi'n briodol iddo flaenoriaethu derbyniad ym Mhalas Buckingham yn hytrach nag ateb cwestiynau yma yn y Senedd?

Yr hyn y byddwn i wedi ei ofyn iddo, ac y byddaf yn ei ofyn i chi nawr yn hytrach, yw a ydych chi'n rhedeg allan o esgusodion am yr argyfwng mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Er enghraifft, ar 12 Chwefror, dywedodd y Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, wrthym ein bod ni wedi gweld, dros y misoedd diwethaf, y nifer fwyaf o achosion o ffliw mewn ysbytai ers pandemig 2009, ac eto mae adroddiad cadw golwg ar y ffliw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod ffliw yn cylchredeg ar lefelau canolig sy'n is na'r rhai ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Honnodd Vaughan Gething hefyd bod bygiau stumog y gaeaf yn rhoi straen ychwanegol ar y GIG. Wel, rwyf i wedi ymchwilio i hyn trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Dywedodd rhai byrddau iechyd lleol wrthym nad oedd yr wybodaeth hon ar gael ar gyfer y gaeaf hwn hyd yn hyn, ond mae'r rhai sydd wedi darparu data i ni wedi dangos nad yw niferoedd eleni yn arbennig o wahanol i'r llynedd. Yn wir, mae Betsi Cadwaladr, y bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran adrannau damweiniau ac achosion brys, yn trin llai o achosion o fygiau stumog y gaeaf eleni nag y mae wedi ei wneud yn y ddwy flynedd flaenorol.

Ni ellir hawlio ychwaith bod y GIG yn cael ei foddi gan niferoedd cleifion y gaeaf hwn. Yn ei ddatganiad ar 12 Chwefror, dywedodd Vaughan Gething,

'Mae ysbytai wedi derbyn llai o bobl dros 85 oed mewn achosion brys y gaeaf hwn, o'i gymharu â'r ddau aeaf blaenorol.'

Felly, pan fydd yr holl esgusodion hyn yn cael ei tynnu i ffwrdd, mae'n amlwg mai dim ond un o ddau reswm a all fod am eich methiant i fynd i'r afael ag amseroedd aros sy'n gwaethygu: un yw nad oes gennych chi unrhyw syniad beth i'w wneud i fynd i'r afael â nhw; a'r unig beth y gall y rheswm arall fod yw eich bod chi'n gwybod beth i'w wneud ond nad ydych chi'n ei wneud. Pa un sy'n wir?

Felly, i ddychwelyd at y Prif Weinidog, rwy'n credu y byddai pawb eisiau i'r Prif Weinidog gynrychioli Cymru yn y ffordd y mae'n ei wneud. [Torri ar draws.]

Y mis diwethaf oedd yr Ionawr prysuraf ar gyfer derbyniadau i adrannau achosion brys. Roedd derbyniadau brys 9 y cant yn uwch ym mis Ionawr 2019—[Torri ar draws.]

Gadewch i ni glywed y Gweinidog yn ymateb i'r cwestiynau os gwelwch yn dda. Dipyn o ddistawrwydd gan Blaid Cymru. Gweinidog, ewch ymlaen.

Diolch, Llywydd. Roedd derbyniadau brys 9 y cant yn uwch ym mis Ionawr 2019 nag ym mis Ionawr 2015 mewn adrannau achosion brys mawr. Hefyd, bu cynnydd o 16 y cant i bresenoldeb mewn adrannau achosion brys mawr o'u cymharu â mis Ionawr 2015. Mae'n rhaid i mi ddweud y bu'n rhaid i mi, yn anffodus, fynd i adran achosion brys yn Ysbyty'r Mynydd Bychan tua mis yn ôl, ac wrth siarad â'r staff yno, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn cael gwybod am dderbyniadau ac ati, ac roedd un o'r meddygon ymgynghorol yn dweud wrthyf i eu bod nhw wedi cael, dros y penwythnos, 10 o bobl a oedd yn agos at eu 100 oed—dros 90 oed, ond yn nes at 100, ac roedd hi'n dweud bod hynny'n ddigynsail. Felly, yn amlwg, mae'r boblogaeth sy'n heneiddio hefyd yn cael effaith.

13:45

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog—efallai fod gennym ni wahanol werthoedd, ond rwy'n credu mai'r flaenoriaeth i'r Prif Weinidog yw bod yma i ateb cwestiynau gan gynrychiolwyr etholedig Cymru. Does bosib nad dyna yw diben cael y Senedd hon yn y lle cyntaf.

Nawr, ar draws y DU, 5 y cant yw'r targed misol ar gyfer pobl sy'n aros mwy na phedair awr am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Unwaith eto, mae perfformiad yr Alban yn well na Chymru a Lloegr hefyd—

Nid wyf i'n gallu clywed Plaid Cymru nawr, gan fod pawb arall yn gwneud sŵn. Felly, Adam Price, os gwelwch yn dda.

Yn yr Alban fis Rhagfyr diwethaf, 10 y cant yn unig y bu'n rhaid iddyn nhw aros mwy na phedair awr. Yn Lloegr, roedd yn waeth o lawer, gyda 24 y cant yn aros mwy na phedair awr, ond yng Nghymru roedd yn waeth eto. 28 y cant oedd ein ffigur ni. Mae'n arwyddocaol bod cydweithwyr i chi—ASau Llafur yn San Steffan—o'r farn bod yr ystadegau amseroedd aros ar gyfer Lloegr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mor wael fel eu bod nhw wedi galw am ymchwiliad annibynnol. O ystyried bod y ffigurau ar gyfer Cymru hyd yn oed yn waeth nag yn Lloegr, a wnewch chi ymuno â Jon Ashworth, Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Lafur yn San Steffan, a mynnu bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal yng Nghymru hefyd? Oni fyddai'n rhagrithiol i fethu â dwyn eich hun i gadw'r un safon ac yr ydych chi'n dwyn Llywodraeth Prydain iddo sef yr wrthblaid yn y fan yma gartref yng Nghymru, lle mai chi yw'r Llywodraeth?

Dychwelaf at rai o'r ffigurau sydd gen i o'm blaen. Ym mis Ionawr 2019, adroddodd 14 o 24 cyfleuster gofal brys welliant o fis Ionawr 2018, neu'r un lefel o berfformiad. Mae hynny'n cynnwys saith o'n 13 o brif adrannau achosion brys. Nododd pedwar o'r saith bwrdd iechyd well perfformiad ym mis Ionawr 2019 o'i gymharu â mis Ionawr 2018. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni dderbyn bod y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn yr amser, yn cael y driniaeth orau. Mae rhai nad ydynt, a nhw yw'r bobl y mae angen i ni barhau i'w cefnogi.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, pa gynlluniau sydd ar waith yng Nghymru i ariannu gwellhad pobl sy'n camddefnyddio sylweddau sy'n derbyn triniaeth breswyl?

Pa gynlluniau sydd ar waith yng Nghymru i ariannu gwellhad pobl sy'n camddefnyddio sylweddau sy'n derbyn triniaeth breswyl?

Wel, gadewch i mi roi rhai ffigurau i'r Gweinidog, oherwydd mae ffigurau o'r llynedd yn dangos mai dim ond canran frawychus o fach—13.5 y cant—o bobl sy'n camddefnyddio sylweddau a gafodd driniaeth gan y GIG oedd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd eu cwrs. Nawr, dangosodd fy ymweliad i â chanolfan adsefydlu ragorol Brynawel, yr unig ganolfan o'i math yn y wlad, i mi yn ddiweddar pa mor ddybryd y mae angen cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas gan ganolfannau fel hyn. Dim ond y mis diwethaf, gwrthododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol alwadau i roi sylw i'r angen am ofal preswyl yma yng Nghymru, ond er gwaethaf yr addewid i neilltuo £50 miliwn i fyrddau iechyd i gynorthwyo gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, mae canolfannau tebyg i Frynawel wedi cau ar draws y wlad. A, phan gafodd ei holi ar y pwnc y mis diwethaf gan aelod o'ch plaid eich hun, methodd y Gweinidog ag ymrwymo i gynorthwyo'r hyn a ddisgrifiwyd ganddo fel dim ond 'cyfleuster defnyddiol'. A allwch chi egluro yma heddiw felly, Gweinidog, pa adnoddau penodol sy'n mynd i fod ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod i ddarparu gofal preswyl arbenigol i helpu'r rhai mewn angen i gael eu bywydau yn ôl, o gofio bod arian wedi ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau?

Diolch. Rwyf innau hefyd wedi bod yng nghanolfan breswyl Brynawel; rwy'n credu bod hynny gyda rhagflaenydd Huw Irranca-Davies, Janice Gregory. Rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud yno. Nid wyf i'n credu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwrthod y mater yn y modd a nodwyd gennych ac yn sicr mae'r cyllid—. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi cynyddu ein cyllid yn sylweddol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gan bron i £0.5 biliwn yn 2019-20, ac mae hynny'n gynnydd o tua 7 y cant. Ac yna gall byrddau iechyd ddefnyddio'r cyllid hwnnw yn y ffordd y maen nhw'n dymuno, yn amlwg.

Wel, rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych ar y cofnod a gwirio dadl mis diwethaf oherwydd, yn anffodus, fe wnaeth y Gweinidog iechyd wrthod galwadau i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Gadewch i mi eich atgoffa hefyd, Gweinidog, bod ffigurau blaenorol wedi dangos bod hanner y bobl a atgyfeiriwyd ar gyfer adsefydlu yn sgil camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn cael eu trin yn Lloegr, ac mae cleientiaid ym Mrynawel yn aros misoedd am le oherwydd y galw uchel, yn aml ar adeg pan fo'u bywydau mewn perygl ac maen nhw wedi troi at droseddu fel ffordd o gasglu arian neu hyd yn oed at geisio lloches yn y carchar. Nid am y tro cyntaf ar bwnc gofal iechyd yma yng Nghymru, rydym ni'n clywed bod loteri cod post yn bodoli ledled y wlad i bobl mewn angen. Dywedodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y llynedd bod mynediad at wasanaethau ledled Cymru yn anghyson ac yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig; roedd pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth yr oedd ei hangen arnynt oherwydd amseroedd aros hir a diffyg capasiti mewn gwasanaethau. Ac eto mae cannoedd—cannoedd—o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd camddefnyddio sylweddau ac alcohol yma yng Nghymru. Gweinidog, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i atal y loteri cod post hwn ac i atal pobl mewn angen rhag cael eu rhoi mewn perygl o gael eu hanghofio, dim ond oherwydd ble maen nhw'n byw?

13:50

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n mynd i'r afael â loterïau cod post, a soniasoch fod hanner y bobl sydd angen cefnogaeth a chymorth yn cael eu trin yn Lloegr. Byddwch yn ymwybodol bod canolfannau arbenigol nad ydyn nhw gennym ni yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb. Gwn, wrth gynrychioli etholaeth ar y ffin, ei bod hi'n sicr yn draffig ddwyffordd rhwng Cymru a Lloegr yn llawer o'r ardaloedd hyn.

Rydych chi'n gofyn am gamddefnyddio sylweddau ac alcohol hefyd. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi dweud erioed bod isafswm pris uned ar gyfer alcohol yn rhan o'n strategaeth ehangach a'n dull o leihau camddefnydd o sylweddau a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i leihau'r niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol a chamddefnyddio sylweddau eraill.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio ar gynllun newydd o daliadau i ffermwyr Cymru ar ôl Brexit. Yn amlwg, rydych chi'n gwybod llawer iawn am hyn yn eich swydd weinidogol. Nawr, rwy'n falch eich bod chi wedi mabwysiadu naws gyffredinol bod cyfleoedd y gellir eu cymryd ar ôl Brexit, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus hefyd o beidio â cheisio gwneud newidiadau diangen a chreu anwadalrwydd diangen mewn sefyllfa lle mae gennym ni gryn dipyn o ansicrwydd eisoes.

Ceir cynnig gan Lywodraeth Cymru i symud at system daliadau newydd, lle bydd taliadau uniongyrchol i ffermwyr, fel yr ydym ni'n eu hadnabod ar hyn o bryd, yn diflannu'n gyfan gwbl. Nawr, heb anghytuno â'r angen i ddatblygu cynlluniau talu eraill, mae'n rhaid i ni wynebu'r realiti economaidd caled bod 80 y cant o incwm ffermydd yma yng Nghymru yn deillio, ar gyfartaledd, o daliadau uniongyrchol. Onid oes dadl gref bod hyn yn rhwyd ddiogelwch gwerthfawr i ffermwyr Cymru y dylid ei gadw ar waith yn ystod y dyfodol rhagweladwy o leiaf?

Nac oes. Nid wyf i'n credu bod y polisi amaethyddol cyffredin yn gwneud hynny. Yn sicr nid yw wedi gwneud ein ffermwyr yn fwy cadarn, yn fwy cynhyrchiol; nid yw'n gwobrwyo'r ffermwr gweithredol ychwaith. Byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi cael ymgynghoriad hir yr haf diwethaf. Rwyf i wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn cyn sioeau amaethyddol yr haf, ond rwyf i wedi bod yn eglur iawn y bydd y cynllun taliadau sylfaenol yn diflannu. Bydd yn cael ei ddisodli gan ddau gynllun arall, ac rydym ni eisiau i bawb weithio gyda'i gilydd i gyflwyno'r cynlluniau hynny. Ond rydych chi'n sôn am—wyddoch chi, 80 y cant o gyllid, ar gyfartaledd, i ffermwyr. Nid wyf i'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ymfalchïo ynddo, 80 y cant. Rwy'n credu ei fod yn dangos nad yw'r PAC wedi gweithio yn y ffordd y byddem ni wedi dymuno iddo ei wneud.

Ie. Yn sicr nid wyf i'n anghytuno â chi ar y pwynt hwnnw, a nodais bod angen i ni symud oddi wrth y cynllun hwnnw. Y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw tynnu sylw at y posibilrwydd y gallai fod angen i ni, yn y tymor byr, ymrwymo i ryw fath o daliad uniongyrchol yn rhan o daliadau i ffermwyr Cymru yn y cyfamser, cyn i ni ddatblygu cynlluniau tymor hwy. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu modelu'n drwyadl—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu modelu'n drwyadl cyn i ni symud at gynlluniau newydd. Felly, yn amlwg, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â mynd tuag at gynlluniau newydd, mae'n rhaid i ni edrych ar y modelu. Bu pryderon am y cynlluniau arbrofol yr ydych chi'n mynd i'w cael, ac mae rhai ohonynt yn weithredol ar hyn o bryd. Nawr, a ydych chi'n credu bod y cynlluniau arbrofol hyn yn symud yn ddigon cyflym? A ydyn nhw'n ddigon cadarn ac a ydyn nhw mewn ardal ddigon eang o Gymru fel y gallwn ni symud ymlaen â'ch amserlen arfaethedig i'r system daliadau newydd?

Wel, mae'r Aelod yn gwybod mwy na fi, oherwydd nid wyf i'n credu bod unrhyw gynlluniau arbrofol yn weithredol. Rydym ni'n ystyried pa ffermydd fydd yn ei wneud. Yn sicr bydd gwasgariad daearyddol; bydd gwahanol fathau o ffermydd yn cael eu defnyddio. Rwy'n credu y bydd modelu ac asesiadau effaith a'r cynlluniau arbrofol hynny yn bwysig iawn wrth bennu'r cyfeiriad y byddwn ni'n ei ddilyn, ond y peth gwaethaf i'r sector amaethyddiaeth ar hyn o bryd yw'r ansicrwydd ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddwch wedi clywed undeb yr amaethwyr yn dweud y byddai gadael heb gytundeb yn drychinebus. Dylwn hefyd ddweud bod yr holl gyllid yn dod drwy'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ac ni allaf gael unrhyw sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd y cyllid hwnnw ar gael ar ôl 2022.

Ie. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffactorau yr ydych chi'n sôn amdanynt; wrth gwrs bod ansicrwydd. Mae'n ymddangos i mi efallai bod union natur yr ansicrwydd yn dangos yr angen i symud tuag at gyflymder pontio arafach wrth i ni gyflwyno cynllun taliadau newydd. Mater arall sy'n codi, o dan gynigion presennol Llywodraeth Cymru, yw y gallai'r symudiad o daliadau i ffermwyr gweithredol i gategori ehangach, yr ydym ni'n ei alw'n 'rheolwyr tir', hefyd arwain at nifer o filoedd yn fwy o bobl sy'n gymwys i gael taliadau gan Lywodraeth Cymru. Felly, a ydych chi'n gwbl ffyddiog, o ystyried hefyd yr ansicrwydd yr ydych chi wedi cyfeirio ato heddiw, y bydd gennych chi ddigon o adnoddau i ymdrin â'r ceisiadau am daliadau pan fyddan nhw'n dechrau dod i mewn i'ch adran?

13:55

Rwy'n credu bod yn rhaid i chi dderbyn bod y rhan fwyaf o reolwyr tir yn ffermwyr—mae'n well gen i'r gair 'ffermwyr'—ac nid wyf i'n credu y byddwn ni'n gweld y miloedd o bobl hyn yn gwneud ceisiadau am y cyllid. Rwyf i wedi clywed y bydd pobl â rhandiroedd yn gallu gwneud cais, er enghraifft; mae hynny'n gwbl anghywir. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw bod Llywodraeth y DU yn rhoi pob ceiniog i ni y byddem ni wedi ei chael fel gwlad gan yr Undeb Ewropeaidd. Dyna'r wyf i'n eu dal nhw iddo, ac yna gallwn wneud ein penderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ac rwyf i wedi dweud o'r cychwyn bod yn rhaid i'r cynlluniau newydd fod ar waith cyn i ni ddiddymu'r cynllun taliadau sylfaenol.

Gwaith Tasglu'r Cymoedd yng Nghaerffili

3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso gwaith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili? OAQ53521

Diolch. Bydd amrywiaeth o fesurau yn cael eu defnyddio. Bydd y rhain yn cynnwys dangosyddion allweddol, fel data cyflogaeth, yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud ag effaith ar iechyd, llesiant a dyheadau. Mae'r tasglu yn bwrw ymlaen â nifer o ymrwymiadau allweddol yng Nghaerffili, a bydd eu heffaith yn ffurfio rhan o'r gwerthusiad.

Mae'n rhaid dweud, mae'r Dirprwy Weinidog dros yr economi wedi hyrwyddo'r economi bob dydd ers amser maith. Roedd hyn cyn iddo ddod yn Ddirprwy Weinidog, ac yn wir cyn iddo ddod yn Aelod Cynulliad, pan y'i hadnabuwyd yn syml fel Lee Waters. Un o'r beirniadaethau yr wyf i wedi eu cael o'r—[Torri ar draws.] Wel, nid oes dim byd syml am Lee Waters. Un o'r beirniadaethau yr wyf i wedi eu cael o dasglu'r Cymoedd yw bod pwyslais y cynllun cyflawni wedi bod mewn ardaloedd sy'n ganolog a hygyrch yn fy etholaeth i, sy'n beth da, ond byddwn i'n dweud bod angen i ni fod yn tyfu ac yn datblygu'r economi bob dydd mewn ardaloedd sy'n fwy anodd eu cyrraedd, fel Cwm Aber, Nelson, Senghennydd a Bargoed. A allwch chi roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar hynny, ac, yn arbennig, y bydd honno'n dasg allweddol i'r Dirprwy Weinidog?

Gallaf. Diolch. Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi ysgrifennu yn ddiweddar at y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch y materion hyn, a gwn ei fod wedi cynnig cyfarfod â chi yn ffurfiol i drafod y mater ymhellach. Mae'r Dirprwy Weinidog yn gwneud llawer o waith ynghylch tasglu'r Cymoedd ar hyn o bryd. Gwn ei fod wedi cael trafodaethau gydag aelodau'r tasglu ei hun. Mae'n cyfarfod â phob un o arweinyddion awdurdodau lleol y Cymoedd, gyda'r bwriad o edrych ar sut y gall y tasglu gyfochri yn well â'r economi sylfaenol a Swyddi Gwell yn Nes at Adref. Mae hefyd wedi gofyn i arweinwyr awdurdodau lleol am rai enghreifftiau o arfer gorau, fel y gellir rhannu'r rheini ar draws ardaloedd y Cymoedd. Felly, er enghraifft, dull Rhondda Cynon Taf o adfywio cartrefi gwag drwy grantiau gwella eiddo—mae gan hynny'r potensial i ddod â tua 1,000 o gartrefi yn ôl i ddefnydd. Ac mae hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddysgu o fodel ariannu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Felly, unwaith eto, gallwn gymhwyso'r dull hwnnw i enghreifftiau o arfer da ar draws y Cymoedd. Gwn fod y Gweinidog hefyd wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog am yr angen i sicrhau bod yr economi sylfaenol wedi'i hymsefydlu'n llawn yn nhasglu'r Cymoedd, ac rwy'n credu bod y tasglu wedi bod yn bwysig iawn o ran dod â phwyslais ar y Cymoedd o fewn Llywodraeth Cymru.

Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o werthuso gwaith tasglu'r Cymoedd yng Nghaerffili ac mewn mannau eraill yw pennu amcanion a thargedau eglur fel y gall y Llywodraeth, sefydliadau a'r cyhoedd fesur cynnydd y strategaeth er budd tryloywder ac atebolrwydd? Ond nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. A wnewch chi esbonio pam, os gwelwch yn dda?

Wel, rydym ni'n defnyddio 16 o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol, y byddwn ni'n gallu eu defnyddio i fesur ar lefel y Cymoedd. Byddan nhw'n cael eu hasesu dros gyfnod o amser. Efallai y bydd angen iddyn nhw newid dros amser. Felly, dyna'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Byddwn ni hefyd yn cynnal arolwg dinasyddion y Cymoedd. Mae hwnnw'n archwilio agweddau pobl at ranbarth Cymoedd de Cymru, a'r ardal a gwmpesir gan fenter tasglu'r Cymoedd yn benodol. Bydd y canfyddiadau ymchwil hynny'n adeiladu ar ein dealltwriaeth o safbwyntiau pobl yn y Cymoedd. Byddan nhw'n caniatáu i ni fesur cynnydd parhaus tasglu'r Cymoedd. Rydym ni hefyd yn casglu gwybodaeth am y ffynonellau data sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan feysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru i olrhain cynnydd a chanlyniadau ar draws eu camau cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd priodol. Mae'n gwbl draws-Lywodraeth.

Rydym ni hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid yng Nghaerffili—mae hynny er mwyn cyflawni nifer o ymrwymiadau yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni', a fydd yn cynnwys cryfhau'r canolfannau strategol. Felly, mae gennym ni lawer iawn o waith monitro sy'n cael ei wneud i wneud yn siŵr ein bod ni ar y trywydd iawn.

14:00
Gwasanaethau Ieuenctid

4. A wnaiff y Prif Weinidog nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau ieuenctid? OAQ53504

Diolch. Ers 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £25 miliwn y flwyddyn i awdurdodau lleol i gynorthwyo gwasanaethau bysiau lleol a chludiant cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys y de-ddwyrain. Tuag at—. Mae'n ddrwg gen i, rwyf i ar y cwestiwn anghywir. Ymddiheuriadau, Llywydd.

Wn i. [Chwerthin.] Ymddiheuriadau.

Rydym ni'n cydnabod y swyddogaeth hanfodol y mae gwasanaethau ieuenctid yn ei chyflawni o ran cynorthwyo pobl ifanc. Penodwyd bwrdd gwaith ieuenctid dros dro i ddatblygu strategaeth gwaith ieuenctid newydd i wella'r gwasanaethau hyn. I gefnogi hyn, bydd y grant cymorth ieuenctid yn cynyddu gan 188 y cant yn 2019-20, i gynorthwyo digartrefedd ac iechyd meddwl ieuenctid yn arbennig.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Gweinidog. Rwy'n credu bod gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, a hynny'n briodol, gan y cyhoedd, gan bobl ifanc eu hunain yn amlwg, a chan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys yr heddlu, oherwydd maen nhw'n cynnig cymaint o wahanol weithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc oherwydd yr agweddau cymdeithasol, oherwydd yr amrywiaeth o anogaeth a chyngor sydd ar gael—anogaeth a chyngor pwysig iawn. Rydym ni i gyd yn gwybod bod awdurdodau lleol o dan bwysau mawr o ran y cyllid sydd ar gael iddyn nhw, Gweinidog, a bu amrywiaeth o doriadau i wasanaethau ieuenctid, felly hoffwn groesawu'n fawr y cyllid newydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2019-20 gan Lywodraeth Cymru a gofyn i chi a allwch chi roi rhyw syniad i ni o sut y bydd y cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio i sicrhau gwasanaethau ieuenctid o ansawdd da ac sydd ar gael ar draws Cymru gyfan.

Fel y dywedais, mae'n gynnydd o 188 y cant i'r cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol o'r ymchwiliad cipolwg a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o dan gadeiryddiaeth Lynne Neagle, a chyflwynodd yr adroddiad hwnnw lawer o argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i ystyriaeth. Soniais bod y bwrdd gwaith ieuenctid dros dro wedi cael ei sefydlu, a phenodwyd hwnnw yn ôl ym mis Hydref 2018 ac mae eisoes wedi cyfarfod bum gwaith. Rwy'n deall ei fod mewn trafodaethau gyda Lynne Neagle i wneud yn siŵr bod yr argymhellion a gyflwynwyd gan ei phwyllgor yn dwyn ffrwyth. Roedd cylch gwaith y bwrdd yn cynnwys datblygu strategaeth gwaith ieuenctid newydd i Gymru, felly bydd hynny ar draws Cymru gyfan. Mae'n mynd i argymell model cynaliadwy newydd ar gyfer gwaith ieuenctid, ac yn sicr byddwn yn gweithio gyda'n holl bartneriaid.

Nid yw'r holl gyllid gwasanaeth ieuenctid yn dod drwy'r llwybr awdurdod lleol. Yn 2016, argymhellodd y comisiynydd plant bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod eiriolaeth cysylltiedig ag iechyd ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed ar gael ac yn hygyrch i bawb sydd ei hangen. Fodd bynnag, yn ei diweddariad chwarterol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni, nododd nad yw'n ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth o eiriolaeth mewn lleoliadau iechyd ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, ac nid yw'r wybodaeth i gleifion wedi ei diweddaru ychwaith, gyda gwasanaethau yn parhau i fod yn ad hoc. Mae'n fis Mawrth 2019 erbyn hyn, mae hynny'n dair blynedd ers i'r comisiynydd wneud ei hargymhellion, rwy'n deall bod ei swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, felly tybed a allwch chi ein helpu ni i ddeall pa gamau buan fydd yn cael eu cymryd nawr yn hyn o beth, gan gofio bod y cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal. Diolch.

Bydd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi clywed hynna, a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch chi.

Gwasanaethau Bysiau yn Ne-Ddwyrain Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ53532

Diolch, fe wnaf i ei ddarllen eto. Ers 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £25 miliwn y flwyddyn i awdurdodau lleol i gynorthwyo gwasanaethau bysiau lleol a chludiant cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys y de-ddwyrain. Tua diwedd 2017-18, darparwyd £3 miliwn ychwanegol gennym i gynorthwyo'r rhwydwaith bysiau, yn ogystal â grantiau penodol eraill a ddyrannwyd i gynorthwyo gwasanaethau cludiant cyhoeddus.

Diolch, Gweinidog. Mae gwasanaethau bysiau yn rhan annatod o'n seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol. Fodd bynnag, yng Nghasnewydd, mae'r newyddion diweddar y bydd gweithrediad y gwasanaeth NAT ym Mrynglas yn dod i ben yn ddiweddarach y mis hwn wedi achosi pryder ymhlith fy etholwyr sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwn. Yn anffodus, nid yw hon yn sefyllfa anarferol. Mae wedi effeithio ar yr holl weithredwyr ar draws Casnewydd, ac mae llawer o etholwyr yn dal i gysylltu â mi ynghylch dirywiad yn y gwasanaethau bws eraill. Er enghraifft, daeth y gwasanaeth X18 o Faesglas i orsaf drenau Pye Corner i ben yn 2017. Nid oes unrhyw weithredwr wedi cymryd y gwasanaeth hwnnw drosodd, sy'n golygu bod gan un o'm hetholwyr daith o dros ddwy awr i ymweld â'i mam yng Nglynebwy, ac nid dyma'r system drafnidiaeth integredig yr ydym i gyd yn ceisio ei sicrhau. Er mwyn annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, mae'n rhaid iddo fod yn fforddiadwy, yn ddibynadwy ac yn rheolaidd, felly beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau bysiau cynaliadwy yn cael eu cynnal yng Nghymru?

14:05

Diolch. Yn amlwg, fe wnaethoch gyfeirio at achos unigol, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ofyn i gydgysylltydd bysiau de Cymru ymchwilio i hynny, ac yna ysgrifennu atoch chi.

O ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, rydych chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r cyllid sylweddol yr ydym ni wedi ei gyfrannu at wasanaethau bysiau dros y blynyddoedd. Gwn fod swyddogion y Gweinidog yn cyfarfod yn rheolaidd gyda chyngor Casnewydd a'r diwydiant bysiau. Yn amlwg, nid oes gan Lywodraeth Cymru nac awdurdod lleol y pwerau i fynnu bod gweithredwr bysiau yn rhedeg gwasanaeth penodol. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei gyflawni trwy gontractau awdurdod lleol, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys y cymhorthdal cyhoeddus.

Rydym ni'n awyddus iawn i awdurdodau lleol fod yn fwy rhagweithiol o ran cynllunio a chydgysylltu gwasanaethau bysiau lleol. Mae ganddyn nhw rai pwerau i'w harfer dros ddarparwyr bysiau. Yn amlwg, gallant gynnal cynlluniau tocynnau, er enghraifft, cytundebau gwirfoddol gyda gweithredwyr bysiau i gydgysylltu buddsoddiadau, a gallant greu cynlluniau partneriaeth ansawdd bysiau statudol y gellir eu gorfodi.

Byddwch yn ymwybodol fod y Gweinidog hefyd wedi lansio ymgynghoriad Papur Gwyn yn ôl ym mis Rhagfyr. Bydd yn cau ar 27 Mawrth, ac mae hwnnw'n gwneud cynigion ar gyfer gwella'r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru. Byddwn yn annog pob Aelod i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw.

Diolchaf i'r Gweinidog am gymryd lle'r Prif Weinidog heddiw. Nid wyf i'n gwybod a ddefnyddiodd y Prif Weinidog wasanaethau bws de-ddwyrain Cymru i'w helpu i gyrraedd Palas Buckingham, ond rwyf i wrth fy modd ei fod yn y dathliad hwnnw o'r arwisgiad ar ôl 50 mlynedd. Rwy'n credu y byddai'n ofnadwy pe na byddai wedi mynd, felly diolch.

Mae Bws Casnewydd wedi cyflwyno dull trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw lle maen nhw o leiaf yn treialu'r syniad o ganiatáu i bobl gysylltu â nhw a threfnu bws y diwrnod cynt. Gan dalu pris tocyn arferol, mae'r bws yn mynd o gwmpas ac yn codi pobl dim ond o'r arosfannau bws lle mae ei angen. A yw'r Gweinidog yn credu bod y dull hwnnw'n un synhwyrol, mwy hyblyg a all sicrhau hyfywedd ariannol pan na fyddai yno fel arall, ac a fyddai'n cefnogi ei ehangu i fannau eraill?

Ydw, yn bendant. Rwy'n credu mai dyna'r dyfodol a dweud y gwir, a gwn fod hynny wedi ei gynnwys yn y Papur Gwyn, felly, unwaith eto, byddai'n beth da pe gallem ni gael cymaint o ymatebion a phosibl i'r ymgynghoriad i alluogi'r Gweinidog i wneud penderfyniadau fel hwnnw.

Cyllid Addysgol

Mae cyllid addysgol yn dal yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, er gwaethaf cyni cyllidol parhaus. Gan weithio gyda'n partneriaid, mae'r gyllideb yn adlewyrchu ein dymuniad i godi safonau i bawb, i leihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n ffynhonnell o falchder a hyder cenedlaethol.

Diolch. Fel aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru, felly, byddwch yn gwbl ymwybodol y cydnabyddir yn eang bod argyfwng prinder arian parod mewn ystafelloedd ddosbarth ac argyfwng cyllid yn ein system addysgol ledled Cymru. Er enghraifft, bydd y gyllideb addysg yng Nghonwy yn cael ei thorri gan 3.6 y cant o ganlyniad i setliad mor wael gan Lywodraeth Cymru o ran cyllid. Nawr, mae hyn yn arwain at fesurau arbed arian mwy difrifol yr ydym yn eu gweld erbyn hyn yn Aberconwy, ac nid oes diben i chi ysgwyd eich pen. Mae llythyr wedi ei anfon at bob rhiant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, cymaint yw'r pryder, wedi ei lofnodi gan saith o benaethiaid. Rydym ni'n gweld dosbarthiadau mwy, rydym ni'n gweld swyddi staff yn cael eu dileu, ac rydym ni'n gweld gostyngiad mewn cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion llesiant. Nifer wirioneddol yr ysgolion yng Nghymru sydd mewn diffyg: 146 o ysgolion cynradd a 79 o ysgolion uwchradd.

Nawr, rydym ni hefyd yn gwybod, trwy dystiolaeth a dderbyniwyd yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod amrywiant eang ledled Cymru o ran gwariant fesul disgybl, o gymaint â £1,000. Rydym ni hefyd yn gwybod bod cyllid i ddisgyblion yng Nghymru yn golygu bod ein disgyblion yn cael £607 yn llai yng Nghymru nag y maen nhw yn Lloegr. Ar ba bwynt—? Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn i'n hysgolion, a pha gynlluniau sydd gennych chi—[Torri ar draws.] Mae'n iawn i'r Gweinidog—

Peidiwch â chael eich dargyfeirio gan Weinidog arall yn ceisio ateb ar ran y Gweinidog. Gofynnwch y cwestiwn, os gwelwch yn dda.

Llywydd, mae'n ymddangos bod y Gweinidog gwadu'r sefyllfa. Gobeithiaf nad yw'r Gweinidog hwn sy'n ymateb yn gwneud hynny.

Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng arian parod ariannu sydd gennym ni yn ein system addysgol yng Nghymru, ac a fydd unrhyw ystyriaeth i gronfa frys o arian a fydd yn golygu y bydd ysgolion yn Aberconwy yn gallu parhau i weithredu?

14:10

Rwy'n credu y gwnaf i ddechrau trwy atgoffa'r Aelod o ddau beth: rydym ni yn y nawfed flwyddyn o gyni cyllidol gan eich Llywodraeth chi yn Llundain. Yr ail beth i'ch atgoffa ohono yw na fydd unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.3 y cant i'w gyllid craidd ar gyfer 2019-20. Felly mater i gyngor Conwy yw ei benderfyniad i dorri'r gyllideb addysg gan 3 y cant. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol drwy'r setliad refeniw llywodraeth leol, a chyfrifoldeb—[Torri ar draws.] Mae rhywun yn gweiddi, 'Dydy e ddim yn deg'; mae'n cael ei wneud ar sail fformiwla ariannu gyda llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Ac a gaf i eich atgoffa y byddai'r Torïaid wedi torri cyllid addysg gan 20 y cant?

Mae rhagrith y Torïaid ar fater cyllido gwasanaethau cyhoeddus yn syfrdanol. Blynyddoedd o lymder y Ceidwadwyr yn San Steffan sy'n gwaedu'n hysgolion ni ac yn tanseilio cyflawniad ein plant a'n pobl ifanc. Ond, does dim dwywaith: mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu a stopio claddu eu pennau yn y tywod. Er enghraifft, mae angen cydgordio'r gefnogaeth i ysgolion yn well i osgoi gwastraffu arian ar ddyblygu a biwrocratiaeth a chaniatáu mwy o arian i lifo i lawr y dosbarth. Pa waith dŷch chi'n ei wneud ynglŷn â hynny?

Rwy'n cytuno. Rydym ni'n sicr eisiau lleihau biwrocratiaeth, a gwn fod y Gweinidog—yn sicr, ni fyddwn byth yn cyhuddo'r Gweinidog presennol o gladdu ei phen yn y tywod a gwn ei bod yn cymryd camau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Nid ydym ni eisiau gweld dyblygu, nid ydym ni eisiau gweld biwrocratiaeth ychwanegol.

Dywedodd Janet Finch-Saunders yn ei chwestiwn gwreiddiol, bod y gwahaniaeth ariannu yn £607 fesul disgybl; nid yw hynny'n wir. Mater i bob awdurdod yw faint y mae awdurdod yn ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgol. Ac yna mae'r ysgolion yn amlwg yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod y gyllideb sydd ei hangen arnyn nhw ganddynt.

Pleidlais y Bobl

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei ystyriaeth o'r angen am bleidlais y bobl ar y cytundeb i ymadael â'r UE? OAQ53529

Diolch. Rydym ni dair wythnos i ffwrdd o'r adeg pan ddisgwylir i ni adael yr UE ond yn ddim nes at gytundeb. Rydym ni wedi dweud ers tro, os bydd y Senedd yn dod i'r casgliad mai pleidlais gyhoeddus yw'r unig ffordd i ddatrys yr anghytundeb a symud ymlaen, y byddem ni'n ei chefnogi.

Diolch. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol i ddiystyru sefyllfa drychinebus 'dim cytundeb' a sicrhau bod yr anghytundeb llwyr yn San Steffan yn cael ei ddatrys? Felly, a yw hi'n cytuno â mi felly bod yn rhaid gwneud cytundeb Prif Weinidog y DU, sef, beth bynnag fo'i ddiffygion difrifol, yr unig un sydd ar gael, gael ei wneud yn destun pleidlais ymhlith y cyhoedd gyda'r dewis o dderbyn y cytundeb hwnnw a bwrw ymlaen â Brexit, neu gadw ein cytundeb presennol gyda llais, feto, aelodaeth lawn o'r farchnad sengl a'r undeb tollau a chyfranogiad llwyr yng ngweithdrefnau ymladd trosedd a diogelwch yr UE?

Diolch am y cwestiwn atodol yna. Rydym ni wedi dweud yn gyson y byddai 'dim cytundeb' yn drychinebus i Gymru, ac yn sicr nid ydym ni'n cefnogi'r cytundeb presennol y mae Prif Weinidog y DU wedi ei negodi.

O ran refferendwm, rwy'n credu ein bod ni wedi dweud yn gyson y dylem ni adael i Lywodraeth a Senedd y DU wneud eu gwaith—rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn amyneddgar iawn—a sicrhau cytundeb sydd o fudd i'r wlad, sy'n gallu ennyn mwyafrif yn y Senedd. Os na allan nhw wneud hynny, dylid rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl mewn refferendwm.

Mae'n ffaith, yn amlwg, bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parchu canlyniad y refferendwm. Ond, os byddwch chi'n ystyried pleidlais y bobl fel dewis—ac rwyf i, yn un, nad wyf—pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r amser y byddai'n ei gymryd i drefnu pleidlais y bobl? Rwyf i wedi clywed ffigurau o chwech, 12, 18 mis. Does bosib na'r cwbl y byddai hynny'n ei wneud fyddai ychwanegu at yr ansicrwydd pe byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi ei chefnogaeth i gynnig o'r fath, waeth pa mor ffôl y gallai hynny fod.

Rydym ni wedi parchu penderfyniad pobl Cymru erioed. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi pleidleisio dros adael, a dywedais yn fy ateb i Lynne Neagle fy mod i'n credu ein bod ni wedi bod yn anhygoel o amyneddgar. Rydym ni wedi ceisio dylanwadu ar drafodaethau yn y ffordd orau y gallwn. Fel Gweinidogion, rydym ni i gyd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau yn barhaus—rwy'n credu ei bod hi'n debygol y byddwch chi'n canfod ein bod ni mewn trafodaethau bob wythnos gyda'n cydweithwyr yn San Steffan. Felly, nid yw'n ymwneud â pheidio â pharchu'r penderfyniad, mae'n golygu gwneud yn siŵr nad ydym ni'n cael 'dim cytundeb' a bod gennym ni gytundeb sy'n dderbyniol ac, fel y dywedais i, sy'n llwyddo i ennill mwyafrif yn y Senedd. Nid yw'n ymddangos bod hynny am ddigwydd. Mae'n ymddangos mai'r cwbl y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud yw oedi er mwyn cyrraedd y terfyn amser; mae'n ymddangos ei bod hi'n rhoi'r bleidlais ystyrlon o'r neilltu, ac mae'n mynd i gael ei chynnal yr wythnos nesaf erbyn hyn. Rydym ni erbyn hyn, beth, tua 24 diwrnod o bryd y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Felly, o ran eich cwestiwn ynghylch refferendwm, mae'n amlwg bod llawer o drafodaethau i'w cynnal. Yn ôl ym mis Mehefin 2016, fel Llywodraeth, roeddem ni'n gefnogol o aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf i'n credu ein bod ni wedi gweld unrhyw beth a fyddai'n newid hynny, ond bydd llawer o drafodaeth am beth yw'r cwestiwn penodol, a phan fyddwn ni'n gwybod beth yw'r cwestiwn hwnnw, pe byddai pleidlais y bobl yn cael ei chynnal, yna byddem, wrth gwrs, yn cynnig ein cyngor ar hynny.

14:15

Mae'n amlwg iawn mai'r rheswm yr ydym ni yn y parlys cyfansoddiadol hwn yw bod gennym ni Lywodraeth sydd ond yn llwyddo i ddal ei gafael yn ei grym drwy lwgrwobrwyo 10 o Aelodau Seneddol Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn amlwg iawn y bydd refferendwm arall neu bleidlais arall yn cymryd o leiaf chwe mis. Felly, a ydych yn cytuno â mi mai un o'r amcanion allweddol ar hyn o bryd, o reidrwydd, yw estyniad i erthygl 50? Ni allwn gwblhau'r rhaglenni deddfwriaethol sy'n angenrheidiol i'w cwblhau, ac mae'r trafodaethau masnach mewn coblyn o lanastr. Byddai unrhyw un sy'n ystyried lles y genedl—gan roi gwleidyddiaeth i'r naill ochr, ac yn ystyried lles y genedl yn unig—yn dod i'r casgliad bod estyniad i erthygl 50 am o leiaf chwe mis yn gwbl hanfodol.

Yn sicr, ydy. Rydym wedi dweud hynny, a phleidleisiodd y Cynulliad hwn, yn amlwg, o blaid hynny yn ôl ym mis Ionawr. Rwyf i o'r farn eich bod yn hollol gywir am Ogledd Iwerddon. Dim ond ddoe fe wnaeth y Gweinidog cyllid ysgrifennu at Liz Truss ynglŷn â'r £140 miliwn ychwanegol sydd wedi ymddangos yn ôl pob tebyg yng nghyllideb Gogledd Iwerddon. Ac er nad oes gennym ni unrhyw wrthwynebiad i Ogledd Iwerddon yn cael mwy o arian, rydym o'r farn y dylai hynny ddigwydd ledled y DU, ac fe ddylem ni gael cyllid ychwanegol hefyd, a'r Alban.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol)

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r datganiad—. Nage, mae'n ddrwg gen i. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol.

Roedd y ddau ohonom wedi camgymryd ar y pwynt hwnnw, rwy'n credu.

Felly, y cwestiwn cyntaf i'r Cwnsler Cyffredinol yw cwestiwn gan Helen Mary Jones. 

Gwahaniaethau rhwng Cyfraith Cymru a Chyfraith Lloegr

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y farnwriaeth yn llwyr ymwybodol o'r gwahaniaethau cynyddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr? OAQ53490

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu yn rheolaidd â Swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus i'w hysbysu am faterion polisi a deddfwriaeth sy'n effeithio ar y farnwriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw gynigion sy'n effeithio ar weinyddiaeth y llysoedd, y gyfraith droseddol, neu weithrediad y system farnwrol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, mae gennym  anghysondeb rhyfedd, onid oes, o ran bod gennym Senedd sy'n deddfu ond nid oes gennym ni farnwriaeth ar wahân i weithredu hynny. Credaf, yn wir, mai ni yw'r unig Senedd neu Senedd ranbarthol yn y byd gorllewinol lle mae hynny'n digwydd, ac mae'n amlwg na fydd y Cwnsler Cyffredinol yn synnu o'm clywed i'n dweud ein bod ni, ar y meinciau hyn, yn credu mai'r datrysiad hirdymor i hynny yw datganoli'r system gyfiawnder yn llawn.

Ond o ran y sefyllfa ar hyn o bryd, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod penderfyniadau anghywir wedi cael eu gwneud eisoes oherwydd nad yw barnwyr wedi deall y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr. Bydd ef yn ymwybodol o un neu ddau achos y llynedd, er enghraifft, yn ymwneud â darparu gwasanaethau gofal. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ein sicrhau ni heddiw y bydd ef yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn gwneud yn siŵr, yn benodol, fod aelodau newydd y farnwriaeth yn cael hyfforddiant priodol yn rhan o'u hyfforddiant craidd fel eu bod yn deall eu bod nhw erbyn hyn yn ymwneud â dau fath gwahanol, ar wahân, o gyfreithiau, mewn llawer maes—ym mhob un o'r meysydd datganoledig—er mwyn sicrhau nad ydym yn mynd drwy'r broses gostus, ac yn achos yr achosion gofal hynny, y broses boenus iawn o benderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud o ganlyniad i anwybodaeth ar ran y barnwyr?

Wel, mae'r Aelod yn nodi cwestiwn difrifol iawn ac mae'n her sy'n codi drwy fod â phwerau deddfu sylfaenol ond heb awdurdodaeth ar wahân a heb system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru. Mae'r Llywodraeth wedi cytuno ar brotocol gyda Swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus, sy'n ymwneud â rhoi hysbysiad cynnar o gynnwys deddfwriaeth a'r dyddiad disgwyliedig i honno ddod i rym, ac effeithiau hynny ar y ddeddfwriaeth bresennol. Cynhelir cyfarfodydd misol rhwng Swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus a swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llif yr wybodaeth yn parhau i fod yn gyfredol. Mae'r cyfrifoldeb statudol dros hyfforddiant y farnwriaeth wedi cael ei ddatganoli gan Arglwydd Brif Ustus y Coleg Barnwrol, a'n gobaith a'n nod ni, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr y bydd y Coleg Barnwrol yn cael digon o rybudd ymlaen llaw o gynnwys y newidiadau cyfreithiol a wnawn ni yma yng Nghymru i sicrhau bod yr hyfforddiant hwnnw'n cael ei gyflwyno.

Ceir trafodaeth barhaus ynghylch pwy ddylai fod yn gyfrifol yn ariannol am hyfforddiant y farnwriaeth ym meysydd y gyfraith lle y gwelir gwahaniaethu. Ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw mai cyfrifoldeb i Lywodraeth y DU yw hyn gan nad yw cyfiawnder wedi cael ei ddatganoli. Er hynny, yn ymarferol, yn amlwg mewn rhai meysydd, er enghraifft cyfraith tai, lle cafwyd newid sylweddol, bu trafodaethau eang iawn rhwng swyddogion a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch sut y gellir trosi hynny i fod yn newidiadau ymarferol i'r weithdrefn greiddiol, ac yn y blaen. Felly, mae hynny'n digwydd o bryd i'w gilydd pan geir materion penodol o newid sylweddol.

14:20
Hygyrchedd Deddfwriaeth Ddatganoledig

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am hygyrchedd deddfwriaeth ddatganoledig i'r cyhoedd? OAQ53497

Mae Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn ymrwymo llywodraethau'r dyfodol i gadw hygyrchedd y gyfraith dan adolygiad a chymryd camau i'w gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Bwriadwn ddatblygu codau cydgyfnerthedig o gyfraith Cymru yn ogystal â gwella'r dull o gyhoeddi deddfwriaeth.

Efallai eich bod chi wedi ateb fy nghwestiwn i nawr. Ond, yn y Siambr hon, ein braint ni yw gallu creu deddfwriaeth sy'n cael effaith sylweddol ar fywydau bob dydd pobl ledled Cymru. Yn anffodus, er hynny, er bod Deddfau ar gael yn rhwydd ar-lein, y gwirionedd yw nad yw llawer o'r etholwyr yr wyf i'n cwrdd â nhw yn ymwybodol o'r cyfan a wnawn ni yma o ran y cyfreithiau yr ydym yn eu pasio. Y tymor diwethaf, wrth gwrs, crëwyd 25 o filiau unigol yn y fan hon. Nawr, fel y byddwch yn ymwybodol o bosib, bu cyhoeddusrwydd da iawn i Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, ac mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo effaith y Ddeddf honno yn sylweddol. Felly, pa gamau y gallech chi eu cymryd, Cwnsler Cyffredinol, i gynnal ymgyrch neu godi mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o bob darn o ddeddfwriaeth a basiwyd yma yng Nghymru?

Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n gobeithio y gallaf  ddibynnu ar ei chefnogaeth i bob cam o Fil Deddfwriaeth (Cymru) wrth iddo fynd drwy'r Cynulliad, oherwydd ei fwriad yn rhannol yw mynd i'r afael â'r math o faterion—y materion pwysig—y mae hi wedi tynnu sylw atyn nhw yn ei chwestiwn atodol.

Mae ein setliad datganoli yn un cymhleth. Mae ganddo effaith benodol ar sut yr ydym yn deddfu o ganlyniad i hynny. Er gwaethaf 20 mlynedd o ddatganoli, mae llawer o'n deddfwriaeth—y rhan fwyaf ohoni, mewn gwirionedd—yn parhau i fod yn seiliedig ar Ddeddfau Senedd y DU—y rhan fwyaf o'n cyfraith—ac felly mae'n dasg i resymoli hynny. Ond mae hi'n nodi mater atodol penodol ond mater pwysig: wedi gwneud hyn, sut mae cyfleu hynny i'r cyhoedd wedyn? Ac mae hynny wrth galon yr hyn y bwriadwyd i'r ddeddfwriaeth honno ei gyflawni. Ie, y cydgrynhoi, ie y codeiddio, ond sut wedyn y caiff hynny ei gyhoeddi ar-lein mewn modd sy'n gyfredol, yn awdurdodol, yn ddwyieithog ac yn hygyrch? A allwn ni drefnu hyn mewn ffordd sy'n haws dod o hyd iddo , nid yn unig yn ôl dyddiad y gyfraith ond yn ôl pwnc? Rydym yn gweithio ar hynny'n hollol ar wahân, mewn gwirionedd, i'r cynigion yn y Bil. Felly, rwy'n gobeithio, wrth i'r Bil fynd trwy'r Cynulliad, y gallwn ni drafod y materion hynny ymhellach.

Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb? OAQ53481

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bwerau statudol i asesu i ba raddau ac ym mha ffordd mae awdurdodau cyhoeddus Cymru yn cydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r comisiwn ar drefniadau monitro ac ar adroddiad cydraddoldeb Gweinidogion Cymru.

Fel y byddwch chi'n gwybod, o dan adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2010, mae gan ddarparwyr gwasanaethau ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer unigolyn anabl yn y ffordd y maen nhw'n darparu eu gwasanaethau. Serch hynny, rwy'n ymwybodol o enghraifft o awdurdod lleol yn gwrthod gosod mynedfa i bobl anabl mewn parc cyhoeddus. Nawr, mae hyn yn ymddangos yn gwbl afresymol ac mae'n amlwg fod hynny'n atal defnyddwyr cadeiriau olwyn yn yr ardal rhag cael y mwynhad o ddefnyddio'r parc. A ydych chi'n cytuno y dylai awdurdodau lleol ddarparu mynediad i bobl anabl i barciau cyhoeddus er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon?

Credaf yn gryf fod angen i awdurdodau lleol gymryd eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ddifrif, gan gynnwys yr un y mae ef newydd ei nodi. Rwy'n gwybod bod cyhoeddi'r setliad llywodraeth leol, sy'n darparu'r cyllid craidd heb ei neilltuo, yn atgoffa awdurdodau lleol drwy lythyr gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y gofyniad i gydymffurfio â'r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ceir wrth gwrs, yn ogystal â hynny, ddyletswyddau ychwanegol o dan y Ddeddf honno—dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn benodol—y mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol ledled Cymru gydymffurfio â nhw.

14:25

Mae cod ymarfer Rhan 2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan,

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol roi sylw priodol i nodweddion gwarchodedig wrth gyflawni eu swyddogaethau.

a hefyd,

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i addasiadau rhesymol gael eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau hefyd fod pobl yn cael y cymorth priodol i’w galluogi i gael mynediad at y gwasanaeth.

Byddaf i fel mater o drefn yn cynrychioli etholwyr gerbron awdurdodau lleol ar faterion sy'n amrywio o wasanaethau cymorth anabledd i iaith arwyddion Prydain, ac awtistiaeth, a hygyrchedd i gadair olwyn—mynediad i gyflogaeth hyd yn oed. Nid oes neb yn sôn am y Ddeddf Cydraddoldeb na'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) cyn i mi eu crybwyll nhw, ac erbyn hynny mae'n adeg cyfyngu ar y difrod.

Felly, pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau, er enghraifft, bod y gwendidau a nodwyd yn adroddiad Cynghrair Niwrolegol Cymru ar ran y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf, yn dilyn arolwg o bobl sy'n byw â chyflyrau niwrolegol, sy'n nodi diffyg gwybodaeth, cyngor a chymorth, i bobl â chyflyrau niwrolegol nad ydynt yn cael eu cyfeirio ar gyfer adolygiad neu i fod â llais—? Y pwynt allweddol yw hyn: sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro dealltwriaeth awdurdodau lleol a gweithrediad y codau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), oherwydd yn rhy aml o lawer, yn ddamweiniol neu o fwriad, nid yw hynny'n digwydd fel y dylai?

Mae'r Aelod yn nodi cwestiwn pwysig yn ei gwestiwn atodol. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn hanfodol, wrth gwrs, i weithrediadau'r awdurdodau lleol. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol er mwyn i gyrff cyhoeddus gyflawni eu dyletswyddau'n well yn erbyn y gyfres ehangach honno o ddyletswyddau.

Mae'n bosib ei fod yn gwybod bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi comisiynu darn o waith i lywio hynny o ran cydymffurfiad awdurdodau lleol yn gyffredinol, ac i lywio ei waith ei hun ar gydymffurfiaeth ar draws amrywiaeth o ddyletswyddau, gan ddefnyddio hynny i ysgogi camau i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cydraddoldeb yn gyffredinol. Bydd yn gwybod hefyd fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad o bryd i'w gilydd ar gydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac fe gaiff hwnnw ei gyhoeddi yn yr wythnosau sydd i ddod.

Ymchwiliadau Cynllunio

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau gwrandawiad teg a chyfiawn mewn ymchwiliadau cynllunio? OAQ53498

Cafodd y rheoliadau ar gyfer gwrandawiadau ac ymchwiliadau cynllunio eu hadolygu yn ddiweddar ac maen nhw eisoes yn darparu ar gyfer gwrandawiad teg a chyfiawn.

Mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid imi anghytuno â hynny. Rwyf i o'r farn fod yna tua 1,500 o wrthwynebwyr, a llawer o drigolion a chynghorwyr etholedig yn Aberconwy, a fyddai'n anghytuno â hynny, yn syml oherwydd y ffaith fy mod i, ynghyd â llawer o aelodau sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd, wedi treulio llawer o amser ac wedi gweithio i wrthwynebu datblygiadau tai dadleuol yn Aberconwy. Roedd y rhain yn digwydd pan ddeuai ceisiadau gerbron ar gyfer tir nad yw wedi ei ddynodi yn y cynllun datblygu lleol, yn destun  ymchwiliad, ac eto, cyn i benderfyniad gael ei wneud, ar yr unfed awr ar ddeg, pan gafwyd 'Polisi Cynllunio Cymru—Rhifyn 10', er ein bod ni'n gallu cyfrannu at y cais gwreiddiol a'r gwrandawiad, ni roddwyd caniatâd i ni, na'r 1,300 arall ohonom chwaith, wneud sylwadau. Dim ond yr awdurdod lleol a'r datblygwr a gafodd wahoddiad i gyflwyno tystiolaeth newydd.

Nawr, mae hynny'n groes i rannau eraill y DU. Y rheswm a roddwyd am hyn yw mai polisi Gweinidogion Cymru oedd y dystiolaeth. Yn amlwg, mae hynny'n annheg ac yn afresymol, tra bod is-adran 47(7) Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apeliadau a Chyfeirio Ceisiadau) (Cymru) 2017 yn caniatáu i sylwadau gael eu gwahodd pan fo unrhyw dystiolaeth newydd. Ond, yn yr achos hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu nad yw hynny'n gywir.

Felly, rwy'n gofyn i chi eto a fyddech chi'n barod i edrych ar hyn eto, fel Cwnsler Cyffredinol, oherwydd fy mod o'r farn bod hyn—wel, y mae—yn wendid yn ein deddfwriaeth yma yng Nghymru, ac a fyddech efallai yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn enwedig y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, i ystyried adolygu'r sefyllfa hon. Mae angen system arnom ni yng Nghymru, system gynllunio lle mae'n rhaid cael ymchwiliadau cynllunio tecach. Mae'n weithdrefn ddrud iawn, ac yn yr achos hwn, mewn dau gais gwan iawn, ond ceisiadau yr ymladdodd y datblygwr amdanyn nhw'n daer iawn, fe welsom ddeddfwriaeth yng Nghymru sydd wedi ein rhoi ni dan anfantais wirioneddol yn fy etholaeth i. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i'w ymladd hyd nes y gwelaf y ddeddfwriaeth honno'n cael ei newid, ond rwy'n gofyn ichi, yn eich swydd chi, a fyddech chi'n ein cefnogi ni yn hyn o beth.

14:30

Rwy'n ymwybodol bod yr Aelod wedi gohebu â'r Llywodraeth ynglŷn â'r mater hwn. Mae'n amlwg nad wyf i mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar y cais penodol y mae'r Aelod wedi ei ddisgrifio yn ei chwestiwn atodol. Ond cafodd y gweithdrefnau apelio eu hadolygu a'u diweddaru yn 2017, ac, yn amlwg, roedden nhw'n destun i ymgynghoriad helaeth cyn dod i rym, fel y bydd unrhyw newid ym mholisi Llywodraeth Cymru. Felly, pryd bynnag y bydd polisi'r Llywodraeth yn newid, gan gynnwys polisi cynllunio, bydd hynny ynddo'i hun yn destun ymgynghoriad cyhoeddus eang, ac felly ni ddaw o dan y rhwymedigaeth benodol honno i ailymgynghori.

Mae'r arolygiaeth gynllunio yng Nghymru wedi cael enw da am ei rhagoriaeth ac mae'n perfformio'n llawer gwell na'r arolygiaeth gynllunio yn Lloegr, y cyfeiriodd hi ati yn ei chwestiwn, o ran cywirdeb a phrydlondeb, a hynny mewn fframwaith sy'n caniatáu i arolygwyr cynllunio allu mynd dros ben yr isafswm cyfreithiol hwnnw yn y ddeddfwriaeth. Ac o ystyried yr enw da hwnnw, nid ydym ni'n bwriadu cyfyngu ar hynny.

Cwnsler Cyffredinol, byddwch chi wedi clywed hyn yn cael ei ddweud o'r blaen fod mynediad i gyfiawnder yn debyg i fod yn berchen ar Rolls Royce—gall pawb gael un. Ac rwyf i o'r farn bod ein system gynllunio ni yn eithaf tebyg i hynny ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael ymchwiliadau yn ddiweddar lle mae cwmnïau datblygu mawr, yn cael eu cynrychioli gan Gwnsleriaid y Frenhines a llu o arbenigwyr costus, yn sefyll yn erbyn Cymdeithas y Cerddwyr a dinasyddion lleol. Ac mae'n ymddangos i mi—. Pam maen nhw'n talu'r symiau enfawr hynny o arian? Wel, y peth cyntaf yw eu bod yn gallu fforddio i wneud hynny. Mae rhai o'n cwmnïau datblygu tai yn lladrata oddi ar y boblogaeth, gan fanteisio i'r eithaf ar brinder tai. Mae'r ffaith bod un cwmni, fel yr adroddir yn ddiweddar, yn gwneud elw o £66,000 ar bob tŷ— does dim rhyfedd eu bod nhw'n gallu talu £32 miliwn y flwyddyn i'w prif weithredwr. Felly, mae'n ymddangos i mi fod gennym ni system a gaiff ei phrynu gan y rhai sy'n gallu disgwyl gwneud elw enfawr allan ohoni, ac nid yw'r broblem yn ymwneud â thegwch trefniadol y broses, ond gallu pobl i gael cynrychiolaeth gyfiawn a chael dweud eu dweud yn deg o fewn y broses honno. Ac rwyf i o'r farn y bydd y rhai ohonom ni o'r pleidiau i gyd sy'n cymryd rhan yn y broses hon yn gweld yr anghyfiawnder dybryd. Mae'r system gynllunio wedi cael ei phrynu gan y cwmnïau corfforaethol sy'n hynod ariannog, a'r hyn y byddwn i'n ei ofyn yw nid yn gymaint am degwch y broses, ond am fecanwaith y gynrychiolaeth efallai. Pam na ddylai un o'r cwmnïau datblygu tai mawr hyn, sy'n gallu disgwyl ennill degau o filiynau o bunnoedd o'u datblygiadau, dalu i gronfa hefyd i alluogi cynrychiolaeth leol i gymunedau lleol a grwpiau lleol, oherwydd, hyd nes y gwneir rhywbeth, mae gennym annhegwch dybryd yn y gyfundrefn?

Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn o egwyddor a chwestiwn o ran hygyrchedd cyfiawnder, y gwn iddo ddilyn ei drywydd yn y cyd-destun hwn ac mewn rhai eraill. Y cwestiwn yw hyn: heb reolaeth dros yr awenau sy'n caniatáu'r mynediad gorau i gyfiawnder yn y cyd-destun hwnnw, beth allwn ni ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod y pwyntiau lle y gellir arfer y fantais honno yn cael eu lleihau cymaint â phosib o fewn y cyfyngiadau a wynebwn ni? Ac mae'r system hon a arweinir gan gynlluniau yn dibynnu ar y cynlluniau datblygu presennol a fabwysiadwyd, sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad, ac ymgynghoriad cymunedol cyn eu mabwysiadu, ac mae'n amlwg bod yr ymgysylltiad cymunedol yn natblygiad y cynllun datblygu lleol i'w groesawu, a'i annog, i sicrhau ei fod yn cynnwys polisïau sy'n adlewyrchu dyheadau'r gymuned.

Ond rwy'n cydnabod y pwynt a wna ef fod yr anghydbwysedd hwnnw o ran cynrychiolaeth yn her i degwch y system honno.

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r graddau y mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth? OAQ53479

14:35

O ran cyrff cyhoeddus yn gyffredinol, rôl y Comisiynydd Gwybodaeth yw monitro a gorfodi cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus gyda'r gyfraith mynediad at wybodaeth. Does gen i ddim rôl yn monitro cydymffurfiaeth cyrff eraill. O ran Llywodraeth Cymru yn benodol, gweision sifil sy'n delio â cheisiadau am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, gan ddilyn trefniadau mewnol sydd wedi eu hen sefydlu. Mae'r raddfa gydymffurfiaeth bresennol yn uwch na tharged y Comisiynydd Gwybodaeth.

Diolch am hynna.

Ond rwyf i wedi cael sylwadau gan unigolion sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn ag ansawdd a phrydlondeb nifer o sefydliadau wrth ymdrin â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Ond ar ôl cyfeirio'r mater i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac aros cyhyd, erbyn i'r wybodaeth ddod i law, nid oedd ei hangen mwyach neu roedd digwyddiadau wedi cymryd drosodd. Yn anffodus, nid yw hyn yn anghyffredin. A ydych chi'n credu felly fod gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddigon o adnoddau i gyflawni yn erbyn yr amcanion sydd ganddi, ac a allwch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch chi ar y mater hwn er mwyn cael gwelliant?

Wel, mae arnaf ofn nad wyf i mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar yr adnoddau sydd gan y Comisiynydd Gwybodaeth a'i swyddfa; mae hwnnw'n fater sydd wedi ei gadw yn ôl. Yr adran sy'n noddi Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw Gweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU. Mae'n amlwg, er hynny, mae'r drefn statudol, sy'n darparu drwy adran 15 fecanwaith i geisio iawnderau, fel y disgrifia, ac mae'n nodi rhai o'r rhwystrau i hynny yn ei gwestiwn—. Ond mae yn darparu system ar gyfer ceisio mwy o wybodaeth a gallu dwyn hynny gerbron yr Uchel Lys, yn y pen draw, os na cheir yr iawnderau a geisir. Ond, yn amlwg, mae darparu'r system honno mewn modd sy'n rhoi ystyr ac effaith i'r rhwymedigaethau statudol, fel gydag unrhyw rwymedigaeth statudol, yn gofyn am lefel ddigonol o adnoddau.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly nawr yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad.

Diolch, Llywydd. Ceir nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn hwyrach y prynhawn yma, bydd y Llywodraeth yn cynnig atal Rheolau Sefydlog i alluogi'r Cynulliad i gynnal dadl ar y negodiadau i dynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd. Er mwyn caniatáu hynny, mae'r datganiadau ar brentisiaethau, buddsoddi mewn sgiliau i'r dyfodol, a rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol wedi eu gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei gael ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, y cyntaf ar gyllid i ysgolion Cymru? Roeddwn i'n gwrando ar y drafodaeth yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch y sefyllfa yng Nghonwy. Ond wrth gwrs mae hon yn broblem ledled Cymru, sydd wedi bod yn achos pryder i nifer o undebau, i'r fath raddau eu bod nhw wedi cyhoeddi datganiad ddoe yn mynegi bod ysgolion yng Nghymru mewn cyflwr argyfyngus. Rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl yn awyddus i'w ddeall yw pam, o dan y fframwaith cyllidol cyfredol, mae Cymru'n cael £1.20 i bob plentyn am bob £1 sy'n cael ei gwario ar blentyn mewn ysgol yn Lloegr, tra ein bod ni, mewn gwirionedd, yn gwario llai yn flynyddol na'r hyn sy'n cael ei wario ar hyn o bryd ar ein disgyblion. Mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn deall hynny, a chredaf fod angen inni gael tryloywder eglur gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd o ran ein sefyllfa gyllidol. Mae'n gwbl amlwg bod ein disgyblion yma wedi cael eu gadael ar ôl—cawsom rai o'r canlyniadau TGAU gwaethaf mewn degawd y llynedd. Mae llai o'n plant ni'n mynd i'r prifysgolion gorau ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Ac, wrth gwrs, mae gennym y diwygio uchelgeisiol hwn yn digwydd yn ein system addysg ar adeg pan mae'r cyllid mewn cyflwr eithaf enbyd. Felly, rwy'n credu bod angen inni ddeall sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ymdrin â'r argyfwng—a dyna'r gair a ddefnyddiwyd i'w ddisgrifio gan yr undebau addysg—fel y gallwn ni gael trefn ar y sefyllfa a gwneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn cael y buddsoddiad sy'n angenrheidiol.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad ar wasanaethau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ar gyfer oedolion yma yng Nghymru? Byddwch yn ymwybodol, o ganlyniad i'r pwysau a roddodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, gyda'i Fil awtistiaeth, fod y Gweinidog Iechyd wedi gweithredu i ddatblygu gwasanaeth awtistiaeth integredig—neu yn sicr dyna yw uchelgais y Llywodraeth. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod wedi cymryd cam yn y cyfeiriad hwnnw. Un o'r rhesymau pam mae angen gwasanaeth integredig yw bod materion o ymddygiad, problemau emosiynol, megis pryder a dicter, materion wrth ddatblygu sgiliau cymdeithasol a bywyd bob dydd, sy'n broblemau nid yn unig i blant ag awtistiaeth, ond i oedolion hefyd. Nawr, mae'r un sefyllfa yn wir ar gyfer oedolion sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio ag sydd ar gyfer plant ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, ac eto nid oes unrhyw wasanaeth integredig Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd yn cael ei gynnig yng Nghymru. Rwyf i o'r farn bod hwn yn fwlch y mae angen i ni roi sylw iddo, a byddwn yn ddiolchgar iawn wir pe gallem ni gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr hyn y mae ef yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn.

14:40

Diolch yn fawr iawn i chi am godi hyn, a byddaf yn fwy na pharod i roi eglurder ar yr hyn sy'n digwydd gyda'n sefyllfa ni o ran cyllid, oherwydd, wrth gwrs, mae agenda cyni parhaus Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad o bron £1 biliwn yng nghyllideb gyffredinol Cymru. Ond, er gwaethaf hyn, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi datgan yn glir bod ariannu ysgolion fesul disgybl wedi gostwng yn gyflymach yn Lloegr nag yng Nghymru, ac rydym ni'n cydnabod er mwyn parhau i godi ein safonau fod angen cymorth ychwanegol ar ein hathrawon a'n hysgolion. A dyna pam y cyhoeddwyd yn ddiweddar y buddsoddiad unigol mwyaf ar gyfer athrawon ers datganoli—pecyn gwerth £24 miliwn o ddysgu proffesiynol i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Rydym hefyd wedi cyfeirio'r £23.5 miliwn cyfan at awdurdodau lleol i ariannu dyfarniad cyflog yr athrawon a hefyd wedi rhoi £15 miliwn ychwanegol ar ben hynny. Felly, rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi'r eglurder y mae'r Aelod yn ei geisio.

O ran y cwestiwn am Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, mae'n rhaid i mi ddweud bod y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn dyddio o gyfnod llawer cyn cyflwyniad Bil arfaethedig eich cyd-Aelod, Paul Davies, ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gwasanaethau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd.

Trefnydd, rydych yn ymwybodol o bryderon lleol yn Abertawe ynglŷn â'r cyfarfod ymgynghori a gynlluniwyd gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, a oedd i ddigwydd yr wythnos nesaf ar 12 Mawrth. Roedd y cyfarfod i fod trafod y posibilrwydd o leoli cyfleuster gwaredu daearegol niwclear. Cafwyd cymaint oedd y protestio yn Abertawe fel bod y cyfarfod wedi cael ei ganslo erbyn hyn—mae'n ymddangos ar-lein. Ond yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg dros yr wythnosau diwethaf yw bod safbwynt Llywodraeth Cymru yn aneglur ar leoliad posibl i gyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru. Nawr, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot a reolir gan Lafur a chyngor Abertawe a reolir gan Lafur yn erbyn lleoli cyfleuster o'r fath i ddympio sylweddau ymbelydrol yn eu hardaloedd nhw, ond mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi datgan:

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd posibl neu gymunedau i fod yn gartref i

gyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru, a gellir lleoli cyfleuster gwaredu daearegol—sef dymp niwclear—

yng Nghymru dim ond pe bai cymuned yn barod i groesawu hynny

a chael arian am y pleser hwnnw. Fodd bynnag, mae Gweinidog arall yn y Llywodraeth, Vaughan Gething, yn noddi cyfarfod gyda'r awdurdod datgomisiynu niwclear yr wythnos nesaf, yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Nawr, wythnos neu ddwy yn ôl mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn, roedd pobl yn Abertawe yn gofyn yn briodol, 'Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru yn hyn o beth?' Roedd hi'n siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu safbwynt mwy cadarn ac wedi mynegi'r gwrthwynebiad cryf a roddwyd gan awdurdodau lleol sy'n cael eu rhedeg gan Lafur i leoli cyfleusterau o'r fath yng Nghymru. Nawr, yng ngolau'r pryderon a godwyd yn y de-orllewin, a wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i gyflwyno datganiad ar gyfleusterau gwaredu daearegol yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn i chi, ac rwy'n hapus iawn i fod yn glir iawn ynglŷn â'r mater hwn: nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gyflwyno unrhyw gynigion am safleoedd gwaredu yng Nghymru.

A gaf i ddychwelyd at y colli swyddi yn Virgin Media yn Abertawe? Ym mis Ionawr, fe ddywedoch chi:

Gadawodd y garfan gyntaf o'r staff hynny ym mis Tachwedd, ac mae dau gam eto yn yr arfaeth ar gyfer eleni. Mae tîm cymorth Virgin Media y tu allan i'r gweithle yn gyfrifol am ddarparu cyfle i staff gwrdd ar y safle â phartneriaid allweddol ein tasglu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Cynhaliwyd ffair swyddi ym mis Hydref ar safle Virgin Media, ac mae ffeiriau swyddi eto wedi eu trefnu i gyd-fynd â'r carfannau i gyd-fynd â'r carfannau ychwanegol hynny, fel y dywedais, a fydd yn gadael y cwmni.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu dyddiad y ffair swyddi nesaf, faint o bobl sydd wedi dod o hyd i gyflogaeth arall, faint o bobl sy'n chwilio am gyflogaeth sydd wedi gadael heb gyflogaeth arall?

A gaf i ddychwelyd hefyd at fater arall yr wyf i wedi ei godi cyn hyn? Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd yng nghyfraniadau pensiwn cyflogwyr y sector cyhoeddus, a sut y bydd hwnnw'n cael ei ariannu. Mae pryder ymhlith nifer o sefydliadau sector cyhoeddus, yn enwedig yr ysgolion, ynglŷn ag effaith costau cynyddol cyfraniadau'r cyflogwr at bensiynau athrawon. Defnyddiwyd llawer o eiriau hynaws ac addawyd y bydd Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo'r arian iddyn nhw, ond mae'r flwyddyn ariannol newydd yn dechrau ym mis Ebrill ac mae'n rhaid gosod y cyllidebau. Byddai unrhyw argoel fod yr arian yn dod yn arbed llawer o bryder, ac o bosibl golli swyddi.

14:45

Diolch yn fawr iawn i chi am godi'r ddau bwynt. O ran Virgin Media, gallaf gadarnhau y cynhaliwyd ffair swyddi ddiwedd mis Chwefror i gyd-fynd â'r garfan ym mis Mawrth sy'n gadael y cwmni. Bydd y cwmni sy'n weddill—bydd y gweithwyr sy'n weddill, fe ddylwn ddweud, yn gadael y cwmni fis Mehefin eleni, ac mae ein partner ni, fforwm canolfan gyswllt Cymru wedi bod yn arwain y ffeiriau swyddi hynny. Rydym ar hyn o bryd yn casglu'r wybodaeth am lwyddiant, neu fel arall, y staff sydd wedi eu diswyddo i sicrhau cyflogaeth arall, a bydd hyn yn llywio'r ffordd ymlaen i raddau helaeth. Ond pan fydd gennyf i ddyddiad ar gyfer ffair swyddi eto, byddaf yn fwy na pharod i'w rannu gyda chi.

O ran pensiynau sector cyhoeddus, mae wedi bod yn rhwystredig iawn wrth geisio cael yr wybodaeth sy'n angenrheidiol inni ei chael gan Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Roeddem yn disgwyl ymateb ym mis Tachwedd, rwy'n cofio, ond ddim ond yn ddiweddar iawn y mae Trysorlys y DU wedi rhoi manylion am y fformiwla Barnett i Gymru o ganlyniad i'r arian ychwanegol ar gyfer pensiynau'r sector cyhoeddus yn Lloegr. Nid yw'n talu'r gost honno'n llawn, 100 y cant. Rydym wedi ceisio rhagor o fanylion gan y Trysorlys ynglŷn â'i gyfrifiadau, gan weithio drwy'r hyn y mae'n ei olygu nawr i gyrff y sector cyhoeddus yma yng Nghymru, ond rwy'n gobeithio gallu gwneud datganiad ar hynny'n fuan iawn.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gennych chi, os gwelwch yn dda, un yn adeiladu ar yr ateb yr ydych wedi ei roi i Mike Hedges ynglŷn â'r sefyllfa gyda phensiynau gweithwyr y sector cyhoeddus ac, yn benodol, y lobi a gynhaliwyd y prynhawn yma gan yr undebau dysgu? Roedden nhw'n glir iawn eu bod nhw'n credu bod ymrwymiad wedi dod ym mis Ionawr gennych chi yn Llywodraeth Cymru am yr arian i ateb rhwymedigaethau'r pensiynau. Rwy'n gwerthfawrogi y gallai fod gennych gryn dipyn o waith cydbwyso i'w wneud o ran y niferoedd neu rai esboniadau, ond byddai haeriad oddi wrthych chi fel Ysgrifennydd Cyllid yn dangos y bydd yr arian hwnnw, beth bynnag y bo, yn cael ei drosglwyddo yn achos llawer o dawelwch meddwl i benaethiaid ysgol yn benodol, oherwydd ar hyn o bryd nid oes ganddyn nhw unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd yr arian hwnnw ganddyn nhw o 1 Ebrill ymlaen. Rwy'n gwerthfawrogi bod gennych chi waith i'w wneud o ran cydbwyso, ond byddai sicrhau y bydd pa arian bynnag problemau yr oedden nhw'n eu hwynebu ac, yn sicr, roedden nhw'n ymhelaethu ar y rhain yn y lobi yr aeth pob un ohonom ni iddi'r prynhawn yma.

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog chwaraeon o ran y trafodaethau sydd ar y gweill ynghylch diwygio rygbi rhanbarthol yma yng Nghymru? Rwy'n sylweddoli nad cyfrifoldeb uniongyrchol y Llywodraeth yw hynny, ond mae'n anodd gennyf ddychmygu bod Llywodraeth Cymru a) heb ei barn, b) heb gael rhywrai'n cysylltu â hi am ryw fath o gymorth a chefnogaeth, yn enwedig gan fod yna, os caiff y cynigion eu dwyn ymlaen, bosibilrwydd y caiff rhanbarth ei sefydlu yn y Gogledd. Byddai dim sylw ar y mater hynod amserol hwn yn codi braw arnaf i oherwydd byddwn yn gobeithio bod gan Lywodraeth Cymru safbwynt ar yr hyn sy'n digwydd. A byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau bod datganiad yn dod oherwydd, yn amlwg, fel y dywedais, mae hynny'n amserol iawn ar hyn o bryd.

Ac os caf i roi diweddariad o ran rygbi i'r Cynulliad, gyda'ch caniatâd chi, Llywydd, enillodd tîm rygbi'r Cynulliad fuddugoliaeth fawr yn erbyn Tai'r Cyffredin a'r Arglwyddi bythefnos yn ôl—46-14 oedd y sgôr— sef, a bod yn deg, yn ôl y cyfrif—y fuddugoliaeth fwyaf a gawsom ni ers rhai blynyddoedd; ond nodau elusennol y clwb hefyd, yn codi arian ar gyfer canser y coluddyn ac elusennau lleol eraill; a hoffwn roi ar gofnod fy niolch i bawb a gymerodd ran—y dorf a'r chwaraewyr—a dymuno'n dda i'r tîm ar eu gwibdaith i'r Alban y penwythnos hwn. Oherwydd, am y tro cyntaf, byddwn yn chwarae yn erbyn Senedd Holyrood, ac mae'n ymddangos ei bod yn nodwedd sy'n cynyddu yng ngweithgarwch y clybiau, bod y gwahanol seneddau a chynulliadau ledled y DU ac, yn wir, yn Ffrainc, yn ceisio cael gemau yn erbyn y Cynulliad. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n gobeithio y byddai'r holl Aelodau yn cytuno ei fod yn gam cadarnhaol.    

Diolch yn fawr iawn am hynny, ac am ymhelaethu ar y mater a godwyd gan Mike Hedges ynglŷn â phensiynau. Gallaf gadarnhau na chawsom ni'r wybodaeth ynglŷn â phensiynau ond ychydig iawn o amser cyn y cyfarfod cyllid pedair ochrog a gynhaliwyd ganol mis Chwefror, ond rwy'n bwriadu gwneud datganiad—datganiad ysgrifenedig, gobeithio—yfory gyda'r math o eglurder y mae'r Aelod yn chwilio amdano.

O ran rygbi rhanbarthol, rwy'n siŵr y bydd yna safbwyntiau ar y cynigion. Rwy'n gwybod bod safbwyntiau cryf yn sicr ar y naill du a'r llall yn fy etholaeth i yng Ngŵyr ar y cynigion hynny. O ran yr hyn sy'n briodol o safbwynt Llywodraeth Cymru, credaf fod yn rhaid i unrhyw gynlluniau ailstrwythuro fod yn gynaliadwy a chefnogi datblygiad rygbi i'r dyfodol, a pharhau i ddenu cefnogaeth y cyhoedd ledled Cymru.

Rwy'n sicr yn falch iddi fod yn gêm lwyddiannus—buddugoliaeth fawr, fel y dywedasoch—ac rwy'n dymuno'n dda i'r tîm wrth iddynt fynd i'r Alban.

14:50

Cyflwr ein hamgylchedd yw mater mwyaf enbyd ein cyfnod ni. Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig wedi canfod bod newid hinsawdd, llygredd a newidiadau o ran rheoli dŵr a thir wedi uno i sicrhau ein bod yn prysur agosáu at chwalfa na ellir ei ddadwneud o ran bioamrywiaeth. A bydd hyn yn golygu chwalfa na ellir ei ddadwneud o ran cynhyrchu bwyd hefyd. Mae'r sefydliad llawr gwlad byd-eang Slow Food yn dweud bod

Amser yn prinhau, mae'n rhaid inni newid pethau o fewn y 10 mlynedd nesaf neu beryglu chwalfa na ellir ei ddadwneud.

Mae'n amserol, felly, fod cynrychiolydd o blaid y Democratiaid Alexandria Ocasio-Cortez a chyd-aelodau wedi dadorchuddio bargen werdd newydd a fyddai'n cyflwyno diwygiadau enfawr i leihau allyriadau carbon gan yr Unol Daleithiau wrth ychwanegu miliynau o swyddi a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith. Mae Cortez a'i chydweithwyr wedi nodi'n gywir bod amser y chwarae bach wedi dod i ben, ac mae angen newid sylfaenol arnom ni os ydym am achub y blaned er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. A wnaiff y Llywodraeth hon gydnabod yr argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu a chyflwyno cynllun radical i fynd i'r afael â'r mater hwn? Mae angen inni ailfeddwl o ran ein heconomi. A yw'r Llywodraeth yn barod i weithredu ar hynny?

Hoffwn godi mater y cymorth a gaiff cyn-filwyr pan fyddan nhw'n dychwelyd i fywyd sifil. Mae hwn yn fater yr wyf i wedi ei godi o'r blaen ac mae rhywfaint o waith ymgyrchu rhagorol wedi ei wneud gan fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru yn San Steffan yn hyn o beth. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar i rannu ei brofiadau o geisio gwasanaethau iechyd meddwl wedi iddo adael y fyddin. Tra'r oedd yn y lluoedd arfog, bwriodd y dyn hwn ddau dymor dyletswydd yn Irac a thri thymor dyletswydd yn Affganistan. Dioddefodd iselder ac anhwylder straen wedi trawma a phryder eithafol wedyn, yn ogystal â phroblemau alcohol a chyffuriau. Rwy'n falch o ddweud ei fod wedi dod allan yr ochr arall, ond dywed nad oedd hynny o ganlyniad i'r gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu hymestyn yn ormodol. Yn ei eiriau grymus ei hun, dywedodd,

"Rwy'n teimlo bod y fyddin a'r Llywodraeth yn gadael i gyn-filwyr fynd yn llwyr ar ddifancoll, yn enwedig yn ein hardal ni, pan ddaw'r gwasanaeth yn y llu arfog i ben. Rwyf i'n brawf o hynny. Mae'r ôl-ofal yn wael iawn a'r unig therapi a gefais i oedd ateb holiaduron a fyddai'n gofyn, ''Ar raddfa o un i 10, sut ydych chi'n teimlo heddiw?''.

Pryd fyddwn ni'n debygol o weld newid gwirioneddol ar lawr gwlad ar gyfer cyn-filwyr Cymru, ac a ydych chi'n hyderus y bydd y strategaeth 10 mlynedd ar gyfer ein cyn-filwyr, a ddadorchuddiwyd y llynedd, yn darparu ar gyfer pobl fel y dyn o'r Rhondda a gysylltodd â mi?

Rwy'n awyddus i'r Llywodraeth ailystyried y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi galw amdano cyn hyn a byddaf yn dal ati i alw amdano hyd nes y cawn gydraddoldeb â Gogledd Iwerddon, sydd â throthwy ddwywaith maint un Cymru, sef £7,000. Mae llawer o'm hetholwyr i yn y Rhondda yn gweithio, ac eto maen nhw'n parhau i fyw mewn tlodi. Maen nhw'n cwympo ychydig y tu allan i'r trothwy am brydau ysgol am ddim, a nhw yw'r math o bobl a nodwyd gan y Comisiynydd Plant, Sally Holland, yn ei hadroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Dywedodd hi nad yw anghenion sylfaenol plant mewn teuluoedd fel hyn yn cael eu diwallu, gyda theuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio gwisg ysgol, offer a nwyddau glanweithiol. Dywedodd hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu,

ddangos uchelgais ac arweinyddiaeth gwirioneddol er mwyn helpu miloedd o deuluoedd ledled Cymru sy'n cael trafferthion gwirioneddol.

A ydych chi'n credu bod yr uchelgais a'r arweinyddiaeth angenrheidiol yn yr arfaeth, ac a gawn ni ddadl ynglŷn â chanfyddiadau'r Comisiynydd Plant yn amser y Llywodraeth cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda?

Diolch i chi am godi'r materion hyn. Yn sicr, mae'r cyntaf y gwnaethoch chi sôn amdano yn ymwneud a'r heriau enbyd o ran yr amgylchedd a newid hinsawdd yr ydym ni i gyd yn ymwybodol iawn ohonyn nhw. Yn sicr, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein cymell ni nid yn unig i feddwl yn wahanol ond i raddau helaeth iawn i weithredu'n wahanol o ran y penderfyniadau a wnawn yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd y rhai a wna'r cyrff cyhoeddus y tu hwnt i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad maes o law ar yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', sydd yn sicr yn edrych ar swyddogaeth bwysig ffermio o ran diogelu ein hadnoddau naturiol yma yng Nghymru, a ffermio mewn ffordd gyfrifol, oherwydd, wrth gwrs, roedd y cwestiwn yn ymwneud â chynhyrchu bwyd pan wnaethoch chi ei ofyn.

O ran cyn-filwyr, rwy'n falch iawn o glywed bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dechrau rhoi cardiau adnabod i gyn-filwyr a bydd hynny'n sicr yn rhoi cydnabyddiaeth i'r amser y gwnaethon nhw ei dreulio yn y lluoedd arfog a'u galluogi i gael gafael ar rai o'r gwasanaethau sydd gennym ni'n bwrpasol ar gyfer cyn-filwyr. Dylai fod gan gyn-filwyr flaenoriaeth o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd os yw eu cyflwr yn sgil y gwasanaeth y maen nhw wedi ei roi i'n gwlad, ac mae hynny'n sicr yn berthnasol i wasanaethau iechyd meddwl yn ogystal ag anghenion iechyd corfforol. Felly, os oes yna faterion penodol yn achos y gŵr bonheddig a ddisgrifiwyd gennych y dymunwch eu codi gyda'r Gweinidog, yna rwy'n siŵr y bydden nhw'n awyddus i ymateb.

O ran mater prydau ysgol am ddim, gwn ein bod ni wedi ymgynghori'n eang ar gynigion ac wedi rhoi cyllid ychwanegol sylweddol i'n galluogi i gymryd y camau a gymerwn ynglŷn â dyfodol prydau ysgol am ddim a'r ffordd yr ydym yn ymdrin ag anghenion y plant yn y teuluoedd hynny. Bydd y penderfyniadau a wnaethom yn cynyddu nifer y plant sy'n gallu cael budd ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs, rydym yn pryderu am y teuluoedd a'r plant hynny sydd ar y trothwy o ran cael gwasanaethau a chymorth. Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi gyda rhagor o wybodaeth am ein dull ni o weithredu yn hyn o beth.

14:55

Trefnydd, cefais gyfle'n ddiweddar i drafod posibiliadau'r dreth trafodion ariannol—y 'dreth Robin Hood', fel y'i gelwir—gyda chynrychiolwyr UNSAIN Cymru. Clywsom hefyd gan yr ymgyrch dreth Robin Hood am bosibiliadau treth o'r fath i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus. Gan nad oes unrhyw argoel y bydd cyni'n dod i ben yn fuan iawn, rwy'n siŵr y byddai cefnogaeth mewn sawl cwr o'r Siambr hon i gyfle i drafod y mater hwn, gan y byddai'n codi arian sylweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Yng ngoleuni cefnogaeth y Prif Weinidog i'r dreth hon ar hyn o bryd, a gaf i ofyn i chi a fydd y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno datganiad ar y goblygiadau posib?

Diolch yn fawr iawn i chi am godi hyn, a llongyfarchiadau ar gynnal digwyddiad llwyddiannus yma yn y Cynulliad i godi ymwybyddiaeth a cheisio cefnogaeth i'r dreth Robin Hood. Gallaf yn sicr gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddor y dreth yr ydych yn ei disgrifio. Rydym yn cydnabod nad yw hyn o fewn ein cymhwysedd datganoledig, a byddem yn sicr yn annog Llywodraeth y DU i ymchwilio iddi ymhellach. Rydym yn cydnabod y byddai treth o'r math hwn yn fwyaf effeithiol o gael ei chyflwyno ledled y byd, ond yn sicr, pe na fyddai hynny'n bosib, byddai gwneud hynny o fewn awdurdodaethau treth yr holl economïau arweiniol, fel lleiafswm, yn ffordd ardderchog ymlaen.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar y problemau parhaus a achosir gan Gyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â Gwent SenCom? Efallai y bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod i ar 11 Rhagfyr y llynedd wedi galw am ddatganiad ar benderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd i dynnu ei gyllid oddi ar y gwasanaeth hwn, sy'n cynorthwyo plant â phroblemau golwg, clyw a chyfathrebu. Yn ei hateb, dywedodd y Gweinidog bryd hynny ei bod yn siŵr y byddai'r Gweinidog Addysg yn adrodd yn ôl i'r Senedd pan fyddai ei thrafodaethau wedi dod i ben. Gohiriodd y Cyngor wedyn ei gynllun i dynnu'r arian yn ôl tan 2020. Er hynny, mae'r ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol y gwasanaeth yn rhoi cryn bwysau ar staff, ac mae cynlluniau wedi eu gwneud eisoes i gael gwared ar 16 o swyddi. Os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad nawr gan y Gweinidog Addysg ar y camau y bydd hi'n eu cymryd er mwyn ymyrryd i ddileu'r ansicrwydd hwn a diogelu'r gwasanaeth hanfodol hwn ar gyfer plant yng Nghasnewydd? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn glir iawn ei bod hi'n croesawu'r penderfyniad i wthio unrhyw benderfyniad terfynol yn ôl o ran ffordd ymlaen i allu cael trafodaethau pellach. Rwy'n credu bod cael y gofod hwn nawr i ddod o hyd i ffordd briodol ymlaen yn gam cadarnhaol yn sicr.

Rŷm ni yng nghanol y tymor ŵyna, wrth gwrs, ac ar adeg fel hon mae rhywun yn dod efallai'n fwy ymwybodol o'r broblem cŵn yn ymosod ar ddefaid ac ŵyn. Yn wir, mae ymchwil gan NFU Mutual wedi dangos bod ymosodiadau fel hyn wedi costio £1.2 miliwn i'r sector da byw yn y Deyrnas Unedig y llynedd. Beth sy'n peri gofid arbennig i fi yw bod yr achosion yma yn lleihau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond ar gynnydd yma yng Nghymru. Yn wir, mi gostiodd hi bron i £300,000 i'r sector yn sgil colledion y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru yn benodol, a dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn cynnwys yr effaith ar les anifeiliaid a oedd yn cael eu hymosod arnyn nhw, a hefyd y gofid a oedd yn cael ei achosi i'r ffermwyr hynny a oedd yn cael eu heffeithio gan yr ymosodiadau yma. Mae hi wedi dod yn gwbl amlwg erbyn hyn fod yr amser wedi dod i addasu, i adolygu ac i ddiwygio Deddf cŵn 1953, oherwydd mae'r Ddeddf wedi dyddio.

Dyw'r heddlu ddim yn gallu cymryd ci a'i gadw yn dilyn ymosodiad os ydyn nhw'n gwybod pwy yw perchennog y ci hwnnw. Does gan yr heddlu ddim pŵer chwaith i gymryd sampl DNA gan gi sydd yn cael ei amau o fod wedi ymosod. Dyw’r llysoedd chwaith ddim yn gallu gwahardd perchennog unrhyw gi sydd wedi ymosod ar ddafad rhag perchnogi ci arall, hyd yn oed os yw'r perchennog hwnnw wedi'i gael yn euog o gyflawni trosedd gyfreithiol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn glir yn eu galwad ynglŷn â'r angen i ddiwygio'r Ddeddf. Mae'r undebau amaeth yn cefnogi hynny. Dwi innau hefyd nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio y Ddeddf yma. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth a gan y Gweinidog perthnasol ynglŷn â beth yw bwriad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Ddeddf yma? Mae bron i 70 mlynedd ers i'r Ddeddf gael ei phasio, ac mae'n amlwg erbyn hyn i bawb nad yw hi bellach yn addas i bwrpas a bod yr amser wedi dod i weithredu. 

15:00

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. Yn sicr, mae ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn destun pryder i Lywodraeth Cymru. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Heddlu Gogledd Cymru yn benodol, ond hefyd yr heddluoedd ledled Cymru a chydag undebau ffermwyr, er mwyn archwilio sut y gallwn annog perchnogion cŵn i ymddwyn yn gyfrifol mewn nifer o gyd-destunau, ond gyda phwyslais penodol ar atal ymosodiadau ar dda byw. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch ei safbwyntiau o ran diwygio Deddf Cŵn 1953 yn y ffordd yr ydych wedi ei disgrifio.

Trefnydd, cefais fy nychryn pan glywais ychydig ddyddiau yn ôl bod menywod sy'n cael camesgoriad ar ôl bod yn feichiog am lai nag 20 wythnos yn cael eu derbyn mewn ward yn Ysbyty Singleton lle nad oes unrhyw gyfleusterau ystafell ymolchi en-suite. Yn waeth byth, mae hon yn ward gymysg lle disgwylir i fenywod sy'n cam-esgor gerdded heibio dynion i fynd i'r toiledau a'r cawodydd, ac mae honiadau—er nad wyf yn siŵr am hyn—bod y cyfleusterau hynny hefyd yn cael eu rhannu â dynion. Mae hwn yn honiad difrifol a wnaed gan fwy nag un etholwr, a chredaf ei fod yn haeddu cael ei godi yn y Siambr hon yn hytrach na thrwy lythyr. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi'n gofyn i'r Gweinidog iechyd a wnaiff ymchwilio i hyn ar frys ac adrodd yn ôl mewn datganiad sy'n cadarnhau polisi'r Llywodraeth ar hyn.

Diolch. Byddaf yn sicr yn trafod â'r Gweinidog iechyd sut y gall ef ystyried y mater penodol hwn yr ydych yn ei ddisgrifio â'r bwrdd iechyd, a bydd ef yn adrodd yn ôl i chi.

Roeddwn i’n falch iawn o gwrdd â chynrychiolwyr o ymgyrch pensiwn y glowyr heddiw. Gwn y bydd llawer ohonoch chi’n gwybod fy mod i wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd lawer oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cymryd hanner gweddill eu pensiwn o’r gronfa, ac maen nhw wedi bod yn gwneud hyn ers 1994. Mae biliynau o bunnoedd a ddylai fod wedi mynd i'r glowyr wedi cael eu pocedu gan y Trysorlys, ac mae hynny'n frawychus iawn. Mae rhai o'r glowyr yr effeithir arnyn nhw gan hyn wedi bod yn cael cyn lleied â £84 yr wythnos.

Mae’r ymgyrchwyr bellach wedi llwyddo i gael y 100,000 o lofnodion sydd eu hangen fel y bydd dadl yn San Steffan a byddan nhw’n mynd â’r ddeiseb i 10 Downing Street yfory. Hoffwn gofnodi na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib heb waith diflino fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, a fu'n ymgyrchu ochr yn ochr â’r glowyr am flynyddoedd lawer ar y mater hwn a gwn eu bod nhw’n hynod o ddiolchgar iddo ef am hynny. 

Ar 15 Ionawr, gofynnodd Adam Price i'r Prif Weinidog ymrwymo i gefnogi ymdrechion y cyn-lowyr a chwrdd â dirprwyaeth ohonyn nhw er mwyn cynnig cymorth llawn gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Mark Drakeford y byddai’n gwneud hynny. Rwyf felly yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn mewn datganiad, os gwelwch yn dda, a sut maen nhw’n bwriadu cefnogi’r ymgyrch nawr bod diwedd y gân yn nesáu.

Diolch yn fawr iawn am godi hyn ac am dalu teyrnged i waith Steffan yn y maes penodol hwn. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gefnogwr hirdymor o’n glowyr yma yng Nghymru, a gwn fod y Prif Weinidog wedi cwrdd ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr i  edrych ar y cynnydd a wnaed o ran yr ymgyrch benodol hon ac er mwyn trafod sut orau i gefnogi’r 22,000 o bobl yng Nghymru sydd ymysg bron 140,000 o bobl yr effeithir arnyn nhw gan hyn. 

Gwn fod y Prif Weinidog hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ac at ymddiriedolwyr y cynllun yn gofyn iddyn nhw adolygu'r cynllun ac ystyried adolygu'r dull o rannu’r gweddillion yr ydych yn eu disgrifio—gweddillion o dros £2.5 biliwn, rwyf ar ddeall—er mwyn cytuno ar ffordd newydd a thecach o ddosbarthu’r gweddillion hynny, ac felly, o wella budd-daliadau’r pensiynwyr ac adlewyrchu gwir lefel y risg a geir yn y cynllun pensiwn penodol hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i'r materion a godwyd yn yr adroddiad ac yn ymrwymo i weithio gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr i sicrhau canlyniad cadarnhaol i ddibynyddion y cynllun. Bydd Prif Weinidog Cymru yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater penodol hwn heddiw. A dweud y gwir, rwy'n credu ei fod newydd gyrraedd mewnflychau pawb.

15:05

Hoffwn i ddychwelyd at fater adroddiad y comisiynydd plant ynghylch amddiffyn plant Cymru rhag effeithiau tlodi. Gwyddom fod hyn yn effeithio ar oddeutu traean ein plant, felly mae hon yn her fawr iawn i bob un ohonom ni. Rwyf yn credu, ar yr un llaw, mewn ysgolion cynradd ein bod ni’n gwybod bod llawer o blant y mae angen y brecwast ysgol am ddim hwnnw arnyn nhw nad ydyn nhw’n ei gael, oherwydd bod y lleoedd yn llenwi'n gyflym gan y rhai sy'n defnyddio brecwast yr ysgol fel gofal plant am ddim, ac mae hynny—sicrhau bod y bobl iawn yn cael blaenoriaeth—yn her fawr i benaethiaid. Ond yn ein hysgolion uwchradd, mae’r darlun a gyflëwyd gan y comisiynydd plant yn achosi pryder mawr, oherwydd bod gennym brydau ysgol system gaffeteria lle bo’r cwmnïau arlwyo yn ymdrechu i fanteisio i'r eithaf ar incwm gan blant. Yn ogystal ag effeithio ar y rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim, mae hyn hefyd yn effeithio ar y rhai sy'n cael trafferthion ariannol oherwydd cyflogau isel. Gan fy mod i wedi gweld hyn fy hun, gwn nad yw rhai ysgolion yn darparu dŵr tap yn yr ystafell fwyta, ac maen nhw’n hyrwyddo'r diodydd hyn mewn poteli plastig. Ni allaf ddeall sut mae gan hyn unrhyw le yn y canllawiau ‘Blas am Oes’.

Hoffwn i alw am ddau ymateb gan y Llywodraeth ar unwaith, cyn inni drafod yr adroddiad hwn. Un yw y byddwn i’n hoffi gofyn a oes modd i’r Gweinidog llywodraeth leol ysgrifennu at bob awdurdod lleol i ofyn iddyn nhw fonitro beth yn union sy'n digwydd ym mhob un o'u hysgolion uwchradd. Mae llai nag 20 o ysgolion yng Nghaerdydd, sef yr awdurdod lleol mwyaf, felly mae hyn yn hollol ddichonadwy. Maen nhw naill ai’n anwybodus neu maen nhw’n deall yr hyn sy’n digwydd a bod y cwmnïau hyn yn hyrwyddo cynhyrchion er mwyn cynyddu incwm yn hytrach na maethu plant.

Yn ail, hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog addysg sy’n egluro pwy yn union sy'n monitro safon prydau ysgol sydd, yn fy marn i, yn methu â bodloni gofynion maethol plant. Rydym yn gweld plant sy’n cael prydau ysgol am ddim ac yn defnyddio hynny er mwyn prynu sglodion gyda saws cyri ar ddydd Gwener, ac nid yw hynny’n bryd maethlon.

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hyn sy'n ymwneud ag adroddiad y comisiynydd plant. Prin y gallaf gredu bod rhaid imi ddweud y dylai ysgolion fod yn darparu cyfleoedd i blant yfed dŵr yfed ffres am ddim yn ystod unrhyw adeg o’r diwrnod ysgol, pe bydden nhw’n dymuno. Dylai'r ysgolion fod yn codi arwyddion sy’n cyfeirio at orsafoedd dŵr drwy'r ysgolion, yn rhoi cwpanaid neu wydraid o ddŵr i'r plant, neu’n caniatáu iddyn nhw gario poteli dŵr, ac yn sicrhau bod goruchwylwyr yr ystafell fwyta yn annog plant i yfed dŵr sydd ar gael yn ystod amseroedd ysgol ac yn hyrwyddo'r hawl i ddŵr drwy’r ysgol—ac yn sicr yn gwneud y disgyblion yn ymwybodol hefyd nad yw'r tapiau yn ardaloedd y toiledau yn ffynonellau priodol o ddŵr yfed. Mae'r rhain oll yn bethau y byddech chi’n credu y byddai’r ysgolion yn y bôn yn eu deall.

Yn sicr, o ran y safonau, mae gennym Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, sy'n berthnasol i'r holl fwyd a diod sydd ar gael i ddisgyblion yn ystod amser brecwast, amser egwyl, amser cinio, egwyl y prynhawn neu mewn clybiau ar ôl yr ysgol. Ond byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi ynghylch monitro’r rheoliadau hynny a sut y gallwn fod yn fodlon bod y rheoliadau hynny’n darparu diod a bwyd iach i blant drwy gydol y diwrnod ysgol.FootnoteLink Mae'r Gweinidog llywodraeth leol wedi nodi y byddai hi’n hapus hefyd i ysgrifennu at awdurdodau lleol ynglŷn ag ansawdd y bwyd sy’n cael ei roi i blant mewn ysgolion a sut mae’r awdurdodau lleol eu hunain yn bodloni eu hunain o ran y gofyniad hwnnw ynghylch diod a bwyd iach.

Trefnydd, ddoe, roeddwn i, Jenny Rathbone ac, yn wir, Mohammad Asghar, echdoe, yn rhan o daith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i Wrecsam yn y gogledd—cyfarfod defnyddiol iawn. Ac fe'i gwnaed yn bosib gan daith trên ddymunol iawn yno ac yn ôl, drwy garedigrwydd Trafnidiaeth Cymru. Aeth y daith honno yn dda iawn, ond, fel yr wyf yn siŵr bod llawer o Aelodau'r Cynulliad yn gwybod, nid oedd y profiad hwnnw yn un cyffredinol. Rwyf wedi cael nifer o e-byst pryderus gan etholwyr sydd wedi cael problemau â’r gwasanaeth trên hwnnw. Roedd un yn benodol gan etholwr y mae ei ferch yn teithio i Goleg Chweched Dosbarth Henffordd yn rheolaidd i astudio. Mae ganddi arholiadau cyn bo hir ac mae hi'n bryderus bod llawer o’r gwasanaethau naill ai'n cael eu canslo'n fyr rybudd neu’n cael eu gohirio am adegau amrywiol, ac nid yw’n gallu cynllunio ei hastudiaethau'n effeithiol. Nawr, cofiaf y Gweinidog dros drafnidiaeth yn dweud wrthym ni, ychydig wythnosau yn ôl, rwy'n credu, bod y problemau hyn yn rhannol oherwydd gwaith cynnal a chadw gwael y fasnachfraint flaenorol ac y dylem gadw hynny mewn cof, ac rwy'n credu bod dadl yno. Fodd bynnag, nid yw hynny'n berthnasol iawn i’m hetholwyr i nac i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau trên hyn ar hyn o bryd. Felly, pa sicrwydd y gallwn ni ei roi i’m hetholwyr ac i deithwyr eraill ar Drafnidiaeth Cymru, beth bynnag yw’r rheswm dros yr oedi presennol a’r problemau â'r gwasanaeth, bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin â nhw ac y bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau cyn gynted â phosib?

15:10

Diolch yn fawr iawn. Fel y nodwyd gennych, cynhaliwyd dadl ar y gwasanaethau rheilffordd yn ddiweddar yma yn Siambr y Cynulliad, dan arweiniad y Gweinidog, Ken Skates. Yn sicr, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n galed iawn i wella'r sefyllfa ac i ddarparu'r math o fuddsoddiadau yr ydym bellach wedi cytuno arnyn nhw. Rwyf yn siŵr y byddai Ken Skates yn hapus i gyflwyno datganiad arall maes o law fel y bydd yr Aelodau yn cael cyfle i fyfyrio ar brofiadau eu hetholwyr o'r fasnachfraint newydd a hefyd i holi'r Gweinidog am y ddarpariaeth.

Mae fy etholwraig, Hannah Evans, wedi cael diagnosis o gyflwr genetig etifeddol prin, sef syndrom math 3 o Ehlers-Danlos—rwyf yn gobeithio fy mod i wedi dweud hynny'n gywir—ac mae hi wedi datblygu cymhlethdodau eilaidd o ganlyniad i glefyd ysgogi mastgelloedd ac anhwylder mastocytosis systemig. Mae’n rhaid i Hannah deithio i Lundain i weld arbenigwr preifat gan nad oes arbenigwr yng Nghymru i ddiwallu ei hanghenion meddygol cymhleth, ac mae hynny wedi rhoi llawer o bwysau ar y teulu gan iddynt orfod talu am y driniaeth breifat hon a chawsant eu gwrthod gan y gwasanaethau arbenigol yma yng Nghymru. Felly, maen nhw wedi gofyn imi godi hyn gyda Llywodraeth Cymru, gan alw am ddatganiad ynghylch sut y gellid edrych ar ariannu’r mathau hyn o gyflyrau yn y dyfodol, o ystyried y ffaith bod cost triniaeth breifat mor uchel ac felly gallai hynny atal pobl rhag chwilio am y driniaeth honno. 

Mae’r ail gwestiwn yr oeddwn yn bwriadu ei gofyn yn dilyn yr un gan Andrew R.T. Davies mewn cysylltiad â rygbi. Y cwestiwn cyntaf yw hyn: pam maen nhw’n gwneud hyn yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad, am un peth, gan fod hyn yn tynnu sylw pawb pan ddylai'r genedl uno? A’r cwestiwn arall yw hwn: clywais eich ateb yn gynharach, ond nid wyf yn credu ei bod mor hawdd â chael Llywodraeth Cymru yn gwylio o'r cyrion. Ar ddiwedd y dydd, bydd Undeb Rygbi Cymru yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am ranbarth newydd yn y gogledd. Mae uno posibl yn un peth ac, fel y dywedasoch, mae gwahanol farnau, ond bydd hyn yn effeithio ar fywoliaeth pobl, bydd yn effeithio ar amodau gwaith y chwaraewyr rygbi a lle maen nhw wedi ymgartrefu ar hyn o bryd, gan eu dadwreiddio nhw o’u cymunedau. A wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gydag Undeb Rygbi Cymru a sut y byddwch yn ymgysylltu â nhw i ddod o hyd i ateb a fydd yn gynaliadwy ac yn ddichonadwy ar gyfer y dyfodol? Oherwydd rydym wedi gweld hyn yn digwydd o’r blaen ym Mhontypridd ac nid ydym eisiau gweld yr un camgymeriadau’n cael eu gwneud eto. Felly, rhowch sicrwydd inni, os gwelwch yn dda. Byddem yn gwerthfawrogi datganiad.

Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn cofio bod y Gweinidog iechyd wedi gwneud datganiad ynghylch cronfa'r driniaeth newydd dim ond ychydig o wythnosau yn ôl yma yn y Cynulliad, ond yn sicr pe byddech yn dymuno ysgrifennu ato gyda manylion eich achos penodol, gwn y byddai ganddo ddiddordeb mewn edrych yn fanylach ar y materion a godwyd gennych.

Y cwestiwn ynghylch rygbi, o ran pam, rwy'n credu mai cwestiwn i Undeb Rygbi Cymru yw hwnnw, mae'n debyg, ond gwn y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog—y Dirprwy Weinidog ddylwn i ei ddweud—yn cynnal trafodaethau rheolaidd gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch pob math o agweddau sy'n ymwneud â'r gêm yng Nghymru. A chyn gynted ag y bydd rhyw fath o ddiweddariad gan y Gweinidog o ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn nyfodol y chwarae yng Nghymru, gwn y bydd ef yn ei gyflwyno, ond yn sicr, am heddiw, rwy'n credu i raddau helaeth mai sicrhau bod dyfodol y chwarae yn gynaliadwy ledled Cymru yw'r ateb, a byddem yn awyddus i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i sicrhau bod hynny'n digwydd.

15:15

Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud wrth Andrew R.T. Davies, ac wrth Bethan Sayed, petai awydd cyflwyno dadl Aelod unigol ar ddyfodol rygbi yng Nghymru, yna oni ddylid cynnwys rygbi ar lawr gwlad hefyd? Gan fod y strwythur rhanbarthol yn bwysig nid yn unig i dîm Cymru, ond i rygbi ar lawr gwlad hefyd.

Ond a gaf i ofyn am ddwy ddadl os gwelwch yn dda? Ac rwy'n rhoi digon o amser i'r Trefnydd ystyried hyn hefyd. Yn San Steffan, roeddem ni'n arfer cael dadl flynyddol am y pysgodfeydd. Nawr, nid wyf yn awgrymu y dylai hynny ddigwydd yma, ond mae gennym ni stori o falchder am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn yr amgylchfyd morol, ond mae'n rhaid inni herio'n hunain ynghylch beth yn fwy y gallem ei wneud hefyd. Nawr, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y syniad, yn seiliedig ar yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud eisoes yng Nghymru, a beth mwy y mae'n rhaid inni ei wneud, y syniad o ddadl forol, neu ddadl forol a physgodfeydd flynyddol—cynaliadwyedd morol—gan nad oes byth digon o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer ei drafod yma yn y Siambr. Mae mwy i ni ei wneud, a chredaf y byddai'n canolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni eisoes a dangos beth mwy y gallem ei wneud. Nawr, fel mae'n digwydd, mae'r cyfnod 28 Gorffennaf hyd 12 Awst yn Wythnos Forol Genedlaethol y DU. Mae'r cyfnod hwn ar ôl inni dorri ond gallai'r wythnos sy'n arwain at doriad yr haf fod yn amser delfrydol, efallai, ar gyfer dadl flynyddol o'r fath.

A gaf i hefyd dynnu sylw at y posibilrwydd, os gwelwch yn dda, o gael dadl, a gofyn am hynny, nawr bod gennym ni Weinidog Llywodraeth sydd â chyfrifoldeb dros gydweithredu ac egwyddorion cydweithredol yn y Llywodraeth—mentrau cymdeithasol, yr economi gymdeithasol ac ati—ar gydweithredu? Nawr, a gaf i awgrymu, unwaith eto i roi amser—? Mae hi'n Bythefnos Cwmnïau Cydweithredol rhwng 24 Mehefin a 8 Gorffennaf. Byddai'n amser delfrydol i'r Llywodraeth gyflwyno dadl ar sut y gall hi ymgorffori egwyddorion cydweithredol, ac rwy'n datgan buddiant gan fy mod yn ymwneud â busnes cydweithredol yn ogystal â bod yn Aelod Llafur yng Nghymru, a chadeirydd y grŵp cydweithredol o Aelodau'r Cynulliad.

Yn olaf, a gawn ni ddatganiad ar y mater o docynnau trwodd, o'r themâu blaenllaw i'r glo mâm? Mae tocynnau trwodd yn fater pwysig i'm hetholwyr i. Byddai'n caniatáu inni, petai datganiad, ofyn i'r Gweinidog am ymagwedd Trafnidiaeth Cymru at docynnau trwodd, pan fyddwch, er enghraifft, yn prynu tocyn sengl o Ben-y-bont ar Ogwr i Lundain ymlaen llaw, mae'n costio £25; petaech chi'n prynu'r tocyn o Faesteg, sydd, fel y bydd y Gweinidog yn gwybod yn bersonol, dim ond ychydig i fyny'r llinell gangen, byddai'n costio £50.60—124 y cant yn fwy costus—ond petaech chi'n prynu tocyn sengl o Faesteg i Ben-y-bont er mwyn dal y trên i Lundain, byddai'n costio £2.60. Beth sy'n digwydd? A dyma un enghraifft yn unig ymysg llawer sydd gennyf i. Felly, pe gallem ni gael datganiad ar docynnau trwodd a'r ymagwedd, gan fod, yn amlwg, annhegwch yma ac mae'n annog pobl i beidio â defnyddio ein llinellau cangen i ymuno â'r trenau sy'n mynd trwodd i Lundain neu i Fryste neu unrhyw le arall oherwydd y pris uchel.

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r materion hynny. Gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog yn mynd i ymgynghoriad ynghylch 'Brexit a'n moroedd' yn ddiweddarach y mis hwn, a fydd yn archwilio dyfodol ein pysgodfeydd yng Nghymru, a gwn y bydd cyfle maes o law i drafod yr amgylchfyd morol yn ehangach gyda'r Gweinidog. Rwy'n credu fy mod yn cofio ein bod yn tueddu i gael datganiad blynyddol ar faterion morol a'r pysgodfeydd yn y Cynulliad, a chredaf ein bod wedi gwneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf.

O ran cydweithredu a mentrau cydweithredol, wrth gwrs, bydd y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich cais am ddatganiad.

Ac, o ran tocynnau trwodd a Thrafnidiaeth Cymru, mae'r teithiau penodol yr ydych chi wedi eu disgrifio yn dangos yn glir iawn bod problem yn bodoli, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch yn y lle cyntaf i ddisgrifio cynlluniau Trafnidiaeth Cymru yn y maes penodol hwn.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Sy'n dod â ni at eitem 5, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Jane Hutt. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad hwn yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a nodi ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad hwn, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, sydd hefyd yn gosod dyletswyddau i roi 'sylw dyledus i gyfle cyfartal' yn ein llyfr statud. Mae cydraddoldeb wedi'i ymgorffori yng ngwead Llywodraeth Cymru drwy'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'n bodolaeth.

Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ac i'n gweledigaeth ar gyfer Cymru. Credwn mewn trin pob unigolyn yn deg, yn enwedig y rhai hynny sydd fwyaf ar y cyrion oherwydd ffactorau economaidd-gymdeithasol, rhagfarn a gwahaniaethu. Rydym yn gweithio tuag at Gymru fwy cyfartal a sicrhau mynediad tecach i wasanaethau a chyfleoedd cefnogi i bawb.

15:20

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ystyried yr hyn a gyflawnwyd yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys polisïau arloesol a deddfwriaeth arweiniol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn gyfle i bwyso a mesur faint o ffordd sydd o'n blaenau cyn y gallwn sicrhau cydraddoldeb yng Nghymru. Mae Banc y Byd wedi adrodd bod merched yn gyfreithiol gyfartal i ddynion mewn chwe gwlad yn y byd, ac nid yw Prydain yn un ohonyn nhw. Gwyddom fod hyn yn wir drwy'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac o adroddiad 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg, ond gallwn gymryd, ac rydym yn cymryd camau i roi Cymru ar y blaen ymysg ein pedair gwlad, ac, yn wir, yn y byd, petaem yn gwneud hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw 'Balance for Better'. O weithredu ar lawr gwlad i weithredu byd-eang, rydym yn dechrau ar gyfnod o hanes ble mae'r byd yn disgwyl cydbwysedd. Rydym yn sylwi ar ei absenoldeb ac yn dathlu ei bresenoldeb. Mae gan Lywodraeth Cymru nawr fwy o fenywod na dynion yn y Cabinet, sy'n mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau a fu yn y gorffennol. Bydd gwaith adolygiad rhywedd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y cydbwysedd hwn drwy edrych ar feysydd lle gellir gwneud gwelliannau a dod yn arweinydd o ran hybu cydraddoldeb i fenywod er mwyn dileu'r anghydraddoldebau ystyfnig sy'n dal i fodoli. Mae'r adolygiad yn ystyried effaith ychwanegol cael nodwedd warchodedig arall, er enghraifft, anabledd, hil neu rywioldeb, ar gydraddoldeb rhywiol. Bydd yr ystyriaeth hon yn ein galluogi i edrych ar groestoriad eang o bolisïau a blaenoriaethau. Mae'r ymgynghoriad a'r gweithdai wedi eu llywio gan grŵp cynghori arbenigol Chwarae Teg wedi arwain at weledigaeth i Cymru ei datgan heddiw: Mae Cymru sy'n arddel cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn wlad lle mae menywod, dynion a phobl anneuaidd yn rhannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal. Mae hon yn weledigaeth lle mae'r Llywodraeth yn bwriadu creu'r amodau ar gyfer canlyniadau cyfartal i bawb. Rydym ni eisiau gwlad lle gall pob menyw gael annibyniaeth economaidd, lle mae gwaith cyflogedig a di-dâl yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae menywod amrywiol yn cael eu cynrychioli mewn swyddi dylanwadol ac wedi eu grymuso i chwarae rhan ystyrlon yn y Gymdeithas, lle mae pob menyw yn rhydd o wahaniaethu ac yn rhydd i fyw eu bywydau fel y mynnan nhw, lle mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dod i ben, lle mae strwythurau pŵer presennol sy'n rhoi menywod dan anfantais yn cael eu herio, a lle mae pawb, yn fenywod, dynion, a phobl anneuaidd, yn mwynhau hawliau ac amddiffyniadau cyfartal a chanlyniadau cyfartal.

Rwyf wedi dechrau cyfarfod â chydweithwyr yn y Cabinet i drafod cynnydd yr adolygiad ar gydraddoldeb rhywiol ac i nodi meysydd polisi braenaru lle mae cyfle i weithredu ar fyrder. Bydd Chwarae Teg yn parhau i ymgynghori'n eang â rhanddeiliaid i ddatblygu trywydd ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, gyda digwyddiadau yn cael eu cynllunio ledled y wlad yn y dyfodol agos.

Mae gennyf gyfrifoldeb gweinidogol dros gydraddoldeb, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a phenodiadau cyhoeddus. Mae fy nghyfrifoldebau yn swyddfa'r Prif Weinidog dros droseddu a chyfiawnder yn fy ngalluogi i weithredu gyda'r glasbrint menywod yn troseddu i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ganfyddiadau moel adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ar ddedfrydu yng Nghymru.

Heb weledigaeth gref ac egwyddorion, teimlir na fydd anghydraddoldeb rhywiol yn newid, a byddwn yn parhau fel yr ydym ni ar hyn o bryd. Mae rhai wedi nodi ein bod wedi siarad am gyfleoedd cyfartal ers peth amser, ac rydym ni'n dal i fyw gydag anghydraddoldeb wedi ymwreiddio, felly mae angen newid sylweddol. Er enghraifft, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 13.6 y cant yn 2018. Heb ganolbwyntio ar y materion sylfaenol, bydd cenedlaethau'r dyfodol yn parhau i fod yn destun anghydraddoldeb parhaus. Mae'n rhaid canolbwyntio ar ganlyniadau cyfartal i annog pobl i edrych y tu hwnt i atal gwahaniaethu yn unig, a chwilio am ffyrdd i hybu cydraddoldeb i bawb. Mae'r weledigaeth a argymhellir ar gyfer Cymru felly yn cynnwys rhannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn yr un modd. Byddai'r pwyslais hwn ar ganlyniadau cyfartal yn golygu bod Cymru yn dilyn arweinwyr eraill y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, megis Sweden a Chanada.

Yn ddiweddar cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru a minnau â dirprwyaeth Nordig i ddysgu oddi wrth eu harfer gorau ac i ystyried sut y gellid defnyddio rhywfaint o hynny o fewn cyd-destun cyfreithiol a pholisi Cymru. Hoffwn i hyn gynrychioli dechrau perthynas ffrwythlon gyda chenhedloedd eraill sy'n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. 

Yn dilyn y datganiad cyhoeddus am yr adolygiad rhywedd gan Lywodraeth Cymru y llynedd a'r adroddiad ar y seminar hawliau dynol a dyletswydd economaidd-gymdeithasol, y byddwn yn ei lansio yng Nghymru, mae yna, yn ddigon teg, ddisgwyl mawr y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella cydraddoldeb i fenywod. Mae ein gweledigaeth a'n hegwyddorion yn nodi ein hymrwymiad. Disgwylir gweithredu i sicrhau'r newid hwnnw. Mae bod yn ystyrlon, wrth gytuno ar y weledigaeth a'r egwyddorion, yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen a'r awydd i ymrwymo i weithredu.

Hoffwn orffen drwy dalu teyrnged i'r menywod o Gymru a fu'n ymladd i sicrhau'r bleidlais 100 mlynedd yn ôl ac sy'n parhau i drefnu ac ymgyrchu dros hawliau menywod yn eu gweithleoedd, undebau llafur a chymunedau. Gadewch inni ddathlu eu llwyddiannau, gwrando ar eu galwadau am weithredu, ymateb i'w maniffestos a defnyddio ein hasiantaethau a'n harweinyddiaeth i greu Cymru decach a mwy cyfartal.

15:25

Diolch yn fawr. Allaf i jest ofyn i bob siaradwr heddiw ystyried y ffaith bod gyda ni dri chwarter awr ar gyfer y mater hwn? Mae yna nifer o bobl sydd eisiau siarad, ac rwy'n dechrau gyda Dawn Bowden.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am y datganiad pwysig hwn, a manteisio ar y cyfle i roi sylw arbennig i rai digwyddiadau ym Merthyr Tudful a Rhymni ddydd Gwener, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod? Mae'n anrhydedd mawr inni gael cynnal yr ail blac porffor yn unig yng Nghymru, i nodi cyfraniad menywod rhyfeddol i fywyd cyhoeddus Cymru. Edrychaf ymlaen at eich gweld chi a'r Dirprwy Weinidog iechyd, Julie Morgan, yno hefyd. Bydd y plac yn cael ei gyflwyno i anrhydeddu Ursula Masson—a anwyd, a fagwyd ac a addysgwyd ym Merthyr Tudful—ac a aeth ymlaen i fod yn allweddol wrth sefydlu Archif Menywod Cymru, ac a oedd yn aelod o grŵp de-orllewin y Rhwydwaith Hanes Menywod ac yn gyd-olygydd Llafur, cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Pobl Cymru. Ursula, fel y gwyddoch chi, a gyflwynodd y syniad o gynnal cyfres o sioeau teithiol ar hanes menywod Cymru, pryd byddai pobl yn cael gwahoddiad i ddod â deunydd yn ymwneud â hanes cymdeithasol bywydau menywod. Daeth rhai o'r eitemau hynny yn ddiweddarach yn rhan o Gasgliad y Werin Cymru.

Fel pe nad oedd hynny'n ddigon, sefydlodd Ursula yr adran Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru ym Mhrifysgol De Cymru, ac fe wnaeth waith ymchwil arloesol ar gyfer ei doethuriaeth ar fenywod mewn gwleidyddiaeth Ryddfrydol yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf yng Nghymru. Gallwn fynd ymlaen yn sôn am Ursula, ond digon yw dweud ei bod hi'n ysbrydoliaeth i lawer, yn enwedig i fenywod dosbarth gweithiol, a ddaeth o hyd i gyfeiriad newydd a mynediad i addysg na fu ar gael iddyn nhw o'r blaen.

Mae gan dref enedigol Ursula, Merthyr Tudful, nifer o gerfluniau o focswyr, placiau a chofebion i ddynion. Oherwydd cyfoeth y meistri haearn, fe wyddom ni ychydig am waddol menywod Crawshay a Guest, ond mae straeon ein menywod dosbarth gweithiol, megis Ursula Masson, efallai yn llai hysbys ac yn llai enwog, ac yn sicr nid yn 'Balanced for the Better', sef thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni.

Felly, a wnewch chi ymuno â mi, yn olaf, Dirprwy Weinidog, i ddiolch i Ceinwen Statter, ymgyrchydd ac aelod o Archif Menywod Merthyr Cymru, sydd wedi bod yn allweddol o ran trefnu bod gwaith Ursula Masson yn cael ei goffáu a'i gydnabod ym Merthyr Tudful, gyda'r uchafbwynt ddydd Gwener, pan fyddwn ni'n dadorchuddio'r plac porffor i ddathlu bywyd y fenyw ryfeddol honno?

Rwy'n falch iawn o gael diolch i Dawn Bowden am y deyrnged i Ursula Masson ac i ddiolch iddi am yr holl waith arloesol yr ydych chi wedi'i wneud, Dawn, ers ichi ddod yn Aelod Cynulliad dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Oherwydd fy mod i'n gwybod hefyd, y llynedd, yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant, fe wnaethoch chi dynnu ein sylw, a sylw'r cyhoedd—a sylw lleol yn arbennig—at rai o'r bobl hanesyddol bwysig yn eich etholaeth.

Yn sicr, o ran y cyfle nawr i ddathlu un o ymgyrchwyr, un o ffeministiaid—fel roedd hi'n hoffi galw ei hun—un o academyddion ac athrawon mwyaf nodedig Merthyr Tudful, rwy'n credu bod Ursula Masson, a gafodd mewn gwirionedd ei henwebu gan amrywiaeth o bobl ledled Cymru oherwydd ei gwaith gydag archif y menywod—. Ond, rwy'n diolch yn arbennig hefyd i Ceinwen am yr hyn y mae hi wedi'i wneud, oherwydd hi mewn gwirionedd a ddaeth â hyn at ein sylw ni.

Rwy'n credu bod hyn hefyd yn dangos bod menter y plac porffor bellach yn codi momentwm. Mae'n rhaid imi ar yr adeg hon, dynnu sylw, wrth gwrs, at y plac porffor cyntaf, a ddadorchuddiwyd gennym ni flwyddyn yn ôl, sydd y tu allan ar wal y Senedd. Roedd Val Feld, cyn-Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe—yn amlwg, yn gefnogwr arloesol arall ym maes cydraddoldeb.

Ond credaf ddydd Gwener y byddwn ni—. Bydd ar Lyfrgell Carnegie, sydd—. Unwaith eto, diolch i Dawn Bowden a'r holl gydweithwyr a'r ymgyrchwyr yn y dref sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, yn amlwg gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol hefyd. Bydd Julie Morgan a minnau yn falch o fod yno, oherwydd ni ein dwy gychwynnodd y fenter placiau porffor, ond, yn wir, mae llawer o fenywod eraill hefyd—ac ar draws y Siambr hon—wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod hyn yn dwyn ffrwyth. Felly, yr ail blac porffor fydd yn cael ei ddadorchuddio ddydd Gwener. Mae'n ffordd wych o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener. Credaf y bydd yn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ddydd Gwener ond, yn sicr, ym Merthyr Tudful ac ymhellach i ffwrdd am—. A bydd pobl eisiau canfod mwy wedyn am fywyd Ursula Masson, ac rwy'n sicr y bydd yn nodwedd allweddol i ysgolion lleol o ran cydnabod y ferch ryfeddol hon a'i chyfraniad diysgog i'n cenedl. Felly, mae gennym ni fwy o blaciau i ddod, ac rwy'n credu y bydd presenoldeb y placiau hynny ar ein strydoedd, ar ein hadeiladau cyhoeddus, yn ffordd syml a sylweddol iawn o amlygu llwyddiannau eithriadol menywod Cymru y mae llawer o bobl heb glywed amdanyn nhw efallai. A'r hyn sydd fwyaf pwysig, ac mae Ceinwen wedi dangos hyn inni, yw bod angen cefnogaeth a hyrwyddwyr lleol, a chymorth Aelod Cynulliad megis Dawn Bowden, ac, wrth gwrs, y gwirfoddolwyr sy'n chwarae eu rhan yng ngrŵp llywio menter y placiau porffor i ddatblygu hyn i'r dyfodol.

15:30

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw. Mae'n ddiwrnod mawr, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sy'n cael ei ddathlu, nid yn unig yma ond gan y Cenhedloedd Unedig ers 1996. Mae menywod wedi gwneud ac yn parhau i wneud cyfraniadau sylweddol ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Hyd yn oed gyda mwy o gydraddoldeb a hawliau deddfwriaethol a menywod trawiadol sydd wedi creu argraff ac yn esiampl i eraill, mae menywod yn dal i wynebu heriau heddiw yma yng Nghymru, Gweinidog. Mae llawer o'r rhain yn y gweithle. Mae'n ffaith drist bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn enillion, yr awr, heb gynnwys goramser, ar gyfer gweithwyr amser llawn a rhan-amser yng Nghymru bron 15 y cant yn 2017. Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa gynllun sydd ganddi ar gyfer cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru? Rwy'n pryderu bod cyngor gyrfa, yn rhy aml o lawer, yn tueddu i arwain merched at brentisiaethau sy'n talu llai na'r rhai ar gyfer dynion. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei hybu yn y gweithle?

Mae angen dewrder aruthrol i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau a cham-drin domestig. Rhaid inni wneud mwy i annog dioddefwyr o'r fath i adrodd am gam-drin ac i adnabod arwyddion trais yn y cartref. Rai blynyddoedd yn ôl, rhoddodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd ymateb cadarnhaol i'm hawgrym y dylai bod gan bob sefydliad sector cyhoeddus bolisi trais yn erbyn menywod yn y gweithle. Byddai hyn yn nodi ac yn helpu gweithwyr sydd wedi dioddef trais. Tybed a all y Dirprwy Weinidog ein cynghori a fu unrhyw gynnydd yn hyn o beth.

Mae cam-fanteisio ar fenywod yng Nghymru ac o amgylch Cymru yn cael llawer mwy o gydnabyddiaeth. Mae'r datblygiadau yn y ffordd y mae masnachu mewn pobl yn cael ei ddirnad wedi arwain at ddod â'i natur gudd a'i wahanol weddau i'r wyneb. Ar wahân i gam-fanteisio’n rhywiol ar fenywod, ceir problemau llafur gorfodol, caethwasiaeth mewn gwasanaethau, caethiwed, a hyd yn oed tynnu organau. Mae anffurfio organau cenhedlu menywod yn achos erchyll o dorri hawliau dynol sydd yn gallu peryglu bywyd. Galwaf hefyd ar y Gweinidog i roi sicrwydd inni y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch yn erbyn yr anghyfiawnder hwn.

Ym 1897, dywedodd Susan Anthony, ymgyrchydd Americanaidd, a dyma ddyfyniad gwych:

Ni fydd byth gydraddoldeb llwyr nes y bydd menywod eu hunain yn helpu i lunio cyfreithiau ac ethol gwneuthurwyr cyfraith.

Ers hynny, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cydraddoldeb a rhyddfreinio menywod. Dirprwy Weinidog, fel bywyd ei hun, credaf mai merched sy'n esgor ar heddwch—heddwch yn y byd. Maen nhw'n tueddu i fod y cyntaf i ffurfio llinellau bywyd ac i geisio unioni pethau mewn ardaloedd o wrthdaro a rhaniadau o amgylch y byd. Wrth i'r byd ddynesu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019, ar 8 Mawrth, mae'n bwysig bod pob un ohonom ni'n cydnabod cyfraniad menywod ymhob agwedd ar fywyd—menywod fel Theresa May, Angela Merkel, ein Llywydd, Margaret Thatcher, Sheikh Hasina, Benazir Bhutto, Indira Gandhi, Julia Gillard, Golda Meir a Helen Clark. Dyna ond ychydig y gallaf eu cyfrif sydd i gyd wedi torri drwy'r rhwystrau anweledig ac arwain eu gwledydd yn y byd. Nid yw unrhyw fenyw sydd wedi arwain gwlad erioed wedi mynd i ryfel yn erbyn ei chymdogion neu unrhyw wlad arall. Y rheini oedd y cyfnodau mwyaf heddychlon. Roedd pob un yn creu newid, maen nhw i gyd wedi gwthio ffiniau, ac maen nhw i gyd wedi bod yn sbardun i symud ymlaen o fewn eu gwaith a'u bywyd teuluol. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol inni gydnabod menywod enwog sy'n adnabyddus inni, yn ogystal â'r menywod hynny sy'n ymdrechu i ddarparu cartref diddos i'w teuluoedd, y menywod hynny sy'n cyfuno nifer o swyddi er mwyn rhoi bwyd ar y bwrdd, y menywod hynny sy'n gorfod bod yn fam ac yn dad, a'r menywod hynny sy'n treulio eu bywydau yn gofalu am eraill. Dywedaf bob amser bod y byd yn ffotograff du a gwyn, neu'n llun—gyda menywod mae'n troi'n lliwgar. Ar gyfer heddiw, ar gyfer Diwrnod y Menywod, hoffwn ddweud o'r ochr hon i'r Siambr, diolch yn fawr iawn ichi, fenywod, ar draws y byd.

15:35

Diolch yn fawr iawn, Mohammad Asghar. Rwyf hefyd yn diolch i chi am eich cefnogaeth, a chefnogaeth Grŵp Ceidwadwyr Cymru i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, a hefyd am gydnabod swyddogaeth menywod yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n bwynt allweddol yn fy natganiad. Ac yn wir rydym ni wedi bod yn cydnabod menywod arwyddocaol yng Nghymru sydd wedi cael dylanwad. Byddwn ni ddydd Gwener—Ursula Masson, Val Feld. Gofynnwyd y cwestiwn imi heddiw, a siaradais hefyd am un o'r ASau Llafur benywaidd cyntaf yng Nghymru sef Dorothy Rees, yn fy etholaeth i. Felly, rwy'n credu y bydd pob un ohonom ni'n anrhydeddu ac yn cofio menywod heddiw.

Fe wnaethoch chi sôn am ddau neu dri o bwyntiau pwysig iawn. Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Nawr, rwyf eisoes wedi crybwyll y ffaith bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn annerbyniol, ac mae hynny'n wir ar draws pob sector. Ond drwy Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gennym ni'r cyfle nawr i fonitro'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a hefyd i sicrhau ein bod yn ymestyn y monitro hwnnw i gwmnïau, nid yn unig o ran y 250, ond yn is. Mae angen inni edrych yn ofalus ar sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r bwlch cyflog. Mae gennym ein dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus sy'n gadarn, o ganlyniad i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae holl gyflogwyr y sector cyhoeddus erbyn hyn, fel yr wyf wedi dweud, yn adrodd yn flynyddol am eu gwahaniaethau mewn cyflog. Disgwylir iddyn nhw wedyn gael cynlluniau i fynd i'r afael â chyflogaeth neu wahaniaethau mewn cyflog. Ond hefyd, o edrych ar faterion fel dosbarthu gwahanol ddynion a menywod rhwng graddau, galwedigaethau, patrymau gweithio, mae angen inni gael Cymru gwaith teg, y byddwn yn anelu at y nod hwnnw. Rwy'n credu y bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, pan fyddwn yn ei mabwysiadu, hefyd yn ein helpu. Ond mae angen inni sicrhau ein bod yn deall gwahaniaethau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac ymdrin ag achosion hynny.

Rwy'n credu bod llawer o gyflogwyr a mentrau nawr yn ymdrin â'r mater sy'n ymwneud â gwaith a galluogi menywod i symud ymlaen, ond mae'r prosiect Cenedl Hyblyg 2, a reolir ac a ddarperir gan Chwarae Teg, yn bwriadu hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a chefnogi datblygiad gyrfa. Wrth gwrs, cefnogwyd hwnnw gan arian Ewropeaidd, ac rwy'n credu bod datblygiad diweddaraf y prosiect, menywod yn archwilio busnes, canolfan gymorth lles integredig, sy'n cael ei darparu drwy LIMITLESS, sef menter ar draws pum awdurdod lleol—. A bydd y prosiect hwnnw yn helpu menywod i symud ymlaen mewn cyflogaeth, menywod sydd mor aml yn cael eu cyfyngu i haenau cyflog is y gweithle. Dyna pam y mae'n rhaid inni gysylltu hyn, wrth gwrs, nid yn unig â chyflog byw go iawn, y mae angen inni ei fabwysiadu, a'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ond hefyd â'n contract economaidd. Ac rwyf, fel y dywedais, yn cael cyfarfodydd dwyochrog â'n Gweinidogion i gyd; yfory, tro Ken Skates, Gweinidog yr economi fydd hi, a byddwn yn sôn am fenywod yn y gweithle, a sut y gallwn ni symud ymlaen o ran datblygu hynny.

Nawr, rydych chi hefyd yn codi materion pwysig o ran ein strategaeth genedlaethol ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. A rhan o'r strategaeth honno, wrth gwrs—amcan 1 ein strategaeth genedlaethol—yw cynyddu ymwybyddiaeth a herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys mynd i'r afael â chaethwasiaeth. Er nad yw'n gyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli—mae llawer o'r dulliau dylanwadu yn nwylo Llywodraeth y DU—rydym ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â chaethwasiaeth, ac mewn llawer o ffyrdd rydym ni'n arwain y ffordd yn y DU. Ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, a benodwyd yn 2011. Ac rwyf yn siŵr y bydd Joyce Watson, os na fydd hi'n codi'r mater hwn eto—rydym ni'n talu teyrnged i'r rhan a chwaraeodd hi yn hynny.

Ac, wrth gwrs, rydym ni'n llawer mwy ymwybodol nawr o faterion sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol, ac mae gan hwnnw effaith wanychol a gwahaniaethol, effaith niweidiol ar fenywod, yn arbennig yn y gweithle. Mae'n rhaid i sefydliadau'r sector cyhoeddus, fel y dywedais, gydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac mae gennym ni ddyletswydd ac mae ganddyn nhw ddyletswydd i roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth.

15:40

Gan aros gyda'r thema 'Balance for Better', mae llawer iawn y mae angen inni i gyd ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar ran ein chwiorydd ni mewn gwledydd eraill, sydd yn llawer mwy tebygol o fod o dan fygythiad newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys gweld eu cymunedau'n diflannu. Rydym ni'n gwybod bod yr enillion hawdd wedi eu cyflawni drwy leihau maint y glo a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu pŵer. Nawr mae angen inni edrych ar faterion llawer mwy heriol o ran lleihau allyriadau cerbydau, sy'n golygu gwella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gyfer teithiau byr.

Rwyf eisiau ein hatgoffa ni i gyd y dylai merched allu trefnu'r cyfnod rhwng geni pob plentyn i gydymffurfio ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd sy'n nodi y dylai menywod aros dwy flynedd cyn cael plentyn arall, ac mae hyn yn ddiffygiol mewn cymaint o wledydd.

Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cefnogi cais Pythefnos Masnach Deg am gyflog byw ar gyfer menywod sy'n ffermio coco yn y Traeth Ifori, lle y maen nhw ar hyn o bryd yn cael 74c y dydd yn unig, a £1.86 yw'r swm y mae angen iddyn nhw ei ennill er mwyn gallu byw bywyd o ansawdd derbyniol.

Yn olaf, hoffwn nodi'r ymdrechion ar gyfer heddwch yn Israel-Palesteina sy'n cael eu harwain gan fenywod drwy sefydliad o'r enw Women Wage Peace. Ddydd Gwener, sef Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bydd miloedd o fenywod o'r holl wahanol gymunedau ar draws Palesteina ac Israel—Arabaidd, Iddewig, Druze, Palestiniaid Israelaidd, ymsefydlwyr, yn ogystal â menywod yr effeithiwyd arnynt gan ddeddfwriaeth y genedl-wladwriaeth, sy'n golygu bod menywod Ffilipinaidd, er enghraifft, sydd wedi gweithio yn Israel ers blynyddoedd lawer yn wynebu cael eu halltudio, aelodau'r Senedd a cherddorion, i gyd yn cerdded o'r amgueddfa i Sgwâr Rabin gan godi pabell y fam yn Sgwâr Rabin a fydd yn aros yno tan ddiwrnod yr etholiad ar 6 Ebrill. O ystyried y sefyllfa enbyd sy'n wynebu Palestiniaid ar y Lan Orllewinol ac yn Gaza, rwy'n gobeithio y bydd menywod yn arwain yr ymgyrch am drafodaeth, sef y cam cyntaf i ddatrys yr anghydfod, sydd wedi parhau ers gormod o amser yn yr ardal honno.  

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau pwysig ac ehangach hynny, a fydd yn thema llawer o ddigwyddiadau a thrafodaethau ar draws y byd, o ran Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener. Mae gennyf ddiddordeb arbennig—. Cefais fy nghyfarfodydd dwyochrog o ran yr adolygiad rhywedd. Cyfarfûm â Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gynharach, ac roeddem yn trafod y gobeithion i ddatblygu cynlluniau treialu ynghylch sut y gallwn ni gynorthwyo menywod drwy ein pwerau a'r mentrau yr ydym ni'n eu cefnogi, megis Cymru o Blaid Affrica, lle ceir bygythiad aruthrol o ran newid yn yr hinsawdd yn Affrica is-Sahara, ond gan gydnabod hefyd y daeth masnach deg i'n sylw heddiw yn y ffreutur pan oeddem yn gallu blasu'r siocled, a chydnabod, cofio a dysgu am y menywod hynny sy'n ffermio coco. Rwy'n edrych ymlaen at gynnal brecwast gwanwyn yn fy etholaeth i. Rwyf wedi gwahodd plant o ysgolion sydd, fel rhan o Bythefnos Masnach Deg yn meddwl ac yn dysgu am fenywod sy'n ffermio yn arbennig, ac mae'n bwysig inni chwarae ein rhan. Gadewch inni gofio mai Cymru oedd y genedl fasnach deg gyntaf. Yn wir, hon oedd y genedl fasnach gyntaf, a lansiwyd gan Rhodri Morgan, ein cyn-Brif Weinidog, ac rydym ni wedi ymrwymo i hynny, ond mae menywod yn chwarae rhan mor fawr yn rhyngwladol ac, wrth gwrs, mae'r pwynt yna eisoes wedi'i wneud.

Mae hyn yn cynnwys y rhan y mae menywod yn ei chwarae wrth atal a datrys gwrthdaro. Felly, mae hi hefyd yn ddiddorol clywed am Women Wage Peace a'r mudiadau ar draws y byd, a rhaid inni groesawu hynny ac edrych ar benderfyniadau'r Cenhedloedd Unedig, sy'n glir iawn o ran sut y mae'n rhaid inni ddatblygu hynny. Ond mae hefyd yn bwysig iawn inni edrych ar hyn o ran y cyfleoedd sydd gennym ni drwy'r ddeddfwriaeth ynghylch llesiant cenedlaethau’r cyfodol. Mae gennym ni ddeddfwriaeth arloesol, mae gennym ni'r cyfle i edrych tuag allan hefyd, a gyda Gweinidog y Cabinet ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol, yn ogystal â'n Prif Weinidog wrth gwrs. Ond y pwyntiau yr ydych chi'n eu codi o safbwynt y rhan y mae menywod yn ei chwarae o ran heddwch a datrys gwrthdaro a chefnogi symudiadau ar draws y byd, ac yn enwedig, rwy'n siŵr, yn dilyn ein hymweliad yr wythnos diwethaf—Women Wage Peace, yn amlwg, mae llawer i'w ddysgu o hynny.

15:45

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Fe fydd hi, wrth gwrs, yn cofio'r frwydr galed a gawsom ni i sicrhau bod ein statud sefydlu yn cynnwys cyfrifoldeb penodol o sicrhau bod y sefydliad hwn yn rhoi sylw dyledus i gyfle cyfartal ym 1998. Mae'n braf ei chlywed hi'n cyfeirio ato yn ei datganiad, a hoffwn hefyd ein hatgoffa ni i gyd y cafodd hwnnw ei arwain gan ein cyn-gydweithiwr Val Feld, a ddaeth a llawer o fuddiannau ynghyd, a hoffwn dalu teyrnged i Val am hynny heddiw. Rydym ni wrth gwrs wedi gweld rhywfaint o gynnydd ers 1998, ond rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi cydnabod heddiw bod gennym ni lawer mwy i'w wneud o hyd, a gan wybod bod amser yn brin, fe hoffwn i godi un neu ddau o bwyntiau penodol, os caf i.

Yn gyntaf oll, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog am y ddarpariaeth o wasanaethau i fenywod sydd wedi goroesi cam-drin domestig a rhywiol a'u plant. Nawr, rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi bod y gwasanaethau hynny—a gwyddom hyn o ymchwil—yn cael eu darparu orau gan sefydliadau lleol a arweinir gan fenywod sydd yn atebol i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Rydym yn gwybod bod y sefydliadau hyn ar draws Cymru yn colli tendrau i ddarparu'r gwasanaethau hynny i sefydliadau masnachol mwy o faint. Yn aml, ni ddarperir gwasanaethau plant yn y tendrau hynny, ac, os ydyn nhw'n cael eu darparu yna rhywbeth ychwanegol ydyn nhw, does dim digon o amser. Pan fyddan nhw'n cael eu darparu, yn aml iawn gwirfoddolwyr sy'n eu darparu—eu darparu am geiniog a dimai. Nawr mi wn y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi na fyddwn ni byth yn torri'r cylch cam-drin domestig oni bai ein bod yn rhoi cymorth i'r plant sydd wedi gweld yr erchyllterau hynny yn eu cartrefi eu hunain. Siawns fod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw beth mwy gall hi ei wneud, mewn partneriaeth â llywodraeth leol yng Nghymru, i atal a gwrthdroi'r duedd hon fod sefydliadau lleol ar eu colled oherwydd y bobl fasnachol fawr sy'n bodoli i wneud elw'n unig, nid i edrych ar ôl ein plant?

Y mater nesaf yr hoffwn i ei godi'n benodol yw mater tlodi misglwyf, ac rwyf yn croesawu buddsoddiad diweddar Llywodraeth Cymru, ond rydym ni wedi gweld mwy o dystiolaeth unwaith eto'r wythnos hon bod merched yn colli ysgol oherwydd eu bod yn methu cael gafael ar gynnyrch misglwyf priodol. Rydym yn dal i weld menywod a merched yn defnyddio pethau amhriodol, megis gorfod defnyddio sanau, gorfod golchi pethau, ac rwy'n llongyfarch Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr—rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi—ar yr ymgyrch y maen nhw wedi ei dechrau ynghylch y materion hyn yr wythnos hon. Yn benodol, hoffwn dynnu sylw'r Dirprwy Weinidog at ymchwil a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru yr wythnos hon—y mis diwethaf, yn hytrach—sy'n dangos nad oes ymagwedd gyson ar draws y GIG at y ddarpariaeth o gynnyrch misglwyf mewn ysbytai i fenywod a merched sydd yn gleifion mewnol. Ceir lleoedd—mewn rhai o'n hysbytai ni all pobl hyd yn oed brynu'r cyflenwadau hynny drostynt eu hunain, heb sôn am eu cael am ddim. Nid oes un bwrdd iechyd yng Nghymru â pholisi penodol, yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, ynghylch sut y dylid darparu'r gwasanaethau hyn. Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw, fel rhan o'r trafodaethau y cyfeiriodd hi atyn nhw yn ei datganiad, y mae'n eu cael gyda chyd-Weinidogion, i drafod y mater hwn yn benodol gyda'r Gweinidog Iechyd i sicrhau bod yr holl fenywod a'r merched sy'n cael triniaeth cleifion mewnol ym mhob ysbyty yng Nghymru yn cael cynnyrch misglwyf yn rhad ac am ddim fel mater o drefn? Nid ydym yn disgwyl i'n cleifion ni ddod â'u papur toiled ei hunain i ysbytai; yn sicr ni ddylem ni ddisgwyl iddyn nhw ddarparu eu cynnyrch misglwyf eu hunain.

Fy mhwynt olaf penodol yw tynnu sylw at drafferthion menywod y 1950au a welodd ostyngiad yn eu hawliau pensiwn heb ymgynghori a nhw—cyfeirir atyn nhw fel menywod WASPI. Mae'r Llywodraeth y DU wrth gwrs, nawr wedi cydnabod na chysylltwyd â miloedd o'r menywod hyn erioed ynghylch y newidiadau arfaethedig, a pharodd hyn iddyn nhw ddioddef tlodi ar adeg yr oedden nhw'n ei ystyried yn ddiwedd eu hoes gweithio. Nawr, yn amlwg, nid yw hyn yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog gytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn anfon sylwadau pellach i Lywodraeth y DU yn hyn o beth, yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU bellach wedi cydnabod nad oeddynt wedi hysbysu'r holl fenywod yr effeithiwyd arnynt.

Ac, yn olaf, hoffwn yn fyr iawn wneud pwynt cyffredinol sy'n ymwneud â defnydd o'r iaith wrth drafod y mater hwn. Llywydd dros dro, os ydym ni, fel deddfwyr yn y Siambr hon, yn gwybod unrhyw beth, rydym ni'n gwybod bod geiriau yn bwysig; Mae ganddyn nhw ystyron penodol iawn. Ac, os nad ydym ni'n disgrifio problem yn gywir, ni allwn ni ddatrys honno'n briodol. Wrth gyfeirio at wahaniaethu yn erbyn menywod, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn glir yn ei hiaith: Mae gwneud gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon ac eithrio mewn rhai amgylchiadau penodol. Eto, pan fyddwn yn trafod y materion hyn, rydym yn tueddu i ddefnyddio term llawer mwy amwys. Rydym yn sôn, er enghraifft—ac mae'r Gweinidog wedi gwneud hyn heddiw—am y bwlch cyflog ar sail 'rhywedd' ond yr hyn yr ydym yn ei olygu yw'r bwlch cyflog rhwng y 'rhywiau'. Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio yn ei datganiad at adolygiad cydraddoldeb 'rhywedd' y Llywodraeth ei hun, ac mae sôn am gydraddoldeb rhywedd yn arfer cyffredin, ond mae'n arfer y mae angen ei dwyn i ben. Ymddengys bod rhyw deimlad o anesmwythder yn bodoli wrth ddefnyddio'r term cyfreithiol cywir, sef 'rhyw', ac mae hyn yn bwysig. Mae'n bwysig oherwydd dylai adolygiadau polisi a fframweithiau a pholisïau adlewyrchu'n gywir y fframweithiau deddfwriaethol sy'n sail iddyn nhw er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n briodol â'r ddeddfwriaeth. Mae hefyd yn bwysig oherwydd gall defnyddio'r term 'rhywedd' arwain at ddryswch rhwng y camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail rhyw a'r agenda bwysig ond gwahanol sy'n ymwneud ag amddiffyn a hybu hawliau pobl sy'n arddel hunaniaeth drawsrywiol.

Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau yn rhy hen i deimlo'n anesmwyth wrth ddefnyddio'r gair 'rhyw', a hoffwn ofyn i'r Gweinidog gynnal adolygiad heddiw o'r iaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio o ran y mater hwn i sicrhau ei bod, yn y dyfodol, yn cydymffurfio'n llawn â'r Ddeddf Cydraddoldeb. Rwy'n derbyn yn llwyr fod cyfuno'r termau 'rhyw' a 'rhywedd' yn gyffredin; nid yw pethau sy'n gyffredin o reidrwydd yn gywir nac yn ddefnyddiol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn edrych ar hyn fel y gallwn ni ddefnyddio'r iaith briodol wrth drafod y materion hyn yn y dyfodol.

15:50

Diolch yn fawr iawn, Helen Mary Jones, ac a gaf i ddweud fy mod yn credu eich bod yn un o'r hyrwyddwyr allweddol a oedd, bryd hynny, fwy na thebyg yn gweithio gyda Val Feld yn y Comisiwn Cyfle Cyfartal? Rwyf hefyd eisiau crybwyll y ffaith na fyddem ni'n rhoi'r sylw dyledus hwnnw i gyfle cyfartal oni bai am Julie Morgan, a oedd yn AS ar y pryd yn San Steffan, yn llwyddo i'w gael drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru, a heddiw yw'r amser pan fyddwn yn gallu atgoffa ein hunain mewn gwirionedd ein bod yn rhan o hanes, ac, yn y dyfodol, bydd rhai yn cofio bod y menywod hynny a oedd i lawr yno yn y Senedd a wnaeth wir chwarae eu rhan i symud hyn ymlaen. Ond rydych chi wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn, oherwydd, nawr bod gennym y sylw dyledus, bellach mae angen i ni gyflawni. O ran strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod a sut yr ydym erbyn hyn yn cefnogi ac yn ariannu llochesi a grwpiau Cymorth i Fenywod, mae gennyf bob cydymdeimlad â'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Ac, wrth gwrs, rwy'n gwybod o fy ngrwpiau Cymorth i Fenywod lleol, a ledled Cymru, bod y rhain yn faterion y maen nhw'n cael trafferth yn eu cylch o ganlyniad i wahanol drefniadau comisiynu.

Rwyf yn gobeithio tawelu eich meddwl ynglŷn â'r ffaith bod gennym ni grŵp cyllid cynaliadwy. Cadeirir hwnnw yn wir gan yr ymgynghorwyr cenedlaethol sydd gennym: Yasmin Khan, sydd, rwyf yn gobeithio bod aelodau—mae llawer o Aelodau wedi cwrdd â'n ymgynghorwyr Cenedlaethol, a benodwyd fel ymgynghorwyr cenedlaethol—a Nazir Afzal hefyd. Maen nhw'n cynghori ar ddatblygu model ariannu cynaliadwy, a'r hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, o ran gwneud yn siŵr y ceir cydweithio rhwng grwpiau trydydd sector yn y maes hwn. Felly, mae'n golygu gweithio gyda nhw; maen nhw'n rhan o'r grŵp ariannu cynaliadwy i symud hyn ymlaen. Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod, ar lefel leol, fod gennym y grant Cefnogi Pobl, a'n bod wedi ei gadw yng Nghymru, ac mae hwnnw'n cael ei dalu i awdurdodau lleol; mae'n cael ei weinyddu i 22 o awdurdodau lleol, fel y gwyddoch. Maen nhw'n gweithio â phwyllgorau cydweithredol rhanbarthol ar gyfer cyngor ar gynllunio a chomisiynu, ond mae honno'n ffordd hollbwysig y mae llochesau, yn arbennig, yn cael eu cefnogi. A dweud y gwir, wrth edrych ar y grant Cefnogi Pobl, ac rydym ni i gyd wedi ei ddiogelu ar draws y Siambr hon—er gwaethaf cyni, rydym wedi ei gadw i fynd—gwariwyd dros £9 miliwn ar wasanaethau cam-drin domestig y llynedd o ran Cefnogi Pobl. Ond rydym yn derbyn eich pwynt o ran y materion hynny.

Nawr, eich ail bwynt, yn gyflym iawn, wel, ydy, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi heddiw—yr ydych fwy na thebyg wedi ei weld—y bydd cynhyrchion misglwyf yn cael eu cynnig am ddim ym mhob ysbyty yng Nghymru i bob claf mewnol yn y GIG yng Nghymru. Mae'n annerbyniol i gael darpariaeth dameidiog. O heddiw ymlaen, mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi gwneud y cyhoeddiad hwn, felly ni ddylai fod unrhyw broblem. Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—weithiau mae'n cymryd rhywbeth fel hyn i ddweud, 'Iawn, wel, gadewch inni fwrw ymlaen â hyn; gadewch i ni afael ynddi.' Yn sicr, dyna oedd fy nghwestiwn cyntaf pan welais y pennawd ddydd Sul, bod hyn yn—. Dywedais, 'ble ydym ni arni yng Nghymru?' Mae hyn yn digwydd yng Nghymru. A gadewch i ni gofio hefyd y £1 miliwn yr ydym wedi'i roi at gynhyrchion misglwyf—yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei hyrwyddo yw urddas misglwyf, a chefais fy nghyfarfod â Kirsty Williams ddoe i siarad am ysgolion, oherwydd mewn gwirionedd dyma lle mae angen i ni ddatblygu urddas misglwyf, ac mae hynny hefyd yn cysylltu ag amrywiaeth eang o faterion eraill mewn ysgolion, yr ydym wedi sôn amdanynt ac yr ydym yn mynd i'r afael â nhw. Felly, mae hwnnw'n bwynt allweddol hefyd.

Ie, o ran Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn Gwladol a menywod sydd wedi ymgyrchu mor galed o ran effaith y newidiadau i oedran pensiwn, a'r ffaith ein bod newydd weld bod yr Uchel Lys wedi caniatáu adolygiad barnwrol o faterion sy'n codi o bolisi'r Llywodraeth i gydraddoli oedrannau pensiwn menywod, ac effaith y newidiadau hynny ar fenywod a anwyd yn y 1950au—.Felly, mae hynny o ganlyniad i ymgyrchu, y mae, unwaith eto, llawer ohonom wedi bod yn rhan ohono; rydym wedi cael cefnogaeth ar draws y Siambr hon ar gyfer hyn. Bydd yr achos yn cael ei glywed ar 24 Mai, ac mae'n rhaid i ni eto edrych ar ffyrdd i ni allu ymdrin â chwynion, oherwydd ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni aros am hynny, o ran Ombwdsmon y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd, a fyddai'n gallu ymdrin â chwynion yn ôl penderfyniad gan yr arolygydd achos annibynnol. Ond mae hynny'n—. Rydym ni yn gwneud rhywfaint o gynnydd, rwy'n credu.

Ac yn olaf, ar eich pwynt ynghylch iaith, wel, rwy'n credu bod llawer ohonom yn dysgu am iaith, ond yr ydym yn hollol glir: mae gennym ni ddeddfwriaeth—mae gennym y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw, mae gennym y Ddeddf Cyflog Cyfartal, mae gennym y Ddeddf Cydraddoldeb ac mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o'r nodweddion gwarchodedig, sydd, o ran y Ddeddf Cydraddoldeb, wedi ein gwneud yn llawer mwy ymwybodol o groestoriad, yr wyf wrth gwrs, wedi'i grybwyll yn fy natganiad, o ran y ffaith y gallwch chi fod yn fenyw, ond gallwch fod â nodweddion gwarchodedig eraill hefyd. Felly, nid yw'n ymwneud â'ch rhyw neu'ch rhywedd yn unig; mae'n ymwneud â llu o faterion eraill. Ond rydym yn nodi, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni roi sylw dyledus i'r pwyntiau yr ydych yn eu gwneud o ran iaith.

15:55

Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog, gan ein diweddaru ar weithgareddau eich Llywodraeth i geisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb  rhwng y rhywiau. Ymunaf â chi wrth ddymuno bod pob menyw yn cael annibyniaeth economaidd, i'w gwaith cyflogedig a di-dâl gael ei werthfawrogi, i fenywod gael eu grymuso, a'r amcanion rhagorol eraill yr ydych wedi'u crynhoi yn eich datganiad. Rhannaf hefyd eich gweledigaeth y dylai Cymru fod yn lle y mae pŵer, adnoddau a dylanwad yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng y rhywiau. Ond ni ellir cyflawni unrhyw un o'r amcanion canmoladwy iawn hyn heb system addysg o'r radd flaenaf sydd nid yn unig yn rhoi'r sgiliau academaidd a chymdeithasol i ferched y mae eu hangen arnynt i ragori mewn bywyd, ond sy'n rhoi'r hyder iddyn nhw gymryd swyddi sy'n cynnwys pŵer ac awdurdod a herio ymddygiad nawddoglyd hen ffasiwn rhai dynion yn eu plith.

Mae'n cymryd cryn nerth a hyder i wrthsefyll y bychanu, yr ymddygiad nawddoglyd ac wfftiol y mae rhai dynion yn ei ddefnyddio wrth drin cydweithwyr benywaidd. Felly, ar yr un pryd â rhoi'r arfau i ferched i ymdrin ag ymddygiad cyntefig o'r fath, mae angen i'r gymdeithas gyfleu i fechgyn nad yw'r ymddygiad hwn yn dderbyniol. A gan fy mod i'n sôn am agweddau tuag at fenywod, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog am safbwynt y Llywodraeth ar y negeseuon gwrth-fenywod sydd i'w gweld mewn rhai mathau o bornograffi. Sut y mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwrthsefyll y stereoteipio ar sail rhyw o deganau gan fanwerthwyr sy'n gweithredu yng Nghymru, neu y stereoteipio ar sail rhyw a geir mewn cylchgronau ar gyfer yr arddegau? Mae'r Dirprwy Weinidog yn hollol iawn i dynnu sylw at barhad y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac i fod â'r nod o'i ddileu. Mae hwn yn warth sydd wedi parhau am ddegawdau, ac mae cyflymder y cynnydd yn hynod araf. Ond ni fydd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau byth yn cael ei ddileu yma tra bod y system addysg yng Nghymru yn methu plant. Y rhai sy'n debygol o ddioddef waethaf o'r methiant hwn yw merched, wedi'u condemnio i waith cyflog isel, ysbeidiol ac ansicr yn eu bywydau fel oedolion, neu ar ei hôl hi pan fyddant yn oedolion, oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn rhy falch i gyfaddef ei chamgymeriadau ac i dysgu oddi wrth ysgolion sy'n well o lawer na system y wladwriaeth o ran cyflawniadau academaidd a chyflawniadau eraill. Ym mhob man arall yn y byd, cydnabyddir mai addysg yw'r allwedd i gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Sawl gwaith ydym ni wedi gweld hysbysebion yn gofyn am roddion i elusennau sy'n dweud mai dim ond addysg sydd ei angen ar ferched yn y trydydd byd er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfle cyfartal? Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym pa drafodaethau y mae hi wedi eu cael â'r Gweinidog Addysg ynghylch trwsio ein system addysg sy'n perfformio'n gywilyddus fel y gall merched ragori fel y dylent?

Yn yr un modd ag y bydd pawb yma yn dweud eu bod yn dymuno i ferched gymryd rhan mewn addysg, byddem hefyd yn dymuno i fenywod gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gall menywod sefyll ar gyfer etholiad cyhoeddus, mae hynny'n wir, ond beth sy'n digwydd iddyn nhw pan maen nhw'n cael eu hethol? Ar hyn o bryd mae'r cyfryngau cymdeithasol yn trolio menywod nad ydynt o blaid Jeremy Corbyn i fod yn Brif Weinidog, sydd yn ffiaidd ac yn amharchus. Mae hyn hefyd yn amlygu'r driniaeth a roddir yn rhy aml i fenywod sy'n ffigyrau cyhoeddus, wedi'u  hethol ai peidio, dim ond am fynegi eu barn mewn ymgais i'w tawelu. A wnewch chi ofyn i'r Prif Weinidog osod esiampl drwy sicrhau bod unrhyw un o'i blaid ei hun sydd wedi trolio cynrychiolydd etholedig benywaidd yn cael eu taflu allan o Blaid Lafur Cymru am aflonyddu ar fenywod?

Yn olaf, sut gall y Llywodraeth honni ei bod yn dymuno i fenywod gael eu grymuso a bod yn gyfartal pan nad oedd y Prif Weinidog yn gallu darbwyllo ei hun i gytuno â phobl ar bob ochr i'r sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys rhai yn ei blaid ei hun, na ddylai treiswyr gael cysylltiad ag unrhyw blentyn a aned o ganlyniad i'w trais rhywiol? Yr ateb yw nad yw'n gallu, oherwydd os yw eich Prif Weinidog, ar ran eich Llywodraeth, yn amharod i gymryd safiad yn erbyn dynion o'r fath rhag cael modd parhaus i reoli a cham-drin eu dioddefwr yn emosiynol, mae eich datganiad ar ran yr un Llywodraeth yn swnio braidd yn wag. Diolch.

16:00

Byddaf yn ymateb i rai o'r pwyntiau cadarnhaol yr ydych chi wedi'u gwneud am bwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Credaf ei fod yn bwysig eich bod yn codi materion ynghylch stereoteipiau rhywiol. Yn 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch Dyma Fi sy'n herio stereoteipio ar sail rhyw mewn modd cadarnhaol ac sy'n annog sgyrsiau am rywedd ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gydnabod yn arbennig, y gall hyn fod yn achos ac yn ganlyniad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae'n rhaid i ni wella cynrychiolaeth menywod mewn bywyd gwleidyddol a  chyhoeddus a'u  cefnogi yn y swyddogaethau hynny. Mae'n bwysig ein bod yn edrych, yn y Bil llywodraeth Leol ac etholiadau (Cymru), ar ffyrdd y gallwn fynnu bod arweinwyr grŵp y pleidiau gwleidyddol yn hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ymhlith aelodau eu grŵp, a phwyllgorau safonau'r awdurdodau lleol i fonitro'r ffyrdd y mae menywod yn enwedig yn cael eu trin. Rwyf yn cefnogi adroddiad 'Lleisiau Newydd' y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, ac mae gan hwnnw argymhellion ynghylch y cyfryngau cymdeithasol a datblygu cod ymddygiad ar y cyd ar draws pob plaid ar gyfer ymddygiad bygythiol.

Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig am addysg a swyddogaeth addysg, a chredaf mai'r cwricwlwm newydd a fydd yn helpu i fynd i'r afael â hyn, yn enwedig o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad.

Diolch, Dirprwy Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn cadw hyn yn fyr iawn, ond rwyf yn falch iawn o glywed drwy gydol y datganiad hwn heddiw gyfeiriadau at y Bil trais yn erbyn menywod a'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a hefyd y datganiad a'r cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â thlodi misglwyf a chynhyrchion misglwyf am ddim. Gwn fod Jenny Rathbone wedi gweithio'n agos gyda fy nhad ar y mater hwn cyn ei farwolaeth drist i weld beth y gallai ei wneud yn y portffolio.

Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod angen i ni barhau i hyrwyddo a gweithredu ar y darnau hyn o ddeddfwriaeth allweddol er mwyn i ni gyflawni'r Gymru gyfartal yr ydym ni i gyd eisiau ei gweld mewn gwirionedd? Hefyd, a ydych chi'n cytuno â mi nad mater i fenywod yn unig yw hwn, mae hyn yn fusnes i bawb, ac mae'n braf gweld dynion yn y Siambr heddiw hefyd? Dirprwy Lywydd, hoffwn fynegi ar y cofnod fy edmygedd o Brif Weinidog newydd Cymru yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru fwy o fenywod na dynion yn y Cabinet erbyn hyn, gan fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhwng y rhywiau a ddaeth o faterion a godwyd mewn Llywodraethau blaenorol o fewn y Senedd.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged bersonol i fy mam, a dweud y gwir. Mae hi wedi fy nghefnogi ar hyd fy mywyd drwy pob penderfyniad yr wyf wedi'i wneud, ac mae'n parhau i fod ar gael i mi ac i lawer o rai eraill, hyd yn oed drwy boen gwaethaf ei bywyd ar ôl colli dad. Yn olaf, Aelodau'r Siambr, Dirprwy Lywydd, mae'r dyfodol yn gyffrous, ond gadewch i ni wneud adduned yn y Siambr hon heddiw i adeiladu un gwell, cyfartal o ran y rhywiau a mwy caredig. Diolch.

Nid wyf yn credu bod angen i mi ddweud rhyw lawer mewn ymateb i ddatganiad grymus iawn Jack Sargeant. Fel y dywedodd Jack Sargeant, mae hyn yn fater i bawb, ac mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i Jack, a mor falch y byddai eich tad ohonoch chi yn y fan yma, a sut yr ydych chi wedi sefyll dros fenywod, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ond yn arbennig dros wleidyddiaeth fwy caredig. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni, a gwn y bydd y Prif Weinidog yn cydnabod bod hwn yn gyfraniad sylweddol iawn yr ydych wedi'i wneud, Jack, ar ran y Cynulliad hwn o ran Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a'r hyn y dylai ei olygu i bob un ohonom.

16:05

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Ymddiheuriadau i'r rhai doeddwn i ddim yn gallu galw heddiw.

6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoli'r Risg o Lifogydd ac Erydu Arfordirol
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth)

Felly, rydym ni'n troi nawr at gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6979 Lesley Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Lles Anifeiliaid, i’r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Cadeirydd. Cynigiaf y cynnig.

Diolch i chi am y cyfle i esbonio'r cefndir i'r ddadl heddiw sydd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio). Cyflwynwyd Bil Aelod preifat, y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio) yn Nhŷ'r Cyffredin gan Oliver Heald AS ar 18 Mehefin 2018, ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth y DU. Diben y Bil yw cyflwyno amddiffyniad ychwanegol i anifeiliaid sy'n gweithio drwy ddiwygio adran 4 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae'n mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch cymhwyso adran 4(3)(c)(ii) o Ddeddf 2006 o ran ymosodiadau ar anifeiliaid sy'n gweithio, lle y gallai diffynnydd a gyhuddir o achosi dioddefaint diangen i anifail honni ei fod yn diogelu ei hun. Gellid dadlau y byddai modd defnyddio hyn i gyfiawnhau defnyddio grym corfforol yn erbyn anifail sy'n gweithio, gan o bosibl achosi dioddefaint diangen iddo.

Daw'r Bil yn sgil ymgyrch proffil uchel a oedd wedi'i ganolbwyntio'n bennaf ar Lywodraeth y DU, a adnabyddir fel cyfraith Finn. Dioddefodd Finn, ci heddlu, ymosodiad ffyrnig arno wrth gynorthwyo swyddog yr heddlu i restio rhywun a oedd o dan amheuaeth. Er i ymosodwr Finn gael ei erlyn a'i euogfarnu oherwydd yr ymosodiad, roedd yr achos yn amlygu pryder y cyhoedd am sut y cymhwysir adran 4(3)(c)(ii) o Ddeddf 2006.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a ystyriodd y Bil yn barod ar gyfer dadl heddiw. Gofynnodd ei aelodau am gadarnhad nad yw'r Bil yn effeithio ar hawliau dinasyddion nad ydynt yn ymwneud â gweithgarwch troseddol, nac o dan amheuaeth o hynny. Nid yw'r Bil arfaethedig yn amharu ar yr hawl  sydd yng nghyfraith gwlad i amddiffyn eich hun, ac nid yw'n berthnasol mewn achosion lle yr ymosodir ar bobl ddiniwed sydd gerllaw gan anifail sy'n gweithio. Mae'n rhaid i'r defnydd o'r anifail fod yn rhesymol, ac mae'n rhaid i'r anifail fod o dan reolaeth swyddog perthnasol, fel y disgrifir yn y Bil. Rwyf yn fodlon nad oes unrhyw faterion hawliau dynol yn gysylltiedig â'r Bil hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn tawelu unrhyw bryderon a allai fod gan Aelodau. 

Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol am ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Rwyf wedi nodi siom aelodau nad yw'r amddiffyniad arfaethedig ar gyfer anifeiliaid gwaith wedi ei weithredu yng Nghymru drwy gyfrwng Bil i Gymru. Rwyf yn llwyr gefnogol o ddeddfwriaeth i Gymru yn cael ei chreu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi hefyd ystyried y pwysau digynsail y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu o ran Brexit, a pha un a fyddai cyflwyno Bil ar amserlen wahanol i Loegr er lles gorau yr anifeiliaid y mae hyn yn ceisio'u hamddiffyn. Nid oes Bil Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd ac ni fwriedir  cyflwyno hynny ym mlwyddyn bresennol y Cynulliad a fyddai'n gyfrwng addas i gynnwys darpariaethau Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio). Yn wir, fel y mae'r Pwyllgor wedi ei amlygu yn ei adroddiad, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac oherwydd hyn, rwyf yn sicr bod y llwybr mwyaf priodol ac amserol er mwyn amddiffyn anifeiliaid sy'n gweithio wedi cael ei gymryd am resymau amseru a chydlyniad. Mae darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru ynghylch hybu lles anifeiliaid. Bydd bwrw ymlaen â'r rhain yn y Bil DU hwn yn golygu y rhoddir yr un lefel o amddiffyniad i'r anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru ar yr un pryd â'r rhai yn Lloegr. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig—Mike Hedges.

Diolch, Lywydd. Rwyf yn siarad ar ran y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Ystyriodd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio) yn ein cyfarfod ar 13 Chwefror. Canolbwynt ein hystyriaethau oedd amcanion polisi y Bil fel y'u nodir yn y Memorandwm. Ni chawsom unrhyw reswm dros wrthwynebu i'r Cynulliad gytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw.

Gobeithiaf, ar ôl gwrando yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog, ei bod yn rhoi sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd y newidiadau arfaethedig yn arwain at leihau hawliau dinasyddion i ddiogelu eu hunain rhag niwed mewn achos o ymosodiadau di-alw-amdanynt gan anifeiliaid sy'n gweithio. Gobeithio y bydd hi'n cadarnhau hynny yn ei hymateb.

Llywydd, hoffwn godi mater cyffredinol am broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yng nghyd-destun y ddadl heddiw. Wrth i'r pwyllgor graffu ar nifer o'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ddiweddar, rydym wedi ei chael hi'n anodd gweld rhesymeg gyson ar gyfer safbwynt Llywodraeth Cymru y dylai Senedd y DU, yn hytrach na'r Cynulliad, ddeddfu mewn maes cymhwysedd datganoledig. Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio) yn cynnwys darpariaeth gul ynghylch pwnc annadleuol. Fodd bynnag, bydd Biliau eraill yr ydym wedi'u hystyried yn gwneud newidiadau sylfaenol ac eang mewn meysydd allweddol lle mae  cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw egwyddor ac eithrio cyfleustra wrth wraidd ymagwedd Llywodraeth Cymru. Gwyddom y bydd gofyn i'r Cynulliad ystyried cynigion cydsyniad deddfwriaethol eraill maes o law, ac oherwydd y rheswm hwnnw, rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i gael eglurhad ar ymagwedd Llywodraeth Cymru at ddeddfu drwy'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr ymateb hwnnw ar gael i bob Aelod. Diolch, Lywydd.

16:10

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Mick Antoniw. 

Diolch Llywydd. Buom yn ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r Bil yn ein cyfarfod ar 4 Chwefror, ac fel Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth gwrs, rydym yn edrych ar agweddau technegol a chyfansoddiadol y Bil ei hun, yn hytrach na'r amcanion polisi penodol.

Rydym wedi nodi rhesymau Llywodraeth Cymru dros pam, yn ei barn hi, mae darparu ar gyfer Cymru mewn Bil y DU yn briodol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn mynegi ein siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld yr angen na'r cyfle i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun, yn enwedig gan fod y Gweinidog wedi dweud bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. O ran y pwynt a godwyd gan y Gweinidog mai dim ond drwy gymryd darpariaethau yn y Bil y bydd anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru yn cael yr un lefel o amddiffyniad ar yr un pryd â'r rhai yn Lloegr, nid ydym o'r farn bod y rheswm hwn ynddo'i hun yn ddigon i beidio â mynd ar drywydd llwybr deddfwriaethol Cymru. Yn ein barn ni, gallai prosesau deddfwriaethol o fewn y Cynulliad a Senedd y DU fod wedi galluogi craffu ar Filiau unigol o fewn terfynau amser tebyg. Ar y llaw arall, mae gwledydd o fewn y DU eisoes wedi deddfu ar wahanol amserau ar faterion eraill, gan gynnwys isafswm pris yr uned ar gyfer alcohol, taliadau am fagiau siopa untro, ac ati. Rydym ni o'r farn, ac rydym yn ailddatgan ein safbwynt, y byddai deddfu ar sail Cymru yn unig hefyd wedi cefnogi nod Llywodraeth Cymru o ddatblygu a chefnogi corff dwyieithog o gyfraith hygyrch i Gymru.

Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yma, ond rydw innau hefyd yn cael trafferth yn deall sut mae Llywodraeth Cymru'n penderfynu a yw hi'n briodol i adael i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfu mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, oherwydd does dim rheswm yn fy marn i pam na allen ni fod wedi deddfu ein hunain ar y mater yma. Ac fel aelod o wrthblaid sy'n llefarydd ar y pwnc yma, mae'n rhwystredig iawn i fi i weld Gweinidogion Cymru a Gweinidogion San Steffan yn dod â rhyw fait accompli inni fan hyn yn y Senedd i'w dderbyn neu ei wrthod e. Hynny yw, mi fyddwn i wedi dymuno trio dylanwadu ar gynnwys yr hyn sy'n cael ei drafod yn fan hyn, ond wrth gwrs, mae'r peth yn fix sy'n cael ei gytuno rhwng Gweinidogion yn hytrach na'n bod ni fel Aelodau Cynulliad fan hyn yn cael hawl, fel y dylen ni, i graffu ar y cynigion yma yn y manylder y maen nhw'n ei haeddu.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y pwysau deddfwriaethol sy'n dod yn sgil Brexit yn golygu efallai fod yn rhaid i hynny gael blaenoriaeth o flaen peth deddfwriaeth domestig—dwi'n deall yr issue yna, ond does dim tystiolaeth o ddeddfwriaeth o'r math yna'n dod ger ein bron ni fan hyn ar lawr y Senedd eto, mewn gwirionedd. Ac rŷn ni'n clywed Gweinidogion, a'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn dweud ei fod yn awyddus a bod y Llywodraeth yn awyddus i adeiladu corff cydlynol o ddeddfwriaeth Gymreig, a'r Gweinidog ei hunan yn dweud ei bod hi am weld Deddfau Cymreig yn cael eu creu fan hyn yng Nghymru, ond wedyn dŷn ni ddim yn gwneud hynna pan fod y cyfle yn dod inni wneud hynna. Os na allwn ni ddeddfu ein hunain ar y mater yma—mae e'n Fil byr, mae e'n Fil dau gymal, mae e'n cynnwys darpariaethau cul, anghynhennus—yna o dan ba amgylchiadau allwn ni fyth bod yn deddfu ar fater fel hwn?

Diolch, Llywydd, a diolch i Mike Hedges, Mick Antoniw a Llŷr Huws Gruffydd am eu cyfraniadau. Rwy'n deall pryderon a siom yr Aelodau, ac roeddwn i wedi gobeithio fy mod wedi esbonio pam yr oeddem yn ei wneud yn y modd hwn. Mae'n rhaid i ni ystyried cymesuredd a doethineb wrth i ni wneud penderfyniadau wrth gyflwyno deddfwriaeth. Fel yr wyf yn ei ddweud, nid oes unrhyw Fil Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad hwn nac y bwriedir ei gyflwyno ym mlwyddyn bresennol y Cynulliad y gallwn ni ei ddefnyddio. Nid oeddwn eisiau amserlen a oedd yn wahanol i Loegr ychwaith. Felly, roeddwn i'n credu mai hon oedd y ffordd fwyaf priodol. Ond rwyf eisiau i Aelodau ddeall fy mod i'n deall eu pryderon ynghylch hyn. Credaf ei fod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gallu cynnig amddiffyniad gwell i anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru gan hefyd amddiffyn pobl ddiniwed sydd gerllaw, a gobeithiaf, y bydd yr hyn a ddywedais yn fy sylwadau agoriadol, yw rhoi sicrwydd i Mike Hedges nad yw'r Bil yn tresmasu ar hawliau dynol, oherwydd bod hunanamddiffyniad yn parhau i fod yn amddiffyniad cyfraith gwlad, a hefyd mae'n rhaid i anifail fod yn gweithredu'n rhesymol ac o dan reolaeth y swyddog perthnasol fel y disgrifiwyd yn bendant yn y Bil.

Felly, yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw—. Drwy symud y darpariaethau ymlaen ym Mil y DU, mae'n golygu y bydd anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn i'r un lefel, ar yr un pryd, â'r rhai yn Lloegr, a chredaf fod y ddeddfwriaeth hon yn cynrychioli cam mawr ymlaen i Gymru—dangosydd clir nas goddefir creulondeb i anifeiliaid, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2018-19

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar ail gyllideb atodol 2018-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM6964 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae'r ail gyllideb atodol yn rhan safonol o'r broses rheolaeth ariannol flynyddol ac mae'n gyfle olaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol fel y mae'r Cynulliad hwn wedi ei gymeradwyo eisoes. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith yn craffu ar yr ail gyllideb atodol. Byddaf yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor maes o law. Yn bennaf, mae'r gyllideb hon yn gyfrwng i godeiddio'r newidiadau angenrheidiol o ganlyniad i reolaeth ariannol yn ystod y flwyddyn. Mae'n alinio'r adnoddau sydd ar gael â blaenoriaethau'r Llywodraeth, ac mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau i gynlluniau yn bennaf o natur weinyddol. Mae'n rhoi manylion am addasiadau o ganlyniad i drosglwyddiadau o fewn y prif grwpiau gwariant; trosglwyddiadau rhwng y prif grwpiau gwariant; dyraniadau o'r cronfeydd wrth gefn; newidiadau yn y terfyn gwariant adrannol cyffredinol, gan gynnwys symiau canlyniadol ac addasiadau eraill sy'n deillio o benderfyniadau Trysorlys ei Mawrhydi; diwygiadau i'r rhagolygon o drethi datganoledig; a'r rhagolygon diweddaraf ar gyfer gwariant a reolir yn flynyddol y cytunwyd arnynt â Thrysorlys EM. Mae mwyafrif y dyraniadau a ffurfiolwyd gan y gyllideb atodol hon eisoes wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion portffolio, ac mae'r Aelodau wedi cael cyfle i graffu arnynt.

Mae'r GIG yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniadau refeniw o dros £138 miliwn o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi'r GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer dyfarniad cyflog yr 'Agenda ar Gyfer Newid' y GIG ac ar gyfer talu meddygon a deintyddion. Dyrannwyd £4 miliwn ychwanegol o refeniw fel rhan o'r pecyn ariannu a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf i helpu i leddfu pwysau'r gaeaf ar wasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol. Mae hyn yn ychwanegol at y £10 miliwn a ddarparwyd yn y gyllideb ddrafft y flwyddyn flaenorol. Dyrennir adnoddau ychwanegol hefyd i leddfu rhywfaint ar y pwysau cyllidebol a wynebir gan awdurdodau lleol i weithredu'r dyfarniad cyflog athrawon, a dyrennir £16.2 miliwn eleni o gronfeydd wrth gefn ar gyfer hyn.

Dyrannwyd £4 miliwn o refeniw ar gyfer y prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus i wella cysylltedd digidol, gan gysylltu mwy o bobl â mwy o swyddi, nwyddau a gwasanaethau, a chefnogi cynaliadwyedd cymunedau gwledig.

Cyhoeddwyd cyllid cyfalaf ychwanegol o £100 miliwn dros dair blynedd ar gyfer awdurdodau lleol yn y gyllideb ddrafft ddiweddar. Dyrennir £50 miliwn o'r arian hwnnw yn y gyllideb atodol. Mae'r cyllid hwn yn rhoi hyblygrwydd i'r awdurdodau lleol wario yn ôl eu gweledigaeth nhw o'r hyn sy'n briodol i gyflawni blaenoriaethau lleol a Llywodraeth Cymru. Hefyd, bydd awdurdodau lleol yn cael cyllid cyfalaf ychwanegol o £20 miliwn yn y gyllideb atodol hon i gefnogi gwaith adnewyddu ffyrdd fel rhan o becyn £60 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft. Bydd hyn yn helpu i atgyweirio difrod a achoswyd gan gyfres o aeafau caled a haf poeth iawn 2018. Mae £87 miliwn o arian cyfalaf cyffredinol wedi'i ddyrannu i'r portffolio economi a thrafnidiaeth. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad y flwyddyn hon i'r gronfa drafnidiaeth leol a gwariant ar yr M4.

Dyrannwyd dros £115 miliwn i gefnogi gwariant sy'n gymwys ar gyfer cyllid trafodion ariannol. Mae hyn yn cynnwys £30 miliwn i gefnogi cyfanswm buddsoddiad o £40 miliwn i sefydlu cynllun hunan-adeiladu Cymru. Bydd hyn yn cynnig llwybr i mewn i berchentyaeth i bobl sydd eisiau aros yn eu hardal leol, ac yn darparu cyfleoedd i gwmnïau adeiladu BBaCh a masnach leol.

Gan fod twristiaeth yn sbardun economaidd allweddol mewn cymunedau ledled Cymru, rwyf wedi dyrannu cyfanswm o £50 miliwn, £40 miliwn ohono yn drafodion ariannol i sefydlu cronfa buddsoddi twristiaeth Cymru. Bydd hyn yn helpu twf parhaus y diwydiant yng Nghymru ac yn cefnogi newid i'r model buddsoddi o roi grantiau i gymysgedd o ariannu cyllid busnes ad-daladwy a rhai nad ydynt yn ad-daladwy.

Y gyllideb hon hefyd yw'r gyntaf i wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i'n rhagamcanion treth ddatganoledig. Fel yr adroddwyd, ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol, mae'r refeniw disgwyliedig o dreth trafodion tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi ar gyfer eleni yn £286 miliwn—sef cynnydd o £10 miliwn ers y gyllideb atodol gyntaf.

Llywydd, mae cyllidebau atodol yn weinyddol eu natur yn bennaf. Mae'r gyllideb hon yn rhoi manylion am yr addasiadau amrywiol eraill sydd i'w gwneud i'n cyllideb yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys newidiadau i floc Cymru, diwygiadau i'r rhagamcanion gwariant a reolir yn flynyddol a throsglwyddiadau eraill rhwng, ac o fewn, portffolios gweinidogol. Hoffwn ddiolch eto i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu ar y gyllideb atodol, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi. Diolch.

16:20

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mi gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 14 Chwefror i drafod yr ail gyllideb atodol gan y Llywodraeth ar gyfer 2018-19. Wrth ystyried y gyllideb atodol hon, mi oedd y pwyllgor yn gymharol fodlon. Serch hynny, rŷn ni wedi gwneud nifer o argymhellion yr hoffem ni eu gweld nhw’n cael eu gweithredu a’u datblygu. Yn gyntaf, mae’r pwyllgor yn cydnabod mae proses barhaus a hirdymor i Lywodraeth Cymru yw cyflawni uchelgeisiau Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn siomedig o weld mai prin yw’r dystiolaeth o ran sut mae’r Ddeddf yn cael ei hystyried wrth wraidd holl benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Felly, rŷn ni’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n darparu cynllun cynhwysfawr ar gyfer pennu amcanion, yn amlinellu sut y mae’n bwriadu cyflawni gofynion y Ddeddf, yn enwedig o ran cyllidebu, ac i wneud hynny erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

Gan droi at ffordd liniaru bosib yr M4, mae’r gyllideb atodol hon yn ymrwymo £27.8 miliwn i’r project, ac rŷn ni’n cydnabod, wrth gwrs, nad oes penderfyniad wedi bod eto o ran bwrw ymlaen ai peidio â’r ffordd liniaru. Ond, mi oedd y pwyllgor yn synnu o glywed, o ystyried yr arian sydd eisoes wedi ymrwymo i’r prosiect, nad oes unrhyw drafodaeth wedi bod rhwng y Gweinidog cyllid a’r Prif Weinidog o ran cynllunio ar gyfer ffordd liniaru bosib yr M4. Os caiff penderfyniad ei wneud i fwrw ymlaen â’r ffordd liniaru, yna rŷn ni’n argymell y dylai’r Gweinidog a’r Prif Weinidog gychwyn trafodaethau ar gynllunio cyllido hirdymor yn fuan.

Mae dyraniadau’r gyllideb atodol yn cynnwys £9.5 miliwn gyda’r amcan o ad-drefnu’r gweithlu yn Llywodraeth Cymru. Fe wnaethon ni glywed tystiolaeth fod y Llywodraeth yn ceisio dod â sgiliau newydd i mewn, ac efallai hefyd greu swyddi i gefnogi Brexit. Ond doedd dim ffigurau ar gael am arbedion na chostau gwirioneddol. Bydden ni yn disgwyl i gynllun o’r fath werth arwain at arbedion i’r sefydliad. Felly, rŷn ni yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am ganlyniad y cynllun ymadael gwirfoddol, yn dangos sut y defnyddiwyd yr arian hwnnw a pha arbedion fydd yn cael eu cyflawni yn y tymor hwy.

Gan symud ymlaen at iechyd a gofal cymdeithasol, fe wnaethon ni glywed tystiolaeth bod £20 miliwn wedi cael ei neilltuo dros y gaeaf blaenorol i liniaru’r pwysau disgwyliedig ar y byrddau iechyd. Nawr, rŷn ni’n cydnabod bod pwysau’r gaeaf yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond, yn y Deyrnas Unedig, rŷn ni’n credu bod modd rhagweld y mathau hyn o bwysau, i raddau helaeth. Mae’r pwyllgor yn argymell, felly, fod cynllunio ariannol yn y dyfodol ar gyfer y byrddau iechyd yn cyfri am wariant y mae modd ei ragweld ar gyfer pwysau’r gaeaf, a hynny cyn gynted â phosib yn y broses gyllidebu. Byddai hyn yn osgoi, wedyn, yr angen am gyllid sylweddol yn ystod y flwyddyn, a gallai hefyd leddfu pryderon y pwyllgor y gallai prif grŵp gwariant—y MEG—iechyd fod yn rhyw fath o gronfa wrth gefn yn ei hun ar gyfer darparu cyllid iechyd ychwanegol.

Gan droi at Brexit, mae'r pwyllgor yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r swm canlyniadol llawn yn ymwneud â Brexit ar gyfer paratoadau i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae pryder bod yr ansicrwydd am y ffordd y mae’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ar lefel y Deyrnas Unedig, yn achosi risg sylweddol i waith cynllunio Llywodraeth Cymru. Rŷn ni’n cefnogi sylwadau Llywodraeth Cymru y byddai'n troi at Lywodraeth y Deyrnas Unedig os bydd senario ‘dim cytundeb’ i sicrhau unrhyw gyllid perthnasol ac y byddai'n disgwyl cael ei hysbysu am ddatblygiadau os bydd y senario hon yn codi.

Yn olaf, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyfle i drafod y memorandwm esboniadol y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i ddarparu cyn iddo gael ei osod. Mae'r Comisiwn, am y tro cyntaf, yn dychwelyd tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau i gronfa gyfunol Cymru, ac rŷn ni'n croesawu hyn.

Mae'r pwyllgor hefyd yn fodlon gyda'r memorandwm esboniadol y mae'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi'i ddarparu. Serch hynny, mae'n gobeithio, wrth baratoi amcangyfrifon a chyllidebau atodol yn y dyfodol, y bydd yr ombwdsmon yn ystyried argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch sut y dylid cyflwyno'i gyllideb a pha wybodaeth sy'n cael ei darparu i gefnogi ei alwadau i sicrhau tryloywder. Felly, gyda hynny o sylwadau, mae hwn wedi bod yn gyfle i mi gyfleu safbwynt y Pwyllgor Cyllid, ac rwy’n edrych ymlaen i’r Llywodraeth, wrth gwrs, ymateb yn bositif i’n hargymhellion ni.

16:25

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ar y gyllideb atodol ger ein bron. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei pharodrwydd i gyfarfod ac i ymgysylltu yn ystod y broses o bennu'r gyllideb hon? Cefais lawer o drafodaethau defnyddiol gyda'ch rhagflaenydd, ac rwyf yn falch bod yr ysbryd hwnnw o gydweithredu wedi parhau. Rwyf yn falch hefyd o gael cymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb atodol a byddaf yn cyfeirio at rai o'r casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor yn ystod fy sylwadau heddiw, er bod y Cadeirydd wedi cyfeirio at nifer o'r rheini'n barod.

Mae prif argymhelliad y pwyllgor, Argymhelliad 1, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun nodi amcanion cynhwysfawr i alinio'r gyllideb â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn dod yn ôl at hyn dro ar ôl tro. Un peth yw cael darn o ddeddfwriaeth arloesol fel y ddeddfwriaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, rhywbeth a gafodd ei groesawu gan rannau eraill o'r DU a phleidiau eraill, ond peth arall yw sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno yn ystyried pob agwedd ar bolisi a phennu cyllideb, a'i bod yn cael ei hystyried gan bob adran yn Llywodraeth Cymru. Byddai Steffan Lewis yn cwestiynu drwy'r amser yn y Pwyllgor, a oedd hyn yn digwydd yn ymarferol, a'r hyn a olygai i'r Ddeddf, ac, yn wir, yr holl broses ddeddfu. Nawr, rwy'n sylweddoli nad ar chwarae bach y mae ceisio cyflawni hyn, ond rhaid inni gael mwy o eglurder ar sut y gall ddigwydd fel bydd y ddeddfwriaeth o werth yn y dyfodol. Ni all cyhoeddiadau yn ystod y flwyddyn am weithgareddau

'ddisodli naratif cynhwysfawr cylch y gyllideb'.

Dywedir hyn yn yr adroddiad.

Gan droi at rai o'r newidiadau unigol, a rhai o'r trosglwyddiadau o un MEG i'r llall, fel yr eglurwyd mor huawdl gan y Gweinidog— nid rhywbeth a drafodir mewn clybiau a thafarndai ledled y wlad, rwyf yn siŵr, ond gwyddom ni oll am bwysigrwydd y MEG a'r DEL—. Gan droi at rai o'r newidiadau unigol, ac yn gyntaf, yr un pwysicaf-y gyllideb ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol—mae unrhyw arian ychwanegol ar gyfer y gyllideb iechyd, wrth gwrs, i'w groesawu. Mae fy mhlaid i wedi bod yn galw am yr arian ychwanegol hwnnw ar gyfer y gyllideb iechyd am gyfnod hir, ac mae'r £5 miliwn sy'n cael ei gyhoeddi—rhan, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o'r £15 miliwn a addawyd yr haf diwethaf—i'w groesawu.

Ond, mae'n rhaid ichi ofyn, fel y gwnaeth y Pwyllgor: ai hon yw'r ffordd fwyaf effeithlon o wneud pethau? Credaf, fel y dywedodd Mike Hedges yn y Pwyllgor Cyllid, fod y gaeaf yn dueddol o ddigwydd yn rheolaidd-bob blwyddyn—ac mae'r Llywodraeth yn gwybod y bydd yna bwysau bob blwyddyn, ac mae byrddau iechyd lleol yn gwybod y bydd yna bwysau bob blwyddyn. Efallai nad ydynt yn gwybod yn union beth fydd y pwysau hynny, ond gwyddom y byddant yn dod bob blwyddyn, ac eto, bob amser, ceir y math hwn o syndod yn y Pwyllgor gan y Llywodraeth fod y gaeaf ar ein gwarthaf a bod pob mathau o broblemau yn digwydd, pethau y gellid ac y dylid, wrth gwrs, eu rhagweld, o leiaf mewn ffordd gyffredinol. Felly, a allwn ni edrych ar y ffordd y gwneir hyn yn y dyfodol fel y gallwn arfarnu'r sefyllfa'n gynharach yn y flwyddyn a bod cynaliadwyedd ariannu yn cael ei sicrhau? Mae hyn yn gysylltiedig ag argymhellion blaenorol gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr angen am dreigl cyllidebau hirach o fewn y cylch gwleidyddol.

Mae cyllido byrddau iechyd yn parhau i fod yn fan gwan. Mae'n ymddangos eu bod yn gallu amsugno symiau cynyddol o arian sy'n cael ei arllwys iddyn nhw. Wrth gwrs, mae yna ofyn cyfreithiol arnynt i fantoli'r gyllideb  dros gyfnod o dair blynedd, ond nid yw hyn byth braidd yn digwydd, yn sicr nid pob un ohonynt. Mae angen inni gael asesiad llawer cynharach ar effaith pwysau'r gaeaf, yn hytrach na darparu'r arian hwn yn ystod y flwyddyn. Neu o leiaf ni ddylid dibynnu bob amser ar yr ariannu hwn o fewn y flwyddyn, fel bod byrddau iechyd lleol yn cael pob cyfle i gynllunio o flaen llaw ac, yn wir, fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu cysylltu'n well gyda nhw ar y cynllunio hwnnw.

Gan droi at drafnidiaeth a, do Llyr, fe gawsom ni drafodaethau diddorol ar y paratoadau ariannol wrth geisio datrys y tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd—mae'n rhyfeddol beth y gall pâr ffres o lygaid ar y Pwyllgor ei wneud, onid yw? Cawsom ein synnu mai trafodaethau cyfyngedig a gynhaliwyd rhwng y Gweinidog Cyllid a'r Prif Weinidog. Mae'n amlwg y bydd goblygiadau ar gyfer gwariant o brosiect mor fawr os aiff rhagddo, a hefyd, gallu benthyca Llywodraeth Cymru. Mae yna gwestiynau ynghylch y swm o arian a allai fod wedi'i wario gan fod y penderfyniad i fod i gael ei wneud yn wreiddiol ym mis Rhagfyr, a chredaf fod angen inni gael eglurhad am hynny. Rydym yn gwybod bod swm mawr o arian eisoes wedi'i wario ar baratoadau ar gyfer yr M4 os bydd yn mynd yn ei flaen. Beth yn union sydd wedi'i wario ers mis Rhagfyr pan oeddem yn disgwyl, neu pan oedd y rhan fwyaf ohonom yn disgwyl i'r penderfyniad gwreiddiol gael ei wneud? Mae angen i hyn fod yn hysbys.

Heb fynd yn rhy ddwfn i'r mater, mae angen eglurder mor fuan â phosib a yw'r ffordd yn mynd ymlaen. Os nad yw'n mynd i ddigwydd, yna gwyddom pa baratoadau sydd ar waith ar gyfer ateb amgen, boed hynny'n ffordd arall neu ariannu trafnidiaeth gyhoeddus, neu'n gymysgedd o'r ddau; rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar hynny a phenderfynu beth sydd orau, ac mae'r cyhoedd yn disgwyl hynny.

Wrth gwrs, nid yw'n bosib trafod cyllidebu ar hyn o bryd heb gyfeirio at Brexit, ac rwyf yn deall yn llwyr sefyllfa Llywodraeth Cymru fod angen mwy o eglurder ynghylch lle byddwn ni mewn amser cymharol fyr bellach. Ond mae Argymhelliad 8, Llywydd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad llawn ar weithgareddau sy'n ymwneud â'r DU yn gadael yr UE. Ie, rydym yn edrych tuag at Lywodraeth y DU i gyflwyno cynlluniau, ond mae hefyd angen i Lywodraeth Cymru fod yn barod i symud ymlaen yn gyflym iawn pan fydd gennym eglurder i wneud yn siŵr y gallwn wneud y mwyaf o'r sefyllfa wleidyddol newydd yn y DU ac yng Nghymru ar ôl mis Mawrth, neu bryd bynnag y bydd Brexit yn digwydd.

16:30

Mater cymharol dechnegol, wrth gwrs, ydy'r gyllideb atodol yma, felly wnaf i ddim siarad yn hir, ond mae e'n werth nodi mai dyma fydd y gyllideb atodol olaf, dwi'n credu, fel rhan o'r cytundeb dwy flynedd roedd fy mhlaid i wedi'i gytuno gyda Llywodraeth Lafur. Ac rŷn ni wedi medru cyflawni llawer fel rhan o'r cytundeb hwnnw, ac rŷn ni'n dathlu hynny, yn arbennig yn ystod y cyfnod diwethaf yma. Hoffwn i gyfeirio at ddau beth, a dweud y gwir, a all greu sylfeini ar gyfer y dyfodol a gobeithio, wrth gwrs, maes o law, sylfeini y gallwn ni adeiladu arnyn nhw pan dŷn ni yn llywodraethu.

Rwy'n cyfeirio'n bennaf at gynllun yr Arfor sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf, sydd yn gosod mas fframwaith gychwynnol ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau hirdymor rŷm ni'n mynd i wynebu yn y gorllewin, yn y de-orllewin, yn y gogledd-orllewin, yn y gorllewin Cymraeg felly, yn ein heconomi'n fanna sydd, wrth gwrs, nid yn unig yn bwysig o ran polisi datblygu economaidd, ond sydd â sgileffaith eithaf sylfaenol o ran hyfywedd y cymunedau hynny, a hynny wedyn, wrth gwrs, yn effeithio ar ein huchelgais ni o ran sicrhau dyfodol hyfyw o ran y Gymraeg yn yr ardaloedd sydd mor greiddiol i'w ffyniant.

Mae'r rhaglen honno yn un arbrofol, yn un arloesol, oherwydd mae'n rhaid inni wneud pethau o'r newydd; allwn ni ddim cario ymlaen i wneud yr un hen beth gyda'n polisi economaidd ni, polisi economaidd sydd wedi methu'r cymunedau hynny. Mae hynny i'w weld, wrth gwrs, yn y diffyg cyrhaeddiant o ran perfformiad economaidd yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae'n dda i weld cydnabyddiaeth o hynny ar ran y Llywodraeth, a dweud y gwir. Man cychwyn ydy cydnabod eich bod chi'n mynd yn rong, yntefe—y cam cyntaf ydy gwneud rhywbeth gwahanol. Ac er ar raddfa fach o ran buddsoddiad—dim ond £2 filiwn dŷn ni'n sôn amdano i ddechrau—o leiaf dŷn ni wedi medru creu sylfaen ar gyfer meddwl o'r newydd, edrych o'r newydd, a gobeithio y bydd modd maes o law, yn ein tyb ni, wrth gwrs—dim ond trwy ffurfio Llywodraeth Plaid Cymru y byddwn ni'n gallu troi'r rhaglen gychwynnol yma yn rhaglen drawsnewidiol ar gyfer yr ardaloedd hyn.

I’r un cyfeiriad, wrth gwrs, ar lefel genedlaethol, hefyd mae’r rhaglen sydd yn ymwneud â’r economi gwaelodol—foundational economy—yn cydnabod hefyd fod yna ddiffyg sylfaenol wedi bod yng nghyfeiriad polisi economaidd y Llywodraeth. Hynny yw, diffyg pwyslais ar gwmnïau bychain a chanolig eu maint wedi gwreiddio yn yr economi lleol yng Nghymru—grounded firms yn ieithwedd yr ymagwedd neu’r dynesiad yma. Ond hefyd, wrth gwrs, ceisio defnyddio’r levers sydd ar gael inni yn yr economïau yr oedd Hefin David wedi sôn amdanyn nhw—rhai o’r ardaloedd ym Mlaenau’r Cymoedd er enghraifft, sydd ddim wedi cael ffocws digonol ynglŷn â chreu swyddi cynaliadwy, hirdymor, sefydlog, gwerth uchel, cyflog uchel yn yr ardaloedd hynny. Mae’r un patrwm i’w weld ar draws Cymru, ac o leiaf mae yna gydnabyddiaeth, ac fe welon ni hynny yn sylwadau’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb, Lee Waters, dros y penwythnos, fod yna wagle wedi bod yng nghanol polisi economaidd y Llywodraeth Lafur yma ers blynyddoedd. Wel, haleliwia, pan mae yna bechadur yn edifarhau, y cam cyntaf ydy cydnabod bod yna fai, bod yna ddiffyg, bod angen gwneud rhywbeth gwahanol.

Felly, rŷm ni’n croesawu’r ffaith bod yna o leiaf hedyn wedi’i hau yma, wrth gwrs, yn y pen draw, er mwyn sicrhau bod yna brifiant, mae eisiau sicrhau ein bod ni’n troi’r cynlluniau peilot yma a’r buddsoddiad bychan yma, o gymharu, wrth gwrs, gyda’r gyllideb gyfan, yn ganolbwynt, yn graidd i bolisi economaidd, yn hytrach na rhywbeth ar y cyrion, ac yn y blaen. Ond, mae’n siŵr gen i y bydd angen gweld newid gwleidyddol, maes o law, er mwyn sicrhau hynny, ond o leiaf dŷn ni wedi medru gwneud rhyw gyfraniad at greu sylfaen fydd yn ddefnyddiol i ni mewn dwy flynedd a hanner pan wnawn ni gymryd yr awenau.

16:35

Mae gennyf nifer o sylwadau i'w gwneud ar yr ail gyllideb atodol. Mae bob amser yn anfantais dilyn Llyr Gruffydd a Nick Ramsay, sydd yn gwasanaethu ar yr un Pwyllgor â mi, gan fod llawer o'r pethau yr oeddwn i am eu dweud eisoes wedi eu dweud, a dwi ddim yn credu bod pobl eisiau eu clywed am yr eilwaith.

Hoffwn ymateb i rywbeth ddywedodd Adam Price am fentrau bach a chanolig—rhywbeth yr wyf i wedi creu ffwdan amdano ers amser hir iawn. Un o'r gwendidau sydd gennym mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru yw, pan maen nhw'n mynd yn ganolig eu maint, mae llawer gormod ohonynt yn gwerthu i gwmnïau llawer mwy o faint. Ac rydym wedi gweld yn ystod y 12 mis diwethaf fod Alun Griffiths (Contractors) Ltd wedi cael eu cymryd drosodd gan gwmni llawer mwy, ac yn Sir Gaerfyrddin, gwelsom Princes Gate yn cael eu cymryd drosodd gan gwmni llawer mwy. Felly, rydym yn tyfu i fod yn ganolig, yna mae rhywun arall yn cymryd drosodd, ac mae hyn yn broblem gyda'n heconomi y mae angen inni fynd i'r afael â hi.

Y peth arall yw—rydym yn sôn am y cannoedd o filiynau o bunnoedd hyn fel petaen nhw'n symiau dibwys. Dydyn nhw ddim yn symiau dibwys; maent o bwys mawr i economi Cymru. Os  edrychwn ar y cynnydd yn y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU—swm canlyniadol o £155.3 miliwn a'r £138.6 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac rwyf yn mynd i fynd yn fanwl drwy hyn gan fy mod am godi rhywbeth ar y diwedd: £47.3 miliwn yng nghyflogau'r GIG; £24 miliwn yng nghyflogau meddygon a deintyddion; Cronfa Risg Cymru—£30 miliwn; arian ychwanegol i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy ar gyfer orthopedeg ac offthalmoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—£24 miliwn; arian ar gyfer pwysau'r gaeaf i'r gwasanaethau cymdeithasol—£4 miliwn; a chostau trosiannol sy'n gysylltiedig â newid ffin Ogwr—£3 miliwn. Felly, a oes modd i bobl, efallai, roi rhywfaint o ystyriaeth i'r ffaith nad yw uno pethau yn niwtral o ran cost a bod yna dreuliau ynghlwm â'r peth? Mae pobl fel petaent yn dweud bod uno yn mynd i arbed llawer o arian. Pe bai hynny'n wir, byddai hyn yn niwtral o ran cost, oherwydd dim ond symud o un Bwrdd Iechyd i'r llall sy'n digwydd yma. Nid yw wedi bod yn niwtral o ran cost; mae yna gostau pellach wrth newid.

Y pwynt yr wyf am ei wneud, fodd bynnag, yw mai dim ond £4 miliwn o'r gyllideb gwasanaethau iechyd a chymdeithasol sydd wedi mynd at y gwasanaethau cymdeithasol neu ychydig dros £1 ar gyfer pawb sy'n byw yng Nghymru. I'w ychwanegu at hwnnw, £15.6 miliwn i gefnogi datblygiad athrawon, gan gynnwys £8.1 miliwn i ariannu costau ychwanegol dyfarniad cyflog athrawon o'r meithrin i flwyddyn 11; £7.5 miliwn i helpu awdurdodau lleol i gyfarfod â phwysau costau addysg; £50 miliwn ar gyfer y rhandaliad cyntaf o becyn cyfalaf £100 miliwn dros dair blynedd; £20 miliwn ar gyfer y rhandaliad cyntaf o'r pecyn adnewyddu priffyrdd cyhoeddus £60 miliwn dros dair blynedd; a £26 miliwn ar gyfer y gronfa drafnidiaeth leol. Felly, adiwch y rheini at ei gilydd; mae llywodraeth leol wedi dod allan o'r ail gyllideb atodol yn wael unwaith eto. Daw llywodraeth leol allan o'r rhan fwyaf o gyllidebau yn wael. Rydym yn sôn am yr economi sylfaen; mae pawb yn sôn am y sylfaen a pha mor bwysig ydyw. Nid oes dim yn  bwysicach mewn cymdeithas sylfaen na gwasanaethau llywodraeth leol a gefnogir gan wariant llywodraeth leol. Credaf fod gwir angen inni ddychwelyd at gredu, os ydym eisiau gwella ein heconomi, y bydd cael pobl wedi eu haddysgu'n well yn ein helpu, bydd gwella nifer y bobl sydd â sgiliau yn ein helpu, a bydd cynnal y nifer fawr iawn o bethau y mae'r awdurdodau lleol yn eu gwneud, gan gynnwys gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth, yn ein helpu.

Ynglŷn â'r M4, rwy'n rhannu pryder y Pwyllgor ynghylch lefel y cyllid sy'n cael ei ymrwymo i brosiect lle mae cymaint o ansicrwydd yn bodoli, a chefnogaf yr argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn darparu manylion ychwanegol ar gynllunio ar gyfer yr M4. A fyddai angen cyllid ychwanegol pe bai'r penderfyniad wedi'i wneud pryd y bwriadwyd ef yn wreiddiol ym mis Rhagfyr? A faint o arian ychwanegol o bosib fydd angen ei ymrwymo cyn gwneud penderfyniad? Mae'n ymddangos i mi fod peidio cymryd penderfyniad amserol yn ddewis drud, ac mae costau'n dod i'r amlwg os mai peidio â bwrw ymlaen yw'r penderfyniad terfynol. Nid yw fy safbwynt i wedi newid. Rwyf yn sgeptig o argyhoeddiad— er, rhaid dweud, nad oes unrhyw ymgais wedi bod i fy argyhoeddi i fod yr M4 yn syniad da.

Ynglŷn â'r gronfa benthyciadau i fyfyrwyr, mae rhywun yn mynd i ddweud wrthyf nad arian parod Llywodraeth Cymru yw hwn, yn hytrach cronfeydd anghyllidol wrth gefn ydyw; nid yw hynny o bwys, gan nad yw'n effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i wario. Yr hyn a ddywedaf yw hyn: mae'n dod o gyfanswm gwariant San Steffan, felly bob tro y daw arian allan o hwn, yn y pen draw mae gennym lai o arian ar gyfer ein cyfran fformiwla Barnett o'r swm a ddaw. Yn wir gwelwn bob blwyddyn fod hyn yn cynyddu. Rwy'n tynnu sylw at y peth bob blwyddyn; bydd y Prif Weinidog yn cofio am hyn pan oedd yn Weinidog Cyllid. Er nad yw'n arian parod, fe gaiff yr effaith honno. Ac rwyf yn dweud bod hyn yn digwydd bob blwyddyn; nid yw'r rhaglen benthyciad i fyfyriwr yn gweithio. Mae angen i bobl sylweddoli hynny. Rywbryd, bydd raid ei dileu, neu ei diddymu, neu beth bynnag y mae'r cyfrifwyr eisiau ei wneud, ond mae rhaid i rywun wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae'n gynyddol gostus i Drysorlys San Steffan, ac mae bron fel cael Trident arall.

Yn olaf, credaf fod angen inni gael trafodaeth ar ryw bwynt ar gyfalaf trafodiadau, sy'n cael ei grybwyll ym mhob cyllideb—yn frysiog fel arfer— a chredaf fod angen inni drafod i ble mae'n mynd, sut y caiff ei wario, a sut y bydd yn cael ei dalu'n ôl.

16:40

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb yn uniongyrchol i rai o'r pwyntiau a godwyd yn y Siambr heddiw, a byddaf yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion y pwyllgor maes o law.

Roedd llawer iawn o ddiddordeb yn y pwyllgor craffu ynghylch y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ei bod wrth wraidd ein penderfyniadau ynghylch y gyllideb, ac mae nifer o ddyraniadau allweddol o fewn y gyllideb sy'n gwella ein hymrwymiadau yn 'Symud Cymru Ymlaen' a 'Ffyniant i Bawb', sydd, wrth gwrs, â chysylltiad agos iawn â nodau Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y rhai hynny'n cynnwys: cyllid ychwanegol ar gyfer y gronfa drafnidiaeth leol, er enghraifft, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a Sipsiwn/Roma/Teithwyr, ynghyd â chyllid prydau ysgol am ddim.

Cyfarfûm â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yr wythnos diwethaf i drafod ein dull o bennu cyllidebau, a byddaf yn cyfarfod â hi eto, gydag uwch dîm o swyddogion, i gael trafodaeth ar y gwersi a ddysgwyd o'r sesiwn gynllunio ddiwethaf ar gyfer y gyllideb, i archwilio sut y gellir mynd ati i wneud yn siwr ein bod yn parhau i sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dod yn weithredol drwy ein proses gyllidebol. Yn sicr, byddaf yn cael trafodaethau gyda phob un o'm cyd-aelodau yn y Cabinet wrth inni fynd ati i bennu'r gyllideb yn ystod y flwyddyn nesaf, o ran sut bydd y dyraniadau ariannol i'r adrannau hynny'n esgor ar weithredu'r Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.

Cydnabyddais, wrth ymateb i'r Pwyllgor Cyllid, fod ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn broses esblygol, a bod angen newid diwylliannol na fydd yn digwydd dros nos. Ond rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau mai'r pum ffordd hynny o weithio yw'r sylfaen sy'n llywio ein holl weithgareddau. Yn sicr, ers 2016-17, rydym wedi gwella'r modd yr ydym yn adlewyrchu'r ffordd y mae'r Ddeddf yn ymwneud â'n penderfyniadau gwariant yn naratif pob cyllideb ddrafft, a byddaf yn sicr yn ceisio sicrhau bod y broses hon yn parhau, a bod y gwelliant yn parhau wrth inni symud ymlaen.

Gwnaed nifer o gyfeiriadau at y gwariant ar yr M4, y cyfeirir ato yn yr ail gyllideb atodol—clustnodwyd £27.8 miliwn ar gyfer cwblhau'r broses statudol a chefnogi gweithgareddau hanfodol ac ymchwiliadau wrth ystyried y prosiect, megis arolygon amgylcheddol, er enghraifft. Bydd hefyd yn cwmpasu gweithgareddau posib a fydd yn darparu gwerth am arian paratoadau wrth gefn os bydd y cynllun yn mynd rhagddo. Felly, rhai enghreifftiau o'r math hwnnw o wariant, a roddais i'r Pwyllgor wrth graffu oedd data arolwg ecolegol, sy'n gorfod bod yn barhaus dros nifer o flynyddoedd cyn adeiladu, er enghraifft, a dargyfeiriadau cyfleustodau sy'n cynnwys deunyddiau lle mae angen cyfnod hir ac yn golygu lefelau uchel o risg i'r rhaglen adeiladu.  Byddai atal y paratoadau dibynnol hynny gyda chyfleustodau yn arwain at gostau sylweddol gyda goblygiadau i'r rhaglen petai'r cynllun yn parhau, gan y byddai'r amser dilynol fyddai ei angen yn gohirio'r gwaith a gwaith prosiect dilynol eraill sy'n dibynnu arno. Mae gwariant hefyd yn cwmpasu materion fel yr Arolygiaeth Gynllunio a chostau cyfreithiol i gwblhau'r broses statudol ofynnol ar gytundebau rhyngwyneb Network Rail, ad-dalu costau Cyfoeth Naturiol Cymru a chymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnynt i ddatblygu mesurau i leddfu effeithiau pe byddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen.

Gallaf gadarnhau fy mod wedi cael y trafodaethau y byddech yn disgwyl i mi eu cael gyda swyddogion i ddeall y prosiect, i archwilio materion yn ymwneud â fforddiadwyedd a gwerth am arian, er enghraifft, a materion yn ymwneud â phroffil er mwyn i mi fod yn gwbl gyfarwydd gyda'r opsiynau pe bai'r penderfyniad i barhau gyda'r prosiect yn cael ei wneud.

O ran y cynllun ymadael gwirfoddol a drafodwyd yn ystod y Pwyllgor, manylion cyfyngedig yn unig a lwyddais i'w rhoi yn y Pwyllgor, gan fod hon yn broses sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ond byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn diweddaru'r Pwyllgor maes o law.

Ynglŷn â phwysau'r gaeaf, mae hon yn drafodaeth y byddaf yn sicr yn ei chael gyda fy nghyd-aelod, y Gweinidog Iechyd yn ein cyfarfod dwyochrog arfaethedig. Ond byddwn yn dweud, o ystyried natur, amseriad a hyd pwysau'r gaeaf, y gallant amrywio o flwyddyn i flwyddyn a fesul ardal Bwrdd Iechyd. Felly mae angen yr elfen honno o hyblygrwydd, rwy'n credu, o ran dyrannu cyllid ychwanegol i ymateb i'r pwysau hynny. Ond, unwaith eto, mae hwn yn argymhelliad gan y Pwyllgor y byddaf yn ymateb iddo maes o law.

Rwy'n wirioneddol groesawu cefnogaeth y Pwyllgor i sefyllfa'r Llywodraeth o ran potensial Brexit heb gytundeb a'r disgwyliad y byddai gennym fod Llywodraeth y DU yn rhoi cyllid ychwanegol i Gymru. Rwy'n siomedig â'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU o ran ei sefyllfa. Wrth gwrs, mae gennym ddatganiad y gwanwyn yr wythnos nesaf ac mae'r Canghellor wedi dweud yn flaenorol y gallai hyn fod yn ddigwyddiad ariannol llawn. Ond eto i gyd cefais drafodaethau yn y cyfarfod cyllid pedair ochrog yn ddiweddar gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a ddywedodd y byddai datganiad y gwanwyn yn ddigwyddiad gweinyddol yn unig. Felly, mae yna negeseuon gwahanol yn dod o gyfeiriad Llywodraeth y DU, ond rwy'n croesawu cefnogaeth y Pwyllgor i'n safbwynt.

Yn olaf, dywedodd Adam Price  mai dyma'r digwyddiad cyllidebol terfynol yn ein cytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru. Hoffwn gofnodi fy niolch am y modd adeiladol y mae Plaid Cymru wedi ymgysylltu â ni o ran y cyd-flaenoriaethau yr ydym wedi eu nodi drwy'n proses pennu cyllideb, ac unwaith eto, diolchaf i'r Aelodau am eu cyfraniadau.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried

Sy'n dod â ni at y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud y cynnig hwnnw.

Cynnig NNDM6984 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM6985 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 5 Mawrth.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl ar NNDM6985—Trafodaethau ar Ymadael â'r UE

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Gareth Bennett, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Sy'n caniatáu inni nawr symud i gynnal y ddadl ar drafodaethau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i wneud y cynnig—Jeremy Miles. 

Cynnig NNDM6985 Rebecca Evans, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU.

2. Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg.

3.  Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig gyfan.

Cynigiwyd y cynnig.

Llywydd, am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd o ddatganoli, bydd dwy Senedd—ein Senedd ni a Senedd yr Alban—yn trafod ac yn pleidleisio ar yr un cynnig ar yr un pryd. Mae hyn yn ei hun yn arwyddocaol, ond mae hefyd yn rhywbeth mwy. Mae'n arwydd o ba mor ddifrifol yw'r bygythiad sy'n wynebu Cymru, yr Alban a'r Deyrnas Unedig yn gyfan, sef bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ein harwain at bosibilrwydd o Brexit heb gytundeb ar ôl bron i ddwy flynedd o ymddygiad cwbl ddi-glem yn y trafodaethau. Gobeithio y gallwn ni a'n cyfeillion yn yr Alban anfon neges glir fod modd osgoi'r bygythiad hwn a bod yn rhaid gwneud hynny.

Llywydd, mae hi'n amlwg bod Prif Weinidog y DU wedi colli ymddiriedaeth y Senedd. Mae hi wedi bod yn gwyro o un ochr y ffordd i'r llall, yn ceisio plesio yn gyntaf y Brexitwyr yna'r arhoswyr yn ei rhengoedd ei hun yn hytrach na gosod cwrs cyson. Mae'r ffordd y mae hi yn ein gyrru ni ar ei hyd yn dal i arwain at ymyl dibyn.

Yn gyntaf fe gawsom ni'r oedi gyda'r bleidlais ystyrlon ym mis Rhagfyr, yna cytundeb y Prif Weinidog yn cael ei drechu mewn modd na welwyd ei debyg erioed o'r blaen. Yna, yn hytrach nag estyn allan mewn gwirionedd ar sail drawsbleidiol, mae'r Prif Weinidog yn ceisio tawelu'r eithafwyr yn ei rhengoedd ei hun, a mynd ar drywydd strategaeth o ganiatáu i amser ddirwyn i ben. Ac yn fwy enbyd na dim, cytunodd i welliant Brady, sydd mewn gwirionedd yn torri'r cytundeb yr oedd hi wedi dod iddo gyda'n 27 partner yn yr UE—cytundeb yr oedd hi wedi dweud dro ar ôl tro ac mewn pob difrif calon wrth Dŷ'r Cyffredin oedd y gorau a oedd ar gael. Pan yr oedd Prif Weinidog Cymru ym Mrwsel yr wythnos diwethaf roedd yn gwbl grediniol fod y tro pedol llwyr yma wedi tanseilio nid yn unig hygrededd personol Prif Weinidog y DU, ond ewyllys da tuag at y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Yna, yr wythnos diwethaf, yn wyneb gwrthryfel gan rai o aelodau mwy rhesymol ei chabinet, taflodd lwch unwaith eto i lygaid ei ASau, gan addo pleidlais gyfrwymol ar estyniad i Erthygl 50 ar yr unfed awr ar ddeg dim ond petai ei chytundeb yn cael ei wrthod unwaith eto, a phetai'r Senedd yn ailadrodd ei barn sy'n berffaith glir fod ymadael heb gytundeb yn annerbyniol.

Llywydd, onid yw hi'n dweud cyfrolau, er i Brif Weinidog y DU roi ei gair ar y gyfres hon o bleidleisiau, bod Aelodau Seneddol yn dal yn teimlo rheidrwydd i bleidleisio ar welliant sy'n dweud yr un peth yn union er mwyn pwyso ar y Prif Weinidog i anrhydeddu ei haddewid? Ac onid yw hi'n fwy arwyddocaol, er gwaethaf y Llywodraeth a meinciau blaen y gwrthbleidiau yn cefnogi'r gwelliant hwn, y pleidleisiodd 20 o Frecsitwyr Ceidwadol yn ei erbyn, ac i fwy nag 80 o Aelodau Seneddol Ceidwadol a phawb ond un o Aelodau'r DUP ymatal. Pe byddai angen mwy o dystiolaeth fod yr eithafwyr hyn yn barod i dynnu'r carped o dan y Prif Weinidog ar adeg o'u dewis eu hunain, dyna'r dystiolaeth.

Ac eto mae'r Llywodraeth yn dal i ddiystyru ymadael heb gytundeb. Gallai Prif Weinidog y DU roi'r ymrwymiad hwnnw ac mae hi wedi gwrthod. Sut all y Prif Weinidog gyfiawnhau'r datganiad y bydd y Llywodraeth yn y pen draw yn gwneud llwyddiant o ymadael heb gytundeb? Hyn ar yr un diwrnod ag yr oedd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei hasesiad o beth fyddai ymadael heb gytundeb yn ei olygu—dadansoddiad sy'n ei gwneud hi'n gwbl glir nad yw Llywodraeth y DU yn agos o gwbl i fod yn barod ar gyfer canlyniad o'r fath. Yn ôl eu hasesiad eu hunain, dim ond dwy ran o dair o brosiectau mwyaf allweddol Llywodraeth y DU o ran ymadael heb gytundeb sydd ar y trywydd iawn. Mae llai na chwarter y busnesau hynny sydd ar hyn o bryd yn allforio i'r UE wedi gwneud cais am y ddogfennaeth fydd ei hangen arnyn nhw i barhau i wneud hynny mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb. O ran masnach, mae sicrwydd yr Ysgrifennydd masnach y byddai holl gytundebau masnach presennol yr UE ar waith erbyn 29 Mawrth yn deilchion. Ni fydd cytundebau ar waith ar gyfer rhai o'r prif wledydd masnachu y tu allan i'r UE, gan gynnwys Japan a Thwrci. Rydym ni'n dal i aros, gyda thair wythnos ar ôl, i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynigion ar gyfer tariffau'r DU mewn achos o ymadael heb gytundeb. Heb gefnogaeth seneddol ar gyfer y rhain, nid yn unig bydd cwmnïau yn y DU yn wynebu rhwystrau tariff a di-dariff newydd mor uchel ag 87 y cant ar allforion cig eidion wedi'u rhewi, o leiaf 45 y cant ar allforion cig oen, a 10 y cant ar gerbydau gorffenedig yn y diwydiant ceir, gallent hefyd fod ar eu colled oherwydd cystadleuaeth mewnforion di-dariff o bob math o nwyddau o bob rhan o'r byd.

Nid yw'n syndod bod holl sefydliadau busnes y DU wedi galw ar y Llywodraeth i ddiystyru ymadael heb gytundeb. I ddyfynnu Adam Marshall o Siambrau Masnach Prydain, Mae'n bryd, dywedodd,

bod yn onest. Nid yw'r Llywodraeth a'i hasiantaethau yn barod i ymadael heb gytundeb ar 29 Mawrth. Nid yw llawer o fusnesau chwaith.

Aiff yn ei flaen:

Y brif flaenoriaeth o bell ffordd yw sicrhau busnesau, gweithwyr, buddsoddwyr a chymunedau na chaiff y sefyllfa nad oes mo'i heisiau o ymadael heb gytundeb ddigwydd yn ddiofyn ar 29 Mawrth.

Ond mae'r cynnig ger ein bron heddiw yn gwneud mwy na dim ond galw am ddiystyru ymadael heb gytundeb. Mae'n mynnu bod yn rhaid diystyru ymadael heb gytundeb fel strategaeth dderbyniol ar unrhyw adeg. Oherwydd nid yw difrod ymadael heb gytundeb dim ond ynglŷn â'r risg o anhrefn tymor byr yn ein porthladdoedd, amharu ar gyflenwadau bwyd a meddyginiaethau a chadwyni cyflenwi i'r funud, nid yw dim ond ynglŷn â phroblemau gofal iechyd dramor ar gyfer pobl sy'n mynd ar eu gwyliau, colli pasbortau anifeiliaid anwes neu sicrwydd yswiriant awtomatig i yrwyr yn yr UE, nid yn unig am ysgytiadau economaidd tymor byr, er mor sylweddol y bydd y rhai hynny; mae'r bygythiad o ymadael heb gytundeb yn un o ddifrod strwythurol hirdymor i'n heconomi. Mae pob dadansoddiad economaidd credadwy yn dangos y bydd difrod economaidd hirdymor sylweddol yn sgil Brexit heb gytundeb, gyda'r economi tua 10 y cant yn llai nag y byddai fel arall. Mae graddfa'r effaith hon yn debyg i'r math o ganlyniadau a welsom ni yn dilyn yr argyfwng ariannol, ond y tro hwn, yn anhygoel, bydd yn ganlyniad dewis ymwybodol gan Lywodraeth y DU.

Ac nid yw economi llai ynglŷn ag ystadegau a modelau a graffiau, mae'n ymwneud â swyddi a bywoliaethau. Bydd incwm pobl hefyd yn is nag y byddai wedi bod—tua £2,000 y pen yng Nghymru. Bydd llai o refeniw treth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn gwaethygu effeithiau'r degawd coll ers y dirwasgiad. Ac, os cawn ni ein gyrru dros ddibyn Brexit, mae perygl inni danseilio ein heconomi yn hirdymor a chwalu'r diwydiant ar raddfa na welwyd ers y dad-ddiwydiannu y gwyddom ni y distrywiodd cymunedau ledled Cymru yn y 1980au.

Ac ni ellir osgoi hyn gyda thactegau ac ystrywiau Seneddol, fel mae Prif Weinidog y DU yn gobeithio. Mae angen arweinyddiaeth. Mae angen newid mewn strategaeth. Nid yw hi'n fawr o gysur osgoi ymadael heb gytundeb mewn tair wythnos ond i orfod wynebu hynny eto mewn tri mis. Ac er na fydd ar unrhyw un yn yr UE eisiau canlyniad o ymadael heb gytundeb, bydd sefyllfa o'r fath yn llai niweidiol i 27 gwlad yr UE ar ôl yr etholiadau Ewropeaidd nag y byddai cyn y rheini. Felly, rydym ni'n galw ar y Llywodraeth i ddiystyru ymadael heb gytundeb yn llwyr. Ac mae hyn yn fater o frys. Eisoes mae effeithiau rhagweld ymadael heb gytundeb i'w teimlo, gyda buddsoddwyr yn ymadael â'r DU neu'n terfynu cynlluniau buddsoddi, a bydd yr effeithiau yn gwaethygu bob dydd y caniateir i'r ansicrwydd hwn barhau. Drwy fethu â diystyru ymadael heb gytundeb, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu'n fyrbwyll â bywoliaeth aelwydydd ym mhob cwr o'r DU.

Nid yw estyniad i erthygl 50, ar ei ben ei hun, yn ddigonol, ond mae'n angenrheidiol i sicrhau nad oes gennym ni Brexit heb gytundeb drwy ddamwain ymhen tair wythnos, a'r amser i atal hynny yw nawr. Mae 27 gwlad yr UE yn glir, er y byddent yn cefnogi estyniad, rhaid i Lywodraeth y DU roi rheswm clir ar ei gyfer. Ni fydd amser ychwanegol er mwyn gwamalu ac amwysedd yn perswadio ein partneriaid ac ni fydd yn llesol i'r DU. Yr hyn y mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ei wneud yw rhoi awgrym clir o'i bwriad i weithredu'n bendant, naill ai i ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol a gwneud ymrwymiad statudol i'r berthynas economaidd agosaf bosib â'r UE sy'n gydnaws â pheidio â bod bellach yn aelod-wladwriaeth—sefyllfa y credwn y gall hawlio mwyafrif sefydlog yn Nhŷ'r Cyffredin a chefnogaeth 27 gwlad yr UE—neu, yn absenoldeb hynny, i gynnal pleidlais gyhoeddus ar y ffordd ymlaen.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant UKIP ac, am wahanol resymau, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Nid yw cefnogi'r cynnig hwn mewn unrhyw fodd yn tanseilio ein safbwynt fel plaid nac fel Llywodraeth Cymru o ran cael refferendwm. Rydym ni wedi dweud ar goedd fel plaid a Llywodraeth ein bod yn cefnogi refferendwm fel ffordd o ddatrys hyn. Mae'r cynnig hwn, fodd bynnag, wedi'i ddrafftio mewn ffordd sy'n ein galluogi i anfon neges syml ac unedig rhwng Cymru a'r Alban nad ydym ni eisiau Brexit heb gytundeb a bod yn rhaid dileu'r bygythiad yn awr.

16:55

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Neil Hamilton. 

Gwelliant 1—Gareth Bennett

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn dwyn i gof fod Llywodraeth y DU, cyn y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi anfon llyfryn at bob aelwyd yn y Deyrnas Unedig, yn datgan, o dan y pennawd 'Penderfyniad Unwaith Mewn Cenhedlaeth', 'Cred y Llywodraeth mai pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U.', ond hefyd, 'Chi sydd i benderfynu. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eich penderfyniad.'.

2. Yn credu mai modd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 fyddai orau, ond yn penderfynu, os na ellir cael cytundeb rhwng y Deyras Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, na ddylid ymestyn proses Erthygl 50, gan y byddai hyn yn parhau'r ansicrwydd ac yn bradychu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig, a bleidleisiodd yn bendant dros adael yr UE.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn y tebygolrwydd y byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, a chanolbwyntio ein holl ymdrechion erbyn hyn ar baratoi ar gyfer y canlyniad hwn.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gofynnaf am gael cynnig y gwelliant yn enw Gareth Bennett.

Rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol yn gyfeiliornus yn y bôn yn ei araith yn trin o ddifrif rhai o'r pethau a ddywedodd Prif Weinidog y DU. Nid wyf yn credu y bu hi erioed eisiau ymadael heb gytundeb; nid wyf yn credu y bu hi erioed mewn gwirionedd eisiau gadael yr UE mewn unrhyw fodd ystyrlon o gwbl, a bod yr holl adlamu a ddisgrifiodd a'r holl ddatganiadau diystyr a difeddwl a gafodd eu llyncu cyn gynted ag y daethon nhw allan o'i cheg yn ddim byd ond castiau i gael ei hun drwy'r argyfwng gwleidyddol diweddaraf a ddaeth iddi drwy ei hanghymhwysedd ei hun.

Ond gadewch inni fynd yn ôl i'r adeg cyn y refferendwm yn 2016 ac edrych ar y ddogfen a anfonodd y Llywodraeth, ar ein cost ein hunain, i bob un cartref yn y wlad, y ddogfen hon a ddarluniodd pob math o erchyllterau ynglŷn â gadael yr UE, a gynlluniwyd i geisio dychryn pobl i bleidleisio yn y refferendwm i aros. Ar un dudalen, o dan y pennawd, 'penderfyniad unwaith mewn cenhedlaeth'—mae cenhedlaeth yn 25 mlynedd—refferendwm unwaith mewn cenhedlaeth, dywedodd hyn:

Mae'r Llywodraeth yn credu mai'r peth gorau i'r DU yw aros yn yr UE.

Ac yna mae'n dweud,

Eich penderfyniad chi yw hwn. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu'r hyn y byddwch chi yn ei benderfynu.

Fe wnaeth y bobl benderfynu: fe wnaethon nhw bleidleisio i adael yr UE, a dyna ddiwedd arni. Nid oedd unrhyw amwysedd yn y cwestiwn. Roedd hi'n berffaith amlwg: roeddem ni naill ai i aros neu i adael, ac fe bleidleisiodd y bobl i adael. Nid wyf yn credu bod Theresa May mewn gwirionedd erioed wedi derbyn y penderfyniad hwnnw, ddim mwy nag y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn, ddim mwy nag y mae Llywodraeth yr Alban yn ei dderbyn, ddim mwy, mewn gwirionedd, nag y mae 500 o Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin sydd eisiau aros—neu y rhan fwyaf ohonyn nhw, ar unrhyw gyfrif—wedi derbyn y canlyniad hwnnw. A'r hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf yw twyll bwriadol wedi ei gynllunio nid yn unig i danseilio canlyniad y refferendwm, ond mewn gwirionedd i'w rwystro'n gyfan gwbl.

Yn etholiad cyffredinol 2017, dywedodd maniffesto'r Blaid Geidwadol:

o dan arweinyddiaeth gref a sefydlog Theresa May, gallwn negodi'r cytundeb gorau posibl ar gyfer ein gwlad... Byddwn yn sicrhau bod gennym ni sicrwydd ac eglurder o ran ein dyfodol, rheolaeth o'n cyfreithiau ein hunain, a Theyrnas Unedig fwy unedig, cryfach...ni fyddwn ni bellach yn aelodau o'r farchnad sengl nac undeb tollau...Rydym ni eisiau negodiadau teg, trefnus, fydd yn tarfu cyn lleied â phosibl ac yn rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl,

a,

rydym ni'n parhau i gredu bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael ar gyfer y DU.

Eto mae gennym ni bellach gytundeb honedig gan Theresa May sydd, yn rhyfeddol, yn penderfynu cadw'r rhan fwyaf o gostau aelodaeth o'r UE gan wfftio'r rhan fwyaf o'r manteision. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Brydain ildio rhan o'i thiriogaeth, mewn gwirionedd, i awdurdodaeth tramor, Gogledd Iwerddon, ac mae'n caniatáu i Frwsel reoli ein masnach â gwladwriaethau nad ydyn nhw'n aelodau o'r UE hyd yn oed ar ôl inni, yn dechnegol, adael yr Undeb Ewropeaidd. Ni fydd gennym ni unrhyw bleidlais; unrhyw feto; dim grym unochrog i adael os derbynnir y cytundeb hwn. Mae'n sarhad ar rai sy'n credu mewn sofraniaeth seneddol; Mae'n sarhad ar rai sy'n credu yn undeb y Deyrnas Unedig; ac yn sicr mae'n sarhad ar unrhyw un sy'n credu yn egwyddor masnach rydd.

Ac, wrth gwrs, gwraidd hyn i gyd yw agwedd negodwyr yr UE eu hunain i'r negodiadau hyn—Michel Barnier, a ddywedodd yn 2016,

Byddaf wedi gwneud fy ngwaith os, yn y pen draw, bydd y telerau ymadael mor ddrwg fel y byddai'n well gan bobl Prydain aros yn yr UE.

Felly, yr hyn a welsom ni yw ymosodiad deublyg dros y ddwy flynedd diwethaf gan negodwyr yr UE ar y naill law a negodwyr Prydain ar y llall. Mae'r prif negodwr, wrth gwrs, yn was sifil yn y ddau achos: nid oes unrhyw wleidydd yn gyfrifol am y broses hon oherwydd bod Theresa May wedi cytuno na fydd hynny'n digwydd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw ymosodiad deublyg wedi ei gynllunio o'r ddwy ochr, mewn gwirionedd, i gael yr un canlyniad, sef, i bob pwrpas, ein cadw yn yr UE.

Ac mae'r amrywiol gonsesiynau a roddwyd i'r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, wrth gwrs, yn eithaf diystyr, oherwydd bu'n rhaid iddyn nhw dderbyn y bydd swyddogaeth barhaus i Lys Cyfiawnder Ewrop ar ôl inni adael; maen nhw wedi gorfod derbyn y bydd gennym ni aelodaeth heb bleidlais o'r UE, dull cymrodeddu unochrog hurt sydd wedi'i greu, a bydd yn rhaid inni dalu o leiaf £39 biliwn i'r Undeb Ewropeaidd am ddim byd o gwbl. Ac mae hynny hyd yn oed heb y cytundeb masnach yr ydym ni i fod i'w gael ar ddiwedd y broses negodi hon.

Yn erthygl 50 o Gytuniad Lisbon, sef Cytuniad yr Undeb bellach, cynlluniwyd y cyfnod dwy flynedd i gwmpasu a chrynhoi'r negodi am berthynas fasnachu Prydain gyda'r UE yn y dyfodol. Os derbynnir y cytundeb hwn, nid ydym ni mewn gwirionedd hyd yn oed wedi dechrau'r broses honno eto, fwy na dwy flynedd ar ôl i'r bobl benderfynu y dylem ni adael. Does dim byd o gwbl yn cael ei gynnig yn gyfnewid am unrhyw beth y mae Theresa May wedi ei ildio.

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Ffermwyr Iwerddon, Joe Healy, yr wythnos diwethaf,

Mae hi'n bwysig iawn na fydd y DU mewn unrhyw gytundeb yn gallu mynd ati i wneud eu cytundebau masnach ei hun â gwledydd eraill.

Dyna hanfod hyn i gyd, yn y pen draw: mewn gwirionedd clymu breichiau Prydain y tu ôl i'w chefn yn ei pherthynas â gwledydd eraill yn y byd fel na fyddwn ni'n gallu manteisio ar y rhyddid o adael yr UE. A chyn belled â bod yr UE dan sylw, datgymalu'r Deyrnas Unedig, gadael y farchnad sengl ar gyfer Gogledd—. Gwahanu Gogledd Iwerddon o'r Deyrnas Unedig yw'r pris y mae'n rhaid inni ei dalu am ein hymadawiad technegol.

Felly, mae hyn, mewn gwirionedd, rwy'n credu, yn sarhad ar bobl Prydain ac ar y penderfyniad a wnaethon nhw ddwy flynedd a hanner yn ôl. Fe wnaeth y Senedd gontractio'r penderfyniad hwnnw i'r bobl, a bellach rydych chi, y gwleidyddion etholedig a roddwyd yma ganddyn nhw a'u pleidlais, yn ceisio tanseilio pobl Prydain eu hunain. Fe allaf i ddweud hyn wrthych chi, os nad ydym ni mewn gwirionedd yn gadael yr UE, yna bydd ffydd pobl mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar ei isaf erioed, ac, yn wir, efallai y bydd pethau'n mynd gryn dipyn yn waeth na hynny.

17:05

Adam Price i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam Price.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai'r ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl, er mwyn galluogi dewis democrataidd rhwng cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer ymadael â'r UE ac aros yn yr UE , ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu ei chynlluniau i gynnal pleidlais o'r fath ar unwaith.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Llywydd, ac rydw i’n symud y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth. Rŷn ni, wrth gwrs, yn gyd-lofnodion i’r cynnig sydd wedi’i gosod gan y Llywodraeth, ac rŷn ni’n croesawu’r cyfle i gydweithio â’n cefndryd Celtaidd yn yr Alban. Mae’n arbrawf arloesol y dylid, efallai, ei efelychu yn y dyfodol mewn cyd-destunau eraill. Rŷn ni, wrth gwrs, yn cyd-fynd yn hollol â'r hyn mae’r cynnig yn ei ddweud ynglŷn â’r ddêl mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ei chyflwyno a’r difrod byddai hynny’n cynrychioli o ran sefyllfa Cymru, ond, wrth gwrs, yn fwy na hynny hyd yn oed, y gyflafan fyddai’n deillio o ganlyniad ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ychydig ddyddiau heb gytundeb o gwbl.

Ond, wrth gwrs, y rheswm pam rŷn ni wedi gosod y gwelliant lawr yw y byddem ni wedi dymuno i’r cynnig fynd yn bellach. Un o’r gwersi, dwi’n meddwl, buaswn i’n cynnig i’r Llywodraeth yw y dylid bod wedi ein cynnwys ni yn y trafodaethau yn amlwg a oedd wedi digwydd er mwyn llunio’r cynnig. Dwi’n cymryd yr oedd y trafodaethau yna wedi digwydd yn yr Alban—neu dyna dwi'n dehongli o’r sefyllfa—ond doedden nhw ddim wedi digwydd fan hyn. Felly, mae’n anodd iawn i ni fod yn rhan o’r broses, felly, a chreu’r math o undod mae’r Llywodraeth yn dyheu am weld oni bai ein bod ni’n cael ein cynnwys yn y trafodaethau hynny.

Ac rwy'n credu bod hynny'n ddyletswydd—. Rydym ni mewn oes beryglus ym mhob ystyr: 24 diwrnod o'r hyn y credaf y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni'n ei dderbyn sy'n drychineb—trychineb i'n heconomi, ond hefyd yn drychineb i'n gwleidyddiaeth a'n sefydliadau gwleidyddol. Mae ymddiriedaeth ar ei hisaf erioed. Mae Neil Hamilton yn gywir yn hyn o beth, o leiaf—nid geiriau y byddwn yn eu dweud yn aml iawn. Ond mae'n ganlyniad, wrth gwrs, i'r math o gelwyddau a oedd wrth wraidd yr ymgyrch refferendwm ac yna, wedyn, y parlys llwyr yr ydym ni wedi ei weld yn San Steffan.

A'r rheswm yr ydym ni'n cynnig y gwelliant hwn yw: nid yw'n ddigon dweud ein bod yn gwrthwynebu ymadael heb gytundeb—wrth gwrs ein bod ni—ond ni allwn ni chwaith fod mewn sefyllfa o hwyluso dim cynnydd yn dawel. Felly, mae dadlau'n unig—. Yn wir, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei hun, bydd yr Undeb Ewropeaidd yn disgwyl, wrth gwrs, i unrhyw gais am estyniad i Erthygl 50 fod yn gysylltiedig â diben. Rydym ni ers tro byd wedi dod i'r casgliad mai'r unig ddiben, yr unig ddatrysiad realistig i'r sefyllfa y cawn ni ein hunain ynddi, yw pleidlais y bobl. Gan fod amser bellach yn brin rydym ni mewn sefyllfa lle mae'n rhaid i natur dyngedfennol yr eiliad hon fod yn gyfrifol am yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud ac yn ei wneud, a dyna'r rheswm pam yr oeddem ni'n teimlo ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni i osod y gwelliant hwn, sydd, yn ddigamsyniol, yn galw am bleidlais y bobl. Ac rydym ni, wrth gwrs, wedi gwneud cam bach i'r cyfeiriad hwnnw ym mis Ionawr drwy alw am baratoi ar unwaith—mae'r gwelliant hwn yn mynd ymhellach na hynny oherwydd bod rhaid inni wneud hynny. Mae'n rhaid inni fynd ymhellach na hynny oherwydd mae amser yn brin.

Rwy'n croesawu'r dröedigaeth lwyr a welsom ni gan arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn ystod y dyddiau diwethaf, ond rwy'n poeni oherwydd ymddengys i mi ein bod ni bob amser mewn sefyllfa o un cam ymlaen, dau gam yn ôl. Felly, hyd yn oed heddiw, dyfynnwyd John McDonnell, mewn ymateb i gwestiwn, 'Beth wnewch chi, o ran chwipio Aelodau Llafur yn San Steffan, yn hollbwysig, er mwyn cefnogi'r polisi o bleidlais y bobl?' Dywedodd y cânt eu trin gyda'r 'hwyliau da a'r cyfeillgarwch' arferol. Felly, ni fydd unrhyw oblygiadau o gwbl, ac yn hynny o beth—. Os yw hwn i fod yn ymrwymiad gwirioneddol, yna mae'n rhaid i ni, pob un ohonom ni, uno mewn difrif calon, gyda dim ond wythnosau i fynd i gefnogi'r unig ddatrysiad posib i'r mater hwn ar gyfer ein gwledydd. 

Dyna pam ein bod ni yn gwahodd Aelodau yma—. Rwy'n deall efallai bod gan arweinydd Plaid Lafur yr Alban a'r grŵp Llafur yn yr Alban safbwynt gwahanol ynglŷn â hyn, ond yn y Senedd hon, gyda'r gwelliant ychwanegol hwn—mae'n welliant 'ychwanegol', er mwyn inni allu cytuno ar y testun cyffredin o hyd, ond gadewch i ni, mewn gwirionedd, yn y Senedd hon ddweud yr hyn yr ydym ni i gyd yn ei feddwl, rwy'n credu, ym Mhlaid Cymru ac, rwy'n credu, ar y meinciau Llafur hefyd, a galw'n ddigamsyniol am bleidlais y bobl, oherwydd dyna'r unig ffordd ymlaen.

17:10

Llywydd, nid wyf yn cefnogi Brexit, ond rwyf yn derbyn awdurdod refferendwm 2016 ac nid wyf yn credu y gallwch chi wrthdroi refferendwm. Mae'n rhaid ichi ei weithredu, ac yna gall pobl yn fy sefyllfa i wedyn weithio i graffu arno, ei addasu a hyd yn oed ceisio diddymu'r penderfyniad hwnnw—dyna sut mae democratiaeth yn gweithio.

Ond, nid wyf yn dibrisio difrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. O glywed Neil Hamilton yn sôn fod datgymalu'r DU wedi ei ddylunio gan yr UE, y Brexitwyr hynny yn yr elît a'n gyrrodd i sefyllfa pan bleidleisiodd dwy ran o dair o bobl yr Alban yn erbyn gadael yr UE ac i fwyafrif clir bobl Gogledd Iwerddon wneud yn yr un modd—y tro cyntaf yn eu hanes iddyn nhw wneud dewis cyfansoddiadol sylfaenol yn Ulster a oedd yn fwy tebyg i Weriniaeth Iwerddon na'r Deyrnas Unedig.

Mae angen yn awr imi droi at gytundeb Mrs May, gan fy mod i'n credu'n ddiffuant mai dyna yw'r dewis gorau, oherwydd ei fod, i ryw raddau, rwy'n credu, ac yn sicr o'r holl ddewisiadau sydd ar gael, i'r graddau mwyaf posib, yn adlewyrchu canlyniad refferendwm 2016, sef i'r ochr 'ymadael' ennill, ond bod pleidlais sylweddol—sylweddol iawn—dros aros yn yr UE. Mae cytundeb Mrs May yn Brexit clir, gan ei fod yn sicrhau bod y DU yn gadael strwythurau gwleidyddol ac economaidd yr UE, yn rhoi terfyn ar awdurdodaeth y Llys Ewropeaidd ac yn rhoi terfyn ar ryddid i symud. Nid wyf yn hoffi unrhyw agwedd ar hynny, mae'n rhaid imi ddweud—dyna pam roeddwn i o blaid 'aros'—ond mae yn anrhydeddu, rwy'n credu, bwriadau'r rhai a bleidleisiodd i adael.

Fodd bynnag, mae cytundeb Mrs May hefyd yn cydnabod mai'r UE fydd ein partner economaidd mwyaf ar gyfer y dyfodol rhagweladwy o leiaf ac mae angen inni geisio cael cytundeb masnach cynhwysfawr. Unwaith eto, dywedaf wrth bobl o'r un anian â Mr Hamilton ar yr union adeg y mae Llywodraethau Tsieina a'r Unol Daleithiau yn negodi ffyrdd o danseilio mecanwaith datrys anghydfod Sefydliad Masnach y Byd oherwydd nad ydyn nhw'n hoffi ei wrthrychedd. Dyna'r byd y byddwn ni'n byw ynddo—y blociau pŵer enfawr hyn yn tra arglwyddiaethu, a bydd hyd yn oed pwerau canolig yn gorfod derbyn y telerau gorau a roddir iddyn nhw. Nid yw'n ddarlun dedwydd.

Mae cytundeb Mrs May hefyd yn osgoi'r ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a'r UE wrth geisio datblygiadau technolegol arloesol sy'n gwneud e-ffin yn bosib. Y datblygiadau technolegol arloesol hyn—yr e-ffin hon—y dywedwyd wrthym ni gan Mr Hamilton a'i debyg y byddan nhw'n hawdd eu sefydlu. Nawr, mae'r trefniadau pontio y maen nhw'n yn pryderu a fydd yn ein clymu i'r UE yn cael eu hystyried oherwydd eu bod yn sylweddoli bod y datblygiadau technolegol hynny yn parhau i fod flynyddoedd ar y gorwel, er gwaethaf eich sicrwydd didaro iawn yn gynharach. Rydych chi wedi chwarae gwleidyddiaeth yn llac iawn gyda'r broses heddwch o ganlyniad i beidio â chymryd yr agwedd hon o'r penderfyniad a wnaethom ni o ddifrif.

Yn gryno, mae cytundeb Mrs May yn ddigon o Brexit i hynny allu dal dŵr ac yn rhywbeth a all lunio ein polisi masnachu yn y dyfodol i ryw raddau, pa mor gyfyngedig bynnag, a bod yn sail i berthynas barhaus gyda'r UE. Ar y sail honno, rwy'n ei gefnogi yn llwyr.

Os edrychaf yn gyflym ar y dewisiadau cliriaf eraill, mae Brexit caled ar sail rheolau Corff Masnachu'r Byd ac o bosib wedyn cytundeb masnach rydd gyda'r UE, un ai fel Brexit heb gytundeb i ddechrau fel rhyw fath o ymadawiad wedi'i reoli, yn rhywbeth rwy'n ei dderbyn sy'n dal dŵr. Ond byddai'r therapi sioc a'r risg ynghlwm wrtho yn sylweddol iawn, a byddai'n creu perygl gwirioneddol i'r tlotaf mewn cymdeithas. Ac ni fydd gennym ni unrhyw syniad pa fath o Brydain y byddwn ni'n ei chreu—Singapore-ar-Dafwys, fel y mae rhai wedi ei disgrifio—ond nid wyf yn credu y pleidleisiodd pobl Blaenau Gwent a Sunderland dros hynny.

Byddai Norwy plws, ym mha fodd bynnag, yn ddewis a fyddai'n ein cadw yn y farchnad sengl. Byddem yn cadw elfen o awdurdodaeth y Llys Ewropeaidd, a byddem hefyd yn gwneud taliadau i'r UE. Crynhowyd hyn yn aelodaeth o'r UE heb hawliau pleidleisio, sydd rwy'n ofni, fwy na thebyg yn ddisgrifiad cywir. Nid wyf yn credu y byddai hynny'n adlewyrchu canlyniad refferendwm 2016. Byddem yn gadael yr UE dim ond mewn enw ac mae cytundeb Mrs May yn amlwg yn well na hynny.  

17:15

Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Rydych chi newydd sôn y gallai model Norwy plws o bosib ein cadw mewn gwirionedd yn Llys Cyfiawnder Ewrop, ond byddai mewn gwirionedd yn ein cadw yn Llys Cyfiawnder Gwladwriaethau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, yn hytrach na Llys Cyfiawnder Ewrop, ac, fel y cyfryw, bydd yn sefydliad gwahanol, yn llys gwahanol a dyfarniadau gwahanol.

Ond maen nhw yn gweithredu awdurdodaeth—cyfreitheg, yn hytrach—y Llys Ewropeaidd. Dyna'n amlwg yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ond mae materion technegol, rydych chi'n gywir—maen nhw'n cwrdd mewn partneriaeth yn y ffordd yr ydych chi'n ei ddisgrifio ond, mewn gwirionedd, llys yr UE sy'n penderfynu ar bethau.

O ran ail refferendwm, beth fyddai wedi ei ennill? A fyddem ni'n cael canlyniad pendant a gwahanol? Wel, mae hynny'n annhebygol yn ôl Syr John Curtice, a byddai'n achosi niwed mawr i'n democratiaeth ni, ac nid wyf yn barod i beryglu hynny. Mae cytundeb Mrs May yn cynnig diwedd i'r ansicrwydd sy'n ein hwynebu. Mae'n caniatáu inni fynd drwy'r drws hwnnw sydd wedyn yn caniatáu inni negodi trefniadau gwirioneddol yr UE. Yr eironi yn hyn i gyd yw bod y cytundeb hwn dim ond yn mynd â ni at y man cychwyn, mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid inni gofio bod y gwaith hwnnw o'n blaenau. Ond mae ei chytundeb yn anrhydeddu'r refferendwm, ac mae'n cynnig posibilrwydd o berthynas adeiladol yn y dyfodol gyda'r UE, sef yr hyn a ddylai fod yn orchwyl inni bellach, nid y cynnig anffodus hwn sy'n dibrisio'r UE yn sylweddol drwy alw'r hyn sydd ger ein bron yn gytundeb niweidiol. 

Nid oeddwn yn bwriadu siarad heddiw oherwydd fy mod i wedi gwneud fy marn ynglŷn â Brexit yn glir iawn ar sawl achlysur yn y Siambr hon, gan gynnwys yn gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, ond rwyf bellach wedi penderfynu gwneud cyfraniad byr.

Rwy'n croesawu'n fawr y cynnig sydd wedi ei gyflwyno gan fy mhlaid a gan Blaid Cymru heddiw, ac sy'n cael ei drafod ar y cyd â Senedd yr Alban. Mae'n hollol briodol bod y ddwy Senedd yn anfon neges glir a diamwys i Lywodraeth y DU ein bod yn unedig yn ein gwrthwynebiad i Brexit heb gytundeb.

Rwy'n gwbl glir y byddai Brexit heb gytundeb yn drychineb i Dorfaen—i'n miloedd o weithwyr gweithgynhyrchu, i'n gwasanaethau cyhoeddus sy'n dibynnu ar staff o'n partneriaid Ewropeaidd, ac i'n pobl ifanc na chawson nhw unrhyw farn ar benderfyniad mor sylfaenol a fydd yn effeithio ar eu dyfodol, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw fyw ag ef am flynyddoedd.

Rwyf hefyd, fodd bynnag, yn bwriadu pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru ar bleidlais y bobl heddiw. Rwy'n deall y rhesymau pam nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwelliant hwnnw, ond yn bersonol nid wyf yn barod i bleidleisio yn erbyn rhywbeth yr wyf wedi galw amdano dro ar ôl tro yn y Cynulliad hwn, a'r tu allan iddo, ers misoedd. I mi, mae hwn yn fater mwy na gwleidyddiaeth plaid. Mae hwn yn fater mawr i'n gwlad a fydd yn effeithio ar ein dyfodol am flynyddoedd, ac mae'n rhaid i mi bleidleisio yn unol â fy egwyddorion yn hynny o beth. Am y rheswm hwnnw, byddaf yn parhau i gefnogi pleidlais y bobl ar gytundeb Brexit. Rydym ni'n gwybod na ellir cyflawni'r addewidion a wnaed yn 2016. Nid yw ond yn deg ac yn ddemocrataidd bellach bod pobl yn cael y gair olaf ar rywbeth a fydd yn effeithio ar eu bywydau a'u dyfodol am flynyddoedd i ddod. [Torri ar draws.] Fe gawson nhw fynegi eu barn, David, ar rywbeth nad oedd neb yn glir yn ei gylch. Rydym ni'n gwybod bellach beth yw cytundeb Brexit. Rydym ni bellach hefyd yn gweld yn glir mai'r cytundeb gorau sydd gennym ni yw'r un sydd gennym ni ar hyn o bryd sy'n rhoi inni holl fanteision aelodaeth o'r UE, gyda'r cyfle i'w ddiwygio o'r tu mewn, gyda sedd wrth y bwrdd. Dyna pam fy mod i'n gwthio am bleidlais y bobl a dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw a hefyd cynnig y Llywodraeth i anfon neges glir i Lywodraeth y DU ynglŷn â Brexit.

17:20

Rydym bellach 24 diwrnod i ffwrdd o adael yr Undeb Ewropeaidd ac mor bell ag erioed o sicrhau datrysiad o ran y ffordd ymlaen o fan hyn. Fel mae Adam Price eisoes wedi’i ddweud, does dim yn y cynnig hwn rydym ni’n anghytuno ag ef, ond mae’n destun siom bod yr ymrwymiad dros gynnal pleidlais y bobl i weld wedi cael ei ollwng gan y Blaid Lafur unwaith yn rhagor. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi gosod gwelliant yn galw am gefnogaeth y Siambr hon dros wneud trefniadau i gynnal pleidlais o’r fath cyn gynted â phosib.

Dyma'r unig ffordd allan o'r cyfyngder paradocsaidd hwn trwy ba un yr ydym ni'n parhau i wibio ymlaen ac eto yn gwneud dim cynnydd. Os nad ydym ni'n gwneud cynnydd ar y mater hwn, yn fuan, bydd yn gyfle a gollwyd. 'Yn gyfle a gollwyd'. Rydym ni'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw gryn dipyn. Mor aml, yn wir, fel y credaf ein bod ni wedi colli golwg ar yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd, sef ymdeimlad o frys, o golled. Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae cyfleoedd wedi eu colli. Nid yw gwelliannau cadarnhaol a allai fod wedi digwydd, wedi digwydd. Ac, i mi, dyna graidd Brexit.

Mewn economeg, rydym ni'n sôn am gost cyfle—bod gan bopeth a wneir gost o ran yr hyn na wneir. Mae pob maes o wariant cyhoeddus y mae'r Llywodraeth yn dewis dyrannu arian tuag ato yn golygu bod meysydd eraill yn cael llai. Ond sut ydych chi'n mesur cost y cyfleoedd hyn: o'r holl bethau na wnaed; o anwadalu; o addewidion na chawson nhw mo'u hanrhydeddu; yr holl bentyrrau deddfwriaeth; y cyllid y gallem ni fod wedi ei godi; gweithrediadau nad ydyn nhw wedi digwydd; y cyffuriau nad ydym ni wedi gallu eu prynu; bywydau ffrindiau Ewropeaidd sydd efallai wedi byw yn ein plith; yr ymdeimlad o berthyn, y cyfeillgarwch a'r perthnasoedd y gallem ni fod wedi eu datblygu gyda phobl sydd naill ai wedi gadael yr ynysoedd hyn neu erioed wedi dewis dod; y gallai a'r byddai a'r dylai; a'r pethau a allai fod wedi bod nad ydyn nhw wedi bod, gan fod Brexit wedi mynd â'n holl sylw?

Felly bydd, bydd yn gyfle a gollwyd os nad yw San Steffan yn gweithredu ar gorn y ddadl hon a'r ddadl y mae ein partneriaid yn yr Alban yn ei chynnal. Ac mae cost y cyfle hwnnw yn fwy trychinebus nag y gall unrhyw ystrydebau—'cyfleoedd a gollwyd'—byth eu cyfleu. Os nad oedd bygythiadau o ddim cytundeb yn ddim mwy na gêm barlwr i arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn San Steffan, cywilydd arnyn nhw. Maen nhw wedi costio mwy inni o ran adnoddau, amser, straen a cholli ffydd ac ewyllys da nag y gellir byth ei fesur.

Dyna pam y dylai'r Senedd hon ailddatgan heddiw ei hymrwymiad i gynnal pleidlais y bobl, cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Os nad ydym ni, ni fyddwn ni wedi symud ymlaen o gwbl, a pha arwydd y bydd hynny yn ei roi? Dylem ni wneud hynny i ddwyn y maen i'r wal ar y mater hwn unwaith ac am byth, ac fel y gallwn ni mewn gwirionedd ddechrau'r gwaith o ymdrin â'r rhesymau sylfaenol pam y digwyddodd y bleidlais hon mewn gwirionedd, gan sicrhau adfywio economaidd a chyfiawnder i bobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd wedi eu hesgeuluso gan benderfyniadau Llywodraethau olynol yn San Steffan. Diolch.

Dechreuais gymryd rhan yn y ddadl am yr UE ar y cychwyn cyntaf oherwydd, i mi, nid y materion mwyaf sylweddol oedd y materion economaidd erioed, y materion masnach ac ati, ond y cyfraniad y mae'r UE wedi ei wneud i heddwch Ewropeaidd a pha mor anodd fyddai amgyffred, pan ddatgymalodd yr Undeb Sofietaidd ac y dechreuodd cyn-wledydd cytundeb Warsaw ddatblygu systemau democrataidd, pa mor anodd fyddai amgyffred y gallai hynny fod wedi digwydd heb ryfela a thrychineb mawr iawn oni bai am y ffaith fod yna gorff y gallen nhw glosio ato sydd wedi sefydlu egwyddorion amrywiol rheol y gyfraith a llywodraethu.

Wrth gwrs, nid oedd dim yn berffaith. Rwyf wedi bod yn feirniad o'r UE yn y gorffennol oherwydd iddo yn gynyddol roi budd corfforaethol ar draul yr agwedd gymdeithasol, ond, fel y dywedodd Vaclav Havel unwaith—un o arweinwyr y symudiadau anghydffurfiol o ddwyrain Ewrop—os ydych chi eisiau newid sefydliad mewn gwirionedd, mae'n rhaid ichi fod yn rhan ohono ac mae'n rhaid ichi weithio gyda phobl eraill i wneud hynny. Yr hyn sydd wedi bod yn wirioneddol anesmwyth yw'r datblygiad, nid yn unig yn y DU yn sgil y refferendwm, ond mewn rhannau eraill o Ewrop, o dwf cenedlaetholdeb asgell dde, a chenedlaetholdeb mewnblyg ac eithaf ymosodol ac annymunol y gwelwn ni'n cael ei ran-ariannu a'i gefnogi gan bobl fel Putin drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy gyllid, ac rydym ni'n gweld y cysylltiadau rhwng y sefydliadau hynny megis y Wawr Euraid, trwy Le Pen, a thrwy sefydliadau asgell dde eithafol a ffasgaidd. Ac felly, nid yw'n syndod o gwbl ein bod yn gweld UKIP yn awr, gyda phobl fel Tommy Robinson, i bob pwrpas yn dod yn awr yn blaid ideolegol broto-ffasgaidd, oherwydd dyna yw UKIP bellach, ac nid oes unrhyw amheuaeth am hynny a'r cynghreiriau sydd ganddyn nhw yn rhan o'r agenda fewnblyg asgell dde honno. Dyna sy'n fy nychryn. Dyna sy'n beryglus iawn.

Yr hyn sy'n glir yn awr—. [Torri ar draws.] Wnaf i ddim derbyn unrhyw neges gan Neil Hamilton—rhywun sydd wedi bod yn gwneud esgusion dros apartheid De Affrica, yn gwneud esgusion dros y gyfundrefn ffasgaidd â Pinochet. Mae wedi'i gofnodi, ac nid oes unrhyw syndod eich bod wedi dod o hyd i gartref cysurus yn yr hyn sydd bellach yn blaid broto-ffasgaidd yn y Deyrnas Unedig.

Yr heriau mawr sy'n effeithio arnom ni yn awr yn ystod yr wythnos nesaf fydd y mater o adael heb gytundeb, ac yn arbennig estyniad i Erthygl 50, gan fod un peth yn glir, a hynny yw na all Llywodraeth y DU hyd yn oed gwblhau'r agenda ddeddfwriaethol angenrheidiol o fewn yr amserlen sydd ar ôl. A byddai unrhyw lywodraeth gyfansoddiadol gyfrifol yn awyddus i geisio'r estyniad hwnnw i alluogi hynny i ddigwydd mewn gwirionedd. Ond, i ni, mae problem fwy byth, sef y sefyllfa o adael heb gytundeb oherwydd y difrod economaidd y bydd hynny yn ei achosi i Gymru ac i lawer o'r DU os nad oes trefniadau o ran masnach. Beth ydym ni'n ei ddweud wrth yr 20,000 o weithwyr ceir sydd eisiau allforio 95 y cant o'u cydrannau i'r Undeb Ewropeaidd pan fo rhwystrau a phan fo anawsterau, a phan yn sydyn, bydd bygythiad i'w swyddi oherwydd anallu'r Llywodraeth i negodi cytundeb masnach priodol? Beth ydym ni'n ei ddweud wrth ddinasyddion yr UE nad yw cytundeb Theresa May yn eu diogelu—rhai sydd wedi rhoi eu bywydau, wedi talu eu trethi, ac wedi gweithio yn y wlad hon? A beth ydym ni'n ei ddweud o ran yr holl addewidion hynny a wnaed am amddiffyn hawliau gweithwyr, sy'n hollbwysig i unrhyw gytundeb arbennig? Gwnaed yr addewidion hynny. Pleidleisiodd llawer o'r bobl hynny, llawer o'r gweithwyr hynny—[torri ar draws.] Ymyriad? Ie.

17:25

Diolch i'r Aelod am ganiatáu imi ymyrryd. Os ydych chi'n teipio'r geiriau 'Neil Hamilton' a 'South Africa', y peth cyntaf sy'n ymddangos yw erthygl o The Independent ym 1998, pan anerchodd rywbeth o'r enw Clwb y Sprinbok. Mae cofnod o'r cyfarfod yn dweud,

Rhoddodd Mr. Hamilton araith gyweirnod afaelgar lle soniodd am ei atgofion melys ei hun o Dde Affrica yn ystod yr oes o reolaeth wâr. Mynegodd bleser mawr hefyd o weld gwir faner De Affrica—

hynny yw, yr hen faner—

yn cael ei harddangos â balchder...a mynegodd y gobaith un diwrnod y byddid yn ei gweld yn cyhwfan yn Cape Town a Pretoria unwaith eto.

Dyna un canlyniad; Rwy'n siŵr bod mwy i ddod.

Wel, diolch ichi am yr ymyriad yna ac rydych chi wedi gwneud y pwynt yna yn huawdl iawn, iawn—

Nid fy ngeiriau i oedd y rhai hynny; fe'u hysgrifennwyd gan rywun arall. Welais i erioed mohonyn nhw nes iddyn nhw ymddangos yn The Independent ac rwy'n gwadu'n llwyr defnyddio'r geiriau sydd newydd gael eu defnyddio.

Rwy'n credu mai'r pwynt yw nad oes angen ichi mewn gwirionedd fod wedi eu hysgrifennu nhw, oherwydd bod eich esgusion dros apartheid De Affrica, eich esgusion dros gyfundrefn Pinochet a'r degau o filoedd a gafodd eu llofruddio a'u harteithio yn gwbl hysbys ac wedi eu cofnodi.

O ran y cynnig heddiw, rwy'n credu, yn amlwg, na chaiff y penderfyniad ei wneud yma, ond mae'r undod y gallwn ni ei fynegi o ran ein pryder ledled Cymru ac yn yr Alban o ran ymadael heb gytundeb yn bwysig iawn. Efallai mai symbolaidd ydyw, ond mae'n sylfaenol bwysig i fynegi'r undod hwnnw ar hyn o bryd. Felly, rwy'n croesawu'r cynnig hwn, a ategir gan Lafur Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Genedlaethol yr Alban, Plaid Lafur yr Alban, Plaid Werdd yr Alban a Phlaid Cymru, oherwydd ei fod yn anfon neges glir iawn, iawn o undod—cwlwm o undod sydd wedi tyfu o ddiddordeb cyffredin, amhlwyfol, trawsbleidiol, ond sy'n adlewyrchu'r diddordeb cyffredin yn y ffaith bod lles dinasyddion Cymru yn cael lle blaenllaw iawn yn ein meddwl ym mhob peth, ac ar bob cam a gymerwn. Rwy'n credu bod y gwelliant yn siom oherwydd ei fod yn tynnu sylw, felly nid wyf i am dorri'r cwlwm hwnnw o undod sydd wedi'i sefydlu. Byddaf yn canolbwyntio, fel y mae'r cynnig hwn yn canolbwyntio arno, ar y mater o ymadael heb gytundeb, ac rwy'n gobeithio y bydd gennym ni gefnogaeth mor gref ag y bo modd i'r cynnig arbennig hwn, nid dim ond yr wythnos hon ond hefyd ar gyfer y cynigion hynny yr ydym ni'n mynd i'w cael yr wythnos nesaf a'r wythnos ganlynol. Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y bydd estyniad—

17:30

Rwy'n amyneddgar iawn. Rydych chi wedi disbyddu fy amynedd yn awr. Rydych chi wedi cael eich amser.

Mae'n drueni nad oes gennym ni fwy o undeb ac undod â phobl Cymru, sydd wedi cael pleidlais y bobl ac wedi pleidleisio i adael. Eto, yn hytrach, gwelwn Lywodraeth Cymru sy'n honni ei bod yn eu cynrychioli ac yn llywodraethu drostynt, yn ymuno â'r SNP sydd eisiau darnio'r Deyrnas Unedig a phan yn yr Alban—rhoddwyd y ffigur anghywir o ddwy ran o dair yn gynharach—pleidleisiodd 62 y cant o bobl yn yr Alban, fel 56 y cant yng Ngogledd Iwerddon, dros aros. Fodd bynnag, pleidleisiodd dros 53 y cant o bobl yng Nghymru, fel yn Lloegr, i adael ym mhleidlais y bobl a gawsom ni ar 23 Mehefin 2016. Fodd bynnag, mae gormod o wleidyddion yn y fan yma a thu hwnt yn credu eu bod yn gwybod orau ac yn credu y dylid gwneud i bobl bleidleisio eto oherwydd nad ydynt yn cytuno â nhw.

Yna mae gennym ni yn y cynnig hwn, bwynt 2:

Yn cytuno y byddai canlyniad heb gytundeb i'r negodiadau presennol o ran ymadael â'r UE yn gwbl annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg.

Yr hyn y mae'r pwynt yna yn ei awgrymu yw na ddylem ni adael yr Undeb Ewropeaidd oni bai fod yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno y dylem ni. At hynny, dylem ni adael ar ddyddiad y maen nhw'n ei ddewis yn unig a pha bynnag delerau y maen nhw'n eu dewis mae'n rhaid inni ufuddhau. Os ydych chi i gyd yn barod i gerdded ymaith, os nad oes unrhyw amgylchiadau pryd y byddech yn derbyn ymadael heb gytundeb, yna canlyniad hynny yw y bydd yn rhaid ichi wneud yn union fel mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei ddweud yn y trafodaethau hynny, cymryd yr hyn a gewch chi, oherwydd ni allwch fynnu dim byd arall gan eich bod wedi dweud ymlaen llaw na fyddwch chi'n derbyn ymadael heb gytundeb.

Rydym ni eisoes wedi cael saith munud gennych chi, Mick, ac nid oedd llawer ohono yn ymwneud â'r testun. Felly, wnaf i ddim, os gwnewch chi faddau imi.

Diolch.

Roeddwn yn credu Theresa May pan ddywedodd ein bod yn gadael yr undeb tollau, ein bod yn gadael y farchnad sengl, y byddem yn gadael awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop. Roeddwn yn ei chredu pan ddywedodd dros 100 o weithiau, dim ond yn Nhŷ'r Cyffredin, y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019. Canlyniad hynny yw os na all hi gael cytundeb all gael sêl bendith Tŷ'r Cyffredin, oherwydd ei fod mor wael, oherwydd ei fod yn ein rhwymo i gytundeb wrth gefn, oherwydd yn ôl ei ddatganiad gwleidyddol bydd yn adeiladu ar y diriogaeth tollau sengl a ddarperir ar ei gyfer yn y cytundeb ymadael—ymadrodd a gafodd ei gynnwys heb i'r Ysgrifennydd Brexit ar y pryd fod yn ymwybodol o hynny, pan oedd gennym ni adran Potemkin o'r blaen a oedd yn honedig yn negodi Brexit, ond mewn gwirionedd roedd y trafodaethau gwirioneddol yn digwydd y tu ôl i'w cefnau—rydym ni bellach yn cyrraedd sefyllfa lle na all y cytundeb hwnnw fynd drwy Dŷ'r Cyffredin, felly naill ai yr ydym ni'n gadael heb gytundeb neu'n ymestyn erthygl 50.

Hyd at ddydd Llun diwethaf, safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig, safbwynt y Prif Weinidog, oedd y byddem ni'n gadael yr UE ar 29 Mawrth gyda neu heb gytundeb. Newidiodd hynny yn anffodus yr wythnos diwethaf gyda datganiad Prif Weinidog y DU ddydd Llun. Ceir Gweinidogion sydd o blaid aros yn ysgrifennu erthyglau yn ymosod ar bolisi canolog y Llywodraeth, ac yna'n parhau'n weinidogion, tra bo Gweinidogion sydd o blaid gadael ac yn anghytuno â'r Llywodraeth bob amser yn gorfod ymddiswyddo, beth mae hynny'n ei ddweud wrthych chi am safbwynt y Prif Weinidog? Felly, yr wythnos nesaf, er gwaethaf y gyfraith yn dweud y byddwn yn gadael yr UE ar 29 Mawrth gyda neu heb gytundeb—

Oes, mae un, caiff ei alw yn Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a basiwyd gan Senedd San Steffan.

Yn lle hynny, rydym ni'n cael dadl a phleidlais, a drefnwyd gan Lywodraeth Prydain yn amser y Llywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin, ynghylch a yw Tŷ'r Cyffredin eisiau gadael heb gytundeb, ac yna a yw Tŷ'r Cyffredin yn dymuno ymestyn Erthygl 50, ac yna dywed y Llywodraeth y byddai'n cael ei rhwymo gan y cynnig, er gwaethaf y gyfraith sy'n nodi'r sefyllfa. Felly, yn hytrach na chael 17.4 miliwn o bobl a bleidleisiodd 'gadael' yn pennu cwrs Llywodraeth Prydain, awgrymir bellach y bydd 500 o ASau sydd eisiau aros yn penderfynu, fel y gwelwn ni gyda'r cynnig hwn, y rhai sydd erioed wedi derbyn y canlyniadau hyn, y rhai sydd wedi sleifio at Michel Barnier i geisio tanseilio sefyllfa Llywodraeth y DU yn ei negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd—ac rwy'n ildio i un o'r amlycaf yn eu plith.

17:35

Fe wnaf i gymryd hynny fel canmoliaeth, ac rwy'n diolch i'r Aelod am ganiatáu imi ymyrryd. Onid yw'n derbyn bod democratiaeth yn golygu bod yr Aelodau Seneddol sy'n eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin bellach wedi eu hethol ar ôl y refferendwm ac felly yn arwydd gwell o ddymuniadau pobl ynghylch yr hyn y maen nhw ei eisiau yn y dyfodol?

Wyf yn wir, ac fel gyda'ch plaid chi, fe gawsant eu hethol ar sail ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Eto nawr rydych chi'n ceisio cael pleidlais arall. Fe wnaethoch chi addo eich bod yn mynd i barchu'r refferendwm. Fe wnaethoch chi ddweud yn y maniffesto hwnnw y byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac eto nawr, mae eich Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin—neu ormod ohonyn nhw, gwaetha'r modd—yn ceisio rhwystro'r hyn y gwnaethon nhw addo y bydden nhw'n ei gyflawni adeg y refferendwm hwnnw, yn dilyn y refferendwm hwnnw, ac yn yr etholiad cyffredinol. A dyna sy'n tanseilio ein democratiaeth, yn tanseilio ein gwlad. Os oes gennym ni'r cynnig hwn, ac os dywedwn ni na fyddwn ni byth yn gadael ac eithrio fel mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei ddweud wrthym ni, yna bydd hynny'n ymwrthodiad â democratiaeth, o refferendwm sydd eto i'w weithredu, ac nid yw'n dderbyniol—nid yw'n dderbyniol i Gymru, nac yn dderbyniol i'r Deyrnas Unedig.

Rai wythnosau yn ôl roeddwn yn gwylio rhaglen deledu. Rhaglen hanes naturiol am greaduriaid rhyfedd iawn sy'n byw yn yr Arctig, a bob hyn a hyn maen nhw'n mudo mewn niferoedd i wahanol leoedd, ac mae eu greddf ymfudo mor gryf fel eu bod yn aml yn syrthio oddi ar ymyl clogwyn yn credu bod yna rhyw lwybr iddyn nhw ei groesi—rhyw gof mae'n debyg sy'n mynd yn ôl i oes yr iâ. Maen nhw'n barod i neidio oddi ar y clogwyn yna waeth beth fo'r canlyniadau oherwydd maen nhw'n credu eu bod yn mynd i rywle gwell. Pa ddisgrifiad gwell y gallem ni ei roi i'r rhai sy'n cefnogi Brexit yn ddigyfaddawd na'r enw a roddwn ni ar y creaduriaid hyn, 'lemingiaid'?

Gadewch i ni ddweud eu bod yn gywir, a gadewch i ni ddweud nad yw disgyrchiant yn bodoli. Gadewch i ni ddweud mai mynd oddi ar ymyl y clogwyn yw'r ffordd orau ymlaen. Gadewch i ni ddweud wrth bobl, 'Wel, efallai na wyddom ni i ble'r ydym ni'n mynd, efallai nad ydym ni'n gweld ble'r ydym ni'n mynd, ond bydd yn well na lle'r ydym ni'n awr.' Ac i ble mae'r lemingiaid gwleidyddol wedi ein harwain? Wel, 29 Mawrth yw'r dyddiad a fydd yn ein gweld o bosib yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Nid yw'n ddyddiad terfynol. Ni phleidleisio neb dros 29 Mawrth fel y dyddiad y byddwn yn gadael. Mae hynny'n ddyddiad sydd wedi'i bennu yn artiffisial gan Lywodraeth y DU ac y gellid ei ymestyn gan Lywodraeth y DU ac, yn wir, yr Undeb Ewropeaidd. Felly, nid yw'r dyddiad hwnnw o 29 Mawrth yn rhywbeth y pleidleisiodd pobl drosto. Gadewch i ni beidio â'i drin fel rhyw fath o efengyl, oherwydd dydy e' ddim.

Ac os edrychwn ni ar 2016, ni allaf gofio—[Torri ar draws.]. Wrth gwrs.

Rwy'n credu ein bod ni'n sôn am ein diwylliant democrataidd yn y fan yma a'r hyn y mae rhan fwyaf o bobl yn ei feddwl. Mae'r rhain yn ddyddiau o brysur bwyso. Byddant yn penderfynu sut y mae pobl yn meddwl, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl a bleidleisiodd dros Brexit, yn credu y byddem ni wedi gadael amser maith cyn hyn. Dyna'r gwir amdani. Nid wyf yn hoffi hynny, ond rydym ni wedi cael llawer o amser i wneud penderfyniad, ac yn anffodus, dyna sydd mewn gwirionedd yn niweidiol iawn inni ar hyn o bryd.

Rwy'n parchu'n fawr iawn, wrth gwrs, yr Aelod a'i farn, ond mae'n rhaid imi ddweud, gwelais y ffordd y gweithredodd y Llywodraeth Geidwadol o 2016 ymlaen, fel y gwnaeth eraill yn y Llywodraeth bresennol. Gwnaeth David Davis, hyd y gwelaf i, affliw o ddim am flwyddyn a hanner. Dim byd o gwbl. Boris Johnson: dim byd am flwyddyn a hanner, ar wahân i ambell sylw bachog o bryd i'w gilydd. Collwyd llawer o amser, ac rwy'n talu teyrnged i agwedd pobl fel David Lidington a Greg Clark. Efallai bod gennyf fy ngwahaniaethau gwleidyddol â nhw, ond maen nhw'n llawer mwy ymarferol, ac yn llawer haws i siarad â nhw, nag yr oedd David Davis a Boris Johnson erioed, ac maen nhw'n gwneud pethau, nad oedd y ddau arall.

Yn 2016 nid wyf yn cofio unrhyw Aelod yn y Siambr hon neu yn wir unrhyw un yn ymgyrchu yn yr ymgyrch Brexit, ar un ochr neu'r llall, yn ymgyrchu o blaid ymadael heb gytundeb. Ni ymgyrchodd neb o blaid ymadael heb gytundeb. Dywedodd pawb ar yr ochr Brexit, 'Bydd cytundeb masnach rydd. Dyna fydd y cytundeb hawsaf mewn hanes. Bydd gweithgynhyrchwyr ceir Yr Almaen yn camu i mewn. Byddwn yn gorfodi'r Almaen a'r UE i ddod i gytundeb gyda'r DU. Bydd gennym ni 70 cytundeb wedi eu hefelychu, i gyd yn barod erbyn inni adael.' Nid oedd unrhyw agwedd ar hyn yn wir. Dywedodd Liam Fox wrthyf i, 'y cwbl wnawn ni yw efelychu'r cytundebau masnach rydd sydd gan yr UE â gwledydd eraill.' Nid yw hynny wedi digwydd. Dywedodd y Siapaneaid, 'Ydych chi o ddifrif? Pam fyddem ni'n cael cytundeb â chi, sydd wyth gwaith yn llai na'r farchnad Ewropeaidd, ar yr un telerau â'r farchnad Ewropeaidd?' Ymgyrchodd neb i adael heb gytundeb. 

A dyna'r rhai, wrth gwrs, a ddywedodd y cawn ni gytundeb gyda'r Unol Daleithiau. Wel, mae'r rhai ohonoch chi sydd wedi darllen sylwadau agoriadol yr Unol Daleithiau ar gyfer cytundeb masnach rydd yn deall bod cytundeb masnach rydd yr Unol Daleithiau yn cynnwys mynediad at farchnad y DU i gwmnïau Americanaidd ond nid y gwrthwyneb, gostwng ein safonau bwyd, gostwng ein safonau hylendid, gan leihau ein rheoliadau i ganiatáu mynediad i nwyddau Americanaidd a gallu Llywodraeth yr Unol Daleithiau i fod â llais yn y ffordd y mae ein harian yn gweithredu. Felly, byddwn yn cyfnewid yr hyn y mae cefnogwyr Brexit yn ei ddweud yw rheolaeth yr UE i reolaeth yr Unol Daleithiau, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Ond dyna realiti cytundeb masnach rydd pan rydych chi'n wlad ganolig ei maint, yn hytrach nag mewn bloc mawr. Po fwyaf ohonoch chi sydd yna, y mwyaf o bŵer sydd gennych chi.

Does dim amheuaeth y bydd rhai yn dweud fy mod i'n dadlau yn erbyn Brexit, dydw i ddim; rwy'n dadlau yn erbyn ymadael heb gytundeb. Bydd rhai a fydd yn dweud mai'r cwbl yw hyn yw codi bwganod—Honda: codi bwganod yw hynny, 3,500 o swyddi. Nissan: codi bwganod; nid yw hynny'n mynd i ddigwydd, yw e'? Mae Ford yn dweud yr un peth. BMW yn dweud heddiw efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw symud cynhyrchu Mini allan o—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. Allan o'r DU. A yw'r cwmnïau hyn yn cymryd arnyn nhw? A yw'r cwmnïau hyn yn cymryd arnyn nhw pan fo nhw'n dweud y byddan nhw'n gadael y DU os nad oes unrhyw gytundeb?

Wrth gwrs, David.

17:40

Dywedodd pob un o'r cwmnïau hynny yn union yr un peth ynglŷn â pha un a fyddem ni'n ymuno â'r ewro neu ddim yn ymuno â'r ewro. Pob un o'r cwmnïau yr ydych chi newydd eu henwi. Nawr, rydych chi'n gwybod ac rwyf i'n gwybod bod Nissan yn buddsoddi mwy. Maen nhw'n adeiladu'r Corolla, sef y car sy'n gwerthu fwyaf. Maen nhw newydd fuddsoddi arian o'r fath yna. Nid yw'r cwmnïau hynny'n mynd i adael y DU.

Mae Honda wedi dweud eu bod nhw'n cau yn Swindon—3,500 o swyddi. Wrth gwrs fe wnaethon nhw ddweud eu bod nhw'n mynd i adael. Mae BMW wedi dweud hynny heddiw. Oni bai eich bod yn dweud bod yr holl gyflogwyr hynny yn dweud celwydd, yna rywsut nad ydym i gymryd unrhyw sylw o'r hyn y maen nhw'n ei ddweud ac mai geiriau gwag yw'r cwbl. Pam fyddech chi'n aros yn y DU pan mai Ewrop yw eich marchnad? Pam na fyddech chi'n gweithgynhyrchu yn Ewrop a thrin y Deyrnas Unedig yn farchnad lai o lawer, oherwydd nid yw'r economi mor fawr â hynny o'i chymharu â'r UE?

Rwy'n gwybod bod amser ar fy ngwarthaf, ond rwyf wedi derbyn rhai ymyriadau, Llywydd.

Mae yna rai sy'n dweud y dylem ni adael heb gytundeb. Ydym ni wedi sylwi bod y rhai sy'n eiriol gryfaf dros ymadael heb gytundeb yn ddynion cyfoethog? Maen nhw'n ddynion cyfoethog. James Dyson, Jacob Rees-Mogg, pobl fel Boris Johnson. Maen nhw'n bobl sy'n gallu symud eu hasedau o'r DU—ac wedi dechrau gwneud hynny—os ydyn nhw'n credu bod y DU mewn trafferth. Nhw yw'r bobl gyda'r arian i fynd i fyw yn rhywle arall. Nhw yw'r bobl sy'n dadlau dros economi marchnad rydd heb ei rheoleiddio na wnaeth pobl yn sicr bleidleisio drosti, yn arbennig ac nid yn unig, ym Mlaenau Gwent. Dyma bobl, rhai ohonyn nhw, sy'n dadlau mai economi wedi ei dadreoleiddio sydd orau: Singapôr yng ngogledd yr Iwerydd, gan anghofio wrth gwrs na fyddai unrhyw hawliau gweithwyr, dim rheoliadau a byddai bodau dynol yn gallu gwneud dim mwy na gwylio economi marchnad rydd ryddfrydol heb ei rheoleiddio—ffurf ar dotalitariaeth economaidd, a bod yn onest, yn fy marn i. 

Yn olaf, Llywydd, a gaf i ddweud hyn: gadewch inni anfon y neges heddiw oddi yma nad oes a wnelo'r ddadl hon â Brexit, mae a wnelo hi ag ymadael heb gytundeb. Gadewch i ni gael sefyllfa lle gallwn ni eistedd a dweud wrth ein gilydd, waeth beth yw ein barn am Brexit, y dylid rheoli'r hyn sy'n digwydd yn y dyfodol gyda synnwyr nid cyflymder, gyda chytundeb nid trychineb, a thrwy gytuno yn hytrach na syllu dros y dibyn. Nid yw ymadael heb gytundeb yn dda i ddim i Gymru.

Ac nid ydych chi'n cael mwy o amser heddiw, er mai chi yw'r Cadeirydd. [Chwerthin.]

Gallwn drafod hynny. [Chwerthin.]

Llywydd, yr hyn a glywsom ni heddiw yn amlwg yw'r hyn a glywsom ni o'r blaen, ac mae Carwyn Jones, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, yn llygad ei le: mae'r drafodaeth hon ynglŷn â Brexit heb gytundeb, ac rydym ni'n anghofio hynny weithiau. Ac mae wedi'i ddyfynnu heddiw gan nifer o bobl sy'n pleidleisio bob amser dros Brexit fod maniffesto'r Blaid Lafur yn 2017 mewn gwirionedd ynglŷn ag anrhydeddu canlyniad y refferendwm, ac fe wnaf i ei ddyfynnu, dim ond i'w hatgoffa am ambell beth.

Mae'r Blaid Lafur yn derbyn canlyniad y refferendwm a bydd llywodraeth Lafur yn rhoi budd cenedlaethol yn gyntaf. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i swyddi a safonau byw, yn magu perthynas newydd â'r UE, yn amddiffyn hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol, yn rhoi sicrwydd i wladolion yr UE ac yn rhoi swyddogaeth ystyrlon i'r Senedd drwy'r holl drafodaethau.

Mae hefyd yn dweud y byddai'n cael gwared ar y Papur Gwyn Brexit

ac yn ei le yn cael blaenoriaethau negodi ffres sydd â phwyslais cryf ar gadw manteision y farchnad sengl ac undeb tollau.

Nawr, cyn i neb ddweud beth aeth i mewn i'r maniffesto, maen nhw'n bethau y mae Plaid Lafur y DU wedi eu cyflwyno i'r Llywodraeth hon—y pum pwynt a gyflwynodd Jeremy Corbyn i'r Llywodraeth a Phrif Weinidog y DU. Dyna'r hyn y mae'n ei ddweud. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei ailadrodd, gyda llaw—. Cyn i unrhyw un ddweud ei bod ni'n gwadu hynny, rydym ni'n cyflawni ar faniffesto 2017 y Blaid Lafur ac yn rhoi buddiannau'r genedl cyn buddiannau plaid, sef yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn o bryd. Gadewch inni wneud hynny'n gwbl glir nawr.

A phan rydym ni'n sôn am ymadael heb gytundeb, rydym ni'n sôn am reolau Sefydliad Masnach y Byd, ac os yw unrhyw un yma yn cefnogi hyn, rhoddais y cynnig y tro diwethaf iddyn nhw ddweud wrthyf sut mae Sefydliad Masnach y Byd yn well i Gymru na'r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd. Fe wnaeth Neil Hamilton ymyrryd. Wnaeth o ddim rhoi enghraifft i mi. Dim ond ceisio amddiffyn ei ddadleuon wnaeth e. Os oes rhywun eisiau ymyrryd eto a rhoi un enghraifft imi o sut mae Sefydliad Masnach y Byd yn well i Gymru na'r hyn sydd gennym ni, gwnewch hynny yn nawr, fe wnaf i dderbyn yr ymyriad. Unwaith eto, nid oes neb yn cynnig. Felly, yn amlwg, mae pawb yn cydnabod nad yw Sefydliad Masnach y Byd er y budd gorau i—[torri ar draws.]

17:45

Yr enghraifft y byddwn i yn ei chrybwyll fyddai'r sector cig eidion. Dywedwyd wrthym o'r blaen am dariff o 87 y cant, ond, wrth gwrs, pe byddai gennym ni y mathau hynny o dariffau, byddai cyfle enfawr i ffermwyr Cymru ddisodli rhywfaint o'r cig eidion o Iwerddon sy'n dod i'n marchnad ar hyn o bryd ymhell uwchlaw prisiau marchnad y byd.

Fe wnaf i ymateb i hynny. Soniasoch am gig eidion o Iwerddon: wnaethoch chi ddim sôn am gig eidion o'r Ariannin; wnaethoch chi ddim sôn am gig eidion o Brasil; wnaethoch chi ddim sôn am gig eidion o'r Unol Daleithiau. Mae'n niweidiol i economi Cymru ac ni fydd y marchnadoedd hynny yn agored i ni o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Felly, mae'n eithaf clir nad oes unrhyw un wedi rhoi arwydd hyd yn hyn y byddai rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn well ar gyfer sectorau Cymru.

Nawr, mae hynny'n hollbwysig pan fyddwn ni'n sôn am Brexit 'dim cytundeb', oherwydd rydym ni'n sôn am economi ein gwlad. Rydym ni'n sôn am fywoliaeth ein dinasyddion; rydym ni'n sôn am fywydau ein hetholwyr. Dyna beth y bydd 'dim cytundeb' yn ei niweidio. Yn gwbl briodol, nodwyd bod llawer o bobl a fu'n hyrwyddo Brexit o'r lefelau uchel wedi symud eu busnesau dramor, wedi symud eu buddsoddiadau dramor. Ni all fy etholwyr i wneud hynny. Maen nhw'n byw o ddydd i ddydd yn fy etholaeth i. Dur: rydym i'n sôn am geir. Wel, dur sydd mewn gwirionedd yn darparu deunydd crai ar gyfer gwneud ceir. Nawr, efallai nad oes tariffau ar ddur ei hun, ond mae tariffau ar y cynhyrchion y maen nhw'n eu gwerthu a bydd hynny'n effeithio ar y diwydiant dur. Bydd y diwydiant dur, felly, yn dioddef goblygiadau difrifol. Mae hynny'n golygu miloedd o swyddi yng Nghymru, ynghyd â'r gadwyn gyflenwi. Mae hynny'n mynd i niweidio ein heconomi. Nawr, os oes unrhyw un yn dymuno pleidleisio o blaid 'dim cytundeb' a niweidio'r economi, os gwelwch yn dda byddwch yn onest â phobl a dywedwch wrthyn nhw, 'rwy'n pleidleisio o blaid niweidio'r economi.' Nid oes neb yn dweud hynny, ac mae'n hen bryd i bobl fod yn onest a dweud mai dyna eu dymuniad nhw. Os nad ydych chi eisiau hynny, yna gwrthwynebwch Brexit 'dim cytundeb', oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwn ni ddiogelu ein heconomi i fod yn gryfach.

Mae eich dadl yn dod â ni, mewn gwirionedd, at un o'r dadleuon mawr sydd wedi ei chyflwyno gan y bobl sy'n cefnogi Brexit, sef 'Wel, wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni wir ei eisiau yw cytundeb masnach ardderchog gydag America.' A ydych chi wedi dechrau cael blas gwych ar gyw iâr wedi'i olchi mewn clorin eto?

Diolch i'r Aelod am yr ymyriad. Tynnodd yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr sylw at rai o'r problemau gyda'r Unol Daleithiau y mae ef eisoes wedi sôn amdanyn nhw, cyw iâr wedi'i olchi mewn clorin, cig eidion gyda hormonau ynddo, mae un eisoes yno. Rydym ni'n gwybod—a gadewch inni fod yn onest â'n hunain—mae Donald Trump wedi dweud, 'America yn gyntaf'. Bydd unrhyw gytundeb masnach yn 'America yn gyntaf', ac mae'n hollol iawn, fel cenedl sengl, bydd gennym ni lai o bŵer bargeinio nag fel bloc, a byddwn ni'n dioddef. Ac yn anffodus, nid yw Liam Fox, wedi gwrthwynebu'r Unol Daleithiau eto i ddweud nad yw'n dderbyniol. Mae'n ymddangos ei fod yn gobeithio cael cytundeb dim ond i arbed ei enw da.

Nawr, tra ein bod ni'n sôn am hyn hefyd, rydym ni'n sôn am lawer o safbwyntiau, ond mae'r pwyllgor wedi cyfarfod ac wedi cymryd tystiolaeth gan wledydd ledled Ewrop, gwledydd y tu allan i'r UE mewn gwirionedd. Mae'r dystiolaeth a'r trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael, mae pawb—pawb—wedi dweud wrthym y byddai 'dim cytundeb' yn drychinebus. Maen nhw'n derbyn y bydd yn drychinebus ar gyfer yr UE, ond maen nhw hefyd yn dweud y bydd yn waeth ar gyfer y DU, a dyna'r agwedd hollbwysig. Rydym ni'n anwybyddu'r goblygiadau ar gyfer ein pobl os derbyniwn ni 'dim cytundeb'. Mae'r cynnig hwn yn dweud, 'Nid yw'n dderbyniol. Nid ydym ni'n fodlon rhoi'r pwysau hwnnw ar ein pobl ni.' A dylem ni barchu'r safbwynt hwnnw. Nid yw hynny'n gwrthod Brexit: mae'n dweud yn syml, 'Rydym ni'n amddiffyn pobl Cymru', a gallaf weld y Llywydd yn amneidio, felly fe wnaf i orffen gyda hynny.

Fel llawer o bobl, mae'n rhaid imi ddweud, rwyf i wedi gweld yr ychydig flynyddoedd diwethaf fel rhai digalon iawn, iawn. Credaf nad yw Brexit wedi gwella ein democratiaeth, David: mae wedi torri ein democratiaeth. Mae wedi torri ein gwleidyddiaeth, a'r eironi aruthrol yw i lawer o'r imperialwyr hen-ffasiwn hynny sydd yn gweld dyfodol ymerodrol i Brydain, rwy'n credu bod Brexit wedi torri Prydain hefyd. Credaf ei fod wedi torri undod cymunedau. Mae wedi torri y bobl yr ydym ni, ac mae wedi torri y bobl y gallem ni fod wedi bod. Fe wnaethom ni gerdded o amgylch cangellfeydd Brwsel rai wythnosau yn ôl, a chlywsom dro ar ôl tro bod enw da y Deyrnas Unedig—yng ngeiriau'r Prif Weinidog—wedi ei faeddu. Roedd ei henw da yn llai nag yr oedd ac yn llai nag y gallai fod. Mae Prydain wedi arwain yn y gorffennol, ond mae hi'n rhedeg i ffwrdd yn y presennol. Ac nid yw'n rhedeg i ffwrdd fel Teyrnas Unedig, mae'n rhedeg i ffwrdd fel cymuned sydd wedi chwalu a chymdeithas sydd wedi chwalu.

Gadewch imi ddweud hyn wrthych chi—a gwrandewch chi, David. Gwrandewch chi. Rwyf i wedi bod yn y lle hwn am ryw 13 mlynedd a dim ond ers i'r criw hwnnw o ryfelwyr yn y gornel gael eu hethol yr wyf i wedi clywed pobl yn y wlad hon yn cael eu gwahaniaethu—y gair 'tramorwyr' yn cael ei ddefnyddio yn ein dadleuon, y gair 'mewnfudwyr' yn cael ei ddefnyddio i ddiffinio pobl sy'n cyfrannu at ein cymdeithas. Y geiriau yn cael eu defnyddio i ymosod ar bobl sy'n gwneud ein cymdeithas yn well, ac rwy'n gresynu hynny yn arw iawn. A gadewch imi ddweud wrth Neil Hamilton—bydd e'n dysgu hyn yng Nghasnewydd fis nesaf—ni ddaeth democratiaeth i ben ym mis Mehefin 2016, ac nid yw democratiaeth yn golygu nad ydych chi'n gallu mynd ar drywydd yr hyn yr ydych chi'n credu ynddo, yr hyn sy'n annwyl i chi. Pe byddech chi wedi colli'r refferendwm hwnnw, byddech chi'n dal i ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd. A byddaf innau yn dal i ymgyrchu i beidio â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac wrth wneud hynny, nid wyf i'n dilorni'r refferendwm na hawl pobl i bleidleisio i adael, ond rwy'n ymgyrchu dros yr hyn yr wyf i'n credu ynddo. Rwy'n credu mewn fersiwn wahanol o'r gymdeithas, barn wahanol ar bwy y gallwn ni fod. Rwy'n credu yn y wlad hon, ac rwy'n credu yn ein pobl. Ac rwy'n credu yn ein democratiaeth, a'r hyn yr ydym ni wedi'i weld dros y blynyddoedd diwethaf hyn yw Prydain yn cael ei thorri a democratiaeth Prydain yn cael ei thorri, ac rydym ni wedi gweld hynny ym mhob un o'n pleidiau.

Gadewch imi ddweud hyn hefyd: nid oes unrhyw sofraniaeth mewn banc bwyd; nid oes unrhyw sofraniaeth mewn byw os nad oes gennych chi gyflog byw yn dod i mewn; nid oes unrhyw sofraniaeth os nad ydych chi'n gwybod pryd y bydd y pecyn cyflog nesaf yn cyrraedd; ac nid oes unrhyw sofraniaeth pan fo dyfodol eich swydd a'ch teulu yn cael ei benderfynu ym mhrifddinasoedd y byd lle nad yw eich gwleidyddion eich hun yn gallu cael dylanwad. Fe wnaf i ildio i Mark Reckless.

17:50

Diolch. Roeddwn i yn y cyfarfodydd â'r cangellfeydd hynny ym Mrwsel a chlywais yr Aelod yn ymddiheuro dros ein gwlad i'r bobl hynny. A meddwl ydw i tybed: a oes unrhyw sofraniaeth i bobl ym Mlaenau Gwent a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd o fwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru sy'n cael eu hanwybyddu gan eu AC?

Mark, rwyf i'n un o'r bobl hynny; rwyf i'n un ohonyn nhw. Ymwelydd ydych chi.

Rydych chi'n ymwelydd â'm cymuned i—[Torri ar draws.] Rydych chi'n ymwelydd—nid un rheolaidd iawn, ond yn ymwelydd. A gadewch imi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf ildio eto. Ni wnaf ildio. Gadewch imi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Anaml y gwelwn ni chi, Mark. Dyna yw'r realiti, nid yw'n ddadansoddiad beirniadol; ond nid ydym ni'n eich gweld chi.

Gadewch imi ddweud hyn: beth sy'n rhwygo Blaenau Gwent ar wahân, a beth sy'n rhwygo teuluoedd ar wahân a bywydau ym Mlaenau Gwent? Cyni, proses y gwnaethoch chi bleidleisio drosti a phroses nad yw wedi mynd yn ddigon pell, yn ei farn ef. Gadewch imi ddweud hyn wrthych chi: cyni sydd wrth wraidd yr hyn a arweiniodd at bobl Blaenau Gwent yn pleidleisio o blaid Brexit. Cyni sydd wrth wraidd yr hyn sy'n torri'r wlad hon a chyni sydd wrth wraidd yr hyn sydd wedi gwahanu'r cymunedau hyn ac at wrthdaro.

A gadewch imi ddweud hyn, Llywydd, buoch chi'n hael iawn, ni fyddaf i'n pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru heddiw oherwydd nad wyf i'n credu y dylem ni fod yn chwarae y math hwnnw o wleidyddiaeth y prynhawn yma. Credaf y dylem ni fod yn dangos undod â'n cyfeillion yn yr Alban. Ni fyddwn yn gwneud hynny ddydd Sadwrn, ond fe fyddwn ni heddiw. A dylem ni ddangos y gallwn ni godi uwchlaw y demtasiwn i chwarae'r gemau hynny a phleidleisio o blaid y darlun mwy a'r weledigaeth fwy, a dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig y gallwch chi gerdded i lawr coridorau gwych San Steffan, ond os ydych chi eisiau cynrychioli pobl y wlad hon mewn gwirionedd, mae'n rhaid i chi wneud mwy na dim ond rhoi sglein ar eich bathodynnau a rhoi sglein ar eich areithiau. Mae'n rhaid i chi wrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud.

Prif Weinidog, rwy'n gobeithio—[Torri ar draws.] Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu ymestyn erthygl 50, galw refferendwm, ac yn y refferendwm hwnnw, adnewyddu ein democratiaeth a herio'r gwerthwyr neidr olew a welwn yn y Siambr hon, y gwerthwyr oel nadroedd a welsom yn gwerthu eu celwyddau i bobl y wlad hon, eu herio nhw a'u rhoi yn eu lle a dweud wrth bobl Cymru mai dyma ein democratiaeth ac nad ydych chi'n mynd i'w ddwyn oddi arnom ni.

Llywydd, diolch yn fawr. A diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn sydd wedi bod yn ddadl ragorol ac angerddol, yn fy marn i. Mae Brexit wedi bod yn beiriant ar gyfer arloesedd cyfansoddiadol. Y prynhawn yma, am y tro cyntaf, rydym ni ar y cyd, yn ein gwahanol leoedd, yn trafod â Senedd yr Alban gynnig sydd yn union yr un fath a gyflwynwyd gan y ddwy Lywodraeth gerbron y ddwy Senedd. Rydym ni'n gwneud hynny am reswm pwysig iawn, oherwydd drwy weithredu'n unigryw yn y modd hwn, rydym ni'n gobeithio y bydd ein pleidleisiau heno yn rhoi mwy o bwysau ar Brif Weinidog y DU i wneud y peth iawn, i gadw at y cyfrifoldebau sydd wedi'u rhoi yn ei dwylo ac i weithredu mewn modd sy'n amddiffyn buddiannau teuluoedd a phobl sy'n gweithio yn yr Alban ac yng Nghymru.

Yn ystod y misoedd diweddar, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi bod yn glir y byddai 'dim cytundeb' yn ganlyniad trychinebus. Ac fel y mae'r Aelodau wedi'i wneud yn glir yn y fan yma y prynhawn yma, dyna'r cynnig yr ydym ni'n ei drafod y prynhawn yma—dyna'r posibilrwydd yr ydym yn unedig o ran yr hyn yr ydym yn galw amdano, yn yr Alban ac yng Nghymru, i ddweud wrth Lywodraeth y DU i gymryd camau pendant i sicrhau na all 'dim cytundeb' fod y ffordd y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnes i ddatganiad ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban y mis diwethaf. Fe wnaethom ni alw ar Brif Weinidog y DU i dynnu 'dim cytundeb' oddi ar y bwrdd a gofyn am estyniad ar unwaith i'r broses erthygl 50. Dywedodd Aelodau yn y Siambr hon, pan gawsom ddadl arno ar 7 Chwefror, nad oedd amser ar gael i'w wastraffu, ond mae'r Prif Weinidog wedi gwneud yn union hynny—mae hi wedi dibynnu ar y dacteg o oedi i orfodi dewis rhwng ei chytundeb niweidiol hi a dim cytundeb. Mae hi wedi llwyddo i argyhoeddi hyd yn oed unigolyn mor rhesymol â David Melding mai dyma'r dewis a wynebwn, ond nid dyna'r dewis, Llywydd—nid dyna'r dewis y mae'n rhaid inni ei wynebu. Nid yw'n ddewis y mae carfan helaeth o Gabinet Mrs May ei hun yn barod i'w gymryd—nid ydyn nhw'n credu mai ei chytundeb hi yw'r cytundeb gorau ac nid ydym ninnau ychwaith.

Nawr, mae'r Prif Weinidog yn dweud bod cadw 'dim cytundeb' ar y bwrdd yn cryfhau ei hochr hi yn y trafodaethau. Mae'r modd y mae hi'n gallu dal ei gafael ar y syniad hen ffasiwn hwnnw sydd wedi methu yn fater o syndod i lawer, ac yn sicr nid yw'n wir ei fod yn gwneud unrhyw ddaioni i ni yn awr. Dywedodd Jeremy Miles, wrth agor y ddadl, y bûm i ym Mrwsel ac ym Mharis yr wythnos diwethaf yn cynnal digwyddiadau Gŵyl Dewi ar ran Cymru. Cefais fy synnu gan gynifer y bobl sy'n ffrindiau i'r Deyrnas Unedig a ddywedodd wrthyf bod penderfyniad Prif Weinidog y DU i bleidleisio o blaid gwelliant Brady wedi chwalu pa bynnag hygrededd yr oedd ganddi ar ôl. Dyma Brif Weinidog a ddaeth i gytundeb—a ddaeth i gytundeb—gyda'r Undeb Ewropeaidd ac a oedd wedyn yn barod i bleidleisio yn erbyn y cytundeb yr oedd hi ei hun wedi ei gytuno. Nid oes unrhyw deimlad bod cadw 'dim cytundeb' ar y bwrdd rywsut yn cryfhau ei llaw hi yn yr amgylchiadau hynny yn cyd-fynd â realiti'r sefyllfa mewn unrhyw ffordd o gwbl.

Beth sydd yn wir yw bod perygl dim cytundeb yn cryfhau. Clywsom wir lais Brexit 'dim cytundeb' yn y Siambr yma y prynhawn yma. I Mark Reckless, mae penderfyniad pobl mewn refferendwm yn 2016 mor absoliwt fel y byddai ef, fel y dywedodd Carwyn Jones, yn hapus i fynd â ni oddi ar glogwyn yn y tywyllwch, a hynny heb olau.

17:55

Rwy'n ymddiheuro i'r Prif Weinidog am ymyrryd, ond mae un pwynt sydd wedi fy nghythryblu—rhywbeth a ddywedodd Mark Reckless, a oedd yn fy synnu i, mae'n rhaid imi ddweud, pan ddywedodd ef y dylem ni gael y cyfle i osod tariffau mawr ar gig eidion o Iwerddon. Os mai dyna'r achos, mae hynny'n golygu tariffau rhwng y DU ac Iwerddon, mae'n golygu tollau, mae'n golygu ffin galed, mae'n golygu dod â chytundeb Gwener y Groglith i ben a pheryglu heddwch ar ein hynys gyfagos. A ydych chi'n cytuno nad yw hynny'n bris sydd unrhyw beth tebyg i fod werth ei dalu er mwyn gweithredu Brexit?

Rwy'n cytuno'n llwyr, Llywydd, â'r hyn y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi'i ddweud. Ac mae rhyfyg y math hwnnw o gynnig yn dangos i chi beth fyddai Brexit 'heb gytundeb' yn ei olygu: diofalwch ynghylch heddwch ar ynys Iwerddon; parodrwydd i aberthu rhannau cyfan o economi Cymru wrth fynd ar drywydd yr ideoleg—

18:00

Rwy'n credu i chi ddweud wrth Aelod arall faint o weithiau yr oedd wedi siarad yn y ddadl ac rwy'n credu bod llawer mwy o benrhyddid—

Ni allwch chi ganiatáu i hynny gael ei ddweud amdanaf fi a pheidio rhoi cyfle imi.

—wedi'i ganiatáu yn y fan yna. Yn hytrach, Llywydd—[Torri ar draws.] Yn hytrach, Llywydd—[Torri ar draws.] Yn hytrach, Llywydd—[Torri ar draws.] Caiff yr Aelod fod ar ei draed yn gweiddi arnaf, ond nid wyf yn gwneud unrhyw beth i gymodi ag ef yn y ddadl hon.

Yn hytrach, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Alun Davies. Democratiaeth yw'r hawl i anghytuno; yr hawl i fod mewn lleiafrif ac i barhau i ddadlau dros eich achos; mae'n gwbl groes i'r farn absoliwtaidd bod yr enillydd, mewn un bleidlais yn unig, yn cymryd popeth a'r enillydd yn cadw popeth am byth. Negyddu democratiaeth yw hynny, ond y—

—ond y farn absoliwtaidd honno sy'n golygu, ein bod, yn nwylo'r rheini sydd o'r farn honno, yn mynd tuag at y clogwyn hwnnw, a dim ond 24 diwrnod i ffwrdd y mae ymyl y clogwyn hwnnw erbyn hyn.

Llywydd, fel yr ydych chi wedi'i glywed, bydd y Llywodraeth yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Plaid Cymru, nid oherwydd y dadleuon a wnaed o'i blaid, ond oherwydd fy mod i'n credu ei fod yn rhoi tactegau o flaen strategaeth. Y gêm strategol heddiw ar gyfer pleidiau ar chwith flaengar gwleidyddiaeth Cymru a'r Alban yw pleidleisio o blaid cynigion sydd eisoes wedi'u cymeradwyo yma yn y Cynulliad hwn ac sy'n dod yn fwy o frys bob dydd. Bydd grym y ddadl honno yn sylweddol gryfach os bydd y ddwy Senedd yn cymeradwyo cynnig sydd yn union yr un fath. Dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Plaid Cymru, oherwydd, pe byddai'n cael ei gymeradwyo, byddai'n glastwreiddio effaith unfrydedd seneddol. Byddai'n cael ei ddefnyddio gan y Lywodraeth Geidwadol i awgrymu nad yw Cymru a'r Alban, wedi'r cyfan, yn unedig y tu ôl i'r cynigion a roddwyd gerbron y ddwy Senedd gan ddwy Lywodraeth wahanol iawn ond Llywodraethau sydd o'r un farn ar y materion a roddwyd gerbron yr Aelodau yn y fan yma heddiw.

Rwy'n cytuno â Lynne Neagle bod angen inni fod yn glir a bod angen inni fod yn ddiamwys. Dyna pam na ddylem ni bleidleisio o blaid gwelliant sy'n cyflwyno amwysedd rhwng y Cynulliad Cenedlaethol hwn a'r bleidlais a gynhelir yn Senedd yr Alban. Rwy'n cytuno ag Alun Davies mai dyma ein cyfle ni i ddangos undod yn wyneb bygythiad a fyddai fel arall yn peryglu creu Prydain doredig. Yn yr Alban, mae gwrthbleidiau â chymaint o gred mewn ail refferendwm â Phlaid Cymru wedi bod yn barod i wneud y pwyntiau hynny yn y ddadl, ond heb geisio gwneud grym un cynnig yn aneglur drwy gynnig gwelliant.

Dyma'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Richard Leonard, yn y ddadl honno, pan soniodd am y llwybr y mae Mrs May wedi ei ddilyn, gan ddweud wedyn, pan fydd hi yn methu, nad oes unrhyw ddewis heblaw mynd yn ôl at y bobl mewn pleidlais gyhoeddus, gyda dewis 'gadael' credadwy yn ogystal â dewis i aros ar y papur pleidleisio. Nid yw hyn oherwydd ein bod ni'n anghytuno â'r safbwyntiau, ond oherwydd ein bod ni eisiau anfon un neges unedig ar y materion hyn gan y Senedd hon a chan Senedd yr Alban hefyd.

A wnaiff y Prif Weinidog ildio? Oni ddywedodd arweinydd Plaid Lafur yr Alban hefyd mai ei ddewis ef fyddai cytundeb wedi'i ddiwygio? Ac ai dyna yw safbwynt Plaid Lafur Cymru?

Wel, safbwynt Plaid Lafur Cymru yw'r safbwynt y cytunodd ein plaid ni a'i blaid ef arno gyda'n gilydd. Dyna'r safbwynt. Nid yw'n fater mor anhygoel bod eisiau i arweinydd Plaid Cymru ysgwyd ei ben arnaf fi, ar gyfres o gynigion y gwnaeth ei blaid ef gytuno iddynt yn y Cynulliad hwn pryd y nododd ef—

Y cwestiwn a ofynnwyd i arweinydd y Blaid Lafur oedd: beth fyddai ei ddewis ef—pleidlais i'r bobl neu gytundeb wedi'i ddiwygio? Cytundeb wedi'i ddiwygio ddywedodd ef. Rydym ni'n glir mai ein dewis ni yw pleidlais i'r bobl. Beth yw eich safbwynt chi?

Fy safbwynt i yw'r safbwynt y cytunodd eich plaid chi a'm plaid i arno gyda'n gilydd. Dyna fy safbwynt i. Nawr, nid dyna eich safbwynt chi, oherwydd rydych chi wedi symud oddi wrth y safbwynt hwnnw, ond fy safbwynt i yw bod yna gytundeb i'w wneud, cytundeb a fyddai wedi diogelu economi a swyddi Cymru. Mae'n gytundeb y gwnaethoch chi gytuno iddo—cytunodd eich plaid iddo. Efallai nad yw'n addas i chi erbyn hyn, ond roedd yn addas i chi ar y pryd. Heddiw, rydych chi wedi newid eich meddwl. Mae hynny'n iawn—nid oes ots gen i am hynny o gwbl.

18:05

Yn hollol, democratiaeth y mae'n nhw'n ei alw, ac mae gennych chi hawl i newid eich meddwl. Yr hyn nad oes gennych chi'r hawl i'w wneud yw awgrymu nad yw ein safbwynt ni, rywsut, sef y safbwynt a oedd gennych chi, i'w gefnogi rywsut neu'i gilydd. Fy safbwynt i yw'r safbwynt yr wyf i wedi'i ddatgan dro ar ôl tro, Llywydd, a dyna pam na fyddwn ni'n pleidleisio o blaid ei welliant, oherwydd, mewn gwirionedd, yn y pen draw, yr hyn y mae ganddo ef ddiddordeb ynddo yw y math hwn o sgorio pwyntiau gwleidyddol dibwys—y math hwn o lol tactegol y mae'n ymbleseru ynddo yma ar lawr y Cynulliad. Fy safbwynt i yw hyn: gadewch i gytundeb gael ei wneud. Os na ellir gwneud cytundeb, yna mae'n rhaid iddo fynd yn ôl at y bobl—yna rydym ni o blaid pleidlais y bobl. Dyna'r safbwynt yr ydym ni'n ei gefnogi. Fe'i dywedaf eto: nid oes gen i unrhyw anhawster â hynny o gwbl.

Llywydd, gadewch imi ddirwyn i ben drwy ddyfynnu'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Prif Weinidog yr Alban am y ddadl heddiw. Dywedodd hi:

Mae'n werth pwysleisio mai dyma'r tro cyntaf mewn 20 mlynedd o ddatganoli pan fo Senedd yr Alban a Llywodraeth y Cynulliad wedi gweithredu ar y cyd yn y modd hwn. Rydym ni wedi ein dwyn ynghyd gan ein siom—sy'n ymylu bellach ar anobaith—gydag ymagwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at...Brexit.

Mae'r cynnig yn darparu'r sail, hyd yn oed mor ddiweddar â hyn, ar gyfer dull mwy synhwyrol a llai niweidiol. Drwy wneud hynny, mae'n caniatáu i ni weithredu er budd nid yn unig ein hetholwyr ein hunain ond y DU yn ei chyfanrwydd—yn wir, Ewrop yn ei chyfanrwydd. Dywedodd Nicola Sturgeon ei bod yn ei gymeradwyo. Gobeithio y bydd Aelodau, o Senedd yr Alban a'n ffrindiau yn y Cynulliad, yn pleidleisio o blaid hyn heno. Llywydd, rwyf innau yn ei gymeradwyo hefyd. Rwy'n cytuno â Delyth Jewell: nid gêm barlwr yw hon. Gadewch i ni siarad ag un llais ar un cynnig cyffredin, ac, wrth i Lywodraeth y DU symud at gyfres o bleidleisiau tyngedfennol yr wythnos nesaf, gadewch i ni beidio â gadael neb mewn unrhyw amheuaeth o farn yr Alban a Chymru. Pleidleisiwch o blaid y cynnig a gyflwynwyd gan y Llywodraeth hon gerbron y Cynulliad hwn, gan Lywodraeth yr Alban gerbron Senedd yr Alban, a gadewch i ni siarad â'r llais cyffredin hwnnw ar achos cyffredin, oherwydd dyna'r ffordd y byddwn yn manteisio i'r eithaf ar ein dylanwad ac yn rhoi'r pwysau hwnnw y mae angen i ni ei roi ar y Prif Weinidog i wneud y peth iawn ac i sicrhau bod buddiannau ein pobl yn cael eu rhoi wrth wraidd y cytundeb y bydd hi'n ei wneud â'r Undeb Ewropeaidd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15, penderfynodd y Llywodraeth fod yn rhaid cynnal pleidlais ar yr eitem yma. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar yr ail gyllideb atodol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 21 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. 

NDM6964 - Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2018-19: O blaid: 28, Yn erbyn: 1, Ymatal: 21

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar ddadl trafodaethau ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi cwympo.

NNDM6985 - Gwelliant 1: O blaid: 4, Yn erbyn: 45, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

NNDM6985 - Gwelliant 2: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Sy'n dod â ni at y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enwau Rebecca Evans a Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NNDM6985 - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

18:10

Daeth y cyfarfod i ben am 18:10.