Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/11/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges. 

Cyfraniadau Pensiwn Athrawon

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllido'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn athrawon? OAQ52895

Rwy'n rhannu pryderon pobl eraill yn y sector cyhoeddus bod perygl y bydd y newidiadau arfaethedig i gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus yn dargyfeirio rhagor o arian o wasanaethau rheng flaen. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y newidiadau hyn ac rydym ni wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid iddyn nhw ariannu'r cynnydd i gyfraniadau pensiwn.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'r gost o ariannu'r cynnydd i gyfraniadau pensiwn cyflogwyr athrawon yn dilyn penderfyniad San Steffan i gyflwyno cap costau, a bydd hyn yn effeithio ar gyllidebau ysgolion yn bennaf. Oni ddaw arian gan San Steffan—ac efallai y bydd arian gan San Steffan—a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo y bydd unrhyw arian a ddaw fel swm canlyniadol o'r arian ychwanegol ar gyfer ysgolion yn Lloegr i dalu am y pensiynau wir yn cael ei roi i ysgolion yng Nghymru?

Wel, rydym ni eisoes wedi ei gwneud yn glir bod awdurdodau lleol ar flaen y ciw, er bod ciw o ran cyllid, ond mae hynny'n dibynnu ar ba un a fyddwn ni yn cael symiau canlyniadol ai peidio. Yr hyn nad yw'n deg, ac nad yw'n iawn ychwaith, yw sefyllfa'n codi pan fo Llywodraeth y DU yn gorfodi costau ychwanegol ar awdurdodau lleol y disgwylir i Lywodraeth Cymru eu hariannu wedyn. Ni all hynny fod yn iawn, yn amlwg. Felly, pan fydd costau yn cael eu gorfodi gan y Llywodraeth, mae gennym ni gytundeb gydag awdurdodau lleol lle'r ydym ni'n dweud y bydd unrhyw gostau newydd yn cael eu hariannu. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud yr un fath.

Wel, wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn cwyno bob amser y gofynnir iddyn nhw wneud penderfyniadau gwario yn seiliedig ar benderfyniadau a wneir yma nad ydyn nhw'n eu dilyn gan arian. Ac os yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn iawn am hyn, bydd gennym ni lawer llai o athrawon yn cronni hawliau pensiynau beth bynnag o ganlyniad i'r toriadau arian parod i'r cyllidebau llywodraeth leol ac addysg yn y cyhoeddiad cyllideb diweddar.

Yr wythnos diwethaf, clywsom gan arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr am y toriadau yr oedd yn bwriadu eu gwneud i wasanaethau yn dilyn cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ac yr wythnos hon mae gennym ni arweinydd cyngor Abertawe—y ddau o'r rhain o'r balid Lafur, wrth gwrs—yn dweud ei fod yn mynd i wneud toriadau i'r gyllideb ysgolion oherwydd y setliad gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllideb y Canghellor yn dyrannu gwerth tair blynedd o gyllid. Felly, yn eich wythnosau olaf fel Prif Weinidog, a wnewch chi ddefnyddio rhywfaint o'r arian ychwanegol hwnnw i roi'r arian i arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd ei angen arnynt i ariannu ysgolion a staff?

Nid yw penderfyniad ariannu'r Canghellor yn rhoi tair blynedd o gyllid i ni, ac nid yw'n agos at y ffigur a awgrymodd o £555 miliwn. A dweud y gwir, rydym ni'n amcangyfrif ei fod tua £50 miliwn neu £60 miliwn o refeniw y flwyddyn hon, ac yn £2.6 miliwn mewn cyfalaf. Felly, mae llawer iawn o sbin yn gysylltiedig â'r cyhoeddiad hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud, ar ôl siarad ag arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr, a siarad ag arweinydd Abertawe, yw, ydy, maen nhw'n wynebu penderfyniadau anodd ac rydym ni'n ceisio eu helpu nhw, ond maen nhw'n gwbl glir bod y penderfyniadau hynny y maen nhw'n eu hwynebu yn ganlyniad i'r cyni cyllidol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Dorïaidd yn Llundain.

Mae'n amlwg fod yr ansicrwydd o gwmpas y taliadau pensiwn yma yn creu problemau mawr ar lawr gwlad, ac nid ydym ni'n glir o gwbl beth fydd y mecanwaith ar gyfer darparu'r arian ychwanegol yma. Pa drafodaethau ydych chi'n eu cael, felly, efo'r Trysorlys, efo'ch Aelodau Seneddol chi yn San Steffan ac, yn wir, efo'r undebau addysg ynglŷn â'r broblem yma?

Rydym ni wedi ysgrifennu, gyda'r Alban, i alw am y newidiadau ynglŷn â'r pensiynau athrawon, a dylai hynny gael ei gyllido gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Nhw, wrth gwrs, sydd wedi creu'r sefyllfa, ac mae'r un peth yn yr Alban, fel rwy'n deall, ac felly rydym ni wedi ysgrifennu gyda'n gilydd er mwyn dweud, 'Chi sydd wedi mynnu dodi'r gost hyn ar awdurdodau lleol, felly chi ddylai dalu.'

Ail Gartrefi

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cofrestru ail gartrefi fel eiddo busnes ar dderbyniadau treth cyngor? OAQ52931

Cyfrifoldeb Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yw penderfynu a ddylai pob eiddo dalu treth gyngor neu ardrethi annomestig, ac mae’r penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud gan ddilyn meini prawf sydd wedi’u gosod yn y gyfraith.

Mae'n hysbys iawn yr effaith mae pryniant ar farchnad ail gartrefi a thai gwyliau yn ei chael ar allu pobl ifanc i gael ar yr ysgol eiddo yn lleol. Mae o'n gwthio prisiau i fyny ac yn gwthio pobl allan o'r farchnad dai. Rydym ni'n gwybod beth yw difrifoldeb y broblem—36 o dai a gafodd eu gwerthu yn Ynys Môn yn 2017-18 yn ail gartrefi neu yn buy-to-lets. Mae'r ffigurau'n uwch fyth yng Ngwynedd, ac mae hynny'n bryderus iawn. Rwy'n gefnogol iawn o fesurau, er enghraifft, fel codi mwy o dreth cyngor ar ail gartrefi fel ffordd o wneud i bobl feddwl ddwywaith, neu i ddod â rhagor o arian i mewn i goffrau cynghorau lleol. Ond mae yna batrwm yn ymddangos erbyn hyn lle mae mwy a mwy o bobl, yn hytrach na thalu treth cyngor ar y tai, yn eu cofrestru nhw fel eiddo busnes fel y byddan nhw wedyn yn gorfod talu ardrethi busnes. Ond, fel busnesau bach, maen nhw'n cael rhyddhad llawn o ardrethi busnes, ac mae hynny'n costio'n ddrud i awdurdodau lleol. A ydy'r Prif Weinidog yn cytuno bod hwn yn loophole sydd angen ei gau, a beth mae'r Llywodraeth yn ystyried ei wneud er mwyn cau y loophole yna?

13:35

Nid ydw i'n credu ei fod e'n loophole. Mae'r gyfraith yn eithaf clir—mae'r gyfraith yn gryfach nag yn Lloegr. Mater, wrth gwrs, i'r swyddfa brisio yw hwn, ond os yw rhywun yn moyn newid eu statws, lle maen nhw'n newid o dalu treth y cyngor i dalu ardrethi anomestig, mae'n rhaid iddyn nhw ddangos tystiolaeth bod hynny'n iawn. Nawr, allan nhw ddim jest datgan mai dyna sydd wedi digwydd; mae'n rhaid iddyn nhw ddangos tystiolaeth. Os yw'r dystiolaeth honno yn wan, neu os nad yw'r dystiolaeth yn ddigonol, felly wrth gwrs y byddai'r swyddfa brisio yn gallu ailystyried beth maen nhw wedi ei wneud, ac wedyn maen nhw'n gallu rhoi bil iddyn nhw, sydd yn mynd nôl efallai flynyddoedd ynglŷn â thalu treth y cyngor. Felly, sicrhau bod y gyfraith yn cael ei hystyried yw'r pwynt fan hyn. Rwy'n credu bod y gyfraith yn ddigon clir, ond mae hi lan i'r swyddfa brisio blismona'r sefyllfa.

Wel, rydych chi'n cyfeirio at y meini prawf y mae'n rhaid i Asiantaeth y Swyddfa Brisio eu dyfarnu, lle, yng Nghymru, ystyrir bod eiddo yn eiddo busnes ac nad yw'n agored i dalu ardrethi busnes os yw ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunan-arlwyo am 140 neu fwy o ddiwrnodau yn ystod y 12 mis canlynol, wedi ei osod yn ystod y 12 mis blaenorol, ac wedi ei osod yn fasnachol am o leiaf 70 diwrnod yn ystod y cyfnod hwnnw. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r darparwyr niferus felly, o Sir y Fflint i Ynys Môn, sydd wedi cysylltu â mi, sy'n rhedeg busnes hunan-arlwyo cyfreithlon, y mae llawer ohonyn nhw yn ffermydd sydd wedi arallgyfeirio, na fydd eu busnesau dilys a chyfreithlon yn cael eu peryglu gan unrhyw newidiadau a allai ddigwydd?

Wel, nid oes angen i fusnesau dilys ofni, wrth gwrs. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gwerthuso effaith cyflwyno premiymau treth gyngor. Mae hynny'n cynnwys arolwg o awdurdodau lleol, i asesu faint o eiddo sydd wedi newid o'r dreth gyngor i ardrethi annomestig. Ar ôl i'r arolwg hwnnw gael ei gwblhau, gallwn weld wedyn beth yw maint y broblem, a pha un a oes angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn talu'n briodol, yn unol â statws yr eiddo y maen nhw'n berchen arno.

A wnaiff Llywodraeth Cymru ddeddfu i sicrhau bod yn rhaid i bob eiddo sy'n cael ei adeiladu neu ei addasu ar gyfer tai dalu'r dreth gyngor yn seiliedig ar y band y maen nhw ynddo a bod unrhyw bremiwm ail gartref sy'n cael ei godi gan yr awdurdod lleol, neu'r rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer eiddo rhent yn cael eu diddymu? Oherwydd rwy'n credu bod hwn yn fwlch: mae'n rhaid iddo fod ar gael am 140 diwrnod; mae'n hawdd iawn rhoi rhywbeth ar gael am 140 diwrnod, a'i osgoi. Mae'n rhaid ei osod am 70 diwrnod, pa un a yw rhentu i deulu yn cyfrif, y mae llawer o bobl yn ei wneud, o'r safbwynt eich bod yn casglu mwy o rent, ond maen nhw'n gadael i aelodau teulu ei ddefnyddio, ac felly mae hynny'n cronni i'r 70 diwrnod. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ystyried edrych ar y naill neu'r llall o'r ddau gam hynny, i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael yr arian y maen nhw'n ei haeddu?

Rydym ni wedi deddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol godi premiymau treth gyngor ar ail gartrefi. Fel y dywedais yn yr ateb yn gynharach, cyfrifoldeb Asiantaeth y Swyddfa Brisio—yn annibynnol ar y Llywodraeth—yw pennu statws pob eiddo yng Nghymru. Fel y dywedais, gallai'r perchnogion ail gartrefi hynny sy'n ceisio twyllo'r system ganfod eu hunain yn wynebu biliau wedi'u hôl-ddyddio mawr iawn ar gyfer y dreth gyngor. Ond, unwaith eto, cyfeiriaf at yr ateb a roddais yn gynharach, sy'n golygu bod adolygiad yn cael ei gynnal, i archwilio maint y broblem mewn gwahanol rannau o Gymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth yn gwario £678 yn llai fesul disgybl nag yn Lloegr?

Mae hwnna'n ffigur sy'n gwbl anghywir. Os yw'n dymuno rhoi tystiolaeth o'r ffigur hwnnw i mi, rwy'n barod i'w chlywed.

Prif Weinidog, mae'r rhain yn ffigurau gan gangen Cymru undeb Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau, ac mae hyn er gwaethaf cael setliad ariannu sy'n caniatáu i £120 gael ei wario fesul person yng Nghymru ar gyfer pob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Ond nid eich penderfyniad i dan-ariannu ysgolion yn unig sydd wedi arwain at ddirywiad i safonau, ond methiant eich Llywodraeth i bennu cyfeiriad eglur ar gyfer addysg yma yng Nghymru. Gadewch i ni edrych ar dargedau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, er enghraifft—mesuriad eglur o ddirywiad wedi ei reoli mewn safonau ysgolion. Yn 2011, pennwyd y targed uchelgeisiol gan eich cyd-Aelod, y Gweinidog addysg ar y pryd, Leighton Andrews—Leighton Andrews: ydych chi'n ei gofio fe? Ie; efallai nad ydych chi eisiau ei gofio—y byddai Cymru, erbyn 2015, yn yr 20 gwlad uchaf o ran canlyniadau PISA. Y gwir amdani, Prif Weinidog, yw ein bod ni yn y nawfed ar ddeg ar hugain safle allan o 71 ar hyn o bryd, ac nid oes unrhyw darged o gwbl erbyn hyn. Nid oes unrhyw uchelgais, dim ysgogiad a dim awydd wrth wraidd eich gweinyddiaeth i ddatblygu system addysg sy'n gystadleuol yn rhyngwladol, sy'n dweud cyfrolau gan Lywodraeth Lafur Cymru flinedig ac sy'n dangos diffyg uchelgais. Felly, a ydych chi'n cytuno â'ch cyd-Aelod blaenorol, Leighton Andrews, bod system addysg Cymru yn parhau i fod yn hunanfodlon, ac yn methu â bod yn gyson dda a chyflawni canlyniadau y mae ein dysgwyr yn eu haeddu? A ydych chi'n cytuno bod system addysg Cymru mewn lle gwannach ar hyn o bryd nag yr oedd pryd y daethoch chi'n Brif Weinidog?

13:40

Ddim o gwbl. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod dweud bod y system rywsut yn gymedrol neu fod y system mewn dirywiad a reolir yn ymosodiad difrifol ar ein hathrawon sy'n gweithio'n galed iawn, iawn, bob un dydd, i addysgu ein plant. Y gwir amdani yw ei bod hi'n amhosibl cymharu cyllid ysgolion rhwng Cymru a Lloegr. Yn Lloegr, maen nhw'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol; yng Nghymru, nid yw'n digwydd. Rydym ni'n rhoi'r arian i awdurdodau lleol a nhw sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion.

Mae'n dweud rywsut bod dirywiad. Wel, gadewch i mi roi rhai ffigurau iddo yn y fan yma: Rydym ni wedi gwella perfformiad ar y graddau uchaf—A* i A o 17 y cant i 18 y cant mewn arholiadau TGAU; wedi gweld cynnydd o 50 y cant yn nifer y disgyblion sy'n astudio gwyddoniaeth, gyda mwy yn ennill graddau A* i C ac yn cael y graddau uchaf ar gyfer bioleg, cemeg a ffiseg; gwelwn, wrth gwrs, gyfraddau pasio Safon Uwch yn gwella; gwelwn, er enghraifft, 63 y cant o bobl ifanc 16 oed yn cael A* i C ym mhwnc Saesneg iaith; gwelwn fod rhifedd mathemateg yn 60 y cant; gwelwn welliannau flwyddyn ar ôl blwyddyn i berfformiad TGAU; a gwelwn welliannau flwyddyn ar ôl blwyddyn i berfformiad Safon Uwch.

Nid yw ein penaethiaid yn gorymdeithio ar y strydoedd yn dweud bod eu hysgolion yn cael eu tanariannu, yn wahanol i'r sefyllfa sy'n bodoli o dan ei blaid ef yn Lloegr. Awgrymaf iddo, 'Ewch i weld'. Roeddwn i yn ei etholaeth ychydig wythnosau yn ôl ar ymweliad gwleidyddol—ewch i weld yr ysgolion newydd sydd wedi eu hadeiladu neu eu haddo ledled Cymru, ac ewch i weld faint sy'n cael eu hadeiladu neu eu haddo yn Lloegr. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn parhau i allu cael y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw i ddysgu, i gael y cymorth gan Lywodraeth sydd ei angen arnynt i ddysgu, i gael y cyllid gan Lywodraeth sydd ei angen arnynt i ddysgu, yn hytrach na chael y sefyllfa yn Lloegr, lle maen nhw'n addysgu pobl ifanc a phlant mewn adeiladau sy'n dadfeilio tra bod y penaethiaid yn gorymdeithio ar y strydoedd.

Prif Weinidog, dywedasoch eich hun eich bod chi wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl o ran addysg. Yn amlwg, mae eich plaid wedi bod yn cysgu wrth yr olwyn dros y degawd diwethaf. A gadewch i mi roi rhai ffigurau i chi: o dan stiwardiaeth eich plaid chi, rydym ni wedi gweld y canlyniadau TGAU gwaethaf mewn degawd; y sgoriau PISA isaf yn y DU, gyda chyrhaeddiad addysgol sy'n waeth na gwledydd fel Fietnam a Slofacia; a thoriad o 8 y cant mewn termau real i gyllid ar gyfer addysg, gydag ysgolion yn paratoi ar gyfer mwy o doriadau; ac mae arweinydd eich cyngor eich hun yn eich etholaeth eich hun wedi rhybuddio y gallai'r bwlch ariannu o £57 miliwn ym maes addysg a grëwyd gan eich Llywodraeth chi arwain at golli 1,300 o athrawon neu 2,400 o gynorthwywyr addysgu ledled Cymru.

Mae'n gwbl annerbyniol bod dyfodol ein disgyblion a dyfodol Cymru yn ysgwyddo baich anallu eich Llywodraeth yn y maes hwn. Mae ein plant yn werth mwy na'r hyn yr ydych chi'n ei roi iddyn nhw, Prif Weinidog. Pan gawsoch eich penodi i'r swydd yn 2009, ai dyma'r math o ddiwygio yr oeddech chi'n bwriadu ei gyflawni? Ac a ydych chi'n falch o'ch hanes ar addysg?

Ie ac ydw. Ond gadewch i mi ddweud dau beth wrtho: aeth ei blaid ef i mewn i etholiad Cynulliad 2011 gydag addewid i dorri gwariant ar addysg gan 20 y cant—20 y cant. Dywedodd ei arweinydd ei hun ar y pryd, Nick Bourne, y byddai—[Torri ar draws.]—gwn nad ydych chi'n hoffi hyn, ond fe'i dywedodd yn fyw mewn cyfweliad ar BBC Wales. Gwelsom y gyllideb amgen a ddarparwyd gan ei blaid, ac os oes ganddo unrhyw gŵyn, does bosib nad honno yw'r ffaith nad ydym wedi torri digon ar wariant ar addysg cyn belled ag y mae ef yn y cwestiwn.

Yn ail, nid oes gen i unrhyw amheuaeth y byddwn ni'n eistedd yma yn ystod yr hanner awr nesaf, ac, yn wir, yn yr wythnosau i ddod, tra ei fod ef yn mynnu ein bod ni'n gwario mwy o arian ar bopeth—iechyd, addysg, llywodraeth leol, popeth—a hoffem ni wneud hynny. Hoffem wneud hynny, ond y gwir amdani yw bod gennym ni £4 biliwn yn llai o ganlyniad i bolisïau ei blaid ef nag y byddai gennym ni fel arall pe byddai gwariant wedi cadw i fyny â datblygiad economaidd. Ni all ei chael hi bob ffordd; ni all ef sefyll ar ei draed yma bob wythnos a gofyn am arian ar gyfer pob un rhan o'r Llywodraeth bob un wythnos heb fod yn gyfrifol a dweud o ble mae'r arian hwnnw'n dod. Ni fydd yn gwneud hynny gan fod hynny'n rhy anodd.

13:45

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n fodlon bod yr RAF yn hyfforddi peilotiaid Saudi Arabia yn RAF y Fali ar Ynys Môn, gan addysgu'r technegau y gellir eu defnyddio yn y rhyfel yn Yemen?

Mae'r rhain yn faterion, wrth gwrs, nad ydynt wedi eu datganoli, ond rwy'n sicr yn ymuno ag ef o ran dymuno gweld ateb heddychlon i'r rhyfel yn Yemen. Mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy—mae bywydau diniwed yn cael eu colli—a gwn mai safbwynt Llywodraeth y DU hefyd yw bod angen dod i gytundeb heddwch, a hynny'n fuan.

Rydych chi'n dweud ei fod yn fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond a yw moeseg yn rhywbeth nad yw wedi ei ddatganoli? A yw moesoldeb yn rhywbeth nad yw wedi ei ddatganoli? Ble mae'n dweud yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 bod materion y cydwybod wedi eu cadw yn ôl i San Steffan? Mae miloedd o bobl wedi marw yn y rhyfel yn Yemen, llawer ohonyn nhw yn sifiliaid, a phlant yn eu plith. Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar allforio arfau i Saudi Arabia, sydd, fel y nododd, wedi cael ei chyhuddo o droseddau rhyfel gan y Cenhedloedd Unedig.

Nawr, ddydd Sul, mewn seremoni sanctaidd ger y Senotaff i goffáu'r rhai a laddwyd mewn rhyfeloedd, gwnaed addewid gennych chi a minnau, a dyfynnaf, 'I ymdrechu am bopeth sy'n sicrhau heddwch.' Felly, i anrhydeddu'r addewid hwnnw, a ydych chi'n barod i addo y bydd dim o arian Llywodraeth Cymru yn mynd i gwmni sy'n cyflenwi arfau yn uniongyrchol i Saudi Arabia tra bod y rhyfel gwaedlyd hwn yn parhau?

Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gwmni sydd wedi cael arian yn yr ystyr hwnnw. Yn sicr nid ydym ni wedi trefnu contractau gyda Llywodraeth Saudi Arabia, ac rydym ni'n rhannu pryder Llywodraeth y DU, nid yn unig o ran yr hyn sydd wedi digwydd yn Yemen, ond wrth gwrs llofruddiaeth y newyddiadurwr, Khashoggi, yn Nhwrci, sydd wedi cael cymaint o gyhoeddusrwydd. Mae cwestiynau i Saudi Arabia eu hateb, ac rwy'n cytuno ag ef y dylem ni fod yn ofalus iawn, fel y mae pethau ar hyn o bryd, gyda'r ddwy sefyllfa hynny o ran y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu â Llywodraeth Saudi.

Wel, gallaf ddweud wrth y Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £1 filiwn i gwmni amddiffyn Raytheon yn yr Unol Daleithiau. Yn ôl CNN, defnyddiwyd arfau Raytheon yn y bomio wedi'i dargedu o sifiliaid yn Yemen. Mae gwybodaeth gan Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau yn cadarnhau bod gweithrediadau Raytheon yng Nghymru yn cymryd rhan yn uniongyrchol ac yn sylweddol yn y broses o ddanfon cannoedd yn fwy o daflegrau aer i dir i fyddin Saudi Arabia. Llofnodwyd y cytundeb $300 miliwn hwnnw, gyda llaw, wythnos ar ôl i brif swyddog gweithredol Raytheon hedfan i Riyadh i lobïo Mohammed bin Salman, y dywedwyd mai ar ei gyfarwydd ef y llofruddiwyd Jamal Khashoggi, y mae'r Prif Weinidog newydd gyfeirio ato. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, i anrhydeddu eich addewid ac ymrwymo na fydd yr un geiniog arall o arian cyhoeddus o Gymru yn mynd i gwmni sy'n ymwneud â chyflenwi arfau i'r gyfundrefn lofruddiol a barbaraidd hon?

Wel, mae arweinydd Plaid Cymru wedi codi mater pwysig yn y fan yna o ran Raytheon. Nid yw'n eglur beth yw cyfraniad ffatri Raytheon yng Nglannau Dyfrdwy o ran Saudi Arabia. Fodd bynnag, byddaf yn darganfod hynny, a byddaf yn ysgrifennu ato ar ôl o mi sefydlu beth yw'r cysylltiad. Ar ôl gweld canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw, byddaf yn ymateb yn llawn wedyn, wrth gwrs, i'r pwyntiau y mae ef wedi eu codi.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, un o'r polisïau cynnar a ddeddfwyd gan Lywodraeth Cymru oedd cyflwyno cymhwyster addysgol newydd, bagloriaeth Cymru, neu 'bac Cymru', fel y'i gelwir. Mae bagloriaeth Cymru wedi cael ei feirniadu, felly a ydych chi'n dal i gredu ei fod wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru?

Ie, roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n debygol y byddech chi'n ei gymeradwyo, felly diolch am yr ateb. Mae'n rhaid i mi ddweud na wnaethoch chi ddweud wrthym ni pam yr ydych chi'n credu hynny, ond efallai y daw—[Torri ar draws.] Wnes i ddim gofyn. Efallai y daw hynny'n fwy eglur wrth i ni symud ymlaen. Mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n debyg na fydd mwyafrif y myfyrwyr sy'n astudio fersiwn Safon Uwch bagloriaeth Cymru yn cytuno â'ch asesiad chi ohono—nid cyn belled ag y gallaf i ei weld. Un o'r problemau yw bod gan fyfyrwyr Safon Uwch sy'n ceisio cael eu derbyn i brifysgolion gorau'r DU ddigon ar eu plât fel y mae hi gyda thri chymhwyster Safon Uwch i ymdopi â nhw. Yna, mae eich Llywodraeth yn mynd ati i'w rhoi o dan anfantais yng Nghymru drwy eu gorfodi i astudio pwnc ychwanegol, bagloriaeth Cymru, nad yw'r rhan fwyaf o brifysgolion gorau'r DU yn ei gydnabod hyd yn oed, ac nad yw'n cyfrif tuag at eu graddau ar gyfer cael lle ar y cyrsiau gorau. A ydych chi'n derbyn bod eich—[Torri ar draws.] A ydych chi'n derbyn bod eich bagloriaeth Cymru yn gwneud bywyd yn fwy anodd i fyfyrwyr Safon Uwch Cymru?

13:50

Nid gwleidyddiaeth America yw hyn. Rydym ni'n hoffi gweld cwestiynau a ofynnir ar sail tystiolaeth—unrhyw dystiolaeth, a dweud y gwir. Dywedodd ei bod yn debygol na fyddai mwyafrif y myfyrwyr Safon Uwch yn cytuno â mi. Nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth ar gyfer hynny. Mae'n awgrymu bod y rhan fwyaf o brifysgolion yn gweld bagloriaeth Cymru fel rhyw fath o orfodaeth neu nad ydynt yn ei gydnabod. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Mae'n credu bod bagloriaeth Cymru ei hun rywsut yn rhoi ein myfyrwyr o dan anfantais. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Oherwydd yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw—mae gen i blentyn, mae'n 16 mlwydd oed, mae'n astudio ar gyfer TGAU eleni, ac mae bagloriaeth Cymru yn hynod ddefnyddiol, gan ei fod yn addysgu myfyrwyr sut i weithredu mewn bywyd ac mewn gwaith y tu hwnt i bynciau academaidd. Byddan nhw'n ymchwilio i bynciau ac yn dod i wybod am feysydd fel gwaith cymunedol, maen nhw'n edrych ar entrepreneuriaeth—yr holl bethau nad ydyn nhw'n cael eu haddysgu mewn pynciau traddodiadol. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r bac yn ei wneud yw paratoi ein pobl ifanc yn y ffordd ehangaf bosibl nid yn unig ar gyfer cymwysterau academaidd, ond ar gyfer y byd gwaith. Gwn fod llawer o gyflogwyr yr wyf i wedi siarad â nhw—fel nad wyf i'n cael fy nghyhuddo o ddweud celwydd—wedi dweud wrthyf eu bod nhw'n canfod bod y rhai sydd wedi bod trwy fagloriaeth Cymru ac wedi ennill y cymhwyster hwnnw wedi eu paratoi'n well i ddechrau yn y byd gwaith.

Ie, rydych chi'n dweud ei fod yn eu paratoi'n well, ond mae hefyd yn eu rhwystro rhag cael eu derbyn ar y cyrsiau gorau. Nawr, roeddech chi eisiau—[Torri ar draws.] Roeddech chi eisiau tystiolaeth, felly gwrandewch ar rywfaint o dystiolaeth. Rydym ni'n gwybod o geisiadau rhyddid gwybodaeth bod prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt wedi gwneud 153 o gynigion amodol i fyfyrwyr o Gymru yn 2017, ac nid oedd yr un ohonyn nhw yn cynnwys bagloriaeth Cymru. Dywedodd Coleg Imperial Llundain nad yw'n arfer safonol gwneud cynigion sy'n cynnwys bagloriaeth Cymru. Yn wir, o 19 o brifysgolion Grŵp Russell, gwnaeth 14 ohonynt fwy o gynigion amodol nad oeddent yn cynnwys bagloriaeth Cymru i fyfyrwyr yng Nghymru na'r rhai a oedd yn ei gynnwys. Felly, a fyddech chi'n cytuno, yn seiliedig ar y dystiolaeth ger ein bron, nad yw bagloriaeth Cymru yn gwneud dim i helpu myfyrwyr Cymru i gael eu derbyn i'r prifysgolion gorau ac yn gwneud popeth, mewn gwirionedd, i'w rhwystro? A ydych chi'n cytuno â mi y dylai eich Llywodraeth ystyried o ddifrif diddymu bagloriaeth Cymru yn gyfan gwbl?

Nac ydw. Nid yw'n ei hoffi gan ei fod yn gysylltiedig â Chymru. Gadewch i ni fod yn onest. Nid yw'n hoffi dim sy'n gysylltiedig â Chymru, dyna pam nad yw'n hoffi bagloriaeth Cymru.

Unwaith eto, nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth. Y cwbl y mae'n ei ddweud yw bod rhai prifysgolion—ac mae Caergrawnt yn cefnogi bagloriaeth Cymru; rydym ni'n gwybod hynny, maen nhw wedi ei ddweud—yn gwneud cynigion lle maen nhw'n dibynnu ar raddau Safon Uwch traddodiadol. Nid ydyn nhw'n dweud bod bagloriaeth Cymru yn anfantais. Ac nid yw bagloriaeth Cymru yn gymhwyster o safbwynt academaidd yn unig. Mae'n gymhwyster sy'n paratoi pobl ifanc, fel y dywedais, ar gyfer y byd gwaith. Mae gan brifysgolion ddiddordeb mewn graddau academaidd, mae gan gyflogwyr ddiddordeb mewn graddau academaidd, oes, ond hefyd parodrwydd a pharatoad person ifanc i ymuno â'r byd gwaith. Mae'n rhywbeth nawr sy'n cael ei ailadrodd yn Lloegr, wrth gwrs. Mae'n debyg os caiff ei fabwysiadu yno y bydd o blaid bagloriaeth Cymru bryd hynny, cyn belled ag y bo ganddo wahanol enw, nad yw'n gysylltiedig â Chymru.

Na, rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud yn dda i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y dyfodol. Rydym ni wedi asio bagloriaeth Cymru i'r cwricwlwm traddodiadol, a gallaf ddweud o'm profiad personol fy hun o edrych arno gyda fy mab, ei fod yn gwneud llawer iawn o ddaioni o ran ehangu gorwelion cynifer o bobl ifanc, sydd ei angen arnynt er mwyn gwneud eu hunain hyd yn oed yn fwy cyflogadwy yn y dyfodol.

Anghydraddoldebau Iechyd ym Merthyr Tudful a Rhymni

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52928

Mae'n un o uchelgeisiau canolog y Llywodraeth fod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg i fyw bywyd iach, ni waeth beth yw eu cefndir neu ym mha le maen nhw'n byw. Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd trwy gymryd camau cenedlaethol a lleol, ac ar draws y Llywodraeth.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Er gwaethaf y buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau iechyd yn fy etholaeth i, gallwn weld bod tueddiad iechyd sy'n peri pryder yn parhau o hyd ymhlith y boblogaeth leol. Byddwch yn ymwybodol bod adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016 wedi tynnu sylw at yr annhegwch cymdeithasol sy'n effeithio ar ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni. Nawr, mae'n rhaid i gyllid digonol i wasanaethau iechyd a gofal lleol i oresgyn yr anghydraddoldebau hyn barhau i fod yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod, ond o gofio bod yr anghydraddoldebau hyn yn parhau'n ystyfnig, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau nad yw incwm a dosbarth cymdeithasol yn parhau i fod yn rhwystrau i iechyd da?

Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol yn flaenoriaeth traws-Lywodraeth, fel y dangosir gan y ffaith ei fod yn un o uchelgeisiau canolog 'Ffyniant i Bawb'. I roi enghreifftiau o raglenni'r Llywodraeth sy'n mynd i'r afael ag achosion sydd wrth wraidd anghydraddoldebau iechyd, maen nhw'n cynnwys rhaglenni cyflogaeth, tai o ansawdd a mynediad at ofal plant. Maen nhw'n cael eu cyfuno â rhaglenni i fynd i'r afael ag ymddygiad iachus a gwell mynediad at ofal iechyd, gan ein bod ni'n gwybod y bydd hynny'n lleihau rhwystrau i iechyd da hefyd. Ac, wrth gwrs, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu ysgogiad newydd i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol parhaus anghydraddoldebau iechyd trwy weithio'n wahanol gyda phartneriaid, ymyrryd yn gynharach a hyrwyddo gwell integreiddio rhwng gwasanaethau.

13:55

Prif Weinidog, mae gan Ferthyr Tudful y lefel uchaf o ordewdra ymhlith plant yng Nghymru. Mae un deg saith y cant o blant ym Merthyr Tudful yn ordew, sy'n fwy na dwywaith ffigur Bro Morgannwg. Yng ngoleuni'r ffaith mai diabetes yw'r argyfwng iechyd sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dargedu ardaloedd o ordewdra uchel ymhlith plant, fel Merthyr Tudful, i leihau'r pwysau ar y GIG yng Nghymru yn y dyfodol, os gwelwch yn dda?

Wel, ceir tystiolaeth gyson i awgrymu bod buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn gwella canlyniadau iechyd, cymdeithasol ac economaidd yn sylweddol. Felly, datblygwyd ein rhaglen Plant Iach Cymru gyda chynnig GIG cyffredinol safonol i bob teulu sydd â phlant rhwng dim a saith oed. Mae hynny'n cynnig amrywiaeth gyson o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar ac, yn bwysig, canllawiau i gynorthwyo rhianta a dewisiadau ffordd iach o fyw. Mae hefyd yn nodi teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol. Felly, dyna un enghraifft, y rhaglen honno, o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau bod y mater o ordewdra yn cael sylw yn gynnar ym mywyd plentyn, cyn i arferion anodd ddechrau ffurfio.

Y Cyfrif Refeniw Tai

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith codi'r cap benthyg ar y cyfrif refeniw tai? OAQ52932

Mae codi'r cap benthyg ar y cyfrif refeniw tai yn arwyddocaol. Mae i'w groesawu yng Nghymru. Mae'n dro pedol, ond, serch hynny, rydym ni'n croesawu'r hyn a wnaed. Bydd yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu strategaethau adeiladu tai cyngor. Ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r awdurdodau hynny i ddeall y manteision yn llawn.

Rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cap hwn wedi ei godi. Bydd hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i weithio'n effeithiol gyda sefydliadau eraill, yn enwedig cymdeithasau tai. Nodaf y model partneriaeth diddorol sy'n bodoli yng nghyngor Warrington, lle maen nhw wedi rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd yn fwy i gyfanswm y benthyciadau i gymdeithasau tai. Gallem weld y math hwnnw o ddychymyg yng Nghymru, gyda'r potensial i awdurdodau lleol gomisiynu timau datblygu cymdeithasau tai neu i ffurfio partneriaethau ar ddulliau adeiladu modern i gyflawni'r raddfa sydd ei hangen arnom yn hyn o beth. Ac, fel y gwnaethoch chi, rwy'n meddwl, gyfeirio ato hefyd, mae'r targed o 20,000 o gartrefi sydd gennym ni yn y tymor Cynulliad hwn ar gyfer cartrefi cymdeithasol yn faes allweddol arall. Ond mae angen i ni fynd ymhell y tu hwnt a sicrhau bod y pwerau benthyg newydd yn cael eu defnyddio yn hynod, hynod effeithiol.

Ydy, mae hynny'n wir. Un peth y gallaf ei ddweud yw bod y Gweinidog wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Mae hwnnw'n ystyried amrywiaeth o bolisïau a phrosesau i sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r nifer fwyaf bosibl o gartrefi yr ydym ni'n eu cael o'n buddsoddiad sylweddol. Ac, wrth gwrs, bydd codi'r cap benthyg yn rhan o ystyriaeth y panel, ac rydym ni'n disgwyl argymhellion gan y panel hwnnw ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OAQ52934

Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud ei bod hi'n eithaf amwys ar hyn o bryd, ac yn eithaf aneglur o ran sut y gallai weithredu neu faint o arian a allai fod ar gael. Fe'i codais, yn sicr, yr wythnos diwethaf gyda David Lidington. Nid yw'n eglur sut y byddai'n gweithio, faint o arian fyddai ar gael nac, wrth gwrs, sut y byddai'n gweithio o ran asio â'r setliad datganoli. Yn syml, mae'n rhaid i ni aros i weld.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna, ac rwy'n ymwybodol bod cyfarfodydd cyn-ymgynghori wedi eu cynnal yng Nghymru, ac roedd y diweddaraf, rwy'n credu, ddydd Gwener diwethaf, gyda chynrychiolwyr y trydydd sector. Felly, nid wyf i'n gwybod a yw'r Prif Weinidog wedi cael unrhyw adborth o'r cyfarfodydd hynny, ond onid yw'n cytuno ei bod hi'n gwbl hanfodol mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddyfodol polisi rhanbarthol, ac y dylai'r pwyslais fod ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb fel ffordd o wella ffyniant a chynhyrchiant?

Yn sicr, oherwydd mae hwnnw'n gyfrifoldeb datganoledig. Byddai'n gwbl amhriodol i gronfa ffyniant gyffredin gael ei gweinyddu'n llwyr o Whitehall, gan osgoi'r Llywodraeth a'r Cynulliad yn gyfan gwbl. Byddai hynny'n mynd yn groes i'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei ddweud am gyfrifoldebau datganoledig mewn ffordd ddifrifol iawn.

Yn wir, roedd digwyddiad i randdeiliaid yng Nghaerdydd a gynhaliwyd ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos diwethaf ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin. Er tegwch, gwahoddwyd ein swyddogion y diwrnod cynt. Felly, ni chawsom lawer o rybudd bod y digwyddiad hwnnw'n cael ei gynnal, ond mae'n rhoi enghraifft i chi o'r dull anghydlynol sy'n cael ei fabwysiadu pan fydd Swyddfa Cymru yn trefnu rhywbeth, ddim yn dweud wrth neb, yn ymddangos i dorri ar draws cyfrifoldeb datganoledig er nad oes ganddi unrhyw bwerau ei hun, ac yna'r cwbl y mae hynny'n ei wneud yw drysu busnesau. Wel, rwy'n credu y byddai'n llawer gwell pe byddai Llywodraeth y DU yn fwy eglur ac yn dilyn y dull yr ydym ni wedi ei awgrymu, lle mae gennych chi gronfa sy'n adlewyrchu'n agos, i bob pwrpas, gweithrediad y cronfeydd Ewropeaidd presennol, ac, wrth gwrs, gyda'r hyblygrwydd mwyaf posibl—cyfres gyffredin o reolau, wrth gwrs, ond yr hyblygrwydd mwyaf posibl i'r Llywodraethau datganoledig.

14:00

Prif Weinidog, mae'r Aelod dros Ogledd Caerdydd yn gwneud pwynt da iawn pan ddywed y dylai polisi rhanbarthol yn y dyfodol gael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, gan y Cynulliad hwn—pwynt yr ydych chi wedi ei ategu eich hun. Er fy mod i'n sylweddoli bod manylion, nifer fawr o fanylion, am y gronfa ffyniant gyffredin i'w cytuno'n effeithiol o hyd, mae'n bwysig pan fydd y cyllid Ewropeaidd presennol yn dod i ben ac y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, pa bynnag ffurf derfynol y bydd honno'n ei chymryd, yn dechrau—mae'n bwysig ar yr adeg honno bod Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa orau i gael mynediad at y cyllid hwnnw. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod adrannau Llywodraeth Cymru ar draws portffolios yn addas i'w diben ac yn barod i fod ar flaen y ciw i gael mynediad at y gronfa ffyniant gyffredin honno cyn gynted ag y byddwn yn gadael yr UE? Oherwydd mae'n bwysig nad oes bwlch yn y cyllid.

Wel, mae'r strwythur yno, wrth gwrs. Rydym ni wedi cael blynyddoedd o ymdrin â chyllid Ewropeaidd. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac adrannau eraill wedi hen arfer ymdrin â'r math hwn o strwythur ariannu. Nid yw'r gronfa ffyniant gyffredin yn syniad gwael ynddo'i hun. Faint o arian fydd ar gael a sut y caiff ei weinyddu sy'n peri pryder i ni. Mae'n aruthrol o bwysig, fel y mae'r Aelod ei hun, a bod yn deg, wedi dweud, bod hyn i bob pwrpas yn disodli'r cronfeydd Ewropeaidd o ran y swm gwirioneddol sydd ar gael ond bod cyfrifoldebau a hawliau'r Siambr hon a'r Llywodraeth yn cael eu hamddiffyn wrth i'r gronfa ffyniant gyffredin gael ei datblygu. Byddai'n well gennym fod yn rhan o'r sgwrs honno i wneud yn siŵr bod y gronfa yn gweithredu nid yn unig cyn belled ag mae Cymru yn y cwestiwn ond yn gweithio'n iawn ar draws y DU gyfan.

Wrth gwrs, mae gennym ni gwestiynau o hyd ynghylch y trefniadau presennol cyn symud ymlaen i'r gronfa ffyniant gyffredin, fel y'i gelwir. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o adroddiad y swyddfa archwilio ar effaith gwahaniad 'dim cytundeb' ar gyllid strwythurol a rhanbarthol fel y maen nhw ar hyn o bryd. Ar adeg cyhoeddi'r adroddiad ym mis Awst, nododd bod WEFO wedi mynd y tu hwnt i'w thargedau gwario yn nhri o'i phedair rhaglen weithredol ac wedi tanwario mewn un, sef gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Yn y lle cyntaf, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd i ni y bydd achosion o orwario yn cael eu talu gan Lywodraeth y DU os bydd gwahaniad 'dim cytundeb', ac a all ef ddiweddaru'r Cynulliad ymhellach ar ba un a yw'r holl dargedau gwario ym mhob rhaglen weithredol yn cael eu bodloni nawr neu a oes mwy na hynny'n cael ei wario?

Mae'n anarferol iawn i raglenni gwario wario 100 y cant o'r arian mewn unrhyw flwyddyn ariannol, gan fod rhai prosiectau yn cael eu cadw drosodd ar gyfer y flwyddyn ariannol arall. Ni allaf gynnig cysur iddo o ran sut y gellid ymdrin ag achosion o orwario; nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw gysur i ni ynghylch hynny nac unrhyw fater arall yn ymwneud â chyllid Ewropeaidd ar ôl 2022. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn hynod gostus. Gallwn geisio lliniaru rhagddo, ond y gwir amdani yw na allwn atal y drychineb economaidd a fyddai'n digwydd pe byddai Brexit 'dim cytundeb', a dyna pam yr wyf yn gobeithio bod cytundeb boddhaol ar y bwrdd. Rydym ni'n aros i weld. Rwy'n gobeithio y bydd y rhai sydd o'r farn ar hyn o bryd bod Brexit 'dim cytundeb' yn ddim problem yn dod at eu coed pan fydd y cytundeb hwnnw'n cael ei ystyried yn Senedd y DU.

Dyfodol Trefi yng Nghymru

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r argymhellion yn adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar ddyfodol trefi yng Nghymru? OAQ52901

Rwy'n credu bod y gwaith y maen nhw wedi ei wneud yn ddefnyddiol iawn ac mae'n ychwanegiad defnyddiol iawn at ein gwybodaeth bresennol yn y maes hwn. Byddwn, wrth gwrs, yn ystyried yr argymhellion yn ofalus yng ngoleuni ein mentrau presennol i gefnogi canol trefi.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi: mae'r gwaith y maen nhw wedi ei gomisiynu yn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn, sef y math o waith dwys a all arwain wrth gwrs at newidiadau cadarnhaol i bolisi a chamau gweithredu'r Llywodraeth. Gadewch i ni gofio bod dros 1 filiwn o bobl yn byw yn nhrefi Cymru. Rydym ni'n clywed llawer am fargeinion dinesig, ond sut ydych chi'n teimlo y gall bargen dwf canolbarth Cymru bosibl rymuso'r rhai sy'n byw yn nhrefi'r canolbarth i nodi a hyrwyddo eu trefi? Mae'r adroddiad a gomisiynwyd hefyd yn sôn am syniadau yn dod o lawr gwlad i fyny. Felly, sut ydych chi'n credu y gall bargen dwf canolbarth Cymru bosibl gefnogi'r nod hwnnw?

Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Os edrychwn ni ar broses ceisiadau ardaloedd gwella busnes, fe'u harweiniwyd gan fusnesau mewn trefi perthnasol. Mae'n rhaid targedu unrhyw fargen dwf yn benodol i anghenion a gofynion yr ardal y mae'r fargen dwf honno wedi ei lleoli ynddi. Felly, yn sicr, wrth ddatblygu bargen dwf, mae'n bwysig dros ben cael cymaint o ymgysylltiad â phosibl â busnesau manwerthu yng nghanol trefi ac â phawb sydd yn yr economi wledig.

14:05

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod yr adroddiad yn dangos yn eglur—ac, wrth gwrs, roeddem ni eisoes yn gwybod hyn—bod siopau gwag yn amharu ar berfformiad cyffredinol canol trefi ac yn atal busnesau newydd rhag lleoli eu hunain yno. Mae'n debyg y byddwch chi'n gwybod bod Cyngor Sir Caerfyrddin dan arweiniad Plaid Cymru wedi gwneud buddsoddiad mawr yn Llanelli, gan brynu siopau, eu rhannu'n unedau llai y gall pobl fforddio eu rhentu wedyn, a throi lefelau uwch y siopau yn eiddo preswyl sydd hefyd yn dod â phobl i fyw yng nghanol y dref. Pa gymorth arall all Llywodraeth Cymru ei roi i awdurdodau lleol i'w galluogi i barhau i ymateb yn greadigol i'r argyfwng a wynebir gan ganol llawer o'n trefi?

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni dderbyn nad ydym ni'n debygol o weld yr un nifer o unedau manwerthu mewn trefi yn y dyfodol. Os edrychaf ar fy nhref enedigol fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ceir llawer iawn o unedau sydd yn wag ac mae'n debyg na fyddan nhw byth yn cael eu llenwi. Mae rhai ohonynt wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer iawn. Felly, beth ddylai ddigwydd wedyn? Wel, efallai y gellir troi llawer ohonyn nhw yn unedau preswyl, i sicrhau bod gwell cymysgedd yng nghanol trefi. Yn fy nhref enedigol i, mae wedi bod yn digwydd ers 30 mlynedd neu fwy.

Sut yr ydym ni wedyn am greu trefi mwy bywiog sy'n gymysg o ran eu darpariaeth—rhywfaint ohoni'n breswyl, rhywfaint ohoni'n fusnes, bydd rhywfaint ohoni'n fanwerthu, bydd rhywfaint ohoni'n fwytai, yn fariau—i greu'r cyffro hwnnw yn y dref, nid yn unig yn ystod y dydd ond fin nos hefyd? Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig rhoi ystyriaeth i ba bryd mae siopau yn agor yng nghanol trefi, oherwydd, wrth gwrs, nid yw 9 a.m. i 5 p.m. yn gyfleus i'r rhan fwyaf o bobl mwyach, ac, oni bai bod gennych chi nifer fawr iawn o ymwelwyr mewn canol tref gan fod swyddfeydd yno, yna byddwch ar eich colled.

Ond, o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, mae gennym ni ein rhaglen buddsoddiad adfywio wedi'i dargedu. Mae hynny'n golygu cyllid cyfalaf o £100 miliwn ledled Cymru dros dair blynedd i gynorthwyo prosiectau adfywio sydd wedi eu blaenoriaethu'n rhanbarthol mewn canol trefi. Mae gennym ni'r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol a ariennir gan Ewrop, sy'n darparu £54 miliwn i gaffael, ailwampio neu ailddatblygu adeiladau a thir segur yng nghanol trefi a dinasoedd, neu'n agos atynt, ar draws y gorllewin a chymoedd y de. Ac, wrth gwrs, mae ein cynllun benthyciadau canol tref yn wedi darparu £27.5 miliwn ers 2014 i ddod â safleoedd ac adeiladau gwag, nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n ddigonol yng nghanol trefi yn ôl i ddefnydd.

Prif Weinidog, pan fyddaf yn siarad â thrigolion ar hyd a lled Cwm Cynon, ceir angerdd mawr ynghylch y dymuniad i weld canol ein trefi yn cael eu hadfywio. Ond, ar yr un pryd, mae hynny'n aml wedi ei gydbwyso ag amharodrwydd ymhlith pobl leol i siopa'n lleol mewn gwirionedd. A phan fyddaf yn siarad â nhw am y rhesymau am hynny, un o'r pethau y cyfeirir ato amlaf yw'r diffyg amrywiaeth o fusnesau ar ein strydoedd mawr. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n rhyngwyneb braidd yn anodd rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio annog entrepreneuriaid lleol i greu'r cynnig mwy amrywiol hwnnw ar ein strydoedd mawr?

Rwy'n credu mai rhan o'r ateb i hyn yw i fanwerthwyr weithio gyda'i gilydd ac, fel y dywedodd yr Aelod, creu rheswm i bobl fynd i ganol trefi. Mae canol trefi wedi cau, yn aml, erbyn 5.30pm. Os nad yw pobl yn gweithio yng nghanol y trefi hynny, maen nhw wedi cau drwy'r wythnos i bob pwrpas. Felly mae angen rhoi ystyriaeth i oriau agor, rwy'n credu, er mwyn gwneud canol y trefi hynny yn fwy hygyrch yn y dyfodol.

Cyfeiriodd at ei hetholaeth ei hun. Gwn fod y safleoedd a'r adeiladau yng nghanol trefi nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol yn cael eu dychwelyd i ddefnydd, ac mae Aberdâr yn un o'r ardaloedd hynny a nodwyd ar gyfer y cymorth hwnnw. Mae Aberdâr, wrth gwrs, hefyd yn un o'r 10 BID ychwanegol sy'n cael eu datblygu o ganlyniad i'n cyllid ychwanegol o £262,000 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yn y fan yma yw bod yr arian ar gael i fusnesau lleol benderfynu ar y modd gorau i'w hyrwyddo eu hunain. Dyna sy'n allweddol. Nid ydym ni'n gwybod sut i'w wneud. Bydd ganddyn nhw syniadau ar lawr gwlad. Dyna pam yr ydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymgysylltu'n llawn ac wedi bod o'r dechrau.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg? OAQ52891

Mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau y gall pob dysgwr gael mynediad at addysg o safon uchel a gwireddu eu llawn botensial. A disgwylir i weithrediad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gychwyn ym mis Medi 2020, wrth gwrs.

Diolch. Wel, rydym ni'n gwybod bod cyfraddau gwaharddiad byrdymor yn yr ysgol o ran plant, disgyblion, pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol wedi cynyddu, yn groes i'r duedd gyffredinol. Dim ond pythefnos yn ôl, cysylltodd rhiant arall â mi, yng Nghonwy yn yr achos hwn, lle'r oedd y mab awtistig wedi cael ei wahardd am 43 diwrnod ar ôl ffrwydrad awtistig yn yr ysgol—gyda'r cyd-ddigwyddiad bod y 43 diwrnod yn mynd ag ef i ddiwedd ei dymor ar ddiwedd yr ysgol gynradd. Ni chafodd wedyn, meddai ei rieni wrthyf, unrhyw gymorth ar gyfer pontio i'r ysgol uwchradd—gan fod eu mab yn 'fachgen mor ddrwg'. Sut, felly, gwnewch chi fel Llywodraeth Cymru sicrhau bod y sector addysg ledled Cymru yn deall dyfarniad y llys ym mis Awst, pryd yr ymyrrodd y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ar ran rhai rhieni, ac y dyfarnodd y llys am y tro cyntaf bod yn rhaid i bob ysgol wneud yn siŵr eu bod wedi gwneud addasiadau priodol ar gyfer plant awtistig neu bobl ag anableddau eraill cyn y gallan nhw ddefnyddio gwaharddiadau.

14:10

Yn amlwg, bydd yn rhaid i ysgolion gymryd sylw o'r dyfarniad llys. Gallaf ddweud bod gwaith eisoes wedi dechrau i gefnogi'r system statudol newydd; nid yw'n fater syml o aros tan fis Medi 2020 i bopeth ddechrau. Rydym ni'n gwella sgiliau'r gweithlu fel eu bod nhw'n gallu diwallu anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hynny'n cynnwys datblygu cynnig dysgu proffesiynol i athrawon, a chyllid i hyfforddi seicolegwyr addysgol ac athrawon arbenigol i blant â nam ar eu synhwyrau. Felly, ydy, mae'n bwysig bod y gyfraith ar waith ac yn barod i ddechrau ar ei hynt ym mis Medi 2020, ond rydym ni'n buddsoddi i wneud yn siŵr y bydd ymarferwyr yn barod pan ddaw'r newidiadau ym mis Medi 2020.

Prif Weinidog, un o'r heriau mwyaf i blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg mewn gwirionedd yw cael cydnabyddiaeth ar gyfer yr anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf i wedi gweld llawer o deuluoedd sy'n wynebu brwydrau diflino dim ond i gael y gydnabyddiaeth honno i'w plant fel y gallan nhw fynd drwy'r prosesau. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw, a'r mesurau eraill yr ydych chi wedi eu cymryd gyda CAMHS a chyllid ychwanegol ar gyfer CAMHS. Ond mae angen i deuluoedd sicrhau bod hwnnw ar gael. Mae cynghorau yn wynebu cyfnod anodd o'u blaenau, gyda chyni cyllidol a'r mesurau. A wnewch chi fonitro'r cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn ofalus iawn, a sicrhau, wrth i hwnnw gael ei gyflwyno, na fydd yn rhaid i awdurdodau lleol ariannu cyllid ychwanegol i wneud yn siŵr bod hynny'n gweithio? Oherwydd rwy'n siŵr y bydd y galw'n cynyddu ar ôl iddyn nhw sylweddoli ei fod yn gweithio.

Gallaf sicrhau'r Aelod bod £20 miliwn wedi ei roi ar gael ar gael ar gyfer y tymor Cynulliad hwn i gefnogi gweithrediad y Ddeddf a darparu'r rhaglen gweddnewid anghenion dysgu ychwanegol ehangach. Ac, wrth gwrs, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod nhw'n gallu bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o 2020 ymlaen.

Y gobaith ydy, wrth gwrs, y bydd y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol wir yn trawsnewid addysg ar gyfer plant a phobl ifanc ond, fel rydym ni wedi ei glywed, mae adnoddau digonol yn hollbwysig, ond hefyd y sgiliau priodol. Ac mae yna gwestiwn ynglŷn ag a ydy'r sgiliau yna ar gael ym mhob man ar hyn o bryd. Pa mor hyderus ydych chi felly y bydd disgwyliadau uchel sydd gan ddisgyblion, rhieni ac athrawon yn sgîl y Ddeddf newydd yma—pa mor hyderus ydych chi fydd y disgwyliadau yma yn cael eu gwireddu yn wyneb y toriadau yn enwedig?   

Rwy'n hyderus o hynny. Fel y dywedais i yn gynharach, rŷm ni wedi bod yn datblygu strwythur dysgu proffesiynol i athrawon, a hefyd rŷm ni wedi sicrhau bod yna gyllid ar gael er mwyn hybu seicolegwyr addysgol a hefyd athrawon arbenigol. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn gweithredu pecyn eang o hyfforddiant er mwyn helpu pawb sydd yn rhan o'r system i gefnogi dysgwyr gydag ALN er mwyn, wrth gwrs, iddyn nhw'n deall ac yn paratoi am y system newydd sy'n mynd i ddechrau yn 2020. So, rŷm ni'n hyderus y bydd y system, o achos y ffaith y bydd yna eithaf amser wedi bod cyn bod y gyfraith newydd yn dechrau—bydd y system felly yn barod i ddechrau yn iawn pan fydd y gyfraith yn dod i rym.

Blaenoriaethau Cyllidebol ar gyfer Llywodraeth Leol

8. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol? OAQ52913

Nodir blaenoriaethau'r Llywodraeth yn 'Ffyniant i Bawb'. Wrth gwrs, cyfrifoldeb yr awdurdodau yw penderfynu sut maen nhw'n gwario eu dyraniad cyllid drwy'r grant cymorth refeniw, ynghyd â'u hincwm arall o grantiau penodol, y dreth gyngor a ffynonellau eraill.

Diolch, Prif Weinidog. Gwn eich bod chi'n hoffi cyhuddo'r ochr hon i'r Siambr o alw am gynnydd i gyllid ym mhob rhan o'r Llywodraeth; rwy'n siŵr mewn byd delfrydol yr hoffem ni i gyd weld hynny. Ond nid yr ochr hon i'r Siambr yn unig—[Torri ar draws.] Neu, yn wir, eich Gweinidog emeritws. Nid yr ochr hon i'r Siambr yn unig sydd â phryderon am gyllid llywodraeth leol; mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi siarad am y ffordd y mae gwasanaethau lleol yn cael eu bygwth, a bod y system yn gwegian o dan rai o'r problemau ariannu y maen nhw wedi eu cael. Mae Llywodraeth Cymru ar fin derbyn codiad sylweddol gan Lywodraeth y DU yn sgil cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU. A allwch chi sicrhau'r awdurdodau lleol yng Nghymru y byddan nhw o leiaf yn cael cyfran deg o'r gacen newydd hon sy'n dod o ganlyniad i'r gyllideb Llywodraeth y DU honno, fel y gall awdurdodau lleol gael ychydig o sicrwydd o leiaf yn y byrdymor i'r tymor canolig y gellir diogelu gwasanaethau lleol?

Wel, dim ond i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach, mae awdurdodau lleol ar flaen y ciw. Rydym ni'n ceisio gweld pa fath o becyn ariannol pellach y gellid ei roi ar gael i awdurdodau lleol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf. Rydym ni'n deall, wrth gwrs, y ffaith bod cyni cyllidol wedi gorfodi cymaint o wasgfa ar gyllid awdurdodau lleol, ac rwy'n credu, pan fyddwn ni'n datgan i'r Cynulliad sut yr ydym yn bwriadu ymdrin â'r swm nad yw'n unrhyw beth tebyg i'r swm a gyhoeddwyd gan y Canghellor, ond er gwaethaf hynny rhywfaint o swm canlyniadol yr ydym ni wedi ei dderbyn yng Nghymru, bydd y pecyn sydd gennym ni ar gyfer llywodraeth leol yn deg o ystyried yr amgylchiadau yr ydym ni wedi canfod ein hunain ynddynt.

14:15
Capasiti Technoleg Gwybodaeth o fewn GIG Cymru

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gapasiti TG o fewn y GIG yng Nghymru? OAQ52927

Gwnaf. Mae ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol tymor hwy yn cadarnhau y byddwn yn cynyddu buddsoddiad yn sylweddol yn ein seilwaith TG a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflymu newid digidol ar draws y GIG, a bydd hynny'n cynnwys £50 miliwn o refeniw a chyfalaf yn y flwyddyn i ddod i gefnogi newid gweddnewidiol.

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf sy'n edrych ar ddarpariaeth TG o fewn GIG Cymru, ac adroddiad damniol ydoedd hefyd, a dweud y lleiaf. Rwy'n gwerthfawrogi na wnewch am sôn am yr adroddiad hwnnw'n benodol gan y byddaf yn cael yr wybodaeth bod y Llywodraeth yn ystyried yr adroddiad, ond mae TG yn elfen enfawr o ddarparu gofal iechyd yng Nghymru gyfan. Nododd un elfen o'r adroddiad hwnnw fod y rhwydwaith cyfrifiadurol canser wedi ei ddileu oddi ar restr cefnogaeth Microsoft yn 2014 a'i fod wedi dioddef diffoddiadau'n rheolaidd. Mae hyn yn effeithio'n fawr ar ddarparu gwasanaethau i gleifion canser, fel y nodwyd gan yr elusen Macmillan. Ni ellir goddef hyn, yn sicr, Prif Weinidog. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar y naratif ehangach o wella gwasanaethau TG o fewn y GIG yng Nghymru, ond yn benodol ar wasanaethau canser sydd â'r fath effaith negyddol, fel y nododd adroddiad y pwyllgor, ar staff sy'n gweithio yng ngwasanaethau canser yn ysbyty Felindre yn fy rhanbarth i?

Ni allaf roi ymateb ynghylch yr argymhellion y mae'r pwyllgor wedi eu cyflwyno, ond fe ddywedaf hyn: yn amlwg mae'r adroddiad yn anodd ei ddarllen, yn amlwg, mae angen gweithredu, a byddwn yn gweithredu. Byddwn yn gweithredu o ran cyllid, ond yn amlwg mae angen gweithredu o ran derbyn ffyrdd newydd o weithio. Ni allwn barhau â'r hen ffyrdd o weithio dim ond am fod pobl wedi dod i arfer â nhw. Felly, bydd ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor yn cwmpasu holl nodweddion yr hyn y mae'n rhaid i ymateb cadarn fod a'r hyn y mae'n rhaid i ymateb adeiladol fod, gan edrych ar yr holl ffactorau, gan gynnwys, wrth gwrs, ffactorau ariannol.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad hwnnw—Julie James. 

Diolch, Lywydd. Ceir un newid i agenda heddiw—newid teitl y datganiad ar werthfawrogi ein hathrawon—buddsoddi yn eu rhagoriaeth. Yn ogystal, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad yfory. Yn olaf, nid oes unrhyw bwnc wedi ei gyflwyno ar gyfer dadl fer yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar benderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i ddarparu erthyliadau yng Nghymru i fenywod sy'n preswylio fel arfer yng Ngogledd Iwerddon? Fel y byddwch yn ymwybodol, ddydd Gwener y cyhoeddwyd y penderfyniad. Dim ond y bore yma, cefais e-bost gan dros 60 o fenywod sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon a ofynnodd i mi godi'r mater hwn ar frys. Mae'r menywod hyn wedi dweud eu bod nhw wedi eu brawychu bod un rhan o'r DU sy'n mwynhau datganoli yn gweithredu i danseilio'r trefniadau datganoledig mewn rhan arall o'r DU, ac maen nhw'n bryderus iawn, a dweud y gwir, fod y penderfyniad i ddarparu erthyliadau wedi'i wneud er gwaethaf y gwrthwynebiad sylweddol a fynegwyd gan fenywod o Ogledd Iwerddon yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater.

Nawr, deallaf o ddarllen crynodeb o'r ymatebion y cafwyd cyfanswm o 802 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac roedd 788 ohonyn nhw—dros 98 y cant—yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru, a dywed adroddiad yr ymgynghoriad fod cyfran sylweddol o'r ymatebion hynny gan fenywod o Ogledd Iwerddon. Dim ond 14 o gyflwyniadau oedd yn cefnogi cynlluniau'r Llywodraeth, ac ni ddaeth yr un ohonyn nhw gan unrhyw fenyw o Ogledd Iwerddon. Mae hwn yn ymgynghoriad anarferol, wrth gwrs, gan ei fod yn edrych yn unigryw ac yn benodol ar yr effaith ar fenywod sy'n byw mewn awdurdodaeth ddatganoledig arall, a chredaf ei bod hi'n bwysig iawn, pan geir y mathau hyn o ymgynghoriadau—y rhai anarferol hyn—fod barn y menywod yn yr awdurdodaeth honno yn cael ei hystyried. Beth yw pwynt cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus os yw canlyniad yr ymgynghoriadau cyhoeddus hynny yn cael ei anwybyddu? Credaf fod y Cynulliad hwn yn haeddu eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pam y mae wedi anwybyddu barn menywod yng Ngogledd Iwerddon a pham y mae'n teimlo ei bod hi'n briodol tanseilio trefniadau datganoledig mewn rhan arall o'r DU.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyhoeddi datganiad ar y mater hwn, ac rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol o hynny. Gallaf wneud trefniadau i anfon y datganiad ymlaen ato os nad yw wedi sylwi arno.

14:20

Arweinydd y tŷ, efallai eich bod chi'n cofio, yn gynharach eleni, codais bryderon ynghylch y ffaith bod dros £36 miliwn o arian cyhoeddus wedi ei wario ar ddatblygu parc busnes strategol 106 erw yn Felindre i'r gogledd o Abertawe, ac er hynny, er ei fod wedi bod yn eiddo cyhoeddus am 20 mlynedd, roedd y parc busnes yn dal i fod yn wag. Mae parc busnes strategol Parc Felindre wedi ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru a chyngor Abertawe fel bod â, a dyfynnaf:

'y potensial i ddod yn ganolfan ar gyfer rhwydweithio a chyfnewid gwybodaeth yn y de ar gyfer diwydiannau datblygol a sectorau arbenigol megis ymchwil a datblygu, gwyddorau bywyd, peirianneg uwch a TGCh'.

Dywed gwefan bresennol Parc Felindre fod gan Barc Felindre ganiatâd cynllunio ar gyfer defnydd B1 a B2, h.y., diwydiannau datblygol megis gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a gwasanaethau lefel uchel. Yr wythnos diwethaf, fel y byddwch yn ymwybodol mae'n siŵr, cyhoeddodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, y tenant potensial cyntaf ar gyfer y safle, ond er hynny, yn hytrach na chwmni gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg, yn hytrach na sectorau datblygol megis ymchwil a datblygu, gwyddorau bywyd, peirianneg uwch a TGCh—y cwmni mewn gwirionedd oedd DPD, sydd eisiau adeiladu depo danfon parseli ar ran o'r safle. Mae gan y cwmni eisoes, wrth gwrs, safle yn ardal Llansamlet o'r ddinas. Nawr, er y dylid croesawu unrhyw swyddi, rwyf yn siŵr y byddech yn cytuno bod y cyhoeddiad hwn yn methu â bodloni'r disgwyliadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a chyngor Abertawe ar gyfer eu hunain. O gofio bod y safle hwn wedi ei hyrwyddo fel datblygiad o'r radd flaenaf, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi gyflwyno datganiad ar sut y mae'n gweld y safle'n datblygu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, yn dilyn buddsoddiad cyhoeddus o £36 miliwn, ac a wnaiff ef ddatgan sut y mae'n credu y bydd Llywodraeth Cymru a chyngor Abertawe yn cyflawni yn erbyn y brîff datblygu o ddenu swyddi sgiliau uchel pen uchaf i'r safle?

Wel, Dai Lloyd, diolch ichi am y pwyntiau yna. Rwyf i, yn un, yn rhywun sy'n croesawu'r broses o greu swyddi yn ardal Abertawe, etholaeth fy nghyd-Aelod, Mike Hedges. Credaf fod cyngor Abertawe a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio'n galed iawn, mewn gwirionedd, i gael mewnfuddsoddiad i'r safle hwnnw. Rwyf yn bendant iawn o blaid y swyddi sy'n dod yno, ac rwy'n credu y dylid llongyfarch cyngor Abertawe ar ei ymdrechion yn hyn o beth.

Rwyf yn siŵr bod arweinydd y tŷ yn ymwybodol o'r canfyddiadau gwaith ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Ganolfan Lywodraethiant Cymru ar hunan-niweidio a thrais mewn sefydliadau troseddwyr ifanc yng Nghymru a Lloegr. Roedd rhai ystadegau brawychus am sefydliad troseddwyr ifanc y Parc yn y gwaith ymchwil hwnnw. Cofnodwyd y gyfradd uchaf o hunan-niwed ar gyfer plant rhwng 15 a 17 oed o'r pum sefydliad tebyg yng Nghymru a Lloegr, a hefyd y gyfradd uchaf o ymosodiadau, sy'n destun pryder. Felly, tybed a fyddai'n bosibl, efallai, i Ysgrifennydd y Cabinet â chyfrifoldeb dros gyfiawnder wneud datganiad i'r Cynulliad ynghylch pam, mae'n ymddangos, bod y ffigurau hyn yn destun y fath bryder.

Rwy'n rhannu eich pryder yn llwyr. Mae Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc yn gartref i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac mae'n bwysig dros ben eu bod nhw'n cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i'w gweld nhw'n cyrraedd eu llawn dwf yn ddiogel. Yn amlwg, rwyf yn cytuno'n llwyr â chi y dylid gwneud pob ymdrech i gadw plant sydd yn y ddalfa am ba bynnag reswm yn ddiogel ac mewn lleoliadau priodol. Ein barn ni yn bendant, yw nad yw lleoli plentyn mewn sefydliad troseddwyr ifanc o fewn cwrtil carchar oedolion gwrywaidd yn addas ar gyfer y broses adsefydlu yr hoffem ni ei gweld, yn amlwg, ar gyfer pob plentyn. Rwyf yn sicr yn hapus i drafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym i fod i gael trafodaeth am ystâd y carchardai yn gyffredinol, a byddaf yn sicr yn ei gynnwys yn hynny a byddaf yn rhoi adroddiad ynghylch sut y mae'r trafodaethau hynny wedi mynd rhagddynt i'r Aelod.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, gan yr Ysgrifennydd dros iechyd ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Pan wnaeth ef ddatganiad ynglŷn â'r digwyddiad yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a staffio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rhoddodd sicrwydd fod ei swyddogion yn gweithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru i’w fodloni ei hun bod niferoedd staffio yn bodloni'r cwota a oedd yn ofynnol yn yr unedau mamolaeth hynny ar hyd a lled Cymru. Nododd y byddai’n cyflwyno sicrwydd o hynny i'r Siambr, neu’n sicr, y byddai’n ysgrifennu at yr Aelodau. Ni wyf yn ymwybodol—ac nid wyf yn siŵr mai esgeulustod bwriadol yw hynny, ond nid wyf yn ymwybodol bod hynny wedi digwydd hyd yn hyn, ond rwy'n credu y byddai'n tawelu meddyliau pe byddem ni'n cael yr wybodaeth honno, naill ai drwy ddatganiad, neu’n sicr mewn llythyr ysgrifenedig at yr Aelodau, fel y gall ef roi'r sicrwydd hwnnw bod unedau mamolaeth ar hyd a lled Cymru yn bodloni cwota nifer y bydwragedd a staff eraill sy'n gysylltiedig â’r unedau hynny.

A’r ail ddatganiad neu sicrwydd yr wyf yn gofyn amdano gan y Llywodraeth, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, yng ngoleuni cyhoeddiad y bore yma gan yr Uchel Lys bod gan y teulu Sargeant yr hawl i gyflwyno eu hachos ar gyfer ystyriaeth gan yr Uchel Lys. Sylwaf fod cyfreithwyr y teulu wedi nodi ei bod hi bellach yn nwylo Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion a fyddai'n caniatáu i’r ymchwiliad ailgydio yn ei waith, ac rwyf yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru, yng ngolau’r dyfarniad hwn y bore yma, yn amlwg, yn dod ymlaen gyda chynigion, fel y nododd y cyfreithwyr, a fyddai'n hwyluso’r ymchwiliad i ailddechrau. A wnaiff y Llywodraeth roi sicrwydd y bydd mewn sefyllfa i wneud hynny, neu a yw wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod yr achos hwn yn mynd yr holl ffordd drwy'r llysoedd?

14:25

Wel, gan ateb hwnna'n gyntaf, yn amlwg, byddwn yn cael cyngor ar y ffordd orau i ymdrin â'r adolygiad barnwrol ac, wrth gwrs, rydym eisiau gweld y canlyniad gorau ar gyfer y teulu Sargeant. Felly, rwyf yn siŵr y bydd y Prif Weinidog a'i gynghorwyr cyfreithiol yn cymryd hynny i ystyriaeth, a chyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd, byddwn yn sicrhau bod y Siambr yn ymwybodol o hynny hefyd. Yn amlwg, ni allaf wneud sylw ar unrhyw un o rinweddau'r achos nac unrhyw beth arall gan ei bod hi'n amlwg ei fod mewn proses gyfreithiol.

O ran y pwyntiau gwasanaethau mamolaeth a godwch, dywedodd yr Ysgrifennydd dros iechyd yn wir y byddai'n dod yn ôl atom, a byddaf yn archwilio gydag ef y dull gorau o wneud hynny a'r amserlen yr oedd ganddo mewn golwg.

Arweinydd y tŷ, a wnewch chi ystyried gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd i wneud datganiad llafar o ran arfer gorau ynghylch sut y dylai awdurdodau lleol ymgynghori â chymunedau ynghylch ceisiadau cynllunio mawr arfaethedig, yn enwedig pan mai'r awdurdod lleol ei hun yw'r ymgeisydd? Cyfarfûm â thrigolion Aber-miwl, pentref ym Mhowys, y penwythnos hwn, sy'n bryderus iawn am y ganolfan ailgylchu fawr arfaethedig a fwriedir ar gyfer eu pentref. Nid wyf mewn unrhyw ffordd yn awgrymu, drwy'r ymgynghoriad, fod y cyngor sir wedi gwneud unrhyw beth amhriodol, ond mae'n amlwg nad yw trigolion y pentref—ac os dywedaf wrthych mai pentref o 700 o gartrefi ydyw, a bod dros 500 o bobl wedi ymuno â grŵp protest, mae hynny'n dangos lefel y pryder—yn teimlo eu bod wedi cael gwybod yn llawn, nac yn teimlo bod y cyngor wedi gwrando arnyn nhw. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pa ganllawiau pellach y gallai Llywodraeth Cymru eu darparu i awdurdodau lleol fel y bydd cymunedau'n osgoi canfod eu hunain yn y sefyllfa hon yn y dyfodol.

Wel, yn amlwg ni allwn wneud sylwadau ar geisiadau unigol o'r math hwnnw. Gwn fod 'Polisi Cynllunio Cymru' wrthi'n cael ei adolygu gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwyf yn siŵr y bydd hi'n cymryd—

[Anghlywadwy.]

Felly, caiff rhywbeth ei gyflwyno ar yr adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei ffurf strategol cyn diwedd y tymor, ond, yn amlwg, ni allwn wneud sylwadau ar yr amgylchiadau unigol.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Arweinydd y tŷ, rwyf, eto, yn dychwelyd at fater sy'n effeithio ar eich etholaeth chi a minnau yn ogystal ag etholaeth sawl un o'n cyd-Aelodau, sef cau canolfan alwadau Virgin Media yn Abertawe. A gaf i ofyn am ddatganiad ar y cymorth a roir gan dasglu Llywodraeth Cymru i'r rhai sy'n chwilio am swyddi eraill?

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad ar ddatblygiadau economaidd yn ardal Abertawe, sy'n amlinellu llwyddiant y datblygiad ym Mro Abertawe, sy'n amlinellu llwyddiant datblygiad SA1, a sut y bydd datblygiad Felindre, sef y safle mawr nesaf ar y cynllun datblygu, yn cyd-fynd â hynny?

O ran ymgysylltiad parhaus gyda Virgin Media, mae'r tasglu'n dal i ymwneud â phob un o'r staff a'r cwmni ei hun. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet ddiweddaru'r Aelodau drwy gyfrwng llythyr, pan fydd y gwaith o ymgysylltu â'r tasglu wedi cyrraedd pwynt addas, i ddweud ble yn union yr ydym ni, faint o bobl sydd wedi mynd drwy'r broses ac ati. Ceir sefyllfa arferol gyda thasgluoedd, ac mae hwn—fel y mae Mike Hedges yn gwybod—yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Atgoffaf y Siambr fod y cwmni wedi rhoi sicrwydd na fydd gweithwyr sy'n aros yr holl ffordd tan y dyddiad terfyn o dan anfantais ac, i'r gwrthwyneb, na fydd gweithwyr sy'n gadael yn gynnar oherwydd eu bod wedi sicrhau swydd arall o dan anfantais ychwaith. Mae hwnnw'n gonsesiwn pwysig gan y cwmni, mae'n werth ei ailadrodd.

Ac o ran y datblygiad yn ardal Abertawe, byddaf yn sicr yn sgwrsio ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch sicrhau bod yr ystadegau ar y trefniadau datblygu economaidd llwyddiannus sydd wedi bod ar waith ym Mro Abertawe, yn ei etholaeth ef, a'r cyffiniau ers peth amser, ar gael i'r Aelodau.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y weithdrefn gwyno yn y GIG yng Nghymru? Y llynedd, gwnaed y nifer uchaf erioed o gwynion ynghylch gwasanaethau iechyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd cwynion ynghylch bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi cynyddu gan 24 y cant. Mewn ymateb, dywedodd yr ombwdsmon fod tystiolaeth yn awgrymu bod

problem ddiwylliannol pan ddaw hi'n fater o ymdrin â chwynion yn y GIG yng Nghymru.

A gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet gyda'i ymateb i bryderon yr ombwdsmon gan amlinellu pa gynlluniau sydd ganddo i adolygu'r gweithdrefnau cwynion yn y GIG yng Nghymru?

14:30

Cewch. Rydym yn rhoi ystyriaeth o ddifrif i gwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus y Llywodraeth yn wir, ac rydym yn eu gweld i raddau helaeth fel cyfle i ddysgu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau y gorau y gallant fod a bod gwersi'n cael eu dysgu o'r cwynion. Nid yw cynnydd mewn cwynion yn beth drwg bob amser. Weithiau mae'n dangos ffydd arbennig yn y system, ac y bydd cwynion pobl yn cael eu hateb mewn gwirionedd. Felly, nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau penodol y mae'r Aelod yn siarad amdano. Byddaf yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a oes unrhyw bwyntiau cyffredinol a allai ddeillio a fyddai o ddefnydd i'r Siambr o ran y pwyntiau cyffredinol a godir ganddo ar ganfyddiadau'r ombwdsmon.

Rwy'n ymwybodol iawn o bryderon rhieni, athrawon ac arweinwyr addysg ar draws y gogledd yn sgil canlyniadau arholiadau TGAU Saesneg. Mae'n ymddangos bod plant yn y gogledd wnaeth sefyll yr arholiadau yn haf 2018 wedi cael cam, ac mae'n rhaid unioni hynny ar fyrder. Gall fod hyd at 700 o blant wedi cael eu heffeithio—plant fyddai wedi derbyn gradd C neu uwch pe bai nhw wedi cael eu trin yn gyfartal â phlant a safodd yr arholiadau yn 2017. Mae hyn yn effeithio ar eu llwybrau gyrfa i'r dyfodol, sy'n amlwg yn hollol annheg.

Mae yna honiad pellach—difrifol iawn—fod athrawon yn y gogledd wedi colli hyder mewn dau gorff: Cymwysterau Cymru a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru. A wnewch chi sicrhau bod y pryderon yma yn cael eu cymryd o ddifrif, ac a wnewch chi ofyn i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnal ymchwiliad byr i weld beth sydd wedi mynd o'i le? Mae Cymwysterau Cymru wedi cynnal ymchwiliad—rwy'n ymwybodol o hynny—ond efallai fod angen ymchwiliad pellach ac un annibynnol. 

Mae Cymwysterau Cymru yn annibynnol ar y Llywodraeth. Dyna yw ei swyddogaeth, ac mae wedi cynnal yr ymchwiliad hwnnw ac mae wedi bod yn glir iawn nad yw'n meddwl bod yna broblem fel y mae'r Aelod yn ei nodi. Byddwn yn atgoffa'r Siambr fod Cymwysterau Cymru wedi ei sefydlu gyda'r cylch gwaith annibynnol hwnnw yn y lle cyntaf er mwyn bod ymhell oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet ar y penderfyniadau hyn.

Arweinydd y tŷ, yn gynharach eleni, codais bryder ynghylch llygredd yn deillio o Tata gyda chi ac, yn y bôn, bod y llygredd yn niwsans—'llwch' fel y'i gelwir. Mae'n peri problemau mawr i lawer o'm hetholwyr. Yn dilyn y mater a godais, dywedwyd wrthym efallai y bydd Gweinidog yr Amgylchedd yn cyfarfod gyda Tata, a gwn ei bod wedi bod yn yr uned ansawdd aer ym nghampws bae'r brifysgol hefyd. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog sy'n amlinellu'r materion a nodwyd ganddi o ganlyniad i hynny, fel y gallwn siarad am y modd y byddwn yn ymdrin â materion llygredd yn fy etholaeth i a sut y mae Tata yn gweithio tuag at wella llesiant unigolion sy'n byw gerllaw?

Ar yr un pryd, a gaf i ddatganiad hefyd gan Ysgrifennydd dros yr economi ynglŷn â Tata, ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i drafod gyda Tata y buddsoddiad mewn offer modern i sicrhau bod moderneiddio'r gwaith hefyd yn gweithio tuag at leihau'r llygredd?

Cewch, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog yn ysgrifennu at yr Aelod gan anfon copïau i holl Aelodau eraill y Cynulliad. Credaf fod nifer ohonom sydd â diddordeb yn hynny, a gall hynny gwmpasu'r materion sy'n codi ym mhortffolio Ysgrifennydd y Cabinet hefyd.

Galwaf am ddau ddatganiad, yn gyntaf ar rywbeth y cyfeirir ato’n aml fel gostyngiad mewn plastigau untro, ond yng nghyd-destun poteli y gellir eu hailddefnyddio. Gofynnwyd i mi gan gwmni dŵr Hafren Dyfrdwy Limited, Hafren Dyfrdwy, i ymuno â nhw i hyrwyddo eu menter Refill in Wrexham, sy'n cael ei lansio yfory, rwy'n credu, gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r sefydliad nid er elw City to Sea, lle bydd ymgyrch genedlaethol dŵr tap yn annog busnesau, caffis, amgueddfeydd a bwytai i ddarparu ail-lenwadau’n rhad ac am ddim, gyda busnesau’n arddangos sticer ail-lenwi glas yn eu ffenestri, ac ap ffôn clyfar ategol sy'n dangos lleoliadau’r holl orsafoedd ail-lenwi dŵr. 

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar enceffalopathi myelitis myalgig neu syndrom blinder cronig—ME/CFS—yng Nghymru, ar ôl imi lywyddu dair wythnos yn ôl ddangosiad o Unrest yn y Senedd a’r drafodaeth ar ran cefnogaeth ME ym Morgannwg a Chymdeithas ME Support a CFS Cymru? Clywsom mai £3.5 biliwn y flwyddyn yw cost y cyflyrau hyn i economi’r DU. Clywsom fod Cymdeithas ME Support a CFS Cymru yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i fynd i'r afael â’r angen parhaus am well mynediad at ddiagnosis prydlon, i feddygon teulu ddeall symptomau’r cyflwr yn llawn, ac i ddatblygu arbenigedd clinigol yng Nghymru, gyda rhaglen hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth safonedig fel mater o frys. Hefyd, gwelsom gopi o strategaeth ME Trust 2018-21, y papur 'Vision into Action', sy’n dweud bod rhannau o'r DU, megis Cymru, lle nad oes unrhyw wasanaethau arbenigol. Ac yn olaf yn y cyd-destun hwn, hoffwn ystyried y dystiolaeth a gawsom gan Dr Nina Muirhead, sydd nid yn unig yn feddyg y GIG ond hefyd yn academydd sy'n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd wrth weithredu prawf arbrofol, cyflwyno ME/CFS i gwricwlwm yr ysgolion meddygol yma, sy’n unigryw yn y DU hyd yn hyn. Mae hi'n dweud ei bod hi’n bryderus iawn bod canllawiau NICE yn dweud mai therapi ymarfer wedi ei raddio, GET, a therapi gwybyddol ymddygiadol, CBT, yw'r triniaethau a argymhellir yng nghanllawiau NICE, gan ei bod hi'n dweud bod y rhain yn achosi niwed, o bosibl, i gleifion ac y dylid eu dileu, fel y maen nhw wedi ei wneud yn America gan y Centers for Disease Control and Prevention.

14:35

Wel, mae'r Aelod wedi gwneud ei waith da iawn arferol o dynnu sylw at y materion y dymuna eu codi i gyd ar ei ben ei hun, felly nid wyf yn credu bod unrhyw angen am ddatganiad ategol. A gwn fod y Gweinidog yn fodlon iawn gyda'i pholisi ail-lenwi, ac nid oes amheuaeth y bydd hi'n dod â rhywbeth yn ôl i'r Siambr yn ystod ei hynt i ddweud wrthym pa mor dda y mae'n dod yn ei flaen.

Arweinydd y tŷ, mae yna gryn ddisgwyl am ddatganiad a phleidlais ar ddyfodol cynlluniau ar gyfer yr M4 yn y de-ddwyrain yn yr wythnosau nesaf. Rydym ni'n disgwyl rhywbeth—neu mi oeddem ni'n disgwyl rhywbeth—ddechrau mis Rhagfyr. A fyddech chi'n gallu egluro wrth y Cynulliad beth ydy'r tebygrwydd ar hyn o bryd y gall fod yna oedi yn yr amseru yna a rhoi eglurhad o rai o'r ffactorau a fydd yn dylanwadu ar yr amseru?

Gallaf, yn sicr. Pan oeddwn i'n camu i mewn dros y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, amlinellais ar gyfer y Cynulliad y broses gyfreithiol yr ydym yn rhan ohoni o ganlyniad i'r ymchwiliad a'i ganfyddiadau, a'r broses eithaf penodol a deddfol iawn sy'n dilyn hynny. Nid ydym wedi trefnu'r ddadl honno hyd yma gan ein bod ni wrthi'n gwneud hynny. Rydym wedi cadw rhywfaint o le ar amserlen y cyfarfod llawn, os bydd hi'n bosibl ei threfnu o fewn y cyfnod a ragwelwyd yn wreiddiol. Rydym yn dal i obeithio y bydd hynny'n digwydd, ond, os na fydd, yna byddaf yn sicr o esbonio ble'n union yr ydym ni yn ogystal â beth yw'r amserlen erbyn hyn.

Arweinydd y tŷ, mae hi'n Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd heddiw. Mae'n ddiwrnod i ddathlu a hyrwyddo caredigrwydd yn ei holl ffurfiau, o gymwynasau bach, i ymladd am wleidyddiaeth newydd, mwy caredig, sy'n rhywbeth yr wyf i wedi bod yn galw amdano ers imi gyrraedd y lle hwn, gyda chymorth gan Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys Darren Millar, Bethan Sayed a Julie Morgan, i enwi dim ond rhai ohonynt. Yr ychydig sgyrsiau a geir bob dydd yw'r unig brofiad y mae rhywun ei angen mewn gwirionedd i helpu i achub bywyd, a dyna pam yr wyf yn wirioneddol falch o gefnogi ymgyrch Mae Mân Siarad yn Achub Bywydau y Samariaid, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau, a Llywodraeth Cymru ei hun, yn cefnogi hynny hefyd. Mewn araith ddiweddar, dywedais fod rhai, gan gynnwys y rhai pwerus yn ein heconomi ac mewn bywyd gwleidyddol, na all ddychmygu bod caredigrwydd yn gweithio fel strategaeth wleidyddol, ac, unwaith eto, nid wyf yn cytuno â hynny. Felly, roeddwn wrth fy modd pan ddarllenais yr adroddiad diweddar gan Carnegie UK Trust 'Kindness, Emotions and Human Relationships: the Blind Spot in Public Policy', ac, fel y mae'n amlygu'n gywir, ceir cydnabyddiaeth gynyddol bellach o bwysigrwydd caredigrwydd a pherthnasoedd ar gyfer lles cymdeithasol wrth lunio polisïau cyhoeddus. Felly, gyda hynny mewn golwg, arweinydd y tŷ, pa gamau ar y cyd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyn yn dod yn realiti?

Rwyf yn cefnogi Jack Sargeant yn llwyr yn ei ymgyrch ar gyfer hyn. Nid oedd gennyf unrhyw syniad ei bod hi'n Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd, ond rwyf yn hapus iawn i gael gwybod hynny ac i ddweud bod hwnnw'n syniad da iawn. Rwyf yn sicr yn gefnogol iawn o ymgyrch Mae Mân Siarad yn Achub Bywydau y Samariaid, a'u gwaith rhagorol. Cefais y fraint amser cinio heddiw i noddi'r fforwm aml-ffydd a'i daith gerdded gymunedol, a'r fraint wirioneddol o siarad â phobl ynghylch sut y mae pob cyfraniad unigol i'r ffordd yr ydym yn ymddwyn yn ein cymdeithas yn bwysig ac yn tyfu'n gyfanrwydd y gallwn fod yn falch ohono, er bod popeth a wnawn nad ydym mor falch ohono, efallai, hefyd yn tyfu'n rhywbeth, a bod bywydau unigol, a gweithredoedd unigol, o bwys mawr. Felly, cefnogaf ei sylwadau'n llwyr. Nid wyf wedi darllen adroddiad Carnegie UK Trust, ond byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud hynny. Rwyf yn siŵr ei fod yn dweud rhywbeth tebyg iawn. Ac roeddwn i'n falch iawn heddiw o sefyll gyda fforwm o bobl sy'n cytuno y gallwn adeiladu dyfodol gwell i Gymru, yn seiliedig ar oddefgarwch, derbyn pawb sydd yma, a charedigrwydd a natur gymdogol yn ei holl ffurfiau yma yng Nghymru.

14:40

Arweinydd y tŷ, a fyddai modd ichi roi gwybod i'r Aelodau pryd yr ydych yn disgwyl gallu gwneud datganiad ar lot 2 yng ngham 2 rhaglen Cyflymu Cymru? Gwelaf eich bod chi'n gwenu wrth imi ofyn y cwestiwn. Ac, yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch pa bryd y bydd ef yn rhoi copi i'r Aelodau o'r llythyr cylch gwaith a chynllun busnes ar gyfer Trafnidiaeth Cymru fel yr ymrwymodd i'w wneud eisoes? Credaf y dylai llythyr cylch gwaith ar gyfer Trafnidiaeth Cymru fod ar gael eisoes i'r Aelodau erbyn hyn.

Ar yr ail bwynt, byddaf yn sicr o drafod hynny gyda'm cyd-Aelod Cabinet a gwneud yn siŵr y caiff hwnnw ei ddosbarthu cyn gynted â phosibl. Y rheswm dros wenu, Russell George, yw y byddaf i'n ateb cwestiynau llafar yn y Cynulliad yfory, ac mae nifer fawr ohonyn nhw wedi eu cyflwyno ar y mater a godwyd gennych chi. Felly, pe bai angen datganiad pellach wedyn, byddaf yn sicr o wneud siŵr y bydd hynny'n digwydd.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwerthfawrogi ein Hathrawon—Buddsoddi yn eu Rhagoriaeth

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar werthfawrogi ein hathrawon—buddsoddi yn eu rhagoriaeth. Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y datganiad—Kirsty Williams.

Diolch, Llywydd. Wrth inni symud yn nes tuag at wireddu ein cwricwlwm newydd i Gymru, rydym yn cyflymu'r gwaith o ddatblygu'r diwylliant a'r seilwaith dysgu proffesiynol i sicrhau y bydd diwygio'r cwricwlwm yn cael ei wireddu. Mae cydnabod a hyrwyddo rhagoriaeth addysg yn un o'r blaenoriaethau yn fy nghytundeb gyda'r Prif Weinidog. Mae'n un o amcanion allweddol 'Cenhadaeth ein Cenedl', ein cynllun gweithredu ar y cyd i ddiwygio addysg, ac mae'n ganolog i roi'r cwricwlwm newydd ar waith. Er ein bod eisoes wedi cychwyn yn dda gyda chefnogaeth i ymarferwyr, mae ein taith ymhell o fod wedi dod i ben. I'n cefnogi yn yr ymdrech hon, mae dull cadarn o ddysgu proffesiynol yn hanfodol. Mae gan y systemau addysg sy'n perfformio orau yn y byd addysgwyr bywiog ac ymgysylltiedig a staff cymorth sydd wedi ymrwymo i ddysgu parhaus. Ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm newydd heb weithlu addysg o ansawdd uchel. Dyna pam yr wyf wedi ymrwymo i ddatblygu dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol trwy gydol gyrfa, sy'n cynyddu gallu o'r addysg gychwynnol i athrawon ac a gaiff ei wreiddio mewn ymchwil ar sail tystiolaeth a chydweithredu effeithiol.

Drwy ymgysylltiad cynnar â'r cwricwlwm drafft, mae ysgolion arloesi wedi ystyried goblygiadau dysgu proffesiynol uniongyrchol, ac mae'n amlwg y bydd angen dull cenedlaethol wrth inni symud yn gyflym tuag at gyhoeddi'r cwricwlwm drafft. Mae'r dull yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn ymgorffori pedwar diben y cwricwlwm newydd. Fe'i cynlluniwyd i ymateb i flaenoriaethau ysgol yn ogystal â blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, ac mae'n cwmpasu taith ddysgu unigol pob ymarferwr. Mae'r cwricwlwm dysgu proffesiynol newydd yn seiliedig ar y safonau dysgu proffesiynol ac mae'n elwa ar fanteision cyfuniad o ddulliau. Datblygwyd y dull drwy broses o ymgynghoriad a chydadeiladu gan gysylltu â'r OECD, yr undebau, y prifysgolion, y consortia rhanbarthol, yr awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion, yr ysgolion arloesi a llawer o rai eraill. Cynhaliwyd amrywiaeth o brosiectau ymchwil ar gyfer rhoi sail dystiolaeth i gydrannau'r dull a sicrhau cydlyniad cyffredinol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i gydnabod gwaith y Pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg a'u her adeiladol i ddysgu proffesiynol wrth gefnogi cyflwyno'r cwricwlwm. Llwyddodd adroddiad y pwyllgor y llynedd i ddwyn ynghyd gyngor a mewnbwn gwerthfawr.

Pan gaiff y cwricwlwm drafft ei lansio ym mis Ebrill 2019, byddwn yn datblygu ymhellach ein dealltwriaeth o'r heriau sy'n gysylltiedig â'i weithredu mewn ysgolion. Mae'r buddsoddiad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn rhoi'r offer inni ac i'r system i wneud hyn yn llwyddiannus. Mae ein dull brethyn cartref o ddysgu proffesiynol yng Nghymru yn bwynt allweddol yn ein taith ddiwygio. Mae'n dwyn ein safonau proffesiynol newydd, y dull ysgolion fel sefydliadau addysgol a'r model dysgu proffesiynol at ei gilydd i greu gweledigaeth sy'n addas i'n system ni wrth iddi ddatblygu.

Bydd y dull newydd hefyd yn cynnwys canolbwyntio ar gefnogi athrawon i gael gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl a lles a'i wella. Rydym wedi gwrando'n ofalus ar y proffesiwn yn hyn o beth, a'r gwaith a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn yr ysbryd hwn, rwy'n ymrwymedig i sicrhau y bydd arian ychwanegol sylweddol ac adnoddau ar gael i gefnogi dysgu proffesiynol. Yn y flwyddyn ariannol hon, bydd £9 miliwn ychwanegol ar gael, ac yn y flwyddyn ariannol nesaf bydd hyn yn cynyddu i £15 miliwn. Mae hyn yn golygu y byddwn, dros y 18 mis nesaf, yn rhoi cyfanswm o £24 miliwn yn ychwanegol i gefnogi gweithredu'r dull cenedlaethol. Dyma'r buddsoddiad unigol mwyaf ar gyfer cymorth i athrawon yng Nghymru ers datganoli. Bydd yr arian yn mynd i'r rheng flaen a'r nod fydd creu a rhyddhau capasiti ar lefel ysgol a chlwstwr ar gyfer ymgysylltiad ag anghenion dysgu proffesiynol y cwricwlwm newydd sy'n strwythuredig, wedi'i reoli ac yn meddu ar yr adnoddau priodol. Rydym yn disgwyl trawsnewid mawr yn y ffordd y mae ein hymarferwyr a'n arweinwyr yn meddwl am eu dysgu proffesiynol yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd, ac mae angen inni roi'r cymorth i ysgolion i wneud y newid sylweddol hwn.

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi athrawon, arweinwyr a rhai eraill yn yr ysgolion i gymryd yr amser y bydd ei angen arnyn nhw i gyflawni'r newidiadau a mireinio eu harferion. Bydd hyblygrwydd yn rhan o'r cyllido, gan alluogi ysgolion i weithio gyda'i gilydd mewn ffyrdd sy'n addas i'w hamgylchiadau eu hunain. Bydd yn cefnogi athrawon i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gynllunio'r cwricwlwm newydd a'r ddarpariaeth ohono, yn unol â'r newid sylfaenol yn y dull o weithredu sy'n ofynnol yn y cwricwlwm newydd. A bydd yn cefnogi hyfforddwyr ac arweinyddion dysgu proffesiynol penodedig ar lefel ysgol a chlwstwr—argymhelliad allweddol gwaith ymchwil gan brifysgolion ac yn rhyngwladol yn y maes hwn.

Llywydd, mae ein dull cenedlaethol o weithredu dysgu proffesiynol yn hanfodol i sut yr ydym yn gwerthfawrogi ein hathrawon ac yn buddsoddi yn eu rhagoriaeth. Rydym yn parhau â'n taith ddiwygio gydag eglurder a hyder, gan roi i'n hathrawon y gefnogaeth a'r buddsoddiad y mae eu hangen arnyn nhw i sicrhau eu bod yn dal ati i godi safonau ledled ein system addysg. Diolch yn fawr.

14:45

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rydym yn hapus iawn i gefnogi cryn dipyn o'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y bydd adroddiad Donaldson yn gofyn am ailsgilio eang ymhlith ein hathrawon a staff cymorth, gyda'r rhyddid hefyd, gobeithio, i ymateb yn fwy uniongyrchol i'r dulliau amrywiol sydd gan ddisgyblion o ddysgu, yn hytrach na'r ddealltwriaeth fwy ragnodol sydd gan Estyn o addysgu, dyweder? Diolch i chi hefyd am eich sylwadau ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'n bwynt sy'n werth ei wneud bod beirniadaeth adeiladol yn ymwneud â helpu'r lle hwn i wneud gwaith da, ac nid yw'n gyfle'n unig i ddweud 'Gadewch i ni roi pwniad i'r Llywodraeth', er bod hynny'n demtasiwn ar adegau. Tybiaf y byddwch, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at ein hymchwiliad nesaf, sydd ar gyllid ysgolion, sydd, yn fy marn i, mewn gwirionedd, yn ymwneud â thestun y datganiad hwn i ryw raddau hefyd.

Rydych yn dweud bod y dull o weithredu'r cyllid newydd hwn i gefnogi datblygiad athrawon wedi cael ei lunio ar y cyd â nifer o bartïon â diddordeb, gan gynnwys awdurdodau lleol. A oedden nhw'n ymwybodol o'ch bwriad chi i glustnodi'r cyllid newydd hwn sydd i'w groesawu'n fawr iawn ar gyfer y diben hwn yn y ffordd a wnaethoch chi? A ydych yn hyderus y caiff ei ddefnyddio ar gyfer hyn cyn gynted ag y bydd y cynghorau yn ei gael? Rwy'n deall yr hyn a ddywedwch chi, fod hyn ar gyfer y rheng flaen, ac, yn amlwg, fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn cefnogi unrhyw gyllid uniongyrchol i ysgolion. Ond rwy'n awyddus i wybod sut y byddwch chi'n monitro'r defnydd o'r arian hwn pan fyddwch—wel, yn amlwg, rydych chi'n gwybod am sefyllfa'r awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a cheir peth cydymdeimlad ymhlith y cyhoedd â'r safbwynt y maen nhw'n ei gyflwyno.

O ran y swm penodol o arian, sut ddaethoch chi i'r casgliad y byddai llwyddo i ddatblygu'r dysgu proffesiynol newydd hwn, i'r lefel a fyddai'n angenrheidiol iddo fod yn llwyddiannus, yn costio £24 miliwn? A wnaethoch chi ddadlau gydag Ysgrifennydd cyllid y Cabinet y gallai, er mwyn gwneud hyn yn hollol iawn, fod angen mwy arnoch, ond mai dyna'r cyfan yr oedd yn barod i'w roi i chi? Sut bynnag yr oedd hi, mewn gwirionedd, pe byddai'r awdurdod lleol yn gallu defnyddio rhywfaint o'r arian hwn mewn ffordd ychydig yn wahanol i'r diben yr oeddech chi'n ei fwriadu ar ei gyfer—ac, yn amlwg, dyma'r hyn yr oeddwn yn ei geisio yn fy nghwestiwn cyntaf—a fyddai hynny mewn gwirionedd yn lleihau'r swm gwirioneddol o arian fyddai ar gael i ddarparu'r hyfforddiant yr ydych yn credu sydd ei angen i gwblhau'r gwaith? Rwy'n credu mai un o'r pethau y byddem ni i gyd yn poeni amdano yw y gallai hyn, fel amcan polisi, ddatblygu i fod yn rhywbeth bregus a hyd yn oed fethu pe na fyddai'r arian y dywedasoch sy'n gwbl angenrheidiol yn dod i law.

Fy nghwestiwn nesaf yw: 'Beth sy'n hollol angenrheidiol?' Y £24 miliwn—yn amlwg, dywedodd Ysgrifennydd cyllid y Cabinet ein bod ni'n sôn am £15 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae £9 miliwn arall wedi ymddangos o rywle, felly hoffwn pe gallech ddweud wrthym o ble y daeth y £9 miliwn hwn. Nid wyf yn dweud nad oes croeso iddo, ond gyda dim ond pum mis eto cyn diwedd y flwyddyn ariannol, sut ydych yn disgwyl i'r £9 miliwn hwn gael ei wario mewn ffordd ystyrlon, pan ragwelir na fydd unrhyw ddull cenedlaethol ond yn cael ei gyflwyno, mewn gwirionedd, o'r flwyddyn nesaf ymlaen? Ac ar ben hynny, datblygiad y cynnig dysgu proffesiynol—rhagwelwyd mai dim ond £5.8 miliwn fyddai'n angenrheidiol i ddatblygu hwnnw. Mae eisoes wedi cael ei ddatblygu, i bob pwrpas, felly beth am y £9 miliwn? Ar gyfer y cyflwyno? A sut fyddech chi'n gwneud hynny ymhen pum mis?

Clywais o'ch datganiad fod amrywiaeth o brosiectau ymchwil yn mynd rhagddynt. Wel, mae'n debyg na fyddan nhw'n barod i roi gwybod sut y bydd y £9 miliwn hwnnw i'w wario. Neu a oes unrhyw beth y gallech yn wirioneddol ei ddwyn ymlaen i'r flwyddyn hon? Oherwydd os oes— ac mae'n hynny'n gwbl bosibl—byddai hynny, yn amlwg, yn rhyddhau £9 miliwn ym mhen arall cyllideb y flwyddyn nesaf. Beth ydych chi'n rhagweld gwario hynny arno? Pwy yw'r hyrwyddwyr a'r arweinyddion dysgu proffesiynol yr ydych chi'n disgwyl eu gweld? Hynny yw, a ydyn nhw ar gael nawr, neu ai'r disgwyliad yw y byddan nhw'n dod i'r adwy ac yn ein helpu i gyflwyno'r cynllun da hwn y flwyddyn nesaf? A yw'r ysgolion yn glir ynghylch pwy y bydden nhw'n hoffi eu rhyddhau, os ydych yn gallu dwyn llawer o hyn yn ei flaen?

Rwy'n dymuno ei gwneud yn glir, mewn gwirionedd, nad wyf yn holi'r cwestiynau hyn i herio amcan eich polisi. Ond gan gofio bod yr awdurdodau lleol wedi bod yn crochlefain am arian ychwanegol, yn enwedig ar gyfer eu cyllideb ysgolion, sut y daethpwyd i'r penderfyniad fod y £9 miliwn hwn, sydd wedi ymddangos o rywle, yn mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer yr amcan clodwiw a theilwng hwn ond ar yr un pryd mae'r ysgolion yn dweud, 'A dweud y gwir, nid ydym yn gallu fforddio i redeg ein hysgolion.' Felly, pe gallech ein helpu ni ac esbonio hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn. Yn sicr, mae'r arian i'w groesawu, ond rwy'n awyddus i ddeall mwy am natur uniongyrchol y defnydd ohono.

14:50

Diolch yn fawr iawn i Suzy Davies am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig i ni gydnabod gwaith y Pwyllgor yn hyn o beth. Pan edrychodd y pwyllgor ar y cwricwlwm, hwn oedd argymhelliad Rhif Un y pwyllgor: mae angen i ni, fel Llywodraeth, fynd i'r afael ag anghenion dysgu proffesiynol y staff, os ydym eisiau datblygu amcanion y cwricwlwm. Rwy'n gobeithio bod yr aelodau o'r Pwyllgor a weithiodd ar yr adroddiad hwnnw yn falch ein bod wedi cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth wrth wneud hyn.

Gadewch imi fod yn gwbl glir ynglŷn â'r ffordd y bydd yr arian yn cyrraedd y rheng flaen. Yn y flwyddyn ariannol hon, dyrennir yr arian i'r consortia rhanbarthol, sydd wedi bod yn ymwneud â datblygiad y rhaglen hon ac sy'n hyderus y gallwn anfon yr adnoddau hynny i'r rheng flaen. Nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Ceir sylfaen eang o dystiolaeth a gafwyd eisoes, ac mae ein hysgolion arloesi sy'n ymwneud â dysgu proffesiynol wedi bod yn arbrofi gyda rhai o'r technegau hyn eisoes. Felly, nid cychwyn stond yw hwn. Caiff ei lywio gan ymarfer sydd eisoes wedi ei wneud mewn ysgolion, ac mae rhai enghreifftiau gwych y gallaf gyfeirio atyn nhw. Er enghraifft, Ysgol Brenin Harri'r VIII yn y Fenni: arloeswr cymharol newydd ym maes datblygiad proffesiynol, ond yn gweithio yn galed iawn, iawn, nid yn unig o fewn eu hysgol eu hunain, ond mewn gwirionedd gydag ysgolion y clwstwr o'i chwmpas, i edrych o ddifrif ar beth yw'r anghenion a'r cyfleoedd dysgu proffesiynol os ydym eisiau bod yn barod ar gyfer y cwricwlwm—yn rhagweithiol iawn. Ysgol Gynradd Romilly: unwaith eto, enghraifft arall lle mae'r mapio wedi cael ei wneud eisoes ar gyfer unigolion i nodi beth y maen nhw'n ei deimlo sydd ei angen i'w paratoi ar gyfer bod yn barod i'r cwricwlwm newydd. Ond, yn amlwg, bydd yn rhaid i rywfaint o'r gwaith hwn gael ei ddatblygu ymhellach pan fydd manylion y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cael eu rhyddhau yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn llywio ein trafodaethau parhaus am yr hyn sy'n angenrheidiol.

Grant a neilltuir i'r awdurdodau lleol fydd yr arian ar gyfer y flwyddyn nesaf, a bydd yn rhaid gwario'r arian i'r dibenion hyn. O ran arian i gonsortia ac i ysgolion fel ei gilydd, byddwn yn ceisio sicrhau bod tryloywder yn y dull o ddyrannu adnoddau a hefyd yn y gwaith o fonitro'r cyllid. Nawr, mae cydbwysedd i'w daro bob amser, onid oes, rhwng creu swm enfawr o fiwrocratiaeth, yn enwedig i ysgolion unigol, i roi cyfrif am arian, a gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr hyn y mae wedi ei fwriadu ar ei gyfer. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r consortia rhanbarthol, y bydd yn ofynnol iddyn nhw gyhoeddi eu cynlluniau gwariant ar gyfer yr arian, a byddwn yn monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol yn ôl y grwpiau proffesiynol ac yn ôl yr ysgolion unigol. Felly, byddwn yn disgwyl casglu'r data hynny fel y gallwn fodloni ein hunain ynghylch y defnydd a wneir o'r arian. Ond mae'n rhaid taro cydbwysedd rhwng creu hunllef fiwrocrataidd i bobl a chaniatáu i'r arian gael ei ddefnyddio at y dibenion a fwriedir.

Nid oes cweryl rhwng fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau. Nid oes mantais i mi o fod yn cweryla. Rwy'n credu ichi ddweud mod i'n 'dadlau' ag ef. Ond mae ef yn ymwybodol, os yw'n cwricwlwm am fod yn llwyddiant, yna bydd raid inni fuddsoddi yn ein hathrawon i'w galluogi i gyflawni hynny. Bydd yr holl waith yr ydym wedi ei wneud ar y cwricwlwm yn mynd i'r gwellt os na fydd ein hathrawon mewn sefyllfa i roi hwnnw ar waith yn llwyddiannus ar ran eu disgyblion. Yr enghreifftiau o'r mathau o bethau y bydd angen i ysgolion eu harchwilio—byddwn yn edrych ar oblygiadau'r cynnwys newydd, dulliau newydd o gynllunio a gwireddu dysgu, dulliau newydd o asesu cynnydd plant, datblygu'r sgiliau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm ar lefel ysgol—rhywbeth nad yw ysgolion efallai mor gyfarwydd â'i wneud—datblygu trefniadau cydweithredol ar gyfer y cwricwlwm ar lefel ysgol o 4 i 19 oed, felly mewn gwirionedd gwneud yn siŵr bod ysgolion cynradd ac uwchradd yn cydweithio i sicrhau bod llwybr i'w gael ar gyfer dysgwyr unigol. Goblygiadau, er enghraifft, y meysydd dysgu a phrofiad—bydd gennym faes dysgu a phrofiad newydd, sef iechyd a lles. Bydd hynny, mewn rhai ffyrdd, yn her i'r sector yn y maes arbennig hwn, a dyna pam mae angen i ni wneud yn siŵr y bydd ein hathrawon yn hyderus y gallan nhw fanteisio i'r eithaf ar y cyfle o fod â'r maes dysgu a phrofiad newydd o iechyd a lles.

At ba ddiben y disgwyliwn i'r arian gael ei ddefnyddio? Wel, rydym yn hyderus bod ysgolion mewn sefyllfa i fapio anghenion dysgu eu hathrawon. Byddwn yn disgwyl iddyn nhw ddefnyddio'r arian i ryddhau a llenwi bylchau gydag amser y staff ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgarwch ar y cyd. Mae hynny'n anodd iawn yn aml. Rwy'n credu i ni gael y sgwrs hon yr wythnos o'r blaen yn y pwyllgor wrth drafod yr adegau y bydd cyllidebau yn gyfyng, y bydd y gallu i ryddhau staff ar gyfer hyfforddiant yn diflannu. Mae hyn nawr yn golygu y bydd adnoddau wedi eu neilltuo i ganiatáu i hynny ddigwydd.

Rwy'n ymwybodol iawn ac yn effro i'r pwysau sylweddol sydd ar lywodraeth leol. Byddwch wedi clywed ateb y Prif Weinidog heddiw o ran y Llywodraeth yn parhau i fwrw golwg ar beth arall y gallwn ei wneud i ysgafnhau'r pwysau. Rwy'n siŵr, pe bai'r Llywodraeth mewn sefyllfa i wneud hynny, byddai'r awdurdodau lleol yn awyddus i flaenoriaethu gwariant ar ysgolion a sicrhau bod plant yn eu hardal leol yn cael y cyfleoedd gorau posibl. Ond wedi gwneud hynny, bydd angen inni wneud yn siŵr bod gan yr athrawon hynny yn y stafell ddosbarth y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnyn nhw. Wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor, rydym yn ymateb hefyd i alwadau cyson gan yr undebau i fod â'r arian hwn yn ei le, ac roeddwn yn hapus iawn ddoe i weld y croeso cynnes iawn a roddodd undebau'r athrawon i'r cyhoeddiad hwn.

14:55

Mae codi safonau a chodi statws y proffesiwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo ers blynyddoedd, wrth gwrs. Os nad ydy'r gweithlu yn cael—

Mae'n flin iawn gyda fi, ond nid yw'r cyfieithiad i'w gael gennyf i, Llywydd. Rwy'n flin iawn.

Nage, arnaf i y mae'r bai, sori. Mae'n gweithio ar hwn—mi gymeraf i fenthyg un Lesley.

Peidiwch â sôn, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.]

Siân Gwenllian i gario mlaen. 

Iawn. Gobeithio eich bod chi'n fy nghlywed i, a chlywed y cyfieithiad yn glir hefyd.

Ardderchog. Fe wnaf ddechrau eto, felly.

Mae codi safonau a chodi statws y proffesiwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo ers nifer o flynyddoedd. Os nad ydy'r gweithlu yn cael hyfforddiant o safon uchel drwy gydol eu gyrfa, o'u haddysg gychwynnol hyd at gyfnod ymddeol o'r sector, fydd y safonau ddim yn codi yn y dosbarth.

Cyn troi at fater sydd wedi cael ei drafod yn fan hyn nifer o weithiau, sef athrawon llanw a'u rhan nhw yn y broses yma, rydw i eisiau cyffwrdd hefyd ar y mater yr oedd Suzy yn ei godi ynglŷn â'r £15 miliwn o arian, ac a fyddai fo wedi bod yn well i'r arian fynd yn syth i'r gyllideb graidd yn hytrach na chael ei roi fel grant benodol.

Rŵan, rydw i'n cydymdeimlo â chi, achos rydw i newydd ddweud fy mod i'n meddwl bod angen buddsoddi i gael y dysgu proffesiynol yma'n digwydd yn iawn, ond, wrth gwrs, mae hi'n gyfnod eithriadol o anodd ar y cynghorau sir, ac mae'r gymdeithas llywodraeth leol wedi dweud y byddai'n llawer iawn gwell ganddyn nhw weld y £15 miliwn yn cael ei wario ar gadw swyddi—un ai dros 350 o athrawon profiadol neu dros 600 o gymorthyddion dysgu—fel y byddai'r achos wedi bod petai'r cyllid yma wedi cael ei gynnwys o fewn y gyllideb graidd. Rydw i'n gweld eich dilema chi: rydych chi eisiau gwario'r arian yn y lle iawn, ond, ar y llaw arall, mae hi'n gyfnod o argyfwng ac mae ein hysgolion ni angen pob ceiniog er mwyn cadw'r athrawon profiadol—felly, jest gofyn ichi jest ystyried ychydig ar hynny unwaith yn rhagor.

Ond i droi yn benodol rŵan at athrawon llanw, mae yna bedair gwaith mwy o asiantaethau preifat ar gyfer athrawon llanw rŵan nag oedd yna ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae yna bryderon ynglŷn â thâl ac amodau a datblygiad proffesiynol yr athrawon yma, efo llawer o ysgolion yn dibynnu'n gynyddol ar athrawon llanw i lenwi absenoldebau athrawon. Mae'n hollbwysig, felly, onid ydy, bod yr athrawon llanw hefyd yn derbyn hyfforddiant a bod eu gwybodaeth o ddatblygiadau yn y cwricwlwm yn gyfoes.

Mewn datganiad gennych chi'n ddiweddar ar wefan y Llywodraeth, mi ddywedwyd y bydd dysgu proffesiynol yn hawl i bob ymarferwyr mewn ysgolion, nid athrawon yn unig, felly hoffwn i wybod a fydd yna ddarpariaeth ar gyfer athrawon llanw hefyd a sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae'r datganiad yn dweud hefyd y bydd arian yn sicrhau bod y newidiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn blaenoriaethu lles athrawon ac yn aflonyddu cyn lleied â phosib ar ddysgu'r disgyblion, a bydd yr arian yn helpu sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ar sut y mae hynny'n mynd i ddigwydd? Ac a ydy hynny, yn anorfod, yn mynd i arwain at ragor o ddibyniaeth ar athrawon llanw? Felly, y pwynt penodol yna, os gwelwch yn dda, a'ch sylwadau chi ynglŷn â'r gyllideb graidd yn erbyn grant. Diolch.

15:00

Diolch yn fawr, Siân, ac mae'n flin iawn gyda fi am yr amhariad a gorfod gwneud ichi ailddechrau. Mae safon fy Nghymraeg yn gwella, ond hyd at flwyddyn 2 neu flwyddyn 3, ac nid yn ddigon da ar gyfer y Siambr.

Rwy'n credu mai'r hyn a groesawaf yn bendant yw eich dealltwriaeth na allwn ni sylweddoli, heb ragoriaeth yn y gweithlu addysgu, yr ymdrech ar y cyd ar draws y Siambr hon i ddarparu addysg o'r radd flaenaf. Dyna pam y tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd dod o hyd i'r adnoddau hyn. Os edrychwn ar adroddiadau blaenorol Estyn, tynnwyd sylw at yr angen i fuddsoddi yn ansawdd ein dysgu fel blaenoriaeth, a dyna pam mae hi'n hollol iawn dod o hyd i'r arian hwn.

Gallwn gael dadl am y dulliau y gall yr arian hwn fynd i'r rheng flaen, ond, fel yr ydych chi eich hunain wedi ei gydnabod, yn aml y peth cyntaf i ddiflannu yw buddsoddiad mewn staff a hyfforddiant. Ac, felly, os ydym eisiau buddsoddi yn ein staff, rwyf wedi penderfynu mai'r unig ffordd y gallwn fod yn gwbl sicr y bydd hynny'n digwydd yw drwy grant wedi'i neilltuo. Nid wyf i o'r farn y dylai fod yn ddewis deuaidd chwaith—ei fod yn arian ar gyfer y grant cynnal refeniw neu'n arian ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae angen inni wneud yn well na hynny, a byddwn yn ailadrodd hefyd bod y Llywodraeth yn parhau i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi'r grant cynnal refeniw yn y dyfodol.

Ond, Llywydd, defnyddiodd Siân Gwenllian y gair 'argyfwng'. Credaf i mai argyfwng fyddai ein cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno ar sail statudol yn 2022 ac na fyddai ein hathrawon mewn sefyllfa i'w gyflawni. Byddai hwnnw'n argyfwng gwirioneddol. A heb i ni flaenoriaethu'r gwariant hwn ar gymorth a dysgu proffesiynol, ni fydd y cwricwlwm newydd yn cyflawni'r hyn y mae angen iddo'i gyflawni. Rwy'n credu y byddai hynny'n argyfwng gwirioneddol inni. Dyna pam yr wyf wedi gwneud y penderfyniad hwn i flaenoriaethu a rhoi'r adnoddau hyn yn benodol i fuddsoddi yn ein staff. Fel y dywedais, gwnaed hyn ar y cyd â'n cydweithwyr yn undebau'r athrawon ac maen nhw wedi croesawu'r adnodd hwn.

Rydych chi yn llygad eich lle i gydnabod bod gan gynorthwywyr addysgu ac athrawon cyflenwi hefyd yr un hawl i gael cyfleoedd dysgu proffesiynol. Maen nhw i raddau helaeth iawn yn aelodau gwerthfawr a werthfawrogir o'n gweithlu addysg ac mae ganddyn nhw swyddogaeth sylweddol wrth ddatblygu a chyflawni gydag addysg, ar ein cenhadaeth genedlaethol. Felly, yn rhan o'r broses fonitro, byddwn yn ceisio cael y consortia i adrodd ar y niferoedd sy'n manteisio ar yr hyfforddiant a faint ohono sydd ar gael i athrawon cyflenwi, ond hefyd yn edrych ar, ac yn rhoi, hyblygrwydd i ysgolion o ran eu gallu i ddefnyddio eu hadnoddau i gefnogi athrawon, a hefyd eu staff addysgu cynorthwyol. Mae rhai ysgolion yn gwneud hynny eisoes; mae rhai ysgolion yn dweud nad ydyn nhw mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly, ceir hyblygrwydd ar gyfer ysgolion unigol a chlystyrau i wneud trefniadau ar gyfer staff addysgu a staff cynorthwyol addysgu a byddwn yn monitro materion sy'n ymwneud â chyflenwi.

Gwn fod materion ynghylch cyflenwi yn parhau i beri pryder i'r Aelodau ar draws y Siambr hon; maen nhw'n peri pryder i minnau. Dyna pam rydym yn parhau â'n gwaith o geisio ymgorffori telerau ac amodau gwell yn sgil ein caffael cenedlaethol o'r gwasanaethau hyn ac yn bwriadu sicrhau bod hyfforddiant proffesiynol ar gael fel rhagofyniad i asiantaethau sy'n gweithio yn y maes hwn. Fel y dywedais, nid wyf dan unrhyw gamargraff o ran yr heriau sy'n wynebu'r grant cynnal refeniw, ond, os ydym yn ddifrifol o ran sicrhau bod y proffesiwn yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd, a'n bod ni'n ddifrifol o ran llwyddiant y cwricwlwm, yna bydd yn rhaid inni fuddsoddi yn ein gweithlu ac mae'n rhaid inni wneud hynny nawr. Bydd yn rhy hwyr os arhoswn am flwyddyn neu ddwy arall, os neu pan fyddai neu na fyddai'r system ariannol—y sector ariannol, yr awyrgylch ariannol, yn well neu beidio. Mae'n rhaid achub ar y cyfle hwn nawr.

15:05

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn nodi, unwaith eto, eich bod wedi rhyddhau eich cyhoeddiad allweddol i'r wasg cyn ei gyhoeddi i ni. Gan eich bod yn gallu cyhoeddi datganiad i'r wasg ar y mater, rydych chi'n amlwg mewn sefyllfa i gyhoeddi'r datganiad i Aelodau'r Cynulliad, ond wnaethoch chi ddim. Rwyf braidd yn siomedig eich bod wedi ei ryddhau i'r wasg gyntaf cyn gwneud y cyhoeddiad yn y fan hon.

Ond, gan droi at eich datganiad, rwy'n siŵr y bydd athrawon ac ysgolion yn hynod ddiolchgar i chi am yr arian yr ydych yn ei gyhoeddi heddiw—neu yn hytrach a gyhoeddwyd gennych chi ymlaen llaw. Tybed a yw hwn yn gyfaddefiad eich bod chi'n ceisio newid gormod yn rhy gyflym? A fu'n rhaid ichi addo'r swm hwn o arian oherwydd cost athrawon cyflenwi gan nad ydych chi wedi sicrhau dewis arall ar wahân i ddefnyddio asiantaethau, sy'n codi crocbris ar ysgolion? Ai'r cynllun o'r dechrau oedd gwario'r swm enfawr o £24 miliwn yn y modd hwn? Os felly, pam nad ydych chi wedi dweud hynny o'r blaen—hynny yw, pan wnaethoch chi gyhoeddi'r cwricwlwm newydd?

Rydych yn dweud ei fod ar gyfer sicrhau bod newidiadau yn cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn blaenoriaethu lles athrawon ac yn lleihau'r amharu ar ddysgu disgyblion. Nid wyf yn gwrthwynebu'r egwyddor o ddyrannu'r arian. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud, gydag unrhyw fesur yr ydych yn ei gyflwyno, boed yn Fil anghenion dysgu ychwanegol neu beth bynnag, oni bai i'r adnoddau fod ar gael i ganiatáu i'r newidiadau hyn ddigwydd, nad yw hynny'n werth dim. Holi'r wyf i pam mae hyn yn dod i'r amlwg nawr a pham na chafodd ei ystyried yn gynharach, oherwydd siawns gen i y dylech chi fod wedi ystyried hyn pan gyhoeddwyd eich cynlluniau i gyflwyno'r holl newidiadau hyn i'r cwricwlwm yn y lle cyntaf, ac yn sicr fe ddylech chi fod wedi gwneud asesiad o'r effaith y byddai maint y newidiadau hyn yn debygol o'i gostio i'r proffesiwn addysgu i'w rhoi ar waith.

Yn y datganiad ysgrifenedig i'r wasg gan y Llywodraeth, cewch eich dyfynnu'n dweud bod yr arian yn dangos cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi athrawon a dysgu proffesiynol, ac eto i gyd cyn hynny dywed mai bwriad yr arian yw pontio i'r cwricwlwm newydd mor hawdd â phosibl. Ond pa un o'r ddau ydyw? Roedd ychydig o anghysondeb yn y fan honno, mae'n ymddangos. Ai cyfle newydd yw hwn ar gyfer dysgu proffesiynol, fel yr awgryma eich dyfyniad, ynteu ymateb i'r panig y bydd angen help na chafodd ei ragweld hyd yma ar athrawon ar gyfer addasu i'r newidiadau, fel yr awgryma gweddill yr erthygl? Ai arian newydd yw hwn, ynteu arian y bydd yn rhaid iddo ddod o'r gyllideb addysg bresennol sy'n lleihau, y mae'r Llywodraeth Lafur yr ydych chi'n ei chynnal wedi ei thorri mewn termau gwirioneddol? Os nad yw'n arian newydd, a oes gennych gywilydd bod eich newidiadau chi yn gofyn am gymryd arian o rannau eraill o'r system addysg er mwyn helpu i hwyluso'r broses o drosglwyddo i'r cwricwlwm newydd oherwydd eich bod chi'n ceisio gwneud gormod o newidiadau yn rhy gyflym? Mae £24 million yn golygu llawer o athrawon newydd, llawer o lyfrau newydd—gallai rhai ysgolion gwledig ac ysgolion lleol osgoi cael eu cau. Felly, rwyf i o'r farn ein bod ni a'r trethdalwyr yn haeddu cael gwybod beth sy'n cael llai o arian—mae'n ddrwg gennyf, dechreuaf eto—beth fydd llai o arian yn cael ei wario arno er mwyn ariannu eich cyhoeddiad diweddaraf chi. Ac a wnewch chi roi rhestr fanwl o'r hyn fydd yn cael llai o gyllid nag a ragwelwyd o ganlyniad i hyn a pha asesiadau yr ydych chi a gweddill aelodau'r Cabinet wedi eu gwneud o oblygiadau'r gostyngiadau hynny? Diolch.

15:10

Llywydd, mae'n flin gennyf, mae'n rhaid fy mod i wedi camgymryd, oherwydd roeddwn i'n credu bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a wnaeth ei ymrwymiad Rhif 1 ynghylch datblygiad proffesiynol o ganlyniad i'r cwricwlwm yn adroddiad unfrydol a gafodd ei gymeradwyo gan bob aelod o'r pwyllgor. Cyn belled ag y cofiaf i roedd Michelle Brown yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, felly roedd hi'n gwbl ymwybodol o'r trafodaethau am hynny.

Nid wyf i erioed, ddim erioed wedi dweud na fyddai angen inni fuddsoddi yn natblygiad dysgu proffesiynol ein staff addysgu. Ni ddywedais i hynny erioed. Gwn yn well na neb, os ydym eisiau cael y system addysg yr wyf i'n ei dymuno i'm plant i, ac yn wir, i bob plentyn yng Nghymru, yna gweithlu addysg o ansawdd da fydd yn ei chyflawni. Nawr, mae'r Aelod yn dweud 'Pam nawr?', ac mae hwnnw'n gwestiwn dilys i'w ofyn. Rydym yn gwneud y cyhoeddiad hwn nawr gan fod y gwaith ymchwil wedi dod i ben, mae'r gwaith wedi cael ei wneud, i nodi pa gyfleoedd a gofynion dysgu proffesiynol sy'n deillio o'r newidiadau i'n cwricwlwm. Dyna pam mae'n bwysig inni wneud y cyhoeddiad hwn nawr, oherwydd mae'r ymchwil gyda—rydym wedi gwneud y gwaith ymchwil gyda'n prifysgolion, rydym wedi ymgynghori â'n proffesiwn addysgu, rydym wedi edrych ar effaith y newidiadau i'r cwricwlwm mewn gwledydd eraill a'r hyn y maen nhw wedi ei wneud i sicrhau bod y diwygiadau i'w cwricwlwm nhw wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r gwaith wedi cael ei gwblhau bellach, mae ein hysgolion arloesi wedi bwydo nôl, ac rydym mewn sefyllfa i sicrhau y bydd y dull gweithredu cenedlaethol yn cael ei ddwyn yn ei flaen.

Nawr, mae Michelle Brown yn dweud, 'A yw'r cyhoedd mewn gwirionedd yn dymuno i ni wario'r arian hwn?' Wel, byddwn i'n dadlau—byddwn i'n dadlau—[Torri ar draws.] Byddwn i'n dadlau bod y cyhoedd yn disgwyl i'r Llywodraeth hon fuddsoddi mewn athrawon ledled y wlad hon sydd yn sefyll o flaen eu plant o ddydd i ddydd, yn darparu nid yn unig y cwricwlwm presennol ond gwricwlwm y dyfodol—cwricwlwm y cydnabyddir, ac eithrio gan UKIP, fod ei angen arnom ni yma yng Nghymru. Ac er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddo lwyddo a pheidio â thynghedu ein hathrawon i fethiant, mae angen inni fuddsoddi ynddyn nhw. Mae'r Aelod yn dweud, 'Pa un o'r ddau ydyw? Buddsoddiad yn ein staff addysgu neu fuddsoddiad yn ein cwricwlwm?' Wel, ni allwch gael un heb y llall. Mae'n ymwneud â gwerthfawrogi ein proffesiwn addysgu; mae'n ymwneud â dweud y byddwn yn blaenoriaethu eu dysgu a'u datblygiad nhw. Nid siarad am y peth yn unig fyddwn ni, byddwn yn ei ariannu, a byddwn yn rhoi iddyn nhw'r cyfle gorau posibl i wireddu'r cwricwlwm newydd cyffrous i Gymru ar eu cyfer nhw, ond, yn bwysicach na hynny, ar gyfer ein dysgwyr.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad? Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyllid ychwanegol yn fawr iawn. Fel y tynnwyd ein sylw ato, roedd hwn yn faes o bryder mawr i'r pwyllgor ac rwyf fi, am un, yn falch iawn bod y Llywodraeth wedi gallu ymateb mor gadarnhaol.

Fel y tynnwyd ein sylw ato gennych, mae a wnelo hyn â'r cwricwlwm newydd, ond hefyd â buddsoddi yn ein gweithlu, sef ein hased mwyaf. Gwn fod Llywodraeth Leol wedi bod yn uchel ei gloch o ran y cyllid hwn, ond ys gwn i a fyddech chi'n achub ar y cyfle hwn i ailadrodd i mi nawr, er bod taer angen mwy o arian ar gyfer Llywodraeth Leol, ac rwy'n gobeithio y daw hwnnw, ei bod yn gwbl hanfodol inni fod â'r adnodd gwarchodedig hwn i fuddsoddi yn ein hathrawon medrus, yn enwedig gan fod Estyn wedi dweud wrthym ni'n gyson mai addysgu yw'r agwedd wannaf yn y system.

Roedd gennyf i un cwestiwn arall, am yr hyn a ddywedwyd gennych am y cyllid yn cyfrannu at helpu athrawon gyda'u hiechyd emosiynol a meddyliol. Mae hynny hefyd yn ymateb i adroddiad 'Cadernid Meddwl' y pwyllgor, a tybed a allech chi ddweud ryw ychydig bach mwy am sut y byddech chi'n rhagweld y rhan honno o'r arian yn cael ei gwario.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Lynne, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu defnyddio adroddiad y pwyllgor a'r dystiolaeth a gasglwyd i helpu i lunio a ffurfio polisi'r Llywodraeth. Fel y dywedodd Suzy Davies yn gynharach, dyna un o gryfderau ein system, rwy'n credu. Rwy'n gredwr cryf hefyd, yn yr egwyddor nad oes gan y Llywodraeth a gweision sifil yr holl atebion, ac mae hi'n bwysig defnyddio argymhellion y pwyllgorau, a'r amser y maen nhw'n ei roi, a'r ymdrech y maen nhw'n ei wneud, i lunio'r adroddiadau hynny, i helpu datblygu polisïau.

Bu'n rhaid i mi i glustnodi'r cyllid hwn i sicrhau y caiff ei wario at y dibenion hyn. Heb glustnodi yn y fath fodd, rwy'n credu bod perygl gwirioneddol na fyddai'r arian hwn ar gael ar gyfer cyfleoedd dysgu proffesiynol. Mae'n debyg bod datganiad i'r wasg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cadarnhau hynny—na fydden nhw wedi blaenoriaethu hynny; bydden nhw wedi ei wario nid ar bethau llai pwysig, ond bydden nhw wedi ei wario ar bethau gwahanol. Byddaf bob amser yn y Cabinet yn ceisio rhoi cymaint o adnoddau â phosibl i reng flaen y byd addysg. Fel y dywedais yn gynharach, mae'r Llywodraeth yn parhau i edrych i weld beth y gellir ei wneud i gefnogi awdurdodau lleol drwy gyfrwng y grant cynnal refeniw, ond mae hi'n gwbl hanfodol, os yw ein diwygiadau addysg i fod yn llwyddiannus, ein bod yn buddsoddi yn ein proffesiwn addysgu.

Nawr, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod 'Dyfodol Llwyddiannus'—'Donaldson', fel y'i gelwir—yn amlygu, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae angen i blant a phobl ifanc brofi lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol er mwyn ffynnu a llwyddo yn eu haddysg.'

Ac un o bedwar diben y cwricwlwm newydd fydd cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu yn unigolion iach, hyderus, ac mae'r pedwar diben hynny, wrth gwrs, wrth wraidd ein cwricwlwm newydd. Felly, mae angen inni fod mewn sefyllfa i sicrhau bod athrawon yn meddu ar yr hyfforddiant hwnnw i'w galluogi i wireddu un o'r dibenion hynny.

Bydd un agwedd o ran 'yr hyn sy'n bwysig' ym maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn canolbwyntio ar iechyd meddwl ac emosiynol, ac, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn gynharach, un o'r pethau y bydd angen i ysgolion fynd i'r afael ag ef wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd yw sut byddan nhw'n gallu ymwneud â'r meysydd dysgu a phrofiad, a sut byddan nhw'n gallu bod yn ffyddiog bod eu staff mewn sefyllfa i gyflawni hynny. O ystyried bod hynny'n rhan mor hanfodol o'r maes dysgu a phrofiad, byddem ni'n disgwyl y byddai ysgolion—efallai yn y gorffennol, mewn rhai ysgolion, nad ydyn nhw wedi rhoi llawer iawn o sylw i'r maes hwn—eisiau defnyddio rhai o'r adnoddau hyn i allu rhoi eu hunain mewn sefyllfa i gyflawni'r maes dysgu a phrofiad hwnnw, a'r datganiad 'yr hyn sy'n bwysig' hwnnw.

Wrth gwrs, bydd pethau'n gliriach i bawb ynghylch y meysydd dysgu a phrofiad pan gânt eu cyhoeddi yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, a bydd hynny'n ein helpu i lunio ein cyfres nesaf o gyfleoedd dysgu proffesiynol.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: diwygio trefniadau llywodraethu a chyllid awdurdodau tân ac achub, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—Alun Davies.

Dirprwy Lywydd, rydym ni i gyd yn falch iawn o'n gwasanaethau tân ac achub, a hynny'n haeddiannol hefyd. Maen nhw'n ymateb yn gyflym, yn effeithiol ac yn anhunanol i fygythiadau difrifol i'n diogelwch. Yn fwy na hynny, mae eu gwaith ataliol wedi helpu i leihau nifer y tanau a nifer y bobl sy'n cael eu hanafu gan danau o fwy na hanner ers datganoli'r cyfrifoldeb i Gymru yn 2005. Mae hynny'n llwyddiant mawr, ond mae hefyd yn her. Wrth i nifer y tanau leihau, bydd swyddogaeth y gwasanaeth yn ehangu. Mae gan ddiffoddwyr tân y sgiliau, yr hyfforddiant, y galluoedd a'r gwerthoedd i ymdrin ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau eraill, megis llifogydd, achosion meddygol brys ac ymosodiadau terfysgol. Mae ymgymryd â'r swyddogaeth ehangach hon nid yn unig yn fuddiol, ond rwy'n credu yn hanfodol i ddyfodol y gwasanaeth.

Mae gennym ni eisoes nifer o orsafoedd tân yng Nghymru sydd fel arfer yn ymdrin â llai nag un alwad brys i ddiffodd tân bob mis, a llawer sy'n gweld dim ond ambell ddwsin y flwyddyn. Rydym ni'n deall nad yw hyn yn gynaliadwy a'i fod yn gwneud recriwtio, ysgogi a chadw diffoddwyr tân yn anodd iawn. Ond ni ddylid cau gorsafoedd o'r fath chwaith, oherwydd byddai hynny'n gadael rhannau helaeth o'r wlad heb wasanaeth tân o gwbl.

Felly, mae'r dyfodol yn dibynnu ar wireddu'r potensial i wneud mwy trwy gydweithio ag asiantaethau eraill. I gyflawni hynny ac i sicrhau dyfodol sy'n hyfyw, mae angen i'r gwasanaeth gael ei lywodraethu a'i ariannu mewn ffordd fodern, atebol a chynaliadwy. Ar hyn o bryd nid dyna'r achos.

Ceir heriau cynyddol eraill hefyd. Mae pobl yn byw'n hwy ac yn aros yn annibynnol yn eu cartrefi, a dyna'n union beth yr ydym ni eisiau ei weld. Fodd bynnag, mae pobl hŷn mewn mwy o berygl o gael tanau yn eu cartrefi. Ar yr un pryd, mae angen i'r gwersi o drychineb Tŵr Grenfell gael eu dysgu a'u cymhwyso'n llawn o hyd. Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r peryglon o lifogydd a thanau gwyllt, ac mae cyllid cyhoeddus yn hynod gyfyngedig—sefyllfa nad yw ond yn debygol o waethygu yn sgil Brexit. Unwaith eto, mae hyn yn galw am y safonau uchaf o arweinyddiaeth ac eglurder, gan sicrhau fod gan y gwasanaeth yr adnoddau y mae eu hangen, ond gan roi hynny hefyd yng nghyd-destun ehangach gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Nid yw'r trefniadau llywodraethu ac ariannu presennol yn addas at y diben newydd hwn. Maen nhw'n golygu y caiff y gwasanaeth ei redeg gan yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn bwyllgorau mawr sydd led braich o'r holl wasanaethau lleol eraill a heb unrhyw fath o fandad democrataidd uniongyrchol. Nid oes unrhyw drafod cyhoeddus gwirioneddol nac atebolrwydd ynglŷn â'r hyn y mae'r gwasanaeth yn ei wneud neu'r hyn y dylai ei wneud, ac mae diffyg mecanweithiau ymgysylltu i ymateb i anghenion lleol sy'n newid. Eto i gyd, ni fu trafodaeth o'r fath ac atebolrwydd o'r fath erioed yn fwy pwysig.

Mae diffygion tebyg yn nhrefniadau ariannu awdurdodau tân ac achub. Mae'n rhaid i'r awdurdodau godi cyfraniadau ar ffurf ardoll gan awdurdodau lleol, gyda'r awdurdod tân ac achub a neb arall yn penderfynu ar y swm hwnnw. Nid oes unrhyw reolaeth neu gymeradwyaeth allanol o gwbl yn lleol nac yn genedlaethol. Ar adeg o gyni llym parhaus ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, mae hynny'n anodd ei gyfiawnhau. Mae angen ffynhonnell gynaliadwy o arian ar gyfer yr amrywiaeth gynyddol o gyfrifoldebau amgenach na diffodd tân a ddisgrifiais i eisoes y prynhawn yma.

Dirprwy Lywydd, mae'r trefniadau presennol yn dyddio o ganol y 1990au. Er y buont efallai yn ddigonol ar y pryd, mae'r gwasanaeth a'r gofynion a roddir arno wedi newid yn sylweddol ers hynny. Ni ddylai unrhyw un weld hyn fel unrhyw fath o feirniadaeth ar aelodau, rheolwyr neu staff presennol yr awdurdod tân ac achub. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi gwneud eu gorau yn y system ddiffygiol sydd ohoni, ond mae angen newid y system honno ei hun bellach.

Mae'r Papur Gwyn yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn nodi sut yr hoffem ni ddiwygio'n ddelfrydol. Mae hyn wedi ei seilio'n gadarn ar yr angen i wella'r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli'n lleol, ac i sicrhau bod arweiniad effeithiol a gwir atebolrwydd ar y lefel leol honno. Bydd hynny'n golygu y bydd aelodaeth awdurdodau tân ac achub yn dod yn symlach ac yn fwy tryloyw, gyda mwy o gapasiti a gallu i ddarparu arweinyddiaeth strategol a gwleidyddol ac i ddatblygu cysylltiadau gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill. Hoffwn i hefyd weld aelodau anweithredol ar y lefel honno yn herio'n effeithiol.

Mae angen craffu'n briodol a chymeradwyo cyllidebau awdurdodau tân ac achub hefyd. Dylai'r swyddogaeth honno fod yn un i awdurdodau lleol, sy'n darparu'r mwyafrif sylweddol o gyllid awdurdodau tân ac achub. Rydym ni'n sylweddoli na all y gwasanaethau brys reoli na chwaith ragweld galw, felly mae'n rhaid adlewyrchu hynny wrth ddarparu adnoddau ar eu cyfer. Pe bai unrhyw fygythiad i hynny neu i safonau'r gwasanaeth yr ydym ni'n eu mwynhau, ni ddylai Llywodraeth Cymru oedi cyn ymyrryd.

Gall y rhan fwyaf o'r newidiadau hyn ddigwydd yn gymharol fuan, heb yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol. Yn y tymor hwy, rwy'n awyddus i archwilio diwygio mwy radical a fyddai'n llwyr gefnogi swyddogaeth gyfnewidiol y gwasanaeth ac yn sicrhau bod ganddo'r arweinyddiaeth broffesiynol briodol, gyda'r aelodau'n parhau i gael eu penodi i oruchwylio. Hoffwn i hefyd edrych ar y dewisiadau o ran ariannu'r ystod o gyfrifoldebau yr ydym ni'n disgwyl i'r gwasanaeth eu cyflawni mewn modd cynaliadwy a thryloyw. 

Rhaid inni ganolbwyntio ar ganlyniadau'r diwygio yn hytrach na dim ond ar y ffordd o wneud hynny. Rwyf, felly, yn hapus hefyd i ystyried dewisiadau eraill ar gyfer diwygio drwy'r broses ymgynghori a fyddai'n amlwg yn bodloni'r meini prawf y mae'r Papur Gwyn yn galw amdanynt.

Fodd bynnag, gadewch imi fod yn glir iawn nad wyf i o dan unrhyw amgylchiadau yn barod i drosglwyddo rheolaeth dros y gwasanaeth i gomisiynwyr heddlu a throseddu, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Nid wyf i chwaith yn bwriadu newid y patrwm cyfredol o gael tri awdurdod tân ac achub na diwygio eu ffiniau presennol. Fel yr ydym ni wedi gweld dros y ffin, mae mynd ati fel yna yn creu mwy o broblemau nag y bydden nhw'n eu datrys.

Hefyd, fe hoffwn i sicrhau ein diffoddwyr tân fod diwygio ynglŷn â dim ond sut mae awdurdodau tân ac achub yn gweithredu yn gorfforaethol, ac nid ynglŷn â darpariaeth rheng flaen. Rwyf eisiau sicrhau y caiff y gwasanaeth ei arwain mewn modd cliriach a mwy atebol, a'i ariannu mewn ffordd decach, fwy cynaliadwy. Nid oes a wnelo hyn o gwbl ag unrhyw beth a fydd yn effeithio ar nifer y diffoddwyr tân, y cyfundrefnau hyfforddiant, offer, gorsafoedd tân neu faterion gweithredol eraill.

Dirprwy Lywydd, mae newid yn rhy aml o lawer yn ymateb i fethiant ac yn creu hyd yn oed mwy o bwysau ar sefydliad sydd mewn anhawster. Nid yw hynny'n wir yn yr achos hwn. Rwyf eisiau adeiladu ar y llwyddiannau yr ydym ni wedi'u gweld a chynnal y llwyddiannau a gafodd y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gennym ni wasanaeth yn y dyfodol y gallwn ni i gyd barhau i ddibynnu arno.

15:25

Wel, fel yr ydych chi'n ei ddweud, rydym ni'n falch iawn o'n gwasanaethau tân ac achub, a hynny am resymau da. Rydych chi'n nodi yn eich paragraff agoriadol y buon nhw'n gweithio i helpu i leihau nifer y tanau a phobl sy'n cael eu hanafu gan dannau. Yn wir, ers 2001-02, ychydig ymhellach yn ôl nag yr ydych chi'n edrych, bu gostyngiad o 69 y cant. Fodd bynnag, sut ydych chi'n ymateb i'r pryder bod cynnydd o 3 y cant mewn gwirionedd yn nifer y tanau y galwyd awdurdodau tân ac achub i ymdrin â nhw yn 2017-18, gan wrthdroi'r duedd honno, gyda chynnydd o 13 y cant yn nifer y tanau eilaidd, a chynnydd o 22 y cant yn nifer tannau glaswelltir, coetiroedd a chnydau, a 15 o anafiadau o ganlyniad i danau yng Nghymru, sydd mewn gwirionedd 50 y cant yn uwch na'r ffigur o 10 o bobl a gafodd eu hanafu gan dân a ddefnyddiwyd fel dadl o blaid yr hyn a ddaeth yn ddeddfwriaeth systemau chwistrellu rhag tân?

Rydych chi'n cyfeirio at bobl hŷn sydd mewn mwy o berygl o gael tân yn eu cartrefi a'r gwersi o drychineb Grenfell. Pa ystyriaeth ydych chi'n ei rhoi neu a roesoch chi i adroddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu a gomisiynwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog yn y DU yn 2002 a'r adroddiad dilynol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar ddiwedd y ddeddfwriaeth systemau chwistrellu tân, a argymhellodd roi systemau chwistrellu rhag tân mewn tyrau uchel? Roedd yn llai brwdfrydig ynglŷn â thai newydd. Ond mae hi'n ymddangos na fu unrhyw ymateb i hynny tan ar ôl trychineb Grenfell.

Mewn llythyr ataf ar 20 Mehefin, fe wnaethoch chi ddweud nad ydych chi'n cytuno bod pobl hŷn yn wynebu risg benodol o danau trydanol, p'un ai o ran ffynhonnell y tân neu ei achos. Rwy'n credu o bosib eich bod chi wedi cwrdd ag Electrical Safety First ers hynny. Rwy'n credu yr oedd gennych chi gyfarfod wedi ei drefnu gyda nhw ym mis Gorffennaf. Roedd ganddyn nhw ffigurau yn dangos, o 1,485 o danau domestig y llynedd—rwy'n cymryd bod hynny'n golygu yn y DU—roedd 71 y cant ohonyn nhw yn danau trydanol a 63 y cant yn y gegin. Ac, yn y cyd-destun hwnnw, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r tanau a achosir gan drydan yng Nghymru?

Mae fy nghwestiynau olaf yn ymwneud â'ch newidiadau arfaethedig i drefniadau llywodraethu a chyllido, yr ydych chi'n dweud yn syml nad ydyn nhw'n addas at y diben. Yna yn eironig, rydych chi'n priodoli'r methiannau i

'bwyllgorau mawr o gynghorwyr meinciau cefn sydd led braich o'r holl wasanaethau lleol eraill a heb unrhyw fath o fandad democrataidd uniongyrchol.'

Mae hwnnw'n fodel, os cofiaf, y buoch chi'n ei amddiffyn pan oedd Llywodraeth y DU yn cynnig sefydlu comisiynwyr heddlu a throseddu, gan ddefnyddio geiriau bron yn union yr un fath bryd hynny. Rydych chi'n dweud y bydd hynny'n golygu y bydd aelodaeth awdurdod tân ac achub yn symlach a mwy tryloyw o ganlyniad, gyda'r angen i gymeradwyo a chraffu ar gyllidebau mewn modd priodol. Wel, diolch byth, mae'r awdurdodau tân ac achub yn dryloyw gyda dogfennau eu cyfarfod, sydd yn bwynt dilys wrth ystyried eu trefniadau cyllid a llywodraethu presennol. Cyfeiriodd adroddiad prif swyddog tân y gogledd i'w awdurdod tân ar 17 Medi at faterion allweddol a nodir mewn llythyr gennych chi at gadeiryddion awdurdodau tân ac achub ym mis Chwefror ar gyfer y cyfarfod a gafodd y tri chadeirydd gyda chi ar ddiwedd Ebrill, at eich penodiad ar y pryd o'r Athro Catherine Farrell o Brifysgol De Cymru a'r Athro Rachel Ashworth, Prifysgol Caerdydd, i siarad â chynrychiolwyr o awdurdodau tân ac achub a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac fe gyflwynwyd eu hadroddiad i chi. Ac roedd adroddiad dirprwy brif swyddog Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ym mis Medi i'w awdurdod ef neu hi yn cynnwys crynodeb o'r adborth a gasglwyd ynghyd o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda chadeiryddion, penaethiaid a phersonél ychwanegol yr awdurdod tân ac achub a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw nad yw penaethiaid a chadeiryddion yn gwrthsefyll newid, a'u bod wedi rhoi enghreifftiau lu o sut maen nhw wedi cofleidio hynny, ond fe wnaethon nhw sôn am nifer o bryderon ynghylch yr awgrym y gellid diwygio awdurdodau tân ac achub yng Nghymru?

Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad bod sawl un ohonyn nhw yn cwestiynu'r diffyg tystiolaeth a'r sail resymegol glir ar gyfer diwygio, a'u bod yn teimlo nad yw'r problemau honedig gyda'r system bresennol wedi'u nodi'n glir, gan ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw amcangyfrif y gwerth ychwanegol y gellid ei ennill drwy unrhyw newid, a'r datganiad lle mynegodd rhai ohonyn nhw eu pryder am newid system sy'n gweithio'n dda ac am 'chwalu system nad yw wedi torri', gan roi'r enghraifft y canfuwyd bod atebolrwydd o ran tân yn ddigonol iawn o gofio'r raddfa a'r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth, o gymharu â systemau atebolrwydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n gweithredu ar raddfa lawer mwy, a'r datganiad y pwysleiswyd yn y cyfweliadau pa mor bwysig yw'r cyswllt etholiadol drwy awdurdodau lleol ac a oedd yn cynnig enghreifftiau o sut y caiff hyn ei weithredu ar hyn o bryd i sicrhau atebolrwydd, tryloywder, ymgynghori a gwybodaeth? Ac, yn olaf, sut ydych chi'n ymateb—ni wnaf ddarllen pob un ohonyn nhw oherwydd bod llawer ohonyn nhw—i'r crynodeb o'r awgrymiadau ar gyfer gwella yn yr adroddiad hwnnw, yr ydych chi rwy'n siŵr, wedi eu cerfio ar wal eich ystafell wely, ond a oedd yn cynnwys yr angen am gysondeb o ran manylebau swyddogaeth aelodau, eglurder ynglŷn â'r swyddogaeth o graffu a herio, arwydd o lefel datblygiad aelodau a'r cymorth y maen nhw yn ei gael, a'r angen i gyfethol aelodau sydd ag arbenigedd o'r tu allan i'r gwasanaeth, o feysydd megis iechyd a gofal cymdeithasol, ar gyfer yr awdurdod tân ac achub, neu is-bwyllgor newydd i graffu ar waith pwyllgor materion cenedlaethol? Diolch.

15:30

Dirprwy Lywydd, daeth ofn dychrynllyd arnaf hanner ffordd drwy'r cyfraniad hwnnw fod yr Aelod Ceidwadol yn mynd i ddarllen nodiadau pob cyfarfod a gefais dros y flwyddyn ddiwethaf, a darllen o nodiadau pob cyfarfod, cyfraniad pob aelod yn y cyfarfod hwnnw. [Chwerthin.] Gallai fod wedi bod yn sesiwn hir iawn, iawn.

Gadewch imi ddweud hyn: rydym ni, fel y dywedodd yr Aelod, wedi cael sgwrs hir iawn gyda'r cadeiryddion a'r prif swyddogion presennol wrth inni symud drwy'r broses. A, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rwyf wedi ceisio datblygu dadl, gyda'r cadeiryddion yn arbennig, dros yr angen i ddiwygio a ffurf y diwygio hwnnw. Cyflwynais yr elfen academaidd i hynny ar sail ymgais i lunio ac i ganiatáu datblygu syniadau eu hunain ar rai o'r materion hyn. A gadewch imi ddweud hyn: Papur Gwyn yw hwn, ac mae'n Bapur Gwyn sy'n holi barn ynglŷn â chynigion penodol, ond nid yw'n Bapur Gwyn sy'n anwybyddu dewisiadau eraill. Yn wir, pe bai'r Aelod yn rhoi o'i amser i ddarllen y Papur Gwyn yn fanwl, yna byddai'n gweld, yn y Papur Gwyn ei hun, ein bod ni yn gwneud ymdrech i ddweud, os oes cynigion eraill, awgrymiadau eraill, argymhellion eraill ar gyfer diwygio, ein bod ni'n hapus i roi sylw iddyn nhw ac i ystyried y cynigion ychwanegol hynny. Nid wyf ar unrhyw adeg yn y broses hon wedi siarad o blaid nac yn erbyn unrhyw fesurau amgen neu unrhyw awgrymiadau amgen, ac eithrio cael llu cenedlaethol, brigâd genedlaethol, a hefyd trosglwyddo cyfrifoldeb i'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Dyna'r ddau ddewis yr wyf i wedi eu diystyru, ond nid wyf i wedi diystyru dewisiadau eraill. Os oes gan lefarydd y Blaid Geidwadol unrhyw awgrymiadau y mae'n dymuno inni eu hystyried, yna rwy'n fwy na pharod i roi ystyriaeth briodol i'r materion hynny.

Ond yn ei gyfraniad, mae yntau, mewn sawl ffordd, yn dadlau dros ddiwygio. Efallai y bydd clywed hynny yn torri ei galon, ond mae yn dadlau o blaid diwygio, oherwydd mae yntau yn amlinellu'r newid yn natur bygythiad tân. Mae'n disgrifio tanau eilaidd, tannau ar y glaswelltiroedd a'r rhosydd, ac efallai yr hoffai werthfawrogi'r arbenigedd a'r deheurwydd sydd gennym ni yn awr yn y gwasanaethau tân yng Nghymru. Efallai ei fod yn ymwybodol bod gwasanaeth tân de Cymru wedi treulio llawer iawn o amser yn gweithio gydag eraill ar weunydd Saddleworth, er enghraifft, yn ymdrin â'r tanau a fu yn Lloegr, ar draws y ffin, dros fisoedd yr haf. Ac mae'r arbenigedd hwnnw—yr wybodaeth, y deheurwydd hwnnw—yn bethau y mae arnom ni eisiau eu gwella a buddsoddi ynddyn nhw ar gyfer y dyfodol. Mae'r galluoedd sydd gan yr awdurdodau a'r gwasanaethau tân ac achub bellach ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddem ni wedi eu rhagweld yn bosibl yn y 1990au, pan luniwyd y strwythurau presennol. Ac mae'n addas ac yn briodol, felly, ein bod yn diwallu angen sy'n newid ac yn esblygu drwy ddadlau a thrafod sut mae ein strwythurau yn addas at y diben i ymateb i'r sefyllfa honno sy'n newid ac yn datblygu.

Felly, rwy'n gobeithio y gwnaiff efallai godi ei ben ychydig, a rhoi ystyriaeth ddyledus i'r materion hyn. Ac os yw'n dymuno bod yn rhan o'r drafodaeth am y dyfodol, rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno gydag ef. Bydd yr heriau y byddwn ni yn eu hwynebu yn y dyfodol yn rhai mawr. Rydym ni'n gwybod, ac rydym ni wedi trafod eisoes, y newidiadau sydd eu hangen i'r patrwm o ymateb i danau. Gofynnodd yr Aelod nifer o gwestiynau am Dŵr Grenfell a'n hymateb i hynny. Dywedaf wrtho ein bod wedi dilyn arweiniad y Gweinidog wrth ymateb i'r materion hyn, ac mae hi, fel y bydd yn ymwybodol, wedi gwneud sawl datganiad i'r Cynulliad hwn ar ymateb esblygol Llywodraeth Cymru i drychineb llwyr Tŵr Grenfell. A byddwn yn parhau, a bydd hithau'n parhau, i arwain yr ymateb hwnnw.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: wrth inni symud ymlaen i ymateb—ac rwy'n credu, sefydlu strwythur newydd i ymateb i Grenfell—mae'n addas a phriodol bod yr awdurdodau tân ac achub yn chwarae rhan lawn a blaenllaw wrth ymateb i hynny. Dyna pam fod angen awdurdodau tân ac achub arnom ni sy'n addas at y diben, ac sydd â'r cyllid a'r drefn lywodraethu i'w galluogi i wneud hynny.

15:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn imi ddechrau, mewn gwirionedd, mae'n gwbl briodol eich bod yn y gadair ar gyfer y datganiad hwn, Dirprwy Lywydd, gan mai chi yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r ddeddfwriaeth systemau chwistrellu rhag tân, ac mae hi'n briodol inni gydnabod hynny unwaith eto.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am ei ddatganiad a chroesawu llunio'r Papur Gwyn hwn? Mae'n briodol inni dalu teyrnged i ddiffoddwyr tân—mae hi'n briodol inni fod yn falch iawn ohonyn nhw a'u holl wasanaethau achub. Maen nhw, yn briodol iawn, fel y dywedir bob amser, yn peryglu eu cyrff. Ac fel y crybwyllwyd, ceir heriau cynyddol eraill hefyd—mae pobl yn byw'n hwy fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet. Ac, ie, yn sicr yn y maes gofal cymunedol a gofal sylfaenol, rydym ni'n cadw pobl yn eu cartrefi yn awr nad oeddem ni'n arfer eu cadw yn eu cartrefi. Yn rheolaidd, mae gennym ni bobl eiddil iawn 80 a 90 mlwydd oed sy'n byw ar eu pen eu hunain, ac mae hynny'n her benodol, ac mae'n her, o bryd i'w gilydd, yr wyf yn ei thrafod gyda chydweithwyr o'r gwasanaethau tân ynghylch sut i fynd i'r afael â'r heriau hynny. Felly, yn sicr, mae'r maes yn newid, gyda mwy o bwyslais ar waith ataliol, wrth i nifer y tanau, fel yr ydym ni wedi clywed, leihau. Yn wir, mae hynny wedi dod yn amlwg wrth edrych ar y cartŵn Cymraeg sy'n cynnwys eicon y diffoddwyr tân, Sam Tân. Yn amlwg, rwy'n gwylio'r fideos hyn bellach gyda'r ŵyr ac maen nhw'n fideos hollol wahanol i'r rhai yr oeddwn i'n eu gwylio genhedlaeth yn ôl gyda'm plant, sy'n seiliedig ar gymuned Pontypandy lle mae rhywbeth o hyd yn mynd o chwith—ac mae llawer mwy o bwyslais ar atal y dyddiau hyn, ac ar swyddogaeth ehangach y gwasanaethau tân yn gyffredinol, sydd i'w groesawu, yn naturiol.

Nawr, ym 1999, dim ond un o'r gwasanaethau 999 oedd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad hwn. Erbyn 2005, roedd yr ail wasanaeth 999 wedi ei ddatganoli, sef y gwasanaeth tân. Rydym ni'n dal i ddisgwyl i wasanaethau 999 eraill gael eu datganoli, megis yr heddlu. Felly, rwy'n croesawu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch peidio â datganoli unrhyw reolaeth dros y gwasanaethau tân i'r heddlu, nad ydyn nhw, yn sicr wedi eu datganoli ar hyn o bryd. Felly, rwyf yn croesawu'r sylwadau hynny. Ond o ran cysondeb, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi o ran—? Rwy'n sylweddoli eich bod wedi cyflwyno eich cynigion, ond fe wnaethoch chi ddweud hefyd ei fod yn Bapur Gwyn, felly rydych chi'n croesawu safbwyntiau eraill. O ran cydweithio rhwng gwasanaethau 999 gwahanol, sut ydych chi'n teimlo y byddai cysondeb o ran ffiniau a chysondeb o ran y dull o ariannu gwasanaethau 999 gwahanol yn helpu i gael mwy o gyd-leoli a chydweithio rhwng y gwasanaethau brys o ran ymateb i achosion o argyfwng?  

A sôn am eich Papur Gwyn, ar yr ail dudalen, rydych chi wedi nodi rhai cynigion yma. Oes gennych chi syniad cychwynnol o ymateb yr awdurdodau tân ac achub i'ch diwygiadau arfaethedig? I siarad yn blaen, rydym ni'n dal i gofio y cawsoch chi ychydig o anhawster lleol yn ddiweddar, o ran diwygio awdurdodau lleol. Ydych chi wedi cael unrhyw argoel o farn yr awdurdodau tân ac achub am y cynlluniau hyn, oherwydd, yn amlwg, nid ydym ni eisiau gweld y llanast hwnnw'n cael ei ailadrodd, nac ydym? Diolch.

15:40

Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ni gwrdd, wrth gwrs, yn eglwys gadeiriol Southwark pan oedd y ddau ohonom ni yno i dalu teyrnged i waith Undeb y Brigadau Tân a diffoddwyr tân dros y ganrif ddiwethaf, ac mae llefarydd Plaid Cymru yn llygad ei le yn talu teyrnged i chi am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud yn yr amser yr ydych chi wedi gwasanaethu yma, drwy'r ddeddfwriaeth yr ydych chi wedi arloesi gyda hi, ond hefyd, rwy'n credu, drwy fod—sut allaf i fynegi hyn yn foneddigaidd ac yn ddiplomataidd—yn llais uchel a chlir ar gyfer y gwasanaeth tân, diffoddwyr tân a lle'r gwasanaeth tân yn ein bywyd cenedlaethol. Rwy'n credu yr hoffai pob un ohonom ni yn y Siambr ymuno i dalu teyrnged i chi am y gwaith hwnnw dros y blynyddoedd.

Fe fyddwn i'n siomedig pe baech chi'n dangos unrhyw drugaredd tuag ataf o gwbl. [Chwerthin.]

Ond gadewch i mi ddweud hyn: yn amlwg, mae'r materion o atal ac ymwybyddiaeth yn faterion y bydd y gwasanaethau tân yn canolbwyntio arnyn nhw mewn ffordd efallai na wnaethon nhw yn y gorffennol, ac yn sicr nid 20 neu 30 mlynedd yn ôl, ac mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y byddwn yn parhau i ganolbwyntio arno wrth inni weld, rwy'n gobeithio, gostyngiad parhaus yn nifer cyffredinol y tanau, tanau domestig yn benodol.

Rwy'n credu ei bod hi'n addas ac yn briodol—. Ac os yw'r Aelod yn gallu rhoi o'i amser i ddarllen drwy'r Papur Gwyn, bydd yn gweld ein bod yn ceisio bod yn gyson o ran yr egwyddorion yr ydym ni'n eu dilyn wrth geisio gweithredu rhaglen ddiwygio. Mae'r egwyddorion hynny'n cynnwys gweithio'n lleol. Rwyf eisiau gweld gwasanaethau sy'n atebol yn lleol, ac sy'n cael eu rheoli yn lleol. Nid wyf eisiau nac yn bwriadu chwaith ceisio gwladoli, os mynnwch chi, ein holl wasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu bod atebolrwydd lleol yn bwysig. Fe wrandewais i ar ddarlith ardderchog amser cinio gan brif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac fe'm trawyd wrth wrando arno gan y tir cyffredin, lle'r ydym ni'n rhannu'r un uchelgais, yntau a phobl eraill, ynghylch y weledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol a darparu gwasanaethau lleol yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld yn y dyfodol.

Yn amlwg, rydym ni wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i'r mater o ffiniau a chydleoli'r gwasanaethau brys. Fy marn gadarn i yw—a barn Llywodraeth Cymru yw hyn—y dylid datganoli plismona i'r lle hwn, ac rydym ni'n gweld, rwy'n credu, y manteision o ran cael cydlyniant wrth lunio polisïau a chydlyniant wrth ddarparu gwasanaethau lle mae gennym ni ffordd gynhwysfawr o reoli a darparu gwasanaethau sy'n hollol greiddiol ac allweddol. Mae'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd yn ystod y cwestiynau busnes wrth gwrs yn cyfeirio at wasanaethau lle nad oes gennym ni'r un graddau o gysondeb ac na allwn ni ymdrin â pholisïau mewn modd cynhwysfawr, ac rwy'n credu ein bod ni'n gweld canlyniadau hynny yn ei effaith ar bobl ar hyd a lled ein gwlad.

A gaf i ddweud, rwyf wedi rhoi sylw, yn ystod fy amser yma, i'r materion o gydleoli'r gwasanaethau brys a chael mwy o gydweithio rhyngddynt? Rwy'n gobeithio y bydd y diwygiadau yr ydym ni'n eu hargymell yn galluogi hynny i barhau, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld mwy o gydleoli a mwy o gydweithio yn y dyfodol. O ran barn yr awdurdodau tân ac achub ynglŷn â'r materion hyn, fe all hi fod yn anodd bod yn Weinidog yn y wlad hon os ydych chi â'ch bryd ar ddiwygio. Mae Cymru'n wlad hardd, wych, sy'n llawn o bobl geidwadol y gall diwygio fod yn anodd iawn, iawn iddyn nhw, a'r hyn sydd gennyf i i'w ddweud wrth yr Aelod yw mai Llywodraeth radical yw hon a'n bod ni'n dymuno diwygio mewn modd radical. Gall yr Aelod benderfynu a yw'n rhan o Gynulliad sy'n diwygio neu beidio, ac mae hynny'n fater iddo ef bendroni yn ei gylch, ond rwy'n dweud wrthych chi, yn fy mhrofiad i o'r lle hwn, pan ydym ni'n diwygio, pan ydym ni'n ystyried rhoi strwythurau ar waith a fydd yn ein gwasanaethu ni yn y dyfodol, yna rydym ni'n darparu'r gorau y gallwn ni ar gyfer y bobl yr ydym ni'n ceisio'u cynrychioli.

15:45

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad yma heddiw. Mae gen i ddau gwestiwn i chi. Yn gyntaf, a wnewch chi ymuno â mi wrth longyfarch tîm rhyddhau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? Erbyn hyn, maen nhw nid yn unig yn bencampwyr cenedlaethol bum gwaith yn y Deyrnas Unedig, ond, am y drydedd flwyddyn yn olynol, fe wnaethon nhw ennill her y sefydliad achub byd-eang yn ddiweddar yn Cape Town, gan roi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gadarn ar y map.

O ran y ddogfen ymgynghori, rwy'n sylwi ar eich sylwadau am drefniadau llywodraethu. Nid wyf yn argyhoeddedig bod aelodau Cabinet mewn sefyllfa well i graffu nac aelodau meinciau cefn, sydd o bosib â swyddogaethau craffu uwch. Er enghraifft, nid oes unrhyw ofyniad i gynghorwyr sy'n eistedd ar baneli yr heddlu a throseddu neu fyrddau iechyd lleol fod yn aelodau gweithredol, ac rwy'n bryderus y gallai hyn arwain at ddiberfeddu, gyda chriw bach o aelodau gweithredol yn gwneud mwy a mwy a chwmpas y cynghorwyr meinciau cefn yn cael ei leihau. Byddai gennyf ddiddordeb clywed eich ymateb i hyn.

Yn drydydd, nodaf y sylwadau ynghylch lleihau maint yr awdurdodau. Fodd bynnag, rwy'n gwybod ei bod hi'n ofynnol drwy statud i awdurdodau gael amrywiaeth o bwyllgorau sefydlog, ac mae awdurdod tân mwy, wrth gwrs, yn golygu bod y rhain yn fwy hydrin. Ydych chi wedi ystyried sut y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol?

Yn olaf, o ran y model ariannu, rwyf yn gweld y manteision o symud i fodel praesept, a phan wyf wedi cyfarfod â gwasanaeth de Cymru mae'r hyn y maen nhw yn ei wneud wastad wedi gadael argraff arnaf. Byddwn yn croesawu mwy o wybodaeth ynghylch ymyrraeth gan Weinidogion, fydd bynnag, ynghylch beth allai ddigwydd pan nad yw awdurdodau mewn gwirionedd yn cytuno ar faint y praesept. Felly, er enghraifft, petai dim ond un awdurdod yn anghytuno a'r gweddill yn cytuno ar faint y praesept, beth fyddai'n digwydd yn yr achos hwnnw? Oherwydd rwy'n pryderu y gallai hynny arwain at rai problemau posib.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei chroeso cyffredinol i'r Papur Gwyn, ac yn sicr fe hoffwn i ymuno â hi i longyfarch tîm rhyddhau de Cymru ar yr her achub fyd-eang y maen nhw wedi llwyddo i'w hennill eto. Un o bleserau mawr swydd etholedig yr ydym ni i gyd yn ei rannu yw'r cyfle i gwrdd â phobl sy'n gwneud gwaith mor wych yn ein cymunedau, ac, yn sicr, rwy'n ceisio treulio amser yn siarad â diffoddwyr tân sydd ar y rheng flaen, fel petai, sy'n darparu'r gwasanaethau y mae angen inni i gyd eu gweld yn ein cymuned. A gaf i ddweud hyn? Pan sefais yn y Rhondda yn siarad â'r diffoddwyr tân a oedd newydd ddychwelyd o Saddleworth a phan oeddwn yn siarad â diffoddwyr tân a oedd yn ymdrin â thanau rhostir ar draws de Cymru dros yr haf, fe'm trawyd gan eu proffesiynoldeb, gan eu gwybodaeth—ehangder eu gwybodaeth—a'u dealltwriaeth o'r bygythiadau yr oedd ein cymunedau yn eu hwynebu, ond hefyd eu hymrwymiad i ddefnyddio'r wybodaeth honno, i ddefnyddio'r profiad hwnnw, er mwyn diogelu ein pobl a'n cymunedau, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n fy nharo drachefn a thrachefn.

O ran swyddogaeth cynghorwyr y meinciau cefn, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau bod gennym ni'r haenau llywodraethu sy'n gallu rhoi'r sicrwydd angenrheidiol inni er mwyn sicrhau craffu ac atebolrwydd lleol—yr ydym ni eisiau iddo fod yn lleol yn hytrach na chreu strwythurau cenedlaethol mwy— ond, ar yr un pryd, i sicrhau bod gennym ni'r gallu i gysylltu gwaith y gwasanaeth tân gyda gwaith y gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr awdurdod hwnnw. Mae'r pwyntiau a wnaed gan lefarydd y Ceidwadwyr—Plaid Cymru, mae'n ddrwg gennyf—yn hyn o beth yn eithaf pwysig, oherwydd, yn yr un modd ag yr ydym ni eisiau gweld datganoli'r heddlu i sicrhau bod gennym ni'r cydlyniant gallu i ymateb i a chynllunio ymyriadau gwasanaeth, rydym ni hefyd eisiau yr un cydlyniant hwnnw rhwng awdurdodau lleol a gwasanaethau brys. A'r teimlad, rwy'n credu, yw drwy gael cynghorydd gweithredol neu aelod o'r cabinet yn gwasanaethu ar awdurdod tân, yna bydd gennym ni'r cysylltiad hwnnw, a bydd gennym ni fwy o gydlyniant a gwell cydlyniant. Yn amlwg, mae hynny'n drafodaeth y byddwn ni'n ei chael dros y misoedd nesaf.

O ran y modelau ariannu, rwy'n awyddus ein bod yn gallu sefydlu strwythur lle mae llywodraeth leol a'r awdurdodau tân ac achub yn gallu cydweithio a chytuno ar gyllideb ar y cyd ar gyfer y dyfodol. Dyna'r hyn y sydd arnaf ei eisiau. Mae'r Aelod yn gwbl briodol yn nodi meysydd lle mae'n bosib i hynny beidio â digwydd a lle ceir problemau yn hynny o beth. Yn amlwg, byddai angen pwerau wrth gefn i ddatrys hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei awgrymu yn y Papur Gwyn hwn yw bod y pwerau wrth gefn hyn yn rhoi pwerau i Weinidogion, ond dim ond pwerau i ymyrryd o dan amgylchiadau penodol ac wedyn i ymyrryd i ddarparu cyllideb sy'n ddim uwch na'r hyn y mae'r awdurdod tân ac achub yn ei gynnig. Felly, mae'r pwerau hynny wedi eu dylunio, os mynnwch chi, neu yn sicr mae ffiniau iddynt na allai Gweinidog ymyrryd y tu hwnt iddynt. Ond rwy'n gweld y rhai hynny i raddau helaeth iawn fel pwerau wrth gefn a fyddai'n galluogi awdurdod ac awdurdod tân ac achub i gytuno a dyfarnu a allan nhw wneud hynny. Ond nid wyf yn gweld y pwerau hynny fel pwerau a fyddai ar gael i Weinidog oni bai bod y pwerau, ac oni bai bod yr awdurdodau lleol cysylltiedig, yn methu â dod i gytundeb ymysg ei gilydd. 

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu y gwnaf i ddechrau drwy ddweud bod ar bob un ohonom ni ddyled o ddiolchgarwch i ddiffoddwyr tân sy'n mynd i adeiladau pan fo'r gweddill ohonom ni'n gadael. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ar atal tannau, ac rydych chi a'r system chwistrellu wedi eu canmol, ond mae'r gwaith enfawr a wneir gan y gwasanaeth tân o ran mynd allan a rhoi larymau mwg mewn tai yn amlwg wedi arbed cannoedd o fywydau.

Roeddwn yn gobeithio y byddai'r datganiad hwn wedi cynnwys ad-drefnu gwasanaethau tân ac achub. Rwyf wedi bod o'r farn ers tro byd nad yw gwasanaeth tân ac achub ar gyfer y canolbarth a'r gorllewin yn gwneud fawr o synnwyr gweithredol. Er enghraifft, pe byddai tân mawr yn y Trallwng, byddai angen diffoddwyr o Wrecsam; nid o Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot.

O ran llywodraethu, mae diffyg democrataidd sylweddol. Nid yw hyn yn unigryw i'r gwasanaeth tân ac achub; mae'n berthnasol i bob math o gydweithio. Dyna pam mae rhai pryderon gan bobl dros weithio ar y cyd. Sut fydd newid aelodaeth bresennol awdurdodau tân ac achub yn sicrhau bod aelodau yn atebol i'w hetholwyr? Pam ddim cael adroddiad oddi wrth yr awdurdod tân ac achub i bwyllgor craffu ym mhob cyngor, neu, gwell fyth, cael adroddiad blynyddol gan y prif swyddog tân a'r awdurdod tân i gyfarfod cyngor? Sut fydd penodi aelodau nad ydyn nhw'n gynghorwyr a lleihau nifer y cynghorwyr yn gwella atebolrwydd?

O ran cyllid, a all Ysgrifennydd y Cabinet enwi gwasanaeth cyngor arall na hoffai newid gallu yr awdurdodau tân ac achub i godi ardoll ar y cynghorau dan sylw? Rwy'n credu y byddai addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol yn eiddgar iawn i gael cyfle o'r fath. Felly, mae angen dull gwell arnom ni o ariannu gwasanaethau tân oherwydd maen nhw yn cael eu hariannu mewn ffordd gwbl wahanol. Ac nid oedd ots pan oedd gennym ni swm cynyddol o arian yn y gwasanaethau cyhoeddus; mae yn bwysig bellach. Ac rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir—ni ddylem ni fod ag ofn newid, ond beth y dylem ni ei wneud bob amser yw gwneud yn siŵr bod y newid er gwell, nid er gwaeth.

Rwyf wastad yn croesawu cyfraniad gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe i'r ddadl ar ad-drefnu gwasanaethau lleol, ac mae'r cysondeb y mae'n ei ddangos yn ei gyfraniadau yn rhywbeth i'w groesawu.

A gaf i ddweud—? A gaf i ddweud fy mod i'n cytuno â'r sylwadau y mae wedi eu gwneud? Ac a gaf i ddweud hefyd ein bod ni, mewn sawl ffordd, wedi etifeddu systemau a strwythurau o'r gorffennol a'i bod hi'n ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb arnom ni i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol? A'n cyfrifoldeb ni, felly, yw edrych ar y prosesau a'r strwythurau i sicrhau, o bryd i'w gilydd, bod gennym ni'r cyfle i roi'r ystyriaeth ddwys sy'n ddyledus i'r materion hyn. O ran yr awgrymiadau y mae wedi eu gwneud o ran adroddiadau i bwyllgorau craffu awdurdodau lleol, byddwn yn croesawu hynny'n fawr iawn. Wyddoch chi, mae un o'r dadleuon a'r trafodaethau a gawsom ni o ran y pwerau sydd wedi eu crynhoi mewn llywodraeth leol a mannau eraill yn anghofio nad dim ond y pwerau a roddir drwy statud yw pwerau awdurdod lleol, ond y pŵer sydd ganddo fel corff etholedig i gynrychioli buddiannau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu? Fel y cyfryw, gall fynnu'r adroddiadau hynny, gall alw ar bobl i ymddangos i roi tystiolaeth, gall greu strwythurau craffu, ac nid oes angen statud i wneud hynny, ac yn sicr nid oes angen sêl bendith Gweinidog arno er mwyn gwneud hynny. Mae hynny'n fater i lywodraeth leol ac rwy'n annog pob awdurdod lleol ledled y wlad i sicrhau eu bod yn defnyddio eu swyddogaeth graffu yn y modd creadigol hwnnw, os mynnwch chi, sydd ddim yn gaeth i'r hyn y maen nhw'n gallu ei wneud neu dan orfodaeth i'w wneud gan y gyfraith. Felly, rwy'n sicr yn croesawu hynny.

O ran y pwyntiau y mae'n eu gwneud—a byddaf yn ceisio cadw o fewn yr amser, Dirprwy Lywydd—rwyf wedi ystyried y mater o ffiniau, ac roedd yn bwynt a godwyd, wrth gwrs, gan lefarydd Plaid Cymru. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod dadl dros wneud newidiadau sylweddol i unrhyw un o'r ffiniau na niferoedd presennol awdurdodau tân ac achub. Ond nid wyf yn diystyru newid o'r fath yn llwyr, pe byddai dadl o'r fath yn cael ei chyflwyno. Nawr, mae hi'n amlwg yn bosib pwyntio at gymunedau ar y naill ochr i unrhyw ffin a dweud y dylai'r cymunedau hynny weithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau. Dyna'r peth hawsaf yn y byd i'w wneud, ac rwy'n derbyn, yn amlwg, yn yr enghraifft a roddwyd, y byddai'r awdurdodau hynny, rwy'n rhagweld, yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen. Mae'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma yn fater gwahanol; mae'n ymwneud â llywodraethu, ac rwyf eto i gael fy argyhoeddi bod dadl dros newid yn y modd a ddisgrifiwyd gan yr Aelod, ond nid wyf wedi diystyru hynny, ac os yw'n gallu cyflwyno'r dadleuon o blaid y newid y mae'n ei awgrymu, yna rwy'n hapus iawn i roi ystyriaeth briodol i hynny yn y dyfodol.

O ran—. Hwn yw fy mhwynt olaf, Dirprwy Lywydd. O ran y pwynt y maen ei wneud ynglŷn â'r ddau neu dri aelod ychwanegol rwy'n credu a fyddai'n eistedd ar fyrddau diwygiedig er mwyn eu dwyn i gyfrif, craffu a herio, rydym ni'n edrych i sicrhau bod gennym ni'r cyfuniad cywir o aelodau wedi eu hethol yn lleol, sy'n atebol yn lleol sy'n gallu herio rheolwyr yr awdurdodau, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni'r cyfuniad o sgiliau ar fyrddau newydd yr awdurdodau tân ac achub i sicrhau bod gennym ni'r bobl yno sy'n gallu herio'r bwrdd hwnnw hefyd. Dyna swyddogaeth cyfarwyddwr anweithredol mewn llawer o fusnesau ar hyd a lled y wlad. Mae'n swyddogaeth yr wyf eisiau gweld ei chyflawni ar y byrddau newydd hyn, ond, unwaith eto, dyma ddechrau ymgynghoriad, nid diwedd ymgynghoriad, felly rwy'n hapus iawn i ymuno yn y ddadl os yw Aelodau yn dymuno cyfrannu ymhellach dros y misoedd nesaf.

15:55
5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: 'Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog'. Galwaf ar y Gweinidog, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y ffordd rydym ni'n cydweithio i wella sefyllfa plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

Mae 'Symud Cymru Ymlaen', Dirprwy Lywydd, yn nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i

archwilio ffyrdd o sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn mwynhau’r un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill, a diwygio’r ffordd y gofelir amdanynt os oes angen.

Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', hefyd yn disgrifio ein blaenoriaethau ynglŷn â chefnogi plant a theuluoedd sydd ar gyrion y maes gofal a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, yn enwedig wrth iddyn nhw ddatblygu i fod yn oedolion. Drwy fy rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant, rydym yn mynd ati mewn modd uchelgeisiol sy'n cwmpasu'r Lywodraeth gyfan a phob sector i'n helpu i wireddu ein blaenoriaethau a chyflawni ein hymrwymiad. Mae'r rhaglen hon, a gefnogir gan fy ngrŵp cynghori, dan gadeiryddiaeth ein cyd-Aelod Cynulliad David Melding, yn cwmpasu amrywiaeth eang o waith, gan roi sylw i'r holl sbectrwm gofal a chymorth, ond gyda phwyslais gwirioneddol ar fynd i'r afael â ffactorau a all arwain at yr angen i blant fod yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

Mae gan y grŵp cynghori gweinidogol gynrychiolaeth gan bob uwch arweinydd a sefydliad sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant. Mae'r grŵp wedi bod yn allweddol o ran fy nghynghori ar, a chyd-gynhyrchu, y rhaglen waith gwella canlyniadau i blant, ac rwy'n falch bod ein partneriaid yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith hwn. Yn wir, roeddwn yng nghyfarfod diwethaf y grŵp cynghori gweinidogol, ac fe allwn i weld unwaith eto bod y dull cydweithredol hwn o weithio yn parhau i fod yn gryfder gwirioneddol sydd gan y grŵp.

Felly, beth ydym ni wedi ei gyflawni? Wel, fe gofiwch chi y llynedd ein bod ni wedi buddsoddi £9 miliwn i gefnogi plant sydd wedi cael y profiad o dderbyn gofal. Fe hoffwn i ddweud wrthych chi am rai o'r prif ganlyniadau o ran sut y defnyddiwyd yr arian hwnnw gan awdurdodau lleol. Mae mwy na 1,900 o blant ledled Cymru sydd wedi bod drwy'r system gofal wedi cael arian drwy ein Cronfa Dydd Gŵyl Dewi £1 miliwn, i'w cefnogi wrth iddyn nhw drosglwyddo i fod yn oedolion ac i annibyniaeth. Roedd ein buddsoddiad o £5 miliwn mewn gwasanaethau gofal ymylol yn golygu bod awdurdodau lleol wedi helpu dros 3,600 o blant i aros o fewn yr uned deuluol, drwy weithio gyda mwy na 2,000 o deuluoedd. Mae gennym bellach wasanaethau gofal ymylol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at sefydlu gwasanaethau Adlewyrchu rhanbarthol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gwasanaethau hyn wedi cefnogi 150 o rieni ifanc y mae eu plant wedi eu rhoi yn y system gofal gydag amrywiaeth eang o faterion emosiynol ac ymarferol. Mae hwn yn wasanaeth poblogaidd, ac rydym yn disgwyl gweld nifer y rhai sy'n cael eu hatgyfeirio yn codi yn sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni hefyd wedi darparu £1 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth o gynghorwyr personol, fel bod pawb hyd at 25 oed sy'n gadael gofal, waeth beth fo'u hamgylchiadau, yn cael cynnig cynghorydd personol. O ganlyniad, mae 20 o gynghorwyr personol ychwanegol wedi eu recriwtio erbyn hyn, ac mae mwy na 500 o'r rhai sy'n gadael gofal wedi derbyn y cynnig estynedig. Ac yn olaf, mae'r rhai sy'n gadael gofal wedi cael cymorth i fanteisio ar gyfleoedd mewn addysg, gwaith a hyfforddiant, gyda 70 o bobl ifanc yn cael lleoliad gwaith drwy'r awdurdod lleol neu'n mynd ar gynllun hyfforddeiaeth. Mae'r rhain yn ganlyniadau real, mesuradwy, sy'n cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc.

Rydym ni wedi gwneud cynnydd gyda meysydd gwaith eraill. Er enghraifft, ym mis Mai eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi ymchwil ar ganlyniadau lleoliadau i blant ar ôl gorchymyn gofal terfynol. Roedd yr ymchwil pwysig hwn yn dangos bod dros dri chwarter y plant yn yr astudiaeth yn sefydlog iawn o ran lleoliadau yn ogystal â nodi profiadau cadarnhaol eraill o ofal. Rydym ni hefyd wedi datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer swyddogion adolygu annibynnol ac ar gyfer ymwelwyr annibynnol i sicrhau ansawdd a chysondeb y gwasanaeth. Ac fe wnaethom ni ariannu blwyddyn gyntaf gweithredu'r fframwaith maethu cenedlaethol. Rwy'n falch iawn bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi cyhoeddi ymgynghoriad yr wythnos diwethaf ynglŷn ag eithrio bawb sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor fel bod gennym ni gysondeb ledled Cymru.

Mae hyn i gyd yn gynnydd da, ond mae mwy eto i'w wneud. Cyn yr haf, gofynnais am y rhaglen waith i gael ei chyflymu a'i dwysáu, i hwyluso cyflawni yn erbyn yr heriau allweddol, gan gynnwys y rhai a nodwyd yn 'Adolygiad o Ofal mewn Argyfwng'. O ganlyniad, mae'r rhaglen waith gwella canlyniadau ar gyfer plant wedi ei hadnewyddu. Mae'r trydydd cam hwn o'r rhaglen yn parhau llawer o'r gwaith pwysig sydd eisoes ar y gweill, ond mae'n rhoi mwy o bwyslais ar leihau'r angen am ofal drwy ddarparu cymorth effeithiol, ataliol a chynnar i deuluoedd, yn ogystal â sicrhau bod cefnogaeth therapiwtig i blant a theuluoedd yn hanfodol drwy gydol y rhaglen. Er mwyn llywio'r cam hwn, mae fy swyddogion yn cynnal ymchwiliad gwerthfawrogol ar draws chwe awdurdod lleol. Mae'r ymchwiliad yn tynnu sylw at waith cymdeithasol ataliol da a chymorth i deuluoedd a ddarperir gan awdurdodau lleol. Roedd pob awdurdod lleol yn dangos bod ganddyn nhw systemau gofal integredig lle mae timau aml-asiantaeth yn darparu cymorth amserol i deuluoedd fel y gallai argyfyngau gael eu lleihau neu eu hosgoi, gan helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel. I ddangos hyn, un enghraifft oedd defnyddio cyfarfodydd grŵp teulu. Mae hyn yn ddull sy'n canolbwyntio ar y teulu sy'n galluogi plant, pobl ifanc, yn ogystal ag aelodau'r teulu ehangach, i gymryd rhan a rhoi eu hatebion eu hunain a fydd yn gwella eu hamgylchiadau. Mae hyn yn gydnaws â'n dull cydgynhyrchu, sy'n ganolog i'n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae buddsoddi mewn dulliau ataliol ac ymyraeth gynnar o'r fath yn sicrhau arbedion yn y tymor hir. 

Yn rhan o gynigion y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid ar gyfer 2019-20, dyranwyd £30 miliwn yn ychwanegol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i helpu i gryfhau'r trefniadau integreiddio hyn. Heddiw, rwyf yn falch o gyhoeddi y bydd £15 miliwn o'r arian hwn yn cael ei ddyrannu i symud ymlaen ein huchelgais a rennir o leihau'r angen i blant fod yn derbyn gofal. Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol er mwyn newid y system gyfan.

Hoffwn i awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a byrddau iechyd weithio gyda'i gilydd i ddefnyddio'r gronfa hon mewn modd hyblyg a chreadigol ar draws eu rhanbarthau. Fy nisgwyliad yw y bydd yr arian hwn yn canolbwyntio ar wasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ar gyfer teuluoedd sydd angen cefnogaeth a chymorth, gan adeiladu ar y dulliau y gwyddom eisoes sydd yn helpu teuluoedd i osgoi sefyllfaoedd argyfwng. Ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal, rwyf eisiau sicrhau bod gennym ar waith y gwasanaethau therapiwtig sydd eu hangen i'w helpu i aduno â'u teuluoedd yn llwyddiannus pan fo hynny'n briodol.

Cyn imi orffen, hoffwn atgoffa pawb ei bod hi'n Wythnos Diogelu Genedlaethol. Rwyf yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Stop It Now! Cymru i lansio ymgyrch newydd, a fydd yn helpu i annog pobl Cymru i chwarae eu rhan wrth atal cam-drin plant yn rhywiol.

Rwy'n gobeithio, felly, eich bod chi'n cytuno ein bod ni wedi gwneud cryn gynnydd o ran gwella sefyllfa plant yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at fynd i ddigwyddiad cenedlaethol ar wella sefyllfa plant ddydd Iau, lle bydd yna gyfle i rannu'r hyn yr ydw i wedi'i ddysgu, rhannu dulliau arloesol, a chydnabod y llwyddiannau. Ond yn bwysicaf oll, bydd yn gyfle i wrando a dysgu gan unigolion sydd â phrofiad personol o fod mewn gofal. Diolch, Dirprwy Llywydd.

16:05

Rwy'n siarad fel cadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog, sy'n gwneud fy ymateb o feinciau'r Ceidwadwyr ychydig yn afreolaidd. Felly, bydd gennyf gyfuniad doeth o ddwy swyddogaeth, rwy'n credu. Ond mae'n bwynt difrifol yn y fan yma fy mod i'n credu bod gwaith yn y maes hwn, sy'n heriol iawn, ond y mae llawer o arfer da a chanlyniadau da i'w gweld hefyd, yn ei gwneud hi'n ofynnol cael dull amhleidioli i'r graddau mwyaf posibl, ac rwy'n credu bod y gwaith hwn drwy gydol oes y Cynulliad wedi cyrraedd y consensws hwnnw, a'r angen i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y plant a'r bobl ifanc yr ydym ni'n gofalu amdanynt.

Rwy'n credu, Gweinidog, eich bod yn iawn i bwysleisio bod grŵp cynghori'r Gweinidog yn awr yn dod at gyfnod allweddol, ac mae hyn wedi gofyn am ddiweddaru'r rhaglen waith. Hoffwn ddweud ychydig am hynny mewn munud. Mae'n adlewyrchu, mewn gwirionedd, rwy'n credu, tymor pum mlynedd y gwaith. Y cam cychwynnol i raddau helaeth iawn oedd llenwi'r bylchau data, comisiynu rhai astudiaethau gwirioneddol bwysig—rydych chi wedi cyfeirio at un a oedd yn dangos y canlyniadau da a fesurwyd ar ôl gorchymyn gofal terfynol, ac mae tua 75 y cant o blant yn teimlo eu bod wedi elwa. Felly mae'n sector, yn aml, a bortreadir gan ei broblemau, oherwydd weithiau mae pethau'n digwydd sy'n ddinistriol iawn, ac yn gwbl briodol yn destun newyddion, ond ceir llawer iawn o arferion da ar lawr gwlad, ac mae a wnelo hyn i raddau helaeth ag adeiladu ar hynny.

O ran y rhaglen waith newydd a'i hychwanegiadau a'r datblygu, a gaf i ddiolch i Phil Evans, cyd-gadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog a chyn-gyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol ym Mro Morgannwg, a hefyd y swyddogion yn eich adran, sydd wedi cynhyrchu'r cynllun gwaith? Mae wedi golygu llawer iawn o waith. Fe'i lluniwyd gan grŵp cynghori'r Gweinidog, ond roeddem ni'n dal i fod angen gweithgarwch y grŵp gweithredu, a arweinir gan Phil Evans, i'w gasglu ynghyd. I raddau helaeth mae'n ddadansoddiad o'r gwaith presennol a'r hyn a gyflawnwyd, yn adlewyrchiad o'r data a'r adroddiadau yr wyf newydd eu crybwyll, ac ymgynghori helaeth. Mae'n rhaid imi ddweud bod yr ymdrechion ymgynghori yn cael cymorth mawr gan y cyd-gadeirydd arall, Dan Pitt, Voices From Care, ac yn wir mae holl gydweithio grŵp cynghori'r Gweinidog mewn gwirionedd wedi bod yn bosibl oherwydd y rhan helaeth a chwaraewyd gan amrywiol adrannau Llywodraeth Cymru sydd â swyddogaeth allweddol yn y grŵp—tai ac iechyd y cyhoedd, er enghraifft—gwasanaethau plant awdurdodau lleol, a hefyd yr arweinyddion cabinet a sefydliadau anllywodraethol—y trydydd sector. Rwy'n credu mewn difrif fod hyn wedi rhoi i'r grŵp yr egni a'r gallu i siarad â chi gydag awdurdod a darparu'r cyngor trylwyr hwnnw sydd ei angen mewn gwirionedd.

Mae'r rhaglen bellach yn adlewyrchu pwysigrwydd atal a chymorth cynnar, a, hefyd, pethau y mae wedi penderfynu eu pwysleisio a oedd naill ai yn y cynllun gwaith ond ddim yn ddigon amlwg, neu sydd bellach wedi cael eu hamsugno i'r cynllun gwaith, a dim ond  sôn am y newidiadau yr wyf i yma. Ond roedd y pwyslais ar wasanaethau therapiwtig, rwy'n credu, i raddau helaeth wedi ei sbarduno gan adroddiad Lynne Neagle neu adroddiad y pwyllgor y mae Lynne yn gadeirydd arno, 'Cadernid meddwl', a gafodd effaith fawr ar y drafodaeth yr oedd y grŵp cynghori'r Gweinidog yn ei chael, a phwysigrwydd gwasanaethau therapiwtig yn gysylltiedig â lles emosiynol, y cyfeirir ato drwy'r amser gan blant sy'n derbyn gofal fel rhywbeth y maen nhw wirioneddol ei angen, ac mae hynny'n lefel o gymorth.

Maes arall a oedd yn gymharol newydd i mi, mae'n rhaid imi ddweud, ond sydd efallai wedi ei esgeuluso, yw faint o ofal a roddir gan berthnasau. Ac mae hynny'n adnodd—mae gan lawer o wledydd bolisi yn sicr i wneud hynny'n fwy o adnodd. Ond, yn sicr, caiff ei ddefnyddio, mae'n briodol iawn mewn achosion penodol, ac efallai nad ydym ni wedi bod mor graff yn y maes hwn yn y modd y gallwn ni gefnogi gofalwyr sy'n berthnasau.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd wedi dylanwadu ar waith grŵp cynghori'r Gweinidog yn sylweddol iawn, ac rwy'n gwybod bod hynny'n nodwedd bwysig i chi hefyd.

Mae'r broblem o ddigartrefedd i'r rhai sy'n gadael gofal yn un fawr iawn, ac mae sut yr ydym ni'n cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal gyda'u tenantiaethau yn amlwg yn elfen hollbwysig o'n swyddogaeth fel rhieni corfforaethol, gellid dweud. Ac rwy'n falch bod gwaith wedi'i gomisiynu gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, ac rwy'n credu y bydd hynny'n gymorth mawr. Credaf, o ran y rhai sy'n gadael gofal, bod y sefyllfa dai yn un mor hanfodol â'r sefyllfa addysg a chyrhaeddiad addysgol ar gyfer y rhai sydd mewn gofal pan fyddan nhw'n cael addysg ffurfiol.

Ac yna mae'r fframweithiau profiad niweidiol yn ystod plentyndod wedi dod i chwarae rhan fawr mewn dod â sawl gwahanol elfen o waith grŵp cynghori'r Gweinidog at ei gilydd.

A gaf i groesawu'r cyllid hefyd? Mae'r £9 miliwn a lansiodd y rhaglen ddwy flynedd yn ôl yn cael effaith fawr, rwy'n credu, ar awdurdodau lleol i ddatblygu arfer gorau, ac rwy'n credu ei fod yn arwydd cadarnhaol iawn bod ffynhonell arianol arall ar gael.

Ac a gaf i ddim ond dweud, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn dod i'r amlwg yw cysyniad llawnach o swyddogaeth rhianta corfforaethol? Sy'n golygu pob asiantaeth gyhoeddus, ond hefyd yn y maes gwleidyddol—yn amlwg, mae gennych chi swyddogaeth arweinyddiaeth yn y maes hwnnw, ond mae hefyd yn golygu eich cyd-weithwyr, a ninnau hefyd fel Aelodau yn craffu ar y Llywodraeth, a'i phartneriaid allweddol, gwleidyddion yn y cyngor—yr arweinyddion cabinet a chadeiryddion pwyllgor sy'n gwneud y gwaith craffu. A dylai'r holl gynghorwyr, does bosib, neu dylai'r holl gynghorau ddilyn penderfyniad Cyngor Caerdydd i hyfforddi bob cynghorydd ym materion plant sy'n derbyn gofal. Ac maen nhw'n gwneud cynnydd ar hynny. Efallai ddim mor gyflym ag y byddent yn ei hoffi, ond dyna'r math o arweinyddiaeth y mae angen inni ei weld mewn gwirionedd yn dod i'r amlwg i roi darlun llawn inni o rianta corfforaethol. Diolch. 

16:10

Fe wnes i roi ychydig o benrhyddid i'r aelod yn y fan yna, o gofio ei fod yn cadeirio'r gweithgor gweinidogol—y grŵp gorchwyl, ond nid yw'r un penrhyddid hwnnw yn berthnasol i weddill y siaradwyr, mae arnaf i ofn. Nac i'r Gweinidog wrth iddo ddirwyn i ben ychwaith. 

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Fe wnaf i gadw fy ymateb yn fyr iawn, iawn. Yn sicr, cryfder mawr ein ffordd o weithio yw ei bod hi'n traws-lywodraethol, yn draws-sector, ond hefyd yn amhleidiol. Mae hon yn agenda y mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae ynddi, ac mae angen i bob un ohonom ni ddod â'n profiad a'n gwybodaeth a'n dealltwriaeth, gan gynnwys, gyda llaw—ac rwy'n croesawu eich geiriau o deyrnged i'ch dau gyd-gadeirydd—gyda'r cyd-gadeirydd sydd ei hun â phrofiad o'r byd gofal. Rwy'n credu bod hynny'n hanfodol yn hyn i gyd. Dyma gyd-gynhyrchu mewn difrif yn unol â'r fframwaith cyfreithiol yr ydym ni wedi ei sefydlu. Nid Llywodraeth yn teyrnasu ar bobl yw hyn, ond Llywodraeth yn gweithio gyda phobl i lunio atebion cywir. Rwy'n cymeradwyo'n llwyr y gwaith sydd wedi'i wneud eisoes gan grŵp cynghori'r Gweinidog ac mae'n cael effaith eisoes. Rydym ni'n gweld hynny yn y dystiolaeth sy'n dod i law, heb unrhyw amheuaeth. Ond mae'r amlygrwydd yn awr a'r flaenoriaeth a roddir i ffrydiau gwaith penodol, yn ogystal â rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau therapiwtig—mae gennym ni lawer mwy i'w wneud ar hynny. Rwy'n credu bod gwaith cyffrous y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog yn ei wneud ac y mae angen i'r Llywodraeth ei gyflwyno yn y maes hwnnw hefyd, gwasanaethau therapiwtig yn gyffredinol ond gwasanaethau therapiwtig hefyd fel y gallent fod yn berthnasol i ofal preswyl yn benodol, gofal gan berthnasau a phontio i fyw'n annibynnol a chanlyneb hynny, sef digartrefedd, os na wnawn ni hyn yn iawn.

Bydd cyllid yn helpu, yn sicr, ond dim ond i ymateb i'r sylw a wnaed ynglŷn â rhianta corfforaethol ac i dalu teyrnged i David yn arbennig, sydd wedi arwain yr agenda ynghylch rhianta corfforaethol i raddau helaeth iawn, mae gan bob un ohonom ni swyddogaeth—pob unigolyn, pob un sy'n craffu, pob swyddog llywodraeth leol, yr uwch-arweinydd, pennaeth y gyfarwyddiaeth. Mae gan bob un ohonom ni swyddogaeth i wneud ein dyletswydd yn awr er mwyn rhoi canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn y system gofal. Ac mae hynny'n dechrau digwydd ac rydym ni yn ei wneud oherwydd ceir agenda gyffredin erbyn hyn ac mae angen inni gynnal y momentwm hwn. Nid y cyllid fel y cyfryw a fydd yn gweddnewid hyn, ond y ffaith inni ganolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth pwysig y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn eu datblygu, a chan bobl eraill sy'n dweud, 'Dyma beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth.' Bydd y cyllid yn helpu.

16:15

A gaf i ddechrau drwy ddweud cymaint yr wyf yn croesawu'r datganiad? Rwyf yn falch iawn o weld faint o gynnydd sy'n cael ei wneud yn y maes pwysig iawn hwn. Wrth gwrs, ni fyddem yn disgwyl llai, yn enwedig gyda fy nghyfaill David Melding yn cadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod ei ymrwymiad i les plant, yn enwedig plant agored i niwed a phlant mewn gofal, yn hollbwysig. Hoffwn ategu'r hyn a ddywedodd David a beth ddywedodd y Gweinidog am bwysigrwydd ymagwedd amhleidiol ynghylch y materion hyn.

Rwyf hefyd yn falch iawn, Gweinidog, o weld nad oes unrhyw hunanfoddhad yn y fan yma, a'ch bod chi'n cydnabod yn glir iawn bod mwy o waith i'w wneud. Fe godaf un neu ddau o gwestiynau yn y cyd-destun hwnnw. Ni ofynnaf ichi roi sylwadau ar achos penodol, ond rydym ni'n ymwybodol bod rhai awdurdodau lleol yn gwneud yn well yn y maes hwn nag eraill. Yn fy rhanbarth i, mae gennyf i rai pryderon o hyd ynghylch Powys, a gobeithiaf y gall y Gweinidog dawelu ein meddyliau heddiw, er ein bod yn gweithio'n galed iawn ar y dull o weithredu cydweithredol hwn, na fydd unrhyw faddeuant os gwelir bod unrhyw bartneriaid yn esgeuluso'r plant a phobl ifanc hyn sy'n agored i niwed.

Nid yw'r datganiad ei hun yn gwneud unrhyw gyfeiriad penodol at fabwysiadu dull seiliedig ar hawliau i ddatblygu polisi yn y maes hwn. Efallai'n wir, Gweinidog, fod hyn oherwydd eich bod chi'n cymryd hyn yn ganiataol, ond o gofio pa mor anodd y gall hi fod i brif ffrydio'r dull o weithredu yn seiliedig ar hawliau i waith gyda phlant ar draws y sector cyhoeddus, hoffwn roi'r cyfle i chi gadarnhau bod y dull seiliedig ar hawliau yn ganolog i'r ffordd yr ydych yn datblygu eich polisi a'ch disgwyliadau o ran pobl eraill a gwaith y grŵp cynghori gweinidogol, ac i ymrwymo, efallai, i wneud hyn yn fwy eglur yn y dyfodol. Oherwydd tra bo hynny efallai'n dod yn naturiol i rai ohonom ni yn y Siambr hon, ceir llawer o rai eraill sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd yn anffodus yn parhau i fod heb eu hargyhoeddi.

Croesawaf yn fawr iawn y gwaith a wneir i alluogi plant sydd mewn perygl o gael eu rhoi mewn gofal i aros gyda'u teuluoedd pan fo hynny'n bosibl ac yn ddiogel. Fodd bynnag, dangoswyd gwaith achos etholaethol i mi ac rwy'n pryderu y ceir achosion o hyd pan fydd achos cyfreithiol yn arwain at blentyn yn cael ei symud yn ôl a blaen rhwng rhieni biolegol sy'n anffodus yn methu ag ymdopi, a rhieni maeth, ac mae hyn yn gohirio canlyniadau mabwysiadu sef yr hyn a fyddai orau i'r plentyn. A wnewch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r gwasanaethau llys teulu gyda'r bwriad o leihau nifer y troeon pan fydd hyn yn digwydd, o gofio pa mor niweidiol yw hynny i blant agored iawn i niwed, a phlant ifanc iawn, yn aml?

Croesawaf yn fawr iawn y buddsoddiad—mae'r £15 miliwn i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod yn ystyried lleihau'r angen i blant gael eu rhoi mewn gofal. Fe fyddem ni i gyd yn croesawu hynny, ond a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, eich bod yn disgwyl i'r arian newydd hwn greu gwasanaethau cynaliadwy? O ystyried y pwysau sydd ar gyllid Llywodraeth Leol, yn aml iawn defnyddir buddsoddiad da i roi hwb cychwynnol i waith cadarnhaol ond wedyn nid oes yr adnoddau i barhau â'r rhaglenni arloesol, er enghraifft, hyd yn oed pan geir tystiolaeth eu bod yn gweithio. Felly, a wnewch chi ein sicrhau ni heddiw nad taliad untro yw'r £15 miliwn hwn ac y bydd yn bosibl cynnal y gwasanaethau newydd hynny?

Gweinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r nifer fawr o gartrefi plant preifat, yn enwedig yng Nghymru wledig, sy'n cynnig llety i bobl ifanc sy'n agored iawn i niwed y tu allan i'r sir, yn aml iawn o ddinasoedd mawr yn Lloegr. Mae rhai o'm hetholwyr wedi codi pryderon ynglŷn â rhai o'r rhain, yn enwedig pan fyddan nhw mewn lleoliadau gwledig ynysig iawn. A allwch chi gadarnhau i ni heddiw eich bod yn fodlon bod y drefn arolygu a rheoleiddio presennol yn ddigonol i ddiogelu buddiannau'r plant hyn sy'n derbyn gofal? Efallai nad ein plant ni sy'n derbyn gofal bob amser, ond fy marn i, ac yr wyf yn siŵr eich barn chithau hefyd, yw, tra byddan nhw yng Nghymru, bod gennym ni'r un ddyletswydd gofal â'r hyn sydd gennym ar gyfer plant sy'n hanu o Gymru. A wnewch chi ystyried ysgrifennu at yr Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch y trefniadau ar gyfer yr arolygiadau hynny, fel y gallaf dawelu meddwl fy etholwyr sydd wedi codi pryderon gyda mi?

Ac yn olaf, rydych chi'n cyfeirio yn y datganiad at wrando a dysgu oddi wrth y rhai sydd wedi cael profiadau uniongyrchol o fod mewn gofal. Rwyf yn falch iawn o weld bod y grŵp gweinidogol yn cael ei gadeirio ar y cyd gan rywun sydd â phrofiad o ofal, ond a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i ddweud ychydig mwy wrth y Cynulliad am sut y mae unigolion â phrofiad o ofal, ac yn enwedig plant a phobl ifanc sydd ar hyn o bryd mewn gofal neu mewn perygl o gael eu rhoi mewn gofal, wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu'r polisi hwn a sut y bydd hynny yn parhau i fod yn ganolog i'r gwaith?

16:20

Helen, diolch yn fawr iawn am y sylwadau manwl yna. Gadewch imi ddechrau lle y gwnaethoch chi ddechrau: ein disgwyliad yw y dylai'r holl awdurdodau lleol a'r rhai sy'n darparu cymorth godi i lefel y goreuon. Fe wyddom ni, fel y clywsom gan gadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog yn gynharach, fod arfer da iawn ar gael; rydym ni wedi dwyn hynny i'r amlwg ein hunain. Rydym ni'n disgwyl i hynny fod yn arfer safonol.

O ran y dull seiliedig ar hawliau—mewn rhai ffyrdd, gallai hyn fod yn rhagflas o ddadl yn ddiweddarach y prynhawn yma hefyd, pryd y byddaf yn ymhelaethu ar y dull seiliedig ar hawliau, ond mae'r dull seiliedig ar hawliau wrth wraidd y rhaglen hon hefyd. Mae'r comisiynydd plant, sy'n aelod o'r grŵp, wedi sicrhau hyn, a dyna ein dymuniad ni. Felly, er na chafodd ei grybwyll yn benodol yn y datganiad, hwn yn ddiau yw craidd y gwaith yr ydym yn ei wneud yn y Llywodraeth ac yn y grŵp ei hun. Fe gewch chi'r sicrwydd hwnnw.

Rydym yn cael trafodaethau rheolaidd, ar lefel swyddogol, ond hefyd gyda'r rhai sy'n cymryd rhan uniongyrchol yn y gwasanaeth llysoedd teulu, ac mae'r gwasanaeth llys teulu ei hun, yn rhannol mewn ymateb i waith grŵp cynghori'r Gweinidog, wedi adnewyddu ei ymagwedd tuag at blant sydd wedi cael profiad o ofal dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn disgwyl iddo barhau i ddysgu, yn rhannol, mae'n rhaid imi ddweud, o'r 'Adolygiad Gofal Argyfwng' hefyd. Roedd yr 'Adolygiad Gofal Argyfwng' yn ddefnyddiol iawn gan iddo ddweud nad oes un fwled hud ar gael—ceir amrywiaeth o bethau sydd eu hangen er mwyn ichi ei godi i'r safon orau un, nid yn unig o ran cefnogaeth a darpariaeth ar lefel awdurdod lleol, ond yn y ffordd y mae'r llysoedd teulu hefyd yn ymateb i achosion ac i beidio â chael anghyfartaledd rhanbarthol mawr yn y ffordd y mae llysoedd teulu yn ymateb i hyn.

Fe wnaethoch chi sôn am sicrwydd atebion cynaliadwy ac ariannu—yn bendant. Nawr, mae hyn yn ymwneud yn rhannol â sicrhau bod yr arian yn mynd i'r lle iawn. A'r rheswm dros gael y cyhoeddiad heddiw ynghylch y £15 miliwn yn mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, yw eu bod wedi'u sefydlu'n uniongyrchol i wneud hynny ar sail dweud, 'Beth yw'r anghenion yn ein rhanbarth ni? Sut mae gwneud hyn yn y ffordd orau?' Gweithio ar y cyd, er mwyn sicrhau nad yw bellach yn ymwneud â photiau o arian, mae'n ymwneud â chanolbwyntio ar ganlyniadau'r plant hynny sydd â phrofiad o ofal. Ond mae hefyd angen atebion cynaliadwy yn ogystal ag ariannu cynaliadwy, ac mae hynny'n gofyn am rywfaint o ymagweddau creadigol ac arloesol tuag at weithio ar y cyd. Ac un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud yw ymgorffori'r ffyrdd hynny o weithio ar draws gwahanol asiantaethau—awdurdodau lleol, iechyd ac eraill—i wneud yn siŵr eu bod yn cyflwyno atebion sy'n para'n hir oherwydd eu bod yn fwy ataliol, yn fwy cynnar yn y ffordd y maen nhw'n ymyrryd ac mewn modd mwy amserol. Mae hynny'n rhan o'r cynaliadwyedd hefyd.

Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais i Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynghylch ein hymagwedd tuag at y drefn arolygu a rheoleiddio, ond hefyd fe wnaethoch chi godi'r mater o ofal preswyl i blant, ac mae hyn yn ymddangos yn aml, ac fe wn i ei fod yn un o'r pethau y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn edrych arno: a yw nid yn unig y llety diogel gennym, ond mewn gwirionedd, y tu hwnt i hynny, a oes gennym ni'r lleoliadau llety â gofal therapiwtig yn y lleoedd iawn ym mhob rhan ledled Cymru? Rydym yn credu bod tipyn o waith i'w wneud ynghylch hynny, felly rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu dulliau newydd o weithredu ar gyfer therapi a gofal ar gyfer plant ag anghenion arbennig cymhleth ac ymddygiadau heriol. Efallai nad oes angen sicrhau llety diogel ar eu cyfer, ond yn hytrach, model gwahanol, pwrpasol. Felly, rydym ni'n ystyried y posibiliadau o ddulliau rhanbarthol ar gyfer y math hwn o ddarpariaeth er mwyn osgoi effaith un plentyn mewn un awdurdod wedyn yn cael effaith aruthrol, ac maen nhw'n edrych o amgylch mewn anobaith a dweud, 'Wel, ble allwn ni osod y plentyn hwn?' Ac yn aml mae hynny'n golygu y tu allan i'r sir neu weithiau y tu allan i'r wlad. Felly, mae grŵp gorchwyl a gorffen yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar ofal preswyl i blant, a gobeithiwn y bydd nid yn unig yn gwella ein dealltwriaeth o broffil gofal preswyl ar gyfer plant, ond hefyd yn cyflwyno syniadau ar gyfer gwella'r amrywiaeth o fodelau therapiwtig sydd ar gael i ddarparwyr gofal preswyl. Ond rwy'n credu bydd ymagwedd ranbarthol yn hyn o beth yn allweddol.

Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â'r materion i gyd.

16:25

Diolch. Mae rhianta corfforaethol yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni, felly rwyf i'n cytuno'n llwyr â sylwadau David Melding a Helen Mary ar y mater hwn.

Neithiwr, bûm mewn cinio a drefnwyd gan y gyfadran gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlu, ynghyd â'm cyd-Aelodau Julie Morgan ac Angela Burns. Gwnaed hynny o dan reol Chatham House pryd yr oedd popeth yn aros yn yr ystafell, ond cefais fy syfrdanu'n wirioneddol o glywed, mewn un awdurdod lleol yng Nghymru, bod bron bob un o'r plant a oedd â phrofiad o ofal yn dod o 10 teulu, ac mae hynny oherwydd ein bod ni wedi methu â darparu'r gwasanaeth sydd ei angen i sicrhau nad yw pobl yn mynd ymlaen i gael mwy o blant. Felly, roeddwn i'n falch iawn o weld eich bod nawr yn mynd i gael gwasanaethau Reflect rhanbarthol, oherwydd dyna beth yw'r gwasanaethau hyn; nid yw'n ymwneud â chefnogi teuluoedd i gael eu plentyn a symudwyd o'i gartref, yn ôl, ond eu galluogi i ystyried y rhesymau pam y rhoddwyd y plentyn hwnnw mewn gofal yn y lle cyntaf.

Nid wyf i'n meddwl llawer o'ch disgrifiad ohono fel gwasanaeth 'poblogaidd'. Yr hyn yr wyf i eisiau ei wybod yw a yw'r gwasanaeth yn effeithiol. Rwy'n credu ei fod yn dibynnu llawer iawn ar ansawdd yr allgymorth i sicrhau bod y rhai sydd angen y gwasanaeth fwyaf, mewn gwirionedd, yn ei gael, yn hytrach na throi cefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw gael mwy a mwy o blant, mewn cylch dieflig.

Roedd yn ddiddorol gweld yr ymchwil a wnaed ar leoliadau a'r canlyniadau cadarnhaol, ond allan o 42 o ddisgyblion yn yr ysgol lle'r wyf i'n llywodraethwr, sydd, rwy'n ofni yr uchaf yng Nghymru, mae tri wedi newid lleoliad eisoes, ond, rwy'n falch o ddweud, nid newid ysgol. Felly, o leiaf ceir rhywfaint o gysondeb a sefydlogrwydd yn eu bywydau y gellir eu darparu yn yr ysgol.

Rwy'n credu mai'r peth arall sydd wedi bod yn bwysig iawn o ran gwaith cymdeithasol cydgysylltiedig ac ataliol yw bod cael gweithiwr cymdeithasol wedi ei leoli yn yr ysgol wedi ei alluogi i gael gafael ar wybodaeth bwysig am gefndir y person ifanc mewn modd amserol, heb mewn unrhyw ffordd dorri rheolau diogelu data. Felly, rwy'n credu bod angen inni wneud llawer mwy o'r math hwn o beth. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith eich bod yn mynd i ddyrannu £15 miliwn mwy i leihau'r angen i blant fod mewn gofal, ond mae'n rhaid inni gydnabod ein bod ar wahân ar hyn o bryd—95 ymhob 10,000 o ddisgyblion/plant o'i gymharu â 62 ymhob 10,000 yn Lloegr—felly, nid oes lle i laesu dwylo yn hyn o beth.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni—. Cafodd pwysigrwydd yr ysgol, mae'n ymddangos i mi, ei adlewyrchu yn natganiad Kirsty Williams am bwysigrwydd llesiant, sydd yr un mor bwysig â chyflawni'n academaidd, a dathlu gwaith a wneir gan ysgolion. Felly, rwy'n credu bod gan y fframwaith canlyniadau cenedlaethol fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddim ond un dangosydd o ran plant â phrofiad o ofal, sy'n ymwneud â'r cymwysterau allanol y maen nhw'n eu cael pan fyddan nhw yn 16 oed. Rwy'n credu bod angen mwy o ddangosyddion o'r math o waith arbenigol y gall ysgolion ei wneud i gyfrannu at hynny mewn gwirionedd.

Mae bod mewn gofal yn brofiad andwyol mewn plentyndod; ni allai ar unrhyw sail fod fel arall. Felly, mae'r niferoedd bach sydd gennym ni yn golygu yn sicr y dylem ni fod yn sicrhau bod yr holl bobl ifanc hynny yn cael mynediad priodol i wasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau cwnsela er mwyn iddyn nhw allu prosesu'r trawma y maen nhw wedi ei ddioddef. Rwy'n credu'n gryf bod angen inni sicrhau yn yr holl awdurdodau lleol bod y bobl ifanc hyn i gyd yn cael y gwasanaethau hynny y maen nhw eu hangen, neu fe fyddan nhw'n dod yn rhieni i blant â phrofiad o ofal eu hunain, a dyna'r cylch dieflig y mae'n rhaid inni ei dorri. Fel arall, fe fydd cost ariannol i'r awdurdodau lleol na allwn ei dalu, oherwydd dangosodd yr ymchwiliad a wnaed gan bapur newydd cenedlaethol ynghylch lefel y costau ar gyfer gofal arbenigol iawn—£7,000 yr wythnos—a'r gwir bryderon ynghylch arwerthu plant sy'n agored i niwed—. Yn amlwg, mae'n rhaid inni roi terfyn ar hynny ac mae angen inni edrych yn fanwl i weld sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn lleihau'r niferoedd a sicrhau na fydd y rhai sydd â phrofiad o ofal yn colli eu plant eu hunain.

16:30

Diolch, Jenny. Rydych chi'n ein hatgoffa'n briodol bod angen inni edrych ar y profiad gofal cyfan yn y fan yma mewn gwirionedd. Y bobl hynny, plant a phobl ifanc sydd mewn gofal—mae angen inni roi'r blaenoriaethau cywir er mwyn iddyn nhw wella eu canlyniadau—y rhai sy'n gadael gofal, ond hefyd i ganolbwyntio ar, fel y mae'r ffrwd waith Rhif 1 nawr, sut ydym ni'n lleihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Oherwydd fe wyddom ni os gallwn ni gyflawni ymyraethau cynnar cywir—ac mae hynny'n cynnwys rhai elfennau o gefnogaeth ehangach sy'n gallu nodi problemau yn gynnar a gweithredu'r dull amlasiantaeth yn gynharach—yna byddwn ni'n arbed y costau hynny ymhellach ymlaen er mwyn eu rhyddhau a'u rhoi tuag at blant sy'n derbyn gofal, ac ati. Ond rwy'n falch eich bod yn croesawu'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud gyda'r gwasanaethau Reflect rhanbarthol a'r ffordd yr ydym yn rhagweld y bydd defnydd sylweddol yn cael ei wneud o hyn, oherwydd rydym ni'n dechrau gweld tystiolaeth eisoes ei fod yn effeithiol a disgwyliwn weld mwy. Dyma'r ffordd iawn, rwy'n credu, unwaith eto, sef gweithio gyda phobl yn uniongyrchol er mwyn helpu i greu canlyniadau cadarnhaol.

Sefydlogrwydd lleoliadau—cwbl hanfodol. Fe wyddom ni, ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal, os cawn ni leoliad sefydlog, bydd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol, boed yn ymwneud ag addysg, iechyd, â phontio i fod yn oedolion—mae sefydlogrwydd y lleoliad yn hollol allweddol. Roedd rhywfaint o'r ymchwil diweddar a wnaethom—fe wnaethom ni gyhoeddi ymchwil a gyflwynwyd gennym ym mis Mai eleni—roedd yn edrych ar ganlyniadau lleoli plant bedair i bum mlynedd ar ôl i'r gorchymyn gofal terfynol gael ei wneud. Yr hyn a oedd yn galonogol yn sgil hynny oedd bod tri chwarter y garfan gyfan o blant wedi profi lefel uchel o sefydlogrwydd lleoliadau, heb unrhyw symudiad o ran lleoliad neu ddim ond un symudiad lleoliad dros y cyfnod o bedair blynedd. Nawr mae hynny'n arwyddocaol ac mae'n dangos ein bod yn dechrau cysylltu rhywfaint ar y dotiau i sicrhau eu bod nhw'n mwynhau'r sefydlogrwydd hwnnw sy'n rhoi'r seiliau iddyn nhw wedyn i dyfu a chael y canlyniadau cywir fel unigolion ifanc.

Nawr, fe wnaethoch chi sôn, yn briodol am yr agwedd ehangach ar iechyd meddwl a llesiant ac, unwaith eto, mae hyn yn mynd yn rhan o'r agenda atal ac ymyrraeth gynnar. Os gallwn ni nodi ac arbed y costau yn gynharach, bydd yn well i'r unigolyn, ond hefyd yn well o ran osgoi costau achub ymhellach ymlaen. Wrth gwrs, roedd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth. Ym mis Medi, cyhoeddodd Ysgrifenyddion y Cabinet dros iechyd ac addysg y bydden nhw'n galw ynghyd grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd—rwy'n osgoi edrych i fy ochr dde ar hyn o bryd, fy ochr dde agosaf—i ystyried ond hefyd i gyflymu'r gwaith i gyflawni dull o weithredu ysgol gyfan yn rhan o ddull o weithredu system gyfan tuag at lesiant meddyliol y plant. Roedd y cyfarfod cyntaf ar 17 Hydref. Rydym ni wedi ymrwymo nawr i symud yr agenda hon ymlaen yn gyflym a byddwn ni'n darparu'r newyddion diweddaraf ynghylch gweithgareddau a chynnydd yn unol â'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yng ngwanwyn 2019. A bydd hyn, fel y gŵyr David, yn cysylltu â'r rhaglen waith Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant a gyda'r grŵp cynghori'r Gweinidog i sicrhau bod gwasanaethau ysgol yn gallu diwallu anghenion iechyd meddwl penodol plant â phrofiad o ofal neu blant sy'n derbyn gofal. Rwy'n credu—. Rwy'n edrych tuag at y Dirprwy—. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd, mae'n well imi dawelu nawr. [Chwerthin.]

Byddai hynny yn ddefnyddiol, oherwydd mae gennym ni—. Ac, yn olaf, Michelle Brown. Ac mae'r amser ar ben, ond—. Michelle.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn hefyd ddiolch i'r grŵp cynghori am eu gwaith hyd yma. Hoffwn hefyd longyfarch y rhai sy'n ymwneud â chyflawni gwelliannau yn y gwasanaethau pontio a'r camau cadarnhaol eraill y cawsom y newyddion diweddaraf yn eu cylch heddiw, Gweinidog.

Mewn byd delfrydol, ni fyddai unrhyw blentyn yn gorfod mynd i mewn i'r system ofal—onid yw hynny'n hollol amlwg? Ond rhan o'r rheswm pam yr ydym ni'n awyddus i atal plant rhag gorfod mynd i mewn i ofal yw oherwydd nad yw Llywodraethau olynol wedi darparu gofal yn iawn. Mae eich datganiad yn ymwneud â lleihau nifer y plant sy'n mynd i ofal, gan awgrymu bod plant a phobl ifanc yn cael eu rhoi mewn gofal pan efallai fod dewisiadau eraill ar gael. Rydych chi wedi rhoi enghraifft o sut y mae dewisiadau eraill yn cael eu hystyried, ond mae'r posibilrwydd o blant yn mynd i mewn i ofal pan fo dewis arall ar gael yn peri pryder mawr ac fe hoffwn ichi egluro beth yw hyd a lled y broblem a'i maint hi. Pa mor fawr yw'r pryder hwn? Sut byddwch chi'n sicrhau na fydd ceisio lleihau nifer y plant mewn gofal yn lleihau'r flaenoriaeth i wella'r system ofal ei hun gan annog y Llywodraeth i beidio â gwella'r system ofal ar gyfer y rhai hynny y mae ei hangen arnyn nhw yn ddiau, y rhai nad oes dewis ar eu cyfer heblaw eu rhoi mewn gofal?

Os oes llai o blant a phobl ifanc mewn gofal, a fydd hynny'n arwain at fwy o arian yn cael ei wario ar bob plentyn sy'n parhau mewn gofal, neu a fydd yn arwain at ostyngiad yn yr arian ar gyfer darparu gofal? Pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am gyfeirio'r arbedion a grëwyd drwy osod llai o blant mewn gofal, tuag at y rhai hynny sydd yn gorfod bod mewn gofal? A fyddwch chi'n edrych ar y trothwy ar gyfer lleoli plant mewn gofal a ddefnyddir gan yr asiantaethau statudol? Os felly, a ydych chi'n credu bod y trothwy presennol yn rhy isel, a ydych chi'n credu ei fod yn gywir—ble mae'r trothwy hwnnw ar hyn o bryd yn eich barn chi? Ai hwnnw yw'r trothwy cywir? Fe hoffwn gael sicrwydd, yn gyntaf, na fyddwch yn cymryd yr arian allan o'r system ofal er mwyn ariannu mwy o bwysais ar ffyrdd i leihau'r angen i blant fod yn y system ofal ac a wnewch chi gadarnhau y bydd gwariant ar y system ofal yn cynyddu yn unol ag angen a chwyddiant?

Yn ddiweddar, gofynnais gwestiwn ichi hefyd am y system fabwysiadu. Ni wnaethoch ei ateb. Felly, yn rhan o'r ymdrechion i atal plant rhag gorfod aros yn y system ofal yn hwy na'r angen, fe'i gofynnaf eto: a ydych chi'n credu, fel yr wyf i, nad oes unrhyw reswm pam na ddylai plant gael eu mabwysiadu gan rieni o ethnigrwydd gwahanol iddyn nhw? A beth ydych chi wedi'i wneud i asesu, ac os felly sicrhau nad yw asiantaethau mabwysiadu a gweithwyr cymdeithasol yn gweithredu, yn ffurfiol nac yn anffurfiol i annog pobl i beidio â mabwysiadu pan fo hiliau'n gymysg? Ceir llawer o deuluoedd ethnig cymysg yn y DU, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu wrth inni groesawu cymdeithas amrywiol. Yn briodol hefyd, nid ydym ni'n trin cyplau hoyw yn wahanol i gyplau eraill yn y broses o fabwysiadu. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod amrywiaeth hiliol mewn teuluoedd yn beth da, fel y mae yn ein cymdeithas ehangach, ac na ddylai gwahaniaethau ethnig fod yn ffactor wrth leoli plant i'w mabwysiadu? Os ydych o ddifrif ynghylch cadw cymaint o blant â phosibl allan o'r system ofal neu gadw eu hamser ynddi mor fyr â phosibl, rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno, ond fe hoffwn eich clywed yn dweud hynny.

Yn olaf, yn yr Wythnos Diogelu Cenedlaethol hon, rydym ni wedi cael llawer iawn o straeon yn y wasg ac mewn mannau eraill dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ynghylch gangiau'n meithrin perthynas amhriodol ac oedolion yn paratoi plant i bwrpas camfanteisio rhywiol, felly hoffwn i'r Gweinidog achub ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf inni ynghylch y mesurau yr ydych chi'n eu cymryd a'r mesurau y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn eu cymryd i ddiogelu plant ac i atal y rhai sy'n meithrin perthynas amhriodol rhag—i atal yr unigolion a'r gangiau sy'n paratoi plant i bwrpas rhyw—rhag cael mynd at blant sy'n derbyn gofal, oherwydd un o'r grwpiau o blant mwyaf agored i niwed oddi wrth y gangiau hyn yw, yn amlwg, plant sy'n derbyn gofal. Mae gan y wladwriaeth ddyletswydd enfawr i wneud yn siŵr nad yw'r rhai sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol yn cael mynd at y plant hynny, felly fe fyddwn i'n hoffi'n fawr iawn, iawn cael gwybod beth yr ydych chi mewn gwirionedd yn ei wneud i atal hynny. Diolch.

16:35

Byddaf. Diolch. Rwyf i wedi sôn eisoes, yn fy atebion blaenorol, am lawer o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gynyddu cymorth i deuluoedd a chymorth therapiwtig er mwyn, lle y gallwn ni, gadw plant o fewn yr uned deuluol yn ddiogel ac yn briodol. Soniais am hyn yn fy sylwadau agoriadol, ond hefyd rhai o'r ffrydiau gwaith y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn eu hybu hefyd.

Roeddech chi'n rhoi sylw arbennig i un neu ddau o'ch pwyntiau yn y fan yna ynghylch petai ni'n gwneud arbedion mewn un maes er enghraifft—ac nid ydym wedi cyflawni hyn eto, mae'n rhaid imi ddweud—wrth leihau nifer y plant sy'n cael eu gosod mewn gofal, a fyddai hynny'n cael ei drosglwyddo i faes arall. Edrychwch, nid ydym ni'n torri nac yn asio'r gyllideb hon. Rydym ni newydd gyhoeddi £15 miliwn ychwanegol heddiw. Ein bwriad yw cynnal y cyllid sy'n mynd i mewn i hyn, ac, fel y dywedais wrth ymateb i bwynt Helen Mary yn gynharach, i ddod o hyd hefyd i fodelau cynaliadwy i alluogi hynny i barhau, a rhan o hynny yw drwy weithio mewn partneriaeth ranbarthol, ond hefyd gweithio mewn partneriaeth leol. Mae'n rhaid imi ddweud hefyd. Mae'n rhaid iddo dreiddio i lawr i'r lefel leol. Ond rwy'n credu bod ein hymrwymiad heddiw a dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn glir, er i rai pobl, gallai hyn fod yn rhywbeth ychydig yn anghonfensiynol—nid yw'n rhywbeth sy'n creu penawdau mawr yn y cyfryngau—i ni dyma'r peth pwysicaf os ydym ni'n credu o ddifrif bod gan bob un plentyn yr hawl i gael y canlyniadau hynny beth bynnag yw amgylchiadau eu geni neu'r hyn y mae bywyd yn ei daflu atyn nhw a'u sefyllfa deuluol.

Ar fater diogelu, soniais heddiw ein bod yn cefnogi—ac yn annog eraill i gefnogi, mae'n rhaid imi ddweud—yr ymgyrch Stop it Now! ynghylch cam-drin plant yn rhywiol, ond, wrth gwrs, yng Nghymru, rydym ni mwy na thebyg ychydig mwy ar flaen y gad hefyd o ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'n bwrdd diogelu cenedlaethol, ein byrddau diogelu rhanbarthol—. Nid ydym ni'n hunanfodlon oherwydd rwy'n credu bod y byrddau diogelu eu hunain yn gwybod bod gennym ni waith i'w wneud o hyd. Fe welwn ni hyn pan fo rhywbeth yn cyrraedd y penawdau. Rydym ni'n edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd, rydym ni'n edrych ar yr hyn aeth o'i le, fe ddysgwn ni o hyn, ac wedyn rydym yn gwneud yn siŵr bod y gwersi hynny yn cael eu dysgu, nid yn unig yn y rhanbarth, ond ledled Cymru hefyd. Felly rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd i chi.

Ac, yn olaf—rwy'n ymddiheuro—y rheswm pam na wnes i ymateb i chi y tro diwethaf yw oherwydd nad oeddwn i'n gallu—. Arnaf i oedd y bai; Roeddwn i braidd yn ddryslyd ynglŷn â'r hyn yr oeddech chi'n ei ofyn imi, ond fe es i'n ôl ac edrych ar y trawsgrifiad. Felly, gadewch imi ei gwneud un glir yn y fan yma: ar y diwrnod y gwnaethom ni'r datganiad diwethaf, fe es i ymweld â chwpl ifanc nid nepell oddi yma yng Nghaerdydd, mewn gwirionedd roedden nhw'n rhan o'r rhaglen Mabwysiadu Gyda'n Gilydd. Rwy'n credu ichi grybwyll o'r blaen y mater hwn ynghylch lleiafrifoedd ethnig nad oedd sôn amdanyn nhw'n benodol o fewn hynny. Mewn gwirionedd, y mae sôn amdanyn nhw, ac rwy'n credu bellach ein bod ni wedi ysgrifennu atoch i egluro y ceir, o fewn y llenyddiaeth, gyfeiriad penodol er enghraifft at blant o gefndir pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Felly, rwyf yn hapus iawn i ddweud ar goedd na ddylai unrhyw beth eithrio pobl rhag mabwysiadu—rhag dod yn deulu cariadus, gofalgar—ar sail hil nac ethnigrwydd na rhyw na rywioldeb nac unrhyw beth. Yr hyn sy'n bwysig yw teulu gofalgar, cariadus a fydd yn rhoi'r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i'r plentyn hwnnw ynghyd â sefydlogrwydd i fyw ac i ffynnu. Dyna hanfod hyn i gyd.

16:40
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Lles Anifeiliaid

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar les anifeiliaid, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar waith i barhau i wella safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae lles anifeiliaid yn parhau i fod yn uchel ar fy agenda wrth inni symud drwy'r cyfnod hwn o newid ac ansicrwydd. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal ein safonau a'n disgwyliadau, yn enwedig o ystyried y pwysau a wynebir fel y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n glir iawn: ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyfaddawdu ar les anifeiliaid. Rwy'n benderfynol y byddwn yn parhau i arwain y ffordd o ran codi safonau, yn awr ac ar ôl inni adael yr UE.

Yn y Sioe Frenhinol eleni, cadeiriais uwchgynhadledd tywydd sych i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar y tywydd sych a brofwyd gennym am gyfnod hir dros yr haf, lle codwyd pryderon ynglŷn â lles anifeiliaid. Ymrwymais i helpu'r diwydiant i feithrin cydnerthedd i amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys amodau tywydd anwadal. O ganlyniad i'r uwchgynhadledd, rwy'n sicrhau bod taliadau cynllun y taliad sylfaenol, gan gynnwys benthyciadau ar gyfer y rhai cymwys sydd wedi gwneud cais, yn cael eu gwneud ar 3 Rhagfyr. Cyhoeddais hefyd rodd o £0.5 miliwn i roi cymorth tymor byr i'r teuluoedd hynny sydd fwyaf mewn angen. Gan weithio gydag elusennau gwledig, rydym ar y trywydd iawn i sicrhau bod cyllid ar gael cyn diwedd y flwyddyn.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol, felly hefyd ymgysylltu ag asiantaethau gorfodi a'r trydydd sector. Rwyf wedi cael y fraint o dreulio prynhawn yn cysgodi arolygydd RSPCA Cymru i weld sut y darperir eu gwasanaethau hanfodol. Dywedais ym mis Mehefin fy mod i wedi gofyn i RSPCA Cymru ystyried yr argymhelliad yn adroddiad Wooler 2014 i Arolygiaeth yr RSPCA dderbyn statws statudol dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Bellach mae RSPCA Cymru wedi cyflogi aelod staff i ymchwilio i hyn. Mae fy swyddogion wedi derbyn amlinelliad o'r rhaglen, a byddwn yn cyfarfod cyn hir i drafod y dull arloesol hwn.

Hefyd rwyf wedi treulio amser gyda'r tîm heddlu troseddau gwledig yn y Gogledd i archwilio sut y gallwn leihau nifer yr ymosodiadau ar dda byw. Mae'r rhain yn peri gofid i'r anifeiliaid ac i'r ffermwyr ac yn gostus yn ariannol ac yn emosiynol.

Rwy'n cwrdd yn rheolaidd â Julie Morgan AC, y Cynghorydd Dilwar Ali a David Joyce o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i drafod cŵn peryglus a pherchnogaeth gyfrifol. Ceir achosion brawychus o ymosodiadau gan gŵn yn arwain at anafiadau sy'n newid bywydau. Er nad yw llawer o'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chŵn peryglus wedi'i datganoli, mae'r diffyg amlwg mewn perchnogaeth gyfrifol sy'n gysylltiedig â'r ymosodiadau hyn wedi'i ddatganoli. Ein dinasyddion ni, ein hanifeiliaid ni, yr effeithiau ar ein hiechyd ni a thrawma sy'n newid ein bywydau ni yw'r rhain. Rwy'n gohebu â Llywodraeth y DU ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio'r pwerau sydd gennym.

Rwyf wastad wedi bod yn glir, dylai anifeiliaid gael eu lladd mor agos i'r fferm â phosibl. Byddaf yn parhau i sicrhau bod lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo ac adeg eu lladd yn parhau i wella yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y sector lladd-dai bach a chanolig i sicrhau eu bod yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol. Mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd, sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer mynegiant o ddiddordeb, wedi'i bwysoli tuag at gynllunio gwelliannau i ddiogelu lles anifeiliaid, gan gynnwys gosod ac uwchraddio systemau teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai. Gellir defnyddio'r grant hwn i atgyfnerthu safonau uchel lles anifeiliaid a gyflawnwyd eisoes yn lladd-dai Cymru.

Rwyf wedi dweud o'r blaen y byddaf yn ystyried deddfu i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar waith ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i weithio gyda gweithredwyr busnes bwyd mewn perthynas gefnogol i gyflawni'r un amcan. Mae teledu cylch cyfyng yn ddefnyddiol o ran diogelu lles anifeiliaid ac mae hefyd yn offeryn hyfforddi effeithiol.

Mae codi proffil y diwydiant bwyd a diod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch o hyrwyddo cynnyrch sy'n tarddu o Gymru. Mae ein deddfwriaeth labelu bwyd yn gosod safonau sy'n ofynnol gan gynhyrchwyr bwyd i fodloni eu rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr. Rhaid labelu'r holl gig porc, oen, geifr a dofednod ffres, wedi'u hoeri ac wedi'u rhewi gyda chofnod o'u tarddiad, sy'n golygu labelu gorfodol o ran man magu a man lladd yr anifail y daw'r cig ohono.

Gyda phob archfarchnad bron yn y DU wedi ymrwymo i wyau maes 100 y cant erbyn 2025, rwyf wedi gofyn i grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael ar effaith ar les a bioddiogelwch y systemau cynhyrchu gwahanol. Mae naw deg y cant o'r wyau a gynhyrchir yng Nghymru yn wyau maes, sy'n uwch o lawer nag yn unman arall yn y DU. Fy uchelgais yw bod Cymru yn dod yn genedl sy'n cynhyrchu wyau maes yn gyfan gwbl.

Rydym wedi cydweithio mewn partneriaeth i adolygu a diweddaru ein codau ymarfer ieir dodwy a chywennod a brwyliaid. Mae gwaith yn parhau ar y codau hyn i ganiatáu iddynt gael eu cyflwyno cyn toriad yr haf. Bydd y codau'n cynnwys canllawiau i leihau nifer yr achosion o bigo andwyol. Cafodd y codau ymarfer er lles ceffylau, ac un ar gyfer cŵn, eu cyhoeddi ddoe. Mae lles adar hela yn flaenoriaeth i mi. Mae swyddogion yn gweithio gyda'r diwydiant saethu a sefydliadau lles i adolygu a diweddaru ein cod ymarfer ar gyfer lles adar hela sy'n bodoli eisoes. Mae'n bwysig bod y cod yn adlewyrchu'r technegau hwsmonaeth a rheoli diweddaraf, a'r safonau gofal sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Mae gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi cŵn bach yn arbennig o bwysig yn y broses hon, ac mae nifer o gydweithwyr wedi codi'r mater o gyfraith Lucy gyda mi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n hanfodol inni fynd i'r afael â gwraidd unrhyw bryderon lles mewn newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ein bod yn cynnal ymgynghoriad cynnar yn y flwyddyn newydd ar y broblem bwysig hon. Er fy mod yn cefnogi barn y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm o blaid y defnydd cyffredinol o systemau porchella rhydd sydd wedi'u cynllunio a'u gweithredu'n dda, credaf na ddylid gweithredu hyn dim ond os yw cyfraddau marwolaethau perchyll ddim mewn perygl. Byddaf yn cadw diddordeb mewn datblygiadau newydd i systemau hwsmona a allai ddarparu ateb i'r gwrthdaro rhwng lles hwch a phorchell.

Mae iechyd a lles da ar gyfer anifeiliaidyn ganolog i'n dull ni o weithredu yng Nghymru; er enghraifft, drwy'r fenter cynllunio iechyd anifeiliaid HerdAdvance, a lansiwyd yn Sioe Laeth Cymru. Mae atal yn well na gwella bob amser. Mae'n lleihau'r angen am wrthfiotigau, gan leihau'r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae effeithiolrwydd parhaus y gwrthfiotigau yn sail i'n un agenda iechyd. Dyma Wythnos Ymwybyddiaeth o Wrthfiotigau y Byd, ac anogaf Aelodau'r Cynulliad i fod yn warcheidwaid gwrthfiotigau, fel yr wyf i wedi'i wneud heddiw— [Torri ar draws.]

16:45

Gobeithio y bydd y Gweinidog yn adennill ei llais cyn bo hir. Diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad, neu Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae lles anifeiliaid yn un o'r materion sydd bob amser yn un o'r materion mawr sydd yn sachau post y rhan fwyaf o'r Aelodau. O bryd i'w gilydd, ceir ymgyrchoedd, ond ni allaf byth ganfod adeg yn ystod y flwyddyn lle nad oes rhyw fater ar les anifeiliaid yn dal dychymyg y cyhoedd. Ac mae'n fuddiol bod gan y sefydliad hwn amrywiaeth eang o gyfrifoldebau a phwerau i gyflwyno deddfwriaeth neu reoliad yn y maes hwn, o'i gymharu â lle'r oeddem 20 mlynedd yn ôl.

Os caf i sôn am un neu ddau o bwyntiau yn y datganiad, oherwydd rwy'n gwerthfawrogi mai dim ond datganiad 30 munud sydd yma, ac felly nid wyf eisiau cymryd amser Aelodau eraill. Ond os caf i gyfeirio at gynnig cyfraith Lucy, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cwrdd ag ymgyrchwyr ynghylch cyfraith Lucy yr wythnos diwethaf, ac, yn anffodus, chefais i ddim o'r cyfle i wneud hynny oherwydd roeddwn yn sâl ar y pryd, ond gwn fy mod wedi ymrwymo ar gyfer dyddiad yn y dyfodol i gwrdd â nhw. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa fath o ymgynghoriad fydd hi'n ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd? Mae gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti yn broblem yr ydym wedi sôn llawer amdani yn y Siambr hon ac mae'n label anffodus braidd bod Gorllewin Cymru, yn benodol, wedi bod yn gartref i lawer o'r diwydiant ffermio cŵn bach, ac rwy'n siŵr ein bod yn awyddus i golli'r label hwnnw mor fuan â phosibl a chael cyfrifoldebau yn ôl yn y maes hwn. Felly, gorau po gyntaf y gallwn ddeddfu yn y maes hwn, oherwydd gwn y byddai llawer o aelodau'r cyhoedd ac, yn wir, Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr yn ddiolchgar iawn.

Mae'r cyfrifoldebau ynghylch addysg y cyhoedd yn bwysig iawn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at y gwaith a wnaeth Julie Morgan, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, o safbwynt undeb y gweithwyr post, ac mae'n gyfrifoldeb enfawr pan fydd aelodau'r cyhoedd yn dod yn berchnogion ar anifail o ba fath bynnag. Rwyf innau, hefyd, wedi bod allan o gwmpas gyda'r RSPCA ac roeddwn wedi fy llethu, mewn rhai ffyrdd, gan un digwyddiad a welais i, lle'r oedd pedwar ci yn y tŷ penodol hwn, ac nid oedd gan y perchennog unrhyw syniad o gwbl am y cyfrifoldeb arno i ysbaddu'r cŵn a darparu bwyd da a chartref da i'r cŵn, ac, yn y pen draw, aeth yr RSPCA â'r cŵn hynny oddi wrthynt. Ond rwyf bob amser yn cofio'r arolygydd yn dweud, 'Byddaf i'n dod yn ôl ymhen y mis ac rwy'n siŵr y bydd ci yn ôl yn y tŷ, a bydd y broses yn dechrau unwaith eto.' Mae'n gyfrifoldeb enfawr i fod yn berchen ar anifeiliaid anwes, ac, felly, mae'r swyddogaeth o addysgu pobl am y cyfrifoldebau hynny yn gyflawniad enfawr y gall Llywodraeth ymgymryd ag o gyda'r dulliau sydd ar gael iddi.

Rwy'n sylwi, ar ddechrau'r datganiad, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sôn am yr arian a roddwyd yn ôl yn yr haf i elusennau—y £500,000. Mae wedi bod yn haf anodd iawn; mae bwydo a lles da byw wedi bod yn broblem fawr ar ffermydd. Rwy'n synnu braidd nad yw'r arian hwnnw eisoes wedi cyrraedd yr elusennau, oherwydd, fel y nododd y Gweinidog, dynodwyd yr arian hwn ar gyfer teuluoedd dan straen penodol ar yr adeg honno. Rydym bellach ym mis Tachwedd. Credaf y dengys y datganiad fod yr arian hwnnw'n mynd i fod ar gael ddiwedd y flwyddyn hon. A allai'r Gweinidog egluro pam na sicrhawyd ei fod ar gael i elusennau fel y gellir ei ddosbarthu ymysg y gymuned amaethyddol, i achosion anghenus sydd angen yr arian hwnnw?

A labelu—cyfeiriasoch hefyd at labelu. Mae dewis doeth y defnyddiwr yn faes pwysig iawn. Dim ond yn ddiweddar, roedd rhywfaint o drafod yn y cyfryngau cymdeithasol ynghylch prynu cywion ieir yn un o'n harchfarchnadoedd mawr, ac ar flaen y deunydd pacio, nodwyd ei fod yn gyw iâr o Brydain, ond o'i droi drosodd roedd yn dweud 'Cynnyrch Gwlad Thai'. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol. Credaf, yn y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, ein bod wedi cael tystiolaeth yn ddiweddar sy'n dangos bod pwerau gennym yn y maes hwn ynglŷn â labelu, ac felly byddai gennyf ddiddordeb mewn deall: a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i arfer y pwerau hynny fel y gall y defnyddiwr gael gwybod am les pan fyddant yn prynu nwyddau sydd eu hangen arnynt?

A'r pwynt olaf, os caf, Dirprwy Lywydd, yw capasiti o fewn awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi. Un peth yw pasio deddfwriaeth, pasio rheoliad yma a siarad yn fawreddog yn y Siambr wych hon sydd gennym, ond y realiti yw bod angen i'r asiantaethau gorfodi gael yr adnoddau angenrheidiol yn y cymunedau, sef yr awdurdodau lleol neu'r heddlu eu hunain, i ddefnyddio'r ddeddfwriaeth honno a'r rheoliadau hynny i wella safonau lles. Rydym yn gwybod yn iawn, yn aml iawn, yn enwedig pan ddaw i safonau masnach, nad oes gan yr awdurdodau lleol y swyddogion i ymgymryd â llawer o'r swyddogaethau sylfaenol a roddir arnynt. Felly, pa asesiad a wnaeth yr adran o awdurdodau lleol a gallu asiantaethau trydydd parti i weithredu'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau sydd gennym yn awr ynghylch lles anifeiliaid, heb sôn am reoliadau a deddfwriaeth newydd a gaiff eu cyflwyno?

16:50

Diolch i Andrew R.T. Davies am ei restr o gwestiynau. Cytunaf yn llwyr â chi. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn y Siambr mae'n debyg, fel aelodau o'r Cynulliad—. Yn sicr, mae'r sachau post mwyaf a gefais bob amser, fel yr Aelod Cynulliad dros Wrecsam, yn cynnwys materion am iechyd a lles anifeiliaid. Mae'n ddiddorol iawn mewn gwirionedd bod yr unig ohebiaeth a gefais fel AC mewn cysylltiad â hysbysiadau technegol sy'n dod allan o Lywodraeth y DU ynghylch Brexit wedi ymwneud ag anifeiliaid. Credaf yn sicr ein bod yn genedl o bobl sydd yn caru ein hanifeiliaid.

Soniodd Andrew am gyfraith Lucy a'r hyn y byddem yn ymgynghori arno. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn y byddwn yn lansio ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd ar effaith gwahardd gwerthu gan drydydd parti ar gŵn a chathod bach yng Nghymru, ac fel y dywedaf, byddwn yn gwneud hynny'n gynnar yn y flwyddyn newydd.

Credaf eich bod yn iawn am addysg, ac yn sicr mae'r gwaith yr wyf wedi bod yn ei wneud gyda Julie Morgan a'r cyfarfodydd a gawsom gyda'r cynghorydd Dilwar Ali a David Joyce—. Hynny yw, mae rhai o'r ffotograffau a gyflwynwyd yn y cyfarfodydd hynny gan David o anafiadau sydd wedi eu dioddef gan weithwyr post a oedd ond yn ceisio gwneud eu gwaith yn wirioneddol erchyll. Ac rydych yn hollol iawn; mae'n hyfrydwch mawr i fod yn berchen ar anifail anwes, ond mae'n gyfrifoldeb enfawr, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r cyhoedd ynghylch addysg, ac yn ein hysgolion hefyd. Rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ynglŷn â hyn, ac mae hi'n gefnogol iawn.

Gofynasoch am y £0.5 miliwn a gyhoeddais yn y Sioe Frenhinol ynghylch yr uwchgynhadledd tywydd sych a pham nad yw wedi mynd i elusennau. Fy nealltwriaeth i yw bod yr elusennau yn teimlo y byddai mwy o angen yr arian ym mis Ionawr a Chwefror y flwyddyn nesaf. Rwy'n bwriadu cwrdd â'r Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol—ar 28 Tachwedd, rwy'n credu—pan fyddaf yn egluro hynny, ond mae'r arian hwnnw yn sicr yn barod i fynd i'r teuluoedd hynny sydd, fel y dywedasoch, o fewn—. Cawsom y gaeaf hir, caled a gwlyb hwnnw, yna cawsom eira yn y gwanwyn, yna cawsom y tywydd sych. Mae'r hydref wedi dod â llifogydd. Felly, wrth inni nesáu at y gaeaf, rwy'n ymwybodol iawn bod llawer yn y sector amaethyddol fydd angen cyllid, a dyna pam y cyflwynais fenthyciadau'r taliad sylfaenol ynghynt. Dyma'r tro cyntaf yr wyf wedi gwneud hynny. Felly, ar 3 Rhagfyr, bydd pobl yn gwybod os nad ydynt yn cael eu taliad sylfaenol, cyn belled â'u bod wedi gwneud cais am y benthyciad, byddant yn cael hynny.

Mae'r pwyntiau a wnaethoch ynglŷn â labelu yn hollol gywir, ac mae'r digwyddiad a ddisgrifiwyd gennych yn gwbl annerbyniol. Mae gennym rai pwerau, ond rwyf hefyd yn gweithio gyda DEFRA mewn cysylltiad â labelu, ac, unwaith eto, ar ôl Brexit, credaf y daw cyfle i wneud yn siŵr ein bod yn cryfhau ein labelu i sicrhau bod pobl yn gwybod—y gall defnyddwyr fod yn gwbl hyderus yn yr hyn maent yn ei brynu.

16:55

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad—datganiad braidd yn wasgaredig, rwy'n credu. Cyfeiriasoch at tua 15 neu 16 maes polisi gwahanol o fewn maes pwnc lles anifeiliaid. Rwy'n awyddus i sôn am y cyfraniad £500,000, hefyd, i elusennau gwledig, oherwydd mae llawer ohonom wedi cefnogi elusennau gwledig dros y blynyddoedd, drwy gyfraniadau neu gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol. Ond mae i Lywodraeth Cymru—. A gwneuthum y pwynt hwn o'r blaen. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo, drwy ei chyfraniad, fod ffermwyr yn dibynnu ar elusen mewn gwirionedd erbyn hyn yn dweud llawer, yn fy marn i, ynglŷn â lle’r ydym ni, neu lle mae'r sector ffermio, neu lle mae'n canfod ei hun o dan eich goruchwyliaeth chi ar hyn o bryd, a chredaf ei fod yn fater o ofid i mi, eich bod yn teimlo bod yn rhaid i chi wneud hynny. Mae'n dweud llawer am sefyllfa'r sector y dyddiau hyn, oherwydd yr hyn y mae'r ffermwyr ei eisiau, wrth gwrs, yw nid elusen ond gweithredu: gweithredu i sicrhau porthiant i ffermydd Cymru dros y misoedd nesaf, fel y gallant amddiffyn lles eu hanifeiliaid drwy gael digon o fwyd iddynt. Rydym yn cofio sut y cyhoeddodd Llywodraeth Iwerddon, yn ôl ym mis Ebrill eleni, ei bod yn mynd i gefnogi mewnforio porthiant i Iwerddon, llawer o hynny yn dod o Gymru neu drwy Gymru, gan ei gwneud yn llawer mwy anodd, felly, gallaf ddychmygu, i ffermwyr Cymru gael y porthiant sydd ei angen arnynt, a gwneud y porthiant yn ddrutach hefyd. Byddai'n llawer gwell gennyf weld mwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru na chyfraniadau i elusen, er mor bwysig yw rôl yr elusennau hynny.

Ac, wrth gwrs, yn eich ymateb i'r sefyllfa tywydd sych, rydych wedi pwyso ar y taliad sylfaenol i geisio mynd i'r afael â rhywfaint o'r pwysau hwnnw—y taliad sylfaenol hwnnw, wrth gwrs, y byddwch yn cael gwared arno, os ydych yn cael eich ffordd o ran cynigion yn y dyfodol ar gyfer cymorth ffermio. Felly, beth sy'n digwydd pan fydd y taliad sylfaenol wedi mynd? Yn amlwg, bydd ffermwyr yn ymrwymedig, drwy'r agweddau nwyddau cyhoeddus a chadernid economaidd, i gyflawni rhwymedigaethau penodol, ond ble fydd y sicrwydd a'r sefydlogrwydd y maent yn chwilio amdano, fel y gallant gadw eu ffermydd i fynd ac, wrth gwrs, amddiffyn lles eu hanifeiliaid?

Mae i Arolygiaeth yr RSPCA dderbyn statws statudol yn rhywbeth yr wyf yn gefnogol iawn iddo, ond, wrth gwrs, cyhoeddwyd adroddiad Wooler, fel y dywedwch, bedair blynedd yn ôl, felly tybed am faint yn rhagor y mae angen inni aros. Efallai y gallech ddweud wrthym mewn ymateb pryd yr ydych yn gobeithio cymryd camau pendant ar hyn.

Yn yr un modd gyda chŵn peryglus, rydym wedi bod yn siarad am hyn am flynyddoedd lawer. Cofiaf chwech neu saith mlynedd yn ôl pan ymunais â chi i gydnabod y bobl yr ydych yn eu henwi yn eich datganiad, a gallaf gofio digwyddiadau yn galw am weithredu yn y cyswllt hwn chwe, saith mlynedd yn ôl, fel y dywedais. Ac rydyn ni'n dal i aros, ac rydych chi'n eithaf angerddol yn adran hon o'ch datganiad:

'Ein dinasyddion ni, ein hanifeiliaid ni, yr effeithiau ar ein hiechyd ni a thrawma sy'n newid ein bywydau ni yw'r rhain.'

Felly, rydych yn ysgrifennu llythyr.

'Rwy'n gohebu â Llywodraeth y DU'. 

Rydych yn dweud yn y frawddeg flaenorol bod agweddau ar hyn wedi'u datganoli, felly pam nad ydym yn bwrw ymlaen ac yn gwneud rhywbeth? Hoffwn glywed bod ychydig o frys, oherwydd nid wyf eisiau bod yma unwaith eto mewn saith mlynedd arall yn sôn am hyn.

Ynghylch stynio anifeiliaid cyn eu lladd, yn amlwg bydd cyfle yfory i ymhelaethu ar rywfaint o hyn mewn dadl yn y Cynulliad hwn. Ond hoffwn ofyn a fyddai labelu manwl ar fwyd lle na chafodd yr anifail ei stynio yn amlwg yn un ffordd o sicrhau o leiaf y gall y defnyddiwr wneud dewis sy'n seiliedig ar wybodaeth.

Y codau ymarfer er lles ceffylau a'r un ar gyfer cŵn a gyhoeddwyd ddoe, rydym yn croesawu'r rheini. Wrth gwrs fe'u haddawyd inni cyn yr haf. Efallai y gallech egluro pam yr oedi. Cyfraith Lucy: yn yr un modd, byddwn yn annog y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hyn. Efallai y gallech gadarnhau a yw'n fwriad gennych i wneud yn siŵr bod deddfwriaeth ar hynny yn y Cynulliad hwn o leiaf.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, dau fater nad ydynt mewn gwirionedd yn y datganiad. Ar 17 Mehefin, dywedasoch y byddech yn ymchwilio i'r angen am godau ymarfer newydd ar brimatiaid ac anifeiliaid anwes egsotig eraill. Nid oes unrhyw sôn am hynny yn y datganiad. Tybed a allwch chi roi diweddariad inni ac a allwch chi ddweud wrthym ai cod ymarfer newydd sydd ei angen mewn gwirionedd, wrth ystyried efallai y byddai rhai ohonom o blaid gwaharddiad llwyr. Felly efallai y gallech ddweud wrthym beth yw'r sefyllfa yn hynny o beth.

Yn olaf, nid oes cyfeiriad o gwbl yn y datganiad hwn at filfeddygon, ac wrth gwrs o gofio'r pryderon ynghylch digonolrwydd y gweithlu ar ôl Brexit, ar gyfer anifeiliaid mawr ac anifeiliaid bach, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd— gwn eich bod yn gweithio ar hyn, ond mae angen inni wybod bod gweithlu digonol yma fel nad ydym yn syrthio'n ôl ar ôl Brexit ac yn methu â gweithredu llawer o'r dyheadau sydd yn y datganiad hwn.

17:00

A gaf i ddiolch i Llyr am ei restr o gwestiynau? Mae'n faes cyfrifoldeb mawr iawn yn fy mhortffolio i, ac mae'n anodd iawn ei leoli'n fanwl. Ceisiais gael datganiad efallai ar anifeiliaid fferm, er enghraifft, neu anifeiliaid anwes, ond roeddem yn credu y byddai'n well ei gael ychydig yn fwy cyffredinol.

Rydych yn gofyn am y £0.5 miliwn y cyfeiriais ato yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, yr ydym wedi'i roi i elusennau amaethyddol, ac wrth gwrs nid yw hyn yn golygu ein bod eisiau gweld ein ffermwyr yn dibynnu ar elusen. Fodd bynnag, roedd yn amlwg iawn i mi, yn sicr dros yr haf yn y Sioe Frenhinol ac yn y sioeau amaethyddol pan gawsom y tywydd sych a phan gawsom yr uwchgynhadledd tywydd sych yn Sioe Frenhinol Cymru, o ran anwadalwch y tywydd, yn anffodus nid yw llawer o'n busnesau ffermio yn gydnerth nac yn gynaliadwy yn y ffordd y byddem yn dymuno. Ac fel y gwyddoch—yn amlwg cyfeiriasoch at gynllun y taliad sylfaenol yn cael ei ddisodli gan gynlluniau sydd yn yr ymgynghoriad, ac nid wyf eisiau achub y blaen ar yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ychydig wythnosau'n unig yn ôl—un o'r rhesymau pam yr ydym yn ceisio cael cynllun newydd yw oherwydd nad ydym yn credu bod y cynllun taliad sylfaenol wedi galluogi ein sector amaethyddiaeth i gael y cydnerthedd hwnnw a'r cynaliadwyedd hwnnw sydd ei angen pan fyddwn yn cael y tywydd digyffelyb a gawsom eleni. Unwaith eto, ffermwyr, nid wyf yn dweud na fydd cymorth ar gyfer ffermwyr. Rwyf am wneud hynny'n glir iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gael y cyfle unwaith eto. Rydym wedi dweud ein bod eisiau disodli cynllun y taliad uniongyrchol. Fodd bynnag, bydd y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus, y bu ichi gyfeirio atynt, a bydd pob ffermwr yn gallu gwneud cais am y ddau gynllun hynny.

Rydych yn siarad am yr RSPCA a statws statudol, a chroesawaf eich cefnogaeth i hynny. Rwy'n sicr yn edrych yn ofalus iawn ar hynny. Soniais fod yr RSPCA yn gwneud darn o waith. Maent wedi cyflogi person i wneud hynny, cefais drafodaeth yr wythnos diwethaf gyda'r RSPCA ac rwy'n gobeithio gallu gwneud mwy o benderfyniad a chyhoeddiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Soniasoch am gŵn peryglus ac, fel y dywedais, mae llawer o ddeddfwriaeth heb ei datganoli; mae wedi'i neilltuo. Yn ddiddorol, ar ddau achlysur pan wyf wedi bod allan gyda thîm troseddau gwledig y Gogledd, yn amlwg nid ydynt yn credu bod deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn addas i'r diben. Felly, nid dim ond gohebu yr wyf i. Rwy'n gohebu â Llywodraeth y DU, rwyf wedi cael cyfarfodydd ar sawl lefel ynghylch y ddeddfwriaeth, yn enwedig mewn perthynas â chŵn peryglus, ond hefyd y cyfarfodydd a gefais gyda Julie Morgan ac eraill i edrych ar y pwerau sydd gennym. Felly, er enghraifft, a oes gennym y pwerau i edrych ar hysbysiadau cosb benodedig? A oes gennym y pwerau i edrych ar drwyddedu? Felly dyna ddarn mawr o waith ac rwyf wedi ymrwymo i fynd â hyn ymlaen mor gyflym â phosibl gyda Julie Morgan.

Gofynasoch pam y gohiriwyd y codau ymarfer. Wel, credaf fod un gair am hynny sef 'Brexit'. Gyda'r nifer o offerynnau statudol sy'n dod drwodd, maent wedi gorfod cael blaenoriaeth dros yr haf. Mae'n debyg fy mod yn clirio nifer o offerynnau statudol bob wythnos ar hyn o bryd—mae'n ddarn enfawr o waith. Ond rhaid inni wneud yn siŵr bod llyfr statud yno ar 30 Mawrth. Felly, mae hynny'n cael blaenoriaeth. Felly, rydych yn iawn, rydym yn edrych—. Rwyf wedi addo edrych ar eraill: primatiaid, anifeiliaid anwes egsotig—a oes angen inni edrych ar waharddiad? Ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn hapus i'w wneud.

Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am filfeddygon. Yn amlwg, mae gennym nifer uchel iawn o filfeddygon sydd yn wladolion yr UE. Felly, mae'n bwysig iawn pan fyddaf yn cael fy nhrafodaethau gyda DEFRA—ac mae gennym y cyfarfod pedair ochrog nesaf â'r Gweinidogion ddydd Llun yma yng Nghaerdydd—y byddwn yn ei gwneud yn amlwg i Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw'r sector hwn i ni. Ac rwyf wedi gwneud hynny dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar hyn o bryd, credwn fod y gweithlu gennym, ond, yn amlwg, ymhellach i lawr y lein, credaf y gallai fod anawsterau.

17:05

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac rwy'n falch iawn ei bod wedi neilltuo amser i gyfarfod â'r Cynghorydd Dilwar Ali a Dave Joyce o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu gyda mi. Fel y gŵyr hi, mae fy etholwr, Dilwar Ali, yn cymryd rhan yn yr ymgyrch hon am gŵn peryglus oherwydd ymosodwyd ar ei fab ifanc gan gi pan oedd yn ei ardd gefn yn 2011, ac mae hynny wedi ei adael â chreithiau am oes. Credaf ei bod yn wir i ddweud ein bod wedi bod yn ymgyrchu ers yr amser hwnnw er lles cŵn, mewn gwirionedd, ac i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau gan gŵn peryglus.

Mae rhywfaint o'r wybodaeth a gyflwynwyd i ni gan Dave Joyce wedi bod yn ofidus iawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio at rai anafiadau ofnadwy a ddioddefodd gweithwyr post. Ond tynnodd ein sylw at y ffaith bod nifer yr ymosodiadau mewn gwirionedd yn cynyddu yng Nghymru, ac roedd cyfanswm o 167 o weithwyr post wedi dioddef o ymosodiadau gan gŵn yn 2017-18, ac mae hyn yn gynnydd o 22 y cant. Felly, tybed a oedd gan Ysgrifennydd Cabinet unrhyw sylwadau am y cynnydd amlwg, eithaf mawr hwn yn nifer yr ymosodiadau.

Crybwyllwyd eisoes bod Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych i weld a oes unrhyw bwerau pellach y gellir eu defnyddio. Rwy'n cymeradwyo'r ffaith ei bod yn gwneud hynny, oherwydd rwy'n credu bod llawer o bethau y gellid eu gwneud mewn ffordd ataliol i geisio atal yr ymosodiadau ofnadwy hyn. Rydym wedi trafod, yma yn y Siambr, hysbysiadau rheoli cŵn ac rydym wedi trafod trwyddedu a'r holl faterion eraill hyn, ond mae'n bwysig inni gael syniad clir o'r hyn y gallwn ei wneud a'r hyn na allwn ei wneud. Felly, edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar hynny pan fydd hi'n barod.

A hoffwn yn olaf, wneud sylw ar gyfraith Lucy. Rwy'n falch iawn y bydd ymgynghori ar gyfraith Lucy, oherwydd credaf ei fod yn fater o bwys hanfodol nad ydym yn caniatáu i gŵn bach a chŵn ac anifeiliaid eraill ddioddef yn y modd y gwyddom sy'n digwydd.

Diolch i chi, Julie, a hoffwn dalu teyrnged i'r Cynghorydd Dilwar Ali. Mae'r ymgyrch hon ganddo ef, fel y dywedwch, yn dod ar ôl i aelod o'r teulu gael anafiadau yn dilyn ymosodiad gan gi sydd wedi newid ei fywyd, ac rwy'n siŵr, pan fydd yn eistedd yn y cyfarfodydd hynny gyda ni, rhaid ei fod hyd yn oed yn fwy gofidus iddo ef. Ond, rydych yn llygad eich lle, credaf mai dim ond yr wythnos diwethaf y cawsom gyfarfod eto ac, yn sicr, roedd yr wybodaeth a gyflwynwyd gan Dave Joyce o'r CWU am nifer yr ymosodiadau yn peri pryder. Mae'r ffaith yr ymosodwyd ar gant chwe deg saith o bobl wrth wneud eu gwaith bob dydd yn gwbl annerbyniol, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf i weithio gyda'r tri ohonoch i weithredu ar y mater hwn. Credaf fod yn rhaid inni dderbyn bod y mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol—yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif. Credaf, yn amlwg, mai Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf i gyflwyno microsglodion gorfodol ar gŵn. Yng Nghymru mae gennym ein rheoliadau bridio sy'n dweud y dylai cŵn gael eu cymdeithasoli cyn belled ag y gallant fod cyn iddynt adael y bridiwr. Credaf fod hynny'n cael effaith barhaol ar ymddygiad y ci yn ddiweddarach mewn bywyd. Byddaf yn crybwyll bod elfennau o'r Ddeddf Cŵn Peryglus sydd heb eu datganoli, ond rwyf wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r diffygion, fel y gwêl Dave Joyce.

Mewn cysylltiad â chyfraith Lucy, mae'n ddrwg gennyf, wnes i ddim ateb cwestiwn Llyr ynghylch a fyddwn yn gwneud hynny yn y tymor hwn o'r Cynulliad. Yn amlwg, byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad ym mis Ionawr ac yna bydd yn fater o chwilio am slot yn y rhaglen ddeddfwriaethol lawn iawn, ond yn sicr hoffwn i wneud hynny. Credaf ei fod yn rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn awyddus iawn i'w wneud. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio ar y cyd ar y materion hyn ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r tîm troseddu gwledig yn y Gogledd. Credaf fod rhai o'r syniadau sydd ganddynt ynghylch yr agenda hon yn ddefnyddiol iawn i mi. Credaf fod angen i Lywodraeth y DU edrych ar y ddeddfwriaeth honno i wneud yn siŵr ei bod yn addas i'r diben ac yn sicr, ar hyn o bryd, ni chredaf hynny.

17:10

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'r camau a gymerwyd gennych i wella lles anifeiliaid yng Nghymru. Rwyf innau hefyd yn cefnogi cyflwyno cyfraith Lucy ac edrychaf ymlaen at ddeddfwriaeth i wahardd ffermio cŵn bach a chathod bach. Ysgrifennydd Cabinet, pryd ydych chi'n disgwyl cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd a nodwyd gan yr ymgynghoriad?

Ysgrifennydd y Cabinet, mae grŵp o filfeddygon wedi cyhuddo DEFRA a Gweinidogion Llywodraeth y DU o ddweud celwydd noeth am effeithiolrwydd difa moch daear yn Lloegr. Dywed y milfeddygon nad oedd yr hawliadau bod y difa yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw yn gweithio yn seiliedig ar unrhyw dystiolaeth wyddonol. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych unrhyw gynlluniau i roi'r gorau i ddifa moch daear yng Nghymru, yn seiliedig ar y datblygiadau newydd hyn?

Mae adolygiad gwyddonol annibynnol o strategaeth DEFRA i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg, a ryddhawyd heddiw, wedi canfod y gallai difa leihau rhwng 12 ac 16 y cant o achosion newydd mewn gwartheg. Ond er mwyn cyflawni hyn byddai'n rhaid lladd mwy na 70 y cant o foch daear. Ysgrifennydd y Cabinet, mae awduron yr adroddiad yn argymell rheolaethau nad ydynt yn angheuol megis brechu. A ydych yn cytuno bod hyn yn llawer gwell na bod ein poblogaeth moch daear yn agos at gael eu dileu yn llwyr?

Gan symud oddi wrth fywyd gwyllt ac ymlaen at anifeiliaid domestig, rhoddir pwysau ar Lywodraeth y DU i ymgynghori ar wahardd gwerthu tân gwyllt. O ystyried yr effaith a gaiff tân gwyllt ar anifeiliaid domestig, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, a oes cynlluniau gan eich Llywodraeth i ymgynghori ynghylch cyfyngu ar werthiant tân gwyllt a chaniatáu arddangosfeydd tân gwyllt wedi'u trefnu yn unig?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y ffaith eich bod bellach yn warcheidwad gwrthfiotig. Mae'r bygythiad a wynebwn gan ymwrthedd gwrthficrobaidd nid yn unig yn bygwth ein hanifeiliaid fferm a'n hanifeiliaid anwes, ond hefyd yn achosi perygl i iechyd dynol. Ysgrifennydd Cabinet, ar wahân i bledio'r achos, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth? Diolch. Diolch yn fawr.

Diolch i chi, Caroline Jones. Mewn cysylltiad â chyfraith Lucy, credaf y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud y byddwn yn cael ymgynghoriad ym mis Ionawr ac yna, gan ddibynnu ar beth sy'n cael ei ddwyn ymlaen o'r ymgynghoriad, byddaf yn edrych ar slot yn y rhaglen ddeddfwriaethol dros y ddwy flynedd nesaf.

Mewn cysylltiad â'r adroddiad y siaradodd Caroline Jones amdano gyda Gweinidogion DEFRA a difa moch daear, credaf fod dau bwynt pwysig. Un yw nad wyf yma i amddiffyn polisi Llywodraeth y DU ar ddifa moch daear. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn y byddwn yn diystyru dull difa fel un Lloegr yma yng Nghymru ers y diwrnod yr wyf wedi bod yn y portffolio, ac nid oes difa moch daear yma yng Nghymru. Yr hyn sydd gennym yw rhaglen o ddileu TB ar ei newydd wedd a gyflwynais ym mis Hydref y llynedd. Rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno'r newyddion diweddaraf ar sut y mae'r rhaglen yn gweithio, mae'n debyg tua mis Ebrill y flwyddyn nesaf, pan fyddwn yn gallu adrodd ar ddata blwyddyn lawn.

Credaf fod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, sef cael cynllun gweithredu pwrpasol ar y ffermydd hynny lle ceir problemau sylweddol a hynny ers blynyddoedd lawer, mae'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hynny i gyd yn cael eu cynnal wrth inni siarad. Byddwch yn ymwybodol, mae'n siŵr, fod gennym bolisi brechu mewn perthynas â TB ac yn anffodus doedd y brechiad ddim ar gael ar gyfer y bumed flwyddyn. Ond mae gennym rai ardaloedd peilot lle'r ydym wedi defnyddio brechiadau dros y misoedd diwethaf.

Mewn cysylltiad â gwahardd tân gwyllt, byddai hynny'n fater i Lywodraeth y DU, ond byddai'n ddiddorol iawn gweld unrhyw beth y maent yn ei ddwyn ymlaen.

Ac, fel y dywedais, rwy'n warcheidwad gwrthfiotig heddiw a byddwn yn annog fy nghyd-Aelodau i wneud hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r sector amaethyddol i sicrhau nad oes gorddefnydd o wrthfiotigau. Ac yn sicr mae'r gwaith a wnaethom mewn cysylltiad ag adwaith gwrthficrobaidd yn bwysig iawn, ac mae hynny wedi bod yn ddarn sylweddol o waith.

17:15
7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Cyflenwi ar gyfer y Gaeaf

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynlluniau cyflenwi ar gyfer y gaeaf, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi diweddariad i'r Aelodau ynglŷn â sut y mae GIG Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn cynllunio i ddarparu gwasanaethau cydnerth ar gyfer y gaeaf. Roedd y gaeaf diwethaf yn un o'r anoddaf y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi'i wynebu ers nifer o flynyddoedd a gwelwyd heriau cynyddol ar gyfer ein staff rheng flaen. Nid oedd hyn, fodd bynnag, yn unigryw i Gymru gan y rhoddwyd gwasanaethau iechyd ar draws y DU o dan straen aruthrol. Roedd eira sylweddol, amodau rhewllyd, cynnydd yn y galw am wasanaethau meddygon teulu a gofal brys, cynnydd yn y derbyniadau i ysbytai ar gyfer pobl hŷn sydd â chyflyrau cymhleth, a'r nifer fwyaf o achosion o'r ffliw ers pandemig 2009 yn golygu bod ein GIG a'n system gofal cymdeithasol dan bwysau digynsail. Er gwaethaf y pwysau hyn, fe wnaeth y rhan fwyaf o bobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gaeaf diwethaf dderbyn gofal prydlon a diogel. Mae hyn yn deyrnged i'r miloedd o staff ymroddedig sy'n aml yn gweithio mewn amgylchiadau anodd, yn aml yn mynd y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol ohonynt i ddarparu gofal tosturiol a phroffesiynol.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol y cyhoeddwyd gwerthusiad o gydnerthedd iechyd a gofal cymdeithasol dros y gaeaf diwethaf yn ddiweddar. Gan fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o'r gwerthusiad hwn, cydnabuwyd bod angen mynd ati drwy gynnwys y system gyfan mewn modd cydgysylltiedig a chydweithredol yn hanfodol. Awgrymodd hefyd y byddai blaenoriaethu cyflawni nifer fach o feysydd mewn modd penodol cyn y gaeaf hwn yn cefnogi gwell rheolaeth o'r ymchwydd mewn galw a newidiadau ym mhatrymau'r galw.

Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig ar 25 Hydref, mae fy swyddogion wedi gweithio gydag arweinwyr clinigol cenedlaethol, arweinwyr o sefydliadau GIG Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu pum blaenoriaeth cyflawni ar gyfer y gaeaf hwn. Bydd y rhain yn cynyddu'r pwyslais ar reoli cleifion yn y gymuned, yn sicrhau bod dulliau rheoli â phwyslais clinigol mewn ysbytai i reoli risg a chynnydd yn y galw, ac i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref o'r ysbyty pan fyddant yn barod.

Er ein bod yn cydnabod bod pwysau ar y system iechyd a gofal yn realiti drwy gydol y flwyddyn, mae cynllunio ar gyfer y gaeaf yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig ar gyfer ein system iechyd a gofal a'n hasiantaethau cenedlaethol. Mae'r paratoadau ar gyfer y gaeaf hwn wedi bod ar waith trwy Gymru ac ar draws ffiniau sefydliadol ers y gaeaf diwethaf. Mae byrddau iechyd lleol, gwasanaeth ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi bod yn gweithio dros y misoedd diwethaf i ddatblygu a chwblhau cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf ar gyfer eu cymunedau iechyd a gofal, sy'n cyd-fynd â'r pum blaenoriaeth hynny.

Rydym ni wedi cael cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf gan bob bwrdd iechyd ac mae fy swyddogion i, uned gyflawni GIG Cymru a'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu wedi craffu arnyn nhw. Darparwyd adborth i helpu i wella eu cynlluniau cyn y gaeaf. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi datblygu cynllun cenedlaethol a ystyriwyd ac y cytunwyd arno gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd.

Mae'r cynlluniau lleol yn cynnwys pwyslais ychwanegol ar ddarparu cyngor dros y ffôn i bobl ag anghenion gofal brys, sicrhau bod gwasanaethau yn y gymuned ar gael yn amlach gyda'r nos a dros y penwythnosau, a gweithio ar y cyd gyda'r trydydd sector i gynorthwyo pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod.

I gefnogi'r cynlluniau cyflawni, cyhoeddais becyn £20 miliwn ar gyfer y GIG a phartneriaid gofal cymdeithasol yng Nghymru cyn y gaeaf hwn. Gan ddysgu o flynyddoedd blaenorol, fe wnes i'r penderfyniad i ddyrannu'r arian hwn yn gynharach eleni i sicrhau bod timau iechyd a gofal lleol mor barod ag y gallan nhw fod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod. Mae'r cyllid hwn, wrth gwrs, ar ben y £5 miliwn a gyhoeddais ar 17 Hydref i helpu i leihau'r pwysau ar unedau gofal critigol a'r £10 miliwn a gyhoeddais ar 22 Hydref i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy trwy'r gaeaf hwn. Bydd yn helpu pobl i gael gofal yn nes at y cartref, yn sicrhau bod digon o gapasiti ar gael mewn ysbytai ac yn helpu pobl i adael yr ysbyty a mynd adref pan fyddan nhw'n barod. Dyrennir 16 miliwn o bunnoedd o'r pecyn gwerth £20 miliwn hwnnw yn uniongyrchol i'r byrddau iechyd lleol i helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu sy'n rhan o'u cynlluniau, ochr yn ochr â'u partneriaid yn y gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol a'r trydydd sector.

Rwy'n disgwyl i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio i gefnogi byrddau iechyd i gyflawni'r cerrig milltir a nodwyd ar gyfer y gaeaf hwn, yn rhan o fabwysiadu ac addasu'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru. Bydd cyflawni'r cerrig milltir hyn yn cael ei fonitro drwy gyfarfodydd misol â chyfarwyddwyr gofal sylfaenol a chymunedol. Rydym ni wedi nodi ein disgwyliadau yn glîr wrth y byrddau iechyd bod yn rhaid defnyddio'r arian hwn i helpu i gyflawni'r camau gweithredu a amlinellwyd yn eu cynlluniau integredig ar gyfer y gaeaf, ac, unwaith eto, caiff hynny ei werthuso yn rhan o adolygiad arall o wrthsefyll pwysau'r gaeaf ar ôl i'r gaeaf hwn ddod i ben.

Bydd y £4 miliwn sy'n weddill o'r pecyn £20 miliwn yn ariannu blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y gaeaf, ac mae'r rhain yn cynnwys cynyddu capasiti adrannau achosion brys i gefnogi llif cleifion, pedwar prosiect gwasanaeth ambiwlans Cymru hynod effeithiol i reoli galw cleifion yn y gymuned, a dau gynllun arbrofol i ymestyn y gallu i gael gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

Bydd GIG Cymru yn gweithio'n agosach gyda'r trydydd sector dros y gaeaf hefyd. Er enghraifft, bydd byrddau iechyd lleol yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig i gynorthwyo cleifion a staff mewn adrannau achosion brys, ac i gludo cleifion perthnasol gartref, gan eu helpu i ailymgartrefu ac ailgysylltu â gwasanaethau cymunedol. Bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru hefyd yn gweithio gyda St John Cymru i gyflwyno ar raddfa fwy prosiect a dreialwyd yn ne Cymru y gaeaf diwethaf, i gyflwyno gwasanaeth penodol ar gyfer codymau, ac fe wnes i amlinellu hyn yn fy natganiad yr wythnos diwethaf am yr adolygiad o achosion oren. Bydd hyn yn helpu i osgoi anfon adnoddau ambiwlans brys hanfodol at bobl a all gael eu hailymgartrefu yn ddiogel heb ymyrraeth glinigol.

Rydym ni wedi gofyn i fyrddau iechyd lunio cynlluniau gweithredol ar gyfer y cyfnod 18 diwrnod hollbwysig rhwng 21 Rhagfyr a 6 Ionawr. Mae hynny i gydnabod yr heriau penodol y mae'r cyfnod hwn yn ei achosi oherwydd nifer y gwyliau banc. Mae ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf hwn a lansiwyd gennyf yn ddiweddar yn rhoi mwy o bwyslais ar swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol a'r ystod eang o wasanaethau eraill sydd ar gael yn y gymuned. Maen nhw'n aml yn agosach at gartrefi pobl ac ar gael ar adegau mwy cyfleus ar gyfer amrywiaeth o bobl gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Roeddwn yn falch o lansio yr ymgyrch flynyddol Curwch Ffliw ar 3 Hydref, ac fe gefais i fy mhigiad ffliw mewn fferyllfa gymunedol yng Nghwmbrân. Mae'r ymgyrch Curwch Ffliw yn annog pawb sy'n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim er mwyn eu diogelu. Eleni, bydd y brechlyn ar gael yn fwy eang nag erioed o'r blaen, gan gynnwys staff yn y sector gofal cymdeithasol, wedi'i dalu gan y gwasanaeth iechyd gwladol.

Ond nid oes unrhyw reswm i feddwl y bydd y gaeaf hwn unrhyw faint yn llai heriol na rhai'r blynyddoedd blaenorol ac, unwaith eto, byddwn yn dibynnu ar ymroddiad ein staff ar yr adegau mwyaf eithafol o bwysau. Fodd bynnag, mae'r cynlluniau sydd gennym ni ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn dod o bartneriaeth rhwng ein GIG, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r Llywodraeth. Dylai'r cyfuniad o gynlluniau lleol a chenedlaethol ddarparu mwy o gydnerthedd yn erbyn y pwysau anochel a ddaw dros fisoedd y gaeaf. Fel erioed, ein nod ni, a nod ein staff ymroddedig, yw gwneud yn siŵr bod cleifion yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnynt, pan fo'i angen a lle y mae ei angen.

17:20

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Un o'r pethau sy'n dueddol o fod yn nodwedd amlwg o fisoedd y gaeaf yw pwysau'r gaeaf ar y GIG ac, yn amlwg, dros gyfnod y Nadolig, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad. Gyda'r gwyliau banc ac yn y blaen, mae'n amser rheoli arbennig o anodd ar gyfer y GIG, ac rydym ni yn talu teyrnged i waith staff y GIG drwy'r ystad gyfan, oherwydd mae angen i bawb o fewn yr ystad honno weithio, yn ogystal â'r sector gwirfoddol, i ymdopi â'r heriau hynny.

Fe wnaf i ymdrin ag ychydig o bwyntiau o'r datganiad, yn arbennig ynghylch y capasiti. Fe allwch chi siarad am yr arian ychwanegol yr ydych chi wedi i roi, sydd i'w groesawu'n fawr, ond a yw hwnnw'n arian ychwanegol sy'n prynu capasiti ychwanegol, mewn gwelyau ysbyty a'r gallu i ddefnyddio meddygfeydd teulu a lleoliadau gofal sylfaenol, yn benodol? Yn y datganiad rydych chi'n sôn am gynyddu'r gallu i gael gwasanaethau yn y gymuned gyda'r nos ac ar benwythnosau. Wel, pe baech chi'n siarad â'r rhan fwyaf o bobl, maen nhw'n cael trafferthion drwy'r amser yn ceisio cael apwyntiadau gyda'r nos yn y sector meddygon teulu, er enghraifft. Felly, pa gapasiti ychwanegol fydd yr adnodd yr ydych chi'n sôn amdano yn ei brynu dros y misoedd nesaf hyn sydd i ddod er mwyn i hynny drin cleifion, mewn gwirionedd, yn y lleoliad gorau, sef yn y gymuned ei hun?

Yma yng Nghaerdydd, er enghraifft, dros gyfnod y Nadolig y llynedd, cafwyd cyfnod o amser pan nad oedd unrhyw ddarpariaeth meddyg teulu y tu allan i oriau o gwbl gan nad oedd y bwrdd iechyd wedi gallu denu unrhyw feddygon teulu i lenwi'r slotiau hynny yn y rota. A allwch chi roi ymrwymiad heddiw na fydd y sefyllfa honno yn digwydd y gaeaf hwn, o ystyried y parodrwydd yr ydych chi wedi'i nodi yn eich datganiad y prynhawn yma? Yn benodol, a chodais hyn gydag arweinydd y tŷ, a wnewch chi sôn am lefelau staffio yn y GIG, yn arbennig yn y gwasanaethau mamolaeth? Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn mynd i ddod yn ôl i'r Siambr i roi gwybod inni am lefelau staffio yn y gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru yng ngoleuni'r sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a niferoedd y staff yn y fan honno. Os gallech chi ddefnyddio, efallai, y datganiad hwn i roi sicrwydd inni fod eich swyddogion bellach wedi bodloni eu hunain a chadarnhau i chi bod niferoedd y staff yn gadarn yn y gwasanaethau y bydd galw arnynt dros fisoedd y gaeaf; rwy'n credu y byddem ni'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.

Y brechiad rhag y ffliw—yn amlwg mae yna ymgyrch eang ynghylch y brechlyn ffliw ar hyd a lled Cymru. Dim ond y bore yma roeddwn yn clywed am broblemau yn y gogledd yn benodol, lle mae'n ymddangos bod yna brinder, yn sicr mewn rhai meddygfeydd teulu, ac nid yw cleifion yn gallu cael y brechiad mewn gwirionedd pan fyddan nhw'n dod i gael y brechiad hwnnw. A allwch chi gadarnhau a ydych chi'n ymwybodol o achosion o'r fath lle mae cleifion wedi eu troi ymaith pan fyddant yn dod i gael y brechiad, ac, os nad yw hynny wedi digwydd, a allwch chi roi sicrwydd, os yw etholwyr yn dymuno cael y brechlyn ffliw, bod digonedd o gyflenwad yma yng Nghymru i'r rhaglen honno gyflawni'r amcanion yr ydym ni eisiau iddi eu cyflawni mewn gwirionedd?

Yn amlwg, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig hefyd yw canolbwyntio ar ystad ehangach y GIG. Nid oes llawer o ddiben, neu ddim diben o gwbl, bod yr ysbyty ei hun yn gweithio os yw'r meysydd parcio, er enghraifft, neu'r ffyrdd i mewn i'r meysydd parcio, wedi'u rhwystro. Yn aml iawn, dyma'r pethau sy'n tueddu i gael eu hesgeuluso. Gallaf gofio yn Ysbyty Llandochau, ryw ddwy flynedd yn ôl, roedd yr ysbyty ei hun yn gweithredu'n dda iawn ond oherwydd bod y meysydd parcio dan rew ac eira, yn y bôn, nid oedden nhw'n gallu cael unrhyw gleifion i mewn na staff i gynorthwyo yn y newid shifftiau yr oedd ei angen. Felly, pan fo'r ysbytai a'r byrddau iechyd yn edrych ar eu hystad, dylen nhw edrych ar yr ystad gyfan a'r modd y mae'r ystad hwnnw yn gweithredu fel nad ydym ni'n cael y math hwnnw o anghysondeb yn digwydd eto sy'n rhoi gormod o bwysau ar amgylchedd yr ysbyty ei hun.

Fe wnaethoch chi grybwyll hefyd yn eich datganiad y cynnydd mewn cyfleusterau cymunedol a fydd ar gael. A wnewch chi egluro pa gynnydd yr ydych chi'n bwriadu ei greu y gaeaf hwn nad oedd ar gael y gaeaf diwethaf yn y gymuned, fel bod cleifion yn gwybod lle y mae angen iddyn nhw fynd? Mae'n bwysig, fel y gwnaethoch chi ei nodi yn gwbl briodol yn eich datganiad, dweud bod hwn yn rhywbeth y mae angen i sawl asiantaeth gydweithio arno, y sector gwirfoddol, yr awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd ei hun. Os bydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd, yna gallwn gael hyder yn y cynlluniau yr ydych chi wedi'u hamlinellu heddiw. Ond yr hyn a welsom ni y gaeaf diwethaf oedd chwalfa yn y gwasanaeth, yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o bobl ar hyd a lled Cymru. Rwyf yn cyfeirio at y pwynt penodol hwnnw y cyfeiriais ato, lle, yng Nghaerdydd er enghraifft, nad oedd darpariaeth y tu allan i oriau o gwbl ac felly nid yw hynny ond yn gadael yr adran ddamweiniau ac achosion brys i ddwyn y baich am y galw ychwanegol hwnnw sy'n cyrraedd wrth ddrysau yr ysbyty, sy'n rhoi pwysau ar yr ysbyty ei hun, a'r pwysau hynny yn gwasgu ar y gwasanaeth. Felly, a allwch chi roi yr ymrwymiad inni y bydd y capasiti yn y gymuned? Allwch chi roi'r ymrwymiad inni fod gan y byrddau iechyd y lefelau staffio sydd eu hangen arnynt, ac, yn anad dim, pa fentrau newydd y byddwch chi'n eu cyflwyno lle'r ydych chi wedi dysgu gwersi o'r gaeaf diwethaf?

17:25

Diolch i chi am yr amrywiaeth eang o gwestiynau. Roedd rhai o'ch pwyntiau ehangach ynghylch capasiti ar draws y system—fe wnaethoch chi ddechrau a therfynnu ar y pwyntiau hynny. O ran y capasiti gwelyau sy'n rhan o'r system, ac nid dim ond yn lleoliad yr ysbyty, ond y gallu i ymestyn capasiti gwelyau, mae angen staff ar gyfer hynny, a dyna'r ffactor sy'n cyfyngu fwyaf, yn hytrach na'r gwelyau eu hun a'r lle ar eu cyfer. Ond mae yna hefyd welyau mewn gwahanol rannau o'r system, felly mae canolbwyntio ar welyau ailalluogi, i gael pobl allan o'r ysbyty os oes angen iddynt fod mewn lleoliad canolraddol cyn mynd yn ôl i'w cartrefi eu hunain, ble bynnag y bo, boed yn gartref preifat neu os ydyn nhw yn y sector gofal preswyl.

Mae bob amser capasiti i wneud gwell defnydd o gapasiti yn y sector fferyllol hefyd, ac amlinellais hyn yn y datganiad. Mae mwy o wasanaethau y gall fferyllfeydd eu darparu nag y mae llawer o bobl yn ymwybodol ohonynt. Rydym ni eisiau gwneud y defnydd gorau posibl o'r gwasanaeth hwnnw. Rwyf wedi amlinellu yn yr adolygiad achosion oren ac yn y datganiad heddiw, rai o'r lleoedd lle bydd y capasiti ychwanegol hwnnw—er enghraifft, mwy o glinigwyr ar gael i wasanaethu'r ddesg glinigol gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, lle mae llawer o'r galw yn mynd yn y pen draw ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a, lle mae'r gwasanaeth 111 wedi'i gyflwyno, mae mwy o gydnerthedd yn y gwasanaeth y tu allan i oriau ac nid dim ond pobl yn rhyngweithio â'r gwasanaeth ambiwlans brys hefyd. Felly, bydd gennym ni fwy o staff i helpu i wneud y gwaith hwnnw. Mae hynny'n rhannol yn dilyn ymlaen o'r datganiad yr wythnos diwethaf ar yr adolygiad o achosion oren. Heddiw, er enghraifft, rydych chi'n gwybod, ar draws y system, bod y cynllun treialu llwyddiannus o uwch ymarferwyr parafeddygol yn y gogledd yn cael ei gyflwyno drwy'r gwasanaeth. Felly, mae hynny'n gapasiti ychwanegol ond nid dim ond o ran niferoedd yn unig, ond y math o bobl sy'n defnyddio'r sgiliau hynny sydd gan yr uwch ymarferwyr parafeddygol hynny. Mae byrddau iechyd lleol wedi penderfynu gyda'u partneriaid awdurdod lleol lle yw'r man gorau i ddefnyddio sgiliau'r uwch ymarferwyr parafeddygon hynny. Felly, oes, mae mwy o staff yn mynd i fod yn ein system ac o'i hamgylch, ac rydym ni mewn gwirionedd yn ceisio dysgu gwersi o'r gaeaf diwethaf. Dylai fod yn gadarnhaol bod y dysgu gwersi hynny yn digwydd rhwng staff proffesiynol ac arweinwyr staff, felly nid wyf yn cael fy nhynnu i mewn i'r manylion gweithredol hynny oherwydd, mewn gwirionedd, nid dyna lle y dylai gwleidydd fod. Mae'n ymwneud â'r sicrwydd yr ydym yn ei roi iddynt gyda'r adnoddau y mae eu hangen arnynt er mwyn ymdrin â'r capasiti a lle mae angen y capasiti hwnnw arnyn nhw er mwyn ceisio cyflawni system fwy cydnerth drwy'r gaeaf hwn.

Ond byddai'n ffôl i unrhyw Weinidog iechyd mewn unrhyw Lywodraeth geisio rhoi sicrwydd llwyr na fydd y system yn dod o dan bwysau neu straen yn ystod y gaeaf, ac mae hynny yn cynnwys ein gallu i ddarparu gwasanaethau y tu allan i oriau a sut y mae'r holl rannau o'r system yn cyd-addasu gyda'i gilydd. Dyna pam y mae angen inni wneud defnydd gwell o integreiddio'r system gyfan gyda'i gilydd, oherwydd fel arall rwy'n cydnabod bod y pwysau hynny yn mynd i wahanol feysydd. Dyna pam yr ydym ni'n bwriadu rhoi mwy o gapasiti yn ochr gofal cymdeithasol y system, oherwydd mae'n rhaid i ymroddiad ein staff fod ym mhob un o'r sectorau hynny. Os byddwn yn cael mwy o gleifion yn llifo drwy'r system gofal iechyd, fel y disgwyliwn ei wneud ac fel yr ydym ni eisiau ei wneud, mae hynny'n golygu y bydd pobl yn cyrraedd yn y sector gofal cymdeithasol yn gyflymach nag o'r blaen. Mae angen capasiti arnom ni yn y sector hwnnw, nid dim ond gwelyau ond staff i wneud eu gwaith hefyd.

Ynglŷn â rhai o'r pwyntiau penodol a wnaethoch chi, ar y cynlluniau gweithredu y mae byrddau iechyd yn eu cyflawni, rwy'n disgwyl iddynt gynwys yr ystad yn ein hysbytai fel y gall pobl, mewn gwirionedd, symud o amgylch yr ystad honno—mae hynny'n cynnwys y staff, y cleifion a'r ymwelwyr hefyd. O ran y sicrwydd ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth, rydym ni wedi cael sicrwydd, a byddaf yn rhoi nodyn ysgrifenedig i'r Aelodau gadarnhau y derbyniwyd y sicrwydd hwnnw ynghylch yr aelodau staff ar wasanaethau mamolaeth ledled y wlad.

Ac yna, ynglŷn â'r brechlyn ffliw, bu galw ychwanegol sylweddol i'w gynhyrchu eleni. Bob blwyddyn, mae sefydliadau iechyd cyhoeddus yn cytuno ar y mathau cywir o'r brechlyn ffliw i'w targedu. Mae brechlyn ychydig yn wahanol ar gael yn dibynnu ar y grwpiau oedran gwahanol ac effeithiolrwydd hwnnw. Cafodd y gwneuthurwr rai problemau cyflenwi byr dymor ar ddechrau'r tymor. Maen nhw'n cael eu datrys ac mae'r cyflenwadau yn cael eu rhyddhau ledled Cymru, Lloegr a gweddill y DU hefyd. Felly, os oes unrhyw un nad yw wedi cael brechiad rhag y ffliw sydd ei eisiau fe ddylen nhw gysylltu eto â'u meddyg teulu neu eu fferyllfa gymunedol lleol ac fe allan nhw roi gwybodaeth leol iddyn nhw ynglŷn â phryd i gael y pigiad a phryd y bydd ar gael yn rhwydd ym mhob ardal o'r wlad. Ond mewn gwirionedd rydym ni ar y blaen yn ein hymgyrch ffliw eleni.  Rydym ni'n disgwyl brechu mwy o'n staff a mwy o'r cyhoedd, ac rydym ni eisiau gwneud hynny, a dylai fod mwy o gyfleoedd i wneud hynny mewn gwahanol leoliadau o amgylch y wlad hefyd.

17:30

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Fe ddechreuaf gyda mater cyffredinol. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi yn gwbl briodol yn amlygu nifer o bwyntiau yn eich datganiad, y pwysau enfawr a fu ar staff. Credaf ichi ddweud mewn cyfweliad yn ddiweddar:

'Roedd y gaeaf diwethaf yn anodd iawn a chyfarfod â staff a oedd ar ben eu tennyn. Gan wybod eu bod yn ymrwymedig, a gwybod eu bod eisiau i chi wneud rhywbeth drostyn nhw. Weithiau gwrando yw hynny ac mae yna adegau pan fydd pobl yn dweud "Gallwch chi wneud hyn yn well i ni".'

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n ffyddiog y bydd y cynlluniau yr ydych chi wedi'u hamlinellu i ni heddiw yn lleihau'r pwysau ar staff? Ni all neb ddisgwyl i chi roi gwarant na fydd pwysau ychwanegol, oherwydd y mae yna bob tro yn ystod y gaeaf, ond a ydych chi'n ffyddiog y bydd yn lleihau'r pwysau ar staff gan olygu bod ychydig yn llai o bwysau arnyn nhw y gaeaf hwn? Mae'n rhaid imi ddweud bod fy mewnflwch a fy mag post yn awgrymu bod rhywfaint o amheuaeth ar lawr gwlad am faint sydd wedi newid, felly efallai y gallwch chi achub ar y cyfle y prynhawn yma i roi rhagor o sicrwydd i'r staff.

Gan droi at brif gynnwys eich datganiad, rydych chi'n sôn am flaenoriaethau cyflenwi y gaeaf sy'n canolbwyntio ar reoli cleifion yn eu cymunedau a sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd o'r ysbyty pan fyddant yn barod. Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o'r pryderon sydd wedi eu codi'n gyson gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol am y diffyg therapyddion galwedigaethol sydd ar gael i gymryd rhan yn y prosesau asesu pan fydd pobl yn barod i adael yr ysbyty ac i asesu eu cartrefi i wneud yn siŵr bod y cartrefi yn briodol i dderbyn y cleifion hynny sy'n dychwelyd adref. A fydd yr adnoddau cychwynnol yr ydych chi wedi eu cyhoeddi heddiw yn helpu i gynyddu capasiti therapi galwedigaethol lle y mae ei angen i hwyluso pobl i fynd adref o'r ysbyty cyn gynted â phosibl?

Ar y cynlluniau cyflawni ar gyfer y gaeaf, felly—ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch iawn o wybod eu bod ar waith—rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad at roi adborth i'r darparwyr gofal, i'r byrddau iechyd lleol, i wella'r cynlluniau hynny. A allwch chi rannu gyda ni ychydig mwy o'r pryderon a oedd gennych am y cynlluniau hynny, neu a oedd gan eich swyddogion, a pha gamau yr ydych chi'n disgwyl bod byrddau iechyd lleol wedi eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y ffaith nad yw materion gweithredol manwl yn fater i chi, ond o gofio eich bod wedi dweud y bu angen rhoi adborth iddyn nhw, credaf y byddai'n ddefnyddiol i ni wybod beth oedd yr adborth hwnnw er mwyn bod â sicrwydd bod hwnnw wedi ei dderbyn yn llwyr.

Fel Andrew R.T. Davies, rwy'n croesawu'r pecyn gwerth £20 miliwn. A wnewch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, a yw hwn yn gyllid newydd ar gyfer y gyllideb iechyd, neu a yw hwn yn arian sydd wedi'i symud o flaenoriaeth arall i'r flaenoriaeth hon, ac, os felly, o ble y symudwyd y cyllid hwnnw? Rwy'n sylweddoli ac yn gwerthfawrogi pa mor dynn iawn yw'r gyllideb ac rwyf, fel yr wyf wedi dweud, yn croesawu'r adnodd ychwanegol hwnnw, ond mae'n bwysig inni ddeall lle y gallai pwysau eraill godi os yw'r cyllid hwnnw wedi'i symud.

Byddwn yn croesawu'n fawr iawn y cyfeiriadau at rywfaint o'r gwaith cadarnhaol gyda'r trydydd sector, a hoffwn ichi ddweud wrthym y prynhawn yma beth yr ydych chi'n bwriadu ei wneud i sicrhau, pan fo gwaith prosiect da yn digwydd mewn meysydd penodol gyda'r trydydd sector, ein bod yn dysgu o hynny a bod y defnydd da hwnnw o'r trydydd sector yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol. Wrth gwrs, bydd gwahanol ddarpariaethau trydydd sector mewn gwahanol rannau o Gymru ac efallai na fydd yn bosibl eu darparu ym mhobman, ond lle ceir arferion da, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno ei bod orau i hynny gael ei rannu a'i ddefnyddio.

Un o'r rhannau pwysig, wrth gwrs, yw bod eich datganiad yn tynnu sylw at y system gofal brys—gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau a'r ganolfan alwadau 111. Nawr, o ystyried yr adroddiad hynod feirniadol gan y swyddfa archwilio ar ofal y tu allan i oriau a gyhoeddwyd yr haf diwethaf a phryderon y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi eu codi heddiw eto am nifer y meddygon teulu sydd gennym ni, y bylchau, a gallu meddygon teulu i ymdopi, ac 84 y cant o'r meddygon teulu yn dweud eu bod yn pryderu y bydd eu llwyth gwaith yn cael effaith negyddol ar eu gallu i ddarparu gofal ar gyfer eu cleifion yn ystod y gaeaf hwn, a allwch chi ein sicrhau, ac a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd ar weithredu argymhellion yr adroddiad hwnnw er mwyn i ofal y tu allan i oriau fod wedi'i gryfhau y gaeaf hwn ac y bydd mor gadarn ag yr ydych chi'n ei nodi inni, yr ydych yn gobeithio y bydd?

Wrth gwrs, yn olaf, nid yw cynllunio ar gyfer y gaeaf yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod meddygon a nyrsys ar gael yn ein hysbytai yn unig. Mae gan ysbytai, yn enwedig, ystod eang o staff cymorth i wneud yn siŵr bod gan fferyllfeydd gyflenwadau ac offer, i wneud yn siŵr bod porthorion ar gael i helpu cleifion i symud o gwmpas ac ati ac ati. A allwch chi gadarnhau bod cadw'r gwasanaethau cymorth hyn yn weithredol hefyd yn rhan allweddol o'r cynlluniau ar gyfer y gwyliau, yn arbennig, yr ydych chi wedi disgwyl i'r byrddau iechyd lleol eu gwneud i baratoi ar gyfer tymor y Nadolig?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:35

Ceisiais ymdrin â'r pwynt olaf yn y gyfres o gwestiynau yn y datganiad. Ceisiais gyfeirio at yr amrywiaeth o wyliau banc sy'n digwydd rhwng 21 Rhagfyr a 6 Ionawr. Gwyddom fod hynny yn rhannol am wyliau banc a hefyd am yr ymchwydd ychwanegol yr ydym yn tueddu i'w weld ar ôl y Nadolig ac ar ôl y flwyddyn newydd pan fydd pobl wedi gohirio mynd i ofyn am gymorth a chyngor, ac ar ôl pob un o'r cerrig milltir penodol hynny rydym yn gweld ymchwydd yn y galw ar yr holl system iechyd a gofal, nid dim ond ein sector ysbytai, ond mae meddygon teulu yn sicr yn gweld yr ymchwydd hwnnw yn y galw hefyd.

Ar eich—rwy'n ceisio mynd i'r afael â nifer ac ystod y cwestiynau a ofynnwyd gennych chi—credaf y bydd y cynlluniau yn helpu i wneud yn siŵr bod gennym ni'r gobaith gorau o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl drwy'r gaeaf, ac rwy'n cydnabod bod pwysau a straen ar y staff bob amser. Rydym ni'n sôn am adeg brysuraf y gwasanaeth, yn yr adrannau achosion brys, ond hyd yn oed yn fwy felly mewn gofal sylfaenol. Rhan brysuraf ein system mewn gwirionedd yw gofal sylfaenol. Ac ni allaf ddileu holl straen y gwaith. Ac mae a wnelo hyn ag onestrwydd pan fyddwch yn cyfarfod â staff—bod yn onest â nhw am yr hyn y gallwch chi ei wneud a deall y pwysau y maen nhw'n ymdopi ag ef a chydnabod bod y system mewn gwirionedd yn brysur drwy'r flwyddyn. Ond nid grŵp o wleidyddion sy'n eistedd i lawr gydag amrywiaeth o swyddogion mewn ystafell ac yn penderfynu creu cynlluniau nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar ymarfer yw'r hyn a ddylai roi rhywfaint o hyder i bobl. Mae'r cyngor a gawn, a'r cynlluniau yn cael eu llunio gan bobl sy'n arwain ac sy'n gweithio yn ein system. Er enghraifft, mae'r arweinydd clinigol sydd gennym ni ar gyfer gofal heb ei drefnu, mewn gwirionedd, yn feddyg ymgynghorol mewn adran achosion brys sy'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru mewn adran brysur, ac mae hi wedi bod yn rhan o arwain gwelliant yn yr uned honno ac mae ganddi, a dweud y gwir, gefnogaeth ei chydweithwyr o amgylch y wlad mewn modd nad oes gan wleidydd neu swyddog sydd erioed wedi gwneud y swydd honno. Felly, mae yna hyder gwirioneddol ei bod yn bosibl cyflawni gwelliant yn ogystal â deall natur benodol rhai o'r gweithleoedd a'r galw mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Ar eich pwynt penodol am therapi galwedigaethol, mae her ynghylch y tymor byrrach ac efallai y bydd yr arian yn helpu â pheth o'r capasiti tymor byrrach hwnnw drwy'r gaeaf, ond wrth gwrs, mae yna her tymor hwy hefyd, a dyna lle y byddwn ni'n edrych ar ein lleoedd hyfforddi a'r niferoedd y buddsoddwn. Rydym ni wedi cael cynnydd sylweddol yn y lleoedd hyfforddi therapi galwedigaethol dros y pedair i bum mlynedd diwethaf. Mae'r un peth yn wir am rai o'r pwyntiau a wnaed gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol heddiw. Rydym ni mewn gwirionedd yn edrych eto ar sut yr ydym ni'n recriwtio ac i ble ac o ble yr ydym yn recriwtio meddygon teulu. Yn y ddwy flynedd diwethaf—fe wnaethom ni orlenwi ein nifer o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn y flwyddyn cyn y ddiwethaf; eleni, cawsom gyfradd lenwi o 98 y cant mewn hyfforddiant meddygon teulu a bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn edrych eto ar y ffordd yr ydym ni'n recriwtio, ond hefyd ar nifer y lleoedd hyfforddi eto eleni.

Ar eich pwynt ynglŷn â gwasanaeth y tu allan i oriau, mae'n rhywbeth yr wyf yn cydnabod fel her. Nid yw'r rhaglen 111 honno y soniais amdani ond yn ffordd wahanol o gyflawni rhan o wasanaeth y tu allan i oriau; mae hi mewn gwirionedd yn ail-lunio'r model o sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau y tu allan i oriau, ac amrywiaeth ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol—meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys a therapyddion yn arbennig—i wneud yn siŵr bod amrywiaeth o gyngor ar gael ac i wneud yn siŵr bod cydnerthedd ar draws y system gyfan.

Ynghylch eich pwynt am arian, yr £20 miliwn a gyhoeddais wythnosau yn ôl ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, gyda phartneriaid—mae hwnnw'n arian untro i wneud yn siŵr ein bod yn ymdopi â'r gaeaf eleni. Mae'r £10 miliwn y byddwch wedi ein clywed ni yn ei roi yn y system gofal cymdeithasol—mae hwnnw'n arian untro, ond, wrth gwrs, yn dilyn hwn bydd £13 miliwn o fuddsoddiad rheolaidd yn y system gwasanaethau cymdeithasol o'r gyllideb iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn olaf, eich pwynt ar y trydydd sector. Mae gennym ni bartneriaethau cenedlaethol mewn rhai ardaloedd. Yr enghreifftiau a roddais yw St John Cymru a'r Groes Goch, ond yn yr un modd, byddwch yn deall bod yna fwy o bartneriaid trydydd sector lleol sy'n darparu gwasanaethau, ac mae hynny yn sicr yn rhan o'r hyn a ddysgwyd ar gyfer y gaeaf hwn. Ac rwy'n disgwyl y byddwn yn dysgu unwaith eto ar ddiwedd y gaeaf hwn beth sydd wedi gweithio'n llwyddiannus a beth y gallem ni ei wneud hyd yn oed yn fwy llwyddiannus mewn rhannau eraill o'n system.

17:40

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Dim ond ychydig o bwyntiau i'w codi. Mae brechu wedi ei nodi unwaith neu ddwywaith. Rydych chi'n disgrifio yn eich datganiad eich bod bellach yn annog staff gofal cymdeithasol i gael eu brechu, sy'n ddatblygiad da. Roedd yna broblem ychydig o flynyddoedd yn ôl fod llai na 50 y cant, mewn gwirionedd, yn dewis cael y brechiad rhag y ffliw, o blith staff y GIG. Mae'n debyg bod llawer o hyn yn sgil rhoi cyhoeddusrwydd i'r ffaith ei fod ar gael, mewn gwirionedd. A ydych chi'n hyderus bod llawer mwy o bobl yn mynd i ddewis ei gael eleni?

Rydych chi'n gywir ynglŷn ag annog pobl i beidio â mynd i weld meddyg bob amser ac weithiau, mae hi'n well iddyn nhw fynd i weld y fferyllydd lleol, felly rydych chi'n cyfeirio pobl i geisio gweld y fferyllydd lle bo modd, sydd, unwaith eto, yn ddatblygiad da. Wrth gwrs, mae'n codi'r mater parhaus o gydleoli, sef un o argymhellion y pwyllgor iechyd ychydig o flynyddoedd yn ôl ar ôl ei ymchwiliad. Roedden nhw eisiau i wasanaethau fferylliaeth gael eu cydleoli mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Tybed a ydych chi wedi meddwl ymhellach am hynny?

A gyda'r cyngor dros y ffôn, ie, mae'n amlwg y bydd angen mwy o gyngor dros y ffôn. A oes mwy o bobl yn cael eu cyflogi i gynnig y cyngor hwn ac a ydyn nhw'n cael eu hyfforddi yn ddigon da i roi cyngor dibynadwy? Oherwydd, yn amlwg, dyna y mae angen i'r cyhoedd gael ei argyhoeddi ohono. Mae'n waith heriol iawn, felly, byddai'n ddiddorol clywed sut y mae'r hyfforddiant yn mynd a sut yr ydych chi'n mynd i gynnig mwy o gapasiti y gaeaf hwn. Diolch yn fawr.

Diolch ichi am y cwestiynau hynny. I ymdrin â'ch pwynt olaf ynghylch cyngor dibynadwy ar y ffôn, naill ai bydd gennym staff sy'n mynd drwy gyfres o ddewisiadau sydd wedi eu llunio gan glinigydd i gyrraedd y pwynt cywir ynghylch a oes angen rhagor o gyngor, ond mae llawer o'n cyngor, mewn gwirionedd, yn uniongyrchol gyda'r clinigydd. Os ffoniwch chi beth fyddai wedi bod yn llinell Galw Iechyd Cymru—os ffoniwch chi 111, cewch siarad â rhywun sy'n ymdrin â galwadau, ac wedyn cewch eich sgrinio a chael eich cysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol. Felly, oes, mae hyfforddiant ar gael, ac mewn gwirionedd mae'n ymwneud â gwneud gwell defnydd, yn y gwasanaethau ffôn hynny, o'r sgiliau sydd gan barafeddygon hefyd. Mae cynllun treialu llwyddiannus yr ymwelais i ag ef y gaeaf diwethaf yn y gogledd, sydd wedi'i gyflwyno, mewn gwirionedd yn defnyddio sgiliau uwch barafeddygon i sgrinio galwadau ac i roi cyngor i bobl er mwyn osgoi gorfod anfon ambiwlans pan nad yw'n angenrheidiol, mewn gwirionedd. Gwyddom, er enghraifft, bod rhai o'r blaenoriaethau mawr ar gyfer gwella gwasanaeth ambiwlans Cymru eleni—rydym ni'n credu bod y gwasanaeth ambiwlans o'r farn y gellid osgoi hyd at dri chwarter o'r achosion o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a dderbynnir pe bydden nhw'n cael y cyngor a'r cymorth cywir, a bydden nhw'n gallu gwneud hynny a chyflawni hynny dros y ffôn. Ac mae hynny ynglŷn â'r person cywir yn rhoi'r cyngor hwnnw.

Rwy'n credu y gwelwn ni welliant eto o ran nifer staff y GIG sy'n dewis cael y brechlyn ffliw. Rydym ni wedi gweld hynny dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac nid yw hynny'n ddamweiniol—mae'n ymgais fwriadol, gan y byrddau iechyd fel cyflogwyr ond hefyd, a dweud y gwir, gyda rhywfaint o arweiniad gan sefydliadau staff hefyd. Rwy'n gwybod bod Coleg Brenhinol y Nyrsys ac Unsain wedi bod yn gyson iawn yn annog eu haelodau i fanteisio ar y brechlyn ffliw a gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny ar gael yn y gweithleoedd i hynny ddigwydd. Rydym ni wedi dysgu o hynny gan geisio, eleni, drwy fferylliaeth gymunedol, i ddarparu gwasanaeth brechlyn ffliw ar gyfer staff gofal preswyl. Yn sicr, mae preswylwyr yn y meysydd hynny yn llawer mwy tebygol o fod yn agored i'r ffliw.

Ar eich pwynt am fferylliaeth, byddai'n llawer gwell gennyf weld gwasanaeth fferyllfa lle mae pobl yn sylweddoli y gallan nhw ei gael yn y gymuned. Credaf fod yna heriau ynghylch bod â gwasanaeth fferyllfa wedi'i leoli mewn adran damweiniau ac achosion brys, ond rwyf eisiau i'r neges fod: 'Defnyddiwch eich fferyllfa yn eich cymuned; dyma'r lle mwyaf cyfleus—byddwch yn osgoi'r angen i fynd i safle ysbyty prysur, i fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys, a cheisio cael y cymorth a'r cyngor y gallech chi ac y dylech chi eu cael yno, yn hytrach na theithio yn ddiangen i'ch ysbyty.' Credaf y bydd hynny'n helpu'r person, nad oes angen iddo fynd i'r ysbyty, yn ogystal â'r bobl hynny y mae gwir angen iddynt fynd yno, er mwyn osgoi niferoedd ychwanegol diangen.

17:45

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'n bwysig inni ystyried y materion sy'n ein hwynebu. Un o'r anfanteision o fynd ar ôl siaradwyr eraill yw bod y rhan fwyaf o'r cwestiynau wedi'u gofyn, ond y fantais yw nad wyf yn cymryd cymaint o'ch amser. Ond mae un neu ddau o bwyntiau yr wyf eisiau tynnu sylw atynt ac efallai gofyn cwestiynau ichi arnynt.

Yn yr haf, roedd gan fy mwrdd iechyd i, Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ymgynghoriad ar welyau a chapasiti, ac o ganlyniad mae nifer y gwelyau wedi'u lleihau, y dywedodd yr arferai eu defnyddio fel capasiti ymchwydd y gaeaf diwethaf. Nawr, mae'r gwelyau hynny wedi mynd, felly y cwestiwn yr wyf i eisiau ei ofyn yw: a wnewch chi gyhoeddi, efallai, eich dadansoddiad o'r cynlluniau gweithredu ar gyfer pob bwrdd iechyd, fel y gallwn ni ei weld a chael sicrwydd bod yr ystyriaethau ar gyfer capasiti ymchwydd a materion eraill wedi'u hadlewyrchu yn y dadansoddiadau hynny? Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod ein hetholwyr yn gallu bod yn dawel eu meddyliau na fydd nifer y gwelyau mewn ysbytai, sydd bellach wedi eu gostwng—na fydd hynny'n effeithio ar faint ohonyn nhw sydd ar gael dros gyfnod y gaeaf. Nawr, yn ystod yr amser yr wyf i wedi bod yn Aelod o'r Cynulliad hwn, rwyf wedi gweld y gwelliant yn y cynlluniau parodrwydd ar gyfer y gaeaf. Rwyf hefyd wedi gweld parhad o'r heriau y mae pob gaeaf yn eu cyflwyno i'r byrddau iechyd, ac mae angen y sicrwydd hwnnw ar gleifion.

A wnewch chi hefyd ateb cwestiwn ar gapasiti, ynghylch yr hyn sydd yn y gymuned? Mae llawer o nyrsys ardal yn fy ardal i yn cael trafferth gyda'r llwythi gwaith sydd ganddynt, yn aml iawn, ac yn amlwg eich bwriad chi yw cael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted ag y bo modd, yn ôl yn y gymuned, yn ôl o dan ofal y sector gofal cymdeithasol, neu'r nyrsys ardal, ac eto rydym ni'n eu gweld nhw'n cael eu herio bob dydd yn y gwasanaeth hwnnw. Pa ddadansoddiad ydych chi wedi'i wneud o gapasiti nyrsys ardal o fewn rhanbarthau'r byrddau iechyd i sicrhau y gallan nhw gyflawni eich bwriad o gael pobl yn ôl yn y gymuned mor fuan â phosibl? Gwerthfawrogaf yn llwyr ein bod eisiau eu cael nhw allan, ac mae gennym ni broblem gyda'r llif drwy ysbytai, oherwydd gwelwn yr ambiwlansys mewn rhes y tu allan iddynt. Rydym ni i gyd yn canolbwyntio ar y tu blaen, ond nid ydym yn canolbwyntio ar y tu cefn; mae'n rhaid inni gael pobl yn y gymuned—ond derbyn gofal yn y gymuned yw'r elfen hollbwysig yma.

Ar y cwestiwn hwnnw, rydym ni hefyd yn gweld pobl yn aros mewn ysbytai; mae llawer iawn o systemau ar gyfer rhyddhau cleifion, ond ni ellir eu rhyddhau oherwydd bod systemau yn yr ysbytai yn araf. A wnewch chi hefyd sicrhau bod y systemau yn nhrefniadau parodrwydd y byrddau iechyd hynny yn galluogi cleifion i gael eu rhyddhau'n gyflym, ac nad oes ryw fiwrocratiaeth yn cael ei arddel? Soniodd Gareth Bennett am fferyllfeydd; faint o gleifion sy'n aros mewn ysbyty, mewn gwely, am oriau, tra byddant yn aros i fferyllfa ddanfon y feddyginiaeth cyn y gellir eu rhyddhau? Felly, a ydych chi wedi gwneud dadansoddiad o systemau o fewn y byrddau iechyd i sicrhau y gellir cyflawni'r llif hwn yr ydych chi ei eisiau—yr ydym ni i gyd ei eisiau—mewn gwirionedd?

Diolch ichi am y cwestiynau. Fe allem ni nodi cyfres o'r camau allweddol o gynlluniau gaeaf y byrddau iechyd lleol, ond byddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, bod pob bwrdd iechyd yn bwriadu addasu ei gapasiti o ran gwelyau yn ystod y gaeaf, oherwydd maen nhw'n gwybod y bydd yn fwy tebygol y bydd angen derbyn pobl, am y rhesymau iawn, a'u bod yn fwy tebygol o aros am gyfnod hwy, fel yr amlinellais yn gynharach. Ond fe wnaf yn sicr roi rhywfaint o ystyriaeth i gyhoeddi rhywbeth mewn ffordd ddefnyddiol a fyddai'n hysbysu'r Aelodau, yn hytrach na darparu mwy o wybodaeth niwlog, a bydd mewn gwirionedd yn ddefnyddiol i'r Aelodau edrych arno hefyd.

Ar eich pwynt am y math o gapasiti sydd ei angen, hefyd, wel, mae'n atgyfnerthu'r bartneriaeth hanfodol rhwng y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol, ond hefyd darparwyr tai hefyd, i allu cynllunio a chomisiynu ar gyfer y capasiti cywir yn y lle cywir, oherwydd, yn aml, nid oes angen iddo fod yn wely mewn ysbyty; gallai fod yn wely yn y sector gofal, ac mae'n aml yn fwy priodol ar gyfer y person hwnnw, a byddwn yn bendant yn gweld hynny yn rhan o'r cynlluniau gaeaf a ddarparwyd gan bob partneriaeth.

Ac rwy'n cydnabod eich diddordeb cyson yng nghapasiti nyrsys ardal—nid dim ond ar gyfer y gaeaf hwn, mewn gwirionedd, ond yn fwy cyffredinol—ac egwyddorion y prif nyrs sydd wedi'u cyflwyno. Mae'n un o'r meysydd yr ydym ni'n edrych arno gydag estyniad posibl o ran niferoedd staff, i ddeall nid yn unig beth sydd ei angen arnom ni, ond faint o bobl yr ydym ni eu hangen a lle yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod. Felly, bydd gwaith yn cael ei wneud nid yn unig gan swyddfa'r prif nyrs, ond wrth gwrs bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ymddiddori yn hynny hefyd.

Ar eich her ynghylch rhyddhau cleifion o'r ysbyty, mae'n un o'r meysydd yr wyf wedi canolbwyntio arno yn rheolaidd, mewn gwirionedd, ynghylch deall beth arall y gallem ni ei gael o'r fferyllfa, yn enwedig fferyllfa ysbyty, lle mae pobl wedi cael eu cyngor rhyddhau ac maen nhw'n barod i fynd, ac mewn gwirionedd mae angen iddyn nhw allu mynd adref a bod â meddyginiaeth i fynd gyda nhw. Mae'n un o'r meysydd lle y credaf y byddwn ni'n gallu gwneud mwy o gynnydd yn fuan yn y flwyddyn nesaf, oherwydd rwy'n meddwl bod mwy o swyddogaeth ar gyfer fferylliaeth gymunedol. Os ydyn nhw'n barod i gamu ymlaen, a'u bod yn gallu cyflawni'r gwasanaeth hwnnw i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, gall y bobl hynny adael yr ysbyty yn gynt nag y mae rhai ohonyn nhw'n gallu ei wneud ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod budd gwirioneddol i'w wneud drwy gyflawni'r llif mwy hwnnw, ac, mewn gwirionedd, ar gyfer yr unigolyn sydd eisiau gadael yr ysbyty, i'w alluogi i wneud hynny.

Ond dau o'r pum blaenoriaeth mawr o ran cyflawni ar gyfer y gaeaf yw canolbwyntio ar gael pobl allan o'r ysbyty pan fyddant yn barod, ond hefyd ystyried model rhyddhau i asesu hefyd. Rydym ni'n rheolaidd yn sôn am hyn: rhyddhau rhywun i asesu ei angen yn hytrach na'i gadw yn yr ysbyty mewn amgylchedd artiffisial er mwyn ceisio deall ei angen yn ei amgylchedd cartref. Mae'n atgyfnerthu'r pwynt am swyddogaeth therapyddion ac, yn benodol, therapyddion galwedigaethol, i ddeall angen yr unigolyn hwnnw. Unwaith eto, mae hynny'n bartneriaeth rhwng iechyd a Llywodraeth Leol, ac mae'n mynd yn ôl i'r adeg y gwnaethom ni lansio'r cynllun 'Cymru Iachach'. Aethom i Ynysybwl a buom yn edrych ar waith a arweiniwyd gan therapyddion i gael rhywun allan o'r ysbyty yn gynt, i mewn i'w gartref ei hun, i asesu ei angen, a darparwyd pecyn gofal. Dyna'r gwir bartneriaeth yr ydym ni ei eisiau rhwng iechyd, llywodraeth leol ac, yn hollbwysig, y dinesydd.

17:50

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Yr eitemau nesaf yw'r Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 a'r Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rydw i'n cynnig bod y ddau gynnig a ganlyn o dan eitemau 8 a 9 yn cael eu grwpio i'w trafod. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r grwpio? 

8. Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 a 9. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018

Cynnig NDM6858 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2018.

Cynnig NDM6859 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2018.  

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Mae'r ddwy eitem sy'n cael eu gosod gerbron y Cynulliad heddiw yn rhan o'r gyfres reoleiddio sy'n gwneud systemau draenio cynaliadwy, neu SUDS, yn ofyniad gorfodol ar ddatblygiadau newydd o ddechrau'r flwyddyn nesaf. Cyflwynwyd y ddau offeryn hyn o dan bwerau sydd yn Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae nifer o sefydliadau allanol wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu'r polisi hwn, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cynrychiolwyr hynny o awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, cwmnïau dŵr a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Deddf 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu corff cymeradwyo SUDS neu SAB i gael ei sefydlu ym mhob awdurdod lleol ochr yn ochr â'u dyletswyddau awdurdod llifogydd lleol arweiniol. Bydd angen cymeradwyaeth SAB cyn y gellir dechrau adeiladu systemau draenio ar safleoedd newydd a safleoedd ailddatblygu. Mae'r Gorchymyn gorfodi draenio cynaliadwy yn darparu ar gyfer gorfodi toriad yn y gymeradwyaeth sy'n ofynnol yn gysylltiedig â systemau draenio. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer SAB neu awdurdod cynllunio lleol i arfer pwerau mynediad a chyflwyno hysbysiadau gorfodi neu hysbysiadau stop i ddatblygwr sy'n torri'r gofyniad am gymeradwyaeth. Yn yr un modd, mae'n nodi manylion gorfodi ar gyfer y methiant i gydymffurfio â hysbysiadau o'r fath. Mae hefyd yn darparu ar gyfer hawliau datblygwyr i gael iawndal a'r hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau gorfodi i Weinidogion Cymru, a fydd, yn ymarferol, trwy'r Arolygiaeth Gynllunio.

I ategu'r Gorchymyn, mae'r rheoliadau apeliadau draenio cynaliadwy yn darparu ar gyfer hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad SAB yn gysylltiedig â cheisiadau am gymeradwyaeth neu o ran y ddyletswydd i fabwysiadu SUDS ar ôl adeiladu. Mae'r rheoliadau yn nodi manylion hawl datblygwyr i apelio yn erbyn penderfyniadau cymeradwyo a mabwysiadu SAB, pennu gweithdrefnau SAB ar gyfer apeliadau a'u penderfyniad, a'r pŵer i Weinidogion Cymru gadarnhau neu amnewid penderfyniad a wnaed gan y SAB.

Yn fy natganiad ar 16 Hydref yn ymateb i storm Callum, pwysleisiais bwysigrwydd addasu i'n hinsawdd heriol sy'n newid yng nghyd-destun rheoli perygl llifogydd. Mae profiad o lifogydd yn dangos pa mor gyflym y gall ein seilwaith gael ei drechu gan law trwm. Mae mandadu'r defnydd o SUDS effeithiol yn ffurfio rhan o'r ymateb i'r heriau hyn, ac mae gweithredu'r ddeddfwriaeth hon yn hollbwysig i sicrhau dichonoldeb hirdymor ac i addasu i heriau newid yn yr hinsawdd.

Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r Gorchymyn hwn a'r rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Nid oes dim siaradwr yn y ddadl ar y ddwy eitem yma. Felly, rwy'n cymryd nad yw'r Gweinidog eisiau ymateb i'r ddadl—na. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbynnir y cynnig o dan eitem 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn sy'n weddill, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Sy'n dod â ni at eitem 10, sef y ddadl ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant 2017-18. Rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies.

17:55

Cynnig NDM6855 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad at y ddadl hon drwy ddiolch i'r comisiynydd plant, nid yn unig am ei hadroddiad blynyddol, ond hefyd am ei gwaith diflino ar ran plant a phobl ifanc Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod rhoi llais i blant ac eirioli ar eu rhan yn rôl hanfodol. Felly, rwy'n croesawu ei hadroddiad a'r gwaith gwerthfawr y bu hi yn ei wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud.

Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran hawliau plant trwy eu hymgorffori yn y gyfraith trwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011—y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny, ac mae'n rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn falch iawn ohono. Rydym ni wedi ymrwymo'n angerddol i hawliau plant, a gwelir hyn yn amlwg gan mai ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i benodi comisiynydd plant.

Hawliau yw hawliau plant—nid ydyn nhw'n ddewisol—a byddwn ni fel gwlad yn gweithio'n galed i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu deall a'u parchu. Mae hawliau plant yn cefnogi ein huchelgais i bob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Maen nhw'n ysgogi polisïau a rhaglenni allweddol yng Nghymru, rhaglenni fel Dechrau'n Deg, ein gwaith o fynd i'r afael â phrofiadau andwyol yn ystod plentyndod, ac, yn wir, ein hymgyrchoedd magu plant. Yn fyr, mae hawliau plant yn rhan o'n DNA—maen nhw'n hollbwysig i'r ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau yng Nghymru.

Wrth gwrs, ceir llawer o feysydd polisi sy'n effeithio ar fywydau plant ar draws ein rhaglen lywodraethu, ac rwyf i wedi ysgrifennu at fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a gweinidogol i dynnu sylw at bwysigrwydd cadw hawliau plant wrth wraidd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. A gwn fod hawliau plant yn ystyriaeth o ddifrif ar draws Llywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau diweddar o arfer da yn cynnwys y pwyslais gweinidogol ar iechyd meddwl a lles plant, a chymorth cynhwysol i blant trwy'r rhaglen Plentyn Iach Cymru. Ac mae'r comisiynydd plant yn chwarae rhan hollbwysig fel hyrwyddwr annibynnol ar gyfer hawliau plant yng Nghymru. Yn rhan o'r swydd hon mae'r comisiynydd plant yn helpu i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, a gallaf gadarnhau i Aelodau'r Cynulliad ei bod yn sicr yn cymryd y swydd honno yn hollol o ddifrif, ac rydym yn croesawu hynny.

Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i'r comisiynydd gyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi sut y mae ei swyddfa wedi diogelu a hybu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Yn yr adroddiad blynyddol eleni mae'r comisiynydd wedi gwneud 15 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar draws addysg ac iechyd, gwasanaethau plant a thrafnidiaeth. Nawr, bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei ymateb llawn cyn neu ar 30 Tachwedd, sy'n golygu na fyddaf i'n nodi manylion llawn ein hymateb yn ystod y ddadl heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn deall hynny.

Ond, i ddychwelyd at adroddiad eleni, hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau at rai o'r themâu allweddol y mae'r comisiynydd wedi'u gwneud. Nawr, yn arbennig, rwy'n falch iawn o weld bod yr adroddiad yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud ar y ddeddfwriaeth arfaethedig i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol ac ar eiriolaeth ar gyfer plant sy'n agored i niwed. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu cyflawniadau'r comisiynydd ym mlwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn ei chynllun strategol tair blynedd o ran gwaith prosiect a gwaith craidd. Mae peth o'r gwaith craidd hwnnw yn cynnwys y comisiynydd yn helpu mwy na 550 o blant a phobl ifanc unigol trwy ei gwasanaeth ymchwilio a chynghori. Mae hyn yn waith hynod o werthfawr, sy'n cefnogi anghenion plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed.

Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn nodi sut y mae'r comisiynydd wedi gweithredu egwyddorion ei hymagwedd hawliau plant yn ei gwaith ei hun a gwaith asiantaethau eraill. Ac mae'n galonogol i mi weld sut y mae ei gwaith wedi herio a chefnogi cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant. Mae enghreifftiau yn yr adroddiad yn cynnwys Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ymysg eraill.

Mae'r angen i gael gwasanaethau yn cydweithio'n fwy effeithiol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc yn thema amlwg yn adroddiad eleni ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen gwneud hyn. Mae hyn hefyd yn flaenoriaeth bwysig ar gyfer rhaglen ddiwygio Llywodraeth Cymru. Os ydym ni'n dymuno sicrhau newid gwirioneddol a chynaliadwy, mae'n rhaid inni gydweithio i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig ac integredig mewn modd amserol. Ac mae'n rhaid inni sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc wedi eu hymwreiddio'n ddwfn ym mhob dim yr ydym ni'n ei wneud. Dim ond pan fydd ein rhaglenni'n dod at ei gilydd yn ddi-dor y cawn ni'r gwerth gorau ar gyfer rhieni a phlant o'r adnoddau prin sydd ar gael i ni. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i weithio ar draws Llywodraeth Cymru, gyda'r cyhoedd, gyda'r trydydd sector a gyda'n cymunedau ein hunain, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc.

Mae'r ymchwil, rydym yn gwybod, yn glir, mae profiadau yn ystod plentyndod yn rhan ganolog o lunio ein bywydau, maen nhw'n effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol ac yn dylanwadu ar ganlyniadau addysgol a ffyniant economaidd gydol oes. Mae'r ymchwil hefyd yn ei gwneud yn glir, gyda'r cymorth cywir, y gall plant oresgyn adfyd plentyndod a dod drosto. Ein gwaith ni yw eu helpu i feithrin y gwytnwch sydd ei angen arnyn nhw i allu gwneud hynny. I gyflawni hyn, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r system gydgysylltiedig, ymatebol, honno yn y blynyddoedd cynnar sy'n rhoi anghenion unigryw bob plentyn a'r teulu yn ganolog iddi. Roedd hyn yn ymrwymiad canolog a wnaethom yn 'Ffyniant i bawb'.

Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gynyddu'r cyfleoedd i wella canlyniadau ein plant a'n pobl ifanc i sicrhau eu bod i gyd yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a'u bod yn symud ymlaen i gyflawni eu potensial. Rydym yn gwybod ein bod yn gwneud hynny'n effeithiol dim ond pan fyddwn yn gwrando ar safbwyntiau ac anghenion plant a phobl ifanc eu hunain ac yn ymateb iddyn nhw. Mae erthygl 12 yn cydnabod eu bod yn iawn i gael eu llais wedi ei glywed ac i bobl wrando ar eu llais a gweithredu arno wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddinasyddion llawn a gweithgar yng Nghymru, sydd â barn a gaiff ei hystyried. Mae ganddyn nhw farn glir a chyfraniad gwerthfawr i'w wneud i gynllunio ein gwasanaethau. Rwyf i'n eglur, fel Gweinidog, y bydd barn y plant yn parhau i fod yn hanfodol wrth ddatblygu a chyflawni ein deddfwriaeth, ein polisïau a'n rhaglenni. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ganddyn nhw lais gweithredol cyson yng ngweithrediadau'r Llywodraeth.

Am yr unig dro heddiw, fe hoffwn droi at Brexit. Wrth i Brexit ddominyddu'r newyddion ledled y DU ar hyn o bryd, mae'n hanfodol nad ydym yn colli golwg ar y rhai y bydd yn effeithio arnyn nhw fwyaf. Rwyf i wedi rhoi amser i wrando ar safbwyntiau plant ar Brexit a materion eraill. Maen nhw wedi siarad yn angerddol iawn am eu pryderon am gyllid yn y dyfodol, eu cyfleoedd i astudio dramor, pa un a fydd Brexit yn arwain at ddirywiad mewn safonau amgylcheddol, ac ati. Mae'n ddyletswydd arnom ni ar eu rhan nhw i frwydro dros y canlyniad gorau i Gymru yn y trafodaethau presennol. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac na chaiff dyfodol ein plant ei niweidio. Rydym ni eisiau i'n plant dyfu mewn Cymru y gallan nhw fod yn falch ohoni.

Rwy'n nodi bod yr Aelod dros Ynys Môn wedi cyflwyno gwelliant i gynnig y Llywodraeth. Mae'n ddrwg gennyf, ond rwyf i'n dweud na fyddwn yn cefnogi'r gwelliant. Y sgoriau coch, ambr a gwyrdd y cyfeirir atyn nhw yn y gwelliant yw asesiad y comisiynydd o ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2016-17, nid ydyn nhw'n ffurfio rhan o adroddiad blynyddol eleni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn deall pam na fyddwn yn cefnogi'r rheini, er mor ddefnyddiol yw'r sgoriau RAG.

Fel Llywodraeth, rydym ni wedi gweithio ar y cyd â'r comisiynydd ac eraill er budd plant a phobl ifanc a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rwyf i'n parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru, gan sicrhau bod eu lleisiau a'u hawliau ar flaen y gad ym mhob dim yr ydym ni fel cenedl yn gobeithio ei gyflawni.

Felly, edrychaf ymlaen at gael sgwrsio gyda'r comisiynydd plant, ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant, ac yn bwysicaf oll gyda phlant a phobl ifanc ynghylch sut y gwnawn ni hynny. Diolch.

18:00

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig ac rydw i'n galw ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi sgorio cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwasanaethau elw mewn gofal, iaith arwyddion Prydain, eiriolaeth iechyd, gofal plant ac addysg yn y cartref dewisol fel coch, sy'n golygu na chafwyd unrhyw dystiolaeth o newidiadau polisi neu arfer ers y gwnaethpwyd yr argymhelliad a ni chafwyd unrhyw welliant o ran profiadau plant.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn. Er gwaethaf honiadau'r Gweinidog, mae'n destun pryder fod nifer o benderfyniadau diweddar Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud heb roi ystyriaeth lawn i hawliau plant. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig yn yr ymgynghoriad craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, mae'r comisiynydd plant, mewn adroddiad sy'n eithaf damniol o Lywodraeth Cymru, yn dweud hyn:

Mae'n ymddangos bod hawliau plant yn 'ychwanegiad' o fewn y gyllideb hon...

Nid yw'n ymddangos bod cynnydd wedi bod o ran amlygrwydd hawliau plant a phlant o fewn ystyriaethau'r gyllideb;

Mae diffyg tystiolaeth ddadansoddol ar ffurf asesiadau effaith ar hawliau plant i ddangos a yw plant yn well neu'n waeth eu byd o ganlyniad i'r penderfyniadau cyllidebol.

Nid oedd yna asesiad effaith ar hawliau plant wedi ei baratoi ar gyfer cynigion y gyllideb, nid hyd yn oed ar gyfer tri maes pwysig sydd wedi bod yn destun toriadau cyllidebol, sef y grant gwisg ysgol, y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig a'r rhaglen gyswllt ar ysgolion Cymru gyfan.

Mae adroddiad y comisiynydd, a fydd yn cael ei drafod ddydd Iau, yn codi cwestiynau mawr, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed y Llywodraeth yn ymrwymo i gymryd camau penodol i wella ei pherfformiad yn sylweddol. 

Rydw i'n troi yn benodol, felly, at adroddiad blynyddol y comisiynydd ar gyfer 2017-18, ac yn cyfeirio'n benodol at y dull goleuadau traffig o fonitro cynnydd Llywodraeth Cymru ar weithredu ar ei hargymhellion sydd yn system ardderchog ar gyfer craffu—ac, ie, craffu ar waith oedd yn deillio o adroddiad blynyddol 2016-17 mae'r comisiynydd, ond mae hi'n rhoi diweddariadau byw ar y wefan, ac rydym ni''n dyfynnu yn ein gwelliant ni o adroddiad Medi 2018, sydd yn dangos diffyg cynnydd, yn anffodus. Dim ond pedwar o'r argymhellion a wnaed sydd wedi eu categoreiddio'n wyrdd, efo pump wedi eu categoreiddio'n goch. Mae hyn yn codi cwestiynau mawr ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant. 

Mae'r argymhellion coch yn cynnwys gofal plant, efo'r comisiynydd yn dweud:

'Trwy'r cynllun gofal plant peilot ac unrhyw gynllun dilynol, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw plant rhieni nad ydynt yn gweithio yn colli allan ar y cynnydd o ran gofal plant sy'n cael ei gynnig i blant rhieni sy'n gweithio.'

Mae'n mynd ymlaen i ddweud y byddai'r cynnig cyfredol yn golygu bod y plant a fyddai'n elwa fwyaf o ofal plant yn colli cyfle i ddatblygu sgiliau bywyd allweddol yn ifanc. Gyda'r plant mwyaf difreintiedig yn cychwyn yr ysgol 10 mis y tu ôl i blant o deuluoedd sydd efo mwy o arian, mae Plaid Cymru yn rhannu pryderon y comisiynydd. 

Mater arall sy'n cael golau coch gan y comisiynydd yw diffygion y Llywodraeth o safbwynt addysg ddewisol yn y cartref. Eto, rwy'n dyfynu'r comisiynydd. Mae 

'angen i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r canllawiau cyfredol er mwyn rhoi iddynt rym statudol, yn ogystal â chynnwys cofrestr orfodol ar gyfer pob plentyn a addysgir yn y cartref, a hynny er mwyn sicrhau nad yw'r plant hynny yn disgyn “o dan y radar”, hyd yn oed o ran y gwasanaethau cyffredinol.'

Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg, ac mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn derbyn addysg. Mae angen galluogi awdurdodau lleol i wneud y gwaith hwn. 

Yn ôl y comisiynydd plant,

'Ers i'r argymhelliad hwn gael ei wneud, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn y Senedd ym mis Ionawr 2018, yn amlinellu'r bwriad i ymgynghori ynghylch newidiadau i is-ddeddfwriaeth i gryfhau pwerau presennol yr awdurdodau lleol. 

'Hyd yma, ni chyflwynwyd unrhyw ymgynghoriad, a'r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer hyn yw gwanwyn 2019.'

Geiriau'r comisiynydd.

Tra bod Llywodraeth Cymru yn llusgo'i thraed, mae peryg bod nifer o blant yn methu allan ar eu hawl i addysg ac mae peryg bod yna blant yn disgyn o dan y radar o ran derbyn gwasanaethau sylfaenol. 

Yn fyr, mater arall nad ydy Llywodraeth Cymru wedi gweithredu arno fo yw Iaith Arwyddo Prydain. Yn ôl Cymdeithas Plant Byddar Cymru, flwyddyn ddiwethaf, roedd disgyblion byddar 26 y cant yn llai tebygol o dderbyn graddau A* i C yn y pynciau craidd na'u cyd-ddisgyblion sydd yn clywed. Mae'r bwlch yma'n bodoli oherwydd y rhwystrau y mae dysgwyr byddar yn eu hwynebu. Mae hwn hefyd yn cael y golau coch gan y comisiynydd. 

Nid oes yna amser i fynd ar ôl y ddau faes arall, ond mae angen i Weinidogion roi sylw buan i'r materion yma—i'r rhai sydd wedi cael eu nodi'n goch gan y comisiynydd, ond hefyd y rhai sydd yn ambr. Mae angen i'r Llywodraeth ddod ag amserlen gerbron i'n hargyhoeddi y bydd pethau'n wahanol, y bydd pethau'n well pan ddown ni nôl i fan hyn flwyddyn nesaf. 

18:05

Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant, a'i swyddfa hefyd. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru i'r cynnig oherwydd ei fod yn crynhoi yn eithaf da, yn fy marn i, rai o'r pryderon presennol, sydd, fel y nododd Siân Gwenllian, yn risgiau coch o hyd, fel y mae pwyllgor archwilio risg a sicrwydd swyddfa'r comisiynydd wedi'i nodi. Ac maen nhw'n bum maes polisi sy'n cael effaith uniongyrchol, sylweddol ar bobl ifanc, eu teuluoedd, cyfleoedd bywyd y ddau, lle'r ydym yn gweld rhwystredigaeth y rhai sy'n dymuno darparu gwasanaethau, a rhwystredigaeth y comisiynydd ei hun, sydd wedi methu â gorfodi newid. Rhywbeth arall sy'n peri pryder braidd, yn fy marn i, yw nad yw hyn yn dominyddu'r penawdau i'n helpu ni i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a helpu'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn, a sut yr ydym yn eu cynrychioli nhw a'u blaenoriaethau. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cyfryngau yn craffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn—neu, fel yr ydym ni newydd ei glywed, diffyg ymateb i'r adroddiad hwn—oherwydd fy mod i'n amau bod y camau gweithredu i fynd i'r afael â'r methiannau a nodir ynddo o fwy o bwys i'n hetholwyr nag ysmygu yng nghanol trefi a'r llanast pitsa Nadolig ym Mhowys, mae'n rhaid imi ddweud.

Oherwydd y dylai peth o'r feirniadaeth a geir yn yr adroddiad hwn beri cymaint fyth o ddicter â'r canfyddiadau hynny a gafodd sylw, a bod yn deg, gan y BBC heddiw ynghylch nifer y bobl ifanc sy'n hunan-niweidio pan fyddan nhw yn y carchar, oherwydd bod y materion i gyd yn gysylltiedig. Dylai iechyd meddwl y bobl ifanc hyn fod yn llawer mwy o bwys brys iddyn nhw ac i ninnau fel cymdeithas, na'r pwnc sy'n tynnu sylw, sef a oes ganddyn nhw bleidlais ai peidio, oherwydd bod angen i'r rhai ohonom ni sydd â phleidlais ofyn pam yr ydym yn methu â chadw ein pob ifanc iawn allan o'r carchar. Er gwaethaf gwaith da y comisiynydd gyda byrddau iechyd a charchar y Parc yn fy rhanbarth i—lle mae ganddyn nhw hanes da iawn o weithio gyda theuluoedd i gynnal perthynas iach â rhieni, ond a oedd ar ben anghywir yr adroddiad hunan-niwedio—ac er gwaethaf gwaith gyda chynghorau lleol, mae'n ymddangos nad yw ein dyheadau am well eiriolaeth iechyd, a gostyngiad yn nifer yr achosion o fwlio ac effeithiau bwlio ar oedran cynnar, wedi'u gwireddu ar y cyfan.

Wrth gwrs, mae hyn yn adleisio'r pryderon a fynegwyd yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl', na fyddaf yn sôn amdano eto heddiw. Ond os yw'r comisiynydd yn argymell rhoi grym statudol i'r dull cenedlaethol o eiriolaeth statudol er mwyn gwella'r hyn a gynigir mewn iechyd ac addysg hyd yn oed, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym a yw'n bwriadu gwneud hyn a pha bryd.

Rydym yn sôn am ymyrraeth gynnar yn y lle hwn drwy'r amser, ac mae eiriolaeth yn rhan o hynny. Gall fod yn hynod o effeithiol ar lefel y gymuned, gan atal materion cynyddol sy'n caniatáu i'n pobl ifanc ddatblygu i fod yn oedolion sydd wedi'u niweidio. Er efallai y bu rhywfaint o gynnydd, nid yw'n ddaearyddol gyson—er enghraifft, o ran plant sy'n derbyn gofal, dim ond 2 y cant a fanteisiodd ar y cynnig o eiriolaeth yng Ngwynedd, ond gwnaeth 88 y cant hynny yng Nghaerffili—ac nid yw ychwaith yn cofnodi iechyd ac addysg mewn modd mor gyflawn ag y gallai. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynnydd clir erbyn y flwyddyn nesaf ar yr argymhelliad sy'n ymwneud â'r byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Wedi dweud hynny, byddwn i hefyd yn gobeithio gallu dilyn y gwariant ar y cynnydd hwnnw. Fel yr ydym ni wedi'i ddweud o'r blaen, yn arbennig yn ein pwyllgor ni, mae cyllidebau integredig yn ei gwneud yn anodd nodi'r cysylltiad rhwng gwariant a chanlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc, a hynny heb fod angen.

Nawr, gan droi at addysg yn uniongyrchol, rwyf i wedi gweld drosof i fy hun sut y mae'r ffordd gywir wedi gwneud gwahaniaeth. Mae Ysgol Gynradd Craigcefnparc yn fy rhanbarth i fy hun yn enghraifft dda iawn o sut y mae dealltwriaeth pawb o hawliau plant wedi cyfrannu at ethos yr ysgol gyfan, ac mae cymhwyso hynny wedi dwyn ffrwyth yn yr ysgol honno erbyn hyn, trwy ei gwneud yr union fath o ysgol yr hoffem ni i gyd ei gweld. Mor drist wedyn yw clywed, er gwaethaf gwaith cynghorydd Mawr y Ceidwadwyr Cymreig Brigitte Rowlands a'r teuluoedd yn y gymuned honno, fod aelodau cabinet dinas Abertawe yn gwrthod ymweld â'r ysgol i'w gweld drostynt eu hunain, sy'n siomedig iawn o ystyried y byddan nhw'n penderfynu cau'r ysgol honno neu beidio.

Rwy'n gobeithio bod y comisiynydd yn ymwybodol o'r adegau hynny pan fo ymrwymiad ac esgus cefnogi yn ymddangos yn gyfnewidiol, oherwydd nid wyf i wedi fy argyhoeddi o hyd bod y sylw dyledus y mae'n rhaid i ni a Llywodraeth Cymru ei roi i hawliau plant mewn polisi a deddfwriaeth wedi'i efelychu yng nghyflawniad y polisïau a'r ddeddfwriaeth hynny gan gyrff cyhoeddus. Nid wyf i'n credu, Gweinidog, ei fod yn y DNA eto, felly a oes angen deddfu?

Yn fyr, felly, terfyn tri phwynt. Argymhelliad y comisiynydd ar ddiwygio cynnig trafnidiaeth presennol Llywodraeth Cymru, rydym wedi clywed ychydig mwy am hynny ar gefn y gyllideb, ond mae gan y Ceidwadwyr Cymreig eu hargymhelliad eu hunain—cynnig mwy hael o gerdyn gwyrdd a fydd yn rhoi cludiant bws am ddim hyd at 24 oed, gan gydnabod efallai fod angen cymorth ar bobl ifanc o hyd i gyrraedd eu gwaith, yn enwedig os yw'n swydd gyntaf â chyflog isel, fel sy'n wir yn aml.

Yn ail, rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd Siân Gwenllian ynglŷn ag Iaith Arwyddion Prydain, ac yn nodi naws gofidus barn Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru ar ganfyddiadau'r Comisiynydd.

Ac, i orffen—y Gymraeg. Hoffwn weld mewn adroddiadau yn y pen draw fwy o fanylion am sut mae hawliau plant sy'n byw yn y Gymraeg yn cael eu cyflawni ac, efallai, tipyn o gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar hynny. Diolch. 

18:10

Hoffwn ddechrau trwy dalu teyrnged i Sally Holland a'i staff am yr holl faterion gwahanol maen nhw wedi gweithredu arnyn nhw yn ystod y flwyddyn hon, ac am y ffordd y mae hi wedi gweithio mor agos gyda ni, Aelodau'r Cynulliad a gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, trwy fod yn bresennol yn aml a chael dylanwad mawr, yn fy marn i, ar y ffordd yr ydym ni wedi gwneud penderfyniadau. Ac wrth gwrs, yn bwysicaf oll, yn gweithio gyda phlant yn uniongyrchol gan roi llais i blant yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch iddi am ei hymrwymiad—ei hymrwymiad ers llawer dydd—i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Nodaf, yn ei hadroddiad blynyddol mai dyma yw ei phrif argymhelliad i'r Llywodraeth, a dywed y dylai'r ddeddfwriaeth hon ddigwydd cyn gynted â phosibl. Rwy'n gwybod ei bod hi mewn gwirionedd wedi ymgyrchu dros hyn ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, dyma argymhelliad pob comisiynydd plant ers sefydlu'r swydd: Peter Clarke, Keith Towler a nawr Sally Holland.

Felly, rwy'n credu bod eu dyfalbarhad a'u hymrwymiad i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, o'r diwedd yn dod i ddiweddglo, ac rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi dod i'r casgliad ac wedi cadarnhau y byddwn yn cael deddfwriaeth y flwyddyn nesaf. Mae mwy a mwy o ymchwil mewn gwirionedd yn atgyfnerthu'r pwysigrwydd i Lywodraeth Cymru gymryd y camau hyn, oherwydd canfu adroddiad a gyhoeddwyd yn y BMJ Open ym mis Hydref, a oedd yn edrych ar 88 o wledydd, yn y gwledydd hynny sydd wedi gwahardd smacio neu daro plant, roedd trais ac ymladd rhwng pobl ifanc yn llawer llai tebygol. Roedd ymladd yn llai cyffredin ymhlith bechgyn a merched 13 oed mewn gwledydd lle ceir gwaharddiad llwyr ar gosbi corfforol o'i gymharu â'r rhai heb waharddiad, gyda 31 y cant yn llai o ymladd ymhlith bechgyn a 58 y cant yn llai ymhlith merched.

Cafwyd llawer o ymchwil yn ddiweddar gan Academi Pediatreg America, sy'n darparu canllawiau ar gyfer meddygon a darparwyr gofal iechyd plant. Mae wedi cyhoeddi datganiad polisi newydd sy'n argymell bod oedolion sy'n gofalu am blant yn defnyddio ffurfiau disgyblu iach, megis atgyfnerthu ymddygiad priodol yn gadarnhaol, pennu terfynau a gosod disgwyliadau, a pheidio â rhoi chwip-din, peidio â tharo, slapio, bygwth, sarhau, bychanu na chodi cywilydd. Felly, yn sicr mae'r ymchwil yn atgyfnerthu'r penderfyniad a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon. Ac mae Sally Holland, yn ei hadroddiad blynyddol, yn dyfynnu barnau plant a phobl ifanc ynghylch y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu ei fod yn dangos mewn gwirionedd beth yw barn plant. Mae'n dweud,

'Dylai plant gael eu gwarchod yn hytrach na chael eu smacio.'

'Gall smacio bob amser fynd yn rhy bell, ble ydych chi'n tynnu'r llinell?'

'Mae rhai pobl yn credu bod angen smacio plant i'w dysgu sut i ymddwyn. Rwy'n anghytuno, mae'n gwbl ddiangen.'

'Dylech chi siarad ac egluro er mwyn sicrhau na fyddan nhw'n gwneud yr un peth eto.'

'Yn hytrach na smacio gallwch wahardd y teledu neu'r iPad; mae unrhyw beth yn well na smacio.'

Felly, mae Sally Holland wedi bod yn casglu tystiolaeth uniongyrchol gan y plant am eu barn ar smacio plant. Felly, mae'n hollol iawn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau hyn, a hefyd, yn fuan bydd yn ymuno â nifer o wledydd ledled y byd sydd wedi gwneud hyn eisoes.

Yn olaf, hoffwn gyfeirio at fater a godwyd gan y comisiynydd plant yr wythnos diwethaf pan dynnodd hi fy sylw at anghydraddoldebau mewn chwaraeon yn yr ysgol. Rwy'n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi gweld y stwff ar y teledu am y rhwystredigaeth y mae menywod ifanc yn ei deimlo ynghylch peidio â chael cyfle cyfartal i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ni all fod yn iawn pan fo mwy a mwy o ferched, er enghraifft, yn awyddus i chwarae pêl-droed, fe ddywed merch 13 oed iddi gael ei beirniadu a'i galw'n ddyn neu'n lesbiad am gymryd rhan mewn chwaraeon bechgyn. Dywedodd ei hathrawon wrthi na chaiff hi chwarae pêl-droed yn yr ysgol oherwydd mai hoci a phêl-rwyd yw'r chwaraeon ar gyfer merched.

Dywed Sally Holland yn gwbl briodol, ei bod hi'n dorcalonnus clywed am stereoteipio ar sail rhyw mewn ysgolion yn y dyddiau hyn, a disgrifiodd gwahanu chwaraeon yn yr ysgol ar sail rhyw fel 'syndod' yn 2018. Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn a godwyd gan Sally Holland, oherwydd ein bod eisiau i'n pobl ifanc—bechgyn a merched—aros mor egnïol â phosibl a chwaraeon ysgol yn amlwg yw un o'r ffyrdd allweddol o wneud hynny. Felly, fe hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar hynny pan fydd yn ymateb, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid inni ddarganfod nifer yr ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, sy'n dal i gynnig chwaraeon ar wahân yn unig ar gyfer bechgyn a merched, a pha un a oes unrhyw ganllawiau i ysgolion ynghylch hyn.

18:20

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwyf hefyd am ddiolch ar goedd i'r Comisiynydd Plant, Sally Holland, a'i thîm am y gwaith ardderchog y maen nhw'n ei wneud ar ran plant a phobl ifanc yma yng Nghymru? Rwy'n credu ei bod yn ffaith drist, yn 2018, bod llawer o blant a phobl ifanc yn ein gwlad nad ydynt yn mwynhau'r un diogelwch a breintiau a gawsom ni yn y Siambr hon wrth i ni dyfu'n oedolion. Felly, rwyf yn croesawu rhai o'r argymhellion allweddol yn adroddiad Sally Holland, a oedd wrth gwrs â'r nod o'i gwneud hi'n bosibl i bobl ifanc a phlant sy'n agored i niwed gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Nodais y cyfeiriadau a wnaed gan y Comisiynydd i waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl, ac mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod mynediad, fel y dywedodd Suzy Davies yn hollol gywir, i sicrhau y gall pobl gael gafael ar y gwasanaethau hynny mewn modd prydlon iawn. Ac fe sylwais wrth gwrs ar ei chyfeiriadau at fwlio hefyd a'r angen i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hynny, yn gwbl briodol fel y trafodwyd eisoes y prynhawn yma.

Ond, Llywydd, mae gennym ni lawer i'w wneud ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Pobl ifanc heddiw yw Aelodau'r Cynulliad yfory, ac mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain beth yw'r etifeddiaeth yr ydym yn ei adael iddyn nhw. A fyddan nhw'n edrych yn ôl gyda diolch pan fyddan nhw'n eistedd yn y Siambr hon yn y dyfodol neu a fyddan nhw'n dymuno i ni fod wedi gwneud mwy? Rhan allweddol o'n heiriolaeth fydd gwneud y penderfyniadau polisi cywir. Pan fo cymaint i'w wneud, y mae'n hanfodol inni wneud yr hyn sy'n iawn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, ac mae'n rhaid imi ddweud mai un peth sydd wedi fy siomi yn adroddiad y Comisiynydd yw'r argymhelliad i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. I mi dyma'r camau gweithredu anghywir pan ystyriwch y niwed gwirioneddol sy'n wynebu plant. Dywed yr adroddiad nad yw plant yng Nghymru, o dan y gyfraith yn cael eu diogelu rhag ymosodiad yn yr un modd ag oedolion, ond, wrth gwrs, mae hynny'n anghywir ac yn gamarweiniol. Mae'r gyfraith yn amlwg yn diogelu plant ifanc a phob plentyn, mewn gwirionedd, rhag trais, ond y mae hefyd yn cydnabod na ddylid ystyried disgyblu corfforol ysgafn, megis slap ar y llaw neu chwip-din, yn drosedd. A bydd cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, rwy'n credu, yn cymylu'r gwahaniaeth hwn a gadael llawer o rieni cariadus ledled Cymru sy'n smacio eu plant, mewn perygl o gael eu harestio, eu collfarnu a hyd yn oed eu herlyn.

Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud, wrth gwrs, bod gan y Llywodraeth ymrwymiad i gymryd camau pan fo perygl posibl o niwed i blant yng Nghymru, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond fe geir pobl sydd yn cam-drin plant, a dylem ni rymuso ein gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu i ddod o hyd iddyn nhw a'u dwyn i gyfraith, yn hytrach na gwastraffu amser yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol drwy eu hanfon ar ôl tadau a mamau cyffredin, sy'n gweithio'n galed ac yn dewis weithiau i smacio eu plant fel math o ddisgyblaeth. Nid yw'r dystiolaeth yn dangos bod smacio ysgafn yn gwneud unrhyw niwed i blant. Mae ymgynghoriad y Llywodraeth ar ddiddymu cosb resymol yn cyfaddef hyn. Yn wir, dywedodd, a dyfynnaf:

'mae'n annhebygol y ceir unrhyw dystiolaeth ymchwil sy'n benodol yn dangos bod effeithiau smac ysgafn ac anfynych yn niweidiol i blant.'

Ac fe fyddwn i'n annog holl Aelodau'r Cynulliad sy'n bresennol yn y Siambr hon i ddarllen gwaith yr Athro Robert Larzelere, un o'r academyddion blaenllaw yn y maes hwn o ddisgyblu plant. Mae ei dystiolaeth i ymgynghoriad y Llywodraeth ar y mater hwn yn rymus iawn. Felly, a wnaiff y Llywodraeth hefyd ymrwymo i ddilyn y dystiolaeth honno ar y mater hwn, yn hytrach nag ymgymryd â'r hyn sydd yn ei barn hi yn rhywbeth ffasiynol? Ac mae'n rhaid imi ddadlau hefyd nad yw'n arbennig o ffasiynol ychwaith. Rydym ni'n gwybod bod canlyniadau pôl yng Nghymru yn ôl yn 2017 wedi dangos nad yw 76 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn credu y dylid gwneud smacio yn drosedd; mae 77 y cant yn pryderu y gallai gwahardd smacio orlwytho heddlu a gweithwyr cymdeithasol ag achosion dibwys a'i gwneud yn fwy anodd iddyn nhw dargedu eu hadnoddau, eu hadnoddau prin, i atal y camdrinwyr plant mwyaf difrifol; ac mae 77 y cant o bobl Cymru yn credu hefyd mai swyddogaeth rhieni a gwarcheidwaid, nid y wladwriaeth, yw penderfynu smacio eu plant neu beidio.

Rwy'n credu felly, ei bod yn gwbl hanfodol inni wneud ein gorau glas i wella byd plant a phobl ifanc yma yng Nghymru a'n bod yn mynd ar drywydd mesurau sydd o ddifrif yn helpu plant, ond nid y cynnig penodol hwn, o ran gwahardd smacio plant, yw'r ffordd iawn ymlaen, ac fe fyddwn i'n annog y Gweinidog, yn ei ymateb, i ystyried yr holl dystiolaeth, sy'n bendant yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth.

Galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd. Nid wyf yn credu, yn yr amser sydd ar ôl, y gallaf ateb pob pwynt gyda'r manylder yr wyf fel arfer yn ei gynnig, ond fe wnaf fy ngorau glas. A gaf i ddweud yn gyntaf oll, wrth Siân ac eraill sydd wedi ein herio ni ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud? Nid ydym ni—rydym ni'n cydnabod—yn ymwreiddio agenda hawliau dros nos ac rydym yn croesawu'r her, gan y Comisiynydd Plant a chan eraill, ond mae'n deg i ddweud hefyd bod y Comisiynydd Plant, yr ydym yn gweithio'n ddiwyd gyda hi ar amrywiaeth eang o feysydd polisi y cyfeiriwyd atyn nhw y prynhawn yma, y mae hi hefyd yn cydnabod lle yr ydym ni'n cyflawni yn ogystal â rhoi heriau i ni ynghylch yr angen inni wneud mwy, ac rydym ni'n gwybod bod angen inni wneud mwy, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond yr holl bartneriaid ar draws Cymru, i ymwreiddio'r agenda hawliau plant. Gallwn gytuno ar hynny.

Mater y statws coch melyn gwyrdd: rwy'n cytuno'n llwyr bod angen i ni ymateb i'r rheini yn yr un modd. Fe ddywedais i ar ddechrau fy sylwadau na fyddem ni'n ymateb yn fanwl oherwydd bydd y Prif Weinidog hefyd—. Mae'n ddrwg gennyf fi. Ni allaf ymateb yn fanwl i bob un pwynt, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod y comisiynydd plant yn yr adroddiad wedi cydnabod pa mor bell yr ydym ni wedi symud ymlaen. Mae hynny'n cynnwys o safbwynt y ddeddfwriaeth. Er na fyddwn ni'n cytuno â phob manylyn ynghylch manion gyda'r comisiynydd plant, rydym ni'n croesawu'r her.

Darren, mae'n ddiddorol eich bod chi newydd grybwyll maes lle'r rydych chi'n anghytuno'n sylfaenol gyda'r comisiynydd plant, ond hefyd llawer o bobl eraill hefyd yn awr, sydd yn gweld ei bod yn amser mewn gwirionedd i ddilyn yn ein ffordd ein hunain yng Nghymru yr hyn y mae 53 o wledydd eraill wedi ei wneud, ac nid mewn cwestiwn gyda llaw, o ymyrryd â hawliau plant, ond hefyd i gydbwyso'r hawliau hynny y buom yn sôn amdanynt, sef hawliau'r plentyn i gael cartref diogel, ynghyd â'r gwaith a wnaethom dros nifer o flynyddoedd bellach ynglŷn â rhianta cadarnhaol, sy'n dwyn ffrwyth hefyd.

Ac rydym ni wedi ymrwymo, Julie, mae'n rhaid imi ddweud, i ddwyn ymlaen—. Fe wnaeth y Prif Weinidog ei gwneud hi'n glir y byddem ni'n cyflwyno deddfwriaeth ym mlwyddyn tri y Cynulliad hwn, sef y flwyddyn sydd o'n blaenau nawr, ac rydym yn edrych ymlaen at wneud hynny. Fe fyddwn ni'n gweithio drwy'r manylion gyda'r holl bartïon, gyda llaw, a byddwn yn gwrando ar farn rhanddeiliaid, ond rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon oherwydd ei bod ni'n credu, mewn gwirionedd ei bod yn unol â'r gwaith yr ydym wedi ei wneud ar rianta cadarnhaol. Dyma'r peth iawn i'w wneud, hefyd, i wlad fodern a blaengar fel Cymru, sydd yn credu yn yr agenda hawliau plant.

18:25

A mater carchar y Parc, a allaf i ddweud ei bod hi'n bwysig inni edrych ar y bobl ifanc hynny yng ngharchar y Parc a'u hystyried yn bobl ifanc yn anad dim a sicrhau bod y cymorth ar gael iddyn nhw yno, er mwyn ymdrin â'r hanesion brawychus a glywsom ni am hunan-niwed? Rwy'n credu bod carchar y Parc wedi ymateb mewn rhyw ffordd drwy ddweud efallai nad yw'r data sydd wedi'i gyflwyno yn adlewyrchu'r data diweddaraf, pryd y maen nhw'n awgrymu y bu gostyngiad sylweddol, ond rwy'n credu y dylem ni gymryd diddordeb yn hynny.

Pwynt Julie ynghylch gwahanu mewn chwaraeon ysgol: Mae hyn yn ddiddorol iawn ac rwy'n hapus i ysgrifennu ac i gadarnhau beth yw'r canllawiau ynghylch hyn. Rwyf wedi cael hyn mewn gwirionedd yn fy—. Ysgolion lleol da iawn yno, mae rhieni wedi dweud wrthyf fi, 'pam mae merched a bechgyn wedi'u rhannu ar gyfer y sesiynau a hwythau'n chwarae gyda'i gilydd y tu allan i'r ysgol mewn tîm chwaraeon ac, eto, o fewn yr ysgol, rywsut, maen nhw'n cael eu rhannu o fewn y sesiynau, neu hyd yn oed yn ystod amser chwarae?' Felly, rwy'n hapus i ysgrifennu ar y mater hwnnw.

Os caf i droi at fater iaith arwyddion yn yr amser byr iawn sydd ar gael i mi, yn amlwg, bydd pobl yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod iaith arwyddion Prydain yn ffurfiol yn iaith yn ei rhinwedd ei hun ym mis Ionawr 2004, ac ers hynny, bu fersiynau o'r hyfforddiant i gynyddu nifer y cyfieithwyr cymwysedig yng Nghymru i sicrhau bod deddfwriaeth, polisïau a rhaglenni ar waith ar draws y Llywodraeth sy'n cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch. Ond, rydym ni yn cydnabod bod nifer o broblemau a wynebir o hyd gan aelodau'r gymuned fyddar yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n ymwneud ag iaith arwyddion Prydain, gan gynnwys prinder cyfieithwyr iaith arwyddion Prydain. Felly, ymatebodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i'r adroddiad 'Siaradwch fy iaith' gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roedd yn cynnwys argymhellion ynghylch sut y dylai cyrff cyhoeddus, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau rheng flaen, ddarparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu i iaith arwyddion Prydain ac ieithoedd eraill, a derbyniodd Llywodraeth Cymru y tri argymhelliad a nodi y byddwn yn adolygu'r ddarpariaeth bresennol o iaith arwyddion Prydain i sicrhau bod ein dull o weithredu yn bodloni anghenion unigolion a theuluoedd. Fe fyddwn yn parhau i ddatblygu'r gwaith ar y camau gweithredu hyn yn ystod y mis nesaf, ac rydym ni hefyd yn ystyried argymhellion a wnaed mewn adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau i'w gwneud hi'n haws i gael addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain.

Nawr rwyf eisiau diolch i'r holl Aelodau—.

Mae'n ddrwg gennyf i, yr oeddwn am droi at y mater o addysg ddewisol yn y cartref hefyd yn yr ychydig funudau sydd gennyf. Nawr, rydym ni'n cytuno â'r Comisiynydd Plant y dylai pob plentyn yng Nghymru gael ei ystyried. Fodd bynnag, nid yw hyn yn fater i addysg yn unig; mae hefyd yn fater o bryder i bob asiantaeth sydd â chyfrifoldeb dros blant a phobl ifanc sy'n eu gwneud nhw'n weladwy. Felly, rydym ni wedi dechrau gwaith traws-adrannol i ystyried cryfhau'r prosesau amlasiantaeth hynny ar gyfer y plant hynny nad ydyn nhw mewn cysylltiad rheolaidd â gwasanaethau cyffredinol. Ond o ran addysg, rydym ni'n glir mai bwriad y polisi sylfaenol sy'n sail i'r cynigion sy'n datblygu, yw sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysgu gartref a phobl ifanc yng Nghymru yn cael yr addysg addas honno, ac wrth wneud hynny, gall rhieni gael eu cyfeirio at wasanaethau eraill sydd ar gael iddyn nhw.

Nawr, rwy'n cydnabod bod y Comisiynydd Plant wedi bod yn bryderus ynglŷn ag amseriad yr ymgynghoriad a'r rheoliadau, ond y mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn. Mae'n rhaid inni ddwyn y rheoliadau a'r canllawiau statudol ymlaen gan roi sylw dyledus iddo a'i gael yn hollol gywir. Mae'n gofyn am gryn dipyn o waith i ddatblygu'r polisi'n briodol ac mewn modd llawn gwybodaeth, ac rydym ni'n bwrw ymlaen â hynny. Nid yw'n annhebyg yn ei gymhlethdod i ddeddfwriaeth sylfaenol.

Nawr, yr adroddiad—mae'r Prif Weinidog a minnau wedi manteisio ar y cyfle i gyfarfod â'r Comisiynydd Plant i drafod yr adroddiad. Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb ysgrifenedig llawn Llywodraeth Cymru erbyn 30 Tachwedd—rwyf wedi troi'n goch. A gaf i—?

18:30

Diolch, Llywydd. Nawr, bydd y drafodaeth a gawsom ni heddiw, yn helpu i lunio ein hymateb, a byddaf yn sicrhau y bydd ymateb ar gael i Aelodau'r Cynulliad. Fe fyddwn ni'n ymateb i bob un o'r 15 o argymhellion a wnaed gan y Comisiynydd. Efallai na fyddwn yn gallu cytuno â phob argymhelliad i'r radd eithaf, ond gallaf ymrwymo y byddwn yn parhau i ysgogi cynnydd ynghylch hawliau a lles plant. Diolch, Llywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud i'r bleidlais. Mae'r bleidlais honno ar y ddadl ar adroddiad y comisiynydd plant, ac felly pleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6855 - Gwelliant 1: O blaid: 18, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, un yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

NDM6855 - Cynnig: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:33.