Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/10/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.

Allforion i Wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu gwerth allforion i wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd? OAQ52714

Bu gennym ni gyfres o wasanaethau cymorth â'r bwriad o helpu cwmnïau o Gymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau i bob marchnad, y tu mewn a'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ers amser maith, a bydd y rhain yn parhau i fod ar gael ar ôl i ni adael yr UE.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod allforion o Gymru i'r Undeb Ewropeaidd, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2018, wedi cynyddu gan 6.8 y cant, o'u cymharu a'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, cynyddodd allforio i wledydd nad ydynt yn yr UE gan 0.3 y cant yn unig. O ystyried methiant Llywodraeth Cymru i arallgyfeirio ei chyrchfannau allforio, pa gamau wnewch chi eu cymryd i fanteisio ar y cyfleoedd masnachu a gyflwynir gan Brexit? Ac a wnewch chi ddilyn argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a phenodi Gweinidog masnach i werthu Cymru i'r byd, os gwelwch yn dda?

Wel, nid wyf i wedi fy argyhoeddi eto ynghylch pa gyfleoedd masnach sy'n bodoli ar ôl Brexit. Er enghraifft, os edrychwch chi ar y bum brif farchnad allforio sydd gennym ni, mae'r Almaen ar y brig, mae Ffrainc yn ail, mae UDA yn drydydd, Iwerddon yn bedwerydd, yr Iseldiroedd yn bumed. Nawr, mae pedair o'r gwledydd hynny yn yr UE. Os edrychwn ni ymhellach i lawr y 10 uchaf, yna, gwelwn sefyllfa lle ceir wyth sydd naill ai yn yr UE neu'r undeb tollau. Nawr, yn amlwg, dyma ein prif farchnadoedd allforio. Maen nhw'n farchnadoedd y mae'n rhaid i ni geisio eu diogelu gan geisio ar yr un pryd ehangu ein marchnadoedd mewn mannau eraill, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi agor, ac wrthi'n agor, mwy o swyddfeydd ledled y byd, er mwyn codi proffil Cymru dramor.

Prif Weinidog, er ei bod hi'n wir, ar hyn o bryd, bod y rhan fwyaf o nwyddau allforio Cymru yn mynd i'r UE, nid yw'r rhagolygon ar gyfer twf, Brexit neu beidio, yn addawol. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Banc y Byd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol i gyd wedi israddio'r rhagolygon twf cynnyrch domestig gros i tua 1.5 y cant, tra bydd twf pum i 10 gwaith yn fwy na hynny yn Tsieina. Felly, pa gamau penodol mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fanteisio ar ein masnach gynyddol gyda Tsieina ac i sicrhau bod Tsieina yn troi'n un o'n prif farchnadoedd allforio ar gyfer nwyddau a gwasanaethau?

Wel, mae Tsieina yn Rhif 11 o ran y gwledydd yr ydym ni'n allforio iddynt. Mae gennym ni, wrth gwrs, dair swyddfa yn Tsieina—rydym ni'n bwriadu agor un arall—a'u gwaith nhw yw hyrwyddo cysylltiadau ym mhob ffordd rhwng Cymru a Tsieina. Byddwn yn ceisio ehangu presenoldeb Cymru ym mhob marchnad ym mhedwar ban byd, gan gynnwys y farchnad honno sydd agosaf atom ni—y farchnad Ewropeaidd.

Treftadaeth Ddiwydiannol yng Nghasnewydd

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol yng Nghasnewydd? OAQ52710

Rydym ni'n falch, a hynny'n gwbl briodol, o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ein gwlad. Mae dros 1,000 o strwythurau diwydiannol yng Nghymru wedi eu diogelu'n statudol, gan gynnwys adeilad eiconig, rhestredig gradd I, pont gludo Casnewydd, wrth gwrs—adeiledd hanesyddol wirioneddol arwyddocaol nid yn unig i Gasnewydd, ond i Gymru gyfan.

Ydy, Prif Weinidog, mae'r bont gludo, a adeiladwyd ar droad yr ugeinfed ganrif, yn un o ddim ond chwech o bontydd sy'n gweithio yn y byd heddiw. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol i gludo gweithwyr dur ar draws afon Wysg i'w gweithle ac mae gan bobl leol lawer iawn o atgofion ohoni. Rwy'n cofio bod ar y bont gludo yn mynd i gemau ysgol, yn yr ysgol gynradd, gan sefyll ar un goes pan oedd yn taro ar y diwedd, i weld a allech chi aros ar un goes, cerdded dros y top, ac, wrth gwrs, hanes streic y glowyr, pan gafodd ei meddiannu gan lowyr ar streic, a phan oedd dyn busnes o UDA eisiau ei phrynu, ei datgymalu, a'i chludo i'r Unol Daleithiau i'w hailadeiladu. Ceir cymaint o straeon am bont gludo Casnewydd—y tranny, fel y'i gelwir yn lleol. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn yn gynyddol. Mae gan Gyfeillion Pont Gludo Casnewydd brosiect pwysig, gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri, i ddiogelu ei dyfodol, ac ymrwymodd Dafydd Elis-Thomas, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, wrth ateb cwestiwn gan fy nghyd-Aelod Jayne Bryant, i'w gwneud yn flaenllaw ym mholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol yng Nghymru. Tybed a allech chi atgyfnerthu'r ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru heddiw, Prif Weinidog, ac efallai rhoi ychydig mwy o fanylion ynghylch sut bydd yn cael ei ddatblygu.

Clywais yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd yn awgrymu ei fod wedi cerdded dros y bont—pa un a oedd ef i fod i wneud hynny ai peidio, nid yw'n esbonio ymhellach. Ond mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, bod y bont wedi chwarae rhan enfawr yn hanes Casnewydd a bod ganddi le annwyl iawn yng nghalonnau pobl ei etholaeth ac, yn wir, Gorllewin Casnewydd hefyd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau'r prosiect—y bont—trwy ddarparu cymorth a chyngor technegol, a thrwy helpu i nodi ffynonellau cyllid posibl er mwyn helpu i lenwi'r bwlch cyllid presennol ar gyfer y bont, a gwn yn sicr y gofynnwyd i'r Gweinidog am gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

13:35

Rwy'n falch o glywed y bydd Llywodraeth Cymru o leiaf yn cefnogi gwaith i weld os gallwn ni sicrhau cyllid ar gyfer y bont gludo, a gobeithiaf efallai y bydd yn ei chefnogi gyda'i chyllid ei hun, yn dibynnu ar sut mae'r gwaith hwnnw'n datblygu. Tybed, felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fyddai hefyd yn cefnogi treftadaeth ddiwydiannol Casnewydd trwy ariannu pont newydd sy'n cynnig yr un fath o ysbrydoliaeth dros ddociau Casnewydd ar gyfer ffordd liniaru'r M4.

Wel, nid yw hynny'n rhan o bortffolio'r Gweinidog, gallaf ei sicrhau o hynny, a byddwn bob amser yn ceisio sicrhau y bydd treftadaeth ddiwydiannol Casnewydd sydd gennym ni yn parhau i gael ei diogelu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bu llawer o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar ynghylch y mater o labelu bwyd. Fel y byddwch yn ymwybodol, bu rhai achosion trasig lle bu pobl farw, o bosibl oherwydd diffyg gwybodaeth ar label cynnyrch bwyd a fwytawyd ganddynt. A ydych chi'n cytuno y dylai fod labelu eglur fel mater o drefn ar gyfer cynhyrchion bwyd yng Nghymru fel bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael yn rhwydd?

Diolch am yr ateb pendant iawn yna ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Nawr, mater cysylltiedig arall yw'r un yn ymwneud â chig halal yn mynd i'r gadwyn fwyd prif ffrwd. Fel y gwyddoch, mae cig halal, ac mae tua 20 y cant ohono yn dod o anifeiliaid nad ydynt yn cael eu llonyddu cyn eu lladd, yn ddiwydiant sy'n tyfu yn y DU. Un mater sy'n gysylltiedig â hyn yw y caniateir cig halal am resymau crefyddol yn unig, fel y dylai'r rhai sy'n ei fwyta gael eu cyfyngu i'r rheini sydd â chred grefyddol eu bod angen bwyta cig halal. Mewn geiriau eraill, dylid cyfyngu'r rhai sy'n bwyta cig halal i Fwslimiaid gweithredol. Ond gwyddom, fwyfwy, bod manwerthwyr bwyd yn cynnig bwyd halal yn rhan arferol o'u bwydlen. Weithiau, mae'n anodd hyd yn oed gweld bod bwyd halal wedi ei labelu felly. Felly, gallech chi fynd i siop tecawê neu fwyty a chanfod eich bod chi'n bwyta bwyd y byddwch yn darganfod yn ddiweddarach sy'n halal, nad oedd wedi ei labelu'n eglur fel halal ar y fwydlen. A oes achos bod angen i ni fabwysiadu mesurau llymach o lawer dros labelu bwyd yma yng Nghymru fel nad yw pobl nad ydynt yn Fwslimiaid gweithredol yn bwyta bwyd halal yn ddiarwybod iddynt?

Wel, rwy'n credu bod pobl yn deall ac yn gallu gwneud dewis. Beth ddylem ni ei gael nesaf felly? A ddylem ni fynnu bod bwyd yn cael ei labelu fel bwyd cosher er mwyn i bobl nad ydynt yn Iddewon osgoi bwyta'r bwyd hwnnw? A ddylem ni labelu bwyd, er enghraifft, fel ei fod yn dderbyniol i'r rhai sy'n Hindwiaid, i'r rhai sy'n Fwdhyddion? Wel, oes, mae angen i ni labelu bwyd mor gywir â phosibl, ond yn sicr nid wyf i o'r farn y dylai bwyd halal, rywsut, gael ei dargedu'n benodol o'i gymharu ag arferion deietegol eraill a chrefyddau eraill. Os ydych chi'n mynd i awgrymu hynny am Fwslimiaid, a ydych chi'n mynd i awgrymu'r un peth am Iddewon?

Rwy'n derbyn y pwynt yr ydych chi'n ei godi, Prif Weinidog, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod bwyd cosher yn mynd i'r farchnad fwyd prif ffrwd, ond mae rhywfaint o dystiolaeth bod hynny'n digwydd gyda bwyd halal. Felly, dyna'r rheswm y codais y mater penodol o fwyd halal. Nawr, nid wyf i'n credu y dylem ni fod yn tanbwysleisio'r mater hwn. Rwy'n cofio y cawsom ni sgandal dros gig ceffyl ychydig flynyddoedd yn ôl, a chredaf ei bod yn bosibl y gallai'r diffyg labelu hwn o fwyd halal fod, os unrhyw beth, hyd yn oed yn fwy o sgandal.

Nawr, mae eich Llywodraeth wedi sôn am—[Torri ar draws.] Mae eich Llywodraeth wedi sôn am les anifeiliaid yn y gorffennol, ac i fod yn deg, rydych chi wedi gwneud pethau ar y trywydd hwnnw. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain, yr RSPCA a chyrff eraill wedi galw am derfyn ar ladd anifeiliaid yn y DU heb eu llonyddu, y maen nhw'n ei ddweud sy'n greulon ac yn boenus i'r anifeiliaid sy'n cael eu lladd. Bu cryn ymchwil academaidd yn cefnogi'r safbwynt hwn hefyd. Nawr, mae eisoes wedi ei wahardd yn Denmarc, Sweden, Gwlad yr Iâ a Seland Newydd. Polisi UKIP erbyn hyn yw gwahardd yr arfer o ladd heb lonyddu yn llwyr yma yn y DU. A fyddech chi'n cytuno mai dyna'r polisi gorau mewn gwirionedd er budd lles anifeiliaid yng Nghymru?

Na, ac rwy'n gresynu'r ffaith ei fod ef, unwaith eto, yn targedu un grŵp crefyddol nad yw'n ei hoffi. Mae'n dechrau gyda Mwslimiaid, bydd yn symud ymlaen at yr Iddewon, bydd yn symud ymlaen at Hindŵiaid, yn symud ymlaen at Fwdhyddion, gan nad ydynt yn union fel ef ei hun, a diolch byth nad ydyn nhw—a allwch chi ddychmygu byd o Gareth Bennetts, y math o fyd y byddai hwnnw?

Y gwir amdani yw ein bod ni'n gymdeithas agored a goddefgar. Mae gennym ni yng Nghaerdydd un o'r mosgiau hynaf ym Mhrydain. Mae'r boblogaeth sydd gennym ni yma o bobl sy'n Fwslimiaid wedi eu hintegreiddio yn ein cymdeithas ers degawdau lawer iawn ac yn cael eu parchu am y cyfraniad y maen nhw wedi ei wneud at fywyd Cymru—cyfraniad, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cyfraniad y mae UKIP na'r Aelod wedi ei wneud.

13:40

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roeddwn i gyda Phrif Weinidog yr Alban ddoe. Mae unrhyw un sy'n ymweld â'r Alban a Llywodraeth yr Alban y dyddiau hyn yn dod oddi yno gyda synnwyr o wlad sy'n hyderus, Llywodraeth sy'n effeithiol ac arweinydd sy'n cael ei pharchu yn yr Alban a thu hwnt. Ddoe, pan wnaeth Prif Weinidog yr Alban alw am i unrhyw fesur Brexit wrth gefn a fyddai'n rhoi statws marchnad sengl arbennig i Ogledd Iwerddon gael ei ymestyn i'r Alban hefyd, fe'i adroddwyd fel newyddion mawr gan gyfryngau'r DU gyfan. A ydych chi fel Prif Weinidog Cymru yn adleisio'r alwad honno ar gyfer Cymru, a phan fyddwch chi'n trafod y materion hyn, pam mae hi'n ymddangos nad oes neb yn cymryd unrhyw sylw?

Nid wyf i'n cytuno â'r hyn y mae Prif Weinidog yr Alban wedi ei ddweud. Rwy'n credu mai'r cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw symud y broblem o'r ffin yn Iwerddon i'r ffin rhwng yr Alban a Lloegr. Mae'r problem yn cael ei thrawsblannu wedyn.

Y mater gwirioneddol yw mae'n rhaid i ni ei gofio yma, yw ei bod hi'n bwysig bod y DU a Gweriniaeth Iwerddon yn yr un undeb tollau ac bod ganddyn nhw yr un trefniadau o ran y farchnad sengl.

Prif Weinidog, byddai mwy o hygrededd i'ch honiad eich bod yn llais cryf dros Gymru pe na byddai am y ffaith eich bod chi'n gadael swydd y Prif Weinidog ar yr adeg fwyaf allweddol hon yn ein hanes, ac o fewn mater o ddiwrnodau o gyhoeddi eich bwriad o wneud hynny, ildiodd eich Llywodraeth, dan arweiniad un o'ch darpar olynwyr, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r argyhoeddiad a ddangoswyd gan Lywodraeth yr Alban, i San Steffan o ran eich Deddf parhad eich hun. Nawr, o gofio eich bod chi'n cefnogi Llywodraeth yr Alban yn ei hachos yn y Goruchaf Lys, a allwch chi gadarnhau y bydd unrhyw gynnig i ddiddymu eich Deddf parhad yn cael ei ohirio tan i ddyfarniad gael ei wneud, ac os bydd y llys yn canfod o blaid Llywodraeth yr Alban, yn hytrach na dileu'r Ddeddf, a wnewch chi ddatgan bod eich cytundeb dirmygadwy braidd gyda Llywodraeth Dorïaidd San Steffan ar ben?

Y gwir am y sefyllfa yw hyn: mae'n wireb ym Mhlaid Cymru rywsut bod pobl Cymru yn gamsyniol gan nad ydynt yn pleidleisio dros Blaid Cymru a drosto ef fel Prif Weinidog. Y gwir amdani yw eu bod wedi rhoi fy mhlaid i mewn grym ym mhob etholiad yn y Cynulliad hwn, a'r gwir amdani yw ein bod ni'n eistedd yn y fan yma fel Llywodraeth dan arweiniad Llafur, gydag eraill o fewn y Llywodraeth hon, wrth gwrs.

Na, nid wyf yn cytuno â'r hyn y mae'r Alban wedi ei wneud. Rydym ni wedi dod i delerau gyda Llywodraeth y DU. Rydym ni'n disgwyl i'r telerau hynny gael eu bodloni. Beth sy'n digwydd os bydd yr Albanwyr yn colli'r frwydr yn y Goruchaf Lys? Does ganddyn nhw ddim. Does ganddyn nhw ddim. Mae gennym ni gytundeb. Ni fydd gan yr Albanwyr unrhyw gytundeb o gwbl, ac mae hynny, yn ein barn ni, yn rhagolwg llawer gwell i ni cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, yn hytrach na chwarae blacjac, i bob pwrpas, gyda dyfodol yr undeb.

Mae Prif Weinidog yr Alban yn achub y blaen arnoch chi. Mae hyd yn oed Gogledd Iwerddon, nad oes ganddynt Brif Weinidog na Llywodraeth na Chynulliad, yn achub y blaen arnoch chi. Mae'n llai o syndod, efallai, bod Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon yn rhagori arnoch chi; wedi'r cyfan, maen nhw'n wladwriaeth annibynnol, ac efallai fod gwers i ni yn y fan honno, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn bod diplomyddion Iwerddon wedi gallu cadarnhau i mi dros y penwythnos y byddan nhw nawr yn ailagor swyddfa conswl Iwerddon yma yng Nghaerdydd. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, bod eich Llywodraeth—. Mae'n chwerthin. Mae'n credu ei fod yn ddoniol, ond mae hwn yn ddatblygiad pwysig o ran ein partner allweddol yn y fan yma. A allwch chi fel Prif Weinidog gadarnhau y byddwch yn ymateb trwy agor swyddfa i Gymru yn Nulyn, ac, i fod yn eglur, nid wyf i'n golygu desg wedi ei chuddio yn un o gorneli llysgenhadaeth Prydain?

Ac yn olaf, Prif Weinidog, o gofio bod economi Iwerddon wedi tyfu tua thair gwaith yn gyflymach na gweddill Ewrop y llynedd, a phum gwaith yn gyflymach na Chymru, a ydych chi'n credu bod y Gwyddelod yn edrych yn eiddigeddus ar y llwyddiant economaidd y mae Cymru o fewn yr undeb mor amlwg wedi ei fod ac yn gresynu'n fawr y drychineb economaidd y bu annibyniaeth iddyn nhw?

Yn gyntaf oll, mae gennym ni swyddfa yn Nulyn. Byddwn yn disgwyl iddo wybod hynny. Ydy, mae hi yn y llysgenhadaeth, ond mae'r Albanwyr yno hefyd. Y pwynt yw bod yr Albanwyr hefyd mewn llysgenadaethau ledled y byd, fel yr ydym ninnau. Felly, nid oes gan yr Albanwyr unrhyw broblem gyda bod y tu mewn i lysgenadaethau Prydain pan fo'n gyfleus iddyn nhw. Nid wyf i'n gweld problem gyda hynny, cyn belled ag y bo'r presenoldeb yno. Mae'r swyddfa conswl yn dod i Gaerdydd gan fy mod i wedi parhau i wthio amdano. Rwyf i wedi ei godi ym mhob un cyfarfod yr wyf i wedi ei gael gyda swyddogion Llywodraeth Iwerddon, gyda'r Taoiseach ei hun, a chyda Gweinidogion Llywodraeth Iwerddon, a dyna pam mae wedi dychwelyd i Gaerdydd, ar ôl yr holl waith a wneuthum i'w perswadio i wneud hynny.

Yn drydydd, ydy, mae economi Iwerddon wedi tyfu, ond o sylfaen a oedd yn eithriadol o isel yn 2008. Roedd Iwerddon ar ei gliniau yn 2008, roedd yr economi ar chwâl, roedd pobl mewn dyled enfawr, roedd y banciau mewn sefyllfa lle'r oeddent yn mynd i'r wal. Roedden nhw mewn sefyllfa lle'r oedd y farchnad dai wedi chwalu. Ydy, mae pethau wedi gwella, ond rwy'n adnabod Iwerddon yn dda dros ben: mae'n gwneud yn dda yn economaidd, mae ganddi broffil uchel o gwmpas y byd oherwydd ei chymuned alltud, ond nid oes ganddi wasanaeth iechyd. Os ydych chi eisiau mynd i Iwerddon i gael sicrwydd yswiriant iechyd, mae croeso i chi wneud hynny, oherwydd mae'r ddarpariaeth iechyd yno yn llawer iawn gwaeth na'r hyn sydd gennym ni yma. Mae'n rhaid talu am bethau yn Iwerddon sydd i'w cael am ddim yma. Y gwir amdani, er enghraifft, yw os ydych chi eisiau cael babi yn Iwerddon, rydych chi'n talu. Dyna beth sy'n digwydd yno. Y gwir amdani yw bod y cyfraddau treth yn uwch, mae cost byw yn uwch. Gan adnabod Iwerddon fel yr wyf i, gwn fod hynny'n wir.

Ac nid yw'n mynd i'r afael â'r pwynt sylfaenol hwn. Mae'n onest pan ddywed, 'Rwyf i o blaid annibyniaeth', oherwydd dyna'r hyn y mae ei blaid yn sefyll drosto. Nid wyf i'n ei feirniadu am hynny. Nid wyf i'n cytuno ag ef, ond dyna ei safbwynt. Ond yr hyn y mae'n rhaid i ni roi sylw iddo, does bosib, yw'r bwlch sydd gennym ni rhwng gwariant a chodi refeniw yng Nghymru. Ceir bwlch o 25 y cant. Mae'n rhaid rhoi sylw i hynny o ran, pe byddem ni'n cael annibyniaeth yfory, sut byddai hynny'n cael sylw. Ble fyddai'r toriadau yn cael eu gwneud? Ble fyddai ef yn gwneud y toriadau hynny? Oherwydd ni fyddai twf dros nos. Os yw eisiau dadlau'r achos dros annibyniaeth, mae'n rhaid iddo esbonio i bobl Cymru lle y byddai'r toriadau hynny yn digwydd. Ni ellir dadlau bod y refeniw yr ydym yn ei godi yn llai na'r hyn yr ydym ni'n ei wario. Ni ellir dadlau hynny, oni bai ei fod yn dadlau nad yw hynny'n wir. Os yw hynny'n wir, os byddwn yn cael annibyniaeth, ceir bwlch yn hynny o beth, sut bydd y bwlch hwnnw'n cael ei lenwi?

13:45

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi egluro i bobl Cymru pam bod y contract newydd ar gyfer darparu gwasanaethau band eang yn dal i fod heb ei gyflwyno?

Wel, mae hwnnw'n fater yr ydym ni'n ei godi gyda BT. Nhw yw'r unig ddarparwr, wrth gwrs—nid oes cystadleuaeth yn y farchnad hon. Ac rydym ni'n sicrhau y bydd BT yn cyflwyno'r contract hwnnw ac yn darparu'r gwasanaethau yr ydym ni wedi talu amdanynt.

Wel, mae methu â chyflwyno'r contract newydd hwn yn enghraifft arall o fethiant eich Llywodraeth. Dyma'r diweddaraf mewn rhestr faith o addewidion a dorrwyd. A gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog bod maniffesto Plaid Lafur Cymru ar gyfer etholiad 2011 wedi ymrwymo i sicrhau, a dyfynnaf,

y bydd gan bob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru fynediad at Fand Eang Cenhedlaeth Nesaf erbyn 2015.

Wel, mae hwnnw'n amlwg yn addewid arall a dorrwyd gan eich Llywodraeth. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob ochr i'r Siambr yn gallu rhoi enghreifftiau i chi o gymunedau sy'n cael anawsterau gyda gwasanaeth band eang nad yw'n ddigon da. Mae cymunedau fel Mynachalog-ddu yn sir Benfro, Moelfre yng Nghonwy a Chastellnewydd yn sir Fynwy ymhlith dim ond rhai sydd yng nghefn y ciw band eang, sy'n gwneud y cymunedau hynny'n llawer mwy ynysig a difreintiedig o'u cymharu â rhannau eraill o Gymru. Prif Weinidog, sut aeth popeth o'i le?

Wel, yn gyntaf oll, mae gennym ni 96 y cant o eiddo sydd wedi eu cysylltu â band eang cyflym iawn. Lle mae addewidion y Torïaid ar y mater hwn? Pe byddai'r Torïaid mewn grym, ni fydden nhw wedi gwneud dim byd o gwbl. Nid oedd unrhyw gynnig band eang gan y Torïaid, dim byd o gwbl.

Ble mae Llywodraeth y DU? Cofiwch ein bod ni wedi cadw ein haddewid o ran mater nad yw hyd yn oed wedi ei ddatganoli. Nid yw hyd yn oed wedi ei ddatganoli. Unwaith eto, mae gennym ni'r Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain yn dweud bod yn rhaid i Gymru dalu am rywbeth, mewn gwirionedd, y dylai hi dalu amdano. A dweud y gwir, mae hwn yn seilwaith a ddylai fod o fudd i'r DU gyfan, ond nid dyna sut y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn ei gweld hi, oherwydd bod ganddyn nhw gymaint o obsesiwn gyda'r farchnad. Iddyn nhw, mae'n rhaid i'r farchnad benderfynu popeth. Pe byddem ni'n gadael i hynny ddigwydd yng Nghymru, ni fyddai gan y rhan fwyaf o Gymru fand eang cyflym iawn. Rydym ni wedi ymyrryd fel Llywodraeth, rydym ni wedi buddsoddi, a dyna pam yr ydych chi'n ei godi, oherwydd y cywilydd bod ei blaid ei hun wedi gwneud cyn lleied.

Rydych chi wedi mynd yn groes i'ch maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad—mae hynny'n gwbl eglur o'r hyn yr wyf i newydd ei ddyfynnu i chi. Ac nid yn unig y gwnaeth maniffesto eich plaid ymrwymo i sicrhau y byddai gan bob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru fynediad at fand eang cenhedlaeth nesaf erbyn 2015, ond aeth ymlaen i addo y dylai fod gan 50 y cant o eiddo neu fwy fynediad at 100 Mbps. Nawr, rydym ni'n gwybod y bydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad ar y contract newydd, ond fel yr ydym ni wedi dod i'w ddisgwyl gan gynifer o gynlluniau Llywodraeth Cymru, mae gweithrediad hyn wedi llithro a llithro a llithro.

Dylai'r contract hwn fod wedi bod ar waith ar ddechrau'r flwyddyn hon, a thra ein bod ni'n dal i aros, mae'n rhaid i blant ysgol fel Grug Williams gael eu gyrru filltir i ffwrdd o'u cartrefi ger Gwytherin yng Nghonwy i ddod o hyd i signal i lawrlwytho gwaith ysgol. Gadewch i mi atgoffa'r Prif Weinidog hefyd bod arolwg band eang a symudol blynyddol yr NFU wedi dangos hefyd bod dwy ran o dair o aelodau'r NFU a holwyd yng Nghymru wedi dweud nad oeddent yn gallu cael gafael ar fand eang digon cyflym, sy'n cael effaith sylweddol ar eu gallu i gyflawni busnes yn effeithiol ac yn effeithlon. Felly, gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, ac yng ngoleuni'r effaith ddifrifol iawn y mae diffyg darpariaeth band eang briodol yn ei chael ar gymunedau Cymru, a wnewch chi ymddiheuro nawr am fethu â bodloni eich ymrwymiad maniffesto ar gyfer etholiad Cynulliad 2011? A wnewch chi hefyd ymddiheuro i'r bobl hynny sy'n byw heb wasanaeth band eang addas yng Nghymru am fethiant eich Llywodraeth i ymdrin â'r mater hwn yn briodol?

13:50

Yn gyntaf oll, yn sicr nid yw technoleg symudol wedi ei ddatganoli. Mae hynny'n rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan—[Torri ar draws.] Gadewch i mi esbonio, felly. Mae gwahaniaeth rhwng technoleg symudol a band eang. Dywedodd symudol a band eang. Nid yw symudol wedi'i ddatganoli. Mater i Lywodraeth y DU yw technoleg a signal ffonau symudol. Y rheswm pam mae gennym ni ddarpariaeth gymharol wael yn y DU yw'r model a fabwysiadwyd ar gyfer signal symudol yn y lle cyntaf. Roedd gormod o arian yn cael ei dalu i Lywodraeth y DU ac nid oedd digon o arian ar gael wedyn i fuddsoddi yn y seilwaith.

Pan ddaw i fand eang, mae'n eistedd yn y fan yna fel rhywun o blaid nad oes ganddi bolisi ar hyn. Nid wyf i wedi gweld dim polisi o gwbl. Rydym ni wedi sicrhau ar gyfer pobl Cymru mewn llawer iawn o gymunedau ar hyd a lled Cymru gwasanaeth band eang na fydden nhw byth bythoedd wedi ei gael fel arall. Rwy'n siarad â busnesau ledled Cymru sy'n gallu cael mynediad ato. Cyfeiriodd at faniffesto 2011. Cyfeiriodd at y mater o fand eang i ysgolion. Mae un addewid y gwn fod pobl Cymru yn falch iawn na chafodd y Ceidwadwyr erioed y cyfle i'w weithredu o'u maniffesto nhw yn 2011, sef y toriad o 20 y cant i gyllid addysg y maen nhw'n anghofio amdano yn barhaus.

Lles Anifeiliaid yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am les anifeiliaid yng Ngogledd Cymru? OAQ52723

Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Cyflwynodd datganiad llafar Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Mehefin gynlluniau i gynnal a gwella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru a bydd yn gwneud datganiad llafar ar les anifeiliaid a ffermir y mis nesaf.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae deddf Finn yn gwneud ei ffordd trwy broses ddeddfwriaethol Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae'r ddeddf hon yn cynnig rhoi statws arbennig i anifeiliaid gwasanaeth, fel cŵn a cheffylau'r heddlu, lle maen nhw'n cael eu niweidio ac yn cael gwared ar yr amwyster ynghylch dioddef diangen sydd ar gael i droseddwyr o dan adran 4 Deddf Lles Anifeiliaid 2006. Deallaf y bydd y newid hwn yn dod gerbron y Cynulliad i'w hystyried. Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth gefnogi deddf Finn, os gwelwch yn dda?

Mae'r rhain yn faterion y gwn fod y Gweinidog yn eu hystyried a'i nod fydd rhoi ystyriaeth ffafriol o ran gweithredu'r gyfraith honno. Mae'r rhain yn faterion y bydd y Gweinidog yn ymdrin â nhw maes o law.

Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch enillwyr gwobrau ôl troed lles anifeiliaid cymunedol RSPCA Cymru yn y gogledd—cyngor Conwy, cyngor sir Ddinbych, cyngor Wrecsam, cyngor Ynys Môn, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Cartrefi Cymunedol Gwynedd—a hefyd i gydnabod y ffaith fod y ddarpariaeth o les anifeiliaid trwy awdurdodau lleol yn ofyniad pwysig gan yr awdurdodau lleol hynny. Sut, felly, ydych chi'n teimlo y dylem ni ymateb i bryderon a godwyd gyda mi yr haf hwn, pan euthum allan gydag arolygydd RSPCA yn sir Ddinbych, am y fflyd o anafiadau i anifeiliaid yn yr ardal a achoswyd gan reifflau aer a chroesfwâu yn ddiweddar?

Mae hynny'n peri gofid mawr. Yn gyntaf oll, ymunaf ag ef wrth gwrs i longyfarch yr awdurdodau lleol dan sylw. Pan fo anifeiliaid wedi eu hanafu gydag arfau, ni ddylai pobl fod ag unrhyw amheuon ynghylch hysbysu'r heddlu am y mater. Gwn ei bod hi'n llawer anoddach dod o hyd i'r troseddwyr ar ôl y digwyddiad, ond lle y ceir patrwm o ymddygiad mewn ardal benodol, bydd y bobl hynny yn gwneud camgymeriad rywbryd ac yn aml iawn maen nhw'n cael eu dal. Mae'n peri gofid mawr, wrth gwrs, i'r rhai sy'n berchen ar anifeiliaid anwes a byddwn yn eu hannog, hyd yn oed os ydynt yn credu na fydd dim yn digwydd, byddwn yn eu hannog i gofrestru'r mater gyda'r heddlu a'i adrodd fel trosedd.

Prif Weinidog, gwelaf fod y Llywodraeth yn Lloegr yn cyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach trydydd parti. Hoffwn gael gwybod gennych chi, rydych chi'n dweud nawr eich bod chi'n mynd i'w, am ba hyd yr ydych chi'n mynd i barhau i geisio rheoleiddio'r dioddefaint yn hytrach na'i wahardd yn llwyr.

Mae'r Gweinidog yn bwriadu gwneud cyhoeddiad ar hynny cyn diwedd y tymor.

13:55
Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, 'Trafnidiaeth addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol'? OAQ52748

Mae safbwynt Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar fanteision buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â seilwaith cerdded a beicio, yn cael ei adleisio gan y Llywodraeth, wrth gwrs, ac ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r comisiynydd ar 28 Medi.

Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, rwy'n gobeithio, mai'r hyn y mae adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ei amlygu yw y byddai ffordd liniaru'r M4 yn cynyddu mewn gwirionedd y niferoedd sy'n defnyddio'r M4 gan 42,000 o gerbydau y dydd, gan gynyddu allyriadau gan 500,000 tunnell. O ystyried maint y tagfeydd a'r broblem lygredd y mae fy etholwyr yn eu dioddef, rwy'n bryderus iawn y byddai'r ffordd liniaru hon yn cynyddu nifer y bobl sy'n cymudo i Gaerdydd, ac i Gasnewydd, yn wir, mewn car. Caf fy nharo gan y ddadl gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, y byddai swm llawer llai o lai na £600 miliwn ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn datrys y broblem tagfeydd am ffracsiwn o'r pris. Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi eich safbwyntiau i ni ar y ddadl honno.

Nid yw'n eglur sut y byddai hynny'n gweithio, a rhai o'r pethau yr wyf i wedi eu gweld fyddai cyflwyno lonydd bysiau ar y draffordd. Wrth gwrs, byddai angen bysiau a fyddai'n rhedeg ar y lonydd, ac mewn rhai rhannau ohoni, ffordd ddeuol; ni allwch chi gael traffordd un lôn, yn amlwg. Roedd atal pobl rhag mynd ar y draffordd yn un awgrym a wnaed; symud cludiant nwyddau i'r rheilffordd, yr ydym, wrth gwrs, eisiau ei gefnogi, ond mae'n haws dweud na gwneud, yn enwedig traffig nwyddau oherwydd prin iawn yw'r iardiau nwyddau erbyn hyn.

Rwy'n derbyn, wrth gwrs, yn llwyr yr hyn y mae'n ei ddweud am dagfeydd. Bydd pethau'n gwaethygu—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Pan fydd tollau Hafren yn mynd, bydd effaith ar y twneli, ac rwy'n credu ein bod ni'n twyllo ein hunain os ydym ni'n credu y bydd y sefyllfa'n gwella yn y dyfodol agos. Felly, mae'n rhaid cael ateb. O'm safbwynt i, y penderfyniad y bydd gofyn i mi ei wneud yw, 'A ddylid mabwysiadu'r llwybr du ai peidio?' ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae gen i feddwl agored yn ei gylch oherwydd nad wyf wedi gweld adroddiad sylweddol yr arolygydd cynllunio ar y mater hwn eto.

Dywedodd y comisiynydd hefyd

'Mae’r Llwybr Du yn wan o ran y meini prawf a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol'.

Credaf fod hon yn adeg allweddol. Rwy'n gwbl niwtral o ran beth ddylai'r penderfyniad fod; rwy'n credu bod dadleuon ar y ddwy ochr. Ond mae'n amlwg yn mynd i fod yn adeg allweddol ar gyfer cymhwyso'r Ddeddf hon ar gyfer prosiectau a pholisïau hirdymor, ac rwy'n gobeithio y bydd gan y Llywodraeth ryw fath o ddull o ymateb yn fanwl os bydd yn rhaid iddi ganfod y gallai fod, o ran y meini prawf a nodir, yn benderfyniad nad yw'n cyd-fynd â hi yn llwyr. Byddai hynny'n cymryd y Ddeddf o ddifrif o leiaf, neu ai eich safbwynt yw bod y comisiynydd yn anghywir wrth wneud yr asesiad y mae hi wedi ei wneud ar hyn?

Mae'n drueni na chyflwynodd y comisiynydd dystiolaeth i'r ymchwiliad oherwydd, wrth gwrs, gallai'r dystiolaeth hon fod wedi cael ei phrofi wedyn a byddai wedi gallu esbonio'r sail y rhoddwyd y dystiolaeth honno arni. Fe'i lluniwyd ar ôl i'r ymchwiliad orffen, nad yw'r ffordd fwyaf defnyddiol o wneud hyn efallai, ond, serch hynny, byddwn yn cymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, yr hyn y mae'r comisiynydd wedi ei ddweud, a'r holl ffactorau perthnasol ynghylch y penderfyniad. Nid yw'r penderfyniad ei hun yn benderfyniad hawdd, ond mae'n rhaid ei wneud un ffordd neu'r llall. Y sicrwydd yr wyf i'n ei roi i'r Aelodau yw y byddaf yn cymryd yr holl ffactorau perthnasol i ystyriaeth cyn dod i gasgliad.

Cynlluniau Adfywio yng Ngorllewin De Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau adfywio yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52751

Mae buddsoddiad adfywio Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau sy’n creu swyddi, gwella sgiliau a chyflogadwyedd, ac sy’n cynnig yr amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu ynddo a sicrhau bod llewyrch yn cyrraedd pob rhan o Gymru.

Prif Weinidog, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mae gan forlyn llanw bae Abertawe y potensial nid yn unig i'n helpu ni yng Nghymru i gynyddu ein cynhyrchiad o ynni adnewyddadwy, ond hefyd i roi hwb y mae wir ei angen i economi de-orllewin Cymru gyfan. Bu sôn am fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, a sefydlwyd tasglu gan ddinas-ranbarth bae Abertawe i ystyried hyn yn fwy manwl. Fodd bynnag, o ran modelau perchnogaeth, a wnewch chi gadarnhau pa un a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried creu cwmni ynni Cymru i fwrw ymlaen â'r prosiect hwn, pryd ydych chi'n disgwyl i'r tasglu gwblhau ei waith, a phryd ydych chi'n rhagweld gwneud penderfyniad ar swyddogaeth eich Llywodraeth yn y cynllun cyfan hwn?

Y peth cyntaf y mae'n rhaid ei sefydlu yw'r farchnad, ac yn benodol, wrth gwrs, y pris taro. Mae'r pethau hyn yn eithriadol o bwysig o ran pennu hyfywedd y prosiect. Yr hyn na wnaeth Llywodraeth y DU oedd edrych ar y contract ar gyfer gwahaniaeth a'r pris taro o ran gwneud y morlyn yn hyfyw; penderfynodd y byddai'n talu mwy o arian am fathau eraill o ynni. Felly, y peth cyntaf y mae'n rhaid ei sefydlu yw'r farchnad—mae ffordd o wneud hynny, gan weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill. Gwn fod cyngor dinas Abertawe yn ystyried ffyrdd eraill o ariannu'r morlyn, ac rydym ni eisiau gweld beth yw'r syniadau hynny, wrth gwrs, a byddwn yn gweithio gyda nhw os bydd prosiect hyfyw a all ddatblygu, ar ôl penderfyniad di-groeso Llywodraeth y DU. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw arno.

14:00

Wel, mae Abertawe a Chaerdydd, wrth gwrs, yn elwa ar rywfaint o waith adfywio ar hyn o bryd, nid lleiaf drwy'r fargen ddinesig, ond mae Pen-y-bont ar Ogwr, fel y gwyddoch, ar gyrion eithafol ôl-troed bargen ddinesig dinas Caerdydd. Er bod trethdalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfrannu dros £11 miliwn neu fwy ar gyfer y prosiect, mae trigolion yn dechrau gofyn i mi nawr ble mae'r budd ynddo ar eu cyfer nhw, ac maen nhw'n gofyn ym Mhorthcawl hefyd. Yn benodol, maen nhw'n gofyn: a yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl mwy o fuddsoddiad yng ngorsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr neu'r orsaf drenau Bracla sydd wedi ei haddo ers talwm? A ydych chi'n meddwl y dylai'r fargen ddinesig fod yn adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid canol y dinasoedd yn unig? Efallai mai dyma'r catalydd ar gyfer cael gwared yn rhannol ar barth cerddwyr y mae masnachwyr, fel y gwyddoch, yn awyddus iawn i'w weld yn digwydd.

Wel, yn gyntaf oll, dim ond newydd gael ei hailwampio y mae gorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, fel y bydd hi'n gwybod yn iawn. Roedd problem mynd drwy'r gatiau, felly mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn. O ran y dref ei hun, mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi cael effaith ar y dref. Bydd ailddatblygu maes parcio y Rhiw i'r hyn sydd bellach yn gampfa, yn faes parcio ac yn llety preswyl—bydd hynny'n dod â mwy o bobl sy'n byw yn y dref ac felly'n darparu nifer yr ymwelwyr sydd ei hangen ar y dref yn ystod y dydd a min nos. Mae gennym ni'r ardal gwella busnes hefyd y gwn sydd wedi cael ei chroesawu gan fasnachwyr y dref. Yn wir, er tegwch, mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng nghanol y dref erbyn hyn sy'n denu pobl i mewn, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu'n fawr.

Mae hi'n sôn am gael gwared yn rhannol ar barth cerddwyr. Mae'n rhywbeth, yn bersonol, yr wyf i'n ei gefnogi, ond dim ond y darn yna, oherwydd rwy'n cofio sut yr oedd y dref pan oedd traffig. O'i wneud yn briodol, rwy'n credu ei bod hi'n bosibl cael llwybr drwy'r dref nad yw'n achosi perygl i bobl eraill, nad yw'n gadael i bobl oedi ychwaith, mewn lleoedd parcio ceir, ond yn caniatáu i bobl stopio, casglu a mynd—neu stopio, gollwng a mynd—a gwn fod hynny'n rhywbeth y mae'r cyngor yn awyddus i'w wneud ac yn bwriadu datblygu cynnig er mwyn gwneud hynny.

Prif Weinidog, mae adfywio economaidd yn amlwg yn dibynnu ar nifer o faterion yn y saith etholaeth ar draws y de, gan gynnwys Aberafan. Mae trafnidiaeth yn fater pwysig i sicrhau y gallwn ddenu busnesau a dod â buddsoddiad. Nawr, bu adroddiad i Lywodraeth Cymru ar faterion llygredd yr M4 sy'n gwneud cynnig i Lywodraeth Cymru ystyried cau cyffordd 41. Y tro diwethaf y gwnaeth hynny, roedd anhrefn traffig yn fy etholaeth i, ac ni fyddai hynny'n denu busnesau i ddod oherwydd roedd yr anhrefn yn digwydd yn ystod oriau brig a byddai'n tarfu'n aruthrol ar fusnesau. A wnewch chi ailddatgan y safbwynt a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddwy flynedd yn ôl i gadw'r ffordd honno ar agor ac na fydd Llywodraeth Cymru yn cau cyffordd 41 ac yn ailgyflwyno'r anhrefn traffig i bobl Port Talbot?

Wel, mae hwn yn fater sy'n dal, rwy'n credu, yn destun ymgynghoriad. Wrth gwrs, fel y digwyddodd y tro diwethaf, bydd ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i'r sylwadau y mae pobl yn eu gwneud.

Credyd Cynhwysol yn Nhorfaen

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith credyd cynhwysol yn Nhorfaen? OAQ52752

Wel, mae pobl yn ei chael hi'n anodd ymdopi, nid yn unig yn Nhorfaen, ond mewn mannau eraill, oherwydd cymhlethdodau credyd cynhwysol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r materion hyn ar frys cyn iddyn nhw fwrw ymlaen ag unrhyw gam i symud hawlwyr budd-daliadau presennol i gredyd cynhwysol mewn modd a reolir.

Prif Weinidog, mae'r gwasanaeth credyd cynhwysol wedi bod yn cael ei gyflwyno'n llawn yn Nhorfaen ers dros flwyddyn erbyn hyn. Yn ystod y flwyddyn honno, rydym ni wedi gweld pobl yn aros chwech i wyth wythnos am daliad, cynnydd i ddyledion ac ôl-ddyledion rhent, mwy a mwy o bobl yn gorfod defnyddio banciau bwyd a llinell gymorth credyd cynhwysol lle mae pobl yn aros oriau yn llythrennol i gael siarad ag aelod o staff. Rwy'n credu mai pedair awr yw'r record yn lleol yn Nhorfaen, gyda'r rhan fwyaf o bobl, pobl agored i niwed yn enwedig, yn rhoi'r gorau i aros yn ystod y cyfnod hwnnw.

A wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r glymblaid ragorol sydd gennym ni o gyngor Torfaen, swyddfa cyngor ar bopeth Torfaen, TRAC2 a darparwyr tai, sydd i gyd yn gweithio mor galed i gael pobl drwy'r ddrysfa credyd cynhwysol hon? Ond a wnewch chi hefyd ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i gydnabod ei bod hi'n amser rhoi terfyn ar hyn nawr a datrys y problemau hyn cyn iddyn nhw achosi mwy o ddioddefaint?

Yn gyntaf, a gaf i ychwanegu fy niolch a'm llongyfarchiadau, wrth gwrs, i'r enghraifft wych o weithio ar y cyd yr ydym ni wedi ei weld yno, gan helpu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed ar adeg pan fo angen iddynt wybod pa gyfeiriad i symud iddo ac i ganfod beth yn union beth y mae ganddyn nhw hawl i'w gael. Ond, ydy, mae'n gwbl eglur i mi ac i lawer yn y Siambr hon, nad yw credyd cynhwysol, fel y mae ar hyn o bryd, wedi gweithio. Ac mae'n gwbl hanfodol, pan fo problem, bod y broblem honno'n cael ei datrys yn hytrach na'i datrys ar ôl i fwy o bobl ddioddef, ac yn anffodus dyna'r sefyllfa yr ydym yn canfod ein hunain ynddi nawr.

14:05

Prif Weinidog, cynhaliodd IFF Research arolwg o hawlwyr credyd cynhwysol yn ddiweddar ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Canfuwyd tystiolaeth ganddynt o ganlyniadau cyflogaeth cadarnhaol i hawlwyr credyd cynhwysol gyda chyfran yr hawlwyr a oedd mewn swydd gyflogedig wyth mis i mewn i'w hawliad bron yn dyblu. Hysbyswyd ganddynt hefyd gynnydd i nifer yr oriau a weithiwyd a lefelau incwm cyffredinol. A yw'r Prif Weinidog yn cydnabod bod credyd cynhwysol yn mynd i'r afael â diweithdra cynhenid mewn ardaloedd fel Torfaen ac, o ganlyniad, bod pobl yn symud i mewn i waith ynghynt? Diolch.

Wel, a ddylwn i synnu bod yr adran sy'n gyfrifol am gredyd cynhwysol wedi comisiynu arolwg i ddweud ei fod yn iawn? Byddai gen i gwestiynau ynghylch gwrthrychedd—nid wyf yn gwybod mwy amdano—arolwg o'r fath. Ond gadewch i mi ddweud wrtho mai gwir effaith credyd cynhwysol yw hyn: dywedodd Tai Cymunedol Cymru yn ddiweddar bod tenantiaid cymdeithasau tai ar gredyd cynhwysol yng Nghymru eisoes mewn gwerth dros £1 filiwn o ddyled o ran ôl-ddyledion rhent. Yn ôl eu harolwg nhw, sampl o 29 o gymdeithasau tai yng Nghymru—cynhaliwyd yr arolwg hwnnw gyda 3,475 o bobl sy'n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru, ac mae hynny'n dangos bod pob person, ar gyfartaledd, £420 yn waeth eu byd oherwydd ôl-ddyledion rhent. Dyna realiti'r sefyllfa pan ddaw i gredyd cynhwysol, a dyna pam mae'n rhaid rhoi terfyn arno a'i wrthdroi.

Môr Iwerddon

7. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith ffin tollau neu ffin reoleiddiol ym Môr Iwerddon? OAQ52750

Prif Weinidog, fe wnaethoch siarad yn huawdl yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd Gogledd Iwerddon a'i phroses heddwch ar gyfer Brexit. Onid yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig ffin o unrhyw fath ym môr Iwerddon yn gweithredu fel pryfociad i'r gymuned unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon? Ac oni ddylai yn hytrach gymhwyso ei waith technegol ar gyfer dad-ddramateiddio'r ffin arfaethedig honno i gytuno cytundeb masnach rydd ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd?

Wel, rwy'n credu mai'r ateb yw cael cytundeb sy'n gweithio i'r ddwy ochr. Rwyf i wedi dweud hynny lawer iawn o weithiau, a bydd yr Aelod yn gwybod fy safbwynt o ran natur y cytundeb hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod yr awgrym o unrhyw fath o ffin wleidyddol amlwg rhwng ynys Iwerddon ac ynys Prydain Fawr yn wrthun i'r pleidiau unoliaethol, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei weld, wrth gwrs. Ceir achlysuron, wrth gwrs, pan fo llawer iawn o gydweithredu trawsffiniol. Pan ddaw i iechyd anifeiliaid, mae Iwerddon yn un uned ffytoiechydol; nid yw Gogledd Iwerddon yn y DU yn hynny o beth mewn gwirionedd, ac os ewch chi i Ogledd Iwerddon gofynnir i chi a ydych chi'n cario cynhyrchion bwyd. Mae hynny'n gwneud synnwyr o safbwynt iechyd anifeiliaid. Ond, na, nid wyf i'n credu bod hynny'n ymarferol. Byddai'n anodd iawn i Lywodraeth y DU gytuno i hynny. Ni fyddai'r pleidiau unoliaethol yn cytuno i hynny. Beth yw'r ateb, felly? Wel, fel yr wyf i wedi dweud llawer iawn o weithiau o'r blaen: aros yn yr undeb tollau; mae'r holl beth yn cael ei ddatrys wedyn.

Yn siarad ar Channel 4 News yn y dyddiau diwethaf, mi ddywedodd Dirprwy Brif Weinidog Gweriniaeth yr Iwerddon, Simon Coveney, ei bod hi’n hurt i ddadlau bod modd osgoi ffin galed os oes yna ddim cytundeb yn ei le ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Mi ddywedodd o bod 1,077 yn rhagor o swyddogion tollau ac archwilwyr milfeddygol a diogelwch am gael eu recriwtio mewn meysydd awyr a phorthladdoedd i ddelio efo masnach o’r dwyrain i’r gorllewin. Onid ydy hi’n anochel, dan sefyllfa felly, y bydd niwed mawr yn cael ei wneud i fasnach drwy borthladd Caergybi yn fy etholaeth i? Onid ydy hynny’n dangos mor anghyfrifol ydy cefnogwyr Brexit caled y Blaid Geidwadol a pha mor anghyfrifol ydy Llafur dan arweiniad Jeremy Corbyn i beidio â bod wedi mynnu o’r dechrau fod yn rhaid, yn ddiamod, cadw aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau?

Yn gyntaf, wrth gwrs, nid oes neb yn dadlau y dylai fod unrhyw fath o ffin galed rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r Deyrnas Unedig—nid oes neb yn dweud eu bod nhw eisiau gweld hynny. Wrth gwrs, y perygl yw efallai y bydd hynny’n digwydd heb unrhyw fath o gytundeb. Yn y dyddiau cyn y farchnad sengl, roedd checks yng Nghaergybi—nid oedd pawb yn cael ei check-o, os cofia i, ond mi oedd yna checks ta beth. Nid oedd dim checks ynglŷn â phasborts o gwbl. Ond mae yna berygl, wrth gwrs: fel y dywedais i o'r blaen, os byddai'n edrych fel ei fod e'n rhwyddach i fynd drwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon na phorthladdoedd Cymru, wel, wrth gwrs, bydd masnach yn cael ei effeithio o achos hynny, a bydd hynny'n cael effaith negatif ar fasnach porthladdoedd Cymru. So, unwaith eto, beth yw'r ateb? Yr ateb yw sefyll tu mewn i'r undeb tollau ac, wrth gwrs, cael y mynediad mwyaf i'r farchnad sengl. Nid oes rhaid sefyll yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cael y rheini. 

14:10
Problemau Iechyd Meddwl ymhlith Pobl Ifanc

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc? OAQ52747

Rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i gyflawni gwelliant system gyfan i'r cymorth iechyd meddwl a ddarperir i bobl ifanc, gan adeiladu ar ein gwaith a'n buddsoddiad llwyddiannus ers 2015, a chyflawni, wrth gwrs, ein hymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb'.

Nid dyma'r tro cyntaf yr wyf i wedi codi'r pwnc hwn gyda chi, ond ar ôl y rhaglen Panorama ddiweddar ar y ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, cefais fy moddi mewn negeseuon gan rieni yn y Rhondda sy'n teimlo bod eu plant a'u pobl ifanc yn eu harddegau wedi cael eu siomi gan y system. Tarodd y rhaglen ar wendid yn sicr, Prif Weinidog.

Un peth a allai helpu yw i wasanaethau cwnsela mewn ysgolion gael eu gwella. Mae'n ofyniad statudol erbyn hyn i ysgolion uwchradd yng Nghymru fod â chwnselydd mewnol, ond mae'r ddarpariaeth yn dal i fod yn anghyson, yn ôl Cymdeithas y Plant. Maen nhw'n dweud bod rhai ysgolion yn darparu gwasanaeth rhagorol ond nad yw rhai ysgolion yn darparu unrhyw wasanaethau cwnsela o gwbl. Mae hwn yn faes sydd o dan eich rheolaeth chi, Prif Weinidog. Mae llawer o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu siomi gan y gwasanaeth iechyd yn bennaf, ond hefyd mae'n nhw'n cael eu siomi o fewn y system addysg hefyd. Felly, a wnewch chi ymrwymo i werthuso'r gwasanaeth i wneud yn siŵr y ceir gwasanaeth o ansawdd uchel a'i fod yn dda ac yn cael ei ddarparu'n gyson ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd ar draws y wlad i gyd?

Byddai yn hynod siomedig pe na byddai ysgolion uwchradd yn darparu'r gwasanaeth y maen nhw i fod i'w ddarparu. Rwy'n credu bod—. Rwyf i wedi dweud yn y Siambr o'r blaen faint o arian yr ydym ni'n ei gyfrannu at y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed, ond rwy'n credu mai lle mae'n rhaid i'r pwyslais fynd nawr, a'r hyn yr ydym ni'n ei ystyried, yw'r hyn sy'n digwydd yn y bwlch hwnnw rhwng y gwasanaethau cwnsela a CAMHS. Mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn fodlon mynd i weld cwnselydd yn yr ysgol gan ei fod ychydig bach yn rhy agos gartref ac mae pobl yn credu y bydd pobl yn dod i wybod amdano, ac nid oes angen y math o ymyrraeth feddygol y mae CAMHS yn ei darparu ar lawer o bobl ifanc mewn gwirionedd. Felly, bydd y pwyslais nawr ar: sut yr ydym ni'n darparu lefel o wasanaethau cwnsela y tu allan i'r ysgol ar gyfer y rhai a fyddai'n elwa ar gwasanaeth hwnnw heb orfod mynd i CAMHS? Felly, cyn belled ag y mae cynigion cyllideb ddrafft 2019-20 yn y cwestiwn, maen nhw yn cyfeirio at fuddsoddiad arfaethedig mewn CAMHS, ond bydd hwnnw'n cael ei dargedu at ddiwallu anghenion y rhai nad ydyn nhw angen y driniaeth fwyaf arbenigol ac i ddiwallu anghenion y rhai sy'n cael eu colli yn y canol. Rwy'n credu mai dyna ble mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes bwlch yn bodoli.

Prif Weinidog, mae hi'n ddiwrnod iechyd meddwl y byd ar 10 Hydref, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i gynnig ein cefnogaeth lawn a'n diolch i'r darparwyr gwasanaethau ac elusennau iechyd meddwl niferus sy'n helpu ein pobl agored i niwed ledled Cymru bob dydd. Fodd bynnag, mae cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn fater difrifol iawn. Mae Childline Cymru yn adrodd cynnydd o 20 y cant i nifer y galwadau y mae'n eu derbyn gan blant a phobl ifanc sy'n dioddef â meddyliau a theimladau o hunanladdiad. Yn fwy pryderus, yn ddiweddar, mae plant mor ifanc â 10 oed yn cysylltu â'r gwasanaethau hyn bellach. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau lefelau hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc a pha wasanaethau y mae'n eu darparu i elusennau fel Childline Cymru i ymdrin â'r cynnydd i nifer yr achosion?

Rwy'n cofio rai blynyddoedd yn ôl y bu nifer o hunanladdiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr—rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ei gofio—wedi ei waethygu, mae'n rhaid i mi ddweud, gan sylw'r cyfryngau ar y pryd, a wnaeth, nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i, arwain at rai o bobl ifanc yn lladd eu hunain. Roedd hwnnw'n gyfnod anodd iawn i bobl Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid dim ond y dref ond y sir gyfan. Felly, rwyf i wedi gweld beth all ddigwydd pan fydd dychryn o ran hunanladdiad. Bu'n rhaid i mi ymdrin â hynny fy hun yn fy etholaeth i.

O ran Childline Cymru, yr hyn nad yw'n eglur, ac na all fyth fod yn eglur gyda'r pethau hyn, yw: a yw hynny'n golygu bod mwy o bobl ifanc sy'n teimlo fel eu bod eisiau lladd eu hunain neu a yw'n golygu bod mwy o bobl ifanc sy'n hysbysu am y broblem er efallai fod y niferoedd yn sefydlog? Ni allwn wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, ond mae'r naill ateb a'r llall yn bosibl. Gofynnodd yn benodol beth yr ydym ni'n ei wneud dros bobl ifanc. Wel, unwaith eto, mae gennym ni gwnsela mewn ysgolion, mae gennym ni'r arian yr ydym ni'n ei roi i CAMHS, ac mae'n iawn i ddweud bod y rhestr aros ar gyfer CAMHS yn annerbyniol o hir ar un adeg. Roedd yn 112 diwrnod ar un adeg, ac mae'n 28 diwrnod yn dilyn atgyfeirio erbyn hyn. Felly, mae perfformiad wedi gwella'n sylweddol ers 2017, ond, wrth gwrs, mae angen gwneud mwy o waith nawr, fel y dywedais yn gynharach, i lenwi'r bwlch rhwng y gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion a'r cymorth meddygol arbenigol, neu'r cymorth seiciatrig, y gall CAMHS ei ddarparu. Beth, felly, allwn ni ei wneud i'r rhai sy'n disgyn i'r bwlch ar hyn o bryd?

14:15
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James, i wneud ei datganiad. Julie James.

Diolch, Llywydd. Ceir dau newid i fusnes yr wythnos hon: cyn bo hir, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf, yn hytrach nag un ar y cynllun gweithredu ar gyfer trawiad ar y galon allan o'r ysbyty, a fydd bellach yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Hefyd, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i dynnu'r ddadl yfory yn ei hôl, sef yr un ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynglŷn â'u hymchwiliad i ffynonellau ariannu ar gyfer y celfyddydau nad ydyn nhw'n rhai cyhoeddus. Bydd busnes drafft ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf yn cael ei nodi yn y cyhoeddiad a'r datganiad busnes, y gellir ei weld yn y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y Tŷ, a oes modd i mi alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith trafnidiaeth. Roeddwn yn falch iawn o weld y cyhoeddiad am fuddsoddiad ym Metro De Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon—£119 miliwn—ond mae wedi gadael blas cas braidd yng nghegau pobl y gogledd, sydd hefyd yn awyddus i gael buddsoddiad yn eu seilwaith eu hunain. Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol fy mod i wedi crybwyll, dim ond rai wythnosau yn ôl, y pryderon ynghylch y ffaith bod yr A55 wedi'i thagu, a bod seilwaith ein rheilffyrdd yn dioddef hefyd. Credaf ei bod yn hen bryd inni weld buddsoddiad sylweddol yn ffyrdd a seilwaith rheilffyrdd y gogledd. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater penodol hwnnw?

Hefyd, a gaf i ofyn am ddatganiad ar lyfrgelloedd yng Nghymru? Bydd arweinydd y tŷ yn gwybod ei bod yn wythnos llyfrgelloedd. Achubais ar y cyfle ddoe ddiwethaf i ymweld â Llyfrgell Bae Colwyn yn fy etholaeth i, er mwyn dysgu mwy am eu prosiect Darllen yn Well yn ogystal â'u cynllun Presgripsiwn llyfrau Cymru, rhywbeth y maen nhw'n cymryd rhan ynddo—cynllun gwych sy'n dod â phobl ynghyd, ac yn helpu i oresgyn materion sy'n ymwneud â dementia, yn arbennig, ac yn helpu i oresgyn ynysu cymdeithasol. Felly, fel darllenwr brwd — fel sawl un arall yn y Siambr hon rwy'n siŵr—rwy'n credu y byddai'n dda cael gwybod pa strategaeth sydd gan Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol llyfrgelloedd yng Nghymru, fel bo modd i gynlluniau tebyg i'r rhai a welais ar stepen fy nrws, mewn lleoedd fel Bae Colwyn, gael eu hymestyn i rannau eraill o'r wlad.

O ystyried, am yn ôl, ein bod yng nghanol Wythnos Llyfrgelloedd, dyma gyfle i mi ddweud y byddaf innau yn ymweld â llyfrgell ganolog Abertawe ddydd Gwener yn rhan o'm gwaith yn fy etholaeth. A dweud y gwir, bûm i mewn llyfrgell arall yn Abertawe ddydd Gwener diwethaf hefyd. Rwyf innau'n ddarllenwr brwd, ond mae'n bwysig nodi bod llyfrgelloedd yn darparu ystod enfawr o wasanaethau eraill hefyd. Er bod ganddynt lyfrau, digwydd bod. Ces fy mhlesio'n arw, felly, o weld y gwasanaethau a ddarparwyd gan y llyfrgell leol lle bûm i'n cynnal cymhorthfa ddydd Gwener diwethaf. Yn eu plith roedd amrywiaeth o wasanaethau cyfathrebu digidol; ambell wasanaeth cymdeithasol, o ran ateb anghenion ynysu cymdeithasol a chyfleoedd cymunedol i gwrdd; yn ogystal â gwasanaethau ar gyfer plant ac amrywiaeth o wasanaethau cymunedol eraill. Mae'n debyg y byddai'r llyfrgellydd yno'n cywilyddio o weld nad ydw i'n cofio rhai o'r pethau a ddangosodd i mi, ond gwnaeth dipyn o argraff, a byddem yn annog pob Aelod i gymryd rhan yn wythnos llyfrgelloedd, ac, yn wir, i gefnogi eu llyfrgelloedd lleol. Rwy'n siŵr bod yr holl Aelodau'n gwneud hynny eisoes.

O ran ei gwestiwn ar drafnidiaeth, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi arwydd i mi y byddai'n fodlon iawn i gyflwyno datganiad a fydd yn caniatáu iddo dynnu sylw at y swm mawr iawn o fuddsoddiad a'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn y rhwydwaith trafnidiaeth.

Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol bod siopau llyfrau ar draws Cymru yn ei chael hi’n anodd wrth wynebu ardrethi busnes a chystadleuaeth gan lyfrwerthwyr ar y rhyngrwyd. O ganlyniad, dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer fawr o siopau llyfrau annibynnol wedi eu cau. Mae Cymdeithas y Llyfrwerthwyr yn nodi bod gan werthwyr llyfrau ar y rhyngrwyd fantais fasnachol enfawr o’i gymharu â siopau llyfrau ar y stryd fawr, sy’n talu llawer mwy mewn treth. Rwy’n siŵr y byddai llawer ohonom yn cytuno bod siopau llyfrau yn chwarae rhan bwysig yn niwylliant Cymru ac am gefnogi’r busnesau yma yn wyneb tirlun economaidd anodd iawn.

Wrth ddeall y cyfraniad y mae llyfrwerthwyr yn ei roi i gymdeithas, diwylliant ac economi Cymru, a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gyflwyno datganiad ynghylch y gefnogaeth ychwanegol y gall ei darparu, yn enwedig yn nhermau ardrethi busnes? Gwyddom fod gwarchodwyr plant yng Nghymru bellach wedi’u heithrio rhag ardrethi busnes. Felly, a all Llywodraeth Cymru edrych i roi rhyddhad ardrethi busnes pellach i siopau llyfrau yn sgil eu rôl gymdeithasol a diwylliannol?

14:20

Rwy'n credu i'r Aelod wneud pwynt da o ran swyddogaeth siopau llyfrau, ond yn anffodus mae gwasanaethau manwerthu yn newid yn gyflym iawn, ac mae'r effeithiau y mae'n eu crybwyll wedi dod yn sgil gwerthiant ar-lein o bron i bob math gwahanol o nwyddau manwerthu. Mae gennym eisoes gynllun rhyddhad ardrethi annomestig hael iawn yng Nghymru. Rwy'n siŵr bod maint y rhan fwyaf o siopau llyfrau yn golygu y gallent fanteisio ar hynny. Rwy'n ofni bod y ffordd y mae pobl yn prynu llyfrau, a phopeth arall, wedi newid yn sylfaenol ac na fydd modd i ni ddychwelyd i'r hen ffyrdd.

Fodd bynnag, mi ddywedaf fod sawl siop lyfrau yn fy ardal i—ac, mewn gwirionedd, yr un ardal â Dai Lloyd, ac mi fydd yntau'n gyfarwydd â hwy—wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth arallgyfeirio, gan gynnal nifer fawr o ddigwyddiadau o fathau eraill y tu mewn i'r siop, ac mae ganddynt gaffis a grwpiau trafod ac ati, a bydd ef yr un mor ymwybodol â minnau o lwyddiant rhai ohonyn nhw. Rwy'n sicr yn rhoi fy nghymeradwyaeth iddynt, gan fy mod i fy hunan yn hoff iawn o fynychu siopau llyfrau.

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, hoffwn ddatganiad gan y Llywodraeth sy'n cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth a chynnydd Llywodraeth Cymru o ran y rhaglen i ddigideiddio ar draws holl sector gyhoeddus Cymru. Yn ail—rwy'n gwybod ein bod wedi cael datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ddoe a oedd yn trafod cau Virgin Media, a'r camau a fydd yn cael eu cymryd, ond hoffwn ofyn pe cawn ddatganiad llafar hefyd, ar fy nghyfer i ac, mae'n debyg, chithau ac aelodau eraill sy'n cynrychioli'r ardal. Bydd colli bron i 900 o swyddi yn ergyd sylweddol i'r ardal. Rwy'n gobeithio y cawn ddatganiad llafar er mwyn i ni gael cyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet am fater yr ydych chi, fel minnau, yn ei ystyried yn un pwysig iawn.

Gwnaf, byddaf yn sicr yn trafod posibilrwydd hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet, neu sut y gallwn egluro ein sefyllfa ni a'r tasglu o ran Virgin Media. Rhannaf bryder yr Aelod ynghylch gweithredoedd y cwmni a rhai o'r straeon yr ydym wedi'u clywed. Felly, byddaf yn siŵr o gael y drafodaeth honno gydag Ysgrifennydd y Cabinet i weld sut y gallwn hwyluso'r trafodaethau a chynnig gwybodaeth i'r cyhoedd ar hynny.

O ran digideiddio, a dweud y gwir, rwy'n bwriadu gwneud datganiad ar drawsnewid digidol rywbryd cyn y Nadolig, a byddaf yn sicrhau ei fod yn cael lle priodol yn yr amserlen felly.

Arweinydd y Tŷ, a oes modd i mi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai ynglŷn â'r hyn arall y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar er mwyn dwyn ei achos i'm sylw. Cefais lythyr, a dweud y gwir, wedi'i ysgrifennu gan berson digartref ar stryd fawr Casnewydd. Dim ond 24 oed ydyw. Yn hytrach na darllen ei lythyr, sy'n hynod emosiynol, byddai'n well gennyf gynnig ychydig frawddegau i ddisgrifio'i brofiadau gwirioneddol. Mae'n dweud iddo fod yn gweithio mewn tafarn a gaewyd gan y bragdy. Cafodd fis o rybudd cyn gadael. Aeth at Gyngor Dinas Casnewydd am gymorth, a chlywed nad oedd ei achos yn flaenoriaeth gan ei fod yn sengl ac nad oedd ganddo blant—cofiwch mai 24 oed yn unig ydyw. Cafodd ei roi ar restr aros ar gyfer hostel. Yn hynny o beth eto, mae 18 mis o restr aros ar gyfer pobl ddigartref. Mae'n dweud mai'r unig beth y mae ei eisiau yw rhywle i fyw sy'n ddiogel iddo, fel bod modd iddo gael swydd a pharhau gyda'i fywyd. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y gellir ei wneud i helpu ein hetholwyr sydd mewn sefyllfaoedd neu amodau tebyg ledled Cymru, os gwelwch yn dda? Mewn cymdeithas waraidd, mae'n rhaid inni ofalu am bobl ddigartref ac mae'n rhaid llunio mesurau cyfreithiol i beidio â chael pobl yn cysgu ar y stryd, yn enwedig o ystyried y math o dywydd yr ydym yn ei wynebu, gyda gaeafau a hafau eithafol. Diolch.

Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad fis nesaf ar y newidiadau i'n polisïau digartrefedd. Ond, rwy'n credu y dylai'r Aelod ystyried yr effaith a gafwyd ar ddigartrefedd gan gyflwyniad ei blaid ei hun yn Llywodraeth y DU o gredyd cynhwysol, yn ogystal â'r teimlad cyffredinol y gallai pobl ifanc fynd i fyw gartref, gan ei fod ef ei hun newydd amlygu nad yw hynny'n wir yn aml iawn. 

Buaswn i'n licio gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd, os yw'n bosib, ynglŷn â gallu cwmnïau preifat i gael mynediad i ysbytai. Mae’r cwmni Bounty, rydym ni’n gwybod, yn cynnig starter packs i nifer o famau newydd ac maen nhw hefyd yn dod i wardiau i gynnig tynnu lluniau o’r babanod, ac maen nhw yn hel gwybodaeth sydd wedyn yn cael ei defnyddio i ddanfon gwybodaeth a deunydd marchnata i'r mamau hynny. Nawr, mae'n debyg, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth, fod Bounty wedi talu £1,922 i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn cael mynediad didramgwydd i'r unedau mamolaeth yma ar hyd a lled a gogledd. Buaswn i'n licio gwybod a ydy'r Llywodraeth yn teimlo bod hyn yn dderbyniol. A ydy'r Llywodraeth yn hyderus bod mesurau yn eu lle i sicrhau bod hyn yn ddiogel? Rydw i wedi cael mamau, er enghraifft, yn cwyno bod y bobl yma'n tarfu arnyn nhw a'u babanod ar y wardiau sydd mewn golwg. Mae rhai mamau hefyd yn dweud eu bod nhw wedi derbyn cannoedd o e-byst marchnata yn y misoedd a'r blynyddoedd ar ôl rhoi'r wybodaeth yna i gwmnïau fel hyn. Rŷm ni angen sicrwydd bod diogelwch babanod, mamau a diogelwch data yn bwysicach, i bob pwrpas, na'r incwm eithaf pitw, a dweud y gwir, y mae Betsi Cadwaladr yn ei gael am y fath wasanaeth.

14:25

Ie, mewn gwirionedd, rwyf innau'n rhannu ei bryder ynghylch y data. Fi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am hynny, mewn gwirionedd, felly byddaf yn ymchwilio i hynny ac yn dod yn ôl at yr Aelod.

Tybed a gawn ni esboniad o pam y cafodd y datganiad ar gynllun trawiad ar y galon y tu allan i oriau ei dynnu yn ôl? Byddwn yn deall os yw o ganlyniad i ddigwyddiadau hynod drist y penwythnos hwn, ond byddwn wir yn gwerthfawrogi pe byddem ni'n cael cadarnhad y byddwn yn cael datganiad llafar yn hytrach na datganiad ysgrifenedig ar hyn. Fe fyddwn i, yn un, yn sicr yn falch o'r cyfle i ofyn cwestiynau am y cynllun yn y Siambr. Felly, pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn ailystyried ac yn cyflwyno datganiad llafar, cyn bo hir efallai, yna fe fyddwn i yn un yn ddiolchgar iawn. Diolch.

O ran tegwch i Ysgrifennydd y Cabinet, problem o ran faint o fusnes y gallwn ei gynnwys oedd hynny. Yr oedd e'n fwy na—[Torri ar draws.] Wel, yr oedd yn fwy na pharod i wneud hynny, ond digwyddodd nifer o bethau yn ystod yr ychydig ddyddiau pan oedd pethau'n dod i mewn ac yn mynd allan o'r agenda. Felly, bydd yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Fy nghyfrifoldeb i yw gweld a oes gennym ddigon o amser, a byddaf yn trafod gydag ef i weld os bydd cyfle i gyflwyno datganiad llafar, ond mewn gwirionedd mae gennym ni agenda eithaf llawn. Felly, byddaf yn edrych i weld os oes cyfle i wneud hynny. Ond, er tegwch, nid oedd—. Roedd yn ddigon bodlon i wneud y datganiad llafar; busnes a berodd iddo beidio.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithredu'r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Mamolaeth Cwm Taf

Eitem 4, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.

Diolch ichi, Llywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddydd Gwener, roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig i ddiweddaru'r Aelodau ar y camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae'r adroddiadau dros yr wythnos ddiwethaf yn amlwg yn peri pryder, a bydd Aelodau yn dymuno deall sut y digwyddodd y sefyllfa hon. Fel rhiant, rwy'n gwerthfawrogi faint o bryder y mae hyn wedi ei achosi i bawb sydd wedi'u heffeithio. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddarparu cymorth i'r teuluoedd ac i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch canfyddiadau'r adolygiad unigol ac unrhyw gamau gwella sydd eu hangen. Er na ellir bob amser atal canlyniad anffafriol, mae'n bwysig bod gofal yn cael ei adolygu er mwyn nodi unrhyw beth y gellir ei ddysgu. Yn ddealladwy, efallai y bydd gan y teuluoedd gwestiynau y mae angen atebion iddyn nhw hefyd.

Pan fydd menywod yn mynd i'r ysbyty, rydym yn briodol yn disgwyl iddyn nhw gael gofal diogel o ansawdd da. Gall adeg geni plentyn fod yn amser anodd, ond mae hefyd yn brofiad sy'n dod â llawenydd, felly mae'n rhaid i les menywod a'u babanod fod yn flaenoriaeth inni. Rwyf wedi ei gwneud yn glir, drwy fy sgyrsiau â chadeirydd y bwrdd iechyd, fy mod i'n disgwyl i bob cam posibl gael ei gymryd i sicrhau bod gwasanaethau yn darparu gofal diogel a thosturiol. Mae fy swyddogion hefyd yn monitro'r sefyllfa yn ofalus ac yn gofyn am sicrwydd o'r fath.

Rwy'n gwerthfawrogi hefyd bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'n staff, ac mae'n rhaid eu cefnogi hwythau yn briodol hefyd. Mae'n rhaid rhoi pwyslais allweddol ar sicrhau lefelau staffio diogel ac arweinyddiaeth glinigol gref. Ar lefel yr arweinyddion, rydym yn sicrhau bod cymorth bydwreigiaeth uwch a chymorth rheoli meddygol ychwanegol ar waith i ddarparu goruchwyliaeth a chyngor. Llwyddodd y bwrdd iechyd i benodi bydwraig ymgynghorol ac mae wedi recriwtio 15 o fydwragedd ychwanegol, ac mae staff sydd newydd gymhwyso cyfwerth ag amser llawn o 4.8 yn dechrau yn eu swyddi yr wythnos hon. Mae cymorth gan fydwragedd profiadol hefyd yn cael ei ddarparu gan fyrddau iechyd cyfagos, gan gynnwys goruchwyliwr clinigol bydwragedd, ac mae camau ar y gweill i gynyddu nifer y staff meddygol, gan gynnwys penodi meddyg gradd ganol ychwanegol.

Gwn fod pryderon wedi'u mynegi bod y dosbarthiadau cynenedigol i rieni wedi eu canslo, ond rwyf wedi cael gwybod y byddan nhw'n ailddechrau o fewn wythnosau—yn gynnar y mis nesaf—wrth i lefelau staffio wella.

Bydd fy swyddogion yn cael diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa staffio. Byddan nhw'n ymweld yr wythnos hon, ac mae ganddyn nhw bresenoldeb rheolaidd, wrth symud ymlaen. Mae fy swyddogion hefyd wedi briffio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn llawn, felly gallant benderfynu ar y camau yr hoffen nhw eu cymryd.

Sefydlwyd nifer o systemau i gefnogi diogelwch cleifion. Mae hyn yn cynnwys rota ar alwad 24/7 ar gyfer cyngor uwch fydwraig, a briffiau diogelwch wrth drosglwyddo pob sifft, i sicrhau bod pryderon posibl yn cael eu trin heb oedi. Gwnaed diwygiadau i'r system o roi gwybod am ddigwyddiadau, gan gynnwys adolygiad dyddiol o ddata, i sicrhau nad oes unrhyw gyfle ar gyfer adrodd anghyflawn. Bydd uned cyflenwi'r GIG yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i adolygu ar fyrder ei threfniadau ar gyfer cofnodi digwyddiadau ac ymchwilio, yn ogystal â rhoi trosolwg o'r digwyddiadau mamolaeth sy'n cael eu hadolygu.

Bydd yn rhaid i'r holl sefydliadau gael trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau angenrheidiol o ran cynnydd. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion geisio cael sicrwydd gan yr holl fyrddau iechyd yn hyn o beth. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu yn sgil hyn, ac yn deall beth ddigwyddodd i arwain at y sefyllfa hon. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i, yng ngoleuni difrifoldeb y sefyllfa, wedi cyhoeddi ddydd Gwener y dylid comisiynu adolygiad allanol annibynnol gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig cymryd y camau hyn i sicrhau hyder y cyhoedd yn y broses. Mae'r prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol mewn cysylltiad â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd. Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad yn weithredol o fewn wythnosau. Bydd hyn yn disodli'r adroddiad allanol yr oedd y bwrdd iechyd yn bwriadu ei gomisiynu, ond bydd yn adeiladu i raddau helaeth ar yr adolygiad y maen nhw wedi ei gyflawni hyd yn hyn. Bydd y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad, ac, yn y pen draw, ei ganfyddiadau yn cael eu cyhoeddi, wrth gwrs.

Mae'n rhaid inni gofio bod y mwyafrif helaeth o fenywod, ledled Cymru, yn derbyn gofal mamolaeth rhagorol. Ers cyflwyno 'Gweledigaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru' yn 2011, bu gwelliannau sylweddol ledled system GIG Cymru yn ei chyfanrwydd. I sicrhau ymdrech gyson ar gyfer gwelliant, pennwyd dangosyddion perfformiad cenedlaethol sydd yn cynnwys meysydd fel rhoi'r gorau i ysmygu, rheoli pwysau, cymorth i fenywod sydd â salwch meddwl difrifol, cyfraddau toriadau Cesaraidd, bwydo ar y fron, a lefelau staffio. Cynhelir byrddau perfformiad mamolaeth yn flynyddol, lle mesurir perfformiad yn erbyn y dangosyddion hyn, yn ogystal â rhannu arferion newydd neu arloesol. O ran gweithlu, gofynnir i'r holl fyrddau iechyd a ydyn nhw'n cydymffurfio â Birthrate Plus ar gyfer staffio bydwreigiaeth ac yn cydymffurfio â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr o ran safonau presenoldeb obstetryddion ymgynghorol ar wardiau esgor.

Mae gan bob menyw ddewis ynghylch lleoliad genedigaeth ei phlentyn, yn ddibynnol ar ei hamgylchiadau personol a ffactorau risg, boed hynny yn y cartref, dan arweiniad gofal bydwragedd, mewn uned ar ei phen ei hun neu uned ochr yn ochr, neu ofal dan arweiniad obstetrig. Mae twf wedi bod mewn gofal dan arweiniad bydwragedd, ac erbyn hyn mae gan bob bwrdd iechyd fydwraig ymgynghorol i roi arweiniad a chefnogi bydwragedd. Mae gan bob bydwraig yng Nghymru oruchwylwraig glinigol ddynodedig sy'n fydwraig brofiadol, i'w chefnogi yn ei gwaith. Ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y toriadau Cesaraidd a wneir yng Nghymru o ganlyniad i ddarparu rhagor o wybodaeth a chefnogaeth i fenywod.

Mae rhwydwaith mamolaeth cenedlaethol yn darparu cyngor clinigol arbenigol. Rhan o'i waith fu mynd i'r afael â chyfradd y marw-enedigaethau yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhaglen amlweddog hon wedi gweld: cyflwyno protocolau asesu twf cenedlaethol—protocol asesiad tyfiant a phwysau gorau posibl yn gysylltiedig â beichiogrwydd—siartiau tyfiant ffetws GROW; safonau cenedlaethol newydd ar gyfer rheoli diabetes yn ystod beichiogrwydd; cyflwyno hyfforddiant ymarferol amlbroffesiynol obstetrig—hyfforddiant amlddisgyblaethol PROMPT i wella cyfathrebu a gwneud penderfyniadau o fewn timau; adnodd newydd ar gyfer adolygu marwolaethau amenedigol a chanllawiau i staff ar geisio post mortem; yn ogystal â gwell cardiotocograffeg—hyfforddiant monitro ffetws â chardiotocograffeg; a safonau ar gyfer clustfeiniad ysbeidiol deallus. Cynhaliodd y rhwydwaith ymgyrch lwyddiannus ar gyfer beichiogrwydd mwy diogel, a oedd yn hybu negeseuon pwysig i fenywod o ran yr hyn y gallent ei wneud i ofalu am eu hunain yn ystod beichiogrwydd. Dangosodd gwerthusiad fod lefel uchel o wybodaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith mamau beichiog o'r hyn y mae angen iddynt ei wneud, gyda chymorth eu bydwragedd.

Bu datblygiadau a buddsoddiadau sylweddol mewn gofal newyddenedigol hefyd. Cyhoeddodd y rhwydwaith newyddenedigol safonau newyddenedigol diwygiedig ym mis Medi 2017. Mae'r rhain yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf a chanllawiau arfer gorau, i'w gwneud yn berthnasol yn glinigol ac yn weithredol. A chânt eu dylanwadu gan ddatblygiadau newyddenedigol ledled y Deyrnas Unedig, gan gymryd i ystyriaeth argymhellion Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain, y rhaglen archwilio newyddenedigol cenedlaethol, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Bliss, a safonau eraill a gyhoeddwyd yn Lloegr a'r Alban.

Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun 2011, caiff gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth gofalus eu llunio mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol a'i llywio gan arolwg o bron 4,000 o fenywod a roddodd enedigaeth yng Nghymru. Bydd hefyd yn bwysig sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddaw o adolygiad Cwm Taf yn hysbysu'r cynllun i sicrhau addysg a gwelliant trwy Gymru gyfan. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd i'r Aelodau.

14:35

Roedd nifer o'r Aelodau yn hwyr ar gyfer dechrau'r datganiad hwn, ac os bydd amser, byddaf yn galw arnoch, ond byddaf yn galw'n gyntaf ar yr Aelodau hynny a oedd yma i glywed y datganiad cyfan. Un a oedd yn bresennol, Angela Burns.

Diolch i chi, Llywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn nodi ar gof a chadw pa mor ofnadwy o ddrwg yr wyf yn teimlo dros y teuluoedd yr effeithir arnynt. Dylai hon fod wedi bod yn eiliad o'r llawenydd mwyaf iddyn nhw, ond datblygodd yn ddigwyddiadau o anobaith dychrynllyd, a chawsom ein brawychu gan yr hyn a ddigwyddodd.

Ym mis Gorffennaf eleni, daeth pâr ifanc i'm gweld i. Sefyllfa frawychus yw hon a rhan annatod o'r hyn sydd wedi digwydd yma: ymgynghorydd nad oedd wedi ymweld â'r fam wrth ymyl ei gwely oherwydd ei fod yn ddig am iddo gael ei roi ar rota nad oedd ef yn ei disgwyl; anwybyddu arwyddion o rybudd; baban, prin yn fyw, a gafodd ei symud i ysbyty arall a'i roi mewn crud oer, a hynny'n ofer. Ar ôl darllen eu stori arswydus, yr hyn a'm trawodd i, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd ymateb y bwrdd iechyd. Fe wnaethon nhw ysgrifennu at y prif swyddog gweithredol am yr hyn oedd wedi digwydd gan ofyn am help i ddeall beth ddigwyddodd a mwy o wybodaeth. I bob pwrpas, cawsant eu trosglwyddo at sylw aelod staff iau a oedd yn amharod i ymgysylltu â nhw. Roedd yn ymddangos bod diffyg cydymdeimlad llwyr â phobl pan oeddent yn teimlo'n isel iawn, a chafwyd agwedd ddiystyriol, llusgo traed, diffyg ymddiheuriad o unrhyw sylwedd—ac nid sôn am arian yr wyf i yma, ond rwy'n sôn am ddidwylledd. Ni chafwyd ymateb prydlon i lythyrau.

Felly, sut wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sicrhau bod y bwrdd iechyd yn rhoi cymorth priodol i'r teuluoedd hyn yr effeithiwyd arnynt? Yn eich datganiad, rydych yn dweud eich bod yn disgwyl iddyn nhw roi cymorth i'r teuluoedd. Ond gallaf ddweud wrthych, o'r dystiolaeth a welais i, yr adroddiadau a ysgrifennwyd a'r llythyrau a anfonwyd at y cwpl ifanc, na ddigwyddodd hynny. Felly, hoffwn ddeall ym mha ffordd ystyrlon y gallwch chi sicrhau bod y bwrdd iechyd hwn yn gwneud yr hyn a ddylent ac, yn wir, yn dod i fan cyfarfod â'r teuluoedd hyn.

Wrth gwrs, ar y pryd, nid oeddwn yn sylweddoli bod hyn yn ymddangos fel rhyw fath o fethiant systemig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yr adolygiad annibynnol yr ydych yn mynd i'w gyflwyno—a fyddan nhw'n mynd drwy bob achos eu hunain, oherwydd yn eich datganiad ysgrifenedig rydych chi'n dweud yr adroddwyd ar rai ohonyn nhw erbyn hyn a'u bod cael eu harchwilio yn llawn? Unwaith eto, o'r gwaith papur a roddwyd imi gan y cwpl ifanc, o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ysgrifennodd pediatregydd annibynnol adroddiad a oedd yn bur ddeifiol ynghylch yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, a chafodd ei anwybyddu gan y bwrdd iechyd. Felly, a fyddwch yn gallu gwneud i'ch adolygiad annibynnol, neu ofyn i'r adolygiad annibynnol, yn ei gylch gwaith, fynd at asgwrn y gynnen mewn gwirionedd mewn achosion unigol i sicrhau nad oes modd i'r digwyddiadau hyn fynd yn angof neu i dryloywder gael ei ddileu, oherwydd credaf fod y teuluoedd yn haeddu hynny o leiaf? Ac a oes gennych amserlen ar gyfer pryd yr ydych yn gobeithio cael adroddiad yr adolygiad hwn yn ei ôl?

Ac, wrth gwrs, fel y gwyddoch, rydym ar hyn o bryd, ledled Cymru, yn mynd drwy agenda drawsnewid sylweddol iawn; mae llawer o ganoli yn digwydd mewn byrddau iechyd eraill ar hyn o bryd. Felly, sut fyddwch yn sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o brofiad Cwm Taf mewn gwirionedd yn cael eu trosglwyddo'n dda i'r holl fyrddau iechyd eraill hynny? Oherwydd credaf fod angen inni roi rhybudd i'r byrddau iechyd hyn os ydym yn bwriadu gwneud y pethau hyn, fod yn rhaid i ni eu gwneud mewn ffordd ddiogel ac mae'n rhaid inni gofio mai'r claf sy'n bwysig, a bod y mamau a'r babanod hyn—ble bynnag y bônt yng Nghymru—yn haeddu'r cyfle i gael canlyniad llwyddiannus?

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n bryderus iawn hefyd nad oedd yn ymddangos bod y duedd hon wedi cael ei nodi'n gynt. Felly, a fydd eich adolygiad annibynnol yn edrych ar hynny? A fyddan nhw'n edrych i weld a oedd yr asiantaethau sydd yn gyfrifol am fonitro perfformiad a chanlyniadau o fewn Byrddau Iechyd yn gwneud hynny ai peidio—ymhle yr oedden nhw? Pam na sylwyd arno'n gynharach? A wnaeth unrhyw un sefyll a dweud, 'Arhoswch funud, mae rhywbeth o'i le yma,' oherwydd mae'r ffigurau marwolaethau ar gael inni? Dylem wybod beth ddylai'r duedd iawn fod a beth na ddylai fod.

Byddwn i'n dweud bod fy nghwpl ifanc i nawr yn nwylo diogel Aelod o'r Cynulliad ar fainc arall i'r un yr wyf i arni, gan mai'r unigolyn hwnnw mewn gwirionedd yw Aelod Cynulliad eu hetholaeth. Ond hoffwn ddweud bod pob un o'r teuluoedd hyn yr effeithiwyd arnynt, os yw eu straeon unrhyw beth yn debyg i'r cwpl ifanc a ddaeth i'm gweld i gyda'u bwndel o waith papur, gan ddweud wrthyf am yr ofn sydd ganddyn nhw o geisio am blentyn arall, ar ôl colli eu merch fach yn chwe diwrnod oed oherwydd cyfres o gamgymeriadau nad oeddent yn ddim i'w gwneud â nhw, yna dylem fod yn hollol benderfynol o wneud yn siŵr bod Cwm Taf yn cael ei ddal i gyfrif, a'r bobl iawn yn cael eu dwyn i gyfrif, pwy bynnag ydynt, a'n bod yn dysgu'r gwersi hyn mewn ffordd ystyrlon. Mae bwrdd iechyd mawr iawn yn Lloegr sy'n mynd drwy broses ddigon tebyg i hon ar hyn o bryd. Dylem fod yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Ni ddylai hyn ddigwydd. Trasiedi wirioneddol yw hon.

14:40

Rwy'n diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i chwestiynau, ac, wrth gwrs, rwyf innau'n teimlo'n flin dros unrhyw deulu sy'n mynd trwy golli baban neu blentyn ifanc. Ni fyddwn yn dymuno i unrhyw deulu deimlo fel yr oeddech chi'n ei ddisgrifio. Nawr, yn amlwg, ni allaf roi sylwadau ar yr amgylchiadau unigol, ond hoffwn fod yn glir mai rhan o bwrpas yr adolygiad hwn yw ceisio dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd. Rydym yn edrych ar 44 o achosion ar hyn y bryd yn y clwstwr o achosion sydd i'w hadolygu. Nid yw'n eglur ar hyn o bryd fod rhywbeth wedi mynd o'i le ar y gofal yn unrhyw un neu ym mhob un o'r achosion hynny, ond y clwstwr o achosion sy'n peri pryder yw'r rheswm pam mae'n rhaid ymchwilio i hyn. Felly ceir yr adolygiad annibynnol nawr gyda'r ddau goleg brenhinol, a goruchwyliaeth gan y prif nyrs a'r prif swyddog meddygol.

Wrth gwrs, mae gan y bwrdd iechyd bellach y craffu ychwanegol hwnnw a amlinellais yn fy natganiad—craffu ychwanegol a chymorth i edrych ar ymarfer clinigol, diwylliant clinigol, ond hefyd un o'r pwyntiau a wnaethoch chi—arweinyddiaeth glinigol. Yn wir, mae'r adolygiad yn digwydd ar hyn o bryd oherwydd bod pennaeth newydd y gwasanaethau bydwreigiaeth wedi gweld peth o'r data a'i nodi yn achos pryder, ac mae hynny wedi arwain at ddwysau’r mater. Ond rhan o'n her ni yw gwneud yn siŵr nad oes angen cael set o lygaid ychwanegol ffres ar y lefel honno.

Felly, mae rhesymau da dros gael yr adolygiad a bod yn awyddus i ddysgu ohono, ond byddwn yn ochelgar ynghylch dweud y cafwyd methiant o ran gofal ym mhob achos unigol. Dyna pam mae gennym yr adolygiad—i edrych ar yr amgylchiadau unigol hynny, i ddeall yr hyn sy'n unigol, yn ddiwylliannol, beth mae'n ei ddweud wrthym am arfer, a'n helpu i wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol hefyd.

Nawr, rwyf wedi bod yn glir yn fy natganiad ar gyhoeddi, felly bydd yr argymhellion ac unrhyw ymateb i'r argymhellion hynny o'r adolygiad yn cael eu cyhoeddi. Yr hyn na allaf ei ddweud wrthych yw bod amserlen. Mae gwleidyddion yn aml eisiau pennu amserlen sy'n brydlon neu'n hir, yn dibynnu ar y sefyllfa. Credaf ei bod yn bwysig i'r colegau gael y cylch gorchwyl i'w galluogi i wneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud mewn modd hollol annibynnol a chadarn, ac nid wyf yn gosod amserlen artiffisial, ond, yn amlwg, byddwn yn dymuno i'r adolygiad ddigwydd cyn gynted â phosibl. Po gyntaf y cawn rywbeth sy'n gadarn a dealladwy, yna po gyntaf y gallwn ddeall pa fesurau sydd eu hangen neu beidio, a hefyd yr hyn sy'n unigryw am y bwrdd iechyd a'r hyn sy'n addysg i'r system gyfan, a'r hyn sy'n her system gyfan ledled Cymru.

Ar eich pwynt am ganoli, nid yw'r gwasanaethau hyn wedi eu canoli eto, ac felly nid yw'r model ei hun, y model newydd, yn ffactor cyfrannol. Rydym yn edrych ar arfer, ond rwy'n siŵr bod dadleuon y bydd y colegau yn dymuno edrych arnyn nhw o ran y trefniant gorau posibl o'r gwasanaeth. Serch hynny, gwyddom yn y gorffennol fod ein colegau brenhinol wedi dweud mai'r symudiad yw tuag at fodel gwell i ddarparu gofal gwell. Wel, rwy'n siŵr y bydd sylwadau ar y materion hyn yn yr adolygiad, ac, fel y dywedaf, bydd yn cael ei gyhoeddi ynghyd ag unrhyw ymateb iddo.

A gaf i ddweud fy mod innau hefyd, nid yn lleiaf fel rhiant, yn teimlo dros bawb yr effeithir arnyn nhw a'r rhai sydd yn bryderus? Efallai y gallaf ddechrau, mewn gwirionedd, drwy ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pe byddech yn gallu dweud wrthym pa wasanaethau a gaiff eu rhoi ar waith yn lleol i roi cymorth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw neu a allai fod yn bryderus ynghylch rhoi genedigaeth yn ardal Cwm Taf.

Mae angen inni fod yn siŵr ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd. Dyna ddiben adolygiadau. Mae angen hefyd inni fod yn siŵr i ba raddau y digwyddodd ac, yn sicr, rwy'n croesawu camau'r Llywodraeth wrth gymryd yr awenau yn y broses o gomisiynu adolygiad. Mae'n hanfodol, wrth gwrs, i adfer hyder bod yr ymchwiliad i'r hyn sydd wedi digwydd yn wirioneddol annibynnol, ac nid wyf yn credu y byddai adolygiad mewnol wedi cyflawni hynny. A wnewch chi gadarnhau y bydd hwn, yn wir, yn adolygiad annibynnol a chyda'r cwmpas i ehangu'r ymchwiliad os oes angen, fel sydd wedi digwydd yn swydd Amwythig? Ac rwy'n credu bod hyn hefyd yn bwysig, oherwydd, ar Good Evening Wales ar BBC Radio Wales ddydd Iau diwethaf, roedd hi'n ymddangos bod y cyfarwyddwr nyrsio dros dro yn awgrymu bod hwn rywsut yn ymarfer yr oedd pob bwrdd iechyd yn ymgymryd ag ef a bod yr heriau eu hunain yn cael eu hwynebu gan bob gwasanaeth mamolaeth yn y DU. Ond credaf fod nifer y digwyddiadau difrifol yr ydym yn sôn amdanyn nhw yma yn awgrymu yn amlwg y gallasai fod yn broblem fwy difrifol. Tybed a yw'n ofid gennych ei bod yn ymddangos eisoes i'r Bwrdd ddefnyddio, i bob golwg, ddull o reoli argyfwng cysylltiadau cyhoeddus er mwyn ceisio bychanu difrifoldeb y sefyllfa rywsut, sydd yn rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru, i fod yn deg, yn ei wneud.

Gan symud ymlaen at staff, awgrymwyd yn gryf fod prinder staff yn ffactor yma. Mae eich datganiad yn dweud fod un meddyg a 15 o fydwragedd wedi eu recriwtio, gyda 4.8 o fydwragedd cyfwerth ag amser cyflawn yn dechrau'r wythnos hon. Nid wyf yn siŵr pam yr ydych yn mynd o swyddi i niferoedd cyfwerth ag amser llawn ochr yn ochr â'i gilydd. A wnewch chi roi'r niferoedd gwirioneddol sy'n dechrau'r wythnos hon, fel y gallwn wybod ble rydym yn sefyll ar hyn o bryd?

Bydd gennym amser i archwilio llawer o faterion, ond dyma un neu ddau: mae'r datganiad hefyd yn cyhoeddi nifer o systemau newydd i wella diogelwch, gan gynnwys rota ar alwad 24/7 ar gyfer cyngor uwch-fydwraig a briffio ar ddiogelwch gyda phob trosglwyddiad. Pam nad oedd y pethau hyn ar waith eisoes, gan eu bod yn ymddangos yn eithaf sylfaenol i mi? Ac mae eich datganiad yn dweud wrthym hefyd y bydd dosbarthiadau cynenedigol yn ailddechrau o fewn wythnos wrth i lefelau staffio wella. Nawr, mae'r ffaith bod y rhain wedi cael eu canslo yn y lle cyntaf yn gwneud darlun o doriadau difrifol iawn yn y gwasanaethau yn ddiweddar. Felly, a gaf i ofyn beth yw'r systemau larwm sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi pan ddaw'r mathau hyn o effeithiau negyddol ar ein traws, os hoffech chi, ac a oes ar hyn o bryd unrhyw systemau larwm cynnar ar waith yn eich rhybuddio am broblemau mewn mannau eraill?

14:45

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. O ran y cymorth a roddwyd i'r bwrdd iechyd, rwyf wedi amlinellu hynny yn fy natganiad. Mae fy swyddogion i a'r uned cyflenwi yn rhoi cymorth a her yn ogystal â chyfethol cymorth uwch arweinyddiaeth gan fydwragedd profiadol mewn byrddau iechyd cyfagos, yn ychwanegol, wrth gwrs, at y camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd ei hun.

Ac rwy'n nodi'r pwynt a wnewch am niferoedd y staff. Y pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn syml oedd bod llawer o'r staff o'r 15 sydd wedi eu recriwtio i fod i ddechrau'r wythnos hon, yn hytrach na recriwtio 15 ac na fydden nhw o reidrwydd ar gael i weithio yn y gwasanaeth am rai misoedd. Felly, dyna pam y gallwn fod yn hyderus y bydd dosbarthiadau cynenedigol yn dechrau yn y dyfodol agos, oherwydd bydd ganddyn nhw staff ychwanegol o fewn yr wythnos.

O ran y pwynt olaf a wnaethoch—y pwynt am yr oruchwyliaeth—unwaith eto, yn y datganiad a wneuthum cyfeiriais at nifer o bwyntiau gwahanol sy'n ein helpu i gael trosolwg a chipolwg: yr adnodd Birthrate Plus yr ydym yn edrych arno ar gyfer nifer y staff a'r ffaith eu bod wedi tynnu'n ôl y dosbarthiadau oherwydd yr her fyrdymor o ran niferoedd staff. Mae'r rheini'n bethau yr ydym yn bendant yn eu hystyried, yn ogystal â'r byrddau perfformiad ehangach yn mynd trwy'r ystod o faterion a amlinellais yn fy natganiad. Bydd yr holl bethau hynny yn bwysig, a bydd y prif nyrs a'i swyddogion yn adolygu'r pethau hynny ynghyd â'r bwrdd iechyd.

Nawr, nid wyf yn ymwybodol, ac nid yw fy swyddogion yn ymwybodol, o fater tebyg sy'n peri pryder yn unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru. Fodd bynnag, nid ydym wedi aros nes bod problem yn codi. Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â byrddau iechyd, ac mae'r prif nyrs wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd i geisio sicrwydd ffurfiol am ansawdd y gofal a ddarperir, gan gynnwys materion staffio, ac i'r sicrwydd hwnnw gael ei roi o fewn y pythefnos nesaf. Felly, nid ydym yn disgwyl canfod her. Rydym yn ceisio'r sicrwydd hwnnw, fel yr wyf yn siŵr y byddech yn disgwyl inni ei wneud.

Nid wyf yn credu bod y bwrdd iechyd yn bychanu difrifoldeb yr her. Maen nhw'n deall yn dda iawn bod hwn yn fater difrifol y mae angen ei adolygu mewn modd priodol, fel y byddai unrhyw fwrdd iechyd arall yn ei wneud. A'r hyn a ddylai ddigwydd ym mhob bwrdd iechyd arall, wrth gwrs, yw bod digwyddiad difrifol yn cael ei adolygu a bod rhywbeth yn cael ei ddysgu o hynny. Dyna, yn fy marn i, yw'r broses arferol y cyfeiriwyd ati, ond, wrth gwrs, nid yw'r mesur ychwanegol hwn na'r mesurau hynny y mae'r byrddau iechyd eu hunain yn cynnig ymgymryd â nhw yn ddigwyddiadau arferol, sy'n digwydd o ddydd i ddydd. Nid yw yn gofyn i ddau goleg brenhinol ddod i adolygu eich arferion yn ddull dyddiol a safonol o weithredu.

I gloi, rwy'n hapus i ymdrin â'ch pwynt am y prinder staff a allai fod yn ffactor, a bydd y colegau brenhinol yn gwneud hynny hefyd. Mae hynny'n rhan o'r pryder a bydd yn rhan o delerau'r colegau i ystyried a yw prinder staff yn chwarae rhan ai peidio. Bydd hynny hefyd yn rhan o'u hystyriaeth o ymarfer clinigol neu arweinyddiaeth clinigol—yr ystod gyfan o ffactorau y byddem yn awyddus i'w deall yn iawn er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. O ran hynny, pe bai'r Colegau Brenhinol yn dymuno mynd ymhellach, yna ni fydd eu cylch gorchwyl yn eu cyfyngu i adolygiad artiffisial. Bydd ganddyn nhw'r sgôp i edrych ble bynnag y mae'r angen, a rhoi'r math o adolygiad y bydden nhw eu hunain, yn broffesiynol, yn dymuno ymgymryd ag ef, a rhoi i ni a'r cyhoedd ehangach y math o hyder y byddai pawb yn dymuno ei gael.

14:50

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, ac a gaf innau hefyd fynegi ar goedd fy nghydymdeimlad dwysaf a'm consýrn ag unrhyw un a gafodd ei effeithio gan y sefyllfa ym mwrdd iechyd Cwm Taf? Fel y byddech yn disgwyl, rwyf wedi cael trafodaethau hir a manwl gyda bwrdd iechyd Cwm Taf am y sefyllfa yno a sut y daeth hyn i fod. Ni chefais unrhyw syniad nac argraff eu bod mewn unrhyw ffordd yn bychanu difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd yno, ond ymddengys i mi, pan nad yw gwasanaeth hanfodol yn cael ei gyflwyno yn ôl y disgwyl, fel gyda'r adolygiad o'r canlyniadau andwyol hyn, mae angen inni wneud dau beth allweddol i dawelu meddwl y menywod sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yn ogystal â'r cyhoedd. Yn gyntaf, mae angen inni, fel yr amlinellwyd gennych eisoes, ddarparu cyfrwng annibynnol i edrych ar yr amgylchiadau ac adrodd am unrhyw bwyntiau gweithredu ar gyfer dysgu pellach a gwelliannau i sicrhau bod hyder yn y system. Byddwn yn gobeithio y bydd eich camau chi, yn ogystal â'r camau a gymerwyd eisoes gan y bwrdd iechyd ar yr adolygiad gan fyrddau eraill y maen nhw'n ei gyflwyno, yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol y byddai fy etholwyr yn eu disgwyl gan y gwasanaeth yn y dyfodol. Ni fyddent yn disgwyl dim llai.

Yn ail, a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i annog diwylliant lle nad yw'r systemau iechyd a gofal, yn enwedig yn ein byrddau iechyd, mewn unrhyw ffordd yn cael eu hannog i beidio â nodi problemau neu faterion eu hunain, sef yr hyn oedd yn wir yng Nghwm Taf lle nododd y bwrdd iechyd ei hun fethiannau ei broses ei hun? Dylem bob amser ddangos i'r byrddau iechyd lleol a'r staff fod adrodd am eu pryderon, fel yn achos y canlyniadau andwyol hyn, yn ddefnyddiol ar gyfer cael ymateb gan y system iechyd ehangach lle mae hynny'n angenrheidiol. A'r un mor bwysig, er bod yn rhaid i'n hymateb ni gael ei drin mewn modd sensitif a chadarn, ni ddylai fod yn wleidyddol ac ni ddylid ei orliwio, o ystyried pwysigrwydd y gwasanaethau yr ydym yn eu trafod a'r angen i roi sicrwydd.

Ydw. Rwy'n croesawu'n benodol eich pwynt chi am beidio â cheisio gorliwio'r hyn sydd wedi digwydd ac, yn yr un modd, ar yr un pryd ni ddylid ceisio bychanu difrifoldeb y pryder sy'n bodoli. Mae'n hollol bosibl cydnabod y sefyllfa ddifrifol, gyda 44 o achosion yn cael eu hadolygu—43 oedd y rhif, ond rydym wedi nodi'n ddiweddar iawn achos pellach y dylid ei adolygu fel rhan o hyn. Mae'n hawdd iawn dechrau ymosod ar y gwasanaeth pan fo gennych bryderon sylweddol i'w hadolygu, ond rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig ymwrthod rhag neidio i ddyfarniad yn yr achos hwn. Ond bydd raid i hynny gydredeg â chael y sicrwydd annibynnol, priodol yr ydych yn cyfeirio ato.

Rwyf hefyd yn falch eich bod wedi cael sgyrsiau uniongyrchol â'r bwrdd iechyd, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn agored gyda'r holl randdeiliaid, ac mae hynny wrth gwrs yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad, yn ogystal â'r cyhoedd, a hefyd y teuluoedd yr effeithir arnyn nhw'n uniongyrchol.

Y pwynt o ran yr adolygiad annibynnol yw bod y bwrdd iechyd yn gwneud y peth iawn wrth ofyn i'r colegau brenhinol ddod i mewn ac adolygu'r hyn sydd wedi digwydd. Ond ceir her bob amser gyda'r argraff o annibyniaeth ac mae hynny'n wirioneddol bwysig os yw'r cyhoedd am gael hyder ynddo. Dyna pam y penderfynais wneud yn siŵr mai Llywodraeth Cymru oedd yn ei gomisiynu, fel na chrëir unrhyw argraff bod y bwrdd iechyd yn cael caniatâd i farcio ei waith ei hun. Rwy'n credu y byddai hynny wedi bod yn anghywir i'w wneud. Nid wyf yn credu y byddai hynny wedi helpu bwrdd iechyd, na'r staff na'r menywod sy'n dibynnu ar y gwasanaeth.

Credaf fod eich ail bwynt yn bwysig iawn hefyd, sef gwneud yn siŵr fod yna ddiwylliant agored a phriodol sy'n nodi ac yn mynd i'r afael â heriau yn gynnar, fel nad yw pobl yn ofni trafod yr heriau neu'r pryderon sydd ganddyn nhw gyda'r gwasanaeth, ac er mwyn gwneud yn siŵr nad oes gennych ddisgwyliad rywsut o rwystro neu gelu newyddion drwg posibl, gan fod hynny yn y pen draw yn gwaethygu'r sefyllfa. Mae pobl yn colli ffydd a hyder mewn proses y dylai'r cyhoedd ymddiried ynddi, ond hefyd oherwydd collir cyfleoedd i ddysgu wedyn. Bydd yn bwysig deall hynny yn yr adolygiad, ac o safbwynt diwylliannol ac ymarferol o'r ffordd y cyflenwir y gwasanaeth ynddo, a oes gennym ni'r diwylliant cywir a'r arferion ar waith ac, os na, rhaid bod yn agored i ymdrin â hynny. Fel y dywedais yn fy natganiad, caiff gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau bydwreigiaeth yng Nghymru eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig am eu bod wedi gwneud gwelliannau sylweddol. Felly, rwy'n awyddus i weld y gwelliant hwnnw'n parhau. Ond mae'r adolygiad hwn yr un mor bwysig yn yr ystyr o wneud yn siŵr ein bod yn cadw hyder y cyhoedd yn ein system ac yn ein gallu i edrych yn briodol ac yn feirniadol pan fo rhywbeth o bosib wedi mynd o'i le.

14:55

Rwyf innau'n adleisio teimladau'r Aelodau am y dilyniant trasig tu hwnt hwn o ddigwyddiadau a arweiniodd at yr achosion yn amlwg yn dod i sylw'r cyhoedd. Mae'n werth nodi bod bwrdd iechyd Cwm Taf, o lefel rheoli uwch, wedi bod wrthi'n ddiwyd yn uno ag Ysbyty Tywysoges Cymru, a byddwn yn ddiolchgar i gael deall gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw'r uniad hwnnw wedi tynnu oddi wrth rediad y bwrdd iechyd o ddydd i ddydd. Fel y deallaf, y ddau faes sy'n peri pryder yw, un, y staffio, a, dau, adrodd am ddigwyddiadau. Nawr, rheolaeth a strwythur darpariaeth y gwasanaeth o ddydd i ddydd sy'n gyfrifol am y ddau beth hyn. Mae'n dda gennyf glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet fod nifer sylweddol o fydwragedd wedi cael eu cyflogi gan y bwrdd iechyd yn ddiweddar, ond ni allwn ond dyfalu pam y gadawyd y broblem mor enfawr o ran staffio gyhyd. Os oedden nhw 15 bydwraig yn brin, pam y gadawyd i'r sefyllfa honno ddigwydd yn y lle cyntaf?

Ac yn ail, a all ef ddweud wrthym ar ba lefel yr oedd yr adroddiadau am ddigwyddiadau ar y ward yn methu â dod drwy'r system fel y gellid edrych ar ddigwyddiadau ac y gellid edrych ar bob achos? Yn anad dim, byddwn yn gobeithio—ac rwy'n credu fy mod wedi clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn—y bydd yr adolygiad a gomisiynwyd ganddo yn edrych ar holl feysydd y ddarpariaeth ac na fydd yn gaeth mewn cylch gorchwyl cyfyng iawn y gallai'r Gweinidog fod yn ei nodi. Gobeithio y bydd gan y bwrdd adolygu y gallu i edrych ar feysydd y maen nhw'n eu hystyried yn angenrheidiol i gwblhau eu hymchwiliad, fel y gallwn fod yn hyderus bod yr holl feysydd cyflawni wedi cael eu hystyried.

Diolch i chi am eich tri chwestiwn, yn fras. Ar y pwynt cyntaf, nid wyf yn ymwybodol bod yr uniad arfaethedig wedi cael unrhyw effaith ar gyflenwad y gwasanaethau; nid oedd hwnnw'n bwynt a godwyd gan unrhyw un â phryderon bod hynny, rywsut, yn ffactor yn ansawdd y gofal ac yn y clwstwr hwn o achosion sy'n peri pryder. Cofnodi digwyddiadau difrifol yw'r hyn sydd wedi ein harwain ni i edrych eto ar y clwstwr o achosion, eu nifer, cyflymder yr adroddiadau a'r hyn a ddysgwyd ohonynt. Bu adolygiadau mewnol i bob un o'r rhain, ond er mwyn edrych unwaith eto i ddeall hynny, ar gyfer y nifer hwn oedd yn clystyru o fewn y bwrdd iechyd, dylid achub ar y cyfle i adolygu materion nawr a pheidio ag aros am gyfeirbwynt eto. A dyna pam rwyf wedi comisiynu'r adolygiad annibynnol. Dyna pam rwyf wedi bod yn eglur yn fy natganiad a'm cyhoeddiad heddiw, ac rwyf i o'r farn y bydd y cylch gorchwyl yn ddigon eang i'r ddau goleg brenhinol, pe byddent yn credu bod angen edrych ymhellach, oherwydd digwyddodd y clwstwr hwn o achosion dros gyfnod o ddwy flynedd yn fras. Pe bydden nhw'n dymuno edrych yn ôl ymhellach, yna dylai fod ganddyn nhw'r gallu i wneud hynny. Yn sicr nid wyf yn bwriadu pennu amserlen naill ai i atal hynny na chylch gorchwyl i lyffetheirio'n ddiangen yr hyn y bydden nhw'n dymuno ei adolygu ac ymchwilio iddo, ar gyfer rhoi i ni—fel y dywedais wrth roi ateb i Angela Burns, Dawn Bowden a Rhun ap Iorwerth—y math o adolygiad a'r math o adroddiad y bydden nhw'n barod i roi enwau proffesiynol y ddau goleg brenhinol arno, i roi i'r cyhoedd y math o hyder a sicrwydd y byddem i gyd yn ei ddymuno ac, yn gydradd â hynny, i roi argymhellion ar gyfer gwelliant a gweithredu ymhellach, boed hynny yn y bwrdd iechyd hwn neu, yn fwy cyffredinol, ledled y system gofal iechyd gyfan.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. A ydych yn awyddus i wybod sut all gwasanaeth mamolaeth ddarganfod yn sydyn ei fod 15 bydwraig yn brin? Pa bryd wnaethon nhw ddarganfod eu bod 15 bydwraig yn brin? Mae'n rhaid bod staff ymroddedig a gweithgar, y byddwch yn ddiamau yn cuddio y tu ôl iddyn nhw heddiw, wedi seinio'r larwm am brinder staff a chanlyniadau hynny ers amser hir; mae'n rhaid nad oedd neb yn gwrando arnyn nhw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei fod yn amser anodd iawn i'r staff; byddwn yn awgrymu bod hynny'n dweud llawer llai na'r gwir. Ni all dim fod yn fwy o ofid i weithiwr gofal iechyd proffesiynol na gweld cleifion, yn arbennig babanod, yn marw oherwydd methiannau sefydliadol y maen nhw'n ddi-rym i wneud unrhyw beth yn ei gylch. Nid yw'r ffaith bod pethau'n gweithio'n dda ar gyfer y rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru o unrhyw gysur i'r teuluoedd mewn profedigaeth, ac yn wir, mae fy nghalon i'n gwaedu dros y teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth oherwydd y methiannau hynny.

Fodd bynnag, mae hyn yn amlygu'r hunanfodlonrwydd nodweddiadol sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd wrth ymateb i fethiannau yn y gwasanaeth iechyd y mae'n gyfrifol amdano. Mae'n rhaid bod pymtheg yn gyfran eithaf mawr o'r staff bydwreigiaeth. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pam yr oedd bwrdd iechyd Cwm Taf yn credu y gallen nhw ymdopi gyda chyn lleied o fydwragedd cyn y daeth y sefyllfa hon i'r amlwg? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn pryderu wrth sôn am adolygiad gan fyrddau eraill bod y byrddau eraill hyn hefyd yn methu â darparu gofal a chanlyniadau da ar gyfer eu cleifion? Mae'r GIG wedi mynd rhwng y cŵn a'r brain gan y Llywodraeth hon a cheir cyflawni gwael gan GIG y Blaid Lafur ym mhobman o'ch cwmpas. I ble y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu eu bod yn troi am adolygiad priodol gan gymheiriaid, ac oni ddylem fod yn pryderu ynghylch y ffaith fod gan fwrdd GIG ymddiriedaeth mor wan yn ei ddyfarniad ei hun fel ei fod yn mynd at ymddiriedolaethau eraill i ofyn am ail farn? Oni ddylen nhw wybod beth mae gwasanaeth da a diogel yn ei olygu a'r hyn nad yw'n ei olygu?

Mae'r adroddiad yn crybwyll yr hyn y maen nhw'n mynd i'w wneud—cyflogi meddyg newydd a nifer o aelodau eraill o staff—ond nid yw'n cyfeirio at yr hyn y maen nhw'n credu sydd wedi mynd o'i le hyd yn hyn mewn gwirionedd. Felly, beth yn union a arweiniodd at farwolaethau 43 o fabanod yn 2016? Rwy'n credu bod pawb yn haeddu cael gwybod. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y dylai'r cyhoedd sydd yn cael eu gorfodi i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn gael ychydig mwy o syniad am yr hyn sydd wedi mynd o'i le hyd yma? Os yw'r bwrdd o'r farn y bydd cyflogi 15 o fydwragedd eraill a meddyg canolig ychwanegol a rhai swyddi eraill yn helpu i ddatrys y broblem, mae'n rhaid eu bod yn credu eu bod yn gwybod rhywbeth am sut y crëwyd y problemau yn y lle cyntaf. Os nad ydynt yn gallu neu'n dymuno dweud wrthym sut y cododd y sefyllfa ofnadwy hon, pa gysur sydd i'w gael o'u cynigion presennol ar gyfer ceisio ei gwella? Nid yw datganiad yr ysbyty ond yn dweud y byddan nhw'n rhannu eu canfyddiadau o'r hyn a aeth o'i le gyda'r teuluoedd dan sylw. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud adduned nawr, er mwyn diogelwch cleifion i'r dyfodol, i rannu'r canfyddiadau gyda'r lle hwn?

Mae llawer o bobl yn dweud ac yn credu bod y GIG uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol ac mae rhyw rinwedd yn hynny. Felly, byddwn yn gobeithio na fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cuddio unrhyw ganfyddiadau er mwyn lleihau embaras ei blaid wleidyddol ef yn sgil y mater hwn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r sicrwydd hwnnw i ni?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorchymyn adolygiad o'r bwrdd iechyd, ond nid oes modd inni gymryd unrhyw gysur o'r addewidion a'r sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet oherwydd hyd yn oed pan fydd y Llywodraeth hon yn cymryd rheolaeth uniongyrchol o fwrdd, fel y gwnaethoch gyda Betsi Cadwaladr, mae'r Llywodraeth hon weithiau yn llwyddo i wneud pethau'n waeth. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad hwn beth fydd yn ei wneud i sicrhau, yn wahanol i'r achosion a welwyd hyd yn hyn, na fydd triniaeth cleifion yn gwaethygu hyd yn oed wedi i'w Lywodraeth ef ymyrryd? Clywsom yn ddiweddar nad yw Betsi Cadwaladr wedi dysgu gwersi o'r cwynion nac o'r adolygiadau niferus o'r methiannau yno. Felly, pa sicrwydd a ellir ei roi i fenywod beichiog a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gwasanaeth o'r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw y bydd gwelliannau yn digwydd? Dim llawer iawn, awgrymaf. Rhoddaf daw arni nawr.

15:00

Wel, roedd rhan gyntaf eich cwestiwn yn hollol resymol yn fy marn i, sef gofyn eto ynglŷn â phrinder staff, ac mae hynny'n rhan o'r adolygiad sydd wedi ei gomisiynu. Mae'r bwrdd iechyd ei hunan wedi cydnabod y gallai prinder staff fod yn rhannol gyfrifol am y methiant i adrodd am rai o'r materion hyn mewn da bryd. Mae adolygiad annibynnol yn golygu deall yn briodol ac mewn modd cadarn a fu unrhyw fethiannau o ran gofal, ac i ba raddau y bu i unrhyw fethiannau mewn gofal gyfrannu at hyn, a oes unrhyw bwyntiau ychwanegol o ran dysgu, a fu problemau o ran gofal neu beidio.

Fel y dywedais, rydym yn defnyddio adnodd Birthrate Plus ac, yn fwy cyffredinol, mae ein system yn cydymffurfio â Birthrate Plus a dylem fod yn falch o'r ffaith honno oherwydd y buddsoddiad ychwanegol a wnaethom dros gyfnod sylweddol o amser i hyfforddi mwy o fydwragedd. Felly, mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd, fel y dywedais yn fy natganiad ac yn benodol wrth ateb nifer o'r cwestiynau a ofynnwyd gan Rhun ap Iorwerth.

Mae'n ddrwg gennyf ddweud bod rhan helaeth o'r sylwadau yr union beth yr oedd Dawn Bowden yn galw arnom ni i beidio â'i wneud, sef defnyddio iaith sy'n gorliwio yn fwriadol ac sy'n ymosod ar wleidyddion neu staff o fewn y bwrdd iechyd. Nid wyf yn ceisio cuddio y tu ôl i'n staff, yn sicr i chi. Rwyf wedi cymryd y cyfrifoldeb dros gomisiynu adolygiad annibynnol. Rwyf mewn gwirionedd yn fy rhoi fy hun ar y blaen ac yn ganolog, oherwydd byddaf yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi, ynghyd ag unrhyw argymhellion ac, wrth gwrs, unrhyw ymateb i hynny. Gweithred o gymryd cyfrifoldeb yw hon yn hytrach na chuddio oddi wrtho.

Yr adolygiad: rwy'n sylweddoli efallai nad oeddech wedi clywed na gwrando ar yr holl sylwadau a wnaed, ond mae'r adolygiad ei hun yn adolygiad annibynnol gan golegau brenhinol. Dyna'r adolygiad sy'n digwydd. Bydd adroddiadau unigol yn cael eu rhannu gyda theuluoedd unigol, ac yn sicr ni fyddwn yn disgwyl cyhoeddi unrhyw adroddiadau unigol; y teuluoedd eu hunain fydd yn cael y rheini. Yr hyn y byddwn yn gallu ei roi, fel y dywedais sawl gwaith cyn i'r Aelod godi ar ei thraed, yw'r adroddiad y gallwn ei ddarparu a'i gyhoeddi gydag argymhellion ac ymateb. Ond rwyf yn credu, wrth ichi sôn am y bwrdd iechyd yn llwyddo i osgoi'r bai, wrth ichi sôn am fabanod yn marw oherwydd methiannau sefydliadol, rydych yn dangos eich hun fel rhywun sydd â llawer mwy o ddiddordeb mewn cyfalaf gwleidyddol nag yn y materion gwirioneddol yr ydym yn eu hwynebu.

15:05

Llywydd, a gaf innau hefyd roi ar gofnod fy nghydymdeimlad â'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw mewn unrhyw ffordd drwy'r hyn a ystyrir yn ganlyniadau andwyol y gellid, o bosib, fod wedi eu hatal? Yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn hollol iawn: bydd yn rhaid inni aros am archwiliad pellach o'r dystiolaeth. Credaf, pan fydd digwyddiad fel hyn yn digwydd ac yn gofyn am ymchwiliad—o ganlyniad i'r newidiadau strwythurol parhaus yn y gwasanaeth y datgelwyd yr anomaleddau ystadegol ac afreoleidd-dra wrth gofnodi—. Wyddoch chi, mae'r rheini'n faterion difrifol ynddyn nhw eu hunain. Credaf fod gan y Siambr hon yr hawl i ddisgwyl cael sicrwydd clir iawn, ar ran pobl Cwm Taf. Dyfynnaf yr hyn a ddywedwyd gennych y prynhawn yma eich bod wedi ceisio sicrwydd gan y bwrdd iechyd bod gwasanaethau yn ddiogel ac yn cydymdeimlo a, chan ddyfynnu:

'Mae fy swyddogion hefyd yn monitro'r sefyllfa yn agos ac yn chwilio am sicrwydd o'r fath.'

Felly, hoffwn ofyn i chi yn syml: pryd fyddwch chi'n gallu dychwelyd i'r Siambr hon a rhoi sicrwydd inni eich bod wedi archwilio'r mater a'ch bod o'r farn bod safon y gwasanaethau mamolaeth bellach yn ddiogel? Oherwydd nid ydych wedi dweud hynny'r prynhawn yma, ac rydym yn awyddus i gael gwybod pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i ddweud hynny.

Diolch i chi am y sylwadau. Wrth gwrs, y rhain—. Gyda phob parch, rwy'n anghytuno ag ef ar y pwynt cyntaf mai'r newid strwythurol hwn a dynnodd sylw at yr anghysonderau. Mewn gwirionedd roedd yn fater o bennaeth newydd y gwasanaethau bydwreigiaeth yn dod i mewn a gwneud yr hyn y dylai ei wneud drwy adolygu'r sefyllfa ac edrych ar y clwstwr o achosion a chydnabod bod angen dwysáu'r materion hynny. Felly, mewn gwirionedd, arweinydd proffesiynol ddaeth i wneud ei gwaith a gwneud ei gwaith yn iawn a dwysáu'r pryderon hynny. Ac mae hynny wedi cael ei ddwysáu yn briodol, a bellach rydym yma yn y fan hon gydag adolygiad gwirioneddol annibynnol yn digwydd.

Mae'r sicrwydd yr wyf wedi ei geisio yn sicrwydd ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac rwyf eisiau dod yn ôl a gallu gwneud datganiad i'r Aelodau am y sicrwydd hwnnw'n cael ei ddarparu. Rwyf wedi gofyn am hynny o fewn pythefnos, ond rwyf i o'r farn y dylai menywod a menywod beichiog yng Nghwm Taf barhau i gael hyder yn nhrugaredd y gofal y maen nhw'n ei dderbyn ac yn ei ansawdd, gyda'r staff ychwanegol sydd ar fin cyrraedd. Dylai unrhyw fenyw sy'n bryderus drafod hynny gyda'i bydwraig—unrhyw bryderon o gwbl, naill ai am y pwyntiau mwy cyffredinol sydd wedi codi'n gyhoeddus neu am ei gofal unigol hi.

Ac mae'n rhaid imi ddweud mai rhai o'r bobl fwyaf ysbrydoledig yr wyf wedi eu cyfarfod yn y gwasanaeth iechyd yw bydwragedd, sydd wedi ymrwymo i ddysgu a gwella'r gofal a roddant. Ac rydym wedi gweld newid sylweddol mewn gofal bydwreigiaeth yn y pump i 10 mlynedd diwethaf—symudiad tuag at gael mwy o ofal dan arweiniad bydwragedd ac ail-normaleiddio hynny, gan beidio â chael ymyriad meddygol sylweddol fel y peth arferol, ac mae hynny o ganlyniad wedi bod yn well i'r mamau a'r babanod. Ond wrth gwrs fel hyn y dylai fod, fel y dywedwch, os ceir materion sylweddol sy'n peri pryder, mae angen inni fod yn barod i'w hadolygu, i edrych ar hynny, a dysgu mewn modd priodol a gwneud yr addysg yn berthnasol er mwyn gwella gwasanaethau eto yn y dyfodol. Ond byddaf yn rhoi nodyn ysgrifenedig i bob Aelod, a'i droi'n ddatganiad ysgrifenedig a fydd ar gael i'r cyhoedd, am y sicrwydd pan fyddwn yn ei dderbyn gan bob un bwrdd iechyd yn y wlad.

Hoffwn innau hefyd roi ar gofnod fy nghydymdeimlad ag unrhyw deuluoedd o fewn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf a gafodd eu heffeithio gan y canlyniadau andwyol hyn. Rwy'n croesawu'r ffaith, yn eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn ymddangos bod y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn hyblyg a gall gynnwys nifer o wahanol elfennau. Rwyf wedi bod â rhan mewn un achos yn ymwneud â gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Tywysog Siarl pan wnes i a'm swyddfa gefnogi'r teulu yr effeithiwyd arno'n agos iawn. Yno, dywedwyd wrthym mai dim ond un uwch fydwraig oedd yn cwmpasu Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar y pryd. Felly, rwy'n croesawu eich sylwadau wrth ymateb i gwestiynau gan Rhun ap Iorwerth y bydd yr adolygiad yn ystyried a yw prinder staff yn rhan o'r materion hyn. Gyda llif y cleifion o'r rhan fwyaf o Gwm Cynon yn symud i gyfeiriad Ysbyty'r Tywysog Siarl, pa sicrwydd allwch chi ei roi am barhad yn y ddarpariaeth o wasanaethau mamolaeth ar y safle? Ac mae hynny'n benodol mewn cysylltiad â'r cyfnod hollbwysig hwn yn y cyfamser, cyn i ganfyddiadau unrhyw adolygiad gael eu cyhoeddi.

15:10

Ydw. Rwy'n hapus i roi sylwadau ar y ddau bwynt. Y pwynt ehangach am ansawdd gwasanaethau bydwreigiaeth a mamolaeth yn fwy cyffredinol: fy nealltwriaeth i, a'r sicrwydd a gefais gyntaf gan swyddogion, yw y dylai menywod barhau i fod â hyder yn ansawdd a thosturi'r gofal dan arweiniad bydwragedd a gwasanaethau mamolaeth yn fwy eang yng Nghwm Taf. Rwyf wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fy mod i—nid yn unig o fewn Cwm Taf, ond ledled y system gyfan—yn dod yn ôl ar ôl pythefnos i roi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelodau yn fwy cyffredinol, a gwnaf yn siŵr y caiff hynny ei gynnwys yn benodol o fewn Cwm Taf hefyd. Yr hyn a lwyddwyd i'w wneud yw darparu cymorth bydwreigiaeth uwch ychwanegol. Fel yr amlinellais yn fy natganiad, mae hynny'n cynnwys trosglwyddo pennaeth gwasanaethau bydwreigiaeth Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i helpu am gyfnod cyfyngedig o amser i roi cymorth arweinyddiaeth ychwanegol o fewn Cwm Taf ar hyn o bryd. Mae hynny'n dangos ein system yn gweithio mewn ffordd hyblyg i wneud yn siŵr bod byrddau iechyd cyfagos yn helpu eraill i roi'r ansawdd addas yn y gwasanaeth. Pan fyddaf yn cyflwyno'r nodyn ysgrifenedig y dywedais y byddaf yn ei gyflwyno i'r Aelodau, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn gallu rhoi sylw i'r pwyntiau ehangach a godwyd gan yr Aelodau heddiw am weithredu ar unwaith, yr effaith uniongyrchol ar niferoedd staffio, yr hyn a olygir gam arweinyddiaeth, a'r sicrwydd y bydd mamau ledled y wlad yn awyddus i'w glywed, yn ogystal, wrth gwrs, â mamau a menywod beichiog o fewn Cwm Taf.

5. Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018. Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig, Mark Drakeford. 

Cynnig NDM6824 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Gorffennaf 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n falch o gyflwyno rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018.

A gaf i ddechrau drwy nodi ar gofnod fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith wrth ystyried y rheoliadau hyn? Gwneir y rheoliadau o dan adran 33 y Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 ac maent yn ymwneud â'r rhyddhad sydd ar gael i weithredwyr safleoedd tirlenwi wrth ymgymryd â gweithgarwch awdurdodedig adfer safle.

Ar hyn o bryd, ni all Awdurdod Refeniw Cymru ond caniatáu rhyddhad ar gyfer gwarediadau sy'n ffurfio rhan o'r gweithgarwch adfer safle pan fyddo'r deunydd a waredir yn ddeunydd cymwys fel y caiff ei restru yn Atodlen 1 y Ddeddf. Diben y Rheoliadau hyn yw ehangu cwmpas y rhyddhad o ran gwarediadau a wneir fel rhan o weithgarwch awdurdodedig adfer safle i gynnwys gwaredu deunydd sy'n cynnwys dim ond uwchbridd. Effaith y Rheoliadau hyn yw sicrhau y bydd yr holl ddeunyddiau sydd yn angenrheidiol i adfer safle tirlenwi yn iawn yn unol â thrwydded amgylcheddol neu amod cynllunio yn cael rhyddhad rhag treth. Er mai diwygiad bychan yw hwn, bydd y rheoliadau hyn yn dileu unrhyw symbyliad i ddefnyddio dim neu ychydig iawn o uwchbridd ac yn annog rheolaeth dda o safleoedd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau'r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gwaith adfer safle priodol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma.

Rwy'n cofio trafod ar gam pwyllgor gydag Ysgrifennydd y Cabinet pan fyddai'n cyflwyno rheoliadau a'r graddau y byddai'r rhain yn troi'n gwestiynau manwl neu'n mynd yn fwy sylweddol. Nid wyf yn hollol siŵr i ba gategori y perthyn hyn, ond mae gennyf un neu ddau o gwestiynau iddo. Yn gyntaf, a yw Awdurdod Refeniw Cymru wedi bod yn datgymhwyso neu yn rhoi rhyddhad o ran treth hyd yn hyn yn yr amgylchiadau yr ydych yn ofni y mae hyn yn ymdrin â nhw?

Ac, yn ail, yn y rheoliadau hyn, rydyn ni'n disodli adran 29(1)(a), y cyfeiriad 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl'. Mae hynny'n newid i:

'(i) sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl neu

'(ii) sy'n cynnwys uwchbridd yn gyfan gwbl'.

A meddwl yr oeddwn i, mae gennym ni eisoes yn Atodlen 1 y rhestr o ddeunydd cymwys ac mae pridd yn rhan o hynny. Felly, beth yw'r broblem? Mae'n dweud yn 1, 'creigiau a phridd', a cheir amod: mae'n rhaid ei fod yn dod yn naturiol. Ai'r broblem yw a ddaw yn naturiol, neu a gaiff ei ystyried fel creigiau a phridd, ac felly ni chaniateir pridd oni bai bod rhai creigiau ynddo hefyd?

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro hefyd a yw'n awgrymu bod uwchbridd yn rhywbeth gwahanol i bridd? Gwn fod ganddo randir ym Mhontcanna ac efallai ei fod yn fwy gwybodus am faterion pridd fel hyn nag yr wyf i, ond awgrymir bod y pridd a'r uwchbridd yn ddau gategori ar wahân—y sylwedd—yn hytrach na bod uwchbridd yn cael ei gwmpasu gan ystyr 'pridd'? Os yr olaf, a yw hwn mewn gwirionedd yn rheoliad angenrheidiol i'w gyflwyno?

Hefyd, a gaf i ond gofyn iddo yn olaf, pan mae ganddo 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl' neu 'sy'n cynnwys uwchbridd yn gyfan gwbl', pe byddai hynny ond yn dweud, 'sy'n cynnwys deunydd cymwys neu uwchbridd'—rwy'n deall y byddai dehongliad statudol yn caniatáu ystyr cynhwysol o hynny ac ni fyddai ots pe bai'r ddau ohonynt yn bresennol. Ond y ffordd y mae ef wedi ysgrifennu hynny, 'sy'n cynnwys deunydd cymwys yn gyfan gwbl' ar y ddau ohonyn nhw, onid yw hynny'n awgrymu na fyddai cymysgedd o ddeunydd cymwys ac uwchbridd yn cael ei ganiatáu o dan y rheoliadau newydd hyn?

15:15

Diolch yn fawr, Llywydd. Ar bwynt olaf yr Aelod, nid dyna fy nehongliad i o'r newid yr ydym yn ei gyflwyno yma. Yn syml, mae hyn i sicrhau nad oes anghymhelliad gwrthnysig i beidio â defnyddio uwchbridd wrth adfer safle. Gallem ni, fel yr awgrymodd yr Aelod, fod wedi newid y rhestr o ddeunyddiau cymwys i gynnwys uwchbridd ac wedi arwain at newid y drefn yn y modd hwnnw. Ond byddai ychwanegu uwchbridd at y rhestr o ddeunyddiau cymwys yn golygu cymhwyso'r gyfradd dreth is ar uwchbridd ym mhob sefyllfa. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y rhyddhad ardrethi ar gael dim ond pan fydd uwchbridd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd briodol i adfer safle. Pe byddech yn caniatáu cyfradd dreth is ar uwchbridd ym mhob sefyllfa, gallai hynny gymell yn afresymol i uwchbridd gael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Wrth gwrs, mae uwchbridd yn adnodd cyfyngedig a gwerthfawr; yn sicr dyma sut y caiff ei ystyried ar randiroedd Pontcanna, ac ni ddylai felly fynd i safleoedd tirlenwi.

Credaf fod y ffordd yr ydym wedi mynd ati i gyflwyno'r gwelliant hwn yn gwahanu mewn modd synhwyrol y mathau o ddeunyddiau adfer a fyddai'n gymwys drwy fod ar y rhestr, ac uwchbridd, sy'n rhan arbennig iawn o'r gwaith adfer. Ac, yn wir, fel y dywedodd yr Aelod, gwaith Awdurdod Cyllid Cymru yn y misoedd cyntaf hyn o gael treth gwarediadau tirlenwi sydd wedi tynnu sylw at hyn fel problem. Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn casglu treth ac yn caniatáu rhyddhad treth ar ddeunyddiau cymwys a ddefnyddir i adfer safleoedd. Tynnwyd eu sylw at y ffaith nad yw'r gwaith adfer hwnnw yn cael ei gwblhau yn briodol mewn nifer o achosion gan fod gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn anfodlon defnyddio uwchbridd oherwydd nad yw, ar hyn o bryd, yn gymwys ar gyfer rhyddhad tra bod deunyddiau eraill yn gymwys.

Os yw'r Aelodau yn barod i gefnogi'r rheoliadau hyn y prynhawn yma, byddan nhw'n gwneud yn siŵr y gall gweithredwyr safleoedd tirlenwi barhau i ddefnyddio uwchbridd fel rhan o waith adfer safle cymeradwy heb ysgwyddo'r atebolrwydd i dalu treth. Ac yn y ffordd honno, fel y dywedais, credwn y bydd hynny'n cymell bod manteision economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol sy'n gysylltiedig â gwaith adfer safle priodol yn cael eu cyflawni.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. 

Daw hyn â ni at y ddadl ar adroddiad blynyddol ‘Ffyniant i Bawb’ a’r rhaglen ddeddfwriaethol. Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones. 

Cynnig NDM6827 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1. Yn nodi’r diweddariad ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb.

2. Yn nodi’r Rhaglen Ddeddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Dros y ddegawd ddiwethaf, rwyf wedi bod yn rhoi adroddiadau cyson ar lwyddiant nodedig y Llywodraeth hon ynglŷn â gwella ffyniant i bawb. Nid ydym byth wedi bod yn rhy ofnus, wrth gwrs, i gymryd y llwybr sy’n iawn i Gymru, hyd yn oed os yw’r llwybr hwnnw’n wahanol i bawb arall, neu, yn wir, os mai ni yw’r cyntaf i droedio’r llwybr hwnnw.

Ers i'r Cynulliad fod yn ddeddfwrfa lawn, rydym wedi cyflwyno 34 o Filiau sydd bellach yn Ddeddfau a 18 o Fesurau a gynigiwyd gan y Llywodraeth. Defnyddiwyd y pwerau hyn i ddatblygu fframwaith ar gyfer twf ac i sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Rydym wedi arwain y ffordd yn y DU gyda deddfwriaeth i gyflwyno'r system gyntaf o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Rydym yn defnyddio deddfwriaeth i ddiogelu a hybu iechyd, gan gyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn 2007, ac yn fwyaf diweddar i sefydlu isafbris alcohol. Yn y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu dyletswydd ansawdd ar gyfer GIG Cymru a dyletswydd gonestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Llywydd, ein deddfwriaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol oedd y gyntaf o'i bath yn y DU, a bydd yn gwella sut yr ydym ni'n ymateb i'r materion hyn ac yn mynd i'r afael â nhw. Hefyd, rydym wedi arwain o ran amddiffyn hawliau plant ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n garreg filltir yn y maes, a byddwn yn parhau i weithredu i amddiffyn plant a hawliau plant drwy gyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad i gosb resymol gan wahardd y defnydd o gosb gorfforol.

Llywydd, cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ei phasio, sydd wedi cael canmoliaeth yn rhyngwladol, ac sydd hefyd yn darparu'r sail inni allu buddsoddi er budd Cymru yn yr hirdymor. Wrth gwrs, nid ymdrech unigol yw hon, a hoffwn dalu teyrnged heddiw i'r gwaith caled a'r craffu gan y Cynulliad a'i bwyllgorau. Nid yw craffu bob amser yn waith cyfforddus, ond heb os, mae wedi gwneud ein deddfwriaeth yn gryfach ac yn well.

Llywydd, roedd mis Ebrill eleni yn nodi cyflwyniad y trethi cyntaf yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd—treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Mae'r gallu i godi trethi yn rhoi ysgogiadau newydd inni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru a byddwn yn ymdrechu i ddarparu dull o drethu yng Nghymru sy'n dryloyw ac yn deg ac sy'n diwallu anghenion pobl, busnesau a chymunedau Cymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau ar gyfer pobl Cymru. Mae ein heconomi wedi gwella dros y 20 mlynedd diwethaf, gyda'r gyfradd ddiweithdra ar gyfer y tri mis rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2018 ar 3.8 y cant o'i chymharu â 7 y cant yn 1999.

Rydym wedi gweld gwelliant hirdymor a chynaliadwy mewn cyrhaeddiad addysgol. Mae canran y disgyblion sy'n gadael yr ysgol gynradd gydag o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn mathemateg, gwyddoniaeth a naill ai Saesneg neu Gymraeg wedi cynyddu'n sylweddol. Mae bellach yn 90 y cant. Am y tro cyntaf mewn degawd, gostyngodd cyfran y rhai sy'n 16 i 18 oed nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn is na 10 y cant. Mae ein dull ni wedi talu ar ei ganfed.

Llywydd, rydym hefyd wedi ystyried gwasanaeth iechyd cynaliadwy mewn modd mwy integredig. Rydym yn cydnabod bod mwy i iechyd a lles na thrin salwch ac rydym yn gweithredu ar y ffaith honno. Rydym wedi cynnal lefel ein buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol ac wedi cymryd camau i ddylanwadu ar y ffactorau ehangach sy'n effeithio ar iechyd a lles. Mae'r gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol fesul pen yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr ac mae wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach hefyd.

Llywydd, fis Medi diwethaf, cyhoeddwyd y strategaeth genedlaethol drawsbynciol gyntaf ar gyfer Cymru, 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol'. Mae hon yn nodi ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a'n blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru. Fe'i seiliwyd ar y cyfleoedd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ystyried sut rydym yn cyflawni ar gyfer Cymru a sut y gallwn weithio'n well gyda phob un o'n partneriaid, gan ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael inni. Mae'r strategaeth wedi gosod nod tymor hir ar gyfer Cymru sy'n ffyniannus a diogel, yn iach ac egnïol, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn unedig a chysylltiedig. Amlinellodd y camau gweithredu y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod tymor hwn y Cynulliad. O'r cychwyn cyntaf, nodwyd pum maes blaenoriaeth lle'r oedd modd inni wneud y cyfraniad mwyaf at ffyniant a lles hirdymor. Maen nhw'n adlewyrchu'r adegau hynny ym mywydau pobl pan allai fod angen cymorth arnyn nhw fwyaf a phan all y cymorth iawn gael effaith ddramatig ar eu bywydau. Y rhain yw: y blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a chyflogadwyedd a sgiliau.

Wrth inni asesu ein cynnydd, roedd yn amlwg ein bod yn cyflawni'r camau gweithredu i helpu i leihau allyriadau. Fodd bynnag, os ydym yn dymuno cyflawni ein dyheadau, yna mae angen inni ganolbwyntio'n fwy ar hynny ar draws y Llywodraeth gyfan. Mae'r manteision o leihau allyriadau yn enfawr ac yn cyfrannu at lawer o'n blaenoriaethau, megis gwella iechyd a lles ac, wrth gwrs, agor cyfleoedd economaidd newydd. Ac felly, rydym wedi penderfynu gwneud datgarboneiddio yn chweched maes blaenoriaeth.

15:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru nawr, ond hefyd drwy osod y sylfeini ar gyfer y dyfodol. Cyhoeddais adroddiad blynyddol ddydd Mawrth diwethaf yn nodi'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni ymrwymiadau tuag at ein hamcanion hirdymor. Rydym wedi cyflawni dau ymrwymiad mawr, er enghraifft, yn gyfan gwbl. Yn gyntaf oll, y gronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn, sy'n sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael yr un mynediad cyflym i gyffuriau a thriniaethau newydd. A hefyd, ein cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr, sydd wedi cyflwyno toriadau mewn trethi i fusnesau bach ledled Cymru.

Ac rydym ar y trywydd iawn gyda'n prif ymrwymiadau eraill: mae 16,000 o bobl wedi dechrau yn ein rhaglen brentisiaeth flaenllaw i bob oedran yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig. Rydym eisoes wedi cynyddu'r swm o arian y gall pobl ei gadw cyn bod rhaid ariannu cost lawn eu gofal preswyl i £40,000. Rydym wedi cynyddu nifer y gweithleoedd lle gall rhieni sy'n gweithio gael 30 awr o ofal plant am ddim i'w plant tair a phedair blwydd oed, gyda mwy na hanner yr awdurdodau lleol yn rhan o'n cynlluniau peilot erbyn hyn. A bydd Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, yn ein cynorthwyo i gyflawni ein cynnig gofal plant. Rydym wedi parhau hefyd i flaenoriaethu gwariant ar ysgolion, ac rydym ar y trywydd iawn i fuddsoddi £100 miliwn ar wella perfformiad ein hysgolion, ochr yn ochr â newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm.

Dirprwy Lywydd, eleni, cyflwynwyd contract economaidd newydd, sy'n elfen hanfodol o'n cynlluniau ar gyfer Cymru ffyniannus a diogel. Rydym yn symleiddio'r cyllid ar gyfer busnesau ac yn buddsoddi yn eu dyfodol. Yn gyfnewid am hyn, disgwyliwn iddyn nhw chwarae eu rhan lawn yn ehangu ffyniant, yn mabwysiadu'r arferion cyflogaeth gorau, yn buddsoddi yn eu staff ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy, oherwydd rydym eisiau cefnogi swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda. Mae'r cynllun gweithredu cyflogadwyedd yn nodi, er enghraifft, sut y byddwn yn buddsoddi mewn pobl, sut y byddwn yn helpu pobl i gael swyddi, a sut y byddwn yn rhoi iddynt y sgiliau i ddatblygu. Rydym yn diwygio sut y byddwn yn ariannu addysg ôl-16 i fod yn fwy ymatebol i anghenion yr economi ac adlewyrchu blaenoriaethau rhanbarthol.

Rydym wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd modern a chynaliadwy, 70 mlynedd ar ôl ei sefydlu. Gwyddom fod anghenion a disgwyliadau pobl o'r GIG wedi newid. Yn 'Cymru Iachach', nodwyd sut y byddwn ni bellach yn integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, gan roi dull ataliol wrth wraidd ein gwasanaethau, ac rydym yn cefnogi hyn gyda chronfa trawsnewid £1 miliwn. Rydym yn buddsoddi mewn mesurau i helpu pobl i fod yn iach ac yn egnïol drwy ein cronfa iach ac egnïol gwerth £5 miliwn. Ac mae ein rhaglen aer glân Cymru yn adlewyrchu dull traws-lywodraethol, ochr yn ochr â chronfa ansawdd aer newydd gwerth £20 miliwn, a fydd yn helpu i wella ansawdd aer.

Llywydd, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau i ysgolion ac mewn ystâd addysg fodern drwy ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain sy'n werth £1.4 biliwn. Eleni, cwblhawyd y canfed prosiect. Mae buddsoddi mewn adeiladau ysgol yn mynd law yn llaw â 'n buddsoddiad yn y proffesiwn addysgu, drwy'r Academi Genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol a'n newidiadau i'r cwricwlwm. Drwy weithio law yn llaw ag athrawon, rydym yn datblygu system addysg a fydd yn diwallu anghenion y genedl. Dylai'r gallu i gael mynediad i ddysgu gydol oes fod ar gael i bawb, ac rydym yn buddsoddi i gau'r bwlch mewn cyrhaeddiad drwy becyn amddifadedd disgyblion ehangach—y pecyn mwyaf hael yn y DU—ac mae hynny wedi helpu i ddileu rhwystrau ariannol, ac mae'n rhoi cymorth i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig, gan gyflwyno cyfleoedd newydd.

Rydym yn cysylltu cymunedau â'i gilydd, yn buddsoddi mewn prosiectau seilwaith ar hyd a lled Cymru. Eleni dyfarnodd Trafnidiaeth Cymru gontract gwerth £5 biliwn ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Mae hyn wedi ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffyrdd a pharatoi'r ffordd ar gyfer metro de Cymru. A chwblhawyd y prosiect Cyflymu Cymru, sydd wedi darparu mynediad i fand eang ffeibr cyflym i 733,000 o safleoedd ledled Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gosod y sylfeini i gyrraedd ein targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg—Cymraeg 2050. Rwy'n gobeithio bod yno i weld y targed hwnnw'n cael ei wireddu, er nad yn y swydd hon yn benodol. Rydym wedi dyfarnu £4.2 miliwn i sefydliadau ledled Cymru i hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw lewyrchus.

Llywydd, gwyddom fod llywodraeth leol gref yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus integredig o ansawdd da yn effeithiol, a chaiff Bil ar lywodraeth leol ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn i ddarparu pecyn mawr o newidiadau, gyda'r nod o ddiwygio a chryfhau democratiaeth yr awdurdodau lleol, eu hatebolrwydd a'u perfformiad.

Dirprwy Lywydd, rydym wedi cyflawni pob un o'r gwelliannau hyn er gwaethaf degawd o doriadau a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Ond nid ydym wedi caniatáu i hyn fod yn nodwedd ddiffiniol o'r Llywodraeth hon. Gwyddom fod cyni yn parhau i effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru, a bod angen ein cymorth arnyn nhw yn fwy nag erioed. Rydym nawr yn paratoi ein hunain ar gyfer y realiti o ddyfodol y tu allan i'r UE. Beth bynnag fo ffurf Brexit, bydd yn amharu arnom ni, ac mae'n rhaid inni barhau i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posibl. Mae'r gwaith hwn yn anochel yn effeithio ar ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac ar draws busnes y Llywodraeth. Ond ein blaenoriaeth o hyd yw brwydro am y canlyniad gorau i Gymru, gan fod Cymru yn parhau i fod yn lle gwych i fuddsoddi a gweithio ynddo—neges sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd.

Felly, Dirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni ar gyfer pob rhan o Gymru, gan fwrw ymlaen gyda'n hagenda heriol. Rydym yn darparu gwelliannau sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl, ac yn gosod sylfeini cadarn er budd cenedlaethau'r dyfodol.

15:30

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Paul Davies i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith nad yw adroddiad blynyddol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a'i rhaglen ddeddfwriaethol yn ymdrin â rhai o'r problemau hirsefydlog sy'n wynebu pobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn falch i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Mae'r Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi cael digon o amser i gyflwyno rhaglen sy'n gwella bywydau pobl Cymru, ond, yn anffodus, nid yw rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hir sefydlog sy'n wynebu pobl Cymru. Mae hefyd yn destun pryder mawr fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud mwy i gefnogi ymgyrchoedd deddfwriaethol o'r tu allan i'w charfan ei hun yn y Cynulliad hwn. Yn wir, fe wn i o'm profiad personol fy hun pa mor llwythol ac anodd y gall hi fod i gael cefnogaeth ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, hyd yn oed pan allai'r ddeddfwriaeth honno wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Felly, rwyf yn gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y bydd y Prif Weinidog yn myfyrio ar ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gynigion deddfwriaethol, a pham, yn y Cynulliad hwn yn arbennig y mae'r Llywodraeth wedi bod yn amharod i gefnogi galwadau o'r tu allan i'w Llywodraeth ei hun.

Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i osod dyletswydd o ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru, a dyletswydd gonestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Yn wir, mae'r digwyddiadau parhaus ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dangos bod atebolrwydd yn ddifrifol o wael yn ein gwasanaeth iechyd. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar i israddio ysbytai yn y gorllewin heb warantu arian ar gyfer ysbyty yn dangos yn benodol y diffyg tryloywder ac atebolrwydd mewn rhai byrddau iechyd, ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar fyrder. Mae'n gwbl hanfodol bod unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir yn cryfhau llais y claf ar gyfer y dyfodol. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gallai'r Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr amserlenni y mae ei Lywodraeth yn eu hystyried ar hyn o bryd o ran darparu'r ddeddfwriaeth hon, a sut y bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan fyrddau iechyd yn ddiweddar sydd yn amlwg wedi mynd yn erbyn dymuniadau'r bobl y maen nhw mewn gwirionedd yn eu cynrychioli.

Nawr, mae adroddiad blynyddol 'Ffyniant i Bawb' yn dangos y bydd Bil Llywodraeth Leol yn cael ei gyflwyno a fydd yn cynnwys diwygio trefniadau etholiadol awdurdodau lleol a newidiadau i drefniadau llywodraethu a pherfformiad ar gyfer Llywodraeth Leol, ymhlith cynigion eraill. Gwnaeth Llywodraeth Cymru hi'n glir mai'r mater o rymuso cynghorau lleol sydd wrth wraidd y Bil hwn. Ac mae e'n gwybod beth yw barn yr Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr, sef nad yw creu awdurdodau mwy o faint yn golygu y byddan nhw yn awdurdodau gwell. O gofio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd yn datblygu atebion ar y cyd ag awdurdodau lleol, rwyf yn gobeithio y gallwn ni erbyn hyn anghofio'r strwythur anferthol sy'n cael ei fygwth bob ychydig o flynyddoedd.

Nawr, mae'r ddogfen 'Ffyniant i Bawb' yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi 'cyflawni gwelliannau parhaus o ran cyrhaeddiad addysgol', sydd yn fy marn i yn gwbl groes i'r canlyniadau A* i C TGAU diweddaraf yng Nghymru, sydd fel y gwyddom, yr isaf ers 2005. Mae Estyn wedi nodi nad yw bylchau cyrhaeddiad addysgol wedi lleihau ar gyfer disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, ac rydym hefyd yn gwybod bod Estyn wedi canfod, mewn traean o ysgolion cynradd a thair o bob pum ysgol uwchradd, bod diffygion yn y modd y maen nhw'n sicrhau bod disgyblion yn defnyddio ac yn datblygu sgiliau rhifedd. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ymhle y mae gwelliannau cyson wedi digwydd mewn cyrhaeddiad addysgol, oherwydd mae'n ymddangos nad yw hyn yn wir.

Dirprwy Lywydd, ceir hefyd ddatgysylltiad sylweddol rhwng amcanion 'Ffyniant i bawb', rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20. Mae'r syniad o ddarparu mwy o integreiddio, mwy o wasanaethau ataliol, a darparu gwasanaethau cyhoeddus addas ar gyfer y dyfodol, yn cael ei danseilio'n sylweddol gan doriadau pellach i wariant awdurdodau lleol, toriadau mewn termau real i gyllidebau cyfalaf ym maes iechyd, a mwy o gyfuno llinellau cyllideb allweddol, sy'n atal tryloywder mewn gwariant hyd yn oed ymhellach. Yn anffodus, nid ydym yn nes at ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â diffyg cywirdeb a dibynadwyedd y costau a amcangyfrifir ac a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn yr asesiadau o effaith rheoleiddiol sy'n dod gyda'r ddeddfwriaeth. Felly, unwaith eto, byddai mwy o ganllawiau ynghylch y mater hwn yn cael eu croesawu.

Mae hefyd yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn canfod yn union sut yr ariennir unrhyw gostau a nodwyd yn yr asesiadau o effaith rheoleiddiol, ac efallai y dylai Llywodraeth Cymru gynnig mwy o eglurder i bwyllgorau wrth i ddeddfwriaeth fynd drwy'r broses ddeddfwriaethol. Bob blwyddyn, mae'r Cynulliad yn pasio mwy a mwy o ddeddfwriaeth, ac rwy'n credu erbyn hyn fod angen inni efallai fod yn fwy ystyriol o ddeddfwriaeth sydd wedi'i phasio o'r blaen, gan ganolbwyntio'n ddigonol ar waith craffu ôl-ddeddfu. Ac fe fyddai'n ddiddorol clywed barn gyffredinol y Prif Weinidog ar sut y cafodd deddfwriaeth o'r fan hon ei hailystyried a'i rhoi drwy'r broses graffu yn y blynyddoedd dilynol er mwyn sicrhau ei heffeithiolrwydd, ac a yw e'n credu bod lle i wella yn y maes penodol hwn. Prin yw'r ddealltwriaeth, manylion a chyfarwyddyd yn nogfen 'Ffyniant i Bawb' y Llywodraeth ynghylch sut y bydd unrhyw un o'i hamcanion yn cael eu gyrru ymlaen, ac y mae hefyd yn hanfodol bod unrhyw ddeddfwriaeth a ddaw o ganlyniad i'r ddogfen 'Ffyniant i Bawb' yn ystyrlon, yn cael effaith wirioneddol ac yn cyflawni gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Ar yr ochr hon i'r Siambr, fe fyddwn ni'n parhau i ymgysylltu mewn modd adeiladol gyda'r broses ddeddfwriaethol a'r broses ôl-ddeddfu pryd y gallwn ni weld gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru. Diolch.

15:35

Mae 'ffyniant' yn air mawr, mae o'n air pwysig. Rydym ni i gyd eisiau Cymru sy'n ffynnu yn economaidd, yn gymdeithasol. Mi allwn ni sôn am ffyniant mewn gwasanaethau cyhoeddus—addysg ac iechyd hefyd. Rydw i eisiau Cymru sy'n ffynnu fel cenedl go iawn i gymryd ei lle ymhlith cenhedloedd y byd ac, yn sicr, allwn ni ddim gymryd y gair 'ffyniant' yn ysgafn na'i danchwarae fo. Ond, mae gen i ofn, nad ydw i'n gweld bod rhaglen 'Ffyniant i Bawb' Llywodraeth Cymru'n derbyn maint yr heriau sy'n wynebu Cymru. Nid ydy hi yn sicr yn dangos yr uchelgais sydd ei angen i ymateb i'r heriau yna.

Ac mae cynnydd—well inni fod yn onest yn fan hyn—wedi bod yn gyfyngedig yn y bron i 20 mlynedd ers sefydlu datganoli. Gallaf i roi faint a fynnir o enghreifftiau: mae GVA Cymru i lawr yn is nag yr oedd o ar ddechrau datganoli; rydym ni'n colli ein pobl ifanc ni, yn colli ein sgiliau a gwybodaeth. Yn haf 2017, mi ddangosodd adroddiad gan y Resolution Foundation bod Cymru wedi gweld colled net o dros 20,000 o raddedigion rhwng 2013 a 2016. Ar yr amgylchedd, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged i leihau allyriadau 40 y cant erbyn 2020. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod allyriadau yng Nghymru, dair blynedd yn ôl, dim ond rhyw 19 y cant yn llai nag yr oedden nhw yn 1990. Dros yr un cyfnod, mae allyriadau ar draws y Deyrnas Unedig wedi'u lleihau 27 y cant.

Os edrychwn ni ar ddatganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog yng Ngorffennaf y llynedd, mae'n fwy nodedig rydw i'n meddwl am yr hyn sydd ar goll, yn hytrach na'r hyn oedd yn cael ei gynnwys: dim Deddf aer lân i Gymru i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus o lygredd awyr sy'n achosi 2,000 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn yng Nghymru; dim deddfwriaeth i sefydlu cwmni ynni a allai wthio prosiectau adnewyddol newydd a hyd yn oed gwthio morlyn llanw Bae Abertawe.

Mi oedd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyfeirio at waddol y Prif Weinidog, yn cyfeirio at ddeddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ond beth ydy pwrpas deddfwriaeth oni bai ei bod yn arwain at newid yn y ffordd mae pethau'n cael eu gwneud ac at wella bywydau pobl? Bron i bum mlynedd ers pasio'r Ddeddf teithio llesol, er enghraifft, mae cyfraddau teithio llesol yn dal i fod yr un fath ac mae llai o blant yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol. Mae gwariant o ryw £10 y pen y flwyddyn yn llai o lawer na'r £17 i £20 y pen oedd yn cael ei argymell gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Lle mae'r cynnydd yn nhermau mynd i'r afael â newid hinsawdd, llygredd awyr a gwastraff plastig? Yn hytrach na disgwyl i Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig gymryd y mater yma o ddifrif, mi fyddai Plaid Cymru yn cymryd yr awenau ein hunain ac yn cyflwyno Deddf awyr lân i Gymru. Mi fyddem ni'n anelu at ddileu gwerthiant ceir diesel a phetrol yn unig erbyn 2030, fel y mae nifer o wledydd yn ei wneud, ac sy'n darged mwy uchelgeisiol na'r hyn sydd wedi cael ei osod gan Lywodraeth Prydain. Mi fyddem ni'n cyflwyno cynllun dychwelyd poteli ac ardoll blastig defnydd unigol i fynd i'r afael â'r pla o lygredd plastig. Yng ngeiriau'r Marine Conservation Society:

os na fyddwn yn newid pethau, erbyn 2050 gallem fod â mwy o blastig na physgod (yn ôl pwysau) yn y môr'.

Yn nhermau gwella canlyniadau addysgol a rhoi'r dechrau gorau i fywyd i blant o bob cefndir, mi fydd cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn gwaethygu'r bwlch parodrwydd am ysgol rhwng plant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion cyfoethocach. Mi fydd teuluoedd sy'n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn elwa o ofal plant am ddim ar gyfer pob plentyn rhwng tair a phedair oed, ond ni fydd y plant sydd efo rhieni sy'n chwilio am waith neu mewn addysg neu hyfforddiant yn elwa o'r cynnig hwn. Mi fyddai cynnig cynhwysol, fel y mae Plaid Cymru wedi'i amlinellu, yn galluogi rhieni i ddychwelyd i'r gweithlu, yn ogystal â rhoi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn. 

Mi wnaf i orffen efo Brexit a'r effaith ar amaeth. Rydym ni'n dal i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn ein hamgylchedd, ffermydd a physgodfeydd yn hytrach na dewis rhoi pwerau nôl i Lundain. Ac, yn hytrach na dilyn llwybr Michael Gove, mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cynnal taliad incwm sylfaenol i ffermwyr am ein bod ni'n credu bod angen y taliad uniongyrchol yna ar ffermwyr yng Nghymru. Mae'n rhaid inni sylweddoli anghenion ffermwyr yng Nghymru ac nid edrych ar yr hyn sydd yn digwydd dros y ffin. Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru fel y maen nhw wedi'u nodi yn 'Brexit a'n Tir' yn cynnwys diddymu taliadau, wrth gwrs, yn raddol o 2020. Fel y mae FUW yn ei ddweud, mae hynny'n golygu'r newid mwyaf ers yr ail ryfel byd yn amaethyddiaeth yng Nghymru.

I gloi, Llywydd, mae sicrhau ffyniant i Gymru yn rhywbeth y dylai fod yn gyrru pob un ohonom ni. Mae gen i ofn mai dal i ddisgwyl yr ydym ni i'r Llywodraeth Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yma ddelifro rhaglen a all gynnig gwir obaith i'n cymunedau ni.

15:40

Diolch, Dirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl hynod o bwysig hon, sy'n edrych ar sut y mae hi arnom ni yng Nghymru ac sy'n edrych ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Hoffwn longyfarch y Llywodraeth ar y cynnydd a wnaed. Hoffwn ganolbwyntio ar un neu ddau o faterion.

Tai yw un o'r materion mwyaf yr wyf i'n ymdrin ag ef yn fy swyddfa etholaeth, ac rwyf yn sicr bod hynny'n wir yn achos llawer o Aelodau'r Cynulliad hwn. Mae bod â chartref diogel yn un o'r blociau adeiladu sylfaenol mewn cymdeithas ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith yn y maes hwn. Rwy'n croesawu'n arbennig y ffaith ein bod wedi diddymu'r hawl i brynu eleni—ym mis Ionawr eleni—a fydd yn cadw'r stoc o dai cyngor, sydd wedi prinhau'n sylweddol, i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Rwy'n credu bod hynny'n gam blaengar a beiddgar iawn ar ran y Llywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o'r stoc sy'n weddill yn aros yn nwylo'r awdurdodau lleol o ganlyniad.

Rwy'n croesawu hefyd yr ymdrechion i atal digartrefedd, ac rwy'n sylwi bod yr adroddiad blynyddol yn dweud bod mwy na 16,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi osgoi digartrefedd yn llwyddiannus. Fe wn i fod y ddeddfwriaeth hon yn destun edmygedd mawr mewn rhannau eraill o'r DU a'i bod wedi'i mabwysiadu mewn rhai ohonyn nhw, oherwydd bod rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i atal pobl rhag mynd yn ddigartref yn amlwg yn allweddol—i weithredu cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Un o achosion digartrefedd yw ansicrwydd deiliadaeth ymhlith tenantiaid yn y sector rhentu preifat, a gwn fod y Llywodraeth yn trafod cael gwared ar adran 21, y cymal troi allan heb fai, fel y'i gelwir. Mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hyn oherwydd bod llety rhent, sef lle yr oeddem ar un adeg yn disgwyl i fyfyrwyr ac efallai pobl ifanc yn eu swyddi cyntaf fyw ynddo, ond sydd erbyn hyn, mewn llawer o achosion yn lle ar gyfer teuluoedd â phlant ac ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn i fyw ynddo. Yn wir, ceir 460,000 o bobl yng Nghymru yn byw yn y sector rhentu preifat, ac yn amlwg rwy'n credu bod yn rhaid i ni fel Llywodraeth wneud yn sicr na ddylen nhw ofni cael eu troi allan heb reswm da. Ceir tystiolaeth hefyd bod adran 21 yn cael effaith anghymesur ar fenywod, sy'n fwy tebygol o fod â phlant dibynnol ac a fydd yn dioddef amodau tai gwael mewn rhai achosion, ac yn ofni cael eu troi allan mewn modd dialgar hefyd os ydynt yn cwyno. Gwn fod y Llywodraeth wedi mynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw.

Felly, rwyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen i gael gwared ar achosion o droi allan heb fai, oherwydd fel y mae pethau ar hyn o bryd, gall teuluoedd gael eu troi allan ar ôl chwe mis, gan amharu ar fywyd y teulu a gwaith ysgol y plant o ganlyniad. Rwy'n croesawu hefyd y targed i ddarparu 20,000 o gartrefi mwy fforddiadwy dros y tymor Cynulliad hwn, ac rwyf yn falch iawn bod Cyngor Caerdydd yn adeiladu'r tai cyngor cyntaf mewn cenhedlaeth i helpu i fynd i'r afael â'r rhestr aros yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys bron i 8,000 o bobl.

Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni sicrhau bod y tai newydd hyn yn cael eu hadeiladu mewn ffordd gynaliadwy. Daeth SPECIFIC, sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Abertawe,—yr wythnos diwethaf rwy'n credu—i'r Cynulliad i ddweud wrthym am y ddarpariaeth o adeiladau ynni gweithredol, sy'n defnyddio ynni solar a gaiff ei integreiddio i'r adeilad a thechnolegau storio i ddarparu gwres, pŵer a thrafnidiaeth yn y fan lle mae'n cael ei defnyddio. Felly, mae gennym ni bellach y dechnoleg i godi adeiladau effeithlon o ran ynni, ac rwy'n credu y dylai pob adeilad a godir yng Nghymru gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus fod yn adeilad ynni gweithredol. Felly, mae'n arwydd o gynnydd aruthrol fod y technolegau hyn wedi'u datblygu yma, ac rwy'n credu y dylem ni sicrhau y dylai pob adeilad cyhoeddus fod yn adeilad ynni gweithredol.

Yn olaf, fe hoffwn i droi at hawliau plant, ac rwyf yn croesawu'r cynnydd o ran hawliau plant a wnaed yng Nghymru. Rwyf yn credu bod Cymru wedi arwain y ffordd mewn gwirionedd o ran hawliau plant, drwy benodi'r Comisiynydd Plant cyntaf yn y DU, sicrhau bod cynghorau ysgol yn yr ysgol, pasio mesur hawliau plant a phobl ifanc, sy'n golygu ein bod yn ystyried plant ymhob deddfwriaeth yr ydym yn ei chynllunio. A hoffwn hefyd groesawu'r cynnydd y bwriedir ei wneud o ran y ddeddfwriaeth i wahardd cosbi plant yn gorfforol. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, y mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi ymgyrchu amdano ers blynyddoedd lawer, ond rwyf yn falch iawn bod y Cynulliad hwn, y Llywodraeth hon, yn awr yn bwriadu, mewn gwirionedd, i hyn ddwyn ffrwyth.

15:45

Wel, fe fyddai'n syndod pe na byddai gan unrhyw Lywodraeth rywbeth i ymffrostio yn ei gylch ar ôl 12 mlynedd o weithgarwch, ac rwyf yn cydnabod y bu cynnydd mewn nifer o feysydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn amlwg, yr ydym i gyd yn croesawu pethau fel y gronfa driniaeth newydd, y toriadau mewn treth ar gyfer busnesau bach ac ati, a nodir yn y rhagair i'r ddogfen hon, sydd â llun hyfryd o Brif Weinidog eilliedig.

Ac yn sicr fe fyddai'n anfoesgar peidio â chanmol arweinydd y tŷ am ei hymdrechion o ran ymestyn band eang ac ati yng Nghymru. Beth bynnag sydd ar ôl i'w wneud, gwnaed cynnydd sylweddol dros y 12 mis diwethaf.

Ond y tu hwnt i hynny, dywedais y llynedd bod 'Ffyniant i Bawb' yn fy atgoffa i o emyn yr oeddwn yn arfer ei chanu fel bachgen yn yr ysgol Sul, 'Tell me the old, old, story', ond eleni rwy'n credu ein bod wedi symud ymlaen, ac erbyn hyn 'There is a green hill far away' yw hi. Dywedodd Adam Price, y llynedd, yn ei araith ar 'Ffyniant i Bawb' ei fod yn 'Symud Cymru Ymlaen' ar steroidau—roedd wedi cynyddu o 15 o dudalennau i 27. Ac, yn wir, mae dogfen eleni—mae'r ddogfen wedi cynyddu i 32 o dudalennau. Felly, o ystyried yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth am fethiant y Llywodraeth i gyrraedd ei tharged ailgylchu, y mae'n debyg pan ddaw hi'n amser rhwygo'r dogfennau y bydd hyn yn ei helpu i gyrraedd y nod hwnnw.

Ond y gwir am gefndir y ddogfen hon, wrth gwrs, yw bod Cymru'n parhau ar waelod y domen yn nhablau incwm rhanbarthau Lloegr a gwledydd y Deyrnas Unedig. Er bod twf economaidd wedi bod yn well yn ystod y 12 mis diwethaf nag a fu yn y blynyddoedd diweddar, ac yr ydym yn cau'r bwlch rhyngom ni â Gogledd-ddwyrain Lloegr, sydd yn olaf ond un yn y tabl, y mae'r cynnydd yn boenus o araf. Mae'r gwerth ychwanegol gros fesul pen yng Nghymru yn aros ar £19,140 y flwyddyn, ac er i Ogledd Iwerddon fod yn is na Chymru 20 mlynedd yn ôl, bellach y mae gryn dipyn yn uwch. Felly, rydym ni wedi cael 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru ac rydym ni mewn gwirionedd wedi mynd tuag at yn ôl.

Nawr, rwyf yn cydnabod ar unwaith, wrth gwrs, er gwaethaf datganoli, bod llawer o ysgogwyr newid economaidd nad ydyn nhw o fewn pŵer a rheolaeth Llywodraeth Cymru, ac erys y rhain yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig trethi busnes, yr wyf i, yn wahanol i rai yn fy mhlaid, yn awyddus iddyn nhw gael eu datganoli i Gymru, er mwyn inni allu newid yr hinsawdd economaidd mewn ffordd arwyddocaol a fydd, os y'i defnyddir gyda dychymyg, yn denu mwy o ddiwydiannau i Gymru, gan ei gwneud yn haws i wneud busnes yng Nghymru ac i gynhyrchu yng Nghymru.

Wrth gwrs, nid yw hynny ar gael yn llawn i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond yn sicr nid yw'r awyrgylch o besimistiaeth a ddaw o gyfeiriad Llywodraeth Cymru yn barhaus, yn enwedig ynglŷn â Brexit, wedi ei gynllunio i ennyn hyder buddsoddwyr, er y cafwyd straeon o lwyddiant, wrth gwrs, fel Aston Martin. Rwy'n credu bod penderfyniad Qatar Airways i ddod i Gaerdydd o bosib yn mynd i fod yn hwb enfawr i Gymru, ac rwyf yn cydnabod cyfraniad y Prif Weinidog yn hyn o beth hefyd.

Ond, serch hynny, yn gyffredinol, rwy'n credu mai stori o fethiant a geir yn hytrach na llwyddiant. Os edrychwn ni ar fynegai entrepreneuriaid Barclays, mae gan Gymru'r nifer isaf ond un o gwmnïau twf uchel yn y DU sef 77. Mae nifer y cwmnïau a gefnogir gan ecwiti preifat yng Nghymru wedi cynyddu o 40 yn ôl ymchwil y llynedd i 50, ond cynnydd bach yw hyn mewn gwirionedd. Mae nifer y cwmnïau sy'n cael arian cyfalaf menter wedi cynyddu o 23 y llynedd i 32, ond nid yw gwerth y buddsoddiad hwn wedi cynyddu—mae'n sefydlog ar £9 miliwn yn unig flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, mae llawer mwy i'w wneud eto. Felly, gosod y cywair y mae'r Llywodraeth, yn fwy nag unrhyw beth arall ar hyn o bryd, a chredaf nad yw'r cywair a osodir yn mynd i ddenu busnes i Gymru.

Hoffwn ddweud un peth arall yn yr amser byr sydd ar gael i mi. Mae’r Llywodraeth wedi ychwanegu datgarboneiddio at ei rhestr o amcanion dewisol, ond y mae'r hyn sy'n digwydd yn Tsieina ac India i'r gwrthwyneb. Maen nhw'n rhoi datblygiad o flaen datgarboneiddio ac nid ydyn nhw'n derbyn unrhyw derfynau ar allyriadau carbon oherwydd eu bod nhw'n rhoi twf economaidd ar frig y tabl. Cymru yw'r berthynas dlawd o fewn y Deyrnas Unedig. Fe ddylem ni, rwy'n credu fod â'r un agwedd tuag at hyn â'r gwledydd hynny sydd, mae'n rhaid cyfaddef, ymhell i lawr y raddfa incwm mewn termau byd-eang, ond sydd wedi gwneud cynnydd aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf o ran gwella bywydau materol eu pobl.

Mae Cymru yn gyfrifol am 0.06 y cant o allyriadau carbon deuocsid. Nid yw carbon deuocsid yn llygrwr. Roedd Rhun ap Iorwerth yn sôn am Ddeddf i wella ansawdd aer. Rwyf yn llwyr o blaid hynny, ond nid yw carbon deuocsid yn llygrwr megis sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wneud, yn hytrach na phentyrru costau diangen ar ddiwydiant, ac allforio swyddi ac allforio diwydiant o ganlyniad, yw gosod twf economaidd ar frig ein hagenda—[Torri ar draws.] Rwyf wedi darllen adroddiad Stern, ond ni allwn drafod hynny nawr. Propaganda gwleidyddol yw adroddiad Stern gan rywun nad yw'n wyddonydd hinsawdd. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw rhoi'r hyn sy'n bwysig i bobl gyffredin yn gyntaf, ac yng Nghymru, ar waelod y raddfa incwm, y mae angen inni wella eu safon byw.

15:50

Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn y ddadl hon er mwyn ystyried rhai o'r heriau sydd o'n blaenau. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn gresynu at dôn hunanglodforus braidd y Prif Weinidog yn ei araith agoriadol ac nid wyf yn credu i'w araith adlewyrchu llawer o'r heriau sy'n dal o'n blaenau. Gwyddom, er enghraifft, fod perfformiad ein system addysg yn llusgo y tu ôl i rannau eraill o'r DU. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhannol oherwydd y gwahaniaeth sylweddol yn y gwariant fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr, ac rydym wedi trafod a dadlau am hynny droeon. Does dim ots pa sefydliad yr ydych chi'n edrych arno, mae pawb yn dweud bod yna fwlch cyllido a bod y deilliannau'n waeth mewn gwirionedd.

Hefyd, wrth gwrs, nid oes gennym ni bremiwm disgybl yn y gwasanaeth ar gyfer y plant hynny y mae eu rhieni yn y lluoedd arfog yma yng Nghymru, sydd ganddyn nhw mewn rhannau eraill o'r DU, ac, o ganlyniad i hynny, mae yna heriau y mae'n rhaid i blant sydd â rhieni yn y lluoedd arfog eu hwynebu o ganlyniad i'r anhawster, weithiau, o gael eu lleoli mewn gwahanol leoedd yn y DU gyda'u rhieni, sy'n cael effaith, ac ni allwn oresgyn hynny.

Nawr, bu rhywfaint o gynnydd. Mae'r blaid hon wedi croesawu elfennau o Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, a hoffwn dalu teyrnged, wrth gwrs, fel y gwnaethom yn y gorffennol, i waith y cyn-Ysgrifennydd Cabinet Carl Sargeant am ei waith yn y maes hwnnw. Hefyd, wrth gwrs, croesawn y Bil cyllido gofal plant sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei ffordd drwy'r Cynulliad Cenedlaethol. Nid yw hynny'n golygu na fyddwn yn cyflwyno rhai gwelliannau er mwyn ei wella, ond rydym yn croesawu'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni o ran annog pobl yn ôl i weithio drwy ddarparu gofal plant rhad ac am ddim.

Ond yr hyn y bydd y blaid hon bob amser yn ei wrthwynebu yw gwaharddiad ar smacio, gwaharddiad ar smacio nad yw'n boblogaidd yn y wlad yn gyffredinol, nad oes neb wedi bod yn galw ar garreg y drws yn gofyn inni ei roi ar waith o ran deddfwriaeth. Mae gennym ni lawer o bethau mwy i'w gwneud o ran yr heriau sydd gan ein gwlad i'w hwynebu. Felly, rwyf yn eich annog, Prif Weinidog, i ystyried y dystiolaeth gynyddol sydd ar gael am wrthwynebiad i'r math hwn o ymagwedd yma yng Nghymru.

Awgrymodd arolwg ComRes yn ôl yn 2017 nad yw 76 y cant o'r bobl yng Nghymru yn credu y dylai smacio plant gan rieni fod yn drosedd. Eto, dyna'n union, yn ymarferol, fydd yn digwydd o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth yr ydych chi yn ei chyflwyno. Roedd saith deg y cant o'r rhai hynny a holwyd yn pryderu y gallai gwahardd smacio lethu'r heddlu a gweithwyr cymdeithasol gydag achosion cymharol ddibwys, a fyddai'n golygu y bydden nhw'n cael trafferth i atal pobl sy'n cam-drin plant yn ddifrifol. Mae saith deg saith y cant o'r farn mai cyfrifoldeb rhieni a gwarcheidwaid yw penderfynu a ddylid smacio eu plant ai peidio, nid y wladwriaeth. Dywedodd chwe deg wyth y cant o'r rhai hynny a holwyd ei bod weithiau'n angenrheidiol i smacio plentyn drwg. Ac, wrth gwrs, roedd 85 y cant o oedolion ledled y wlad wedi cael eu smacio gan eu rhieni neu eu gwarcheidwaid fel modd o ddisgyblu.

Mae'r gyfraith bresennol yn gweithio. Mae'n diogelu rhag cam-drin, ac nid yw cosb resymol yn amddiffyniad a ddefnyddir yn system y llysoedd. Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron mai dim ond tri achos a adroddwyd iddynt ledled Cymru a Lloegr rhwng 2009-17, pan ddefnyddiwyd cosb resymol fel amddiffyniad, mewn gwirionedd. Roedd pob un o'r achosion hynny—y tri ohonynt—yn deillio o Loegr, nid oedd yr un ohonyn nhw yng Nghymru, ac mae hynny'n awgrymu i mi fod y system yn gymesur felly, a'i bod yn gweithio.

Nawr, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, mae llawer o bethau mwy pwysig y dylech chi fod yn canolbwyntio arnyn nhw o ran cyfleoedd i blant a phobl ifanc, yn enwedig, cyflwr gwarthus, mae'n rhaid imi ddweud, y system addysg yng Nghymru ar ôl iddi gael ei gweithredu gan eich plaid chi am bron i 20 mlynedd. Dyna beth y mae angen ichi fynd i'r afael ag ef, nid deddfu ar rywbeth nad yw'r rhan fwyaf o rieni ddim yn dymuno i chi ddeddfu arno, ac nad yw'r rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd yn dymuno i chi ddeddfu arno ychwaith. Bydd yn arwain at dorcyfraith i lawer o rieni caredig, cariadus gan system, a'r system honno yn treulio'i holl amser yn canolbwyntio'i hegni ar bethau dibwys pan fo angen i'r cam-drin difrifol sy'n digwydd yn y wlad hon fod yn flaenoriaeth i weithwyr cymdeithasol, ac yn flaenoriaeth i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.  

15:55

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau?

Gwrandewais, yn gyntaf, ar yr hyn a oedd gan arweinydd yr wrthblaid i'w ddweud, ac aeth ef drwy'r materion lle'r oedd ganddo feirniadaeth ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, a dyna, wrth gwrs, yw ei hawl fel arweinydd yr wrthblaid. Ond chlywais i ddim unwaith unrhyw awgrym o'r hyn y byddai gweinyddiaeth Geidwadol yn y Cynulliad yn ei wneud. Nid oes rhaglen lywodraethu amgen, nid oes un, 'Rydych chi'n gwneud hyn, ond byddem ni'n gwneud hyn'. Nid oes unrhyw awgrym o—[Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf i.

Fe wnaethom ni nodi rhaglen ddeddfwriaethol yn ein maniffesto cyn etholiadau diwethaf y Cynulliad, ac yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae fy nghyd-Aelod, Paul Davies, arweinydd yr wrthblaid, yn cyflwyno deddfwriaeth ar awtistiaeth y mae eich plaid chi'n ei gwrthwynebu.

Mewn gwirionedd, yn ein maniffesto roedd gennym ni ymrwymiad i gael gwared ar gosb resymol fel amddiffyniad, a bwriadwn gadw at hynny. Ond nid oes unrhyw arwydd o sut beth fyddai rhaglen lywodraethu gweinyddiaeth Geidwadol yn y Cynulliad, ac mae hynny'n siomedig.

O ran deddfwriaeth y tu allan i'r Siambr hon, nid oes unrhyw gyfundrefn lwythol ar waith—nid ydym yn ei gweld hi yn y ffordd honno—ond mae mater difrifol o ran capasiti, os wyf yn onest â chi. Mae gennym ni raglen ddeddfwriaethol drom. Mae gennym ni Brexit, a fydd yn achosi mwy o anawsterau inni o ran capasiti, a gall fod yn anodd i gynnig cymorth i Filiau o'r tu allan i raglen y Llywodraeth oherwydd y capasiti hwnnw. Mae hon yn adeg brysur, a gall fod yn anodd i wneud hynny. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn o gyfundrefn lwythol yn y fan yma; mae'n fater o sicrhau y gallwn ni gael ein busnes ein hunain trwyddo yn gyntaf, ac, fel Llywodraeth, rwy'n credu bod gennym ni hawl i wneud hynny, ac yna bydd yn rhaid i ni weld a oes unrhyw gapasiti dros ben, gan ystyried Brexit, i weld beth y gellir ei wneud o ran deddfwriaeth o'r tu allan i'r Llywodraeth. Felly, nid penderfyniad gwleidyddol yw hwn o reidrwydd—mae'n ymwneud yn fwy â'r hyn y credwn y gallwn ni ei wneud heb beryglu ein rhaglen ein hunain.

Pan ddaw i iechyd, wel, o ran y Bil ei hun, mae yna Bapur Gwyn y bydd yr Aelod yn gwybod sydd wedi'i gyhoeddi. Fel y bydd yn gwybod, rydym ni'n rhoi mwy o adnoddau i faes iechyd, unwaith eto, fel yr ydym wedi ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn, oherwydd ein bod yn gwybod bod iechyd yn faes y bydd pobl yn ein barnu ni arno pan ddaw hi'n fater o sut yr ydym ni'n perfformio fel Llywodraeth.

Mae'n sôn am rymuso cynghorau lleol. Ei farn ef yw nad oes angen ailstrwythuro llywodraeth leol. Yn bendant, mae angen, i sicrhau bod llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd oherwydd ni all ef, does bosib, awgrymu bod strwythur llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod yn wych ers blynyddoedd. Bu gennym chwe awdurdod lleol mewn mesurau arbennig ar gyfer addysg, bu gennym un awdurdod lleol a oedd wedi chwalu'n llwyr i'r graddau y bu'n rhaid inni ei gymryd drosodd, ac roedd problemau gwirioneddol yn ei awdurdod lleol ei hun o ran y prif weithredwr bryd hynny ac o ran yr hyn yr oedd yr awdurdod yn ei gyflawni. Yr hyn yr wyf i wedi sylwi arno yw bod consortia addysg wedi gwneud gwyrthiau o ran sicrhau gwell canlyniadau mewn ysgolion, o ran darparu cyrsiau ar draws rhanbarthau, a dyna un o'r meysydd y mae'n rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd arno yn y dyfodol.

Mae cynllunio rhanbarthol yn un arall. Mae fy nghyd-Aelod yn y fan yma, Hefin David, wedi gwneud y pwynt hwn lawer, lawer gwaith. Ni allwch, os ydych chi'n awdurdod cynllunio, gynllunio dim ond ar gyfer eich ardal eich hun; mae'n rhaid i chi weithio gydag awdurdodau lleol eraill er mwyn sicrhau bod yna gynllun rhanbarthol priodol i ymdrin â'r angen am dai.

Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod ein bod wedi darparu mwy o gefnogaeth ar gyfer llywodraeth leol na'r hyn sy'n wir yn Lloegr; nid yw hynny'n golygu bod ganddyn nhw fwy o arian—rydym ni'n gwybod y bu toriadau mewn llywodraeth leol—ond mae wedi bod yn waeth o lawer yn Lloegr, gyda sôn hyd yn oed yn awr y bydd y grant cymorth refeniw yn diflannu yn Lloegr. Mae hynny'n rysáit i ardaloedd cyfoethog fynd yn gyfoethocach ac i ardaloedd tlawd fynd yn dlotach. Felly, byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol i'w helpu drwy'r cyfnod anodd y maen nhw wedi ei gael—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—ac mae adegau anodd, yn sicr, o'u blaenau.

O ran canlyniadau TGAU, byddwn yn eich atgoffa ein bod ni eleni wedi cyflwyno proses llymach a mwy trylwyr o ran TGAU eleni, gan wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn rhoi cynnig ar yr arholiad ar yr adeg iawn iddyn nhw, nid yr adeg iawn ar gyfer yr ysgol. Gwnaethom yn siŵr, er enghraifft, bod mwy a mwy o ddisgyblion yn sefyll TGAU gwyddoniaeth ddwbl yn hytrach na'r BTEC, ac y byddai hyn i gyd, yn ein barn ni, yn cael effaith sylweddol ar y canlyniadau, ac y byddai'n gwthio'r canlyniadau i lawr eleni, ond nid dyna ddigwyddodd. Felly, er bod camau mwy trwyadl o lawer wedi eu cyflwyno i'r system, rydym wedi gweld y canlyniadau, o leiaf, yn aros yn gyson.

O ran craffu ar ôl deddfu, mewn rhai ffyrdd mae hynny'n fater ar gyfer y Cynulliad a'i bwyllgorau, ond fel Llywodraeth, wrth gwrs, rydym ni'n deall yr angen i adolygu deddfwriaeth ac, wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i ddatblygu'r broses honno i weld sut y gallwn ni wella ymhellach cyfraith Cymru yn y dyfodol.

Ydw i dros fy amser, Dirprwy Lywydd?

16:00

Yn gyflym iawn.

Gyda Rhun ap Iorwerth, o leiaf roeddwn i'n gwybod beth oedd rhai o'r syniadau a ddaeth o Blaid Cymru ynglŷn â'r ffordd ymlaen fel roedden nhw'n ei gweld hi. Nid ydw i'n gweld bod cwmni ynni yn rhywbeth all ddatrys bob problem. Gyda'r Ddeddf ynglŷn ag aer glan, wel, mae deddfwriaeth yn un peth ond beth sy'n hollbwysig yw ein bod ni'n gweithredu a dyna beth rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth.

Ynglŷn â'r cynllun gofal plant, nod y cynllun hwnnw yw helpu pobl sy'n gweithio—dyna beth yw e. Felly, roeddwn i yn y Rhondda bythefnos yn ôl ac fe ddywedodd pobl wrthyf i, 'Well, we thought it was only for people with benefits, but I'm only working 18 hours a week and I can't believe I've got free childcare.' So, mae'r bobl yna yn gweld lles mawr ynglŷn â'r cynllun hwnnw. 

Yn gyflym iawn, o ran yr hyn a ddywedodd Julie Morgan, derbyniaf y pwynt am droi allan heb fai, mae hynny'n rhywbeth i edrych arno. Ar gosbi plant yn rhesymol, wel, ie, byddwn yn bwrw ymlaen â hynny. Dywedodd Darren Millar nad oedd yr amddiffyniad wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Wel, beth yw ei ddiben wedyn os nad yw wedi'i ddefnyddio erioed? Ni fydd hynny'n gwneud rhieni'n droseddwyr. Bydd, fe fydd yn creu sefyllfa lle gallai rhywun o bosibl eu cael yn euog o drosedd, ond dyna'r dewis olaf un. Gwn fod y Gweinidog yn gweithio gyda'r heddlu, gyda Gwasanaeth Erlyn y Plant ac asiantaethau eraill i wneud yn sicr nad erlyn yw'r dewis cyntaf. Nid yw'n digwydd gyda throseddau eraill o'r math hwn, felly pam ddylai fod ar gyfer hwn? Nid gwneud pobl yn droseddwyr ar yr esgus lleiaf yw'r bwriad, y bwriad yw helpu pobl ar y dechrau, ac os na ddatrysir pethau, yn y pen draw mae'r posibilrwydd o erlyniad. Yn sicr nid dyna'r ffordd y byddai'r heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron, neu yn wir ni ein hunain yn ei weld.

Credaf fy mod wedi ymdrin â—. Un peth a ddywedodd Neil Hamilton am Tsieina. Nid yw pobl Tsieina'n dwp ac nid yw eu Llywodraeth ychwaith. Mae ganddyn nhw broblem wirioneddol â llygredd, a dyna pam y maen nhw'n buddsoddi cymaint mewn ynni adnewyddadwy. Maen nhw o dan bwysau gan eu pobl eu hunain oherwydd yr ansawdd aer erchyll sydd ganddyn nhw mewn rhai rhannau o Tsieina, ac maen nhw'n ymwybodol iawn o'r gwaith y mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn newid y ffordd y maen nhw'n gweithredu. Mae hynny'n rhywbeth y mae Tsieina yn ei ddatblygu ac maen nhw'n datblygu technoleg i'w wneud hyd yn oed fel y mae Prydain wedi mynd tuag yn ôl o ran datblygu'r dechnoleg honno. Carbon deuocsid: mae'n wenwynig, mae'n nwy tŷ gwydr, mae hynny wedi'i sefydlu. Dywed yr holl dystiolaeth helaeth hynny, ond yn anffodus y mae'n dibynnu ar un neu ddau o bobl sy'n anghytuno. Gwn o'm profiad blaenorol yn fy swydd flaenorol, fe welwch bob amser un person sy'n arbenigwr a fydd â barn wahanol i bawb arall. Mae'n rhaid ichi edrych ar holl gryfder y dystiolaeth. Mae cryfder y dystiolaeth yn glir: mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd, mae bodau dynol yn effeithio arni, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni wneud rhywbeth amdano ar draws y byd. Mae'n ddrwg gennyf fy mod wedi rhuthro, ond mae fy amser ar ben. Maddeuwch imi, Dirprwy Lywydd.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rhaid ichi fod ychydig yn gynt na hynny, mae arnaf ofn. [Chwerthin.] Felly byddwn yn gohirio pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl: Adroddiad Canolfan Lywodraethiant Cymru—Carcharu yng Nghymru—Ffeil Ffeithiau

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar. 

Eitem 7—Mae'n beth da bod gennym amser, onid yw e'? Eitem 7 yw'r ddadl ar adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.

Cynnig NDM6826 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales—a Factfile', a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Canolfan Llywodraethiant Cymru, ar 5 Mehefin eleni, wedi cyhoeddi, 'Imprisonment in Wales: a Factfile', sy'n tynnu sylw at ddata penodol i Gymru ar draws y system garchar. A gaf i ddweud ar y cychwyn fy mod yn ddiolchgar iawn i Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Dr Robert Jones am y gwaith hwn? Rydym ni'n cydnabod mai ciplun ydyw yn hytrach na dadansoddiad manwl, ond y mae hefyd yn dweud llawer iawn wrthym am y gwasanaeth carchardai ac am y ffordd y mae'n gwasanaethu pobl ledled Cymru.

Rydym hefyd yn gwybod bod yr adroddiad hwn yn adroddiad amserol iawn. Rydym wedi gweld yn rhy aml dros y misoedd diwethaf ddadleuon dros ddiogelwch a pherfformiad. Roeddwn yn gwrando y bore yma ar y newyddion bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref yn caniatáu i chwistrell bupur gael ei defnyddio yn ein carchardai—nid y ffordd orau efallai i ymateb i rai o'r anawsterau a wynebir ar yr ystâd carchardai naill ai yng Nghymru neu unrhyw le arall.

Ond mae'r adroddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd cael data Cymru yn unig i ddeall effaith polisi ac ymarfer cyfiawnder. Yn rhy aml, pan fyddwn yn edrych ar y system gyfiawnder, rydym yn edrych arni ar sail y DU—mae Darren Millar yn ceisio gwneud y pwynt yn ei welliant—oherwydd nad system y DU yw hi; system Cymru a Lloegr yw hi. Ac er ein bod yn fodlon nodi bodolaeth polisi Llywodraeth y DU, byddai'n anghywir ac yn amhriodol, rwy'n credu, inni awgrymu ceir ateb y DU i hyn.

Un o'r pethau yr ydw i wedi ei ganfod wrth gyflawni'r swyddogaeth hon dros y flwyddyn ddiwethaf yw bod datganoli yn aeddfedu, sy'n golygu ein bod yn wynebu cwestiynau newydd, heriau newydd a dealltwriaeth newydd o sut y mae materion datganoledig a rhai a gedwir yn ôl yn rhyngweithio â'i gilydd. Ac rwy'n gobeithio, mewn polisi cyfiawnder, ein bod yn dechrau gweld rhywfaint o'r ddealltwriaeth honno.

Mae rhai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys nad yw carchardai yng Nghymru yn perfformio cystal â charchardai yn Lloegr o ran amrywiaeth o fesurau diogelwch. Ers 2010, y mae nifer y digwyddiadau a gofnodwyd o hunan-niwed ac ymosodiadau gan garcharorion yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag mewn carchardai yn Lloegr. Er gwaethaf cynnydd mewn capasiti carchardai yng Nghymru, yn 2017, roedd bron i 40 y cant o'r holl garcharorion o Gymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr. Mewn nifer fawr o achosion, mae carcharorion o Gymru yn cael eu rhoi mewn sefydliadau ymhell oddi cartref. Cadwyd carcharorion o Gymru mewn 118 carchar gwahanol yn 2017.

Dirprwy Lywydd, a gwn o'm hetholaeth fy hun, mae'r adroddiad hwn yn nodi bod 52 o garcharorion yn cael eu cadw o Flaenau Gwent, a chedwir y 52 hynny mewn 20 carchar, nid yn unig yng Nghymru neu'n lleol i Gymru yn ne-orllewin Lloegr, ond mewn carchardai ar draws Lloegr gyfan—yng ngogledd Lloegr, gogledd-ddwyrain Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr hefyd. O bryd i'w gilydd, efallai ceir rhesymau pam mae pobl yn cael eu rhoi mewn cyfleuster penodol, ond nid oes a wnelo hyn ag unigolion; mae hyn yn ymwneud â system nad yw'n gweithio i bobl ledled Cymru.

Mae darllen llawer o'r data a welsom wedi'i gyhoeddi ym mis Mehefin yn brofiad trist, ond nid yw hynny'n fwy gwir na phan yr ydym yn disgrifio lle menywod yn y system. Mae'r nifer o fenywod Cymru a gafodd ddedfrydau o garchar ar unwaith wedi cynyddu bron un rhan o bump ers 2011. Caiff y mwyafrif eu dedfrydu i'r ddalfa ar unwaith ac fe'i ceir yn euog o droseddau di-drais. Cafodd tri chwarter yr holl fenywod yng Nghymru a gafodd ddedfrydau o garchar ar unwaith yn 2016, ddedfryd o lai na chwe mis. Mae'r nifer o blant Cymru yn y ddalfa wedi gostwng 72 y cant ers 2010; Fodd bynnag, mae nifer fawr ohonynt yn cael eu cadw mewn sefydliadau dros y ffin yn Lloegr. Felly, yn gyffredinol, nid dyma'r darlun y bydd llawer ohonom eisiau ei weld.

Rydym yn cydnabod bod llawer o'r rhesymau dros hyn yn hanesyddol. Rydym yn cydnabod nad oes gennym sefydliadau diogel y byddai arnom eu hangen yng Nghymru. A dyma pam y mae gwrthod gwelliant 2 yn enw Darren Millar mewn gwirionedd yn bwysig iawn, iawn. Os edrychwn ar y sefydliad carchardai, y sefydliadau diogel a etifeddwyd, nid yw'r rhain yn sefydliadau diogel a gynlluniwyd ar gyfer anghenion pobl yng Nghymru. Hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl, hyd at 18 mis yn ôl, nid oedd gennym ni lety diogel yn unrhyw le y tu hwnt i goridor yr M4. Nid oedd gennym ni unrhyw gyfleusterau diogel yn gwasanaethu'r gogledd o gwbl. Ai dyna beth mae pobl y gogledd eisiau o'r gwasanaeth? Ac wedyn pan welwn ni garchar yn agor yn Wrecsam, caiff ei agor gyda chapasiti ymhell y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen yn y rhanbarth. Nid yw yno i wasanaethu anghenion Cymru; nid yw yno i wasanaethu cymunedau'r gogledd; nid yw yno i wasanaethu anghenion a buddiannau'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli yma yn y Siambr hon.

16:05

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu CEM Berwyn yn Wrecsam, felly rwy'n synnu gweld eich bod chi bellach yn beirniadu'r buddsoddiad sylweddol a'r swyddi medrus sydd wedi dod i'r gogledd-ddwyrain o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU.

Rwy'n sôn am system a strwythur o sefydliadau diogel, ac rwy'n gofyn y cwestiwn: a yw hynny'n gwasanaethu buddiannau Cymru? A chredaf y byddai'n anodd iawn canfod yr ateb 'ie' wrth archwilio hynny.

Ac os ydych yn edrych ar sefydliadau diogel sydd gennym yma yn y de, ar hyd coridor yr M4, rwyf am weld buddsoddi sylweddol yn y sefydliadau diogel hynny. Os ydych chi'n cerdded i mewn i Abertawe neu Gaerdydd, fe welwch amodau nad wyf yn credu yr ydym eisiau eu gweld yn y wlad hon heddiw. Credaf y dylem fuddsoddi mewn sefydliadau diogel sy'n parchu bodau dynol, parchu'r angen i gadw pobl yn y ddalfa, ond hefyd sy'n canolbwyntio'n glir iawn ar y gymuned ac ar adsefydlu. Gobeithiaf y bydd pob ochr o'r Siambr hon yn cytuno bod arnom angen sefydliadau diogel yng Nghymru sydd yn fodern, sydd yn gyfredol, sy'n gwasanaethu anghenion y gymuned gyfan. A byddwn yn gweld hefyd, os ydych yn edrych ar y sefydliad troseddau ieuenctid sydd gennym yn y Parc—sefydliad ar gyfer troseddwyr ifanc yng nghanol y carchar i oedolion—nad dyna'r math o gyfleuster sy'n ofynnol inni ei gael ac sydd ei angen arnom os ydym o ddifrif eisiau gweld carchar, nid yn unig yn broses gosbol, ond yn fodd o ymyrryd ac adsefydlu hefyd. A dyma pam nad oes unrhyw ateb y DU i hyn a pham fy mod yn gwahodd Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliant 2 i'r cynnig hwn: oherwydd bod angen strwythur cyfannol a chydlynol i bolisi cyfiawnder arnom yng Nghymru.

Rwyf wedi dadlau eisoes, Dirprwy Lywydd, o'r lle hwn, fod Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld datganoli plismona i Gymru i sicrhau bod plismona, ochr yn ochr â'r holl wasanaethau cyhoeddus eraill, yn cael eu rheoli fel un system gydlynol, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wthio'r achos hwnnw, ond y mae angen inni hefyd gael polisi carchar a chosbol sy'n diwallu anghenion Cymru ac sy'n gydlynol gyda gwasanaethau eraill. Pan fyddaf yn edrych ar y system, pan fyddaf yn ymweld â charchardai, pan fyddaf yn siarad â charcharorion, pan fyddaf yn siarad â theuluoedd a phan fyddaf yn siarad â'r bobl hynny sy'n gweithio yn y system, rwy'n siarad yn rhy aml o lawer â phobl sydd wedi eu siomi gan y system honno, pa un ai nhw yw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y ddalfa neu nhw yw'r bobl sy'n cadw'r bobl hynny yn y ddalfa. Rwyf wedi siarad â gormod o bobl sy'n gweithio yn y system sy'n mynd i weithio o ddydd i ddydd gan wybod nad yw'r system ei hun yn darparu ar gyfer y bobl sydd yn cael eu cadw yn y ddalfa mewn sefydliad diogel yng Nghymru. Mae hynny'n annerbyniol. Mae'n annerbyniol heddiw ac ni allwn, fel Llywodraeth ac fel Cynulliad Cenedlaethol, fel Senedd ar gyfer y wlad hon, sefyll yn ôl a dweud, 'Nid ein cyfrifoldeb ni yw hynny.' Credaf fod angen inni ddadlau o blaid polisi gwahanol a ffordd wahanol.

Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych, ar y funud, ar sut yr ydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf. Rwyf wedi cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth ymhen pythefnos inni drafod dyfodol y gwasanaeth prawf. Rydym wedi gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf er mwyn darparu glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd a throseddu ieuenctid yng Nghymru. Maes o law, byddaf yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r polisi hwnnw a'r dull hwnnw. Ond yn rhy aml o lawer, ar hyn o bryd, rydym yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig na Llywodraeth Cymru yn gallu darparu dull cydlynol i bolisi a dull gweithredu cyfannol a chydlynol i ddelio â phobl sydd yn y system cyfiawnder troseddol. Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn rhoi cipolwg gyda'r ddealltwriaeth o hynny. Ein swyddogaeth ni, fel cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, yw mynegi ffordd ymlaen. Diolch.

16:10

Diolch yn fawr. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y ddau welliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio carchardai.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am ateb DU gyfan i'r materion a nodwyd yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales—a Factfile'.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch. Wel, fel y dengys yr adroddiad hwn, mae bron i ddwy ran o dair o droseddwyr Cymru yn cael eu cadw yng Nghymru ac roedd gan 70 y cant o'r holl droseddwyr a gadwyd yng Nghymru gyfeiriad yng Nghymru cyn mynd i'r ddalfa.

Wrth gyfeirio at raddau'r problemau pellter sy'n wynebu pobl Cymru mewn carchardai, mae'n darparu enghraifft o 44 o droseddwyr gwrywaidd o sir y Fflint a gedwir mewn gwahanol garchardai yn Lloegr. Fodd bynnag, roedd dros dri chwarter o'r rhain wedi eu carcharu yng ngogledd-orllewin Lloegr gyfagos, a dros 40 y cant yng Ngharchar ei Mawrhydi Altcourse gerllaw. Yn ystod fy ymweliadau blaenorol â CEM Altcourse, gwelais waith wedi'i dargedu uned ailsefydlu Gogledd Cymru. Wrth gwrs, fe fyddai'n niweidiol ac yn wrthgynhyrchiol pe byddai troseddwyr yn cael eu gwahanu yn ôl lle'r oeddent yn byw o'r blaen. Hefyd, ni fyddai dull o'r fath yn ystyried yr ystyriaethau ymarferol sy'n berthnasol pan wneir penderfyniadau ynghylch lle caiff carcharor ei gadw. Mae ein gwelliannau, felly, yn nodi agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio carchardai ac yn cydnabod yr angen am ateb traws-ffiniol i'r materion a nodwyd yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru. Nid yw diwygiadau Llywodraeth y DU yn ymwneud â chynyddu capasiti ond y mae'n ymwneud â disodli carchardai sy'n heneiddio ac sy'n aneffeithiol gydag adeiladau addas ar gyfer gofynion heddiw, ac i rannu'r manteision economaidd ehangach, nid dim ond yn Lloegr, a dyna pam yr oeddent yn cael eu croesawu yn bennaf yn Wrecsam.

Yn groes i adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, nid yw Llywodraeth y DU yn parhau i roi ffydd mewn un model i bawb ar gyfer y carchar mawr. Er enghraifft, rhennir carchar Berwyn yn Wrecsam, carchar hyfforddiant ac ailsefydlu, yn dri thŷ, pob un wedi'i rannu'n wyth cymuned yn ogystal ag uned ofal a chymorth fechan. O ran pellter a deithiwyd, y mae CEM Berwyn 152 o filltiroedd o Benfro, 140 o Gaerdydd, 81 o Aberystwyth, 77 o Gaernarfon, 70 o Birmingham, 54 o Fanceinion, 40 o Lerpwl a 13 o Gaer.

Yn dilyn ei ymweliad diweddar â Berwyn, dywedodd AS Llafur Wrecsam, Ian Lucas, ei fod, dyfynnaf:

yn falch iawn bod arwyddion adeiladol ar gyfer y dyfodol. 

Dywedodd fod y gwaith adeiladol sy'n digwydd yn y carchar yn cynnwys troseddwyr:

sy'n gweithio ar wahanol brosiectau megis cynnal arolygon ffôn a gwaith ystyrlon arall na all ond helpu i ddarparu hyfforddiant ar gyfer swyddi pan ddaw dedfrydau i ben.

Ychwanegodd ei fod yn falch iawn bod gwasanaeth y gegin wedi bod yn helpu yn y gymuned gyda phrosiectau gwirfoddol a bod:

y gwaith garddio yn arbennig o nodedig.

Yn hytrach na phum carchar cymuned i fenywod yng Nghymru a Lloegr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn treialu pum canolfan breswyl i helpu troseddwyr sy'n ferched gyda materion fel dod o hyd i waith ac adsefydlu cyffuriau, yn ogystal â lletya plant, pryd mae'r rhai ar ddedfrydau cymunedol yn llai tebygol o droseddu na'r rhai sydd wedi treulio tymor byr mewn carchar. Fel y dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Carchar ei Mawrhydi a Gwasanaeth Prawf Cymru wrth y Pwyllgor Dethol ar faterion Cymreig y mis diwethaf:

nid oes gennym y ddarpariaeth yng Nghymru i ymdrin â llawer o wahanol bethau...er enghraifft: nid oes gennym...unman i roi troseddwyr diogelwch uchel neu unrhyw le i gadw terfysgwyr.

Ychwanegodd:

fod gennym system yng Nghymru a Lloegr nad yw wedi'i chynllunio ar sail lleoliad daearyddol yn unig. Mae hefyd wedi'i chynllunio ar sail anghenion y carcharor, a gallant fod wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol... Rhaid i chi bwyso a mesur… beth yw'r gyfundrefn, y ddarpariaeth a'r ymyrraeth yr ydych am roi i'r unigolyn, yn erbyn agosatrwydd â chartref.

Ni allwch, meddai:

gymharu pob carchar â phob carchar; mae rhaid i chi wneud carchardai mewn grwpiau cymaryddion... mae Abertawe a Chaerdydd yn perfformio'n well na'u grwpiau cymaryddion yn erbyn diogelwch a threfn... Ar... hunan-niwed a thrais, mae Abertawe a Chaerdydd... yn perfformio'n well. Mae gan Frynbuga a Phrescoed rai o'r lefelau gorau o berfformiad yn eu systemau.

Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn byw yn agos at Loegr ac nid yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol.

Mae gwasanaethau carchardai yr Alban wedi eu datganoli, ond mae'r materion y maen nhw'n eu hwynebu yn debyg i'r rhai a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn. Amlygodd prif arolygydd carchardai'r Alban yn ddiweddar gynnydd mewn achosion o sylweddau seicoweithredol, diffyg lle o fewn rhaglenni triniaeth, a gwaith sydd ei angen i leihau'r nifer o garcharorion benywaidd yn y ddalfa.

Yn wahanol i garchardai yn Lloegr, nid yw carchardai Cymru yn cynnig triniaeth cyffuriau integredig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am iechyd ac addysg troseddwyr o fewn carchardai Cymru, ac eto nid yw'r adroddiad yn cynnwys canlyniadau ar gyfer troseddwyr ar ystâd Cymru, nac ar gyfer carcharorion o Gymru mewn carchardai yn Lloegr. Ac mae gwallgofrwydd y galwadau am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn cael eu hamlygu gan honiad y Prif Weinidog y gellid anfon troseddwyr peryglus ledled y Deyrnas Unedig ar ôl datganoli er mwyn mynd i'r afael â diffyg carchardai categori A yng Nghymru. Am hurt.

16:15

Hoffwn ddechrau gyda'r gwelliant. Fe gymeraf i'r ail un yn gyntaf. Mae'n rhyfeddol sut y gallai unrhyw un ddarllen yr adroddiad hwn a meddwl bod atebion ledled y DU yn mynd i fynd i'r afael â materion penodol Cymru yn yr adroddiad hwn. Y mae y math o welliant sy'n edrych fel ei fod wedi'i gyflwyno gan rywun sydd heb drafferthu hyd yn oed i ddarllen yr adroddiad, ac ni ddywedaf ddim mwy am hynny.

Nid yw'r gwelliant cyntaf yn ychwanegu dim at y cynnig. Wrth gwrs, ceir agenda DU ar ddiwygio carchardai, ond mae'n agenda o danariannu, gorlenwi a storio mewn warws nad yw'n werth ei nodi hyd yn oed y tu allan i'r cyd-destun dadlau dros Gymru i wneud pethau'n wahanol.

Rwy'n croesawu'r adroddiad amserol hwn gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Mae'n anodd credu ein bod ni'n dal yn cael y ddadl hon ynghylch a ddylai Cymru gael rheolaeth dros ei system cyfiawnder troseddol ei hun. Nid yn unig hynny, ond y mae sefydliad San Steffan yn parhau i gredu bod carchardai enfawr yn dda ar gyfer carcharorion yn ogystal ag ar gyfer datblygu economaidd pan nad yw'r naill na'r llall yn wir. Ceir casgliadau amlwg y gellir eu tynnu o'r adroddiad hwn. Mae peidio â chael unrhyw reolaeth dros gyfiawnder troseddol wedi arwain at sefyllfa lle mae San Steffan yn gweld Cymru yn fewnforiwr net o garcharorion. Ar yr un pryd, nid oes gennym y cyfleusterau i sicrhau y gall carcharorion o Gymru dreulio'u tymor yn y carchar yn agosach at adref a chael eu hadsefydlu'n briodol. Mae peidio â chael unrhyw reolaeth hefyd yn golygu nad yw San Steffan yn cydnabod anghenion Cymru. Roedd yn rhaid cael gafael ar yr holl ddata a gasglwyd ar gyfer yr adroddiad drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Onid yw hynny'n dweud y cyfan?

Nid yw anghenion iaith Gymraeg, sydd yn amlwg yn hanfodol i adsefydlu, yn cael eu cydnabod yn aml, heb sôn am ddarparu ar eu cyfer pan nad yw'r rhai sy'n gyfrifol am gasglu'r data yn gwybod neu'n malio faint o garcharorion sy'n siaradwyr Cymraeg. Mae San Steffan wedi cael 11 mlynedd ers i'r Pwyllgor Materion Cymreig ofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gasglu a chyhoeddi'r wybodaeth hon, a dim byd o hyd. Tybed pam.

Mae sefydliad y carchardai presennol yn gwahaniaethu yn erbyn menywod Cymru, a dwi wedi gwneud y pwynt hwn droeon. Anfonir menywod ymhellach i ffwrdd. Byddant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu plant am gyfnod hirach. Byddant yn fwy tebygol o aildroseddu a byddant yn methu cael y cymorth y mae arnynt ei angen pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn dangos bod 75 y cant o fenywod sy'n cael dedfrydau o garchar yng Nghymru yn cael dedfryd o lai na chwe mis am drosedd di-drais. Mae hyn yn dangos nad yw'r rhan fwyaf o fenywod yn bobl beryglus, ac eto rydym ni'n gosod cosb fwy difrifol ar droseddwyr sy'n fenywod a'u gosod mewn amgylchedd yn bell i ffwrdd sy'n gwneud adsefydlu yn llawer mwy heriol.

Gallwn hefyd weld bod y carcharorion sydd yn aros yng Nghymru ac yn agosach at deulu— unwaith eto, yn hollbwysig er mwyn atal aildroseddu—yn wynebu amgylchedd lle ceir y niferoedd uchaf erioed o achosion o hunan-niwed ac ymosod. Mae hyn er gwaetha'r ffaith nad yw un o'r carchardai dan sylw yn garchar categori A, lle y byddem yn disgwyl gweld y carcharorion mwy peryglus a threisgar yn cael eu cadw. Mae hyn yn dweud wrthyf bod gennym ormod o bobl yn y carchar sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol. A ddylai pob un fod yn y carchar? Rwy'n amau hynny'n fawr iawn. A yw hyn yn gysylltiedig â chwestiwn ansawdd rheoli carchar? Wel, ar ôl nodi cyfanswm o 212 o argymhellion o fewn ei harolygiadau blaenorol yng Nghymru, roedd canfyddiadau diweddaraf Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi yn adrodd mai dim ond 77 sydd wedi'u cyflawni'n llawn. Pam y byddai rheolwyr yn trafferthu i weithredu'r argymhellion hyn beth bynnag? Nid yw fel pe bai unrhyw un o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn trafferthu i gadw golwg. Nid oes neb yn gwylio.

Tybiaf mai'r rheswm pam mae San Steffan wedi gwrthsefyll datganoli'r system cyfiawnder troseddol cyhyd yw oherwydd eu bod y wir yn credu y gallant wneud y gwaith yn well, neu efallai eu bod yn ofni y byddai Cymru yn gwneud rhywbeth gwahanol ac yn canolbwyntio ar adsefydlu a lleihau cyfraddau aildroseddu, sef yr hyn y credaf i y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon ac yn ein gwlad eisiau ei weld.

Ond ofer yw dim ond beio San Steffan pan fod gennym Brif Weinidog sydd wedi bod yn amwys ar y gorau ynglŷn â chymryd cyfrifoldeb am y system cyfiawnder troseddol ac ymateb cychwynnol ei Lywodraeth i garchar Port Talbot oedd trafod y pris ar gyfer y tir sydd ei angen gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. A hoffwn dalu teyrnged i'r holl ymgyrchwyr hynny am eu buddugoliaeth yn hynny o beth. Mae'n dal yn wir bod gennym Lywodraeth y mae ei greddf yn erbyn cymryd cyfrifoldeb. Fel cyn swyddog prawf, fe wn mai'r cam cyntaf wrth adsefydlu yw eich bod yn gorfod cymryd cyfrifoldeb drosoch eich hun. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau ei hadsefydlu ei hun a cheisio a chymryd y cyfrifoldeb fel y gellir cywiro'r anghyfiawnder a amlygir yn yr adroddiad hwn.

16:20

Croesawaf y ddadl hon heddiw, a'r cyfle i drafod y materion pwysig iawn hyn ynghylch carchardai yng Nghymru ac adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Mae gennym ni boblogaeth garchar sy'n tyfu yng Nghymru, fel y noda'r adroddiad, a dyna'r sefyllfa yn Lloegr hefyd. Yn yr un modd, ceir cynnydd yn y nifer o ymosodiadau, achosion o hunan-niwed ac aflonyddwch yn y carchar. Mae gennym ni broblemau trawsffiniol pan fo pobl o Gymru yn teithio pellteroedd i gael eu carcharu yn Lloegr, sy'n gwneud yr ymweliadau gan wasanaethau a'r teulu llawer mwy anodd a gwneud yr ymdrech adsefydlu yn llawer mwy anodd o ganlyniad, ac y mae'r un peth yn wir pan ddaw pobl sy'n byw yn Lloegr i garchardai yng Nghymru. Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir a'r mathau hynny o broblemau, rwy'n croesawu'n fawr iawn Gomisiwn Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder yng Nghymru, a'r ystyriaeth ynghyd ymagwedd unigryw at bolisi cosbi y mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn dymuno ei hystyried yn ofalus a, gobeithio, ei datblygu.

Rwy'n meddwl ei bod yn deg i ddweud, Dirprwy Lywydd, os edrychwn ar bolisi carchardai Llywodraeth y DU, mae'n stori arswyd a dweud y lleiaf. Mae llawer iawn o bobl mewn carchar na ddylen nhw fod yno. Ni ddefnyddir carcharu fel dewis olaf. Mae gan lawer iawn o bobl sy'n cael eu carcharu broblemau iechyd meddwl. Mae ganddyn nhw broblemau cyffuriau ac alcohol. Mae ganddyn nhw sgiliau isel iawn. Nid yw'r ymdrech i helpu'r bobl hyn yn un a ddylai fod yn digwydd mewn carchardai; ni ddylen nhw fod yn y carchar yn y lle cyntaf. Ac, wrth gwrs, mae llawer ohonyn nhw wedi cael dedfrydau byr, sydd yn gwneud adsefydlu yn anodd iawn, oherwydd dydyn nhw ddim yn y carchar yn ddigon hir mewn gwirionedd, er mwyn i'r profiad adsefydlu priodol ddigwydd. Ac os mai dim ond y dedfrydau byr hynny y maen nhw'n eu cael, mae hynny eto'n codi'r cwestiwn: pam yr oedd angen eu carcharu o gwbl? Felly, o ystyried y prinder staff sydd hefyd yn broblem, a gorlenwi, fe wyddom ni nad yw adsefydlu ystyrlon yn y carchar yn digwydd ar y raddfa neu i'r graddau y mae eu hangen. A beth yw canlyniad hynny? Mwy o aildroseddu, mwy o ddioddefwyr troseddau, mwy o wrthgilio. Cylch cythreulig gwrthgynhyrchiol a diffygiol iawn sydd i'w weld ar hyn o bryd.

Felly, yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, gorau po gyntaf y caiff Llywodraeth Cymru fwy o gyfrifoldeb dros y system cyfiawnder troseddol a charchardai. Oherwydd, fel y dywedodd Leanne Wood yn hollol gywir, rwy'n ffyddiog y byddai'r consensws o fewn y Siambr hon a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn ein gwthio ni i gyfeiriad gwahanol iawn, llawer mwy cynhyrchiol, yn ymwneud â chadw pobl allan o'r carchar, ac yna pan fydd pobl yn gorfod mynd i'r carchar, osgoi gorlenwi a diffyg staffio, sy'n gwneud adsefydlu mor anodd. Felly, gallem ni gael system pan fydd pobl yn gorfod mynd i'r carchar, y byddant yn cael eu hadsefydlu'n iawn, ac yna ar ôl cael eu rhyddhau, dydyn nhw ddim yn cyflawni troseddau pellach ar y raddfa sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Felly, os edrychwn ni ar y math o ddarlun y gallem ei gael yng Nghymru, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i bobl sydd yn cyflawni troseddau. Byddai'n llawer gwell i ddioddefwyr troseddau. A byddai'n llawer gwell i'n cymunedau a'n cymdeithas yn gyffredinol, oherwydd byddai gennym amodau gwaraidd priodol ac adsefydlu priodol yn ein carchardai. Byddai gennym ni lai o lawer o bobl, fel y dywedaf, yn dod allan, yn troseddu ymhellach. Byddai hynny o fudd iddyn nhw, byddai o fudd i'w teuluoedd, eu cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol. Felly, os edrychwn ni ar faterion yn eu cyfanrwydd, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon, Dirprwy Lywydd, yn dod i'r farn mai gorau po gyntaf y caiff Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros y materion hyn a gorau po gyntaf y caiff y Siambr hon benderfynu ar graffu a pholisi.

16:25

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw, ac rwy'n credu y bu cyfraniadau diddorol gan bawb hyd yma. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog bod angen system adsefydlu yn ogystal â system gosbol, ac edrychaf ymlaen at ddarllen ei lasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd ac ifanc. Gobeithio y bydd hynny'n symud y ddadl yn ei blaen, ac y gallwn edrych ar bethau ychydig yn fanylach. Nid wyf yn argyhoeddedig, fodd bynnag, na allwn ddatrys y problemau yn y system cyfiawnder troseddol ar sail y DU gyfan. Fe wnaeth Mark Isherwood godi'r mater bod problemau tebyg i'w cael yng ngwasanaeth carchardai'r Alban lle mae'r mater wedi'i ddatganoli, felly rwy'n credu bod angen inni gadw hynny mewn cof.

Y rheswm yr wyf yn anghytuno gyda'r Ceidwadwyr, o ran beth y maen nhw'n ei wneud ar sail y DU gyfan, yw'r mater o breifateiddio gwasanaeth carchardai. Nid oes unrhyw dystiolaeth go iawn yr ydym wedi'i gweld sy'n cefnogi'r farn bod carchardai preifat yn cael eu rhedeg yn well na'r rhai sy'n cael eu rhedeg gan y gwasanaeth carchardai. Yn wir, mae'r dystiolaeth yn tueddu i awgrymu'r gwrthwyneb. Felly, yn UKIP, yn sicr nid ydym o blaid unrhyw system sy'n symud tuag at fwy o garchardai preifat.

Byddwn yn tueddu i gytuno â'r pwyntiau a wnaeth nifer o bobl: ceir llawer o bobl yn y carchar nad ydyn nhw'n dreisgar ac nad ydyn nhw'n peri unrhyw fygythiad corfforol i gymdeithas yn gyffredinol, felly gallwn gytuno y dylid gwneud ymdrechion i adsefydlu'r troseddwyr hynny y gellir eu hadsefydlu, oherwydd gellid gostwng y gost i gymdeithas yn gyffredinol drwy ryw fath o ymyrraeth gymharol gynnar ym mywydau'r bobl hyn.

O ran carcharorion benywaidd, dylem ystyried yr angen i'w hadsefydlu, wrth gwrs, ac mae'n ddigon posibl yn wir nad oes angen carcharu llawer ohonynt yn y lle cyntaf. Ond, er ein bod yn cytuno bod angen inni edrych ar hynny, yn sicr, os oes angen cael carchar i fenywod yng Nghymru oherwydd yr anawsterau a geir yn sgil carcharorion benywaidd yn gorfod cael eu carcharu yn Lloegr, yna rhaid inni edrych ar adeiladu'r carchar hwnnw yng Nghymru o bosibl, ac wrth gwrs nid ydym yn gwrthwynebu'r syniad o adeiladu rhagor o garchardai os yw hynny'n angenrheidiol ar gyfer diogelwch y gymuned.

Felly, dyna'r pwyntiau eang yr hoffwn eu gwneud heddiw, a diolch i chi. Diolch yn fawr.

16:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar garcharu yng Nghymru yn tanlinellu beth y mae llawer ohonom wedi ei ddweud dros nifer o flynyddoedd: mae Cymru yn dibynnu ar garchardai yn Lloegr. Fel un a oedd yn rhedeg ei hadran ei hun yn y gwasanaeth carchardai, gwn fod y carchar yn gweithio, ond dim ond os yw'n cael ei ariannu'n iawn ac yn cael adnoddau priodol. Yn aml nid oes dewis arall heblaw carchar, ond nid yw carcharu yn ymwneud ag amddiffyn y cyhoedd yn unig; mae a wnelo hefyd â sicrhau bod y carcharor yn cael ei helpu i adsefydlu.

Mae rhan fawr o'r adsefydlu hwnnw yn dibynnu ar gynnal cysylltiadau teuluol agos. Mae'r cysylltiad hwnnw yn hanfodol bwysig ac yn rhoi cipolwg i garcharorion, yn aml iawn, ar yr effaith gaiff eu gweithredoedd ar eu teulu a'u ffrindiau, ond hefyd y mae'n helpu i sicrhau bod ganddynt rwyd achub, rhywle i ddychwelyd iddo ar ôl cael eu rhyddhau. Yn anffodus, y mae rhai carcharorion heb deulu, ac yn aml caiff rhai eu rhyddhau gyda dim ond bag du yn llawn o eiddo pitw, gyda dim cartref i fynd iddo. Nid adsefydlu yw hyn, ac nid yw'n ddigon da. Nid yw ond yn helpu'r drws tro y mae'r mwyafrif o garcharorion—llawer o garcharorion—yn ei wynebu pan nad oes ganddyn nhw unrhyw le arall i droi ato.

Yn anffodus, nid oes gennym ni ddigon o le mewn carchardai yng Nghymru i sicrhau bod carcharorion o Gymru yn cael eu carcharu'n agos at y cartref. Mae gan Gymru 4,747 o garcharorion, ac eto mae gan y pum carchar yng Nghymru leoedd gweithredol ar gyfer 3,700 o garcharorion. Nid oes gennym ni garchar i fenywod yng Nghymru a dim un carchar categori A. Canlyniad hyn yw nifer fawr o garcharorion o Gymru yn bwrw eu penyd yn Lloegr, gannoedd o filltiroedd oddi cartref.

Mae'r carchardai sydd gennym yn orlawn. CEM Abertawe yw'r trydydd carchar mwyaf gorlawn yn y DU. Pan gafodd ei adeiladu fe'i cynlluniwyd i ddal tua 240 o garcharorion. Ar hyn o bryd mae ganddo ddwywaith y rhif hwnnw. Ac eithrio'r carchar newydd yng ngogledd Cymru, mae ein carchardai i gyd yn orlawn. Mae Caerdydd yn gweithredu ar 150 y cant o'r capasiti, fel y mae Brynbuga. Mae'r Parc yn gweithredu ar ychydig dros gapasiti. Wedi gweithio am flynyddoedd lawer yn CEM Parc, gallaf ddweud wrthych fod gorboblogi yn galed ar staff a charcharorion fel ei gilydd.

Fel y mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amlygu, mae nifer yr ymosodiadau ar staff a charcharorion wedi neidio i fyny. Y llynedd cafwyd tua 6,500 o ymosodiadau ar staff, yn sgil 761 ohonynt roedd rhaid i swyddog carchar fynd i'r ysbyty. Mae hyn yn arwain at argyfwng arall eto yn ein carchardai: prinder staff. Mae nifer y swyddogion carchar sy'n rhoi'r gorau iddi ychydig fisoedd ar ôl cwblhau eu hyfforddiant yn cynyddu fwyfwy. Mae traean y swyddogion carchar yn rhoi'r gorau iddi o fewn blwyddyn i ddechrau'r swydd, ac yr ydym hefyd yn colli staff profiadol oherwydd gorlenwi a diffyg buddsoddiad.

Rhaid inni adeiladu mwy o garchardai, gan ganolbwyntio a rhoi pwyslais ar adsefydlu. Yn benodol, mae'r carcharorion hynny â phroblemau iechyd meddwl angen cymorth ychwanegol. Ceir llawer o garcharorion, na ddylent fod yn y carchar ac sydd wedi'u siomi gan gymdeithas, yn enwedig y digartref a'r rhai, fel y nodwyd eisoes, sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rwyf wedi mynegi fy nghefnogaeth ar gyfer carchar newydd yn fy rhanbarth, a fydd nid yn unig yn lleihau'r straen ar Abertawe a'r Parc, ond hefyd yn dod â swyddi mawr eu hangen i'r ardal—i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld yr adroddiad hwn fel rhybudd amserol a bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i leihau gorlenwi a thanariannu yn ein carchardai cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Diolch yn fawr.

16:35

A gaf i alw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, i ymateb i'r ddadl?

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd yr amser i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma.

Mae hon yn ddadl bwysig i bob un ohonom, ar bob ochr i'r Siambr hon, oherwydd mae'r ffordd yr ydym yn ymdrin â system cyfiawnder troseddol yn sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn trefnu ac yn rheoli ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A gadewch imi ddweud hyn wrth Mark Isherwood: mae angen inni wneud mwy na dim ond ymarfer llinellau i'w dilyn yn y ddadl hon. Mae angen inni gael dadl go iawn am sut yr ydym yn rheoli'r system cyfiawnder troseddol. Ac mae hynny'n golygu dadl ynglŷn â sut yr ydym yn darparu iechyd mewn sefydliadau diogel, sut yr ydym yn darparu addysg mewn sefydliadau diogel, sut yr ydym yn sicrhau y rhoddir ar waith y mathau o bolisïau a'r dulliau hynny a all ymdrin â'r materion fel problemau camddefnyddio cyffuriau yr ydych wedi'u codi, Mark, a hefyd rhai o'r materion iechyd meddwl a gododd Leanne Wood yn ei chyfraniad.

Mae'n bwysig ein bod yn gallu gwneud hynny, a dyna pam nad yw datganoli'r materion hyn yn ddadl academaidd sych. Nid yw'n fater ar gyfer seminar neu sgwrs mewn prifysgol neu rywbeth. Mae hon yn ddadl o bwys i bobl, ac y mae hon yn ddadl y bydd ei chanlyniadau yn effeithio'n fawr ar fywydau pobl ar hyd a lled y wlad. Mae angen inni allu cael dull cydlynol o gam-drin sylweddau. Mae angen inni gael dull cydlynol o ymdrin â materion iechyd meddwl mewn sefydliadau diogel. Ac, ar hyn o bryd, nid ydym  yn gallu gwneud hyn. A beth sy'n waeth, dyma, hyd y gwelaf fi, yw'r unig ran o'n cyfrifoldebau neu ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lle nid yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn methu cyflawni polisïau y byddai'n dymuno eu gwneud oherwydd setliad gwael, ond hefyd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn methu â gwneud hynny. A, Mark, rwy'n deall y pwyntiau yr ydych chi'n ceisio eu gwneud, ond, ar hyn o bryd, nid oes gennym setliad pryd gall y naill Lywodraeth sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn y wlad hon sicrhau dull cydlynol a chyfannol o ran polisi. A'r bobl sy'n dioddef yw nid y bobl sy'n eistedd mewn mannau fel hyn, ond y bobl sydd ar hyn o bryd yn y sefydliadau diogel yng Nghymru a rhai eraill ar draws y system cyfiawnder troseddol. Ac rwy'n deall—a gobeithio na fydd pobl yn gweld adroddiad Llywodraethiant Cymru a sgyrsiau am ansawdd y cyfleusterau ac ansawdd y buddsoddi yn yr ystâd fel beirniadaeth ar y bobl sy'n gweithio o fewn y system nac yn feirniadaeth ar y rhai sy'n ceisio gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd iawn, iawn.

Rydym yn cydnabod bod y materion sy'n ein hwynebu heddiw yn faterion o hanes, lle'r ydym yn cydnabod na wnaed y buddsoddiad er mwyn creu ystad sy'n darparu'r math o ethos a dull a pholisi sydd yn ofynnol gennym. A bydd y pwyntiau a wnaed—a chredaf eu bod wedi cael eu gwneud yn dda iawn gan Leanne Wood a John Griffiths—ar adsefydlu yn sail i unrhyw ymagwedd y Llywodraeth hon.

Mae'r materion a gododd Leanne Wood am le menywod yn y system wedi'u cyflwyno'n dda ac nid diben y Llywodraeth hon yw adeiladu carchar i fenywod yng Nghymru. Gadewch imi ddweud hynny'n gwbl glir. Nid dyna yw diben y Llywodraeth hon na—[Torri ar draws.] Mae ef. Na'r dull gweithredu yr ydym ni'n bwriadu ei gymryd. Byddaf yn ymweld â'r Alban yn ddiweddarach y mis hwn i siarad â Llywodraeth yr Alban am sut y maen nhw'n datblygu canolfan ddiogel i fenywod a sut y gallwn ni ddarparu cymorth i fenywod a theuluoedd yn y system i sicrhau nad oes gennym y math o fethiant strwythurol sydd gennym ni heddiw.

Ac rwy'n gobeithio y bydd y staff sydd yn y gwasanaeth heddiw yn gallu ein helpu i sicrhau gwasanaeth y dyfodol. Ac mae'r pwyntiau yr oeddwn yn teimlo a wnaeth John Griffiths ar adsefydlu a dedfrydau byrrach yr union bwyntiau yr ydym am roi sylw iddyn nhw. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eisoes wedi dechrau mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau hynny o ran polisi dedfrydu. Gadewch imi ddweud hyn: yn yr amser yr wyf i wedi bod yn y swydd, rwyf wedi cwrdd â holl Weinidogion perthnasol y weinyddiaeth gyfiawnder. Rwy'n bwriadu parhau i gwrdd â'r Gweinidogion hynny dros y misoedd nesaf i sicrhau bod gennym ni berthynas lle'r ydym yn gallu dadlau a thrafod y materion hyn. Mae'r glasbrintiau yr ydym yn ceisio eu datblygu ar hyn o bryd wedi eu datblygu yn rhan o'r gwaith ochr yn ochr â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref.

Ond gadewch i mi ddweud hyn, a gadewch imi gloi gyda'r sylw byr hwn, Dirprwy Lywydd: nid yw'r materion hyn yn faterion am adolygiad academaidd y setliad yn unig. Mae hyn yn ymwneud â phobl go iawn sydd yn cael eu siomi heddiw, yfory, sydd yn cael eu siomi gennym ni yn y system hon, sydd yn cael eu siomi gan system o Lywodraeth nad yw'n darparu ar gyfer pobl yn y wlad hon. Mae'n bwysig bod pob un ohonom yn cydnabod canlyniadau dynol y materion hyn.

Eisteddais mewn cell yng Nghaerdydd dros yr haf a siarad â dau o bobl sydd yn cael eu cadw yn y ddalfa yng Nghaerdydd. Mae'r ddau i fod i gael eu rhyddhau tua'r adeg hon. Bydd y ddau angen gwasanaethau, bydd y ddau angen cymorth o ran iechyd meddwl, bydd y ddau angen cymorth o ran camddefnyddio sylweddau. Byddan nhw hefyd angen cymorth o ran gallu cael eu hyfforddi i weithio, bydd angen cymorth o ran lle maen nhw'n byw, lle byddan nhw'n cysgu heno a nos yfory. Ein cyfrifoldeb ni yw unioni'r pethau hynny. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau nad yw'r ddau ddyn y siaradais â hwy yn mynd yn eu holau i'r system cyfiawnder troseddol. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod gan y fenyw a gafodd ei rhyddhau i deithio yn ôl i Gasnewydd ar brynhawn dydd Gwener rywle i gysgu nos Wener. Ein cyfrifoldeb ni yw cael y pethau hyn yn iawn, a dyma sy'n ein mesur ni fel Senedd a phobl: ein penderfyniad i sicrhau nad yw'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu siomi gan wleidyddion na allant gytuno ar yr hyn y mae angen inni ei wneud. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan pleidleisio. [Torri ar draws.] Na, wel—[Torri ar draws.] Byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, yna symudaf at y cyfnod pleidleisio. Pawb yn hapus? Iawn. Iawn ta.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, rydym yn symud at y ddadl ar yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol 'Ffyniant i Bawb'. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—efallai y bydd yn rhoi cliw i chi. Felly, rydych yn pleidleisio ar welliant 1. Agorwch y bleidlais. Credaf fod pawb wedi pleidleisio. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 17, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 1.

NDM6827 - Gwelliant 1: O blaid: 17, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rydym bellach yn galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 34, chwech yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

NDM6827 - Cynnig: O blaid: 34, Yn erbyn: 5, Ymatal: 6

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn yn awr at adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid gwelliant 1 38, neb yn ymatal, saith yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.

16:45

NDM6826 - Gwelliant 1: O blaid: 38, Yn erbyn: 7, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant, 12, neb yn ymatal, 33 yn erbyn y gwelliant. Felly, ni dderbynnir gwelliant 2.

NDM6826 - Gwelliant 2: O blaid: 12, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM6826 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales—a Factfile', a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2018.

Yn nodi agenda Llywodraeth y DU ar ddiwygio carchardai.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig, 39, neb yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

NDM6826 - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 39, Yn erbyn: 6, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 16:45.