Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
03/10/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynlluniuo a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ardoll cig coch Cymru? OAQ52689
Diolch. Rwy'n parhau i bwyso am ateb parhaol i'r annhegwch hwn sydd wedi bodoli ers tro. Rwy'n hynod o siomedig, yn dilyn fy ngheisiadau, nad oedd mesurau i sicrhau dosbarthiad tecach o'r ardoll cig coch wedi eu cynnwys ar wyneb Bil amaethyddiaeth y DU pan gafodd ei gyflwyno. Rwyf wedi dweud fy marn yn glir fod angen gwelliant gan y Llywodraeth yn awr i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Wel, rydw i'n rhannu eich rhwystredigaeth chi, oherwydd rydw i'n Aelod o'r Cynulliad yma ers saith mlynedd ac rydw i'n siŵr fy mod i wedi bod yn gofyn yr un cwestiwn yn gyson ers y cyfnod yna. Ond mae undebau amaeth hefyd yn bryderus bod newidiadau yn y taliadau i ffermwyr yr ŷch chi'n eu cynnig yn 'Brexit a'n tir' yn mynd i arwain at lai o gig coch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru. O ganlyniad, wrth gwrs, mi fydd llai o anifeiliaid yn mynd trwy ladd-dai Cymru. Bydd hynny'n golygu bod llai o bres yn dod o gyfeiriad y lefi i hybu cig Cymru ac, o ganlyniad, bydd yna lai o hyrwyddo o'r cig hwnnw yn digwydd, ac rydych chi'n gweld y cylch dieflig ddaw yn sgil y posibiliad yna. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd wedi bod o'r effaith y bydd 'Brexit a'n tir' yn ei gael ar gynhyrchu cig coch yng Nghymru? A pha sicrwydd allwch chi ei roi i'n cynhyrchwyr ni y bydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi'r diwydiant cig coch?
Wel, credaf fy mod wedi dweud fy marn yn glir iawn y byddwn yn amlwg yn parhau i gefnogi'r diwydiant cig coch. Nid wyf yn rhannu safbwynt pesimistaidd llawer o bobl ynghylch y materion rydych newydd eu codi, ond credaf ei bod bellach yn bryd inni fynd i'r afael â'r ardoll cig coch. Fel y dywedoch, rydych wedi eich bod yn Aelod yma ers saith mlynedd; rwyf innau wedi bod yn Aelod yma ers 11 mlynedd, ac mae wedi bod yn broblem barhaus. Ond yn amlwg, rydym wedi cael ateb dros dro sydd wedi arwain at rywfaint o gynnydd yn y maes hwn, ond credaf mai hwn yw'r Bil amaethyddol cyntaf ers dros 40 mlynedd, yn ôl pob tebyg. Credaf fod hwn wedi bod yn gyfle go iawn i allu mynd i'r afael â'r mater hwn, ac fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, roeddwn yn siomedig iawn nad oedd ar wyneb y Bil. Rwyf wedi cael ychydig o drafodaethau gyda Michael Gove i sicrhau ei fod yn welliant gan y Llywodraeth, gan i mi glywed ar un adeg y gallai fod yn welliant o'r meinciau cefn, ac ni chredaf y byddai hynny'n briodol. Credaf mai gwelliant gan y Llywodraeth yw'r peth lleiaf y dylem ei weld ar Fil Amaethyddiaeth y DU bellach mewn perthynas â'r mater hwn.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, ar y meinciau hyn, rydym wedi bod yn gefnogol iawn i newid yn y maes arbennig hwn. Rydym yn sôn am symiau sylweddol o arian a gollir gan ddiwydiant da byw Cymru. Rwy'n cytuno â chi ei bod yn siomedig nad oedd yn rhan o'r Bil Amaethyddiaeth a byddwn yn defnyddio ein dylanwad hyd eithaf ein gallu, yn amlwg, i geisio dylanwadu ar y penderfyniad hwnnw. Ond yr hyn sy'n bwysig, gyda'r trefniadau presennol, yw y ceir cynnydd yn y capasiti prosesu yma yng Nghymru, yn enwedig yn y sector cig eidion, oherwydd ar hyn o bryd, yn amlwg, mae'r ardoll yn deillio o lle caiff yr anifail ei brosesu. Rydym wedi gweld capasiti prosesu yn lleihau yng Nghymru flwyddyn ar ôl blwyddyn. Pa hyder sydd gennych na fydd y sector prosesu yn lleihau fawr ddim neu ddim o gwbl eto, ac y gallwn symud, yn wir, i gyfnod lle byddwn yn gweld buddsoddiad sylweddol mewn prosesu cig coch yma yng Nghymru i gynyddu'r gallu i ychwanegu gwerth at y cynnyrch yma yn y wlad sy'n pesgi'r anifail hwnnw?
Diolch i Andrew R.T. Davies am ddweud y bydd yn cynorthwyo mewn unrhyw drafodaethau y gall o ran sicrhau'r gwelliant hwnnw rydym am ei weld gan y Llywodraeth i Fil Amaethyddiaeth y DU. Mewn perthynas â'r diwydiant prosesu, credaf fod ein diwydiant prosesu yn gweithio'n dda. Credaf ei fod yn asesiad deniadol iawn, ac rydym wedi cael astudiaeth ddichonoldeb, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, o'r cyfleoedd i fuddsoddi mewn rhannau o'n gweithfeydd prosesu, nid yn unig cig, o reidrwydd, ond llaeth hefyd.
Un o'r pethau sy'n peri pryder ynglŷn â'n capasiti prosesu yw gallu gwladolion yr UE i symud. Ymwelais ag un ffatri brosesu lle roedd 80 y cant o'r staff yn wladolion yr UE. Felly mae yna bryder na fydd y staff gennym ar ôl Brexit. A sut rydych yn sicrhau bod y mathau hynny o swyddi yn fwy deniadol i bobl leol? Credaf fod hyn wedi bod yn broblem, ac mae'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael ag ef.
2. Pa sicrwydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi y bydd amddiffyniad safleoedd morol Ewropeaidd yng Nghymru yn cael ei gynnal ar ei lefel gyfredol ar ôl i'r DU adael yr UE? OAQ52681
Diolch. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau nad amharir ar amddiffyniadau amgylcheddol yn sgil ymadael â'r UE. Gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Ymadael â'r UE, rydym yn gweithio i sicrhau bod yr un amddiffyniadau ar waith ac y bydd y gyfraith yn parhau i fod yn weithredol wedi inni ymadael. Mae hyn yn cynnwys y ddeddfwriaeth sy'n sail i safleoedd morol Ewropeaidd Cymru.
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw ac rwy'n ffodus i gynrychioli ardal sy'n cynnwys canran sylweddol o amgylchedd morol Cymru. Mae'r ardaloedd morol gwarchodedig yn fy rhanbarth yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf bioamrywiol Ewrop, ac mae'n hollbwysig eu bod yn parhau felly ar ôl Brexit. Mae llawer o'r ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru mewn cyflwr anffafriol, ac mae monitro eu cyflwr yn rheolaidd yn hanfodol er mwyn deall sut y gallwn eu cynorthwyo i ffynnu. Ac ar hyn o bryd, mae'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd inni gofnodi cyflwr a statws y safle, a chymryd camau i wneud gwelliannau lle bo angen. Rwy'n awyddus i wybod sut y caiff hyn ei lywodraethu ar ôl Brexit. Er enghraifft, a fydd corff annibynnol yn ymgymryd â'r rôl honno, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac yn sicrhau y cedwir at gydymffurfiaeth amgylcheddol wedi inni ymadael â'r UE?
Diolch am eich cwestiwn pellach. Mae meddu ar ddealltwriaeth glir iawn o gyflwr nodweddion safle, a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn effeithiol, yn gwbl hanfodol, fel y gallwn gyflawni eu hamcanion cadwraeth, a chyflawni ein huchelgais—fod gennym rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig a reolir yn dda iawn yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod am fframwaith rheoli'r rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n nodi'r strwythur ar gyfer gwella cyflwr y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru a'r broses o'u rheoli. A gwneir hynny ochr yn ochr â'r grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig, ac mae hynny'n mynd â ni hyd at 2023, a bydd yn parhau i fod ar waith wedi inni ymadael â'r UE. Ceir cynllun gweithredu ochr yn ochr â'r fframwaith hefyd, a bydd yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol, a bydd yn nodi'r camau blaenoriaethol a nodwyd i gynnal a gwella cyflwr rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Pan argymhellodd eich rhagflaenydd newidiadau arfaethedig i gyllid amaethyddol yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddwyd asesiadau manwl a modelu helaeth gan y Llywodraeth o'r effaith y byddai'r newidiadau arfaethedig yn ei chael ar bob math o fferm, ar bob sector amaethyddol, hyd yn oed yr effaith ar swyddi yn yr holl ardaloedd awdurdod lleol sydd gennym yma yng Nghymru. Nawr, o ystyried y gallai eich cynigion diweddaraf yn 'Brexit a'n tir' arwain at y newid mwyaf—neu fe fyddant, yn ddiamau, yn arwain at y newid mwyaf—o ran cymorth fferm yng Nghymru ers cenedlaethau, a allwch ddweud wrthym pa ddadansoddiad a pha asesiadau effaith rydych wedi'u cynnal fel y gall eich safbwynt fod mor wybodus â phosibl, ond hefyd fel y gall y bobl sy'n ymateb i'r ymgynghoriad wneud hynny mewn modd trwyadl a chadarn?
Felly, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori, a dyna lle rydym ar hyn o bryd. Rwyf wedi dweud yn glir iawn nad oes penderfyniad wedi'i wneud mewn perthynas â chyfansoddiad y cynlluniau. Rydym wedi dweud y bydd taliadau uniongyrchol yn dod i ben. Ond bydd y gwaith modelu y credaf y byddwch ei eisiau yn digwydd ar y polisi ar gyfer y dyfodol. Felly, gan ein bod yn ymgynghori ar natur lefel uchel y polisi hwnnw yn gyntaf, nid wyf am weld unrhyw ragfarnu ynghylch unrhyw ymarfer ymgynghori. Mae gennym waith modelu manwl o'r hyn y gallai Brexit ei olygu i'r sector amaethyddol, ond nid ydym wedi gwneud gwaith modelu manwl ar y pwyntiau rydych newydd eu gwneud.
Wel, credaf y bydd pobl yn bryderus iawn ynglŷn â'r ffaith bod y Llywodraeth yn amlwg heb wneud ei gwaith cartref, gan eich bod yn mynd ar drywydd cynigion penodol, er bod hynny ar ffurf ymgynghoriad. Felly, sut y gallwch eu cyflwyno heb wybod beth fydd y goblygiadau? Sut y gallwch ddisgwyl i bobl ymateb yn ystyrlon i ymgynghoriad pan nad ydych, mewn gwirionedd, yn gallu dweud wrthynt pa effaith, os o gwbl, y caiff y newidiadau hynny ar eu busnesau, ar gymunedau gwledig a theuluoedd ffermio ledled Cymru? Ac fe ddywedwyd, wrth gwrs, ac rydych newydd gyfeirio at hyn, y gallai Brexit arwain at effeithiau trychinebus o ran amaethyddiaeth yma yng Nghymru, ac ar yr un pryd, gallai cyflwyno'r newidiadau rydych yn bwriadu eu cyflwyno yn hawdd wneud pethau'n waeth, ond 'Ni wyddom eto gan nad ydym wedi gwneud ein gwaith cartref.'
Nawr, mae pobl yn dweud wrthyf y gallai'r cynigion, yn enwedig mewn perthynas â chael gwared ar y taliadau sylfaenol i ffermwyr, wneud yr un peth i'n cymunedau gwledig â'r hyn a wnaeth Margaret Thatcher i gymunedau diwydiannol yng Nghymru. Rydym wedi clywed am Glirio'r Ucheldiroedd yn yr Alban; wel, os ydym yn ystyried ffermydd teuluol yn mynd i'r wal, byddwn yn sôn am glirio ucheldir Cymru. Rydym yn sefyll ar ymyl y dibyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gael gwared ar y taliadau sylfaenol, rydych yn cael gwared ar y rhwyd ddiogelwch sydd gan ffermwyr Cymru. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rhaid eich bod mewn lle unig iawn ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet, gan mai dim ond chi a Michael Gove sy'n mynd ar drywydd y polisi hwn. Gwyddom y bydd ein prif gystadleuwyr yn yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i gymryd dros 70 y cant o gymorth y polisi amaethyddol cyffredin fel taliadau uniongyrchol. Mae Llywodraeth yr Alban yn parhau â'r taliadau sylfaenol. Bydd Gogledd Iwerddon yn gwneud hynny hefyd. Mae hyd yn oed Ysgrifennydd DEFRA yr wrthblaid Lafur, Sue Hayman, wedi cyhoeddi y byddai'r Blaid Lafur yn Lloegr yn parhau â thaliadau fferm sylfaenol. A ydych o ddifrif hyd yn mynd i fynd ar drywydd y glymblaid hon rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Dorïaidd y DU, hyd yn oed pan fo hynny'n gwrth-ddweud polisi eich plaid eich hun?
Wel, rydych newydd wneud datganiadau cyffredinol iawn. Yn gyntaf, ydw, rwyf am fynd ar drywydd hyn. Dyna'r peth cyntaf. Yr ail beth yw mai polisi Llafur Cymru yw hwn. O ran yr hyn a ddywedwch ynglŷn â Sue Hayman, rwy'n ymwybodol o’r sylwadau a wnaeth yng nghyfarfod ymylol yr NFU yng nghynhadledd y blaid. Rwyf wedi gweld ei haraith. Rwyf wedi siarad â hi ar sawl achlysur. Mae'n credu bod ei sylwadau wedi cael eu camddehongli gan—. Roedd yn un o ddigwyddiadau ymylol NFU Cymru. Deallaf y bydd yn barod i ysgrifennu at lywydd NFU Cymru i sicrhau bod ei sylwadau wedi cael eu deall.
Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl rwy’n siarad â hwy yn cytuno nad yw taliadau cynllun y taliad sylfaenol wedi gwneud digon i wella cynhyrchiant ffermydd. Rydych yn dweud bod pobl yn bryderus. Cynhyrchwyd y papur hwn, 'Brexit a'n tir', gan y grŵp bord gron ar Brexit. Byddwch wedi fy nghlywed yn cyfeirio at y grŵp rhanddeiliaid sawl tro yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau. Dywedodd y ddau undeb ffermio wrthyf nad oedd unrhyw beth annisgwyl yn y ddogfen honno gan eu bod wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hynny ers dros ddwy flynedd ers i ni gael y bleidlais. Fe ddywedwch ei fod yn lle unig. Credwch fi, rwyf wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y rhanddeiliaid yn cyflwyno'r ddogfen honno, ac ymgynghoriad ydyw. Hoffwn wneud hynny’n gwbl glir, a bydd ar agor tan 30 Hydref, ac edrychaf ymlaen at glywed safbwyntiau pobl.
Nid wyf yn eich amau pan ddywedwch wrthym mai polisi Llafur Cymru yw eich polisi chi, ond rwy'n dweud wrthych ei fod hefyd yn un o bolisïau Torïaid y DU, sy'n amlwg braidd yn anghyfforddus i chi a'ch Aelodau ar y meinciau cefn, rwy'n siŵr. Nawr, yn ogystal â chael gwared ar y rhwyd ddiogelwch y cyfeiriais ati i ffermwyr Cymru yn y cyfnod anodd hwn o ran Brexit, o dan eich cynigion, wrth gwrs, bydd cyllid bellach ar gael—neu argymhellir ei fod ar gael—i bob rheolwr tir, yn hytrach na’i fod ar gael i ffermwyr gweithredol yn unig. Nawr, bydd hyn, wrth gwrs, yn seiffno buddsoddiad oddi wrth y teuluoedd ffermio pan wyddom fod pob punt a fuddsoddir mewn fferm yn cynhyrchu £7 i'r economi wledig. O dan eich cynigion, bellach gallem weld sefydliadau bancio, cronfeydd pensiwn a ffermwyr anweithredol eraill—nad ydynt yn gwneud unrhyw gyfraniad, mewn gwirionedd, i'r economi neu'r gymuned leol—yn elwa o gynigion Llafur a chynigion Torïaid y DU hefyd. Nawr, cred Plaid Cymru y dylai unrhyw system newydd ôl-Brexit gyfeirio’r cymorth at ffermwyr gweithredol, yn hytrach na gwobrwyo perchnogaeth tir ynddi'i hun. Felly, a wnewch chi ailystyried y cynnig a sicrhau bod cymorth i ffermio yng Nghymru yn cael ei dargedu at y ffermwyr gweithredol, sef y rhai sy'n cymryd y risg ariannol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu ein bwyd?
Ymddengys fod yr Aelod yn awyddus iawn i glymu’r ddau beth gyda'i gilydd—cynigion Cymru a chynigion Llywodraeth y DU. Os edrychwch yn galed iawn, fe welwch fod llawer o wahaniaethau—cynhyrchu bwyd, i ddechrau. Rydym wedi sicrhau bod cynhyrchu bwyd wrth wraidd y cynllun cadernid economaidd. Yn sicr, rwyf am gadw ffermwyr gweithredol ar y tir. Rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn. Rydych yn gofyn a fyddaf yn ailystyried. Mae’n destun ymgynghoriad. Rydym eisoes wedi cael oddeutu 3,000 o ymatebion, rwy'n credu, hyd at yr wythnos diwethaf. Rwy'n gystadleuol iawn. Rwyf am weld mwy o ymatebion nag y cafodd DEFRA, pro rata. Felly, rwy'n awyddus iawn i annog pobl i ddweud eu barn. Ond holl bwynt yr ymarfer hwn yw sicrhau bod ein ffermwyr yn parhau i ffermio. Mae arnom angen iddynt wneud hynny, a dyna fydd yn digwydd gyda'n polisi.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Mae'n wych pan fyddwch yn mynd yn ail ac mae dau o'ch tri chwestiwn eisoes wedi eu gofyn. [Chwerthin.]
Os caf fi ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet: yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar ddechrau'r broses hon, cafodd yr adran farn gyfreithiol ynglŷn ag a oedd y cynigion yn yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r polisi amaethyddol cyffredin a thaliadau i ffermwyr yng Nghymru yn bodloni amodau Sefydliad Masnach y Byd. A allwch gadarnhau bod y farn honno wedi’i rhoi i'r Llywodraeth, ac a ydych yn fodlon fod y farn a gynigiwyd i chi, os cafodd ei rhoi, yn sicrhau bod y cynigion hyn yn cydymffurfio â rheolau Sefydliad Masnach y Byd?
Ydw. Yn sicr, holais swyddogion er mwyn sicrhau bod yr holl agweddau cyfreithiol wedi'u hystyried.
Iawn, ond a yw hynny'n golygu, yn amlwg, fod barn wedi'i cheisio a'u bod yn cydymffurfio â rheolau Sefydliad Masnach y Byd? Diolch am nodi hynny, Ysgrifennydd y Cabinet.
O ran yr asesiadau o'r effaith economaidd a grybwyllwyd gan y siaradwr blaenorol rwy'n credu, o gofio nad yw'r asesiadau effaith hynny wedi'u gwneud, fel y dywedasoch, mae'n bwysig iawn fod y diwydiant a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses hon yn deall yn eglur y bydd yna amserlen ar gyfer gwneud yr asesiadau hynny. Pa amserlen y gallwch ei rhoi inni heddiw? Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl wedi hoffi rhyw fath o ddealltwriaeth fod yr asesiadau effaith hyn eisoes wedi'u cwblhau ar y gwahanol gynigion gan y byddai'r broses fodelu honno'n dylanwadu'n fawr ar rai o'r penderfyniadau yr oedd angen eu gwneud. Ond yn absenoldeb yr asesiadau hynny, yn ôl pa amserlen y gweithiwch i sicrhau bod yr asesiadau hynny'n cael eu cwblhau, o gofio'r amserlen dynn iawn rydych wedi'i gosod ar gyfer y cyfnod pontio wrth ddiwygio'r polisïau hyn?
Rydym wedi ymrwymo i gynnal asesiadau effaith llawn yn amlwg, ac unwaith eto, wrth weithio gyda'r rhanddeiliaid o gwmpas y ford gron, maent yn ymwybodol iawn o hynny. Felly, daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref. Wedyn, bydd yn rhaid inni asesu'r ymatebion a gawsom. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn ymgynghori eto yn y gwanwyn ar y cynigion a gaiff eu cyflwyno yn sgil yr ymgynghoriad, felly buaswn yn dweud os—erbyn diwedd mis Tachwedd, pan gaiff y ffair aeaf ei chynnal, er enghraifft, buaswn yn gobeithio gallu bod mewn sefyllfa erbyn diwedd mis Tachwedd i bennu amserlen fwy pendant, os mynnwch, ar gyfer yr adeg y bydd y cynigion hyn yn cael eu cyflwyno. Ond fel y dywedaf, rydym wedi dweud y gwanwyn, byddwn yn ymgynghori eto yn y gwanwyn, felly bydd hynny'n digwydd rhwng y ddwy adeg honno. Ond rwy'n gobeithio bod fod yn fwy penodol, yn ôl pob tebyg tua diwedd mis Tachwedd.
Rwy'n ddiolchgar i chi am nodi hynny, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn deall pryd fydd hyn yn digwydd. Fel y dywedais, mae'r asesiadau effaith hynny'n hanfodol er mwyn deall y gwahanol fodelu a gyflawnir ar hyn o bryd. Ond yr hyn a wyddom o dan y cynigion presennol, yn amlwg—nid yw 'rheolwyr tir' o reidrwydd yn ffermwyr gweithredol. Nawr, yn bersonol, rwy’n cefnogi'r pwynt mai ffermwr gweithredol a ddylai gael yr arian hwn, ac rwy’n datgan buddiant fel partner mewn busnes ffermio teuluol. Fodd bynnag, bydd eich cynigion, os cânt eu derbyn a’u rhoi ar waith yn llawn, yn arwain at gynnydd enfawr yn nifer y cyfranogwyr a allai elwa o'r arian hwn sydd i fod i gefnogi'r economi wledig. Ar hyn o bryd, credaf fod oddeutu 17,000 i 18,000 o bobl yn derbyn taliadau o dan y cynllun talu sylfaenol. Mae'n bosibl y gallai’r adran fod yn ymdrin â 40,000 i 45,000 o ymgeiswyr. Pa baratoadau a wnewch fel adran i ymdrin â'r nifer sy'n manteisio ar y cynlluniau? Oherwydd mae pob un ohonom yn cofio’r hyn a ddigwyddodd yn ôl yn 2005-06, pan oedd y bwrdd ymyrraeth fel yr oedd, neu'r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn Reading, yn ei chael hi’n anodd ymdopi â'r system newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn ôl yn 2005-06 ac a arweiniodd at oedi aruthrol a phwysau ariannol enfawr ar fusnesau gwledig. Pa gapasiti rydych yn ei ddatblygu yn yr adran, a pha hyder y gallwch ei roi i ni y gallwch ymdopi â chynnydd mor enfawr yn y niferoedd y bydd yn rhaid i'r adran ymdrin ag ef?
Ar hyn o bryd, credaf fod oddeutu 16,000 o bobl yn derbyn taliadau uniongyrchol. Fe fyddwch yn gwybod am berfformiad rhagorol Taliadau Gwledig Cymru; ni yw'r gorau yn y DU. Credaf fod oddeutu 95 y cant o'r taliadau wedi’u gwneud ar 1 Rhagfyr. Felly byddaf yn defnyddio'r grŵp hwnnw neu'r tîm hwnnw o bobl yn fy mhortffolio, yn amlwg, pan fydd y cynlluniau ar waith gennym. Mae llawer iawn o waith i'w wneud cyn hynny, ond rwy'n hyderus fod y capasiti gennym.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi canmol Ysgrifennydd y Cabinet sawl tro am ei hymagwedd agored tuag at ei swydd a'r modd penderfynol y mae'n dibynnu ar dystiolaeth fel sylfaen i bolisïau'r Llywodraeth. A yw'r Gweinidog yn derbyn fy siom felly ei bod wedi ymwrthod â’r ymagwedd hon mewn perthynas â saethu ar dir cyhoeddus, a gwrthdroi polisi Cyfoeth Naturiol Cymru a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf? Onid yw'n sylweddoli'r niwed y bydd yr ymagwedd hon yn ei wneud yng nghefn gwlad, yn enwedig os caiff ei dilyn mewn mannau arall?
Na, nid wyf yn derbyn hynny. Fel y dywedasom yn glir yr wythnos diwethaf mewn ateb i gwestiwn amserol, mater polisi oedd hwn. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn glir o'r cychwyn eu bod yn disgwyl cael arweiniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r ystyriaethau moesegol ac ystyriaethau polisi ehangach. Dywedais hynny ac rwy'n falch fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar saethu ffesantod a gweithgareddau cysylltiedig ar dir cyhoeddus wedi cael eu hystyried gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Credaf y bydd y cyhoedd yn gyffredinol o’r farn fod hwnnw’n esboniad chwerthinllyd o'r penderfyniad, oherwydd, er ei bod yn wir eich bod wedi dweud yr wythnos diwethaf fod:
'safbwynt Llywodraeth Cymru yn fater ar gyfer ystyriaeth barhaus Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid yw'n eu rhwymo i dderbyn a chytuno â’r safbwynt hwnnw',
dywedodd cadeirydd dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru, Dr Madeleine Havard, fod Llywodraeth Cymru wedi 'rhoi arweiniad clir' o ran y cyfeiriad y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fynd iddo. Nid oes unrhyw reswm iddynt wneud tin-dros-ben oni bai i ufuddhau i'ch dictad. Felly, credaf y bydd y rhan fwyaf o bobl y tu allan yn credu bod eich ymateb yn un cwbl anonest.
Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl Cymru a barn y cyhoedd yn dweud eu bod, mewn gwirionedd, yn cefnogi rhoi terfyn ar brydlesu ar ystâd Llywodraeth Cymru. Awgrymaf fod yr Aelod allan o gysylltiad â barn y cyhoedd, ac wedi colli golwg ar y polisi. Gan gyfeirio'n ôl at yr honiadau o ran yr effaith ar yr economi, mae'r ffigurau a ddyfynnir ar gyfer pob menter saethu ledled Cymru, nid ar ystâd Llywodraeth Cymru yn unig. Dim ond 1 y cant o fentrau saethu yng Nghymru sy’n digwydd ar y tir hwnnw.
Os yw saethu, fel y dywed y Gweinidog, yn anfoesol ar dir cyhoeddus, mae'n rhaid ei fod yn anfoesol ar dir preifat hefyd. Felly, mae'n eithaf amlwg beth yw cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, a gall pob pysgotwyr, pob saethwr, unrhyw un sy'n ymwneud â chwaraeon gwledig yn gyffredinol, ystyried Llywodraeth Cymru yn elyn pendant bellach. Blaen y gyllell yw hyn; mae gan Lywodraeth Cymru ei llygad ar bob un ohonynt.
[Anghlywadwy.]—Nonsens.
Credaf fod yr Aelod newydd ateb fy nghwestiwn ar fy rhan. Rwy'n gwrthod hynny'n llwyr. Credaf eich bod yn ceisio neidio ar y drol a chymell ffrae. Caiff tirfeddiannwr preifat wneud fel y mynnant ar eu tir eu hunain, ond o ran ystâd Llywodraeth Cymru, a gaiff ei reoli ar ran holl bobl Cymru, ar gyfer pobl Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ynglŷn â hynny.
3. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i newid cyfreithiau cynllunio er mwyn ymdrin â chyflwr siopau gwag yng nghanol trefi? OAQ52658
Diolch. Mae deddfwriaeth bresennol a pholisïau cynllunio cenedlaethol yn cefnogi stryd fawr amrywiol gydag amrywiaeth o ddefnyddiau er mwyn helpu i'w gwneud yn lleoedd bywiog i bobl weithio, byw ac ymweld â hwy. Mae angen i'r system gynllunio fod yn hyblyg er mwyn cynorthwyo canol trefi i addasu i newid ac i gymryd camau lle bo angen.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, mewn seminar a gynhaliwyd gan brif swyddog cynllunio Cymru, gofynnwyd cwestiwn iddo ynglŷn ag a oedd deddfau cynllunio i'w cael a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol orfodi perchnogion i gynnal ymddangosiad cosmetig safleoedd masnachol gwag. Wrth gwrs, byddai hyn yn gwella ymddangosiad canol trefi, gan eu gwneud yn fwy effeithiol, efallai, am ddenu busnesau newydd. Yn anffodus, ei ateb oedd nad oes unrhyw ddarpariaethau yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 heblaw y dylid gweithredu os oedd safle'n peri risg uniongyrchol. A allai Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar y posibilrwydd o roi pwerau i awdurdodau lleol fynnu bod perchnogion yn gwneud y gwaith cynnal a chadw cosmetig hwn?
Gallaf, yn sicr, byddaf yn siarad â'r prif swyddog cynllunio i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi ymgynghori yn ddiweddar ar 'Polisi Cynllunio Cymru', felly gallem ystyried gwneud rhywbeth yn hyn o beth, gan fy mod yn cytuno'n llwyr. Yng nghanol fy nhref fy hun yn Wrecsam, os oes siopau gwag yno, gwn ei bod hi'n well o lawer os ydynt wedi'u haddurno mewn ffordd sy'n gwneud iddynt edrych yn ddeniadol ar gyfer busnes yn y dyfodol. Felly, ydw, rwy'n fwy na pharod i ystyried hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r duedd gynyddol i wariant cwsmeriaid newid i siopa ar-lein ac mewn parciau manwerthu ar gyrion trefi wedi arwain at gau llawer o siopau yng nghanol dinasoedd yn ne-ddwyrain Cymru. Mae melin drafod Centre for Cities wedi dweud y dylai canol dinasoedd sy'n ei chael hi'n anodd roi'r gorau i'w dibyniaeth ar fanwerthu drwy gael swyddfeydd a thai yn lle siopau. Yng Nghasnewydd, maent yn nodi bod mwy na 40 y cant o'r gofod masnachol ym maes manwerthu—mae llawer ohono yn ei chael hi'n anodd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod dyfodol ein stryd fawr yn ymwneud â mwy na manwerthu, a pha gynlluniau sydd ganddi i newid cyfreithiau cynllunio i'w gwneud yn haws i droi siopau manwerthu yn unedau tai neu'n swyddfeydd? Diolch.
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen inni ystyried defnyddiau gwahanol ar gyfer canol ein trefi, oherwydd, fel y dywedwch, mae tueddiadau siopa yn bendant wedi newid—mae mwy o bobl yn siopa ar-lein, er enghraifft. Rydym yn sicr wedi sicrhau bod y polisi cynllunio yn ddigon hyblyg i ganiatáu fflatiau uwchben siopau, er enghraifft. Ac yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod ein trefi hefyd yn ganolog i fywyd cymdeithasol ac economaidd, er mwyn inni weld llawer mwy o economi nos yn y rhain—. A chredaf fod y polisi cynllunio yn ddigon hyblyg i ganiatáu i hynny ddigwydd.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am osod teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai? OAQ52679
Mae gan bob lladd-dy mawr yng Nghymru system deledu cylch cyfyng. Gellir cael mynediad at y lluniau os oes amheuaeth nad yw safonau lles yn cael eu cyrraedd. Bydd buddsoddiadau i ddiogelu lles anifeiliaid, gan gynnwys systemau teledu cylch cyfyng, yn cael eu blaenoriaethu mewn cynllun grant ar gyfer lladd-dai bach a chanolig, a agorwyd ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ar 30 Medi.
Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n dal i gael llawer o lythyrau ar y pwnc hwn, fel pobl eraill rwy'n siŵr, gan unigolion yn mynegi eu pryderon, ac rwy'n rhannu'r pryderon hynny. Fe'ch cofiaf yn dweud eich bod yn ystyried a fyddech yn cyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol ym mhob lladd-dy yng Nghymru ai peidio. Rwy'n sylweddoli, fel y dywedasoch, fod hynny eisoes ar waith yn y rhai mwy o faint, ond rwy'n awyddus i wybod a ydych wedi gwneud penderfyniad ynglŷn ag a fyddwch yn gwneud hyn yn orfodol yng Nghymru, i gyd-fynd â'r newidiadau diweddar sydd wedi digwydd yn Lloegr.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle, yn y lle cyntaf, rwy'n cefnogi dull gwirfoddol ac rwy'n gwneud hyn yn ddichonadwy drwy'r cymorth grant a grybwyllais yn awr, oherwydd dywedwyd wrthyf gan rai o'r lladd-dai llai o faint mai un o'r rhwystrau mewn perthynas â chyflwyno teledu cylch cyfyng oedd cyllid, felly mae hyn yn cael gwared â llawer o'r pryderon hynny ynghylch cyllid. Credaf fod dull gwirfoddol yn fwy tebygol o lwyddo i gyrraedd y nod o sicrhau defnydd effeithiol o deledu cylch cyfyng gan y credaf y bydd y lladd-dai eu hunain wedyn yn gwneud penderfyniad cadarnhaol. Rwyf wedi cael trafodaethau diddorol iawn gyda pherchnogion rhai o'n lladd-dai llai o faint. Ymwelais ag un gyda'r Llywydd yn ei hetholaeth yn Nhregaron, a chefais drafodaethau cadarn a diddorol iawn. Felly, i ateb y cwestiwn ynglŷn ag a wyf wedi cau'r drws ar wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn y tymor hwy, nac ydw. Credaf y bydd y niferoedd sy'n manteisio ar y cyllid rydym newydd ei gyhoeddi yn dylanwadu ar fy mhenderfyniad ynglŷn ag a fyddaf yn gwneud hynny.
Wrth gwrs, mae hwn wedi bod yn bwnc llosg yn y Pwyllgor Deisebau, lle profwyd bod ymateb aruthrol i'w gael ledled Cymru o blaid gosod teledu cylch cyfyng. Er fy mod yn derbyn bod cynnydd yn cael ei wneud yn hyn o beth, bydd teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn bendant yn sicrhau y datgelir ac yr eir i'r afael â chamdriniaeth. Mae hwn yn gam pwysig o ran sicrhau bod gennym lefelau diogelwch uchel iawn mewn perthynas â lles anifeiliaid yng Nghymru ac y gallwn fod yn esiampl i eraill. Rydych wedi crybwyll y cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd gwerth £1.1 miliwn, sef pecyn cymorth grant ar gyfer lladd-dai bach a chanolig yng Nghymru, ond pa brosesau rydych am eu rhoi ar waith i sicrhau bod y rheini sy'n derbyn y cymorth grant yn defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng, a beth rydych yn mynd i'w wneud am y rhai sydd ond yn gwneud sioe fawr o'r canllawiau a'r cymorth ar gyfer hyn, o ran y lladd-dai llai o faint sy'n gwrthwynebu ei osod? Beth sydd gan bobl i'w guddio?
Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig gwybod bod nifer o reolaethau eisoes ar waith mewn lladd-dai. Mae milfeddygon swyddogol yn bresennol ym mhob lladd-dy pan fydd anifeiliaid yn cael eu lladd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau. Mewn ymateb i'ch cwestiwn ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio at y diben y gwnaed cais amdano, yn amlwg, caiff hyn ei fonitro yn agos iawn, ond rydym hefyd yn gweithio gyda'r lladd-dai bach a chanolig hyn yn y lle cyntaf i'w cynorthwyo i wneud y cais ac i sicrhau wedyn, fel y dywedwch, fod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio at y diben cywir. Rydym wedi darparu canllawiau helaeth, er enghraifft. Ychydig iawn o ladd-dai sydd heb deledu cylch cyfyng bellach. Felly, mae modd gweithio gyda hwy yn agosach o lawer na phe bai nifer helaeth ohonynt.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas â strategaeth Llywodraeth Cymru yn erbyn tipio anghyfreithlon? OAQ52672
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni 'Cymru Ddi-dipio—Ein strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon'. Rydym yn parhau i ariannu Taclo Tipio Cymru, menter a gydlynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod tipio anghyfreithlon yn lleihau yn y tymor hir yng Nghymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn anffodus, mae rhannau o fy etholaeth yn dal i ddioddef problemau helaeth yn sgil tipio anghyfreithlon. Mae'n anodd deall meddylfryd pobl sy'n gyrru cerbyd i fyny bryn ac yn dympio sbwriel, ac yn achosi malltod gweledol mewn ardaloedd o harddwch naturiol fel comin Gelligaer. Credaf fod llawer o'r problemau hyn yn deillio o weithredwyr didrwydded sydd wedi cael eu talu gyda phob ewyllys da i gael gwared ar sbwriel tai a'r diwydiant adeiladu. Os mai'r canlyniad y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld yw llai o dipio anghyfreithlon, a allwch roi gwybod i mi a yw Llywodraeth Cymru neu unrhyw un arall wedi archwilio'r cydbwysedd rhwng yr abwyd a'r ffon yn y sefyllfaoedd hyn a allai annog agwedd fwy cyfrifol, ac a ydych, er enghraifft, wedi ystyried costeffeithiolrwydd cael gwared ar daliadau ar safleoedd gwaredu yn erbyn cost clirio tipio anghyfreithlon i awdurdodau lleol?
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Gwn fod tipio anghyfreithlon yn effeithio ar etholaethau nifer o'r Aelodau. Credaf eich bod yn llygad eich lle. Ymddengys i mi ei bod yn cymryd llawer o ymdrech i fynd i ddympio rhywbeth pan allwch fynd ag ef i'r safle cywir. Credaf mai rhan o fynd i'r afael â hynny yw ei wneud yn rhywbeth sy'n annerbyniol yn gymdeithasol hefyd, felly mae gwaith yn mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru ar gynllun i edrych ar sut yr edrychwn ar newid ymddygiad pobl mewn perthynas ag ailgylchu, a newid ymddygiad hefyd o ran sut y gallwn sicrhau bod tipio'n annerbyniol yn gymdeithasol. Wrth siarad am safleoedd gwaredu gwastraff, mae'n rhaid i unrhyw un sy'n mynd â'u gwastraff i safle tirlenwi yn uniongyrchol dalu ffi ar sail pwysau'r deunydd. Rydych yn gwneud pwyntiau da iawn o ran y dull abwyd a ffon, felly mae a wnelo â gorfodi, mewn gwirionedd, a sicrhau ein bod yn dal y troseddwyr ac yn mynd i'r afael â hynny ac yn sicrhau bod hyn yn annerbyniol yn gymdeithasol. Ond mewn gwirionedd, sut y gallwn gefnogi'r awdurdodau lleol i fod mewn gwell sefyllfa i fynd i'r afael â hyn o bosibl? Ac mae ffyrdd o wneud hynny. Gallai eich awdurdod lleol wneud cais, gallent siarad â'r rhaglen newid cydweithredol a gofyn am gymorth os oes mater penodol i fynd i'r afael ag ef yn yr ardal. Ond ni ddylai deiliaid tai a busnesau dalu gweithredwyr didrwydded i gael gwared ar wastraff. Mae hynny'n groes i'r rheoliadau dyletswydd gofal. Ond efallai fod ymarfer codi ymwybyddiaeth i'w gael mewn perthynas â hynny hefyd. Os oes gennych unrhyw beth penodol iawn mewn perthynas â'ch etholaeth, yna rwy'n fwy na pharod i fy swyddogion gysylltu â chi ynglŷn â hynny, ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer bwrw ymlaen â hyn.
6. Beth yw'r her fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei tharged gostwng carbon ar gyfer 2030? OAQ52669
Diolch. Yr her fwyaf yw ein proffil allyriadau, gyda 57 y cant yn dod o safleoedd diwydiannol a gorsafoedd pŵer, lle mae ein hysgogiadau polisi yn gyfyngedig. Lle mae polisi wedi'i ddatganoli, mae'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi nodi nifer o heriau penodol i Gymru yn eu cyngor, sydd wedi'i gynnwys yn ein hymgynghoriad diweddaraf.
Mae eich ymgynghoriad yn nodi rhai targedau heriol yng nghyd-destun arbenigwyr ar newid hinsawdd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r Llywodraeth yn cymryd y camau y mae angen eu cymryd os ydym am osgoi lefelau cynyddol o gynhesu byd-eang. Cafwyd gwybodaeth dorcalonnus heddiw fod Llywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto wedi methu codi'r ardoll tanwydd, sy'n ymdrechu i adlewyrchu gwir gost defnydd pobl o gerbydau preifat. A hoffwn ddeall sut y credwch y byddwch yn cyrraedd y targed heriol iawn o 43 y cant o ostyngiad mewn allyriadau cerbydau erbyn 2030 yng nghyd-destun y cynnig i fuddsoddi £1.5 biliwn mewn ychydig filltiroedd o ffordd ar ffordd liniaru'r M4, oherwydd mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dadlau y bydd hyn yn arwain at gynnydd o 42,000 o gerbydau'n defnyddio'r ffordd honno bob dydd. Felly, hoffwn ddeall beth yw eich strategaeth ar gyfer lleihau allyriadau cerbydau heb leihau nifer y cerbydau ar y ffordd, a buddsoddi yn lle hynny mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.
Bydd yr Aelod yn gwybod, mewn perthynas â'r M4, fod y Prif Weinidog yn arwain ar hyn o beth, ac yn amlwg, byddaf yn cael trafodaethau gydag ef wrth iddo ystyried yr adroddiad sydd wedi dod gan y llys. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â thargedau heriol, ac fel y dywedais, nid yw'r holl ysgogiadau polisi gennym felly weithiau mae'n rhwystredig iawn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu. Credaf, fodd bynnag, ei bod yn bwysig gosod targedau uchelgeisiol. Credaf ei bod yn bwysig gosod targedau ymarferol a realistig, a chredaf fod gennym stori dda i'w hadrodd mewn meysydd lle mae gennym bwerau datganoledig. Felly, er enghraifft, rydym wedi cyrraedd ein targed o 3 y cant flwyddyn ar ôl blwyddyn, ond fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, mae'r proffil allyriadau sy'n peri pryder mawr yn ymwneud â diwydiant, felly credaf ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn gwneud y pethau hyn ar eu pen eu hunain yn unig, ond ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod y cyflawni ein huchelgeisiau. Er enghraifft, rwyf hefyd wedi cyhoeddi fy mod yn disgwyl y bydd gennym sector cyhoeddus carbon niwtral yng Nghymru erbyn 2030. Rwyf wedi gosod targedau heriol iawn mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, hefyd erbyn 2030.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn faes y mae gennych bŵer drosto—mater a godais gyda chi yr wythnos diwethaf, a hoffwn ddychwelyd ato. Yn ddiweddar, ymwelais â safle gorsaf wefru trydan arfaethedig ger yr A40 yn Nhrefynwy. Mae'r cynllun hefyd, yn hollbwysig, yn cynnwys dwy orsaf bŵer fechan ar y safle, felly byddai'r trydan a fyddai'n cael ei ddefnyddio yn yr orsaf wefru yn cael ei gynhyrchu'n lleol o ffynonellau adnewyddadwy, sy'n llawer mwy effeithlon a dymunol na chludo trydan a gynhyrchir gan danwydd ffosil ar hyd y grid cenedlaethol aneffeithlon. A ydych yn cytuno y dylid croesawu'r math hwn o gynllun? Mae'n debyg y bydd yn mynd drwy gyfnod cynllunio, felly nid wyf am i chi roi sylwadau ar union natur y cynllun penodol hwn, ond a fyddech yn cytuno i edrych ar ganllawiau'r Cynulliad i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau, pan fydd cynlluniau fel hyn yn ymddangos, eu bod yn cael eu hannog, fel y gallwn gynhyrchu trydan yn lleol yn y ffordd hon, mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo'r Llywodraeth a phob un ohonom i gyflawni ein targed 2030 i leihau allyriadau carbon?
Ydw, yn sicr, fel pwynt cyffredinol, rwy'n cytuno â chi, a chredaf ichi wneud pwynt perthnasol iawn ynglŷn â hyn mewn dadl yr wythnos diwethaf. Ni allwch barhau i ddefnyddio tanwydd ffosil, fel y dywedwch, pan fyddwch yn edrych ar gerbydau trydan a hydrogen, er enghraifft. Yn amlwg, rwy'n bryderus ynghylch capasiti'r grid cenedlaethol beth bynnag. Rwyf wedi cael trafodaethau pryderus gyda'r Grid Cenedlaethol mewn perthynas â hyn, felly buaswn yn cytuno â chi, fel pwynt cyffredinol yn sicr.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithdrefnau trwyddedu morol Llywodraeth Cymru? OAQ52684
Mae swyddogaethau awdurdod trwyddedu morol Gweinidogion Cymru wedi'u dirprwyo i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n eu cyflawni ar ran Gweinidogion Cymru. Mae'r broses benderfynu ar gyfer trwyddedu morol yn darparu asesiad trylwyr a chadarn o weithgareddau arfaethedig, gan gynnwys ystyriaeth o'r angen i warchod yr amgylchedd morol ac iechyd dynol.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, sefydlwyd bellach drwy gamau cyfreithiol na chafwyd unrhyw asesiad o'r effaith amgylcheddol ar gyfer dympio mwd o adweithydd niwclear Hinkley Point C ar safle Cardiff Grounds. Ni chafwyd unrhyw ystyriaeth o'r effaith ar yr amgylchedd morol neu iechyd y cyhoedd. Sefydlwyd hefyd drwy ein camau cyfreithiol mai chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n gyfrifol yn y pen draw am gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol. Felly, a wnewch chi gymryd camau yn awr a sicrhau y cynhelir asesiad o'r effaith amgylcheddol, neu a fyddwch yn parhau i weithredu'n anghyfreithlon?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i amlinellu proses yr asesiad o'r effaith amgylcheddol unwaith eto. Pwynt allweddol i'w nodi yw nad yw diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol yn golygu na wnaed asesiad amgylcheddol llawn a thrylwyr. Cynhaliwyd asesiad radiolegol, fe'i cefnogwyd gan arbenigwyr, yn ogystal â'r asesiadau amgylcheddol ac iechyd dynol ehangach sydd eu hangen ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch trwydded forol. Cyflawnwyd asesiad o'r effaith amgylcheddol ar brosiect Hinkley Point C yn gyffredinol; fe'i cyflwynwyd yn rhan o'r wybodaeth ategol a ddarparwyd gyda'r cais am y drwydded forol, ac fel y cyfryw, fe'i hystyriwyd yn y broses benderfynu.
Y gwahaniaeth rhwng prosiectau gydag asesiad o'r effaith amgylcheddol a phrosiectau heb asesiad o'r effaith amgylcheddol yw'r cyfnod o amser ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd: 28 diwrnod heb asesiad o'r effaith amgylcheddol, ac mae'n cynyddu i 42 diwrnod ar gyfer ceisiadau gydag asesiadau o'r effaith amgylcheddol.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cael llawer o dystiolaeth ar hyn ac wedi rhoi ystyriaeth fanwl i'r ddeiseb sy'n galw am atal trwydded forol 1245ML. Mae cymaint o bobl wedi gwrthwynebu'r drwydded hon, gan gynnwys y pwyllgor ei hun. A hoffwn ddiolch i chi ar goedd, Neil, am fod mor benderfynol yn sefyll dros y bobl rydych yn credu y bydd hyn yn effeithio arnynt. Ac eto, nid yw'r drwydded hon wedi'i hatal.
Rhywfaint o'r dystiolaeth a gawsom: nid yw peth o'r gwaith palu, rhai o'r canfyddiadau ar y dyfnderoedd priodol, am rai o'r halogion wedi'i wneud ers 2009. Mae hi bellach yn 2018. Nawr, gyda hynny mewn cof, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ynglŷn â pham eich bod chi a'ch Llywodraeth yn mynd yn groes i gymaint o wrthwynebiad a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i wrando ar y bobl yr effeithir arnynt fwyaf? Waeth i chi heb ag ysgwyd eich pen. Eisteddais yn y cyfarfodydd hynny, Ysgrifennydd y Cabinet—
Nid oeddwn yn ysgwyd fy mhen.
Pa gamau y byddwch yn eu cymryd—
Nid oeddwn yn ysgwyd fy mhen. [Chwerthin.]
Nid chi, na, na, nid chi; yr un yma—mae eich cwestiynau chi'n dod nesaf.
Pa gamau rydych yn eu cymryd i atal gwaredu'r hyn yr ystyrir ei fod yn waddod a allai fod yn beryglus i mewn i fae hyfryd Caerdydd?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod hon yn drwydded fyw, ac fel y cyfryw, fod hwn yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru. Hwy yw'r awdurdod trwyddedu, ac mae'r hyn y gallaf ei ddweud ynglŷn â thrwyddedau morol penodol yn gyfyngedig, o ystyried rôl statudol Gweinidogion Cymru o dan y gyfundrefn. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwnnw, fel y dywedais, i nodi'r broses. Deallaf y bydd dadl yr wythnos nesaf hefyd, ond hoffwn roi sicrwydd i bobl fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol yn unol â'r weithdrefn asesu radiolegol a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol.
Tynnwyd cwestiwn 8 [OAQ52670] yn ôl. Cwestiwn 9, felly, Suzy Davies.
9. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch effaith y system gynllunio ar adeiladu tai yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52695
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet ynglŷn â sut y gall y system gynllunio gefnogi blaenoriaethau'r Llywodraeth, gan gynnwys darparu tai. Mae'r system gynllunio yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi'r broses o ddarparu cartrefi newydd, fforddiadwy a chartrefi ar gyfer y farchnad i ddiwallu anghenion tai cymunedau ledled Cymru.
Diolch am eich ateb. Rwy'n credu bod anghenion y cymunedau yng Nghymru yn rhan allweddol o'ch ateb. Fe ysgrifennoch chi at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddweud yn glir, yn eich barn chi, y dylent fod yn edrych ar eu cynllun datblygu lleol ar y cyd â rhai Rhondda Cynon Taf a Chaerffili. Mae Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi cynllunio eu stoc adeiladu tai ar gyfer y pum mlynedd nesaf, mae eisoes ar y gweill, ond mae Rhondda Cynon Taf a Chaerffili ymhell o gyrraedd eu targedau. Nawr, credaf fod gweithio ar y cyd yn un peth, ond bydd y cyfarwyddyd hwn yn ystumio'r system gynllunio i ddargyfeirio'r gwaith o adeiladu'r miloedd o dai sydd eu hangen yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, o bosibl i ardal Pen-y-bont ar Ogwr lle nad oes eu hangen. Felly, yn ogystal ag effeithiau cymdeithasol hynny, a yw'n iawn y bydd yn rhaid i dalwyr y dreth gyngor ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddioddef y tarfu a ddaw yn sgil yr adeiladu yn ogystal â chynnal y seilwaith y bydd ei angen ar gyfer y tai hynny? Yn benodol, mae meddygfeydd meddygon teulu eisoes yn llawn dop.
Diolch. Wel, mae darpariaethau yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn galluogi awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno cynlluniau datblygu strategol, a gwn fod nifer o awdurdodau lleol yn ystyried hynny—rydych newydd grybwyll rhai ohonynt—a gallai fod yn fecanwaith pwysig ar lefel ranbarthol, ond os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, yna yn sicr, gallant barhau â'u cynlluniau datblygu lleol.
Gwych, diolch yn fawr.
Rhywbeth sy'n cynhyrfu llawer o bobl leol yw'r ffaith nad oes unrhyw fandad yn y system gynllunio ar gyfer cyfleusterau ar gyfer llawer o'r ystadau newydd hynny. Felly, weithiau mae gennych ystadau tai sy'n cael eu cadw'n dda ac mae ganddynt ddarpariaeth yn hynny o beth, ond nid oes ganddynt barciau, nid oes ganddynt unrhyw feddygfeydd, nid oes ganddynt y pethau a fyddai'n creu cymuned. Mae'r system, felly, yn gelyniaethu llawer o bobl na fyddent, efallai, yn gwrthwynebu'r tai newydd hyn yn eu cymuned leol, ond byddent yn croesawu rhywfaint o fuddsoddiad yn y seilwaith sydd ynghlwm wrth hynny. Felly, beth arall y gallwch ei wneud fel Llywodraeth i edrych ar sut y gallwn adeiladu'r cyfleusterau hyn i mewn yn y systemau cynllunio lleol, fel y gallwn fod yn sicr, pan fyddwn yn creu cartrefi, ein bod yn creu cymunedau hefyd?
Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Bûm yn siarad â'r prif swyddog cynllunio y bore yma, er enghraifft, ynglŷn â byrddau iechyd yn rhoi tystiolaeth pan geir datblygiadau cynllunio newydd. Nid ydynt yn ymgyngoreion gorfodol ar hyn o bryd, ac rwy'n meddwl tybed a ddylent fod, oherwydd yn amlwg, mae darpariaeth gofal sylfaenol yn bwysig iawn. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried, ac yn amlwg, byddaf yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
10. Pa astudiaethau effaith sydd wedi'u cwblhau o oblygiadau cynigion ‘Brexit a’n Tir’ ar gyfer yr iaith Gymraeg? OAQ52685
Fel y nodir gennym yn 'Brexit a'n tir', credwn fod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithasol rhannau o'r Gymru wledig. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad o'r effaith ar y Gymraeg cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ynglŷn â dyluniad cynlluniau newydd.
Diolch yn fawr. Dyna roeddwn i'n ei amau: hynny yw, dim astudiaeth a dim bwriad i wneud hynny tan i ganlyniadau'r ymgynghoriad gael eu casglu. Rŵan, mae'n amlwg bod tipyn o amser swyddogion ac arian y Llywodraeth wedi cael ei fuddsoddi'n barod i ddatblygu'r cynigion—y rhai sydd yn y ddogfen 'Brexit a'n tir'. Felly, onid ydy'r broses yma, proses y Llywodraeth o ddatblygu polisi, yn gwbl ddiffygiol? Oherwydd y peryg ydy y gwnewch chi gyrraedd y cam nesaf ar ôl ichi gwblhau'r ymgynghoriad a darganfod bod y cynigion yn niweidio'r Gymraeg a meysydd eraill, hefyd, fel yr economi wledig, ac felly mi fydd yn rhaid i chi eu gollwng nhw, a byddwch chi wedyn wedi gwastraffu amser pawb ac adnoddau'r Llywodraeth ac wedi codi dychryn dianghenraid ymhlith y gymuned yng nghefn gwlad.
Na, dim o gwbl, oherwydd fel y dywedais mewn ateb cynharach—i Llyr, rwy'n credu—nid ydym wedi cynnal yr asesiadau hynny a'r gwaith modelu hwnnw gan ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd. Ond dywedais yn fy sylwadau agoriadol i chi ein bod wedi cynnwys y Gymraeg yn benodol yn y ddogfen honno, a chredaf hefyd fod gan 'Brexit a'n tir' ffocws cymunedol a diwylliannol cryf, ac wrth gwrs, mae'r Gymraeg yn rhan annatod o hynny. Y sector amaethyddol, yn ôl pob tebyg, yw'r sector sy'n defnyddio fwyaf ar y Gymraeg yng Nghymru, ac yn sicr, rwy'n awyddus i ddiogelu hynny. Rydym wedi ymrwymo, fel y soniais, i gadw ffermwyr ar y tir ac i weithio gyda hwy i sicrhau dyfodol ffyniannus, ac yn fy marn i, bydd y cynnig hwnnw'n sicrhau bod gennym ddyfodol i'r Gymraeg, drwy greu sefydlogrwydd a hyfywedd hirdymor i'n ffermwyr.
Wel, rwy'n cytuno â Siân Gwenllian. Nid oes pwynt cynnwys cwestiwn mewn ymgynghoriad am rywbeth nad ydych chi wedi cynnig unrhyw dystiolaeth arno. Nid yw cwpwl o eiriau ystrydebol ar le mae'r iaith Gymraeg mewn cymunedau gwledig really ddim yn cyfrif. A gawsoch chi unrhyw gyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch sut i gasglu a chyfleu tystiolaeth cyn ymgynghori?
Pe baem wedi cynnal asesiadau effaith a gwneud gwaith modelu helaeth cyn yr ymgynghoriad, buaswn wedi cael fy meirniadu am hynny. Ni allwch fodloni rhai pobl, ac yn anffodus, credaf mai hon yw'r ffordd fwyaf priodol o'i wneud. Fel y dywedais, cwblheir yr holl waith modelu ac asesiadau cyn y byddwn yn ymgynghori yn y gwanwyn ar y cynlluniau penodol. Cafwyd cyswllt gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar lefel swyddogol, ac rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda chyd-Weinidogion.
Y cwestiwn olaf yw cwestiwn 11—Mick Antoniw.
11. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i safbwyntiau darparwyr gofal iechyd yn ystod y broses gynllunio? OAQ52662
Diolch. Mae byrddau iechyd lleol yn gyrff ymgynghori penodol a nodir yn rheoliadau'r cynlluniau datblygu lleol. Maent yn darparu cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ynglŷn â gofynion tir ar gyfer datblygu eu hystâd eu hunain yn ogystal â'r gallu i ddatblygiadau newydd gael eu gwasanaethu gan gyfleusterau iechyd presennol ac arfaethedig.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu atoch ynglŷn â'r mater hwn, mai ychydig iawn sy'n digwydd, yn ymarferol, o ran ymgynghori â byrddau iechyd. Mae llawer ohonynt yn methu ymroi i hyn yn briodol, ac yn sicr, nid yw'n bwydo i lawr i lefel ymarfer cyffredinol.
Mewn nifer o geisiadau diweddar sy'n ymwneud â datblygiadau cynllunio sylweddol yn fy etholaeth, yr hyn a welsom mewn gwirionedd oedd nad yw'r practisau meddygon teulu eu hunain yn ymwneud â'r broses—nid ydynt yn ymgyngoreion statudol, er bod gallu darparu gwasanaethau iechyd hanfodol yn y cymunedau hynny'n bwysig. Ac mae practisau meddygon teulu wedi dweud wrthym, os bydd rhai datblygiadau yn mynd rhagddynt, na fyddant yn gallu darparu'r lefel o wasanaeth iechyd, a bydd yn cael effaith andwyol. Onid yw'n hen bryd inni newid y broses bellach er mwyn sicrhau, pan fyddwn yn derbyn ceisiadau o'r fath—ac mae llawer ohonynt ar y gweill yn ardal Taf Elái—y ceir proses ymgynghori statudol ac uniongyrchol, gan ymgysylltu â'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hynny, yn enwedig y gwasanaethau iechyd sydd â'r fath wybodaeth hanfodol i'w rhoi, a'u cadw mewn cof wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio?
Wel, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Bethan Sayed fy mod yn ystyried a ddylai byrddau iechyd fod yn ymgyngoreion gorfodol yn y broses o wneud y penderfyniadau. Mewn llawer o achosion, credaf fod capasiti'r cyfleusterau gofal sylfaenol yn ystyriaeth bwysig a pherthnasol iawn wrth i chi gynllunio rhinweddau datblygiad mewn ardal benodol.
Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd lleol gymryd rhan yn y broses o baratoi cynlluniau datblygu lleol gydag awdurdodau cynllunio, o gofio eu cyfrifoldeb, yn amlwg, i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer y boblogaeth leol. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod meddygfeydd, ar sail unigol, yn bwydo i mewn i'r broses honno hefyd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae cwestiwn 1 [OAQ52692] wedi'i dynnu'n ôl, felly cwestiwn 2, David Rees.
2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch dyfodol y gwasanaeth prawf yng Nghymru? OAQ52694
Cyfarfûm â Gweinidogion y DU ym mis Gorffennaf ac rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â phennaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y gwasanaethau prawf a ddarperir i garcharorion Cymru.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yn 2014, penderfynodd Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd breifateiddio'r gwasanaeth prawf gan ei hollti'n ddwy ran: y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r cwmnïau adsefydlu cymunedol, sydd hefyd i’w cael yma yng Nghymru. Nawr, fis Rhagfyr diwethaf, cawsom adroddiad gan brif arolygydd Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi, y Fonesig Glenys Stacey, a fynegodd gryn bryder ynglŷn â methiannau'r broses breifateiddio a'r anhrefn a oedd yn bodoli yn y system. Yr wythnos diwethaf, roedd ganddi adroddiad arall yn mynegi pryderon dwys a difrifol ynghylch diogelwch dioddefwyr cam-drin domestig oherwydd methiant y cwmnïau preifat hynny i ddiogelu'r dioddefwyr rhag y rhai a oedd yn eu cam-drin.
Nawr, mae'n hen bryd lladd y contractau hyn bellach a throsglwyddo’r cyfrifoldeb hwn i Lywodraeth Cymru. A ydych yn cytuno fod angen i Lywodraeth y DU roi camau ar waith—nid yn 2020, ddwy flynedd yn y dyfodol pan fydd y rhain wedi bod yn methu am ddwy flynedd arall, ond yn awr, a'u trosglwyddo i Lywodraeth Cymru fel y gallwch gymryd y camau angenrheidiol ar ran dinasyddion Cymru?
Rwy'n cytuno â'r Aelod dros Bort Talbot, o ran ei ddadansoddiad o fethiannau'r gwasanaeth prawf. Mae'r rhain yn faterion rwyf wedi'u trafod gyda'r gwasanaeth ei hun a chyda Gweinidogion yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n cytuno ag ef mai yma y dylai'r materion hyn fod, yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru. Efallai y byddai'n falch o wybod bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ym mis Gorffennaf y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ddyfodol y gwasanaeth prawf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Byddaf yn arwain dadl yn y lle hwn ar 23 Hydref i wrando ar yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud ynglŷn â sut yr hoffent weld y gwasanaeth yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, ond roeddwn yn falch iawn o weld bod y cynigion y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eu gwneud ar gyfer Cymru yn neilltuol ac yn cydnabod sefyllfa neilltuol Cymru. Credaf mai dyma'r cam cyntaf ar y llwybr at y math o wasanaeth prawf sy'n darparu gwasanaethau cydlynol a chyfannol yng Nghymru ac sy'n cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Mae ideoleg y Torïaid o breifateiddio'r gwasanaeth prawf wedi bod yn drychineb llwyr, os nad yn un ragweladwy. Mae wedi gwangalonni'r staff prawf presennol, ac mae hefyd wedi cynyddu'r perygl a wynebir gan y cyhoedd. Dylai'r Torïaid fod yn llawn edifeirwch a chywilydd am chwalu'r hyn a oedd yn wasanaeth cyhoeddus effeithiol.
Mewn cyfarfod briffio yn gynharach eleni, dywedodd Napo, yr undeb llafur sy'n cynrychioli swyddogion prawf, fod y strwythur presennol wedi dod yn rhy bell i'w wrthdroi mae'n debyg, ond maent wedi argymell rhai mesurau i leddfu effeithiau preifateiddio'r gwasanaeth prawf. Mae hyn yn cynnwys sefydlu corff comisiynu sy'n atebol yn lleol a allai gynnwys Llywodraeth Cymru a'n comisiynwyr heddlu a throseddu. Wrth inni aros i'r gwasanaeth prawf gael ei ddatganoli, a fyddech yn barod i gymryd rhan mewn corff o'r fath, ac a allwch ddweud wrthym a ydych wedi dechrau trafodaethau i ddatblygu trefniant o'r fath eto?
Lywydd, yn fy ateb cynharach, dywedais fy mod wedi bod yn trafod y materion hyn ar lefel weinidogol a swyddogol ers peth amser, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir wrth yr Aelodau yma yn y gorffennol. Rwy'n cydnabod y cynnig a wnaed gan yr Aelod dros y Rhondda, ac rwy'n fwy na pharod i gynnal trafodaethau ynglŷn â hynny. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydym yn ystyried ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, i fod yn un gwasanaeth sy'n atebol i'r cyhoedd. Rydym yn edrych ar y ffordd y caiff y contractau adsefydlu cymunedol eu dirwyn i ben yng Nghymru, a bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu fe un gwasanaeth cyhoeddus cydlynol—a dyna yw sail y sgyrsiau rwy'n eu cael ar hyn o bryd. Ac er mwyn archwilio safbwyntiau'r Aelodau ar y materion hyn ymhellach, rwyf wedi cynnig cael dadl ar y mater yn ddiweddarach y mis hwn.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau setliad ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot? OAQ52690
Cafodd blaenoriaethau cyffredin y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb, gan gynnwys y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, eu hamlinellu ddoe. Byddaf yn cyhoeddi setliad llywodraeth leol dros dro ar 9 Hydref.
Cwpwl o wythnosau nôl, fe wnaethom ni glywed gan brif weithredwr cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dweud y byddai'n rhaid iddyn nhw wneud pobl yn ddiwaith pe na byddai'r arian yn dod ar gyfer codiad cyflog athrawon o Lywodraeth San Steffan yn ganolog. Wrth gwrs, rydw i'n browd i ddweud bod Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru, wedi gofyn am yr arian hynny i ddod o Lywodraeth San Steffan yn y Senedd yno, ac mae e wedi helpu yn fawr iawn i sicrhau bod yr arian yn dod i Gymru. Ac felly, a allaf i ofyn pryd fydd yr arian hynny yn mynd i gyngor Castell-nedd Port Talbot, fel nad oes rhaid iddyn nhw ystyried gwneud pobl yn ddiwaith, ac fel eu bod yn gallu rhoi'r codiad cyflog, sydd yn haeddiannol iawn, i athrawon yn y cyngor sir hynny?
Mi oedd yna ddatganiad ddoe gan y Gweinidog cyllid fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ariannu'r codiad cyflog i athrawon yn llawn, ac mi fydd hynny yn digwydd fel rhan o'r setliad ac fel rhan o'r gyllideb y flwyddyn nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn gwerthfawrogi'r datganiad ddoe a oedd yn n nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cynnydd mewn cyflogau athrawon, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dal i wynebu diffyg enfawr yn eu cyllideb, a byddant yn wynebu'r heriau y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu er mwyn gwneud toriadau nad oes unrhyw un am eu gwneud i'n gwasanaethau cyhoeddus. A wnewch chi felly edrych ar anghenion y cymunedau, gan mai honno yw'r elfen allweddol? Yn aml, mae angen inni fyfyrio ar yr anghenion a'r amddifadedd yn y bwrdeistrefi sirol i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg gan Lywodraeth Cymru fel y gallant ddarparu'r gwasanaethau y maent wedi blino ar orfod eu torri hyd at yr asgwrn bob blwyddyn. Credaf ei bod hi'n bryd inni gefnogi'r cynghorau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaethau i'r bobl leol.
Rwy'n cytuno â hynny, a bydd yr Aelod yn gwybod o'i brofiad ei hun fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi'u diogelu mewn ffordd nad ydynt wedi cael eu diogelu yn Lloegr. Er ein bod yn cael sgyrsiau anodd iawn weithiau yn ein gwahanol gyfarfodydd â llywodraeth leol, wyddoch chi, rwyf eto i glywed arweinwyr llywodraeth leol yn dweud, 'Yr hyn sydd ei angen arnom yw'r polisïau sy'n cael eu darparu dros y ffin yn Lloegr'? Felly, rydym yn gwneud ein gorau i ddiogelu llywodraeth leol, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod hynny'n anodd i arweinwyr awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ac y bydd yn parhau i fod yn anodd am beth amser yn y dyfodol. Rwy'n hyderus fod y fformiwla ariannu bresennol a'r strwythurau cyllido sydd gennym ar waith yn golygu bod Castell-nedd Port Talbot, fel pob awdurdod lleol arall, yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl i'w gael—setliad teg—er nad dyma'r setliad y byddent hwy na minnau wedi dymuno'i gael. Clywsom Brif Weinidog y DU y bore yma yn dweud bod oes cyni wedi dod i ben. Wel, rwy'n edrych ymlaen at weld ei llyfr siec.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Castell-nedd Port Talbot, fel pob un o gynghorau Cymru, yn gorfod lleihau'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol o ganlyniad i ddiffygion enfawr yn eu cyllidebau. Mae'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn un o'r gwasanaethau pwysicaf y mae awdurdod lleol yn eu darparu. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cydweithwyr mewn llywodraeth leol ynglŷn â'r camau y gallant eu cymryd i ddiogelu a gwella'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol fel y gallant osgoi cau gwasanaethau y mae cymaint o bobl yn dibynnu arnynt?
Mae gofal cymdeithasol yn un o'r meysydd hynny yn y setliad rydym wedi ceisio sicrhau gwell diogelwch ar ei gyfer. Dywedodd y Gweinidog cyllid yn glir ddoe y byddwn yn buddsoddi £20 miliwn yn ychwanegol fel rhan o'r setliad ariannu ei hun, £30 miliwn yn ychwanegol drwy gyllid grant ychwanegol, a £30 miliwn arall yn rhan o'r bartneriaeth gofal cymdeithasol ar gyfer iechyd a llywodraeth leol. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael yr arian nad yw'n ei gael dros y ffin. Mae pawb ohonom yn gwybod, dros y ffin—. Rydym wedi gweld toriadau sylweddol i gyllidebau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn ceisio diogelu'r cyllidebau hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Y bore yma, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig ar y cyd â'r Gweinidog Tai ac Adfywio ar y grant ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Fe sonioch chi am gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau sy'n adlewyrchu cymhlethdod bywydau pobl, a'r gydberthynas rhwng eu hanghenion cymorth. Fe gadarnhaoch chi'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid ddoe: y byddai'r grant yn cael ei rannu'n ddwy ran, rhwng elfennau sy'n gysylltiedig â thai ac elfennau nad ydynt yn gysylltiedig â thai, ac yn sefydlu grant plant a chymunedau ar gyfer yr elfennau sy'n rhan o'ch cylch gwaith. Fe ddywedoch chi hefyd y byddwch yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu'r trefniadau newydd, ac fe bwysleisioch chi bwysigrwydd atal ac ymyrryd yn gynnar. A allwch chi gadarnhau felly, neu a wnewch chi gadarnhau, a fydd y cyllid hwnnw'n cael ei glustnodi bellach, fel sy'n wir am grantiau yn gyffredinol, neu a fydd yn mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw? Os na chaiff ei glustnodi, sut y bydd Llywodraeth Cymru'n monitro ac yn gwerthuso'r canlyniadau i ganfod a gyrhaeddodd yr arian hwn lle y bwriadwyd iddo gyrraedd?
Cyn ateb, Lywydd, a gaf fi groesawu llefarydd newydd y Ceidwadwyr i'w le? Rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi croeso mwy brwd iddo nag y gwnaeth rhai o'i gyd-Aelodau y prynhawn yma. [Chwerthin.] Rwy'n teimlo y gallent fod wedi gwneud yn well yn hynny o beth. A gaf fi ddweud fy mod yn edrych ymlaen at lawer o sgyrsiau ac at ymwneud â chi, Mark, dros y cyfnod i ddod?
O ran y grant y cyfeiriwch ato, rydym wedi bod yn ystyried yn fanwl sut y gallwn ddod â'r integreiddio yr hoffem ei weld ynghyd, gan sicrhau bod yr arian hwnnw'n parhau i gyrraedd y bobl sydd ei angen, a bod hynny'n digwydd mewn ffordd gydlynol sy'n galluogi i'w hanghenion gael eu diwallu. Rwy'n gobeithio bod y penderfyniad a gyhoeddwyd gennym heddiw—o ran model dau grant, os mynnwch, yr ymrwymwn i'w gynnal am weddill oes y Cynulliad—yn un a fydd yn diwallu anghenion derbynwyr ond y bydd hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol ac eraill sicrhau'r math o integreiddio sydd ei angen arnynt. Ond i ateb eich cwestiwn yn uniongyrchol, byddwn, fe fyddwn yn sicrhau cyfanrwydd y grantiau hynny.
Wel, rwy'n edrych ymlaen at archwilio'r mater hwnnw ymhellach gyda chi yn y dyfodol er mwyn sefydlu beth y mae 'cyfanrwydd' yn ei olygu yn y cyd-destun hwnnw. Nawr, fe wyddom—a gwn nad yw'n rhan uniongyrchol o'ch briff, ond fe ddof at y rheswm pam ei fod yn berthnasol—fod Rhan 2 o god ymarfer a chanllawiau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi system ar waith lle mae pobl yn bartneriaid llawn yn y broses o lunio a gweithredu gofal a chymorth, gan roi, ac rwy'n dyfynnu,
'hawliau a chyfrifoldebau clir i bobl'
Nawr, yn eich datganiad heddiw—eich datganiad ysgrifenedig—rydych yn cyfeirio at gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau, ac mae pobl yn dod ataf yn rheolaidd yn mynegi pryderon am y ffaith ein bod yn dal i weld ymgynghori oddi fry ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud a chomisiynu wedyn ar fodel comisiynu traddodiadol, sy'n gallu bod yn anfantais i ddarparwyr lleol.
Yn gynharach yr haf hwn, yn Sir y Fflint, dyfarnodd y cyngor ei gontract gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau cymorth anabledd i'r darparwr nad oedd yn lleol a oedd wedi'i gael o'r blaen. Mynychais eu cyfarfod cyffredinol blynyddol, a gofyn i'r bobl a oedd yn bresennol—roedd 90 y cant ohonynt yn anabl—a oeddent wedi bod yn rhan o'r broses o gynllunio a darparu eu gwasanaethau, oherwydd roedd y ddeddfwriaeth yn dweud y dylent fod wedi bod yn rhan ohoni, a dywedodd pob un ohonynt wrthyf nad oeddent wedi cymryd rhan. O ystyried eich cyfrifoldebau mewn perthynas â llywodraeth leol, o ran cynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau, ac o ran y sector gwirfoddol a materion cysylltiedig, sut rydych yn bwriadu helpu awdurdodau lleol i ddeall nad opsiwn yw hwn, ond un o ofynion deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a gafodd ei chefnogi gan bob plaid yma yn y Cynulliad diwethaf, a bod yn rhaid iddynt ddechrau gwneud hyn?
Byddwn yn gwerthuso'r cynlluniau braenaru ac yn edrych ar lawer o'r materion rydych wedi'u codi y prynhawn yma fel rhan o hynny. Cafodd yr adroddiad interim ei gyhoeddi heddiw, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r gwerthuswyr annibynnol i ddeall rhai o'r materion hynny cyn y bydd eu hadroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi, a gobeithio y bydd hynny'n digwydd ddechrau'r haf y flwyddyn nesaf.
Ond diben dod â'r grantiau hyn at ei gilydd, gan greu'r grant cymorth tai a chreu'r grant plant a chymunedau, yw treialu ac ysgogi ffyrdd newydd o weithio—ie, cynnwys pobl yn y gwaith o lunio'r grantiau hyn a llunio'r prosiectau a'r rhaglenni sy'n cefnogi'r bobl hynny, ac integreiddio swyddogaethau gwahanol hefyd, integreiddio gwasanaethau ac integreiddio sefydliadau i gydweithio'n agosach. Dyma'n union y math o raglen ddiwygio rydym eisiau ei gweld mewn llywodraeth leol lle rydym yn gallu buddsoddi mewn pobl, ond lle gallwn gyflawni llawer mwy nag y gallem fod wedi'i wneud pe baem yn gweithio mewn seilos o dan y system flaenorol.
Wel, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu awdurdodau lleol i ddeall yn well sut y dylent gysoni gofynion comisiynu a chaffael â chydgynhyrchu a chydgynllunio gwasanaethau gyda phobl leol, lle mae'r cydgynllunio'n wahanol o bosibl i'r dewis comisiynu.
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â thlodi—unwaith eto, nid yw'n rhan o'ch briff, ond mae llawer o'r asiantaethau a'r gwasanaethau allweddol yn rhan ohono. Yng nghanol mis Gorffennaf, euthum i ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Bangor, 'Ailddechrau’r Drafodaeth ynglŷn â Thlodi Gwledig: Tystiolaeth, Ymarfer a Goblygiadau Polisi'. Roedd yn pwysleisio pwysigrwydd y trydydd sector, yn tynnu sylw at ddiffyg polisi gwledig integredig, y galw am ddull ar sail asedau yn unol â'r Ddeddf llesiant, yr angen i roi gwerth ar arbenigedd a chyrraedd y sector gwirfoddol a'r gymuned ehangach drwy rymuso lleol a dull arweinydd Llywodraeth Cymru, a nodwyd bwlch rhwng polisi ac arferion, pan nad oedd bwriadau da yn cael eu cyflawni.
Yn yr un modd, yr wythnos diwethaf, efallai eich bod wedi gweld bod Sefydliad Bevan wedi dosbarthu adroddiad gan y Comisiwn Metrigau Cymdeithasol, sef comisiwn annibynnol sydd wedi cynnull meddylwyr o bob cwr i'r sbectrwm gwleidyddol i edrych ar ddull newydd o fesur tlodi. Maent yn dweud wrthym y bydd y dull newydd yn darparu amcangyfrifon mwy cywir o bethau fel tai, gofal plant, anabledd, faint o amser y mae teulu wedi bod yn byw mewn tlodi ac ati, fod 24 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi, a bod cyfran uwch o bobl yn byw mewn tlodi yng Nghymru nag unrhyw wlad arall. Ac maent yn dweud eu bod yn croesawu—mae Sefydliad Bevan yn croesawu—lansiad y dull newydd o fesur, a bod y dull newydd yn sicrhau dealltwriaeth lawer mwy realistig a threiddgar o dlodi yng Nghymru. Ond sut rydych yn ymateb i'w datganiad y dylid defnyddio hwn i lywio cam gweithredu cynhwysfawr ac ymarferol gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, busnesau a chyrff eraill, fel y rhai y cyfeirir atynt yn yr adroddiad ar dlodi gwledig a grybwyllais yn gynharach, i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru?
Buaswn yn ymateb drwy gytuno â Sefydliad Bevan yn eu dadansoddiad. Yn amlwg, rydym angen y lefel honno o ddealltwriaeth o effeithiau tlodi ar bobl os ydym am ei drechu mewn ffordd fwy cyfannol. Efallai y gallwn ateb y cwestiwn gydag enghraifft sydd o fewn fy mhortffolio mewn gwirionedd, mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd, lle'r ydym yn edrych ar yr union ystod honno o ddangosyddion i ddeall natur tlodi yn ein cymunedau, ond hefyd yr offer a'r dulliau sydd gennym y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â'r tlodi hwnnw. Gadewch i mi ddweud hyn: mae'n bwysig ein bod yn gallu ymosod ar dlodi wrth ei wraidd. Dyna pam rydym yn ceisio creu gwaith, ond gwaith teg, a sicrhau wedyn nad ymdrin â'r agweddau economaidd yn unig a wnawn, ond yn hytrach ein bod yn edrych ar holl agweddau cymdeithasol, teuluol, cymunedol a diwylliannol tlodi yn ogystal, fel y gallwn fynd i'r afael â thlodi yn y ffordd gyfannol y tybiaf fod Sefydliad Bevan yn ei disgrifio, ac y gobeithiaf fod llefarydd y Ceidwadwyr yn ei disgrifio hefyd.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Un o ganlyniadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 oedd creu'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Fel y gwyddoch, Weinidog, prif ddiben y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw cryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Sut rydych yn asesu pa mor dda y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu, ac a ydym wedi gweld gwelliant o ran cydweithio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus?
Rwy'n gobeithio ein bod yn gweld cydweithio'n digwydd. Mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi cwblhau eu cyfnod cynllunio ac mae ganddynt raglenni y maent bellach am eu darparu. Yn amlwg, bydd gan bob rhaglen ei hamcanion ei hun, ac fe fyddwn ni—ac Aelodau ar draws y Siambr hon, rwy'n gobeithio—yn dwyn ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus ein hunain i gyfrif mewn perthynas â chyflawni'r rhaglenni hynny a'r amcanion hynny.
Diolch. Rwy'n gobeithio hynny hefyd. Cawsom sesiwn graffu ar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ychydig cyn toriad yr haf, felly cawsom gipolwg gan sefydliadau amrywiol ar ba mor dda roedd pethau'n gweithio. Un pwynt a wnaethpwyd gan amryw o dystion oedd bod gennym nifer o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu cadeirio gan rywun o awdurdod lleol. Gall hyn fod yn beth da, oherwydd nid ydym eisiau i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus deimlo'u bod yn cael eu dominyddu gan yr awdurdod lleol. Ar y llaw arall, os nad ydynt yn cael eu harwain gan y cyngor lleol, gallai fod yn broblem os yw'r cyngor yn anfon rhywun cymharol ddibrofiad heb lawer o awdurdod dirprwyedig i gyfarfodydd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Byddai hyn yn amlwg yn rhwystro'r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus rhag gweithredu'n effeithiol. Sut y credwch y gellir datrys y broblem hon?
Rwy'n gobeithio mai'r hyn a welwn yw deinameg wahanol gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Credaf eu bod yn fwy adeiladol na'r byrddau gwasanaethau lleol a oedd yn eu rhagflaenu. Rydym wedi gweld eu cynlluniau llesiant lleol. Rwy'n credu bod amrywiaeth eang yno, sy'n adlewyrchu dyheadau gwahanol byrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rwy'n croesawu'r amrywiaeth honno. Rwy'n croesawu'r ffaith bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau gyda lefel o greadigrwydd a chydweithio cydgysylltiedig a fu ar goll o bosibl mewn elfennau o'r sector cyhoeddus yn y gorffennol. Edrychaf ymlaen at gyfnod o flaen y pwyllgor—rwy'n tybio y bydd hynny'n digwydd yn ddiweddarach y mis hwn—ac edrychaf ymlaen at drafod y materion hyn gyda chi. Rwy'n edrych ymlaen hefyd at ddeall beth oedd tystiolaeth a chasgliadau'r pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at ddarllen adroddiad y pwyllgor.
Diolch. Byddwn yn gweld amrywiaeth o ddulliau gweithio gwahanol, rwy'n siŵr, ac efallai na fyddant yr un fath o un ardal i'r llall. Y gobaith yw y byddant yn gweithio'n effeithiol. Nawr, mae'n bosibl fod y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Ngwent—neu'r hyn a arferai fod yn Gwent—yn fodel da. Dywedwyd wrthym yn y pwyllgor ei bod yn bosibl fod llawer o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Ngwent yn cael eu harwain gan awdurdodau lleol, ond nid ydynt yn teimlo fel pe baent yn cael eu dominyddu gan yr awdurdodau lleol. Rhan arall o'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw'r sefydliadau'r gwirfoddol neu'r trydydd sector, fel rydym yn aml yn eu galw yn awr. Dywedodd rhai o'r tystion yn sesiwn graffu'r pwyllgor fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi teimlo'n eithaf biwrocrataidd hyd yma, ac nad ydynt wedi teimlo'n agos at y trydydd sector. A ydych yn teimlo bod hyn yn wir, a sut y gellir gwella hyn yn y dyfodol?
Nid wyf eisiau defnyddio terminoleg o'r fath i ddisgrifio'r ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio. A gaf fi ddweud hyn? Credaf fod llawer o gymhlethdod yn y ffordd rydym yn llywodraethu a'r prosesau a'r strwythurau sydd gennym. Un o fy uchelgeisiau ac un o fy amcanion yw lleihau ein cymhlethdod yn y Llywodraeth a lleihau faint o lywodraethu, os hoffech chi, sy'n digwydd yng Nghymru. Rwyf eisiau gweld strwythurau symlach sy'n galluogi'r cyhoedd i ddwyn gwleidyddion y mae pawb yn gwybod pwy ydynt i gyfrif am y penderfyniadau a wnânt, ac rwyf eisiau gweld gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo bod yna arweinyddiaeth glir iawn gan yr arweinwyr gwleidyddol yn lleol ac yn y lle hwn. Felly, rwyf eisiau gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn ffordd lawer symlach yng Nghymru. Rwyf eisiau gweld mwy o weithredu a llai o gyfarfodydd, ac rwy'n gobeithio bod yr hyn y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud yn dechrau cyflawni hynny. Ond ar ôl gweld y cynlluniau llesiant yn gynharach yn yr haf, rwy'n teimlo ei bod hi'n iawn ac yn briodol ein bod yn gadael i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus hynny bellach gael rhyddid a chyfle i gyflawni'r amcanion y maent wedi'u gosod iddynt eu hunain.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Weinidog, a allwch chi nodi pa mor hyderus ydych chi, os bydd tân yn dechrau mewn bloc uchel o fflatiau yma yng Nghymru, na fyddwn yn gweld yr un drasiedi ag a welsom yn Llundain?
Ers y drasiedi ofnadwy yn Nhŵr Grenfell, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn, yn gyntaf oll, ar nodi pob un o'n hadeiladau uchel, a gweithio gyda'r rheini i ddarganfod a oedd cladin ACM arnynt. Felly, gallaf gadarnhau bod gan Lywodraeth Cymru berthynas bersonol, mewn gwirionedd, gyda phob un o'r adeiladau uchel hynny sydd gennym yng Nghymru er mwyn ceisio sicrhau bod y preswylwyr sydd ynddynt mor ddiogel â phosibl a'n bod yn gallu cynnig y cyngor gorau posibl. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r gwasanaethau tân ac achub a chyda'r awdurdodau lleol sydd ag adeiladau uchel yn eu hardaloedd er mwyn sicrhau ein bod yn gallu bod mor hyderus â phosibl ynglŷn â diogelwch yr adeiladau hynny a'r bobl sy'n byw ynddynt.
Diolch i chi am yr ateb, ond nid wyf mor dawel fy meddwl â chi a dweud y gwir. Yn ein pwyllgor llywodraeth leol yr wythnos diwethaf clywsom dystiolaeth gan y gwasanaeth tân, a dywedasant fod yna bobl yn cyflawni asesiadau risg tân nad ydynt yn gymwys i wneud hynny, fod pobl yn tynnu drysau tân o fflatiau ac yn gosod rhai nad ydynt yn ddiogel yn eu lle, ac nad oes unrhyw arian ar gael i alluogi'r gwasanaeth tân na'r awdurdodau lleol i fonitro diogelwch. Yn wir, oherwydd diffyg arbenigedd a diffyg adnoddau, a dryswch ynglŷn â chyfrifoldeb yn gyffredinol, dywedodd tri thyst nad oeddent yn siŵr y byddent yn gallu cadw'r adnoddau lle'r oedd eu hangen.
Credaf ei bod yn werth dyfynnu un o'r rhai a ddaeth i roi tystiolaeth, Dave Holland, pennaeth gwasanaethau rheoliadol a rennir rhwng Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu:
Yn 1991, pan gyflwynwyd y rheoliadau, roedd hi'n rhyfedd fod gennym gymuned o swyddogion gorfodi cymwys yn y gwasanaeth safonau masnachu, ynghyd ag adnoddau cymharol dda, ond bod y gyfres o reoliadau'n anodd ei gweithredu. Mae hynny bellach wedi troi wyneb i waered; mae gennym set weddol gadarn o reoliadau, ond nid oes gennym mo'r swyddogion gorfodi cymwys na'r adnoddau mwyach.
Nawr, onid yw'n glir i chi, ac i mi yn sefyll yma, os ydym am dorri adnoddau cynghorau hyd yn oed ymhellach, na fyddant yn gallu mynd i'r safleoedd adeiladu, er eu bod eisiau gwneud hynny? Sut y gallwch fod yn sicr o ddiogelwch preswylwyr os nad yw'r gwiriadau hanfodol yn digwydd?
Mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn y dystiolaeth y mae eich pwyllgor wedi'i dderbyn ar y mater hwn ac edrychaf ymlaen at gyflwyno fy nhystiolaeth fy hun i'r pwyllgor yr wythnos nesaf. Yr hyn a ddywedaf yw bod llawer o'r dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi'i glywed yn ategu'r pryderon a gyflwynodd y Fonesig Hackitt yn ei hadroddiad—felly, pryderon ynghylch capasiti, pryderon ynglŷn â'r wybodaeth a'r arbenigedd sydd ar gael er mwyn gorfodi ac adolygu a gwirio bod y mesurau diogelwch cywir ar waith ac yn y blaen, a phryderon ehangach hyd yn oed y gwn fod y pwyllgor wedi clywed amdanynt o ran sut y gallwn sicrhau mai'r hyn sydd wedi cael ei ddylunio a'i gymeradwyo a adeiladwyd mewn gwirionedd. Gwn fod hynny wedi bod yn amlwg iawn yn y dystiolaeth a gawsoch.
Gofynnodd y Prif Weinidog i mi gadeirio a chreu grŵp arbenigol newydd er mwyn ein cynghori sut i fynd i'r afael â'r pryderon y mae'r Fonesig Hackitt wedi'u cyflwyno yn ei hadolygiad. Felly, sut rydym yn edrych ar y pryderon? A ydynt yn berthnasol i Gymru? Rydym ni o'r farn eu bod. Rydym yn credu bod y materion a nodwyd ganddi yr un mor berthnasol a'r un mor bwysig i Gymru ag y maent i Loegr, lle y cynhaliwyd yr adolygiad. Ond hefyd i archwilio a yw ei hawgrymiadau ynglŷn â'r ffordd ymlaen yn rhai cywir, a'r ffordd gywir ymlaen i Gymru—felly, mae angen inni ystyried datblygu dull system gyfan o weithredu sy'n gydlynol ac yn ategol, gyda llinellau cyfrifoldeb clir, safonau tynn, monitro a gorfodi, ac wrth gwrs, llais go iawn i'r preswylwyr sy'n byw yn yr adeiladau hyn yn ogystal. Felly, rydym yn gweithio i nodi blaenoriaethau, ac edrychaf ymlaen at wneud datganiad llawnach ar waith y grŵp arbenigol ym mis Ionawr, a fydd yn amlinellu rhaglen waith a chyfeiriad teithio yn y dyfodol. Ond nid oes unrhyw orffwys ar ein rhwyfau o gwbl o ran pa mor bwysig yw diogelwch adeiladau a diogelwch preswylwyr i Lywodraeth Cymru. Mae'n flaenoriaeth absoliwt i ni.
Edrychaf ymlaen at glywed gan y grŵp arbenigol hwnnw, oherwydd cefais fy anesmwytho gan y ffaith bod swyddogion y cyngor wedi dweud wrthym nad oeddent wedi bod allan ar safle ers 20 mlynedd, pan oeddent yn arfer mynd allan drwy'r amser. Felly, hoffwn i'r neges rydych yn ei rhoi yma heddiw atseinio drwy bob cyngor lleol yma yng Nghymru.
Mae fy nhrydydd cwestiwn, a'r olaf, yn ymwneud â'r sector preifat. Rwyf wedi gofyn ar sawl achlysur beth sy'n digwydd yn hyn o beth. Gwyddom eich bod wedi rhoi arian i dai cymdeithasol—mae hynny'n wych ac mae hynny'n ddigon teg—ond rydym yn gwybod mai'r lesddeiliaid fydd yn wynebu'r bil, o bosibl, os na fyddant yn cael cymorth gan y Llywodraeth. Mae'n bosibl fod rhai o'r lesddeiliaid hyn ar fudd-daliadau, bydd gan rai ohonynt swyddogaethau a chyfrifoldebau gwahanol mewn bywyd, ac ni fydd gan rai ohonynt arian, yn syml iawn, i dynnu unrhyw gladin neu unrhyw bethau sy'n deillio o'r problemau tai hynny.
Yn y pwyllgor eto, clywsom mewn tystiolaeth o Awstralia eu bod wedi gallu cael benthyciadau a'u bod yn gallu talu'r rheini'n ôl drwy ardoll y cyngor. Mae hynny'n digwydd yn Awstralia ar hyn o bryd. Pa gynlluniau rydych yn edrych arnynt inni allu helpu'r bobl sy'n byw yng Nghymru? Ni allwn anwybyddu'r bobl sy'n byw mewn tai preifat ac sydd angen cymorth lawn cymaint â'r bobl mewn tai cymdeithasol.
Wel, buaswn yn dechrau drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn anghytuno'n sylfaenol â'ch honiad y dylai'r lesddeiliaid dalu am hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn glir, ac mae wedi bod yn glir drwy gydol y broses, mai'r datblygwyr adeiladu ddylai fod yn gyfrifol am y gwaith adfer mewn gwirionedd. A dyna pam y cyfarfûm â holl ddatblygwyr ac asiantau rheoli adeiladau uchel y sector preifat yng Nghymru i ofyn iddynt am eu cynlluniau i adfer problemau cladin ACM, a hefyd i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar ariannu'r gwaith hwn unwaith eto—nad ydym eisiau i'r lesddeiliaid orfod talu'r bil. Felly, rwy'n falch o weld cynnydd mewn perthynas â dau o'r adeiladau, lle mae'r gwaith naill ai wedi'i gwblhau, yn aros am ardystiad neu bron â gorffen a disgwylir y bydd yn cael ei gwblhau fis nesaf.
Deallaf hefyd fod profion pellach wedi cael eu comisiynu ar ACM mewn dau adeilad arall, ac unwaith eto, y rheswm am hyn yw oherwydd bod gennym berthynas dda ac yn gweithredu dull gwaith achos—rydym yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar y cynnydd yno.
Ond rwy'n rhwystredig, fodd bynnag, er bod cynlluniau wedi'u llunio i dynnu'r cladin oddi ar yr adeiladau sy'n weddill, sydd o dan un datblygwr, nid yw'r camau gweithredu i wneud hynny ar waith eto, ac mae hyn oherwydd y cymhlethdodau ariannol a'r cydymwneud rhwng y partïon sydd â diddordeb. Ond unwaith eto, mae'n rhaid rhoi diogelwch yn gyntaf ac rydym wedi bod yn glir iawn â hwy ynglŷn â'r ffaith ein bod yn disgwyl gweld gweithredu'n fuan. Os na weithredir yn fuan, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gysylltu â'r datblygwyr, ond hefyd â'r cyngor perthnasol a'r gwasanaeth tân ac achub mewn perthynas â'r materion hyn, gan fod ganddynt bwerau gorfodi sylweddol pe baent yn bryderus ynglŷn â diogelwch y preswylwyr.
4. Pa gyngor y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi i gynghorau lleol sy’n wynebu torri gwasanaethau? OAQ52691
Rwy’n cydnabod y pwysau sydd ar gyllidebau awdurdodau lleol a’r penderfyniadau anodd y mae'n rhaid i gynghorau eu gwneud. Byddwn ni'n parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol i ymateb gyda’n gilydd i’r heriau sy’n dod yn sgil y gyllideb sydd gyda ni. Mae’n bwysicach nag erioed bod awdurdodau lleol yn cynnwys pobl leol wrth bennu blaenoriaethau lleol ac yn y penderfyniadau hyn.
Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, rŷch chi'n gwybod cystal â fi mai'r realiti yw bod cynghorau yn wynebu'r sefyllfa anodd o fod yn torri gwasanaethau ar un llaw ac yn codi trethi cyngor ar y llaw arall, a chyngor sir Conwy yw'r mwyaf diweddar i fod yn sôn am godiadau posibl o gwmpas 11 y cant, pan, wrth gwrs, ar yr un pryd, nad oes yna ddim gwerth o wasanaethau anstatudol ar ôl i'w torri.
Gyda chynghorau ar eu gliniau a mwy o doriadau ar y gorwel y flwyddyn nesaf, ac o gofio beth sydd wedi digwydd i rai awdurdodau yn Lloegr, er enghraifft Northampton, lle maen nhw wedi methu â pharhau i fod yn ddarparwyr gwasanaethau front line, a gaf i ofyn a oes gan Lywodraeth Cymru broses i ddelio â'r sefyllfa petai sefyllfa debyg yn codi ymhlith un o awdurdodau lleol Cymru? Hynny yw, a fyddech chi'n barod ar gyfer sefyllfa o'r fath?
Rydw i eisiau pwysleisio fy mod i'n cytuno â'i ddadansoddiad bod awdurdodau yn wynebu amser caled iawn, ac un o'r swyddi mwyaf anodd yng ngwleidyddiaeth ar hyn o bryd yw arwain awdurdod lleol—nid oes gennyf amheuon am hynny na dim amheuon chwaith am yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Ond, a gaf i ddweud hyn hefyd: nid yw'r polisïau a arweiniodd at beth ddigwyddodd yn Northampton yn cael eu gweithredu yng Nghrymu. Yng Nghymru, mae gyda ni bolisi, cyfeiriad ac athroniaeth wahanol—athroniaeth sy'n gwerthfawrogi awdurdodau lleol, yn gwerthfawrogi penderfyniadau lleol, yn gwerthfawrogi y syniad o wneud penderfyniadau yn lleol ac yn gwerthfawrogi'r gwasanaethau cyhoeddus eu hunain.
Ond, i ateb eich cwestiwn, o ran y llyfr statud, oes, mae gyda ni'r pwerau fyddai eu hangen arnom petai yna gyngor yn cwympo. Mae gyda ni'r pwerau felly, ond nid wyf i'n siŵr bod gyda ni bob un o'r pwerau fyddai eu hangen arnom ni pe na bai hynny'n digwydd. Mae'n rhywbeth rwyf i wedi ei drafod yn ystod—. Mae gyda ni'r gweithgor sy'n edrych ar ddiwygio llywodraeth leol, sydd wedi cyfarfod yn ystod yr wythnos diwethaf, a dyna un o'r pynciau rŷm ni wedi eu trafod—beth fyddai'n digwydd pe bai cyngor yn wynebu her y mae'n methu ei datrys ac angen help. A ydy pob un o'r pwerau sydd yn angenrheidiol gyda ni? Nid wyf i'n siŵr am hynny. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei wynebu yn ystod y drafodaeth ar y Bil nesaf, a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Chwefror.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych newydd gydnabod yr heriau anodd sy'n wynebu awdurdodau lleol ledled Cymru, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond mae awdurdodau lleol gwledig yn dioddef toriadau dwfn iawn i'w grant cynnal refeniw flwyddyn ar ôl blwyddyn. Er enghraifft, Cyngor Sir Powys, gydag un cyngor arall, sydd wedi dioddef y toriad dyfnaf am y 10 mlynedd diwethaf. Fe fyddwch yn deall yr heriau y mae awdurdodau lleol gwledig yn eu hwynebu mewn perthynas â darparu gwasanaethau ar draws ardal ddaearyddol fawr a'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, pa newyddion cadarnhaol allwch chi ei roi i awdurdodau lleol gwledig o ran y grant cynnal refeniw?
Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau ar y grant cynnal refeniw yr wythnos nesaf. Deallaf y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud, ac yn sicr rwy'n deall y pwysau sy'n wynebu nifer o awdurdodau gwledig ar draws y wlad gyfan mewn perthynas â pharhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol ar draws ardaloedd sydd â phoblogaethau gwasgaredig iawn weithiau. Ond dywedaf hyn wrtho: roeddwn innau hefyd yn eistedd mewn dwy swyddfa cyngor yn y Cymoedd yr wythnos diwethaf, lle y dywedwyd wrthyf yn blwmp ac yn blaen, gyda pheth iaith liwgar iawn, mai awdurdodau lleol y Cymoedd sydd wedi dioddef y toriadau gwaethaf a'r rheswm dros hynny.
Wrth siarad â phobl ledled y wlad, rwy'n cael yr argraff fod yna ymdeimlad o, 'Mae'r toriadau yn llymach yma nag ydynt yn y fan acw.' Yr hyn rwyf am ei ddweud wrth bobl, ni waeth ble maent yn digwydd byw, boed mewn ardal drefol neu ardal wledig, yn y gogledd, y de, y dwyrain neu'r gorllewin, yw bod gennym ffordd, ac rwyf o'r farn ei bod yn ffordd deg, o ddarparu cyllid i awdurdodau lleol. Rydym wedi cyfarfod ag awdurdodau lleol mewn dwy sesiwn dros y pythefnos diwethaf, yn yr hyn a alwn yn is-grŵp dosbarthu ac is-grŵp cyllid—cynhelir llawer o'r cyfarfodydd hyn drwy gydol y flwyddyn—ac nid wyf wedi clywed unrhyw gais i newid y fformiwla'n sylfaenol a newid y dull ariannu.
Siaradodd yr Ysgrifennydd cyllid yng nghyfarfod cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf ac nid wyf yn credu bod unrhyw gais wedi cael ei wneud yno i newid y ffordd rydym yn ariannu awdurdodau lleol. Lywydd, rydym wedi cael y ddadl hon ar sawl achlysur yn y Siambr. Rwy'n dweud wrth grŵp y Ceidwadwyr nad yw eu cynghorwyr eisiau polisïau Ceidwadol yng Nghymru; maent yn falch iawn o gael Llywodraeth Lafur sy'n darparu cymorth a chyllid i awdurdodau lleol mewn modd na all cynghorau Ceidwadol yn Lloegr ond breuddwydio amdano. Felly, pan fyddaf yn cyfarfod â chynghorau Ceidwadol, maent yn dweud wrthyf mai'r hyn y maent ei angen yw Llywodraeth Lafur.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i atal tanau trydanol? OAQ52682
Cyhoeddais waith ymchwil manwl ar danau trydanol domestig ym mis Gorffennaf. Mae ein hawdurdodau tân ac achub yn gweithio gyda ni a chydag Electrical Safety First i ddeall beth sy'n eu hachosi ac i'w helpu i'w hatal.
Roeddwn yn falch iawn o weld adroddiad diweddar sy'n dangos bod tanau yng Nghymru bellach ar y lefel isaf erioed. Mae'r ymchwil yn dangos eu bod wedi bod yn gostwng yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r gwasanaethau tân ac achub wedi gwneud gwaith gwych drwy addysg ac ymgysylltiad cymunedol, ac mae hynny wedi chwarae rhan fawr yn y gostyngiad. Ond mae'r adroddiad sy'n nodi bod tanau trydanol domestig wedi mynd yn groes i'r duedd honno, ac wedi cynyddu mewn gwirionedd, yn peri pryder i mi. Mae hynny'n bennaf yn cynnwys tanau sy'n tarddu o'r cyflenwad trydan mewn cartrefi, megis gwifrau, byrddau ffiws a socedi. Ysgrifennydd y Cabinet, yn sgil y canfyddiad hwnnw, rwy'n awyddus i wybod pa rwymedigaethau sydd ar landlordiaid preifat i sicrhau bod eu heiddo mor ddiogel â phosibl rhag tanau trydanol domestig?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r darpariaethau a wnaed o dan y ddeddfwriaeth rhentu cartrefi diweddar, a'n bwriad ni yw sicrhau bod y darpariaethau hynny'n cael eu gorfodi. Os oes gan yr Aelod unrhyw dystiolaeth i ddangos nad ydynt yn cael eu gorfodi, buaswn yn hapus iawn i fynd i'r afael â hynny gyda hi. Fe ddywedaf hyn: rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn tanau yn y sector domestig yng Nghymru ers amser maith, ac maent bellach ar y lefel isaf erioed. Mae cynnal y duedd yn galw am ddealltwriaeth lawn o risgiau newidiol tân. Lywydd, bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wneud gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn cyn toriad yr haf, ym mis Gorffennaf. Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau tân ac achub i sicrhau ein bod yn deall pam fod tanau'n cael eu hachosi a pham fod cynnydd wedi bod mewn tanau trydanol, a hefyd i sicrhau ein bod yn gallu gwneud y gwaith gorfodi angenrheidiol er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.
Mae Joyce Watson wedi rhoi sylw i'r rhan fwyaf o elfennau'r cwestiwn hwn yn ei chwestiwn atodol. Rwyf finnau hefyd wedi darllen yr un adroddiad ac chredaf ei fod yn ddiddorol os edrychwch ar yr hyn nad yw'n achosi'r cynnydd hwn mewn tanau domestig lawn cymaint â'r hyn sy'n ei achosi—mae e-sigaréts wedi cael eu diystyru, mae poblogaeth sy'n heneiddio wedi cael ei ddiystyru, ac ysmygu hefyd. Felly, mae'n gynnydd penodol iawn, o sylfaen isel, rhaid cyfaddef, mewn un math penodol o dân yng Nghymru yn gyffredinol. Mae'n rhaid i hyn fod yn fater o godi ymwybyddiaeth ac mae'n rhaid iddo fod yn fater o addysg. Ni ellir gadael hyn i ddiffoddwyr tân, sy'n aml yn gorfod dod i'r adwy a diffodd y tân yn y pen draw. Tybed a allech chi ddweud rhywfaint mwy wrthym, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â sut rydych yn bwriadu codi ymwybyddiaeth a sut rydych yn bwriadu addysgu'r boblogaeth, gan weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o bosibl, ac o oedran cynharach efallai er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn yn ymwybodol o beryglon hen osodiadau trydanol, peryglon hen gyfarpar, a'r angen i wneud yn siŵr fod cartrefi'n cael eu monitro er mwyn sicrhau ein bod yn dileu holl achosion posibl tanau domestig.
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ers peth amser, rydym wedi ariannu tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru i ddarparu archwiliadau diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim i ddeiliaid tai. Bydd y gwiriadau hyn yn cwmpasu pob agwedd ar ddiogelwch tân, yn ogystal â pheryglon eraill fel codymau, a deallaf fod oddeutu 60,000 o wiriadau o'r fath yn cael eu cynnal bob blwyddyn, ac maent yn canolbwyntio ar y risg mwyaf o dân yn y cartref. Ond credaf fod y pwynt ehangach gan yr Aelod dros Sir Fynwy wedi'i wneud yn dda. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o danau domestig, ac mae hynny'n golygu bod angen inni sicrhau yn awr y gallwn barhau i hysbysu'r boblogaeth am ffyrdd y gallant leihau eu risg ymhellach. Credaf fod rôl y diffoddwyr tân a'r awdurdodau tân yn hynny o beth yn parhau i fod yn ganolog i hynny, ac rydym yn cynnal sgyrsiau â'r diffoddwyr tân a'r awdurdodau tân ynglŷn â sut y gallwn wneud hynny, gan gynnwys edrych ar rôl newidiol y diffoddwyr tân ar gyfer y dyfodol.
6. Beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet o berfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52668
Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud cynnydd cadarnhaol ar gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Gan fod yr holl gynlluniau llesiant lleol wedi cael eu cyhoeddi bellach, mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio'n drwyadl ar y gwaith o'u darparu.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n sylweddoli ein bod eisoes wedi crybwyll y materion hyn yn y Siambr heddiw. Credaf ei bod yn amlwg fod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl hanfodol i'w chwarae yn gweithio gyda chymunedau i wella eu cynlluniau a'u strategaethau llesiant, ac yna i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu'n briodol, gan weithio yn y ffordd drawsbynciol honno ar draws y cyrff sector cyhoeddus. Ac wrth gwrs, mae gennym waith pwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol ac yn wir, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, yn sicrhau eu bod yn effeithiol yn y ffordd honno. Rwy'n meddwl tybed beth y byddech yn ei ddweud am rôl Llywodraeth Cymru yn llunio trosolwg o effeithiolrwydd gwaith y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac a oes angen yr haen ychwanegol honno o waith craffu a chymorth, os oes ei angen, i wneud yn siŵr fod y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon ledled Cymru.
Fel Llywodraeth, rydym yn darparu pecyn cymorth cenedlaethol yn ogystal â rhaglen o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer cyllid rhanbarthol, a sesiynau galw heibio rheolaidd i alluogi byrddau gwasanaethau cyhoeddus i brofi'r syniadau sy'n datblygu ganddynt. Rydym hefyd yn gweithio gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i sicrhau bod y dull o weithredu byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gyson ledled y wlad. Rydym yn gweld rhai enghreifftiau cynnar cadarnhaol iawn o hyn. Mae'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd a minnau yn ymwybodol fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus Gwent yn bwrw ymlaen â'u rhaglen Lleoedd Ffyniannus, ac edrychaf ymlaen at weld honno'n llwyddo. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae cynllun peilot y prosiectau cymunedol i blant yng Ngorllewin Sandfields wedi creu ffocws real iawn yn y gymuned honno. Bydd gan y Llywydd ddiddordeb arbennig yn y gwaith sy'n digwydd yng Ngheredigion ar newid hinsawdd, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith hwnnw.
Ond credaf fod yr Aelod yn nodi mater pwysig, sef craffu a sicrhau ei fod yn digwydd ar waith y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'i fod yn cael ei wneud mewn modd priodol. Rwy'n gobeithio y bydd ei bwyllgor, wrth adrodd ar y materion hyn, yn myfyrio arnynt, ac yn sicr rwy'n edrych ymlaen at ddarllen adroddiad y pwyllgor ar hyn, ac rwy'n ymrwymo i fwrw ymlaen ag ystyriaethau'r pwyllgor mewn ffordd gadarnhaol.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o amcanion bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Caerffili yw gwella iechyd pawb sy'n byw yn yr ardal a'i gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effeithiau hirdymor eu penderfyniadau i atal problemau parhaus megis anghydraddoldebau iechyd. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus Caerffili ar sut i ymateb i gynlluniau'r cyngor i gau mwy na hanner y canolfannau hamdden yn y fwrdeistref, gyda'r effaith o amddifadu pobl o fynediad cyfleus at gyfleusterau hamdden ar adeg pan fo lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghaerffili yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Ers tro, fy null o weithredu yn y rôl hon yw peidio â gwneud sylwadau ar benderfyniadau unigol awdurdodau unigol; nid wyf yn credu bod honno'n ffordd gywir na phriodol i Weinidog ymateb, na rhoi sylwadau ar benderfyniadau awdurdodau lleol wrth symud ymlaen. Ond rwyf am ddweud hyn—rwyf am ddweud bod gwella canlyniadau iechyd yn rôl gwbl hanfodol i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, a bydd y ffordd y maent yn gwneud hynny'n adlewyrchu blaenoriaethau'r ardal benodol honno.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OAQ52675
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynhyrchu ymchwil ar atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd eu hadroddiad, a fydd yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, yn helpu i lywio polisïau’r dyfodol a phenderfyniadau cyllidol, gan gynnwys y dyraniad o £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae lansiad y grŵp gweinidogol newydd ym mis Mehefin, gyda'r diben o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc a goruchwylio prosiectau tai yn gyntaf, yn gam ymlaen sydd i'w groesawu'n fawr, ac mae'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a bydd gweithio cydweithredol hefyd yn helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Ar ddechrau'r flwyddyn, rwy'n cofio i chi ddweud eich bod wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer nifer o'r prosiectau hynny mewn gwahanol awdurdodau lleol ac y byddai'r rheini'n cael eu defnyddio ar gyfer y model tai yn gyntaf hwnnw. Gwn ei bod yn gynnar o hyd, ond rwy'n awyddus i wybod a ydych wedi cael unrhyw adborth o'r prosiectau eto ac os ydych, sut y bwriadwch ddatblygu'r rheini a'u cyflwyno'n ehangach ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn. Rydym wedi bod yn cael adborth rheolaidd o'r prosiectau peilot cychwynnol hynny, ac rydym yn defnyddio'r hyn rydym yn ei ddysgu oddi wrthynt yn awr i ariannu cyfres bellach o'r hyn rydym yn eu galw'n brosiectau arloesi tai yn gyntaf, ac roeddwn yn gallu cyhoeddi'r cyntaf o'r rheini yn gynharach yr wythnos hon.
Rwy'n ymwybodol, mewn gwirionedd, o rai o'r trafodaethau sy'n digwydd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn enwedig gydag un awdurdod lleol a'u partneriaid, i archwilio sut y gallent gyflwyno model tai yn gyntaf sy'n gweithio. Rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn ac yn amlwg, rwy'n cynnig unrhyw gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu yn y trafodaethau hynny, ac yn annog eraill yn y rhanbarth i gyflwyno eu cynlluniau yn ogystal. Mae'n bwysig, fel y dywedwch, fod tai yn gyntaf yn mabwysiadu dull cydweithredol, a dyna pam fod y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o Lywodraeth Cymru, ond hefyd y sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc a phobl agored i niwed; mae'r gwasanaeth cyfiawnder yn rhan o hyn ac yn y blaen. Felly, byddwn yn parhau i ddysgu yr hyn a allwn o'r prosiectau peilot ac yn parhau i gael trafodaethau gyda'r arbenigwyr yn y grŵp i weld sut y gallwn fwrw ymlaen â phethau. Buaswn yn annog yr awdurdodau lleol nad ydynt wedi cyflwyno tai yn gyntaf eto, neu nad ydynt wedi cael cyfle i gyflwyno tai yn gyntaf yn eu hardal, i edrych ar egwyddorion tai yn gyntaf, oherwydd mae'n bwysig, mewn gwirionedd, ein bod yn glynu wrth yr egwyddorion hynny.
Cefais y fraint fawr o gyfarfod â Dr Sam Tsemberis yr wythnos diwethaf. Ef yw'r un a ddyfeisiodd tai yn gyntaf yn ninas Efrog Newydd mewn gwirionedd. Roedd yn dda cael trafodaeth gydag ef ynglŷn â'r modd y mae tai yn gyntaf fel model ac fel dull o gefnogi pobl gymhleth ag anghenion cymhleth yr un mor berthnasol yn ninas Efrog Newydd ag ydyw i rannau mwyaf gwledig Cymru, ac roedd yn dweud mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei gofio yw mai tai yn gyntaf ydyw, ond nid tai yn unig. Ac felly, mae'n bwysig, pan fydd awdurdodau lleol a'u partneriaid yn cyflwyno'r model tai yn gyntaf, eu bod yn cadw at egwyddorion tai yn gyntaf a hefyd yn gweithio yn y ffordd gydweithredol rydych wedi'i disgrifio i sicrhau bod y cymorth ar gael i bobl ar y pwynt pan fyddant yn barod i'w gael.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Helen Mary Jones.
8. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion i ddyrannu arian i gynghorau? OAQ52674
Mae llywodraeth leol a ninnau yn parhau i weithio mewn partneriaeth i archwilio ffyrdd o wella'r fformiwla ariannu gyfredol sy'n seiliedig ar anghenion, er mwyn gwella'r modd yr eir ati i adlewyrchu angen cymharol awdurdodau i wario.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers dychwelyd i'r lle hwn, rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan awdurdodau lleol yn fy ardal fy hun, yn fy rhanbarth fy hun ac ym Mhowys yn arbennig, sy'n dadlau—ac rwy'n siŵr na fydd hwn yn bwynt newydd i chi—fod y fformiwla gyfredol yn creu anawsterau i bobl mewn ardaloedd gwledig. Er enghraifft, os ydych yn deulu ar gyflogau isel sy'n byw yng nghefn gwlad Powys, rydych angen dau gar er mwyn gallu cael mynediad at gyflogaeth o gwbl. A wnewch chi barhau i gadw'r fformiwla o dan adolygiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a wnewch chi roi ystyriaeth, yn enwedig o ystyried pryderon pobl am effaith bosibl Brexit ar y Gymru wledig a'r economi wledig—a wnewch chi edrych eto ar rai o'r ffactorau a allai fod yn arwyddion o gyfoeth mewn cymunedau mwy trefol, ond sydd ond yn arwyddion o oroesiad mewn cymunedau gwledig?
Bydd y Llywydd yn ymwybodol mai un o fy ngweithredoedd cyntaf fel Aelod yma yn ôl yn 2007 oedd cynnal adolygiad o dlodi ac amddifadedd gwledig mewn cymunedau gwledig ac rwy'n cofio'r ymchwiliad hwnnw hyd heddiw. Rydym yn deall y gall tlodi yng nghefn gwlad Cymru fod yn wahanol iawn i dlodi mewn cymunedau trefol. Rydym yn deall hynny'n dda iawn. Mae'r fformiwla'n ceisio adolygu'r materion hynny ac mae'n ceisio sicrhau bod pob awdurdod yn cael cyllid teg sy'n diwallu'r anghenion sydd ganddynt. Rydym yn cydnabod nad yw'r swm sydd ar gael i ni eleni a'r flwyddyn nesaf yr hyn y byddem yn dymuno iddo fod, ac nid y fformiwla sy'n gyfrifol am hynny ond yn hytrach y polisïau cyni aflwyddiannus a ddilynir gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig. Dywedodd Prif Weinidog y DU y bore yma fod cyni wedi dod i ben. Rwy'n ofni y bydd Brexit yn golygu y bydd cyni'n dyfnhau ac yn ehangu ac yn cynyddu, yn enwedig yn y Gymru wledig, ac na fydd yn dod i ben yn y ffordd y mae'r Prif Weinidog braidd yn naïf yn ei gredu.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol, ond ni chafwyd unrhyw gwestiynau amserol wedi'u gosod.
Ac felly'r datganiadau 90 eiliad. Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae mis Hydref yn Fis Ymwybyddiaeth Parlys yr Ymennydd, a bydd yn ddiwrnod ymwybyddiaeth ddydd Sadwrn nesaf. Parlys yr ymennydd yw'r anabledd plentyndod mwyaf cyffredin yn y byd, ac mae'n effeithio ar un o bob 400 o blant ledled y DU. Bydd tua 70 o fabanod a enir yng Nghymru eleni yn dioddef o barlys yr ymennydd. Mae'n effeithio ar osgo a symudiad o ganlyniad i niwed i'r ymennydd. Gall hefyd effeithio ar synhwyriad, canfyddiad, gwybyddiaeth, cyfathrebu, a bwyta ac yfed. Mae'n gwneud gweithgareddau megis cerdded, siarad, gwisgo a sgiliau echddygol manwl y mae'r rhan fwyaf ohonom eu cymryd yn ganiataol, yn anodd.
Wel, mae canolfan therapi plant Bobath Cymru, canolfan arbenigol ar gyfer Cymru gyfan sy'n darparu therapi ar gyfer plant sydd â pharlys yr ymennydd, yn datblygu cofrestr parlys yr ymennydd. Byddent yn hoffi i Gymru gael y manteision y mae gwledydd eraill sydd â chofrestri'n eu gweld, megis gwybod beth yw maint a dosbarthiad y boblogaeth o unigolion sydd â pharlys yr ymennydd yng Nghymru; gallu mapio gwasanaethau yn erbyn poblogaethau; gallu cynllunio gofal a gwasanaethau ar gyfer poblogaeth hysbys; gallu cynnwys gwyliadwriaeth cluniau yn y gofrestr a lleihau nifer yr achosion o ddatgymaliad cluniau a'r angen am lawdriniaeth; gallu cynnwys data Cymru ac ymchwil poblogaeth ar barlys yr ymennydd ac ymyriadau; a chryfhau llais pobl sydd â pharlys yr ymennydd.
Felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd ac i ymgysylltu â'r gymuned o bobl sydd â pharlys yr ymennydd a Bobath i helpu llawer o blant, rhieni, gofalwyr a theuluoedd yng Nghymru ar y sail hon. Diolch.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol yr Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio. Rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol—Julie James.
Cynnig NDM6822 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).
Cynnig NDM6823 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Cynigiwyd y cynigion.
Cynigiwyd y cynnig.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Julie James.
Cynnig NDM6817 Elin Jones
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gweithredu Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2018.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 21 a 27, a chyflwyno Rheolau Sefydlog newydd 30B a 30C, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon am y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog sy'n codi o ganlyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Ym mis Gorffennaf, adroddodd fy mhwyllgor ar faterion gweithredol yn ymwneud â chraffu ar reoliadau a fydd yn codi o ganlyniad i Ddeddf 2018. Gwnaethom 12 o argymhellion, ac roedd naw ohonynt yn effeithio ar y Rheolau Sefydlog.
Roedd ein hadroddiad yn canolbwyntio ar dri maes yn y Ddeddf sy'n galluogi Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU i wneud rheoliadau. Yn gyntaf, gwnaethom edrych ar bwerau Gweinidogion Cymru i ymdrin â diffygion yng nghyfraith y DU yn deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y mecanwaith sy'n galluogi pwyllgor i ddidoli rheoliadau penodol i weld a ddylent fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn hytrach na'r weithdrefn negyddol.
Yn ail, edrychasom ar bwerau Gweinidogion y DU i weithredu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli a sut y dylid craffu arnynt. Ac yn olaf ond nid yn lleiaf, buom yn ystyried sut y dylem graffu ar reoliadau a wnaed gan Weinidogion y DU i gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, o ystyried y cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Yn gyffredinol, rydym yn fodlon gyda'r newidiadau a wneir i'r Rheolau Sefydlog ac yn croesawu'r ffaith y bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cymryd cyfrifoldeb dros ddidoli rheoliadau sy'n deillio o Ddeddf 2018. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw'r Cynulliad at ddwy agwedd ar y newidiadau sy'n cael eu gwneud.
O ran ein hail argymhelliad, sef y dylid cyhoeddi'r meini prawf ar gyfer didoli rheoliadau, rydym wedi ysgrifennu at y Llywodraeth ers hynny yn derbyn eu cynnig, i bob pwrpas, y dylid eu cynnwys yn y Rheolau Sefydlog. Mae hyn yn adlewyrchu argymhelliad cynharach mewn adroddiad a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror am y ddeddfwriaeth wrth iddi gael ei chraffu yn Senedd y DU.
Rydym yn siomedig o hyd, fodd bynnag, na chafodd ein trydydd argymhelliad ei adlewyrchu yng nghynigion newydd y Rheolau Sefydlog. Roedd ein hargymhelliad yn ymwneud â'r mecanweithiau didoli a'r amgylchiadau lle nad yw Llywodraeth Cymru'n cytuno ag argymhelliad y pwyllgor y dylid cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol wrth wneud rheoliadau, yn hytrach na'r weithdrefn negyddol. Nod ein hargymhelliad oedd ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru wneud datganiad yn egluro pam nad ydynt yn cytuno ag argymhelliad pwyllgor cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud—hynny yw, cyn iddynt gael eu rhoi ar waith yn gyfreithiol. I'r perwyl hwnnw, ceisiodd adlewyrchu darpariaethau yn Neddf 2018 sy'n berthnasol i Weinidogion y DU. Nid oedd darpariaethau'r Ddeddf yn berthnasol i Weinidogion Cymru gan nad oedd digon o amser seneddol i Lywodraeth y DU geisio cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r newidiadau.
Ar ôl derbyn ein hargymhelliad, awgrymodd Llywodraeth Cymru ddull o weithredu i'r Pwyllgor Busnes, sef gwneud datganiad fel rhan o'r memorandwm esboniadol. Ar gyfer rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, gosodir y memorandwm esboniadol ar ôl gwneud rheoliadau. Mae adroddiad y Pwyllgor Busnes ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn nodi bod manteision ein hargymhelliad wedi eu gorbwyso gan fanteision ymarferol cynnig amgen Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi'i nodi yn Rheol Sefydlog 27.9B.
Efallai fod amseriad gosod datganiad i'w weld yn ddibwys, ond mae'r broses seneddol a'r ymddiriedaeth yn y broses honno yn rhan hanfodol o'n democratiaeth. Mae pwynt amlwg a phwysig o egwyddor yma, a dyna pam ei bod yn bwysig i'r mater hwn gael ei gofnodi. Pe bai'r pwyllgor yn argymell newid rheoliadau o'r weithdrefn negyddol i'r weithdrefn gadarnhaol, o dan y Rheol Sefydlog arfaethedig ni fydd Aelodau'r Cynulliad ond yn cael gwybod am benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr argymhelliad ar ôl i'r rheoliadau gael eu gwneud, ac felly ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith yn gyfreithiol. Felly, gallai hyn ddirymu diben y dull didoli. Cafodd y mecanwaith hwnnw ei gynnwys yn Neddf 2018 fel ffordd o atal trosglwyddo pŵer gormodol o'r ddeddfwrfa i'r Weithrediaeth. Yn ein barn ni, ni ddylai manteision ymarferol proses fod ar draul priodoldeb cyfansoddiadol ac arferion da, felly rydym wedi gofyn am eglurhad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru pam yr awgrymodd ei dull amgen, ac edrychwn ymlaen at gael ymateb ysgrifenedig maes o law. Byddwn hefyd yn cadw llygad agos ar ansawdd y datganiadau a wneir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pham eu bod yn anghytuno ag argymhelliad gan y pwyllgor, os yw'r sefyllfa honno'n codi. Nodwn y gallai datganiadau gwael gynyddu'r tebygolrwydd y bydd Aelodau'r Cynulliad yn cyflwyno cynigion i ddirymu rheoliadau penderfyniadau negyddol. Felly, yn y cyfamser, rydym yn bwriadu cadw golwg ar effaith Rheol Sefydlog 27.9B, ac fe allem awgrymu newidiadau yn y dyfodol os ydym yn ystyried bod hynny'n briodol.
Gan droi at ddau fater arall yn gyflym, rwy'n ddiolchgar iawn i arweinydd y tŷ am ein cynghori, yn unol ag argymhelliad 4 ein hadroddiad, y bydd angen oddeutu 50 o reoliadau i unioni diffygion yng nghyfraith ddomestig yr UE, ac edrychwn ymlaen at dderbyn diweddariad ar nifer y rheoliadau y bydd eu hangen i unioni diffygion mewn offerynnau UE sy'n uniongyrchol berthnasol. Bydd cynllunio ein rhaglen waith i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y rheoliadau o ganlyniad i Brexit yn hanfodol, a dyna'r rheswm pam fod argymhelliad 6 yn ein hadroddiad wedi awgrymu ein bod yn llunio cytundeb gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli'r craffu ar reoliadau sy'n gysylltiedig â Brexit. Felly, mae'n braf fod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar delerau protocol er mwyn i waith craffu ar reoliadau cywiro fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ am y trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol iawn a gawsom, ac rydym wedi gallu cyflawni'r hyn y credaf ei fod yn brotocol pwysig sy'n torri tir newydd ar gyfer y Cynulliad hwn. Felly, ar ran y pwyllgor, edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth ar y ddeddfwriaeth gyfansoddiadol bwysig hon a'r heriau y byddwn yn eu hwynebu maes o law o ganlyniad i Brexit.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch. Arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddweud yn syml, wrth gwrs, ein bod yn gobeithio bod—. Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio'n agos iawn gyda'r pwyllgor; yn wir, cawsom gyfarfod adeiladol iawn am nifer o'r materion hyn. O ran yr un maes sy'n parhau i fod ychydig yn ddadleuol rhyngom, rydym yn hapus iawn i ddarparu esboniad ynglŷn â'n rhesymau i'r Cynulliad wrth gwrs, pe baem yn penderfynu peidio â dilyn y weithdrefn a argymhellwyd gan y pwyllgor didoli. Wrth gwrs, rydym yn gobeithio na fydd hyn yn digwydd. Bydd nifer o gyfleoedd yn ystod y drafodaeth ar yr offeryn statudol lle gellid rhoi system rhybudd cynnar ar waith, ac rwy'n hapus iawn i ddweud wrth yr Aelod, a holl Aelodau'r Senedd, y byddwn yn cadw llygad agos ar hyn, ac os bydd yn peri unrhyw fath o broblem, byddwn yn gweithio gyda'r pwyllgor, wrth gwrs, i adolygu'r Rheolau Sefydlog. Ond darpariaeth llanw bwlch ydyw yn bendant iawn. Rydym yn gobeithio na fydd yn digwydd. Credwn y bydd cynnwys y wybodaeth o fewn y memorandwm esboniadol wrth osod yr offeryn statudol o gymorth i'r Aelodau. Bydd yr holl wybodaeth ar gael iddynt mewn un man fel y gallant benderfynu ar yr ymateb. Bydd ganddynt 40 diwrnod di-dor i gyflwyno a gosod cynnig dirymu, a beth bynnag, bydd y system rhybudd cynnar yn rhestru offerynnau statudol penderfyniad negyddol sydd ar y ffordd, felly bydd y pwyllgor yn gallu nodi'r rheini lle nad yw argymhelliad didoli wedi cael ei ddilyn, pe bai rhywbeth o'r fath yn digwydd—ac rydym yn gobeithio'n fawr iawn na fydd yn digwydd. Felly, ar y sail honno, Ddirprwy Lywydd, cymeradwyaf y cynnig i'r tŷ.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: 'Deiseb P-04-682: Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig. David Rowlands.
Cynnig NDM6814 David J. Rowlands
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Ddeisebau ar Deiseb P-04-682, 'Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl bwysig hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Mae amgylchiadau'r ddeiseb a drafodwn heddiw wedi bod yn hynod o emosiynol i holl aelodau'r pwyllgor. Cyflwynwyd y ddeiseb gan deulu Peter Baldwin. Yn drasig iawn, bu farw Peter, a oedd yn 13 oed ac o Gaerdydd, ym mis Ionawr 2015 o effeithiau diabetes math 1 na wnaed diagnosis ohono.
Cyflwr awto-imiwn yw diabetes math 1 lle nad yw'r pancreas yn cynhyrchu inswlin. Mae'r corff angen inswlin er mwyn troi glwcos o fwyd yn egni a hebddo, mae'r glwcos yn aros yn llif y gwaed gan arwain at lefelau siwgr uchel yn y gwaed. Er bod diabetes math 1 yn gallu digwydd ar unrhyw oedran, yn fwyaf arferol gwneir diagnosis ohono mewn plant o dan 15 oed. Mae diabetes ar oddeutu 1,400 o blant yng Nghymru, ac mae'r mwyafrif helaeth ohonynt—tua 96 y cant—yn achosion o ddiabetes math 1.
Bydd rhai ohonom yn y Siambr hon heddiw yn gwybod y gall diabetes math 1 ddatblygu'n eithriadol o gyflym, a gall hynny fod yn eithriadol o beryglus. Yn anffodus, nid oes digon o ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ac nid oes proffil cyhoeddus digon uchel i symptomau mwyaf cyffredin y cyflwr, a gwella adnabyddiaeth a diagnosis o ddiabetes math 1 yw prif fyrdwn y ddeiseb hon. Gan fod effeithiau diabetes math 1 heb ddiagnosis yn gallu bod yn angheuol, mae diagnosis cynnar o'r cyflwr yn gwbl hanfodol. Fodd bynnag, mae'n wir hefyd y gellir camgymryd y symptomau cyffredin yn rhwydd am gyflyrau eraill llai peryglus. Mae'r symptomau hynny—a elwir yn 4T—yn allweddol i'r ddadl hon y prynhawn yma, sef; tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach. Ac oherwydd ei bod yn bosibl fod mwy o bobl yn gwrando ar y ddadl hon na'r rhai sydd yn y Siambr, hoffwn ailadrodd y 4T: tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach. O ystyried y byddem yn gobeithio y byddai gennym gynulleidfa ehangach na'r un sydd gennym yn y Siambr, rwyf am ailadrodd y pwyntiau hynny eto: tŷ bach—awydd i wneud dŵr yn amlach; teimlo'n sychedig; teimlo'n flinedig; teneuach.
Oherwydd yr anawsterau i wneud diagnosis o ddiabetes math 1, ac oherwydd ei fod yn gyflwr cymharol anghyffredin, ni wneir diagnosis o oddeutu chwarter yr achosion hyd nes y bydd y claf mewn cetoasidosis diabetig—mae'n ddrwg gennyf os nad wyf yn ynganu hwnnw'n gywir—neu fe'i gelwir yn fwy cyfarwydd yn DKA. Yn drasig, dyma'r sefyllfa a wynebodd Peter a'i deulu. Rhoddwyd diagnosis o ddiabetes math 1 a DKA yn y fan ar lle i Peter gan barafeddyg ymateb cyflym a oedd wedi defnyddio prawf gwaed pigo bys, a hynny ar Ddydd Calan 2015. Bedair awr ar hugain yn gynharach, roedd Peter wedi gweld meddyg teulu a oedd wedi gwneud diagnosis o haint ar y frest yn seiliedig ar ei symptomau, ac wedi presgripsiynu gwrthfiotigau, ond ni ddefnyddiodd y prawf gwaed pigo bys. Ffoniodd y parafeddyg am ambiwlans ar unwaith, ac aethpwyd â Peter i'r ysbyty. Er gwaethaf y driniaeth a gafodd, roedd hi'n rhy hwyr i achub ei fywyd.
Hoffwn dalu teyrnged i deulu Peter ar y pwynt hwn. Cyflwynwyd y ddeiseb gan daid Peter, Anthony, ac mae trugaredd, ysgogiad ac unplygrwydd y teulu cyfan wedi bod yn amlwg i'r Pwyllgor Deisebau drwy gydol ein trafodaethau. Yn fwyaf arbennig, mae rhieni Peter, Beth a Stuart, a'i chwaer, Lia, wedi ymdrechu'n ddewr i sicrhau bod y drasiedi a brofodd y teulu yn arwain at welliannau i eraill. Mae'n werth nodi hefyd eu bod wedi bwrw iddi gyda'u hymgyrch mewn ffordd eithriadol o gadarnhaol. Nid yw'r ddeiseb hon ond yn un agwedd ar eu hymdrechion i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiabetes math 1, yn ogystal â chodi arian sylweddol i Diabetes UK Cymru. Rwy'n argyhoeddedig fod yr ymdrechion hyn eisoes wedi cael effaith fawr, a dylai'r teulu cyfan fod yn eithriadol o falch o bopeth y maent wedi'i gyflawni hyd yma.
Gan droi yn awr at adroddiad y pwyllgor ar y ddeiseb ac at ein hargymhellion, rydym wedi ystyried ystod eang o faterion mewn perthynas â chanfod a gwneud diagnosis o ddiabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Cafodd y ddeiseb ei derbyn gyntaf ym mis Mawrth 2016. Er bod y ddeiseb yn cyfeirio at 'sgrinio rheolaidd' ar gyfer math 1 mewn plant a phobl ifanc, sefydlodd y pwyllgor mai prif ffocws y teulu Baldwin yw'r angen i wella diagnosis cynnar o ddiabetes math 1, ac ymwybyddiaeth o'r cyflwr ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd. Mae pawb sy'n ymwneud â'r ddeiseb wedi cytuno mai'r ffordd orau o gyflawni hyn fyddai drwy sicrhau bod y profion priodol yn cael eu cynnal pan fo unigolyn yn arddangos symptomau'r 4T ar gyfer math 1.
Yn ein hadroddiad ar y ddeiseb hon, rydym wedi gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Credwn y byddai'r rhain yn helpu i wneud diagnosis a rhoi triniaeth amserol ar gyfer diabetes math 1. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn pob un o'n hargymhellion mewn egwyddor o leiaf. Rydym yn gobeithio bod hyn yn dangos ymrwymiad a rennir i wneud cynnydd yn y maes hwn, er y byddaf yn gofyn am ragor o wybodaeth ar rai agweddau ar ei ymateb yn ystod y ddadl y prynhawn yma.
Fel y dywedais eisoes, mae diagnosis amserol o ddiabetes math 1 yn hollbwysig. Mae DKA yn gyflwr sy'n peryglu bywyd ac yn brofiad trawmatig i blant a'u teuluoedd. Yn wir, mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer diabetes yn tynnu sylw at yr angen am archwiliad brys o lefel y glwcos yn y gwaed ac atgyfeirio at wasanaethau arbenigol ar unwaith os ceir unrhyw amheuaeth o ddiabetes. Fodd bynnag, nododd ein hymchwiliadau nifer o rwystrau i ddiagnosis cynnar. Mae'r rhain yn cynnwys: lefel isel o ymwybyddiaeth a gallu i adnabod diabetes math 1 yn gyffredinol; diffygion posibl yng ngwybodaeth a hyfforddiant staff; a phryderon ynglŷn â diffyg mynediad at offer profi cyflym mewn gofal sylfaenol.
Mae ein hargymhellion yn ceisio mynd i'r afael â’r rhwystrau hyn. Mae argymhelliad 1 yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau y gofynnir ynglŷn â'r symptomau 4T fel mater o drefn wrth weld plant sâl mewn gofal sylfaenol, a bod profion priodol yn cael eu gwneud os oes angen. Mae ein hail argymhelliad yn ymwneud â gweithredu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal mewn perthynas â’r mater hwn. Wrth dderbyn yr argymhellion hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo canllawiau NICE ac wedi pwysleisio’r angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddefnyddio eu crebwyll clinigol.
Rydym yn falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi derbyn byrdwn ein hargymhellion. Serch hynny, rydym yn gwybod, nid yn lleiaf o achos Peter Baldwin, nad yw clinigwyr bob amser yn gofyn am y 4T yn benodol ac mae’n bosibl na fydd rhieni'n eu crybwyll heb gael eu hatgoffa. Felly, hoffwn ailadrodd barn y pwyllgor fod ymgyngoriadau meddygon teulu yn gyfle allweddol i wneud diagnosis o ddiabetes math 1. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gymryd pob cam posibl i sicrhau bod y cwestiynau cywir yn cael eu gofyn ym maes gofal sylfaenol, er mwyn ceisio osgoi rhagor o achosion lle nad yw diabetes math 1 yn cael ei ganfod hyd nes ei bod yn rhy hwyr.
Yn hyn o beth, un cam mawr ymlaen yn ystod oes y ddeiseb hon yw datblygiad y llwybr atgyfeirio cenedlaethol ar gyfer diabetes math 1. Mae'n pwysleisio’r 4T ac y dylid trin unrhyw achos lle y ceir unrhyw amheuaeth o ddiabetes math 1 fel argyfwng meddygol. Cafodd y llwybr hwn ei ddatblygu gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc, a’i dreialu ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ac mae bellach wedi cael ei ddosbarthu i bob bwrdd iechyd. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod y llwybr hwn wedi cael ei gyflwyno mor gyflym.
Wrth dderbyn argymhelliad 6 yn ein hadroddiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrwydd gan y byrddau iechyd fod y llwybr yn cael ei fabwysiadu'n lleol. Rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn gallu cadarnhau heddiw ei fod yn disgwyl i fyrddau iechyd gynnig hyfforddiant i feddygon teulu i gyd-fynd â’r llwybr newydd, gan ein bod yn deall bod hyn yn un o gryfderau'r ymarfer peilot yng Nghaerdydd a'r Fro.
Mynegwyd pryderon wrthym hefyd ynglŷn ag argaeledd offer profi mewn gofal sylfaenol. Mae’r deisebwyr wedi galw am sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad ar unwaith at offer profi pigo bys ar gyfer mesur lefel y glwcos yn y gwaed, ac mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrwydd gan y byrddau iechyd i'r perwyl hwn. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan bod canllawiau eisoes wedi'u dosbarthu ac y bydd sicrwydd yn cael ei geisio. Byddai'r pwyllgor yn croesawu unrhyw wybodaeth newydd y gall ei rhoi am y gwaith hwn heddiw.
Roedd argymhelliad 7 yn ein hadroddiad yn cyfeirio at yr angen i fonitro cynnydd mewn perthynas â diagnosis o ddiabetes math 1. Yn ei ymateb, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at yr archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol a oedd eisoes yn bodoli. Mae'r pwyllgor yn deall bod hwn yn cynnwys dynodiad o nifer yr achosion lle cafwyd diagnosis pan fo DKA eisoes yn bresennol. Fodd bynnag, nid yw'n casglu manylion am y broses o wneud diagnosis ac mae ein hargymhelliad yn herio'r Llywodraeth a'r byrddau iechyd o ran sut y gellir monitro gwelliannau ar y cam hwn o'r broses. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â sut y gellid cyflawni'r gwaith monitro hwn. Un dull posibl fyddai drwy fonitro’r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes bob blwyddyn. Er bod y cynllun yn amlygu pwysigrwydd canfod diabetes math 1 yn gynnar, nid oes unrhyw fanylion ynglŷn â diagnosis yn y datganiad cynnydd diweddaraf a gyhoeddwyd. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ystyried sut y gall y Llywodraeth adrodd ar gynnydd yn y maes hwn yn well wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yn y dyfodol.
Y mater olaf a godwyd gan y teulu Baldwin a’n hadroddiad yw ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiabetes math 1 a’i symptomau. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor o waith i dynnu sylw at symptomau diabetes math 1 ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol yn y deunydd a roddir i ddarpar rieni a rhieni newydd, megis drwy gofnod iechyd personol y plentyn, a adwaenir hefyd fel 'y llyfr coch'.
Tra bo dau o'n hargymhellion yn y cyswllt hwn wedi'u derbyn mewn egwyddor, nid yw’r naratif sy’n cefnogi hyn i'w weld yn dangos llawer o weithgarwch newydd neu wahanol. Y cyfiawnhad a roddwyd i ni yw bod symptomau diabetes math 1 yn aml yn ymddangos gryn dipyn o amser ar ôl genedigaeth. Wel, er ein bod yn cydnabod bod hyn yn wir, mae’r pwyllgor o’r farn fod rhieni'n agored iawn i negeseuon iechyd plant yn ystod y blynyddoedd cynnar ac mae'r 4T yn neges syml, hawdd ei chofio, yn yr un ffordd ag a ddigwyddodd gyda llid yr ymennydd er enghraifft. Byddem ni a’r deisebwyr yn gwerthfawrogi pe baech yn archwilio’n llawn y dulliau o ledaenu negeseuon am symptomau diabetes math 1 ymysg rhieni ac eraill sydd mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc. Rydym yn credu bod hyn yn eithriadol o bwysig o ystyried yr angen i weithredu'n gyflym pan fo symptomau diabetes math 1 yn ymddangos.
I gloi, Lywydd, hoffwn bwysleisio bod ystyried amgylchiadau’r ddeiseb hon wedi bod yn brofiad trist a sobreiddiol iawn i’r Pwyllgor Deisebau, ond hefyd yn fraint fawr. Dylai dewrder aruthrol teulu Peter wrth iddynt geisio sicrhau bod newid cadarnhaol yn deillio o amgylchiadau mor ofnadwy ennyn parch enfawr. Rwy’n diolch i bob un ohonynt, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am eu gwaith parhaus. Rwyf hefyd yn croesawu ymatebion cadarnhaol Ysgrifennydd y Cabinet i'n hargymhellion, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ystyried y pwyntiau ychwanegol a godir gan y pwyllgor a chan Aelodau eraill y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddechrau yn gyntaf oll drwy longyfarch David Rowlands ar araith ragorol i agor y ddadl bwysig hon, sy'n crynhoi'r sefyllfa'n dda iawn, a hefyd yr ymgyrch rymus y gwyddom iddi gael ei hymladd gan y teulu Baldwin ers amser hir bellach, oherwydd mae angen newid?
Nawr, nid wyf yn gwybod a ydw i wedi sôn o'r blaen fy mod wedi bod yn feddyg teulu yn Abertawe dros y 34 o flynyddoedd diwethaf, ond os nad wyf fi, rwy'n ei ddweud eto, ac yn amlwg, mae diabetes math 1, yn enwedig mewn plant ifanc iawn mewn cetoasidosis diabetig, yn glefyd brawychus mewn gwirionedd ac rwy'n gweld achos ohono oddeutu unwaith bob saith mlynedd ar gyfartaledd. Rhaid i chi feddwl amdano fel meddyg teulu a gwirio'r siwgr yn y gwaed drwy bigiad bach yn y bys, oherwydd nid yw'r 4T clasurol bob amser yn bresennol mewn plant ifanc iawn neu mewn babanod. Y sefyllfa yno yw y gall plentyn ddod i mewn gyda haint ar ei frest pan fydd gan weddill y teulu haint ar y frest; gall y plentyn ddod ataf gyda dolur rhydd a chwydu pan fo gweddill y teulu'n dioddef o ddolur rhydd a chwydu. Beth sy'n gwneud i chi wirio'r siwgr yn y gwaed drwy brawf pigo bys? Wel, mae yna ryw deimlad greddfol yn y bol a phethau. Felly ie, mewn plant hŷn, fe welwch y 4T: mae'r plant wedi bod yn yfed galwyni, maent wedi bod yn pasio wrin wrth y galwyn, maent wedi colli pwysau, maent yn sâl ac wedi blino ac yn teimlo'n ofnadwy. Dyna'r mathau o symptomau y mae angen inni dynnu sylw atynt a'u cyhoeddi, fel y dywedodd David yn huawdl iawn, o ran codi ymwybyddiaeth.
Ond o ran ymateb meddygon teulu a gofal sylfaenol i hyn, rhaid inni gael profion pigo bys i ganfod glwcos yn y gwaed ar ein desgiau, ac yn ein bagiau meddygol pan fyddwn yn galw yng nghartrefi pobl. Oherwydd pan fo plentyn yn sâl, rydym yn edrych ar siwgr yn y gwaed—dylai fod yno'n awtomatig. Wrth feddwl am blentyn sâl—ac yn enwedig plentyn sy'n fwy sâl nag y buaswn yn credu y dylai fod gyda dolur rhydd a chwydu—gwiriwch y siwgr yn y gwaed. Ydy, unwaith ym mhob saith mlynedd mae'n mynd i fod yn getoasidosis diabetig, yn hytrach na gastroenteritis cyffredin. Ond fel y clywn, mae canlyniadau trasig ac effeithiau peidio â gwneud y diagnosis yn byw gyda'r teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol dan sylw am byth.
Felly, prif fyrdwn hyn yw y dylid dilyn argymhellion adroddiad rhagorol y Pwyllgor Deisebau. A dweud y gwir, o ran pigo bysedd, ac rydym yn siarad am adnoddau ar gyfer gofal sylfaenol—bydd Ysgrifennydd y Cabinet bob amser yn gwybod fy mod yn rhygnu ymlaen am symud adnoddau i ofal sylfaenol—dylai hyn fod yn digwydd ym mhobman. Felly, nid wyf am fod yn arbennig o lym ar Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma. Dylem fod yn cael offer profi glwcos yn y gwaed ar waith beth bynnag. Dylai pob meddyg teulu wneud hynny fel mesur o ragoriaeth broffesiynol. Ac mae'n ddyletswydd arnom i'n cleifion, oherwydd weithiau nid yw'r darlun clinigol yn hollol glir—dim ond plentyn sâl sydd gennych. A buaswn yn argymell i fy nghyd-feddygon teulu: gyda phlentyn sâl, os na allwch ddarganfod beth sydd o'i le—edrychwch ar siwgr yn y gwaed.
Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.
Diabetes math 1 yw'r cyflwr cronig mwyaf cyffredin mewn plant a phobl ifanc. Fel y gwyddom, os na wneir diagnosis ohono, gall fod yn angheuol. Rwy'n canmol y Pwyllgor Deisebau am eu gwaith ar y ddeiseb hon, ac rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru yn derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Un o'r pryderon a godwyd gan y teulu Baldwin a Diabetes UK Cymru oedd nad oedd digon o gyfarpar ym meddygfeydd meddygon teulu i ganiatáu iddynt chwilio am fath 1. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu ar y pwynt hwn, drwy geisio sicrwydd ynghylch argaeledd cyfarpar mewn gofal sylfaenol.
Mae'r argymhellion yn cyffwrdd ar bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1. Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i dynnu sylw at y symptomau gyda byrddau iechyd, ond rwy'n gobeithio bod hyn yn codi'n rheolaidd mewn cyfathrebiadau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, a hoffwn glywed rhagor gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw ynglŷn â sut y bwriada fonitro'r ymwybyddiaeth honno.
Yn y cyfarfodydd a gefais gyda theulu Peter Baldwin, fe welais ac fe glywais sut y gall math 1 ddinistrio teulu. Hoffwn dalu teyrnged i'r teulu Baldwin am eu hymgyrch ddewr a diflino i sicrhau nad oes unrhyw deulu arall yn dioddef yn y modd y maent hwy wedi gwneud. Yn wir, fe wyddom fod yr ymgyrch Adnabod Math 1 eisoes wedi arwain at deuluoedd yn cael diagnosis yn ddiogel o fath 1. Felly, mae eisoes wedi achub bywydau.
Mae gan bawb yn y Siambr hon ein rhan i'w chwarae, nid y rheini ohonom sy'n feddygon teulu yn unig. Gobeithio bod pawb yn y Siambr hon bellach yn ymwybodol o 4T diabetes—tŷ bach, teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, teneuach. Ac rwy'n annog pob un ohonoch i ledaenu'r neges hon mor eang ag y gallwch.
Rwy'n siarad fel aelod arall o'r Pwyllgor Deisebau a glywodd y dystiolaeth a roddwyd i ni. Hefyd, a gaf fi ddiolch i Beth Baldwin am ei hymrwymiad a'i dyfalbarhad ar y mater hwn? Mae hi a'i theulu wedi ymdrechu'n ddewr i sicrhau y dylai'r drasiedi a ddioddefodd eu teulu arwain at welliannau o ran ymwybyddiaeth a chanfod diabetes math 1 mewn plant. Hebddi, ni fyddem yn cael y ddadl hon heddiw. Am hynny, rhaid i ni ddiolch i Beth Baldwin a'i theulu. Mae'n werth nodi hefyd y modd mor eithriadol o gadarnhaol y mae'r teulu Baldwin wedi ymladd eu hymgyrch. Un agwedd yn unig ar eu hymdrechion yw'r ddeiseb, ac yn ogystal â hynny maent wedi parhau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau diabetes math 1 ac wedi codi arian sylweddol iawn i Diabetes UK Cymru. Dylent fod yn hynod o falch ac unwaith eto, hoffwn ddiolch yn bersonol iddynt, ac rwy'n siŵr y byddai'r holl Siambr yn dymuno gwneud hynny.
Mae diabetes math 1 wedi cyffwrdd fy mywyd ddwywaith: unwaith gyda chanlyniadau angheuol ac unwaith gyda diwedd hapus. Tra'n gweithio fel darlithydd coleg cymharol ifanc, cefais fyfyriwr a oedd yn yfed dŵr yn barhaus ac yn mynd i'r toiled yn aml. At ei gilydd, roedd yn heini ac i'w weld yn iach. Aeth i ffwrdd ar ei wyliau am bythefnos un Pasg, aeth yn sâl, dioddefodd gymhlethdodau am nad oedd ei ddiabetes wedi'i ganfod—roedd yn rhy hwyr, ac yna bu farw. Roedd yr ail achos yn ymwneud â rhywun y bûm yn gweithio gydag ef a oedd hefyd yn yfed dŵr yn barhaus. Awgrymodd cydweithiwr y dylai fynd i weld y meddyg a chael prawf diabetes. Ar ôl sawl diwrnod o wasgu arno—nid yn unig gan yr un cydweithiwr, ond gan y swyddfa gyfan, daliodd y cydweithiwr gwreiddiol ati, ac fe wnaeth y gweddill ohonom yr un peth, gan fy nghynnwys i ac eraill yno—fe wnaeth apwyntiad gyda meddyg. Pan aeth at y meddyg, cafodd ei drin fel pe bai'n gwastraffu amser y meddyg—roedd yn ifanc, yn ffit ac yn heini a heb fod dros bwysau, roedd yn codi pwysau ac yn gwneud popeth y mae dynion ifanc ffit yn ei wneud. Yn y pen draw cytunodd y meddyg i roi profion diabetes iddo. Bedair awr ar hugain yn ddiweddarach, roedd yn yr ysbyty. Mae bellach yn ôl i normal a'i ddiabetes o dan reolaeth. Mae'n dal yn fyw, diolch i'w gydweithwyr a'i ddyfalbarhad ei hun.
Cyflwr gydol oes difrifol yw diabetes lle mae lefel y glwcos yn eich gwaed yn rhy uchel, er bod rhai pobl wedi dweud wrthyf—fel y mae pobl eraill wedi'i glywed rwy'n siŵr—'mae gennyf ryw ychydig o ddiabetes', fel pe baent yn dioddef o annwyd neu feirws cymharol ddiniwed. Gwyddom am yr arwyddion rhybudd cyffredin—fel rwy'n dweud, fe wyddom am y 4T—ond a yw pawb allan yno yn eu gwybod? A dyna'r her i bob un ohonom: os ydych chi'n mynd i wneud rhywbeth defnyddiol mewn cymdeithas, beth am ailadrodd mor aml ag y gallwch—teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, tŷ bach, teneuach— 'Unrhyw ddau o'r pedwar, ewch i gael archwiliad.' Mwy na thebyg nad diabetes ydyw, ond gall canlyniad peidio â chael eich profi fod yn angheuol.
Rwy'n croesawu ymateb y Llywodraeth pan ddywedant fod pwysigrwydd canfod diabetes math 1 yn gynnar yn cael ei gydnabod yn eu cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru. Mae canllawiau clir wedi'u sefydlu i gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i archwilio pan fo amheuaeth o ddiabetes, a chaiff cymhlethdodau diabetes eu hadrodd fel rhan o'r archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol. Rwy'n falch hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad y dylai geisio sicrwydd gan fyrddau iechyd fod offer profi priodol ar gyfer mesur glwcos yn y gwaed ar gael ym mhob lleoliad gofal sylfaenol perthnasol, a bod gan bob meddyg teulu offer wrth law a fydd yn helpu i ganfod achosion posibl o ddiabetes math 1.
Yr allwedd yw gweithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau bod yr ymgyrch 4T yn cael ei hyrwyddo. Ond nid yn unig mewn ysbytai, nid yn unig ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol—mae angen partneriaid eraill mewn ysgolion a cholegau. Mae angen i staff ysgolion a cholegau wybod am beth i chwilio. A gaf fi ddweud cymaint rwy'n dymuno pe bawn i'n gwybod am beth y chwiliwn y tro hwnnw, fel fy nghydweithwyr rwy'n siŵr? Nid wyf am i neb arall orfod siarad am achos fel yr un cyntaf a ddisgrifiais. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r cadeirydd am gyflwyno adroddiad ein pwyllgor yn y modd a wnaeth, a diolch i'r clerc a fy nghyd-aelodau o'r Pwyllgor Deisebau am fod ag agwedd mor rhagweithiol tuag at y mater hwn. Rhaid cydnabod teulu'r diweddar Peter Baldwin am helpu ein pwyllgor ac am geisio defnyddio'u hamgylchiadau trasig eu hunain i sicrhau nad oes unrhyw deulu arall yn dioddef colled mor enbyd.
Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru'n bwriadu derbyn y 10 argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Deisebau mewn egwyddor, ac rwy'n hyderus y gellir gwella cyfraddau canfod diabetes math 1 os caiff y rhain eu gweithredu er mwyn atal teuluoedd fel y teulu Baldwin rhag wynebu'r drasiedi o golli anwyliaid oherwydd camddiagnosis.
Mae oddeutu 1,400 o blant yn dioddef o ddiabetes yng Nghymru, a math 1 sydd ar 96 y cant ohonynt. Nod allweddol yr adroddiad hwn yw sicrhau, pan fydd unrhyw blentyn yn dangos symptomau o'r 4T—tŷ bach, teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, teneuach—eu bod yn cael y ddiagnosteg yn gywir. Drwy wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc yn cael diagnosis cyflym a thriniaeth gynnar, gallwn eu hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl â chetoasidosis diabetig. Mae angen i feddygon teulu fod yn ymwybodol o'r symptomau ag ystyried bod y prawf mor rhad i brofi plant sy'n dangos unrhyw arwydd o'r symptomau hyn. Hoffwn hefyd weld Ysgrifennydd y Cabinet yn cynyddu ymwybyddiaeth ei adran ei hun o faint y broblem hon, fel nad oes unrhyw blentyn yn cael cam am na wnaed y prawf syml hwn.
Mae argymhelliad 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i geisio sicrwydd ynglŷn ag argaeledd mesuryddion glwcos mewn gofal sylfaenol. Rwy'n ddiolchgar iawn fod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Fodd bynnag, rwy'n bryderus nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld unrhyw oblygiadau ariannol i hyn. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod o leiaf un pecyn profi yn yr holl feddygfeydd meddygon teulu. Ceir bron 435 o bractisau meddygon teulu yng Nghymru. A heb fawr o gost, buaswn yn dweud bod y goblygiadau ariannol yn ei gwneud hi'n werth i chi sicrhau—i'ch adran sicrhau—fod un ar gael ym mhob practis. Mae pob un o'r rhain angen y pecyn profi hwn.
Mae argymhelliad 7 yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu modd o fonitro gwelliant o ran lefelau diagnosis o ddiabetes math 1. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod diagnosis o ddiabetes math 1 yn cael ei fonitro a'i adrodd drwy'r archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol. Fodd bynnag, noder bod y wybodaeth yn adroddiad yr archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol yn amlygu bod cetoasidosis diabetig wedi digwydd mewn ychydig dros 20 y cant o achosion newydd o ddiabetes math 1 yn Lloegr, ffigur sydd ond wedi codi ychydig rhwng 2012 a 2015. Fel arall, mae'r ffigurau a roddwyd ar gyfer Cymru'n amrywio o 30 y cant i 18 y cant i 24 y cant, pob un o fewn cyfnod o dair blynedd. Felly, pe bawn i yn esgidiau Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn eisiau darganfod rhagor am hynny. Felly, mae hyn yn gwneud imi gwestiynu a oes gan yr archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol fynediad at y wybodaeth briodol ac a ddylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddarganfod pam y mae'r ffigurau hyn yn amrywio yn y ffordd y maent yn ei wneud.
Mae hyn yn digwydd yn aml drwy holl ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, lle caiff argymhellion eu derbyn 'mewn egwyddor' i gael eu trosglwyddo i sefydliadau neu elusennau eraill. Mae Diabetes UK Cymru yn honni mai Cymru sydd â'r nifer uchaf o achosion o ddiabetes yn y DU. O'r herwydd, dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy, dylai ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb a bod yn fwy rhagweithiol. Ni ddylem anghofio bod y ddeiseb hon wedi dechrau oherwydd bod teulu wedi colli mab am na wnaed diagnosis mewn pryd ac am na wnaed prawf syml a rhad lawer yn gynt. Yn gyffredinol, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr holl argymhellion yn llwyr neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn ein bod yn gwella ac yn monitro'r prosesau y dibynnwn arnynt i ganfod diabetes cyn gynted â phosibl.
Bydd gwaddol Peter yn byw o hyd drwy'r gwaith a wnaethoch, drwy godi ymwybyddiaeth yma yn y Senedd hon a ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn. Diolch.
Julie Morgan.
Ddirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Yn gyntaf, fel pawb arall, hoffwn ddiolch i un o fy etholwyr, Beth Baldwin, am yr holl waith caled y mae wedi'i wneud yn sicrhau bod y ddeiseb hon yn cyrraedd pwynt lle rydym yn ei thrafod yn awr yma yn y Cynulliad. Gwn iddi fod yn ffordd anodd a hir iddi ei theithio, a gwn fod amgylchiadau trasig colli Peter, a oedd ond yn 13 oed pan fu farw, wedi bod—. O hynny rydym yma'n trafod y mater hwn heddiw. Gwn fod Stuart a Lia yma hefyd, oherwydd bu hon yn ymdrech enfawr ar ran y teulu cyfan. Rwyf mor falch eu bod yma yn yr oriel gyhoeddus heddiw i'n clywed ni'n trafod y materion pwysig hyn. Gobeithiaf y bydd y rhain yn ataliol—y byddwn yn helpu i atal rhywbeth rhag digwydd sydd wedi digwydd mor ofnadwy iddynt hwy. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb, yn cytuno bod Beth a'i theulu wedi dangos dewrder anhygoel yn ymgyrchu ar y mater hwn.
Roedd diabetes math 1 ar Peter, ond methodd y meddyg teulu wneud diagnosis, fel y mae eraill wedi dweud, ac erbyn i'w gyflwr ddirywio cymaint fel ei fod yn argyfwng, yn anffodus roedd hi'n rhy hwyr i'w achub. Mae'r hyn y mae Beth a'r bobl yn Diabetes Cymru a Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc ei eisiau yn syml iawn: maent am i unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol neu unrhyw un sy'n dod i gysylltiad ag unigolyn ifanc sâl i aros a meddwl, 'A yw'r symptomau'n arwydd o ddiabetes math 1?' Credaf fod Dai Lloyd wedi nodi hynny'n gryf iawn yn ei gyfraniad.
Gwn fod Beth a'r ymgyrchwyr yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn neu wedi derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion yn adroddiad y pwyllgor. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod ei fod yn un o'r clefydau cronig mwyaf cyffredin ymhlith plant ac mae nifer yr achosion yn cynyddu. Credaf fod un plentyn ym mhob ysgol yng Nghymru yn dioddef o'r cyflwr ar gyfartaledd, ac mae'r nifer yn codi tua 4 y cant bob blwyddyn, ac yn cynyddu'n gynt ymhlith plant o dan bump oed. Hoffai Beth a'r ymgyrchwyr weld ymwelwyr iechyd, ffisiotherapyddion, meddygon teulu a nyrsys practis yn cynnal y prawf gwaed pigo bys arferol syml i weld lefelau glwcos yn y gwaed. Ar hyn o bryd, mewn argyfwng y gwneir diagnosis o 25 y cant o'r achosion o fath 1 mewn plant. Gyda mwy o brofion rheolaidd, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno bod yn rhaid inni sicrhau gostyngiad yn y ffigur hwn.
Maent eisiau gwybod bod digon o becynnau profion glwcos yn y gwaed ar gyfer y bobl hyn fel mater o drefn er mwyn cynnal profion ar bobl sâl, felly mae angen inni wybod bod y pecynnau hynny yno, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 3 yr adroddiad ar y pwynt hwn. Do, cyhoeddwyd canllawiau ynghylch profion yn y pwynt gofal, ac ailddatganwyd hyn fel rhan o'r llwybr atgyfeirio, ond pwy sy'n gyfrifol am fonitro argaeledd offer profi glwcos yn y gwaed, nid un tro'n unig ond ar sail barhaus? Pwy fyddant yn adrodd iddynt, ac a fydd y wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd? Nid wyf yn gwybod a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ateb y cwestiynau hynny.
A wyddom faint o bractisau meddygon teulu ar hyn o bryd sydd heb yr offer y maent ei angen i gynnal y prawf sengl a dadansoddi'r canlyniadau? Rwyf wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd fod practisau meddygon teulu hyd yn oed yn awr weithiau'n cael anhawster i ddod o hyd i offer ar gyfer cynnal profion. Efallai ei fod yng nghefn cwpwrdd. Efallai fod y stribedi profi'n hen, neu nad yw staff wedi gwneud prawf ers cymaint o amser fel nad ydynt yn hyderus wrth ddefnyddio offer. Felly, credaf fod yn rhaid inni wneud yn hollol siŵr—rydym wedi gwneud cymaint o gynnydd, ond rhaid inni wneud yn siŵr, yn ymarferol, ei bod yn bosibl cynnal y prawf yn y modd y mae'r ymgyrchwyr ei eisiau.
Felly, y mater arall yw, os oes rhywbeth yn mynd o'i le, pwy sy'n atebol? Drwy'r ddadl hon, drwy'r adroddiad da hwn gan y Pwyllgor Deisebau, credaf ein bod wedi gallu tynnu sylw at y materion hyn sydd mor bwysig, a hoffwn ddod i ben unwaith eto mewn gwirionedd drwy ddiolch i Beth, a diolch i Stuart a Lia, am bopeth a wnaethant i hyrwyddo'r achos hwn—felly, diolch yn fawr.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau a'r rhai a gymerodd ran yn nhaith y ddeiseb hon drwy'r Cynulliad. Yn fwyaf arbennig, hoffwn dalu teyrnged i'r teulu Baldwin am eu gwaith caled, eu dycnwch a'u hymroddiad i ymgyrch mor bwysig a phersonol iawn. Mae Beth a'r teulu yn gwylio o'r oriel heddiw, a gwn eu bod yn teimlo'n gryf iddi fod yn ymdrech gan dîm. Ni allwch orfesur grym rhannu eich profiadau enbyd o golli Peter. Rydych wedi dangos cymaint o nerth a dewrder drwy gydol yr ymgyrch hon. Mae pawb ohonom yn hynod falch ohonoch, a byddai Peter mor falch hefyd. Fel llawer o rai eraill, cefais fy nghyffwrdd gan straeon plant a gafodd eu hachub am eu bod wedi gallu cael diagnosis o ganlyniad i'ch gwaith, felly diolch i chi, Beth, a'ch teulu, am bopeth a wnaethoch yn enw Peter. Mae'n waddol wirioneddol hardd.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb mor gadarnhaol i'r adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, a bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi'r ystyriaeth y maent yn eu haeddu i'r argymhellion. Diabetes math 1 yw'r cyflwr awto-imiwn mwyaf cyffredin yn y DU. Amcangyfrifir bod tua 19,000 o bobl yn byw gyda diabetes math 1 yng Nghymru. Mae llawer o bobl yn byw'n dda gyda diabetes math 1 am flynyddoedd lawer. Mae nifer dirifedi o bobl hefyd wedi dangos nad yw math 1 yn rhwystr i fyw bywydau egnïol, o'r unigolion sy'n rhedeg marathonau i Team Oarstruck o Gaerllion sy'n rhwyfo Cefnfor Iwerydd, y ras rwyfo anoddaf yn y byd.
Mae rheolaeth dda ar y cyflwr yn allweddol i fyw'n dda gyda math 1, ac ni ellir cyflawni hyn oni bai bod yr unigolyn yn gwybod ei fod yn dioddef ohono. Mae diagnosis yn gwbl hanfodol. Ac eto mae un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn cael diagnosis o fath 1 yn ddiweddarach nag y gallai fod yn ei gael. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma'n cytuno bod y nifer honno'n rhy uchel. Gwyddom fod gwelliannau wedi bod yn ein gwasanaeth iechyd. Clywais yn ddiweddar am waith a wneir ar system adrodd newydd a fydd yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o ddiagnosis hwyr. Drwy rannu gwybodaeth ar draws y timau, rwy'n gobeithio y cymerir mantais ar gyfleoedd i wneud diagnosis yn gynharach yn y dyfodol. Hefyd, clywais am waith ymchwil rhagorol sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru ar y posibilrwydd y gallai dulliau atgoffa digidol mewn gofal sylfaenol wella cyfraddau diagnosis cynharach. Gobeithio y bydd hyn yn llwyddo i gynorthwyo meddygon i wneud diagnosis cynnar.
Gallwn hefyd fod yn falch fod llwybr newydd wedi'i gyflwyno ledled Cymru, fel y nodwyd yn yr ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn gydnabod y gwaith ardderchog a wneir gan y Rhwydwaith Diabetes i Blant a Phobl Ifanc ar wireddu hyn. Bydd gweithredu'r llwybr yn allweddol i'w lwyddiant, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i geisio sicrwydd gan y saith bwrdd iechyd ei fod yn cael ei fabwysiadu ac y bydd gofal sylfaenol ac eilaidd yn gweithio gyda'i gilydd ar ddarparu'r llwybr newydd.
Ond fel arfer, fe ellir gwneud mwy. Credaf y gallwn oll gytuno bod pob plentyn, pob unigolyn ifanc, yn haeddu'r cyfle i fyw bywyd hapus ac iach, gyda neu heb ddiabetes. Mae'r ymgyrch 4T—teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, tŷ bach, teneuach—i godi ymwybyddiaeth o symptomau math 1, wedi cael derbyniad da gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, teuluoedd ac ysgolion, ond ni all unrhyw sefydliad, meddyg neu deulu ddatrys hyn ar eu pen eu hunain. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo eto i weithio gyda byrddau iechyd a sefydliadau allweddol eraill i sicrhau bod yr ymgyrch 4T yn cael ei hyrwyddo ym mhob lleoliad priodol.
Cafwyd nifer o astudiaethau a edrychai ar effeithiolrwydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, ac mae eu canfyddiadau'n awgrymu mai'r ymgyrchoedd a dargedir fwyaf sy'n cael yr effaith fwyaf. Gall negeseuon syml achub bywydau, a heddiw mae'r ddeiseb yn galw am weithredu, a gall Cymru arwain y ffordd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro i'r Siambr am fod yn hwyr ar gyfer munud gyntaf y ddadl hon, ond yn arbennig i deulu Peter am golli rhan o ddadl bwysig ac emosiynol iawn am y gwaith a wnaed gan Aelodau Cynulliad sy'n ystyried eu deiseb, ac yn wir nid yn unig yr ymateb gan y Llywodraeth ond yn bwysicach ymateb ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ac felly hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau a phob Aelod sydd wedi cyfrannu heddiw, boed yn aelodau o'r pwyllgor neu beidio. Cafodd llawer o bobl eraill eu taro nid yn unig gan stori Peter Baldwin, ond mewn gwirionedd gan y penderfyniad hwnnw wedyn i geisio gwneud yn siŵr fod penderfyniad y teulu i sicrhau ei fod yn arwain at welliant yn gyrru ymddygiad gwleidyddion yn y lle hwn a thu hwnt.
Ac mae hynny wedi cael ei helpu gan waith y deisebydd a'r teulu ehangach, ynghyd â Diabetes UK Cymru, i helpu i wella ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ymhlith y cyhoedd ac yn hollbwysig, ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yng Nghymru. A gall pob un ohonom gydymdeimlo â galar a gofid teulu Peter Baldwin, ond yn fwy na hynny, fel pob Aelod arall sydd wedi siarad a'r rhai nad ydynt wedi siarad, rwy'n edmygu'n fawr y dewrder a ddangosodd y teulu wrth sôn am eu profiad, sy'n anodd ac yn boenus ynddo'i hun, ond wrth geisio gwneud gwahaniaeth i deuluoedd eraill hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r adroddiad a'r cynnig, a byddwn yn ei gefnogi. Ni wnaethom gefnogi'r ddeiseb wreiddiol, oherwydd diffyg tystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd y rhaglen sgrinio poblogaeth. A dyna bwynt sydd wedi cael ei gydnabod trwy gydol oes y ddeiseb a gwaith y pwyllgor gan y deisebydd a Diabetes UK Cymru. Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r argymhellion penodol a wnaed gan y pwyllgor ar ôl eu hymchwiliad. Unwaith eto, fel Aelodau eraill, rwy'n cydnabod pwysigrwydd canfod diabetes math 1 yn gynnar ac fel y dywedwyd, mae'n cael sylw amlwg yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru. Felly, roeddwn yn falch o dderbyn pob un o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn llwyr neu mewn egwyddor. Maent yn sicr yn cyd-fynd â gwaith sydd eisoes ar y gweill neu sydd wedi'i gwblhau gan y byrddau iechyd yng Nghymru i wella gofal diabetes.
Rydym yn derbyn argymhelliad 1 mewn egwyddor. Mae'r Llywodraeth yn cymeradwyo argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, ac mae'r sefydliad hwnnw'n arwain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau ar ganfod diabetes ac archwilio cleifion yr amheuir bod ganddynt ddiabetes. Ond nid yw eu canllawiau'n argymell y dylid gofyn i bob plentyn sâl ynghylch symptomau diabetes math 1. Fel y dywedodd y cadeirydd yn ei gyflwyniad, rhaid i glinigwyr ddefnyddio'u crebwyll clinigol, yn seiliedig ar eu hyfforddiant a'r canllawiau sydd ar gael, i arwain archwiliadau o blant sâl, ac mae hynny'n cynnwys yr hyfforddiant ychwanegol y byddwn yn ei gyflwyno drwy'r gwasanaeth. Ac mae hynny'n gyson â thystiolaeth Diabetes UK Cymru y dylid gwneud profion pigo bys os bydd unrhyw un o'r symptomau'n bresennol.
Mae gan y byrddau iechyd yng Nghymru brosesau rheolaidd ar gyfer dosbarthu canllawiau NICE, ac mae clinigwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau mewn perthynas â defnyddio canllawiau o'r fath. Yn ogystal, dosbarthwyd y llwybr atgyfeirio i bob bwrdd iechyd, ac mae hwnnw'n atgyfnerthu'r meini prawf a'r dull o asesu plant a phobl ifanc yr amheuir bod ganddynt ddiabetes. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru yn ein hymrwymo i ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus a arweinir gan Diabetes UK Cymru fel partneriaid yn y grŵp gweithredu ar ddiabetes, a chyflawnwyd hynny ar y cyd â Diabetes UK Cymru, y deisebydd a'r teulu ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 2, gan fod llwybr atgyfeirio cenedlaethol yn seiliedig ar arweiniad NICE, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o ddeunyddiau a ddatblygwyd gan Diabetes UK Cymru, wedi'i ddosbarthu i bob bwrdd iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn argymhelliad 3, a dyma bwynt y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato yn eu cyfraniadau. Dosbarthwyd y canllawiau ar brofion pwynt gofal i fyrddau iechyd eisoes, ac fe'u hailadroddwyd yn ddiweddar fel rhan o'r broses o ledaenu'r llwybr atgyfeirio. Mae Llywodraeth Cymru'n ceisio sicrwydd gan gyfarwyddwyr meddygol cynorthwyol gofal sylfaenol ynghylch argaeledd mesuryddion glwcos mewn gofal sylfaenol. Ein dealltwriaeth yw eu bod ar gael yn eang, ond mae cyfarwyddwyr meddygol cynorthwyol yn ystyried arolwg ar gyfer pob practis i gynnwys offer profion pwynt gofal o'r fath, a buaswn yn hapus i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar y pwynt hwn er mwyn cadarnhau bod camau ar waith i ddarparu'r sicrwydd hwn, a chanlyniadau'r ymarfer hwnnw hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion 4, 5 a 6. Rydym eisoes wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd ynghylch y llwybr atgyfeirio cenedlaethol ac wrth wneud hynny, rydym wedi tynnu sylw at argaeledd deunyddiau codi ymwybyddiaeth ac e-ddysgu ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Mae hynny'n cynnwys hyfforddiant penodol ar gyfer meddygon teulu gan y Gymdeithas Diabetes Gofal Sylfaenol.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 7, gan fod diagnosis o ddiabetes math 1 yn cael ei fonitro a'i adrodd i'r archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol.
Rydym hefyd yn derbyn argymhelliad 8. Eisoes dylai byrddau iechyd fod yn cofnodi diagnosis annigonol fel achosion diogelwch cleifion. Nid yw hynny'n ymwneud cymaint ag atebolrwydd, ond yn hytrach er mwyn hyrwyddo dysgu ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae o fudd inni gael gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n agored pan fydd pethau wedi mynd o chwith, i ddysgu, ac i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau nifer a chael gwared ar achosion o'r fath yn y dyfodol.
Rydym yn derbyn argymhelliad 9 mewn egwyddor, a rhoddwyd sylw i hyn yng nghyfraniad cychwynnol y Cadeirydd. Darparu gwybodaeth am symptomau i rieni yn ystod beichiogrwydd neu'r blynyddoedd cynnar am yr hyn y cydnabyddir ei fod yn gyflwr cymharol anghyffredin—ac fel arfer daw'n amlwg gryn dipyn ar ôl geni'r plentyn. Felly, mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos ei fod yn annhebygol o fod o gymorth i nodi diabetes math 1 yn gynharach. Fodd bynnag, mae Diabetes UK Cymru wedi cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, fel yr ymrwymwyd i'w wneud yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes, ac rydym am helpu i dynnu sylw rhieni at y symptomau perthnasol.
Rydym hefyd yn derbyn argymhelliad 10 mewn egwyddor. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo'r 4T: teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, tŷ bach, teneuach. Eisoes rydym wedi'i gynnwys yn rhan o'r llwybr atgyfeirio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, o ran creu ymwybyddiaeth yn y blynyddoedd cynnar a lleoliadau addysg, rhaid inni gofio nad oes tystiolaeth bob amser i gefnogi honno fel ymgyrch effeithiol ar gyfer canfod cyflyrau fel diabetes math 1 yn gynnar. Mae astudiaeth ddiweddar o Seland Newydd wedi dangos nad oes unrhyw effaith yn dilyn ymgyrch wybodaeth gyhoeddus ddwy flynedd o hyd, ond byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd o sicrhau bod staff priodol, gan gynnwys rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, fel ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol, yn ymwybodol o'r adnoddau allweddol a gyhoeddwyd gan Diabetes UK Cymru ac eraill, ac wrth gwrs, yr argymhellion NICE perthnasol.
Rwyf am orffen, unwaith eto, drwy gydnabod ein bod ni yma heddiw oherwydd trasiedi bersonol iawn, ond yn fwy na hynny, oherwydd penderfyniad teulu Peter Baldwin i wneud gwahaniaeth, ac eisoes maent wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol. Byddwn yn parhau i wrando ar y dystiolaeth ac i ddysgu o'r hyn yr ydym eisoes wedi ymrwymo i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at graffu pellach ar yr hyn yr ydym ni a'n GIG yn ei wneud ac y byddwn yn ei wneud, ac yn hollbwysig, i weld pa wahaniaeth a wnaethom a beth arall y gallwn ei wneud.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, David Rowlands, i ymateb i'r ddadl?
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Rhaid imi ddweud bod un thema wedi rhedeg drwy bob un o'ch cyfraniadau sef argaeledd yr offer er mwyn gallu gwneud profion ar gyfer diabetes math 1.
Daeth Dai Lloyd â'i brofiad sylweddol fel meddyg teulu, wrth gwrs, i'r ddadl a siaradodd am yr angen i roi prawf i bob plentyn sy'n dangos rhai neu bob un o'r symptomau. Ond mae'n wir, a rhaid inni gofio hyn, mai llond llaw yn unig o gleifion diabetes math 1 y bydd unrhyw feddyg teulu yn ei weld drwy gydol ei oes, er bod hynny'n debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf wrth gwrs. Felly, rhaid imi ddweud na ddylem adael i'r ddadl hon farw neu adael i unrhyw rai o'r argymhellion ddiflannu'n araf bach. Rhaid i hon fod yn ddadl barhaus ac yn fater o addysgu'r holl feddygon teulu a'r nyrsys practis rheng flaen yn barhaus hefyd.
Siaradodd Lynne Neagle eto, wrth gwrs, am offer profi, a'i fod yno ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol a hefyd, wrth gwrs, fel y gwnaeth yr holl gyfranwyr, talodd deyrnged i'r teulu Baldwin. Gwnaeth Mike Hedges hynny hefyd a gwnaeth y pwynt y dylem wneud yn siŵr fod yr offer a'r wybodaeth ar gael yn ein hysgolion a'n colegau yn arbennig. Roedd Janet Finch-Saunders yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ac wedi mabwysiadu llawer o'n hargymhellion, ond dywedodd fod yna lawer o bethau o hyd nad oedd cystal ag y dylent fod ac nad yw pethau'n gwella'n arbennig ar hyn o bryd. Siaradodd Julie Morgan, wrth gwrs, sy'n adnabod y teulu'n dda, am eu dewrder yn dwyn y mater hwn i'r amlwg a'r gwaith y maent yn parhau i'w wneud er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ofnadwy hwn. Diolchodd Jayne Bryant i'r teulu am eu nerth a'u dewrder, a siaradodd am blant sydd eisoes wedi eu hachub gan y gwaith, ac rwy'n credu y dylid llongyfarch y teulu Baldwin am fod yr hyn y maent yn ei wneud eisoes yn achub bywydau.
Hoffwn siarad yn awr am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud am y materion hyn, ond hoffwn ofyn iddo: a oes camau pellach ar y gweill i sicrhau y gofynnir ynglŷn â symptomau mewn gofal sylfaenol ar hyn o bryd? Ac a oedd y canllawiau NICE ar waith pan ddigwyddodd y trychineb hwn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n ymddangos eich bod wedi rhoi llawer o bwyslais ar y canllawiau NICE? Ac a yw'n disgwyl i hyfforddiant gael ei ddarparu i feddygon teulu ochr yn ochr â'r llwybr atgyfeirio newydd ar gyfer diabetes? Pa broses sydd ar y gweill ar gyfer gwneud diagnosis o'r ddarpariaeth—y cynnydd ar ddiagnosis yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes?
Lywydd, rwy'n mawr obeithio bod y ddadl hon a'r broses ddeisebau yn gyffredinol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Beth, Stuart, Lia a gweddill teulu a chyfeillion Peter. Rwy'n gobeithio ein bod ni fel Cynulliad wedi gallu helpu i gefnogi eu hymgyrch i wella ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1 a'i ddiagnosis. Hoffwn ddymuno'r gorau i'r teulu yn eu hymdrechion parhaus i godi arian ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater a diolch iddynt am anrhydeddu'r cof am Peter yn y ffordd hon. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar golli babanod, a galwaf ar Lynne Neagle i gyflwyno'r cynnig—Lynne.
Cynnig NDM6801 Lynne Neagle, David Rees, Adam Price
Cefnogwyd gan Angela Burns, Dai Lloyd, Helen Mary Jones, Jayne Bryant
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y bu 263 o fabanod farw neu'n farw-anedig yng Nghymru yn 2016 ac, yn aml, na all teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban gael mynediad priodol at wasanaethau neu gymorth.
2. Yn croesawu wythnos ymwybyddiaeth colli babanod, a drefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9 a 15 Hydref 2018 i roi cyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal profedigaeth rhagorol i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban.
3. Yn cydnabod bod wythnos ymwybyddiaeth colli babanod hefyd yn rhoi cyfle pwysig i rieni mewn profedigaeth, a'u teuluoedd a'u ffrindiau, uno a choffáu bywydau eu babanod.
4. Yn cydnabod y dylai pob rhiant mewn profedigaeth gael yr un safon uchel o ofal pan fydd baban yn marw, ac er na all gofal da ddileu poen a galar rhieni, gall helpu rhieni drwy'r amser trychinebus hwn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r gofal y mae rhieni yn ei dderbyn ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban drwy:
a) ymrwymo i ddarparu gwell gofal profedigaeth sydd ar gael i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban, a gwella'r gofal hwnnw;
b) mabwysiadu set graidd o safonau ar gyfer gofal profedigaeth sydd wedi'u defnyddio i ategu'r Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yn ardaloedd eraill y DU;
c) gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn profedigaeth yn cael hyfforddiant gofal profedigaeth.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i agor y ddadl Aelodau unigol ar golli babanod. Yn anffodus, nid yw colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn ddigwyddiadau anghyffredin. Daw un o bob pedwar beichiogrwydd i ben drwy gamesgoriad, ac ar draws y DU, mae 15 o fabanod yn marw bob dydd naill ai cyn, yn ystod neu'n fuan ar ôl genedigaeth, sy'n golygu bod miloedd o rieni yn mynd drwy drasiedi marwolaeth eu baban.
Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau ymhlith plant yn y DU yn digwydd o fewn y flwyddyn gyntaf o fywyd. Marwolaethau newyddenedigol—marwolaeth baban o fewn pedair wythnos gyntaf bywyd—yw rhwng 70 y cant ac 80 y cant o'r holl farwolaethau babanod ledled y DU. Ac yng Nghymru, yn 2016, aeth teuluoedd 263 o fabanod drwy artaith eu baban yn marw neu'n cael eu geni'n farw-anedig. Golyga hyn fod y mwyafrif helaeth o rieni a fydd angen cymorth ar ôl marwolaeth plentyn yn rhieni i fabanod ifanc iawn sy'n 28 diwrnod oed neu'n iau. Mae ansawdd y gofal y bydd teuluoedd mewn profedigaeth yn ei gael ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn allweddol i'w hadferiad. Ni all gofal da ddileu poen a gofid rhieni, ond mae'n gallu eu helpu i ddod trwy'r drasiedi. Ar y llaw arall, gall gofal gwael ychwanegu'n sylweddol at eu gofid. Dyna pam y mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i wella'r gofal y bydd rhieni'n ei gael ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban, i sicrhau bod teuluoedd yn cael gwasanaethau neu gymorth priodol.
Nid yw'r anawsterau y bydd teuluoedd yn eu hwynebu i gael gwasanaethau profedigaeth yn dilyn camesgoriad neu farw-enedigaeth yn fater newydd i ni yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cyflwynwyd adroddiad i Lywodraeth Cymru yn galw am well mynediad at arbenigwyr a mwy o ofal tosturiol i fenywod sy'n dioddef camesgoriad. Mae'r adroddiad, sy'n cyflwyno'r achos dros well gofal camesgoriad yng Nghymru, yn amlinellu safbwyntiau menywod ynglŷn â'r gofal a gawsant ar ôl cael camesgoriad. Ymhlith ei argymhellion, mae'n galw am lefelau uwch o gymorth seicolegol ac emosiynol, a chreu dau glinig pwrpasol yng Nghymru ar gyfer menywod sydd wedi colli baban yn ystod beichiogrwydd sawl gwaith.
Clywodd y pwyllgor rwy'n ei gadeirio, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am y diffyg cymorth seicolegol i rieni mewn profedigaeth ar ôl colli babanod newyddenedigol yn ei ymchwiliad diweddar i iechyd meddwl amenedigol. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthym fod effeithiau colli baban ar iechyd meddwl y fam wedi'i gydnabod yn dda, a thynnodd sylw at alwad Coleg Brenhinol y Bydwragedd am fydwragedd arbenigol i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr wrthym fod ei arolwg ledled y DU o fenywod a oedd wedi dioddef problemau iechyd meddwl amenedigol wedi canfod nad oedd rhai o'r ymatebwyr a oedd wedi profi camesgoriad a marw-enedigaethau yn teimlo eu bod wedi cael digon o gymorth yn dilyn y digwyddiadau hyn neu yn ystod beichiogrwydd dilynol. A dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wrthym fod profedigaeth yn sgil camesgoriad, marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol yn fwy tebygol o arwain at broblemau iechyd meddwl yn y ddau riant.
Ac eto, ar yr adegau pan gynigiwyd cymorth i fenywod, clywsom na chafodd ei gynnig i'w partneriaid, gyda llawer o fenywod yn nodi'r teimlad fod yna ragdybiaeth nad oedd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar ddynion yn yr un modd ag y maent yn effeithio ar fenywod. Clywsom hefyd fod rhai menywod wedi nodi na chawsant gynnig unrhyw gymorth profedigaeth, er iddynt ofyn amdano, neu eu bod wedi'i gael ormod o amser ar ôl y digwyddiad. Yn amlwg nid yw hyn yn dderbyniol.
Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol ym mis Hydref y llynedd. Ymhlith ein hargymhellion roedd galwad ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n disgwyl i'r diffyg cymorth seicolegol ar gyfer rhieni mewn profedigaeth newyddenedigol gael ei ddatrys, a'r safonau sydd i'w cyrraedd, a pha gamau y bydd yn eu rhoi ar waith os na chydymffurfir â'r safonau. Cyhoeddwyd trydydd argraffiad o safonau newyddenedigol Cymru ym mis Mai—yn hwyrach nag y gobeithiem fel pwyllgor. Ceir cyfeiriad yn y safonau at gymorth seicolegol ar gyfer rhieni, cymorth y dylai pob bwrdd iechyd weithio i'w gyflawni. Mae'r safonau'n datgan bod mynediad amserol at gymorth seicolegol yn hanfodol i atal unrhyw effaith ar iechyd meddwl y rhiant, ac y dylai pob uned newyddenedigol sicrhau bod digon o seicolegwyr, cwnselwyr a gweithwyr iechyd meddwl eraill ar gael, fel bod rhieni, brodyr a chwiorydd a staff yn gallu cael cymorth.
Mae papur briffio gan Bliss, yr elusen ar gyfer babanod sy'n cael eu geni'n gynnar neu'n sâl, yn dweud eu bod wedi canfod bod rhieni mewn mwy na hanner yr unedau newyddenedigol heb gael mynediad at gymorth seicolegol, er gwaethaf y gofynion clir yn y safonau, ac nid oes gan yr un o'r tair uned gofal dwys i'r newyddanedig weithiwr iechyd meddwl dynodedig. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddigon da, ac mae'n fater y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth Cymru gan fod y safonau newydd wedi'u cyhoeddi bellach, fel rhan o'r gwaith dilynol y mae'r pwyllgor yn ei wneud ar ein hymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol. Dyna pam rwy'n falch o gael y cyfle hwn i godi'r mater eto heddiw. Rwy'n ddiolchgar hefyd i fy nghyd-gyflwynwyr—David Rees, a thad newydd ac arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price—am gefnogi'r cynnig hwn, a hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi nodi eu cefnogaeth iddo.
Yr wythnos nesaf yw Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ledled y DU. Bydd yn cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Hydref. Fe'i trefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gofal profedigaeth ardderchog ar gyfer pob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Drwy gydol yr wythnos, bydd rhieni mewn profedigaeth, eu teuluoedd a'u ffrindiau yn uno gyda'i gilydd ac eraill i goffáu bywydau babanod a fu farw yn ystod beichiogrwydd, wrth gael eu geni neu'n fuan ar ôl eu geni, ac yn ystod babandod. Mae digwyddiad goleuo cannwyll yn cael ei noddi gan fy nghyd-Aelod Mark Drakeford ym mhrif neuadd y Pierhead ddydd Mercher 10 Hydref, o 12:15 i 12:45, fel rhan o'r Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau'n ymuno yn y digwyddiad hwnnw.
Mae'r sefydliadau sydd y tu cefn i'r Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod a thu cefn i'r cynnig rwy'n ei gyflwyno heddiw yn galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi a seneddwyr i wneud yn siŵr fod rhieni sy'n dioddef yn sgil colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn cael y cymorth gorau posibl pryd bynnag y bo'i angen arnynt ni waeth ble maent yn byw. Ni ddylai ansawdd gofal i rieni mewn profedigaeth fod yn loteri. Mae rhieni Cymru'n haeddu gwell. Dyna pam y mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i roi camau pendant ar waith i wella'r gofal y mae rhieni'n ei gael ar ôl colli baban.
Rwy'n deall bod Lloegr a'r Alban wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y 18 mis diwethaf ar ddatblygu a darparu llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol a luniwyd i wella ansawdd y gofal i rieni a theuluoedd ar bob cam o golli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban. Mae'r llwybr yn cynnwys adnoddau, pecynnau cymorth a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Ni ddylai fod y tu hwnt inni yng Nghymru allu sicrhau bod ein rhieni ninnau hefyd yn cael gofal o ansawdd da ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Dyna pam y mae'r cynnig hwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i fabwysiadu set graidd o safonau gofynnol ar gyfer gofal profedigaeth i rieni sydd wedi colli baban.
Er bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli babanod, ceir rhai mentrau gwych yng Nghymru. Un cynllun o'r fath yw'r cymorth profedigaeth newyddenedigol a ddarperir gan y tîm allgymorth newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Yn sicr, mae'n ddyletswydd arnom i fynnu bod cymorth o ansawdd yn cael ei roi i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi. Mae'n bryd rhoi'r gorau i siarad a gwneud rhywbeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Wel, mae yna rai cyflwyniadau grymus y prynhawn yma—yn y ddadl flaenorol ac yn hon. Rwy'n ddiolchgar i Lynne Neagle am agor y ddadl bwysig hon oherwydd rwy'n siarad gyda balchder ac anrhydedd yn y ddadl hon i gefnogi'r cynnig ac i ddathlu'r holl waith a wnaed yn y maes anodd hwn. Ond mae angen gwneud cymaint mwy i ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer yr holl nyrsys, y meddygon, y bydwragedd, y cwnselwyr profedigaeth, yr unedau newyddenedigol a'r holl elusennau. Mae gwasanaethau dan gymaint o bwysau, ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n llawn edmygedd o bawb ohonoch sy'n darparu gwasanaethau allan yno.
Ar 9 Tachwedd 1985, bu farw ein mab cyntafanedig, Huw, 40 munud ar ôl iddo gael ei eni, ym mreichiau fy ngwraig. Cawsom un darlun Polaroid cyflym ohono. Cynhaliwyd archwiliad post mortem, ac ychydig ddyddiau wedyn, yr angladd. Mae'r cyfan ychydig yn aneglur bellach, oherwydd ar ôl yr angladd, bu'n rhaid imi fynd yn syth yn ôl i weithio yn y feddygfa yn Fforest-fach. Mae Huw wedi'i gladdu mewn bedd heb ei farcio ym mynwent Treforys heddiw, fel cymaint o fabanod bach eraill.
Ar y pryd, ni allai neb siarad â ni am y trychineb hwn. Aeth ein teuluoedd i'w cregyn. Cafodd fy staff yn y feddygfa gyfarwyddwyd penodol gan y meddygon teulu a oedd yn bartneriaid i mi i beidio â sôn am Huw. Ond am gwnselydd profedigaeth gwych a gawsom. Mae'n gwneud i chi feddwl, 'Pam ni? Pam Huw?', a gallwch lithro i hunandosturi, neu gallwch ddweud wrthych eich hun, 'Nid yw'r drasiedi hon yn mynd i ddiffinio fy holl fywyd.' Yn sicr, fe wnaeth oes fer Huw i mi feddwl am fywyd, ei ystyr, a beth y gallwch ei gyflawni mewn 40 munud, beth y gallwch ei gyfrannu i'r ddynoliaeth mewn cynhesrwydd, cydymdeimlad a charedigrwydd na chafodd pobl eraill, fel Huw, erioed mo'r cyfle i'w gyfrannu—dim ond rhoi hwb i mi gyfrannu ar ei ran yntau hefyd.
Nid yw wedi'i anghofio. Mae ein gweithredoedd ni fel ei rieni yn deyrnged iddo ef; ei fywyd na allai gyfrannu, ond a ysgogodd eraill. Deuthum yn feddyg gwell ar ôl y trychineb hwn. Roedd fy nghwnsela bellach wedi'i seilio ar ddyfnder profiad wedi'i fyw yn hytrach na'i godi o'r llyfrau addysg. Oherwydd nad yw pobl yn gwybod beth i'w ddweud mewn trasiedi, fel pan oeddent yn wynebu fy ngwraig a minnau, rwy'n dweud wrth bobl yn awr—nid ydynt yn gwybod beth i'w ddweud, ac rwy'n dweud, 'Dywedwch, "mae'n ddrwg gennyf", dyna i gyd. Peidiwch â cherdded i ffwrdd. Peidiwch â throi eich cefn. "Mae'n wir ddrwg gennyf." Nid oes geiriau', dyna rwy'n ei gynghori, 'A "fe wrandawaf pan fyddwch eisiau siarad."' Peidiwch byth â throi eich cefn ar rywun sydd wedi wynebu trasiedi.
Fe heriodd Huw fi, yn ei 40 munud, i wneud ei ran yntau, ac i beidio â pharhau i fod yn ddioddefwr, ond i fyw fel teyrnged iddo ef. Dilynodd tri phlentyn bendigedig ac ar 9 Tachwedd y llynedd, ganwyd ein hŵyr cyntaf, Dyfan.
I gloi, fel ACau Plaid Cymru rydym yn aml yn dweud ein bod yn sefyll ar ysgwyddau cewri hanes Cymru yma yn y Senedd, gan gadw fflam Cymru'n fyw. Rydym hefyd yn sefyll ar ysgwyddau'r rheini a fyddai wedi bod wrth eu bodd yn gwneud cyfraniad, ond na allodd wneud hynny. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gael cyfle i siarad ar y cynnig hwn cyn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Nid oes modd gorbwysleisio'r effaith y mae colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi yn ei chael. Gall teimlo eich bod yn gallu neu eich bod wedi cael caniatâd i alaru fod yn anhygoel o anodd, yn enwedig yn y misoedd a'r blynyddoedd wedyn. Dywedodd un fam wrthyf fod gwasanaethau coffa arbennig yn dod â chymaint o gysur oherwydd gall teuluoedd ganiatáu i'w hemosiynau ddod allan ar yr adegau hynny a choffáu bywyd y baban. Bydd gwasanaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru yr wythnos nesaf i helpu i ddod â theuluoedd sydd wedi profi colledion tebyg at ei gilydd.
Fel y dywed y cynnig heddiw, mae'n hanfodol i deuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban allu cael gwasanaethau a chymorth priodol, ac rydym eisoes wedi clywed bod yna anghysondeb o ran mynediad at wasanaethau ledled Cymru. Yng Nghasnewydd, mae gennym grwpiau cymorth rhagorol, ac un o'r rheini yw canolfan gwnsela Beresford ar gyfer rhai sy'n colli baban yn ystod beichiogrwydd. Mae staff y ganolfan yn darparu cymorth am ddim, gwybodaeth a chymorth i deuluoedd ar draws de Cymru. Yn ogystal â thrallod eithafol, gall marwolaeth baban neu golli baban yn ystod beichiogrwydd achosi teimladau o ddicter, pryder, panig a diffyg cwsg. Mae'r teimladau hyn yn rhan normal o alaru, ac mae'r sesiynau'n caniatáu i rieni ollwng stêm. Mae'r ganolfan yn cynnig y gofod diogel y mae mamau a thadau cymaint o'i angen.
Nid yw mynediad uniongyrchol i ofal a chymorth byth yn mynd i leddfu galar rhieni, ond gall eu helpu i ymdopi ar adeg ofnadwy. Siaradais yn ddiweddar â mam a ddywedodd wrthyf ei bod hi'n hynod o ddiolchgar i staff Ysbyty Brenhinol Gwent am y modd yr edrychodd ar ei hôl hi a'i gŵr pan fu farw eu baban. Bydd y sensitifrwydd a'r tosturi diffuant a ddangoswyd i'r ddau riant yn aros gyda'r ddau am byth. Dywedodd mam arall wrthyf nad oedd hi'n gwybod sut y byddai wedi dal ati pe na bai wedi cael plentyn eisoes.
Nid yw dyfnder y teimlad yn lleihau dros amser. Dro'n ôl siaradais â phâr sydd newydd nodi hanner canrif ers geni eu baban marw-anedig. Er na fydd eu baban byth yn mynd yn angof, ni allent fynd ati i lunio coflech tan yn ddiweddar. Nid yw'r rhieni, a aeth ymlaen i gael plant eraill, wedi anghofio eu merch a fu farw. Ar y pryd, dywedwyd wrthynt am ddal ati a dod dros y peth, ond maent bellach yn teimlo'u bod yn gallu siarad am eu galar yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Dai Lloyd, am ei gyfraniad personol heddiw, a oedd mor bwerus.
Nid oes cymaint â hynny o amser er pan nad oedd pobl yn siarad am golli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Ceir teuluoedd a rhieni ledled Cymru sydd wedi bod yn galaru'n dawel ers degawdau. Bellach, dylai codi ymwybyddiaeth ddod â rhywfaint o gysur i deuluoedd, gobeithio, er na fydd dim yn gallu dileu'r boen. Mae'n bwysig i famau a thadau gael amser i alaru a pheidio â theimlo bod yn rhaid iddynt ddal ati fel pe na bai dim o'i le. Mae mynediad at lefel ragorol o ofal profedigaeth ar gyfer pob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi yn hanfodol.
Mae'r elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion, Sands, yno i helpu rhieni i alaru ac i'w cefnogi drwy eu hadegau tywyllaf. Caiff grŵp Sands Casnewydd ei redeg gan rieni mewn profedigaeth sy'n anelu i helpu pobl eraill sy'n mynd drwy drasiedïau tebyg i'r rhai a gawsant hwy eu hunain. Dosberthir pecynnau cymorth a blychau cof yn y cyfarfodydd misol, sydd, fel y rhai yng nghanolfan Beresford, yn fan diogel ar gyfer rhieni mewn profedigaeth. Ariannwyd yr ystafell brofedigaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent gan Sands, ac mae'r cyfleuster hwn wedi llwyddo i helpu llawer o deuluoedd. Grŵp hynod o ymroddedig o wirfoddolwyr yw Sands sy'n darparu gwasanaeth amhrisiadwy.
Er bod mwy o gymorth ar gael i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn awr nag a oedd o'r blaen, yn sicr mae mwy i'w wneud. Yn Lloegr a'r Alban, mae gweithwyr iechyd proffesiynol a grŵp o elusennau colli babanod wedi datblygu dull newydd o wella gwasanaethau profedigaeth gan ddefnyddio set o safonau gofynnol. Rwy'n gobeithio y gellir mabwysiadu'r rhain yma yng Nghymru. Mae gwella cysondeb a pharhad gofal ar gyfer rhieni yn hollbwysig, ac rwy'n cytuno gyda'r cynnig i fabwysiadu'r llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol. Mae hwn yn tanlinellu'r angen i holl staff y GIG sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn profedigaeth gael hyfforddiant gofal profedigaeth ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth y bydd GIG Cymru yn ceisio ei hwyluso.
Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn y cynigion a gyflwynwyd yn y cynnig heddiw. Byddant yn gwneud gwahaniaeth mawr i rieni sydd eisoes wedi cael profedigaeth a hefyd y rheini sydd, yn anffodus, yn mynd i ddioddef colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio gweld llawer o'r Aelodau'n sefyll gyda rhieni sy'n galaru i oleuo cannwyll gyda Sands yn y Pierhead yr wythnos nesaf. Mae'n hanfodol fod y rheini sydd angen cymorth bob amser yn gallu cael y gofal gorau posibl y gellir ei gynnig.
Hoffwn ddiolch i Lynne, Adam a David am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae'r wythnos nesaf yn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod a pha well ffordd i'w nodi na thrafod y cymorth y mae Cymru'n ei roi i'r teuluoedd yr effeithir arnynt gan farwolaeth baban?
Mae'n ffaith drist nad yw colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn ddigwyddiadau anghyffredin. Mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben drwy gamesgoriad a phob dydd yn y DU mae 15 o fabanod yn marw cyn, yn ystod neu'n fuan ar ôl genedigaeth. Mae hyn yn drychinebus i'r rhieni ac yn anffodus, yn aml ni chânt yr help a'r cymorth sydd ei angen arnynt, ond rydym yn diolch i bawb sy'n rhoi eu hamser a'u cymorth, ac sy'n llwyddo i wneud pethau'n well. Gallwn wneud cymaint mwy i'r cannoedd o deuluoedd yng Nghymru sy'n dioddef yn sgil colli baban. Yn anffodus, nid oes gan Gymru glinig camesgor arbenigol ac mae cleifion Cymru'n ei chael hi'n anodd cael atgyfeiriad i glinig Tommy's yn Coventry.
Yn ddiweddar, cyflwynodd ymgyrchwyr adroddiad 24 tudalen i Lywodraeth Cymru yn manylu ar gamau gweithredu y gellid eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sydd wedi dioddef camesgoriad sawl gwaith. Mae'r adroddiad 'Making the Case for Better Miscarriage Care in Wales' yn gwneud 11 o argymhellion, sy'n cynnwys creu clinigau pwrpasol yng Nghymru ar gyfer menywod sydd wedi colli babanod yn ystod beichiogrwydd sawl gwaith.
Rydym yn darparu gofal i rai sy'n dioddef yn sgil colli baban yn ystod beichiogrwydd, ond mae'n rhaid iddo wella, ac weithiau rhoddir taflen i famau a'u hanfon adref ar ôl camesgoriad ac nid oes unrhyw gymorth profedigaeth ar gyfer y fam na'r tad nac unrhyw ofal dilynol. Mae rhai teuluoedd yn dioddef hyn sawl gwaith, ac os ydynt yn ffodus, mae'n bosibl y cânt eu hatgyfeirio at gynecolegydd. Dywedwyd wrth un pâr, ar ôl eu pumed camesgoriad, fod rhai pobl yn anghymharus ac y dylent ystyried mabwysiadu. Felly mae angen mwy o ddealltwriaeth ynglŷn â sut i drin teuluoedd mewn profedigaeth. Er ein bod yn llwyddo mewn sawl man a bod llawer o bobl yn cael y cymorth sydd ei angen, mae rhai'n llithro drwy'r rhwyd.
Yn anffodus, mae llai na hanner y byrddau iechyd lleol yn darparu hyfforddiant gofal profedigaeth gorfodol ar gyfer staff ac mae'r rhai sy'n cynnig hyfforddiant yn darparu llai nag awr ohono bob blwyddyn. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn derbyn bod gofal a chymorth profedigaeth tosturiol yn rhan allweddol o'r ddarpariaeth gwasanaethau mamolaeth. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd ar lawr gwlad. Ceir amseroedd aros hir iawn ar gyfer cwnsela profedigaeth yng Nghymru ac fel rheol, nid yw'r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig i deuluoedd sy'n dioddef camesgoriad.
Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn dangos cefnogaeth i argymhellion yr adroddiad 'Making the Case for Better Miscarriage Care in Wales'. Mae'n rhaid inni wneud yn well ar ran teuluoedd yng Nghymru sy'n dioddef colli baban. Er ein bod yn gwneud llawer iawn, mae mwy y gallem ei wneud. Felly, gadewch i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod drwy wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd yng Nghymru a gweithio gyda'n gilydd. Diolch i'r rheini sydd eisoes yn llwyddo ac yn helpu pobl yng Nghymru i symud ymlaen a chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Vaughan Gething.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau a gyflwynodd y ddadl ar fater pwysig ac emosiynol iawn arall, ond yn arbennig i'r rhai sydd wedi cyfrannu.
Mae marw-enedigaethau, colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn aml yn ddigwyddiadau nad ydym yn ystyried eu bod yn mynd i ddigwydd i ni. Maent yn bethau y clywn amdanynt yn digwydd i bobl eraill. Ond maent yn digwydd i lawer o bobl yn ein gwlad a byddant yn digwydd eto yn y dyfodol. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i leihau'r digwyddiadau trallodus hyn.
Pan fydd teuluoedd yn dioddef yn sgil colli baban, rhaid i GIG Cymru sicrhau bod gwasanaethau profedigaeth ar gael i ddarparu'r cymorth a'r amgylchedd priodol er mwyn i deuluoedd dreulio amser gyda'u baban. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda rhwydweithiau mamolaeth a newyddenedigol mewn cydweithrediad â'r byrddau iechyd er mwyn sicrhau arferion gwell a safonedig.
Yng Nghymru, cafodd ein hymateb i farw-enedigaethau ei gryfhau ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yn 2013, ac fel nifer o'r Aelodau eraill roeddwn ar y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwnnw. Sefydlwyd y rhwydwaith mamolaeth fel argymhelliad a ddeilliodd o hynny. Roedd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o farw-enedigaethau, a gweithredu mesurau i ganfod babanod mewn perygl a gwella iechyd mamau, sy'n ffactor risg allweddol. Yn ogystal, roedd yn cynnwys gweithredu rhaglen asesu twf ar draws Cymru, gyda hyfforddiant amlbroffesiynol ac ymarferion argyfwng a chanllawiau ar gyfer pan fyddai lleihad yn symudiadau'r ffetws, a phroses adolygu marwolaethau amenedigol a'r gwersi i'w dysgu o hynny.
Ond mae marw-enedigaethau a cholli babanod yn ystod beichiogrwydd yn aml yn bynciau na chaiff eu trafod. Clywsom gan Jayne Bryant am ei hatgof o hynny, ond yn arbennig am brofiad personol Dai Lloyd. Ceir adegau pan fyddwch yn clywed pethau gan yr Aelodau yn y Siambr hon na wyddoch amdanynt ac na fyddech wedi'u disgwyl. Gallai fod wedi digwydd rai degawdau yn ôl, ac er yr holl brofiad meddygol a phrofiad bywyd, rwy'n credu ei fod yn dal yn beth hynod o ddewr i'w rannu yn y Siambr am yr effaith go iawn, ac mae'n gwneud y stori honno sy'n digwydd mewn teuluoedd eraill bob dydd yn y wlad yn fyw iawn ac yn amlygu pam y mae angen inni wella'r hyn y gallwn ei wneud.
Gwrandawodd y fenter beichiogrwydd diogelach a arweinir gan y rhwydwaith mamolaeth ar deuluoedd a oedd yn dymuno i obstetregwyr a bydwragedd dorri drwy'r tawelwch. Gyda chymhlethdod cynyddol mewn beichiogrwydd, gan gynnwys gordewdra, ysmygu a ffactorau iechyd mamol fel diabetes, mae perygl o gynyddu nifer yr achosion o farw-enedigaethau, nid eu lleihau. Dyna pam yr oedd y fenter beichiogrwydd diogelach mor bwysig, gyda'r posteri, y waledi gwybodaeth i gario nodiadau llaw, ac i godi ymwybyddiaeth o bethau fel symudiadau ffetws, ysmygu, bwyta'n dda, a gweld eich bydwraig yn gynnar er mwyn manteisio ar y gofal bydwreigiaeth rhagorol sydd ar gael. Mae gwerthusiad diweddar o'r fenter honno wedi dangos bod menywod a gweithwyr gofal iechyd yn croesawu'r dull, ac mae'r rhwydwaith eisoes yn edrych ar ffyrdd o ledaenu'r neges mewn ffordd gyson.
Sefydlwyd rhwydwaith newyddenedigol Cymru yn hydref 2010 ac mae'n ceisio sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer babanod a mamau gyda gofal mwy safonedig. Mae'n dod â gweithwyr iechyd proffesiynol y GIG a phartneriaid o sefydliadau eraill at ei gilydd i oruchwylio gofal newyddenedigol yn erbyn safonau newyddenedigol Cymru gyfan. Mae'r safonau hynny'n nodi y dylai pob uned sicrhau bod mynediad amserol at gymorth seicolegol ar gael i rieni, ac fel y clywsom ar y dechrau, mae gennym beth ffordd i fynd cyn i ni gyrraedd yno ar sail gyson. Yn gynharach eleni, dechreuodd y rhwydweithiau newyddenedigol a mamolaeth eu cynlluniau i uno a dod yn rhwydwaith ar y cyd yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda threfniadau arweinyddiaeth a llywodraethu diwygiedig. Bydd yr uno'n sicrhau cyfleoedd i feithrin cysylltiadau agosach ar draws y llwybr ehangach i'r fam a'i baban, ac i ddarparu meysydd newydd ar gyfer gweithio ar y cyd a gwella.
Mae genedigaeth babi ar ffin y gallu i oroesi yn ansicr o ran canlyniad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'n GIG a chyda theuluoedd i ddatblygu canllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, er mwyn sicrhau bod pob baban yn derbyn asesiad unigoledig. Os rhagwelir y bydd baban yn cael ei eni ar ffin y gallu i oroesi, neu os yw'n digwydd, dylai timau newyddenedigol a mamolaeth sicrhau y gwneir asesiadau clinigol a phenderfyniadau unigoledig am y rheolaeth barhaus a'r cymorth a ddarperir. A rhaid i'r defnydd o'r crebwyll clinigol hwnnw ddigwydd mewn partneriaeth sensitif â theuluoedd, y dylid eu trin â pharch ac urddas.
Mae marwolaeth baban yn brofiad erchyll i bawb sy'n ei wynebu. Mae menywod a theuluoedd yn haeddu cymorth personol a gwybodaeth yn dilyn marw-enedigaeth a marwolaeth baban. Gwnaed gwaith ar y cyd eisoes gydag asiantaethau trydydd sector megis yr elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol, Sands, a 2 Wish Upon a Star, i helpu i ddarparu hyfforddiant, gwybodaeth i deuluoedd, ac i ddatblygu amgylcheddau gwell, ac i roi cyfleoedd i ddatblygu atgofion ar gyfer y dyfodol.
Y pwynt cadarnhaol y dylid ei gymryd yw bod gennym ragoriaeth yn ein gwasanaethau yma yng Nghymru eisoes. Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio Laura Wyatt, sy'n fydwraig yng Nghaerdydd a'r Fro. Fe'i gwnaed hi'n fydwraig y flwyddyn y DU yng Ngwobrau diweddar Coleg Brenhinol y Bydwragedd, a daeth y wobr honno wedi iddi gael ei henwebu gan rieni mewn profedigaeth, a'r cymorth a roddodd iddynt a'i chefnogaeth wedyn wrth iddynt ddod yn rhieni, dyna oedd pwynt yr enwebiad—cydnabod y gwahaniaeth a wnaeth ei gwaith. Mae hi'n rhan o is-grŵp profedigaeth y rhwydwaith mamolaeth, i helpu i ddatblygu'r safonau uwch ac i ddatblygu amgylcheddau gwell ar gyfer rhieni.
Yn y gwasanaethau mamolaeth bellach, mae gan bob bwrdd iechyd arweinydd profedigaeth dynodedig i gefnogi teuluoedd a'u galluogi i dreulio amser gyda'u babanod. Felly, rwy'n croesawu safonau'r DU ar gyfer gofal profedigaeth a fydd yn cael eu lansio yr wythnos nesaf. Mae'r rhwydwaith mamolaeth wedi cysylltu gyda Sands drwy gydol y broses o ddatblygu a threialu'r llwybr gofal a'r safonau. Mae'r rhwydwaith mamolaeth wedi mabwysiadu'r rhain o fewn y safonau profedigaeth newydd ar gyfer Cymru gyfan, felly mae gan yr holl wasanaethau mamolaeth lwybr profedigaeth ar waith, a bydd yn adolygu'r rhain yn dilyn gwerthusiad o gynllun peilot y DU.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gyfle inni gofio'r babanod sydd wedi marw, a dylai ein helpu i dorri drwy'r tawelwch a dechrau sgyrsiau am y mater pwysig hwn i wneud yn siŵr nad yr hyn y mae Dai Lloyd yn ei gofio am bobl yn fwriadol yn osgoi cael sgwrs yw'r ffordd y byddwn yn gweithio ac yn ymddwyn yn y dyfodol. Bydd darparu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol diogel ac effeithiol ar gyfer menywod a theuluoedd yn helpu i gynorthwyo pob plentyn a phob teulu i gael y dechrau gorau posibl. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod teuluoedd sy'n dioddef colli baban yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl gan ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru, ac rwy'n hapus hefyd i ymrwymo i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau yn y dyfodol ar y cynnydd a wnawn yn sgil pasio'r cynnig hwn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Fe ymatebaf i'r ddadl hon ar ran fy nghyd-Aelod, Adam Price, sy'n un o'r enwau a'i cyflwynodd. Hoffwn ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i bob Aelod am gymryd rhan yn yr hyn a fu, rwy'n credu, yn ddadl deimladwy iawn. Nid yw bob amser yn briodol i wleidyddion ddod â'n profiadau personol i ddylanwadu ar ein gwleidyddiaeth, ond weithiau mae'n briodol iawn inni wneud hynny, ac roedd hynny'n arbennig o wir heddiw. Cyn imi ymateb i unrhyw beth a ddywedodd yr Aelodau eraill, hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad. Roedd yn ysgytwol iawn, ac yn ysbrydoli hefyd yn fy marn i. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny, Dai.
Gwnaeth Lynne achos pwerus iawn dros wella gwasanaethau, a nododd yr anghysondeb y mae teuluoedd yn gorfod ei ddioddef yn rhy aml. Ond mae'r Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi cymryd rhan hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod rhai arferion da iawn yn digwydd, a'r peth pwysig, rwy'n meddwl, yw dysgu o hynny. Mae sylwadau Jayne Bryant am rai o'r gwasanaethau ardderchog a ddarperir gan y trydydd sector, rhai o'r gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan y rhieni, yn werthfawr iawn ac yn bwysig iawn.
Soniodd Lynne am y distawrwydd a geir yn aml ynghylch y materion hyn, ac mae Aelodau eraill wedi sôn am hynny. Gall fod yn anodd iawn. Yn aml er enghraifft, caiff camesgoriad ei drin fel pe na bai'n golled go iawn, fel pe na bai'n brofedigaeth mewn gwirionedd. Ond wrth gwrs, i'r rhieni hynny, mae'n blentyn go iawn, wrth gwrs ei fod. Credaf fod yr Aelodau wedi tynnu sylw hefyd—Lynne yn arbennig—at yr angen i ddarparu gwasanaethau ar gyfer tadau yn ogystal ag ar gyfer mamau. Yn rhy aml o hyd, ni chynigir unrhyw gefnogaeth profedigaeth, ond pan gaiff ei gynnig, i'r fam yn unig y caiff ei gynnig yn rhy aml fel pe na bai'r tad wedi dioddef colled, ac mae'n bwysig iawn inni sicrhau bod y golled i'r ddau riant ac i aelodau o'r teulu yn wir, ac fel y soniodd eraill, i frodyr a chwiorydd yr effeithir arnynt hefyd yn sgil colli baban, yn cael ei chydnabod.
Rwy'n ddiolchgar i Caroline am wneud y pwyntiau am yr angen am wasanaethau arbenigol ar gyfer menywod sy'n dioddef sawl camesgoriad. Mae'r syniad y gallwch ddweud wrth bâr, 'Wel, mae rhyw fath o anghymarusrwydd yma, ac ni fyddwch chi byth yn rhieni ac mae'n rhaid i chi dderbyn hynny' yn rhywbeth y credaf na fyddai neb ohonom am ei oddef yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Credaf hefyd fod y pwyntiau ynglŷn â hyfforddiant pellach a gwell ar gyfer staff yn rhai da iawn.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb ac yn gwerthfawrogi'r hyn a nododd o ran y gwaith sy'n cael ei wneud, ond rwy'n credu bod y dystiolaeth a gyflwynwyd heddiw, y dystiolaeth gan yr elusennau a oedd yn rhan o'r gynghrair ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod—ac yn fyr, hoffwn ddiolch i'r sefydliadau hynny am ddod at ei gilydd mor effeithiol i helpu i godi'r materion pwysig a hynod o anodd hyn, ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn rhai o'r digwyddiadau coffáu hynny gyda theuluoedd a fydd yn digwydd yr wythnos nesaf fel y soniodd Jayne a Lynne ac eraill—.
Ond rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad oes lle i laesu dwylo yma. Rwy'n falch iawn o'i glywed yn dweud wrthym y bydd gan bob gwasanaeth, drwy'r rhwydweithiau mamolaeth, lwybr profedigaeth dynodedig bellach. Nid oeddwn yn hollol glir o'i sylwadau am ba hyd y bu'r llwybrau hyn ar waith. Os yw'n newydd iawn, credaf y gallwn edrych ymlaen, fel y dywedodd, at glywed y wybodaeth ddiweddaraf am ba mor dda y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu. Ond rydym yn gwybod y gall fod bwlch rhwng polisi cenedlaethol a darpariaeth ar lawr gwlad, ac rwy'n siŵr na fydd yr un ohonom yn y Siambr hon yn goddef bwlch o'r fath mewn perthynas â mater mor sensitif.
Ni ddylid gadael unrhyw fam, unrhyw dad sy'n colli plentyn yng Nghymru i ymdopi â hynny eu hunain. A gwyddom fod hynny'n dal i ddigwydd yn awr. Bydd llawer ohonom yn y Siambr wedi cael profiad teuluol o hyn. Credaf ein bod yn tueddu weithiau i feddwl am golli baban fel rhywbeth anghyffredin. Fel y mae Lynne ac eraill wedi nodi, nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd, a'r dyddiau cyntaf hynny yw'r amser mwyaf peryglus i unrhyw blentyn yng Nghymru.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ailadrodd fy niolch i bawb sydd wedi cyfrannu, diolch i bawb sydd wedi siarad am eu profiadau, yn enwedig rhieni a theuluoedd sydd wedi rhannu'r heriau a wynebwyd ganddynt gyda ni, diolch yn fawr i'r holl bobl wych sy'n darparu gwasanaethau rhagorol, a dweud fy mod yn edrych ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â'r modd y caiff gwasanaethau cwnsela seicolegol priodol eu darparu ar gyfer teuluoedd ym mhobman yng Nghymru sy'n cael profiad o hyn, os mai dyna maent ei eisiau. Os gadewir un teulu i ymdopi â'r profiad hwn ar eu pen eu hunain yn ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru, bydd yn un teulu'n ormod, ac ni ellir goddef hynny. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Gareth Bennett, a gwelliant 3 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Symudwn yn awr at ddadl Plaid Cymru ar bleidlais y bobl, a galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig—Adam.
Cynnig NDM6816 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid cynnal pleidlais y bobl drwy refferendwm y DU-gyfan ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyflwynodd Plaid Cymru y cynnig hwn heddiw ar bleidlais y bobl oherwydd ein bod yn credu'n ddidwyll ac yn ystyriol mai ein dyletswydd ddifrifddwys yw gwneud popeth yn ein gallu i osgoi trychineb o'n gwneuthuriad ein hunain i'n gwlad. Mae democratiaeth yn beth pwerus yn wir; gall ffurfio a dymchwel llywodraethau, gall greu democratiaethau newydd a chenedl-wladwriaethau, ond yn ei hanfod, wrth gwrs, mae'n darparu cyfleoedd rheolaidd i'r bobl eu hunain newid eu meddyliau.
Ar 23 Mehefin 2016, cymerodd pobl ym mhedair gwlad y DU ran yn un o'r ymarferion democratiaeth mwyaf a welodd y DU erioed. Gwnaed addewidion gan y ddwy ochr yn ymgyrch y refferendwm, 'gadael' a 'aros', ac yn aml iawn gan unigolion a gwleidyddion nad oeddent mewn sefyllfa i'w cyflawni. Gadewch inni edrych ar rai o'r addewidion a wnaed, rhai o'r ffeithiau a'r opsiynau o ran beth y dylem ei wneud yn awr. 'Gadewch inni roi'r £350 miliwn y mae'r UE yn ei gymryd bob wythnos i'r GIG' oedd yr addewid mwyaf amlwg oll, wrth gwrs: cafodd ei dynnu'n ôl ar y diwrnod wedi'r bleidlais. Wrth gwrs, y gwir amdani yw bod Brexit mewn gwirionedd yn costio £500 miliwn yr wythnos i economi'r DU bellach, yn ôl amcanestyniadau diweddaraf y Ganolfan Ddiwygio Ewropeaidd. Dyna £26 biliwn y flwyddyn, sef, fel y mae'n digwydd, y gwahaniaeth rhwng parhau a rhoi diwedd ar bolisi cyni—sy'n eironig, gan mai'r polisi cyni oedd un o'r prif ffactorau a ddylanwadodd ar y bleidlais.
Efallai y bydd yr Aelodau wedi clywed fy rhybudd y bore yma ein bod yn anelu tuag at fynydd iâ economaidd ac angen newid llwybr. Ceir rhai sy'n dadlau dros strategaeth amgen, y gellir ei disgrifio orau fel, 'Gadewch i'r mynydd iâ symud'. Maent yn gwrthod yr holl rybuddion ac yn mynnu ein bod ar fin mynd i mewn i ddyfroedd tawel ac y bydd yr UE yn y pen draw yn plygu i'n galwadau.
Addawyd cytundebau masnach newydd sbon i ni gyda gwledydd yr UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE, a'r cytundeb gyda'r UE fyddai'r 'fargen fasnach hawsaf a negodwyd erioed', yn ôl yr honiad. Wel nawr, er eu bod yn iawn y byddai gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn caniatáu i'r DU ddechrau'r gwaith o negodi cytundebau masnach newydd gyda gwledydd eraill, mae cwestiynau anodd a phoenus yn codi ynghylch cynnwys ac amserlen cytundebau o'r fath. Yr amser cyfartalog ar gyfer negodi cytundeb masnach rydd, yn ôl Sefydliad Economeg Ryngwladol Peterson, yw 18 mis, gyda thair blynedd a hanner arall i gyrraedd y cam gweithredu. Y ffigurau hyn yw'r cyfartaledd ar gyfer cytundebau masnach dwyochrog rhwng dau bartner. Os digwydd Brexit, bydd angen i'r DU gytuno ar gytundeb masnach gyda'r UE, a rhai ar wahân gyda'i bartneriaid masnachu, a cheir dros 50 o'r rheini. Nid oes unrhyw wlad ar y blaned wedi bod mewn sefyllfa lle bu'n rhaid iddi negodi dros 50 o gytundebau masnach rydd ar yr un pryd o dan yr amgylchiadau hyn. Mae'r Llywodraeth bresennol wedi treulio dwy flynedd yn negodi cytundeb gyda'r UE ac mae wedi methu gwneud unrhyw gynnydd. Ffantasi lwyr yw'r syniad y bydd negodi 50 o gytundebau o'r fath ar yr un pryd yn hawdd.
Mae cost cyfle enfawr eisoes wedi bod ers y refferendwm—holl amser y Llywodraeth wedi'i dreulio ar un mater a miloedd ar filoedd o weision sifil yn gweithio ar gynlluniau wedi'u gyrru'n unig, mae'n ymddangos, gan ddogma ac ideoleg, gydag un canlyniad: tanseilio economi Cymru a'r DU.
Er bod y rhagolygon macro yn frawychus, mae pethau'n gwaethygu hyd yn oed pan fyddwch yn edrych yn fanylach ar yr hyn y byddai gadael undeb tollau a marchnad sengl yr UE yn ei olygu'n ymarferol. Byddai'n golygu gadael Euratom, er enghraifft, sef y contract cyfreithiol sy'n galluogi'r DU i fewnforio sylweddau ymbelydrol a ddefnyddir yn eang ym maes meddygaeth ar gyfer trin canser. Mae gadael yr UE yn golygu gadael Euratom oni bai bod y DU yn ymgeisio am aelodaeth gyswllt, ac nid yw'n bwriadu gwneud hynny. A ydym yn dweud o ddifrif fod ein hannibyniaeth ymbelydrol—beth bynnag y mae hynny'n ei olygu—yn bwysicach na lles cleifion canser?
Pryder mawr arall yw beth fyddai'r cytundebau masnach rydd arfaethedig yn ei olygu a'u goblygiadau ehangach. Yn ddiweddar, rhyddhaodd Torïaid Ewrosgeptig adroddiad yn galw am gytundeb masnach rhwng y DU a'r Unol Daleithiau i ganiatáu i gwmnïau Americanaidd gystadlu am gytundebau iechyd yn y GIG: mor wahanol i hybu'r gyllideb iechyd drwy ddefnyddio'r difidend Brexit a addawyd.
Ymhlith y camau eraill tuag yn ôl a argymhellir gan yr eithafwyr asgell dde hyn, mae cynnau coelcerth o dan reoliadau defnyddwyr a rheoliadau amgylcheddol: cig eidion wedi'i drin â hormonau, cyw iâr wedi'i olchi â chlorin—lles pobl ac anifeiliaid yn cael ei aberthu ar allor hunllef imperialaidd. Mae'n drist—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Nid wyf yn credu fy mod yn eithafwr asgell dde, ond mater i eraill yw fy nisgrifio. Y broblem yw fy mod yn cofio gwneud llawer o'r pwyntiau hyn yn ystod ymgyrch y refferendwm. Roeddwn yn frwdfrydig dros aros. Nid wyf wedi newid fy marn ar y manteision strategol i'r DU o aros yn yr UE, ond fe wnaed penderfyniad. Pa asesiad a wnaethoch o'r difrod y byddech yn ei achosi i'n diwylliant democrataidd os ceisiwch wrthdroi canlyniad y refferendwm?
Wel edrychwch, credaf mai'r pwynt wrth galon popeth a ddywedais yw ein bod wedi gweld bod yr ucheldiroedd goleuedig hyn, y wlad yn llifo o laeth a mêl a addawyd, yn gelwydd llwyr. Dywedwyd celwydd wrth y bobl, ac mewn gwirionedd, mae llawer o'r rhai a bleidleisiodd ar sail y prosbectws ffug hwn yn ddig ynglŷn â dosbarth gwleidyddol sydd wedi gweithredu fel twyllwyr, ac yn yr amgylchiadau hynny mewn gwirionedd, er mwyn achub ein democratiaeth, mae angen inni ailedrych ar y cwestiwn drwy roi'r ffeithiau llawn a wadwyd iddynt y tro diwethaf i bobl.
Mae'n adlewyrchiad trist o'r hinsawdd bresennol fod gennym bellach aelodau o'r blaid sy'n rheoli yn dweud yn agored fod peryglu heddwch yng ngogledd Iwerddon yn bris gwerth ei dalu i wireddu eu nodau gwyrdröedig. Maent wedi siarad llawer am ryddid fel eu cyfiawnhad, ond beth am y rhyddid i fyw mewn heddwch, fel y sicrhawyd o dan gytundeb Dydd Gwener y Groglith? Maent yn honni eu bod eisiau rhyddid rhag gormes Ewropeaidd, ond at ba ormes y maent yn cyfeirio? Gormes y gram a'r cilometr? Gormes heddwch ar gyfandir a dreuliodd 100 mlynedd o'i hanes yn rhyfela? Gormes Llys Cyfiawnder Ewrop, sy'n gwarantu ein hawliau dynol? Gormes bod yn rhydd i fyw a gweithio mewn gwledydd cyfagos cyfeillgar?
Nid yw Plaid Cymru yn argymell cynnal refferendwm i ailystyried penderfyniad cyfansoddiadol ar chwarae bach, ond mae'n hollol glir bellach ein bod yn anelu ar ein pennau tuag at argyfwng cenedlaethol yn seiliedig ar freuddwyd ffug a werthwyd i'r pleidleiswyr. Ymgyrchodd nifer o'r Aelodau ar y meinciau yma gyda mi i sicrhau datganoli i Gymru yn 1997. Roedd gennym gynllun gweithredu priodol a Phapur Gwyn; byddem yn egluro'n fanwl iawn i bleidleiswyr beth y bwriadem ei wneud. Roedd pobl yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio, a phan gawsom bleidlais 'ie', fe wnaethom gadw ein gair a chyflawni'r hyn a addawsom. Roedd yr un peth yn wir yn achos yr Alban yn 2014; roedd y Llywodraeth wedi cynhyrchu Papur Gwyn yn nodi'n union beth fyddai annibyniaeth yn ei olygu—roedd yn 670 o dudalennau o hyd ac yn gwbl gynhwysfawr. Roeddent mewn sefyllfa i wneud addewidion a'u cyflawni. Nid oedd hynny'n wir am refferendwm 2016. Nid oedd yr ymgyrch dros 'adael' mewn unrhyw sefyllfa i wneud nac i anrhydeddu'r addewidion a wnaed i'r pleidleiswyr.
Nawr, efallai y bydd yr Aelodau ar feinciau'r Torïaid ac UKIP yn anghytuno â mi. Rwy'n dweud, 'Iawn. Gadewch i ni bleidleisio arno—pleidlais y bobl—a gadewch i'r bobl benderfynu a wnaethant bleidleisio o blaid "dim bargen", bargen trychineb, bargen hunanddinistriol neu a werthwyd celwydd iddynt gan dwyllwyr amheus a'u bod bellach am unioni'r penderfyniad yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd sydd ganddynt.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rydw i'n galw ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm y DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Bydd y chwe mis nesaf yn dylanwadu ar y ffordd y bydd Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ymwneud â gweddill y byd am genedlaethau i ddod wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn masnach, buddsoddi, diogelwch, mewnfudo, mae'n hanfodol ein bod yn cael y fargen orau bosibl i Gymru.
Dylai'r ddadl heddiw archwilio sut y gallwn sicrhau'r fargen orau bosibl ar gyfer pobl Cymru. Yn lle hynny, mae'r cynnig heddiw wedi canolbwyntio ar symud y ddadl o'r drafodaeth hon ymlaen at wrthdroi canlyniad y refferendwm a'r datganiad clir a wnaed gan bobl Cymru.
Fel cynrychiolwyr etholwyr Cymru, mae gennym ddyletswydd i gyflawni ar y canlyniad a roddwyd inni gan bobl Cymru ym mis Mehefin 2016. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio i sicrhau'r fargen orau ar gyfer Prydain a Chymru ar ôl Brexit, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n adeiladol gyda'i chymheiriaid yn San Steffan i gael y fargen orau honno. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau fod bron bob awdurdod lleol wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n rhywbeth na allwn ei anwybyddu.
Mae yna gyfleoedd sylweddol i Gymru ar ôl Brexit wrth gwrs, a dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn awr i hyrwyddo Cymru fel lle ar gyfer gwneud busnes. Deallaf fod allforion Cymru yn werth £14.6 biliwn bob blwyddyn, gyda 61 y cant o allforion Cymru ac ychydig o dan hanner ein mewnforion yn mynd i ac o'r UE. Ac felly mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit.
Nawr, rwy'n derbyn bod cynnydd wedi'i wneud mewn rhai mannau. Er enghraifft, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi lansio porth Brexit Busnes Cymru—gwefan benodol i helpu busnesau wrth iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau a'r heriau sy'n deillio o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Y math hwnnw o weithgarwch sy'n hollbwysig wrth i ni symud yn nes ac yn nes at adael yr UE. Yn yr un modd, ar gyfer ffermwyr Cymru, mae gadael yr UE hefyd yn sicrhau cyfleoedd i roi polisïau pwrpasol ar waith ar gyfer Cymru a all adlewyrchu natur gyfnewidiol y diwydiant yn well a helpu i gefnogi ffermwyr Cymru ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mewn munud. Fodd bynnag, yn hytrach nag edrych ar y themâu hynny a thrafod ffyrdd y gallwn weithio'n agosach â busnesau a diwydiannau i baratoi ar gyfer ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd, y prynhawn yma rydym yn trafod a ddylid cynnal pleidlais arall ai peidio. Ac fe ildiaf i'r Aelod dros y Rhondda.
A ydych yn credu o ddifrif y bydd Cymru a phobl yng Nghymru yn well eu byd ar ôl Brexit?
Mae pobl Cymru, pobl Prydain, wedi gwneud eu penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a rhaid inni sicrhau Brexit yn awr; rhaid inni barchu eu dymuniadau. A dylech chi barchu—[Torri ar draws.] Dylech chi—[Torri ar draws.] Dylech chi barchu eu dymuniadau yn ogystal, oherwydd hoffwn atgoffa'r Aelod fod ei hetholaeth hi hefyd wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Nawr, mae Llywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn gwbl glir na fydd yn gwrthdroi canlyniad y refferendwm ac y bydd yn parhau i symud ymlaen yn ei thrafodaethau wrth iddi lywio ei ffordd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n amlwg—
Mick Antoniw a gododd—
A ydych yn derbyn ymyriad gan Mick—
Nid ar hyn o bryd. Nid ar hyn o bryd. Hoffwn wneud mwy o gynnydd, diolch.
Nid yw'n derbyn yr ymyriad.
Yn amlwg, rwy'n derbyn bod nifer o faterion yn dal heb eu datrys rhwng y DU a'r UE yn eu negodiadau cyfredol—nid yn lleiaf natur y ffin rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Fodd bynnag, rwy'n hyderus y caiff y materion hynny eu datrys yn ystod y trafodaethau, yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU a'r UE wedi dweud yn gwbl glir eu bod yn dymuno osgoi ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Yn naturiol, wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer o gwestiynau cyfansoddiadol yn mynd i godi ar gyfer pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig. Yn wir, roedd Prif Weinidog Cymru'n gwbl gywir pan ddywedodd, y llynedd, fod Brexit yn gyfle i ailddyfeisio a chryfhau'r Deyrnas Unedig, ac rwy'n cytuno ag ef fod yna gyfleoedd sylweddol i ailedrych ar y berthynas rhwng y gweinyddiaethau datganoledig, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r cwestiynau cyfansoddiadol hynny wrth inni symud ymlaen.
Lywydd, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi bod yn glir iawn: byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Siambr hon a thu hwnt i weld Cymru'n ffynnu wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae cymunedau Cymru, diwydiannau Cymru a phobl Cymru yn dibynnu ar ei Llywodraethau ar bob lefel i wneud popeth posibl i wneud i hyn ddigwydd. Ni fydd unrhyw beth arall, gan gynnwys gweithredu ail bleidlais, yn ddim mwy nag ymyrraeth ar adeg pan fo angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod Cymru'n ffynnu ar gyfer y dyfodol. Ni fyddwn yn cefnogi galwadau i rwystro ewyllys y bobl drwy gefnogi ail bleidlais ar ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd. Amser cyfyngedig sydd gennym cyn inni adael yr UE; gadewch inni wneud y gorau ohono drwy weithio gyda'n gilydd er budd ein hetholwyr, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.
Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett.
Gwelliant 2—Gareth Bennett
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel a fynegwyd mewn refferendwm a gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl.
2. Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn ddiweddar a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig ein gwelliant i'r cynnig hwn. Roeddwn yn siomedig gydag araith arweinydd newydd Plaid Cymru, a groesawaf i'w swydd, am ei phesimistiaeth, ei gwangalondid, ei gwae, ei diffyg hyder llwyr ym mhobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig i wneud llwyddiant o'r cyfleoedd mawr y bydd dod yn genedl sofran, annibynnol—pethau y buaswn wedi meddwl y byddent yn greiddiol i Blaid Cymru—yn rhoi cyfle inni wneud. Fe wnaeth araith fel rhyw fath o Mr Micawber o chwith, yn aros am rywbeth i'w wrthod. Hyn wrth gwrs gan bobl nad oeddent erioed eisiau pleidlais y bobl yn y lle cyntaf ar fater ymuno â'r hyn a oedd yn Gymuned Economaidd Ewropeaidd ar y pryd, a ddaeth yn Gymuned Ewropeaidd, ac sydd wedi esblygu ymhellach i fod yn Undeb Ewropeaidd.
Rydym wedi cael addewid o refferenda gan Lywodraethau'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur ar y cytuniadau unigol sydd wedi ymestyn cyrhaeddiad Llywodraethau Ewropeaidd yn y cyfnod ers 1973, ac mae'r addewidion hynny wedi cael eu torri i raddau helaeth. Nid oedd David Cameron am gael y refferendwm ar adael yr UE yn awr. Fe'i gorfodwyd i wneud hynny oherwydd bod UKIP ar warrau ASau Torïaidd, fel y bydd Mark Reckless yn gallu ein hatgoffa gan iddo fyw drwy hynny. Ac yn awr, wrth gwrs, mae'r pleidiau nad oeddent yn hoffi canlyniad y refferendwm am ei wrthdroi. Er bod yn rhaid imi ddweud nad oedd araith Adam Price yn cyfeirio at ei gynnig, nad yw mewn gwirionedd yn galw am ail refferendwm ar aelodaeth o'r UE, ond am refferendwm ar delerau ein hymadawiad. Felly, pe bai Plaid Cymru yn sefyll dros ei hegwyddorion, dylai fod wedi cyflwyno cynnig yn dweud, 'Dylem gael refferendwm yn y gobaith y gallwn wrthdroi penderfyniad yr un diwethaf.' Credaf fod gan David Melding gyfraniad pwysig iawn yn ei—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
A gaf fi orffen y pwynt hwn? Roedd yn gyfraniad pwysig iawn yn ei ymyriad, pan ofynnodd pa ddifrod y byddai hyn yn ei wneud i wead democratiaeth yn y wlad hon pe bai'r penderfyniad hwn yn cael ei wrthdroi yn awr. Fe ildiaf i Mick Antoniw.
Diolch i chi am ildio. Ai eich barn chi, felly, os yw bargen Theresa May yn fargen wael, y dylai'r Senedd bleidleisio yn ei herbyn?
O, yn sicr, ie. Ni fu gennyf erioed fawr o hyder y byddai'r UE yn negodi bargen gyda ni yn y lle cyntaf oherwydd—[Torri ar draws.] Prosiect gwleidyddol yn bennaf yw'r UE, ac rydym yn sôn yma am berthynas economaidd gyda'r UE yn y blynyddoedd i ddod. Byddai'n llawer gwell gennyf adael, fel yr arferai Theresa May ei ddweud, heb ddim bargen yn hytrach na bargen wael. Credaf nad yw cynigion Chequers yn golygu gadael yr UE o gwbl. Brexit mewn enw'n unig ydyw oherwydd byddent yn ein cadw, i bob pwrpas, yn aelodau o'r undeb tollau, a sut y byddai hynny'n datblygu y tu hwnt i hynny, dyn a ŵyr. Byddem yn derbyn rheolau gan yr UE. Byddem yn addo derbyn y rheolau a wnânt am gyfnod amhenodol, a byddai hynny'n clymu ein busnesau ni, ac ni fyddem yn gallu dylanwadu ar eu telerau hyd yn oed, heb sôn am eu datglymu wedyn.
Ond gadewch inni ddychwelyd at brif bwynt araith Adam Price yma, sef bod pobl Prydain yn llawer rhy dwp i fod wedi gallu gwneud penderfyniad goleuedig. Dim ond pobl fel ni sy'n gallu gwneud hynny. Gwnaed honiadau eithafol ar y ddwy ochr, fel sy'n digwydd ym mhob ymgyrch etholiad, boed yn etholiad cyffredinol neu'n etholiad Cynulliad Cymru. A ddylem gael etholiad bob blwyddyn ar y sail honno, neu bob wythnos ar y sail honno? Yn amlwg, mae'n gynnig absẃrd.
Nid wyf yn erbyn cael refferendwm yn y dyfodol i weld a ddylem fynd yn ôl i mewn i'r UE os mai dyna fydd dymuniad nifer sylweddol o bobl Prydain, a'u bod yn gallu cael mwyafrif o Aelodau Seneddol i gefnogi hynny. Pe bai ail refferendwm yn awr, yn bersonol rwy'n ffyddiog o'r canlyniad. Credaf y byddai'n cadarnhau penderfyniad y refferendwm cyntaf. Ond byddai'n creu cyfnod arall o ansicrwydd, sef mantra parhaus y rhai sy'n cefnogi 'aros' yn awr. Felly, nid yw hyn yn mynd i ddatrys ein problemau.
Yn ymgyrch y refferendwm ei hun, gwariodd y Llywodraeth—Llywodraeth y DU—£9 miliwn ar ein traul ni yn cynhyrchu'r ddogfen hon. Mae'r syniad nad oedd gan bobl Prydain unrhyw syniad beth fyddai canlyniadau gadael yr UE yn ôl y sefyllfa waethaf bosibl—. Darllenwch y ddogfen hon oherwydd, ar un dudalen, mae'n dweud y byddai'r sioc economaidd:
yn rhoi pwysau ar werth y bunt, a fyddai'n creu risg o brisiau uwch am rai nwyddau cartref ac yn niweidio safonau byw. Byddai colli mynediad llawn at Farchnad Sengl yr UE yn gwneud allforio i Ewrop yn anos ac yn cynyddu costau.
Yna, ar y dudalen ganlynol, mae'n dweud:
Mae rhai'n dadlau y gallem daro bargen dda yn gyflym gyda'r UE oherwydd eu bod am gadw mynediad at ein marchnad. Ond barn y Llywodraeth yw y byddai'n llawer anos na hynny... Nid oes unrhyw wlad arall wedi llwyddo i sicrhau mynediad sylweddol—[Torri ar draws.]
Ie, ac er gwaethaf hynny, fe bleidleisiodd y bobl dros adael yr UE. Roedd y bobl yn gwybod beth roeddent yn ei wneud. Y cyfan y mae'r rhai a oedd o blaid aros ei eisiau—y bobl ddiedifar, ddi-ildio hynny—yw ceisio gwrthdroi'r penderfyniadau a wnaeth pobl Prydain ddwy flynedd yn ôl.
Hoffwn wneud un pwynt arall gan fod fy amser ar ben eisoes. Gadewch i ni gadw'r achos economaidd mewn persbectif—[Torri ar draws.] Hoffwn wneud un pwynt yn unig. Dim ond 2.7 y cant yw cyfartaledd pwysedig Sefydliad Masnach y Byd o dariffau'r UE, sy'n cyfateb i £3.9 biliwn mewn derbyniadau tariff. Dim ond rhwng 4 a 7 y cant yw cyfartaledd pwysedig tariffau'r UE ar fewnforion y DU i'r UE—cyfanswm o £5.5 biliwn i £10 biliwn. Mae'r rhain yn ffigurau dibwys yng nghyd-destun yr economïau y soniwn amdanynt. Beth bynnag fo canlyniad y negodiadau presennol, hyd yn oed os na cheir cytundeb, gallwn ymdopi'n hawdd ag ymyraethau o'r fath.
Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 3—Julie James
Dileu popeth ar ôl 'credu' a rhoi yn ei le:
bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Yn ffurfiol, Llywydd.
Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Fel un o gefnogwyr gwreiddiol pleidlais y bobl, nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl ynglŷn â'r peryglon y mae pobl Cymru yn eu hwynebu o adael yr UE heb gytundeb neu drwy Brexit Torïaidd eithafol.
Ein pryder am ein heconomi adfydus, am swyddi, am gyflogau sy'n gyrru Plaid Cymru yn hyn o beth, a dyna a achosodd inni gyd-ysgrifennu’r Papur Gwyn gyda'r Llywodraeth a ddywedai mai aros yn y farchnad sengl fyddai'n cynnig y budd gorau i Gymru. Mae'r opsiwn hwn wedi'i wrthod gan Brif Weinidog y DU, a chafodd ei wrthod hefyd gan arweinydd yr wrthblaid swyddogol. Felly, mewn gwirionedd, y blaid yn San Steffan sy'n ymladd dros yr hyn y mae ein dwy blaid wedi'i gytuno sydd er budd gorau Cymru yw Plaid Cymru. Nid yw'r Blaid Lafur yn San Steffan yn hyrwyddo'r egwyddorion a amlinellir yn y Papur Gwyn, ac mae hynny'n fater na ellir ei ddatrys yn hawdd gydag etholiad cyffredinol. Cawsom un o'r rheini y llynedd ac ni ddatryswyd dim. Ni fyddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn mynd â ni'n agosach at y safbwynt cytûn hwnnw chwaith. Mae pawb ohonom yn gwybod hynny. Ni fydd teis o liwiau gwahanol yn y trafodaethau yn hwyr yn y dydd fel hyn yn datrys dim.
Felly pa opsiynau sydd gennym i ddod allan o'r llanastr hwn? Pa opsiynau sydd gennym i osgoi'r hunllef economaidd hwn a allai wneud i bolisi cyni edrych yn gymharol ddiniwed? Bydd pleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol yn rhoi cyfle pellach i bobl roi eu barn pan fydd gwybodaeth fanylach ar gael. Fel rhywun a ddisgrifiodd ei hun fel Ewropead Cymreig, rwyf am i ni gadw ein cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd, ond rhaid inni gadw ein llygaid yn agored led y pen yma hefyd. Ni cheir unrhyw ddewisiadau hawdd na chanlyniadau perffaith. Os yw Brexit yn mynd rhagddo, yn enwedig os aiff rhagddo heb gytundeb, bydd yn drychineb i'n heconomi. Rwy'n gwbl argyhoeddedig o hynny.
Ond mae yna bryderon o ran ein democratiaeth hefyd. Bydd ein democratiaeth mewn perygl os mai canfyddiad pobl yn syml iawn yw bod sefydliad sydd o blaid aros yn gwrthdroi'r bleidlais wreiddiol oherwydd rhyw fath o agwedd nawddoglyd, 'Nid ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud'. Sut y bydd gan bobl ffydd mewn prosesau democrataidd os gellir eu gwrthdroi? Felly mae angen inni fod yn ofalus iawn nad ydym yn agored i gyhuddiadau mai diddordeb mewn gwrthdroi'r canlyniad gwreiddiol yn unig sydd gan wleidyddion, arbenigwyr, academyddion.
Rwy'n cefnogi pleidlais ar y fargen derfynol, i'w chadarnhau neu fel arall, ond ni fydd ail-ofyn y cwestiwn gwreiddiol neu wrthdroi'r canlyniad yn datrys y mater. Roedd llawer o'r bobl a bleidleisiodd dros 'adael' yn gwneud hynny oherwydd nad oedd ganddynt unrhyw beth i'w golli. Roedd pobl yn fy ardal i, ar draws yr hen faes glo, yn enwedig y genhedlaeth hŷn, yn gallu cofio adeg pan nad oedd ein cymunedau'n dibynnu ar gymorth sy'n aml i'w weld yn cael ei wario ar brosiectau heb unrhyw fanteision gweladwy i'w bywydau. Maent yn deall bod ein cymunedau wedi'u hadeiladu gan bobl yn gwneud pethau drostynt eu hunain. Nid oedd unrhyw wasanaethau cyhoeddus eang pan gafodd pentrefi'r Rhondda eu taflu at ei gilydd o amgylch y pyllau. Crëwyd y rheini drwy weithredu ar y cyd, cyfuno ceiniogau a enillwyd yn y diwydiant glo, ac ers i'r diwydiant hwnnw gael ei ddymchwel yn fwriadol yn y 1980au, nid yw ein pobl wedi cael unrhyw ddewis heblaw bod yn ddibynnol ar fudd-daliadau, ar gymorth o San Steffan neu Frwsel neu'r loteri neu fentrau tebyg i Cymunedau yn Gyntaf. Ar ôl degawd o gyni a mwy na hynny o beidio â chael eu clywed, penderfynodd llawer o'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn anfon neges fawr a phwerus i'r sefydliad. Fe wnaethant ddefnyddio'r ychydig bŵer a oedd ganddynt i godi dau fys ar ddibyniaeth, ar dlodi, ar ystumiau gwasgu dwylo, ar dadoldeb ac ar y Torïaid. Ni allaf ddweud wrthych faint o bobl rwy'n eu hadnabod sydd eisiau rhoi trwyn gwaed i David Cameron a George Osborne, ac sy'n methu deall sut roeddwn ar yr un ochr â'r ddau dwyllwr hynny.
Beth bynnag sy'n digwydd, rhaid mynd i'r afael â phryderon pobl sy'n gweithio, y rhai sydd ar gontractau dim oriau, ac sy'n ddibynnol ar fudd-daliadau a banciau bwyd, yn ogystal â'r bobl hŷn sy'n dyheu am adeg wahanol. Os cawn bleidlais y bobl ar y cytundeb terfynol, mae angen inni ddysgu gwersi o refferendwm 2016 a mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol a arweiniodd at y bleidlais Brexit: tlodi, dadrithiad â'n system wleidyddol, a'r anobaith a deimlir gan lawer o'n cymunedau. Mae angen i bleidlais y bobl fod yn ymarfer mewn democratiaeth bellach, ac nid ei gweld fel ymgais i wrthdroi penderfyniad democrataidd, ac fel Ewropead Cymreig, byddaf yn parhau i ymgyrchu dros y budd gorau i Gymru ar y sail honno.
Lywydd, mewn gwleidyddiaeth, yn aml ceir llwybr hawdd a llwybr anodd. Pe bai'n wir mai'r llwybr hawdd yw'r ffordd gywir i fynd bob amser, byddai'r gwaith a wnawn yma yn syml. Yn wir, prin y byddai ein hangen o gwbl. Ond yn amlach na pheidio, y gwir amdani yw bod y llwybr caled hefyd yn ffordd gywir i fynd. Mewn oes pan ellir ail-drydaru celwydd 30,000 o weithiau cyn i'r gwir danio ei gliniadur, mae hynny'n fwy gwir nag erioed. Felly, mae yna rai pethau anodd sy'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohonynt yn y Siambr hon.
Yn gyntaf, pleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n derbyn hynny ac rwy'n parchu hynny. Yn ail, nid yw'r cynnig a wnaed i bobl Cymru adeg refferendwm 2016 byth yn mynd i gael ei wireddu. Yn hytrach na bod gadael 'yn costio dim' a'r 'peth hawsaf erioed', mae'r bil ysgariad yn mynd i gostio o leiaf £50 biliwn i'r DU, a byddwn yn dal i'w dalu yn 2064. A hynny cyn inni hyd yn oed ystyried y gost yn awr mewn prisiau uwch a thwf isel, hyd yn oed cyn inni adael—cost y mae'r Ganolfan Ddiwygio Ewropeaidd yn amcangyfrif ei bod yn £500 miliwn yr wythnos.
Y drydedd ffaith sy'n rhaid inni ei derbyn yw nad oes mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin dros unrhyw fath o Brexit—o blaid Brexit Theresa May, o blaid Brexit Jacob Rees-Mogg, nac o blaid unrhyw fath o Brexit dall chwaith. Ond mae gwendid y Prif Weinidog a natur ymosodol y Breximistiaid yn y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd—cefndryd gwleidyddol Aelodau UKIP yn y Siambr hon—yn golygu y cawn y math gwaethaf oll o Brexit oni bai ein bod yn dod o hyd i ffordd allan o'r llanastr hwn, sef Brexit 'dim bargen' a fyddai'n dinistrio ein diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru ac yn difa ein gwasanaeth iechyd; Brexit 'dim bargen' a fydd yn anrheithio ein sectorau modurol, awyrofod ac amaethyddol; Brexit 'dim bargen' a fydd yn difa swyddi mewn cwmnïau fel ArvinMeritor yng Nghwmbrân sy'n dibynnu ar weithgynhyrchu mewn union bryd. Eu swyddi, eu morgeisi, dyfodol eu plant hwy sydd yn y fantol.
Felly, y bedwaredd ffaith yw bod arnom angen ffordd allan o'r llanastr hwn, ac mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i'r pleidiau gydweithredu. Mae gwelliant fy mhlaid yn dweud mai'r ffordd allan yw etholiad cyffredinol. Byddaf yn pleidleisio drosto, ond byddaf yn gwneud hynny gan wybod mai'r bumed ffaith yw nad oes fawr o debygrwydd y bydd yn digwydd. A daw hynny â mi at fy chweched ffaith, a'r olaf, mai pleidlais y bobl yw'r un ffordd sydd gennym o ymuno i'n cael ni allan. Mae'n bryd inni roi diwedd ar ymffrost gwleidyddiaeth plaid a dangos arweiniad, hyd yn oed os yw'n anodd, a chydnabod y ffaith honno.
Ni fydd pleidlais y bobl yn ailadrodd refferendwm 2016, ond yn hytrach bydd yn bleidlais ar y cytundeb ei hun. Cafodd cefnogwyr Brexit hawl yn 2016 i negodi i ni adael, ond dylai fod gennym ni hawl i ddweud wrthynt nad yw'r hyn y maent yn ei gynnig yn ddigon da o gymharu â'r hyn sydd gennym heddiw. Nid oes arnaf ofn y ddadl honno, yn wahanol i gefnogwyr Brexit, mae'n ymddangos.
Mae hyn yn hwyl heddiw, onid yw? [Torri ar draws.]
Parhewch â'ch araith.
Fy nhro i siarad, mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n sefyll heddiw gyda phryderon dwys ynglŷn â'r cynnig hwn.
Yn 2016, cawsom ddadl genedlaethol, cawsom bleidlais ddemocrataidd a phleidleisiodd y bobl dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Ein gwaith fel cynrychiolwyr etholedig yw gweithredu ewyllys y bobl. Rhaid inni gofio bob amser mai gwasanaethu'r bobl nid y meistr y mae Llywodraeth.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf—mae hwn yn fyr.
Mae'n ymddangos i mi fod y ddadl hon yn ymwneud â llawer mwy na'r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd. I bob pwrpas, rydym yn gofyn i bobl Cymru feddwl eto. Mae hynny'n anghywir. [Torri ar draws.] Do, ac fe wnaethant bleidleisio dros adael.
Gallai gofyn i Gymru feddwl eto ddechrau cynsail peryglus, ac rydych chi'n gwybod hynny. Gadewch i ni edrych yn ôl ar refferendwm 1997 ar ddatganoli. Bryd hynny, rhoddodd pobl Cymru fandad llawer llai clir o blaid datganoli nag a wnaethant wrth bleidleisio dros adael yr UE yn 2016. Ond dyna oedd yr ateb cywir, mae'n amlwg.
Yna, yn 2015, etholwyd Llywodraeth Geidwadol fwyafrifol gydag addewid clir yn ei maniffesto i ddarparu refferendwm i mewn/allan ar gyfer y bobl. Dau gwestiwn: i mewn neu allan. Yn 2016, pleidleisiodd y bobl yn briodol yn y refferendwm hwnnw dros adael yr UE, ac o'r diwedd—a gallwch dynnu'r wên oddi ar eich wynebau, Lywodraeth Lafur—yn 2017, ymrwymodd y ddwy blaid wleidyddol fawr i adael yr Undeb Ewropeaidd yn eu maniffestos. Felly, mae sawl pleidlais y bobl wedi bod ar adael yr UE, pa un a ydych chi'n hoffi hynny neu beidio. Rydych wedi ymrwymo i hynny.
Yn bendant, nid yw'r ddadl heddiw ynglŷn â'r bobl, mae'n ymwneud â gwleidyddion yn dweud, 'Ni sy'n gwybod orau', gan anwybyddu'r cyfarwyddyd a roddwyd i ni gan y bobl. [Torri ar draws.] Rydych wedi cael eich cyfarwyddyd, sef 'gadael'. Ble mae pen draw hyn? [Torri ar draws.] Wyddoch chi beth, fe allaf sefyll yma drwy'r dydd i aros am fy nhrydydd papur os hoffech chi, nid oes ots gennyf. Ie? Rwy'n siomedig i fod yn sefyll yma heddiw. Siaradodd arweinydd newydd Plaid Cymru—er fy mod yn eich hoffi, Adam—yn gywir ddigon, yn fy marn i—[Torri ar draws.] Siaradodd arweinydd newydd Plaid Cymru—[Torri ar draws.]
O'r gorau, o'r gorau. Parhewch.
Diolch ichi, Lywydd. [Torri ar draws.] Ni fuaswn yn gwneud hynny. Wedi iddo gael ei ethol siaradodd arweinydd newydd Plaid Cymru, yn gywir ddigon yn fy marn i, am y nifer sylweddol o heriau sy'n wynebu Cymru, ac eto mae wedi penderfynu mai ei ddadl werthfawr gyntaf yn amser y Cynulliad fydd sarhau pobl Cymru am nad ydynt yn rhannu ei farn ar yr UE. Gallai dreulio'r amser hwn yn llawer gwell yn trafod iechyd, addysg a'r pwerau ychwanegol sydd i ddod i'r lle hwn ar ôl Brexit. Gallai'r pethau hynny'n hawdd ddechrau gwella bywydau pobl yma ar ôl Brexit.
Fe ddof i ben yn awr drwy ofyn i'r Aelodau barchu'r bleidlais y mae pobl eisoes wedi'i chael. Rwy'n pryderu ynglŷn â'n democratiaeth os nad ydym yn parchu'r pleidleisiau hynny. Diolch yn fawr.
Lywydd, rhaid imi gyfaddef bod gennyf hanes o wrthsefyll canlyniadau refferenda pan deimlaf fod pobl wedi gwneud camgymeriad. Ymunais â Phlaid Cymru yn 1979 ar ôl i'r refferendwm ar ddatganoli gael ei cholli. Cymerodd 20 mlynedd inni wrthdroi canlyniad y refferendwm hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl—. [Torri ar draws.] Fe gymerodd 20 mlynedd, rwy'n rhoi hynny i David Rowlands. Cymerodd 20 mlynedd, ond ni allwn aros 20 mlynedd i edrych eto ar ganlyniad y refferendwm hwn. Mae Cymru ar fin cael ei llusgo dros glogwyn Brexit 'dim bargen' ac mae'r risgiau a wynebir gan y cymunedau gwledig a gynrychiolaf yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn hysbys iawn. Mae dyletswydd absoliwt gan y rheini ohonom sy'n gwybod y byddai hyn yn drychineb i'w wrthsefyll a rhoi realiti'r hyn y byddwn yn ei wynebu i bobl Cymru, os a phan fyddwn yn gadael, a beth fydd y cytundeb mewn gwirionedd.
Roedd y refferendwm gwreiddiol yn ddiffygiol iawn. Gwahoddwyd pobl i bleidleisio o blaid mwy o reolaeth. Yr hyn a welsom yn lle hynny yw cipio pŵer gan Lywodraeth Dorïaidd wrth iddi lusgo pwerau oddi ar Gymru yn ôl i San Steffan tra bo'r Llywodraeth Lafur yn sefyll o'r neilltu gan wneud ystumiau gwasgu dwylo. A gwahoddwyd pobl i bleidleisio dros biliynau o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer y GIG, ymhlith pethau eraill. Roedd yna bob math o bethau yr oeddem yn mynd i wario'r arian hwn arnynt—y ffermwyr, roeddem yn mynd i'w wario ar y gwasanaeth iechyd. Mawredd, dyma oedd y goeden arian hud onide? Yn lle hynny, fel y nododd Adam Price a Lynne Neagle ac eraill eisoes, mae Brexit eisoes yn costio miliynau o bunnoedd yr wythnos i ni a bydd biliynau o bunnoedd yn y Bil ysgaru, ac mae'r effaith bosibl ar economi Cymru yn hirdymor yn enbyd.
Bydd gan bob un a bleidleisiodd dros Brexit yng Nghymru eu rhesymau eu hunain dros wneud hynny, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r hyn a ddywedodd Leanne Wood ynglŷn â beth fyddai rhai o'r rhesymau hynny—gwrthwynebiad i sefydliad y teimlai pobl ei fod yn eu hanwybyddu. Cofiaf ymgyrchu gyda Lee Waters yn Llanelli a dau ddyn ifanc yn dweud wrthyf, 'Ni allaf fynd yn rhan o hyn o gwbl. Saeson crand yn gweiddi ar ei gilydd yw hyn. Nid yw'n teimlo fel pe bai ganddo unrhyw beth i'w wneud â mi.' Efallai fod hynny'n wir, ond rwy'n argyhoeddedig nad oedd yr un o'r bobl a bleidleisiodd dros Brexit wedi pleidleisio dros brinder cyffuriau, dros ddiweithdra, dros ffin galed yng Ngogledd Iwerddon, dros ofynion fisa i ymweld â'n cymdogion agosaf a bygythiadau i ddiogelwch amgylcheddol a'n hawliau dynol. Ac mae'r rhain oll yn risgiau go iawn yn sgil Brexit caled 'dim bargen'.
Rwyf am gyfeirio heddiw, Lywydd, at y bobl na allent bleidleisio yn y refferendwm—tua 71,500 o bobl ifanc sydd wedi cyrraedd oedran pleidleisio yng Nghymru ers inni bleidleisio dros adael. Nid yw hynny ymhell o gyrraedd y mwyafrif cenedlaethol yng Nghymru dros Brexit. Nawr, nid wyf am awgrymu am eiliad y byddai'r holl bobl ifanc wedi pleidleisio dros aros, ond gwyddom fod pobl ifanc yn llawer llai tebygol o gefnogi Brexit, ac mae'n amlwg y bydd effaith Cymru'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig os ydym yn gwneud hynny heb gytundeb, yn llawer dyfnach ar fywydau'r bobl ifanc hynny nag ar fywydau'r rheini ohonom sydd eisoes wedi elwa o ddegawdau o aelodaeth o'r UE, ac a allai fod yn dod i ddiwedd ein bywydau gwaith, rai ohonom, bellach.
Ceir tystiolaeth fod llawer o ddicter ymhlith pobl ifanc ynglŷn â Brexit. Gwelais hyn pan oeddwn yn arwain elusen gwaith ieuenctid cenedlaethol. Mae gan y bobl ifanc hyn hawl i fod yn ddig. Mae ein cenhedlaeth ni'n mentro'n anwybodus â'u dyfodol, ac mae ganddynt hawl i gael llais yn y penderfyniad hwnnw ynglŷn â'r dyfodol, ac i gymryd rhan mewn bleidlais i'r bobl ar y fargen sy'n cael ei chynnig mewn gwirionedd.
Hoffwn gyfeirio'n fyr at welliant y Llywodraeth, sy'n ein gwahodd i edrych ar yr etholiad cyffredinol fel ffordd o ddatrys hyn. Wel, fel y dywedodd Lynne Neagle eisoes, ni allaf yn fy myw weld sut y byddai hynny'n gweithio. Nid oes angen ailadrodd y rhaniadau a'r anhrefn yn safbwynt y Blaid Geidwadol ar Brexit, ond mae arnaf ofn nad yw Llafur yn San Steffan fawr gwell. Rwy'n dilyn gwleidyddiaeth yn eithaf agos, ac nid oes syniad gennyf beth fyddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ei wneud ynglŷn â Brexit. A fyddent yn ail-negodi? A fyddent yn cynnal refferendwm heb opsiwn i aros? A fyddent yn cynnal refferendwm gydag opsiwn posibl i aros pe bai'r fargen yn cael ei gwrthod? Rwy'n amau nad wyf yn gwybod am nad ydynt hwythau'n gwybod chwaith, ac rwy'n amau bod hynny'n dibynnu ar ba un a ydych yn credu Jeremy Corbyn, Keir Starmer neu unrhyw un o'r bobl eraill a allai fod yn siarad. Yn anffodus, ni all etholiad cyffredinol—a hoffwn pe na bai hyn yn wir—ein cael ni allan o'r llanastr hwn, fel y dywedodd Lynne Neagle, ac rwy'n tybio bod llawer o'r Aelodau eraill ar y meinciau Llafur yn gwybod hyn.
Mae angen pleidlais y bobl pan fydd hi'n hysbys beth yw'r cytundeb, ac mae angen i bob un ohonom yn y Siambr hon a thu hwnt sy'n credu mai bod yn aelod o'r teulu Ewropeaidd yw'r dyfodol i Gymru ymgyrchu yn awr dros y bleidlais honno i'r bobl, fel y gall pobl bleidleisio ar yr hyn sy'n cael ei gynnig go iawn ac nid y freuddwyd gwrach a fwydwyd iddynt yn 2016.
Rwy'n cydnabod yn llwyr fod pobl wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. [Torri ar draws.] Nid wyf yn eu hanwybyddu o gwbl, ond nid wyf yn credu eu bod wedi pleidleisio dros golli eu swyddi, a dyna un o ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Credaf ei fod yn fater cymhleth tu hwnt a gyflwynwyd—. [Torri ar draws.] Na. Roedd yn fater cymhleth iawn. Roedd ceisio'i roi mewn refferendwm—. Nid oes ond angen i chi gofio pa mor anodd oedd hi ar garreg y drws i gael sgwrs nad oedd angen iddi barhau am hanner awr oherwydd ei fod yn fater mor gymhleth. Digwyddodd y trychineb gwreiddiol pan benderfynodd David Cameron gynnal refferendwm ar y mater yn lle gorfod dioddef y rhaniad yn y Blaid Geidwadol. Ond rydym lle'r ydym, felly rhaid inni fwrw ymlaen â'r sefyllfa sydd gennym.
Cafwyd rhai manteision i bleidlais Brexit, ac un ohonynt yw ei bod wedi gostwng gwerth y bunt gan helpu i ddiogelu ein diwydiant dur, felly mae hynny'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn ddiolchgar amdano. Ond nid yw hynny'n golygu nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn rhywbeth y byddai bron bawb yn y Siambr hon yn ei ystyried yn gwbl annerbyniol, gan gynnwys Paul Davies gobeithio. Felly, credaf fod angen inni sicrhau'r fargen orau a allwn wrth gwrs, a dyna pam y dylem gefnogi ein Hysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion i geisio llywio rhyw fath o ymddygiad rhesymegol gan Lywodraeth y DU yn y ffordd y mae'n mynd i effeithio ar y setliad datganoli. Ond rwy'n credu o ddifrif ein bod yn twyllo ein hunain os credwn, fel Aelodau o'r Siambr hon, fod gennym unrhyw ddylanwad dros yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Mae ganddynt broblem rhy fawr eu hunain.
Mae gennyf beth cydymdeimlad â Mrs May, sydd wedi gorfod treulio dwy flynedd yn ceisio meddwl am ffordd o sgwario'r cylch yn ei phlaid ei hun, sy'n golygu, yn anffodus, nad yw hi wedi cael digon o amser i wrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae 27 aelod yr UE yn ei ddweud. Felly, nid wyf yn deall—ni allaf weld sut y bydd Plaid Geidwadol seneddol y DU yn uno y tu ôl i ba fargen bynnag y bydd Mrs May yn llwyddo i'w tharo drwy gyfrwng cytundeb nad yw'n gwrth-ddweud yr ymrwymiadau a nodwyd yng nghytundeb heddwch Dydd Gwener y Groglith. Felly, yr unig ffordd y gall osgoi gadael yr UE heb gytundeb o gwbl, ac rwy'n siŵr nad yw am wneud hynny, fyddai dibynnu ar y Blaid Lafur seneddol a'i chwe amod cefnogaeth. Nawr, rwy'n credu bod galwad y Blaid Lafur am etholiad cyffredinol yn gwbl ofer, gan nad yw'r Blaid Geidwadol byth yn mynd i bleidleisio dros gynnal etholiad cyffredinol cyn 2022, ac felly pleidlais y bobl, gwerinbleidlais, refferendwm arall yw'r unig ffordd allan o sefyllfa wleidyddol gwbl ddiddatrys, na welsom mo'i thebyg erioed yn ystod ein hoes ni, er ei fod wedi digwydd o bosibl yn y 1920au, 1930s.
Felly, rhaid inni baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ryw fath o refferendwm er mwyn cael rhyw fath o ateb i'r broblem sydd ar fin digwydd ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf—[Torri ar draws.] Nid yw heb risg. Ceir y posibilrwydd o anghydfod sifil oherwydd teimladau dyfnion pobl ynglŷn â'r mater hwn. Felly, mae angen i'r rheini ohonom sy'n poeni am hyn wneud popeth yn ein gallu rhwng nawr a'r adeg honno i estyn allan at yr holl bobl a bleidleisiodd mewn ffordd wahanol i'r ffordd yr oeddem eisiau iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod—[Torri ar draws.]—na—i sicrhau ein bod yn gallu cael trafodaeth wâr ar y mater hwn, ar y materion sy'n ein hwynebu. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn deall sut y pleidleisiodd ffermwyr Cymru i ymwrthod ag 80 y cant o'u hincwm, a ddôi iddynt o'r polisi amaethyddol cyffredin, ond mae'n ffaith eu bod wedi gwneud hynny, felly mae bai ar bawb ohonom am beidio â chyfathrebu'n ddigon clir beth fyddai canlyniadau'r ffordd y byddem yn pleidleisio. Roedd pobl yn meddwl bod hyn yn rhywbeth y byddem yn gallu ei wrthdroi y tro nesaf, fel gydag etholiadau cyffredinol, ond ni allwn wneud hynny—. Mae'n broblem wirioneddol ddifrifol. Ni allwn ddiystyru'r posibilrwydd o wrthdaro os na ellir ei ddatrys drwy ddull arall, ac yn absenoldeb etholiad cyffredinol, ac nid wyf yn credu y bydd hynny'n digwydd, mae'n ymddangos i mi mai rhyw fath o werinbleidlais yw'r unig ffordd o ddatrys hyn.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Wel, caf fy hun yn anghytuno gyda'r rhan fwyaf o fy nghyd-Aelodau Llafur a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru ac yn anffodus, bron nad wyf yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr ac UKIP, oherwydd credaf ei fod yn fater cymharol syml, a chredaf fod y rhan fwyaf o bobl yn hollol glir dros beth roeddent yn pleidleisio. Roedd y rhai a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn amlwg yn gwneud hynny oherwydd eu bod wedi cael sicrwydd na fyddem yn gadael y farchnad sengl. Dywedodd Daniel Hannan, yr ASE Torïaidd, a ddisgrifir yn aml fel—
Neil Hamilton a gododd—
Eisteddwch os gwelwch yn dda—
Fe ildiais i chi.
Fe dderbyniaf ymyriad pan fyddaf wedi gwneud ychydig mwy o bwyntiau, iawn? Felly, peidiwch â neidio i mewn; arhoswch am funud.
Fe ddywedodd hyn:
Nid oes neb o gwbl yn siarad am fygwth ein lle yn y farchnad sengl.
A dywedodd Owen Paterson hefyd, AS Torïaidd, ymgyrchydd amlwg dros y bleidlais i adael,
Dim ond gwallgofddyn fyddai'n gadael y farchnad mewn gwirionedd.
Felly, roedd pobl yn glir ynglŷn â hynny. Roeddent hefyd yn dweud—cawsom y tamaid bach o hiliaeth a gyflwynodd UKIP a'r Torïaid i mewn i hyn—'Mae Twrci'n mynd i ymuno â'r UE a bydd miliynau o bobl yn heidio i'r DU.' Ble rydym ni? Mae'r holl drafodaethau â Thwrci wedi cael eu hatal ar sail hawliau dynol ac nid oes unrhyw obaith o gwbl y bydd hynny'n digwydd. Dyna mae'n debyg oedd y rhan fwyaf gwarthus o'r holl ymgyrch, oherwydd cyflwynodd elfen o hiliaeth wedi'i hadeiladu ar gelwydd, ac roedd hynny'n warthus.
Y rheswm arall y pleidleisiodd pobl drosto, yn syml, oedd am eu bod yn gwybod mai cael cytundeb masnach rydd gyda'r UE, fel y cawsant eu sicrhau gan Liam Fox, fyddai'r peth hawsaf yn hanes y ddynoliaeth. Dyma a ddywedodd Liam Fox, y dylai'r cytundeb masnach rydd y bydd yn rhaid inni ei wneud gyda'r Undeb Ewropeaidd fod
yn un o'r rhai hawsaf i'w gael yn hanes y ddynoliaeth.
A chawsant sicrwydd hefyd, yn amlwg iawn, y byddem yn arbed £350 miliwn yr wythnos i'r GIG. Mae'n swnio fel cynnig da iawn. Roeddent hefyd yn dweud y byddem yn amddiffyn hawliau gweithwyr, na fyddai unrhyw broblem gyda hawliau gweithwyr. Wel, bellach mae gennym Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, sydd wedi disgrifio hawliau gweithwyr fel 'rhwystrau i fusnesau Prydain' a gweithwyr y DU fel 'y segurwyr gwaethaf yn y byd'. Yr wythnos diwethaf, yng nghynhadledd y Blaid Dorïaidd, nid ddywedodd air o gwbl am amddiffyn hawliau gweithwyr. A hefyd cawsom sicrwydd na fyddai Cymru'n colli ceiniog, y byddem yn well ein byd, mewn gwirionedd—nid yn unig na fyddem yn colli ceiniog, mae'n debyg y byddai gennym ychydig mwy o geiniogau—ac eto mae Theresa May wedi gwrthod rhoi'r sicrwydd hwnnw ar bob cam. Byddai mor hawdd—[Torri ar draws.] Iawn, fe gymeraf ymyriad.
Ymgyrchais yn frwd dros aros yn yr UE, a byddaf yn ymuno â'r ymgyrch i'n cael yn ôl i mewn y diwrnod ar ôl i Brexit ddod yn realiti, oherwydd dyna pryd y mae ymateb democrataidd yn bosibl. Nid yw'r farn gyhoeddus wedi newid o gwbl yn yr amser ers y bleidlais, a chafodd yr holl ddadleuon hyn eu hailadrodd dro ar ôl tro. Mae pobl yn dal i lynu at y farn a oedd ganddynt yn y refferendwm.
Wel, rwy'n credu eich bod wedi gwneud y pwynt o blaid pleidlais y bobl, oherwydd mai'r unig ffordd o brofi'r sylw hwnnw—sylw rwy'n anghytuno ag ef—fyddai drwy ei roi i'r bobl ei benderfynu mewn gwirionedd. Oherwydd credaf mai'r hyn sydd gennych yw nad oedd pobl yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio, ond mae'n amlwg mai'r hyn sy'n digwydd yn awr yw ei fod yn dadfeilio ac mae'n gwbl amlwg fod pob addewid a alluogodd pobl i bleidleisio dros adael yr UE yn dadfeilio bellach, a dyna pam fod yn rhaid inni gyrraedd sefyllfa lle mae'n rhaid cael pleidlais yn y Senedd yn gyntaf oll ar gytundeb Theresa May. A'r rheswm pam y gofynnais y cwestiwn yn gynharach yw hyn: os na all Theresa May gyflawni'r addewidion a wnaethpwyd yn y cytundeb, yna rhaid pleidleisio yn erbyn y cytundeb a rhaid cael penderfyniad wedyn, yn y pen draw, gan y bobl. Nawr, rwy'n credu mai bathodyn yw pleidlais y bobl mewn gwirionedd, ac mae'n dangos—. Mae'n fathodyn sy'n adlewyrchu agweddau pobl at y ffaith eu bod wedi cael eu twyllo. Cawsant eu twyllo yn ystod y refferendwm.
Y rheswm pam y credaf mai etholiad cyffredinol fydd hi, a'r rheswm pam y mae safbwynt Keir Starmer a Jeremy Corbyn yn gywir, yw oherwydd mai'r canlyniad mwyaf tebygol fydd etholiad cyffredinol, oherwydd yn ôl pob tebyg, ni allwn gael pleidlais y bobl cyn inni ddod allan o'r UE mewn gwirionedd, oherwydd er mwyn cyflwyno deddfwriaeth, bydd yr amser i'r ddeddfwriaeth honno fynd drwodd—. Pe bai Theresa May yn gorfod cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer refferendwm yn awr, i bob pwrpas byddai hynny'n bleidlais o ddiffyg hyder a byddem yn cael etholiad cyffredinol. Ac rwy'n credu bod y safbwynt a fabwysiadwyd gan Keir Starmer a'r safbwynt a fabwysiadwyd gan Jeremy Corbyn yn hollol gywir. Mae wedi rhoi'r hawl i'r Torïaid negodi. Maent wedi methu yn y negodiadau hynny, mae hynny'n eithaf amlwg, ac yn y pen draw, mae angen mandad newydd. Fel y dywedodd Jeremy Corbyn yng nghynhadledd y Blaid Lafur:
Byddwn yn pleidleisio yn erbyn unrhyw leihad o ran hawliau, safonau neu amddiffyniadau ac yn gwrthwynebu ras ddadreoleiddio i'r gwaelod.
Felly, gadewch imi ddweud wrth y wlad: bydd Llafur yn pleidleisio yn erbyn cynllun Chequers—fel y bydd hanner cynhadledd y Blaid Dorïaidd yn pleidleisio yn ei erbyn beth bynnag—a beth bynnag a fydd ar ôl ohono, ac yn gwrthwynebu gadael yr UE heb unrhyw gytundeb. Mae'n annirnadwy ein bod yn gadael Ewrop heb unrhyw gytundeb. Byddai hynny'n drychineb cenedlaethol. Dyna pam, os yw'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn cytundeb Torïaidd, neu os yw'r Llywodraeth yn methu dod i gytundeb o gwbl, byddem yn pwyso am etholiad cyffredinol. Yn niffyg hynny, mae pob opsiwn ar y bwrdd. Y canlyniad tebygol yw etholiad cyffredinol. Canlyniad tebygol yr etholiad cyffredinol hwnnw yw y bydd Llafur yn ennill, a bydd Llafur naill ai'n negodi ar sail y chwe egwyddor—ac yn niffyg hynny, cynhelir refferendwm i bobl benderfynu a ydynt am aros yn yr UE neu a ydynt am adael yr UE eto.
A gaf fi alw yn awr ar—[Torri ar draws.] Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae nifer o'r dadleuon a ailadroddwyd ar y llawr y prynhawn yma wedi eu hailadrodd o'r blaen ac yn wir, cawsant eu lleisio ddwy flynedd yn ôl. Mae'n iawn i ddweud y cafwyd refferendwm ddwy flynedd yn ôl a phleidleisiodd pobl mewn ffordd benodol, ac rwyf wedi bod yn ofalus iawn bob amser rhag rhoi, neu gael fy ngweld yn rhoi'r argraff y dylai'r refferendwm fod wedi cael ei wrthdroi ar chwarae bach, oherwydd dyna'n union a wnaeth y Ceidwadwyr yn 1997. Dyna oedd eu dadl. Roeddent yn dweud, 'Wel, mae'n ddrwg gennym, roedd yna refferendwm Cynulliad yn 1997', ac am wyth mlynedd fe gadwyd polisi o alw am ail refferendwm. Ymddengys i mi nad yw'r Ceidwadwyr ond yn derbyn canlyniadau refferenda y maent yn cytuno â hwy. Felly, nid wyf yn meddwl fod hwnnw'n bwynt a wnaethpwyd yn dda gan feinciau'r Ceidwadwyr.
Yn bersonol, ni chredaf y gellid cael refferendwm ar yr un cwestiwn a'r un amgylchiadau'n union, ond nid dyna sydd gennym yma. Fel y dywedais droeon yn y Siambr hon, gofynnwyd i'r bobl bleidleisio am syniad ddwy flynedd yn ôl—nid cynllun, ond syniad. Pan gawsom ein refferenda yma yn 1997 a 2011, os oeddent eisiau, gallai pobl edrych ar y ddogfen a fyddai'n dweud wrthynt yn union beth fyddai'n digwydd pe baent yn pleidleisio 'ie'. Nid oedd hynny ar gael iddynt yn 2016. Yn sicr, felly, mae gan bobl hawl, ar ôl gwneud penderfyniad, i ddylanwadu ar y penderfyniad hwnnw. Fel arall, mae'n ddadl haerllug ac elitaidd iawn i ddweud wrth bobl, 'Rydych chi wedi gwneud penderfyniad; mae'r cyfan allan o'ch dwylo yn awr.' Nid democratiaeth yw hynny.
Nawr, droeon yn y Siambr hon fe glywsom yr honiadau a wnaethpwyd. Rydym yn gwybod nad oes £350 miliwn yr wythnos ar gyfer iechyd—roedd hynny'n nonsens; mae hynny wedi'i dderbyn. Rydym yn gwybod nad oes unrhyw gytundebau masnach—ni chawsant eu negodi—rydym yn gwybod nad yw'r porthladdoedd yn barod, rydym yn gwybod nad yw cynhyrchwyr ceir yr Almaen wedi camu i mewn i orfodi cytundeb, ac rydym yn gwybod nad yw'r UE wedi chwalu o ganlyniad i Brexit. Nawr, nid wyf am oedi gormod yn ailadrodd y dadleuon hynny heblaw i ddweud hyn: yn y ddadl sy'n cael ei chyflwyno yn awr gan bobl Brexit—pan gânt eu herio ar ffeithiau, pan fo busnesau'n dweud, 'Mae hyn yn ddrwg i ni; mae "dim bargen" yn ddrwg i ni,' yr ymateb yw, 'Nid oes gennych hyder yn y wlad hon.' Mae pobl yn haeddu tystiolaeth; nid ydynt yn haeddu nonsens.
Yn ail, gallwn weld thema sy'n dod i'r amlwg gan bobl Brexit sy'n dweud hyn: 'Wel, os na fydd Brexit yn gweithio, bai'r rhai a oedd am aros fydd hynny nid ein bai ni.' Mae damcaniaeth cyllell yn y cefn yn dechrau datblygu yma—wyddoch chi, 'Ni a daflodd y fricsen drwy'r ffenestr; rydych chi'n ceisio ei rhoi yn ôl at ei gilydd, ond rydym yn anghytuno â'r ffordd yr ydych yn ceisio gwneud hynny.' Dyna ddadl pobl Brexit, hyd y gwelaf. Nid wyf yn derbyn yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton, fod pobl wedi penderfynu'n ymwybodol eu bod yn arddel safbwynt am yr undeb tollau a'r farchnad sengl, a pham? Oherwydd ni allwch fod yn y ddau heb fod yn yr UE. Gallwch fod mewn undeb tollau heb fod yn yr UE; gallwch chwarae rhan lawn yn y farchnad sengl heb fod yn yr UE—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Yn ystod fy araith, darllenais o'r ddogfen a anfonodd y Llywodraeth at bob aelwyd yn y wlad, ac mae'n dweud yn glir yma, i bob pwrpas, y byddem yn gadael y farchnad sengl ac y byddai:
colli mynediad llawn at Farchnad Sengl yr UE yn gwneud allforio i Ewrop yn anos ac yn cynyddu costau.
Cafwyd dadleuon ar y ddwy ochr. Clywsom lwyth ohonynt heddiw, wedi'u hailadrodd unwaith eto. Yn y pen draw, yng nghlochdar yr ymgyrch, mae pobl yn penderfynu drostynt eu hunain sut i bleidleisio, fel y gwnânt mewn etholiad cyffredinol. Ni allwn ail-gynnal etholiad cyffredinol bob blwyddyn—Wel, gallem ei wneud, ond ni fyddai hynny'n gwneud synnnwyr—pam y dylem ei wneud ar hyn?
Y pwynt yw hyn, ynte? Ar ochr pobl Brexit, gwnaethpwyd honiadau mynych y byddai popeth yn iawn, y byddai cytundeb masnach rydd ac na fyddai sefyllfa 'dim bargen'. Wel, roedd hynny'n anghywir, onid oedd? Mae pawb ohonom yn gweld hynny. Ni ddywedodd neb ddwy flynedd yn ôl—neb yn UKIP; ni ddywedodd Nigel Farrage hyn, na phobl Brexit ar ochr y Ceidwadwyr; ni chafodd ei ddweud gan bobl Brexit ar fy ochr fy hun, yn fy mhlaid fy hun—ni ddywedodd neb, 'Wel, os ydym yn gadael heb gytundeb, bydd yn fater o "ddim bargen" a pha ots.' Roedd yn ymwneud bob amser â chytundeb masnach rydd, a Norwy oedd yr enghraifft a roddwyd. Dywedodd rhai pobl yn y Siambr, mewn gwirionedd, mai Norwy yw'r esiampl y dylai'r DU ei dilyn. Credaf fod i hynny ei rinwedd, er nad yw'r model yn union fel y dylai fod o'm rhan ninnau. Y realiti yw mai prosiect gwleidyddol yw'r UE, ond dyna hefyd yw'r DU. Mae pob cenedl-wladwriaeth, pob gwladwriaeth sofran, yn brosiect gwleidyddol a rhaid inni gadw hynny mewn cof.
Ond rwyf am droi fy sylw at fater a godais yn y Siambr hon gyntaf flynyddoedd yn ôl, os caf—un sy'n ceisio cael ei ddiystyru, ond sydd mewn gwirionedd yn ganolog i Brexit a'r negodiadau Brexit, sef y sefyllfa yn Iwerddon. Yn 1995, gwelodd y bobl yno ddiwedd ar y Trafferthion. Pan lofnodwyd cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn 1998, rhoddodd ddiwedd ar, nid 25 mlynedd o drafferthion, nid 100 mlynedd o drafferthion, ond 300 o flynyddoedd o ryfel achlysurol. Dyna y llwyddodd i roi diwedd arno. Dywedwyd wrth bobl, 'Yn awr, fe fyddwch yn gallu rhannu hunaniaeth; bydd y ffin yn dyllog ac ni fydd yn gwneud gwahaniaeth mwyach, oherwydd rydym oll yn rhan o'r UE.' Mae hynny mewn perygl dirfawr yn awr. Ac eto ymateb pobl Brexit yw dweud—mae Jacob Rees-Mogg wedi'i ddweud; mae Boris Johnson wedi'i ddweud—nad oes ots; mai'r gynffon yn siglo'r ci yw hyn rywsut. Wel, mewn gwirionedd, mae'n gwbl hanfodol. Oherwydd, gadewch imi ddweud wrth yr Aelodau—ac fe ddywedaf hyn wrth Neil Hamilton—bu farw mwy na 3,000 o bobl rhwng 1969 a 1994. Cafodd pobl ar y ddwy ochr eu lladd oherwydd eu crefydd. Ni allech gerdded y strydoedd mewn rhai rhannau o'r ddinas heb roi eich bywyd mewn perygl. Roedd hofrennydd yn yr awyr drwy'r dydd. Pan oeddech yn croesi'r ffin, byddech yn mynd drwy bwynt diogelwch. Roedd rhwystrau ffyrdd yr holl ffordd o gwmpas dinas Belfast. Roedd y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon yn enbyd: lladdwyd pobl a oedd yn gyrru tacsis am eu bod yn gyrru ar ran y cwmni anghywir; lladdwyd pobl pan osodwyd bomiau, fel y gwyddom, yn Enniskillen; lladdwyd pobl mewn tafarnau oherwydd eu bod yn digwydd bod yn y grefydd anghywir yn y dafarn anghywir. Ac yma mae gennym bobl yn dweud, 'Nid yw'n bwysig; nid yw'n bwysig.' Dywedwch hynny wrth deulu fy ngwraig. Ac rydych yn dweud hynny wrth bobl Gogledd Iwerddon a aeth drwy'r holl anhrefn hwnnw am nifer fawr iawn o flynyddoedd, ac yn dweud wrthynt, 'Does dim ots am Ogledd Iwerddon'.
Oherwydd, cofiwch, nid yw'r DU yn 100 mlwydd oed hyd yn oed—nid yw'n 100 mlwydd oed hyd yn oed. Ni ddaeth y DU i fodolaeth tan i Wladwriaeth Rydd Iwerddon gael ei sefydlu o fewn ei ffiniau presennol. Rwy'n dweud wrth yr Aelodau yn y Siambr hon yn awr: rwyf wedi gweld sut beth yw gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon, ac rwyf wedi gweld beth y mae heddwch wedi'i sicrhau. Gwelais y ffyniant a ddaeth yn sgil yr heddwch. Gwelais y rhwystrau'n dod i lawr. Gwelais bobl yn gallu cerdded ar hyd y strydoedd heb ofni cael eu herwgipio neu eu llofruddio. Gwae inni chwarae o gwmpas gyda'r cytundeb heddwch hwnnw; nid yw'n rhywbeth i chi chwarae gemau ag ef, ac nid yw'n rhywbeth y gellir ei ddiystyru yn sgil trafodaethau Brexit. Rhaid i Brexit ystyried bod ffin yr ymladdwyd drosti ar ynys Iwerddon, ffin lle mae pobl wedi marw, a ffin a oedd yn broblem a gafodd ei datrys yn 1998 gyda chanlyniad heddychlon. Mae hynny bellach o dan fygythiad.
Felly, oes, mae yna ddadleuon yn y Siambr hon sydd wedi cael eu hailadrodd droeon o'r blaen. Nid wyf eisiau eu hailadrodd ac nid wyf yn ceisio dweud, 'Wel, wyddoch chi, roedd y canlyniad yn anghywir ddwy flynedd yn ôl', oherwydd mae'r dadleuon hynny eisoes wedi'u gwneud, ond nid ydym yn chwarae â bywydau pobl, ac nid ydym yn anwybyddu'r ffaith fod heddwch wedi'i ennill ar ynys Iwerddon o ganlyniad—mae'n wir—i ymdrechion Llywodraethau'r DU ac Iwerddon, ond o ganlyniad i ymdrechion yr UE yn ogystal.
Gyda chymaint yn y fantol, ni allaf weld pa wrthwynebiad a fyddai gan neb, os yw'r broses wleidyddol yn methu, os na all y Senedd gytuno, os ceir etholiad a bod y canlyniad yn amhendant, i ofyn y cwestiwn i bobl wedyn, 'Beth a gredwch erbyn hyn? Fe wyddoch beth yw'r amgylchiadau, fe wyddoch beth sydd yn y fantol—beth rydych chi eisiau ei wneud?' A dyna yw democratiaeth.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Adam Price i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn ymateb, yn gyntaf oll, i'r Prif Weinidog, a siaradodd yn rymus iawn, gan bwyso ar brofiad ei deulu ei hun, wrth gwrs, o ran hanes Gogledd Iwerddon. Wyddoch chi, mae cyfraniad yr UE o ran heddwch, ledled y cyfandir hwn, wedi bod yn gwbl ganolog i'w hanes, wrth gwrs. Roeddwn yn yr Almaen ar y noson y daeth wal Berlin i lawr yno fel myfyriwr—fel myfyriwr Erasmus, fel mae'n digwydd. Roeddwn yn meddwl fy mod ar y ffin anghywir y noson honno, oherwydd roeddwn ar y ffin Ffrengig-Almaenig; roeddwn yn Saarbrücken. Anfonodd Prifysgol Caerdydd ei myfyrwyr i Saarland, i fan tebyg i adref i raddau—ardal lo a dur yn yr Almaen. Ond mewn gwirionedd, honno oedd y ffin iawn i fod arni y noson honno, oherwydd gwelais fyfyrwyr Ffrengig ac Almaenig yn y brifysgol yno'n cofleidio'i gilydd yn eu dagrau, ac ni allwn help ond meddwl, mewn gwirionedd, nad oedd cymaint â hynny er pan oedd dynion ifanc o'r ddwy wlad yn ymladd ei gilydd ar y ffin honno. Ac os ceir pleidlais y bobl, wyddoch chi, dyna'r math o angerdd y gallwn ei roi wrth wraidd y cwestiwn hwn yn fy marn i.
Fel Leanne Wood, rwy'n Ewropead Cymreig angerddol. Dywedodd Gwyn Alf Williams yn gofiadwy iawn mewn gwirionedd, pe na bai'r gymuned Ewropeaidd fel yr oedd hi yn bodoli, yna byddai'n rhaid i ni Gymry fod wedi ei ddyfeisio. Mae'n gwbl ganolog i'n hanes, o'r cychwyn cyntaf. O ran yr amser y cawn ein hunain ynddo yn awr, hoffwn dalu teyrnged i'r areithiau angerddol a glywsom, yn enwedig ar feinciau cefn y Blaid Lafur. Ond dyma wirionedd anodd arall: rhwng ein pleidiau, fe fuom yn trafod y Papur Gwyn a oedd yn nodi ffordd synhwyrol ymlaen ar gyfer sicrhau mandad Brexit, gan gyfyngu ar y niwed i fywydau a bywoliaeth pobl. Yn anffodus, rydym yn byw mewn cyfnod pan nad oes unrhyw synnwyr gan y sefydliad gwleidyddol Prydeinig. Mae'n analluog i gyflawni unrhyw beth. Hynny yw, os yw pobl yn siarad am fandad moesol yr ymgyrch dros 'adael', y gwir amdani yw bod y bobl hyn wedi dweud celwydd. Fe wnaethant dorri'r gyfraith. A diflannu wedyn o'r fan lle y cyflawnwyd eu trosedd wleidyddol, gan adael y canlyniadau i eraill. Nid yw hynny'n ddigon da. Ac os ydych yn sôn am y difrod i ddemocratiaeth, meddyliwch beth fydd yn digwydd nesaf. Meddyliwch beth fydd yn digwydd nesaf os caniateir i drychineb Brexit 'dim bargen' ddigwydd o flaen ein llygaid.
Rydym wedi gweld damwain car yn digwydd yn araf deg o'n blaenau onid ydym? Wel, mae'n cyflymu yn awr, onid yw, a'r peth cyfrifol inni ei wneud—. Y gofyniad cyntaf mewn democratiaeth yw bod yn onest â'r bobl, a dyna—. Mae gennym fandad yn y Senedd hon, rydym yn Senedd y bobl, a rhaid inni fod yn onest gyda phobl Cymru. Dywedwyd celwydd wrthynt, ac maent yn haeddu cyfle—gan fod y gwir bellach wedi'i ddatgelu, maent yn haeddu cyfle i benderfynu mewn gwirionedd beth y maent eisiau ei weld yn digwydd nesaf. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.
Diolch. Rydych chi wedi bod yn onest, yn onest iawn, yn dweud eich bod am ymgyrchu i wrthdroi Brexit. A fyddwch chi hefyd yn onest yn cyfaddef, pe baem yn cyhoeddi bod ail refferendwm yn mynd i fod, y byddai hynny'n rhoi'r golau gwyrdd i negodwyr yr UE ddarparu bargen wael neu ddim bargen gan ddisgwyl y byddai pobl wedyn yn pleidleisio dros aros?
Wel, edrychwch, nid ni ar yr ochr hon sydd wedi tanseilio negodiadau'r Prif Weinidog. Hynny yw, edrychwch ar yr hyn y mae hyd yn oed ei chyn-Ysgrifennydd Tramor yn ei ddweud am y ffordd y mae hi wedi trin y negodiadau. Dyna un elfen y ceir cytundeb eang yn ei gylch, mae'n ymddangos. Mae wedi bod yn draed moch; mae wedi bod yn hollol druenus. Wrth gwrs, y broblem yw mai'r bobl fydd yn talu'r pris am y diffyg arweiniad gwleidyddol yno. Rydym mewn tagfa, tagfa wleidyddol, a rhaid inni ddod o hyd i ffordd ymlaen. Ni cheir unrhyw lwybr hawdd, ac o dan yr amgylchiadau hyn mae'n iawn ac yn gywir mewn democratiaeth ein bod yn rhoi dewis i bobl ailedrych ar y cwestiwn hwn, oherwydd fe ddywedwyd celwydd wrthynt; ni chawsant y ffeithiau llawn er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad.
Hoffwn ddweud wrth yr Aelodau yn y Blaid Lafur fod hwn yn gyfle, ydy, rwy'n credu ei fod—mae hyn yn fwy na phlaid. Mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â dyfodol ein cenedl. Bydd yn effeithio arnom—fel y dywedodd Helen Mary, yn enwedig y bobl ifanc, sy'n mynnu pleidlais y bobl mewn niferoedd mwy a mwy. Bydd yn rhaid iddynt fyw gyda chanlyniadau hyn. Y drasiedi, wrth gwrs, yw nad y Blaid Geidwadol yn unig y mae'r diffyg arweiniad gwleidyddol hwn ynghanol y wladwriaeth Brydeinig yn effeithio arnynt; rhaid imi ddweud ei fod yn effeithio ar y Blaid Lafur hefyd. Yn y Senedd hon rydym wedi gallu dod i gytundeb ar y Papur Gwyn, ond rwy'n ddryslyd ynglŷn â beth yw safbwynt y Blaid Lafur ar y lefel Brydeinig. O ran y chwe phrawf y cyfeiriwyd atynt, wel, y polisi yw bod ar y tu allan i'r farchnad sengl, felly sut y gallwch fodloni'r prawf o gyflawni'r un manteision yn union? Mae hwnnw'n fyd o realiti amgen tebyg i un Theresa May. Credaf ein bod yn haeddu gwell na hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod aelodau a chefnogwyr y Blaid Lafur yn haeddu gwell na hynny. A hoffwn apelio arnoch, mor hwyr â hyn hyd yn oed—ac rwy'n edrych ar y rheolwr busnes: peidiwch ag ymuno ag UKIP a'r Torïaid heno. Pleidleisiwch gyda ni o blaid pleidlais y bobl.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Fe ohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym yn dod at yr amser pleidleisio, felly oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe af yn syth at y bleidlais. Nac oes, iawn, diolch.
Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 7, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6816 - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Symudwn yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM6816 - Gwelliant 1: O blaid: 10, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Symudwn yn awr i bleidlais ar welliant 2. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 2, roedd 10 yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.
NDM6816 - Gwelliant 2: O blaid: 2, Yn erbyn: 35, Ymatal: 10
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwn yn awr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.
NDM6816 - Gwelliant 3: O blaid: 27, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwn yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6816 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 28, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM6816 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 18, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Os ydych yn gadael y Siambr, os gwelwch yn dda, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel, oherwydd rwy'n symud at y ddadl fer, a galwaf ar Nick Ramsay i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Nick Ramsay.
Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar yn y cyflwyniad. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:
'Nid yw colli golwg yn fater du a gwyn.'
'Gall 93 y cant ohonom sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall weld rhywbeth.'
'Glawcoma yw'r cyflwr ar fy llygaid, ac os dychmygwch, yn fy llygad chwith nid oes gennyf unrhyw ganfyddiad o oleuni o gwbl, felly mae'n hollol ddu, ac yn fy llygad dde, mae bron fel pe bawn yn edrych drwy beiriant niwl dyfrllyd ac aneglur iawn, os mynnwch.'
'Mae gennyf syndrom Usher math 2. Mae'n gyfuniad o nam ar y clyw a retinitis pigmentosa. Y camsyniad mwyaf cyffredin am fy ngolwg yn fwyaf arbennig yw nad wyf fi'n "edrych yn ddall".'
'Mae gennyf ddirywiad macwlaidd. Ni allaf weld eich wyneb, dim ond blob mawr crwn yno ac mae gennyf olwg dwbl hefyd. Roedd y ddwy flynedd gyntaf yn erchyll, roedd fel profedigaeth mewn gwirionedd. Roedd cymaint o ofn arnaf. Gallwn grio. Mae pobl yn hollol wych, ond heb y ffon wen, ni fuaswn mor hyderus.'
'Yn y DU, mae mwy na 2 filiwn o bobl yn byw gyda nam ar eu golwg. Nid yw cael eich cofrestru'n ddall yn golygu na allwch weld unrhyw beth. Ceir sbectrwm cyfan o namau ar y golwg a dyna sydd angen i bobl ei wybod.'
'RNIB Cymru. Gweld yn wahanol.'
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Dai Lloyd yn ystod y ddadl. Cynhyrchwyd y fideo a welsoch yn awr gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion, ac mae'n rhan o'r ymgyrch 'How I See' ac yn tynnu sylw at nifer o faterion yr hoffwn eu cyflwyno i chi heddiw.
Yn aml dywedir mai'r golwg yw'r synnwyr y byddai pobl fwyaf o ofn ei golli, ac mae'n gallu bod yn anodd. O anhawster i gael triniaeth a gwasanaethau i ddiffyg cymorth emosiynol ac ymarferol, mae pobl ddall a rhannol ddall fel ei gilydd yn wynebu eu set eu hunain o heriau bob dydd.
Mae teimladau o unigrwydd yn annerbyniol o uchel, ac un o bob pedwar yn unig o bobl ddall neu rannol ddall o oedran gweithio sydd mewn gwaith. A gwyddom y bydd y niferoedd yn cynyddu'n ddramatig. Mae tua 107,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar eu golwg a disgwylir i hyn ddyblu dros yr 20 mlynedd nesaf. Golyga hynny y bydd tua 218,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar eu golwg erbyn 2050.
Mae nam ar y golwg yn effeithio ar bobl o bob oed, ond wrth inni fynd yn hŷn, rydym yn fwyfwy tebygol o gael profiad ohono. Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn fwy tebygol o gael codwm ac yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Maent yn fwy tebygol o ddioddef iselder, o fod yn ddi-waith ac o gael problemau gyda bywyd bob dydd, megis mynd allan, coginio a darllen. Heddiw, rwyf am gyffwrdd â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ddall a rhannol ddall a'n herio ni i weld a gwneud pethau'n wahanol.
Gan fod y rhan fwyaf o gyflyrau'r golwg yn ddirywiol, ond fod modd eu trin hefyd, mae'n hanfodol fod gan bobl fynediad amserol at ofal llygaid a thriniaeth barhaus. Offthalmoleg yw un o'r gwasanaethau allanol mewn ysbytai gyda'r nifer uchaf o gleifion, ac mae gan lawer o gleifion llygaid angen parhaus am ofal dilynol amserol i gadw eu golwg. Fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar olwg, rwyf wedi clywed gan gleifion ar restrau aros clinigau llygaid ysbytai fod eu hapwyntiadau'n cael eu canslo heb fawr o rybudd o gwbl. Gwn fod gennym aelodau eraill o'r grŵp yma heddiw hefyd. Gallai oedi cyn cael triniaeth roi pobl mewn perygl o golli eu golwg am byth. Wedi dweud hynny, hoffwn groesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad i gefnogi gweithrediad y mesurau offthalmig newydd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau—y genedl gyntaf yn y DU i gael mesurau penodol ar gyfer gofal llygaid. Dyma rywbeth rwyf wedi bod yn ei hyrwyddo ers nifer o flynyddoedd ac wedi codi'r angen amdano yn fy nadl ddiwethaf ar y pwnc hwn.
Bydd y mesurau newydd hyn yn darparu targedau a gymeradwywyd yn glinigol ac yn blaenoriaethu cleifion yn ôl eu risg o golli eu golwg yn barhaol. Ni ddylai neb golli eu golwg yng Nghymru oherwydd cyflwr llygaid y gellir ei drin. Edrychaf ymlaen at glywed bod byrddau iechyd wedi gweithredu'r mesurau newydd hyn ac at gael yr adroddiadau cynnydd cyntaf ym mis Ebrill 2019. Mae'n hen bryd inni gael tryloywder gan fyrddau iechyd ynghylch nifer y cleifion sydd mewn perygl o golli eu golwg. Mae hwn yn newid hirddisgwyliedig i'r system gofal llygaid yng Nghymru, a gadewch inni beidio ag anghofio'r cleifion yn hyn oll. Mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hysbysu'n llawn ynglŷn â'r newidiadau, ac yn deall beth y maent yn ei olygu i'w gofal a'u triniaeth.
I bobl sy'n byw gyda nam ar y golwg, gall effeithio ar bob agwedd ar fywyd—iechyd corfforol a meddyliol, y gallu i fyw'n annibynnol, i ddod o hyd i swydd neu i gadw swydd, eu teulu a'u bywyd cymdeithasol. Mae mynediad amserol at gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn hanfodol i helpu i liniaru effaith nam ar y golwg. Mae adsefydlu yn wasanaeth arbenigol sy'n helpu rhywun sydd â nam ar y golwg i addasu i'r byd o'u hamgylch. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo pobl i ail-ddysgu sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw bywyd annibynnol. Gallai gynnwys cymorth emosiynol, help gyda symudedd, cymhorthion ac addasiadau, neu help gyda gweithgarwch bywyd bob dydd megis golchi dillad, coginio a glanhau.
Nawr, bob blwyddyn yng Nghymru bydd hanner y bobl dros 80 oed yn cael codwm yn eu cartref. Priodolwyd bron i hanner yr holl godymau y bydd pobl ddall a rhannol ddall yn eu cael i'r nam ar eu golwg. Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod codymau'n costio £67 miliwn y flwyddyn yn uniongyrchol i'r GIG. Amcangyfrifir bod cost codymau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r golwg yn unig yn £25 miliwn bob blwyddyn. Mae'n gwbl amlwg yn fy marn i y dylai adsefydlu gael ei gynnig i'r holl bobl ddall a rhannol ddall. Amcangyfrifir bod gwerth economaidd adsefydlu'n ymwneud â'r golwg yn £4,487 am bob claf a atgyfeirir.
Fodd bynnag, mae'n annerbyniol ein bod yn rhy aml yn gweld loteri cod post yng Nghymru ar gyfer mynediad at ofal adsefydlu. Mewn rhai rhannau o'r wlad, mae rhai pobl yn gorfod aros dros 12 mis i weld swyddog adsefydlu arbenigol, a gallai cyflwr eu golwg ddirywio yn ystod yr amser hwnnw ac mae perygl y gallent gael eu hynysu'n gyflym. Bydd 43 y cant o bobl sy'n colli eu golwg yn dioddef iselder sylweddol a gwanychol. Gwaethygir y broblem ymhellach gan y ffaith nad oes digon o bobl yn cael eu hyfforddi i gymryd lle swyddogion adsefydlu sy'n ymddeol. Mae elusennau yn y sector colli golwg yn pryderu fwyfwy ynghylch y ddarpariaeth adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Mewn rhai mannau, mae amseroedd aros yn annerbyniol o hir, ac mewn eraill mae pobl yn cael eu sgrinio allan o asesiadau adsefydlu'n llwyr neu'n cael eu hasesu gan staff heb gymwysterau. Mae angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddatblygu llwybrau atgyfeirio clir i adsefydlu a gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar lle nad yw hyn eisoes yn digwydd. Mae'n annerbyniol nad yw'r proffesiwn hwn yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae angen inni sefydlu cynlluniau ar gyfer datblygu'r gweithlu yn y dyfodol ac annog pobl i'r rôl. Yn y pen draw, mae angen inni wneud yn siŵr fod pobl yn cael mynediad amserol at wasanaethau adsefydlu ni waeth ble maent yn byw, i'w galluogi i fyw bywyd mor llawn ac annibynnol â phosibl.
I droi at y gallu i gael gafael ar wybodaeth a chyngor, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n colli eu golwg hefyd yn colli eu gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng print arferol. Mae hyn yn hanfodol i unrhyw un allu cynnal eu lles a chael llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau.
Yn 2013, lansiwyd y safonau gofal iechyd hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau yng Nghymru. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i nodi sut y bydd gwasanaethau GIG yn cael eu darparu'n hygyrch i bobl sy'n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall, yn rhannol ddall neu sydd â nam ar y golwg a'r clyw. Gallai gwybodaeth hygyrch olygu cael gwybodaeth mewn Braille, mewn print bras, mewn fformat sain neu e-bost—beth bynnag sy'n iawn ar gyfer y claf hwnnw i'w cynorthwyo i gymryd rhan mor llawn â phosibl yn eu gofal iechyd. Ond bellach aeth pum mlynedd heibio ers i ni lansio'r safonau hynny. Y gwir plaen yw mai effaith gyfyngedig a gafodd hyn, ac mae pobl yn dal i wynebu rhwystrau mawr i ofal iechyd. Mae cleifion yn dal i adael yr ysbyty bob dydd yn ansicr ynglŷn â faint o feddyginiaeth y maent i fod i'w gymryd, neu'n ansicr ynglŷn â pha gyngor a roddwyd iddynt. Do, gwelwyd cynnydd araf mewn rhai meysydd, ond yn gyffredinol, mae elusennau megis RNIB ac Action on Hearing Loss yn dweud wrthym na fu llawer o newid amlwg i bobl â nam ar y synhwyrau yng Nghymru. At hynny, roeddem yn falch, ac yn briodol felly, mai Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i weithredu'r safonau. Felly pam nad ydym yn ddim gwell nag ar draws y ffin yn Lloegr mewn llawer o ffyrdd o hyd? Yn sicr, mae'n hen bryd i'r safonau, fel safonau'r Gymraeg a phethau eraill, ddod yn orfodol. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn pennu targedau blynyddol gan bob bwrdd iechyd i fonitro'r gwelliannau? Mae hwn yn fater sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Mae angen i gleifion allu gymryd rhan yn eu hymgyngoriadau â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'u deall yn iawn.
Mae'r amgylchedd adeiledig yn faes arall lle gallwn leihau'r rhwystrau i bobl ddall a rhannol ddall. Mae rhaglen Visibly Better RNIB Cymru yn cynorthwyo sefydliadau i ddatblygu amgylcheddau y bydd rhagor o bobl yn teimlo'n hyderus i fynd i mewn iddynt ac o'u cwmpas. Mae'r egwyddorion dylunio yn helpu i atal codymau a meithrin hyder drwy sefydlu lefelau goleuo priodol, lliw a chyferbyniad tonyddol, a gosodiadau a ffitiadau sy'n helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas. Defnyddiwyd dylunio Visibly Better mewn adran radioleg ar ei newydd wedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Bellach mae'r holl ardal yn llawer haws i gleifion allu dod o hyd i'w ffordd o gwmpas yn hyderus ac yn ddiogel. Mae angen inni ddiogelu ein hamgylcheddau ar gyfer ein poblogaeth sy'n heneiddio, ac mae angen cymhwyso ymrwymiad i'r egwyddorion hyn ar gyfer mannau cyhoeddus eraill yn y dyfodol.
Os caf gyffwrdd ar ofod a rennir, ar y wyneb mae'r cysyniad o ofod a rennir yn un sy'n apelio'n fawr. Caiff gofodau eu dadreoleiddio i sicrhau nad oes gan unrhyw un ymdeimlad o flaenoriaeth. Rhennir y gofod â cherbydau, cerddwyr a beicwyr. Mae hyn i gyd yn swnio'n dda iawn, ond mae'n dibynnu ar y gallu i wneud cyswllt llygad ac nid yw hynny'n hawdd os na allwch weld. Mae hynny'n golygu bod y gofod hwnnw'n anniogel ac angen ei osgoi. Gall y sefyllfa hon waethygu drwy gael gwared ar groesfannau a'r gwahaniaeth rhwng palmentydd a ffyrdd. Cyflwynwyd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 gyda'r nod sylfaenol o hyrwyddo budd cynyddol cerdded a beicio. Fodd bynnag, mae perygl na fydd pobl ddall a rhannol ddall yn teimlo'r buddion hyn pan fydd cynllunio gofod a rennir yn wael yn eu rhoi mewn perygl o wrthdrawiad â beicwyr, felly gall rhywbeth sy'n dechrau fel syniad da arwain at ganlyniad gwahanol yn y pen draw. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd gan y gymdeithas cŵn tywys fod 97 y cant o'r bobl sydd â nam ar eu golwg wedi mynd benben â blerwch stryd fel byrddau A.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn fynd i'r afael â mater trafnidiaeth. Mae llawer o bobl ddall a rhannol ddall yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y rhan fwyaf o'u teithiau bob dydd. Mewn ardaloedd gwledig lle gall pobl deimlo'n fwy ynysig a lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn bellach i ffwrdd, mae pobl ddall a rhannol ddall yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n aml yn hen, ac arosfannau bysiau heb wybodaeth. Mae hynny'n effeithio ar bobl sy'n gweld yn iawn hefyd, felly mae pawb ohonom yn deall y problemau hynny.
A gaf fi orffen drwy ddymuno pen blwydd hapus iawn eleni i'r RNIB wrth iddynt ddathlu 150 o flynyddoedd o hyrwyddo hawliau pobl ddall a rhannol ddall? Mae angen inni yng Nghymru ddod o hyd i atebion newydd a ffyrdd newydd o adeiladu gwlad lle mae cyfranogiad cyfartal pobl ddall a rhannol ddall yn norm. Rhai yn unig o'r rhwystrau y mae pobl sy'n colli eu golwg yn eu hwynebu bob dydd yw'r rhain, a gwn y gallwn fynd i'r afael â hwy. Gallwn wneud pethau'n wahanol, a gallwn weld pethau'n wahanol. Diolch yn fawr.
Diolch. Dai Lloyd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ganmol cyflwyniad rhagorol Nick Ramsay a nododd yr holl ffeithiau a manylion? Ac mae'n dda cael tynnu sylw at fater nam ar y golwg yma yn y Cynulliad, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar olwg. Fel y crybwyllodd Nick, yn gynharach yn yr haf cawsom ffigurau a oedd yn dangos bod 54,000 o gleifion yng Nghymru ar restrau aros am ofal dilynol mewn clinigau offthalmoleg yn ein hysbytai mewn perygl o golli eu golwg. Pobl yw'r rhain a gafodd eu gweld gan arbenigwyr, ac a oedd i fod i gael eu gweld eto ymhen tri neu chwe mis—roedd ganddynt glawcoma, neu beth bynnag—ond roedd yr apwyntiadau hynny bob amser yn cael eu gohirio am amryw o resymau, ac weithiau ni fyddent yn cael eu gweld am fisoedd, neu flynyddoedd weithiau. Maent mewn perygl: roedd 90 y cant o'r achosion o golli golwg yn digwydd pan oedd y cleifion ar y rhestr aros am ofal dilynol. Mae angen mynd i'r afael â'r sefyllfa hon, oherwydd roedd y bobl hyn wedi cael diagnosis ac maent wedi'u colli i ofal dilynol oherwydd oedi. Mae yna fentrau ar gael, fel y dywedodd Nick, ac rydym yn disgwyl i'r Llywodraeth sicrhau gostyngiad yn y ffigurau hynny. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a llawer iawn o ddiolch i Nick Ramsay am godi'r mater pwysig hwn, ac rwy'n falch o allu siarad am y camau y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn eu cymryd i helpu i ddileu'r rhwystrau ar gyfer pobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall, neu i weld yn wahanol fel y mae Nick Ramsay wedi'i roi.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fuddsoddiad o £4 miliwn yn rhan o fesurau i drawsnewid gwasanaethau gofal llygaid ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth yn gynt. Rydym wedi gofyn am gyngor gan banel annibynnol ar sut i ddyrannu'r £4 miliwn, ac rydym yn gweithio i gynnwys pawb yn y broses o gynllunio'r ffordd orau o weithredu newidiadau neu safoni a symleiddio'r hyn sy'n cael ei wneud eisoes. Byddwn yn sicrhau bod ein cleifion yn cael y wybodaeth lawn am unrhyw newidiadau ac yn deall beth y mae'n ei olygu i'w triniaeth gyfredol. Rydym yn derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay am bobl yn cymryd rhan ac yn ymwneud yn y gofal y maent yn ei gael.
Bydd y newidiadau yn y gwasanaeth yn cefnogi'r mesur perfformiad newydd sydd i'w gyflwyno yn ddiweddarach y mis hwn a bydd yn seiliedig ar anghenion clinigol cleifion. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno mesur o'r fath ar gyfer cleifion gofal llygaid ochr yn ochr â'r targed amseroedd aros presennol rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau offthalmig yn hysbys. Cyfeiriodd Nick Ramsay at nifer ohonynt.
Mae nifer y bobl sydd â phroblemau gyda'u golwg yn cynyddu'n ddramatig, ac fel y cyfryw mae'n amlwg y bydd y baich ar y gwasanaethau presennol hefyd ar gynnydd. Fel y mae'r fideo'n dangos inni'n ddramatig iawn, ac yn gwbl briodol felly, mae bron 107,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar y golwg ar hyn o bryd, a rhagwelir y bydd y nifer yn dyblu erbyn 2050. Mae gwella hygyrchedd a chyflymu diagnosis yn hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau gofal llygaid yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym yn cydnabod yn bendant fod rhai amseroedd aros yn rhy hir ac mae mawr angen newid y system gofal llygaid—dyna pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn cyhoeddi'r rhain. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio ochr yn ochr â'r gymuned.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi pwysleisio ein bod yn disgwyl i'r holl gleifion gael eu gweld cyn gynted â phosibl ac yn ôl eu hangen clinigol. Fel y dywed Nick Ramsay, rydym yn briodol falch o'r ffaith mai ni yw'r Llywodraeth gyntaf yn y byd i gael cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid a'r wlad gyntaf yn y DU bellach i gyflwyno mesur perfformiad o'r math hwn ar gyfer gofal llygaid. Mae'r newidiadau hyn yn cyd-fynd â 'n gweledigaeth hirdymor ar gyfer y GIG yng Nghymru i drawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau a sicrhau gofal o ansawdd yn nes at gartrefi pobl.
Rydym hefyd yn cyflwyno llwybrau newydd ar gyfer cleifion i'w hatal rhag colli eu golwg a'u cynorthwyo'n well i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Ers 2001, mae gwasanaeth gofal llygaid GIG Cymru wedi galluogi optometryddion ac offthalmolegwyr, felly haenau gofal sylfaenol ac eilaidd, i weithio ar frig eu trwyddedau i leihau nifer y cleifion sy'n cael eu cyfeirio at adrannau gofal llygaid mewn ysbytai. Mae'r gwasanaeth yn gweithio i ddiogelu'r golwg yn gyntaf drwy ganfod clefydau ar y llygaid yn gynnar a darparu cymorth wedyn i'r rheini sydd â nam ar y golwg pan nad yw'n briodol i roi triniaeth bellach.
Ceir dau wasanaeth offthalmig sy'n unigryw i Gymru ac maent yn darparu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel i bobl â phroblemau llygaid, sef y gwasanaeth archwiliadau iechyd llygaid, sy'n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau yn eu practis optometreg lleol yn lle'u meddygfa neu adran ysbyty, a gwasanaeth sgrinio llygaid diabetig Cymru, sy'n sgrinio pob claf sydd â retinopatheg diabetig i helpu i'w hatal rhag mynd yn ddall yn ddiangen.
Yn ogystal â gwella llwybrau cleifion, roedd Nick Ramsay yn iawn hefyd i roi sylw i faterion yn ymwneud â'r gwaith hanfodol sydd angen ei wneud i sicrhau ein bod yn cefnogi byw'n annibynnol. Mae'r Llywodraeth yn hynod o falch o allu hybu'r model cymdeithasol o anabledd. Hynny yw, rydym yn cydnabod bod rhwystrau amgylcheddol, ymagweddol a sefydliadol i gydraddoldeb a chynhwysiant sy'n rhaid eu dileu er mwyn sicrhau chwarae teg ac i wneud yn siŵr fod unrhyw un sy'n byw gydag anabledd yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall. Yr un yw ein hymagwedd at bobl sydd â nam ar y golwg.
Trydydd gwasanaeth gofal llygaid sydd hefyd yn unigryw i Gymru yw'r gwasanaeth golwg gwan. Mae hwn yn galluogi pobl sy'n byw â chyflyrau golwg i wneud y defnydd gorau o'r golwg sydd ganddynt drwy bresgripsiynu cymhorthion golwg gwan a'u galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl. Gan weithio gyda gwasanaethau golwg gwan ar gyfer Cymru, rydym yn gweithio i sicrhau atgyfeiriadau effeithiol at y gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector i gynnig help i rai â nam ar eu golwg i bennu pa gymorth y maent ei angen a'i eisiau.
Byddwn yn cyhoeddi fframwaith newydd o'r enw gweithredu ar anabledd, yr hawl i fyw'n annibynnol ym mis Hydref eleni—y mis hwn yn wir. Bydd y fframwaith newydd yn parhau i fod yn seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd. Rydym wedi bod yn ymgysylltu'n helaeth â phobl anabl a'u sefydliadau cynrychioliadol dros y flwyddyn ddiwethaf i nodi'r meysydd anghydraddoldeb sydd bwysicaf i bobl o bob oed yng Nghymru, ynghyd ag atebion posibl.
Mae ein huchelgais ar gyfer y gwasanaeth golwg gwan yn un o nifer o gamau gweithredu yng nghynllun gweithredu'r fframwaith i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau allweddol a nodwyd gan bobl anabl eu hunain. Ni fydd y rhwystrau allweddol hyn yn syndod i'r Aelodau eu clywed. Nododd Nick Ramsay lawer ohonynt, sef: gwybodaeth hygyrch, mynediad i adeiladau, mynediad i ofodau a rennir, gan gynnwys llwybrau teithio llesol a phroblemau gyda blerwch stryd, a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf eich bod wedi tynnu sylw at bob un o'r rheini yn eich cyfraniad, Nick.
Hefyd, ym mis Rhagfyr 2013, cyflwynwyd safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu hygyrch a gwybodaeth ar gyfer pobl â nam ar y synhwyrau. Nod y safonau ar gyfer Cymru gyfan yw gosod y safonau darparu gwasanaeth y dylai pobl â nam ar y synhwyrau ddisgwyl eu cael wrth iddynt wneud defnydd o ofal iechyd yng Nghymru. Rhan allweddol o'r safonau ar gyfer Cymru gyfan yw'r gofyniad y dylid diwallu angen pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth am gymorth i gyfathrebu.
O ganlyniad i'r gofyniad hwn, cyhoeddwyd y safon gwybodaeth data hygyrch newydd i ddiwallu'r angen i ddarparu cymorth cyfathrebu. Prosiect cenedlaethol yw hwn, dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â'r Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a phartneriaid trydydd sector. Mae'r safon yn galluogi meddygfeydd i gasglu, cofnodi, fflagio a rhannu anghenion cyfathrebu gwybodaeth cleifion â nam ar y synhwyrau. Mae'n offeryn, neu'n alluogydd i helpu practisau meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gyflawni eu dyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anableddau. Mae hefyd yn galluogi meddygfeydd i wneud hyn mewn modd cyson ar draws pob bwrdd iechyd. Ac yn ogystal, erbyn hyn cyhoeddwyd cylchlythyr iechyd Cymru gyda chynllun gweithredu'n rhoi manylion y safon data hygyrch newydd.
Un o'r meysydd eraill rwyf am sôn amdano hefyd—ac unwaith eto, nododd Nick Ramsay hyn—yw mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl sy'n byw gydag anableddau, gan gynnwys nam ar y golwg a cholli golwg. Mae 75,000 o bobl anabl yng Nghymru naill ai wrthi'n chwilio am waith neu'n awyddus iawn i weithio. Ar hyn o bryd 45 y cant yn unig o bobl anabl o oedran gweithio sydd mewn gwaith, o'i gymharu ag 80 y cant o bobl nad ydynt yn anabl, ac mae'n fwlch cyflogaeth anabledd eithaf syfrdanol o tua 35 y cant.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn y sector hwn i nodi'r rhwystrau oherwydd eu bod yn aml iawn y tu hwnt i reolaeth y person anabl. Felly rhwystrau o ran systemau sefydliadol, agweddau, a ffactorau ffisegol ac amgylcheddol. Mae llawer o'r ymrwymiadau a nodir yn ein cynllun cyflogadwyedd yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth anabledd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r problemau, gan gynnwys agweddau cyflogwyr, cynllunio gwaith ac arferion gwaith.
Roeddwn yn falch iawn o siarad mewn uwchgynhadledd ar gynhwysiant cyflogadwyedd yn Abertawe ddydd Gwener diwethaf, lle cefais y fraint a'r pleser o gyfarfod â nifer fawr o bobl anabl a siarad â hwy ynglŷn â rhai o'r rhwystrau yr oeddent wedi'u hwynebu, ond yn llawer pwysicach, ac yn galonogol, siaradais â hwy am beth o'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr, ac roedd nifer fawr o gyflogwyr yno a oedd yn abl, yn frwdfrydig ac yn barod iawn i edrych ar rai o'r addasiadau bach y gallent eu gwneud i sicrhau y gallent barhau i gyflogi pobl ag anableddau.
Rydym hefyd wedi sefydlu gweithgor swyddogion ar gydraddoldeb a chyflogaeth, sy'n cynnwys sbarduno camau gweithredu ar anabledd mewn cyflogaeth, i gefnogi ein hymrwymiadau yn ein cynllun cyflogadwyedd i gynyddu nifer y bobl anabl mewn gwaith. Mewn partneriaeth â phobl anabl, rydym yn gweithio i ddatblygu targed ystyrlon a fydd yn adlewyrchu eu hanghenion a'u dymuniadau ac a fydd yn uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysgogi'r newid sydd ei angen, mewn gweithleoedd ac yn y gymdeithas, er mwyn chwalu'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor wrth eu bod yn chwilio am waith.
Hoffwn ddweud ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn gwybod bod cyflogwyr yn cael sioc yn aml mewn treialon, pan gaiff nodweddion personol eu hepgor o ffurflenni cais, wrth ddarganfod bod yr unigolyn yr oeddent wedi dweud yn flaenorol nad oeddent yn dderbyniol iddynt yn meddu ar bob un o'r cymwysterau angenrheidiol mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod bod y bwlch cyflogaeth hwn yn bodoli ar bob lefel sgiliau. Felly, cyflogir llai o bobl anabl sydd â PhD na phobl eraill sydd â PhD, a'r holl ffordd i lawr ceir bwlch sgiliau. Felly, mae'n sicr yn ymwneud â'r model cymdeithasol: mae'n ymwneud â'n cael i dderbyn bod pobl anabl yn aml iawn, os nad bob amser, yn meddu ar y sgiliau sydd ar gael iddynt ac mewn gwirionedd, yr hyn sydd angen inni fynd i'r afael ag ef yw cynwysoldeb ein harferion cyflogaeth, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yng Nghymru.
Mae tudalennau gwe ein porth sgiliau busnes yn cynnwys tudalennau penodol erbyn hyn sy'n nodi'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr ac unigolion i'w helpu i gyflogi pobl anabl, ac rydym yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i helpu i ddatblygu pecyn gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr ar fynediad at waith, a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth i helpu cyflogwyr i ddod o hyd i gyngor arbenigol i helpu gyda recriwtio pobl anabl. Yn olaf, cyhoeddir cynllun gweithredu anabledd newydd ar gyfer prentisiaethau yn yr hydref eleni a fydd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ymarferol i chwalu'r rhwystrau i bobl anabl gael mynediad at brentisiaethau.
Gofynnwyd y cwestiwn yng nghyfraniad Nick Ramsay: sut y gallwn ddileu'r rhwystrau i gyfranogiad cyfartal pobl ddall a rhannol ddall yn y gymdeithas? A'r ateb yw y gallwn wneud hynny drwy wella llwybrau cleifion; defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd; gwrando ar y gymuned a gweithredu ar y materion sydd bwysicaf iddynt, megis gwybodaeth hygyrch, cyflogaeth, a'r llwybrau clinigol a bwysleisiwyd gan Dai Lloyd hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r pwynt pwysig hwn, a chredaf y gallwn barhau, gyda'n gilydd, i wneud Cymru'n esiampl yn y maes hwn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:14.