Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

19/06/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Neil McEvoy.

Criced yng Nghymru

Prif Weinidog, heb fod cymaint â hynny yn ôl, dywedasoch ei bod yn rhyfedd nad oes gan Gymru ei—

Esgusodwch fi; mae'n ddrwg gen i. Nid yw ar y papur trefn. Ah, dyma chi. Mae'n ddrwg gen i.

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Lywodraeth Cymru ar gyfer criced yng Nghymru? OAQ52353

Trwy Chwaraeon Cymru, rydym ni wedi darparu £537,000 i Criced Cymru eleni i gynorthwyo datblygiad y gêm ledled Cymru.

Diolch, a diolch am eich amynedd. Heb fod cymaint â hynny yn ôl, dywedasoch ei bod yn rhyfedd nad oes gan Gymru ei thîm criced cenedlaethol ei hun. Ac mae'n ymddangos yn rhyfeddach nawr bod Iwerddon yn aelod prawf llawn o'r Cyngor Criced Rhyngwladol, a bod yr Alban yn curo Lloegr mewn gemau undydd rhyngwladol. Felly, ble mae Cymru? Rwy'n credu bod llawer o bobl yma yn ei gweld hi'n rhyfedd y gellir disgrifio tîm o'r enw Lloegr, heb unrhyw chwaraewyr o Gymru, sy'n chwarae o dan faner Lloegr, tri llew ar y crys, ac y gellir ei ddisgrifio fel Cymru. Nawr, mae Morgannwg, y bu ganddynt amheuon am dîm Cymru, yn galw ar rywun i lunio cynllun busnes i archwilio sut i gael tîm sirol a chenedlaethol llwyddiannus. Felly, a wnaiff eich Llywodraeth chi gefnogi awgrym Morgannwg trwy gomisiynu astudiaeth o ddichonoldeb ar sefydlu tîm criced cenedlaethol Cymru, neu a wnewch chi adael i gricedwyr a chefnogwyr Cymru barhau i gael eu cynrychioli mor wael gan Loegr?

Wel, yn y pen draw, mater i Griced Cymru ac i Glwb Criced Morgannwg yw hwn, ac nid i'r Llywodraeth. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai effaith ariannol difrifol pe byddem ni'n cystadlu yn ein henwau ein hunain yn sydyn. Ceir marc cwestiwn ynghylch pa un a fyddai Morgannwg yn goroesi, a fyddai'r stadiwm yn hyfyw, ac, yn wir, yr hyn a fyddai'n digwydd o ran y cymorth ariannol y mae criced yng Nghymru yn ei dderbyn. Rwy'n deall bod llawer a hoffai, yn eu calonnau, weld tîm criced Cymru, ond, wrth gwrs, ceir realiti ariannol yn y fan yma y mae'n rhaid ei ystyried ac, i mi, rwy'n credu ei bod hi'n well gadael y mater i'r awdurdodau criced.

Prif Weinidog, fel llawer o gampau ledled Cymru, mae criced ar lefel llawr gwlad ac amatur yn dod o dan bwysau sylweddol, yn ariannol ac o safbwynt cyfranogiad. Nawr, dros y penwythnos, efallai y byddwch chi wedi gweld bod Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynllun arbrofol a fyddai'n golygu bod rygbi ieuenctid yn symud i dymor yr haf. Nawr, er fy mod i'n sicr yn cydnabod bod rhai o'r rhesymau a roddwyd gan Undeb Rygbi Cymru yn ddealladwy, a gaf i ofyn pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth chi wedi eu cael, neu y bydd yn eu cael dros yr wythnosau nesaf, i sicrhau nad yw criced yng Nghymru yn cael ei wasgu neu ei niweidio'n sylweddol gan y penderfyniad hwn, oherwydd does bosib nad yw hi er budd pawb bod gan pob camp yng Nghymru, gan gynnwys criced a rygbi, eu cyfnod eu hunain i ffynnu?

Roedd yn fater a godwyd gyda mi yn ystod y penwythnos. Ceir gorgyffwrdd sylweddol rhwng y campau eisoes. Roedd adeg pan fyddai pobl yn barod iawn i chwarae rygbi yn y gaeaf a chriced yn yr haf, ac nid oedd y gorgyffwrdd yno; nid oedd yno pan oeddwn i yn yr ysgol yn sicr, pan oeddem ni'n chwarae ar leiniau llethrog gyda hen bêl ac un pad—dyna oedd y ffordd i ddysgu criced, os cofiaf i. Ond y pwynt difrifol yw hwn: mae'n bwysig bod criced yn gallu apelio at bobl ifanc, mor ifanc â phosibl. Mae'r sefyllfa wedi gwella. Gwn, pan roedd fy mab yn iau, ei fod yn cael chwarae pêl-droed yn chwech oed, rygbi yn saith oed, ond nid criced tan ei fod yn 11 oed. Fe wnaeth hynny newid yn gyflym iawn a chymerodd ran mewn rhywfaint o griced. Yr hyn sy'n bwysig yw bod criced yn parhau i apelio at blant o'r oedran ieuengaf posibl, ac, er tegwch, mae hynny'n rhywbeth sydd yn digwydd nawr. Felly, dylai criced allu dal ei dir ei hun, yn fy marn i.

Un o'r adnoddau mwyaf grymus, does bosib, ar gyfer annog criced ieuenctid yng Nghymru fyddai cael tîm criced cenedlaethol y gallai pobl ifanc ar hyd a lled y wlad ymdrechu i fod yn aelod ohono a dod o hyd i esiampl dda ynddo. Rydych chi'n dweud nad yw hwn yn fater i Lywodraeth. Gadewch i ni ystyried efallai beth allai fod yn fater i Lywodraeth. Mae gennych chi uned digwyddiadau mawr, er enghraifft, sy'n ariannu llu o ddigwyddiadau er mwyn rhoi Cymru ar y map, er mwyn marchnata Cymru, er mwyn dod â budd economaidd i Gymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru hyd yn oed ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio cyllid digwyddiadau mawr i roi cychwyn ar dîm criced cenedlaethol i Gymru, fel, os mynnwch chi, digwyddiad mawr parhaol a allai ddod â manteision cenedlaethol gwirioneddol?

Mae'r cyllid digwyddiadau mawr ar gael ar gyfer digwyddiadau untro, nid ar gyfer cyllid refeniw parhaus. Ond mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, ei bod yn ffordd dda o hyrwyddo Cymru. Ond nid ydym ni'n denu digwyddiadau sydd â thimau Cymru ynddynt yn unig, os caf ei roi felly. Rydym ni newydd gael Ras Hwylio Volvo. Roedd Cymry yn cymryd rhan, ond nid oedd tîm Cymru. Y pwynt oedd tynnu sylw'r byd at Fae Caerdydd, ac at Gymru, ac i weld beth y gallem ni ei gynnal. Yr un peth gyda Chynghrair y Pencampwyr—oedd, roedd Cymro yn cymryd rhan, yn amlwg, ond nid oedd unrhyw dimau o Gymru ynddo. Credaf felly ei bod hi'n hynod bwysig ein bod ni'n gallu arddangos ein hunain fel gwlad sy'n gallu cynnal digwyddiadau mawr. Rydym ni wedi gwneud hynny'n hynod lwyddiannus. Ni yw'r wlad leiaf o bell ffordd, er enghraifft, i gynnal Cynghrair y Pencampwyr, a Chaerdydd yw'r ddinas leiaf i gynnal Cynghrair y Pencampwyr. Rydym ni wedi ei wneud, ac nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni ei wneud eto. Ni ddylai fod wedi ei glymu i ba un a oes tîm Cymru yn y digwyddiad ai peidio o ran a allwn ni gefnogi'r digwyddiad hwnnw wedyn.

13:35
Creulondeb i Anfeiliaid

2. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i atal creulondeb i anifeiliaid yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ52382

Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru—sydd ag enw bachog—yn nodi blaenoriaethau'r grŵp fframwaith a Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar les anifeiliaid anwes yn ddiweddarach heddiw.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Ers mis Mai eleni, mae'n ofynnol i bob lladd-dy yn Lloegr osod camerâu teledu cylch cyfyng ym mhob man lle y cedwir anifeiliaid byw. Bydd gan filfeddygon swyddogol fynediad anghyfyngedig at y recordiadau, i roi sicrwydd i ddefnyddwyr bod safonau lles uchel yn cael eu gorfodi. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hon yn ffordd effeithiol o atal creulondeb i anifeiliaid, a phryd wnaiff Llywodraeth Cymru wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn ein lladd-dai ni yng Nghymru?

Wel, mae nifer o reolaethau ar waith eisoes mewn lladd-dai. Mae milfeddygon swyddogol yn bresennol ym mhob un ohonyn nhw. Ceir teledu cylch cyfyng yn y lladd-dai mwy o faint, sy'n prosesu'r mwyafrif o anifeiliaid, a gall milfeddygon swyddogol gael gafael ar recordiadau os byddant yn amau nad yw safonau lles yn cael eu bodloni. Wedi dweud hynny, rydym ni'n benderfynol o wella safonau ac arferion pan ei bod hi'n angenrheidiol ac yn rhesymol i wneud hynny, a bydd y pecyn ariannu buddsoddiad busnes bwyd gwerth £1.1 miliwn yn cynorthwyo lladd-dai bach a chanolig eu maint i wella eu cyfleusterau, gan gynnwys gosod teledu cylch cyfyng.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae canser y prostad yn gyflwr creulon, sydd a chyfraddau llwyddiant rhyfeddol os ceir diagnosis yn ddigon cynnar—90 y cant a mwy. Yn anffodus, yn amlwg, mae sgrinio mewn rhai rhannau o'r DU ymhell o fod yn foddhaol. Yma yng Nghymru yn enwedig, yn anffodus, nid yw'r gallu i gael mynediad at y sganiwr MRI amlbaramedrig ar gyfer pedwar bwrdd iechyd yn bodoli, ac mae'n rhaid i bobl dalu symiau sylweddol i gael cynnal y sgan hwnnw yn y pen draw. Yn Lloegr, er enghraifft, lle mae'r sgan hwnnw ar gael, mae ganddo gyfradd ganfod o 92 y cant. Gan nad yw'r pedwar bwrdd iechyd, lle ceir cyfanswm o 700,000 o ddynion yn y byrddau iechyd hynny, yn gallu denu'r math hwnnw o sgrinio, pa ymrwymiad allwch chi ei roi, fel Prif Weinidog ac fel Llywodraeth, i gyflwyno'r sgrinio fel y bydd gennych chi fynediad at y sgrinio hwnnw, pa bynnag ran o Gymru yr ydych chi'n byw ynddi, fel y gellir cyflawni llawdriniaeth neu ymyrraeth yn brydlon os bydd angen hynny arnoch chi?

Cwestiwn pwysig, ac un sy'n haeddu ateb manwl, os caf i, Llywydd. Gallaf ddweud bod byrddau iechyd yng Nghymru yn gallu cynnig sganiau amlbaramedrig, yn unol â chanllawiau cyfredol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'r canllawiau hynny ar hyn o bryd yn argymell yr mpMRI ar gyfer pobl â biopsi negyddol, i benderfynu a oes angen biopsi arall, a pha un a fydd rheoli canser profedig yn elwa ar fynd i'r afael â'r tiwmor mewn camau. Dynododd yr hyn a elwir yn 'dreial PROMIS' y gallai pobl â chanser y prostad tybiedig elwa ar gael eu mpMRI cyn biopsi. Mae NICE yn adolygu ei ganllawiau a disgwylir iddo gyhoeddi argymhellion yn ystod rhan gynnar y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, mae tystiolaeth yn cael ei hystyried gan fwrdd wroleg Cymru. Mae'n deg i ddweud bod gwahanol safbwyntiau ymhlith y clinigwyr ynghylch goblygiadau tystiolaeth ddiweddar, gyda rhai byrddau iechyd yn gweithredu elfennau dull diwygiedig. Yr hyn y gallaf ei ddweud, os bydd NICE yn argymell mpMRI cyn-biopsi ar gyfer canser y prostad tybiedig, yna byddem yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ddiwygio eu llwybrau gofal yn unol â hynny. Yn y cyfamser, bydd byrddau iechyd yn parhau i ystyried y dystiolaeth a diwygiadau i lwybrau trwy fwrdd wroleg Cymru.

Diolchaf i chi am yr ateb manwl yna, Prif Weinidog. Yn anffodus, mae 10,000 o ddynion y flwyddyn yn marw o ganser y prostad—dyma'r lladdwr mwyaf ar ddynion. Ac mae'n rhaid i rywfaint o gyffredinolrwydd o ran y rhaglen sgrinio fod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw canser yn dibynnu ar godau post—mae'n gyffredinol. O ran y rhaglen sgrinio canser y coluddyn sydd gan Lywodraeth Cymru, fe'i galwyd, ar hyn o bryd, yn rhaglen sgrinio sydd wedi ei seilio'n fawr ar loteri cod post. Yn benodol, roedd un o bob pedwar o unigolion yn aros mwy nag wyth wythnos i gael diagnosis o'u triniaeth sgrinio, a chael ei rhoi ar waith pe byddai angen ymyrraeth. Mae naw cant o bobl y flwyddyn yn marw o ganser y coluddyn yma yng Nghymru. Pe byddai gennym ni, yn y pen draw, system sgrinio well, fwy cadarn a system sgrinio ehangach a fyddai'n cymryd 40 oed a hŷn i ystyriaeth, yna gallem ni ostwng y niferoedd hynny hyd yn oed ymhellach. O gofio ein bod ni'n ymwybodol o bwysigrwydd sgrinio ac, yn enwedig, sgrinio'r coluddyn, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i gwtogi amseroedd aros a fydd yn cael gwared ar yr un o bob pedwar—25 y cant o bobl—sy'n aros dros wyth wythnos i gael y canlyniadau sydd eu hangen arnynt, oherwydd ni all fod yn iawn, pan fo modd trin y cyflwr, bod dim ond aros yn rhy hir ar restr aros yn cael effaith niweidiol ar eich canlyniad?

13:40

O ran sgrinio, mae'n gwestiwn o bwy ydych chi'n eu targedu ar gyfer y sgrinio, oherwydd ni allwch chi sgrinio pawb. Pa elfennau o'r boblogaeth sy'n arbennig o agored i fath penodol o ganser, oherwydd nid yw'n gorfforol bosibl i sgrinio pawb? Rydym ni eisiau, wrth gwrs, gweld cysondeb ar draws y byrddau iechyd. Maen nhw'n gallu cael mynediad at y gronfa triniaethau newydd, os yw hynny'n briodol ar gyfer yr hyn y maen nhw'n dymuno bwrw ymlaen ag ef. Yr hyn y gallaf ei ddweud, pan edrychwn ni ar ein llwybr canser tybiedig brys, er enghraifft, yw bod y mwyafrif llethol o bobl wedi dechrau triniaeth ddiffiniol yn unol â'r amser targed o 62 diwrnod—88.7 y cant—a dechreuodd 96 y cant o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser heb ddilyn y llwybr brys driniaeth ddiffiniol yn unol â'r amser targed o 31 diwrnod ym mis Mawrth 2018. Felly, mae'r mwyafrif llethol o bobl yn cael y driniaeth y dylent ei chael o fewn y cyfnod priodol o amser. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n dibynnu ar arbenigwyr i'n cynghori ni i wneud yn siŵr y gallwn ni weld sut y gallwn ni wella sgrinio pan fo hynny'n angenrheidiol.

Mae angen y gwelliannau hynny'n daer. Fel y dywedais, mae Bowel Cancer UK yn dweud ei fod yn argyfwng cenedlaethol bod un o bob pedwar o bobl yn aros wyth wythnos neu fwy i'r broses sgrinio honno gael ei chynnal. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o gyhoeddiad y penwythnos y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud yw y bydd cynnydd sylweddol i'r gwariant sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru—[Torri ar draws.] Mae'r sgrinio—. Wel, gallaf glywed y grwgnach gan Aelodau meinciau cefn Llafur, ond y gwir yw bod arian yn dod draw i Lywodraeth Cymru.

Nawr, mae'n berffaith iawn, o dan y setliad datganoledig, eich bod chi'n dewis ble i wario'r arian hwnnw. O'r meinciau hyn, rydym ni'n credu y dylid gwario'r arian hwnnw ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i wneud y gwelliannau hynny o ran y prostad, y coluddyn a thriniaethau eraill sydd ar gael i gleifion yma yng Nghymru. Nawr, a wnewch chi ymrwymo heddiw i wneud yn siŵr bod unrhyw arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael ei wario ar y meysydd allweddol hynny, fel y gallwn ni weld y gwelliannau sydd eu hangen arnom ni'n daer i brofion diagnostig, amseroedd aros a recriwtio staff, y bydd rhannau eraill o'r DU sydd wedi ymrwymo i'w darparu yn y cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu gweld? Mae angen yr ymrwymiad hwnnw arnom ni, Prif Weinidog. A wnewch chi hynny?

Wel, y peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei weld yw faint o arian y byddwn ni'n ei gael mewn gwirionedd, oherwydd mae dau bwynt pwysig i'w gwneud yma: yn gyntaf oll, rydym ni wedi cael ein hysbysu mai'r arian hwnnw, pa bynnag arian y byddwn ni'n ei gael, fydd y ffynhonnell o gyllid i ymdrin â chodiadau cyflog. Felly, bydd yn rhaid ariannu'r cam o godi'r cap cyflog trwy unrhyw arian a gawn ni drwy'r ffynhonnell y mae ef wedi cyfeirio ati. Felly, dyna'r peth cyntaf i'w grybwyll. Nid oes unrhyw arian ychwanegol ar ben hynny. Yn ail, wrth gwrs, nid yw'n wir byth, ydy hi, ein bod ni'n cael cyfandaliad o arian i dalu am faes penodol, fel iechyd neu addysg? Yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, fel y mae e'n gwybod, yw ei fod yn cael ei ddarparu drwy'r grant bloc. Yr hyn nad ydym ni'n ei wybod, os byddwn ni'n cael y cynnydd ym maes iechyd, pa un a fyddwn ni'n gweld gostyngiadau ym mhobman arall wedyn—mewn llywodraeth leol, mewn addysg, yn yr holl feysydd hynny sydd wedi'u datganoli. Nawr, mae'r rheini, wrth gwrs, yn cael eu tynnu o'r ffigur y mae newydd eu crybwyll. Felly, tan y byddwn ni'n gwybod yn gyntaf faint o arian net fydd yna mewn gwirionedd—rydym ni'n gwybod am yr £1.2 biliwn—a tan y byddwn ni'n gwybod, wrth gwrs, faint o arian—mae gennym ni syniad go lew—y bydd y cytundeb cyflogau yn ei gostio, ni fyddwn yn gwybod faint o arian sydd ar gael i'w wario. Tan i'r ffactorau hynny gael eu datrys—ac nid oes neb yn gallu gwneud hynny eto oherwydd nid ydym ni'n gwybod pa gynnydd neu beidio fydd yn ein bloc grant yn yr Hydref—a tan y byddwn ni'n gwybod y swm terfynol net o arian, mae'n anodd iawn gwneud unrhyw ymrwymiadau ar hyn o bryd.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU dros y penwythnos y byddai anrheg pen-blwydd o £20 biliwn y flwyddyn i'r GIG yn Lloegr. O ganlyniad i Barnett, disgwylir i Gymru gael £1.2 biliwn. Ddydd Sul, dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru y byddai penderfyniad ar ddyraniad cyllid yn cael ei wneud gan eich Cabinet chi yn y ffordd arferol. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw eto, ac a fyddwch chi'n defnyddio unrhyw arian ychwanegol y byddwn ni'n ei gael ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol?

Wel, yr unig ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud yw y byddwn ni'n codi'r cap cyflog—yn anarferol, oherwydd nid ydym ni'n gwneud yr addewidion hynny cyn ein bod ni'n gwybod faint o arian sydd wedi ei ddyrannu, fel rheol. Felly, bydd yn rhaid talu am hynny o ba bynnag swm o arian y byddwn ni'n ei gael gan Lywodraeth y DU; nid oes unrhyw arian ychwanegol ar ei gyfer. Ac fel y dywedais yn yr ateb yn gynharach, nid yw'n mynd i fod yn £1.2 biliwn. Nid ydym ni'n gwybod pa un a fydd toriadau yn rhywle arall a fydd yn gostwng y ffigur hwnnw. Tan y byddwn ni'n gwybod beth yw'r ffigur terfynol, mae'n anodd iawn gwneud unrhyw ymrwymiadau o ran gwariant.

13:45

Diolch am yr ateb yna. Fy mhryder yn y fan yma yw bod problemau iechyd meddwl yn cynrychioli tua chwarter yr holl broblemau iechyd, ac eto rydym ni'n gwario cyn lleied â dros 11 y cant o gyllideb gyfan GIG Cymru. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 100 y cant i'r galw am wasanaethau gofal iechyd meddwl plant a'r glasoed. Rydym ni'n gwybod bod iselder yn effeithio ar 22 y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod dros 65 oed. Rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i achosion o hunan-niwed, ac mae tua 300 o bobl yng Nghymru yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn—mae hyn tua dwywaith y nifer o bobl sy'n cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd. Mae'n amlwg nad ydym ni'n gwneud digon i fynd i'r afael ag iechyd meddwl yng Nghymru. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn, beth bynnag y bydd, sy'n dod i Gymru i sicrhau bod cyllid iechyd meddwl yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd?

Gwnaf, ac yn arbennig, wrth gwrs, i edrych ar ei atal. Mae hynny'n bwysig iawn. Gyda CAMHS, mae'n iawn i ddweud y bu cynnydd sylweddol i'r galw am CAMHS a bodlonwyd y galw hwnnw gennym ni trwy ddyrannu—os cofiaf—£8 miliwn y flwyddyn tuag at CAMHS er mwyn iddyn nhw fodloni'r galw a oedd yno. Mae iechyd meddwl, fel y bydd yn gwybod, yn flaenoriaeth allweddol i ni yn 'Ffyniant i Bawb'. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod iechyd meddwl yn cael ei weld fel rhywbeth sy'n flaenoriaeth i bob llywodraeth yn y dyfodol, a bydd hynny'n llywio unrhyw benderfyniadau gwario yr ydym ni'n eu gwneud os oes unrhyw arian ychwanegol ar y bwrdd.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel yr wyf i wedi ei amlygu o'r blaen, lawer gwaith, bydd un o bob pedwar ohonom ni'n dioddef o salwch meddwl. Gallai ffrind neu gydweithiwr fod wedi bod yn ymladd iselder ers blynyddoedd—ni fyddem ni'n gwybod am y peth, oherwydd, yn anffodus, mae stigma ynghlwm wrth broblemau iechyd meddwl o hyd. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn fwy agored am iechyd meddwl: ni fyddem ni'n ceisio cuddio coes sydd wedi torri, ond byddem yn ceisio cuddio iselder. Yn anffodus, o ganlyniad i stigma, mae llawer o bobl yn cymryd eu bywydau eu hunain yn y pen draw. Os byddwn ni'n cydnabod yr arwyddion ac yn cynnig cymorth anfeirniadol, gellid achub llawer o fywydau. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu hyfforddi fel swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, ac a wnewch chi ystyried ychwanegu'r hyfforddiant at y cwricwlwm ysgol ac annog cyflogwyr mawr i gael swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ochr yn ochr â'r swyddogion cymorth cyntaf arferol, gofynnol? Diolch.

Nid wyf i'n siŵr mai cymorth cyntaf yw'r ffordd i ymdrin ag ef. Mae hynny'n awgrymu rhywbeth sy'n acíwt, rhywbeth sydd newydd godi. Credaf ei fod yn fwy hirdymor na hynny. Derbyniaf y pwynt y mae arweinydd UKIP yn ei wneud o ran sut yr ydym ni'n ymdrin â phobl nad ydyn nhw'n dangos unrhyw arwyddion allanol o iselder. Rwyf i weld ei weld yn bersonol, mae gen i syniad go lew o sut y mae'n gweithredu mewn pobl, ond nid yw bob amser yn amlwg i'r rheini nad ydynt yn gyfarwydd â'r unigolyn dan sylw, ac mae'n anodd, wrth gwrs, oherwydd nid yw'r arwyddion allanol yno. Os byddwch chi'n torri coes, mae'n amlwg: mae'r arwyddion yno. Dyna pam yr wyf i eisiau gwneud yn siŵr pan fyddwn ni'n ystyried iechyd meddwl, nad ydym yn ei ystyried fel gwasanaeth sydd wedi ei gynllunio i helpu pobl dim ond pan fyddan nhw'n dioddef argyfwng, ein bod ni'n ystyried ffyrdd y gallwn ni helpu pobl ifanc yn arbennig—mae hynny'n bwysig, mae gennym ni gwnselydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru—ond beth arall y gellid ei wneud, er enghraifft, i geisio helpu pobl nad yw'n amlwg bod angen cymorth arnynt. Nhw yw'r bobl, yn aml iawn, wrth gwrs, y mae angen i'r systemau eu nodi. O ran sut y gwneir hynny, wrth gwrs, byddwn yn bwrw ymlaen â hynny gydag ymarferwyr, i weld sut y gallwn ni greu gwasanaeth lle ceir mwy o bwyslais ar atal a llai ar ymdrin â symptomau pan eu bod yn dod yn amlwg.

Diolch, Llywydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno gyda'r cyfreithwyr amgylcheddol ClientEarth bod diffyg eglurder a manylder yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ansawdd aer?

Wel, rydym ni'n ystyried ansawdd aer a sut i'w wella. Nid wyf i'n mynd i gytuno gyda chwmni cyfreithwyr, yn amlwg, nad ydynt yn gyfreithwyr Llywodraeth Cymru, ond mae her, wrth gwrs, i wella ansawdd aer yn y dyfodol.

Mae llygredd aer yn gyfrifol am 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yn y wlad hon. Mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus, a dyma etifeddiaeth amgylcheddol eich Llywodraeth Lafur. Dyna pam mae Plaid Cymru yr wythnos hon wedi lansio ymgyrch, wythnos aer glân, ac fe lansiodd fy nghyd-Aelod Simon Thomas adroddiad cynhwysfawr ddoe ar swyddogaeth hydrogen yn y broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Nawr, byddwn yn annog y Prif Weinidog i ddarllen yr adroddiad trylwyr hwn a arweinir gan arbenigwyr a chymryd sylw o'i argymhellion.

Prif Weinidog, mae'r argyfwng hwn yn cyfiawnhau gweithredu brys. O gofio mai ffordd yng Nghaerffili yw'r fwyaf llygredig y tu allan i Lundain, a wnewch chi gefnogi ein galwadau am Ddeddf aer glân i Gymru a fyddai'n rhoi terfyn graddol ar werthu cerbydau diesel a phetrol yn unig erbyn 2030?

13:50

Rwy'n credu bod hynny'n rhy gynnar; nid wyf i'n credu bod y dechnoleg yn barod. Rwy'n edrych ymlaen at adeg pan mai ceir trydan fydd y norm. Nid wyf i'n credu bod y dechnoleg yno ar hyn o bryd o ran yr amrywiaeth, ond rwy'n credu y bydd yn dod ar gael yn gyflym iawn, iawn.

Os cofiaf yn iawn, 2040 yw'r targed y mae Llywodraeth y DU wedi ei bennu, sy'n besimistaidd yn fy marn i, ond o weld datblygiad y dechnoleg yn y maes hwn, rwy'n credu y byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle bydd yn dod yn ddewis realistig. Fel rhywun sydd wedi bod yn gyrru car hybrid, mae'r batri yn fy nghar yn rhoi pellter o 28 milltir i mi. Nawr, dyna'r broblem. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y dechnoleg yn gywir i symud ymlaen, yn y ffordd y mae hi wedi ei disgrifio—mae hi'n iawn.

Yn y cyfamser, beth ddylem ni ei wneud? Ni allwn wneud dim. Wel, yn gyntaf, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwared ar ardaloedd lle mae traffig yn llonydd gyda injans yn rhedeg—mae hynny'n effeithio ar ansawdd aer—ac, wrth gwrs, gweld mwy o newid moddol, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, symud ymlaen â'r gwelliannau yr ydym ni'n mynd i'w gweld yn ein seilwaith rheilffyrdd, i'w gwneud yn fwy cyfforddus i bobl deithio ar y trên, mewn trenau sydd wedi eu haerdymheru, sy'n amlach, ac hefyd, wrth gwrs, symud ymlaen â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i wneud yn siŵr lle'r ydym ni'n gweld datblygiadau newydd—ar lwybrau beicio, er enghraifft—eu bod nhw'n rhan annatod o'r datblygiadau hynny, fel bod pobl yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw deithio mewn car.

Felly, ceir dau beth: yn gyntaf oll, creu'r newid moddol hwnnw, ac, yn ail, wrth gwrs, ceisio annog ffyrdd o sicrhau bod ceir batri yn gallu cyrraedd ymhellach yn y dyfodol, a'i bod yn llawer haws ei gwefru, hefyd, nag y mae hi ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai dyna pryd y gallwn ni gael y newid gwirioneddol.

Rwy'n cymryd, felly, o'ch ateb, eich bod chi'n anghytuno â chyngor Caerdydd dan arweiniad Llafur sydd wedi galw am wahardd cerbydau sy'n llygru erbyn 2030? Pam na all Llafur fod yn gyson ar unrhyw faes polisi? Mae'r diffyg brys, parodrwydd a'r diffyg o ran gallu gwneud pethau'n wahanol yn costio bywydau pobl. Gallwch chi chwerthin a mwmian—mae'n costio bywydau pobl.

Nawr, rydych chi eisoes wedi colli achos yn erbyn ClientEarth ac rydych chi'n wynebu rhagor o sgil-effeithiau cyfreithiol os na fydd atebion yn cael eu canfod yn gyflym. Gadewch i mi bwysleisio maint y broblem unwaith eto yn y fan yma. Mae aer yng Nghaerdydd a Phort Talbot yn fwy llygredig nag aer yn Birmingham a Manceinion, er gwaethaf y gwahaniaethau enfawr yn y boblogaeth. Dyma'r amgylchedd y mae eich Llywodraeth yn ei greu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Prif Weinidog, fel cam cyntaf un, a allech chi sicrhau bod y parc moduron arfaethedig yng Nglynebwy yn canolbwyntio ar ddatblygu cerbydau hydrogen a thrydan, gan roi Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro trafnidiaeth lân. A wnewch chi hynny o leiaf?

Tybed a yw hi neu bobl eraill ar feinciau Plaid Cymru yn gyrru car hybrid neu gar trydan? Distawrwydd. Wel, dylech chi ddilyn eich egwyddorion eich hun—dyna fyddwn i'n ei ddweud.

Ceisiwch wneud hynny yn Aberystwyth. Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r seilwaith, byddwn ni'n ei wneud.

Mae Simon Thomas yn iawn. Mae'n iawn i ddweud, 'Ceisiwch wneud hynny yn Aberystwyth.' Mae'n hollol iawn, nid wyf i'n anghytuno â hynny o gwbl, a dyna pam nad yw'r dechnoleg yn barod eto. Ond mae angen ei symud ymlaen. Wrth gwrs, rwy'n sylwi nad oes neb hyd yn oed yn gyrru hybrid—mae'n rhywbeth yr wyf i wedi ei wneud ers tair blynedd.

Beth bynnag, edrychwch, y pwynt yw hyn, ynte: sut ydym ni'n creu aer glân? Mae hwnnw'n bwynt pwysig. Mae gwaith dur ym Mhort Talbot, ac mae hynny'n golygu, yn anochel, efallai na fydd ansawdd yr aer yno cystal ag y byddai mewn mannau lle nad yw'r gweithrediad diwydiannol hwnnw yno. Ond rydym ni angen iddo fod yno, ac, er tegwch, mae Tata wedi gwneud llawer iawn o ymdrech ac wedi cymryd brasgamau lawer i leihau eu hallyriadau dros y blynyddoedd, ac mae hynny wedi cael effaith ar Bort Talbot. Ceir problem draffig ym Mhort Talbot hefyd nad yw'n hawdd ei datrys, y bydd angen ei hystyried yn y dyfodol. Caerdydd — wel, ydy, rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud ei bod yn debygol ei bod hi'n haws gyrru car trydan yng Nghaerdydd os yw pobl yn cymudo pellter byr, ac mae hynny'n rhywbeth i'w annog ac mae'r seilwaith yn cael ei—[Torri ar draws.] Wel, mae hi'n gwneud y pwynt am y fflyd weinidogol pan nad oes neb yn ei phlaid ei hun yn gyrru'r math hwnnw o gar, o ystyried y pellteroedd hir. [Torri ar draws.] Ie, ond nid fi yw'r un, aie—? [Torri ar draws.] Nid fi yw'r un sy'n dweud y dylem ni symud at geir batri cyn gynted â phosibl. Nhw sy'n dweud hynny.

Dilynwch eich egwyddorion eich hun.

Yr ail beth, wrth gwrs—ac yn y byrdymor—yw mai'r ffordd o wneud hyn yw annog mwy o bobl allan o'u ceir, a hefyd, wrth gwrs, sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus mewn ffordd mor gyfleus â phosibl. Rydym ni'n gwneud hynny, er gwaethaf y feirniadaeth a wnaeth Plaid Cymru o'r fasnachfraint reilffyrdd—yr unig bobl a wnaeth ei beirniadu. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan Gymru gyfan y strwythur rheilffyrdd gorau ym Mhrydain. Rydym ni wedi dangos y ffordd i weddill Prydain. Nid yw hi bellach yn dda i ddim i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd deithio ar drenau hynafol gyda dim aerdymheru a gwasanaeth annibynadwy. Mae hynny'n mynd i newid. Bydd pobl yn cael y trenau y maen nhw'n eu haeddu a bydd pobl yn gallu cael mynediad at y llwybrau beicio y maen nhw'n eu haeddu. Bydd pobl yn gweld, gan ein bod ni wedi cymryd pwerau dros fysiau erbyn hyn, rhwydwaith bysiau a threnau a rheilffordd ysgafn integredig. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig i bobl Cymru—gweledigaeth wirioneddol i lenwi'r bwlch hwnnw tan y bydd y dechnoleg sydd ar gael ac y bydd y pellter ar gael ar gyfer ceir sy'n cael eu pweru gan fatri.

13:55
Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Sir Benfro

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ52340

Mae’r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a’r cynllun gweithredu ar yr economi yn nodi’r camau rydym ni’n eu cymryd i wella’r economi a’r amgylchedd busnes trwy Gymru gyfan. 

Brif Weinidog, fe gwrddais i â busnes bach cymharol newydd yn ddiweddar o'r enw Composites Cymru yn fy etholaeth i sy'n cynhyrchu partiau carbon ffibr i gerbydau, ac mae'r busnes nawr yn edrych i ehangu i gynhyrchu pethau eraill hefyd. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno â fi ei bod hi’n bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi busnes fel hyn, trwy sicrhau mynediad i gyllid er mwyn bod y busnes yn gallu ehangu a bod yr economi lleol yn gallu elwa. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i sicrhau bod busnesau bach, yn enwedig busnesau bach mewn ardaloedd gwledig, yn gallu cael gafael ar gefnogaeth ariannol, fel eu bod yn gallu tyfu yn y dyfodol, a gwella’r economi lleol?

Wel, wrth gwrs, rŷm ni wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach ac SMEs, ac rŷm ni wedi buddsoddi £86 miliwn lan hyd at 2020 i sicrhau bod busnesau'n cael hysbysrwydd a'r manylion sydd eisiau arnyn nhw, ac yn cael canllawiau a hefyd yn cael cefnogaeth fusnes trwy'r rhaglen Busnes Cymru. Mae'n bleser i weld bod cynnydd o 10.6 y cant o fusnesau yn sir Benfro ers 2011, ac, wrth gwrs, mae'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y system fand eang wedi gwneud gwahaniaeth mawr ynglŷn â sicrhau bod busnesau'n gallu sefyll mewn ardaloedd mwy gwledig ac nad ydynt yn teimlo eu bod nhw'n gorfod symud i lefydd mwy trefol.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon

4. Sut y bydd metro de Cymru yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ52384

Bydd Aberdâr a Chwm Cynon ehangach yn elwa ar gynnydd i bedwar gwasanaeth yr awr yn 2022. Yn fwy uniongyrchol, bydd y treial o wasanaeth ar y Sul sy'n weithredol ar hyn o bryd yn cael ei wneud yn barhaol o fis Rhagfyr 2018.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r sylwadau hynny ar agwedd rheilffordd y metro, ond mae'n bwysig nodi, bod y prosiect metro, o'r dechrau, wedi ei hyrwyddo fel ateb trafnidiaeth integredig. Mae daearyddiaeth y Cymoedd yn golygu mai ein cymunedau tlotaf yn aml sydd bellaf oddi wrth y cysylltiadau trên ar lawr y dyffryn. Felly, er mwyn iddyn nhw elwa ar well mynediad at y farchnad swyddi, mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau bws cryf sy'n bwydo i mewn i'r gwasanaethau trên hynny. Felly, Prif Weinidog, pa sicrwydd all Llywodraeth Cymru ei roi bod y cysylltiadau bws hynny yn parhau i fod yn ganolog i weledigaeth y metro?

Wel, bydd Aelodau yn ymwybodol o'r rhwystredigaeth y mae llawer ohonom ni'n ei deimlo pan fydd etholwyr yn dod atom ni ac yn dweud, 'A oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud am y llwybr bws hwn sydd wedi cael ei dorri?' A'r ateb yw, 'Wel, nid yw'n ddim i wneud â Llywodraeth. Mae'r cwbl o'r sector preifat, ar wahân i lwybrau â chymhorthdal.' Wel, mae hynny wedi dod i ben, oherwydd, yn y rhan fwyaf o Gymru, ceir monopoli preifat ar wasanaethau bws i bob pwrpas. Gallan nhw wneud fel y mynnant o ran pa lwybrau y maen nhw'n eu rhedeg. Nawr bod gennym ni gyfrifoldeb a rheolaeth dros y gwasanaethau bws yng Nghymru, mae'r cyfle ar gael i greu'r system bysiau, rheilffordd ysgafn a threnau honno yr ydym ni wedi bod eisiau ei gweld ers amser maith yng Nghymru. Mae hi'n iawn i ddweud bod llawer o lwybrau traws-Gymoedd, er enghraifft, nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan y rheilffyrdd, ond sy'n bwysig o ran yr hyn y maen nhw'n ei ddarparu trwy wasanaethau bws. Gallwn ddechrau edrych nawr, o gamau 2 a 3 a thu hwnt, ar system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig ar gyfer Cymru gyfan, ac mae hwn yn gyfnod cyffrous.

Prif Weinidog, rydym ni eisoes yn gweld, o'r ystadegau poblogaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac Aberdâr, sy'n bwysig iawn, bod cynnydd i'r boblogaeth o bobl sydd rhwng 30 a 40, gan fod rhai pobl yn adleoli i'r ardaloedd hynny i brynu tai maint teulu. Mae hyn yn arwain at gymysgedd gymdeithasol fwy o faint a mwy amrywiol, sydd ei hun yn adfywio ardaloedd fel Aberdâr. Ond un rhan hanfodol o hyn, i ailadeiladu ar y duedd hon, yw sicrhau bod y metro yn darparu trafnidiaeth ragorol, oherwydd nid yw llawer o bobl iau eisiau i'w bywydau gael eu rheoli gan y car a wynebu mannau tagfeydd.

14:00

Dydyn nhw ddim; rydych chi yn llygad eich lle. Maen nhw'n fwy goleuedig, mae'n debyg, na llawer o'r cenedlaethau sy'n hŷn na nhw. Rydym ni'n ystyried, wrth gwrs—mae'r Aelod dros Lanelli wedi cynnig ei gefnogaeth gref i hynny, rwy'n falch ei fod yn credu ei fod yn rhan o'r genhedlaeth iau, ond ni ddywedaf ddim am hynny. Rydym ni'n ystyried, wrth gwrs, system teithio hanner pris i bobl ifanc, hefyd, i'w gwneud yn haws iddyn nhw gael mynediad at y rhwydwaith y bydd gennym ni ar waith, ond mae'r Aelod yn hollol iawn i nodi bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr, wrth i ni annog pobl allan o'u ceir, bod gennym ni system reilffyrdd sy'n ddigon da i'w denu nhw ar y trenau. Am gyfnod rhy hir, bu'n rhaid iddyn nhw ddioddef trenau anghyfforddus ag anwedd yn rhedeg i lawr y ffenestri, â phrydlondeb difater. Mae'n rhaid newid y dyddiau hynny, a byddant yn newid o ganlyniad i'r fasnachfraint newydd.

Prif Weinidog, bydd y gwelliannau i'r gwasanaeth yng nghwm Cynon yn amlwg yn cyrraedd Pontypridd, ond maen annhebygol y byddan nhw'n mynd mor bell â chynnig manteision i Bont-y-clun, lle mae gennych chi boblogaeth o Bencoed i'r cyffiniau o tua 100,000. Prif fantais hynny, mae'n debyg, y bydd pobl ym Mhont-y-clun yn ei gweld yw y bydd mwy o drenau yn mynd trwy Bont-y-clun, ond nid o reidrwydd yn aros ym Mhont-y-clun. Ar hyn o bryd, ceir un trên yr awr, dau ar adegau brig, â dau gerbyd fel rheol, a cheir rhwystredigaeth anhygoel o ran pobl hyd yn oed yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth o gwbl, oherwydd y tagfeydd. Tybed a yw hyn yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd golwg arno i sicrhau, yn yr ardal hon sy'n tyfu, yr ardal hollbwysig hon, rhan o'm hetholaeth i, y bydd gwelliannau penodol iawn i'r gwasanaeth rheilffyrdd, i amlder y trenau, i ansawdd y trenau ac i nifer y cerbydau i'w galluogi i gludo pobl, boed hynny o Bencoed drwy Pont-y-clun i Gaerdydd neu i'r gwrthwyneb.

Mae fy merch yn teithio i Gaerdydd ar ddydd Llun a dydd Mawrth. Mae hi'n rhywun sy'n fy lobïo i'n gyson ar y mater hwn. Mae hi'n gweld y trenau gorlawn. Mae hi'n ymuno â'r trên ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond, wrth gwrs, gan ei fod yn aros ym Mhencoed a Llanharan, ac yna ym Mhont-y-clun, mae'n gweld y gorlenwi sy'n digwydd yno gyda thrên dau gerbyd yn gynnar yn y bore. Cofiwch, wrth gwrs, bod y fasnachfraint ddiwethaf wedi cael ei chytuno ar y sail na fyddai unrhyw gynnydd i niferoedd y teithwyr o gwbl. Roedd hwnnw'n benderfyniad anodd ei ddeall ar y pryd. Nid dyna yr ydym ni wedi ei wneud y tro hwn. Felly, mae'n golygu edrych ar wasanaethau amlach i wasanaethu ei etholwyr. Bydd yn golygu, mewn amser, hefyd, wrth gwrs, edrych ar hen reilffordd y gwaith golosg hyd at Beddau i weld a ellir defnyddio honno—rheilffordd ysgafn mae'n debyg—i gysylltu yn ôl â'r brif reilffordd i ddarparu gwasanaeth i bobl yn y gorsafoedd o orllewin Tonysguboriau, mae'n debyg, ymlaen ac i fyny hyd at Beddau.

Lefelau Ail-droseddu

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau lefelau ail-droseddu? OAQ52336

Mae Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi cydweithio i ddatblygu fframwaith ar y cyd i gefnogi newid cadarnhaol i bobl yng Nghymru sydd â risg o droseddu.

Mae bron pob darn o ymchwil sydd wedi edrych ar faint carchardai wedi dangos bod carchardai llai yn cael gwell canlyniadau i garcharorion a chymunedau o'u cymharu â charchardai mawr, a rhai mawr iawn, superprisons, yn enwedig. Felly, os ŷch chi o ddifrif ynglŷn â lleihau lefelau aildroseddu, a wnewch chi ymrwymo, os a phan fydd y materion yma yn cael eu datganoli, i dorri cwys wahanol yng Nghymru ac i symud oddi wrth y model yma a sicrhau nad oes yna ragor o garchardai mawr yn cael eu datblygu yma yng Nghymru?

Gwnawn. Rwy'n credu bod yn rhaid ystyried unwaith eto y system ddedfrydu a hefyd y system gyfiawnder yng Nghymru, yn enwedig, wrth gwrs, y carchardai a hefyd sefydliadau i droseddwyr ifanc. So, mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried ar hyn o bryd, achos os ŷm ni'n mynd i weld datganoli'r system gyfiawnder, wel yna, wrth gwrs, fe fydd yn rhaid cael polisi. Ond nid oes pwynt cael polisi unwaith y mae'r datganoli wedi digwydd, mae'n rhaid ichi gael polisi o flaen llaw, ac mae hwn yn rhywbeth rŷm ni fel Llywodraeth yn ei weld ac yn rhywbeth rydw i'n gwybod y mae'r Gweinidog yn ei ystyried ac yn ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, bod hyfforddiant cyn rhyddhau yn allweddol i gyfraddau aildroseddu isel. Agorais ffair swyddi lwyddiannus iawn yn ddiweddar yng ngharchar agored Prescoed yn fy etholaeth—fe'i cynhaliwyd yn rhannol gan Gyrfa Cymru—lle'r oedd cyfle i gyn-droseddwyr gyfarfod â chyflogwyr, yn lleol ac o ymhellach i ffwrdd, i weld sut orau y gallen nhw ddefnyddio sgiliau gwerthfawr yr oedden nhw wedi eu dysgu tra eu bod yn y carchar. Roeddwn i'n meddwl bod hwn yn gynllun hynod gwerth chweil. Mae gan Brescoed hanes ardderchog o adsefydlu. A allwch chi ddweud wrthym—er fy mod i'n sylweddoli nad yw carchardai wedi eu datganoli—beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo sefydliadau fel Gyrfa Cymru, fel bod cyn-droseddwyr, tra byddant yn y carchar, yn cael y cyfle gwerthfawr hwnnw i ailhyfforddi fel y gallant ail-integreiddio â chymdeithas ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau a dychwelyd y sgiliau hynny a ddysgwyd ganddynt yn y carchar yn ôl i gymdeithas?

14:05

Wel, mae timau troseddau ieuenctid wedi chwarae rhan sylweddol o ran lleihau aildroseddu ymhlith pobl ifanc. Maen nhw wedi ceisio cynorthwyo atal, ymyrraeth gynnar a dargyfeirio. Fel rhywun sydd â phrofiad helaeth o gynrychioli pobl ifanc ar y rheng flaen yn y llysoedd, yr hyn a fyddwn i'n ei ganfod fyddai, gallant, yn aml iawn gallant gael eu rhyddhau o sefydliad troseddwyr ifanc, ar ôl cael hyfforddiant, ond maen nhw'n dychwelyd i'r un grŵp o gyfoedion ac i'r un arferion. Felly, ydy, mae hyfforddiant yn eithriadol o bwysig—rwy'n croesawu'n fawr yr hyn sydd wedi ei wneud ym Mhrescoed—ond hefyd, wrth gwrs, bydd y timau hynny'n gwybod ei bod yn hynod bwysig symud pobl oddi wrth grŵp o gyfoedion sydd efallai wedi eu cael i drafferthion yn y lle cyntaf, ac yn aml oddi wrth gyffuriau hefyd, oherwydd mae'r gyfradd aildroseddu ymhlith pobl sydd wedi camddefnyddio cyffuriau yn hynod uchel. Felly, rwy'n credu bod angen dull cyfannol, ond mae'r hyn y mae ef wedi ei ddisgrifio sy'n digwydd yn ei etholaeth ei hun yn rhan hynod bwysig o'r dull hwnnw.

Gofal Iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo byrddau iechyd wrth gynllunio gofal iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52383

Mae 'Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2018/21' yn nodi'r egwyddorion y dylai byrddau iechyd eu dilyn wrth ddatblygu eu cynlluniau tymor canolig integredig. Rydym ni hefyd wedi cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y cynllun tymor hir, 'Cymru Iachach', a lansiwyd yr wythnos diwethaf.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fel y mae'n gwybod, mae rhan sylweddol o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Ddiwedd mis Mawrth, roedd 5,714 o gleifion a oedd yn aros mwy na naw mis am driniaeth yn yr ysbyty. O dan gynlluniau presennol Betsi, bydd llawer o gleifion orthopedig yn dal i aros mwy na blwyddyn am driniaeth, a bydd 4,200, yn gyffredinol, yn aros mwy na naw mis i gael eu trin, ond ym Mhowys, mae'r arhosiad naw mis hwnnw wedi cael ei ddileu. Mae Betsi hefyd yn dweud bod diffyg systemig o 13,500 o lwybrau cleifion ar sail galw gan gleifion, felly mae'n rhaid i hynny olygu nad ydyn nhw'n cael eu hariannu'n briodol i ddarparu system ddigon cynhwysfawr o ofal iechyd i bobl y rhanbarth hwnnw. A yw'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru, o dan gynlluniau Betsi, bod hwn yn fwrdd iechyd sy'n cynllunio i fethu mewn gwirionedd?

Diweddarodd yr ysgrifennydd Iechyd yr Aelodau yr wythnos diwethaf ar y cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd. Roedd hefyd yn eglur ynghylch yr heriau sylweddol sy'n parhau, a'r cymorth a fydd ar waith ar gyfer y cam nesaf o'r gwaith. Mae'n iawn i ddweud bod rhai gwasanaethau wedi eu dad-ddwysáu. Cafodd gwasanaethau mamolaeth, wrth gwrs, a oedd mewn sefyllfa anodd iawn ar un adeg, eu dad-ddwysáu fel pryder mesurau arbennig ym mis Chwefror, ac mae hynny'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gweithredu a chymorth â phwyslais, a dyna'r model yr ydym ni'n bwriadu ei ddefnyddio i sicrhau bod rhagor o ddad-ddwysáu yn y misoedd i ddod.

Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod ychydig yn well erbyn hyn beth sy'n digwydd yn Betsi Cadwaladr, a pha gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'r bwrdd iechyd hwnnw, dim ond oherwydd ein bod ni wedi codi'r mater yma gynifer o weithiau yr ydym ni wedi llwyddo i gael ateb o'r diwedd. Tybed, nawr, Prif Weinidog, a allwch chi ein goleuo ynglŷn â'r mathau o lefelau o gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i fwrdd iechyd Hywel Dda, sydd, fel y gwyddoch, yn destun math o ymyrraeth arbennig. Maen nhw wedi bod yn y sefyllfa honno ers dros ddwy flynedd eisoes. Nid ydym eisiau gweld eu sefyllfa yn dirywio neu'n parhau am gyhyd ag y mae sefyllfa bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi ei wneud. Onid yw'n wir mai'r amcan yw eich bod chi'n mynd i mewn, yn rhoi eich cymorth iddyn nhw, maen nhw'n unioni eu hunain, ac yna maen nhw'n dod yn ôl allan o fesurau arbennig. Dyna'r ffordd y dylem ni fod yn rhedeg ein byrddau iechyd. Felly, efallai y gallech chi roi trosolwg i ni o'r hyn yr ydych chi'n ei wneud dros fwrdd iechyd Hywel Dda, gan fy mod i wedi ei chael hi'n eithriadol o anodd ceisio cael atebion gwir, eglur, cwbl eglur ar y mater hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd.

Wel, gallaf ddweud, yn 2015-16 a 2016-17, ein bod ni wedi darparu cyllid ychwanegol untro o £14.4 miliwn i Hywel Dda fel cymorth strwythurol tymor byr, gan gydnabod yr heriau ariannol a oedd yn wynebu'r bwrdd. Ar 23 Mai, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros iechyd ganfyddiadau adolygiad a gadarnhaodd yn rhannol y farn bod Hywel Dda yn wynebu cyfres unigryw o heriau gofal iechyd sydd wedi cyfrannu at y diffygion cyson yr aethpwyd iddynt gan y bwrdd a'r sefydliadau rhagflaenol hefyd. O ganlyniad, rhyddhawyd gwerth £27 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol i'r bwrdd iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd hynny'n rhoi'r bwrdd iechyd ar sail ariannu fwy cadarn ar gyfer y dyfodol, ac wrth gwrs bydd yn helpu'r bwrdd i ddatblygu a gweddnewid gwasanaethau yn y dyfodol.

14:10

Wn i ddim, Prif Weinidog, a ydych chi wedi cael cyfle i weld adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar achos trallodus Ellie a Chris James o Hwlffordd, y bu farw eu mab yn ysbyty Glangwili. Disgrifiwyd llu o fethiannau yn yr adroddiad ombwdsmon hwnnw, a waethygwyd gan y penderfyniad i ddisgrifio marwolaeth eu mab fel 'marw-anedig', er gwaethaf y ffaith bod ganddo arwyddion o fywyd ar ôl cael ei eni, a bod hynny ynddo'i hun o ganlyniad i sawl methiant, gan gynnwys, er enghraifft, methu â monitro curiad y galon. Digwyddodd hyn yng Nglangwili, gyda mam ifanc yn cael eu symud o Lwynhelyg i Langwili. Methiant i uwchgyfeirio—rhywbeth y dywedwyd wrthym na fyddai'n digwydd pan fyddai'r gwasanaeth yn cael ei symud o Lwynhelyg i Langwili, wrth gwrs. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i estyn y cydymdeimlad mwyaf i'r teulu a'r amgylchiadau y maen nhw wedi eu dioddef. Ond, yn arbennig, byddai gen i ddiddordeb mewn cael gwybod pa gamau penodol yr ydych chi'n eu cymryd yn unol â chasgliadau yr ombwdsmon y dylai'r bwrdd iechyd weithredu argymhellion yr adroddiad hwn nawr, a pha un a ydych chi'n cymryd unrhyw gamau uniongyrchol eraill i sicrhau bod gennym ni, yn y fan honno, y safonau uchaf o ofal newyddenedigol yn ein hardal bwrdd iechyd.

Ni allai neb fethu â chael eu cyffwrdd gan yr hyn y mae'r rhieni yma wedi ei ddioddef. Wrth gwrs ymunaf ag ef i fynegi fy nghydymdeimlad enfawr am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw—wrth gwrs. Bydd pob un ohonom ni, ryw'n siŵr, yn y Siambr hon, yn cydymdeimlo i'r eithaf gyda'r sefyllfa y maen nhw'n canfod eu hunain ynddi, wrth gwrs.

Wel, beth ddylid ei wneud o ganlyniad? Yn gyntaf oll, roedd adroddiad yr ombwdsmon yn eglur yn ei ganfyddiadau bod y gofal a ddarparwyd yn annerbyniol—gan fwy nag un ysbyty, ond yn annerbyniol. Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn argymhellion yr adroddiad yn llawn. Maen nhw wedi anfon eu cynllun gweithredu atom ni. Bydd swyddogion yn monitro'r camau a gymerir gan y bwrdd iechyd nawr i sicrhau bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu rhoi ar waith. Bu llawer iawn o ddysgu a gwelliant i arferion eisoes o ganlyniad i'r hyn sydd, wrth gwrs, yn achos trist iawn, a byddwn yn sicrhau bod hynny'n parhau. Yn rhan o'r broses ddysgu, gallaf ddweud ein bod ni'n disgwyl i holl sefydliadau'r GIG fyfyrio ar yr achos hwn i nodi unrhyw ddysgu i wella gofal cleifion yn eu sefydliadau priodol eu hunain hefyd. Felly, bydd, mi fydd Hywel Dda yn cymryd camau. Bydd y camau hynny yn cael eu monitro gennym ni.

Dyfarnu Grantiau i Gwmnïau

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar y meini prawf ar gyfer dyfarnu grantiau i gwmnïau? OAQ52385

Gwnaf, mae'r cymorth ariannol yr ydym ni'n ei ddarparu i fusnesau yn chwarae rhan hanfodol i'w helpu i sefydlu, i gynnal ac i dyfu, ac i'w galluogi i gael budd economaidd ehangach, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i fusnesau sy'n cael cymorth o'r fath fodloni telerau ac amodau'r grant, a gallai unrhyw fethiant i wneud hynny arwain at adennill y grant hwnnw.

Diolch am yr ateb yna. Byddwch yn gwybod bod Celtic Wealth Management wedi cael grant gan eich Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau ariannol, ond yn hytrach wedi penderfynu defnyddio'r arian hwnnw i dwyllo gweithwyr dur yn ardal Port Talbot, a phobl eraill â buddiannau pensiwn diffiniedig. Mae hyn yn gyfystyr â galw diwahoddiad i bob pwrpas ac yn rhywbeth sy'n anfoesol. Rwy'n meddwl tybed pam mae hi wedi cymryd saith mis i chi hyd yn oed gynnig sylw ar hyn mewn unrhyw ffordd o gwbl, a pham nad ydych chi'n cymryd camau pendant fel Llywodraeth i gael gwared ar y broblem o ran y cwmni penodol hwn. Os ewch chi i'w gwefan, nid oes unrhyw wybodaeth arni mwyach. Mae 44 o weithwyr dur yn fy ardal i yn cymryd camau dosbarth yn erbyn Celtic Wealth Management a chyrff eraill cysylltiedig. Os ydych chi'n mynd i fod yn darparu grantiau, pam nad oeddech chi'n gallu gwirio beth yr oedden nhw'n ei wneud cyn i chi roi'r grant hwnnw iddyn nhw, a beth ydych chi'n ei wneud nawr i sicrhau nad yw'r cwmni penodol hwn yn cael rhagor o arian gan y Llywodraeth hon?

Wel, nid yw'r arfer dilynol gan fusnes yn golygu eu bod nhw'n ymgymryd â'r arfer hwnnw pan dderbyniwyd y grant, ond mae hi'n iawn i ddweud, yn 2014, bod Celtic Wealth Management wedi cael cynnig cymorth ariannol. Os bu camwerthu cyfreithiol, bydd hynny'n mynd yn groes i'n hamodau, a byddwn yn cymryd camau i adennill unrhyw arian yr ydym ni wedi ei roi iddyn nhw. Nawr, y peth cyntaf y mae'n rhaid ei weld yn digwydd yw, mae'n rhaid cynnal ymchwiliad, yn fy marn i, gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a chan y rheoleiddwyr eraill. Nhw sy'n gyfrifol yn y pen draw am orfodi'r deddfau sy'n llywodraethu gwasanaethau ariannol, ond byddwn yn parhau i archwilio'r sefyllfa. Fel y dywedais yn gwbl eglur, os oes diffyg cydymffurfiad ag amodau'r cymorth ariannol yr ydym ni wedi ei ddarparu, byddwn yn cymryd camau i adennill yr arian hwnnw.

Yn eich adroddiad blynyddol dros dro ar reoli grantiau 2016-17, mae'n nodi y byddai'r Ysgrifennydd Parhaol yn cadeirio'r bwrdd gwella effeithlonrwydd gyda'r nod:

o leihau biwrocratiaeth trwy nodi gwaith gweinyddol sydd o werth isel, neu y gellid ei wneud yn llai aml neu mewn ffordd wahanol neu ddim o gwbl.

Dechreuodd y gwaith ym mis Mai y llynedd a disgwyliwyd iddo gael ei gwblhau yn 2018 trwy gael ei wneud yn gyflym. A yw'r gwaith hwnnw wedi ei gwblhau erbyn hyn? A fu unrhyw arbedion ariannol i'ch Llywodraeth? Ac os bu, a ydyn nhw'n fwy neu'n llai na'r disgwyl? Ac a ydych chi'n rhagweld mwy o geisiadau am grantiau nawr bod mwy o arian ar gael i'w talu?

14:15

Wel, mae llai o arian, gan ein bod ni'n cael llai o arian gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Felly, nid yw hi fel pe byddai llwyth sydyn o arian y gallwn ni ei ddefnyddio er mwyn helpu busnesau. Ond rydym ni'n ceisio gwella ein cynnig i fusnesau yn barhaus o ran arian grant, yn enwedig drwy gael gwared ar achosion o ddyblygu, gan mai'r demtasiwn weithiau yw creu nifer o wahanol gynlluniau grant fel bod gwahanol geisiadau yn gallu ffitio'n iawn. Nawr, gall hynny arwain at lu o gynlluniau grant mewn amser, a nod y gwaith sy'n mynd rhagddo yw lleihau, o bosibl, nifer y grantiau sydd ar gael a symleiddio'r ffordd yr ymgeisir amdanynt.

Prif Weinidog, ceir 143 o gyflogwyr achrededig sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector erbyn hyn, gan helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau cyflog a rhyw yn y gweithle. Gan fod sector cyhoeddus Cymru yn gwario tua £6 biliwn bob blwyddyn trwy gaffael, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, sy'n ymrwymo cwmnïau i ymroi i ystyried talu'r cyflog byw gwirioneddol?

Wel, gallaf ddweud bod 86 o sefydliadau wedi cytuno i'r cod eisoes, sy'n ymrwymo sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat a thrydydd sector i gyfres o gamau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Mae'r pedwar canllaw ategol sydd wedi eu cynnwys yn y cod yn cynnwys dulliau a chyngor i helpu i roi'r ymrwymiadau hynny ar waith. Maen nhw'n cynnwys, er enghraifft, mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth annheg a hunangyflogaeth ffug, mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern ac achosion o gamddefnyddio hawliau dynol, gweithredu'r cyflog byw trwy gaffael, a chosbrestru. Disgwylir i'r holl sefydliadau sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru naill ai'n uniongyrchol neu drwy grantiau neu gontractau ymrwymo i'r cod.

Cyflyrau Niwroddatblygiadol

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar feddyginiaeth cwsg ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol? OAQ52380

Nid oes unrhyw feddyginiaethau ar hyn o bryd sy'n cynnwys melatonin wedi'u trwyddedu yn y DU ar gyfer trin anhwylderau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc. Cawn ein harwain gan argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan.

Diolch, Prif Weinidog. Mae teuluoedd sydd â phlant â chyflyrau niwroddatblygiadol yn aml yn dweud bod cael plentyn i gysgu yn un o'r adegau mwyaf pryderus ac anodd o'r dydd. Daeth un etholwr i'm gweld yn ddiweddar. Ni allai setlo ei fab tan bedwar o'r gloch y bore, gan achosi anhrefn yn y tŷ a straen ar y teulu cyfan. Pan fydd plant yn cael gweld arbenigwr, rhoddir melatonin iddynt ar bresgripsiwn yn aml fel ffordd o'u setlo nhw tan iddyn nhw ddatblygu trefn ddyddiol, ond nid yw hwnnw wedi ei drwyddedu ar gyfer plant ar hyn o bryd, ac ni wnaiff meddygon teulu ei ragnodi. O gofio, ym mwrdd iechyd Hywel Dda, bod rhestr aros o tua 18 mis i weld arbenigwr o hyd—er bod hyn yn gwella—mae hyn yn achosi straen enfawr i deuluoedd nad ydyn nhw'n gallu cael cymorth gan ofal sylfaenol a chael gweld meddyg ymgynghorol arbenigol. Mae'n rhaid i ni wneud yn well o ran cynnig rhywbeth iddyn nhw, Prif Weinidog, i'w helpu nhw a'u teuluoedd i ymdopi â'r cyflwr anodd iawn hwn. A wnaiff ef edrych i weld beth sy'n ymarferol o fewn y cyfyngiadau, a, hyd yn oed yn well, ceisio cael gwared ar rai o'r cyfyngiadau?

Yr anhawster yw nad yw wedi ei drwyddedu i'w ddefnyddio ar hyn o bryd. Nawr, nid yw trwyddedu meddyginiaethau wedi ei ddatganoli. Ar ôl i feddyginiaeth gael ei thrwyddedu, caiff y defnydd ohoni wedyn ei reoli gan NICE a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan, ond, wrth gwrs, o ran meddygon teulu, llywodraethir meddygon teulu—gwn fod Dai Lloyd yn y fan yna—fel y deallaf, gan reolau sy'n dweud wrthyn nhw beth na chânt ei ragnodi, nid yr hyn y cânt ei ragnodi. Felly, mae'n bosibl i feddyg teulu ragnodi melatonin; mae'n fater i ragnodwyr unigol. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar feddygon teulu i wneud hynny, ond, wrth gwrs, mae unrhyw feddyg teulu yn mynd i ofyn y cwestiwn, 'Wel, a yw hyn yn rhywbeth y dylwn i fod yn ei wneud? A yw'n rhywbeth yr wyf i'n ei ystyried yn glinigol ddiogel?' Mae hynny'n anochel, ac maen nhw'n cymryd cyfrifoldeb clinigol am y meddyginiaethau y maen nhw'n eu rhagnodi. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud wrth feddygon teulu na ddylent ragnodi y tu hwnt i'w gwybodaeth neu eu gallu eu hunain—cyngor doeth—a gallaf ddychmygu bod meddygon teulu yn nerfus ynghylch rhagnodi'r hyn sy'n ymddangos fel pe byddai'n feddyginiaeth nad yw wedi ei thrwyddedu i'w defnyddio gan blant.

Mae'n rhaid mai'r cam nesaf yw edrych ar dystiolaeth i wneud yn siŵr ei bod wedi ei thrwyddedu i'w defnyddio gan blant, a symud ymlaen o'r fan honno wedyn wrth gwrs. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag, yw ein bod ni, yn y cyfamser, wedi sefydlu gwasanaeth newydd i asesu, i roi diagnosis ac i ddarparu cymorth parhaus i blant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol, ac rydym ni'n buddsoddi £2 filiwn y flwyddyn i wneud hynny.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad. Julie James. 

14:20

Diolch, Llywydd. Mae'r datganiad 'Y Dechrau Gorau mewn Bywyd; Gwneud i’r Blynyddoedd Cynnar Gyfrif', wedi ei dynnu'n ôl o'r agenda heddiw. Mae'r amseroedd ar gyfer yr eitemau eraill wedi'u haddasu yn unol â hynny. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i Aelodau.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad naill ai gan y Prif Weinidog, neu lythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, yn nodi sut y rhoddwyd y protocol gweithredol ar waith ar gyfer yr ymchwiliad dan arweiniad cwnsler y frenhines? Bu adroddiadau amrywiol yn y cyfryngau y byddwn i'n awgrymu eu bod yn peri pryder difrifol ac y mae angen eu hegluro. Rwy'n tynnu sylw arweinydd y tŷ at rai o'r sylwadau sy'n cyfeirio at:

Ni all Mr Bowen fynd yn bellach nag y mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn ei ganiatáu

a

Yr ysgrifennydd parhaol, yn gweithredu ar ran y Prif Weinidog.

Hefyd, byddwn i'n awgrymu bod y cyngor a roddwyd i gyflogeion y gwasanaeth sifil yr wythnos diwethaf ar y fewnrwyd, yn amlwg, sydd ar gael i gyflogeion, yn enw'r Ysgrifennydd Parhaol a'r pennaeth adnoddau dynol a'r cyfarwyddwr llywodraethu, yn peri pryder difrifol hefyd. Byddwn i'n dra diolchgar pe byddai—a chewch chi fy arwain i yn hyn o beth, pwy fyddai'r person priodol i gyfeirio hyn ato, boed yr Ysgrifennydd Parhaol ei hun, mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad, a allai egluro rhai o'r meysydd hyn fel y gallem ni fod â hyder, neu'r Prif Weinidog drwy ddatganiad. Rwy'n wir gobeithio y bydd arweinydd y tŷ yn hwyluso ymateb o'r fath a all ymdrin yn derfynol â rhai o'r meysydd pryder hyn a amlygwyd yn ddiweddar.

Rwy'n fwy na pharod i drafod â'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch y ffordd orau o wneud yn siŵr bod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth lawn am y sefyllfa ar hyn o bryd o ran yr ymchwiliad a'r hyn y mae'r protocol yn ei gynnwys.

Yr wythnos diwethaf, arweinydd y tŷ, gofynnais a fyddem yn debygol o drafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a gwnaethoch chi ein sicrhau bod hynny'n annhebygol iawn. Ers hynny, fodd bynnag, mae Tŷ'r Arglwyddi wedi pleidleisio o blaid ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol basio deddfwriaeth sylfaenol o fewn chwe mis i Gydsyniad Brenhinol o'r Bil—sef y Bil Ymadael â UE—i roi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gymhwyso egwyddorion amgylcheddol yr UE ar ôl Brexit a sefydlu corff annibynnol â'r bwriad o sicrhau cydymffurfiaeth.

Nawr, y gofynion a'r dyletswyddau hynny yw'r union bethau a awgrymwyd yn ein gwelliannau i'n Deddf parhad sy'n bodoli o hyd—teitl hir ar gael. Gwnaethoch chi ddweud wrthym ar y pryd i beidio â phwyso'r gwelliannau, er dyna a wnaethom ni, ond cawsant eu gwrthod gan y Llywodraeth ar y sail y byddech yn manteisio ar y cyfle deddfwriaethol cyntaf i wneud hynny eich hun. Ond dyma ni Dŷ'r Arglwyddi—. Oherwydd nid yw awdurdodau cyhoeddus wedi'u diffinio fel Lloegr yn unig. Dyma'r broblem, ond y cyfan y mae'n ei ddweud yw awdurdodau cyhoeddus, felly gellid gweld yn hawdd, yng nghyd-destun Bil Ymadael â'r UE mai Cymru a Lloegr yw hynny o ran cais deddfwriaethol, sy'n berthnasol yma yng Nghymru. Felly, mae gennym ni Dŷ'r Arglwyddi yn awgrymu y dylai hyn ddigwydd, mae gennym ni'r addewid gan Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth arall, ac mae'n ymddangos i mi fod hwn, mewn gwirionedd, yn rhywbeth y dylai'r lle hwn gydsynio iddo, ond, wrth gwrs, ni allwn ni wneud hynny, oherwydd bod y cyfan wedi'i rwymo mewn cytundebau. Os caiff pethau eu pasio yn ôl ac ymlaen ac wedyn mae Tŷ'r Arglwyddi a'r Llywodraeth yn cytuno, nid yw'n mynd yn ôl i Dŷ'r Cyffredin, nid yw'n cael ei drafod eto, ac, i bob pwrpas, gan ei fod wedi'i gymeradwyo yn Nhŷ'r Arglwyddi, mae erbyn hyn yn rhan o'r Bil, ac mae'n symbolaidd ein bod ni'n pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol—neu'n peidio â'i basio, fel y mae'n digwydd, yn symbolaidd. Serch hynny, byddai gen i ddiddordeb i wybod a yw'r Llywodraeth yn bwriadu, er budd gweithdrefn ond hefyd er budd tryloywder gweladwy, gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Cynulliad er mwyn i ni gael dweud ein dweud ar y ddadl hon.

Mae gan Blaid Cymru ddiddordeb arbennig oherwydd ein bod wedi trio gwneud y gwelliannau, ond rwy'n credu bod yna Aelodau eraill yma sydd â diddordeb mewn rhai agweddau ar hyn hefyd. Mae'n tynnu sylw at y ffordd hurt hon o geisio deddfu ar gyfer Llywodraethau datganoledig a Seneddau datganoledig pan fyddwch chi wedi'ch dal, mewn gwirionedd, yn y drefn fwyaf hynafol bosibl y mae San Steffan yn ei defnyddio i gyflawni ei dyletswyddau deddfwriaetho, gan fynd yn ôl ac ymlaen heb fod unrhyw un yn gallu, mewn gwirionedd, gael dweud ei ddweud yn briodol am bethau sy'n effeithio'n fawr ar ein pwerau. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad ar hynny nawr.

Ac, os caf i droi at un mater arall sydd wedi digwydd yr wythnos hon, sy'n berthnasol iawn i'r Cynulliad yn fy marn i. Pleidleisiodd y Cynulliad ei hun ar ddadl o'r meinciau cefn, rwy'n credu, i gefnogi cyfreithloni canabis meddyginiaethol a'r gallu i gael gafael arno. Roeddem ni ar y blaen o ran y ddadl hon wrth wneud hynny, ac mae digwyddiadau diweddar, wrth gwrs, a theulu penodol iawn—ond gwn fod hyn yn effeithio ar blant eraill ag epilepsi, a bu enghreifftiau prin iawn o ragnodi canabis meddyginiaethol. Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod y DU arwain y byd o ran cynhyrchu, datblygu ac allforio canabis meddyginiaethol, ac ni allwn ddeddfu i sicrhau ei fod ar gael i'n cleifion ni ein hunain. Fe all canabis fod yn gyffur peryglus, ac mae hon yn ddadl ar wahân i'r ddadl am ba un a ddylid cyfreithloni canabis ai peidio at ddibenion rheoli cyffuriau, ond mae gan gyffur pwerus—pob cyffur pwerus—effeithiau meddyginiaethol, ac os gallwn ni ganiatáu'r defnydd o opiadau ar bresgripsiwn a dan arweiniad meddyg teulu, yna pam ar y ddaear na allwn ni ganiatáu'r defnydd o ganabis neu ganabinoidau mewn ffordd debyg?

Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn sefydlu comisiwn arbenigol i wneud hyn, ond mae hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli o ran polisi presgripsiynau ac o ran talu. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn dweud yn benodol sut y gall Cymru fod yn rhan o'r ddadl hon yn awr? Un peth yw cael panel arbenigol yn Llundain—rydym ni'n dymuno bod yn rhan o hynny, rydym ni eisiau gwybod sut y mae'n berthnasol yn ein cymunedau ni, a, gan ein bod ni wedi pleidleisio fel Cynulliad, rwy'n tybio y byddai llawer o gefnogaeth i hynny.

14:25

Ie, wel, dau bwynt pwysig iawn. O ran yr ail bwynt, y diwethaf, gan ei fod yn ffres yn fy meddwl, oedd, yr oedd yn ddiddorol iawn, onid oedd, pa mor gyflym y symudodd yr agenda honno yn sgil un achos penodol, er, mewn gwirionedd, rwy'n eithaf siŵr y gallai pob un ohonom dynnu sylw at achosion eraill—nid mor ddifrifol efallai, o ystyried yr hyn a ddigwyddodd—ond yn sicr fe wnaeth ei danlinellu. Ac mae Simon Thomas yn iawn—roedd pob un ohonom o'r farn honno yn fras. Byddaf yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ein sefyllfa ni ar hyn o bryd ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y ffordd fwyaf priodol, ond gwn ei fod yn fater o ddiddordeb mawr i lawer iawn ohonom. Mae bob amser yn ddiddorol, on'd yw hi, sut y gall un achos ddal sylw'r penawdau yn sydyn, a symud agenda gyfan yn ei blaen yn y ffordd honno.

Beth bynnag, mae hynny'n fy arwain at y ffordd anhrefnus o lywodraethu y gwnaethoch chi sôn amdani yn gynharach, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae mater y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn fater byw. Fe wnaethom ni ei drafod yn y Pwyllgor Busnes y bore yma, Llywydd, fel y gwyddoch. Ein sefyllfa bresennol yw ein bod ni wedi'i gwnaed yn glir iawn ar lawr Tŷ'r Arglwyddi, ac yn glir iawn i'r Llywodraeth, nad oes unrhyw fwriad i ddeddfu ar ran unrhyw un heblaw Lloegr ac awdurdodau cyhoeddus Lloegr, ond rwy'n cytuno'n llwyr nad yw'r geiriad mor dda ag y gallai fod, gadewch i ni ddweud hynny, ac mae'r holl 'nôl ac ymlaen yn llai na delfrydol hefyd.

Rwyf eisiau bod yn glir iawn mai'r sicrwydd hwnnw yw'r sail i beidio â symud ymlaen â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac nid unrhyw sail arall. Rwy'n credu yr hoffem ni ei wneud yn eglur iawn hefyd—a gwn fod y Llywydd o'r un farn—y byddem ni wedi dymuno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ddatgan ein barn pe na roddwyd sicrwydd i ni ei bod y tu hwnt i'w cwmpas i wneud hynny i Gymru. Felly, mae'r egwyddor yn rhan bwysig iawn ohoni yma. Ond rydym ni wedi cael sicrwydd o hynny—rydym ni wedi cael y sicrwydd hwnnw fel Llywodraeth ac, yn wir, cafodd ei ddweud yn rhan o'r ddadl. Ond rwy'n croesawu'r cyfle mewn gwirionedd i ddweud mai ein barn ni erbyn hyn yw nad oes angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol oherwydd ein bod ni wedi cael sicrwydd nad ydyn nhw'n bwriadu deddfu ar ran Cymru. Dan unrhyw amgylchiadau eraill, byddem ni wedi dymuno caniatáu i'r Senedd hon fynegi ei safbwynt er mwyn, erbyn i'r Bil gael ei basio yn y pen draw, i'r Aelodau a oedd yn pleidleisio ar y Bil hwnnw fod yn glir iawn ynghylch ein barn ni, hyd yn oed os nad oedd mewn pryd i effeithio ar ran arbennig o'r Bil. A gwn fod y Llywydd yn cytuno â hynny.

Felly, i fod yn glir iawn ar y pwynt hwnnw—. Ond rwy'n cytuno â chi nad yw hyn, wrth gwrs, yn ffordd dda iawn o ymdrin â'r peth pwysicaf sydd wedi digwydd yn ein cenhedlaeth ni mae'n debyg; rwy'n cytuno yn llwyr. Ond i fod yn glir ynghylch y mater amgylcheddol, mae'r datganiad a roddais yn parhau i fod yn ddilys. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar y cyfle cyntaf ac, wrth gwrs, pe bydden nhw'n deddfu yn hynny o beth dros Gymru, yna byddai angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar hynny ei hun, i fod yn glir, felly fe fyddai yna gyfle arall. Ond mae'r egwyddor yn gywir, ac rydym yn cytuno â Simon Thomas. Heblaw am y sicrwydd, byddem ni'n dymuno gwneud y pwynt hwnnw'n glir iawn rhwng Seneddau, ond rydym ni wedi cael y sicrwydd hwnnw, ac ar y sail honno nid ydym o'r farn bod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Mae dau fater yr wyf yn dymuno'u codi, ac mae'r cyntaf yn ymwneud â'r mater o gynnydd ar ddileu hepatitis C. Rwy'n credu i ni gael dadl drawsbleidiol dda iawn 12 mis yn ôl ar y nod o ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn 2030, ac ymatebodd y Llywodraeth â chyfres o gamau gweithredu. Tybed a fyddai modd cael datganiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn y gwahanol fyrddau iechyd i gyflawni'r camau hynny. Dyna oedd y cyntaf. A'r ail un yw, ar y penwythnos, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddynodi 22 Mehefin yn Ddiwrnod Windrush, a meddwl oeddwn i tybed a oes gan y Llywodraeth ei hun unrhyw gynlluniau i nodi'r diwrnod hwnnw.

14:30

O ran yr ail un, mae'n bleser gen i ddweud fy mod i'n cynnal dathliad Windrush yng Nghanolfan y Mileniwm ar yr ail ar hugain, a byddwn i'n falch iawn gweld llawer iawn o Aelodau'r Cynulliad yno. Bydd croeso mawr i unrhyw un a all fod yna. Mae'n bwysig iawn dathlu cyfraniad y genhedlaeth Windrush—y genhedlaeth gyfan, nid dim ond y bobl a ddaeth ar y Windrush ei hun, wrth gwrs—i ddiwylliant a datblygiad Cymru. Maen nhw wedi chwarae rhan sylweddol iawn, iawn yn niwylliant a datblygiad Cymru fel cenedl, ac maen nhw'n sicr yn haeddu cael eu dathlu am hynny.

O ran hepatitis C, mae ymarfer hysbysu cleifion yn dod i ben ar hyn o bryd er mwyn cyrraedd cleifion a gafodd ddiagnosis o hepatitis C pan nad oedd y driniaeth ar gael. Mae manyleb genedlaethol ar gyfer profion mewn fferyllfeydd cymunedol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, ac mae targedau ar gyfer ein gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn cael eu datblygu er mwyn cynyddu profion yn y gwasanaethau hynny. Rydym ni ar hyn o bryd wrthi'n cynnal trafodaethau â'r diwydiant fferyllol i gytuno ar drefniant cyllido newydd ar gyfer triniaethau hepatitis C, ac rydym ni hefyd yn ymgysylltu â'u cymheiriaid yn Lloegr i ystyried y manylion a'r manteision posibl i Gymru cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni cyn gynted ag y bydd y trafodaethau hynny wedi'u cwblhau. Mae'r Aelod wedi bod yn ddyfal iawn wrth hyrwyddo hyn ar gyfer ei chleifion, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn rhoi gwybod iddi hi yn arbennig.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar bolisi Llywodraeth Cymru o ran sefydlu ystafelloedd triniaeth i bobl sy'n gaeth i gyffuriau yng Nghymru? Ym mis Tachwedd 2016, codais y mater hwn yn y datganiad busnes yn dilyn y newyddion bod prosiect treialu wedi'i sefydlu yn Glasgow. Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes ar y pryd ei fod yn amlwg yn fater pwysig iawn a'i bod hi'n siŵr y byddai datganiad ar ddod. Nawr, dywedodd prif weithredwr yr elusen The Wallich yn gynharach y mis hwn y byddai ystafelloedd triniaeth i'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau yn dod â llawer o fuddion ac y byddai'n hurt peidio â'u cael erbyn hyn. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru ar y mater pwysig iawn hwn? Rwy'n dymuno gwybod pam y bu distawrwydd ers cyhyd os gwelwch yn dda.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi y gwnaethom ni gyhoeddi ymateb, ond y mae hefyd wedi arwyddo i mi y bydd yn ei ailddosbarthu i sicrhau bod yr Aelodau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Arweinydd y tŷ, efallai y byddwch yn ymwybodol y cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf fod dros £36 miliwn o arian cyhoeddus wedi'i wario ar ddatblygu parc busnes yn Felindre yn Abertawe, ac eto, er ei fod yn eiddo cyhoeddus ers 20 mlynedd, mae parc busnes Felindre yn parhau i fod yn wag. Efallai y byddwch chi'n ymwybodol hefyd o barseli eraill o dir yn y de-orllewin sydd wedi eu labelu'n barciau busnes ar gyfer y dyfodol ond sy'n parhau fod yn wag—tir yng Nglyn-nedd, er enghraifft, nepell o'r A465, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ond heb ei gynnwys hyd yn oed yng nghynllun datblygu lleol Castell-nedd Port Talbot, neu'r darn enwog o dir ym Maglan, sydd wedi bod yn wag ers cyhyd bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn meddwl y gellid ei ddefnyddio at ddiben arall. Ymddengys bod problem fawr o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fuddsoddi yn yr ardaloedd hyn, sut y mae'n mynd ati i dargedu sectorau a denu cwmnïau i'r safleoedd hyn, a sut y mae'n methu yn y pen draw â datblygu swyddi yn yr ardaloedd hyn. Nawr, wrth i Dasglu'r Cymoedd geisio cyflenwi hyd yn oed mwy o dir at ddefnydd busnes neu ddiwydiannol, rydym yn ystyried y potensial o lethu'r de â'r tir diwydiannol sydd ar gael, ac eto diffyg sylweddol o ran syniadau ar sut i'w llenwi. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno datganiad ar sut y mae'n bwriadu datblygu swyddi ar y tir y mae'n berchen arno yng Nghymru, a sut y mae'n bwriadu symud o sefyllfa lle mae'r safleoedd yn wag i sefyllfa lle mae safleoedd mewn gwirionedd yn darparu cyflogaeth o safon i bobl leol?

Wel, dydw i ddim yn cytuno'n llwyr â phopeth y dywedodd yr Aelod yn y fan yna, ond mae'n bwynt pwysig iawn, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â thir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Rydym ni wedi datblygu cyfres gyfan o bwyntiau data i allu nodi tir sy'n eiddo cyhoeddus, nid tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn unig, oherwydd weithiau mae'n bwysig rhoi safleoedd at ei gilydd yn y modd hwnnw. Ac rydym ni wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith, yn rhan o Dasglu'r Cymoedd, ar brosiect i wneud yn siŵr y gallwn ni wneud yr union beth hynny. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, sy'n gyfrifol am Dasglu'r Cymoedd, yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar Dasglu'r Cymoedd, a fydd yn cynnwys tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a beth y gallwn ni ei wneud er mwyn manteisio i'r eithaf ar ei fuddion, yn rhan o'i ddiweddariad ar Dasglu'r Cymoedd maes o law.

Ysgrifennydd y Cabinet, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, llesiant a chwaraeon, mewn gwirionedd, ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r penderfyniad i newid ffiniau Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf. Mae hyn yn cyflwyno canlyniadau pwysig i fy etholwyr i ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a gaiff ei wasanaethu gan glinigwyr o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a hefyd, sydd â llawer o adrannau wedi'u cysylltu â'u rheoli gan ochr Pen-y-bont ar Ogwr. Nawr, nid ydym ni wedi cael cyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch hyn, a'r cwestiwn pwysig iawn hwnnw ynghylch manylion cyllid. Er enghraifft, sut bydd y diffyg yn cael ei ddyrannu, sut y bydd y gwasanaethu a'r cyllid ar gyfer y gwahanol rannau yn cael eu cyfrifo? Felly, yr holl gytundebau gwasanaeth hynny. Nawr, rwy'n sylweddoli bod yna elfennau i'w trafod. A fyddai'n bosibl cael datganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn i ni allu ystyried y cyfleoedd o ran pwy fydd yn ariannu hyn? Oherwydd es i i ddigwyddiad gofalwyr yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yr wythnos diwethaf, ac maen nhw'n brwydro i gael £10,000 dim ond i ddechrau gwasanaethau gofalu, ac eto mae'n bosibl ein bod yn sôn am symiau mwy na hyn i gyflawni'r trefniadau rheoli hyn. A gawn ni'r datganiad llafar hwnnw er mwyn i ni allu edrych yn fanwl ar fanylion y cynnig hwn er mwyn sicrhau, mewn gwirionedd, y bydd, yn y tymor hir, yn parhau i ddarparu ar gyfer y bobl yn fy etholaeth i?

14:35

Llywydd, hoffwn i nodi, yn amlwg, bod hynny'n cynnwys fy etholaeth i fy hun hefyd, felly dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol o hynny. Ar 14 Mehefin, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn gyfrifol am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, fel y dywedodd Dai Rees. Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg sy'n eu darparu ar hyn o bryd, a gwn fod holl Aelodau'r Cynulliad yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, newydd gael gohebiaeth gan y prif weithredwr yno yn nodi rhai o'r trefniadau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud wrthyf ei fod yn fodlon cwrdd ag Aelodau'r Cynulliad sydd â diddordeb yn hyn i drafod rhai o'r materion a datgelu rhai o'r manylion penodol. Gwn fod nifer o Aelodau'r Cynulliad wedi nodi eu bod yn dymuno i hynny ddigwydd, felly byddwn ni'n trefnu'r cyfarfod hwnnw cyn gynted â phosibl.

Rwy'n galw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, i ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Simon Thomas yn gynharach ynghylch darparu canabis meddyginiaethol ar bresgripsiwn. Gwnaethom ni glywed am achos—cafodd lawer o gyhoeddusrwydd—Billy a Charlotte Caldwell. Efallai y byddwch yn cofio, ym mis Ionawr, i mi arwain dadl yn y Cynulliad, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw hyn yn ymwneud ag un unigolyn, mae'n ymwneud â nifer o bobl, â nifer o gyflyrrau, sydd eisoes yn cael eu gorfodi i gael gafael ar ganabis yn anghyfreithlon, yn hytrach na chael presgripsiynau wedi'u distyllu'n unigol i ddiwallu eu hanghenion penodol. Yn dilyn y ddadl honno, des i â Billy a'i fam Charlotte i'r Cynulliad hwn, ac fe wnaethon nhw adrodd eu stori wrthym ni. Gwnaethom ni glywed bod Billy yn arfer dioddef hyd at 100 o drawiadau y dydd nes iddo ddechrau triniaeth olew canabis, yn dilyn triniaeth lwyddiannus yn Los Angeles gan feddyg plant sy'n arbenigo mewn epilepsi, ac fe wnaeth ei drawiadau glirio i bob pwrpas. Ar ôl dychwelyd o Los Angeles, dywedodd Charlotte, fe oedd y person cyntaf i gael canabis meddyginiaethol ar bresgripsiwn gan GIG y DU. Mae Charlotte wedi bod yn ymgyrchu dros ganabis meddyginiaethol gan y GIG, gan gydnabod yr anobaith a deimlir gan lawer o deuluoedd sy'n brwydro i gael yr hyn y brwydrodd hithau mor daer drosto. Ac roedd hi'n bendant, ac mae'n parhau i fod yn bendant, bod hyn yn fater cwbl ar wahân, ac na ddylid ei ddrysu â dadleuon ynghylch defnydd hamdden, neu gyfreithloni cyffuriau yn ehangach—dadl ddilys, yn ôl llawer o bobl, ond yn amherthnasol i'r ddadl hon. Cysylltodd hi â mi eto ym mis Mai, ar ôl i'w meddyg gael gŵys i gyfarfod â swyddogion y Swyddfa Gartref, a chael cyfarwyddyd i roi'r gorau i ysgrifennu ei bresgripsiynau. Ar ôl hynny, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Cartref, yn pwyso arno ef a'i swyddogion i gysylltu â hi ar frys i ddod o hyd i ateb a ffordd ymlaen. Rydym ni wedi clywed bod Llywodraeth y DU bellach wedi nodi cynlluniau i banel clinigol arbenigol edrych ar achosion unigol, a gwn, ym mis Ionawr, yr oeddwn i'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi paratoadau ar waith o fewn GIG Cymru ar gyfer presgripsiwn posibl yma. Gan ychwanegu at sylwadau Simon Thomas, byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad manwl yn cydnabod y mater ac yn rhoi manylion am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig mynd i'r afael â hyn, yn unol â'r DU, ond hefyd yn y cyd-destun datganoledig, gan obeithio y bydd yn ychwanegu llais o gefnogaeth, llais, yn anffodus, nad oedd i'w glywed yn uchel pan arweiniais y ddadl ym mis Ionawr.

Yn ail, hoffwn ychwanegu at y galwadau gan Andrew R.T. Davies yn gynharach, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ynglŷn â diagnosio canser y brostad yng Nghymru, ac am ddatganiad yn unol â hynny, ar y dyddiad hwn wrth i Prostate Cancer UK gyhoeddi ffigurau yn dilyn ymchwil ledled y DU, nad ydynt yn adlewyrchu'n arbennig o dda ar Gymru. Mae mwy na 2,500 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y brostad bob blwyddyn yng Nghymru; bydd tua 600 yn marw yng Nghymru bob blwyddyn. Cefais i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf, i etholwr, yn dweud unwaith eto nad yw'n gweld unrhyw reswm pam y dylai claf yn y gogledd sy'n amau bod ganddo ganser y brostad orfod talu'n breifat am sgan mpMRI os ydyw wedi cael canlyniad negatif i biopsi. Rwyf i wedi dweud wrtho dro ar ôl tro—ac mae gen i nifer o etholwyr sy'n dod ataf i sydd wedi mynd at y cyngor iechyd cymunedol yn dweud eu bod wedi gorfod talu ac nid ydyn nhw wedi cael cyfiawnder o hyd. Roedd y ffigurau y cyfeiriwyd atyn nhw gan Prostate Cancer UK yn deillio o gais rhyddid gwybodaeth i gyrff iechyd ledled y DU yn gofyn iddyn nhw am ddefnyddio sganiau cyn biopsi. Canfuwyd bod 13 y cant o gyrff iechyd yn methu â'u darparu ledled y DU, ond bod y ffigur yn 50 y cant yng Nghymru, a dywedodd, 18 mis ar ôl i'r treial a addawyd brofi am y tro cyntaf y gallai sganiau mpMRI cyn biopsi hybu canfyddiad canser y brostad yn sylweddol, fod

Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU o ran sicrhau bod y diagnostig newydd hwn sy'n torri tir newydd ar gael, a bod hyn yn rhoi dynion Cymru dan anfantais.

Wel, gadewch i ni weithredu ar y rhethreg ynghylch Cymru yn arwain y ffordd a Chymru'n dymuno dangos i weddill y DU sut y dylid gwneud pethau. Ni ddylai hyn fod yn digwydd. Mae angen gweithredu cyn biopsi, mae angen gweithredu yn dilyn biopsi ac mae angen i leisiau'r dynion hyn gael eu clywed o'r diwedd.

14:40

Diolch, Mark Isherwood, am y ddau bwynt hynny. Fel y gwnaethoch chi eich hun ddweud, maen nhw wedi eu nodi eisoes heddiw. Rhoddodd y Prif Weinidog ymateb hir iawn i Andrew R.T. Davies—yn haeddiannol iawn ar bwnc mor bwysig—ac rwyf eisoes wedi awgrymu i Simon Thomas beth yw'r safbwynt ar ganabis meddyginiaethol. Rwy'n siŵr y byddwn yn dwyn hynny yn ei flaen cyn gynted â phosibl.

Rwy'n sicr bod arweinydd y tŷ wedi gweld y delweddau annifyr o bobl wedi'u plygu dros feinciau mewn parciau ac mewn drysau siopau ar ôl bod yn defnyddio sylweddau amrywiol. Nid yw'n dda i neb wel hyn, ond mae'n arbennig o wael i blant ei weld, byddwn i'n dadlau. Nawr, yn sgil straeon diweddar am niferoedd uchel o farwolaethau yn dilyn gorddos o gyffuriau mewn rhai o'n hen drefi diwydiannol, yn ogystal â digwyddiadau mewn mannau eraill, lle y tynnwyd sylw at y broblem o rwydweithiau cyflenwi cyffuriau ar hyd llinellau sirol, byddwn i'n ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Llywodraeth yn rhoi sylw i'r pwyntiau canlynol: yn gyntaf, i ba raddau y gall awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd ymdopi â'r mater hwn, yn arbennig o gofio bod y rhwydweithiau llinellau sirol yn manteisio ar bobl sy'n agored i niwed, a phobl ddigartref yn aml; yn ail, a yw'r Llywodraeth yn cefnogi'r alwad gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones, i dreialu ystafelloedd chwistrellu mwy diogel—mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos bod yr ystafelloedd hyn yn achub bywydau; yn drydydd, i ba raddau y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio gyda'r system cyfiawnder troseddol sydd heb ei datganoli i ymdrin â'r broblem gynyddol hon; ac yn bedwerydd, a yw'r Llywodraeth yn rhannu fy marn i fod angen inni symud i ffwrdd o ystyried problemau cyffuriau yn faterion cyfiawnder troseddol a'u hystyried, yn hytrach, yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, yn dilyn y drefn sydd i'w gweld ym Mhortiwgal. Byddwn i hefyd yn ddiolchgar o gael gwybod a fydd y Llywodraeth yn rhannu fy mhryderon a'r diffyg hyder yng ngallu San Steffan i drafod y materion hyn mewn ffordd resymegol.

O ran yr un diwethaf—gan ddechrau, unwaith eto, am yn ôl, fel yr wyf yn ei wneud bob amser, am ryw reswm—rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Wrth gwrs, mae'r system cyfiawnder troseddol yn gwneud y sefyllfa'n waeth, yn hytrach na'i gwella. Yn fy etholaeth i, mae'n amlwg bod angen cymorth, ac nid cosb, ar y bobl ifanc yn arbennig sydd wedi'u dal yn hyn. Mae hynny'n elfen bwysig iawn o'r ddadl ynglŷn â swyddogaeth y system cyfiawnder troseddol yn hyn o beth. Rydym ni'n awyddus iawn iawn i ddal y drwgweithredwyr ar y llinellau sirol ac nid y bobl sy'n gaeth i gamddefnyddio sylweddau. Rwy'n cytuno yn llwyr â hi. Rwyf i hefyd yn cytuno â'r ystafelloedd chwistrellu mwy diogel. Mae yna brosiect da iawn yn Abertawe, mewn gwirionedd, sydd wedi gwneud hyn. Mae prosiect cyffuriau Abertawe wedi cynnal cynlluniau treialu da iawn ar hynny ac mae'r canlyniadau'n amlwg i bawb eu gweld.

Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem wirioneddol. Rwyf newydd fod yn siarad yn yr hyb diogelu aml-asiantaeth yma yng Nghaerdydd am y ffordd orau o ymdrin â rhai o'r materion aml-asiantaeth. Mae'n fater cymhleth iawn. Mae'n croesi materion datganoledig a materion nad ydynt wedi eu datganoli, ond mae hefyd yn croesi amrywiaeth gyfan o faterion eraill. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud hyn o'r blaen Llywydd, yn y Siambr hon, ond mae'r MASH yma yng Nghaerdydd yn werth ei weld os nad ydych chi ymweld ag ef eisoes, er mwyn cael gweld beth yw eu dull aml-asiantaeth o weithio, oherwydd mae'n amlwg iawn bod angen ymagwedd er mwyn atal yr elfen troseddu cyfundrefnol, mae angen ymagwedd iechyd cyhoeddus ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac mae angen ymateb cymdeithasol i rai o'r materion cymdeithasol sy'n caniatáu i bobl syrthio i'r sefyllfa hon. Mae'n ddarlun hynod gymhleth ac mae gennym ni lawer iawn o ymatebion aml-asiantaeth eisoes.

Byddaf yn trafod â fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet—. Mae rhywfaint o hynny yn fy mhortffolio i ac mae rhywfaint ohono mewn portffolios eraill. Byddaf yn trafod â fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet ynghylch cyflwyno datganiad ar sut yr ydym yn cydlynu hynny ar draws y Llywodraeth, gan ei fod yn fater pwysig iawn.

14:45

A gaf i ofyn am ddiweddariad arall ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy'n gweithio i Virgin Media yn Abertawe? A yw tasglu Llywodraeth Cymru wedi cael caniatâd i siarad â staff a darparu manylion am gyflogwyr posibl eraill?

A gaf i ofyn ail gwestiwn? Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod yn iawn, o fyw yn yr un ardal, bu llwyddiant mawr wrth ddatblygu parciau ynni Llandarsi, SA1, Bro Abertawe a Baglan o fewn yr hen ardal gorllewin Morgannwg. Onid yw'n wir ei bod yn fanteisiol i geisio datblygu un ardal ar y tro yn hytrach na'u cael yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac onid yw Felindre nesaf ar y rhestr?

Ie, wel, o ran y pwynt hwnnw, yn hollol. Mae'n bwysig cael strategaeth, fel y dywedais, ar draws tir y cyhoedd, i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o hynny ac nad oes gennych flaenoriaethau sy'n cystadlu. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw ras dros fuddsoddiad cystadleuol mewn ardal benodol. Mae hefyd yn bwysig, fel y dywedais, i gyfuno tir y cyhoedd fel y gallwch wneud cyfuniadau tir neu gyfuniadau adeiladau a thir, neu gyfuniadau rhwydwaith ffyrdd a thir. Felly, mae'r Aelod yn hollol iawn i nodi hynny.

O ran Virgin, rydym ni wedi cael sicrwydd fel Llywodraeth y bydd amser i ffwrdd a chymorth ar gael i gyflogeion er mwyn iddynt ymgeisio am swyddi eraill, pan fo hynny'n briodol, i gadw eu sgiliau a'u doniau yn yr ardal. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sicrwydd imi bod Virgin wedi cydweithredu'n dda â ni. Byddaf i'n sicrhau fy mod i'n cael sgwrs ag ef i wneud yn siŵr ein bod yn cynnal y pwysau er mwyn i ni sicrhau bod y mwyafrif helaeth o'r aelodau staff hynny yn cynnal eu sgiliau datblygedig er budd economi Cymru.

Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad, neu ddau o bosibl, gan fod hyn yn ymdrin â dau faes portffolio, os gwelwch yn dda. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi wrth longyfarch Glasgow, y ddinas gyntaf yn y DU i wneud sgiliau achub bywyd mewn argyfwng yn orfodol ar y cwricwlwm ysgol uwchradd yno. Mae cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd yno wedi cael clod mawr am arwain y ffordd ar hyn. 

Gan ei fod hefyd yn flwyddyn ers datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar y cynllun trawiad ar y galon allan o'r ysbyty i Gymru, tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, sy'n ymdrin â'r pedwar pwynt hyn yn benodol: y cyntaf yw swyddogaeth cyd-ymatebwyr, y soniwyd amdanyn nhw yn y datganiad flwyddyn yn ôl. Rwy'n dal i aros am lythyr gan yr ymddiriedolaeth ambiwlans a addawyd i mi gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn esbonio pam yr oedd sïon yn fwy diweddar yn dweud y bydd swyddogaeth cyd-ymatebwyr yn lleihau yn hytrach na'i bod wedi'i chynnwys yn y cynllun. A gawn ni hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr ysgolion sy'n cyflwyno sgiliau achub bywyd mewn argyfwng o'u gwirfodd erbyn hyn; pwyslais a dilyniant y sgiliau achub bywyd mewn argyfwng yn y cwricwlwm sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd—rwy'n sylweddoli nad mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yw hwn; a hefyd a fu cynnydd mawr mewn cofrestru diffibrilwyr, o gofio bod mwy a mwy o sefydliadau yn penderfynu eu darparu eu hunain? Diolch.

Nid oeddwn yn ymwybodol o Glasgow, ond rwy'n amlwg yn hapus i'w llongyfarch am hynny. Mae hwnnw'n faes eithaf cymhleth. Fe wnaf i holi pam nad ydych chi wedi cael ymateb i'r llythyr a addawyd i chi, ond fe wnaf hefyd drafod ag amryw gyd-Aelodau y Cabinet ynglŷn â'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, Llywydd, oherwydd bod hynny'n ddarn o waith traws-Lywodraethol eithaf cymhleth.

Yn gyntaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle i groesawu Ysgol Bryn Deva i'r oriel i fyny'r grisiau. Fy ysgol gynradd i ydyw mewn gwirionedd, felly mae'n wych eu gweld nhw yma heddiw.

Hoffwn symud ymlaen, arweinydd y tŷ, at y penwythnos hwn, a'r penwythnos hwn, fel y mae llawer ohonoch yn gwybod, cynhelir y Great Get Together, sef diwrnod sydd wedi'i ysbrydoli gan y diweddar Jo Cox AS. Byddaf i'n cynnal fy nigwyddiadau fy hun yn yr etholaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a hyderaf y bydd yr holl Aelodau ar draws y Siambr yn eu cefnogi nhw yn eu cymunedau eu hunain hefyd, â'r digwyddiad gwirioneddol wych hwnnw. Arweinydd y tŷ, dydd Sadwrn yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg. Fel cyn-beiriannydd, rwy'n awyddus i weld holl genedlaethau'r dyfodol, gan gynnwys menywod, yn mynd i mewn i'r diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu. Dangosodd arolwg yn 2017 fod 11 y cant o weithlu peirianneg y DU yn fenywod. Nawr, mae hynny'n gynnydd o 2 y cant ers 2015, ond mae gan y DU yn ei chyfanrwydd y ganran isaf yn Ewrop o fenywod sy'n weithwyr proffesiynol ym maes peirianneg.

Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn ar y mater hwn, ond a wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi wrth dalu teyrnged i'r menywod hynny yn y gweithlu peirianneg ar hyn o bryd a'r rhai sy'n ystyried ymuno â'r gweithlu peirianneg, ac a fydd yn cytuno â mi bod angen i ni wneud mwy i newid canfyddiadau, ac annog pobl ifanc, yn fechgyn a merched, i ystyried peirianneg fel gyrfa hyfyw a gwerthfawr yn y dyfodol?

14:50

Yn hollol. Wel, yn nhraddodiad ateb popeth gan ddechrau â'r olaf yn gyntaf, mae hynny'n sicr yn fater sy'n bwysig iawn i mi ac yn un o fy mhrif bynciau trafod. Rwyf i yn gadeirydd bwrdd menywod ym maes STEM—er y dylai fod yn 'STEMC' oherwydd dylai cyfrifiadureg fod ar y diwedd—Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod esiamplau da yn mynd i ysgolion i wneud yn siŵr bod ein holl pobl ifanc, mewn gwirionedd, nid menywod yn unig, yn astudio peirianneg. Gallem ni'n sicr elwa ar gael mwy o beirianwyr drwyddi draw, ond mwy o fenywod sy'n beirianwyr yn arbennig. Rwyf i wedi trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd, beth y gallwn ni ei wneud i wobrwyo cwmnïau sy'n gweithio i gael mwy o fenywod i mewn i STEM yn arbennig, a gwobrwyo'r gyrfaoedd STEM hefyd. Felly, rwy'n falch iawn bod Jack Sargeant wedi tynnu sylw at y mater hwnnw, gan ei bod yn fater pwysig iawn, a gwn ei fod yn agos iawn at ei galon ef hefyd.

Mae bob amser yn bleser croesawu ysgolion i'n horiel ni, Llywydd. Rwy'n credu iddyn nhw fod yma yn gynharach. Mae'n siŵr eu bod nhw wedi mynd ar daith o gwmpas yr adeilad erbyn hyn. Roedden nhw'n eistedd gyferbyn â mi, a gwnes i'n sicr sylwi arnyn nhw. Efallai bod rhai ohonynt yn dal i fod yno. Roedd ysgol gyfan yno yn gynharach yn sicr. Mae bob amser yn bleser eu croesawu nhw yma.

Ac mae hefyd yn wych i allu tynnu sylw at benwythnos Great Get Together Jo Cox, ac rwy'n gobeithio'n fawr, Llywydd, y bydd llawer iawn o gymunedau ledled Cymru yn manteisio ar y cyfle i ddod at ei gilydd a gweld, yn wir, fod gennym ni fwy yn gyffredin nag sy'n ein gwahanu ni.

Arweinydd y Siambr, wythnos neu ddwy yn ôl, gofynais rai cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch y fasnachfraint rheilffyrdd newydd i Gymru a'r Gororau, ond ymddengys ei fod wedi methu pwynt fy nghwestiwn yn llwyr. Gofynnais i'n benodol a oedd y seilwaith rheilffyrdd ei hun ar linellau craidd y Cymoedd yn cael eu trosglwyddo i gwmni preifat. Gofynnais a oedd gan Lywodraeth Cymru gytundeb gan Network Rail i drosglwyddo'r seilwaith i gwmnïau preifat. Gofynnais a fyddai staff Network Rail yn cael eu trosglwyddo i'r cwmni preifat hefyd. Nawr, nid wyf i'n dymuno siarad am y trenau na chael gwybod bod gennych ryw fargen â'r undebau llafur. Roeddwn i'n gofyn ar ran teithwyr sydd eisiau gwybod a yw diogelwch ar y rheilffyrdd yn cael ei breifateiddio gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, oherwydd aeth hynny'n wael iawn y tro diwethaf, gyda thrychineb Hatfield. Felly, mae wir angen datganiad ar y cyhoedd ar hyn.

Roedd diogelwch rheilffyrdd yn flaenoriaeth bwysig iawn i Ysgrifennydd y Cabinet wrth edrych ar y fasnachfraint reilffyrdd, ac mae wedi sôn amdano mewn nifer o'i ddatganiadau, ac mae llawer o gyfleoedd i chi ei holi yn ei gylch. Ond fe fyddaf, Llywydd, yn gwneud yn siŵr y rhoddir sylw i ddiogelwch rheilffyrdd y tro nesaf y caiff rheilffyrdd eu trafod yn y Siambr.

Arweinydd y tŷ, ym mis Chwefror, dywedodd Gweinidogion Cymru eu bod yn ystyried gwneud cyfarwyddyd sgrinio i Biomas UK No.2 Limited, sy'n datblygu llosgydd y Barri, o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, gan nodi bod nodweddion y datblygiad wedi'u cynnwys y Rheoliadau EIA. Mae gennyf ddiddordeb i wybod beth yw'r oedi wrth fwrw ymlaen â'r  sgrinio. A wnaiff arweinydd y tŷ gael gwybod gan Weinidog yr Amgylchedd a pa un a wnaiff hi rannu unrhyw ohebiaeth â'r datblygwr ar y mater hwn ers mis Chwefror?

Yn ail, a gaf i ddatganiad yn dilyn adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, a ddaeth i'r casgliad nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyflawni gwerth am arian ar ei weithrediad cynnar o gredyd cynhwysol? Yr wythnos diwethaf, enillodd dau ddyn anabl eu hachosion, ar ôl colli £175 o ganlyniad i'r credyd cynhwysol—yr wythnos, hynny yw. Mae hyn yn peri cryn bryder, wrth gwrs, oherwydd bod credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru erbyn hyn.

Ie. O ran y pwynt olaf hwnnw, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn pryderu'n fawr iawn am ddiffygion sylfaenol credyd cynhwysol, ac roeddem ni'n hynod siomedig bod Llywodraeth y DU yn dal ati i'w gyflwyno, o ystyried bod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn eithaf beirniadol am ei effeithiau. Llywydd, mae llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon wedi amlygu'r problemau gyda chredyd cynhwysol a'r caledi a wynebir gan lawer o'u hetholwyr, a neb yn fwy gwneud hynny'n fwy dyfal na Jane Hutt. Rydym ni'n pryderu'n fawr fod y gost uchel o weinyddu credyd cynhwysol yn gorbwyso unrhyw fanteision, ac rydym ni i gyd yn ymwybodol o nifer y bobl sy'n gorfod defnyddio banciau bwyd ac ati, oherwydd yr oedi yn y taliadau a'r amryw bethau y mae pobl wedi tynnu sylw atyn nhw o ran y broses asesu ac ati. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gofyn am ei barn ar sut y gellir cynnig trefniadau talu eraill i hawlwyr ar sail dewis llawer mwy gwybodus i helpu'r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed. Rydym yn gwybod bod y sefyllfa yn peri cryn bryder yn wir, ac mae Rebecca Evans—y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am hynny—yn cadw llygad craff iawn arni ac mae eisoes wedi ysgrifennu ar sawl achlysur. Byddaf yn ymchwilio gyda hi a oes gwerth ysgrifennu unwaith eto yn sgil hyn.

O ran biomas y Barri, rwy'n ymwybodol bod trigolion y Barri wedi bod yn aros yn hir iawn am y penderfyniad o ran yr asesiad o effaith amgylcheddol. Rydym ni ar hyn o bryd yn ystyried yr wybodaeth amgylcheddol a luniwyd gan bartïon, gan gynnwys y datblygwr a Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau i lywio'r ffordd ymlaen. Yn anffodus, nid oes gen i union amserlen, ond rydym ni'n disgwyl penderfyniad o fewn yr wythnosau nesaf. A byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch ynghylch unrhyw ohebiaeth rhyngddi hi a'r datblygwr.

14:55

Rydym yn brin o amser ar y datganiad, ond dau gwestiwn cyflym a chryno iawn, Nick Ramsay.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, amser cinio heddiw roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad yr Agricultural Law Association yn y Senedd, ac roedd fy nghyd-Aelod, David Melding a nifer o'r Aelodau Cynulliad eraill yn bresennol. Y pwnc oedd datganoli trethu ac effaith y dreth stamp yn bennaf—y dreth trafodiadau tir—ar gymunedau gwledig yng Nghymru a'r gymuned amaethyddol. Tybed a gawn ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar gyflwyno datganoli trethi. Mae'n fy nharo i nad yw llawer o bobl o hyd yn wirioneddol ymwybodol o broses y datganoli hwnnw. Rydym ni ar hyn o bryd yn gweld problemau o ran y dreth trafodiadau tir, ond, yn amlwg, y flwyddyn nesaf bydd gennym ni ddatganoli rhannol y dreth incwm i Gymru hefyd. Felly, tybed a gawn ni ddiweddariad ar ba gyfathrebu sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a phobl ledled Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn deall ac yn gwerthfawrogi y newidiadau hyn yn llawn.

Ie. Mewn gwirionedd, rydym ni'n falch iawn o'r ffordd y cafodd y trefniadau treth eu gweithredu—trefniadau treth hanesyddol ar gyfer Cymru—oherwydd gwnaed y cyfan yn ddigidol. Roedd yn brosiect cymhleth iawn ac, mewn gwirionedd, nid oedd unrhyw broblemau o gwbl, sydd bob amser yn braf iawn, Llywydd.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid bob amser yn awyddus iawn i gael cyfle i draethu am dreth. Byddaf yn sicr yn trafod ag ef pa bryd y bydd ei ddatganiad nesaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr.

Amser cinio, daeth y grŵp trawsbleidiol ar gamblo a'r grŵp trawsbleidiol ar blant a phobl ifanc at ei gilydd i glywed tystiolaeth bwysig iawn ac eithaf ysgytwol gan yr Athro Samantha Thomas, ar sail yr ymchwil y mae hi wedi'i gynnal yn Awstralia ar sut y mae'r diwydiant gamblo yn targedu plant a phobl ifanc. A rhag i ni gredu bod hyn yn broblem sydd wedi'i chyfyngu i Awstralia, ymwelodd â dwy ysgol yma ddoe, ym Mro Morgannwg a Phontypridd, lle'r oedd pobl ifanc yn gallu adnabod yr holl gwmnïau gamblo, lliw eu logo, a'r rhigymau a'r jôcs y maen nhw'n eu defnyddio yn eu hysbysebion. A dyma sut y mae'r diwydiant gamblo yn targedu plant a phobl ifanc. Yn Awstralia, maen nhw yn awr wedi gwahardd hysbysebion cyn y trothwy 8.30pm. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ynglŷn â beth fydd ein polisi ni i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag dod yn gaeth i gamblo.

Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â hyn, a gwnaethom ei drafod yn lled ddiweddar yn y Siambr. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, ac rydym ni wedi cael ymateb eithaf cynhwysfawr. Llywydd, byddaf i'n ymchwilio i'r ffordd orau o rannu hynny ag Aelodau ac yn gwneud yn siŵr y caiff ei rannu cyn gynted â phosibl gan ei fod yn ailddatgan nifer o'r materion y mae Jenny Rathbone newydd eu codi.

Diolch i arweinydd y tŷ.

Cyn inni symud ymlaen, a gaf i ymddiheuro i'r Siambr am y cyfeiliant cerddorol y prynhawn yma? Rydym ni'n credu ein bod ni wedi dod o hyd i'r tarddiad—mae'n gysylltiedig â'r gwynt. Rwy'n gobeithio y bydd yn dod i ben cyn bo hir. [Torri ar draws.] Dim jôcs. Ddylwn i ddim fod wedi sôn am hynny.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig

Felly, fe wnawn ni symud ymlaen i’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Fe wnaf fi alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ailddatgan ein hymrwymiad i wella bywydau pobl awtistig ym mis Tachwedd 2016 pan gyhoeddwyd y cynllun gweithredu newydd ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig, wedi'i ategu gan £13 miliwn o fuddsoddiad mewn gwasanaethau newydd. Heddiw, cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf ar gyflawni'r cynllun gweithredu. Rwy'n falch o adlewyrchu cyflawniadau'r holl rai hynny a fu'n cymryd rhan wrth ymateb i'r heriau a osodwyd gennym. Mae'r cynnydd gwirioneddol a wnaed eleni yn adlewyrchu ar ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni. Mae arloesi a chydweithio wedi helpu i sefydlu sail gadarn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Y cyflawniad mwyaf arwyddocaol eleni fu sefydlu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol, gan greu cefnogaeth gyson i bobl ag awtistiaeth. Mae llawer o egni wedi'i roi i'r gwaith o sefydlu'r ffyrdd newydd o weithio rhwng asiantaethau a gweithio mewn partneriaeth, a hynny yn yr hyn sydd yn amgylchedd cymhleth. Rydym yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd, wrth fod y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn agored yng Nghaerdydd a'r Fro, Cwm Taf, Gwent a Phowys. Bydd yn cael ei lansio yr wythnos nesaf yn y gogledd a bydd yn agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon ym mae'r Gorllewin ac yn y gorllewin. Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni'n cael adborth cadarnhaol iawn. Mae hyn yn cynnwys cyfranogwyr yn nodi mai hwn yw'r tro cyntaf y maent wedi teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt.

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ni fyddai'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud yn bosibl heb gymorth tîm datblygu cenedlaethol ASD a arweinir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fe gyhoeddodd hwnnw ei adroddiad blynyddol heddiw hefyd, ac rwy'n deall bod datganiad yn tynnu sylw at hynny wedi'i ddosbarth i'r Aelodau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'r tîm yn gweithio gyda rhanbarthau i ddatblygu'r gwasanaeth integredig ac i hybu ymgysylltu ac arfer da ledled Cymru. Mae gan y tîm swyddogaeth hirsefydlog wrth godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, cyhoeddi amrywiaeth eang o adnoddau a gwybodaeth, sydd ar gael yn rhwydd ar eu gwefan ASDinfoWales.

Mae dim ond dau o lwyddiannau nodedig y tîm dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys ymestyn y rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth. Yn ychwanegol at y cynllun ar gyfer ysgolion cynradd, mae'r cynlluniau ar gyfer ysgolion uwchradd a'r blynyddoedd cynnar wedi'u lansio ac yn cael eu cyflwyno. Mae wyth deg o ysgolion wedi cwblhau'r rhaglen ar gyfer ysgolion cynradd erbyn hyn, a bron i 13,000 o blant yn dod yn uwcharwyr awtistiaeth. Mae'r ymgyrch Weli Di Fi? yn cael ei chyflawni hefyd, sydd â'r nod o wella'r ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn cymunedau lleol. Mae ffilm ac adnoddau'r ymgyrch yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr a busnesau lleol ledled Cymru. Mae'r llwyddiannau hyd yn hyn yn cynnwys dyfarniadau a gyflawnwyd gan ganolfan siopa Merthyr Tudful a chanolfan siopa McArthurGlen ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a darparwyd hyfforddiant i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Er ein bod yn gwneud cynnydd da, rydym ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud. Rydym ni'n parhau i edrych yn ofalus ar y materion y mae pobl awtistig yn dweud sydd fwyaf pwysig iddyn nhw er mwyn llywio camau gweithredu yn y dyfodol. Mae amseroedd aros am asesiad yn flaenoriaeth i lawer, ac ers 2015, rydym ni wedi buddsoddi £2 miliwn ychwanegol y flwyddyn yng ngwasanaethau niwroddatblygiadol plant, gan gyflwyno safon amser aros newydd o 26 wythnos o'r adeg atgyfeirio i'r apwyntiad asesu cyntaf, yr ydym ni erbyn hyn yn ei dreialu. Rydym ni eisiau gwneud rhagor o gynnydd, ac eleni, rydym ni'n edrych ar arfer da mewn rhai ardaloedd sydd eisoes yn cyflawni canlyniadau o ran lleihau amseroedd aros, gyda'r nod o ailadrodd y llwyddiant a'r arfer da hwnnw ledled Cymru.

Rwy'n deall mai'r mater pwysicaf i rieni plant awtistig yn aml yw sicrhau bod eu plant yn cael y cymorth addysgol cywir i'w helpu i gyflawni eu llawn botensial. Yn gynharach eleni, pasiwyd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Bydd honno'n paratoi'r ffordd ar gyfer gweddnewid y cymorth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol hyd at 25 oed, gan greu fframwaith cyfreithiol unedig a fydd yn sicrhau bod dysgwyr a'u rhieni wrth wraidd y gwaith o gynllunio a diwallu eu hanghenion. Bydd y diwygiadau hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau yn y gweithlu i ddarparu cymorth effeithiol i ddysgwyr, a bydd hi'n haws cael gafael ar gymorth, gwybodaeth a chyngor arbenigol. Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno fesul cam o fis Medi 2020 ymlaen.

Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydym ni eisiau canolbwyntio ein holl ymdrechion ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer ASD, gan ymgorffori'r gwasanaeth integredig newydd, a chyflawni ein holl ymrwymiadau eraill. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y galw am ddeddfwriaeth awtistiaeth a'r cynigion a geir ym Mil drafft Awtistiaeth (Cymru) a arweinir gan Aelodau'r Cynulliad. Mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau awtistiaeth yn y tymor hirach. Y gwahaniaeth rhyngom ni yw sut yr ydym ni'n ceisio cyflawni'r nodau hynny.

Rwy'n deall bod y posibilrwydd o fod â deddfwriaeth awtistiaeth sy'n benodol, yn ddeniadol i lawer. Mae'n amlwg mai bwriad y ddeddfwriaeth ddrafft, fel yr ydym ni wedi'i gweld, yw ategu'r dyletswyddau a'r disgwyliadau presennol ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau a chymorth i bobl awtistig. Mae hi eisoes yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, wrth gwrs, ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar anghenion i bobl sydd angen gofal a chymorth—mae gan bobl awtistig a'u gofalwyr eisoes yr un hawl i gael gafael ar wasanaethau, fel pob dinesydd arall yng Nghymru.

Rydym ni eisoes yn cynnig rhai gwelliannau mawr eu hangen mewn gwasanaethau awtistiaeth. Dydw i ddim o'r farn y bydd deddfwriaeth gostus a dwys o ran adnoddau yn dod â manteision ychwanegol i bobl awtistig y tu hwnt i'r ymrwymiadau ymarferol i wella'r gwasanaethau yr ydym ni eisoes yn llwyr ymrwymedig iddynt. Yn fy marn i, byddai'n well buddsoddi amser ac arian i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau cadarn ac i sicrhau bod pwyslais ar welliant parhaus wrth i'r gwasanaethau newydd yr ydym ni'n eu rhoi ar waith ymwreiddio.

I wella gwasanaethau cymorth fwy fyth, rwy'n bwriadu tynnu sylw at anghenion pobl awtistig a'r gofyniad i ddiwallu'r anghenion hynny ar draws y gwasanaethau statudol drwy gyflwyno cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Mae hwn eisoes yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl awtistig. Bydd yn darparu eglurder ar y cymorth y gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl ei dderbyn ac yn rhoi arweiniad ar sut y gall gwasanaethau addasu eu harferion i ddiwallu anghenion unigol pobl ag awtistiaeth. Byddwn ni'n ymgynghori ar ein cynlluniau yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw i wneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar y materion sydd o wir bwys. Hefyd, byddwn yn diweddaru ein cynllun cyflawni ac yn adlewyrchu'r adborth a gawn ar ddarpariaeth gwasanaethau.

Nid yw'r galwadau am welliannau mewn gwasanaethau awtistiaeth yn cael eu hanwybyddu. Rydym ni'n cymryd camau i gyflawni'r canlyniadau gwell y mae pawb yn dymuno eu gweld. Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar draws y gwasanaethau, yn gwella'r gallu i gael asesiad a diagnosis ac yn darparu cymorth arbenigol ychwanegol ym mhob rhanbarth o Gymru. Byddwn ni'n parhau i wrando, a byddaf yn cadw meddwl agored am yr angen posibl am ddeddfwriaeth sy'n benodol i awtistiaeth yn y dyfodol, os daw'n glir drwy werthuso na ellir cyflwyno'r gwelliannau yr ydym ni i gyd yn dymuno eu gweld heb gymryd y llwybr hwn.

15:05

Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n rhaid imi ddweud bod y swm enfawr o waith achos sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth y mae fy swyddfa i yn ei drafod a'r straeon personol o'r tu allan i'r gogledd yr ydym yn eu derbyn, yn awgrymu bod symiau enfawr o arian yn parhau i gael eu gwario, dim ond i'w  gael, yn anffodus, yn anghywir iawn, iawn ac weithiau'n drasig o anghywir. Sut ydych chi'n ymateb i bryderon a godwyd â mi bod un o'r pedair ardal gwasanaeth awtistiaeth integredig, neu IAS, lle lansiwyd y gwasanaeth yn dweud erbyn hyn eu bod eisiau bod yn wasanaeth diagnostig a cholli eu swyddogaeth gweithiwr cymorth? Mae ardal arall eisoes yn nodi, er gwaethaf derbyn £150,000 i £170,000 ychwanegol bob blwyddyn gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar ben eu cyllid IAS, na all ymdopi â nifer yr atgyfeiriadau y maen nhw'n eu cael, ac mae'r rhain yn atgyfeiriadau meddygol, nid rhai cymdeithasol, nid rhai sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd. Mynegwyd pryder wrthyf i y bydd y rhan fwyaf o'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau nad ydynt yn rhai IAS ar hyn o bryd yn diflannu neu'n ymddangos mewn argyfwng. Mae pryder am y diffyg niferoedd sy'n cael sylw gan yr IAS a'r diffyg gwasanaethau gan IAS i gario'r baich a drosglwyddir o gyrff trydydd sector sy'n colli'n gynyddol y cymorth lleol, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi eu cefnogi weithiau gan gannoedd o aelodau lleol o'r gymuned awtistiaeth.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at safon amser aros o 26 wythnos o'r adeg atgyfeirio i'r apwyntiad asesu cyntaf. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gymryd camau pan nad yw byrddau iechyd yn cyflawni'r targed hwnnw? A yw'r data amser aros yn cael ei ddiweddaru bob chwarter, ac os nad yw, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd?

Faint o bobl awtistig sydd wedi manteisio ar gyflogaeth o ganlyniad i'r rhaglen Ar y Blaen 2? A wnaeth Llywodraeth Cymru gyflawni achrediad yn y siarter 'bod yn fodlon gweithio gydag awtistiaeth' y llynedd, a sut y mae'n cynnal ei achrediad y flwyddyn hon a thu hwnt?

Faint o bobl sydd wedi cael gafael ar y gwasanaeth integredig ym mhob un o'r pedwar bwrdd iechyd lle lansiwyd y gwasanaeth, pa weithwyr proffesiynol a gafodd hyfforddiant ymwybyddiaeth, a beth yw'r meysydd blaenoriaeth, wrth inni edrych i'r dyfodol, ar hynny? Wrth gwrs, yn ogystal â hyfforddiant ymwybyddiaeth, sy'n cael ei arwain yn aml gan bobl nad ydynt yn awtistig, sy'n weithwyr proffesiynol yn y proffesiynau meddygol neu ofalu, sydd â phwyslais meddygol, pa gamau ydych chi'n eu cymryd neu a fyddwch chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â diffyg enfawr o ran derbyn awtistiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb sy'n cael ei arwain gan hyfforddwyr sy'n bobl awtistig neu sy'n aelodau o'r gymuned awtistiaeth, sy'n canolbwyntio ar bobl awtistig a phobl nad ydynt yn awtistig yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y rhwystrau sy'n anablu mewn cymdeithas?

A yw'r grŵp cynghori wedi cytuno ar gynllun gwaith? A fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cynllun gwaith hwnnw os yw ar gael? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r argymhellion a geir yn y gwerthusiad annibynnol interim o'i strategaeth awtistiaeth a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, a ganfu wendidau ac anghysondebau yn y gwasanaethau asesu a diagnostig i oedolion ag awtistiaeth ac yn y gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion a phlant ag awtistiaeth? Dywedodd:

Er mwyn llwyddo, fod angen dull cydgynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth ddylunio, gweithredu a gwerthuso yr IAS.

Ond mae yna bryderon am y dull o'r brig i lawr, y dywedwyd ei fod wedi rhwystro hyn.

Gan fod y gwasanaeth yn cael ei lansio yn y gogledd ar 27 Mehefin, fel y gwnaethoch chi ddweud, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd pan fyddwch chi'n clywed y straeon a godais yr wythnos diwethaf, fel y rhai o'r achos adolygiad barnwrol a setlwyd yn ddiweddar, cyn y gwrandawiad llawn, pan gytunodd cyngor Sir y Fflint i roi ymddiheuriad ffurfiol a rhoi dyfarniad iawndal ar ôl methu ag asesu a diwallu anghenion person ifanc awtistig ag anghenion ychwanegol, ac ystyried yn llawn anghenion gofalwr ei rhiant? Un achos yn unig yw hwnnw. Mae gen i wn i ddim faint o achosion tebyg—yn bennaf, ond nid yn unig yn Sir y Fflint—ar hyn o bryd. Sut y byddech chi'n ymateb i'r rhiant yn Sir y Fflint a anfonodd neges e-bost ataf ddoe ynghylch yr ymateb i'w chŵyn i CAMHS Sir y Fflint, yn dweud, 'Nid oes gan eich merch gyflwr gorbryder parhaus', a dim ond ymddiheuriad ydoedd am gyfathrebu gwael, ond roeddynt wedi gorfod mynd at seiciatrydd preifat oherwydd diffyg gofal, sydd wedi rhoi diagnosis bod y ferch ag achos difrifol o Anhwylder Straen Wedi Trawma, iselder a gorbryder? Mae hi'n dweud, 'Rydym ni'n falch nawr ein bod yn cael triniaeth ac argymhelliad am diwtora gartref, diolch i'n seiciatrydd preifat, ond dylai fy merch fod wedi cael hwn pan ofynnodd hi i CAMHS Sir y Fflint am gymorth chwe mis yn ôl.'

Rwyf i bron â gorffen, ond mater allweddol yw'r mater o rywedd. Rwyf wedi codi hyn droeon, ond rwy'n dal i dderbyn gwaith achos, bron bob dydd, lle dywedir wrth ferched sydd ag angen amlwg am ddiagnosis o awtistiaeth nad yw'n bosibl o gwbl iddyn nhw gael diagnosis o'r fath. Llythyr, er enghraifft, gan y bwrdd iechyd yn y fan yma:

'Mae'n anodd cyfuno'r disgrifiad o'r anawsterau a roddir gan rai teuluoedd â'r wybodaeth gan staff addysgu sy'n adrodd dim neu ychydig iawn o broblemau yn amgylchedd yr ysgol. Nid yw hyn yn nodweddiadol o blant sydd ag ASD',

pan fo cyfoeth o ymchwil a thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol yn gwrthddweud hynny'n uniongyrchol, o ran y strategaethau cuddio ac ymdopi y mae llawer o blant, ac yn enwedig merched, yn eu mabwysiadu.

Rydych chi'n dweud bod galwadau am ddeddfwriaeth awtistiaeth—

15:10

Na mae'n ddrwg gen i. [Torri ar draws.] Wel, rydych chi wedi gofyn nifer o gwestiynau ac rydych chi ymhell i mewn i chwe munud, bron, felly os gallwch chi ei ddweud o fewn y 30 eiliad nesaf, gallwch chi ofyn eich cwestiwn olaf.

Sut y gallwch chi ddweud, oni bai eich bod yn cyflwyno dyletswyddau statudol i ddarparu'r cymorth gan wasanaethau statudol y mae eu hangen ar y bobl hyn a llawer iawn o rai eraill, eich bod chi'n mynd i allu diwallu eu hanghenion â'r gwasanaeth hwn? Hyd nes a heb orfodi eich deddfwriaeth bresennol, fel y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sut yn y byd y gallwch chi ddweud pa mor dda ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd?

Gweinidog, ac nid oes yn rhaid i chi ateb pob un o'r gyfres honno o gwestiynau, neu fe fyddwn ni yma tan yfory.

Yn anffodus, rwy'n gweld eich pwynt chi, Dirprwy Lywydd. Ni fydd modd i mi ateb y mwy na'r dwsin o wahanol bwyntiau a nodwyd, â phob parch at yr Aelod ac eraill sy'n dymuno ymateb. Ond, a bod yn deg, mae nifer o'r rheini, y pwyntiau a godwyd, yn rhai unigol, ac mae yna rai mwy cyffredinol. Os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf â'r manylion y mae ef wedi'u nodi, yna byddwn yn hapus i sicrhau bod y person priodol yn ymateb iddo. Ac, wrth gwrs, byddaf hefyd yn y grŵp trawsbleidiol yfory i ateb cwestiynau a chael sgwrs â phobl yno.

Credaf fod un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn i eu gwneud mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Gan feddwl am ei bwynt olaf am yr angen am ddeddfwriaeth neu fel arall, mewn gwirionedd, rhan o'r ateb yw'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud ynghylch gorfodi dyletswyddau presennol sydd eisoes wedi'u nodi, a'r her o wneud yr hawliau hynny'n rhai go iawn. Rhan o'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud wrth fuddsoddi yn y gwasanaeth integredig yw gwireddu hynny. Dyna hefyd y mae'r cod ymarfer yn ceisio tynnu sylw ato ac yn ceisio ei wireddu i deuluoedd. Felly, nid yw hyn yn ffordd o geisio dweud ein bod yn credu eich bod yn anghywir ac nad yw'r enghreifftiau yr ydych chi'n eu codi yn wir. Rwy'n cydnabod, i lawer o deuluoedd, fod hon yn her sylweddol a go iawn i blant ac oedolion sydd ag awtistiaeth hefyd. Mae hyn mewn gwirionedd ynghylch sut y gwnawn ni'n siŵr eu bod yn cael cyrraedd eu llawn botensial. Mae gennyf i brofiad personol o hyn hefyd, yn fy nheulu fy hun, felly rwy'n deall nad yw hon yn her hawdd y dylid ei gwrthod neu ei hanwybyddu'n ddifeddwl. Dyna pam, hyd yn oed yn y cyfnod ariannol mwyaf anodd hwn, rydym ni wedi buddsoddi £13 miliwn yn y gwasanaeth. Dyna pam y dylem ni i gyd ymfalchïo bod y gwasanaeth integredig yn cael ei gyflwyno, ac mae'r adborth yr ydym ni'n sôn amdano yn adborth uniongyrchol gan y teuluoedd eu hunain am y gwahaniaeth y mae'r gwasanaeth eisoes wedi'i wneud, ac mae hwnnw'n wahaniaeth go iawn—nid yw'n rhywbeth a grëwyd neu yn waith ffuglen i geisio cael ein hunain drwy her yn y fan yma.

Ein her, er hynny, wrth gwrs, yw nid dim ond deall yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth i'r gwasanaeth gael ei gyflwyno, ond deall sut yr ydym ni'n ceisio addasu a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd i'r ardaloedd lle nad yw'r gwasanaeth eto wedi ei roi ar waith. Mae hefyd, wrth dderbyn bod yna adborth cadarnhaol iawn i'r gwasanaeth integredig, yn cydnabod nad yw'n berffaith—nid yw'r un gwasanaeth dynol byth yn berffaith—ond deall sut, yn yr enghreifftiau hynny lle nad yw'r gwasanaeth wedi bodloni anghenion yr unigolion hynny a'u teuluoedd, ein bod yn dysgu o hynny er mwyn llywio gwelliant, oherwydd dyna'r pwynt: ni fydd yna ddiweddbwynt. Bydd gennyf ragor i'w ddweud am amseroedd aros ar ôl i'r cynllun treialu gael ei gwblhau, a byddaf wrth gwrs yn gwneud yn siŵr bod hynny ar gael i'r cyhoedd. Fy ngobaith yw y byddant yn dod yn ystadegau swyddogol, ac os felly, byddan nhw ar gael yn rhwydd o fis i fis i'r holl Aelodau graffu arnynt. Ond, does dim amheuaeth y byddwn ni'n parhau i drafod y themâu cyffredinol hyn, nid dim ond heddiw ond am gyfnod sylweddol o amser i ddod, yn enwedig gan fy mod yn disgwyl y bydd yr Aelod yn cynhyrchu ei Fil cyn toriad yr haf.

15:15

Gwnaf i dreio cadw fy sylwadau i’n fyr. Rydw i'n credu mai rhyw bedwar cwestiwn sydd gen i yn fan hyn. Ar yr ystadegau sydd yn cael eu casglu, mae targed wedi cael ei sefydlu o 26 wythnos o aros am asesiad cyntaf—mae’r data yn cael ei gasglu. Pa bryd a ydym ni’n mynd i gael y data yma wedi’i gyhoeddi, achos y mae unrhyw ddata sydd ar gael, rydw i'n meddwl, yn gorfod cael ei gyhoeddi?

Ar basio’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), mae pryderon ynglŷn â diffyg adnoddau i gefnogi’r Bil yna wedi bod yn amlwg iawn. A all yr Ysgrifennydd Cabinet egluro pa adnoddau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu darparu i gefnogi awdurdodau lleol wrth weithredu hyn?

Mae yna ddarn o ddeddfwriaeth yn dechrau'i thaith drwy’r Cynulliad yma. Mae’r datganiad wedi gwrthod y syniad o ddeddfu, ac y mae cost yn un o’r prif ddadleuon yn erbyn y ddeddfwriaeth. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet dderbyn na fydd y ddeddfwriaeth ei hun yn costio unrhyw beth? Hynny ydyw, mae’r gost yn dod o unrhyw oblygiadau ariannol sy’n dilyn o gynnwys y ddeddfwriaeth, a fyddai'n bennaf, mewn difrif, yn ymwneud â sicrhau'r hawl i wasanaethau yn y gyfraith. Os ydych chi’n bwriadu cwrdd â’r amcanion hynny drwy wella’r gwasanaeth, nid oes yna, mewn difrif, cost ychwanegol, ond o leiaf mi fyddai cael gwarantau cyfreithiol—ac yn fan hyn y mae deddfwriaeth yn ddefnyddiol—yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i grŵp lleiafrifol nad eu gwasanaethau nhw fydd y cyntaf i fynd bob tro y bydd awdurdodau lleol yn wynebu her ariannol.

Dyna dri, rydw i'n meddwl; felly, pedwar, nid ydyw'r datganiad yn sôn unrhyw beth am fyd cyflogaeth. Dim ond 16 y cant o oedolion sydd ag awtistiaeth sydd mewn gwaith llawn amser cyflogedig. Dim ond 32 y cant sydd mewn unrhyw fath o waith cyflogedig. A all yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu mwy o fanylion am sut yr ydych yn bwriadu gwyrdroi hyn, achos nid yw blynyddoedd o bartneriaethau ac anogaeth ddim i’w gweld yn gweithio?

Diolch i chi am y cwestiynau. Ar eich pwynt olaf, mae yna gydnabyddiaeth ein bod yn ceisio cyflawni newid diwylliannol. Dydy hyn ddim yn ymwneud â theuluoedd â phobl ag awtistiaeth yn unig, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r cymorth a gânt yn y gweithle ac agweddau gwahanol gyflogwyr. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, byddwch chi'n gweld enghreifftiau uniongyrchol o bobl sydd wedi cael cymorth gan y gwasanaeth i aros mewn cyflogaeth os ydynt mewn cyflogaeth, neu i chwilio am gyflogaeth hefyd. Yr her yw peidio â sefydlu gwasanaeth i fethu, ond bod hyn yn rhan o awydd i newid ein sgwrs genedlaethol a cheisio newid faint o gymorth ymarferol sydd ar gael i fusnesau a'u cyflogeion. Ond rwy'n cydnabod bod llawer o ffordd i'w theithio yn y fan yma, yn union fel y ceir mewn nifer o feysydd eraill, ond mae hynny'n rhan o'r ymrwymiad a nodwyd yn y gwasanaeth integredig.

Fe wnaf ymdrin â'ch pwynt am amseroedd aros nawr. Y targed 26 wythnos: bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fewnol, o fewn y Llywodraeth, yn ystod yr hydref wrth inni edrych unwaith eto ar gyflwyno'r safonau amseroedd aros. Mae angen inni fod yn sicr, cyn inni gyflwyno'r targed a dechrau cyhoeddi gwybodaeth, ei bod yn gadarn ac yn ddibynadwy. Mae pob un ohonom wedi cael profiad yn y gorffennol o geisio cyflwyno safonau amseroedd aros a'r rheini heb fod ar gael, ac yna—pan nad ydynt wedi bod yn barod yn y ffordd gadarn y dylent fod, yn hytrach—mae hynny wedyn yn achosi diffyg hyder yn y ffigurau. Dydw i ddim yn ceisio cuddio'r ffigurau; dydw i ddim yn ceisio gwneud yn siŵr eu bod ond yn cael eu cyhoeddi pan fyddan nhw edrych yn dda i mi. Mae gen i wir ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr eu bod mewn gwirionedd yn wirioneddol ddibynadwy, oherwydd rwy'n disgwyl y bydd amrywiaeth yn yr hyn a ddysgir rhwng gwahanol rannau o Gymru. Ond rwyf i eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn gadarn, y gellir dibynnu arnyn nhw, a'u bod yn helpu i sbarduno rhywfaint o welliant mewn mesurau sy'n wirioneddol bwysig ac sy'n cael effaith go iawn ar deuluoedd.

O ran eich pwynt chi am gost y ddeddfwriaeth, mae cost i ddeddfwriaeth bob amser, nid dim ond cost i'r lle hwn o ran y dull o weithredu, ond mae her yn y fan yma o ran y gost ac o ran yr amser a'r adnoddau sydd ar gael i ymarferwyr, i'r tîm polisi yma yn ganolog, a beth y mae hyn yn ei olygu wedyn o ran dargyfeirio'r sylw hwnnw i fynd i broses ddeddfwriaethol yn hytrach na chanolbwyntio ar wella. Ni fydd deddfwriaeth yn cynhyrchu mwy o arian. Bydd gennym ni o hyd yr un swm o arian ar gael i'r Llywodraeth, a bydd yn rhaid i ni wneud dewisiadau am hynny hefyd, gyda'n partneriaid mewn gwasanaethau eraill. Fy mhrif ddiddordeb i yw deall, i'r bobl sy'n darparu'r gwasanaeth ac sy'n cymryd rhan ynddo, y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud, a beth yw ein gobaith gwirioneddol ni o ran cyflawni'r math o welliant, fel yr wyf yn dweud, y byddai pob un ohonom ni yn yr ystafell hon eisiau ei weld.

Mae eich pwynt ynglŷn â gwasanaethau statudol—mae gennym ni eisoes ofynion statudol ar gyfer ein hunain, y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol a phartneriaid i'w cyflawni ac i'w darparu. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn eu gwireddu, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam yr wyf i'n symud ymlaen â'r cod ymarfer, oherwydd rwyf yn cydnabod y bydd yna bobl a fydd yn deall ac yn adrodd eu straeon eu hunain am yr hyn sydd wedi digwydd, a lle nad yw eu hanghenion wedi'u bodloni yn y ffordd yr oeddem ni'n rhagweld y byddai'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gael y ddeddfwriaeth honno yn iawn a gwneud yr hawliau hynny'n rhai go iawn, a byddai, gallai a dylai hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd hynny hefyd.

15:20

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am ddarparu copi ymlaen llaw o 'Gynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig: Adroddiad Blynyddol 2017/18'. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau a bod cynnydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae'r gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac adroddiadau interim y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig, gan Dr Holtom a Dr Lloyd Jones o Pobl a Gwaith, yn ei gwneud yn glir y bu methiant i sbarduno newid systemig sydd wedi helpu i greu loteri cod post o gymorth i oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth.

Nid yw hyn yn newyddion i unrhyw un ohonom ni sydd wedi bod yn ymgyrchu dros Ddeddf awtistiaeth. Gallai fod gan Lywodraeth Cymru fwriadau da, ond nid yw pobl sy'n byw ar y sbectrwm yn gweld y ddarpariaeth ar lawr gwlad. Er gwaethaf cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, mae sawl rhan o Gymru o hyd nad oes ganddyn nhw lwybrau clir i ddiagnosis. Amlygodd yr adroddiad interim y ffaith, er na fu arian yn broblem o ran sefydlu'r gwasanaeth integredig newydd, nad oedd gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol lawer o gapasiti i ddatblygu'r gwasanaeth.

Ymddengys bod sefydlu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cyntaf wedi digwydd yn sgil gwaith caled ac ymroddiad yr arweinydd ASD cenedlaethol, ond fel y mae'r adroddiad interim yn dangos, mae hyn yn llawer o straen i'w roi ar un person. Ni ddylai llwyddiant neu fethiant ddibynnu ar gamau un unigolyn. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw cynlluniau cyflwyno yn y dyfodol yn dibynnu ar un unigolyn, ni waeth pa mor ddawnus?

Rwy'n cydnabod mai un o gyflawniadau allweddol y cynllun gweithredu strategol oedd cyflwyno'r targed amser aros o 26 wythnos ar gyfer asesu niwroddatblygiadol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau bod y targed hwn yn cael ei fodloni gan yr holl fyrddau iechyd? Os nad ydyw, a oes gennych chi amserlen ar waith ar gyfer pryd yr ydych chi'n disgwyl i'r holl fyrddau iechyd gyflawni eu targedau?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn dal heb fy argyhoeddi nad oes angen Deddf awtistiaeth ar Gymru, rwy'n barod i weithio gyda chi er mwyn darparu gwell gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd ar y sbectrwm awtistiaeth, a gobeithio ymhen 12 mis y byddwch chi wedi fy argyhoeddi bod deddfwriaeth yn wir yn ddiangen. Edrychaf ymlaen at weld pa gynnydd y gellir ei wneud yn ystod y flwyddyn. Diolch.

Diolch ichi am y sylwadau. Rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â'r heriau a'r pwyntiau ynghylch amseroedd aros eisoes. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am eich safbwynt presennol ar ddeddfwriaeth, ond eich bod yn agored i'r posibilrwydd, os byddwn ni'n gallu gwneud digon o welliant, efallai na fyddai'r posibilrwydd o fwy o ddeddfwriaeth yn rhywbeth y byddech chi'n ei gefnogi. Rwy'n credu bod yna her yn y fan yma ynglŷn â diben ymarferol y ddeddfwriaeth y mae Paul Davies yn bwriadu ei chyflwyno. Byddwn i'n dweud ei fod yn ymwneud ag amcan a rennir, am wella gwasanaethau, am wneud yn siŵr bod mwy o sicrwydd i deuluoedd am y cymorth y gallan nhw ei ddisgwyl, ac i wneud yn siŵr y bodlonir anghenion pobl ag awtistiaeth yn briodol.

Dyna pam y mae'r gwasanaeth integredig sy'n gweithredu mewn pedwar rhanbarth yn bwysig i ni, oherwydd os ydych chi'n meddwl am y gwasanaethau ymarferol y bydd angen inni eu darparu, profiadau'r teuluoedd hynny yn yr ardaloedd hynny yn rhyngweithio â'r gwasanaeth, eu bod yn ymwybodol o'r gwasanaeth, ac yn yr un modd y staff rheng flaen y bydd eu hangen arnom i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw—i fod yn deg, fe wnaethoch chi bwyntiau ynglŷn â staff hefyd, ac yn benodol ynghylch peidio â dibynnu ar un unigolyn i ddarparu'r gwasanaeth cyfan, ac rwy'n cydnabod nad yw gwasanaeth sy'n gwbl ddibynnol ar un unigolyn yn fodel cynaliadwy i'w gyflwyno'r ledled y wlad. Fe allwn ni, fodd bynnag, ddweud bod y gwasanaeth integredig yn gweld cynnydd sydd i'w groesawu mewn arbenigedd ar awtistiaeth wrth i fwy o glinigwyr gael eu recriwtio. Mae'r model yr ydym ni wedi'i ddarparu mewn gwirionedd yn fwy deniadol i staff sydd eisiau dod i weithio mewn ffordd sy'n gydgysylltiedig â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill. Yn hollbwysig, rydym ni'n gweld teuluoedd yn ymateb i hynny ac yn cydnabod bod pobl yn gwrando ar eu hanghenion ac yn eu diwallu. Fel y dywedais yn gynharach, ni fydd hynny bob amser yn berffaith, ond mae'n welliant gwirioneddol yr ydym ni'n ei ddarparu.

Fe wnaethoch chi sôn am yr adroddiad gwerthuso interim. Unwaith eto, mae'n adlewyrchu'n onest y bu yna wahanol weledigaethau a blaenoriaethau ar y dechrau, ond mae'r rhai hynny wedi eu datrys i raddau helaeth, ac mae pob rhanbarth lle mae'r gwasanaeth wedi'i gyflwyno yn falch o'u cyflawniadau ac yn cydnabod eu bod nhw wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna'r pwynt. Rydym ni eisiau gwasanaeth a fydd yn fwy na dim ond rhywbeth y gall gwleidydd codi ar ei draed a'i ddathlu a chwifio adroddiad blynyddol o gwmpas, ond yn hytrach, rydym ni eisiau gwasanaeth y byddai pobl yn cydnabod—y byddai'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw, y bobl sy'n rhyngweithio â'r gwasanaeth hwnnw ac sy'n cymryd rhan yn y gwasanaethau a ddarperir yn cydnabod—ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn, y gwahaniaeth y mae pob un ohonom ni yn dymuno ei weld ar gyfer y teuluoedd hyn.

15:25

Diolch yn fawr iawn i chi am eich adroddiad. Mae'n galonogol iawn i wybod bod gwaith da yn digwydd gyda'n hysgolion i sicrhau eu bod mor gynhwysol â phosibl. Pan fo'n bosibl, mae angen inni fod yn cynnwys pobl ifanc ag awtistiaeth mewn ysgolion prif ffrwd, ond pan nad yw'n bosibl mae'n amlwg bod angen inni sicrhau bod gennym ni wasanaethau rhagorol ar gyfer y rhai hynny â'r anableddau mwyaf. Felly, rwy'n credu bod hynny yn sicr i'w groesawu.

Roeddwn i eisiau gofyn i chi am y gwasanaethau sydd ar gael i oedolion ar y sbectrwm awtistig. Un o'r sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda phobl ag awtistiaeth yw Autism Spectrum Connections Cymru, sydd wedi'i leoli yng nghanol dinas Caerdydd yn fy etholaeth i. Maen nhw'n bennaf yn cynorthwyo pobl â syndrom Asperger. Maen nhw wedi cael cannoedd o atgyfeiriadau, o Gaerdydd a'r Fro yn bennaf, ond hefyd gan awdurdodau lleol eraill yn y de-ddwyrain. Rwy'n credu, er bod asesu yn bwysig, bod gwasanaethau cymorth yn bwysig hefyd. Un o'r enghreifftiau a roddwyd yn adroddiad blynyddol y tîm datblygu ASD oedd cefnogaeth i sicrhau bod cyflogwyr a chyflogeion, pan fo gan y cyflogai awtistiaeth, fod y naill yn deall anghenion y llall. Roedd astudiaeth achos yn y fan honno a oedd yn dda iawn a wnaethpwyd gan Gaerdydd a'r Fro ac rwy'n siŵr bod angen gwneud llawer mwy o waith yn y fan honno.

Ond, rwy'n credu mai fy mhrif gwestiwn mewn gwirionedd yw: pa mor integredig yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol o ran gofal iechyd darbodus a gweithredu gyda phobl sydd ag awtistiaeth yn ogystal â'r sefydliadau gwirfoddol sy'n eu cefnogi? Beth yw rhan y sector gwirfoddol wrth gyflawni'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer awtistiaeth? Sut mae'r tîm datblygu sbectrwm awtistig yn penderfynu pa grwpiau gwirfoddol y maen nhw'n gweithio gyda nhw a pha rai y maen nhw'n eu hariannu? Oherwydd nid yw Autism Spectrum Connections Cymru yn cael unrhyw arian o gwbl, er eu bod nhw yn amlwg yn cynorthwyo cannoedd o bobl.

Rydych chi'n codi pwynt diddorol. Rwy'n credu y bydd yr enghreifftiau go iawn yn adroddiad y tîm datblygu ASD cenedlaethol yn cynnwys amrywiaeth o wahanol oedrannau, o blant i rai yn eu harddegau i oedolion ac oedolion hŷn hefyd. Mae'n ymwneud â sut y maen nhw wedi cael cymorth ar wahanol adegau yn eu cyfnodau bywyd, ac mewn gwirionedd mae llawer o bobl yn byw eu bywydau heb gael diagnosis a'r cymorth posibl y gall hynny ei olygu. Mae llawer o bobl yn llwyddo i ymdopi, ond mae yn ymwneud â beth yw ymdopi sy'n dal mewn gwirionedd yn caniatáu i rywun gyflawni ei botensial. Mae yna her yn y fan yma ynghylch cael diagnosis a fydd yn anodd iddynt yn hwyrach mewn bywyd hefyd. Mae'r her o ran pa mor integredig yw'r gwasanaeth, er hyn, yn dal i ymwneud â deall anghenion y boblogaeth a deall sut y bodlonir yr anghenion hynny.

Rwy'n siŵr y bydd amrywiaeth o grwpiau trydydd sector a fydd yn darparu gwasanaethau a chymorth ac, fel erioed, mae yna her ynghylch sut y caiff y gwasanaethau hynny eu rhedeg, eu hariannu ac wedyn eu cyfeirio rhwng gwahanol bobl. Mae llawer o bobl yn y trydydd sector nad ydyn nhw'n chwilio am arian, maen nhw'n chwilio am gydnabyddiaeth o'r hyn y maen nhw'n ei wneud a'u bod nhw'n rhan o'r ateb. Ni allwn wneud sylw ar y sefydliad penodol y cyfeiriwyd ato, a'r ffaith nad ydyn nhw'n cael eu hariannu drwy'r gwasanaeth. Os ydych chi eisiau cael sgwrs benodol am hynny, byddwn i'n hapus i wneud hynny, ond dydw i ddim eisiau dechrau trafod pwynt mwy cyffredinol, oherwydd yr hyn nad ydw i eisiau yw bod yna rywsut—weithiau, pan fyddwch chi'n cyhoeddi arian o gwmpas gwasanaeth, mae fel pe bai pobl eisiau gwneud cais i'r gwasanaeth hwnnw yn hytrach na sut ydym ni'n gwneud i'r gwasanaeth cyfan weithio i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Dyna fy niddordeb pennaf i. Os ydych chi'n credu y gallai'r grŵp penodol yr oeddech yn cyfeirio ato fod yn rhan o'r ateb hwnnw, yna rwy'n hapus i gael sgwrs â chi am hynny.

15:30

Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, mae ef, wrth gwrs, yn ymwybodol o'm bwriad i i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i helpu i wella bywydau pobl sy'n byw ag awtistiaeth yng Nghymru, ac rwy'n siomedig iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad heddiw yn diystyru yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol ar hyn o bryd. Rwy'n ei annog i ailystyried ei safbwynt, oherwydd mae'n amlwg o'r ddau ymgynghoriad yr wyf i wedi eu cynnal fod yna gefnogaeth aruthrol i greu Bil, ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd ef a Llywodraeth Cymru yn ailystyried eu sefyllfa ac yn ymgysylltu drwy'r broses ddeddfwriaethol ac yn helpu i gyflawni Bil awtistiaeth y gall y sefydliad hwn a'r gymuned awtistiaeth fod yn falch ohono.

Nawr, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd mewn rhai ardaloedd, er fy mod yn credu ei bod yn amlwg bod y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cod yn cadarnhau nad yw'r strategaeth bresennol yn amlwg yn diwallu anghenion y gymuned awtistiaeth. Fe wnaeth y mwyafrif helaeth o'r gymuned awtistiaeth nodi'n glir eu bod o blaid deddfwriaeth, o ystyried eu hymatebion i'm hymgynghoriad i. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno o leiaf bod yn rhaid i farn defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru fod wrth wraidd unrhyw gyfeiriad ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth yn y dyfodol?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn glir heddiw ei fod yn bwriadu cyflwyno cod, ac, wrth gwrs, y broblem â chyflwyno cod yw y gall bob amser gael ei ddirymu, ac na ellir ei newid neu ei ddiwygio gan y Senedd hon ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'r lle hwn. Fodd bynnag, bydd fy Mil awtistiaeth arfaethedig i yn galluogi Aelodau i newid y ddeddfwriaeth drwy'r broses ddeddfwriaethol, a bydd Deddf yn sicrhau lefel o sefydlogrwydd i'r gwasanaethau a ddarperir, yn ogystal â rhoi hunaniaeth statudol i awtistiaeth. Ac felly efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y mae'n credu y bydd cod yn ymateb i'r pryderon hyn a sut y bydd cod yn cyflawni'r gwelliannau yn y gwasanaethau y mae'r gymuned awtistiaeth eisiau eu gweld.

Ac, yn olaf, Dirprwy Lywydd, o gofio nad yw'r Llywodraeth yn credu mewn cyflwyno deddfwriaeth ar hyn o bryd, a all ef gadarnhau y bydd y Llywodraeth felly yn rhoi pleidlais rydd i'w meinciau cefn pan fydd fy Mil yn teithio drwy'r broses ddeddfwriaethol, o ystyried bod rhai o'i gyd-Aelodau wedi bod yn gefnogol o roi sail statudol i wasanaethau?

Ar y pwynt olaf, unrhyw ddeddfwriaeth a ddaw drwy'r lle hwn, ni fydd y Llywodraeth, ar y cam cynnar hwn, yn trafod nac yn amlinellu sut y byddwn ni'n ceisio gweithio gydag aelodau o'n grŵp ein hunain, gydag Aelodau sy'n cefnogi'r Llywodraeth. Byddai angen i ni weld manylion unrhyw ddeddfwriaeth a ffurfio barn arni, Paul, ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny. Dydw i ddim yn meddwl y byddai pobl yn cytuno â'r ffuglen nad oes yna farn ar hynny, rywsut, ac rwy'n bod yn onest am hyn. Rydym ni wedi bod yn onest ein bod yn anghytuno ynghylch y ffordd gywir ymlaen i wella bywydau pobl ag awtistiaeth, a gallwn ni barhau i anghytuno, ond dydw i ddim eisiau nodi lefel yr anghytuno hynny na'i natur mewn modd nad yw'n onest. Dydw i ddim eisiau ceisio dweud rhywbeth yma y gwyddoch chi a mi na fyddwn i'n cytuno i'w wneud a'i gefnogi.

Rhan o'n her ni yw, y ddeddfwriaeth yn Lloegr, ni allaf weld unrhyw dystiolaeth go iawn sy'n dangos ei bod wedi arwain at welliant sylweddol a chynaliadwy mewn gwasanaethau. Ac felly rwy'n edrych i weld a fydd deddfwriaeth yn sicrhau mewn gwirionedd ac yn sicrhau y math o welliannau yr ydych chi a mi eisiau eu gweld, a'i bod yn ffordd well o wneud hynny na'r llwybr yr ydym ni wedi ei nodi gyda'r adnoddau yr ydym ni eisoes wedi'u rhoi ar gael. Rwy'n meddwl bod llawer o bobl â diffyg ffydd y bydd gwleidyddion yn cyflawni eu haddewidion ac weithiau mae hynny'n gwneud i bobl ddweud, 'Newidiwch y gyfraith a bydd hynny'n sicrhau bod gwasanaethau'n digwydd.' Mewn gwirionedd, mae hi'n dal i fod yn ofynnol i wneud amrywiaeth o wahanol benderfyniadau, ac mae hynny'n cynnwys y dewisiadau o ran y gyllideb a wnaed gennym, ac mae'n cynnwys y gwaith a wnaethom eisoes gyda gwahanol bartneriaid i ddarparu'r pedwar gwasanaeth integredig sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn a chadarnhaol i'r teuluoedd hynny yn y pedair rhan o'r wlad, yr ydym ni wedi ymrwymo i'w cyflwyno.

Ac o ran cod a'r pwynt a'r pwrpas, wel, fe wyddoch chi gystal â minnau, oherwydd rydym ni wedi cael y sgyrsiau hyn yn y gorffennol, fod y cod yn ymwneud â cheisio gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r cyfrifoldebau sydd mewn gwirionedd yn bodoli eisoes yn y statud, i wneud yn siŵr eu bod yn digwydd go iawn yn hytrach nag yn gamargraff neu dim ond yn rhywbeth a drafodir ac y cyfeirir atynt mewn darn o ddeddfwriaeth, ond nad ydynt yn cael eu gwireddu i bobl. A gwn o'm bywyd blaenorol—rwy'n gyfreithiwr sy'n adfer, ac nid yn gyfreithiwr sydd wedi cael ei lusgo 'nôl iddi, gan edrych ar fy nghydweithiwr truenus ac anffodus Jeremy Miles. Roeddwn i'n arfer bod yn gyfreithiwr, ac felly rwy'n ymwybodol iawn, wrth ymdrin â'r gyfraith, nad yw'r hawliau sydd gan bobl yn rhai go iawn os na allwch chi eu gorfodi. A beth yw ystyr hynny? Ac mae bob amser yn well helpu drwy roi cyngor i bobl fel y gallan nhw ymdrin â'u hawliau a'u cyfrifoldebau mewn modd nad yw'n ei gwneud yn ofynnol i gynnwys cyfreithwyr. Mae yna her yn y fan yna am wneud yn siŵr ei bod yn ffordd wirioneddol o weithio, a'r newid diwylliant yr ydym ni'n sôn amdano—dyna beth yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni a gwneud yn siŵr bod hynny'n arwain at wella gwasanaethau.

Ac o ran eich pwynt ynghylch a ddylai pobl fod wrth wraidd ein cyfeiriad teithio, ydi, mae hynny'n hollol iawn—fe welwch chi hynny mewn amrywiaeth o wahanol feysydd ar draws y Llywodraeth, amrywiaeth o wahanol weithgareddau. Dyna pam, yn fy natganiad cychwynnol, y dywedais yn glir fod pobl ag awtistiaeth yn ein helpu ni i ddrafftio'r cod yr ydym ni'n bwriadu ei gyflwyno. Felly, byddwn ni'n parhau i gynnwys pobl ag awtistiaeth, byddwn ni'n parhau i wrando arnyn nhw, eu profiad bywyd gwirioneddol, i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r amcanion a rennir sydd gennym. Dyna nod ac amcan y Llywodraeth hon, a bydd hynny'n parhau i'n llywio ni yn ein hymagwedd tuag at wasanaethau ac unrhyw ddadl am ddeddfwriaeth yn y dyfodol.

15:35

Mae cymaint o gwestiynau da wedi eu codi heddiw, a rhai pwyntiau da wedi eu codi. Rwy'n awyddus i ganolbwyntio ar ddau beth, mewn gwirionedd. Yn gyffredinol, mae'r Llywodraeth hon yn gwneud i bolisïau swnio'n dda—y geiriau'n llawn cyffro—ond mae'r sefyllfa wirionedd ar y rheng flaen lle mae'r frwydr boethaf ychydig yn wahanol. Roeddwn yn dymuno canolbwyntio yn gyntaf ar wasanaethau integredig awtistiaeth ac atgyfeiriadau. Oherwydd, yn Rhondda Cynon Taf, ni chafwyd dim; ym Mhowys, ni chafwyd dim; yng Nghaerdydd, 10; ac yng Ngwent, 130. Felly, y peth cyntaf yw: sut yr ydych chi'n esbonio'r gwahaniaeth hwnnw, a beth ellir ei wneud i wella pethau? Yn ail, y busnesau ymwybodol o awtistiaeth, sy'n swnio'n dda iawn ar bapur—mae'n swnio'n dda wrth wrando ar hynny yn y Siambr, ond tybed a wnewch chi amlinellu i bawb yn y Siambr, a'r cyhoedd, beth yn union sydd yn rhaid ichi ei wneud i ddod yn fusnes ymwybodol o awtistiaeth.

Rhoddir hyfforddiant a chymorth i fusnesau i fod yn ymwybodol o awtistiaeth. Byddaf yn hapus i anfon nodyn o'r adroddiad blynyddol am y busnesau sydd wedi cyflawni hynny, y rhai yr wyf wedi sôn amdanyn nhw yn fy natganiad i, a'r math o hyfforddiant y maen nhw wedi ymgymryd ag ef ar gyfer bod yn fusnesau ymwybodol o awtistiaeth. Ac, eto, bydd yn dibynnu ar natur y busnes, am y bobl hynny a'r hyn y maen nhw'n ei wneud wrth ryngweithio. Felly, byddaf yn hapus i anfon nodyn ymlaen—

Byddaf yn hapus i anfon nodyn am hynny, yn hytrach na mynd i ffraeo am fater pwysig ledled y Siambr. Ac nid wyf yn cydnabod yn hollol y ffigurau yr ydych wedi'u dyfynnu ar weithgarwch gwasanaethau awtistiaeth integredig. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, fe welwch chi natur ac amrywiaeth y gwahanol weithgareddau a wna pob un o'r gwasanaethau integredig hynny. Ac felly, ym mhob maes, fe welwch chi bobl yn mynd i mewn i'r gwasanaeth, yn cael eu cefnogi, ac yn cyflawni gwahanol ganlyniadau. Rwyf mewn penbleth braidd o ran y ffigurau a roddwyd ganddo. Os hoffai ysgrifennu ataf, gan nodi ymhle y cafodd y ffigurau hynny, byddwn yn hapus i ymateb iddo a gwneud yn siŵr fod yna lefel o flaenoriaeth o ran hynny hefyd.

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid—Cymru, Cenedl sy'n Noddfa

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan arweinydd y tŷ, 'Wythnos Ffoaduriaid—Cymru, Cenedl Noddfa'. Ac rwy'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos hon, dathliad o gyfraniad  ffoaduriaid i'n cymdeithas, a digwyddiad i annog dealltwriaeth well rhwng cymunedau.  Mae'n ugain mlynedd eleni ers ei lansio, ac mae trefnwyr Wythnos Ffoaduriaid yn gofyn i bobl gymryd rhan drwy gyflawni un weithred syml i gefnogi ffoaduriaid. Gall hyn fod mor syml â chael sgwrs gyda chymydog sy'n ceisio noddfa, neu ddysgu ychydig eiriau o iaith gwlad y ffoadur. Gallai pob un ohonom yma yn y Siambr hon wneud un peth pwysig, syml iawn, a hynny yw dangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru drwy groesawu'r cysyniad o Gymru fel cenedl noddfa.

Rwy'n gobeithio bod rhai ohonoch wedi clywed y rhyfeddol Oasis World Choir cyn y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae'r côr yn cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bedwar ban byd, ac maen nhw wedi dod yma heddiw fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid. Roedd rhai ohonyn nhw yn yr oriel yn gynharach—rwy'n amau nad ydyn nhw erbyn hyn. Ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn awyddus i ymuno â mi i'w croesawu nhw yma i'r Senedd.

Cafodd 'Cenedl Noddfa–Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru ei ddatblygu wrth ymateb i argymhellion a wnaed gan adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb, a Llywodraeth Leol '"Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun": Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru'. Mae'r cynllun allan ar gyfer ymgynghoriad ar hyn o bryd. Cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau cymorth i ffoaduriaid, sefydliadau yn y sector cyhoeddus, ac, yn bwysicaf oll, y ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid eu hunain. Rydym yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru i gynorthwyo pobl sy'n chwilio am noddfa i ailadeiladu eu bywydau a chyflawni eu posibiliadau.

Mae Cymru yn genedl groesawgar. Mae'n amlwg ar unwaith, o siarad â phobl sy'n ceisio lloches a'r rhai sy'n eu cefnogi, fod y rhan fwyaf o ffoaduriaid sy'n dod i Gymru yn hynod ddiolchgar am y cymorth a gânt yma. Gallwn fod yn falch o'r ffaith honno. Serch hynny, mae gennym lawer i'w wneud eto i sicrhau y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches integreiddio yn effeithiol ac ailadeiladu eu bywydau. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac amddiffyn hawliau dynol. Credwn y dylid trin pob unigolyn yn deg, yn enwedig y rhai sydd fwyaf ar yr ymylon ac sy'n cael yr anhawster mwyaf i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylid dechrau integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches y diwrnod y byddan nhw'n cyrraedd. Mae'r dull hwn yn hanfodol ar gyfer sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i unigolion a chymunedau. Gwyddom fod cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i ddyfodiaid ddysgu Cymraeg neu Saesneg—neu'r ddwy iaith, o gofio bod llawer o ffoaduriaid yn meddu ar sgiliau iaith rhagorol—ac rydym yn awyddus i'w cefnogi i wneud hyn. Byddai cefnogi cynlluniau gwirfoddoli ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cyfrannu at y gymdeithas Gymreig gan hefyd gefnogi dysgu iaith, adfer iechyd meddwl a gwella cyflogadwyedd unigolion. Rydym yn anelu at ddull cyfannol, lle mae'r camau yn y cynllun yn ategu ei gilydd i gyflawni newid cadarnhaol cyffredinol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Mae'n bwysig pwysleisio nad yw integreiddio pobl sy'n ceisio lloches yn golygu proses unochrog o roi. Daw ffoaduriaid â chyfoeth o brofiad ac ystod o sgiliau a galluoedd i Gymru. Mae'r GIG yng Nghymru wedi elwa ar Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Caiff hwn ei ddarparu gan Ddeoniaeth Cymru a Displaced People in Action, sy'n cefnogi meddygon sy'n ffoaduriaid i gael cydnabyddiaeth o'u cymwysterau meddygol presennol a dod o hyd i gyflogaeth yn y GIG. Amcangyfrifir fod y cynllun wedi arbed o leiaf £25 miliwn i drethdalwyr dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi rhoi'r gallu i ffoaduriaid ddefnyddio eu sgiliau i dalu'n ôl i Gymru, ac arbed bywydau dirifedi hefyd.

Y Swyddfa Gartref yn unig a all ddatrys rhai o'r materion a godwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor  Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn 2017. Nid yw'n gyfrinach ein bod yn teimlo'n rhwystredig yn aml yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU o ran materion lloches a mudo. Ond mae'n rhaid inni dderbyn nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli i Gymru. Serch hynny, rydym wedi cymell y dylid cynyddu'r cymorth ariannol i geiswyr lloches sy'n aros am benderfyniadau, rhoi arian ychwanegol i awdurdodau lleol sy'n cynorthwyo ceiswyr lloches yn eu bro, a safonau gwell o lety lloches, ymysg pethau eraill. Yn anffodus, a dweud y lleiaf, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi ymgorffori ein hargymhellion wrth ddylunio eu contractau llety lloches sydd ar y gweill nac ychwaith wedi cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol i'r system lloches. Byddwn yn gwneud cymaint ag y gallwn i liniaru effeithiau negyddol polisïau Llywodraeth y DU ar integreiddio yn y gymuned yng Nghymru a byddwn yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda'r Swyddfa Gartref i nodi a chodi pryderon lle byddant yn dod i'r amlwg.

Mae ein cynllun cenedl noddfa yn canolbwyntio ar gynigion o fewn y meysydd datganoledig hynny y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu arnynt. Mae'r cynllun yn amlinellu ehangder y gwaith yr ydym yn ymgymryd ag ef i sicrhau lleihad yn yr anghydraddoldebau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cynnydd yn y cyfleoedd a ddaw i'w rhan, a bod cysylltiadau rhwng y cymunedau hyn a'r gymdeithas ehangach yn gwella.

Rydym wedi blaenoriaethu'r materion allweddol y soniodd ffoaduriaid a cheiswyr lloches amdanynt wrthym yn ystod y gwaith paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gall unigolion gael gwybodaeth a chyngor i'w helpu i ymsefydlu yn eu hamgylchoedd newydd, cefnogi cyfleoedd i ddysgu'r iaith a dod o hyd i gyflogaeth, dod o hyd i ffyrdd o osgoi amddifadedd, a gwella mynediad i wasanaethau iechyd.

Wrth ddatblygu'r camau, rydym wedi ceisio rhwystro'r problemau mwyaf niweidiol y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu profi yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys digartrefedd, cyflyrau iechyd meddwl, llety llwm a'r perygl o amddifadedd. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd calonogol yn rhai o'r meysydd hyn eisoes ond mae llawer o waith i'w wneud eto i wella canlyniadau.

Rydym yn parhau i ystyried gwelliannau er mwyn cefnogi'r rhai sy'n ceisio lloches, gan gynnwys edrych ar ymestyn cymhwysedd am grantiau addysg a thrafnidiaeth ratach i geiswyr lloches. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth a sensitif, a gallai rhuthro i ymestyn cymhwysedd arwain at ganlyniadau anfwriadol ar gyfer ceisiadau am loches. Mae angen hefyd i Lywodraeth y DU gydnabod ein hawydd i sicrhau y gall pob aelod o gymdeithas Cymru integreiddio, a chytuno i beidio â thanseilio'r bwriad hwn drwy roi ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru ar restr yr arian cyhoeddus gwaharddedig yn y rheolau mewnfudo . Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o ymestyn hawliau er budd integreiddio cymunedol a lles personol. Ond mae angen inni weithio drwy broblemau posibl yn ofalus i sicrhau ein bod yn gwneud pethau yn well ar gyfer pobl mewn perygl o amddifadedd ac nid yn waeth.

Rydym yn parhau i weithio i roi ein cefnogaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Er na ofynnwyd inni yn y pen draw gan Lywodraeth y DU i groesawu cymaint o blant i Gymru dan y cynllun Dubs ag yr oeddem wedi cynllunio ar eu cyfer, rydym wedi gallu cynnig diogelwch a dechrau newydd i nifer fechan ac rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw yn eu bywydau yma. Ynghyd â'r Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ac â'n Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, rydym wedi ceisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU yn rheolaidd ar ystod o faterion sy'n ymwneud â'r plant hyn. Nid yw'r ymatebion a gawsom wedi bod mor gadarnhaol, rhagweithiol nac mor ddefnyddiol ag y byddem wedi eu dymuno, mae'n ddrwg gennyf ddweud, Dirprwy Lywydd. Er hynny, rydym wedi gwneud cynnydd ar y camau gweithredu a argymhellwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o ran y plant hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Fel y soniais, mae'r cynllun cenedl noddfa yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a bydd y cynllun yn parhau i gael ei ddatblygu a'i ddiwygio i adlewyrchu'r ymatebion a'r awgrymiadau a geir pan ddaw'r cyfnod ymgynghori i ben ddydd Llun nesaf, 25 Mehefin. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu y byddwn yn ceisio'u cymryd yng ngweddill y tymor Cynulliad hwn. Felly, mae'n llunio rhan bwysig o'r nod hirdymor o gael Cymru yn genedl noddfa wirioneddol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Ceir stondin Wythnos Ffoaduriaid yn yr Oriel yr wythnos hon, gan gynnwys ffilm newydd a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, a chyfle i'r cyhoedd ddatgan pa weithred syml y gallant ei chyflawni i gefnogi pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny gyda'i gilydd amser cinio heddiw, Dirprwy Lywydd. Rwy'n eich annog chi i ymweld â'r stondin a chynnwys eich gweithred eich hun. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r Oasis World Choir a ddaeth yma heddiw i ganu i ni. Gadewch inni ddangos iddynt sut y gall democratiaeth weithio er budd holl drigolion y genedl, a bod Cymru, y genedl fechan, yn gwneud llawer mwy na'r disgwyl o ran rhoi noddfa i bobl. Diolch.

15:45

Diolch yn fawr am eich datganiad yn ystod Wythnos Ffoaduriaid. Nid wyf i'n credu y cewch unrhyw anghytundeb gwirioneddol â'r wybodaeth a'r teimladau a fynegwyd gennych. Rydych yn dweud y dylai pob un ohonom yn y Siambr yma wneud un peth syml i ddangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy gofleidio'r cysyniad o Gymru yn Genedl Noddfa. Rwy'n falch i mi wneud yn siŵr fod hynny yn ymrwymiad ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru 2016 ac, fel y cofiwch efallai, i mi noddi a chroesawu'r Noddfa yn y digwyddiad yn y Senedd tua diwedd 2016 yn unol â hynny.

Roeddech yn cyfeirio at gefnogaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Pan gawsom ddatganiad ym mis Tachwedd 2016, dyna'r adeg y clywsom fod y gwersyll jyngl ofnadwy yn Calais yn cael ei gau, a bod Llywodraethau Prydain a Ffrainc yn cofrestru plant ar eu pennau eu hunain a oedd yn gobeithio ymuno â pherthnasau yn y DU. Gofynnais bryd hynny a oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw arwydd fod y ffigurau a roddwyd yn iawn, neu faint o'r plant hynny oedd wedi dod, neu oedd ar fin dod i Gymru. Rwy'n gofyn tybed a oes gennych unrhyw wybodaeth ddiweddarach erbyn hyn, 18 mis yn ddiweddarach, ynghylch a gyrhaeddodd y plant hynny yma—a faint ohonyn nhw—, a pha gymorth penodol a gawsant.

Rydych yn cyfeirio at integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Eto, efallai y byddwch yn ymwybodol fy mod i yn gynnar fis diwethaf wedi croesawu digwyddiad i'r Cynulliad o'r enw 'Gadewch inni integreiddio gyda cherddoriaeth a chelfyddyd', a gynhaliwyd gan Gymdeithas Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio Amlddiwylliannol, yr wyf yn llywydd anrhydeddus ohoni, a KIRAN a leolir yng Nghwmbrân, sef y Knowledge-based Intercommunity Relationship and Awareness Network, a ddaeth i fodolaeth, yn ôl y sôn, am fod angen cael cymuned ymgysylltiedig lle mae gan aelodau wybodaeth o wahanol gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol. Bythefnos yn unig yn ôl, fe wnes i gyfarfod â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio Amlddiwylliannol a'r elusen CAIS, sydd yn gweithio gyda'i gilydd i gael gwared ar y rhwystrau a chynyddu'r ddealltwriaeth o ddiwylliannau eraill. Felly, o ran cefnogi'r neges integreiddio, sut ydych yn ymgysylltu â'r sefydliadau arloesol hyn sydd yn gwneud eu rhan ac yn gynyddol yn adeiladu rhwydwaith cydgysylltiedig i gyfleu'r neges integreiddio honno yn ymarferol yn ein cymunedau, ar ein strydoedd ac yn ein hardaloedd gwledig hefyd ledled Cymru?

Yn drist iawn, fel y gwyddoch, mae rhai ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn mynd yn ysglyfaeth i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Gwn fy mod yn gwyro ychydig oddi wrth y mater wrth law yn y fan hon, ond mae yna nifer o elusennau sy'n gweithio eto yn y maes hwn, gan gynnwys Hafan y Golau yn y Gogledd, yn cynnal fforwm caethwasiaeth fodern ar 12 o fis Hydref. Felly, o ran yr agenda hon, sut ydych yn ymgysylltu nid yn unig gyda'r Comisiynydd ond gydag asiantaethau eraill, statudol a thrydydd sector, i gydweithio ar faterion penodol ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n ymwneud â'r grŵp hwn o ddioddefwyr?

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â derbyn ffoaduriaid. Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd ar gyfer ffoaduriaid yn ymgartrefu yng Nghymru y llynedd yn dangos mai Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot oedd yr unig gynghorau na wnaethant dderbyn unrhyw ffoaduriaid, yn y ffigurau a gafwyd ganddynt. Sir Gaerfyrddin oedd yr uchaf gyda 51, ac Abertawe gyda 33. Yn y Gogledd, roedd gan Sir Ddinbych 21, ond roedd hyn yn disgyn i bump yn Sir y Fflint a dim ond dau yng Nghonwy. Felly, sut ydych chi'n helpu awdurdodau lleol i sefydlu'r ddealltwriaeth a'r ymwybyddiaeth o'r màs critigol a'r ewyllys i sicrhau, efallai, ddosbarthiad gwell fel y gall yr arweiniad a roddwyd yn un rhan o Gymru gael ei atgynhyrchu mewn mannau eraill? Diolch ichi.

15:50

Diolch ichi am y gyfres yna o gwestiynau. Nid yw'r union nifer gennyf yma, felly byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod am union nifer y plant a oedd dan y cynllun Dubs. Ond cafwyd rhai materion difrifol ynglŷn â pham nad oeddem yn gallu cymryd cymaint ag y byddem yn ei hoffi a gwnaf yn siŵr y bydd yr Aelod yn cael neges am yr union rif.

Rydym wedi gweithio'n hynod o galed i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i sicrhau bod gennym gyfres mor integredig â phosibl o ymatebion. Rydym wedi cyflawni ar argymhelliad ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i hyfforddi gweithwyr cymdeithasol, er enghraifft, i asesu oedran plant a phobl ifanc. Ac, yn gynharach eleni, cynhaliwyd pum sesiwn ledled Cymru a chafodd bron i 100 o weithwyr cymdeithasol ac eiriolwyr eu hyfforddi. Roedd pecyn cymorth yn cyd-fynd â'r hyfforddiant, sydd wedi cael ei ddiwygio ac a gyhoeddir yn fuan, o ganlyniad i'n hymgysylltu â rhanddeiliaid wrth inni weithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod gennym ymateb sydd mor gydgysylltiedig â phosib.

Rydym yn gweithio'n galed iawn hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn integreiddio gan ddysgu o'r cynllun gweithredu caethwasiaeth fodern. Wrth gwrs, mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cael cydlynydd ar gaethwasiaeth fodern, ac mae gennym ein cyd-drefnwyr rhanbarthol yn gweithio'n galed hefyd i sicrhau bod gennym gynllun rhanddeiliaid mor gyfoes ag y bo modd. Ond ar ddiwedd y dydd, nid yw polisi ymfudo a lloches wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae llawer o'r atebion i lawer o'r anawsterau a wynebir gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'w cael gan y Swyddfa Gartref. Y broblem wirioneddol i ni yw sut i leihau effaith a chyffredinolrwydd yr achosion o amddifadedd, y system les nad yw'n ddatganoledig a'r penderfyniadau ar loches a chymhwysedd ar gyfer ariannu, sydd i gyd yn ffactorau gwirioneddol ddylanwadol ar y rhai sy'n byw yn y sefyllfa hon.

Cawsom ein siomi'n fawr gan y diffyg cydweithrediad ar y contract newydd ar gyfer llety, er enghraifft. Yn ddiweddar iawn, rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU unwaith eto, ynghyd â'r Alban, oherwydd nid yw Llywodraeth y DU wedi dymuno inni sefydlu panel o arbenigwyr i'n helpu i lywio penderfyniadau ar y strategaeth llety, Dirprwy Lywydd. Felly, rydym yn siomedig iawn â hynny oherwydd ein bod yn credu nad y ffordd gywir ymlaen, mae'n amlwg, yw dweud ei bod yn fasnachol gyfrinachol. Un o'r problemau mawr gydag integreiddio yw sicrhau bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cael eu rhoi mewn llety yn y cymunedau cywir gyda chymorth priodol o'u cwmpas.

Fe wnaeth yr Aelod ofyn pam mae'r ystadegau a ddyfynnwyd ganddo yn anghyson, ond, wrth gwrs, nid ydynt yn ystadegau cyfredol. Mae Castell-nedd Port Talbot, er enghraifft, wedi cymryd nifer fawr o bobl yn y gorffennol. A  cheir materion ynglŷn â chyllido hefyd, oherwydd dim ond tua 55 y cant o'r cyllid sydd ar gael ac mae problem fawr gyda fformiwla Barnett a'r ffordd y mae rhai o'r cynlluniau wedi'u rhoi at ei gilydd fel na all Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon gael gafael ar rywfaint o'r arian sydd ar gael. Felly, rydym wedi gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn sylweddoli bod cyfosod amryw o bolisïau weithiau yn golygu canlyniadau anfwriadol i bobl yn y categori hwn.

Mae’r nod o greu cenedl noddfa yng Nghymru yn un y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi, wrth gwrs, ac yn ei gefnogi yn llwyr ac yn ymgyrchu drosto, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cydnabod bod yna nifer o rwystrau’n bodoli wrth geisio gwireddu’r uchelgais. Mae llawer o’r rhwystrau hyn yn deillio o’r ffordd y mae’r drafodaeth gyhoeddus ar fudo wedi cael ei llywio—yn rhy aml, rhagfarn, camwybodaeth a chanfyddiadau anghywir sydd yn llywio’r ddeialog. Mae’n rhaid i unrhyw gynllun i integreiddio ceiswyr lloched a ffoaduriaid, ac i greu cenedl noddfa, gydnabod hynny a cheisio creu’r newid diwylliannol yn ogystal â’r newid gwleidyddol. Felly, a fedrwch chi amlinellu beth y mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i gywiro’r rhagfarn a’r canfyddiadau anghywir?

Mae’r datganiad heddiw yn cydnabod bod llawer o’r problemau sy’n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dod o ganlyniad i faterion sy’n deillio o’r Swyddfa Gartref. Er enghraifft, rŷm ni’n gwybod bod fisas wedi cael eu gwrthod i dros 2,000 o ddoctoriaid yn unol â pholisi mudo’r Deyrnas Unedig. Yn anffodus, mae’ch plaid chi wedi gwrthod caniatáu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fisas yn seiliedig ar anghenion gweithlu Cymru. O gofio’r angen dybryd am ddoctoriaid, a ydych chi’n fodlon ailystyried y safbwynt yma?

Mae’r newidiadau i fudd-daliadau a chyflwyno credyd cynhwysol yn cael effaith pellgyrhaeddol ar fywydau ffoaduriaid. Mae’r Welsh Refugee Coalition yn dweud bod eisiau ceisio ffyrdd i liniaru effeithiau negyddol diwygio lles ar ffoaduriaid, yn ogystal â monitro hynny. Mi fyddwch yn gwybod—rydych chi wedi fy nghlywed sawl gwaith yn dadlau—y byddai datganoli elfennau o weinyddu’r gyfundrefn les yn ein galluogi ni yng Nghymru i liniaru rhai elfennau ac i greu diwylliant mwy dyngarol. Felly, a gaf i ofyn ichi eto i edrych yn ofalus ar y posibiliadau a dysgu gwersi gan yr Alban? Rydw i'n credu y byddai ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwerthfawrogi ymrwymiad gan eich Llywodraeth chi heddiw i ystyried, o leiaf, y posibilrwydd ac i ddod ag adroddiad llawn gerbron y Cynulliad sydd yn edrych yn fanwl ar y manteision a'r anfanteision. Nid ydym ni wedi cael y dadansoddiad trwyadl yna cyn belled, ac rydw i'n meddwl y byddai fo'n fuddiol iawn i gael hynny.

Mae eich datganiad yn sôn am lety ar gyfer ffoaduriaid, ac ar hyn o bryd mae'r Swyddfa Gartref wrthi'n penderfynu pa ddarparwr preifat fydd yn darparu llety i geiswyr lloches yng Nghymru ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. A fedrwch chi amlinellu beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod safon y llety yn cael ei wella, a bod y darparwr ei hun yn cael ei ddal yn gwbl atebol ar gyfer cyfnod y cytundeb yn ei gyfanrwydd? Rydym ni'n gwybod bod digartrefedd, yn anffodus, yn broblem fawr ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a'r wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Crisis ei gynllun uchelgeisiol i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y Deyrnas Unedig. Mae rhan o'r cynllun yn sôn am fudwyr a'r newidiadau deddfwriaethol penodol sydd eu hangen. A fedrwch chi ymrwymo i edrych yn fanwl ar argymhellion Crisis gan lobïo am y newidiadau y maen nhw am eu gweld yn yr ardaloedd sydd ddim wedi eu datganoli?

Ac yn olaf, rydw i eisiau trafod dileu'r grant MEAG i awdurdodau lleol—y grant pwysig yma, y grant addysg cyflawni ar gyfer lleiafrifoedd ethnig. Mae hwn yn hanfodol i sicrhau bod sgiliau iaith yn cael eu dysgu mewn ffordd briodol i blant sydd ddim yn siarad Cymraeg na Saesneg, ond mae diflaniad y grant yma am ei gwneud hi'n anodd iawn i blant ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu dwy iaith ein gwlad ni. Felly, fy nghwestiwn i ydy: onid oes angen atgyfodi'r MEAG? Wedi'r cyfan, mae sgiliau iaith yn hanfodol er mwyn integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn llawn yn ein cenedl noddfa, a hynny, yn y pen draw, ydy'r ffordd orau o ddileu rhagfarn a bod yn groesawgar yng ngwir ystyr y gair.

15:55

Diolch ichi am hynna. Mae amrywiaeth o wahanol faterion wedi'u codi yn y fan honno. Yn amlwg, holl ddiben Wythnos Ffoaduriaid yw brwydro yn erbyn rhai o sylwadau’r cyfryngau. Cytunaf yn llwyr â Siân Gwenllian mai rhan fawr o'r broblem fu peth o'r—ni wn sut i'w ddisgrifio—hysteria a'r ormodiaith. Adroddiadau niweidiol iawn ydyn nhw, a chwbl anghywir, fel arfer. Credaf fy mod yn barod i ddweud eu bod yn hollol anghywir, yn y rhan fwyaf o achosion, ynglŷn â'r canfyddiadau am geiswyr lloches a ffoaduriaid. Mewn gwirionedd, mae arolygon barn dro ar ôl tro wedi dangos nad yw llawer o'r cyhoedd yn deall y gwahaniaeth rhwng ystyr y geiriau 'mudwr', 'ceisiwr lloches', 'ffoadur' ac ati, sy'n dangos ynddo'i hun beth o'r hysteria sydd wedi bod o amgylch y sefyllfa hon, a cheir dadl ehangach ynglŷn â holl fater ymfudo yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Ond beth bynnag, dyna holl bwynt yr wythnos hon, mewn gwirionedd, a dyna pam rydym ni'n cael y datganiad hwn a pham rydym ni'n tynnu sylw ato. Oherwydd, Dirprwy Lywydd, rydym yn wir yn dymuno tynnu sylw at fanteision enfawr y bobl sydd, wedi'r cyfan, yn ffoi rhag yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy—bod y sgiliau a'r doniau y maen nhw'n eu rhoi i'n cymdeithas â'n diwylliant yn cael eu canmol a'u cydnabod. Dyna hollol ddiben hyn, a chytunaf â hi ar hynny.

Fel y dywedais, mae gennym raglen i gydnabod cymwysterau meddygon. Rwy'n gadeirydd y fforwm ffydd yma yng Nghymru ar ran y Prif Weinidog—ef yw'r cadeirydd ac rwyf innau'n gyd-gadeirydd, ac, yn aml, fi yw'r cadeirydd yn ymarferol. Cawsom ddadl fywiog iawn ar sut y gellid ymestyn y rhaglen honno allan i glinigwyr iechyd eraill, ac, mewn gwirionedd, i'r holl geiswyr lloches a'r ffoaduriaid sydd â chymwysterau proffesiynol y mae eu hangen ar ein gwlad. A beth bynnag, rydym yn awyddus i alluogi pobl i ddefnyddio'u sgiliau i'r eithaf. Nid wyf yn cytuno y dylem fod yn ceisio rheoli polisi mewnfudo ac ymestyn fisâu, ond rwyf yn cytuno y dylem fod yn pwyso ar y DU—rydym wedi gwneud hyn yn llwyddiannus iawn—o ran peidio â chael polisïau chwerthinllyd ynglŷn â chyfyngu ar fudo—heb sôn am geiswyr lloches a ffoaduriaid—pobl sydd â'r sgiliau hanfodol ar gyfer ein GIG a meysydd eraill ein heconomi. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.

O ran gweinyddu'r wladwriaeth les, Dirprwy Lywydd, mae arnaf ofn eich bod yn mynd i dorri ar fy nhraws cyn i mi orffen os dechreuaf fynd drwy'r holl ddadleuon manwl ar hynny. Ond mae'n ddigon i mi ddweud nad ydym yn argyhoeddedig y gallwn liniaru peth o'r effeithiau gwaethaf yn y system les drwy ei gweinyddu ychydig yn wahanol. Byddwn yn edrych yn fanwl ar yr adroddiad argyfwng, ond rydym cydweithredu'n llwyddiannus iawn gyda'r Rhaglen Hawliau Lloches, a gyflwynodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru mewn consortia, sy'n cynnwys Tros Gynnal Plant, dwyrain BAWSO, Asylum Justice, Dinas Noddfa, a phrosiect Displaced People in Action. Felly, mae gennym ni ddarn cydlynol a da ledled Cymru, sydd wedi gweld, gobeithio, benllanw'r cynllun da iawn hwn mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor. Ac rwy'n atgoffa pawb yng Nghymru, Dirprwy Lywydd, y daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Llun nesaf.

16:00

Arweinydd y Tŷ, o ran adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r ymatebion a wnaeth Llywodraeth Cymru, tybed a wnewch chi roi mwy o fanylion a sicrwydd o ran rhai materion.

Yn gyntaf, y cynllun cydlyniant cymunedol: yr ymateb gan Lywodraeth Cymru oedd y byddai hwnnw'n cael ei gyhoeddi yn yr haf 2017 ac y byddai'n cynnwys camau gweithredu arbennig o ran naratif mwy cadarnhaol ynglŷn â ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi setlo yma yng Nghymru. Felly, o ystyried ei bod yn haf 2017 a'r ffaith nad yw wedi'i gyhoeddi eto, tybed a wnewch chi ddweud wrthyf i pryd y caiff ei gyhoeddi a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi sylw i'r angen hwnnw am naratif mwy cadarnhaol yma yng Nghymru.

Ac o ran y gwasanaeth gwarcheidiaeth, gwn fod ymgynghoriad ar hyn o bryd ar weithredu i archwilio barn ar sefydlu gwasanaeth o'r fath. Eto, tybed beth yw amserlen y gwaith hwnnw, a pha bryd fydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i egluro a fydd cynllun o'r fath.

Ar lety, arweinydd y tŷ, roedd llawer o bryder ynghylch gwiriadau hawl i rentu, y gwn eich bod yn teimlo i'r byw yn ei gylch, a'r ffaith y gallai hynny arwain at wahaniaethu. Rydym yn galw am asesiad ar unwaith o effaith Deddf Mewnfudo y DU, ac, yn wir, cafodd yr angen am yr asesiad hwnnw ei dderbyn. Felly tybed a ddigwyddodd hynny, ac os na, pa bryd fydd yn digwydd, a hefyd pa bryd y disgwylir cyflwyno gwiriadau hawl i rentu yma yng Nghymru, gan nad ydym yn ymwybodol o hynny eto.

Dim ond dau fater terfynol yn gyflym, Dirprwy Lywydd —

Yn gyflym iawn. Nid yw'r cynllun ymgynghori drafft bob amser yn cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni, felly tybed a fydd gan y cynllun terfynol ddyddiadau clir ar gyfer cyflawni pob cam gweithredu, ac a fydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu i'r ymrwymiadau a wnaed yn y cynllun gweithredu drafft. Diolch.

Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd yn y flwyddyn ddiwethaf, ond rydym yn rhwystredig iawn, fel y dywedais ynghynt: Llywodraeth y DU yn gwrthod rhannu manylion y contractau—y contractau cefnogi llety lloches sydd ar y gweill—oherwydd, fel y mynegodd John Griffiths yn hollol gywir, mae'r system llety yn hanfodol i sicrhau lles y rhai sy'n hawlio lloches. Ac, wrth gwrs, bydd y system yn effeithio yn anochel ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a cheiswyr lloches sy'n byw yma oherwydd yr holl faterion sy'n codi o ganlyniad i hynny, gan gynnwys iechyd meddwl gwael, integreiddio gwael ac ati. Rydym wedi gwneud nifer o ymdrechion i gael golwg ar y contractau, ond nid ydym wedi bod yn llwyddiannus. Nid yw hynny'n golygu ein bod wedi rhoi'r ffidil yn y to, rydym yn parhau i bwyso'n gryf iawn ar hynny.

Rydym hefyd wedi codi nifer o argymhellion y Pwyllgor gyda Llywodraeth y DU lle mae'r cyfrifoldeb yn llwyr, neu'n rhannol, gyda nhw. A bydd yna rai gwelliannau yn y dyfodol: mae hynny'n cynnwys hyfforddiant cydraddoldeb i ddarparwyr llety lloches ac rydym ni'n falch iawn o weld hynny'n cael ei gynnwys; proses gwyno sy'n annibynnol ar y darparwr llety; a rhywfaint o gyngor ychwanegol mewn cyfnod o symud ymlaen ar gyfer ffoaduriaid newydd. Ond nid ydym wedi llwyddo ym mhob un o'r meysydd, fel y dywedais sawl gwaith.

Felly, gan hynny, rydym yn ystyried sut y gallwn leihau effaith ac amlder amddifadedd mewn system les heb ei datganoli. Rydym wedi cymryd peth amser i ddatblygu'r cynllun newydd, fel y nododd John Griffiths, i sicrhau ein bod yn cyd-gynhyrchu cynllun gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi, i sicrhau y bydd y cynllun mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant. Rwy'n amharod i ymrwymo i amserlen bendant iawn, ond deallaf fod hynny wedi mynd yn dda iawn, ac rydym yn gobeithio cyhoeddi rhywbeth yn weddol fuan. Mae'n bwysig iawn fod y cynllun hwnnw yn golygu rhywbeth i'r sefydliadau sy'n cyfrannu ato. Nid wyf yn dymuno torri'r broses honno'n fyr; credaf fod hynny'n bwysig iawn. Ac, wrth gwrs, byddem yn awyddus i weld canlyniadau realistig a dylanwadol. Felly, byddaf yn sicrhau bod y rheini yn bodoli, ac rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor yn cymryd diddordeb manwl iawn yn hynny o beth. Rwy'n hapus iawn i drafod hynny gyda'r Pwyllgor, wrth inni fynd yn ein blaenau.

Y peth olaf yr oeddwn yn dymuno'i ddweud yw ein bod wedi ariannu cyfres o grwpiau ffocws gyda phlant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain er mwyn deall mwy am eu safbwyntiau a'u profiadau o'r gwasanaethau a gawsant. Bydd yr adroddiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi'n fuan hefyd a bydd yn helpu i lywio ein gwaith i'r dyfodol, gan gynnwys y gwaith ar y cynllun. Felly, rydym yn gobeithio gweithio'n agos iawn gyda'r pwyllgor yn y dyfodol.

16:05

Mae gan Brydain draddodiad balch o groesawu ffoaduriaid, o'r Huguenotiaid yn yr ail ganrif ar bymtheg hyd at Asiaid Uganda yn y 1970au. Dylem—yn wir, mae'n rhaid inni—gadw at y traddodiad hwnnw. Y broblem sydd gennym heddiw yw bod y gwahaniaeth rhwng ceiswyr lloches gwirioneddol a mudwyr economaidd wedi mynd yn aneglur. Mae hyn yn arbennig o wir am y cyhoedd. Felly ceir adlach annheg yn erbyn ffoaduriaid gwirioneddol, er enghraifft y rhai sy'n dianc rhag rhyfel yn Syria, y mae gennym rwymedigaeth foesol enfawr i dderbyn ein cyfran deg ohonynt, gan inni ganiatáu ein hunain i gymryd rhan yn y gwrthryfel yn erbyn Assad. Ac er na fyddem, wrth gwrs, yn amddiffyn ei fath ef o drefn, daeth yn amlwg fod unrhyw fath o drefn yn well na chyflafan a distryw diatal a gododd yn sgil cyfranogiad y gorllewin mewn gwlad arall eto yn y dwyrain canol.

Am gannoedd o flynyddoedd, rydym wedi derbyn ffoaduriaid, ond degau o filoedd y flwyddyn oedd niferoedd y rhain. Rhoddwyd llety i'r bobl hyn a'u hintegreiddio yn ein cymdeithas yn hawdd. Mae Asiaid Uganda yn enghraifft wych o hyn. Er hynny, dros y degawd diwethaf, rydym wedi wynebu'r dasg o letya cannoedd o filoedd bob blwyddyn, sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar ein gallu i ddarparu holl seilwaith ac anghenion cymdeithasol y bobl hyn, sydd eto yn effeithio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf dybryd am ein cymorth. Nid pryder yn y Deyrnas Unedig yn unig yw hyn. Teimlir aflonyddwch cymdeithasol a straen economaidd ledled Ewrop yn wyneb lefelau o ymfudo nas gwelwyd o'r blaen. Mae'r anallu i wahaniaethu rhwng ceiswyr lloches gwirioneddol a mudwyr economaidd yn peri aflonyddwch a gwrthwynebiad mewn gwledydd fel yr Almaen, yr Eidal, Gwlad Belg a Sbaen.

Mae'n rhaid bod gennym, felly, reolaethau ffin priodol fel y gallwn asesu'r rhai hynny sydd ag angen dybryd a phriodol am loches, ond gyda rheolaethau llymach ar y rhai sy'n dod yma am resymau economaidd. Wrth gwrs mae UKIP yn cefnogi'r holl fesurau a gynigir yn y datganiad hwn. Rydym yn cydnabod y trawma a brofodd llawer o'r bobl hyn sydd wedi'u dadleoli, ac rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu ymyriadau i helpu i roi croeso i'r bobl hyn, a chysur ac integreiddiad llawn yn ein cymdeithas yng Nghymru. Felly, dim ond un cwestiwn sydd gennyf i chi, arweinydd y tŷ, sef: pa waith sy'n cael ei wneud i wahaniaethu rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid a mudwyr economaidd ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol?

Wel, rwy'n falch eich bod yn cefnogi'r egwyddor, ond rwy'n anghytuno yn sylfaenol gyda'ch dadl chi, mae'n rhaid imi ddweud. Dechreuodd Wythnos Ffoaduriaid, fel y dywedais, yn y DU ym 1998 yn ymateb uniongyrchol i elyniaeth yn y cyfryngau ac yn y gymdeithas gyffredinol tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Erbyn hyn, mae'n un o fentrau mwyaf blaenllaw y DU sy'n gweithio i wrthsefyll yr hinsawdd negyddol hon, fel y dywedais wrth Siân Gwenllian ynghynt, sy'n amddiffyn pwysigrwydd noddfa a'r manteision a ddaw i ffoaduriaid a'r cymunedau lletyol fel ei gilydd, ac fe gaiff ei dathlu'n eang mewn llawer gwlad arall—Awstralia a'r Unol Daleithiau, er enghraifft, a Ffrainc, a gynhaliodd eu Hwythnos Ffoaduriaid gyntaf yn 2016. Felly mae'n stori o newyddion da sy'n lledaenu.

Ond nid wyf i'n hoffi—. Wel, yn gyntaf oll, nid yw'r ystadegau hyn y mae David Rowlands yn eu dyfynnu yn bethau yr ydym yn eu cydnabod yma yng Nghymru. Mater bach iawn yw mudo yma. Fel rhywun a dreuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd dramor oherwydd roedd fy nheulu yn fudwyr economaidd, pan geisiodd fy nhad am waith ledled y byd er mwyn rhoi bywyd gwell i'w deulu, ni allaf fod mor galon galed â dweud bod rhywun sy'n ffoi rhag rhyfel yn ffoadur priodol ond nad yw rhywun sy'n ffoi rhag newyn a thlodi mawr yn ffoadur priodol. Felly, Dirprwy Lywydd, ni allaf gytuno ag unrhyw beth, ar wahân i'r gefnogaeth gyffredinol, a ddywedodd David Rowlands.

A gaf i groesawu'r datganiad, yn ystod Wythnos Ffoaduriaid Cymru, ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid '? Mae'r ffaith fod y cynllun hwn wedi'i lunio ar y cyd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a phartneriaid eraill yn arwydd o ddull cynhwysol blaengar Llywodraeth Cymru, gan dynnu, i raddau helaeth, ar argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Eleni, rydym yn dathlu dengmlwyddiant a thrigain sefydlu'r GIG, ac rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at weithredu cynnar a gymerais yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi rhaglen meddygon ffoaduriaid Cymru—roedd y meddygon ffoaduriaid yn awyddus i gyfrannu eu sgiliau i'r GIG. O ganlyniad i'r cynllun hyfforddiant, iaith a chymorth arloesol, defnyddiwyd eu sgiliau yn fuan, gan arwain at 85 o ffoaduriaid yn cael eu cofrestru yn feddygon gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, gan ymarfer dros yr 16 mlynedd diwethaf. Am gyfraniad. Arweinydd y tŷ, a ymunwch â mi i longyfarch y meddygon hyn, sy'n gweithio ledled y GIG yn y DU, o ganlyniad i'r fenter hon, yn sgil, i raddau helaeth, Aled Edwards o Cytûn yn dod ataf i ac yn dweud, 'Fe allwn ni wneud hyn, Jane', a dyna a wnaethom ni.

Ond hefyd, a gawn ni, ledled y Siambr, ddiolch i bawb yn ein hetholaethau a gefnogodd y cynllun ffoaduriaid o Syria, a'm tref innau, y Barri, yn rhoi croeso a chefnogaeth i deuluoedd dros y tair blynedd diwethaf—teuluoedd sydd bellach yn setlo ac yn cyfrannu at y gymuned hon â'u sgiliau a'u talentau? Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r grŵp gwirfoddol Enfys, grŵp ar gyfer rhai o ethnigrwydd du a lleiafrifol, sy'n darparu cyfeillgarwch a chymorth personol a chymdeithasol i fenywod PDDLLE ym Mro Morgannwg. Ond rwy'n bryderus i ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn cael y parch dyledus a'r cydweithrediad o ran integreiddio'r teuluoedd hyn yn ein cymunedau gan y Swyddfa Gartref, sydd yn amlwg yn arwain y cynllun hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb i hynny. Hefyd, arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol o fentrau cymunedol ledled Cymru, megis Croeso Llanilltud Fawr, sydd yn dilyn Croeso Arberth, yn croesawu teulu o ffoaduriaid o Syria i Lanilltud Fawr. Yn olaf, fel noddwr i BAWSO, dymunaf gydnabod y gwaith a wneir gan yr elusen arbenigol hon i gefnogi menywod sy'n dianc rhag trais, gan gynnwys menywod sy'n ffoaduriaid.

16:10

Ie, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i gydnabod gwaith nifer fawr o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi gweithio'n galed iawn i gydgynhyrchu ein cynlluniau, ac sydd, wrth gwrs, yn gweithio bob dydd i wneud yn siŵr bod ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches ledled Cymru yn cael eu hintegreiddio. Bydd mudiad Croeso, gobeithio, yn mynd ymhellach hyd yn oed; mae hi'n fenter ragorol. Ond, fel y dywedais, mae nifer fawr o sefydliadau eraill wedi gweithio yn ofalus gyda ni, oherwydd ein bod yn awyddus iawn i'r cynllun hwn fod yn rhywbeth a gynhyrchwyd ar y cyd gyda'r cymunedau, fel ei fod yn ystyrlon iddyn nhw mewn gwirionedd.

Rydym yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am gynhyrchu ei adroddiadau cynhwysfawr, ac rydym wedi gweithio'n ofalus iawn drwy'r argymhellion gyda'r cymunedau i'w cefnogi. Ceir nifer o bethau penodol iawn y gallwn ei ddweud. Rwyf wedi dweud rhywbeth am y siom ynglŷn â llety. Ond byddwn yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol i wneud yn siŵr y gallwn ymyrryd, a'n bod yn gwneud felly, a bod pobl yn byw mewn llety sy'n addas at y diben. Fel y dywedais, ceir nifer o welliannau eraill ynghylch y broses gwynion ac ati y gellir eu rhoi ar waith.

Rydym yn cydnabod hefyd y mater gwirioneddol ynglŷn ag amddifadedd. Felly rydym wedi rhoi nifer o wasanaethau cynghori ar waith i helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Hoffwn ddweud eto, Dirprwy Lywydd, wrth Lywodraeth y DU ein bod yn awyddus iawn iddynt beidio â rhoi arian Llywodraeth Cymru ar restr y cynllun 'na cheir gofyn cymorth arian cyhoeddus', fel y gallwn ni, yma yng Nghymru, wneud yn siŵr nad oes gennym ffoaduriaid a cheiswyr lloches tlawd ar garreg ein drws ac y gallwn ymestyn ein harian cyhoeddus iddynt yn briodol.

Credaf mai'r peth cyntaf yr wyf yn dymuno'i ddweud heddiw yw fy mod yn siŵr fod rhai ohonom wedi gweld y golygfeydd yn America lle mae plant yn cael eu cipio'n llythrennol o freichiau eu rhieni a'r niwed a wneir i rieni, a hefyd i'r plant, ac i'r genedl. Felly, gyda pharch, byddwn yn gofyn ichi a ydych yn condemnio'r gweithredoedd hynny. Rwy'n falch hefyd nad ydym yn dilyn y camau hynny yma yng Nghymru. Mae'n gwbl warthus, mae'n gwbl annynol ac ni allaf gredu—ac rwy'n siŵr na all neb arall yma gredu—y gallwch weld Arlywydd un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd yn sefyll ar ei draed ac yn dweud mewn gwirionedd bod hynny'n ymddygiad derbyniol. Felly, diolch ichi am ganiatáu amser i mi ddweud hynny heddiw.

Yn y modd hwnnw, rwy'n tybio, yr wyf i'n codi yma heddiw. Ceir erthygl yn The Guardian, ac mae gennyf gopi yma—nid sbwriel ydyw, felly efallai ei bod yn iawn i mi ei ddal i fyny—astudiaeth sydd yma o'r hunanladdiadau sydd wedi digwydd am fod y system mor araf yn prosesu—yn aml iawn—bobl ifanc dan oed. Dywedir wrthynt yn glir iawn, yn 17 a hanner oed, os nad ydyn nhw wedi setlo, y bydd yn rhaid iddynt adael y wlad, ac maen nhw eisoes wedi bod drwy'r sefyllfaoedd hynod drawmatig hyn lle maen nhw wedi dioddef yn gorfforol ac yn feddyliol er mwyn cyrraedd y cam hwn lle maent yn awr. Ac yna maen nhw'n canfod bod eu holl obeithion a'u breuddwydion am gael eu . Felly fy nghwestiwn yw hyn, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddau grŵp. Un grŵp yw'r rhai dan oed ar eu pennau eu hunain sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa o amddifadedd, yn aml iawn, ac wedyn yn anobeithio, ac wedyn maen nhw'n anafu eu hunain, ac wedyn, yn olaf, yn cymryd eu bywydau eu hunain. Ac mae hynny wedi digwydd yma yng Nghymru hefyd. Rwy'n cofio mynd i Noddfa Ffoaduriaid y Gelli Gandryll, Aberhonddu a Thalgarth, a chyflwyno araith yno wrth iddynt goffáu un o'u plith, a'r effaith aruthrol a gafodd hyn ar y bobl hynny, fel grŵp, a oedd wedi gwneud popeth yn eu gallu i helpu'r unigolyn hwnnw i gael bywyd gwerth ei fyw.

Y grŵp arall yr wyf yn awyddus iawn i ganolbwyntio arno—a menywod ydyn nhw, fwy neu lai—yw'r rheini sy'n cael eu hunain yn ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol a thrais, a'r cyfan sy'n dod yn sgil hynny, ond nid menywod yn unig sy'n dioddef: mae rhai dynion yn dioddef hefyd. Nodaf, yn eich datganiad, fod yna ymarfer cwmpasu i ganfod y prif anawsterau a wynebir gan geiswyr lloches a ffoaduriaid sydd wedi profi hynny, fel y gallwch chi gymryd camau. Rwy'n edrych ymlaen, arweinydd y tŷ, at ganlyniad hwnnw. Ac a oes gennych unrhyw syniad o gwbl pryd y gallem ddisgwyl canlyniadau rhai o'r ymarferion cwmpasu hynny?

16:15

Mae Joyce Watson yn crybwyll nifer o faterion pwysig iawn. Fel rwy'n dweud, rydym ni wedi cael pum sesiwn ledled Cymru, ac mae bron i 100 o weithwyr cymdeithasol ac eiriolwyr wedi cael eu hyfforddi i asesu oedran plant a phobl ifanc, fel nad ydym ni'n gweld peth o'r camweinyddu cyfiawnder a welsom ni yn y system. Byddwn yn cyhoeddi cyfres o adnoddau gwybodaeth a chyngor a fydd yn helpu gweithwyr cymdeithasol i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches heb gydymaith, i roi cyngor ynglŷn â gofalwyr maeth cyfredol a phosibl, ac i gynghori'r plant a'r bobl ifanc eu hunain. Mae hyn yn bodloni'r ymrwymiad i gynhyrchu'r wybodaeth honno sydd yn strategaeth pedair cenedl Llywodraeth y DU i ddiogelu plant sy'n ceisio lloches heb gydymaith, y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu ati. Rwy'n gwybod fod yr Aelod yn wirioneddol bryderus ynglŷn â'r mater hwn o gaethwasiaeth fodern, yn ogystal ag am bobl sy'n ffoi rhag trais rhywiol yn arbennig, sydd yn aml yn cael eu dal gan bobl sy'n manteisio yn fawr yn hynny o beth.

Rydym ni wedi ariannu cyfres o grwpiau ffocws gyda phlant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches heb gydymaith, i ddeall mwy am eu safbwyntiau a'u profiadau o'r gwasanaethau y maen nhw wedi'u derbyn yng Nghymru. Fel y dywedais wrth John Griffiths yn gynharach, bydd yr adroddiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi cyn hir, a bydd yn helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol, gan gynnwys y cynllun cyflawni terfynol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydym ni hefyd wedi cefnogi'r gwaith o ddarparu hyfforddiant i ofalwyr maeth y plant sy'n ceisio lloches heb gydymaith, a'r rhai fydd o bosibl yn gofalu amdanyn nhw yn y dyfodol, fel ein bod yn ceisio sicrhau bod plant yn cael y profiad gorau posibl. Rwy'n rhannu arswyd Joyce Watson wrth edrych ar rai o'r golygfeydd a welsom ni yn yr Unol Daleithiau. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y DU yn hollol o ddifrif, yn rhan o'r broses Brexit, ein bod yn aros yn rhan o'r protocolau yn Ewrop sy'n caniatáu ailuno teuluoedd, oherwydd mae hynny'n rhan sylweddol iawn o'r hyn sydd wedi dod yn sgil ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mewn gwirionedd, rwy'n dymuno, yn fawr iawn, parhau â hynny, os yw'n bosibl.

Diolch yn fawr iawn ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch ichi am alw arnaf i siarad ar yr ymgynghoriad pwysig iawn hwn, yr wyf yn gobeithio y bydd yn ein helpu i fod yn genedl sy'n noddfa wirioneddol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ond nid wyf i o'r farn y dylem ni fyth ddiystyru faint o hiliaeth a rhagfarn y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn ei wynebu yn feunyddiol. Rwy'n gefnogol iawn o'r faith fod y cynllun hwn yn cael ei lunio ar y cyd â'r ffoaduriaid a'r ceiswyr lloches; credaf fod hynny'n gwbl hanfodol. A chredaf fod y neges a roddodd arweinydd y tŷ yn un bwysig iawn, mai ein cyfrifoldeb ni i gyd yw gwneud i'r bobl deimlo croeso. Mae enghreifftiau gwych o hynny wedi'u crybwyll. Rwy'n gwybod fod Arberth a Llanilltud Fawr wedi'u crybwyll heddiw, ac rwy'n gwybod nod Grŵp Dinas Noddfa Gelli, Aberhonddu a Thalgarth wedi bod yn cynnal digwyddiadau ym mhob cwr o Bowys mewn neuaddau pentref, gan roi diwrnod i'r brenin yng nghefn gwlad i ffoaduriaid i roi ymdeimlad o groeso iddynt, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ond, fel y dywedodd arweinydd y Tŷ, nid system unffordd mohoni oherwydd rydym ni yn wir ar ein hennill yn sgil pobl sydd wedi dod yma i'n gwlad.

Roeddwn yn meddwl tybed a allai arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag a fu unrhyw gynnydd yng ngallu ceiswyr lloches i weithio, oherwydd un o'r problemau mwyaf yr wyf i wedi'u hwynebu â cheiswyr lloches yw eu hanallu i gael swydd oherwydd polisi Llywodraeth San Steffan. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf, 'Fy unig ddymuniad yw gweithio', ac nid ydyn nhw wedi gallu gwneud hynny.

Mae'r fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru a gyflwynodd Jane Hutt ynglŷn â meddygon yn cael eu cymwysterau yn gwbl wych. Roeddwn yn falch iawn fod arweinydd y tŷ wedi dweud y gellid ystyried hyn efallai ar gyfer yr holl gymwysterau eraill. Felly, nid wyf yn gwybod a oes unrhyw gynlluniau yn bod i wneud hynny. Os oes yna, efallai y gallech chi roi'r manylion inni.

Ac yna'r mater arall yr wyf yn teimlo'n bryderus iawn amdano yw pobl ifanc sy'n ceisio lloches yn dymuno mynd i brifysgol, oherwydd mae'r ceisiadau hyn am loches yn rhygnu ymlaen am flynyddoedd weithiau. Rwyf wedi gweld llawer o enghreifftiau o geiswyr lloches ifanc neu blant sy'n geiswyr lloches, nad ydyn nhw wedi gallu manteisio ar leoedd mewn prifysgolion oherwydd nad ydyn nhw wedi gallu cael arian. Felly, nid wyf yn gwybod a oes unrhyw gynnydd ynglŷn â hynny, neu unrhyw beth y gall y Llywodraeth ei wneud.

Hoffwn orffen drwy sôn am fenter wych yn Ysgol Uwchradd Llanisien yn fy etholaeth i, sydd newydd dderbyn statws Ysgol Noddfa. Mae Siân Owens, aelod o staff yno, wedi arwain rhaglen ymwybyddiaeth wych ble'r aeth pobl ifanc i siarad â gwahanol grwpiau, a dysgu am yr hyn sy'n digwydd mewn canolfannau cadw, a derbyn hyfforddiant gan HOPE not hate. Mae'n ymddangos yn fenter wirioneddol wych, ac rwy'n siŵr y bydd hi yn awyddus i ategu fy llongyfarchiadau iddyn nhw ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud.

16:20

Ydy, mae honno'n fenter wirioneddol wych. Gorau po fwyaf y gallwn ni ei annog i sicrhau bod gan bobl ifanc gyd-ddealltwriaeth o sut y daethant i fod yn lle y maent, a beth maen nhw'n ei roi i'r ystafell ddosbarth.

Gofynnodd nifer o gwestiynau, y gallaf ddweud rhywbeth amdanynt yn gyflym. Mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn edrych ar y cynlluniau i gydnabod cymwysterau eraill, ond mewn gwirionedd beth rydym ni eisiau ei wneud yn gyntaf yw gweld a allwn ni ymestyn yr un meddygol i glinigwyr eraill, ac yna ei ymestyn allan. Rwyf i fod i gael sgyrsiau gyda'r gwahanol Ysgrifenyddion Cabinet ynghylch sut y gallwn ni wneud cynnydd yn hynny o beth yn rhan o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud, oherwydd rwy'n awyddus iawn y dylem ni ganiatáu pobl i wneud y cyfraniad llawn y gallant ei wneud i'n cymdeithas.

O ran y gwaith, nid ydym ni wedi gwneud unrhyw gynnydd, mae'n ddrwg gennyf ddweud, o ran caniatáu i geiswyr lloches weithio, ond mae problem hyd yn oed gyda gwirfoddoli, oherwydd mai dim ond gydag elusen y gallwch chi wirfoddoli. Mewn rhannau helaeth o Gymru wledig, os na allwch chi wirfoddoli gyda busnes, yna nid ydych chi mewn gwirionedd yn mynd i allu gwirfoddoli o gwbl. Felly, rwyf wedi sôn yn gadarn iawn am hynny droeon i Weinidogion Llywodraeth y DU, ac rydym ni yn obeithiol y byddant yn edrych ar y darn hwnnw o leiaf. Ond does dim unfrydedd barn ynglŷn â'r agwedd o waith yn gyffredinol.

O ran yr hyn y gall ceiswyr lloches ei roi yn ôl—ac wedi'r cyfan, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn ddathliad o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac rydym ni wedi taro nodyn braidd yn ddigalon gyda rhai o'r problemau—dim ond i dynnaf sylw at y ffaith, yn fy etholaeth fy hun, yn ogystal ag mewn llawer o rai eraill y mae llawer o Aelodau eisoes wedi crybwyll, ceir prosiect ysgrifennu gwych gyda cheiswyr lloches. Maen nhw'n ysgrifennu'r straeon a'r cerddi mwyaf anhygoel, weithiau am eu profiadau, ond am bethau cyffredinol weithiau.  Mae'n gynllun gwych. Mae gennyf nifer o lyfrau y gallaf, am gyfraniad bach i elusen o'm dewis, eu rhannu â chi. Gallwch eu darllen yn fy ystafell os nad ydych yn barod i roi eich llaw yn eich poced ar gyfer yr elusen, ond mae gen i gyflenwad mawr ohonynt, os yw Aelodau eisiau manteisio ar hynny, oherwydd rwy'n cefnogi'r prosiect hwnnw.

Hoffwn ddweud hyn: mae Wythnos Ffoaduriaid yn ŵyl ymbarél. Mae'r digwyddiadau yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau celfyddydol, gwirfoddol a ffydd, sefydliadau cymunedol ffoaduriaid, grwpiau o fyfyrwyr ysgol a mwy, ac maen nhw'n cynnwys gwyliau celfyddydol, arddangosfeydd, dangosiadau ffilm, perfformiadau dawns a theatr, cyngherddau, twrnameintiau pêl-droed a thrafodaethau cyhoeddus, yn ogystal â gweithgareddau creadigol ac addysgiadol mewn ysgolion. Felly, Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf yr anobaith a'r digalondid yr ymddengys ein bod wedi eu profi, yr wyf yn ei ddeall yn llwyr, dymunaf bwysleisio bod hon yn Ŵyl i ddathlu'r cyfraniad y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ei wneud i'n cymdeithas.

16:25

Diolch. Doeddwn i ddim yn mynd i siarad ac yna teimlais fy mod eisiau gwneud, oherwydd rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn, a phan soniodd rhywun yn gynharach am y 'bobl hyn' meddyliais yn sydyn am y ffaith nad y 'bobl hyn' yn unig ydyn nhw, mae ganddyn nhw enwau: mae Ahin Ahmed, Ibrahim Saba yn ddim ond rhai o'r rhai hynny yr wyf i wedi eu cyfarfod. Credaf ein bod, weithiau, yn siarad am bobl heb ystyried eu bod mewn gwirionedd yn fodau dynol yn ein cymdeithas, ac rwy'n credu mai dyna sut y mae angen inni gyflwyno'r ddadl, a bod ganddyn nhw gymaint i'w roi i ni yn ogystal. Felly, yr agwedd gadarnhaol yr hoffwn ei chyflwyno yw nid yn unig ein bod ni yn eu helpu nhw, ond y gallan nhw ein helpu ni, boed hynny drwy ddiwylliannau newydd, boed hynny drwy ffyrdd newydd o fyw, defodau newydd y gallwn ni ddysgu amdanynt, bwydydd newydd neu flasau newydd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd ei ddysgu gan y rhai sy'n dod i Gymru.

Credaf ei bod hi'n bwysig, oni fyddech chi'n cytuno â mi, bod sefydliadau megis Bloom yn Abertawe a'r Prosiect Ymateb Cymorth Dyngarol Abertawe yn werth eu crybwyll? Oherwydd mae llawer o arwyr di-glod yn hyn oll—gwirfoddolwyr sydd naill ai wedi ymddeol neu bobl ifanc sydd yn jyglo, yn helpu ceiswyr lloches drwy gyfieithu, yn ceisio bod mor gefnogol ag y gallan nhw, a danfon nwyddau i eraill. Ymwelais â cheisiwr lloches yr wythnos diwethaf ac roedd ei phram yn syrthio'n ddarnau. O fewn pum munud i mi ofyn ar Facebook, roedd rhywun wedi danfon pram i mi ac es ag ef iddi ddydd Sadwrn. Roedd hwn yn ddarn drud iawn o gyfarpar na fyddai hi wedi gallu ei fforddio oni bai am letygarwch rhywun yr oeddwn yn ei adnabod. Felly, credaf mai dyna'r elfen gadarnhaol a ddaw o hyn i gyd.

Yr unig faterion oedd gennyf oedd eisiau gofyn rhai cwestiynau i chi o ran y cynllun adsefydlu ffoaduriaid o Syria. Mae hwnnw'n dod i ben yn fuan, felly meddwl wyf i tybed a wyddoch chi a fydd digon o ddilyniant, ac oherwydd bod y ffrydiau ariannu hynny yn dod i ben a wyddom ni nad yw ffoaduriaid o Syria yn mynd i gael eu gadael yn ynysig, ac yn mynd i gael y mecanweithiau cymorth i'w cefnogi. 

Byddwn hefyd yn dweud nad yw'r dyraniadau tai yn ddigon da o lawer ar hyn o bryd. Byddaf yn ymweld â theuluoedd sydd ar ben bryniau, yn gwthio pramiau, heb fynediad at lwybrau bysiau, ac maen nhw'n teimlo'n ynysig. Maen nhw yn y tŷ drwy'r dydd, a wyddoch chi beth? Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn dymuno i hynny ddigwydd yn aml iawn. Maen nhw eisiau iddyn nhw aros yn eu tai, wedi'u hynysu, oherwydd nad ydyn nhw eisiau iddyn nhw wneud ffrindiau, nid ydyn nhw eisiau iddyn nhw deimlo'n rhan o'r gymuned, oherwydd mae hynny'n ddefnyddiol iddyn nhw pan fydd hi'n bryd penderfynu eu halltudio, yn aml iawn. Efallai fy mod yn sinigaidd, ond credaf fod gan hynny rywbeth i'w wneud â'r dyraniadau a lle mae'r tai hynny. Felly, rwy'n eich annog i ddefnyddio'r holl ddylanwad sydd gennych chi mewn perthynas â hynny.

Er enghraifft, yng Nghastell-nedd Port Talbot, nid oes gennym ni unrhyw un sy'n gwerthu bwyd halal. Mae'n rhaid iddyn nhw deithio i Abertawe i gael y bwyd hwnnw. Rwyf wedi ysgrifennu at Tesco, rwyf wedi ysgrifennu at siopau gwahanol yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn gofyn a ellir darparu bwyd halal, ac maen nhw'n dweud na, nid yw'r galw ganddyn nhw. Wel, os yw hynny'n wir, sut maen nhw'n darparu ar gyfer yr union bobl hynny sy'n fwyaf agored i niwed, na fyddant ond yn bwyta'r bwyd hwnnw yn eu bywydau bob dydd?

Yr hyn yr oedd arnaf i eisiau gorffen ag ef oedd hyn: roeddwn wedi synnu y diwrnod o'r blaen, eto wrth ymweld â theulu, a ddywedodd y gwrthodwyd grant gwisg ysgol i'w phlant oherwydd nad oedden nhw yn ffoaduriaid o Syria. Yn ôl pob tebyg nid oes unrhyw system ddwy-haen, ond os ystyrir nad yw ei phlant sy'n dod o wlad wahanol ddim mor bwysig â ffoaduriaid o Syria, yna mae hynny'n mynd i greu tensiwn rhwng ffoaduriaid a cheiswyr lloches nad oes ei angen mewn oes lle maen nhw eisoes yn teimlo eu bod yn cael eu herlid. Felly, pe gallech chi wneud unrhyw beth o ran ag anfon canllawiau diwygiedig i ysgolion, byddwn yn ddiolchgar iawn am hynny.

O ran hynny, os hoffech chi ysgrifennu ataf gyda manylion penodol, gallaf wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Nid ydym yn hoffi'r system ddwy-haen, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau anghysondebau drwy sicrhau bod holl ffoaduriaid yn gymwys ar gyfer cynlluniau Llywodraeth Cymru yng Nghymru. Felly, rydym yn gwneud ein gorau. Mae system ddwy-haen wedi ei rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn gwneud ein gorau i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd.

Yn anffodus, rwy'n rhannu sinigiaeth Bethan Sayed am y strategaeth llety. Credaf mai rhywbeth arbed arian ydyw ac yn rhywbeth sy'n gorfodi  pobl i beidio ag integreiddio cystal ag y gallent. Rhan fawr o'r hyn a wnawn yw ceisio gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd, felly mae'n golygu rhywfaint o ymdrechu. 

Ond roeddwn eisiau mynd yn ôl at yr hyn y dechreuodd ag ef, mewn gwirionedd, Dirprwy Lywydd, oherwydd mae Bloom a SHARP yn ddau sefydliad yr wyf yn gyfarwydd iawn â nhw yn ardal Abertawe, ond mae eraill, ar draws Cymru, ac mae'n galonogol iawn pan rydych chi'n gwneud apêl ar gyfryngau cymdeithasol neu mae un o'r rheini yn rhoi rhestr fach i fyny o'r pethau sydd eu hangen yn arbennig ar gyfer teulu, mae pobl Cymru yn hynod o hael yn eu hymateb i hynny. Mae bob amser yn codi fy nghalon, beth bynnag, i weld hynny'n digwydd, wedi'r cyfan, Dirprwy Lywydd, rydym ni mewn gwirionedd yn genedl noddfa.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Lles Anifeiliaid Anwes

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar les anifeiliaid anwes. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynglŷn â beth yr ydym ni'n ei wneud i barhau i wella safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Yn y datganiad hwn, byddaf yn canolbwyntio ar anifeiliaid cysur, neu anifeiliaid anwes.

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a grwp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. O dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae dyletswydd gofal ar bob perchennog a phob un sy'n cadw anifeiliaid i sicrhau bod eu hanghenion lles yn cael eu diwallu, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro. Ni fyddwn yn goddef trin anifeiliaid yn wael, a dylai'r rheini sy'n cyflawni'r mathau gwaethaf o greulondeb wynebu cosbau llym. Dyna pam ein bod wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth y DU i gynyddu'r ddedfryd fwyaf am droseddau creulondeb anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu cydnabod fel bodau ymdeimladol ar ôl inni adael yr UE. Mae ein safbwynt yn glir: rydym yn cytuno'n llwyr bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol ac mae'r posibilrwydd na chaiff hynny ei adlewyrchu mewn deddfwriaeth yn destun pryder.

Yn 2016, cyflwynwyd achos gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid Cymru ar gyfer creu cofrestr troseddwyr anifeiliaid yng Nghymru. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen ac ymgysylltwyd â rhanddeiliaid. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i'r dystiolaeth ac yn ddiweddar cyflwynodd y grŵp ei adroddiad drafft i mi, gyda fersiwn terfynol i fod yn barod cyn toriad yr haf. Oherwydd absenoldeb atebion ymarferol a fyddai'n galluogi creu cofrestr o'r fath a diffyg tystiolaeth yn y DU i gefnogi'r effaith y mae rhai rhanddeiliaid yn credu y byddai cofrestr o'r fath yn ei chael, nid yw'r grŵp yn argymell datblygu cofrestr ar hyn o bryd.

Rwy'n  ddiolchgar i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am gyflawni'r gwaith hwn, ac yn enwedig RSPCA Cymru, prif erlynydd y trydydd sector mewn achosion lles anifeiliaid yng Nghymru. Darllenais argymhellion adroddiad Wooler 2014 gyda diddordeb ac, yn benodol, yr argymhelliad i arolygiaeth yr RSPCA dderbyn statws statudol o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Rwyf wedi gofyn i RSPCA Cymru ystyried yr argymhelliad hwn a darparu tystiolaeth a fyddai hynny'n ymarferol yng Nghymru.

Rydym ni wedi cyflwyno nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth yn y blynyddoedd diwethaf sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i barhau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Rydym ni wedi cyflwyno cynllun trwyddedu sy'n canolbwyntio ar les ar gyfer bridwyr cŵn trwyddedig a'r gofyniad i gŵn gael microsglodyn. Rydym ni wedi gwahardd y tocio cosmetig ar gynffonnau cŵn a defnyddio coleri sioc drydan ar gathod a chŵn, ac rwy'n falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weithredu gwaharddiad o'r fath.

Yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i godi safonau perchnogion anifeiliaid cyfrifol, rwyf wedi gofyn i'r rheoliadau microsglodynnu, sydd bellach wedi bod mewn grym am ddwy flynedd, gael eu hadolygu. Cynhelir  ymchwil i lefelau cydymffurfio a gorfodi, a p'un a oes angen gwneud mwy i sicrhau bod modd olrhain. Rwyf wedi gofyn hefyd i ystyriaeth gael ei rhoi i p'un a fyddai'n fuddiol ymestyn y rheoliadau i gynnwys rhywogaethau eraill, gan gynnwys cathod. Roedd cyflwyno rheoliadau bridio cŵn yng Nghymru yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â phryderon lles mewn sefydliadau bridio cŵn yng Nghymru. Hon oedd y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU, a'r unig un o hyd. 

Yn 2017, roedd arolwg a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn fuddiol fel cyfle i asesu'r safonau a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru. Bydd prosiectau pellach o dan y bartneriaeth yn cael eu datblygu eleni. Yng Nghymru, rydym yn mynnu safonau uchel gan ein bridwyr trwyddedig, a phrynu ci bach iach y gellir ei weld gyda'i fam, neu ailgartrefu anifail o sefydliad lles anifeiliaid uchel eu parch, yw'r cam cyntaf hanfodol tuag at fod yn berchennog cyfrifol. Ond mae mewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon, oherwydd galw anferth, yn parhau i fod yn broblem. Rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda phartneriaid gweithredol a rhanddeiliaid i ymdrin â mewnforion anghyfreithlon, ond mae angen gwneud mwy. Rhaid hysbysu darpar berchnogion o'r amodau gwael y mae'r anifeiliaid hyn yn eu dioddef yn aml, yn ogystal â risgiau clefydau y gallant eu hachosi. Rwy'n credu ei bod hi'n werth ystyried gwaharddiad posibl ar werthiannau trydydd parti a byddaf yn trafod posibiliadau gyda swyddogion. Mae addysg yn  agwedd allweddol ar hyn.

Rhaid i ddarpar berchenogion anifeiliaid anwes, a rhai cyfredol, ystyried y dyfodol wrth benderfynu dod yn berchen ar anifail ai peidio, gan gynnwys sut i fodloni ei anghenion lles a'r costau sydd ynghlwm wrth wneud hynny.  Fodd bynnag, rwy'n deall y gall amgylchiadau pobl newid. Hoffwn archwilio pa ddarpariaeth, cymorth a chyngor milfeddygol sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth i ofalu am eu hanifeiliaid anwes. Gallai hyn fod yn ystod cyfnodau o salwch neu argyfwng, megis ffoi o aelwyd dreisgar. Hoffwn weld dull cydweithredol, gyda gwybodaeth ar gael yn rhwydd ar gyfer pobl pan fo'i angen arnynt. Bydd swyddogion yn trafod sut y gellir ymdrin â hyn gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru.

Mae cydweithio yn elfen sylfaenol o wella safonau, ac rydym yn ffodus o gael sector lles anifeiliaid gwybodus ac ymroddedig yma yng Nghymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru fel aelodau o'r grŵp rhwydwaith lles anifeiliaid. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio gyda'r rhwydwaith i adolygu ein codau ymarfer presennol ar gyfer rhywogaethau penodol, yn ogystal â chefnogi datblygu cod ymarfer gwirfoddol, newydd, ar gyfer gwarchodfeydd. Diben y codau yw esbonio beth mae angen i rywun ei wneud i fodloni'r safonau gofal sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Mae'n fwriad gennyf gyflwyno'r codau ymarfer ar gyfer ceffylau a chŵn cyn toriad yr haf, ac i ddechrau ymgynghori ar y cod diwygiedig ar gyfer cathod yn yr Hydref. Byddaf hefyd yn gofyn i'r rhwydwaith adolygu'r cod cwningod, ac i nodi a oes angen cyflwyno unrhyw godau newydd, fel ar gyfer milgwn rasio, primatiaid ac anifeiliaid anwes egsotig eraill.

Ni ellir cyflawni ymgorffori diwylliant o berchnogaeth gyfrifol ar wahân, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymroddiad a'r angerdd a ddangosir tuag at anifeiliaid yng Nghymru. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser, ond rydym yn falch, fel cenedl, o fod yn arwain y ffordd o ran codi safonau lles anifeiliaid.

16:35

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth Cymru, ac rwy'n falch hefyd bod digon o drafodaethau yn cael eu cynnal yn San Steffan ynghylch gwella safonau anifeiliaid. Yn wir, mae'n dda gweld bod y llywodraethau ar ddau ben yr M4 yn ymrwymo i'r agenda hon.

Wrth gwrs, byddai drafft y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabyddiaeth o Ddedfryd) 2017 yn cynyddu uchafswm y gosb am droseddau creulondeb anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd o garchar, a byddai'n sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu diffinio yng nghyfraith y DU fel bodau ymdeimladol. Wrth gwrs, rwy'n falch fod datganiad heddiw yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Bil hwn, felly efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw'n dal i fwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol i ganiatáu i'r rhwymedigaeth hon ymestyn i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ac efallai y gallai hi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha drafodaethau y mae hi wedi eu cael gyda'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar y Bil penodol hwn, o ystyried ei effaith ar Gymru.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ymgynghoriad diweddar Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn bach drwy drydydd parti, a fyddai'n golygu na all siopau anifeiliaid anwes a delwyr anifeiliaid anwes werthu cŵn bach oni bai eu bod nhw wedi eu bridio eu hunain. Rwy'n sylwi bod y datganiad heddiw yn cadarnhau ei bod hi'n werth ystyried y posibilrwydd o wahardd gwerthu drwy drydydd parti, ac y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod posibiliadau gyda swyddogion. Rwy'n  siŵr y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn monitro canlyniadau ymgynghoriad Llywodraeth y DU, ond efallai y gall hi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y posibiliadau y mae hi wedi'u trafod hyd yma gyda'i swyddogion.

Wrth gwrs, mae'r gwaharddiad ar werthu cŵn bach drwy drydydd parti yn rhannol fynd i'r afael â masnach cŵn bach yn y DU, ond mae cyfle yma i edrych ar ystod o fesurau i fynd i'r afael â'r broblem hon, megis efallai tynhau rheoliadau ynghylch bridio a gwerthu cŵn bach. Nodaf o'r datganiad heddiw y cynhaliwyd arolwg yn 2017 gan awdurdodau lleol ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd yn gyfle i asesu'r safonau sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru, ac y bydd prosiectau pellach dan y bartneriaeth honno yn cael eu datblygu eleni. Gan ein bod yn awr tua hanner ffordd drwy'r Cynulliad hwn, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet gynnal asesiad o effeithiolrwydd presennol rheoliadau bridio cŵn a hefyd ymhelaethu ar ba fath o brosiectau partneriaeth gaiff eu cynnal eleni.

Nawr, mae datganiad y prynhawn yma yn dweud wrthym ni y bydd y rheoliadau microsglodynnu presennol yn cael eu hadolygu ac efallai eu hymestyn i rywogaethau eraill, megis cathod, ac rwy'n ystyried tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni pa drafodaethau cychwynnol y mae hi wedi'u cael gyda sefydliadau lles cathod a'r sector lles anifeiliaid yn fwy cyffredinol ar y cam hwn am yr adolygiad hwn, a'r effaith o ymestyn y rheoliadau i rywogaethau eraill.

Mae un o'r materion anoddaf y credaf sydd angen mynd i'r afael ag o yn gysylltiedig â maint y gweithgarwch didrwydded a'r cynnydd mewn gwerthu ar-lein ar anifeiliaid anwes yng Nghymru, gan fod natur anweledig y system fasnachu hon wedi arwain at nifer o werthwyr ar-lein yn gallu osgoi deddfwriaeth bridio a gwerthu anifeiliaid anwes, ac yn hollbwysig nid yw'n rhoi unrhyw sylw i les anifeiliaid. Felly, er fy mod yn falch bod y datganiad heddiw yn edrych ar gyfres o fesurau ynghylch lles anifeiliaid, efallai y gallai hi ddweud wrthym ni ychydig mwy ynglŷn â beth yn benodol mae ei hadran yn bwriadu ei wneud o ran prynu a gwerthu anifeiliaid ac, yn benodol, masnachu ar-lein.

Nawr, mae ymgyrch lles anifeiliaid bwysig arall sydd wedi ennill cryn sylw yn ddiweddar yn ymwneud â gwarchodfeydd, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r arolwg YouGov ar gyfer RSPCA Cymru yn 2017, a ganfu fod 83 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud i berchnogion gwarchodfeydd anifeiliaid gael trwydded a chael eu harolygu i sefydlu neu weithredu safle o'r fath. Mae'n amlwg bod awydd i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth yma. Rwy'n derbyn bod y datganiad heddiw yn cadarnhau datblygu cod ymarfer gwirfoddol newydd ar gyfer gwarchodfeydd. Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallai hi roi ei syniadau cychwynnol ynglŷn â sut y dylai  sefydliadau lles anifeiliaid gael eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau lles uchaf, ac efallai yn y lle cyntaf y byddai hi'n ystyried rhoi diffiniad clir o'r ymadrodd 'sefydliad lles anifeiliaid' fel nad oes amwysedd wrth sôn am ba fath o sefydliadau y byddai unrhyw godau newydd yn berthnasol iddynt ac i sicrhau bod yr holl warchodfeydd wedi'u cynnwys o fewn y diffiniad hwn.

Wrth gwrs, mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar adolygu amrywiaeth o godau ymarfer ar gyfer anifeiliaid anwes, ac rwy'n  falch y bydd mwy o waith yn cael ei wneud yn yr Hydref gan ei bod hi'n hanfodol bod yr holl godau yn cael eu cadw yn gyfredol a'u hymestyn lle mae angen, a'u bod yn cael eu hystyried ochr yn ochr â meysydd portffolio eraill, oherwydd  gall canllawiau lles anifeiliaid yn aml gael effaith ar bolisïau eraill Llywodraeth, megis iechyd a thai.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran eu polisïau lles anifeiliaid wrth i'r rheini ddatblygu. Diolch i chi.

16:40

Diolch i Paul Davies am y gyfres honno o gwestiynau. Fe wnaethoch chi ddechrau â drafft y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabyddiaeth o Ddedfryd), ac fe fynegais ein barn yn glir iawn yn fy natganiad, a soniais ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae'n bwysig iawn bod gennym ni gyfundrefn ddedfrydu gymharol ledled Cymru a Lloegr. Credaf fod hynny'n bwysig fel bod eglurder gan yr asiantaethau gorfodi, bod gan y llysoedd eglurder a hefyd bod gan y cyhoedd yr eglurder hwnnw. Credaf felly, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn hynny o beth.

Fe wnaethoch chi ofyn i mi gadarnhau fy mod yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf yn cadarnhau y byddaf yn cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer yr agweddau hynny o'r Bil sy'n amlwg wedyn yn berthnasol i Gymru. Rwyf wedi cael trafodaethau ynghylch hyn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Michael Gove, a hefyd gyda'r Arglwydd Gardiner, sydd yn Weinidog â chyfrifoldeb am les anifeiliaid.

Fe wnaethoch chi sôn am werthu cŵn bach drwy drydydd parti, a byddwch yn ymwybodol o'r ymgyrch ynghylch cyfraith Lucy. Rwy'n gwybod fod digwyddiad yma yn y Senedd, credaf mai mis nesaf y mae, y mae Eluned Morgan yn ei noddi a byddaf yn siarad yno. Yn sicr, mae dros 100,000 o lofnodion ar y ddeiseb sy'n gysylltiedig â'r ymgyrch. Trafodwyd hynny yn y Senedd ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y rheoliadau, oherwydd maen nhw ond yn berthnasol i Loegr. Mae amodau penodol wedi eu cynnwys ynglŷn â bridio cŵn. Mae gofyniad na ellir ond dangos ci bach i'r darpar brynwr os yw gyda'i fam fiolegol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n wirioneddol werth ei ystyried. Rwy'n gwyfod fod ymgyrch casglu tystiolaeth wedi dod i ben yn ddiweddar, felly byddwn yn edrych ar hynny'n ofalus iawn.

Fe wnaethoch chi sôn am y rheoliadau microsglodynnu, a ddywedais oedd yn mynd i gael eu hadolygu. Maent wedi cael eu cyflwyno bellach ac wedi bod mewn grym ers dros ddwy flynedd, felly credaf ei bod hi'n adeg briodol iddynt gael eu hadolygu, ac mae'n amser hefyd i ni ystyried a ddylai anifeiliaid eraill gael eu microsglodynnu. Yn sicr, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth o ran cathod yn cael eu microsglodynnu, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar hynny i mi.

Rwy'n credu fod y sylw a wnaethoch chi ynghylch gwarchodfeydd yn berthnasol iawn, a'r diffiniad o sefydliad lles anifeiliaid, a bydd hynny'n rhan o'r broses graffu y byddwn yn mynd drwyddi. Rwyf eisiau sicrhau y rhoddir ystyriaeth i p'un a fyddai'n addas i ddefnyddio'r cod fel dogfen statudol. Credaf ei bod hi'n bwysig bod ganddo'r statws hwnnw. Felly, unwaith eto, rwy'n gweithio gyda'r rhwydwaith lles anifeiliaid i'w cefnogi i ddatblygu cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid a gwarchodfeydd, a byddaf yn amlwg yn rhoi'r manylion diweddaraf i aelodau.

Diolch ichi am y datganiad yma heddiw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig am y rhan yn y datganiad o ran y gofrestr troseddwyr anifeiliaid yma yng Nghymru, yn arbennig o ystyried eich bod wedi gwneud datganiad heb  unrhyw wybodaeth gefndirol inni ynghylch beth ddigwyddodd mewn gwirionedd yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Rwy'n arbennig o siomedig o ddarllen y credwch chi, oherwydd nad oes digon o dystiolaeth yn y DU, fod hynny'n rhywbeth na allwn ni wedyn ei ddatblygu. Mae digon o dystiolaeth ryngwladol, a thybed pa waith sydd wedi'i wneud yn hynny o beth. Er enghraifft, mae cofrestr agored talaith gyfan yn Tennessee; yn Efrog Newydd, mae cofrestr gaeedig ar gyfer siopau anifeiliaid anwes a gwarchodfeydd anifeiliaid a rhaid iddynt gyfeirio at hon cyn gwerthu neu drosglwyddo anifeiliaid; mae cofrestr anifeiliaid Orange County— unwaith eto, yn America—yn cael ei chynnal gan Swyddfa'r Siryf, a rhaid i unrhyw un a gollfernir gyflwyno gwybodaeth i'r Swyddfa honno, a rhaid i unrhyw un sy'n trosglwyddo perchenogaeth wirio'r cofrestru cyn unrhyw newid perchnogaeth. Os nad oes gennym ni gofrestr cam-drin anifeiliaid mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, byddai'n anodd cael tystiolaeth yn seiliedig ar arfer oherwydd nad yw'n bodoli. Dyna yn union pam roedd pobl fel fi yn galw am un i Gymru yn gyntaf, fel y gallem ni ymchwilio i hyn, a hefyd er mwyn i asiantaethau gorfodi cyfraith y DU allu defnyddio'r wybodaeth benodol hon i greu proffil o bobl a fyddai o bosibl yn cam-drin anifeiliaid ac wedyn yn mynd ymlaen i gam-drin pobl mewn bywyd go iawn. Mae hyn yn bwysig iawn, ac rwy'n credu ei fod yn gyfle gwirioneddol a gollwyd, ac fe hoffwn i weld y dystiolaeth sy'n cefnogi'r casgliad. Mae'n anodd iawn gwneud sylwadau heb weld unrhyw beth heddiw.

O ran codau lles anifeiliaid amrywiol, fe wnaethoch chi sôn am rai yn eich datganiad, ond wnaethoch chi ddim sôn am y cod adar hela. Pryd y caiff hwn ei adolygu? Mewn sgyrsiau a gefais gyda'r Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon, nid yw hwn yn cael ei fonitro ar hyn o bryd. Byddent yn hoffi cyfarfod â chi i drafod lles adar hela, felly rwy'n meddwl tybed a fyddech yn derbyn y cynnig hwnnw i gwrdd â nhw, oherwydd teimlaf ei fod ar goll o'r codau hyn ac mae'n rhywbeth sydd yr un mor bwysig â chodau ar gyfer ceffylau a chathod.

O ran gwaith traws-lywodraethol, ni allaf weld unrhyw beth yn y datganiad hwn ynglŷn â sut yr ydych chi'n gweithio gyda'r sector tai. Soniais wrth y Gweinidog, Rebecca Evans, am y datganiadau y mae landlordiaid yn eu cyflwyno: 'Dim anifeiliaid anwes, dim DSS'. Rydym ni'n gweld cynnydd mewn landlordiaid sy'n gwrthod tenantiaid ag anifeiliaid anwes oherwydd, o bosib, eu bod wedi cael problemau yn y gorffennol. Rydych chi'n dweud llawer yn y datganiadau hyn ynghylch sut y mae gwneud pobl yn well gofalwyr ar gyfer yr anifeiliaid anwes sydd ganddynt, ond pan mae ganddynt anifeiliaid anwes, gwahaniaethir yn eu herbyn yn aml, ac mae'r anifeiliaid anwes hynny yn wirioneddol hanfodol i'w iechyd meddwl, i sut y maent yn gweithredu mewn cymdeithas. Ac felly mae'n dda dweud, 'Wel, rhaid inni ofalu am yr anifeiliaid' ar un llaw, ond beth am sut y gall anifeiliaid helpu bodau dynol? Credaf fod hynny'n rhywbeth nad yw mewn gwirionedd yn cael digon o sylw yn y datganiad hwn heddiw.

Cytunaf hefyd â'r sylwadau a wnaed gan Paul Davies o ran gwerthu ar-lein. Rydym yn gweld llu o wahanol bobl yn gwerthu anifeiliaid amrywiol ar-lein, ac ymddengys fod hyn yn rhywbeth nad yw cael ei reoleiddio, nad yw'n cael ei fonitro, nad yw'n rhywbeth y mae gan unrhyw un reolaeth arno. Mae lles anifeiliaid yn allweddol yn hyn o beth, gan fod pobl yn aml yn bridio anifeiliaid, yna maen nhw'n sylweddoli na allan nhw ymdopi ac yna maen nhw yn eu gwerthu yn y ffyrdd hyn sy'n ymddangos i fod yn hawdd iddyn nhw gael gwared ar y baich y maen nhw'n ystyried bod yr anifeiliaid hyn yn ei roi arnynt, ond, hefyd, o bosib, nid ydynt yn gwneud hynny yn y modd mwyaf moesegol. Felly, anogaf chi i edrych ar hynny ymhellach hefyd.

16:45

Diolch i chi, Bethan Sayed, am y cwestiynau hynny. Rwy'n cydnabod yn llwyr eich bod yn siomedig. Pwysleisiais mai dim ond yr adroddiad drafft oedd gennyf a byddaf yn cyflwyno ymateb o sylwedd i'r darn hwnnw o waith cyn toriad yr haf, mae'n debyg ar ffurf datganiad ysgrifenedig, ond rwy'n gwybod eich bod chi wedi cymryd diddordeb brwd yn y gofrestr troseddwyr anifeiliaid, felly deallaf yn llwyr pam yr hoffech chi weld y dystiolaeth. Fel y dywedais, dim ond yr adroddiad drafft yr wyf wedi'i gael, ond roedd rhai camau cadarnhaol—roedd nifer o gamau gweithredu cadarnhaol, mewn gwirionedd—yn yr adroddiad sydd, rwy'n credu, yn haeddu rhagor o waith, felly gwneir y gwaith hwnnw yn awr, ac, fel y dywedaf, rwy'n ymrwymo i gyflwyno ymateb llawn, sylweddol cyn toriad yr haf.

Dim ond heddiw, trafodais y cysylltiad rhwng pobl sy'n cam-drin anifeiliaid a cham-drin domestig gyda chynghorwyr cenedlaethol trais yn erbyn menywod. Cefais hefyd gyflwyniad gan Dr Freda Scott-Park. Mae hi wedi gwneud gwaith sylweddol gyda phractisau milfeddygol i sicrhau, lle maent yn gweld anafiadau annamweiniol ar anifeiliaid—efallai bod cysylltiad â cham-drin domestig. Felly, mae gwaith sylweddol yn digwydd ledled y DU, ond rwy'n credu—. Wyddoch chi, mae'n rhaid i mi wrando ar yr hyn y mae'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i ddweud, ond mae pethau eraill y gellir eu cyflwyno ar wahân i gofrestr.

Fe wnaethoch chi holi am y cod ymarfer o ran adar hela, ac rwy'n cytuno gyda DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i adolygu a diwygio'r cod ymarfer. Nid oes gennyf amserlen ar gyfer hynny yn benodol, ond mae ymrwymiad y byddwn yn gwneud hynny. Os hoffech chi anfon llythyr ataf i ynghylch y grŵp yr ydych chi eisiau imi gwrdd â nhw, byddwn yn hapus iawn ystyried hynny, os yw'r dyddiadur yn caniatáu.

Nid wyf wedi cael sgwrs benodol gyda'r Gweinidog dros dai ynghylch landlordiaid, ond rwy'n credu bod hynny yn amlwg yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried. Fe'ch clywais yn dweud eich bod wedi sôn am hynny wrth y Gweinidog, a byddaf yn sicr yn holi ynghylch hynny hefyd. 

O ran gwerthu ar-lein—ac mae'n ddrwg gennyf nad atebais gwestiwn Paul Davies ynghylch hynny—roeddwn yn synnu mewn gwirionedd gan faint  o brynu anifeiliaid anwes ar-lein sy'n digwydd, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar hyn. Rydych yn gywir; nid yw'n cael ei reoleiddio, nid yw'n cael ei fonitro yn y modd y byddem yn dymuno. Felly, dyna ddarn o waith y mae angen inni ei wneud, ac yn anffodus, mae marchnad ar ei gyfer, ac ymddengys bod y farchnad honno, dim ond yn y ddwy flynedd yr wyf wedi bod yn y swydd hyd yn oed, wedi cynyddu, sy'n amlwg yn peri pryder.

16:50

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet; mae llawer i'w groesawu yn eich datganiad pwysig iawn heddiw. Yn gyntaf, hoffwn gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â sawl peth. O ran y posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy i wahardd gwerthu cŵn bach drwy drydydd parti, croesawaf eich sylwadau ynghylch trafod posibiliadau gyda swyddogion. Gwyddom ar sail lles fod cydnabyddiaeth gynyddol ei fod yn gam da, ac fe hoffwn roi teyrnged gyhoeddus i waith Cyfeillion Anifeiliaid Cymru a'i sylfaenydd ysbrydoledig, Eileen Jones, a hefyd i Gyngor Rhondda Cynon Taf, sef y cyngor cyntaf yn y DU i basio cynnig yn condemnio gwerthiannau trydydd-parti. Gwn fod llawer o Aelodau'r Cynulliad eisoes wedi gofyn cwestiynau i chi am hyn, ond sut fyddwch chi yn manteisio ar yr arbenigedd trydydd parti sydd ar gael ynglŷn â'r agwedd hon er mwyn gwneud cynnydd yn hyn o beth?

Yn ail, nodaf eich sylwadau am yr anawsterau wrth sefydlu cofrestr troseddwyr anifeiliaid. Tybed a allech chi hefyd ddweud ychydig am fynd i'r afael ag ymladd â chŵn? Efallai i chi weld yr achos diweddar gyda phump o bobl yn cael eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud ag ymladd â chŵn yng Nghymru ac yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Sut arall all Llywodraeth Cymru helpu i fynd i'r afael â'r creulondeb ofnadwy hwn?

Ac yn olaf, mae'r sylwadau ynghylch cymorth ar adegau anodd ar gyfer perchnogion yn bwysig hefyd, ac yn arbennig help i bobl i gael gwasanaethau milfeddygol. Rydym ni wedi siarad yn aml am y niferoedd cynyddol o bobl sy'n defnyddio banciau bwyd yng Nghymru. Rwy'n deall erbyn hyn bod Ymddiriedolaeth Trussell yn derbyn bwyd anifeiliaid anwes, a gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, fod y banc bwyd cyntaf ar gyfer anifeiliaid anwes, yn wir, wedi'i sefydlu yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru hefyd ymchwilio i fwydo anifeiliaid anwes yn rhan o'r adolygiad?

Diolch i chi, Vikki Howells, am y cwestiynau hynny. Byddaf yn sicr yn ymuno â hi i dalu teyrnged i Eileen Jones a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo o ran gwerthiannau trydydd parti, ac rwyf wedi gofyn i'r rhwydwaith edrych ar yr agwedd hon ar iechyd a lles anifeiliaid yn arbennig.

Fe wnaethoch chi holi ynglŷn â chŵn ymladd, sy'n amlwg yn erchyll ac yn anghyfreithlon, ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu. Os oes gan unrhyw un unrhyw dystiolaeth o hyn, dyna lle y dylent fynd yn y lle cyntaf.

O ran y gofrestr troseddwyr anifeiliaid, byddwch wedi clywed fy ateb i Bethan Sayed, ac, fel y dywedais, mae nifer o argymhellion yn yr adroddiad drafft y credaf sydd yn werth eu hystyried ymhellach. Er mai'r cyngor i mi yw peidio â chyflwyno cofrestr ar hyn o bryd, credaf fod y sylwadau a wnaeth Bethan ynghylch edrych ar y dystiolaeth yn fanwl—yn sicr byddaf yn gwneud hynny. Yn llythrennol dim ond yr adroddiad drafft yr wyf wedi'i gael, felly, nid wyf wedi cael y cyfle i wneud hynny eto, ond byddaf yn gwneud cyn imi wneud datganiad yn yr haf.

Soniais yn fy natganiad agoriadol y credaf fod angen inni edrych ar bobl sy'n cael trafferth; mae amgylchiadau yn newid. Soniais am ferched sydd yn ffoi o aelwyd dreisgar, a chefais drafodaeth gyda'r cynghorwyr heddiw. Felly, credaf y dylem ni weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Cŵn; gwn eu bod yn helpu. Mewn gwirionedd, fel Llywodraeth, rydym ni wedi cael dau ymchwiliad yn ystod y misoedd diwethaf ynghylch maethu anifeiliaid anwes ar frys, ac mae'n amlwg nad oes gennym ni'r cyfleusterau i wneud hynny. Felly, mae a wnelo hynny â gweithio gydag elusennau ac â'r trydydd sector i weld a yw hynny ar gael.

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Cytunaf â'r teimladau sydd wrth wraidd y datganiad.

Cŵn sydd gan y mwyafrif o aelwydydd sydd ag anifeiliaid anwes, ac mae nifer o faterion ynghylch lles cŵn, un amlwg yw: mewn cymdeithas heddiw, a ydynt yn cael digon o ymarfer ac ysgogiad cyffredinol? Y dyddiau hyn, mae llawer o aelwydydd yn cynnwys cyplau sydd ill dau yn gweithio yn ystod y dydd, felly gall hyn fod yn broblem. Felly, rhaid inni fod yn siŵr bod pobl sy'n prynu cŵn yn byw mewn ffordd sy'n briodol i fod yn berchen ar gŵn. Os yw cŵn yn brin o ysgogiad, gallant arddangos problemau ymddygiadol megis pryder, mewn rhai achosion, neu mewn achosion eraill, ymddygiad ymosodol. Yna byddai angen ymdrin â nhw drwy ddosbarthiadau hyfforddiant. Bellach, mae dosbarthiadau hyfforddiant yn orfodol i berchnogion cŵn a brynwyd o lawer o'r canolfannau achub, ond dydyn nhw ddim yn orfodol ar gyfer cŵn a brynwyd drwy ddulliau eraill fel gwerthwyr preifat. Nid wyf yn dweud bod yn rhaid iddo fod yn orfodol, ond a oes angen, efallai, rhoi cyhoeddusrwydd i'r manteision o roi cŵn drwy ddosbarthiadau hyfforddiant ac a oes angen i ni wneud mwy i addysgu perchnogion cŵn ynghylch lles a chostau cadw eu hanifeiliaid? Sylwaf mai addysg yw un o'r themâu yn eich datganiad heddiw.

Dywedwch fod y rheoliadau microsglodynnu a gyflwynwyd ar gyfer cŵn yn cael eu hadolygu. Mae'n ymddangos yn synhwyrol i gyflwyno hynny gyda'r cynnydd mewn achosion o gipio cŵn, yn enwedig bridiau drud. Soniasoch eich bod yn ystyried pa un a oes achos cryf dros ymestyn y cynllun gosod microsglodion i gathod. Byddwn yn meddwl bod achos cryf dros wneud, ond gwn eich bod chi wedi ymateb i hynny eisoes pan soniodd Paul Davies am hynny, felly efallai na fyddwch yn gallu dweud mwy ynglŷn â'r mater hwnnw heddiw.

A gaf i sôn am geffylau? Does dim llawer o fanylion yn y datganiad heddiw am geffylau, er y gwn fod cod diwygiedig o arfer ar y gweill. Gwyddom fod cael gwared ar geffylau sâl ac anafus ar ei uchaf erioed, felly mae hwn yn fater o bwys. Yn wir, mae'r RSPCA yn honni bod argyfwng ceffylau. Un o'r problemau yw bod ceffylau yn gymharol rad i'w prynu, ond yn ddrud i ofalu amdanynt. Felly, un ffordd o fynd i'r afael â hyn yw mynd yn ôl at yr agwedd o addysg—unwaith eto, a oes mwy y gallwn ni ei wneud i addysgu darpar berchnogion ceffylau am gost a lles cadw ceffylau? Ar lefel fwy plwyfol, mae rhai pobl sydd ag un ceffyl. Mae ceffylau yn anifeiliaid sydd wedi arfer byw gyda cheffylau eraill mewn gwirionedd, felly efallai nad yw cadw ceffyl ar ei ben ei hun yn syniad da o ran lles yr anifail. Nawr, mae achos y gwn amdano—mae dau gymydog imi, sy'n byw dau ddrws oddi wrth ei gilydd a phob un yn berchen ar un ceffyl. Mae un o'r ceffylau hynny yn arbennig yn edrych yn druenus iawn ac mae'n debyg y byddai'n well iddynt gadw'r ceffylau gyda'i gilydd yn yr un cae. Tybiaf felly, ein bod yn dychwelyd, unwaith eto, i fater addysg. A oes unrhyw bethau mwy penodol y gallwn ni eu gwneud i hyrwyddo addysg am les anifeiliaid anwes?

16:55

Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch unigolion yn dod yn berchnogion cŵn—dyna un y soniasoch amdano. Rwy'n credu ei fod yn dda i iechyd a lles. Rwyf wedi mynychu dosbarthiadau addysg y mae'r Ymddiriedolaeth Cŵn yn eu cynnal, er enghraifft, ac fel y dywedwch, mae'n orfodol os ydych yn cael eich anifail anwes gan un o'r sefydliadau hyn. Nid wyf yn credu y byddem yn ystyried gwneud hynny yn orfodol, ond credaf fod angen i ni allu rhoi cyhoeddusrwydd iddo a byddwn yn hapus iawn i weld a ellid ei roi ar y wefan.

Nid oes dim pellach y gallaf ei ddweud ynghylch microsglodynnu, ond credaf eich bod yn iawn; mae achos cryf dros edrych ar ficrosglodynnu cathod, felly mae hynny'n waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Fe wnaethoch chi holi am y cod ymarfer er lles ceffylau. Mae'r grŵp rhwydwaith lles anifeiliaid wedi adolygu a diwygio'r cod ymarfer yn 2016. Hefyd cawsom ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y fersiwn diwygiedig fis Hydref diwethaf a chyhoeddais grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad dim ond y mis diwethaf. Byddwn yn adolygu'r cod ymarfer ac yn ei gyhoeddi cyn toriad yr haf eleni.

O ran ceffylau, yn ddiddorol, es allan am hanner diwrnod gyda'r RSPCA ac roedd pob achos yr ymwelwyd â nhw, namyn un, o ran â lles ceffylau. Soniasoch am addysg mewn perthynas â phobl yn cadw cŵn a cheffylau, ac rydym ni wedi cael y trafodaethau hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, oherwydd fe wnaethom ni ystyried p'un a allai rhoi rhywbeth yn y cwricwlwm, ond byddwch yn gwerthfawrogi fod y cwricwlwm yn eithaf llawn. Rwy'n credu bod problem ynghylch addysg, ac unwaith eto, rydym yn cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth ar ein gwefan a bob amser yn ystyried beth y gallwn ni ei wneud i roi cyhoeddusrwydd pellach i hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond ychydig o fân amrywiadau ar y mater o ran lles anifeiliaid. Bu tuedd i ystyried lles anifeiliaid, yn enwedig o ran ffioedd meddygol, fel rhywbeth moethus, yn yr ystyr y codir treth ar werth. Rydym yn gwybod, yn achos llawer o bobl, fod lles eu hanifeiliaid yn aml yn dibynnu ar p'un a allant fforddio mewn gwirionedd gwasanaethau meddygol. Credaf ei bod yn werth cofnodi gwaith gwych cyrff fel y PDSA, sef Fferyllfa'r Bobl ar gyfer Anifeiliaid Sâl, ac, yn fy etholaeth i, Hope Rescue yn Stryd Taf ym Mhontypridd—y gwaith a wnânt o ran lles cŵn ac anifeiliaid.

Cyfeiriasoch  eich bod, wrth gwrs, wedi cael trafodaethau gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y DU o ran sut y gellid cydweithio. Ymddengys i mi fod y mater o reoleiddio ffioedd milfeddygol yn rhywbeth y dylid rhoi sylw iddo. Mae'n ymddangos i mi bod ychydig iawn o eglurder ynghylch ffioedd milfeddygol. Ymddengys nad ydynt yn cael eu rheoleiddio i raddau helaeth, ymddengys eu bod yn cynyddu tua 12 y cant y flwyddyn, ac yna, ar ben hynny, mae tâl TAW o 20 y cant. Wrth gwrs, os ydych chi'n weithredwr masnachol—os ydych yn ffermwr, er enghraifft— gallwch gael y TAW yr ydych yn ei thalu yn ôl, ond os ydych yn berchen ar anifeiliaid anwes, yn amlwg, ni allwch. Rwyf wir yn meddwl tybed, o ran anifeiliaid anwes domestig ac at ddibenion lles anifeiliaid, a ddylai'r mater o leihau TAW ar filiau milfeddygol, neu efallai hyd yn oed ei ddileu yn gyfan gwbl, fod yn rhywbeth y dylid ei ystyried o leiaf, y dylid ei drafod, ond y dylai fod pethau hefyd y gallai Llywodraeth Cymru ac efallai ein cymheiriaid ei wneud i sicrhau llawer mwy o eglurder o ran ffioedd milfeddygol i berchnogion anifeiliaid anwes.

17:00

Diolch. Mae Mick Antoniw yn gwneud sylw diddorol iawn, ac rwy'n cyfarfod â Chymdeithas Milfeddygon Prydain yr wythnos nesaf, ac mae'n rhywbeth y byddaf i'n hapus iawn ei drafod gyda nhw. Nid wyf wedi cael trafodaethau ynghylch hynny gyda'm cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, ond byddaf yn sicr yn siarad â Chymdeithas Milfeddygon Prydain i ddechrau i weld beth yw eu cynghor nhw, ond rwy'n hapus iawn ystyried unrhyw gydweithio a fyddai'n helpu pobl â ffioedd milfeddygol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i groesawu'r datganiad? Rwy'n credu bod yr egwyddor o berchnogaeth gyfrifol a grybwyllir tuag at ddiwedd eich datganiad yn allweddol, ond rwyf yn credu bod angen gwneud mwy â hynny. Mae nifer o'r Aelodau, gan gynnwys Gareth Bennett, wedi sôn am yr angen am addysg, ac wedi'r cyfan, perchnogion anifeiliaid anwes sydd yn mynd i allu sicrhau'r lles anifeiliaid gorau. Ni waeth pa mor dda yw ein cyfreithiau a'n rheoliadau, ymddygiad pobl sy'n allweddol yn y fan yma.

Mae'n rhaid imi ddweud, ychydig o fisoedd yn ôl, ymwelais â Chartref Cŵn Caerdydd, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i ganmol eu gwaith rhagorol—mae'n lle hynod obeithiol, nad oeddwn i efallai yn ei ddisgwyl—ac hefyd cyfeillion Cartref Cŵn Caerdydd yn ogystal, sy'n rhoi ymarfer corff i'r anifeiliaid ddwywaith y dydd, ac, yn wir, dyna wnes i yn rhan o fy ymweliad. Ond, beth bynnag, roedd y staff a'r gwirfoddolwyr yno yn sôn wrthyf i am y problemau sydd ganddynt yn aml o ran cŵn yn cael eu gadael, oherwydd i bobl eu cael yn y lle cyntaf, yn anghyfrifol, yn ategolion ffasiwn—mae hyn yn swnio'n rhyfeddol, ond gallaf eich sicrhau chi ei fod yn digwydd—ac yna, ar ôl ryw chwe mis, mae'r hwyl o gael yr ategolyn ffasiwn hwn, yr ydych chi'n ei ddangos i'ch ffrindiau neu beth bynnag, yn pylu ac mae realiti gofalu am anifail ymdeimladol ag amrywiaeth o anghenion eithaf amlwg yn golygu eu bod yn mynd yn ddidaro neu hyd yn oed yn ddideimlad ac mae'r anifeiliaid yn aml yn cael eu gadael, ac yn cael eu gadael yn llythrennol—eu gyrru filltiroedd lawer ac wedyn eu taflu o'r car. Felly, dyna'r pwynt cyntaf.

Yr ail bwynt, ac, unwaith eto, mae sawl person wedi sôn am hyn, ond hoffwn eich cyfeirio at waith yr elusen Cats Protection, sydd wedi tynnu sylw at broblem anifeiliaid anwes yn cael eu gadael pan fo pobl yn symud i lety rhent. Maen nhw hefyd yn sôn, pan fydd pobl yn mynd i ryw fath o lety gofal, yn aml mae'n rhaid iddyn nhw ildio eu hanifeiliaid anwes yn awtomatig—cathod yn yr achos hwn—ac mae'r anifeiliaid hyn yn aml yn anifeiliaid hŷn na ellir eu hailgartrefu'n hawdd iawn. Rwy'n credu y gallai landlordiaid a'r rhai hynny sy'n rhedeg gwahanol fathau o lety gofal, llety gwarchod neu beth bynnag—cartrefi preswyl—gallai llawer ohonyn nhw yn eithaf hawdd gael eu haddasu ar gyfer anifeiliaid anwes. Rwy'n credu bod y rhai hynny sydd mewn llety rhent—yn wir, rwyf i'n byw mewn condominiwm, ac mae gennym ni ragdybiaeth y gallwch chi gael anifail anwes oni bai bod rhesymau cryf iawn dros beidio â chael yr anifail anwes, ac mae hynny'n ffordd llawer gwell o weithredu. Byddai'n decach, hefyd, a byddai'n cynnwys pobl mewn rhyw fath o lety rhent. Rwy'n credu bod hynny'n broblem wirioneddol, ac rwy'n cymeradwyo'r elusen am sôn am y mater hwnnw.

17:05

Diolch, David Melding, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny, ac rwy'n sicr yn ategu ei deyrnged i Gartref Cŵn Caerdydd. Rwyf wedi ymweld â sawl un o'r sefydliadau hyn ers i mi fod yn y swydd, ac mae ymroddiad y staff a'r gwirfoddolwyr yn anhygoel. Rwy'n cofio mynd i ganolfan yr Ymddiriedolaeth Cŵn ym Mhen-y-bont ar Ogwr ychydig cyn y Nadolig, ac roedd llawer o gŵn yno ar y pryd, a gallwch chi ddychmygu—. Fe wnaethoch chi sôn ynghylch ategolion ffasiwn a phobl yn cael gwared ar anifeiliaid anwes ar ôl chwe mis, ac mae'r un peth yn digwydd, yn amlwg, ar adeg y Nadolig. Mae llawer o bobl yn cael anifeiliaid anwes adeg y Nadolig ac yna ychydig fisoedd yn ddiweddarach—. Ond rwy'n cofio mynd i'r lle hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac roedd gan bob ci hosan Nadolig yn llawn anrhegion. Mae ymroddiad y bobl hyn yn hollol anghredadwy.

O ran y mater ynghylch landlordiaid, rwy'n gweld bod y Gweinidog tai yn y Siambr nawr, felly bydd hi wedi clywed hynny, ac yn amlwg fe soniodd Bethan Sayed am hyn wrthyf hefyd, a byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda Rebecca Evans ynglŷn â hyn. Rwyf i hefyd yn byw mewn llety rhent yma yng Nghaerdydd, ac mae'n union yr un fath. Cewch chi fod ag anifail anwes oni bai—wyddoch chi, mae'n rhaid cyflwyno achos dros beidio cael un. Felly, rwy'n credu bod llawer iawn o waith y gallwn ni ei wneud â landlordiaid i wneud yn siŵr nad yw'r sefyllfaoedd y gwnaethoch chi eu disgrifio yn digwydd.

Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd, yn amlwg, popeth mae pobl wedi'i ddweud, ond fe hoffwn i yn arbennig gefnogi yr hyn a ddywedodd David Melding am, yn enwedig, pobl sydd wedi bod ag anifeiliaid ers amser maith, a'r anifeiliaid hynny yn heneiddio, ac sy'n cael eu hanfon, mewn gwirionedd, i'w marwolaeth, oherwydd na fydd neb yn eu cymryd.

Ond rwyf i hefyd eisiau canolbwyntio ar holl fwriad yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi cyngor i bobl o ran sut i ofalu am eu hanifeiliaid yn y modd cywir a mwyaf priodol. Eto, fe wnes i arolwg cyflym iawn fy hun, a chanfod nad yw llawer o bobl yn gwybod ein bod yn gwneud hyn. Doedden nhw ddim yn gwybod dim am y cod ymarfer ar gyfer anifeiliaid anwes ymhlith y cyhoedd, ac rwy'n credu bod angen inni weithio ar hyn, p’un ai ni neu ryw rai arall.

Ond mae yna faes yr wyf i eisiau canolbwyntio arno, ac mae Vikki Howells wedi cyfeirio ato, sef ymladd cŵn. Dydy ymladd cŵn ddim dim ond yn ddrwg i'r anifeiliaid, ac wrth gwrs mae hynny yn amlwg, ond mae'n rhwydwaith cyfan sy'n ymgymryd, yn aml iawn, â gweithgarwch troseddol, betio, yfed a hefyd cymryd cyffuriau. Mae'n gyffredin iawn, rwyf wedi cael gwybod, mewn rhai ardaloedd o Gymru, a dylem ni mewn gwirionedd fod yn mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, oherwydd mae'n un o'r troseddau gwaethaf yn erbyn yr anifail, ac mewn rhai mannau wedi dod, bron, yn ymddygiad eithaf derbyniol.

Mae hyn yn mynd i swnio'n od, ond rwy'n mynd i gyflwyno maes arall y credaf y dylem ni ei ystyried pan fyddwn yn meddwl am les anifeiliaid. Mae angen inni hefyd feddwl am yr hyn yr ydym ni'n ei brynu yn ein siopau anifeiliaid anwes a allai effeithio ar ecoleg mewn mannau eraill, ac rwy'n sôn yn arbennig yma am bysgod trofannol ac a oes angen inni wneud ychydig o waith ynghylch—oherwydd mae tystiolaeth yn ymddangos—y difrod mawr i riffiau cwrel oherwydd bod pobl yn mynd i fachu'r pysgod sy'n byw yno, er mwyn i bobl rywsut eistedd ac edrych ar eu tanciau yn y cartref. Mae'r dystiolaeth mewn gwirionedd wedi ymddangos o'r ffilm Disney hwnnw, Finding Nemo, a phlant pobl eisiau pysgodyn sy'n edrych yn unig fel hwnnw. Felly, mae yna ddadl ehangach yn y fan yma, pan fyddwn ni'n ystyried lles anifeiliaid, am y dinistrio, sef, yn aml iawn, bod yr hyn yr ydym ni'n ei brynu yn effeithio ar gymunedau, yn eithaf difrifol, mewn mannau eraill.

Diolch, Joyce Watson, am godi'r tri phwynt hynny. O ran y codau ymarfer, rydym ni'n cydweithio ar y codau ymarfer, ac fe wnaethom ni weithio gyda grŵp rhwydwaith lles anifeiliaid i ddatblygu cynllun cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r codau ymarfer, felly rwy'n siomedig iawn eich clywed chi'n dweud hynny. Felly, rwy'n credu bod yna waith, yn sicr, y gallwn ni ei wneud ac y gallwn ni, Llywodraeth Cymru, ei wneud, ond rwy'n siŵr y bydd rhai o'n partneriaid ni yn hapus iawn i'n helpu. Ond, yn sicr, maen nhw ar wefan Llywodraeth Cymru. Gellir eu lawrlwytho, gallan nhw fod ar gael fel dogfennau papur, a hefyd, gallwch chi eu cael ar CD-ROM. Rwy'n gwybod fod fy swyddogion wedi gweithio gyda rhanddeiliaid fel sefydliadau lles, siopau anifeiliaid anwes, er enghraifft, a meddygfeydd milfeddygol i wneud yn siŵr ein bod yn dosbarthu'r codau ymarfer hynny ac yn codi ymwybyddiaeth ohonynt. Rwy'n gwybod fod yr RSPCA, yn arbennig, wedi bod yn awyddus iawn i'w defnyddio yn rhan o'u gweithgarwch gorfodi i annog gwelliannau mewn safonau pan ganfuwyd problemau ynglŷn â lles.

O ran ymladd cŵn, rydych chi'n hollol gywir: mae'n weithgaredd troseddol. Cefais drafodaeth am ymladd cŵn pan dreuliais beth amser gyda'r tîm troseddau gwledig yn y gogledd, ac rwyf i dreulio diwrnod arall gyda nhw ym mis Awst. Felly, unwaith eto, fe wnaf i sôn am hynny. Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod mor gyffredin ag y gwnaethoch chi ei awgrymu, ond rwy'n hapus iawn i gael trafodaeth arall gyda nhw am hynny.

Dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi gwneud unrhyw beth o ran pysgod trofannol, felly os nad oes ots gan yr Aelod, fe gaf i drafodaeth â'm swyddogion ac fe wnaf i ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny.

17:10
6. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Y Dechrau Gorau mewn Bywyd: Gwneud i'r Blynyddoedd Cynnar Gyfrif
7. Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Meicrobelenni) (Cymru) 2018

Eitem 7 yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018, a galwaf ar Gweinidog yr Amgylchedd i gyflwyno'r rheoliadau—Hannah Blythyn.

Cynnig NDM6742 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Y rheoliadau a roddwyd gerbron y Cynulliad ar gyfer eich ystyriaeth heddiw yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn o dan bwerau a gynhwysir yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008. O dan y rheoliadau hyn bydd yn drosedd yng Nghymru, o 30 Mehefin 2018 ymlaen, i unrhyw un weithgynhyrchu unrhyw gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n defnyddio microbelenni plastig yn gynhwysion. Bydd hefyd yn drosedd yng Nghymru o'r dyddiad hwnnw i gyflenwi neu gynnig cyflenwi unrhyw gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig.

Awdurdodau lleol Cymru fydd yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hyn, a bydd y swyddogaeth orfodi hon yn cael ei gweithredu'n unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflwyno cyfundrefn orfodi sy'n cynnwys cosbau sifil a throseddol, megis cosbau ariannol amrywiol, hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau stop. Mae cosbau sifil yn cynnig hyblygrwydd ac yn caniatáu i awdurdodau lleol, wrth orfodi'r gwaharddiad, wahaniaethu rhwng y rhai sy'n ymdrechu i gydymffurfio a'r rhai sy'n anwybyddu'r gyfraith. Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i unrhyw un sydd wedi cael cosb sifil i apelio i'r tribiwnlys haen gyntaf.

Cefais gyfarfod â rhanddeiliaid morol ar 7 Mehefin, ac fe wnaethon nhw bwysleisio pa mor bwysig yw'r gwaharddiad hwn, a thrwy ein hymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y gwaharddiad hwn gefnogaeth eang. Dirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.

A gaf i ddweud ein bod yn awyddus iawn i gefnogi'r rheoliadau hyn sy'n gwahardd microbelenni o gynhyrchion hylendid personol. Mae'r rheoliadau hyn wedi'u pasio eisoes, ac yn wir y maen nhw'n dod i rym heddiw yn Lloegr ac yn yr Alban. Felly, rydym ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn yr un modd. Felly, o leiaf, yn y DU, bydd gennym ymagwedd gyson.

Rwy'n credu bod hwn yn gam sylweddol i'w groesawu, ond dim ond y cam cyntaf ydyw. Mae angen newid mewn polisi cyhoeddus ynghylch defnydd cyfrifol o gynhyrchion plastig a gwahardd cynhyrchion plastig untro. Mae cyflwr ein cyrsiau dŵr: clywsom dystiolaeth yn y pwyllgor newid yn yr hinsawdd dim ond ychydig wythnosau'n ôl, gan academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd, am lefel llygredd plastig sydd bellach yn cael ei gofnodi mewn samplau o afonydd Cymru, ac sydd yn y pen draw yn gwneud ei ffordd i mewn i anifeiliaid. O safbwynt ein moroedd, mae faint o ddeunydd plastig sy'n mynd i mewn—ac mae llawer ohono'n mynd i mewn wrth i ni olchi cynhyrchion oddi ar y corff, a golchi ffibrau o ddillad hefyd—mae gwaith mawr i'w wneud, ond, wrth gwrs, mae pob taith o bwys angen y cam cyntaf. Rwyf yn credu mai un o'r newidiadau mwyaf rhyfeddol yn y blynyddoedd diwethaf yw sut y mae'r cyhoedd wir yn ein gwthio ni erbyn hyn, ac mae'n rhaid inni ddefnyddio ein dychymyg wrth ddefnyddio rheoliadau a newidiadau i'r gyfraith i sicrhau yr amgylchedd o ansawdd y mae pobl yn ei haeddu ac mae cenedlaethau'r dyfodol yn ei haeddu. Felly, rydym ni'n awyddus i gefnogi rheoliadau heddiw.

Bydd Plaid Cymru hefyd yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Mae'n bwysig i ddweud, serch hynny, ein bod ni o'r farn y dylid mynd ymhellach ynglyn â rheoli plastig o bob math—micro a macro. Dyma'r rheoliadau sydd, fel sydd wedi cael ei amlinellu, yn ymwneud â deunyddiau sy'n cael eu golchi i ffwrdd o'r corff, a'u defnyddio ar gyfer glendid personol, ond mae hynny yn gadael nifer o bethau—mae eli haul, er enghraifft, yn rhywbeth efallai y bydd modd o hyd iddo gynnwys y microbelenni yma. Mae wedi ei amcangyfrif bod yna rhwng 4,000 a 7,500 o dunellau o'r microblastigau yma yn cael eu defnyddio bob blwyddyn yn Ewrop, yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae yn dasg i fynd i'r afael â'r plastig yma—tasg sydd yn dechrau gyda rheoliadau fel hyn ond, yn fy marn i, sydd yn gorfod cynnwys gwaharddiad ehangach ar microblastigau, gan gynnwys rhai sydd mewn deunyddiau glanhau o gwmpas y tŷ, ac ati. Rydym ni'n dal i bwyso am lefi ar ddefnydd o blastig un defnydd, ac wrth gwrs mae'r posibiliad am gynllun ernes ar boteli yn rhywbeth i'w groesawu hefyd.

Mi wnes i ddoe ymweld â siop arall—mae yna nifer o siopau diblastig yn datblygu dros Gymru nawr, sydd yn dangos bod y cyhoedd o flaen y gwleidyddion, mewn ffordd, achos os yw busnesau yn mynd ar ôl y cwsmeriaid, mae'n amlwg bod pobl yn mynegi diddordeb mewn hyn. Mae'r siop yma, La Vida Verde, yn Llandrindod, lle mae ganddyn nhw yr hen boteli pop gyda 30c o ernes arnyn nhw—blaendal. Felly, fe gewch chi 30c yn ôl am fynd â'r pop yn ôl, sydd ddim yn ddigon o chwyddiant yn fy marn i. Rydw i'n credu yr oedd 5c ar gael pan oeddwn i'n chwilio'r gwlis am y poteli pop yma. Ond mae'n dangos bod pobl yn barod ar gyfer hyn.

Mae hefyd yn wir i ddweud, er bod gennym ni ailgylchu da yng Nghymru, dim ond 44 y cant o'r 35 miliwn o boteli plastig sy'n cael eu prynu bob dydd—bob dydd; mae hynny bron yn un botel blastig i bob oedolyn—dim ond 44 y cant o'r rheini sy'n eu hailgylchu, ac mae modd defnyddio cynllun blaendal i gynyddu'r ailgylchu i bron 80 y cant yn y maes yma. Felly, rydym ni'n edrych ymlaen at glywed mwy am y drafodaeth sydd rhwng y Llywodraeth fan hyn a Llywodraeth San Steffan ynglŷn â chyflwyno cynllun o'r math.

Fe soniodd David Melding am yr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd am y microblastigau sydd yn yr amgylchedd—ymchwil syfrdanol, a dweud y gwir. Rydw i jest eisiau dyfynnu ychydig o hynny. Fe glywon ni gan yr Athro Steve Ormerod am ymchwil ar yr afon Irwell, sydd ym Manceinion, lle canfuwyd 0.5 miliwn o ddarnau microblastig fesul metr sgwâr. Fesul metr sgwâr, 0.5 miliwn. Mae ymchwil pellach wedyn yng Nghaerdydd ac yn yr afon Taf sydd yn dangos bod microblastigau yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ac yn ymbresenoli mewn adar wedi'u dodwy gan wyau—wyau wedi'u dodwy gan adar, dylwn i ddweud.

Pa un ddaeth gyntaf, y cyw iâr ynteu'r wy?

Gwnes i bron ateb y cwestiwn yn fanna. Na, yr wyau sydd wedi'u dodwy gan adar, sydd yn dangos bod gyda ni yng Nghymru'r lefel uchaf o microblastigau yn yr wyau eu hunain—rydym ni'n sôn am blastig bach, bach, bach, wrth gwrs, fan hyn—yn yr wyau eu hunain yng ngorllewin Ewrop. Mae jest yn dangos bod hwn bellach yn treiddio drwy'n systemau dŵr ni, yn treiddio drwy'r gadwyn fwyd, ac yn cael effaith, achos bob tro mae'r microblastig yn teithio, wrth gwrs, mae'n gallu cario llygredd, afiechyd, germau, mae'n gallu cario pob math o bethau gyda fe, ac wedyn ymbresenoli ynom ni a'r bywyd gwyllt, ac ati.

Rydw i'n deall bod y rheoliadau yn ymwneud â microbelenni—rhywbeth rydym ni'n benodol yn ei roi mewn cynnyrch—ac mae lot o'r ymchwil yma yn sôn am y microblastigau sydd yn deillio o blastig sydd yn torri lawr a thorri lawr ac yn treulio i lawr i faint bach iawn, ond mae'n wir i ddweud bod yn rhaid i ni fynd i'r afael ym mhob ffordd bosib â'r plastig di-angen—a dyna beth sy'n bwysig, di-angen, yn yr ystyr yma. Mae modd cadw eich hunain yn lân heb blastig. Rydw i'n credu bod y neges yna yn mynd yn gryf iawn wrth basio'r rheoliadau yma y prynhawn yma.

17:15

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i David Melding a Simon Thomas am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, ac am y gefnogaeth a ddangoswyd o bob rhan o'r Siambr i'r gwaharddiad ar ficrobelenni. Bwriad y gwaharddiad yw gwarchod yr amgylchedd morol rhag mwy o lygredd, meithrin hyder defnyddwyr yn y cynnyrch y maen nhw'n ei brynu, sicrhau na fydd niwed i'r amgylchedd, a chefnogi busnesau drwy sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:20

Ar 5 Mehefin, yn uwchgynhadledd Volvo Ocean, roeddwn yn falch o lofnodi Addewid Moroedd Glân y Cenhedloedd Unedig ynghylch plastig ar ran Llywodraeth Cymru. Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon sy'n  gwahardd microbelenni yn cefnogi'r addewid hwn ac mae'n rhan o becyn ehangach o gamau gweithredu sydd eisoes ar waith gan Lywodraeth Cymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth, i leihau lefelau llygredd plastig sy'n mynd i mewn i'n moroedd a'n cefnforoedd.

Roedd David Melding a Simon Thomas yn hollol iawn i nodi, wrth inni groesawu'r ddeddfwriaeth hon, mai dim ond un cam ar y ffordd yw hwn i gael gwared ar blastig untro a diangen yn raddol. Rwy'n credu, Simon, ichi gyfeirio at ficrobelenni mewn cynhyrchion eraill a hefyd microplastig. O ran cynhyrchion eraill, rydym am ddatblygu, ar lefel y DU, ein dull o weithredu i leihau llygredd microbelenni mewn cynhyrchion eraill a chasglu'r dystiolaeth honno ynghylch yr effeithiau amgylcheddol i lywio camau gweithredu i leihau'r defnydd o gynhyrchion sy'n cynnwys microbelenni.

Mae microplastig yn fater arall sydd ar y gorwel sy'n cael tipyn o sylw, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion i wneud rhywfaint o waith ar hynny, gyda'r bwriad o roi cyngor imi ynglŷn â'r hyn y gallem ac y dylem ei wneud ynghylch y mater hwnnw. Fel y dywedasoch, dim ond un cam yw hwn, un darn o jig-so mawr iawn y mae angen i ni ei gwblhau i gymryd y camau y mae angen i ni eu cymryd. Rydym yn trafod ffigurau brawychus ac yn ystod Ras Cefnfor Volvo, y ffigwr a gefais gan Sefydliad Ellen MacArthur oedd os na weithredwn yn erbyn plastig, yna fe fydd mwy o blastig na physgod yn y moroedd erbyn 2050. Mae hwnnw'n ystadegyn gwirioneddol frawychus.

Felly, fel y dywedais, rydym ni wedi ymrwymo i weithredu ar ein trywydd i fynd i'r afael â phlastigau. Rydym ni, nid yn unig yn ystyried cynyddu ailgylchu a chael gwared ar blastig untro yn raddol, ond rydym ni hefyd yn edrych mewn gwirionedd o safbwynt cynnwys wedi ei ailgylchu, ei werth, a chynllunio cynhyrchion a weithgynhyrchwyd o fewn Cymru, ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran treth ar fagiau plastig untro a'r cynllun DRS, yr wyf yn gobeithio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei gylch cyn bo hir yn y lle hwn, a thrafod hefyd beth sy'n bosibl inni ei ddatblygu ar sail Cymru gyfan hefyd. Rwyf wedi dweud o'r dechrau y byddaf yn ystyried codi treth, ardoll neu dâl ar gynwysyddion diod untro. Felly, mae'n un cam mewn cyfres gyfan o fesurau i fynd i'r afael â melltith y plastig untro diangen.

Felly, i gloi, Llywydd, rwy'n croesawu cefnogaeth Aelodau'r Cynulliad wrth gynnig i gymeradwyo'r rheoliadau hyn. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Nag oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Yr eitem nesaf yw'r ddadl Cyfnod 4 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Cyn inni fwrw ymlaen â'r trafodion, rwy'n deall bod angen i'r Bil gael cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 26.67, rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hysbysu ddynodi cydsyniad cyn inni allu cynnal y ddadl hon. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau y cafwyd y cydsyniadau gofynnol? A allwch chi gadarnhau? 

A allwch chi gadarnhau bod y —

Llywydd, rwyf dan orchymyn Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i hysbysu'r Cynulliad fod ei Mawrhydi a'r Dug, ar ôl cael eu hysbysu ynghylch perwyl Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), wedi rhoi eu cydsyniad i'r Bil hwn.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, sy'n ein caniatáu ni i symud ymlaen i'r ddadl ar Gyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei gyfraniad—Vaughan Gething.

Cynnig NDM6746 Vaughan Gething

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig y cynnig ac agor dadl Cyfnod 4 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

Rydym wrth gwrs wedi gweithio ar y Bil hwn dros nifer o flynyddoedd. Buom yn ymgynghori gyntaf ar isafswm pris ar gyfer alcohol yn 2014, yn rhan o Bapur Gwyn iechyd y cyhoedd a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'm cydweithwyr gweinidogol Mark Drakeford a Rebecca Evans am eu gwaith yn llunio a datblygu'r ddeddfwriaeth newydd a phwysig hon. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am eu cefnogaeth ac am y gwaith craffu sydd wedi digwydd yn ystod hynt y Bil. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r tri phwyllgor—Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—am eu gwaith craffu. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhanddeiliaid allanol am eu hymgysylltiad parhaus ers cyflwyno'r Bil fis Hydref diwethaf, ond hefyd o ran eu cyfraniadau blaenorol, yn cynnwys eu hymatebion i'r ymgynghoriad ar Fil drafft yn 2015 dan fy arweiniad i, fel y Dirprwy Weinidog ar y pryd.

Mae'r Mesur hwn yn ymwneud yn benodol â diogelu bywyd ac iechyd. Mae'n darparu ar gyfer isafswm pris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru a bydd yn ei gwneud hi'n drosedd i fanwerthwyr safleoedd cymwys werthu neu gyflenwi alcohol yn rhatach na'r pris hwnnw. Cyfrifir yr isafswm pris ar gyfer alcohol yng Nghymru drwy luosi isafswm pris uned a bennir mewn rheoliadau, gyda chryfder canran yr alcohol a'i gyfaint. Ni fydd yn cynyddu pris pob diod alcoholig, dim ond y rhai a werthir ar hyn o bryd o dan y pris isaf perthnasol.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn gosod cyfres o droseddau a chosbau yn ymwneud â'r system newydd. Mae'n rhoi pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i orfodi'r system pris isaf.

Bu galw ers tro am i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r niwed i iechyd a'r difrod a achosir wrth yfed gormod o alcohol, ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud hynny yn union. Oherwydd o ran faint sy'n cael ei yfed, gwyddom fod pris alcohol yn bwysig. Gan ddefnyddio'r pris fel arf yn y modd hwn, gallwn dargedu a lleihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol, a lleihau'r effaith ar yfwyr cymedrol. Bydd hyn yn helpu i wella nifer o ganlyniadau iechyd allweddol, gan gynnwys lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r nifer o bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd alcohol. A'r fformiwla sydd ar wyneb y Bil sy'n ein galluogi ni i dargedu alcohol rhad sy'n gryf gyda chyfaint uchel—y math o alcohol a yfir yn anghymesur gan yfwyr peryglus a niweidiol. Mae'n werth nodi mai 28 y cant o yfwyr sy'n yfwyr peryglus a niweidiol, yn ôl ymchwil a gynhaliwyd eleni gan Brifysgol Sheffield, ond maen nhw'n yfed 75 y cant o'r holl alcohol sy'n cael ei werthu.

Yn ystod hynt y Bil hwn, mae llawer wedi nodi data am niweidiau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, ac mae bob amser yn brofiad annifyr darllen data o'r fath, ac felly y dylai hi fod. Rwyf am ailadrodd rhai o'r ystadegau yn y fan yma heddiw. Bu dros 500 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru y llynedd yn unig ac aeth dros 54,000 o bobl i'r ysbyty oherwydd alcohol y llynedd yn unig. Amcangyfrifir bod costau gofal iechyd sy'n cael eu priodoli i alcohol yn £159 miliwn ar gyfer y llynedd yn unig. Ond problem sy'n fwy o lawer yw'r dinistr a ddaw yn sgil y ffigurau hynny—y teuluoedd, y cymunedau a'r canlyniadau i staff y GIG a'r gwasanaethau cynnal, wrth iddyn nhw ymdopi bob dydd yn sgil marwolaethau, afiechyd a niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle i ni wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae'n rhoi cyfle i ni wneud mwy i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ac, yn y pen draw, yn rhoi cyfle i ni wneud mwy i geisio achub bywydau. Ers i ni gyflwyno'r Bil i'r Cynulliad fis Hydref diwethaf, rydym ni wedi clywed gan amrywiaeth o wahanol arbenigwyr iechyd y cyhoedd a darparwyr gwasanaethau. Mae llawer ohonynt wedi cydnabod y gwahaniaeth y gallai'r ddeddfwriaeth hon ei wneud.

Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru:

Ceir tystiolaeth gref, ledled y DU ac yn rhyngwladol, y byddai cyflwyno isafswm pris uned yng Nghymru yn arwain at welliannau sylweddol i iechyd a lles y boblogaeth.

Ac mewn tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dadleuodd cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

mae isafswm pris fesul uned yn ddarn gwbl hanfodol o'r jig-so; a hebddo, ni fyddai llawer o'r ymyraethau eraill a ddarperir gennym a'r gwaith a wnawn yn cyflawni'r buddion yn llawn.

Mae Alcohol Research UK wedi nodi

y bydd buddion yn cronni mwy mewn cymunedau tlotach yn... mae'r cymunedau hynny yn llai cydnerth o safbwynt problemau alcohol.

Wedi dweud hynny, nid oes unrhyw amheuaeth bod y Bil hwn yn wahanol ac yn arbrofol. Dim ond yr Alban sydd wedi cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol yn y dull hwn, a daeth eu deddfwriaeth ar isafswm pris i rym ar 1 Mai eleni. Natur arbrofol y ddeddfwriaeth hon yw'r rheswm i ni gynnwys cymal machlud a darpariaethau i adolygu yn y Bil, ac mae'r darpariaethau hynny wedi'u cymeradwyo'n eang. Ond hoffwn achub ar y cyfle heddiw i ailddatgan y bydd darpariaethau i adolygu yn y ddeddfwriaeth yn seiliedig ar bum mlynedd o werthuso cadarn, a byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i ni ddatblygu'r gwaith hwnnw.

Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori ynghylch lefel arfaethedig yr isafswm pris uned cyn gynted â phosibl ac, unwaith eto, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ein cynlluniau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny.

17:25

Diolch i chi, Llywydd, er nad wyf yn gwybod pam y dylwn ddiolch ychwaith oherwydd mae'r Bil hwn yn gwneud i mi anobeithio. Yma cawn enghraifft arall o Lywodraeth Cymru yn rhuthro drwy ddeddfwriaeth wedi ei llunio'n wael er mwyn cyflawni amcan polisi Llywodraeth Cymru na fyddai neb yn dadlau yn ei gylch. Yn wir, roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i basio Mesurau yn ein maniffesto diwethaf i fynd i'r afael â'r achosion cyffredin o ddefnyddio alcohol yn amhriodol.

Fodd bynnag, yn ystod yr holl gamau pwyllgor a Chyfnod 3, rydych chi wedi methu â chreu argraff dda, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'ch rhesymeg dros wrthod sicrhau y ceir mwy o eglurder o ran y Bil, a mesuro clir o fewn y Bil hwn. Rydych chi wedi gwrthod rhoi lleiafswm pris yr uned ar wyneb y Bil. Nid oes man cychwyn statudol, ac felly gellir ystyried y Bil yn ddarn anghyflawn o ddeddfwriaeth. Mae'n gadael gweithgynhyrchwyr ar goll, busnes mewn penbleth ac nid yw'n gwneud dim i dawelu meddyliau pobl gyffredin nad ydych yn dymuno eu cosbi, gyda chanlyniadau dinistriol i'r rhai ar incwm isel sydd â phob hawl i fwynhau alcohol gymaint â'r rhai y bydd yn teimlo llai o effaith ar eu waledi.

Yn ystod trafodaethau Senedd yr Alban pryd y casglwyd tystiolaeth, clywyd tystiolaeth gref y bydd yfwyr tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan isafswm pris fesul uned, a mynegwyd pryderon yn ein sesiynau tystiolaeth ninnau i'r un perwyl. Gan aros gyda'r Bil yn yr Alban, mae'n ymddangos yn rhyfeddol i mi eich bod yn fodlon aros i weld sut y byddai'r her farnwrol yn datblygu ond nad ydych yn fodlon aros a dysgu o brofiad yr Alban wrth weithredu'r ddeddfwriaeth newydd hon. Byddai hynny yn sicr wedi bod yn ddefnyddiol, o ystyried y llu o ganlyniadau anfwriadol a allai ddeillio o'r Bil hwn, megis materion masnach traws-ffiniol. Yn wahanol i'r Alban, yng Nghymru mae ein ffin ni â Lloegr yn fandyllog, yn hir ac yn drwchus ei phoblogaeth, gyda lefelau uchel o draffig trawsffiniol, ond gwthiwyd y pryderon hyn o'r neilltu.

Hefyd rwyf yn dal heb gael fy argyhoeddi bod y potensial i alcohol ffug a heb ei drwyddedu gael ei smyglo wedi ei archwilio'n iawn. Ond fy mhryder mwyaf yw y gallech fod yn newid un ddibyniaeth am un arall. Mae nifer o elusennau, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio gyda'r digartref, ac eraill sy'n gweithio gydag alcoholiaeth a cham-ddefnyddio sylweddau, wedi amlygu peryglon defnyddio isafswm pris fesul uned fel erfyn di-awch i gosbi. Mae llawer o sôn am dystiolaeth ynghylch y ddeddfwriaeth hon, ond ychydig o dystiolaeth i awgrymu bod y pryderon hyn wedi'u lleddfu neu wedi eu harchwilio'n briodol hyd yn oed. Yn wir, clywodd y Pwyllgor Iechyd dystiolaeth gan ddefnyddwyr canolfan adfer ar gyfer alcohol a ddywedodd y gallai prisiau uwch wthio yfwyr tuag at sylweddau eraill, mwy niweidiol.

Yn ogystal â hyn, rhybuddiodd Canolfan Huggard, elusen digartrefedd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd ac sy'n adnabyddus i lawer ohonoch, na fyddai codi pris cyffuriau cyfreithiol fel alcohol yn unig ddim ond yn newid un ddibyniaeth am un arall a chondemnio pobl i fywyd anobeithiol a di-syfl ar y stryd—eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Ystyriwch yr wythnos diwethaf, gwelsom luniau o effaith y cyffur Spice ar bobl ifanc, cyffur y gellir ei brynu bellach â newid mân. Sut y gellir ein hargyhoeddi na fyddai codi prisiau alcohol yn gwthio'r bobl dlotaf mewn cymdeithas tuag at sylweddau fel Spice?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dra amheus y bydd y gwasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol presennol yn ddigon i helpu'r rhai sydd wedi eu heffeithio. Mae dibyniaeth yn salwch meddwl, a gwyddom i gyd am y problemau ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Gyda'r gogledd yn colli yr olaf o'u gwelyau dadwenwyno preswyl, a'r trydydd sector yn amlygu toriadau i'r ddarpariaeth o wasanaethau mewn mannau eraill, nid yw hi'n edrych yn debygol y ceir gwasanaethau cymorth ychwanegol, ac fe hoffem i chi ein sicrhau unwaith eto y byddwch chi yn eu darparu.

Yn fyr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae hwn yn amcan polisi cadarn, ond ni fyddwn i erioed wedi cyflwyno Bil o ansawdd mor wael â hwn i lawr y Siambr. Nid yw wedi ei saernio'n iawn, a'r unig beth—yr unig beth—sydd wedi achub y Bil hwn rhag ymataliad gan y Ceidwadwyr Cymreig yw'r cymal machlud, ond gyda hwnnw yn oed, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n rhybuddio; rydych chi wedi gwrthod galwad ar ôl galwad gan aelodau o'r wrthblaid am fonitro trylwyr o effeithiau'r Bil ar feysydd yn amrywio o effaith y Bil ar wasanaethau cymorth ar gyfer dibyniaeth, ar grwpiau oedran, i'r effaith ar y rhai sydd ar incwm isel. Nid oes ychwaith ymrwymiadau i fesur yr effeithiau ar drais domestig, ar therapi amnewid ar y nifer o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol, i enwi dim ond rhai o'r canlyniadau a nodwyd gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, ar bob cam o hynt y Bil hwn.

Ond bydd y cymal machlud hwn yn cael eu ei adolygu a phleidleisir arno yn y dyfodol gan Gynulliad yr adeg honno, a bydd y Cynulliad hwnnw, yr Aelodau hynny, yn eich beirniadu'n llym os na fyddwch yn casglu tystiolaeth gredadwy a chyson, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a fyddai'n caniatâu craffu priodol a barn gadarn wrth adolygu Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).

17:30

Bil iechyd y cyhoedd ydy hwn. Mae gwarchod, hybu a gwella iechyd y cyhoedd, siawns, yn un o’n prif ddyletswyddau ni. Mae arfau yn y frwydr yn erbyn smygu yn rhai mae pobl yn disgwyl i ni eu defnyddio erbyn hyn, ac maen nhw'n cefnogi hynny. Mae’n anodd dychmygu, erbyn hyn, gwrthwynebiad i waharddiad ar ysmygu dan do erbyn hyn, ac nid oedd gweithredu y Ddeddf honno yn anodd achos mi dderbyniodd pobl beth oedd y pwrpas—mae mwg ail law yn ddrwg i chi, ac mae pobl yn gwybod hynny.

Nid ydym ni cweit yn yr un lle efo'r Bil yma eto. Mae yna amheuon, a waeth i ni beidio ag anwybyddu rheini, ynglŷn â pham ein bod ni yn gwneud hyn, pa mor effeithiol fydd hyn, ac nid ydy'r dystiolaeth gennym ni yn llawn. Ond mae'r dystiolaeth yn gryf bod defnyddio cymhellion ariannol—hynny ydy, newid prisiau diodydd—yn effeithio ar faint mae pobl yn ei yfed, ac rydw i'n cefnogi hynny fel mater o egwyddor, ac mae o wedi bod yn rhan o faniffesto Plaid Cymru ers rhai blynyddoedd.

Trethi y byddwn ni'n dewis eu defnyddio, fel rydw i wedi'i ddweud o'r blaen, ond nid ydy'r pwerau gennym ni. Rydw i'n gobeithio y byddan nhw ryw ddydd, ond, yn absenoldeb hynny, mae gosod isafbris yr uned yn opsiwn sydd ar gael i ni. Felly, ar ôl llwyddo i gryfhau'r Bil gwreiddiol mewn sawl ffordd yn ei daith drwy'r Cynulliad, mi bleidleisiwn ni o blaid y Bil yma heddiw iddo ddod yn Ddeddf. Rydym ni wedi'i gryfhau o mewn sawl ffordd drwy ddylanwadu ar y sgrwtini fydd yna o'r Ddeddf yma gan y Cynulliad i werthuso ei effeithlonrwydd.

Mae'n hanfodol rŵan bod y Llywodraeth yn dod â thystiolaeth gwbl glir i ni ynglŷn â lefel briodol yr isafbris, ac rydw i'n gresynu bod rhuthr taith y Mesur hwn wedi methu â chaniatáu’r math o sgrwtini y byddwn i wedi dymuno ei gael ar y pris hwnnw, ond mi fydd yna gyfle eto drwy'r rheoliadau i ni allu edrych ar y dystiolaeth honno, ac mi fydd mesur a gwerthuso yn hanfodol er mwyn i ni ddod â phobl Cymru efo ni ar y daith. Rydym ni hefyd wedi mynnu bod yna, ar wyneb y Bil, ymrwymiad i ddysgu ac addysgu pobl ynglŷn â pham bod y ddeddfwriaeth yma yn gallu bod yn rhan o'r swît o arfau sydd gennym ni i helpu ag iechyd y cyhoedd.

Mae yna wendid yma yn y Ddeddf, ac rydw i'n gresynu eto bod y Llywodraeth wedi methu â chefnogi hynny, i edrych ar sut i atal elwa ar y Ddeddf yma wrth i fân-werthwyr orfod gwerthu diodydd am brisiau uwch. Mi fyddwn ni wedi dymuno gweld rhywbeth mewn deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod yna arian yn dod yn sgil y ddeddfwriaeth yma er mwyn gallu cael ei wario ar daclo camddefnydd alcohol a rhoi triniaeth i'r rheini sydd yn camddefnyddio ac yn goryfed. Mi fyddwn ni'n gorfod edrych rŵan ar lefi wirfoddol, ond rydw i yn credu bod yna gyfle wedi cael ei golli yma, ac, yn sicr, mi fyddaf i yn y dyfodol, wrth i ni sgrwtineiddio a chwilio am ffyrdd i gryfhau hyn, yn chwilio am ffyrdd i sicrhau nad oes yna elwa yn digwydd.

Rydym ni wedi clywed droeon bryderon y byddai pobl ar incwm is yn cael eu taro'n annheg, ac rydw i wedi meddwl llawer iawn am hyn. Wrth gwrs, mae'n sgandal mai pobl incwm is sydd fwyaf tebyg o ddioddef salwch yn deillio o gamddefnydd alcohol: mae'n enghraifft o'r annhegwch cymdeithasol, yr anghysondeb mewn cyfleon y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw drwy ystod eang o fentrau polisi. Ond beth am yr effaith ar bobl sy'n goryfed rŵan, yr ofnau y bydd yfwyr cymedrol ar incwm is yn dioddef, a hynny'n annheg o ran y gost ariannol? Rydw i'n gobeithio, drwy'r rhaglen o addysgu a ddaw law yn llaw efo'r Ddeddf yma, y bydd pobl—mwy a mwy o bobl, dros amser—yn gweld bod modd iddyn nhw addasu eu harferion yfed mewn ffordd sydd yn golygu na fydd cosb ariannol. Rydw i'n gobeithio y bydd diwydiant yn ymateb drwy ostwng cynnwys alcohol, er enghraifft. Mi all bobl yfed diod efo cynnwys is o alcohol neu yfed rhywfaint yn llai. Oherwydd mae yna neges rŵan drwy'r darn yma o ddeddfwriaeth na allwn ni ystyried alcohol fel rhywbeth benign. 

Ond, yn bennaf oll, gadewch i ni weld hwn fel mesur ar gyfer ein plant ni. Rydw i'n gobeithio y bydd y Ddeddf yma yn arf a all arwain at lai o bobl ifanc Cymru yn dechrau goryfed, yn y modd mae rheolau llym ym maes ysmygu wedi arwain, heb os, at ostyngiad yn nifer ysmygwyr ifanc. Iechyd Cymry'r dyfodol sydd wirioneddol yn y fantol yn fan hyn.

17:40

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy, unwaith eto, ddiolch i'r Aelodau nid yn unig am eu cyfraniadau i'r ddadl, ond am graffu ar y Bil hefyd. Ac, er fy mod yn deall rhai o'r pryderon y mae Angela Burns wedi eu crybwyll heddiw, mae natur y pryderon hynny yn wahanol i'r sgyrsiau yr ydym ni wedi'u cael, ond, i fod yn deg, mae hi wedi crybwyll nifer o bryderon yn ystod hynt y Bil, yn y Pwyllgor ac ynghylch y Bil hefyd. Felly, dydyn nhw ddim yn bryderon newydd, ac rwy'n hapus i gydnabod hynny.

Mae angen gwneud rhywbeth i ddarbwyllo'r Aelodau ein bod yn gwrando ar yr hyn sy'n digwydd, nid yn unig pasio Bil yn seiliedig ar ymddiriedaeth, ond wedyn gweithredu yn y modd hwnnw ar ôl hynny. A dyna pam, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, fod gennym ni gynllun gwerthuso. Bydd angen inni wrando. Rydym ni'n hapus i rannu gwybodaeth a gweithio gyda'r pwyllgor, a fydd yn parhau i graffu ar yr hyn sy'n digwydd, yn ogystal ag ar y cymal machlud. Oherwydd, wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod hwn yn ddarn gwirioneddol newydd  o ddeddfwriaeth a bydd angen sicrwydd arnom ni bod tystiolaeth ei fod wedi gwneud y gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd y wlad y credwn y bydd yn ei wneud. Ond nid wyf yn derbyn yr awgrym a wnaed bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth frys. Ymgynghorwyd ar y mater hwn yn gyntaf yn 2014, a chraffwyd arno'n drwyadl ac yn briodol yn ystod ei amser yn y Cynulliad.

Wrth gwrs, mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i gymryd camau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gychwyn y ddeddfwriaeth, ac mae hynny'n cynnwys hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r peryglon iechyd sydd ynghlwm ag yfed gormod o alcohol a sut mae'r Bil a'r isafbris uned yn bwriadu lleihau hynny. Dyna pam yr oeddwn yn falch o weithio gyda Rhun ap Iorwerth i gyflwyno gwelliannau a gefnogwyd gennym ni yng Nghyfnod 3 i gynnwys y darpariaethau hynny yn y Bil. Ac rwyf hefyd eisiau cydnabod bod yr ymrwymiad i isafbris uned wrth gwrs, wedi ymddangos yn nau faniffesto diwethaf Plaid Cymru.

Ond hoffwn i orffen drwy ail-bwysleisio na fydd y ddeddfwriaeth hon yn sefyll ar ei phen ei hun. Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd i'r afael mewn ffordd benodol â phroblem wirioneddol ac amlwg iawn yng Nghymru heddiw, a bydd amryw o gamau ychwanegol yn ei ategu er mwyn cefnogi'r bobl hynny sydd mewn angen, yn arbennig y meysydd hynny sy'n rhan ehangach o strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru. Rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed ynglŷn â sut mae angen cefnogi'r bobl y gobeithiwn y bydd mwy ohonynt yn ceisio cymorth. Ond mae'r Bil hwn yn ymdrin â'r realiti bod gan Gymru, fel cynifer o wledydd gorllewinol eraill, broblem gydag alcohol rhad a chryf sydd ar gael yn rhwydd. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ein helpu ni i wneud cyfraniad pwysig i fynd i'r afael â'r mater hwn a gwella iechyd y cyhoedd, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau bleidleisio drosti heddiw.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, rydw i'n gohirio’r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl: Dwy Flynedd ers Refferendwm yr UE

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Caroline Jones, a gwelliannau 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar ddwy flynedd ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Rydw i’n galw ar y Prif Weinidog.

Cynnig NDM6741 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin 2018.

2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit.

Cynigiwyd y cynnig.

Llywydd, rwy’n croesawu’r cyfle hwn i agor y ddadl yn enw’r Llywodraeth, wrth gofio’r ffaith fod dwy flynedd wedi mynd heibio ers inni weld y refferendwm a'r ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n credu ei fod yn wir i ddweud bod 23 Mehefin 2016 yn cael ei ystyried fel dyddiad pwysig iawn yn hanes y wlad hon. Dyna, wrth gwrs, pryd gafodd y penderfyniad ei wneud i newid y berthynas rhyngom ni a’r Undeb Ewropeaidd.

Nid ydym ni yn y Siambr hon, Llywydd, y prynhawn yma i drafod y penderfyniad hwnnw. Fel yr wyf i wedi dweud bob amser, ein cyfrifoldeb ni yw canolbwyntio ein hymdrechion ar ddarparu'r math cywir o Brexit, nid ar ddadlau dros y ffaith bod Brexit yn bodoli. Felly, y prynhawn yma, Llywydd, hoffwn agor y ddadl hon drwy drafod y math cywir o Brexit ar gyfer Cymru.

Rydym wedi treulio llawer o amser yn y Siambr hon ac mewn negodiadau rhynglywodraethol manwl yn trafod materion cyfansoddiadol i wneud yn siŵr bod y Bil mewn gwirionedd yn cydnabod cyd-lywodraethu ac yn parchu datganoli. Er y bu hynny'n hanfodol bwysig, efallai nad hwn oedd y mater Brexit yr oedd y bobl a gynrychiolwn yn disgwyl inni ganolbwyntio arno. Er bod materion cyfansoddiadol yn cyfareddu llawer o bobl, bydd y rhan fwyaf o bobl eisiau inni ganolbwyntio ar faterion bara menyn. Mae pobl yng Nghymru yn bryderus ynghylch a fydd cwmnïau yng Nghymru yn gwneud penderfyniadau tebyg i'r rhai a wnaeth Jaguar a Land Rover a symud cynhyrchu o'r DU yng nghanol yr ansicrwydd a grëwyd gan Lywodraeth y DU ynglŷn â Brexit. Yr hyn sydd bwysicaf yw bod sicrhau y math cywir o Brexit yn diogelu economi, swyddi a lles pobl Cymru ac, yn wir, y DU gyfan. Llywydd, mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu yn y tymor byr i'r tymor canolig, bod sicrhau'r math cywir o Brexit i gyflawni hyn yn gofyn am integreiddio agos parhaus gydag economïau ein cymdogion yn yr UE.

Yn ein Papur Gwyn, y cytunwyd arno â Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru',  amlinellwyd cynllun Cymreig ar gyfer Brexit. Rydym yn nodi'n eglur sut mae'r Brexit cywir ar gyfer Cymru yn gofyn am gytundeb ar gyfer cyfrannu yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Dyna oedd ein safbwynt 17 mis yn ôl ac nid oes tystiolaeth wedi dod i'r amlwg i herio ein casgliad. Llywydd, yn y ddogfen honno, roeddem ni'n glir y gallai hyn gynnwys aelodaeth y DU o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop, a thrwy hynny, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu gytundeb pwrpasol i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl. Nawr, yn amlwg, ni fyddai bod yn rhan o Ardal Economaidd Ewropeaidd neu Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop, ar ei ben ei hun, yn ddigon, a dyna pam y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 4. Nid oes unrhyw wrth-ddweud, fel yr awgrymwyd gan y gwelliant, oherwydd mae angen inni hefyd fod yn rhan o undeb tollau ac mae angen mynediad di-rwystr ar gyfer amaethyddiaeth a physgodfeydd, ond mae'n arwyddocaol bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi trafod yn agored fodel Norwy ychwanegol ar gyfer y DU.

Felly, ym mis Ionawr 2017, amlinellwyd safbwynt cytbwys ymarferol yn seiliedig ar dystiolaeth ac rydym wedi glynu at hynny. Oherwydd, Llywydd, mae'r dystiolaeth yn glir ac yn gadarn: mae bron £3 o bob £4 a enillir gan fusnesau Cymru o allforion tramor yn dibynnu ar ein perthynas gyda'n partneriaid yn yr UE. Dengys yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd ar 7 Mehefin bod allforion Cymru i wledydd yr UE wedi cynyddu o £649 miliwn, neu 7 y cant, dros y flwyddyn ddiwethaf. Yr UE yw ein hardal fasnachu bwysicaf, a bydd yn parhau i fod felly. Trwy'r UE, rydym hefyd yn manteisio ar gytundebau masnach rydd gyda mwy na 70 o wledydd. Gyda Brexit caled, byddai'n cymryd degawdau i ail-greu hynny.

Mae busnesau ar hyd a lled Cymru yn gweithio'n galed i gynyddu eu marchnadoedd allforio, sy'n dangos bod Cymru yn wlad agored ac eangfrydig. Ond mae'r ymdrechion hyn mewn perygl o gael eu tanseilio gan agwedd anhrefnus Lywodraeth y DU i'r trafodaethau. Wrth gwrs, mae gennym ychydig dros naw mis cyn y byddwn ni—yn anochel—yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019. Byddech chi wedi tybio, erbyn hyn, y byddai gan Lywodraeth y DU strategaeth glir ar waith. Yn hytrach, mae anhrefn a dryswch ynglŷn â'r cwestiwn hollbwysig o'n perthynas economaidd yn y dyfodol gyda'n marchnad fwyaf a mwyaf dylanwadol. Bob wythnos bron, clywn ddatganiad newydd gan aelod o'r Cabinet ynglŷn â rhyw elfen o'r fargen y maen nhw ei heisiau, dim ond i hynny gael ei wrth-ddweud neu ei liniaru ddiwrnod yn ddiweddarach. Ddwy flynedd ar ôl y refferendwm, nid yw hyn yn ddigon da.

Yn ei haraith yn y Plasty, cydnabu'r Prif Weinidog, ar gyfer nifer o sectorau, yn enwedig nwyddau, ei bod yn ofynnol i fuddiannau'r diwydiant yn y Deyrnas Unedig gael cysondeb rheoleiddiol parhaus gyda'r farchnad sengl a pherthynas dda gyda'r undeb tollau. Mae'r cysondeb hwn o ran y naill elfen a'r llall yn hanfodol ar gyfer y ffiniau dirwystr y mae busnesau ar hyd a lled Cymru eu hangen i wneud ac i werthu eu nwyddau. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd Llywydd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wrth gamu o'i swydd, heb undeb tollau, y bydd sectorau gweithgynhyrchu cyfan sy'n dibynnu ar gadwyni cyflenwi sy'n seiliedig ar amseru manwl yn diflannu—ei eiriau ef, nid fy rhai i. Llywydd,  gwyddom ni yma yng Nghymru am effaith ddinistriol cau diwydiannau allweddol cyfan, ac ni ddylem ymddiried o gwbl yn y rhai sy'n barod i beryglu canlyniad o'r fath wrth fynd ar drywydd ideolegol haniaethol cyfres o flaenoriaethau. Eto mae Llywodraeth y DU yn parhau i amddiffyn ei safbwyntiau digyfaddawd y bydd y DU yn gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau, er na chrybwyllwyd y materion hyn yn benodol erioed yn y refferendwm.

Ynglŷn â'r undeb tollau, mae'n dod yn fwyfwy amlwg, hyd yn oed i Lywodraeth y DU, fod y ddau gynnig amgen i ddatrys y broblem o sut i gadw'r ffin anweladwy, ar dir ac yn y môr, rhwng y DU ac Iwerddon yn dal i allu cael gwahanol gyfundrefnau tollau. Wel, nid yw hynny'n gweithio. Ni allwch gael un endid yn yr undeb tollau ac un endid y tu allan i'r undeb tollau a ffin tir agored rhyngddyn nhw. Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phapur technegol ar y trefniant arfaethedig dros dro ynglŷn â thollau, wedi'u cynllunio i egluro ei sefyllfa—y cynllun cefnogol fel y'i gelwir. Nawr, rwy'n deall mai'r teitl gwreiddiol ar gyfer hyn oedd y 'customs and regulatory alignment period'—allwch chi goelio'r byrfodd hwnnw—a fyddai wedi arwain at yr hyn sydd, efallai, yn ddisgrifiad mwy priodol o'r sefyllfa. Ond roedd yn rhaid rhoi'r teitl hwnnw o'r neilltu, oherwydd er bod y papur yn cynnig bod y trefniadau tollau presennol yn parhau, nid yw'n dweud dim ynglŷn â'r cysondeb rheoleiddiol sy'n ofynnol er mewn cael ffiniau di-rwystr heblaw am ddweud y bydd cynigion pellach ynghylch hynny. 

Ar ôl ffrwgwd dros bwy yn y Cabinet sydd wrth y llyw wrth i gerbyd Brexit wibio tuag at ymyl y dibyn, cynigir bod cyfyngiadau amser ar y trefniadau hyn. Felly, yn hytrach nag eglurder, rydym wedi cael ateb annigonol i hanner y broblem, gyda'r posibilrwydd o osod terfyn. A'r ymateb gan y Comisiwn Ewropeaidd? Wel, maen nhw'n dweud nad atebwyd cwestiynau allweddol. Maen nhw'n dweud nad yw hyn yn cwmpasu rheolaethau rheoliadol sy'n arwain at ffin galed ac yn cwestiynu ai dyma'r cynllun cefnogol, o ystyried bod terfyn amser ar y cynnig. Wel, nid yw hynny'n ddigon da. Mae'r DU yn gorfod rhoi ei holl ymdrechion i gadw ei thŷ ei hun mewn trefn, ac yn anwybyddu'r ffaith mai â'r UE y mae angen inni negodi ag ef, nid â Dominic Grieve a Jacob Rees-Mogg.

Felly, ddwy flynedd ar ôl refferendwm yr UE, nid oes unrhyw gynnig ymarferol ynglŷn â thollau, er gwaethaf y goblygiadau ar gyfer Gogledd Iwerddon, nid oes eglurder ynglŷn ag aliniad y farchnad sengl, ac nid oes unrhyw arwydd o'r bargeinion masnach y dywedwyd wrthym y byddai gwledydd y byd yn baglu dros ei gilydd i'w rhoi i ni. Rydym yn gweld distawrwydd ac oedi, dryswch ac anhrefn, pan mae angen atebion difrifol arnom. Ychwanegwch at hynny y cefnu ar gyfrifoldebau ar y cyd, lle mae Gweinidogion y Cabinet yn cael rhwydd hynt yn ôl pob golwg i leisio barn sydd nid yn unig yn gwrth-ddweud, ond yn ddirmygus o bolisi Llywodraeth y DU, ac mae gennych chi gyfuniad nerthol sy'n tanseilio safbwynt negodi y DU ac yn creu sefyllfa sydd mewn peryg o esgor ar Brexit caled a fydd yn arwain at fuddsoddiad is, llai o swyddi a safonau byw isel, lle mae uwch aelod o Gabinet y DU yn awgrymu y dylai Donald Trymp ddisodli ei Brif Weinidog ei hun, a'r person hwnnw yn dal yn y Cabinet.

Dyna pam, Llywydd, na fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 1 a gynigiwyd gan Paul Davies, na gwelliant 2 a gynigiwyd gan Caroline Jones. Mae angen i Lywodraeth y DU gyflwyno safbwynt clir, ac un nad yw'n peryglu ein ffyniant economaidd yn y dyfodol. Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 3 ychwaith. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad, rwy'n credu, ynghylch y mater hwn, gan fynd i'r afael â llawer o gamsyniadau ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol.

Nawr, Llywydd, rydym yn clywed llawer ynglŷn â pha mor anhyblyg yw 27 gwlad yr UE. Ond mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi nodi'n glir os bydd Llywodraeth y DU yn cyfaddawdu ar eu safbwyntiau y gellir negodi bargen sy'n llawer mwy hael. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU wynebu'r realiti ac wynebu'r penboethiaid Brexit ymylol. Mae ar y DU angen arweinyddiaeth ar y mater pwysicaf y mae'n ei wynebu, ac yn haeddu gwell. Mae gennym ni gyfle, gyda'r ddadl hon y prynhawn yma, i alw ar Lywodraeth y DU i ailgynllunio ac ailfeddwl. Mae ar Gymru, a'r DU gyfan, angen Llywodraeth a fydd yn dadlau am berthynas ddeinamig a chadarnhaol gyda'r farchnad sengl, lle mae'r DU yn gwneud ymrwymiad cadarnhaol i weithio gyda 27 aelod yr UE i gadw'r cysondeb â'r farchnad sengl fel gofod rheoleiddio, ac undeb tollau newydd, cadarn gyda'r UE.

Llywydd, mae 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn dal i gynnig y sylfaen orau ar gyfer sicrhau'r math cywir o Brexit ar gyfer Cymru ac, yn wir, y DU gyfan. Nid oes unrhyw dystiolaeth—nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl—wedi dod i law i gefnogi bod unrhyw ganlyniad arall yn well na bod mewn undeb tollau. Felly, Llywydd, rwy'n gwahodd y Cynulliad hwn i ailddatgan ei gefnogaeth ar gyfer y dull a amlinellwyd gennym ni.

17:50

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn trafodaethau gyda'r UE.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd. Mewn datganiad ar y cyd ar ôl i bobl Cymru a'r DU bleidleisio i adael yr UE ar 23 Mehefin 2016, dywedodd Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a Senedd Ewrop eu bod yn

disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu penderfyniad pobl Prydain cyn gynted â phosib, gan ddweud eu bod yn gobeithio y byddai'r DU yn un o bartneriaid agos yr UE yn y dyfodol hefyd.

Nawr, yn groes i'r honiadau sarhaus a wnaed dro ar ôl tro yma nad oedd pobl yn gwybod am beth yr oeddent yn pleidleisio, roedd y dadleuon a gafodd gyhoeddusrwydd mawr o blaid Brexit ar y pryd yn ymwneud ag ad-hawlio rheolaeth dros ein harian, ffiniau, cyfreithiau a masnach. Yn wir, edrychais yn y wasg y bore yma i weld beth roedden nhw yn ei ddweud ar ddiwrnod y refferendwm. Mae Prif Weinidog y DU wedi datgan yn glir ers hynny, yn hytrach na Brexit caled, ei bod hi'n ceisio'r mynediad mwyaf hygyrch posib i'r UE drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol. Fel y dywedodd, rydym ni'n gadael yr UE, gan gyflawni ar y penderfyniad a wnaed gan bobl Prydain yn y refferendwm.

Dywedodd ein bod wedi ymrwymo i gael y fargen Brexit gorau ar gyfer pobl, i hawlio rheolaeth dros ein harian, ffiniau a chyfreithiau, gan feithrin partneriaeth ddofn ac arbennig newydd gyda'r UE.

Mewn cyferbyniad, mae'r cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru yn gofyn inni gefnogi'r broses a gymeradwywyd gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a fyddai'n sicrhau dim o'r pethau hyn, a Brexit mewn enw yn unig. Ymhellach, fel y dywedais yma fis diwethaf, dywedodd y felin drafod 'Open Europe' wrth y pwyllgor materion allanol ym Mrwsel y byddai'n rhyfedd petai'r DU yn yr undeb tollau. Byddai'r UE yn negodi cytundebau masnach gyda thrydydd partïon heb fod y DU yn rhan o hynny. Os yw'r DU yn y farchnad sengl, dywedodd y byddai'n gorfod derbyn y rheolau heb allu pleidleisio arnynt.

Wrth honni eu bod yn parchu canlyniad y refferendwm, mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi treulio'r ddwy flynedd diwethaf yn pregethu och a gwae, gan hyrwyddo dulliau a fyddai'n ei danseilio. Maen nhw wedi honni na fyddai cytundeb a sicrhawyd gan Lywodraeth y DU fis Rhagfyr diwethaf, sy'n galluogi'r ddwy ochr i symud ymlaen i'r cam nesaf o sgyrsiau Brexit, byth yn digwydd, na fyddid byth yn cytuno ar y cyfnod pontio Brexit a sicrhawyd gan Lywodraeth y DU, cyn wedyn hawlio'r clod am hynny, ac, ac eithrio Mr Drakeford, na fyddid byth yn sicrhau ffordd ymlaen a fyddai'n caniatáu i'r Cynulliad hwn roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael y DU. Bob tro, roedden nhw'n anghywir, ac eto maen nhw yn ei wneud eto wrth geisio tanseilio'r trafodaethau cyfredol ynglŷn â pherthynas y DU gyda'r UE yn y dyfodol, gan daflu ymaith ein holl gardiau negodi ar y dechrau, a chymell yr UE i daro bargen galed.

Mae gwelliant 1, felly—[torri ar draws.] Siawns os ydych chi'n dweud wrth yr ochr arall, 'os ydych chi'n gwrthod dod i gytundeb gyda ni, fe drefnwn ni bethau wedyn i sicrhau nad ydym mewn gwirionedd yn gadael o gwbl'—mae'n rhywbeth nid annhebyg i hynny. Mae gwelliant 1 felly

'Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn trafodaethau gyda'r UE.'

Ers canrifoedd, mae ein gelynion wedi ceisio ein rhannu a'n dinistrio, ac fel y dywedodd yr AS Ceidwadol Albanaidd Alban Ross Thomson yr wythnos diwethaf, mai'r

cwbl y mae'r SNP yn poeni yn ei gylch yw camwri ac annibyniaeth.

Wel, mae'r un peth yn wir am Blaid Cymru. Byddai eu dull o sbwylio pethau wedi amharu ar farchnad fewnol y DU, lle caiff 80 y cant o nwyddau a gwasanaethau y DU eu masnachu, wedi dinistrio swyddi, ac wedi anfon buddsoddiad o Gymru. Fel y dywedodd Prif Weinidog y DU ym mis Mawrth, mae'n rhaid i'r cytundeb a wneir gyda'r UE barchu'r refferendwm, rhaid iddo fod yn un hirhoedlog, rhaid iddo ddiogelu swyddi a chynhaliaeth pobl, rhaid iddo fod yn gyson—[torri ar draws.] Derbyniaf un ymyriad.

17:55

O ran eich sylw am elynion yn tarfu ac achosi problemau, a gaf i eich atgoffa mai'r Ysgrifennydd Tramor sydd wedi dweud y byddai'r trafodaethau hyn yn cael eu trin yn well pe byddai Donald Trump yn gyfrifol? Felly, dylai yntau fod yn bwrw'i lid ar ei blaid ei hun, yn hytrach na'r meinciau hyn.

Ai 79 neu 80 Aelod Seneddol Llafur a aeth yn groes i chwip y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r Bil ymadael?

Rhaid iddo fod yn hirhoedlog. Rhaid iddo ddiogelu swyddi a chynhaliaeth pobl. Rhaid iddo fod yn gyson â'r math o wlad rydym ni eisiau bod pan rydym yn gadael: democratiaeth fodern, agored, flaengar, oddefgar, Ewropeaidd. Ac wrth wneud y pethau hyn i gyd, rhaid iddo gryfhau'r undeb rhwng ein gwledydd a'n pobl. Mae gan yr UE, ei hun, wrth gwrs, ddau gymhelliad ychwanegol: y £39 biliwn y bydd yn derbyn os yw'n cytuno i fargen fasnach, a'r pwysigrwydd o gael mynediad i'r DU. Er enghraifft, clywodd y pwyllgor materion allanol fod 10 i 15 y cant o gynnyrch domestig gros 16 talaith yr Almaen yn ddibynnol ar farchnad y DU.

Byddai safbwynt Llafur yn golygu parhau i ddilyn amrywiaeth o reolau'r UE heb unrhyw lais o gwbl. Mae hyn yn torri addewidion Brexit Llafur, ac nid yw'n parchu canlyniad y refferendwm. Pleidleisiodd saith deg y cant o etholaethau Llafur y DU i adael, ac maen nhw eisiau gweld canlyniad y refferendwm yn cael ei anrhydeddu. Mae pobl y tu allan i'r Seneddau ledled y DU yn dechrau blino ar gemau seneddol. Maen nhw eisiau gwybod pryd y cânt Brexit, pryd y caiff ei gyflawni a phryd y bydd yn digwydd. Nid ydyn nhw eisiau clywed yr un hen gân, yr un hen araith gan yr un hen Brif Weinidog yma yng Nghymru, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Neil Hamilton.

Gwelliant 2—Caroline Jones

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau. 

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Llywydd. Hoffwn i gynnig y gwelliant yn enw Caroline Jones. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd y Llywodraeth, ar draul y trethdalwyr, ddogfen 16-tudalen sgleiniog, a aeth i bob tŷ yn y wlad, yn rhagfynegi diwedd y byd os oedd gan bobl Prydain yr hyfdra i bleidleisio o blaid hunanlywodraeth genedlaethol. Cyflwynodd David Cameron areithiau ar hyd a lled yr ynysoedd hyn yn darogan gwae, gan gymryd swyddogaeth y bachgen tew yn The Pickwick Papers, a ddywedodd,

'I wants to make your flesh creep'.

Roedd yr holl sefydliad busnes a chyfryngau, y Llywodraeth, y gwasanaeth sifil, wedi ymgysegru i geisio gorfodi pobl Prydain i bleidleisio i aros yn yr UE, ac eto pleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl—y bleidlais ddemocrataidd fwyaf erioed yn y Deyrnas Unedig— i adael yr UE. Ac yng Nghymru, lle pleidleisiodd mwyafrif y bobl i adael, roedd y pleidleisiau ar eu huchaf yn y Cymoedd mewn seddi fel Blaenau Gwent, sy'n dal y wobr am y ganran uchaf o bleidleiswyr 'gadael' : pleidleisiodd dwy ran o dair i adael. Nawr, yma, rwyf—[torri ar draws.] Ymunaf yma â'r Prif Weinidog yn y rhan honno o'i araith lle cyfeiriodd at y trafodaethau traed moch y mae Theresa May a'i Gweinidogion wedi eu cynnal yn y ddwy flynedd diwethaf. Mae hyn yn dangos diffyg paratoi llwyr ar ran Llywodraeth y DU ar gyfer bywyd ar ôl Brexit, sydd, rwy'n credu, yn bradychu'r hyn y pleidleisiodd yr 17.4 miliwn o bobl hynny o'i blaid. Mae Theresa May yn un o'r bobl hynny y mae ei amhendantrwydd yn derfynol oherwydd mae'r Llywodraeth yn gogr-droi ddydd ar ôl dydd, fel y disgrifiodd Prif Weinidog Cymru yn huawdl. Ni feddyliais y byddwn yn dweud hyn am neb, ond mewn gwirionedd mae Theresa May yn gwneud i John Major edrych yn batrwm o bendantrwydd. Ar ddiwedd dwy flynedd, bron, ers inni gael y bleidlais honno, y canlyniad yw ein bod ar fin dod yn ddim byd ond Aelod heb bleidlais o'r UE, yn ôl pob tebyg.

Hoffwn i gyfeirio at erthygl a gyhoeddwyd ychydig ddyddiau yn ôl gan Daniel Hannan, Aelod Ceidwadol o Senedd Ewrop, pan ddywedodd fod

y Deyrnas Unedig yn symud tuag at gyfnod pontio penagored a fydd yn gadael bron popeth fel y mae. Bydd Brwsel yn parhau i redeg ein hamaethyddiaeth, ein pysgodfeydd, ein masnach dramor, ein deddfau cyflogaeth. Byddwn yn parhau i anfon ein miliynau ar draws y sianel. Bydd ein cyfreithiau yn parhau'n ddarostyngedig i feirniaid Ewrop. Dim ond un peth pendant fydd yn newid: Byddwn yn colli ein cynrychiolaeth yn sefydliadau'r UE a, gyda hynny, ein gallu i atal cyfreithiau newydd niweidiol. Pam mae Prydain, pumed economi a phedwerydd grym milwrol mwya'r byd, yn ystyried ffurf o gaethwasiaeth na fyddai unrhyw un arall o gymdogion yr UE—Albania na'r Wcráin, heb sôn am Norwy—yn breuddwydio ei derbyn? Ai anfedrusrwydd pur yw hyn, neu a yw rhai o'n swyddogion yn eiddgar i gael hynny?

Rwy'n credu mai'r ateb i'r cwestiynau hynny yw 'y ddau'. Ildiaf.

18:00

Diolch yn fawr iawn. Mae'n eironig eich bod yn dyfynnu yn ôl i ni ein bod yn mynd i weld y sefyllfa waethaf bosib, oherwydd dyna'n union oedd rhybudd yr ymgyrch 'aros', ond fe'n sicrhawyd gennych chi a Nigel Farage y byddai hyn yn hawdd—y byddid yn datrys yr holl gytundebau masnach hyn o fewn 24 awr. Dywedasom mai ffwlbri oedd hynny. Chi oedd yr un a dwyllodd pobl gyda'r rwdl-mi-ri hwnnw, a chi ddylai fod yn ymddiheuro am y twyll hwn.

Yn sicr nid wyf yn mynd i ymddiheuro am fethiant y Llywodraeth yn negodi rhywbeth nad wyf i wedi bod yn unrhyw ran ohono. Pe bai Nigel Farage yn gyfrifol am y negodi, byddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn. [Torri ar draws.] Felly, rwyf yn derbyn y ganmoliaeth oedd ymhlyg yn sylwadau'r Aelod dros Lanelli.

Mae'n rhyfeddol nad yw'r Llywodraeth wedi bod yn gadarnach yn y trafodaethau hyn, oherwydd y gwir amdani yw bod yr UE yn gwerthu £135 biliwn bob blwyddyn yn fwy o nwyddau i ni nag yr ydym ni yn eu gwerthu iddyn nhw. Daw masnach nwyddau, wrth gwrs, o dan y ddeddfwriaeth farchnad sengl, ond o ran masnachu gwasanaethau, fel arall y mae pethau. Mae'r DU yn gwerthu gwerth £92 biliwn o wasanaethau yn fwy i'r UE nag y maen nhw yn eu gwerthu i ni. Nid yw'r farchnad sengl yn bodoli yn y gwasanaethau ariannol, felly nid ydym yn cael y budd o'r farchnad sengl i'r un graddau â'r UE. Dylai hynny fod wedi bod yn offeryn bargeinio hynod bwerus yn nwylo Llywodraeth Prydain, ond maen nhw wedi gwneud traed moch llwyr ohoni. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw waith paratoi ar gyfer unrhyw gytundeb. Mae gennym ni sefyllfa bellach pan fydd taliadau cyllideb yn parhau i gael eu gwneud ond heb fod hynny yn gysylltiedig â chytundeb masnach, sef yr hyn a ddylai fod wedi digwydd ar y cychwyn cyntaf, ac mae'r warant ddiogelwch y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i'r UE yn un ddiamod, a hithau heb gael unrhyw beth yn gyfnewid. Fel ystryw negodi, maen nhw wedi methu'n llwyr. Mae'r UE wedi dechrau ar y negodi hwn fel grym gelyniaethus yn benderfynol i'r trafodaethau fethu â'n helpu ni i aros y tu mewn i'r UE.

Mae safbwynt y Blaid Lafur yn gwbl annealladwy oherwydd maen nhw eisiau inni adael y farchnad sengl, ond mewn gwirionedd aros yn yr undeb tollau i'w gwneud hi'n amhosib i ni wneud cytundebau masnach rhydd â gweddill y byd. Gorffennaf gyda'r sylw hwn: Dechreuodd Theresa May y trafodaethau hyn, yn dweud y byddai dim bargen yn well na bargen wael. Wel, yn anffodus, byddwn ni'n gadael y trafodaethau hyn gyda'r fargen wael. Mae gan y Blaid Geidwadol, rwy'n credu, lawer i ateb drosto yn y trafodaethau hyn, oherwydd tŷ wedi'i rannu yn erbyn ei hun, ni saif. Yn wir, y canlyniad fu bradychu pobl Prydain.

Galwaf ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Leanne Wood.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU i gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er ei bod wedi dweud yn glir yn 'Diogelu dyfodol Cymru' y byddai 'unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn' ganddi.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod mwyafrif o Aelodau Seneddol Llafur wedi ymatal mewn pleidlais ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl drwy aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn groes i 'Diogelu dyfodol Cymru' sy'n dweud, 'Nid oes modd i ni gefnogi cytundeb i ymadael â’r UE a fyddai’n golygu nad yw’r DU yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl'.

Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4.

Diolch, Llywydd. Mae cynnig y Llywodraeth yn un y gallaf gytuno ag ef. Cynigia Papur Gwyn Cymru y dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o effaith Brexit ar Gymru, ac roedd hyn, i raddau helaeth, oherwydd gwaith ardderchog fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis. Pam, felly, bod Llywodraeth Cymru wedi methu â glynu wrtho? O ran pwerau, o ran yr ardal economaidd Ewropeaidd, ac o ran amrywiaeth o faterion eraill, mae Llafur yn mynd ar drywydd Brexit sy'n cyd-fynd yn fwy â'r Ceidwadwyr nag â'r Papur Gwyn a luniwyd ar y cyd â Phlaid Cymru. O leiaf, mae Llafur yn galluogi neu yn hwyluso Brexit Doraidd eithafol.

Mae pen-blwydd yn gyfnod i fyfyrio, i edrych yn ôl ar y refferendwm ac ar yr ymgyrch. Bu diffyg sylw difrifol i'r ymgyrch yng Nghymru dros 'aros' gan y bobl allweddol a oedd ynghlwm wrthi, ac fe wnaf y pwynt hwn gydag un enghraifft. Yn ystod y mis cyn etholiad 2016 y Cynulliad, yn barod ar gyfer refferendwm yr UE, euthum at y Prif Weinidog gyda chynnig. Amlinellais gynllun syml ond effeithiol i weithredu'r seilwaith ar gyfer ymgyrch 'aros' Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o gymdeithas ddinesig Cymru. Cynigiais y dylai undebau llafur ffurfio craidd y grŵp hwn. Gyda'u rhychwant helaeth a'u diddordeb mewn pleidlais 'aros', roeddwn yn gwybod y gallai grŵp trawsbleidiol dinesig ennyn dylanwad yr undebau, elusennau, grwpiau eglwysig ac ati i gyrraedd y bobl a oedd yn hanfodol eu cyrraedd ar gyfer y refferendwm.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn cofio, mae'n siŵr, ein bod ni hefyd yn paratoi ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, a ddigwyddodd fis yn unig cyn refferendwm yr UE. Roedd llawer ohonom ni yn erbyn y syniad y dylid cynnal y ddwy bleidlais mor agos at ei gilydd. Fodd bynnag, unwaith y daeth yn amlwg nad oedd cyfaddawdu i fod ar yr amserlen, troais fy sylw i'r dasg dan sylw. Roedd fy nghynnig i'r Prif Weinidog yn un diffuant: ymunwch â mi i greu sefydliad cymdeithas ddinesig i ymgyrchu dros bleidlais 'aros'. Roedd bob amser yn mynd i fod yn anodd dadlau o blaid y drefn. Roedd angen i ni drefnu, trefnu, trefnu. Dywedwyd wrthyf gan y Prif Weinidog fod yr undebau llafur yn rhy brysur yn ymgyrchu ac yn codi arian ar gyfer Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad. Gwrthododd y Prif Weinidog ddefnyddio ei arf ymgyrchu mwyaf—yr undebau ac eraill—er lles cenedlaethol. Roedd y Prif Weinidog yn hyderus na fyddai 'gadael' yn ennill. 'Edrychwch ar bob refferendwm arall', meddai. Wel, edrychwch lle rydym ni nawr. Methwyd â defnyddio swyddogaeth Prif Weinidog Cymru i ddwyn ynghyd ymgyrch lwyddiannus, fel y gwnaethom yn 2011 ac ym 1997. Petai chi wedi gwneud hynny, efallai y byddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol, ac rwy'n ystyried tybed a ydych chi'n difaru hynny bellach.

Hyd nes yn ddiweddar, roeddwn i wedi credu bod llygedyn o obaith y byddai Llafur yn cefnogi polisïau a fyddai'n gweld Cymru'n troedio'r llwybr lleiaf niweidiol wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn dilyn pleidlais ar ein haelodaeth o'r farchnad sengl a'u bargen gyda'r Torïaid ar bwerau'r Cynulliad, mae'n amlwg nad felly y bydd hi. Mae hyn yn fy arwain at welliant cyntaf Plaid Cymru.

18:05

Mae honiad y Llywodraeth eu bod yn parhau'n ymrwymedig i'r Papur Gwyn yn honiad y maen nhw wedi ei wneud eto heddiw, a hoffwn eu hatgoffa o'r union eiriad. Ar dudalen 20, dywed y Papur Gwyn y caiff unrhyw ymgais i gipio pwerau'n ôl ei ymwrthod yn gadarn. Pan gytunwyd i lunio'r papur hwnnw ar y cyd, nid oeddem yn ystyried y byddai gwrthwynebiad cadarn yn golygu cytundeb gyda Llywodraeth Geidwadol San Steffan a gweld adfachu pwerau ym meysydd polisi 24 i 26, a dyma'r broblem. Mae geiriad y Papur Gwyn  yn rhywbeth yr wyf yn parhau i fod yn ymrwymedig iddo. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru, wedi mynd ar drywydd polisïau nad ydynt yn adlewyrchu hynny.

Gadewch i ni ystyried safbwynt Llafur ar y farchnad sengl. Fel yr adlewyrchir yn ail welliant Plaid Cymru, dewisodd y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Llafur ymatal ar welliant allweddol Bil ymadael yr UE a fyddai wedi cadw Cymru yn y farchnad sengl. Nawr, rwy'n derbyn bod y Prif Weinidog efallai yn dweud ei fod yn ymrwymedig i ddyfodol lle mae Cymru yn cymryd rhan yn y farchnad sengl—

—ond nid yw gweithredoedd ei blaid yn adlewyrchu hynny. Mae'n dweud un peth ac yn gwneud peth arall, ac, am y rheswm hwn, bydd Plaid Cymru yn pwyso am bleidlais ar y ddau welliant. Byddwn yn gwneud hynny i adlewyrchu'r ffaith, er ein bod yn parhau i fod yn gefnogol i'r Papur Gwyn, mae gweithredoedd y Blaid Lafur yn dangos nad ydyn nhw. O ganlyniad, rwyf felly'n cynnig yn ffurfiol ddau welliant Plaid Cymru, 3 a 4. Diolch yn fawr.

Nid yw'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi esgor ar ateb sy'n mynd i roi i bobl Cymru a bleidleisiodd i adael yr hyn a fynnent, sef rheoli eu tynged eu hunain. Y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl oedd y strategaeth fwyaf cynhwysfawr a gyflwynwyd i ddangos beth oedd ei angen, ond mae'n amlwg nad oes gennym ni'r pwerau y byddem yn eu hoffi i reoli'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud. Felly, rydym yn awr mewn sefyllfa lle rydym ni fisoedd o'r hyn sy'n edrych fel ymadawiad anochel o'r UE.

Clywodd y pwyllgor materion allanol dystiolaeth ryw bythefnos yn ôl gan yr Athro John Bell, sy'n arbenigwr cyfreithiol blaenllaw ac yn gweithio ym Mhrifysgol Caergrawnt. Rwy'n credu bod yr hyn oedd ganddo i'w ddweud wedi ei gwneud hi'n glir iawn i mi fod amser yn prysur ddod i ben i'r rhai sy'n ymgyrchu dros roi ail refferendwm i bobl y Deyrnas Unedig. Oherwydd, yn syml, nid yw'n bosib inni wrthdroi'r broses a ddechreuwyd gyda sbarduno Erthygl 50, oni bai ein bod ni hefyd yn mynd drwy'r broses o ymgynghori â Senedd Ewrop ac â 27 o aelodau eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Felly, yn ôl yr Athro Bell, y dyddiad olaf y gellid cynnal refferendwm fyddai mis Tachwedd eleni, oherwydd fel arall nid oes amser i Senedd Ewrop drafod a ydynt yn cymeradwyo hynny, pe baem ni yn gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw a wnaed ddwy flynedd yn ôl. Hefyd, byddai angen inni gael pleidlais unfrydol gan y 27 Llywodraeth arall, a fyddai'n golygu ymarfer lobïo enfawr gyda'r holl Lywodraethau hyn sydd a dweud y gwir wedi colli ffydd ynom ni oherwydd y ffordd yr ydym wedi troi ein cefnau ar Ewrop. Felly, byddwn yn dadlau bod 'D-day' 31 Rhagfyr 2020 yn edrych yn anochel.

Hoffwn gyfyngu gweddill fy sylwadau i'r materion bara menyn y cyfeiriodd y Prif Weinidog atynt, sef yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn pryderu yn ei gylch, yn hytrach na manylion y materion cyfansoddiadol sydd ynghlwm â gadael Ewrop.

Credaf fod y balchder a welsom ni gan Brif Weinidog y DU dros y penwythnos, wrth ddweud y gellid buddsoddi llawer o arian yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ganlyniad i ddifidend Brexit, yn freuddwyd gwrach llwyr, oherwydd rydym ni eisoes wedi gwario'r rhan fwyaf o'r arian y gallem ni ei gael yn ôl oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Bydd ei angen arnom i sefydlu asiantaethau rheoleiddio newydd. Rydym hyd yn hyn wedi dibynnu ar sefydliadau yr UE i wneud y gwaith hwnnw, ac mae'n amlwg yn llawer rhatach i'w wneud ar y cyd â 27 gwlad arall nag ydyw i wneud hynny ar ein pen ein hunain.

Rwyf eisiau edrych ar y mater bara menyn pwysicaf, sef bwyd, a'r effaith sylweddol a gafodd Brexit eisoes ar faint o arian y mae'n rhaid i aelwydydd ei dalu am fwyd dim ond oherwydd y dirywiad yng ngwerth y bunt. Mae'r DU yn mewnforio tua 40 y cant o'r bwyd a ddefnyddiwn fel cenedl, a bron y cyfan ohono o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym ni'n mewnforio gwerth £9 biliwn o lysiau a ffrwythau o Ewrop, o'i gymharu â £1 biliwn o ffrwythau a llysiau a dyfir yn y Deyrnas Unedig. Mae 95 y cant o'n ffrwythau yn dod o dramor ac mae hanner ein llysiau yn cael eu mewnforio. Pe na fyddem yn gallu aros mewn undeb tollau, byddai hynny'n arwain at gynnydd enfawr ym mhris llysiau a ffrwythau oherwydd y tariffau a osodir yn anochel pe baem yn symud i drefniadau Sefydliad Masnach y Byd.

Wrth edrych ymlaen, fodd bynnag, mae cyfleoedd i lunio ein dyfodol, oherwydd ar hyn o bryd rydym yn sybsideiddio yr holl fwydydd yr ydym ni'n bwyta gormod ohonynt—protein anifeiliaid, braster, olewau a siwgr—ac ychydig iawn o'r pethau y mae angen i ni fwyta mwy ohonyn nhw, yn bennaf cynnyrch garddwriaeth. Felly, nid ydym hyd yn oed yn gwybod ar hyn o bryd a fydd y taliadau colofn 1 yn parhau i gael eu talu, sydd ar hyn o bryd yn 80 y cant o'r holl gymorthdaliadau fferm. Beth fyddai'r effaith ar gynhyrchu ein bwyd os na wneir taliadau colofn 1 mwyach, a sut fyddwn ni'n sicrhau y gallwn barhau i ddarparu diet iach i'n poblogaeth os bydd pethau'n mynd o'i le yn ein perthynas ag Ewrop, y byddwn ni yn dal i fod yn rhan ohoni beth bynnag fydd yn digwydd? Mae'r rhain yn faterion pwysig yr ydym ni yn awr yn eu hwynebu ac y mae angen inni ddechrau cynllunio ar eu cyfer.

18:15

Jest i godi hyn lle'r oedd Jenny Rathbone wedi bennu gyda rhai o'r ffigurau sydd yn effeithio ar Gymru os ydym ni yn parhau i adael yn y ffordd fwyaf caled, fel sydd yn debygol o ddigwydd gyda phenderfyniadau San Steffan, gan y ddwy blaid ar hyn o bryd—byddwn ni'n colli gymaint â £5 biliwn oddi ar economi Cymru. Mae nifer ohonom ni yn cofio mynd mewn i ystafell ddirgel draw yn Caspian Point i ddarllen dadansoddiad y Llywodraeth ei hunan o'r effaith ar Gymru pe byddem ni'n gadael y farchnad sengl, lle byddai'r cwymp yn GDP Cymru bron yn 10 y cant, a hyd yn oed yn 5 y cant o dan ryw fath o gytundeb masnach rydd, a hyd yn oed pe byddem ni'n aros yn y farchnad sengl, fe fyddai fe'n cwympo gan 1.5 y cant, oherwydd yr ardaloedd a wnaeth bleidleisio gryfaf dros Brexit, a dweud y gwir, yw'r ardaloedd sydd yn mynd i ddioddef fwyaf o'r cynlluniau Brexit presennol sydd gan Lywodraeth San Steffan. 

Mae'n wir fod yna sawl argoel o beth fyddai'n digwydd pe bai'r wlad wedi pleidleisio dros Brexit wedi bod yn anghywir, ond mae'n ffaith, fel roedd Jenny Rathbone yn cyfeirio ato, fod Banc Lloegr wedi dweud ein bod ni £900 fesul tŷ yn y Deyrnas Gyfunol yn waeth off nawr heb fod Brexit wedi digwydd, ac mae hynny yn adlewyrchu, wrth gwrs, y bunt a chryfder y bunt. 

Mae'r farchnad sengl yn hollbwysig i Gymru, ac oherwydd hynny yr undeb ardollau hefyd. Mae 61 y cant o'n hallforion yn mynd yn syth i weddill yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny yn cymharu â llai na hanner dros y Deyrnas Gyfunol i gyd. Ac os ydym ni'n edrych ar dwf, mae economi Lloegr am dyfu 1.7 y cant eleni, ac economi Cymru ond i dyfu 1.3 y cant, tra bod Iwerddon, sydd yn yr eurozone, yn tyfu 5.7 y cant eleni, ac mae hynny yn wir yn gyffredinol. 

Felly, mae'r penderfyniad i adael yn mynd i gael effaith andwyol iawn ar ein dinasyddion mwyaf difreintiedig ni, ac mae angen amddiffyn, a swydd y Cynulliad a swydd Llywodraeth Cymru yw amddiffyn ein pobl fwyaf bregus ynglŷn â'r penderfyniadau yn sgil Brexit. Dyna pam rwy'n siomedig, nid yn gymaint gyda'r cynnig sydd gerbron heddiw, achos, fel dywedodd Leanne Wood, byddem ni'n gallu cefnogi geiriad y cynnig, ond gweithredoedd y Blaid Lafur ers y bleidlais, sydd wedi mynd fwyfwy ansicr, ac yn fwyfwy yn dueddol o fod yn fydwraig i Brexit caled y Blaid Geidwadol.       

Pan rydych chi'n pleidleisio o blaid rhywbeth mor ddinistriol â Brexit, mae'n rhaid ichi fod yn ofalus beth rydych chi'n dymuno ei gael. Nid wyf yn credu y byddai llawer ohonom yn disgwyl y byddai pleidlais Brexit yn arwain at sefyllfa yn y pen draw gyda Phrif Weinidog y DU, o dan y teitl 'Taking back control', yn ymddangos ar The Andrew Marr Show a dweud na all Senedd ddweud wrth y Llywodraeth beth i'w wneud, sef yn union yr hyn y mae Seneddau i fod ei ddweud wrth Lywodraeth ac sydd wedi digwydd ers 1688 ac ers inni gael yr hyn y mae'r Saeson yn hoff o'i alw'n 'the glorious revolution', ond rwy'n siŵr nad yw'r Gwyddelod. Ond mae'n rhaid inni gadw mewn cof bod—[torri ar draws.] Mewn eiliad, os caf i. Mae'n rhaid inni gadw mewn cof hefyd y safbwynt hwn ein bod yn cryfhau'r undeb. Sut ydych chi'n cryfhau'r undeb—nad yw Plaid Cymru o reidrwydd o'i blaid, beth bynnag, ond, serch hynny, gadewch inni edrych ar y dadleuon hyn—sut ydych chi'n cryfhau'r undeb pan mai'r hyn yr ydych chi'n ei wneud yw sicrhau bod y rhannau gwannaf o'r undeb hwnnw yn dlotach, a phan rydych chi'n gwybod nad yw'r undeb ei hun wedi gweithredu polisi rhanbarthol sy'n mynd i'r afael â hynny? Ond wrth gwrs, mae'r Undeb Ewropeaidd, wedi gwneud hynny, ond rydym ni'n ymadael â hwnnw. 

Ar y pwynt hwnnw, ildiaf.

Dim ond eisiau dweud wyf i bod Senedd y DU wedi dweud wrth Lywodraeth y DU beth i'w wneud. Mae wedi dweud yn glir iawn na fydd yn goddef Brexit caled, ac mae'n rhaid inni gydnabod hynny.

Nid wyf i'n siŵr a wyf yn cytuno yn llwyr. Arhoswn i weld beth fydd yn digwydd yfory gyda'r fersiwn bellach o'r broses hon. Fodd bynnag, yr hyn yr oeddwn yn cyfeirio ato oedd y syniad y gall y Prif Weinidog ddweud rhywbeth mor radical â hynny mewn gwirionedd heb unrhyw ganlyniadau. Rwy'n ymddiddori'n fawr yn hyn oherwydd rwy'n gweld pethau o safbwynt San Steffan a Chymru yn y mathau hyn o bethau weithiau, ac edrychaf ar y sefyllfa yn unol â'r syniad o sofraniaeth seneddol ac adhawlio rheolaeth a'r holl bethau eraill a ddywedodd Mr Isherwood wrthym ni. Y realiti yw bod y DU fel strwythur ac fel Llywodraeth yn y DU yn gwbl analluog i ymdrin â'r mater mwyaf mewn cyfnod o heddwch a welsom ni ers canrif. Mae'n gwbl analluog i wneud hynny. Ac mae hynny'n fy nharo i fel rhywbeth sy'n arwain at bob math o bethau dadleuol a allai ddeillio o hynny, gan gynnwys dyfodol yr undeb ei hun. Nawr, nid yw Plaid Cymru yma i amddiffyn yr undeb, ond rydym ni yma i amddiffyn ein cymunedau ac rydym ni yma i roi terfyn ar unrhyw beth yn y flwyddyn neu ddwy nesaf a fydd yn amddifadu'r cymunedau hynny o'u gallu i reoli eu dyfodol ac iddynt gael cyflwr economaidd realistig yn y dyfodol.

Hoffwn i gloi, os caf i, Llywydd, gyda dyfyniad syml, ac rwy'n credu ei fod yn adlewyrchu'n dda iawn yr hyn y mae'r Blaid Lafur wedi bod yn ei wneud dros y 18 mis diwethaf, sef:

pan gaiff llyfrau hanes eu hysgrifennu, a llwybr Brexit ei ddadansoddi, gwelir swyddogaeth Jeremy Corbyn yn un hanfodol.

Roedd hynny yn y Daily Mail. [Chwerthin.]

18:20

Nid wyf yn bwriadu dyfynnu llawer o'r ystadegau a'r materion yr ydym ni yn eu trafod yn barhaus yn y Siambr hon. Felly, mae yna ddau faes yr oeddwn i eisiau canolbwyntio arnyn nhw. Un yw'r hyn a alwaf yn 'gynllwyn anallu', y credaf y mae'r Llywodraeth wedi ildio iddo, a'r llall yw'r agwedd fwy difrifol o ran tanseilio democratiaeth seneddol. Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd David Davis, o fewn dwy flynedd, y gallai'r DU negodi ardal masnach rydd lawer mwy na'r UE. A dilynwyd ef gan Liam Fox ym mis Gorffennaf 2017, a ddywedodd—dywedodd yr Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol y byddai negodi cytundeb masnach newydd Prydeinig gyda'r UE yn un o'r hawsaf mewn hanes.

Rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa bellach lle mai'r unig bethau yr ymddengys ein bod wedi cytuno arnynt yw y bydd bil ysgariad gwerth £39 biliwn, y bydd Gogledd Iwerddon mewn anhrefn, ac mai'r perygl mwyaf a wynebwn yw dim cytundeb. Ac rydych chi'n meddwl tybed sut y gallwn ni gyrraedd sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn ein harwain mor agos at sefyllfa beryglus o ddim cytundeb. Gallwch bron iawn â dweud ei fod yn gynllwyn o anallu, lle gallwch chi weld y Brecsitwyr mwyaf digyfaddawd yn dweud, 'y mwyaf analluog y gallwn ni fod, y mwyaf tebygol y byddwn ni o gael yr hyn yr ydym ni mewn gwirionedd eisiau ei gyflawni.' Efallai fod hynny'n swnio fel mymryn o ddyfalu, mewn gwirionedd, ond wedyn mae'n rhaid ichi wrando ar yr union eiriau a ddywedodd Boris Johnson, un o'r ceffylau blaen yn hyn, yr Ysgrifennydd Tramor. Dyma union eiriau Boris Johnson o'u cyfieithu i'r Gymraeg. Dyma ni:

Rhaid ichi wynebu'r ffaith y gallai pethau fynd ar chwâl. Iawn? Dydw i ddim eisiau neb i ddychryn yn ystod y chwalfa. Peidiwch â dychryn. Publico pro bono, no bloody panic. Bydd popeth yn iawn yn y diwedd.

Ac yna aeth ymlaen i ddweud,

Rwy'n edmygu Donald Trump yn fwyfwy, a'i fod yn fwyfwy argyhoeddedig bod trefn yn ei wallgofrwydd, a dychmygwch Trump yn gwneud Brexit.

Dyna ddywedodd ein Hysgrifennydd Tramor. Wel, y gwir amdani yw nad oes angen Donald Trump arnom ni, oherwydd mae gennym ni ein triawd Trump ein hunain sef Theresa May, David Davis a Boris Johnson. Wrth ddarllen hyn, gwelais neges drydar a ddywedodd fod cynllun gan Baldrick hyd yn oed. [Chwerthin.]

O ran y pwynt ar danseilio democratiaeth seneddol, roedd yr holl achos ynglŷn ag erthygl 50 mewn gwirionedd yn ymwneud â Llywodraeth y DU eisiau mynd y tu ôl i gefn y Senedd, lleihau swyddogaeth y Senedd mewn gwirionedd. Roedd hyd yn oed Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn y diwyg a gyflwynwyd i ni, yn ymwneud â'r Llywodraeth yn mynd y tu ôl i gefn y Senedd drwy greu pwerau Harri'r VIII a chanoli'r Llywodraeth. Wrth gwrs, mae gwelliant Grieve, a fydd yn digwydd yfory, eto yn fater hynod bwysig, oherwydd mae a wnelo hyn â hanfodion rhoi llais i'r Senedd, a byddech yn amau mai holl ddiben refferendwm Brexit, fel y dywedwyd wrthym ni, oedd adfer democratiaeth seneddol mewn gwirionedd.

Dywedodd yr Arglwydd Hailsham yn Nhŷ'r Arglwyddi bod cynnig y Llywodraeth

nid yn unig yn methu â chyflawni'r bleidlais ystyrlon a addawyd ond mae'n llawer gwaeth, oherwydd mae'r Llywodraeth yn ceisio gwneud y bleidlais ystyrlon a addawyd yn amhosibl. Mae'n dileu'r posibilrwydd yn fwriadol.

A gwelwn mai'r ymateb i hyn yn y papurau yw y gelwir pobl sy'n siarad yn y fath fodd am gefnogi democratiaeth seneddol yn 'fradwyr'. Fe'u gelwir yn 'elynion y bobl'. Mae peryg y gwelwn, yn fy marn i, gwymp democratiaeth seneddol os na chymeradwyir gwelliant Grieve neu ryw welliant dilynol sy'n rhoi llais i'r Senedd. Ac mae hi'n eironi llwyr, onid yw, y gallem, o ganlyniad i golli sofraniaeth seneddol, fod yn y  sefyllfa o fod mewn perygl o gael llai o bwerau yn y Senedd na phetaem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd? Mae yna, yn fy marn i, fygythiad sylweddol i reolaeth y gyfraith. Mae'n tanseilio democratiaeth seneddol. Credaf mai'r unig ffordd o oresgyn hyn yw bod angen inni gael etholiad cyffredinol. Yn wir, mae angen Llywodraeth arnom sydd â mandad newydd. Oherwydd ar hyn o bryd y cwbl sydd gennym yw Llywodraeth â'i hunig gymhelliant, ei hunig sail resymegol dros fodolaeth, yw cynnal ei hun, ac nid yw hynny yn rhoi buddiannau'r genedl yn gyntaf. 

18:25

A gaf i ddechrau drwy efallai atgoffa pobl, yn anffodus, y bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019 oherwydd bydd Theresa May yn dal ei gafael ar bŵer ac yn ddi-os yn ein harwain ni allan, oherwydd mae hi wedi gwneud hynny'n gwbl glir? Ond y cwestiwn yw ar ba delerau yr ydym ni'n ymadael, a dyna'r cwestiwn mwyaf i bob un ohonom ni yn ein gyrfaoedd gwleidyddol, rwy'n credu, yn y dyfodol.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol rwyf wedi cael cyfle i weld y cymhlethdodau a'r anawsterau yr ydym ni wedi'u hwynebu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac y byddwn ni'n eu hwynebu yn y dyfodol, a'r canlyniadau posibl y bydd yn rhaid inni eu goresgyn oherwydd y cymhlethdodau hyn. A gaf i, ar y pwynt hwn, nodi ar y cofnod y gwaith rhagorol a wneir gan staff y Comisiwn sydd bob amser yn cyflwyno gwybodaeth inni fel Aelodau am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan ac yn Ewrop er mwyn i ni gael dealltwriaeth o rai o'r materion sy'n cael eu codi trwy gydol yr holl broses hon?

Ar gyfer ein cymunedau ledled Cymru, a'r DU gyfan, mae'n hanfodol ein bod yn ymadael â'r UE â'r fargen orau bosibl sydd ar gael i ni, ac, i mi, nid oes unrhyw amheuaeth na fydd bod heb unrhyw fargen ar 29 Mawrth yn drychinebus i bawb. Mae'r sïon sy'n dod o Frwsel, yn anffodus, yn ystod y dyddiau diwethaf yn nodi bod diplomyddion o 27 aelod yr UE yn paratoi i gael datganiad ar ôl cyfarfod y Cyngor yr wythnos nesaf a fydd yn mynegi'r farn bod sefyllfa o ddim bargen yn bosibilrwydd gwirioneddol erbyn hyn, yn arbennig gan fod Llywodraeth y DU wedi parhau i fethu â llunio Papur Gwyn ar ei safbwynt ar ddyfodol yr UE, ac ar unrhyw berthynas. Gobeithio eu bod yn anghywir. Rwy'n gobeithio'n daer eu bod yn anghywir ynghylch hyn, ac na fydd y datganiad hwnnw'n digwydd. Mae gormod yn y fantol i bawb gerdded i ffwrdd i reolau anhysbys Sefydliad Masnach y Byd. Gallai'r ansicrwydd hwn fod yn realiti. Ewch i ofyn i'ch busnesau yn eich etholaethau lleol os nad ydych chi'n fy nghredu i—

A wnaiff yr Aelod ildio? [Anghlywadwy.]—yn dweud ei fod eisiau bargen dda, ond mae'n dweud na all ystyried, o dan unrhyw amgylchiadau, gerdded i ffwrdd. Sut gallai unrhyw fusnes negodi â busnes arall yn ei etholaeth ef a gobeithio cael bargen dda os yw'r ochr arall yn gwybod y byddant yn derbyn yr hyn a roddir iddyn nhw, beth bynnag?

Fe wnaf ddod at hyn, oherwydd mae'n bwynt diddorol iawn. Mae'n amlwg i mi nad oes gan y Llywodraeth bresennol unrhyw sgiliau negodi o gwbl, ei bod yn mynd i'r negodiadau heb ddeall bod negodi yn broses ddwyffordd, mewn gwirionedd, a bod yn rhaid i chi ddeall dadleuon y ddwy ochr a'r hyn y mae'r naill ochr a'r llall yn ei dymuno. Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn deall hynny a'i bod yn mynd i mewn i hyn yn meddwl bod ganddi'r hawl ar ei phen ei hun i bennu'r ffordd y mae hi ei heisiau, mewn gwirionedd, heb gydnabod safbwynt yr ochr arall. Nid dyna'r ffordd o negodi, ac, yn wir, efallai dylen nhw fynd at yr undebau llafur a dysgu rhywfaint am negodiadau.

Nawr, y ffaith amdani yw bod Theresa May mewn gwirionedd yn methu â gwrthsefyll y Brexiteers caled yn ei phlaid ei hun, ac, fel sydd wedi ei grybwyll eisoes, y rhai hynny yn ei Chabinet yn arbennig. Felly, mae posibilrwydd gwirioneddol iawn na all gael bargen oherwydd na fyddan nhw'n caniatáu iddi gael un. Bydd hynny'n drychinebus i ni. Bydd yn golygu ffigurau allforio is, twf is, llai o fuddsoddiad, llai o swyddi ac incwm llai. Dyna beth y gall ein hetholwyr ei wynebu o ganlyniad i hynny. Newyddion ofnadwy i Gymru, a, gadewch inni fod yn onest, mae'n newyddion ofnadwy i'r DU gyfan—pob rhan o'r DU.

Nawr, gadewch i ni fod yn glir, rwyf i wedi clywed ddwywaith eisoes heddiw am y ffaith, os ydym ni'n codi'r materion hyn, ein bod yn cwyno ac yn ceisio tanseilio'r broses Brexit. Nid yw'n ymwneud â thanseilio. Mae'n ymwneud â chael y fargen gywir ar gyfer ein pobl, y rhai yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae methu â chodi hyn yn fethiant i wneud ein gwaith. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr bod y Brexit a fydd yn digwydd yn cael ei wneud i roi'r dewisiadau gorau inni. Ni ddylid drysu cydnerthedd a phendantrwydd pobl i ddiogelu dyfodol y DU y tu allan i'r UE, neu ei gamddeall, fel bwriad i'w danseilio. Ffordd o gelu methiannau Llywodraeth Dorïaidd yw hynny. Gwnaed yr her o adeiladu llwybr sy'n cynnig dyfodol cryf y tu allan i'r UE wedi'i gwneud yn anoddach gan fethiannau Llywodraeth y DU, y gwendid a'r diffyg strategaeth gydlynol. Mae'n niweidio'r DU; mae'n ein gwneud ni'n destun sbort, i fod yn onest, ac nid oes da yn hynny. Does ganddyn nhw ddim strategaeth ar waith, does ganddyn nhw ddim syniadau, dydyn nhw ddim wedi dweud wrth yr UE beth maen nhw'n dymuno ceisio'i gyflawni. Beth fyddech chi'n ei ddisgwyl? Pe byddwn i yn mynd i negodiadau, byddwn i'n gwybod yn union beth roeddwn i'n dymuno ceisio'i wneud. Mae'r UE wedi dweud wrthym ni beth yw eu safbwynt negodi nhw; dydyn nhw ddim yn ei guddio. Rydym ni yn gwneud hynny. Dyna ni.

Rydym ni wedi gweld drwy gydol y trafodaethau, a chlywsom ni heddiw gan Neil Hamilton, 'Rhowch y bai ar yr UE.' Wel, mae'n ddrwg gen i ddweud, 'Rhowch y bai ar y Torïaid, oherwydd nhw yw'r rhai sy'n methu.' Mae'r UE wedi bod yn glir o'r cychwyn am yr hyn maen nhw ei eisiau a beth yw eu targed nhw, dim ond ceisio diogelu a chuddio mae'r Torïaid oherwydd does ganddyn nhw ddim syniad beth maen nhw ei eisiau. Mae'n bwysig ein bod yn ymdrin â'r mater hwn. Mae Mick Antoniw wedi dweud hefyd y bydd yfory yn gwestiwn diddorol arall pan ddaw'r ddadl yn ôl at y blaid Dorïaidd, 'A ydych chi'n derbyn pleidlais ystyrlon neu beidio?' Mae'n anhrefn yno; mae'n anhrefn llwyr ac ni sy'n talu'r pris.

Mae ffordd bell i fynd yn y negodiadau hyn, mae llawer o waith i'w wneud ac i ddyfynnu rhywun enwog, Michel Barnier, oherwydd rydym ni i gyd yn siarad amdano, 'Mae'r cloc yn tician', a dydy'r diffyg sgiliau negodi ddim yn ein helpu o gwbl. Mae angen cyfaddawdu a phragmatiaeth ac, yn anochel, bydd y naill ochr a'r llall yn gorfod ildio mewn rhai meysydd—dyna ystyr negodi. Eu gwaith nhw yw dod i gytundeb y cytunir arno sy'n diogelu swyddi ac yn darparu diogelwch i genedlaethau'r dyfodol yn y DU a'r UE, ac rwy'n eilio: bod angen i'r ddwy ochr ei ystyried.

Llywydd, rwyf wedi dweud yn aml bod pobl Prydain, ar 23 Mehefin 2016, wedi pleidleisio i ymadael â'r UE; ni wnaethon nhw bleidleisio i ymadael ag Ewrop. Roedd y cwestiwn y gofynnwyd iddyn nhw yn ymwneud â'r UE. Yn sicr, ni wnaethon nhw bleidleisio i'n gweld ni dan anfantais oherwydd bod yr elît gwleidyddol yn Llundain wedi methu â negodi bargen dda.

18:30

Rwyf wedi fy nghymell i gyfrannu'n fyr at y ddadl hon gan y sylwadau a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru, sef bod ganddi ei chynllun cyfrwys ei hun, ddwy flynedd yn ôl, i greu ymgyrch a'i bod wedi mynd at y Prif Weinidog i wneud hynny. Dydw i ddim yn ymwybodol o'r sgwrs honno, ond rwy'n synnu ei bod wedi cymryd dwy flynedd iddi ddatgelu'r cynllun cyfrwys hwn.

Byddwn i'n dweud hyn: roedd hi a mi yn eistedd, yn 2011, ar bwyllgor llywio yr ymgyrch datganoli drawsbleidiol Ie dros Gymru, ac roedd hi'n ddigon anodd yn yr ymgyrch honno i gael cymdeithas sifil a'r eglwysi a'r elusennau y soniodd hi amdanyn nhw i weithio gyda'i gilydd mewn unrhyw ffordd effeithiol, ystyrlon, ac roeddwn i ar y pwyllgor hwnnw yn rhannol fel cynrychiolydd cymdeithas sifil. Ffantasi ddeniadol, rwy'n credu, y mae hi'n seilio'r ddadl hon arni. Ers hynny, mae'r Ddeddf lobïo wedi'i phasio, a roddodd lond twll o ofn i sefydliadau elusennol, y gallen nhw gymryd rhan mewn ymgyrch refferendwm. Roeddwn i'n rhan o rai o'r sgyrsiau cynnar, rhyw naw mis cyn y refferendwm, gyda grŵp llac o sefydliadau cymdeithas sifil i weld a oedd rhyw awydd i wneud rhywbeth tebyg ar gyfer refferendwm yr UE, ac nid oedd unrhyw ewyllys i wneud hynny o gwbl. Rwyf i mor feirniadol ag unrhyw un o'r ymgyrch 'aros' ac mor rhwystredig â hi ynghylch y canlyniad, ond mae'n gamsyniad deniadol i awgrymu y gellid bod wedi atal y canlyniad hwnnw pe byddem ni i gyd wedi dod at ein gilydd ar ymgyrch.

A ydych chi'n credu bod hyn yn ymwneud o gwbl ag arweinyddiaeth ac a oedd yr undebau llafur yn rhwym wrth yr un ddeddfwriaeth yr ydych chi'n sôn amdani?

Roedd yr undebau llafur yn rhwym wrth yr un ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth ac wrth gwrs bod cwestiynau i ni i gyd eu hateb ynghylch y ffordd y cynhaliwyd y refferendwm hwnnw, ac roedd ei amseriad yn anffodus yn amlwg, ond rwy'n credu mai gwleidyddiaeth ffantasi yw hyn. A hefyd, mae'n camddeall dyfnder y teimlad ymhlith ei hetholwyr ei hun am yr hyn yr oedd y refferendwm yn ymwneud ag ef. 'Pe byddai ychydig o barchusion â bwriadau da wedi dod at ei gilydd a dechrau ymgyrch fach, byddai popeth wedi bod yn iawn'; o na fyddai hynny'n wir. Dydw i ddim yn credu hynny mewn gwirionedd. Rwy'n synnu ei bod wedi cymryd dwy flynedd iddi ddatgelu hynny ac rwy'n credu ei bod yn feddylfryd peryglus i geisio codi hyn yn awr, i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol ac awgrymu bod yr ateb ganddi ar hyd yr amser. Mae'n lol llwyr.

Byddwn i'n dweud, mai arweinwyr y bleidlais Brexit honno, yr Ysgrifennydd Tramor, David Davis a Liam Fox, yw'r rhai sy'n arwain y negodiadau hyn bellach i ddilyn y geiriau y dywedodd pob un ohonom ni oedd yn nonsens, ond dylem ni fod yn eu dwyn nhw i gyfrif. Roedd y Papur Gwyn y gwnaethom ni ei negodi ar y cyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn foment dda, yn fy marn i, wrth inni ystyried ein buddiannau cyffredin ac mae'n drueni ein bod ni bellach yn dechrau troi ar ein gilydd. Dylem ni fod yn troi ein tân ar y Torïaid a wnaeth addewidion yr oeddem ni'n gwybod na fydden nhw'n eu cadw. Ac, yn hytrach na chyflwyno ffantasi—rwy'n gorffen ar y pwynt hwn—fersiynau ffantasi o hanes y byddai pob dim wedi bod yn iawn, rwy'n meddwl, dewch o na, mae angen inni wneud yn well na hynny a throi ein tân ar y bobl hynny a wnaeth addewidion sydd bellach yn chwalu.

Y broblem sylfaenol â'r cwestiwn Brexit yw hyn, ynte, Llywydd, y gofynnwyd i bobl, yn ôl yn 2016, bleidleisio o blaid syniad ac nid cynllun? Cawsom ni refferendwm yn 1997, cawsom ni refferendwm arall yn 2011, a oedd yn caniatáu i bobl, os byddan nhw'n dewis, edrych ar ddogfen a fyddai'n dweud wrthyn nhw beth fyddai'n digwydd pe bydden nhw'n pleidleisio 'ie'. Nid oedd unrhyw amheuaeth am y peth, nid oedd unrhyw amwysedd—roedd yno, wedi'i ysgrifennu'n ddu a gwyn. Ond y broblem yw y gofynnwyd i bobl bleidleisio am syniad, a bydd dehongliadau gwahanol iawn o'r bleidlais honno yn y Siambr hon—wrth reswm. Ni ellir profi na gwrthbrofi dim ohonyn nhw, oherwydd y broblem yw bod Brexiteers caled iawn, iawn sydd bron fel ffwndamentalwyr crefyddol sydd o'r farn, 'Mae'n rhaid i chi gymryd hyn i gyd yn llythrennol—roedd pobl eisiau gadael popeth ag "yn Ewrop" ynddo.' A dim ond ychydig o orddweud yw hynny. A bydd eraill sy'n llawer mwy pragmatig, fel yr ydym ni, sy'n ceisio cael Brexit sy'n gweithio i Gymru. Dyna'r broblem sylfaenol yn y fan yma: roedd y bleidlais ei hun, y cwestiwn ei hun, yn ddiffygiol o ran yr hyn y gofynnwyd i bobl ei wneud.

Fe wnes i wrando ar yr hyn yr oedd gan Mark Isherwood i'w ddweud. Mae'n wir na wnaeth pobl godi gyda mi mater y farchnad sengl neu'r undeb tollau—doedden nhw ddim yn gwybod beth oedden nhw. Y cyfan yr oedd pawb yn ei wybod oedd yr hyn yr oedd yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud, a hyd yn oed wedyn doedden nhw ddim yn siŵr oherwydd dywedodd pobl wrthyf i, 'Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn dod allan o'r Confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol', sy'n ddim byd i'w wneud â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, nid hwn oedd yr enghraifft orau o refferendwm wedi'i seilio ar wybodaeth yn yr ystyr hwnnw. Mae'n siŵr nad yw unrhyw refferendwm wedi'i seilio'n fawr iawn ar wybodaeth, oherwydd bydd pobl bob amser yn pleidleisio am resymau nad oes ganddyn nhw ddim i'w wneud â'r refferendwm. Clywais i fwy o bobl yn dweud wrthyf eu bod nhw eisiau rhoi cic i'r Torïaid nag a ddywedodd wrthyf eu bod nhw eisiau gadael yr UE. Dyna yw realiti unrhyw refferendwm.

Dywedodd Mark Isherwood hefyd—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

18:35

Onid y gwir amdani yw na fu unrhyw drafodaeth ar yr undeb tollau oherwydd y sefydlwyd yr UE fel undeb tollau? Cymerwyd yn ganiataol y byddai gadael yr UE yn golygu gadael yr undeb tollau, a phan ddaeth y farchnad sengl yn rhan o'r ymgyrch, roedd yr ymgyrch 'Ymadael' ac yn enwedig Michael Gove yn gwbl glir bod pleidleisio i ymadael yn golygu ymadael â'r farchnad sengl, yn ogystal â'r undeb tollau?

Na, oherwydd byddai'n rhaid i chi fod yn yr UE i fod yn yr undeb tollau; dyna'r holl bwynt. Mae Ynys Manaw, Jersey a Guernsey yn yr undeb tollau; dydyn nhw ddim yn yr UE. Os edrychwch chi, er enghraifft, mae Twrci yn yr undeb tollau; nid yw yn yr UE. Nid yw'r ddau beth yn gyfystyr â'i gilydd; dyna'r holl bwynt, a dyma ni yn ôl unwaith eto â chraidd y broblem yn 2016, nad oedd yna ddogfen y gallai pobl gyfeirio ati a oedd yn dweud wrthyn nhw yn union beth fyddai'n digwydd pe bydden nhw'n pleidleisio mewn rhyw ffordd benodol.

A gaf i yn syml ddweud hyn wrtho? Bydd e'n cofio, fel yr wyf innau, er na fydd pawb yn y Siambr hon yn cofio, y gyfres Fawlty Towers. Daw adeg lle mae'r Major yn Fawlty Towers yn gwneud y camgymeriad o chwilio am Almaenwyr ac mae'n rhaid i Basil Fawlty ddweud wrtho bod y rhyfel drosodd. Ac mae'r rhyfel drosodd. Dydy'r UE ddim yn bŵer gelyniaethus. Dydy'r UE ddim yn eistedd yno yn Calais yn edrych ar glogwyni Dover â bwriad maleisus. Mae'r UE yn bartner i ni ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn negodi gyda nhw fel partner ac nid fel pŵer gelyniaethus, fel y dywedodd ef.

Byddai'n rhyfeddol pe na byddai'r UE yn allforio mwy mewn gwerth i'r DU nag yr oedd y DU yn ei allforio i'r UE. Yn syml iawn, mae'r UE yn fwy o lawer na'r DU, wrth gwrs ei fod yn mynd i wneud hynny. Ond mae canran yr allforion o'r UE i'r DU yn llawer llai na chanran yr allforion sy'n mynd o'r DU i'r UE. Dyna'r gwahaniaeth. Nid dim ond y nifer gwirioneddol sy'n bwysig; mae'r ganran yn bwysig.

Unwaith eto mae'n gwneud y pwynt pe byddai ef wedi bod yng ngofal hyn byddai popeth wedi'i wneud. Wel, dywedodd Nigel Farage y byddai gennym ni fargen â'r Unol Daleithiau o fewn 48 awr. Iawn, roedd yn dweud hynny â'i dafod yn ei foch—wel, gallech chi byth ddweud gydag ef os oedd ei dafod yn ei foch. Mewn dadl roedd yn siarad drwy'i het; ni chaech chi ddweud yn groes iddo. Ond y realiti yw, a yw mewn gwirionedd yn dweud bod yr Unol Daleithiau yn aros yno i wneud bargen â'r DU ar delerau sy'n ffafriol i'r DU? Dydw i ddim yn credu hynny. Mae rhethreg Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn sicr, yn dangos fel arall.

Gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd Leanne Wood. Byddwn i yn ei hatgoffa ei bod hi a minnau, ar y mater hwn, ar yr un ochr. Mae hi'n fy atgoffa o rhywun sy'n chwarae ar dîm rygbi sy'n rhedeg o amgylch y cae yn ceisio taclo aelodau ei hochr ei hun, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr wrthblaid draw yn y fan yna. Nhw yw'r wrthblaid draw yn y fan yna. Nhw yw'r bobl sy'n ceisio gwrthod Brexit synhwyrol i bobl Cymru. [Torri ar draws.] Mewn eiliad, mi wna i roi cyfle i chi. Mewn eiliad, iawn.

Dywedais i wrthi hi ar y pryd fy mod i o'r farn ei bod yn naïf i gynnal ymgyrch drawsbleidiol yng nghanol etholiad. Fe wnaethom ni dreulio ein holl amser yn lladd ar ein gilydd yn rhan o'r broses ddemocrataidd. Doedd yr etholwyr ddim yn mynd i'n credu ni wythnos yn ddiweddarach ein bod ni i gyd yn sydyn yn ffrindiau unwaith eto. Dim fel yna mae'n gweithio. Roedd yr amseru'n anghywir. Mae hi'n iawn, dywedais i wrth David Cameron, 'Peidiwch â chynnal y refferendwm ym mis Mehefin—

18:40

—cynhaliwch ef  yn yr hydref fel bod yr etholiadau drosodd.' [Torri ar draws.] Os oes gennyf amser, Llywydd.

Diolch. Wel, gobeithio, Prif Weinidog, nad ydych chi'n mynd i fy siomi i yn awr, oherwydd rwyf newydd glywed gan Blaid Cymru bod y ffaith bod y rhai a oedd eisiau aros yn yr UE wedi colli'r refferendwm yn gorwedd yn amlwg ar ysgwyddau Prif Weinidog Cymru.

Y gwirionedd yw mai David Cameron sy'n gyfrifol am lawer o hyn, mae arnaf i ofn, oherwydd dywedais i wrtho, 'Peidiwch â'i gynnal ym mis Mehefin, cynhaliwch ef ym mis Medi.' Roedd e'n meddwl y byddai'n gallu ennill y refferendwm fel yr oedd wedi ei wneud yn yr Alban. Dyna oedd y broblem. Roedd e'n dal i fod yn hyderus ar ôl yr hyn a oedd wedi digwydd yn yr Alban ac, o ganlyniad, roedd yna hunanfodlonrwydd yn y fan yna. Roedd yn rhywbeth a ddywedais i wrtho ar y pryd.

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd Plaid Cymru ei bod hi'n awgrymu y dylai'r pwyslais fod wedi bod ar ymladd refferendwm yr UE pan oedd yr etholiad drosodd, ond yn yr wythnos gyntaf roedd hi'n canolbwyntio ar daro bargen gyda'r Torïaid ac UKIP er mwyn cael ei hethol yn Brif Weinidog. [Torri ar draws.] Does gen i ddim amser, yn anffodus.

Mae dau bwynt arall y mee'n rhaid i mi eu gwneud. Yn gyntaf oll, gwnaeth Jenny Randerson y—o bawb. Gwnaeth Jenny Rathbone y pwynt nad ydym ni'n barod i ymdrin ag undeb tollau. Nid yw'r porthladdoedd yn barod, gwnes i'r pwynt hwnnw yr wythnos diwethaf. Does dim byd wedi'i wneud yn y porthladdoedd i hwyluso'r gwaith o symud nwyddau drwy borthladdoedd. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r bai ar y porthladdoedd, does dim amheuaeth gennyf i ynghylch hynny, os bydd oedi yn y porthladdoedd hynny.

Mae Simon Thomas yn gwneud pwynt cwbl gywir pan ddywed, yn yr ymgyrch ar gyfer y refferendwm, y dywedwyd dro ar ôl tro—Senedd y DU oedd hi bob tro, doedd dim sôn amdanom ni—mae'n rhaid dychwelyd pŵer i'r Senedd, ac eithrio pan nad yw'r Senedd yn cytuno â ni. Dyna neges y Brexiteer.

Os ydych chi eisiau edrych am ddehongliad o safbwynt pobl, cynigiwyd cyfle i bobl bleidleisio y llynedd dros Brexit caled fel y'i cynigiwyd gan y Prif Weinidog a dywedodd y bobl, 'Dim diolch.' Fe wnaethon nhw ddweud, 'Rydym ni eisiau rhywbeth gwahanol, dydym ni ddim eisiau'r Brexit a gynigiodd y Blaid Geidwadol.' Mae'n bryd nawr i fod yn realistig. Mae'n bryd nawr am ryw wyleidd-dra ar ran y Blaid Geidwadol yn Llundain. Ond, yn anad dim, mae'n bryd i ni weld arweinyddiaeth yn Llundain, fel sydd gennym yng Nghymru, i ddarparu Brexit synhwyrol, sef yr hyn y gwnaeth pobl Cymru bleidleisio o'i blaid yn fy marn i.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem gyfan tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch.

10. Cyfnod pleidleisio

Rwy'n symud i'r bleidlais gyntaf ac mae honno ar y ddadl ar Gyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6746 - Dadl: Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): O blaid: 45, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar ddwy flynedd ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

NDM6741 - Gwelliant 1: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

NDM6741 - Gwelliant 2: O blaid: 16, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, tri yn ymatal, 40 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 3. 

NDM6741 - Gwelliant 3: O blaid: 8, Yn erbyn: 40, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

18:45

Gwelliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant.

NDM6741 - Gwelliant 4: O blaid: 8, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.

NDM6741 - Dadl: Dwy Flynedd ers Refferendwm yr UE: O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.