Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

06/12/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. A'r cwestiwn cyntaf, Mick Antoniw.

Bil Masnach Llywodraeth y DU

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau Bil Masnach Llywodraeth y DU ar gyfer polisi caffael Llywodraeth Cymru? OAQ51398

Lywydd, mae'r Bil Masnach yn cynnwys cytundeb arfaethedig ar weithgarwch caffael y Llywodraeth, a elwir yn gytundeb amlwladol o fewn fframwaith Sefydliad Masnach y Byd. Mae'r Bil yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau wrth weithredu cytundeb o'r fath ar waith mewn meysydd datganoledig.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai eich bod yn cofio i ni gael cryn dipyn o drafodaeth, cyn y refferendwm, ar y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd a chytundebau masnach allanol, a goblygiadau hynny ar gyfer caffael yng Nghymru, gwasanaeth iechyd gwladol Cymru ac ati. Ac ymddengys, er i ni gael ein rhybuddio, pe na baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, y byddai'r UE yn cyflwyno Partneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd ar ein cyfer, ymddengys bellach y bydd y Bil Masnach yn arwain at y DU yn cyflwyno Partneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd ar gyfer Cymru, gyda fawr iawn o waith craffu, gan ddefnyddio'r uchelfraint frenhinol, gyda lefel benodol o waith craffu llywodraethol arno yn unig. A ydych yn cytuno â mi nad yw'r Bil, fel y'i lluniwyd ar hyn o bryd, yn rhywbeth y gallwn roi cydsyniad deddfwriaethol iddo, ac a ydych hefyd yn rhannu rhai o fy mhryderon ynglŷn â'r ffordd y gall y Bil hwn gamddefnyddio rhai o'r polisïau rydym yn eu cefnogi yng Nghymru?

Wel, Lywydd, y gwrthwynebiad sylfaenol i'r Bil Masnach, o safbwynt cyfansoddiadol, yw'r un a amlinellwyd gan Mick Antoniw yn awr, sef ei fod yn parhau i ganiatáu i Weinidogion y Goron allu estyn i mewn i feysydd datganoledig a gorfodi atebion heb geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru. Ac yn yr ystyr hwnnw, yr hyn sydd o'i le gyda'r Bil Masnach yw'r hyn sydd o'i le gyda'r Bil ymadael, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn llwyddo i sicrhau bod y Bil ymadael yn cael ei ddiwygio'n briodol.

Fy nehongliad i o'r Bil Masnach ei hun yw mai ei brif nod yw cynnal y status quo yn y tymor byr a'r tymor canolig, gan ymgorffori dros 40 o gytundebau masnach rydd sydd eisoes yn bodoli gyda'r UE yng nghyfraith y DU. Yr hyn a fydd yn gwbl annerbyniol i Lywodraeth Cymru fyddai pe bai polisi masnach yn y dyfodol yn cael ei weithredu ar y sail fod yr amddiffyniadau sydd ar gael ar hyn o bryd ym maes yr amgylchedd, ym maes cyflogau, ym maes safonau eraill, fod y Bil Masnach yn cael ei ddefnyddio i'w tanseilio, yn y ffordd a awgrymodd yr Aelod.

Weinidog, yn amlwg, mae caffael cyhoeddus yn fwy cyffredinol yn ddull pwysig sydd gennych fel Llywodraeth o ysgogi economïau lleol. Cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru y fframwaith caffael cyhoeddus cenedlaethol, a oedd yn caniatáu i fusnesau llai, yn amlwg, sicrhau cyfran fwy o'r cynnig caffael cyhoeddus. Rwyf wedi cael llawer o sylwadau fod busnesau o'r farn fod y rhwydwaith caffael hwn yn drafferthus iawn, a chredaf fod Gweinidogion y Llywodraeth wedi nodi na fu'n gymaint o lwyddiant, yn amlwg, â'r hyn a obeithiwyd. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o'r fframwaith hwnnw, a pha welliannau rydych yn bwriadu eu gwneud i ganiatáu i fusnesau bach a chanolig gael cyfran fwy o'r cynnig caffael cyhoeddus?

Lywydd, rwyf wedi cyhoeddi adolygiad o'r gwasanaeth caffael cenedlaethol, yn rhannol er mwyn sicrhau y gellir cyflawni rhai o'r pethau y bwriadwyd iddo ei wneud pan gafodd ei sefydlu yn well, ond hefyd i sicrhau bod ein dull o gaffael yn cyd-fynd â rhai cyfleoedd posibl y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd. Mae hwn yn un o'r ychydig feysydd a allai gynnwys rhai cyfleoedd newydd i ni, pan fyddwn yn gallu ysgrifennu ein llyfr rheolau ein hunain i ryw raddau, yn hytrach na chael ein cyfyngu gan bolisïau caffael yr UE. Rydym wedi gofyn i'r adolygiad hwnnw gael ei gynnal. Bydd rhan bwysig iawn ohono yn ymwneud â sicrhau bod ein polisïau caffael yn y dyfodol wedi eu halinio hyd yn oed yn well nag yn y gorffennol, gyda chyfleoedd i fusnesau Cymru allu manteisio ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn medru dweud ar hyn o bryd, oni bai ein bod ni'n cael newidiadau yn y Mesur sydd wedi ei gyhoeddi—y Mesur Masnach yma—y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod cynnig cydsyniad deddfwriaethol? Mi oedd yr Ysgrifennydd Cabinet masnach yn Llundain wedi dweud eu bod nhw wedi cyflwyno rhai newidiadau i'r Mesur ers cyhoeddi'r drafft ym mis Hydref, ar ôl trafod gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. A ydyw e'n gallu dweud beth fyddai'r newidiadau hynny? A gan fod cytundeb y WTO mae e wedi cyfeirio ato fe yn gosod mas adrannau gwahanol ar lefelau gwahanol o Lywodraeth—er enghraifft, ar gyfer Llywodraeth ddatganoledig—a fyddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl feto mewn gwirionedd wrth bennu cynnwys yr adrannau perthnasol ar gyfer Cymru?

13:35

Beth gallaf ei ddweud, Llywydd, yw, o dan y withdrawal Bill, rydym ni wedi dweud yn barod na allwn ni ddod ymlaen gyda chydsyniad i lawr y Cynulliad ac awgrymu i'r Aelodau gefnogi hynny. Mae'r pethau nad ydym ni'n gallu cytuno yn y withdrawal Bill yr un peth, yn fy marn i, â beth gallwch ei weld yn y Bil presennol. 

Nid wyf am ragdybio safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn, Lywydd, gan fod angen meddwl yn drwy hynny'n briodol, ond ymddengys i mi ei bod yn annhebygol, heb rai o'r newidiadau yr awgrymwyd bod Llywodraeth y DU yn barod i'w hystyried, y byddem mewn sefyllfa i gynnig cynnig cydsyniad deddfwriaethol y gallem ei gefnogi ar y Bil hwn am yr un rhesymau â'r Bil blaenorol. A yw hynny'n gyfystyr â feto yn y ffordd yr awgrymodd Adam Price? Wel, ddim yn hollol, mae'n debyg.

Trethi Newydd Arfaethedig Llywodraeth Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drethi newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru? OAQ51405

Diolch i Suzy Davies am ei chwestiwn. Mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo ar y rhestr fer o gynigion treth posibl i Gymru, fel y nodwyd ar 3 Hydref. Rwy'n dal i fwriadu—

Diolch am eich ateb. O, mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn canolbwyntio. [Chwerthin.]

O'r gorau. Wel, diolch am yr ateb hwnnw hefyd, gan ei fod yn rhoi rhywfaint o syniad i mi o ran yr amseru. Y mis diwethaf, ar ôl dadl ar dreth dwristiaeth bosibl yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr, dywedodd yr aelod cabinet Llafur ar gyfer adfywio yno,

Fel deiliad portffolio twristiaeth y cabinet, byddwn yn dweud mai hwn yw'r lleiaf tebygol o opsiynau Llywodraeth Cymru ar gyfer treth newydd i gael ei groesawu ledled Cymru.

Ac aeth yn ei flaen i ddweud,

Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl o blaid y cynnig arall sef treth ar blastigau tafladwy.

Dywedodd arweinydd Llafur cyngor Abertawe heddiw ei fod yn ffafrio treth ar ofal cymdeithasol. Pan fo arweinwyr Llafur yn fy rhanbarth eisoes yn gwrthod y syniad o dreth dwristiaeth, oni fyddai'n syniad da arbed arian drwy beidio â datblygu'r syniad hwnnw a chanolbwyntio ar y tri opsiwn arall?

Lywydd, rwy'n falch iawn o weld bod gan unigolion ledled Cymru ddiddordeb yn y ddadl hon, ac mae'n ddiddorol gweld bod amrywiaeth o safbwyntiau i'w cael, a dyna'n union roeddem yn gobeithio y byddai'n digwydd drwy fwrw ymlaen â'r ddadl yn y ffordd y gwnaethom. Byddai wedi bod yn hawdd iawn i Lywodraeth Cymru fod wedi gweithredu fel y gwna Llywodraeth y DU ar faterion cyllidol drwy gadw popeth i'w hun a cheisio synnu pawb arall ar ôl gwneud penderfyniad. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ymgymryd â'n cyfrifoldebau cyllidol mewn ffordd hollol wahanol, i fod yn llawer mwy agored, i ymgysylltu mwy â phobl sydd â safbwyntiau. Rwy'n gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn a ddywed pobl ym mhob plaid ynglŷn â'r pedwar syniad gwahanol rydym wedi eu cyflwyno. Byddai arweinydd Abertawe yn llygad ei le i ddweud, o ran ymateb y cyhoedd, y bu mwy o gefnogaeth i'r dreth blastigau nag unrhyw un o'r eitemau eraill a roesom ar ein rhestr, ond nid yw hynny'n golygu nad oes diddordeb ym mhob un ohonynt, neu na ddylai'r ddadl barhau.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwneud yn union beth mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i ddweud—wedi cynnal trafodaeth agored ynglŷn â'r pwerau newydd yma, ac rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n cael y pwerau newydd hyn hefyd. A fedr yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau yr amserlen, achos, o'r blaen, mae e wedi dweud wrth y Pwyllgor Cyllid, ac hefyd, wrth y Siambr, mai yn y flwyddyn newydd y bydd e'n penderfynu ar yr un dreth i fynd ymlaen? A yw e mewn sefyllfa nawr i fod yn fwy clir ynglŷn â beth yw'r 'flwyddyn newydd'? A ydym ni'n sôn am fis Ionawr, neu a ydy'r flwyddyn newydd yn ymestyn i'r Pasg, fel mae'n gallu ei wneud o bryd i'w gilydd gyda'r Llywodraeth?

Ac yn ail, i ddod yn ôl at y pwynt sylfaenol hefyd, a gaf i ategu cefnogaeth Plaid Cymru i dreth ar blastig? Nid ydym ni'n dweud nad oes rhinweddau i rai o'r syniadau eraill ond rydym ni yn gweld fod hwn yn syniad mwy cyflawn wedi'i ddatblygu gyda chefnogaeth y cyhoedd, ac yn ymwneud â phroblem llygredd amlwg iawn sydd bellach yn rhywbeth sydd ar flaen meddyliau nifer fawr o'n dinasyddion ni. Wrth gwrs, nid yw'n trethu pobl ar gyfer y Llywodraeth; mae'n trethu pobl ar gyfer newid ymddygiad, sydd hefyd, yn fy marn i, yn egwyddor bwysig ar gyfer trethi newydd. 

13:40

Diolch i Simon Thomas. Rydw i'n gallu cadarnhau ein bod ni yn dal i weithio ar yr amserlen. Rydw i eisiau bwrw ymlaen yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ond nid wyf yn fodlon jest bwrw ymlaen heb wneud y gwaith. Un o'r pethau sydd wedi newid dros y mis diwethaf yw beth ddywedodd y Canghellor yn y gyllideb yn ôl ym mis Tachwedd, achos mae diddordeb nawr gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym maes plastics hefyd. Rydw i jest eisiau cael mwy o wybodaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weld a oes rhywbeth yn y syniadau y maen nhw'n mynd i'w hystyried sy'n mynd i gael effaith ar y posibiliadau yr ydym ni yn bwrw ymlaen â nhw yma yng Nghymru.  

Wrth gwrs, fel y dywedodd Simon Thomas, mae'n faes pwysig iawn, a hwn yw'r un, fel y dywedais wrth Suzy Davies, y mae'r cyhoedd wedi dangos y diddordeb mwyaf ynddo, ac mae Simon Thomas yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod amcanion polisi gwahanol yn arwain at drethi gwahanol. Mae Deddf blastigau yn ymwneud â dylanwadu ar ymddygiad pobl, mae gan drethi eraill fwy o ddiddordeb mewn codi refeniw. Nid oes yr un ysgogiad yn sail i bob treth a dyna ran o'r hyn y bydd angen inni ei bwyso a'i fesur wrth wneud y dewis terfynol ynglŷn â'r dreth—y byddwn yn profi mecanweithiau Deddf Cymru drwy ei chynnwys yn y mecanweithiau newydd hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn wrth fy modd pan glywais yn y gyllideb ddrafft eich bod yn ystyried treth tir gwag. Mae hyn yn broblem go iawn yn fy etholaeth, gyda darnau bach o dir gael eu cadw am ddegawdau yn aml, safleoedd hen gapeli neu neuaddau gweithwyr fel arfer, er enghraifft, gyda chost rhoi camau ar waith yn rhwystr i awdurdodau lleol. Yn ogystal â'r golled economaidd sy'n deillio o'r ffaith nad yw'r tir yn cael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol, yn aml iawn cedwir tir gwag mewn cyflwr hyll a gwrthgymdeithasol, a gall hyn gael effaith sy'n aml yn anodd ei mesur ar lesiant cymunedau. Felly, sut y byddwch yn ystyried hyn pan fyddwch yn ceisio datblygu'r syniad o dreth tir gwag fel cynnig ymarferol?

Wel, diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn pwysig a diddorol iawn. Golyga hynny, Lywydd, ein bod bellach wedi crybwyll y pedair treth a oedd ar y rhestr fer y prynhawn yma. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael cyfarfod defnyddiol iawn yn Nulyn ychydig dros wythnos yn ôl o ganlyniad i gydweithredu â'r Llywodraeth yn y Weriniaeth, lle roedd nifer o swyddogion uchel iawn yn eu Llywodraeth ar gael i sôn am y ffordd y mae eu treth tir gwag wedi cael ei datblygu. Roedd yn gyfarfod addysgiadol iawn ac yn un calonogol iawn hefyd. Dywedasant yn glir wrthyf nad diben eu hardoll tir gwag yw codi arian, ond cefnogi'r system gynllunio a phan fo gwaith galed wedi'i wneud i nodi darnau o dir, eu gwneud yn addas i'w datblygu, rhoi'r caniatadau angenrheidiol iddynt ac ati, sicrhau nad yw'r darnau hynny o dir wedyn yn segur ac yn gwneud dim. Ac maent yn teimlo bod y ddeddfwriaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn yn hynny o beth, ac felly'n gwneud yn union y math o bethau a amlinellwyd gan Vikki Howells y prynhawn yma.

Credaf y gallai treth tir gwag a osodwyd ac a strwythurwyd yn deg gynorthwyo i ysgogi datblygiad yn y Cymoedd, ac mae tai, wrth gwrs, yn un o'r pum maes blaenoriaeth yn ein cyhoeddiad 'Ffyniant i Bawb'. Er hynny, Lywydd, mae'r maes hwn hefyd wedi ei gymhlethu braidd gan y gyllideb ar 22 Tachwedd, gan fod y Canghellor wedi cyhoeddi ynddi ei fod wedi gofyn i Syr Oliver Letwin gadeirio adolygiad brys o'r bwlch rhwng rhoi caniatâd cynllunio ac adeiladu tai newydd yn Lloegr. Yn yr hyn a ddywedodd, dywedodd y Canghellor ei fod yntau hefyd yn fodlon ystyried 'ymyriadau uniongyrchol' pe bai eu hangen er mwyn sicrhau bod caniatâd cynllunio sy'n bodoli yn troi'n weithgarwch gwirioneddol ar lawr gwlad. Felly, yma eto, rydym yn gweithio i sicrhau ein bod wedi deall y gwaith a fydd yn mynd rhagddo yn Lloegr er mwyn gweld a yw'n cyd-fynd o gwbl â'r syniadau a drafodwyd gennym yma yng Nghymru. A chredaf fod treth tir gwag yn cyd-fynd yn dda iawn â'r set honno o bosibiliadau polisi sy'n datblygu nid yn unig yng Nghymru, ond yn amlwg, dros y ffin hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
13:45

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe oedd diwrnod cyllideb Cymru. A gaf fi ofyn ichi, mewn perthynas â'r gyllideb honno, a'i heffaith ar—[Torri ar draws.] Roeddwn yn meddwl y byddech yn hoffi hynny, Simon Thomas. Effaith y gyllideb ar fusnesau a busnesau bach yng Nghymru: a allwch ddweud wrthym sut rydych yn teimlo bod y gyllideb wedi bod yn dda ar gyfer mentrau bach a chanolig yng Nghymru, ac o ystyried y ffaith bod y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi amcangyfrif, am bob £1 a wariwyd gan awdurdod lleol sy'n cymryd rhan gyda busnesau bach a chanolig lleol, fod hynny'n cynhyrchu 63c yn ychwanegol er lles eu heconomi leol, o gymharu â 40c yn unig a gynhyrchir gan gwmnïau lleol mwy o faint, sut rydych yn sicrhau bod prosesau caffael Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd er mwyn sicrhau'r gwerth gorau posibl i Gymru ac y byddwn yn sicrhau ein bod yn caffael yn lleol ac yn caffael gan gwmnïau llai o faint, nid busnesau mwy yn unig?

Diolch i Nick Ramsay. Wel, Lywydd, credaf fod y gyllideb a drafodwyd gennym ddoe yn cyd-fynd ag anghenion busnesau Cymru mewn llawer iawn o ffyrdd. Mae'n cynnwys y cyllid a fydd yn angenrheidiol i gychwyn ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach newydd parhaol, sy'n darparu dros £100 miliwn yn uniongyrchol bob blwyddyn i gefnogi busnesau yng Nghymru. Mae busnesau yng Nghymru yn elwa'n hollol uniongyrchol o'r buddsoddiadau a wnawn yn y seilwaith—dyna sut y mae eu cwsmeriaid yn teithio i'w busnesau. Maent yn elwa o bopeth a wnawn o ran sgiliau ac addysg—dyna sut y mae'r bobl y maent yn eu cyflogi yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud busnesau'n llwyddiannus. Maent yn elwa o bopeth a wnawn yn y gwasanaeth iechyd gwladol—dyna sut y gall pobl sy'n gweithio mewn busnesau yng Nghymru sicrhau eu bod yn ffit ac yn iach i gyflawni'r dyletswyddau y maent yn cael eu cyflogi i'w gwneud. Mae ein cyllideb yn cefnogi busnes mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.

Yn benodol mewn perthynas â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, fel y dywedais mewn ateb cynharach, yn ôl ym mis Medi, cyhoeddais fy mod am gynnal adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cyflawni'r gwaith rydym am iddo'i wneud, ac mae'r cwestiwn a ofynnodd Nick Ramsay yn allweddol yn hynny o beth. Rwy'n gwbl ymrwymedig i'r rhaglen a roddwyd ar waith gan fy rhagflaenydd yn y maes hwn o sicrhau bod mwy o wariant pwrs y wlad yng Nghymru yn cael ei wario gyda chyflenwyr Cymreig a bod yr arian hwnnw a wariwyd gyda chyflenwyr Cymreig yn mynd ymlaen i gynhyrchu swyddi ac i ddiogelu swyddi yma yng Nghymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch eich bod wedi crybwyll y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Codais y mater hwn gyda chi ddoe yn y ddadl ar y gyllideb. Gwn fod Andrew R.T. Davies wedi'i grybwyll yn gynharach. Mae'n allweddol bwysig o ran gwella gweithdrefnau caffael yng Nghymru. Dangosodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fod gwendidau ynghlwm wrth y broses o ddatblygu achos busnes ar gyfer y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, nad oedd wedi cydymffurfio'n llawn â gweithdrefnau arferol Llywodraeth Cymru. Tynnodd yr adroddiad hwnnw sylw hefyd at y ffaith nad yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio fframweithiau'r gwasanaeth gymaint ag y rhagwelwyd, gan arwain at bryderon ynglŷn â'i ariannu. Mewn ateb i Andrew Davies, fe ddywedoch chi'n gynharach eich bod yn adolygu hyn. A allwch roi amserlenni o ran pryd y credwch y bydd yr adolygiad hwn wedi'i gwblhau ac y gallwch gyflwyno ei gasgliadau i'r Siambr?

Diolch, Lywydd. Do, rwyf wedi gofyn am yr adolygiad hwnnw. Disgwyliaf y bydd yn cyflwyno'i adroddiad yn 2018. Bydd yn defnyddio adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fel un o'r dogfennau craidd yn y gwaith y bydd yn ei wneud.

Mae Nick Ramsay yn llygad ei le i ddweud nad yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi darparu popeth roeddem wedi'i obeithio. Mae hynny'n rhannol am ei fod yn sefydliad ar gyfer aelodau ac nid yw rhai o'i aelodau wedi defnyddio ei wasanaethau i'r graddau a ragwelwyd yn wreiddiol. Felly, yr hyn rwy'n awyddus i'w ddysgu o'r adolygiad yw: a yw'n wasanaeth y mae'r aelodau hynny'n dymuno'i gael mewn gwirionedd? Dywed adroddiad yr archwilydd cyffredinol eu bod yn dweud ei fod. Os ydynt yn dymuno cael y gwasanaeth mewn gwirionedd, beth yw'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag defnyddio'r gwasanaeth yn y ffordd y dywedasant wrthym y byddent yn dymuno'i wneud? Oherwydd, os na allwn ddarparu gwasanaeth y mae'r cwsmeriaid yn awyddus i'w ddefnyddio, bydd bob amser yn ei chael hi'n anodd darparu'r manteision y credwn eu bod yno i'w medi yn y lle cyntaf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi cael sawl cwestiwn bellach heddiw ynglŷn â chaffael. Os caf ddefnyddio fy nghwestiwn olaf i'ch holi ynglŷn â'r dreth trafodiadau tir, ond nid o ran y dreth trafodiadau tir preswyl, a grybwyllwyd gennych ddoe a'r newidiadau yn hynny o beth, ond o ran y dreth trafodiadau tir masnachol, a wyf yn iawn i feddwl, o fis Ebrill, y bydd busnesau sy'n werth mwy nag £1 filiwn yn wynebu cyfraddau o 6 y cant, o gymharu â 5 y cant, rwy'n credu, dros y ffin—yn sicr, cyfraddau is mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig? A pha asesiad a wnaethoch o'r effaith a gaiff hynny ar drafodiadau busnes masnachol yng Nghymru, ac a ydych yn ffyddiog na fydd yn creu annhegwch, lle bydd busnesau yma yn ei chael hi'n anos cystadlu na busnesau dros y ffin?

13:50

Wel, diolch i Nick Ramsay. Mae'n llygad ei le wrth ddweud bod y cynigion a gyflwynwyd gennym mewn trethi trafodiadau tir annomestig yn golygu y bydd busnesau gyda safleoedd sy'n werth llai nag £1 miliwn yn talu llai yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, a thelir am hynny drwy fod busnesau ar ben uchaf y farchnad yn gorfod talu ychydig yn fwy. Bydd 90 y cant o fusnesau yng Nghymru yn talu llai yng Nghymru nag y maent wedi'i dalu yn y gorffennol, neu'n talu'r un faint. Rwyf bob amser yn clywed yn y Siambr hon mai mentrau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru. Dyna ble y caiff swyddi eu creu, dyna ble y caiff busnesau'r dyfodol eu creu, a chredaf fod gostyngiad yn y costau i'r busnesau hynny'n golygu mwy iddynt, yn y cyfnod pan fyddant yn ymsefydlu ac yn ceisio ehangu, na'r cynnydd bychan a geir ar gyfer trafodiadau o werth uchel iawn. Nawr, nid wyf yn dweud nad oes unrhyw effaith i'w chael, gan fod costau'n codi ac mae honno'n effaith. A wyf o'r farn mai'r swm bychan ychwanegol yn y dreth trafodiadau tir fydd y prif ffactor mewn cytundebau busnes sy'n werth miliynau lawer o bunnoedd, gyda sawl mater pwysicach yn y fantol? Nac ydw. Mae ein dadansoddiad, a gwaith craffu annibynnol Bangor ar y dadansoddiad hwnnw, yn dangos hynny. Credwn y bydd mwy o drafodiadau yng Nghymru o ganlyniad i'r newidiadau a gyflwynwyd gennym, ac y bydd hynny'n dda i economi Cymru.

Diolch, Lywydd. Un rhan fawr o'r ansicrwydd cyffredinol sy'n ein hwynebu o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yw ein perthynas yn y dyfodol â Banc Buddsoddi Ewrop. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ychydig wythnosau yn ôl, roedd Llywodraeth Prydain yn awyddus i gynnal rhyw fath o berthynas â'r banc wedi i ni ymadael, ond roeddent ychydig yn brin o fanylion, gadewch i ni ddweud. Tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn y cred yw nod Llywodraeth Prydain o ran y berthynas yn y dyfodol gyda Banc Buddsoddi Ewrop, yn enwedig o ystyried bod Cymru wedi elwa, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o oddeutu £2 biliwn o fuddsoddiad gan y banc.

Lywydd, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir: credwn y dylem barhau i fod yn bartner atodol i Fanc Buddsoddi Ewrop. Roedd y DU yn un o sylfaenwyr y banc, ac mae'n cyflenwi cyfran sylweddol o gyfalaf y banc. Mae Cymru wedi bod yn un o fuddiolwyr mawr Banc Buddsoddi Ewrop ac rydym yn awyddus i ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod hynny'n parhau. Pan grybwyllais hyn yn uniongyrchol wrth Ganghellor y Trysorlys yn un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, dywedodd ei fod yntau hefyd yn credu y byddai'n fuddiol i'r DU gynnal perthynas barhaus gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Roedd yn barod i edrych ar ffyrdd gwahanol o sefydlu'r berthynas honno, a dywedodd, pe na bai'n bosibl parhau i gynnal perthynas fel yr un sydd gennym gyda Banc Buddsoddi Ewrop, byddai angen ail-greu Banc Buddsoddi Ewrop yn y cyd-destun domestig. Rwyf bob amser wedi ei chael hi'n anodd deall pam y byddai unrhyw un meddwl y byddai'n fwy buddiol ail-greu ein sefydliad ein hunain pan fo gennym sefydliad sy'n gweithio, ac sy'n gweithio'n dda iawn i Gymru, a does bosibl na ddylem geisio sicrhau perthynas barhaus ag ef ar ôl Brexit.

Wel, rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Prydain wedi newid ei meddwl erbyn yr adeg hon yr wythnos nesaf ar y pwynt hwnnw a sawl pwynt arall, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn sôn am archwilio'r opsiynau posibl a fydd ar gael ar ôl ymadael. Tybed a oes un o'r opsiynau hynny rydych wedi eu harchwilio fel Llywodraeth yn cynnwys perthynas uniongyrchol rhwng Cymru a Llywodraeth Cymru a Banc Buddsoddi Ewrop. Mae hyn yn ddigynsail, wrth gwrs, ond mae hwn yn gyfnod digynsail, ac mae Banc Datblygu Cyngor Ewrop yn opsiwn arall, wrth gwrs, er nad yw'r DU erioed wedi bod yn aelod ohono, ond mae ei nodau a'i amcanion yn cyd-fynd yn agos iawn ag anghenion a dyheadau'r wlad hon. A yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried ac archwilio'r opsiynau i gael perthynas ddwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau o'r fath ar ôl ymadael, a pha un a fyddai angen nawdd arnynt gan Lywodraeth y DU, ac yn y blaen?

13:55

Lywydd, rwyf wedi bod yn gohebu'n ddiweddar iawn gyda Banc Buddsoddi Ewrop ar ran rhai buddiannau Cymreig pwysig rydym yn awyddus i barhau â hwy. Rydym bob amser wedi cael perthynas agos iawn gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Cyfarfu Adam Price a minnau â Jonathan Taylor, uwch is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop, pan oedd yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Credaf ei bod yn deg dweud, Lywydd, o safbwynt Banc Buddsoddi Ewrop, eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar eu perthynas gyda'r aelod-wladwriaeth yn hytrach na Chymru fel endid cyfansoddiadol ar wahân. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn mynd ar drywydd buddiannau Cymru gyda hwy. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn ymwybodol iawn o Fanc Datblygu Cyngor Ewrop, ond rwy'n fwy na pharod i ddweud y byddwn yn edrych arno fel Llywodraeth i weld a oes posibiliadau newydd i ni yn hynny o beth yng nghyd-destun Brexit.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nodaf yr ateb a roddodd i gwestiwn blaenorol pan ddywedodd nad oedd yn awyddus i greu sefydliadau newydd pan fo'r sefydliadau presennol yn gweithio'n dda i ni, ac rwy'n cytuno â hynny. Fodd bynnag, efallai bod angen ychydig o gynllunio wrth gefn, gan y byddai colli mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop yn newyddion drwg i Gymru ac i economi Cymru. Felly, o ystyried cyllideb ddiweddar y DU, lle mae cyfalaf trafodion ariannol wedi dod yn fwy a mwy ffasiynol—mae Cymru wedi cael £650 miliwn mewn cyfalaf trafodion ariannol, yr Alban wedi cael £1.1 biliwn, a Gogledd Iwerddon wedi cael £375 miliwn—o ystyried natur y symiau canlyniadol hyn, a allent ffurfio sail i'r Llywodraethau datganoledig ddod ynghyd i greu rhyw fath o gronfa ddatblygu Geltaidd ein hunain, gyda'r bwriad, efallai, o ddatblygu banc datblygu Celtaidd yn y dyfodol a allai geisio lliniaru effeithiau colli mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop? Gallem edrych, wrth gwrs, ar enghreifftiau yn Sgandinafia, lle mae'r banc buddsoddi Nordig yn cynnwys cymysgedd o Lywodraethau datganoledig a sofran yn dod at ei gilydd, a chrynhoi adnoddau i sicrhau amcanion ariannol ac economaidd a rennir. Tybed a yw hynny'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru fod yn awyddus i'w ystyried, fel y gallwn fod mor barod â phosibl ar gyfer y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd sydd ar y gorwel.

Wel, Lywydd, mae'n ddiddorol iawn fod Steffan Lewis yn codi'r posibilrwydd hwnnw. Yn ôl yn 2016, mewn cyfarfod gyda Gweinidogion cyllid o Drysorlys y DU, yr Alban, a bryd hynny, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, cyflwynodd Gweinidog cyllid Gogledd Iwerddon gynnig penodol ar gyfer yr hyn a alwodd, rwy'n credu, yn gronfa fuddsoddi Geltaidd. Gwnaeth hynny gan iddo egluro rhai o'r heriau gwirioneddol roedd Gogledd Iwerddon yn eu hwynebu wrth ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol.

Nawr, mae gwneud y defnydd gorau o unrhyw beth a ddaw i Gymru bob amser wedi bod yn uchelgais i ni, ond mae heriau ynghlwm wrth ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol, a'r syniad oedd rhoi'r cwbl gyda'i gilydd mewn un gronfa y gellid ei defnyddio'n fwy hyblyg wedyn, ac o bosibl, at ddibenion rhai buddsoddiadau mwy o faint. A bod yn deg, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn barod i roi ystyriaeth bellach i hynny ac i fod yn rhan o'r drafodaeth yn ei gylch, oherwydd credaf fod ganddynt hwythau hefyd ddiddordeb mewn sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o'r cronfeydd sydd ar gael yma.

Yn fuan iawn wedi'r cyfarfod hwnnw daeth Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i ben, ac mae wedi bod yn anos parhau â'r trafodaethau ers hynny gan eu bod wedi eu harwain i raddau gan waith a wnaed yng Ngogledd Iwerddon. Ond pan ddaw cyfle i barhau â hynny, rwy'n siŵr y bydd diddordeb cyffredinol, yn sicr gan Gymru a'r Alban. Ond fel y dywedaf, rwy'n credu bod awydd digon dilys wedi bod yn y Trysorlys i gael trafodaeth ynglŷn â'r defnydd mwyaf effeithiol o'r arian sydd ar gael.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y bydd yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol y gellir ei ragweld yn dibynnu'n allweddol ar iechyd economi'r DU a thwf economaidd, ac mae angen inni gynyddu cyfradd dwf genedlaethol y DU. Dywedodd wrthyf mewn dadl yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl na cheir unrhyw dystiolaeth yn gyffredinol fod trethi is yn hybu twf. Ond ers hynny, mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi pasio Bil treth i leihau trethi corfforaethol o 35 y cant i 20 y cant. Mae'r Arlywydd Macron yn Ffrainc wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri cyfradd y dreth gorfforaethol o 33 y cant i 25 y cant. Mae'r Eidal yn mynd i dorri eu trethi corfforaethol o 27 y cant i 24 y cant, Sbaen o 30 y cant i 25 y cant. Mae Hwngari wedi cyflwyno cyfradd safonol o 9 y cant ar gyfer y dreth gorfforaethol, i lawr o 19 y cant, ac yng Ngenefa, sy'n ganton yn y Swistir, maent yn gostwng trethi corfforaethol i 10 y cant.

Yn ddiweddar, mae John McDonnell wedi bod yn sôn am fynd â £36 biliwn oddi ar fantolenni cwmnïau drwy atal rhai gostyngiadau treth na chafodd eu cyhoeddi, ac mae hyd yn oed wedi awgrymu'r syniad o ychwanegu 2.5 y cant at gyfradd y dreth gorfforaethol gyfredol i dalu am gael gwared ar ffioedd dysgu. Onid yw'n derbyn bod y Blaid Lafur yn mynd i gyfeiriad gwahanol i weddill y byd, ac os ydym yn awyddus i gystadlu ag economïau tramor, fod yn rhaid inni gael cyfundrefn drethi busnes gystadleuol?

14:00

Lywydd, yr hyn a glywaf yr Aelod yn ei disgrifio yw ras gystadleuol i'r gwaelod, lle mae pawb yn credu mai'r unig ffordd i gael mantais gystadleuol dros rhywun arall yw cymryd hyd yn oed llai o dreth gan fusnesau er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus. Rwy'n ddiolchgar iddo am ddisgrifio'r tabl cynghrair digalon hwnnw, gan ei fod yn dangos yn union pam nad wyf yn credu fod hynny'n beth synhwyrol i ni ei wneud.

Mae'n flin gennyf nad yw'n ymddangos bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod realiti'r hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd yn rhywbeth a ddylai fod ar flaen ei feddwl wrth iddo gynllunio system dreth ar gyfer y Deyrnas Unedig neu ar gyfer Cymru, oherwydd y ffordd o gyrraedd y gwaelod, yn sicr, yw parhau i feddwl yn y modd hwnnw.

Gan ddychwelyd at yr achos treth arbrofol a grybwyllwyd gan Suzy Davies yn gynharach mewn perthynas â threth dwristiaeth, onid yw wedi gweld bod Ian Edwards, prif weithredwr y Celtic Manor, wedi dweud yn ddiweddar,

Ynghyd â phawb arall yn ein diwydiant, fe'm syfrdanwyd gan y newyddion fod treth dwristiaeth newydd arfaethedig i Gymru yn cael ei hystyried

gan Lywodraeth Cymru? Dywedodd:

Byddai treth dwristiaeth yn peryglu ein gallu i barhau â'n twf cyflym diweddar fel cyrchfan ac i barhau i wneud y cyfraniad gwerthfawr hwn i economi Cymru.

Yn yr un frawddeg ag y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthyf, yn y ddadl y cyfeiriais ati eiliad yn ôl, nad oes tystiolaeth fod trethi is yn hybu twf, dywedodd hefyd y gallai trethi a gynlluniwyd yn wael lesteirio twf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr wedi cyhoeddi nifer o syniadau ar gyfer llesteirio twf economi Cymru. Gobeithiaf y bydd yn gwrthod y syniadau hyn.

Lywydd, nid oes fawr ddim y gallaf ei ychwanegu at yr hyn a ddywedais yn gynharach ar y mater hwn. Rydym yn cael dadl ynglŷn â'r posibiliadau gwahanol sydd ar gael i Gymru. Mae croeso i farn unrhyw un sydd â barn, beth bynnag y bo, a byddwn yn eu hystyried wrth wneud ein penderfyniad. Byddwn yn ystyried barn y Celtic Manor. Mae Llywodraeth Cymru yn fuddsoddwr sylweddol iawn yn y Celtic Manor. Maent wedi derbyn miliynau lawer o bunnoedd mewn cymorth uniongyrchol gan drethdalwyr Cymru. Byddwn yn ystyried eu sylwadau, ynghyd â sylwadau pawb arall. Dyna yw diben cael dadl.

Rwy'n derbyn bod gan Ysgrifennydd y Cabinet feddwl agored ac nad yw mewn sefyllfa heddiw i gyhoeddi unrhyw benderfyniadau terfynol, gan mai dyna yw holl ddiben y broses ymgynghori, ac ar ôl rhoi £22.5 miliwn i'r Celtic Manor, rwy'n derbyn ei fod yn awyddus i gael elw da ar y buddsoddiad hwnnw. Felly, gobeithiaf y bydd hynny'n llywio ei benderfyniad yn y cyswllt hwn hefyd, gan fod Ian Edwards hefyd wedi dweud yn yr erthygl a ddyfynnaf y byddai

Ychwanegu costau ychwanegol at aros yng Nghymru yn cael effaith yr un mor niweidiol ar ddenu digwyddiadau busnes ag y byddai ar ddenu ymwelwyr hamdden. Mae sicrhau cynadleddau a chyfarfodydd cymdeithasau mawr yn sector cystadleuol iawn a byddai treth ychwanegol ar y miloedd o gynadleddwyr sy'n mynychu'r digwyddiadau hyn yn rhwystr sylweddol i'r bobl sy'n ystyried Cymru fel lleoliad.

Felly, yn amlwg, mae hwn yn fater hanfodol bwysig i'r holl sector lletygarwch yng Nghymru, a gorau po gyntaf y gallwn gyhoeddi nad ydym yn mynd i fwrw ymlaen â threth dwristiaeth fel y gallant ymlacio a chysgu'n dawel yn eu gwelyau.

Lywydd, rwy'n cydnabod yr achos y mae'r Aelod wedi ei wneud. Bydd yn ymwybodol fod eraill yn gwneud set wahanol iawn o gynigion. Byddai pobl eraill yn dadlau bod cymryd swm bach iawn o arian gan bobl nad ydynt yn brin o arian, yn amlwg—maent yn dod i aros yn y Celtic Manor—y byddai ychwanegiad bach iawn at gost aros noson yn creu cronfa o arian y gellid ei buddsoddi ymhellach mewn mentrau fel y Celtic Manor a chyfleoedd twristiaeth eraill a fyddai'n denu mwy o bobl i Gymru yn y dyfodol, a bod buddsoddiadau o'r fath, gan bobl sydd, wedi'r cyfan, yn mwynhau manteision yr holl fuddsoddiad y mae pwrs y wlad wedi'i wneud yn y sector hwnnw—nad yw hynny'n rhywbeth annheg i'w ofyn, a'i fod yn creu cylchred ddymunol lle mae symiau bach o gyfraniadau unigol yn cronni ac yn caniatáu buddsoddiadau newydd sylweddol sydd o fudd i'r diwydiant.

Nawr, nid wyf yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn ochri â'r naill ochr neu'r llall yn y ddadl hon. Yr unig beth a ddywedaf yw bod y maes hwn, fel pob maes arall, yn cynnwys llawer o ddadansoddiadau gwahanol o'r hyn a fyddai'n gweithio orau, a diben cael dadl yw caniatáu i'r holl ddadleuon hynny gael eu gwyntyllu, a'u pwyso a'u mesur yn briodol wedyn.

14:05
Llifogydd yn Ynys Môn

3. Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddyrannu i'r portffolio llywodraeth leol i ddelio â'r llifogydd diweddar yn Ynys Môn? OAQ51411

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chyngor Ynys Môn ynglŷn â’r mater hwn. Mae bwriad i gynnal cyfarfod gyda’r cyngor i sefydlu beth fydd y costau posib yn sgil y difrod a gafodd ei wneud gan y llifogydd. Byddwn ni’n parhau i edrych ar ffyrdd o gefnogi’r cyngor lle bydd hi'n bosibl.

Rydw i'n ddiolchgar am yr ymateb yna. Rydw i'n falch bod y trafodaethau'n digwydd. Rydw i'n ddiolchgar hefyd am yr arwyddion positif ddaeth gan yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Thrafnidiaeth ryw wythnos yn ôl ynglŷn â'r posibilrwydd o gymorth ar gyfer gwaith ar yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares. Mi fydd yna oblygiadau ariannol y tu hwnt i waith trwsio ffyrdd ac ati, ac mi fuaswn i, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth pan ddaw o. Ond yn fwy cyffredinol, mae llymder, wrth gwrs, a'r gwasgu sydd wedi bod drwy Lywodraeth Cymru ar gyllid llywodraeth leol drwyddi draw, yn ei gwneud hi'n anoddach i gynghorau adeiladu'r mathau o gronfeydd y byddan nhw, heb os, yn dymuno eu cael er mwyn gallu ymateb i faterion brys fel llifogydd neu faterion tebyg. A oes yna fwriad gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y posibilrwydd o greu rhyw fath o gronfa frys newydd, sy'n benodol yn ymateb i'r anhawster sydd yna gan gynghorau erbyn hyn i adeiladu'r math o gronfeydd angenrheidiol?

Wel, Llywydd, mae system gyda ni'n barod, ac ar y cyfan, rydw i'n meddwl bod y system yn gweithio. Pan fo pethau fel hyn yn digwydd, mae cynghorau lleol yn gallu dod at y Llywodraeth, ac mae cyfarfod yn y dyddiadur i hynny ddigwydd. Rydym yn cadw arian yn y reserves yma i helpu pan fo pethau fel hyn yn digwydd. Fel y dywedais i, fel Llywodraeth, rydym yn awyddus i weld os oes pethau rydym yn gallu eu gwneud i helpu yng nghyd-destun Ynys Môn ar hyn o bryd. Rydym yn gallu gwneud hynny o dan y rheolau sydd gyda ni'n barod, ac rydym yn awyddus i drio helpu yn y ffordd yna.

Polisïau Cyni Ariannol Llywodraeth y DU

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith polisïau cyni ariannol Llywodraeth y DU ar Ferthyr Tudful a Rhymni? OAQ51421

Lywydd, dengys ymchwil Llywodraeth Cymru fod y newidiadau i fudd-daliadau a chredydau treth yn unig yn mynd â dros £900 miliwn y flwyddyn oddi wrth gartrefi tlotaf Cymru. Mae trigolion Merthyr Tudful a Rhymni ymhlith y rheini yr effeithir arnynt waethaf.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio'r Canghellor Torïaidd ar y pryd yn dweud yn 2011 fod ei gyllideb

yn ymwneud â gwneud yr hyn a allwn i gynorthwyo teuluoedd gyda chostau byw.

Ychwanegodd:

rydym eisoes wedi gofyn i bobl Prydain am yr hyn sydd ei angen, a heddiw nid oes angen i ni ofyn am ragor.

Wel, chwe blynedd yn ddiweddarach, mae llawer o bobl yn ein cymunedau yn dal i dalu'r pris am wleidyddiaeth cyni, ac ar sawl achlysur, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi mynegi eich pryderon ynglŷn ag effaith cyni. Felly, a allwch gadarnhau, yn wahanol i bolisïau'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, y bydd y polisïau a'r buddsoddiadau a wneir gan Lywodraeth Lafur Cymru yn parhau i gefnogi pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni?

Wel, Lywydd, credaf fod yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn ar lawr y Cynulliad dros fisoedd lawer bellach, wrth iddi ddadlau'r achos dros fuddsoddi yn yr hyn a elwir ganddi'n wead cymdeithasol ein cymunedau—ffyrdd y gallwn geisio bod o gymorth i gadw'r rhwyd ddiogelwch y mae'r teuluoedd a ddisgrifiais yn dibynnu cymaint arni.

Gadewch i mi roi dwy enghraifft o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'i wneud i gynorthwyo pobl yn ardaloedd Merthyr Tudful a Rhymni. Rydym wedi cynnal ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Golyga hyn nad oes yn rhaid i'r teuluoedd y mae eu budd-daliadau wedi eu rhewi neu eu torri a'u credydau treth wedi eu gostwng yng Nghymru roi eu dwylo yn eu pocedi ar yr un pryd i dalu'r dreth gyngor. Mae hynny'n costio £224 miliwn drwy Gymru gyfan, ond mae'n rhoi £5.7 miliwn yn uniongyrchol ym mhocedi'r teuluoedd hynny ym Merthyr Tudful, ac mae'n rhoi £13.6 miliwn yn uniongyrchol i mewn i incwm aelwydydd yr aelwydydd tlotaf yng Nghaerffili.

Ar yr un pryd, mae 1,592 o blant ym Merthyr Tudful a 2,925 o blant yng Nghaerffili wedi elwa o'n rhaglenni Dechrau'n Deg y llynedd. Dyma ddwy enghraifft ymarferol o'r ffordd y mae gwead cymdeithasol ein cymunedau yn cael ei amddiffyn a'i wella gan Lywodraeth Cymru, hyd yn oed ar adeg pan fo'r ymosodiadau gan Lywodraeth y DU ar eu llesiant a'u hincwm mor ddifrifol.

14:10
Bargen Dinesig Bae Abertawe

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ar fargen ddinesig bae Abertawe? OAQ51425

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r syniadau sy'n dod i'r amlwg ynglŷn â strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cael eu hystyried gan y bobl a fu'n datblygu bargen ddinesig bae Abertawe dros y misoedd diwethaf. Gan fod y strategaeth ddiwydiannol ei hun wedi'i chyhoeddi bellach, edrychaf ymlaen at ei thrafod gyda chynrychiolwyr y fargen ddinesig dros yr wythnosau nesaf.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn rhoi pwyslais o'r newydd ar dyfu economi sy'n cael ei sbarduno gan ddata ac ar ehangu ymchwil a datblygu mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe hefyd yn canolbwyntio ar yr economi ddigidol, a dylent fod mewn sefyllfa ddelfrydol i ysgogi'r buddsoddiad ychwanegol yn nhechnolegau'r dyfodol. Y rhwystr mwyaf sy'n wynebu'r rhanbarth yw dod o hyd i ddigon o bobl â'r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu'r technolegau newydd hyn. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu buddsoddiad mewn datblygu'r sylfaen sgiliau angenrheidiol yn fy rhanbarth?

Diolch i Caroline Jones am y gyfres bwysig honno o bwyntiau. Mae'n llygad ei lle yn dweud bod y blaenoriaethau a nodwyd yn y strategaeth ddiwydiannol yn dod i'r amlwg hefyd mewn sawl ffordd yn yr 11 prosiect a gymeradwywyd fel rhan o fargen ddinesig Abertawe; mae gwyddorau bywyd yn enghraifft arall lle y ceir cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng y ddwy gyfres o bosibiliadau.

Yn ganolog i fargen ddinesig Abertawe, ceir un elfen sy'n treiddio drwy bob un o'r 11 prosiect, sef darparu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer swyddi'r dyfodol yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Un o'r pethau y bydd y bobl sy'n gyfrifol am y fargen yn awyddus i'w wneud yn awr wrth inni ddatblygu'r elfen honno o fewn y fargen ddinesig yw sicrhau ein bod yn manteisio ar y posibiliadau y gall y strategaeth ddiwydiannol eu darparu hefyd. Gwn fod y rheini sy'n gyfrifol am y fargen yn effro iawn i'r angen i sicrhau eu bod yn cynllunio'r elfen sgiliau honno mewn ffordd sy'n gwneud y gorau o'r holl bosibiliadau a geir ar gyfer pobl yn y rhan hon o Gymru.

Polisi Treth

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn nodi a fydd yr egwyddorion blaengar a gynigiwyd ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn llywio ei bolisi treth yn fwy cyffredinol wrth i bwerau pellach dros drethi gael eu datganoli? OAQ51423

Lywydd, nodwyd y pum egwyddor ar gyfer polisi treth Cymru ym mis Mehefin. Maent yn cynnwys yr egwyddor y dylai trethiant gyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a chreu Cymru fwy cyfartal.

Ymddangosai fod ateb Ysgrifennydd y Cabinet i drydydd cwestiwn Nick Ramsay yn gynharach, ynglŷn â gwneud i bobl gyfoethog dalu mwy, yn canolbwyntio mwy ar yr hyn y gallai fod yn ei wneud gyda threth incwm, pan fydd ganddo bwerau dros hynny, nag ar dreth trafodiadau tir. Onid yw'n cydnabod bod eiddo masnachol mawr, yn amlach na pheidio, yn cael eu gosod i amryw o denantiaid llai eu maint, boed yn sefydliadau manwerthu, diwydiannol neu fasnachol, ac y bydd y rheini sy'n penderfynu a ydynt am ddatblygu datblygiad masnachol mawr yn penderfynu a ydynt am wneud hynny yng Nghaerdydd, neu yn hytrach, yn Birmingham, Reading neu Fryste? Onid yw'n cydnabod ei fod mewn perygl o golli'r datblygiad hwnnw drwy godi'r gyfradd premiwm hon o 6 y cant?

14:15

Lywydd, mae'n rhaid i'r holl bolisïau gael eu hasesu am unrhyw risgiau y gallant eu hachosi. Yn fy marn i, nid y swm bach ymylol o arian ychwanegol y bydd pobl yn y sefyllfa honno yn ei dalu drwy'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru fydd yr ystyriaeth a fydd yn pennu a fyddant yn gwneud buddsoddiad o'r fath ai peidio. Mae nifer fawr iawn o resymau eraill pam y bydd cyrff yn penderfynu ymsefydlu yng Nghymru. Rwyf bob amser yn ceisio dadlau nad yw sicrhau mai'r unig beth a ddaw ag unrhyw un i Gymru yw'r ffaith ein bod yn rhad yn ffordd o ddenu pobl i fod yn rhan o'n heconomi yn y dyfodol.

Pwerau Trethiant

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio ei phwerau trethiant sydd ar ddod? OAQ51416

Diolch i John Griffiths. Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo i sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn hollol barod am y cyfrifoldebau y bydd yn eu hysgwyddo o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Hefyd bydd angen gwasanaethau newydd gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi er mwyn cyflawni'r broses o ddatganoli treth incwm yn rhannol o Ebrill 2019.

Ysgrifennydd y Cabinet, dengys y llyfr The Spirit Level a llawer iawn o dystiolaeth arall fod gan bob un ohonom lawer i'w elwa o gymdeithas fwy cyfartal ym mhob ffordd. Dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos hon fod 400,000 yn rhagor o blant a 300,000 yn rhagor o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yn y DU erbyn hyn nag a oedd yn 2012-13. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant wedi ymddiswyddo yn un fflyd mewn protest, yn rhannol o leiaf, yn erbyn y bwlch rhwng y rhethreg a gweithredu a gwaith go iawn gan Lywodraeth y DU. Wrth inni aros am Lywodraeth Lafur ar gyfer y DU fel y gallwn greu Teyrnas Unedig fwy cyfartal, a allwch ddweud wrthym heddiw pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, pan fydd ganddi ei phwerau cyllidol newydd, i gyflwyno elfen fwy blaengar mewn perthynas â threthiant yng Nghymru, a gwlad fwy cyfartal?

Wel, diolch i John Griffiths. Mae ffigurau Sefydliad Rowntree, Lywydd, yn wirioneddol syfrdanol gan eu bod yn dangos bod baich cyni yn ein gwlad yn cael ei ysgwyddo gan y bobl sydd leiaf abl i'w gynnal, gan gynnwys—a chredaf fod hyn yn wirioneddol warthus—y nifer o blant yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig a fydd yn byw mewn tlodi yn y dyfodol o ganlyniad uniongyrchol i'r polisïau hynny. Nid casgliad Sefydliad Rowntree yn unig yw'r casgliad hwnnw, fe'i hategir gan Sefydliad Resolution, gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a chan eraill fel y dywedodd John Griffiths.

Mae cymdeithasau mwy cyfartal yn creu nifer enfawr o fanteision. Maent yn arwain at iechyd gwell, llai o droseddu, mae ganddynt lai o ofn troseddu ac efallai yn bwysicaf oll—a dyma pam fod y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Banc y Byd, y dyddiau hyn, yn cyhoeddi dogfennau sy'n galw am gymdeithasau mwy cyfartal—maent yn gwneud yn well yn economaidd hefyd. Dyna pam fod creu Cymru fwy cyfartal yn ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cymerasom gam bach iawn i'r cyfeiriad hwnnw eleni gyda'r ffordd rydym yn defnyddio ein posibiliadau mewn perthynas â'r dreth trafodiadau tir. Gall y ddau beth sicrhau bod camu ar yr ysgol eiddo yn haws yng Nghymru i bobl ar incwm cymedrol a chefnogi busnesau ar ben bach a chanolig y sbectrwm. Roedd yn gam bach, ond roedd yn symbolaidd bwysig, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu ei gymryd.

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio)

Y cwestiynau nesaf yw'r rhai i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip. Rwy'n galw'r cwestiwn cyntaf—Julie Morgan. 

Sipsiwn a Theithwyr

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau Teithio at Iechyd Gwell mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr? OAQ51433

Disgwylir i fyrddau iechyd ystyried a monitro iechyd a lles grwpiau penodol sy'n agored i niwed fel rhan o fframwaith cyflawni'r GIG. Mae 'Teithio at Iechyd Gwell' yn darparu canllawiau i gynorthwyo byrddau iechyd wrth gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i gynhyrchu'r canllawiau hyn. Fodd bynnag, pan ymwelais â Sir Benfro yr wythnos diwethaf gyda'r grŵp trawsbleidiol, mynegwyd llawer o bryder gan y Sipsiwn a'r Teithwyr a fynychodd y cyfarfod ynglŷn â darpariaeth iechyd, ac yn benodol, ynglŷn â chael mynediad at feddygon teulu, a cholli ymwelydd iechyd penodedig a arferai gael eu cyflogi gan y Prosiect Undod i ymweld yn benodol â safleoedd. Felly, roedd yn bryder cyffredinol ynglŷn ag iechyd, felly tybed pa mor effeithiol oedd y canllawiau hyn mewn gwirionedd.

14:20

Roeddwn yn ymwybodol fod y prosiect Unity into the Community wedi bod yn adnodd gwych i'r gymuned yno, ac mae'n siomedig iawn na lwyddodd i ddenu'r arian oedd ei angen arno i barhau. Serch hynny, rydym yn disgwyl i Fwrdd Iechyd Hywel Dda weithio gyda phartneriaid drwy'r clystyrau gofal sylfaenol i ddeall anghenion iechyd lleol pob un o'r cymunedau hynny a sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad a chanlyniadau. Mae 'Teithio at Iechyd Gwell' yn nodi'n glir nad yw cyfyngu mynediad at feddygon teulu neu wasanaethau iechyd eraill yn dderbyniol ac mae'n darparu canllawiau ynglŷn â sut i wella'r broses o gofrestru Sipsiwn a Theithwyr gyda meddygon teulu. Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG wedi datblygu pecyn e-ddysgu penodol sy'n ymwneud ag anghenion iechyd Sipsiwn a Theithwyr, a fydd yn cael ei gyflwyno i bob ymarferydd gofal iechyd erbyn mis Mawrth 2018, a byddaf yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ystyried unrhyw gamau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr egwyddorion cydraddoldeb mynediad a chanlyniadau iechyd sy'n rhan o 'Teithio at Iechyd Gwell' yn cael eu hyrwyddo, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, ac os yw'n awyddus, yn cymryd rhan yn y broses o sicrhau bod y canlyniadau hynny'n effeithiol.

Diolch Lywydd. Saib ddisgwylgar; roeddwn ychydig yn bryderus yn y fan honno, ond diolch yn fawr iawn.

Mae'r gwasanaeth Teithio Ymlaen, sy'n cefnogi cymdeithas preswylwyr safle Sipsiwn a Theithwyr Back Bangor Lane yng Nghonwy, wedi cysylltu â mi i fynegi pryder fod y preswylwyr yn dioddef effeithiau corfforol a seicolegol o ganlyniad i lefelau sŵn yr A55 gerllaw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod adroddiadau technegol wedi nodi y byddai ailosod wyneb yr A55 yn helpu i liniaru hyn, ymatebodd Llywodraeth Cymru y byddent ond yn ystyried y gwaith o gynnal a chadw'r rhan hon o'r ffordd fel rhan o'r rhaglen flynyddol i flaenoriaethu gwaith. A allwch chi, drwy eich cyfrifoldebau a'ch briff, edrych ar hyn gan ystyried yr anobaith cyffredinol y mae'r gymuned yn ei deimlo a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd, ac yn eu barn hwy, ar eu hawliau hefyd?

Ie'n wir, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan y gymuned yno, ac yn wir, gan sawl un arall sydd â diddordeb. Byddaf yn gwneud trefniadau i ymweld â'r safle cyn gynted ag y gallaf, ac yn siarad â'r cyngor ynglŷn â beth y gallant ei wneud i wella'r sefyllfa, sy'n amlwg yn peri pryder i bawb. Rwy'n fwy na pharod i roi gwybod i'r Aelod cyn gynted ag y byddaf wedi gwneud y trefniadau hynny.

Seilwaith Digidol i Fusnesau

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod seilwaith digidol priodol ar gael i fusnesau? OAQ51392

Drwy gynllun Cyflymu Cymru, rydym wedi cysylltu busnesau ledled Cymru â band eang cyflym iawn, ac mae ein cynllun taleb gwibgyswllt yn darparu hyd at £10,000 i fusnesau gael cysylltiad gwibgyswllt. Mae prosiect Airband hefyd wedi cysylltu oddeutu 2,000 eiddo ar ystadau diwydiannol ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y ffaith y byddwch yn ymweld â fy etholaeth i sôn am y broses o gyflwyno Cyflymu Cymru yng nghefn gwlad Sir Ddinbych yn benodol, gan fod yr ystadegau cyfredol yn awgrymu, fel y gwyddoch, eu bod ar ei hôl hi gryn dipyn o ran cynnydd o gymharu â gweddill Cymru, gyda dim ond 84 y cant o'r eiddo wedi eu cysylltu o gymharu â 92.5 y cant yng ngweddill y wlad. Mae hynny'n effeithio ar fusnesau gwledig yn benodol, gyda llawer ohonynt eisoes yn wynebu anawsterau o ganlyniad i'w natur wledig o ran sicrhau bod eu nwyddau a'u gwasanaethau yn cyrraedd y farchnad. Rwy'n derbyn bod y cynllun taleb gwibgyswllt gennym ar waith, ond nid oes llawer o gyflenwyr gwasanaethau amgen yn gallu cyflenwi yn y mannau hynny ychwaith, felly beth rydych yn ei wneud i weithio gyda'r diwydiant i gynnig ateb mwy masnachol ymarferol er mwyn darparu'r cyfleoedd y gall cyflymder band eang cyflym iawn a gwibgyswllt eu cynnig i fusnesau yn y sefyllfaoedd hyn yn fy etholaeth i?

Felly, mae'r broblem gyda'r diwydiant yn gymhleth iawn, ond yn y bôn, mae'r diwydiant wedi rhoi sicrwydd i mi—ac rwyf wedi gofyn am y sicrwydd hwnnw ar sawl achlysur—fod cynhyrchion busnes ar gael ym mhob man yng Nghymru. Fodd bynnag, ni all nifer fawr o fusnesau fforddio prynu'r cysylltiad ether-rwyd y sonnir amdano. Rydym wedi rhoi'r cynllun taleb gwibgyswllt ar waith er mwyn lleihau'r gost i fusnesau, ac mewn gwirionedd, mae'n fwy hael yng Nghymru nag yn unman arall oherwydd y cyfrannau rydym yn eu talu. Fodd bynnag, ceir problemau mewn perthynas â methiant y farchnad a chost rhai o'r gwasanaethau ether-rwyd. Rwyf wedi bod yn holi Ofcom ers peth amser beth y maent am ei wneud ynglŷn â hynny. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu eto os yw'r Aelod yn awyddus i roi enwau'r busnesau penodol sy'n wynebu'r broblem honno i mi, ac wrth gwrs, byddaf yn yr etholaeth yfory i wrando arnynt fy hun.

Yn amlwg, bydd y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn bron ar ben erbyn diwedd y flwyddyn. Nid yw'n gyfartal ledled Cymru, fel y gŵyr yr Aelod—caiff y contract ei osod ar sail Cymru gyfan a bydd wedi'i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Wedyn, byddwn yn rhoi prosiect Cyflymu Cymru 2 ar waith, ac un o'r pethau rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eu trafod yn etholaeth yr Aelod yfory yw beth yn benodol y mae'r gymuned honno'n awyddus i'w weld o ran y prosiect cyflymu, a sut y gallwn wneud iawn am rai o'r diffygion hynny. Bydd yn drafodaeth ddiddorol, rwy'n siŵr. Ond os hoffai'r Aelod i mi ysgrifennu at Ofcom eto ynglŷn â busnesau penodol neu am ei ardal yn gyffredinol, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, rwyf wedi sôn am fannau golchi ceir sawl gwaith yn y Siambr hon, ond nid wyf yn ymddiheuro am godi'r mater eto. Cyhyd ag y bo pobl yn cael eu hecsbloetio yn y modd hwn a Llywodraeth Cymru yn claddu eu pennau yn y tywod mewn perthynas â'r mater hwn, byddaf yn parhau i bwyso am weithredu. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ amlinellu unrhyw gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i roi terfyn ar y pla hwn yn ein cymdeithas?

Rwy'n cymryd bod yr Aelod yn cyfeirio at bobl sy'n cael eu talu lai na'r isafswm cyflog, ac rwy'n rhannu ei bryder y dylid talu'r isafswm cyflog i bawb ym mhob man busnes. Yn fy rôl fel cadeirydd cyfnod 1 y bwrdd gwaith teg, rwyf wedi cael cyfarfod gyda'r awdurdod gorfodi, sy'n awdurdod gorfodi ar gyfer y DU, ynglŷn â gorfodi'r isafswm cyflog, ac rydym yn ystyried ffyrdd o wella'r darpariaethau ar gyfer gorfodi'r isafswm cyflog yng Nghymru er mwyn—cytunaf yn llwyr—rhoi terfyn ar y pla hwn, lle y caiff pobl eu talu lai na'r isafswm cyflog mewn unrhyw ddiwydiant yn unrhyw le yn y wlad.

Wel, rwy'n croesawu'r ymyrraeth fach honno, Weinidog, ond mae'n rhaid i mi ddweud, dywedodd Dawn Frazer o'r Car Wash Advisory Service fod popeth gwael y gallwch feddwl amdano ar gyfer llafurlu Prydain i'w weld mewn mannau golchi ceir—caethwasiaeth, cyflogau isel, caethwasiaeth dyled, efadu trethi a hyd yn oed camfanteisio'n rhywiol ar ferched ifanc. Felly, prin y gellir dweud bod edrych ar un agwedd ar gyflogau isel yn unig yn gyfystyr â mynd i'r afael â'r broblem hon yn y ffordd y dylid ei wneud.

Wel, os oes gan yr Aelod unrhyw fanylion penodol yr hoffai dynnu fy sylw atynt, byddwn yn ddiolchgar iawn i'w derbyn, gan fod honno'n gyfres o gyhuddiadau go ddifrifol. A byddwn yn fwy na pharod i ymchwilio i unrhyw agwedd ar yr hyn y gall ddarparu manylion yn ei gylch.

A dweud y gwir, mae hyn i'w weld yn y cyfryngau drwy'r amser. Ac nid wyf yn dyfynnu; gwn eich bod wedi cwestiynu fy ystadegau mewn perthynas â hyn yn y gorffennol, ond mae i'w weld gyda phethau fel y BBC, y Guardian, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y New Statesman a'r Independent. Mae pob un ohonynt wedi ysgrifennu am hyn ac wedi beirniadu'r sefyllfa ar sawl achlysur, felly mae'r ystadegau a phopeth arall ar gael i'r cyhoedd.

Diolch. Byddaf yn edrych eto ar y mater. Mae gennym nifer o raglenni ataliol ar waith mewn perthynas â nifer o'r materion a nodwyd gennych, gan gynnwys caethwasiaeth fodern, atal aflonyddu rhywiol yn y gweithlu a darpariaethau'r isafswm cyflog, fel y crybwyllais eisoes. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater eto, ond os oes gan yr Aelod unrhyw fanylion yr hoffai dynnu fy sylw atynt, byddai hynny o gymorth.

Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Mae Aelodau'ch Llywodraeth chi wedi disgrifio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 fel deddfwriaeth sydd yn torri tir newydd. A ydych chi'n meddwl bod hynny'n ddisgrifiad teg o sut mae'r Ddeddf honno'n cael ei gweithredu?

Rwyf ond newydd ddechrau mynd i'r afael â'r rhan hon o fy mhortffolio, fel y gŵyr yr Aelod, a byddaf yn cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r swyddogion sy'n gweithio yn y maes hwn. Nid wyf wedi cael crap ar hynny'n llawn eto, ond byddwn yn fwy na pharod i drafod y mater gyda'r Aelod. Mae gennyf rai pryderon ynglŷn â cyflymder gweithredu, ond nid wyf mewn sefyllfa eto i allu rhoi manylion yn eu cylch, ac rwy'n ymddiheuro am hynny.

Rydym ni wedi cael adroddiad gan bwyllgor yn mynegi pryderon mawr dros weithredu'r Ddeddf—ei bod yn araf, neu fod rhan ohoni heb eu gweithredu o gwbl. Yr wythnos yma, rydw i wedi cael diweddariad ar y sefyllfa a dyma'r ffeithiau i chi: nid oes yna gynllun gweithredu dros flwyddyn wedi cyhoeddi'r strategaeth; ymddengys na chyhoeddwyd canllawiau yng nghyswllt strategaethau lleol eto; nid ydy'r grŵp arbenigol ar addysg am berthynas iach wedi cyhoeddi ei argymhellion—roedd y rheini i fod allan yn yr hydref; ymddengys na wnaed unrhyw waith ar y canllawiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch; ni chyhoeddwyd unrhyw ddangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd tuag at amcanion y Ddeddf; nid yw'r canllaw comisiynu statudol, a oedd i fod i'w gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni, ddim wedi cael ei gyhoeddi; mae'r ymgynghorydd cenedlaethol wedi ymddiswyddo, ac ni chafwyd un newydd eto. A fuasech chi'n cytuno mai'r unig beth sy'n torri tir newydd yn y fan hyn ydy'r raddfa ryfeddol o ddiffyg gweithredu yn y ddwy flynedd ers i'r sefydliad yma basio'r ddeddfwriaeth yma?

14:30

Wel, fel y dywedaf, nid wyf mewn sefyllfa i roi sylwadau ar y sefyllfa cyn i mi fabwysiadu'r portffolio hwn. Ers bod yn y swydd, sef mis yn unig, rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd yn ymwneud ag, er enghraifft, hynt y canllawiau cydberthnasau iach, a deallaf y bydd y rheini'n barod yn y flwyddyn newydd. Rydym wrthi'n penodi'r cynghorydd cenedlaethol newydd, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn rhannau o hynny—unwaith eto, yn gynnar iawn ar ôl i mi fabwysiadu'r portffolio. Lansiwyd y canllawiau 'gofyn a gweithredu' yr wythnos diwethaf, a gallais wneud hynny mewn cyfarfod a oedd wedi'i drefnu ymlaen llaw gyda nifer o bobl a oedd wedi bod â diddordeb yn y canllawiau hynny, ac roeddem wedi cael trafodaeth ragarweiniol am hynny. Rwy'n sicr yn gweld ymrwymiad a phryder yr Aelod yn yr achos hwn, a gallaf eich sicrhau mai un o fy mlaenoriaethau wrth ymgymryd â'r portffolio hwn fydd sicrhau bod y Ddeddf mor arloesol ag y byddem eisiau iddi fod.

Diolch. Ac rwy'n gwir obeithio y gwelwn ni'r cynnydd yma ar fyrder rŵan. Ac rwy'n diolch i chi am eich ymroddiad, ac yn gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa llawer gwell mewn ychydig fisoedd lawr y lein o'r fan hyn heddiw.

Ac mae angen i unrhyw ddeddfwriaeth gael cyllid yn gefn iddi, wrth gwrs, er mwyn gwir gyflawni ei photensial. Ond, unwaith eto, mae gen i bryder yn y fan hyn, ac mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi rhybuddio y bydd toriadau pellach i wasanaethau megis llochesi yn arwain at ganlyniadau andwyol i oroeswyr cam-drin, a all arwain at golli bywydau. A fedrwch chi weithredu, a gwneud yn siŵr na fydd yna dorri ar wasanaethau megis llochesi merched a phlant? O dan yr amgylchiadau, dyma ydy'r peth lleiaf y medr y Llywodraeth yma ei wneud.

Wel, rwyf wedi cael nifer o drafodaethau eisoes ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r canllawiau comisiynu, a'r hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â'r cynghorwyr cenedlaethol sy'n mynd allan. Rwyf hefyd wedi cael un drafodaeth ragarweiniol gyda fy nghyd-Aelod yma ar y dde ynglŷn â'r trefniadau ariannol ar gyfer hyn. Nid wyf eto mewn sefyllfa i allu gwneud unrhyw addewidion o ran ein sefyllfa gyda hynny hyd nes y bydd gennyf well gafael ar y sefyllfa. Ond gallaf ddweud wrthych fy mod yn gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr fod y Ddeddf hon yn gweithio, a'n bod yn ei ariannu, fel bod y bobl sydd â thaer angen am y llochesi hynny yn eu cael.

Diolch, Lywydd. Mae caethwasiaeth fodern, yn amlwg, yn cael effaith ledled Cymru, ond mae yna fater gorllewin-dwyrain penodol yng ngogledd Cymru, lle mae masnachu pobl drwy borthladd Caergybi yn broblem enfawr. Collodd gogledd Cymru ei chydgysylltydd atal caethwasiaeth ar ôl i dair blynedd o gyllid ddod i ben, pan sefydlwyd elusen—Haven of Light—i gysylltu â phartneriaid statudol, y sector gwirfoddol, Heddlu Gogledd Cymru, awdurdodau lleol, eu swyddog arweiniol yn Ynys Môn ar fasnachu pobl, ac yn y blaen. Maent wedi nodi bod y sefyllfa'n gwaethygu. Nid oes tŷ diogel, canolfan dderbyn na chyfleusterau yng ngogledd Cymru, ac mae'r diffyg cydgysylltydd atal caethwasiaeth ar sail ranbarthol wedi creu bwlch amlwg y maent yn ei lenwi. Sut y byddwch yn ymgysylltu, nid yn unig yn genedlaethol, ond yn uniongyrchol â'r rhwydwaith o gyrff yng ngogledd Cymru sy'n gweithio yn y maes hwn ar hyn o bryd, i fynd i'r afael â'r hyn sydd, yn anffodus, yn broblem gynyddol?

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Rydym wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth atal caethwasiaeth Cymru i ddarparu arweinyddiaeth strategol a chanllawiau ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, a hefyd i ddarparu'r cymorth gorau posibl i oroeswyr. Mae aelodaeth y grŵp hwnnw'n cynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Diogelu Cymru, ac adrannau eraill o Lywodraeth y DU, sefydliadau academaidd, BAWSO a nifer o gyrff trydydd sector eraill. Rydym yn rhannu'r gwersi a ddysgir o bob rhan o Gymru gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, a Chomisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol y DU, ac rydym yn dechrau ennyn llawer o gydnabyddiaeth i'r gwaith hwnnw. Ond bydd yr Aelod yn deall bod caethwasiaeth yn drosedd gymhleth iawn i'w hymchwilio a'i herlyn, ac mae rhoi'r ystod o fesurau ar waith a sicrhau bod adnoddau priodol ar eu cyfer yn gymhleth iawn.

Cododd yr Aelod fater penodol iawn nad wyf, yn anffodus, wedi ymdrin ag ef eto, gan fy mod yn newydd yn y swydd. Buaswn yn fwy na pharod i edrych ar fanylion y mater hwnnw, os yw'n dymuno ysgrifennu ataf yn ei gylch.

Diolch yn fawr iawn. Un o'r pryderon a dynnwyd i fy sylw oedd bod y rhestrau teithwyr a ddefnyddir ar y llongau fferi yn anghywir, gydag enwau'n cael eu creu gan fasnachwyr pobl, ac wrth gwrs, mae yna faterion yn codi mewn perthynas â mynediad at borthladdoedd yng nghyd-destun Brexit ac ati. Ond serch hynny, mae hyn yn arwain at fod pobl yn gallu manteisio ar y system.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynhyrchu adroddiad ac asesiad systematig o'r peryglon a'r problemau mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yng ngogledd Cymru, gan nodi grwpiau troseddu cyfundrefnol penodol sy'n gweithio y tu allan i ogledd Cymru, dioddefwyr masnachu pobl drwy Gaergybi, a dioddefwyr posibl sy'n cael eu cyflogi mewn barrau ewinedd a phuteindai dros dro. Ac mae yna grwpiau sydd wedi'u lleoli yn y gogledd hefyd, wedi'u cysylltu drwy gysylltiadau teuluol, sy'n targedu dynion agored i niwed ar gyfer gwaith llaw a chanfasio. Felly, unwaith eto, rydych yn cyfeirio at yr ymgysylltiad rydych yn ei gael drwy Gymru gyfan, a'r ymgysylltiad ar lefel y DU, ond o ystyried bod hon yn broblem gorllewin-dwyrain yng ngogledd Cymru hefyd, gyda sensitifrwydd penodol, a bod mater porthladd Caergybi wrth wraidd hynny, a wnewch chi ymgysylltu'n uniongyrchol â hwy hefyd?

14:35

Yn sicr. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r gwahanol sefydliadau yng Nghymru i siarad ynglŷn â sut y mae'r strategaeth genedlaethol yn gweithio'n lleol a hefyd i nodi materion lleol sy'n ymwneud â chydgysylltu, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n gywir, a lle mae pwerau datganoledig a chyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn gorgyffwrdd, fel y gallwn wneud y gorau o'r pwerau hynny wrth fynd i'r afael â rhai o'r arferion arswydus a ddisgrifiwyd ganddo. Felly, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny, ac os yw'r Aelod yn dymuno fy ngwahodd i weld unrhyw beth yn benodol, rwy'n hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw yn ogystal.

Diolch. Ac yn olaf ar y thema hon mewn gwirionedd, trefnodd Haven of Light gynhadledd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy y cymerais ran ynddi ar 28 Hydref, gyda chynrychiolaeth yr heddlu, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol ac eraill yn rhoi cyflwyniadau. Dywedodd Byddin yr Iachawdwriaeth wrthym mai dioddefwyr Prydeinig oedd yn seithfed o'r 94 o genhedloedd roeddent yn gweithio gyda hwy, pobl a oedd yn tarddu o'r Deyrnas Unedig a'i gwledydd cyfansoddol, a oedd

wedi cael eu twyllo ac yna eu caethiwo.

Felly, ar sail Cymru gyfan, ac yn yr achos hwn, ar sail ranbarthol, pa ystyriaeth rydych yn ei roi, nid yn unig i'r bobl sy'n cael eu masnachu o'r tu allan i Gymru a'r DU, ond i'r rhai sy'n cael eu twyllo a'u caethiwo i fywyd o gamfanteisio a chaethwasiaeth yng Nghymru a'r DU?

Ie, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn, ac mae gennym amrywiaeth fawr o fentrau gan y Llywodraeth a gynlluniwyd i wneud yn siŵr fod pobl yn cael yr wybodaeth gywir i sicrhau nad ydynt yn mynd yn rhan o drefniadau ac yn cael eu sugno i mewn yn araf i sefyllfaoedd lle nad oes modd iddynt ddod allan ohonynt mewn gwirionedd. Mae'r Aelod wedi tynnu sylw at nifer o bethau. Rwy'n ymwybodol o rai sydd wedi codi yn fy etholaeth i yn ogystal.

Byddwn yn gweithio'n galed iawn i roi amrywiaeth o bethau ar waith, yn gyntaf oll, i sicrhau bod asiantaethau gorfodi yn deall beth y maent yn chwilio amdano a sut i wneud yn siŵr fod y bobl sy'n rhan o'r trefniadau ofnadwy hyn yn cael y wybodaeth gywir i ddod allan o'r sefyllfa a'r cyngor cywir; yn ail, i roi rhaglenni ar waith i wneud yn siŵr fod pobl yn deall beth y maent yn cael eu tynnu i mewn iddo, a'u bod yn gallu rhoi diwedd arno'n gynnar; ac yn drydydd, i roi'r cymorth cywir i'r asiantaethau sy'n gysylltiedig â hyn er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn adnabod yr arwyddion fod hynny'n dechrau digwydd a'u bod yn gallu cymryd camau ataliol priodol. Ond unwaith eto, rwy'n gwneud yr un cynnig: os oes gan yr Aelod bethau penodol y byddai'n hoffi i mi eu hystyried, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.

Cydlyniant Cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

4. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gydlyniant cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51422

Gwnaf. Ceir ymdeimlad cryf o barch a goddefgarwch yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gyda lefelau isel o droseddau casineb, ac ymateb cymunedol da iawn i raglen adsefydlu Syria. Lle mae tensiynau'n bodoli, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a chymunedau, i'w lleihau cymaint â phosibl.

Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw, a chan mai hwn yw'r cyfle cyntaf rwyf wedi'i gael i wneud hynny, hoffwn ei llongyfarch ar ei dyrchafiad, ac rwy'n credu, o'm rhan i, ei fod yn haeddiannol iawn.

Roeddwn yn credu bod ei brwdfrydedd a'i chwrteisi yn ei swydd flaenorol yn cael ei werthfawrogi'n fawr, a dymunaf yn dda iddi yn ei swydd newydd.

Efallai y bydd hi'n cofio fy mod wedi codi achos Amazon yn Jersey Marine yn hysbysebu am weithwyr drwy'r Central European Recruitment and Contract Services Ltd gyda'r Prif Weinidog yn ddiweddar. Roedd y cwmni wedi cysylltu ag un o fy etholwyr i ddweud eu bod eisiau rhentu ystafelloedd fel y gallai'r gweithwyr ddefnyddio'r ystafelloedd hynny ar sail sifftiau wyth awr, felly tri gweithiwr mewn un diwrnod. A fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno â mi nad yw hyn yn gwneud dim i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol oherwydd ei fod yn creu drwgdeimlad, yn sicr ymhlith pobl sydd ar gyflogau isel, oherwydd nid swyddi â chyflogau da yw'r rhai sy'n cael eu hysbysebu? Mae ardal deithio i'r gwaith Abertawe, wrth gwrs, yn ymestyn ymhell i mewn i Sir Gaerfyrddin. A chan fod Amazon, sydd, rwy'n siŵr, yn gyflogwr da, wedi cael grantiau gan Lywodraeth Cymru i'w perswadio i ddod i Jersey Marine bum neu chwe blynedd yn ôl, dylai Llywodraeth Cymru anghymell Amazon rhag defnyddio cwmnïau o'r math hwn, gan fod hynny'n meithrin drwgdeimlad ymhlith pobl gyffredin, ac rydym eisiau anghymell y math hwnnw o ddrwgdeimlad a hyrwyddo cydlyniant cymunedol.

14:40

Os hoffai'r Aelod roi unrhyw dystiolaeth benodol sydd ganddo i mi, buaswn yn fwy na pharod i'w derbyn. Mae gennyf innau nifer fawr o etholwyr sy'n gweithio i Amazon ac rwyf wedi gohebu â hwy ar sawl achlysur yn y gorffennol am rai o'u harferion cyflogaeth. Buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu atynt yn gwisgo fy het newydd os gall yr Aelod roi tystiolaeth i mi ei defnyddio'n sail i lythyr o'r fath.

Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, un ffordd o ddatblygu cydlyniant cymunedol yw mynd i'r afael ag unigrwydd mewn cymunedau gwledig. Yn ddi-os byddwch yn gwybod am yr Ymgyrch Atal Unigrwydd, sydd, yn anffodus, yn dangos bod naw o bob 10 o bobl yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn credu bod unigrwydd ymhlith pobl hŷn yn fwy tebygol yn awr nag erioed. Yng ngoleuni'r ystadegyn difrifol hwn, pa gyllid penodol a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i gymunedau yn benodol ar gyfer trechu unigrwydd a datblygu cydlyniant cymunedol? A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi dadansoddiad o ble y dyrannwyd yr arian hwnnw?

Wel, mae gennym gyfres gyfan o gydgysylltwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol, sydd ag amrywiaeth o ddyletswyddau rhyngddynt, ac un o'u prif ddyletswyddau yw gwneud yn siŵr fod yr holl asiantaethau eraill yn cydweithio'n briodol ac yn dod at ei gilydd gyda'r agenda hon.

Felly, un o'r pethau y byddaf yn ei wneud yw edrych i weld sut y mae'r cydgysylltwyr hyn wedi gweithio yn y gorffennol, er mwyn gwneud yn siŵr fod yr holl arian sydd ar gael ar gyfer nifer o faterion yn ymwneud â chydlyniant cymunedol—mae unigrwydd yn sicr yn un ohonynt, ac mae unigedd menywod hŷn, er enghraifft, mewn cymunedau yn broblem enfawr—i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gorau o'r gyfres gyfunol o raglenni sydd gennym ar draws gwahanol bortffolios yn y Llywodraeth, i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â rhai o'r rheini.

O ran rhai o fy nghyfrifoldebau fy hun, mae rhai o'r materion y mae'r Aelod wedi'u codi gyda mi dros y blynyddoedd wedi ymwneud â band eang ac ati. Mewn gwirionedd, mae rôl fawr i'w chwarae o ran cynnwys pobl hŷn yn ddigidol er mwyn gwneud yn siŵr fod ganddynt bethau fel y gallu i gysylltu ag wyrion drwy Skype ac ati, er nad yw yr un peth â rhyngweithio personol, serch hynny gall fod yn gymorth mawr i'w helpu rhag cael eu hynysu oddi wrth eu teuluoedd. Gall cymryd rhan mewn gweithgaredd o ddydd i ddydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd y mae rhywun yn rhyngweithio â'u teuluoedd hyd yn oed os ydynt ymhellach i ffwrdd. Felly, rydym wedi ystyried hynny wrth ddylunio rhai o'r rhaglenni hynny. Ond byddaf yn gweithio gyda'r cydgysylltwyr i wneud yn siŵr eu bod yn ymwneud â'r holl feysydd cydlyniant.

O ran y gyllideb, nid wyf mewn sefyllfa i wneud unrhyw addewidion mewn perthynas â'r gyllideb ar y pwynt hwn, oherwydd nid wyf wedi adolygu'r holl agweddau ar fy mhortffolio sy'n effeithio ar hynny eto, ond rwy'n fwy na pharod i adrodd yn ôl pan fyddaf wedi gwneud hynny.

Brexit

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr mudol yng Nghymru wrth baratoi ar gyfer Brexit? OAQ51408

Mae gweithwyr o dramor yn cyfrannu'n aruthrol i economi a chymdeithas Cymru. Mae ein papur, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', yn amlinellu'r fframwaith ar gyfer mudo yn y dyfodol sy'n diwallu anghenion Cymru ac yn cefnogi camau cadarn i weithredu deddfwriaeth cyflogaeth sydd heb ei ddatganoli. Ategir y dull hwn gan ein cod ymarfer i atal camfanteisio ar gyfer cyflogaeth foesegol yn y gadwyn gyflenwi.

A gaf fi ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw? Ni waeth am ein safbwyntiau ar rinweddau Brexit, mae miloedd o weithwyr mudol yng Nghymru, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, sy'n gwneud gwaith pwysig ac yn haeddu eglurder llwyr wrth i ni drafod ein trefniadau yn y dyfodol gyda'r UE. A fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen dechnegol ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, sy'n awgrymu cyfnod gras o ddwy flynedd ar ôl Brexit, fod diffyg eglurder o hyd, yn enwedig mewn perthynas â theuluoedd, sy'n destun gofid i'r bobl o Gymru sy'n gweithio yn yr UE, yn ogystal â dinasyddion yr UE sy'n gweithio yn y DU? A fyddech yn cytuno hefyd fod hon yn risg economaidd ddiangen i les ein gwlad?

Yn wir. Credaf fod yr ansicrwydd parhaus yn gwbl ddiangen. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am gadarnhad o hawliau dinasyddion yr UE ers y refferendwm. Rydym yn ymwybodol iawn fod trefniadau Brexit yn achosi llawer o bryder i gymunedau mudol ledled Cymru ac rydym yn ceisio cysylltu â chymaint o'r grwpiau'r gymuned fudol, sefydliadau cymdeithasol a mecanweithiau cymorth eraill ag y gallwn er mwyn sicrhau ein bod yn gallu mynd ati i ymgysylltu â chymunedau i wneud yn siŵr eu bod yn teimlo mor sefydlog â phosibl. Wrth gwrs, rydym yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y broses o wneud cais am statws preswylydd sefydlog ar gyfer dinasyddion yr UE yn y DU, yn ogystal â dinasyddion o Gymru sy'n gweithio yn yr UE, yn deg ac yn gymesur. Mae'n cael effaith anghymesur mewn rhai meysydd eraill o bwys gwirioneddol i sefydlogrwydd economaidd Cymru yn ogystal, gan gynnwys ymchwil pwysig iawn o safon fyd-eang, ac rwy'n bryderus iawn fod hwnnw'n cael ei effeithio gan ddiffyg statws preswylydd sefydlog ar gyfer mewnfudwyr o'r UE.

A all arweinydd y tŷ roi gwybod i mi a fu trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrwyddedau gwaith tymhorol yn dilyn Brexit, ac wrth gwrs, wrth edrych ar drefniadau yn y dyfodol?

Ie, mae hwnnw'n un o'r pethau y buom yn ei drafod yn ein trefniadau parodrwydd Brexit, ac mae ein papurau, fel y bydd yr Aelod yn gwybod rwy'n siŵr, i gyd yn cyfeirio at fater gweithwyr mudol tymhorol ac elfennau pwysig eraill yn ein cymdeithas. Nid ydym yn cytuno â threfniadau cwota, ond pe bai trefniant o'r fath yn cael ei roi ar waith, byddem yn pwyso, wrth gwrs, am y trefniadau cwota gorau i Gymru er mwyn sicrhau bod pob un o'r cymunedau sy'n dibynnu ar weithwyr mudol pwysig iawn yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaethau gwerthfawr rydym yn gwybod eu bod yn eu darparu ar draws economi Cymru.

14:45
Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches? OAQ51402

Ie. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraeth leol, gwasanaethau iechyd a Chynghrair Ffoaduriaid Cymru, yn ogystal â ffoaduriaid a cheiswyr lloches eu hunain, i ddatblygu cynllun cyflawni newydd. Gwneir hyn gyda golwg agos ar adroddiad y pwyllgor 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun'.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn dangos cryn ddiddordeb yng Nghasnewydd, sydd, yn amlwg, yn un o'r dinasoedd ac un o'r ardaloedd mwy amrywiol yn ethnig yng Nghymru, ond hefyd ceir ardaloedd eraill tebyg yng Nghymru o ran hynny. Felly, mae cryn ddiddordeb allan yno ac mae'n dda gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Tybed a allech chi ddweud mwy ynglŷn â sut yr ymdrinnir â'r materion a nodwyd yn adroddiad y pwyllgor, a sut y mae'n debygol yr ymdrinnir â hwy, ac mewn perthynas â'r cynllun cyflawni ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pa bryd y mae'r cynllun diwygiedig yn debygol o gael ei gyhoeddi.

Gallaf. Bydd drafft o'r cynllun yn cael ei gyflwyno i'r bwrdd gweithrediadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar 16 Ionawr ac yna'n cael ei gyflwyno wedyn yng nghyfarfod y tasglu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng nghanol mis Mawrth, o ran yr amserlen.

Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn ystyried adroddiad llawn y pwyllgor, ac mae'n adroddiad da iawn os caf ddweud, yn ein dull hollol newydd o edrych ar rai o'r gwasanaethau hyn. Mae'r Aelod yn rhannu etholaeth â mi sy'n cynnwys llawer iawn o deuluoedd sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid, ac rwy'n rhannu ei bryder.

Mae nifer o brosiectau da ar y gweill. Yn fy etholaeth i—ac rwyf am wneud hysbysiad digywilydd yma, Lywydd, felly hoffwn rybuddio pobl—ceir nifer o lyfrau, a gynhyrchwyd gan gymdeithas farddoniaeth y gymuned ffoaduriaid yn Abertawe, ac mae un llyfr yn dwyn y teitl My Heart Loves in My Language, ac rwy'n herio unrhyw un i'w ddarllen heb lefain y glaw erbyn tudalen 3, sy'n egluro rhywfaint o'r unigrwydd a'r anobaith y mae pobl yn ei deimlo pan nad ydynt yn gallu mynegi eu hunain yn eu mamiaith mwyach. Rwy'n gwbl benderfynol ein bod am wneud yn siŵr fod bywydau'r bobl hynny'n hapusach, yn iachach, ac yn well o lawer nag o'r blaen, a hwythau bellach wedi cyrraedd Cymru'n ddiogel.

Arweinydd y tŷ, mae'n bosibl fod llawer o geiswyr lloches a ffoaduriaid yn meddu ar sgiliau a fyddai'n werthfawr i economi Cymru, ond maent yn cael eu rhwystro gan eu hanallu, neu eu gallu cyfyngedig, i siarad Saesneg. Roedd Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, yn cydnabod pwysigrwydd cyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill. Felly, a gaf fi ofyn pa gynnydd a wnaed ar ddiweddaru'r polisi Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill gogyfer â Chymru erbyn mis Mawrth 2018 i sicrhau bod darpariaeth y cyrsiau hyn yn ddigonol i ateb y galw yng Nghymru, ac yn enwedig de-ddwyrain Cymru?

Mae Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, fel y noda'r Aelod yn gywir, yn rhan hollbwysig o allu sefydlu'n briodol mewn gwlad newydd, ac mewn gwirionedd, i'r wlad newydd honno roi ystyriaeth briodol i'ch sgiliau a'ch gallu i gyfrannu. O ganlyniad, fel rhan o ddarpariaeth sgiliau Llywodraeth Cymru, rydym wedi diogelu cyllid Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill am nifer o flynyddoedd drwy gyllidebau gwahanol. Rydym hefyd yn gweithio'n galed iawn gyda rhaglen adsefydlu Syria yn y DU, er enghraifft, i wneud yn siŵr fod rhaglen Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill yn cael ei dosbarthu'n briodol. Ond ceir problemau gyda hynny, ac nid yw'r gwahanol lefelau o gefnogaeth ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o ffoaduriaid yn helpu mewn gwirionedd.

Rydym yn gwneud llawer o argymhellion ac yn lobïo Llywodraeth y DU i wneud iddynt ddeall y problemau go iawn a geir yn y rhaglen adsefydlu weithiau i bobl yr amharir ar eu gallu i ddysgu iaith. Ceir problem arall hefyd mewn perthynas â phobl sy'n cyrraedd Cymru sy'n siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn eu gwlad eu hunain. Felly, er enghraifft, pe bai Prydain yn ddigon anffodus i fod yn barth rhyfel a'n bod i gyd yn dianc, yna byddai'r rheini ohonom sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn cael hyd yn oed mwy o anhawster wrth geisio dysgu iaith y wlad rydym yn ei chyrraedd na'r rheini ohonom sy'n siarad Saesneg. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ystyried y pethau hyn pan fyddwn yn dylunio'r rhaglenni.

Mae gennym broblem enfawr hefyd lle nad oes gennym ddarpariaeth raddedig, ac felly mae'r bobl sydd â dealltwriaeth sylfaenol o'r Saesneg yn aml yn cael eu rhoi yn yr un dosbarth â phobl nad oes ganddynt unrhyw ddealltwriaeth o'r Saesneg, ac mae'r bobl a allai fod yn anelu at gael gwaith hefyd yn y dosbarth hwnnw, ac nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pobl sy'n dechrau o'r gwaelod ychwaith, gan nad oes unman i bobl gamu ymlaen. Felly, mae angen gwneud llawer o waith yma. Mae angen i hynny ddenu swm mawr o arian hefyd, a byddwn yn lobïo Llywodraeth y DU yn frwd i wneud fel y dylai o ran cyllido rhai o'r rhaglenni adsefydlu hyn.

14:50
Sipsiwn a Theithwyr

7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag asesiadau llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014? OAQ51418

Gallaf. Yn gynharach eleni, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol Cymru, a oedd yn nodi bod angen 237 o leiniau preswyl a 33 o leiniau dros dro ledled Cymru. Dyrannwyd cyfanswm o £26.4 miliwn rhwng 2017 a 2021 i ddiwallu'r angen hwn, ac rwy'n disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn cyflawni yn ôl yr angen.

Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym broblem o hyd gyda meddiannu safleoedd anghyfreithlon, sy'n achosi gofid mawr i'r cymdogion o gwmpas y safleoedd hynny, oherwydd ni ddarperir cyfleusterau a seilwaith angenrheidiol ar eu cyfer. Mae'r broses o nodi safleoedd swyddogol sy'n briodol i ddenu Sipsiwn a Theithwyr mewn mannau y byddent yn dymuno setlo ynddynt am gyfnod, yn weddol araf o hyd. Felly, a allwch roi unrhyw wybodaeth bellach i ni ynglŷn â sut rydych yn asesu'r ymatebion hyn rydych yn eu cael gan awdurdodau lleol o ran sut y maent am weithredu'r Ddeddf hon?

Ie. Mae gennym adolygiad blynyddol o gynnydd yr awdurdodau lleol ar hyn. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi ymateb i'r cais, ac mae canfyddiadau'r adolygiad cyntaf yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud ym mron pob ardal ar draws Cymru. Bydd adolygiad ffurfiol o'r canllawiau asesu llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei gynnal yn 2018, a bydd yn llywio'r meddwl ar gyfer y rownd nesaf o asesiadau ar ôl hynny. Rwy'n ymwybodol o nifer o faterion a amlygwyd mewn gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru. Rwy'n ymwybodol o 10 ardal ar hyn o bryd sydd wedi tynnu sylw at faterion penodol. Byddaf yn ymweld â phob un o'r ardaloedd hynny i wneud yn siŵr fy mod yn deall y materion a nodwyd i'r dim ac y gallwn weithio gyda'r cynghorau dan sylw i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu. Pan fydd pobl yn gwersylla ar safleoedd anfoddhaol ac amhenodol, yna yn amlwg nid yw hynny er budd pennaf y bobl yn y gwersylloedd, ac nid yw er budd pennaf unrhyw un o'r bobl sy'n darparu gwasanaethau neu sy'n byw o'u cwmpas ychwaith.

Band Eang Cyflymu Cymru

8. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno band eang Cyflymu Cymru ym Mhontypridd a Thaf Elái? OAQ51396

Gwnaf, gall 48,266 safle yn Rhondda Cynon Taf gael mynediad at fand eang ffeibr cyflym bellach gyda chyflymder lawrlwytho cyfartalog o dros 64 Mbps, diolch i Cyflymu Cymru. Mae hynny'n cyfateb i tua 95 y cant o safleoedd cymwys, ac mae ychydig dros £13,144,000 o arian cyhoeddus wedi'i fuddsoddi yn y prosiect yn Rhondda Cynon Taf.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, a diolch hefyd am y ffaith ein bod wedi llwyddo i sicrhau cysylltedd cyflym i 94 y cant o safleoedd ym Mhontypridd. Fodd bynnag, mae'r 6 y cant o safleoedd sy'n weddill yn arwyddocaol iawn i nifer o fusnesau bach, ac mae ymdrechion i'w ddatrys wedi bod yn hynod ddyrys ac anodd. Tybed pa fath o gamau sy'n cael eu cymryd a pha flaenoriaeth y gellir ei rhoi i sicrhau bod darpariaeth y 6 y cant o safleoedd sy'n weddill yn cael ei datrys mewn gwirionedd.

Bydd hynny'n rhan fawr o sut y byddwn yn llunio'r prosiect olynol i Cyflymu Cymru, ac rwy'n credu bod gan yr Aelod nifer o broblemau penodol mewn ystadau diwydiannol, a bydd wedi clywed yr ateb a roddais i Darren Millar yn gynharach am rai o'r pethau rydym yn eu gwneud ar gyfer busnesau mewn ystadau diwydiannol. Mae nifer o weinyddion yn un o ystadau diwydiannol ardal yr Aelod yn Nhrefforest. Cefais gyfarfod gyda BT y bore yma, a dyna pam rwy'n gallu rhoi cymaint o fanylion i'r Aelod yn sydyn. Rydym yn deall bod cryn dipyn o broblem mewn perthynas â sut y mae'r tri'n gorgyffwrdd, felly, gyda'i ganiatâd, byddaf yn gofyn i BT gysylltu ag ef yn uniongyrchol i edrych ar rai o'r materion hynny. O ran y 6 y cant yn gyffredinol yng Nghymru, holl bwynt y rhaglen olynol £80 miliwn, Cyflymu Cymru 2, fydd edrych ar sut y gallwn roi sylw i'r bobl a gafodd eu hepgor o'r rhaglen gyntaf a beth yw'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn cael y ddarpariaeth orau bosibl am ein harian.

Gwrandewais yn ofalus ar eich ateb, arweinydd y tŷ, a llongyfarchiadau ar eich penodiad. Ar draws ardal Canol De Cymru, lle mae Pontypridd, yn amlwg, yn un o'r trefi allweddol, ceir mannau anodd, gadewch i ni ddweud, a nodwyd bod 6 y cant o safleoedd ym Mhontypridd yn eu plith, ond gallai hynny fod yn unrhyw le ar draws rhanbarth Canol De Cymru. Clywaf eich bod wedi cael cyfarfod diweddaru gyda BT, ond mae'n fwyfwy rhwystredig, fel y gallwch ddeall ac fel rwyf wedi eich clywed yn dweud dro ar ôl tro, i'r busnesau a'r unigolion sydd wedi'u lleoli yn y mannau hynny. Pa fath o amserlen y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arni, gyda BT, i geisio rhoi rhai o'r atebion hyn rydych wedi cyfeirio atynt ar waith fel y gellir lleihau'r 6 y cant hwnnw cymaint â phosibl yn ganran lai o'r boblogaeth nad ydynt yn gallu gwneud y cysylltiadau hynny? Ac yn y pen draw, yr hyn yr hoffai pawb ohonom ei weld yw cysylltedd o 100 y cant.

14:55

Ie, yn hollol. Felly, rydym yn cynllunio'r ail gam ar hyn o bryd. Byddwn yn dechrau'r broses gaffael mor gynnar ag y gallwn yn y flwyddyn newydd fel bod gennym drefniant cyflwyno dilynol gyda BT wrth iddynt ddilyn ymlaen o'r cam cyntaf. Nid wyf yn dweud am un funud y bydd BT yn ennill yr ail gam, ond yn amlwg rydym eisiau cael rhaglen sydd mor llyfn â phosibl. Un o'r ffyrdd rydym yn ceisio gwneud hynny yw cynllunio atebion lleol penodol iawn mewn ardaloedd lleol. Felly, bydd atebion yn ardaloedd trefol de-ddwyrain Cymru yn wahanol iawn i atebion mewn ardaloedd gwledig neu led-wledig yng nghanolbarth a gogledd Cymru, er enghraifft.

Mae yna rai cymhlethdodau yn ne-ddwyrain Cymru mewn perthynas â ble mae'r ardal ymyrryd ar gyfer Cyflymu Cymru. Bydd yr Aelod yn sylweddoli mai ymyrraeth cymorth gwladwriaethol yw hon, felly mae'n ymyrraeth yn y farchnad, ac ar gyfer pob ymyrraeth, mae'n rhaid i ni brofi bod y farchnad wedi methu. Felly, os na chafodd ei gynnwys yn yr adolygiad o'r farchnad agored a wnaethom yn yr haf ar gyfer Cyflymu Cymru 2, yna byddwn yn cael rhywfaint o drafferth wrth ei gynnwys.

Os yw'r Aelod yn ymwybodol o unrhyw le sy'n cael trafferthion a labelir fel rhai masnachol ar hyn o bryd, buaswn yn ddiolchgar iawn i glywed amdano fel y gallwn ymgorffori hynny cyn gynted â phosibl.

Bydd cyfaddawd rhwng cael y cyflymder gorau posibl i gymaint o bobl â phosibl a chael cyflymderau gwibgyswllt go iawn i rai busnesau a gallwn drafod hynny hefyd yn rhan o'r broses o gynllunio cam 2. Yn benodol, bydd yr Aelod wedi clywed yr hyn a ddywedais wrth Darren Millar, ei gyd-Aelod, yn gynharach ynglŷn â chysylltedd busnes. Rydym hefyd wedi cyflogi nifer o arbenigwyr datblygu busnesau ar gyfer Cyflymu Cymru, ac maent yn gallu egluro i fusnesau beth fyddai eu mantais fasnachol orau. Mae gennym nifer o enghreifftiau ledled Cymru o fusnesau sydd wedi aros yn amyneddgar i Cyflymu Cymru eu cyrraedd, ac ar ôl ei gael maent wedi darganfod nad yw'n ddigonol o bell ffordd i gyflawni'r hyn y maent ei angen, a gallasent fod wedi uwchraddio gyda thaleb gwibgyswllt flynyddoedd ynghynt pe baent ond wedi sylweddoli hynny. Felly, mae gennym nifer o arbenigwyr busnes yn teithio o amgylch y wlad yn siarad â busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn deall pa gysylltiad y gallasent fod ei eisiau mewn gwirionedd, ac yn eu helpu i gael y fargen orau.

Rwyf wedi gwneud nifer o sioeau teithiol mewn etholaethau gwahanol, ac rwy'n fwy na pharod i wneud un yn ardal yr Aelod os yw'n dymuno. Gallwn sicrhau bod y rhaglen ddatblygu yn gwneud hynny hefyd. Gallwch glywed fy mod yn awyddus iawn i fusnesau ddeall beth yw eu mantais orau a pheidio ag aros am y rhaglen a darganfod wedyn y gallasent fod wedi uwchraddio, oherwydd rydym yn awyddus iawn i fusnesau yng Nghymru gael y budd llawn o'r rhyngrwyd, a phob un o'r gwasanaethau a'r ehangiad ac ati y gallai hynny eu creu, mor gynnar â phosibl. Felly, mae'r cynghorwyr datblygu busnes yn dda iawn am wneud yn siŵr fod busnesau'n deall cynllun busnes i gael y cysylltedd cywir, a beth y gallasent ei gael am eu harian o ran arian y gallent ei gyfrannu tuag ato. Felly, buaswn yn awyddus iawn i ddeall beth yn union yw'r manylion ac i ymgysylltu â'r Aelod cymaint â phosibl.

Cynrychiolaeth Deg o Fenywod mewn Swyddi Etholedig

9. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth deg o fenywod mewn swyddi etholedig? OAQ51434

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella amrywiaeth y bobl sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Daeth y rhaglen amrywiaeth a democratiaeth i ben ym mis Mawrth, a byddwn yn cynnal gwerthusiad llawn ohoni gyda golwg ar ddysgu ohoni a datblygu'r agenda amrywiaeth ymhellach ar sail y gwerthusiad.

Diolch. Roedd llai na thraean o holl ymgeiswyr etholiadau lleol 2017 yn ferched, a dim ond 27 y cant o'r rheini a gafodd eu hethol, yn ferched. Mae'r Llywodraeth wedi ymgynghori yn ddiweddar ar ddiwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yng Nghymru, ond roedden nhw'n siomedig iawn i weld nad oedd yna unrhyw sôn o gwbl yn y papur ymgynghori am ymdrechion y Llywodraeth i sicrhau cynrychiolaeth deg i fenywod mewn swyddi etholedig ar gynghorau yng Nghymru. Wrth gwrs, mae gan y pleidiau gwleidyddol hefyd ddyletswydd i sicrhau bod cynrychiolaeth deg o ferched a grwpiau lleiafrifol ar gynghorau sir drwy ein prosesau mewnol ni o ddewis ymgeiswyr. Ond a ydych chi'n cytuno bod y Llywodraeth wedi methu cyfle i arwain y ffordd ar hyn drwy beidio â'i gynnwys o fel rhan o'r broses ymgynghori a gynhaliwyd yn ddiweddar?

Wel, na, credaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i annog y menywod medrus rydym yn eu hadnabod i sefyll etholiad, ac mewn gwirionedd i wneud yn siŵr fod ein pleidiau gwleidyddol ein hunain yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb o annog cynifer o fenywod ag y bo modd i gymryd rhan ar lawr gwlad o ran actifiaeth, ac yna eu harwain drwy'r rhaglenni arweinyddiaeth neu beth bynnag i mewn i rolau a etholwyd yn ddemocrataidd neu rolau democrataidd priodol yn y broses honno.

Byddwch yn gwybod bod gan fy mhlaid hanes da iawn o gael rhestrau byrion i fenywod yn unig, er enghraifft. Cefais innau fy ethol oddi ar restr fer i fenywod yn unig. Mae camau cadarnhaol o'r fath yn angenrheidiol os ydym am gael unrhyw effaith wirioneddol ar yr hyn sydd wedi bod yn broses araf iawn o ran menywod yn manteisio ar rolau arweinyddiaeth difrifol.

O ganlyniad i'r rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth, roedd gennym 51 o unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cymryd rhan. Safodd 16 ohonynt fel ymgeiswyr yn yr etholiadau llywodraeth leol, a chafodd pedair—pob un ohonynt yn fenywod—eu hethol yn llwyddiannus. Felly, roedd canlyniad cadarnhaol iawn i hynny. Hefyd, dyblodd nifer yr arweinwyr benywaidd mewn awdurdodau lleol yng Nghymru yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, gyda phedwar cyngor bellach yn cael eu harwain gan fenywod. Yn sicr, hoffwn weld y nifer hwnnw'n tyfu yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn fod arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n fenyw—model rôl gwych yn hyn o beth. Byddwn yn edrych ar werthusiad o'r rhaglen, fodd bynnag, oherwydd ein bod eisiau gallu deall beth y gallem fod wedi'i wneud i ysgogi mwy o bobl i gamu ymlaen, a beth y gallwn ei wneud i wella bywyd gwleidyddol—bywyd cyhoeddus, mewn gwirionedd—ar gyfer menywod.

Yn llawer rhy aml, mae rolau menywod yn croesi yn erbyn rolau mewn bywyd cyhoeddus. Felly, er enghraifft, mae darpariaeth ar gyfer gofal pobl hŷn, gofal plant, cymorth ar gyfer gofal teulu ac ati yn gwbl hanfodol er mwyn galluogi menyw, a menywod, yn aml iawn, yw'r gofalwyr—gadewch i ni wynebu'r peth, nid yw'r sefyllfa wedi newid llawer iawn yn ystod fy oes i, yn sicr—y gofalwyr sylfaenol yn aml iawn, i wneud yn siŵr y gellir eu cefnogi yn eu rolau gofalu ac yn eu rolau cyhoeddus, beth bynnag y gall y rheini fod—rôl gyhoeddus etholedig neu rôl gyhoeddus wirfoddol neu beth bynnag. Rwy'n ymrwymedig iawn i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd fel y gallwn fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb sydd wedi para ers cynifer o ganrifoedd.

15:00

Nid yw Neil McEvoy yn bresennol i ofyn cwestiwn 10 [OAQ51407]. Felly, cwestiwn 11—Steffan Lewis.

Caethwasiaeth

11. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru? OAQ51412

Gwnaf. Rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru. Rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth, darparu hyfforddiant amlasiantaethol, cynorthwyo dioddefwyr, a helpu i ddwyn cyflawnwyr y drosedd ffiaidd hon o flaen eu gwell.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb. Fe fydd hi'n gwybod, wrth gwrs, am achosion proffil uchel a thorcalonnus ar draws y wlad yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys yn ardal Heddlu Gwent. O ystyried natur gymhleth caethwasiaeth fodern a'r ffaith bod nifer o asiantaethau'n rhan o'r gwaith o'i threchu a'i hatal—rhai'n ddatganoledig, eraill heb eu datganoli—rwyf am ofyn pa fath o rôl gydgysylltu y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei darparu i gyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau bod popeth a wnawn yn mynd i'r un cyfeiriad ac y gellir dileu'r drosedd ffiaidd hon o'n gwlad?

Yn wir. Mae'r Aelod yn hollol iawn i'w disgrifio felly. Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i benodi cydlynydd atal caethwasiaeth. Sefydlwyd grŵp arweiniol ar atal caethwasiaeth gennym yng Nghymru, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i gwestiynau, er mwyn darparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad ar sut i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, a hefyd i ddarparu'r cymorth gorau posibl i oroeswyr, a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn hefyd. Mae'r grŵp arweinyddiaeth yn cynnwys nifer fawr iawn o asiantaethau, gyda llawer ohonynt yn asiantaethau Llywodraeth y DU, ond mae hefyd yn cynnwys sefydliadau academaidd, nifer o sefydliadau'r trydydd sector sy'n weithredol yn y maes hwn, ac yn y blaen. Y syniad yw rhannu'r dysgu o Gymru gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys amryw o adrannau Llywodraeth y DU, ac rydym yn dechrau cael rhywfaint o gydnabyddiaeth i'n gwaith ar hynny, ond mae'n drosedd gymhleth iawn i'w hymchwilio a'i herlyn.

Mae angen inni wneud llawer mwy o waith gyda phartneriaid er mwyn datblygu darpariaeth hyfforddiant ar y cyd ar gyfer uwch swyddogion ymchwilio ac erlynwyr y Goron, gan mai rhan helaeth o hyn yw (a) dod o hyd i bobl sydd wedi'u dal yn y pethau hyn, a rhoi achos at ei gilydd i erlyn—ac yna rhoi cyhoeddusrwydd i'r erlyniad, am fod angen inni wneud yn siŵr fod pobl sy'n ymwneud â hyn yn gwybod y cânt eu dal a'u herlyn. Mae'n rhan fawr iawn o'r gwaith atal.

Rydym wedi darparu hyfforddiant atal caethwasiaeth o safon gyson—mae hynny'n eithaf anodd i'w ddweud mewn gwirionedd, hyfforddiant atal caethwasiaeth—i 5,500 o bobl ledled Cymru, ac mae tua 5,000 o bobl yn elwa arno unwaith eto eleni. Ac wrth gwrs, mae gennym y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi sy'n ymwneud â'n holl bartneriaid ym maes caffael cyhoeddus, gan wneud yn siŵr eu bod yn sicrhau bod eu cadwyni cyflenwi yn rhydd o'r troseddau hyn. Bydd hynny'n mynd cryn bellter hefyd i hybu arferion da yn y cadwyni cyflenwi er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o faint o'r pethau hyn a allai fod yn digwydd heb iddynt sylweddoli hynny mewn gwirionedd. Felly, bydd yn bwysig iawn i ni ddatblygu'r holl ddysgu hwnnw mewn blynyddoedd i ddod, ac yn bendant byddaf yn sicrhau ein bod yn gwneud hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml ceir pobl ag anawsterau dysgu ymhlith y bobl agored i niwed sydd wedi eu caethiwo gan yr arferion ffiaidd hyn. Mae'n bwysig iawn bod pobl sy'n cael gwasanaeth fel atgyweirio eich to, cael eich dreif wedi'i wneud, eich car wedi'i olchi, yn cadw llygad ar y bobl hynny nad ydynt i'w gweld yn ffynnu yn y gwaith hwnnw, pobl sy'n ymddangos fel pe baent wedi'u hymyleiddio, ac sy'n swil ac yn amharod i gymryd rhan, gan y gallent yn hawdd fod yn bobl sydd wedi'u caethiwo yn y modd hwn.

Yn bendant. Bydd David Melding wedi fy nghlywed yn sôn am beth o'r gwaith rydym wedi'i wneud fel rhan o'r Bwrdd Gwaith Teg i edrych ar weithdrefnau gorfodi y gellid eu dwyn i  Gymru ac a ddefnyddir gan awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, ceir awdurdod gorfodi yn y DU, sydd yng ngogledd Lloegr, ac sy'n cwmpasu'r DU gyfan. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'r adran honno yn Llywodraeth y DU i gael ychydig o awdurdodau peilot yng Nghymru i weld beth y gallwn ei wneud gyda gorfodi lleol er mwyn—oherwydd rwy'n credu'n bersonol fod llawer i'w ddweud dros gael rhai treialon gweladwy a chosbi pobl sy'n cymryd rhan yn hynny, fel rhwystr cadarn iawn i'r rheini sy'n credu y gallant wneud hyn heb eu cosbi. Hefyd, clywsoch fi'n sôn am yr hyfforddiant helaeth rydym yn ei gael. Rwy'n cytuno ag ef y byddai ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r math hwnnw'n fuddiol iawn hefyd.

15:05
Technoleg 5G

12. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu technoleg 5G? OAQ51413

Byddaf yn ymgynghori ar—. Mae'n ddrwg gennyf, byddai'n help pe bawn yn dod o hyd i'r cwestiwn iawn, oni fyddai, mewn difrif.

Rydym yn gwneud llawer mewn technoleg 5G yng Nghymru. Rydym wedi bod yn edrych cryn dipyn drwy'r bargeinion dinesig ar ddatblygu profion peilot technoleg 5G a hefyd yn y parc newydd, y parc modurol rydym wedi sôn amdano. Rydym hefyd yn ei ddefnyddio fel ategiad i fand eang ffibr i weld beth y gallwn ei wneud gyda thechnolegau cyfunol, a rhan fawr iawn o hyn fydd beth a wnaiff Llywodraeth y DU gyda gwerthiannau'r sbectrwm. Felly, byddwn yn cyflwyno llawer o sylwadau i'r DU na ddylent ystyried 5G fel coeden arian parod, ond mewn gwirionedd, dylent feddwl ynglŷn â pha ran o seilwaith y gallai ei chwarae wrth gyflwyno rhai o'r technolegau newydd deallusrwydd artiffisial yn gyhoeddus, yn enwedig cerbydau awtonomaidd ac ati. Felly, mae llawer o waith i'w wneud i sicrhau y cawn y budd iawn o ran y defnydd a wnawn o'r technolegau hyn, a bod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn a ddylai a gweld 5G, fel y dywedaf, nid fel coeden arian parod, ond fel adnodd seilwaith cyhoeddus o bwys.

Yn hollol, ac ni fyddwn yn anghytuno â hynny. Mae eraill wedi eich llongyfarch ar eich penodiad i'r Cabinet heddiw. Rydym eisoes wedi gweithio gyda'n gilydd yn fy rôl i fel rheolwr busnes a chi fel arweinydd y tŷ. Hoffwn eich llongyfarch ar ddod â chysylltedd digidol o'r meinciau gweinidogol i'r fainc flaen. Mae gennyf gynnig caredig i'w wneud i chi i nodi eich rôl newydd yn y Cabinet, sef defnyddio Ynys Môn fel man arbrofi ar gyfer datblygu technoleg 5G. Mae pobl sy'n gwybod llawer mwy na mi am gysylltedd digidol yn dweud wrthyf, o ran daearyddiaeth mewn gwirionedd, o ran presenoldeb milwrol—[Torri ar draws.]—wel, y ffaith ei bod yn gymharol wastad, ynghyd â'r mynyddoedd gerllaw, mewn gwirionedd, byddai Ynys Môn yn fan da iawn ar gyfer datblygu technoleg 5G. Mae gwaith da'n digwydd ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn y maes hwn. Buaswn yn fwy na pharod i hwyluso mewn unrhyw ffordd y gallaf unrhyw waith ar lunio cyflwyniadau i'r Llywodraeth ar sut y gallai hyn ddigwydd, ond buaswn yn croesawu, ar y cam hwn o leiaf, arwydd gan y Llywodraeth eu bod yn awyddus i edrych ar ardaloedd arbrofi yng Nghymru a allai, ac a ddylai yn wir, gynnwys Ynys Môn.

Rydym yn awyddus iawn i gefnogi'r gwaith o ddatblygu profion 5G ar draws Cymru, ac yn sicr rwy'n hapus iawn i ddod i edrych, gyda'r aelod ar y posibiliadau ar Ynys Môn. Ar hyn o bryd rydym eisoes yn edrych ar un neu ddau o fannau arbrofi. Rydym wedi penodi Yr Arloesfa i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgaredd 5G yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd i sicrhau cyllid o'r gronfa brofion a threialu. Felly, byddwn yn edrych ar hynny cyn bo hir.

Soniais am Lynebwy a'r parc technoleg modurol eisoes; hefyd mae'r cynnig seilwaith digidol yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn technoleg 5G a sut y gallai ceisiadau drwy'r fargen ddinesig gefnogi prosiectau yn yr ardal. Mae bargen ddinesig Caerdydd hefyd yn edrych arni. Hoffwn bwysleisio ei bod yn bwysig i Lywodraeth y DU ddatblygu'r cynnig yn y ffordd iawn mewn gwirionedd. Nid ydym yn disgwyl cyflwyno'r rhwydweithiau 5G yn unrhyw le yn y byd tan oddeutu 2020, felly mae gennym amser i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd. Mae'n hanfodol, fodd bynnag, nad yw'r Llywodraeth yn gwneud dim sy'n amharu ar ei allu i fod yn adnodd seilwaith cyhoeddus gwirioneddol dda.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, ond ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

4. Cwestiynau Amserol
Banc Cyhoeddus

1. Yn dilyn y diweddaraf mewn cyfres hir o gyhoeddiadau am gau banciau lleol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gyflwyno banc cyhoeddus yn unol ag ymchwil gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru? 81

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae Gweinidogion wedi bod yn galw'n gyson ar fanciau masnachol i gynnal rhwydwaith cryf o bresenoldeb canghennau yng Nghymru. Yr mater a ystyriwyd gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru oedd sefydlu banc cyhoeddus i flaenoriaethu datblygu economaidd. Bydd Banc Datblygu Cymru yn symud yr adroddiad hwnnw yn ei flaen yn awr.

Wel, mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r cyhoeddiadau, a dweud y gwir, gan nifer o fanciau am gau canghennau ar draws Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i. Gyda'r cyhoeddiadau diweddaraf yma, wrth gwrs, mae'r ffigwr o ganghennau a fydd wedi cau ers 2011 yng Nghymru nawr yn ymestyn i 186 o ganghennau. A dweud y gwir, mae pump o'r 10 ardal sydd wedi wynebu cau y mwyaf o ganghennau banc yng Nghymru, gan gynnwys sir Gaerfyrddin. Felly, mae yn greisis. Rydw i wedi darllen yr adroddiad, a oedd wedi'i gomisiynu, wrth gwrs, gan y Llywodraeth. Roedd e wedi cael ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi yn sgil dadl fer gan Blaid Cymru ar fancio. Mae'r adroddiad—nid yw'n gwbl gywir dweud bod yr adroddiad ond yn ffocysu ar ddatblygu economaidd, achos mae e'n sôn am fodelau fel banc cymunedol Hampshire, sydd yn ymwneud â bancio cymunedol. Felly, a gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, i'r Ysgrifennydd Cabinet: beth ydych chi'n mynd i'w wneud o ran yr argyfwng o ran banciau cymunedol ar gyfer dinasyddion Cymru, sy'n wynebu sefyllfa nawr, i ddweud y gwir, lle, yn rhannau helaeth o Gymru, nid oes gwasanaeth ariannol ar gael ar eu cyfer nhw o gwbl?

15:10

Llywydd, wrth gwrs rydw i yn ymwybodol o'r ffigurau a'r patrwm sydd wedi datblygu yma yng Nghymru.

Mae'n wir i ddweud bod yr adroddiad wedi edrych ar amrywiaeth o wahanol fodelau, ond roedd hi'n eithaf amlwg mai ei ystyriaeth bennaf oedd sut y gellid defnyddio banc cyhoeddus Cymru i lenwi bylchau yn yr economi ehangach, yn hytrach nag edrych ar enghreifftiau o sut y gellid datblygu dewisiadau eraill yn lle bancio stryd fawr ar gyfer cwsmeriaid sy'n dod i mewn o'r stryd. Mae'n cyfeirio at fodel Hampshire, er nad oedd yn edrych fel pe bai model Hampshire wedi gwneud y cynnydd y gobeithiai ei gychwynwyr y byddai'n ei wneud y tro diwethaf i mi ofyn am wybodaeth am ei weithrediad ymarferol.

Dywed adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru y byddai cyflwyno unrhyw fodel yn 'heriol a chymhleth iawn' yma yng Nghymru. Felly, credaf nad yn y ddadl ar y banc cyhoeddus sy'n mynd rhagddi'n frwd yng Nghymru y gwelir yr ateb i'r datblygiadau y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atynt yn gywir, ond yn hytrach mewn pethau eraill y gallem eu gwneud: sicrhau bod Swyddfa'r Post mewn sefyllfa dda i fabwysiadu ystod ehangach o weithgareddau bancio, gan ddefnyddio'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r rhwydwaith o swyddfeydd post yng Nghymru, sicrhau bod aelodaeth o undeb credyd ar gael ledled Cymru, a defnyddio'r bron i £0.5 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol rydym yn ei ddarparu ar gyfer undebau credyd eleni—yr wythnos hon bûm yn trafod gyda rhai sy'n ymwneud ag undebau credyd pa un a fyddai cyfalaf trafodiadau ariannol o ddefnydd iddynt ar gyfer wynebu rhai o'r heriau y mae'n rhaid iddynt eu goresgyn—a thrwy'r gweithgaredd hwnnw ar lefel y gymuned, i wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod y gwasanaethau stryd fawr y mae pobl wedi bod yn eu defnyddio hyd yn hyn ym maes bancio, ond sydd, rhaid i ni gydnabod, yn cael eu defnyddio lai a llai ganddynt—fod gennym fynediad ar y stryd fawr o hyd ar gyfer y bobl sydd ei angen.

Ysgrifennydd y Cabinet, y ffigurau sydd gennyf fi  yw bod 152 o fanciau wedi cau rhwng 2011 a 2016, gyda 20 yn rhagor i gau yn 2018—mae dau arall eto yn fy etholaeth, yn Nhrefforest a Thonysguboriau. Yr agwedd fwyaf pryderus ar hyn yw diffyg unrhyw gyfrifoldeb cymdeithasol neu gymunedol gan y banciau, hyd yn oed o ran yr ymgynghoriad mwyaf sylfaenol gyda'r cymunedau penodol hynny. Rwyf wedi cyfarfod yn gyson â banciau bob tro y cyhoeddwyd bod un i'w gau. Penderfyniadau corfforaethol yw'r rhain—nid oes unrhyw ymgysylltu, nac ymgynghori. Pan ofynnwch am fanciau eraill, oherwydd bydd un banc yn dweud, 'Wel, rydym yn cau Pont-y-clun am eich bod bellach yn gallu defnyddio banc Tonysguboriau', yr un nesaf yw bod Tonysguboriau'n cau, ac maent yn dweud, 'A, wel, gallwch ddefnyddio Trefforest bellach', ac yna maent yn cau Trefforest. Felly, bob tro y byddwn yn trafod y materion hyn gyda'r banciau, nid yn unig eu bod wedi torri pob addewid a wnaethant—roedd ganddynt gytundeb ar un adeg na fuasai'r un banc yn fanc olaf, cafodd ei gytuno â'r undebau llafur, ac mae'r addewid hwnnw wedi'i dorri. Mae'n ymddangos i mi fod dirmyg llwyr, bron, tuag at y cysyniad o wasanaeth cwsmeriaid o blaid gwerthu cynnyrch drwy fancio canolog ac ar-lein.

Yr hyn y buaswn yn gofyn amdano—. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedwch am Swyddfa'r Post ac undebau credyd, oherwydd ymddengys i mi fod y rheini'n bethau sy'n rhaid inni edrych arnynt, ond mae'n ymddangos i mi fod fod yn rhaid inni bwyso—deallaf mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn yn ddi-os—am sail statudol ar gyfer ymgynghori â gwasanaethau bancio. Nid yw'r banciau ond yn rhy hapus i dderbyn arian cyhoeddus pan fyddant mewn trafferth ac angen cymorth o gronfeydd cyhoeddus. Mae'n ymddangos i mi nad yw'n afresymol gosod rhwymedigaeth statudol ar fanciau i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd, fel y mae'r wrthblaid Lafur yn San Steffan wedi gofyn amdano, a chael proses ymgynghori statudol ystyrlon fan lleiaf.

15:15

Diolch i'r Aelod am y cyfraniad defnyddiol hwnnw. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yma, ar lefel etholaeth, yn ymdrin â chanlyniadau cau banciau mewn ardaloedd trefol ac yng nghefn gwlad Cymru. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywed yr Aelod am natur ymgynghori, sy'n aml i'w weld ond yn cael ei gyflawni er mwyn cadarnhau penderfyniad masnachol y mae'r banc eisoes wedi'i wneud. Byddai sail statudol ar gyfer ymgynghori yn cryfhau hawliau unigolion a'u cynrychiolwyr i wneud yn siŵr y gellid cyflwyno dadleuon priodol ynghylch mynediad a thegwch—ac anghenion poblogaethau gwahanol a grwpiau o fewn poblogaethau—yn briodol i fanciau, gyda rhywfaint o hyder o leiaf fod y safbwyntiau hynny'n cael eu mynegi a'u clywed yn iawn.

A gaf fi gytuno gyda'r cyfraniad gan Mick Antoniw? Buaswn yn dweud nad oes unrhyw Aelod yn y Siambr hon wedi llwyddo i newid meddwl banc pan fyddant wedi gwneud eu penderfyniad. Rwyf wedi siarad yn y Siambr yn flaenorol am y syniad y gallai'r Llywodraeth hwyluso trafodaethau rhwng y banc a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a phartneriaid eraill i archwilio model bancio cymunedol a fyddai'n golygu bod banciau'n rhannu gwasanaethau. Nawr, clywais yr hyn a ddywedoch ynglŷn â swyddfeydd post ac undebau credyd, ond pan grybwyllais y cynnig hwn wrth eich cyd-Aelodau yn y Llywodraeth, yn y Siambr yma, cefais ymateb cadarnhaol bob amser. Rhoddodd y Prif Weinidog ymateb cadarnhaol i mi yn gynharach eleni, gan ddweud y byddai'n ystyried y cynnig hwnnw. Ond a gaf fi ofyn pa ddatblygiadau a fu? Nid wyf eisiau clywed un gair yn dweud ei fod yn syniad da; yr hyn rwyf am ei glywed yw'r wybodaeth ddiweddaraf. A ydych wedi cyfarfod â'r banciau? A yw eich cyd-Aelodau wedi cyfarfod â'r banciau? A ydych wedi cael trafodaethau gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol? A allwn wneud cynnydd a gweld y Llywodraeth yn hwyluso trafodaethau gyda'r banciau er mwyn symud hyn yn ei flaen?

Lywydd, fel y gŵyr yr Aelod, cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yw hyn yn bennaf o ran datblygu'r awgrymiadau a wnaeth. Mae'r nodyn sydd gennyf yn dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau gydag arweinwyr rhanbarthol yn y diwydiant bancio, o ganlyniad i gwestiwn blaenorol a ofynnwyd ganddo, i edrych ar ffyrdd y gellid newid defnydd safleoedd banciau mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, i helpu i ddarparu gwasanaethau cymunedol ehangach, ac mae'r trafodaethau hynny hefyd wedi cyffwrdd ar y rhaglen cyfleusterau cymunedol sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i weld a allai'r cyfleusterau presennol sy'n cael eu haddasu drwy arian y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol gynnwys diben bancio yn y ffordd y darperir gwasanaethau o'r safleoedd hynny yn y dyfodol. Fe wnaf yn siŵr fod fy nghyd-Aelod yn gwybod am y cwestiwn rydych wedi ei ofyn y prynhawn yma. Rwy'n credu y gallwch fod yn sicr ei fod wedi bod yn fwy na geiriau'n unig, fod cyfarfodydd go iawn wedi cael eu cynnal ac agenda bosibl ar gyfer gweithredu yn cael ei datblygu o ganlyniad i'r cyfarfodydd hynny.

I roi blas o raddfa a chyflymder y newid yn y diwydiant hwn, tua 16 mlynedd yn ôl fel Aelod Seneddol, cofiaf agor y peiriant arian cyntaf yn Llandysul—rwy'n cael y gorchwylion godidocaf i gyd. Un mlynedd ar bymtheg yn ôl, agorais y peiriant arian cyntaf yn Llandysul. Tynnais y £10 cyntaf o'r peiriant arian cyntaf yn Llandysul. Ar yr adeg honno, roedd pedwar banc ar y stryd fawr yn Llandysul, 16 mlynedd yn ôl. Bellach nid oes unrhyw fanc o gwbl. Mae'r olaf yn mynd. Mae'n dref farchnad wedi'i gadael heb unrhyw fancio o gwbl. Rhaid i chi deithio 10 milltir i Gastellnewydd Emlyn, fan lleiaf, i gael banc. Mae hynny'n dangos cyflymder y newid sydd wedi digwydd yn y diwydiant. Mae technoleg wedi meddiannu'r maes. Oes, mae pobl yn gwneud bancio ar-lein, ond fy mhryder penodol i heddiw yw bod yna fusnesau bach a chanolig eu maint yn aml nad ydynt yn gallu defnyddio bancio ar-lein, ac mae angen gwirioneddol mewn ardaloedd gwledig am fodd i fusnesau allu bancio arian parod ac nid yw'n cael ei ddarparu.

Oes, mae cyfle i gryfhau rhwydwaith y swyddfeydd post, a buaswn yn annog yn gryf iawn ein bod yn defnyddio hynny tra bo'r rhwydwaith hwnnw'n dal yno i ryw raddau ac yn rhoi rhyw gadernid i hynny. Ond onid yw hi hefyd yn bryd i chi ddechrau ystyried, gyda'ch cyd-bleidwyr yn San Steffan, fod angen rhyw fath o rwymedigaeth statudol mewn perthynas â bancio? Nid yw'n bosibl bod yn aelod o gymdeithas fodern bellach heb fynediad at gyfrifon bancio modern—ac yn sicr nid yw'n bosibl bod yn fusnes yn y ffordd honno—ac eto, rydym mewn perygl o rwygo datblygu economaidd o rannau o'n hardaloedd gwledig oherwydd yr union reswm hwn. Nid ydym yn gadael iddo ddigwydd mewn perthynas â band eang—rydym yn sicrhau bod rhesymau statudol pam y mae'n rhaid i chi ddarparu band eang i rannau o ardaloedd gwledig. Rhaid inni edrych ar rwymedigaeth statudol ar gyfer bancio, a mynediad at fancio, i'n busnesau, ein cwsmeriaid a'n dinasyddion mewn ardaloedd gwledig.

15:20

Diolch i Simon Thomas am y pwyntiau hynny. Dyna'n union oedd polisi fy mhlaid yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r flwyddyn hon, ac yn 2015, rwy'n credu. Mae'n seiliedig ar Ddeddf bancio cymunedol 1976 a fu'n weithredol yn Unol Daleithiau America ers yr amser hwnnw. Lle mae banc yn cau ar y stryd fawr, mae ganddo rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod cyfleusterau newydd ar gyfer y rheini, lle y gellir dangos bod angen, ac i ddarparu'r cyllid ar gyfer creu'r cyfleusterau hynny.

Lle y ceir cymunedau gwledig, fel yn Llandysul, lle nad oes cyfleusterau bancio'n bodoli—neu mewn cymunedau trefol hyd yn oed. Gellid bod wedi ailadrodd yr hyn a ddywedodd am y stryd fawr yn Llandaf yn fy etholaeth. Nawr, gallech ddweud, 'Wel, mae Llandaf mewn ardal drefol a gallech ddod o hyd i fanc arall heb fod mod bell â hynny i ffwrdd.' Ond mewn gwirionedd, ar gyfer rhai grwpiau yn y boblogaeth nad ydynt wedi arfer bancio ar-lein, ac sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas, mae'r angen am rywle wyneb yn wyneb lle y gallwch fynd i drafod busnes yn real iawn.

Ar gyfer y mathau hynny o anghenion a nodwyd y lluniwyd Deddf bancio 1976 yr Unol Daleithiau i fynd i'r afael â hwy, a chredaf fod sicrhau na chaiff unigolion ac ardaloedd eu hamddifadu o wasanaethau hanfodol yn y maes hwn yn y dyfodol yn cryfhau'r ddadl a wnaeth yr Aelod ynglŷn â fframwaith statudol.

Credaf ein bod yn cytuno i raddau helaeth mewn perthynas â'r cwestiwn hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, cyhoeddodd banc y NatWest enwau cyfres o fanciau eraill sy'n cau ledled Cymru—un yng Nghas-gwent yn fy etholaeth. Roedd y gyfres ddiwethaf o fanciau'n cau yn ddigon drwg allan mewn ardaloedd gwledig, ond ymddengys bod y toriadau hynny bellach yn ymestyn i drefi mwy hefyd, a chredaf fod hynny'n peri pryder mawr i'n hetholwyr. Pe bai gennyf un feirniadaeth ynglŷn â'r cwestiwn hwn, rwy'n credu y byddai'n ymwneud â'r ffaith ei fod yn ceisio gwneud ychydig gormod, nad yw'n feirniadaeth o gwbl mewn gwirionedd, oherwydd, yn amlwg, rydych wedi cyfuno dau bryder: ar y naill law, bancio manwerthu, ond hefyd y banc datblygu a'r rôl sydd ganddo i'w chwarae.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech yn llygad eich lle wrth ddweud y dylai Llywodraeth Cymru—a diwygio Cyllid Cymru yn sicr, yn ein barn ni—sefydlu banc datblygu o ryw fath. Ond nid yw hynny'n ddigon i gymryd lle bancio manwerthu preifat i ymwneud â'r cyhoedd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran y banc datblygu ar y naill law, a wnewch chi roi sicrwydd, pan gaiff hwnnw ei gwblhau, y bydd, yn debyg iawn i'r hyn a oedd yn ein polisi 'Buddsoddi Cymru' ychydig flynyddoedd yn ôl, yn argymell presenoldeb sy'n wynebu'r cyhoedd ar y stryd fawr gymaint â phosibl fel ei fod yn hygyrch i fusnesau ar lawr gwlad pan fydd arnynt ei angen? Ac yn ail, ar fater bancio manwerthu, mae'n siŵr fod angen ei osod ar sail statudol lawer cryfach. Daliais fy hun yn cytuno, sy'n destun pryder efallai, â Mick Antoniw ar y mater hwn. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud rhai pwyntiau ardderchog.

A yw'n bosibl cael—rwy'n derbyn nad yw'n gyfan gwbl o fewn cylch gorchwyl Llywodraeth Cymru—ond a yw'n bosibl cael rhyw fath o fforwm? Mae'n amlwg fod pawb ohonom yma yn cytuno ar yr angen i gadw bancio manwerthu o'r fath allan yn ein trefi a'n hardaloedd gwledig. A yw'n bosibl cael rhyw fath o fforwm lle mae banciau'n gwybod yn iawn sut rydym yn teimlo am gau banciau, a'u bod yn cael eu gorfodi i ymgynghori'n llawer mwy effeithiol, a phan fyddant yn dweud mai dyma'r cylch diwethaf o fanciau sydd i'w gau am hyn a hyn o amser, ein bod ni fel Aelodau'r Cynulliad, yn gwrando ar hynny, a'u bod yn cyfleu hynny i'n hetholwyr, ac yna eu bod yn gorfod cadw at hynny, ac nad ydym yn gweld sefyllfa, fel sydd gennym ar hyn o bryd, lle mae mwy a mwy o fanciau'n cau? Ac mae pawb ohonom—mae ein post yn llawn o bryderon gan bobl sy'n teimlo o ddifrif, heb fancio ar y rhyngrwyd, nad ydynt yn mynd i gael unrhyw fynediad at fancio o gwbl.

Lywydd, mae Nick Ramsay yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw amheuaeth gan y banciau ynghylch cryfder y teimlad y mae eu gweithredoedd yn ei ennyn mewn cymunedau lleol ac ar ran y bobl sy'n cynrychioli'r cymunedau hynny. Eu hateb i chi fyddai nad ydynt yn sefydliadau masnachol a'u bod yn gweithredu'n fasnachol. Rhaid mai ein hymateb i hynny yw bod gan sefydliadau masnachol hyd yn oed rwymedigaethau penodol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, oherwydd bod eu gallu i fod yn sefydliadau masnachol llwyddiannus yn dibynnu, yn aml iawn, ar y seilwaith cyhoeddus sydd o'u cwmpas ac sy'n eu galluogi i wneud busnes.

Felly, cytunaf ag ef am yr angen i wneud yn siŵr nad oes unrhyw amwysedd yn y negeseuon a roddwn i'r sector bancio manwerthu ynglŷn â'r rhwymedigaethau hynny. Rwy'n cytuno â chyfranwyr eraill y prynhawn yma y gellid gwneud mwy i osod fframwaith statudol o gwmpas hynny mewn perthynas ag ymgynghori a gwasanaethau newydd. Mae Llywodraeth Cymru'n chwarae ei rhan yn hynny, er ei bod bob amser yn gorfod cydnabod bod y rhan fwyaf o'r cyfrifoldebau hyn yn rhai nad ydynt yn ein dwylo ni.

O ran y pwynt cyntaf a wnaeth Nick Ramsay am wasanaeth hygyrch gan Fanc Datblygu Cymru, dyna'n union beth fyddai ein huchelgais. Mae'r ffordd orau i gyflawni hynny'n rhywbeth y byddwn am barhau i weithio arni, ond mae'r egwyddor o wneud yn siŵr y bydd Banc Datblygu Cymru yn hygyrch iawn i'r rheini a fydd am ei ddefnyddio yn un na fyddem yn anghytuno â hi.

15:25

Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, cytunaf â'r rhan fwyaf o'r teimladau a fynegwyd yn y Siambr hon; ni allwch wadu hynny. Un o'r pwyntiau a wnaed am y sicrwydd y mae Aelodau wedi'i gael gan y banciau am fanciau cyfagos yn ysgwyddo'r baich, fel petai, yw un o'r dadleuon mwyaf rhwystredig a roddwyd dro ar ôl tro. Yn Llanilltud Fawr, pan fo NatWest yn cau eu cangen yno, cyfeiriwyd at y Bont-faen fel y gangen cyfagos a fyddai'n ysgwyddo'r baich. Rydych yn ciwio allan drwy'r drws ar rai dyddiau yn y NatWest yn y Bont-faen er mwyn defnyddio'r cyfleusterau yno ac eto ar 4 Mehefin y flwyddyn nesaf, mae'r banc hwnnw i fod i gau. Felly, mae anghysondebau yn y wybodaeth y mae'r banciau yn ei darparu.

Clywaf yr hyn a ddywedwch am natur masnachol—ac rwy'n cytuno; mae bancio'n fusnes masnachol. Ond pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r bylchau a fydd yn ymddangos bellach yn y gallu i fusnesau bach yn enwedig ddefnyddio banciau yn y ffordd draddodiadol o geisio cyngor ynghylch benthyciadau a chyfleusterau ariannol, ond hefyd i wneud eu busnes bancio? Cefais gyfarfod yn gynharach yn y flwyddyn gyda banc buddsoddi Cymru, a gwnaeth y Cadeirydd y pwynt hwn: ceir tystiolaeth sy'n dangos bod banciau masnachol yn tynnu'n ôl o rai rhannau o Gymru ac yn tynnu eu cyfleusterau benthyca yn ôl, a bydd hynny'n niweidio busnesau. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi asesu'r cyd-destun ehangach sydd i gau banciau, nid yn unig i'r unigolion sydd â chyfrifon gyda'r banciau, ond hefyd y busnesau sy'n dibynnu ar ffynhonnell arian a hefyd i gyflawni gweithgarwch bancio o ddydd i ddydd?

Wel, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am anghysonderau yn rhai o'r dadleuon a glywn gan y diwydiant bancio a sut nad yw rhai o'r ymrwymiadau a wnaeth y diwydiant yn flaenorol, fel y dywedodd Mick Antoniw, i beidio byth â bod y banc olaf i gau—dyna addewid y maent wedi methu ei gadw mewn llawer o achosion fel y gwyddom. O safbwynt y cyhoedd, mae'n aml yn eithaf anodd deall y cysylltiad rhwng eu profiadau eu hunain o fanc sydd bob amser yn brysur pan fyddant yn ymweld ag ef, sydd i'w weld yn gweithio'n ddi-baid, pan fo'r banc yn dweud wrthynt ei fod yn cau oherwydd nad oes angen ei wasanaethau mwyach.

Yr hyn a wnaf yw gwneud yn siŵr fod y pwyntiau a wnaed y prynhawn yma, yn arbennig mewn perthynas â mynediad at wasanaethau bancio gan fusnesau yn y rhannau hynny o Gymru lle mae'r ddarpariaeth fancio bellach yn denau iawn neu lle nad yw'n bodoli o gwbl—fe wnaf yn siŵr fod Ken Skates wedi clywed y pwyntiau hynny'n glir a'i fod yn gallu mynd ar eu trywydd yn y cynlluniau y bydd yn eu datblygu i wneud yn siŵr nad yw busnesau yng Nghymru yn teimlo'n rhwystredig ynghylch eu gallu i gyflawni eu materion eu hunain neu i dyfu oherwydd nad oes gwasanaethau ar gael iddynt allu gwneud defnydd ohonynt.

Pinewood

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd bod Pinewood yn parhau i fod wedi'i ymrwymo'n llawn i barhau i weithredu ei stiwdio gyfredol yng Nghymru yn sgil y diffyg gwybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i gyfres o gwestiynau ysgrifenedig ar y mater hwn? 84

Diolch, Suzy. Rwy'n ymateb ar ran Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Pinewood yn parhau'n ymrwymedig i weithredu'r stiwdio yng Ngwynllwg a pharhau i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu o ansawdd uchel.

Mae hwnnw'n ymateb calonogol, Weinidog. Rwyf am ei gwneud yn glir nad yw'r cwestiwn hwn yn cael ei ofyn fel ymosodiad ar y diwydiant ffilm sy'n tyfu yng Nghymru, er gwaethaf sylwadau gan Lywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw. Rwy'n ei ofyn mewn ymgais i dorri drwy'r diffyg tryloywder ynglyn â sut y gwnaed rhai penderfyniadau ac a yw'r sylwadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru am y canlyniadau cadarnhaol y dylem eu disgwyl gan Pinewood yn benodol yn rhai cyfiawn.

Felly, yn gyntaf oll, y mis diwethaf, cadarnhaodd cofnod Llywodraeth Cymru o benderfyniadau fod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb rheoli newydd ar gyfer cyfleuster Pinewood Studios yng Ngwynllwg. O ystyried bod y Llywodraeth wedi gwario £5 miliwn ar brynu'r cyfleuster hwnnw yn 2014, ond nad oedd wedi cael unrhyw rent ohono am y ddwy flynedd gyntaf oherwydd y strwythur rhent, gallwch ddeall, efallai, pam yr hoffwn wybod pam y mae angen ailstrwythuro'r cytundeb hwnnw. Faint o rent, ac incwm arall, y disgwyliwch iddo gael ei dalu i chi, ac erbyn pryd, yn rhan o'r trefniant sydd wedi'i ailstrwythuro?

Yn ail, cynyrchiadau'r stiwdios—£80,000 yn unig o'r £850,000 a gafodd gan Lywodraeth Cymru y mae Journey's End, er enghraifft, wedi ei adennill. Ac mae Take Down, neu Billionaire Ransom fel y'i gelwir yn yr Unol Daleithiau yn eironig braidd, wedi adennill llai na thraean o'i buddsoddiad £3.1 miliwn. Nawr, rwy'n deall bod y pen cynhyrchu incwm o gynhyrchu ffilmiau ar ddiwedd ei gylch, a gwn bod cadwyni cyflenwi wedi elwa o'r buddsoddiadau hyn. Ond os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gymryd risgiau—ac rydym yn cymeradwyo hynny—mae angen i'r prosesau ar gyfer rheoli'r risgiau hynny fod yn agored i graffu, yn rhannol er mwyn inni allu darganfod pryd rydych chi'n disgwyl gweld adenillion, a faint, erbyn dyddiad penodol, a hefyd o ran gwrthdaro buddiannau posibl. Am fod goruchwyliwr cyllideb fuddsoddi'r cyfryngau yn gangen arall o Pinewood—mae un o'r ffilmiau hyn yn gynhyrchiad Pinewood—ac wrth gwrs, mae wedi ei ffilmio yn Pinewood Studios. Drwy gadw Pinewood wedi ymrwymo i Gymru, a allwch hefyd ymrwymo y bydd eich adran yn ateb fy nghwestiynau sy'n mynd at wraidd y diffyg tryloywder hwn, gan gynnwys y cwestiwn a ofynnais heddiw?

Ac yn olaf, cyhoeddasoch yn ddiweddar iawn na fydd Pinewood mwyach yn goruchwylio bwrdd buddsoddi'r cyfryngau, sy'n awgrymu efallai nad oedd y cysylltiad rhyngddynt â Chymru lawn mor gryf ag y gallem fod wedi gobeithio. A allwch ddweud wrthyf a oedd hynny ar gais Llywodraeth Cymru, neu ar eu cais hwy, ac a oedd y penderfyniad wedi ei ddylanwadu mewn unrhyw ffordd gan gwestiynau a godwyd yn yr House of Keys, ar Ynys Manaw, lle y ceir trefniant tebyg?

Gallwch weld o ble y mae fy mhryderon yn tarddu. Mae gennym dri mater yma, sy'n rhyw lun o godi cwestiynau am ymrwymiad y Pinewood, ac rwy'n edrych ymlaen at weld rhywfaint o gig ar yr asgwrn o ran y sicrwydd a roesoch i mi ychydig yn gynharach. Diolch.

15:30

Wel, nid wyf yn gwybod am gig ar yr asgwrn, oherwydd nid wyf yn gigydd da iawn. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio bod yr ymrwymiad i Pinewood yn parhau, ac y bydd yr ymrwymiad hwnnw'n golygu gweithrediad y stiwdio o dan gytundeb newydd. Mae agweddau ar y cytundeb hwnnw'n dal i fod yn fasnachol gyfrinachol, ond rwy'n hapus iawn i gynnig cyfarfod i chi, lle y gallwn drafod yn fanylach sut y penderfynwyd ar y trefniadau hyn. Er bod hyn yn dynodi nad yw Pinewood mwyach yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn ffilmiau, ac asesu buddsoddiad mewn ffilmiau, yn y ffordd y cytunwyd yn flaenorol, gallaf ddweud wrthi fod y gwaith y mae Pinewood wedi helpu i'w wneud i ddyrchafu Cymru fel lleoliad cynhyrchu o'r radd flaenaf wedi rhoi manteision byd-eang inni eisoes. Rhaid i mi ddweud wrthi fod y sefyllfa yn Ynys Manaw yn newid hefyd, o ran y modd y mae Pinewood yn gweithredu.

Ymddiheuraf iddi am unrhyw oedi cyn ateb y cwestiynau y mae hi wedi eu gofyn. Rwy'n croesawu ei chraffu manwl. Gofynnodd gwestiynau sy'n mynd yn ôl i 2011, ond gallaf ei sicrhau bod faint o amser a ddefnyddiwyd i ymateb i'r cwestiynau wedi'i dreulio'n sicrhau ansawdd y wybodaeth.

Gallaf ddweud wrthi hefyd fod elfen dra phwysig o'r gadwyn gyflenwi yn y stiwdio honno, gan gynnwys cwmnïau cadwyn cyflenwi hanfodol, megis Andy Dixon Facilities, Real SFX, a Lubas Medical, a rhaid i chi fod yn ymwybodol o hynny. Ac mae hynny'n arwydd o'r ffordd y mae'r sector diwydiannau creadigol wedi dangos twf sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

A fyddai'r Gweinidog yn derbyn mai rhan o'r cyd-destun, efallai, ehangach i rai o'r cwestiynau y mae Suzy Davies wedi bod yn eu gofyn ers rhai blynyddoedd, a rhan o'r her, rwy'n credu, i'r Llywodraeth, ydy bod yn glir beth yw diben polisi y buddsoddiad yn y diwydiant ffilm. Ai denu cwmnïau rhyngwladol i wneud mwy o gynyrchiadau yng Nghymru, neu, o bersbectif datblygu economaidd, i fuddsoddi yn hytrach mewn cwmnïau Cymreig, neu, a dweud y gwir, a oes yna ddiben diwylliannol, hynny yw i gael cynnwys—straeon o Gymru, os mynnwch chi—ar y sgrin fawr? Rwy'n credu, o'i gefndir e, wrth gwrs, yn nyddiau Sgrîn, efallai y byddai'n ymwybodol o'r tensiwn yma sy'n gallu bodoli. Ac a gawn ni, gan y Gweinidog newydd, ychydig bach mwy o eglurder ynglŷn â diben polisi'r Llywodraeth, fel ein bod ni wedyn, wrth gwrs, wrth graffu, yn gallu asesu i ba raddau y mae'r Llywodraeth yn cyrraedd y nod?

15:35

Diolch yn fawr am y gyfres o gwestiynau. Ni fyddwn yn disgwyl dim byd arall oddi wrth yr Aelod. Ond fy ateb i, yn glir iawn, yw bod y tri diben y mae e wedi eu nodi yn gydberthnasol i'r diwydiant ffilm, o unrhyw fath. A beth sydd wedi digwydd yn y fan yma, wrth gwrs, yw bod yna newidiadau masnachol wedi digwydd ym mherchnogaeth Pinewood, a bod hynny wedi arwain at flaenoriaethau newydd i'r cwmni yn y ffordd mae e'n gweithio, ac y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio yn agos gyda Pinewood ynglŷn â'r sefyllfa yna.

Yn ogystal â'r buddsoddiadau rhyngwladol, a'r ymgais i ddenu cwmnïau rhyngwladol i gynhyrchu yng Nghymru, a'r swyddi sy'n cael eu creu, rydym ni hefyd fel Llywodraeth, drwy gyngor y celfyddydau, yn buddsoddi yn Ffilm Cymru—ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â nhw—sydd â phwyslais mwy diwylliannol, yn yr ystyr arferol i'r gair, er fy mod i'n ystyried y cyfan o gynnyrch ffilm, yn sicr, yn rhan o'n diwylliant ni—o leiaf, mae e'n fwy celfyddydol yn yr ystyr yna, ac mi fydd y gwaith yna yn parhau. Ac fel rwyf wedi estyn gwahoddiad i Suzy Davies, fe estynnaf yr un math o wahoddiad i ni gael trafodaeth ddeallus ynglŷn ag amcanion y Llywodraeth yn y cyfeiriad yma. 

Pwerau ynni

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ohirio pwerau ynni newydd o dan Ddeddf Cymru 2017? 86

Fy amcan yw sicrhau pontio llyfn ar gyfer y diwydiant datblygu a chymunedau. I ddechrau, cytunodd adran berthnasol Llywodraeth y DU, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, i oedi cyn cychwyn. Fodd bynnag, am fod Swyddfa Cymru'n mynnu, bydd y darpariaethau cynllunio yn cychwyn cyn pryd bellach, gan roi Cymru dan anfantais o gymharu â gweddill y DU.

Nid wyf yn siŵr fy mod yn deall yr ateb hwnnw. Mae'r pwerau hyn yn ymwneud â ffracio a gorsafoedd cynhyrchu trydan gyda 350 MW neu lai, ac maent bellach yn cael eu gohirio tan fis Hydref 2018 a mis Ebrill 2019—cyn belled ag y gwelaf am nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod ganddi gapasiti i ymgymryd â'r pwerau newydd ar hyn o bryd. Ac rwy'n credu mai hynny sy'n rhaid i chi ei ateb, o ystyried ein bod yn gwybod bod y pwerau hyn yn dod; mae wedi bod yn broses hir. Ac os oes problem gyda'r capasiti presennol, sut y gallwn fod yn sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu arfer y pwerau hyn ym mis Hydref 2018 a mis Ebrill 2019, neu a fydd yn rhaid inni ohirio ymhellach?

Credaf efallai fod angen i mi roi rhai ffeithiau yn y fan hon. Credaf fod Swyddfa Cymru yn creu helynt braidd. Nid wyf am i bobl feddwl ein bod wedi bod yn gwneud dim. Fe gyfeirioch chi at gapasiti. Felly, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r diwydiant, rydym wedi bod yn gweithio gyda datblygwyr, rydym wedi bod yn gweithio gyda chynghorwyr cynllunio, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau y gallwn gwmpasu'r hyn sy'n ofynnol. Cafwyd cytundeb rhwng yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Llywodraeth Cymru y gellid oedi'r pwerau hynny. Yna, daeth Swyddfa Cymru yn rhan o bethau ac nid yw hynny'n wir mwyach. Ac fel y dywedais, rydym wedi cael ein gosod dan anfantais bellach, rwy'n credu. Gwn fod pobl wedi gofyn i mi pam y mae'r Alban yn gallu gwneud pethau'n gyflymach na ni, er enghraifft, a dylwn ddweud bod pethau'n wahanol iawn i'r Alban yng Nghymru. Cafodd yr Alban ei throsglwyddo'n uniongyrchol i broses gydsynio addas at y diben nad oedd  yn galw am drefniadau trosiannol. Nid oeddem yn y sefyllfa honno, ac oherwydd ein bod wedi cael ein gosod mewn cyfundrefnau israddol, er enghraifft, roedd angen trefniant trosiannol arnom, a chafodd hwnnw ei gytuno rhyngom a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Rwy'n dal yn ansicr beth sydd wedi digwydd yma. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau eich bod wedi gofyn i'r pwerau hyn gael eu gohirio, ac i'r gweithrediad gael ei ohirio? Yr unig beth rydym wedi ei glywed fel Cynulliad, yn swyddogol hyd yn hyn, yw bod yr holl bwerau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. A'r wythnos diwethaf, neu efallai yr wythnos cynt—ymddiheuriadau—gofynnais i'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol am weithrediad pwerau ffracio, sef y pwerau petroliwm rydym yn sôn amdanynt, ac ni ddywedodd yr un ohonynt wrthyf fod unrhyw oedi cyn y daw'r pwerau hyn i mewn. Derbyniodd y ddau ohonynt fy nghwestiwn ar y cynsail y byddai'r y pwerau hyn ar gael ym mis Ebrill 2018.

Felly, a yw'n wir yn awr nad ydynt yn dod i ni, fel y deallaf, tan fis Hydref 2018, ac nad yw'r pwerau pellach ar orsafoedd cynhyrchu trydan, felly'r pwerau 350 MW—rwy'n cymryd nad yw'r rheini'n dod tan fis Ebrill 2019. A allwch gadarnhau mai dyna yw'r sefyllfa, a chadarnhau hefyd felly mai chi sy'n gofyn am hyn, a chadarnhau beth rydych yn mynd i'w wneud fel Llywodraeth i ddarparu'r diogelwch a'r sicrwydd sydd ei angen arnom eich bod yn gallu arfer y pwerau hyn?

15:40

Gallaf gadarnhau'r ddau ddyddiad: mis Hydref 2018 a'r un yn 2019. Ac rydym wedi gofyn am hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru a swyddogion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn ôl yn 2017—yn ystod taith Bil Cymru drwy'r Senedd, cafwyd cytundeb na fyddai'r pwerau gweithredol newydd yn dechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Felly, fel y dywedaf, dyna oedd y cytundeb a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol nes i Swyddfa Cymru ymyrryd.

O ganlyniad i'r oedi hwn wrth drosglwyddo pwerau, a yw'n wir y gallai Llywodraeth y DU orfodi ffracio ar Gymru, er y gallai hyn fod yn groes i ddymuniadau'r boblogaeth?

5. Datganiadau 90 Eiliad

Lywydd, ddydd Iau diwethaf, mynychais seremoni yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays i ailgysegru'r garreg Rhodd Bywyd er cof am yr holl roddwyr organau a meinweoedd. Cafodd y garreg goffa hon ei gosod yn y parc 10 mlynedd yn ôl gyda chefnogaeth Sefydliad Aren Cymru a theuluoedd pobl yr oedd eu hanwyliaid wedi rhoi eu horganau a'u meinweoedd. Roedd dau o'r teuluoedd yn dod o'r Barri: Colin a Bet Burgess a Gaynor Taylor. Roedd Louise Burgess a Richard Taylor yn cario cardiau rhoddwr pan gollodd y ddau eu bywydau ifanc yn drasig. Colin Burgess a ysgrifennodd y beddargraff ar y garreg Rhodd Bywyd a oedd yn dweud eu bod yn malio am y rhai roeddent yn eu helpu, a bod y rhai roeddent wedi eu helpu yn cofio. Mae'r ddau deulu'n cefnogi Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i roi cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau a meinweoedd ac maent yn croesawu'r arweiniad y mae Cymru wedi ei roi yn y DU.

Ddwy flynedd ers y Ddeddf, gwelwyd cefnogaeth barhaus a chynyddol i'r system rhoi organau newydd yng Nghymru ac mae'n dda gweld y cyhoedd yng Nghymru yn croesawu'r newidiadau a luniwyd i arbed bywydau. Mae Colin, Bet a Gaynor yn parhau i siarad o blaid rhoi organau fel rhodd werthfawr fel y gall eraill fyw ac rwy'n diolch iddynt am eu dewrder a'u hysbrydoliaeth.

Lywydd, ddydd Gwener, 1 Rhagfyr roedd hi'n 75 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Beveridge ar 'Social Insurance and Allied Services'. Cafodd hwn ei gomisiynu yn ystod yr ail ryfel byd gan bwyllgor atebol i Arthur Greenwood, y Gweinidog ar y pryd a oedd â chyfrifoldeb dros ailadeiladu ar ôl y rhyfel. Roedd ei dasg yn ddeublyg: yn gyntaf, roedd yn anelu at gynnal arolwg o gynlluniau yswiriant cymdeithasol presennol; yn ail, roedd i wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol, ac yn hyn o beth roedd yr adroddiad, pan gafodd ei gyhoeddi yn 1942, yn mynd i esgor ar y canlyniadau mwyaf pellgyrhaeddol.

Cafodd ei ddrafftio gan yr economegydd rhyddfrydol, William Beveridge, ac roedd y ddogfen derfynol yn cynnig ystod eang o ddiwygiadau i'r system bresennol. Yn sail iddo roedd cynigion i gael gwared ar yr hyn a alwai Beveridge yn bum 'drwg enfawr' mewn cymdeithas: budreddi, anwybodaeth, angen, diogi a chlefyd. Yn lle hynny, dylai'r Llywodraeth gymryd camau i ddarparu incwm digonol, gofal iechyd, addysg, tai a chyflogaeth i ddinasyddion. I raddau helaeth, gadawyd i Lywodraeth Clement Attlee yn 1945, ar ôl ennill yr etholiad cyffredinol ar blatfform a ymrwymai Llafur i fynd i'r afael â'r pum 'drwg enfawr', ac wrth gwrs, i rôl Aneurin Bevan, ddeddfu gwleidyddiaeth a amlinellai'r wladwriaeth les sy'n dal yn gyfarwydd i ni heddiw.

Mae newidiadau wedi bod yn y cyfamser. Noda Nicholas Timmins, bywgraffydd y wladwriaeth les, y byddai rhai o'r rhain wedi cael eu cymeradwyo gan Beveridge, a byddai eraill yn gwbl amhosibl eu hadnabod. Ond yn ei ymrwymiad sylfaenol i set o werthoedd a rennir a gwasanaethau y gallwn goffáu'r adroddiad heddiw yn y ffordd orau.

Ddydd Llun, 11 Rhagfyr byddwn ni'n cofio Llywelyn ap Gruffudd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf. Llywelyn oedd y cyntaf, wrth gwrs, i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru a thrwy gytundeb Trefaldwyn ym 1267 bu'n rhaid i Harri III dderbyn telerau a chydnabod tywysogaeth Llywelyn a hawl Cymru, i bob pwrpas, i fod yn wlad annibynnol. Fe gyflwynodd Llywelyn system drethu a gwasanaeth sifil i weinyddu’r wlad dan ei arweinyddiaeth. Ond nid oedd y drefn yma wrth fodd  Edward I, wrth gwrs, a orfododd Llywelyn i ildio tir a chilio yn ôl i'w gadarnle yng Ngwynedd. 

Ym Mawrth 1282 cychwynnodd gwrthryfel wrth i’r Cymry ymosod ar gastell Penarlâg yn sir y Fflint er mwyn adennill tiroedd coll. Ond mi ddaeth y gwrthryfel i ben chwe mis yn ddiweddarach gyda Llywelyn yn cael ei rannu oddi wrth ei fyddin o ryw 7,000 o ddynion ar 11 Rhagfyr a'i ladd mewn sgarmes ger Cilmeri gan Steffan de Frankton, un o filwyr Edward I. Anfonwyd ei ben i'r brenin yn Llundain, a'i gludo drwy strydoedd y ddinas i'w arddangos i'r bobl cyn ei adael i bydru ar bostyn haearn ger Tŵr Llundain.

O fewn misoedd, fe gollodd Gwynedd ei holl insignia brenhinol ac fe gamfeddiannwyd Cymru am y tro. Mi fyddaf i'n gwisgo iorwg ddydd Llun, ac mi fuaswn i'n annog pob un ohonoch chi i wisgo iorwg er cof am Llywelyn ap Gruffudd ac er mwyn datgan yn glir fod ysbryd annibynnol Llywelyn ein Llyw Olaf yn dal yn fyw.

15:45
6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, ac rwy'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6596 David Melding

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i gynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud polisi yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, rydym wedi colli pob teimlad o gyffro ynglŷn â democratiaeth. Mae wedi dod yn gefndir diflas i'n bywyd bob dydd yn hytrach na grym sy'n gwneud ein ffordd o fyw yn bosibl mewn gwirionedd. Ni ddylai neb fod yn ddagreuol; mae cymdeithasau agored, democrataidd yn gallu adnewyddu'n rhyfeddol, fel y gwelwyd yn y 25 mlynedd diwethaf ar gwestiynau'n ymwneud â rhywioldeb, er enghraifft. Eto yn y meysydd gwleidyddol ac economaidd, mae pethau'n edrych yn llawer mwy diflas ac nid yw hyn ond yn tanseilio diwylliant democrataidd yn gyffredinol.

Mae angen mwy o gyfranogiad dinasyddion oherwydd ni ellir is-gontractio gwaith democratiaeth i Gynulliadau a Seneddau yn unig. Mae'r oes ddigidol yn creu galw cryf am fwy o gyfranogiad a'r dulliau technolegol i gyflawni hynny, ond rydym wedi bod yn araf i ymateb i'r galw hwn am gyfranogiad dinasyddion. Un canlyniad yw bod elitiaeth wleidyddol wedi cael ei gweld yn fwy fel dosbarth bonedd na swyddogion penodedig y bobl. Mae angen partneriaeth newydd arnom sy'n cau'r bwlch moel a welwn yn aml rhwng gwleidyddion a dinasyddion.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Un diffiniad bras o ddemocratiaeth gyfranogol fyddai un lle mae dinasyddion yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau. Ni fyddai hyn yn lleihau'r angen am sefydliadau cynrychioliadol, na Llywodraeth ganolog yn sicr—nid ydym yn anelu'n nôl tuag at Athen—ond byddai'n golygu bod cyfranogiad y cyhoedd yn llawer mwy nag etholiadau cyfnodol. Wrth arsylwi ar deimladau'r cyhoedd ar y diwrnod pleidleisio, mae'r rhan fwyaf yn cael eu taro gan y cywair dwys; nid yw'n amser carnifal. Y gronfa hon o ddiben sydd angen inni fanteisio arni: cyfranogiad a dinasyddiaeth weithredol yn adnewyddu ein sefydliadau democrataidd.

Yng Nghymru, gallem fynd ymhellach a ffurfio siambr dinasyddion yn y Cynulliad. Ni fyddai'n galw am 60 o aelodau o'r cyhoedd i wasanaethu'n amser llawn am bum mlynedd—byddai hynny'n faich ac nid yn weithred o wasanaeth dinasyddion. [Chwerthin.] Dylai gwasanaeth dinasyddion fod yn rhwymedigaeth gyffredinol y gelwir amdani o bryd i'w gilydd fel y gelwir am wasanaeth rheithgor yn awr. Gallai siambr dinasyddion fod yn gronfa o 600 neu hyd yn oed 6,000 o ddinasyddion, y gewir arnynt o bryd i'w gilydd. Byddai gorchwylion penodol sy'n eu diddori yn cael eu dynodi ar gyfer pob dinesydd a gallent ganolbwyntio ar ran benodol o weithgarwch llywodraethol ac yna, pan fydd y maes hwnnw'n cael ei drafod, byddent yn cyfarfod fel rhan o'r Cynulliad.

Gallai siambr dinasyddion arwain hefyd at ddatblygu democratiaeth ddigidol. Drwy arolygon ar-lein a mecanweithiau eraill, byddai amrywiaeth ehangach o gyfranogiad cyhoeddus yn bosibl, gan ddarparu deunydd efallai i siambr dinasyddion ei drafod a'i ddatblygu'n fwy manwl. Byddai angen i waith o'r fath fod yn dryloyw a'r prif ganlyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u cofnodi'n gywir. Gellid bwydo deddfau drafft, neu syniadau ar gyfer deddfau, i mewn i'r Cynulliad Cenedlaethol, a byddai'n dod yn sefydliad dwy siambr wedyn ar ffurf fodern iawn. Anghofiwch Dŷ'r Arglwyddi; gallem wneud rhywbeth gwirioneddol wych â dinasyddion fel ein haelodau. Wrth gwrs, ceir modelau eraill o gynulliadau dinasyddion, ond yr hyn sy'n amlwg yw'r angen am yr ymgysylltiad eang hwn os ydym i greu cwlwm democrataidd newydd rhwng y dinesydd a'r gwleidydd.

Mae angen i ddemocratiaeth dreiddio'n ddwfn hefyd a phwyso ar y cryfder sydd gennym yng ngwreiddiau cymunedau. Unwaith eto, mae'r chwyldro digidol yn cynnig cyfleoedd i rwydweithiau lleol gyfranogi, trafod a gwneud penderfyniadau. Mae cynghorau tref a chymuned mewn sefyllfa dda i ddatblygu eu rôl fel llais y gymuned. Gallai cynghorau tref mwy o faint ystyried sefydlu swydd maer etholedig. Gellid llunio'r cynghorau eu hunain o gynghorwyr a etholir yn uniongyrchol a dinasyddion a ddewiswyd ar hap, i wasanaethu am dymor fel rhan o'u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus. Byddai grymuso'r lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth hefyd yn helpu i adnewyddu cynghorau lleol yn gyffredinol. Gallai asiantaethau cyhoeddus eraill, megis Ymddiriedolaethau'r GIG, ddefnyddio'r ffynhonnell hon o gyfranogiad cyhoeddus hefyd.

Ddirprwy Lywydd, roedd democratiaeth gynrychioliadol yn ffynnu ar y cyffro o ethol arweinwyr y gymdeithas; roedd yn drawsnewid aruthrol oddi wrth Lywodraeth aristocrataidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond roedd hefyd yn gwneud pobl yn sofran am ddiwrnod yn unig ac yn cyfyngu ar y cyfleoedd i allu cyfranogi'n ddyfnach. Gallai awydd i adfer rheolaeth ddangos bod dinasyddion yn barod i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau.

Nid yw hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl eisiau dod yn wleidyddion rhan-amser, ond mae'n golygu y gallwn archwilio'r cysyniad o wasanaeth dinasyddion ar y sail bod gwasanaeth rheithgor yn sylfaen i'n system gyfreithiol. Ni ddylem orliwio'r ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â gwasanaethu. Byddai'n amrywio o amser llawn am gyfnod byr—rheithgor dinasyddion ar ddatblygiad amwynder lleol, er enghraifft—i ran-amser am gyfnod hwy—diwrnod y mis am ddwy flynedd neu fwy yng nghynulliad y dinasyddion, efallai.

Ni fyddwn yn byw mewn democratiaeth gyfranogol hyd nes y bydd ymgysylltiad dinasyddion yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau lawn cymaint â chasglu barn y cyhoedd drwy brosesau ymgynghori traddodiadol. Yng Nghymru, mae gennym gyfle i arwain y ffordd. Rydym yn mwynhau manteision democratiaeth sy'n newydd ac yn fach. Os gallwn arloesi, gellid chwyddo pŵer y traddodiad seneddol rydym wedi ei etifeddu gan rym dinasyddiaeth weithgar. Ochr yn ochr â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gallem weld cyhoeddi rhaglen gwerin i'w thrafod yn siambr dinasyddion y Cynulliad Cenedlaethol.

Ddirprwy Lywydd, nid yw democratiaeth yn sâl ac yn dila, ond mae angen ei hadnewyddu. Heddiw, y weithred fwyaf o arweinyddiaeth wleidyddol fyddai gwella egni dinasyddiaeth. Dyma ddiben fy mil.

15:50

Diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno'r syniadau hyn. Credaf fod llawer o werth ynddynt. A gytunwch fod angen gwella cyfranogiad dinasyddion yn y gwasanaeth iechyd, yn anad dim? Nid yw'r ffaith fod y gwasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim lle mae ei angen yn golygu y dylem gael pobl yn mynd at y meddyg am fod ganddynt ddolur gwddf. Mae gwir angen inni gael pobl i ddewis yn dda, fel y dywed ymgyrch y Llywodraeth. Mae angen i bobl gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain. Felly, credaf fod gofal iechyd darbodus yn crynhoi hynny ac rwy'n credu, heb ofal iechyd darbodus, y byddwn yn gweld fwyfwy na all y gwasanaeth iechyd ddiwallu anghenion mwy cymhleth dinasyddion sydd â salwch difrifol. Felly, credaf fod hyn yn rhywbeth y byddai'n ddefnyddiol mynd ar ei drywydd.

Ond hefyd roeddwn am ofyn i chi a ydych yn credu bod angen inni hefyd wneud rhywbeth i wrthdroi'r modd y cafodd cyfranogiad pleidleiswyr ei lethu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae'r ffordd y'i gwnaed yn anos i bobl gofrestru i bleidleisio yn golygu bod miloedd lawer—miliynau lawer o bobl yn wir ar draws y wlad yn y DU—heb eu cofrestru i bleidleisio. Naill ai oherwydd problemau llythrennedd neu resymau eraill, nid ydynt yn gallu deall y broses syml hon. Felly a wnewch chi ystyried cynnwys ei gwneud yn ddyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus yn eich Bil, pan fyddant yn cyflawni gwaith gyda'r dinesydd, boed ar y dreth gyngor, budd-dal tai, budd-dal plant, DVLA, neu newid trwydded, fod y gwasanaeth cyhoeddus hwnnw, yn awtomatig, yn gallu eu cofrestru i bleidleisio? Nid rhwymedigaeth i bleidleisio yw hyn, ond eu galluogi i gofrestru i bleidleisio. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a ydych yn credu y byddai hynny'n rhan o'ch Bil.

Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r cynigion deddfwriaethol hyn. Mae'r cysyniad o wasanaeth dinasyddion cenedlaethol wedi bod yn bolisi gan y Ceidwadwyr Cymreig ers talwm, ond wrth gwrs, mae'n un sy'n codi uwchlaw rhaniadau rhwng pleidiau ac mae gwahanol fodelau i'w hystyried yma fel y dywedodd David. Ond rwy'n croesawu  hyn yn arbennig, gan fod unrhyw gyfraniad tuag at syniadau ar gyfer democratiaeth gyfranogol sy'n cynnig dewis amgen yn lle refferenda yn sicr yn rhywbeth i'w groesawu.

Rwy'n cefnogi hyn oherwydd, yn y bôn, wrth wraidd hyn, rydym yn sôn am gydnabyddiaeth a hyd yn oed dathliad o'r unigolyn a'r cyfunol, ac os caf siarad â fy nghyd-Aelodau sosialaidd yma, yr ymdeimlad o gymuned, galwad ar gyfalaf cymdeithasol heb ei gyffwrdd i gyfrannu at gydlyniad cymdeithasol, gwella gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd y mae David wedi crybwyll, ac yn bendant, adeiladu'r ddinasyddiaeth hyderus, ragweithiol a gwleidyddol honno.

Cofiaf un o fy siomedigaethau cynnar pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog, pan ofynnais iddo a fyddai'n barod i ystyried rhyw fath o wasanaeth dinasyddion cenedlaethol ar yr adeg honno, a dywedodd nad oedd Cymru angen gwasanaeth o'r fath gan ei bod eisoes yn hyrwyddo gwirfoddoli i bobl iau. Credaf ei fod yn siarad, ar y pryd, am GwirVol, nad yw bellach yn bodoli, yn anffodus, cynllun a gyrhaeddodd rai pobl ifanc, ac nid oes gennyf amheuaeth ei fod yn werthfawr o'u rhan hwy a'u datblygiad fel unigolion, ond nid oedd yn cynnig llawer ar lefel strategol gyda phwrpas cymdeithasol clir ar lefel y boblogaeth.

Gyda chyd-Aelodau, ymwelais ag Israel ychydig fisoedd yn ôl, ac yno, wrth gwrs, mae gwasanaeth milwrol cenedlaethol yn orfodol i rai nad ydynt yn ddinasyddion Arabaidd a rhai categorïau eraill sydd wedi'u heithrio, ac mae'n para rhwng dwy a thair blynedd. Yn amlwg, nid wyf yn dadlau dros efelychu hwnnw, ond cefais fy nharo gan rai o'r effeithiau parhaol roedd y profiad hwnnw'n eu cael ar bron bob person Iddewig o Israel y siaradasom â hwy, ni waeth pa mor bell yn ôl y cawsant y profiad hwnnw. Y cyntaf oedd yr ymdeimlad o undod a chyfrifoldeb tuag at ei gilydd, ni waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol. Wrth gwrs, rwy'n derbyn bod y bygythiad i ddiogelwch sy'n bodoli yno drwy'r amser yn sicr o ganolbwyntio meddyliau i ryw raddau, ond er hynny, roedd yn glir ein bod yn cyfarfod â phobl a oedd wedi dysgu bod yn hyderus ynglŷn â gwneud penderfyniadau, gweithredu ar y penderfyniadau hynny, ac ymddiried yn ei gilydd i wneud yr un peth—ac nid er eu mwyn eu hunain yn unig, ond dros achos cyffredin. Ystyrid bod camgymeriadau'n anochel, fel roedd ymadfer a dechrau eto pan oedd pobl yn gwneud camgymeriadau.

Yr ail beth a'm trawodd oedd sut roedd hyn i'w weld yn eu hagwedd tuag at yr economi a'i thwf: pobl o bob oed a chefndir yn bod yn eofn, yn gadarnhaol iawn, yn mentro'n ofalus, heb lwyddo bob amser ond yn gyfforddus iawn wrth gydweithredu â gilydd, hyd yn oed mewn amgylchedd cystadleuol. A dywedodd rhai wrthym mai eu profiad o wasanaeth ochr yn ochr ag eraill a oedd wedi rhoi'r ymagwedd hon tuag at gynnydd iddynt—cynnydd a welent fel rhywbeth a ddarparai fanteision a ymestynnai y tu hwnt iddynt hwy eu hunain. [Torri ar draws.]

O, ie? Tair munud sydd gennyf, ie? O, mae'n wir ddrwg gennyf am hynny.

I bob pwrpas, y cyfan roeddwn am ei ddweud yw os ydym o ddifrif ynghylch cydgynhyrchu ac yn arbennig, yr orfodaeth a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yna mae gwir raid inni wneud rhywbeth yn awr i annog y boblogaeth yn gyffredinol i fod yn ddigon hyderus i fod yn gyfranogwyr yn y Gymru gydgynhyrchiol honno.

15:55

Diolch i David Melding am y cynnig deddfwriaethol gan Aelod heddiw. Mae'r syniadau hyn ynglŷn â chynyddu cyfranogiad dinasyddion yn ennyn fy chwilfrydedd. Wrth gwrs, mae'n nod canmoladwy, ond nid wyf yn siŵr pa mor hawdd y caiff ei gyflawni'n ymarferol. Yn fyr, nid wyf yn sicr fod y cynllun hwn, er ei fod yn arloesol, yn un ymarferol mewn gwirionedd.

Y gwahaniaeth rhyngom ni yn y Siambr hon a'r cyhoedd yn gyffredinol yw ein bod ni, credwch neu beidio, yn wleidyddion proffesiynol. Gwn fod hynny'n ymddangos yn anodd ei gredu ar adegau, pan fydd pawb ohonom yn gweiddi ar draws y Siambr ar ein gilydd, ond ni yw'r gweithwyr proffesiynol mewn gwirionedd. Hynny yw, cawn ein talu i fod yma y rhan fwyaf o wythnosau. Rydym yn aelodau o bwyllgorau, rydym yn gwrando ar dystiolaeth, rydym wedi talu staff i'n helpu i ymchwilio i bethau. Nawr, nid yw hynny'n dweud bod gennym unrhyw allu cynhenid i wneud gwleidyddiaeth yn well na'r cyhoedd yn gyffredinol, ond rydym yn gwneud y gwaith hwn wythnos ar ôl wythnos, yn rhan o strwythur a fydd yn caniatáu rhywfaint o arbenigedd i ni—rwy'n pwysleisio, 'rhywfaint'.

Y broblem gydag ennyn diddordeb y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd yw nad oes gan lawer o bobl ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae gan eraill ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth hyd at bwynt, ond mewn cyfrannau cymharol fach yn unig. Efallai nad yw'r syniad o gymryd rhan mewn dadleuon a drefnwyd, mewn gwaith craffu gan bwyllgor ac yn y blaen, mor ddeniadol â hynny, hyd yn oed i'r rhan o'r etholaeth sy'n cymryd rhywfaint o ran ac yn dilyn gwleidyddiaeth i ryw raddau. Wrth gwrs, gallwn roi cynnig arni, mae'r rhain yn syniadau diddorol, ond rwy'n wfftio braidd at yr elfen o orfodaeth, y syniad o bobl yn cael eu galw i wneud gwasanaeth dinasyddion, ac yn meddwl tybed a allai'r posibilrwydd hwnnw droi llawer o bobl yn erbyn gwleidyddiaeth yn llwyr, hyd yn oed y bobl sy'n cymryd rhywfaint o ran mewn gwleidyddiaeth yn awr.

Efallai bod angen inni edrych ar rai o'r ystadegau sydd ar gael i nodi brwdfrydedd y cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â'r Cynulliad. Nifer y rhai a bleidleisiodd yn etholiadau'r Cynulliad: tua 45 y cant. Mae hwnnw'n ystadegyn sy'n gyfarwydd ac ar gael yn rhwydd. Ceir ffigurau eraill y gallem eu harchwilio. Er enghraifft, beth yw'r ffigurau gwylio cyfartalog ar gyfer darllediadau BBC Wales o'r cwestiynau i'r Prif Weinidog? Beth yw'r ffigurau perthnasol ar gyfer darllediadau Senedd.tv o fusnes y Siambr a phwyllgorau'r Cynulliad? Credaf fod y darllediadau hyn yn wasanaeth cyhoeddus gwerthfawr, ond mae arnaf ofn fod lefelau defnydd ymhlith y cyhoedd yng Nghymru yn debygol o fod yn eithaf isel. Pan edrychaf ar yr oriel yma ac yn yr ystafelloedd pwyllgora, y rhan fwyaf o'r amser maent bron yn wag.

Mae rhai pobl yn cymryd rhan o bryd i'w gilydd, fel arfer pan fyddant yn ystyried bod eu hardaloedd lleol o dan ryw fath o fygythiad. Ar yr adegau hyn, mae ymgyrchoedd yn dechrau a deisebau'n cael eu cychwyn, ac mae hyn oll yn dda; rydym i gyd o blaid ymgyrchoedd lleol yn UKIP. Yn wir, ers peth amser, ein polisi yw caniatáu refferenda lleol sy'n rhwymo'n gyfreithiol ar faterion cynllunio o bwys sy'n effeithio ar ardal benodol. Dyma lle y gellid meithrin ymgysylltiad gwleidyddol yn effeithiol, drwy ddangos y bydd deddfwyr yn ystyried dymuniadau trigolion lleol. Ond mae'r syniad o ddinasyddion yn ffurfio Siambr ar wahân mewn Cynulliad ehangach—rhaid i mi gyfaddef, rwy'n teimlo bod y syniad yn mynd braidd yn rhy bell ac mae arnaf ofn, ymhell o fod yn ennyn brwdfrydedd mwy o bobl, gallai fethu yn ei nod mewn gwirionedd a throi mwy o bobl yn erbyn gwleidyddiaeth.

Felly, er y credaf fod y rhain yn syniadau diddorol iawn, rwy'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn yn y ffordd y symudwn ymlaen i geisio eu cymhwyso mewn ffordd ymarferol. Felly, credaf fod angen inni droedio'n ofalus yma.

16:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid cynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o lunio polisi yng Nghymru, ac rydym yn sicr yn rhannu'r dyhead a nodwyd gan David Melding yn ei gynnig cyffrous i gau'r bwlch rhwng gwleidyddion a'r cyhoedd er mwyn ennyn diddordeb pobl Cymru mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt ac i'n cadw wedi ein gwreiddio yn y cymunedau a wasanaethwn. Nid wyf yn hollol siŵr fy mod yn rhannu'r besimistiaeth a fynegodd am rai o'r agweddau ar hynny, ond serch hynny, rwy'n deall y teimlad.

Byddai'r cynnig a wnaed gan David Melding i gael gwasanaeth dinasyddion, gan gynnwys ail Siambr i'r Cynulliad hwn, yn sicr yn agwedd ddiddorol ar hyn, ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol fod yna nifer o fodelau o wasanaeth dinasyddion, gan gynnwys modelau ymgysylltu ar gyfer yr holl bobl ifanc, fel adnodd dysgu ac fel profiad gwaith ar gyfer cyflawni amrywiaeth eang o dasgau defnyddiol yn gymdeithasol. Credaf fod y Sefydliad Materion Cymreig wedi nodi un model o'r fath ychydig flynyddoedd yn ôl, ac roeddwn yn sicr â diddordeb mewn mynd ar drywydd hynny yn fy rôl flaenorol.

Hefyd, ceir nifer o enghreifftiau o gynulliadau dinasyddion a sefydlwyd yn bennaf gan seneddau ledled y byd: er enghraifft, yng Ngweriniaeth Iwerddon, Canada, yr Iseldiroedd a Gwlad Pwyl. Maent oll wedi ymgynghori ar faterion penodol iawn yn hytrach na gweithredu fel ail siambrau deddfwrfeydd yn gyffredinol. Wrth gwrs, mater i Gomisiwn y Cynulliad ac nid Llywodraeth Cymru yw gwasanaeth dinasyddion neu ail siambr i'r ddeddfwrfa hon. Ond mae David Melding yn sicr wedi nodi llawer o bethau i feddwl amdanynt, yn enwedig i mi, ar bosibiliadau digidol rhai o'r agweddau hynny.

Ond rwy'n credu y carwn awgrymu, pe bai diddordeb ymysg yr Aelodau mewn sefydlu corff o'r fath, y byddai nifer o faterion i'w hystyried. Cafodd rhai o'r materion hynny eu crybwyll eisoes, ond yn y fath fodd fel y byddai angen sicrhau y byddai cyfranogwyr yn cynrychioli'r cyhoedd ehangach. Os yw pobl yn camu ymlaen yn wirfoddol, mae hynny'n annhebygol o fod yn wir; byddent yn hunanddewis. A fyddem yn chwilio am arbenigwyr mewn meysydd penodol? Ar y llaw arall, a fyddai'n dderbyniol i wneud cyfranogiad ar ryw lefel yn orfodol? Sut y byddem yn gorfodi hynny? Yn wir, sut y byddem yn talu amdano, gan fod nifer fawr iawn o bobl, yn enwedig pobl hunangyflogedig neu bobl sy'n rhedeg busnesau bach, eisoes dan anfantais ddifrifol os cânt eu galw i wneud gwasanaeth rheithgor? Yn wir, gwn fod David Melding yn ymwybodol o rai o'r anawsterau o gynnull rheithgorau ar gyfer achosion hir a chymhleth o dwyll, ac ati, a'r modd y bu'n rhaid i hynny addasu dros amser.

A pha faterion y byddent yn cael eu gwahodd i'w hystyried? Pwy fyddai'n penderfynu pa faterion y caent eu gwahodd i'w hystyried, gan gynnwys a ddylid canolbwyntio ar ychydig bynciau neu'n wir, a ddylid edrych drwy gyfrwng dwy siambr ar benderfyniadau, er enghraifft ar ddeddfwriaeth, y mae'r tŷ yn ei gwneud, yn y ffordd y mae Tŷ’r Arglwyddi'n ei wneud, er enghraifft? A fyddai angen hyfforddi pobl angen ar gyfer eu rôl? A fyddai angen cymorth parhaus arnynt ar gyfer eu trafodaethau? Sut y byddai'r trafodaethau'n bwydo'n ôl i drafodaethau'r Cynulliad ei hun? A fyddai eu gwaith yn ymwneud â gwaith senedd ieuenctid Cymru, er enghraifft? A nifer o faterion eraill—a byddai modd mynd i'r afael â phob un ohonynt, wrth gwrs, ond byddai angen meddwl amdanynt a'u costio ac yn y blaen.

O ran polisi, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i barhau i ddatblygu ei dulliau ei hun ar gyfer ennyn diddordeb pobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Unwaith eto, fel y nododd David Melding a Suzy Davies a nifer o bobl eraill, mae yna nifer enfawr o ffyrdd o gynnwys pobl mewn penderfyniadau. Nid oes un ffordd sy'n addas ar gyfer popeth, ac mae dulliau newydd yn cael eu datblygu drwy'r amser. Er enghraifft, cefais y fraint o fod yn rhan o grŵp gweithredu a chynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd, yn seiliedig ar adborth helaeth y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd de Cymru, ac mae cyllideb 2018-19 yn cynnwys cynllun peilot cyllideb gyfranogol ar gyfer y grŵp. Mae wedi bod yn hynod o ddiddorol gweld yr ymgysylltu a fu ar draws y cymunedau hynny—beth sydd wedi gweithio, beth sydd heb weithio, beth sydd wedi ennyn brwdfrydedd pobl a beth sydd heb ennyn eu brwdfrydedd efallai. Mae'n rhaid dweud nad y pethau y credem y byddent yn gwneud hynny a wnaeth hynny bob tro. Mae rhai o'r ymatebion a ddaeth i law wedi bod yn galonogol iawn, ac mae rhai wedi bod fel arall yn llwyr, ond maent oll wedi bod yn unigryw a diddorol mewn modd nad oeddwn wedi ei ddisgwyl yn bersonol.

Rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i ddatblygu ffyrdd gwell o gynnwys pobl yn ein democratiaeth gynrychioliadol—yn bendant. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried cynnwys dinasyddion yn y broses o ddatblygu a chyflawni ein hamcanion fel rhan o'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac yn darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cyrff cyhoeddus ar draws Cymru, gan ddarparu ar gyfer cofnodi ac archwilio'n rheolaidd. Tybed a ellid rhoi system o'r fath ar waith pe baem yn edrych ar gyfranogiad mewn democratiaeth.

Rydym yn awyddus iawn i gynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y rhan sy'n ymwneud â llunio polisi o'r hyn a wnawn yma yn y ddeddfwrfa hon. Rydym yn croesawu syniadau ar y ffordd orau o fynd ati i hyrwyddo mwy o gyfranogiad a chraffu adeiladol ar y cynnydd a wnawn wrth wneud hynny. Credaf y bydd gan Gomisiwn y Cynulliad lawer i'w ystyried yng nghynnig deddfwriaethol yr Aelod. Diolch.

16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am gymryd rhan a chodi cwestiynau mor ystyriol a chymryd cymaint o ran yn y ddadl hon? A gaf fi ddechrau gyda Jenny? Mewn gwirionedd, fe sonioch fod y GIG angen gofal iechyd darbodus ac i'r cleifion hefyd fod yn ddigon cyfrifol i ofalu amdanynt eu hunain cyn belled ag y bo modd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fodel cyffredinol, wyddoch chi, ar gyfer yr hyn sydd angen inni ei wneud gyda democratiaeth. Ni all democratiaeth ffynnu os nad oes cyfranogiad gweithgar gan ddinasyddion. Mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ei ddweud yw nad oes digon ar hyn o bryd iddo allu ffynnu'n llawn yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid yw ar ei liniau, ond mae angen inni gael y math o uchelgais a oedd gan ein hynafiaid mewn gwirionedd pan oeddent yn gwneud y newidiadau rhyfeddol hyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae'r anhawster i gofrestru pleidleiswyr yn fy mhryderu'n fawr. Credaf fod angen inni gael y safonau uchaf wrth graffu ar unrhyw system gofrestru, ac os oes problemau gyda'r trefniadau presennol, credaf fod angen ymchwilio iddynt yn llawn. Mae arnom angen system sy'n ddiogel, ond cyn gynted ag y gallwn sefydlu bod person yn ddinesydd a chanddo hawl i bleidleisio, dylai fod cyn lleied â phosibl o ffwdan wedyn ynglŷn â'u cofrestru, a dylai fod llawer o ddulliau o wneud hynny. A phleidleisio dros y penwythnos ac mewn archfarchnadoedd lleol—efallai y bydd hyn oll yn bosibl.

Dywedodd Suzy y byddai llawer o'r hyn y siaradais amdano yn ddewis arall yn lle refferenda. Nid wyf yn gwahardd refferenda yn gyfan gwbl o'r model hwn, ond rwy'n cytuno mai'r hyn rydym ei eisiau yw cael pobl i drafod. Beth yw'r heriau? Sut rydych yn eu trin ac yn blaenoriaethu arnynt? Mae hyn yn bwysig iawn. O ran gwasanaeth dinasyddion, mae'n fwy na thebyg y byddwn yn gweld yr angen am ddiwygio radical, rhywbeth tebyg i incwm cyffredinol efallai hyd yn oed, gyda mwy o rannu gwaith hefyd yn y dyfodol. Un peth y gallem ei wneud yn y model hwnnw yw pwysleisio'r ymrwymiad sydd gennym tuag at wasanaeth dinasyddion. Gallai honno fod yn ffordd o agor y ffordd i rai o'r materion hyn.

Soniodd Gareth am ymarferoldeb. Wel, wyddoch chi, caiff ei ddefnyddio yn y system gyfreithiol. Mae'n gwbl ganolog iddi. Yn amlwg, byddai'n rhaid cefnogi pobl. Byddai ein staff ein hunain yn cymryd rhan yn hynny, y cyfleusterau ymchwil, er enghraifft, y timau clercio—byddai'n rhan o'r model. A fyddai diddordeb gan bobl? Wel, os edrychwch o gwmpas y byd lle mae wedi llwyddo, a chyfeiriodd y Gweinidog at hyn, yng Ngwlad yr Iâ, yn Iwerddon, rwy'n credu ei fod wedi bod yn drawsnewidiol wrth drafod rhai o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol. Ac edrychwch ar y democratiaethau newydd sydd wedi defnyddio hyn mewn llu o ffyrdd, gan gynnwys comisiynau gwirionedd—maent wedi mynd at wraidd rhai o'r pethau hyn o ddifrif drwy ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar y dinesydd.

Felly, rwy'n optimistaidd iawn. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn agored i'r syniadau hyn ac rwy'n credu bod hynny wedi'i adlewyrchu yn ei chyfraniad. Mae angen inni gau'r bwlch rhwng dinasyddion a gwleidyddion. Mae yna bethau hanfodol sydd angen i sefydliadau eu gwneud, ac sydd angen i wleidyddion amser llawn eu gwneud, ond gallwn wella'r posibiliadau digidol a gweld cyfle go iawn i gael math newydd o ddemocratiaeth, democratiaeth gyfranogol, a gyflawnir ar sail lawer llawnach a mwy cyfartal. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:10
7. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar'

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7, sef dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar', a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—David Rowlands.

Cynnig NDM6604 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ddeiseb 'P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' a gasglodd 8,791 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau? Dyma'r ail ddadl i gael ei chynnal ers i'r Pwyllgor Deisebau gytuno i ystyried cyfeirio unrhyw ddeiseb sy'n casglu mwy na 5,000 o lofnodion ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r deisebwyr, a arweinir gan Victoria Griffiths, am wrthwynebu datblygu carchar mawr newydd, archgarchar fel y'i gelwir, ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ym Maglan, Port Talbot.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon, a'u llongyfarch ar gynnal ymgyrch angerddol a thrawiadol. Cofiaf ei fod yn achlysur bywiog, yn bendant, pan ddaeth y deisebwyr i'r Senedd i gyflwyno'r ddeiseb i'r pwyllgor yn ôl ym mis Hydref. Gwn fod y deisebwyr hefyd wedi cydweithio'n agos â'u Haelodau Cynulliad lleol ar y mater hwn, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o'r Aelodau am gyfrannu yn ystod y ddadl y prynhawn yma.

Casglodd y ddeiseb sydd o'n blaenau 8,791 o lofnodion gan ddefnyddio cyfuniad o wefan y Cynulliad a deiseb gan bapur newydd lleol. Mae hyn a nifer y rhai a ddaeth i'r Senedd yn dangos bod cryn dipyn o wrthwynebiad lleol i'r posibilrwydd o gael carchar ym Mhort Talbot, ac rwy'n siŵr nad yw hynny'n newyddion i unrhyw un yma heddiw. Mae'r deisebwyr wedi dweud wrth y pwyllgor fod ganddynt nifer o bryderon ynghylch argymhelliad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i adeiladu carchar ar y safle, ac felly, cyn i mi amlinellu'r rhain, efallai ei bod yn werth rhoi ychydig o gefndir y cynigion a'u statws ar hyn o bryd.

Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod pedwar safle posibl ar gyfer carchardai newydd yng Nghymru a Lloegr wedi'u nodi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cyn hyn, deallwn fod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr o 20 safle posibl yng Nghymru i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi datgan ei bod wedi cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o 20 safle, a bod Port Talbot wedi'i ddewis fel y safle posibl gorau ar gyfer adeiladu carchar categori C newydd yng Nghymru. O ganlyniad, Port Talbot oedd yr unig safle yng Nghymru a ddewiswyd ar gyfer bwrw ymlaen i wneud cais cynllunio. Yn yr un cyhoeddiad ym mis Mawrth 2017, nododd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ar y pryd y byddai ystyriaethau ynglŷn â gwerth am arian a fforddiadwyedd yn rhan o benderfyniad terfynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â carchar newydd ar y safle.

Mewn atebion a roddwyd yn San Steffan ar y pwnc hwn ym mis Medi, nododd y Gweinidog carchardai fod Port Talbot wedi'i ddewis am nifer o resymau. Mae'r rhain yn cynnwys capasiti seilwaith lleol i gynnal y carchar a'r potensial ar gyfer manteision i'r gymuned leol. Mae'n amlwg o'r ddeiseb fod rhannau mawr o'r gymuned yn anghytuno â'r ddau ddatganiad. Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi datgan y byddai gan y carchar categori C arfaethedig gapasiti i ddal 1,600 o garcharorion pan fydd yn gwbl weithredol, er y deallaf na chadarnhawyd hyn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi datgan nad oes digon o leoedd carchar ar gael ar hyn o bryd ac yn benodol, nad oes digon o leoedd carchar categori C yn ne Cymru.

Yn eu hymateb i ohebiaeth gychwynnol y pwyllgor ynglŷn â'r ddeiseb, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn cais gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac wedi darparu rhestr o 20 safle posibl mewn ymateb i hynny. Hefyd, ailadroddodd y Llywodraeth mai mater i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw'r penderfyniad i fwrw ymlaen ai peidio ac y byddai unrhyw geisiadau cynllunio'n cael eu hystyried yn lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, fel y dywedais o'r blaen, mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru—sy'n berchen ar y tir dan sylw—i beidio â gwerthu i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder at ddibenion datblygu. Yn ystod trafodaeth flaenorol ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn ym mis Medi, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd na chafwyd unrhyw gytundeb â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwerthu'r tir, ac nad oes unrhyw drafodaethau ynglŷn â'i werth wedi digwydd.

O gofio nad yw cyfiawnder yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ac mai mater i Lywodraeth y DU fydd penderfynu a ddylid bwrw ymlaen i ddatblygu carchar ai peidio, mater gwerthu'r tir fydd yn cael prif sylw'r Pwyllgor Deisebau wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog carchardai i roi gwybod iddo am y ddeiseb hon a'r ddadl heddiw. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau lleol am amlinellu barn y gymuned leol yn fwy manwl yn ystod eu cyfraniadau, felly rwyf am gyfyngu fy sylwadau pellach i'r pryderon a dynnwyd i sylw'r Pwyllgor Deisebau yn uniongyrchol.

Mae'r deisebwyr wedi amlinellu nifer o bryderon, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â chapasiti Port Talbot a'r ardaloedd cyfagos i ddarparu ar gyfer carchar. Mae'r rhain yn cynnwys argaeledd gwasanaethau iechyd a chapasiti ffyrdd lleol yn ystod y gwaith o adeiladu'r carchar a phan ddaw'n weithredol. Mae'r deisebwyr hefyd wedi cwestiynu'r effaith y gallai ei chael ar lefelau cyflogaeth lleol a'r rhagolygon i bobl leol sy'n chwilio am swyddi. Deillia hyn o'r posibilrwydd y bydd y carchar yn gweithredu fel canolfan adsefydlu, gyda'r carcharorion o bosibl yn cael eu rhyddhau am gyfnodau cyfyngedig yn y dydd i fanteisio ar leoliadau hyfforddi ar gyfer profiad gwaith, ac mae'r deisebwyr yn ofni y bydd yn mynd â chyfleoedd oddi wrth bobl leol. Maent hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn ag argaeledd tai lleol, a allai fod o dan bwysau cynyddol os yw carcharorion yn dewis aros yn yr ardal ar ôl eu rhyddhau. Yn olaf, mae'r deisebwyr wedi nodi bod y tir a glustnodwyd yn ardal fenter ac yn ddarostyngedig, mae'n debyg, i gyfamod ar ei ddefnydd. Dyfynnwyd atodlenni i'r cyfamod sy'n datgan y dylid defnyddio'r tir at ddiben parc diwydiannol ac nid at ddibenion eraill.

Oherwydd cydnabyddiaeth ei bod yn bwysig bwrw ymlaen â'r ddadl hon mewn modd amserol, nid yw'r pwyllgor wedi cael amser i ymchwilio i unrhyw un o'r pryderon neu'r honiadau hyn yn fanwl ar hyn o bryd. Byddwn yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, rwy'n gobeithio y gallwn ystyried ymateb y deisebwyr i'r pwyntiau a godwyd heddiw a'r atebion a roddir. O ganlyniad, mae'r pwyllgor yn cyflwyno'r ddeiseb hon i'r Cynulliad heb ddod i gasgliadau na gwneud argymhellion mewn unrhyw gyfeiriad penodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, teimlwn fod hon yn ddadl bwysig i'w chael, ac rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i bawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb, ac atebion i'r pryderon sydd ganddynt.

16:15

Cyn symud ymlaen at sylwedd y drafodaeth hon, roeddwn am roi canmoliaeth enfawr i grŵp ymgyrchu yn fy etholaeth, sydd wedi ei arwain gan y gymuned yn llwyr, am y gwaith y maent wedi'i wneud hyd yn hyn ar ddod â'r ddeiseb hon i'r Siambr. Gwn y bydd eu hymroddiad yn parhau y tu hwnt i heddiw i wneud yn siŵr fod gan Bort Talbot ffordd dda ymlaen, ac mae rhai o'r aelodau yn yr oriel y prynhawn yma.

Mae'r ddeiseb sy'n cael ei thrafod y prynhawn yma'n galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod cynigion y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ryddhau'r tir ar gyfer datblygu'r archgarchar. Cafodd hynny ei amlygu fel y prif ffocws gan David Rowlands, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, ond a gaf innau hefyd dynnu sylw at y ffaith fod y gwasanaethau cyhoeddus yr effeithir arnynt hefyd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, felly mae yna ail fater y gallech fod yn awyddus i'w ystyried mewn gwirionedd?

Cafodd nifer o'r dadleuon a leisir y prynhawn yma eu crybwyll yn ystod dadl Plaid Cymru ar 20 Medi, ac nid wyf am ymddiheuro am ailadrodd unrhyw un o'r rheini, gan eu bod yn greiddiol i'r rhesymau dros wrthod y cynnig hwn. Fodd bynnag, ers y dyddiad hwnnw, datgelwyd tystiolaeth bellach sy'n cefnogi ein galwadau yn y ddeiseb hon. Ceir dwy agwedd sydd angen ymdrin â hwy yn y ddadl hon: (1) priodoldeb y safle ar gyfer archgarchar, a (2) polisi cosbi Llywodraeth y DU a'r rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae yn ei gyflawni.

O ran y pwynt cyntaf, ceir nifer o resymau pam y mae'r safle hwn yn amhriodol. Yn gyntaf, mae mewn parth llifogydd C1, fel y crybwyllwyd eisoes, ac roedd yn barth llifogydd C2 pan nodwyd y safle gan Lywodraeth Cymru a'i roi i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel un lle ar y rhestr, er bod y meini prawf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud mewn gwirionedd, ar gyfer safleoedd addas, fod angen tir mewn cyflwr da heb bosibilrwydd mawr o lifogydd. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ofynnais i chi ynglŷn â hyn o'r blaen, a gofynnais pam ei fod wedi'i gynnwys yn y meini prawf. Cefais yr ateb nad mater i Lywodraeth Cymru yw pennu hynny ond mater i'r datblygwyr. Mae'n ddrwg gennyf, ond esgeuluso cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hynny. Ni ddylai'r safle fod wedi'i gynnwys mewn unrhyw restr a roddodd Llywodraeth Cymru, a hyd yn oed yn awr, dylai gael ei dynnu'n ôl ar y sail honno, yn enwedig gan nad yw'r amodau ar y safle wedi newid.

Yn ail, mae'r safle yn yr ardal fenter—ardal fenter Glannau Port Talbot—fel y crybwyllwyd eisoes. Dylid ei defnyddio ar gyfer twf economaidd busnesau presennol a denu mewnfuddsoddiad a fyddai'n dwyn manteision economaidd pellach i'r gymuned. Gwn fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn honni y bydd carchar yn sicrhau manteision economaidd, ond mae ymchwil wedi dangos bod honiadau y bydd datblygu archgarchar yn creu manteision economaidd—gan gynnwys creu swyddi—yn methu ystyried costau cymdeithasol ehangach carcharu nifer fawr o garcharorion, ac nad yw niferoedd swyddi ynddynt eu hunain yn fesur cywir o dwf economaidd.

Hefyd, nid yw'r gwaith y nodwyd y byddai'n ei greu o reidrwydd yn mynd i fod o fudd i'r gymuned leol sy'n ffinio â'r ardal—mae hynny'n sicr yn wir yn yr achos hwn, oherwydd gwyddys bod Abertawe a Chaerdydd yn wynebu cau. Os byddant yn cau, bydd swyddi'r rheini'n trosglwyddo'n uniongyrchol i'r safle newydd hwn a holl waith y gadwyn gyflenwi sy'n bwydo i mewn iddo. Dyna'r realiti; dyna yw barn Llywodraeth y DU am garchardai Fictoraidd. Yn ogystal, mae ymchwil yn dangos y gallai cymunedau sy'n dod i gael eu hadnabod fel trefi carchar wynebu dirywiad economaidd ar fuddsoddiad. Rydym yn profi hynny, gydag un busnes yn paratoi i adael y dref os rhoddir caniatâd i adeiladu'r carchar. Felly, nid yw'r honiad y bydd y carchar yn gyfrwng i sicrhau twf economaidd ym Mhort Talbot yn wir o gwbl.

Yn drydydd, ceir mater y cyfamod ar y tir, a maen prawf arall a bennwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder pan oeddent yn gofyn am safleoedd oedd na ddylai fod ynghlwm wrth gyfamod. Efallai y bydd gan eraill fwy o amser i archwilio'r mater hwn, ond rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ein bod eisoes wedi edrych arno gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Prif Weinidog, a gallaf eich sicrhau nad yw'n mynd i ddiflannu.

Hoffwn dreulio ychydig mwy o amser yn awr ar yr ail ystyriaeth, oherwydd rhaid inni roi sylw o'r fath i unrhyw gynnig newydd ynghylch archgarchar—gallu'r polisi cosbi i leihau aildroseddu, gwella adsefydlu, a'r effaith ar y gwasanaethau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r uchelgais hwnnw. Unwaith eto, dengys nifer o adroddiadau ac ymchwil fod creu archgarchar yn methu cyflawni'r uchelgais hwnnw. Yn wir, mae'n gwneud y gwrthwyneb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae adeiladu bywydau di-drosedd yn ymwneud â chymdeithas fwy cyfartal. Mae a wnelo â thlodi, gofal iechyd, tai ac addysg. Mae a wnelo â charchardai sy'n ceisio meithrin newid hirdymor ac nid cyfadeilad carchar diwydiannol, sy'n tybio bod newid arwyddocaol yn dod o lenwi adeilad i'r ymylon â bodau dynol, fel pe baent yn boteli gwin a fydd yn aeddfedu dros amser pan gânt eu cau mewn tywyllwch ac oerfel. Gadewch i ni beidio â chefnogi agenda a ysgogir yn ariannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn hytrach, gadewch i ni ddarparu un i fynd i'r afael ag anghenion y gymdeithas.

Ysgrifennydd y Cabinet, ag ystyried y rôl sydd gan Lywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau i garcharorion, a yw'n bryd bellach i bolisi cosbi gael ei ddatganoli i Gymru? Efallai y dylech fod yn hyrwyddo'r agenda honno. Cytunaf â'r sylwadau a wnaed yn nadl Plaid Cymru—rwyf wedi newid fy meddwl, rwyf wedi dod i gytuno â'ch safbwynt chi—y dylid datganoli polisi cosbi o bosibl bellach. Ond pe bai'n cael ei ddatganoli, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried archgarchardai'n fodel da, heb sôn am adeiladu un ynghanol cymuned ar dystiolaeth mor wan? Mawr obeithiaf na fyddai'n gwneud hynny.

Lywydd, fe orffennaf gyda'r canlynol oherwydd gwelaf fod fy amser wedi dod i ben—mae gennyf lawer mwy i'w ddweud, ond rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben. Y prynhawn yma, bydd gofyn i ni bleidleisio i nodi'r ddeiseb, ond rwyf eisiau mwy na hynny mewn gwirionedd. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru wrando ar y bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb a gweithredu ar eu rhan. Dywedais ym mis Medi ei bod hi'n amlwg nad oes unrhyw gyfiawnder i Bort Talbot yn dod oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a gelwais ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfiawnder hwnnw drwy osod ein heconomi fel blaenoriaeth ac nid penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i arbed arian. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n eithaf syml: pan ddaw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ofyn am gael datblygu ar y tir hwnnw, dywedwch 'na'. Gwrandewch ar y deisebwyr: gall Port Talbot wneud yn well ac mae'n haeddu cymaint mwy.

16:20

Fel y gwyddoch, mae'r safle arfaethedig ym Maglan yn fy rhanbarth i, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y camau y bydd y ddwy Lywodraeth yn eu cymryd ar hyn nesaf. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad i'r ddadl ychydig wythnosau yn ôl, mae gennyf lai o amheuon ynghylch y cysyniad o'r safleoedd carchar mawr hyn am y rheswm a roddais y pryd hwnnw, sef, yn y bôn, eu cyfraddau adsefydlu gwell a'u cyfleusterau gwell ar gyfer carcharorion a'u hymwelwyr a staff o gymharu â'r carchardai hŷn. Ni fydd gennyf amser i drafod yn faith â chi ar hynny, ond credaf fod modd dadlau yn erbyn y datganiad a wnaethoch yn gynharach.

Rwyf eisoes wedi ymweld ag Abertawe a'r Parc ond ers y ddadl ddiwethaf rwyf wedi manteisio ar y cyfle i ymweld â charchar Berwyn yn Wrecsam i fy helpu i ddatblygu fy safbwyntiau ychydig ar hyn—pa un a yw'r math o garchar modern yr hyn y tybiwn ei fod ac a fyddai safle Baglan yn addas. Er fy mod yn derbyn yn llwyr y bydd hyn yn annhebygol o newid eu barn, rwy'n falch iawn fod tri o'r rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau wedi cytuno i ddod gyda mi, cyn gynted ag y gallaf gytuno ar ddyddiad, i ymweld â charchar Berwyn er mwyn darganfod ychydig mwy drostynt eu hunain am y math o garchardai rydym yn sôn amdanynt yma.

Pan fyddwch yn gwneud ymweliadau fel hyn fel Aelod Cynulliad, rydych yn disgwyl gweld y sglein gorau neu waethaf ar yr hyn rydych yn ei weld, yn dibynnu pam eich bod yno. Rwy'n meddwl bod hyn yn rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei gydnabod o bosibl. Ac os ydych yn ddoeth, rydych yn cynnwys hynny'n ffactor yn eich argraffiadau. Ond er hynny, hoffwn ddiolch i'r rhai a gynhaliodd yr ymweliad am drafodaeth agored a gonest iawn pan oeddwn yno, er nad oes gan y cynlluniau ar gyfer de Cymru ddim i'w wneud â charchar Berwyn, a gobeithiaf y bydd y natur agored a ddangoswyd ganddynt yn cael ei ddangos tuag at unrhyw un sydd â diddordeb yn hyn.

Denodd y cwestiynau ynghylch beichiau posibl ar wasanaethau lleol a gweithio mewn partneriaeth atebion credadwy a oedd yn cyd-fynd ag atebion a roddodd Llywodraeth Cymru yn y Siambr yn flaenorol—

16:25

Un bach cyflym. Rwy'n gwerthfawrogi eich ymdrechion i edrych ar yr hyn sy'n digwydd yng ngharchar Berwyn, ond mae hefyd yn deg dweud nad yw carchar Berwyn yn llawn. Felly, nid yw wedi profi peth o'r pwysau gwirioneddol sydd i ddod, yn enwedig pan fo gennym sefyllfa ar draws y DU yn yr ystâd carchardai lle y ceir problemau enfawr mewn carchardai, yn enwedig pan fyddant yn llawn. Fel y cyfryw, nid wyf yn credu bod carchar Berwyn wedi cyrraedd y sefyllfa eto'n hollol i roi manylion da i ni.

Nid yw'n llawn, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ond mae llawer o'r staff yno wedi cael profiad o weithio yn y math hwn o carchar yn flaenorol ac roeddent yn fy ateb ar sail y lleoedd roeddent wedi bod ynddynt yn flaenorol yn ogystal â'u profiad yng ngharchar Berwyn.

Fel rwy'n dweud, gofynnais y cwestiynau hynny ynglŷn â'r beichiau ar wasanaethau lleol, gan eu bod yn cyd-fynd â'r hyn a glywsom yn y ddadl gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n derbyn bod modd dadlau yn erbyn hynny hefyd. Ond cefais weld llety'r carcharorion ac ystod gyfan o gyfleusterau. Nid af i fanylu ynghylch yr ystod gyfan ohonynt. Roeddent yn drawiadol, fel y gallech ddisgwyl. Gwelais y ganolfan iechyd, a oedd yn arbennig o drawiadol, a gâi ei staffio a'i chefnogi gan y gwasanaeth carchardai eu hunain, nid gan y GIG, sy'n bwydo i mewn i'r cwestiynau ynglŷn â sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus gael eu heffeithio gan hyn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud mai'r rhyngweithio rhwng y staff, sy'n cynnwys llawer o staff benywaidd gyda llaw, oedd y peth mwyaf trawiadol am yr ymweliad. Mae'n ddiwylliant hollol wahanol, yn seiliedig ar urddas a pharch—ar y berthynas rhwng bodau dynol ac nid y math o strwythur negyddol rhwng y sawl a garcharwyd a'r sawl sy'n ei garcharu rydym yn ei gysylltu â charchardai o bosibl. Ac nid wyf eisiau inni ddiystyru hyn yn y cwestiwn penodol iawn ynghylch Baglan a pha un a yw'n lleoliad addas.

Un o'r cysylltiadau pwysicaf a drafodwyd gennym oedd y berthynas â thrigolion lleol, oherwydd roedd gwrthwynebiad cryf i'r safle yn Wrecsam ar y pryd, a gallwch weld pam. Nid yw'r ardal yr un fath â Baglan, ond ceir tebygrwydd yn yr ystyr ei bod ar gyrion ystâd ddiwydiannol, y drws nesaf i fusnesau bach a ger ystâd o dai. O ran yr effaith weledol, nid oes modd dianc rhag hyn: carchar gweithredol ydyw, nid y Taj Mahal. Ond cafwyd rhywfaint o lwyddiant wrth weithio gyda'r trigolion yn yr ystâd dai yn annibynnol ar gynghorwyr lleol i'w helpu i ddeall sut y mae'r carchar yn gweithio a thawelu ofnau ynghylch gwasanaethau cyhoeddus, beth sy'n digwydd ar ôl i bobl gael eu rhyddhau a'r math hwnnw o beth. Credaf efallai mai am hynny y mae'r deisebwyr yn sôn wrth gyfeirio at 'broblemau sy'n gysylltiedig'. Rwy'n credu bod y ddeiseb yn cyfeirio at hynny. Mae'r rheolwyr yno'n sylweddoli y bydd yn cymryd peth amser i ddwyn perswâd ar bawb ynglŷn â'u hymrwymiad i fod yn gymdogion da ac i gyfrannu yn y gymuned.

Cefais dystiolaeth fod rhywfaint o fusnesau bach wedi datblygu yn sgil y carchar, ond ni chefais amser i ymchwilio i hynny, felly nid wyf yn bwriadu cyflwyno hynny fel pwynt perthnasol heddiw. Nid wyf yn disgwyl y bydd y nifer trawiadol a lofnododd y ddeiseb hon yn newid eu barn. Rydych yn iawn, David, mae'n ymgyrch drawiadol iawn. Ond drwy rannu eu barn yn uniongyrchol â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'n gwneud synnwyr i fod yn barod am safbwyntiau eraill y bydd yn rhaid i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eu hystyried.

Rwyf braidd yn siomedig fod y sioeau teithiol roeddem yn eu disgwyl wedi eu gohirio tan y flwyddyn newydd—mae hynny newydd gael ei gadarnhau i mi—ond mae'n rhoi amser i bawb sydd â diddordeb alw am dystiolaeth newydd a'i phrofi. Credaf y gallai Prif Weinidog Cymru fod wedi dweud wrthym ddoe pwy yw buddiolwyr y cyfamod ar y tir. Bydd gwybod hynny'n helpu pawb sydd â diddordeb fel y gallant ffurfio barn ar ba mor debygol y rhoddir camau gorfodi ar waith mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri'r cyfamod, ac rwy'n falch fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymateb i'r llythyr gan Lywodraeth Cymru y cyfeiriwyd ato ddoe, er nad wyf wedi'i weld, wrth gwrs.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, bydd y dadleuon allweddol yn erbyn datblygu yn y maes cynllunio, ac rwy'n gofyn hyn: a yw'n debygol iawn y bydd y tir hwn yn newid dwylo at y diben hwnnw cyn y ceir sicrwydd ynghylch caniatâd cynllunio? Fel y gwyddom, ni wnaed cais, ac fel y gwyddom, mae dadleuon perthnasol gan y deisebwyr ar yr ochr hon—mae David Rees wedi sôn am rai o'r rheini—a chânt eu hystyried yn drylwyr gan yr awdurdod lleol. Ni fyddant yn meiddio peidio â'u hystyried yn drylwyr, pe bai'n cyrraedd cyn belled â hynny. Diolch.

Mae cryfder y teimladau ynghylch y carchar arfaethedig yn glir, ac mae'n wych gweld bod rhai o'r ymgyrchwyr yma heddiw. Mae'r ffaith ein bod yn cael dadl arall ar y mater hwn mor fuan ar ôl dadl Plaid Cymru yn tystio i'r llwyddiant hwnnw. Mae hefyd yn brawf o'r grym ewyllys a'r penderfyniad sy'n bodoli yn y gymuned a thu hwnt. Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy roi teyrnged i waith yr ymgyrch leol i atal carchar Castell-nedd Port Talbot. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl nad ydynt erioed wedi ymwneud â gwleidyddiaeth neu ymgyrchoedd cymunedol o'r blaen yn cymryd rhan yn y broses o wella eu cymuned.

Mae yna lawer o blacardiau ar draws Port Talbot, a miloedd o daflenni wedi'u dosbarthu ac mae gwirfoddolwyr wedi bod yn curo ar ddrysau ac yn codi stondinau ar y stryd. Byddai rhai pobl yn credu bod etholiad ar y gorwel, oherwydd lefel y gweithgarwch. Mae'n amlwg hefyd fod y gwirfoddolwyr yn fwy na pharod i gynyddu'r gweithgaredd hwnnw os yw'r cynnig hwn yn mynd yn ei flaen i ymgynghoriad statudol, ac rwyf innau hefyd. Nid ydynt eisiau'r carchar hwn ac mae yna lawer iawn o bobl, fel rydych wedi gweld o'r ddeiseb hon, nad ydynt eisiau i'r carchar hwn fynd rhagddo ym Mhort Talbot, ac nid oes arnom ei angen yma yng Nghymru ychwaith, am y rhesymau rydym wedi'u rhoi o'r blaen.

Er gwaethaf cryfder y teimlad, gwelwyd anwadalu amlwg yn safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn—ein Llywodraeth ni, sy'n gyfrifol am wneud bywydau pobl y wlad hon yn well. Mae'n amlwg fod y ddeiseb hon wedi ei geirio i alw ar Lywodraeth Cymru i newid trywydd. Yn gyntaf, dywedodd Llywodraeth Cymru, pan gyhoeddwyd y cynnig hwn gyntaf, eu bod wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddewis safleoedd ac y byddent yn parhau i weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Roedd hi'n ymddangos bod croeso cadarnhaol i foderniaeth y carchar newydd a dadleuon heb eu profi ynglŷn ag adsefydlu. Yna, newidiodd pethau a honnwyd mai penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn unig ydoedd ac nad oedd gan Lywodraeth Cymru fawr iawn i'w wneud gyda'r argymhelliad hwn, er gwaethaf tystiolaeth fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â busnesau lleol yng nghyffiniau'r safle, o bosibl cyn y cyhoeddiad ffurfiol ym mis Mawrth.

Y safbwynt diweddaraf, ar ôl cael tystiolaeth yn ymwneud â chytundeb y cyfamod tir ar y safle arfaethedig, yw bod ganddynt bŵer i atal neu o leiaf ohirio'r safle arfaethedig rhag digwydd. Mae Llywodraeth Cymru bellach mewn sefyllfa lle mae'n dweud ei bod yn aros am fwy o wybodaeth a gwarantau amwys ynghylch y safle cyn y gwneir unrhyw benderfyniad. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw na wnaed unrhyw benderfyniad i werthu'r tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Mae yna anghysondeb a gwrthodiad gan Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb, yn fy marn i, rhywbeth sydd wedi dod yn nodwedd o'r hyn a welsom mewn perthynas â'r mater penodol hwn. Felly, gadewch i mi ei gwneud yn glir: mae gan y Llywodraeth hon yng Nghymru bŵer i atal y carchar. Mae ganddynt bŵer gweinidogol i atal neu ohirio gwerthiant y tir hwn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nid yn unig bod yna gyfamod, ond hefyd, ceir y ffaith bod David Rees wedi dweud yn ddiweddar iawn fod y safle hwn yn ardal lle y ceir perygl mawr o lifogydd. Nid wyf yn meddwl bod atebion y Llywodraeth ar y mater hwnnw wedi bod yn ddigon i'r bobl leol hyd yn hyn.

Mae'r cyngor cyfreithiol a roddwyd i mi yn dangos ei bod yn gyfreithlon i Lywodraeth Cymru wrthod gwerthu'r tir a gorfodi'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w brynu drwy orchymyn prynu gorfodol. Rwyf fi ac eraill wedi tynnu sylw Gweinidogion at hyn dro ar ôl tro, ond yn ofer. Mae'r ffaith nad ydynt yn cydnabod y pŵer sydd ganddynt yn awgrymu i mi eu bod eisiau i'r archgarchar hwn fynd rhagddo. Ond y tu hwnt i ystyriaethau cyfreithiol, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud eu dyletswydd ac yn dadlau dros Gymru? Deallaf fod rhai yma, yn enwedig y Ceidwadwyr ac UKIP, yn gyffredinol o blaid rhagor o garchardai. Ond dylai safbwynt blaengar wrthwynebu carcharu niferoedd cynyddol o bobl. Dylai fod gwrthwynebiad i garcharu ac adsefydlu yn rhad. Ceir digon o dystiolaeth o fannau eraill yn y byd nad yw carchardai mawr yn amgylcheddau addas ar gyfer adsefydlu priodol. A wyddoch chi beth? Heb sôn am edrych ar ymchwil hyd yn oed—. Wrth siarad â charcharorion yn awr a siarad â chyn-garcharorion, maent yn dweud wrthyf ei bod fel system ffatri, maent yn dweud wrthyf nad ydynt wedi eu hadsefydlu pan fyddant yn dod allan o'r system honno, a'u bod yn aildroseddu a bod troseddu'n digwydd yn y carchar—troseddu nad oeddent yn rhan ohono cyn iddynt gyrraedd y carchar; daethant yn rhan ohono pan gawsant eu carcharu. Felly, credaf fod angen i ni wynebu realiti ynglŷn â hynny hefyd.

Mae adsefydlu yn y carchar yn gweithio orau ar raddfa lai. Mae'r un peth yn wir mewn ysgolion—nid yw'n gysyniad newydd. Os oes gennych ddosbarthiadau llai, fe gewch fwy o sylw gan yr athro. Os oes gennych ddosbarth llai yn y carchar i allu cael eich adsefydlu gan y person hwnnw, yn gyffredinol fe fyddwch yn fwy llwyddiannus. Pam rydym yn edrych ar y carchardai enfawr hyn yma yng Nghymru pan nad oes angen carchardai o'r maint hwn arnom? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud y bydd gennym ormod o gapasiti os caiff y carchar hwn ei greu ym Mhort Talbot pan fo gennym garchar newydd yng ngogledd Cymru ar gyfer y carcharorion o Gymru sydd mewn carchardai yn Lloegr am na ellid rhoi lle iddynt yng Nghymru cyn hyn. Pam nad ydym yn ailwladoli'r carcharorion hynny i Gymru, lle y dylent fod, yn hytrach na'u cadw mewn carchardai mewn mannau eraill yn y DU?

Mae fy amser eisoes wedi dod i ben. Mae gennyf lawer mwy i'w ddweud, ac yn anffodus, ni chaf amser i'w ddweud. Ond credaf ei bod yn dyst i'r ymgyrch hon a'r ardal leol ein bod eisiau swyddi hyfyw ym Mhort Talbot. Nid ydym am gael swyddi sydd—rywsut y dylem dderbyn unrhyw beth er mwyn cael swyddi. Credaf fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg uchelgais drwy gredu y dylem dderbyn yn ddigwestiwn yr hyn a roddir i ni. Siaradwch â phobl Port Talbot, siaradwch â hwy ynglŷn â pha swyddi y dymunant, yn hytrach na'i fod yn cael ei wthio arnom heb i ni gael penderfyniad ar rywbeth mor bwysig â charchar. Nid ydym am gael carchar newydd yn yr ardal hon, a gobeithio y bydd yr ymgyrchwyr yn llwyddiannus ac y byddant yn ymuno â'r gwleidyddion sydd ar eu hochr hwy yn rhan o'r ymgyrch hon. Diolch yn fawr iawn.

16:35

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar fater pwysig sy'n wynebu fy rhanbarth. Rwy'n byw ym Mhort Talbot, a rhaid i mi ddweud ar y dechrau nad wyf, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu sefydlu carchar newydd ym Mhort Talbot—mewn egwyddor. Er gwaethaf protestiadau llawer o bobl sy'n gwrthwynebu'r carchar newydd, mae angen carchar newydd ar Gymru yn bendant, ond mae'n rhaid i'w leoliad fod yn gywir, ac os oes unrhyw agwedd sy'n gwneud Baglan yn lleoliad anghywir, ac anaddas, megis y mater llifogydd y siaradodd Nigel sy'n gynghorydd Plaid Cymru â mi amdano heb fod yn hir iawn yn ôl, yna, yn amlwg, mae'r safle hwnnw'n anaddas.

Gwta bythefnos yn ôl, rhybuddiodd elusen iechyd meddwl Hafal fod gorlenwi yng ngharchar Abertawe yn effeithio ar ddiogelwch ac iechyd meddwl carcharorion. Pan adeiladwyd y carchar Fictoraidd—carchar Fictoraidd—fe'i cynlluniwyd i ddal oddeutu 240 o garcharorion; ar hyn o bryd mae'n dal ddwywaith hynny. Carchar Abertawe yw'r trydydd carchar mwyaf gorlawn yn y DU. Ac eithrio'r carchar newydd yng ngogledd Cymru, mae pob un o'n carchardai'n orlawn. Mae Caerdydd yn gweithredu ar gapasiti o 150 y cant, fel y mae carchar Brynbuga. Mae carchar Parc yn gweithredu ar ychydig dros y capasiti.

Ar ôl gweithio am flynyddoedd lawer yng ngharchar Parc, gallaf ddweud wrthych fod carchardai gorlawn yn gwneud pethau'n anodd i garcharorion a staff fel ei gilydd. Nid yw carcharorion mewn carchardai modern yn cael eu cloi yn y tywyllwch a'u hanghofio; cânt eu hadsefydlu. Os oes unrhyw un am siarad â mi am fy wyth mlynedd o brofiad, byddwn yn fwy na bodlon dweud wrthynt.

Yn y blynyddoedd diwethaf, o ganlyniad i orlenwi, mae lefelau hunan-niwed ymhlith carcharorion wedi saethu i fyny, fel y mae salwch ac absenoldeb ymhlith y rhan fwyaf o swyddogion carchar. Bu cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar staff carchar. Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer y digwyddiadau o hunan-niwed wedi dyblu bron i oddeutu 38,000 y flwyddyn. Dros yr un cyfnod, mae ymosodiadau ar staff wedi cynyddu dros 32 y cant. Y llynedd, cafwyd oddeutu 6,500 o ymosodiadau ar staff, ac mewn 761 ohonynt, bu'n rhaid i'r  swyddog carchar fynd i'r ysbyty.

Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad, a gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd ac rwy'n derbyn yn llwyr pan fo carchardai'n orlawn, fod angen inni sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond a ydych yn cytuno, felly, y byddai'n well gwario'r £1.3 biliwn y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei neilltuo ar gyfer pedwar archgarchar newydd ar wella'r system gyfiawnder mewn gwirionedd er mwyn sicrhau bod y bobl sydd angen bod yn y carchar yn y carchar, yn hytrach na'r holl bobl sydd yn y carchar ond nad oes angen iddynt fod yno, a chael y system iawn felly, oherwydd mae'r system yn methu? Mae'r system mewn anhrefn.

Felly, a ydych yn bychanu trosedd heb feddwl am y dioddefwr felly, David? Oherwydd yr hyn rydych yn ei ddweud yw bod troseddu'n ddibwys, neu fod rhai troseddau'n ddibwys. Nid yw hynny'n wir pan fo'n cynnwys dioddefwr—

Wel, rydych newydd ei ddweud.

Rhaid i ni fynd i'r afael â gorlenwi, ac yn anffodus, mae hynny'n golygu adeiladu rhagor o garchardai. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru bum carchar, ac eto caiff nifer fawr o garcharorion o Gymru eu cadw mewn carchardai yn Lloegr. Mae rhai o wrthwynebwyr y carchar yn honni bod Cymru yn dod yn y Fae Botany newydd, yn dod yn domen sbwriel ar gyfer carcharorion o Loegr. Nonsens yw hyn. Mae bron i 2,000 o garcharorion o Gymru'n cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr, ac eto caiff 700 o garcharorion o Loegr eu cadw yng ngharchardai Cymru.

Nid oes gennym garchar i fenywod yng Nghymru nac unrhyw garchar categori A. Mae'n amlwg fod angen carchar newydd. Mae gan Gymru 4,747 o garcharorion, ac eto nid oes gan y pum carchar yng Nghymru gapasiti gweithredol i ddal mwy na 3,700 o garcharorion.

Rhaid i ni adeiladu carchar, ond mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn y lleoliad cywir. Rwy'n credu y bydd fy rhanbarth yn elwa o'r carchar newydd. Yn ddiweddar, daeth Castell-nedd Port Talbot ar frig y rhestr o ardaloedd gyda'r symudedd cymdeithasol gwaethaf yng Nghymru, ac un o'r gwaethaf yn y DU mewn perthynas â thlodi. Mae taer angen mewnfuddsoddwyr ar y gymuned leol, a bydd y carchar yn creu cyfleoedd cyflogaeth mawr eu hangen. Rwy'n gwrthwynebu'r ffaith bod y cyfleoedd cyflogaeth hyn yn cael eu bychanu a'u cyhuddo o beidio â bod yn swyddi i bob pwrpas, nid yn unig yn y cyfnod adeiladu, ond hefyd yn ystod ei weithrediad, ac er gwaethaf hyn, mae rhai gwleidyddion wedi bod yn ysgogi gwrthwynebiad i'r cynlluniau ac yn chwarae ar ofnau pobl.

Nid yw'r ddadl ynghylch diogelwch cymunedol yn dal dŵr. Bydd y carchar yn un categori isel, nad yw'n dal troseddwyr difrifol a pheryglus, a llofruddwyr; bydd yn dal carcharorion categori C. Mewn cyferbyniad, mae gennym garchardai ynghanol dinasoedd yn Abertawe a Chaerdydd sy'n dal carcharorion categori B, categori uwch, ac ni fu unrhyw ddigwyddiadau diogelwch y cyhoedd yn yr un o'r carchardai hyn, nac yng ngharchar Parc, ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr. Nid yw carchardai Parc, Abertawe na Chaerdydd wedi bod yn dreth ar adnoddau lleol ychwaith.

Ac ynglŷn â honiad y deisebydd fod dros 8,000 o lofnodion yn dangos bod y rhan fwyaf o'r dref yn erbyn y carchar, mae Port Talbot yn gartref i dros 37,000 o bobl. Os oedd pob un o'r llofnodion hyn o'r dref honno, byddai'n llai na chwarter y boblogaeth, a does bosibl fod y llofnodion hyn i gyd o'r dref honno. Pe bai mwyafrif y trigolion yn gwrthwynebu'r carchar hwn, a phe na bawn yn gallu eu hargyhoeddi ynglŷn â'r manteision y gallai eu sicrhau, yna, fel eu cynrychiolydd, buaswn yn gwrthwynebu adeiladu'r carchar ym Mhort Talbot, ond fel y mae hi, nid yw'r rhan fwyaf o bobl wedi rhannu eu barn, ac rwy'n credu felly y dylai'r adran gynllunio benderfynu ynglŷn â hyn, a chan ein bod ar gam cynnar o'r cynnig a'r broses, ni allaf gefnogi'r deisebwyr ar hyn o bryd.

16:40

Nid wyf yn meddwl bod angen archgarchar newydd arnom, fel sydd gennym ar ffurf carchar Berwyn—yn sicr nid cyn i ni weld sut y mae carchar Berwyn yn perfformio o ran ei allu i leihau troseddu parhaus. Ar hyn o bryd, mae'n edrych yn ofnadwy: dros 2,000 o bobl mewn tri bloc, ac unedau o 88 o ddynion gyda'i gilydd. Nid dyma'r math o—. Barics ydyw ac ni allaf weld sut y mae hynny'n mynd i wneud unrhyw beth—

Roeddwn am ofyn a ydych wedi ei weld, oherwydd rwyf fi wedi'i weld, ac ni fyddwn yn ei ddisgrifio fel barics fy hun.

Rwy'n cyfaddef yn llwyr nad wyf wedi bod yng ngharchar Berwyn, ond mae'n llawer rhy fuan i ni wybod sut y mae mynd i berfformio, gan nad agorodd tan ddechrau'r flwyddyn hon. Yn sicr nid wyf yn meddwl y dylem lamu tuag at archgarchar arall. Mae gennym record warthus o ran troseddu parhaus ac ar hyn o bryd rydym yn rhoi pobl dan glo er mwyn eu gwneud yn droseddwyr mwy llwyddiannus, yn enwedig y rhai ar ddedfryd fer, er gwaethaf ymdrechion gorau carchardai unigol ac asiantaethau eraill sy'n ymdrechu i newid hynny. Ond nid yw hyn yn ymwneud ag ymosod ar bobl yn y system, ac nid yw'n ymwneud â gwadu'r ffaith fod angen cyfiawnder ar ddioddefwyr a bod angen i bobl dreulio amser yng ngharchar. Ond ni allwn symud tuag at system yr Unol Daleithiau, lle maent yn gwario mwy o arian ar gadw pobl dan glo nag y maent yn ei wario ar addysg, felly nid dyma'r ateb, mae'n ymddangos i mi. Ac nid wyf yn deall, felly, pam y dylai Cymru fod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol doredig, aneffeithiol sydd gennym ar hyn o bryd. Rwy'n deall fod manylion y safle hwn yn dangos ei fod i fynd dros ddarn o dir a ddynodwyd gan Mark Barry yn rhan o fetro rhanbarthol Abertawe, ac mae hynny i'w weld yn gwbl hurt, os yw hwnnw'n rhan strategol ohono.

Y ffaith amdani yw bod hanner yr oedolion sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar yn aildroseddu, ac mae 65 y cant o'r rheini—dwy ran o dair—yn aildroseddu os ydynt wedi cael dedfryd o lai na blwyddyn. Felly, mae'n hollol ddibwrpas anfon pobl i'r carchar am ddedfryd o lai na blwyddyn, oherwydd mae angen i ni gael ffyrdd eraill o sicrhau eu bod yn cyflawni eu dedfryd. Mae troseddu parhaus yn llawer llai ymhlith pobl sydd wedi cael rhybuddiadau. Mae'r ffordd y mae cyfiawnder troseddol wedi ei ddominyddu'n llwyr gan y rhagfarnau a bedlerir gan y Daily Mail, sydd ers degawdau wedi bod yn lledaenu eu bustl yn erbyn unrhyw un sy'n ceisio disgrifio system wahanol—. Nid yw eu bustl wedi'i gyfyngu'n unig i droseddwyr—mae'n cynnwys plant. Cofiaf yn iawn un ymgyrch hynod o annymunol i atal parti Nadolig i blant yng ngharchar Holloway, a'r cyfan oherwydd i'r ffaith gael ei rhyddhau fod y swyddogion carchar wedi trefnu'r parti ar gyfer y plant hyn, sef y bobl fwyaf ddifreintiedig mae'n amlwg, sy'n colli eu rhieni pan fyddant yn mynd i'r carchar.

Rwy'n meddwl y gellid gwario cost gwely o £40,000 y flwyddyn yn well. Mae angen inni edrych ar systemau gwell o fewn Ewrop. Er enghraifft, yn Norwy, mae'r system gosbi—oes, mae pobl yn mynd i'r carchar, ond rhoddir ymddiriedaeth a chyfrifoldeb iddynt cyn gynted ag y gallant ddangos eu bod yn benderfynol o fyw bywyd heb droseddu ar ôl eu rhyddhau. Maent yn cael ymweliadau priodasol wythnosol, sy'n bwysig iawn, oherwydd mae'n galluogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd, sy'n rhan allweddol o atal pobl rhag mynd yn ôl i fod yn droseddwyr. Os ydych yn trin pobl fel anifeiliaid, maent yn debygol o ymddwyn fel anifeiliaid. Yn hytrach, yn Norwy, maent yn byw mewn podiau—byngalos ar gyfer pedwar i chwech oedolyn. Cânt brynu eu bwyd eu hunain ar gyfer brecwast a swper; un pryd yn unig sy'n cael ei baratoi ar eu cyfer. Ac maent yn gweithio er mwyn ennill digon i fyw arno.

Cytunaf fod carchardai Abertawe a Chaerdydd yn cyrraedd diwedd eu hoes, ond byddai realeiddio'r ased hwn yn rhoi'r adnoddau inni adeiladu math gwahanol o garchar sy'n cadw'r cysylltiadau â'r gymuned leol. Gallaf ddweud wrthych nad oes arian gan y bobl sydd ag anwyliaid yng ngharchar Caerdydd ar hyn o bryd i fynd i Bort Talbot. Rydym angen rhywle i ddal pobl sy'n agos at Gaerdydd—rhywle o fewn pellter metro i Gaerdydd. Rwy'n gobeithio na chawn yr archgarchar newydd hwn yn ne Cymru. Nid wyf yn teimlo bod ei angen, a chredaf y dylem wneud rhywbeth hollol wahanol yng Nghymru.

16:45

A gaf fi groesawu'r ddeiseb hon, 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar', a'r 8,791 a'i llofnododd? Mae'n gyd-ddigwyddiad hapus o ran yr amserlennu yn y lle hwn fod y ddadl a'i rhagflaenodd yn ymwneud â chyfranogiad dinasyddion, dadl a gefnogwyd yn gampus gan fy hen gyfaill David Melding, ac roedd pawb ohonom yn ysgwyd pen yn ddoeth a phob un ohonom yn cytuno'n llwyr ynglŷn â lle mor hapus ac iach a fyddai gennym pe bai'r holl ddinasyddion yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad. Felly dyma ni, cam 1: gadewch i ni weld a ydym yn gwerthfawrogi cyfraniad dinasyddion Port Talbot, gawn ni? Oherwydd rydym wedi ailadrodd y dadleuon yn erbyn adeiladu archgarchar ym Maglan yma yn y Cynulliad sawl gwaith eleni mewn cwestiynau, a chawsom ddadl gan Blaid Cymru, fel y soniwyd eisoes, ym mis Medi. Collwyd y bleidlais. Roedd cynnig Plaid Cymru yn gofyn i ni bleidleisio i atal yr archgarchar. Naw yn unig o Aelodau'r Cynulliad yma a bleidleisiodd dros atal yr archgarchar.

Nawr, mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf, 'Peidiwch â chael carchar'. Nid oes neb wedi dweud wrthyf, 'Archgarchar ym Maglan? Am syniad gwych.' Nid oes neb wedi dweud hynny wrthyf. Mae yna alwadau cyhoeddus yn lleol am y morlyn llanw. Mae yna alwadau cyhoeddus o hyd am drydaneiddio'r brif reilffordd i Abertawe. Ond archgarchar ym Maglan—ni ddaeth unrhyw alwadau cyhoeddus amdano. Rwy'n gobeithio nad ydym yn cael cynnig y carchar hwn yn hytrach na morlyn llanw, neu yn hytrach na thrydaneiddio, ond gadewch inni beidio â dal ein gwynt.

Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y tir yn ardal fenter Port Talbot, fel y soniodd David Rees, Bethan ac eraill eisoes. Dyna'r tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer yr archgarchar hwn. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrthod gwerthu'r tir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder? Mor syml â hynny.

Rydym yn gwybod nad yw carchardai, llysoedd, cyfiawnder a'r gwasanaeth prawf wedi eu datganoli i ni yng Nghymru. Dyna pam y gall Llundain ddod yma a dweud, 'Fe gawn archgarchar ym Maglan', oherwydd nid oedd gennym syniad fod hyn yn digwydd. Nid yw wedi'i ddatganoli i ni; pam y dylai ein cynnwys ni? Oherwydd nid yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli.

Fodd bynnag, fel y dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet, wrthym yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb yn y Pwyllgor  Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wythnos neu ddwy yn ôl, nid yw'r arian a ddaw gyda charchardai yn digolledu'r gost o ddarparu gwasanaethau iechyd lleol, gwasanaethau cymdeithasol, darpariaeth iechyd meddwl, darpariaeth llywodraeth leol a'r gweddill i gyd. Ni chaiff y ddarpariaeth gyfredol ar gyfer carchardai ei hariannu'n ddigonol gan y Swyddfa Gartref o ran y gwasanaethau sydd wedi'u datganoli y mae'n rhaid eu cael i gynnal y sefyllfa mewn perthynas â charcharorion yn aildroseddu, fel y soniodd David Rees yn gynharach. Ni chaiff y gwasanaethau ychwanegol hynny eu hariannu'n ddigonol, a daw hynny o enau Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ei hun.

Felly, rydym wedi cael cyflwyniad campus ar bŵer cyfranogiad dinasyddion—[Torri ar draws.] O, dyma'r ymgorfforiad o hynny'n union.

16:50

Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mater penodol iawn, a ddylai fod carchar mewn man penodol. Yr hyn y credaf y gallai cynulliad dinasyddion ei wneud—ac ar hyn o bryd byddai'n rhaid iddo fod yn un ar gyfer Cymru a Lloegr, ond efallai y cawn bolisi cosbi wedi'i ddatganoli yma ar ryw adeg—buaswn yn gofyn iddynt, 'A ddylai fod gennym batrwm carcharu sy'n nes at y model Ewropeaidd neu ein patrwm presennol lle rydym yn carcharu rhwng dwy a thair gwaith y nifer o bobl sydd angen eu carcharu er diogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch rhag lladrad difrifol?' Dyna'r math o gwestiwn. Oherwydd os caiff hwnnw ei ateb mewn ffordd benodol, ni fyddai angen archgarchar arnoch yn y lle cyntaf.

Yn hollol, ac yn syndod yn dod o'r meinciau rydych yn eistedd arnynt, ond rwy'n cymeradwyo'r safbwynt hwnnw, David, a hefyd yn cymeradwyo eich cyflwyniad campus, fel y dywedais ynghynt, ar bwysigrwydd hanfodol cyfranogiad dinasyddion. Ymwneud â hynny y mae. Mae yna ddeiseb, mae yma ddeisebwyr, ac mae'n ymwneud â phwysigrwydd cyfranogiad dinasyddion mewn democratiaeth. Os yw hynny'n golygu unrhyw beth, os yw deiseb yn golygu unrhyw beth, does bosibl na chaiff Llafur gyfle i sefyll dros y slogan y maent yn ei defnyddio'n aml sef 'Sefyll dros bobl Cymru'. Wel, dyma eich cyfle: gwrthodwch werthu'r tir. Ataliwch unrhyw ddatblygiad archgarchar ym Mhort Talbot. Diolch yn fawr.

Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi yn gwrando'n ofalus ar y ddadl a gynhaliwyd y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am yr amser y maent wedi'i roi i gymryd rhan yn y ddadl, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Pwyllgor Deisebau a'r deisebwyr, sydd wedi rhoi amser i ddwyn y mater hwn i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r cynnig ger ein bron heddiw yn gofyn i ni nodi'r ddeiseb hon. Fe wnawn hynny, fe nodwn y ddeiseb, ond wrth wneud hynny, byddwn hefyd yn nodi'r ddadl y mae wedi ei hennyn, ac yn nodi'r dadleuon a gyflwynwyd. Fe nodwn y drafodaeth a gawsom heddiw, a'r drafodaeth barhaus nid yn unig ynglŷn â'r carchar penodol hwn, ond y polisi sy'n ceisio ei danategu.

Ac wrth wneud hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch yn bersonol hefyd i David Rees, sydd wedi rhoi amser i fy mriffio ac i siarad â mi ac i fy nghyfarfod i amlinellu'r pethau sy'n sail i'r mater hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i David am y ffordd y mae wedi ymdrin â'r mater hwn a'r ffordd y mae wedi hysbysu'r Llywodraeth ynglŷn â safbwyntiau pobl Port Talbot.

Yn gyntaf oll, Ddirprwy Lywydd, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, a gaf fi wneud dau beth? Yn gyntaf oll, amlinellu'r broses sydd wedi ein harwain i'r fan lle'r ydym heddiw, ond amlinellu wedyn hefyd y dull o weithredu yr hoffwn ei fabwysiadu yn y dyfodol.

Cysylltodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder â Llywodraeth Cymru fel rhan o ymarfer ar draws Cymru a Lloegr i nodi safleoedd y gellid eu datblygu ar gyfer carchar. Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd â busnesau a datblygwyr yn y ffordd hon, ac yn yr achos hwn darparwyd rhestr gennym o 20 o safleoedd. Yn amlwg, nid oeddem yn rhan o'r broses benderfynu a ddewisodd Baglan ym Mhort Talbot fel safle a ffafrir, gan mai proses dan arweiniad Llywodraeth y DU oedd hon—

Diolch i'r Gweinidog, ond fel y dywedais yn fy nghyfraniad, pan nad oes meini prawf wedi'u pennu gan ddatblygwr, does bosibl nad yw'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fodloni'r meini prawf y mae'r datblygwr eu heisiau. Ac yn yr achos hwn, ni wnaeth hynny. Credaf fod angen rhoi sylw i hynny.

Deallaf y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, a gwnaeth y pwynt hwnnw i mi yn ein cyfarfodydd preifat. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei ailadrodd y prynhawn yma. Yn amlwg, nid yw'r mesurau a roddwyd ar waith a'r dadleuon a'r trafodaethau sydd wedi digwydd yn rhagdybio y bydd y cais cynllunio yn llwyddiannus, nac ychwaith yn rhagdybio y caiff y tir ei werthu. Nid oes unrhyw gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma yn rhagdybio ynglŷn â'r modd y cwblheir y broses hon.

Ysgrifennodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ataf yn hwyr brynhawn ddoe ynglŷn â chynnig Baglan a'r ystâd garchardai ehangach yng Nghymru. Maent wedi cadarnhau y byddai'r cyfleuster arfaethedig yn dal carcharorion categori C. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi disgrifio carchardai Caerdydd ac Abertawe fel carchardai derbyn ac maent hwy, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn rhagweld mai ychydig iawn o orgyffwrdd swyddogaethol a fydd gyda chynnig Baglan.

Byddaf yn ystyried ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder ymhellach, ond credaf fod gennym gyfrifoldeb i gynnal deialog agored ac eang â Gweinidogion y DU ynglŷn â'r agenda rheoli troseddwyr ehangach ac yn benodol, y cynnig presennol ar gyfer Baglan. Ac rwy'n addo, Ddirprwy Lywydd, y byddaf yn symud y ddeialog honno yn ei blaen.

Felly, gadewch i mi droi at y dull o weithredu y buaswn yn dymuno ei fabwysiadu fel Ysgrifennydd y Cabinet yn y maes hwn. Awgrymodd David Rees, yn ei gyfraniad yn y ddadl hon, y dylid datganoli polisi cosbi i Gymru. Buaswn yn cytuno ag ef. Buaswn yn cytuno ag ef fod arnom angen polisi cyfiawnder yng Nghymru sy'n bolisi cyfannol, ac nid polisi ar gyfer carcharu pobl yn unig yn y ffordd a amlinellwyd gan Jenny Rathbone. Rwy'n gobeithio y byddem yn gweld polisi cyfiawnder fel rhan o'n polisi cyffredinol ar gyfer cymunedau diogel, er mwyn sicrhau bod pobl sydd wedi troseddu yn adsefydlu ac yn gallu byw eu bywydau fel rhan o'n cymunedau ar draws Cymru gyfan.

Hoffwn weld ystâd carchardai sy'n fodern, yn weithredol, yn gallu rhoi diogelwch a sicrwydd i garcharorion ac i'r gymuned ehangach; polisi carchardai nad yw'n seiliedig ar ddymuniad syml i gosbi a dial, ond polisi sy'n seiliedig ar gymunedau diogel; a dull cyfannol o gyfuno gwasanaethau megis addysg, sgiliau a gofal iechyd, sydd eisoes wedi'u datganoli.

Ar hyn o bryd, nid yw'r setliad datganoli presennol yn gwasanaethu Cymru'n dda. Mae'n golygu bod y modd y gweinyddwn y polisi cyfiawnder yn wael o gymharu â Lloegr a'r Alban. Nid yw'n cyflawni'r polisi sy'n diwallu anghenion Cymru. Gobeithiaf y bydd y comisiwn cyfiawnder a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn dechrau'r gwaith o greu ymagwedd strwythuredig tuag at bolisi cyfiawnder a fydd yn diwallu anghenion Cymru ar gyfer y dyfodol. Gobeithiaf y byddwn yn gallu parhau i ddwyn ynghyd yr holl wasanaethau cymunedol sydd eisoes yn gyfrifoldebau a ddatganolwyd i ni, gyda pholisi cyfiawnder a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen a symud oddi wrth ddadleuon eithaf hesb y gorffennol.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddechrau'r sgwrs hon. Rwyf am ddweud wrth yr Aelodau ei bod yn sgwrs gadarnhaol ac roedd yn sgwrs y gobeithiaf y gallwn ei symud ymlaen. Trafodwyd agenda eang, gan gynnwys troseddu ymhlith ieuenctid a menywod. Rwy'n gobeithio y gallwn, gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gytuno ar ffordd ymlaen yn y tymor byr a fydd yn sicrhau bod gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a gwasanaethau heb eu datganoli yn gallu gweithio gyda'i gilydd mewn modd nad ydym wedi'i wneud yn y gorffennol o bosibl. Ar gyfer y dyfodol, gobeithiaf y byddwn yn gallu cael un polisi cyfiawnder ar gyfer Cymru a fydd yn bolisi cyfannol, ac yn un a fydd yn canolbwyntio ar y bobl a'r unigolion a'r cymunedau.

Felly, gadewch i mi ddweud hyn i orffen: mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth busnes a chymorth economaidd ar gyfer pobl Port Talbot ac mewn mannau eraill—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad ar hyn o bryd. Gwnaeth Dai Rees bwyntiau da: mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhy aml wedi troi ei chefn ar bobl yr ardal honno. Mae trydaneiddio a'r morlyn llanw yn enghreifftiau da o sut y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi troi ei chefn ar y rhan honno o'r wlad.

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnig yn agos at £1.5 miliwn i naw o gwmnïau yn yr ardal a £30 miliwn i Tata, a fydd o fudd uniongyrchol i'r gwaith ym Mhort Talbot. Mae cymunedau hefyd wedi elwa o £20 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys £11 miliwn ychwanegol o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Felly, mae angen i ni, Llywodraeth Cymru, a phobl Port Talbot ddeall beth y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno ei gynnig yn y dyfodol, ond rydym yn ymrwymo, ac rwy'n ymrwymo fel Ysgrifennydd Cabinet, Ddirprwy Lywydd, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o'r holl drafodaethau a gawn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ar hyn a materion eraill. Rwy'n addo y byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud datganiad pellach maes o law.

16:55

Ie. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl a'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon? Nododd David Rees briodoldeb—neu ddiffyg priodoldeb—y safle gyda'r parth llifogydd a'i fod wedi'i ddynodi'n ardal fenter, ac nid yw nifer swyddi yn fesur go iawn o'r hyn y byddai'n ei gynnig o ran ffyniant i'r ardal.

Dywedodd Suzy Davies fod yna wrthwynebiadau i'r carchar, ac rwy'n cytuno, ond roedd gwrthwynebiadau hefyd pan oedd carchar Berwyn yn mynd i gael ei adeiladu. Tynnodd sylw at y ffaith bod llawer o'r pryderon a oedd gan y bobl yn ardal Wrecsam i'w gweld, yn rhannol o leiaf, wedi'u dileu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Soniodd Bethan Jenkins am nerth yr ymgyrch, a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi newid ei meddwl fwy nag unwaith a bod gan Lywodraeth Cymru bŵer i atal y tir rhag cael ei werthu, ac ailadroddodd sylwadau David Rees am y diffyg adsefydlu mewn carchardai mawr. Yma, credaf fod yn rhaid nodi'r angerdd a gyfrannodd y ddau siaradwr i'r ddadl hon, a'u hymrwymiad i bobl Port Talbot.

Roedd barn Caroline Jones yn wahanol, mewn sawl ffordd, i farn rhai o'r cyfranwyr yma, yn yr ystyr nad yw hi, mewn egwyddor, yn erbyn y carchar, ond nododd rai o'r rhwystrau ffisegol i adeiladu'r carchar mewn gwirionedd. Rhoddodd ddisgrifiad manwl hefyd o garchardai gorlawn, yn enwedig yn Abertawe, a'r ffaith bod yna angen amlwg am garchar newydd, a phwysleisiodd fod—

17:00

Nododd hefyd ei fod yn garchar categori isel, ac y bydd y penderfyniad terfynol ar hynny'n cael ei wneud gan gynllunwyr lleol mewn gwirionedd.

Nododd Dai Rees mai naw Aelod yn unig yn y Siambr hon a bleidleisiodd dros atal y carchar mewn dadl gynharach. Nododd hefyd y materion eraill, mewn perthynas â morglawdd bae Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd, a fyddai wedi bod yn lleoedd llawer mwy addas i'w hadeiladu, ac wrth gwrs, Bethan, fe wnes—a soniais amdanoch chi, Bethan, wrth fynd heibio? Rwy'n siŵr i mi wneud.

Wel, ni dderbyniodd y Gweinidog—yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ddrwg gennyf—ni dderbyniodd ymyriad gennyf, ond roeddwn am geisio gofyn iddo ynghylch y ffaith nad ydym ronyn yn gallach heddiw ynglŷn â beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru. Pe baech yn penderfynu peidio â gwerthu'r tir hwnnw, ni fyddai angen cais cynllunio. Felly, a wnaiff y Pwyllgor Deisebau ystyried hyn fel rhan o'ch ystyriaethau? Diolch yn fawr iawn.

Wrth gwrs—fe wnawn hynny'n bendant. Byddwn yn cymryd pob un o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl hon pan fyddwn yn ystyried y mater hwn nesaf yn y pwyllgor.

Rwyf am fynd ymlaen i ddweud bod Alun Davies, wrth ateb rhai o'r cwestiynau, wedi dweud yn benodol nad oes unrhyw weithred gan y Llywodraeth hyd yma wedi ymrwymo'r Llywodraeth i'r carchar ym mae Baglan, ond pwysleisiodd y byddai'r Llywodraeth yn parhau i gymryd rhan yn y broses gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Soniodd eto am y ffaith nad oedd Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fae Abertawe neu i drydaneiddio cyn belled ag Abertawe, a chondemniodd hwy ar y sail honno, a gallem i gyd ddeall pam.

Fel pwyllgor, byddwn yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, gobeithiaf y bydd modd inni ystyried hefyd ymateb y deisebwyr i'r pwyntiau a godwyd heddiw a'r atebion a roddwyd. O ganlyniad, mae pwyllgor yn cyflwyno'r ddeiseb hon i'r Cynulliad heb ddod i gasgliadau na gwneud argymhellion mewn unrhyw gyfeiriad penodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, teimlwn fod hon yn ddadl bwysig i'w chael, ac rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth ac atebion i'r rhai a lofnododd y ddeiseb ynglŷn â'r pryderon sydd wedi bod ganddynt. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Catalwnia

Symudwn ymlaen yn awr at ein dadl nesaf, sef dadl Plaid Cymru ar Gatalonia. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6605 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Chatalwnia sy'n dyddio o'r 1930au yn ystod rhyfel cartref Sbaen.

2. Yn nodi pleidlais Senedd Catalwnia i gynnal refferendwm ar ymreolaeth.

3. Yn gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen a'i phenderfyniad i gadw rhai o gynrychiolwyr etholedig Catalwnia yn y ddalfa.

4. Yn cefnogi hawl seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol eu dinasyddion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd gen i, a dweud y gwir, arwain y drafodaeth yma yn enw Plaid Cymru, a fydd yn rhoi cyfle cyntaf i ni, fel Cynulliad Cenedlaethol, i fynegi barn ynglŷn â'r sefyllfa gyfredol yng Nghatalonia. Rydw i'n gwneud hynny gydag angerdd a dweud y gwir, fel Cymro ac fel Ewropead ac fel democrat. Fe draddodaf i'r rhan fwyaf o'm sylwadau y prynhawn yma yn iaith ryngwladol o ddewis cyntaf y rhan fwyaf o Gatalaniaid, sef Saesneg, er mwyn hwyluso ein neges ni o gydlyniad a hefyd gyfrannu yn fwy helaeth at y drafodaeth ryngwladol ar hyn o bryd. 

17:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Roeddwn yn Barcelona ar 1 Hydref pan gynhaliwyd y refferendwm ar annibyniaeth. Roedd yn brofiad erchyll ac ysbrydoledig ar yr un pryd. Ni feddyliais y byddwn yn gweld sefyllfa mewn democratiaeth orllewinol lle—. Roeddwn mewn gorsaf bleidleisio, ac roedd pobl, dinasyddion cyffredin, yn ffurfio cadwyni dynol er mwyn atal y Policia Nacional a'r Guardia Civil rhag torri i mewn i'r orsaf bleidleisio honno a chwalu'r broses ddemocrataidd.

Ar yr un pryd, roedd yn hynod o drawiadol gweld urddas tawel pobl Catalonia, yn aros am oriau, ers oriau mân y bore mewn gwirionedd, i bleidleisio. Roedd llawer ohonynt—y pleidleiswyr cyntaf ymron pob gorsaf bleidleisio oedd yr henoed, gyda rhai ohonynt mewn cadeiriau olwyn, a chafodd y pleidleisio ei ohirio am oriau oherwydd mesurau gormesol gwladwriaeth Sbaen. Y dagrau yn eu llygaid, ac yn llygaid eu teuluoedd a llygaid dinasyddion o'u cwmpas, a llawer ohonynt yn dweud eu bod wedi bod yn aros yno yn yr oerfel ers oriau a, 'Rydym wedi aros—rydym wedi aros ar hyd ein hoes gyfan am y foment hon'—nid wyf yn credu y gallai neb fethu cael eu hysbrydoli gan yr ymroddiad hwnnw, ymroddiad a aned o ymrwymiad i ddemocratiaeth ond wedi'i gyflawni mewn ysbryd di-drais yn ogystal.

Dyna pam y mae'r neges hon o undod mor bwysig gan y sefydliad hwn. Rydym yn ei wneud oherwydd, fel gwlad fach, ni ddylem byth ganiatáu i bŵer gael ei feddiannu'n anghyfreithlon gan wladwriaeth ganolog yn erbyn Senedd cenedl fach a etholwyd yn briodol. Ni allwn sefyll a gwneud dim pan fydd dinasyddion yn cael eu gormesu'n greulon yn y modd y digwyddodd yn y refferendwm hwnnw ac ni allwn weld sefyllfa lle y caiff aelodau etholedig llywodraeth ddemocrataidd eu carcharu yn syml oherwydd bod y polisi cyfansoddiadol y maent yn ei gynrychioli yn groes i un y wladwriaeth ganolog.

Wrth gwrs, mae gwreiddiau dwfn i'r traddodiad hwn o undod rhwng y genedl hon a'r genedl Gatalanaidd. Roedd aelodau o Gymru yn y Frigâd Ryngwladol a gollodd eu bywydau ym Mrwydr Gandesa. Wrth gwrs, gwelodd y frwydr honno, brwydr yn ystod rhyfel cartref Sbaen, y cysylltiad agos sydd rhwng y frwydr gyffredinol am ddemocratiaeth a hawliau sifil a gwleidyddol a'r awydd i ddatganoli a'r awydd am hunanbenderfyniad ymhlith pobl Catalonia.

Mae yna elfennau tywyll ac amlwg sy'n parhau yn hanes Catalonia a Sbaen. Digwyddodd y datganiad o annibyniaeth, wrth gwrs, ar Hydref 27—i bob pwrpas, roedd Catalonia'n annibynnol am bedwar diwrnod hyd nes y diddymwyd hynny gan lys cyfansoddiadol Sbaen. Ar 6 Hydref yn 1934, datganodd Arlywydd cynharach y Generalitat wladwriaeth Gatalanaidd a barhaodd am 10 awr, wrth gwrs. Yn dilyn hynny, cafodd ei orfodi i droi'n alltud—yn union yr fath ag a ddigwyddodd i Puigdemont. Yn wir, cafodd Lluís Companys, wrth gwrs—cafodd y Generalitat ei adfer yn ddiweddarach yn ystod rhyfel cartref Sbaen—yn y pen draw cafodd ei alltudio eto, ei ddwyn yn ôl i Sbaen a'i ddienyddio. Puigdemont yw'r unig arweinydd llywodraeth genedlaethol a etholwyd yn ddemocrataidd o hyd sydd wedi wynebu warant arestio Ewropeaidd. Ers ail-greu'r Generalitat yn 1932, cafodd cymaint â saith—saith allan o naw—o Arlywyddion y Generalitat naill ai eu carcharu neu eu halltudio gan wladwriaeth Sbaen. Dyna'r ffaith drist am y parhad y mae pobl Catalonia wedi gorfod ei wynebu drwy gydol eu hanes er mwyn galw, mewn gwirionedd, am rywbeth sy'n gymedrol a chyffredinol, sef yr urddas na all ond fodoli gyda'r hawl i benderfynu drosoch eich hun fel pobl ac fel cenedl, sydd, wrth gwrs, yn rhan o Siarter y Cenhedloedd Unedig.

Rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd arnom i anfon neges o undod at bobl Catalonia, fel aelodau o genedl fach sy'n cynrychioli Senedd mewn cenedl fach, ond hefyd fel Ewropeaid ac fel dinasyddion Ewropeaidd. Rwy'n credu na allaf ond adleisio a rhoi teyrnged i eiriau Companys ei hun, a ddywedodd:

Fe ddioddefwn eto, fe ymladdwn eto, ac fe enillwn eto.

Teimlais hynny ar y strydoedd, wrth symud o orsaf i orsaf bleidleisio—ysbryd anorchfygol pobl Catalonia, sydd ers cenedlaethau wedi bod yn brwydro dros yr alwad ddynol sylfaenol hon, sef hawl cenhedloedd ym mhobman i benderfynu drostynt eu hunain, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn, drwy anfon ei neges o undod, yn cefnogi'r hawl cyffredinol hwnnw i'r holl bobloedd a'r holl genhedloedd.

17:10

Nid mater o bryder i genedlaetholwyr yn unig yw hyn. Mae'n fater o bryder i ddemocratiaid, a chredaf y dylid cael neges gref gan ein Senedd yng Nghymru i seneddau Catalonia a Sbaen fod yn rhaid i egwyddor cydsyniad fod yn ganolog i unrhyw wlad ddemocrataidd.

Cefais fy arswydo gan y digwyddiadau dros yr haf ac yn ddiweddar—y ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Sbaen mewn ffordd gwbl anghymesur ac annemocrataidd â galwadau cwbl ddilys pobl Catalonia am hawl i fynegi eu hunanbenderfyniad mewn refferendwm. Ers nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Sbaen wedi gwrthod yr hawl syml honno a gymerwn yn ganiataol yn yr ynysoedd hyn—egwyddor cydsyniad.

Rwy'n cydnabod, ar draws Ewrop, nad yw ymwahaniad yn cael ei drin yn yr un modd ag yr ydym ni yn y wlad hon wedi dod i drin ymwahaniad. Mae'n glod i Lywodraeth y DU, pan alwodd yr Alban am refferendwm ar annibyniaeth, er eu bod yn anghytuno â'r galwadau hynny, fod Llywodraeth y DU wedi caniatáu'r refferendwm hwnnw ac wedi ei gwneud hi'n glir y byddai'n dal at ganlyniad y refferendwm hwnnw. A dylai'r egwyddor honno fod yn gymwys ledled Ewrop.

Roedd yn wrthun i mi, mewn gwirionedd, fod yr Undeb Ewropeaidd, y credai llawer o'r bobl yn y Siambr hon ei fod yn rym dros heddwch, democratiaeth a sefydlogrwydd dros y 70 mlynedd diwethaf, wedi aros yn ddistaw tra oedd hawliau rhan gyfansoddol yn cael eu sathru. Efallai fod erthygl dros y penwythnos gan Brif Weinidog Sbaen yn egluro rhywfaint ar hynny, lle roedd yn diolch i Theresa May am sefyll gyda Llywodraeth Sbaen dros y misoedd diwethaf, ac na fyddai hynny'n cael ei anghofio yn y negodiadau Brexit. Gallai hynny daflu rhyw oleuni ar y wleidyddiaeth fewnol a oedd yn digwydd ymhlith aelod-lywodraethau Ewropeaidd sy'n esbonio eu distawrwydd yn hyn o beth.

Nid wyf yn cefnogi annibyniaeth Catalonia. Treuliais beth amser yng Nghatalonia dros yr haf a siaradais â nifer o bobl sy'n byw yno a oedd yn anghyffyrddus gyda'r galwadau am annibyniaeth Catalonia. Dyma un o'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen, a byddai ei cholli o'r wlad yn ergyd glir i gyfiawnder cymdeithasol ar draws y wlad gyfan. Felly, rwy'n deall yn llwyr y pryderon a oedd gan y rhan fwyaf o'r bobl o'r bleidlais yng Nghatalonia. Ond does bosibl nad yw'n iawn eu bod wedi cael cyfle i fynegi eu hunain yn gyfreithlon mewn refferendwm priodol, ac mae'r modd y mae Llywodraeth Sbaen yn parhau i wrthod gwneud hynny'n dwyn cywilydd arnynt. Mae'r ffordd y cafodd protestwyr heddychlon eu sathru a'r modd y cafodd arweinwyr eu carcharu yn staen ar Ewrop gyfan, a chredaf ei bod yn iawn i'n Senedd anfon neges glir ein bod yn credu bod hyn yn annerbyniol. Diolch.

A gaf fi ddweud y byddwn yn gwrthwynebu'r cynnig hwn, er fy mod yn cydnabod cryfder y teimlad a'r angerdd sydd ar feinciau Plaid Cymru yn enwedig? Ond rwy'n credu bod yr holl bwnc yn galw am ddealltwriaeth ddofn yn hytrach na dadl fer, ac mae angen i ni fod yn wylaidd bob amser pan fyddwn yn ffurfio barn ar wladwriaeth arall.

Er nad yw dau bwynt cyntaf y cynnig yn ddadleuol, mae'r trydydd a'r pedwerydd yn sicr yn ddadleuol. Rwy'n rhannu rhai o'r rhwystredigaethau a fynegwyd gan Lee Waters, nad oedd rhai o'r penderfyniadau a wnaed gan wladwriaeth Sbaen yn rhagorol a dweud y lleiaf. Ond yn anffodus, ni ellir esgusodi Llywodraeth Catalonia am rai o'r camgymeriadau a wnaeth hithau hefyd, yn enwedig drwy beidio â chreu amgylchedd lle y gallai'r Catalaniaid nad ydynt yn cefnogi annibyniaeth fynegi eu safbwyntiau'n rhydd a mynd â'r farn honno allan ar y strydoedd ac i'r gorsafoedd pleidleisio.

17:15

Mae gennyf ddau o bobl yn awr. Rwy'n credu mai Mick oedd gyntaf o drwch blewyn.

A fyddech yn derbyn bod y broblem hon wedi codi o ganlyniad i'r ffaith bod Llywodraeth Sbaen wedi parhau i wrthod gadael i refferendwm wedi'i threfnu'n briodol gael ei chynnal?

Ym Mhrydain, buasem yn dweud y dylech gael refferendwm y mae'r ddwy ochr yn cytuno ag ef a symud ymlaen wedyn. Ond wrth gwrs, Prydain yw'r unig wladwriaeth yn y byd sydd ar hyn o bryd yn credu mai dyna sut y dylid ymdrin ag ymwahaniad. Cytunaf mai dyna sut y dylid ymdrin â hynny, ond nid yw Sbaen mewn lleiafrif yn arddel safbwynt gwahanol. Ac yn wir, mae ymwahaniad yn benderfyniad sy'n rhaid i ddinasyddion ei wneud ac nid Senedd, felly credaf fod eich pwynt 4 yn ddifrifol o ddiffygiol yn yr hyn y mae'n ei ddatgan.

Efallai mai'r cymhlethdod sylfaenol yma yw pa un a ddylai cenhedloedd a gwladwriaethau fod yn gyfystyr â'i gilydd fel arfer, neu a all ymreolaeth genedlaethol ffynnu mewn gwladwriaethau amlwladol. Rwy'n arddel yr ail safbwynt, er bod yna adegau pan na all ffynnu ac weithiau mae hanes o ormes wedi bod mewn gwladwriaethau amlwladol. Credaf fod yna gwestiwn mawr pwysig yma o ran yr hyn sy'n digwydd—beth yw'r goblygiadau os ydych yn credu y dylai gwladwriaethau a chenhedloedd fod yn gyfystyr â'i gilydd? Faint o genhedloedd sydd yna yn y byd? Mae'r amcangyfrifon presennol, cyn belled ag y gellir ei sefydlu, yn amrywio o 600 i 6,000. Wel, pe bai gennych 6,000 o wladwriaethau yn y byd, efallai y bydd trefn ryngwladol yn anodd iawn i'w chynnal. Yn sicr, byddai sefydliadau rhyngwladol fel y cânt eu llywodraethu ar hyn o bryd yn eithriadol o anodd eu gweithredu.

Efallai ei fod yn mynd i ddod at hyn, ond a allai ddweud wrthym beth yw ei farn ef a barn y Blaid Geidwadol ar y ffaith ei bod yn rhaid nad oes cynsail i'r ffaith bod gennym aelodau o Lywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd wedi cael eu carcharu ar gyhuddiad o annog bradwriaeth mewn democratiaeth Ewropeaidd orllewinol?

Credaf fod honno'n weithred ffôl ar ran gwladwriaeth Sbaen, ond mater i'r Sbaenwyr a'r Catalaniaid yw hwn i'w ddatrys, fel y maent, rwy'n credu, ar hyn o bryd—. Yn sicr, mae yna ganlyniadau i'r camau a gymerwyd gan y llys cyfansoddiadol yn Sbaen—[Torri ar draws.] Wel, wyddoch chi, rwy'n credu bod arnom angen dadl agored a theg yma, Adam, felly efallai fod angen i chi wrando ar y pwynt amgen sy'n cael ei fynegi yn awr.

A phwy sydd i ddweud bod poblogaeth benodol—gallai fod yn ddinas, gallai fod yn rhanbarth—yn genedl bellach mewn gwirionedd? Mae'r rhain yn faterion hynod ddadleuol, ac nid yw'r hawl i hunanbenderfyniad ynddi ei hun yn beth hawdd i'w fynegi. Pa endid sy'n ei fynegi? Ceisiodd 14 pwynt Woodrow Wilson fynd i'r afael â hyn, ond gwrthododd siarad â'r cenedlaetholwyr Gwyddelig am nad oedd yn credu bod ganddynt hawl i statws gwladwriaeth, oherwydd eu bod wedi eu hymgorffori yn yr hyn a oedd yn ei farn ef yn wladwriaeth ddemocrataidd amlwladol. Nawr, ni fyddai llawer o bobl yn cytuno ag ef, mae'n debyg, wrth edrych yn ôl, ond dyna beth oedd ganddo. A pham y dylai'r endid olygu'r genedl? Dinasoedd yw'r uned wleidyddol hynaf yn y byd o bell ffordd, ac yn wir, mae llawer ohonynt bellach yn creu ymdeimlad o hunaniaeth y gellid dehongli ei fod, o dan amgylchiadau penodol, yn cynnwys nodweddion cenedlaethol.

A gaf fi orffen, Lywydd, drwy ddweud pa mor hynod broblematig yw'r cysyniad o ymwahaniad mewn cyfraith ryngwladol a hefyd sut y caiff ei drin gyda'r gofal mwyaf gan athronwyr gwleidyddol? Nid oes llawer o athronwyr gwleidyddol yn derbyn egwyddor ymwahaniad ac mae'r rheini sy'n rhoi llawer o bwyslais arno—[Torri ar draws.] Credaf ei bod yn eithaf nodweddiadol nad yw cynigwyr y cynnig yn gwrando bellach hyd yn oed—[Torri ar draws.] Wel, nid wyf yn gwybod. Yn gyffredinol, mae'r rhai sydd wedi honni bod ymwahaniad—[Torri ar draws.]

Mae'r rhai sydd wedi honni bod ymwahaniad yn ddilys yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnwys llawer o amodau, pan fo gormes helaeth wedi bod dros gyfnod hir yn y bôn, a bod ymateb wedi bod i hynny gan boblogaeth sy'n mynegi ewyllys a fynegwyd yn ysgubol ac yn rhydd ac sy'n amlwg iawn. Nid wyf yn meddwl bod y nodweddion hynny'n bresennol yng Nghatalonia, ond mater i'r bobl hynny benderfynu yn ei gylch yw hwnnw.

Mae'r holl gwestiwn yn cyfeirio at: a ddylech fuddsoddi mewn gwella, drwy'r gweithdrefnau democrataidd, eich gwladwriaeth eich hun neu'r wladwriaeth rydych ynddi ac edrych am fynegiant mwy ymreolaethol, neu a ddylech ymgyrchu dros eich gwladwriaeth eich hun? Os yw hynny'n digwydd, byddwn yn byw mewn byd sy'n cynnwys llawer o feicrowladwriaethau, a llawer o wladwriaethau nad ydynt, efallai, mor gydlynol ag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf, ac sydd wedyn yn wynebu pob math o bwysau, oherwydd, pan fydd cenedl yn dod yn wladwriaeth, mae pob math o rymoedd yn dod yn weithredol nad ydynt yn weithredol pan fyddwch yn genedl o fewn corff mwy o faint neu wladwriaeth amlwladol. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus dros ben, ac mae angen i'r rheini sy'n credu bod ymwahaniad yn gyfreithlon fyfyrio ar pan fo'n gyfreithlon, a darllen y llenyddiaeth ar hyn sydd, yn ddiweddar, wedi bod yn eithaf helaeth, oherwydd, ar hyn o bryd, credaf nad yw rhai pobl yn sylweddoli am beth y dymunant.

17:20

Rwy'n falch iawn o godi i gefnogi apêl huawdl a dirdynnol Adam Price, a agorodd y ddadl hon. Buaswn yn hoffi meddwl mai holl ddiben araith David Melding oedd profi damcaniaethau'r rhai sydd wedi siarad hyd yn hyn, ac mae'n gweithredu, felly, fel dadleuydd y diafol, statws o gryn anrhydedd mewn diwinyddiaeth Gatholig. Ond yn anffodus, credaf ei fod yn credu'r dadleuon twyllresymegol a ddyfynnwyd ganddo. Rwyf am fynd yn syth at y cwestiwn a ofynnodd: beth yw cenedl? Wel, mae'n fater o ffaith: mae cenedl yn genedl pan fo'n teimlo ei bod yn genedl. Mae'n bosibl iawn y gallem gael miloedd o genedl-wladwriaethau yn y byd, os yw pobloedd y byd yn penderfynu pennu eu dyfodol yn y ffordd honno. Mae gennym ddinas-wladwriaethau, onid oes, fel Singapôr, un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd mewn gwirionedd, fel nad wyf yn blino ei nodi wrth yr Ysgrifennydd Cyllid mewn dadleuon ar drethiant.

Mae'r ddadl hon yn ymwneud ag un egwyddor syml iawn, sef yr hawl i hunanbenderfyniad, a ymgorfforir yn siarter y Cenhedloedd Unedig. Yn fy myw, ni allaf weld pam y dylai pwyntiau 3 a 4 yn y cynnig hwn fod yn ddadleuol i unrhyw ddemocrat. Felly, ni allaf ddeall y rhesymeg sy'n sail i'r gwrthwynebiad tuag ato. Rwy'n bendant yn gwrthwynebu'r ymateb llawdrwm gan Lywodraeth Sbaen a chadw cynrychiolwyr etholedig Catalanaidd yn y carchar. Mae'n wir, o dan gyfansoddiad lled-Francoaidd Sbaen, eu bod wedi gweithredu yn erbyn cyfraith y wlad, ac mae arnaf ofn fod ymddygiad gwladwriaeth Sbaen yn dangos bod ysbryd y Cadfridog Franco yn dal i hofran dros y system wleidyddol yn Sbaen heddiw, yn anffodus.

Yr hyn sydd angen ei newid yn Sbaen yw cyfansoddiad Sbaen, ac nid oes amheuaeth fod cyfran sylweddol iawn o'r boblogaeth yng Nghatalonia eisiau annibyniaeth. Pa un a yw'n fwyafrif ai peidio, ni allaf ddweud. Nid oes gennyf farn ar ei rinweddau. Credaf yng ngwladwriaeth unedol y Deyrnas Unedig, ac rwyf am i Gymru barhau yn rhan ohoni, ond rwy'n derbyn yn llwyr hawl pobl Cymru i benderfynu eu dyfodol eu hunain mewn termau cyfansoddiadol. Pe bai pobl Cymru yn penderfynu drwy refferendwm a mwyafrif eu bod am fod yn wleidyddol annibynnol oddi ar weddill y Deyrnas Unedig, buaswn yn dweud, 'Pob lwc iddynt', hyd yn oed pe bawn ar yr ochr arall i'r ddadl. Yn y pen draw, rhaid i'r bobl eu hunain benderfynu ynglŷn â'u dyfodol eu hunain, ac nid oes gan neb, yn fy marn i, hawl i amddifadu pobl o'r hawl sylfaenol honno.

Darllenais erthygl ddiddorol iawn, a gymeradwyaf yn llwyr ac yr argymhellaf i bawb ei darllen, gan Mick Antoniw yn WalesOnline yr wythnos hon, lle y gwnaeth bwynt proffwydol iawn. Dywedodd fod

arestio a charcharu gweinidogion a etholwyd yn ddemocrataidd i lywodraeth Catalonia wedi agor archoll ddofn yn ymrwymiad cyfansoddiadol yr Undeb Ewropeaidd i gynnal hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith.

Nid oes amheuaeth—

aeth yn ei flaen i ddweud—

fod y datganiad yn groes i'r cyfansoddiad; ond ni all fod fawr o amheuaeth ychwaith fod methiant y llywodraeth ganolog ar sawl achlysur i gefnogi gwelliannau i'r cyfansoddiad i ganiatáu'r posibilrwydd o annibyniaeth drwy refferendwm rhydd a theg yn groes i Erthygl Un o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.

Buaswn yn mynd ymhellach na hynny, ac yn dweud ei fod hefyd yn groes i erthygl 11 o siarter hawliau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, yr hawl i ryddid mynegiant a gwybodaeth:

Mae gan bawb yr hawl i ryddid mynegiant. Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i arddel barn a chael a rhannu gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth gan awdurdod cyhoeddus a heb ystyried ffiniau.

Felly, mae Sbaen, yn fy marn i, yn amlwg yn torri'r rhwymedigaeth honno a osodwyd arni, ac y pleidleisiodd pob un ohonynt drosti fel Llywodraethau yn yr Undeb Ewropeaidd, y rhwymedigaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi esgus ei chefnogi'n ddiweddar mewn perthynas â dadl Brexit. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i sawl rhan o'r siarter honno, er fy mod yn gwrthwynebu'r ffordd y cafodd ei dehongli, mewn rhai ffyrdd, gan Lys Ewrop. Ond mae'n ymddangos i mi nad oes modd o gwbl i neb sy'n credu mewn rhyddid sylfaenol wrthwynebu erthygl 11.

Ac felly, credaf ei bod yn hanfodol fod Senedd Cymru—cenedl fach arall, fel y nodwyd eisoes—yn mynegi ei hundod â phobl Catalonia, ac unrhyw genedl fach sy'n cael ei gormesu gan ei Llywodraeth ganolog. Yn fy marn i, dylai Llywodraeth Sbaen ostwng ei phen mewn cywilydd ynglŷn â'r ffordd y mae wedi ymddwyn tuag at y gwleidyddion etholedig hyn yng Nghatalonia. Yn amlwg, rhaid i Sbaen roi trefn ar ei threfniadau cyfansoddiadol ei hun, ond nid drwy ymddwyn yn giaidd a gormesu pobl ar y strydoedd y mae gwneud hynny, ond yn hytrach drwy rym dadl mewn sefydliadau democrataidd a phleidleisiau rhydd a theg.

17:25

Y mis diwethaf, cefais y pleser mawr o gynrychioli'r Prif Weinidog yn y cyfarfod blynyddol i goffáu'r gwirfoddolwyr Cymreig a ymunodd â'r brigadau rhyngwladol yn Sbaen. Roedd yna eironi gwleidyddol yno, ar yr union adeg pan oeddem yn cynnal y cyfarfod coffa hwnnw, fod yna olygfeydd yn Sbaen o dyrfaoedd yn talu gwrogaeth ffasgaidd, yn canu caneuon ffasgaidd o oes Franco. Twf Ffalanchaeth o oes Franco, yr ymddengys ei fod wrth wraidd y twf mewn cenedlaetholdeb Sbaenaidd sydd wedi'i ganoli ym Madrid, yw un o'r pethau sy'n peri pryder go iawn.

Rwy'n ddiolchgar iawn, hefyd, am y sylwadau a wnaeth Neil Hamilton. Rwy'n falch o weld ei fod wedi cael tröedigaeth Bawlaidd dros y blynyddoedd ers ei amddiffyniad blaenorol i wladwriaeth apartheid De Affrica a'i duedd i fod yn gydymdeimladol tuag at Lywodraeth ffasgaidd Pinochet yn y 1970au. Nid oes unrhyw amheuaeth: mae hon yn rhannol yn frwydr yn erbyn y camau gweithredu gormesol hynny, ond i mi, mae'n sylfaenol. Nid yw hyn yn ymwneud ag annibyniaeth Gatalonaidd; mae'n ymwneud â rheolaeth y gyfraith a dehongliad priodol o reolaeth y gyfraith fel rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn cynrychioli ewyllys y bobl, a dyna beth yw cyfansoddiad. Nid yw cyfansoddiad sy'n colli ewyllys y bobl, sy'n gwahanu pobl, yn gyfansoddiad ymarferol mwyach. Nid yw mwyach yn gompact rhwng pobl.

Felly, i mi, y peth mwyaf a'r peth tristaf i'w weld yn hyn oedd Llywodraeth y DU yn cyd-fynd yn awtomatig ac yn ddall â safbwynt rhagrithiol a oedd yn gwrth-ddweud popeth a ddywedasom. Boed hynny yn 1968 gyda goresgyniad Tsiecoslofacia, boed am ynysoedd Falkland, boed am Gibraltar—yn y pen draw, hawl y bobl yw dewis mewn gwirionedd, ac ymwneud â hynny y mae hyn mewn gwirionedd. Mae hi'r un mor dorcalonnus gweld anffrwythlonder y ddadl o fewn yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd, a'r ffaith eu bod wedi methu deall mai un o hanfodion yr Undeb Ewropeaidd a'r weledigaeth a oedd yn sail iddo oedd y gafael ar reolaeth y gyfraith, ac egwyddorion sylfaenol, a hawliau pobl, a phan fyddwch yn symud oddi wrth hynny i amddiffyn y cysyniad o'r wladwriaeth ganolog yn unig, byddwch yn dechrau hau hadau eich dinistr eich hun.

Felly, credaf ei bod yn hollol gywir yn y Cynulliad hwn inni sicrhau bod ein llais ein hunain yn cael ei glywed, ein bod yn sefyll, drwy'r penderfyniad hwn, dros yr hyn sydd yn y pen draw yn gefnogaeth i hawliau democrataidd, cefnogaeth i reolaeth y gyfraith, a chefnogaeth i'r egwyddor sylfaenol, a ymgorfforwyd yn siarter y Cenhedloedd Unedig, fod gan bobl hawl i benderfynu eu dyfodol eu hunain.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac am rannu eu cyfraniadau, a hefyd am roi'r cyfle hwn i mi gyfrannu ar ran Llywodraeth Cymru? O'r ddadl heddiw a chyfraniadau angerddol ac egwyddorol yr Aelodau y prynhawn yma, mae'n amlwg fod yna deimladau dwfn a chryf yn bodoli yn y Siambr ar y mater hwn. Credaf nad yw hi ond yn deg i mi ddechrau drwy wneud y pwynt amlwg a phwysig iawn nad lle Llywodraethau Sbaen neu Gatalonia fyddai ceisio dylanwadu ar y strwythurau gwleidyddol rydym yn dewis eu datblygu i ni ein hunain yma yng Nghymru. Ac yn yr un modd, nid wyf yn credu mai fy lle i neu Lywodraeth Cymru yw mynegi barn ar ba un a ddylai Catalonia fod yn genedl annibynnol ai peidio. Nid mater i ni ei benderfynu yw hwnnw. Ond rwy'n credu ei bod hi'n deg i'r Cynulliad hwn atgoffa ein hunain ac eraill o'r egwyddorion sy'n sail i sefydliadau democrataidd fel ein hun ni, a nodwyd hyn yn briodol tu hwnt gan nifer o'r cyfranwyr yn y ddadl heddiw.

Ugain mlynedd neu fwy yn ôl, pleidleisiodd Cymru dros sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd yn ymgyrch refferendwm angerddol a dwys, gyda'r ddwy ochr yn cyflwyno gweledigaethau gwahanol iawn o'r Gymru y dymunent ei gweld yn y dyfodol. Cymerais gryn dipyn o ran yn y ddadl honno, ac roeddwn yn un o'r ymgyrchwyr angerddol iawn, ac roeddwn yn dadlau'n glir iawn dros un ochr. Ond yr hyn a unai bob ochr yn yr ymgyrch mewn gwirionedd oedd y derbyniad sylfaenol mai pobl Cymru a fyddai'n gwneud y penderfyniad am eu dyfodol a byddai'r canlyniad hwnnw'n cael ei barchu a'i weithredu, ac wrth gwrs fe ddigwyddodd hynny.

Ewyllys cyfansoddiadol a democrataidd pobl Cymru fel y'i mynegwyd yn y refferendwm hwnnw oedd sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros y penderfyniadau a'r polisïau sy'n effeithio arnom ni a'n cymunedau. Roedd yr egwyddorion hynny'n sail hefyd i bleidlais y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban yn 2014, ac unwaith eto, roedd hi'n ymgyrch arw ac anodd weithiau, ac yn un angerddol iawn, ond roedd hi hefyd yn seiliedig ar egwyddor greiddiol ddemocrataidd mai mater i bobl yr Alban oedd penderfynu ar eu dyfodol eu hunain, ac y byddai canlyniad y refferendwm yn cael ei barchu. Fel roedd hi, parhaodd yr Alban yn aelod o'r Deyrnas Unedig, ond nid wyf yn amau am eiliad, pe bai'r Alban wedi penderfynu pleidleisio o blaid annibyniaeth, byddai Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod hynny'n digwydd.

Er bod y ddwy enghraifft yn wahanol iawn yn eu ffyrdd eu hunain i'r enghraifft Gatalanaidd rydym yn ei thrafod, mae llawer o debygrwydd yn ogystal. Sofraniaeth boblogaidd yw'r garreg sylfaen y seilir gwleidyddiaeth ddemocrataidd arni. Mae egwyddor hunanbenderfyniad yn un a nodwyd yn glir yn siarter y Cenhedloedd Unedig. Felly, hefyd, mae gwleidyddiaeth ddemocrataidd yn seiliedig ar barch, ymwrthod â thrais ac anoddefgarwch tuag at ymddygiad bygythiol.

17:30

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad.

Cyfeiriwyd sawl gwaith heddiw at y DU yn caniatáu pleidlais i'r Alban ar ymwahaniad. Mae'n bwysig cofio, wrth gwrs, fod Llywodraeth yr Alban a etholwyd yn ddemocrataidd wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer ail refferendwm a gafodd eu hatal gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Ni chafodd pobl yr Alban ddewis ar y pwynt hwnnw ynglŷn â chael pleidlais ai peidio.

Wel, mae hwnnw'n bwynt teg iawn, ac mae'n rhan o drafodaeth wleidyddol barhaus yma yn y Deyrnas Unedig ynglŷn â sut y dylid ymdrin â phethau o'r fath. Mewn gwirionedd, roedd un o'r pwyntiau a wnaeth David Melding yn fedrus iawn yn ymwneud â safbwynt penodol gwladwriaeth y DU yn y mater hwn, sy'n bwynt pwysig, ac yn un na ddylid ei anghofio.

Fodd bynnag, credaf fod yna lawer o bethau sy'n awgrymu bod llawer yn y Sbaen fodern y gallwn ei edmygu hefyd. Mae llawer o bobl wedi sôn am y berthynas rhwng Cymru a Sbaen dros y blynyddoedd. Mae gan lawer ohonom hynafiaid, rhai eithaf agos, a ymladdodd yn Sbaen ac roeddent yn falch iawn o fod wedi gwneud hynny, neu gymunedau lle yr ymladdodd pobl yn Sbaen yn erbyn ffasgaeth—yn hollol—ac roeddent yn falch iawn o fod wedi gwneud hynny.

Mae pontio o unbennaeth ormesol i fod yn genedl ddemocrataidd ac yn aelod o'r UE mewn cyn lleied o amser a heb droi'n ôl at ryfel cartref chwerw a gwaedlyd fel a welwyd yn ei gorffennol diweddar yn wers i eraill mewn llawer o ffyrdd, ac yn rhywbeth y mae angen edmygu Sbaen yn ei gylch. Ond mae'n amlwg i bawb nad yw'r hyn a ddigwyddodd yng Nghatalonia dros yr ychydig wythnosau a'r misoedd diwethaf wedi bod yn fodel i neb o gwbl. Mae'r golygfeydd rydym wedi bod yn dyst iddynt a'r lluniau a welodd pawb ohonom wedi bod yn syfrdanol a'r gobaith yn awr yw y gall y dyfodol fod yn fwy cadarnhaol na'r gorffennol, ac y gall pobl Catalonia benderfynu eu tynged eu hunain mewn proses ddemocrataidd a chyfansoddiadol, beth bynnag fydd y dynged honno, ac y bydd eu llais a'u penderfyniadau'n cael eu parchu gan Lywodraeth Sbaen.

A gredwch fod gwladwriaeth Sbaen yn anghywir i atal y Catalaniaid rhag dweud eu dweud?

Rwy'n sicr yn credu bod y ffordd yr aethant o'i chwmpas hi'n anghywir, yn bendant. Mae'n rhan o'r sgwrs barhaus yn Sbaen fel y mae, ac yn wir, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi, yn rhan o sgwrs barhaus yn y DU. Mae'n sgwrs nad ydynt yn ei chael mewn unrhyw ffordd y buaswn i, yn sicr, yn ei hadnabod fel proses ddemocrataidd.

Ond mae hunanbenderfyniad yn golygu eu bod yn cael dweud eu dweud, does bosibl?

Rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr ac yn gyfan gwbl. Ond ar adeg pan fo delfrydau democrataidd yn cael eu profi ym mhob rhan o'r byd, rydym yn credu y dylid parchu hawliau a dymuniadau pobl Catalonia, a beth bynnag fo canlyniad hynny, gallwn barhau i ystyried Ewrop yn gartref i ddelfrydau a gwerthoedd democrataidd i eraill eu dilyn.

Lywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn atal ei phleidlais yn y ddadl hon. Byddwn yn rhoi pleidlais rydd i'n meinciau cefn gan ein bod yn meddwl ei bod yn eithriadol o bwysig fod hynny'n digwydd. Nid ydym yn ymatal am nad ydym yn cydymdeimlo â phobl Catalonia, ond oherwydd nad ydym yn credu fod unrhyw rôl i Lywodraeth Cymru yn y broses o benderfynu ar dynged cenedl arall.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi groesawu'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn awr ar ran y Llywodraeth? Gallaf ddeall pam y byddai'r Llywodraeth yn gwneud hynny, ond rwyf am weld barn Aelodau ei meinciau cefn a fynegir yn rhydd ar y mater hwn, gan nad cynnig o blaid annibyniaeth Catalonia yw hwn, na hyd yn oed cynnig o gefnogaeth i Lywodraeth Catalonia. Mae'n gynnig a luniwyd mewn perthynas â democratiaeth seneddol a mynegiant ewyllys rydd gan bobloedd mewn gwladwriaethau, pa un a ydynt yn genedl-wladwriaethau ai peidio. Yn yr ystyr honno, rwy'n falch iawn o gael cefnogaeth amrywiaeth eang o leisiau gwleidyddol, rhaid dweud—o Neil Hamilton i Lee Waters, Mick Antoniw, ac eraill sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon ac wedi canolbwyntio ar hawliau democrataidd pobl i gael dweud eu dweud. Mae'n rhywbeth rydym wedi dysgu ymdopi ag ef dros gyfnod hir yn y Deyrnas Unedig, hyd at y gallu i roi refferendwm i bobl yr Alban, wedi'i gytuno rhwng dwy Lywodraeth yn gyfartal. Efallai ein bod wedi dysgu'r wers ar yr adeg y collasom y 13 trefedigaeth, os ydych am fynd yn ôl mor bell â hynny.

Rwy'n gwahodd David Melding i ddychwelyd i goleg William a Mary, lle rwy'n gwybod ei fod yn mynd bob blwyddyn, a rhoi'r araith honno i'r comiwnyddion drygionus hynny yn America a feiddiodd ddatgan annibyniaeth ac a feiddiodd ymwahanu o wladwriaeth nad oedd yn darparu ar eu cyfer. Oherwydd dyna sydd wrth wraidd y ddadl hon, ac rwy'n gresynu at agwedd David Melding tuag at hyn. Roeddwn yn disgwyl rhywbeth cryfach o ran egwyddorion democrataidd—rhywbeth a roddodd i ni yn gynharach, os mynnwch—ond credaf ei fod wedi'i gyfyngu gan y ffaith bod Rajoy a May wedi bod yn dawnsio i lawr Stryd Downing yr wythnos hon, ac fe'i gorfodwyd i roi safbwynt gwleidyddol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser o gwbl.

Credaf fod arnom eisiau uno fel seneddwyr yn y lle hwn, ac fel pobl sy'n cytuno â hawl Senedd i fynegi ewyllys ei phobl a negodi ar eu rhan.

Mae yna elfen bersonol i hyn yn ogystal. Mae pedwar unigolyn yn dal i fod yn y carchar yng Nghatalwnia oherwydd gweithredoedd gwladwriaeth Sbaen, ac rwy'n meddwl bod pawb yn cytuno ei bod wedi gorymateb hyd yma. Rhaid inni gofio enwau Oriol Junqueras a Joaquim Forn, y ddau gyn-Weinidog sy'n dal i fod yn y carchar—nid yw Oriol yn cael gweld ei blant—a'r ddau Jordi, wrth gwrs, sy'n ymgyrchwyr sifil, nid gwleidyddion ond ymgyrchwyr sifil, sydd hefyd wedi cael eu carcharu. Rhaid i ni eu cofio, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn efallai. Ond hefyd, os gwelwch yn dda, unwch fel Senedd i roi mynegiant o undod, nid i ddewis ochr ond i ddangos undod â Seneddau eraill sy'n mynegi ewyllys eu pobl.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl Plaid Cymru: Credyd cynhwysol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Y ddadl nesaf yw dadl Plaid Cymru ar gredyd cynhwysol. Galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM6606 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y bydd y cyfnod hawlio o chwe wythnos ar gyfer pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn achosi caledi yn ystod cyfnod y Nadolig.

2. Yn ailddatgan bod diffyg sylfaenol yn y system credyd cynhwysol.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau lliniaru i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, ac osgoi cosbau, dros gyfnod y Nadolig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn am yr un cyfrifoldeb gweinyddol dros nawdd cymdeithasol â'r hyn sydd gan Lywodraeth yr Alban.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i gyflwyno dadl Plaid Cymru heddiw ar gredyd cynhwysol. Dyma'r ail ddadl mewn chwe wythnos i ni ei chyflwyno ar y mater yma, oherwydd ein bod ni yn pryderu yn fawr am yr effaith gaiff y polisi dinistriol hwn ar ein dinasyddion ni yng Nghymru. Fel nifer ohonoch chi yn y Siambr heddiw yma, rydym ni yn pryderu, ond yn ogystal â hynny, ac yn ogystal â phwyntio bys at y Torïaid, rydym ni hefyd ym Mhlaid Cymru yn cynnig ateb heddiw, ateb a fyddai'n dechrau rhoi grym yn ein dwylo ni yng Nghymru er mwyn, yn y pen draw, dyfeisio system llawer tecach. 

Ddoe, fe glywsom ni fod 300 o denantiaid mewn dyled yn Nhorfaen, lle mae credyd cynhwysol ar waith ers mis Gorffennaf eleni. Mae adroddiad ar yr oblygiadau yn Nhorfaen yn dweud hyn:

Mae adborth cynnar yn dangos amgylchiadau eithriadol o niweidiol i lawer o aelwydydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae safbwynt Plaid Cymru ar y mater yma yn glir: er mwyn amddiffyn ein dinasyddion rhag gweithredoedd y Ceidwadwyr ar eu gwaethaf, mae'n rhaid dechrau datganoli gweinyddiaeth y system les i Gymru. Mi fedrwn ni wedyn roi terfyn ar y diwylliant o oedi a chosbi, a hefyd sicrhau mai unigolion nid cartrefi sydd yn derbyn taliadau, er mwyn sicrhau na fydd y system newydd yn cael effaith anghymesur ar ferched. 

Rydym yn awgrymu dechrau drwy ddatganoli'r gweinyddu a fyddai'n ein galluogi ni yng Nghymru i fod yn fwy hyblyg efo taliadau ac i amrywio'r dull o dalu'r elfen dai. Mae hyn eisoes yn digwydd yn yr Alban. Yno, mae Llywodraeth yr SNP wedi newid amlder y taliadau o rai misol i rai bob pythefnos. Ac yn yr Alban mae'r elfennau tai yn cael eu talu'n uniongyrchol i landlordiaid yn ôl dymuniad y tenant.

Gadewch inni droi at fater y gost. Mae'r Alban wedi negodi fframwaith cyllidol efo San Steffan, sy'n golygu bod yr arian ar gyfer gweinyddu rhai elfennau o gredyd cynhwysol yn cael ei drosglwyddo i'r Alban fel rhan o'r grant bloc. Yn fy marn i, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r gost fel esgus i beidio â gweithredu ar y mater yma. Fe wnaf i ei egluro fo mewn ffordd arall, jest i wneud yn hollol glir bod pawb yn deall: nid yw gweinyddu lles yn costio dim byd i Lywodraeth yr Alban oherwydd fe addaswyd y grant bloc yn yr Alban fel bod swm ychwanegol ar gael i'r Alban ar gyfer y costau gweinyddol, gan gynnwys unrhyw gostau cychwynnol hefyd, gyda llaw. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i drefnu fframwaith tebyg i'r hynny a negodwyd yn yr Alban, ac rydw i'n methu â deall pam na fyddai'r Llywodraeth yn dymuno rhoi cychwyn ar y negodi hynny. Mae'r Blaid Lafur Brydeinig wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i wneud newidiadau i'r polisi credyd cynhwysol; mae Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur yn aml yn sefyll yn y Siambr yma yn condemnio’r polisi.

Felly, rydw i'n cynnig i chi ffordd bragmataidd hollol o fynd i'r afael â'r broblem yma, ac rydw i'n estyn cynnig i chi fel Llywodraeth i wneud rhywbeth i newid rhai o agweddau gwaethaf credyd cynhwysol. Mi fyddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan y bobl sydd yn cael eu heffeithio ganddo fo, ac mi fyddai hynny hefyd yn dangos gwerth datganoli ac yn dangos gwerth ein Senedd genedlaethol ni o fedru cyflwyno syniadau amgen a ffordd decach o wneud pethau er budd ein dinasyddion ni a'n cymunedau. 

17:40

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark.

Gwelliant 1. Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y cefnogir yr egwyddor tu ôl i gredyd cynhwysol yn eang, gan ddarparu'r cymorth cywir i geiswyr gwaith, ac wrth gwrs gan roi gofal priodol yn ei le ar gyfer pobl na allant weithio.

2. Yn croesawu'r pecyn eang a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch y newid i gredyd cynhwysol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Lluniwyd credyd cynhwysol i helpu pobl i gael gwaith a chefnogi pobl sydd angen help neu bobl na all weithio. Mae'n disodli system a oedd yn anghymell pobl rhag gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos, a gwelodd bron 1.5 miliwn o bobl wedi'u caethiwo ar fudd-daliadau i'r di-waith am bron i ddegawd. Yn wahanol i'r modd trychinebus y cyflwynwyd credydau treth, a olygodd fod miliynau o bobl wedi wynebu adfachiadau yn sgil gordaliadau o £7.3 biliwn, mae credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno'n raddol. Mae pobl yn cael gwaith yn gyflymach ac yn aros mewn gwaith yn hwy. Nid oes ond chwe wythnos yn unig, fel y clywsom, ers dadl ddiwethaf Plaid Cymru ar y credyd cynhwysol lle y nodais fy mod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch taliadau llinell gymorth y credyd cynhwysol cyn ei gyhoeddiad eu bod yn cael eu dileu, a bod ASau ar y meinciau cefn Ceidwadol yn gwneud eu gwaith democrataidd drwy alw am ostyngiad yn yr amser aros o chwe wythnos am daliadau credyd cynhwysol.

Pan ymwelais â rheolwr ardal newydd y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru a staff eu swyddfa yn yr Wyddgrug yn ddiweddar, roeddent yn dweud wrthyf y gallant bellach ganolbwyntio ar anghenion yr hawlydd, ac yn lle treulio eu dyddiau'n helpu pobl i lenwi ffurflenni hir wrth iddynt ddod oddi ar, ac yna'n ôl ar lwfans ceisio gwaith, ac ymdrin ag ymholiadau ynglŷn ag oedi taliadau, bellach gallant ganolbwyntio ar hyfforddi pobl ynglŷn â sut i ddod o hyd i waith ychwanegol a dod yn annibynnol yn ariannol. Hefyd roeddent yn dweud wrthyf am y cymorth cyllidebu personol y maent yn ei ddarparu ac am y taliadau ymlaen llaw sydd ar gael, er nad oedd llawer wedi manteisio ar y rhain hyd yma yn ôl yr hyn roeddent yn ei ddweud wrthyf.

Rwy'n annog pob aelod i ymweld â swyddfa Canolfan Byd Gwaith yn eu hardal eu hunain. Nododd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Waith a Phensiynau yn 2012:

Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r credyd cynhwysol yn cael eu cefnogi'n eang, ac rydym yn rhannu'r gefnogaeth honno.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau'r wrthblaid Lafur dair blynedd yn ôl:

Mae Llafur yn cefnogi'r egwyddor o gredyd cynhwysol.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r papur ymgynghorol ar lesiant yn yr unfed ganrif ar hugain yn cytuno â'r angen i ddiwygio'n sylfaenol a'r egwyddorion sy'n sail i'r credyd cynhwysol. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 1, gan nodi bod cefnogaeth eang i'r egwyddor sy'n sail i'r credyd cynhwysol.

Yn hytrach na'i ddileu, roedd maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer y DU yn 2017 yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Bydd Llafur yn diwygio ac yn ailgynllunio'r credyd cynhwysol, gan roi diwedd ar y cyfnodau o chwe wythnos o oedi cyn talu.

Ac yn y cyd-destun hwn, mae gwelliant 1 hefyd yn croesawu'r pecyn eang a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch y pontio i gredyd cynhwysol. Mae'r pecyn hwn sy'n werth £1.5 biliwn, ac sy'n lleihau'r amser y bydd yn rhaid i hawlydd aros am eu taliad cyntaf i bum wythnos, gryn dipyn yn fwy hael mewn gwirionedd na lleihau'r taliad i un mis, a byddaf yn datblygu hynny.

Ar wahân i'r ffaith fy mod yn amau a oes unrhyw un ohonom, o bosibl, yn yr ystafell hon erioed wedi mynd heb unrhyw incwm o gwbl am bum wythnos, a fyddech yn cydnabod bod ôl-ddyledion sylweddol wedi bod o ganlyniad i hyn ymron pob peilot a wnaed, yn enwedig yng Nghymru?

Lle nad yw ymgysylltu priodol rhwng y gwahanol asiantaethau sy'n rhan o hyn wedi gweithio—yn enwedig awdurdodau lleol a swyddfeydd lleol y Ganolfan Byd Gwaith—sydd wedi codi—a chymdeithasau tai hefyd—ond lle mae wedi gweithio'n dda, mae wedi gweithio'n dda.

Ac mae'n ymwneud â mwy nag arian yn unig: mae'n ymwneud â helpu pobl i gael gwaith, i aros mewn gwaith a byw'n annibynnol. O'r mis nesaf ymlaen, bydd hawlwyr yn cael cynnig rhagdaliad 100 y cant. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gall hawlwyr newydd eisoes ym mis Rhagfyr dderbyn rhagdaliad hyd at 50 y cant, a bellach gallant dderbyn ail ragdaliad hyd at 100 y cant yn y flwyddyn newydd. Bydd rhagdaliadau i'w had-dalu bellach dros 12 mis yn hytrach na chwe mis; bydd hawlwyr a oedd wedi derbyn budd-dal tai yn flaenorol yn cael pythefnos ychwanegol o gymorth, gwerth £233 ar gyfartaledd na fydd yn ad-daladwy, a bydd yn awtomatig ac yn cael ei roi'n gynnar yn ystod y cyfnod asesu cyntaf.

17:45

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dyrannu—. Mae'r amser yn brin bellach, mae arnaf ofn, Mick. Rwyf braidd yn bryderus y daw i ben, ond os oes amser ar y diwedd, fe wnaf. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dyrannu £8 miliwn dros bedair blynedd i ddatblygu tystiolaeth ynglŷn â beth sy'n gweithio i helpu pobl i gamu ymlaen yn eu gwaith.

Mae swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ers mis Mawrth 2012 ar gynlluniau ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol, a chyhoeddodd Llywodraeth y DU y fframwaith gwasanaethau cymorth credyd cynhwysol lleol ym mis Chwefror 2013, a ddatblygwyd rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i helpu hawlwyr nad ydynt yn barod eto i gyllidebu drostynt eu hunain a'r rhai y mae angen trefniadau talu amgen arnynt, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig.

Pan fyddwn yn clywed, er enghraifft, fod gwerth cyfartalog ôl-ddyledion rhent o dan y credyd cynhwysol yng Nghymru yn £450, mwy na theirgwaith cyfartaledd y DU, rhaid i ni ofyn i Lywodraeth Cymru beth a aeth o'i le yma. Cred Tai Cymunedol Cymru y gellid targedu rhai o'r materion yn ymwneud â chredyd cynhwysol drwy wella cyfathrebu rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau, tenantiaid a landlordiaid. Hefyd, mae angen i ni ystyried atebion megis cynllun Ark Passport ar gyfer newid cymdeithasol, sy'n caniatáu i denantiaid wahanu a blaenoriaethu rhent a thaliadau eraill, a rhoi mwy o sicrwydd i landlordiaid. Ac mae angen inni ymgysylltu â strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth y DU i drawsnewid cyflogaeth i'r anabl a helpu dros 1 filiwn yn fwy o bobl anabl i gael gwaith. Diolch.

Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.

Gwelliant 2. Julie James

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod, pe bai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y Deyrnas Unedig, y byddai hyn yn faich ariannol newydd ar Lywodraeth Cymru ac y byddai’n arwain at ddisgwyliadau, na ellir eu cyflawni, y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Dros y penwythnos, gwnes sifft yn casglu bwyd yn Tesco ym Merthyr Tudful gyda Banc Bwyd Merthyr Cynon. Awr neu ddwy yn unig o fy amser ydoedd i gynorthwyo gwirfoddolwyr banciau bwyd—gwirfoddolwyr sy'n rhoi oriau lawer o'u hamser, o un wythnos i'r llall, er mwyn darparu cymorth gwerthfawr i bobl pan fo fwyaf o'i angen arnynt. Er fy mod yn barod i wneud popeth a allaf i gynorthwyo gwaith y banc bwyd, a gaf fi ddweud nad wyf yn ei ystyried yn brofiad dyrchafol iawn, fel y disgrifiodd Mr Rees-Mogg AS waith y banciau bwyd? Yn wir, rwy'n ei ystyried yn adlewyrchiad trist iawn ar ein dyddiau ni. Mae'n drist fod cynifer o bobl—4,191 yn fy ardal i yn unig—angen help gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Wrth i ni nesáu at y Nadolig, dylai hynny roi rhywbeth i bawb feddwl amdano.

O dystiolaeth yr etholwyr a ddaw ataf am gyngor—gwn nad wyf ar fy mhen fy hun yn hyn—mae'n amlwg fod nifer o'r bobl sydd angen cymorth gan y banciau bwyd wedi wynebu anawsterau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae fy swyddfa etholaeth wedi cael ei hawdurdodi i ddosbarthu talebau banciau bwyd. Yn y sgyrsiau gydag etholwyr, yn rhy aml mae'n argyfwng a achosir gan hawliad budd-dal neu oedi cyn talu sy'n arwain yn uniongyrchol at eu hangen am gymorth brys.

Mae pobl yn fy etholaeth yn wynebu'r anawsterau hynny yn awr, a hynny cyn y bydd cyflwyno'r credyd cynhwysol yn cyrraedd Merthyr Tudful a Rhymni. Mae gennyf ofnau gwirioneddol dros rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn fy nghymuned pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd yn y pen draw—ofnau a atgyfnerthir gan y dystiolaeth o'r ardaloedd hynny lle y cafodd y credyd cynhwysol ei roi ar waith eisoes, fel yr enghraifft o Dorfaen y clywsom amdani eisoes.

Ni allaf ymatal rhag cyferbynnu effaith y credyd cynhwysol, sydd nid yn unig yn rhan allweddol o ddiwygio lles y Torïaid, cofiwch, ond sydd hefyd yn rhan o ddarlun ehangach o bolisïau cyni aflwyddiannus y Torïaid—cyferbynnu hynny â'r cynnydd a wnaed yn y frwydr yn erbyn tlodi plant, teuluoedd a phensiynwyr o dan Lywodraethau Llafur blaenorol. Dengys ystadegau o ddiwedd y 1990au hyd at ddyfodiad Llywodraeth glymblaid y DU yn 2010, fod Llafur wedi defnyddio dulliau Llywodraeth i helpu i godi 500,000 o blant a 900,000 o bensiynwyr allan o dlodi cymharol. Fel rwyf wedi sôn droeon, mae pla tlodi mewn gwaith yn ein cymunedau yn dal i dyfu gan fod diddymu credydau treth fwy neu lai wedi cael gwared ar y budd posibl o gyflwyno cyflog byw cenedlaethol ffug George Osborne yn 2015.

Fel y gallai llawer ohonom ei nodi, mae Sefydliad Joseph Rowntree newydd ddweud bod tlodi plant, teuluoedd a phensiynwyr bellach yn ôl ar yr un lefelau â chyn 1997 fwy neu lai. Felly, o ganlyniad uniongyrchol i gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, rydym wedi mynd tuag yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf wrth ymdrin â thlodi, a bydd cyflwyno'r credyd cynhwysol yn mynd â ni'n ôl hyd yn oed ymhellach. Rwy'n aml yn meddwl tybed i ba raddau y gall Cabinet Llywodraeth y DU sy'n llawn o filiwnyddion Torïaidd wir ddeall y materion hyn. A ydynt erioed wedi bod allan i weld drostynt eu hunain beth yw effaith eu polisïau ar aelodau gwanaf ein cymunedau? Os ydynt, a'u bod yn parhau gyda'r newidiadau hyn, nid oes ganddynt galon na chydwybod nac unrhyw dosturi.

Felly, rwy'n falch fod Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn gan ein bod yn amlwg yn rhannu pryderon ynglŷn â'r diffygion yn y credyd cynhwysol, a heb newid sylfaenol ym mholisi Llywodraeth y DU ar hyn, ofnaf y byddwn yn dychwelyd at y ddadl sawl gwaith eto yn y flwyddyn sydd i ddod.

17:50

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Fel y dywedodd Siân Gwenllian yn ei sylwadau agoriadol, cyflwynodd Plaid Cymru ddadl ar y pwnc hwn chwe wythnos yn ôl, a rhoddais safbwynt UKIP bryd hynny. Mewn gwirionedd nid yw ein safbwynt wedi newid ers hynny, felly fe fyddaf yn eithaf cryno, yn enwedig o gofio mai dadl hanner awr yn unig yw hon.

Rydym ni yn UKIP yn rhannu pryderon y pleidiau eraill yma ynglŷn â'r credyd cynhwysol. Fel plaid, nid ydym wedi cefnogi llawer o ddiwygiadau lles y Ceidwadwyr. Roeddem yn erbyn y dreth ystafell wely, er enghraifft. Felly, yn y materion penodol hyn, yn sicr nid ydym i'r dde i'r Ceidwadwyr, fel y mae llawer o bobl yn hoffi ein portreadu; rydym yn agosach at y pleidiau i'r chwith o'r canol mewn gwirionedd. Rhyfedd ond gwir.

Rydym yn rhannu pryderon ynglŷn â'r cyfnod o amser—[Torri ar draws.]—rwy'n siŵr eu bod wrth eu boddau—y cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i wneud y taliadau, y ffaith y gall taliadau ar y cyd adael pobl yn amddifad, a'r ffaith y bydd talu credyd cynhwysol yn uniongyrchol i denantiaid yn hytrach na landlordiaid yn ddi-os yn cynyddu ôl-ddyledion rhent. Rydym hefyd yn poeni ynglŷn â'r modd ar hap braidd o osod cosbau sy'n debygol o ddigwydd, a chan y ffaith y gellid cosbi pobl sydd eisoes mewn gwaith ac sydd eisoes â dwy neu dair swydd efallai. Mae'r math hwn o beth yn gwneud y cynllun credyd cynhwysol yn ei gyfanrwydd yn nonsens braidd, beth bynnag fo'r bwriadau da ar ei gyfer yn wreiddiol.

Nid wyf fel arfer yn treulio llawer o amser yma yn lladd ar y Ceidwadwyr, gan fod digon o hynny'n digwydd o feinciau Llafur a Phlaid Cymru, felly mae'n mynd yn ailadroddus braidd. Nid wyf eisiau cweryla gyda'r Aelodau Ceidwadol yma, sy'n bobl gwbl resymol—[Torri ar draws.]—na, nid wyf yn mynd i unman; diolch am yr awgrym—ac wrth gwrs, mae ganddynt nifer o'n hen ffrindiau bellach, fel Mark Reckless, er ei fod yn absennol ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Nid yw yno.

Nid yw yntau yma ychwaith, Mike.

I fod o ddifrif, nid wyf yn siŵr fod rhoi cyfrifoldeb am y system les i Iain Duncan Smith yn 2010 byth yn mynd i fod yn syniad da mewn gwirionedd. Dyma'r dyn a ddaeth i Ferthyr heb fod yn hir ar ôl ei benodi ac a ddywedodd, yn fyrfyfyr yn ôl pob golwg, y gallai fod yn syniad da pe bai rhai o'r bobl leol yn ystyried taro lawr i Gaerdydd i chwilio am waith, a'r gwir amdani wrth gwrs oedd bod miloedd o bobl Merthyr a threfi eraill yn y Cymoedd yn eisoes gwneud hynny ac wedi bod yn gwneud hynny ers rhai blynyddoedd. Felly, nid oedd y cynllun credyd cynhwysol dan oruchwyliaeth bwnglerwr naïf fel IDS byth yn debygol o fod yn llwyddiant mewn gwirionedd.

Fodd bynnag, hoffwn ailadrodd nad ydym yn cefnogi amcan Plaid Cymru o gael y system les wedi'i datganoli i Gymru. Rydym yn cydnabod beth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddatgan ar hyn: na fyddai hyn ond yn gosod baich gwariant ychwanegol enfawr ar y cyhoedd yng Nghymru. Felly, er ein bod yn rhannu pryderon Plaid Cymru ynglŷn â'r credyd cynhwysol, nid ydym yn rhannu'r ateb y maent yn ei argymell.

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Hoffwn fod yn glir ein bod yn cytuno â llawer o gynnig Plaid Cymru, gan wahaniaethu'n unig, fel y mae ein gwelliant yn ei ddangos, ynglŷn â pha mor ymarferol a dymunol fyddai cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol. Fel y byddai'r Aelodau yn ei ddisgwyl, rydym yn gwrthod y gwelliant hunanfodlon gan y Ceidwadwyr, sy'n anwybyddu'r gwir ddioddefaint a achosir gan ymdrechion carbwl a dideimlad eu plaid i ddiwygio lles.

Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar eu polisi cyni diffygiol a diangen; polisi a atgyfnerthwyd gan gyllideb yr hydref. Rydym yn parhau'n bryderus ynglŷn ag effaith toriadau lles a gyhoeddwyd yn flaenorol, yn enwedig o ystyried ein bod yn gwybod y bydd y rhain yn ergyd caled i aelwydydd incwm isel ac aelwydydd â phlant yn enwedig.

Mae dadansoddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhagweld y bydd tlodi plant absoliwt yng Nghymru yn cynyddu bron 7 pwynt canran rhwng 2013-15 a 2019-21. Caiff hyn ei yrru gan newidiadau i fudd-daliadau lles Llywodraeth y DU, gan gynnwys cyfyngu'r credyd treth a'r credyd cynhwysol i ddau o blant a rhewi'r rhan fwyaf o fudd-daliadau i rai oedran gweithio. Treth arfaethedig Llywodraeth y DU a'r diwygiadau i fudd-daliadau sydd i gyfrif am bron bedwar o'r saith pwynt canran yn y cynnydd mewn tlodi plant absoliwt dros y cyfnod hwn, a deillia gweddill y 7 y cant o dwf enillion a ragwelir a newidiadau eraill yn yr economi.

17:55

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae gennyf gydymdeimlad mawr â rhai o'r dadleuon rydych yn eu disgrifio, ond sut y gallwch ddweud hynny pan nad ydych eisiau pwerau i allu gwneud rhywbeth yn ei gylch eich hun?

Credaf fod hanes wedi dangos i ni beth sy'n digwydd pan fo Llywodraeth y DU yn datganoli budd-daliadau i ni, er enghraifft gyda budd-dal y dreth gyngor, pan frigdorrwyd y gyllideb ganddynt. Felly, cas gan gath y ci a'i bratho o ran hynny. Ac a dweud y gwir, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hyn, ac mae angen i Lywodraeth y DU ei ddatrys.

Dadansoddiad—. Wel, mae gennym ein cyfrifoldebau ein hunain yma sydd wedi'u datganoli i ni yn Llywodraeth Cymru. Hefyd dengys dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd aelwydydd yng Nghymru yn colli 1.6 y cant o'u hincwm net ar gyfartaledd, neu oddeutu £460 y flwyddyn, o ganlyniad i ddiwygiadau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU a gyflwynir rhwng 2015-16 a 2019-20. Mae hyn yn cyfateb i tua £600 miliwn y flwyddyn i Gymru gyfan.

Gwyddom y bydd aelwydydd incwm is ac yn arbennig y rhai â phlant yn colli cryn dipyn yn fwy ar gyfartaledd—tua 12 y cant o incwm net. Caiff teuluoedd mawr eu taro'n arbennig o galed, gan golli oddeutu £7,750 flwyddyn neu 20 y cant o'u hincwm net ar gyfartaledd. Felly, rwy'n pryderu'n fawr am yr effaith ddinistriol y mae credyd cynhwysol yn ei chael ar ein pobl fwyaf agored i niwed.

Er y gallai cyplau â phlant lle mae un o'r ddau'n ennill cyflog fod ar eu hennill, dengys y dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod rhieni sengl a chyplau lle mae'r ddau'n ennill cyflog yn debygol o fod ar eu colled. Felly, nid yw honiad Llywodraeth y DU y bydd credyd cynhwysol yn annog pobl i gael gwaith ac yn gwneud i waith dalu yn gwneud synnwyr, oherwydd mae'n gwanhau'r cymhelliad i'r ddau riant weithio ac mae'n gwanhau'r cymhelliad i rieni sengl gael gwaith. Yn anffodus, fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU i'w gweld yn benderfynol o anwybyddu'r ffeithiau hyn ac yn parhau i ddadlau bod credyd cynhwysol yn sicrhau bod gwaith yn talu bob amser.

Yn syth ar ôl dod i'r swydd hon, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, i nodi ein pryderon a barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gafodd ei mynegi yn ystod y ddadl flaenorol a gawsom ar y pwnc hwn. Gelwais arno i wrthdroi toriadau niweidiol Llywodraeth y DU i'r system les, i roi terfyn ar gyflwyno credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r pryderon sylfaenol sy'n cael eu gwyntyllu mewn perthynas ag ef. Fel rhan o'i ymateb i mi yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod tua 80 y cant o hawlwyr y credyd cynhwysol newydd yn cael eu talu'n llawn ac ar amser, ond hyd yn oed os yw hynny'n wir, rhaid i mi ofyn: beth am yr 20 y cant arall? Mae methiant ar y raddfa hon yn golygu bod hawlwyr yn gorfod chwilio am gymorth brys o fanciau bwyd, gyda llawer yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chymhlethdodau'r budd-dal newydd hwn.

O blith yr hawlwyr credyd cynhwysol newydd sy'n chwilio am gymorth hanfodol gyda'u costau tai, yr hyn sy'n peri pryder enfawr i mi yw na fydd llawer ohonynt yn gallu talu eu rhent cyntaf i'w landlord hyd nes y byddant yn derbyn eu taliad cyntaf. Ac mae awdurdodau lleol lle mae gwasanaeth llawn y credyd cynhwysol eisoes ar waith yn dweud wrthym eu bod yn gweld cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent i nifer o denantiaid. Mae hyn yn achosi neu'n gwaethygu problemau dyled i'r rhai sydd fwyaf o angen cymorth, ac mae iddo ganlyniadau difrifol i'r bobl a allai wynebu cael eu troi allan o ganlyniad i beidio â bod ag arian i dalu eu rhent.

Siaradais â'r Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth ar ddiwrnod datganiad yr hydref. Dywedodd wrthyf fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyflwyno rhagdaliadau ar gyfer hawlwyr newydd y credyd cynhwysol sy'n aros am eu taliad cyntaf. Dywed yr Adran Gwaith a Phensiynau y gwneir y taliad hwn o fewn pum diwrnod gwaith i wneud y cais ac ar yr un diwrnod i unrhyw un sydd mewn angen brys. Fel y dywedais wrth y Gweinidog, rwy'n dweud bod angen iddynt fynd ymhellach o lawer i fynd i'r afael â'r problemau. Nid wyf yn ystyried bod ateb yr Adran Gwaith a Phensiynau o gynnig benthyciad yn gynaliadwy fel ateb parhaol i hawlwyr a fydd yn aml mewn dyled eisoes. Nid oes neb yn honni bod cyfraddau budd-daliadau yn hael, felly dywedwch wrthyf: sut y disgwylir i hawliwr fyw ar un rhan ar ddeg o ddeuddeg o'r budd-dal hwnnw am flwyddyn gyfan tra bo'r rhagdal gwreiddiol yn cael ei ad-dalu?

Ysgrifennais at y Gweinidog Cyflogaeth yr wythnos diwethaf i ofyn am sicrwydd y byddai hawlwyr y credyd cynhwysol yn gallu derbyn taliadau dros gyfnod y Nadolig. Mae swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud wrth fy swyddogion fod gweithdrefnau cadarn ar waith i sicrhau bod pob taliad i hawlwyr sy'n ddyledus erbyn 21 a 22 Rhagfyr yn cael ei dalu, ac rwy'n mawr obeithio y caiff y sicrwydd hwn ei wireddu'n ymarferol, ond rhaid i mi ddweud nad yw ein profiad hyd yn hyn o'r modd y mae Llywodraeth y DU yn darparu credyd cynhwysol a budd-daliadau lles eraill yn rhoi llawer iawn o hyder i mi.

Mae'r rhwydwaith cyngor cenedlaethol ar gyfer Cymru'n gweithio'n agos gyda ni a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau y gall gwasanaethau cynghori helpu hawlwyr drwy gymhlethdodau'r credyd cynhwysol. Rhaid i'r Adran Gwaith a Phensiynau gydnabod bod llawer o'r hawlwyr eisiau ac angen dewis pa mor aml y cânt eu taliadau. Byddaf yn pwysleisio wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau y dylai'r dewis fod ar gael yn gyffredinol i holl hawlwyr y credyd cynhwysol drwy drefniadau talu amgen yr Adran Gwaith a Phensiynau. Nid wyf yn credu y byddai angen yr un trefniadau gweinyddol â'r Alban er mwyn cyflawni hyn.

Mae tystiolaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar i'r pwyllgor gwaith a phensiynau'n dynodi bod anfanteision gwirioneddol o ran yr hyblygrwydd a gynigir i hawlwyr yn yr Alban, gyda thaliadau'n cael eu gohirio o ganlyniad i hynny. Nid yw'r trefniadau hyblyg yn yr Alban ond yn dechrau ar ôl derbyn y taliad credyd cynhwysol cyntaf. Felly, mae rhai hawlwyr yn yr Alban wedi bod yn aros chwe wythnos neu fwy am eu taliad cyntaf.

18:00

Rwy'n dirwyn i ben. Nid wyf yn cefnogi datganoli lles neu weinyddu lles i Gymru. Mae datganoli budd-daliadau lles i Lywodraeth yr Alban wedi trosglwyddo'r risg ariannol sy'n gysylltiedig, gyda'r galw am fudd-daliadau lles yn tyfu'n gyflymach fesul y pen yn yr Alban nag yn Lloegr o'r pwynt datganoli. I Gymru, byddai hyn yn creu risg ariannol sylweddol ac annerbyniol, a byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r system les yn mynd ag adnoddau oddi wrth wasanaethau'r rheng flaen.

Felly, i gloi, fel y dywedais eisoes, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant y Ceidwadwyr, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad yw cyfraniad y Ceidwadwyr wedi cydnabod maint y problemau a nodwyd eisoes. Ac fel y nodir yn ein gwelliant, pe baem yn cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y DU, credwn na fyddai ond yn trosglwyddo beichiau ariannol ychwanegol i Lywodraeth Cymru ac yn creu disgwyliad na ellir ei gyflawni y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Nododd Dawn Bowden y pwynt pwysig fod diwygio lles, wrth gwrs, yn rhan o agenda gymdeithasol ehangach Llywodraeth Geidwadol y DU, a'i fod yn thema ganolog yn y polisi cyni.

Yng nghyfraniad Gareth Bennett—gwrandewais arno'n ofalus—erbyn y diwedd nid oeddwn yn siŵr a oedd yn mynd i symud at y Blaid Geidwadol neu at y blaid gomiwnyddol [Chwerthin.] Ond diolch iddo am ei gyfraniad y prynhawn yma.

Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn gydag ymateb y Gweinidog i'r ddadl heddiw. Mae'n ffaith bod Llywodraeth yr Alban wedi negodi, drwy eu fframwaith cyllidol, â Llywodraeth y DU, am gynnydd yn y grant bloc er mwyn talu am gostau gweinyddu lles. Rwy'n meddwl ei bod yn ddiddorol nodi yn ogystal, yn gynharach yn y ddadl yn y Siambr hon, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol wedi ailadrodd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datganoli cyfiawnder i'r lle hwn. Nid oes neb wedi awgrymu y byddai cost weinyddol enfawr a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid gwneud toriadau i wasanaethau cyhoeddus er mwyn ei thalu. Mewn gwirionedd, mae'r Prif Weinidog ei hun wedi dweud dro ar ôl tro ei fod yn hyderus y gall Llywodraeth Cymru ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU er mwyn cael swm canlyniadol Barnett, a symiau canlyniadol eraill yn ogystal, fel y gall Cymru dalu costau pwerau pellach. Nid oes rheswm pam na ellir negodi hynny rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer gweinyddu lles, a'r credyd cynhwysol yn benodol.

Gadewch i ni beidio â thwyllo ein hunain hefyd: credaf fod awgrymu nad yw gwasanaethau datganoledig a Llywodraeth ddatganoledig a llywodraeth leol eisoes yn talu pris trwm am y diwygiadau lles niweidiol sy'n cael eu gwthio drwodd yn gwadu'r gwirionedd yn llwyr. Rhan o bwynt datganoli'r cyfrifoldeb am weinyddu lles fyddai ein bod yn rhedeg system fwy effeithlon ac effeithiol a llai creulon yn y wlad hon a fyddai yn y pen draw yn arbed arian i wasanaethau cyhoeddus. Pam y ceir rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweinyddu ar hyn o bryd, megis Cefnogi Pobl? Mae'r rhain yn rhaglenni da iawn yn wir, ond rhan o'r rheswm am y cynnydd yn y galw ar y gwasanaethau hynny yw bod lles yn cael ei weinyddu gan y Ceidwadwyr yn San Steffan heddiw. A rhaid i mi ddweud, rwy'n ei chael yn gwbl anhygoel y byddai'n well gan Weinidog Llafur weld Ceidwadwr yn Llundain yn gweinyddu lles a diogelwch cymdeithasol i ddinasyddion Cymru na'u bod yn cymryd cyfrifoldeb eu hunain.

Gadewch inni hefyd gadw mewn cof fod gweinyddu lles, wrth gwrs, bob amser wedi ei ddatganoli a'i gyfyngu i ardaloedd lleol. Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel y digwyddodd y canoli—

Diolch. A fyddech yn cydnabod mai'r rheswm pam y cafodd y credyd cynhwysol ei dreialu ledled y DU yw oherwydd maint y problemau sydd ynghlwm wrtho? A fyddech yn cydnabod hefyd y byddai'n ergyd ddwbl i hawlwyr yng Nghymru pe na baem yn cael y swm o arian y byddai ei angen i ariannu hyn yn briodol? Dyna'r pryder; yr hawlwyr sy'n ganolog i hyn.

18:05

Wel, rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod gymaint o ffydd ag sydd gennyf fi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid iddo deithio i Lundain a negodi bargen i Gymru ar gyfer gweinyddu lles a fyddai'n dod â'r symiau canlyniadol sydd eu hangen arnom. Mae gennyf bob hyder y byddem yn gwneud gwaith gwell o lawer o weinyddu lles yn y wlad hon ein hunain na'r giwed honno yn Llundain. Yn bendant.

Roeddwn yn gwneud y pwynt, Ddirprwy Lywydd, fod gweinyddu lles a'i ganoli yn bethau cymharol newydd yn yr ynysoedd hyn. Y rheswm pam fod gennym ddyfarniad Merthyr Tudful yn 1900 yw oherwydd safiad a gymerwyd gan warcheidwaid deddf y tlodion ym Merthyr Tudful i geisio cynorthwyo glowyr ar streic, ac wrth gwrs, mae gennym gylchlythyr 703 a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Iechyd yn ôl yn y dyddiau cyn y rhyfel er mwyn ceisio cyfyngu ar gymorth lleol i bobl a oedd yn byw mewn tlodi. Gwelodd y cyfnod rhwng y ddau ryfel ymddangosiad gwladwriaeth hyperganoledig, ac yn wreiddiol, ar ôl yr ail ryfel byd, bu hynny o fantais i lawer o bobl, ond y realiti gwleidyddol heddiw yw mai dinasyddion Cymru fydd yn talu'r pris mawr cyhyd ag y bydd popeth yn nwylo'r Gweinidogion yn Llundain, a'r dinasyddion mwyaf agored i niwed yng Nghymru fydd yn talu'r pris mwyaf.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, soniais am y cyfnod hwnnw o hyperganoli yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel, a disgrifiodd yr Athro Norman Ginsburg, sy'n arbenigwr ar bolisi cymdeithasol, y canoli a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwnnw fel rhywbeth a helpodd i ffrwyno potensial chwyldroadol y dosbarth gweithiol. Pam na wnawn ni ei ddatganoli, ac efallai y gall Llywodraeth Cymru ddod o hyd i'w photensial chwyldroadol ei hun i amddiffyn pobl y wlad hon?

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.

10. Cyfnod Pleidleisio

Felly, symudwn ymlaen at y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, ar ddadl Plaid Cymru ar Gatalonia. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig, 28, roedd 14 yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6605 - Dadl Plaid Cymru: O blaid: 28, Yn erbyn: 12, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr at bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar y credyd cynhwysol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, roedd 6 yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6606 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 38, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6606 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 1: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 31, roedd un yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6606 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 2: O blaid: 31, Yn erbyn: 22, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6606 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y bydd y cyfnod hawlio o chwe wythnos ar gyfer pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn achosi caledi yn ystod cyfnod y Nadolig.

2. Yn ailddatgan bod diffyg sylfaenol yn y system credyd cynhwysol.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau lliniaru i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, ac osgoi cosbau, dros gyfnod y Nadolig.

4. Yn cydnabod, pe bai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y Deyrnas Unedig, y byddai hyn yn faich ariannol newydd ar Lywodraeth Cymru ac y byddai’n arwain at ddisgwyliadau, na ellir eu cyflawni, y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 32, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6606 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 32, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

11. Dadl Fer: Galw ar feddygon teulu i ymgymryd â sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc

Symudwn ymlaen at ein heitem nesaf ar yr agenda. Os yw pobl yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda.

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis.

18:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y bôn, galwad ar feddygon teulu i ymgymryd â sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc yw hon. Mae Lynne Neagle AC wedi cynnig yn garedig i roi munud, a fy nghyd-Aelod, Mark Reckless.

Hoffwn siarad heddiw am bwysigrwydd sgrinio yn arbennig mewn plant a phobl ifanc, yn enwedig pan fyddant yn dangos pedwar arwydd cryf iawn o salwch difrifol. Cafodd effeithiau diabetes math 1, sy'n gallu bod yn drychinebus, eu hamlygu i mi drwy dystiolaeth a roddwyd i mi, fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, gan deulu'r diweddar Peter Baldwin a oedd yn 13 oed, ac a gollodd ei fywyd yn drasig yn gynnar yn 2015 o ganlyniad i getoasidosis diabetig—DKA. Efallai fod teulu Peter gyda ni heno, ac yn sicr roeddent yn gwneud eu gorau i fod yma. Gwn fod ei fam a'i dad, gyda Diabetes UK, wedi gweithio'n galed iawn i geisio sicrhau na fydd unrhyw deulu arall yn gorfod mynd drwy'r hyn y maent hwy wedi gorfod ei ddioddef.

Yn ei geiriau hi—dyma eiriau'r fam:

Roedd Peter yn caru bywyd yn yr ysgol a chyda'i ffrindiau. Roedd yn laslanc ffit ac iach a bywyd o'i flaen. Roedd newydd fod yn yr Almaen gyda'r ysgol ac wedi dod yn ôl yn dioddef o annwyd. Nos Calan, roedd yn sâl iawn, felly aethom at ein meddyg teulu. Gwnaeth ddiagnosis o haint ar ei frest, a rhoi gwrthfiotigau i ni. Ni chafodd prawf math 1 ei gynnig na'i ystyried. Eglurais fod Peter yn cysgu llawer ac yn yfed llawer, a gwyddom bellach fod y rheini'n ddau o'r prif arwyddion.

Bedair awr ar hugain yn ddiweddarach, am 4.30 p.m. ddydd Calan fe wnaethom ffonio'r gwasanaeth tu allan i oriau ac esbonio ein bod yn bryderus iawn am Peter, a oedd yn dirywio'n gyflym, a'i anadlu'n drafferthus ac roedd yn ffwndrus. Gan fynnu bod hyn yn fater o frys mawr, cawsom ein trosglwyddo i'r gwasanaeth 999, ac ni allem fynd drwodd am amser eithaf byr. Gofynnais am ambiwlans, a bu'n rhaid i mi fod yn ddiamwys ynglŷn â hynny; roedd y sawl y siaradais â hwy'n cadw gofyn a oedd hynny'n angenrheidiol. Diolch byth fe fynnais a dal fy nhir—byddai llawer wedi rhoi'r gorau iddi ar y pwynt hwn. Cyrhaeddodd y parafeddyg ymateb cyflym yn fuan a'r peth cyntaf a wnaeth ar ôl rhoi ocsigen i Peter oedd pricio'i fys. Rhoddodd ddiagnosis o ddiabetes math 1 i Peter yn y fan a'r lle a chymerodd lai na 30 eiliad. Ffoniodd y parafeddyg am ambiwlans ac o fewn 15 munud, roeddem yn yr adran resus yn Ysbyty'r Mynydd Bychan. Cafodd Peter y gofal cywir. Brwydrodd am chwe diwrnod ond ni allai ei gorff bach ymdopi ac ni wellodd.

Gall cetoasidosis diabetig fod yn angheuol. Roedd Peter wedi bod ym meddygfa ei feddyg teulu ddyddiau ynghynt. Gallai, ac fe fyddai prawf pricio bys dwy eiliad ar yr adeg honno gan ei feddyg teulu wedi rhoi diagnosis o ddiabetes math 1 ac wedi rhoi mantais hanfodol o 24 awr i Peter a'i deulu i ymladd y DKA. Mae'n dyst i ymroddiad ac ymrwymiad teulu Peter eu bod yn ymgyrchu er cof amdano a dyna pam rwy'n sefyll yma heno yn trafod hyn. Maent eisiau—ac rwyf fi eisiau—gwneud yn siŵr nad oes neb arall byth yn gorfod mynd drwy'r un profiad erchyll â hwy ac nad oes neb yn colli eu plentyn yn ddiangen.

Cyflwr awto-imiwn yw diabetes math 1 lle yr ymosodir ar y corff a chaiff celloedd sy'n cynhyrchu inswlin eu dinistrio, sy'n golygu nad oes unrhyw inswlin yn cael ei gynhyrchu. Mae hyn yn peri i glwcos godi yn y gwaed yn gyflym ac felly, mae'n rhaid i bawb sydd â diabetes math 1 gymryd inswlin i reoli siwgr yn y gwaed neu eu lefelau glwcos yn y gwaed. Nid oes modd atal y cyflwr ac nid oes gwellhad. Gwyddom fod diabetes math 1 ar oddeutu 1,500 o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Yr oedran y ceir diagnosis amlaf yw rhwng tua naw a 14 mlwydd oed, ac mae Diabetes UK yn dweud wrthym, o'r rhain, y bydd 24 y cant—hynny yw, tua 360—wedi cael diagnosis yn hwyr iawn ar y cam lle y ceir bygythiad i fywyd o ganlyniad i DKA neu getoasidosis diabetig. Yn y grŵp oedran o dan bump, mae'r nifer hwn yn cynyddu i 29 y cant. Ar y cam hwn o ddiagnosis hwyr, mae diabetes math 1 yn gyflwr sy'n dechrau'n gyflym, a bydd y plentyn yn mynd yn sâl iawn yn gyflym iawn. Os na chaiff brawf, atgyfeiriad a thriniaeth ar unwaith, gall fod yn angheuol.

Rydym hefyd yn gwybod bod diabetes math 1 mewn plant yn gymharol brin. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn amcangyfrif bod y gyfradd ymhlith plant o dan 15 yn 187 o bob 100,000 o blant, sy'n golygu y gallai meddyg teulu fynd drwy eu gyrfa gyfan heb weld achos o'r fath.

Ymhellach, gall amryw o afiechydon plentyndod cyffredin megis ffliw, heintiau dŵr neu heintiau ar y frest arwain at ddiagnosis anghywir weithiau, a dyna pam y mae'n bwysig iawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth feirniadol o ystyr posibl y symptomau hyn.

Rwyf am ei gwneud yn glir nad yw'r ymgyrch hon, y ddadl hon, yn galw am sgrinio'r boblogaeth gyfan. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud yn glir y byddai hyn yn creu pryder ynghylch nifer sylweddol o atgyfeiriadau ac archwiliadau diangen. Felly, galwad yw hon am sgrinio ym mhob achos pan fo'r plentyn neu'r person ifanc yn dangos y pedwar symptom y gwyddom eu bod yn ddangosyddion allweddol o ddiabetes math 1: teimlo'n fwy blinedig nag arfer, bod yn sychedig a methu torri'r syched hwnnw, mynd i'r toiled yn aml, gwlychu'r gwely gan blentyn sydd wedi bod yn sych cyn hynny, neu glytiau trymach mewn babanod, colli pwysau ac edrych yn denau ac yn ddi-raen, yn fwy felly nag arfer.

Os yw meddyg teulu'n credu bod diabetes math 1 ar blentyn, mae'n rhaid iddynt eu hatgyfeirio ar unwaith ac ar yr un diwrnod at eu tîm pediatrig arbenigol lleol i gael triniaeth ar unwaith ac i atal DKA a allai fod yn angheuol. Rydym yn gwybod bod cynnal profion am ddiabetes pan fydd y symptomau hyn yn bresennol yn hawdd iawn, ac mae'n gosteffeithiol iawn pan ystyriwch ein bod yn sôn am fywyd plentyn. Mae'n cymryd dwy eiliad. Mae prawf pricio bys gan feddyg teulu bob tro y bydd plentyn yn dangos y symptomau hyn yn ei gwneud hi'n bosibl darganfod math 1 mor gynnar â phosibl mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac felly'n cynnig y posibilrwydd a'r gobaith gwirioneddol y gellir cyfyngu ar yr achosion o ddiabetes math 1 lle na wnaed diagnosis.

Ategwyd hyn mewn tystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Deisebau gan Diabetes UK, rhwydwaith diabetes plant a phobl ifanc Cymru, drwy sylwadau gan Dr Christopher Bidder, y cefnogwyd ei lythyr gan nifer o fyrddau iechyd, yn ogystal â Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi nodi y dylid gofyn ynglŷn â'r pedwar symptom fel mater o drefn yn rhan o ymarfer nodi hanes blaenorol. Mewn egwyddor, ni ddylai fod unrhyw reswm pam na wneir profion glwcos gwaed ar blant a phobl ifanc yn fwy rheolaidd mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Mae'r dyfeisiau'n gludadwy, nid ydynt yn ddrud, ac mae hyn yn cynnig hyblygrwydd o ran lle y gellir cynnal y profion. Ond mae'n rhaid i staff fod wedi'u hyfforddi'n ddigonol a rhaid i'r adnoddau fod ar gael ar gyfer cynnal y prawf—a'r driniaeth ddilynol sy'n ofynnol, wrth gwrs.

Yn ogystal, mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi y dylai addysg i weithwyr iechyd proffesiynol gofal sylfaenol gynnwys codi ymwybyddiaeth o symptomau nodweddiadol diabetes math 1 a phrawf pricio bys glwcos gwaed yn brydlon yn y fan a'r lle i unrhyw unigolyn. Yn amlwg, mae llawer o gefnogaeth i'r cynnig hwn. Felly, pam nad yw'n cael ei hyrwyddo'n effeithiol, a pham nad yw'r pryder hwn yn cael y sylw difrifol y mae'n ei haeddu?

Er gwaethaf cefnogaeth bron yn fyd-eang i brawf pricio bys pan fydd plant yn dangos y symptomau hyn, a phresenoldeb cyfarpar y prawf pricio bys ym mhob meddygfa, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi nodi nad oes safonau gofynnol cenedlaethol wedi'u cytuno ar hyn o bryd ar gyfer addysg gofal sylfaenol ynglŷn â diabetes. Wrth gymryd tystiolaeth yn y pwyllgor, daethom yn ymwybodol fod gwahaniaethau'n parhau rhwng y byrddau iechyd o ran llwybrau diabetes math 1 ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn eu cyflwyniadau ysgrifenedig, byrddau Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf a Betsi Cadwaladr yn unig sy'n cyfeirio at y llwybr yn benodol, ond roeddent yn nodi bod disgwyl i feddygon teulu ddilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Nododd Aneurin Bevan nad oes ganddynt lwybr ffurfiol, ond roeddent yn nodi eu disgwyliadau ar gyfer atgyfeirio at uned i blant am asesiad ar yr un diwrnod yn unol â chanllawiau NICE. Nododd Powys amrywiad bach yn eu llwybr diagnosis ac atgyfeirio oherwydd y gwahanol ddarparwyr GIG a ddefnyddir yng ngwahanol ardaloedd y bwrdd iechyd, a dywedodd nad oes polisi ganddo ar gyfer cynnal profion glwcos gwaed yn y pwynt gofal mewn gofal sylfaenol. Ni fanylodd Hywel Dda ar unrhyw lwybr penodol na chyfeirio at y canllawiau NICE hyd yn oed.

Gwelir rhywfaint o gynnydd: nododd Caerdydd a'r Fro fod llwybr Cymru gyfan ar gyfer gwneud diagnosis o ddiabetes mewn plant a phobl ifanc wrthi'n cael ei gwblhau. Mae'r llwybr yn pwysleisio'r angen i gynnal profion glwcos gwaed yn y pwynt gofal i bob plentyn lle yr amheuir bod diabetes yn bresennol, yn unol â chanllawiau NICE, ac eto ni cheir unrhyw sôn am y pedwar symptom a dyma'r pwynt critigol yma. Rydym yn dal i ddisgwyl am ganlyniad y llwybr Cymru gyfan.

Nawr, yn dilyn y ddadl hon, ac yn fwy felly, yn dilyn yr ymgyrch enfawr y mae'r teulu hwn, Diabetes UK a sefydliadau eraill, pobl feddygol—wyddoch chi, pobl yn y sector meddygol. Maent wedi pwysleisio'r angen, pan fydd plant yn dangos y pedwar symptom, yr angen i gynnal profion gwaed glwcos syml drwy bricio bys, rhywbeth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae'n debyg, mewn gwirionedd, mai'r rheswm rwy'n codi hyn yma heddiw yw'r rhwystredigaeth na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ati i hyrwyddo ymgyrch er mwyn sicrhau bod y profion syml hyn yn gallu digwydd ym mhob meddygfa pan fydd plant yn dangos arwyddion o'r pedwar symptom.

Hoffwn orffen drwy ddyfynnu Beth Baldwin unwaith yn rhagor ar ein hamcanion yma, sy'n cynnwys rhai uniongyrchol, byrdymor a hirdymor:

Rhannu stori Peter a chyflwyno profion math 1 fel rhan o brotocol, adnewyddu ymwybyddiaeth meddygon teulu a gofal sylfaenol, e-ddysgu blynyddol am beryglon diabetes math 1 heb ei ganfod, gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau i greu ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eich annog i ystyried hyn fel blaenoriaeth hollbwysig. Mae'r gost am ymgyrch o'r fath ar gyfer sgrinio rheolaidd yn isel ac unwaith eto, nid yw'n cymharu pan fyddwn yn sôn am golli bywyd un plentyn hyd yn oed. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i atal risg DKA a allai fod yn angheuol i 24 y cant o blant a phobl ifanc sy'n cael diagnosis hwyr ac ar gam critigol sy'n bygwth bywyd, o ddiabetes math 1. Yn amlwg, yn hyn o beth gall bod yn wyliadwrus a phrofion achub bywydau. Mae gennych bŵer a gallu i gyfleu'r neges honno. Os gwelwch yn dda, gwnewch hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch.

18:20

A gaf fi ddiolch i Janet am adael i mi gael munud o'i hamser? Hefyd rwyf wedi bod yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd am ei ymwneud yn ddiweddar ag ymgyrch Know Type 1 ac am gyfarfod â mi a chyd-Aelodau, Julie Morgan a Jayne Bryant, a Diabetes UK Cymru a Beth Baldwin, sydd wedi ymgyrchu mor ddewr yn dilyn marwolaeth drasig ei mab, Peter, ddwy flynedd yn ôl. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet o'r cyfarfodydd hynny, rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau am ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â diabetes math 1, yn enwedig ymhlith meddygon teulu, staff ysgol a rhieni.

Mae Janet yn mynegi'n glir iawn pa mor hawdd yw hi i achub bywyd drwy gynnal prawf pricio bys syml. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n awyddus i weld cyfarwyddyd pellach oddi wrthych chi a Llywodraeth Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn. Hoffai Diabetes UK Cymru weld gwybodaeth am fath 1 yn cael ei gyflwyno i rieni mor rheolaidd ag y cyflwynir gwybodaeth am gyflyrau plentyndod eraill fel llid yr ymennydd, er enghraifft. Gellid gwneud hyn drwy ymwelwyr iechyd a defnydd o'r llyfr coch—syml iawn ond effeithiol iawn hefyd. Maent hefyd wrthi'n paratoi pecynnau gwybodaeth ar gyfer ysgolion a meddygfeydd meddygon teulu, a fydd yn barod yn y flwyddyn nesaf, ac adnodd fideo y gellir ei ddefnyddio ar gyfer meddygon teulu. Credaf fod rôl allweddol yma i Lywodraeth Cymru hwyluso'r gwaith o ddosbarthu a hyrwyddo'r deunyddiau hyn er mwyn annog eu defnydd.

Rwy'n ymwybodol mai munud yn unig sydd gennyf, felly yn olaf, a gaf fi ofyn a oes gennych y wybodaeth ddiweddaraf, Ysgrifennydd y Cabinet, am y trafodaethau a gawsoch gyda rhwydwaith diabetes plant a phobl ifanc ar gynyddu argaeledd mesuryddion glwcos a phrociau electronig ar gyfer meddygon teulu?

Deilliodd fy nghysylltiad i â diabetes math 1 yn bennaf drwy fynychu gwersylloedd haf gyda Chymdeithas Diabetes Prydain, rhagflaenydd Diabetes UK, gyda fy nhad, a oedd yn feddyg, a fy mam, a oedd yn nyrs, a gynorthwyai i gynnal y gwersylloedd hynny ar gyfer plant a phobl ifanc â diabetes. Soniodd Janet, rwy'n credu, mai 0.2 y cant yn unig o blant sydd â diabetes math 1 a byddai rhai ohonynt yn teimlo'n ynysig iawn, ac yn annormal neu'n teimlo nad oes neb yn eu deall am eu bod yn gorfod chwistrellu eu hunain yn rheolaidd. Felly, credaf fod hynny mor ddefnyddiol iddynt ac chredaf y bydd codi ymwybyddiaeth yn y ffordd y mae Janet yn ei awgrymu yn helpu yn hynny o beth.

Credaf hefyd fod yr hyn y mae'n ei ddweud am y pedwar symptom a chael y meddyg teulu i ymateb iddynt drwy wneud y prawf pricio bys yn ffordd well o ymdrin â'r hyn yr awgrymwyd eu bod yn ei wneud yn Aneurin Bevan, a hefyd, rwy'n credu, canllawiau NICE efallai, sef atgyfeirio at ganolfan ar wahân, gan fod y prawf hwnnw mor hawdd i feddyg teulu ei wneud. Gall hefyd olygu y gellid diystyru rhai na fyddai'n rhaid cynnal profion arnynt fel arall, os nad oes ganddynt ddiabetes math 1, a hyderaf y bydd yn destun llawer mwy o frwdfrydedd ymhlith meddygon teulu na'r hyn roedd yn rhaid iddynt ei wneud sawl degawd yn ôl, sef blasu wrin y claf i weld a oedd yn felys. Rwy'n credu bod prawf gwaed bach yn fwy realistig, ac yn y ffordd ymlaen.

18:25

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwrandewais yn ofalus ar y sylwadau a wnaed yn y ddadl heddiw, ac rwy'n cydnabod yr Aelod am godi mater pwysig. Mae pob un ohonom yn yr ystafell hon yn ymwybodol y gall diabetes achosi problemau iechyd hirdymor sylweddol ac mewn amgylchiadau prin, gall fod yn angheuol. Ar y cychwyn, mae'r Aelodau yma am gydnabod ymrwymiad, a dewrder, fel y dywedodd Lynne Neagle, y teulu Baldwin yn defnyddio'u profiad trist i fod eisiau ymgyrchu i godi arian ar gyfer yr achos a chodi ymwybyddiaeth hefyd i geisio gwella canlyniadau ar gyfer teuluoedd eraill. Gwn ei fod wedi bod yn amser hynod o anodd iddynt gan eu bod wedi dioddef colli plentyn i fod eisiau gwneud yn siŵr, cyn belled ag bo modd, nad yw rhieni eraill yn gorfod mynd drwy hynny.

Rwy'n falch bod Janet Finch-Saunders wedi egluro yn ystod ei chyfraniad nad yw hi'n galw am brofion rheolaidd fel mater o drefn i blant. O destun y ddadl, roedd yn ymddangos mai dyna a fyddai'r alwad a wneid, felly rwy'n ddiolchgar ei bod wedi egluro hynny yn ystod ei chyfraniad. Rydym yn gwybod bod yna ymchwilwyr sy'n ceisio datblygu prawf gwaed a all ganfod y gwrthgyrff sy'n ymosod ar gelloedd yn y pancreas flynyddoedd cyn i'r symptomau ymddangos yn y pen draw, er nad yw'r profion hynny'n ddigon cywir i'w defnyddio i sgrinio'r boblogaeth. Yn wir, mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Deisebau gan Diabetes UK, roeddent yn cydnabod nad oedd sgrinio'r boblogaeth yn rhywbeth y byddent yn ei gefnogi; nid oes tystiolaeth i awgrymu mai dyna fyddai'r peth iawn i'w wneud a beth bynnag, byddai'n anodd.

Nawr, yr her yw sut y gallwn gael y profion yn seiliedig ar farn glinigol a chydnabod nad yw'n ymarferol cynnal profion diabetes math 1 ar bob plentyn sy'n sâl. Felly, yr her yw sut rydym yn ysgogi'r diagnosis pan fydd unigolyn yn dangos arwyddion o ddiabetes math 1 mewn dull mwy effeithiol, fel yr argymhellwyd gan NICE. Mae hyn yn mynd yn ôl at y dystiolaeth yn y Pwyllgor Deisebau. Maent yn cefnogi'r dull presennol o gynnal profion diabetes math 1 ar blant a phobl ifanc pan fyddant yn dangos symptomau i glinigydd. Yr her yno eto yw sut y gallwn ei gael i fod yn fwy cyson. Dyna pam rydym wedi cydnabod yn ein cynllun cyflawni ar gyfer diabetes sydd wedi'i ddiweddaru fod angen cefnogi ymwybyddiaeth o symptomau er mwyn annog pobl i ofyn am gymorth yn gynnar gan y gwasanaethau iechyd, ac roedd y cynllun yn ymrwymo i ddatblygu ymgyrch godi ymwybyddiaeth dan arweiniad Diabetes UK Cymru—ac wrth gwrs, maent wedi cael cefnogaeth sylweddol ac ysgogiad gan y teulu Baldwin i wneud hynny.

Ac unwaith eto, fel y cydnabu Janet Finch-Saunders, nid wyf yn meddwl y byddai'n brifo inni atgoffa ein hunain o'r pedwar symptom cyffredin: yr angen i fynd i'r toiled yn llawer mwy aml a gwlychu'r gwely mewn plentyn a oedd yn sych o'r blaen; bod yn sychedig iawn a methu torri syched; teimlo wedi blino mwy nag arfer; a cholli pwysau neu fod yn deneuach na'r arfer. Yn yr amgylchiadau hynny, anogir rhieni i ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu. Ond o ystyried y nifer o fesurau iechyd a gyfeirir at y cyhoedd a'r nifer fach o blant sy'n datblygu diabetes math 1, mae yna gyfyngiadau y dylem eu cydnabod wrth gwrs wrth ddibynnu'n unig ar godi ymwybyddiaeth gyhoeddus yn gyffredinol. Dyna pam y mae ein cynllun cenedlaethol yn tynnu sylw at yr angen i fyrddau iechyd sicrhau bod staff yn ddigon gwybodus i allu nodi'r cyflwr yn briodol ac atgyfeirio pan geir amheuaeth o ddiabetes math 1, oherwydd credwn y dylai'r ffocws fod ar weithredu'r canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan NICE ar brofion ac atgyfeirio.

Fel y nododd Janet Finch-Saunders, mae NICE yn argymell atgyfeirio ar yr un diwrnod at wasanaeth diabetes arbenigol pan geir amheuaeth o ddiabetes math 1 a phrofion glwcos gwaed ar unwaith i blant sy'n dangos arwyddion o gyfogi neu chwydu, poen yn yr abdomen, goranadlu, diffyg hylif neu o fod yn llai ymwybodol. Rydym eisiau sicrhau, fel y nododd Janet ac fel y mae'r ddeiseb yn ei nodi gan ei fod wedi newid o'i alwad gyntaf i'r hyn ydyw bellach—. Rydym am sicrhau cysondeb ymhlith y gwasanaethau iechyd, a dyna pam y mae'r rhwydwaith diabetes plant a phobl ifanc yn datblygu llwybr atgyfeirio ar gyfer math 1. Dylai ailbwysleisio sut y dylid nodi pobl yr amheuir eu bod yn dioddef o ddiabetes math 1 a'u hatgyfeirio i gael profion. Ar y pwynt hwn yn benodol, dychwelaf at gwestiwn penodol Lynne Neagle ynghylch argaeledd mesuryddion glwcos gwaed, fel y nodais yn fy llythyr at y Pwyllgor Deisebau ar 6 Hydref eleni ac yn wir, fel sydd wedi deillio o'n sgyrsiau blaenorol, felly byddaf yn adrodd yn ôl ar y pwynt hwnnw'n benodol.

Os yw'r peilot rydym yn ei gynnal yn llwyddiannus, a'i fod yn dangos gwelliant o ran nodi ac atgyfeirio, yr ymrwymiad a roddais yw y byddwn yn cyflwyno hynny ledled Cymru, er mwyn cael proses gyson a dealltwriaeth i gynorthwyo clinigwyr. Mae'r rhwydwaith eisoes yn gweithio gyda'n darparwr gwybodeg GIG ar ddatblygu prociau electronig ar gyfer clinigwyr i gefnogi ymlyniad wrth y llwybr atgyfeirio os caiff ei gyflwyno. Ac unwaith eto, roedd hynny'n rhan o'r alwad gan Diabetes UK a'r teulu Baldwin, ac fe fuom yn trafod hynny'n benodol yn y cyfarfod gyda Lynne Neagle, cydweithwyr a'r teulu Baldwin. Felly, rydym yn archwilio nifer o opsiynau ychwanegol a all gefnogi gwell diagnosis, megis y defnydd o adroddiadau Datix, sef proses ffurfiol o adrodd am ddigwyddiadau gofal iechyd niweidiol, neu lle y cynhelir profion amhriodol. Ceir potensial hefyd i ddefnyddio gwersi a ddysgir o'r adroddiadau hyn ar draws y system ehangach i ailbwysleisio arferion gorau a'r hyn a ddisgwylir, a rhoddir ystyriaeth i sicrhau bod modiwl e-ddysgu ar gael ar gyfer meddygon teulu. Ac unwaith eto, fe ddof yn ôl i gadarnhau sut y mae hynny'n cael ei ddatblygu.

Y gwir trist yw nad oes ateb hawdd i'r broblem hon. Nifer fach o blant a fydd yn datblygu'r clefyd, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd gennym, mae'n dechrau'n rhy sydyn i raglen sgrinio fod yn effeithiol. Felly, yr her yw sut y gallwn sicrhau dull cyson o weithredu ar ran ein clinigwyr. Felly, mae angen inni eu helpu i sefydlu arferion da a gweithio gyda byrddau iechyd ar gysondeb yn y ddarpariaeth. Ac wrth gwrs, mae gwasanaethau dilynol, fel retinopathi diabetig, yn bwysig er mwyn monitro iechyd unigolion sy'n cael diagnosis o ddiabetes. Ond bydd ein ffocws o hyd ar nodi symptomau, diagnosis a thriniaeth brydlon, a disgwyliaf allu rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau yn y lle hwn neu mewn pwyllgorau eraill am y gwaith rydym yn ei wneud, a'r gwaith rwyf wedi ymrwymo i'w wneud, ar gael peilot ac yna ystyried ei gyflwyno i wella'r sefyllfa ar gyfer pob teulu, fel na fydd yn rhaid i rieni eraill wynebu'r amgylchiadau anffodus a thrasig y mae teulu Peter Baldwin wedi gorfod eu dioddef.

18:30

Daeth y cyfarfod i ben am 18:32.