Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/07/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni’r prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. A’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Ysgolion Gwledig

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ysgolion gwledig? OAQ(5)0158(EDU)

Diolch, Janet. Mae ysgolion gwledig yn elwa ar yr ystod lawn o bolisïau sydd gennym ar waith ledled Cymru. Yn ogystal, ers ymgymryd â’r swydd, rwyf wedi cyflwyno grant newydd ar gyfer ysgolion bach a gwledig sy’n werth £2.5 miliwn y flwyddyn, ac yn fwy diweddar, rwyf wedi cychwyn ymgynghoriad gan gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Diolch. Fel rhan o’ch rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac yn unol â’r addewid y caent uno gydag Ysgol Dolgarrog, mae dwy ysgol wledig yn nyffryn Conwy yn fy etholaeth—Tal y Bont ac Ysgol Trefriw—wedi bod ar gau ers blwyddyn bellach. Do, cawsant eu cau gyda chefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y pryd. Mae safle’r ysgol newydd yn Nolgarrog yn dal i aros am unrhyw fath o ailddatblygu. A allwch ddweud, fel y gallaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i fy etholwyr, pryd y bydd y cyfnod o ailddatblygu’r safle hwn yn dechrau?

Diolch am eich cwestiwn. Mae’n bwysig fod yr Aelodau’n ymwybodol na fydd unrhyw newidiadau i’r cod trefniadaeth ysgolion yn cael eu rhoi ar waith yn ôl-weithredol, ac rwy’n awyddus i fod yn glir iawn ynglŷn â hynny. O ran safle’r ysgol y cyfeiriodd yr Aelod ati, mewn gwirionedd, mater i’r cyngor lleol yw mynd ar drywydd y broses o adeiladau’r cyfleuster newydd hwnnw. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod, ar ôl gwneud ymholiadau gyda fy nhîm ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ynglŷn â chynnydd y prosiect penodol hwnnw. Mae gennym y rhaglen fwyaf ar gyfer adeiladu ysgolion a cholegau ers y 1960au. Mae adnoddau ar gael, ac rwy’n awyddus i weld defnydd da’n cael ei wneud o’r adnoddau hynny, a’n bod yn darparu’r lleoliadau addysg o’r radd flaenaf yng Nghymru y mae ein plant yn eu haeddu.

Ac, wrth gwrs, mae hyfywedd ysgolion gwledig yn dibynnu cymaint ar eu gallu nhw i ddarparu cwricwlwm cyfan, a gwneud hynny i’r safon addysgiadol orau er mwyn ennill hyder y rhieni a’r gymuned yn ehangach na hynny. A fedrwch chi, felly, Ysgrifennydd Cabinet, ychwanegu at yr hyn rydych chi eisoes wedi ei ddweud ynglŷn â gwneud yn siŵr bod ysgolion gwledig yn gysylltiedig drwy fand-eang o’r radd flaenaf, i wneud yn siŵr bod pob un o’r ysgolion hynny, felly, wedi ei rwydweithio ac yn gallu darparu’r dechnoleg fwyaf diweddar i ddisgyblion er mwyn sicrhau bod yna ddyfodol ffyniannus i ysgolion gwledig?

Diolch yn fawr, Simon. Rydych yn llygad eich lle—hyfywedd addysgol ysgol a ddylai fod yn ystyriaeth gyntaf mewn perthynas â dyfodol yr ysgol honno. Nid yw cadw ysgol ar agor yn ddigon da. Mae’n rhaid i’r addysg y mae’r ysgol honno yn ei darparu fod yn gyfle addysgol o’r radd flaenaf i’r plant hynny. Nid wyf am i blant gael llai o gyfle am eu bod yn mynychu ysgol fach wledig na phe baent yn mynychu unrhyw ysgol arall yng Nghymru. Mae technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn rhoi cyfle i ni fynd i’r afael â rhai o’r anfanteision logistaidd y gall ysgolion bach gwledig eu hwynebu weithiau, yn ogystal â’r arwahanrwydd proffesiynol y gallai’r athrawon yn yr ysgolion hynny ei wynebu o bryd i’w gilydd.

Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi sicrhau yn ddiweddar fod pob ysgol—er bod problemau o hyd gydag un ysgol yn etholaeth Ceredigion, oherwydd anawsterau gyda’r contractwr—bellach wedi cyrraedd targed y Llywodraeth ar gyfer pob cyflymder, ac rydym wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol y mae awdurdodau lleol unigol yn rhoi cynigion am gyfran ohono, i ddiweddaru i gyflymderau hyd yn oed yn uwch ar gyfer ysgolion eraill. Ond fel rhan o’r grant ysgolion gwledig, un o’r meysydd allweddol y byddem yn hoffi gweld y cynghorau’n defnyddio’r grant hwnnw ar ei gyfer yw annog arloesedd, a fyddai’n cynnwys ystafelloedd dosbarth rhithwir a buddsoddi mewn TGCh a ffyrdd arloesol o addysgu drwy rwydwaith rhithwir.

Grantiau Datblygu Disgyblion yn Etholaeth Ogwr

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y grantiau datblygu disgyblion yn etholaeth Ogwr? OAQ(5)0160(EDU)

Byddwn wrth fy modd, Huw, oherwydd, yn Ogwr, mae 36.5 y cant o’r disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim wedi cyrraedd trothwy cynwysedig lefel 2 yng nghyfnod allweddol 4, ac mae hynny’n gynnydd o 12 y cant ers cyflwyno’r grantiau datblygu disgyblion. Cyflawnodd tri chwarter y dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim y dangosydd pynciau craidd ar gyfer cyfnod allweddol 2, ac mae hynny’n uwch na’r 62 y cant yn 2012, sef cynnydd o 14 pwynt canran. Dylid llongyfarch yr athrawon a’r myfyrwyr hynny.

Yn wir, ac rwy’n llongyfarch pawb yn yr ysgolion sy’n gweithio gyda phlant, gyda manteision sylweddol, oherwydd yr anfantais y gallent ei hwynebu, ond hefyd y staff addysgu a’r staff cymorth sy’n gweithio gyda hwy i gynhyrchu’r canlyniadau ardderchog hyn. Ac nid oes unrhyw amheuaeth fod y grant datblygu disgyblion yn adnodd hynod werthfawr sy’n rhoi cymorth ariannol i ysgolion gefnogi plant o deuluoedd difreintiedig, gyda phrydau ysgol am ddim, wrth gwrs, yn faen prawf ar gyfer cymhwysedd. Ond mae’r hyn rwyf am ofyn yn ymwneud â’r teuluoedd hynny nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond sydd efallai’n wynebu cryn drafferthion yn eu bywydau, fel rhieni’n ysgaru, colli rhiant, salwch cronig yn y teulu, colli swydd yn y teulu ac ati, a’r aflonyddwch emosiynol a all effeithio’n sylweddol ar anghenion addysgol plentyn, yn ogystal â lles cymdeithasol. Yn sicr, mae angen sicrhau bod y teuluoedd hyn yn cael cymorth priodol hefyd. Felly, a gaf fi ofyn i’r Gweinidog awgrymu ym mha ffyrdd y gallwn helpu’r teuluoedd hyn i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi, os nad drwy’r grant datblygu disgyblion, yna drwy fecanweithiau eraill i sicrhau bod y disgyblion hyn hefyd yn cael cyfle i lwyddo?

Llywydd, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Mae’r Aelod yn llygad ei le. Oni bai ein bod yn rhoi cydnabyddiaeth haeddiannol i lesiant plentyn, ni fyddant yn elwa ar y cyfleoedd addysgol a ddarparwn ar eu cyfer. Fel y gŵyr yr Aelod, rwy’n bwriadu cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o ‘Cymwys am Oes’, a gobeithiaf y bydd yn falch o weld mater llesiant yn cael ei gydnabod pan fydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

O ran y camau penodol rwyf yn eu cymryd, rwy’n gweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros blant. Rydym yn cydariannu cyfres o gynlluniau peilot sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a’r effaith y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod eu cael ar lesiant plentyn. Ac ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, rydym ar fin lansio cynlluniau peilot sy’n ymwneud â sut y gallwn gefnogi ysgolion yn well drwy sicrhau bod staff gwasanaeth iechyd sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl plant a’r glasoed yn fwy cyffredin yn ein hysgolion. Ac rydym yn gobeithio cyhoeddi manylion y cynllun peilot hwnnw cyn bo hir.

Fel y gwyddoch, efallai, Ysgrifennydd y Cabinet, mae ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ym Metws, rhan ddifreintiedig iawn o etholaeth Ogwr. Tybed pa mor glir yw hi y gellir defnyddio’r grant datblygu disgyblion i wella sgiliau dysgu Cymraeg, os mynnwch, ar gyfer disgyblion o gefndiroedd Saesneg eu hiaith, sydd mewn gwirionedd yn ei gwneud yn haws i’r teuluoedd hynny ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant, gan eu helpu i ddod yn ddwyieithog a rhoi mantais iddynt yn y gweithle yn ddiweddarach mewn bywyd.

Diolch, Suzy. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau eithaf cynhwysfawr i ysgolion ar sut y gallant ddefnyddio’r grant datblygu disgyblion. Mae hynny’n cynnwys cyfeiriad at becyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n adnodd hynod o werthfawr, ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio yn yr amgylchiadau hyn mewn gwirionedd. Ond mae pob ysgol unigol yn gyfrifol am benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio arian y grant datblygu disgyblion, gan mai hwy sy’n adnabod eu plant a’u teuluoedd a’u cymuned orau. Fel y dywedodd y Gweinidog ddoe, rydym am i bob plentyn, beth bynnag fo’u cefndiroedd, gael cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yn ein cenedl, ac rwy’n disgwyl y bydd yr ysgol y sonioch amdani yn defnyddio eu grant datblygu disgyblion i’r perwyl hwnnw, rwy’n siŵr.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n newyddion da gweld bod y grant datblygu disgyblion yn cael effaith ar wella cyfleoedd addysg ein plant a’n pobl ifanc mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae addysg y plant a’r bobl ifanc yn Ogwr ar fin cael ei dinistrio wrth i’r toriadau i’r gyllideb ddod i’r amlwg. Gallai ysgolion cyfun awdurdod addysg lleol Pen-y-bont ar Ogwr golli hyd at bum swydd athro o ganlyniad i ddiffygion Pen-y-bont ar Ogwr, sydd dros £300 y disgybl yn is na chyfartaledd Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd hyn yn effeithio ar y grant datblygu disgyblion?

Ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y grant datblygu disgyblion, gan fod y grant datblygu disgyblion yn cael ei dalu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i ysgolion unigol ar sail faint o’u disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl yn unig, roedd Prif Weinidog Llafur Cymru yn dweud wrth bobl am bleidleisio dros y Blaid Lafur er mwyn cael gwared ar ffioedd dysgu, ond ddoe, gan fradychu’r myfyrwyr a phleidleiswyr Llafur ledled Cymru, fe gyhoeddoch, ar ran ei Lywodraeth ef, gynnydd yn y cap ar ffioedd dysgu a delir gan fyfyrwyr yng Nghymru. A chredaf fod hynny’n dangos na ellir ymddiried yn y Blaid Lafur i gyflawni’r addewidion y mae wedi’u gwneud i bobl Cymru. Y llynedd, yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gwnaethoch addewid i dorri maint dosbarthiadau’r blynyddoedd cynnar i 25 neu lai. A allwch ddweud wrth y Cynulliad heddiw pa gynnydd rydych yn ei wneud ar yr addewid hwnnw?

Yn gyntaf oll, fel y dywedais, nid wyf yn arbenigwr ar faniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau’r Cynulliad y llynedd, ond rwy’n ymwybodol fod yr ymrwymiad maniffesto yn dweud y byddai myfyrwyr Cymru yn well eu byd na’u cymheiriaid yn Lloegr. Mae’r ffaith y bydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno cynllun grant a fydd yn sicrhau bod ein myfyrwyr tlotaf yn gymwys i gael grant sy’n cyfateb i’r cyflog byw yn rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono.

Sylwais fod Justine Greening wedi dweud mewn araith y bore yma mai dwy ffordd ymlaen yn unig sydd o ran ffioedd prifysgol: naill ai ffioedd neu gap. Byddwn yn annog Justine Greening i godi’r ffôn a dysgu sut y gall Llywodraeth wneud pethau’n wahanol, gan mai dyna beth rydym yn ei wneud yma yng Nghymru.

O ran maint dosbarthiadau, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn cyflwyno grant lleihau maint dosbarthiadau ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol ar y ffordd orau i ddefnyddio’r arian hwnnw, gan ganolbwyntio ar ein disgyblion ieuengaf, ein disgyblion mwyaf difreintiedig ac ar y plant nad yw Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt gan mai dyna ble bydd yr arian yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Credaf y bydd y pleidleiswyr yn penderfynu a yw’r Blaid Lafur wedi torri ei haddewidion maniffesto a wnaed ychydig wythnosau yn ôl yn unig mewn gwlad lle mae modd iddi roi’r addewidion hynny ar waith mewn gwirionedd. A gaf fi ofyn am rywfaint o eglurhad? Un o’r pethau y gwnaethoch fôr a mynydd yn eu cylch yn ystod eich ymgyrch etholiadol ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru y llynedd oedd yr addewid y byddech yn lleihau maint dosbarthiadau i lai na 25, ond wrth gwrs, rydych wedi treulio’r 12 mis diwethaf yn glastwreiddio’r addewid hwnnw, onid ydych, fel nad yw’n golygu unrhyw beth o’r fath mewn gwirionedd. Yr hyn rydych wedi siarad yn ei gylch yw lleihau’r gymhareb o staff sy’n oedolion i ddisgyblion mewn ystafelloedd dosbarth yn hytrach na chadw at eich addewid, a hynny, wrth gwrs, am fod gennych fynydd anferth i’w ddringo. Ym mis Ionawr 2016, roedd bron i 80,000 o blant mewn dosbarthiadau blynyddoedd cynnar gyda dros 25 o ddisgyblion—tri o bob pedwar disgybl yn y dosbarthiadau hynny. Gwyddom hefyd fod dros 25,000 o ddisgyblion ledled Cymru mewn dosbarthiadau o 30 neu fwy. Gwnaethoch addewid y byddech yn sicrhau dosbarthiadau o lai na 25. Rydych wedi glastwreiddio hynny nes ei fod yn addewid cwbl ddiystyr. Felly, mae’r Blaid Lafur wedi torri eu haddewidion ar ffioedd dysgu ac wedi torri eu haddewidion ar faint dosbarthiadau. Felly, o ystyried bod yr addewid hwnnw’n ddiwerth gan nad ydych yn mynd i gyflawni 25 neu lai yn yr ystafelloedd dosbarth hynny, a fyddwch yn gwrando yn awr ar y corws o arbenigwyr sydd wedi lleisio’u barn, wedi condemnio’r polisi hwnnw ac wedi awgrymu eich bod yn gwario’r £36 miliwn a glustnodwyd gennych ar ei gyfer ar bethau eraill yn y gyfundrefn addysg yn lle hynny, lle byddwch yn cael gwell gwerth am arian?

A dyna’r gwir amdani, Llywydd: nid yw Darren Millar yn barod i wrando ar rieni ac nid yw’n barod i wrando ar y proffesiwn addysgu pan ddywedant fod maint dosbarthiadau’n bwysig. Roedd fy maniffesto’n dweud y byddem yn anelu i leihau maint dosbarthiadau i 25, gan ddechrau gyda’r dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf, a dyna’n union rydym yn ei wneud â’r £36 miliwn a ddarparwyd i awdurdodau lleol yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Gadewch i mi eich atgoffa o addewid arall a wnaethoch i ddisgyblion a rhieni ledled Cymru: fe ddywedoch y byddech yn codi safonau fel Gweinidog addysg, ac eto, dros y penwythnos, fe’ch gwelsom yn bychanu’r disgwyliadau ar gyfer canlyniadau TGAU yr haf hwn. Nid yw’r ffaith ein bod yn diwygio TGAU yn golygu o reidrwydd ein bod yn anelu am ganlyniadau gwaeth. Felly, a fydd yr addewid y byddwch yn gwella safonau yn addewid arall na fyddwch yn gallu ei gyflawni ar gyfer disgyblion a rhieni, ac a allwch ddweud wrthym pam ar y ddaear nad oes gennych fwy o ffydd yn y disgyblion a’r athrawon ledled Cymru a disgwyl iddynt wneud yn dda?

Rwy’n gwbl ymrwymedig i godi safonau. Dyna yw fy nghenhadaeth genedlaethol i a’r Llywodraeth hon: codi safonau a chau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod gennym system addysg yng Nghymru sy’n destun balchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol. Mae’r TGAU diwygiedig yn rhan bwysig o’r broses honno. Y rheswm pam fod Cymwysterau Cymru—y corff annibynnol sy’n goruchwylio’r system arholiadau yng Nghymru—wedi cyhoeddi papurau’n rhybuddio am ostyngiad posibl yn y canlyniadau yw am fod TGAU mathemateg, Saesneg a Chymraeg mwy trwyadl wedi cael eu cyflwyno, gan ein bod yn symud oddi wrth wyddoniaeth BTEC. Mae’n ofnadwy meddwl—[Torri ar draws.] Darren, pe baech yn gadael i mi ateb, mae’n ofnadwy meddwl, mewn rhai ysgolion, nad oedd unrhyw fyfyrwyr yn sefyll arholiadau TGAU mewn gwyddoniaeth tan yn ddiweddar. Roedd cohortau cyfan yn cael eu cyflwyno i sefyll arholiadau BTEC. Roedd hynny’n warthus. Gwyddom hefyd—[Torri ar draws.] Gwyddom hefyd—[Torri ar draws.] Gwyddom hefyd ein bod wedi gweld mwy o fyfyrwyr yn cael eu cyflwyno’n gynnar i sefyll y gyfres hon o arholiadau nag erioed o’r blaen. Rwy’n bryderus iawn fod rhai ysgolion, am ba reswm bynnag, yn cyflwyno plant i sefyll arholiadau’n gynnar, ar ôl un flwyddyn yn unig o astudio cwrs a ddylai gael ei gyflwyno dros gyfnod o ddwy flynedd. A bydd y myfyrwyr hynny, sydd â’r potensial i gael A* efallai ar ôl dwy flynedd, yn cael C yr haf hwn, a bydd yr ysgolion yn setlo am yr C honno. Dyna pam y gofynnais i Cymwysterau Cymru lunio adroddiad ar gyflwyno cynnar, a byddaf yn cymryd y camau priodol i sicrhau nad yw cyflwyno cynnar yn amharu ar fy nod o sicrhau safonau uchel yn ein system addysg.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2012, fe ddywedoch fod lles disgyblion, athrawon, a staff yn ein hysgolion yn hollbwysig, a hefyd, wrth sôn am ganfod asbestos, y byddai’r Llywodraeth yn ceisio trosglwyddo cyfrifoldeb ymlaen i awdurdodau lleol ac ysgolion. A ydych yn dal o’r farn, fel roeddech pan oeddech yn un o’r gwrthbleidiau, y dylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb pan fo awdurdod lleol naill ai’n methu neu’n peidio â rhoi hyder i’n hathrawon a’n myfyrwyr eu bod yn addysgu ac yn dysgu mewn amgylchedd diogel?

Mae’n gwbl hanfodol i athrawon a disgyblion eu bod yn gwneud eu gwaith mewn amgylchedd sy’n addas at y diben ac sy’n bodloni’r holl reoliadau iechyd a diogelwch angenrheidiol. Dyna pam ein bod, fel y dywedais, yn buddsoddi yn y rhaglen adeiladu ysgolion a cholegau fwyaf ers y 1960au, ac mae cael gwared ar adeiladau anaddas yn rhan allweddol o’r ffordd rydym yn blaenoriaethu ein buddsoddiad yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, pan ddaethoch yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac unwaith eto heddiw, roeddech yn llygad eich lle i ddweud y dylid cael rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a bod y disgyblion mewn ysgolion gwledig yn haeddu’r un cyfleoedd â phlant mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Pa gamau, os o gwbl, y byddech yn eu cymryd pe baech yn amau bod awdurdod lleol yn gadael i ysgol wledig bydru er mwyn cryfhau’r achos dros ei chau?

Wel, fel roeddech yn llygad eich lle i’w ddweud, roedd rhagdybiaeth yn erbyn cau yn addewid maniffesto ym maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac rwy’n falch iawn o gael bod mewn sefyllfa i wneud cynnydd ar hynny o beth yn y Llywodraeth. Fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddiwygio’r cod trefniadaeth ysgolion er mwyn cryfhau’r cod hwnnw, ac yn wir, er mwyn creu diffiniad, am y tro cyntaf erioed yng Nghymru, o beth yw ysgol wledig mewn gwirionedd. Y cwestiwn cyntaf y dylai unrhyw awdurdod lleol ei ystyried wrth edrych ar ysgolion bach a gwledig yw hyfywedd addysgol yr ysgol honno, a dylent ddefnyddio’r cyfle a roddir iddynt gan y £2.5 miliwn rydym yn ei roi ar gyfer y grant ysgolion bach a gwledig i edrych ar ddewisiadau eraill yn hytrach na chau, er mwyn cynnal safon dda o addysg yn yr ysgolion bach hynny.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Os nad yw awdurdod lleol yn cynnal ysgol wledig yn iawn, a fyddech yn ystyried o gwbl ei bod yn briodol cael gwared ar yr ysgol honno a chyfran berthnasol o’r grant cynnal refeniw gan yr awdurdod lleol a’i hariannu’n uniongyrchol fel ysgol ddirprwyedig?

Os ydym yn bwrw ymlaen â diwygiadau i’r cod trefniadaeth ysgolion, fy nisgwyliad yw—. Mae hwnnw’n god ag iddo sail statudol, felly mae’n ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol gydymffurfio â’r cod hwnnw. Pe bai enghreifftiau lle nad oedd hynny’n digwydd, byddwn yn rhoi’r camau priodol ar waith.

Diolch yn fawr. Ysgrifennydd y Cabinet, beth a ddywedodd Carwyn Jones wrthych pan ofynnoch iddo a gaech chi godi ffioedd dysgu?

Gwnaed y penderfyniad i gysylltu ffioedd dysgu â chwyddiant gan y Cabinet cyfan, i gydnabod nifer o ffactorau y bu’n rhaid i mi eu hystyried—y ffactorau a amlinellais i chi, Llyr, ym mis Tachwedd y llynedd, pan godoch y mater hwn bryd hynny.

Wrth gwrs, mae’r Arglwydd Adonis, pensaer ffioedd dysgu’r Blaid Lafur, wedi cyfaddef eu bod wedi troi’n anghenfil Frankenstein o £50,000 a mwy o ddyledion i raddedigion ar gyflogau cymedrol nad ydynt yn agos at allu fforddio eu had-dalu. Mae llawer o’r myfyrwyr hynny’n amlwg ar ymyl y dibyn. Beth sy’n lefel dderbyniol o ddyled i fyfyrwyr yng Nghymru yn eich barn chi?

Mae’n rhaid i’r cwestiwn ynglŷn â sut rydym yn ariannu myfyrwyr drwy eu haddysg uwch ystyried egwyddorion mynediad at yr addysg honno a’r gallu i’w chynnal. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn, Llyr, fod Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, drwy eu hymgyrch ‘Punt yn Eich Poced’, wedi pwysleisio mai costau byw yn hytrach na ffioedd sy’n rhwystr i bobl o gefndir incwm is rhag camu ymlaen i addysg uwch. Mae hwnnw’n safbwynt sy’n cael ei arddel yn adolygiad Diamond, a deallaf fod gan Blaid Cymru gynrychiolydd ar yr adolygiad hwnnw a’u bod wedi gallu cyfrannu ato’n llawn. Dywedasant wedyn mai dyna oedd y mater roedd angen mynd i’r afael ag ef. Gwn fod y rhain yn faterion anodd a heriol, fel y gwyddoch chithau, Llyr, fod y rhain yn faterion anodd a heriol, oherwydd, fel y dywedoch yn y Siambr hon ym mis Tachwedd, mae perygl mai ehangu a wnaiff y bwlch cyllido rhwng sefydliadau yng Nghymru a Lloegr, a:

‘Mae yna bosibiliad y bydd yna ganfyddiad, efallai, fod ansawdd y cyrsiau yng Nghymru, oherwydd eu bod nhw’n rhatach, ddim cystal.’

Aeth yn ei flaen i ddweud—[Torri ar draws.] Aethoch yn eich blaen i ddweud—[Torri ar draws.] Aethoch yn eich blaen i ddweud, Llyr—[Torri ar draws.] Aethoch yn eich blaen i ddweud, Llyr, pe bai’r ffioedd yn codi yn Lloegr, fel y gwnaethant, y byddai’n anodd gweld sut y gallech wrthsefyll yr un symudiad yng Nghymru mewn sawl ffordd. Rydych yn deall yr anhawster sy’n wynebu ein sector a dylech gydnabod hynny yma yn y Siambr.

Wel, nid rhoi pwysau ar y myfyrwyr yw’r ateb, nage? Ac mae ceisio awgrymu bod Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn cefnogi’r cynnydd yn y ffi a gyhoeddwyd ddoe yn gwbl anghywir. Oes, mae yna newid yn y ffordd rydych yn cefnogi myfyrwyr—nid oes unrhyw un yn amau hynny. Ond nid yw cynyddu’r ddyled sy’n wynebu myfyrwyr yng Nghymru—ac nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, gyda llaw—yn ateb derbyniol yn fy marn i. Nawr, roeddwn o dan yr argraff fod y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur, o ran—mai eu hegwyddor oedd ceisio dynesu at addysg rad ac am ddim. Mae eich penderfyniad chi wedi golygu ein bod ymhellach i ffwrdd oddi wrth hynny nag erioed o’r blaen. Felly, a allwch gadarnhau bod yr egwyddor wreiddiol a fu unwaith mor bwysig i chi ac eraill ar fainc y Llywodraeth yno o hyd?

Wrth gwrs, mewn byd delfrydol, dylai addysg ar bob lefel fod yn rhad ac am ddim, ond nid wyf yn byw yn y byd delfrydol hwnnw. Rwy’n byw mewn byd lle na all pobl o gefndiroedd tlotach gael mynediad at addysg uwch gan nad ydynt yn gallu fforddio talu am eu llety neu eu llyfrau neu eu bwyd. Felly, yr hyn rydym wedi’i wneud yw newid yn sylfaenol, yn unol ag argymhellion adolygiad Diamond—yr oedd Plaid Cymru yn rhan ohono ac yn ei gefnogi—. Rydym wedi newid y ffordd rydym yn cynorthwyo ein myfyrwyr fel y gallwn sicrhau y bydd y rhai o’r cefndiroedd tlotaf yn cael yr hyn sy’n cyfateb i gyflog byw, y bydd myfyrwyr cyffredin yng Nghymru yn cael grant o £7,000 y flwyddyn nad oes angen ei ad-dalu. Ac mae hynny, Llyr, yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â’ch plaid chi, nad yw wedi addo unrhyw beth tuag at gostau a delir ymlaen llaw, nad yw wedi addo unrhyw beth at gostau byw o ddydd i ddydd y wlad hon. Ac rydym wedi mynd gam ymhellach na hynny, gan y byddwn yn sicrhau y bydd hyn ar gael i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig. Unwaith eto, pe bai Plaid Cymru mewn grym, benthyciadau a fyddai ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig yn hytrach na grantiau. Rydym ni’n darparu grantiau.

Ariannu Addysg Uwch yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu addysg uwch yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0159(EDU)[W]

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Mae sector addysg uwch ffyniannus yn hollbwysig er mwyn cyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer yr economi ac ar gyfer ein cymdeithas yma yng Nghymru. Bydd y diwygiadau cyllido a gyhoeddais ddoe yn darparu cyfleoedd ar gyfer ein holl sefydliadau, gan gynnwys y rhai yng ngogledd Cymru.

Ers eich cyhoeddiad ddoe am gynyddu ffioedd dysgu, rydw i wedi derbyn nifer fawr o negeseuon gan fyfyrwyr sy’n astudio ym Mangor yn ogystal â gan ddisgyblion ysgol sydd yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol. Yn ystod yr etholiad, fe gafodd miloedd o fyfyrwyr a phobl ifanc ar draws y wlad eu hysbrydoli gan wleidyddiaeth unwaith eto, yn rhannol am eu bod nhw wedi gweld rhai o’r pleidiau gwleidyddol yn fodlon cyflwyno polisïau a oedd yn cydfynd efo’u gwerthoedd nhw. Yn dilyn eich cyhoeddiad chi ddoe, a ydych chi’n cytuno fod gwleidyddion wedi codi gobeithion cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc, dim ond i’w chwalu nhw yn rhacs ychydig wythnosau yn ddiweddarach?

Ddoe ddiwethaf, roedd yr Aelod ar ei thraed yn nodi pryderon dilys ynglŷn â cholli swyddi yn ei hetholaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac rwy’n siŵr y bydd wedi cael sgyrsiau gydag is-ganghellor y brifysgol dan sylw ynglŷn â’r angen i ymateb i’r sefyllfa a welwn dros y ffin yn Lloegr wrth i’r ffioedd gynyddu, a’i benderfyniad i sicrhau bod Bangor, sydd wedi cael y wobr uchaf yn y fframwaith rhagoriaeth addysgu yn ddiweddar, yn gallu cystadlu â myfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Hola’r Aelod ynglŷn â gwerthoedd. Mae’r pecyn a gyflwynais ddoe—[Torri ar draws.] Mae’r pecyn a gyflwynais ddoe, a fydd yn dargyfeirio cymorth y Llywodraeth oddi wrth dalu ffioedd sy’n rhaid i raddedigion eu talu drwy eu cyflogau, i gefnogi’r hyn y mae llawer o fyfyrwyr a llawer o rieni yn dweud wrthyf yw’r broblem fwyaf, sef y costau a delir ymlaen llaw, yn becyn rwy’n falch ohono ac mae’n becyn sy’n cyd-fynd yn dda â fy ngwerthoedd. Nid wyf yn siŵr beth yw’ch rhai chi.

Gan ddychwelyd, rwy’n credu, at y mater a godwyd ddoe, mae Prifysgol Bangor yn wynebu, neu mae’r staff yn wynebu, 115 o ddiswyddiadau gorfodol. Dywed y brifysgol mai’r rheswm am hyn oedd bod angen iddynt arbed £8.5 miliwn i fynd i’r afael â heriau ariannol sylweddol, a deallwn fod nifer o brifysgolion eraill ledled Cymru yn ystyried sut y byddant yn sgwario’r cylch ariannol mewn amgylchiadau tebyg. Gwyddom fod prifysgolion wedi gweld degau o filiynau o bunnoedd yn cael ei gymryd oddi wrthynt a’i roi mewn grantiau i brifysgolion yn Lloegr drwy ffioedd myfyrwyr sy’n mynd dros y ffin i astudio, rhywbeth y derbyniodd eich plaid chi a fy mhlaid i gan y Blaid Lafur na ellid ei wneud ar ôl i’ch plaid chi a fy un innau a Phlaid Cymru bleidleisio i gael gwared ar ffioedd myfyrwyr yn ystod yr ail Gynulliad. Gwyddom hefyd fod Prifysgolion Cymru, wrth ymateb i’ch pecyn cymorth i fyfyrwyr ddoe, wedi cyfeirio at orfod amsugno’r cynnydd yn y costau ers cyflwyno’r system ffioedd dysgu bresennol yn 2012. Yn dilyn eich cyhoeddiad ddoe, felly, pa mor gyflym y bydd yr arbedion a gynhyrchir yn arwain at fwy o arian ar gyfer prifysgolion yng Nghymru er mwyn iddynt allu lliniaru, gobeithio, yn erbyn y penderfyniadau anodd hyn y mae’n rhaid iddynt eu gwneud?

Mae’n rhaid inni gydnabod, neu mae’n rhaid i rai ohonom gydnabod, y sefyllfa anodd iawn sy’n wynebu llawer o’n sefydliadau addysg uwch ar hyn o bryd. Mae’n storm berffaith sy’n cyfuno Brexit, demograffeg, yn ogystal â gorfod cystadlu mewn marchnad sydd nid yn unig yn farchnad yn y DU ond yn farchnad ryngwladol. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth hon ymateb i hynny. Nawr, er y pwysau ariannol parhaus, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi gallu dyrannu dros £100 miliwn o gyllid i’r sector ar gyfer 2017-18, ond mae cyfnod heriol o’n blaenau. Fodd bynnag, dylai ein rhagfynegiadau mewn perthynas â gweithredu Diamond weld cyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn tyfu i allu cefnogi ein sefydliadau addysg uwch, ond wrth gwrs, mae hynny’n amodol ar y prosesau cyllidebu arferol sydd gennym yma yn y Cynulliad. Ond fe fyddwch yn gwybod, yn y cytundeb a ddaeth â mi yn rhan o’r Llywodraeth, fy mod i a’r Prif Weinidog wedi cytuno na ddylai’r prifysgolion fod yn waeth eu byd o ganlyniad i weithredu Diamond. Mewn gwirionedd, mae’n wir dweud y bydd y broses o weithredu Diamond yn costio arian i’r Llywodraeth yn y lle cyntaf, ond dyna’r peth iawn i’w wneud ar gyfer myfyrwyr Cymru a sefydliadau Cymru.

Addysg Cerddoriaeth

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod addysg gerddoriaeth yn hygyrch i bawb? OAQ(5)0152(EDU)

Diolch, Rhianon. Yng Nghymru, mae pob plentyn yn elwa ar addysg gerddoriaeth yn ystod y cyfnod sylfaen ac yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, pan fo’n rhan statudol o’r cwricwlwm. Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â rhanddeiliaid ar draws y sectorau addysg a diwylliant i gyflwyno ystod o fesurau sy’n anelu at wella’r ddarpariaeth honno.

Diolch. Mae gan Gymru sefydliadau o safon fyd-eang sy’n ennyn parch ym mhob cwr o’r byd megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru a chonservatoire Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Caiff hyn ei gefnogi’n fedrus gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Tŷ Cerdd, sydd hefyd yn gweinyddu’r Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru elitaidd, dawns genedlaethol ieuenctid, theatr, côr a bandiau chwyth a phres cenedlaethol. Mae’r strwythurau cenedlaethol hanesyddol hyn a gwasanaethau cefnogi cerddoriaeth lleol yng Nghymru drwy hyfforddiant offerynnol hygyrch y gwasanaethau cefnogi cerddoriaeth yn yr ysgol, wedi noddi, hybu a meithrin rhai o dalentau gorau Cymru, ac mae hynny’n cynnwys miloedd o gerddorion yn ogystal ag eiconau megis Bryn Terfel, Catrin Finch a Paul Watkins a chyfansoddwyr megis Huw Watkins a Karl Jenkins. I’r rhai ohonoch sy’n gwybod am y digwyddiad cerddoriaeth Gymreig ddydd Mercher nesaf, bydd rhai o’r rhain yn bresennol—hysbyseb fach.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf hefyd yn croesawu’r cynllun gweithredu ar gyfer dysgu creadigol drwy’r celfyddydau, cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor celfyddydau Cymru; cwricwlwm arloesol newydd Donaldson sy’n seiliedig ar y celfyddydau; a’r gronfa waddol genedlaethol ar gyfer cerddoriaeth fel dangosyddion clir o fwriad cynnar a chyfeiriad teithio’r Llywodraeth hon. Heddiw, rwyf hefyd yn croesawu cynllun peilot yr amnest offerynnau cerdd; rwy’n croesawu’r mesurau pwysig hyn. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthyf mewn Cyfarfod Llawn blaenorol, mae mentrau a mesurau o’r fath yn cyfrannu at gynaladwyedd perfformiadau cerddorol Cymreig yng Nghymru yn y dyfodol. Mae cerddoriaeth yn bwysig i Gymru. Yn economaidd, yn y celfyddydau creadigol—

Mae angen i chi ofyn cwestiwn, ni waeth pa mor bwysig yw cerddoriaeth yng Nghymru.

Mi wnaf. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bryd gwarchod ein strwythurau yng Nghymru, a’u diogelu ar gyfer y dyfodol? A fyddai’n cytuno â mi y byddai Cymru’n elwa’n fawr o strategaeth drosfwaol genedlaethol ar berfformio cerddoriaeth, model cyflawni i gynnwys hyfforddiant offerynnol ledled Cymru heb ystyried incwm, cyfoeth na braint?

Wel, yn sicr, gallaf gytuno â’r ymyriad y tu ôl i mi, gan fy mod wedi eistedd drwy opera Wagner unwaith. Yn wir, roedd yn hir iawn, iawn, iawn, iawn.

A gaf fi gytuno gyda’r Aelod fod gennym lawer i’w ddathlu o ran cerddoriaeth a dysgu creadigol drwy’r celfyddydau yma yng Nghymru? Ond mae mwy i’w wneud, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau cerddoriaeth addysg leol, sydd wedi mynd drwy gyfnod anodd iawn. Ddoe ddiwethaf, cefais gyfarfod gyda Karl Napieralla, cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn y Cynulliad diwethaf, i drafod beth arall y gallwn ei wneud yn hyn o beth.

Rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom yn mwynhau’r arddangosfa gerddoriaeth y mae’r Aelod wedi’i threfnu ar ein cyfer yr wythnos nesaf. A gaf fi ddweud bod amseriad y digwyddiad, Llywydd, yn ardderchog? Oherwydd 19 Gorffennaf yw’r diwrnod y bydd y Senedd yn fan gollwng i staff ac Aelodau’r Cynulliad gyfrannu eu hofferynnau diangen fel rhan o amnest offerynnau cerdd cyntaf Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddwn yn annog pob Aelod sydd yma yn y Siambr heddiw i ddechrau edrych drwy eu cypyrddau a’u hatigau i weld a oes ganddynt unrhyw beth y gallent ei gyfrannu i’r prosiect arloesol hwn.

Crybwyllodd Rhianon Passmore y gronfa waddol genedlaethol, wrth gwrs, ac yn ôl ym mis Chwefror pan gyhoeddoch hyn, wrth ateb fy nghwestiwn ynglŷn ag a fyddai’r gronfa’n arwain at ddargyfeirio’r gefnogaeth oddi wrth wasanaethau cerddoriaeth craidd ac i’r gronfa newydd hon, fe ateboch eich bod yn ymwybodol o’r ffaith y gallai hynny olygu dargyfeirio ac y byddai’n rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny wrth inni symud ymlaen. Rwy’n sylweddoli ei bod yn dal yn ddyddiau cynnar ar y gronfa, ond a allwch ddweud wrthym am ddatblygiad y meini prawf ar gyfer cael mynediad at y gronfa honno, ac a yw’r perygl y gallai ei achosi i wasanaethau cerddoriaeth craidd wedi cael ei ddatrys?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod £1 filiwn wedi ei ddarparu gan fy adran i ar y cyd ag adran yr economi a’r seilwaith at ddibenion sefydlu’r gwaddol a’r cyllid sbarduno ar ei gyfer. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn y broses o sefydlu’r gwaddol ar hyn o bryd, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion am ei chwestiwn penodol.

Roeddwn am ofyn yn benodol am eich sgyrsiau gyda’r sefydliad newydd, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Roeddwn yn siarad â thiwtoriaid yn ysgol Gartholwg, pan aethom fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor ar gerddoriaeth, gyda Dawn Bowden, a dywedodd un o’r tiwtoriaid wrthyf, ‘Mae fy merch yn gwneud cais am y gerddorfa Ewropeaidd gan y gall fforddio gwneud hynny yn haws nag y gall fforddio’r ffioedd ar gyfer cerddorfa Cymru.’ Os yw ein pobl ifanc yn cael eu prisio allan o allu gwneud cais i’w cerddorfa genedlaethol eu hunain, beth y mae hyn yn ei ddweud wrth ddarpar offerynwyr Cymru pan fyddant am anelu at frig y pyramid, sef Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru? Os na allant anelu at hynny oherwydd y ffioedd, sut y mae disgwyl iddynt gymryd rhan yn y broses? Felly, gyda’r corff newydd hwn bellach ar waith, tybed pa sgyrsiau y gallwch eu cael mewn perthynas ag ehangu’r cynlluniau bwrsariaeth fel y gall pawb fod yn rhan o’r fenter gyffrous hon.

A gaf fi ddiolch i Bethan am ei chwestiwn a’r diddordeb dwys y mae’r Aelod wedi’i ddangos yn y pwnc hwn dros sawl tymor yma yn y Cynulliad Cenedlaethol? Croesawaf adolygiad y pwyllgor y mae’n ei gadeirio yn fawr iawn, a’u diddordeb yn hyn o beth. Mae’n peri cryn bryder i mi na all unigolyn ifanc â thalent amlwg gymryd rhan ar lefel sy’n gymesur â’i gallu i wneud hynny. Os gall yr Aelod ysgrifennu ataf, byddaf yn edrych ar yr achos penodol hwnnw.

Mae’n rhaid i ni weithio gyda’r holl gyrff sydd â diddordeb a chyfrifoldeb dros gyflawni hyn i sicrhau bod mynediad yn seiliedig ar dalent a diddordeb yn hytrach nag ar allu rhiant i dalu. Cefais fy nghalonogi’n fawr yn ddiweddar, wrth agor yr ysgol newydd, Ysgol y Wern, yn Wrecsam. Roedd y pennaeth yno wedi defnyddio peth o’i grant amddifadedd disgyblion i brynu offerynnau cerddorol ar gyfer y plant yn yr ysgol honno, ysgol sydd â lefelau uchel o blant yn cael prydau ysgol am ddim, a dywedodd wrthyf ar ôl perfformiad eu grŵp ffidil, ‘Roeddwn yn gwybod fy mod wedi taro’r hoelen ar ei phen pan ofynnodd pedwar o’r plant hyn am ffidil ar eu penblwyddi.’ Ond mae angen i ni sicrhau, os rhown y cyfle hwnnw iddynt, eu bod yn gallu parhau i fynd ar drywydd hynny ar lefelau hŷn. Unwaith eto, mae hyn yn pwysleisio pam y dylai holl Aelodau’r Cynulliad fynd i’w hatigau ac edrych i weld beth y gallant ei roi i’r amnest yr wythnos nesaf. Gallaf eu sicrhau y bydd eu hofferynnau’n mynd i gartrefi da.

Ysgolion Bro

5. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o ddatblygu ysgolion bro yng Nghymru? OAQ(5)0151(EDU)

Diolch, John. Rwy’n cefnogi’r defnydd o ysgolion fel asedau cymunedol. Rydym yn gweithio er mwyn bwrw ymlaen ag argymhellion adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar y defnydd o gyfleusterau ysgolion gan gymunedau. Mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn annog adeiladu asedau hyblyg, yn enwedig rhai y gellir eu defnyddio gan yr ysgol a’r gymuned yn gyffredinol.

Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig iawn o amser y mae plant yn ei dreulio yn yr ysgol o gymharu â thu allan i’r ysgol, felly mae’n amlwg yn bwysig iawn, iawn fod y cartref, ac yn wir, y gymuned lle maent yn byw yn cyfrannu at eu haddysg ac yn ei hybu. Mae ysgolion bro yn ffordd wych o adeiladu’r bartneriaeth honno rhwng yr ysgol, y teulu a’r gymuned ehangach. Yn anffodus, mae’r cyfleusterau, yn rhy aml, ar gau gyda’r nos, dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol, ac nid yw hynny’n ddefnydd da o adnoddau mewn cyfnod o gryn bwysau ar gyllid cyhoeddus. Felly, am sawl rheswm, gan gynnwys y rheiny, byddai’n wych pe bai gennym fwy o gysondeb yng Nghymru. Ar hyn o bryd, credaf fod pethau’n eithaf anghyson. Felly, byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn gwybod a ydych yn ystyried datblygu mecanwaith, ffordd y gallem gael ysgolion gyda ffocws cymunedol cyson ym mhob cwr o Gymru.

Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn. Ar ôl ansawdd yr addysgu, ymgysylltiad teulu gydag addysg eu plant yw’r ffactor fwyaf ond un o ran pennu canlyniadau addysgol y plentyn hwnnw. Felly, pan fyddaf yn sôn am ysgolion bro, rwy’n glir nad yw hynny’n golygu mynediad i adeilad yn unig. Mae’n ethos yn yr ysgol honno sy’n ystyried mai ei rôl yw ymgysylltu â theuluoedd cyfan. Mae’r Aelod yn llygad ei le, Llywydd: nid yw ymarfer da yn unffurf. Ceir ymarfer rhagorol yng Nghymru. Yn benodol, hoffwn ganmol Ysgol Gynradd Meisgyn yn Rhondda Cynon Taf; Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priory yn Sir Benfro, sy’n gwneud gwaith rhagorol gyda’r gymuned ehangach yn denu rhieni yn ôl i ddysgu, gan ddatblygu cymwysterau er mwyn iddynt allu camu ymlaen wedyn i fyd gwaith; Ysgol Maesglas yn Sir y Fflint; ac Ysgol Gynradd yr Hafod, ysgol rwy’n gobeithio ymweld â hi gyda Mike Hedges yn fuan, sydd wedi cael eu barnu’n rhagorol yn y maes hwn gan Estyn. Mae angen i ni sicrhau bod awdurdodau addysg lleol a chonsortia rhanbarthol yn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag anghysondeb wrth iddynt gynnal eu cyfarfodydd herio ac adolygu.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn cynrychioli un o ardaloedd gwledig mwyaf de Cymru yn y Siambr hon. Mae ysgolion gwledig ymhlith yr ysgolion sy’n canolbwyntio fwyaf ar y gymuned yng Nghymru. Maent yn ganolog i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Ers 1999, mae cannoedd o ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol wedi cau, gydag ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio waethaf. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â thanariannu, sef y rhwystr mwyaf rhag cadw ysgolion gwledig ar agor yng Nghymru?

Llywydd, a gaf fi gywiro’r Aelod? Nid wyf yn cynrychioli un o etholaethau gwledig mwyaf y Cynulliad hwn; rwy’n cynrychioli’r etholaeth wledig fwyaf, yn ddaearyddol, yn y Cynulliad hwn. Dyna pam fod gennyf ddiddordeb dwfn yn y pwnc hwn. A dyna pam fod fy mhrofiad blaenorol fel aelod o’r meinciau cefn wedi sicrhau fy mod yn benderfynol y gall y Llywodraeth hon symud ymlaen ar fater ysgolion gwledig. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r atebion a roddais yn gynharach. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar y cod trefniadaeth ysgolion er mwyn sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau. Ond o ran cyllid, bydd yn ymwybodol o’r grant arbennig a ddatblygwyd, o £2.5 miliwn y flwyddyn, er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn—heriau go iawn—sy’n wynebu ysgolion gwledig a chynnal addysg yn y cymunedau hynny.

Roeddwn yn meddwl tybed pa waith rydych wedi’i wneud mewn perthynas â chysylltiadau cymunedol ac ysgolion bro. Er enghraifft, yn fy ardal i—ac ardaloedd eraill—mae gennym ysgol fawr newydd, sef Ysgol Bae Baglan. Dywedwyd wrthynt cyn i’r ysgol gael ei hadeiladu, gan uno gwahanol gymunedau o amgylch yr ardal honno, y byddent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth—yn gallu cael mynediad at y cae—ar gyfer gweithgareddau, ond bellach ymddengys mai llywodraethwyr yr ysgol honno fydd yn gallu gwneud y penderfyniad. Yn aml iawn, mae hynny’n creu tensiwn yn y gymuned leol, lle y gall y llywodraethwyr fod â safbwynt gwahanol ynglŷn â sut y dylid defnyddio’r cae o ran sut y mae’r gymuned eisoes wedi’i ddefnyddio dros lawer o flynyddoedd. Felly, rwy’n meddwl tybed pa sgyrsiau rydych wedi’u cael i geisio annog sgyrsiau priodol rhwng yr ysgolion a’r cymunedau er mwyn sicrhau y gall pawb, mewn gwirionedd, ddefnyddio’r cyfleusterau hynny pan fyddant angen eu defnyddio.

Mae’n ddrwg gennyf glywed bod tensiynau yn ardal Bae Baglan. Fi a agorodd yr ysgol yn swyddogol. Mae’n gyfleuster hynod drawiadol, a’r disgwyliad, fel y dywedais, yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yw ein bod yn adeiladu adeiladau sy’n asedau hyblyg, gyda’r disgwyliad y bydd y gymuned ehangach yn gallu elwa ar y buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i ddarparu’r cyfleusterau hynny. Wrth gwrs, oherwydd y modd y caiff ysgolion eu rheoli’n lleol, mae cyrff llywodraethu’n bwerus iawn, ond buaswn yn synnu pe bai unrhyw gorff llywodraethu yn ystyried nad yw eu hysgol yn ganolog i gymuned. Maent yn rhan o’r un peth, neu dylent fod o leiaf, a byddaf yn gofyn am gyngor pellach i weld ai un digwyddiad yw hwn neu a yw’n broblem systematig y bydd angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hi.

Cynllun Dyfodol Byd-eang

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro canlyniadau ei chynllun pum mlynedd, Dyfodol Byd-eang, i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru? OAQ(5)0155(EDU)

Bydd gweithrediad y cynllun Dyfodol Byd-eang yn cael ei oruchwylio gan ei grŵp llywio, sy’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r sector addysg yng Nghymru. Mae’r grŵp llywio yn monitro’r modd y caiff y cynllun ei ddarparu ynghyd â’i ganlyniadau, ac yn annog gweithio mewn partneriaeth i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, fel rwy’n siŵr y byddwch wedi gweld, mae’r Cyngor Prydeinig wedi cyhoeddi eu trydydd arolwg tueddiadau iaith blynyddol o ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac mae’r canlyniadau, rwy’n sicr y byddwch yn cytuno, yn peri pryder mawr. Daw’r arolwg 18 mis yn unig ar ôl dechrau’r cynllun, sy’n anelu at hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru, ond mewn gwirionedd, rydym wedi gweld statws ieithoedd tramor modern yn parhau i ostwng yn ysgolion Cymru. Yn wir, mae’r adroddiad yn dweud wrthym fod nifer y disgyblion a oedd yn astudio iaith dramor ar lefel TGAU wedi gostwng 48 y cant rhwng 2002 a 2016, a bod gan fwy na thraean o ysgolion yng Nghymru lai na 10 y cant o ddisgyblion blwyddyn 10 yn astudio iaith dramor. Yng ngoleuni canlyniadau’r adroddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, beth arall y gallwn ei wneud i wireddu uchelgais y Llywodraeth i Gymru fod yn wlad ‘ddwyieithog + 1’?

Diolch i chi, Lynne. Rwyf wedi nodi’r arolwg tueddiadau iaith ac rwyf wedi gofyn i’r grŵp llywio Dyfodol Byd-eang y cyfeiriais ato yn fy ateb cyntaf adolygu’r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf a fydd yn cael ei gynnal ar 14 Gorffennaf, ac i adrodd yn ôl i mi ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud i wella’r niferoedd sy’n astudio ieithoedd tramor modern. Mae llu o resymau posibl dros y gostyngiad hwn, ond mae’r Llywodraeth yn gweithredu. Ers lansio Dyfodol Byd-Eang, rydym wedi buddsoddi mewn cynllun mentora ieithoedd tramor modern ar y cyd â rhai o’n sefydliadau addysg uwch, sy’n anfon israddedigion sy’n astudio ieithoedd i ysgolion i ysbrydoli ac i gefnogi disgyblion. Yn ddiweddar, rydym wedi arwyddo cytundeb gyda llysgenhadaeth Sbaen i gefnogi addysgu Sbaeneg, ac rydym wedi gwneud gwaith tebyg gyda Ffrainc a’r Almaen. Er enghraifft, mae’r Goethe-Institut yn sefydlu rhaglen benodol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ond mae mwy y gallwn ei wneud, rwy’n siŵr, a byddaf yn gofyn am gyngor gan y grŵp llywio.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe cyfeiriais at yr adroddiad ‘Tueddiadau Iaith Cymru’ diweddaraf a oedd yn dangos bod athrawon yn poeni’n fawr am ddyfodol ieithoedd tramor modern. Dywedodd yr adroddiad fod Dyfodol Byd-Eang yn boblogaidd gydag athrawon, ond nad yw ond yn cael effaith gyfyngedig ar y nifer sy’n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru hyd yn hyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pryd y mae’n bwriadu adolygu cynnydd Dyfodol Byd-Eang er mwyn sicrhau bod y dirywiad difrifol mewn dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru yn cael ei wrthdroi? Diolch.

Wel, rwyf am gyfeirio’r Aelod at yr ateb a roddais i Lynne Neagle o ran sut rydym yn gwneud gwaith dilynol ar Dyfodol Byd-Eang. Ond a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn—credaf fod pawb ohonom yn pryderu, a hynny’n briodol, am nifer y myfyrwyr sy’n astudio ieithoedd tramor modern, ond nid yw’r newyddion yn ddrwg i gyd. Roedd canlyniadau TGAU yn 2016 yn dangos bod gan Gymru gyfraddau uwch yn cael A* a chyfraddau uwch yn cael A* i C uwch mewn Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg ac ieithoedd tramor modern eraill na’u cymheiriaid ar draws y ffin yn Lloegr. Felly, er fy mod eisiau gweld mwy o fyfyrwyr yn astudio’r pynciau hyn ar lefel TGAU, mae’r rhai sydd eisoes yn gwneud hynny’n gwneud yn dda iawn ac mae angen eu llongyfarch. Mae angen i ni ddeall beth arall y gallwn ei wneud i annog mwy o fyfyrwyr i efelychu eu cyd-ddisgyblion yn yr ysgol drwy astudio’r ieithoedd hyn, oherwydd pan fo myfyrwyr Cymru yn sefyll yr arholiadau hyn, maent yn gwneud yn dda.

Mi gafodd yr adroddiad ar dueddiadau iaith ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol, a, gyda llaw, rydw i’n gwahodd pawb i gyfarfod yr wythnos nesaf i drafod cysylltu â’r ‘diaspora’ Cymreig a gwrando ar beth sydd gan GlobalWelsh a Cymry a’r Byd i’w ddweud bryd hynny. Ond un pryder penodol a gafodd ei godi oedd bod y fagloriaeth Gymreig yn arfer cynnwys ieithoedd tramor modern, ond bod yr elfen yna wedi cael ei dileu erbyn hyn. A oes modd edrych ar hynny eto, gan fod hyn o bosib wedi dileu’r ffordd i rai tuag at ddysgu iaith fodern?

Mae’r Aelod yn gwneud pwynt diddorol. Nid wyf yn siŵr y dylem fod yn ychwanegu mwy at y Fagloriaeth Gymreig. Yn wir, wrth wrando ar bobl broffesiynol, mewn gwirionedd, maent yn dweud eu bod eisiau llai yn y Fagloriaeth Gymreig, felly nid wyf yn gwybod a ydym mewn sefyllfa i ychwanegu mwy at y Fagloriaeth Gymreig. Yr hyn sydd angen i ni edrych arno, o bosibl—mae rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd sy’n awgrymu bod ieithoedd tramor modern, yn wir, yr holl bynciau craidd nad ydynt wedi bod yn rhan o fesurau atebolrwydd ysgolion yn flaenorol, wedi gweld gostyngiad yn y nifer sy’n eu hastudio, felly cerddoriaeth, drama ac yn y blaen. Felly, efallai bod tuedd sylfaenol i ysgolion gyflwyno disgyblion i sefyll arholiadau sy’n cyfrif tuag at fesurau atebolrwydd unigol yr ysgol honno ac felly, mae’r cwricwlwm yn culhau. Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi adolygiad sylfaenol o fesurau atebolrwydd ar gyfer ysgolion fel bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol, boed yn gulhau’r cwricwlwm, neu gyflwyno cynnar yn wir, a drafodwyd gennym yn gynharach, yn dod i ben. Felly, bydd y mater ynglŷn ag atebolrwydd, a pha un a yw hynny’n cymell rhai o’r ymddygiadau hyn, yn cael ei brofi fel rhan o’r adolygiad hwnnw.

Diolch, Llywydd. Pan oeddwn i yn yr ysgol, y rhan orau o 100 mlynedd yn ôl, y polisi oedd bod pawb yn dysgu o leiaf un iaith dramor hyd at 16 oed. Mae pethau’n wahanol iawn erbyn hyn, ac rwy’n falch o glywed y ffigurau a gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet funud yn ôl a’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddysgu ieithoedd tramor modern. Ond un o’r problemau mawr sydd gennym wrth berswadio plant ysgol i ddewis astudio ieithoedd tramor modern yw’r canfyddiad eu bod yn anodd, ac mae’n wir fod dysgu iaith o’r dechrau yn anodd ac yn gofyn am ddisgyblaeth feddyliol. Dyna, wrth gwrs, yw un o’r rhesymau mawr pwysig dros ddysgu iaith dramor fodern, ac mae hefyd yn ehangu’r meddwl. Ac wedi dysgu Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg, yn ogystal â Lladin, yn yr ysgol fy hun—dyna a’m gwnaeth y dinesydd byd-eang cosmopolitaidd ag wyf fi heddiw. [Torri ar draws.]

Mae’r Aelod yn fy nhemtio, Llywydd; mae’r Aelod yn fy nhemtio o ddifrif. Ond rydych yn gywir, mae angen i ni hyrwyddo ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion, a dyna pam rydym wedi ymestyn y prosiect mentora myfyrwyr gyda phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth. Mae gennym dros chwarter yr ysgolion yn cymryd rhan yn y rhaglen honno, lle mae israddedigion disglair, bywiog a brwdfrydig yn mynd i ysgolion i ddarparu’r wefr rydym angen ei chreu ynghylch ieithoedd er mwyn annog disgyblion, cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU, fod hyn yn rhywbeth y gallant ei fwynhau, rhywbeth y gallant ei wneud yn dda, a rhywbeth sy’n gallu rhoi sgiliau gwaith a phersonol iddynt a fydd yn gwella eu bywydau’n fawr. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod ansawdd yr addysgu iaith cystal ag y gall fod, ac fel y dywedais, er bod y ffigurau yn yr adroddiad yn peri pryder, nid yw’r newyddion yn ddrwg i gyd. Eleni, dyfarnwyd dwy o’r tair gwobr athro Almaeneg y flwyddyn i athrawon sy’n addysgu Almaeneg mewn ysgolion yng Nghymru.

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, a’r cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.

Confensiwn Pysgodfeydd Llundain 1964

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o dynnu allan o gonfensiwn pysgodfeydd Llundain 1964? OAQ(5)0045(CG)[W]

Bydd yr Aelodau’n deall, os byddaf yn gwneud asesiadau o’r goblygiadau cyfreithiol i Gymru mewn perthynas ag unrhyw fater, y bydd yr asesiadau hynny yn gyfreithiol freintiedig.

Rwy’n ddiolchgar i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ofal arferol yn y materion hyn. Fodd bynnag, efallai y gallaf ei demtio drwy ddweud nad wyf yn credu bod unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol, ond mae yna oblygiadau gwleidyddol cryf i benderfyniad Michael Gove. Fy nealltwriaeth i, mewn gwirionedd, yw bod confensiwn pysgodfeydd Llundain, yn ôl pob tebyg, yn cael ei oddiweddyd gan ein perthynas â’r polisi pysgodfeydd cyffredin a’r hyn sydd wedi digwydd ers hynny o ran ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Ond yr hyn sy’n fy mhoeni yw bod gennym Michael Gove yn penderfynu tynnu’n ôl, yn symbolaidd, o rwymedigaeth ryngwladol sy’n ymwneud â mater datganoledig, felly efallai y gallaf ofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a yw’n cytuno â mi fod pysgodfeydd wedi cael eu datganoli, mai Cymru a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am warchod pysgodfeydd yng Nghymru, ac am yr hyn a fydd yn digwydd pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran cwotâu, rhannu cwotâu, a thrafodaethau ynglŷn â hynny. Ac yn sgil y ffaith fod Boris Johnson wedi dweud wrth fy nghyd-Aelod Jonathan Edwards ddoe y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn penderfynu ar y materion hyn yn awr, a yw o’r farn felly y bydd Cymru’n gallu arfer feto mewn perthynas â chamau ysgeler pellach gan Michael Gove?

Wel, diolch i chi am y cwestiwn atodol. Fel yr Aelod, ers y cyhoeddiad hwn rwyf finnau hefyd wedi cael nosweithiau cythryblus a di-gwsg ynglŷn â’r mater penodol hwn. Mae’n werth nodi, wrth gwrs, fod confensiwn pysgodfeydd 1964 mewn bodolaeth ymhell cyn i ni ymuno â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, yr UE bellach, a hefyd, yr hyn y mae’r confensiwn hwnnw’n ei ddweud mewn gwirionedd. Mae erthygl 2 ynddo yn cydnabod awdurdodaeth diriogaethol neilltuedig o fewn llain arfordirol chwe milltir, ond gwnâi ddarpariaeth a alluogai’r gwladwriaethau a’i llofnododd i bysgota o fewn chwech i 12 milltir, gydag amodau, ac yna aeth ymlaen i ddweud yn erthygl 4 nad oedd cychod pysgota gwladwriaethau a’i llofnododd i gyfeirio eu pysgota tuag at stociau o bysgod neu ardaloedd pysgota sylweddol wahanol i’r rhai y maent wedi’u defnyddio’n gyson, a bod gan y wladwriaeth arfordirol bŵer i orfodi’r rheol honno. Felly, mae’r confensiwn yn sefyll ochr yn ochr—ac, mewn gwirionedd, yn cael ei oddiweddyd gan—y polisi pysgodfeydd cyffredin, sy’n caniatáu i gychod Ewropeaidd gael mynediad, rhwng 12 a 200 milltir, ac yn gwneud darpariaeth i alluogi aelod-wladwriaethau penodedig i gael mynediad at ardaloedd pysgota o fewn chwech i 12 milltir forol.

Nawr, natur benodol y diwydiant pysgota yng Nghymru, sy’n cynnwys cychod bach yn bennaf: mae’n bosibl y bydd rhai agweddau atyniadol i hynny o fewn y terfyn 12 milltir. Fodd bynnag, bydd hwnnw’n fater sy’n briodol i’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb polisi drosto ymdrin ag ef. Ni fyddai’n briodol i mi drafod yr agwedd honno ymhellach, ond wrth gwrs, gallaf fynegi’r pryder difrifol y mae’r Aelod ei hun yn ei grybwyll, sef na chafodd swyddogion eu hysbysu hyd nes 30 Mehefin y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud ar 2 Gorffennaf, a hynny yn yr hyn sydd bellach yn faes datganoledig amlwg, er bod gweithgor morol a physgodfeydd y pedair gweinyddiaeth wedi’i gynnal ar 26 Mehefin. Mae’r mater hwnnw ynghylch ymgynghori ac ymgysylltu yn amlwg yn destun cryn bryder mewn mater sy’n ymwneud yn benodol â maes sydd wedi’i ddatganoli, ac yn fater y mae’r Llywodraeth wedi bod yn ymwneud ag ef. Felly, mae yna bryderon yno, a phryderon, mae’n debyg, am y datganiadau sy’n cael eu gwneud bron yn fyrfyfyr, fel petai, ac yn sicr ceir diffyg eglurder mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth y DU ar rai o’r meysydd hyn.

Mae’n wir, wrth gwrs, mai’r Deyrnas Unedig yw llofnodwr cytundeb 1964, ac felly Gweinidog y DU a fydd yn gwneud y penderfyniad i dynnu’n ôl ohono, ond rwy’n cytuno â goblygiadau cwestiwn Simon Thomas, fod pysgota’n fater datganoledig, ac felly y dylai fod rhywfaint o ystyriaeth wedi’i rhoi i safbwyntiau’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru. Ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn arddel y safbwynt y bydd adennill ein dyfroedd, neu reolaeth dros y terfyn 6 i 12 milltir, yn hanfodol bwysig i ddatblygiad diwydiant pysgota Cymru yn y dyfodol, a byddai braidd yn chwerthinllyd pe baem yn cael rheolaeth wedi’i dychwelyd i weddill y Deyrnas Unedig, ond nid yn achos Cymru. Sut y byddai hynny’n gweithio, nid wyf yn gwybod, oherwydd byddai pysgotwyr yr UE yn parhau i fod â hawl i ddyfroedd Cymru i’r graddau hynny, a byddai hynny’n sicr yn milwrio’n sylweddol yn erbyn y manteision i bysgotwyr Cymru o allu cael parth unigryw, a fyddai fel arall yn cael ei beryglu pe baem yn parhau i fod yn aelod o gytundeb 1964.

Mae rhai o’r rheiny’n bwyntiau dilys iawn. Wrth gwrs, maent allan o’u cyd-destun yn yr ystyr bod diwydiant pysgota’r DU gyfan, wrth gwrs, yn ddibynnol iawn hefyd ar fynediad at lawer o ddyfroedd eraill. A bod rhai o’r cyfyngiadau sy’n bodoli, wrth gwrs, a chonfensiwn 1964 yn arbennig, wedi dod i rym er mwyn cydnabod hawliau hanesyddol hefyd—hawliau a oedd weithiau’n ymestyn yn ôl dros gannoedd o flynyddoedd. Dywedodd rhywun beth amser yn ôl nad yw pysgod yn cario pasbortau. Wrth gwrs, un o ddibenion confensiynau’r polisi pysgodfeydd cyffredin oedd diogelu stociau mewn gwirionedd—diogelu stociau pysgota yn gyfreithiol—er budd pawb. Felly, ceir llawer o gymhlethdodau, ac rwy’n credu y byddai’n gamgymeriad difrifol inni edrych ar agweddau cyfreithiol hyn yng nghyd-destun diddordebau unigol yn unig, gan fod diddordebau unigol hefyd yn cael eu heffeithio i raddau helaeth gan ddiddordeb cyfunol ehangach.

Erthygl 50

2. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r posibilrwydd o ddirymu erthygl 50? OAQ(5)0046(CG)

Nid wyf mewn sefyllfa, wrth gwrs, i siarad am unrhyw asesiad y gallwn fod wedi’i wneud neu heb ei wneud mewn perthynas â’r mater hwn. Bydd yr Aelodau’n gyfarwydd â’r confensiwn sefydledig na ddylid datgelu bodolaeth na chynnwys cyngor swyddogion y gyfraith.

Diolch. Mewn cynhadledd yn ddiweddar, awgrymodd yr Arglwydd Kerr, awdur erthygl 50 ac Ysgrifennydd Parhaol blaenorol y Swyddfa Dramor, fod erthygl 50 yn ddirymadwy yn wir, a bod llawer o arweinwyr gwleidyddol wedi ein hannog i newid ein meddyliau, gan gynnwys Macron, Schäuble a Rutte. Hyd yn oed os ydych wedi rhoi gwybod i’r UE eich bod yn bwriadu gadael, awgrymodd nad oes dim i ddweud bod yn rhaid inni adael, ond dywedodd y gallai fod pris gwleidyddol i’w dalu am hynny. Nawr, ni waeth am y cymhlethdodau a’r materion sy’n ymwneud â chywirdeb neu anghywirdeb y posibilrwydd o ddirymu erthygl 50, a allai’r Cwnsler Cyffredinol roi ei asesiad cyfreithiol i ni ynglŷn ag a yw dehongliad yr Arglwydd Kerr yn gywir?

Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y safbwynt a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU yn achos Miller—yr achos erthygl 50—yn glir iawn: nad oedd yn ddirymadwy. Wrth gwrs, y corff a fyddai’n penderfynu cyfreithlondeb hynny yn y pen draw fyddai Llys Cyfiawnder Ewrop, ond fel mater o egwyddor gyffredinol a chytundeb mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, gall unrhyw gytundeb sydd â chydsyniad pob aelod o’r Undeb Ewropeaidd gyflawni bron unrhyw safbwynt a ddymunir.

A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod hanes cyfranogiad a chefnogaeth yr Arglwydd Kerr i’r Undeb Ewropeaidd bron mor hir ag un Eluned Morgan, ac efallai y gallai ei farn ar ddirymadwyedd erthygl 50 neu fel arall gael ei gweld yn y golau hwnnw? Roeddwn yn siomedig fod y Cwnsler Cyffredinol wedi mynd rywfaint pellach yn ei ail ymateb nag yn ei ymateb cyntaf, oherwydd onid yw’n wir fod ystyriaeth o’r fath ynglŷn â diddymu erthygl 50 yn ei hanfod yn erbyn y lles cenedlaethol am ei fod yn tanseilio strategaeth negodi Llywodraeth y DU, mae’n rhoi awgrym i’r Undeb Ewropeaidd ei bod yn bosibl y gallem ni neu’r Blaid Lafur, pe baent yn dymuno, geisio dirymu penderfyniad pobl Prydain mewn refferendwm, ac mae’n ei gwneud yn llai tebygol y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cytundeb da i ni sydd er lles Cymru a’r Deyrnas Unedig?

Wel, mae’n ymddangos i mi fod gallu Llywodraeth y DU i gyflwyno unrhyw safbwynt cyson o ran eu trafodaethau gyda’r UE ar hyn o bryd yn hynod o amheus. Y mater y gofynnir i mi yn ei gylch yn y cwestiwn yw: beth yw statws yr hysbysiad erthygl 50 sydd wedi cael ei roi?.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi mynegi ei barn ei hun ar y datganiadau a wnaeth yn y Goruchaf Lys mewn perthynas â hynny. Ond wrth gwrs, ni aethpwyd ar drywydd y mater ymhellach ac yn y pen draw, Llys Cyfiawnder Ewrop, y mae Llywodraeth y DU yn awyddus i dorri pob cysylltiad ag ef, a fyddai’n penderfynu ar y dehongliad cyfreithiol o hynny yn y pen draw. Ond mewn gwirionedd, mae llawer o benderfyniadau mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar gydsyniad yr holl aelod-wladwriaethau unigol. Dyna sut y mae deddfau’n cael eu creu yn y pen draw. Byddai angen i’r holl aelod-wladwriaethau unigol yn y pen draw drafod a chytuno ar unrhyw gynigion a fyddai’n cael eu gwneud.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn unol â phenderfyniad pobl Prydain yn y refferendwm y llynedd. Felly, onid yw’r cwestiwn hwn yn debyg i’r cwestiynau canoloesol hynny, a oedd yn gofyn faint o angylion a allai ddawnsio ar ben pin?

Wel, nid wyf yn gwybod a oedd hwnnw’n gwestiwn a oedd eisiau cael ei ateb ai peidio mewn gwirionedd. Mae’r Aelod yn gwneud pwynt; mae wedi gwneud ei safbwynt yn glir iawn dros gyfnod o amser. Yr hyn rwyf wedi’i wneud, rwy’n credu, yw gosod y ffeithiau o ran beth yw’r sefyllfa gydag erthygl 50 ac o ran y safbwynt a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU.

Y Bil Diddymu Mawr

3. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael am yr effaith y bydd y Bil diddymu mawr yn ei chael ar Gymru? OAQ(5)0044(CG)[W]

Mae’r cwestiwn yn amodol ar gonfensiwn swyddogion y gyfraith. Er hynny, gallaf sicrhau’r Aelodau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod sefyllfa Cymru yn cael ei diogelu. Bydd angen i ni ystyried yr effaith y bydd y Bil yn ei chael ar ddeddfwriaeth Cymru a chymhwysedd y Cynulliad hwn yn ofalus.

Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Yn amlwg, pan oeddwn yn cyflwyno’r cwestiwn, roeddwn yn hanner gobeithio y byddem wedi gweld y Bil diddymu—byddwn yn cael ei weld yfory, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall. Ac os yw’r sibrydion ynglŷn â’r Bil yn wir, yna yr hyn a welwn fydd rhyw fath o gysyniad o fframwaith tebyg i’r Deyrnas Unedig yn disodli’r Undeb Ewropeaidd, ac ni fyddwn, mewn gwirionedd, yn gweld datganoli’r pwerau a ddelir ar lefel Ewropeaidd yn awr ond sy’n ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig llawn yma yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys pysgodfeydd, a drafodwyd gennym yn awr, ond mae hefyd yn cynnwys amaethyddiaeth a’r amgylchedd.

Nawr, os yw’n wir nad yw Bil o’r fath yn caniatáu ar gyfer y llif datganoli hwnnw, yn sicr dylai Llywodraeth Cymru ystyried dau beth. Y cyntaf yw Bil parhad, sydd wedi cael ei awgrymu gan Blaid Cymru ers nifer o fisoedd bellach, a’r ail yw’r defnydd o fecanwaith megis y Cyd-bwyllgor Gweinidogion i sicrhau nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r Bil diddymu heb gytundeb y Cynulliad hwn, ac yn wir, y deddfwrfeydd datganoledig eraill yn y Deyrnas Unedig. Felly, nid yw am roi’r cyngor cyfreithiol i mi—gallaf ddeall hynny—ond a all gadarnhau ei fod wedi rhoi cyngor cyfreithiol, ‘ie’ neu ‘na’, i Lywodraeth Cymru ar Fil parhad? A beth yw barn Llywodraeth Cymru yn awr ar weithrediad y Cyd-bwyllgor Gweinidogion er mwyn sicrhau bod yna lais Cymreig cryf mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â’r Bil diddymu?

Wel, nid yw’n briodol i mi wneud sylwadau ynglŷn ag a wyf wedi rhoi cyngor cyfreithiol ar unrhyw fater penodol ai peidio. Ond mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch egwyddorion sylfaenol yr hyn a fydd y Bil. Bydd yr Aelod wedi clywed, fel y soniwyd yn flaenorol, fod nifer o ymrwymiadau wedi cael eu gwneud yn Nhŷ’r Cyffredin y bydd yn galw am gydsyniad y Llywodraethau datganoledig. Cafodd hynny ei wneud gan David Davis ei hun, ac rwy’n credu ei fod hefyd wedi’i wneud ddoe mewn ymateb i’r cwestiwn gan Jonathan Edwards. A hynny, fel y byddem yn ei ddisgwyl, yw y bydd unrhyw fater sy’n effeithio ar bwerau a chyfrifoldebau’r lle hwn yn galw am gydsyniad deddfwriaethol, ac mae hwnnw’n fater y mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod y Llywodraeth yn ymrwymo iddo.

Mae Prif Weinidog Cymru ac eraill wedi amlinellu o’r blaen beth yw’r egwyddorion sylfaenol o ran yr hyn y disgwyliwn ei weld mewn unrhyw Fil diddymu, sef bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod y rheidrwydd i unrhyw bwerau yn y maes datganoledig a ddelir ar hyn o bryd ar lefel yr UE gael eu harfer ar lefel ddatganoledig, oni bai bod rheswm clir wedi’i gytuno iddynt gael eu cadw gan Lywodraeth y DU. Ac os felly, yna mae’n rhaid cael mecanwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd yn y meysydd hyn, a dyna’r pwynt rydych chi’n amlwg wedi ei godi yno, gyda’r ffordd y caiff y materion hynny eu penderfynu mewn gwirionedd. Mae’r rhain yn egwyddorion sylfaenol o ran Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn, ac yn rhai y byddem yn disgwyl iddynt gael eu hanrhydeddu a’u parchu ym mha ddeddfwriaeth bynnag a argymhellir yfory.

Bil Diddymu Llywodraeth y DU

4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o Fil diddymu Llywodraeth y DU? OAQ(5)0043(CG)

Cyfeiriaf at fy ateb i’r cwestiwn blaenorol. Fel cynt, mae’r cwestiwn hwn yn amodol ar gonfensiwn swyddogion y gyfraith. Ailadroddaf y ffaith y byddwn yn gweithio i sicrhau bod sefyllfa Cymru yn cael ei diogelu, a bydd hynny o reidrwydd yn cynnwys ystyriaeth o’r Bil o ran ei oblygiadau i’n setliad datganoli.

Mae hynny ychydig yn fwy nag oeddwn wedi ei ddisgwyl, mewn gwirionedd, ac yn well na’ch rhagflaenydd, a fyddai wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl y tri gair cyntaf. A gaf fi efallai ofyn cwestiwn atodol yn dilyn yr ateb a roesoch i Simon Thomas, lle roeddech yn dweud bod yn rhaid i’r Bil diddymu mawr fod yn ddarostyngedig i gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad hwn? Beth fydd yn digwydd os nad ydym yn dweud ‘ie’?

Os nad ydym yn dweud ‘ie’, yna os ydym yn dibynnu ar y datganiadau a wnaed yn Nhŷ’r Cyffredin, byddai hynny’n ddiwedd ar y mater. Os ydych yn gofyn yn fwy manwl am y sefyllfa mewn perthynas â chonfensiwn Sewel, wel, wrth gwrs, rwyf wedi gwneud datganiad ar hynny o’r blaen. Rwy’n credu ein bod yn dychwelyd at y pethau sylfaenol gyda hyn. Beth yw pwerau a chyfrifoldebau sylfaenol y lle hwn a Llywodraethau datganoledig eraill yn y ffordd y mae strwythur cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig wedi’i ffurfio ar hyn o bryd? Pa effaith fydd y Bil diddymu yn ei chael ar hynny, os o gwbl? A yw’n gwneud y cydsyniad yn ofynnol ai peidio? Wel, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y cydsyniad yn ofynnol. Dyna ymrwymiad y byddwn yn mynnu eu bod yn ei gadw. Byddem yn disgwyl y bydd Llywodraeth y DU eisiau symud ymlaen â mater Brexit gyda chytundeb a chydsyniad yr holl weinyddiaethau datganoledig, oherwydd, yn y pen draw, dyna’r unig ffordd y gall lwyddo a chadw undod a chyfanrwydd y Deyrnas Unedig. Felly, rwy’n credu bod y rheiny’n ymrwymiadau sy’n rhaid eu hanrhydeddu ac y byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddynt gael eu hanrhydeddu.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Ymchwiliad i Waed Halogedig

Beth yw’r goblygiadau i Gymru yn dilyn y penderfyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal gwaed halogedig? TAQ(5)0200(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ddoe gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am ymchwiliad DU gyfan i amgylchiadau’r drasiedi hon. Mae angen i bawb ohonom wybod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd. Dyna pam ei bod yn bwysig fod y rhai yr effeithiwyd arnynt yn cael lleisio barn am ddull gweithredu a chylch gwaith yr ymchwiliad. Rwyf wedi galw am ymchwiliad o’r fath o’r blaen, ac rwyf wedi ysgrifennu heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, ac rwy’n disgwyl ymgysylltiad llawn â’r rhai yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae ymgyrchwyr ac aelodau o grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar hemoffilia a gwaed halogedig, y bu llawer ohonynt yn ymgyrchu am yr ymchwiliad cyhoeddus hwn ers 30 mlynedd, wedi dweud wrthyf fod yn rhaid i’r ymchwiliad gael y pŵer i orfodi tystion i roi tystiolaeth, yn wahanol i ymchwiliadau blaenorol. Mae’n rhaid sicrhau bod dogfennau’n cael eu datgelu’n llawn, gan fod honiadau fod rhai o’r rhain wedi cael eu dinistrio, a bod cofnodion meddygol wedi cael eu dinistrio neu fod rhywrai wedi ymyrryd â hwy. Maent eisiau gwybod pam fod cynhyrchion gwaed wedi parhau i gael eu defnyddio, a pham fod rhybuddion wedi cael eu hanwybyddu a pham na chafodd cleifion wybod am y peryglon; pam na ddefnyddiwyd triniaethau amgen; pam fod pobl â ffurf ysgafn ar hemoffilia wedi cael eu trin â chrynodiadau; pam fod buddiannau masnachol wedi cael blaenoriaeth dros ddiogelwch y cyhoedd; pam fod arian a ddyrannwyd ar gyfer hunangynhaliaeth mewn gwaed wedi cael ei ailddyrannu i rywle arall; pam fod hunangynhaliaeth mewn cyflenwadau gwaed wedi cymryd 13 mlynedd yn y DU ond pum mlynedd yn unig yn yr Iwerddon; pam fod papurau adrannol yr Arglwydd Owen a’r Arglwydd Jenkins wedi cael eu dinistrio o dan reol 10 mlynedd nad yw’n bodoli. Maent eisiau gwybodaeth am adroddiad gwallus yr Adran Iechyd ar hunangynhaliaeth mewn cynhyrchion gwaed, a gyhoeddwyd yn 2006, ac maent hefyd yn galw am ymchwiliad i rôl y cwmnïau fferyllol. Dyna rai o’r materion sy’n codi.

Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i ddefnyddio ei rôl i sicrhau bod y bobl hyn sydd wedi dioddef cymaint—. O gofio bod 70 o bobl yng Nghymru wedi marw, bod 273 wedi’u heintio, a bod bywydau cymaint o bobl eraill wedi cael eu difetha, sut y gallwch sicrhau y byddant yn cael lleisio barn yn y broses, y byddant yn gallu cael eu clywed? Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei bod eisiau ymchwiliad a fydd yn adlewyrchu’r hyn y mae’r teuluoedd ei eisiau, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod pobl o Gymru yn cael lleisio barn.

Yn olaf, rwy’n credu eich bod wedi ymdrin â hyn yn rhannol, ond a wnaeth y Prif Weinidog neu’r Ysgrifennydd Iechyd gysylltu â chi cyn gwneud y cyhoeddiad hwn ddoe? Nodaf eich bod wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt heddiw, ond pa ran fydd gennych yn y modd y bydd yr ymchwiliad hwn yn cael ei lunio? Oherwydd fe wyddom fod cryn dipyn o anawsterau wedi bod wrth benderfynu ar fathau o ymchwiliadau ar gyfer trychinebau sydd wedi digwydd. Yn amlwg, rwy’n credu ei bod yn hanfodol fod yr ymchwiliad hwn yn cynhyrchu atebion clir oherwydd mae’r bobl yr effeithiwyd arnynt yn y modd enbyd hwn yn haeddu’r gwir?

Diolch am y cwestiwn. Dylwn ddechrau drwy gydnabod, wrth ymateb, nid yn unig rôl Julie Morgan yn ymgyrchu ar y mater tra bu’n Aelod o’r Cynulliad hwn ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, ond hefyd o’i blynyddoedd blaenorol yn y Senedd, gyda diddordeb dwfn a gweithredol yn y mater hwn a’r sgandal sydd wedi effeithio ar bobl ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru.

Mae hon wedi bod yn broblem a enynnodd ddiddordeb trawsbleidiol, unwaith eto, yn y Senedd ac yn y Cynulliad hwn. Rwyf am ddechrau gyda’ch pwynt olaf, os hoffech, am y cysylltiadau rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae’n rhaid i mi ddweud bod hwn yn un lle rwy’n gobeithio gweld perthynas fwy parchus rhwng y gweinyddiaethau. Ysgrifennais yn flaenorol at yr Arglwydd Prior am y mater hwn ar 20 Hydref 2016 yn dilyn ymateb a roddodd Prif Weinidog y DU i Diana Johnson yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog ym mis Medi y flwyddyn honno. Ni chefais ateb. Ysgrifennais wedyn at Jeremy Hunt ar 20 Rhagfyr 2016 ac ni chefais ateb i’r llythyr hwnnw ychwaith. Os yw’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu bod am ei weld, ac rwy’n croesawu hynny, i ddwyn ffrwyth mewn gwirionedd—ymchwiliad go iawn sy’n gwrando ar y bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol ac sy’n rhan o hyn, ac mewn ymateb i fy nghydweithiwr etholaeth, Stephen Doughty, yn y Senedd ddoe, dangosodd y Llywodraeth unwaith eto eu bod eisiau i’r gweinyddiaethau datganoledig gymryd rhan yn briodol—yna mae hynny’n golygu bod angen cael ymagwedd wahanol. Yn hytrach na phenderfynu’n syml ar eu cylch gwaith eu hunain yn yr Adran Iechyd ar gyfer ymchwiliad ledled y DU, mae angen ymgysylltiad ychydig yn fwy dilys, nid yn unig â’r Llywodraeth, ond â’r teuluoedd a’r dioddefwyr eu hunain hefyd. Oherwydd, os ceir ymchwiliad arall heb bŵer i orfodi tystion i roi tystiolaeth ac nad yw’n darparu datgeliad llawn a phriodol, bydd yn gyfle a gollwyd, ond bydd hefyd yn creu dicter a diffyg ymddiriedaeth pellach ymhlith grŵp o bobl nad ydynt wedi cael eu trin yn dda dros nifer o flynyddoedd yn y gorffennol. Felly, mae’r cyhoeddiad i’w groesawu, ond mae ei gael yn iawn a chael y telerau’n gywir, a gwrando go iawn ar y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt ac ar y gweinyddiaethau datganoledig yn bwysig iawn. Cytunaf yn llwyr â’r amlinelliad bras o ran yr angen i orfodi tystion a datgeliad, ac rwy’n sicr yn gobeithio y gallwn ddod i gytundeb priodol ar hynny fel bod yr ymchwiliad yn cadw hyder y cyhoedd yn llawn wrth iddo gyflawni ei waith.

Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn innau hefyd ddiolch i’r ymgyrchwyr a Julie Morgan a’r grŵp trawsbleidiol am eu cryfder a’u penderfyniad yn dilyn y mater i’r canlyniad hwn. ‘Un o’r trychinebau gwaethaf yn ymwneud â thriniaethau yn hanes y GIG’, a dyna’r cynnig a basiwyd yn Nhŷ’r Cyffredin yn 2016, ac rwy’n credu ei fod yn crynhoi maint y sgandal hon yn berffaith.

Yr hyn rwy’n ei gael bron yn amhosibl ei gredu yw’r dystiolaeth fod swyddogion yn yr Adran Iechyd yn gwybod neu’n amau bod crynodiadau ffactor wedi’u mewnforio yn beryglus mor gynnar â’r 1980au, ac eto parhaodd y GIG i roi’r gwaed hwnnw i bobl neu’r ffactorau hynny i hemoffiligion. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ein sicrhau y bydd tryloywder llwyr mewn perthynas ag unrhyw gofnodion a allai fod ar gael naill ai yng Nghymru neu o Gymru i gynorthwyo’r ymchwiliad hwn?

Fel y gwyddoch, cafwyd ymchwiliad annibynnol a sefydlwyd gan yr Arglwydd Morris o Fanceinion ac fe gymerodd tua dwy flynedd i’w gwblhau. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymdrechu i ddefnyddio’r dylanwad sydd gennych i sicrhau bod yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â bod yn drwyadl, hefyd yn amserol? Mae gan ymchwiliadau cyhoeddus enw drwg ofnadwy am gael eu llethu’n llwyr yn y broses, ond mae hyn yn ymwneud â phobl a’r boen y maent wedi’i dioddef, ac maent eisiau atebion.

A wnewch chi sicrhau hefyd—ac rwy’n credu bod Julie wedi crybwyll hyn—fod y bobl yng Nghymru sydd eisiau siarad neu roi tystiolaeth yn cael cyfle i wneud hynny? Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi ystyried mewn gwirionedd sut y gallem eu cefnogi i wneud hynny, a’u cynorthwyo i roi unrhyw dystiolaeth, oherwydd rwy’n hollol argyhoeddedig y bydd yn achlysur hynod drawmatig iddynt ac os gallwn gynnig cefnogaeth i hwyluso’r daith honno iddynt, rwy’n credu y byddai hynny’n beth caredig iawn y gallech chi, fel Llywodraeth, ac y gallem ni, fel Cynulliad, ei wneud. Rwy’n siŵr y byddwch yn pwyso am dryloywder llwyr, ond a allech ein sicrhau y bydd unrhyw wersi a gaiff eu dysgu ar ddiwedd yr ymchwiliad hwn yn cael eu rhoi ar waith yn drylwyr ledled Cymru, er mwyn sicrhau na all y math hwn o ddigwyddiad ofnadwy byth ddigwydd eto?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag euogrwydd. Os canfyddir bod pobl wedi bod yn gelwyddog, yn anonest, yn dwyllodrus, neu’n dwp hyd yn oed, a bod goblygiadau i hynny o ran unrhyw broses, sefydliad neu unigolyn yng Nghymru, byddwn yn gobeithio y gallwch ein sicrhau heddiw y byddwch yn rhoi camau priodol ar waith mewn perthynas â hwy.

Diolch i chi am y gyfres honno o bwyntiau, ac rwy’n falch o ddweud fy mod yn cytuno â hwy. Rwy’n credu mai rhan o’r her yn hyn yw, nid yn unig poen y teuluoedd sydd wedi colli rhywun neu rywun sydd wedi cael eu heintio, ond mewn gwirionedd, caiff llawer o hynny ei waethygu gan y teimlad fod pethau wedi cael eu cuddio ac nad yw pobl wedi dweud y gwir ac nid damwain oedd hynny. Dyna pam fod yr ymchwiliad yn angenrheidiol, a dyna pam fod cael y telerau’n gywir yn angenrheidiol hefyd. Rwy’n credu o ddifrif nad yw hwn yn fater lle y dylai gwleidyddiaeth plaid fod o bwys. I fod yn deg, nid dyna oedd agwedd y grŵp trawsbleidiol yn y lle hwn nac yn y Senedd. Rwy’n deall yr alwad am dryloywder ac am gydweithrediad llawn a phriodol yn llwyr, ac rwy’n falch o gadarnhau, o safbwynt y Llywodraeth, lle mae gwybodaeth o Gymru yn ddefnyddiol i’r ymchwiliad hwnnw, fy mod yn disgwyl y bydd cydweithrediad a thryloywder llawn, fel y gall pobl weld ein bod o ddifrif yn chwarae ein rhan i geisio deall pam y digwyddodd yr hyn a ddigwyddodd. Y rheswm pam roeddem yn dweud bob amser bod angen cynnal ymchwiliad ledled y DU yw oherwydd y pwerau sy’n bodoli ar gyfer gorfodi yn yr ymchwiliad, ond hefyd oherwydd bod y digwyddiadau hyn wedi digwydd cyn datganoli, ac felly nid oeddem yn rheoli’r hyn a ddigwyddodd ar y pryd. Mae hynny’n bwysig iawn i bobl sydd eisiau i’r ymchwiliad gael ei gynnal.

Rwyf eisiau bod yn glir ynglŷn â sut y gallwn gefnogi pobl Cymru. Mae hynny’n dibynnu ar y cylch gwaith a’r ffordd y caiff yr ymchwiliad ei sefydlu. Fel ymchwiliad a gynhelir ledled y DU, bydd angen cael sgwrs briodol ynglŷn â sut y caiff pobl eu cefnogi, ynglŷn â gwneud yn siŵr fod hwn yn ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan mewn gwirionedd, yn hytrach nag ymchwiliad yn Lloegr a fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i gwmpasu gweddill y Deyrnas Unedig i bob pwrpas. Felly, mae’n rhaid i honno fod yn sgwrs rwyf am ei chael gyda’r Adran Iechyd, na chysylltodd â Llywodraeth Cymru cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud ddoe. Roedd hwnnw’n bwynt y gofynnodd Julie Morgan yn ei gylch. Felly, nid oedd hynny wedi digwydd ar yr adeg honno. Rwyf i fod i siarad â rhywun o’r Adran Iechyd yr wythnos nesaf. Unwaith eto, mae’n siomedig, pan fo ymchwiliad DU gyfan o’r math hwn yn cael ei gyhoeddi, na chafwyd sgwrs yn gynharach gyda’r Llywodraeth hon. Unwaith eto, nid yw’n ymwneud â phleidiau o reidrwydd, mae’n ymwneud â’r berthynas rhwng un Llywodraeth a’r llall, a’r ffaith nad yw hyn yn briodol.

Mewn gwirionedd, mae pwynt go iawn yma am bobl sy’n credu yn yr undeb yn ceisio gwneud iddo weithio. Mae’n rhwystredig pan fo pethau fel hyn yn digwydd nad ydynt yn gwneud hynny mewn ffordd sydd, mewn gwirionedd, yn hyrwyddo buddiannau’r dinesydd, ac ymwneud â hynny y mae hyn oll. O ran ein sefyllfa yn awr, rwy’n hapus i gadarnhau, mewn gwirionedd, fod y ffordd y mae cynhyrchion gwaed yn cael eu rheoli erbyn hyn wedi newid yn sylweddol, ac ni ddylai fod yn bosibl i’r un sgandal ddigwydd yn yr un ffordd. Mae hi bob amser yn bosibl fod pobl yn barod i gydgynllwynio â’i gilydd, ond mae’r systemau sydd gennym ar waith bellach yn golygu bod cynhyrchion gwaed yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig yn anhygoel o ddiogel, a gallwch olrhain o ble y daw’r cynhyrchion hynny. Felly, dylai’r sgrinio sy’n digwydd yn awr fod yn ffactor go iawn ar gyfer sicrhau unrhyw un sy’n defnyddio cynhyrchion gwaed o Gymru neu o unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

O ran euogrwydd, nid yw rhai o’r materion hynny o fewn cylch gwaith y Llywodraeth hon, ond byddwn yn disgwyl y bydd unrhyw ganfyddiadau yn cael eu defnyddio i ddwyn pobl i gyfrif yn briodol, yn ogystal ag i ddeall ac i ddysgu. Credaf fod hynny’n wirioneddol bwysig. Os caf ddweud, rwy’n credu, yn ogystal â’r grŵp trawsbleidiol, y gallai fod yn ddoeth i lefarwyr y pleidiau perthnasol gael sgwrs rhwng yr wythnos hon a’r nesaf i weld a yw’n bosibl i ni ddod o hyd i eiriad y mae pob un o’r pleidiau yn y lle hwn yn cytuno arno o ran yr hyn yr hoffem ei weld yn digwydd mewn perthynas â’r cylch gwaith a’r modd y caiff yr ymchwiliad ei gynnal. Yn ogystal â sgwrs rhwng un Llywodraeth a’r llall, credaf y bydd cael pob plaid i gytuno ar rywbeth yn ddefnyddiol i ni ei wneud hefyd. Ond rwy’n hapus i gael y sgwrs honno gyda’r llefarwyr ar ôl y cwestiwn heddiw.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Norman a Jennifer Hutchinson, fy etholwyr, sydd wedi dal ati i bwyso’n dyner arnaf i barhau i bwyso, ynghyd â Julie Morgan ac eraill yma yn y Siambr, ar Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r gwaith a’n helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Nid ydym wedi cyrraedd yno eto, fel y dywedodd Norman a Jennifer wrthyf neithiwr. Gyda’r arweinyddiaeth gywir ar y panel a’r cylch gwaith cywir, gallem sicrhau’r cyfiawnder y mae cymaint o’i angen. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael y sicrwydd hwnnw yn awr. Nawr, wrth ddiolch iddynt, hoffwn gofnodi fy edmygedd hefyd, yn ogystal â fy niolch, i holl deuluoedd y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal hon am eu penderfyniad cyson dros nifer o flynyddoedd i’n helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Wrth groesawu cynnig Ysgrifennydd y Cabinet i weithio ar safbwynt ar y cyd o bosibl ar draws y pleidiau yma—oherwydd mae hon wedi bod yn ymdrech drawsbleidiol—a gaf fi ofyn iddo wneud yn siŵr hefyd ei fod yn sicrhau bod y teuluoedd yn parhau i allu bwydo gwybodaeth iddo ef a’i adran a rhoi arweiniad ar sut i ymwneud â Llywodraeth y DU ynglŷn â’r mater hwn er mwyn sicrhau bod hyn yn fwy na phosibilrwydd o roi diwedd ar y mater, ond ei fod yn datrys ac yn ateb y cwestiynau y mae angen mor daer wedi bod i’w gofyn ers cynifer o flynyddoedd?

Diolch i chi am y pwyntiau hynny, Rhun. Unwaith eto, rwy’n gwybod eich bod yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol hefyd ac wedi bod â diddordeb gwirioneddol yn y mater hwn. Rwyf fi, hefyd, yn rhannu’r edmygedd hwn sydd gennych chi ac Aelodau eraill yn y Siambr o gryfder pobl nad ydynt wedi rhoi’r gorau iddi, nid yn unig o ran ymladd dros eu hachos unigol hwy a’u teulu, ond dros achos llawer ehangach a effeithiodd ar lawer o bobl eraill ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig. Rwyf hefyd yn croesawu eich ymagwedd adeiladol tuag at y posibilrwydd o lythyr trawsbleidiol yn ogystal. Rwy’n credu y gallai fod yn ddefnyddiol iawn.

O ran sefyllfa teuluoedd yng Nghymru, rwyf wedi dweud yn glir fy mod eisiau gwneud yn siŵr fod teuluoedd yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol ac yn briodol. Ac wrth gwrs, fel Llywodraeth, bydd angen i ni siarad â’r bobl hynny i roi cyfle iddynt ddweud wrthym beth y maent eisiau ei weld, yn ogystal â cheisio siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth y DU. Rwy’n credu, o ran ein safbwynt fel Llywodraeth, mai’r hyn rydym eisiau ei sicrhau yw ein bod o ddifrif yn siarad ar ran y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol. Felly, rwy’n ystyried sut y gallwn wneud hynny. Mae gennym y gallu i gysylltu â’r teuluoedd hynny’n uniongyrchol ac i weld beth y maent eisiau ei wneud, yn ogystal â’r Gymdeithas Hemoffilia a grwpiau cymorth eraill sydd eisoes yn bodoli i gefnogi nifer o’r teuluoedd hynny. Rwy’n meddwl am y 10 pwynt a nodwyd eisoes gan y Gymdeithas Hemoffilia o ran eu safbwynt ar yr ymchwiliad. Felly, mae hwnnw’n ddechrau defnyddiol i ni hefyd, ond mae angen i ni weld a oes materion eraill y mae teuluoedd yn dymuno eu codi’n uniongyrchol yn y drafodaeth barhaus anorffenedig ynglŷn ag aelodaeth yr ymchwiliad a’i gylch gwaith.

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Julie, y grŵp trawsbleidiol, a phawb arall a oedd yn rhan o’r gwaith o sicrhau bod yr ymchwiliad hwn yn digwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei fod yn newyddion gwych ein bod, o’r diwedd, yn cael ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal ofnadwy hon. Collodd fy ffrind agos, Faye Denny, ei brawd, Owen Denny, a fu farw o ganlyniad i waed halogedig. Yn awr, y gobaith yw y bydd Owen, a’i deulu a miloedd o deuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal ofnadwy hon, yn cael cyfiawnder o’r diwedd. Mae’r GIG yno i achub bywydau, ac mae’n aml iawn yn gwneud hynny, ond fe wnaeth gam ofnadwy ag Owen a llawer o bobl debyg iddo ar yr achlysur hwn. Felly, mae angen ymchwilio’r cyfnod tywyll hwn mewn hanes yn llawn yn awr, ac mae’n rhaid i ni sicrhau na all byth ddigwydd eto. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod lleisiau dioddefwyr o Gymru a’u teuluoedd yn cael eu clywed. A wnewch chi weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ymchwiliad yn gallu datgelu’r gwirionedd ynglŷn â’r anghyfiawnder echrydus hwn, gwirionedd sy’n hollol dryloyw ar bob adeg? Diolch.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Unwaith eto, bydd llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon wedi’u heffeithio’n uniongyrchol o fod yn adnabod rhywun yr effeithiwyd arnynt uniongyrchol gan y sgandal. Rydym yn awyddus iawn i beidio â cheisio honni y gall Llywodraeth Cymru ysgrifennu telerau’r cylch gwaith ar gyfer yr ymchwiliad. Byddwn yn gwneud popeth a allwn ac y dylwn ei wneud i ddylanwadu ac i ddadlau dros gylch gorchwyl sy’n diwallu anghenion teuluoedd a’r hyn y maent eisiau ei weld o fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad mewn gwirionedd. Byddaf yn hollol dryloyw gyda llefarwyr y pleidiau o amgylch y Siambr hon o ran yr hyn rydym yn ceisio ei wneud i gyrraedd y pwynt hwnnw. Mae angen dweud am yr amserlen hefyd, oherwydd bydd bron bob un ohonom eisiau gweld amserlen fer, ond o ystyried y cyfnod o amser y digwyddodd hyn, o ystyried nifer y dogfennau sy’n debygol o gael eu darparu neu y bydd angen eu darparu a’u datgelu ac yna’u hystyried, ni fyddwn yn rhagweld y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn gyflym. Ond rwy’n credu, i’r bobl sydd wedi aros cyhyd i gael ymchwiliad, cael y telerau’n gywir, gwneud yn siŵr fod yr holl dystiolaeth yn gywir a bod amser priodol i’w hystyried yw’r pethau pwysicaf yn fy marn i. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’r ymchwiliad gael yr adnoddau priodol yn hytrach na gofyn am ymchwiliad gyda chylch gwaith enfawr heb fawr ddim adnoddau i wneud hynny. Felly, mae’r rhain i gyd yn bwyntiau y byddwn yn eu gwneud yn ein sgwrs â Llywodraeth y DU, ac yn bwyntiau rydym eisiau eu hystyried ar y cyd â’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Ond fel rwy’n dweud, byddaf yn hollol dryloyw gyda’r Siambr hon ynglŷn â’r ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i geisio dadlau dros y bobl sy’n byw yma yng Nghymru.

Cau Swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael ynghylch y swyddi a gaiff eu colli o ganlyniad i’r penderfyniad i gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru? TAQ(5)0197(EI)

Rwyf wedi gwneud sylwadau i’r Gweinidog cyflogaeth sawl gwaith. Eglurais fy mhryderon pan siaradasom ar 5 Gorffennaf. Byddaf yn parhau i geisio sicrwydd ynglŷn â sefyllfa staff yr effeithir yn niweidiol arnynt gan y newidiadau hyn. Ac yn wir, rwy’n cyfarfod â Gweinidog y DU yfory i drafod y mater ymhellach.

Mae hynny’n newyddion gwych. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn troi pob carreg yn wir, fel y bydd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, sy’n AC dros Lanelli ac sydd, wrth i ni siarad, yn cyfarfod am yr eildro gyda Damian Hinds o’r Adran Gwaith a Phensiynau, a Nia Griffiths AS, sy’n ceisio dod o hyd i ateb munud olaf i’r hyn rwyf fi a hwythau’n ei ystyried yn benderfyniad cyfeiliornus iawn yn arbennig mewn perthynas â’r sefyllfa yn Llanelli, lle rydym yn rhagweld y bydd 146 o bobl yn colli eu swyddi. Er bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio’n galed i sicrhau’r cynnig o swyddfeydd amgen yn Llanelli, ac rwy’n gwybod am yr ymdrechion glew ar ran Llywodraeth Cymru, sydd wedi cynnig gofod swyddfa rhad ac am ddim i gadw’r swyddi hyn yn lleol, mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi troi eu cefnau ar orllewin Cymru unwaith eto. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod symud y swyddi hyn o Lanelli yn mynd yn groes i strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, sy’n dweud ei bod eisiau lledaenu ffyniant ar draws y Deyrnas Unedig?

Yn hollol. Rwy’n siomedig iawn fod yr Adran Gwaith a Phensiynau, ddydd Mercher diwethaf, wedi cyhoeddi’r penderfyniad i gau’r swyddfa budd-daliadau yn Llanelli a’r canolfannau gwaith yn Aberpennar, Y Pîl, a Thredegar. Rydym yn deall y bydd adleoli swyddi yn effeithio ar tua 150 o staff. Rwy’n siomedig iawn hefyd na wnaethant ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynglŷn ag atebion amgen cyn y penderfyniad terfynol. Nodais fy mhryderon dwys ynglŷn â hyn wrth Damian Hinds yr wythnos ddiwethaf pan siaradais ag ef ar y ffôn, ac rwyf wedi ysgrifennu sawl gwaith ynglŷn â hyn, cyn yr etholiad cyffredinol ac wedi hynny.

Rydym yn croesawu’r ffaith fod swyddi 93 o staff yng nghanolfan ddyledion y Porth yn cael eu hadleoli yn awr i ganolfan waith Tonypandy yn hytrach na Chaerffili fel y cyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Ac yn ystod ein sgwrs, dywedodd y Gweinidog cyflogaeth wrthyf hefyd ei fod yn agor yr hyn a ddisgrifiodd fel adeilad modern mawr i’r gogledd o Gaerdydd i uno pum canolfan brosesu fach a chyfagos, ond ni roddodd unrhyw fanylion am hynny i mi, felly byddaf yn pwyso arno mewn perthynas â hynny yfory. Nodais yn bendant iawn nad ein nod oedd crynhoi swyddi mewn ardaloedd â lefelau uchel o gyflogaeth, ond ein bod, mewn gwirionedd, yn ceisio cadw swyddi mewn ardaloedd â lefelau cyflogaeth is lle roedd y swyddi’n llawer pwysicach ac yn fawr eu hangen. Cawsom rywfaint o drafodaeth am dopograffi Cymru yn y sgwrs honno, ac ynglŷn â’r ffordd nad oedd llinellau ar fap, heb y mynyddoedd yn y canol, o bosibl, yn dynodi gallu pobl i gymudo yn dda iawn, ac yn y blaen. Byddaf yn mynd ar drywydd hynny gydag ef yfory.

Ond diwedd y gân yw hyn: rydym yn siomedig tu hwnt na ymgynghorwyd yn briodol â ni, na chafodd ein cynigion i helpu i gadw swyddi mewn ardaloedd sydd eu hangen yn fawr mo’u derbyn. Byddaf yn ceisio gweithio’n adeiladol gydag ef yfory mewn perthynas â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol i weld a allwn ddylanwadu arnynt i wneud yn siŵr fod swyddi sy’n bodoli eisoes yn aros yng nghymunedau’r Cymoedd a chymunedau eraill lle mae diweithdra ychydig yn uwch ar draws Cymru, a byddwn yn ailadrodd ein polisi Swyddi Gwell yn Nes at Adref, nid crynhoi pobl mewn canolfannau mawr sydd, yn anochel, ymhellach o ble y maent yn byw.

Wrth gwrs, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cael llwyddiant yn eich cyfarfod yfory ac efallai yn defnyddio’r cyfle olaf i ddarbwyllo’r Adran Gwaith a Phensiynau i wyrdroi’r penderfyniad, yn enwedig yng nghyd-destun symud swyddi oddi ar ganol tref Llanelli, sydd yn mynd i gael effaith economaidd ddybryd iawn ar dref sydd yn sigledig yn economaidd, fel rŷm ni i gyd yn gwybod.

Rwy’n ddiolchgar eich bod chi wedi ateb, y bore yma, cwestiwn ysgrifenedig, ac yn benodol hoffwn i droi at y ffaith bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud na fydd neb yn gorfod colli swydd oherwydd y penderfyniad yma yn Llanelli, ond yn cael eu hadleoli. Ond byddwch chi’n gwybod o’r trafodaethau mae’n siŵr eu bod nhw yn sôn am adleoli i lefydd fel Doc Penfro a Chaerdydd, ac mae’n gwbl amhosibl, gyda chynifer o fenywod, pobl gyda chyfrifoldebau gofal, pobl gyda phlant ifanc a gyda rhieni mewn oed i ystyried symud swyddi o ganol Llanelli i weithio mewn ardaloedd mor wasgaredig. Felly, yn benodol, pan fyddwch chi’n cwrdd â Damian Hinds yfory, a fyddwch chi’n gofyn yn fwy penodol am warant ganddo fe os nad oes rhywun yn medru adleoli oherwydd y cyfrifoldebau sydd gyda nhw o ran gofal plant neu oherwydd y sefyllfa bersonol sydd gyda nhw, na fydd yna ddiswyddo gorfodol yn digwydd? Iawn, os yw pobl yn moyn cael eu diswyddo yn wirfoddol, mae hynny’n fater iddyn nhw. Ond a fedrwch chi gael ymrwymiad na fydd diswyddo gorfodol, ac felly y bydd pobl yn medru cadw eu swyddi?

Wel, yn wir, mae honno’n rhan bwysig o’r sgwrs. Cawsom sgwrs am ardaloedd adleoli posibl i bobl o Lanelli, a chafodd ystod amrywiol o leoedd eu crybwyll, gan beri i mi ofyn a oedd ganddo fap gyda’r mynyddoedd wedi’u marcio arno. Un o’r ardaloedd a grybwyllwyd oedd adleoliad posibl i lannau Abertawe, er enghraifft. Roeddwn yn esbonio pa mor anodd yw hi i gymudo o ganol Llanelli i Abertawe. Efallai nad yw’n ymddangos yn bell iawn yn y de-ddwyrain, ond yma yng Nghymru, mae’n gryn bellter mewn gwirionedd, a beth bynnag, mae’r staff yn debygol o fod yn dod o’r gorllewin i Lanelli.

Felly, rwyf wedi gwneud pob un o’r pwyntiau hynny. Rydym wedi gwneud y pwynt ein bod yn anhapus iawn ynglŷn ag unrhyw fath o gynllun diswyddo gorfodol. Byddaf yn ailadrodd hynny. Ond hoffwn ddweud hefyd, lle yr effeithir ar bobl gan ddiswyddiadau, os mai dyna a fydd yn digwydd—ac rwy’n cael sicrwydd ar hyn o bryd na fydd hynny’n digwydd—ond os yw’n digwydd, yna yn amlwg byddwn yn gweithio’n galed iawn i wneud yn siŵr fod unrhyw un yr effeithir arnynt yn cael budd llawn ein gwasanaethau ReAct ynghyd â phopeth arall. Felly, byddwn yn awyddus i gael eglurhad gan gyfarwyddwr gwasanaethau gwaith Cymru mewn perthynas ag amseriad y cau, y cynlluniau adleoli a’r effaith debygol ar y staff ond hefyd y gwasanaethau a gynigir i ddefnyddwyr gwasanaethau, a threfniadau teithio ar eu cyfer, a’r addasiadau i’r amseroedd ac yn y blaen—cael cymaint o fanylion ag y bo modd mewn gwirionedd, (a) i barhau i roi pwysau arnynt i beidio â gwneud penderfyniadau nad ydynt yn gwneud unrhyw synnwyr yng nghyd-destun Cymru, a (b) os ydynt yn gwneud y penderfyniadau hynny, eu bod yn sicrhau ein bod yn addasu ein gwasanaethau i lenwi’r bylchau, mewn gwirionedd.

Diolch i chi, Gweinidog, am yr ymatebion rydych wedi’u rhoi hyd yn hyn. Mae’n gymhariaeth ddiddorol gyda’r hyn roeddem yn sôn amdano gyda Tesco ychydig o wythnosau yn ôl yn unig, pan oeddem yn pryderu na allem ddylanwadu ar y cwmni corfforaethol mawr hwnnw, ac yn awr mae’r Llywodraeth, Llywodraeth y DU, sy’n gallu gwrando ar ein cymunedau, yn gwneud bron yr un peth ag y gwnaeth Tesco, ac mae hynny’n fy rhyfeddu.

Mae’r sibrydion, er enghraifft, yn broblem enfawr. Fe sonioch am yr adleoli o’r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghaerffili i rywle i’r gogledd o Gaerdydd—ac ardaloedd eraill i’r gogledd o Gaerdydd. Wel, rwyf wedi clywed fod ystâd ddiwydiannol Trefforest yn bosibilrwydd. Nid wyf yn gwybod a yw hynny’n wir ai peidio, ond rwy’n gwybod fod gan Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, y siaradais â hwy, bryderon mawr ynglŷn â mynediad, yn arbennig, ar gyfer gweithwyr yng Nghaerffili. Mae Wayne David AS wedi mynegi’r pryderon hynny ac rwy’n sefyll gydag ef wrth fynegi’r pryderon hynny heddiw.

Mae hyn hefyd, fel y dywedwch, yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru lle rydym yn ceisio dod â swyddi ymhellach i’r gogledd drwy’r Cymoedd gogleddol ac mae Llywodraeth y DU yn symud pethau i’r de. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr. Felly, a wnewch chi roi ymrwymiad pellach, pan fyddwch yn siarad â Llywodraeth y DU, i’w hannog i gadw canolfan Caerffili—i ailystyried eu cynlluniau ar gyfer canolfan Caerffili a chadw honno ar agor hefyd?

Gwnaf, yn wir, rwy’n hapus i roi’r ymrwymiad hwnnw i chi. Rwy’n gobeithio y byddwn yn cael trafodaeth eang ynglŷn â beth yn union yw’r cynlluniau, pam eu bod wedi penderfynu gwneud hyn, pam nad ydynt wedi ymgynghori â ni, ac yn wir, beth y gellir ei wneud yn awr. Nid yw wedi digwydd eto mewn gwirionedd. Beth y gallwn ei wneud ar hyn o bryd i gynorthwyo ac i wneud yn siŵr ein bod yn deall yn union beth yw’r cynigion fel nad oes sibrydion yn mynd o gwmpas, fel sydd wedi bod yn digwydd ers peth amser, ac er mwyn gallu sicrhau staff, a sicrhau defnyddwyr gwasanaethau yn wir, ynglŷn â ble fydd y swyddfeydd wedi’u lleoli yn y dyfodol?

Felly, fel y dywedais, byddwn yn chwilio am eglurhad ynglŷn ag amseriad y cau, adleoli staff, beth sy’n digwydd i’r gwasanaethau—yr holl ystod o faterion sy’n ymwneud ag adleoli’r swyddfeydd. Byddaf yn ailadrodd nad dyma y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddweud yn ei strategaeth ddiwydiannol mewn perthynas â dod â chyflogaeth i ardaloedd lle mae llai o gyflogaeth nag y byddech yn ei gael mewn canolfannau trefol, ac mae’n sicr yn mynd yn groes i’n hagenda Swyddi Gwell yn Nes at Adref ein hunain.

Pan fydd y Gweinidog yn cyfarfod â Gweinidog y DU yfory, bydd hi’n gallu dweud bod ganddi gefnogaeth unedig yr holl Aelodau Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn wir, gan fy mhlaid i yn ogystal â Phlaid Cymru, yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Mae hi’n hollol gywir, wrth gwrs, mewn perthynas â gorllewin Cymru—un o’r rhannau tlotaf, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond yng ngorllewin Ewrop mewn gwirionedd. Mae’n gwbl anghywir i’r Llywodraeth fabwysiadu safbwynt y gellid ei alw’n safbwynt digyfaddawd masnachol ar adleoli yn syml er mwyn arbed ychydig o geiniogau yma ac acw ac i ymddwyn yn yr un ffordd ag y mae cwmni fel Tesco wedi ymddwyn, fel y mae Hefin David newydd ei nodi. Ac i’r graddau fod hyn yn mynd yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, dyma’r trydydd tro y prynhawn yma inni glywed bod Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi bod yn rhy brin o foesau da sylfaenol i ymgynghori neu o leiaf i siarad â Gweinidogion Llywodraeth Cymru cyn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fuddiannau hanfodol Cymru. Clywsom hyn gan y Cwnsler Cyffredinol, fe’i clywsom hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ac yn awr gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Mae angen i Weinidogion Llywodraeth y DU ddysgu bod datganoli yn realiti a bod angen iddynt barchu buddiannau Cymru fel y cânt eu cynrychioli yn y Cynulliad hwn.

A gaf fi hefyd ddweud bod y penderfyniad hwn yn dangos nad yw swyddi o reidrwydd yn ddiogel yn unig oherwydd eu bod yn swyddi sector cyhoeddus? Yr hyn sy’n hanfodol angenrheidiol yw bod gennym fwy o arallgyfeirio yn yr economi yng Nghymru, gan fod dwy ran o dair o’n hincwm cenedlaethol, yn y pen draw, yn dibynnu ar wariant Llywodraethol o ryw fath neu’i gilydd, ac mae taer angen mwy o fuddsoddiad yn y sector preifat a swyddi sy’n talu’n well yng Nghymru. 

Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawsbleidiol. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i ni symud swyddi o ardaloedd sydd eu hangen yn fawr i ardaloedd lle mae cyflogaeth yn llawer uwch. Nid oes gennyf holl fanylion y cynllun ar gyfer y swyddfa fawr newydd, nac am gau, rwy’n tybio, rhai o’r is-swyddfeydd o’i chwmpas, ond byddaf yn gofyn am eglurhad ar hynny, ac yn wir byddwn yn ceisio dylanwadu ar leoliad y ganolfan honno. Nid oes gennyf y manylion hynny eto, ond byddaf yn gofyn amdanynt.

O ran arallgyfeirio, nid wyf yn anghytuno â hynny mewn gwirionedd, ond hefyd rydym eisiau i Lywodraeth y DU ymrwymo i gadw swyddi sector cyhoeddus da mewn ardaloedd o Gymru lle mae angen y gwaith hwnnw. Maent yn aml yn swyddi sy’n arwain at greu gwaith arall, maent yn aml yn cynnal economi fach leol, mae’r holl gaffis a siopau bach o amgylch y canolfannau hyn hefyd yn ei chael hi’n anodd ar ôl iddynt adael, ac maent yn aml yn ganolbwynt i ecosystem fach. Felly, er nad wyf yn anghytuno â’r pwynt ynglŷn ag arallgyfeirio, rwyf hefyd yn awyddus i bwysleisio ein bod eisiau ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei harian a’i chyflogaeth yn ddoeth ac yn dda er mwyn cefnogi diwydiannau a chyflogaeth o fathau eraill yn yr ardaloedd hynny.

Rydym yn gwybod fod cwmpas newidiadau’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn cynnwys cau eu safle yn Sovereign House yng Nghasnewydd. Bydd hyn yn golygu adleoli 249 o swyddi, a oedd yng nghanol ein dinas, i rywle i’r gogledd o Gaerdydd. Mae’r staff teyrngar yn Sovereign House yn haeddu gwell ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn wynebu colli gweithwyr medrus a phrofiadol iawn oherwydd newidiadau diangen.

Mae’r diffyg ymgynghori, fel y mae aelodau eraill wedi’i ddweud, yn gwbl druenus ac mae hyn yn mynd yn erbyn polisi’r Llywodraeth o gadw swyddi yn nes at adref. Yn wir, mae’r cynlluniau hyn i’w gweld fel pe baent wedi cael eu llunio gan Lywodraeth y DU heb unrhyw ddealltwriaeth o’r staff y maent yn eu cyflogi ar hyn o bryd, amseroedd cymudo, na daearyddiaeth Cymru yn wir.

Mae fy nghydweithwyr Paul Flynn a Jessica Morden AS yn arwain ar y mater hwn yn y Senedd, ond a allwch sicrhau fy etholwyr, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a’r Gweinidog yfory, y byddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i ddiogelu’r swyddi hynny yng Nghasnewydd?

Yn sicr. Fel y dywedais, rydym yn ceisio cael darlun o’r sefyllfa ar draws Cymru. Nid ydym yn hapus o gwbl ynglŷn â’r broses o grynhoi swyddi mewn un ardal benodol. Nid ydynt wedi ymgynghori â ni yn ei gylch. Ymddengys i ni ei fod wedi cael ei ysgogi gan faterion yn ymwneud ag ystadau, yn hytrach na materion yn ymwneud â swyddi a chyflogaeth, ac nid honno yw’r ffordd gywir o fynd o’i chwmpas yn fy marn i. Rydym wedi cynnig gweithio gyda hwy, ac yn wir, ar hyn o bryd rydym—ac rwy’n estyn y cynnig yn awr—yn gobeithio gweithio gyda hwy ynglŷn â beth yw eu gofynion swyddfa, a’r ffaith nad ydynt wedi ymgynghori â ni. Rwyf wedi cynnig swyddogion fel cysylltiadau i gael y drafodaeth honno gyda hwy, a byddaf yn sicr yn gwneud y pwynt ynglŷn â Chasnewydd, ochr yn ochr â’r holl swyddfeydd eraill sy’n wynebu cau o ganlyniad i’r hyn na allaf ond ei ddisgrifio fel argymhelliad byrbwyll na roddwyd ystyriaeth briodol iddo.

Coilcolor yng Nghasnewydd

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yng Coilcolor yng Nghasnewydd? TAQ(5)0198(EI)

Gwnaf. Mae fy swyddogion wedi bod yn trafod gyda’r cwmni ers y llifogydd ar y safle. Ar 10 Gorffennaf, cawsom ein hysbysu bod y cwmni’n bwriadu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ond rydym yn barod i helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn.

Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r sefyllfa yn Coilcolor a’r bygythiad i swyddi dros 40 o weithwyr a gyflogir yno. Rwy’n deall bod y sefyllfa hon wedi codi o anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a Coilcolor dros daliad iawndal ar ôl i adeilad y cwmni ddioddef llifogydd yn 2016. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr yn mynnu bod taliad iawndal wedi cael ei addo, ond mae Llywodraeth Cymru yn gwadu hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymyrryd yn bersonol i achub y swyddi yn Coilcolor, ac a wnaiff gytuno i ymchwilio i’r mater hwn yn llawn i weld sut y gallai’r anghydfod hwn fod wedi codi a gwneud datganiad fel mater o frys, os gwelwch yn dda?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i bryder, a rennir gan lawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon? Yn wir, mae’r Aelod lleol, Jayne Bryant, wedi trafod ei phryderon ynglŷn â dyfodol y cwmni gyda mi ar sawl achlysur ac wedi cyflwyno sylwadau cryf iawn. Yn y bôn, rwy’n credu y byddai’n amhriodol i mi wneud sylwadau neu ddyfalu ynglŷn â hyfywedd y cwmni pe na bai’r llifogydd wedi digwydd, ond o ran yr hyn a ddigwyddodd gyda’r llifogydd, fel arfer yn y math hwn o achos byddai cwmni yswiriant yn talu’r iawndal ond yna’n erlyn y partïon sy’n atebol. Yn yr achos hwn mewn gwirionedd, roedd Llywodraeth Cymru, fel y tirfeddiannwr, wedi trwyddedu’r safle i Tai Tirion ar adeg y llifogydd. Yn ei dro, roedd y tir wedi’i feddiannu gan eu contractwyr, Walters, a oedd yn adfer y safle i’w baratoi ar gyfer cynllun tai. Nawr, fel y dywedaf, fel arfer byddai’r hawliad yn cael ei brosesu drwy gwmni yswiriant a byddent wedyn yn dod ar ein holau pe baem yn atebol. Nid yw hynny wedi digwydd. Mae swyddogion wedi bod mewn trafodaethau agos iawn gyda’r cwmni, ac rwyf wedi bod â diddordeb brwd iawn yn y mater ers misoedd lawer. Fe wnaethom helpu i hwyluso cymorth drwy Cyllid Cymru yn ôl ym mis Rhagfyr 2016, a alluogodd y cwmni i barhau i fasnachu heb broblemau mawr, gan fwrw ymlaen â’u hawliad yswiriant hefyd.

Buaswn yn gwrthod unrhyw honiad fod Llywodraeth Cymru erioed wedi addo taliad heb ragfarn. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod cyfreithwyr Coilcolor wedi anfon llythyr yn ymwneud â hawliad am £600,000 yn dilyn y llifogydd. Aeth Llywodraeth Cymru ati i gyfarwyddo cyfreithwyr allanol, a ofynnodd am fanylion yr hawliad, ond nid yw’r cwmni wedi bwrw ymlaen ag ef. Anfonasom ail lythyr ym mis Ebrill a chawsom ein hysbysu am hawliad arall yn ymwneud â thaliad o £58,000 i landlord yr adeilad, ond cyngor ein cyfreithiwr o hyd yw na ddylem roi unrhyw gamau ar waith neu wneud unrhyw daliadau sy’n ymwneud â’r hawliad neu’r adeilad hyd nes y byddwn wedi cael rhagor o fanylion, gan gynnwys sail lawn y ddau hawliad. Mae hynny’n gyfrifol ac yn angenrheidiol. Fodd bynnag, rwy’n pryderu am ddyfodol gweithwyr y cwmni, ac rydym yn barod i helpu’r banc a Grant Thornton mewn unrhyw ffordd bosibl, pe bai prynwr newydd yn ymddangos ac yn cymryd meddiant ar y gwaith. Mae gennym fodd dibynadwy o ymyrryd pan fo swyddi’n cael eu colli. Unwaith eto, byddem yn defnyddio’r math o gymorth y bwriadwn ei ddefnyddio pe bai swyddi’n cael eu colli yn Tesco yng Nghaerdydd, er enghraifft.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod eich bod chi a’ch swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda Coilcolor ers y llifogydd, ac wedi sicrhau bod cefnogaeth Cyllid Cymru a Busnes Cymru ar gael. A fyddwch yn parhau i wneud popeth yn eich gallu i weld a oes ffordd y gellir cynorthwyo’r cwmni a’r staff yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn?

Byddaf, yn sicr. Rwy’n ymrwymo i sicrhau bod swyddogion yn parhau i weithio gyda’r cwmni, gyda’r banc a chyda Grant Thornton i wneud popeth a allwn i achub y cwmni a hefyd y swyddi sy’n cael eu gwneud gan bobl fedrus iawn—tua 50 o bobl—a gyflogir ar y safle. Dylwn ddweud hefyd fod y gefnogaeth y gallasom ei rhoi drwy Cyllid Cymru yn dod o’u cronfa achub ac ailstrwythuro, a oedd yn golygu yn y bôn na allem ychwanegu cyllid ychwanegol ar ben hynny oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. Ond byddwn yn parhau i weithio gyda’r cwmni i geisio sicrhau dyfodol iddo ac i’r 50 a mwy o weithwyr sydd wedi’u lleoli ar y safle.

Mae’n peri pryder mawr fod cwmni ag enw da sy’n cyflenwi cwmnïau rhyngwladol wedi bod â phethau llym iawn i’w dweud am Lywodraeth Cymru. Hoffwn yn fawr glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pham ei fod yn credu bod gan y cwmni bethau difrifol iawn i’w dweud ynglŷn â’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r sefyllfa hon. Yn amlwg, byddai 50 o deuluoedd yn cael eu siomi’n aruthrol pe bai’r cwmni’n dirwyn i ben. Rydym yn deall bod cynnydd wedi bod mewn ymholiadau gan gwmnïau mewn perthynas â chael eu cyflenwi gan Coilcolor, er gwaethaf y ffaith nad oes ganddynt y gallu i brynu stoc ar hyn o bryd. Ar y pwynt ynglŷn â’r taliadau heb ragfarn, a all egluro unwaith eto na wnaed unrhyw gynnig o’r fath? Ac a all daflu rywfaint o oleuni, efallai, ar ba gynnig a wnaed ac o ble y gallai’r gamddealltwriaeth fod wedi codi? Deallaf fod y llifogydd wedi dod o dir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, gerllaw’r cwmni. A yw’n credu bod rhywfaint mwy o ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd felly, yn hytrach na dim ond eu cyfeirio at Cyllid Cymru?

O ran y pwynt ehangach, yn enwedig pan fyddwn yn meddwl am enw da Cymru fel gwlad sy’n gyfeillgar i fusnesau, beth y mae’n ei ddweud os mai’r gorau y gallwn ei gynnig i fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yw benthyciad Cyllid Cymru gyda chyfradd llog o 11 y cant, pan fo llawer o bobl yn meddwl tybed sut y mae cwmnïau rhyngwladol mawr i’w gweld yn cael bargen well?

Byddwn yn gwrthod llawer o’r honiadau a wnaeth yr Aelod. Roedd cyfradd llog o 11 y cant ar y gronfa achub ac ailstrwythuro a ddefnyddiwyd yn yr achos hwn, ond roedd angen y gronfa honno am mai cyfyngedig oedd y cyfle mewn mannau eraill i dynnu’r adnoddau angenrheidiol i lawr er mwyn cadw’r cwmni i fynd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ni addawyd unrhyw daliad heb ragfarn—ac rwy’n datgan hynny eto: ni addawyd unrhyw daliad heb ragfarn erioed. Fodd bynnag, fe allodd Llywodraeth Cymru weithredu fel cyfryngwr, gan sicrhau bod cefnogaeth yn dod gan Cyllid Cymru. Archwiliwyd pob opsiwn arall ar gyfer cefnogi’r cwmni gydag adnoddau ariannol, ond fel rwyf newydd ei ddweud wrth Jayne Bryant, nid oedd hynny’n bosibl oherwydd byddai cefnogaeth bellach wedi mynd yn groes i gymorth gwladwriaethol.

Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r gymuned fusnes i ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn problemau fel hyn, ond rwy’n mynd yn ôl at y pwynt wneuthum i Mohammad Asghar: byddai’n amhriodol i mi ddyfalu ynglŷn ag i ba raddau yr arweiniodd y llifogydd at beri i’r cwmni wynebu’r math o broblemau a wynebodd. O ran y llifogydd, rwyf eisoes wedi rhoi manylion am ddeiliaid y tir, a’r broses arferol a fyddai wedi cael ei dilyn gan y cwmni yswiriant, i geisio iawndal gan y parti atebol—. Nid yw’r broses honno wedi cael ei ddilyn. Yn lle hynny, fel y dywedais wrth ddau Aelod yn awr, cawsom lythyr gan gyfreithwyr y cwmni yn galw arnom i dalu £600,000. Ni fyddai’n briodol i ni symud ymlaen heb y manylion sydd eu hangen. Ni chawsom yr ymateb rydym wedi gofyn amdano, er i ni ysgrifennu ar ddau achlysur.

Yn drydydd, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried parhau i gyflogi’r 50 o weithwyr ar y safle fel blaenoriaeth ar hyn o bryd. Am y rheswm hwnnw, mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â’r cwmni i ganfod ffyrdd o gadw’r safle’n weithredol. Mae’r Aelod yn iawn: mae’n darparu gwasanaeth hynod o werthfawr ac mae ganddo lawer o gyflenwyr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni barhau i weithredu. Rwy’n hyderus fod y banc a Grant Thornton yn gwneud popeth yn eu gallu i ddod o hyd i brynwr. Yn sicr, rydym yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pen-blwydd hapus iawn yn ddeg ar hugain i Gyfeillion Rhaeadr Aberdulais. Efallai fod yr aelodau eisoes yn gwybod am y trysor cudd poblogaidd hwn yn fy rhanbarth. Agorwyd y gwaith tun yn 1584—efallai mai dim ond Neil Hamilton a all gofio hynny, cofiwch—i doddi copr ar gyfer gwneud darnau arian i dalu am longau rhyfel i ymladd yr Armada. Aeth ymlaen i gael ei ddefnyddio ar gyfer melino, ond erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn waith tunplat pwysig a gyflogai blant mor ifanc ag wyth oed, yn anffodus. Câi ei gynnyrch ei werthu ledled y byd nes i’r Unol Daleithiau, er mwyn amddiffyn eu diwydiant ifanc eu hunain, osod tariffau enfawr ar dunplat a fewnforiwyd a seliwyd tynged y gwaith hwnnw. Mabwysiadodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y safle gan y cyngor lleol yn 1980 ac maent wedi bod yn adfer y safle ers hynny. Mae bellach yn gartref i olwyn ddŵr fwyaf Ewrop, sy’n creu ynni gwyrdd, ac mae’r coetir o gwmpas y rhaeadr yn gartref i nythfa o ystlumod Daubenton, sy’n fy mhlesio’n fawr iawn fel un o hyrwyddwyr ystlumod y Cynulliad.

Daeth Cyfeillion Rhaeadr Aberdulais at ei gilydd yn 1987. Yn eu digwyddiad diweddar i ddathlu’r pen-blwydd, lle roedd llawer o’r aelodau gwreiddiol yn bresennol, rhoddodd y cadeirydd Bethan Healey deyrnged i weledigaethau arloeswyr fel Ivor Thorne, a oedd yn glerc i hen Gyngor Dosbarth Gwledig Castell-nedd, a’r Cynghorydd George Eaton. Yn 1989, rhoddodd y cyfeillion eu cyfraniad cyntaf i’r ymddiriedolaeth—£1,200—ond ers hynny maent wedi codi £213,000, sydd wedi cael ei wario ar waith ar y safle. Yn ogystal â gwerth cymdeithasol y cyfeillion, mae llawer ohonynt yn cyfrannu’n uniongyrchol at y gwaith hwnnw drwy wella golwg y safle, cynnal a chadw, arddangosfeydd, a hyd yn oed gweithio yn yr ystafell de, sef fy mhrofiad personol o wirfoddoli gyda’r cyfeillion. Diolch.

Diolch, Llywydd. Ar 8 Gorffennaf 1873 gadawodd 500 o aelodau o Undeb Corawl De Cymru Aberdâr ar ddechrau eu taith i gystadlu am gwpan sialens y Crystal Palace. Roedd yr undeb, wedi’i ffurfio o leisiau o gorau o bob rhan o faes glo de Cymru, yn dychwelyd i gystadlu fel y pencampwyr ar y pryd. Yn 1872 enillasant y cwpan heb gystadleuaeth. Yn 1873 roeddent yn wynebu her gan un o gorau enwocaf Llundain, ond cawsant eu datgan yn enillwyr mewn digwyddiad bythgofiadwy i’r rhai a oedd yn bresennol. Ni ddigwyddodd cystadleuaeth 1874 ond roedd yr undeb wedi ennill y teitl ‘Y Côr Mawr’ am eu llwyddiant.

Arweinydd y côr oedd Griffith Rhys Jones, a oedd yn fwy adnabyddus fel Caradog. Cafodd Caradog ei eni’n fab i saer coed yn y Rose and Crown Inn yn Nhrecynon cyn hyfforddi a mynd i weithio fel gof. Yn gerddor dawnus, daeth Caradog o hyd i’w alwedigaeth fel arweinydd, gan ennill ei wobr gyntaf mewn Eisteddfod yn 1853 yn ddim ond 19 oed. Dros yr 20 mlynedd nesaf, tyfodd enwogrwydd a llwyddiant Caradog nes iddo gyrraedd y penllanw buddugoliaethus yn Crystal Palace. Cafodd Caradog ei gladdu yn Aberdâr, ac mae ei gerflun yn sefyll yn falch yng nghanol y dref. Ond i’r hanesydd Phil Carradice, newidiodd Caradog a’i gôr ddelwedd Cymru a’r Cymry. Gwnaethant Gymru yn wlad y gân.

Diolch, Llywydd. Cefais fy addysg yn ysgol Caradog yn Aberdâr.

The twenty-seventh of July marks the fiftieth anniversary of the enactment of the Welsh Language Act of 1967. Although the Act is no longer in force, having been replaced by the Welsh Language Act of 1993 and the Welsh Language (Wales) Measure of 2011, the Act is significant for two main reasons. First of all, it repealed the provision in the Wales and Berwick Act of 1746 that the term ‘England’ should include Wales. This was a first step towards the restoration of a separate legal jurisdiction for Wales—a journey that we have yet to complete.

Secondly, and for the first time, the Act provided rights to Welsh speakers. The Act gave equal validity, as it was called, to the Welsh language—not equal status with English; rather, provision was made to give public bodies the right to use the Welsh language, as with English, but there was no duty on them to do that. Although this was a fundamental weakness of the Act, it was a means of setting down the principle of equality between the two languages of Wales. It’s important to see the Welsh Language Act in the context of revolutionary and civic changes in the 1960s, as part of the social change that gave rights to gay people, to women, through feminism, and to disadvantaged groups. Now, if it hadn’t been for this language Act and the work of language campaigners, we wouldn’t be meeting this week as a Parliament to discuss a nation of 1 million Welsh speakers.

5. 5. Cynnig i Gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad a Nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar gyfer y Cyfnod 2015-2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig i gymeradwyo’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y pumed Cynulliad a nodi’r adroddiad cydymffurfio ar gyfer y cyfnod 2015-2017, ac rydw i’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6365 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a

2. Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae’n briodol iawn inni gael y ddadl yma, wrth gwrs, yn dilyn y datganiad y mae Simon Thomas newydd ei wneud. Mae’n wir beth mae’n ei ddweud, wrth gwrs: adroddiad comisiwn Hughes-Parry, rydw i’n meddwl, oedd yn sail, wrth gwrs, i’r Ddeddf honno, a’r comisiwn yna, mewn ffordd, oedd comisiwn Wolfenden yr iaith Gymraeg. Ac nid oedd y Ddeddf, wrth gwrs, wedi gwireddu’r nod uchel oedd wedi cael ei osod gan y comisiwn hwnnw o ran sicrhau cyfartalrwydd i’r iaith Gymraeg, ond, wrth gwrs, mi osodwyd y seilwaith o ran yr hyn a gyflawnwyd yn y Deddfau a ddaeth wedyn.

Mae’n bleser gen i heddiw, felly, ar ran y Comisiwn, gyflwyno’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y pumed Cynulliad a’r adroddiad cydymffurfio ar gyfer misoedd olaf y pedwerydd Cynulliad a blwyddyn gyntaf y pumed.

Cyfeiriaf yn gyntaf, felly, at yr adroddiad cydymffurfio sy’n adrodd ar ein gwaith, yn crisialu’r cynnydd dros y cyfnod dan sylw, ac yn dod â chynllun ieithoedd swyddogol y pedwerydd Cynulliad i ben. Gwnaethpwyd llawer o waith dros y cyfnod hwn yn paratoi ar gyfer croesawu’r Aelodau Cynulliad newydd ar ôl yr etholiad, wrth gwrs, ac yn sicrhau bod yr arferion da o ran darparu gwasanaethau dwyieithog a sefydlwyd yn y pedwerydd Cynulliad yn parhau. Gosodwyd sylfeini cadarn er mwyn sicrhau bod Comisiwn y Cynulliad yn parhau i gynnig gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf i Aelodau Cynulliad a’u staff a phobl Cymru. Mae’n wir dweud bod Aelodau Cynulliad newydd, rwy’n credu, wedi eu taro—rhai ohonyn nhw—gan ddwyieithrwydd naturiol y sefydliad hwn a’r ymrwymiad cryf gan holl staff y Comisiwn i ddarparu gwasanaethau seneddol rhagorol yn y ddwy iaith.

Wrth gwrs, nid yw’n bosib i unrhyw sefydliad gyrraedd y nod 100 y cant o’r amser, ac mae’r adroddiad hefyd yn sôn am yr adegau hynny pan nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y nod hwnnw. Wrth baratoi’r adroddiad cydymffurfio, cawsom gyfle i sicrhau ein bod ni’n dysgu oddi wrth yr achosion hynny a rhoi trefniadau ar waith i sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd eto. Mae adborth gan ein—wel, nid wyf i’n siŵr taw ‘cwsmeriaid’ ydym ni, ond yn sicr, Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth, a phobl Cymru, sydd yn greiddiol, wrth gwrs, i’r hyn ydym ni’n ceisio ei gyflawni yn y cyd-destun yma, yn helpu i ddysgu a gwella.

I droi, felly, at y cynllun ieithoedd swyddogol newydd, mae’n ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno cynllun diwygiedig ar gyfer pob Cynulliad. Wrth baratoi’r cynllun, yn unol â Deddf ieithoedd swyddogol 2012, rydym wedi edrych ar yr arferion gorau o ran gweithio dwyieithog ar draws Cymru ac, a dweud y gwir, y tu hwnt, ac wedi ymgynghori yn eang. Am y tro cyntaf, er enghraifft, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi craffu ar y cynllun drafft. Roedd hyn yn ffordd o gynnig sicrwydd pellach nid yn unig i Aelodau, ond i’r bobl rydym ni’n eu cynrychioli, fod y cynllun yn un cadarn a phwrpasol. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu parodrwydd i ymgymryd â’r gwaith yn y ffordd fanwl a thrwyadl y gwnaethon nhw.

Bydd y rheini ohonoch sydd yn gyfarwydd â’r cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y pedwerydd Cynulliad yn gweld rhai newidiadau i’r ffordd y mae’r cynllun wedi cael ei strwythuro. Y nod wrth wneud hynny oedd sicrhau bod y cynllun yn parhau yn amserol ac yn berthnasol ar gyfer y pumed Cynulliad ar ei hyd. Mae’r safonau gwasanaeth y gall ein Haelodau a’u staff cymorth, pobl Cymru a staff y Comisiwn eu disgwyl wedi eu hamlinellu yn gyntaf yn y cynllun. Wedi hynny, rydym ni’n pennu pum thema y byddwn yn canolbwyntio arnyn nhw dros dymor y pumed Cynulliad. Bydd y gwaith ar y themâu hyn yn ein harwain i fod yn gorff sydd yn gweithredu’n gwbl ddwyieithog ac yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Dyna’r nod lefel uchel, wrth gwrs, sydd yn ganolog i’r cynllun.

Er mwyn inni wireddu’r uchelgais hon, bydd angen sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol yn naturiol ac yn ddiofyn. I wneud hyn, bydd angen cymryd camau breision ar adegau gan gynnwys ailystyried y ffordd y byddwn yn pennu gofynion ieithyddol swyddi, a defnyddio dulliau recriwtio amgen ac arloesol pan na fyddwn ni’n llwyddo i ddenu ymgeiswyr gyda’r sgiliau iaith angenrheidiol trwy ddulliau traddodiadol.

Byddwn hefyd yn parhau â’r gwaith sydd eisoes wedi dechrau o ran hyfforddiant sgiliau iaith i Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth a staff y Comisiwn, gan sicrhau wedi hynny ein bod ni’n darparu hyfforddiant hyblyg a phwrpasol i bawb sy’n dymuno datblygu neu wella eu sgiliau iaith Gymraeg.

Trwy gydol y pumed Cynulliad, byddwn yn canolbwyntio ar gynllunio ieithyddol fel arf i’n helpu ni i sicrhau bod y sgiliau priodol gan ein staff i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn rhagweithiol. Bydd hyn yn cynnwys adolygu’r strategaeth sgiliau dwyieithog, ac edrych ar ffyrdd o gaslgu gwybodaeth gyfoes am sgiliau iaith y sefydliad wrth i ni fynd ymlaen yn ystod y tymor hwn. Wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni yn cefnogi Aelodau Cynulliad i ymgymryd â’u rôl fel Aelodau etholedig, ac mae’n dda gweld y brwdfrydedd, a dweud y gwir, ymhlith Aelodau sydd yn dysgu. Nid ydw i’n siŵr a ydw i i fod i ddatgan buddiant fan hyn—wrth gwrs, mae fy mrawd yn un o’r tiwtoriaid iaith. Ond rydw i’n gweld, wrth siarad gydag Aelodau, bod yna frwdfrydedd gwirioneddol, a dweud y gwir, yn cael ei fynegi gan Aelodau Cynulliad, a’r un peth, wrth gwrs, gyda’u staff cymorth a staff y Cynulliad—staff y Comisiwn—o ran eu profiad nhw o ddarpariaeth yr hyfforddiant sydd ar gael.

A’r thema olaf yw datblygu ethos dwyieithog y sefydliad. Fel y soniais i, rŷm ni eisiau cael ein hadnabod fel sefydliad dwyieithog, ble mae’r ddwy iaith i’w clywed yn naturiol. Ac rŷm ni wedi cael adborth arbennig o gadarnhaol gan Gomisiynydd y Gymraeg yn y cyswllt yma, yn dilyn cynhadledd flynyddol Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith ar ein hystâd ni fan hyn. Nododd bod ymwelwyr o bob cwr o’r byd wedi mwynhau clywed y Gymraeg yn fyw o’u cwmpas yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd yma yn y Senedd. Fodd bynnag, i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, mae mwy o waith i’w wneud. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o adnabod staff dwyieithog ar yr ystâd, gan adeiladu ar lwyddiant y cortynnau gwddf i ddysgwyr a gyflwynwyd yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Byddwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio technoleg i’n cynorthwyo i fod yn arloesol ac yn flaengar yn y maes yma bob amser.

Felly, gyda’r sylwadau cychwynnol hynny, edrychaf ymlaen i glywed sylwadau fy nghyd-Aelodau.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Jenkins.

Diolch, Llywydd, a diolch i Adam Price am ei araith yn hynny o beth. Yn ein cyfarfod ar 10 Mai, trafododd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y cynllun ieithoedd swyddogol drafft, fel yr amlinellwyd yn flaenorol, a chawsom dystiolaeth lafar gan Adam Price, Comisiynydd y Cynulliad ar yr iaith Gymraeg, a chan swyddogion y Cynulliad hefyd. Fodd bynnag, cyn craffu ar y cynllun drafft, cytunodd y pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol cynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyfyngedig i geisio barn sefydliadau a allai fod o ddiddordeb yn y maes hwn. A chawsom ni ymatebion gan Gomisiynydd y Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru, y mentrau iaith, ac undebau llafur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar ôl cael tystiolaeth gan Adam, ysgrifennais ato i grynhoi barn y pwyllgor am y cynllun drafft. Mae fy llythyr i’w gael ar agenda’r Cyfarfod Llawn fel papur ategol, yn ogystal â’r ymateb a gefais gan Adam. Roedd Aelodau yn fodlon, ar y cyfan, â’r cynllun drafft, ac yn cydnabod y gefnogaeth gyffredinol ardderchog a oedd ar gael iddynt, i’w helpu i wneud eu gwaith yn nwy iaith swyddogol y Cynulliad. Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd nifer o’r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, yn fy llythyr, gofynnais am sicrwydd ynghylch nifer o bwyntiau cyn gofyn i’r Cynulliad fabwysiadu’r cynllun yn ffurfiol.

Roedd y materion hyn yn cynnwys hygyrchedd gwefan y Cynulliad ar gyfer pobl â nam ar eu golwg, a’r ffaith nad oedd y fersiwn Gymraeg o’r rhyngrwyd yn ddealladwy, gan ei bod yn defnyddio ffoneteg y Saesneg. Ond rwyf yn falch o nodi bod gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â’r mater hwn, er y byddwn yn ddiolchgar pe gallai Adam Price gadarnhau y bydd gwefan y Cynulliad yn defnyddio’r lleisiau synthetig newydd cyn gynted ag y bo modd. Holwyd hefyd a allai meddalwedd Microsoft Translator helpu i ddatblygu sgiliau iaith defnyddwyr. Unwaith eto, rwyf yn falch o nodi bod hyfforddiant ychwanegol ar gael os oes angen.

Mae’r cynllun braidd yn brin o dargedau meintiol. Esboniodd Adam Price nad oedd Comisiwn y Cynulliad yn argyhoeddedig mai targedau meintiol yw’r ffordd orau o reidrwydd o greu sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Roedd ymateb Adam Price yn cynnwys rhagor o wybodaeth am rai o’r ffyrdd mwyaf ansoddol a rheolaidd a gaiff eu defnyddio o fonitro llwyddiant y cynllun. Ond byddai’n dda gweld targedau o ran hyfforddiant i’r gweithle yn y cynllun, yn ôl cymdeithas yr iaith. A fyddai’r Comisiwn efallai yn fodlon ailystyried hwn, a rhoi’r fath dargedau yn eu lle?

Credaf fod angen ystyried ymhellach a ellid pennu targedau mesuradwy, a allai fod yn gymhelliant i wella, er mwyn i ni fel Cynulliad sgrwtineiddio’r hyn sydd yn digwydd o ran y cynllun iaith, ac er mwyn i’r cyhoedd sgrwtineiddio’r hyn sydd yn digwydd yn y cynllun iaith. Gofynnodd y pwyllgor hefyd am ragor o wybodaeth am y dull newydd o recriwtio a amlinellir yn y cynllun drafft. Roedd y pwyllgor yn gyffredinol o blaid y fframwaith rhuglder newydd, a fydd yn golygu y bydd angen i bob aelod newydd o staff yn y dyfodol ddangos cwrteisi ieithyddol sylfaenol o leiaf. Caiff hyn ei ddiffinio fel y gallu i adnabod, ynganu a defnyddio ymadroddion ac enwau cyfarwydd, ac i ddeall testunau sylfaenol, fel negeseuon e-bost syml.

Fodd bynnag, nid oes llawer o wybodaeth yn y cynllun drafft ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio yn ymarferol. Sylwais fod Adam yn ei ymateb yn dweud y caiff gweithgor ei sefydlu i sicrhau y bydd y system arfaethedig yn addas i’r diben hwn. Er nad wyf yn credu ei fod yn rheswm i wrthod y cynllun yma heddiw, rhaid i mi ddweud fy mod yn ei chael hi braidd yn od fod cynnig gerbron y Cynulliad i gymeradwyo cynllun sy’n cynnwys un elfen allweddol na fydd efallai yn addas i’r diben yn y pen draw. Efallai yr hoffai Adam Price a’r Comisiwn gnoi cil ar hynny. Hefyd, yn ei dystiolaeth lafar, cadarnhaodd Adam Price y byddai’r dull newydd o recriwtio yn cael ei gymhwyso’n wirfoddol i staff presennol, ac na fyddai’r gallu i siarad Cymraeg yn rhan allweddol o benderfyniadau’n ymwneud â dyrchafu neu hyrwyddo staff. Fodd bynnag, yn ei ymateb a ysgrifennodd i’r pwyllgor, mae Adam yn dweud y byddai angen i staff sy’n gwneud cais am swyddi gwag neu swyddi newydd, ac rwy’n dyfynnu,

ddangos lefel sgiliau iaith sy’n gysylltiedig â’r swydd honno.’

Mae hynny, wrth gwrs, ychydig yn wahanol, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai Adam egluro’r rheswm dros y gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddywedodd yn ei dystiolaeth lafar â’r hyn a ddywedodd yn ei ymateb ysgrifenedig.

Roedd y pwyllgor hefyd yn pryderu am y gofyniad i unrhyw staff newydd ddangos cwrteisi ieithyddol sylfaenol, gan y gallai hynny effeithio ar y gallu i recriwtio staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig staff BME. Roedd Adam Price wedi paratoi asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb i liniaru rhai o’r pryderon hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae e braidd yn siomedig fod y pwyllgor wedi cael cais i beidio â chyhoeddi’r asesiad hwn am resymau gweinyddol. Gan hynny, ni all Aelodau eraill y Cynulliad, na’r cyhoedd yn gyffredinol, farnu a yw’r mesurau lliniaru yn y cyswllt hwn yn ddigonol, ac mae’n bwysig ei fod e’n cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Ac ychwanegiad hoffwn i ei ddweud yn hynny o beth yw ein bod ni yn gofyn yn aml i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y pethau yma, ac rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod y Cynulliad yn dangos yr un parodrwydd i gyhoeddi yn hynny o beth. Cytunodd y pwyllgor i barchu’r cais hwn, ond mae’r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn rhan bwysig o benderfynu a yw mesurau lliniaru yn y cyswllt hwn yn ddigonol, ac mae’n bwysig ei fod e’n cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Er yr hyn rydw i wedi codi cwestiynau yn eu cylch, byddwn i’n dal am i’r cynllun yma basio, ac rydw i’n diolch yn fawr iawn i Adam Price a’r tîm am weithio ar y rhaglen yma. Gobeithio y byddwn ni’n gallu sgrwtineiddio hwn eto yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf ddiolch hefyd i Adam am ddod â’r cynllun newydd yma cyn toriad yr haf? Hoffwn hefyd estyn fy niolch i staff y Comisiwn, sydd wedi gweithio mor galed i weithredu’r cynllun blaenorol ac i baratoi yr un newydd. Hoffwn ddechrau gyda’r adroddiad cydymffurfio blynyddol, os yw hynny’n ocê. Nid oes llawer ynddo am gwynion cydymffurfio, felly rwy’n tybio na fu llawer o gwynion am ddiffyg cydymffurfio, a’r rhai sydd wedi cael eu derbyn wedi cael eu trin yn gyflym. Mae hyn yn newyddion braf, ond, fel gyda gweddill yr adroddiad, fel y mae Bethan wedi ei ddweud, rwy’n credu y byddai wedi bod yn fwy grymus pe gallem wedi gweld perfformiad yn erbyn unrhyw dargedau a syniad o gostau gweithredu hefyd.

Rwy’n gweld, ac yn derbyn, wrth gwrs, bod y cynllun newydd yn cymryd y mater o dargedu a strwythurau, a byddwn yn gobeithio gweld cyfeiriad at y rhain mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol. Ond codaf hyn yma gan ei fod yn dipyn o gyfle a gollwyd yn fy marn i, oherwydd mai ein profiad byw fel Aelodau yw ein bod ni wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ein gallu i weithio’n ddwyieithog ac yn natblygiad ethos ddwyieithog y Cynulliad fel sefydliad. Ond gallai’r adroddiad hwn fod wedi dweud wrthym faint o aelodau staff y Comisiwn sydd wedi gwella’u sgiliau eu hunain, i ba fath o lefel, ac yma mha feysydd, er enghraifft, sut mae’r ymchwil ar ddewis iaith pob Aelod wedi gwneud cefnogaeth i’n gwaith pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn yn fwy effeithlon o ran amser ac, wrth gwrs, cost, hyd yn oed, sut y mae cyfathrebu dwyieithog gyda’r cyhoedd wedi ysgogi unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â sefydliad y Cynulliad—jest er mwyn gweld mewn ffordd rydym ni’n gallu ei ddeall sut y mae’r gwelliant yn cael ei wneud. Mae’n ffordd o asesu effeithiolrwydd ein cynllun wrth gyflawni ein nodau—mwy nag adroddiad cydymffurfiaeth syml.

Rwy’n credu ein bod ni wedi cymryd camau mawr fel sefydliad, fel y dywedoch chi, Adam, gan gymryd ofn, amheuaeth, a hyd yn oed ceryddu, allan o weithio mewn gweithle dwyieithog, waeth beth yw eich sgiliau eich hun a waeth beth yw dewisiadau ieithyddol eich cydweithwyr. Rwy’n cynnig llongyfarchiadau cynnes i staff y Comisiwn am eu llwyddiant gyda’r cynllun blaenorol, ond rydw i’n gobeithio y bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn gallu rhoi rhai ffigurau, yn ogystal â’r naratif positif, i ni. Gofynnwn hyn gan y Llywodraeth, fel y dywedodd Bethan, ac mae’n rhaid i ni ofyn hyn i ni ein hunain hefyd.

Mae gan y Comisiwn dri nod cyffredinol. Y cyntaf yw cynnig cymorth seneddol rhagorol dwyieithog i Aelodau, ac rwy’n credu ei fod yn gwneud hynny—deall ein dewisiadau iaith, gwelliannau mewn cyfieithu digidol, a gwersi Cymraeg i ni a’n staff mewn ffordd wedi ei deilwra’n fwy. Mae gyda ni ‘buddies’ nawr i’n helpu ni, os rydym yn dewis bod yn fwy dwyieithog. Mae gyda ni fynediad at gronfa cyfieithu canolog i’n helpu ddefnyddio’r ddwy iaith heb anghyfleustra na ddraenio cyllideb ein swyddfa, ac mae gyda ni record o drafodion gyflymach yn y ddwy iaith a deunyddiau dwyieithog hefyd.

Ond y gair yw ‘cefnogi’, nid ‘cyfarwyddo’, a thra dylai Aelodau, yn fy marn bersonol, ystyried sut y gallem gyfrannu’n weithredol at ethos dwyieithog y sefydliad, mae’n fater i’r sefydliad ein hannog a’n galluogi ni, ond nid i ddweud wrthym sut i wneud hynny.

Mae’r cynllun yn berthnasol i sefydliad y Cynulliad ac mae ei ffocws, yn gwbl briodol, ar sut mae’r sefydliad ei hun yn ymgysylltu â phobl Cymru ac yn hyrwyddo’r Cynulliad ei hun—yr ail o amcanion strategol y Comisiwn. Mae gofynion ar staff y Comisiwn yn cael eu nodi’n glir yn rhan 2 o’r cynllun, sydd yn ei wneud yn haws i unrhyw un sy’n ymwneud â’r Cynulliad ei hun wybod beth y gallant ei ddisgwyl fel hawl. Mae’n galonogol felly bod y cynllun newydd yn canolbwyntio ar sgiliau recriwtio ac iaith. Rwy’n falch iawn bod cynnydd mewn caffael sgiliau’r iaith Gymraeg sy’n berthnasol i rôl benodol, a fydd yn cael ei ddathlu mewn adolygiadau rheoli perfformiad.

Trydydd amcan y Comisiwn yw defnyddio adnoddau yn ddoeth. Nid yw hyn yn meddwl arian yn unig wrth gwrs, ond cyfalaf dynol yn ogystal. Hoffwn i’r adroddiad nesaf grynhoi’r cynnydd o ran yr adolygiad o strategaeth sgiliau dwyieithog y Cynulliad a sut y mae adnabod aelodau staff dwyieithog wedi gwneud newid i gefnogaeth seneddol ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n mynd yn dda—mae gyda ni lawer i fod yn falch ohono, a byddai’n grêt i weld mwy o bobl yn y Cynulliad yn gwisgo’r ‘lanyards’ yma yn y dyfodol. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r ddau Aelod am eu sylwadau’r prynhawn yma. Jest i ymateb, felly, yn gyntaf i sylwadau Bethan Jenkins fel Cadeirydd y pwyllgor, gwnaf gyfro gymaint ag y gallaf i yn ystod fy sylwadau, ond os ydw i’n anghofio unrhyw beth, gwnaf i ysgrifennu atoch chi.

O ran yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, rwy’n credu y gwnaethom ni ddweud yn y llythyr y byddem ni wrth gwrs yn hapus i’r pwyllgor benderfynu pa un ai i gyhoeddi neu beidio, ac rwy’n derbyn bod yna gynsail pwysig o ran egwyddor ac yn y blaen. Roedd yna resymau pam efallai nad oeddem eisiau ei gyhoeddi ar y pwynt yna, ond nid ydym ni’n gwrthwynebu, ac rwy’n deall pam yr oedd y Cadeirydd yn codi hynny.

O ran lleisiau synthetig, rwy’n credu efallai ein bod ni’n ymdreiddio i faes technegol nad ydw i’n sicr fod gen i grap llwyr arno fe. Rydw i’n deall bod yna waith wedi mynd ymlaen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r RNIB o ran darparu’r meddalwedd yma i ddefnyddwyr. Ac rwy’n credu’r cwestiwn, neu efallai beth sy’n bwysig, yw bod defnyddwyr, wrth gwrs, yn gwybod am argaeledd y dechnoleg yma wrth iddyn nhw geisio darllen gwaith y Cynulliad, ac yn y blaen, ond fe wnaf i ysgrifennu at y Cadeirydd, os caf i, ynglŷn â hynny.

Roedd yna gwestiwn ynglŷn â chyflwyno lefel cwrteisi sylfaenol, ac rydw i’n credu os oedd yna unrhyw amwysedd, arnaf i yn llwyr mae’r bai am hynny. Rydw i’n credu beth roeddwn i’n ceisio pwysleisio, wrth gwrs, yn y pwyllgor—sydd yn wir—oedd nad oes disgwyl i unrhyw ddeilydd swydd presennol gwrdd â’r angen newydd yma ar gyfer ei swydd bresennol. Pe baen nhw’n penderfynu ceisio am swydd newydd—felly, dyrchafiad neu swydd wag—wedyn, wrth gwrs, byddai hynny yn rhwym, yn golygu eu bod nhw’n gorfod cwrdd â’r lefel yna. Felly, os ydych chi’n cadw yn yr un swydd, nid ydych chi’n gorfod cwrdd â’r lefel, ond os ydych yn ymgeisio ar gyfer swydd newydd, mae yn effeithio ar y sefyllfa hwnnw.

O ran targedau meintiol, mae’n drafodaeth ddifyr, a dweud y gwir. Mae rhyw fath o wahaniaeth athronyddol, bron a bod: sut mae esgor ar lwyddiant? Mae yna rai sydd yn credu’n gryf, wrth gwrs, mewn grym targedau meintiol. Hynny yw, ein barn ni wrth edrych ar y cynllun oedd bod gosod nodau sydd yn dilyn y themâu rydym ni wedi eu gosod mas yn bwysicach o ran y cynllun, oherwydd bod rhai o’r nodau yn ansoddol o ran eu hanian, a dweud y gwir, a byddai’n anodd, gyda phob un ohonyn nhw, i gyfieithu hynny i mewn i nod. Hynny yw, beth yw arwyddocâd bod yn naturiol ddwyieithog o ran canran, er enghraifft, sy’n gallu siarad Cymraeg?

Ond, rydw i yn credu—ac yng nghyswllt yr hyn roedd Suzy Davies yn codi ynglŷn â’r adroddiad blynyddol—rydw i yn credu bod yna le i falanso, a dweud y gwir, y naratif gyda’r ffigyrau. Ac efallai beth hoffwn i ei wneud yw nawr cymryd i ffwrdd y sylwadau rydym ni wedi eu cael a gweld, yng nghyd-destun y monitro ar y cynllun—yr asesu, wrth gwrs, yn erbyn y nodau lefel uchel sydd yn y cynllun—sut mae hynny yn gallu cael ei gyfieithu i mewn i dargedau meintiol, fel ein bod ni yn flynyddol, wrth gwrs, fel Cynulliad ac yn allanol, yn gallu asesu’r cynnydd yn erbyn y nodau go uchelgeisiol rydym ni wedi eu gosod. Felly, os caf i, fe gymeraf i i ffwrdd y sylwadau hynny, a chnoi cil arnyn nhw. Mae monitro, wrth gwrs, yn mynd i fod yn bwysig iawn, ac rydym ni’n croesawu parhau, wrth gwrs, gyda rôl y pwyllgor yn hyn o beth, ac mae nifer o bwyllgorau eraill, wrth gwrs, wedi craffu ar wahanol elfennau o gynlluniau iaith yn ystod Cynulliadau o’r blaen, ac fe fyddwn ni’n croesawu hynny i’r un graddau.

Felly, gyda’r sylwadau hynny yn gyffredinol, rydym ni yn croesawu’r gefnogaeth gyffredinol sydd i’r cynllun ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r pwyllgor a gyda chi fel Aelodau’r Cynulliad, gan sicrhau bod y nod cyffrous ac uchelgeisiol sydd wedi cael ei osod yn y cynllun yma yn cael ei gwblhau.

I gloi, hoffwn i ddiolch yn fawr i fy rhagflaenydd yn y pedwerydd Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, am ei waith yn creu’r sylfeini cadarn yma y byddwn ni’n adeiladu arnyn nhw wrth symud ymlaen. Hoffwn i ddiolch hefyd i’m cyd-Aelod Dai Lloyd am ei waith fel y Comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol cyn i mi etifeddu’r rôl wedi toriad yr haf y llynedd. A gaf i ddiolch hefyd, yn bennaf oll, i’r staff, i ddweud y gwir—staff y Comisiwn—am y gwaith rhagorol a diflino maen nhw i gyd yn ei wneud er mwyn sicrhau y nod yma, bod y sefydliad yma yn naturiol ddwyieithog ac yn ysbrydoli pobl—yn ysbrydoli sefydliadau eraill i ddangos yr hyn sy’n bosib nawr yn y Gymru gyfoes?

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canolfan Rhewmatoleg Bediatrig

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ganolfan rhewmatoleg bediatrig. Galwaf ar David Melding i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6348 David Melding, Dai Lloyd, Caroline Jones, Rhun ap Iorwerth, Julie Morgan

Cefnogwyd gan Nick Ramsay, Angela Burns, Darren Millar, Hefin David

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Cymru yw’r unig un o’r gwledydd cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol;

2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid;

3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru;

4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i gynnig y cynnig pwysig hwn, sy’n cael ei gynnig hefyd gan Caroline Jones, Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd a Julie Morgan. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Aelodau sydd wedi cefnogi’r cynnig hwn.

Hoffwn agor y ddadl hon gyda stori am ferch ifanc o Hwlffordd. Ei henw yw Aimee, ac efallai y bydd rhai ohonoch wedi ei chyfarfod yn ystod y digwyddiad galw heibio a drefnwyd ar godi ymwybyddiaeth o arthritis idiopathig ieuenctid bythefnos yn ôl yn adeilad y Pierhead. Rwy’n falch o ddweud fy mod yn meddwl bod bron i hanner Aelodau’r Cynulliad wedi mynychu’r digwyddiad hwnnw. Daw’r cyfrif personol hwn gan dad Aimee, Darren:

Cafodd Aimee ddiagnosis o arthritis idiopathig ieuenctid ychydig cyn ei hail ben-blwydd, ac fe gymerodd chwe mis i ni gael diagnosis. Nid oedd y meddygon lleol yn meddwl mai arthritis ydoedd, ond nid wyf yn meddwl eu bod yn gwybod llawer am arthritis mewn plant. Roedd yn syndod i lawer o bobl. Rhaid i Aimee fynd i’r ysbyty bob mis—mae hyn yn golygu teithio i Gaerdydd, sydd ddwy awr i ffwrdd—taith gron o 230 milltir. Ar ôl iddi gael y driniaeth gallaf weld gwahaniaeth o fewn diwrnod neu ddau. Mae’r gofal meddygol yng Nghaerdydd wedi bod yn dda iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn. Er hynny, yn lleol mae wedi bod yn anghyson ac yn wael gan fod llawer iawn o anwybodaeth ynglŷn ag arthritis mewn plant. Mae teithio i Gaerdydd yn rhoi straen enfawr arnom. Mae’n golygu colli diwrnodau o ysgol a rhaid i fy mhartner gymryd amser o’r gwaith, nad yw’n hawdd bob amser. Rydym wedi gorfod treulio wythnos yng Nghaerdydd yn y gorffennol pan oedd angen ffisiotherapi arni gan na all gael hynny’n lleol. Rydym wedi ystyried symud yn nes at Gaerdydd ar sawl achlysur. Mae’n bryder gwirioneddol bob dydd gan na all ein meddygon lleol roi triniaeth effeithiol i Aimee. Rydym yn credu y byddai darparu adran amlddisgyblaethol nid yn unig yn rhoi lefel uwch o ofal i’r plant ond hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a hybu gwybodaeth gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau y tu allan i ardal Caerdydd. Byddai hyn yn galluogi plant ledled Cymru i gael plentyndod heb ei ddominyddu gan arthritis.

Rwy’n credu bod hwn yn ddatganiad teimladwy iawn—bywydau teulu gyda phlentyn ifanc sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid. Fe gyfeiriaf ato yn awr fel AII. Rwy’n credu bod Darren yn crynhoi’n effeithiol sut y byddai canolfan bediatrig arbenigol yn cael dylanwad cadarnhaol ar wasanaethau ledled Cymru ac felly’n gwella bywydau plant ag AII.

Pan glywais gyntaf gan gynrychiolwyr Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg, sydd oll wedi bod yn gwneud gwaith gwych yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn, roeddwn yn synnu nad oedd gwasanaethau o’r fath yn bodoli eisoes. Roedd yn dorcalonnus i ddeall mai Cymru, gyda’i phoblogaeth o 3.1 miliwn, yw’r unig wlad ym Mhrydain heb wasanaeth arbenigol o’r fath. Mae hyn o’i gymharu â Gogledd Iwerddon gyda’i 1.8 miliwn o boblogaeth, sydd ag un ganolfan, a’r Alban gyda’i 5.2 miliwn, sydd â dwy ganolfan. Mae gan Loegr 12 canolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol. Mae’n gwbl annerbyniol yn fy marn i fod Cymru wedi cael ei gadael ar ôl.

Mae 12,000 o blant yn y DU yn dioddef o AII, ac amcangyfrifir bod 400 o’r rhain yn byw yn ardal de Cymru. Fel y gwelwch, Aelodau, nid yw hwn yn fater ymylol. Mae papur manyleb gwasanaeth y GIG yn Lloegr a gyhoeddwyd yn 2013 yn nodi y dylai fod un ymgynghorydd rhewmatoleg pediatrig, dau arbenigwr nyrsio, un ffisiotherapydd ac un therapydd galwedigaethol yn GIG Lloegr i bob 1 filiwn o’r boblogaeth neu bob 200,000 o blant. Ar hyn o bryd, mae rhewmatolegydd oedolion profiadol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, y gallwn ychwanegu ei fod ar fin ymddeol yn y blynyddoedd nesaf, yn darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau rhewmatoleg bediatrig arbenigol ar gyfer de Cymru. Felly, mae hyd yn oed y ddarpariaeth lenwi bwlch hon yn fregus iawn, o ystyried yr ymddeoliad sydd ar y ffordd. Fodd bynnag, mae rhai plant o dde Cymru yn teithio i Fryste, Birmingham a hyd yn oed ymhellach. Fel y dangosir yn y datganiad gan deulu Aimee, gall teithio pellteroedd hir fod yn boenus ac yn llawn straen i blant ag arthritis, a gall achosi tarfu ar addysg a bywyd teuluol.

Mae hwn yn fater y mae angen i’r Llywodraeth fynd i’r afael ag ef yn fy marn i. Dylid cynllunio olyniaeth mewn da bryd i osgoi sefyllfa o fod heb wasanaeth o gwbl, a byddai recriwtio ar gyfer y swydd yn haws os rhoddir cynlluniau ar waith i ddatblygu’r gwasanaeth i fod yn ddarpariaeth drydyddol lawn.

Mae AII yn gyflwr awto-imiwn difrifol, ac os na chaiff ei drin a’i reoli’n briodol, gall achosi anableddau sylweddol gydol oes. Mae angen i blant ag arthritis gael mynediad at wasanaethau iechyd a chymorth o ansawdd uchel er mwyn helpu i gyfyngu ar effaith eu cyflwr ac i’w helpu i gyrraedd eu gwir botensial. Yn ôl AbbVie, y sefydliad ymchwil a datblygu fferyllol, un o’r ffactorau pwysicaf i sicrhau nad oes gan blentyn sydd ag AII niwed arthritis difrifol a niwed i’r cymalau pan fyddant yn oedolion yw i blant gael diagnosis a thriniaeth yn gynnar. Po hwyaf y bydd arthritis wedi bod yn weithredol cyn i’r driniaeth ddechrau, y mwyaf anodd yw hi i reoli’r clefyd. Un agwedd ar y broblem yn unig yw hon, ond gall diagnosis a thriniaeth gynnar fynd mor bell ag ymestyn hyd oes rhywun sy’n dioddef o arthritis, gan ei fod mor allweddol. Gyda phoblogaeth o dros ddwy filiwn yn ne Cymru yn unig, gyda 400,000 o’r rhain yn blant, credaf fod achos pendant dros gael canolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol yng Nghymru.

Mae pwynt 4 y cynnig hwn yn gofyn i’r Cynulliad nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, PGIAC, wrthi’n cynnal adolygiad. Bydd yr adolygiad yn edrych ar anghenion y boblogaeth yng Nghymru ac yn asesu unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth yn ôl galw, ansawdd gwasanaethau a manyleb. Rwy’n croesawu’r adolygiad hwn, ac rwy’n croesawu’r newyddion fod cyfarfodydd wedi’u trefnu rhwng PGIAC a’r sefydliadau perthnasol, megis Gofal Arthritis. Rwy’n gobeithio bod hyn yn arwydd o gynnydd ar gyfer datblygu canolfan o’r fath. Mae ymddeoliad arfaethedig y rhewmatolegydd presennol yn ychwanegu pwysau amser i’r mater hwn, ac ni ddisgwylir i adolygiad PGIAC gael ei gwblhau tan ddechrau 2018. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth eisoes yn glir ar yr angen am wasanaeth amlddisgyblaethol llawn. Gallai adolygiad PGIAC fod o ddefnydd ar gyfer edrych ar sut i weithredu gwasanaeth a fyddai’n diwallu anghenion y boblogaeth orau yn hytrach nag edrych unwaith eto i weld a oes angen un ar Gymru. Rydym eisoes yn llusgo ar ôl y rhannau eraill o’r DU. Rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth roi arweiniad cadarn a nodi ei bod yn bwriadu comisiynu’r gwasanaeth hwn fel na fydd Cymru yn unig ran o’r DU heb ddarpariaeth leol resymol.

Dirprwy Lywydd, os caf orffen gyda hyn, sef dyfyniad olaf o stori Aimee, unwaith eto yng ngeiriau ei thad:

Mae cyflwr Aimee yn anodd iddi. Nid yw’n gallu gwneud yr un pethau â phawb arall. Yn ei hoed hi, tynnir sylw at hyn yn aml. Pethau bach, fel bod yn absennol o’r ysgol yn aml, fel nad yw hi byth yn ennill gwobrau presenoldeb neu’r ffaith ei bod hi’n methu rhedeg o gwmpas gyda’i chyd-ddisgyblion. Mae yna rywbeth sy’n atgoffa’n gyson fod ganddi arthritis.

Dirprwy Lywydd, rwy’n credu y gallwn wneud mwy i wella bywydau’r plant ifanc hyn, sydd eisoes yn brwydro yn erbyn cyflwr sy’n gwneud bywyd bob dydd yn her. Rwy’n cymeradwyo’r cynnig hwn i Aelodau’r Cynulliad. Diolch.

Rwy’n llongyfarch David Melding ar gael y ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch o’i gefnogi. Fel y gwyddom o’r drafodaeth, nid rhywbeth y mae pobl hŷn yn unig yn ei gael yw arthritis, oherwydd credaf mai dyna fydd pobl yn aml yn ei feddwl. Deuthum yn ymwybodol o arthritis plentyndod, sy’n effeithio ar 400 o blant yn ne Cymru, ar ôl i un o fy etholwyr, Dawn Nyhan, ddod i gysylltiad â mi a chyfarfûm â hi a’i merch Harriet, sydd bellach yn 19. Cafodd ei diagnosis cyntaf o arthritis idiopathig ieuenctid pan oedd yn ddim ond dwy oed, yn debyg i etholwr David. Yn ogystal ag effeithiau mwy cyfarwydd arthritis plentyndod, megis niwed i’r cymalau a phroblemau symudedd, sydd eisoes wedi cael eu crybwyll heddiw, efallai ei bod yn llai hysbys fod 10 i 20 y cant o blant yn datblygu cyflwr llygad llidiol a all achosi dallineb os na chaiff ei drin. Felly, mae’r salwch hwn yn gyflwr difrifol iawn os caiff ei adael heb ei drin.

Mae tua 60 i 70 y cant o blant yn tyfu allan o arthritis gwynegol, yn yr ystyr nad oes ganddynt glefyd parhaus, ond mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt barhau i ymdopi â phroblemau o ganlyniad i niwed i’r cymalau a ddioddefasant pan oeddent yn iau, a bydd rhwng 30 a 56 y cant o bobl ag arthritis plentyndod yn dioddef cyfyngiadau difrifol o ran deheurwydd a symudedd pan fyddant yn oedolion.

Yn anffodus, mae problemau Harriet yn barhaus, er ei bod yn benderfynol o beidio â gadael iddo ei hatal rhag cyflawni. Mae Harriet bellach yn hyfforddi i fod yn nyrs, ond mae hi wedi cael cymaint o niwed i’r cymalau fel bod symudedd yn broblem ac mae hi’n dal i gael dyddiau pan na all gerdded i lawr y grisiau ac mae mewn poen dirdynnol, ac nid yw byth yn gwybod pryd y bydd angen triniaeth neu lawdriniaeth arni nesaf.

Dywedodd mam Harriet, Dawn, eu bod wedi sylwi ar boen a phroblemau gyda symud yn gyntaf pan oedd hi’n ddwy flwydd oed. Roedd hi wedi dechrau cerdded yn gynnar ond dechreuodd lusgo’i thraed ac roedd hi’n amlwg mewn poen mawr. Ar y dechrau, dywedwyd wrth y rhieni mai poenau tyfiant oeddent a theimlent eu bod wedi cael eu trosglwyddo o un man i’r llall heb ddiagnosis. Soniodd David am bwysigrwydd diagnosis cynnar yn ei araith. Credaf o ddifrif mai dyna un o’r pwyntiau y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy heddiw. Nid oes digon o wybodaeth ymhlith meddygon teulu ynglŷn ag arthritis ieuenctid, a gwelodd y teulu hefyd nad oedd unrhyw wybodaeth am y cyflwr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys pan fyddent yn mynd â Harriet yno.

Yn y pen draw, ar ôl tua phum mis, cawsant ddiagnosis ac ers hynny, maent yn dweud eu bod wedi cael gofal gwych—y broblem oedd cyrraedd y pwynt hwnnw. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig nodi, fel y clywsom eisoes, eu bod yn cael gofal ardderchog gan eu meddyg ymgynghorol, Jeremy Camilleri, sydd hefyd yn un o fy etholwyr. Mae bob amser yn gwneud ei orau glas i helpu, ond rhiwmatolegydd oedolion ydyw er hynny, ac ni all neilltuo mwy na chwarter ei amser ar gyfer gweithio gyda phlant. Mae’r cynnig hwn yn tynnu sylw at yr angen am arbenigwr rhewmatoleg penodedig ar gyfer plant i dde Cymru, sydd â phoblogaeth ddigon mawr i gyfiawnhau hynny.

Yn achos Harriet, fe wnaeth llawer o ffisiotherapi a chefnogaeth a’r defnydd o’r pwll hydro yn Ysbyty Athrofaol Cymru helpu i’w chael yn ôl ar ei thraed yn llythrennol. Ond mae Harriet wedi bod yn parhau i gael pyliau o boen a chwyddo yn ei phengliniau a’i fferau drwy gydol ei gyrfa ysgol. Mae hi wedi gorfod treulio llawer iawn o’i hamser yn yr ysbyty, naill ai i gael triniaeth neu i gael hylif wedi’i ddraenio o’i chymalau.

Mae hi hefyd yn colli llawer o amser ysgol, ac rwy’n credu bod colli ysgol fel hyn yn fater pwysig iawn. Cafodd ei rhieni drafferth i gael cymorth ar gyfer dysgu yn y cartref, er bod yr ysgol, Ysgol Uwchradd Llanisien, yn gwbl gefnogol ynglŷn ag anfon gwaith adref. Ond ni allodd gael tiwtor yn y cartref, felly roedd yn rhaid iddynt dalu am diwtoriaid preifat i helpu Harriet i gael 10 TGAU—tair A* a saith A—er bod ei chofnod presenoldeb yn yr ysgol yn isel iawn ac er iddi gael llawdriniaeth ar ei chymalau yn ystod y ddwy flynedd roedd ganddi arholiadau TGAU.

Felly, rwy’n teimlo’n gryf, gyda’r holl broblemau mae hi wedi’u hwynebu, a chyda chymaint o gefnogaeth gan ei rhieni, ei bod hi wedi cyflawni’n dda iawn. Roedd hi’n frwd ynglŷn â chwaraeon a bu’n gapten y tîm hoci nes ei bod yn 16 oed, pan ddywedwyd wrthi fod ei dyddiau chwarae drosodd oherwydd ei bod wedi dioddef cymaint o niwed i esgyrn ei phengliniau oherwydd yr arthritis.

Felly, gwyddom fod cannoedd o blant yn dioddef o’r cyflwr eithriadol o boenus hwn ac os na chaiff ei drin yn ystod eu plentyndod, y canlyniad fydd niwed i’r esgyrn a’r cymalau. Er bod plant angen y driniaeth yn yr ysbyty, rydym eisoes wedi clywed am anhawster teithiau hir yn y car i gael y driniaeth honno, ac mae’r teithiau hynny’n boenus iawn. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl am fodel a all fynd i’r afael â’r holl broblemau a nodwyd heddiw ac y gall ddod o hyd i ffordd o fynd i’r afael â’r salwch gwanychol pwysig hwn, y gellir ei atal ac y gellir mynd i’r afael ag ef os gwneir diagnosis yn ddigon cynnar. Diolch.

Rwy’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl heddiw. Rhaid ei bod yn anodd iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fy mod yn gwybod nad yw arian yn ddiderfyn, ond fel y dywed David Melding, nid yw hwn yn fater ymylol, ac mae gan y bobl ifanc hyn bob hawl i gael mynediad at driniaeth o’r ansawdd y byddem yn ei ddisgwyl drwy’r GIG yn gyfan. Swm a sylwedd y peth yw y dylai Cymru gael gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol.

Fe wnes innau hefyd gyfarfod ag Aimee yn y digwyddiad a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, ac rwy’n gwbl barod i gyfaddef fy mod wedi cael eiliad o embaras. Roedd hi’n sefyll wrth ymyl rhywun arall a oedd ar ffyn baglau, felly anelais yn syth am y person ar ffyn baglau, gan fod yna blentyn bach bywiog, hwyliog arall yn llawn bywyd—wyddoch chi, bing, bing, bing—ac fe feddyliais, ‘O, rhaid mai dyma hi’, a dyma hwy’n dweud, ‘Na, hon yw Aimee’, a dyna ble roedd hi. Cawsom sgwrs wych am siopa, am ddillad, am fynd i ganol Caerdydd—yn llawn cyffro—ac yna dywedodd ei thad wrthyf, ‘Ond yfory mae hi’n debygol o fod mewn cadair olwyn.’ Gwnaeth hynny argraff fawr arnaf, a meddyliais ‘O, diar annwyl’. Am beth ofnadwy i ymdopi ag ef pan ydych ond yn—rwy’n meddwl ei bod hi’n saith neu’n wyth oed. Un funud gallwch wibio o gwmpas a gwneud popeth, a’r funud nesaf dyna ni, rydych wedi’ch cyfyngu’n llwyr gan ddwy olwyn.

Hefyd, cyfarfûm â dyn ifanc a oedd ychydig yn hŷn ac mae’n rhaid i mi ddweud, roedd ychydig yn fwy anniddig yn ôl pob tebyg am fod hormonau’r arddegau yn tanio o gwmpas ei gorff ac roedd yn ei chael hi’n anodd iawn. Roedd mewn cadair olwyn ac yn gafael mewn pêl rygbi ac yn siarad am wahanol bethau, ond dywedodd fod ei fywyd yn anodd iawn ac ni all ymuno i wneud pethau gyda’i ffrindiau, ni all fynd ar dripiau a’r gweddill i gyd, ac fe feddyliais, ‘Wow, mae hynny’n dod â’r peth yn fyw. Mae hwn yn salwch, cyflwr, afiechyd sy’n cyfyngu ar brofiadau bywyd.’ A dyna’r broblem, oherwydd mae llawer o’r plant ifanc hyn, os ydynt yn cael cymorth—ac un o’r pethau mawr sydd eu hangen arnynt i’w cynorthwyo ac na allant ei gael ac nad yw ar gael yw ffisiotherapi a therapi galwedigaethol a seicotherapi sy’n targedu’n benodol y mathau o brofiadau y maent yn byw drwyddynt.

Cefais sgwrs hir hefyd â thad Aimee, a dywedodd ei fod yn gallu ymdopi, er yn anfoddog, â gorfod dod i Gaerdydd a siarad â’r rhewmatolegydd oedolion ac yn y blaen, ond roedd yn awyddus iawn i gael ffisiotherapyddion wedi’u hyfforddi ger eu cartref yn Hwlffordd a allai helpu rhywun fel Aimee i ymdopi â’r hyn y mae hi’n ei wneud, i’w gwneud mor gryf ag y bo modd, i roi’r cyfle gorau iddi fynd drwy’r cyflwr ofnadwy hwn, a dod allan yn y pen arall gobeithio fel yr oedolyn ifanc gorau y gall hi fod. Mae wedi gofyn i Ysbyty Llwynhelyg a Glangwili ac mae yna amharodrwydd go iawn oherwydd nad oes ganddynt y staff, nid oes ganddynt yr hyfforddiant, nid oes ganddynt y wybodaeth, nid oes ganddynt y sgiliau. Cyfarfûm â’r prif weithredwr, ac roedd yn un o’r pethau a godwyd gennym, oherwydd bod gan Aimee, y dyn ifanc y cyfarfûm ag ef a dyn ifanc arall y cyfarfûm ag ef yn fy nghymhorthfa—mae gan bob un ohonynt hawl absoliwt i gael y mathau hynny o wasanaethau. Os wyf yn torri fy mraich ac eisiau ffisiotherapi, rwy’n disgwyl gallu siarad â rhywun sy’n gwybod sut i fy helpu i gael y cryfder hwnnw yn ôl.

Felly, mae llawer o’r ddadl hon yn canolbwyntio ar gael canolfan ragoriaeth y mae ei gwir angen arnom yng Nghymru, wedi’i lleoli yn rhywle synhwyrol lle y gall pobl ei chyrraedd, gydag arbenigwr pediatrig targededig yn ei rheoli. Ond nid yw’n gorffen yn y fan honno. Dyna galon y corryn rwy’n credu. Mae’n rhaid i bob un o’r coesau sy’n mynd allan dros Gymru gael yr holl wasanaethau cymorth hyn. Mae’n rhaid i ni gael y therapyddion galwedigaethol, mae’n rhaid i ni gael y ffisiotherapyddion, ac mae’n rhaid i ni gael y therapyddion seicolegol oherwydd roedd y dyn ifanc a ddaeth i fy ngweld yn fy swyddfa etholaeth yn anhapus iawn, yn isel iawn ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd iddo, yn isel iawn ynglŷn â’i brofiad, ac ni allai gael y cymorth iechyd meddwl roedd ei angen. Felly, mae’n ystod gyfan—nid unigolyn â phroblem yw’r bobl hyn; mae’n fater cymhleth. Ac rwy’n meddwl o reidrwydd fod dioddef o rywbeth sy’n gallu bod mor wahanol o ddydd i ddydd yn anodd iawn, ac mae’n rhaid ei fod yn tarfu ar rythmau eich diwrnod. Felly, hoffwn ymbil arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet, i edrych ar yr holl faes hwn, i ystyried adeiladu canolfan ragoriaeth. Mae gennym ysbyty plant. Gallai hyn fod yn sylfaen hollol wych i ddechrau ohono a rhoi rhywun yno sy’n gallu edrych ar ôl de Cymru ac yna gwneud cynlluniau ar gyfer sut i ofalu am ogledd Cymru yn ogystal, wrth gwrs, oherwydd, mae plant i fyny yno yn gorfod teithio ar draws ffiniau ac yn y blaen. Felly mae angen inni wneud yn siŵr y gallwn ddarparu hynny er mwyn lliniaru cyflwr sy’n annymunol tu hwnt.

Sylw Terfynol: rydym wedi siarad llawer am iechyd y cyhoedd, rydym yn siarad llawer am y bom amser yn y dyfodol, rydym yn sôn llawer am rymuso’r claf, grymuso’r gofalwr, clywed eu llais a gadael i bobl wneud dewisiadau gwybodus. Heb gael y staff yn eu lle a hyfforddi’r bobl hynny i helpu’r bobl hyn, ni allant wneud hynny, ni allant gael llais, ac ni allant wneud dewisiadau gwybodus, a dyna beth, Ysgrifennydd y Cabinet, y gofynnwn i chi ystyried ei sefydlu. Diolch.

Mi wnaf innau ddechrau drwy sôn am brofiad person ifanc, Kelly O’Keefe o Dalsarnau yng Ngwynedd, sydd yn ei hugeiniau erbyn hyn ond yn dioddef o arthritis o oed ifanc iawn. Yn cael ei thriniaeth yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl—ysbyty rhagorol, ond nid dyna’r pwynt yn fan hyn. Mi oedd ei rhieni hi’n gorfod cymryd diwrnod off o’r gwaith i fynd â hi i Lerpwl, gydag apwyntiadau’n gynnar yn y bore—weithiau am 9 o’r gloch y bore. Nid oedd hi’n teithio’n dda iawn oherwydd yr arthritis. Mi oedd hi’n cymryd dyddiau iddi ddod dros y teithio yn aml iawn. Ac mi oedd y profiad yn un sydd wedi aros efo hi hyd heddiw.

Ar y rhagdybiaeth ein bod ni yn ystyried bod teithio am bellteroedd hir am driniaeth yn rhywbeth y mae’r NHS yn ei ddefnyddio fel rhywbeth ‘last resort’—mae’n bosib ei bod hi’n annheg i wneud y rhagdybiaeth honno o ystyried faint o wasanaethau sydd wedi cael eu hallanoli i Loegr yn y blynyddoedd diwethaf—o gymryd y rhagdybiaeth yna, mae angen inni ofyn i ni ein hunain: a ydy hi’n bosib a sut mae hi’n bosib i gael y ddarpariaeth arbenigol yma yng Nghymru. Beth sydd angen ar gyfer gwasanaeth arbenigol? Wel, niferoedd cleifion, i ddechrau efo hi, ac rydym ni’n gallu gweld nad oes yna ddim problem efo cyfiawnhau hynny yn ne Cymru, yn sicr. Efallai ei bod hi ychydig bach yn fwy problematig yn y gogledd, neu, o leiaf os ydym ni’n eithrio defnyddwyr posib o ardaloedd Caer neu Amwythig, er enghraifft—sef beth rydym ni fel arfer yn ei wneud, mae’n debyg—mi ddylem ni fod yn datblygu gwasanaethau a all ddarparu i rai dros y ffin hefyd, os mai dyna sydd ei angen ar gyfer creu y ‘critical mass’.

Mae yna hefyd rywbeth yn od yn y gwahaniaeth rhwng y ffigurau poblogaeth yng Nghymru a’r niferoedd sydd ar hyn o bryd yn cael eu hadnabod fel cleifion yn y system. Cymru ydy’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol. Mae gan Ogledd Iwerddon boblogaeth o 1.8 miliwn, o’i gymharu â 3.1 miliwn yng Nghymru, ac eto Cymru sydd heb wasanaeth amlddisgyblaethol, fel rydym ni’n gofyn amdano fo heddi. Mae gan yr Alban, efo poblogaeth o 5.2 miliwn, ddau wasanaeth o’r fath. Ond pan fydd hi’n dod at niferoedd y cleifion, dim ond 202 o blant oedd ar y llyfrau, fel petai, yn cael eu trin yng Nghaerdydd, yn ôl ffigurau 2014. Rŵan, os ydym ni’n ystyried, a’n bod ni’n credu, fod yna ryw 600 o blant â’r cyflwr yma yng Nghymru, mae’r mudiadau sydd yn cefnogi’r cynnig yma heddiw wedi datgan pryder am y ffigurau yma—y ffigwr o 202—achos mi allai fo olygu un ai nad yw plant yn cael diagnosis neu nad yw eu hanghenion nhw ar ôl cael diagnosis yn cael eu diwallu yn y ffordd y dylen nhw drwy gael gwasanaeth amlddisgyblaethol iawn.

Rydym ni wedi gweld o’r blaen yn aml iawn, pan fydd hi’n dod i ddarpariaeth arbenigol, fod y galw posib amdano fo’n aml yn cael ei danamcangyfrif gan swyddogion iechyd, sy’n barod iawn, mae’n ymddangos i mi, i weld Lloegr fel y darparwr arbenigol ‘default’ felly. Mae’r uned ‘perinatal’ mam a baban rydym ni wedi sôn amdani yn ddiweddar yn achos arall lle oedd y galw a’r angen yn cael eu tanamgangyfrif pan yn asesu a ddylai uned gael ei chau. Rydym ni hefyd yn gwybod bod diffyg data yn broblem drwy’r NHS. Nid yw llawer o’r data rydym ni eu hangen ar gael neu’n cael eu rhannu. Mae sefydliadau fel petasent yn cynllunio, yn aml iawn, beth allen nhw ei gau neu ei symud i rywle arall yn hytrach na beth allen nhw ei greu.

Nid ydy o’n gyfrinach fod y cynnig yma wedi cael ei gyflwyno ac wedi cael ei ysbrydoli oherwydd gwaith eiriolaeth sawl mudiad sy’n cynrychioli cleifion sydd angen gwell gwasanaethau. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n cael ymateb positif gan y Llywodraeth yma o ganlyniad i hynny. Ond rwyf am ofyn y cwestiwn yma: beth am y clefydau nad oes ganddyn nhw’r un eirioli effeithiol ar ran cleifion? Allwn ni ddim bodloni ar ddarpariaeth fratiog mewn unrhyw gyd-destun. Mae yna fater ehangach i ni fan hyn hefyd, sef bod yna dybiaethau am Gymru gan reolwyr yr NHS, mae’n ymddangos i mi, sy’n golygu nad ydyn nhw’n ei weld o fel yr opsiwn ‘default’ i geisio darparu’r triniaethau arbenigol yma, neu ystyried denu cleifion o Loegr pan fyddai hynny’n ofynnol i greu ‘critical mass’. Ac, o ganlyniad, nid hwn, rwy’n meddwl, a fydd yr olaf o’r math yma o ddadl.

Mae profiad Kelly O’Keefe, rwy’n meddwl, yn adrodd cyfrolau. Mae’n sôn hefyd, oherwydd y diffyg gwasanaeth yng ngogledd Cymru, am y diffyg gwasanaethau cefnogol a oedd yn deillio o hynny. Oherwydd nad oedd yna ddim gwasanaeth, nid oedd yna ychwaith ddim grwpiau cefnogol ar gael yng ngogledd Cymru, a hynny hefyd yn gwneud y profiad, iddi hi a’i theulu, yn anos fyth. Mae’n amlwg i fi fod plant Cymru yn haeddu gwell, ac rydw i’n falch iawn o gael cefnogi’r cynnig yma heddiw.

Rwy’n falch o gael cyd-noddi’r cynnig hwn sydd ger ein bron heddiw a diolch i David Melding am gyflwyno’r ddadl hon, sy’n un bwysig iawn. Mae’n annerbyniol mai Cymru yw’r unig wlad ym Mhrydain heb wasanaeth rhewmatoleg pediatrig arbenigol neu dîm amlddisgyblaethol penodedig. O ganlyniad, mae plant yng Nghymru sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid, erythematosws lwpws systemig sy’n dechrau yn ystod ieuenctid, fasgwlitis, osteoporosis idiopathig ieuenctid, ffibromyalgia, a thua 200 o gyflyrau eraill, yn cael eu gadael heb ofal arbenigol. Mae miloedd o blant o bob cwr o dde Cymru yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar wasanaeth eilradd a ddarperir yn rhan-amser gan arbenigwr rhewmatoleg oedolion heb gefnogaeth arbenigwyr nyrsio, ffisiotherapyddion, a therapyddion galwedigaethol, ac mae’n rhaid i rai plant deithio i Fryste neu Birmingham am driniaeth.

Yr wythnos diwethaf, mewn digwyddiad i dynnu sylw at y mater hwn, cyfarfûm â merch ifanc anhygoel o ddewr sy’n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid. Mae Aimee yn wyth mlwydd oed, a dangosodd i mi’r heriau gwirioneddol y mae hi a’i theulu yn eu hwynebu o ganlyniad i’w chyflwr a’r ffaith na fydd gofal arbenigol ar gael iddi pan fydd y rhewmatolegydd presennol yn ymddeol mewn ychydig flynyddoedd. Mae Aimee wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd ifanc mewn poen, gyda chymalau stiff ac wedi chwyddo. Mae ei arthritis wedi cyfyngu ar ei phlentyndod gan ei bod yn aml yn methu gwneud y pethau y mae llawer o bobl ifanc yn eu cymryd yn ganiataol. Pan fydd hyn yn digwydd, mae Aimee’n defnyddio cadair olwyn. Eglurodd ei thad, Darren, ei bod weithiau’n cael ei phryfocio neu hyd yn oed ei bwlio yn yr ysgol pan fydd hi’n defnyddio ei chadair. Mae ei chyflwr wedi effeithio ar ei haddysg gan ei bod wedi gorfod colli ysgol ar adegau, ac mae wedi effeithio ar weddill y teulu. Heb driniaeth gywir, mae risg y gallai ddatblygu anableddau gydol oes, felly mae’r clefyd hwn yn amddifadu Aimee o’i phlentyndod, ond gallai hefyd effeithio neu gyfyngu ar ei bywyd fel oedolyn. Er gwaethaf hyn i gyd, mae hi’n parhau i fywiogi’r byd â’i gwên.

Nid yw Aimee ar ei phen ei hun, yn anffodus. Mae cannoedd o blant yn ne Cymru sy’n byw gyda’r cyflwr awto-imiwn ofnadwy hwn nad oes gwellhad iddo. Mae’r bobl ifanc hyn yn haeddu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol penodedig. Mae gwasanaeth o’r fath yn hanfodol i sicrhau lleihad yn yr arthritis, cadw rheolaeth ar y clefyd, cynnal datblygiad arferol, a lleihau’r risg o anabledd gydol oes. Mae’r GIG yn Lloegr yn datgan y dylai fod un ymgynghorydd rhewmatoleg pediatrig, dau arbenigwr nyrsio, un ffisiotherapydd, ac un therapydd galwedigaethol ar gyfer pob miliwn o bobl. Mae gennym tua dwy filiwn o bobl yn byw yn ne Cymru ac eto, chwarter rhewmatolegydd oedolion cyfwerth ag amser llawn sydd gennym, heb rwydwaith clinigol ffurfiol na thîm amlddisgyblaethol. Mae hyn yn annerbyniol. Rydym yn gwneud cam ag Aimee a miloedd o blant tebyg iddi.

Rwy’n annog fy nghyd-Aelodau Cynulliad i ymuno â ni i alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol llawn yn ne Cymru ac i wella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yng ngogledd Cymru. Dyma yw ein dyletswydd i Aimee, i’r miloedd o blant sy’n dioddef o gyflyrau gwynegol, a’n dyletswydd i’r plant sydd heb gael diagnosis eto. Cefnogwch y cynnig hwn. Diolch. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Cyn imi alw ar y siaradwr nesaf, os ydych yn defnyddio eich iPads neu eich iPhones, ac mae gennych hawl i wneud hynny, a fyddech cystal â gwneud yn siŵr eu bod ar ‘tawel’? Mae’r pingio cyson yn dechrau mynd ar fy nerfau, ac rwy’n siŵr na fyddech am i mi ddechrau colli fy nhymer yn y gadair. Felly, os ydych yn edrych, a allwch edrych i weld os gwelwch yn dda? Mae’n debyg y bydd yn effeithio ar y cyfieithu a’r darlledu. Joyce Watson.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Y peth cyntaf yr hoffwn ei wneud yw diolch i David Melding am greu cyfle i mi ac fel y dywedodd, i 50 y cant o Aelodau’r Cynulliad, gyfarfod â dau deulu gwych a’u plant dewr iawn, a hefyd am greu cyfle i ni yma heddiw i gydnabod eu cyflwr ac i ofyn am rywfaint o gefnogaeth yn hynny o beth. Enw’r digwyddiad yw ‘Rhy Ifanc i Arthritis?’, a byddai ym meddwl pawb ohonom, pe baem yn sôn am rewmatoleg, na fyddem o reidrwydd yn cysylltu hynny â phlant. Felly, roedd yn agoriad llygad go iawn, rwy’n meddwl, i’r rhan fwyaf o bobl, i gyfarfod â phobl ifanc ac i siarad am rewmatoleg bediatrig. Roedd i mi’n sicr—rwy’n codi fy llaw i gyfaddef fy mod i’n un o’r bobl hynny.

Maent yn byw gyda chyflwr ac yn cael triniaeth ar gyfer arthritis idiopathig ieuenctid, a byddaf yn cyfeirio ato fel AII o hyn ymlaen. Mae llawer o bobl wedi siarad am Aimee, ac mae pob un ohonom wedi cyfarfod â hi, ond cyfarfûm ag Aaron hefyd, a oedd yn 12 oed, ac roedd y ddau ohonynt wedi teithio o Sir Benfro yn fy ardal i. Ac fe wnaethant rannu eu straeon a’u profiadau’n barod iawn ac yn ddewr iawn, rwy’n teimlo, gyda phob un ohonom. Un o’r pethau yr hoffwn ei ychwanegu oedd yr ynysu cymdeithasol roeddent yn sôn wrthyf amdano a’r ffaith, ar ddiwrnod da, na allent ddod o hyd i unman mewn gwirionedd lle y gallent gymdeithasu â phobl eraill yn hawdd, oherwydd problemau mynediad ac oherwydd eu bod yn deall y gallent efallai ymuno â chlwb yr wythnos hon, a methu mynd iddo yr wythnos nesaf. Ni ellir gorbwysleisio’r anghysonderau yn eu bywydau o ddydd i ddydd a’r torri ar eu patrwm yn yr ysgol, yn eu bywydau cymdeithasol, ac yn eu bywyd teuluol eu hunain, ac roeddwn eisiau sôn am hynny.

Fel rhywun sy’n teithio o Sir Benfro i Gaerdydd bob un wythnos fwy neu lai, ac yn ôl adref, rwy’n deall ei bod yn daith hir ac at ei gilydd, bydd yn cymryd dwy awr, ac weithiau bydd yn cymryd llawer mwy o amser, yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd. Ond i rywun sy’n dioddef o gyflwr mor boenus ac sy’n gwneud y daith yn weddol aml weithiau, mae’n rhaid bod y boen a’r anghysur yn anodd iawn i’w dioddef. Gwrandewais arnynt, fel y gwnaeth pawb ohonom, ac roeddent yn gofyn am ganolfan drydyddol arbenigol ar gyfer rhewmatoleg bediatrig yn yr ysbyty plant yng Nghaerdydd. O ganlyniad, ac yn y gobaith y gallai hynny ddigwydd, roeddent yn edrych ymlaen at ganolfan loeren neu ganolbwynt lle y gallent gael triniaeth wedyn yn agosach at adref pan fo hynny’n briodol. Ac maent yn gwybod ac yn cydnabod na fyddai hynny ond yn bosibl os oedd yna ganolfan drydyddol arbenigol o’r fath yn agor yn y lle cyntaf.

Mae llawer yma wedi dweud heddiw nad oes gwasanaeth o’r fath ar gael i’r unigolion hyn yng Nghymru, ac rwy’n teimlo o ddifrif fod angen i ni edrych ar ddarparu’r driniaeth honno yma. Wrth gwrs, yn gysylltiedig â hynny, byddai angen timau amlddisgyblaethol arbenigol a fyddai’n cynnwys meddygon, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion ac rwy’n meddwl, unwaith eto, y byddwn yn galw am y gefnogaeth honno. Ni ellir gorbwysleisio, os ydych yn byw gyda chyflwr fel hwn a bod yn rhaid i chi deithio i gael y driniaeth, mae’n effeithio’n ddifrifol iawn ar eich bywyd o ddydd i ddydd, ond ychwanegwch ieuenctid ato, a’r disgwyliad y byddech, fel person ifanc, yn byw eich bywyd, credaf fod angen i bawb ohonom yma wneud popeth yn ein gallu i wella pethau iddynt.

Un o’r darnau o gyngor a roddwyd i mi gan fy rhagflaenydd uchel ei barch fel Aelod Cynulliad dros Gaerffili, Jeff Cuthbert, oedd i fachu ar y cyfle bob amser mewn dadl i roi sylw i broblemau a phryderon eich etholwyr, ac felly mae hwn yn gyfle amserol iawn i wneud hynny. Ffurfiwyd fy ngwybodaeth am y clefyd ofnadwy hwn o ganlyniad i gyfarfod ag etholwr, Glyn Davies, sydd wedi bod yn gwirfoddoli ar ran Gofal Arthritis ers 15 mlynedd. Mae’n dioddef o arthritis ei hun ac mae wedi cynnal amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer pobl o bob oed yr effeithiwyd arnynt gan arthritis, ar weithgareddau fel ymarfer corff, cyflogaeth, cyllid, lles, a rheoli poen. Siaradodd â mi am bwysigrwydd pontio o wasanaethau pediatrig i wasanaethau oedolion, ac mae’n rhywbeth a grybwyllwyd—credaf fod Rhun wedi cyffwrdd ar hynny yn rhai o’r cyfraniadau a wnaeth. Mae rôl gwirfoddolwyr, felly, yn bwysig tu hwnt, ond rwy’n ymwybodol fod y cynnig yn canolbwyntio ar fater arthritis mewn plant, sy’n rhywbeth nad oes cymaint o bobl yn ei ddeall yn gyffredinol, rwy’n meddwl—yn sicr yn y sgyrsiau a gefais ag etholwyr eraill.

Yn gynharach heddiw, cysylltodd fy etholwr Alison Haines, Caerffili, â fy swyddfa. Mae AII ar fab Alison ac mae’n tueddu i gael pyliau ohono. Ar hyn o bryd, mae argaeledd gwasanaethau cymorth rhan-amser yn golygu y gall mynediad at ofal gymryd dau neu dri diwrnod. Mae Alison yn teimlo y gellid rheoli pyliau ei mab yn well pe bai mynediad llawn at driniaeth a chyngor ar gael yn ehangach a hynny’n rheolaidd. Dywedodd wrthyf fod ei mab ar hyn o bryd yn cael triniaeth ar ddau safle gwahanol, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd, ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Y broblem yw bod ei apwyntiadau ar ddyddiau gwahanol, sy’n golygu bod ei addysg yn dioddef oherwydd ei fod i ffwrdd o’r ysgol am fwy o amser. Pe gellid darparu ystod o wasanaethau rhewmatoleg pediatrig mewn un lle penodol, yna byddai hynny’n lleihau’r effaith ar ei lefelau presenoldeb yn yr ysgol, a hefyd yn lleihau’r straen ar y teulu cyfan. Yn amlwg, byddai sefydlu gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig trydyddol, amlddisgyblaethol yn ne Cymru, fel y dywedodd Julie Morgan, o fudd sylweddol i bobl fel mab Alison, gan ei helpu i reoli ei gyflwr yn fwy effeithiol a darparu llawer iawn o gefnogaeth i’w deulu.

Cofrestrais fel cefnogwr i’r cynnig. Roeddwn eisiau deall yn llawn beth oedd goblygiadau pwyntiau 4 a 5, wrth aros am yr adolygiad PGIAC a goblygiadau hwnnw felly i’r penderfyniad ar wasanaethau pediatrig. Rwy’n credu bod cyfraniad Rhun ap Iorwerth wedi creu argraff arnaf pan ddywedodd, ‘Wel, mae angen strategaeth arnom. Mae angen i ni feddwl yn strategol am y peth. Mae angen i ni seilio hyn ar dystiolaeth’, a dylai’r dystiolaeth gael ei darparu felly gan yr adolygiad PGIAC. Ac felly, i gloi, byddwn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno i ystyried y cysyniad o wasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol, wrth aros am ganlyniad yr adolygiad PGIAC.

Hefyd, bûm yn ddigon ffodus i gyfarfod â chynrychiolwyr y Gymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg a’r Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol yn adeilad y Pierhead yn ddiweddar, a diolch i David Melding am gyflwyno’r ddadl hon. Cefais fy nharo gan y pwyntiau a wnaed, a bod achos cryf i’w wneud, gyda phoblogaeth o dros ddwy filiwn a dros 400,000 o blant yn ne Cymru, dros gael gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol llawn. Yn anochel, gyda’r diffyg darpariaeth hanesyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae llawer o blant yn teithio pellteroedd mawr i gael mynediad at rewmatoleg bediatrig, gyda phlant yn teithio i ganolfannau yn Lloegr, fel Bryste a Birmingham. Ni all neb gredu bod hyn yn ddelfrydol neu’n angenrheidiol, heb sôn am fod yn ddymunol.

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru y byddant yn cynnal adolygiad cynhwysfawr, fel y dywedodd llawer o’r Aelodau, o wasanaethau pediatrig arbenigol ar gyfer poblogaeth Cymru, ac y bydd yr adolygiad yn cynnwys yr asesiad hwnnw o rewmatoleg bediatrig, ac rwy’n croesawu’r cam hwn yn fawr iawn. Mae’n bwysig ein bod yn seilio ein penderfyniad ar dystiolaeth. Dyma’r ffordd y dywedwyd y gallwn sicrhau bod modd mynd ati’n briodol i dargedu adnoddau gwerthfawr ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, nad ydynt yn ddiderfyn, i ddiwallu anghenion cynyddol ac ymledol y genedl Gymreig.

Neithiwr ddiwethaf, roedd rhaglen newyddion flaenllaw BBC Cymru, ‘Wales Today’, yn tynnu sylw at y mater sylfaenol hwn, a chyda’r cynnydd mewn diabetes, clefyd Alzheimer a chyflyrau eraill, mae adolygiad interim o iechyd a gofal cymdeithasol, o dan gadeiryddiaeth Dr Ruth Hussey, wedi tynnu sylw at heriau cyllid y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru wrth wynebu’r dyfodol yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer iechyd, Vaughan Gething AC, yn y Siambr hon ddoe ei fod yn disgwyl i’r adolygiad ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo ffurfio cyfeiriad teithio ar gyfer y degawd nesaf. Dywedodd yr Athro Syr Mansel Aylward, aelod o’r panel adolygu, fod angen i’r GIG yng Nghymru ateb gofynion pobl Cymru fel y dadleuodd Aneurin Bevan ar y dechrau un.

Rwy’n mawr obeithio ac yn gofyn am i’r galw clir am wasanaethau rhewmatoleg pediatrig yng Nghymru gael ei ddiwallu gan ateb wedi’i deilwra y gall Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ei argymell ac fel y cyfryw, byddaf yn cefnogi canlyniad o’r fath yn gryf.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl hon. Fel erioed, mae’r dadleuon gan Aelodau unigol yn gyfle da i wyntyllu materion na fyddai fel arall yn cael proffil cenedlaethol. Rydym yn sôn heddiw am gyflwr poenus, fel y nododd David Melding—un nad yw wedi’i ddeall yn iawn o bosibl. Cyfeiriodd sawl un o’r Aelodau eraill at hynny. Yn aml bydd profiad dynol o gyfarfod â rhywun sydd â chyflwr yn sbarduno diddordeb penodol, nid mewn un Aelod yn unig ond mewn amryw ohonom, i ddeall mewn gwirionedd fod gan bron bob un ohonom etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn ôl pob tebyg.

Bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw ac ni fydd yn cefnogi geiriad penodol y cynnig. Rydym yn cydnabod bod angen adolygu gwasanaethau rhewmatoleg pediatrig, a byddaf yn amlinellu yn fy nghyfraniad yr hyn sydd eisoes yn digwydd.

Ddoe, fel y nodwyd, yn y datganiad ynglŷn â’r adolygiad seneddol, aethom drwy rai o’r heriau sy’n ein hwynebu o ran darparu gwasanaeth sy’n addas i ateb heriau’r dyfodol, ac mae’r gwasanaeth hwn yn enghraifft dda o ble rydym yn cydnabod ac angen deall lefel yr angen a rhoi dull ymarferol yn seiliedig ar dystiolaeth ar waith wedyn i wella gwasanaethau. Gallai ei gwneud yn ofynnol hefyd i’r teulu GIG weithio ar draws ffiniau byrddau iechyd a ffiniau cenedlaethol o bosibl er mwyn darparu’r cyfluniad cywir ar gyfer pob un o’r gwasanaethau.

Nawr, fel y mae’r cynnig yn cydnabod, nid oes gennym ganolfan rewmatoleg bediatrig wedi’i dynodi’n ffurfiol. Yn ymarferol, darperir gwasanaeth trydyddol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, fel y nodwyd sawl gwaith yn y ddadl. Mewn gwirionedd, weithiau bydd angen atgyfeiriad gan Ysbyty Athrofaol Cymru at wasanaeth arbenigol arall ar hyn o bryd hefyd. Fel y crybwyllwyd, caiff pob atgyfeiriad o’r fath eu hadolygu gan rewmatolegydd ymgynghorol sy’n gweithredu fel porthor clinigol, a chaiff ei awdurdodi i atgyfeirio ac ymrwymo cyllid Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru—neu PGIAC—ar gyfer triniaeth yn y canolfannau arbenigol hynny y tu allan i Gymru. Felly, mae gennym gytundebau lefel gwasanaeth eisoes ar waith yn ne a chanolbarth Cymru gyda Birmingham, Bryste a Great Ormond Street. Ond rwy’n cydnabod nad yw’r trefniadau presennol yn darparu ar gyfer y tîm amlddisgyblaethol llawn a ddylai fod ar waith mewn canolfan rewmatoleg bediatrig ddynodedig. Rwyf hefyd yn cydnabod y pwyntiau a wnaed ynglŷn â phellteroedd teithio, a dof yn ôl at hynny yn nes ymlaen.

Mae’r cynnig yn cyfeirio i raddau helaeth at nifer y cleifion yng Nghymru—yn benodol, nifer y cleifion yn ne Cymru. Yng ngogledd Cymru, mae’r bwrdd iechyd yn darparu clinigau allgymorth, ac mae cleifion yn mynychu ysbyty Alder Hey i gael gwasanaethau pediatrig. Cyn heddiw, ni soniwyd wrthym am bryderon sylweddol ynglŷn ag ansawdd neu gyrhaeddiad y gwasanaethau hynny i ddinasyddion yng ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, nid oedd y trydydd sector wedi tynnu sylw at heriau ynglŷn â hynny, ac mae ystod o grwpiau cymorth yn bodoli yng ngogledd Cymru hefyd, ond fe ystyriaf sylwadau a wnaed gan Aelodau yn y Siambr a chael y drafodaeth honno gyda defnyddwyr gwasanaethau a’r trydydd sector hefyd.

Ceir tair ffrwd waith rwyf am gyfeirio atynt i lywio’r dull o weithredu yn y dyfodol. Y gyntaf yw’r adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol gan PGIAC, fel y nodwyd yn y cynnig ac yn y ddadl heddiw. Gwn fod PGIAC eisoes wedi bod mewn cysylltiad â’r trydydd sector, yn enwedig y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol, fel rhan o’r adolygiad hwnnw. Mae’n bwysig i mi fod y trydydd sector a llais y defnyddwyr gwasanaethau’n nodwedd go iawn yn yr adolygiad hwnnw sy’n digwydd. Rwy’n croesawu’r adolygiad ac rwy’n edrych ymlaen at y canlyniadau a all lywio syniadau’r GIG ar y potensial, ond hefyd wedyn ar yr ystyriaethau ymarferol i fynd i’r afael â hwy ynglŷn â darparu gwasanaethau arbenigol yng Nghymru.

Yr ail faes gwaith yw’r adolygiad o’r ddogfen â’r teitl bachog, y gyfarwyddeb gomisiynu ar gyfer arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol cronig. Os nad oes ots gennych, fe gyfeiriaf ati fel y gyfarwyddeb. Nawr, yn y pen draw, wrth gwrs, mae’r cyfrifoldeb uniongyrchol dros sicrhau gwelliannau ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol, gan gynnwys gwasanaethau rhewmatoleg pediatrig, yn nwylo’r byrddau iechyd, ond maent yn gwneud hynny yn unol â’r gyfarwyddeb gomisiynu hon. Nawr, rydym ar hyn o bryd yn y broses o ddiweddaru’r gyfarwyddeb. Mae hi bron yn 10 mlwydd oed ar hyn o bryd. Y nod cyffredinol yw symud tuag at fwy o ffocws ar helpu pobl o bob oed i ddatblygu sgiliau i’w galluogi i reoli eu cyflyrau a lle bo’n briodol, i gynyddu eu gallu i aros yn y gwaith a byw’r bywydau y maent yn dymuno eu byw. Yn amlwg, ar gyfer plant a phobl ifanc, mae byw bywydau y maent am eu byw, fel y dywedwyd gan nifer o’r Aelodau yn y ddadl hon, yn cynnwys rhyngweithio cymdeithasol arferol, y gallu i fynd i’r ysgol, ac ystod o bethau eraill.

Mae grŵp llywio prosiect wedi cael ei gynnull i oruchwylio’r gwaith hwnnw, ac mae’n cynnwys arbenigwyr clinigol o bob bwrdd iechyd yng Nghymru a chynrychiolwyr o’r trydydd sector. Ar hyn o bryd mae hynny’n golygu Cymdeithas Genedlaethol Osteoporosis a Gofal Arthritis Cymru, a defnyddwyr gwasanaethau unigol. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol y grŵp hwnnw eisoes, ac mae’r cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos gyntaf ym mis Awst.

Mae’r trydydd maes gwaith wedi dod o faes penodol y gofynnais amdano eisoes, ac o ganlyniad i fy nghais, mae rheolwr gyfarwyddwr dros dro a chyfarwyddwr meddygol dros dro PGIAC i fod i gyfarfod â Gofal Arthritis Cymru a’r ymgynghorydd sy’n rheoli’r gwasanaeth rhewmatoleg trydyddol yn Ysbyty Athrofaol Cymru i drafod y ffordd ymlaen. Bydd cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Gofal Arthritis Cymru yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw, sydd i fod i ddigwydd o fewn yr wythnos nesaf.

Rwy’n gobeithio bod hynny’n rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y realiti y gellid gwella ein darpariaeth bresennol a’r model gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i wneud hynny, oherwydd rwyf am weld pob un o dair elfen y gwaith hwnnw’n cael eu dwyn at ei gilydd i roi camau ymarferol ymlaen i ni. Ond os caf fynd yn ôl—

Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gymryd ymyriad cyflym. Rwyf wrth fy modd yn clywed am yr elfennau gwaith rydych yn eu dwyn at ei gilydd. A allech chi gyffwrdd yn gyflym ar achos pobl ifanc sydd heb gael diagnosis? Oherwydd mae hyn yn ymwneud â’r rhai y gwyddom eu bod â’r cyflwr, ac ynglŷn â hwy’n cael y gwasanaeth. Rwy’n credu bod nifer o bobl a gymerodd ran yn y ddadl hon wedi cyfeirio at niferoedd y plant nad ydynt eto wedi mynd mor bell â hynny hyd yn oed, am nad oes gwybodaeth ar gael yn y maes ymysg y meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill. Efallai y gallwch ddweud wrthym sut y gallwch wella hynny.

Roeddwn yn mynd i gyffwrdd â pheth o hynny yn rhan nesaf fy nghyfraniad, ond fe gyfeiriaf yn ôl at rai o’r sgyrsiau a gawsom ddoe gyda’r datganiad adolygu seneddol, a’r cyfeiriad at yr hyn a allai ac a ddylai fod yn lleol, beth yw cyfrifoldeb byrddau iechyd yn unigol ac wrth weithredu gyda’i gilydd, a lle y dylai fod llaw arweiniol ganolog yn cyfarwyddo ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwasanaeth wneud rhywbeth. Byddai hynny’n cynnwys, yn y maes hwn, y ddadl a’r drafodaeth ynghylch nifer y canolfannau arbenigol y gallem neu y dylem eu cael, beth yw’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny, ond hefyd y model gwasanaeth ehangach o’r cymunedol at yr arbenigol. Mae hynny’n cynnwys diagnosis, ymwybyddiaeth a hyfforddiant, ond hefyd faint o’r gwasanaeth hwnnw y gallech ac y dylech ei ddarparu’n lleol ac yn nes at adref, ac yna derbyn, pa bryd bynnag y bydd gennych ganolfan arbenigol, y bydd pobl yn teithio. Boed wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerfyrddin neu ble bynnag y bydd canolfan arbenigol, i lawer o bobl bydd yn galw am deithio pellter sylweddol i gyrraedd y ganolfan arbenigol honno er mwyn cael y gofal y gallent ac y dylent ei gael o fewn y lleoliad hwnnw’n unig. Ar hyn o bryd, o ystyried sefyllfa Caerdydd—ac mae nifer o’r Aelodau wedi gwneud cais heddiw i Gaerdydd fod yn ganolfan rhewmatoleg bediatrig ffurfiol gyda thîm amlddisgyblaethol—byddai hynny’n dal i’w gwneud yn ofynnol i bobl deithio pellter hir, ac i gael y grŵp cywir o staff ar waith i ddarparu’r gofal.

Rwy’n credu bod yna her yma ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yng Nghymru, comisiynu gwasanaethau ar draws y ffin yn Lloegr lle mae hynny’n angenrheidiol, neu os mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Ond hefyd, buaswn yn dal i fod yn awyddus i gael sgwrs fwy agored gyda chydweithwyr yn Lloegr ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yng Nghymru a fyddai hefyd yn cynnwys ac yn ateb anghenion cleifion sy’n byw ar hyn o bryd yn Lloegr. Hefyd, mae rhai llifoedd sydd eisoes yn bodoli a allai ac a ddylai fodoli mewn gwasanaethau mwy arbenigol yn fy marn i. Ond rwy’n credu, yn hytrach na fy mod i’n penderfynu ar y model darparu gwasanaeth mewn un ddadl heddiw, mae’n bwysig ein bod yn gofalu am yr angen i ddatrys y cwestiynau am y model gwasanaeth—ynglŷn â’r cydbwysedd rhwng darpariaeth gymunedol ac arbenigol. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cwestiynau a godwyd am y pwyntiau hynny ac am y tîm amlddisgyblaethol arbenigol rwy’n cydnabod nad oes gennym mohono.

Felly, byddaf yn rhoi ystyriaeth briodol i’r adolygiad PGIAC, a byddaf wedyn naill ai’n dewis gyda’r gwasanaeth—neu rwy’n gobeithio y bydd y gwasanaeth yn dewis drosto’i hun, mewn gwirionedd, am fy mod yn credu bod hwn yn faes lle na ddylai fod yn rhaid wrth gyfarwyddyd canolog gennyf fi. Ond rwy’n gobeithio, wrth nodi y byddaf o ddifrif ynglŷn â’r argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth, y bydd hynny’n bodloni’r prawf a osodwyd ar fy nghyfer gan Hefin David. Rwy’n hapus i roi arwydd clir ynglŷn â chyfeiriad, ac wrth gwrs byddaf yn adrodd yn ôl wrth Aelodau’r Cynulliad maes o law.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser i allu ymateb i’r ddadl yma, sydd wedi bod yn ddadl arbennig. Rydw i’n llongyfarch David Melding yn y lle cyntaf am drefnu’r holl beth, a hefyd am drefnu’r digwydd yna bythefnos yn ôl yn adeilad y Pierhead, lle y gwnaethom ni gyfarfod rhai teuluoedd yng nghanol eu dioddefaint.

Wrth gwrs, fel meddyg teulu ers dros 35 o flynyddoedd yn Abertawe, dros y blynyddoedd rwyf wedi cyfarfod efo sawl teulu sydd efo person ifanc yn eu plith sydd efo crydcymalau—arthritis—yn ifanc iawn. Mae’n gallu bod yn gyflwr, fel rydym wedi clywed, difrifol iawn. Mae anhwylderau sydd yn weddol anghyffredin, fel hwn, ond yn ddifrifol eu heffaith yn teilyngu cael eu trin mewn canolfan arbenigol rhanbarthol, achos maen nhw’n gyflyrau anghyffredin gyda thriniaethau anghyffredin, lle mae pob arbenigwr sydd yn delio efo’r clefyd yna wedi cael ei leoli yn yr un un lle—canolfan amlddisgyblaethol yn wir syniad y gair, felly.

Mae’r holl dystiolaeth feddygol sydd wedi dod i law dros y blynyddoedd yn cefnogi datblygiad o’r fath i gael y safon orau o driniaeth i’r cyflyrau anghyffredin yma. Rydym wedi clywed y dadleuon cryf o blaid sefydlu gwasanaeth arbenigol crydcymalau i blant, ac rwy’n cytuno’n gryf, ac mae safon arbennig y ddadl y prynhawn yma yn teilyngu hynny hefyd.

Rwyf innau hefyd wedi cyfarfod efo arbenigwyr yn y maes a hefyd wedi trafod efo theuluoedd ynglŷn â’r angen—teuluoedd fel Lisa Evans a’i merch Bethan, yn fy rhanbarth i, sydd hefyd gyda’r cyflwr yma—yr angen i sefydlu gwasanaeth arbenigol yn y maes.

I droi at y siaradwyr, rwy’n llongyfarch David Melding am amlinellu yn ei ffordd aeddfed arferol y pwyntiau o blaid creu gwasanaeth arbenigol crydcymalau i blant, a hefyd yn olrhain hanes plentyn hefyd. Roedd mwy nag un tro, rwy’n credu, i Aimee gael ei chrybwyll yn y ddadl yma. A hefyd Julie Morgan, gydag eto hanes plentyn arall, ac yn pwysleisio’r problemau sydd yn gallu digwydd efo’r llygaid a’r golwg yn ogystal—nid jest mater esgyrn a chymalau ydy hyn—a phwysleisio’r angen am driniaeth gynnar, i osgoi’r llid o’r crydcymalau sydd yn dinistrio esgyrn ac yn dinistrio’r cymalau yn y tymor hir, ac wrth gwrs yn methu cryn dipyn o ysgol ar hyd y ffordd.

Rwyf hefyd yn llongyfarch Angela Burns ar ei chyfraniad hithau hefyd yn olrhain profiadau’r sawl sydd eto yn dioddef efo crydcymalau, ac yn pwysleisio’r elfen yma fod angen tîm amlddisgyblaethol—ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, a seicotherapyddion hefyd. Ac yn yr un modd, Rhun eto yn sôn am brofiad unigol teulu a hefyd y pwysigrwydd o ddatblygu’r arbenigedd yma o fewn ffiniau Cymru. Rydym yn gallu ei wneud e.

Ac wrth gwrs, rwyf hefyd yn diolch i Caroline Jones, Joyce Watson, Hefin David a Rhianon Passmore am eu cyfraniadau doeth ac aeddfed y prynhawn yma—a hefyd i’r Ysgrifennydd Cabinet. Cefndir hyn i gyd, yn naturiol, fel gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet olrhain, ydy adroddiad Ruth Hussey, yr adroddiad interim a ddaeth allan ddoe. Mae yna her sylweddol i’r gwasanaeth iechyd yn fanna i newid.

Mae yna hefyd her sylweddol i bob un ohonom ni i newid. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon rhagor jest i hanner meddwl bod rhywbeth yn syniad da ac wedyn ei arallgyfeirio fe at ryw gomisiwn neu rywbeth i ddod i fyny efo ateb terfynol efallai mewn rhyw flynyddoedd i ddod. Mae’n rhaid inni ddechrau gweithredu yn awr. Dyna beth mae adroddiad interim Ruth Hussey yn pwysleisio: yr angen i wneud penderfyniadau pellgyrhaeddol nawr, gyda’r dewrder i’w gweithredu nhw.

Rydym wedi clywed oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet beth mae WHSSC yn ei wneud a phwysigrwydd beth mae’r cleifion yn ei feddwl o’r gwasanaeth ar hyn o bryd. Wel, rydym i gyd wedi clywed beth mae’r cleifion yn ei feddwl am y gwasanaeth ar hyn o bryd. Maen nhw eisiau gwasanaeth arbenigol i blant efo crydcymalau nawr. Cymru yw’r unig wlad sydd heb y gwasanaeth arbenigol yna. Fe fyddwn i’n pwyso’n daer ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ddod i’r un casgliad ag y mae pawb arall yn dod iddo fo.

Felly, mae angen y newidiadau yma nawr, ar fyrder, ac wrth gwrs, dyna beth mae adroddiad Ruth Hussey yn ei ragweld. Mae yna newid yn gorfod digwydd. Mae pethau’n symud allan o’n hysbytai rhanbarthol ni i’r gymuned—grêt. Byddwn ni’n gwneud mwy yn y gymuned, rydym ni eisiau gwneud mwy yn y gymuned, rydym ni’n teilyngu’r arian i wneud mwy yn y gymuned hefyd, a bydd yna lai o stwff sy’n arferol, felly, yn cael ei wneud yn ein DGHs ni. Ond mae’n dal i fod angen canolfannau arbenigol trydyddol i wneud y stwff sydd ddim ond yn gallu cael ei wneud yn y canolfannau arbenigol yna. Ie, gwneud mwy yn y gymuned, ond hefyd rhagor o ganolfannau arbenigol yma yng Nghymru i wasanaethu pobl.

Rydym ni wedi clywed y dystiolaeth. Rydym ni wedi clywed o sawl man y prynhawn yma. Rydym ni hefyd wedi clywed y dystiolaeth uniongyrchol oddi wrth gleifion a theuluoedd a’r sawl sydd yn dioddef, a’r amser i weithredu yw nawr. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl ar y Ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru'

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl ar y ddeiseb amddiffyn cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, David Rowlands, i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6362 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi deiseb P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru sydd wedi derbyn 5,383 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wrth fy modd yn agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau? Yn gynharach eleni, cytunodd y Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Busnes i gyflwyno trothwy newydd ar gyfer deisebau lle byddai unrhyw ddeiseb a gasglodd dros 5,000 o lofnodion yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yma yn y Cyfarfod Llawn. Ar y pryd roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Busnes, a thrwy gyd-ddigwyddiad bach rwyf fi, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, bellach yn sefyll yma yn cyflwyno hyn, y ddadl gyntaf ar ddeiseb a gyrhaeddodd y trothwy hwnnw. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yma heddiw yn cefnogi’r gwelliant arloesol hwn ym mhroses ddeisebau’r Cynulliad, a fydd yn darparu llwybr posibl arall i unrhyw un yng Nghymru ddod â’u syniadau a’u pryderon yn uniongyrchol i’r Siambr. Mae’n enghraifft wych o ddemocratiaeth ar waith. Rydym ni, y Pwyllgor Deisebau, yn gobeithio y byddwn yn derbyn nifer o ddeisebau gyda’r lefel hon o gefnogaeth yn ystod y Cynulliad hwn.

Cafodd y ddeiseb sydd ger ein bron heddiw ei threfnu gan Richard Vaughan ac mae’n ymwneud â’r amddiffyniad a roddir i leoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Roedd y ddeiseb yn agored i’w llofnodi yn ystod mis Ebrill eleni, ac yn yr amser hwnnw, fe’i llofnodwyd gan 5,383 o bobl. Mae’r ddeiseb yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd camau i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Yn bwysig, mae’n awgrymu dwy ffordd o gyflawni hyn. Yn gyntaf, geilw’r ddeiseb am gyflwyno’r egwyddor cyfrwng newid i gyfraith a chanllawiau cynllunio Cymru. Nod yr egwyddor yw rhoi’r cyfrifoldeb ar ddatblygwyr adeiladau newydd, boed yn rhai preswyl neu fasnachol, i gynllunio mesurau lleihau sŵn digonol os oes busnes sy’n bodoli eisoes megis lleoliad cerddoriaeth gerllaw. Yn ail, geilw’r ddeiseb am roi’r gallu i awdurdodau lleol yng Nghymru gydnabod llefydd fel ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol cerddorol o fewn y fframwaith cynllunio. Byddai hyn wedyn o bosibl yn effeithio ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol yng nghyffiniau ardaloedd o’r fath.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Bydd llawer o’r Aelodau yma yn gyfarwydd â’r cefndir lleol penodol i’r ddeiseb hon, sy’n ymwneud â Stryd Womanby yng nghanol dinas Caerdydd. Cynhaliwyd ymgyrch fywiog yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon mewn ymateb i bryderon lleol ynglŷn â goblygiadau datblygiadau newydd arfaethedig yng nghanol un o ganolfannau diwylliannol ein prifddinas. Mae Stryd Womanby, yng nghanol y ddinas, wedi bod ers amser hir yn un o’i chanolbwyntiau diwylliannol a chreadigol mwyaf blaenllaw—efallai ei bod yn fwyaf enwog am y lleoliad cerddoriaeth fyw a chlwb Cymraeg, Clwb Ifor Bach. Rwy’n siŵr y byddai Aelodau eraill yma yn dymuno rhannu eu profiadau eu hunain o’r stryd, neu rai ohonynt o leiaf, yn eu cyfraniadau hwy i’r ddadl hon.

Yn gynharach eleni, arweiniodd nifer o geisiadau cynllunio yn yr ardal a’r cyffiniau ac ofnau ynghylch yr effaith y gallai’r rhain ei chael ar leoliadau cerddoriaeth fyw yno at ymgyrch ‘Achubwch Stryd Womanby’. Arweiniodd yr ymgyrch, yn ei thro, at y ddeiseb hon. Cafodd y mater sylw o’r blaen yn y Siambr hon gan fy nghyd-Aelod ar y Pwyllgor Deisebau, Neil McEvoy, a llofnodwyd datganiad o farn hefyd gan nifer o’r Aelodau yma.

Cyn i mi agor y cynnig hwn i drafodaeth ehangach, rwyf am amlinellu’n fras yr hyn y clywodd y pwyllgor am yr argymhellion penodol a wnaeth y deisebwyr. Caiff egwyddor cyfrwng newid ei hyrwyddo gan y ddeiseb hon ac mewn mannau eraill fel ffordd o ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth rhag cau. Dadleuir bod cwynion a wneir gan breswylwyr mewn datblygiadau newydd am lefelau sŵn o leoliadau cerddoriaeth sefydledig wedi bod yn ffactor pwysig yn y broses o gau nifer o leoliadau cerddoriaeth ar draws y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ddeiseb yn dadlau y byddai mabwysiadu egwyddor cyfrwng newid yn helpu i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw presennol drwy fynnu y byddai unrhyw un sy’n ceisio datblygu neu ailddatblygu eiddo gerllaw yn gyfrifol am liniaru effaith y newid hwnnw. Mae hynny’n golygu, er enghraifft, pe bai tai neu westy’n cael eu hadeiladu gerllaw lleoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr fyddai lliniaru effaith a sŵn posibl o ganolfan gerddoriaeth fyw sy’n bodoli’n barod.

Mae cefnogwyr yr egwyddor cyfrwng newid yn dadlau y byddai’n cynrychioli newid pwysig o bolisïau cynllunio presennol, sy’n datgan bod pwy bynnag y rhoddir gwybod ei fod yn achosi niwsans bob amser yn gyfrifol am y niwsans hwnnw. Delir y safbwynt hwn heb ystyried pa mor hir y mae’r sŵn yr ystyrir ei fod yn niwsans wedi bodoli neu pa un a yw rhywun wedi symud i gyffiniau’r sŵn gan wybod yn iawn amdano. Mae hefyd yn bwysig nodi bod yr egwyddor yn gweithredu i’r ddau gyfeiriad. Felly, lle y ceir cynnig am leoliad cerddoriaeth newydd ger adeilad preswyl sy’n bodoli’n barod, byddai angen i’r cyfrwng newid, y lleoliad cerddoriaeth yn yr achos hwn, sicrhau eu bod yn cynnwys mesurau priodol i leihau sŵn.

Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb hon gyntaf ar 23 Mai. O ystyried y lefel uchel o gefnogaeth y mae’r ddeiseb wedi’i denu a’i natur amserol, penderfynodd y pwyllgor ofyn am y ddadl ar y cyfle cyntaf. Ceir arwyddion fod Llywodraeth Cymru wedi nodi’r ymgyrchu cryf ar y mater hefyd. Ychydig cyn i’r pwyllgor ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ei bod yn bwriadu adolygu polisi cynllunio cenedlaethol i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw. Rydym yn deall bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei dymuniad i’r egwyddor cyfrwng newid gael sylw penodol yn yr adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ sy’n digwydd yn ystod yr haf, a hefyd i ddiweddaru polisi cenedlaethol er mwyn caniatáu ar gyfer dynodi ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol.

Ar yr olwg gyntaf, mae hyn i’w weld yn fuddugoliaeth i’r deisebwyr ac o bosibl, yn gam ymlaen ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth fyw ar draws y wlad. Edrychaf ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan Aelodau eraill am hyn a sut y mae’r Cynulliad hwn yn teimlo y dylem ddiogelu dyfodol cerddoriaeth fyw yng Nghymru.

O ganlyniad i’r amserlen dan sylw, nid ydym wedi gallu cynnal ymchwiliadau manwl i’r cynigion a chyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, rydym yn cyflwyno’r ddeiseb hon i’r Cynulliad heb wneud argymhellion i unrhyw gyfeiriad. Mae’r pwyllgor yn gobeithio y bydd y cyfraniadau a glywn gan bob Aelod heddiw yn cynorthwyo Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion i roi ystyriaeth bellach i deilyngdod y newidiadau a argymhellir gan y deisebwyr.

Hoffwn ddiolch i fy olynydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn heddiw. Fel y dywedwyd yn gynharach gan fy olynydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, deilliodd hyn o newid Rheol Sefydlog sy’n caniatáu i unrhyw ddeiseb â mwy na 5,000 o lofnodion gael ei hystyried ar gyfer dadl ar lawr y Siambr. Mae’n enghraifft ragorol o ymwneud uniongyrchol y cyhoedd yng ngwaith y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn. Roeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar adeg ein hargymhelliad i’r Pwyllgor Busnes ynglŷn â’r trothwy o 5,000 llofnod a phan gytunwyd i ofyn am ddadl ar y ddeiseb. A gaf fi ddiolch i’r Pwyllgor Busnes am ganiatáu’r ddadl hon heddiw? Hoffwn ddiolch hefyd i Rhun ap Iorwerth a grŵp Plaid Cymru am dynnu dadl ar y mater hwn yn ôl yn gynharach eleni. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael caniatâd i gynnal dadl ar y ddeiseb pe baem wedi cael dadl Plaid Cymru chwe wythnos yn ôl. Rwy’n credu y byddai pobl wedi dweud, ‘Rydym eisoes wedi’i drafod’. Felly, a gaf fi ddweud yn onest diolch yn fawr iawn i chi am ganiatáu i hyn ddigwydd ac am ganiatáu i’r ddadl ar y ddeiseb gael ei chynnal mewn gwirionedd? Rwyf fi, a gweddill yr Aelodau yma, rwy’n siŵr, yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi gwneud hynny.

Mae’r ddeiseb yn bodloni’r holl feini prawf allweddol: mae ganddi fwy na 5,000 o lofnodion; mae hi o fudd go iawn i’r cyhoedd; ac mae’n broblem sy’n mynd i orfod cael sylw ar ryw adeg. Yn y Pwyllgor Deisebau, buom yn crafu pen dros nifer y llofnodion a’i gwnâi’n angenrheidiol i ofyn am ddadl yn awtomatig. O’i osod yn rhy uchel ni fyddai neb byth yn cyrraedd y trothwy. O’i osod yn rhy isel, byddai’r ceisiadau yn ddigwyddiad rheolaidd ac os caf ddweud, ni fyddai’r Pwyllgor Busnes yn hynod o falch o gael cais bob wythnos. Daeth y nifer o 5,000 o’r 100,000 yn San Steffan, ac rydym oddeutu 5 y cant o’r boblogaeth, ac mae wedi gweithio. Mae’r nifer wedi’i chyrraedd, ond dim ond unwaith, dros fater sydd o ddifrif wedi ennyn sylw’r cyhoedd.

Ar gerddoriaeth fyw ei hun, os edrychaf ar Abertawe a’r lleoliadau cerddoriaeth fyw a fynychwn yn y 1970au hwyr a’r 1980au cynnar, mae Pafiliwn Patti yn fwyty bellach, y Marina Nite Spot, a gâi ei alw’n Dora yn lleol, wedi cau erbyn hyn, mae’r Top Rank wedi cau ac yn cael ei ddymchwel ar hyn o bryd. Agorwyd lleoliadau newydd, ond maent yn tueddu i fod yn llai o faint. Mae nifer o dafarndai a chlybiau’n darparu cerddoriaeth fyw. Yn Nhreforys mae hynny’n cynnwys, neu roedd yn cynnwys tan yn ddiweddar, llefydd fel y Millers Arms, Clwb Rygbi Treforys, clwb criced a phêl-droed Ynystawe a chlwb golff Treforys. Er bod croeso iddynt, lleoliadau bach yw’r rhain. Mae gennym Stadiwm Liberty hefyd, sydd wedi cynnal cyngherddau gan Pink a’r Stereophonics, a nifer o grwpiau mawr eraill. Ond mae gwahaniaeth, onid oes, rhwng 20,000 i 30,000 a 100? A’r bwlch bach hwnnw mewn gwirionedd yw lle rydym ar ein colled ac ar ein colled yn aruthrol.

Nid wyf yn credu y gallwch gael gormod o leoliadau cerddoriaeth. Mae pobl yn hoffi gwrando ar gerddoriaeth fyw. Dylai’r cyfle fod yno. Mae hefyd yn wir nad yw cerddoriaeth fyw hwyr y nos a fflatiau a thai bob amser yn gymdogion da, ac mae meysydd chwaraeon weithiau’n cael anawsterau gyda chymdogion ynglŷn â sŵn a’r bêl yn mynd i mewn i’w gerddi. Ar y ddau beth, mae gennyf yr un ateb: pwy oedd yno yn gyntaf? Os mai’r lleoliad cerddoriaeth neu’r maes chwarae oedd yno yn gyntaf, roedd y datblygwr a’r bobl a symudodd i mewn yn gwybod i ble roeddent yn symud. Roeddent yn gwybod beth oedd yno. Mae’n gwbl annheg i rywun symud i mewn a dechrau cwyno wedyn am rywbeth a oedd yno cyn i’r adeilad gael ei adeiladu, heb sôn am cyn i chi symud i mewn.

Mae’n fwy annheg byth os yw’r drefn drwyddedu yn ystyried hynny. Os symudwch y drws nesaf i leoliad cerddoriaeth, dylech ddisgwyl clywed cerddoriaeth. Rydych yn gwybod beth yw ei drwydded. Os nad ydych yn hoffi cerddoriaeth neu gerddoriaeth hyd at yr amser ar y drwydded, peidiwch â symud yno. Yr hyn na allwn ei gael yw lleoliad cerddoriaeth sy’n cael ei gyfyngu gan bobl sy’n symud i ddatblygiadau newydd ac yn rhoi diwedd ar y gerddoriaeth neu’n sicrhau ei bod yn dod i ben mor gynnar fel na fydd pobl yn mynychu.

I’r gwrthwyneb, ni ddylech allu sefydlu lleoliad cerddoriaeth hwyr y nos yng nghanol stryd breswyl. Mae arnom angen system sy’n deg i bawb. Os yw yno, byddwch yn gwybod beth sydd yno wrth i chi symud. Fe siaradaf amdanaf fy hun: mae garej o flaen fy nhŷ. Pe bai rhywun yn penderfynu adeiladu lleoliad cerddoriaeth yno, fe fyddwn yn anhapus. Ond nid oedd yno pan symudais i mewn ac ni chefais ddewis. Pan fyddwch yn dewis symud drws nesaf i leoliad cerddoriaeth, yna mae’n rhaid i chi dderbyn mai dyna rydych yn symud drws nesaf iddo. Ni allwch ddweud, ‘Rwyf wedi bod yma yn awr ers peth amser. Nid wyf yn ei hoffi.’ Roeddech yn gwybod beth oedd yno wrth i chi symud. Ni ddylai fod unrhyw drwyddedau hwyr y nos ar gyfer unrhyw leoliadau newydd ar strydoedd preswyl, ond os yw’n bodoli, ni ddylid ei gosbi am fod rhywun arall wedi adeiladu tai neu fflatiau yn agos ato. Dyna rwy’n ei alw’n ‘chwarae teg’. Diolch.

Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ddeiseb hon mewn gwirionedd, oherwydd mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith nad yw polisi cynllunio cenedlaethol presennol Cymru yn cael ei ddehongli eisoes mewn ffordd sy’n diogelu lleoliadau sydd eisoes wedi’u clirio gan y drefn gynllunio ac iechyd yr amgylchedd fel rhai nad ydynt yn creu lefelau sŵn uwch na’r hyn sy’n dderbyniol. Dyma fusnesau sydd eu hunain wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu drwyddedau yn y gorffennol, am gryn gost yn aml, ac sydd wedi’u derbyn fel rhai sydd o fewn terfynau’r hyn sy’n dderbyniol yn gymdeithasol pan wnaethant y ceisiadau hynny a phan gawsant eu pasio.

Eisoes, gall awdurdodau lleol ystyried ffynonellau presennol o sŵn wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio dilynol a gallant ystyried na ddylid cyflwyno defnydd newydd mewn ardal heb ystyried natur y defnydd presennol. Felly, rwy’n chwilfrydig ynglŷn â beth sy’n gyrru’r angen am y ddeiseb hon heddiw mewn gwirionedd. Nid bod yn negyddol yw hyn, oherwydd rwy’n credu bod yr hyn y mae’r ddeiseb yn gofyn amdano’n beth da. Felly, a yw’n ymwneud â bod yna angen mor fawr yn sydyn am gartrefi fel bod yn rhaid adeiladu ar bob modfedd sgwâr o dir cyn gynted ag y bo modd, a bod y rheidrwydd cymdeithasol mawr hwnnw’n drech na dyfodol busnesau drygionus sydd ond yno i wneud arian heb ystyried y canlyniadau i’w cymdogion, yn hen neu’n newydd?

Wel, ar yr achlysur hwn, wrth gwrs, mae cyfalafiaeth yn gwisgo’i wyneb hapus, onid yw? Rydym yn sôn am gerddoriaeth fyw, ac mae’n hawdd cyflwyno’r ddadl ddiwylliannol ehangach am le cerddoriaeth fyw yn ein hunaniaeth bersonol a chymunedol, gwerth y gelfyddyd hon fel adloniant, drwy’r dibenion therapiwtig, ei grym cydlynol, ei gallu i drawsnewid unigolyn, ac mae hyd yn oed y manteision i’r economi leol, wrth gwrs, yn codi eu pen yn y ddadl hon.

Mae’r holl ddadleuon hyn yn iawn. Dyma pam y mae lleoliadau mor annwyl i bobl. Gallant fod yn swnllyd, sydd efallai yn cyfyngu ar y math o gymdogion y gallwch eu cael, ond bydd y tir ger y busnesau hyn yn cael ei brisio yn unol â hynny. Ac fel cyn-gyfreithiwr eiddo, ni allaf sefyll yma a dadlau y dylid atal perchnogion tir rhag gwneud elw gweddus o’u buddsoddiad. Ond gallaf ddadlau, os ydynt am wella gwerth y tir hwnnw drwy geisio caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu gwerth uwch, yna hwy a ddylai fuddsoddi yn y mesurau lliniaru sy’n caniatáu i hynny ddigwydd. Felly, yn fyr, pam y dylai busnesau presennol dalu i gymydog newydd wneud mwy o arian?

Mae gennyf ychydig eiriau o rybudd, fodd bynnag. Rwy’n cofio safle tai posibl yng nghanolbarth Cymru, drws nesaf i uned gynhyrchu metel. Roedd perchennog yr uned yn poeni oherwydd, er ei fod wedi cael ei holl drwyddedau perthnasol ar gyfer lefelau sŵn, lleihau aroglau, gwaredu gwastraff ac yn y blaen, roedd yn nerfus y byddai’n rhaid iddo roi camau lliniaru pellach ar waith pe bai tai’n cael eu caniatáu ar y safle drws nesaf, a dyna a ddigwyddodd yn wir. Felly, i fod yn gyson, mae angen i ni feddwl am wneud yr egwyddor cyfrwng newid yn gymwys ar gyfer busnesau o’r fath yn ogystal, does bosibl.

Nawr, fel y digwyddodd, roedd y cynigion tai wedi lleihau o ran maint ac yn wynebu i ffwrdd o’r ffatri. Ond beth fyddai wedi digwydd pe ba’r datblygwr wedi dweud, ‘Wel, wyddoch chi beth, rwy’n barod i daflu rhywfaint o arian at y mesurau lliniaru fy hun er mwyn cael mwy o dai. Bydd yr elw a wnaf yn mwy na thalu amdanynt ac rwyf eisiau adeiladu mor agos at y ffatri ag y gallaf. Byddaf yn dadlau bod fy rhwymedigaeth yn rhoi hawl gyfatebol i mi—os gallaf liniaru, y rhagdybiaeth fydd fod yn rhaid i’r awdurdod cynllunio ddyfarnu o blaid fy natblygiad.’ Dyna’r ddadl rwy’n ei rhoi yma.

Pa mor hir fydd hi cyn i berchnogion tir ystyried datblygu parseli o dir ar gyfer defnydd preswyl gwerth uwch, gan herio penderfyniadau ynghylch parthau cynlluniau datblygu lleol, a dibynnu ar amod cynllunio i liniaru, er bod eu tir, mewn gwirionedd, ymhell o fod yn ddelfrydol ar gyfer bod yn safle ar gyfer cartref beth bynnag? Rwy’n sôn am fewnlenwi mewn ardaloedd diwydiannol iawn, yn hytrach nag ailddatblygu safleoedd tir llwyd ar raddfa lawn, y credaf ein bod i gyd yn ei gymeradwyo yn ôl pob tebyg.

Yr ail bwynt yw pa mor dda yw’r egwyddor hon o’i chymharu â’r egwyddor hirsefydledig mai’r ‘llygrwr sy’n talu’, ac rwy’n meddwl bod David Rowlands yn sôn am hynny. Mae’n berthnasol i niwsans sŵn lawn cymaint ag unrhyw fath arall o niwsans. Byddai cynnwys yr egwyddor cyfrwng newid mewn cyfraith gynllunio yn cael croeso mawr yn wir, ond rhaid gweithio drwy’r canlyniadau a’r cwestiynau anfwriadol sy’n codi o hynny hefyd yn fy marn i.

Mae’r ddeiseb hefyd yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gydnabod ardaloedd o ‘arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ yn y fframwaith cynllunio. Byddwn yn ei adael ar gydnabod ardaloedd o ‘arwyddocâd diwylliannol’. Pam ddim? Byddai hynny’n cynnwys cerddoriaeth yn hawdd, ond hefyd ardaloedd lle mae crynoadau o artistiaid wedi bod yn gweithio, neu theatrau, neu dirweddau enwog am eu lle mewn ffilmiau neu baentiadau, neu lwybr Dylan Thomas, hyd yn oed, y mae rhai o fy etholwyr yn gobeithio ennyn diddordeb newydd ynddo. Nid wyf yn credu eu bod wedi’u cynnwys yn y Ddeddf amgylchedd hanesyddol, nac o dan statws ardal gadwraeth o bosibl, ac nid wyf yn meddwl y gellid gosod gwaharddiad llwyr ar ddatblygu mewn perthynas â hwy chwaith.

Felly, yn fyr, dyma rwy’n ei ddweud: rwy’n cefnogi rhagdybiaeth sylfaenol yr hyn y mae’r ddeiseb yn gofyn amdano, ond a gaf fi ofyn inni gofio nad dyma fydd yr ateb syml roedd lleoliadau cerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby yn chwilio amdano o bosibl? Diolch.

Mae hwn yn ddiwrnod da i ddemocratiaeth yng Nghymru. Ble arall yn y byd y byddai deiseb yn hedfan drwy’r Pwyllgor Deisebau ac yn cyrraedd llawr y ddeddfwrfa o fewn misoedd? Mae pobl sy’n dod at ei gilydd ac yn gweithio gyda’i gilydd yn gallu creu newid. Hoffwn ddiolch i Richard Vaughan am gychwyn y ddeiseb. Ef, wrth gwrs, oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn Grangetown yn etholiadau diweddar y cyngor, ond mae hefyd yn gyfansoddwr ac yn arweinydd, felly mae gwarchod lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn bwysig iawn iddo ef yn bersonol. Mae hefyd yn bwysig iawn i lawer o bobl yn ein gwlad, o gofio bod 5,383 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb o fewn dyddiau—o fewn dyddiau.

Mae’r ddadl hon yn amserol iawn hefyd, gan fod lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru yn wynebu bygythiad o gau. Nid problem yng Nghymru’n unig yw hi chwaith, oherwydd nododd Music UK fod 35 y cant o leoliadau cerddoriaeth fyw yn y DU wedi cau yn ystod y degawd diwethaf, a daw’r bygythiadau yn aml gan ddatblygwyr sy’n adeiladu tai newydd yn ymyl lleoliadau cerddoriaeth fyw presennol. Pan fydd y cwynion anochel ynglŷn â sŵn yn dod gan y trigolion newydd, caiff y lleoliad ei orfodi i gau. Mae gennym Coldplay yn y dref heno ac mae cerddoriaeth yn rhan o DNA diwylliannol Cymru. Dyma yw’r mynegiant mwyaf o ddiwylliant poblogaidd sydd i’w gael. Mae mater Stryd Womanby wedi dod â hyn i sylw’r sefydliad hwn o ddifrif gan mai’r lleoliadau llai ar lawr gwlad sydd angen ein sylw, ac sydd angen cymorth gan y Senedd hon yng Nghymru.

Ni allwn gael digwyddiadau mawr heb y lleoliadau annibynnol lle mae cerddorion yn gwneud enw iddynt eu hunain; mae’n rhaid iddynt ddechrau yn y lleoliadau llai. Mae Stryd Womanby wedi gwneud enw iddi’i hun. Mae’n galon cerddoriaeth fyw yn y ddinas hon, a bydd y rhan fwyaf ohonom wedi treulio amser yno’n gwylio bandiau gwych ac yn gwrando ar fandiau gwych yng Nghlwb Ifor Bach ac yn treulio gormod o amser, efallai, yn blasu’r cwrw crefft yn y tafarndai i lawr y lôn.

Mae dau leoliad cerddoriaeth fyw eisoes wedi cau. Mae Dempseys wedi mynd. Mae’r Four Bars Inn, i fyny’r grisiau, wedi mynd. Mae Fuel wedi cael gorchymyn lleihau sŵn, sy’n ddifrifol. Cafodd Floyd’s, a arferai fod rownd y gornel, amser ofnadwy rai blynyddoedd yn ôl gyda lleihau sŵn a dirwyon, ac yn y diwedd, caeodd y busnes yn y lleoliad hwnnw. Mae clwb yno o hyd, ond mae’n rhywbeth gwahanol yn awr—mae’n fusnes gwahanol—ac maent wedi adeiladu fflatiau y drws nesaf i’r clwb presennol, a chwyno wedyn am y sŵn o’r clwb. Mae dau gais cynllunio newydd yn Stryd Womanby sy’n golygu bod dyfodol cerddoriaeth fyw yno dan fygythiad gwirioneddol, felly mae angen i ni weithredu ac mae angen i ni weithredu’n gyflym.

Rwy’n siarad am Gaerdydd oherwydd, yn amlwg, o’r fan honno rwy’n dod, dyna ble rwy’n byw, ond rwy’n gwybod bod hyn yn digwydd ar draws Cymru, ac o’r hyn a glywais, mae’n ymddangos bod gennym gefnogaeth gan bob plaid yma i wneud rhywbeth, ac i amddiffyn cerddoriaeth fyw. Mae’r deisebwyr wedi gofyn am yr egwyddor cyfrwng newid, fel y mae cyd-Aelodau eisoes wedi sôn, er mwyn inni allu diogelu’r lleoliadau hynny. Ac i ddatblygwyr sy’n agor adeiladau newydd, yn adeiladu eiddo newydd, eu cyfrifoldeb hwy fydd gwneud i’r eiddo hwnnw weithio ac nid y busnes sydd yno’n barod.

Mae ‘ardal o arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ hefyd yn bwysig ac mae gwir angen iddo gael ei gydnabod yn y system gynllunio. Rwy’n cefnogi hynny ac mae Plaid Cymru yn cefnogi hynny, ac mae’n ymddangos yn awr fod Llywodraeth Cymru, o’r diwedd, yn cefnogi hynny hefyd, sy’n galonogol iawn. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn fynd ati i newid deddfwriaeth cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiogelu ein lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd—Stryd Womanby—ond ar hyd a lled Cymru hefyd. A phan gaiff y ddeddfwriaeth ei phasio, rwy’n credu y bydd yn ddiwrnod da iawn i ddemocratiaeth yng Nghymru, felly gadewch i ni ei wneud. Diolch yn fawr.

Croesawaf y ddadl hon ac rwy’n croesawu’r drefn newydd o drafod deisebau os ydynt yn mynd uwchlaw nifer penodol, ac rwy’n credu bod hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu’n fawr.

Ddoe, euthum gyda fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone ac Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths, i ymweld â Stryd Womanby ac i gyfarfod â thri o drefnwyr yr ymgyrch. Mae’r stryd, wrth gwrs, yn etholaeth Jenny, ond roedd nifer o drigolion Gogledd Caerdydd wedi cysylltu â mi yn gynharach yn y flwyddyn, yn bryderus iawn wrth feddwl am gerddoriaeth fyw y stryd yn cael ei fygu gan ddatblygiad gwesty posibl. Ac ar ôl cyfarfod â’r etholwyr hynny a’i drafod gyda Jenny, fe wnaethom ysgrifennu at Lesley Griffiths, i gefnogi’r deisebwyr a gofyn am y newid yn y gyfraith gynllunio—y cyfrwng newid—a dynodi ardaloedd penodol hefyd, ardaloedd diwylliannol, yn y cynllun datblygu lleol. Ac rwy’n falch iawn fod Lesley wedi ymateb mor gadarnhaol, ac rwy’n credu bod yr ymgyrchwyr a gyfarfu â ni ddoe yn falch iawn o’r ymateb cyflym gan Lywodraeth Cymru, gan y dylai’r newid hwn yn y gyfraith gynllunio olygu na all unrhyw breswylwyr newydd symud i ardal sydd eisoes â sîn gerddoriaeth fyw a chwyno am y sŵn i’r graddau bod y lleoliad yn cael ei gau, ac rwy’n credu bod hyn wedi digwydd o’r blaen yng Nghaerdydd, yn enwedig gyda chau The Point ym Mae Caerdydd.

Felly, roedd yn wych cael cyfarfod â’r ymgyrchwyr ddoe, rwy’n teimlo, a chael blas go iawn ar yr angerdd y maent yn ei deimlo tuag at gerddoriaeth fyw ar ddiwrnod pan oedd cerddoriaeth fyw, fel y dywedwyd eisoes, yn tra-arglwyddiaethu go iawn dros y ddinas gan fod Coldplay i fod i chwarae’r cyntaf o’u dau gyngerdd yng Nghaerdydd yn Stadiwm Principality. Mae’r ffaith fod ciwiau 18 milltir ar yr M4 gyda’r holl gefnogwyr yn dod i weld y band hwn yn dangos pa mor bwysig yw cerddoriaeth fyw i economi’r ddinas a’r fasnach dwristiaeth. Rwy’n meddwl mai’r pwynt arall sy’n werth ei nodi yw bod Coldplay wedi chwarae gyntaf yng Nghaerdydd fel band yn dechrau ar eu taith yng Nghlwb Ifor Bach, yn union cyn iddynt ryddhau eu sengl ‘Yellow’ a dod i enwogrwydd go iawn. Rwy’n credu mai dyma roedd yr ymgyrchwyr yn ei ddweud wrthym ddoe—fod angen lleoliad bach ar bob band i ddechrau ar eu taith, a lleoliad bach i chwarae ynddo. Felly, mae lleoliadau fel Clwb Ifor a’r Full Moon a’r Moon Club ar y stryd hon yn lleoliadau bwydo i fandiau ar eu ffordd i fyny ar ysgol y diwydiant cerddorol, oherwydd hebddynt, ni fyddech yn gallu cael talent newydd yn dod i mewn i’r diwydiant na lle i’r bandiau hyn arddangos eu doniau.

Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyflym yma yng Nghymru i newid polisi cynllunio er mwyn diogelu cerddoriaeth fyw yn ein dinasoedd—mewn ardaloedd sy’n rhan o wead diwylliannol a chyfoeth bywyd y ddinas. Rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cadarnhau—ac rwy’n siŵr y bydd yn dweud rhagor pan fydd yn siarad yn nes ymlaen—y bydd ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn cael ei ddiweddaru er mwyn caniatáu i ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol cerddorol gael eu dynodi mewn cynlluniau datblygu lleol ledled Cymru, nid yn unig yng Nghaerdydd, ac rwy’n gobeithio y bydd cynnydd yn y trafodaethau unigol a gynhelir â’r awdurdodau lleol unigol. Hoffwn hefyd longyfarch Jenny ar ei hymdrechion hi wrth ymgyrchu dros Stryd Womanby, sydd, fel y dywedais, yn ei hetholaeth.

Hoffwn ddiolch i’r deisebwyr—dros 5,000 ohonynt—gan gynnwys fy etholwr Norma Mackie, a gyflwynodd y ddeiseb ar risiau’r Senedd ddiwedd mis Mai gyda Mr Vaughan. Rwy’n sôn amdani hi am ei bod yn gefnogwr lleol iawn. Mae’n byw un stryd yn unig i ffwrdd o Stryd Womanby ac mae’n angerddol ynglŷn â cherddoriaeth fyw. Mae’n dangos daearyddiaeth Stryd Womanby os mynnwch—y lôn gul iawn, ond adeiladau uchel iawn, sy’n golygu, mewn gwirionedd, y gallwch fyw un stryd i ffwrdd heb gael y gerddoriaeth yn Stryd Womanby yn tarfu arnoch. Felly, mae’n lle hollol ddelfrydol. Datblygiadau swyddfa yw’r preswylwyr eraill yn Stryd Womanby. Mae gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion eu swyddfeydd yno ac yn amlwg, nid yw’r gweithgareddau yn ystod y nos a’r gerddoriaeth yn gwrthdaro mewn unrhyw ffordd â’r modd y caiff yr RNIB a swyddfeydd eraill eu rhedeg yn arferol. Felly, rwy’n credu ei fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer cerddoriaeth fyw, ac mae angen i ni ei gadw felly.

Mae croeso mawr i economi ffyniannus Caerdydd greu mwy o swyddi a buddsoddiad, ond daw risgiau yn ei sgil, ac mae’r risgiau hynny’n cynnwys gorddatblygu a’r potensial i ddinistrio’r rhesymau allweddol pam y mae Caerdydd yn boblogaidd fel cyrchfan i dwristiaid. Yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar ei chyfer—2015—mynychodd 600,000 o bobl ddigwyddiadau cerddorol yng Nghaerdydd. Roedd bron eu hanner yn dwristiaid cerddoriaeth—pobl a oedd hefyd yn cynhyrchu incwm yn ein gwestai a’n bwytai. Cynhyrchwyd cyfanswm o £50 miliwn o’r dwristiaeth gerddorol hon, gan gynnal dros 700 o swyddi amser llawn yn y ddinas. Felly, nid yw’n ansylweddol. Nid ydym am ailadrodd y camgymeriadau sydd wedi digwydd mewn mannau eraill. Cefais fy magu yn Lerpwl, ac mae’n destun cywilydd i ni i gyd fod Cyngor Dinas Lerpwl wedi caniatáu i ddatblygwyr gymryd drosodd a gwastatáu’r Cavern yn 1973, lle y dechreuodd y Beatles, Cilla Black a Gerry and the Pacemakers eu gyrfaoedd. Mae’n rhaid i chi edrych yn ôl a meddwl, ‘Beth oedd yn eu meddyliau?’ Felly, cafodd ei ddisodli gan ganolfan siopa gwbl ddisylw heb unrhyw werth diwylliannol na gweledol. A do, crëwyd replica, gan ddefnyddio rhai o hen frics y Cavern, ond nid yw yr un fath â’r gwreiddiol. Mae’n union fel dweud, ‘Gallwch gael Stryd Womanby ar Stryd Clifton neu rywle arall yng Nghaerdydd’, ac nid wyf yn credu bod hynny’n wir. Rwy’n credu’n gryf mai lonydd cul Stryd Womanby, yng nghanol y ddinas, a diffyg unrhyw breswylwyr yn byw ar y stryd sy’n ei gwneud yn rhan mor boblogaidd a bywiog o economi nos Caerdydd heb aflonyddu ar neb.

Fel y mae Julie ac eraill wedi sôn, dechreuodd Coldplay eu gyrfa yng Nghlwb Ifor Bach, ac mae’r lleoliadau cerddoriaeth fyw bach hyn yn meithrin talent y dyfodol go iawn, ac ni allai pobl fel Coldplay fod wedi dechrau hebddynt o bosibl. Roedd yr orymdaith brotest ar benwythnos olaf mis Ebrill gan sawl mil o bobl yn dangos yn union faint o bobl sy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â dyfodol cerddoriaeth fyw a’u ffocws ar ymgyrch Achubwch Stryd Womanby.

Felly, rwy’n meddwl ei bod yn hynod o bwysig inni ddiogelu’r rhan bwysig hon o dreftadaeth gerddorol Caerdydd. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd mewn mannau eraill—er enghraifft, yn y bae, caewyd The Point oherwydd cwynion am sŵn o adeiladau preswyl a ddatblygwyd ymhell ar ôl i The Point gael ei sefydlu, ac felly gallai’r ceisiadau cynllunio diweddar ar gyfer gwesty ac adeiladau yn Stryd Womanby fod wedi dileu’r sîn gerddoriaeth fyw yno hefyd. Felly, rwy’n ddiolchgar iawn am y camau buan gan Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n mynd i’r afael, yn fy marn i, â gofynion y ddeiseb (a), drwy ysgrifennu ym mis Mai at holl awdurdodau lleol Cymru yn tynnu sylw at ei bwriad i gynnwys cyfeiriad penodol at yr egwyddor cyfrwng newid i’r ‘Polisi Cynllunio Cymru’ diwygiedig, gan roi hyder yn syth i gyngor Caerdydd wrthod ceisiadau sy’n gwrthdaro â diwylliant cerddoriaeth Stryd Womanby, gan wybod y byddai bron yn sicr o fod wedi cael ei wrthod pe bai’n mynd i apêl. Mae hyn yn hynod o bwysig i unrhyw awdurdod cynllunio, oherwydd fel arall mae’r costau’n enfawr. A (b), mae hefyd yn galluogi’r cyngor i ddynodi ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol cerddorol yn eu cynlluniau datblygu lleol. Fy nealltwriaeth i yw nad oes angen deddfwriaeth. Ar ganllawiau cynllunio’n unig y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio, ac rwy’n credu y bydd hynny’n ddigon. Mae hefyd yn ein rhoi ar flaen y gad o ran diogelu cerddoriaeth fyw yn y DU, gan fod y Blaid Lafur wedi ymdrechu i gyflwyno cymal newydd yn y Bil Tai a Chynllunio ym mis Rhagfyr 2015, ond roedd yn aflwyddiannus. Felly, nid oedd y diwygiad i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ond yn gofyn i gynghorau ystyried lleihau sŵn, ond nid yw’n gorfodi datblygwyr newydd i dalu am unrhyw gamau lliniaru y gallai fod eu hangen pe bai angen gwesty, er enghraifft, ar Stryd Womanby ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y gerddoriaeth fyw. Mae hynny’n berffaith bosibl, ond mae’n golygu na fyddwn yn gweld Stryd Womanby yn cael ei goresgyn gan ddatblygwyr sydd eisiau creu awyrgylch hollol wahanol a math cwbl wahanol o weithgaredd. Felly, diolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am weithredu yn y fath fodd.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Nodaf delerau’r ddeiseb ac rwy’n gwrando ar y galwadau a wneir i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw a’r economi nos yn well.

Rwyf wedi dechrau adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn y ffordd orau â bwriadau ein nodau llesiant. Rwyf hefyd wedi datgan fy mwriad i gynnwys cyfeiriad clir a phenodol i’r egwyddor cyfrwng newid.

Dylai’r system gynllunio fod yn alluogwr effeithiol i’r datblygu sydd ei angen arnom i gefnogi amcanion cenedlaethol, lleol, a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gwarchod bywiogrwydd ardaloedd fel Stryd Womanby, yr ymwelais â hi ddoe gyda fy nghyd-Aelodau Jenny Rathbone a Julie Morgan, a lle y cyfarfûm â nifer o’r ymgyrchwyr. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnig profiad diwylliannol i gwsmeriaid ac yn darparu lle i feithrin creadigrwydd yn y sîn gerddoriaeth ar lawr gwlad. Rwy’n cydnabod y gwahanol heriau sy’n wynebu lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae llawer o fusnesau bach yn wynebu’r rhain, a lle y gallwn helpu drwy weithredu cadarnhaol, fe fyddwn yn gwneud hynny.

Rwyf wedi gwrando ar y galwadau penodol i gyflwyno cyfeiriad clir at yr egwyddor cyfrwng newid yn ein polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd y newidiadau rwy’n bwriadu eu gwneud yn arfogi awdurdodau cynllunio lleol yn well ac yn rhoi hyder iddynt gymhwyso’r egwyddor hon wrth ystyried datblygiadau newydd.

Mae polisi presennol yn ‘Polisi Cynllunio Cymru’ hefyd yn nodi dau beth pwysig: ni ddylid cyflwyno defnydd newydd mewn ardal heb ystyried natur y gwahanol fathau o ddefnydd presennol, a gall awdurdodau cynllunio lleol ystyried cydweddoldeb y gwahanol fathau o ddefnydd mewn ardaloedd a rhoi diogelwch priodol lle maent yn ystyried bod angen gwneud hynny fel rhan o’u cynlluniau datblygu lleol.

Wrth gefnogi’r economi nos, mae angen rhoi ystyriaeth arbennig i gydweddoldeb gwahanol fathau o ddefnydd. Mae ceisio cysgu wrth ymdopi â sŵn yn ystod y nos yn broblem go iawn. Fodd bynnag, mae’r economi nos yn bwysig yn economaidd yn ogystal â darparu profiadau diwylliannol ac adloniannol sy’n rhan bwysig o’n ffordd o fyw. Mae angen i ni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng darparu cartrefi, hwyluso profiadau ymwelwyr, diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw, a sicrhau iechyd a lles trigolion lleol.

Bydd y ‘Polisi Cynllunio Cymru’ diwygiedig yn mynd ymhellach ac yn fwy eglur ynglŷn â’r egwyddor cyfrwng newid. Bydd yn cynnig mwy o gymorth i ganiatáu i awdurdodau ddiogelu ardaloedd sy’n cynnig profiad diwylliannol arwyddocaol cerddorol yn fwy trylwyr. Mae angen rhoi cydnabyddiaeth lawn i’r nodweddion gwahanol sy’n rhoi hunaniaeth i leoedd yn rhan o benderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio. Lle mae camau i liniaru sŵn yn cynnig ateb priodol, rhaid eu rhoi ar waith. Mae hyn yn ymwneud ag unioni’r cydbwysedd a sicrhau bod yr holl faterion yn cael ystyriaeth gyfartal.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro ychydig o bwyntiau sy’n sail i’n penderfyniad i ganolbwyntio ar newidiadau i ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Ni fu unrhyw newid deddfwriaethol i ymgorffori’r egwyddor cyfrwng newid yng nghyfraith y DU. Mae’r newidiadau arfaethedig yn Lloegr mewn perthynas â chyfrwng newid yn cynnwys newid eu fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol, sef yr hyn sy’n cyfateb yno i ‘Polisi Cynllunio Cymru’, a’r argymhellion yw peidio â newid y gyfraith.

Mae’n fwy cyfleus ymgorffori cyfrwng newid drwy ddiwygiadau i’r polisi cynllunio yn hytrach na newidiadau i gyfraith cynllunio. Byddai ymgorffori’r egwyddor cyfrwng newid yn y gyfraith yn golygu ei bod bob amser yn dod yn ystyriaeth berthnasol, hyd yn oed pan nad yw’n berthnasol, a byddai angen treulio amser ar ei diystyru. Nid dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o symud ymlaen, gan nad yw’n ymateb cymesur.

Nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau i gyfraith cynllunio er mwyn sicrhau bod yr egwyddor cyfrwng newid yn ffurfio rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Mae canolbwyntio ar newid polisi a chynnwys yr egwyddor hon mewn polisi cenedlaethol yn golygu ei bod yn dod yn ystyriaeth berthnasol ar unwaith i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym mhob achos lle mae’n berthnasol. Mae hwn yn fesur cymesur a chyfleus.

Yn yr un modd, yr unig reswm dros ofyn i awdurdodau cynllunio lleol gynnwys dynodiadau diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth yn eu cynlluniau datblygu lleol fel mater o gyfraith fyddai er mwyn sicrhau bod yr holl gynlluniau datblygu lleol yn eu cynnwys. Nid oes angen gwneud hyn, gan na fydd materion o’r fath yn berthnasol mewn llawer o leoedd—er enghraifft, mewn trefi llai neu leoliadau gwledig.

Mae ymgorffori hyn drwy bolisi cenedlaethol yn golygu, lle mae’n berthnasol dynodi ardaloedd yn seiliedig ar dystiolaeth, y bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gallu ei wneud drwy eu cynlluniau datblygu. Mae statws statudol i’r cynllun ei hun a bydd angen gwneud penderfyniadau wedyn yn unol â’r cynllun. Dyma’r dull cymesur sydd ei angen i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Yn Lloegr, cafodd yr hawliau datblygu a ganiateir eu newid fel ei bod yn bosibl newid swyddfeydd, sy’n cael eu defnyddio yn ystod y dydd fel arfer, yn flociau o fflatiau, sy’n sensitif i sŵn gyda’r nos ac yn ystod y nos, heb fod angen caniatâd cynllunio. Yn Lloegr, mae hyn wedi arwain at broblemau sylweddol iawn i leoliadau cerddoriaeth a gweddill yr economi nos ac maent wedi camu’n ôl rywfaint ar y newidiadau hyn mewn ymateb i ymgyrch lwyddiannus gan y Music Venue Trust. Ni wnaed y newidiadau hyn erioed yng Nghymru ac awdurdodau cynllunio lleol sydd â’r gair olaf o hyd ynglŷn ag a ddylai ceisiadau cynllunio o swyddfeydd i fflatiau gael eu cymeradwyo. Yn Lloegr, mae’r polisi hwn hefyd wedi arwain at gartrefi bach iawn yn cael eu creu o ganlyniad i newidiadau i ddatblygiadau a ganiateir, gyda rhai mor fach ag 16 metr sgwâr yn ôl y sôn—yr hyn a elwir yn fflatiau cytiau cŵn, 40 y cant yn llai nag ystafell Travelodge. Nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn am ei weld yng Nghymru.

Yn olaf, mae’r gyfraith ar niwsans statudol, fel y’i diffinnir yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, yr un fath yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu lefel sylfaenol o warchodaeth i ddinasyddion rhag sŵn sy’n niweidiol i iechyd neu’n niwsans. Mae’r system gynllunio a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a chreu cartrefi sy’n ddiogel ac yn iach i bobl fyw ynddynt. Ni allwn wneud yr olaf os ydym yn glastwreiddio cyfraith niwsans.

Felly, nid glastwreiddio hawliau pobl mewn perthynas â niwsans sŵn yw’r ateb, ond mynd i’r afael â’r mater drwy wella polisi cynllunio. Mae cynllunio yn fecanwaith ataliol a gall chwilio am atebion. Rwyf am ei gwneud yn glir mai dyma’r sail i’r newidiadau rydym yn eu cyflwyno. Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau y bwriadaf eu gwneud yn taro’r cydbwysedd cywir. Byddant yn rhoi hyder i bawb sy’n rhan o’r broses i ddod o hyd i atebion sydd o fudd i bawb, ac yn cefnogi sîn gerddoriaeth fyw ffyniannus. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio yn dweud wrthynt gymhwyso’r egwyddor cyfrwng newid ar unwaith, a bydd newidiadau pellach yn cael eu cyhoeddi’n rhan o fy adolygiad cyffredinol o ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Diolch.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Ac os caf, hoffwn dynnu sylw at rai o’r sylwadau a wnaeth yr Aelodau. Mike Hedges—a gaf fi fod ar ei hôl hi’n adleisio sylwadau Mike Hedges a diolch i’r Pwyllgor Busnes a Phlaid Cymru am ganiatáu i’r ddadl hon ddigwydd? Ac rwy’n cytuno â phob un o’i sylwadau cefnogol. Siaradodd Suzy Davies am werth therapiwtig cerddoriaeth, a gwerth economaidd lleoliadau o’r fath, ac rwy’n cytuno y dylem edrych hefyd ar fusnesau presennol a chanlyniad y sŵn y maent yn ei wneud. Roedd Neil McEvoy yn gywir i dynnu sylw at y modd y mae gweithdrefn unigryw deisebau a’u goblygiadau yn rhywbeth y dylem ni yn y Cynulliad fod yn falch ohono. Ychwanegodd Julie Morgan ei chefnogaeth hefyd, ar ôl cyfarfod â’r deisebwyr—gyda Jenny Rathbone a Lesley Griffiths—a nododd yn gywir hefyd pa mor bwysig yw’r lleoliadau hyn i hybu bandiau lleol. Tynnodd Jenny Rathbone sylw at ba mor lleol y gall sŵn cerddoriaeth fod os yw yn y lle iawn, a pha mor bwysig yw’r lleoliadau hyn a’r gerddoriaeth y maent yn ei chreu i economi Cymru. Nid oes ond angen i mi ddiolch i’r Gweinidog Cabinet am ei derbyniad cyffredinol i egwyddorion cyfryngau newid, a’i gweithredu cyflym wrth ymateb yn gymesur a rhoi cyngor priodol i awdurdodau cynllunio.

I grynhoi, gan nad yw’r pwyllgor yn gwneud argymhellion ar y cam hwn, neu’n ochri i unrhyw gyfeiriad, y prif awgrym yw bod y pwyllgor yn mynd â sylwadau yn ôl ac yn ystyried yr hyn y mae’r Aelodau ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud yn dilyn toriad yr haf. Bydd y pwyllgor hefyd, yn ystod toriad yr haf, yn gofyn am farn y deisebwr dros y cyfnod hwnnw cyn penderfynu ar ffordd o weithredu ar gyfer y dyfodol yn yr hydref. Diolch.

Fel rhywun a dreuliodd nifer o nosweithiau hir iawn yng Nghlwb Ifor Bach, mwynheais y ddadl honno’n fawr. Yn y 1980au a’r 1990au, nid yn awr, rwy’n brysio i ychwanegu.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyma ni’n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf, a’r unig bleidlais, yw ar y ddadl gan Aelodau unigol ar ganolfan rhewmatoleg bediatrig. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw David Melding, Dai Lloyd, Caroline Jones, Rhun ap Iorwerth, a Julie Morgan. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, naw yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly fe dderbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 27, Yn erbyn 0, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6348.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl fer, ac felly rydw i’n gofyn i Aelodau i adael y Siambr, os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny, yn dawel—yn dawel.

Quietly, please, as you leave the Chamber.

9. 9. Dadl Fer: Cofio Srebrenica

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o roi munud yn y ddadl hon i Joyce Watson. Mae 11 Gorffennaf i 14 Gorffennaf 2017 yn nodi 22 mlynedd ers hil-laddiad Srebrenica. Cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd eu lladd gan filwyr Serbaidd Bosnia yn y lladd torfol gwaethaf ar bridd Ewrop ers yr ail ryfel byd. Y llynedd, cefais gyfle i ymuno â dirprwyaeth a drefnwyd gan Cofio Srebrenica, o dan arweiniad ardderchog David Melding, gyda Joyce Watson, Joe Lucas, athro o Benarth, ac Owain Phillips ITV Cymru i ymweld â Srebrenica ac i gyfarfod â rhai a oroesodd yr hil-laddiad. Bydd yr hyn a glywais ac a welais yno yn byw gyda mi am byth.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae Srebrenica yn swatio mewn dyffryn gwyrdd ffrwythlon ynghanol mynyddoedd sy’n codi o lannau’r Afon Drina. Ond ym mis Gorffennaf 1995, roedd Srebrenica wedi bod yn uffern byw ers tair blynedd. Yng ngwanwyn 1992, lansiodd milwyr Serbaidd Bosnia ymgyrch o drais ar drywydd gwladwriaeth fechan hiliol bur, wedi i Fosnia aml-ethnig bleidleisio dros annibyniaeth oddi wrth Iwgoslafia. Cafodd pentrefi cyfan eu dileu, cafodd trefi eu llosgi, a chafodd eu poblogaethau eu lladd neu eu herlid oddi yno drwy lanhau ethnig.

Ffodd goroeswyr i dair cilfach ddwyreiniol lle roedd y fyddin weriniaethol Fosniaidd wedi dal ei thir, ac un ohonynt oedd Srebrenica. Cafodd ei datgan yn barth diogel gan y Cenhedloedd Unedig, gan achosi i boblogaeth Srebrenica chwyddo o 9,000 i 42,000. O dan gyfarwyddyd yr Arlywydd Radovan Karadzic, aeth General Ratko Mladic i mewn i Srebrenica ar 11 Gorffennaf 1995. Datganodd ar y teledu ei fod yn mynd i ddial am y modd treisgar y cafodd gwrthryfel Serbaidd ei atal yn Srebrenica yn 1804. Gan ofni hil-laddiad, ceisiodd miloedd o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd wneud y daith 63 milltir i ddiogelwch. Rhwystrodd milwyr Mladic y ffyrdd, a chyflawni cudd-ymosodiadau drwy ddefnyddio cerbydau a gwisgoedd wedi’u dwyn oddi wrth y Cenhedloedd Unedig i dwyllo Mwslimiaid Bosniaidd i ildio. Cafodd dynion a bechgyn 12 i 77 oed eu gwahanu oddi wrth y lleill. Cafodd llond lorïau o ddynion a bechgyn gyda mygydau dros eu llygaid, a’u breichiau wedi’u clymu, eu gosod yn rhesi gan y dynion arfog mewn caeau a choedwigoedd, eu gorchymyn i weddïo weithiau, a’u saethu’n farw. Parhaodd y lladd systematig a threfnus am bedwar diwrnod. Cafodd y dynion a’r bechgyn diarfau eu lladd oherwydd pwy oeddent, a hynny’n unig: Bosniaid a Mwslimiaid. Daethant at fedd torfol mewn lorïau a chawsant eu claddu gyda theirw dur, a’r cyfan yn hafan ddiogel y Cenhedloedd Unedig a fethodd amddiffyn pobl ddiniwed. Yr unig oroeswyr oedd y rhai a guddiodd o dan gyrff marw a sleifio ymaith dan fantell y nos.

Yn ystod ein hymweliad, cawsom y fraint o gyfarfod â goroeswr, Nedžad Avdić. Ar ôl cwymp Srebrenica, ceisiodd Nedžad a llawer o ddynion Bosniaidd eraill ddianc drwy’r goedwig gerllaw mewn ymgais i gyrraedd tiriogaeth a reolid gan y fyddin Fosniaidd lle y gallent fod yn ddiogel. Cafodd Nedžad ei ddal ynghyd â’r Bosniaid eraill a’i gludo i bentref a’i gloi mewn adeilad ysgol. Meddai Nedžad, ‘Clywsom sgrechiadau a gweiddi. Roedd yr ystafelloedd dosbarth yn orlawn. Dim dŵr. Dim awyr. Roeddem yn yfed ein hwrin ein hunain er mwyn goroesi. Bu pobl farw oherwydd y gwres, yn llythrennol’. Pan ddechreuodd y gyflafan, llwyddodd Nedžad i oroesi drwy orwedd yn llonydd ac wedi’i anafu mewn cwlwm o gyrff hyd nes y symudodd y lladdwyr ymaith.

Yn 1995, roeddwn yn 17 oed—yr un oed â Nedžad. Rwy’n cofio, fel llawer, y storïau newyddion erchyll ar y teledu am y rhyfel. Mae delwedd fyw yn aros gyda mi o ddyn ifanc yn gwthio dyn oedrannus mewn berfa ar draws y mynyddoedd am ddyddiau, yn ffoi am eu bywydau. Un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cerddais o amgylch y ffatri batris yn Potočari, sef safle’r Cenhedloedd Unedig a adawyd yn dyngedfennol gan geidwaid heddwch o’r Iseldiroedd, lle cafodd miloedd eu lladd: man gwag, diffrwyth, tawel, ond gyda theimlad iasol o’r hyn a ddigwyddodd—ofnau enbyd y rhai a bentyrrwyd i’r ystafell heb ffordd o ddianc, heb fwyd, heb ddŵr, gan wybod eu bod ar fin marw. Gyferbyn, saif miloedd o gerrig beddau gwyn llachar unffurf, pob un yn nodi bywyd a gymerwyd yn ddidrugaredd cyn pryd. Mae’r rhan fwyaf o gyn-drigolion Mwslimaidd y dref naill ai’n farw neu wedi ymfudo. Er bod llysoedd rhyngwladol wedi cydnabod bod cyflafan Srebrenica yn hil-laddiad, mae Serbia a Serbiaid Bosnia yn dal i wadu hyn.

Dychwelodd Nedžad i Srebrenica yn 2007 ac mae’n byw yno gyda’i deulu. Un ffaith syfrdanol i bob un ohonom ar y ddirprwyaeth oedd nad oedd yr addysg yn dysgu hanes yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica. Mae Nedžad yn dweud, ‘Maent yn cael eu dysgu na ddigwyddodd yr hil-laddiad. Rydych yn gwylio’r teledu ac mae fel pe na bai’r rhyfel erioed wedi dod i ben. Rwy’n poeni am ddyfodol fy merched. Mae’r system addysg wedi cynhyrchu casineb a phropaganda newydd. Er gwaethaf popeth, rwy’n gobeithio y gallaf ddysgu fy merched i dyfu fyny heb gasineb. Dyna fydd fy llwyddiant.’

Trwy gytundebau Dayton, gyda’r Unol Daleithiau yn gyfryngwr, a ddaeth â’r rhyfel i ben, pennwyd strwythur ffederal cymhleth gyda Llywodraeth ganolog wan. I Nedžad, yr anghyfiawnder mwyaf oedd bod torri Bosnia yn ddau hanner—ffederasiwn Mwslimaidd-Groataidd a gweriniaeth Serbaidd—wedi golygu bod yr arfer o lanhau ethnig wedi cael ei gyfreithloni. Mae llawer yn gweld y lladdwyr o amgylch y dref yn rheolaidd. Mae gan rai swyddi mewn llywodraeth leol. Mae eraill yn ffigurau uwch yn yr heddlu lleol. Fis Hydref diwethaf, etholodd Srebrenica faer Serbaidd gyda hanes cenedlaetholgar eithafol nad yw’n derbyn bod cyflafanau Srebrenica yn hil-laddiad—rhywbeth sy’n ymddangos yn annirnadwy i ni.

Er bod yr hil-laddiad wedi mynd â gwŷr, meibion a brodyr, cafodd eu mamau, eu merched a’u chwiorydd eu gadael ar ôl. Unwaith y flwyddyn, mae Mamau Srebrenica, sy’n ymgyrchu i sicrhau bod pob person sy’n gyfrifol yn dod o flaen eu gwell, yn cynnal seremoni i gofio am eu hanwyliaid. Cynhelir y digwyddiad hynod o emosiynol hwn ym mynwent Potočari, lle mae rhai o’r dioddefwyr y cafodd eu cyrff eu darganfod wedi cael eu claddu. Cawsom y fraint o gyfarfod â rhai o Famau Srebrenica. Maent yn awyddus i rannu eu stori gyda phlant ifanc fel y gallant ddysgu o’r gorffennol a pharatoi hefyd ar gyfer y dyfodol. Roedd y rhai a laddodd yn credu y gallent lofruddio heb gael eu cosbi. Roeddent yn meddwl y gallent ddileu hunaniaeth eu dioddefwyr yn barhaol. Ond roeddent yn anghywir.

Tra buom ym Mosnia gwelsom hefyd y gwaith amhrisiadwy a wneir gan y Comisiwn Rhyngwladol dros Unigolion Coll. Y comisiwn a arweiniodd yr ymdrech i ddod o hyd i’r bobl a aeth ar goll yn ystod y gwrthdaro, a’u hadnabod. Yn dilyn Srebrenica, dechreuwyd gweithio ar yr hyn y credid eu bod yn bum safle claddu torfol, gyda phob un yn cynnwys nifer o feddau ar wahân lle y cafodd y meirw eu claddu a’u gadael ynghudd. Fodd bynnag, dangosodd profion fod rhannau o gyrff o’r hyn a ddaeth i gael eu galw’n feddau cynradd wedi cael eu symud i rai eilaidd, er mwyn cuddio tystiolaeth. Weithiau, roeddent wedi cael eu datgladdu a’u hail-gladdu eto mewn beddau trydyddol. Roedd dau oblygiad i hyn: yn gyntaf, fod mwy na miliwn a hanner o esgyrn a rhannau o gyrff dros 8,000 o bobl wedi’u gwasgaru ar draws safleoedd di-ri; ac yn ail, fod yr ychydig gilffyrdd yn nwyrain Bosnia wledig am wythnosau—misoedd hyd yn oed—wedi’u llenwi â lorïau’n cario gweddillion pydredig, drewllyd y bobl hyn, ac eto ni ddywedodd neb air am y peth.

Dywedodd Edin Ramulic o sefydliad o’r enw Izvor, sy’n ymgyrchu gyda pherthnasau’r unigolion coll:

Roeddent yn gyrru heibio i dai pobl ar hyd ffyrdd tawel. Am bob unigolyn coll, mae o leiaf dri o bobl yn gwybod yn union ble y cawsant eu claddu—y gyrrwr, y cloddiwr, a’r heddwas, yn ogystal â phwy bynnag a’u gwelodd yn mynd heibio—ond mae pawb yn cadw’n dawel. Tra bo’r tawelwch yn parhau, ni allwch alw hyn yn heddwch.

Drwy waith y comisiwn, rhoddwyd cyfrif am fwy na 70 y cant o’r bobl hynny. Ar ben hynny, mae’r dystiolaeth wyddonol am hunaniaeth dioddefwyr o Srebrenica wedi’i gwneud yn bosibl gosod darnau o naratif na ellir ei wadu o droseddau at ei gilydd a chyflwyno’r dystiolaeth hon mewn nifer o achosion llys yn cynnwys rhai Radovan Karadzic a Ratko Mladic.

Pan fyddwn yn cofio beth ddigwyddodd yn Srebrenica mae hefyd yn bwysig cofio’r bobl eraill a gafodd eu targedu. Dioddefwr ieuengaf Srebrenica oedd merch fach o’r enw Fatima, a aned yn safle’r Cenhedloedd Unedig yn Potočari. Dau ddiwrnod oed yn unig oedd Fatima pan gafodd ei llofruddio. Cafodd miloedd o fenywod, plant a phobl oedrannus eu halltudio drwy orfodaeth a threisiwyd nifer fawr o fenywod. Y defnydd o drais rhywiol fel arf rhyfel yw un o’r troseddau mwyaf dirdynnol a mwyaf ffyrnig yn erbyn sifiliaid. Aeth y rhyfel ym Mosnia â thrais rhywiol i lefelau newydd. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod hyd at 50,000 o fenywod a merched, rhai mor ifanc â 12 oed, wedi cael eu treisio yn rhan o gyfundrefn lanhau ethnig wedi’i threfnu. Nid ydym yn gwybod faint yn union am fod y rhan fwyaf wedi cadw’n dawel oherwydd stigma, cywilydd ac ofn.

Mae llawer o blant a aned yn sgil trais rhywiol wedi tyfu fyny’n ynysig ac wedi’u gwrthod gan gymdeithas, ac mae hyn yn rhywbeth y mae pobl yn parhau i osgoi ei drafod. Meddai Pramila Patten, cynrychiolydd arbennig y Cenhedloedd Unedig ar drais rhywiol mewn rhyfeloedd:

Mae trais rhywiol yn arf creulon sydd mor ddinistriol ag unrhyw fwled neu fom. Mae’n anrheithio dioddefwyr a’u teuluoedd. Mae’n dinistrio cymunedau, ac yn tanseilio eu cyfle i gymodi os caiff ei adael heb ei drafod. Mae hefyd wedi cael ei ddisgrifio fel y drosedd hynaf ac eto, yr un y mae lleiaf o gondemnio arni o’r cwbl.

Dioddefodd llawer o fenywod, ac yn awr gwyddom fod llawer o ddynion wedi dioddef y drosedd hon hefyd. Cafodd tua 3,000 o ddynion a bechgyn eu treisio yn ystod y rhyfel. Mae llawer o’r dioddefwyr wedi cael eu hynysu a’u gwrthod gan eu teuluoedd a’u cymunedau eu hunain.

Y mis diwethaf, mewn ymgais i hyrwyddo cymod, llofnododd arweinwyr y cymunedau Uniongred, Islamaidd, Iddewig a Chatholig ddatganiad yng nghyngor rhyng-grefyddol Bosnia yn beirniadu’r modd y caiff goroeswyr trais rhywiol sy’n gysylltiedig â gwrthdaro eu stigmateiddio. Dyma’r datganiad cyntaf o’i fath yn y byd.

Nid oedd yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica yn anochel; roedd modd ei atal. Tra bo’r goroeswyr yn galaru yn sgil colli eu hanwyliaid a thra bôm ni’n dweud ‘byth eto’, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall sut y trodd cymydog yn erbyn cymydog, sut y trodd goddefgarwch yn anoddefgarwch a sut y cafodd y pethau sy’n debyg mewn pobl eu gwrthod er mwyn dyrchafu’r gwahaniaethau. Ni fu erioed yn bwysicach i ni ddysgu gwersi Srebrenica. Mae gennym ddyletswydd i gofio’r rhai a fu farw a’r rhai a adawyd ar ôl, ond mae gennym ddyletswydd hefyd a chyfrifoldeb i weithio’n galetach nag erioed i herio ideolegau ofn a chasineb. Yn bwysicaf oll, mae’n rhaid i ni addysgu’r genhedlaeth nesaf am yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica a pheryglon peidio â mynd i’r afael â chasineb ac anoddefgarwch. Carwn annog yr Aelodau eraill i ymweld â Srebrenica, i ddarllen tystiolaeth y goroeswyr a gwneud popeth a allwn i ddod â chymunedau at ei gilydd ac i sefyll yn erbyn y rhai sy’n ceisio ein rhannu.

Ar ben hynny, carwn ofyn i arweinydd y tŷ ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gefnogi’r rhaglen addysg a lansiwyd gan Cofio Srebrenica i sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru yn deall y camau a arweiniodd at hil-laddiad. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni ddangos beth sy’n gallu digwydd os gadawn i gasineb ennill.

Ni fyddaf byth yn anghofio’r diwrnod y clywais straeon y bobl a oedd yn Srebrenica a’r rhai a gollodd eu hanwyliaid. Ni ellir bychanu eu hymroddiad a’u dewrder yn dweud wrth y byd beth a ddigwyddodd. Mae eu lleisiau mor bwerus ac mor urddasol. Bob tro y byddaf yn gwrando arnynt, rwy’n teimlo fy mod wedi fy rhwydo, yn llawn cywilydd fod y byd wedi caniatáu i hyn ddigwydd, ac wedi fy ysbrydoli i wneud rhywbeth. Mae ein tywysydd Rashad yn datgan: ‘Yn anffodus, ym Mosnia mae gennym dri hanes, a’r un mwyaf peryglus yw’r naratif y mae plant yn eu cael o’u cartref. Trwy wrando ar straeon bywyd a chofio beth a ddigwyddodd yn unig y gallwn ddeall sut y gall pobl gyfrannu at gymdeithas well.’

Dywedir wrthym y dylem ddysgu o’n camgymeriadau yn y gorffennol, ond mae’n amlwg na wnaethom. Mae arnom hynny i bobl Srebrenica. Mae’n rhaid i ni gofio Srebrenica.

Fy ymweliad â Srebrenica, mynd at y gofeb yn Potočari, cyfarfod â goroeswyr yr hil-laddiad—mae’r profiad yn sefyll allan fel un o’r pethau pwysicaf a wneuthum, yn wleidyddol ac yn bersonol. Srebrenica oedd y weithred olaf yn hil-laddiad gwaethaf Ewrop ers y rhyfel, ac wrth gofio’r dioddefwyr, rhaid i ni beidio byth ag anghofio’r 20,000 i 50,000 o fenywod a merched, Bosniaidd yn bennaf, a wynebodd weithredoedd y tu hwnt i amgyffred o drais rhywiol. Ddwy flynedd ar hugain yn ddiweddarach, maent yn parhau i fyw gyda’r golled a chyda’r cof. Rydym yn dal i fod heb wybod union nifer y dioddefwyr, ac ni fyddwn byth yn gwybod. Mae’r rhan fwyaf wedi aros yn dawel, er bod stigma, cywilydd, ofn a thrawma wedi’u claddu hefyd. Mae llawer o fenywod Bosniaidd dewr wedi torri’r distawrwydd ynglŷn â thrais rhywiol fel arf rhyfel, ac oherwydd eu dewrder, cafodd trais rhywiol ei erlyn am y tro cyntaf o dan y gyfraith droseddol ryngwladol. Yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica oedd cyflawniad mwyaf erchyll yr hyn a all ddigwydd pan adewir i gasineb fagu gwraidd a ffynnu, pan fydd pobl yn cael eu gwneud yn annynol oherwydd eu hil, eu cenedligrwydd, eu crefydd a’u rhyw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle y mae’r ddadl hon yn ei gynnig i gofio am ddigwyddiadau Srebrenica 22 mlynedd yn ôl. Hoffwn ddiolch i Jayne, ac rwy’n credu bod pob un ohonom yma heddiw yn diolch i Jayne Bryant am ddod â hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi amser i gofio’r hil-laddiad ofnadwy hwn. Fel y dywedodd Jayne, cafodd o leiaf 8,372 o Fwslimiaid Bosniaidd, yn fechgyn, dynion a henoed eu lladd gan luoedd Serbaidd mewn cyfres wedi’u trefnu’n systematig o ddienyddiadau diannod. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn mynychu’r digwyddiad coffa Cofio Srebrenica heno draw yn adeilad y Pierhead.

Rwy’n gwybod bod yr ymweliadau, o’r adborth a gawsom gan Aelodau’r Cynulliad sydd wedi mynychu’r digwyddiadau hyn ac wedi ymweld—maent wedi creu argraff annileadwy ar ein dealltwriaeth ni a chi ar y cyd, ac mae’n bwysig eich bod wedi cyflwyno hyn i ni eto heno yn y ddadl fer hon. Thema’r cofio eleni yw rhywedd a hil-laddiad, gan gofio’n arbennig am wragedd Srebrenica. Ac wrth gwrs, mae Joyce Watson wedi sôn am hynny heddiw hefyd. Ar yr agwedd hon rwyf am ganolbwyntio yn fy ymateb.

Dioddefodd teuluoedd yn enbyd o ganlyniad i’r erchylltra hwn. Prin y gallwn ddychmygu’r ofn, y trais a’r galar a ddioddefodd y menywod a’r merched Bosniaidd. Cofiwn heddiw am y miloedd a gafodd eu treisio, eu cam-drin yn rhywiol neu eu harteithio, yn aml yng ngolwg pobl eraill, ac weithiau’n cael eu gwylio gan eu plant neu eu mamau eu hunain. Cofiwn y miloedd a welodd eu meibion, eu gwŷr a’u tadau’n cael eu lladd neu eu llusgo ymaith a neb yn eu gweld wedyn. Cofiwn hefyd am y miloedd a gafodd eu diwreiddio o’u cartrefi a’u gwneud yn amddifad, ac mae Jayne wedi disgrifio’r gyflafan erchyll hon—yr arswyd a throseddau trais rhywiol yn cael eu defnyddio fel arf.

Dengys adroddiadau fod dros 50,000 o achosion o gam-drin rhywiol wedi’u cofnodi yn ystod rhyfel Bosnia rhwng 1992 a 1995. I fenywod ym Mosnia a Herzegovina mae etifeddiaeth y rhyfel yn parhau i fwrw cysgod hir. A bron i 20 mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, mae menywod yn parhau i ymladd dros gyfiawnder ond gellid dadlau eu bod eto i gael eu clywed yn llawn mewn cymdeithas Falcanaidd wrywaidd, ac rydych wedi gwneud sylwadau ar hynny. Mae’n dal i fod llawer i’w wneud yno i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a hawliau menywod, i fynd i’r afael â gwahaniaethu a thrais ar sail rhyw, cam-drin domestig, puteindra gorfodol a masnachu mewn menywod.

Mae’r rhai a ddioddefodd gam-drin rhywiol yn ystod y rhyfel, neu a brofodd gam-drin domestig yn y 20 mlynedd ers hynny, hefyd wedi bod yn agored iawn i drallod economaidd. Ar y cychwyn, dychwelodd llawer i gartrefi wedi’u difrodi neu eu dinistrio yn y rhyfel a’u gwthio i rôl enillydd cyflog heb sgiliau hanfodol neu addysg. Mae bygythiad tlodi ac amddifadedd yn berygl hollbresennol i’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig ym Mosnia heddiw. Jayne, fe wnaethoch chi a’ch cyd-Aelodau ddarparu cefnogaeth i famau Srebrenica drwy fod yno, drwy ddeall, drwy wrando a chael tyst gyda hwy i’w dioddefaint, a gwneud datganiad clir.

Mae coffáu Srebrenica yn ymwneud â phob cymuned yn dod at ei gilydd i gondemnio’r hil-laddiad a ddigwyddodd ar garreg ein drws o fewn cof, i barhau i ddysgu’r gwersi ac i ymrwymo i wneud rhywbeth yn ein cymuned eu hunain i herio casineb ac anoddefgarwch. Mae’n hanfodol nad yw’r hanesion a phrofiadau dioddefwyr a goroeswyr erchyllterau yn y gorffennol byth yn cael eu hanghofio. Rydym wedi clywed mwy heddiw am yr atgofion hynny—y straeon personol hynny. Rwy’n gwybod y bydd hynny’n bwysig iawn wrth fwrw ymlaen â’ch cais i edrych ar ffyrdd y gallwn rannu’r ddealltwriaeth honno, dysgu’r gwersi yn ein hysgolion, gyda’n pobl ifanc a chenedlaethau hŷn.

Mae’n rhaid i ni gofio, gyda thrais yn erbyn menywod yn y DU yn cynyddu, mae’n bwysicach nag erioed inni uno hanesion menywod er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed ac i ddysgu o erchyllterau a wnaed i fenywod ar draws y byd. Mae creu Cymru fwy cyfartal lle mae gan bawb gyfle i gyflawni eu potensial llawn yn nod canolog i Lywodraeth Cymru, ac mae’n hanfodol fod pob menyw yn gallu cyflawni a ffynnu. Mae menywod yn wynebu anghydraddoldeb mewn llawer o feysydd, sydd ond yn dwysáu os ydynt hefyd yn rhan o grŵp gwarchodedig arall. Yn aml, bydd menywod o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, menywod lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, menywod oedrannus neu fenywod anabl i gyd yn wynebu anfanteision lluosog a gallant ei chael hi hyd yn oed yn anos cyrraedd eu potensial llawn. Rydym yn gwbl ymroddedig i weithredu hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod.

Mae ein swyddogion wedi darparu cyfraniad i wythfed adroddiad cyfnodol y DU a fydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni ac sy’n tynnu sylw at y cynnydd a wnaethom yn hyrwyddo hawliau menywod ers 2013. Mae lleihau pob math o aflonyddu a chamdriniaeth, gan gynnwys cam-drin domestig, casineb trosedd a bwlio, cam-drin plant a cham-drin pobl hŷn, eithafiaeth a chaethwasiaeth fodern yn nod allweddol yng nghynllun cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016 i 2020. Rydym yn gweld cynnydd sylweddol, gan gynnwys drwy Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ein fframwaith ar gyfer mynd i’r afael â throseddau a digwyddiadau casineb, ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’n rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant—nid yn unig y ddeddfwriaeth nodedig hon, y Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond canolbwyntio ar ffyrdd o atal trais lle bynnag y bo modd a darparu cymorth effeithiol i ddioddefwyr. Rydym yn gwneud cynnydd o ran cyflawni mesurau’r Ddeddf ac wedi ymrwymo £4.9 miliwn i’r gwaith hwn.

Yr allwedd—ac rydym yn deall hyn, ac mae’n dod yn amlwg o ddifrif heddiw o ganlyniad i’ch dadl, Jayne—yw newid agweddau fel nad yw ymddygiad treisgar yn dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau, yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Ni chaiff ei oddef yn ein cymdeithas. Rydym yn hyderus y bydd ein deddfwriaeth a gwaith ehangach yn helpu i ddatblygu diwylliant sy’n herio ymddygiad camdriniol i greu Cymru, a byd, lle mae gan bawb hawl i fyw yn rhydd o ofn.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i ni fod yn wydn yn wyneb eithafiaeth, sy’n lledaenu casineb ac ofn, a chryfhau ein penderfyniad i ddod yn gryfach gyda’n gilydd pan gawn ein profi gan droseddau casineb, gan ymdrechu i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol lle y caiff pobl o bob hil, ffydd a lliw eu gwerthfawrogi am eu cymeriad ac am eu gweithredoedd. Mae hynny’n golygu dod â phobl at ei gilydd, gan chwalu rhaniadau i greu cymunedau â chysylltiadau da. Mae’n golygu meithrin goddefgarwch a chysylltiadau da rhwng pobl. Yn y gwaith hwn, gallwn gael ein hysbrydoli gan oroeswyr Srebrenica, a menywod, dynion a phlant sydd wedi cael nerth i ddioddef eu profiadau erchyll, a dewrder i ddod o hyd i ffyrdd i ailadeiladu eu bywydau a’u cymunedau. Ni ddylem byth anghofio’r hil-laddiad yn Srebrenica. Mae Jayne wedi ein hatgoffa ohono eto heddiw, ac wrth gwrs, i ddilyn yn adeilad y Pierhead heno, mae’n rhaid i ni barhau i ddysgu gwersi a pharhau i weithio er mwyn rhoi diwedd ar drais rhywiol yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:51.