Y Cyfarfod Llawn

Plenary

06/10/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Symudwn yn syth ymlaen at eitem 1, cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Andrew Griffin.

Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghefn Gwlad Cymru

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru? OQ64619

13:35
Swyddfeydd Rhyngwladol

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru? OQ64621

13:40
13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Helen Jenner.

13:50
13:55
14:00
Y Cynnig Gofal Plant

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ei chynnig gofal plant yn hyblyg ac yn diwallu anghenion rhieni? OQ64647

14:05
Chwaraeon Proffesiynol

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith chwaraeon proffesiynol ar economi Cymru? OQ64617

14:10
14:15
Gofal y GIG

5. Pa gynnydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ran gwella mynediad amserol at ofal y GIG? OQ64675

Tlodi

6. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yn nhymor y Senedd hon? OQ64674

14:20
Capasiti Presgripsiynu Cymdeithasol

7. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi capasiti presgripsiynu cymdeithasol yn Afan Ogwr Rhondda? OQ64651

Mae'r Llywodraeth yma wedi ymrwymo i gefnogi presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru, yn gynnwys yn Afan Ogwr Rhondda. Mae hynny'n golygu helpu pobl i wella eu hiechyd a'u lles drwy gymorth yn y gymuned a thrwy ganolbwyntio ar atal. Mor ddiweddar â bore ddoe, mi wnaeth y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans, ymweld â phrosiect rhagorol presgripsiynu cymdeithasol sy'n seiliedig ar natur, sef Grow Well, a hynny yn Dusty Forge yn Nhrelái yma yng Nghaerdydd. Rydyn ni'n buddsoddi mewn gwerthusiad annibynnol i asesu'r canlyniadau i unigolion, cymunedau a gwasanaethau rheng flaen, ac i drio deall yn well sut y gall presgripsiynu cymdeithasol wella lles a chefnogi gwasanaethau cynaliadwy.

Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog. Er mwyn i bresgripsiynu cymdeithasol fod yn effeithiol, nid yn unig mae angen y gallu i wneud atgyfeiriadau arnom, ond mae hefyd angen rhwydwaith cryf a chynaliadwy o sefydliadau cymunedol sydd â'r adnoddau i allu eu derbyn. Yn ddiweddar, cwrddais â Kate o Gymdeithas Gymunedol Gilfach Goch, sy'n darparu ystod eang o gymorth i dros 1,500 o drigolion lleol, gyda'r galw yn parhau i gynyddu.

Sefydliadau fel hyn yw'r union leoedd y mae pobl yn cael eu hatgyfeirio iddynt, ond un o'r pryderon rwy'n eu clywed dro ar ôl tro yw y gall ffrydiau cyllidol ogwyddo'n sylweddol tuag at gyllid cyfalaf, gyda llawer llai o hyblygrwydd o ran y cyllid refeniw sydd ei angen i dalu staff, talu costau gweithredol a chadw gwasanaethau i fynd. Ychydig o ddefnydd sydd i adeilad os nad oes pobl ac adnoddau i gadw drysau ar agor a darparu'r gwasanaeth ynddo.

Felly, a all y Llywodraeth ystyried sut y gellid ymgorffori mwy o hyblygrwydd rhwng cyllid cyfalaf a refeniw mewn rhaglenni grant yn y dyfodol, fel bod gan sefydliadau fel Cymdeithas Gymunedol Gilfach Goch y gallu a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen arnynt i ddiwallu'r galw cynyddol, ac fel bod presgripsiynu—lot o eiriau mawr heddiw—cymdeithasol yn arwain at barhad cymorth sy'n sail i agenda ataliol y Llywodraeth hon? Diolch.

Diolch. Mae hi'n dda clywed am waith y ganolfan yn Gilfach Goch. Dwi’n cytuno bod presgripsiynu cymdeithasol effeithiol yn dibynnu ar sefydliadau cymunedol cryf a chynaliadwy sydd â chapasiti i ateb galw sydd yn cynyddu o hyd. Mae'r sector wirfoddol yn allweddol i'r model Cymreig yna. Dwi’n sicr yn cydnabod bod y pwysau yna o gwmpas cyllidebu tymor byr a diffyg hyblygrwydd weithiau o ran arian staffio ac arian rhedeg yn gallu creu problemau.

Mi fyddwn ni'n parhau fel Llywodraeth i weithio efo partneriaid ac i ystyried sut y gall newidiadau, o bosib, i drefniadau cyllido yn y dyfodol gefnogi yn well y capasiti a sefydlogrwydd sydd gan sefydliadau er mwyn iddyn nhw allu delifro ein hagenda ataliol ni. Achos nid y Llywodraeth yn gwneud hynny ydy'r stori gyfan; y stori ydy bod y Llywodraeth yn gosod y tôn, ac mae angen partneriaid arnom i wneud y gwaith ataliol ar lawr gwlad. 

Mynediad at Addysg

8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud ynghylch a yw'r fframwaith teithio presennol i ddysgwyr yn darparu mynediad teg at addysg ledled Cymru? OQ64650

14:25
Camdriniaeth yn ystod Plentyndod

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi goroeswyr camdriniaeth yn ystod plentyndod sy'n profi trawma pellach wrth geisio cael mynediad at gofnodion gwaith cymdeithasol, iechyd neu'r heddlu hanesyddol? OQ64653

I lawer o oroeswyr, mae cael mynediad at gofnodion hanesyddol yn bwysig er mwyn deall eu plentyndod, ond mae'r broses yn gallu peri gofid mawr. Rydyn ni'n gwybod hynny. Rydyn ni'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i fabwysiadu dulliau mwy ystyriol o drawma, fel bod pobl yn cael eu trin efo urddas, tosturi a sensitifrwydd. Mae'r gwaith yma yn cael ei ategu gan ein fframwaith Cymru sy'n ystyriol o drawma a'n strategaeth ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Mae'r ddau yn cydnabod effaith gydol oes cam-drin ac yn rhoi lle canolog i leisiau goroeswyr wrth wella gwasanaethau.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad

Symudwn nawr at gwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad. Cwestiwn 1, Donna Cushing.

Y Comisiwn Cenedlaethol Arfaethedig i Gymru

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar y Comisiwn Cenedlaethol arfaethedig i Gymru? OQ64628

14:30
Undebau Llafur

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith perthynas Llywodraeth Cymru ag undebau llafur ar effeithiolrwydd y Llywodraeth? OQ64620

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, Llefarydd Reform UK, Iain McIntosh.

14:35
14:40

Diolch, Lywydd. Mae yna lot o sylwadau wedi cael eu gwneud dros yr wythnosau diwethaf am faterion cyfansoddiadol. Dwi eisiau ffocysu ar beth sydd yn bwysig i bobl Cymru, a dyna pam dwi am holi cwestiynau ar y rhaglen lywodraethu.

14:45
Gwneud Penderfyniadau gan y Llywodraeth a'r Sector Cyhoeddus

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r modd y gall ystadegau gefnogi o ran gwneud penderfyniadau mwy effeithiol gan y llywodraeth a'r sector cyhoeddus ledled Cymru? OQ64626

14:50
Caffael Lleol

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidog y Cabinet dros Gyllid ynglŷn â chyflawni blaenoriaeth y Llywodraeth o weithio i wella lefelau caffael lleol? OQ64638

14:55

Diolch yn fawr iawn. Mae cwestiynau 5 a 9 wedi'u grwpio. Cwestiwn 5, Andrew R.T. Davies.

Cyflawni Polisïau'r Llywodraeth

5. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gwella'r ffordd y mae polisïau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni? OQ64633

9. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod y Llywodraeth yn gallu cyflawni ei blaenoriaethau i bobl Cymru? OQ64613

Diolch, Weinidog Cabinet. O ofal plant i gyfraddau busnes a chymorth efo costau byw, mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r problemau sy'n effeithio ar bobl hyd a lled Cymru. Dwi'n falch o'n gweld ni'n cydweithio ar draws gwahanol bortffolios a lleihau'r gweithio sy'n cymryd lle mewn seilos llywodraethol—rhywbeth dŷn ni wedi'i eisiau ers blynyddoedd maith.

Nawr, fel y nodwyd ar ôl y 100 diwrnod, mae'r Llywodraeth yn buddsoddi £100 miliwn i daclo rhestrau aros y GIG. Mae'n hynod o bwysig i bobl ar draws Cymru, ac, wrth gwrs, yng Ngŵyr Abertawe, fod y Llywodraeth yn llwyddo i fynd i'r afael â'r broblem fawr hon, sydd wedi wynebu Cymru ers llawer rhy hir. Sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod buddsoddiadau fel hyn yn darparu'r budd mwyaf effeithiol, ac, yn fwy pwysig, parhaol, wrth gyflwyno'r rhaglen lywodraethu? Diolch yn fawr.

15:00

Wel, diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn, a dwi'n gwybod bod yntau wedi gwasanaethu'r NHS am flynyddoedd lawer, ac yn effeithiol iawn, yn Abertawe. Mae yna graidd i'r cwestiynau yma, onid oes, sef, gyda'r buddsoddiad ychwanegol mae'r Llywodraeth yma yn ei roi yng ngofal plant, yn y gwasanaeth iechyd, yn yr economi, mae angen canlyniadau i bobl. Ac felly, mae angen edrych yn fanwl iawn, fel mae'n cyfaill y Gweinidog Cabinet dros iechyd wedi'i wneud, ar beth yn union yw'r cynlluniau. Ydyn nhw'n gynlluniau sy'n mynd i ddelifro i'r tymor hir? Ydyn nhw'n sicrhau bod yna gydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal trwy awdurdodau lleol i sicrhau bod y pecyn gofal yn gyflawn, i sicrhau bod rhai o'r heriau sydd yn y system yn cael eu hannerch? Ydyn nhw'n edrych, fel y gwnaeth fy nghydweithwraig gynnau fach gyfeirio atyn nhw, i'r hirdymor gyda'r gweithlu? Mae'r holl faterion yna'n gorfod dod at ei gilydd, a gofyn y cwestiwn bob tro: ydy'r arian yma yn mynd i wneud newid go iawn yn yr hirdymor, nid jest am y tymor byr? Diolch yn fawr.

Diolch. Cyn symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf—

Cwestiwn 6. Elfed Williams.

Deddf Cymru Newydd

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r angen am Ddeddf Cymru newydd i sicrhau pwerau sy'n gyfartal â'r Alban? OQ64630

Ein hasesiad ni yw y dylai Cymru gael y pwerau sydd eu hangen i gyflawni dros bobl Cymru, gwella gwasanaethau a chryfhau atebolrwydd. Rŷn ni yn pwyso am setliad tecach i Gymru. Byddai Bil Cymru newydd yn darparu'r ffordd gliriaf a mwyaf effeithiol o wneud y newidiadau y cytunir arnynt.

Diolch am yr ymateb. Mae'r setliad datganoli presennol yng Nghymru yn ein gadael ni'n fyr o nifer o'r pwerau a'r hyblygrwydd sydd eu hangen arnom fel cenedl i lunio a gweithredu polisïau trawsadrannol, cydlynol er lles ein cymunedau. Roeddwn i'n falch iawn o glywed Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi'r wythnos diwethaf ei fod wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ffurfiol i geisio sicrhau bargen newydd i Gymru, bargen fyddai'n trosglwyddo nifer o'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i'r Alban, megis plismona, cyfiawnder, Ystad y Goron, rheilffyrdd, lles a thegwch ariannol. Mae nifer o gomisiynau annibynnol dros y blynyddoedd, gan gynnwys comisiwn Silk a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, wedi dod i'r casgliad bod angen cryfhau datganoli a rhoi mwy o bwerau yn nwylo'r Senedd er mwyn galluogi Cymru i fynd i'r afael yn fwy effeithiol â'u heriau ei hun. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Gweinidog Cabinet ymrwymo i barhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig? O'r diwedd—

Diolch yn fawr. Dwi'n credu bod yr Aelod yn gofyn i fi ymrwymo i bwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau cynnydd. Dwi'n gwneud yr ymrwymiad hwnnw yn glir ac yn hapus. Dwi'n credu ei bod hi'n werth adrodd wrth y Senedd fod fy nghyfarfodydd cychwynnol i gyda Gweinidogion Cabinet o Lywodraeth Prydain wedi bod yn adeiladol ac yn gydweithredol. Wrth gwrs, wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaen, fe ddown ni i mewn i'r manylion. Ond dwi yn awyddus i bwysleisio bod yr ymateb sydd wedi dod hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol, ac felly dwi'n gobeithio y bydd hynny yn sail i gynnydd pellach.

Datganoli Gwneud Penderfyniadau

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatganoli gwneud penderfyniadau o fewn Cymru? OQ64636

15:05
Y Rhaglen Lywodraethu

8. Sut mae’r Llywodraeth yn mynd ati i sicrhau cydweithio traws-portffolio i gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu? OQ64627

Mae'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru yn galw am ymateb ar draws y Llywodraeth gyfan. Dyna pam mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi uchelgais newydd i Gymru, wedi'i seilio ar flaenoriaethau a rennir yn hytrach nag ar seilos adrannol. Dwi'n gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr reit ar draws y Cabinet i sicrhau bod y Llywodraeth yn cydweithio ar draws portffolios er mwyn sicrhau canlyniadau ystyrlon i bobl ledled Cymru.

Diolch, Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o arwain dadl yn y Siambr hon am yr angen i integreiddio'r gwaith o atal ACEs, neu adverse childhood experiences, ac ymateb iddynt ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw profiad plentyn neu berson o drawma yn parchu ffiniau adrannol. Gall tai, addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a chyflogaeth oll chwarae rhan mewn creu amodau ble mae plant a theuluoedd yn adfer o drawma ac yn ffynnu. A wnewch chi felly amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn helpu i sicrhau bod trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ACEs, yn cael sylw ar draws y Llywodraeth, yn hytrach nag fel mater i adrannau unigol?

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn, a dwi'n talu teyrnged i'r gwaith mae hi wedi'i wneud, ac eraill yn y Siambr hon, ar sail drawsbleidiol, i ddatblygu ein dealltwriaeth ni o'r effaith mae trawma yn ei gael ar blant ac, yn wir, ar y sawl sy'n oedolion sydd wedi profi trawma yn blant. Trwy fframwaith Cymru sy'n ystyriol o drawma, cefnogaeth Hyb ACE Cymru a chydweithio agos ar draws portffolios gweinidogol, rŷm ni'n ymgorffori dulliau sy'n ystyriol o adverse childhood experiences a thrawma ar draws datblygu polisïau a darparu gwasanaethau.

Mae atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymateb yn effeithiol i drawma yn gyfrifoldeb a rennir ar draws y Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n ddull gweithredu wedi ei gynllunio i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gydlynu, yn hytrach na'i adael i adrannau a sefydliadau unigol i weithredu ar eu pennau eu hunain. Dyna'n huchelgais, Lywydd. Fy ngobaith i fel rhan o fy rôl i yw sicrhau bod hynny'n digwydd. Mae'r uchelgais honno, sydd wedi'i rhannu gan Lywodraethau yn y gorffennol, heb o reidrwydd bob tro wedi cael ei gweithredu ar lawr gwlad, a dyna fyddwn i'n dymuno canolbwyntio arno.

Mae cwestiwn 9 wedi ei grwpio gyda cwestiwn 5. Cwestiwn 10 [OQ64637] tynnwyd yn ôl. Felly, cwestiwn 11, Steven Rodaway. 

Datganoli Plismona

11. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidog Plismona y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â datganoli plismona? OQ64634

15:10
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

12. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus? OQ64623

Mae’r rhaglen lywodraethu a'n hamcanion llesiant yn un fframwaith gweithredu sy’n cysylltu'r blaenoriaethau mae pobl wedi ymddiried ynom i’w cyflawni a’r canlyniadau hirdymor yn y Ddeddf rydym am eu cyflawni. Dwi hefyd wedi cytuno i adolygiad o'r Ddeddf, gan ganolbwyntio ar wella’r ffordd mae’r Ddeddf yn cael ei gweithredu.

Weinidog, mae diwylliant wedi wynebu degawd o doriadau cyllid. Nid yw toriadau i gyllid yn effeithio ar y sector celfyddydol yn unig. Maent hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar lesiant a bywiogrwydd cymunedau a chymdeithas Cymru. Os ydym am fod o ddifrif ynghylch Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rhaid neilltuo a diogelu cyllid ataliol i gefnogi'r celfyddydau. Mae diwylliant yn cyfrannu'n uniongyrchol at lesiant unigolion ac at fywiogrwydd ein cymunedau ledled Cymru. Felly, sut y bydd y Gweinidog yn gweithio ar draws portffolios i sicrhau bod diwylliant yn cael ei gydnabod fel rhan annatod o iechyd ataliol ar draws y Llywodraeth?

Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Mae yna ymrwymiad clir gan y Llywodraeth yma i hybu diwylliant a chwaraeon. Mae yna strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd dan ofal y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon a'r Trefnydd. Mae yna ffocws clir gan y Llywodraeth hon ar hybu a hyrwyddo chwaraeon a diwylliant, ond hefyd cydnabod, fel rŷch chi wedi nodi, y rôl bwysig mae diwylliant a chwaraeon yn gallu ei chael ar draws ystod polisi cyhoeddus, gan gynnwys yr agenda iechyd ataliol, sy'n bwysig iawn i'r Llywodraeth hon. Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn ymlaen i eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i holl Aelodau'n electronig.

15:15

Mae yna gwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yfory, felly fe fyddai'n briodol i chi fod yn codi'r rhain yn ystod y sesiwn honno. Os na fydd yna gyfle, mi fuaswn i'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu gyda'ch holl gwestiynau at y Gweinidog yn uniongyrchol.

Diolch i chi am godi'r materion hynny. Mi fyddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn gyfan gwbl ddiamwys o ran ymroddiad y Llywodraeth hon i fod yn edrych a dysgu'r gwersi angenrheidiol o hynny. Mi fyddwch chi'n gwybod hefyd trefn busnes y Senedd hon. Gyda'r pryderon rydych chi'n eu codi, mi fuaswn yn awgrymu mai ysgrifennu at y Prif Weinidog fyddai orau, gan fod yna bethau penodol iawn rydych chi wedi'u codi. Rwy'n credu, o edrych ar y rhaglen fusnes, ei bod hi'n bosibl na fydd lle am nifer o wythnosau am ddatganiad o'r fath, ac mae'r hyn rydych chi wedi'i godi yn awgrymu bod angen ateb arnoch yn gynt na hynny. Yn amlwg, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i ddiweddaru'r Senedd hon ac i ymwneud â phob Aelod ar y mater hollbwysig hwn.

Diolch i'r Aelod am godi mater rwy'n gwybod sy'n pryderu nifer fawr o Aelodau yn sgil y newyddion hwn, ac rwy'n gwybod bod y Llywodraeth mewn trafodaethau â'r cwmni i ddeall beth ydy goblygiadau hyn. Dwi'n deall hefyd fod yna gwestiwn amserol ar y pwnc hwn a fydd yn fater, wrth gwrs, i'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ei ystyried. Yn sicr, rydyn ni'n siomedig dros ben o glywed y newyddion hwn. Dwi'n gwybod y bydd hyn yn creu pryder aruthrol yn lleol ac i'r rheini sydd yn wynebu ansicrwydd, ynghyd â'r gymuned ehangach. Felly, rwy'n rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod fod y trafodaethau hynny â'r Llywodraeth yn parhau, ac yn sicr mi fyddaf yn sicrhau bod y Gweinidog Cabinet yn gwybod eich bod chi wedi codi'r mater pwysig hwn gyda mi heddiw.

15:20

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Dwi'n gobeithio eich bod chi hefyd wedi cymryd y cyfle i ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. Mae yna gwestiynau i'r Gweinidog yfory yma yn y Senedd, a gobeithio y bydd yna gyfle i godi'r materion pwysig hyn. Yn sicr, gadewch i fi fod yn glir, mae diogelwch cleifion yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr i'r Llywodraeth hon. Rydyn ni'n disgwyl i bob bwrdd iechyd gael trefniadau atal a rheoli heintiau cadarn ar waith i atal, adnabod a rheoli achosion yn effeithiol. Mi fyddaf i hefyd yn sicrhau bod y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol eich bod chi wedi codi'r mater hwn efo fi heddiw.

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod. Dwi'n falch eich bod chi'n cytuno efo fi bod angen strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd i Gymru, a fydd yn cynnwys ffocws ar yr economi a thwristiaeth. Byddwn i'n annog pob Aelod i ymwneud â'r ymgynghoriad hwnnw, sydd ar agor tan 18 Rhagfyr. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn sylwadau Mike Hedges ac i'w hystyried nhw'n fanwl wrth inni ddatblygu a llunio'r strategaeth honno.

Dwi'n gobeithio bod yr Aelod wedi clywed y Prif Weinidog yn gyfan gwbl ddiamwys yn gynharach o ran ein bod ni'n condemnio'n llwyr unrhyw wrthsemitiaeth. Dwi'n gobeithio ein bod ni'n unedig fel Senedd ar hynny. 

Hefyd, mae'r Dirprwy Brif Weinidog, yn ei gwaith fel y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, wedi bod yn edrych ar y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' i sicrhau ei fod o'n addas i bwrpas, gan adlewyrchu'r hyn rydyn ni wedi'i weld o ran twf mewn casineb o bob math, gan gynnwys gwrthsemitiaeth. Mi fyddaf i'n sicr o godi efo hi'r pwyntiau rydych chi wedi'u codi efo fi heddiw.

O ran y pwynt cyntaf, yn amlwg, mae isadeiledd digidol yn allweddol bwysig; mae'n allweddol bwysig i'n heconomi. Dwi'n gwybod bod hwn yn rhywbeth mae'r Gweinidog Cabinet yn ei gymryd o ddifrif. Mi fyddaf i'n codi'r pwyntiau penodol y gwnaethoch chi ac yn sicrhau bod diweddariad o ran y gwaith hwnnw.

15:25

Na, fydd yna ddim datganiad ar y mater hwn. Fel mae'r Aelod wedi nodi, mae hwn yn fater sydd ddim wedi ei ddatganoli. Ond gaf i fod yn glir, fel oeddwn i yn fy ymateb i i Darren Millar rŵan? Mae'r Llywodraeth hon yn condemnio unrhyw fath o hiliaeth, unrhyw fath o roi'r syniad nad yw rhywun yn haeddu gallu byw eu bywydau yn unol â'r ffordd y maen nhw'n cael yr hawl i fyw eu bywydau. Mae hiliaeth yn rhywbeth sydd yn broblem fawr o fewn cymdeithas ar y funud. Mae hwn yn rhywbeth mae etholwyr yn ei ddweud wrthym ni yn gyson. Mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonon ni yn y Siambr hon i sicrhau ein bod ni yn cefnogi pawb rydyn ni'n eu cynrychioli, pob aelod o gymdeithas, a sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel, a'n bod ni i gyd yn cydweithio i sicrhau nad yw hiliaeth yn parhau yma yng Nghymru. Does dim lle i hiliaeth yng Nghymru.

Diolch i'r Aelod am godi mater dwi'n siŵr mae nifer o etholwyr wedi ei godi gyda ni. Dwi'n gwybod ei fod o'n fater yn sydd wedi ei godi gyda fi drwy waith achos. Fe fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud bod gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal gwestiynau yfory, felly mae yna gyfle i godi hyn bryd hynny. Byddwn i hefyd yn gofyn i'r Aelod, os nad ydy hi eisoes wedi, ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet i sicrhau ei bod hi'n cael ateb llawn ar y mater hwn.

Diolch i'r Aelod am godi'r materion hyn. Fel y byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud, mae gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal gwestiynau yfory, ond hefyd, oherwydd natur y pryderon rydych chi wedi eu codi a bod yna enghreifftiau penodol, mi fyddwn i yn gofyn i chi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet a chodi'r pryderon pendant hyn. Yn amlwg, dydych chi ddim wedi datgelu'r holl wybodaeth fan hyn—ni fyddai'n briodol. Ond oherwydd natur yr hyn rydych chi wedi ei godi, mae'n hollbwysig ei fod o'n cael y manylion hyn. Fe fyddwch chi yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar y lefel uchaf o sgrwtini, a'n bod ni yn gweithio'n galed i sicrhau bod goruchwyliaeth a chraffu gan Lywodraeth Cymru yna er mwyn targedu gwelliannau angenrheidiol mewn gofal cleifion a darparu gwasanaethau. Felly, mae sicrhau bod gan y Gweinidog Cabinet yr wybodaeth honno yn allweddol bwysig.

15:30

Diolch i'r Aelod am godi'r mater yma. Yn amlwg, fe fyddwch chi yn gwybod am ymrwymiad Plaid Cymru o ran yr hyn dŷch chi wedi'i amlinellu. Mae'r Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb dros hyn wedi clywed yr hyn dŷch chi wedi ei godi heddiw.

Mae dileu elw o'r sector gofal yn fater y buom yn ei ddatblygu yn ystod y cytundeb cydweithio hefyd, ac mae'r ddeddfwriaeth honno bellach yn ei lle ac yn symud tuag at weithredu yn ystod y tymor seneddol hwn. Bu i'r Llywodraeth flaenorol lofnodi'r datganiad yn 2025. Fel Llywodraeth newydd, dŷn ni yn cefnogi'r egwyddor o greu system gofal sy'n canolbwyntio'n fwy ar deuluoedd, wedi'i seilio ar hawliau, sy'n trauma informed, wedi'i gwreiddio'n lleol ac sy'n uchelgeisiol ar gyfer yr holl blant, wrth ddod i ben â gwneud elw o ofal plant a sicrhau nad ydy unrhyw berson ifanc yn gadael gofal i ddigartrefedd hefyd. Dwi'n gobeithio'n fawr, achos y ffaith eich bod chi wedi clywed hyn, Ddirprwy Weinidog, y bydd yna gyfle i chithau a'r Aelod drafod hyn ymhellach.

Diolch i'r Aelod am godi'r materion hyn. Mae yna ymrwymiad clir gan y Llywodraeth hon o ran ein bod ni'n datblygu strategaeth ynni genedlaethol sydd yn mynd i'r afael â'r heriau hyn ac sy'n cynnwys cymunedau yn lle gwneud pethau i gymunedau, sef un o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi. Mi fydd yna ddiweddariad i'r Senedd wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

Weinidog, a gaf i groesawu yn y lle cyntaf yn fawr iawn gyhoeddiad Llywodraeth Plaid Cymru yr wythnos diwethaf ynghylch y £3.4 miliwn ychwanegol i fwrdd iechyd Powys i helpu i leihau amseroedd aros? Fe fydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth i gleifion ym Mhowys, lle mae nifer fawr yn dibynnu ar gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd ar draws y ffin yn Lloegr. O ystyried y rôl hanfodol y mae gofal iechyd trawsffiniol yn ei chwarae i bobl ym Mhowys ac ar hyd Clawdd Offa, a oes modd cael sylw ar hyn, os gwelwch yn dda?

Diolch am godi'r mater hwn. Rwy'n falch eich bod chi yn croesawu'r buddsoddiad pwysig hwnnw. Yn sicr, mae hwn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal eisoes wedi ymrwymo iddo fo. Dŷn ni eisiau sicrhau ein bod ni yn parhau i sicrhau gwasanaeth iechyd sy'n gweithio i bawb, ble bynnag y maen nhw yng Nghymru. Yn sicr, mi fyddaf yn codi efo'r Gweinidog Cabinet y pwyntiau dŷch chi wedi'u codi heddiw.

15:35

Diolch i’r Aelod am godi materion a gafodd gryn sylw, wrth gwrs, pan wnaeth y Prif Weinidog ddatganiad ar y pwnc hwn rai wythnosau yn ôl, a gwneud yr union bwyntiau hynny o ran datrysiadau o ran natur a rôl ffermwyr hefyd o ran hyn. Ac yn sicr, mae hon yn drafodaeth sydd wrth wraidd nifer o drafodaethau trawsweinidogol y Llywodraeth hon.

I ni fod yn glir, y Prif Weinidog sy’n arwain o ran gwydnwch, ac wedyn mae Gweinidogion unigol, megis y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, yn amlwg yn cymryd rhan o ran llifogydd ac ati, ac o ran polisïau cefn gwlad a ffermwyr. Felly, mae’r cydweithio hwnnw yn bwysig.

Mi oedd yna ddatganiad. Mi godwyd hyn adeg hynny wrth i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo. Wrth gwrs, bydd yna fwy o gyfleoedd i Aelodau gael craffu, holi cwestiynau a mewnbynnu i’r gwaith hwnnw.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: Blaenoriaethau Strategol ar gyfer Croesfannau'r Fenai a'r M4 o amgylch Casnewydd

Nesaf, datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: blaenoriaethau strategol ar gyfer croesfannau'r Fenai a'r M4 o amgylch Casnewydd. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper. 

Dirprwy Lywydd, heddiw hoffwn nodi’r camau nesaf ar gyfer croesfannau'r Fenai a’r M4 o amgylch Casnewydd. Rydym wedi cytuno ar y ffordd ymlaen.

Ddirprwy Lywydd, rydym yn gweithredu nawr. Rydym yn cyflawni gwelliannau dros y bum mlynedd nesaf ac yn datblygu atebion ar gyfer ein dyfodol. Diolch yn fawr.

15:45
15:50
15:55
16:00
16:05
16:10

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am ei holl waith yn y misoedd diwethaf i roi cynllun ac ymrwymiad ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn ôl ar y bwrdd. Dwi'n gwybod bod y newyddion yma yn cael ei groesawu ar draws cymunedau cyfagos i'r bont a thu hwnt. Mae'r cymunedau hynny wedi gorfod wynebu blynyddoedd o darfu ac mae ein heconomi leol wedi dioddef o ganlyniad i dagfeydd sylweddol. Wrth gwrs, mae pawb yn derbyn nad dros nos mae gwireddu prosiect mor sylweddol a chymhleth â hyn, felly dwi'n croesawu'r mesurau tymor byr mae'r Gweinidog wedi'u crybwyll i helpu lleddfu'r tagfeydd yn y cyfamser. A all y Dirprwy Weinidog rannu mwy o wybodaeth ar y camau nesaf y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i ddatblygu cynllun a'r achos busnes, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i'n cymunedau sy'n cael eu heffeithio'n rhy aml gan broblemau gwydnwch croesfannau'r Fenai? Diolch.

16:15
16:20
16:25
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel

Symudwn ymlaen i eitem 5, datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, diogelu cryfach ar gyfer Cymru fwy diogel. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diogelu yw un o gyfrifoldebau sylfaenol pwysicaf unrhyw lywodraeth. Mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gan bob plentyn, pob person ifanc a phob oedolyn sy’n wynebu risg yr hawl i fyw eu bywydau'n ddiogel rhag camdriniaeth, esgeulustod, camfanteisio neu niwed. Dyna pam mae diogelu yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, a dyna pam mae cryfhau trefniadau diogelu yn ganolog i'n rhaglen lywodraethu.

Heddiw, dwi'n cyhoeddi 'Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel', sef rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon i wella trefniadau diogelu ar draws y system gyfan. Mae'r rhaglen yn dwyn ynghyd ein gwaith i gryfhau trefniadau diogelu ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg, a hynny o dan un fframwaith gwella. Mae'n cydnabod, er y gall cyfrifoldebau diogelu fod yn wahanol ar draws gwasanaethau a sectorau, fod yn rhaid i arweinyddiaeth effeithiol, gwybodaeth, atebolrwydd, dysgu a phrofiad bywyd fod yn ganolog i'r system ddiogelu gyfan.

Yn ddiweddar, mae adolygiadau diogelu, arolygiadau, ymchwiliadau ac adolygiadau ymarfer wedi dangos cryfderau ein trefniadau diogelu, yn ogystal â'r canlyniadau difrifol pan fydd y trefniadau hynny'n methu. Ar yr un pryd, mae'r risgiau y mae pobl yn eu hwynebu yn dal i esblygu. Mae mathau newydd o gamfanteisio yn dod i'r amlwg. Mae disgwyliadau'r cyhoedd yn cynyddu, a hynny’n briodol. Rhaid i'r systemau sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn pobl barhau i addasu a gwella.

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a minnau wedi derbyn argymhellion cam 1 yr adolygiad. Mae’r cyfle sydd o'n blaenau yn fwy na gweithredu argymhellion unigol, wrth gwrs, mae'n gyfle i gryfhau'r system ddiogelu yn ei chyfanrwydd a sicrhau ei bod yn addas i ymateb i risgiau heddiw ac i heriau'r dyfodol. Mae’r rhaglen diogelu cryfach ar gyfer Cymru fwy diogel wedi'i chynllunio i gyflawni hynny. Mae’n dod â'n hymrwymiadau ni, y gwersi a ddysgwyd a chanfyddiadau’r adolygiad i gyd at ei gilydd mewn un rhaglen i ddiwygio'r maes diogelu. Mae ei phwrpas yn glir, fel dwi wedi'i ddweud: cryfhau arweinyddiaeth, gwneud y system yn fwy cydlynol, hybu effeithiolrwydd diogelu, a sicrhau—ac mae hyn yn ganolog, Ddirprwy Lywydd—fod lleisiau plant, pobl ifanc, oedolion sy’n wynebu risg, dioddefwyr a goroeswyr yn siapio'r gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i'w hamddiffyn.

Mae'r rhaglen wedi'i llunio o amgylch pedwar uchelgais: arweinyddiaeth ac atebolrwydd cryfach o ran diogelu; trefniadau diogelu clir a chyson ledled Cymru; system sy’n dysgu ac yn gwella; a gwrando ar blant ac oedolion a gweithredu’n gynharach. Bydd yr uchelgeisiau hyn yn cael eu cyflawni drwy raglen o weithgarwch fesul cam ar draws tymor y Senedd hon. Gyda'i gilydd, fe fyddan nhw’n creu'r sylfeini ar gyfer gwella'r system yn y tymor hir.

O'u hystyried gyda'i gilydd, mae'r datblygiadau hyn yn adlewyrchu dull system gyfan o wella diogelu. Fe fyddan nhw'n helpu Cymru i symud tuag at system ddiogelu sy'n rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol, yn ataliol yn hytrach nag ymatebol, ac sy'n cael ei llywio gan wybodaeth, dysgu ac atebolrwydd. Un o'r negeseuon cliriaf sy'n deillio o adolygiadau, arolygiadau a phrofiad bywyd yw bod yn rhaid i wersi sbarduno newid. Yn rhy aml, mae gwersi o adolygiadau, ymarfer, arolygiadau a data yn parhau i fod wedi'u gwasgaru ar draws sefydliadau a sectorau.

Bydd yr hwb gwybodaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol yn cryfhau dull sy'n dysgu o bob achos. Ein nod fydd sicrhau bod y gwersi hyn yn cael eu troi’n gamau gweithredu, bod partneriaid diogelu yn cael eu cefnogi i ymateb yn effeithiol i risgiau sy'n dod i'r amlwg a bod pobl ledled Cymru yn cael eu hamddiffyn yn well rhag camdriniaeth, esgeulustod, camfanteisio a niwed. Ac un o nodweddion pwysicaf y rhaglen hon fydd yr ymrwymiad i sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a bod gweithredu'n digwydd yn sgil hynny. Dyma oedd yr ymrwymiad eto yn ein maniffesto, ac mae'n parhau i fod yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer diogelu yng Nghymru.

16:35
16:40
16:45
16:50
16:55
17:00
17:05
17:10

Diolch. Ymddiheuriadau i'r Aelodau eraill sydd ar y rhestr, rydym bron wedi dod i ben o ran yr amser. Felly, un olaf, Ddirprwy Weinidog—Catherine Cullen. 

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

6. Dadl: Diwygio Cyllidol

Symudwn nawr at eitem 6: dadl diwygio cyllidol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Heledd Fychan a Lynne Neagle—Elin Jones. 

Cynnig NDM9307 Heledd Fychan, Lynne Neagle

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gydweithio i:

a) gwella hyblygrwydd cyllidol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dileu'r holl gyfyngiadau ar Gronfa Wrth Gefn Cymru;

b) adolygu’r ffordd y mae Fformiwla Barnett yn gweithredu er mwyn cael mwy o degwch a thryloywder; ac

c) ailddatgan y gefnogaeth i'r ymrwymiad o £14 biliwn ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a chyflymu’r gwaith cyflawni a sicrhau cyllid digonol ar gyfer prosiectau gwella ledled Cymru yn ystod cyfnod yr adolygiad gwariant cyfredol.

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, dwi'n cyflwyno'r cynnig gerbron y Senedd y prynhawn yma, ac mae'r ddadl hon yn ymwneud ag un egwyddor syml: sicrhau bod gan Gymru'r cyllid, yr hyblygrwydd cyllidol a'r buddsoddiad sydd eu hangen i ddelifro ar gyfer cymunedau ledled y wlad, i bob postcode. Rwy'n falch bod y cynnig hwn wedi'i gyflwyno ar y cyd â Llafur Cymru, sy'n adlewyrchu ymrwymiad cyffredin i sicrhau setliad cyllido teg i Gymru ac yn adeiladu ar waith y Llywodraeth flaenorol yn y maes hwn. Mae'r materion hyn yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru, ac rwy'n gobeithio gall fod consensws eang ar draws y Senedd y prynhawn yma ar bwysigrwydd y materion yma.

Mae'r cynnig yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Gyfunol i weithio gyda'n gilydd mewn tri maes allweddol: i wella hyblygrwydd cyllidol Cymru, i adolygu gweithrediad fformiwla Barnett ac i ailddatgan cefnogaeth i ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i fuddsoddi £14 biliwn mewn seilwaith rheilffyrdd ledled Cymru. Mae'r rhain yn gamau ymarferol, cyraeddadwy a all helpu i gryfhau ein heconomi, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwella bywydau pobl. Nid ydynt yn geisiadau am driniaeth arbennig. Maent yn geisiadau am ddull cydweithredol a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i Gymru.

Hyblygrwydd cyllidol, felly. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir bod Llywodraeth Cymru yn wynebu rhagolygon ariannol eithriadol o heriol, gyda disgwyl i gyllideb y flwyddyn nesaf fod yn is mewn termau real nag eleni. Tra bo'r galw ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ein seilwaith a'n heconomi yn parhau i gynyddu, nid yw'r cyllid sydd ar gael inni yn cadw cam â hyn. Mae'r rhagolygon cyfredol yn dangos gostyngiad termau real yn ein cyllideb adnodd o 0.7 y cant yn ystod 2027-28, tra bod disgwyl i'r gyllideb gyfalaf fod tua 9 y cant yn is mewn termau real erbyn diwedd cyfnod yr adolygiad gwariant yn 2030.

Gallai'r her hon ddod yn fwy fyth unwaith y bydd goblygiadau cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar wariant amddiffyn yn gliriach i ni. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'n bwysicach nag erioed bod gan Gymru gyllid teg, y pwerau cyllidol a'r hyblygrwydd sydd eu hangen i gwrdd â heriau, buddsoddi yn ein blaenoriaethau a chyflawni ar gyfer cymunedau. Mae sicrhau bod gan Gymru'r offer i reoli ei chyllid ei hun yn effeithiol yn hanfodol er mwyn i benderfyniadau am Gymru adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau Cymru. 

Gall cyhoeddiadau yn ystod y flwyddyn gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, newidiadau i broffiliau gwariant ac amgylchiadau economaidd annisgwyl oll gael effaith sylweddol ar ein gwaith o gynllunio'r gyllideb. Ond o dan y trefniadau presennol, dim ond mynediad cyfyngedig i'n cronfa wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru a hyblygrwydd cyllidol mwy cyfyngedig na rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol. Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ofyn am hepgoriadau dros dro i gyfyngiadau'r cronfa wrth gefn mewn tair o'r pedair blynedd ddiwethaf. Nid yw hynny'n ffordd effeithiol o reoli cyllid cyhoeddus. Ni ddylem orfod gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol bob blwyddyn am yr hyblygrwydd sydd eisoes ar gael mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, rwy'n ceisio rhoi'r trefniadau dros dro hyn, y bu'n rhaid dibynnu arnynt dro ar ôl tro, ar sail barhaol, gan ddarparu mwy o sicrwydd a chefnogi gwaith effeithiol o gynllunio'r gyllideb.

Mae dileu'r cyfyngiadau ar gronfa wrth gefn Cymru yn gam cyntaf ymarferol. Byddai hynny'n caniatáu i Gymru wneud gwell defnydd o adnoddau sydd eisoes yn perthyn i Gymru ac yn dod â'n trefniadau yn nes at y rhai sydd ar gael yn yr Alban. Heb fynediad llawn at gronfa wrth gefn, dim ond £200 miliwn y byddaf i'n gallu ei thynnu i lawr, sef ymhell o dan 1 y cant o gyllideb Cymru, er mwyn helpu i ymdrin â phwysau y gwyddom amdanynt eisoes a phwysau sy'n dod i'r amlwg. Mae hyn yn cynnwys effeithiau cyhoeddiadau ariannu Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol o fewn blwyddyn, megis y toriadau disgwyliedig i'n setliad cyfalaf o ganlyniad i gynnydd mewn gwariant ar amddiffyn.

Wrth gwrs, mae'r materion yn ymestyn y tu hwnt i weithrediad cronfa wrth gefn Cymru yn unig. Mae'r achos dros fwy o hyblygrwydd yn tynnu sylw at gwestiwn ehangach ynghylch a yw trefniadau cyllidol Cymru yn parhau i fod yn addas. Dyna pam yr wyf yn cynnig adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru. Mae degawd wedi mynd heibio ers i'r fframwaith cyllidol gael ei gytuno yn 2016. Mae Cymru wedi newid. Mae'r amgylchedd economaidd wedi newid. Mae'r dirwedd gyfansoddiadol wedi newid. Mae'n rhesymol gofyn a yw'r trefniadau presennol yn parhau i fod yn addas i'r diben ac a ydynt yn rhoi'r gwytnwch a'r hyblygrwydd sydd eu hangen i Gymru i gwrdd â heriau yn y dyfodol. 

Fel rhan o'r adolygiad, byddaf eisiau mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys gweithrediad a hyblygrwydd cronfa wrth gefn Cymru, digonolrwydd pwerau benthyca Cymru—a chofiwch fod gan awdurdodau lleol fwy o hyblygrwydd cyllidol nag sydd gan Lywodraeth Cymru. Hefyd mae angen edrych ar effeithiolrwydd y trefniadau cyllido presennol o ran adlewyrchu angen cymharol a'r achos dros ddatganoli treth pellach. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ceisio datganoli pwerau pellach dros dreth incwm, ynghyd â datganoli'r doll teithwyr awyr. Byddwn hefyd yn

Byddwn hefyd yn ceisio cymhwysedd deddfwriaethol ar wahân ar gyfer treth newydd ar dir gwag.

Mae'r materion hyn yn mynd y tu hwnt i'r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw, ond gallaf roi'r ymrwymiad hwn ichi hefyd heddiw: ni fyddaf yn cytuno, fel Gweinidog cyllid, i fframwaith cyllidol diwygiedig oni bai ei fod yn gynnig da i Gymru, a bydd barn y Senedd yma ar hynny yn ystyriaeth bwysig wrth i’r adolygiad fynd yn ei flaen.

17:25
17:30

Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw trafnidiaeth gyhoeddus i wella ansawdd bywyd pobl, creu swyddi, cysylltu cymunedau a dod â phobl yn nes at ei gilydd ac ysgogi twf economaidd a ffyniant. Fe glywon ni hynna yn y drafodaeth ar bont Menai a'r M4. Ond am gyfnod rhy hir, cafodd ein seilwaith rheilffyrdd ni ei atal rhag cyrraedd ei botensial gan Lywodraethau olynol Torïaidd yn San Steffan, a fethodd â buddsoddi yng Nghymru. Newidiodd hynny yn 2024, pan etholwyd Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Gyfunol gan olygu bod gan Gymru ddwy Lywodraeth Lafur ar y pryd a allai gydweithio. A thrwy gydweithio, llwyddodd y ddwy Lywodraeth hynny i ymrwymo i lefelau hanesyddol o fuddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a dyblu cynllun hirdymor ar gyfer rheilffyrdd Cymru gan roi diwedd croesawgar ar yr 14 mlynedd o esgeulustod a thanwariant.

Bydd y buddsoddiad yn trawsnewid cymunedau ledled Cymru gan gynnwys y pum gorsaf Burns rhwng Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren, gwella hygyrchedd a rhoi mwy o gapasiti yng ngorsaf ganolog Caerdydd, sef yr orsaf brysuraf yng Nghymru, a hefyd cychwyn rhwydwaith gogledd Cymru gan wella croesfannau rheilffordd ac ymyrryd gyda'r gwaith hanfodol cyntaf hwnnw tuag at wasanaethau mwy rheolaidd.

Bydd y prosiect hefyd yn helpu adeiladu pipeline ar gyfer cynllunio i gyflawni'r genhedlaeth nesaf o welliannau ledled Cymru.

Diolch i ddwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio, fe lwyddwyd i sicrhau pwerau ychwanegol yn y maes hwn gan gynnwys mewn perthynas â gwario'r cronfeydd wrth gefn. Dŷn ni'n glir y dylai'r newidiadau hynny barhau yn barhaol. Ond fel sydd wedi bod yn bwynt i gyfres o Lywodraethau Cymru dros y blynyddoedd, mae'n gwbl briodol hefyd fod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid. Mae hynny yn golygu diwygio fformiwla Barnett. Yn ein maniffesto ni eleni, gwnaeth Llafur Cymru gyflwyno'r achos dros fformiwla newydd cyfran deg a fyddai wedi sicrhau bod Cymru'n derbyn

wedi sicrhau bod Cymru'n derbyn ei chyfran o adnoddau'r Deyrnas Gyfunol yn awtomatig mewn meysydd holl bwysig.

Mi wnaethon ni hefyd ymrwymo i weithio i sicrhau diwygio Barnett er mwyn creu system sy'n seiliedig ar angen ac sy'n gweithio i bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Rydym ni'n cydnabod mai'r unig ffordd yn y pen draw o gyrraedd system sy'n seiliedig ar angen yw drwy drafod a sicrhau cytundeb rhwng y pedair cenedl yn y Deyrnas Gyfunol, ac yn hynny o beth, byddwn i yn cwestiynu pa mor gynhyrchiol yw hi i Brif Weinidog Cymru 'grandstand-io' ar y mater hwn drwy roi'r cyfrifoldeb cyfan am gyllid tecach yn unig ar ysgwyddau Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, fel roedd e'n gwneud dros y penwythnos.

Rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth yr Alban yn parhau i osgoi galw am system sy'n seiliedig ar angen. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru, dwi'n credu, rôl allweddol i wneud yr achos i sicrhau cytundeb ar draws cenhedloedd y Deyrnas Gyfunol. Dwi'n rhedeg allan o amser.

17:35
17:40
17:45
17:50