Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/07/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da, bawb. 

Gadewch inni ddechrau. Yn gyntaf, hoffwn roi gwybod i'r Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 26.87, fy mod wedi sefydlu a chyhoeddi amserlen ar gyfer balotau Biliau Aelod ar gyfer y seithfed Senedd. Cynhelir dau falot, y cyntaf ddydd Mercher 14 Hydref a'r ail ddydd Mercher 7 Gorffennaf 2027. Mae'r broses ar gyfer balotau Biliau Aelod yn newydd ar gyfer y seithfed Senedd. Am y tro cyntaf, bydd y rhain yn falotau enw yn unig. Bydd rhagor o fanylion am y balotau, ynghyd â gwybodaeth am yr hyfforddiant a fydd ar gael ar y broses o ran Biliau Aelod, yn cael eu cyhoeddi i'r holl Aelodau yr wythnos hon. Diolch.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Nawr, symudwn i eitem 1, cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Cai Parry-Jones.

Arbedion Cost

1. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw arbedion cost diriaethol mewn unrhyw adran yn ystod y Senedd hon hyd yn hyn? OQ64428

13:35
Amseroedd Aros

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau i gleifion yn sir y Fflint a Wrecsam? OQ64369

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Dan Thomas. 

13:45
13:50
13:55
Cynllun Gwariant ar Amddiffyn

3. Pa ddadansoddiad y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o effaith cynllun gwariant ar amddiffyn Llywodraeth y DU ar gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru? OQ64409

Mi ydyn ni’n amcangyfrif y bydd gostyngiad o £25 miliwn i £30 miliwn o leiaf yng nghyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol hon, efo gostyngiadau pellach yn y blynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol hefyd wedi nodi y bydd angen dod o hyd i £4.7 biliwn ychwanegol yng nghyllideb yr hydref. Felly, dyma’r gostyngiad lleiaf y gallwn ei ddisgwyl, ac mi allai fod yn fwy. Mi fydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ein hysgolion, ein hysbytai a’n cysylltedd trafnidiaeth.

14:00
14:05
Hyrwyddo Cydraddoldeb

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru? OQ64429

Anghenion Dysgu Ychwanegol

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith y Llywodraeth i ddatblygu gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol cynaliadwy? OQ64392

Mae cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a sicrhau system gynaliadwy yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn codi safonau a sicrhau bod y dysgwyr yma'n cael y cymorth maen nhw ei angen i ffynnu. Mi ydym ni wedi ymrwymo i weithio efo'n partneriaid i ddatblygu atebion cynaliadwy fydd yn para yn y tymor hir.

14:10

Diolch, Brif Weinidog. Mae'r cyllid atodol yn gyfle mawr i wneud gwahaniaethau a dechrau gweithredu ar flaenoriaethau pobl Cymru. Mae'r cyllid yn ffocysu ar weithgareddau sy'n medru cael eu gweithredu yn y flwyddyn gyllidol hon, gan gynnwys cyllid uniongyrchol i ysgolion i sefydlogi a chefnogi'r ddarpariaeth bresennol ac sy'n galluogi dull cynaliadwy tymor hir i ddod i'r amlwg. Rwy'n ofni y bydd atal y cyllid atodol hwn yn peryglu hynny, yn cadw'r sectorau mewn sefyllfa hynod o anodd ac yn mynd yn erbyn y blaenoriaethau fe bleidleisiodd pobl Cymru drostyn nhw eleni. Er hyn, mae'n amlwg bod angen cymorth ADY arnom yma yng Nghymru. Felly, sut fydd y Llywodraeth hon yn mynd ati mewn ffordd ystyrlon ac effeithiol i gefnogi'r sector?

Cynaliadwyedd ydy'r peth pwysig yn fan hyn, onid yw e? Dros yr wythnosau diwethaf, mae yna lot o gyfeirio wedi bod at sut rydym ni'n cyrraedd at bwynt lle mae yna gynaliadwyedd. Nid ateb tymor byr ydy hwn; mae angen dull partneriaeth go iawn, onid oes, i geisio cryfhau'r ddarpariaeth gynhwysol sydd gennym ni dros amser, a meithrin system fwy gwydn a chynaliadwy i Gymru er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau a chwrdd â'r angen cynyddol ymysg dysgwyr.

Gofal Lliniarol

6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gofal lliniarol yn well? OQ64427

14:15
Cyllidebau Iechyd

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i werthuso perfformiad ariannol y gwasanaeth iechyd, ac i sicrhau rheolaeth effeithiol ar gyllidebau iechyd? OQ64393

Fel rhan o’n cynllun 100 diwrnod cyntaf, mi ydyn ni’n adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer gwerthuso perfformiad ariannol y gwasanaeth iechyd. Mi fydd cryfhau’r dull hwnnw, ynghyd â symud y system yn raddol tuag at atal, yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hir.

Dwi'n croesawu nifer o'r camau pendant a gymerwyd gan Lywodraeth Plaid Cymru ers dod i rym er mwyn mynd i'r afael â'r heriau dwys sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ym Mangor Conwy Môn. Rydym ni wedi gweld ymrwymiad uniongyrchol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac arian ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yn y gyllideb atodol. Dwi'n siŵr bydd pawb yn cydnabod y gwahaniaeth y gall yr arian hwnnw ei wneud i gleifion a staff, ac mor bwysig felly yw pasio'r gyllideb y prynhawn yma. Wrth edrych tuag at y dyfodol ac i sicrhau bod y gwaith da yn parhau, mae'n rhaid annog defnydd mwy effeithiol o arian cyhoeddus yn y gwasanaeth iechyd. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad y Llywodraeth i sefydlu tîm effeithiolrwydd cyllid iechyd a phryd mae'n gobeithio gweld y cam hwnnw'n dwyn ffrwyth?

Fel systemau gofal iechyd eraill, gan gynnwys mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae'r gwasanaeth iechyd yma yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Dwi'n meddwl bod hynny'n blaen i bawb. Mae angen rhagor o waith yn sicr, a chamau gweithredu, i'w roi o ar sail gynaliadwy. Mae gweithio ar yr elfen effeithlonrwydd yn bwysig iawn, iawn. Mae'r gyllideb atodol, wrth gwrs, sydd o'n blaenau ni heddiw yn cynnwys £100 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi lleihau amseroedd aros, £45 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y gwasanaeth iechyd, a bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn elwa yn uniongyrchol o'r ffrwd ariannu honno.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal, ynghyd â swyddogion, yn adolygu'r trefniadau presennol o ran effeithlonrwydd, efo'r bwriad o'u cryfhau nhw a nodi cyfres glir o gamau gweithredu erbyn diwedd y 100 diwrnod cyntaf, sydd ymhen rhyw 43 diwrnod erbyn hyn. Ond y tu hwnt, dwi'n meddwl, i'r syniad o effeithlonrwydd yn gyffredinol, mae angen dull gweithredu hirdymor yn cynnwys troi mwy a mwy at yr ataliol, ac mae'n hagwedd ni at hyn hefyd yn rhan o'n hymrwymiad 100 diwrnod cyntaf.

14:20
Busnesau Bach a Chanolig eu Maint

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau bach a chanolig yn sir Gaerfyrddin? OQ64424

Y Cynllun Gofal Plant

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ehangu’r cynllun gofal plant ar gyfer plant dwy oed ac i gyflwyno'r cynllun yn llawn ledled Cymru? OQ64411

Wel, fel y dywedais i'n gynharach, mae’r Llywodraeth yn cyflymu’r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu i bob plentyn dwy oed ledled Cymru. Mi ddylai’r cyllid ychwanegol yn y gyllideb atodol alluogi awdurdodau lleol i wneud cynnydd wrth gyflwyno cam cyntaf yr ehangu hwn. Dwi’n falch bod swyddogion yn cael adborth cadarnhaol gan awdurdodau lleol am y gwahaniaeth y bydd y cyllid yma’n ei wneud.

Diolch, Brif Weinidog, am yr ateb. Fel rhywun sydd â phrofiad uniongyrchol diweddar o'r effaith mae costau gofal plant yn ei gael ar gyllidebau teuluoedd, roeddwn mor falch o sefyll ar faniffesto oedd yn ymrwymo i gyflwyno cynllun gofal plant gwbl drawsnewidiol. Rwyf hefyd yn falch o weld y Llywodraeth yma'n bwrw ymlaen yn syth i fuddsoddi yn y sector gofal plant drwy gyllideb atodol, a chychwyn ar y gwaith o roi'r dechrau gorau i bob plentyn a chaniatáu i rieni ddychwelyd i'w gwaith. Dyna bwysigrwydd hwyluso'r gyllideb atodol i basio heddiw, er mwyn gallu bwrw ati yn syth. Felly, byddwn yn croesawu mwy o wybodaeth ar y camau nesaf y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i ehangu'r ddarpariaeth.

14:25

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am amlygu'r pwysau gwirioneddol sydd yna, wrth gwrs, sy'n cael ei achosi gan gostau gofal plant. Er bod fy mhlant i'n mynd yn hŷn erbyn hyn, dwi'n cofio'n iawn y gost drwm oedd yna o ddarparu gofal plant, ac rydyn ni fel Llywodraeth yn benderfynol o helpu, o ran y gost ariannol, y cyfleon sy'n cael eu rhoi i blant, a'r cyfleon economaidd sy'n dod i rieni ac yn y blaen.

Mi fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn darparu diweddariad i'r Senedd heddiw ar y broses o gyflwyno ein cynnig gofal, ynghyd â gwybodaeth am ein modelu costau. Mae'r buddsoddiad ychwanegol yma drwy'r gyllideb atodol yn mynd i'n galluogi ni i ehangu miloedd o leoedd gofal plant ychwanegol sy'n cael eu hariannu, yn canolbwyntio'n syth ar ehangu gofal plant ar gyfer plant dwy oed. Mae hwn wastad yn rhywbeth sydd yn digwydd mewn phases: y 12.5 awr, yr 20 awr, ac wedyn ymlaen at y plant ieuengaf. Dyna sut mae hwn yn cael ei gynllunio, yn cynyddu'r amlen ariannol a'r gweithlu ar yr un pryd. Ond rydyn ni'n glir bod y newid trawsnewidiol hwn yn gofyn am sector gofal plant cryf a chynaliadwy, gweithlu medrus, a model cyllido sy'n gweithio i ddarparwyr yn ogystal ag i rieni.

Pobl Ifanc

10. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant? OQ64426

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

11. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfrifo'r cyllid y mae'n ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddarparu gofal i drigolion Powys? OQ64367

14:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad

Eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad. Cwestiwn 1, Steven Rodaway.

Effeithiolrwydd Llywodraeth

1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd Llywodraeth ar draws adrannau? OQ64378

14:35
Effeithiolrwydd Adrannau'r Llywodraeth

2. Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ran datblygu dangosfyrddau digidol sy'n olrhain effeithiolrwydd adrannau'r Llywodraeth? OQ64376

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Cai Parry-Jones.

Na. Yr hyn sy'n glir iawn wrth asesu'r sefyllfa ariannol sy'n wynebu Cymru yw bod angen cyllido teg ar Gymru a chyllido sy'n adlewyrchu anghenion y boblogaeth. Does gan Gymru ddim i'w ofni o adolygiad o'r fath.

Dwi'n diolch i'r llefarydd am y sylwadau. Dwi yn gallu cyfrif, diolch yn fawr iawn; un o fy hoff bethau i yw cyfrif ac adio data at ei gilydd. Mae gennym ni gynlluniau clir mewn lle ar gyfer ein gwariant. Dwi'n gobeithio'n fawr y daw yna gefnogaeth ar draws y Senedd i'r gyllideb atodol, sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethau y gwnaeth pobl Cymru bleidleisio drostyn nhw yn yr etholiad. Dwi'n gobeithio y bydd yna gydweithwyr ar draws y Senedd hon yn gweithio ar sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio ar eu mwyaf effeithiol a'n bod ni, ar draws y pedair blynedd nesaf, yn adnabod mwy o gyllid y gellid ei fuddsoddi ym mlaenoriaethau pobl, i gefnogi gofal plant, i gefnogi'r economi, i gefnogi'r gwasanaeth iechyd.

14:40

Dwi'n diolch i'r llefarydd am y cwestiwn yna. Dwi'n siŵr bod nifer o bobl yn y Siambr hon ac ar draws Cymru, fel fi, wedi cael eu heffeithio gan COVID. Mae gen i aelod o'r teulu sydd wedi dioddef o COVID hir, a bydd nifer ohonoch chi yn ei hadnabod hi. Mae yna heriau, yn amlwg, yn fanna. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o COVID. Dyna beth y dywedon ni yn ein maniffesto, dyna beth rydyn ni'n bwriadu ei wneud. Mae'n dda gen i ddweud fy mod i eisoes wedi bod yn gohebu gyda'r COVID bereaved families am ein bwriadau ni ac yn gobeithio trefnu cyfarfod gyda nhw yn fuan, achos mae'n bwysig bod lleisiau'r sawl sydd wedi dioddef yn rhan o'r drafodaeth yna, yn bwydo i mewn i waith y Llywodraeth. Dwi'n gobeithio, maes o law, diweddaru'r Senedd ar ein cynlluniau ni ar yr adolygiad hwnnw, yn unol â'r hyn y mae'r llefarydd yn gofyn.

Mewn ateb ysgrifenedig a dderbyniais i'n ddiweddar, cadarnhaodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio bod Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i hadolygiad o'r fformiwla ariannu, yn adolygu'r data ar ddangosyddion sylfaenol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag amddifadedd a gwasgaredigrwydd poblogaeth—deprivation and sparsity—er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu adlewyrchiad cywir a chadarn o angen cymharol a chostau. 

Diolch i'r llefarydd am y sylwadau hynny. Mae fy nghydweithiwr yr aelod Cabinet dros lywodraeth leol yn symud ymlaen gydag adolygiad y fformiwla gyllido. Fel gyda phob darn o ystadegau swyddogol, mae'r Llywodraeth yn cadw golwg manwl ar gywirdeb ac effeithiolrwydd y data yna i sicrhau eu bod nhw'n cael eu hadlewyrchu'n gywir yn y fformiwlâu. Mae'r llefarydd ei hun yn dod o Aberystwyth, ac fe ŵyr y llefarydd yn iawn bod yna ardaloedd o dlodi sylweddol yn y Gymru wledig yn ogystal â'r Gymru ddiwydiannol. Mae gosod cymunedau felly yn erbyn ei gilydd yn approach siomedig, carwn i awgrymu.

Dwi jest yn adlewyrchu, Weinidog, y consérn real sy'n cael ei deimlo yn yr ardaloedd mwy diwydiannol. Fe glywon ni gan eich ffrind Zaynub Akbar mewn dadl fer yn ddiweddar bod 60,000 o bobl yn byw yn arc ddeheuol Caerdydd a phetai'r 60,000 yna yn un awdurdod lleol, dyna fyddai'r awdurdod lleol tlotaf yng Nghymru. Felly, mae'r consérn yn real, a wnes i ddim clywed pa ffigurau oedd wedi eich gwthio chi i gynnal yr adolygiad yna.

Ta waeth, agwedd arall ar yr agenda bolisi sy'n peri pryder yw'r cynnydd yn y nifer o gwangos a chomisiynau newydd sy'n cael eu ffurfio heb amcanion wedi eu diffinio a heb dryloywder clir. Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am oruchwyliaeth, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod y Senedd hon a'i phwyllgorau yn gallu craffu'n effeithiol ar y cyrff newydd hyn?

Buaswn i'n awgrymu'n garedig mai mater i'r Llywodraeth gyfan yw sicrhau bod y Senedd yn ymwybodol o'r cynlluniau sy'n datblygu. Roeddwn i yn y Siambr yn gwrando ar fy nghyfaill y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn diweddaru'r Siambr am y cynlluniau i ddatblygu asiantaeth datblygu economaidd genedlaethol newydd. Dyna'r math o ymagwedd rydyn ni'n ei chymryd fel Llywodraeth, a dyna y byddwn ni'n parhau i'w wneud i sicrhau bod y Llywodraeth yn gallu bod yn glir am ei chynlluniau hithau a bod yna gyfle priodol i'r Senedd hon i graffu ar y cynlluniau hynny.

14:45
Blaenoriaethau ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg

3. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr y cabinet i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg? OQ64379

14:50
Perfformiad y GIG

4. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i gyflwyno'r adolygiad annibynnol o berfformiad y GIG, yn unol â blaenoriaethau'r Llywodraeth? OQ64388

Dwi'n gweithio gyda Gweinidogion Cabinet i sicrhau bod yr ymrwymiadau yng nghynllun y 100 niwrnod yn cael eu cyflawni. Mae swyddogion yn datblygu opsiynau ar gyfer comisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad yr NHS yng Nghymru. Fe fydd yr adolygiad yn ystyried achosion ac effeithiau'r heriau presennol o ran perfformiad, gan gynnwys yr effaith ar ganlyniadau iechyd y boblogaeth, er mwyn llywio gwelliannau a datblygiadau i'r dyfodol.

Wel, diolch am y cwestiwn, ac mae'r Aelod yn amlinellu nifer o ardaloedd o aneffeithlonrwydd fanna sydd angen eu taclo, a dwi'n edrych ymlaen at fynd ati i'w taclo. Fel rhan o'r trefniadau atebolrwydd newydd a weithredwyd o Ebrill y llynedd, rydym ni'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda byrddau iechyd i herio eu cyflawniad a'u perfformiad mewn meysydd allweddol. Mae ein cynllun 100 diwrnod wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i ysgogi gwella system yn y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys adolygiad ar y cyd o drefniadau cynyddu ac ymyrryd. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio nid yn unig ar broses, ond ar a yw goruchwyliaeth a chynnydd yn gyrru gwelliant gwirioneddol mewn canlyniadau i gleifion. Dyna, i fi, ble dwi'n dechrau ac yn gorffen: ydyn ni'n mynd i lwyddo i yrru gwell canlyniadau i gleifion?

14:55
Cymru yn Rhan o'r Deyrnas Unedig

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r manteision i Gymru o fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig? OQ64386

15:00
Datganoli Pwerau dros Ddŵr

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pwerau dros ddŵr i Gymru? OQ64382

15:05
Fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

7. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio ar draws adrannau Llywodraeth Cymru i weithredu'r saith nod llesiant a nodir yn fframwaith llesiant cenedlaethau'r dyfodol? OQ64385

Diwygio'r Fformiwla Ariannu

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid ynglŷn â chyflawni blaenoriaeth y Llywodraeth ar ddiwygio'r fformiwla ariannu ar gyfer Cymru? OQ64384

15:10
Gweithredu Deddfwriaeth Presennol

9. Sut bydd y Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod deddfwriaeth bresennol yn cael ei gweithredu'n fwy effeithlon ar draws gwasanaethau cyhoeddus? OQ64381

15:15
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y Cyfarfod Llawn ar gyfer tair wythnos gyntaf tymor yr hydref yn cael ei ddangos ar y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau'n electronig.

Wel, dwi'n falch bod yr Aelod yn gwerthfawrogi mai ateb fel Trefnydd ydw i heddiw. Ac mi fyddwch chi'n falch o wybod bydd yna sesiynau cwestiynau i fi yn fuan iawn ym mis Medi, a gobeithio y byddwch chi'n llwyddiannus yn y balot er mwyn gallu gofyn cwestiwn i fi. Felly, gobeithio'n fawr bydd y cyfle hwnnw.

Ond dwi'n gobeithio ei fod o wedi bod yn ddiamwys yn barod fod y Llywodraeth hon yn gweld pwysigrwydd chwaraeon, ein bod ni'n cydnabod yr holl gyrff llywodraethu. Yn amlwg, rydym ni'n parchu hyd braich, ond pan mae angen craffu, rydym ni wedi craffu. Fel gwrthblaid, mi oedden ni'n gwneud hynny; mi oeddwn i'n berson cadarn iawn yn rhan o'r pwyllgor diwylliant a chwaraeon diwethaf, lle roedden ni yn holi a chraffu'r WRU yn galed, a'r math yna o berthynas. Rydym ni'n gwybod faint mae rygbi'n ei olygu i bobl Cymru. Mae'n bwysig, fel dwi wedi dweud nifer o weithiau, fod gan y WRU berthynas ac ymddiriedaeth efo'u cymunedau.

Drefnydd, mae ysgol Penley wedi cau ei phwll nofio o ganlyniad i gostau rhedeg. Mae hyn yn golygu bod rhai o'r naw ysgol clwstwr yn methu cael mynediad i wersi nofio a rhai'n methu fforddio bws i'r pwll nofio agosaf.

Dwi'n gwybod bod y Llywodraeth yn deall pa mor hanfodol ydy'r gallu i ddysgu nofio i blant, fel sy'n amlwg yn yr ymrwymiad i gyflwyno rhaglen genedlaethol nofio a diogelwch dŵr ac 20 o wersi nofio a diogelwch dŵr i bob disgybl ym mlynyddoedd 4 a 5. Mae'r ffaith bod y pwll nofio yma ar gau i ddisgyblion yn achos o bryder mawr i'r gymuned. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ynglŷn â sicrhau nad oes yr un plentyn heb fynediad i wersi nofio oherwydd toriadau ariannol?

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwnnw. Fel efo'r cwestiwn blaenorol, yn amlwg, dwi'n ateb y rhain fel Trefnydd heddiw, ond mae'n berthnasol o ran y drafodaeth fydd yn hwyrach heddiw o ran y gyllideb atodol, oherwydd, yn amlwg, mae yna £2 filiwn wedi ei neilltuo yn y gyllideb honno i ddechrau mynd i'r afael efo'r heriau sy'n wynebu ysgolion, ac mi fydd canran o'r arian hwnnw tuag at gostau teithio.

Yn ychwanegol i hynny, mae yna ymrwymiad gan y Llywodraeth hon i wneud dadansoddiad o'r holl asedau chwaraeon, gan gynnwys pyllau nofio, sydd ledled Cymru i wir ddeall (1) beth sydd wedi'i golli a (2) beth sydd mewn perig o gael ei golli, oherwydd mae nifer o'n pyllau nofio ni'n hen eithriadol, er mwyn gallu rhoi cynllun hirdymor. Mi ddylai fod gan bawb fynediad i wersi nofio. Mi ddylai fod gan bawb yng Nghymru fynediad i byllau nofio. Ond, yn anffodus, mae yna doriadau wedi bod, a dyna pam mae'n rhaid i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Byddwn i'n annog unrhyw Aelod yma heddiw sy'n angerddol, fel ydw i ac fel mae Plaid Cymru, ynglŷn â sicrhau bod gan bob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yr hawl i gael mynediad i wersi nofio am ddim, i gael sgil mor eithriadol o bwysig, i gefnogi'r gyllideb atodol heddiw.

15:20

Diolch am godi'r mater pwysig hwnnw. Mi fyddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu'n benodol at y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ynglŷn â materion lleol, ond, yn sicr, dyma rydym ni wedi ei etifeddu. Mae yna broblemau i ni fynd i'r afael â nhw. Rydym ni hefyd yn gwybod bod y tywydd eithafol wedi cael effaith ar drafnidiaeth, ac yn enwedig trenau, yn ystod y gwres hwn. Mae yna nifer o bethau a heriau rydym ni'n mynd i'r afael â nhw, ac mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi amlinellu rhai o'n blaenoriaethau ni, ond mi fydd yna fwy, wrth gwrs, hefyd.

Mi fydd yr Aelod yn gwybod ei bod hi wedi derbyn nifer o atebion gan y Llywodraeth ar y mater hwn bod y Llywodraeth wedi sicrhau y byddwn ni yn cydymffurfio yn llawn gyda'r gyfraith a bod y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. Mae'r sicrwydd yna wedi ei roi. Dwi'n ailadrodd y sicrwydd hwnnw a dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelod yn sylweddoli bod yr ymrwymiad yna wedi ei wneud dro ar ôl tro gan y Llywodraeth hon.

15:25

Diolch. Yn amlwg, mae yna ddyletswydd ar bob un ohonom ni i fod yn ystyried diogelwch ein cyd-Aelodau, i ystyried diogelwch pawb yn ein cymdeithas ni. Mae yna rôl bwysig gan y cyfryngau o ran bod yn gyfryngau sydd yn ystyried hynny. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni hefyd.

Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ran cefnogi newyddiaduraeth, ond, o ran hyd braich, mae yna brosesau ac mae yna god ymddygiad, neu god ethos, o ran sicrhau efo Ipsos ag ati—. Dwi'n meddwl bod yr Aelod, efo unrhyw gwynion, yn iawn, os ydych chi'n poeni ynglŷn â'ch diogelwch, i fynd at yr heddlu hefyd. Os ydych chi eisiau sgwennu ataf i efo mwy o fanylion, oherwydd, yn fy rôl fel Trefnydd a Phrif Chwip hefyd, mi ydw i'n cymryd o ddifri diogelwch Aelodau, ac yn ceisio hefyd cael cydsyniad rhwng y pleidiau o ran sut—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i; dwi yn ateb yr Aelod fan hyn. A dwi wedi dweud os ydy o eisiau ysgrifennu ataf fi hefyd efo mwy o fanylion, oherwydd dwi ddim gyda'r holl fanylion, felly dwi'n siŵr bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi hynny—. Os fyddech chi'n hoffi ysgrifennu ataf fi efo mwy o fanylion, mi fyddaf i'n sicrhau ein bod ni'n edrych mewn i hynny. Ond dwi hefyd yn gwneud y ple hwn ein bod ni fel pleidiau yma yn edrych sut ydym ni'n gallu cydweithio i sicrhau diogelwch ein gilydd, i sicrhau diogelwch pawb rydym ni'n ei gynrychioli, a chymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifri hefyd.

15:30

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ar y tân mawr yn ardal bwlch Sychnant ar fynydd Conwy dros y penwythnos. Rwy'n falch erbyn hyn fod ddifrifoldeb y digwyddiad wedi ei ddad-ddwysáu gan y gwasanaeth tân, a bod y rheini a oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi wedi dychwelyd adref. Hoffwn roi ar gofnod fy niolch i'r holl wasanaethau brys a'r cymunedau cyfagos a ymatebodd mor gyflym i'r argyfwng a chefnogi'r rheini mewn angen.

Mae yna rai pryderon byrdymor sy'n parhau, megis yr effaith y caiff hyn ar ansawdd yr aer yn lleol, ond, yn fwy sylfaenol, mae'r digwyddiad ar fynydd Conwy dros y penwythnos, ynghyd â'r digwyddiad yng nghoedwig Braichmelyn ym Methesda, yn codi cwestiynau difrifol hirdymor. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog, felly, sy'n amlinellu unrhyw gefnogaeth sydd ar gael i'r cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiadau'r penwythnos, a'r camau fydd yn cael eu cymryd i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Diolch.

Diolch i'r Aelod am godi mater eithriadol o bwysig. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd wedi'n brawychu o weld y lluniau ar y teledu. I'r trigolion hynny, mae'n anodd dychmygu’r niwed difrifol. Wrth gwrs, dwi'n rhannu'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod, o ran talu teyrnged nid yn unig i'r diffoddwyr tân, ond i bawb fu'n rhan o'r ymateb yng ngogledd Cymru, sydd wedi gweithio ar y cyd i gadw pobl a chymunedau'n ddiogel.

Mi wnaed cynnydd sylweddol o ran dod â nifer y tanau gwyllt o dan reolaeth. Fel roedd yr Aelod yn sôn, mae'r sefyllfa'n gyffredinol wedi gwella'n sylweddol, ond rydyn ni'n gwybod bod hyn, yn anffodus, yn un o effeithiau newid hinsawdd rŵan. Mae o'n fater rydyn ni fel Llywodraeth yn rhoi sylw haeddiannol iddo fo, yn edrych yn draws lywodraethol, fel y clywsoch chi gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Gyda'r tymheredd rydyn ni'n ei brofi yng Nghymru erbyn hyn, mae'n rhaid i ni fod yn gyfan gwbl unedig, dwi'n credu, fel Senedd ynglŷn â sut rydyn ni'n mynd i fod yn ymateb i'r tebygolrwydd cynyddol o danau gwyllt. Mae'r effaith y mae hyn yn ei gael, fel oeddech chi'n sôn, ar iechyd yn aruthrol, ac o ran bywyd gwyllt a natur yn aruthrol. Mae'n rhaid i ni, felly, sicrhau bod y cynllun hwnnw'n ei le. Ac os oes yna gymorth penodol y mae trigolion wedi bod yn ymgysylltu efo'r Aelod amdano fo yr ydych chi eisiau ymgysylltu efo ni fel Llywodraeth amdano, byddwn i'n eich annog chi i wneud cysylltiad efo'r Aelodau Llywodraeth perthnasol.

15:35

Diolch i'r Aelod am eirioli ar ran y trigolion mor gadarn yn y fan honno. Mi ydyn ni'n ymwybodol fel Llywodraeth o hyn, ac rydyn ni'n cydnabod hefyd yr effaith ar drigolion. Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth hefyd yn ymwybodol o hyn. Fe fyddwn i yn annog eich bod chi'n ysgrifennu ato fo, ynghyd â'r Gweinidog Cabinet dros lywodraeth leol. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog yma ac wedi clywed y cais hwn, ond mi fyddaf i hefyd yn sicrhau bod y Gweinidog Cabinet dros lywodraeth leol yn ymwybodol hefyd.

Drefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Mae'r hawl i brynu cymunedol yn gam pwysig tuag at sicrhau bod gan gymunedau lleol ledled Cymru yr asiantaeth a'r gallu i fuddsoddi yn eu dyfodol eu hunain a'i lunio. Gall asedau sy'n eiddo i gymunedau ac sy'n cael eu rheoli ganddynt ysbrydoli mentergarwch, greu cyfleoedd a helpu i drawsnewid bywydau. Ond mae rhwystrau sylweddol yn parhau o ran sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed a bod buddiannau cymunedau yn cael eu diogelu drwy ddeddfwriaeth. Mae'n bosib y clywn rywbeth gan y Prif Weinidog yn fuan pan fydd yn amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Ond, o ystyried pwysigrwydd yr hawl i brynu cymunedol i gymunedau ledled Cymru, a all y Trefnydd drefnu datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, i nodi cynlluniau manwl Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil hawl y gymuned i brynu, a phryd y gellir disgwyl iddo gael ei gyflwyno gerbron y Senedd?

Diolch i'r Aelod am godi mater o bwys gwirioneddol, rhywbeth y mae nifer, dwi'n gwybod, yn y Senedd hon yn poeni amdano fo ac yn angerddol ynglŷn â fo. Yn sicr, mi oedd yna ymrwymiad cadarn ym maniffesto Plaid Cymru—ac mae'r ymrwymiad cadarn hwnnw yn parhau o fewn Plaid Cymru—i sicrhau bod yr hawl i brynu cymunedol yn dod yn ddeddfwriaeth. Dwi ddim yn mynd i fod yn ceisio gwneud unrhyw ddatganiadau cyn inni glywed gan y Prif Weinidog yn hwyrach y prynhawn yma, ond, yn sicr, gobeithio bod yr ymrwymiad diamwys hwnnw o ran pwysigrwydd hyn wedi'i wneud gen i y prynhawn yma.

Diolch i'r Aelod am hynny. Yn amlwg, mi gafodd y Prif Weinidog ei holi ar y mater hwn yn gynharach heddiw. Mi ydyn ni hefyd wedi cael y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad. Yr hyn y medraf i ei ddweud yn gyfan gwbl glir wrth bob Aelod yma ydy ein bod ni, fel Gweinidogion, wedi dechrau'r gwaith craffu hwnnw ar ddiwrnod un, yn cwestiynu pob llinell yn ein cyllidebau ni y funud roedd gennym ni fynediad at yr holl ystod yna o wybodaeth. Mae'r dadansoddi hwnnw yn parhau. Mae gennym ni waith pellach i'w wneud dros yr haf, ond y gwahaniaeth sydd gennych chi yn y Llywodraeth hon ydy'r ymrwymiad i weithio ar draws portffolios i sicrhau bod pob punt posib yn cael y budd mwyaf i bobl Cymru. Dydy o ddim ynglŷn â diogelu ein cyllidebau ni fel bod un peth yn gallu cael ei gyflawni, ond edrych, 'Sut mae'r bunt yma yn gallu cael ei defnyddio er mwyn gwneud amryw o bethau amrywiol?' Dyna'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

Hefyd, rydym yn edrych yn strategol ac yn hirdymor. Dydyn ni ddim yn edrych ar y pethau sy'n mynd i greu headlines yn hawdd, ond yn edrych ar sut ydyn ni'n mynd i wella pethau'n sylfaenol. Dyna pam, efo anghenion dysgu ychwanegol, mae yna ymrwymiad tair blynedd y gall y Senedd hon fod yn pleidleisio o'i blaid heddiw. Dyna pam ein bod ni'n mynd ati, efo'r gwasanaeth iechyd, nid i daflu arian ato ond i ddod i fyny efo chynlluniau hirdymor, trawsnewidiol sy'n mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Y drwg yn y gorffennol, fel rydyn ni wedi ei weld, oedd rhoi bach o arian ond peidio mynd at wraidd y broblem. Dyna'r newid efo'r Llywodraeth hon, ac rydyn ni'n gyfan gwbl dryloyw efo pawb ohonoch chi ynglŷn â hynny.

15:40

Prynhawn da, Drefnydd. Dwi eisiau cario ymlaen efo'r pwnc o byllau nofio, os gwelwch yn dda—y pwll nofio ym Mhontardawe.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater yma. Fel y clywsoch chi, dwi'n meddwl, yn fy ymateb i'r Aelod yn flaenorol, dyna yn union pam rydyn ni'n mynd ati rŵan i ddeall beth sydd wedi ei golli, beth ydy'r buddsoddiad sydd ei angen, fel ein bod ni un ai'n gallu ailagor pyllau nofio neu sicrhau, o ran pyllau nofio sydd efo risg o gau, ein bod ni'n gallu eu cadw nhw ar agor. Mae'n rhaid i ni gael cynllun cenedlaethol. Yn anffodus, mae yna danfuddsoddiad sylweddol wedi bod mewn pyllau nofio. Mae hon yn broblem enbyd yma yng Nghymru. Mae o'n rhywbeth rydyn ni'n edrych arno fo fel rhan o'r rhaglen nofio newydd. Oherwydd mae'n un peth rhoi'r gwersi nofio, ond os dydy'r pyllau ddim yna, mae'r ddarpariaeth yn mynd i fod yn anodd. Felly, yr ymrwymiad sydd gennym ni ydy edrych ledled Cymru, gan gynnwys Pontardawe, i weld beth ydy'r angen. Chwaraeon Cymru fydd wedyn yn asesu o ran y buddsoddiad hwnnw. Ond yr un peth byddwn i'n ei ddweud wrth yr Aelodau ydy na fydd faint o arian cyfalaf rydyn ni'n ei roi i mewn i byllau nofio ar y funud yn diwallu'r hyn sydd ei angen ledled Cymru. Felly, mae'n rhaid inni edrych ar y modelau amrywiol a sut rydyn ni'n gallu gweld bod pyllau nofio yn gallu aros ar agor, aros yn ein cymunedau ni, er bydd pobl o bob oed, fel gwnaeth yr Aelod ddatgan ar ddechrau ei chwestiwn.

15:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, o ran ymbweru cymunedau, mae hwnna'n rhywbeth mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo iddo fo. Rydyn ni'n sicr yn credu bod angen ailedrych ar brosesau o ran cynllunio, o ran ymgysylltu cymunedol, er mwyn sicrhau bod llais trigolion lleol, pobl leol, yn cael ei glywed. Mi oedd o'n un o'r rhesymau pam roedd nifer ohonom ni wedi ymgyrchu pan roeddem ni yn y gwrthbleidiau o ran nifer o'r mesurau sydd rŵan yn ein maniffesto ni ac sydd yn ein rhaglen lywodraethu ni. Mae llais cymunedau yn bwysig ac mae'n eithriadol o anodd pan nad oes ganddyn nhw'r math o arian sydd ei angen i fynd ati efo'r math o astudiaethau rydych chi wedi sôn amdanyn nhw pan mae cwmnïau, weithiau yn rhyngwladol, efo llu o gyllid sy'n gallu eu cefnogi nhw i herio pethau yn erbyn y gymuned.

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Deddfwriaeth

Symudwn at eitem 4, datganiad gan y Prif Weinidog. Galwaf ar y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Lywydd. Wrth annerch y Siambr yma nôl ym mis Mai, mi soniais i am fy mwriad i arwain Llywodraeth newydd sy'n gwneud pethau mewn ffordd newydd, ac mae hynny’n wir am ddeddfu hefyd. Heddiw dwi am amlinellu cyfres o gynigion ar gyfer deddfau newydd mewn amrediad o feysydd, fel modd o sbarduno sgwrs efo pleidiau eraill yn y Senedd. Dydyn ni ddim yma i ddeddfu er mwyn deddfu. Ni ddylid gweld y broses fel un abstract a di-liw, ond fel esblygiad, o'i wneud yn iawn, sy'n troi gwerthoedd yn bolisi, polisi yn ddeddfwriaeth, a deddfwriaeth yn gyfraith gwlad sy'n eglur, yn deg ac yn rhwydd i'w gweithredu.

Mae rheolaeth dros ddŵr yn rhywbeth llawer dyfnach yn y cof Cymreig na dim ond mater o bolisi a rheoleiddio. Felly, i weithredu ar egwyddor hirsefydlog sydd wrth galon y Llywodraeth hon y dylai adnoddau Cymreig fod mewn dwylo Cymreig, rydyn ni eisoes yn gosod sylfeini ar gyfer ffordd newydd o wneud pethau—ymagwedd Gymreig fydd yn rhoi mwy o reolaeth i ni dros ein dŵr mewn modd sy’n gweithio i'n cymunedau, cwsmeriaid a'r amgylchedd. Bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn nhymor y Senedd hon, ond bydd y gweithredu sydd eisoes ar waith yn parhau.

Rydyn ni eisoes yn gweithio efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sicrhau'r grymoedd sydd eu hangen arnom ni i adeiladu system Gymreig, yn cynnwys rheoleiddiwr economaidd newydd sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau. Nid dim ond cyfiawnder economaidd sydd o bwys i'r Llywodraeth hon, ond cyfiawnder yn ei hanfod fel edefyn sy'n clymu cymdeithas at ei gilydd.

Mae ein tribiwnlysoedd yn darparu gwasanaeth clodwiw i bobl Cymru, ond mae'r fframweithiau deddfwriaethol perthnasol wedi hen ddyddio. Ar hyn o bryd, mae pob un o'n tribiwnlysoedd yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft dulliau gwahanol o apwyntio aelodau, creu rheolau gweithdrefnol a ffyrdd o apelio. Felly mi fyddwn ni'n cyflwyno Bil tribiwnlysoedd Cymreig yn fuan yn nhymor y Senedd hon i greu system newydd Gymreig sydd yn gyfoes, yn gyson ac yn annibynnol. Bydd y system nid yn unig yn gallu bodloni gofynion presennol y gwahanol awdurdodaethau, ond bydd yn ddigon hyblyg i gynnig fforwm y gellid ei ddefnyddio ar gyfer adfer anghydfod mewn meysydd polisi datganoledig eraill. Wrth edrych i'r dyfodol, yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth hon, bydd gan y system gapasiti i ddelio â gofynion unrhyw ddatganoli pellach ym maes cyfiawnder.

I gloi, mae gwarchod democratiaeth Cymru yn un o werthoedd creiddiol y Llywodraeth hon. I'r perwyl hwnnw, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw i amlinellu'r camau y byddwn ni'n eu cymryd wrth ystyried deddfwriaeth y Deyrnas Gyfunol sy'n effeithio ar feysydd datganoledig. Ar hyn o bryd, mae confensiwn Sewel yn methu'r prawf o gynnig gwarchodaeth ddigonol i ddatganoli. Dyna pam ein bod ni'n galw ar Lywodraeth San Steffan a'r Llywodraethau datganoledig eraill i roi Sewel ar sylfaen statudol gadarnach, a pham y byddwn bob amser yn gwrthsefyll unrhyw ymgais i amharchu neu anwybyddu ffiniau y setliad presennol.

Dyma raglen bellgyrhaeddol ac uchelgeisiol sy'n adlewyrchu'n gwerthoedd craidd fel Llywodraeth, ac a fydd, dwi'n gobeithio, yn arwain at gydweithio a rhannu syniadau pellach ymhlith pawb yn y Siambr hon. Rydym ni'n benderfynol o ddatblygu deddfwriaeth ar sail adeiladu consensws a thrwy gydweithrediad er budd holl gymunedau Cymru. Diolch yn fawr.

15:55
16:00
16:05
16:10
16:15
16:20
16:25

Mae'n wych gweld bod y Llywodraeth hon yn mynd i’r afael efo’r argyfwng tai i gefnogi gwneud tai yn fforddiadwy a chynyddu hawliau'r rhai sydd yn rhentu. Yn 2025, yn fy etholaeth i, roedd dros 65 y cant o’r boblogaeth wedi’u prisio allan o dai yng Ngwynedd, ac mae pris canolrifol ym Mhenllyn dros £400,000, sydd yn anfforddiadwy i 96 y cant o bobl leol. Mae’r effaith mae hyn yn ei gael ar yr ardal yn un ddwys iawn. Mae pobl ifanc yn gadael eu hardaloedd, yn symud i’r ddinas neu ar draws y ffin, sy'n cael ardrawiad gwael iawn ar ddiwylliant lleol ac ar yr economi. Mae’n dda gweld y Llywodraeth yn gwneud y gwaith hanfodol hwn, a dwi hefyd yn falch iawn o glywed am ddatblygu'r hawl i dai digonol. Mae’r hawl yma yn un hollol sylfaenol, a bydd deddf ar hyn yn drawsnewidiol i filoedd ar filoedd o bobl ar draws y wlad. Felly, beth fydd yr amserlen ar gyflwyno’r mesurau uchod a’r hawl cymunedol i brynu i’r Senedd?

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r cwestiynau yna, ac ydw, dwi'n falch o allu sefyll yn fan hyn a gwneud datganiad ein bod ni yn blaenoriaethu'r meysydd yma. Rydym ni wedi siarad amdanyn nhw dros y blynyddoedd a rŵan rydym ni'n gallu bwrw ymlaen â nhw. Beth sydd gennym ni yn ei hanfod yn fan hyn ydy rhaglen dim ond ar gyfer y flwyddyn a hanner, efallai, gyntaf. Felly mae'r hawl i brynu cymunedol yn un sydd yn rhywbeth fydd yn digwydd o fewn y cyfnod hwnnw er mwyn i ni allu dangos ein bod ni yn symud yn gyflym. Mae yna elfennau, fel dwi wedi crybwyll, y rhan gyntaf, os liciwch chi, o ddeddfwriaeth i warchod rhentwyr sydd eto yn digwydd yn y cyfnod cyntaf yma. Ond mae angen wedyn datblygu o fewn gweddill oes y Llywodraeth yma y ddeddfwriaeth bellach sydd yn gallu symud ymlaen at warchod yr hawl i gartref a rhoi gwarchodaeth bellach i rentwyr. Felly, mae yna raglen sydd yn datblygu yma. Cofiwch hefyd, eto yn cyfeirio'n ôl at y cydweithio traws-seneddol dwi'n gobeithio ei weld, mi fydd yna gyfle i ddeddfwriaeth newydd gael ei chyflwyno i mewn i'r rhaglen yma. Mi fydd pwyllgorau seneddol yn gallu cynnig deddfwriaeth. Mi fydd unigolion ar y meinciau cefn yn cael cyfleon o bryd i'w gilydd. Felly, mae yna raglen ddynamig yma mewn difrif, ond y peth pwysig dwi'n falch o glywed cefnogaeth gan yr Aelod arno fo ydy ein bod ni'n dechrau ar y materion yma rŵan rydym ni'n gwybod sy'n golygu gymaint i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli.

16:30
16:35
5. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Diweddariad ar Ofal Plant a Chwarae’r Blynyddoedd Cynnar

Symudwn at eitem 5 nawr, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: diweddariad ar ofal plant a chwarae'r blynyddoedd cynnar. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog, Sioned Williams.

Member (w)
Sioned Williams 16:37:21
Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Diolch yn fawr, Lywydd. Dwi'n falch iawn o roi'r diweddariad yma heddiw ar y gwaith i ddatblygu camau a chostau cychwynnol ymrwymiad uchelgeisiol y Llywodraeth yma i ddarparu cynnig gofal plant i bob teulu.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Llywodraeth wrthi'n cyflwyno proses raddol i ehangu cynnig gofal plant i bob teulu sydd wedi'i ariannu, ac, o'i weithredu'n llawn, mai hwn fydd y cynnig mwyaf hael yn y Deyrnas Gyfunol, gan ddarparu 20 awr o ofal wedi'i ariannu bob wythnos, am 48 wythnos o'r flwyddyn, i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.

Yn fy marn i, ac ym marn y Llywodraeth, ac ym marn pob arbenigwr ar dlodi a datblygiad plant, nid rhywbeth y byddai'n braf ei gael yw darpariaeth gofal plant ehangach, ond mae'n gwbl hanfodol. Dyw 'A ddylen ni fod yn ehangu gofal plant wedi'i ariannu neu beidio?' ddim yn gwestiwn i'w drafod. Mae'r diffyg gofal plant fforddiadwy yn broblem gymdeithasol i'w datrys, ac o'i datrys, fe fyddwn ni'n creu manteision sy'n ymestyn i gydraddoldeb rhywedd, datblygiad cynnar plant, mynd i'r afael â thlodi, cefnogi ein heconomi, a gwella iechyd a chyrhaeddiad addysg ein plant.

Ar ôl datgan gyda balchder ein nod i ddarparu cynnig gofal plant i bob teulu, a ninnau nawr 57 o ddiwrnodau i mewn i dymor y Llywodraeth hon, rŷn ni wedi bwrw iddi ac yn gwneud cynnydd rhagorol. Rŷn ni wedi bod yn cydweithio ar ein cynlluniau gyda chynrychiolwyr y sector a llywodraeth leol drwy'r grŵp arbenigol sydd wedi ei sefydlu gennym ni, ac rŷn ni eisoes wedi cyhoeddi cyllid o £55 miliwn ychwanegol drwy'r gyllideb atodol tuag at gam cychwynnol y rhaglen ehangu. 

Fel rhan o'r broses o ddatblygu ein maniffesto, fe wnaethon ni gyfrifo'n ofalus gostau ehangu'r cynnig gofal plant, a nodi'r cyllid ychwanegol yr oedd ei angen er mwyn mynd ati i'w ehangu'n llawn. A ninnau nawr yn Llywodraeth, mae swyddogion wedi creu modelau economaidd pellach.

Ar y sail honno, rŷn ni'n datblygu costau cliriach gan ystyried y rhagdybiaethau sydd y tu ôl iddyn nhw. Mae'r modelau sydd wedi'u creu hyd yma yn awgrymu y bydd costau craidd ehangu ein cynnig yn llawn, ar sail prisiau heddiw, yn galw am £375 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn. Amcangyfrif canolig yw hyn, ac mae gwaith ar y gweill gyda'n heconomegwyr a'n dadansoddwyr i brofi a modelu cyfres o elfennau newidiol, sy'n cynnwys y costau ar bob cam ehangu a'r niferoedd posibl a fydd yn manteisio ar y cynnig.

Yn unol â chyngor ein grŵp llywio arbenigol ar ehangu gofal plant, fe fyddwn ni'n ystyried nid dim ond costau'r gweithlu, ond ystod o ffactorau, gan gynnwys hyfforddiant a datblygiad, anghenion dysgu ychwanegol, cymorth awdurdodau lleol a chyfalaf. Mae lefel y cyllid ychwanegol sydd ei angen, a nodwyd gan waith economegwyr Llywodraeth Cymru hyd yma, yn gyson â gwaith manwl Plaid Cymru wrth baratoi i wneud yr ymrwymiad polisi hwn.

Ein nod clir yw bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at ofal plant mwy fforddiadwy a symlach, mwy cyson i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed ledled Cymru erbyn diwedd y tymor seneddol hwn. Bydd angen gofal wrth osod trefn ar y camau i'w dilyn i gyrraedd y nod, ynghyd â gwaith partneriaeth a phenderfyniadau cyllido wrth symud ymlaen, ond rŷn ni'n benderfynol o gynnal y momentwm.

Mae'r data diweddaraf, a gyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf, yn dangos ein bod ni bellach yn cynnig gofal plant wedi ei ariannu i bron 75 y cant o blant dwy oed ledled Cymru yn 2025-26. Fodd bynnag, rŷn ni am fynd ymhellach a sicrhau bod yr hyn a addawyd gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, ond na chyflawnwyd ganddi, yn cael ei weithredu'n llawn. Dwi eisiau inni gyrraedd ein holl blant dwy oed cyn gynted â phosibl, a dwi'n pwyso ar awdurdodau lleol i gwblhau'r cam cyntaf hwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Dyma beth mae teuluoedd eisiau ei weld ac yn ei haeddu.

Ar ddechrau tymor y Llywodraeth hon, roedd tri awdurdod lleol wedi llwyddo i gynnig 12.5 awr o ofal wedi'i ariannu i bob plentyn dwy oed. Mae un awdurdod lleol arall wedi cyrraedd pob plentyn dwyflwydd oed y mis diwethaf. Ac mae 16 awdurdod lleol arall eisoes wedi cadarnhau, yn sgil y cyllid ychwanegol y byddwn yn ei fuddsoddi drwy'r gyllideb atodol, y byddan nhw'n gallu cyflwyno'r ddarpariaeth yn llawn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, sy'n arddangos ein hymrwymiad i ddarparu ein cynnig newydd i deuluoedd ledled Cymru. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r ddau awdurdod lleol sy'n weddill er mwyn deall sut i'w cefnogi i ddarparu i'r pwynt hwn.

Bydd cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws yr holl gamau hyn yn elfen allweddol o'n hymrwymiad, fel cam cyntaf pwysig i gefnogi mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Mudiad Meithrin a phartneriaid eraill i sicrhau bod hyn yn elfen graidd ar draws pob cam o'r ehangu.

16:45
16:50
16:55
17:00
17:05
17:10
17:15
17:20
17:25

Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn, a diolch yn fawr am y gefnogaeth ac am y gwaith ymgyrchu rŷch chi ac eraill yn y Siambr yma wedi ei wneud ar y pwnc polisi hollbwysig yma. Dwi'n falch eich bod chi'n rhannu ein huchelgais ni ar gyfer plant Cymru, a dwi'n gwybod eich bod chi.

O ran y llais yna ar y panel, mae Cwlwm, fel y gwnaethoch chi sôn, wedi ei gynrychioli ar y panel, ond hefyd mae yna gynrychiolydd yna o'r WLGA, sydd wrth gwrs yn cynrychioli holl awdurdodau lleol Cymru. Felly, maen nhw yn llafar ac yn cymryd y negeseuon yna sy'n dod gan eu haelodau nhw a'u cynghorau nhw ynglŷn â sefyllfa arbennig nifer o ardaloedd amrywiol yng Nghymru. Ac fel y soniais i, dyw'r grŵp yma ddim wedi ei gyfyngu. Mae yna aelodaeth graidd, a beth rydyn ni'n ei wneud, ac wedi ei wneud—rydyn ni wedi cwrdd dwywaith yn barod—yw ein bod ni'n gofyn i bobl ddod atom ni. Felly, fe fydd edrych ar y darlun gwledig yn sicr, ac, fel roeddwn i'n dweud, mae'r anghenion gwahanol yna sy'n mynd i fod ar draws Cymru yn un o'r pethau y byddwn ni'n sicr yn ei ystyried.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol: Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

Ymlaen felly at eitem 6, datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, blaenoriaethau ar gyfer iechyd cyhoeddus ac ataliol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans. 

Ddirprwy Lywydd, heddiw dwi'n nodi fy mlaenoriaethau gweinidogol ar gyfer iechyd cyhoeddus ac ataliol dros dymor y Senedd hon. Wrth inni ddathlu 78 mlynedd ers i Aneurin Bevan sefydlu'r NHS ar sail yr egwyddor radical na ddylai amgylchiadau eich genedigaeth fyth benderfynu ansawdd eich gofal, mae'n werth cofio geiriau Bevan ei hun,

Dros saith degawd wedyn, mae'r neges honno yr un mor berthnasol ag erioed. Ond dyw trin salwch ar ei ben ei hun ddim yn ddigon. Mae iechyd cyhoeddus ac ataliol yn allweddol i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'n system iechyd ac i'n poblogaeth ehangach. Mewn cyfnod pan fo'r galw am wasanaethau'n cynyddu, anghenion pobl yn mynd yn fwy cymhleth a phwysau ariannol yn dwysáu, mae'n rhaid inni symud o reoli salwch at fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol. Am y tro cyntaf ers datganoli, mae gan Gymru Weinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros iechyd ataliol. Mae hynny'n gam sylweddol ymlaen. Mae e'n ddatganiad clir o fwriad y Prif Weinidog bod atal salwch yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae'r dull hwn hefyd yn adlewyrchu'r ymrwymiad maniffesto i symud yn ehangach tuag at wario ar atal ym mhob maes polisi.

Dyw'r angen am y newid yma ddim yn newydd. Yr hyn sydd wedi bod ar goll yw'r penderfyniad i'w wireddu. Am gyfnod rhy hir, mae ein modelau, ein prosesau a'n ffyrdd o weithio wedi canolbwyntio ar ymateb i argyfyngau, yn hytrach nag ar eu hatal a helpu pobl i fyw bywydau iachach a hapusach. Mae hynny'n newid nawr. O dan y Llywodraeth hon, fydd llwyddiant ddim yn cael ei fesur yn ôl nifer y derbyniadau i'r ysbyty, ond nifer y bobl sy'n aros yn ddigon iach i osgoi cael eu derbyn yn y lle cyntaf.

Nid menter ar ei phen ei hun mo hon. Rŷn ni'n gwreiddio'r gwaith hwn ar draws y Llywodraeth drwy gyfres o gamau strategol er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei adlewyrchu ym mhopeth a wnawn. Dwi eisoes wedi cynnal trafodaethau gyda'r holl Weinidogion Cabinet a'r Dirprwy Weinidogion i ystyried sut y gallwn ni wreiddio atal yn fwy effeithiol a chanolbwyntio ar wella iechyd pawb yng Nghymru.

Ond mae pob taith yn dechrau gyda'r cam cyntaf, ac mae'r camau cynnar hynny yr un mor bwysig â phen y daith. Mae'r datganiad hwn yn nodi'r sylfeini sydd eisoes ar waith wrth inni fynd ar y trywydd cywir.

Lywydd, rŷn ni'n credu'n gryf fod adeiladu poblogaeth iachach nid yn unig yn ofyniad moesol, yn enwedig wrth inni fynd i'r afael ag anghydraddoldebau dwfn a hirsefydlog, ond hefyd yn hanfodol i gryfhau ffyniant a gwydnwch ein cenedl. Dyna pam rŷn ni'n gwreiddio'r egwyddor hon ar draws y Llywodraeth, fod gan bob rhan ohoni, nid jest y rhai sydd ag iechyd yn eu portffolio, gyfrifoldeb ar y cyd i gefnogi'r uchelgais hon. Dwi'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd y gwaith pan fyddwn yn dychwelyd yn yr hydref.

17:35
18:15

neu ddysgu sgiliau newydd, a chymunedau sy'n ceisio hyder, gwytnwch a ffyniant cymdeithasol. Mae’r sector hefyd yn cefnogi ein heconomi drwy ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r capasiti ymchwil sydd eu hangen ar Gymru i gefnogi ein busnesau a'n diwydiant ac adeiladu, hefyd, ar gyfer y dyfodol.

Dwi wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg i gyflawni gweledigaeth gyffredin o un system addysg a sgiliau i Gymru, gyda darpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth wraidd y weledigaeth hon. A dwi wedi gweld drosof i fy hun, trwy fy mhrofiad o addysgu oedolion mewn prifysgolion yng Nghymru, yr effaith y gall y sector trydyddol ei chael ar newid bywydau pobl. Dwi am i ddysgwyr symud ymlaen drwy'r system yn hyderus, gyda llwybrau datblygu clir, gweladwy a chyfrwng Cymraeg. Dylai llwybrau academaidd, galwedigaethol a seiliedig ar waith gael eu deall fel rhannau ategol o daith pob dysgwr, sy'n cyd-fynd ag anghenion Cymru heddiw a'n huchelgeisiau ar gyfer yfory.