Y Cyfarfod Llawn
Plenary
17/03/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog y prynhawn yma fydd y cwestiwn gan Llyr Gruffydd.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth y Llywodraeth ar gyfer datblygiadau canolfannau data? OQ64024
Mae Cymru yn camu ymlaen i’r bennod nesaf, pennod lle bydd data a datblygiadau digidol yn effeithio ar bron pob agwedd o’n bywydau. Dwi’n benderfynol y bydd Cymru yn arwain yn y bennod newydd yma ac yn cymryd rhan lawn yn yr economi newydd. Mae canolfannau data yn seilwaith digidol hanfodol, a dwi’n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn gallu gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd newydd hyn i ysgogi twf a chynhyrchiant. Bydd hyn yn arwain at fuddsoddiad mawr, swyddi gwerth uchel, a chadwyni cyflenwi lleol cryfach i gymunedau. Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod ffynonellau ynni glân yn cael eu datblygu i bweru'r datblygiadau newydd hyn.
Wel, diolch i chi am yr ymateb, a dwi’n cytuno, i bob pwrpas, â phopeth rŷch chi wedi’i ddweud. Mae e’n mynd i fod yn rhan bwysig iawn o’n dyfodol ni yma yng Nghymru, ac mae eisiau manteisio ar y cyfleoedd yma. Ond rŷch chi, yn y gorffennol, wedi dweud y bydd potensial i greu miloedd o swyddi drwy’r parthau twf deallusrwydd artiffisial. Nawr, mae ymchwiliad gan The Guardian yn ddiweddar wedi datgelu bod rhai o’r ffigurau creu swyddi yma, sy’n cael eu defnyddio yng nghyd-destun y parthau twf, wedi goramcangyfrif yn sylweddol y swyddi sydd wedi cael eu creu yn y gorffennol. A thra bod swyddi adeiladu tymor byr, wrth gwrs, yn dod gyda nifer o’r datblygiadau yma, mae yna gwestiwn ynglŷn â faint o swyddi parhaol hirdymor fydd yn cael eu creu mewn gwirionedd. Ond, y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod canolfannau data hyperscale modern yn gyfleusterau hynod o awtomataidd, sydd, unwaith y byddan nhw wedi cael eu hadeiladu, yn cyflogi nifer gymharol fach o bobl—diogelwch, cynnal a chadw, ac yn y blaen.
Felly, wrth asesu gwerth y datblygiadau yma, a gaf i ofyn sut mae’r Llywodraeth yn cydbwyso’r galwadau sylweddol sy’n dod yn eu sgil, wrth sgwrs, ar dir, ar ynni ac ar ddŵr yn erbyn y nifer gymharol fach o swyddi parhaol yn y pen draw? Ac a wnewch chi, felly, ymrwymo i gyhoeddi asesiad clir o fanteision economaidd a chymunedol hirdymor y parthau twf deallusrwydd artiffisial yma yng Nghymru, fel ein bod ni’n gallu deall yn iawn sut mae’r prosiectau hyn yn cyflawni’r twf cynhwysol a chynaliadwy mae’n cymunedau ni’n awyddus i’w weld ac, wrth gwrs, yn ei haeddu?
Wel, diolch yn fawr iawn. Dwi'n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cydnabod bod hyn yn bwysig o ran sicrhau bod y seilwaith cywir gyda ni. Ond mae’n rhaid i ni fynd ati gyda’n llygaid ar agor.
Oxford Economics sydd wedi dweud y bydd, yn y gogledd, dros 3,000 o swyddi yn cael eu creu yn yr ardal dwf yna, yn yr AI growth zone yna, ac mae hwnna'n cynnwys swyddi wrth adeiladu ond hefyd rhai ar ben hynny sydd yna yn barhaol.
Dwi’n gwybod, er enghraifft, yn y buddsoddiad sy’n cael ei grybwyll ym Mhen-y-bont, yn Vantage, eu bod nhw’n sôn am 1,500 o swyddi i adeiladu ac i gynhyrchu dros 10 i 15 mlynedd. Felly, dyw hwnna ddim yn rhywbeth dros dro—mae 10 i 15 mlynedd yn eithaf lot. Ac unwaith y bydd y campws wedi cael ei greu yn llawn, bydd 600 o swyddi, sydd hefyd ddim yn swm bach.
Ond beth sy’n bwysig yw cydnabod faint fyddai cyflog y bobl sydd yna’n barhaol—£75,000, ar gyfartaledd, sydd lot yn uwch na’r cyfartaledd sydd yno nawr.
2. Pa ystyriaeth mae'r Prif Weinidog wedi ei rhoi i ba un ai ydy'r gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei darparu i fusnesau canol tref yn effeithiol ai peidio? OQ64008
Rŷn ni'n ymwybodol bod rhai busnesau yng nghanol ein trefi wedi bod yn stryglo wrth i'r ffyrdd y mae pobl yn siopa newid. Dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi'n eang yn ein rhaglen Trawsnewid Trefi, sydd wedi helpu i adfywio canol rhai trefi. Mae gwerthusiad o'r rhaglen wedi cael ei gomisiynu. Ar ben hynny, rŷn ni'n gwario dros £250 miliwn i helpu bron hanner o fusnesau fel nad oes yn rhaid iddyn nhw wario dim ar gyfraddau busnes parhaol. Mae dros ddau draean yn cael help i dalu trethi busnes. Yn ddiweddar, rŷn ni wedi rhoi help ychwanegol i dafarndai a bwytai, o fis Ebrill ymlaen.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nesaf. Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Mae rhyfel yr Arlywydd Trump yn erbyn Iran wedi ansefydlogi marchnadoedd ynni yn rhyngwladol, ac mae hynny, yn ei dro, wedi taro dinasyddion Cymru yn eu pocedi. Wrth gwrs, dwi'n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd £3.8 miliwn ar gael i gefnogi aelwydydd yng Nghymru sydd yn defnyddio olew gwresogi, ond dwi'n ofni y bydd diffyg manylion y cyhoeddiad yn golygu bod ansicrwydd a phryderon yn parhau. A all y Prif Weinidog ddiweddaru'r Senedd ar ba pryd fydd yr arian yn cael ei rannu yng Nghymru? A ydy hi'n cytuno efo fi y bydd unrhyw oedi yn creu caledi go iawn i bobl wrth i brisiau barhau i godi yn ddyddiol? A thra, wrth gwrs, bod eisiau targedu yn gyntaf y rhai sydd fwyaf angen help, mae yna lawer o bobl sydd ddim yn mynd i fod yn gymwys am arian drwy'r gronfa cymorth dewisol sy'n dal yn mynd i fod yn wynebu caledi go iawn. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud pa gamau y bydd hi yn eu cymryd i wthio ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfrannu rhagor o gymorth iddyn nhw?
Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'u bwriad i ad-drefnu rygbi rhanbarthol? OQ63985
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam? OQ63995
5. Pa flaenoriaethau mae'r Prif Weinidog yn eu gosod i gefnogi canlyniadau iechyd gwell yn Nwyrain De Cymru? OQ64017
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau deintyddol yng Nghaerffili? OQ64019
7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yng ngogledd Cymru? OQ64009
Yn olaf, cwestiwn 8. Rhianon Passmore.
8. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Dŵr Cymru wrth wasanaethu pobl Islwyn? OQ64020
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog. Dwi'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet cyllid gynnig yn ffurfiol.
Cynnig NNDM9223 Mark Drakeford
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.45, yn cytuno i ystyried gwelliannau i Fil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd.
2. Yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8, yn atal Rheolau Sefydlog 11.16, 26.30, 26.45A, 26.46A a 26.59 er mwyn caniatáu i'r Cyfnod Adrodd gael ei gynnal ar 17 Mawrth 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Does gyda fi ddim siaradwyr. Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro i'r Senedd fedru trafod gwelliannau i'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Awn ni ymlaen nawr i'r cyhoeddiad a datganiad busnes gan y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, fel sydd wedi ei nodi ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae busnes yr wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Gaf i ofyn am ddatganiad i ddechrau ar gael diweddariad ysgrifenedig ar barthau twf AI? Pan wnaed y datganiad bod yna barth AI yn mynd i fod yng ngogledd Cymru, ar y funud olaf, fe ychwanegwyd Trawsfynydd at y parth hwnnw. Er mwyn cael statws parth AI, mae'n rhaid i'r ardal yna gael yr un buddion â phorthladd rhydd, ond does gan Drawsfynydd ddim yr un buddion â phorthladd rhydd ar hyn o bryd. Felly, gawn ni ddatganiad clir a diamwys yn dangos y bydd gan Drawsfynydd yr un buddion, er mwyn i Gyngor Gwynedd, a'r ardal honno, fedru gwthio ymlaen â'r cynlluniau ar gyfer parth AI yno, os gwelwch yn dda?
Yr ail ddatganiad: gawn ni ddatganiad ar ddiweddariad ar y cynlluniau bathodyn glas, os gwelwch yn dda? Mae gen i etholwr yn Nwyfor Meirionnydd sydd yn dioddef o ganser y brostad, ac, felly, yn methu â cherdded ymhell. Mi fuasai hi'n gwneud byd o les iddo fo gael parcio'n agos at siopau er mwyn medru mynd yn haws a byw ei fywyd, ond dydy o ddim yn cael bathodyn glas ar hyn o bryd oherwydd y rheolau sydd yn eich dwylo chi fel Llywodraeth. Felly, gawn ni ddiweddariad ar yr hawl i bobl gael bathodynnau glas fel ein bod ni'n medru ymladd achos y gŵr yma ac eraill sydd yn yr un sefyllfa, os gwelwch yn dda?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ac yn olaf, Russell George.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 4 heddiw yw datganiad gan y Prif Weinidog ar ymateb Llywodraeth Cymru i adorddiad modiwlau 2, 2A, 2B, 2C ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig, a galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan.
Ar ddechrau pob modiwl yn yr ymchwiliad, ac mewn tystiolaeth iddo, rŷn ni wedi clywed cofnod teimladwy iawn o effaith emosiynol, ariannol a chorfforol y pandemig—pethau sy'n parhau—ar unigolion, pobl a gafodd brofedigaeth, y rhai sy'n cefnogi'r bobl fwyaf bregus, ac ar ein cymunedau yn gyffredinol. Mae ein meddyliau ni yn dal i fod gyda phawb a gafodd y brofedigaeth enfawr o golli rhywun annwyl, a gyda phawb a brofodd yr effaith yn eu bywydau.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu canfyddiadau ac argymhellion yr ymchwiliad. Rŷn ni'n ddiolchgar i'r Farwnes Hallett a'i thîm am y gwaith cynhwysfawr sy'n sail i adroddiad ac argymhellion modiwl 2. Bydd gweithredu'r rhain yn helpu i sicrhau bod Cymru wedi paratoi'n dda ac yn gallu ymateb yn effeithiol i unrhyw argyfwng system-gyfan yn y dyfodol.
Ddoe, fe gyhoeddais i ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion modiwl 2 yr ymchwiliad, sy'n ymwneud â'r elfennau canlynol: cyngor gwyddonol a thechnegol; adnabod y bobl sy'n wynebu risg mewn argyfwng; prosesau gwneud penderfyniadau'r Llywodraeth; deddfwriaeth; gweithio rhynglywodraethol; a chyfathrebu â'r cyhoedd. Rŷn ni eisoes wedi cymryd camau i gryfhau ein prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau, gan adlewyrchu llawer o'r argymhellion hyn. Rŷn ni wedi ymrwymo'n gadarn i ddysgu gwersi o'r pandemig ac o'r ymchwiliad, ac fe fyddwn ni'n gwneud gwelliannau i'n systemau a'n prosesau yn unol â'r argymhellion, a thu hwnt iddyn nhw mewn sawl agwedd.
Fel Prif Weinidog, dwi'n falch o waith y Llywodraeth yn ystod y pandemig. Fe wnaeth pawb yn y Llywodraeth, yn y Cabinet ac yn y gwasanaeth sifil, weithio'n eithriadol o galed, mewn amgylchiadau anodd a heriol iawn, i ddiogelu Cymru. Mae yna rai pethau gawson ni'n anghywir, mae yna rai pethau y gallen ni fod wedi'u gwneud yn well, ac mae yna wersi i'w dysgu. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r ymchwiliad ac yn dysgu o’u canfyddiadau er mwyn i ni allu bod yn fwy parod ar gyfer yr argyfwng neu'r pandemig nesaf.
Mae'r newidiadau rŷn ni wedi'u gwneud yn barod yn dilyn modiwl cyntaf yr ymchwiliad yn rhai helaeth sydd eisoes wedi helpu i ymateb i gymunedau sy'n cael eu heffeithio gan dywydd eithafol a llifogydd. Bydd rhain yn helpu i gryfhau Cymru ar gyfer y dyfodol. Wrth i'r ymchwiliad barhau i gyhoeddi ei ganfyddiadau, byddwn ni yn parhau i ddysgu ac yn ymateb yn unol â hynny, fel bod Cymru'n gryfach ac yn fwy parod. Mae'r Farwnes Hallett wedi gofyn am ddiweddariadau chwe mis am y cynnydd sy'n cael ei wneud ar ei hargymhellion, a bydd y diweddariad nesaf ar fodiwlau 1 a 2 ym mis Tachwedd. Diolch.
Yn gyntaf, dwi am fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf i a Phlaid Cymru gyda'r rhai a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig. Fel gwleidyddion etholedig, mae'n ddyletswydd arnom ni i ystyried canfyddiadau'r adroddiadau hyn gyda'r gostyngeiddrwydd a'r difrifoldeb mwyaf. Mae'r adroddiad yn glir: methodd parodrwydd Llywodraethau a sefydliadau ledled y Deyrnas Gyfunol â chyrraedd y safonau oedd eu hangen. Wrth edrych ar y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd, fe welwn fod ymateb Cymru, mewn rhai meysydd, wedi syrthio'n fyr o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol.
Rydym ni'n derbyn nad oes unrhyw Lywodraeth yn berffaith, ac mae camgymeriadau'n anochel wrth wynebu pandemig unwaith mewn canrif. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod y llwyddiannau tra hefyd yn dysgu yn onest o'r methiannau. Ar lefel strategol, roedd y penderfyniad i wneud pethau'n wahanol o fewn pwerau datganoledig yn un cywir, er iddo ddod yn hwyr. Mae'r adroddiad yn nodi fod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi mabwysiadu dull mwy graddol o lacio cyfyngiadau yn haf 2020, mewn cyferbyniad â dull mwy anhrefnus Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar y pryd.
Fodd bynnag, fe wnaed camgymeriadau difrifol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at gyfleoedd a gollwyd i weithredu'n fwy rhagweithiol ac at ddiffyg brys anesboniadwy ar ddechrau 2020. Yn arbennig o bryderus ydy'r ffaith na chafodd COVID-19 ei drafod yn y Cabinet tan 25 Chwefror, er gwaethaf rhybuddion clir wythnosau ynghynt. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio pam y bu oedi cyn i'r bygythiad gyrraedd brig yr agenda?
Un o ganfyddiadau mwyaf damniol yr adroddiad yw nad oedd yna strategaeth glir yn ystod dau fis cyntaf 2020. Roedd diffyg eglurder ynghylch gweithredu'r cynllun ymateb traws Cymru, gan danseilio rôl y ganolfan cydlynu argyfyngau. Er fy mod yn croesawu'r bwriad i adolygu'r trefniadau hyn, tybed a all y Prif Weinidog roi amserlen glir ar gyfer y gwaith. Yn yr un modd, yn sgil pryderon am gapasiti gwelyau, pa gamau sydd wedi cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod Cymru mewn cyflwr gwell o barodrwydd yn y dyfodol?
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod yr ymateb cynnar yn cael ei drin yn rhy gul fel mater iechyd yn unig, heb ddull trawslywodraethol integredig. Mae hyn yn adlewyrchu problem ehangach, sef y duedd i weithio mewn silos yn hytrach na meithrin diwylliant o gydweithio. Yn y cyfamser, pa gamau ymarferol sydd wedi cael eu cymryd gan y Llywodraeth i dorri'r rhwystrau yma rhwng portffolios yn y Llywodraeth?
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r tensiynau sy'n codi o'r rhaniad pwerau rhwng Cymru a San Steffan, yn enwedig o ran plismona. A ydych yn cytuno bod dileu'r ymyl finiog yma drwy ddatganoli pellach yn allweddol i wella ymateb i argyfyngau yn y dyfodol? Ydych chi hefyd yn cydnabod nad yw dilyn arweiniad San Steffan bob amser yn sicrhau'r canlyniad gorau, ac y dylai Cymru fod yn fwy parod i roi a gosod ei harweiniad ei hun?
Fe ddywedodd eich rhagflaenydd y byddai proses Gymreig yn cael ei gyflwyno os na fyddai ymchwiliad y Deyrnas y Gyfunol yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Mae'n amlwg o'r modiwl yma'n unig nad ydy holl faterion Cymru wedi cael eu hystyried yn llawn, a bod yna gaps yn yr ymchwiliad cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Er mor gynhwysfawr ydy'r adroddiad yma, dydy o felly ddim yn rhoi darlun o effaith penderfyniadau a wnaed ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Dyna pam ein bod ni'n parhau i alw am broses penodol i Gymru, er mwyn sicrhau'r atebolrwydd, y gonestrwydd, a'r tryloywder y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Ydych chi felly'n credu bod yr adroddiad a'r broses ehangach yn gwneud cyfiawnder â phrofiadau pobl Cymru?
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n derbyn bod gwersi i'w dysgu, a dwi wedi gwneud hwnna'n glir. Roedd hwn yn sefyllfa nad oedd neb wedi bod trwyddi o'r blaen. Dwi'n falch bod y Farwnes wedi cydnabod hynny, a bod rhaid i ni weithio dan amgylchiadau anodd dros ben.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Eitem 5 sydd nesaf, y Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.
Cynnig NDM9213 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 yw'r Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9212 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Clywsom ni dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar y rheoliadau hyn fel rhan o'r gwaith craffu ar yr ail gyllideb atodol yn gynharach yn y mis. Yn ystod taith ddeddfwriaethol y Ddeddf wreiddiol, mynegodd pwyllgorau'r Senedd bryderon sylweddol ynghylch ehangder y pŵer a'r effaith a gafodd ar y cydbwysedd rhwng hyblygrwydd gweithredol a gwaith craffu seneddol. Gwnaeth y pryderon hynny helpu i liwio'r Ddeddf fel y mae'n sefyll heddiw, gan gynnwys cyflwyno'r cymal machlud a'r gofyniad am adolygiad statudol. Bwriad y Ddeddf, fel y'i pasiwyd, oedd gweithredu fel mecanwaith dros dro ac eithriadol, gan roi pŵer eang i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth ym maes trethi ar fyrder mewn ymateb i ddigwyddiadau allanol.
Yn gryno, felly, rydym yn cydnabod y sail resymegol ar gyfer ymestyn y pŵer dros dro presennol, ond hoffem bwysleisio bod arnom angen model deddfwriaethol sy'n fwy gwydn ac yn fwy addas yn gyfansoddiadol. Dylai hyn warchod yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymateb ar fyrder i ddigwyddiadau allanol sy'n effeithio ar drethi datganoledig, tra hefyd yn cryfhau rôl ganolog y Senedd wrth graffu ar ddeddfwriaeth a'i llunio. Am y rheswm hynny, rydym ni hefyd wedi argymell yn ein hadroddiad bod Llywodraeth nesaf Cymru yn sefydlu gweithgor yn gynnar yn y seithfed Senedd i ddatblygu mecanwaith sydd yn fwy addas ar gyfer diwygio Deddfau trethi Cymru, gan gynnwys defnyddio deddfwriaeth sylfaenol, a sicrhau bod lleisiau pwyllgorau'r Senedd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith hwnnw. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 yw'r ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2025-26. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9186 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Buom yn craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 5 Mawrth a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion am fod yn bresennol. Mae ein hadroddiad yn gwneud pedwar argymhelliad ac yn dod i un casgliad.
I gloi, gan mai hwn ydy'r tro olaf imi gyfrannu fel Cadeirydd y pwyllgor yn y Senedd hon, hoffwn ddiolch i aelodau eraill y pwyllgor am eu cefnogaeth yn ystod y chweched Senedd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i ragflaenydd am eu hymgysylltiad cadarnhaol drwy gydol y tymor. Hoffwn hefyd ddiolch i'r clercod a'r tîm ymchwil, sydd yn gweithio'n ddiflino ar y gwaith yn cadw'r pwyllgor i fynd. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb a diolch, Dirprwy Lywydd.
Hoffwn ddiolch, yn gyntaf, i'r Ysgrifennydd Cabinet am fy ngwahodd i gyfarfod yn gynharach heddiw er mwyn fy mriffio i ar y prif newidiadau o ran y gyllideb atodol hon. Hoffwn hefyd ategu'r diolch sydd eisoes wedi bod am waith y Pwyllgor Cyllid. Dwi'n meddwl bod hwn yn adroddiad pwysig; mae'r argymhellion yn rhai synhwyrol ac yn bethau, gobeithio, y bydd y Senedd newydd yn gallu mynd ati ar unwaith i fynd rhagddo efo nhw. Felly, yn hytrach nag ailadrodd nifer o'r galwadau hynny, dwi jest eisiau rhoi ar record bod nifer o'r pwyntiau yna'n rhai y dylem ni i gyd fod yn adlewyrchu arnyn nhw ac yn trio gweld sut ydyn ni'n gallu symud cymaint cynt o ran yr hyn sydd ei angen.
Dwi'n meddwl un o'r pethau sydd hefyd yn glir ydy bod sefyllfa gyllidol Cymru yn parhau i fod yn anhygoel o heriol, ac mi fydd y Llywodraeth nesaf yn etifeddu amgylchiadau fydd yn gwneud pethau'n dynn iawn. Mae'r gyllideb atodol hon yn dangos lle mae'n bosib rhoi arian ychwanegol a faint o angen sydd yna, os ydyn ni'n edrych o ran addysg ac ystâd ysgolion, ac ati. Dwi'n croesawu'r ffaith bod yr arian hwnnw wedi gallu mynd yn ychwanegol, ond rydyn ni'n gwybod bod cymaint mwy ei angen hefyd.
Hefyd, os ydyn ni'n edrych ar adolygiad gwariant y flwyddyn diwethaf, rydyn ni'n gwybod bydd twf yn y gyllideb Gymreig yn hanesyddol isel dros y blynyddoedd nesaf, gyda gwariant dydd i ddydd yn cynyddu gan ddim ond 1 y cant mewn termau real, a'r gyllideb caffael yn crebachu hyd at 3.8 y cant erbyn diwedd y cyfnod. Rydyn ni'n dechrau gweld yr effaith niweidiol yma yng nghyd-destun y gyllideb caffael eisoes, gyda gostyngiad o dros £600,000 yn y waelodlin ers mis Mehefin. Dyma un o'r pethau sy'n realiti ac sy'n mynd i fod yn anodd iawn i bwy bynnag fydd yn llunio'r Llywodraeth nesaf.
Rydyn ni hefyd, wrth gwrs, wedi bod yn adlewyrchu eisoes heddiw, ac wythnos diwethaf, ar beth fydd y goblygiadau i Gymru o ran rhyfel anghyfreithlon Trump yn y dwyrain canol. Mae yna ragor o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd am fod, ac yn enwedig o ran chwyddiant dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn llygad agored o ran beth fydd hyn yn ei olygu o ran creu pwysau ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus.
Os caf i ofyn un cwestiwn penodol o edrych ar rai o fanylion y gyllideb atodol, dwi'n sylwi bod gostyngiad y waelodlin caffael wedi ei achosi'n rhannol oherwydd taliad i'r Trysorlys ar gyfer ffiniau, a byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi mwy o fanylion os oes gan hyn unrhyw berthnasedd â'r isadeiledd Brexit a adeiladwyd at gost i Lywodraeth Cymru, ac os felly, os medrwch chi gadarnhau, oherwydd mae'n ymddangos bod yna arian wedi mynd i'r Trysorlys o ran ffiniau. Byddai'n dda deall beth yn union ydy hynny ac os oes yna unrhyw gynnydd wedi bod o ran trio cael ad-daliad llawn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, oherwydd yn amlwg mi oedd yn rhaid gwario, ond nid oedd angen peth o'r gwariant hwnnw yn y pen draw.
Ac yn sgil y memorandwm a gafodd ei rannu yn y cyfryngau'r wythnos diwethaf, byddwn i yn ddiolchgar hefyd os medrwch chi gadarnhau os ydy'r gyllideb atodol yma'n adlewyrchu unrhyw benderfyniadau gwariant o ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn meysydd datganoledig a oedd yn mynd yn groes i'ch agenda polisi chi eich hunan. Yn amlwg, mae yna waith diwygio angen ei wneud o ran sefyllfa bensaernïol gyllidol y Senedd, ac mae'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid yn gwneud hwnna'n glir. Felly, gyda hynny o sylwadau, mi wnaf i ei gadael hi yn fanna. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddechrau trwy ddweud diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei sylwadau e? Dwi'n cytuno gyda'r casgliadau mae'r pwyllgor wedi eu tynnu ac yn rhoi cyngor pwysig i'r Llywodraeth nesaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Lynne Neagle.
Cynnig NDM9211 Lynne Neagle
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau ym Mil Lles Plant ac Ysgolion i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, galwaf ar Vaughan Gething.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Mae'r Senedd yn gwybod fy marn am gynigion cydsyniad deddfwriaethol. Dwi'n cytuno gyda'r pwyllgor deddfwriaeth mai'r ffordd orau i gyflawni canlyniadau sydd â budd gorau i Gymru yw deddfu trwy gyfrwng Bil a gyflwynir i Senedd Cymru ac a gaiff ei graffu gan Senedd Cymru. Mae gormod o ddeddfwriaeth yn pasio yn y lle yma ar faterion pwysig a fydd yn effeithio ar nifer fawr o bobl Cymru gyda chraffu cyfyngedig a dadl fer. Roedd yr LCM ar gymorth i farw yn enghraifft berffaith o hynny.
Mae'r Bil Lles Plant ac Ysgolion yn codi nifer o gwestiynau am faterion mawr iawn dwi ddim yn credu sydd wedi cael y sylw digonol yn y Senedd yma a'n bod ni wedi cael amser digonol i'w hystyried. Gyda dim ond un cartref plant diogel yng Nghymru, ac 13 yn Lloegr, mae'n amlwg nad oes digon o leoliadau yng Nghymru i ateb y galw. Yn wir, mae hon yn hen, hen broblem. Nawr, tra byddwn i'n gwerthfawrogi eglurhad yn y Siambr heddiw, ni ddylai methiant y Llywodraeth i ddelio â'r broblem yma ein rhoi ni mewn sefyllfa heno lle rydym ni'n teimlo bod yn rhaid i ni gefnogi cymal 11.
Yn amlwg, dwi ddim am gyfrannu at greu risg o rwystro'r cyfleoedd i blant ag anghenion penodol o Gymru rhag cael yr un mynediad i'r llety perthnasol â phlant awdurdod lleol yn Lloegr, ond mae diffyg craffu wedi arwain heno at ddiffyg manylion. Mae'r comisiynydd plant wedi nodi pryderon am sut y bydd math newydd o ddarpariaeth yn gweithredu. Wrth gwrs, rydym ni wedi cymryd camau mawr ymlaen at ddileu elw o wasanaethau gofal plant, ac roedd hwn yn ymateb uniongyrchol i beth oedd plant a phobl ifanc Cymru yn ei ddweud wrthyn nhw: eu bod nhw'n teimlo bod trefniadaeth o'r fath yn eu trin nhw fel nwyddau. Ond, wrth ystyried hyn, dyw e ddim yn glir i fi o gwbl a fydd y trefniadau newydd trwy gymal 11 yn cynnwys elfen o elw. Byddwn i'n gwerthfawrogi ymateb am y pwynt yma a sut bydd y Bil yn cyd-fynd â nodau deddfwriaethol a pholisi Llywodraeth Cymru.
Mae cymal 25 yn y Bil gwreiddiol, a 31 yn y fersiwn diweddaraf, yn hynod o heriol hefyd. Fel y gwyddech, bydd y cymal yn ei gwneud yn ofynnol i rieni geisio cydsyniad awdurdod lleol i blant penodol gael addysg heblaw yn yr ysgol. Wrth gwrs, yn barod yng Nghymru, mae mecanwaith cydsyniad awdurdod lleol eisoes ar waith ar gyfer plant sy'n mynychu ysgolion arbennig, ond bydd y darpariaethau yma yn gweld carfan ehangach o blant yn dod o dan y mecanwaith cydsyniad ac felly yn rhoi mwy o rôl i awdurdodau lleol Cymru, yn hytrach nag i rieni. Ac fel dywedodd Cefin a Mark yn barod, mae sawl rheswm pam mae plant yn cael eu haddysgu adref, ac mae'n rhaid inni ystyried hyn yn bellach. Mae'r un peth yn wir am gymal 32. Dwi'n cytuno gyda'r pwyllgor deddfwriaeth y dylai bod Bil Cymreig yn mynd i'r afael â sut rydyn ni'n cefnogi plant sydd ddim yn yr ysgol. Er fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith ac wedi ystyried eu hadroddiad ac argymhellion yn ofalus, allaf i ddim cefnogi'r bleidlais heddiw.
Yn y tymor yma, mae gormod o ddeddfwriaeth wedi ei basio heb ddigon o graffu a heb ddigon o ymgynghori. Mae'r ffaith bod pwyllgorau wedi methu craffu'r pumed memorandwm yn dangos hynny yn glir. Gobeithio'n fawr y bydd y Llywodraeth nesaf yn adlewyrchu ar hyn. Diolch yn fawr.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 6, Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Bydd y bleidlais nesaf ar eitem 7, ail gyllideb atodol 2025-26. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 21 yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2025-26. : O blaid: 26, Yn erbyn: 3, Ymatal: 21
Derbyniwyd y cynnig
Bydd y bleidlais olaf, ar hyn o bryd, ar eitem 8, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion, a galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Lynne Neagle. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Plant ac Ysgolion. : O blaid: 37, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Bydd egwyl fer nawr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn i ni ailymgynnull. Byddwn yn annog Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:01.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:13, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yw'r eitem gyntaf.
Y grŵp cyntaf o welliannau ar y Bil yma yw'r grŵp sydd yn ymwneud â digwyddiad sbardun A: y llysoedd i hysbysu'r Llywydd, a therfynu pôl adalw yn gynnar. Gwelliant 1 yw'r prif welliant. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n cynnig y prif welliant. Julie James.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Julie James).
Does gyda fi ddim siaradwyr ar y grŵp yma. Dwi'n cymryd bod y Cwnsler Cyffredinol heb unrhyw beth ychwanegol i'w ddweud. Os gwrthodir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 4 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 2 o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â digwyddiad sbardun B, canllawiau adalw. Gwelliant 20 yw'r prif welliant. Paul Davies sy'n cynnig y prif welliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 20 (Sam Rowlands).
Hoffwn i ddechrau drwy ddatgan yn glir gefnogaeth Plaid Cymru i’r Bil hwn. Rŷn ni'n byw drwy gyfnod heriol iawn i’n democratiaeth. Des i i mewn i wleidyddiaeth oherwydd fy mod i'n credu yn ei photensial i wneud daioni, i wella bywydau pobl ac i wasanaethu’r cyhoedd. Rwy’n gobeithio bod hynny'n wir am bob un ohonom ni yma.
Ond rhaid cydnabod hefyd pam fod cymaint o bobl heddiw yn teimlo wedi eu dadrithio ac yn gwbl sinigaidd ynghylch gwleidyddiaeth. Nid yw’r teimlad hwnnw wedi ymddangos o unman; mae’n deillio o’r canfyddiad cynyddol nad yw gwleidyddion bob amser yn cael eu dal i’r un safonau â gweddill y gymdeithas.
Mae ymddygiad Llywodraethau San Steffan dilynol—rhai coch a rhai glas—wedi cadarnhau y canfyddiadau hynny, yn anffodus. Dwi'n meddwl bod hynny’n her i bob un ohonom yn y Siambr hon. Mae bod yn gynrychiolydd etholedig yn fraint. Ond gyda’r fraint honno daw cyfrifoldeb clir: i ymddwyn yn onest, i fod yn atebol, ac i haeddu ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae'r Bil hwn yn ceisio tanlinellu y cyfrifoldeb hwnnw a'i ymgorffori mewn deddfwriaeth.
Cyn troi at y gwelliannau, hoffwn ddiolch i Lewis Owen, uwch-ymchwilydd grŵp Plaid Cymru, ac i'm cyd-Aelod Adam Price, am eu gwaith manwl ar y Bil hwn, ac i glercod a staff cefnogi y pwyllgor am eu cymorth.
Pwrpas fy ngwelliant i yn y grŵp yma yw ei gwneud yn ofynnol bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ystyried darparu, yn eu canllawiau, enghreifftiau penodol o ymddygiad a fyddai’n arwain at argymell pôl adalw. Y gobaith yw y bydd hyn yn darparu eglurder o ran disgwyliadau a safonau o ymddygiad annerbyniol, ac felly yn sicrhau na all amwysedd amharu ar effeithlonrwydd mecanweithiau atebolrwydd y Bil.
Tra doedd hi ddim yn bosib, yn ymarferol, i gynnwys enghreifftiau penodol ar wyneb y Bil, byddwn yn mawr obeithio y bydd y pwyllgor yn cynnwys esiamplau fel aflonyddu a thrais rhywiol yn eu canllawiau, yn enwedig wrth ystyried yr heriau sy’n parhau i wynebu menywod mewn gwleidyddiaeth, a sut mae agweddau misogynistaidd yn parhau i fod yn ein rhwystro ni rhag cynyddu cynrychiolaeth benywaidd yn ein sefydliadau democrataidd.
Rwy’n ddiolchgar yn hyn o beth am yr ymgysylltiad adeiladol gyda’r Cwnsler Cyffredinol ar y gwelliant yma ers Cyfnod 2, ac rwy’n falch ein bod ni wedi llwyddo dod i gytundeb ar eiriad sy'n cyflawni'r nod. Rwy'n gofyn felly i Aelodau gefnogi'r gwelliant.
Y Cwnsler Cyffredinol i gyfrannu—Julie James.
Paul Davies i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Cymerwn ni bleidlais ar welliant 20. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.
Gwelliant 20: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 10 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud gan Sioned Williams?
Cynigiwyd gwelliant 10 (Sioned Williams).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw Aelod yn gwerthwynebu? Nac oes. Mae gwelliant 10 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 2 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 2 (Julie James).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 3 o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â rheoliadau ynghylch polau adalw. Gwelliant 3 yw'r prif welliant. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Julie James).
Does gyda fi ddim siaradwyr yn y grŵp yma. Felly, fe wnawn ni symud i'r bleidlais. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 4 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag anghymhwyso yn dilyn diswyddo Aelod o’r Senedd yn dilyn pôl adalw. Gwelliant 11 yw'r brif welliant y tro yma, a Sioned Williams sy'n cynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Sioned Williams).
Diolch, Llywydd. Pwrpas y gwelliant hwn yw sicrhau bod Aelod sy'n cael ei ddiswyddo o ganlyniad i bleidlais adalw yn cael ei anghymwyso rhag sefyll mewn etholiad eto am gyfnod penodol. Mae pleidlais adalw yn gam difrifol iawn, felly mae'n rhesymol disgwyl bod colli pleidlais o'r fath yn arwain at ganlyniadau sylweddol. Fel y soniais i yng Nghyfnod 2, mae Plaid Cymru yn teimlo nad yw'r Bil fel mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd ddim yn diogelu'n ddigonol yn erbyn y posibilrwydd y gallai Aelod sydd wedi'i ddiswyddo o ganlyniad i bôl adalw geisio sefyll eto bron yn syth. Ddylem ni ddim creu sefyllfa lle mae yna ryw fath o revolving door i unigolion sydd eisoes wedi'u barnu gan eu hetholwyr am gamymddwyn, a allai olygu wedyn eu bod nhw'n gallu dychweled yn syth i swydd etholedig. Byddai hynny'n peryglu ac yn gwanhau'r mecanweithiau atebolrwydd y mae'r Bil yma yn ceisio eu sefydlu. Dyna pam rŷn ni'n cynnig cyfnod anghymwyso o bedair blynedd, sy'n adlewyrchu tymor arferol y Senedd. Mae'r gwelliant yma, felly, yn ceisio sicrhau bod ymddygiad annerbyniol yn arwain at ganlyniadau difrifol ac yn diogelu hygrededd y system sydd yn y Bil yma i sicrhau atebolrwydd i'r cyhoedd.
Sioned Willimas i ymateb.
Diolch. Hoffwn i ddiolch yn fawr i Jane Dodds am ei chefnogaeth ac am y pwyntiau pwysig y gwnaeth hi yn ei chyfraniad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais, felly, ar welliant 11. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 11: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 5 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag adolygu Rhan 1. Gwelliant 21 yw'r prif welliant. Paul Davies sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 21 (Sam Rowlands).
Paul Davies i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi wnawn ni bleidleisio ar welliant 21. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 21 wedi ei wrthod.
Gwelliant 21: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 4 (Julie James).
Gwelliant 4. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 4? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 6 yw'r grŵp o welliannau sydd nesaf. Mae'r chweched grŵp yma yn ymwneud â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Gwelliant 12 yw'r prif welliant. Sioned Williams sy'n cyflwyno'r gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Sioned Williams).
Y Cwnsler Cyffredinol i siarad nesaf—Julie James.
Sioned Williams i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r canlyniad yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw, felly, yn erbyn y gwelliant, sy'n golygu bod y canlyniad yn 25 o blaid, un yn ymatal a 26 yn erbyn. A'r gwelliant yn methu.
Gwelliant 12. : O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 1
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Y gwelliant nesaf fydd gwelliant 18. Ydy e'n cael ei gyflwyno gan Sioned Williams?
Cynigiwyd gwelliant 18 (Sioned Williams).
Ydy, mae'n cael ei gynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 18. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, un yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 18 wedi ei basio.
Gwelliant 18. : O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Cynigiwyd gwelliant 5 (Julie James).
A oes gwrthwynebiad i welliant 5? Nac oes. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 6. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 6 (Julie James).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 6? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 7. Yn cael ei symud, Cwnsler Cyffredinol?
Cynigiwyd gwelliant 7 (Julie James).
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 7? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 8. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 8 (Julie James).
Ydy, gan y Cwnsler Cyffredinol. Oes gwrthwynebiad i welliant 8? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 16. Ydy e'n cael ei symud yn ffurfiol, neu ydy e'n cael ei symud, gan Hannah Blythyn?
Cynigiwyd gwelliant 16 (Hannah Blythyn).
Ydy, mae'n cael ei symud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 16. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 16 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 16. : O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Grŵp 7 o welliannau sydd nesaf. Mae'r seithfed grŵp yma yn ymwneud ag adroddiad ar gymhwyso cod ymddygiad i ymddygiad pan oedd Aelod o’r Senedd yn ymgeisydd mewn etholiad. Gwelliant 19 yw'r prif welliant. Alun Davies sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 19 (Alun Davies).
Y Cwnsler Cyffredinol.
Alun Davies i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Nac oes, mae gwelliant 19—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gyda fi, oes, mae yna wrthwynebiad, sori. Mae yna wrthwynebiad, felly rhown ni welliant 19 i bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 19. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 19 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 19. : O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Y grŵp nesaf yw grŵp 8. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â Chomisiynydd Safonau y Senedd a chymhwystra. Gwelliant 9 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Y Cwnsler Cyffredinol sy'n cyflwyno'r gwelliant yma. Julie James.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Julie James).
Does gyda fi ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes gwrthwynebiad? Na. Felly, mae gwelliant 9 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 9 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â Chomisiynydd Safonau y Senedd ac ymchwiliadau. Gwelliant 17 yw'r prif welliant a Hannah Blythyn sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 17 (Hannah Blythyn).
Cwnsler Cyffredinol.
Hannah Blythyn i ymateb. Does dim ymateb. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni rhoi gwelliant 17 i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Mae gwelliant 17 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 17. : O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â Chomisiynydd Safonau y Senedd a'r ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Gwelliant 14 yw'r prif welliant. Sioned Williams sy'n cyflwyno'r gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 14 (Sioned Williams).
Diolch, Llywydd. Dywedodd Cymdeithas yr Iaith wrth y pwyllgor, yn eu hymateb i ymgynghoriad Cyfnod 1, a dwi'n dyfynnu:
'Mae Comisiynydd Safonau’r Senedd o reidrwydd yn ymwneud â materion sensitif ac mae gallu trafod y materion hynny yn Gymraeg os dyna dymuniad—neu, yn wir, angen—yr achwynydd, y sawl sy’n ymateb i honiadau, neu dystion perthnasol, yn hanfodol.'
Wrth ddadlau o blaid rhoi dyletswydd statudol ar y comisiynydd safonau o ran defnyddio'r Gymraeg—rhywbeth sydd ddim bodoli ar hyn o bryd—ychwanegodd Cymdeithas yr Iaith y byddai gwneud hynny, a dwi'n dyfynnu,
'yn symud o sefyllfa lle mae unigolion, yn enwedig achwynwyr allai fod yn fregus yn codi cwyn yn erbyn rhai o’r bobl fwyaf bwerus yng Nghymru, â’r hyder i wneud hynny fel mater o hawl yn Gymraeg, fel y dylent, nid ar ddisgresiwn ac ewyllys da y Comisiynydd Safonau o bryd i’w gilydd fel y sefyllfa cwbl ddiffygiol sydd ohoni.'
Byddem ni i gyd yn cytuno bod sefyllfa o'r fath, hyd yn oed fel ag y mae hi ar hyn o bryd, yn annerbyniol ac yn anomali, yn wir, o'i gymharu â'r hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cymharol ac mewn sefyllfaoedd cymharol yng Nghymru, hawliau mae'r Senedd hon yn briodol yn eu disgwyl gan eraill. Wrth ehangu sgôp y gyfundrefn safonau a phwerau'r comisiynydd safonau, dylem ni felly sicrhau bod ein gweinyddiaeth ni ein hunain yn gwarantu'r un egwyddorion sylfaenol.
Yn ein hadroddiad Cyfnod 1 fel pwyllgor, daethom i'r casgliad ar sail y dystiolaeth mai cam cadarnhaol ymlaen fyddai gweld swyddfa'r comisiynydd safonau yn dod yn ddarostyngedig i safonau iaith. Fe wnaethom ni argymhelliad unfrydol i'r perwyl hwn, a oedd yn cynnwys dau gam ymarferol ac allweddol y dylai'r Cwnsler Cyffredinol eu cymryd. Yn gyntaf, dywedom ni y dylai'r cwnsler ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gynnwys Comisiynydd Safonau y Senedd yn y rhestr o gyrff cyhoeddus a restrir yn Atodlen 6 i’r Mesur; ac yn ail, y dylid cynnwys Comisiynydd Safonau y Senedd mewn set o reoliadau safonau Cymraeg perthnasol. Yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor, derbyniodd y Cwnsler Cyffredinol gasgliad y pwyllgor. Ond, fel nodais i yn ystod Cyfnod 2, fe gyflwynwyd gwelliant gan y Llywodraeth oedd ond yn ymateb yn rhannol i argymhelliad y pwyllgor, gan nad oedd mesur i gynnwys Comisiynydd Safonau y Senedd mewn set o reoliadau safonau Cymraeg perthnasol.
Rwy'n ddiolchgar, felly, fod y Cwnsler Cyffredinol wedi adlewyrchu ymhellach ar y bwlch a adawyd gan welliant y Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2, a'i bod hi wedi cytuno, ar ôl trafodaethau pellach gyda Chomisiynydd y Gymraeg, i gefnogi ein gwelliant ni yng Nghyfnod 3, a fydd yn rhestru Comisiynydd Safonau y Senedd ym man priodol Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.
Pwrpas gwelliant 9 yw ei gwneud yn ofynnol bod y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ystyriaeth benodol yng nghyd-destun penodiad y comisiynydd. Bydd hwn yn cyfrannu at y nod ehangach o hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn y system safonau ymddygiad yn y Senedd hon drwyddi draw, a sicrhau bod cynllunio capasiti'r system i ymateb i ddewis ac angen iaith yn digwydd yn drefnus ac yn systemataidd ar bob lefel, gan gynnwys wrth wneud penodiadau allweddol.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi mynegi yng Nghyfnod 2 y byddai hyn efallai yn atal ymgeiswyr cymwys rhag gwneud cais am rôl y comisiynydd safonau. Dwi ddim yn cytuno. Dwi’n meddwl ei fod yn bwysig pwysleisio’r angen i’r broses recriwtio sicrhau cymhwysedd yn y Gymraeg, yn enwedig o ystyried natur sensitif y rôl a'r ymchwiliadau. Os bydd y Cwnsler Cyffredinol yn dal i wrthwynebu sicrhau hyn drwy ei osod ar wyneb y Bil, yna efallai y gallai gadarnhau yn ei hymateb y bydd gallu ymgeiswyr ar gyfer y rôl yn yr iaith Gymraeg yn elfen ffurfiol o’r broses recriwtio.
Dwi'n cytuno'n llwyr y dylai'r Senedd hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn weithredol drwy gydol y broses safonau, a dwi'n gweld pam bod yr Aelod dros Orllewin De Cymru wedi cyflwyno gwelliant 14. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd yn cadarnhau bod gan unrhyw berson a benodir yn gomisiynydd wybodaeth ddigonol am y Gymraeg a hyfedredd ynddi i arfer swyddogaethau'r comisiynydd. Ond dyw'r gwelliant ddim yn glir wrth benderfynu beth mae 'hyfedredd' yn ei olygu o ran y Gymraeg, ac nid yw'n glir sut y dylid asesu comisiynwyr. Wrth gwrs, rhaid i swyddfa'r comisiynydd fod â'r gallu yn y Gymraeg i sicrhau y gellir cynnal unrhyw gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ond mae 'hyfedredd' yn derm goddrychol, ac, felly, nid yw'n glir pa lefel o sgil neu arbenigedd y byddai disgwyl i'r comisiynydd ei gael. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl hon, y byddai Sioned Williams yn garedig iawn i egluro pa lefel o wybodaeth a hyfedredd y byddai disgwyl i'r comisiynydd ei chael a sut y byddai'n cael ei hasesu.
O ran gwelliant 15, rŷn ni'n cytuno y dylid ychwanegu Comisiynydd Safonau y Senedd at y rhestr o gyrff sy'n dod o dan Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016, ac fe fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliant yma. Diolch, Llywydd.
Y Cwnsler Cyffredinol.
Sioned Williams i ymateb.
Diolch, Llywydd, a diolch am gyfraniadau'r Cwnsler Cyffredinol a Paul Davies.
'Hyfedredd' yw'r term arferol sy'n cael ei ddefnyddio i gyfleu rhuglder neu feistrolaeth o iaith. Mae e'n rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio, er enghraifft, yn fframwaith CEFR, o ran lefel C1 neu C2. Mae e'n rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio o fewn y cwricwlwm ac ar wefannau dysgu Cymraeg, ac yn y blaen. Felly, dwi'n meddwl bod y ddealltwriaeth o'r term yn eithaf eglur o edrych ar ddogfennau sy'n berthnasol i'r maes o ran dysgu iaith.
O ran yr hyn a oedd gan y Cwnsler Cyffredinol i'w ddweud, dwi yn meddwl, eto, ein bod ni wedi pwysleisio yn ystod y ddadl yma sensitifrwydd y materion sy'n cael eu trafod ac sy'n cael eu hystyried gan y comisiynydd safonau. Dwi'n meddwl bod gwneud yn siŵr bod rhywun sydd yn y rôl yna yn medru trafod yn y Gymraeg â phobl sy'n cael eu cymell gan y lle yma i ddefnyddio eu Cymraeg yn bwysig iawn. Fe soniodd y Cwnsler Cyffredinol, o ran y comisiynwyr eraill, nad yw e, ar wahân i Gomisiynydd y Gymraeg, yn ofyniad ar hyn o bryd i gael hyfedredd yn y Gymraeg. Wel, efallai y dylai e fod, ac efallai y gallwn ni, wrth inni nawr edrych ar rôl y comisiynydd drwy gyfrwng y Bil yma, osod marc i lawr, ac, fel rydym ni'n dweud, yn enwedig gan ei fod e'n berthnasol yn uniongyrchol i'r rôl. Efallai y byddwn i'n croesawu cael hyfedredd yn rhan o ofyniad swydd y comisiynwyr eraill hefyd, ond yn sicr o ran y rôl yma a'r hyn rŷn ni wedi ei drafod heddiw am swyddogaethau'r rôl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cymerwn ni bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 14 wedi ei wrthod.
Gwelliant 14: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y gwelliant nesaf yw gwelliant 15. Ydy e'n cael ei symud, Sioned Williams?
Cynigiwyd gwelliant 15 (Sioned Williams).
Ydy, mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 15? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 15. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 15: O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Grŵp 11 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â rhedeg etholiadau Senedd Cymru. Gwelliant 13 yw'r prif welliant. Sioned Williams sy'n cyflwyno gwelliant 13.
Cynigiwyd gwelliant 13 (Sioned Williams).
Y Cwnsler Cyffredinol.
Sioned Williams i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 13. Pleidlais ar welliant 13—agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 13 wedi'i wrthod.
Gwelliant 13: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Rydyn ni nawr wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi'u derbyn.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.
Mae hynny'n caniatáu i ni fynd ymlaen i eitem 11, sef Cyfnod 4, a hwn yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Cyn i'r Senedd wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid pasio'r Bil, mae'n rhaid i fi nodi ar y cofnod yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nad yw darpariaethau Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn ymwneud â phwnc gwarchodedig yn fy marn i.
Y Cwnsler Cyffredinol, felly, sy'n gwneud y cynnig ar Gyfnod 4—Julie James.
Cynnig
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.48, yn cymeradwyo Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
Cynigiwyd y cynnig.
Wrth inni symud i gyfnod newydd yn hanes datganoli, lle mae ein democratiaeth ni yn aeddfedu ac yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros ei dyfodol ei hun, mae gennym gyfle pwysig iawn gyda'r Bil hwn i fynnu ac i sicrhau atebolrwydd gan y rhai sy'n cael eu hethol, neu sydd am gael eu hethol, i'r lle hwn. Dyna pam ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn gweld y Bil hwn fel cam pwysig a chadarnhaol ymlaen. Mae'n cryfhau hyder y cyhoedd yn y safonau ymddygiad yn y Senedd ac felly'n cryfhau ein democratiaeth. Mae hefyd yn ceisio atal dichell bwriadol mewn gwleidyddiaeth—cam arloesol sy'n rhoi Cymru ar y blaen. Hoffwn i dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau ein bod ni yn cyrraedd y pwynt hwn o ran hynny, yn enwedig fy nghyd-Aelod Plaid Cymru, Adam Price, sydd wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu'r syniad hwn ers cyfnod hir.
Ond mae natur arloesol y Bil hwn o ran hynny hefyd yn dweud rhywbeth pwysig wrthym ni am yr amser rŷn ni'n byw ynddo. Os yw democratiaeth am oroesi, rhaid iddo allu amddiffyn ei hun drwy fod yn ddigon hyderus i osod safonau uchel iddo'i hun. Os ydym o ddifrif am warchod ein democratiaeth, yna mae'n rhaid i'r Senedd hon fod yn barod i weithredu gyda safonau clir, atebolrwydd go iawn a pharodrwydd i ddweud yn ddiamwys nad oes lle i dwyll na dichell mewn democratiaeth yng Nghymru. A thra bod natur arloesol y Bil yn destun dathlu, sy'n dangos y posibiliadau radical a chadarnhaol y gallwn ni eu cyflawni fel Senedd, mae hefyd yn adlewyrchu maint yr her sydd o'n blaenau ni i amddiffyn datganoli a democratiaeth. Mae'r Bil hwn felly yn gam cyntaf ac yn gosod sail gadarn i'r gwaith hwnnw, ac mae Plaid Cymru yn falch o chwarae ein rhan yn y gorchwyl hollbwysig hwnnw.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Bydd y bleidlais ar y cynnig yma yn cael ei chymryd yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 12 sydd nesaf, y Cyfnod Adrodd ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru).
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau ar yr eitem yma yn ymwneud â chymhwyso'r Ddeddf i achosion arbennig. Yr Ysgrifennydd Cabinet sydd yn cyflwyno'r gwellianau yma.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Mark Drakeford).
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2. Yw e'n cael ei symud gan y Gweinidog?
Cynigiwyd gwelliant 2 (Mark Drakeford).
Symud.
A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 2? Nac oes. Felly, mae gwelliant 2 hefyd wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyna ni. Dyna ddiwedd ein hystyriaeth ar y Cyfnod Adrodd o'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo.
Dyna'r Cyfnod Adrodd yn dod i ben ar y Bil yna, sy'n ein caniatáu ni i symud ymlaen i'r Cyfnod 4 ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Yn gyntaf, mae'r—. Na, nid Cyfnod 4. Yn gyntaf, mae angen yr hysbysiad ffurfiol o gydsyniad Ei Fawrhydi, a'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig yr hysbysiad yma—Mark Drakeford.
Mae hynny'n ein caniatáu ni nawr i symud i Gyfnod 4 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Felly, cyn i'r Senedd wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid pasio'r Bil, mae'n rhaid i fi nodi ar gofnod, yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nad yw darpariaethau'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, yn fy marn i. Wedi dweud hynny nawr, fe allaf i alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig o dan Gyfnod 4. Mark Drakeford.
Roeddwn i'n falch iawn o glywed y datganiad olaf yna rŵan i ni gael consensws yn y Senedd yma ar gyfer y Bil pwysig yma. Fe fydd y gofrestr llety ymwelwyr newydd fydd yn dod i fodolaeth o hydref eleni yn rhoi darlun clir i ni o'r sector twristiaeth yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf erioed. Mae'r Bil yn rhan o becyn o fesurau sydd wedi eu cymeradwyo gan y Senedd yma, sy'n golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru ystyried effaith gymdeithasol twristiaeth, ynghyd â'r effaith economaidd dŷn ni i gyd yn gwybod amdano fo. Ond mae'r effaith gymdeithasol hefyd angen cael ei ystyried, ynghyd â'r effaith y gallai twristiaeth gael ar yr amgylchedd a'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg. Hynny ydy, mae pasio'r Bil yma a'r pecyn o fesurau yn ein symud ni tuag at sefyllfa lle mae modd i'r dyfodol greu cydbwysedd derbyniol rhwng anghenion cymunedau ac anghenion y diwydiant ymwelwyr, a dyna ydy craidd twristiaeth gynaliadwy.
Mi fydd y gofrestr yn ffynhonnell ddata pwysig i ni ar gyfer y dyfodol i bawb fydd yn ymwneud efo creu polisi, i sicrhau cynnal yr egwyddor bwysig yma o dwristiaeth cynaliadwy, ac mi fydd o hefyd wrth gwrs yn hwyluso'r ffordd ar gyfer yr ardoll ymwelwyr. Yn ogystal, drwy gyflwyno cyfundrefn drwyddedu sy'n canolbwyntio ar lety hunanarlwyo i ddechrau, fe fydd y ddeddfwriaeth newydd yn ceisio sicrhau bod safon y llety hwnnw yn cyd-fynd yn agosach â'r safonau cyfatebol sydd eisoes yn gymwys i'r sector rhentu preifat.
Roeddwn i'n falch iawn o weld gwelliant Luke Fletcher yn cael ei dderbyn. Mae angen rhoi llais i bobl leol sydd yn dioddef gwahanol fathau o amharu ar eu bywydau gan ymwelwyr sydd ddim bob tro yn ystyriol o'r bobl sydd yn byw yn barhaol yn y cymunedau lle mae twristiaeth yn flaenllaw.
Ysgrifennydd Cabinet, dwi yn diolch i chi am y cydweithio adeiladol fu ar y gwelliant, ond hefyd ar y Bil yma'n gyffredinol, ac am yr holl fesurau cysylltiedig sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn ystod oes y chweched Senedd yma drwy'r cytundeb cydweithio. Mi fyddan nhw yn gwneud gwahaniaeth i gynnal cymunedau, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r iaith Gymraeg yn gryf. Diolch yn fawr.
Mae wedi bod yn braf cydweithio unwaith eto gyda chyfreithwyr a chlercod y Senedd, gyda PASC, a hefyd gyda'r Ysgrifennydd Cabinet a'i dîm, sydd wedi ymdrechu nid yn unig i wrando, ond i weithredu ar y cyd i wella'r Bil. Pa well dystiolaeth o hynny na'r ffaith fod Aelodau a'r Llywodraeth wedi cefnogi gwelliannau yn fy enw i yn ystod Cyfnodau 2 a 3, a gweithredu ar fy sylwadau i a sylwadau Samuel Kurtz yn y pwyllgor i ddod â newidiadau llwyddiannus gerbron y Senedd wythnos diwethaf? Felly, diolch yn fawr i chi am hynny.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod fy mod i'n gryf o'r farn nad ydy'r Bil yma wedi mynd yn ddigon pell i sicrhau bod gwahanol fath o ddarparwyr llety yn cael eu trin yn gyfartal. Yn benodol, dwi'n meddwl ei fod e'n siomedig na fydd y system drwyddedu yn cynnwys rhai defnyddwyr Airbnb. Dwi'n cytuno gyda Travel Chapter a Sykes Holiday Cottages fod llofftydd sbâr yn fwy o risg na darparwyr llety traddodiadol. Mae'r rhai sydd wedi gwneud arian trwy lofftydd sbâr yn yr Alban yn gorfod cael trwydded, ac er fy mod i'n cydnabod bod Holyrood wedi creu deddfwriaeth wahanol iawn i'r Bil rŷn ni'n ei drafod heddiw, mae'n siomedig nad ydym ni wedi gallu adeiladu ar eu gwaith nhw ac felly sicrhau gwell cydraddoldeb ymysg y sector o'r diwrnod cyntaf. Er hynny, dwi'n cydnabod y gwaith a'r ymdrech y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud yn ystod Cyfnod 3 i symleiddio'r llwybr i gynnwys llofftydd sbâr yn y dyfodol, a dwi'n gobeithio y bydd y Senedd nesaf yn edrych yn ddifrifol ar hynny.
I orffen, fel mae'r Aelodau oedd yn bresennol yng Nghyfnod 2 yn ymwybodol, dwi o'r farn bod modd i ni wneud camau hyd yn oed yn bellach i gryfhau'r sector dwristiaeth yng Nghymru, fel, er enghraifft, gwneud Croeso Cymru yn gorff annibynnol a mynd i'r afael â'r ffaith fod darparwyr llety yn colli arian i blatfformau bwcio rhyngwladol. Ond dwi'n gobeithio bod y gwaith o gefnogi’r sector yn mynd i barhau nawr yn y Senedd nesaf, a'n bod ni wedi cymryd cam pwysig i'r cyfeiriad hwnnw heddiw. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn glou, a gaf i ddweud 'diolch' i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ac at ddatblygiad y Bil? Gaf i ddweud gair o ddiolch yn enwedig i Siân Gwenllian am y gwaith roedd hi wedi'i wneud pan oedd y Bil yn cael ei ystyried yn wreiddiol, pan oeddem ni'n datblygu'r syniadau sydd o flaen y Senedd y prynhawn yma, ac am y pwyntiau mae Siân wedi eu gwneud y prynhawn yma?
Mae'r Bil yn rhan o becyn o bethau rŷn ni wedi eu gwneud yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'n cyd-fynd â'r Ddeddf sydd ar y llyfr statudol yn barod, ac mae'n rhan o'r pethau ehangach rŷn ni wedi eu gwneud i warchod yr iaith Gymraeg yn y cymunedau yn y cadarnleoedd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 15 sydd nesaf, y ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) yw hwn. Cyn cychwyn—
 hynny mewn golwg felly, dwi'n galw ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig o dan Cyfnod 4— Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9221 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser mawr gen i gyflwyno'r cynnig yn y Senedd heddiw yng Nghyfnod 4 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).
Felly, rwy'n annog pob plaid yn y Senedd i gefnogi'r Bil hwn heddiw. Mae'n dangos bod Cymru'n genedl flaengar, wedi'i ymrwymo i safonau moesegol, lles anifeiliaid a deddfwriaeth flaengar, gan gryfhau enw da Cymru fel gwlad sy'n arwain ar safonau lles anifeiliaid. Diolch.
Gaf i hefyd ategu'r diolchiadau i bawb sydd wedi bod ynghlwm â'r ddeddfwriaeth yma, yn enwedig clercod y pwyllgor diwylliant a'r tîm cyfreithiol, y tîm ymchwil hefyd, a thîm ymchwil grŵp Plaid Cymru, wrth gwrs, sydd wedi cefnogi sawl Aelod o'r grŵp yma, a dweud y gwir, yng nghwrs y trafodaethau ar y Bil yma? Ac fel rhai o'r pleidiau eraill yn y Siambr yma, bydd gan Aelodau Plaid Cymru bleidlais rydd ar y mater yma.
Dwi jest eisiau dweud ar y dechrau bod pob Aelod o'r Senedd yma yn teimlo'n gryf ynglŷn â lles milgwn. Dyw hynny ddim yn cael ei gwestiynu. Y pwynt dwi wedi ei wneud yn gyson yng nghwrs cynnydd y Ddeddf yma yw bod y sail moesegol cryf yna mae nifer o bobl wrth gwrs yn ei ddal, dyw hynny ar ben ei hun, wrth gwrs, ddim o reidrwydd yn mynd i roi deddfwriaeth dda i chi.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb.
Bydd yn rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar y cynnig yma o dan Gyfnod 4. Felly, rwy'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch. Mae gyda ni, felly, y tri darn yma o ddeddfwriaeth i bleidleisio'n derfynol arnynt. Eitem 11 yw'r un cyntaf i bleidleisio arno—Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) wedi ei gymeradwyo.
Eitem 11. Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): O blaid: 50, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar Gyfnod 4 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru). Galw am bleidlais ar y cynnig yma. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) wedi ei gymeradwyo.
Eitem 14. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 15 yw'r Cyfnod 4 ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, dau yn ymatal, 10 yn erbyn. Ac felly, mae'r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) wedi ei gymeradwyo.
Eitem 15. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru): O blaid: 39, Yn erbyn: 10, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch i chi i gyd.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:41.