Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/02/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd yn gyntaf heddiw, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn delio â pharcio ar balmentydd? OQ63823
Gwnaf, wrth gwrs. Mae parcio ar balmentydd yn creu risgiau diogelwch difrifol i bob cerddwr, ac yn enwedig pobl anabl, pobl hŷn a phlant ifanc. Yn y pen draw, ein nod yw strydoedd mwy diogel a chynhwysol sy'n gweithio i bawb. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Adran Drafnidiaeth ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r mater.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn 2019, sefydlodd Llywodraeth Cymru un o'i hymgynghoriadau, ac roedd yr un hwn yn ymwneud â pharcio ar balmentydd. Y mis diwethaf, yn y lle hwn, gofynnodd pedwar gwleidydd i'r Prif Weinidog ynglŷn â pharcio ar balmentydd, ac mae'n amlwg nad oes llawer wedi digwydd ers 2019. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Alban wedi deddfu ar y mater hwn a bellach yn gorfodi'r gwaharddiad yn yr Alban. Soniodd y Prif Weinidog fod y strydoedd cul mewn rhai mannau yng Nghymru yn broblem wrth wahardd parcio ar balmentydd. Wel, wrth gwrs, mae Llywodraeth yr Alban wedi delio â hynny. Mae gan awdurdodau lleol yn yr Alban bŵer i eithrio rhai ffyrdd rhag y gwaharddiad. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda swyddogion yn yr Alban i weld pryd y gallwn orfodi'r rheol hon yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Wel, a gaf i ddiolch i Rhys am ei gwestiwn? Mae hwn yn fater sy'n effeithio'n fawr ar lawer iawn o gymunedau ledled Cymru. Mae'n fater difrifol iawn. Yn bersonol, mae gennyf broblem nid yn unig â'r bobl sy'n parcio ar balmentydd, ond hefyd gyda phobl sy'n eistedd gyda'u hinjan yn segura, yn enwedig y tu allan i ysgolion—[Torri ar draws.]—a meysydd chwarae, yn wir. Yn gyntaf oll, credaf fod dau ddull gweithredu y mae angen eu defnyddio yma. Un yw addysg a dysgu am y risgiau. Gwn fod llawer o ysgolion yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn. Mae llawer o ysgolion hefyd wedi defnyddio gwahanol fathau o rwystrau i atal parcio ar balmentydd a pharcio ger y fynedfa. Mewn cymunedau adeiledig, lle mae pobl yn parcio ar balmentydd, gall hyn fod yn arbennig o beryglus i bobl sy'n wynebu rhwystrau sy’n anablu yn rheolaidd—pobl sy'n gweld yn rhannol a phobl ddall. Felly, un agwedd ar ein camau gweithredu yw addysgu'r cyhoedd, y modurwr. Yr ail yw edrych ar yr hyn y gellir ei wneud o ran y gyfraith. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar barcio ar balmentydd yn ddiweddar ac wedi nodi'r bwriad i roi pwerau i awdurdodau lleol gymryd camau yn erbyn rhwystro palmentydd yn ddiangen. Mae Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo'r dull hwn ac rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gellir ei roi ar waith yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd canlyniad y trafodaethau yn golygu y gallai Cymru, pe baem yn ymuno, gyflwyno tramgwydd traffig ar gyfer parcio ar balmentydd, a fyddai'n destun gorfodaeth sifil.
Mae'r Aelod yn gofyn pa drafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth yr Alban. Mae trafodaethau manwl da iawn wedi digwydd ar draws yr holl weinyddiaethau datganoledig a chyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â'r pwnc penodol hwn. Roedd ar yr agenda yng nghyfarfod diwethaf y Gweinidogion. Felly, rydym yn rhannu arferion gorau, rydym yn rhannu profiadau. Mae pob un ohonom yn cydnabod nad her yn ymwneud â'r elfen gyfreithiol yn unig yw hi, ond un yn ymwneud ag addysgu'r modurwr hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae parcio ar balmentydd yn broblem enfawr i drigolion ar draws sawl rhan o Gymru, a chredaf y gall pob un ohonom enwi ardaloedd problemus yn ein hetholaethau ein hunain. Ond gŵyr pob un ohonoch mai'r ardaloedd sy'n sefyll allan fwyaf yw mewn ystadau tai newydd, lle mae'r strydoedd yn rhy gul i ganiatáu parcio heb fynd ar y palmant, lle na chafwyd nifer gofynnol o leoedd parcio preifat ar gyfer y cartrefi o'r cychwyn cyntaf. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn rhywbeth sydd i'w weld mor hawdd i'w unioni, a'r cyfan a fyddai ei angen yw i Lywodraeth Cymru gydnabod o'r diwedd pa mor hanfodol yw bod yn berchen ar gar i bobl a chydnabod hyn yn iawn yn y polisi cynllunio. Pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol i gyflawni hyn? Diolch.
Wel, yn gyntaf, nid darparu ar gyfer ceir yw'r unig ateb o ran cynllunio trefol a chynllunio ystadau tai. Ceir rhai enghreifftiau rhagorol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Pentref Byw, a adeiladodd—yn swydd Amwythig, rwy'n credu—gymuned anhygoel, sy'n rhoi'r car yn ail i'r cerddwr. Ac mae'n golygu bod yr holl dai a adeiladwyd yn wynebu gofod cymunedol, ac yn hytrach na bod car o flaen yr eiddo, roedd gennych ddrws croesawgar ar flaen yr eiddo, ac roedd hynny'n creu mwy o gydlyniant cymdeithasol. Roedd y tai hyn hefyd yn flaengar iawn ar y pryd o ran ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Felly, mewn gwirionedd, gellir cynllunio eiddo mewn ffordd lle rydych chi'n rhoi'r cerddwr yn gyntaf yn hytrach na'r car.
Yn ail, serch hynny, ar y pwynt a wnewch ynglŷn â darpariaeth ar gyfer ceir, ydw, rwy'n cydnabod, mewn llawer o ystadau tai lle mae'r bobl sy'n byw yn y tai hynny'n berchen ar fwy nag un car, nad oes digon o le. Ond yn yr un modd, ni fyddai angen mwy nag un car arnynt pe bai ganddynt drafnidiaeth gyhoeddus dda. Dyna pam ein bod wedi ailreoleiddio gwasanaethau bysiau, fel y gallwn gynllunio'r rhwydwaith bysiau'n well er mwyn diwallu anghenion pobl, gan y dywedir wrthym dro ar ôl tro mai'r prif reswm pam nad yw pobl yn defnyddio bysiau neu drafnidiaeth gyhoeddus yw diffyg argaeledd. Dyna pam y gwnaethom gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno, fel y gallwn greu rhwydwaith sy'n sicrhau ei fod yn diwallu anghenion teithwyr, fel y gall pobl adael y car gartref, os ydynt yn dymuno, neu beidio â gorfod cael un neu ddau neu fwy o geir y tu allan i'w tŷ neu ar y ffordd.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe sonioch chi am injans yn segura ac ysgolion. Mae hynny'n broblem sylweddol iawn yn Nwyrain Casnewydd, lle mae gennych rieni, weithiau gyda phlant ifanc, mewn rhes ar hyd y palmant yn aros i gasglu eu plant eraill o'r ysgol, a rhes gyfan o gerbydau wedi'u parcio, rai ohonynt ar y palmant, rai ohonynt oddi ar y palmant, ond llawer ohonynt â'u hinjans yn segura. Tra bo'r rhieni a'r plant hynny'n aros i gasglu'r disgyblion o'r ysgol, yn amlwg, maent yn anadlu'r mwg hwnnw, yn enwedig y plant, sy'n is i lawr, fel petai. Rwy'n credu ei bod yn broblem iechyd sylweddol iawn, ac mae'n berthnasol i lawer o ysgolion yn Nwyrain Casnewydd, ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir ledled Cymru. Felly, a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud heddiw ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ac efallai ei wneud yn gyflym, i fynd i'r afael â'r broblem honno?
A gaf i ddiolch i John Griffiths? Wrth gwrs, mae anadlu'r holl garsinogenau hynny pan fônt yn ifanc yn golygu bod eu bywydau'n cael eu byrhau. Mae'n hynod o wrthgymdeithasol i geir segura, yn enwedig lle mae plant o gwmpas. Nawr, bydd hyn yn un o broblemau'r gorffennol cyn bo hir iawn, gyda dyfodiad ceir trydan a datblygiadau technolegol mewn injans tanio mewnol confensiynol—er enghraifft, y systemau tanio a diffodd sydd wedi'u cynnwys mewn llawer o gerbydau bellach. Nid problem gyda cheir yn unig yw hon, serch hynny; mae hefyd yn broblem gyda cherbydau mwy o faint. Felly, y peth gorau y gallwn ei wneud yn y tymor byr, wrth inni symud tuag at drydaneiddio a mwy o ddefnydd o dechnoleg i atal y math hwn o weithgarwch, yw addysgu'r modurwr. Rydym wedi canfod mai'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy ysgolion. Mae ysgolion wedi bod yn hynod ragweithiol mewn sawl man yn pwysleisio i rieni yr angen i roi'r gorau i adael i'w hinjans segura, nid am ei fod yn beryglus iddynt eu hunain, ond am ei fod yn beryglus i'w plant a ffrindiau eu plant.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau i gymudwyr yng nghanolbarth Cymru? OQ63819
Mae ein buddsoddiad sylweddol mewn rheilffyrdd a bysiau'n trawsnewid teithio i deithwyr ledled canolbarth Cymru. Bydd trenau newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar reilffordd y Cambrian eleni, a bydd diwygio bysiau yn caniatáu inni adeiladu ar rwydwaith hynod lwyddiannus TrawsCymru, i ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig.
A gaf i ddiolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet? Edrychaf ymlaen at y diwrnod pan fydd gwasanaeth da ar reilffordd y Cambrian, ond yn anffodus, mae gormod o adroddiadau o hyd am wasanaeth gwael. Aeth un etholwr a gysylltodd â mi yn ddiweddar ar y trên gyda'i deulu yng Nghaersŵs, a gweld mai dim ond lle i sefyll oedd yno, ac nid oedd y daith yn ôl o Birmingham yn llawer gwell. Cafodd rhywun arall brofiad o fynd ar y trên gyda'i wraig a'i fab yn y Drenewydd. Roedd y trên ar amser, ond cafodd y gwasanaeth trafnidiaeth hwnnw ei ganslo ar fyr rybudd yn nes ymlaen.
Dywedir wrthym mai'r cerbydau trên newydd a fydd yr ateb i lawer o'r problemau, ac rydych chi newydd ddweud y bydd hynny'n digwydd yn nes ymlaen eleni, sy'n newyddion da. Fodd bynnag, rwyf wedi dweud wrth etholwyr dro ar ôl tro fy mod wedi cael gwybod y byddai hynny'n digwydd yn 2023, yna roedd yn 2024, yna roedd yn 2025. Felly, rwy'n credu bod diffyg hyder y bydd hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Tybed a allech chi gadarnhau pryd yn 2026 y bydd y cerbydau newydd hynny'n dod yn weithredol, a phryd y credwch chi y ceir sicrwydd resymol o wasanaeth da ar reilffordd y Cambrian, o ran trenau'n cyrraedd ar amser a gobaith da iawn o allu cael sedd—y pethau sylfaenol?
Yn sicr. Felly, roedd dau gwestiwn yno, mewn gwirionedd. Ar union amseriad y trenau newydd, a phryd y byddant yn cael eu cyflwyno, nid wyf am roi tymor i chi, gan y gellir dehongli hynny mewn sawl ffordd. Yn hytrach, yr hyn a wnaf yw ysgrifennu atoch, neu fe ofynnaf i Trafnidiaeth Cymru ysgrifennu atoch, gyda'r dyddiad y disgwylir y bydd y trenau hynny'n cael eu cyflwyno ar y rheilffordd. Ond gallaf warantu y bydd yn digwydd yn 2026.
O ran perfformiad, fel y gŵyr yr Aelod, gall perfformiad ddibynnu ar nifer o ffactorau. Un yw'r trenau eu hunain, ac mae'r £800 miliwn o fuddsoddiad mewn trenau newydd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth. A'r ail yw effeithiau tymhorol, sydd bellach yn digwydd drwy gydol y flwyddyn—stormydd eithafol, ac yn y blaen—y mae Network Rail a Trafnidiaeth Cymru’n cynllunio fwyfwy ar eu cyfer drwy gydol y flwyddyn. Ac yna, y ffactor arall yw'r system ei hun—y rheilffordd, y signalau. Yn anffodus, mae mwy a mwy o achosion o hunan-niweidio sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd, a gall hynny gael effaith arbennig o ddinistriol ar deuluoedd, ac ar amserlenni hefyd. A gall arwain at oedi sylweddol iawn ar draws y rhwydwaith. Felly, mae llawer o ffactorau'n cyfrannu at berfformiad rheilffyrdd ac a all atal perfformiad rheilffyrdd rhag cyflawni i'r graddau gorau posib. Ond yn y cyfnod rheilffordd diweddaraf, rwy'n falch iawn o ddweud bod bron i 89 y cant o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru wedi cyrraedd ar amser o fewn tair munud, a bod 4.4 y cant o wasanaethau wedi'u canslo. Mae hwnnw'n nifer anhygoel o isel o gymharu â gweithredwyr rheilffordd eraill.
Ond credaf mai'r hyn sydd bwysicaf yw beth y mae'r teithiwr yn ei deimlo ac yn ei brofi mewn gwirionedd, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod yr adroddiad diweddaraf gan Transport Focus yn dangos bod Trafnidiaeth Cymru wedi cael sgôr enfawr o 91 y cant o ran boddhad teithwyr, ac mai nhw oedd y gweithredwr gorau sy'n teithio i mewn ac allan o Gymru, a'r pedwerydd gweithredwr gorau yn gyffredinol o'r 20 a mwy o weithredwyr ym Mhrydain. Ac yn arwyddocaol hefyd, dangosodd mai Trafnidiaeth Cymru a gofnododd y gwelliant mwyaf o ran prydlondeb o blith holl weithredwyr rheilffordd Prydain. Mae honno'n gamp enfawr. Ond rwy'n cydnabod bod gwasanaethau ar reilffyrdd y Gororau a Calon Cymru wedi cael eu heffeithio'n fawr gan amodau tywydd garw dros yr wythnosau diwethaf. Rydym yn ymwybodol iawn o hyn. Gallaf ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion ynglŷn â'r gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn ei wneud ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r systemau tywydd hirdymor a mwy mynych a fydd yn effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gan lawer o’r cymunedau rwy'n eu cynrychioli yng nghefn gwlad sir Faesyfed unrhyw fynediad at drafnidiaeth bysiau o gwbl. A'r hyn yr hoffwn ei weld yw'r cymunedau hynny'n cael eu cysylltu â lleoedd yn Lloegr, yn ne Cymru, fel y gallant fynd i apwyntiadau ysbyty, siopa bwyd, a gwneud beth bynnag y maent eisiau ei wneud mewn gwirionedd. Ond maent yn cael eu hatal rhag gwneud hynny, yn enwedig os nad ydynt yn gyrru. Felly, mae gennyf ddiddordeb ym mha waith y gallwch fynnu bod Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud, gyda Chyngor Sir Powys, i sicrhau bod gennym rwydweithiau bysiau dibynadwy nid yn unig ar gyfer y bobl sy'n byw mewn trefi, ond y bobl sy'n byw yn ein cymunedau gwledig, yn enwedig mewn lleoedd fel cefn gwlad sir Faesyfed.
Mae hwn yn bwynt pwysig iawn. Y rheswm pam ei bod yn aml yn well gan bobl wasanaethau rheilffyrdd na gwasanaethau bysiau yw am eu bod yn eu hystyried yn rhywbeth parhaol, oherwydd o dan y system sydd wedi bod ar waith ers canol y 1980au, mae wedi bod yn llawer rhy hawdd canslo gwasanaethau ar y funud olaf. Felly, nid yw pobl, y cyhoedd sy'n teithio, wedi teimlo sicrwydd ynghylch darpariaeth hirdymor gwasanaethau bysiau ac yn credu eu bod yn mynd i fod yno'n hirdymor, ac mae hynny wedi arwain at ddirywiad yn y nifer sy'n eu defnyddio. Gyda rheoleiddio gwasanaethau bysiau, byddwn yn ceisio mynd i’r afael â hynny. Ond yn hollbwysig, rydym eisoes yn ei wneud. Rydym yn ei wneud gyda rhwydwaith TrawsCymru, sydd wedi gweld cynnydd aruthrol yn y defnydd a wneir o wasanaethau yn ddiweddar. Mae hwn yn rhwydwaith sy’n cysylltu’r cymunedau hynny na chânt eu gwasanaethu gan y rheilffyrdd. Ac rwy'n falch iawn o allu dweud, mewn ymateb uniongyrchol i'ch cwestiwn, fod Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Sir Powys. Maent yn mynd i fod yn treialu gwasanaeth bws X48 newydd sy'n cysylltu'r Amwythig â nifer o gymunedau ym Mhowys. A bydd yn ategu gwasanaethau rheilffordd—ni fydd yn cystadlu â nhw, bydd yn ategu gwasanaethau rheilffordd—ar reilffordd Calon Cymru, gan gysylltu cymunedau nad ydynt wedi'u cysylltu drwy drafnidiaeth rheilffyrdd. Felly, mae eisoes yn digwydd. Ac mae Trafnidiaeth Cymru, rwy’n falch o ddweud, hefyd yn monitro’r galw gan deithwyr, gan edrych ar ble mae galw heb ei ddiwallu am wasanaethau ac yna’n cynllunio gwasanaethau TrawsCymru yn seiliedig ar y data hwnnw.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Rheilffyrdd wedi’i osod, ac mae symleiddio ac integreiddio cludo nwyddau, gwasanaethau teithwyr, tocynnau a chynllunio hirdymor i’w groesawu ac yn gwneud synnwyr perffaith i Loegr. Ond bydd Cymru ar ei cholled eto oherwydd y Bil hwn.
Mae gennyf ddau wendid cychwynnol yn y Bil yr hoffwn eu codi gyda chi. Mae’r Bil yn caniatáu i Great British Railways flaenoriaethu ei wasanaethau ei hun, tra bydd Trafnidiaeth Cymru yn talu GBR am fynediad i gapasiti rhwydwaith cyfyngedig. Ac ar yr un pryd, mae amddiffyniadau allweddol i Gymru yn dibynnu ar gysylltiadau gwaith anffurfiol yn hytrach na'u bod yn statudol. Nid yw uned fusnes GBR Cymru yn statudol. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i GBR ystyried y memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nid oes llawer o atebolrwydd gan GBR i Weinidogion. A ydych chi'n derbyn bod y diffygion hyn yn creu gwrthdaro buddiannau sylfaenol ac yn gadael gwasanaethau rheilffyrdd Cymru yn agored i niwed, yn enwedig os bydd cysylltiadau gwleidyddol yn newid? Ac os nad ydych chi'n cytuno â'r asesiad hwnnw, a allwch chi egluro sut y mae'r Bil yn diogelu buddiannau mewn cyfraith, yn hytrach na thrwy ewyllys da?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i barodrwydd i edrych ar ddiwygio'r rheilffyrdd, rhywbeth rwy'n ei groesawu. Mae'n hen bryd diwygio'r rheilffyrdd. Bydd o'r diwedd yn arwain at integreiddio traciau a threnau. Bydd yn arwain at wasanaethau teithwyr sydd o fudd i deithwyr yn gyntaf ac yn bennaf, yn hytrach na'r rhai sy'n ceisio gwneud elw o drafnidiaeth gyhoeddus.
O ran y cwestiynau a ofynnodd ynglŷn â'r Bil ei hun a chydrannau'r Bil, bydd Gweinidogion y DU yn dweud mwy am ddarpariaethau yn y Bil ar gyfer Cymru a chryfder a rôl bwrdd rheilffyrdd Cymru. Bwrdd rheilffyrdd Cymru sydd yn y sefyllfa orau o ran pennu gwasanaethau a phennu gwelliannau a gwaith cynnal a chadw. Byddant yn dweud mwy am hynny pan fydd gweledigaeth a phrosbectws a arweinir gan y diwydiant yn cael eu lansio yr wythnos nesaf.
Yn seiliedig ar hynny, felly, a ydych chi'n mynd i fod yn pwyso i geisio rhoi rhywfaint o hyn ar y llyfr statud, fel nad yw'n cael ei adael i ewyllys da yn unig? Mae'n fater o roi hyder i ni y bydd hynny'n digwydd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud mai ei huchelgais o hyd yw datganoli gwasanaethau a'r seilwaith rheilffyrdd yn llawn. Ac eto, o dan y Bil, dim ond gofyn am ymgynghoriad ar gynllunio rheilffyrdd hirdymor o fewn fframwaith Cymru a Lloegr y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu ei wneud. Cymru fydd yr unig genedl ym Mhrydain heb reolaeth lawn dros ei seilwaith rheilffyrdd, ac mae'r Bil yn ddistaw ar ganlyniadau'r anghydbwysedd o ran ariannu. Felly, yn y trafodaethau yr ydych yn eu cael gyda swyddogion yn Llundain, a allwch chi esbonio sut y mae cydsyniad Llywodraeth Cymru i'r Bil yn hyrwyddo datganoli rheilffyrdd i Gymru mewn unrhyw ffordd ystyrlon? Ac os nad yw, pam y credwch fod datganoli pellach yn debygol ar ôl i'r ddeddfwriaeth hon basio?
Rwy'n credu y byddai'n well cyfeirio at yr arbenigwyr sydd wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgorau yma ac yn San Steffan. Yr hyn sy'n amlwg yw bod y diwygio hwn yn datblygu'r berthynas rhwng Cymru a Llywodraeth y DU ac yn creu sefyllfa gryfach o lawer o ran dylanwad Cymru drwy fwrdd rheilffyrdd Cymru a thrwy GBR Cymru.
O ran datganoli rheilffyrdd, credaf ein bod wedi gwneud gwaith gwych ar y metro. Mae'r metro yn ddarn o seilwaith caeedig ar wahân. Er mwyn datganoli'r holl seilwaith, mae angen ateb un cwestiwn arholiad allweddol: beth y ceisiwn ei ddatganoli mewn gwirionedd? Ai llwybr Cymru, sy'n cynnwys rhannau yn Lloegr? Ai dim ond yr hyn sydd yng Nghymru, ac os felly, ni fyddai'n cyflawni llawer i'r teithiwr mewn gwirionedd, oherwydd oni bai ein bod yn delio â rhai o'r tagfeydd ar y ffin ond yn Lloegr, nid ydym yn mynd i gael mwy o drenau trwodd, a dyna y mae llawer o deithwyr, nifer enfawr o deithwyr, yn eu defnyddio? A yw'n ymwneud â datganoli systemau, y systemau digidol, y signalau? A yw'n ymwneud â datganoli'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig? Mae'r rhain yn ystyriaethau allweddol.
Yn gyntaf, serch hynny, mae elfen y gost. Rwyf wedi cymharu'r rhwydwaith rheilffyrdd â hen gar rhydlyd. Roedd erthygl ddiweddar ar BBC ar-lein, ac rwy'n credu ei bod wedi'i chyhoeddi mewn man arall, am Aston Martin, y DB5. Ystyriais unwaith gynnig fy Rover 200 Sprint ychydig yn llai rhydlyd i'r gŵr dan sylw yn gyfnewid am y car rhydlyd iawn hwn. [Chwerthin.] Y car hwn—rwy'n credu ei fod wedi gorfod gwario oddeutu £400,000 arno. Dyma pam fy mod yn cymharu'r rhwydwaith rheilffyrdd â hen gar rhydlyd iawn. Yn hytrach na thalu am atgyweirio car rhywun arall ar ôl ichi ei brynu, yr hyn y dylech ei wneud, yn gyntaf oll, yw cwblhau'r gwaith atgyweirio, cael rhywun arall i dalu am y gwaith, a dim ond ei brynu pan fyddwch yn sicr fod y gwaith wedi'i wneud yn iawn. Dyna'r ffordd ddelfrydol o ddatganoli rheilffyrdd yn fy marn i.
Ni fyddai datganoli rheilffyrdd yn y ffordd ddelfrydol yn golygu datganoli'r hyn sydd yng Nghymru yn unig. Drwy gytundebau â'r meiri metro yn Lloegr, rwy'n credu ei bod yn gwneud llawer mwy o synnwyr datganoli rhwydwaith cyfan llwybr Cymru. Dyna fyddai'r ateb delfrydol. Mae hynny'n seiliedig ar symudiadau teithwyr, nid ar ffiniau gweinyddol.
Yn eich cymhariaeth, mae'n ymwneud â chael pwy sydd i fod i dalu i dalu, ac yna prynu'r car, oherwydd, yn amlwg, mae'r Aston Martin hwnnw'n werth mwy na £400,000 bellach. Os cofiaf yn iawn, rwy'n credu ei fod yn werth sawl miliwn, gan ei fod yn gerbyd eithaf unigryw.
Ond i fynd yn ôl at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ei hun, yn eich memorandwm esboniadol, rydych chi'n nodi eich bod eisiau trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU cyn asesu a yw darpariaethau allweddol y Bil hwnnw er budd gorau Cymru. Beth yw eich llinellau coch wrth gydsynio i'r Bil? Pa newidiadau pendant y mae'n rhaid iddynt ddod o'r trafodaethau hynny er mwyn ichi allu cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, neu a fyddwch chi'n barod i bleidleisio o'i blaid hyd yn oed os nad oes unrhyw welliannau wedi'u gwneud i'r Bil?
Yn gyntaf oll, mae trafodaethau hynod adeiladol yn mynd rhagddynt gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch y Bil a'r darpariaethau sydd ynddo. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Yn amlwg, un llinell goch yw mai'r sefyllfa bresennol yw'r sefyllfa sylfaenol o ran y pŵer a'r awdurdod sydd gan Weinidogion Cymru. Bydd y Bil a'r diwygiadau o ganlyniad iddo yn gwella'r berthynas sydd gennym, yn gwella'r pŵer sydd gennym a'r dylanwad sydd gennym.
I fynd yn ôl at y gymhariaeth, rydych chi'n llygad eich lle. Mae'n ymwneud â gallu dweud wrth yr awdurdod arall beth i'w atgyweirio ar yr hen gar, sut i'w atgyweirio a phryd i'w atgyweirio, ac mai nhw ddylai dalu amdano. Nawr, yn hollbwysig, gyda sefydlu bwrdd rheilffyrdd Cymru a'r awdurdod cryfach sydd ganddo gyda sefydlu GBR Cymru, bydd gennym y gallu i gyfeirio'r cyllid at welliannau seilwaith penodol. Felly, mae'n ein symud o sefyllfa o fod yn oddefol i gael mwy o reolaeth, a'r rheolaeth sy'n ein galluogi i wella seilwaith ledled Cymru ochr yn ochr â'r cyllid.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Diolch, Lywydd. Mae'r cau a'r cyfyngiadau parhaus ar bont Menai bellach wedi llusgo ymlaen am fwy na thair blynedd, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda gwaith atgyweirio wedi'i ymestyn eto'n ddiweddar tan wanwyn 2027 fan lleiaf, gyda namau'n cynnwys trawstiau a bolltau diffygiol. Mae eleni yn nodi deucanmlwyddiant y bont, symbol o'r beirianneg flaengar yr oedd ein cenedl yn adnabyddus amdani ar un adeg. Ac eto, ymddengys na allwn wneud atgyweiriadau sylfaenol neu wneud unrhyw beth y dyddiau hyn heb flynyddoedd o darfu, ac mae'n gywilyddus. Y canlyniad yw tagfeydd cronig, cyfyngiadau pwysau a niwed economaidd difrifol i Ynys Môn a'r cyffiniau.
Nid anghyfleustra bach y dylai pobl ddysgu byw gydag ef yw hyn. Mae'n fethiant clir i reoli prosiect gan y Llywodraeth Lafur hon, wedi'u galluogi gan Blaid Cymru, ac mae'n cael effaith wirioneddol a pharhaol ar gymunedau'r ardal leol honno a'r busnesau lleol. Mae'r bont hon yn rhaff achub, yn cysylltu cymunedau, yn cefnogi swyddi ac yn sail i'r diwydiant twristiaeth. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam fod yr atgyweiriadau hyn wedi cymryd cyhyd, ac a yw bellach yn cytuno â mi fod y tarfu yn brawf fod y Ceidwadwyr Cymreig yn iawn wrth alw am drydedd bont dros y Fenai i ddiogelu economi Ynys Môn a gogledd Cymru yn y dyfodol?
Lywydd, mae'r Aelod yn galw am waith atgyweirio a chynnal a chadw heb unrhyw darfu. Byddai angen ichi fod yn ddewin i allu gwneud y math hwnnw o waith. Mae hon yn bont sydd yn 200 mlwydd oed. Cynlluniwyd y bont ar gyfer ceffyl a throl. [Torri ar draws.] Mae angen cynnal a chadw'r bont hon yn iawn. Rwy'n clywed yr Aelod dros Ynys Môn. Mae angen ei chynnal a'i chadw'n iawn. Ond credaf ei bod yn sarhad dweud nad yw'r peirianwyr yn gallu gwneud eu gwaith. Buaswn yn annog yr Aelod i beidio â chwestiynu galluoedd pobl nad ydynt yma, ac nad ydych chi wedi cyfarfod â nhw. Felly, byddaf yn sicrhau'n bersonol eich bod yn cael gwahoddiad i gyfarfod â'r peirianwyr sy'n gwneud y gwaith cynnal a chadw ar y bont hon. Gadewch inni ddathlu ei deucanmlwyddiant, ond gan gydnabod hefyd fod hon yn bont sydd angen ei hatgyweirio i'w hadfer i'w gogoniant blaenorol.
Mae hwn yn seilwaith a adeiladwyd gan Thomas Telford yn y dyddiau pan oedd pobl yn defnyddio offer sylfaenol a'u dwylo, ac nid dyna a ddywedais—mae'n fater o reoli'r prosiect. Dywedais hynny'n glir yn fy sylwadau—fod hyn yn ymwneud â'r gwaith o reoli'r prosiect a'r strwythurau sydd ar waith gan y Llywodraeth ganolog yma ym Mae Caerdydd, gan Lafur a Phlaid Cymru. Ac fe glywais—[Torri ar draws.] Wedi'u galluogi gan Blaid Cymru.
Yn gyffredinol, mae gan Gymru seilwaith ffyrdd gwael o gymharu â Lloegr, gyda llawer llai o draffyrdd a ffyrdd deuol, ac mae rhai o'r llwybrau gwaethaf o ran tagfeydd yng ngogledd Cymru. Fel y mae cynllun trafnidiaeth rhanbarthol cyd-bwyllgor corfforedig y gogledd yn ei nodi, mae lles economaidd y gogledd yn dibynnu ar system drafnidiaeth sy'n darparu mynediad dibynadwy a chyfleus at gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, ond mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn teithio mewn car—mae hynny'n ffaith—ac nid yw seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn ddigon da i'r rhan fwyaf o bobl wneud y newid. Mae'r diffyg buddsoddiad mewn ffyrdd hefyd yn achosi i bobl losgi mwy o danwydd, ac mae'n amlwg nad yw ymdrechion i leihau nifer y ceir ar y ffordd yn gweithio, ac mae'r tagfeydd yn niweidio ein heconomi. Canfu astudiaeth gan INRIX fod tagfeydd traffig yn costio oddeutu £1.8 biliwn i £2 biliwn yn flynyddol i economi Cymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno â mi fod obsesiwn hunanladdol Llywodraeth Cymru gyda lleihau carbon yn tagu economi Cymru? Ac a ddylent, yn hytrach, roi diwedd ar rewi prosiectau adeiladu ffyrdd a buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a'r seilwaith ffyrdd y mae pobl yr ardal honno'n ei haeddu?
Fe ofynnaf i'r Aelod gwestiynu ei ddewis o dermau mewn perthynas â newid hinsawdd a hunan-niweidio.
Credaf, yn gyntaf oll, i'r Aelod sôn am gynllun trafnidiaeth rhanbarthol y gogledd. Wel, o ganlyniad i'r Llywodraeth hon yng Nghymru, bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn y gogledd yn cael pŵer a chyllid i allu cyflawni ei gynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Bydd yn penderfynu beth i'w ariannu. Bydd yn penderfynu pa brosiectau y dylid bwrw ymlaen â nhw. Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn cynnwys cyfeiriad at drydedd bont y Fenai. Ni chredaf mai lle unrhyw blaid wleidyddol yw hawlio perchnogaeth ar y mater penodol hwnnw, gan fod pob awdurdod lleol yn y gogledd wedi cyfrannu at y cynllun.
O ran rhoi mwy o sylw ac ystyriaeth i fodurwyr, wel, rydym yn gwario symiau enfawr ar atgyweirio a chynnal a chadw ffyrdd ledled Cymru. Yn y gogledd, credaf ein bod wedi llenwi ac atal bron i 50,000 o dyllau yn y ffyrdd yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, ac rydym wedi gosod wyneb newydd ar ddegau ar ddegau o ffyrdd yn y gogledd, sy'n cyfateb i oddeutu 100 km o wyneb ffordd.
Ond rydym hefyd yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Nid ydym yn gwneud y car yn ofyniad i fynd i mewn ac allan o gyflogaeth. Ac mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol, gan mai gwneud y car yn ofyniad yw'r hyn sy'n torri pobl allan o'r farchnad swyddi mewn gwirionedd. Dyna sy'n gwneud pobl yn economaidd anweithgar. Mae arnaf ofn fod 20 y cant o bobl ifanc yn dal i fethu cael mynediad at gyfweliad swydd gan na allant fforddio neu gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yno. Dyna reswm pam y gwnaethom basio'r Bil bysiau, a wrthwynebwyd gan eich plaid chi. Felly, rydym yn diwygio ac yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i'r graddau mwyaf posib i sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle cyfartal i ffynnu yng Nghymru.
Mae bron yn crynhoi'r agwedd gan y sefydliad yn eich Llywodraeth eich bod wedi camddehongli sylwadau pobl yn fwriadol, yn enwedig gan yr wrthblaid, wrth gysylltu rhai sylwadau a wneir er eich budd gwleidyddol eich hun, a cheisio honni mai chi sy'n iawn yn foesol gyda'r mathau hyn o faterion. Nid dyna roeddwn i'n ei ddweud, a hoffwn ddweud yn gwrtais fod honno'n gymhariaeth ddrygionus i'w gwneud, yn enwedig o ystyried yr anawsterau iechyd meddwl y soniais amdanynt wrth y Siambr hon ar fwy nag un achlysur. Felly, rwy’n cymryd y cymariaethau hynny o ddifrif.
Hoffwn ganolbwyntio hefyd, i gloi, ar yr A55. Yr A55 yw asgwrn cefn y gogledd, rhaff achub i'n cymunedau, ein busnesau, ein cludwyr nwyddau a'n diwydiant twristiaeth, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r llwybr hollbwysig hwn yn dioddef o dagfeydd cronig, damweiniau mynych sy'n achosi tagfeydd eithafol, a rhannau o'r ffordd yn rhedeg uwchlaw'r capasiti yn ystod oriau brig. Rwyf wedi codi rhai o'r problemau gyda'r llwybr hwn o'r blaen. Mae yna wrthdrawiadau rheolaidd, gyda rhai ohonynt yn angheuol, gwaetha'r modd, ar gyffordd 32 ger Pentre Helygain, damweiniau rheolaidd yn nhwnnel Conwy a phroblemau parhaus gyda chylchfan Penmaenmawr. Ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â hyn ym mis Awst, a gwn—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda? Rwyf wedi bod yn hael.
Iawn, fe wnaf hynny nawr. Felly, yn hynny o beth, hoffwn wybod sut y mae astudiaeth Llywodraeth Cymru o anghenion trafnidiaeth a gwydnwch yr A55 wedi edrych ar ran ganol yr A55, rhwng cyffordd 33 a chyffordd 32, a pha gynnydd a wnaed o ran gwelliannau diogelwch cyflym i leihau amlder gwrthdrawiadau yn yr ardal hon?
Diolch. A diolch i'r Aelod am fyfyrio'n briodol ac yn llawn ar sylwadau cynharach. Mae'r A55 yn ffordd brifwythiennol allweddol; rydych chi'n hollol iawn. Mae'n hanfodol bwysig i gymunedau ac i fusnesau ledled gogledd Cymru. Mae'r astudiaeth wydnwch sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd yn cynnwys y cyfan ohoni, ac mae hefyd yn ystyried rhannau allweddol, gan gynnwys twneli Conwy, pont Menai a phont Britannia. Mae'r adroddiad cychwynnol yn debygol o fod ar gael yn y gwanwyn, a'r adroddiad terfynol yn yr haf, gydag argymhellion i'r Llywodraeth nesaf allu eu hystyried. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau ynglŷn â ffigurau damweiniau difrifol, achosion o gau'r ffordd a marwolaethau ar yr A55. Gofynnais y cwestiwn fy hun yr wythnos diwethaf, a oedd problem benodol gyda'r A55. Yr ateb a roddwyd i mi oedd bod yr ystadegau sy'n ymwneud â'r A55 yn cyd-fynd ag ystadegau ffyrdd eraill. Fy nghasgliad oedd bod angen gwneud mwy o hyd ar ddiogelwch y cyhoedd i ostwng nifer y marwolaethau.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddatblygiad Metro De Cymru? OQ63847
Wrth gwrs. Mae metro de Cymru yn darparu trenau modern, gwell gwasanaethau rheilffyrdd, tocynnau talu wrth fynd a pherfformiad gwell, gan drawsnewid teithio i deithwyr. Ynghyd â'n cynlluniau ar gyfer diwygio bysiau, byddwn yn darparu system 'cyrraedd a mynd' gwbl integredig ledled de Cymru, gan gysylltu cymunedau, creu cyfleoedd a gyrru ffyniant.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch iawn o'ch croesawu i gwm Ebwy Fach yr wythnos diwethaf, lle galloch chi siarad â phobl yn Abertyleri a Six Bells am ddatblygiad posib llinell gangen Abertyleri. Rwy'n gwybod eu bod yn ddiolchgar iawn i chi am yr amser a dreulioch chi yno a hefyd am y sgwrs a gawsoch chi gyda phobl yno.
Fe wnaethoch chi gyfres o ymrwymiadau bryd hynny ynglŷn â lle gwelliannau rheilffyrdd, datblygu gwasanaethau newydd, buddsoddiadau mewn seilwaith, yng nghwm Ebwy Fach ond hefyd ar draws y rhwydwaith ehangach, ac rydych chi eisoes wedi cyfeirio at hynny y prynhawn yma. Efallai y byddai'n ddefnyddiol, Ysgrifennydd y Cabinet, pe baech chi'n gallu amlinellu sut y gwelwch chi'r gwelliannau hyn yn cael eu gwneud a sut y gwelwch chi fuddsoddiadau pellach mewn seilwaith rheilffyrdd yn bod o fudd i fy etholwyr.
Diolch i'r Aelod. Roeddwn innau yr un mor falch o gyfarfod ag ef a rhanddeiliaid lleol yn Abertyleri yr wythnos diwethaf i drafod y cynigion ar gyfer gwelliannau pellach i linell Ebwy, gan gynnwys llinell gangen Abertyleri. Mae arnaf ofn na chefais gyfle i fwyta am fod y sgwrs mor ardderchog, ond rwy'n gobeithio bod yr Aelod wedi gwneud iawn am i mi golli cinio. Rwy'n gefnogol i'r cynigion, ac rwy'n cydnabod y gwelliant enfawr i gysylltedd y byddai ailagor y llinell i Abertyleri yn ei gyflawni. Ac wrth gwrs, fel y trafodwyd, mae'r Aelod yn ymwybodol mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ariannu unrhyw waith ychwanegol.
Nawr, yn y dyddiau nesaf, bydd cynllun a arweinir gan y diwydiant ar gyfer rheilffyrdd yn cael ei gyhoeddi, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod a'i etholwyr yr un mor hapus i ddarllen hwnnw ag yr oeddwn innau i ymweld yr wythnos diwethaf. Unwaith eto, roedd yn ymweliad calonogol. Yr hyn a ddaeth drwodd yn gryf oedd bod pobl yn cydnabod manteision enfawr y metro, ond maent ei eisiau a'i angen ac yn ei haeddu hefyd.
Yn debyg iawn, yn amlwg, mae metro de Cymru wedi galluogi nifer mawr o fy etholwyr i gael mantais o hynny. Y ffaith, wrth gwrs, ydy bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod rhoi buddsoddiad sylweddol i mewn er mwyn adlewyrchu hefyd y tanfuddsoddiad sylweddol sydd wedi bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran isadeiledd rheilffyrdd. Y cwestiynau dwi'n eu cael gan etholwyr megis yn Ynysybwl ydy, 'Beth nesaf? Sut ydyn ni'n mynd i gael manteision o'r metro?' Mae yna sôn wedi bod yn y gorffennol o ran yr halt yng Nglyncoch; rydym ni wedi bod yn clywed, wrth gwrs, ynglŷn â'r posibilrwydd o ailagor y rheilffordd yn cysylltu Pont-y-clun a Beddau. Felly, eisiau gwybod ydw i pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau ein bod ni yn gallu mynd â'r weledigaeth metro de Cymru ymhellach, a hefyd cydgysylltu cymunedau, oherwydd, ar y funud, mae gormod o gysylltu'n digwydd rhwng Caerdydd, ond dim o gwm i gwm.
Diolch i Heledd am ei chwestiwn. Wrth gwrs, er ein bod bron wedi cwblhau'r gwaith o drydaneiddio 170 km o linell, mae metro de Cymru ymhell o fod wedi'i gwblhau. Bydd mwy o gyfnodau i ddod yn y dyfodol, gyda chynlluniau hynod gyffrous, gan gynnwys y rhai a drafodais gydag Alun Davies a'i etholwyr yr wythnos diwethaf.
Yn y dyddiau nesaf, bydd y cynllun ar gyfer rheilffyrdd yn cael ei gyhoeddi gan y diwydiant. Bydd hwnnw'n cynnwys ffrwd o welliannau ar gyfer y tymor byr, canolig a hir, gan gynnwys sut y bydd metro de-ddwyrain Cymru yn cael ei ehangu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, gyda gorsafoedd newydd, llinellau newydd ac yn y blaen, a bydd hynny'n digwydd yn ystod yr wythnos nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn cefnogi prosiect metro de Cymru, rwy'n credu'n gryf iawn mewn gwerth am arian, yn enwedig pan fyddwn yn sôn yn benodol am arian trethdalwyr. Nawr, mae cost y prosiect penodol hwn wedi cynyddu o'i amcangyfrif gwreiddiol, ac mae bellach oddeutu £1 biliwn. Ond a ddylem synnu, yma yn y Siambr, o ystyried nad yw'n gyfrinach bod y weinyddiaeth Lafur hon yn ddi-hid ynglŷn â gwario o'r pwrs cyhoeddus? Gyda £1 biliwn yn cael ei wario ar y prosiect hwn, sydd, ar gyfer tua 106 milltir o drac, yn £9.5 miliwn y filltir, Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy nghwestiwn yn syml iawn yma heddiw: a ydych chi'n hyderus y bydd pobl Cymru yn gweld gwerth am arian? Ac a ydych chi'n hyderus na fydd y bil ar gyfer y metro yn codi ymhellach? Diolch.
Diolch i Natasha am ei chwestiynau. Yn gyntaf oll, pan fo'n fater o werth am arian, pe baem yn seilio ein holl benderfyniadau trafnidiaeth gyhoeddus ar werth am arian, dim ond trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardaloedd mwyaf trefol fel Llundain fyddai gennym. Dyna un o'r problemau a wynebwyd gennym ers blynyddoedd lawer, fod Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn draddodiadol wedi bod o fudd i'r ardaloedd lle mae'r enillion mwyaf. Rwy'n gweld trafnidiaeth gyhoeddus fel gwasanaeth cyhoeddus, gwasanaeth cyhoeddus sy'n galw am gymhorthdal, a chymhorthdal na ddylem gamu'n ôl rhag ei dalu. A pho fwyaf gwledig yw'r ardal, yr uchaf yw lefel y cymhorthdal. Rydym yn aml yn clywed galwadau yn y Siambr hon am fwy o wasanaethau ar lwybrau gwledig. Dyna'r llwybrau sy'n cael y lefel uchaf o gymhorthdal—ar sail gwerth am arian, ni fyddem byth bythoedd yn dewis eu darparu. Rydym yn gwneud hynny oherwydd cyfiawnder cymdeithasol ac i gysylltu cymunedau gwledig.
Fel y dywedodd yr Arglwydd Peter Hendy, y Gweinidog rheilffyrdd, gyda rheilffyrdd mae bob amser yn costio mwy na'r hyn a ragwelwch ar y dechrau, ac mae bob amser yn cymryd mwy o amser nag a ragwelwch, ond ni fyddwch chi byth yn difaru pan gaiff ei gyflawni. Gyda thrydaneiddio metro de Cymru, gwelwn y canlyniadau eisoes. Gwelwn ymatebion teithwyr iddo, y gyfradd foddhad cwsmeriaid o 91 y cant—mae hynny'n anhygoel. Gwelwn y cynnydd enfawr yn nifer y teithwyr hefyd. Gyda thalu wrth fynd, gwelwn gynnydd enfawr yn yr arian tocynnau a ddaw i mewn. Ond fe fydd angen cymhorthdal arno o hyd. Os ydym eisiau darparu mwy o wasanaethau rheilffyrdd a mwy o wasanaethau bws, bydd angen cymhorthdal hirdymor a gallai fod yn rhaid ei gynyddu. Ond nid wyf yn gweld unrhyw broblem gyda hynny os yw'n fforddiadwy ac os yw'n cael pobl allan o ddiweithdra ac i mewn i waith.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Ngogledd Cymru? OQ63822
Wrth gwrs. Drwy'r gronfa trafnidiaeth ranbarthol, gall awdurdodau lleol flaenoriaethu ffyrdd heb eu mabwysiadu yn unol â blaenoriaethau rhanbarthol, gyda phenderfyniadau ar gynlluniau unigol yn cael eu gwneud gan y rhanbarthau. Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi'r rhanbarthau sydd am gynnwys cynlluniau yn rhaglenni'r gronfa trafnidiaeth ranbarthol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ar sawl achlysur yn y Siambr hon rwyf wedi codi'r sefyllfa yn Sandy Cove ym Mae Cinmel, sy'n ystad dai sylweddol iawn—dros 250 o gartrefi—heb unrhyw ffyrdd mabwysiedig yno o gwbl, dim palmentydd, yn llawn tyllau a llifogydd bob tro y daw dŵr dros wal y môr neu ar yr adegau pan fo'n arllwys y glaw. Mae'r sefyllfa'n annioddefol. Nid oes goleuadau priodol chwaith, o safbwynt diogelwch cymunedol. Mae hon yn saga sydd wedi parhau ers amser maith, ac erbyn hyn mae angen arweinyddiaeth ac ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i ddatrys y mater. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw awydd dod â'r rhanddeiliaid hynny at ei gilydd, o'r awdurdod lleol a'r gymuned leol, er mwyn ceisio symud prosiect yn ei flaen fel y gallwn ddatrys y sefyllfa unwaith ac am byth?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn am Sandy Cove? Er budd yr Aelodau eraill ac i'r gwylwyr heddiw, ystad yn etholaeth yr Aelod yw Sandy Cove. Yn ystod y 1930au, rwy'n credu, fe gafodd cwmni, Kinmel Estates, y syniad o adeiladu parc gwyliau yno—pentref gwyliau. Yn amlwg, fe wnaeth y tai hyn gynhyrchu cryn dipyn o ddiddordeb ar y pryd, gyda phobl eisiau gwneud eu cartrefi gwyliau eu hunain yno. A pham na fyddech chi? Mae'n lle gwych. Erbyn y 1940au, roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi'u gwerthu. Ond aeth y cwmni i'r wal, ac aeth yr ystad i ddwylo'r Goron, rwy'n meddwl, a'r cyngor yn y blynyddoedd wedyn, ac arhosodd yn nwylo'r Goron a'r cyngor tan tua 1996, 1997, pan gafodd ei throsglwyddo i Gymdeithas Gymunedol Bae Cinmel a Thywyn.
Ers hynny, mae problem barhaus wedi bodoli gyda ffyrdd heb eu mabwysiadu a'r ffordd y mae hynny'n peri anghyfleustra i'r bobl sy'n byw yno. Nawr, rwy'n falch o ddweud bod y gronfa ffyrdd heb eu mabwysiadu wedi'i defnyddio gan gyngor Conwy i lunio ateb cychwynnol i Sandy Cove. Darparwyd y cyllid hwnnw, yn amlwg, ar y ddealltwriaeth nad oedd unrhyw rwymedigaeth bellach ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r hyn sy'n gyfrifoldeb i awdurdod lleol. Ond yn dilyn hyn, cyfrifodd cyngor Conwy gost ailddatblygu o oddeutu £5.5 miliwn. Mae'n swm sylweddol. Rwy'n fwy na hapus, fodd bynnag, i edrych i weld gyda chyd-bwyllgor corfforedig gogledd Cymru ble mae'r prosiect penodol hwn arni yn eu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, oherwydd dyna fydd y mecanwaith i sicrhau bod y cyllid ar gael i ddatrys y broblem y mae'r trigolion wedi'i hwynebu.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth ym Mro Morgannwg? OQ63838
Rwyf wedi dyfarnu £4 miliwn mewn grantiau trafnidiaeth leol eleni i Bro Morgannwg i drwsio ffyrdd a phalmentydd lleol, gwella diogelwch ar y ffyrdd, teithio llesol a seilwaith bysiau. O fis Ebrill, rwy'n rhoi mwy o lais i arweinwyr lleol dros fuddsoddiad mewn blaenoriaethau trafnidiaeth drwy'r gronfa trafnidiaeth ranbarthol newydd.
Yr hyn a fyddai'n cael croeso gwirioneddol ym Mro Morgannwg yw gorsaf reilffordd newydd ym mhentref Sain Tathan. Mae'r rhaglen datblygu lleol yn nodi datblygiad tai newydd sylweddol, ac yn y gorffennol, fe gafwyd datblygiadau tai sylweddol yn yr ardal honno. Fe wnaeth cyn-AS Bro Morgannwg, Alun Cairns, hyrwyddo hyn gyda'r Adran Drafnidiaeth yn Llundain ac fe wnaethant gomisiynu astudiaeth achos busnes o brosiect o'r fath. Nid yw'r Llywodraeth Lafur newydd a gymerodd yr awenau yn 2024 wedi bwrw ymlaen â'r cynnig achos busnes hwnnw, ac mae'n ddarn hanfodol o seilwaith a fydd yn mynd â llawer o draffig oddi ar y ffordd os caiff ei adeiladu. A wnewch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru, yn yr amser cyfyngedig sydd ganddi cyn diddymu'r Senedd, i lobïo'ch cyd-bleidwyr yn Llundain i ailgychwyn yr achos busnes hwnnw ac i ailedrych ar y darn pwysig hwn o seilwaith trafnidiaeth ar gyfer Bro Morgannwg?
Rwy'n ymwybodol iawn o'r diddordeb mewn gorsaf newydd yn Sain Tathan. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr rhanbarthol a chyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn. Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda bwrdd rheilffyrdd Cymru i ddatblygu blaenoriaethau ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru, ac fel y dywedais wrth yr Aelodau, bydd prosbectws yn cael ei gyhoeddi sy'n cynnwys y blaenoriaethau tymor byr, tymor canolig a hirdymor ar gyfer rheilffyrdd Cymru. Mae hynny'n mynd i ddigwydd yn y dyddiau nesaf a gallaf sicrhau'r Aelod fod y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd drwy fwrdd rheilffyrdd Cymru yn cynnwys ystyriaeth o'r posibilrwydd o orsaf reilffordd newydd yn Sain Tathan. A chyda'r defnydd o'r gronfa trafnidiaeth ranbarthol, rwy'n gwybod y byddai'n bosib tynnu cyllid datblygu i lawr i fwrw ymlaen â'r prosiect hwn.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch pobl sy'n dewis teithio llesol? OQ63828
Mae diogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd yn hynod bwysig i ni a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun partneriaeth newydd ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd cyn bo hir. Rydym yn buddsoddi mewn seilwaith teithio llesol diogel a hygyrch drwy grantiau i awdurdodau lleol ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ganllawiau wedi'u diweddaru a fydd yn cryfhau cynllun llwybrau ymhellach.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r cynnydd diweddar mewn e-feiciau ac e-sgwteri yn creu'r her fwyaf i ddiogelwch cerddwyr a beicwyr fel ei gilydd. Er bod e-sgwteri'n anghyfreithlon ar ffyrdd y DU, mae llawer o rieni'n dal i'w prynu i'w plant. Mae'r rhai sy'n ymwybodol o anghyfreithlondeb e-sgwteri wedi rhoi eu plant ar feiciau trydan, a hynny'n gyfeiliornus. Mae'r beiciau hyn yn debycach i feiciau modur na beiciau arferol. O ganlyniad, rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y damweiniau. Yr wythnos diwethaf, cafodd bachgen 13 oed ei arestio ar ôl achos o daro a ffoi yn ymwneud â cherddwr beichiog. Ysgrifennydd y Cabinet, pa fesurau ychwanegol y gellir eu cymryd i warchod cerddwyr rhag y beiciau a'r sgwteri cyflym hyn? Diolch.
Diolch i Altaf am y cwestiwn. Mae'n fater hynod bwysig ac yn broblem gynyddol, yn fygythiad cynyddol ar draws cymunedau. Yn ddiweddar, cyfarfûm â phenaethiaid yr heddlu a Gweinidogion Llywodraeth y DU i drafod yr her. Rwy'n gwybod bod heddluoedd eisoes yn rhoi camau gorfodi ar waith. Gyda mwy o'r systemau e-symudedd penodol hyn yn cael eu gwerthu, maent yn cydnabod y bydd yn rhaid iddynt roi mwy o gamau ar waith yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Mae rhan fawr o'r broblem yn gysylltiedig â gwerthiannau ar-lein, platfformau gwerthu ail-law, oherwydd gallwch reoleiddio mewn siopau pan gânt eu gwerthu gyntaf; yr hyn na allwch ei reoleiddio mor dda yw pan gânt eu gwerthu ymlaen. Mae llawer o'r e-feiciau hyn yn llawer rhy bwerus i bobl eu defnyddio, yn sicr ar balmentydd—ni ddylent fod yno—ond ar ffyrdd hefyd. Oni bai eu bod wedi'u trwyddedu, ni ddylent fod yno. Gallant deithio ar hyd at 80 mya, ac rwy'n ofni fy mod yn gweld llawer gormod ohonynt heb eu goleuadau ymlaen. Maent yn llawer rhy bwerus i'w defnyddio gan bobl ifanc. Mae'r heddlu'n bryderus iawn am hyn, ac maent yn gweithio gyda'i gilydd ledled Cymru i ddelio â'r bygythiad cynyddol hwn.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63813
Wrth gwrs. Mae ein strategaeth drafnidiaeth yn nodi ein huchelgais ar gyfer system drafnidiaeth well a mwy cysylltiedig ledled Cymru. Ym Mhreseli Sir Benfro, byddwn yn cyflawni prosiectau drwy ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Rydym yn cefnogi arweinyddiaeth leol drwy'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, gan alluogi cymunedau i siapio'r blaenoriaethau sy'n diwallu eu hanghenion.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, bu rhywfaint o ddadlau ynglŷn â datblygu cynllun addasu ffyrdd arfordirol yn Niwgwl yn fy etholaeth i. Rwyf wedi bod yn cefnogi'r grŵp ymgyrchu lleol Sefyll dros Niwgwl (STUN), sydd wedi datblygu ateb cryn dipyn yn rhatach na chynllun adlinio ffyrdd yr awdurdod lleol sy'n costio £40 miliwn a mwy. Ddydd Llun, pleidleisiodd cabinet Cyngor Sir Penfro o blaid oedi ei gynllun ei hun a chytunodd i adolygu'r sefyllfa yn y 18 i 24 mis nesaf. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hanfodol nad yw'r mater hwn yn cael ei anwybyddu am y ddwy flynedd nesaf. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Sir Penfro ar y mater penodol hwn? A wnewch chi ymuno â mi nawr i alw ar y cyngor i gefnogi cynnig y gymuned leol sy'n fwy fforddiadwy ac yn fwy sensitif i'r amgylchedd?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am fy nghyflwyno i'r grŵp cymunedol, Sefyll dros Niwgwl, a gyflwynodd achos amgen sy'n llawer mwy fforddiadwy? Rwy'n gwybod bod yr awdurdod lleol wedi ystyried y dewis amgen hwnnw, ac mae'r Aelod yn iawn, fe wnaeth y cyngor benderfynu oedi'r cynllun am y 18 mis nesaf er mwyn gallu ystyried opsiynau eraill, ac nid dim ond fforddiadwyedd y cynnig a luniwyd ganddynt a oedd ar y bwrdd.
Nid wyf wedi cael cyfle ers dydd Llun i siarad â'r awdurdod lleol ynglŷn â'r mater, ond fe af ar ei drywydd a chael sgwrs gydag arweinydd y cyngor yn yr wythnosau i ddod, yn sicr. Mater i'r awdurdod lleol ydyw, ond mae hefyd yn fater y gellir mynd ar ei drywydd ar lefel ranbarthol, ac rwy'n falch o ddweud bod yna ddyraniad dangosol o £24.7 miliwn ar gyfer rhanbarth de-orllewin Cymru i'r arweinwyr hynny allu ei ddyrannu fel y barnant yn briodol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Siân Gwenllian.
8. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio i ddenu digwyddiadau chwaraeon i ogledd Cymru? OQ63835
Cynhaliwyd digwyddiadau chwaraeon o'r radd flaenaf yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, gan gynnwys pencampwriaeth tenis agored Wrecsam, pencampwriaeth rhedeg llwybrau'r byd a ras feicio Tour of Britain i fenywod. Rydym yn gweithio i ddenu digwyddiadau mawr ledled gogledd Cymru, gan gynnwys enwebu Wrecsam fel dinas ar gyfer cynnal gemau Cwpan y Byd FIFA yn 2035.
Diolch yn fawr. Yr hyn sydd gen i dan sylw yn benodol ydy rowndiau terfynol Cwpan Cymru, a dwi wedi cefnogi'r galwadau am symud ffeinal Cwpan Cymru o Gasnewydd i'r gogledd, gan mai dim ond clybiau o'r gogledd sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, a llongyfarchiadau iddyn nhw. Fe gyhoeddodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru ym mis Rhagfyr y byddai rownd derfynol y dynion yn cael ei chynnal yn stadiwm Rodney Parade yng Nghasnewydd. Mae'r penderfyniad yma wedi cael ei gadarnhau erbyn hyn, wrth gwrs, am eleni, ac mae'n siŵr, dwi'n deall, fod yna resymau cytundebol dros hynny. Ond, pedwar tîm o'r gogledd sydd wedi sicrhau lle yn y rownd gynderfynol: Bangor, Fflint, Rhyl a Chaernarfon. A gaf i ofyn i chi felly drafod efo Cymdeithas Pêl-droed Cymru y posibilrwydd o gynnal y ffeinal yn y gogledd, ar rota rheolaidd efallai, bob yn ail flwyddyn neu rywbeth felly? Mi fyddai hynny yn ffordd deg ymlaen o ran y cefnogwyr sy'n gwario arian i gyrraedd y ffeinal, ond hefyd yn deg o ran rhannu'r budd economaidd lleol sy'n dod yn sgil cynnal Cwpan Cymru. Diolch.
A gaf i ddiolch i Siân am ei chwestiwn a chroesawu'r ffaith bod pedwar clwb o ogledd Cymru wedi cyrraedd y rownd gynderfynol? Mae hynny'n dipyn o gyflawniad. Fe ailadroddaf hynny: mae'r pedwar yn dod o ogledd Cymru. Rwy'n gwybod bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gorff llywodraethu annibynnol, felly mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, yn briodol ddigon, gan y gymdeithas heb unrhyw ymyrraeth gan y Llywodraeth, ond rwy'n cydnabod yr hyn a nododd Siân am y cyfleustra o allu teithio'n agosach at adref ar gyfer y digwyddiadau. Rwy'n deall bod y rownd derfynol wedi cael ei symud o amgylch Cymru yn y gorffennol er hwylustod y timau ac i adlewyrchu'r timau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ei hun, fel nad oes rhaid i bobl deithio pellteroedd mawr. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymyrryd mewn materion gweithredol na materion yn ymwneud â'r gystadleuaeth; fodd bynnag, rwy'n credu ein bod fel ASau unigol, yn gallu codi ein pryderon gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac rwy'n annog Siân ac unrhyw Aelodau eraill o ogledd Cymru i wneud hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi elusennau ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63814
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Rydym wedi darparu £10.9 miliwn i Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn 2025–26 i gryfhau'r gefnogaeth i fudiadau gwirfoddol ledled Cymru. O'r arian hwn, bydd £224,000 yn mynd i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i helpu grwpiau lleol gyda chodi arian, llywodraethiant, diogelu a gwirfoddoli.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, mae'n Wythnos Elusennau Cymru, ac mae'n gyfle gwych i dynnu sylw at gyfraniad gwych elusennau yn ein cymunedau lleol. Hoffwn dynnu sylw at Oriel VC yn Hwlffordd, sy'n rhedeg ystod o brosiectau gyda'r nod o gefnogi cyn-filwyr a'r gymuned ehangach. Un o'r prosiectau hynny yw clwb brecwast dydd Gwener ar y stryd fawr, ac mae'r elusen wedi bod yn gwahodd cynrychiolwyr o sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth Sir Benfro a'r Wallich i fynychu a chysylltu â thrigolion a rhannu gwybodaeth am yr help sydd ar gael yn lleol. Un ffordd yn unig yw'r digwyddiadau hyn o ddod â phobl at ei gilydd drwy Oriel VC, ac mae'n darparu cyngor a chefnogaeth, ac yn sicrhau bod lle diogel a phryd cynnes ar gael i'r rhai sydd ei angen.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi a chyflwyno arferion gorau fel hyn, fel y gall mwy a mwy o bobl elwa o waith elusennau fel Oriel VC yn sir Benfro?
Diolch yn fawr, Paul Davies. Hoffwn ddod i ymweld â'r Oriel VC yn Hwlffordd. Mae'n swnio'n enghraifft ardderchog o'r hyn y gall elusennau ei wneud. A gaf i ddweud fy mod yn falch iawn eich bod wedi tynnu sylw at y ffaith ei bod hi'n Wythnos Elusennau Cymru? Ddoe, roedd yna nifer ohonom mewn digwyddiadau. Yn y Senedd, cynhaliodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddigwyddiad pwysig iawn yn canolbwyntio ar wirfoddoli a rôl y sector preifat. Euthum i siarad ag Ymddiriedolaeth St Giles hefyd, sy'n gwneud gwaith pwysig gyda menywod yn y system gyfiawnder.
Ond rydych chi wedi tynnu sylw at elusen wirioneddol bwysig yn eich etholaeth, ac o ran arfer gorau, mae'r ffaith ein bod yn rhoi'r gefnogaeth gref hon i'n holl gynghorau ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol—sy'n cynnwys Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro—yn golygu eu bod i gyd yn cyfarfod â'i gilydd ac yn rhannu arferion da. Wrth gwrs, y clwb brecwast, yr oriel, y ffaith ei bod yn darparu bwyd, cysylltiad, allgymorth i Cyngor ar Bopeth, yw'r hyn a wnawn gyda'n hybiau cynnes. Yn ddiddorol, mae Prifysgol Abertawe yn gwneud ymchwil ar effaith y canolfannau hyn ledled Cymru, canolfannau yr ydym wedi helpu i'w hariannu. Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl yng Ngorllewin De Cymru gyda phwysau costau byw? OQ63809
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru drwy gyfeirio help at y rhai sydd ei angen fwyaf a thrwy gefnogi pobl i gael mynediad at swyddi o ansawdd da. Rydym yn rhoi camau ar waith i liniaru pwysau ariannol, gan fuddsoddi dros £7 biliwn mewn rhaglenni i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at yr hyn y mae ganddynt hawl iddo a chadw mwy o arian yn eu pocedi.
Rwy'n cytuno bod cadw mwy o arian ym mhocedi pobl yn bwysig, ond yn anffodus, mae hanes Llywodraeth Lafur Cymru a'u partneriaid ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos bod gan bleidiau asgell chwith fel eich un chi ymlyniad ideolegol at drethi uwch. Rydym yn gweld hynny dro ar ôl tro wrth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn San Steffan ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o daro pobl yn eu pocedi a mynd ag arian oddi wrthynt.
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn wahanol. Ni yw'r unig blaid sy'n mynd i mewn i'r etholiad hwn gyda chynllun i dorri trethi pobl, gan roi £450 yn ôl ym mhocedi pobl gyffredin sy'n gweithio ledled Cymru. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod yr etholiad sydd ar y ffordd yn ddewis rhwng y Ceidwadwyr Cymreig, gyda chynllun i dorri trethi pobl, a phleidiau asgell chwith sydd ond yn mynd i godi eu trethi?
Wel, nid wyf yn hollol siŵr sut y mae hynny'n cysylltu â'r cwestiwn. Mewn gwirionedd, rwy'n synnu eich bod chi wedi codi a heb gydnabod y 14 mlynedd o gamlywodraethu'r Torïaid o ran y cyni ariannol a arweiniodd at y lefelau uchaf o drethiant—y lefel uchaf mewn 70 mlynedd.
Ond yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w wneud mewn ymateb i'ch cwestiwn yw dweud ein bod yn rhoi arian ym mhocedi pobl o ganlyniad i'r gwaith a wnawn gyda'r gronfa gynghori sengl. Ac rwy'n siŵr eich bod chi'n cydnabod y cyllid a roddwn i Gyngor ar Bopeth—rydym newydd glywed am waith da Cyngor ar Bopeth. Rydym yn rhoi cyllid drwy ein cronfa cymorth dewisol i bobl mewn anawsterau, a phobl agored i niwed. 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n chwarae eich rhan, Tom Giffard, yn rhoi cyhoeddusrwydd i hynny. Mae cynghorwyr 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' wedi helpu dros 90,300 o bobl—a dyma'r pwynt pwysig ynglŷn â chael arian i bocedi pobl, eu hawliau—a chafodd y bobl a helpwyd gymorth i hawlio dros £30.4 miliwn mewn incwm ychwanegol. Dyna beth y mae ein buddsoddiad mewn cyfiawnder cymdeithasol wedi'i wneud o ran effaith a rhoi arian ym mhocedi pobl.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Er y ffanffer fawr a glywsom yn ddiweddar am y Papur Gwyn ar blismona a gyhoeddwyd yn ddiweddar a'r newid mwyaf radical i blismona mewn dwy ganrif, mae perygl y bydd yn ailadrodd holl ddiffygion yr hyn a ddaeth o'i flaen. A thrwy flaenoriaethu canoli dros ddatganoli, mae'n bygwth gwneud ymyl garw datganoli, y siaradwn amdano mor aml yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol, hyd yn oed yn fwy garw i rai o ddinasyddion mwyaf agored i niwed Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau uniongyrchol a phenodol rydych chi'n eu cymryd i herio'ch partneriaid Llafur yn San Steffan a'r modd dirmygus y maent yn gwrthod datganoli pŵer a goruchwyliaeth dros blismona i Gymru, er gwaethaf y gwahaniaeth y gallai ei wneud i effeithiolrwydd canlyniadau polisi cyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cymru ei hun? A ydych chi wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am ddatganoli plismona yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn hwnnw—cwestiwn amserol iawn. Yn wir, mae cyfarfodydd dros yr wythnosau diwethaf ers y cyhoeddiad am ddiddymu comisiynwyr heddlu a throseddu, a chyhoeddi Papur Gwyn ar ddiwygio'r dirwedd blismona, y buaswn i'n dweud ei fod wedi agor y drws ar gyfer adolygu systemau llywodraethu'r heddlu yng Nghymru, wedi cynnwys cyfarfodydd â Gweinidog Llywodraeth y DU, Sarah Jones, a chyfarfodydd rheolaidd hefyd gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu, gan gynnwys y comisiynwyr heddlu a throseddu sy'n eich cynrychioli chi a'ch etholwyr, a hefyd gyda'r prif gwnstabliaid a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n dod â llywodraeth leol i mewn hefyd. Felly, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod bod angen dull neilltuol o blismona ar Gymru, ac rydym yn gweithio'n adeiladol gyda nhw a'n partneriaid yng Nghymru i ddatblygu model pwrpasol o lywodraethiant heddlu yng Nghymru.
Rydych chi'n sôn am agor y drws, ond buaswn i'n dadlau bod y drws hwnnw wedi'i gau'n gadarn gan Shabana Mahmood yn San Steffan, pan ofynnodd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, gwestiwn penodol ynglŷn ag a oedd hwn yn gyfle i gael dull gwahanol. Nid wyf wedi clywed ateb i'r cwestiwn a oeddech chi fel Llywodraeth Cymru—fel y nodoch chi yw eich polisi—wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU yn rhan o'r trafodaethau hynny i ddatganoli plismona. Felly, a wnewch chi roi'r eglurder hwnnw i mi nawr?
Wel, uchelgais Llywodraeth Cymru, fel y dywedais ar sawl achlysur yn y Siambr hon, yw sicrhau datganoli plismona a chyfiawnder yn ei gyfanrwydd, ac rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill i sicrhau'r camau nesaf. Mae'n ymwneud â chymryd y camau tuag at ddatganoli i ganiatáu i hyn ddigwydd. Wrth gwrs, rydym bob amser wedi cydnabod mewn ymgynghoriad â'n cymheiriaid yn y gymuned blismona, y bydd hwn yn ddull graddol o ddatganoli plismona, ond mae gennym gyfle nawr yn sgil y cyhoeddiad ar ddiddymu comisiynwyr heddlu a throseddu i symud hyn yn ei flaen. Ac oherwydd fy mod yn cadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona, buaswn yn dweud hefyd fod gennym strwythurau delfrydol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth eisoes, felly rwy'n credu ein bod mewn lle da i symud hyn yn ei flaen.
Fel y dywedwch, mae'n gwneud synnwyr perffaith, yn enwedig o ran amcanion polisi cyfiawnder cymdeithasol, er enghraifft, ac mae cyfiawnder yn wirioneddol bwysig ochr yn ochr â phlismona. Oherwydd dywed ymchwil arbenigol wrthym fod cael aelod o'r teulu yn y carchar, er enghraifft, wedi'i nodi fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod, a all gael effaith negyddol ar iechyd a lles plant yn y dyfodol. I gydnabod y ffaith hon, cyflawnodd eich Llywodraeth ymchwil i ystyried sut y gellid gwella cymorth yn y dyfodol i blant yng Nghymru yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw oddeutu blwyddyn yn ôl.
Pwysleisiodd yr adroddiad y byddai casglu, cydgrynhoi a chyhoeddi data yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i allu ymateb i'r anghenion hynny. Ond yn ddiweddar, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cael ymateb i'n cais i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn gofyn faint o blant yng Nghymru yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar. Dywedwyd wrthym nad oes unrhyw ddata dibynadwy'n cael ei gadw ar hyn o bryd, oherwydd rhaniad cyfrifoldebau rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru, a bod yr holl ffigurau sydd ganddynt yn cael eu cadw ar sail Cymru a Lloegr. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd ar hyn, o ystyried bod deddfwriaeth a pholisïau Cymru i fod i gefnogi dull gweithredu ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod?
Diolch am y pwynt perthnasol iawn hwnnw ynglŷn â sut y mae plant yn cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol. Mewn gwirionedd, cyfarfûm â Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru pan gyhoeddodd ei ffeil ffeithiau yn dangos ystadegau ofnadwy. Rwy'n arbennig o bryderus am garchariadau menywod, gan fod carcharu menywod wedyn yn cael effaith ar blant.
Yr hyn rwy'n falch ohono—ac mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod bord gron am hyn y bore yma—yw'r ffaith bod gennym fwy o ddata wedi'i ddadgyfuno nawr—ac roedd gennym academyddion, gan gynnwys Dr Jones, yn y cyfarfod hwnnw—fel y gallwn sicrhau ein bod yn cael y dystiolaeth honno ac yn darparu'r dystiolaeth honno drwy'r data wedi'i ddadgyfuno er mwyn mynd i'r afael â'r mater, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol bwysig o ran iechyd a lles ein plant yng Nghymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n ymateb i'r newyddion fod nifer y swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr sy'n cael eu cyhuddo o droseddau wedi codi dros 40 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf? A ydych chi'n cytuno â mi fod hyn yn ychwanegu at ddirywiad ymddiriedaeth yn ein swyddogion heddlu ac yn niweidio cydlyniant cymunedol? A wnewch chi felly alw cyfarfod brys gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu i ganfod pa gamau y maent yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn ymddiriedaeth yn ein heddluoedd?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch am eich cwestiwn. Mae'n wirioneddol bwysig, unwaith eto, ein bod yn trafod plismona y prynhawn yma. Nid yw wedi'i ddatganoli i Gymru, er yr hoffem i hynny ddigwydd yn y pen draw. Ond rwy'n mwynhau perthynas waith adeiladol a llawn iawn gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu etholedig, ac yn wir, gyda'r prif gwnstabliaid ar ein bwrdd partneriaeth plismona, yr wyf yn ei gadeirio. Mae ymddiriedaeth a hyder mewn plismona wedi dod yn fater rheolaidd ar ein hagendâu. Mae hynny'n rhywbeth lle caf gyfle i siarad â'r Gweinidog plismona, Sarah Jones, ynglŷn â'r materion hyn. Mae'n gwestiwn pwysig ac mae'n rhaid inni edrych arno a gweithio arno o ran cyflawniad gweithredol plismona yng Nghymru, ond hefyd o ran uniondeb ac ymddiriedaeth pobl Cymru yn ein gwasanaeth plismona.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, byddem yn gobeithio y byddai'r heddluoedd unigol yn well am fetio swyddogion, ond cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw gorfodi hynny. Hoffwn gadw at thema cydlyniant cymunedol.
Yn ddiweddar, penododd Llywodraeth y DU Ymddiriedolaeth Fwslimaidd Prydain i gyflwyno system adrodd ar gasineb gwrth-Fwslimaidd. Lansiodd Ymddiriedolaeth Fwslimaidd Prydain eu gwasanaeth cenedlaethol adrodd am Islamoffobia ddydd Llun. Y drafferth yw nad oes gennym ddiffiniad o Islamoffobia na chasineb gwrth-Fwslimaidd gan y Llywodraeth o hyd. Nid oes gennym eglurder chwaith gan y rhai a benodwyd i gofnodi digwyddiadau Islamoffobig. Gwrthododd prif weithredwr Ymddiriedolaeth Fwslimaidd Prydain geisiadau gan newyddiadurwyr i ehangu ar ei chyflwyniad i Lywodraeth y DU.
Rwyf i a llawer o Fwslimiaid yn pryderu y bydd Llywodraeth y DU yn glynu wrth ddiffiniad y grŵp hollbleidiol seneddol, sydd i bob pwrpas yn ailgyflwyno deddfau cabledd. Credaf y gallai hyn arwain at gynnydd mewn casineb gwrth-Fwslimaidd gan y byddai ein ffydd yn cael cynnig amddiffyniadau nad ydynt yn cael eu cynnig i Gristnogion neu Iddewon. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi unrhyw eglurder ynglŷn â'r diffiniad neu ba bryd y gallwn ddisgwyl cyhoeddiad gan Weinidogion y DU?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, cwestiwn pwysig iawn, Altaf Hussain. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ymwneud yn llawn ag ef, rhaid imi ddweud, drwy ein grwpiau ffydd a chred. Rwy'n cadeirio'r fforwm cymunedau ffydd, sy'n cyfarfod cyn bo hir, ac ar draws y Siambr hon, rydym wedi ymwneud yn llawn wrth weithio gyda'n cyngor rhyng-ffydd.
Hefyd, mae gennym ein Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr. Rydym wedi gofyn i'n Canolfan Cymorth Casineb Cymru fonitro unrhyw gynnydd sydyn yn nifer yr achosion o adrodd am droseddau casineb Islamoffobig ac i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr hoffem iddo gael ei ystyried yn llawn ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yn ein hysgolion a'n lleoliadau addysg.
O ran archwilio diffiniad newydd o elyniaeth wrth-Fwslimaidd ac Islamoffobia, mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i grŵp annibynnol archwilio hyn. Rydym yn aros am ganfyddiadau'r gwaith hwn a chamau gweithredu dilynol Llywodraeth y DU. Ond mae'n bwysig fod unrhyw ddiffiniad yn gweithio i Gymru. Mae hefyd yn ddefnyddiol, wrth gwrs, o ran mynd i'r afael â chasineb gwrth-Fwslimaidd drwy brosesau cyfreithiol.
Ar ôl y Nadolig, ymwelais â mosg yng Nghaerdydd a oedd wedi'i dargedu. Wrth gwrs, pan ymwelais â nhw, a thrafod y sefyllfa, roeddent hefyd yn bryderus nid yn unig am y rhai sy'n dod i'r mosg, sy'n addoli, ond am y gymuned y maent yn byw ynddi ac y maent yn rhan ohoni. Roedd yn hyfryd gweld y gwaith y maent yn ei wneud gyda chroesawu grŵp o Sgowtiaid, sydd bellach yn cyfarfod yn y mosg. Felly, drwy gydweithio y gwnawn oresgyn hyn.
Rwy'n ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae llawer o grwpiau'n ceisio manteisio ar sefyllfaoedd o'r fath ac yn gwneud popeth yn eu gallu i feithrin ymraniad ar-lein. Wrth inni agosáu at etholiad mis Mai, mae negeseuon ymrannol yn dod yn gryfach ac yn cael eu chwyddo gan ddylanwadau tramor sy'n ceisio tanseilio ein prosesau democrataidd. Mae arian amheus yn cael ei sianelu i grwpiau sy'n benderfynol o hau amheuaeth ynghylch ein sefydliadau, ac mae'r rhai a hoffai weld diwedd ar ddatganoli yng Nghymru yn manteisio ar yr amheuon hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i fynd i'r afael â'r dwyllwybodaeth hon sydd â'r nod o chwalu ein cymunedau a thanseilio ein hetholiad?
Rwy'n credu bod hyn, unwaith eto, yn rhywbeth yr ydym yn gweithio'n agos iawn arno. Credaf ei fod yn gwestiwn pwysig iawn i'r Senedd, ac i bob plaid wleidyddol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Ond mae gennym gyfrifoldeb, ac rydym o ddifrif ynglŷn â cheisio cefnogi a delio â chasineb a chamwybodaeth ar-lein. Wrth gwrs, mae risg ac effaith casineb a chamwybodaeth ar-lein yn cynyddu, ac rydym wedi gweld sefydliadau ac unigolion yn cael eu targedu yn y misoedd diwethaf.
Rhaid imi ddweud yr hoffwn gymeradwyo'r ffordd y siaradodd y BBC am y genedl noddfa ddydd Sul ar Politics Wales. Credaf eu bod wedi gwneud hynny mewn ffordd gwbl deg. Roedd yn bwysig iawn gweld manteision ein dull o alluogi pobl i deimlo'n ddiogel a theimlo eu bod yn integreiddio pan ddônt i Gymru.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ddiogelwch ar-lein, Kanishka Narayan, a buom yn trafod yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Ond hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at yr adran 'Cadw'n ddiogel ar-lein' ar Hwb, sy'n darparu adnoddau i bobl ifanc o ran addysg, ac i rieni, i ddeall casineb ac eithafiaeth ar-lein.
Rydym wedi comisiynu Cwmpas i gynnal cynllun peilot ar lythrennedd yn y cyfryngau ar draws Cymoedd de Cymru, gyda'r nod o wella gallu oedolion Cymru i nodi a delio â chamwybodaeth a chasineb ar-lein. Rydym hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi i gynghorwyr lleol ar wrthsefyll camwybodaeth. Mae hyn yn effeithio ar bob lefel o ddemocratiaeth, ac rydym yn ceisio meithrin cysylltiadau da ac adeiladu cydlyniant. Mae angen inni ddod ynghyd a mynd i'r afael â'r negeseuon o gasineb ac ymraniad sy'n difetha ein cymunedau yn y cyfnod cyn ein hetholiad ym mis Mai.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i ddyfarniad y Goruchaf Lys bod menyw yn cael ei diffinio gan ryw fiolegol? OQ63840
Diolch am eich cwestiwn. Cyflwynais ddatganiad yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r dyfarniad ar 29 Ebrill, ac mae gwaith ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru i nodi meysydd polisi trawslywodraethol a allai gael eu heffeithio gan ddyfarniad y Goruchaf Lys er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A dweud y gwir, ni allaf gredu ei bod yn angenrheidiol imi gyflwyno cwestiynau fel hyn, ond dyma ni unwaith eto. Mae'n prysur agosáu at flwyddyn ers i'r Goruchaf Lys ddyfarnu bod menyw wedi'i diffinio gan ryw biolegol, ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn dal i wrthod gweithredu. Drwy fethu gweithredu, mae'r Llywodraeth yn parhau i wneud cam gwag â'n merched ifanc a'n menywod ledled Cymru. Yng ngoleuni'r dyfarniad, mae'r Alban wedi cymryd camau, gan ddatgan bod yn rhaid i ysgolion y wlad ddarparu toiledau ar wahân i fechgyn a merched, a bod yn rhaid iddynt fod ar gael ar sail rhyw biolegol. Ac eto, yma yng Nghymru, nid ydym wedi cael unrhyw beth ond distawrwydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r sinig ynof yn dweud bod eich Llywodraeth yn gobeithio, os oedwch chi'n ddigon hir cyn ymateb, y gallwch wastraffu amser tan ei bod yn bryd diddymu'r Senedd hon ac osgoi gweithredu. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw'r Llywodraeth hon yn malio am ddiogelu menywod a merched? Oherwydd mae eich methiant i weithredu hyd yma'n gwneud imi feddwl fel arall. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n fwy na pharod i gael fy mhrofi'n anghywir yn ei gylch, felly dangoswch i mi fy mod yn anghywir, Ysgrifennydd y Cabinet, drwy weithredu nawr. Diolch.
Rwyf wedi ateb nifer o gwestiynau ac rwy'n falch iawn o ailadrodd y sefyllfa. Fe weloch chi fy natganiad ysgrifenedig, wrth gwrs, yn ôl ym mis Ebrill, pan gyhoeddwyd dyfarniad y Goruchaf Lys. Credaf mai'r hyn sydd angen i chi ei gydnabod—ac mae hyn wedi'i ddweud fwy nag unwaith—o ran amseriad cyhoeddi'r cod a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yw mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn. Fe wyddoch mai mater i Lywodraeth y DU ydyw, a'n bod yn aros am ganlyniad yn ei gylch.
Er hynny, hoffwn ddweud yn garedig mai'r newyddion diweddaraf yw fy mod wedi cyfarfod â chadeirydd newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) ar gyfer y DU, Dr Mary-Ann Stephenson, i drafod nifer o faterion, gan gynnwys goblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys a chod ymarfer CCHD sydd ar y ffordd. Felly, gallai hynny roi rhywfaint o sicrwydd i chi, y ffaith fy mod wedi cyfarfod â hi. Ac rwy'n dweud eto, fel y dywedais o'r blaen, fy mod yn glir y bydd Llywodraeth Cymru’n cydymffurfio'n llawn â'r cod ymarfer wedi iddo gael ei gyhoeddi.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau dynol pobl yng Nghymru? OQ63832
Diolch am eich cwestiwn, Julie. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r CCHD fel partneriaid allweddol i hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru, gan gynnwys drwy'r grŵp cynghori ar hawliau dynol a'u gwaith yn monitro cytuniadau'r Cenhedloedd Unedig. Rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith craffu annibynnol, ac roeddwn yn falch o groesawu eu hadroddiad effaith ar gyfer Cymru 2024-25 gyda datganiad ysgrifenedig.
Diolch am yr ateb.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch iawn o ddarllen eich datganiad yn croesawu Cadeirydd newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Dr Mary-Ann Stephenson, gan fod gwaith y CCHD yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yn helpu i wneud Cymru yn genedl decach. A gwn fod Llywodraeth Cymru’n gweithio'n agos gyda'r CCHD. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa gynrychiolaeth sydd gan Gymru ar y CCHD, a beth arall y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud, ar y cyd â'r CCHD, i helpu i hyrwyddo cydraddoldeb, tegwch a hawliau dynol ledled Cymru?
Diolch am eich cwestiwn. Mae'n amserol iawn, yn dilyn y cwestiwn blaenorol, ac fe ddywedaf fy mod yn falch iawn o gyfarfod â'r cadeirydd newydd, Dr Mary-Ann Stephenson, i'w chroesawu i Gymru. Cadarnhaodd ein trafodaethau ein hymrwymiad i gydweithio, yn enwedig ar hyrwyddo'r agenda hawliau dynol ledled Cymru. Fe wnaethom archwilio cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Mae'n bwysig fod gennym grŵp cynghori ar hawliau dynol yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae'r grŵp cynghori hwnnw'n cyfarfod yfory, a byddaf yn cadeirio'r cyfarfod hwnnw. Drwy gydol y tymor hwn, rydym wedi newid ein ffordd o feddwl am gydraddoldeb. Rydym yn gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, fel y gallwn weld sut rydym yn effeithio ar fywydau pobl, a'r gwahanol hawliau ac anghydraddoldebau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae wedi cryfhau ein gwaith ar hawliau dynol. Rydym hefyd wedi cynhyrchu datganiad ar hawliau dynol, a chyfrannodd y CCHD at hwnnw.
O ran y gwaith a wnaed, gyda'r cynllun hawliau pobl anabl, anghenion Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a'r cynllun cydraddoldeb hiliol, 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', mae'r rheini oll wedi bod yn ddangosyddion pwysig o ran canlyniadau ein gwaith. A gaf i ddweud yr hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn annog Llywodraeth y DU—a chredaf fod hyn yn mynd i ddigwydd bellach—i benodi cadeirydd newydd i bwyllgor Cymru ar gyfer y CCHD? Rydym wedi cymeradwyo'r broses, ac rydym yn gobeithio nawr y bydd hyn yn symud yn ei flaen, ond rwy'n ddiolchgar iawn i Martyn Jones, sydd wedi camu i mewn a chyflawni rôl cadeirydd Cymru yn y cyfamser.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi codi pryderon dro ar ôl tro ynghylch y bwlch rhwng ymrwymiadau polisi a phrofiad bywyd, yn enwedig i bobl anabl, pobl hŷn a chymunedau ethnig leiafrifol. Sut rydych chi a Llywodraeth Cymru’n asesu ac yn mesur canlyniadau eich polisïau i sicrhau eu bod o ddifrif yn gwella profiad dydd i ddydd pobl mewn perthynas â hawliau dynol? Yn rhy aml, rydym yn clywed am strategaethau ac adroddiadau a chynlluniau sy'n ein hargyhoeddi ein bod yn gwneud y peth iawn, ond sut yr awn ati i fonitro i sicrhau bod y canlyniadau hynny'n gwneud gwahaniaeth go iawn?
Diolch am eich cwestiwn. Mae hyn yn rhywbeth sy'n hanfodol i gyflawni newid—y newid diwylliannol yr ydym am ei weld yng Nghymru o ran parchu cydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Dyna mae ein cynllun hawliau pobl anabl yn ceisio'i wneud. Mae'n gynllun 10 mlynedd. Mae wedi'i adeiladu ar y model cymdeithasol o anabledd. Cafodd ei lunio gan waith y tasglu hawliau pobl anabl, ac mae iddo nodau hirdymor. Yn hollbwysig, mae angen ichi sicrhau ei fod yn cael ei fonitro'n annibynnol a'i fod o ddifrif yn cyflawni ei ganlyniadau. Rwy'n falch fod gennym grŵp cynghori allanol. Bydd ei gyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar 23 Mawrth, gydag arweiniad arbenigol i lywio'r gwaith o gyflawni a sicrhau'r effaith fwyaf sy'n bosib.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y dywedwyd wrthych eisoes heddiw, ddoe roedd hi'n 300 diwrnod ers i'r Goruchaf Lys ddyfarnu bod 'rhyw' yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu rhyw biolegol. Dyna 300 diwrnod y mae Llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4 wedi bod yn tin-droi tra bod menywod a merched yn parhau i fod heb eu diogelu a heb yr hawl i fannau diogel na thegwch mewn chwaraeon. Nid yw'n ddigon da. Roedd y dyfarniad yn eithaf syml: mae 'menyw' yn golygu menyw fiolegol. Eto i gyd, nid ydym wedi gweld unrhyw beth gennych chi yn awgrymu eich bod yn ceisio rhoi pwysau ar y Llywodraeth a'r CCHD i weithredu ar frys yn hyn o beth. A wnewch chi gyhoeddi unrhyw ohebiaeth a gawsoch gyda'r CCHD a Llywodraeth y DU yn gofyn iddynt weithredu'n gyflym ar hyn oherwydd pwysigrwydd y mater i ddiogelu menywod a merched yma yng Nghymru? A ydych chi wedi cael dyddiad o ran pryd y byddwch yn cael y canllawiau sy'n gysylltiedig â'r diweddariad i'r cod? Diolch.
Gallaf roi'r cefndir i chi. Rwyf eisoes wedi rhoi adborth eithaf helaeth ar y mater hwn. Cyflwynodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y cod ymarfer wedi'i ddiweddaru i'r Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ym mis Medi y llynedd. Mae'n ddogfen hir a chymhleth, ac ni fydd y canllawiau sydd ar y ffordd yn newid y gyfraith nac yn newid effaith gyfreithiol dyfarniad y Goruchaf Lys. Y dyfarniad, nid y canllawiau, sy'n nodi'r gyfraith ar y materion hyn. Mae Llywodraeth y DU bellach yn ystyried y cod. Ysgrifennodd y Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb a'r Ysgrifennydd Gwladol at Lywodraeth Cymru yn yr hydref, ac mae'n rhaid iddynt ymgynghori â ni. Fe wnaethom gyflwyno ein hymateb ar 20 Tachwedd, ac yn wir, bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu a ddylent gymeradwyo'r cod a'i gyflwyno gerbron y Senedd am 40 diwrnod.
Yn wir, dyma rywbeth y siaradais amdano gyda Dr Mary-Ann Stephenson yr wythnos diwethaf, a hoffwn ddweud un peth ynglŷn â hyn: fy ffocws ar hyn o bryd, rhaid imi ddweud, o ran menywod, yw mynd i'r afael â'r cam-drin rhywiol a'r cam-drin domestig treisgar endemig y mae menywod yn ei wynebu yng Nghymru. Dyna fy ffocws—dyna fy ffocws—a phan gyfarfûm â Dr Mary-Ann Stephenson, dywedais wrthi am y grwpiau yr oeddwn wedi cyfarfod â nhw: Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Pride Cymru, rhanddeiliaid traws, Stonewall, Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru, LGB Alliance Cymru, Merched Cymru. Rwyf wedi gwrando ar bawb. Rwyf wedi gwrando ar eu holl safbwyntiau. A phan gyfarfûm â hi, trafodwyd yr angen am dosturi a deialog i ddatblygu atebion, fel y gall pawb yng Nghymru gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt tra bo cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.
5. Sut bydd cynllun hawliau pobl anabl Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl? OQ63817
Diolch, Joyce Watson. Mae ein cynllun hawliau pobl anabl 10 mlynedd yn nodi camau ymarferol a nodau hirdymor i fynd i'r afael â rhwystrau ar draws cyflogaeth, trafnidiaeth, addysg, gofal iechyd, tai a mynediad digidol. Ac rydym yn gwneud taliad costau byw o £100 i bobl anabl sy'n rhan o'r cynllun gostyngiad band anabl ar gyfer y dreth gyngor sydd hefyd yn hawlio gostyngiad y dreth gyngor.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r cynllun hawliau pobl anabl yn fawr iawn, gan fod pob un ohonom yn cydnabod bod gan bawb hawl i gael eu trin yn deg ac yn gyfartal yn ein cymdeithas a chael yr un cyfleoedd â phawb arall. Felly, credaf fod y cynllun yn mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hynny, a chyda phobl yn cydweithio, rwy'n siŵr y gall lwyddo i gyflawni ei nodau. Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl anabl yng Nghymru yn un o'r cynulleidfaoedd targed ar gyfer yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' sy'n helpu pobl i hawlio'r hyn y maent yn gymwys i'w gael, ac rydych chi eisoes wedi sôn am y taliad costau byw o £100. A allwch chi roi mwy o fanylion ynglŷn â hyn a phryd y bydd pobl yn cael y taliad hwnnw?
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Mae'r cynllun gostyngiad band anabl ar gyfer y dreth gyngor yn daliad arian parod untro o £100 i aelwydydd sy'n derbyn cymorth sy'n dibynnu ar brawf modd drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor sydd hefyd yn derbyn gostyngiad band anabl. Bydd pob taliad yn cael ei wneud erbyn mis Mawrth, yn yr ychydig wythnosau nesaf. Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol wneud taliadau cyn gynted â phosib ar ôl iddynt bennu bod aelwyd yn gymwys. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig—ac mae hyn yn rhan o'n system fudd-daliadau Cymru yma nawr—yw nad oes yn rhaid i aelwydydd wneud cais na darparu tystiolaeth i dderbyn y taliad o £100. Felly, mae cynghorau'n defnyddio'r data sydd ganddynt i nodi pwy sy'n gymwys. Dim ond i gadarnhau'r manylion banc sydd eu hangen i wneud y taliad y byddant yn cysylltu ag aelwydydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cydnabod bod hwn yn gam dramatig, gwych ymlaen. Mae'n cael gwared ar rwystrau sy'n aml yn atal pobl rhag cael mynediad at eu hawliau, ac mae'n dangos sut y gall awdurdodau lleol ddarparu cymorth ariannol mewn ffordd syml, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn unol ag egwyddorion siarter budd-daliadau Cymru.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro dibynadwyedd y ffordd y mae'r Post Brenhinol yn ymdrin â gohebiaeth gwasanaeth cyhoeddus? OQ63844
Diolch am eich cwestiwn, Carolyn Thomas. Wrth gwrs, fel y gwyddoch, nid yw'r Post Brenhinol wedi'i ddatganoli, ac mae'r gwasanaeth post yn cael ei reoleiddio gan Ofcom. Ond rwy'n cydnabod bod y gwasanaeth post yn hanfodol i gysylltu ein cymunedau, ac rwy'n pryderu bod yna rai meysydd lle mae'r gwasanaeth hwn yn methu cyflawni.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, fel cyn-weithiwr post, rwy'n siomedig iawn o glywed bod y Post Brenhinol yn parhau i roi elw o flaen ei ddyletswydd gwasanaeth cyhoeddus. Cefais wybod gan weithwyr post eu bod yn cael cyfarwyddyd i flaenoriaethu'r parseli mwy proffidiol, gan adael llawer iawn o lythyrau ar ôl, gan gynnwys gohebiaeth hanfodol gan y GIG, gwerth hyd at bum niwrnod weithiau, ac felly mae apwyntiadau hollbwysig yn cael eu colli. Nid yn unig fod hyn yn fethiant o ran gwasanaeth i'r GIG, mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol difrifol. Mae pobl sy'n dibynnu ar lythyrau gofal iechyd, trigolion hŷn a phobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn cael eu gadael dan anfantais wirioneddol, gyda chanlyniadau difrifol posib i'w hiechyd a'u lles, ac mae apwyntiadau a fethir yn cael effaith ar ein GIG. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Post Brenhinol am yr arfer hwn, a pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod llythyrau gan wasanaethau cyhoeddus, fel ein GIG, yn cael eu trin â'r brys y maent yn ei haeddu? Diolch.
Diolch yn fawr. Mae hwn hefyd yn gwestiwn pwysig sydd wedi codi yr wythnos hon yn y Siambr, ac rwyf wedi cael gohebiaeth gan y Post Brenhinol yn gofyn am gyfarfod, ac wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei wneud, yn enwedig yn dilyn y cwestiynau hyn. Mae ymchwil gan Ofcom, y rheoleiddiwr, yn dangos bod pobl eisiau gwasanaeth post fforddiadwy a dibynadwy, ac mae llawer o bobl yn dal i gael eu hamddifadu o hynny, ac yn aros wythnosau'n aml i lythyrau gael eu dosbarthu. Fel llawer ohonoch, rwy'n siŵr, rwyf wedi cael pryderon mewn gwaith achos ynglŷn â'r llythyrau apwyntiad hyn gan y GIG. Felly, bydd yn gwestiwn o beth y mae Ofcom yn caniatáu i'r Post Brenhinol ei wneud i wneud newidiadau i'r gwasanaeth. Mae'r gweithwyr post eu hunain yn hanfodol o ran danfon y llythyrau hyn, ac roeddwn yn falch o wneud fy ymweliad Nadolig i gyfarfod â gweithwyr post, i gyfarfod â'r undebau hefyd, fel y gwnaeth nifer ohonoch rwy'n siŵr, ac i gydnabod y pwysau. A gawn ni ddweud bod ein gweithwyr post—ac rwy'n gwerthfawrogi eich profiad yn y sector hwn—yn gwbl hanfodol i'n bywydau bob dydd, i'n gwasanaethau cyhoeddus, ac oni fyddai'n dda pe bai'n wasanaeth cyhoeddus unwaith eto?
Diolch, Carolyn, a diolch i chi hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, gan imi sôn am hyn nid yma, ond gyda fy swyddfa ddosbarthu fy hun yn Llandudno dros yr haf. Ar y pryd, roedd ganddynt broblemau staffio, ond ers i'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ddod i rym, mae fwy neu lai'n sicr y byddwch yn derbyn llythyr dosbarth cyntaf y diwrnod canlynol, llythyr ail ddosbarth ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Ond mae pobl wedi cysylltu â mi eto ynglŷn â fy swyddfa ddosbarthu leol, hyd yn oed postmyn a phostwragedd, yn ddienw. Mae'n broblem wirioneddol, ac ymddengys bod hyn yn batrwm bellach, yn sicr ledled Cymru. Hoffwn ofyn i chi weithio gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Post Brenhinol. Ni ddylai hyn fod yn digwydd. Rwy'n credu y byddai llais pwerus o'r Senedd hon yn dangos iddynt nad ydym yn mynd i dderbyn hyn. Mae gennyf bobl yn cael llythyrau apwyntiad hwyr. Mae ein llythyrau ni ein hunain ynglŷn ag apwyntiadau gyda mi yn cael eu derbyn ar y diwrnod. Nid yw'n ddigon da. Mae ein trigolion a'n hetholwyr yn haeddu gwasanaeth post dosbarth cyntaf, yn enwedig pan fyddant yn talu am wasanaeth post dosbarth cyntaf. Diolch.
Diolch. Yn amlwg, mae hyn bellach wedi codi nifer o gwestiynau ar draws y Siambr, felly fe fyddaf yn cyfarfod â'r Post Brenhinol. Mae'n ddarparwr gwasanaeth post cyffredinol ac mae'n gyfrifol am ddosbarthu llythyrau a pharseli chwe diwrnod yr wythnos am un pris i bob cyfeiriad yn y DU. Credaf ei bod yn bwysig cyfarfod ag Ofcom yn ogystal â'r Post Brenhinol o ran monitro'r perfformiad yn erbyn y targedau a osodwyd. Roeddwn eisiau gwneud y pwynt hefyd, ynghylch gohebiaeth apwyntiadau'r GIG, fod cymaint o lythyrau'r GIG mor bwysig i gleifion, gan gynnwys pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn arbennig, oherwydd fel y gŵyr llawer ohonoch, yn aml, mae'r GIG yn cyfathrebu drwy e-byst neu negeseuon testun a galwadau ffôn, ond bydd yna lawer o bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol na fyddant yn cael yr ohebiaeth honno. Felly, mae cod bar penodol gan y Post Brenhinol ar gyfer y GIG bellach. Credaf fod angen inni ofyn eto am fwy o ddealltwriaeth o'r hyn y mae hyn yn ei olygu o ran cydweithio i ddarparu ar gyfer y cleifion sydd angen y gwasanaeth hwnnw a hefyd ar gyfer cwsmeriaid yn fwy cyffredinol a'r gweithwyr post eu hunain.
Nid yw'r Aelod yn bresennol i ofyn cwestiwn 7, felly cwestiwn 8, Russell George.
Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OQ63843].
8. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cefnogi cynhwysiant digidol yng nghanolbarth Cymru? OQ63820
Diolch yn fawr, Russell George. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru hyder digidol, sgiliau digidol sylfaenol a'r gefnogaeth i ddiwallu safon byw digidol gofynnol, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Bydd hyn yn caniatáu i bobl wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â'r ffordd y maent yn defnyddio technoleg ddigidol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cydnabod bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru wedi helpu llawer o bobl ar draws y Gymru wledig, yn drigolion a busnesau. Ond rwy'n ymwybodol hefyd o achosion, yn ystod y cyfnod lle cafodd y cynllun ei oedi i ganiatáu ar gyfer diweddariadau, lle roedd rhai unigolion mewn ardaloedd gwledig yn teimlo nad oedd ganddynt unrhyw opsiwn ond talu am osod atebion band eang amgen eu hunain, er mwyn parhau i weithio neu gadw eu busnes i weithredu, yn aml gan ddisgwyl y byddai'r cynllun yn ailagor wedyn o fewn ychydig fisoedd.
Felly, o ystyried bod cysylltedd digidol yn ganolog i gynhwysiant digidol, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cymhwyso unrhyw gymorth neu ddisgresiwn ôl-weithredol i'r rhai a weithredodd am fod rhaid iddynt wneud hynny yn ystod y cyfnod o oedi, a sut y gellid rheoli oedi cynlluniau yn y dyfodol i sicrhau na chaiff trigolion gwledig eu rhoi dan anfantais yn anfwriadol?
Diolch am eich cwestiwn pwysig. Wrth gwrs, mae ein strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru, sy'n ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, yn gwneud yn glir fod yn rhaid i ffyrdd amgen o gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru barhau i fod ar gael i bobl nad ydynt yn gallu neu sy'n penderfynu nad ydynt eisiau cyfranogi'n ddigidol.
Rydych chi wedi tynnu sylw penodol at broblem yng nghefn gwlad Cymru. Yn amlwg, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw cysylltedd band eang, ac eto rydym wedi gwneud yn siŵr ein bod wedi cefnogi, drwy gyflwyno Cyflymu Cymru, ac wedi rhoi miliynau o bunnoedd o gyllid cyhoeddus i ddarparu band eang cyflym iawn. A gaf i ofyn i chi ysgrifennu ataf yn benodol ar y mater hwnnw? Mae hyn yn rhywbeth y bûm yn ei drafod gyda'r comisiynydd pobl hŷn hefyd.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Rhys ab Owen.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf a'r amserlen ar gyfer y ganolfan breswyl arfaethedig i ferched yn Abertawe? OQ63834
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae'r caniatâd adeiladu a chynllunio wedi'u cadarnhau. Rydym yn glir y bydd y ganolfan yn ased gwirioneddol i fenywod yng Nghymru, gan ddarparu gwasanaethau therapiwtig ac adsefydlu fel rhan o ddull sy'n ystyriol o drawma.
Diolch yn fawr, Drefnydd. Efallai y cofiwch, dyma un o'r cwestiynau cyntaf a ofynnais pan ymunais â'r Senedd bum mlynedd yn ôl, oherwydd pan wnaed y cyhoeddiad yn 2020, yn dilyn gwaith gyda chomisiwn Thomas, roedd yn gyffrous clywed bod y £2.5 miliwn ychwanegol o gyllid yn mynd i fynd gyda'r ganolfan i ddelio â throseddau mewn perthynas â menywod. Dywedwyd wrthym ar sawl achlysur fod yr adeilad wedi'i brynu, fod y caniatâd cynllunio wedi'i roi, ond roedd y dyddiad agor yn 2024. Rydym wedi gweld y dyddiad agor yn cael ei ohirio dro ar ôl tro, ac nid yw'r gwaith adeiladu wedi dechrau eto. Clywsom am y gwahaniaeth anhygoel y mae Hope Street wedi'i wneud yn Southampton, ond unwaith eto, mae Cymru'n aros. Pa bryd y bydd y ganolfan arloesol hon yn agor i fenywod Cymru? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y cwestiwn hwn, oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae fy rhwystredigaeth am y diffyg cynnydd gyda'i hagor yn cael ei rannu gan gymaint o bobl. Mae gweld y ganolfan wedi'i hagor yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Mae cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd yn hanfodol i fenywod. Yn wir, rhaid imi ddweud, a soniais am hyn yn gynharach, mynychais gyfarfod bord gron ar y glasbrint cyfiawnder menywod heddiw, dan gadeiryddiaeth Ian Barrow, prif weithredwr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru. Yn fy sylwadau agoriadol, nodais y brys ynglŷn ag agor y ganolfan. Rwy'n cyfarfod â'r Arglwydd James Timpson ddiwedd mis Chwefror. Rwy'n gofyn am ddiweddariad ar agor y ganolfan, a gwn fod swyddogion yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y ganolfan yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn cael ei symud yn ei blaen yn gyflym.
Bydd adroddiad o'r cyfarfod bord gron heddiw. Cefais gwestiynau yn gynharach hefyd am gyfiawnder menywod a'r canlyniadau y mae angen inni geisio mynd i'r afael â nhw, oherwydd mae hyn yn ymwneud â chaniatáu i fenywod aros yn agosach at adref, cynnal cysylltiadau teuluol hanfodol, yn enwedig â'u plant, a mynd i'r afael â'r holl faterion sylfaenol sy'n cyfrannu at ymddygiad troseddol: problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, neu drais domestig. Felly, rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Senedd, ac am eich cwestiynau heddiw ynglŷn â'r ganolfan.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Lindsay Whittle.
1. Sut mae'r Comisiwn yn annog pobl ifanc i bleidleisio yn etholiad y Senedd sydd i ddod ar 7 Mai 2026? OQ63846
Pobl ifanc yw un o'r grwpiau targed yn ymgyrch etholiad 2026 y Senedd, ac mae swyddogion yn ymgysylltu â phobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae hyn wedi cynnwys sesiynau addysg ar yr ystad yma ac oddi arni. Ym mis Ionawr yn unig, cynhaliodd y tîm addysg 107 o sesiynau gyda disgyblion sy'n gymwys i bleidleisio ledled Cymru. Mae ymdrechion hefyd wedi cynnwys digwyddiadau cymunedol, er enghraifft mewn prifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr, a thrwy sianeli digidol wedi'u targedu at gynulleidfaoedd iau, fel Instagram, er mwyn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn yr etholiad.
Diolch am yr ateb.
A gaf i ddweud fy mod wedi mynychu'r digwyddiad prentisiaethau heddiw, ac roedd hi'n gyffrous edrych ar benset realiti rhithwir? Rwy'n teimlo y gallai honno fod yn ffordd ymlaen, oherwydd rwy'n deall bod y Comisiwn Etholiadol yn defnyddio'r pensetiau realiti rhithwir hyn. Maent yn dysgu pobl ifanc sut i gofrestru hyd yn oed, sut i bleidleisio a sut i lywio gorsaf bleidleisio. A oes gan staff o Gomisiwn y Senedd, pan fyddant yn ymweld â'r ysgolion a'r colegau, fynediad at dechnoleg gyffrous o'r fath, a wnaeth argraff ar yr hynafgwr hwn? Diolch.
Wel, nid wyf yn ymwybodol fod realiti rhithwir yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan y Senedd i ymgysylltu â phobl ifanc. Rydym yn amlwg yn ymgysylltu â phobl iau ar y platfformau lle maent yn bresennol a lle mae ganddynt ddiddordeb. Rydym yn defnyddio'r math o gyfryngau gweledol y maent wedi'u cysylltu â nhw ac maent yn rhoi adborth i ni eu bod am weld gwybodaeth am bleidleisio, am wleidyddiaeth, wedi'i rhannu gyda nhw. Nid yw gorsaf bleidleisio realiti rhithwir yn un y gallaf ei weld yn fy mhen ar y pwynt hwn, ond yn amlwg mae angen i mi symud yn gyflymach gyda'r oes a chadw i fyny â chi, Lindsay Whittle.
2. Pa gamau mae'r Comisiwn yn eu cymryd i alluogi staff i gael ffordd o fyw mwy iach ac egnïol? OQ63821
Mae'r Comisiwn yn annog staff i ystyried ffyrdd iach ac egnïol o fyw, er enghraifft cefnogi teithio llesol drwy'r cynllun beicio i'r gwaith, storfa feiciau diogel, cawodydd a beiciau at ddefnydd pawb. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n contractwr arlwyo i wella'n barhaus y dewisiadau bwyta'n iach, ac rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn hyn dros y blynyddoedd diwethaf. Caiff lefelau llesiant eu monitro trwy arolygon rheolaidd, a thrwy'r rhain rydym yn gweld gwelliannau parhaus mewn dangosyddion llesiant, gan gynnwys gostyngiadau mewn absenoldeb oherwydd salwch.
Diolch yn fawr. Yn gynharach heddiw, Lywydd, anfonodd fy swyddfa wybodaeth at Aelodau'r Senedd am ddigwyddiad dathlu parkrun yma yn y Senedd fis nesaf. Un o'r pethau y mae parkrun yn ceisio ei wneud yw ehangu ei effaith ac adeiladu ar ei effaith fuddiol iawn ar iechyd a lles yng Nghymru. Er enghraifft, maent yn cysylltu parkruns unigol â meddygfeydd meddygon teulu lleol fel rhan o bresgripsiynu cymdeithasol, a nawr maent yn ceisio cysylltu gweithleoedd â parkruns. Yn wir, mae nifer o awdurdodau lleol ac eraill yn cefnogi'r datblygiad hwnnw.
Gwn fod nifer o staff y Comisiwn ac ASau yn cymryd rhan neu'n gwirfoddoli mewn digwyddiadau parkrun yn eu hardal leol yn rheolaidd, a thybed, Lywydd, a allech chi gyfarfod â mi i drafod a allai ein Senedd, efallai, dan nawdd yr arweinyddiaeth genedlaethol, sef Chris Davies yng Nghymru ar gyfer Parkrun Cymru, ystyried cysylltu'r Senedd â parkrun, yn yr hyn y credaf y byddai'n dro cyntaf mewn unrhyw Senedd yn unrhyw le yn y byd.
Diolch, John Griffiths, am y cwestiwn.
Cefais fy ngwahoddiad i'r dathliad parkrun a gynhelir gennych mewn ychydig wythnosau yn fy mewnflwch y bore yma. Nid wyf yn addo gwisgo fy esgidiau rhedeg ar gyfer y digwyddiad hwnnw. Ond os caf ddweud, wrth ateb y cwestiwn hwn ar ôl i chi ei gyflwyno, diolch yn bersonol i chi, John, am yr arweinyddiaeth rydych chi wedi'i rhoi i ffyrdd o fyw egnïol, fel mater polisi yn ehangach yng Nghymru, ond hefyd am annog pob un ohonom, fel Aelodau ac fel staff, i fyw ffordd o fyw mor egnïol ag y gallwn yn ein gweithle. Fe welir eich colli fel hyrwyddwr yr achos hwnnw ar ôl i chi ymddeol, ond rwy'n siŵr y bydd eraill yn barod i gymryd y baton oddi wrthych. Rwy'n rhedeg ras gyda fy nghymariaethau, felly fe roddaf y gorau iddi yn y fan honno. Ond diolch am yr arweinyddiaeth honno.
Rydych chi wedi cynnig her i mi a'r Comisiwn, felly, i edrych i weld sut y gallwn gysylltu â'r fenter parkrun hynod lwyddiannus sy'n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru. Ac er nad yw'r Senedd hon fel arfer yn cyfarfod ar foreau Sadwrn, pan fydd parkruns yn digwydd yn ein cymunedau, byddai'n bleser cyfarfod â chi a chynrychiolwyr y fenter parkrun i weld sut ac ym mha ffordd y gallai'r Senedd hon gysylltu â'r fenter parkrun. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Llywydd.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Byddwn yn symud ymlaen at eitem 5, y datganiadau 90 eiliad. Bydd y datganiad cyntaf gan Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o fod yn noddwr Côr Tabernacl Treforys. Mae hon yn argoeli i fod yn flwyddyn hynod gyffrous i Gôr Tabernacl Treforys wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn gant a hanner oed. Ffurfiwyd Côr Tabernacl Treforys ym 1876 a dyma'r côr cymysg hynaf ond un sy'n dal i berfformio yng Nghymru. Mae'r côr wedi canu mewn nifer o leoliadau ledled y wlad, gan gynnwys yr Albert Hall, Neuadd Dewi Sant Caerdydd, eglwys gadeiriol Llandaf, Neuadd y Brangwyn Abertawe, yn ogystal â'i berfformiad rheolaidd yng nghapel byd-enwog y Tabernacl yn Nhreforys.
Mae'r côr wedi perfformio sawl gwaith ar gyfer Radio 3, Radio Cymru, BBC One a BBC Two. Y côr oedd y côr cyntaf o Gymru i ymddangos ar BBC Two yn canu 'Gwasanaeth Cysygredig' Bloch gyda'r diweddar Syr Geraint Evans. Mae'r côr wedi gwneud nifer o deithiau tramor. Y cyntaf oedd ymweliad â Brwsel ym 1992; Hwngari ym 1994, i gymryd rhan mewn perfformiad o Wledd Belshazzar; Pau, gefeilldref Ffrengig Abertawe, ym 1997; a Fienna yn 2000.
Mae'r côr yn ymfalchïo'n fawr yn y cantorion ifanc a anogodd i gychwyn ar yrfa broffesiynol, megis Syr Bryn Terfel, Rebecca Evans, Jason Howard, Richard Allen, Natalya Romaniw, sy'n dod o Dreforys, Janet Watson ac eraill. I gydnabod hyn, roedd yn anrhydedd fawr pan gytunodd Bryn Terfel, sydd wedi canu gyda'r côr sawl gwaith, i fod yn noddwr oes i'r côr. Mae gan y côr repertoire eang, gan gynnwys Meseia Handel, y maent yn ei ganu bob Nadolig, ond maent hefyd yn canu Aida a Nabucco gan Verdi, yn ogystal â chyfres o offerennau gan gyfansoddwyr fel Mozart, Berlioz a Rutter.
Eleni maent yn dathlu'r garreg filltir wych hon gyda chyfres o ddigwyddiadau. Llongyfarchiadau ar eich pen-blwydd yn 150 oed. Edrychaf ymlaen at y 150 mlynedd nesaf a mynychu'r digwyddiadau dathlu.
Rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr yn ymwybodol mai'r wythnos hon yw Wythnos Prentisiaethau Cymru. Mae'r wythnos hon yn gyfle pwysig i gydnabod prentisiaethau fel llwybr gwerthfawr i gyflogaeth neu yrfa newydd, ac i fyfyrio ar y manteision sylweddol y maent yn eu cynnig i unigolion, cyflogwyr a'r economi ehangach. Mae prentisiaethau'n chwarae rhan hanfodol yn datblygu gweithlu medrus a chryfhau economi Cymru. Maent yn darparu cyfleoedd sy'n newid bywydau i bobl ennill cyflog, dysgu a chamu ymlaen, gan gefnogi busnesau i dyfu, arloesi a ffynnu.
Nawr, efallai fod rhai o'r Aelodau wedi mynychu'r ffair brentisiaethau a gynhaliwyd yma yn y Senedd heddiw gan y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau, gyda Joyce Watson a minnau'n cyd-gadeirio'r grŵp hwnnw. Ac fe'i cefnogwyd, wrth gwrs, gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd cyd-Aelodau wedi cael cyfle i ymweld â'r digwyddiad hwn ac i ymgysylltu â'r colegau a'r darparwyr hyfforddiant a oedd yn arddangos ehangder ac ansawdd y cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael ledled Cymru. Er mwyn dangos yr effaith wirioneddol a pharhaol y gall prentisiaethau ei chael, rwyf am rannu stori prentis o Goleg Gŵyr, Abertawe, Jodi Jones. Ar ôl treulio amser i ffwrdd o'r gwaith, dychwelodd Jodi yn 2021, yn ansicr o'i chamau nesaf. Datblygodd ddiddordeb mewn weldio ac enillodd brofiad drwy wirfoddoli mewn gweithdai lleol. Taniodd hyn angerdd a'i harweiniodd at brentisiaeth weldio a saernïo yng Ngholeg Gŵyr, a llwyddodd i'w chwblhau yn 2022. Ni ddaeth ei brwdfrydedd i ben gyda hynny. Y flwyddyn ganlynol, cynrychiolodd y coleg yn y categori weldio yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, ac ers hynny mae wedi camu ymlaen hyd yn oed ymhellach ac erbyn hyn mae hi'n dechnegydd a darlithydd peirianneg—enghraifft wirioneddol ysbrydoledig o sut y gall prentisiaethau newid bywydau ac agor drysau i yrfa newydd a boddhaol.
Wrth inni ddathlu wythnos prentisiaethau, rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau'n ymuno â mi i ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod gan bob dysgwr yng Nghymru fynediad at gyfleoedd o ansawdd uchel sy'n eu helpu i wireddu eu potensial a chreu dyfodol cryfach iddynt hwy a'n cymunedau.
Diolch i chi eich dau.
Eitem 6 heddiw yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil hawliau dynol. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9024 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Hawliau Dynol (Cymru).
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o gyfraith Cymru fel eu bod yn rhwymol i Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth arfer swyddogaethau datganoledig a gellir eu gorfodi gan lys neu dribiwnlys;
b) ei gwneud yn haws i bobl yng Nghymru ddeall a mynnu eu hawliau, a darparu llwybrau cliriach i gael mynediad at gyfiawnder pan nad yw eu hawliau'n cael eu cynnal gan gyrff cyhoeddus; ac
c) gwella monitro ac atebolrwydd, gan sicrhau y gellir dal cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i gyfrif pan fyddant yn methu â chynnal yr hawliau dynol hyn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar hawliau dynol, rwyf wedi cael y fraint dros y pedair blynedd diwethaf o weithio gydag arbenigwyr ac ymgyrchwyr sydd wedi tynnu sylw, drwy eu hymchwil, eu gwaith craffu ar bolisi a thrwy eu profiad bywyd, at bwysigrwydd cryfhau amddiffyniadau hawliau dynol i bobl Cymru. Mae hwn yn bwnc y buom yn ei drafod dros nifer o flynyddoedd yn y Senedd ac mae'n rhan o'r rhaglen lywodraethu bresennol, er bod craffu ar yr ymrwymiad hwnnw gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi dangos bod bwlch anffodus rhwng yr addewid a wnaed gan Lywodraeth bresennol Cymru a'i gyflawniad.
Felly, pam y credaf fod angen y Bil hwn? Wel, yn syml, byddai Bil hawliau dynol yn ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru ac yn rhoi llwybrau clir i bobl gael eu hawliau wedi'u gorfodi. Byddai'n ei gwneud hi'n haws i bobl yng Nghymru ddeall a mynnu eu hawliau, ochr yn ochr â sicrhau atebolrwydd i'r rhai sy'n gyfrifol am gynnal hawliau pobl. A pham nawr? Wel, oherwydd bod mudiad pwerus a chydgysylltiedig yn tyfu sy'n ceisio gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol, ail-lunio ffiniau o ran pwy sy'n haeddu urddas, ac i benderfynu bywydau, cyrff a rhyddid pwy sy'n haeddu cael eu hamddiffyn. Ac i'r rhai nad ydynt yn cytuno mai felly mae hi, wel, rydym yn ei weld bob dydd. Ym mrawddeg enwog Orwell, peidiwch â gwrthod
'tystiolaeth eich llygaid a'ch clustiau eich hun.'
Fe welwn gelwyddau'n cael eu caniatáu i gylchredeg heb eu cywiro. Gwelwn brotestwyr yn cael eu harestio. Yn yr Unol Daleithiau, mae gweithredwyr ICE yn lladd sifiliaid ac yn rhwygo cymunedau. Buddiannau preifat yn siapio gwleidyddiaeth yn y cysgodion. Lleiafrifoedd yn cael eu beio am broblemau na wnaethant eu creu. A hyn ochr yn ochr ag atebolrwydd sy'n crebachu. Dyma ganlyniad rhagweladwy systemau lle caiff hawliau dynol eu trin fel pethau amodol, opsiynol neu hepgoradwy. Rwy'n credu o ddifrif fod hon yn foment o bwys. Nid agosáu at bwynt di-droi'n-ôl yr ydym; rydym eisoes wedi'i gyrraedd. Wrth inni symud tuag at etholiad y Senedd 2026, nid yw'r hinsawdd wleidyddol yng Nghymru yn bodoli'n annibynnol ar bob dim. Caiff ei siapio gan y cynnydd byd-eang mewn awdurdodaeth, camwybodaeth a rhaniadau. Yn hytrach na mynd i'r afael â'r problemau gwirioneddol sy'n wynebu pobl, ailgyfeirir y bai yn rhy aml gan rai at y bobl sydd â'r lleiaf o bŵer. Nid yw'r naratif hwn yn newydd. Mae'n gyfarwydd ac yn beryglus: rhannu cymunedau yn hytrach na mynd i'r afael â methiant strwythurol; gwneud i bobl gyffredin bwyntio bys at ei gilydd wrth chwilio am atebion i broblemau cymdeithasol ac economaidd, fel y gall y bobl gyfoethog iawn barhau i warchod eu buddiannau eu hunain; a chwestiynu hawliau, yr hawliau sy'n ein gwneud yn gyfartal a'r un mor atebol o dan y gyfraith. Gwelwn yr ymgyrch tuag at fwy fyth o gwestiynu a dileu dinasyddiaeth, yr union ffrâm y caiff ein hawliau eu hongian arni.
Wrth ysgrifennu ar ôl yr ail ryfel byd, rhybuddiodd yr athronydd Hannah Arendt am yr hyn sy'n digwydd pan fydd hawliau'n cael eu trin fel delfrydau haniaethol yn hytrach na gwarantau gorfodadwy. Disgrifiodd yr hawl ddynol fwyaf sylfaenol fel yr hawl i gael hawliau: yr hawl i berthyn i gymuned wleidyddol a chyfreithiol sy'n eich cydnabod fel deiliad hawliau yn y lle cyntaf. Ac ni allai'r mewnwelediad hwnnw fod yn fwy perthnasol heddiw. Oherwydd pan na chaiff hawliau eu hymgorffori yn y gyfraith, nid ydynt yn orfodadwy. Pan fyddant yn dibynnu ar ewyllys da gwleidyddol yn hytrach na rhwymedigaeth gyfreithiol, caiff pobl eu hamddifadu o'r amddiffyniad mwyaf sylfaenol—yr hawl i gael hawliau o gwbl.
Felly, dyna pam y mae'r cynnig hwn yn bwysig. Gofynnir rhywbeth sylfaenol i'r Senedd—i gytuno a ydym yn credu y dylai hawliau dynol yng Nghymru fod yn amddiffyniadau gwirioneddol a gorfodadwy, neu'n ddim ond dyheadau a fynegir mewn dogfennau polisi ac areithiau. Byddai Bil fel yr un a nodir yn fy nghynnig yn ymgorffori cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol dethol yn uniongyrchol yng nghyfraith Cymru, gan eu gwneud yn rhwymol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus wrth iddynt arfer swyddogaethau datganoledig. Oherwydd nid yw cydnabod hawl yr un peth â'i sicrhau. Rydym wedi gweld hynny gyda'r hyn a ddigwyddodd gyda Roe v Wade, a safodd am bron i 50 mlynedd yn Unol Daleithiau America, gan amddiffyn hawliau atgenhedlu sylfaenol, nes i hynny gael ei ysgubo ymaith gan un penderfyniad.
Nid oes angen inni edrych dramor, oherwydd yma yng Nghymru fe wnaeth adroddiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl yn unig ddisgrifio'r arfer o gadw pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig a'u gosod mewn ysbytai fel sgandal hawliau dynol—pobl a amddifadwyd o'u rhyddid, a'u gwneud yn destun ataliaeth gorfforol a chemegol amhriodol, a chellgyfyngu unigolion, gan gynnwys plant, gyda rhai'n treulio eu harddegau cyfan y tu ôl i ddrysau clo, ymhell o deuluoedd a chymunedau.
Atgyfnerthwyd y gwirionedd hwn gan waith y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol, a fu'n archwilio y llynedd i ba raddau y caiff ymrwymiadau i gryfhau hawliau dynol yng Nghymru eu cyflawni'n ymarferol. Roedd y dystiolaeth a nodir yn ein hadroddiad gan elusennau, academyddion, ymgyrchwyr a phobl â phrofiad bywyd yn drawiadol o gyson. Er gwaethaf argymhellion dro ar ôl tro gan y Cenhedloedd Unedig, gan bwyllgorau'r Senedd, gan gymdeithas sifil ac ymchwil annibynnol, nid yw'r ymrwymiad i ymgorffori cytuniadau rhyngwladol allweddol yng nghyfraith Cymru wedi'i gyflawni.
Felly, rhaid inni ddeddfu. Byddai Bil hawliau dynol (Cymru) yn gwneud tri pheth hanfodol. Byddai'n rhoi grym cyfreithiol i safonau hawliau dynol rhyngwladol mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys cytuniadau fel Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod, gan sicrhau bod Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus yn cael eu rhwymo ganddynt. Yn ail, byddai'n gwneud hawliau'n gliriach ac yn fwy hygyrch. Ni ddylai fod angen arbenigedd cyfreithiol ar bobl i ddeall pan dramgwyddir yn erbyn eu hurddas, neu sut i herio'r tramgwydd hwnnw. Yn drydydd, byddai'n gwella monitro ac atebolrwydd. Mae cyrff cyhoeddus yn gwneud gwaith hanfodol, ond pan fyddant yn methu, rhaid i bobl gael atebion ystyrlon.
Ni fyddai Cymru'n gweithredu ar ei phen ei hun. Yn yr Alban, mae Llywodraeth yr Alban yn bwrw ymlaen tuag at Fil hawliau dynol a fyddai'n ymgorffori sawl un o gytuniadau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith yr Alban. Mae'r gwaith hwnnw'n dangos y gall Llywodraethau datganoledig fod yn uchelgeisiol, yn egwyddorol ac yn ymarferol wrth fynd ati i amddiffyn hawliau, ac ni ddylai Cymru fod yn llai beiddgar. Ac mae'r cyhoedd yn deall hyn. Dengys arolygon barn fod mwy nag wyth o bob 10 oedolyn yn credu bod amddiffyniadau hawliau dynol yn bwysicach heddiw na phan grëwyd y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn dilyn yr ail ryfel byd.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu y dylem ddefnyddio pob pŵer sydd ar gael at ein defnydd i amddiffyn cydraddoldeb, cyfiawnder a'r urddas dynol cyffredin cynhenid yr ydym i gyd yn ei rannu yn wyneb bygythiad cynyddol i'r union bethau hynny. Gallwn ganiatáu i hawliau barhau i fod yn fregus, yn amodol ac yn agored i wyntoedd gwleidyddol, neu gallwn eu diogelu yn y gyfraith i bobl Cymru. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch.
Mae Bil hawliau dynol (Cymru) wedi cael ei gyflwyno heddiw fel achos aruchel ac egwyddorol, ac ar yr wyneb, mae'n swnio'n rhywbeth na allai neb wrthod ei gefnogi. Wedi'r cyfan, sut y gallai unrhyw un fod yn erbyn hawliau dynol? Ond ni allwn fod o dan unrhyw gamargraff. Mae'r cynnig hwn yn wahanol i'r hyn sydd i'w weld. Mae'n geffyl pren Troea wedi'i gynllunio'n ofalus i hyrwyddo agenda wleidyddol a chyfansoddiadol ehangach Plaid Cymru o dan gochl hawliau dynol. Mae'r Bil hwn yn ymgais arall i yrru lletem rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig—Bil a luniwyd yn fwriadol i greu gwahaniaeth, nid oherwydd ei fod yn cyflawni canlyniadau gwell i'r bobl a gynrychiolwn, ond oherwydd ei fod yn gwasanaethu uchelgais wleidyddol Plaid Cymru, sef annibyniaeth i Gymru.
Ac fe wyddom fod a wnelo hyn â mwy nag annibyniaeth yn unig—mae a wnelo â mewnfudo. Oherwydd gwelais yn y datganiad i'r wasg fod Sioned Williams wedi rhoi pennawd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wel, fe ddarllenaf y pennawd yn y datganiad i'r wasg gennych chi yn gyntaf, ac yna fe adawaf i chi ymateb iddo. Oherwydd roedd y pennawd i'r wasg a roddwyd allan gennych chi cyn y ddadl hon, Sioned, yn dweud bod yna, 'alw am gyfraith hawliau dynol yng Nghymru ynghanol ofnau o gyrchoedd ar fewnfudwyr fel y rhai sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau'. Felly, nid ymwneud â hawliau dynol y mae hyn o gwbl, ond â mewnfudo, onid e?
Roeddwn ar fin dweud eich bod chi'n seilio eich holl gyfraniad yma ar y rhagdybiaeth fod hyn yn ymwneud ag annibyniaeth, os ydw i wedi eich clywed chi'n iawn. Sut y byddech chi wedyn yn esbonio bod Llywodraeth Lafur Cymru y blaid unoliaethol wedi ymgorffori cytuniadau y Cenhedloedd Unedig yn rhan o'u rhaglen lywodraethu? Onid yw hynny'n gwrth-ddweud eich rhagdybiaeth?
Wel, edrychwch, gall Llywodraeth Lafur Cymru ateb dros Lywodraeth Lafur Cymru, ond yr hyn roeddwn i'n ei ddweud oedd bod hyn yn ymwneud ag annibyniaeth a mewnfudo, ac rwy'n gwybod mai safbwynt Plaid Cymru yw nad yw mewnfudo anghyfreithlon yn bodoli. Rwy'n cofio arweinydd Plaid Cymru yn dweud hynny ar y teledu. Ac ar adeg pan fo'r Blaid Geidwadol o dan Kemi Badenoch yn mynd ati'n briodol iawn i arwain sgwrs genedlaethol ddifrifol am adfer rheolaeth ddemocrataidd drwy adael y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, mae'r cynnig hwn yn tynnu i'r cyfeiriad arall yn llwyr. Yn hytrach na chryfhau sofraniaeth Senedd y DU ac atgyfnerthu atebolrwydd i bobl Prydain, byddai'n well gan Blaid Cymru rwymo Cymru hyd yn oed yn fwy tynn at fframweithiau cyfreithiol allanol a llysoedd ymgyrchol.
Mae gadael y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn ymwneud â sicrhau bod y deddfau yn y wlad hon yn cael eu gwneud gan ein cynrychiolwyr etholedig ni a'u dehongli gan ein llysoedd ein hunain, nid barnwyr yn Strasbwrg ac mewn mannau eraill. Mae'n ymwneud ag ailgydbwyso hawliau dynol gyda diogelwch y cyhoedd, a rheolaeth briodol ar ffiniau a synnwyr cyffredin, ac mae'r cynnig hwn yn tanseilio'r amcan hwnnw drwy wreiddio diwylliant hawliau dynol cynyddol anhyblyg a gwleidyddol ar lefel ddatganoledig. Dywedir wrthym y byddai'r cynnig hwn yn gwella atebolrwydd a mynediad at gyfiawnder, ond y gwir amdani yw ei fod yn debygol o greu mwy o fiwrocratiaeth, mwy o gymhlethdod a mwy o gostau cyfreithiol—arian a allai fynd at wasanaethau rheng flaen ac a fyddai'n cael ei wastraffu ar ddargyfeirio a chostau gweinyddol yn lle hynny.
Ac ar yr un pryd, symbolaeth y mae'r cynnig hwn yn ei gynnig, nid sylwedd. Mae'n caniatáu i wleidyddion ymddangos yn rhinweddol heb fynd i'r afael â'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu Cymru: rhestrau aros hir y GIG, canlyniadau addysgol gwael, pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, prinder tai a safonau addysgol sy'n methu. Mor nodweddiadol o Blaid Cymru. Rwy'n herio Plaid Cymru i ddod o hyd i aelod o'r cyhoedd sy'n meddwl mai'r cyfansoddiad yw'r mater pwysicaf y maent yn ei wynebu wrth guro ar ddrysau yn y cyfnod cyn yr etholiad.
Nid yw pobl eisiau rhyw sioe fawr, Ddirprwy Lywydd—rwy'n gorffen—maent eisiau atebion ymarferol a llywodraeth effeithiol, rhywbeth y mae'r deuopoli Llafur-Plaid Cymru ar wleidyddiaeth Cymru wedi methu ei gyflawni dros y 27 mlynedd diwethaf. Am y rheswm hwn, ni allaf i na fy mhlaid gefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n annog cyd-Aelodau, nid yn unig Aelodau Ceidwadol ond Aelodau unoliaethol, i feddwl yn ofalus am ganlyniadau hirdymor ei gefnogi. Gall y Blaid Geidwadol yn San Steffan ddelio â'r mater drwy ein tynnu allan o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol pan fyddwn yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf, ac ni fydd byth yn fater sy'n codi i'r Senedd.
Hoffwn ddiolch, yn gyntaf, i Sioned Williams am y ddadl bwysig yma, ond, yn bwysicach fyth, ac am ei harweiniad ar hawliau dynol trwy gydol y Senedd hon. Dwi’n cytuno yn llwyr gyda beth ddywedodd hi yn ôl ym mis Tachwedd ac eto heddiw. Dyw hawliau na ellir eu hawlio ddim yn hawliau o gwbl. Wnaf i ddim ail-adrodd fy sylwadau am Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol; mae’r Trefnydd yn gwybod yn iawn fy marn i am hawliau mae cymunedau ac unigolion yn methu eu defnyddio.
Mae'n bwysig ein bod ni'n cael y ddadl yma, oherwydd mae lleisiau cryf yn erbyn hawliau dynol. Mae'n anffodus, efallai, dydy’r lleisiau yna ddim yma heddiw i wrando ar y dadleuon. Efallai byddan nhw'n dod yma erbyn diwedd y ddadl i weiddi gwrthwynebiad. Roedd Tom yn fy atgoffa fi bach o Geoffrey Howe, ar ben ei hunan yna, yn mynd mas i wynebu'r bowlio gyda cricket bat sydd wedi’i dorri yn barod. Ond chwarae teg i ti, Tom, am fod the only man yn y Blaid Geidwadol sydd â diddordeb yn hawliau dynol. Er eich bod chi'n sôn gymaint amdano fe, dim ond un ohonoch chi sydd wedi gallu bod yn bothered i droi lan prynhawn yma i'r ddadl bwysig yma.
Fel dywedodd Sioned, nid dim ond i bleidiau'r asgell dde mae hon yn broblem. Edrychwch ar San Steffan, sy’n cwtogi ar hawliau protestio, a hefyd ein gwlad ni, a’r methiannau sydd wedi cael eu sôn amdanynt yn yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2025, methiannau’r Llywodraeth yma. A hwn yw'r eironi. Mae'r setliad datganoledig wedi cael ei sylfaenu ar hawliau dynol. Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a'r Ddeddf 2006, maen nhw wedi cael eu sylfaenu ar hawliau dynol—Deddfau, Tom, mae pobl Cymru wedi pleidleisio dwywaith drostyn nhw mewn refferendwm. Felly, yn wahanol i San Steffan, mae'n rhaid i'r lle hwn ddeddfu yn unol â hawliau dynol.
Ond eto, mae methiannau, mae methiannau o fewn y Llywodraeth yma: methiant i ymgorffori hawliau plant i mewn i gyfraith Cymru, er, fel y dywedodd Sioned, fod hwn yn rhan o raglen lywodraethol y Senedd yma; methiant i gymryd camau i wella mynediad cyfartal pobl at addysg—cafodd canllawiau eu cyhoeddi tair blynedd yn ôl, ond rŷn ni eto yn aros am y canllawiau terfynol. Ac unwaith eto, er ei fod yn rhan o raglen lywodraethol y Llywodraeth yma, rŷn ni'n dal i aros am y ddeddfwriaeth a fydd yn helpu i wella mynediad i gyflogaeth i'r rheini sydd yn rhan o'r bwlch amlwg ar hyn o bryd. Fel y mae Sioned yn ei ddweud, byddai'r Bil yma yn creu atebolrwydd: atebolrwydd y Llywodraeth a'r lle hwn i bobl Cymru. Dwi'n mawr obeithio y bydd pleidiau yn cynnwys hwn yn eu maniffesto ac y bydd yna fwyafrif yn y Senedd nesaf i wneud y Bil hwn yn realiti. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud fy mod yn croesawu'r ddadl hon ac y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn? Mae hawliau dynol yn bwysig, gan eu bod yn siapio bywydau bob dydd pobl, eu hurddas, eu diogelwch a'u triniaeth deg. A gwn fod Aelodau ar draws y Siambr yn rhannu dyhead i gynnal hawliau pobl yng Nghymru. Yng Nghymru, nid egwyddorion ar bapur yn unig yw hawliau dynol; maent wedi'u hymgorffori yn y ffordd rydym yn llywodraethu, yn y safonau rydym yn eu disgwyl gan wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Ac mae gan y Llywodraeth hon hanes o ymgorffori hawliau dynol yn y gyfraith a'u rhoi ar waith. Mae hawliau plant yn enghraifft glir: mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd gyfreithiol i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer eu swyddogaethau. A thrwy ein cynllun cydraddoldeb a hawliau dynol strategol a'n hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol, rydym yn cryfhau cyflawniad ac atebolrwydd.
Mae'r cynnig sydd ger ein bron yn gofyn i'r Senedd nodi cynnig ar gyfer Bil hawliau dynol (Cymru). Ac mae'n nodi amcanion clir i wneud hawliau'n fwy ystyrlon a hygyrch, i gryfhau llwybrau i fynediad at gyfiawnder pan nad yw hawliau'n cael eu cynnal, i wella monitro ac atebolrwydd. Mae Llywodraeth Cymru’n cytuno â'r amcanion hyn. Mewn gwirionedd, rwy'n myfyrio ar y ffaith fy mod wedi cael llawer o heriau yn fy nghwestiynau yn gynharach ynglŷn â'r union bwyntiau hyn o ran sut rydym yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif pan na chaiff hawliau eu cynnal. Felly, nid a ddylem gryfhau hawliau yw'r cwestiwn nawr, ond sut y mae gwneud hynny mewn ffordd sy'n wydn, yn orfodadwy ac yn ymarferol yng Nghymru. Ac mewn cyd-destun datganoledig, rhaid inni ddeall yn iawn beth y gall Cymru ddeddfu yn ei gylch, sut y mae unrhyw ddull gweithredu'n rhyngweithio â fframwaith ehangach y DU, a ble mae'r ffin rhwng materion datganoledig a materion a gedwir yn ôl. Felly, mae hynny'n waith technegol cymhleth—mae'n hanfodol—ond mae pobl Cymru’n haeddu amddiffyniadau sy'n gweithio yn ymarferol.
Wrth ymateb i Rhys ab Owen, wrth gwrs, mae rhwymedigaethau hawliau dynol wedi'u hymgorffori ym mhensaernïaeth gyfansoddiadol Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru weithredu'n gyson â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol drwy Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Ac wrth gwrs, dim ond lle mae cynigion yn gydnaws â'r confensiwn y gallwn ddeddfu. Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn ddeddfiad gwarchodedig o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 na all y Senedd ei addasu. Felly, mae ein setliad cyfansoddiadol yn gosod terfyn isaf ar gyfer hawliau ar draws pob portffolio ac yn darparu iaith gyfreithiol gyffredin ar gyfer craffu. Gallwn ddysgu gan yr Alban, sydd wedi bod ar daith debyg. Maent wedi bod yn gwneud gwaith yno ar Fil hawliau dynol. Ac wrth gwrs, mae'r Alban wedi nodi'n glir na fydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn ystod y sesiwn seneddol bresennol, ond maent yn edrych ar hyn drwy ymgynghori.
Ac rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â sut rydym yn edrych ar bwysigrwydd cael manylion cymhwysedd cyfreithiol, ymgynghori a gweithredu yn iawn o'r dechrau. Dyna pam ein bod wedi mynd ati i wneud hyn yng Nghymru yn y ffordd hon. Felly, unwaith eto, fe wnaethom gomisiynu'r ymchwil 'Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru' ar y sail honno. Dywedais yn gynharach heddiw fy mod wedi sefydlu ac yn cadeirio grŵp cynghori ar hawliau dynol, ac mae'n dwyn ynghyd y sefydliadau allweddol hynny: Plant yng Nghymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Anabledd Cymru. Ac rydym wedi sefydlu'r gweithgor opsiynau deddfwriaethol, dan gadeiryddiaeth Charles Whitmore o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, i brofi llwybrau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol yn erbyn cymhwysedd a dichonoldeb. Gyda'n rhaglen lywodraethu, rydym yn dechrau'r gwaith drwy ystyried triniaeth y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau o ran cydnabod yr angen presennol i gryfhau hawliau pobl anabl.
Nawr, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae hyd a lled y gwaith hwn yn enfawr. Bydd y gweithgor opsiynau deddfwriaethol yn adrodd cyn bo hir. Rydym yn cyfarfod â'r grŵp fore Gwener. Rwyf wedi gwahodd aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gymryd rhan yn y drafodaeth honno. Yn y cyfamser, nid yw cynnydd wedi'i oedi. Rydym yn parhau i gryfhau effaith gadarnhaol hawliau drwy gynlluniau gweithredu a chyflawni polisïau. Mae angen inni gael ein dwyn i gyfrif am hynny a sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu diogelu. Felly, gadewch imi gloi drwy ailddatgan fy nghefnogaeth i'r cynnig hwn. Rwy'n cael fy sbarduno gan yr un pwrpas: cred mewn amddiffyniad cryf ac ystyrlon i hawliau pobl Cymru.
Galwaf ar Sioned Williams i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Roedd yna siaradwyr eraill, rwy'n credu.
Na, nid ar fy rhestr i.
Iawn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae hi'n dda clywed bod y Llywodraeth yn cefnogi, a'r cwestiwn yna ynglŷn â nid 'os' ond 'sut', onid e? Mae hi'n rhy hwyr—. Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n eithaf eironig, a dweud y gwir, fy mod i'n cyflwyno'r ddadl yma heddiw fel legislative proposal achos mae hi'n rhy hwyr i'r Senedd hon, wrth gwrs, ddeddfu yn y maes hwn. Ond gallwn ni, yn sicr, anfon neges i'r Senedd nesaf, i'r Llywodraeth nesaf, i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli, ac mae Plaid Cymru yn barod i weithredu ar hyn.
Mae'r cynnig hwn yn ymwneud ag arweinyddiaeth ynghylch gweithredu'n bendant. Mae'r gwaith ar Fesur hawliau dynol yn yr Alban yn dangos i ni beth sy'n bosibl, ac mae'r dystiolaeth yng Nghymru yn dangos beth sy'n angenrheidiol. Mae'r cynnig hwn, felly, yn rhoi'r cyfle i ni droi ymrwymiad—ymrwymiad rydyn ni wedi ei gael ers nifer o flynyddoedd gan y Llywodraeth bresennol—yn realiti.
Oherwydd nid yw'n ddigon dweud bod hawliau dynol yng Nghymru eisoes yn cael eu hystyried, oherwydd, er bod dyhead ac ymrwymiadau ar bapur, ac mewn cynlluniau gweithredu a pholisïau, ceir bylchau o ran gorfodi, mewn arferion anghyson, a dim digon o ddiogelwch statudol. I sicrhau gwir barch at hawliau dynol, mae angen amddiffyniad rhagweithiol, atebolrwydd statudol a chanlyniadau mesuradwy, pethau sydd ar goll yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, Bil hawliau dynol yw'r unig ffordd o sicrhau amddiffyniadau i hawliau pobl nawr, ac yn y dyfodol, sy'n bwysig. Gadewch inni feddwl am y cenedlaethau i ddod, fel rydym i fod i'w wneud, eu hurddas, ie, a hyd yn oed eu rhyddid, drwy anfon y neges bwysicaf hon atynt gan y Senedd hon, o'r pwynt hwn mewn amser, gan bawb sy'n credu mewn cydraddoldeb a thegwch, ac mewn gweithredoedd yn ogystal â geiriau. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Eitem 7 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngu ar y cyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed. Galwaf ar Natasha Asghar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9149 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyfyngu ar fynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf wneud y cynnig y prynhawn yma, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud, heb os, fod gan gyfryngau cymdeithasol eu manteision. Maent yn caniatáu inni gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, a allai fod ar wasgar ledled y byd; maent yn rhoi mynediad cyflym i ni at y newyddion yn ogystal â digwyddiadau byd-eang; maent yn rhoi adloniant i ni; gallant ddatgloi cymorth; a gallant helpu gyda chyfleoedd swyddi yn ogystal â rhwydweithio. Fodd bynnag, i ormod o blant, maent wedi dod yn fagwrfa ar gyfer niwed, bwlio, caethiwed a gorbryder. Mae ein plant yn gweld cynnwys graffig ar y cyfryngau cymdeithasol, boed yn gynnwys rhywiol, treisgar, eithafol neu gynnwys sy'n gysylltiedig â hunanladdiad. Mae'n agor y drysau i bobl sy'n camfanteisio a gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol. Yn anffodus, gwyddom yn rhy dda fod tueddiadau peryglus ar y cyfryngau cymdeithasol wedi arwain at farwolaethau trasig cymaint o bobl ifanc ledled y wlad. Yn syml, Ddirprwy Lywydd, mae'n rhoi ein plant mewn perygl diangen, a gall arwain at ganlyniadau hynod niweidiol ac angheuol weithiau hyd yn oed.
Mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau, yn ogystal â'n swyddogion cyfatebol yn Llundain, yn credu'n gryf mewn rhyddid, ond rhaid cael cyfrifoldeb i gyd-fynd â hynny. O ran ein plant a'n pobl ifanc, rhaid i gyfrifoldeb ddod yn gyntaf bob amser. Dyna pam ein bod yn cynnig gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed.
Mae plant bellach yn treulio bron i dair awr ar-lein bob dydd, gyda dros 70 y cant ohonynt yn gweld fideos neu drais go iawn ar-lein. Mae deiseb i Senedd y DU sy'n galw am gyfyngiadau oedran ar gyfryngau cymdeithasol eisoes wedi cael mwy na 75,000 o lofnodion. Ni fyddem yn caniatáu sylwedd heb ei reoleiddio i mewn i ystafelloedd gwely ein plant, ond dyna'n union a wnaethom gyda chyfryngau cymdeithasol. Rydym eisoes yn cydnabod nad yw rhai pethau'n dderbyniol i blant a phobl ifanc eu gwneud, a dyna pam y mae gennym derfynau oedran ar alcohol, gamblo a gyrru. Ddirprwy Lywydd, mae cyfryngau cymdeithasol, gyda'u cysylltiad â hunan-niweidio, dirywiad iechyd meddwl a chamfanteisio, yn selio eu lle ar y rhestr.
Mae gwledydd eraill ledled y byd eisoes wedi dechrau deffro a rhoi camau ar waith. Fe wnaeth Awstralia gyflwyno cyfyngiadau ar gyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed ddiwedd y llynedd, ac maent eisoes yn gweld manteision. Er na fyddwn yn gwybod beth fydd yr effaith lawn am beth amser, mae arwyddion cynnar yn awgrymu eu bod yn treulio llai o amser o flaen sgrin, yn llai agored i seiberfwlio, a bod y camau wedi creu amgylchedd i blant ffynnu yn yr ysgol a threulio mwy o amser go iawn gyda'u hanwyliaid. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Sbaen gynlluniau i wahardd cyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed, mewn ymgais i ddiogelu plant y wlad rhag gorllewin gwyllt digidol. Mae Ffrainc a Denmarc hefyd yn edrych ar waharddiad ar gyfryngau cymdeithasol. Mae angen inni wneud yr un peth er mwyn diogelu cenedlaethau'r dyfodol a rhoi plentyndod priodol i'n plant, nid un sy'n llawn o seiberfwlio, cynnwys eithafol, iselder, gorbryder, a chymaint mwy.
Gall gorddefnyddio cyfryngau cymdeithasol gael effaith negyddol iawn hefyd ar addysg ein plant, gyda llai o allu i dalu sylw a chanolbwyntio, diffyg cwsg, problemau iechyd meddwl, perfformiad gwaeth, a sgiliau gwybyddol is. Mae'r gwaharddiad arfaethedig hwn ar gyfryngau cymdeithasol yn adeiladu ar bolisi'r Ceidwadwyr Cymreig o wahardd ffonau clyfar mewn ysgolion. Mae gan y ddau fesur, os cânt eu rhoi ar waith, bŵer i drawsnewid bywydau ein plant yn sylweddol er gwell, gan newid ysgolion yn ôl i fod yn lleoedd dysgu, fel y dylent fod.
Ddirprwy Lywydd, gall cyfryngau cymdeithasol aros. Ni all eich plentyndod aros. Bydd rhai'n dweud y bydd hyn yn anodd ei orfodi, ac wrth gwrs, ni fydd yn berffaith—nid yw unrhyw waharddiad byth yn berffaith—ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei wneud er mwyn ychwanegu haen ychwanegol o amddiffyniad, a gosod safonau cymdeithasol clir. Bydd rhai'n dweud nad dyma rôl y Llywodraeth, ac fel Ceidwadwr, rwyf o blaid ymyrraeth gyfyngedig gan y Llywodraeth ar hyn, ond rydym yn sôn am ddiogelu ein plant rhag rhywbeth sy'n achosi niwed mawr iddynt, ac nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am gefnogi'r gwaharddiad hwn. Nid yw'n weithred awdurdodaidd; mae'n weithred gyfrifol.
Ac nid fi yw'r unig un sy'n cefnogi'r gwaharddiad hwn. Mae arolygon barn yn dangos bod y mwyafrif helaeth o blant a rhieni yn cefnogi terfyn oedran ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Yn ôl More in Common, mae 77 y cant o rieni'n cefnogi hyn, ac mae data gan YouGov yn dangos bod 83 y cant o bobl oedran cenhedlaeth Z yn y DU o blaid hyn hefyd. Dywedodd yr Athro Jonathan Haidt, seicolegydd cymdeithasol yn Ysgol Fusnes Stern ym Mhrifysgol Efrog Newydd:
'Pob clod i'r Blaid Geidwadol am gymryd y cam pwysig hwn i gyfyngu ar blentyndod sy'n seiliedig ar y ffôn a gwella iechyd meddwl a datblygiad dynol plant Prydain.'
Dywedodd Arabella Skinner, un o gyfarwyddwr Health Professionals for Safer Screens:
'Mae hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac mae angen gweithredu ar unwaith. Mae codi'r oedran isaf ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol, fel y mae'r Ceidwadwyr yn argymell, yn gam hanfodol i ddiogelu lles ein plant. Rhaid inni weithredu nawr i sicrhau dyfodol iachach iddynt.'
Ddirprwy Lywydd, efallai mai Plaid Geidwadol Cymru sy'n gwthio hyn yn ei flaen, ond o ddifrif, nid oes a wnelo hyn â gwleidyddiaeth plaid. Mae a wnelo hyn â gwneud y peth iawn drwy gadw ein plant yn ddiogel. Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cyhoeddi ei bod yn ymgynghori ar gyfryngau cymdeithasol i blant, sydd, yn fy marn i, yn gohirio gweithredu. Mae angen gweithredu arnom, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, nid geiriau cynnes ac ymgynghoriadau diddiwedd. Y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y gallwn roi ein gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu, gwneud yr hyn sy'n iawn ar ran ein plant a'n pobl ifanc, ac anfon neges glir at Lywodraeth y DU ein bod yn cefnogi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffufiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth y DU ar fynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed, ac yn cydnabod yr angen am y canlynol:
a) cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hyn a'r niwed i blant a phobl ifanc;
b) penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth sy'n sicrhau bod y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn fwy diogel i bobl ifanc dros 16 oed ac oedolion;
c) cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gael eu dal yn gyfrifol am y cynnwys niweidiol ar eu safleoedd, gyda deddfwriaeth bresennol yn cael ei gorfodi a'i chryfhau; a
d) ystod amrywiol o blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y ddadl a'u safbwyntiau yn cael eu hystyried.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Ffurfiol.
Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno dadl fer ar y materion hyn ddiwedd y llynedd, Ddirprwy Lywydd, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i drafod y materion hyn, gan fod effaith sgriniau, ffonau clyfar a gemau ar-lein ar ein pobl ifanc yn peri cryn bryder.
Ydy, wrth gwrs, fel y dywedodd Natasha, mae technoleg yn darparu llawer o fanteision. Ond fel y dywedodd hefyd, rydym yn wynebu epidemig ar hyn o bryd, o or-ddefnydd o sgriniau o'r blynyddoedd cynharaf. Mae plant mor ifanc â thair oed ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae gan y rhan fwyaf o blant 11 oed yng Nghymru ffonau clyfar. Yn aml, mae pobl ifanc yn treulio chwech i naw awr y dydd ar sgriniau, llawer mwy nag y maent yn ei dreulio yn gwneud gweithgarwch corfforol. Mae'n gwbl amlwg fod hyn yn wael i iechyd a lles plant fel unigolion, ond mae iddo gostau cymdeithasol ac economaidd ehangach hefyd: cost i'r GIG gyda'r cynnydd mewn gordewdra, byr-olwg, gorbryder, iselder, problemau cysgu, a thrafferth canolbwyntio; y gost i ysgolion o reoli ymddygiad gwael—mae athrawon yn nodi dirywiad mewn ymddygiad a chanolbwyntio, wedi'i waethygu gan amgylchedd cyflym cynnwys digidol; y gost emosiynol i deuluoedd—mae rhieni'n dweud wrthym am hwyliau cyfnewidiol yn gysylltiedig â gemau a thynfa gaethiwus fideos diddiwedd ar gyfryngau cymdeithasol; a'r gost i'r economi o ran ein gweithlu yn y dyfodol, gyda 15 y cant o bobl ifanc Cymru heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn rhannol oherwydd lefelau cynyddol o salwch hirdymor, yn rhannol oherwydd yr effeithiau andwyol hynny ar iechyd.
Gwyddom fod hyn yn effeithio'n wahanol ar ferched a bechgyn. Canfyddiad cyson mewn astudiaethau yw eu bod yn arbennig o niweidiol i fodlonrwydd merched ifanc â'u hymddangosiad corfforol. I fechgyn ifanc, mae perygl o gael eu trochi mewn byd ar-lein sydd wedi caniatáu cynnydd mewn misogynedd a radicaleiddio ar-lein. Fe wnaeth y gyfres Netflix enwog, Adolescence, bortreadu realiti torcalonnus casineb ar-lein sy'n meithrin syniadau niweidiol a diwylliant ar-lein lle mae casineb yn lledaenu'n gyflymach na charedigrwydd, gan arwain at ymddygiadau nad oes lle iddynt yn ein cymdeithas.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y byddwn yn clywed, yn gywir ddigon, am y sawl math o niwed, fel y rhain, sydd ynghlwm wrth y ddadl hon. Gwyddom fod gwledydd eraill fel Awstralia, Ffrainc a'r Eidal eisoes yn cymryd camau beiddgar i wrthsefyll yr effeithiau negyddol hyn. Ni all Cymru a'r DU fforddio cael eu gadael ar ôl. Mae angen ffiniau cliriach a chamau cenedlaethol arnom sy'n diogelu ein plant rhag niwed, gan barhau i ganiatáu i dechnoleg gyfoethogi dysgu.
Nid oes a wnelo hyn â demoneiddio sgriniau, mae a wnelo ag adfer cydbwysedd, fel bod plant yn treulio mwy o amser yn y byd go iawn, yn hytrach na bod wedi'u cloi mewn bydoedd digidol. Nid oes a wnelo cyfyngu ar fynediad at gyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed â phlismona plentyndod, mae a wnelo â'i ddiogelu. Mae a wnelo â sicrhau nad yw'r byd digidol y mae ein pobl ifanc yn tyfu i fyny ynddo'n eu siapio drwy gasineb, camfanteisio neu ofn.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod gennym gyfrifoldeb clir a chryf iawn ar draws y Llywodraethau, ar draws y pleidiau, ac ar draws cymdeithasau, i weithredu nawr. Os methwn weithredu, rydym mewn perygl o fagu cenhedlaeth sy'n gaeth i'w sgriniau yn hytrach na'r byd o'u cwmpas.
Fe fydd Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru heddiw. Nid oherwydd ein bod ni'n diystyru'r pryderon sydd wedi cael eu cyflwyno gan y Ceidwadwyr a gan John Griffiths hefyd; i'r gwrthwyneb, mae llawer rydyn ni'n cytuno ag ef o safbwynt y cynnig gwreiddiol. Rydyn ni'n sylweddoli hefyd bod rhaid i ni wneud rhywbeth, am y rhesymau sydd wedi cael eu nodi yn barod.
Ond ein teimlad ni ar hyn o bryd yw bod yna gyfrifoldeb arnom ni, pan ydyn ni'n dod i sicrhau diogelwch plant, ein bod ni'n seilio unrhyw gynlluniau neu gamau gweithredu ar dystiolaeth. Mae'n hawdd iawn rhuthro i ffeindio atebion neu i gael penawdau hawdd iawn, ond beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw pwyllo i weld beth yw effaith gwirioneddol unrhyw bolisïau sy'n cael eu gweithredu yn Awstralia, er enghraifft, i weld beth yw'r pethau da ac efallai'r pethau sydd ddim cystal sydd yn dod mas o'r gwaith hwnnw.
Mae'r pryderon sydd wedi cael eu codi yn y ddadl hon yn rhai ystyrlon iawn, ac yn amlinellu mewn ffordd glir dros ben beth yw effaith negyddol y cyfryngau cymdeithasol. Does dim dwywaith fod plant yn cael eu niweidio ar-lein, a bod y niwed hwnnw yn digwydd nawr. Er enghraifft, mae tua un plentyn ym mhob tri wedi profi bwlio ar-lein, wedi cael pobl dydyn nhw ddim yn eu hadnabod yn cysylltu â nhw heb ganiatâd, neu wedi gweld cynnwys amhriodol. Mae bron i 90 y cant o bobl ifanc rhwng 12 ac 16 oed yn treulio amser ar-lein bob dydd, gydag oriau di-ben-draw ar y cyfryngau cymdeithasol mewn rhai achosion. Mae bron i hanner yn dweud bod cynnwys ar-lein yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl nhw, gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn chwarae rhan sylweddol yn hynny o beth.
Mae diogelu yn fater a ddylai fod yn bryder i bob un ohonom ni, ac yn rhywbeth sydd yn gwbl annerbyniol. Mae diogelu plant yn fater ehangach na chyhoeddi cyfyngiadau neu waharddiadau heb eglurder llawn ar sut i'w gweithredu a'u gorfodi nhw. A hefyd, beth yw effeithiolrwydd y cyfyngiadau yma? Achos mae'n rhy gynnar i ni ddweud, heb ystyried y posibilrwydd o unrhyw ganlyniadau annisgwyl neu anfwriadol. Mae ymyriadau yn y maes hwn sydd heb eu cynllunio a’u hystyried yn ddigonol mewn perygl efallai o wthio plant i ryw gorneli tywyll yn y byd digidol hwnnw, i gorneli llai gweladwy, sy’n debygol o fod heb eu rheoleiddio gystal ag y mae'r cyfryngau ar-lein ar hyn o bryd hyd yn oed, lle mae yna beryglon mwy anodd i'w canfod a’u trin.
Dyna pam mae Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth—nid i ddod â therfyn i'r drafodaeth, ond fel man cychwyn i'r drafodaeth aeddfed y mae'n rhaid i ni ei gael ar fater mor bwysig â hwn. O safbwynt ysbryd y cynnig gwreiddiol gan y Ceidwadwyr, rŷn ni yn cytuno gydag ysbryd hwnnw, ond rŷn ni'n teimlo fod angen mwy o dystiolaeth arnom ni.
Mae'r gwelliant, yn gywir ddigon, yn gosod cyfrifoldeb ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol. Ni ellir gadael plant, rhieni ac ysgolion i ddelio â'r risgiau a grëir gan y platfformau hyn a gynlluniwyd i sicrhau cymaint â phosib o ddefnydd yn hytrach na lles. Rhaid gorfodi'r ddeddfwriaeth bresennol, a lle mae'n methu, rhaid ei chryfhau. Rhaid dwyn cwmnïau i gyfrif am y niwed y mae eu platfformau'n ei achosi. Mae'r NSPCC wedi nodi'n gwbl glir beth y dylai diogelu effeithiol ei olygu: gorfodi terfynau oedran yn gadarn, cael gwared ar nodweddion dylunio caethiwus, gwneud profiadau sy'n briodol i oedran yn ddiofyn, a rhoi diogelwch plant o flaen elw.
Mae'r gwelliant hefyd yn cydnabod yr angen am gydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Er bod rheoleiddio yn nwylo San Steffan, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am addysg ac amddiffyn plant, iechyd a gwasanaethau ieuenctid. Mae diogelu plant ar-lein yn galw am arweinyddiaeth glir, gweithio cydgysylltiedig, a ffocws parhaus yma yng Nghymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â phlant a phobl ifanc eu hunain. Rwy'n dirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd.
Nid a ddylid croesawu'r egwyddorion hyn yw'r cwestiwn i Lywodraeth Cymru, ond a ydynt yn cael eu rhoi ar waith. Rhaid trosi ymrwymiadau'n gamau pendant, gydag arweinyddiaeth ac atebolrwydd clir, cynnydd mesuradwy, a chraffu. Dyna pam y bydd Plaid Cymru’n cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw. Diolch.
Efallai y dylwn ddatgan buddiant gan fod gennyf dri o blant o dan 16 oed a fyddai'n cael eu heffeithio gan y cynnig hwn yma heddiw. Mae'r syniad eisoes wedi'i drafod yn y Siambr hon. Rydym am sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. Ond mae yna fathau ehangach o niwed hefyd y credaf fod John Griffiths eisoes wedi'u crybwyll, sef effaith ehangach y profiad caethiwus ar gyfryngau cymdeithasol, a phryderon iechyd meddwl yn benodol, a'r anweithgarwch cynyddol y ceir tystiolaeth ohono eisoes.
Ceisio mynd i'r afael â'r problemau y mae plant yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw'r rheswm pam y mae'r cynnig hwn ger ein bron yma heddiw. Dangosodd yr adroddiad 'Lost Boys: Boyhood' gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol fod plant yn tyfu i fyny mewn byd lle mae sgriniau a thechnoleg yn dominyddu eu blynyddoedd cynharaf. Nid yn unig fod sgriniau'n hoelio sylw pobl ifanc, maent yn siapio'r ffordd y maent yn meddwl, yn dysgu ac yn rhyngweithio â'r byd. Am y rheswm hwnnw, mae angen inni gael mesurau diogelwch priodol ar waith.
Mae llawer o'r pethau sydd eisoes wedi'u trafod yn y Siambr hon—y problemau a'r risgiau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu ar-lein—pe bai'r pethau hynny'n digwydd yn y byd go iawn, pe bai hynny'n digwydd ar ein strydoedd ac yn ein cymdogaethau, byddem yn cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â'r rheini. Byddem yn gwario miliynau o bunnoedd. Rydym eisoes yn gwario miliynau o bunnoedd, ac yn briodol felly, i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu cystal â phosib yn y byd go iawn.
Y broblem yw nad yw'r un ffocws yn digwydd yn y byd rhithwir, lle mae mwy a mwy o amser plant yn cael ei dreulio. Mewn gwirionedd, mae plant bellach yn treulio bron i dair awr ar-lein bob dydd. Mae rhan sylweddol o'u horiau effro'n cael eu treulio ar-lein mewn gofod nad yw'n cael ei ddiogelu'n iawn. Mae'r platfformau hyn yn rhy aml yn hyrwyddo trais neu gynnwys rhywiol. Maent wedi'u cynllunio'n fwriadol i fod yn gaethiwus, gan fanteisio ar orbryder, cymharu a thynnu sylw mewn ffyrdd nad yw plant yn gallu eu rheoli, ac nid yw rhieni'n gallu eu cefnogi'n briodol drwy hynny chwaith.
Mae maint y broblem yn syfrdanol. Rydym eisoes wedi clywed ffigurau yn y ddadl hon heddiw, ond mae ymchwil a wnaed y llynedd yn dangos, yn y DU, fod 815,000 o blant yn y grŵp oedran tair i bump oed eisoes yn defnyddio o leiaf un ap neu wefan cyfryngau cymdeithasol. Mae dros 800,000 o blant tair, pedair a phump oed eisoes ar gyfryngau cymdeithasol. Ymhlith plant 10 i 15 oed, mae 96 y cant o'r grŵp oedran hwnnw ar gyfryngau cymdeithasol. Yn 2009, roedd plant pump i 15 oed yn treulio oddeutu naw awr yr wythnos o flaen sgrin. Erbyn 2018, roedd hynny wedi neidio i 15 awr yr wythnos, a dim ond cynyddu y mae wedi'i wneud ers hynny. Dyna'r pwynt yr oedd John Griffiths yn sôn amdano o ran yr anweithgarwch sy'n arwain at broblemau iechyd sylweddol yn y tymor hir.
Bydd plentyn a godai'n wyth oed yn 2024 yn treulio'r hyn sy'n cyfateb i 319 diwrnod llawn ar-lein erbyn iddynt godi'n 14 oed—bron i flwyddyn lawn o blentyndod ar sgrin o fewn ychydig flynyddoedd. A beth y maent yn ei weld? Mae saith o bob 10 wedi gweld cynnwys niweidiol, mae un o bob saith wedi profi ymddygiad sy'n gysylltiedig â meithrin perthynas amhriodol, ac mae mwy na hanner wedi bod yn ddioddefwyr seiberfwlio. Mae'r rhain yn ystadegau na allwn eu hanwybyddu. Fel y dywedais yn gynharach, pe bai hyn yn digwydd o'n blaenau yn y byd go iawn, yn y byd ffisegol, byddem yn gwario llawer iawn o arian ar fynd i'r afael â hyn. Y gwir amdani yw bod y pethau hyn yn digwydd nawr yn y byd rhithwir lle mae plant yn treulio mwy a mwy o'u hamser.
Mae'r un adroddiad y cyfeiriais ato yn gynharach yn tynnu sylw at y ffaith bod amser o flaen sgrin yn un o'r heriau canolog yn ystod plentyndod cynnar, ochr yn ochr ag ansefydlogrwydd teuluol ac addysg. Mae'n dadlau bod mwy o amser o flaen sgrin yn y blynyddoedd cynnar yn dal plant yn ôl, yn enwedig bechgyn a dynion ifanc, yr effeithir yn anghymesur ar eu datblygiad a'u hymddygiad. Mae'r risgiau'n real ac yn fesuradwy. Mae llawer mwy y gallaf ei ddweud am hyn, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n ymwybodol fy mod yn brin o amser.
Ni allwn ddisgwyl i rieni ddiogelu eu plant ar ein pen ein hunain rhag yr amgylcheddau digidol hynod gaethiwus hyn, a dyna pam ein bod ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn dangos arweinyddiaeth yn y maes, gan flaenoriaethu lles a diogelwch ein plant dros gyfleustra. Ddirprwy Lywydd, mae a wnelo hyn â synnwyr cyffredin. Mae a wnelo â rhoi'r arfau y maent eu hangen i rieni. Mae a wnelo â gosod safonau clir ar gyfer yr hyn sy'n ddiogel ac yn briodol yn ein cymdeithas. Mae'n hen bryd cael cyfyngiadau oedran ar gyfryngau cymdeithasol. Mae plant yn haeddu diogelwch, mae rhieni'n haeddu cymorth ac mae ein cymdeithas yn haeddu mannau mwy diogel ar-lein. Diolch yn fawr iawn.
Gall neges dros ffôn clyfar—yr hyn sy'n cael ei ddweud neu na chaiff ei ddweud—wneud i unigolyn gwympo i ddyfnderoedd tywyll. Gall fod yn ynysig yn y byd rhithwir hwnnw, wedi eich cuddio rhag anwyliaid sy'n aml yn anymwybodol o'r niwed emosiynol i'r unigolyn hyd nes ei bod yn rhy hwyr.
Beth amser yn ôl, gwyliais Swiped, rhaglen ddogfen ar Channel 4 gydag Emma a Matt Willis. Fe'i gwyliais eto nos Lun ar gyfer y ddadl hon. Fe wnaeth grŵp o ddisgyblion blwyddyn 8 a'u hathrawon, gyda chefnogaeth rhieni a gwarcheidwaid, roi'r gorau i ddefnyddio eu ffonau am dair wythnos. Roedd Prifysgol Efrog yn monitro'r myfyrwyr cyn ac ar ôl y cyfnod hwn, gan wirio effeithiau gwybyddol y gwaharddiad. Roedd llawer ar eu ffonau am chwe awr a mwy ac ar ôl 10 o'r gloch y nos. Roedd yn anodd. Roedd y diflastod yn ddwys, ond gall diflastod arwain at ddychymyg ac archwilio. Dros amser, aeth y bobl ifanc allan, buont yn cicio pêl-droed, aethant ar daith feic, buont yn rhyngweithio â'u rhieni, ac yn helpu i baratoi swper. Dywedodd Emma, a roddodd y gorau i'w ffôn, ei bod yn teimlo'n ynysig i ddechrau a heb reolaeth dros ei bywyd mwyach, ond y gellir troi hynny o gwmpas fel ein bod ni, nid y rhyngrwyd a'r byd rhithwir, yn rheoli ein bywydau.
Roedd rhieni hefyd yn bryderus ynghylch diogelwch eu plant ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Dangosodd gwyddoniaeth ymlaen llaw fod yna fyrbwylltra, problemau canolbwyntio tebyg i ADHD, diffyg cwsg a gorbryder. Ar ôl tair wythnos, roeddent yn cael awr ychwanegol o gwsg ar gyfartaledd. Mae cwsg yn gwella iechyd meddwl. Roeddent yn canolbwyntio'n well yn y dosbarth, roeddent yn llawer mwy cysylltiedig yn gymdeithasol ac roedd eu hwyliau wedi gwella. Dywedodd unigolyn ifanc eu bod yn teimlo'n hapusach a bod yr arbrawf wedi gwneud amser iddynt wneud y pethau yr oeddent eisiau'u gwneud mewn gwirionedd. Cafwyd gostyngiad o 17 y cant mewn iselder, gostyngiad o 18 y cant mewn gorbryder a hwb o 3 y cant i gof gweithredol. Datgelodd y rhaglen, yn frawychus, fod yna ddiffyg mesurau i ddilysu oedran, gyda mynediad hawdd at gynnwys brawychus, anweddus, sy'n cael ei fwydo i bobl ifanc. Mae angen rheoli algorithmau.
Mae astudiaethau'n dangos bod un o bob pedwar o bobl yn defnyddio ffonau clyfar mewn ffordd gaethiwus ac yn colli sylwedd llwyd, yn debyg i rywun sy'n camddefnyddio sylweddau. Gwelwyd niwed y caethiwed hefyd yn ymchwiliad byr ein Pwyllgor Deisebau i weld a ddylid gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol. Pan gynhaliwyd yr ymchwiliad y llynedd, cawsom ein synnu, fel pwyllgor, ar ôl cael tystiolaeth gan randdeiliaid, gan gynnwys seicolegwyr, athrawon, cynorthwywyr ystafelloedd dosbarth, rhieni a phobl ifanc, nad oedd galwad am waharddiad llwyr, a oedd yn syndod i ni. Yn hytrach, roedd galwad ar ysgolion i sefydlu eu cyfyngiadau eu hunain a dod yn ysgolion di-ffonau clyfar.
Er bod digon o dystiolaeth yn tynnu sylw at y niwed, clywodd y pwyllgor hefyd sut y gall ffonau clyfar gefnogi lles a diogelwch pobl ifanc. Er bod rhai plant yn nodi bod ffonau clyfar yn tynnu gormod o'u sylw ac yn arwain at seiberfwlio, caethiwed a gorbryder, mae eraill yn teimlo'n rhydd wrth allu rheoli cyflyrau iechyd neu'n teimlo'n fwy hyderus i gerdded i'r ysgol, gan wybod y gallant gysylltu â rhiant bob amser.
I gloi, fe wnaeth Pwyllgor Deisebau’r Senedd annog Llywodraeth Cymru i sefydlu canllawiau clir, ochr yn ochr â fframwaith cadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau, a fydd yn rhoi hyder i athrawon osod y rheolau sy’n gweithio orau i’w pobl ifanc. Hefyd, roedd y pwyllgor eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i ddilyn tystiolaeth astudiaethau o effaith cyfyngiadau ar ffonau clyfar yn ystod y diwrnod ysgol. Mae Llywodraeth y DU wedi cryfhau canllawiau i ffonau clyfar fod wedi'u gwahardd yn ddiofyn mewn ysgolion yn Lloegr, a chyfyngu ar eu defnydd yn ystod y dydd, gan gynnwys amseroedd egwyl.
Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU ar fynediad at gyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed, a bydd penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn sicrhau bod cyfryngau cymdeithasol hefyd yn fwy diogel i bobl ifanc dros 16 oed ac oedolion, sy'n wirioneddol bwysig. Mae angen dwyn cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gyfrif am y cynnwys niweidiol ar eu safleoedd, a gorfodi a chryfhau deddfwriaeth bresennol, ac ystod amrywiol o blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y ddadl, gyda'u safbwyntiau'n cael eu hystyried—gwelsom fod hynny'n wirioneddol bwysig yn ein hymchwiliad.
Fel y dangoswyd gan yr academydd yn y rhaglen ddogfen, rydym yn magu ac yn tyfu cymdeithas o blant sy'n gaeth i ffonau clyfar. Rhieni, llywodraethau, cwmnïau technoleg, cymdeithas, ysgolion—mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan. Ni ddylai fod technoleg mewn ystafelloedd gwely, a dylai amser bwyd fod yn ddi-sgrin. Mae plant yn cael ffonau symudol yn llawer rhy ifanc, gan fod y dystiolaeth yn dangos bod eu hiechyd meddwl a chorfforol yn well hebddynt. Diolch.
Er fy mod i'n codi fel gwleidydd, rwy'n credu fy mod i'n siarad yn fwy fel tad-cu. Rwy'n dad-cu i naw, gan gynnwys pump o wyresau, a phob un ohonynt rhwng saith ac wyth oed, a phedwar ŵyr, sydd ychydig yn iau—dau yn iau, a dau yn ifanc iawn. Fel llawer o blant eu hoedran, maent eisoes yn hyderus gyda thechnoleg, ac yn defnyddio dyfeisiau'n rhwydd. Er fy mod yn edmygu eu gallu, rwyf hefyd yn poeni'n arw am y byd y maent yn debygol o fynd i mewn iddo'n llawer rhy gynnar, pan fyddant yn dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Nid dadl wrth-dechnoleg yw dadl heddiw, ac nid yw'n ymwneud ag atal plant rhag dysgu, archwilio neu gyfathrebu. I mi, mae'n ymwneud â chydnabod nad yw platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi'u cynllunio gyda phlant mewn golwg. Efallai fod ein plant a'n hwyrion yn fedrus gyda thechnoleg, ond nid ydynt wedi'u paratoi'n emosiynol, hyd yn oed yn eu harddegau cynnar, i ddelio â'r pwysau y mae'r platfformau hyn yn ei greu—y cymharu cyson, yr ysfa am gymeradwyaeth, y cysylltiad â chynnwys amhriodol neu niweidiol a'r risg o gyswllt gan bobl nad ydynt yn malio dim am eu lles.
Fel oedolion, rydym yn deall bod yr hyn a welwn ar-lein yn aml wedi ei hidlo, ei or-ddweud neu'n anghywir, ac rwy'n ofni nad yw'r persbectif hwnnw gan blant. Byddant yn aml yn credu'r hyn a welant, a gall yr hyn a brofant ar-lein siapio'r ffordd y maent yn teimlo amdanynt eu hunain mewn ffyrdd real a pharhaol iawn. Rhaid inni ofyn cwestiwn syml iawn i ni ein hunain: a fyddem yn teimlo'n gyfforddus yn rhoi plant ifanc mewn gofod heb oruchwyliaeth yn llawn o ddieithriaid, lle gallent gael eu barnu, eu gwthio neu eu rhoi mewn cysylltiad â deunydd niweidiol, a cherdded i ffwrdd? Wel, wrth gwrs na fyddai unrhyw un ohonom yn gwneud hynny. Eto, os meddyliwch am y peth, dyna sy'n digwydd pan fyddwn yn caniatáu i blant gael mynediad heb ei gyfyngu i'r cyfryngau cymdeithasol. Rydym eisoes yn derbyn, fel cymdeithas, fod angen diogelu plant. Rydym yn gosod terfynau oedran, fel y clywsom yn gynharach, ar alcohol, gyrru, gamblo a gweithgareddau eraill am ein bod yn deall bod aeddfedrwydd yn bwysig. Mae gennym bolisïau mewn sawl maes mewn bywyd i wneud yn siŵr fod diogelwch bob amser yn brif flaenoriaeth, ond mewn perthynas â chyfryngau cymdeithasol, ychydig iawn sydd yna i ddiogelu ein pobl ifanc.
Rwy'n cael trafferth gweld pam y gall cyfryngau cymdeithasol, sy'n gallu cael effaith mor ddwfn ar iechyd meddwl a hunan-barch, fod heb ei reoli, fel y mae'n ymddangos bellach ei fod. Rwy'n gwybod y bydd dadleuon bob amser am orfodaeth ac am gyfrifoldeb rhieni, ac mae gan rieni rôl allweddol, ond sut y gallant ddiogelu eu plant go iawn rhag effeithiau negyddol y platfformau cyfryngau cymdeithasol enfawr, byd-eang a dylanwadol hyn? Platfformau sydd nid yn unig yn darparu rhyngweithio cymdeithasol ac adloniant ar-lein, ond sydd â modelau busnes wedi'u cynllunio i gadw pobl wedi'u cysylltu cyn hired â phosib; maent yn dod yn gaethiwus i lawer ac yn caethiwo llawer o feddyliau ifanc mewn byd ar-lein. Rwy'n credu bod yn rhaid i gymdeithas gael rheolaeth ar hyn, a phob clod i Awstralia am fod yn gyntaf i wneud safiad. Yn sicr, mae gosod trothwy clir yn anfon neges ein bod o ddifrif ynghylch iechyd meddwl a lles plant. Mae'n rhoi amser i bobl ifanc dyfu, i adeiladu gwydnwch, i ddatblygu ymdeimlad o hunan, cyn dod yn agored i bwysau dilysu a chymharu ar-lein. Fel cannoedd o filoedd, miliynau mae'n debyg, o rieni a neiniau a theidiau ledled Cymru a'r DU, rwyf am i fy wyrion fwynhau addysg gyflawn, cyfeillgarwch go iawn a phlentyndod na chaiff ei ddominyddu gan bwysau ar-lein nad ydynt yn barod i ddelio ag ef.
Dylem fod yn bragmataidd; nid oes rhaid inni aros i'r Llywodraethau eraill wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud. Fe wyddom beth yw'r sefyllfa, mae pawb yma heddiw wedi dweud yr un pethau. Pam na allwn ni fod yn bragmataidd fel Llywodraeth a dweud, 'Dyma rydym ni'n ei gredu' cyn i beth bynnag sy'n digwydd yn y DU ddigwydd. Beth yw'r ots am hynny? Yr hyn sy'n digwydd yma ddylai fod yn bwysig. A dyna pam, heddiw, rwy'n cefnogi'r cynnig ac yn annog cyd-Aelodau i ymuno â ni gyda hynny. Diolch.
Rwy'n falch iawn o weld y ddadl hon heddiw, oherwydd rwyf wedi siarad am y materion hyn ar sawl achlysur. Y tro cyntaf i mi ddod yma, mae'n siŵr, fe siaradais am yr effaith y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ei chael ar ein pobl ifanc, oherwydd mae'n niweidio plant. Nid barn yw hynny mwyach, ond ffaith wedi ei chefnogi gan fywydau go iawn a niwed go iawn. Fe'i gwelwn yn ein hysgolion, fe'i clywn gan rieni, ac yn gynyddol, gwelwn wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu rhoi o dan straen enfawr oherwydd pwysau cyfryngau cymdeithasol. Mae plant yn agored i gynnwys eithafol, gan gynnwys hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, pornograffi a thrais, yn aml o fewn munudau i gofrestru, nid oherwydd eu bod wedi chwilio amdano, ond oherwydd y ffordd y mae'r algorithmau yn ei wthio atynt. Nid yw hynny'n ddamweiniol, dyma sut y mae'r platfformau wedi'u cynllunio i weithio. Rydym wedi cael platfformau fel TikTok ac Instagram sydd eisoes wedi wynebu beirniadaeth ddifrifol ar ôl i ddogfennau mewnol ddangos eu bod yn gwbl ymwybodol fod eu systemau wedi dod â chynnwys niweidiol i ddefnyddwyr ifanc, ac fe wnaethant barhau beth bynnag. Yn y cyfamser, dywedir wrth rieni am reoli amser sgrin—wel, os gall mamau a thadau gystadlu'n realistig â chwmnïau technoleg gwerth biliynau o bunnoedd, mae gwir angen herio heriau ymddygiad, oherwydd mae'r system yn gwneud cam â phlant. Mae gennym derfynau oedran eisoes ac fe gânt eu hanwybyddu; mae gennym ganllawiau eisoes ac ni chânt eu gorfodi; ac mae gennym addewidion gan gwmnïau technoleg eisoes ac maent wedi cael eu torri. Dyna pam y credwn y dylai'r DU edrych o ddifrif ar fodel Awstralia.
Yn Awstralia, maent wedi symud y tu hwnt i siarad i roi camau ar waith. Maent yn cyflwyno dilysiad oedran gorfodol sy'n gweithio, nid y nonsens blwch ticio sydd gennym ni yma nawr. Maent yn gosod cyfrifoldebau cyfreithiol ar y platfformau eu hunain, nid esgus y gall plant neu rieni ysgwyddo'r baich hwnnw ar eu pen eu hunain. Ac maent yn ei gefnogi â chosbau difrifol sy'n gwneud i gwmnïau newid ymddygiad yn hytrach na chodi eu hysgwyddau a dal ati. Dylem ystyried canlyniadau'r polisi yn Awstralia'n ofalus cyn ffurfio barn yn frysiog a pheidio ag ystyried unrhyw ganlyniadau negyddol posib, a sicrhau hefyd fod unrhyw fylchau deddfwriaethol yn cael eu cau.
Ond dylai'r ddadl hon edrych ar rywbeth ehangach hefyd—mae'n ymwneud â sut beth yw plentyndod i fod. Nid wyf mor hen â hynny fy hun, gallaf gofio fy mhlentyndod fwy neu lai. Ond yr hyn rydym eisiau ei weld yw plant yn ddiogel, yn chwarae yn yr awyr agored, yn chwarae gyda'u ffrindiau, yn cicio neu'n pasio pêl rygbi o gwmpas, yn beicio, yn cael arian, yn dysgu sut i gymdeithasu'n iawn ac yn adeiladu hyder yn y byd go iawn. Rydym eisiau i blant siarad â'i gilydd wyneb yn wyneb, heb fod yn sownd wrth ffôn neu'n anfon negeseuon at ei gilydd drwy'r amser ar Snapchat. Rydym eisiau i hynny ddod i ben, ac rydym eisiau iddo ddod i ben o'r eiliad y maent yn deffro i'r eiliad yr ânt i gysgu, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd, rhywbeth nad yw'n cael ei grybwyll yma, ein bod ni'n ystyried lleisiau plant eu hunain.
Weithiau, fel oedolion, rydym yn meddwl mai oedolion sy'n gwybod orau, ond weithiau gallwn gael canlyniadau anfwriadol i'r plant eu hunain drwy osod pethau fel gwaharddiad, oherwydd mae rhai o'r plant hyn yn hynod ddibynnol ar rai o'r dyfeisiau hyn, ac os gwnewch doriad caled ar unwaith, gall effeithio'n fawr ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Felly, un peth y byddaf yn gofyn amdano gan Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd hi'n rhoi ei hateb yw ei bod hi'n siarad am yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i gynnwys llais plant yn y trafodaethau hyn, oherwydd mae plant nawr yn llawer mwy gwybodus nag oeddwn i ar oedran tebyg, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod eu mynediad at wybodaeth, nad ydym—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad, ond rwy'n dod i ben, Sam.
Rwy'n deall hynny, James. Ar y pwynt hwnnw, i gefnogi'r pwynt ynglŷn â gwrando ar bobl ifanc, mae'n drawiadol fod 83 y cant o blant dan 16 oed yn cefnogi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol. Felly, maent yn defnyddio'u llais ar hyn o bryd, ond rwy'n credu fy mod i'n cytuno â chi nad yw'n cael ei glywed ar hyn o bryd. Mae'n siŵr fod hynny'n eich siomi.
Mae 83 y cant o blant eisiau gwaharddiad, ond rydym i gyd eisiau rhywbeth, a phan fo'n cael ei gymryd oddi wrthym, weithiau mae yna ganlyniadau anfwriadol i wahardd pethau y credaf fod angen eu hystyried. Fel y dywedais, mae plant yn llawer mwy aeddfed na phan oeddwn i o dan 16 oed. Maent yn gwybod llawer mwy am drafodaeth wleidyddol, maent yn gwybod am bethau sy'n digwydd yn y byd, ac rwy'n credu y dylem fod yn ofalus iawn ynglŷn â chyfyngu ar eu mynediad at wybodaeth, cyfyngu ar eu mynediad at ddadl hefyd. Felly, byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn heddiw, oherwydd rwy'n credu bod angen gwneud mwy yn y gofod hwn i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud dewis gwybodus heb ruthro i mewn i rywbeth a allai niweidio plant hyd yn oed ymhellach.
Mae hon yn ddadl bwysig iawn. Byddaf yn pleidleisio o blaid, ond rwy'n meddwl—ni allaf golli'r cyfle hwn—ei bod hi'n eithaf eironig fod hon yn ddadl gan Lywodraeth Cymru, plaid sy'n dweud wythnos ar ôl wythnos yn y lle hwn y dylem ganolbwyntio ar faterion datganoledig yn unig, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed y Ceidwadwyr yn dweud hynny yn y ddadl nesaf—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs, fe dderbyniaf ymyriad.
Rydych chi dri mis o flaen eich hun. Fe ddywedoch chi ei bod hi'n ddadl gan Lywodraeth Cymru. Fe gywiraf y cofnod. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw hi. Ar ôl mis Mai, fe fydd hi'n ddadl Llywodraeth Cymru.
Ni fydd hynny'n digwydd, Tom, ond os ydych chi eisiau twyllo eich hun drwy feddwl hynny, gwnewch hynny ar bob cyfrif. Mae'n eironig mai dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig yw hon, oherwydd rydych chi'n dweud drwy'r amser y dylem ganolbwyntio ar faterion datganoledig yn unig, ac fe fyddwch chi'n dweud hynny mewn ymateb i'r ddadl nesaf gan Blaid Cymru, ond efallai y gallech chi groesi hynny allan o'ch sgript. Oherwydd fel eich—[Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf, Darren. Nid wyf wedi gorffen fy mharagraff cyntaf eto. [Chwerthin.]
Onid yw'n wir fod diogelwch plant yng Nghymru yn fater i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac felly fod effaith hynny ar les ac addysg plant a phopeth arall yn bwysig i ni?
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae cyfiawnder yn chwarae rhan enfawr yn niogelwch plant Cymru. Cyfryngau cymdeithasol—a gallaf gytuno â chi ar y rhan hon o hyn ymlaen—yw ffactor diffiniol yr oes fodern, ac ni ellir tanddatgan ei effaith ar fywydau pawb ohonom. Os yw'n wir amdanom ni, nad ydym wedi cael ein magu gyda'r cyfryngau cymdeithasol—. Gallaf weld Tom Giffard ar ei ffôn symudol nawr, oherwydd mae'n —. Maent yn gaethiwus. Maent yn gaethiwus, onid ydynt? Maent yn beiriannau caethiwus. Mae'r algorithmau wedi'u llunio i'n gwneud ni'n gaeth iddynt. Ac os yw'n wir amdanom ni, mae'n bendant yn wir am ein plant sydd wedi cael eu magu gyda nhw.
Nawr, mae llawer o Aelodau wedi datgan diddordeb eisoes. Rwy'n datgan buddiant. Rwy'n defnyddio dyfeisiau llechi electronig gyda fy mhlant. Mae'n ein galluogi ni, yn hunanol, i gael ychydig mwy o gwsg ar fore Sadwrn, i gadw'r plant yn brysur yn ystod teithiau hir, i sicrhau ymddygiad da pan fyddwn ni'n mwynhau pryd o fwyd mewn bwyty. Nid yw bob amser mor syml â hynny. Clywsom gan Carolyn am y dystiolaeth glir yn y ddadl ar y ddeiseb. Nid yw bob amser yn ddeuaidd. Mae'r syniad fod rhai plant ar eu ffonau drwy'r amser—. Gall plant ddefnyddio eu dyfeisiau electronig a chymdeithasu fel ffrindiau a mynd i'r parc ac ati, ac ati. Nid yw bob amser mor glir.
Nawr, rwy'n cytuno bod Awstralia wedi gweld y perygl hwn ac wedi cymryd camau, ond maent wedi gweld yr anawsterau hefyd, ac rwy'n credu bod angen inni ddysgu o'r problemau. Mae cyfyngiadau ar effeithiolrwydd dulliau adnabod wynebau, er enghraifft, wedi caniatáu i blant yn Awstralia mor ifanc â 13 basio fel rhai 18 oed i ddefnyddio apiau fel Snapchat a Meta Facebook. Mae UNICEF wedi adrodd na fydd y cyfyngiadau oedran hyn ar eu pen eu hunain yn cadw plant yn ddiogel ar-lein. Ac wrth gwrs, rhaid i ni—. Rwy'n credu eich bod chi wedi awgrymu hyn yn eich cyfraniad, James—rhaid inni gofio, erbyn 16 oed, fod gan blant bleidlais yn y lle hwn erbyn hyn, ac fe fydd ganddynt bleidlais yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae angen gwneud mwy o ymchwil, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cael y ddadl hon.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig edrych ar yr hyn sy'n digwydd eisoes. Gallwn edrych, er enghraifft, ar yr hyn y mae St Albans yn ei wneud, y ddinas yn swydd Henffordd. Mae ysgolion wedi dod at ei gilydd—daeth 33 ysgol leol at ei gilydd—i ddatgan eu hardal yn un heb ffonau clyfar, ac maent wedi annog rhieni i beidio â rhoi ffôn clyfar i blant o dan 14 oed. Ac rwy'n credu efallai fod hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru edrych arno: nid galw bob amser ar San Steffan i wneud rhywbeth, ond gweld beth y gallwn ni ei wneud yma'n barod—cymryd yr awenau, gweithredu dull cymunedol, llawr gwlad, gan gynnwys plant, fel y dywedodd James Evans, i geisio mynd i'r afael â pheryglon a dibyniaeth ar gyfryngau cymdeithasol. Diolch yn fawr.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diogelu ein plant yw un o'r cyfrifoldebau mwyaf pwysig sydd gennym. Nid dadl bolisi haniaethol yw eu diogelwch ar-lein; mae'n ymwneud â bywydau go iawn, teuluoedd go iawn a'r math o gymdeithas rydym eisiau ei hadeiladu. Bydd y penderfyniadau a wneir nawr yn siapio'r byd y mae ein pobl ifanc yn tyfu i fyny ynddo. Dyna pam rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw.
Nid oes amheuaeth y gall cyfryngau cymdeithasol wneud plant yn agored i niwed sylweddol. Mae gormod o blatfformau'n dal i gael eu cynllunio mewn ffyrdd sy'n cadw pobl ifanc ar-lein am amser hirach nag sy'n iach, gan ddwysáu pwysau sy'n erydu eu lles. Rwy'n cefnogi uchelgais Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn dwyn cwmnïau technoleg i gyfrif yn fwy effeithiol. Mae'r Ddeddf yn gam ymlaen, ond bydd ei heffaith yn dibynnu'n llwyr ar y gallu i orfodi codau ymarfer newydd Ofcom gyda'r cadernid y mae plant yn ei haeddu.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd ag Ofcom Cymru wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo, ond gwyddom fod ffordd bell i fynd o hyd. Dyna pam rwy'n croesawu'r ddadl barhaus ynglŷn â sut y gallwn gryfhau amddiffyniadau ymhellach. Gydag esblygiad cyflym deallusrwydd artiffisial, nid yw'r angen hwn erioed wedi bod yn bwysicach. Ni ddylai arloesedd allu achub y blaen ar ddiogelu plant. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod angen gwneud cyfryngau cymdeithasol yn fwy diogel, nid yn unig i blant ond i gymdeithas yn ehangach. Fodd bynnag, sut y gwnawn hynny yw asgwrn y gynnen. Mae rhai penderfyniadau'n syml, wrth gwrs, fel y cynnig i wahardd apiau noethi yng Nghymru a Lloegr. Mae offer o'r fath yn achosi niwed eithafol, yn enwedig i fenywod a phlant. Mae'n hanfodol eu troseddoli, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y ddeddfwriaeth.
Mae pennu'r oedran isaf cywir i blant gael mynediad at gyfryngau cymdeithasol yn llawer mwy cymhleth. Rydym yn fwyfwy ymwybodol fod llawer o nodweddion cyfryngau cymdeithasol wedi'u cynllunio i ddal a chynnal ein sylw, yn aml ar draul ein lles. Mae sgrolio diddiwedd yn enghraifft wych. Mae'n cadw cynnwys i lifo a gall ei gwneud hi'n anhygoel o anodd, yn enwedig i bobl ifanc, ddatgysylltu o'u porthiant cyfryngau cymdeithasol. Ni ddylid tanamcangyfrif y draul y mae gwaesgrolio a chynnwys cyflym ffurf fer yn ei chael ar iechyd meddwl. Felly, pan fyddwn yn siarad am gyfyngiadau, rwy'n credu'n gryf fod cael gwared ar nodweddion sy'n annog defnydd diymollwng yn gam ymarferol a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau plant ar-lein. Mae archwilio ffyrdd o wella cywirdeb dilysu oedran dan ystyriaeth hefyd, ond gwyddom fod heriau sylweddol i hynny.
Wrth feddwl pa mor bell i fynd, mae'n hanfodol cydnabod bod hwn yn bwnc emosiynol, gyda safbwyntiau cryf ar bob ochr. Gyda hyn yn dod yn fwyfwy pegynol, rhaid inni gasglu tystiolaeth a llunio dull sy'n rhoi anghenion a diogelwch pobl ifanc yn gyntaf. Ar ôl gwrando ar rieni, gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc, ceir pryderon dilys a dwfn am y mathau o niwed y gall cyfryngau cymdeithasol eu gwaethygu, a thu ôl i rai o'r straeon anoddaf, mae yna blant a theuluoedd sydd wedi dioddef profiadau na ddylai neb byth orfod eu hwynebu. Rydym yn ymwybodol o'r niwed bob dydd mwy llechwraidd—y pwysau i ffitio i mewn, y cymharu a'r llif cyson o gynnwys sy'n gallu erydu lles pobl ifanc dros amser—ond rhaid inni hefyd ystyried yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym am y cysylltiadau cadarnhaol ac ystyrlon y dônt ar eu traws ar-lein. Mae yna ddadl gymhellol, i rai, yn enwedig rhai sy'n teimlo'n ynysig, fod mynediad at gymunedau ar-lein yn achubiaeth. Rhaid i unrhyw ddull a fabwysiadir gennym gydnabod y cymhlethdod hwn ac osgoi atebion rhy syml. Dyna pam yr ystyriaf fod ymgynghoriad Llywodraeth y DU yn gyfle da i gasglu tystiolaeth ac ystyried y materion hyn mewn ffordd gytbwys a meddylgar. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod lleisiau plant, rhieni, ymarferwyr ac arbenigwyr yng Nghymru yn cael eu clywed yn glir. Yma yng Nghymru, rwy'n falch fod llais ieuenctid yn ganolog yn ein gwaith. Mae ymgysylltiad â'n grŵp ieuenctid cadw'n ddiogel ar-lein—pobl ifanc 13 i 16 oed o bob cwr o Gymru—yn amhrisiadwy. Yn ddiweddar, cawsant gyfarfod ag Ofcom i gael trafodaeth am eu profiadau o dan y fframwaith rheoleiddio newydd, gan ein hatgoffa unwaith eto fod yn rhaid i bolisi gael ei siapio gan brofiad bywyd.
Mae grymuso plant a phobl ifanc drwy addysg a gwneud yn siŵr eu bod yn deall eu hawliau yn ffordd arall o sbarduno newid. Mae rhaglen gwydnwch digidol mewn addysg Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ysgol gyfan i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â heriau diogelwch ar-lein yn rhagweithiol. Caiff y gwaith hwn ei ddwyn at ei gilydd drwy 'Cadw'n ddiogel ar-lein', gofod pwrpasol ar Hwb, sy'n darparu'r adnoddau, yr hyfforddiant a'r arweiniad diweddaraf ar gyfer y gymuned ysgol gyfan. Er mwyn helpu i sicrhau bod ein gwaith yn parhau i fod wedi'i seilio ar y dystiolaeth a'r arferion gorau diweddaraf, fel Llywodraeth, rydym wedi adeiladu perthynas gref â sefydliadau diogelwch ar-lein ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, NSPCC, Common Sense Education, Praesidio Safeguarding ac Internet Matters. Gyda diogelwch pobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol yn gadarn o dan y chwyddwydr a dadl gyhoeddus ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r materion hyn mor begynol, mae'r partneriaethau hyn yn hanfodol. Fis Tachwedd diwethaf, drwy ein symposiwm gwydnwch digidol mewn addysg, fe wnaethom ddod ag arbenigwyr diogelwch ar-lein at ei gilydd, ochr yn ochr ag Estyn, Ofcom Cymru a swyddfa'r comisiynydd plant. Fe wnaethom wrando ar eu blaenoriaethau, eu mentrau a'u safbwyntiau ar dueddiadau sy'n dod i'r amlwg, ac mae'r cyfan yn llywio ein gwaith.
Un o'r themâu mwyaf cyson yn ein trafodaethau yw sut orau i ymgysylltu â theuluoedd ynghylch diogelwch ar-lein. Dyna pam mai ffocws allweddol yn ein gwaith yw cefnogi ysgolion a theuluoedd i weithio gyda'i gilydd, agor sgyrsiau gyda phlant a phontio'r rhaniad rhwng cenedlaethau. Ddoe oedd Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, dyddiad allweddol yn y calendr diogelwch ar-lein. Eleni, mae'r ymgyrch wedi canolbwyntio ar ddefnydd diogel o ddeallusrwydd artiffisial. Mynychais ein digwyddiad cadw'n ddiogel ar-lein yn Stadiwm Principality. Cefais y fraint o gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda chynrychiolwyr y gwarcheidwaid digidol, pobl ifanc sy'n ymwneud â'r NSPCC a phrosiect Platfform i ymgysylltu ag ieuenctid. Fe wnaethom drafod ystod eang o faterion ar-lein, o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol i effeithiau deallusrwydd artiffisial sy'n dod i'r amlwg. Rydym eisiau sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lywio'r technolegau newydd hyn yn ddiogel a'r hyder i wybod beth i'w wneud pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Ac yn ganolog i hyn mae helpu ein dysgwyr i ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol cryf fel y gallant adnabod risgiau, cwestiynu naratifau niweidiol a defnyddio technoleg yn hyderus. Drwy ymgorffori cymhwysedd digidol a diogelwch ar-lein ar draws y Cwricwlwm i Gymru, rydym yn arfogi pobl ifanc â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.
Gan edrych yn ôl ar y ddadl ac a ddylem alw ar Lywodraeth y DU i gyfyngu ar fynediad at gyfryngau cymdeithasol i blant dan 16, rwyf am fod yn glir ein bod yn ymrafael ag un o faterion mwyaf ein hoes. Mae pawb yn cytuno bod pobl ifanc yn haeddu profiad mwy diogel o'r cyfryngau cymdeithasol, ond mae sut i gyflawni hyn yn parhau i fod yn ddadl fyw. Bydd y penderfyniadau a wneir yn siapio bywydau ein pobl ifanc. Yng nghanol ffocws dwys y cyfryngau a'r ddadl gyhoeddus, rhaid inni fod yn hyderus mai'r dull a gymerir yw'r un cywir, a'i fod yn cael ei siapio gan dystiolaeth gadarn. Wrth i'r ymgynghoriad ddechrau, mae'n hanfodol fod lleisiau Cymry, yn enwedig lleisiau ein plant a'n pobl ifanc, yn cael eu clywed yn glir. Diolch.
Galwaf ar Natasha Asghar i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch yn onest i bob Aelod am eu cyfraniadau yn y ddadl hon y prynhawn yma? Gwnaed llawer o bwyntiau diddorol o bob ochr i'r rhaniad gwleidyddol, ac mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn rhannu'r un nod o ran diogelu ein plant, ond bod gennym ffyrdd gwahanol o'i gyrraedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwrandewais yn astud iawn ar bopeth a ddywedoch chi, ac rwy'n llwyr o blaid gweithio gydag ysgolion, rhieni, myfyrwyr a phlant yn gyffredinol, ond yn seiliedig ar y gwelliant sydd o'n blaenau heddiw, mae'n ymddangos y byddai'n well gennych chi ohirio rhag gwneud dim byd ar unwaith a mynd i gors ymgynghoriadau yn lle hynny, ac nid dyna'r ffordd rwy’n gweld pethau. Rwy'n sefyll wrth fy nghyflwyniad, Ddirprwy Lywydd: nid oes gennym amser. Mae angen inni weithredu nawr.
Clywsom gan Peter Fox, a siaradodd yn agored ac yn onest am ei bersbectif fel tad-cu. [Torri ar draws.] Iawn.
Fe siaradoch chi yno am eich sylwadau cychwynnol, ac yn y sylwadau hynny, fe wnaethoch chi siarad am gamfanteisio rhywiol a meithrin perthynas amhriodol ar-lein. Nawr, yr un peth y mae'r cynnig hwn o'n blaenau yn ei ddweud wrthym yw ei fod yn siarad am gyfryngau cymdeithasol yn benodol, ond nid oes diffiniad o gyfryngau cymdeithasol. Felly, nid ydych chi'n siarad am negeseuon preifat, wedi'u hamgryptio ar y ddau ben fel WhatsApp, fel Wizz ac eraill, a dyna lle mae meithrin perthynas amhriodol a chamfanteisio rhywiol yn digwydd ar raddfa fawr. Nid ydych chi'n siarad chwaith am Roblox a gemau eraill o'r fath, lle gwyddom fod meithrin perthynas amhriodol yn digwydd. Felly, a ydych chi'n derbyn bod angen polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam y mae angen inni weld y gwelliant?
Yn gyntaf, diolch yn fawr am eich ymyriad. Yn gyntaf, gadewch imi ddweud nad Bil yw hwn, i ddechrau. Fe wyddom—ac rydym i gyd yn oedolion yma—beth yw cyfryngau cymdeithasol. Nid ydym yma i ddiffinio Facebook, Twitter, Instagram, TikTok. Fe wyddom beth sydd allan yno. Yr hyn—[Torri ar draws.] Yr hyn y ceisiwn ei wneud, yn syml, yw nodi'n union beth yw ein bwriad, sef achub plant yn y pen draw rhag profi'r ymddygiadau gwael hyn, y pethau ffiaidd sy'n digwydd ar-lein, eu diogelu rhag trais, eu diogelu rhag camfanteisio, a'u diogelu rhag unrhyw niwed. Dyna'n amlwg yw'r neges y ceisiwn ei chyfleu. Dywedais ychydig eiliadau yn ôl ein bod i gyd yn cefnogi hynny, yn amlwg, ond wrth symud ymlaen, mae angen i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i wneud i rywbeth ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, cyn i fwy o fywydau gael eu heffeithio. [Torri ar draws.] Hoffwn barhau, os yw hynny'n iawn, Ddirprwy Lywydd.
Nawr, bydd llawer o rieni a theidiau a neiniau allan yno yn yr un cwch â Peter Fox, sydd â phryderon a gofidiau tebyg, a dyna pam y mae'n bwysig ein bod ni'n gweithredu. Fe wnaethom ddod â'r ddadl hon yma heddiw, fel y dywedais, i ddiogelu ein plant a chenedlaethau'r dyfodol rhag y niwed a wneir gan y cyfryngau cymdeithasol. Rhoddodd Sam Rowlands fewnwelediad amhrisiadwy am adroddiad 'Lost Boys' y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol. Roedd Sam yn hollol gywir pan ddywedodd nad yw plant yn oedolion. Mae angen eu diogelu. Nododd Sam hefyd fod 96 y cant o bobl ifanc 10 i 15 oed ar-lein, ac mae hwnnw'n nifer enfawr. Roedd hefyd yn iawn i dynnu sylw at beryglon a risgiau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys meithrin perthynas amhriodol, seiberfwlio a chysylltiad â chynnwys eithafol—yn union fel John Griffiths, a wnaeth gyfraniad dilys iawn fod plant yn treulio llawer gormod o amser ar eu sgriniau, yn hytrach na bod yn blant a bod yn egnïol tu allan. Mae'n arwain at bwysau ychwanegol ar y GIG, yn ogystal â thanio casineb ac eithafiaeth ar-lein, sy'n rhywbeth rwy'n cytuno 100 y cant â chi, John.
Fe wnaeth Cefin Campbell bwyntiau dilys hefyd, a dywedodd fod angen inni gymryd ein hamser, a dyna'n union beth a ddywedwyd yn yr ymyriad nawr, ac aros a gweld, ond yn bersonol rwy'n teimlo—ac rwy'n sefyll wrth yr hyn rwyf i, a'r grŵp cyfan yma, yn ei ddweud—mai nawr yw'r amser. Mae angen inni weithredu nawr, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Cyfeiriodd at ormod o amser sgrin ac ymddygiad gwael o ganlyniad i oriau diddiwedd ar gyfryngau cymdeithasol, ond rwy'n credu, Ddirprwy Lywydd, fod ffordd o'i wneud lle mae yna ewyllys. Ie, Carolyn.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, roedd yna un pwynt yr anghofiais ei grybwyll: pa mor bwysig yw hi i rieni allu cael gafael ar wybodaeth, boed yn negeseuon WhatsApp neu negeseuon Facebook, gan y cwmnïau hyn, pe bai angen iddynt wneud hynny yn y dyfodol. Gobeithio—. A ydych chi'n cytuno bod hynny'n rhywbeth y dylid ei ystyried hefyd? Diolch.
Mae rheolaeth rhieni eisoes yn bodoli mewn llawer o apiau fel y mae, Carolyn. Ond rwy'n cytuno'n llwyr, ac roeddwn i'n mynd i ddod ato, oherwydd, yn ddiweddarach yn y cyfraniadau, soniwyd am gwmnïau cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n mynd i ddod at hynny hefyd. Rwy'n credu bod angen iddynt gael cyfrifoldeb cryfach o ran darparu'r wybodaeth honno i rieni, felly rwy'n cytuno gyda chi ar hynny, yn sicr.
O'r gorau. Rwy'n gwerthfawrogi eich cefnogaeth ar hyn, Cefin. Roeddech chi'n gywir; mae angen i blatfformau cyfryngau cymdeithasol gymryd cyfrifoldeb, ac fe adleisiais hynny yn fy ymateb i Carolyn.
Carolyn, fe wnaethoch chi gyfraniad teimladwy iawn, a siarad yn ddwys iawn am yr agweddau cadarnhaol pan fo plant yn treulio amser oddi ar eu sgriniau—cwsg gwell, canolbwyntio gwell. Fe ddywedoch chi, 'colli llai o'r sylwedd llwyd', sy'n sicr yn un newydd i mi heddiw. Nid oeddwn yn gwybod am hynny. Fe wnaethoch chi siarad am safbwynt y Pwyllgor Deisebau ar hyn hefyd, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Gwrandewais yn frwd ar y ddadl honno pan ddaeth i'r Siambr. A hefyd i gwmnïau gael eu dwyn i gyfrif, a dyna'n union y buom yn siarad amdano nawr, ac rwy'n cytuno 100 y cant ar hynny, fel y mae fy mhlaid. Felly, gallaf eich sicrhau o hynny.
James Evans, fe bwysleisiodd faint o blant sy'n cael eu heffeithio gan hyn, gan arwain at gynnydd mewn problemau iechyd meddwl. Gwnaeth bwyntiau dilys iawn am reolau a rheoliadau'n cael eu rhoi ar waith, ond yn anffodus, eu bod yn aml yn cael eu hanwybyddu oherwydd bylchau yn y system ac yn anffodus, gall plant ddod o hyd i ffyrdd o fynd ar gyfryngau cymdeithasol. Roeddwn yn synnu braidd eich bod chi wedi ymatal heddiw, gan ichi gefnogi hyn yn y gorffennol. Ond gall pawb ddod o hyd i fwlch yn rhywle.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ewch amdani.
Mae fy safbwynt yn glir iawn: rhaid inni fod yn ofalus iawn pan fyddwn yn gwahardd unrhyw beth yn syth heb edrych ar y canlyniadau anfwriadol o'i wneud. Gallai hyn gael effaith negyddol ar rai o'r plant sy'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd, a fydd yn rhoi straen enfawr ar wasanaethau statudol sydd eisoes o dan ormod o bwysau. Felly, mae angen inni edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd wrth wneud polisi. Dyna sut rydych chi'n gwneud deddfwriaeth dda, nid troi'n syth at waharddiad.
O'r gorau. Yn gyntaf, rydym yn cefnogi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol, nid ffonau symudol ar hyn o bryd. Rydym wedi siarad am hynny yn y gorffennol, ond ar hyn o bryd mae'r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar waharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i rai dan 16. Felly, gadewch inni ganolbwyntio ar hynny. Ar y canlyniadau a grybwyllwyd gennych, nid oes gennyf unrhyw broblemau ynglŷn â'r hyn rydych chi wedi'i ddweud o ran yr effaith y mae'n ei chael ar ofal iechyd, yr effaith y mae'n ei chael ar les plant. Rwy'n cefnogi cyfraniad pawb ar yr hyn y maent wedi'i ddweud yn y meysydd hynny. Fodd bynnag, fel y soniais, rwy'n synnu braidd ynglŷn â'ch bwriad pleidleisio mewn perthynas â hyn.
Rhys ab Owen, diolch yn fawr am eich cefnogaeth heddiw. Mae'n golygu llawer. Nid oes gennyf broblem os ydych chi eisiau chwarae Ms Rachel i'ch plant ichi gael cysgu'n hirach ar fore Sadwrn. Mae hynny'n hollol iawn. Siarad am gyfryngau cymdeithasol a wnawn heddiw, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwerthfawrogi'n ddiffuant—. Ie, ewch amdani.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n teimlo fy mod yn derbyn ymyriadau ym mhobman.
Rydych chi'n hael iawn gyda'r ymyriadau heddiw. Anaml y byddaf yn gwneud ymyriadau, ond rwy'n credu mai'r pwynt i'w wneud heddiw yw mai dim ond dechrau'r drafodaeth yw hyn, onid e? Nid ydym yn sôn am wahardd unrhyw beth yfory. Bydd yna Bapur Gwyn, bydd yna ymgynghoriad, bydd yna siarad â rhanddeiliaid, bydd cyfle i lunio gwelliannau, bydd cyfle i'w ymestyn o gyfryngau cymdeithasol, os yw pobl fel Mabon eisiau ei ymestyn. Felly, dim ond dechrau'r daith yw hyn. A ydych chi'n cytuno, yn eithaf aml ein bod yn cael un ymgynghoriad ar ôl y llall, a blynyddoedd yn mynd heibio, a dim yn digwydd?
Yn hollol, ac rydym yn casáu hynny yn y blaid hon. Rydym eisiau gweld gweithredu'n digwydd, ac rydym eisiau gweld gweithredu'n digwydd nawr.
Nid wyf yn ymuno â chi. [Chwerthin.]
Na, mae hynny'n hollol iawn, ond rwy'n hapus iawn am eich ymateb ar hynny. Ac roeddwn i'n gwerthfawrogi eich ymateb am St Albans, oherwydd rwy'n credu ei fod yn enghraifft hollbwysig o'r hyn y gellir ei wneud i wella pethau yn y dyfodol er budd ein plant.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cael llawer o ymyriadau, felly hoffwn barhau os yw hynny'n iawn, ac rwyf eisiau dirwyn hyn i ben hefyd. Mae llawer o siaradwyr wedi dweud yn y ddadl heddiw y gallwn, drwy gyfyngu ar fynediad at gyfryngau cymdeithasol i rai dan 16 oed, y gallwn helpu i adfer ffocws yn yr ystafell ddosbarth, gwella ymddygiad ac yn bwysicaf oll, diogelu pobl ifanc agored i niwed ledled Cymru yn well rhag y niwed gwirioneddol sy'n gysylltiedig â chyfryngau cymdeithasol. Clywsom am lawer o wahanol wledydd ledled y byd sy'n dechrau deffro i'r realiti i weithredu, ac rwyf eisiau gwneud yn siŵr nad ydym ni yma yng Nghymru yn cael ein gadael ar ôl.
Rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau heddiw yn cefnogi ein cynnig ac yn anfon neges glir i'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan fod yn rhaid iddynt wneud y peth iawn i'n plant a chyflwyno gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i rai dan 16 oed. Mae amser yn brin, ond os nad yw Llafur eisiau gwneud yr hyn sy'n iawn, credwch fi pan ddywedaf fod Plaid Geidwadol Cymru yn aros am ei chyfle i weithredu pan ddown i rym ym mis Mai 2026. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Eitem 8 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona, a galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9148 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) argymhellion Comisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol y dylid datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru; a
b) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 wedi dyrannu dros £100 miliwn o wariant ar blismona er nad yw'n faes cyfrifoldeb datganoledig.
2. Yn gresynu:
a) at fethiant 'partneriaeth mewn pŵer' Llafur i symud yr achos dros ddatganoli yn y maes hwn yn ei flaen; a
b) bod elfen praesept yr heddlu o'r dreth cyngor wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd toriadau yng nghyllid canolog y DU.
3. Yn credu bod Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau'r heddlu yn rhoi cyfle hollbwysig i ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder yn llawn, er mwyn alinio gwasanaethau'n well er budd pobl Cymru, yn unol â threfniadau sydd eisoes ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys ymrwymiad i ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder yn llawn i Gymru yn y Papur Gwyn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau'r ddadl hon gyda thair ffaith syml. Yng Nghymru, rydym eisoes yn talu am blismona, y mwyafrif ohono o ffynonellau datganoledig. Yng Nghymru heddiw, rydym yn teimlo'r straen ar blismona fwyfwy, ond mae'r pŵer i siapio plismona yn dal i fod yn rhywle arall. Nid partneriaeth yw hynny. Rhywun yn estyn bil i ni yw hynny, ac mae'r bil yn mynd yn fwy. Fel y mae gwelliant y Llywodraeth ei hun yn cadarnhau, mae'r Senedd yn dyrannu mwy na £100 miliwn y flwyddyn nesaf tuag at blismona, er nad yw'r plismona wedi ei ddatganoli. Gofynnir i ni gadw'r gwasanaeth yn weithredol er na chawn gyffwrdd â'r llyw. Caniateir inni ysgrifennu'r siec, heb ddal yr allweddi, a dyna'r cam sydd wrth wraidd y cynnig heddiw. Talu heb hawl i ddweud, arian heb fandad, cyfrifoldeb heb awdurdod, bai heb bŵer. Mewn geiriau eraill, trethiant heb gynrychiolaeth, wedi'i wisgo i fyny mewn iaith fodern a'i werthu i Gymru fel 'y ffordd y mae'n rhaid i bethau fod'.
Os oes rhywun yn meddwl bod hon yn ddadl arbenigol, gyfansoddiadol, gwrandewch ar y sgyrsiau mewn cartrefi ledled Cymru. Nid yw pobl yn siarad am faterion a gedwir yn ôl; maent yn siarad am degwch. Maent yn gweld treth gyngor yn codi am fod praesept yr heddlu'n parhau i godi, tra bod plismona cymdogaeth yn teimlo'n deneuach, amseroedd ymateb yn teimlo'n arafach, a gwelededd yn teimlo'n brin. Maent yn teimlo bod gofyn iddynt dalu mwy am lai. Ac nid dadl yw hon am ymroddiad swyddogion, ond dadl ynglŷn â phwy sy'n gwneud y penderfyniadau mawr—cyllid, strwythur, blaenoriaethau, llywodraethiant—ac a yw'r penderfyniadau hynny'n adlewyrchu Cymru neu'n gwrthod Cymru.
Edrychodd dau gomisiwn annibynnol yn galed ar y dystiolaeth a dod i'r un casgliad: dylai plismona a chyfiawnder gael eu datganoli i Gymru, nid fel tlws, nid fel slogan, ond am nad yw'r system bresennol yn gydgysylltiedig ac nid yw'n gweithio. Gall y Senedd hon fuddsoddi yn y gwasanaethau sy'n atal niwed—cymorth iechyd meddwl, timau argyfwng, cymorth tai, gwaith ieuenctid, gwasanaethau dibyniaeth, sylfeini cymunedau mwy diogel—ond pan fydd yr atal hwnnw'n methu, pan ddaw'r alwad am 2 a.m., pan fydd swyddogion yn ymatebwyr cyntaf, pan fydd y system yn penderfynu a yw'n cael ei drin fel argyfwng iechyd neu ddigwyddiad troseddol, mae'r liferi sy'n penderfynu mewn man arall. Rydym yn siarad yma am ddull Cymreig o weithredu, ond cawn ein hamddifadu o'r arfau i'w wneud yn real.
Plismona yw drws blaen cyfiawnder, ac mae cyfiawnder yn gysylltiedig ag iechyd, iechyd meddwl, tai, addysg, llywodraeth leol, gwasanaethau ieuenctid—y gwasanaethau y mae'r Senedd hon eisoes yn eu hariannu a'u rheoli. Eto mae disgwyl i ni adeiladu dull cydgysylltiedig o weithredu ar ddiogelwch gyda rhan hanfodol o'r system wedi'i bolltio ymlaen o'r tu allan. Mae fel llunio system ddiogelwch tân tra bod rhywun arall yn rheoli'r bibell ddŵr.
Daw hynny â ni at y Papur Gwyn. Nid mater o sgorio pwyntiau cyfansoddiadol yw hyn. Mae'n fforch go iawn yn y ffordd i ddyfodol plismona yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU yn cynnig model hollol wahanol: heddluoedd mwy, cyfarwyddyd mwy canolog, strwythurau newydd, targedau newydd, goruchwyliaeth newydd. Nawr, er y gellir cyflwyno rhywfaint o hynny fel moderneiddio, mae yna brawf sylfaenol, onid oes: a fydd yn dod â phlismona'n agosach at y cyhoedd neu'n tynnu pŵer ymhellach i ffwrdd?
A gadewch inni fod yn onest ynglŷn â'r hyn sydd yn y fantol i Gymru. Pan gaiff llywodraethiant ei ailgynllunio, pan gaiff heddluoedd eu huno, pan gaiff atebolrwydd ei ad-drefnu a thargedau eu gorfodi, nid dim ond cael ei diwygio y mae Cymru, fe gaiff Cymru ei hail-wneud, yn aml fel ôl-ystyriaeth, a daw penderfyniadau am ffiniau, llywodraethiant a chyrff cenedlaethol yn benderfyniadau am y math o wlad y caniateir i ni fod.
Wrth gwrs, mae angen galluogrwydd ledled y DU ac yn drawsffiniol. Nid yw troseddau cyfundrefnol difrifol yn dod i ben wrth afon Hafren nac afon Dyfrdwy. Nid yw seiberdroseddu yn dod i ben ar y ffin. Mae cydweithredu'n bwysig. Dyna pam y dadleuodd Plaid Cymru dros y berthynas barhaus agosaf bosib ag Europol ar ôl Brexit, am nad yw troseddwyr yn parchu ffiniau ac ni ddylai ein gallu i'w dal wneud hynny chwaith.
Ond nid yw cydweithredu yr un peth â rheolaeth. Gallwch gydweithredu ar draws ffiniau a datganoli pŵer. Mae'r Alban yn ei wneud. Mae Gogledd Iwerddon yn ei wneud. Mae pob gwasanaeth heddlu go iawn yn ei wneud. Nid y cwestiwn yw a all Cymru weithio gydag eraill. Y cwestiwn yw pam na ellir ymddiried yng Nghymru i arwain ei system ei hun wrth iddi wneud hynny.
Os mai'r broblem yw bod plismona bellach yn rhy bell oddi wrth y bobl a than ormod o bwysau—yn ôl y Papur Gwyn—os mai'r nod yw ailadeiladu ymddiriedaeth, nid rheoli o bell o San Steffan yw'r ateb. Mae gan Gymru wasanaethau datganoledig, cyfrifoldebau datganoledig, a mandad democrataidd datganoledig. Mae gosod glasbrint un maint i bawb ar gyfer Cymru yn creu risg o gamgymryd bod unffurfiaeth yn welliant.
Ac mae yna bwynt dyfnach, Ddirprwy Lywydd. Os yw'r Papur Gwyn yn mynd drwodd heb ymrwymiad i ddatganoli, nid dim ond newid plismona a wnaiff, fe fydd yn ein cloi i mewn i setliad. Fe fydd yn adeiladu pensaernïaeth newydd—uniadau, llywodraethiant, cyrff cenedlaethol—ac yna dywedir wrth Gymru yn nes ymlaen, 'Mae'n rhy gymhleth nawr; mae'r system eisoes wedi'i hadeiladu.' Dyna sut y mae canoli'n gweithio: mae'n gwneud mwy na gwneud penderfyniadau ar eich rhan; mae'n cyfyngu ar eich opsiynau.
Felly, dyma'r foment i beidio â gofyn am ddatganoli, ond i'w fynnu, i'w ysgrifennu i mewn i'r glasbrint tra bod y glasbrint yn cael ei ysgrifennu. Oherwydd os bydd Cymru'n cael ei hailfodelu heb rymuso Cymru, byddwn yn treulio'r degawd nesaf yn dadlau o fewn strwythur a gynlluniwyd i'n hatal ni rhag ei newid byth.
Mae ein cynnig yn rhesymol, yn angenrheidiol ac mae'n hen bryd ei gael. Mae'n gofyn cwestiwn sydd wedi cael ei osgoi ers cenhedlaeth: pam mai Cymru yw'r unig genedl ddatganoledig na ellir ymddiried cyfrifoldeb iddi am ein plismona a'n cyfiawnder ein hunain?
A daw hynny â mi at bartneriaeth Llafur mewn grym. Rwyf am fod yn deg oherwydd mae hwn yn fater difrifol, ond mae tegwch yn gweithio'r ddwy ffordd. Ni all partneriaeth olygu bod Cymru'n helpu i dalu tra bod San Steffan yn cadw'r pŵer. Ni all olygu cyfarfodydd cynnes, datganiadau i'r wasg a memoranda a bod dim byd oll yn newid. Nid datganoli yw memorandwm. Nid datganoli yw papuro dros danariannu. Nid datganoli yw ymgynghori â ni ar ôl i'r penderfyniadau gael eu fframio. Mae datganoli'n golygu pwerau yn y gyfraith, atebolrwydd i bobl Cymru a'r gallu i alinio plismona â gwasanaethau datganoledig fel bod atal a diogelwch cymunedol yn rhan o un dull cydgysylltiedig, yn gweithio gyda'i gilydd.
Felly, dyma'r her ymarferol i'r Aelodau heddiw. Os ydych chi eisiau diogelu plismona cymdogaeth, dylech fod eisiau i'r liferi yng Nghymru alinio plismona ag atal. Os ydych chi eisiau cyllid tecach, dylech fod eisiau lle i Gymru wrth y bwrdd, nid ar ben arall y gadwyn. Os ydych chi eisiau ailadeiladu ymddiriedaeth yn lleol, dylech chi fod eisiau atebolrwydd sy'n dechrau yma, nid un sy'n diflannu i San Steffan a Whitehall. Ni allwch ddadlau dros blismona lleol ac amddiffyn mwy o reolaeth o bell.
Ac i'r Aelodau Llafur yma yn arbennig, fe wnaf orffen gyda hyn. Mae gennych ddewis—y rhai sy'n gwrando—mae gennych ddewis: nid yw'n ddewis gweithdrefnol, mae'n un moesol. Gallwch bleidleisio dros y status quo, lle mae Cymru'n ysgrifennu'r siec a San Steffan yn dal yr allweddi, neu gallwch bleidleisio dros ymddiried yng Nghymru â'r cyfrifoldebau llawn sy'n dod o fod yn genedl a bod yn ddemocratiaeth. Os yw Cymru'n ddigon da i dalu, mae'n sicr fod Cymru'n ddigon da i benderfynu.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno'r gwelliant i'r cynnig.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl 1(b) a rhoi yn ei le:
effaith gadarnhaol y £100 miliwn hwnnw o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol, atal troseddu a chefnogi dioddefwyr troseddau;
dull gweithredu adeiladol y Papur Gwyn ar Ddiwygio'r Heddlu o ran ymgysylltu â thirwedd unigryw Cymru, a'r ymrwymiadau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i ddatblygu modelau llywodraethu i Gymru.
Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i eirioli dros ddatganoli plismona a chyfiawnder; a
b) cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda sefydliadau partner i nodi'r trefniadau llywodraethu gorau posibl i'r dyfodol ar gyfer plismona yng Nghymru, a'r egwyddorion sy'n sail i'r gwaith hwnnw, fel y nodir mewn Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar 27 Ionawr 2026.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Mae wedi'i gyflwyno. Felly, Altaf Hussain.
Diolch, Lywydd. Ni fydd yn syndod na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn, na gwelliant y Llywodraeth. Nid yw plismona a chyfiawnder yn ddiogel yn nwylo Plaid Cymru na Llafur Cymru. Nid yw plismona a chyfiawnder yn garreg gamu i unrhyw Gymru annibynnol. Mae plismona a chyfiawnder yn tynnu sylw oddi wrth fethiannau Llafur Cymru a'u cefnogwyr ymwahanol. Rydym wedi treulio gormod o amser a llawer gormod o adnoddau'n ceisio gwneud yr achos dros fwy o ddatganoli, mwy o bwerau, mwy o reolaeth—[Torri ar draws.] Ewch amdani.
[Anghlywadwy.]—a ydych chi'n cyfeirio hynny tuag at Fanceinion a Llundain hefyd, sydd â chyfrifoldeb am blismona?
Diolch. Rydym wedi treulio gormod o amser a llawer gormod o adnoddau'n ceisio gwneud yr achos dros fwy o ddatganoli, mwy o bŵer a mwy o reolaeth, ond mae Llywodraethau Cymru olynol wedi methu defnyddio'r pwerau sydd ganddynt i wella bywydau pobl Cymru. Mae ein GIG yn chwalu, mae pobl yn aros yn rhy hir am driniaeth, maent wedi'u hynysu, ac fe wyddom mai'r GIG yw conglfaen ein cymdeithas.
Mewn meysydd eraill o gyfrifoldeb datganoledig, mae pethau yr un mor ddrwg. Mae safonau addysg yn parhau i lithro, mae'r economi'n parhau i ddirywio ac rydym yn parhau i fod â rhai o'r safonau byw gwaethaf yng ngorllewin Ewrop. Ond yn hytrach na mynd i'r afael â'r problemau enfawr hyn, mae Plaid Cymru a Llafur yn ceisio ein tynnu sylw gyda dadleuon am y trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer Cymru. Maent yn pwyntio at gomisiwn Thomas ac yn dweud bod rhaid inni gael rheolaeth dros blismona a chyfiawnder. Yr hyn na fyddant yn ei ddweud yw'r ffordd y mae eu comisiynwyr heddlu a throseddu wedi methu gyrru gwelliannau i heddluoedd.
Yn ôl asesiadau effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, mae Heddlu Gogledd Cymru sy'n cael ei redeg gan Lafur yn methu diogelu pobl agored i niwed nac ymchwilio i droseddu'n effeithiol. Nid yw Dyfed-Powys sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru yn diogelu eu gweithlu ac maent hefyd yn methu diogelu pobl agored i niwed. Mae pob un o'r pedwar heddlu Cymreig naill ai angen eu gwella neu'n gwneud y lleiafswm ar y metrigau allweddol. Pam ar y ddaear y byddem am roi mwy o reolaeth i Weinidogion Llafur neu Blaid Cymru?
Yr hyn y mae'r rheini sy'n dadlau dros ddatganoli plismona a chyfiawnder hefyd yn methu ei ddweud wrthym yw bod comisiwn Thomas wedi anwybyddu'r dystiolaeth ar droseddu trawsffiniol i raddau helaeth. Yn ddiweddar, cyfarfu fy nghyd-Aelod Mark Isherwood ag Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarth y Gogledd Orllewin, cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd o ogledd-orllewin Lloegr, ac fe wnaethant dynnu sylw at y gwaith trawsffiniol gwerthfawr sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r fasnach mewn cyffuriau, gynnau a phobl. Ond dim ond edrych ar weithio agosach rhwng heddluoedd Cymru a wna comisiwn Thomas.
Os bydd Plaid Cymru'n cael eu ffordd a phlismona'n cael ei ddatganoli i Gabinet dan arweiniad Rhun, beth sy'n digwydd i droseddu ar draws ein ffin agored iawn? Beth sy'n digwydd gyda throseddau ariannol, plismona gwrthderfysgaeth a mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol? A ydynt yn hapus i adael hynny i heddluoedd Lloegr neu a welwn Weinidog yn y dyfodol yn dadlau dros greu asiantaeth droseddu genedlaethol i Gymru, swyddfa ymchwilio Cymru?
Mae'n bryd rhoi'r gorau i wastraffu amser ac adnoddau ar y pwnc hwn a chanolbwyntio ar flaenoriaethau'r rhai a'n hetholodd i'w gwasanaethu. Mae'n bryd rhoi diwedd ar y bogailsyllu hunanlesol a gwrthod y cynnig yn ogystal â'r gwelliant. Diolch yn fawr.
Mae adroddiad terfynol comisiwn Thomas yn pwysleisio i ba raddau y mae'r hyn a elwir yn ymyl garw cyfiawnder yng Nghymru wedi creu anghysondeb dwfn a niweidiol o ran amcanion a chyfrifoldebau polisi rhwng y Senedd a San Steffan, ac nid yw hyn yn fwy amlwg yn unman nag mewn perthynas â chyfiawnder cymdeithasol. Mae hanes y Llywodraeth ar y materion hyn yn rhywbeth a drafodwn yn aml yma wrth gwrs, ac yn aml yr ateb i'n craffu yw diffyg pŵer dros liferi allweddol. Felly, ni waeth pa mor dda yw bwriad na chynllun eu polisïau cyfiawnder cymdeithasol, byddant bob amser yn cael eu rhwystro gan anallu'r Senedd, mewn cyferbyniad â Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, i ddylanwadu ar y dirwedd cyfiawnder troseddol, sydd, fel y gwyddom, yn un o'r penderfynyddion mwyaf dylanwadol o ran canlyniadau cyfiawnder cymdeithasol.
Er enghraifft, fel y datgelwyd gan adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae carcharorion benywaidd Cymru dan anfantais arbennig yn y system bresennol. Rwyf wedi bod yn aelod o'r pwyllgor hwnnw am y pum mlynedd y bûm yma'n Aelod o'r Senedd, ac roedd yr ymchwiliad hwnnw'n un o'r rhai a effeithiodd fwyaf arnaf, heb os. Oherwydd roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos mor glir sut y mae rhai o'n menywod mwyaf agored i niwed yn cael eu niweidio'n uniongyrchol gan yr ymyl garw miniog hwnnw. Mae'n ymwneud â'r dedfrydau carchar byr o lai na 12 mis, rhai'n ddim ond wythnos o hyd, sy'n arbennig o gyffredin ymhlith y boblogaeth o fenywod yn y carchar, sy'n gwbl wrthgynhyrchiol o ran adsefydlu.
Roedd yr adroddiad hefyd yn gwneud sawl argymhelliad manwl am y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod yng Nghymru. Er y gallai ddarparu dewis arall mawr ei angen i'r dedfrydau carchar preswyl presennol y mae menywod Cymru yn cael eu gorfodi i'w bwrw filltiroedd lawer i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd, nid ydym wedi gweld unrhyw weithredu ar ôl blynyddoedd o drafod. Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU bellach wedi ei roi ar stop i bob pwrpas yn tanlinellu pa mor bell y cawsom ein dal yn ôl gan y ffordd yr oedd San Steffan yn mynnu dal liferi pŵer, beth bynnag am y canlyniadau i bobl Cymru ac ymdrechion eu Llywodraeth i'w cefnogi.
Mae gan y ffaith bod pob menyw o Gymru sy'n cael ei charcharu mewn carchar yn Lloegr ar hyn o bryd oblygiadau difrifol i'w hiechyd meddwl a'u lles, gyda llawer ohonynt eisoes yn agored i niwed ac yn ddioddefwyr cam-drin domestig. Gall arwain at ganlyniadau bywyd hynod negyddol i'w dibynwyr. Mae plant carcharorion benywaidd yn anghymesur o debygol o gael eu derbyn i ofal.
Mae anghydraddoldebau'r system cyfiawnder troseddol hefyd yn cyfateb i dueddiadau anghydraddoldeb hiliol yn ein cymdeithas. Mae 27 y cant o boblogaeth carchardai Cymru a Lloegr yn bobl o gefndir lleiafrifol ethnig, o'i gymharu â 18 y cant o'r boblogaeth gyffredinol. Mae'r anghydbwysedd yn arbennig o amlwg mewn perthynas â phoblogaeth ddu Cymru, sydd dros bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu harestio o'i gymharu â'r boblogaeth wen, dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu harestio na phoblogaeth ddu Lloegr.
Gwyddom hefyd fod problemau hiliaeth sefydliadol a misogynedd, a amlygwyd yn y blynyddoedd diwethaf gan y datgeliadau yn Heddlu Gwent, yn parhau'n ystyfnig o ddygn. Fel y mae fy nghyd-Aelod Adam Price eisoes wedi nodi, mae angen inni fod yn effro iawn i'r posibilrwydd y gallai Llywodraeth asgell dde yn y DU yn y dyfodol geisio efelychu eu harwyr awdurdodaidd yn Washington, Moscow a Hwngari drwy arfogi asiantaethau gorfodi'r gyfraith i orfodi eu hagenda wenwynig o raniadau.
Yn olaf, mae'n werth myfyrio ar y berthynas rhwng tlodi a throseddu a sut nad yw offerynnau di-awch ein system gyfreithiol yn cydnabod yn ddigonol y ddeinameg gymdeithasol gymhleth hon. Y gwir amdani yw bod cymunedau mwy difreintiedig nid yn unig yn fwy tebygol, ar gyfartaledd, o fod yn ddioddefwyr troseddu, maent hefyd yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau anghymesur wrth gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol. Os oes gwers glir i'w dysgu o saga aflan a grotesg ffeiliau Epstein, mae'n amlwg nad yw cyfiawnder yn gae chwarae gwastad, a bod y fantol yn rhy aml yn gogwyddo tuag at gyfoeth, dylanwad a phŵer.
Roedd yn drawiadol pan godais y pwynt gydag Ysgrifennydd y Cabinet—rwyf wedi gwneud hynny ar sawl achlysur, ac fe wneuthum hynny eto y prynhawn yma—fod ei swydd yn cael ei thanseilio gan ei hanallu i ddylanwadu'n ffurfiol ar y system cyfiawnder troseddol a phlismona. Ni chafwyd unrhyw ymgais i wadu'r realiti anosgoadwy hwn, ond hefyd ni wnaed ymgais i gwyno ynghylch y graddau y mae ei chymheiriaid yn San Steffan yn fwriadol ac yn afresymol yn ei hamddifadu o'r liferi i wella canlyniadau yng Nghymru. Eto y prynhawn yma, ni allai gadarnhau bod cais ffurfiol neu hyd yn oed alwad wedi'i gwneud i ddatganoli plismona i Gymru.
Ni ddylai Cymru gael ei gorfodi gan y Llywodraeth Lafur hon i fod yn aelod tawel ac israddol o'r bartneriaeth mewn grym fel y'i gelwir. Mae'r gost i bobl Cymru, mewn termau ariannol a dynol, yn annerbyniol.
Rwy'n credu bod cyflwr presennol y system plismona a chyfiawnder yn y DU wedi'i ddogfennu'n dda ac yn ddigalon iawn, Lywydd. Yn sicr nid yw'n atal nac yn adsefydlu. Mae carchardai'n orlawn iawn, mae sgiliau sylfaenol llawer o garcharorion yn hynod o wael gyda lefelau uchel o anllythrennedd, mae llawer â salwch meddwl a dibyniaeth ar gamddefnyddio sylweddau. Mae gorlenwi helaeth yn gwneud adsefydlu a hyfforddiant yn anodd iawn, ac yn gweithio yn erbyn lleihau aildroseddu. Mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at fwy o ddioddefwyr troseddau a throseddwyr yn parhau i fyw bywydau sy'n niweidiol iddynt eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau.
Yma yng Nghymru, mae peidio â datganoli plismona a chyfiawnder yn ei gwneud hi'n anos adeiladu system fwy cynhyrchiol ac effeithiol i'n pobl. Mae hyn wedi'i nodi mewn nifer o adroddiadau, megis comisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Ar hyn o bryd, mae gennym setliad datganoli tameidiog ar gyfer y materion hyn, sy'n creu rhwystrau i lunio polisïau cydlynol, gwariant cyhoeddus integredig a chyflawni effeithiol.
Cymru, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am wasanaethau sy'n gwbl ganolog i blismona, cyfiawnder a charchardai. Mae polisïau addysg a sgiliau'n cwmpasu addysg a hyfforddiant carcharorion. Mae gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn y gymuned a'r carchardai, a pholisi digartrefedd, yn effeithio'n uniongyrchol ar ailsefydlu troseddwyr. Dywedodd y comisiwn annibynnol hyn, wrth gwrs—fod y rhan fwyaf o'r gwasanaethau y mae'r system gyfiawnder yn dibynnu arnynt ar gyfer atal ac adsefydlu wedi'u datganoli, ond mae asiantaethau cyfiawnder yn atebol i'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan greu cymhlethdod ac anghysondeb.
Mae'r anghysondeb hwn a'r cyfrifoldebau aneglur yn creu problemau sylweddol i ni yma yng Nghymru nad ydynt yn digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ers 2016, mae polisi'r DU wedi achosi i nifer cyfartalog y carcharorion sy'n cael eu cadw yng Nghymru gynyddu 34 y cant. Daeth y comisiwn annibynnol i'r casgliad y byddai datganoli cyfiawnder yn arwain at enillion sylweddol yn y polisi atal ac adsefydlu drwy well cydlyniant a llywodraethiant. Ac wrth gwrs, mae Cymru eisoes yn gwneud yr hyn a all. Mae'n arwain mewn dulliau sy'n ystyriol o drawma, o ran ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, dargyfeirio ieuenctid a gwasanaethau cymdeithasol integredig, tra bod model San Steffan yn pwyso'n drymach ar gosb yn hytrach na'r ethos ataliol y mae Cymru wedi'i gyflawni a'i ymgorffori ers blynyddoedd lawer.
Gyda'r cefndir hwnnw, mae gennym Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar blismona sy'n cynnig model newydd, creu gwasanaeth heddlu cenedlaethol, mwy o oruchwyliaeth ganolog, a diwygiadau strwythurol newydd ac uno heddluoedd. Heb amddiffyniad penodol i Gymru, mae perygl y bydd y diwygiadau hyn yn ailganoli plismona ac yn osgoi anghenion polisi Cymru yn gyfan gwbl. Mae'r Papur Gwyn hwn felly yn foment dyngedfennol i sicrhau ymrwymiad i ddatganoli plismona a chyfiawnder llawn i Gymru.
Beth bynnag a ddywed neb, nid tincran cyfansoddiadol yw datganoli cyfiawnder. Mae'n angenrheidrwydd ymarferol i'n pobl a'n cymunedau. Mae plismona yng Nghymru'n cael ei redeg o San Steffan, ond mae achosion troseddu a'r atebion i droseddu yn faterion i Lywodraeth Cymru i raddau helaeth. Mae'r anghysondeb hwn yn un o'r prif resymau pam y mae'r adroddiadau a grybwyllais, ac adroddiadau eraill, yn dadlau bod cyfiawnder yng Nghymru yn anodd ei reoli o dan y system ddatganoli bresennol. Bydd datganoli plismona a chyfiawnder yn galluogi Cymru i greu cymunedau mwy diogel, canlyniadau tecach a system gyfiawnder wedi'i gwreiddio mewn atal, nid cosb yn unig.
Mae'r dystiolaeth yn glir iawn. Mae'r comisiynau'n glir. Mae Cymru'n haeddu system gyfiawnder sy'n gweithio gyda'i gwasanaethau datganoledig, nid yn eu herbyn.
Fel y dywedodd comisiwn Thomas yn 2019, nid yw cyfiawnder yn rhan annatod o greu polisi yng Nghymru, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r cydweithio rhwng cyrff sydd wedi’u datganoli a’r rhai sydd ddim yn creu sefyllfa gymhleth sydd ddim yn rhoi atebolrwydd tryloyw, ac felly ddim yn arwain at berfformiad effeithiol. Dyna oedd barn comisiwn Thomas flynyddoedd yn ôl, ac mae o’n hollol wir heddiw, os nad yn fwy gwir, mewn gwirionedd.
Fel llefarydd tai Plaid Cymru, rydw i am sôn am un anomali diweddar. Ddoe, roeddem ni wrthi'n pasio Cyfnod 4 y Bil digartrefedd, Bil pwysig mae Plaid Cymru wedi bod yn falch o helpu i'w saernïo. Agwedd hollbwysig yn y Bil ydy rhoi'r pwyslais ar adnabod pobl sydd mewn peryg o wynebu digartrefedd cyn i'r argyfwng ddigwydd. Mae asiantaethau pwysig yn cael eu tynnu mewn i'r angen am ‘ofyn a gweithredu’, sef gweithwyr rheng flaen yn adnabod problem a gweithredu i atal unigolion rhag cysgu ar y stryd neu wynebu digartrefedd yn ei amryfal ffyrdd. Ond mae un partner allweddol ar goll, sef yr heddlu. Yn ystod Cyfnod 2, mi wnes i geisio gosod yr heddlu ar y rhestr amlasiantaethol sydd yn y Bil. Mae'r awydd yno yn glir gan ein lluoedd ni, ond gan nad ydy'r heddlu wedi cael ei ddatganoli, doedd hi ddim yn bosib yn gyfansoddiadol i wneud y newid yma a phasio'r gwelliant roeddwn i wedi'i gyflwyno.
Mae taclo digartrefedd yn golygu defnyddio dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar drawma. Mae hyn yn hanfodol, ac mi fydd yna hyfforddiant arbennig angen cael ei ddarparu ar draws yr asiantaethau newydd sydd wedi'u rhestru yn y Bil digartrefedd. Ond bydd yna ddim rheidrwydd ar yr heddlu i gymryd rhan yn hynny, a bydd Gweinidogion Cymru ddim yn gallu eu dwyn yn atebol. Mi fyddai'r cydweithio asiantaethol, y dwyn i gyfrif hanfodol, y pwyslais ar yr unigolion ac agwedd o ddeall trawma—mi fyddai hynny oll yn cryfhau petai'r heddlu yn rhan ffurfiol, statudol o'r bartneriaeth yma, sydd yn mynd i fod yn taclo digartrefedd mewn ffordd effeithiol, ond dydyn nhw ddim. Dydy'r heddlu ddim yn rhan o hyn, ac mae hyn yn wendid sylfaenol.
Prysured y dydd, felly, pan ddaw'r pwerau i Gymru ac y byddwn ni'n gallu bod yn fwy effeithiol yn y ffordd yr ydyn ni'n delio efo digartrefedd a llu o faterion eraill, fel bod llai o fywydau'n cael eu niweidio. Dyma'r deilliannau positif fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau pobl Cymru o ddatganoli cyfiawnder a heddlua. Mae yna gyfle gwirioneddol rŵan efo'r Papur Gwyn. Beth am afael yn y cyfle yna wrth i'r model newydd gael ei ddatblygu, a rhoi'r pwerau perthnasol yma i Gymru, fel ein bod ni'n gallu bod yn effeithiol yn y ffordd yr ydyn ni'n trin rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas? Diolch.
Rwy'n falch o gael y cyfle i ychwanegu at y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r ddadl dros ddatganoli plismona a chyfiawnder yn deillio o argymhelliad comisiwn Thomas, fel y clywsom sawl gwaith y prynhawn yma eisoes, a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ond mae gan yr adroddiadau wendidau sylweddol, y gwnaf eu hamlinellu, ac nid ydynt yn darparu dadl gymhellol dros ddatganoli plismona a chyfiawnder.
Ychydig iawn o fanteision ymarferol a geir i ddatganoli plismona a chyfiawnder, ac mae prif sbardun y ddadl a wneir gan gomisiwn Thomas yn pwyso ar gymesuredd cyfansoddiadol. Mae hon yn ddadl sy'n seiliedig ar aliniad symbolaidd. Nid yw'n blaenoriaethu sefydlogrwydd na phlismona a chyfiawnder o'r ansawdd gorau i bobl Cymru. Ac yn olaf, nid yw'n blaenoriaethu costeffeithiolrwydd gyda phlismona datganoledig. [Torri ar draws.] Fe wnaf orffen y frawddeg ac yna fe ildiaf. Rydych chi'n dod i fyny ar fy—. Felly, nid wyf yn gwybod a ydych chi'n dal i fod eisiau gwneud yr ymyriad. Rhagwelir y bydd llysoedd yn costio llawer mwy y pen i drethdalwyr Cymru. Rwy'n cofio'r Aelod dros Ganol De Cymru yn dadlau yr wythnos o'r blaen fod y Barwn Thomas o Gwmgïedd yn farnwr ac arglwydd uchel ei barch ac nid yn rhyw genedlaetholwr tanllyd, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Ond roedd sawl ffactor pwysig na chafodd—. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf.
Rwy'n siŵr fod pawb yn falch o glywed eich dadansoddiad o'r adroddiad, Gareth. Nawr, wrth gwrs, roedd comisiynwyr yr adroddiad hwnnw'n cynnwys y cyn Arglwydd Brif Ustus, pennaeth carchardai a phrawf yng Ngogledd Iwerddon, un o bartneriaid byd-eang y cwmni cyfreithiol mwyaf yn Llundain a llawer o rai eraill—nid eich aelodau nodweddiadol o gomisiynau yng Nghymru. Felly, sut ydych chi'n fwy o arbenigwr na nhw?
Fe wnaf gynnwys hynny yn ystod fy nghyfraniad mewn rhyw ffordd, ond nid i'r manylder a nodwyd gennych. Rwy'n tynnu sylw'n fwy at y ddamcaniaeth sy'n sail i'r ddadl yn erbyn datganoli plismona, wedi'i wneud yn drylwyr gan y comisiwn, gyda'r adroddiad yn amlinellu'r ychydig iawn o fanteision ymarferol i ddatganoli plismona a chyfiawnder.
Nid wyf yn barod i weld y trethdalwr Cymreig yn rhoi cryn dipyn yn fwy o arian ar gyfer plismona salach a hynny'n unig er mwyn sicrhau cymesuredd cyfansoddiadol symbolaidd i gadw'r ymwahanwyr yn hapus. Ymwahanwyr sydd ond eisiau gweld cripian pellach tuag at annibyniaeth. Rwyf am flaenoriaethu'r hyn sy'n synhwyrol ac yn bragmataidd dros ideoleg, ac mae'r cenedlaetholwyr Cymreig yn cael eu harwain yn gyfan gwbl gan ideoleg. Mae digon o dystiolaeth i ddangos pam nad yw datganoli plismona a chyfiawnder yn syniad da. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf.
[Anghlywadwy.]—gan fod fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd wedi gwneud. A ydych chi'n credu bod Manceinion neu Lundain ar y ffordd i annibyniaeth oherwydd bod plismona wedi'i ddatganoli yn y dinasoedd hynny?
Mae honno'n ddadl gyfeiliornus, oherwydd mae'n fodel hollol wahanol o ddatganoli. Buaswn yn disgwyl dadl o safon well gan arweinydd plaid, a bod yn onest.
O ran yr effaith ariannol, mae Cymru ar hyn o bryd yn elwa o'r arbedion maint a'r system integredig â Lloegr, ac mae datganoli'n creu risg o ddargyfeirio arian o wasanaethau rheng flaen tuag at ailstrwythuro biwrocrataidd i sefydlu plismona a chyfiawnder datganoledig.
Dylem gofio hefyd fod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gynsail hir o gael eu llysoedd a'u systemau gorfodi'r gyfraith eu hunain. Mae gan yr Alban ei system gyfreithiol ei hun ers cyn y Ddeddf Uno ym 1707, a Gogledd Iwerddon ers 1921, gyda'u Cwnstabliaeth Frenhinol Ulster ymreolaethol eu hunain. Ond gan ddiystyru cyfraith ganoloesol Cymru, nid oes cynsail i hyn yng Nghymru. Mae cyfiawnder a phlismona bob amser wedi cael eu hintegreiddio â Lloegr, felly mae hyn yn golygu y byddai datganoli plismona a chyfiawnder yn newydd.
Byddem yn colli'r arbedion maint, a byddai'r darnio cyllidol o ddadelfennu—[Torri ar draws.] Ni fyddech chi'n teimlo'r angen i heclo cymaint pe baech chi'n gwybod nad oedd yr hyn rwy'n ei ddweud yn ffeithiol mewn gwirionedd. Mae'n fecanwaith amddiffyn clasurol, onid yw, pan fyddwch chi'n cael clywed rhywbeth sy'n groes i'r hyn a gredwch.
Byddem yn colli'r arbedion maint, a byddai'r darnio cyllidol o ddadelfennu plismona a chyfiawnder yn arwain at gostau uwch y pen i bobl Cymru. Amcangyfrif Llywodraeth y DU yn 2018 oedd y byddai'r costau sefydlu cychwynnol a fyddai'n gysylltiedig â datganoli cyfiawnder yn £101.5 miliwn—gallwch ddisgwyl iddo fod yn llawer uwch heddiw. Byddai disgwyl i drethdalwyr Cymru rannu'r baich o £37.5 miliwn ychwanegol y flwyddyn; unwaith eto, byddai'r ffigur hwn yn llawer uwch heddiw, ac nid yw hynny'n cynnwys y costau ychwanegol ar gyfer pethau eraill, fel cymorth cyfreithiol.
Mae system gyfiawnder integredig hefyd yn ein galluogi i elwa o gronfa fwy o arbenigedd, adnoddau a bri rhyngwladol. Yn ddiweddar, dywedodd prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman, y gallai fod gan arweinydd Plaid Cymru ddiddordeb mewn clywed oddi wrthi gan fod ei hardal yn cynnwys ei etholaeth, fod gogledd Cymru'n gysylltiedig iawn o safbwynt troseddoldeb â heddluoedd cyfagos Glannau Mersi hyd at swydd Gaer, gan ddweud bod troseddu'n digwydd ar batrwm mwy dwyrain-gorllewin na gogledd-de.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gyda phleser, os gwnaiff y Llywydd adael imi wneud.
Eich dewis chi, Gareth—eich amser chi ydyw.
Rwy'n gwybod fy mod yn y coch, felly—
Ydych, ond mae gennych funud ychwanegol ar gyfer ymyriadau, felly rydych chi ychydig bach o fewn y funud honno.
Dau bwynt. Un, byddai system heddlu ddatganoledig i Gymru, mae'n debyg, yn dal i fod eisiau cydweithredu ar draws ffiniau, fel y dadleuodd fy nghyd-Aelod Adam Price. Onid yw hynny'n wir? Yn ail, a yw'r Aelod yn dadlau'r achos dros heddlu trawsffiniol sy'n anwybyddu ffin Cymru yn gyfan gwbl?
Nid wyf yn gwneud unrhyw honiadau i'r perwyl hwnnw; rwy'n credu eich bod chi'n ceisio rhoi geiriau yn fy ngheg. Rwy'n eich cynghori i gael briff ar linellau cyffuriau i weld sut y mae hynny'n gweithredu mewn gwirionedd, a rhai o fanylion hynny—mae'n eithaf diddorol, mewn gwirionedd. Mae cyfran sylweddol o droseddu yng Nghymru, yn enwedig mewn rhanbarthau fel gogledd Cymru, yn gynhenid drawsffiniol, gydag amcangyfrifon yn dangos bod 95 y cant o droseddau yng ngogledd Cymru yn drawsffiniol â Lloegr, ac ychydig iawn o droseddu Cymru gyfan a geir. Fel y mae fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi nodi o'r blaen, unwaith yn unig y crybwyllir troseddu trawsffiniol yn adroddiad Thomas.
Er mor braf fyddai hynny, nid ydym yn byw yng nghyfnod Dixon of Dock Green, ac nid yw llinellau cyffuriau a gangiau cyfundrefnol eraill, sefydliadau terfysgol, yn dod i ben wrth Glawdd Offa. Mae ffiniau datganoledig, nad yw troseddwyr yn poeni yn eu cylch, yn creu seilos, gan gynyddu amseroedd ymateb a chostau. Mae cadw rheolaeth ganolog yn sicrhau integreiddio di-dor ac yn caniatáu i heddluoedd rannu data i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
Unwaith eto, mae'r amseriad ar gyfer gwthio hyn yn ddifeddwl. Mae Llafur wedi profi na all lywodraethu Cymru â'r pwerau sydd ganddi eisoes, ac mae yna broblemau sylweddol gyda phlismona ledled y DU fel y mae, boed yn gyfiawnder dwy haen neu'n wastraffu amser ar blismona postiadau Facebook tra bod bwrgleriaethau'n cael eu hanwybyddu. Rwy'n arswydo meddwl am y plismona hunllefus, dystopaidd y byddem yn ei weld pe bai byth yn cael ei redeg gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, ac rwy'n credu ein bod ni oll yn gwybod y byddai hynny'n waeth. Nid wyf yn dweud bod plismona a chyfiawnder—
Rwyf wedi bod yn hynod o hael hyd yma—os gallwch ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr. Nid yw o fudd ymarferol i bobl Cymru o gwbl. Gadewch inni beidio ag ychwanegu plismona a chyfiawnder at y rhestr gynyddol o fethiannau Llywodraeth Cymru y bu'n rhaid inni eu dioddef dros y 27 mlynedd diwethaf. Diolch yn fawr.
Rydyn ni eisoes wedi clywed am yr anghydbwysedd sy’n bodoli rhwng cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn rhai meysydd a’i diffyg dylanwad o ran cyfiawnder a heddlua. Mae hyn yn creu tensiynau amlwg, ond yn bwysicaf oll, mae’n creu dioddefaint go iawn i unigolion a’u teuluoedd. Dyma, fel y dywedodd Sioned, ydy’r jagged edge, neu'r ymyl miniog o ddatganoli sy’n torri drwy galon ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r dystiolaeth yn glir: mae’r system cyfiawnder troseddol yn methu unigolion â phroblemau iechyd meddwl. Yn ein carchardai, mae naw o bob 10 carcharor yn dioddef efo broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Mae cyfraddau hunan-niweidio a marwolaethau yng ngharchardai Cymru, fel y gwelwyd yn drasig yn HMP Parc yn ddiweddar, ar eu lefel uchaf erioed. Nid dim ond llinellau ar siart cyfansoddiadol yw’r jagged edge yma, mae’n graith ar fywydau teuluoedd ledled Cymru. Pan fyddwn ni'n siarad am hollt mewn awdurdod, rydyn ni'n siarad am fam yn y Cymoedd sy’n gwylio ei mab mewn argyfwng iechyd meddwl, ond yn hytrach nag ambiwlans a nyrs, fan yr heddlu a chelloedd sy’n galw. Mae troseddu yn cael ei ystyried yn salwch oherwydd nad yw ein Deddfau ni yn fan hyn yn cyd-fynd â’n gwerthoedd iechyd.
Meddyliwch am y plentyn 15 oed hwnnw o ogledd Cymru sy’n cael ei gludo oriau i ffwrdd i ryw sefydliad yn Lloegr. Mae e’n colli cysylltiad â’i deulu, ei iaith a’r gwasanaethau cymdeithasol sydd i fod i’w helpu i ailadeiladu ei fywyd. Mae’r system bresennol yn dewis cosb bell ac unigedd dros iachâd a chefnogaeth. Mae hwn yn drawma sy’n cael ei achosi nid gan y drosedd, ond gan y setliad cyfansoddiadol methedig bresennol. Mae’r Llywodraeth yma'n hoffi dweud bod gofal iechyd meddwl Cymru yn un sy'n drawma-wybodus, ond yn amlwg yn ddall i’r ffaith ei fod yn achosi trawma dyfnach drwy fethu â newid y system ffaeledig yma.
Mae pob marwolaeth mewn carchar, pob gorddos ar ein strydoedd a phob swyddog heddlu sy’n gorfod gweithredu heb yr hyfforddiant seiciatryddol angenrheidiol yn dyst i system sydd wedi torri. Rydym yn gwasanaethu dau feistr, ac oherwydd hynny, nid ydym yn gwasanaethu ein pobl yn effeithiol. Drwy ddatganoli cyfiawnder, nid hawlio pŵer yn unig yr ydyn ni am wneud, ond rydyn ni'n hawlio’r hawl i drin ein dinasyddion ag urddas, tosturi ac un llais. Mae teuluoedd Cymru yn haeddu system sy’n eu gweld nhw fel bodau dynol cyfan, nid fel problemau gweinyddol i’w rhannu rhwng adrannau Llywodraethau yng Nghaerdydd neu Lundain.
Pam mae hyn yn digwydd? Oherwydd, yn fwyaf amlwg, fod yr atebolrwydd yn un sydd yn rhanedig, ac, yn ail, wrth rannu atebolrwydd yn y modd yma, mae’n arwain at sefydliadau yn gwadu atebolrwydd, gan bwyntio bys cyfrifoldeb o un i’r llall, yn debyg i’r meme Spiderman boblogaidd yna mae pawb wedi ei weld. Pan fydd unigolyn yn marw neu’n dioddef mewn carchar yng Nghymru, mae’r diogelwch yn fater i Lundain, ond mae’r gofal iechyd yn fater i Fae Caerdydd. Mae’r hollt hwn yn golygu nad oes neb yn gyfrifol am y person cyfan. Fel y dywedodd y comisiwn Thomas:
mae rhannu pwerau'n rhwystr mawr i allu darparu gwasanaethau cyfiawnder ac iechyd yn gydlynol.
Nid mater i’r carchardai yn unig ydy hyn, mae’n effeithio ar ein strydoedd. Ar hyn o bryd, mae ein heddluoedd wedi dod yn wasanaeth llinell gyntaf ar gyfer argyfyngau iechyd meddwl. Mae adroddiadau yn dangos bod swyddogion yng Nghymru yn treulio miloedd o oriau mewn adrannau achosion brys yn aros am welyau, oherwydd nad yw protocolau’r heddlu, sydd o dan San Steffan, a phrotocolau’r NHS, sydd o dan Fae Caerdydd, yn siarad â’i gilydd. Ystyriwch y teuluoedd sy’n colli anwyliaid i gyffuriau. Mae Llywodraeth Cymru eisiau dilyn dull lleihau niwed, ond mae’r heddlu wedi’u clymu i ddeddfwriaeth ar gyffuriau o Lundain. Mewn gwledydd lle mae iechyd a chyfiawnder wedi’u huno, mae yna arloesi, fel y prosiect Test for Change yn yr Alban, sy’n achub bywydau drwy ddefnyddio naloxone. Yng Nghymru, rydyn ni'n brwydro yn erbyn y llanw gyda dwy law wedi’u clymu y tu ôl i’n cefn.
Fel y dywedodd y Mick Antoniw, oedd yn Gwnsler Cyffredinol ar y pryd:
mae'r ymyl garw'n golygu ein bod yn ceisio darparu gwasanaeth iechyd yr unfed ganrif ar hugain o fewn fframwaith cyfiawnder y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae angen datganoli plismona a chyfiawnder, nid er mwyn mwy o rym i wleidyddion, ond er mwyn sicrhau un system unedig—system sy’n trin pobl fel cleifion yn hytrach na throseddwyr, sy’n cadw plant yn agos at adref ac sy’n rhoi diwedd ar y dryswch sy’n costio bywydau. Mae’n bryd llyfnhau’r jagged edge hwn er mwyn pobl Cymru.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar fenywod yn y system gyfiawnder, yr angen am ddiwygio a sut y bydd datganoli heddlu a chyfiawnder i Gymru yn helpu yn y broses hon. Rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Sioned Williams yn gynharach am fenywod yn y system gyfiawnder, ac rwy'n gwybod ein bod wedi cael peth trafodaeth yn ei gylch yn gynharach y prynhawn yma yn y Siambr.
Rydym i gyd yn gwybod bod y mwyafrif helaeth o fenywod a anfonir i'r carchar yn bwrw dedfrydau byr iawn. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024, derbyniodd dros dri chwarter y menywod yn y DU a ddedfrydwyd i garchar ddedfrydau o 12 mis neu lai. Roeddwn yn San Steffan yn 2007 pan gynhyrchodd Jean Corston adroddiad Corston, a hynny 20 mlynedd yn ôl, a pha gynnydd a fu? Fe wnaed yn glir yn yr adroddiad hwnnw, ac mae'n union yr un peth nawr, nad yw'r mwyafrif helaeth o fenywod sy'n mynd i'r carchar yn beryglus, nid ydynt yn risg i'r gymuned; maent yn ymdopi â thlodi, iechyd meddwl gwael neu effaith barhaol camdriniaeth. Mae llawer yn ofalwyr, mae llawer yn famau—ac rydym eisoes wedi clywed am y ffordd y mae plant yn dioddef pan fydd mamau yn enwedig yn mynd i'r carchar—a gwnaed cam â nifer ohonynt ymhell cyn iddynt gyrraedd y llys. Mae'r gwasanaethau a ddefnyddiant ac y maent eu hangen bron i gyd wedi'u datganoli.
Mae diwygio'r system gyfiawnder yn ymwneud â bod yn effeithiol, yn ddyngarol ac yn deg. Nid yw dedfrydau carchar byr i fenywod yn gwneud fawr ddim i leihau aildroseddu, ond gallant achosi niwed enfawr i deuluoedd a phlant a gallant wneud amgylchiadau sydd eisoes yn heriol hyd yn oed yn anos. Rwy'n croesawu rhai o'r diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn ei Bil Dedfrydu, gan gynnwys y rhagdybiaeth yn erbyn dedfrydau carchar byr a'r defnydd mwy o ddedfrydau gohiriedig. Rwyf hefyd yn croesawu sefydlu'r Bwrdd Cyfiawnder Menywod, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o Gymru. Mae'r rhain yn gamau pwysig a chadarnhaol sy'n adlewyrchu rhai o'n gwerthoedd ni yng Nghymru.
Ond galwodd Corston, 20 mlynedd yn ôl, am ddull lleol, sy'n canolbwyntio ar fenywod, wedi'i wreiddio mewn cymunedau, gan ffocysu ar atal, fel y soniodd John Griffiths yn ei gyfraniad, a chymorth ac adsefydlu. Mae Cymru wedi dangos dro ar ôl tro y gallwn arwain drwy fabwysiadu dull mwy tosturiol, ataliol o weithredu. Ac rwy'n credu mai dyna'r dull y mae'r Senedd hon wedi ei arwain.
Mae'r oedi ar gynnydd ar y ganolfan breswyl i fenywod, a grybwyllwyd sawl gwaith y prynhawn yma'n barod, yn rheswm arall dros ddatganoli cyfiawnder i Gymru. Byddai datganoli cyfiawnder yn caniatáu i Gymru uno'r holl systemau hyn yn iawn, adeiladu dull tecach, mwy effeithiol i fenywod ac i bawb. Mae'r ystadegau cyfiawnder yng Nghymru yn frawychus. Mae'r system yn methu. Byddai datganoli'n rhoi cyfle inni fynd i'r afael â'r methiannau hyn, ac rwy'n credu bod hwn yn gyfle y dylem weithio tuag ato. Diolch.
Mae Reform UK yn hollol glir ar y mater hwn. Nid ydym yn cefnogi datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru. Yn fwy na hynny, nid ydym yn credu mai'r ateb i bob problem sydd gan Gymru yw mwy o ddatganoli a mwy o bwerau. Yr hyn y mae'r cyhoedd ei eisiau yw i'r pwerau sydd gan y Senedd hon ar hyn o bryd weithio'n iawn. Plismona yw un o gyfrifoldebau pwysicaf y wladwriaeth. Mae'n cynnwys y defnydd o rym, yn amddifadu o ryddid, gwrthderfysgaeth, troseddau cyfundrefnol difrifol a threfn gyhoeddus. Nid diwygio yw darnio'r system honno am resymau gwleidyddol. Mae'n peryglu diogelwch y cyhoedd.
Ac fe ddywedaf hyn yn glir iawn: ni fuaswn yn ymddiried yn y chwith caled yn y lle hwn, cynghrair rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Werdd o bosib, i fynd yn agos at system blismona ein gwlad.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnaf ychydig o gynnydd. Na, fe wnaf ychydig o gynnydd. Nid oes raid inni edrych yn bell am enghreifftiau yn y byd go iawn o pam y mae hyn yn bwysig. Mae pobl o argyhoeddiad gwleidyddol penodol yng Nghymru wedi wynebu bygythiadau, bygythiadau credadwy o drais eithafol, ond mewn rhai achosion, nid oes unrhyw beth ystyrlon wedi digwydd. Ar yr un pryd, gwelwn bobl yn cael eu holi, yn cael rhybuddiad a'u harestio am sylwadau am fewnfudo anghyfreithlon. Mae hynny'n creu canfyddiad, pa un a yw pobl yn hoffi hynny neu beidio, fod blaenoriaethau plismona'n cael eu siapio gan wleidyddiaeth yn hytrach na chan ddiogelwch y cyhoedd. Mae'n blismona dwy haen ar waith. A phan fydd y cyhoedd yn dechrau credu nad yw'r gyfraith yn cael ei chymhwyso'n deg neu'n gyson, mae ymddiriedaeth mewn plismona'n chwalu, a heb ymddiriedaeth y cyhoedd, nid yw plismona drwy gydsyniad yn gweithio. Ac fe dderbyniaf yr ymyriad.
Tybed a fyddech chi'n ymddiried mewn Llywodraeth Reform yma ym Mae Caerdydd i redeg plismona.
Buaswn, oherwydd byddai Reform yn sicrhau bod plismona—[Torri ar draws.]—fod plismona—
Dyna ni: mae James Evans eisiau datganoli plismona.
Roeddwn i'n glir iawn: buaswn yn ymddiried yn Reform i gyflawni plismona ledled Cymru. Ac rwy'n ei ddweud—[Torri ar draws.] Rwy'n ei ddweud—[Torri ar draws.] Rwy'n ei ddweud yn glir iawn: nid yw Reform yn cytuno â datganoli plismona neu gyfiawnder troseddol yma i Gymru. [Torri ar draws.] Rwyf newydd ddweud ac mae wedi'i gofnodi—. Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad byr iawn, Llyr.
Diolch, rwy'n gwerthfawrogi. Felly, a yw hynny'n awgrymu y byddech chi'n mynd â chyfrifoldeb am blismona oddi wrth Fanceinion ac oddi wrth Lundain am eich bod yn ei weld fel rhyw fath o lethr llithrig tuag at rywbeth nad ydych chi'n ei hoffi?
Wel, mewn gwirionedd, mae plismona mewn dinasoedd ledled Lloegr yn wahanol iawn i ddatganoli plismona llawn. Mae'n debycach i'r hyn sydd gennym gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Rwy'n credu bod angen i chi wneud ychydig o waith cartref am hynny cyn i chi godi hynny eto.
Felly, gadewch inni siarad nawr am gost, oherwydd prin y mae'r cynnig hwn yn cyfeirio at y gost. Mae plismona a chyfiawnder yn systemau cenedlaethol drud. Maent yn dibynnu ar seilwaith a rennir ledled y DU, gan gynnwys cronfeydd data cuddwybodaeth, unedau arbenigol, hyfforddiant, gwyddorau fforensig, cydlynu gwrthderfysgaeth a chydweithredu trawsffiniol. Byddai datganoli plismona yn golygu dyblygu llawer o hynny yng Nghymru: strwythurau llywodraethu ar wahân, cyrff goruchwylio ar wahân, gweinyddiaeth farnwrol ar wahân, i gyd ar gost sylweddol a pharhaus, ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn darparu unrhyw gyllid ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder. Roedd hyd yn oed comisiwn Thomas yn cydnabod y byddai datganoli'n galw am fuddsoddiad mawr ymlaen llaw a chyllid hirdymor, ond nid oes esboniad clir o ble y byddai'r arian hwnnw'n dod heblaw am drethi uwch neu dorri gwasanaethau eraill ledled Cymru.
Dywedir wrthym yn gyson nad oes digon o arian ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau lleol, ond gofynnir i ni gredu nawr y gall Cymru fforddio adeiladu system gyfiawnder gyfochrog o'r dechrau. Nid yw'r ffigurau yno—yn union fel achos Plaid Cymru dros ymwahanu. Mae dyblygu'n wastraff. Mae cefnogwyr y cynnig hwn yn aml yn pwyntio at yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond gadewch imi fod yn glir: nid yr Alban na Gogledd Iwerddon yw Cymru. Mae'r Alban wedi bod â system gyfreithiol ar wahân ers canrifoedd ac mae trefniadau Gogledd Iwerddon yn adlewyrchu amgylchiadau unigryw yn hanesyddol ac o ran diogelwch; nid oes gan Gymru y naill na'r llall. Yr hyn sydd gan Gymru yw integreiddiad dwfn â Lloegr. Mae troseddwyr yn symud ar draws ffiniau. Mae dioddefwyr yn symud ar draws ffiniau. Mae heddluoedd eisoes yn cydweithredu bob dydd. Mae darnio'r system honno'n gwneud plismona'n anos nid yn haws.
Hefyd, mae—[Chwerthin.] Rydych chi'n amlwg yn chwerthin oherwydd eich bod chi'n colli'r ddadl. Hefyd, mae mater gwleidyddoli. Mae'r cynnig hwn a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn sôn llawer am gyfleoedd ond ychydig iawn am risg, am gost neu'r canlyniadau. Fe wyddom pam y mae Plaid Cymru eisiau hyn. Nid ydym yn ddall i'r ffaith eu bod eisiau hyn fel ffordd o gyrraedd nod. Pen draw hyn yw ymwahanu ac annibyniaeth, y daith dawel ar hyd y ffordd honno, ac mae Reform yn arddel safbwynt gwahanol. Nid ydym yn credu mewn bachu mwy a mwy o bwerau. Rydym yn credu mewn sicrhau bod y pwerau sydd eisoes yn bodoli yma yng Nghymru yn darparu canlyniadau go iawn i bobl Cymru. Byddai datganoli plismona a chyfiawnder yn golygu costau uwch, cydgysylltiad gwannach, mwy o wleidyddoli a llai o hyder y cyhoedd. Nid cynnydd yw hynny, ond gambl gyda diogelwch y cyhoedd. Am y rhesymau hynny, ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig hwn, ac mae unrhyw un sy'n gwneud hynny'n mynd ar orymdaith araf tuag at annibyniaeth.
Dyma oedd testun fy nghwestiwn cyntaf i Mark Drakeford yn FMQs nôl ym mis Mai 2021, a dyma oedd y ddadl gyntaf i fi gymryd rhan ynddi—yn wir, agor y ddadl—eto nôl ym mis Mai 2021. Gallwn i ail-adrodd fy araith i bryd hynny gair am air, a bydd neb wir yn sylwi fel arall. Gallwn i hefyd siŵr o fod wedi ysgrifennu'r araith y gwnaeth Altaf ei ysgrifennu, a Gareth ei dweud, oherwydd roedd yn union yr un ddadl wedi cael ei defnyddio bryd hynny. Dyw'r ddadl, dyw'r naratif, fel roedd Julie Morgan yn sôn am fenywod yn y system, ddim wedi symud ymlaen o gwbl. Pum mlynedd yn ddiweddarach, ac rŷn ni yn yr union yr un lle. Roedd yna ryw obaith bum mlynedd yn ôl y byddai newid Llywodraeth yn San Steffan yn ein galluogi ni i symud y ddadl ymlaen, ond dyw hynny ddim wedi digwydd. Mae'n glir i fi mai ideoleg wleidyddol sydd y tu ôl i'r blocio yma. Beth bynnag yw'r blaid yn San Steffan—Llafur, Torïaid, neu hyd yn oed Reform—ideoleg yw'r issue. Gallem ni gyflwyno pa bynnag ddadl y gallem ni, y dadleuon cryfaf posib, yr arbenigwyr gorau posib yn y maes—ac rydyn ni wedi—a byddech chi'n dal i wrthod; byddai San Steffan yn dal i wrthod oherwydd ideoleg. Ideoleg sy'n ennill y ddadl hon yn San Steffan.
Felly, beth fedrwn ni ei wneud? Beth fedrwn ni ei wneud? Wrth gwrs, mae'n rhaid inni ddal i gyflwyno'r ddadl. Mae'n rhaid inni ddal i wneud y ddadl yn glir i San Steffan, ond mae'n rhaid inni hefyd gyfaddef i ni ein hunain dydyn ni ddim yn mynd i berswadio San Steffan ar hyn o bryd i ddatganoli cyfiawnder. Rŷn ni wedi cyrraedd dead end ar hyn o bryd, ac mae'n anodd gweld sut y gallem ni dorri trwy hynny. Beth dwi’n credu yw bod yn rhaid inni edrych ar beth sydd gyda ni yn barod. Beth sy'n cael ei anghofio dro ar ôl tro yn y dadleuon yma yw bod traean o argymhellion y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru yn ymwneud â phethau y gallem eu gwneud nawr, pethau a all ddigwydd nawr heb unrhyw newid yn y setliad datganoli, pethau a allai wella bywydau pobl Cymru nawr. A dyw hynny ddim yn wir ar hyn o bryd. Wrth i fi holi cwestiynau am gyfiawnder yng Nghymru i'r Cwnsler Cyffredinol, dwi wedi gorfod dechrau'r cwestiwn fel hyn—oherwydd y diffyg atebolrwydd fan hyn, yng Nghymru, dwi'n gorfod dechrau'r cwestiwn fel hyn—'Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder', a dŷn ni heb gyrraedd y cwestiwn eto. Onid yw hwnna'n dangos pa mor wirion yw'r setliad fan hyn a pha mor gymhleth yw'r setliad fan hyn o fewn y Llywodraeth nad oes yna atebolrwydd clir ar gyfiawnder yma yn y Llywodraeth?
Yn yr ateb cyntaf a gefais i oddi wrth Mark Drakeford fel Prif Weinidog, fe wnaeth Mark Drakeford sôn am is-bwyllgor cyfiawnder Llywodraeth Cymru. Ŷch chi'n gwybod pryd y gwnaeth yr is-bwyllgor yna gyfarfod diwethaf? Chwefror 2024. Dwi wedi clywed dydy yr is-bwyllgor ddim yn cwrdd bellach oherwydd does dim angen gormod o bwyllgorau. Wel, dwi’n cytuno does dim angen gormod o bwyllgorau, ond mae'n rhaid inni ddangos wedyn ein bod ni'n cymryd y mater o ddifri mewn ffordd arall. Dwi wedi dweud tro ar ôl tro fan hyn mai colled mawr oedd peidio pasio'r Bil tribiwnlysoedd yn y Senedd yma. Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith, sydd ddim yn argymhellion cymhleth, sydd ddim yn ddadleuol, wedi'u gwneud ers 2020—tymor diwethaf y Senedd. Byddai pasio'r Bil yna wedi sicrhau llys apêl i Gymru, yr un cyntaf yn hanes ein gwlad ni. Yn fwy pwysig, byddai wedi ein galluogi ni yn raddol i adeiladu ein system gyfiawnder ein hunain—system sy'n hygyrch i bawb, heb ffioedd fel sydd gyda'r llysoedd, heb yr angen am gyfreithwyr fel sydd gyda’r llysoedd. Byddai wedi bod yn hygyrch i bawb, a byddai wedi cynorthwyo'r rheini sy’n methu fforddio talu am gyfreithwyr. Dwi wedi dadlau drwy fy nghyfnod fan hyn yn y Senedd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar y tribiwnlysoedd wrth iddyn nhw basio Biliau. Dylem ni fod yn defnyddio ein tribiwnlysoedd ni wrth inni basio Biliau pan mae’n dod i enforceability, pan mae’n dod i wneud yn siŵr bod y Bil yn cael ei ddefnyddio'n iawn, ond dyw hwnna ddim wedi digwydd. Dwi’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny yn y Bil diogelwch adeiladau.
Siom arall cefais i’n ddiweddar oedd deall dyw Llywodraeth Cymru ddim yn parhau â llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, er bod y peilot wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac wedi hynny bod Prifysgol Caerdydd wedi dangos pa mor llwyddiannus oedd y peilot. Dyma mae barnwr wedi'i ddweud, a byddaf yn gorffen gyda hyn nawr.
Rhoddodd mam a gafodd fagwraeth drawmatig ac a oedd wedi bod mewn perthynas gamdriniol enedigaeth i blentyn tra oedd hi'n dal i fod yn gaeth i alcohol a chyffuriau. Gwnaeth yr awdurdod lleol gais am orchymyn gofal. Roedd mam yn addas ar gyfer y peilot, ac yng ngeiriau'r barnwr, roedd hi'n 'amlwg yn ffynnu' gyda'r tîm. Dywedodd fod ei hadferiad corfforol ac emosiynol wedi blynyddoedd o gam-drin yn araf, ond yn amlwg, o un pythefnos i'r llall. A hithau wedi cefnu ar ei dibyniaeth, roedd mam i'w gweld wedi cael blas newydd ar fywyd.
Daeth y peilot i ben, aeth hi nôl i gymryd cyffuriau, ac mae'r plentyn nawr mewn gofal. Dyma oedd penderfyniad gallem ni fod wedi ei wneud yn fan hyn, ac rŷn ni wedi gadael lawr y teulu yna, a phwy â ŵyr pa broblemau rŷn ni'n creu at y dyfodol.
Yn ystod wythnos prentisiaethau, mae cyfle yn fan hyn gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod modd cymhwyso fel cyfreithiwr drwy brentisiaeth lefel 7. Mae modd gwneud hynny yn Lloegr. Does dim modd gwneud hyn yn fan hyn. Gobeithio fy mod i wedi dangos i chi, a gobeithio bydd Llywodraeth nesaf y lle hwn yn gwrando ac yn dangos ac yn cymryd mantais o'r hyn allwn ni ei wneud i wella cyfiawnder fan hyn, a thrwy hynny gwella bywydau pobl Cymru. Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddweud bod hon wedi bod yn ddadl bwysig iawn, ac rwy'n ei chroesawu? Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu, gan y bu nifer sylweddol o gwestiynau a thrafodaethau ar ddatganoli plismona a chyfiawnder dros yr wythnosau diwethaf. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn i mi. Mae'n ddefnyddiol iawn i mi wrth imi barhau i fynd ati'n gyflym i drafod gyda phartneriaid yn y system gyfiawnder, gan gynnwys y rhannau sydd wedi'u datganoli a'r rhannau sydd heb eu datganoli, wrth gwrs.
Ond a gaf i ddweud a chadarnhau o'r cychwyn cyntaf mai amcan pennaf Llywodraeth Cymru yw datganoli plismona a chyfiawnder yn gyfan gwbl? Cafodd hyn ei argymell gan gomisiwn Thomas, yr archwiliad mwyaf erioed o'r system gyfiawnder yng Nghymru, ac yn fwy diweddar gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, o dan gadeiryddiaeth Rowan Williams a Laura McAllister. Mae arnom angen cynnydd ar hyn, ac mae ei angen yn fuan. Ac mae'n dda gallu cofnodi hynny eto y prynhawn yma.
Ac ydy, mae'r ymyl garw wedi'i grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma. Mae'n cael effaith ar gyfiawnder cymdeithasol, ac rwy'n croesawu holl ymchwiliadau ac adroddiadau dylanwadol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith ein bod wedi trafod cyfiawnder menywod yn y ddadl y prynhawn yma.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Dr Robert Jones am ei ffeil ffeithiau a dweud, o ran pwysigrwydd data cyfiawnder wrth inni wneud y daith hon tuag at ddatganoli cyfiawnder a phlismona, fod angen inni gael y data hwnnw sydd wedi'i ddadgyfuno. Rwy'n falch o ddweud ein bod bellach wedi torri drwy hynny, ac mae hyn o ganlyniad i'r gwaith a wnaed, ac a wnaed gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, fel nad oes raid i Rob Jones fynd drwy'r llwybr cais rhyddid gwybodaeth. Mewn gwirionedd, mae ganddo'r data cyfiawnder hwnnw bellach. Mae mwy i ddod, mwy o ddadgyfuno, ond mae hynny wedi bod yn gam mawr ymlaen. Ond hefyd, os caf gydnabod y ffeithiau pwysig a ddatgelodd yn ei ffeil ffeithiau ddiweddaraf, 'Prisons and imprisonment in Wales', gan gydnabod y lefel annerbyniol o garchariadau menywod a'r ffordd y mae wedi digwydd, a'r effaith y mae'n ei chael nid yn unig ar fywydau menywod, ond ar fywydau eu plant a chymunedau wrth gwrs.
Rydym wedi bod yn trafod ac rwyf wedi wynebu craffu ar hyn yn y cwestiynau y prynhawn yma, ynglŷn â'r ffordd orau y gallwn gefnogi menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Roeddwn yn falch y bore yma, ac rwyf eisoes wedi dweud yn gynharach heddiw, fy mod wedi mynychu cyfarfod bord gron, a sefydlwyd yn benodol i fynd i'r afael â chanfyddiadau ffeil ffeithiau Dr Jones, o dan gadeiryddiaeth Ian Barrow o Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF, lle buom yn edrych ar gyfiawnder menywod gydag amrywiaeth o bartneriaid, partneriaid dylanwadol, a'r rhai sydd ar flaen y gad o ran ymarfer, y rhai sy'n gyfrifol am y system gyfiawnder. Ac unwaith eto, mae'r angen i wneud cynnydd gyda'r ganolfan, wrth gwrs—y ganolfan breswyl i fenywod—yn parhau i fod yn amcan allweddol i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n cyfarfod â'r Arglwydd Timpson ddiwedd mis Chwefror ac yn bwriadu gofyn am ddiweddariad ar agor y ganolfan. Felly, mae wedi bod yn bwysig ein bod wedi canolbwyntio ar fywydau pobl, ar fywydau menywod yn y system gyfiawnder, heddiw yn y ddadl hon.
Ond fel y nododd y comisiwn annibynnol, hyd yn oed pe bai consensws ar ddatganoli cyfiawnder, ar lefel ymarferol, byddai angen i hynny ddigwydd fesul cam, ac yn amlwg, fel y mae'r Aelodau wedi'i nodi, mae'r penderfyniad i gael gwared â'r comisiynwyr heddlu a throseddu mewn gwirionedd yn golygu mai dyma'r foment iawn, ac mae eich cynnig yn canolbwyntio, wrth gwrs, ar ofyn cwestiynau ynglŷn â threfniadau plismona yn y dyfodol. Fel rwyf wedi'i ddweud, rydym yn credu mai'r ateb gorau i'r cwestiynau hynny fyddai datganoli plismona'n llawn, ac mae'r Papur Gwyn yn mynd ati'n ffurfiol i symud llywodraethiant heddlu lleol i mewn i faes cyfrifoldeb datganoledig.
Cydnabuwyd yn y ddadl hefyd, yn y cynnig ac yn ein gwelliant, fod swm sylweddol o gyllid ar gyfer plismona yng Nghymru eisoes yn dod o ffynonellau datganoledig—dros £100 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf—ac rwy'n arbennig o falch o'n cyllid parhaus i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Yn 2025-26, cafodd lefel y cyllid ei chynnal ar £16 miliwn, gan gefnogi oddeutu 344 swyddog cymorth cymunedol. Mae cyllideb 2026-27 yn darparu cynnydd pellach o 2.2 y cant. Mae swyddogion cymorth cymunedol yn gweithio yng nghanol timau plismona yn y gymdogaeth gan chwarae rhan hanfodol yn cadw cymunedau'n ddiogel. Maent yn defnyddio dull datrys problemau er mwyn datblygu atebion hirdymor a chynaliadwy i broblemau er mwyn eu hatal rhag codi eto ac er mwyn lleihau effeithiau niweidiol ar gymunedau lleol.
A'r hyn y mae angen inni wneud nawr, ac rydym yn cytuno yn ei gylch, rwy'n credu, o ran y cynnig a'n gwelliant, a'r hyn sy'n bwysig i ni yw'r hyn sydd orau ar gyfer diogelwch cymunedau ledled Cymru—atal troseddau, sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr lle mae troseddau'n digwydd. A dyna pam fy mod yn derbyn y cyfrifoldeb i fynd ati'n weithredol i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru, gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau bod strwythurau llywodraethu heddlu lleol Cymru yn gweithio'n effeithiol mewn tirwedd ddatganoledig. Mae hyn yn cynnwys adlewyrchu rolau cyfansoddiadol y Senedd, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a etholir yn ddemocrataidd. Ac rydym wedi dweud, fel gofyniad sylfaenol, y dylai swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd yng Nghymru gan gomisiynwyr heddlu a throseddu aros yng Nghymru.
Mae gennym strwythur eisoes y gallwn ei ddefnyddio, ac rydym yn defnyddio bwrdd partneriaeth plismona Cymru, yr wyf yn ei gadeirio. Mynychodd Gweinidog plismona Llywodraeth y DU y cyfarfod diwethaf gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ein prif gwnstabliaid a'n cynrychiolwyr llywodraeth leol, lle trafodwyd y Papur Gwyn. Mae ein cyfarfod nesaf ar 5 Mawrth. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cydnabod nad yw'r cynigion ar gyfer Lloegr yn addas ar gyfer Cymru, ac maent wedi bod yn agored i fodelau amgen. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Papur Gwyn wedi cydnabod pwysigrwydd adlewyrchu tirwedd Cymru yn ei waith, gydag ymrwymiad i sicrhau cydweithio agos rhwng y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â phlismona yng Nghymru. Gwyddom fod llawer o adolygiadau a materion yn codi gydag uno heddluoedd. Byddwn yn ymgysylltu'n llawn â hynny i sicrhau bod tirwedd unigryw Cymru yn cael ei deall.
Felly, Lywydd, i gloi, gan gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, ond gan gydnabod pwysigrwydd y ddadl hon, a diolch i chi am ei chyflwyno, gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau ein bod bellach yn awyddus i gymryd cam arall ar y daith o ran anghenion pwysig Cymru yn y cyd-destun hwn. Ac yn y chweched Senedd hon, rwy'n gobeithio y rhoddwn gamau go iawn ar waith i fynd â ni i'r dyfodol o ran datganoli pŵer dros blismona a chyfiawnder i Gymru.
Rhun ap Iorwerth nawr sy'n ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a dwi yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae'n werth myfyrio, dwi'n meddwl, eto heddiw, wrth gloi y ddadl yma, ar eiriau’r comisiwn Thomas wrth iddyn nhw gyhoeddi’r argymhellion hynny yn ôl yn 2019:
'nid yw pobl Cymru yn cael yr un budd â phobl yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, lle mae cyfiawnder yn rhan annatod o'r gwaith cyffredinol o lunio polisïau.'
A dyna'n union pam mae Plaid Cymru wedi dod â'r ddadl yma gerbron y Senedd heddiw. Nid dadl gyfansoddiadol er ei lles ei hun ydy'r ddadl dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, ond dadl i roi'r pwerau i Gymru fynd ati i wynebu rhai o'r heriau mwyaf dwys sy'n wynebu ein cymunedau a'n cymdeithas.
Heb bwerau dros gyfiawnder a phlismona, ni fydd Cymru byth yn gallu mynd i'r afael â'r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop. Heb bwerau dros gyfiawnder a phlismona, ni fydd Cymru byth yn gallu sefydlu heddlu sydd wedi'i deilwra i anghenion cymunedau Cymru. A heb bwerau dros gyfiawnder a phlismona, ni fydd Cymru’n gallu ymgorffori adsefydlu, a bydd yn cael ei gorfodi i ymdopi â chanlyniadau troseddoldeb yn unig yn hytrach na rhoi mesurau ar waith i dywys unigolion ar lwybr gwell.
Nawr, er bod y rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon yn cydnabod y gydberthynas rhwng y system gyfiawnder a meysydd datganoledig eraill, byddai'n well gan leiafrif lynu wrth sgript hen ffasiwn, gan ailadrodd yr un hen ymosodiadau, fel y clywsom y prynhawn yma, ar ddatganoli Cymreig, a datgelu eu diffyg ymddiriedaeth hirsefydlog, yn y bôn, yn ein gallu fel cenedl i reoli ein materion ein hunain. Ac eto, er gwaethaf holl daeru Llafur mai datganoli plismona a chyfiawnder yw eu safbwynt polisi yng Nghymru o hyd, rydym yn eu gweld, mewn gweithredoedd ac mewn geiriau, yn ymbellhau fwy a mwy oddi wrth y safbwynt hwnnw. Maent yn dal i ddweud y geiriau, fel y clywsom gan y Gweinidog, ond mewn llais gwan, ac mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o dawelu hyd yn oed y llais gwan hwnnw.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru am ildio. A ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gyda'r cyhoedd i weld beth yw'r awydd ymhlith pobl Cymru am ddatganoli plismona? A chan fod etholiad y Senedd ar y gorwel, a ydych chi'n barod i roi'r addewid hwn ar flaen eich maniffesto, yn un o'r prif bolisïau? Nid wyf yn golygu pwt bach ar y dudalen gefn, ond polisi blaenllaw i bobl Cymru gael dweud eu barn i weld a oes unrhyw awydd cyhoeddus am hyn. Oherwydd yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli, maent eisiau heddlu sy'n adlewyrchu eu cymunedau a'r troseddau yr eir i'r afael â nhw. Nid oes unrhyw etholwr erioed wedi cysylltu â mi i ddweud, 'Rwy'n cefnogi datganoli plismona.'
Rwy'n credu bod hwnnw'n ymyriad digon hir nawr.
Fe'i gadawaf yn y fan honno.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am barhau i dynnu sylw at ddiffyg difrifoldeb ei blaid ynghylch y maes polisi hwn.
Ond yn ôl at Lafur, pe bai'r cynnig hwn yn cael ei gyflwyno tra oedd y Torïaid mewn grym yn San Steffan, buaswn yn dychmygu y byddai'r Aelodau Llafur wedi bod yn awyddus i'w gefnogi, ond ers i Keir Starmer ddod i Rif 10 ychydig dros 18 mis yn ôl, credaf fod dau beth wedi dod yn gwbl glir ac wedi gwneud i'w geiriau swnio'n wag a'u polisïau'n ddiystyr: (1) mae'n amlwg, dro ar ôl tro, eu bod yn dewis osgoi gwrthdaro mewnol yn hytrach gwneud y peth iawn a sefyll dros Gymru; a (2) hyd yn oed pe byddent yn codi eu lleisiau rywfaint, ni fyddai Keir Starmer na'i Ysgrifennydd Cartref yn cymryd unrhyw sylw o gwbl ohonynt. Mae'r bartneriaeth mewn grym, a addawai gymaint, wedi cyflawni'r nesaf peth i ddim, ac mae gwrthodiad llwyr Ysgrifennydd Cartref Llafur i hyd yn oed ystyried y cynnig o roi'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru yn y maes hwn yn crynhoi hynny i'r dim.
Rydym yn disgwyl rhyw fath o gyhoeddiad ar gynllun, memorandwm i fwrw ymlaen â rhai elfennau o ddatganoli polisi cyfiawnder, ond gwyddom na fydd hyn yn ddim mwy na'r camau lleiaf posib. Ers adroddiadau comisiwn Thomas a Llafur ei hun yn mabwysiadu polisi o fynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona yng Nghymru, y cyfan a welsom gan Lafur yw gwanhau, gwanhau ac ymbellhau, ac a dweud y gwir, byddai unrhyw arwydd nawr, pan fo diwygio enfawr yn mynd rhagddo ym maes plismona, fod Cymru'n barod i dderbyn briwsion, yn ildiad. Byddai'n cael ei weld fel ildiad. Dyma'r amser gwaethaf posib i roi'r gorau iddi, ar wahân i'r ffaith y byddai hyn yn tanseilio Llywodraeth newydd a oedd yn benderfynol o ddadlau'r achos dros wneud cynnydd ar yr agenda hon, fel y byddai Llywodraeth Plaid Cymru.
Lywydd, i gloi, hoffwn wahaniaethu rhwng y cyfraniadau difrifol a'r rhai annifrifol yn y ddadl heddiw. Roedd annifrifoldeb yn amlwg mewn cyfraniadau ac ymyriadau oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr a'u harallenw mwy eithafol, Reform. Yr hyn a glywsom gan y ddwy blaid oedd cadarnhad fod eu teimladau gwrth-ddatganoli yn dod yn gryfach ac yn gryfach. Eu neges glir heddiw: 'Peidiwch ag ymddiried yng Nghymru.' Wrth wrando arnynt, mae rhywun yn meddwl, 'Sut ar y ddaear y gallai'r Alban reoli plismona? Sut ar y ddaear y gallai Gogledd Iwerddon wneud hynny? Neu Lundain, neu Fanceinion?' Maent yn amlwg yn gweld Cymru fel lle israddol ac analluog. A hynny—[Torri ar draws.] Na. Rwyf am barhau. Mae'r eglurder hwnnw yno gan ddwy blaid sy'n honni y gallant ennill yr etholiad sydd i ddod, ond nid ydynt eisiau'r arfau i siapio dyfodol ein cenedl am nad ydynt yn credu yn nyfodol ein cenedl.
Mae cyfrifoldeb ar y rhai ohonom yn y Siambr hon sydd o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r problemau cymdeithasol dwfn a wynebwn yng Nghymru ac sy'n credu mewn datganoli fel llwybr tuag at ganlyniadau gwell i'n cymunedau i sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed. Ond mae'r afresymoldeb ideolegol, obsesiwn cyfansoddiadol Llywodraeth Lafur y DU, y Blaid Geidwadol, Reform—
Mae angen ichi ddirwyn i ben.
—gyda chronni pwerau yn San Steffan yn rhwystro Cymru ac yn niweidio rhagolygon y bobl y cawsom ein hethol i'w gwasanaethu. Rwy'n annog pob un ohonoch i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ohirio'r bleidlais.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 9 sydd nesaf, cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Adam Price sy'n gwneud y cynnig.
Cynnig NDM9136 Adam Price
Cynnig bod y Senedd:
Yn unol â Rheol Sefydlog 26C.40, yn ystyried gwelliannau i'r Biliau Cynllunio (Cymru) a Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig gweithdrefnol hwn am reswm seneddol syml a phwysig. Mae mater o sylwedd gwirioneddol wedi dod i'r amlwg yn hwyr yn y dydd mewn perthynas â'r Biliau cydgrynhoi cynllunio, ac mae Rheol Sefydlog 26C yn bodoli er mwyn delio â'r posibilrwydd hwnnw heb amharu ar y broses fel arall. Gadewch imi egluro mewn mwy o fanylder.
Mae'r Biliau hyn wedi bod drwy lwybr cydgrynhoi ar y dybiaeth synhwyrol fod y rhan fwyaf o'r hyn a wnânt yn dechnegol. Maent yn ailddatgan, yn tacluso, yn gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Yng Nghyfnod 2, roedd y ffocws, yn eithaf dealladwy, ar weld a yw'r cod newydd yn adlewyrchu'r gyfraith gynllunio bresennol yn gywir ac yn cael gwared â darpariaeth sy'n wirioneddol ddarfodedig. Ond mae yna un newid penodol ag iddo oblygiadau ehangach nad yw wedi bod yn destun dadl agored yn y Senedd, a bellach, rydym yn credu, ar sail yr wybodaeth sydd gennym, ei fod yn haeddu hynny. Rwy'n cydnabod bod hyn yn hwyr yn y broses, ond nid wyf yn dweud hynny fel ymddiheuriad nac yn wir fel hunanfeirniadaeth, gan fod cydgrynhoi, drwy ddiffiniad, yn broses ddwys a chymhleth, a dyna'n union pam fod y Senedd wedi cadw'r falf ddiogelwch ar gyfer craffu y gofynnaf am i ni ei defnyddio.
Mae Rheol Sefydlog 26C yn caniatáu i'r pwyllgor cyfrifol, lle bo'n briodol, argymell bod Bil cydgrynhoi yn symud ymlaen yn uniongyrchol i gam terfynol, ond mae hefyd yn cydnabod y gall Aelodau nodi mater sy'n haeddu trafodaeth lawnach a gwelliant. O dan yr amgylchiadau hynny, gall unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i sbarduno cyfnod o ystyriaeth fanwl gan y Senedd—a chynnig heddiw yw'r mecanwaith hwnnw. Dylwn ddweud nad rhyw fath o dric seneddol yw hwn, nid rhyw fath o fagl. Dyma'r Rheolau Sefydlog yn gweithio fel y bwriadwyd.
Felly, beth yw'r mater dan sylw, yn gryno? Ym Mil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru), cynigiodd y Llywodraeth gael gwared ar y pŵer i Weinidogion Cymru wneud corfforaeth datblygu trefol, os oes un wedi'i sefydlu, yn awdurdod cynllunio lleol at ddibenion penodol yn ei hardal. Dywed y Llywodraeth nad yw'r pŵer erioed wedi'i ddefnyddio yng Nghymru a bod y mecanwaith cyfreithiol yn amherffaith. Dim ond rhai swyddogaethau y mae'n eu trosglwyddo, gan adael bylchau. Maent yn crybwyll amrywiaeth o broblemau ymarferol ac yn dadlau y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol newydd beth bynnag ar unrhyw Lywodraeth a fyddai eisiau gwneud hyn yn iawn yn y dyfodol.
Maent yn ddadleuon sy'n werth gwrando arnynt, rydym yn sicr yn cyfaddef hynny, ond nid ydynt yn ddadleuon dros wadu'r cyfle i'r Senedd benderfynu a ddylid diddymu'r pŵer. Nid a ddylid cadw'r pŵer ai peidio yw'r cwestiwn sydd ger ein bron heddiw; y cwestiwn yw a yw newid o'r fath yn perthyn i Fil cydgrynhoi, heb gyfle i Aelodau gyflwyno gwelliannau a phrofi rhesymeg y Llywodraeth yn agored.
Mae egwyddor bwysig yma: bwriad cydgrynhoi yw gwneud y gyfraith yn gliriach, nid ateb cwestiynau dadleuol na newid polisi ynghylch pensaernïaeth cyflawniad yng Nghymru yn y dyfodol. Os mai safbwynt Llywodraeth yw na ddylai Cymru byth eto gael yr opsiwn, ni waeth pa mor anaml y caiff ei ddefnyddio, o roi swyddogaethau awdurdod cynllunio i gorfforaeth gyflawni statudol, yn sicr mae ganddi'r hawl i ddadlau'r achos hwnnw. Ond mae hwnnw'n ddewis polisi ag iddo ganlyniadau cyfreithiol ac ymarferol, a dyma'r union fath o ddewis y dylai'r Senedd, allu ei drafod fan lleiaf, ac os yw'n dymuno, ei ddiwygio.
Yn hollbwysig, mae amser eisoes wedi'i ddyrannu gan y Pwyllgor Busnes i'r Senedd ystyried y Biliau hyn yn fanwl, felly mae'r amser hwnnw ar gael i ni. Ar y sail honno, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig gweithdrefnol hwn ar sail syml, amhleidiol. Os ydych chi wedi'ch perswadio gan ddadl y Llywodraeth, dylech fod yn hyderus y bydd y ddadl honno'n sefyll o dan ystyriaeth fanwl. Os ydych chi'n anghytuno, dylech fod eisiau'r cyfle i ddiwygio. Os ydych chi'n ansicr, wel dyna'r union reswm pam ein bod yn craffu. Felly, derbyniwch y cynnig hwn, a gadewch inni gael y ddadl yn briodol, yn dryloyw, ac o fewn y broses ffurfiol y mae'r Rheolau Sefydlog yn ei darparu.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi ystyried y Biliau hyn yn ystod yr ystyriaeth gychwynnol ac yn ystod ystyriaeth fanwl y pwyllgor. Yn ei adroddiad ystyriaeth gychwynnol, argymhellodd y pwyllgor y dylai'r Biliau barhau fel Biliau cydgrynhoi. Ym mis Rhagfyr, cytunodd y Senedd ag argymhelliad y pwyllgor, ac felly aeth y Biliau ymlaen i'w hystyried yn fanwl gan y pwyllgor.
Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor ar ei waith craffu ar y Biliau yn ystyriaeth fanwl y pwyllgor ddydd Gwener 13 Ionawr. Mae'r adroddiad yn nodi bod yr holl welliannau a gyflwynwyd wedi'u cyflwyno gan y Cwnsler Cyffredinol, ac y cytunwyd ar y gwelliannau hynny yn nes ymlaen. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod rhai o'r gwelliannau y cytunwyd arnynt naill ai'n ymwneud neu'n mynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad ystyriaeth gychwynnol y pwyllgor. Hefyd, mae'r adroddiad yn nodi mai diben y gwelliannau eraill y cytunwyd arnynt oedd sicrhau cysondeb neu eglurder neu wneud gwelliannau canlyniadol i ddeddfiadau. Yn seiliedig ar hyn, ac fel yr adlewyrchir yn ein hadroddiad, mae mwyafrif y pwyllgor o'r farn y dylai'r Biliau symud ymlaen i'r cam terfynol. Ar nodyn personol, rwy'n credu mai cynghorau yn hytrach na chyrff a benodir a ddylai ymdrin â phenderfyniadau cynllunio.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfarfodydd a gefais gydag Ysgrifennydd y Cabinet a hefyd gydag Adam Price. Fodd bynnag, ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig a gynigir gan Adam heddiw.
Rydym o'r farn fod y cynnig hwn wedi'i gyflwyno'n llawer rhy hwyr yn y broses ddeddfwriaethol ac yn peryglu dyfodol y Biliau hyn. Mae Bil Cynllunio (Cymru) a Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn fesurau cydgrynhoi, fel y clywsom, gyda'r bwriad o symleiddio a moderneiddio'r iaith a'r derminoleg a ddefnyddir o fewn y system gynllunio. Drwy sicrhau bod y ddeddfwriaeth berthnasol ar ffurf gliriach a mwy hygyrch, byddant yn darparu mwy o sicrwydd a chydlyniant i'r rhai sy'n gweithredu yn y sector. Po gynharaf y cyflawnir y cydgrynhoi hwn, y gorau a fydd i'r diwydiant a'r rhai sy'n dibynnu ar fframwaith cynllunio effeithlon.
Rwy'n ymwybodol o bryderon Adam, ond rwy'n credu y gellir mynd i'r afael â'r rhain ar wahân yn nes ymlaen ac mewn deddfwriaeth newydd. Ni fyddai oedi pellach o unrhyw ddiben adeiladol ac nid yw o fudd i randdeiliaid na'r cyhoedd yn ehangach. Diolch.
Diolch i Adam am gyflwyno'r cynnig hwn. Ar ôl ei ddarllen yn gyflym, ar ôl trafodaeth fer iawn gydag Adam yma y prynhawn yma, rwy'n dal yn y categori 'ansicr'. I ateb sylw Joel James, nid yw byth yn rhy hwyr i graffu. Felly, os oes unrhyw ansicrwydd, mae angen inni graffu'n iawn. Mae gormod o bethau'n cael eu pasio'n ddiwrthwynebiad yn y lle hwn.
Ar nodyn cyffredinol—ac rwy'n siŵr fod Adam yn gwbl ymwybodol o hyn—mae'r gymuned hon, yr adeilad hwn, yma'n rhannol oherwydd yr hyn rwy'n ei ystyried yn gorfforaeth datblygu trefol lwyddiannus iawn, Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd—cafodd 1,100 hectar o ddociau diffaith yng Nghaerdydd a Phenarth eu trawsnewid yn Fae Caerdydd heddiw. Fel yr ysgrifennodd y gŵr bonheddig y mae'r adeilad hwn wedi'i enwi ar ei ôl, Nicholas Crickhowell, am Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn ei lyfr Westminster, Wales and Water—ac mae yn y llyfrgell, edrychais arno y prynhawn yma—roedd yn hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar ddatblygu canol ein dinasoedd a fu unwaith yn fawreddog, a lle arferai gweithfeydd diwydiannol sefyll yn y gorffennol, ond a oedd bellach yn aml yn wag ac yn ddiffaith. Credaf fod y neges honno'n berthnasol hyd heddiw ac yn un y dylai pob plaid ei hystyried wrth gynllunio ar gyfer y Senedd nesaf.
O ran y cynnig sydd ger ein bron, mae'r Rheol Sefydlog berthnasol yn nodi hyn:
'Caiff Bil Cydgrynhoi ddileu neu hepgor darpariaethau anarferedig, darfodedig neu rai nad ydynt yn ymarferol ddefnyddiol neu’n ymarferol effeithiol bellach'.
Byddai darpariaeth anarferedig yn cynnwys darpariaeth sydd wedi dyddio, er enghraifft am ei bod yn ymwneud â chyrff, unigolion neu bethau nad ydynt yn bodoli neu nad ydynt mewn defnydd mwyach. Ar yr olwg gyntaf, nid yw'r pŵer hwn yn anarferedig, oherwydd efallai y byddai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn dymuno sefydlu corfforaeth datblygu trefol. Darpariaeth ddarfodedig yw un sy'n berthnasol i sefyllfa na all fodoli mwyach, ac ni chredaf, ar ôl darllen y ddogfen yn gyflym y prynhawn yma, mai dyna sydd yma. Mae llythyr y Cwnsler Cyffredinol ar 3 Chwefror yn dangos yn glir nad yw'r pŵer yn ddarfodedig. Er enghraifft, a dyfynnaf o'r llythyr,
'gellid rhoi swyddogaethau rheoli datblygu i CDU yng Nghymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gan gynnwys y pŵer i wneud gorchmynion datblygu lleol a'r cyfrifoldeb dros benderfynu ar geisiadau cynllunio. Gellid rhoi rhai swyddogaethau cysylltiedig hefyd sy'n ymwneud â gorfodi, priffyrdd, adeiladau rhestredig, a chaniatâd a hysbysiadau eraill.'
Sut nad yw'r darpariaethau'n cael effaith ymarferol mwyach? Credaf fod angen inni ystyried hyn cyn ei basio'n ddiwrthwynebiad. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi amlinellu'r nifer o swyddogaethau sydd gan awdurdodau cynllunio lleol na ellid eu trosglwyddo i gorfforaeth datblygu trefol yng Nghymru, ond mae hi wedi egluro y gall corfforaeth datblygu trefol ac awdurdodau lleol gydfodoli gyda'i gilydd, ond byddai risg na fyddai'r naill na'r llall yn gweithredu'n effeithiol fel awdurdodau cynllunio. Credaf fy mod yn cytuno â'r pwynt hwnnw ac y byddai angen gwelliannau i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn sicrhau y gallai corfforaeth datblygu trefol yng Nghymru weithredu'n effeithiol wrth gyflawni swyddogaethau cynllunio ar gyfer eu hardaloedd.
Fodd bynnag, fel y dywedais ar y dechrau, nid wyf wedi fy argyhoeddi eto fod y cynnig i ddileu pwerau cynllunio corfforaeth datblygu trefol yn gydnaws â'r Rheol Sefydlog mewn gwirionedd. Mae angen eglurhad pellach ar y pwynt hwnnw gan Lywodraeth Cymru, a byddai'n ddefnyddiol iawn. Diolch yn fawr.
Y Cwnsler Cyffredinol nawr sy'n ymateb—Julie James.
Diolch, Lywydd. Mae'r Llywodraeth yn gwrthwynebu'r cynnig hwn. Mae'r cynnig, fel y clywsom, yn mynd yn groes i argymhelliad mwyafrif y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y dylai'r Bil symud ymlaen yn syth i'r cyfnod terfynol. Daeth y pwyllgor i'r casgliad yn unfrydol yn eu hadroddiad Cyfnod 1 hefyd mai dim ond i'r graddau a ganiateir gan Reol Sefydlog 26C.2 y newidiwyd y gyfraith o ganlyniad i'r cydgrynhoi.
Rwyf eisoes wedi amlinellu safbwynt y Llywodraeth a'r rhesymeg y tu ôl i'n dull gweithredu i Adam, yn ysgrifenedig ac yn bersonol. Yn wir, mae newydd ei ailadrodd yn y Siambr. Mae ein safbwynt o beidio ag ailddatgan y pŵer i drosglwyddo swyddogaethau cynllunio o awdurdod cynllunio i gorfforaeth datblygu trefol wedi bod yn gyson ac yn dryloyw. Mae wedi'i seilio'n gadarn ar ganfyddiadau cynhwysfawr adolygiad Comisiwn y Gyfraith o gyfraith gynllunio. Nododd y comisiwn nad yw'r ddarpariaeth erioed wedi'i defnyddio yng Nghymru ers ei deddfu ychydig dros 45 mlynedd yn ôl. Ar ôl dau ymarfer ymgynghori, daeth y comisiwn i'r casgliad nad oes angen y ddarpariaeth, ac argymhellodd ei dileu. Cefnogwyd eu safbwynt yn gryf gan randdeiliaid.
Mae'r Llywodraeth yn credu ei bod yn hanfodol fod yn rhaid i unrhyw gorfforaeth datblygu trefol yn y dyfodol weithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau cynllunio lleol, o ystyried eu rôl ganolog mewn creu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Mae mabwysiadu'r dull cydweithredol hwn yn diogelu atebolrwydd democrataidd lleol. Mae'n amlwg y dylai penderfyniadau cynllunio gael eu gwneud gan aelodau etholedig sy'n cynrychioli eu cymunedau, yn hytrach na chan gorff heb ei ethol.
I fynd i'r afael mewn rhywfaint o fanylder â'r pwyntiau a gododd Rhys ab Owen, mae unrhyw un sy'n dadlau dros gadw'r pwerau hyn heddiw yn dadlau dros gadw system doredig, anghyflawn, sydd wedi dyddio. Byddai corfforaeth datblygu trefol yng Nghymru yn cael ei gadael â darnau mawr o'r system gynllunio ar goll, yn methu gwneud cynlluniau, yn methu ardystio datblygiadau cyfreithlon, yn methu codi'r ardoll seilwaith cymunedol, a heb rai o'r arfau gorfodi craidd. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth gyfrifol gadw pwerau sy'n debygol o achosi anawsterau wrth gyflawni amcanion adfywio'r gorfforaeth datblygu trefol.
Nid amryfusedd technegol bach yw'r bylchau hyn. Maent yn deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, a ysgrifennwyd ar gyfer cyfnod gwahanol iawn, ac nad yw wedi dal i fyny ag esblygiad y system gynllunio. Y canlyniad yw clytwaith o bwerau na ellir eu gwneud yn gyflawn drwy gydgrynhoi. Byddai bylchau tebyg mewn deddfwriaeth yn ymwneud ag adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth, gan greu mwy fyth o broblemau na all Bil cydgrynhoi eu datrys.
Felly, wrth ystyried argymhelliad y pwyllgor, rydym wedi ystyried pwerau cynllunio eraill a fyddai hefyd ar gael pe bai corfforaeth datblygu trefol yn cael ei sefydlu i geisio datrys y broblem. Mae'r rhain yn cynnwys y defnydd o orchmynion datblygu lleol gan awdurdodau cynllunio a Gorchmynion datblygu arbennig gan Weinidogion Cymru i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu mewn ardal ddynodedig, a gallai hynny oll gyflymu'r broses gynllunio a darparu mwy o sicrwydd cynllunio ar gyfer corfforaeth datblygu trefol. Fel y dywedais eisoes, nid yw'r ddarpariaeth bresennol yn addas i’r diben. Heddiw, ni allai corfforaeth datblygu trefol weithredu'n effeithiol nac ar sail gyfartal ag awdurdodau cynllunio eraill.
Mae Biliau cydgrynhoi yno i egluro a symleiddio'r gyfraith. Os ceisiwn ddiwygio'r Biliau hyn nawr i adfer y pwerau hyn, byddai'r gwaith yn gymhleth iawn, ac yn bwysicach fyth, byddai'r un bylchau anfoddhaol yn bodoli yn y swyddogaethau y gallai corfforaethau datblygu trefol eu harfer yng Nghymru, a byddai angen deddfwriaeth sylfaenol newydd ar unrhyw gorfforaeth datblygu trefol i fynd i'r afael â'r bwlch presennol. Fel yr eglurais i Adam Price yn ein cyfarfod, pwynt Bil cydgrynhoi mewn gwirionedd yw symleiddio'r gyfraith er mwyn ei diwygio'n ddiweddarach, ac os ydych chi eisiau creu corfforaeth datblygu trefol, byddai'n llawer haws creu deddfwriaeth sylfaenol newydd ar ben y Bil cydgrynhoi, nid drwy geisio mynd i'r afael â'r bylchau.
Felly, yn ein barn ni, Lywydd, mae craffu wedi dangos cefnogaeth glir, gyson a diamwys i'r Biliau hyn gan y pwyllgor, gan randdeiliaid a chan Aelodau ar draws y Siambr. Nid yw'r rhesymeg y tu ôl i'r cynnig hwn yn dal dŵr, ac mae perygl y gallem golli'r Bil cyfan. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i ddilyn y dystiolaeth a gwrthwynebu'r cynnig. Diolch.
Adam Price i ymateb.
Diolch. Rwy'n credu mai'r farn sylfaenol sydd gennyf yw bod y Llywodraeth wedi mynd i'r afael â hyn drwy lens polisi, a gwelsom gipolwg ar hynny yng nghyfeiriad y Cwnsler Cyffredinol at safbwynt amlwg y Llywodraeth—na ddylech chi byth ddefnyddio corfforaeth datblygu trefol i fynd uwchlaw awdurdod lleol rywsut. Nawr, mae hwnnw'n safbwynt polisi hollol resymol. Nid yw'r Blaid Lafur erioed wedi hoffi corfforaethau datblygu. Nid oedd yn hoffi Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, ond gallai gwahanol weinyddiaethau mewn amgylchiadau gwahanol arddel barn wahanol. Beth pe bai gennych awdurdodau lleol yn cael eu rhedeg gan bleidiau gwleidyddol asgell dde eithafol? Oni fyddai Llywodraeth Cymru yn yr amgylchiadau hynny, er enghraifft, yn penderfynu ei bod o fudd i Lywodraeth Cymru sydd ag atebolrwydd democrataidd ddefnyddio'r gorfforaeth ddatblygu mewn ffordd sy'n hyrwyddo datblygu economaidd?
Rwy'n credu bod hynny'n mynd at wraidd y mater yma. Mae'r egwyddorion ar Filiau cydgrynhoi, fel y mae Rhys ab Owen wedi'i nodi, yn glir iawn. Ni allwch hepgor darpariaeth yn seiliedig ar y ffaith nad yw erioed wedi'i defnyddio. Y rheswm na chafodd ei defnyddio yn achos Bae Caerdydd yw bod De Morgannwg wedi cael cyfarwyddyd, 'Cytunwch i dderbyn popeth a ddymunant, fel arall fe awn â'r pwerau cynllunio oddi wrthych', felly roedd hynny'n canolbwyntio meddyliau. Y trothwy ar gyfer Biliau cydgrynhoi yw nad oes unrhyw ragolygon realistig o ddefnydd yn y dyfodol a fernir nid yn ôl bwriadau'r Llywodraeth bresennol, ond gan yr hyn y gallai unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol ei wneud yn realistig. Mae hynny'n bwysig oherwydd nid cymal trosiannol darfodedig yw'r hyn sy'n cael ei ddileu yma yn yr adran hon o'r Bil cydgrynhoi, ond pŵer galluogi go iawn. Mae corfforaethau datblygu trefol yn dal i fodoli fel posibilrwydd cyfreithiol yng Nghymru, ac mae hyn yn effeithio ar sut yr awn ati i drefnu cyflawniad. Yn Lloegr, mae corfforaethau datblygu'n mynd drwy adfywiad. Maent yn ganolog i adfywio, gan gynnwys y posibilrwydd o roi pwerau cynllunio i'r corfforaethau datblygu maerol hynny. Mae eu dileu'n ddewis polisi. Efallai mai dyna farn y Llywodraeth bresennol, ond efallai nad dyna fydd barn Llywodraethau eraill ac felly, mae'n amhriodol ar gyfer Bil cydgrynhoi.
Mae'r eironi fod y Blaid Geidwadol yn ochri â'r Blaid Lafur drwy ddiddymu Bil 1980 gan Lywodraeth Thatcher yn taro rhywun yn rhyfedd. Ond edrychwch, mae yna egwyddor bwysig wrth wraidd hyn. Yn yr hyn a ofynnwn, nid ydym yn colli unrhyw beth, ydym ni? Drwy roi cyfle i'r Senedd glywed y dadleuon hyn—dadleuon dilys, dadleuon technegol—y mae'r Llywodraeth eisiau eu cyflwyno. Beth am ganiatáu i ni, y rhai ohonom sy'n arddel barn wahanol—roeddwn i mewn lleiafrif ar y pwyllgor; efallai y byddaf mewn lleiafrif yn y Senedd—? Ni fyddwn yn gwybod oni bai ein bod yn rhoi'r gallu i ni ein hunain gael craffu seneddol dilys priodol. Dyna yw ein swyddogaeth a'n pwrpas. Cefnogwch y cynnig ar y sail honno.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, ac fe wnawn ni gymryd y bleidlais ar yr eitem yna, a phob eitem, yn y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, fe wnawn ni symud at y cyfnod pleidleisio.
Felly, y bleidlais gyntaf y prynhawn yma fydd y bleidlais ar eitem 6. Dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod ar Fil hawliau dynol yw'r eitem yma. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Sioned Williams. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Eitem 6: Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil Hawliau Dynol. O blaid: 38, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Bydd y pleidleisiau nesaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr ar gyfyngu cyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed. Pleidlais ar y cynnig yn gyntaf, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 14 yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Cyfyngu ar y cyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed. Cynnig heb ei ddiwygio. O blaid: 12, Yn erbyn: 25, Ymatal: 14
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, dau yn ymatal, 11 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i basio.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Cyfyngu ar y cyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. O blaid: 38, Yn erbyn: 11, Ymatal: 2
Derbyniwyd y gwelliant
Y bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9149 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth y DU ar fynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed, ac yn cydnabod yr angen am y canlynol:
a) cydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hyn a'r niwed i blant a phobl ifanc;
b) penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth sy'n sicrhau bod y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn fwy diogel i bobl ifanc dros 16 oed ac oedolion;
c) cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gael eu dal yn gyfrifol am y cynnwys niweidiol ar eu safleoedd, gyda deddfwriaeth bresennol yn cael ei gorfodi a'i chryfhau; a
d) ystod amrywiol o blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y ddadl a'u safbwyntiau yn cael eu hystyried.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, dau yn ymatal, 11 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Cyfyngu ar y cyfryngau cymdeithasol i'r rhai o dan 16 oed. Cynnig wedi’i ddiwygio. O blaid: 38, Yn erbyn: 11, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Datganoli cyfiawnder a phlismona. Cynnig heb ei ddiwygio. O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i gymeradwyo.
Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Datganoli cyfiawnder a phlismona. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Felly, y bleidlais olaf fydd y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9148 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) argymhellion Comisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol y dylid datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru; a
b) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 wedi dyrannu dros £100 miliwn o wariant ar blismona er nad yw'n faes cyfrifoldeb datganoledig.
c) effaith gadarnhaol y £100 miliwn hwnnw o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol, atal troseddu a chefnogi dioddefwyr troseddau;
d) dull gweithredu adeiladol y Papur Gwyn ar Ddiwygio'r Heddlu o ran ymgysylltu â thirwedd unigryw Cymru, a'r ymrwymiadau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i ddatblygu modelau llywodraethu i Gymru.
Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i eirioli dros ddatganoli plismona a chyfiawnder; a
b) cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda sefydliadau partner i nodi'r trefniadau llywodraethu gorau posibl i'r dyfodol ar gyfer plismona yng Nghymru, a'r egwyddorion sy'n sail i'r gwaith hwnnw, fel y nodir mewn Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar 27 Ionawr 2026.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i gymeradwyo.
Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Datganoli cyfiawnder a phlismona. Cynnig wedi’i ddiwygio. O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni. [Torri ar draws.] Oes, ymddiheuriadau i Adam Price, mae yna gynnig.
Wyddoch chi, mae'n rhaid fy mod wedi bod yn rhy awyddus i adael y pleidleisio yn y Siambr hon a dychwelyd i'r Siambr newydd, oherwydd y bleidlais hon, Adam Price, fydd y bleidlais olaf y bydd y Senedd hon yn ei chynnal yn y Siambr hon. Efallai mai dyma'r bleidlais olaf y bydd Senedd Cymru yn ei chynnal yn y Siambr hon byth, ac mae yn eich enw chi.
Felly, byddwn ni yn pleidleisio—.
Byddwn yn pleidleisio, a byddwn yn dychwelyd i'n Senedd ar gyfer ein trafodion wythnos i ddydd Mawrth.
Felly, mae'r bleidlais olaf ar eitem 9, y cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Adam Price. Agor y bleidlais. Felly, dwi'n cau'r bleidlais. O blaid y cynnig mae yna 15, neb yn ymatal a 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. Dyna ni—dyna beth yw diwedd y pleidleisio.
Eitem 9: Cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Ond nid dyna ddiwedd y cyfarfod, oherwydd mae yna ddwy ddadl fer heno. Mae'r cyntaf gan Llyr Gruffydd ac yna'r ail un gan Julie Morgan. Felly, Llyr Gruffydd.
Os gallwn adael—. Rwy'n gwybod eich bod chi'n amharod iawn i adael y Siambr hon, ond gwnewch hynny'n dawel, os ydych chi'n gadael y Siambr.
Llyr Gruffydd i gyflwyno ei ddadl fer.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n falch iawn o rannu peth o'm amser i gyda Lindsay Whittle a James Evans, a fydd hefyd yn cael cyfle, gobeithio, i gyfrannu at y ddadl yma. Heddiw, dwi eisiau inni ffocysu a thrafod pwnc sydd ddim dim ond yn ddiwydiant neu'n rhyw fath o sector, ond un sy'n cynrychioli calon ein cymunedau ni. Trafodaeth fydd hon am lefydd sydd, ers cenedlaethau, wedi bod yn gonglfeini cymdeithasol ar draws Cymru, sef y dafarn leol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwy'n sefyll o'ch blaen chi yma yn y Senedd heddiw gyda gwerthfawrogiad dwfn o'r dafarn leol a'r hyn y mae'r lleoedd hyn yn ei olygu, nid yn unig fel adeiladau trwyddedig, ond fel ystafelloedd byw cymunedol, fel canolfannau diwylliannol ac fel mannau lle caiff cyfeillgarwch ei greu, lle caiff straeon eu rhannu a lle caiff bywydau eu byw. Ble bynnag y boch yng Nghymru, y dafarn yw lle bydd cenedlaethau, yn aml iawn, wedi ymgynnull ar ôl gwaith, ar ôl digwyddiadau cymunedol ac ar ôl yr eglwys hyd yn oed. Dyma lle byddwn yn dathlu gyda'n gilydd, lle byddwn yn cysuro ein gilydd, lle down at ein gilydd ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor neu ar gyfer adloniant, lle'r awn i gael bwyd neu ddim ond i fod yn llai unig.
Ac mae'r gwerth cymdeithasol hwnnw'n dod â gwerth economaidd yn ei sgil hefyd wrth gwrs. Mae'r sector cwrw a thafarndai yng Nghymru yn cynhyrchu dros £1.5 biliwn i'n heconomi genedlaethol ac yn cefnogi mwy na 68,000 o swyddi yma yng Nghymru—swyddi i bobl ifanc sy'n mynd i mewn i'r gweithlu, swyddi i deuluoedd cyfan, swyddi sy'n sail i dwristiaeth a ffyniant lleol. Mae'n siŵr y bydd llawer ohonom yma wedi cael ein profiad cyntaf o waith cyflogedig drwy weithio tu ôl i'r bar neu'n gweini, neu hyd yn oed y tu allan yn y cefn yn golchi llestri, rai ohonom, yn ennill ein pecyn pae cyntaf yn y ffordd honno. Mae llawer o bobl, wrth gwrs, yn ennill eu prif incwm neu'n ychwanegu at eu hincwm mewn tafarndai a bariau hefyd.
Ond y tu hwnt i'r mantolenni a'r ffigurau cyflogaeth, rhaid inni hefyd gydnabod rhywbeth llai diriaethol, ond yr un mor bwysig wrth gwrs: gwerth diwylliannol y dafarn leol. Ledled Cymru, tafarndai'n aml yw curiad calon ein bywydau creadigol. Dyma'r lleoedd lle mae cerddorion ifanc yn cael cynulleidfa am y tro cyntaf, lle mae bandiau lleol yn dysgu eu crefft a lle caiff doniau newydd eu meithrin a'u hannog. O gigs acwstig bach i nosweithiau meic agored bywiog, o sesiynau jamio anffurfiol a sesiynau gwerin, mae ein tafarndai'n arddangos cyfoeth llawn diwylliant Cymru—jazz, gwerin, roc, cerddoriaeth draddodiadol a hyd yn oed y noson karaoke achlysurol sydd, efallai, yn profi ein clustiau lawn cymaint â'n hamynedd.
Ac mae'n mynd ymhell y tu hwnt i gerddoriaeth hefyd wrth gwrs. Mae tafarndai'n darparu cefndir rheolaidd i glybiau llyfrau, nosweithiau barddoniaeth, grwpiau iaith a digwyddiadau celfyddydau cymunedol. Mae mentrau fel Bragdy'r Beirdd, un o fy ffefrynnau, a chynulliadau tebyg ledled y wlad wedi dod o hyd i gartref naturiol yn amgylchedd cynnes, croesawgar ein tafarn leol. Mae'r lleoliadau hyn yn rhoi lle i storïwyr, beirdd a pherfformwyr, i ddigwyddiadau yn y Gymraeg a chreadigrwydd dwyieithog, i sgyrsiau a chysylltiadau na fyddent yn digwydd yn unman arall. Wrth wneud hynny, wrth gwrs, maent yn cadw ein diwylliant yn fyw, yn fywiog ac yn hygyrch, nid dan glo mewn sefydliadau mwy ffurfiol, ond wedi'u gwreiddio'n gadarn ym mywyd bob dydd y gymuned.
Mae angen inni gydnabod hefyd, wrth gwrs, y rôl hanfodol y mae tafarndai yn ei chwarae'n cefnogi twristiaeth a marchnata ehangach Cymru fel cyrchfan. I lawer o ymwelwyr, nid ychwanegiad dewisol yw cael profiad o'r dafarn leol, ond rhan ganolog o wyliau rhywun. Nid oherwydd y golygfeydd yn unig y daw twristiaid i Gymru, er mor bwysig yw'r rheini, maent yn dod i gael ymdeimlad o le, am y cynhesrwydd, y croeso, y gerddoriaeth, y sgwrs a'r cymeriad lleol. Nawr, mae'r Gwyddelod, wrth gwrs, wedi deall hyn ers degawdau, onid ydynt, gan droi'r dafarn Wyddelig yn symbol byd-eang o letygarwch a diwylliant, ac nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na all Cymru wneud yr un peth. Mae ein tafarndai, gyda'u bwyd lleol, diod lleol, eu cerddoriaeth a'u straeon, ymhlith ein hasedau diwylliannol cryfaf. Maent eisoes yn cyfrannu'n fawr at yr economi dwristiaeth, gan ddenu ymwelwyr i ganol trefi a chymunedau gwledig fel ei gilydd. A chyda'r gefnogaeth gywir a hyrwyddo dychmygus, gallai tafarndai Cymreig ddod yn arddangosiad hyd yn oed yn fwy pwerus o bopeth sy'n gwneud Cymru'n unigryw.
Dimensiwn allweddol arall sy'n haeddu cydnabyddiaeth hefyd yw'r bartneriaeth gynyddol rhwng tafarndai lleol a sector microfragdai ffyniannus Cymru. Ledled y wlad, mae bragdai annibynnol yn rhoi bywyd newydd i'r fasnach drwyddedig, gan gynnig cwrw Cymreig unigryw o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu cymeriad a medrusrwydd lleol. Mae lleoliadau fel y Mold Alehouse yn sir y Fflint, y Bay Hop ym Mae Colwyn, Tafarn Fach yn y Rhyl, Magic Dragon a'r Drunk Monk yn Wrecsam, a gallwn barhau—mae'r rhain i gyd yn dangos beth sy'n bosib pan fydd tafarndai'n gweithio law yn llaw â chynhyrchwyr bach, gan greu cyfleoedd newydd, denu cwsmeriaid newydd a chefnogi cadwyni cyflenwi gwirioneddol leol. Ac yn hollbwysig, wrth gwrs, mae'r elw a gynhyrchir drwy'r mentrau hyn wedyn yn parhau i fod wedi'i wreiddio yn ein cymunedau, yn hytrach na chael ei seiffno ymaith i gwmnïau rhyngwladol pell. Mae'r microfragdai a'r bariau cwrw hyn wedi dod yn rhan gynyddol werthfawr o'n heconomi, gan ddarparu swyddi medrus, annog entrepreneuriaeth a chryfhau hunaniaeth unigryw trefi a phentrefi ledled Cymru.
Yn yr un modd, wrth gwrs, dros y degawdau diwethaf, mae llawer o dafarndai wedi trawsnewid eu hunain yn lleoliadau sy'n darparu bwyd yn bennaf, gan arallgyfeirio eu cynnig a dod yn gyrchfannau yn eu hawl eu hunain, rai ohonynt, a thrwy wneud hynny, maent wedi dod yn ddolen hanfodol mewn ecosystem fwyd a diod lawer ehangach. Ledled Cymru, mae'r sector bwyd a diod bellach yn cefnogi tua chwarter miliwn o swyddi, o ffermwyr a thyfwyr i broseswyr, dosbarthwyr a gweithwyr lletygarwch. Mae tafarndai lleol yn chwarae rhan hanfodol yn cynnal y rhwydwaith hwnnw—yn prynu cig, llysiau, llaeth a diodydd gan gynhyrchwyr cyfagos, gan arddangos y gorau o gynnyrch Cymru yn eu bwydlenni ac yn eu tapiau. Nawr, mae'r cadwyni cyflenwi byr, cynaliadwy hyn yn dda i'r economi ac yn dda i'r amgylchedd hefyd—ffermwyr lleol sy'n cynhyrchu bwyd lleol, i siopau a chyfanwerthwyr lleol, i gyflenwi tafarndai a busnesau lleol. Mae'n fodel sy'n cadw cyfoeth i gylchredeg yn ein cymunedau, fel y dywedais, ac yn cryfhau bywoliaeth pobl, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru yn aml iawn.
Ac eto, er gwaethaf yr esblygiad cadarnhaol hwn a'r cysylltiad dwfn â'n cymunedau, mae'n bosib fod ein tafarndai heddiw'n wynebu'r her fwyaf o fewn cof. Nid peth haniaethol yw'r pwysau y soniaf amdano, mae'n real iawn ac yn ddifrifol iawn. Ar draws Cymru a Lloegr, mae nifer y tafarndai yn parhau i ostwng, fel y gwyddom. Yn 2025 yn unig, ar gyfartaledd fe gaeodd un dafarn y dydd yn barhaol, i gael eu haddasu neu eu dymchwel, gan ddiflannu o gymunedau ledled y wlad. Ac nid yw'r dirywiad hwn yn ddamweiniol, mae'n ganlyniad i storm berffaith o gynnydd sydyn mewn costau a phenderfyniadau polisi sydd wedi gwneud goroesi'n anos yn hytrach nag yn haws. Ac rydym wedi clywed am rai o'r enghreifftiau hyn yn y Siambr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ac fe gyfeiriaf at ambell enghraifft o'r pwysau hwn. Yn amlwg, chwyddiant uchel, yn enwedig mewn perthynas â chostau bwyd a diod, sy'n cyfyngu ar faint yr elw sydd eisoes yn llawer rhy dynn; cynnydd anghynaliadwy mewn costau ynni, sy'n effeithio'n anghymesur ar fusnesau lletygarwch yn aml iawn, am fod ganddynt oriau agor hwyr sy'n creu gofynion gwres a goleuo mwy sylweddol; mae costau staffio cynyddol yn un arall, ar adeg pan fo recriwtio a chadw staff eisoes yn heriol ym maes lletygarwch; mae premiymau yswiriant a thaliadau dŵr wedi cynyddu'n sylweddol hefyd; ac ardrethi busnes wrth gwrs, sy'n faich sylweddol ar dafarndai lleol.
Rwyf am i'r Aelodau wrando ar leisiau'r rhai ar lawr gwlad, ar y rheng flaen, yr union bobl sy'n rhedeg y busnesau hyn. Yn ddiweddar, mae fy swyddfa wedi cael llawer o ohebiaeth ar hyn, ond yn enwedig un llythyr gan Gymdeithas Lletygarwch Llandudno, ac ynddo, maent yn nodi, gydag eglurder ac angerdd, beth sydd yn y fantol yma, ac fe ddyfynnaf ran o'u llythyr:
'Mae dadansoddiadau newydd yn dangos y rhagwelir y bydd y sector lletygarwch yn Aberconwy yn gweld ei fil ardrethi busnes yn cynyddu £5.3 miliwn dros y tair blynedd nesaf.... Mae'r rhan fwyaf yn gweld cynnydd o 30 i 80% yn eu gwerthoedd ardrethol'.
'Ar ben cynnydd o 30% mewn yswiriant a threthi dŵr a chynnydd diddiwedd mewn costau ynni—sut ar y ddaear y gall unrhyw fusnes gynllunio neu fuddsoddi?'
'Lletygarwch yw'r ŵydd aur sydd bob amser wedi dodwy wyau aur i economi Cymru',
dywedant
'ac mae Llywodraeth Cymru wedi gafael yn dynn yng ngwddf yr ŵydd honno bellach.'
Nawr, mae'r geiriau hyn yn deillio o rwystredigaeth bur, ond mae'n tanlinellu'r brys yma hefyd, gan bobl sydd wedi buddsoddi'n helaeth yn eu cymunedau, nid mewn dadl wleidyddol haniaethol, ond yn y realiti bob dydd, y realiti o gadw'r drysau ar agor, talu staff a thalu biliau.
Mae'r system ardrethi busnes, fel y mae'n berthnasol i dafarndai a bariau, yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar y sector lletygarwch. Yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, ni cheir sicrwydd aml-flwyddyn o ryddhad ardrethi busnes. Er y bydd tafarndai yn Lloegr yn cael gostyngiad o 15 y cant a rhewi mewn termau real am ddwy flynedd wedyn, yng Nghymru mae'r cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru wedi'i gyfyngu i un flwyddyn. Nid yw hynny'n ddigon i ddiwydiant a fyddai'n amlwg yn dymuno gallu cynllunio'n fwy hirdymor.
Fel y nododd fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn y Siambr yn ddiweddar, er ein bod yn croesawu'r cyhoeddiad diweddaraf, ateb tymor byr yn unig ydyw, nad yw'n rhoi fawr o sicrwydd hirdymor i sector sy'n werth £4 biliwn i economi Cymru, a bydd yn ei chael hi'n anodd, yn amlwg, i
'oroesi ar sail setliad un flwyddyn yn unig.'
Ac mae'n amlwg bod
'y system ardrethi busnes yng Nghymru wedi torri yn sylfaenol'
a byddai llywodraeth Plaid Cymru, sydd o blaid busnes, yn blaenoriaethu'r diwygiad radical sydd ei angen.
Nawr, dylai ein system dreth gefnogi ac annog mentrau lleol, nid eu tanseilio. I lawer o dafarndai, nid bygythiad pell yw'r pwysau cronnus hwn, ond realiti dyddiol. Felly, heb ddiwygio ystyrlon, yr hyn a welwn yw mwy o gau i ddilyn. Bydd mwy o swyddi'n cael eu colli, mwy o gymunedau'n cael eu hamddifadu o'u curiad calon cymdeithasol. Ac eto, ochr yn ochr â'r darlun sobreiddiol hwn, wrth gwrs, mae yna obaith ac arloesedd sy'n werth ei ddathlu.
Ledled Cymru, mae cymunedau yn cymryd rheolaeth pan fo’u hasedau lleol nhw dan fygythiad. Rŷn ni wedi ac yn parhau i weld cynnydd rhyfeddol mewn tafarndai cymunedol, dechrau newydd gwirioneddol i letygarwch lleol yn rhai o'r cymunedau hyn. Mae yna enghreifftiau lu, wrth gwrs. Mae rhywun yn meddwl am Tafarn y Fic yn Llithfaen fel yr enghraifft gyntaf o dafarn gymunedol yng Nghymru. Yn nes at adref i fi, mae'r Raven yn Llanarmon-yn-Iâl, Saith Seren yn Wrecsam, sy'n dangos ei fod e'r un mor berthnasol mewn cymuned drefol, nid dim ond rhywbeth efallai fod rhywun yn meddwl amdano fe mewn cymuned wledig. Mae yna eraill, fel Tŷ’n Llan yn Llandwrog, Yr Eagles yn Llanuwchllyn, Y Llew Gwyn yng Ngherrigydrudion.
Ymhob un o’r achosion hyn, mae'r gymuned leol wedi dod at ei gilydd i achub tafarn oedd naill ai wedi cau neu ar fin cau. Maen nhw'n cael eu prynu gan y gymuned, maen nhw'n cael eu hadnewyddu gan y gymuned ac maen nhw'n cael eu rhedeg gan y gymuned. Ac yn bwysicach na dim, wrth gwrs, mae’r elw’n aros yn y gymuned, yn cael ei ailfuddsoddi mewn gweithgareddau, mewn gwasanaethau a digwyddiadau cymunedol o bob math.
Mae’r cysyniad yma, cymunedoli, yn crynhoi rhywbeth pwerus iawn, onid yw e, fod y cymunedau hynny yn cymryd rheolaeth dros eu tynged eu hunain. Pan fo tafarndai’n gweithredu fel asedau cymunedol, maen nhw'n dod yn fwy na mannau i fwyta ac yfed, maen nhw yn troi’n ystafelloedd byw y pentref, yn ganolfannau diwylliannol, maen nhw'n creu swyddi, ac yn ganolbwyntiau ar gyfer gwasanaethau eraill wedyn fel swyddfeydd post, y siop leol, mannau cyfarfod ac yn y blaen.
Felly, y cwestiwn y mae’n rhaid inni ei ystyried fan hyn yw: a all perchnogaeth gymunedol fod yn rhan o achub y dafarn leol? Wel, wrth gwrs y gall hi, ac rŷn ni wedi gweld hynny yn digwydd, ac mae angen cefnogi ac annog hynny fel model yn symud ymlaen i'r dyfodol. Ond ai prynu gan y gymuned yw'r unig achubiaeth? Wel, na, ddim o gwbl. Mi ddylen ni, wrth gwrs, ddathlu’r llwyddiannau yma, ond weithiau mae yna beryg ein bod ni'n rhamanteiddio efallai ychydig. Dyw e ddim yn ateb ecsgliwsif, yw e? Dyw'r cymunedau efallai ddim â'r adnoddau i brynu, neu dyw pob tafarn ddim mewn sefyllfa i gael ei throsglwyddo i fodel cymunedol.
Felly, boed yn eiddo i'r gymuned neu'n eiddo preifat, mae gwerth hanfodol i'n tafarn leol y dylem bob amser ei gofleidio. Ond mae yna rai cwestiynau uniongyrchol yr hoffwn eu gofyn i'r Llywodraeth yn y gobaith y gellir mynd i'r afael â nhw, efallai yn yr ymateb y byddwn yn ei glywed, ac rwy'n siŵr y cânt. Beth a wnewch chi i achub y dafarn leol? Dyna fy nghwestiwn cyntaf. A wnewch chi ymrwymo i gefnogi'r galwadau am ddiwygio ardrethi busnes yn fwy hirdymor i gydnabod y pwysau unigryw ar letygarwch? A wnewch chi gefnogi galwadau i dafarndai Cymru gael sicrwydd aml-flwyddyn? A wnewch chi gefnogi galwadau i ymestyn lluosyddion ardrethi tecach i letygarwch a hamdden, nid manwerthu'n unig? A wnewch chi gefnogi modelau perchnogaeth gymunedol gyda chyllid a chyngor wedi'i dargedu, ac a wnewch chi weithio gyda rhanddeiliaid i lunio system dreth a rheoleiddio sy'n helpu tafarndai i ffynnu, yn hytrach na'u gwthio tuag at gau? Nid busnesau'n unig yw ein tafarndai, fel y dywedaf: maent yn rhan annatod o'n seilwaith cymdeithasol. Maent yn creu swyddi, maent yn adeiladwyr cymunedol, maent yn cynnal diwylliant Cymreig a llawer iawn mwy. Maent yn haeddu dyfodol. Felly, gadewch inni beidio â chau'r drws ar ein tafarndai lleol. Gadewch inni wneud yn siŵr fod y cwrw'n parhau i lifo am flynyddoedd lawer i ddod.
Mae'r Aelod wedi bod mor angerddol am ei gyfraniad fel nad yw wedi gadael munudau ar gyfer yr Aelodau eraill, ond rwy'n mynd i'w rhoi i chi beth bynnag, am ein bod yma am y tro olaf yn y Siambr hon. Felly, Lindsay Whittle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Llyr am fy anghofio. [Chwerthin.] Rwyf eisiau cyfeirio'n gyflym at y White Cross Inn yn y Groes-wen, pentref bach hanesyddol ar ochr y mynydd uwchben Caerffili. Adeiladwyd y capel yno ym 1742, a dyma'r man addoli Methodistaidd cyntaf erioed i gael ei adeiladu yng Nghymru. Ym 1750, adeiladodd yr un bobl leol dafarn y Groes Wen, neu'r White Cross. Heddiw, mae'n rhyfeddol fod y dafarn fechan hon wedi goroesi yn y Gymru fodern, a'r rheswm am hynny yn fy marn i yw gwydnwch Mair Arthur, y tafarnwr. Mae'r dafarn wedi goroesi er gwaethaf dirwasgiadau COVID a thueddiadau bywyd cymdeithasol modern. Yn y gorffennol, roedd iddi enw am fod ar agor yn hwyr y nos, ond heddiw mae'n cynnal clwb boliau cwrw, gwau a sgwrs, nosweithiau wigiau a gwin, pert mewn pinc—peidiwch â gofyn—te partis hen ffasiwn gyda chacennau cartref, nosweithiau rasio i gyd-fynd ag Ascot, caneuon gan artistiaid lleol sy'n codi arian ar gyfer elusennau, diwrnodau carnifal, ac mae wedi ymddangos ar Doctor Who. Fe wneuthum gynnal fy mhartïon pen-blwydd yn un ar hugain ac yn chwe deg oed yno. Mae'n dafarn draddodiadol, yn dafarn cwrw go iawn, tafarn tân go iawn, tafarn pobl go iawn, ac fel y dywedodd Harri Webb, y bardd, unwaith, mae'n un o'r rhai olaf o'i bath. Hir oes iddi. A diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fy nghyfraniad olaf yn yr hen Siambr newydd hon—mae'n mynd i fod yn drist ei gweld yn mynd, ond rwy'n siŵr y bydd pobl yn falch o fod yn y Siambr arall.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o'n tafarndai ledled Cymru wedi gweld cynnydd enfawr mewn ardrethi, sy'n rhoi llawer ohonynt dan fygythiad. Rydym wedi gweld hyn, ac yn enwedig fy nhafarn fy hun, sydd dan fygythiad. Nid wyf eisiau ei gweld yn methu, oherwydd rwy'n hoffi chwarae dartiau yno yn ystod yr wythnos. Felly, yr hyn yr hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud yw amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru'r cynnydd mewn ardrethi a welwyd gan ein sector lletygarwch a thafarndai ledled Cymru.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am alw'r ddadl hon a rhoi cyfle inni drafod dyfodol ein tafarndai yn fanylach.
Fel y mae eraill wedi dweud heno, Ddirprwy Lywydd, mae tafarndai wedi bod yn rhan o'n cymunedau ers canrifoedd. Efallai fod 'Trafferth mewn Tafarn' gan Dafydd ap Gwilym wedi'i gyfansoddi yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae'n gyfarwydd ar unwaith i unrhyw un a dreuliodd nos Wener ar Heol Awst yng Nghaerfyrddin yn y 1970au. [Chwerthin.] Nawr, mae dros 40 mlynedd ers imi fod yno, ac mae tafarndai'n wynebu amrywiaeth o heriau heddiw, ers amser maith yn achos rhai o'r heriau, a rhai'n fwy cyfoes. Mae newidiadau demograffig a dewisiadau defnyddwyr yn newid, gan newid y dirwedd i fusnesau lletygarwch o bob math. Ond mae'r heriau hefyd yn gwaethygu yn sgil hirbarhad rhai o'r problemau hynny, o recriwtio a chadw staff a'r angen parhaus i hyrwyddo lletygarwch fel gyrfa werthfawr ac un lle gellir datblygu sgiliau a fydd o werth i bobl ar gyfer eu dyfodol.
Rwyf am grynhoi'n fyr yr hyn y buom yn ei wneud ar gyfer y sector o ran ardrethi busnes. Mae llawer mwy yn y dirwedd letygarwch nag ardrethi busnes, ond mae wedi cael ei godi eto heno ac mae wedi bod yn rhan o'r sgwrs barhaus yma yn y Senedd. Felly, yn fyr, ers 2020, mae mwy na £1 biliwn mewn rhyddhad dros dro ychwanegol i fusnesau lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, wedi'i ddarparu gan drethdalwyr Cymru. Yn y flwyddyn gyfredol yn unig, rydym yn darparu pecyn cymorth ardrethi annomestig sy'n werth cyfanswm o £335 miliwn. Mae'r cymorth hwnnw'n cynnwys y rhyddhad parhaol a ariennir yn llawn ac sy'n werth £250 miliwn, ac o ganlyniad iddo mae bron i hanner yr holl dalwyr ardrethi busnes, gan gynnwys busnesau bach ledled Cymru, yn elwa o ryddhad ardrethi llawn. Ac mae cynrychiolwyr y sector eu hunain wedi amcangyfrif nad yw oddeutu dwy ran o dair o eiddo lletygarwch yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Mae bron i hanner y tafarndai yng Nghymru yn elwa o ryddhad ardrethi busnesau bach, ac ni fydd dros eu chwarter yn talu unrhyw ardrethi busnes o unrhyw fath. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi rhyddhad pellach ar gyfer eiddo lletygarwch bwyd a diod, gan gynnwys tafarndai, bwytai a lleoliadau cerddoriaeth fyw, y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n defnyddio'r holl gyllid canlyniadol ychwanegol a gawsom yn sgil rhyddhad Llywodraeth y DU ar gyfer tafarndai a lleoliadau cerddoriaeth yn Lloegr, ac mae'n cynnwys arian o adnoddau Llywodraeth Cymru ei hun er mwyn ehangu'r ystod o fusnesau a gefnogir yma yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, gadewch imi ymdrin â'r pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'i fod yn gynllun un flwyddyn. Mae'n gynllun un flwyddyn am ddau reswm: yn gyntaf oll, dim ond cyllideb un flwyddyn sydd gennym gerbron y Senedd. Nid oes gennym unrhyw gyllideb—. Nid yw'r Senedd wedi pleidleisio ar gyllideb ar gyfer dwy a thair blynedd o nawr, ac ar y pwynt hwn dim ond am y swm o arian y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y DU am y flwyddyn gyntaf y mae gennym unrhyw sicrwydd. Pan gawn sicrwydd y tu hwnt i'r flwyddyn gyntaf, rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer y tair blynedd lawn, ond bydd yn dal i fod angen trafod a phleidleisio ar flynyddoedd dwy a thair yma yn y Senedd. Rwy'n cytuno â Llyr Gruffydd, fel roeddwn yn cytuno â Paul Davies yr wythnos diwethaf, Ddirprwy Lywydd, fod angen diwygio ein system ardrethi busnes yn radical. Ond rwy'n credu mai'r hyn a glywais gan yr Aelod oedd mai'r hyn a olygai wrth ddiwygio radical yn syml iawn oedd mwy o arian at y diben hwn. Fy marn i yw bod angen i ddiwygio radical fynd y tu hwnt i hynny, ac mae yna ffyrdd y gellid gwario'r arian sy'n cael ei wario ar hyn o bryd at y dibenion hyn mewn ffordd well yn y dyfodol.
Ond rwyf am fynd y tu hwnt i ardrethi busnes, Ddirprwy Lywydd, gan mai un ffactor yn unig yw'r rheini. Fel rwyf newydd ei ddweud, i 25 y cant o'r holl dafarndai yng Nghymru, nid ydynt yn ffactor o gwbl mewn dyfodol llwyddiannus. Mae llawer o heriau'n wynebu busnesau, ac un elfen yn unig yw ardrethi busnes yn yr amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo. Mae ffactorau eraill yn effeithio arnynt hefyd, ac nid yw'r holl ffactorau hyn yn nwylo'r diwydiant. Mae'r ffyrdd y mae pobl yn treulio eu hamser hamdden yn newid. Mae'r argyfwng costau byw wedi gadael llai o arian ym mhocedi pobl ar gyfer gwariant dewisol. Cododd lefelau cynilo yn economi'r DU yn sydyn yn ystod COVID, am yr holl resymau yr ydym yn eu deall, ond nid yw lefelau cynilo yn y DU erioed wedi dychwelyd i'w lefelau cyn COVID. Mae pobl yn cynilo ddwywaith cymaint heddiw na'r hyn a wnaent cyn i COVID ddechrau hyd yn oed. A phan fydd pobl yn neilltuo mwy o'u hincwm i gynilion, maent yn anochel yn neilltuo llai ohono ar gyfer gwario, ac mae hynny, yn anochel hefyd, yn cael effaith ar fusnesau lletygarwch. Mae ein cymdeithas yn esblygu ac yn newid, ac mae'n rhaid i fusnesau esblygu a newid hefyd. Nid yw hiraeth am a fu yn sail i siapio dyfodol masnachol llwyddiannus. Dyna pam y mae'n rhaid i fuddsoddiad trethdalwyr Cymru yn y maes hwn ganolbwyntio ar gefnogi posibiliadau newydd, i gyd-fynd ag amodau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid. Rwy'n mynd i roi dwy enghraifft yn unig heno o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud yn union hynny.
Nododd Llyr yn gryf y ffordd y gall cymunedau, pan fydd cyflenwyr masnachol yn encilio, fod yn barod i gamu i mewn, gan ddiogelu'r asedau lleol hynny drwy berchnogaeth gymunedol. Wrth gwrs, mae angen help ar lawer o grwpiau sydd ag uchelgais a theyrngarwch lleol cryf i wireddu eu cynlluniau. Gofynnodd yr Aelod i mi a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymdrechion hynny yn y dyfodol, ond y gwir amdani yw ein bod yn eu cefnogi eisoes, ac wedi bod yn eu cefnogi ers blynyddoedd lawer. Mae'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol, sy'n cael ei gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, eisoes yn darparu hyd at £300,000 i grwpiau cymunedol dros gyfnod o 25 mlynedd i gymryd perchnogaeth ar asedau cymunedol. Mae tafarndai cymunedol fel Tafarn yr Heliwr yn Nefyn, Menter y Plu yn Llanystumdwy, Menter Ty'n Llan yng Ngwynedd, Menter Tafarn y Dyffryn yng Ngheredigion, eisoes wedi elwa o'r gronfa honno. A thu hwnt i hynny, mae gennym saith grŵp cymunedol sydd wedi cael hyd at £80,000 o gyllid grant drwy brosiect Perthyn, i helpu'r grwpiau hynny gyda chostau cychwynnol prynu neu lesio eu tafarn leol, fel y gellir ei diogelu fel ased cymunedol gwerthfawr.
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Gwnaf, wrth gwrs.
Mae'n dda clywed am y datblygiadau gyda thafarndai mewn perchnogaeth gymunedol, ond fe fyddwch yn gwybod bod eich Llywodraeth wedi addo tua 10 mlynedd yn ôl y byddai'n deddfu i ganiatáu i grwpiau cymunedol gymryd rheolaeth ar asedau cymunedol fel tafarndai. Mae'r ddeddfwriaeth honno eto i ddod i fodolaeth. A ydych chi'n difaru nad ydych chi wedi llwyddo i gyflwyno deddfwriaeth i'r perwyl hwnnw?
Wel, edrychwch, rwy'n credu bod achos cryf dros ddeddfwriaeth a chryfhau gallu grwpiau lleol i gael perchnogaeth ar asedau cymunedol. Ond mae'n amlwg nad yw absenoldeb deddfwriaeth yn rhwystr i wneud hyn, fel arall ni fyddai gennym y rhestr hir o bosibiliadau yr wyf eisoes wedi'u hamlinellu sydd wedi llwyddo i wneud yn union hynny. Ac rwy'n credu, iddynt hwy, mae'n debyg fod y £300,000 y gallant ei fenthyca o'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol yn fwy defnyddiol iddynt na newid mewn deddfwriaeth. Felly, er fy mod yn credu bod achos dros ddeddfwriaeth gryfach, ynddi ei hun ni fyddai'n ateb, ac rwy'n credu bod rhai o'r pethau a wnaethom eisoes yn fwy defnyddiol yn y cyd-destun uniongyrchol.
Ond roeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd hefyd, Ddirprwy Lywydd—dim ond un elfen yn y ffordd y gellir diogelu dyfodol tafarndai yn y dyfodol yw perchnogaeth gymunedol ar dafarndai, ac mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn mynd i'r afael â dirywiad canol trefi drwy greu canolfannau bywiog. Ac mae hynny'n cynnwys cefnogi caffis, bwytai a gwestai yn uniongyrchol. Ond mae dyfodol canol trefi yn newid hefyd, ac nid yw edrych yn ôl yn rysáit ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Rydym yn gwneud y buddsoddiadau hynny ar draws Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweithgareddau sy'n denu pobl i fyw, gweithio a chymdeithasu yng nghanol trefi, ac mae'r broses yn helpu i greu'r niferoedd, sydd, yn eu tro, yn golygu y gall lleoliadau lletygarwch deniadol ffynnu.
Nawr, mae'r ddwy raglen—y gronfa benthyciadau asedau cymunedol, y gronfa Trawsnewid Trefi—yn enghreifftiau ymarferol o'r ffordd y mae polisïau ar draws Llywodraeth Cymru yn creu'r cyd-destun lle mae busnesau lletygarwch llwyddiannus yn gallu datblygu a ffynnu. Ond rwyf am droi at faes arall lle mae gan y Llywodraeth ran i'w chwarae, ond lle mae'n rhaid i'r diwydiant hefyd ysgwyddo ei gyfrifoldebau ei hun. Gwyddom fod denu, hyfforddi a chadw staff wedi bod yn her i'r diwydiant. Roedd enghreifftiau Llyr ei hun am bobl yn defnyddio gwaith mewn tafarndai fel y profiad cyntaf a gânt. Y broblem yw nad ydynt yn aros, ac nid ydynt yn meddwl am letygarwch fel gyrfa hirdymor iddynt hwy. A dyna sy'n rhaid inni ei wneud os yw'r diwydiant yn mynd i ffynnu. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu'r Academi Croeso drwy fargen twf gogledd Cymru, menter gyffrous yng ngogledd Cymru, a lansiwyd fis Tachwedd diwethaf, i greu ffrwd ddibynadwy o weithwyr medrus sy'n barod i fynd i mewn i'r diwydiant lletygarwch.
A thu hwnt i'r cynllun penodol hwnnw, rydym hefyd yn darparu cyllid i fusnesau lletygarwch i gynyddu sgiliau eu gweithwyr drwy'r rhaglen sgiliau hyblyg, ac agweddau eraill ar y diwydiant. Ond dim ond rhan o'r darlun yw sgiliau eu hunain. Mae dyfodol hirdymor y sector yn dibynnu ar wneud lletygarwch yn yrfa y mae pobl eisiau aros ynddi. Ac mae honno'n her i'r diwydiant—gwella amodau, cyfleoedd i gamu ymlaen a sicrwydd swydd, fel y gall tafarndai a busnesau lletygarwch ddenu a chadw'r gweithlu sydd ei angen arnynt i ffynnu.
Ddirprwy Lywydd, pam y mae rhai economïau lleol a busnesau lleol yn ffynnu tra bod eraill yn cael trafferth? Wel, fe wyddom mai un rheswm yw y gall lleoedd sy'n datblygu cymeriad unigryw, a busnesau sy'n darparu cynnig unigryw, wneud hynny'n gynhwysyn sylweddol mewn llwyddiant masnachol. Ac yn achos tafarndai, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i hyrwyddo'r ymdeimlad o hynodrwydd drwy gael mwy o fwyd a diod lleol i mewn i fwy ohonynt, yn y ffordd y nododd Llyr yn ei gyfraniad. Mae rhaglen gwasanaeth bwyd Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau lletygarwch i gael mynediad at gadwyni cyflenwi bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn cefnogi cynhyrchwyr o Gymru ar draws y sector bragu, distyllu a diodydd di-alcohol i gynyddu argaeledd ac ansawdd cynhyrchion lleol er mwyn i dafarndai fanteisio arnynt, ac mae microfragdai yn ffactor newydd yn y ffordd y gall tafarndai wneud eu hunain yn lleoliadau cyrchfan. Drwy weini mwy o fwyd a diod o Gymru, gall tafarndai gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, hybu'r economi leol, a thrwy wneud hynny, gallant gynnig profiad Cymreig unigryw a all ddenu twristiaid ac arwain at nifer uwch o ymwelwyr.
Ddirprwy Lywydd, mae'r byd o'n cwmpas yn newid o hyd, a'r realiti yw bod angen i fusnesau hefyd addasu. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio'r liferi sydd gennym, fel y gwnaethom yr wythnos diwethaf drwy weithredu'r cynllun rhyddhad ardrethi newydd. Ond ar yr un pryd, mae angen inni weld sector sydd drosto'i hun yn ysgwyddo cyfrifoldeb am foderneiddio, addasu ac arloesi, fel bod ei ddyfodol yn ei ddwylo ei hun, a lle gall pobl ledled Cymru sy'n ystyried y dafarn leol yn ganol i'w cymuned, lle i ddod at ei gilydd a gwneud yr holl bethau a nododd Llyr, ac y mae eraill wedi'u nodi hefyd, wybod bod ganddo ddyfodol llwyddiannus. Yr unig ffordd o'i wneud yw drwy bartneriaeth rhwng yr amodau y gall y Llywodraeth eu creu a'r ymdrechion y mae'n rhaid i'r diwydiant ei hun wneud yn siŵr y gall fwrw ymlaen â nhw.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Bydd yr ail ddadl fer heddiw gan Julie Morgan.
Diolch, ac rwy'n falch o ddod â'r ddadl fer hon i'r Senedd heno, dadl a fydd yn canolbwyntio ar bobl ifanc a phlant sydd â phrofiad o ofal. Rwy'n gwybod nad ydym yn aml yn cael dwy ddadl fer, ac rwy'n gwybod mai hon yw'r ddadl olaf y byddwn yn ei chael yn y Siambr hon, felly rwy'n falch iawn o gael y cyfle unigryw hwn i gofnodi fy mhwyntiau.
Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, cefais gyfarfod yn ddiweddar â grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, wedi'i drefnu drwy Voices from Care, i siarad â nhw am y materion pwysicaf sy'n eu hwynebu heddiw. Yn gyntaf oll, rwyf am dalu teyrnged i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac yn enwedig i'r bobl ifanc hynny sy'n ymgyrchu ar ran pob un o'r plant hyn. Mae eu dewrder a'u gonestrwydd a'u heiddgarwch mewn bywyd ac wrth wneud eu pwyntiau'n hollol drawiadol, oherwydd rydym i gyd yn gwybod am y rhwystrau a'r anawsterau sydd wedi eu hwynebu, ac eto mae cymaint ohonynt yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Ac wrth gwrs, ein lle ni yw gwrando arnynt a gweithredu, ac un o'r rhesymau pam fy mod eisiau'r ddadl hon a pham y dewisais y pwnc hwn yw oherwydd y cyfrifoldeb sydd gennym dros y bobl ifanc hyn, oherwydd ni, y wladwriaeth, yw eu rhieni, ni yw eu rhieni corfforaethol, a'n lle ni yw gweld eu bod yn cael eu caru a'u gwerthfawrogi, yn cael cyfleoedd, cefnogaeth, a bod ganddynt bob amser rywun i droi atynt. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym eu bod eisiau perthynas sefydlog y gallant ymddiried ynddi gydag oedolion, lleoliadau sefydlog nid drws tro, nac ymyl dibyn yn 18 neu'n 21 neu hyd yn oed yn 16 oed. Maent eisiau i'w hawliau gael eu parchu, ac maent eisiau i'w lleisiau siapio'r system.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar eu lleisiau yn yr uwchgynadleddau a gynhaliwyd ganddi, gyda Phrif Weinidogion y dydd yn eu mynychu fel rheol ac yn llofnodi'r datganiadau, ac a fynychwyd hefyd gan grŵp allweddol o Weinidogion eraill hefyd. Ac mae'r bobl ifanc wedi dweud wrthyf pa mor bwysig yw'r uwchgynadleddau hynny iddynt, ac nid ydynt am iddynt gael eu hisraddio. Maent eisiau iddynt gael lle canolog a phroffil uchel yn y materion y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â nhw. Maent eisiau i Lywodraeth newydd roi pobl ifanc â phrofiad o ofal yn y canol ym mhopeth a wnânt.
Mae rhai o'r materion a nodais yn yr uwchgynadleddau wedi aros gyda mi. Dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod eisiau cael eu cwtsio. Roeddent yn pryderu ynghylch amharodrwydd gofalwyr maeth i gael cyswllt corfforol â'r plant—ac roedd yn ymddangos mai swyddogion oedd yn rhoi'r cyngor hwnnw. Dywedodd un fenyw ifanc wrthyf sut roedd hi wedi ysu i'w mam faeth ei chwtsio. Roedd hi wedi bod yn y lleoliad ers blynyddoedd lawer, ond nid oedd hynny wedi digwydd, nes iddi gael neges fod ei thad-cu wedi marw; a chafodd gwtsh gan y fam faeth bryd hynny. Dywedodd ei bod hi mor falch, a'i bod hi wedi bod cymaint o eisiau hyn.
Yn dilyn yr uwchgynhadledd, ysgrifennodd y Llywodraeth at ofalwyr maeth ac at awdurdodau lleol i egluro'r mater. Roedd mor bwysig ein bod ni yno i wrando ar y bobl ifanc ac i glywed beth oedd ganddynt i'w ddweud. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf a wnaed unrhyw gynnydd ar y mater ac a yw'r neges gan y bobl ifanc wedi'i hatgyfnerthu?
Fe wyddom pa mor llwyddiannus y gall maethu fod. Rwy'n cofio eistedd wrth ymyl bachgen bach mewn uwchgynhadledd yng ngogledd Cymru a ddechreuodd drwy ddweud wrthyf ei fod ond eisiau bod yn normal. Ond roedd ei lygaid wedi'u hoelio ar y drws a phan ddaeth ei rieni maeth i mewn i'w nôl, fe oleuodd ei lygaid a thrawsnewidiodd ei wyneb i gyd. Yna dywedodd wrthyf, 'Maent wedi dweud y caf aros gyda nhw hyd nes y byddaf wedi tyfu i fyny.' Roedd hyn mor bwysig iddo.
Pwynt pwysig iawn a wnaed yn yr uwchgynadleddau oedd pwysigrwydd cael rhywle i fynd yn ôl iddo bob amser. Mae gan y rhan fwyaf o blant rywun y tu ôl iddynt a fydd yn camu i mewn, yn eu helpu'n ariannol, yn eu cefnogi ac yno bob amser. Roedd materion ariannol yn bwysig iawn i'r bobl ifanc y siaradais â nhw. Dysgais am unigolyn ifanc a aeth drwy orbryder dwys wrth aros i weld a allai gael gliniadur i fynd i'r brifysgol. Fe wnaeth gais ym mis Mai ac ni chafodd ei ariannu tan fis Medi, gwta bythefnos cyn y byddai angen iddo fynd yno. Dywedodd sut y bu'n poeni drwy'r holl amser hwnnw. Felly, fe'i cafodd, ac fe wnaethom ni, y rhieni corfforaethol, ei ddarparu, ond roedd yna aros hir a llenwi ffurflenni. Dywedodd dyn ifanc arall, a oedd yn byw'n annibynnol ac ond wedi gadael gofal yn ddiweddar, nad oedd ganddo gôt am na allai fforddio un. Os edrychwch ar yr hyn y gall pobl ifanc sy'n byw mewn teuluoedd gyda'u rhiant neu eu rhieni neu ofalwyr ei wneud, yn aml iawn ni fydd y bobl ifanc hyn yn gallu gwneud y pethau hynny.
Mewn un uwchgynhadledd, cafwyd cais gan y bobl ifanc y dylai fod rhywun yno iddynt gysylltu â nhw bob amser. Hyd yn oed os nad yw'n ddim mwy na rhif ffôn, iddynt gael cyswllt gydol oes, roeddent eisiau rhywle i droi. Tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a oes cynlluniau i sicrhau nad yw pobl ifanc sydd wedi bod yn gyfrifoldeb arnom ni, ein cyfrifoldeb corfforaethol, yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain pan fyddant yn gadael gofal preswyl neu ofal maeth. Oherwydd rwy'n credu y dylem ddarparu rhywle iddynt allu cysylltu ag ef.
Mae canmoliaeth i gynllun peilot incwm sylfaenol y Llywodraeth, a sicrhaodd fod gan bobl sy'n gadael gofal incwm misol net o £1,280 am ddwy flynedd ar ôl gadael gofal. Mae hynny'n dal i gael ei werthuso. Roedd yr unigolyn ifanc a oedd wedi bod yn ei gael yn llawn canmoliaeth ohono. Dywedodd ei fod yn ei chael hi'n anodd newid o incwm sylfaenol i gredyd cynhwysol. Roedd hwnnw'n newid anodd. Ond roedd yn llawn canmoliaeth i'r gefnogaeth a'r help a roddodd hyn iddo wrth iddo adael gofal. Fy ngobaith i yw y bydd gwerthusiad boddhaol yn arwain at fabwysiadu'r cynllun ar gyfer pawb sy'n gadael gofal fel ein bod yn gallu cyflawni ein cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol a rhoi dechrau da mewn bywyd i'r bobl ifanc. A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pryd y bydd y gwerthusiad yn cael ei gyhoeddi a pha gynlluniau sydd ar y gweill i ymestyn y prosiect yn y dyfodol?
Mae pobl ifanc yn teimlo'n gryf nad ydynt eisiau i neb gamfanteisio arnynt. Dyna pam y gwnaethant lobïo i gael gwared ar yr elw o ofal plant. Dyna un o'r rhesymau pam y mae'r Llywodraeth wedi deddfu, ac ni fydd unrhyw gartrefi plant er-elw newydd yn cael eu hagor o fis Ebrill eleni. Roedd y plant y siaradais â nhw'n falch iawn fod hyn wedi digwydd, eu bod wedi cael eu clywed, ond roedd ganddynt gwestiynau. Roeddent am wybod, os yw cwmni presennol wedi'i gofrestru yng Nghymru eisoes, a allai barhau i greu cartrefi newydd ar ôl y dyddiad terfyn i wahardd darparwyr newydd, ac a all cartrefi plant er-elw presennol gynyddu eu niferoedd ar ôl y dyddiad hwn.
A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar gynnydd y symudiad tuag at y pwynt terfyn yn 2030? Roedd y bobl ifanc yn teimlo bod hyn yn bell yn y dyfodol a bod eu plentyndod wedi mynd heibio, mewn gwirionedd, wrth iddynt aros am y newid polisi. Roeddent yn poeni na fyddai'r polisi yn goroesi o dan y Llywodraeth nesaf. Roeddent eisiau gwybod hefyd beth fyddai'n digwydd i'r holl blant o Loegr sy'n cael eu lleoli mewn cartrefi plant preifat yng Nghymru. Mae dileu elw yn y ffordd hon yn bolisi radical, ac rwy'n credu y dylem roi clod i Lywodraeth Cymru, ond rwy'n meddwl y byddai'n dda clywed mwy am gynnydd ei weithrediad.
Un o'r pwyntiau pwysig eraill a wnaed gan y bobl ifanc oedd pwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal. Dywedodd llawer ohonynt yn deimladwy iawn eu bod yn teimlo, pe bai digon o gymorth wedi cael ei roi yn ddigon cynnar, efallai na fyddent wedi gorfod cael eu derbyn i ofal ac y gallent fod wedi aros gyda'u teuluoedd biolegol. Sut y bydd y rhaglen ymyrraeth ac atal genedlaethol arfaethedig yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymateb mewn ffordd briodol? Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn bryderus iawn fod eu profiadau'n dibynnu cymaint ar ble rydych chi'n byw, ym mha awdurdod lleol rydych chi ynddo, ac mae gwasanaethau'n amrywio ar draws y gwahanol awdurdodau lleol.
Yn olaf, rwy'n credu bod yna rai pethau ymarferol iawn y gallwn eu gwneud dros blant sydd â phrofiad o ofal—ein plant ni y mae gennym gyfrifoldeb amdanynt. Rwy'n credu y dylent gael triniaeth ddeintyddol am ddim—nid yn unig pan fydd triniaeth ddeintyddol plant yn dod i ben; dylent ei gael tan eu bod yn 25 oed fan lleiaf. Mae rhai plant yn symud yn aml iawn, yn symud lleoliadau, ac nid oes ganddynt ddeintydd rheolaidd, ac yn sicr mae yna broblem gyda dannedd plant yn dioddef. Rwy'n credu mai'r peth lleiaf y gallwn ei wneud yw gwneud yn siŵr eu bod yn cael profion a thriniaeth am ddim ar ôl 18 oed—yn sicr hyd at 25 oed, ac rwy'n credu y gallai fod achos dros ei barhau'n hwy. Nid ydym yn sôn am nifer helaeth o blant; ar unrhyw un adeg, mae nifer y plant sydd â phrofiad o ofal oddeutu 7,000 yng Nghymru. Pe baem yn dechrau'r polisi hwn, rwy'n credu y byddai'n dangos ein cyfrifoldeb fel rhieni corfforaethol i ofalu am eu dannedd. Oherwydd rydym i gyd yn ceisio gofalu am ddannedd ein plant, gan ofyn yn ddiddiwedd, 'Wyt ti wedi brwsio dy ddannedd?' Rwy'n credu y dylem wneud yn siŵr y gallant gael y driniaeth honno'n rhad ac am ddim. A dylai fod yr un fath ar gyfer triniaeth a gofal llygaid.
Yn olaf, rwy'n falch iawn o fod wedi cael y cyfle hwn i wneud ychydig o bwyntiau am y grŵp pwysig hwn o bobl ifanc. Mae gennym gyfrifoldeb enfawr amdanynt. Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i'r holl bobl sy'n gweithio i sicrhau bod eu bywydau mor dda ag y gallant fod: y rhieni maeth, y rhieni mabwysiadol, y staff preswyl, yr awdurdodau lleol, ac wrth gwrs, y sector gwirfoddol—Voices from Care Cymru a'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac wrth gwrs, Plant yng Nghymru, Cymru Ifanc. Ond yn anad dim, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r bobl ifanc a'r plant am eu dewrder a'u gwydnwch. Rwy'n falch iawn o fod wedi gallu siarad amdanynt heddiw. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy gydnabod y gwaith a wnaeth Julie Morgan yn ystod ei chyfnod fel Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i helpu i siapio system ofal yng Nghymru sy'n rhoi plant a theuluoedd wrth ei gwraidd. Bydd y sylfeini a osododd a'r gwelliannau y mae'n parhau i'w hyrwyddo, fel y clywsom yn y ddadl hon, o fudd i genedlaethau o blant a phobl ifanc i ddod. Mae'n blatfform yr ydym wedi parhau i adeiladu arno drwy gydol y Senedd hon i gefnogi mwy o blant i aros gyda'u teuluoedd, i lai o blant a phobl ifanc gael eu gosod mewn gofal. Pan fydd plant a phobl ifanc yn cael eu gosod mewn gofal, rydym am i'r amser hwnnw fod mor fyr â phosib, mor agos at adref â phosib, fel y gallant gadw mewn cysylltiad â'u cymuned leol a'u rhwydweithiau a chyda'r gefnogaeth gywir i allu ffynnu.
Mae ein rhaglen drawsnewid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant wedi'i hadeiladu ar dair elfen allweddol: diwygio radical, y ddarpariaeth o wasanaethau yn y dyfodol a'r system gyfan yn gweithio gyda'i gilydd. Caiff ei llywio gan lais plant a phobl ifanc sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau plant. Fel y sonioch chi, Julie, nid oes enghraifft well o hyn ar waith na'r uwchgynadleddau arloesol ar brofiad o ofal yr ydym wedi cymryd rhan ynddynt. Mae'r uwchgynadleddau hyn wedi galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarfod â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ar bedwar achlysur dros bedair blynedd. Fel chi, cefais y fraint o fynychu rhai o'r rhain a gweld drosof fy hun pa mor werthfawr a phwerus yw clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau.
Mae'r profiadau hyn wedi helpu i siapio ein rhaglen drawsnewid, sydd wedi gwneud llawer o gynnydd dros y pum mlynedd diwethaf. Pasiodd y Senedd Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, gan ein gwneud yn rhan gyntaf y DU i gyflwyno gwaharddiad ar elw o ofal plant, fel y dywedoch chi. Fe wnaethom gyhoeddi'r fframwaith ymarfer amlasiantaethol ar gyfer gwasanaethau plant, sy'n gwella cysondeb ymarfer ac yn cefnogi ffordd o weithio'n seiliedig ar gryfderau ar draws asiantaethau.
Rydym hefyd wedi datblygu canllawiau ymarfer cenedlaethol ar gyfer cymorth therapiwtig i blant sydd â phrofiad o ofal. Datblygwyd y siarter rhianta corfforaethol a'i 11 egwyddor gyda phobl ifanc. Mae pob awdurdod lleol a sefydliad GIG wedi ymrwymo iddi, ac mae nifer y sefydliadau eraill sy'n gwneud hynny'n parhau i gynyddu. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn datblygu llety therapiwtig a gwasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, ac mae'r cartrefi newydd hyn yn galluogi ein plant mwyaf agored i niwed i aros yn eu cymunedau.
Rydym wedi cyflwyno gwasanaethau eiriolaeth rhieni ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cyhoeddi cyllid i gefnogi eiriolaeth rhieni ar gyfer y flwyddyn nesaf, a chyllid ychwanegol i ymestyn cymorth eiriolaeth cymheiriaid mewn sawl ardal ledled Cymru. Rydym wedi gweithio gyda'r Rhwydwaith Maethu i gyflwyno'r cynllun peilot camu i'r adwy cyn camu yn ôl yng Nghymru, ac rydym wedi parhau ein hymrwymiad i gynnal hawliau plant a phobl ifanc digwmni sy'n ceisio lloches. Rydym wedi creu Maethu Cymru, ac mae'r gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol wedi cyflwyno rhaglen drawsnewid sy'n rhoi hunaniaeth, cysylltiad a chymorth gydol oes wrth wraidd mabwysiadu. Mae llawer wedi'i gyflawni, ond mae mwy i'w wneud o hyd.
I ymateb i'ch cwestiynau nawr, yn gyntaf, mewn perthynas â gofalwyr maeth yn cwtsio plant yn eu gofal, rwy'n falch o glywed bod hyn yn cael effaith gadarnhaol. Rydym wedi symud ymlaen ymhellach gyda hyn drwy weithio gyda'r Rhwydwaith Maethu a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu pecynnau hyfforddi ar gyfer gofalwyr maeth. Mae'r canllawiau gofalu mwy diogel a ddiweddarwyd yn cynnwys pwysigrwydd cwtsio, cynhesrwydd a chyswllt corfforol. Yn ogystal, mae adnoddau fframwaith dysgu a datblygu Maethu Cymru yn cynnwys canllawiau ynghylch cyswllt corfforol erbyn hyn, ac mae rhaglen Sgiliau Maethu y Rhwydwaith Maethu yn gwneud yn berffaith glir fod cyswllt corfforol, cysur a chynhesrwydd yn hanfodol i bob plentyn, gan gynnwys plant mewn gofal maeth. Byddwn yn parhau i atgyfnerthu'r negeseuon hyn, a sicrhau bod pob gwasanaeth, pob tîm a phob gofalwr yn teimlo'n hyderus ac yn cael eu cefnogi i gynnig anwyldeb corfforol dan arweiniad y plentyn. Rwy'n ddiolchgar i chi am godi hynny yn y ddadl heddiw.
Rydych chi hefyd yn tynnu sylw at yr ymyl dibyn y mae rhai pobl ifanc yn ei brofi pan fyddant yn gadael gofal. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod hwn yn gyfnod anodd i bobl ifanc, a dyna pam ein bod wedi pwysleisio rôl pawb fel rhiant corfforaethol, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol allweddol fel cynghorwyr personol ac oedolion dibynadwy y daw pob unigolyn ifanc i gysylltiad â nhw ar hyd eu taith. Mae momentwm yn datblygu o amgylch y siarter rhianta corfforaethol, sydd â photensial yn fy marn i i gynnig cefnogaeth a chyfleoedd llawer ehangach i rai sy'n gadael gofal.
Mae'r peilot incwm sylfaenol y gwnaethoch chi ofyn yn ei gylch yn enghraifft dda o ddull newydd o gefnogi pobl sy'n gadael gofal er mwyn rhoi'r hwb ychwanegol sydd ei angen arnynt pan fyddant yn gadael gofal. Mae'r gwerthusiad o'r peilot ar y gweill a bydd yn parhau i mewn i 2027. Mae adroddiadau gwerthuso blynyddol eisoes wedi'u cyhoeddi yn 2024 a 2025, ac erbyn hyn mae adroddiad 2026 ar y ffordd. Mae pob un o'r adroddiadau hynny'n rhoi mewnwelediad interim o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r peilot ac rydym yn gwbl ymrwymedig fel Llywodraeth i ddysgu am ganlyniadau'r fenter allweddol hon.
Nawr am eich cwestiynau ar ddileu elw o ofal. Gallaf gadarnhau, o 1 Ebrill eleni, na fydd darparwyr er-elw presennol yn gallu ychwanegu cartrefi plant newydd at eu cofrestriad. Byddant yn dal i allu gwneud cais i ymestyn eu terfyn capasiti hyd at 1 Ebrill 2027, ond yn eu cartrefi presennol yn unig. Mae cynnydd yn parhau ar weithredu cyn Ebrill 2030, pan na fydd modd gosod plant yng ngofal darparwr er-elw, ac eithrio mewn amgylchiadau hollol eithriadol, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a chyda'r sector. Yr wythnos diwethaf fe wnaethom lansio ymgynghoriad ar ddyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i baratoi cynlluniau digonolrwydd blynyddol, i nodi sut y byddant yn cyflawni eu dyletswydd i sicrhau llety priodol i blant sy'n derbyn gofal, yn unol â'r darpariaethau newydd i ddileu elw. Bydd y cynlluniau hyn yn cryfhau cynlluniau strategol awdurdodau ar gyfer gweithredu'r ymrwymiad.
Rwy'n deall y pryderon a godwyd gennych, a phryderon pobl ifanc fel y cawsant eu mynegi i chi, am blant o Loegr sydd wedi'u lleoli mewn cartrefi plant er-elw yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd y plant hyn yn gallu parhau i fyw yn y cartrefi hyn os yw'n parhau i fod er eu budd gorau.
Yn olaf, Julie, fe wnaethoch chi gyfeirio at ymyrraeth ac atal cynharach. Mae hyn wedi bod yn ffocws hollol ganolog i'n grŵp cyflawni trawsnewid, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, ac yn bwysicaf oll, o blith bobl ifanc â phrofiad o ofal eu hunain. Maent wedi cynhyrchu diweddariad cynhwysfawr ar y cynnydd a wnaed ac mae wedi canolbwyntio'n benodol ar yr wyth ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu a ddarparodd y fframwaith ar gyfer y rhaglen gyffredinol. Mae'r adroddiad yn cynnwys yr hyn y credaf ei fod yn ddarn sylweddol o waith i ddatblygu fframwaith ymyrraeth gynnar ac atal ar gyfer Cymru, ac mae'n gorffen gyda set o argymhellion penodol gan y grŵp cyflawni ar gyfer tymor nesaf y Senedd, a gobeithio y bydd y gwaith hwn yn parhau gyda'r momentwm y mae'n ei haeddu. Rydym wedi rhoi camau mawr ar waith ar y daith hon, ond mae'n daith nad yw'n dod i ben, ac na all ddod i ben yma. Rhaid iddi barhau i dymor nesaf y Senedd, a thu hwnt i hynny'n wir.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
A daw hefyd â'n hamser yn y Siambr hon i ben. Rwy'n gobeithio eich gweld chi i gyd yn y Siambr sydd wedi'i hadnewyddu ar ein cyfer yn y Senedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:03.