Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/12/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg sydd gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.

Buddsoddiad drwy Fuddsoddi-i-arbed

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio buddsoddiad drwy fuddsoddi-i-arbed er mwyn gwella cynhyrchiant? OQ63599

Diolch yn fawr, Lywydd. Dros ei hoes, mae'r gronfa buddsoddi i arbed wedi cefnogi oddeutu 200 o brosiectau gwerth £200 miliwn, gan gynnwys gwella cynhyrchiant drwy effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Caiff arbedion eu hailgylchu a'u hailfuddsoddi mewn mentrau fel ffermydd solar ysbytai a seilwaith gwyrdd.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb? Credaf mai un o'r pethau anffodus yw nad yw newyddion da a phrosiectau da o reidrwydd yn teithio'n arbennig o dda yng Nghymru. Mae gan Gymru broblem gyda chynhyrchiant sy'n waeth na gweddill y DU. Er mwyn gwella cynhyrchiant, yn aml mae angen diweddaru'r offer. Mae hyn yn cynnwys mwy o fuddsoddiad mewn systemau TG a diweddaru offer presennol drwy foderneiddio. Mae'r Sefydliad Iechyd yn awgrymu ffordd arall o wella'r broses yn y system gofal iechyd, ac mae hyn yn cynnwys defnyddio arbenigwyr mewn meddwl drwy systemau a pheirianwyr yn cynllunio systemau a all helpu i ddelio â chymhlethdod. Gall defnyddio arbenigwyr a all ddadansoddi pwrpas a swyddogaeth system a sut y gellir ei threfnu wneud y system yn fwy cynhyrchiol. A ddylid darparu mwy o arian cyfalaf ar gyfer y gronfa buddsoddi i arbed er mwyn gwella cynhyrchiant, gan gynnwys defnyddio deallusrwydd artiffisial?

Lywydd, diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn pellach ac am ei ddiddordeb parhaus yn y pwnc hwn. Roeddwn yn falch o gael cyfle, ger bron y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar, i nodi'r ffyrdd y mae fersiynau'r dyfodol o gynllun buddsoddi i arbed yn cael eu datblygu yn Llywodraeth Cymru. Yn yr hyn a ddywedodd Mike Hedges, Lywydd, gallwch weld y ddwy elfen allweddol o gynllun buddsoddi i arbed llwyddiannus. Mae angen buddsoddiad cyfalaf arnoch, ond mae angen y sgiliau i gyd-fynd â hynny er mwyn manteisio ar y posibiliadau newydd hynny. Mae gan y maes iechyd nifer o enghreifftiau llwyddiannus o gynlluniau buddsoddi i arbed blaenorol sy'n arddangos y ddwy nodwedd hynny: digideiddio cofnodion cleifion, sy'n golygu y gellir eu cyrchu'n gyflymach a'ch bod yn gallu defnyddio'r adnoddau staff sydd gennych yn fwy effeithlon; a phresgripsiynu electronig, sy'n lleihau camgymeriadau dynol ac yn caniatáu mwy o gywirdeb yn y meddyginiaethau a ddarperir i gleifion. Mae mwy y gallwn ei wneud. Mae deallusrwydd artiffisial, fel y dywedodd Mike Hedges, yn darparu set gwbl newydd o bosibiliadau, a chredaf y byddai'n dda pe bai Llywodraeth un o Seneddau'r dyfodol yn edrych ar y ffordd y gall technegau buddsoddi i arbed gyflymu'r broses o'u mabwysiadu.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mewn egwyddor, rydym yn llwyr gefnogi'r fenter buddsoddi i arbed, ond mae'n rhywbeth y mae angen inni weld llywodraeth leol a sefydliadau eraill sy'n derbyn arian cyhoeddus hefyd yn ei roi ar waith o fewn eu sefydliadau eu hunain, nid rhywbeth sy'n digwydd o ganlyniad i gronfa y mae Llywodraeth Cymru wedi'i sefydlu yn unig. Pa gyngor a chymorth ac anogaeth rydych chi'n eu rhoi i lywodraeth leol ac i gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru sy'n gyfrifol am eu harian eu hunain i sicrhau eu bod yn darparu'r gwerth am arian y mae trethdalwyr yn ei ddisgwyl?

Lywydd, mae Darren Millar yn gwneud pwyntiau pwysig. Pan oeddwn yn Weinidog cyllid ac yn adolygu ceisiadau am gyllid buddsoddi i arbed gan Lywodraeth Cymru, y cwestiwn cyntaf a ofynnwn bob amser oedd: sut y mae'r sefydliad hwn yn defnyddio ei gapasiti ei hun yn yr un ffordd? Dylai cyfraniad Llywodraeth Cymru fod yn ychwanegol at y pethau y maent yn eu gwneud, ac weithiau ar y pen mwy arloesol, i ganiatáu iddynt ddefnyddio eu harian ar y ffyrdd mwy profedig o gasglu'r buddion hynny. Felly, yn fy sgyrsiau â llywodraeth leol yn enwedig, rwyf bob amser yn awyddus i sicrhau eu bod yn chwilio am y cyfleoedd hynny. Credaf imi dynnu sylw at un o'r cyfleoedd yn y ddadl ar y gyllideb ddoe, cyfle sy'n cael ei arwain gan awdurdodau lleol, sef y gwaith y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn ei wneud i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial newydd i arbed gweithwyr cymdeithasol rhag y broses lafurus o drawsgrifio cyfweliadau pan fyddant wedi'u cynnal. Maent yn credu bod hyn yn rhyddhau 7.5 awr y gweithiwr yr wythnos i allu gwneud gwaith wyneb yn wyneb gyda defnyddwyr, yn hytrach na'r ochr fwy mecanyddol, y gall deallusrwydd artiffisial bellach ei chwblhau i chi mewn amser real. Yn yr un modd, mae'r gwasanaeth iechyd yn symud i'r cyfeiriad hwnnw, lle bydd meddygon sy'n gwneud eu rowndiau'n gallu cymryd cofnodion ar y pryd, yn hytrach na bod rhaid iddynt ddefnyddio eu hamser clinigol gwerthfawr i ddal i fyny â phethau wedyn.

13:35
Twf Economaidd

2. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei rhoi i sicrhau twf economaidd yng ngogledd Cymru wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27? OQ63595

Diolch i'r Aelod. Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau twf economaidd yng ngogledd Cymru. Ar draws y Cabinet, mae mesurau'n cael eu rhoi ar waith, fel yr ardal twf deallusrwydd artiffisial ar gyfer gogledd Cymru, cymeradwyaethau ar gyfer y porthladd rhydd a'r parthau buddsoddi, a chymorth uniongyrchol i fusnesau fel Siemens Healthineers. At ei gilydd, byddant yn darparu twf economaidd i ddinasyddion gogledd Cymru.

Wrth gwrs, mae llawer o hynny'n dilyn mentrau gan Lywodraeth flaenorol y DU. Ond er bod angen economi gryfach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy o ansawdd, mae prif economegydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr wedi dweud bod arweinwyr busnes wedi ymlâdd ar ôl corwynt o ansicrwydd a chynnydd mewn trethi y llynedd, a bod 80 y cant o arweinwyr busnes yn teimlo'n negyddol am gyllideb hydref y DU. Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod y gyllideb mewn perygl o barhau â chylch dieflig dirywiad economaidd. Dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain fod cyllideb y DU yn ei gwneud hyd yn oed yn ddrytach i gyflogwyr gynnig swyddi i bobl ifanc a phobl sy'n chwilio am waith, a dywedodd Siambrau Masnach Prydain fod perygl y gall y gyllideb wneud niwed i economïau gwledig.

Mae'r economi'n farwaidd, ac wedi crebachu ym mis Medi a mis Hydref, mae chwyddiant yn dal i fod uwchlaw'r targed, mae taliadau dyled blynyddol wedi codi i £100 biliwn, ac mae lefelau diweithdra yn y DU wedi codi i 5.1 y cant, ac i 6.1 y cant yng Nghymru, ar ôl dioddef ergyd ddwbl dwy Lywodraeth Lafur. Mae hyn oll yn effeithio ar dwf economaidd yn y gogledd a thu hwnt. Felly, a wrandawoch chi ar y rhybuddion hyn? Os gwnaethoch, pa gamau os o gwbl a gymeroch chi i dorri’r cylch o anobaith economaidd a rhoi hwb i economi’r gogledd, a Chymru gyfan, gan gydnabod y pryderon a godwyd?

Lywydd, fy nghyngor i’r Aelod pan fydd yn siarad â phobl sy’n dioddef o anobaith economaidd o’r math y mae wedi’i ddisgrifio yw eu gwahodd i ogledd Cymru, lle byddant yn gweld economi sy’n ffynnu, lle mae'r lefelau diweithdra yn is na chyfartaledd y DU a Chymru, lle mae cyflogau'n uwch na chyfartaledd y DU, a lle mae datblygiadau ar waith, o fuddsoddiad yng Nghaergybi yn y gorllewin i’r ganolfan parodrwydd gweithgynhyrchu yn y dwyrain. Mae'r syniad mai'r ffordd rydych chi'n gwneud llwyddiant o economi Cymru yw defnyddio pob cyfle a gewch chi i'w thanseilio yn fy nrysu, yn enwedig pan fo hynny'n mynd yn groes i'r dystiolaeth yn yr union ranbarth y mae'r Aelod yn ei gynrychioli.

Mi ddaru ichi sôn yn eich ateb am Siemens Llanberis. Dwi'n falch iawn o'r datblygiadau yn Siemens, ac mae'n wych gweld bod y cwmni wedi tyfu i gyflogi cannoedd yn yr ardal. Ond, wrth gwrs, mae eisiau cofio y cychwynodd y cwbl drwy waith arloesol gŵr lleol, Osborn Jones. Felly, mae gwaith pobl leol yn mentro ac yn arloesi yn hollbwysig wrth ddatblygu'r economi.

Dydy'r gogledd, wrth gwrs, ddim yn un rhanbarth homogenus, unffurf, ac mae creu twf economaidd yn y rhannau gorllewinol, gwledig, Cymreig yn gofyn am strategaethau penodol. Busnesau bach a chanolig ydy asgwrn cefn Gwynedd, efo busnesau ym mherchnogaeth cymunedau yn blodeuo ar draws y sir—ffaith dwi'n hynod falch ohoni—efo'r mudiad cymunedoli yn rhoi platfform ar gyfer y cydweithio yn y sector pwysig yma. Felly, hoffwn i wybod gennych chi beth sydd yn y gyllideb sydd yn rhoi cefnogaeth penodol i dwf mentrau cymunedol fel ffordd bwysig o dyfu'r economi yng Nghymru.

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd hi am Siemens yn Llanberis. Fe ges i'r fraint o gwrdd â nhw yn Llanberis ar ôl siarad gyda Dafydd Wigley, a oedd yn rhywun arall pwysig yn nhwf y cwmni. Rydyn ni'n gwybod nawr, ar ôl yr arian sy'n mynd i ddod gan Lywodraeth Cymru, y bydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu yno, gyda sgiliau uwch, gyda chyflogwyr sgiliau uwch hefyd. So, mae hwnna'n rhywbeth pwysig yn y gogledd-orllewin.

Dwi wedi siarad fwy nag unwaith gyda Jane Hutt am gymunedoli, ar ôl y cyfweliad y mae hi wedi ei gael yn y gogledd. Ac mae nifer o bethau yn y gyllideb o dan gyllid o dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ond hefyd yn y gyllideb gyffredinol, sydd yn cefnogi busnesau lleol, busnesau bach, i'w helpu nhw i dyfu, ac, fel rydyn ni wedi gweld yn Siemens, i greu swyddi at y dyfodol.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa ran o gyllideb y flwyddyn nesaf y credwch chi sy'n cefnogi twf economaidd yng Nghymru orau?

Wel, Lywydd, mae cyfres o ffyrdd y mae'r gyllideb yn cefnogi twf economaidd. Ceisiais esbonio ddoe yn y ddadl ar y gyllideb mai'r tri pheth mwyaf defnyddiol y gall llywodraethau eu gwneud i gefnogi'r ymdrech honno yw drwy fuddsoddi mewn sgiliau, ac mae'r gyllideb yn llwyr gefnogi hynny drwy brentisiaethau lefel uwch a llawer o ffyrdd eraill y gellir bwrw ymlaen â'r buddsoddiad mewn sgiliau ym mhoblogaeth Cymru: buddsoddi mewn seilwaith—y buddsoddiad enfawr rydym yn ei wneud mewn rheilffyrdd, y buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn cysylltedd digidol yma yng Nghymru, gyda buddsoddiad arall o £20 miliwn, yn y gyllideb yn y maes hwnnw hefyd; ac yn y gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi arloesedd yn yr economi, gan y bydd swyddi'r dyfodol yn dod o'r cwmnïau arloesol hynny, y ffyrdd newydd hynny o weithio. Clywsom hynny yng nghwestiwn cynharach Mike Hedges. Ym mhob un o'r tair ffordd, mae'r gyllideb yn cefnogi twf economaidd.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Clywsom ychydig eiliadau yn ôl gan Mark Isherwood rai o'r pryderon a fynegwyd gan fusnesau ledled Cymru ynghylch dyfodol yr economi yma yng Nghymru. Er gwaethaf y rhethreg gan Lywodraeth Lafur y DU yn dweud mai'r economi yw eu prif ffocws, yn anffodus, yma yng Nghymru, rydym wedi gweld lefelau diweithdra yn codi ac ar eu huchaf nawr ers 2015. Rydym bellach yn gweld lefelau anweithgarwch economaidd ar 24.5 y cant, yr uchaf ym Mhrydain. Ac ar adeg hefyd pan fo busnesau yng Nghymru yn cael ailbrisiadau amcangyfrifedig o ardrethi busnes drwy eu drysau, maent yn mynegi rhai o'r pryderon ynghylch hynny i ni. Yn wir, cysylltodd busnes â mi y bore yma i rannu bod eu bil yn mynd i fyny £117,000 y flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r ailbrisiad hwn. A meddent, 'Edrychwch, mae hynny'n chwe swydd yn ôl pob tebyg' y bydd yn rhaid iddynt ddeall sut y gallant eu cadw yn y dyfodol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cydnabod y pwysau sydd ar fusnesau o'r fath. A chyn i'r gyllideb derfynol gyrraedd yn y Senedd hon, a wnewch chi ymrwymo i adolygu pa gyfleoedd sydd yna i leihau'r pwysau ar fusnesau fel hyn o ganlyniad i'w hailbrisiad?

Wel, Lywydd, ddoe, cymeradwyodd y Senedd y cynllun ar gyfer cymorth trosiannol i bobl y mae eu biliau wedi codi o ganlyniad i'r ailbrisiad. Mae ailbrisio'n rhan bwysig iawn o'r ffordd rydym yn cadw ardrethi busnes yn gyson â natur newidiol economi Cymru. Dim ond 20 y cant o fusnesau yng Nghymru a fydd yn gweld eu biliau'n codi fwy na £300 y flwyddyn cyn i ryddhadau eraill gael eu cymhwyso. Ac ar gyfer yr 20 y cant hwnnw o fusnesau, byddwn yn buddsoddi £116 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd i leddfu'r daith i'r busnesau hynny sy'n gweld eu hardrethi'n codi. Credaf fod hwnnw'n gynllun hael.

Rwy'n deall y bydd ychydig iawn o fusnesau yn gweld eu hardrethi'n codi i'r un graddau â'r hyn a ddisgrifiwyd gan Sam Rowlands. Ar gyfer y busnesau hynny, bydd rhyddhad ardrethi trosiannol yn lleihau'r biliau hynny ddau draean yn y flwyddyn gyntaf a thraean yn yr ail flwyddyn. A bydd yn dair blynedd, y cylch ailbrisio llawn, cyn y bydd gofyn i'r busnesau hynny wneud y cyfraniad y gofynnir iddynt ei wneud, gan fod yr ailbrisiad wedi'u nodi fel sector sydd—. Oherwydd natur ailbrisio, gyda rhai busnesau'n wynebu biliau llai a rhai busnesau'n wynebu biliau uwch, mae'r ailbrisiad wedi'i gynllunio i sicrhau bod y system yn deg i bawb.

13:45

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gwrs, fe wnaethom gefnogi'r cynnig ddoe ar gyfer y taliadau trosiannol hynny, gan ein bod yn cydnabod ei fod yn gynnig 'derbyniwch ef neu anghofiwch amdano', ac rydym yn credu ei bod yn iawn ac yn briodol y dylid rhoi'r cymorth hwnnw i'r busnesau hynny. Ond yr hyn rydym yn ei glywed nawr, wrth gwrs, yw ei bod yn her wirioneddol i rai o'r busnesau hynny, er gwaethaf y cymorth a gynigiwyd ac a gytunwyd yn wreiddiol.

Daw pryder penodol gan y rhai yn y sector lletygarwch sydd, wrth gwrs, yn cefnogi ein stryd fawr i ffynnu. Ac rydych chi wedi sicrhau bod rhywfaint o gymorth penodol ar gael i fusnesau manwerthu ar ein stryd fawr, a rhywfaint o'r rhesymeg y tu ôl i hynny, wrth gwrs, yw lliniaru peth o'r gystadleuaeth gan fusnesau ar-lein. Ond wrth gwrs, gwyddom fod lletygarwch ar ein stryd fawr yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i sut y mae ein stryd fawr yn ffynnu ac yn helpu ein busnesau manwerthu i ffynnu hefyd.

Felly, gyda hynny mewn golwg, ac yn enwedig gyda lletygarwch, mae'n ymwneud â'r gyflogaeth y maent yn ei chynnig i bobl ifanc. Gwyddom fod cyflogaeth ymhlith ein pobl ifanc yng Nghymru yn arbennig o wael. Mae pryderon y bydd llai o bobl ifanc yn mynd i mewn i waith o ganlyniad i'r pwysau maent yn eu hwynebu. Felly unwaith eto, mae cyfle cyn y gyllideb derfynol i adolygu beth allai gefnogi'r sector lletygarwch yn enwedig. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n fodlon ei wneud, rhoi sicrwydd i'r sector hwnnw fod eu problemau'n cael eu cymryd o ddifrif, ac fel y gallwn weld pobl ifanc yn y dyfodol yn cael eu cyflogi hefyd?

Wel, Lywydd, credaf fod y dystiolaeth yn sicr yn dangos bod Llywodraeth Cymru’n cymryd y sector lletygarwch o ddifrif, oherwydd yn ôl dadansoddiad y diwydiant ei hun, nid yw dwy ran o dair o fusnesau lletygarwch yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl, ac mae hynny oherwydd lefel y cymorth sydd eisoes yno yn y system.

Byddwn yn gosod lluosydd is ar gyfer y flwyddyn nesaf ar gyfer busnesau manwerthu ar y stryd fawr, a hynny am ddau reswm. Dyma'r defnydd cyntaf i'r Senedd ei wneud o'r pwerau hyn erioed, a fy marn i oedd y dylem ddechrau'n gymharol gymedrol er mwyn gallu asesu effeithiolrwydd, neu fel arall, yr ysgogiad hwnnw i gynorthwyo'r busnesau hynny. Ac os yw'n ysgogiad llwyddiannus, gall un o Seneddau'r dyfodol weld a yw'n rhywbeth y byddent yn dymuno ei weld yn cael ei ymestyn yn ehangach. Y rheswm pam ein bod yn dechrau gyda manwerthu ar y stryd fawr ac nid gyda lletygarwch yw'r rheswm a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn olaf, Lywydd, sef bod busnesau manwerthu ar y stryd fawr yn unigryw o ran pa mor agored ydynt i gystadleuaeth gan fusnesau ar-lein. Ni allwch fwyta pitsa ar-lein. Mae eich diwydiannau lletygarwch yno ac mae'n rhaid ichi ymweld â nhw er mwyn iddynt weithio. Nid yw hynny'n wir am fusnesau manwerthu ar y stryd fawr, lle mae cymaint o bethau ar gael ar-lein. Dyna pam nad ydym wedi dechrau gyda lletygarwch, ond bydd defnyddio lluosyddion gwahaniaethol, os yw'n offeryn polisi llwyddiannus, yn rhywbeth y bydd Llywodraeth yn y dyfodol eisiau ei ystyried a gweld a ddylid ei ymestyn i gynnwys lletygarwch hefyd.

Diolch, Llywydd. Dwi eisiau troi at y Gymraeg o ran fy nghwestiynau i heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, a baswn i'n hoffi gofyn os ydych chi'n cytuno bod yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn allweddol er mwyn gwireddu'r nod o gynyddu'r defnydd o wasanaethau Cymraeg. Ydych chi'n cytuno bod y ddau beth yn mynd law yn llaw?

Dwi yn. Wrth gwrs, mae hawl gan bobl yng Nghymru i ddefnyddio'r iaith Gymraeg. Mae dwy iaith yng Nghymru sydd â statws swyddogol, Saesneg a Chymraeg, a chyfleon i ddefnyddio'r Gymraeg yw'r ffordd orau i dyfu defnydd.

Diolch am hynny, a dwi'n falch ein bod ni yn gallu ffeindio consensws yma, o ran Aelodau'r Senedd presennol, o ran y Gymraeg, a bod o ddim yn bwnc llosg fel y buodd o yn y gorffennol. Y rheswm pam roeddwn i'n gofyn hynny'n benodol ydy gan fod Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi ei chynigion terfynol ar gyfer polisi gorfodi newydd yn ddiweddar. Mae rhai wedi codi pryderon nad oes cydnabyddiaeth i rôl allweddol gwaith gorfodi'r comisiynydd wrth wireddu'r hawl i'r Gymraeg a sefydlwyd yn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn y polisi newydd, a bod yna ymagwedd fwy meddal tuag at gyrff sy'n tramgwyddo dyletswyddau iaith, gan wneud i'r polisi ymddangos yn wannach na'r polisi cyfredol. Dwi'n deall bydd y polisi yn cael ei gyflwyno i chi i'w gymeradwyo, felly gaf i ofyn a ydych chi wedi derbyn eto y polisi gorfodi newydd? Os felly, beth ydy'r amserlen ar ran ei gymeradwyo, a sut ydych chi am sicrhau bod hawliau'n parhau yn rhan ganolog o'r polisi gorfodi?

13:50

Diolch yn fawr i Heledd Fychan, Llywydd. Anfonodd y comisiynydd polisi gorfodi drafft diwygiedig i Weinidogion ei gymeradwyo ar 16 Rhagfyr. Y cam nesaf yw mynd ati i ystyried y polisi yn llawn. Byddaf yn diweddaru Aelodau'r Senedd wedi i mi ei ystyried, a gobeithio bydd hwnna yn gallu digwydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Jest yn mynd ar ôl yr ail bwynt roedd Heledd Fychan yn ei godi, dwi'n cefnogi beth mae'r comisiynydd yn ei wneud, i gydweithio gyda'r cyrff i'w helpu nhw i gydymffurfio, ar y safonau a phopeth arall rŷn ni eisiau iddyn nhw ei wneud i gefnogi'r iaith Gymraeg. Wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd, mae'n bwysig i'r comisiynydd ddefnyddio'r pwerau sydd ganddi hi os yw hi'n meddwl bod yn rhaid iddi hi ei wneud e yn y ffordd yna. Ond y cam cyntaf, dwi'n meddwl, yn y polisi newydd gyda'r comisiynydd yw trio cydweithio â phobl i'w perswadio nhw ac i'w helpu nhw i wneud popeth rŷn ni eisiau iddyn nhw ei wneud.

Diolch yn fawr iawn am hynny. Gwaith cartref dros y Nadolig i chi, felly, efo'r darllen. Ond, yn sicr, dwi'n falch o glywed eich bod chi yn cydnabod pwysigrwydd yr hawl hwnnw, ei fod yn greiddiol felly.

Mi wnaf i, felly, droi at fater a gafodd cryn dipyn o sylw yn y Senedd ddoe ac sydd wedi cythruddo nifer, a hynny ydy, wrth gwrs, ymagwedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru tuag at y Gymraeg. Ydych chi'n credu bod pob aelod etholedig yma yng Nghymru angen bod yn parchu'r ffaith bod gan Gymru ddwy iaith swyddogol, ac yn ymrwymo i gyfathrebu yn y ddwy iaith gydag etholwyr? Ac a gaf i ofyn, oes yna rôl gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hynny yn digwydd? Oherwydd yn amlwg rydyn ni eisiau i bawb allu cysylltu efo aelodau etholedig yn y ddwy iaith yma yng Nghymru, a dwi'n gresynu yn fawr os nad dyna'r sefyllfa rydyn ni'n ei gweld.

Wel, dyna beth dwi eisiau ei weld hefyd. Clywais i beth ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Dwi eisiau pob person sydd â'r fraint o gynrychioli pobl i gyfathrebu â nhw yn y ddwy iaith. Gallwn ni ddim gorfodi pobl i'w wneud e, ond mae pethau eraill gallwn ni eu gwneud fel Aelodau'r Senedd ac fel Llywodraeth i dynnu sylw at y ffaith bod hawliau gan bobl yma yng Nghymru, a'r pwysigrwydd o'r bobl sy'n eu cynrychioli nhw yn cyfathrebu â nhw ym mha iaith bynnag maen nhw eisiau ei defnyddio. Mae dwy iaith swyddogol gyda ni yma yng Nghymru, ac i bob un sy'n cynrychioli pobl eraill, dwi'n meddwl y ffordd gorau yw defnyddio'r ddwy iaith sydd gyda ni.

Addysg Gymraeg yn Nyffryn Clwyd

3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â gwella'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn Nyffryn Clwyd? OQ63608

Diolch i Gareth Davies ei gwestiwn, Lywydd. Cyfarfûm yr wythnos diwethaf ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i drafod Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Yn Nyffryn Clwyd, bydd y Ddeddf yn cefnogi awdurdod addysg lleol sir Ddinbych i adeiladu ar ei lwyddiannau'n ehangu addysg Gymraeg yn y sir.

Diolch am yr ymateb.

Gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg yn sir Ddinbych o 24.6 y cant yn 2011 i 22.5 y cant yn 2021. Ond yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw bod y gostyngiad yn fwy amlwg ymhlith pobl iau. Rhwng y blynyddoedd hynny, 2011 a 2021, gostyngodd nifer y plant rhwng tair a 15 oed sy'n siarad Cymraeg o 45.9 y cant i 37.3 y cant. Mae rhaniad eithaf mawr hefyd yn Nyffryn Clwyd rhwng de'r etholaeth a'r ardaloedd arfordirol yn y gogledd, gyda data'r cyfrifiad yn dangos rhaniad rhwng Dinbych uchaf a Dinbych isaf o ran hyfedredd yn y Gymraeg, sydd fel microcosm yng nghyd-destun yr etholaeth gyfan, gyda lefelau isel o siaradwyr Cymraeg yn y gogledd. Gydag ymrwymiadau i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, rhywbeth y mae pob un ohonom wedi ymrwymo iddo, nid wyf yn gweld llawer o gynnydd ar hyn yn fy etholaeth, ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld dirywiad. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau darpariaeth ddigonol o addysg iaith Gymraeg yn Nyffryn Clwyd, yn enwedig yn y Rhyl a Phrestatyn, lle mae'r cyfraddau'n sylweddol is?

Wel, Lywydd, rwy'n falch o allu rhoi rhywfaint o newyddion da i'r Aelod, gan y credaf fod y dystiolaeth ddiweddar o sir Ddinbych yn dangos bod y sir yn cael llwyddiant mewn llawer o'r meysydd y byddwn yn dibynnu arnynt i ddatblygu siaradwyr Cymraeg hyderus ac annibynnol ar gyfer y dyfodol. Mae mwy o bobl ifanc nag erioed o'r blaen yn cael eu haddysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sir. Mae'r cyfraddau trosglwyddo o gylchoedd meithrin i ysgolion cynradd yn uwch nag ar draws gweddill Cymru. Mae nifer y plant sy'n mynychu darpariaeth Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg wedi treblu dros y tair blynedd diwethaf yn unig, o ganlyniad i ehangu'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg. Ac mae twf cryf yn sir Ddinbych yn y nifer sy'n manteisio ar addysg drochi hwyr. Dyna un o lwyddiannau mawr addysg Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf. Mae dros 50 o ddysgwyr yn y sir wedi elwa yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gyda datblygiad gwasanaethau addysg drochi hwyr yn y sir a gefnogir gan gannoedd o filoedd o bunnoedd yng ngrant addysg drochi hwyr Llywodraeth Cymru.

Gwyddom y gall addysg drochi hwyr fod yn arbennig o bwysig mewn rhannau o sir Ddinbych ac mewn mannau eraill lle mae llai o siaradwyr Cymraeg yn y lle cyntaf. Felly, ar yr holl bethau hynny, rwy'n falch o allu rhoi sicrwydd i'r Aelod o'n hymrwymiad cyffredin, ac rwy'n adleisio'r pwynt a wnaeth Heledd Fychan yn gynharach ynglŷn â phwysigrwydd yr ymrwymiad cyffredin a gafwyd ar draws y Siambr hon i'r iaith Gymraeg yn nhymor y Senedd hon, ond mae'r buddsoddiadau hynny'n gweithio, ac mae tir yn cael ei ennill wrth ddod â phobl ifanc i addysg cyfrwng Cymraeg ac i ddatblygu'r siaradwyr Cymraeg hyderus ac annibynnol hynny ar gyfer y dyfodol.

13:55

Mae gan Ddyffryn Clwyd draddodiad hir o addysg iaith Gymraeg, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i ddymuno 'pen-blwydd hapus' mawr i Ysgol Glan Clwyd wrth iddynt ddathlu eu pen-blwydd yn saith deg oed fel yr ysgol Gymraeg gyntaf yn yr ardal. Ers 2021, mae Cyngor Sir Dinbych wedi derbyn mwy na £537,000 o grant addysg drochi hwyr Llywodraeth Cymru rydych chi newydd fod yn sôn amdano. Mae llwyddiant y ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn Ysgol Glan Clwyd yn adeiladu ar eu darpariaeth gynradd gadarn. Mae'r awdurdod lleol hefyd mewn trafodaethau gyda phennaeth Ysgol Brynhyfryd i agor uned addysg drochi hwyr cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol, sydd i'w chroesawu'n fawr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn beth arall y gellir ei wneud i ledaenu ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth bwysig hon, gan gefnogi plant ledled Cymru i symud i'r ardal honno a dod yn ddwyieithog?

Diolch i Carolyn Thomas am ei chwestiwn pellach, Lywydd. Mae'n llygad ei lle fod llwyddiant addysg drochi hwyr yn stori y mae angen i ni ei dathlu a'i hadrodd, gan ei bod yn gwneud pethau rhyfeddol yn troi pobl ifanc nad oes ganddynt unrhyw allu o gwbl yn y Gymraeg weithiau yn bobl sy'n ddigon hyderus i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn amserlen lawer cyflymach. Yn gynharach yn yr haf, roeddwn yn Ysgol Henry Richard yng Ngheredigion, yn Nhregaron, a chyfarfûm yno â dyn ifanc a oedd wedi dod i Geredigion o dramor a oedd, o fewn wythnosau, drwy'r system addysg drochi hwyr, wedi mynd o fod heb unrhyw Gymraeg o gwbl i sefyll ei holl arholiadau TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yn stori wirioneddol arbennig. Pan ddywedais pa mor arbennig oedd hynny, dywedodd wrthyf, wrth gwrs, mai'r Gymraeg oedd y bumed iaith yr oedd yn ei siarad bellach, gan ei fod yn dod o gartref lle roedd siarad llawer o ieithoedd yn rhan o'r ffordd bob dydd y mae pobl yn credu y gellir gweld y byd a llywio'r ffordd drwy fywyd.

Credaf mai'r ffordd arall y gallwn wneud mwy i ddathlu ac i dynnu sylw yw'r pwynt a wnaeth Carolyn Thomas ar ddechrau ei chwestiwn, Lywydd. Rwy'n edrych ymlaen at fynd i Ysgol Glan Clwyd ym mis Ionawr i gymryd rhan yn nathliadau eu pen-blwydd yn saith deg oed. Mae'n llwyddiant rhyfeddol ac mae'n dangos beth sy'n bosib pan fydd gennych bobl sy'n ymroddedig ac yn benderfynol o lwyddo yn y gwaith a wnânt dros yr iaith.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

4. Sut y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael adnoddau digonol? OQ63605

Lywydd, rwy'n gweithio gyda phob un o fy nghyd-aelodau o'r Cabinet i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael iddynt. Ysgrifenyddion y Cabinet eu hunain sy'n penderfynu ar ddyraniadau penodol o fewn eu portffolios.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd cyllid. Gofynnwyd i ysbytai yn Lloegr arafu triniaeth i gleifion o Bowys er bod capasiti ganddynt i'w trin. Golyga hyn fod cleifion Powys a Lloegr yn cael eu trin yn wahanol, er eu bod yn aros am driniaeth yn yr un ysbyty ac yn cael eu gweld gan yr un gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn eich trafodaethau ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru, Ysgrifennydd cyllid, a wnaethoch chi drafod pa un a fydd rhywfaint o'r £180 miliwn a ddyrannwyd i'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddyrannu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i fynd i'r afael â'r sefyllfa gwbl annerbyniol hon? Os na wnaethoch drafod hyn, a allwch gadarnhau pa un a fydd rhywfaint o'r £180 miliwn hwnnw'n cael ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i ganiatáu iddynt brynu capasiti yn Lloegr yn seiliedig ar dargedau amseroedd aros Lloegr, fel y gellir rhoi diwedd ar y sefyllfa gwbl annerbyniol hon a'r loteri cod post ar frys? Diolch.

14:00

Roedd fy nhrafodaethau gyda Phlaid Cymru yn canolbwyntio ar yr angen i ni wneud y mwyaf o'r buddsoddiad y gallwn ei wneud yng ngwasanaeth cyhoeddus pwysicaf Cymru, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. O ganlyniad, mae £180 miliwn ychwanegol ar gael at y dibenion hynny, yn ychwanegol at yr hyn a oedd eisoes yn y gyllideb, a fydd nawr yn y gyllideb derfynol pan fyddwn yn pleidleisio arni yma ar lawr y Senedd. Edrychaf ymlaen at gefnogaeth yr Aelod i'r gyllideb honno, o ystyried y pwyntiau y mae wedi'u gwneud y prynhawn yma. Mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedyn fydd ddefnyddio'r adnoddau newydd ac ychwanegol a fydd ar gael yn y maes portffolio hwnnw i fynd i'r afael â'r anghenion niferus y bydd yn rhoi sylw iddynt. Rwy'n eithaf sicr y bydd anghenion pobl ym Mhowys yn rhan o'i ystyriaeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn credu eich bod wedi ateb cwestiwn fy nghyd-Aelod Russell George, a ofynnodd a fyddai'r £180 miliwn hwnnw'n cael ei wario ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae Russell George eisoes wedi amlinellu'r heriau y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu. Buaswn wedi meddwl y gallai rhai o'r pethau hyn fod wedi codi yn y drafodaeth a gawsoch chi gyda llefarydd Plaid Cymru ar gyllid o ran sut y byddai'r arian hwnnw'n cael ei wario. Hoffwn pe gallech geisio ateb y cwestiwn gwreiddiol gan Russell George: a oedd rhywfaint o'r £180 miliwn a oedd yn rhan o'r drafodaeth ar y gyllideb yn mynd i gael ei ddyrannu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys?

Atebais gwestiwn yr Aelod yn uniongyrchol iawn, ac rwy'n hapus i'w ailadrodd eto. Os ydym yn recriwtio pobl i gefnogi'r gyllideb pan ddaw gerbron y Senedd ar 27 Ionawr, byddaf yn hapus i groesawu cefnogaeth yr Aelod iddi hefyd. Gadewch i mi esbonio iddo, fel yr esboniais i Russell George, sut y mae'r gyllideb yn gweithio: rwy'n gyfrifol am ddyrannu'r arian mwyaf posib y gallaf lwyddo i'w gael i fy nghyd-aelodau yn y Cabinet ar gyfer yr holl bethau pwysig a wnânt. Canlyniad trafodaethau gyda Phlaid Cymru yw bod £180 miliwn ychwanegol yn mynd i fod ar gael bellach i fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mater iddo ef fydd penderfynu sut i ddefnyddio'r adnoddau hynny yn y ffordd orau, nid fi fel yr Ysgrifennydd cyllid. Fy swydd i yw cael yr arian i Ysgrifennydd y Cabinet; Ysgrifennydd y Cabinet sy'n uniongyrchol gyfrifol am yr holl bethau gwahanol a wnawn fel Llywodraeth. Mater i Ysgrifennydd y Cabinet yw gwneud yn siŵr fod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio at y dibenion gorau posib, ac rwy'n eithaf sicr y bydd hynny'n cynnwys ystyried anghenion pobl Powys.

Busnesau yn Sir Fynwy

5. Pa ryddhad ardrethi busnes y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gefnogi busnesau yn sir Fynwy? OQ63589

Mae llawer o fusnesau yn sir Fynwy yn elwa o'r £335 miliwn o gymorth ardrethi annomestig sy'n cael ei ddarparu eleni. Mae hynny'n cynnwys rhyddhad parhaol gwerth dros £250 miliwn bob blwyddyn. Ddoe, cadarnhaodd y Senedd ryddhad trosiannol i fusnesau yn dilyn ailbrisiad, gan ryddhau £116 miliwn arall mewn cymorth ar gyfer biliau ardrethi busnes.

Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno bod golygfeydd ofnadwy i'w gweld yn sir Fynwy yn yr wythnosau diwethaf gyda'r llifogydd. Rwy'n gwybod bod busnesau at ei gilydd yn ddiolchgar am y cymorth sydd wedi'i ryddhau a'r lefel o rhyddhad ardrethi busnes sy'n cael ei chynnig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae nifer yn dal i fod â phryderon nad yw'n mynd yn ddigon pell.

Nodaf fod cynllun gwydnwch o hyd at £10,000 y busnes wedi'i gyflwyno yn dilyn llifogydd ofnadwy tebyg yn Rhondda Cynon Taf yn 2024 i ariannu mesurau gwrth-lifogydd yn ogystal â rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol i'r rhai a oedd yn gymwys. Er ein bod yn deall mai mater i lywodraeth leol yw hyn, a fyddai'n bosib i Lywodraeth Cymru ystyried ysgwyddo cost cynigion pellach o ryddhad ardrethi busnes i ddarparu mwy o amser a chefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnynt gan y llifogydd allu gwella? A fyddai'n bosib i chi fel Ysgrifennydd y Cabinet a'ch cyd-aelodau Cabinet wneud sylwadau i Lywodraeth y DU am ddyraniadau ychwanegol o'r gronfa Balchder Bro i ganiatáu i gymunedau yn sir Fynwy gael y gwelliannau a'r amddiffyniad hirdymor sydd eu hangen arnynt yn dilyn y llifogydd?

14:05

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n cydnabod yn llwyr yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ar y raddfa a brofwyd yn sir Fynwy ei chael ar unigolion a busnesau. Gan weithio gyda'r cyngor, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grantiau o hyd at £3,000 i fusnesau yr effeithir arnynt yn sir Fynwy, ac mae'r pecyn llawn o gymorth hefyd yn cynnwys rhyddhad ardrethi annomestig yn ôl disgresiwn ar gyfer eiddo yr effeithir arno. Roeddwn yn falch iawn o gael cyfle i gyfarfod ag arweinydd y cyngor a'r prif weithredwr, y bydd Peter Fox yn ei adnabod yn dda iawn, i drafod anghenion y sir yn uniongyrchol gyda nhw. Rwy'n hapus iawn i gael trafodaethau pellach gyda nhw i weld a oes angen cymorth pellach y tu hwnt i'r dyddiau cynharaf. Rwy'n credu ein bod ni wedi canolbwyntio ar y diwrnod hwnnw ar y presennol, ar y pethau yr oedd angen eu gwneud ar unwaith. Rwy'n cydnabod, fel y gwnaethom yn achos RhCT, fod cynffon hirach o effaith yn cael ei gadael gan lifogydd ar y raddfa honno, ac rwyf innau a fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru'n agored iawn i drafodaethau parhaus gydag arweinwyr gwleidyddol ac arweinwyr awdurdodau lleol.

Roedd y llifogydd diweddar yn sir Fynwy yn ddinistriol iawn. Roedd cynllun llifogydd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig pot bach o arian i fusnesau yr effeithir arnynt, i'w groesawu'n fawr wrth gwrs, ond mae'r cynllun yn ddewisol, fel y dywedoch chi, fel y mae'r rhyddhad. Nid yw'n sbarduno rhyddhad ardrethi busnes awtomatig, ac mae cynghorau'n penderfynu ar y rhyddhad fesul achos.

Yn Lloegr, mae busnesau sy'n cael eu taro gan lifogydd yn cael rhyddhad ardrethi busnes 100 y cant yn awtomatig am gyfnod penodol, yn ychwanegol at grantiau adfer. Mae biliau ardrethi yn cael eu hoedi neu eu dileu ar unwaith ar ôl i ardal gael ei dynodi. Yng Nghymru, ceir oedi am fod yn rhaid i fusnesau wneud cais am y grant, aros am asesiad a thaliad, ac nid oes rhyddhad ardrethi awtomatig tra byddant yn aros. Mae ardrethi llawn yn dal i fod yn ddyledus oni bai bod y cyngor yn dewis y rhyddhad yn ôl disgresiwn.

Yn sir Fynwy a chymunedau ar draws fy rhanbarth i a Chymru, mae masnachwyr yn wynebu biliau atgyweirio mawr, hawliadau yswiriant aflwyddiannus ac wythnosau o golli masnach, ac mae angen yr help hwnnw ar unwaith. Ar ôl blynyddoedd o lifogydd, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi methu rhoi rhyddhad ardrethi busnes awtomatig ac ar unwaith ar waith i fusnesau sydd wedi'u taro gan lifogydd? Diolch.

Oherwydd mai ein barn ni yw ei bod yn well gweithio trwy awdurdodau lleol gyda'u gwybodaeth am amgylchiadau ar lawr gwlad, ac yn hytrach na lledaenu unrhyw gymorth sydd ar gael mewn ffordd gyffredinol ar draws pawb, canolbwyntio'r help lle mae fwyaf o'i angen. Nid Parc Cathays yng Nghaerdydd yw'r lle gorau i wneud y penderfyniad hwnnw. Awdurdodau lleol sydd yno ar lawr gwlad sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu yn y ffordd honno, gan eu bod yn deall eu hamgylchiadau lleol ac yn gallu defnyddio'r cymorth sydd ei angen mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y busnesau sydd fwyaf o angen yr help.

Pan gyfarfûm â Chyngor Sir Fynwy, cefais fy nharo gan y ddealltwriaeth fanwl oedd ganddynt o ble oedd y llifogydd wedi digwydd, ble oedd fwyaf o angen help, a'r ymdrechion a wnaent i sicrhau y byddai'r rhai a oedd fwyaf o angen yr help yn cael eu blaenoriaethu. Ein barn ni yw bod honno'n ffordd well o wneud yn siŵr fod help yn effeithiol, yn hytrach na chynllun cyffredinol sy'n cael ei osod fel bod pobl yn cael y swm safonol o help ac nad yw'n cyd-fynd â faint o help y gallai fod ei angen arnynt mewn gwirionedd.

Helpu Dysgwyr y Gymraeg

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddull Llywodraeth Cymru o ddefnyddio technoleg ddigidol i helpu dysgwyr y Gymraeg i ddefnyddio’r iaith bob dydd? OQ63610

Diolch yn fawr i Hannah Blythyn am y cwestiwn. Mae technoleg yn gallu rhoi hwb mawr i hyder pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, ac mae sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi pobl sy'n dysgu Cymraeg yn hollbwysig. Mae gan y ganolfan ddysgu ystod eang o adnoddau digidol i gefnogi dysgwyr, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain ar gael am ddim.

14:10

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd Cabinet. Dwi'n ddysgwr Cymraeg—mae hynny'n amlwg. Mae gen i wersi yma yn y Senedd a dwi'n gwneud Duolingo bob dydd. Mae Duolingo yn helpu efo geirfa a dysgu patrymau. Fis diwethaf, cyrhaeddais i 1,000 o ddiwrnodau ar Duolingo, ond hoffwn i ddefnyddio adnoddau ar-lein eraill weithiau, dim ond i wirio fy Nghymraeg. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, gaf i ofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pethau fel deallusrwydd artiffisial i gefnogi dysgu Cymraeg?

Diolch yn fawr i Hannah Blythyn am y cwestiwn ychwanegol, a llongyfarchiadau iddi hi am y defnydd mae hi'n ei wneud o'r Gymraeg yma ar lawr y Senedd. Ces i'r cyfle i siarad gyda chwmni Duolingo nôl yn yr hydref i drio eu perswadio nhw i wneud mwy gyda'r cwrs sydd gyda nhw yn yr iaith Gymraeg, sydd wedi bod mor llwyddiannus. Ar hyn o bryd, mae'r cwrs sydd ar gael gan Duolingo bron o dan CEFR lefel A2, ond maen nhw'n gwneud mwy o waith i ddatblygu mwy o gyrsiau lan at lefel B2 hefyd. Ac ar ôl siarad gyda'r cwmni, mae peth bach o hyder gyda fi y bydd mwy o fuddsoddiad yn digwydd yn y cwrs Cymraeg dros y flwyddyn sydd i ddod.

Yn fwy cyffredinol, mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gwneud defnydd eang o dechnoleg ddigidol i helpu dysgwyr y Gymraeg i ddefnyddio'r iaith. Mae llyfrgell ddigidol y ganolfan yn cynnwys cannoedd o adnoddau digidol bite-sized, sydd wedi'u creu yn benodol i gefnogi dysgwyr ar eu taith iaith. Mae'r adnoddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i bob dysgwr. Dwi'n siŵr bod Hannah Blythyn yn ymwybodol o'r gwaith mae'r ganolfan yn ei wneud, a'r adnoddau sydd ar gael i bobl sydd eisiau gloywi eu Cymraeg. 

Diolch i Hannah am y cwestiwn. Mae'n braf eich clywed chi yn siarad Cymraeg, Hannah, yn y Siambr heddiw.

Roeddwn i'n moyn gofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am video games yn y maes hwn. Dathliad mwyaf pwysig y flwyddyn o ran yr iaith Gymraeg yw'r Eisteddfod, ac efallai y byddwch chi'n gwybod bod Prifysgol Wrecsam, y flwyddyn hon, wedi creu pentref digidol lle'r oedd pobl yn gallu gweld yr Eisteddfod yn y gêm Minecraft. Dwi'n gwybod eich bod chi'n rhywun sydd yn gyfarwydd â gemau fideo; rŷch chi'n ymlacio ar y penwythnos yn chwarae Call of Duty neu Grand Theft Auto, rwy'n siŵr. [Chwerthin.] Felly, byddwch chi'n gwybod pwysigrwydd gemau fideo, dwi'n siŵr. Sut ydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog sydd yn gyfrifol am ddiwylliant i sicrhau bod video games, sydd yn sector enfawr yn ein heconomi ni, yn dweud stori Gymraeg o ran ein hiaith a'n diwylliant, yn enwedig y gemau sy'n cael eu creu yma yng Nghymru?

Dwi'n siŵr bod Mr Giffard yn lot fwy tebygol o fod yn gyfarwydd â'r byd video gaming na fi. Ond ces i'r cyfle i weld y pafiliwn gyda Phrifysgol Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni, ac roedd hi'n wych i weld yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn meysydd newydd fel yna. Dwi'n cytuno gyda beth yr oedd Tom Giffard yn ei ddweud am bwysigrwydd, yn enwedig i bobl ifanc, cael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar eu bywydau nhw. Mae Jack Sargeant yn lot fwy cyfarwydd â'r byd na fi, ac rwy'n hapus i gael mwy o drafodaethau gyda fe i weld a oes mwy rŷn ni'n gallu ei wneud i gefnogi'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn posibiliadau newydd.

Ariannu Gwasanaethau Cyhoeddus

7. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei roi i fuddion trawsbynciol o ran adrannau eraill Llywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau ar ariannu gwasanaethau cyhoeddus penodol? OQ63612

14:15

Lywydd, mae dull Llywodraeth Cymru o weithredu ar y gyllideb yn adlewyrchu dylanwad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a gwaith yr adolygiad o wariant yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau bod penderfyniadau cyllido yn gwneud y mwyaf o werth, yn mynd i'r afael â heriau hirdymor ac yn ystyried effeithiau trawsadrannol penderfyniadau gwariant o fewn portffolios unigol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae trafnidiaeth bysiau cyhoeddus yn effeithio ar fynediad at iechyd, addysg, cyflogaeth a hamdden, ac mae bysiau'n wasanaeth cymdeithasol hanfodol hefyd. Rydym newydd gyflwyno Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) i alluogi i wasanaethau bysiau lleol fod yn ddiogel, integredig, cynaliadwy ac effeithlon. Mae gennym wasanaethau da ledled gogledd Cymru yn cael eu darparu gan rwydwaith TrawsCymru, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y T8, gwasanaeth amhrisiadwy o Gorwen i Gaer trwy bentrefi gwledig Clwyd a'r Wyddgrug. Ond yn anffodus, mae'r gwasanaeth mewn perygl ar hyn o bryd oherwydd pwysau ariannu, yn dibynnu ar y gyllideb, ac efallai na fydd modd i wasanaethau bws fynd i rai ardaloedd mwyach. A wnewch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau hyfywedd y gwasanaeth T8 wrth inni geisio cyflwyno masnachfreinio ledled gogledd Cymru? Diolch.

Diolch i Carolyn Thomas am hynny. Efallai y caf ymateb yn fyr i'r pwynt cyffredinol y mae hi'n ei wneud, oherwydd er bod y Llywodraeth yn anochel wedi'i rhannu'n feysydd cyfrifoldeb, mae effaith y gorgyffwrdd rhyngddynt yn hollol real. Rydym yn siarad llawer ynglŷn â'r ffordd y mae tai da yn sylfaen i bobl ifanc mewn addysg, i iechyd y bobl sy'n byw yno, ac mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am drafnidiaeth gyhoeddus yn enghraifft dda iawn arall o'r natur rhyng-gysylltiedig honno. 

Gwn fod Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer parhau i ddarparu'r gwasanaeth T8. Rwy'n gwybod hynny oherwydd bod Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu fy sylw, ac wedi gwneud drwy gydol proses y gyllideb, at ba mor bwysig yw buddsoddiad mewn gwasanaethau bysiau yng nghyd-destun y Bil bysiau. Wrth inni wneud ein ffordd tuag at y penderfyniadau terfynol ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, rwy'n hapus i siarad ag ef eto, oherwydd rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol iawn o'r gwasanaeth T8 a'i werth i'r gymuned leol.

Cyllideb yr Hydref

8. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyllideb hydref Llywodraeth y DU ar bobl Sir Benfro? OQ63591

Diolch i Paul Davies am hynny. Bydd effaith cyllideb hydref y DU yn cael ei theimlo ledled sir Benfro yn y gostyngiad i lefelau tlodi plant, y cynnydd i bensiynau'r wladwriaeth, y gwelliannau i'r isafswm cyflog a'r cyflog byw cenedlaethol. Mae ymrwymiad parhaus yn y gyllideb honno i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy hefyd yn bwysig iawn i bobl sir Benfro.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb hydref Llywodraeth y DU, fe gyfeirioch chi at nifer o fuddsoddiadau a wnaed yng Nghymru, megis adfer tir llwyd ym Mhort Talbot a buddsoddi yn y clwstwr lled-ddargludyddion yn ne Cymru, er enghraifft. Dywedodd eich datganiad hefyd fod £547 miliwn yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen gronfa twf lleol newydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gallai'r gronfa twf lleol wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau lleol, ac mae'n hanfodol nad yw sir Benfro yn cael ei gadael ar ôl. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd sir Benfro yn cael ei chyfran deg o gyllid o'r gronfa twf lleol? A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am y gronfa twf lleol a sut y caiff ei dyrannu fel bod pob rhan o Gymru yn elwa ohoni?

Diolch i Paul Davies am hynny. Rwy'n cytuno ag ef y bydd pob rhan o Gymru eisiau elwa o'r buddsoddiad hwnnw a ddychwelwyd—buddsoddiad sydd nawr, fel y dylai fod wedi bod trwy'r amser, yn nwylo'r Senedd hon i'w benderfynu. Gwn fod fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn gweithio'n galed iawn gyda buddiannau llywodraeth leol ac eraill i sicrhau pontio rhwng trefniadau presennol a'r trefniadau y byddwn am eu rhoi ar waith yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hwnnw'n llwybr eithaf heriol, oherwydd mae gan lawer o awdurdodau lleol ymrwymiadau presennol y byddant am eu cwblhau. Yn y tymor hwy, y rhaglen a'r prosbectws y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweld ar gyfer y gronfa twf lleol yw y bydd yn cael effaith ranbarthol yn ogystal â lleol, ac y bydd yn cynnwys set ehangach o bartneriaid sydd wedi bod o gwmpas y bwrdd yn y rhaglen y cymerir ei lle, gan sicrhau bod gennym fuddiannau busnes lleol, prifysgolion, llywodraeth leol ac eraill i sicrhau bod y buddsoddiad sylweddol hwnnw, gwerth dros £0.5 biliwn o fuddsoddiad, yn cael ei ddefnyddio'n dda i bobl sir Benfro ac ym mhob rhan arall o Gymru.

14:20
2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Gwarchod Rhywogaethau dan Fygythiad

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwarchod rhywogaethau dan fygythiad? OQ63594

Member (w)
Huw Irranca-Davies 14:20:37
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Mark. Mae dros £54 miliwn wedi'i fuddsoddi yn nhymor y Senedd hon yn unig drwy'r gronfa Rhwydweithiau Natur i adfer a chysylltu cynefinoedd a gwarchod rhywogaethau dan fygythiad fel bod bywyd gwyllt yn ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd Bil yr amgylchedd hefyd yn darparu fframwaith i osod targedau uchelgeisiol, gan gynnwys lleihau'r risg o golli rhywogaethau brodorol.

Fel y trafodwyd gennych chi a minnau o'r blaen, mae modelu rhywogaethau yn rhagweld y bydd y gylfinir yn diflannu i bob pwrpas yng Nghymru erbyn 2033, oni bai bod camau llym yn cael eu cymryd ar y raddfa sy'n ofynnol er mwyn achub y gylfinir rhag difodiant yng Nghymru a chynhyrchu'r manteision amlrywogaeth lluosog y byddai hyn yn eu darparu. Mae eich datganiad ysgrifenedig heddiw ar gyhoeddi'r canllawiau haen gyffredinol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn nodi eich bod yn bwriadu darparu rhagor o wybodaeth am gam cyntaf eich cynnig dewisol a chydweithredol ar gyfer 2026 yn y gwanwyn, ac y byddwch yn parhau i ddatblygu a chryfhau'r cynllun hwn drwy gydol y cyfnod pontio. Fodd bynnag, ni fydd lansio haen gyffredinol y cynllun ffermio cynaliadwy ar ei ben ei hun yn ddigon i adfer natur ac achub rhywogaethau dan fygythiad fel y gylfinir. Rydych chi'n dweud mai dyma fydd rôl haenau uchaf y cynllun. O ystyried yr angen brys am weithredu i achub y gylfinir a llawer o gynefinoedd a rhywogaethau eraill sydd dan fygythiad, pryd fydd haenau uchaf y cynllun ar gael felly, a pha gyfraniad y byddant yn ei wneud i helpu ffermwyr i adfer natur yng Nghymru?

Mark, diolch yn fawr, a diolch am eich eiriolaeth barhaus dros y gylfinir, ond hefyd i Aelodau eraill yn y Senedd sydd wedi bod yn eirioli dros rywogaethau yn eu rôl fel hyrwyddwyr rhywogaethau hefyd. Mae gennym botensial gwirioneddol o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy. Diolch, Mark, am nodi potensial yr haenau dewisol a chydweithredol, oherwydd rwyf wedi dweud yn glir dro ar ôl tro mai dyma lle mae'r dadansoddiad busnes yn dangos yn glir y gellir gwneud yr enillion mwyaf i natur a bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd. Ar y sail honno, credaf fod posibiliadau sylweddol yma wrth inni gyflwyno, nid yn unig ar gyfer mis Mai nesaf wrth gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy, ond wrth inni ddatblygu cynlluniau o fewn yr haen ddewisol a chydweithredol i fwrw ymlaen â nhw yn y blynyddoedd i ddod.

Mae'n werth dweud ein bod yn buddsoddi £2 filiwn mewn prosiectau ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, drwy gronfa Rhwydweithiau Natur i hyrwyddo adferiad y gylfinir. Mae cynllun gweithredu Cymru ar gyfer adfer y gylfinir yn parhau i fod yn gynllun a gefnogir gan y Llywodraeth hefyd, ac rydym yn edrych ymlaen at allbynnau'r adolygiad ar gyfer 2025. Rwyf wedi ymweld â rhai o'r rhain fy hun, ond rydych chi'n hollol iawn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n siarad ag Aelodau eraill hefyd o fewn y grŵp Ceidwadol am y potensial gwirioneddol o fewn haenau dewisol a chydweithredol y cynllun ffermio cynaliadwy i gael dull cydgysylltiedig a all arwain nid yn unig at adfer niferoedd y gylfinir ond rhywogaethau eraill hefyd. [Torri ar draws.] Yr haenau uchaf, ie.

Lleihau Taflu Sbwriel

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar strategaeth Llywodraeth Cymru i leihau taflu sbwriel? OQ63601

Diolch, Mick. Ein nod yw atal pobl rhag taflu sbwriel yn y lle cyntaf, a sicrhau bod pawb yn gyfrifol eu hunain hefyd am waredu eu gwastraff yn iawn. Drwy ariannu Cadwch Gymru'n Daclus, rydym yn darparu cymorth uniongyrchol i gymunedau, ac mae ein deddfwriaeth yn symud y gadwyn gyflenwi tuag at gynhyrchion y gellir eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio'n haws hefyd.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dau bla'n effeithio ar ein cymunedau ledled Cymru ac yn effeithio arnom ni ar draws pob plaid wleidyddol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y grŵp trawsbleidiol ar dipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel wedi gwneud nifer o argymhellion ar gyfer nid yn unig newid deddfwriaethol, ond mwy o orfodaeth, a mesurau eraill i'w gweithredu hefyd. Bydd hwn yn amlwg yn fater i'w barhau yn y Senedd nesaf. Ar ddydd Iau, 29 Ionawr yn y Pierhead, bydd y grŵp trawsbleidiol yn cael briff ar gyfer yr holl ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd ar draws pob plaid wleidyddol, a'r nod yw bod hwn yn un maes lle rwy'n credu bod undod gwleidyddol llwyr ar yr angen am newid o dan y pethau y gellir eu gwneud. Beth yw eich barn, yn gyntaf, ar gamau pellach sydd angen eu cymryd, ac yn ail, yn amlwg, a fyddech chi'n ystyried mynychu'r digwyddiad hwnnw, oherwydd rwy'n credu y bydd angen undod ac ymgysylltiad os ydym am ddatrys y broblem hon ledled Cymru a'r troseddolrwydd sy'n gysylltiedig â hi, er mwyn gwneud yr hyn y credaf fod pobl Cymru eisiau i ni ei gyflawni ar ran eu cymunedau.

14:25

Yn wir, Mick, a diolch i chi yn eich rôl fel cadeirydd ond hefyd i holl aelodau'r grŵp trawsbleidiol, oherwydd rydych chi'n dod â ffocws sydd i'w groesawu'n fawr i'r maes hwn, ond hefyd yn cyflwyno syniadau gwirioneddol weithredadwy. Maent yn amlochrog hefyd; maent yn amrywio o ddedfrydu i weithredoedd unigol lleol iawn. Rydym yn gwylio hynny gyda diddordeb mawr ac rydym yn awyddus i barhau i ymgysylltu â'r grŵp trawsbleidiol wrth inni ddatblygu ein syniadau. Os gallaf fynd i'r digwyddiad hwnnw, byddaf yn sicr yn gwneud hynny. Fe edrychaf ar fy nyddiadur, ond os na allaf, fe wnaf yn siŵr fod gennyf swyddogion yno.

Nid ydym yn sefyll yn llonydd ar hyn. Yr hyn y gallwn ei wneud hefyd, yn ogystal â'r syniadau sy'n cael eu cyflwyno gan y grŵp trawsbleidiol, yw pethau fel y dull cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, lle rydym yn rhoi cyfrifoldeb y llygrydd sy'n talu yn ôl i fyny'r gadwyn gyflenwi i wneud yn siŵr ein bod yn lleihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu yn y ffynhonnell. Wedyn hefyd, lle mae gwastraff yn cael ei gynhyrchu, mae'r arian yn dod i lawr i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu delio â phroblem sbwriel. Os gallwn fwrw ymlaen â'n cynigion ar y cynllun dychwelyd ernes, mae hwnnw'n rhoi cyfle i ni hefyd. Felly'n bendant, nid ydym yn yn sefyll yn llonydd.

Ond ie, Mick, daliwch ati i ffocysu ar y mater hwn gyda'ch grŵp, oherwydd rwy'n cytuno â chi. Rwy'n credu ei fod yn un o'r meysydd lle ceir cefnogaeth drawsbleidiol eang i ddelio â phroblem enbyd sbwriel a thipio anghyfreithlon yn ein cymunedau lleol.

Cawn ein bendithio ledled Cymru â llawer o lefydd gwych i ymweld â nhw. Yn sir Fynwy, fel y gwyddoch yn dda iawn, mae gennym gamlas sir Fynwy a Brycheiniog, Pen y Fâl, Pen-ffordd-goch, nifer o lwybrau beicio a mannau eraill sy'n denu ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd o bob cwr o Gymru. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau hyn, yn sicr llwybrau beicio, wedi eu plagio gan sbwriel, ac yn aml yn llawn ohono. Y meysydd parcio ar gyfer ein mynyddoedd a llefydd fel Pen-ffordd-goch—cawn adroddiadau am wastraff a sbwriel yn gyson ac rydym i gyd yn gwybod beth sy'n digwydd gyda chamlesi, gyda throlïau a gwahanol bethau yn mynd i mewn iddynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd wedi gweithio'n galed i achub asedau, ac yn sicr rydych chithau hefyd, fel Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Mae angen inni sicrhau nawr fod yr asedau hyn yn cael gofal. Nawr, er bod yn rhaid i unigolion gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a phob asiantaeth arall i gadw'r mannau hyn yn daclus, ac yn bwysig, sicrhau bod rheoliadau taflu sbwriel yn cael eu gorfodi'n briodol?

Diolch, Peter. Rwy'n credu bod hyn yn dangos unwaith eto fod cefnogaeth drawsbleidiol dda ac nad oes monopoli yma ar syniadau da. Rwy'n credu bod rhai o'r syniadau sy'n dod gan Aelodau unigol, o'r grŵp trawsbleidiol, yn werth eu hystyried wrth inni geisio adeiladu pecyn cymorth o ffyrdd o ddelio ag ef. Ond mae'n rhaid inni ddechrau o'r pwynt am gyfrifoldeb unigolion. Gadewch inni ei gwneud yn glir o'r Senedd, fel y gwnawn dro ar ôl tro, fod yn rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain. Ni ddylai neb daflu sbwriel ac ni ddylai neb dipio'n anghyfreithlon, gan gynnwys mewn llefydd hardd fel Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Mae hwn yn ased cymunedol enfawr. Roeddem yn falch iawn o allu cynnull y grŵp i edrych ar sut y gallem wneud yn siŵr fod dŵr yn y gamlas. Fe wneuthum y pwynt braidd yn amlwg ond pwysig, rwy'n credu, pan wnaethom gyflwyno'r hyd at £400,000 y flwyddyn, ochr yn ochr â Glandŵr Cymru eu hunain, i wneud yn siŵr fod dŵr yn y gamlas. Nid yw'r gamlas yn bodoli heb y dŵr, ond mae'n cynnwys y glannau, y llwybrau, bioamrywiaeth a'r amgylchedd hardd.

Ond byddwn yn sicr yn parhau i weithio nid yn unig gydag awdurdodau lleol yn uniongyrchol ar hyn—gan gynnwys, gyda llaw, drwy'r cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr y soniais amdano yn fy ymateb i Mick Antoniw, ac wrth fwrw ymlaen â'r cynllun dychwelyd ernes yn ogystal—ond hefyd drwy ariannu pethau fel Cadwch Gymru'n Daclus, y gwnaethom sefyll yn gadarn gyda nhw, oherwydd maent hwy wedyn yn gweithio gyda grwpiau lleol yn y cymunedau lleol, gan rymuso eraill i fynd allan i ddelio â phroblemau sbwriel. Yn fwy na dim, gadewch inni atgoffa pob un o'n hetholwyr: peidiwch â thaflu sbwriel. Mae'n anghyfrifol. Mae'n weithgaredd hollol ffiaidd. Er mwyn popeth, gadewch inni ymfalchïo yn ein hamgylchedd lleol ein hunain.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Brif Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi gofyn i chi o'r blaen a ydych chi'n cytuno ag argymhelliad Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU y dylid lleihau niferoedd da byw er mwyn cyrraedd targedau hinsawdd. Hyd yma, nid wyf wedi cael ateb clir. Felly, yn ysbryd y Nadolig, Ddirprwy Brif Weinidog, a wnewch chi roi ateb clir a diamwys heddiw? A ydych chi'n cytuno â galwad Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU i ddadstocio amaethyddiaeth Cymru? 

14:30

Felly, yn ysbryd y Nadolig, Nadolig Llawen ymlaen llaw i chi hefyd, Sam. Rydym yn cydnabod bod tuedd ostyngol mewn poblogaethau eidion a defaid domestig ledled y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fe fyddwch yn ymwybodol o hyn. Er bod nifer y boblogaeth eidion a defaid wedi gostwng, mae'r cynhyrchiant wedi aros yn sefydlog ers 2008. Nawr, mae niferoedd da byw, fel y gwyddoch, yn cael eu gyrru, nid gan y Llywodraeth, ond yn hytrach gan y farchnad. Gellir eu priodoli i amrywiaeth eang o ffactorau, gan gynnwys newidiadau i gynlluniau cymorth amaethyddol, polisi economaidd ehangach, enillion effeithlonrwydd ac incwm o ffermydd eidion a defaid sy'n parhau i fod yn gymharol isel o'i gymharu â sectorau fferm eraill. Rhyddhawyd arolwg amaethyddiaeth a garddwriaeth Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin ar 9 Rhagfyr. Mae'r prif ffigurau'n dangos cynnydd bach yng nghyfanswm nifer y defaid ac ŵyn yng Nghymru, tra bod gostyngiad bach yng nghyfanswm nifer y gwartheg a lloi yng Nghymru—dim newidiadau sylweddol ers 2024. Yr hyn y buaswn i'n ei ddweud wrthych chi, Sam, yw nad oes unrhyw beth yn ein cynllun ffermio cynaliadwy sy'n dweud y bydd nifer y da byw yn cael ei lleihau. Mae hyn mewn gwirionedd yn rhoi'r gallu a'r ymreolaeth i ffermwyr Cymru dyfu glaswellt a phorthiant a gwneud y gorau o'r tir sydd gennym.

Wel, roedd hwnnw'n ateb hirwyntog iawn i beidio â rhoi ateb. Ond rydym yn gwybod ble rydych chi'n sefyll, Ddirprwy Brif Weinidog, ac rydym yn gwybod ble mae eich cyd-Aelodau Llafur yn sefyll, ac rydym yn gwybod ble mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll, oherwydd pleidleisiodd pob un ohonoch o blaid y rheoliadau newid yn yr hinsawdd (cyllideb garbon) bythefnos yn ôl. Mae'r rheoliadau hynny'n cefnogi pedwaredd cyllideb garbon Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU sy'n nodi'n glir bod cyflawni sero net erbyn 2050

'yn galw am ostyngiadau yn niferoedd da byw.'

Fe wnaethoch chi gefnogi'r rheini, fe wnaethant hwy gefnogi'r rheini, y Rhyddfrydwyr, Plaid Cymru, fe wnaeth pob un ohonoch gefnogi'r rheini. Felly, pam y mae Llywodraeth Cymru am i ffermwyr da byw Cymru, cynhyrchwyr peth o'r bwyd o'r ansawdd uchaf, mwyaf olrheiniadwy a chynaliadwy yn y byd, gynhyrchu llai?

Mae'n ymddangos eich bod wedi camddeall, Sam, oherwydd nid yw'r llwybr a osodwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn bolisi Llywodraeth Cymru. Nid polisi Llywodraeth Cymru yn unig yw'r uchelgais a'r targed, mae'n fwriad dymunol gan y Senedd hon hefyd. Ac mae hynny oherwydd bod y Senedd hon wedi pleidleisio, Sam, i beidio ag osgoi ein huchelgeisiau newid hinsawdd, yn wahanol i'r Blaid Geidwadol, sydd bellach yn troi cefn arno ac yn ymddangos fel pe baent yn dweud, 'Wel, mae hyn i gyd yn rhy anodd.' Wel, mae'n ddrwg gennyf, ond roedd rhai o'r rhagflaenwyr yn y Blaid Geidwadol yn llawer mwy penderfynol o gymryd cyfrifoldeb. Felly, mater i ni yw penderfynu, Sam, drwy'r cymorth drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, drwy'r hyn a wnawn gyda Hybu Cig Cymru, drwy'r hyn a wnawn gyda buddsoddiad yn y sector cig coch a da byw, drwy ein buddsoddiad mewn tir pori da, gwyrdd, i wneud yn siŵr ein bod yn cynnal y sector hwnnw a bod gennym y mewnbwn sydd ei angen arnom hefyd. Ond mae'n amlwg fod y Ceidwadwyr—a diolch am ein hatgoffa—wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb newid hinsawdd honno. Mae honno'n foment nodedig, rhaid imi ddweud, pan wnaethoch chi droi 180 gradd a throi eich cefn ar yr angen i roi i ffermwyr y gallu i wrthsefyll niwed newid hinsawdd.

Nid yw cofnodion pleidleisio byth yn dweud celwydd, ac mae ein cofnod pleidleisio yn nodi ein bod wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy, wedi pleidleisio yn erbyn y rheoliadau newid hinsawdd am ein bod wedi pleidleisio yn erbyn argymhellion Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU i ddadstocio. Nid ydym yn credu bod angen i amaethyddiaeth Cymru golli niferoedd da byw i barhau i fod y gorau yn y byd. Gadewch inni gofio hefyd fod disgwyliadau i niferoedd da byw gael eu lleihau o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae eich dadansoddiad eich hun yn dweud hynny. Disgwylir i'r cynllun ddechrau ymhen pythefnos yn unig, a heddiw ddiwethaf gwelsom ragor o fanylion am yr haenau cyffredinol yn cael eu cyhoeddi. Nid siopa Nadolig munud olaf gan y Llywodraeth yw hyn, maent yn benderfyniadau munud olaf y mae disgwyl i ffermwyr addasu iddynt. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, a ydych chi'n wirioneddol hyderus y bydd popeth yn ei le'n llawn, o 1 Ionawr, ymhen pythefnos, o systemau taliadau gwledig Cymru, mapio data, canllawiau, gweinyddiaeth, y bydd popeth yn barod ar gyfer y ffermwyr sy'n dymuno ymrwymo i'r cynllun ffermio cynaliadwy? A faint o ffermwyr rydych chi'n disgwyl eu gweld yn ymrwymo i'r cynllun ffermio cynaliadwy?

'Ydw' yw'r ateb i hynny. Mae'r holl waith a wnaethom dros y 12 i 18 mis diwethaf—mewn partneriaeth, rhaid dweud, â'r holl randdeiliaid, gan gynnwys yr undebau ffermio, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, y cyrff anllywodraethol amgylcheddol, beth bynnag—ynghyd â holl waith fy swyddogion, wedi gwneud yn siŵr ein bod yn barod i fynd. Ond rwy'n cydnabod bod y Ceidwadwyr wedi gwneud popeth yn eu gallu i geisio tanseilio'r ffordd ymlaen, ffordd ymlaen sy'n dda i fywiogrwydd ffermio yng Nghymru ac sy'n rhoi sicrwydd a diogelwch iddynt ar gyfer y dyfodol. Y cyfan y gall y Ceidwadwyr ei wneud, dro ar ôl tro, yw ceisio tanseilio'r sefyllfa, a chyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy—[Torri ar draws.] Mae'n chwerthinllyd, Sam; mae'n chwerthinllyd. Felly, bydd popeth yn ei le.

Ac yn syml, i ateb unwaith eto, os nad wyf wedi ei ddweud yn ddigon aml, pan fyddwch yn dweud, o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy, ei fod yn mynd i arwain at ostyngiad yn niferoedd da byw, a gaf i ailadrodd unwaith eto, er eglurder llwyr, cyn inni gyrraedd gwyliau'r Nadolig: mae'n cynnwys modelu a senarios? Yr hyn y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ei wneud yw rhoi grym i ffermwyr, gyda'r tir pori gwyrdd toreithiog sydd gennym, sy'n cynnig ei hun i fagu da ac iechyd pridd da a chynhyrchu cig coch da—. Eu gallu nhw wedyn yw cadw da yn ôl yr hyn y credant hwy sy'n briodol. Felly, gadewch imi ddweud, rydych chi'n—sut y mae dweud hyn yn garedig, cyn y Nadolig—lledaenu camwybodaeth ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn ceisio ei danseilio. Fe fydd yn barod i'w ddarparu, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i'w gyflwyno.

14:35

Wel, gaf innau hefyd, gan ei bod hi'n ddiwedd tymor, ddymuno Nadolig llawen i chi? Ond dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn ymwybodol nad ydy hi'n argoeli i fod yn flwyddyn newydd dda i ffermwyr llaeth Cymru. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, Ysgrifennydd Cabinet, fod prisiau llaeth wedi bod yn gostwng yn sylweddol yn ddiweddar, ac mae disgwyl y bydd y gwasgedd yna ar brisiau yn parhau yn 2026. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi gweld cwmnïau llaeth yn parhau i dorri eu prisiau, a, ddoe, fe gyhoeddwyd gostyngiad o 4.4 y cant yn yr indecs prisiau masnach llaeth byd eang, y nawfed gostyngiad yn olynol. Nawr, mae hyn, wrth gwrs, yn mynd i ddod â bygythiad uniongyrchol i hyfywedd y sector a'r perygl y bydd yna golledion difrifol yn cael eu hwynebu.

Felly, gaf i ofyn a oes yna unrhyw ystyriaeth wedi cael ei rhoi gan y Llywodraeth i ddefnyddio mesurau ymyrraeth masnachol drwy Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023? Gaf i ofyn hefyd i ba raddau y mae'r Llywodraeth wedi ymgysylltu â dyfarnwr y gadwyn gyflenwi amaethyddol er mwyn sicrhau bod y rheoliadau newydd a gyflwynwyd y flwyddyn yma yn cael eu gweithredu er mwyn sicrhau pris teg i ffermwyr llaeth Cymru?

Diolch yn fawr, Llyr. Diolch yn fawr hefyd am y cyfarchion tymhorol; rwy'n eu hategu hefyd.

Rydym wedi trafod hyn gyda'r undebau ffermio yn ystod yr wythnos, pythefnos diwethaf, yn benodol gyda hyn ar yr agenda wrth inni gyfarfod. Fel rydych chi'n nodi'n gywir, mae'n bryder gwirioneddol. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi diwydiant cynnyrch llaeth Cymru i sicrhau bod ganddo ddyfodol cryf. Rwy'n falch y bydd y rheoliadau llaeth ar waith nawr i roi mwy o sicrwydd ar gyfer pryniannau busnes a gwerthwyr cymwys yn y sector llaeth. Ond mae'r rhain yn amseroedd pryderus ar hyn o bryd.

Nawr, rwy'n falch o nodi bod Llywodraeth y DU yn gwrando ar y pryderon a godwyd ynghylch y darpariaethau prisio haenog o fewn y rheoliadau i gael mwy o sicrwydd ar gyfer pryniannau busnes a'r gwerthwyr cymwys yn y sector llaeth. Nawr, nid ydym wedi edrych eto ar ddefnyddio pwerau o fewn y Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru), ond mae hynny wedi cael ei ddwyn i fy sylw gan yr undebau, ac a allai hynny fod yn opsiwn i edrych arno. Felly, nid ydym wedi ei ddiystyru, ond nid ydym yn meddwl ei bod yn iawn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Ond rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU hefyd. Rydym hefyd yn awyddus iawn i weithio gyda'r gadwyn gyflenwi a siarad yn uniongyrchol â nhw. Rwy'n mynd i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth hefyd i drafod gostyngiad mewn prisiau llaeth yn gynnar iawn ym mis Ionawr. Mae angen inni gadw llygad agos iawn ar hyn a gwneud yn siŵr y gallwn roi sicrwydd i'n cynhyrchwyr llaeth y gallant ddod drwy hyn a chyrraedd pwynt, gobeithio, pan fydd y prisiau'n codi eto.

Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn ymwybodol fod lefel frawychus o gynhyrchion cig a llaeth bellach yn cael eu mewnforio yn anghyfreithlon i Brydain, at ddefnydd personol ac i'w gwerthu. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar hyn, a dynnodd sylw at lefelau gwael o orfodaeth o ran y rheolau mewnforio personol ar y ffin ac ecsbloetio'r bregusrwydd hwn gan smyglwyr, gan ddod â chyfeintiau sylweddol o gig i mewn yn gymharol ddi-gosb, a dod â bygythiad drwy hynny, wrth gwrs, o fewnforio clefydau anifeiliaid megis, a'n gwaredo, clwy'r traed a'r genau, ond hefyd y risg o niwed i iechyd pobl, yn amlwg.

Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn ei hymateb y bydd llawer o argymhellion craidd y pwyllgor i fynd i'r afael â'r broblem yn cael eu hystyried ar ôl i'r trafodaethau iechydol a ffytoiechydol gyda'r UE gael eu cwblhau a'u gweithredu. Nawr, mae hynny, i bob pwrpas, yn gohirio gweithredu go iawn tan 2027 ar y cynharaf. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i'w hannog i weithredu'n gyflymach ar y mater hwn nawr, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, a pha rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i ddiogelu iechyd anifeiliaid a phobl yn wyneb y risg hon?

Llyr, diolch yn fawr am godi'r mater pwysig hwn. Gallaf gadarnhau i chi ein bod wedi codi'r mater hwn mewn cyfarfodydd grŵp rhyngweinidogol, cyfarfodydd pedairochrog rhwng y pedair cenedl, ac nid ydym yn fodlon aros tan yr adeg pan fydd y cytundeb iechydol a ffytoiechydol—. Er bod hynny'n ymddangos fel pe bai'n mynd rhagddo'n dda, mae amser i fynd o hyd tan hynny. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd yma, nawr ar y risgiau hynny i fioddiogelwch, ond hefyd y bwyd a gludir i mewn a allai'n wir greu heriau gwirioneddol i'n diwydiant bwyd ehangach. Felly, rydym wedi bod yn mynegi'r safbwyntiau hynny o fewn y grŵp rhyngweinidogol, ac rydym yn gweithio nawr gyda chymheiriaid yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac mewn mannau eraill i wneud yn siŵr fod gennym ddull cydgysylltiedig ar gyfer pethau fel hapwiriadau—cynyddu'r hapwiriadau—ar y gwahanol bwyntiau mynediad ledled y wlad i wneud yn siŵr y gallwn wneud popeth yn y cyfnod pontio hwn, ac nid aros tan yr adeg pan fydd gennym y cytundeb iechydol a ffytoiechydol ar waith.

14:40

Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o'r trallod sylweddol sy'n parhau i amlyncu ein cymunedau ffermio o ganlyniad i newidiadau anystyriol Llywodraeth y DU i reolau treth etifeddiant, sydd, yn amlwg, yn dod i rym fis Ebrill nesaf. Nawr, rwy'n dal i gredu'n gryf mai'r ffordd orau o weithredu fyddai gwrthdroi'r polisi yn llwyr, ond ar hyn o bryd o leiaf, nid yw hynny'n edrych mor debygol ag y byddai rhai ohonom yn dymuno. Ond nid yw'n golygu y byddwn yn rhoi'r gorau iddi. Ac nid yw'n golygu chwaith na ddylid archwilio opsiynau i fireinio a mynd ati o ddifrif i wella'r hyn sydd ar hyn o bryd yn offeryn polisi anhygoel o greulon dros yr amser sydd gennym ar ôl i wneud hynny. Ac mae yna ddewisiadau amgen, y tynnais eich sylw atynt o'r blaen: mae'r dull adfachu, wrth gwrs, sicrhau nad yw olyniaeth fferm ddilys yn cael ei chosbi, gan dargedu bylchau treth etifeddiant yn fwy effeithiol, yn un opsiwn. Yr ail yw cyflwyno rheol isafswm cyfranddaliadau, sy'n rhywbeth y mae'r Ganolfan Dadansoddi Trethiant wedi nodi ei fod yn llai niweidiol i'n ffermydd teuluol yma yng Nghymru.

Nawr, rydych chi wedi siarad llawer am y gwelliannau mewn cysylltiadau rhynglywodraethol yn eich atebion cynharach heddiw a chyn hynny. Wel, efallai mai nawr yw'r amser i ddangos y gall hynny arwain at ganlyniadau cadarnhaol i Gymru. Felly, a wnewch chi ystyried cyflwyno Cymru i Lywodraeth y DU fel rhywle y gallant dreialu rhai o'r dulliau amgen hyn yn hytrach na chyflwyno'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd, rhywbeth a fyddai nid yn unig yn llai niweidiol i ffermydd a busnesau yma yng Nghymru, ond a allai'n hawdd godi mwy o arian i'r Trysorlys yn y pen draw?

Rwy'n credu mai'r her yma yw—. Rydym wedi codi dro ar ôl tro yr angen i wneud yn siŵr ein bod yn diogelu cynaliadwyedd ein ffermydd Cymreig nodweddiadol yma yng Nghymru, ac rydym wedi gwneud hynny bob cyfle sy'n bosib, yn ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb â Gweinidogion DEFRA. Ond yn y pen draw, wrth gwrs, mae hwn yn benderfyniad—rwy'n casáu datgan yr hyn sy'n hynod o amlwg yma—ar gyfer Trysorlys y DU. Ond rydym wedi annog Llywodraeth y DU dro ar ôl tro i ymgysylltu â syniadau allan yno yn undebau ffermio Cymru am ddewisiadau amgen ymarferol. Ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed yng nghyllideb yr hydref, gyda llaw, y bydd y lwfans £1 filiwn ar gyfer rhyddhad eiddo amaethyddol a busnes yn drosglwyddadwy rhwng parau priod a phartneriaid sifil o 6 Ebrill 2026, hyd yn oed os bu farw'r priod neu'r partner sifil cyn y dyddiad hwnnw.

Ond rwy'n credu bod y cwestiwn ynghylch consesiwn i ganiatáu i unrhyw ran o'r DU fwrw ymlaen mewn ffordd wahanol, pan fo'n benderfyniad Trysorlys, yn annhebygol, i fod yn onest. Ond yn y cyfamser, yr hyn y byddwn yn parhau i'w wneud yw cefnogi ffermwyr drwy ein mentrau ein hunain y mae gennym gymhwysedd datganoledig ynddynt, ac mae hynny'n cynnwys, drwy Cyswllt Ffermio, y cymorth sydd ar gael yno, gan gynnwys goblygiadau treth etifeddiant, ond adolygu olyniaeth hefyd, a chyngor busnes a chyfreithiol â chymhorthdal. Felly, byddwn yn gwneud popeth a allwn o fewn ein holl bwerau datganoledig.

Llifogydd

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar atebion sy'n seiliedig ar natur i fynd i'r afael â llifogydd? OQ63609

Diolch, Heledd. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo dulliau naturiol o reoli llifogydd ac yn cefnogi awdurdodau rheoli risg i gydweithio â pherchenogion tir a ffermwyr i chwilio am atebion sy’n seiliedig ar natur i leihau’r perygl o lifogydd ac i ddiogelu a chyfoethogi ein hamgylchedd naturiol.

Wel, diolch am yr ymateb hwnnw. 

Rwy'n nodi, pan fyddwn yn siarad am hyn, fod y ffocws yn aml ar ardaloedd yr ucheldir. Ond fel y gwyddoch, mae'r rhan fwyaf o'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, Canol De Cymru, yn cynnwys amgylcheddau trefol poblog iawn. Mae adroddiad WWF a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Urban Nature Based Solutions', ar gyfer lliniaru perygl llifogydd yn dangos y gellir defnyddio atebion o'r fath hefyd mewn ardaloedd trefol. Felly, a gaf i ofyn sut rydych chi'n symud ymlaen â'r gwaith hwn? Pan edrychwch ar ardaloedd rwy'n eu cynrychioli, fel Pontypridd, Ffynnon Taf ac yn y blaen, sut y gallwn sicrhau ein bod hefyd yn buddsoddi yn y mathau hynny o atebion, nid y model amddiffynfeydd traddodiadol yn unig?

14:45

Rydych chi'n hollol iawn, ac rydym yn dechrau gweld mentrau yn dod i'r amlwg nawr yn y lleoliadau trefol hefyd, ac nid yw'n ymwneud â systemau draenio cynaliadwy a chyrff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy yn unig, ond mentrau ehangach. Yn ddiweddar iawn, ymwelais ag un o enghreifftiau cyntaf Dŵr Cymru o reoli llifogydd yn naturiol mewn amgylchedd trefol. Ond mae angen inni wneud mwy o hyn. Megis dechrau ydym ni mewn rhai ffyrdd. Felly, nid dalgylch ucheldirol yn unig ydyw, er mor bwysig yw hynny, rhaid dweud, ac mae llawer iawn y gallwn ei wneud, nid yn unig trwy'r buddsoddiad o £2 filiwn, ond drwy'r hyn y gallwn ei wneud, fel y soniwyd yn gynharach, yn y pethau fel y rhan gydweithredol o'r cynllun ffermio cynaliadwy hefyd, i ddod â ffermwyr at ei gilydd yn yr ucheldiroedd, ond yn yr un modd mewn amgylcheddau trefol hefyd, fel ein bod yn defnyddio prosesau naturiol er mwyn lliniaru perygl llifogydd. Felly, mae mwy i'w wneud, ond rydym yn arwain y ffordd mewn rhai ffyrdd. Rydym wedi cael pobl yn dod yma i Gaerdydd i weld y gwaith a wnawn yma, sy'n arwain y ffordd. Ond oes, mae gennym fwy i'w wneud, a rhaid inni ganolbwyntio nid yn unig ar yr ymyriadau i fyny'r afon yn yr ucheldir, ond i lawr yn y trefi hefyd.

Er gwaethaf nod nodyn cyngor technegol 15 i gyfyngu ar ddatblygiad ar orlifdiroedd, mae anghysondeb sylweddol wedi dod i'r amlwg yn y polisi yng Nghymru. Mae methiant Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gyrraedd targedau tai yn rhoi pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe i gymeradwyo datblygiadau ar dir ymylol neu dir sy'n agored i lifogydd. I fyny'r ffordd ym Mhenyborfa, Powys, rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer 29 o gartrefi ar dir sy'n agored i lifogydd gan y cyngor lleol, er gwaethaf pryderon cymunedol ac amgylcheddol sylweddol. Dewisodd Llywodraeth Cymru beidio ag ymyrryd yn y penderfyniad cynllunio. Mae'r pwyslais tymor byr ar ddarparu tai yn tanseilio gwydnwch llifogydd cynaliadwy ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, gan leihau lle ar gyfer atebion ar sail natur fel ailgysylltu gorlifdiroedd a chreu gwlyptiroedd. Pa fesur y mae Llywodraeth Cymru yn ei weithredu i gydbwyso adeiladu tai â chymorth i awdurdodau lleol i ddiogelu gorlifdiroedd a hyrwyddo rheoli llifogydd ar sail natur?

Diolch, Altaf, ac rwy'n cyfeirio at fy ateb cynharach ar hyrwyddo cynlluniau rheoli perygl llifogydd ar sail natur mewn ardaloedd trefol. Ond roeddech chi'n iawn i ddweud, os oes datblygiad tai—ac mae gennym dargedau tai uchel ac uchelgeisiol iawn, yr ydym yn ymdrechu ac yn llwyddo i'w cyrraedd, rhaid dweud, yn enwedig tai cymdeithasol a fforddiadwy—os yw'r rhain o fewn ardaloedd sydd â pherygl llifogydd, mae canllawiau polisi clir ar y mesurau lliniaru sydd eu hangen i alluogi unrhyw ddatblygiad i fynd rhagddo. Mae'n iawn mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hyn, ond gyda chyngor gan CNC ac asiantaethau eraill hefyd, i wneud yn siŵr eu bod wedi'u cynllunio yn y ffordd iawn, yn y lle iawn, gyda digon o fesurau lliniaru yn erbyn y perygl o lifogydd. Ond fel y dywedais wrth Heledd yn gynharach, rwy'n credu ei bod yn iawn hefyd ein bod—fel y dywedoch chi, mewn gwirionedd—yn ei gwneud hi'n bosib rhoi digon o le yn y datblygiadau hyn, fel y gallwn ei gwneud hi'n bosib i ddulliau naturiol o ymdrin â pherygl llifogydd gael eu hymgorffori yn y cynlluniau hyn hefyd.

Mae cynhesu byd-eang yn effeithio ar y tywydd ac rydym bellach yn cael glaw trwm a llifogydd rheolaidd. Ni allwn atal y glaw; yr hyn y gallwn ei wneud yw lleihau cyfaint y dŵr i lawr yr afon. Mae coed yn chwarae rôl hanfodol yn lleihau llifogydd trwy wahanol brosesau naturiol sy'n rheoli llif dŵr ac yn gwella gallu'r pridd i'w amsugno. Mae coed yn gweithredu fel ymbarél naturiol, gan dderbyn glawiad gyda'u canopïau. Mae hyn yn arafu'r glaw cyn iddo daro'r ddaear, gan alluogi'r pridd i'w amsugno'n raddol yn hytrach na'i fod yn ddŵr ffo ar unwaith. Mae gwreiddiau coed yn creu rhigolau yn y pridd sy'n galluogi dŵr i dreiddio'n ddyfnach ac yn gyflymach. Mae hyn yn lleihau dŵr ffo ar yr wyneb ac yn cynyddu gallu pridd i storio dŵr. Drwy angori'r pridd, mae coed yn atal erydiad a thirlithriad, a all arwain at fwy o ddŵr ffo. Mae eu presenoldeb yn helpu i arafu llif dŵr ar draws y dirwedd, gan liniaru fflachlifoedd yn ystod glaw trwm. Beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i gynyddu gorchudd coed er mwyn lleihau llifogydd wrth inni weld effaith cynhesu byd-eang?

14:50

Mike, diolch am godi hyn ac am hyrwyddo rôl plannu coed i liniaru perygl llifogydd. Nawr, mae gennym flaenoriaethau ariannu. Mae gennym grant pwrpasol ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol a grantiau creu coetiroedd sy'n cefnogi creu coetiroedd fel mesur allweddol i arafu dŵr ffo ac i storio dŵr o fewn dalgylchoedd, fel y disgrifiwch. Mae yna hefyd ddull integredig gyda pholisïau ehangach, megis annog plannu ar lannau afonydd, coetiroedd gorlifdir a lleiniau clustogi i leihau llifogydd. Ac mae atebion ehangach ar sail natur yn hyrwyddo plannu coed ochr yn ochr ag ymyriadau eraill i reoli llifogydd yn naturiol. Felly, o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy, er enghraifft, mae uchelgais i blannu 17,000 hectar erbyn 2030 i gefnogi ffermwyr actif i greu coetiroedd hefyd. Felly, mae llawer y gallwn ei wneud yn y maes hwn, Mike, ac rydym yn paratoi'r cyllid a'r cymhellion i'w wneud.

Mynediad at Fyd Natur

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at fyd natur i bobl ledled Cymru? OQ63596

Diolch, Julie. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o fentrau i wella mynediad at fyd natur. Mae hyn yn cynnwys Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol a'r grant gwella mynediad sydd wedi cael cefnogaeth dda. Rydym wedi ymrwymo i greu mannau gwyrdd sy'n gwella ein hiechyd a'n llesiant ac yn darparu lleoedd y gall pobl Cymru eu mwynhau.

Diolch am yr ateb.

Ym mis Medi, cyfarfûm ag un o fy etholwyr sy'n byw am hanner y flwyddyn ar gwch camlas, a chawsom daith wych ar hyd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, sydd eisoes wedi'i chrybwyll yma y prynhawn yma. Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hyd at £400,000 y flwyddyn i gynnal y cyflenwad dŵr i'r gamlas, oherwydd gwelais y diwydiant a oedd yn ddibynnol ar gyfer teithiau, ac fe wnaeth harddwch yr ardal greu cymaint o argraff arnaf, ac rwy'n canmol Llywodraeth Cymru am wneud y penderfyniad hwn. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd pobl yn parhau i gael mynediad at fannau gwych fel y gamlas hon?

Wel, diolch yn fawr am hynny. Rwy'n falch fod hyn yn cael ei godi ar y llawr heddiw oherwydd roedd yn foment arwyddocaol fod Llywodraeth Cymru—ochr yn ochr â Glandŵr Cymru—wedi gallu camu i'r adwy ac ymrwymo i gynnal y rhwydwaith camlesi â hyd at £400,000 o gyllid y flwyddyn dros y blynyddoedd nesaf, ond hefyd gyda'r buddsoddiad—yr arian cyfalaf—yr oeddem wedi'i roi y llynedd i wneud yn siŵr fod dŵr yn dal i lifo i mewn i'r gamlas, oherwydd mae'r gamlas, ydy, yn ymwneud â'r cychod a'r busnesau a phopeth arall, ac mae hefyd yn ymwneud â lle mae pobl yn mynd i fwynhau'r amgylchedd naturiol hefyd—cerdded, beicio ar hyd y llwybr tynnu, padlo ar hyd y gamlas hefyd, rhywbeth rwyf wedi'i wneud fy hun ar sawl achlysur.

Ond mae'n fwy na hynny. Felly, yn ystod y flwyddyn 2025-26, byddwn yn darparu £19 miliwn ar gyfer y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ac mae hynny'n golygu ein bod yn cael llawer mwy o'r mannau gwyrdd hynny ar gyfer cymunedau a welwn nawr ym mhob etholaeth. Mae hyn o ddifri'n rhoi pobl yn y canol gyda'r mynediad at fannau gwyrdd yn eu cymunedau a'r mannau y maent yn eu caru—a'r rhai y maent am eu troi'n fannau hardd i'w mwynhau. Mae'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur bellach wedi darparu dros 3,000 o safleoedd peillio, dros 100 o safleoedd tyfu bwyd, dros 1,000 o berllannau cymunedol a 110 o erddi therapiwtig. Felly, mae llawer mwy y gallwn ei wneud. Mae ein grantiau cymorth rhandiroedd, Gwobrau'r Faner Werdd, yn hyrwyddo mwynhad ac ymwybyddiaeth o'r mannau gwyrdd hynny hefyd, a'r buddsoddiad yn y rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy. Felly, mewn sawl ffordd, mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymo, drwy eiriau a thrwy weithredoedd a thrwy gyllid, i hyrwyddo mynediad i bawb at fannau gwyrdd yn eu cymdogaethau lleol, yn ogystal ag ar hyd y gamlas.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae mynediad at fannau agored a gwyrdd yn bwysig iawn—rwy'n gweld eich bod wedi diflannu y tu ôl i'r ddarllenfa—yn enwedig mewn perthynas â'r agenda iechyd meddwl a'r agenda gordewdra. Ond yr hyn a welwn yw nad yw llawer o'n rhwydwaith hawliau tramwy yn hygyrch i lawer o bobl ar hyn o bryd. Mae naill ai'n llawn tyfiant neu nid yw'r llwybrau ar gael i bobl gerdded arnynt. Felly, hoffwn wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gallwn agor y rhwydwaith hawliau tramwy fel y gallwn gael pobl allan o'u cartrefi, allan o'u cadeiriau i fwynhau ein cefn gwlad agored ledled Cymru.

James, diolch. Mae'n bwynt pwysig iawn. Mae'r rhwydwaith hawliau tramwy mor hanfodol bwysig oherwydd, i lawer o bobl, dyma'r un lle y maent yn cerdded allan o'u cartrefi eu hunain ac yna'n cael mynediad at yr ardaloedd ehangach, cyn iddynt fynd i fyny'r bryniau ac yn y blaen. Felly, yn ystod 2025-27, rydym yn ariannu grant gwella mynediad cyfalaf dwy flynedd gwerth cyfanswm o £4 miliwn i awdurdodau lleol ac i awdurdodau parciau cenedlaethol sydd â hawliau tramwy cyhoeddus. Felly, bydd yn galluogi'r awdurdodau hynny i wella'r mynediad hamdden i fannau gwyrdd a glas, ar gyfer yr egwyddor mynediad ond hefyd, fel y dywedwch, ar gyfer iechyd a lles meddyliol a chorfforol hefyd. Ond dyma ddweud hefyd, yn y cynllun ffermio cynaliadwy, mae yna brosiect cyfalaf sydd hefyd yn cynnwys gwella hygyrchedd a phrofiad ymwelwyr. Felly, mae yna wahanol ffyrdd o wella hynny hefyd. Ond yn sicr, o ran hawliau tramwy, bydd ein grant gwella mynediad, gwerth cyfanswm o £4 miliwn, yn fuddsoddiad sylweddol yn ein hawliau tramwy sylfaenol.

14:55
Plastig mewn Afonydd

5. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fesur plastig mewn afonydd? OQ63606

Diolch, Janet. Rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru drwy grŵp Cymru ar fygythiadau datblygol i ddŵr er mwyn asesu risgiau a niwed posib plastig a microblastig mewn afonydd. Mae'r bartneriaeth hon yn ysgogi ymchwil, mae'n monitro arloesedd a datblygu polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth i asesu a lleihau llygredd plastig mewn afonydd, gan ddiogelu ecosystemau, bioamrywiaeth ac iechyd y cyhoedd ledled Cymru.

Diolch. Mynychais grŵp trawsbleidiol y diwrnod o'r blaen gyda fy nghyd-Aelod Delyth, draw yn y fan acw, ac roeddem yn eithaf pryderus, mewn gwirionedd, wrth sylweddoli nad yw'r dŵr mewn afonydd yn cael ei arolygu fel sy'n digwydd gyda'r môr ac ati. Nawr, mae chwech o'r 20 afon fwyaf llygredig yn y DU yng Nghymru. Canfuwyd microblastig mewn 50 y cant o samplau infertebratau. Canfuwyd microblastig mewn amrywiaeth eang o organau pysgod, o'r tegyll i'r ymennydd. Ond nid yn ein hafonydd yn unig y mae llygredd plastig. Mae yna hefyd achosion o ddisgiau plastig o gyfleusterau trin dŵr yn gollwng i'n moroedd a'n hafonydd. Nawr, er bod gan CNC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gynlluniau sy'n canolbwyntio ar lygredd ffermydd mewn afonydd, mae hyn yn parhau'r naratif mai'r sector amaethyddol sy'n cael ei weld fel y llygrwr mwyaf, ac nid ein ffermwyr sydd ar fai am hyn o gwbl. Rydym yn gweld gormod o lygredd gan ein cwmnïau dŵr. Fodd bynnag, nid oes gan CNC raglen fonitro reolaidd i fesur plastig neu ficroblastig yn nŵr afonydd, yn hytrach nag yn y pysgod a'r infertebratau. Felly, o ystyried bod hwn yn fater pwysig iawn nawr, a wnewch chi weithio gyda CNC i gyflwyno'r arolygon rheolaidd hyn? Diolch.

Janet, diolch am hynny. Mae'n fater pwysig iawn, ac rwy'n credu bod ffordd ymlaen ar hyn. Felly, rydych chi'n iawn i ddweud bod data'n gyfyngedig ar hyn o bryd i feintioli cyfraniad microblastig o bob ffynhonnell bosib, ac mae'r dystiolaeth gyfredol yn dangos y gall rhai microblastigion, yn enwedig y rhai a geir mewn dŵr yfed, ddod o systemau trin a dosbarthu ar gyfer dŵr tap a/neu botelu dŵr potel. Ond ar hyn o bryd, fel y nodwch, nid oes gofyniad rheoleiddiol i fonitro microblastig mewn dŵr croyw a dŵr yfed. Felly, nid yw CNC yn monitro plastig mewn dŵr yn rheolaidd. Fodd bynnag, cynhaliodd Llywodraeth Cymru a CNC weithgor ar y cyd ar y bygythiadau sy'n datblygu i ansawdd dŵr i edrych ar yr union fater hwn, i edrych ar ficroblastig fel rhan o gylch gwaith y grŵp yn ogystal â bygythiadau cemegol eraill, gan nad dyma'r unig un.

Felly, cyhoeddwyd adroddiad diweddaraf y DU ar ficroblastig mewn dŵr yfed gan grŵp ymchwil diwydiant dŵr y DU yn 2019, a chanfuwyd bod mwy na 99.9 y cant o ficroblastigion wedi'u tynnu o ddŵr yfed a dŵr gwastraff drwy brosesau trin y cwmnïau dŵr. Serch hynny, rydym yn cydnabod bod angen mwy o ymchwil i ddeall effaith lawn llygredd plastig ar iechyd pobl a'r amgylchedd. Felly, bydd y gwaith a wnawn nawr yn cefnogi'r safonau rheoleiddiol a'r gofynion monitro priodol yn y dyfodol. Felly, mae mwy o waith i'w wneud, ond rydym yn bwrw ymlaen ag ef.

Rwy'n falch iawn fod Janet wedi codi'r mater hwn, ac roeddem mewn digwyddiad gwych yn ddiweddar. Mae plastig i'w gael ym mhob man yn ein hafonydd, yn enwedig o deiars ceir, dillad a phaent. Gall anifeiliaid gamgymryd y plastig am fwyd. Mae adar yn ceisio bwyta deunydd pacio plastig, a gall pysgod lyncu microblastig. Mae ymchwil yr Athro Steve Ormerod wedi canfod bod microblastig yn cael ei lyncu gan un o bob dau bryfyn yn afonydd Taf, Wysg a Gwy. Gall cywion fwyta 8,000 o ddarnau o ficroblastig cyn magu plu. Mae adar cân a'r rhai sy'n byw ger glannau afonydd yn bwyta cannoedd o ddarnau o blastig y dydd, yn bennaf o'r pryfed hynny. Mae ymchwil a anfonwyd ataf gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn dangos bod trochwyr yn llyncu tua 200 gronyn o blastig bob dydd. Nawr, yn amlwg, mae'r sbwriel plastig hwn yn heintio ein bywyd gwyllt. Beth y gellir ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r ystadegau brawychus hyn i ddechrau atal y llanw? Mae pobl ifanc yn enwedig eisiau atebion gennym.

15:00

Mae'n wir, ac rwy'n cytuno. Mae pobl ifanc ymhlith yr eiriolwyr gorau nawr dros yr angen i fynd i'r afael â llygredd plastig. Ond mae llawer y gellir ei wneud. A phob clod i ddatganoli, yn y lle hwn, yn yr amffitheatr ddemocrataidd hon, rydym wedi arwain y ffordd ar hyn, boed drwy'r ardoll ar fagiau plastig flynyddoedd lawer yn ôl, neu drwy'r ddeddfwriaeth a basiwyd gennym ar gynhyrchion plastig untro. Mae'n rhaid imi ddweud hefyd am y buddsoddiad a wnawn mewn cynlluniau arloesol yn y DU megis ailgylchu cynhyrchion o bysgodfeydd, lle rydym yn casglu llond faniau o rwydi pysgota a phlastig o'r diwydiant pysgota. Mae llawer y gallwn ei wneud. Ac mae llawer o'r cymhelliant ar gyfer hyn yn dod o fynd allan i ysgolion, a chynghorau eco ac yn y blaen, ac maent yn dweud wrthym. Mae ysgolion yn ysgrifennu ataf yn eu dwsinau yn dweud, 'A wnewch chi wneud mwy ar hyn?' Felly, rydym yn awyddus i'w wneud.

Mae hefyd yn cysylltu â'r hyn a wnawn ar reoli gwastraff ac ailgylchu ac ailddefnyddio plastig, a ble y gallwn fynd nesaf hefyd gyda'r economi gylchol, fel bod llai ohono'n mynd i'r amgylchedd, a mwy ohono'n cael ei ailddefnyddio ar gyfer cynhyrchion defnyddiol sy'n creu swyddi yma yng Nghymru. Felly, unwaith eto, mae hwn yn faes yr ydym yn arwain ynddo, ond mae llawer i'w wneud. Ond rhaid dweud mai pobl ifanc yw'r rhai sy'n cadw'r pwysau arnom i wneud hyn.

Diolch yn fawr i Janet Finch-Saunders am godi'r cwestiwn pwysig hwn. Gwrandewais yn ofalus ar eich ateb, ac rwy'n credu ei bod yn syfrdanol nad yw hyn yn cael ei fesur ar hyn o bryd, ac o'ch atebion, ni chredaf fod unrhyw gynllun ar waith i fesur llygredd plastig. Oherwydd fel y dywedodd Delyth Jewell, mae'n amlwg fod plastig yn llygru ein hafonydd. Mae'n anodd iawn gosod targed os nad ydych chi'n gwybod beth yw'r sefyllfa bresennol. Ar ryw ystyr, os ydych chi'n helpu ffrind i redeg marathon ymhen tri mis, ni allwch gynllunio ar gyfer hynny'n effeithiol os nad ydych chi'n gwybod pa mor bell y gallant redeg nawr. Felly, gan gofio'r targedau amgylcheddol, sut y gallwn wneud hynny a gosod targedau heb fonitro ar hyn o bryd? A ydych chi'n poeni nad yw hyn yn bosib heb fonitro ar hyn o bryd neu yn y dyfodol? Diolch yn fawr.

Felly, Rhys, yn gyntaf, diolch am hyrwyddo hyn dro ar ôl tro yma yn y Senedd. Ond i ateb yr hyn a ddywedwch, nid oes a wnelo hyn yn unig â'r ffaith nad oes monitro, ond mae diffyg data ar ddadansoddi beth yw effaith microblastigion o fewn y gwahanol systemau sydd gennym. Felly, dyna un o'r meysydd yr ydym yn gweithio arnynt. Mae angen inni ganfod hynny er mwyn gwybod beth yw maint y broblem ochr yn ochr â llygryddion eraill yn yr amgylchedd sydd dan ystyriaeth hefyd, a phenderfynu wedyn pa gamau y gallwn eu cymryd.

Felly, mae cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, yn DEFRA, yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a'r diwydiant dŵr ar sefydlu'r dulliau hynny i ganfod, i bennu nodweddion ac i feintioli'r microblastigion sy'n mynd i mewn i weithfeydd trin dŵr gwastraff, ac i werthuso effeithlonrwydd prosesau trin ar gyfer eu tynnu o ddŵr gwastraff domestig. Ac mae fy swyddogion yn gweithio gyda chymheiriaid yn DEFRA i ddeall canlyniadau'r gwaith ymchwil hwnnw.

Ond cyfeiriais yn fy ateb cynharach at y gwaith ychwanegol sy'n mynd rhagddo i geisio meintioli bygythiad microplastigion. Mae angen inni allu gwerthuso hynny, a phenderfynu sut yr ymdriniwn â hynny. Nid dyma'r unig lygrydd, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar hyn ac yn casglu'r data.

Tir Amaethyddol ar Ynys Môn

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ar Ynys Môn? OQ63618

Diolch, Rhun. Mae polisi cynllunio yn gosod allan trefn ar gyfer dewis safleoedd i sicrhau bod y tir amaethyddol gorau a mwyaf hyblyg yn cael ei ddiogelu. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru', rhifyn 12, yn dweud os oes dewis rhwng safleoedd o radd wahanol, y dylid cynnal datblygiad ar y tir isaf ei radd.

Diolch am yr ymateb yna. Does dim angen i fi ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet pa mor bwysig ydy amaeth i Ynys Môn, a dydy hi o ddim syndod, felly, fod yna bryder am y cynlluniau i ddatblygu 3,700 erw o gynlluniau solar ar dir fferm, a bod 1,000 o aceri o hwnnw yn dir BMV. Mae colli tir BMV yn golygu colli swyddi mewn amaeth, mae o'n effeithio ar y gadwyn gyflenwi, ac mae o'n taro ein cymunedau gwledig ni. A pholisi'r Llywodraeth ydy gwarchod tir BMV.

Mae adroddiad yr archwiliwr ar gyfer prosiect Alaw Môn yn nodi'n glir fod gwrthdaro polisi sylfaenol gan ei fod yn cynnwys cymaint o dir a ddynodir yn dir gorau a mwyaf amlbwrpas. Ond mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi'r golau gwyrdd iddo beth bynnag. Mae ffyrdd eraill o wneud ynni solar, wrth gwrs, ar doeau, ac ie, ar ddarnau llai o dir amaethyddol llai cynhyrchiol. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn barod heddiw i ddweud y gwir a chyfaddef nad yw ei Lywodraeth bellach yn poeni am warchod tir gorau a mwyaf amlbwrpas a chynhyrchiol neu os nad yw hynny'n wir, sut ar y ddaear y gall gyfiawnhau rhoi caniatâd ar gyfer prosiect Alaw Môn?

15:05

Diolch, Rhun. Wel, yn gyntaf oll, fe fyddwch yn deall na allaf wneud sylwadau ar achosion penodol, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r penderfyniad ar Alaw Môn, Lywydd, yn wynebu adolygiad barnwrol, felly ni fyddech yn disgwyl i mi na neb arall wneud sylwadau ar fanylion y penderfyniad ar Alaw Môn.

Fodd bynnag, hoffwn ddweud bod gennym y lefel uchaf yn y DU o ddiogelwch ar gyfer tir amaethyddol o ansawdd uchel yma yng Nghymru, a gadewch imi egluro hynny ymhellach. Mae gennym, yn wir—rydych chi'n iawn i nodi—dargedau uchelgeisiol ar gyfer ynni adnewyddadwy, sy'n gofyn am ystod amrywiol o fathau o gynhyrchiant, ond rhaid ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun, a rhaid iddo gydbwyso'r budd amaethyddol yn erbyn ystyriaethau eraill. Nawr, nid gwaharddiad ar ddefnyddio tir yw'r dosbarthiad tir gorau a mwyaf amlbwrpas. Ni all y system gynllunio wneud hynny. Fodd bynnag, mae'n gosod bar uchel iawn, ac fel y dywedais, mae gennym y lefel uchaf o ddiogelwch yn y DU ar gyfer tir amaethyddol o ansawdd uchel. Felly, credwn fod y mesurau presennol yn gryf. Dyma'r rhai cryfaf yn y DU. Fe'i cefnogir, gyda llaw, gan y papur Soil Security diweddar yn 2022, a oedd yn dweud bod Cymru'n sefyll 'ar wahân i'w chymdogion' a lle,

'mae'r flaenoriaeth i dir dosbarthiad tir amaethyddol a thir gorau a mwyaf amlbwrpas wedi'i chynnal'.

Dyna ddyfyniad uniongyrchol ganddynt. Nawr, mae fy swyddogion yn mynd ati'n rheolaidd—. Dim ond i nodi'n glir o fy adran i, mae fy swyddogion yn mynd ati'n rheolaidd i wneud sylwadau mewn achosion o ddiddordeb cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod pwysau sylweddol i'n tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas yn y broses gynllunio. Ond fel y dywedais, ni allaf wneud sylwadau ar achosion penodol.

Llysiau a Ffrwythau

7. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynyddu'r ffrwythau a llysiau a gaiff eu cynhyrchu yng Nghymru? OQ63614

Diolch, Jenny. Mae tyfu yng Nghymru yn cael ei hyrwyddo drwy ymrwymiadau yn y strategaeth bwyd cymunedol, gwell mynediad ar gyfer garddwriaeth ar raddfa fach i'r cynllun ffermio cynaliadwy sydd ar y ffordd, a thrwy fentrau fel rhaglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Mae cymorth parhaus cynhwysfawr yn cynnwys Cyswllt Ffermio a'r clwstwr garddwriaeth, ynghyd â chynlluniau grant cyfalaf pwrpasol.

Diolch. Mae'r holl ffrydiau gwaith hynny'n bwysig iawn, ac rwy'n cydnabod llawer o'r cynnydd a wnaed, gan Castell Howell yn ne Cymru a chonsortiwm addysg gogledd Cymru, i wneud gwaith da ar gaffael mwy o gynhwysion Cymreig ar gyfer prydau ysgol. Ond nid yw tyfu 10 tunnell o foron yn sir Gaerfyrddin yn mynd i fwydo ein holl ddisgyblion ysgol gynradd. Mae'r gwaith a wnaed gan Lantra ar ran Cyswllt Ffermio yn y 12 mis diwethaf i gynyddu cynhyrchiant garddwriaethol wedi bod yn rhagorol, ond nid yw wyth aelod o staff cyfwerth ag amser llawn yn ateb y galw hyd yn oed, heb sôn am fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo arallgyfeirio i arddwriaeth o dan y cynllun ffermio cynaliadwy.

Gallai ein garddwriaethwr mwyaf, Puffin Produce, ddyblu ei allbwn yn hawdd pe bai awdurdodau lleol yn nodi'n gliriach yr hyn sydd ei angen arnynt gan dyfwyr lleol. Rwy'n pryderu bod contract Cyswllt Ffermio ar gyfer y tair blynedd nesaf yn cael ei gaffael y tu ôl i ddrysau caeedig, fel nad yw rhanddeiliaid yn gallu gweld faint o adnoddau sy'n cael eu targedu i gryfhau'r economi sylfaenol i gynhyrchu ffrwythau a llysiau cynaliadwy yng Nghymru, yn hytrach na dibynnu ar fewnforion tramor anrhagweladwy. Mae'n broblem o ran diogeledd bwyd ac o ran cynaliadwyedd. Felly, pa dargedau rydych chi wedi'u gosod ar gyfer Cyswllt Ffermio i ehangu cynhyrchiant ffrwythau a llysiau Cymru’n sylweddol?

Jenny, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch pwysigrwydd nid yn unig y polisi caffael, ond hefyd Cyswllt Ffermio wrth symud ymlaen â'r nifer o ffyrdd rydym yn cefnogi'r sector ffrwythau a llysiau i dyfu yma yng Nghymru, ac mae Cyswllt Ffermio yn allweddol i hyn. Mae bellach wedi cefnogi 447 o fusnesau yn y sector garddwriaeth fwytadwy sydd wedi cofrestru gyda'r rhaglen ar hyn o bryd. Mae hynny'n arwyddocaol, o ble roeddem arni ychydig flynyddoedd yn ôl. Ers mis Ebrill 2023, mae'r rhaglen wedi cyflwyno 335 o sesiynau cymorth busnes garddwriaethol un i un wedi'u hariannu'n llawn i dyfwyr Cymru. Ac mae hwnnw'n gymorth wedi'i deilwra, gyda llaw, mewn meysydd allweddol fel cynllunio cnydau, arallgyfeirio, rheolaeth integredig ar blâu a llawer mwy. Ac mae 841 o gyrsiau hyfforddi wedi'u cynnal drwy Cyswllt Ffermio mewn ystod o ddigwyddiadau yn benodol o fewn y sector garddwriaeth fwytadwy.

Mae proses gaffael Cyswllt Ffermio ar y gweill fel y sonioch chi, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi'r cyflenwr llwyddiannus yn y flwyddyn newydd. Rydym am adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi'i gael. Rydym am barhau i dyfu'r sector hwn yn sylweddol. Bydd y broses honno'n parhau i gynnal ein hymrwymiad i gefnogi'r holl sectorau amrywiol, gan gynnwys garddwriaeth fwytadwy, wrth iddynt bontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Wrth gwrs, bydd wedi'i alinio hefyd â'r fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy wrth inni symud ymlaen.

Felly, Jenny, rydym wedi ymrwymo i hyn wrth symud ymlaen. Credaf ein bod wedi dod yn bell dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond rydym yn cytuno â chi fod gennym lawer mwy i'w wneud. Felly, gan alinio hynny â chymorth y grant garddwriaethol a'r ystod o gymorth arall sydd gennym, gan gynnwys gweithio gyda dosbarthwyr fel Harlech a thrwy raglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, byddwn yn parhau i wthio ym mhob maes i dyfu a thyfu ein sector garddwriaeth fwytadwy.

15:10
Cynnal a Chadw Afonydd

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o ran cynnal a chadw afonydd a diogelu rhag llifogydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63615

Diolch, Cefin. Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am brif afonydd. Awdurdodau lleol a pherchnogion glannau afonydd sy’n gyfrifol am afonydd nad ydynt yn brif afonydd, neu gyrsiau dŵr cyffredin, fel y’u gelwir. Mae awdurdodau rheoli risg yn gyfrifol am gynnal cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Mae'r llifogydd rydyn ni wedi eu gweld yng ngorllewin Cymru yn ddiweddar yn dangos pa mor aml mae'r digwyddiadau yma'n digwydd a pha mor ddwys y mae'r llifogydd hefyd yn effeithio ar ardaloedd gwahanol. Ond mae hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â pha mor dda ydyn ni'n paratoi ar gyfer y llifogydd hyn a pha mor gydnerth ydyn ni ar gyfer y digwyddiadau yma sy'n digwydd yn amlach. Yn dilyn storm Claudia, er enghraifft, gwnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ymateb i 450 o alwadau o fewn 12 awr, gan gynnwys pobl oedd wedi cael eu dal yn eu cartrefi a'u ceir. 

Weinidog, mae stormydd olynol wedi dod â glaw trwm i ddalgylchoedd afonydd sydd eisoes yn orlawn, gyda systemau afonydd yn methu adfer rhwng digwyddiadau. Nawr, yn ogystal â hynny, rydym yn gweld bod coed ansad a gweddillion cronedig wedi mynd i mewn i gyrsiau dŵr ac wedi mynd yn sownd, gan arwain at rwystrau. Mae'r gweddillion hyn yn creu rhyw fath o argae, gan gyfrannu at lifogydd i fyny'r afon a difrod diangen i eiddo. Felly, yng ngoleuni'r digwyddiadau hyn, a wnewch chi weithio gyda CNC i ymrwymo i raglen fwy ataliol o gynnal a chadw afonydd er mwyn osgoi llifogydd diangen a mynych?

Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn, gan fod y dilyw o law a gawn mor aml bellach—gallwn weld y glaw'n dechrau eto yma heddiw—yn golygu bod ein hasiantaethau rheng flaen o dan bwysau cyson i ymateb. Hyd yn oed yn y 18 mis neu fwy y bûm yn y swydd, rydym yn cael mwy o'r rhain, nid yn unig glaw trwm, ond mwy o ddigwyddiadau storm yn cael eu hadrodd eleni nag y llynedd, a mwy y llynedd na'r flwyddyn cynt. Mae rhywbeth mawr yn digwydd. Rwyf am ddweud yn syml wrth y rhai a fyddai'n gwadu bod rhywbeth yn digwydd gyda'r hinsawdd: mae rhywbeth yn digwydd yma. A golyga hynny fod ein hasiantaethau o dan bwysau.

Mae angen i ran o'n hymateb i hynny ymwneud nid yn unig â'r buddsoddiad enfawr a roddwn tuag at amddiffyn rhag llifogydd a diogelu'r arfordir, ac yn y blaen—gan gynnwys y pethau hynny sy'n aml yn anweledig, gyda llaw, sef pethau fel monitro cwlfertau, glanhau cwlfertau, ac yn y blaen. Mae hynny'n hanfodol bwysig hefyd, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar y sail honno. Felly, nid yn unig gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ond gydag awdurdodau lleol sy'n awdurdodau risg llifogydd yn eu hardaloedd eu hunain. Felly gallaf ymrwymo'n llwyr. Ac os hoffech gysylltu â mi gyda manylion afonydd penodol neu ddalgylchoedd afonydd yn eich ardal, rwy'n fwy na pharod i ofyn i fy swyddogion archwilio hynny. Ond mae angen inni gynnal ein gwydnwch rhag llifogydd, nid parhau i fuddsoddi mwy a mwy yn unig. Mae angen inni ei gynnal ar yr un lefel pan fyddwn yn wynebu glaw trwm yn amlach wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos.

15:15
3. Cwestiynau Amserol

Cwestiynau amserol sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac i'w ofyn gan Adam Price.

Lluoedd Heddlu

1. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adroddiadau bod yr Ysgrifennydd Cartref am ystyried uno lluoedd heddlu Cymru a Lloegr yn lluoedd integredig mwy, ac am oblygiadau posibl hyn i blismona yng Nghymru? TQ1418

Member (w)
Jane Hutt 15:15:41
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Adam Price. Nid yw adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ar newidiadau posib yn y dyfodol yng Nghymru a Lloegr wedi'u cadarnhau, ond rydym yn parhau i ymgysylltu â Gweinidog plismona Llywodraeth y DU, a fydd yn mynychu bwrdd partneriaeth plismona Cymru, a gadeirir gennyf i, yfory.

Y newidiadau hyn, sydd wedi cael eu hadrodd yn y cyfryngau, ac ar sail briff mae'n debyg, fyddai'r tarfu a'r diwygio mwyaf i heddluoedd ers y 1960au. Nid wyf yn siŵr—efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ein helpu yn hyn o beth—a fu unrhyw drafodaethau hyd yma mewn perthynas â'r cynnig i greu heddluoedd integredig a chreu un heddlu i Gymru er enghraifft. Pan wnaed y cyhoeddiadau ar gomisiynwyr heddlu a throseddu, fe ddywedoch chi wrthym, i bob pwrpas, eich bod wedi cael gwybod ond nad ymgynghorwyd â chi. A fyddech chi'n disgwyl iddynt ymgynghori â chi cyn cyhoeddi'r Papur Gwyn ar gynnig mor arwyddocaol â hwn?

Ar yr egwyddor honno, a wnewch chi ddatgan, yn eich barn chi—yn sicr, dyma ein safbwynt ni—na ddylai unrhyw newid ddigwydd, er enghraifft uno, heb graffu llawn gan y Senedd a mandad democrataidd Cymreig? A wnewch chi alw'n benodol ar yr Ysgrifennydd Cartref i ddiystyru unrhyw strwythur trawsffiniol a fyddai'n golygu, er enghraifft, fod un o heddluoedd Cymru’n cael ei amsugno i mewn i heddlu mawr Seisnig, neu'n wir, fod gwasanaethau Cymru’n cael eu gweithredu i bob pwrpas o ganolfan weithrediadau genedlaethol yn Lloegr?

Ac yn olaf, rwy'n credu y byddem yn derbyn bod yna rai dadleuon o blaid diwygio strwythurol—gallai fod manteision i fodel Cymru gyfan, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban—ond bydd llywodraethiant yn allweddol. Os argymhellir heddlu Cymru gyfan, a fyddech chi'n cytuno y byddai'n rhaid i atebolrwydd yr heddlu cenedlaethol hwnnw fod yn genedlaethol i'r Senedd yma, i Lywodraeth Cymru, drwy strwythurau democrataidd Cymreig? A wnewch chi ofyn i fwrdd partneriaeth plismona Cymru, a gadeirir gennych, gasglu tystiolaeth, nodi'r opsiynau ar gyfer Cymru, ac adrodd yn ôl i'r Senedd fel y gallwn drafod a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen i Gymru?

Diolch yn fawr, Adam. Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedais, nid yw adroddiadau heb eu cadarnhau a dyfalu o unrhyw gymorth, felly yfory, mae'n bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn yn y bwrdd partneriaeth plismona. Cefais fy nghalonogi'n fawr gan y ffaith, pan gawsom y cyhoeddiad a wnaed gan y Swyddfa Gartref i gael gwared â'r comisiynwyr heddlu a throseddu, ein bod wedi codi hyn ar unwaith i ddweud bod angen trefniadau llywodraethiant gwahanol arnom yng Nghymru. Mae angen trefniadau llywodraethiant arnom sy'n adlewyrchu Cymru, amgylchiadau Cymru, y bartneriaeth Gymreig yr ydym wedi'i hadeiladu dros y blynyddoedd.

Mae bwrdd partneriaeth plismona Cymru, yr wyf yn ei gadeirio, yn cyfarfod bob chwarter. Mae'n enghraifft ardderchog o'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd, yr holl gomisiynwyr heddlu a throseddu, ein prif gwnstabliaid a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—partneriaid allweddol. Un o'r pethau diddorol am y cyhoeddiad hwnnw, am ddiwygio'r dirwedd heddlu, yw ei fod wedi rhoi cyfle inni ddweud bod hyn yn rhoi mwy o gyfle inni sicrhau y gall y bwrdd partneriaeth plismona gael lle go iawn yng Nghymru o ran atebolrwydd. Rwy'n rhannu'r farn honno o ran llywodraethiant.

Hefyd, rydym wedi cael sicrwydd gan y Swyddfa Gartref fod trefniadau llywodraethiant gwahanol rhwng Cymru a Lloegr, ac maent wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phlismona yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn codi yfory yn ein bwrdd partneriaeth plismona. Bydd yna gynlluniau ar gyfer cydweithio a bydd y Papur Gwyn sy'n cael ei ddatblygu yn cael ei gyhoeddi wedyn yn y flwyddyn newydd.

15:20

Ysgrifennydd y Cabinet, onid ydych chi'n cytuno mai dyma'r cyfle perffaith i chi ailfeddwl a rhoi'r gorau i'ch galwadau am ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru? Mae mantais mewn cael un heddlu unedig i Gymru a Lloegr, hyd yn oed os yw hynny ond er mwyn mynd i'r afael â heddluoedd camweithredol fel Heddlu Gwent, sydd wedi caniatáu i ddiwylliant o fisogynedd barhau ymhlith eu swyddogion a'u harweinwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, pan fyddwch chi'n trafod plismona gyda'r Ysgrifennydd Cartref nesaf, a fyddwch chi'n pwyso am well plismona i Gymru, yn hytrach na bod Cymru'n gyfrifol am blismona?

Rwy'n credu bod hwn yn gyfle perffaith i drafod datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru. Gadewch inni fynd yn ôl at y ffaith bod hyn wedi'i argymell nid yn unig gan gomisiwn Thomas, yr archwiliad mwyaf erioed o'r system gyfiawnder yng Nghymru, ond hefyd, yn fwy diweddar, gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, dan gadeiryddiaeth Rowan Williams a Laura McAllister. Roeddwn yma yn nyddiau comisiwn Silk, lle cytunodd eich plaid chi hefyd, gyda'r holl bleidiau, y dylem ddatganoli plismona i Gymru. Felly, rwy'n credu bod hyn wedi rhoi'r cyfle perffaith inni symud y trafodaethau hyn yn eu blaenau. Wrth gwrs, byddai hwn yn ddull graddol. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, ond mae'r newid mewn trefniadau llywodraethiant ar gyfer plismona yn gyfle naturiol, a godwyd gan y cwestiwn hwn y prynhawn yma, i ystyried rôl Llywodraeth Cymru a'r Senedd o ran atebolrwydd am blismona yng Nghymru.

Fe grybwylloch chi'r gair 'partneriaeth' yn eich ymatebion i Adam Price, ac fe wnewch chi faddau i ni am deimlo allan ohoni braidd pan na fu 'partneriaeth' mewn gwirionedd o ran cyhoeddiadau San Steffan a'r hyn a wyddom yng Nghymru ynglŷn â'r mater pwysig hwn. Roedd hyn yn rhywbeth a drafodwyd yn y cyfryngau ddechrau'r wythnos hon, ac yn wir, roedd yn syndod, yn sicr i mi, ac i eraill yn ôl pob tebyg. Y mecanwaith y dylai hyn ddod drwyddo yw'r Senedd. Mae'r syniad o bartneriaeth yn rhywbeth y mae angen inni ei godi o ddifrif rhwng Senedd Cymru a Senedd y DU. Felly, i adleisio'r hyn y mae Adam newydd ei ddweud, hoffwn glywed amserlen ar gyfer y broses hon, sut y bydd y Senedd yn rhan ohoni.

Hefyd, rydych chi wedi sôn am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf, ac rwy'n anghytuno'n llwyr â fy nghyd-Aelod Ceidwadol. Mae angen mwy o bwerau datganoledig yma, ond mae'r amserlen honno'n llithro hefyd. Felly, a gawn ni ymrwymiad gennych ar gyfer y flwyddyn nesaf y byddwn yn cael datganiad clir ar y datblygiad hwn a'r amserlen ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, ac edrych ymlaen, fel y gallwn deimlo'n hyderus fod y gwaith partneriaeth hwnnw'n mynd rhagddo? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidog Llywodraeth y DU dros Blismona ac Atal Troseddau, Sarah Jones, ac mae hi'n mynychu bwrdd partneriaeth plismona Cymru. Rwy'n falch iawn, fel y dywedais, o fwrdd partneriaeth Cymru. Mae'n dwyn ynghyd yr holl fuddiannau hynny sy'n hanfodol i gyfiawnder a thirwedd plismona yng Nghymru.

Codais y mater hwn ynghylch tirwedd plismona yng Nghymru, oherwydd wrth gwrs, mae diwygio'r dirwedd blismona yn rhywbeth sydd wedi'i drafod ers i Lywodraeth newydd y DU ddod i rym y llynedd. Ysgrifennais at Sarah Jones ym mis Tachwedd i ddweud bod yn rhaid iddynt gydnabod tirwedd unigryw Cymru. Mae'n dirwedd unigryw Gymreig yr ydym wedi'i datblygu gyda'n gilydd. Nid yw wedi'i datganoli, ond mae'n dirwedd unigryw Gymreig. Rwyf wedi annog y ddwy set o'n swyddogion i weithio gyda'i gilydd.

Fel y soniais, mae Papur Gwyn yn cael ei ddatblygu, a bydd yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Edrychaf ymlaen at y trafodaethau yfory. Mae newid mewn trefniadau llywodraethiant, fel y dywedais, ac fe ailadroddaf, yn gyfle naturiol i ystyried nid yn unig rôl Llywodraeth Cymru ond rôl y Senedd o ran atebolrwydd am blismona.

15:25

Wrth gwrs, pe bai gennym bartneriaeth wirioneddol, Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddech wedi cael eich rhoi yn y sefyllfa ddiddiolch hon y prynhawn yma. Dyma'r eildro mewn deufis y bu'n rhaid ichi ateb cwestiynau gan Aelodau lle mae'r Senedd hon wedi'i rhoi mewn sefyllfa lle mae'n trafod sïon ynglŷn ag un o'r gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol. Nid yw hyn yn ddigon da. Dylid datganoli plismona i Gymru yn yr un ffordd ag y mae wedi'i ddisgrifio, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn y nifer o gomisiynau ac adroddiadau sydd wedi'u cyhoeddi dros nifer o flynyddoedd, dros ddegawdau, ar y mater hwn. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU gydnabod patrwm neilltuol yng Nghymru—ac mae'n amlwg nad ydynt yn gwneud hynny oherwydd pe baent yn ei gydnabod, ni fyddech yn y sefyllfa hon—a mynd i'r afael â'r her o ddatganoli plismona. Mae angen i hynny ddigwydd. Mae angen iddo ddigwydd cyn gynted â phosib. Mae angen iddo ddigwydd mewn ffordd strwythuredig ac mae angen iddo sicrhau y gall pobl yn y Siambr hon a ledled y wlad hon benderfynu ar y math o blismona y maent ei eisiau. Pan fyddwn yn cael y ddadl honno, rwy'n credu y byddwn eisiau gweld mwy o ddylanwad lleol a mwy o reolaeth leol. Yn sicr, nid ydym eisiau gweld plismona'n cael ei wladoli fel y mae'r Ceidwadwyr newydd ei argymell. Nid ydym erioed wedi cael heddlu cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig. Nid ydym eisiau un heddiw. Yr hyn rydym ei eisiau yw heddlu datganoledig yng Nghymru sy'n atebol i gymunedau Cymru, a gorau po gyntaf.

Diolch yn fawr. Credaf mai datganiad oedd hwnnw, yn hytrach na chwestiwn. Ond mewn gwirionedd, rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol cael y cwestiwn hwn, a diolch i Adam Price am ei ofyn y prynhawn yma, gan ei fod wedi galluogi pobl i fynegi eu barn ar draws y Siambr hon. Rwyf am ddweud ei bod yn galonogol fod y Swyddfa Gartref wedi cydnabod y trefniadau llywodraethu gwahanol rhwng Cymru a Lloegr. Maent wedi gweld yr holl adroddiadau dros y blynyddoedd—nid wyf am ailadrodd pob un ohonynt—sydd wedi galw am ddatganoli plismona. Maent wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phlismona yng Nghymru. Mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar y safbwyntiau nid yn unig yn y Siambr hon ond yr holl bartneriaid perthnasol yng Nghymru. Mae a wnelo hyn â ni'n dylanwadu ar y ffurf orau a mwyaf priodol o lywodraethu a chraffu ar blismona lleol yng Nghymru. Felly, mae wedi bod yn ddefnyddiol gwyntyllu hyn a'i rannu heddiw, cyn fy mwrdd partneriaeth plismona yfory, gyda'r Gweinidog plismona.

Nid wyf wedi gorffen eto. Mae dau safbwynt arall i'w rhannu. Mark Isherwood, yna Rhys ab Owen.

Diolch, Lywydd. Mewn gwirionedd, roeddwn yn aelod o is-bwyllgor y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio'r Cynulliad a adolygodd strwythur plismona yn 2005, pan gynigiwyd uno bryd hynny. Fe wnaethom hyn ar gais Ysgrifennydd Cartref y DU ar y pryd drwy eich rhagflaenydd a'ch cyd-Aelod ar y pryd, Edwina Hart.

Nododd ein hadroddiad nad yw gweithgaredd troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol na rhanbarthol a bod yn rhaid i bartneriaethau trawsffiniol adlewyrchu realiti gweithredol. Arweiniodd ein gwaith craffu manwl ar ran Ysgrifennydd Cartref y DU i ystyried y cynnig ar y pryd i uno heddluoedd Cymru at roi’r gorau i gynlluniau i uno heddluoedd ledled Cymru a Lloegr.

Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau’r heddlu a phrif gwnstabliaid fod y mater yn ymwneud â chyllid yn y bôn. Fe wnaethant nodi diffyg o £79 miliwn erbyn 2012-13, gan ychwanegu nad oedd yn senario gwaethaf posib o bell ffordd, lle byddai'r diffyg yn codi i £100 miliwn. Er mwyn cydnabod y gwahaniaethau diwylliannol a daearyddol rhanbarthol yng Nghymru, cytunodd pawb fod yn rhaid plismona Cymru mewn rhanbarthau. Roedd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd yn enwedig yn cefnogi elfen ranbarthol gref, gyda phwerau dirprwyedig go iawn.

Mae hyn fel déjà vu, yr un peth yn digwydd eto fyth. Hoffwn pe gallech gadarnhau a fyddwch chi'n sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ystyried yr adroddiadau a gynhyrchwyd bryd hynny, y gwaith a wnaethom bryd hynny ar ran Ysgrifennydd Cartref y DU, a'r penderfyniad a wnaeth ef wedyn ar sail y gwaith manwl a wnaed gennym ni yma.

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Rwyf wedi sôn am nifer o adroddiadau a gomisiynwyd gennym mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, cyn-Lywodraeth y DU, a chomisiwn Silk, yn fwyaf arbennig, buaswn yn dweud. Ond wrth gwrs, byddwn yn edrych ar yr holl adroddiadau, a diolch am ein hatgoffa o'r gwaith a wnaethoch chi. Ond credaf fod cyfle i ni yma. Credaf ein bod wedi achub ar y cyfle i ystyried y trefniadau gorau i Gymru, yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach ynghylch diddymu'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Credaf mai'r hyn sy'n hanfodol yw bod yn rhaid i ni, a byddaf yn dweud heddiw ac yfory—rhaid inni sicrhau bod pwerau a arferir ar hyn o bryd gan ein comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yn aros yng Nghymru.

15:30

Diolch yn fawr, Lywydd. Caf fy synnu'n wythnosol yma gan y ffeil o ffeithiau Mark Isherwood sy'n aml yn mynd â ni'n ôl ac yn ein hatgoffa. Mae'n teimlo fel pe bai'r un peth yn digwydd drosodd a throsodd yma weithiau, oherwydd mae'r sgwrs hon wedi bod yn mynd rhagddi ers cyn 2005, ers 30 mlynedd fan lleiaf. Nid wyf yn gwybod a yw Adam Price yn cofio ble roedd ar 2 Tachwedd 2005, ond Adam, roeddech chi yn yr un ystafell â'r Dirprwy Brif Weinidog presennol a phennaeth staff presennol Plaid Geidwadol Cymru, yn cyfarfod â Gweinidogion San Steffan i drafod uno heddluoedd Cymru, fel y dywedodd Mark Isherwood eisoes. Nid oes unrhyw beth yn digwydd yn gyflym yng Nghymru, ac mae'n debyg fod hynny'n rhan o'r broblem.

Nid yw'r heddluoedd presennol yng Nghymru yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Nid yw'r pedwar heddlu, gyda heddlu Gwent mor fach, yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Mae Heddlu'r Alban wedi dangos i ni y gall heddlu unedig lwyddo a ffynnu, Mark. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod Heddlu'r Alban yn ffynnu—[Torri ar draws.] Na, ni allaf dderbyn ymyriad mewn cwestiwn. Nid yw'n methu o gwbl. Yr hyn a roddodd dyddiau cynnar Heddlu'r Alban i ni oedd rhybuddion ynglŷn â sut i'w wneud yn iawn. Ni ellir gwneud unrhyw ailstrwythuro neu leihau heddluoedd fel ymarfer arbed costau'n unig. Mae angen gwneud buddsoddiad ariannol mewn plismona. Mae angen rhoi cymuned yn gyntaf, a gwneud yn siŵr fod plismona'n hygyrch i holl gymunedau Cymru.

Yn ôl yn 2005, roedd y ffigur yn £12 miliwn, a holl gronfeydd wrth gefn y pedwar awdurdod heddlu bryd hynny. Fel y dywedodd Alun, mae hyn yn debyg i déjà vu—arian ac adnoddau y mae'r Llywodraeth hon yn ei wario ar gyfiawnder, ond unwaith eto mae'n amlwg nad oes atebolrwydd i'r lle hwn a'ch bod chi'n sefyll yma'n gwegian, yn clywed y pethau hyn drwy'r cyfryngau, yn hytrach na thrwy'r ffynonellau priodol. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn werth edrych ar un heddlu unedig yng Nghymru, ond bod angen i unrhyw beth felly fod yn atebol i chi neu'ch olynydd ac yn atebol i'r lle hwn? Diolch yn fawr.

Diolch eto. Gwn fod gennych chi, Rhys ab Owen, hanes hir o weithio ar hyn, gan gynnwys comisiwn Thomas wrth gwrs. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych heddiw yw fy mod yn cytuno'n llwyr â chi fod yn rhaid i'r holl drafodaethau hyn am lywodraethu plismona ac atebolrwydd yng Nghymru roi cymuned yn gyntaf. Rwy'n falch iawn mai Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi ymrwymo i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, oherwydd maent yn rhan ganolog o'n timau plismona cymdogaeth. Rydym yn teimlo bod yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael yn eu cymunedau wedi bod yn fuddiol.

Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Mabon ap Gwynfor sy'n gofyn y cwestiwn.

Data Rhestrau Aros y GIG

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â bylchau o ran data rhestrau aros y GIG? TQ1421

Mae adolygiad o brosesau data rhestrau aros atgyfeirio am driniaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n cynnwys casglu data, sicrhau ansawdd a llywodraethu, wedi symud ymlaen, ac mae'r bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â'r materion sydd wedi cael eu nodi. Fy nisgwyliad i yw y bydd yr adroddiadau llawn yn ailddechrau o fis Ionawr 2026.

Diolch am yr ymateb.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn cofio, ychydig wythnosau'n ôl, fy mod wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â bylchau data ar restrau aros ym mwrdd iechyd gogledd Cymru, ac ysgrifennais atoch wedyn am eglurhad pellach ar yr amgylchiadau a arweiniodd at fethiant mor ddifrifol mewn ffynonellau data iechyd. Er fy mod yn derbyn yr ymateb a roddwyd gennych, yn ogystal ag esboniad y prif ystadegydd ar yr hyn a aeth o'i le, maent yn codi nifer o gwestiynau pellach. Mae hefyd yn annerbyniol, rwy'n credu, fod diweddariad mor bwysig wedi'i gyhoeddi wedi'i guddio ar dudalen blog y Llywodraeth.

Yn gyntaf, beth yw'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cwblhau'r ymchwiliad, a beth fydd y canlyniadau i'r bwrdd iechyd o ran atebolrwydd? Un o'r rhesymau dros y bwlch data oedd y ffaith bod rhai llwybrau ar gyfer cleifion a atgyfeiriwyd am driniaeth yn y sector annibynnol, neu yn Lloegr, wedi'u tynnu'n anghywir o'r ystadegau swyddogol. A yw hyn yn awgrymu bod ffigurau'n cael eu manipiwleiddio? Mae'n bryderus fy mod wedi cael nifer o achosion yn fy swyddfa, er enghraifft, yn codi cwestiynau ar yr union linellau hynny. Er enghraifft, mae etholwr yn esbonio sut roeddent ar y rhestr ar gyfer llawdriniaeth cataract, a oedd i fod i gael ei chyflawni gan SpaMedica. Un wythnos ar ddeg yn ddiweddarach, dywedwyd wrth y claf na fyddent yn cael eu hatgyfeirio at y darparwr preifat mwyach, ac fe'u rhoddwyd yn ôl ar y rhestr aros, ar gefn y ciw. Mae'r etholwr yn credu bod hyn wedi digwydd er mwyn gwneud i ffigurau'r rhestr aros edrych yn dda. Ai dyna'r math o beth yr ydym yn edrych arno yma?

A oes gennych chi ffigur ar nifer y llwybrau yr effeithir arnynt, a pha mor hyderus ydych chi nad yw'r data'n cael ei manipiwleiddio mewn mannau eraill yng Nghymru? Soniodd blog y prif ystadegydd hefyd am anghysondeb rhwng tueddiadau rhestrau aros a gwybodaeth rheolaeth weithredol. A oes rhywun yn darparu gwybodaeth ffug yma? Ar lefel ehangach, mae hyn yn codi pryderon difrifol ynghylch diwylliant sefydliadol a llywodraethiant yn y bwrdd iechyd. Yn olaf, a fydd gennym ddata dibynadwy i allu asesu a yw'r addewid i ddileu amseroedd aros o ddwy flynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr erbyn diwedd 2025 wedi'i gyflawni, ac os felly, a fydd ar gael cyn yr etholiad?

15:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Wel, mae'r Aelod wedi bachu ar gyfle ei gwestiwn i wneud honiadau ynghylch manipiwleiddio a chamymddwyn, sydd wedi eu cofnodi, ond nad oes iddynt unrhyw sail o gwbl. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gadael i'r adolygiad gael ei gwblhau. Atebais ei bwynt am yr amserlen yn fy ateb cychwynnol. Rwy'n disgwyl y bydd modd cyhoeddi'r data ym mis Ionawr yn y ffordd arferol, gan gynnwys data Betsi Cadwaladr hefyd.

Roedd un o'r rhesymau pam y gallasom nodi bod her yn y data, gyda chyflwyno ffigurau rhwng atgyfeirio a thriniaeth dros dro yn ddiweddar—ffigurau y mae'r Aelod wedi eu gwrthwynebu, er bod ystadegwyr annibynnol wedi eu cefnogi—gan fod hynny wedi rhoi cyfle inni nodi tueddiadau'n gynnar, yn chwarae rhan bwysig yn nodi'r anghysondebau sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd. Yn y bôn, nid oedd y data dros dro yn dilyn y tueddiadau disgwyliedig, yn seiliedig ar yr hyn y gwyddem ei fod yn digwydd o ran gwybodaeth weithredol, ac ysgogodd hynny wiriadau pellach.

Mae'n iawn i ddweud bod y mater wedi codi yng nghyd-destun setiau data nad oeddent wedi'u halinio, os mynnwch, â'r hyn y gallem ei weld yn digwydd gyda llwybrau ar gyfer cleifion sy'n cael eu trin gan ddarparwyr annibynnol. Drwy briodi ein dealltwriaeth o'r gweithgaredd gweithredol ar y naill law â'r data misol a gâi ei adrodd ar y llaw arall, gallem nodi'r materion sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd. Ond mae'n bwysig inni gael yr adolygiad hwnnw ac i hynny gael ei gwblhau. Yna bydd rhai o'r cwestiynau manwl a ofynnodd i mi wedi'u hateb. Ond fel y dywedaf, rwy'n disgwyl y cawn yr wybodaeth honno mewn pryd ar gyfer yr adroddiad ym mis Ionawr, ac rwy'n siŵr y bydd yn croesawu hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn meddwl bod fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor yn awgrymu unrhyw beth; dyma'r hyn oedd yn y blog. Fe wnaf ei ddarllen i chi. Roedd yn dweud:

'Nid oedd y tueddiadau ymhlith rhestrau aros yr adroddwyd arnynt yn gyson â’r...gwybodaeth rheoli gweithredol'

Felly, mae rhywbeth yn mynd o'i le, ac mae gwybodaeth yn cael ei hadrodd yn anghywir yn rhywle, neu mae rhywun, neu ran o'r sefydliad, yn darparu'r wybodaeth anghywir. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi siarad llawer—ac mae pob un ohonom wedi gwneud hynny dros yr ychydig fisoedd diwethaf—am onestrwydd a thryloywder yn y GIG. Mae'r sefydliad yma yn Betsi Cadwaladr wedi cael y problemau hyn o'r blaen, gyda rheolwyr yn dweud un peth, yn gwneud rhywbeth arall, a phethau'n cael eu cuddio. Felly, buaswn i'n meddwl y dylech chi fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Hoffwn wybod: a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i edrych ar hyn yn iawn, i wneud yn siŵr nad oes unrhyw fanipiwleiddio ffigurau rhestrau aros yn Betsi Cadwaladr i wneud iddynt edrych yn well na'r hyn ydynt mewn gwirionedd? Oherwydd os yw pobl yn mynd i fod yn hyderus fod y Llywodraeth hon yn onest ac yn agored ynglŷn â chynyddu tryloywder yn ein GIG, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn iddi weithredu pan fydd pethau fel hyn yn codi, yn hytrach na chyhuddo Aelodau ar draws y Siambr o ledaenu camwybodaeth i bob pwrpas.

Wel, nid dyna'r pwynt a wneuthum. Y pwynt a wneuthum oedd bod y defnydd o iaith 'manipiwleiddio' yn awgrymu ffordd o weithredu nad oes tystiolaeth ohoni. Ond yn bwysicach, y pwynt rwy'n ei wneud yw mai'r ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth hon i dryloywder yw'r hyn sydd wedi datgelu'r mater hwn. Fe benderfynais gyhoeddi data rhwng atgyfeirio a thriniaeth dros dro, ac roedd yr Aelod yn gwrthwynebu imi wneud hynny. A chasglu'r data hwnnw a'i ryddhau ar sail dros dro gyda chefnogaeth ystadegwyr sydd wedi datgelu'r mater a gaiff ei adolygu.

Gofynnodd pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd. Fe fydd yn cofio pan oeddwn yn sefyll yma ddiwethaf yn trafod y mater hwn, fy mod wedi dweud fy mod yn rhoi 24 awr i'r bwrdd iechyd ei ddatrys mewn modd yr ystyriwn i a'r ystadegwyr ei fod yn ddigonol, neu fel arall buaswn yn rhoi adolygiad ar waith ar unwaith. Fe wnaethant fethu gwneud hynny ac fe wneuthum roi'r adolygiad ar waith ar unwaith. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig sydd wedi nodi beth y mae'r adolygiad hwnnw'n ei olygu. Fe wneuthum hynny o fewn dyddiau i wneud y datganiad hwnnw yn y Senedd. Cawn y drafodaeth hon heddiw oherwydd ymrwymiad y Llywodraeth hon i dryloywder ac i onestrwydd. Ac rwy'n cyd-fynd ag ef ynghylch pwysigrwydd gwneud yn siŵr fod data'n ddibynadwy er mwyn gwella gwasanaethau, ond hefyd er mwyn i chi allu craffu arnaf i, ac i minnau allu craffu ar y bwrdd iechyd.

15:40
4. Datganiadau 90 eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, rydym yn anrhydeddu bywyd a gwasanaeth yr Anrhydeddus Fonesig Shân Legge-Bourke, a fu farw yn ei chartref yn 82 oed. Roedd hi'n un o'r bobl fwyaf uchel eu parch yng Nghymru, ac yn adnabyddus am ei hymroddiad cadarn i fywyd gwledig, gwasanaethau cymunedol, elusen a dyletswydd gyhoeddus. Y Fonesig Shân oedd Arglwydd Raglaw Powys rhwng 1998 a 2018, cynrychiolydd y frenhines yn ein sir fwyaf, a chyflawnodd ei dyletswyddau swyddogol gydag urddas a chynhesrwydd, gan hyrwyddo pobl a threftadaeth Powys bob amser. Roedd ei gwasanaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i rolau seremonïol.

Rhoddodd ei hamser a'i harweinyddiaeth i ystod ryfeddol o sefydliadau elusennol, amaethyddol a gwirfoddol, gan wasanaethu fel llywydd cangen Powys o'r Lleng Brydeinig Frenhinol, llywydd Achub y Plant Cymru, llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a llywydd ffederasiwn Brycheiniog a ffederasiwn cenedlaethol y clybiau ffermwyr ifanc. Roedd hi hefyd yn Uchel Siryf Powys, yn gyrnol anrhydeddus Ysgol Frwydr y Troedfilwyr yn Aberhonddu, ynghyd â nifer o achosion eraill a wasanaethodd yn ein cymunedau.

Yn cydredeg â chysylltiad dwfn y Fonesig Shân â'r gymuned, roedd ei thosturi, a chododd arian i achosion da ledled Cymru, yn ogystal ag ymwybyddiaeth ohonynt. Gall nifer gofio ei 'sgyrsiau hetiau' unigryw, lle byddai'n gwisgo hetiau lliwgar, a wisgodd fel boneddiges breswyl i'r Dywysoges Frenhinol ar eu hymweliadau niferus, gan droi'r sgyrsiau hwyliog hynny'n eiliadau codi arian llawen a helpodd i godi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau lleol ac achosion da. Roedd hi'n dirfeddiannwr arloesol, yn geidwad ystad Glan Wysg, lle bu'n cefnogi cyflogaeth leol, digwyddiadau diwylliannol a mentrau cymunedol, gan hyrwyddo economi a threftadaeth wledig gyfoethog Cymru. Roedd hi'n seren deledu yn y rhaglen ddogfen Lady of Glanusk, ac roedd hi'n aml i'w gweld ar beiriant dorri gwair neu'n defnyddio strimiwr o amgylch yr ystad. Cydnabuwyd cyfraniad rhyfeddol y Fonesig Shân drwy iddi gael ei phenodi'n Fonesig Gomander yr Urdd Frenhinol Fictoraidd, gan adlewyrchu ei blynyddoedd lawer o wasanaeth personol i'r Goron.

Ar nodyn personol, roedd hi bob amser yn hael iawn i mi, ac roedd ganddi gyngor wrth law bob tro ar sut y dylwn drin fy rôl mewn bywyd cyhoeddus. Roedd ei chyngor yn syml ac i'r pwynt, ac yn hynod effeithiol. Dywedodd wrthyf, 'Peidiwch â gwneud unrhyw beth gwirion, cadwch allan o drwbl, byddwch yn brydlon, gwnewch eich gwaith cartref a gadewch ar amser, ac ni fyddwch chi'n bell o'ch lle.'

Ar ran pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed a Phowys, rydym yn cydymdeimlo'n ddwfn â'i phlant, ei hwyrion a'i theulu estynedig, a phawb y cyffyrddodd hi â'u bywydau. Bydd ei gwaddol o wasanaeth, elusen ac arweinyddiaeth gymunedol yn ein hysbrydoli ni i gyd am genedlaethau i ddod. Diolch yn fawr, Shân, a boed i chi orffwys mewn hedd.

Hoffwn ddiolch i Heddlu Dyfed-Powys a'u llongyfarch ar ennill y categori trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Y llynedd fe wnaeth 1.6 miliwn o oedolion ledled Cymru a Lloegr ddioddef stelcio. Gall stelcio arwain at farwolaeth. Mae'n gam 5 yn y llinell amser wyth cam sy'n arwain at ddynladdiad domestig, felly mae'r rhaglen hon yn llythrennol yn achub bywydau. Mae gwobr fel hon yn cydnabod dull gwirioneddol gydweithredol a thosturiol sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr.

Mae'r cynllun peilot arloesol hwn, yr unig un o'i fath yng Nghymru, yn dwyn ynghyd asesiadau risg arbenigol, cynlluniau diogelwch a chymorth ymarferol. Drwy eu partneriaeth â Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno eiriolwyr gwaith achos annibynnol ar stelcio ac wedi hyfforddi swyddogion stelcio, fel bod dioddefwyr yn cael eu clywed, eu credu a'u cefnogi'n gynharach. Rwy'n talu teyrnged i Heddlu Dyfed-Powys, ond yn fwy na hynny, rwy'n talu teyrnged i ddioddefwyr a goroeswyr stelcio a gymerodd ran yn y cynllun peilot hwn. Mae eich dewrder yn haeddu cydnabyddiaeth. Diolch yn fawr iawn.

15:45
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Nesaf yw cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Paul Davies. 

Cynnig NNDM9091 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig), yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Eitem 5 heddiw yw ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), a galwaf ar yr Aelod sy'n gyfrifol i wneud y cynnig—Mark Isherwood.

Cynnig NDM9087 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Prynhawn da. Rwy'n falch o allu gwneud y cynnig hwn heddiw i gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Os derbynnir y cynnig heddiw, ac rwy'n annog pob Aelod i wneud hynny, bydd yn gam enfawr arall ymlaen i gyflwyno'r hyn sy'n ddeddfwriaeth hanfodol i Gymru. Diolch i bob un o'r tri phwyllgor—y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—am eu gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil, am eu hadroddiadau ac am argymell y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, am groesawu bwriadau'r Bil, ac am nodi'r dystiolaeth mewn perthynas â materion cymhwysedd deddfwriaethol.

Rwyf wedi gallu derbyn y mwyafrif helaeth o'u hargymhellion, ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliannau priodol yn ystod cyfnodau parhaus y Bil, os bydd yn pasio'r cyfnod heddiw. Ni fu'n bosib i mi dderbyn argymhellion pob un o'r tri phwyllgor, ac rwyf wedi darparu rhesymau am hyn yn fy ymatebion iddynt. Byddaf yn cyffwrdd â hyn yn nes ymlaen. Diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion am eu dull cydweithredol o weithio ar y Bil, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ymhellach wrth i'r Bil fynd rhagddo. Yn fy natganiad ar gyflwyno'r Bil, amlinellais yn fanwl beth y mae'r Bil yn ceisio ei wneud a pham y mae gwir angen y Bil hwn. O ystyried yr amser sydd ar gael heddiw, nid wyf yn bwriadu ymdrin â hynny'n fanwl iawn eto, ond mae'n werth amlinellu rhai o'r prif bwyntiau am y Bil.

Mae'r Bil yn cydnabod bod Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn iaith ynddi ei hun, nid angen cymorth cyfathrebu. Mae wedi bod yn bwysig cydnabod hynny trwy gydol y broses hon. Os na ddeddfwn ar hyn nawr, Cymru fyddai'r unig genedl yn y DU heb ddeddfwriaeth iaith arwyddion. Bydd y Bil hwn hefyd yn mynd i'r afael â'r anghysondeb presennol a grëwyd gan Ddeddf y DU, sy'n gosod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau'r Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL, ond sydd, yn benodol, yn eithrio adrodd ar faterion sydd wedi'u datganoli i'r Alban a Chymru.

Mae'r Bil BSL (Cymru) yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i fynd ati'n weithredol i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain, gyda'r nod o gael gwared ar rwystrau sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar rhag cael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith gyntaf. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth BSL genedlaethol o fewn 18 mis wedi i'r Ddeddf ddod i rym, sy'n nodi sut y bydd BSL yn cael ei hyrwyddo a'i hwyluso. Rhaid cyhoeddi adroddiadau cynnydd ar y strategaeth o leiaf bob tair blynedd, i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Rhaid adolygu'r strategaeth o leiaf bob chwe blynedd, gan gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau yn ogystal. Rhaid i gyrff cyhoeddus a restrir yn y Bil ddatblygu a chyhoeddi eu cynlluniau BSL eu hunain o fewn 12 mis i'r strategaeth genedlaethol, ac adroddiadau ar eu gweithrediad wedyn ac unrhyw gamau gweithredu heb eu cyflawni. Er mwyn sicrhau cysondeb a hyblygrwydd, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus ar sut y dylent hyrwyddo a hwyluso BSL. Hefyd, rhaid i gyrff cyhoeddus adolygu eu cynlluniau os cânt eu cyfarwyddo gan Weinidogion Cymru neu os yw'r strategaeth genedlaethol yn cael ei diwygio. Mae'r Bil hefyd yn sefydlu rôl cynghorydd BSL, sef y rôl cynghorydd BSL statudol gyntaf yn y DU, a phanel BSL. Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw hyn.

Mae fy ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y Bil yn ailddatgan pwrpas craidd y Bil: cyflawni gwelliannau real, mesuradwy i'r gymuned fyddar yng Nghymru. Rwy'n croesawu gwaith craffu'r pwyllgor ac yn cytuno â'r angen am dargedau clir, dan gyfyngiadau amser yn y strategaeth BSL genedlaethol, gan sicrhau bod y Bil yn arwain at newid ystyrlon. Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch ei gwneud yn ofyniad statudol i'r cynghorydd BSL fod yn fyddar, gan esbonio y gallai darpariaeth o'r fath greu risg o fethu pasio'r Bil oherwydd heriau cyfreithiol posib. Fel y nododd fy ymateb iddynt, byddai her gyfreithiol lwyddiannus i un ddarpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd BSL fod yn fyddar yn golygu y byddai'r Bil cyfan yn methu. Byddai hynny'n annerbyniol a byddai'n gwneud cam â'r gymuned fyddar yn ei chyfanrwydd. Mae ymateb y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol hefyd yn tynnu sylw at yr angen brys i ehangu'r gweithlu dehonglwyr BSL, ac yn cydnabod pwysigrwydd diweddaru amcangyfrifon cost i adlewyrchu chwyddiant.

Mewn ymateb i argymhellion y pwyllgor, rwyf wedi gwneud sawl ymrwymiad i gryfhau'r Bil. Mae'r rhain yn cynnwys adolygu ac egluro'r disgrifiad o BSL yn y memorandwm esboniadol, alinio cyhoeddi canllawiau BSL â'r strategaeth genedlaethol, a gosod dyletswydd ffurfiol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ag arwyddwyr BSL byddar ar y strategaeth a'r canllawiau.

Mae'r pwyllgor wedi argymell fy mod yn adolygu'r disgrifiad o BSL yn y memorandwm esboniadol i fynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid ac ystyried a ddylid cynnwys diffiniad clir ar wyneb y Bil. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn a byddaf yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu'r memorandwm esboniadol yn unol â hynny. Rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i ychwanegu darpariaeth ar wyneb y Bil sy'n egluro bod BSL, at ddibenion y Bil, yn cyfeirio at y ffurfiau gweledol a chyffyrddol. Mae hyn yn unol â darpariaethau Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015.

Rwy'n cytuno â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei bod yn hanfodol fod y gweithlu dehonglwyr BSL yn cael ei ehangu. Mae dehonglwyr BSL yn darparu gwasanaeth hollol hanfodol, ac rwy'n diolch i'r rhai sy'n dehongli heddiw. Mae'n gweithredu fel cyswllt hanfodol rhwng arwyddwyr BSL byddar a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau allweddol a'r cyhoedd yn gyffredinol nad ydynt yn siarad BSL. Bydd angen ehangu'r gweithlu dehonglwyr BSL hyd yn oed heb y dyletswyddau ychwanegol a gaiff eu rhoi ar waith os daw'r Bil yn gyfraith, er y byddai'r dyletswyddau ychwanegol hyn yn amlwg yn cryfhau hynny. Mae hyn hefyd yn cysylltu'n ôl â'r angen i'r strategaeth nodi y bydd angen targedau. Er y byddai'n amhosib i Fil fframwaith bennu targedau mesuradwy ymlaen llaw ar gyfer cyfieithwyr a dehonglwyr BSL yng Nghymru o fewn y strategaeth BSL, rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r strategaeth nodi y bydd angen targedau o'r fath.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi argymell y dylai'r Bil osod gofyniad ffurfiol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ag arwyddwyr BSL byddar ar strategaeth a chanllawiau BSL cenedlaethol. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn a byddaf yn cyflwyno'r gwelliannau angenrheidiol. Fodd bynnag, mae cydgynhyrchu ac ymgynghori yn bethau gwahanol iawn. Dim ond un elfen o'r ymgysylltiad ehangach yw ymgynghoriad, ac nid dyna yw'r cydgynhyrchu a fydd yn angenrheidiol ar gyfer datblygu'r strategaeth, y canllawiau a'r cynlluniau. Rwy'n disgwyl i'r cynghorydd BSL a'r panel BSL gael rôl i'w chwarae yn datblygu'r strategaeth a'r canllawiau ac yn helpu i sicrhau'r ymgysylltiad a'r cydgynhyrchu angenrheidiol.

Mae gennyf gydymdeimlad ag argymhelliad 10 y pwyllgor, sy'n argymell gwelliant a fydd yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi canllawiau ar y llwybr priodol i arwyddwyr BSL wneud cwynion am fynediad at wasanaethau. Fel y gwelais i a nifer ohonom yn ein llwyth gwaith achos, mae llawer o etholwyr yn teimlo bod gweithdrefnau cwynion cyfredol gwasanaethau cyhoeddus yn anfoddhaol. Efallai y bydd rhai'n dweud bod hynny'n danosodiad. Fodd bynnag, fy mwriad yw diweddaru'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil i egluro'r opsiynau sydd ar gael i achwynwyr sy'n ceisio iawn mewn achosion lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn methu cyflawni eu dyletswyddau o dan y Bil.

Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a thri argymhelliad ac yn derbyn dau o'r rhain. Byddaf yn ystyried pennu isafswm ac uchafswm nifer o aelodau ar gyfer y panel, ac os yn briodol, yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2. Yn ogystal, er fy mod yn credu bod geiriad cyfredol adran 8(1) ynghylch cyrff cyhoeddus rhestredig yn glir, byddaf yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i gynnwys enwau llawn ymddiriedolaethau GIG Cymru fel y'u nodir yn eu Gorchmynion sefydlu.

Fodd bynnag, rwyf wedi gwrthod argymhelliad 1, sy'n argymell gwelliant i'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r canllawiau statudol gael eu gosod gerbron y Senedd. Rwyf wedi ystyried yr argymhelliad hwn yn ofalus ac wedi trafod y mater gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Ar y cyfan, ac ar sail yr angen i sicrhau a chynnal consensws, rwy'n gwrthod yr argymhelliad. Fel y mae'r pwyllgor ei hun wedi'i nodi, byddai gosod canllawiau o'r fath gan Lywodraeth Cymru yn anarferol, ac ni fyddai canllawiau o'r fath fel arfer yn cael eu craffu'n uniongyrchol gan y Senedd. Er bod hyn yn wir, fel yr amlinellais yn fy nhystiolaeth i'r pwyllgor, rwy'n disgwyl i Aelodau'r Senedd a phwyllgorau'r Senedd gadw llygad manwl ar y canllawiau ac ar y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth yn ei chyfanrwydd yn cael ei gweithredu. Credaf y byddai hynny'n wir pa un a yw'r canllawiau wedi'u gosod ai peidio.

Rwy'n croesawu casgliadau'r Pwyllgor Cyllid ar oblygiadau ariannol y Bil, a'u datganiad fod y dull cydweithredol a fabwysiadwyd gyda'r Llywodraeth hon wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol datblygiad y Bil. Er fy mod yn hyderus fod y costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn gadarn ac yn gyflawn, rwy'n derbyn yr argymhellion i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i ddadansoddi cost a budd ac egluro rhyngweithiad â pholisïau BSL presennol. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar fanylion y strategaeth BSL genedlaethol a'r cynlluniau, na ellir eu datblygu cyn y daw'r ddeddfwriaeth i rym.

Rwyf hefyd yn fodlon fod y costau i gyrff cyhoeddus rhestredig o ddatblygu cynlluniau BSL yn gywir, er na ellir cyfrifo costau gweithredu eto. Bydd y darpariaethau adrodd statudol yn y Bil yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro ac ni ddylai fod angen adolygiad ar ôl gweithredu ar wahân, felly, er y gallai fod gan Aelodau farn ar hyn eu hunain yng Nghyfnod 2. Fe adawaf hynny gyda chi.

Yn olaf, diolch i fy nhîm, tîm Bil y Comisiwn a phartneriaid allanol am eu gwaith caled, eu cefnogaeth a'u harweiniad. Os caiff ei basio, y Bil BSL (Cymru) hwn fydd y ddeddfwriaeth BSL fwyaf blaengar yn y DU. Felly, gadewch inni wneud i hyn ddigwydd gyda'n gilydd a bod yn falch ohono gyda'n gilydd ar ran pobl fyddar ledled Cymru. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch yn fawr. Roedd yn fraint fawr craffu ar y mesur hwn i sicrhau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i grŵp o ddinasyddion sy'n anweledig i raddau helaeth ac nad ydynt yn cael eu clywed yn iawn. Roedd gwaith craffu Cyfnod 1 yn gyffrous, yn ysgogi'r meddwl ac yn heriol. Mae angen inni wneud pethau'n wahanol, yn enwedig o ran cyfieithu ar y pryd nid yn unig o'r Gymraeg i'r Saesneg, ond o'r Gymraeg a'r Saesneg i Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r profiad hwn wedi tanlinellu pam y mae angen y ddeddfwriaeth hon.

Cawsom dystiolaeth gymhellol gan arwyddwyr BSL byddar, eu sefydliadau cynrychioladol, darparwyr gwasanaeth, yn ogystal â'r rhai sy'n cynnal safonau mewn gwasanaethau cyhoeddus, o'r angen mawr am y ddeddfwriaeth hon. Diolch i bawb a gymerodd ran yng ngwaith craffu Cyfnod 1, yn enwedig y gymuned BSL. Rydym wedi codi eu disgwyliadau a nawr, mae angen i ni gyflawni.

Gweledigaeth y Bil hwn yw rhoi mwy o statws a safle i Iaith Arwyddion Prydain fel iaith a diwylliant ei hun, a grymuso dinasyddion sy'n defnyddio BSL i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u hanghenion yn cael eu diwallu'n well. Efallai y byddwch yn gofyn pam fod y Bil hwn yn angenrheidiol pan ddylai hawliau pob unigolyn byddar, yn enwedig y rhai y mae BSL yn iaith gyntaf iddynt, fod wedi'u diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Fe wnaeth aelod o un o grwpiau ffocws y pwyllgor grynhoi'r sefyllfa,

'Nid yw'r ysgogiadau presennol yn gweithio',

'Nid yw'r Ddeddf Cydraddoldeb yn gweithio i ni, nid yw'r safonau mynediad ym maes iechyd yn gweithio—felly yn y bôn, nid oes unrhyw un o'r sectorau yng Nghymru yn gweithio. Felly, rydym eisiau gwelliannau ym mhobman'.

Mae prif nod y Bil yn syml: hyrwyddo a hwyluso mwy o BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau y gall arwyddwyr BSL byddar gael mynediad at wybodaeth a chymorth ar delerau cyfartal â dinasyddion eraill. Bu cryn drafod ynghylch pa gyrff cyhoeddus y dylid eu rhestru ar wyneb y Bil ac a ddylid ychwanegu eraill ai peidio. Ond fe wnaethom gefnogi'r dull a fabwysiadwyd gan Mark Isherwood i flaenoriaethu'r ffocws cychwynnol ar y rhannau hynny o'r sector cyhoeddus lle mae'r angen mwyaf dybryd, sef iechyd, llywodraeth leol, ac addysg, yn enwedig. Dyma'r gwasanaethau cyffredinol y bydd yn rhaid i bob dinesydd eu defnyddio ar ryw adeg yn eu bywydau. Rydym yn ymdrin â'r broses ar gyfer cynnwys cyrff eraill yn y dyfodol yn argymhelliad 6.

Roedd y pwyllgor yn unfryd o blaid cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ac mae pump o'n 12 argymhelliad yn galw am welliannau yng Nghyfnod 2. Mae'r Aelod sy'n gyfrifol wedi cadarnhau ei fwriad i gyflwyno gwelliannau mewn pedwar o'r pump, a byddaf yn troi at argymhelliad 10, a wrthodwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol, mewn eiliad. Mae'r argymhellion eraill i Lywodraeth Cymru ac i'r Aelod sy'n gyfrifol i egluro neu mewn perthynas â'r broses ar gyfer gweithredu llwyddiannus.

Bydd llwyddiant y ddeddf hon yn dibynnu ar dri pheth: (1) cyllid digonol; (2) canllawiau clir; a (3) ymgysylltu cryf â'r gymuned fyddar. Mae'n hanfodol fod y Bil yn arwain at newid gwirioneddol ac yn osgoi tocenistiaeth. Ni fydd y ddeddfwriaeth yn cyflawni'r newid sydd ei angen arnom heb adnoddau digonol. Gwyddom fod adnoddau'n brin ym mhob corff cyhoeddus, ac mae anghenion siaradwyr BSL mewn perygl o gael eu colli mewn cystadleuaeth â phwysau cyllidol eraill. Felly, rydym yn bryderus ynghylch gallu'r sector cyhoeddus i gydweithio ar draws ffiniau lleol a gwasanaethau cyhoeddus, sy'n hanfodol yn ein barn ni i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu mewn ffordd gosteffeithiol ac yn cael blaenoriaeth yng nghynlluniau cyflawni'r holl gyrff lleol hyn.

Y rhwystr mwyaf i weithredu, o bell ffordd, oedd argaeledd dehonglwyr a chynaliadwyedd hirdymor y gweithlu hwnnw. Dyna pam fod yn rhaid i'r gwaith i hyfforddi a chadw mwy o ddehonglwyr a chyfieithwyr BSL, ac i sicrhau llwyddiant hirdymor y proffesiwn yng Nghymru, ddechrau ar unwaith. Rydym yn anghytuno â grŵp gorchwyl a gorffen rhanddeiliaid BSL mai pryder tymor canolig yw hwn. Credwn ei fod yn bryder uniongyrchol.

O ran rôl y cynghorydd BSL, ni fydd gan y penodiad cyhoeddus pwysig hwn y pwerau sylweddol sydd gan Gomisiynydd y Gymraeg, ond bydd yr un mor bwysig a dylanwadol â'r cynghorydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dylid cynnig cyfle i'r pwyllgor priodol yn y Senedd nesaf gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda'r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer cynghorydd BSL, fel y gallwn fod yn sicr fod yr ymgeisydd yn addas i’r diben ar gyfer y swydd bwysig hon.

O ran ymgysylltu dan arweiniad pobl fyddar, mae'n hanfodol fod y ddeddfwriaeth yn blaenoriaethu ymgysylltu â chymunedau byddar, fel eu bod yn teimlo mai dyma'r cyfle a fydd yn datblygu eu gallu i siapio eu dyfodol eu hunain gyda rhan fwy canolog yn y gwasanaethau a'u hawliau fel cymuned. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau'n dda o ran grymuso carfan arweinyddiaeth sy'n cynnwys arwyddwyr BSL byddar drwy greu'r grŵp gorchwyl a gorffen rhanddeiliaid. Mae gwaith da ar y gweill, ond mae angen iddo barhau, gan sicrhau bod gan y gymuned hon ledled Cymru y sgiliau a'r profiadau sy'n angenrheidiol i arwain y gwaith o gynllunio a chyflwyno'r Bil.

Un o'r bylchau yn y ddeddfwriaeth yw diffyg eglurder ynghylch y llwybrau sydd ar gael i achwynwyr mewn sefyllfaoedd lle maent wedi dihysbyddu pob gweithdrefn gwyno fewnol. I fod yn glir, nid ydym yn awgrymu llwybr cyfochrog ar gyfer cwynion, ond mae'r pwyllgor yn awyddus i gael eglurder ynglŷn â sut yn union rydym yn mynd i hysbysu dinasyddion a allai fod yn ymwneud â'r gwaith o gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon neu beidio ynghylch beth yw eu hawliau a sut y maent yn ei wneud. Felly, nid ydym yn awgrymu mewn unrhyw ffordd, mewn perthynas â Chomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a chomisiynwyr eraill, y bydd hyn yn lleihau eu rolau mewn unrhyw ffordd, ond mae angen i'r Bil fod yn fwy penodol ynglŷn â sut y gall defnyddiwr BSL gwyno, a lle nad yw sefydliad yn gwrando neu'n gweithredu ar eu cwyn—. Mae angen i bobl wybod o dan ba amgylchiadau y gallant fanteisio ar wasanaethau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Felly, mae'r pwyllgor yn nodi bod hyn wedi ei wrthod gan yr Aelod sy'n gyfrifol, sydd er hynny'n mynd i—. Rydym eisiau edrych ar hyn gyda'r eglurder mwy y gobeithiwn y bydd yn cael ei ddarparu yn y memorandwm esboniadol, a chawn weld a fydd hyn yn ddigonol. Er enghraifft, buaswn yn disgwyl i bob corff cyhoeddus gael fideo ar gael mewn BSL i alluogi'r dinesydd sydd am gwyno am sefydliad penodol i allu cael yr wybodaeth sylfaenol ynglŷn â sut yn union y byddent yn mynd ati i wneud hynny yn y corff penodol hwnnw.

16:05

Yn olaf, fe ddywedaf yr hyn a ddywedodd un o'r arwyddwyr BSL wrthym:

'Byddai'r Bil yn gwneud inni deimlo ein bod yn cael ein parchu a'n gwerthfawrogi. Ond heb gyllid, cynllunio ac arweinyddiaeth briodol a hynny wedi ei arwain gan y gymuned Fyddar, ni fydd yn mynd yn ddigon pell.'

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid.

Yn gyntaf, buaswn i'n licio diolch yn fawr i Mark Isherwood, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, am ymateb i'r casgliadau a'r argymhellion cyn y ddadl heddiw. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'n gryf y bwriadau tu ôl i'r ddeddfwriaeth yma a'i hymrwymiadau i weithredu ystyrlon er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau i'r gymuned fyddar yng Nghymru.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto gyda theimlad, am wn i. Dyna ni.

Dwi'n croesawu'r cyfle yma i gyfrannu yn y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid a buaswn i'n licio diolch i Mark Isherwood, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, am ymateb i'r casgliadau a'r argymhellion cyn y ddadl heddiw. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'n gryf y bwriad y tu ôl i'r ddeddfwriaeth yma a'i hymrwymiadau i weithredu ystyrlon er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau i'r gymuned fyddar yng Nghymru.

Cawsom ein calonogi gan weld Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Aelod sy'n gyfrifol yn ystod y broses ddrafftio, gan ddarparu cefnogaeth dechnegol a pholisi. Arweiniodd y dull cydweithredol yma at amcangyfrifon cost clir a chadarn, ac mae'n dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd y Llywodraeth ac Aelodau nad ydynt yn rhan o'r Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd. Credwn y dylai hyn fod yn esiampl o arfer da ar gyfer Biliau Aelodau yn y dyfodol.

Fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad, mae hwn yn Fil fframwaith sy'n nodi meysydd gweithredu a disgwyliadau. Fodd bynnag, nid yw'n cyfrifo costau gweithredu darpariaethau allweddol fel y strategaeth BSL a chynlluniau BSL unigol. Er ein bod yn deall pam na ellir modelu'r costau hyn ar hyn o bryd, byddai mwy o dryloywder ar y manteision ariannol a'r arbedion posib yn ddefnyddiol. Felly, gofynnwn i'r Aelod sy'n gyfrifol weithio gyda Llywodraeth Cymru i asesu'r manteision hyn wrth i'r Bil fynd rhagddo, ac rydym yn croesawu ei ymateb cadarnhaol.

Mae'r pwyllgor yn cytuno y dylid ystyried y costau'n fuddsoddiad. Bydd gwella mynediad i ddefnyddwyr BSL byddar yn darparu gwerth am arian yn y tymor hir ac yn lleihau aneffeithlonrwydd a achosir gan rwystrau cyfathrebu. Bydd y cynghorydd BSL arfaethedig a'r panel cynorthwyol hefyd yn hollbwysig i sicrhau gweithrediad effeithiol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyrannu cyllid ar gyfer y Bil hwn yn ei chyllideb ar gyfer 2026-27, gan gydnabod y bydd penderfyniadau y tu hwnt i'r pwynt hwnnw yn nwylo Llywodraeth yn y dyfodol. Rydym hefyd yn nodi'r gwaith sydd eisoes ar y gweill ar bolisi BSL yn Llywodraeth Cymru, sy'n ategu amcanion y Bil. Fodd bynnag, roedd yn heriol gwahanu'r costau a amlinellir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol oddi wrth y rhai sydd eisoes wedi'u hymrwymo, sy'n awgrymu y gallai'r costau fod wedi'u gorddatgan. Dyna pam ein bod wedi gofyn i'r Aelod sy'n gyfrifol barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gael eglurder ynghylch sut y mae'r polisïau hyn yn rhyngweithio ac i weld a yw'r costau disgwyliedig yn parhau i fod yn gywir, ac rydym yn croesawu'r ffaith ei fod wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw.

Mae'r pwyllgor yn croesawu'r dulliau a ddefnyddiwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol fel sail ar gyfer yr amcangyfrif cost, gan gynnwys defnyddio deddfwriaeth bresennol i gyfrifo effaith ariannol. Mae hwn yn ddull gweithredu synhwyrol, ac mae'n gwneud y defnydd gorau o'r data sydd ar gael, gan gynhyrchu trosolwg clir a chredadwy o oblygiadau ariannol y Bil.

Rydym hefyd yn nodi y bydd cyrff cyhoeddus rhestredig yn wynebu costau sylweddol wrth iddynt weithredu eu cynlluniau BSL unigol. Er ein bod yn cydnabod pam nad yw'r costau hyn wedi'u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, mae'n parhau i fod yn anodd deall sut y bydd cyrff cyhoeddus yn amsugno'r costau hyn o fewn eu cyllidebau presennol. Dyma pam y gwnaethom ofyn am eglurhad pellach, ac mae'n siomedig fod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, gan y byddai mwy o dryloywder wedi bod o fudd i'r cyrff yr effeithir arnynt.

Yn olaf, credwn fod risg y gallai costau gweithredu gynyddu dros amser. Er mwyn lliniaru hyn, rydym yn argymell adolygiad cadarn ar ôl gweithredu'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys asesiad o'r costau gwirioneddol. Er bod yr Aelod yn gyfrifol wedi cwestiynu a oes angen adolygiad llawn o'r ôl-weithredu, rydym yn falch ei fod yn cytuno y byddai asesiad o'r costau a'r buddion cyffredinol yn fuddiol, ac rydym yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ystyried hyn ymhellach. 

Dirprwy Lywydd, hoffwn longyfarch Mark Isherwood a'i dîm am y modd trylwyr mae wedi paratoi'r wybodaeth ariannol sy'n cyd-fynd â'r Bil hwn. Yn gyffredinol, mae'r pwyllgor yn fodlon i raddau helaeth â'r goblygiadau ariannol a'r dull a fabwysiadwyd. Hoffwn hefyd ddiolch iddo ef ac i'r Ysgrifennydd Cabinet, a'u swyddogion, am eu hymgysylltiad cadarnhaol â'r pwyllgor drwy gydol ein gwaith craffu ar y Bil. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Fil yr Aelod sy'n gyfrifol ar 4 Rhagfyr. Clywsom dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a'r Aelod sy'n gyfrifol. Nodwn mai Bil Aelod yw hwn a bod yr Aelod sy'n gyfrifol wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru i'w gyflwyno. Nodwn hefyd yr achos a wnaed gan yr Aelod sy'n gyfrifol ynghylch pam fod angen y ddeddfwriaeth hon, sef i sicrhau bod y dyletswyddau statudol yn gyfartal fan lleiaf â'r dyletswyddau statudol yn awdurdodaethau eraill y DU mewn perthynas â darpariaeth BSL, ac i fynd i'r afael â'r heriau amlwg y mae arwyddwyr BSL yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus.

Gwnaeth ein hadroddiad sylwadau hefyd ar gyfeiriad yr Aelod sy'n gyfrifol at y Bil hwn fel 'Bil fframwaith'. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, fod y Bil yn ceisio hyrwyddo'r defnydd o BSL yng Nghymru, ac o'r herwydd, mae ei ffocws polisi'n gul, gyda'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi strategaeth BSL genedlaethol a chyhoeddi canllawiau ar gyfer cynlluniau BSL i'w cyhoeddi gan gyrff cyhoeddus rhestredig. Felly, nid ydym yn ystyried mai Bil fframwaith yw hwn yn llwyr, o ystyried na fydd polisi a chyfraith sylweddol yn cael eu cyflwyno drwy is-ddeddfwriaeth. Rydym yn fodlon ar y dull a fabwysiadwyd yn y Bil hwn.

Mae adran 3 yn y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i 'gyrff cyhoeddus rhestredig', a ddiffinnir yn adran 8 y Bil, ar sut y gallant hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL wrth arfer eu swyddogaethau. Rydym yn cydnabod y byddai'n anarferol i'r Senedd gael rôl ffurfiol yn craffu ar ganllawiau. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo bod yn rhaid rhoi sylw i'r canllawiau yn yr achos hwn, o ystyried y byddant yn ffactor arwyddocaol wrth gyflawni'r amcanion polisi sy'n sail i'r Bil.

Er nad yw'n arfer safonol, rydym o'r farn y byddai'n fuddiol gosod y canllawiau gerbron y Senedd er mwyn eu dwyn i sylw Aelodau'r Senedd yn ffurfiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol fyddai gweithredu'r Bil, pe bai'n cael ei basio gan y Senedd hon, a byddai unrhyw waith craffu ar ei weithrediad yn gyfrifoldeb i'r Senedd nesaf. O ganlyniad, argymhellodd y pwyllgor y dylai'r Aelod sy'n gyfrifol gyflwyno gwelliant i'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i ganllawiau statudol a gyhoeddir o dan adran 3, ac unrhyw ddiwygiadau iddynt yn y dyfodol, gael eu gosod gerbron y Senedd. Gwrthododd yr Aelod sy'n gyfrifol yr argymhelliad hwn, ac rydym yn nodi ei resymau dros wneud hynny.

Mae adran 5 yn y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru benodi unigolyn i wasanaethu fel cynghorydd BSL, ynghyd â phanel i'w cynorthwyo. Nid yw'r Bil yn nodi maint y panel cefnogi. Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod gan fwrdd cynghori nodweddiadol a benodir gan y cyhoedd, y bydd y panel wedi'i alinio'n agos ag ef, chwech i wyth aelod, gyda phenderfyniad terfynol ar faint y panel i'w wneud gan Lywodraeth Cymru a'r cynghorydd BSL. Rydym yn deall yr awydd am hyblygrwydd ynghylch nifer aelodau'r panel, ond mae perygl, heb nodi nifer, y gallai'r panel fod yn rhy fawr a mynd i gostau annisgwyl, neu y gallai gael ei adael heb ddigon o bobl i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen. Credwn y gellid darparu hyblygrwydd drwy nodi isafswm ac uchafswm o aelodau panel ar wyneb y Bil. Rydym yn argymell y dylai'r Aelod sy'n gyfrifol ystyried rhinweddau nodi isafswm ac uchafswm o aelodau a ddylai fod ar y panel.

Mae adran 8(1) yn nodi ystyr 'corff cyhoeddus rhestredig' at ddibenion y Bil. Mae adran 8(1)(c) yn diffinio rhai o ymddiriedolaethau'r GIG gan ddefnyddio eu teitlau swyddogol llawn, tra bo eraill wedi'u talfyrru. Rydym yn argymell, er eglurder, y dylai'r Aelod sy'n gyfrifol gyflwyno gwelliant i adran 8(1)(c) i adlewyrchu enwau llawn ymddiriedolaethau GIG Cymru penodol drwy gyfeirio at eu Gorchmynion sefydlu cyfatebol. Rydym yn falch o nodi bod y ddau argymhelliad olaf hyn wedi'u derbyn gan yr Aelod sy'n gyfrifol.

A gaf i nodi fy marn bersonol yn fyr iawn? Mae fy chwaer yn ddwys-fyddar ac yn defnyddio BSL, felly bydd hynny'n cyfrif fel datgan buddiant. Rwy'n llwyr gefnogi'r Bil hwn. Rwyf wedi bod gyda Mark ers y dechrau gyda'r Bil hwn, a chredaf ei bod yn bwysig iawn i'r gymuned fyddar yng Nghymru fod y Bil hwn yn llwyddiannus. Rwy'n annog pob Aelod, ar lefel bersonol, i'w gefnogi. Pe na bawn wedi bod yn siarad ar ran y pwyllgor, buaswn yn siarad o'i blaid fel Aelod unigol. Diolch.

16:15
Member (w)
Jane Hutt 16:18:06
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Aelodau'r Senedd, pob un ohonoch, am roi'r cyfle imi siarad yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).

Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu craffu cynhwysfawr y pwyllgorau yn ystod Cyfnod 1. Hoffwn fynegi fy niolch i'r pwyllgorau, eu haelodau, a phawb sydd wedi cymryd rhan mor feddylgar wrth graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1. Mae eu diwydrwydd a'u harbenigedd cyfunol wedi bod yn amhrisiadwy, fel y clywsom y prynhawn yma gan y Cadeiryddion. Bydd pob un ohonoch yn ymwybodol fy mod yn parhau i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb a gwella llesiant ledled Cymru.

Fel y dywedodd ac yr eglurodd yr Aelod sydd wedi arwain a hyrwyddo'r Bil hwn, Mark Isherwood, mae BSL yn iaith, yn ddiwylliant ac yn hunaniaeth. Drwy weithio i sicrhau cefnogaeth i BSL yn y gyfraith, rydym yn anfon neges glir fod Cymru'n gwerthfawrogi ac yn parchu ei chymuned o arwyddwyr BSL byddar. Mae'r Bil hwn yn mynd ymhellach na gwledydd eraill y DU. Rhoddwyd enghraifft eisoes o greu rôl bwrpasol cynghorydd BSL, nodwedd unigryw o'r Bil hwn a fydd yn sicrhau arweiniad arbenigol ac atebolrwydd wrth iddo gyflawni ei amcanion.

Wrth gwrs, fel y dywedais, mae'r Bil yn Fil Aelod o dan arweiniad Mark Isherwood. Hoffwn gydnabod ymrwymiad diwyro Mark i'r gymuned o arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n cofio inni gyfrannu at y gwaith o ddrafftio Bil Mark Isherwood. Mae'r cydweithio hwn rhyngof i a Mark Isherwood drwy gydol y broses hon wedi bod yn adeiladol ac yn gadarnhaol, gan ddangos ein hymrwymiad cyffredin i wella canlyniadau i'r gymuned o arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru.

Rwy'n falch fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ill dau'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Argymhellodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yng Nghyfnod 1. Fel y dywedwyd eisoes, rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yma heddiw'n cefnogi hyn.

Mae'r adroddiadau a gynhyrchwyd gan y pwyllgorau wedi tynnu sylw at bwysigrwydd arweinyddiaeth pobl fyddar, ac rwy'n cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiadau sy'n cryfhau ymgysylltiad â'r gymuned fyddar. Cytunaf fod yn rhaid i arwyddwyr BSL fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth BSL genedlaethol a chanllawiau BSL, a bod yn rhaid inni sicrhau bod y broses benodi ar gyfer y cynghorydd BSL yn diwallu anghenion y gymuned fyddar.

16:20

A wnaiff yr Aelod ildio? Diolch. Credaf ei bod yn ganmoladwy iawn fod y Llywodraeth wedi gweithio gydag aelod o'r meinciau cefn i gyflwyno Bil fel hwn. Yn syml, nid yw'n bosib i aelod o'r meinciau cefn allu drafftio a deall goblygiadau technegol Bil, felly credaf fod rhaid rhoi clod i Lywodraeth Cymru am hynny. Ni fyddai'r Bil hwn yn bodoli heb gymorth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru.

Gan feddwl am Seneddau'r dyfodol, a fydd cyfle i gynnig gwersi drwy Gomisiwn y Senedd i seneddwyr y dyfodol ar sut y gallent wneud hyn yn y dyfodol, gan ddysgu o'r arweinyddiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dangos a'r cydweithrediad y mae Mark Isherwood wedi'i ddangos, i sicrhau nad yw hyn yn ddigwyddiad untro?

Diolch yn fawr, Lee Waters. Rwy'n credu bod hyn wedi'i grybwyll yn gynharach gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—fod hwn yn fodel inni edrych arno, gan weithio gyda'n gilydd. Yn wir, mae Aelodau o bob plaid yn ymgysylltu, drwy'r Pwyllgor Busnes, yn dilyn adroddiad y pwyllgor ar y seithfed Senedd, gan edrych ar y ffyrdd hyn o weithio a sut y gallwn ddysgu oddi wrthynt ar gyfer y dyfodol, felly rwy'n gobeithio y bydd yn rhywbeth a all fod yn fodel ac yn esiampl.

Gan fynd yn ôl at y Bil, rwy'n cydnabod y rôl hanfodol y bydd y cyrff cyhoeddus rhestredig yn ei chwarae yn rhoi amcanion y Bil ar waith. Rwy'n cytuno y dylid cyhoeddi'r canllawiau BSL ar yr un pryd â'r strategaeth BSL genedlaethol, er mwyn sicrhau bod cymorth amserol ar gael i gyrff ddatblygu eu cynlluniau. Bydd yn bwysig fod cyrff cyhoeddus rhestredig yn cydweithio a bod yr arbenigedd cywir yn cael ei ddarparu iddynt fel y gallant baratoi eu cynlluniau a'u rhoi ar waith yn effeithiol. Rwy'n cytuno hefyd fod yn rhaid adolygu'r rhestr o gyrff cyhoeddus rhestredig sydd wedi'u cynnwys yn adran 8 yn y Bil wrth i'r capasiti i hyrwyddo a hwyluso BSL dyfu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau'r gweithlu BSL ac yn cydnabod pa mor bwysig yw hi fod dehonglwyr BSL ar gael yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd â phobl fyddar sy'n siarad BSL i sicrhau bod eu hanghenion a'u blaenoriaethau'n cael eu diwallu. Rydym eisoes wedi dechrau'r gwaith hwn gyda grŵp gorchwyl a gorffen rhanddeiliaid BSL Llywodraeth Cymru, sydd wedi cynhyrchu argymhellion tymor byr a thymor hir mewn perthynas â'r gweithlu BSL. Rhaid i hyn fod yn sail i unrhyw weithgarwch yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i fod yn fwy uchelgeisiol yn ein dull o weithredu, ac rwy'n derbyn yr angen i gynnwys targedau clir yn rhan o'r strategaeth BSL.

Bydd yr Aelodau'n cofio, mewn ymateb i ddatganiad llafar deddfwriaethol Mark Isherwood ar gyflwyno Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) ar 16 Gorffennaf, fy mod wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru’n darparu'r costau llawn ar gyfer y flwyddyn gyntaf, ar gyfer 2026-27, sef £214,300. Roedd hyn yn seiliedig ar y ffigurau yn asesiad effaith rheoleiddiol yr Aelod, ac rwy'n falch fod y Pwyllgor Cyllid yn fodlon ynghylch goblygiadau ariannol y Bil. Yn fy ymateb i'w hadroddiad, nodais fy mod yn derbyn eu hargymhellion a phenderfyniad ariannol ar gyfer y Bil. Rwy'n cydnabod cefnogaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ein galluogi i sicrhau bod hynny wedi'i nodi'n glir iawn o ran y costau hynny.

Hoffwn gyfeirio hefyd at yr argymhelliad gan y Pwyllgor Cyllid i gynnal adolygiad ar ôl gweithredu. Bydd hi'n hanfodol monitro gweithrediad y strategaeth BSL genedlaethol a chanllawiau wrth i'r Ddeddf fynd rhagddi, er mwyn sicrhau bod ei hamcanion a'i dibenion yn cael eu gwireddu. Ar ôl myfyrio ar y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 1, mae Llywodraeth Cymru’n fodlon y dylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae'r Bil yn darparu fframwaith angenrheidiol i fynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth bresennol, yn cynnig dull cymesur â ffocws, ac yn gydnaws â'n hymrwymiad i degwch a chynhwysiant.

I gloi, rwy'n ailadrodd gwerthfawrogiad Llywodraeth Cymru o'r gwaith trylwyr a wnaed gan y pwyllgorau a'r holl gyfranwyr i Gyfnod 1. Mae'r Bil yn gyfle pwysig i sicrhau cyfranogiad llawn arwyddwyr BSL yng Nghymru. Er bod mwy o waith i'w wneud, mae Llywodraeth Cymru’n credu bod yr egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol yn haeddu cefnogaeth. Byddaf yn parhau i gynnig fy nghefnogaeth i Mark Isherwood ac yn barod i gydweithio ag Aelodau i fireinio a chryfhau'r Bil wrth iddo fynd rhagddo. Mae gennym gyfle i adeiladu ar y dull adeiladol a chydweithredol sydd wedi bod yn nodwedd o'r trafodaethau hyd yma, gan sicrhau bod yr ysbryd hwn yn parhau wrth i'r Bil fynd rhagddo. Diolch yn fawr.

16:25

Hoffwn achub ar y cyfle hwn unwaith eto i groesawu'r Bil Iaith Arwyddion Prydain ac i ddiolch i Mark am ei waith ardderchog ar y ddeddfwriaeth hanfodol hon. Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, cefais y pleser o wrando ar dystiolaeth gan Mark a llu o dystion sydd â diddordeb brwd yn y Bil hwn. Roedd y gefnogaeth eang i Mark a'i Fil yn gwbl amlwg o'n sesiynau tystiolaeth. Roedd hefyd yn amlwg ei bod yn hen bryd cael Bil BSL. I ddyfynnu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, mae'r Bil yn darparu sylfaen glir i hybu cynnydd i arwyddwyr byddar ledled Cymru. Mae'n rhoi ffocws newydd ar wybodaeth sydd ar gael mewn BSL ac mae'n cyflwyno arwyddwyr byddar fel dinasyddion Cymreig cyflawn sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i'n gwlad yn hytrach na'u bod yn faich. I arwyddwyr byddar ledled Cymru, mae'r parch a'r gydnabyddiaeth hon i ni fel lleiafrif ieithyddol digamsyniol yn hanfodol. Diwedd y dyfyniad.

Mae'r pwynt olaf yn enwedig yn atseinio gyda mi. Cyn derbyn tystiolaeth ar y Bil hwn, roeddwn yn ystyried BSL yn ddull o gyfathrebu yn hytrach nag iaith gyda'i holl oblygiadau diwylliannol. Ein dyletswydd i'r gymuned o arwyddwyr byddar yw gwneud cymaint o ymdrech i ddiogelu'r iaith hon ag a wnawn i ddiogelu ieithoedd eraill Cymru, os nad mwy. Wedi'r cyfan, gallwn ddewis siarad Cymraeg ai peidio; i arwyddwyr byddar, nid yw'n ddewis. Gwnaeth ein pwyllgor nifer o argymhellion i wella'r ddeddfwriaeth, ond yn anad dim, fe wnaethom argymell bod y Senedd yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil BSL. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi ein hargymhellion ac yn cytuno i gefnogi'r gymuned o arwyddwyr byddar yng Nghymru drwy gefnogi Bil Mark, gan helpu i'w wella yng Nghyfnodau 2 a 3, a sicrhau ei fod yn dod yn gyfraith yn 2026. Diolch yn fawr.

Hoffwn i, yn gyntaf, ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno’r Bil blaengar hwn. Mae hon yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth ac mae Plaid Cymru yn gefnogol i'w egwyddorion craidd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rŷn ni wedi gweld cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd BSL fel iaith yng Nghymru, ynghyd â mwy o ymdrech hefyd i’w gwneud yn weladwy ac yn rhan o fywyd cyhoeddus. Mae'n dda gweld mwy o ddefnydd o ddehonglwyr yn nhrafodion y Senedd yn ddiweddar. Ond dyw ewyllys da neu ambell i gam cadarnhaol fan hyn a fan draw ar ei ben ei hun ddim yn ddigon, wrth gwrs. Mae angen sylfaen ddeddfwriaethol gadarn i ni wneud cynnydd gwirioneddol o ran galluogi'r gymuned fyddar i gyrchu gwasanaethau a gwybodaeth, ac yn bwysicaf oll, efallai, i sicrhau cydnabyddiaeth a pharch i BSL fel un o ieithoedd Cymru.

Mae’r Bil hwn, felly, yn ymwneud â hawliau sylfaenol—hawl pob unigolyn i ddefnyddio ei iaith ei hun. Mae iaith yn rhan o hunaniaeth, o ddiwylliant ac o urddas personol. Pan na all rhywun ddefnyddio ei iaith, maent yn cael eu hallgau o addysg, gofal iechyd, cyflogaeth a bywyd cyhoeddus, ac nid yw hynny'n dderbyniol yn y Gymru sydd ohoni, sy'n ymfalchïo yn ei natur gynhwysol. Mae effaith peidio â sicrhau cyfleoedd cyson i ddefnyddio BSL yn creu anghydraddoldeb niweidiol.

Mae'r Bil hwn nid yn unig, felly, yn ymwneud â hawliau dynol a chydraddoldeb, ond mae e’n fuddsoddiad economaidd doeth, byddwn i'n dadlau. Pan fyddwn yn sicrhau mynediad cyfartal i bobl fyddar i bob cyfle, rydym yn agor drysau i'w cyfraniad llawn i'r economi. Mae'r Bil hwn yn cynnig cyfle i ddechrau creu y newid sydd ei angen, felly, o ran hyn, ac fe wnes i ddewis fy ngeiriau yn ofalus fanna wrth ddatgan mai dechrau creu newid fydd y Bil hwn.

Hoffwn ddyfynnu yr hyn ddywedodd un o gyfranogwyr gwaith ymgysylltu y pwyllgor wrthym ni, achos dwi'n meddwl ei fod e'n crisialu nid yn unig pam mae angen cefnogi egwyddorion y Bil, ond hefyd yr hyn sydd angen digwydd wedi inni wneud hynny, a'r risg sydd yna o beidio â gwneud hynny'n iawn. Meddai:

'Os na fydd y Bil yn gwneud yr hyn rydyn ni eisiau iddo ei wneud, bydd y gymuned Fyddar yng Nghymru yn ddig, yn siomedig ac yn ddigalon iawn, iawn, oherwydd dyw’r pethau sy’n cael eu gwneud ar hyn o bryd ddim yn gweithio. Dyw’r Ddeddf Cydraddoldeb ddim yn gweithio i ni, a dyw’r safonau hygyrchedd ym maes iechyd ddim yn gweithio—felly does yna prin unrhyw sector yng Nghymru sy’n gweithio i ni.... Hoffwn i weld newid enfawr 5 6 lle rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich cynnwys yn eich cymuned.'

Mae gennym ni ddyletswydd, felly, i sicrhau nad yw'r Bil hwn yn chwalu y gobeithion am newid. Rwy'n falch o weld bod yr Aelod yng ngofal y Bil yn derbyn bron pob un o'n hargymhellion ni ynglŷn â sut i leihau'r risg hwnnw. Rwy'n cytuno gyda Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain a ddywedodd wrthym ni nad yw'n briodol, yn bosib nac yn effeithlon i bobl nad ydynt yn arwyddwyr BSL byddar arwain y ffordd i'r newid hwnnw.

Rôn i o blaid sicrhau bod y cynghorydd BSL a fydd yn gyrru'r gwaith yma yn berson a oedd yn arwyddwr BSL byddar, ac felly nid yn unig yn dod â dealltwriaeth a phrofiad bywyd gwerthfawr i'w rôl, ond hefyd yn dod yn esiampl o arweinyddiaeth fyddar. Roedd hynny'n farn leiafrifol yn y pwyllgor ac mae'r Bil fel mae'n sefyll yn cynnwys gofyniad bod y person sy'n cael ei benodi yn gallu'n cyfathrebu'n effeithiol mewn BSL. Hoffwn ofyn, felly, a yw'r Aelod yng ngofal y Bil yn medru archwilio modd o gyrraedd y nod hwn mewn modd arall drwy'r Bil, er enghraifft drwy sicrhau mai barn panel o arwyddwyr byddar fyddai'n fwyaf blaenllaw yn y broses benodi, neu gyflwyno dyletswydd i ymgynghori gyda'r gymuned fyddar ar y penodiad?

Y risg fwyaf arall yw peidio â sicrhau gweithlu dehonglwyr a chyfieithwyr BSL digonol i gefnogi nod y Bil, a dwi eto'n cytuno y dylai'r gwaith i ehangu'r gweithlu yn y maes yma ddechrau ar unwaith; does dim angen aros i basio'r Bil hwn. Wedi dweud hyn, mae wir angen cefnogi arweinyddiaeth fyddar drwy sicrhau bod arwyddwyr BSL byddar yn arwain yn y sefydliadau cyhoeddus sydd angen gwasanaethu eu cymuned fyddar. Drwy hynny, byddai'n lleihau'r costau a'r pwysau ar gyrff, ac yn creu cyfleon a modelau rôl ar gyfer arwyddwyr BSL byddar, gan greu Cymru fwy cynhyrchiol a chynhwysol. A fyddai modd gosod dyletswydd ar gyrff a sefydliadau i hyrwyddo cyfleon am rolau a swyddi yn well ymysg y gymuned fyddar?

16:30

Rwy'n gorffen nawr. Un o'r heriau mwyaf, felly, yw sicrhau bod y Bil hwn yn cael ei gyflawni'n llawn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd hyn, ynghyd â'r argymhellion eraill, yn cael eu hadlewyrchu yn ail gam y Bil, ac mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at chwarae ein rôl yn hynny. Diolch.

Hoffwn innau hefyd ddiolch i Mark Isherwood am ei holl waith diflino ar y Bil hwn, ac rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl bwysig hon. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cytuno â'r egwyddorion cyffredinol. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor a edrychodd ar y Bil, ac rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone ar y dechrau pan wnaeth ei chyfraniad, ei bod yn fraint cymryd rhan yn y broses honno. Rwy'n credu ei fod yn amlwg wedi dangos i'r pwyllgor pa mor bwysig yw cydnabod BSL fel iaith. Fel y dywed y briff a gawsom gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, mae'r Bil yn cyflwyno arwyddwyr byddar fel dinasyddion Cymreig llawn, sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i'n gwlad, yn hytrach na'u bod yn faich. Rwy'n credu bod honno'n rhan allweddol o'r hyn y mae'r Bil hwn yn mynd i'w wneud—mae'n mynd i olygu bod arwyddwyr yn ddinasyddion llawn ac yn rhan lawn o gymdeithas gynhwysol.

Rwy'n credu bod y pwynt hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein trafodaeth ar rôl y cynghorydd BSL, y mae Sioned eisoes wedi sôn amdani, oherwydd mae hon yn swydd hollol allweddol, ac fel y dywedwyd eisoes, mae'n swydd unigryw ac nid oes gan wledydd eraill y DU swydd o'r fath. Felly, mae'n gyfle gwych i wneud yn siŵr ein bod yn cael rhywun sy'n gallu arwain ar hyn yn gryf o'r tu blaen. Mae ein hargymhelliad 7 yn galw am ystyried sut y mae anghenion y gymuned fyddar yn cael eu hadlewyrchu'n briodol yn y broses benodi. Yn amlwg, pe bai cynghorydd byddar yn cael eu penodi, byddai hyn mor bwysig i'r gymuned fyddar a byddai'n fodel rôl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried hynny'n ofalus, ond rwy'n nodi'r hyn a ddywedodd yr Aelod sy'n cyflwyno'r Bil, ynglŷn â sut na allai beryglu colli'r Bil trwy ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd fod yn fyddar. Ond rwy'n credu bod rhaid edrych ar hynny'n ofalus iawn.

Y pwynt pwysig arall roeddwn am dynnu sylw ato yw argymhelliad 12, sy'n annog Llywodraeth Cymru i gynyddu ymdrechion i ehangu'r gweithlu dehonglwyr BSL. Rydym i gyd yn gwybod pa mor anodd yw hi i gael dehonglwyr pan fo angen. Mae hefyd wedi cael ei ailadrodd i mi pa mor bwysig yw hi i weithwyr proffesiynol sy'n ceisio cael dehonglwyr i fod yn ymwybodol o sut y mae'r system yn gweithio, oherwydd nid yw cais am ddehonglwr yn golygu eich bod yn cael un yn awtomatig, ac mae hynny'n hollol allweddol, yn enwedig yn y maes iechyd. Mae wedi cael ei grybwyll eisoes yma y prynhawn yma sut y mae iechyd yn un o'r meysydd allweddol lle mae angen dehonglwyr BSL ar frys, lle gall dealltwriaeth claf neu ofalwr o'r sefyllfa fod yn fater o fywyd neu farwolaeth.

Cafodd hyn ei ategu i mi yn gryf iawn gan un o fy etholwyr, etholwr byddar gyda dau blentyn bach iawn a oedd yn gorfod treulio cyfnodau hir o amser yn yr ysbyty plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru oherwydd cyflwr meddygol cymhleth un o'i phlant. Roedd hi'n gallu cael tair awr o ddehongli y dydd, a dyna'r cyfan oedd ar gael, nad oedd bob amser yn cyd-fynd â phryd oedd angen dehonglwr arni. Disgrifiodd sefyllfa anodd iawn lle roedd angen caniatâd ar gyfer llawdriniaeth, ond nid oedd dehonglwr ar gael. Ar gyfer y sefyllfaoedd anodd hynny, rhaid inni wneud yn siŵr fod dehonglwyr ar gael. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o'r Bil, fel y gall rhieni, gofalwyr a chleifion gael gwybodaeth.

I orffen, cefais fy nharo gan bwysigrwydd BSL pan anrhydeddwyd Dorothy Miles drwy'r unfed plac porffor ar bymtheg yng Nghymru yn y Rhyl, pan ddaeth pobl o bob rhan o'r DU i weld y plac porffor yn cael ei ddadorchuddio, gan fod hwn yn gyfle i ddathlu diwylliant BSL. Dorothy Miles oedd y fenyw gyntaf i ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth fyddar, ac i ddysgu pobl fyddar a phobl sy'n clywed am bwysigrwydd iaith arwyddion, a'i bod yn iaith ddilys a phwerus. Felly, rwy'n credu bod yr agwedd ddiwylliannol mor bwysig. Mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig iawn heddiw, ac rwy'n falch iawn o fod wedi cymryd rhan yn y broses bwyllgor. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei dderbyn yn unfrydol gan y Senedd heddiw.

16:35

Rwyf am ymuno â'r ciw hir o bobl sy'n diolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r Bil hwn yma heddiw. Rwy'n falch iawn o siarad amdano ac i fod yn rhan o'r pwyllgor a'i graffu yng Nghyfnod 1. Hefyd, hoffwn groesawu a thalu teyrnged i bobl sydd gyda ni y prynhawn yma, llawer o randdeiliaid, gallaf weld, a roddodd dystiolaeth i ni. Diolch i chi. Dysgais lawer am yr iaith, am y diwylliant ac am yr hyn y mae angen i ni ei graffu, felly rwy'n ddiolchgar iawn i chi yn arbennig.

Mae hyn yn dangos i mi yr hyn y dylem i gyd falio'n fawr amdano—tegwch, urddas a gwneud yn siŵr fod pawb yng Nghymru yn gallu cymryd rhan lawn mewn bywyd cyhoeddus. Am ormod o amser, mae arwyddwyr BSL byddar wedi gorfod ymladd i gael eu gweld a'u clywed. Mae'r Bil hwn yn gyfle i ddweud yn glir fod pobl fyddar yn gymuned ieithyddol a diwylliannol werthfawr sydd â chyfraniadau enfawr i'w gwneud yng Nghymru. Ni yw'r rhai sydd angen addasu ein trefniadau. Os yw'r ddeddfwriaeth hon i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl, rhaid inni fod yn onest ynglŷn â'r hyn sy'n dal i fod angen ei newid a pha gamau sydd angen eu cymryd.

Yr her gliriaf a mwyaf ymarferol a wynebwn i'r Bil hwn yw'r argyfwng yn y maes dehongli. Roeddem yn hollol gywir, yn ein hadroddiad yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, i nodi'r prinder dehonglwyr a chyfieithwyr BSL fel y bygythiad mwyaf i weithredu'r Bil hwn yn effeithiol. Ym mis Gorffennaf eleni, dim ond 54 o ddehonglwyr iaith arwyddion cofrestredig a oedd wedi'u lleoli yng Nghymru—54. Cafodd llawer o'r rheini eu hyfforddi trwy raglen BSL Futures bron i 20 mlynedd yn ôl, ac maent bellach, gyda phob parch, yn agosáu at ddiwedd eu bywydau gwaith. Ond heb weithredu nawr, fel y clywsom, mae'r risg yn amlwg: aros hirach, mynediad gwaeth at wasanaethau a phobl fyddar yn dal i gael anhawster mynychu apwyntiadau meddygol, fel y clywsom, ac ymgysylltu â chyrff cyhoeddus neu gymryd rhan lawn mewn bywyd dinesig.

Roedd gennym ein profiad ein hunain, oherwydd rwy'n gwybod bod ein clercod pwyllgor, sy'n eistedd yma heddiw, ac rwy'n diolch iddynt, wedi cael trafferth archebu dehonglwyr ar gyfer sesiynau ein pwyllgor. Ni ellir—rhaid inni beidio—caniatáu i'r Bil hwn fethu am nad oedd gennym y rhagwelediad i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn nawr. Fel y mae Mark wedi cydnabod yn ei ymateb, byddai angen ehangu gweithlu dehonglwyr BSL heb y Bil hwn hyd yn oed. Rwy'n falch, felly, fod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad y pwyllgor i ehangu'r gweithlu ac edrychaf ymlaen at weld llwybr BSL yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2026.

Rwyf am gyffwrdd ag un mater arall, sef pwysigrwydd arweinyddiaeth fyddar yn y maes hwn. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi bod yn glir ar y pwynt hwn. Maent yn dweud:

'Nid ydym yn credu ei bod yn briodol, yn bosib nac yn effeithlon i bobl nad ydynt yn arwyddo arwain y broses o benderfynu ar y llwybr ar gyfer ein bywydau ni yn y dyfodol'.

Mae arwyddwyr BSL byddar yn dod ag oes o brofiad bywyd ac arbenigedd  gyda nhw. Maent yn deall y rhwystrau, y rhwystredigaethau a'r cyfleoedd a gollwyd. Maent yn gwybod beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio. Mae'n anodd cyfiawnhau gofyn iddynt aros tra bod pobl sy'n clywed, ni waeth pa mor dda yw'r bwriad, yn ceisio datrys hyn trwy ddehonglwyr ac ymarferion ymgynghori. Fel Plaid Cymru, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn credu y dylai'r cynghorydd BSL ddod o'r gymuned BSL byddar. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y risgiau y gallai hynny arwain atynt yn y Bil hwn, ond mae'n bwysig cofnodi y dylid ystyried yn ofalus sut y mae'r broses o benodi cynghorydd BSL a'r panel cynghori wedi'i chynllunio. Ni all fod yn broses safonol ar gyfer penodiad cyhoeddus; rhaid ei siapio'n benodol gydag arweinyddiaeth fyddar mewn golwg.

Rwy'n gorffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud bod y ddeddfwriaeth fframwaith hon yn hynod o bwysig, ond mae fframweithiau angen sylfeini. Mae sylfeini angen buddsoddiad a rhaid iddynt gael eu hadeiladu gan y bobl y mae'r Bil hwn i fod i newid eu bywydau. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Heddiw cawn gyfle i drafod deddfwriaeth a all drawsnewid bywydau ledled Cymru—Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), a gyflwynwyd gan Mark Isherwood. Rwyf i a Reform yn croesawu'r Bil hwn yn gynnes ac rwy'n diolch yn ddiffuant i'r Aelod sy'n gyfrifol, Mark, am ei ddyfalbarhad diysgog yn ei gyflwyno. Rydym wedi aros yn hir amdano. Ers blynyddoedd mae Mark wedi hyrwyddo hawliau pobl fyddar, gan gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar a gwrando ar brofiad bywyd y gymuned fyddar. Fel y dywedodd Mark yn gywir, mae ymgynghori ac ymgysylltu wedi datgelu cefnogaeth gref i'r Bil ledled Cymru. Mae'r Bil yn benllanw ymroddiad, ac mae'n haeddu ein cefnogaeth lawn. Nid cyfrwng cyfathrebu yw Iaith Arwyddion Prydain; fel y dywedwyd, mae'n iaith gyfoethog, fywiog ynddi ei hun. Mae'n iaith gyntaf ddewisol i filoedd o bobl fyddar ledled Cymru, ond yn rhy aml maent yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, addysg, gofal iechyd a chyflogaeth, a heb gefnogaeth briodol, cânt eu hamddifadu o gydraddoldeb a chyfle i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Mae'r Bil hwn yn ceisio newid hynny drwy osod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus i fynd ati'n weithredol i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL. Ei nod yw gwneud Cymru yn genedl gryfaf yn y DU ar gyfer defnyddwyr BSL, gan fynd ymhellach mewn deddfwriaeth nag yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Maes allweddol lle mae hyn bwysicaf yw addysg. Yng Nghymru, nid oes ysgol arbenigol bwrpasol ar gyfer disgyblion byddar yn unig. Yn hytrach, mae plant byddar yn cael eu cefnogi mewn ysgolion prif ffrwd neu drwy leoliadau adnoddau arbenigol, gyda chefnogaeth athrawon plant byddar, carfan o athrawon y mae eu niferoedd yn lleihau. Gall y dull hwn weithio pan fo'r addasiadau cywir ar waith, ond yn rhy aml, nid oes gan ysgolion yr adnoddau, yr hyfforddiant na'r dehonglwyr sydd eu hangen i'w wneud yn effeithiol. Ac yng Nghymru, rydym yn wynebu heriau i ddarparu digon o gymorth arbenigol wrth i athrawon ymddeol. Mae hyn yn rhywbeth y mae gennyf bryderon difrifol yn ei gylch: a allwn ni hyfforddi a recriwtio i allu cyflawni nodau'r Bil hwn. Mae'r Bil yn rhoi cyfle inni symud hynny o ewyllys da i gysondeb, fel nad yw mynediad at gymorth BSL yn dibynnu ar god post, pwysau ar gyllidebau neu benderfyniad staff unigol. 

Gadewch i mi rannu rhai enghreifftiau cadarnhaol sy'n dangos yn glir beth sy'n bosib yn fy rhanbarth etholaethol fy hun. Yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhrefddyn, ysgol cyfrwng Cymraeg, mae disgybl ag anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys byddardod, yn ffynnu. Diolch i'r gefnogaeth deilwredig, y staff ymroddedig a'r addasiadau priodol, mae'r unigolyn ifanc yn ymgysylltu'n llawn, yn cyflawni eu potensial ac yn mwynhau bywyd ysgol prif ffrwd. Dyma'r math o lwyddiant y dylem ei weld ym mhobman.

Y bore yma mynychais wasanaeth carolau un o ysgolion cynradd yr Eglwys yng Nghymru i'r gymuned yn eu hysgol, lle clywais ddehongliad hyfryd o 'We Wish You a Merry Christmas'. Yn ogystal â chanu, roedd y plant hefyd yn arwyddo gyda'r gerddoriaeth, ac roedd yn hyfryd gweld y math hwnnw o gynhwysiant. Mae'r enghreifftiau hyn yn rhoi gobaith gwirioneddol i mi y bydd pasio'r Bil hwn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru, a bod awydd amdano.

16:45

Mae eich cefnogaeth i'r Bil hwn yn peri peth penbleth i mi, oherwydd rwy'n nodi bod Reform—. Pan fyddwn yn clywed am eu polisïau, nad yw'n digwydd mor aml â hynny, un o'r pethau y clywn amdanynt yn aml iawn yw eu bod eisiau dileu rolau amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb yn ein hawdurdodau lleol ledled y wlad. Felly, pam rydych chi'n cefnogi'r Bil hwn? Sut y gallwch chi gefnogi'r Bil hwn gan argymell y dylid dileu rolau amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb ar yr un pryd?

Rwy'n gresynu'n fawr at y ffordd yr ydych chi'n gwneud rhywbeth mor bwysig yn fater pleidiol. Nid wyf yn credu—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn meddwl bod hyn yn briodol. Rwy'n dweud—[Torri ar draws.] Yn y Siambr hon nawr, rwy'n ein hymrwymo i hyn. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod gennyf gefnogaeth fy mhlaid arno.

Bydd y Bil hwn yn ysgogi'r union welliannau—gwell mynediad at BSL mewn ystafelloedd dosbarth, mwy o hyfforddiant ac arweiniad i athrawon—sydd eu hangen i sicrhau bod ysgolion yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol. Bydd yn helpu i gael gwared ar rwystrau fel y gall pob plentyn byddar yng Nghymru ffynnu, ble bynnag y maent yn byw.

Ddirprwy Lywydd, mae hon yn foment i uno, ond rhaid cael cyflawniad i gyd-fynd ag undod. Bydd llwyddiant y Bil hwn yn dibynnu ar arweiniad priodol, cyllid realistig ac ymgysylltiad ystyrlon â sefydliadau pobl fyddar wrth iddo gael ei weithredu. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi ei chefnogaeth, ac mae hynny i'w groesawu, ac rydym wedi gweld cefnogaeth drawsbleidiol mewn cyfnodau blaenorol. Rwy'n gobeithio ac rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn cael cefnogaeth drawsbleidiol unfrydol wrth iddo fynd rhagddo. Gyda'n gilydd, gallwn anfon neges bwerus fod Cymru'n gweld gwerth BSL fel iaith, yn parchu'r gymuned fyddar ac yn ymrwymedig i gydraddoldeb go iawn. Felly, diolch i'r pwyllgorau am eu gwaith, ac rwy'n adleisio llawer o'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud. Gadewch inni dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a osodwyd ger ein bron heddiw, bwrw ymlaen â'r Bil hwn ac adeiladu Cymru fwy cynhwysol ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Diolch.

Prynhawn da, bawb. Diolch, Polly. Diolch, Martin. Diolch, Mark. Polly o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, Martin o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, diolch am eu hymgysylltiad â mi ar gyfer yr araith hon. Ond yn bwysicach fyth, diolch mawr i Cedric Moon, etholwr sydd wedi cysylltu â mi dros y blynyddoedd diwethaf, ymgyrchydd diflino dros bobl fyddar, ac sydd wedi dysgu cymaint i mi am y gymuned fyddar. Cyn cael gohebiaeth gan Cedric Moon, roeddwn i'n hollol anwybodus am BSL. Nid oeddwn yn sylweddoli bod BSL yn iaith. Rwy'n dychmygu bod hynny'n wir, fod yr anwybodaeth honno'n wir, am lawer o bobl allan yn ein cymuned, ond mae BSL yn iaith. Ac rydym i gyd yn gwybod, yn enwedig y rhai ohonom sy'n siarad mwy nag un iaith, pa mor bwerus yw iaith. Mae'n fwy na geiriau'n unig. Mae'n ein cysylltu ni. Mae'n siapio ein hunaniaeth. Mae siarad mwy nag un iaith yn agor cyfleoedd, yn agor diwylliannau. Dyma sut y dysgwn, sut y gweithiwn, sut y cyfrannwn a sut y cymerwn ran mewn cymdeithas. Ond i'r gymuned fyddar yma yng Nghymru, nid offeryn pwysig yn unig yw Iaith Arwyddion Prydain neu BSL, nid rhywbeth braf i'w gael, ond achubiaeth. Ac rwyf innau wedi cael e-byst tebyg i Julie Morgan am rieni yn yr ysbyty ac yn cael trafferth, heb ddehonglwr yn bresennol pan fydd rhywun annwyl yn sâl. Mae'n achubiaeth. Ni ddylid ei weld fel ôl-ystyriaeth neu fater arbenigol, ond iaith sy'n rhan annatod o'n cymdeithas. Mae angen inni normaleiddio BSL yn yr un ffordd ag y normaleiddiwyd y Gymraeg. Rwy'n gobeithio y bydd y Ddeddf BSL yn mynd â ni ar hyd yr un llwybr ag y mae'r Gymraeg wedi mynd ar hyd-ddo yng Nghymru, drwy roi BSL ar sail gyfartal.

Soniodd Laura Anne Jones am fynd i ddrama geni ei phlant yn ddiweddar. Yr wythnos diwethaf, euthum i weld drama geni Ysgol Treganna, ac fe wnaethant arwyddo pob cân. Roedd pob cân wedi'i harwyddo. Ac mae fy mhlentyn pump oed innau nawr yn fy nysgu i sut i arwyddo. Mae hi wrth ei bodd; mae hi wrth ei bodd yn gallu arwyddo. Ond er gwaethaf camau cadarnhaol, rhaid inni gyfaddef bod BSL yn wynebu heriau anhygoel. Y prynhawn yma, clywsom am brinder dehonglwyr BSL a phrinder athrawon BSL, ac nad oes ysgol i blant byddar yng Nghymru mwyach. Roedd y grŵp rhanddeiliaid wedi gwneud argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru weithredu nawr i geisio llenwi'r bylchau, fel nad yw prinder dehonglwyr BSL yn rhwystro uchelgeisiau'r Bil gwych hwn.

Hefyd, mae angen gwell data ar y gweithlu BSL yma yng Nghymru. Gwyddom mai dim ond 54 o ddehonglwyr sydd gennym yng Nghymru erbyn hyn, ond nid ydym yn gwybod faint sydd eu hangen eto i lenwi'r bwlch. Mae angen inni wneud yn siŵr hefyd fod gwell cydweithredu rhwng gwahanol gyrff, rhwng awdurdodau lleol, rhwng byrddau iechyd, rhwng gwasanaethau addysg. Dylai pob un ohonynt rannu adnoddau yn hytrach na chael eu cadw mewn seilos. Dylai pob un ohonynt rannu'r adnoddau sydd ganddynt. Wrth gwrs, fel gyda phopeth— clywsom hyn yn eithaf clir ddoe—bydd llenwi'r bwlch yn costio arian, ond rwy'n hyderus y bydd y gost yn y tymor byr yn arwain at enillion yn y tymor hir. Awgrymodd adroddiad RAND fod pob £1 a fuddsoddir mewn addysgu BSL i deuluoedd a phlant dim i bump oed yn rhoi tua £14 yn ôl.

Yng Nghymru, rydym ar hyn o bryd yn cefnogi dehongli a chyfieithu i 140 a mwy o ieithoedd cymunedol. Un o'r rhain yw BSL, a hi yw'r drydedd iaith y mae fwyaf o alw am ei chyfieithu a'i dehongli yng Nghymru. Gyda hyn mewn golwg, dylai BSL fod yn grŵp â blaenoriaeth, gan fod eu hiaith weledol hardd yn cael ei chydnabod yn gywir fel un o bedair iaith frodorol y DU, ac yn ffordd allweddol o gyfathrebu i gymaint o bobl. Mae'n iaith a ddylai rymuso pobl. Dylai fframio arwyddwyr byddar fel asedau, a BSL fel ateb ac nid fel baich neu anghyfleustra. Soniais ddoe yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog fod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn y gyfraith yma yng Nghymru. A gaf i awgrymu y dylem ddod yn genedl dairieithog, gyda lle i'r Gymraeg a'r Saesneg, ond hefyd i BSL yn ein cymdeithas? Diolch yn fawr.

16:50

Diolch. Rwy'n ymwybodol fod amser yn fyr iawn. Diolch yn fawr i Jenny Rathbone fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac am dderbyn egwyddorion cyffredinol y Bil yn unfrydol. Fel y dywedoch chi, bydd llwyddiant yn dibynnu ar gyllid digonol, arweiniad clir ac ymgysylltiad go iawn â'r gymuned fyddar. Fel y dywedoch chi'n gywir ddigon, y rhwystr mwyaf i weithredu yw argaeledd dehonglwyr a chyfieithwyr. Rwy'n cytuno ei fod yn bryder uniongyrchol. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr angen am wrandawiad cyn penodi cynghorydd BSL—yn amlwg, byddai hynny fel arfer yn wir gyda phenodiadau cyhoeddus, felly buaswn yn disgwyl i hynny fod yn gymwys—a'r angen i fod yn fwy eglur ynglŷn â sut y gall defnyddiwr BSL gyflwyno cwynion.

Diolch i Peredur Owen Griffiths, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, am eich cyfraniad ac am rannu casgliadau'r pwyllgor ynghylch nifer o faterion, yn enwedig cost gweithredu darpariaethau yn y dyfodol, y gost i gyrff cyhoeddus ac adolygiad ar ôl gweithredu. Ac yna ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwynt a wnaethoch chi iddi ynglŷn â hynny.

Diolch i Mike Hedges am ei sylwadau fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gan dynnu sylw unwaith eto at yr angen am sylw i'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan nodi mai'r Llywodraeth nesaf yng Nghymru fydd â chyfrifoldeb i weithredu, yr angen i bennu isafswm ac uchafswm nifer o aelodau i'r panel, y rhoddais sylw iddo, ac ychwanegu enwau llawn ymddiriedolaethau'r GIG, y rhoddais sylw iddo, ac rwy'n cymeradwyo ei sylw ei fod wedi bod gyda mi o'r dechrau ar hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich sylwadau. Fel y dywedwyd ac y cadarnhawyd gennych, mae BSL yn iaith, diwylliant a hunaniaeth, ac mae angen inni anfon neges glir ein bod yn gweld gwerth ac yn cydnabod cymuned arwyddo BSL Cymru.

Diolch am y sylwadau cadarnhaol a chefnogol gan Altaf Hussain, Sioned Williams, Julie Morgan, Jane Dodds, Laura Anne Jones a Rhys ab Owen. Sioned, fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn penodol i mi ynglŷn â chael panel o arwyddwyr byddar yn rhan o'r broses o benodi'r cynghorydd BSL. Rwy'n gweld rhinwedd enfawr yn hynny. Mewn gwirionedd, buaswn i'n bryderus iawn pe na bai hynny'n digwydd.

Y gwir amdani yw mai Bil fframwaith yw hwn, a bydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru a'r Senedd nesaf benderfynu rhoi adnoddau tuag at ei gyflawni yn y modd angenrheidiol, tuag at fonitro a gwerthuso gweithrediad y Bil. Rwy'n credu mai chi, Sioned, a ddywedodd hefyd, yn gywir ddigon, mai dim ond dechrau gwneud y newid sydd ei angen y mae'r Bil hwn. Ond mae'n ddechrau allweddol. Rydym wedi troi'r injan ymlaen. Nawr, mae angen rhoi troed ar y sbardun i'w symud ymlaen. Os ydych chi'n teimlo bod angen mwy o welliannau yng Nghyfnod 2, mater i chi yng Nghyfnod 2 yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yw hynny. Ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar hyn o bryd. Rydych chi wedi clywed beth fyddaf i'n ei wneud.

Fe ddof i ben drwy ddweud nad fy Mil i'n unig yw hwn. Dyma Fil y gymuned BSL. Fel y nodais mewn areithiau o'r blaen, y gymuned honno a wnaeth ei ddwyn i fy sylw yng ngogledd Cymru saith mlynedd yn ôl i ddechrau, yn dilyn deddfwriaeth yr Alban, ac yn gryf iawn yma yn ne Cymru ers hynny. Diolch i chi am fynegi eich angen i mi yn gyson, a hefyd am roi eich cefnogaeth a sicrhau bod cyd-Aelodau a minnau'n deall yn well pam y mae angen hyn arnoch a beth y mae'n ei olygu mewn gwirionedd. Felly, diolch yn fawr, a Nadolig llawen i chi i gyd.

16:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Eitem 6 sydd nesaf, cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Cynnig NDM9089 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Jane Hutt 16:58:56
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cynigiwyd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Mynediad plant i chwarae

Eitem 7 sydd nesaf, dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), mynediad plant i chwarae. A galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9072 Rhys ab Owen, Russell George, Mike Hedges, Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu'r ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros hawl plant i chwarae, ac mai Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yn y DU i gael ei hachredu gan UNICEF yn Ddinas sy'n Dda i Blant.

2. Yn cydnabod bod ardaloedd chwarae gyda siglenni, llithrenni ac offer arall i chwarae yn bwysig iawn i blant o dan 11 oed.

3. Yn nodi bod adroddiad 'Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025' gan Chwarae Cymru wedi canfod bod offer chwarae mewn sawl ardal yn cael eu disgrifio fel rhai hen, wedi torri neu'n addas ar gyfer plant iau yn unig, a bod llawer wedi galw am fuddsoddi mewn mannau i blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig yn Ynys Môn, Sir Ddinbych a Chaerffili.

4. Yn gresynu bod boddhad cyffredinol â chyfleoedd i chwarae wedi gostwng o 84 y cant yn 2019 i 71 y cant yn 2025, ac na chaniateir i nifer nodedig o 25 y cant chwarae'n annibynnol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu mynediad plant i chwarae drwy:

a) cryfhau'r ddyletswydd o dan adran 11 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 fel bod yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau digon o gyfleoedd chwarae mewn maes chwarae ar gyfer pob cymuned;

b) datblygu ffyrdd o roi cyhoeddusrwydd i leoedd diogel a lleol i chwarae;

c) diogelu meysydd chwarae rhag toriadau awdurdodau lleol;

d) cefnogi grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am feysydd chwarae; ac

e) mynd i'r afael â'r ffaith bod gan blant, yn enwedig anabl, mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig yn aml fwy o fynediad at fannau awyr agored, ond yn wynebu mwy o broblemau o ran cynnal a chadw, hygyrchedd a chynhwysiant.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac mae'n rhaid i fi ddatgan diddordeb o'r cychwyn. Fel tad i ddwy ferch, pump a dwy flwydd oed, mae'r parc chwarae yn lle pwysig iawn i ni. Mae modd treulio oriau am ddim yn y parc, ac mae'r siom yn amlwg ar eu hwynebau, a, siŵr o fod, ar wynebau fy ngwraig a fi, pan fydd y parc ar gau oherwydd fandaliaeth neu offer wedi symud am fisoedd, os nad blynyddoedd, oherwydd gwaith cynnal a chadw.

Mae parciau yn bwysig i'n cymunedau. Dim ond ddoe, clywsom ni oddi wrth Carolyn Thomas mai amddiffyn ei pharc chwarae lleol hi oedd un o'r rhesymau ei bod hi wedi dechrau ei siwrnai wleidyddol, ac mae'r lle hwn yn ffodus o'i synnwyr cyffredin hi a'i brwydro hi dros y cymunedau, yn rhannol oherwydd y parc chwarae. Felly, ŷn ni'n ddiolchgar ac yn cydnabod ein parciau chwarae. Ar drothwy'r Nadolig, dwi’n credu ei fod yn hynod bwysig ein bod yn blaenoriaethu amser i feddwl am blant a phobl ifanc ein gwlad ni.

Mae’r pandemig, mae'r argyfwng costau byw ac mae mwy na degawd o doriadau wedi bod yn ergyd caled i'n plant a'n pobl ifanc ni, a'r gwasanaethau maen nhw yn eu defnyddio. Mae’n dorcalonnus, onid yw e, ein bod ni'n clywed bron a bod yn wythnosol yn fan hyn gymaint o blant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru—31 y cant o blant yn byw mewn tlodi. Mae hwnna yn feirniadaeth anhygoel o'r lle hwn ac o San Steffan ein bod ni wedi methu mynd i'r afael â thlodi plant. Ac mae’r cysylltiad rhwng tlodi a chwarae yn cael ei gydnabod yn strategaeth tlodi plant Cymru. Mae'r trydydd amcan yn dweud bod pobl am fyw mewn ardaloedd sydd â chyfleusterau chwarae, a'r nawfed amcan yn dweud eu bod nhw'n mynd i gynnig mwy o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc. Ond ydy’r strategaeth yma, fel nifer o strategaethau eraill ŷn ni'n clywed amdanynt yn y lle hwn, yn cyflawni unrhyw beth?

Tra dylai’r Senedd hon groesawu'r ffaith—ac mae'n ddigon posib bydd y Gweinidog yn sôn am hyn—mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros hawl plant i chwarae, ac mai Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei hachredu gydag UNICEF i fod yn ddinas sy'n dda i blant—wrth gwrs bod modd llawenhau am y pethau hyn—dwi'n credu bod yn rhaid inni edrych hyd yn oed y tu ôl i'r penawdau gwych yma. Gwrandewch ar gasgliadau adroddiad 'Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025'. Dyma rai o'r casgliadau: mae mynediad i leoliadau awyr agored

'yn cael ei wrthbwyso gan faterion yn cynnwys cynnal a chadw, hygyrchedd a chynhwysiant—yn enwedig i blant anabl'.

'Mae 37% o blant anabl fyth, neu bron byth yn chwarae’r tu allan.'

Mae hwnna'n ffigwr cywilyddus.

'Mae bodlonrwydd cyffredinol gyda chyfleoedd i chwarae wedi disgyn o 84% yn 2019 i 71% yn 2025.'

Felly, ydyn, mae'r penawdau yn wych, ond edrychwn tu ôl i'r penawdau hynny hefyd. Dyna oedd crynodeb barn 8,000 o blant a phobl ifanc Cymru am y cyfleoedd i chwarae yng Nghymru yn 2025. Fel nododd Chwarae Cymru:

'Mae’r tueddiad hwn ar i lawr yn rhybuddio bod angen sylw ar frys gan lunwyr polisi, awdurdodau lleol, a chymdogaethau.'

Gwrandewch ar eiriau rhai o blant ein cenedl, 15 mlynedd ers i’r Senedd ddeddfu i gyflwyno’r hawl i chwarae. Mae’n dorcalonnus, felly, clywed hyn o blant Cymru. Bachgen 10 mlwydd oed o Flaenau Gwent yn dweud,

'does dim offer cyfeillgar i'r anabl mewn parciau felly alla' i ddim chwarae.'

Merch ym Mhen-y-bont ar Ogwr:

'Mae peth o’r offer yn y parc wedi torri'.

A phlentyn 13 mlwydd oed o Gaerffili:

'Oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol mae ein hoffer yn cael ei dorri, ei losgi a’i fandaleiddio ac yna ddim yn cael ei adnewyddu.'

Mae hwn yn fater sy'n taro cymunedau a pharciau dros ein gwlad i gyd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:00

Rwy'n pryderu bod y cynnig yn sôn bron yn gyfan gwbl am fannau chwarae ac offer chwarae, ond rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o blant eisiau chwarae yn yr awyr agored, maent eisiau chwarae ar eu stryd, maent eisiau chwarae ar balmentydd, felly mae'r ddarpariaeth o fannau chwarae, nid dim ond mannau caeedig gydag offer chwarae, yn hanfodol. Felly, mae pethau fel llwybrau o safon ar gyfer cerdded a beicio, cyflymder is fel y gall pobl chwarae ar y strydoedd yn rhan allweddol o'r agenda hon, ond mae'n ymddangos bod eich cynnig yn anwybyddu hynny.

Na. Mae hwnnw'n bwynt da iawn, Lee Waters, ac wrth gwrs, gallech fod wedi rhoi gwelliant i fy nghynnig, rwy'n tybio. Wrth gwrs, efallai y tymor nesaf nawr, y gallech chi wneud cynnig tebyg ar y pwynt hwnnw. Na, rwy'n cytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud, ond wrth gwrs roedd y cynnig yn canolbwyntio ar barciau o fy mhrofiad fy hun, ond rwy'n derbyn y pwynt rydych chi'n ei wneud; mae'n bwynt da.

'Beth allem ni ei wneud?' yw'r cwestiwn. Wel, dwi'n credu bod angen ar frys i ni gryfhau'r ddyletswydd yn adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 fel bod awdurdodau lleol yn gorfod sicrhau cyfleoedd digonol mewn parc i blant ym mhob cymuned. Ar hyn o bryd, mae yna get-out clause yn y ddeddfwriaeth, sef hyn,

'i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol'.

Ac os ydy'r awdurdodau lleol yn ddweud dyw e ddim yn rhesymol ymarferol, yna mae get-out clause i ddarparu parc chwarae i blant ym mhob cymuned.

Mae gennym ni enghreifftiau o awdurdodau lleol fel sir Conwy yn danfon llythyrau i gynghorau tref a chymunedol yn ddweud eu bod nhw'n disgwyl iddyn nhw ddod o hyd i'r arian eu hunain i gynnal a chadw meysydd chwarae yn 2026-27. Yn wir, mae'r fath leoliadau yn dioddef oherwydd toriadau awdurdodau lleol. Gwrandewch eto ar Chwarae Cymru:

'mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn amlwg wedi arwain at ddirywiad mewn cynnal a chadw, gan adael llawer o ofodau sy’n bodoli eisoes i ddadfeilio a gydag offer ar goll.'

Gellir rhoi stop ar hyn drwy'r Senedd yn ei wneud yn ofynnol i ddeddfwriaeth i ddarparu i gynnal a chadw parciau chwarae ym mhob cymuned. Dwi'n gwerthfawrogi bod angen meddwl yn ofalus am sut rydym ni'n diffinio 'cymuned', a dwi'n derbyn y pwynt mae Lee Waters yn ei wneud, bod yn rhaid i ni feddwl yn ofalus beth rydym ni'n ei wneud am ddiffinio ble i chwarae, beth rydyn ni'n ei gynnig, ond mae'r egwyddor yn sefyll. Yn barod, o Gaerdydd i Gaergybi, mae grwpiau cymunedol wedi gorfod camu i mewn i'r adwy i godi arian a dylai fe ddim bod yn ddibynnol ar gymunedau lleol—[Torri ar draws.]

Wrth gwrs y gwnaf, Carolyn.

17:05

Ar y pwynt hwnnw: rwy'n credu y dylai cymunedau gael darpariaeth chwarae, ond pan oeddwn i ar y pwyllgor cynllunio, os oedd hyn a hyn o dai'n cael eu hadeiladu—ni allaf gofio faint, ond nid oedd yn llawer—dylent ddarparu man gwyrdd ar gyfer chwarae. Ac ar y pryd, roedd swm cymudedig o arian, £20,000 ar gyfer 10 mlynedd o chwarae i dalu am gynnal a chadw. Ond wrth i bethau ddatblygu, roedd datblygwyr yn arfer gwthio'n ôl ar hynny. Ond a ydych chi'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ei ailgyflwyno a cheisio deddfu yn ei gylch, er mwyn iddo ddigwydd?

Yn sicr. Mae hwnnw'n bwynt da iawn, Carolyn. Rwy'n credu y byddwn i gyd yn gwybod, ac yn sicr, bydd y rhai sy'n cynrychioli ardaloedd mwy trefol yn gallu rhoi enghreifftiau i chi o ddatblygiadau—datblygiadau mawr—lle nad yw hynny wedi digwydd. Lle nad yw hyd yn oed yr arian a roddwyd ar gyfer man gwyrdd neu fan chwarae wedi cael ei ddefnyddio i'r perwyl hwnnw.

Felly, diolch yn fawr, Carolyn. 

Ym Mhowys, mae Cyfeillion Parc Chwarae Trefaldwyn, ers dechrau 2020, wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r cyngor tref i ddod ag offer parc chwarae newydd i'r gymuned. Maent yn prynu offer pan fo nhw'n llwyddiannus gyda'r grantiau. Ym Mhontyberem, mae'r cyngor cymuned wedi trawsnewid y parc yn yr un ffordd trwy geisio am grantiau. Ond dylai fe ddim bod yn ddibynnol ar hynny. Mae'n drist bod gallu plant i chwarae mewn rhai o'n cymunedau yn ddibynnol ar wirfoddolwyr—gwirfoddolwyr sydd gyda'r amser, yr egni a'r wybodaeth i wneud ceisiadau am grantiau.

Rwyf yn cydnabod bod peth cefnogaeth ar gael trwy'r pecyn cymorth cymunedol, ond bydd y grwpiau yma wastad yn wynebu'r un her o flwyddyn i flwyddyn, sef cyllid. Bydd yr un broblem yn parhau yn 2026-27 ac ym mhob blwyddyn gyllideb yn dilyn hynny. Ar adeg pan fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi adrodd am ddiffyg £137 miliwn ar gyfer cyllidebau ysgolion yn unig, mae'n amlwg y bydd y £113 miliwn ychwanegol ar gyfer holl wasanaethau awdurdodau lleol ddim yn mynd yn agos at ddelio â'r mater yma. Ar 10 Mai, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn addo—a dwi'n dyfynnu:

'Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i gefnogi ein huchelgeisiau i wella cyfleoedd i chwarae, a hyrwyddo manteision chwarae er lles plant.'

Ochr yn ochr â hynny oedd addewid o fuddsoddiad o £5 miliwn. Mae'r £5 miliwn yna yn cyfateb i tua £225,000 ar gyfer bob awdurdod lleol, ac i ddinas fel Caerdydd fan hyn, sydd â dros 100 o feysydd chwarae yn ei bortffolio, dim ond cynnydd ariannol o tua £2,250 y parc. Nawr, mae ail-wynebu parc yn gallu costio £5,000. Mae un bird's nest swing, yn ôl y sôn—sori, doeddwn i ddim yn gwybod y gair Cymraeg am bird's nest swing—yn costio tua £5,500, a gall lle chwarae newydd ar gyfer cymuned fach gostio rhwng £10,000 a £40,000. A fydd, Gweinidog, cynnig mwy hael na £5 miliwn yn 2026-27?

Yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, mae dyletswydd arnom ni oll i sicrhau diogelwch ein parciau, i weithio i greu'r amgylchedd mwyaf diogel posibl. Dyma rai enghreifftiau yn 2025 o fandaliaeth i'n parciau lleol: yn y Drenewydd, siglen yn cael ei difrodi ac yn achosi gwariant o £5,000; cafodd offer ei losgi ym mharc Melin Mynach yng Ngorseinon, yn gadael cymuned yn poeni am ddiogelwch eu plant a bil o £6,000; ac yna, yn y Coed Duon, rhwygodd fandaliaid darmac y parc, a hyd yn oed difrodi llithren ar gyfer babanod. Mae'n rhaid i ni geisio cael ymdeimlad o berchnogaeth a llais i blant a phobl ifanc yn nyfodol eu meysydd chwarae.

A phan dwi'n cyfeirio atyn 'nhw', dwi'n meddwl am bob plentyn yn ein cymuned. Dwi'n meddwl am y plant anabl. Ni ddylai fod unrhyw wahaniaethu. Felly, rwy'n credu y bydd pawb yn y Senedd hon yn awyddus i weld sut mae'r Gweinidog yn ymateb i'r dystiolaeth glir fod plant anabl yn wynebu problemau llawer mwy gyda chynnal a chadw parciau, gyda hygyrchedd a gyda chynhwysiant.

Mae gwella mynediad i chwarae yng Nghymru yn rhodd wych, yn anrheg wych i'r Senedd yma i blant a phobl Cymru adeg Nadolig 2025. Dyma beth mae plant a'n hieuenctid ni ei eisiau. Dyma beth mae ein teuluoedd ifanc ni ei eisiau. A bydd creu sicrwydd, creu llefydd i blant i chwarae, yn ffordd i ddelio â chynifer o broblemau sy'n llethu'r Senedd yma o wythnos i wythnos. Diolch yn fawr.

17:10

A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yn y Siambr heddiw? Heb amheuaeth, mae sicrhau bod gan blant fynediad at chwarae yn hollbwysig. Mae'n gymaint mwy na dim ond chwarae o gwmpas gyda ffrindiau. Meysydd chwarae yw'r sbardun i genedlaethau'r dyfodol, lle gallant ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, magu hyder, a gwella lles corfforol a meddyliol wrth gwrs.

Eto i gyd, er mor bwysig ydynt, mae mannau chwarae a meysydd chwarae yn aml yn cael eu hanwybyddu a'u hanghofio, gydag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw yn cael eu gohirio'n ddiddiwedd. Dywedodd un ferch 13 oed o Gaerffili,

'Oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol mae ein hoffer yn cael ei dorri, ei losgi a'i fandaleiddio ac nid yw'n cael ei adnewyddu. Mae llawer o sbwriel, gwydr, caniau chwistrellu o gwmpas y pentref a mannau chwarae —mae angen gwaith glanhau rheolaidd.'

Felly, mae'n amlwg fod angen gwneud mwy i sicrhau bod meysydd chwarae yno, a bod modd i'r gymuned yn gyffredinol eu defnyddio. Hefyd, darllenais yr hyn a ddywedodd plant am chwarae yn adroddiad Cymru gyda diddordeb mawr, ac roedd yn syndod canfod bod 28 y cant o blant a phobl ifanc yn eu harddegau erioed o'r braidd wedi chwarae y tu allan mewn parc.

Nodwyd problemau gydag offer chwarae a oedd mewn cyflwr gwael ac wedi torri yn yr adroddiad, yn ogystal â phryderon diogelwch, gyda gwydr wedi'i dorri a strwythurau chwarae wedi'u difrodi yn nodwedd gyffredin. Rheswm amlwg arall pam nad yw plant yn chwarae yn yr awyr agored yw am nad ydynt yn cael mynd allan ar eu pen eu hunain. Mae yna lu o ffactorau pam na allant fynd allan ar eu pen eu hunain, ond mae rhieni'n aml yn teimlo'n rhy ofnus i adael iddynt fynd allan oherwydd pryderon diogelwch.

Dywedodd merch 12 oed o Gasnewydd wrth yr adroddiad 'Yr hyn y mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025' nad oedd hi'n cael mynd allan heb oedolyn am nad yw'r ardal yn ddiogel. Nododd plentyn arall o'r ddinas, sy'n 14 oed, fod delio cyffuriau yn yr ardal gyfagos yn rheswm pam na châi fynd allan, gan ychwanegu eu bod yn rhy ofnus i chwarae y tu allan. Mae hynny'n adlewyrchiad trist iawn o'r gymdeithas heddiw, ac rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth, yn ogystal ag ystod o randdeiliaid allweddol, edrych ar hyn ar gyfer y dyfodol, gan na ddylai atal ein pobl ifanc rhag cael mynediad at chwarae.

Hoffwn gyffwrdd â'r gofynion ar gyfer cyfleoedd chwarae i blant anabl. Rwy'n gwybod bod Rhys ab Owen wedi cyffwrdd â hyn yn ei gyflwyniad, ond synnais glywed, Ddirprwy Lywydd, mai dim ond 11 y cant o feysydd chwarae sy'n cael eu dosbarthu fel rhai 'gwyrdd', sy'n golygu eu bod yn hygyrch a chynhwysol, gyda 47 y cant yn cael eu graddio'n 'goch', sy'n golygu lefel wael o hygyrchedd. Ddirprwy Lywydd, nid oes gan 30 y cant o feysydd chwarae lwybrau hygyrch yn arwain atynt, ac nid yw 18 y cant o gatiau meysydd chwarae'n ddigon llydan ar gyfer cadair olwyn. Dim ond dau o'r rhwystrau sy'n atal plant anabl rhag cael mynediad at chwarae yw'r rheini, ac rwy'n croesawu unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ailwampio meysydd chwarae a phrynu offer cynhwysol. Rwy'n gobeithio y bydd yr hwb ariannol hwn yn mynd yn bell i drawsnewid chwarae i blant anabl, ond hoffwn wybod gan y Gweinidog heddiw sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni hyn mewn gwirionedd.

Ddirprwy Lywydd, mae mynediad at chwarae yn llawer mwy na dim ond meysydd chwarae mewn cymuned leol. Mae'n ymwneud â rhoi cyfle i blant fynd allan ac yn llythrennol i redeg yn wyllt. Yn fy rhanbarth i, rydym yn ffodus iawn i gael llefydd gwirioneddol anhygoel i blant fynd allan i'r awyr agored ac archwilio, yn cynnwys Tŷ Tredegar, mynydd Caerffili, y coedwigoedd o amgylch castell Rhiwperra, Parc Belle Vue, ac nid heb ei heriau, parc sblash Casnewydd hefyd. Dyma rai o'r ardaloedd lle treuliais lawer o ddyddiau fy mhlentyndod, ac rwy'n siŵr fod gan lawer o Aelodau yn y Siambr hon atgofion o leoedd tebyg y byddent yn eu mynychu pan oeddent yn iau.

Gall mynd allan i'r awyr iach fod yn donic go iawn, a dyna pam rwy'n credu bod penderfyniad y Llywodraeth i wrthod Bil fy nghyd-Aelod Sam Rowlands ar addysg awyr agored yn bilsen arbennig o chwerw i'w llyncu. Byddai Bil Sam wedi sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at brofiad addysg breswyl awyr agored wythnos o hyd, a fyddai wedi arwain at wella iechyd corfforol a llesiant, ochr yn ochr â gwella dysgu personol a chymdeithasol hefyd. Mae'n drueni mawr bod y Bil hwn wedi'i wrthod, ac rwy'n teimlo bod y Llywodraeth yn sicr wedi colli cyfle yn hynny o beth.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae llawer mwy i'w wneud i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael mynediad at chwarae, ac rwy'n falch iawn o ddweud y byddaf yn cefnogi cynnig Rhys ab Owen heddiw. Diolch yn fawr.

17:15

Roeddwn i'n un o'r cyd-awduron, ac yn sicr byddaf yn ei gefnogi. Mae chwarae'n bwysig i blant, ar gyfer eu haddysg a'u lles. Gall Cymru fod yn falch o fod y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer hawl plant i chwarae. Mae Cymru'n cael ei gweld, yn rhyngwladol, fel cenedl flaenllaw mewn chwarae. Mae chwarae wedi ymddangos mewn dadleuon diweddar yn Senedd y DU, gydag ymwybyddiaeth gynyddol a chefnogaeth i ddeddfwriaeth digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn Lloegr wrth iddynt geisio dal i fyny â ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i fuddsoddi mewn meysydd chwarae, mannau chwarae, a phrosiect gwyliau gwaith chwarae. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae, dyletswydd statudol i asesu, a chyn belled ag y byddai'n rhesymol ymarferol, i sicrhau digon o gyfleoedd i blant i chwarae yn eu hardaloedd.

Mae asesiad digonolrwydd cyfleoedd chwarae Abertawe yn amlinellu'r gwaith y maent wedi'i wneud ar helpu'r rhai a allai fod angen cymorth i gael mynediad at gyfleoedd chwarae, darparu mannau digonol i blant chwarae, darparu darpariaeth ddigonol dan oruchwyliaeth, darparu mynediad at gyfleoedd chwarae digonol am ddim, sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae, ac ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfleoedd chwarae. Mae nifer fawr o feysydd chwarae ac offer newydd, sy'n addas ar gyfer plant o bob oed, naill ai wedi'u creu neu eu hailwampio yn Abertawe, rhai wedi'u hariannu gan Gyngor Abertawe, rhai wedi'u hariannu'n rhannol neu'n llawn gan gynghorau cymuned, a rhai wedi'u hariannu gan sefydliadau cymunedol fel Clase for All, sydd wedi cael arian loteri.

Mae miloedd o bobl ifanc mewn cymunedau ledled Abertawe yn elwa o'r buddsoddiad mawr yn seilwaith chwarae'r ddinas, gan fod Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i uwchraddio mwy na 60 o fannau chwarae cymunedol. Mae'r uwchraddio'n rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i fuddsoddi mewn mannau chwarae am ddim, sydd wedi gweld y cyngor yn cytuno i £1 filiwn arall ar eu cyfer yn y flwyddyn i ddod, ac mae cyfanswm y buddsoddiad hyd yma yn £8 miliwn.

Edrychwch ar un o'r datblygiadau ym Mharc Brynmelyn yn Waun Wen, lle mae'r uwchraddiadau wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a babanod, sy'n bwysig iawn, oherwydd weithiau mae gennych fan chwarae i blant ifanc iawn neu mae gennych fan chwarae i blant hŷn, ond nid man chwarae i'r ddau oedran. Erbyn hyn, yn y man chwarae i rai yn eu harddegau ceir cyfuniad o siglen fasged a siglen wastad, uned aml-chwarae iau gyda nodweddion chwarae uchel ac isel, a charwsél uwchben y ddaear. Mae'r man chwarae i fabanod yn cynnwys uned aml-chwarae i fabanod, uned dwy siglen gyda sedd i rai anabl, sedd 'chi a fi' a dwy sedd crud, si-so i bedwar, trampolîn gyda draeniad yn rhan ohono, a sbonciwr.

Mae angen inni bob amser wneud yn siŵr fod offer chwarae ar gael i'r rhai sydd ag anableddau, gwneud yn siŵr eu bod yn gallu mynd i mewn, gwneud yn siŵr fod modd iddynt ddefnyddio'r offer. A wnaiff y Gweinidog longyfarch Cyngor Abertawe ar y pwyslais y mae'n ei roi ar chwarae a'i fuddsoddiad mewn offer chwarae newydd? A gaf i ofyn i'r Gweinidog ddod i ymweld â rhai ohonynt yn y flwyddyn newydd? Buaswn yn hoffi gofyn iddi ymweld â phob un ohonynt, ond mae'n debyg y byddai hynny'n cymryd y rhan orau o bythefnos.

Mae buddsoddiadau eraill wedi bod yn digwydd mewn mannau chwarae aml-ddefnydd sydd wedi'u creu neu eu hadnewyddu mewn sawl parc ac yn hynod boblogaidd gyda phlant hŷn. Ym mharc Treforys, mae rhywbeth mor syml â set o byst gôl a chylchoedd pêl-fasged wedi'u gosod ac wedi gwneud y parc yn llawer mwy deniadol i blant, ac maent yn cael eu defnyddio. Rydym wedi gweld datblygiad caeau chwaraeon 3G a 4G, sy'n caniatáu i blant chwarae ar ôl glaw trwm. Mae angen mwy ohonynt, ond mae croeso mawr i'r datblygiadau sydd wedi'u creu. Mae weirs gwib byr mewn parciau'n boblogaidd iawn gyda phlant, ac nid ydynt wedi arwain at unrhyw ddamweiniau.

Yn olaf, mae angen inni gael plant i sylweddoli bod chwarae allan gydag eraill yn bleserus ac yn dda iddynt, a lleihau eu defnydd o offer electronig ar gyfer chwarae. Nid gweithgaredd i'w wneud ar eich pen eich hun yw chwarae. Nid yw'n rhywbeth rydych chi'n ei wneud yn eich ystafell wely. Mae'n rhywbeth rydych chi'n ei wneud y tu allan gydag eraill. Rwy'n cefnogi'r hyn a gyflwynwyd gan Rhys ab Owen yn fawr.

Roeddwn i'n un o gyd-gefnogwyr y cynnig, ac rwy'n ddiolchgar i Rhys am ddod â hyn i'r Senedd. Rydym yn gwybod nad moethusrwydd yw chwarae i blant—mae'n allweddol i'w hapusrwydd, eu hiechyd a'u datblygiad. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr a chyda sefydliadau brwd, drwy'r grwpiau trawsbleidiol ar blant a phobl ifanc, i ddatblygu'r Bil pob plentyn. Yn y Bil hwnnw, rydym yn galw am hawl statudol gryfach i gyfleoedd chwarae, gyda dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus i sicrhau'r gwasanaethau hynny yn unol ag arfer gorau cenedlaethol.

Mae miloedd o blant a phobl ifanc yn colli mannau diogel i chwarae, i gymdeithasu, i fod yn blant. Fel eraill sydd wedi siarad, hoffwn glywed yn benodol gan y Gweinidog ar fater mynediad i blant anabl allu chwarae. Dylai clywed bod 37 y cant o blant anabl yng Nghymru yn dweud nad ydynt byth neu bron byth yn chwarae yn yr awyr agored fod yn ffigur i beri dychryn i ni. Mae angen inni sicrhau bod ein holl gyfleusterau wedi'u cynllunio gyda nhw ac yn canolbwyntio arnynt. Rhaid inni fod yn Senedd gynhwysol.

Hefyd, rwy'n awyddus inni ystyried pobl ifanc yn eu harddegau a phlant hŷn, oherwydd weithiau rydym yn gweithredu fel pe bai'r ddarpariaeth chwarae yn dod i ben yn 12 oed. Mae plant hŷn a phobl ifanc angen mwy na dim ond mannau lle gallant ddod at ei gilydd; maent angen lleoedd lle gallant chwarae, bod yn egnïol, cymdeithasu a datblygu. Mae'r dystiolaeth ddinistriol yn siarad drosti ei hun. Fe wnaethom golli 62 y cant o'n canolfannau ieuenctid rhwng 2010 a 2024. Mae nifer y plant sy'n mynd i glybiau ieuenctid wedi gostwng o 10 y cant yn 2019 i 7 y cant. Nid yw'n syndod fod pobl ifanc yn teimlo nad oes lle iddynt yn eu cymunedau eu hunain. Nid yw maes chwarae wedi'i ffensio a adeiladwyd ar gyfer plant iau yn diwallu anghenion plentyn 15 oed, plentyn anabl neu gymuned oedran cymysg. Mae angen inni gynllunio'n well gyda phlant a phobl ifanc, a chyda phlant anabl yn benodol hefyd.

Rwyf am sôn i orffen am bwysigrwydd cryfhau'r hawl i chwarae, fel y clywsom. Pan gyflwynwyd adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gyda'r ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae, roedd yn wirioneddol arloesol. Ond dros ddegawd yn ddiweddarach, rhaid inni ofyn a yw'n dal i fod yn addas i'r diben. Nid ym mharciau cynghorau'n unig y mae chwarae'n digwydd; mae'n cael ei siapio gan gynghorau tref a chymuned, gan ein parciau cenedlaethol, gan benderfyniadau iechyd cyhoeddus a pholisi cynllunio a thrafnidiaeth, fel y clywsom. Os yw chwarae'n torri ar draws pob un o'r meysydd hyn—fel y mae—ni all y cyfrifoldeb am ddiogelu cyfleoedd chwarae orffwys ar ysgwyddau awdurdodau lleol yn unig.

Dyna pam y mae'r Bil pob plentyn yn cynnig ehangu'r ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae, fel bod pob corff cyhoeddus y mae ei benderfyniadau'n siapio amgylcheddau plant yn rhannu'r cyfrifoldeb hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â chynllunio strategol, nid â bai, ac â llunio cymunedau sy'n gweithio i blant, gyda phlant, o'r cychwyn cyntaf. Mae hefyd yn rheswm pam y mae'r Bil yn galw am Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc, gydag awdurdod trawsbynciol go iawn. Mae'r adolygiad gweinidogol yn cydnabod yr angen i gydweithio ar draws y Llywodraeth, ond nid yw cydnabyddiaeth heb newid strwythurol yn ddigon.

I orffen, ni oedd y cyntaf i ddeddfu ar gyfer hawl plant i chwarae. Gadewch inni fod yn gyntaf i fynd ati o ddifrif i gyflawni'r addewid hwnnw nawr. Diolch yn fawr iawn.

17:20

Rwy'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl hon, a diolch i Rhys am ei chyflwyno. Rwy'n falch iawn o gefnogi ei gynnig.

Fel y dywedodd Jane, nid moethusrwydd yw chwarae, ond hawl sylfaenol. Dyma sut y mae plant yn dysgu, yn magu hyder, yn ffurfio cyfeillgarwch a deall y byd o'u cwmpas. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn gwneud hyn yn glir, ac mae Cymru wedi bod yn falch o arwain y ffordd ar gydnabod hawliau plant.

Rwyf hefyd yn falch iawn fod Caerdydd yn cael ei chydnabod fel dinas sy'n gyfeillgar i blant Cronfa Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Plant (UNICEF), gan fy mod yn cynrychioli rhan o Gaerdydd, fel y mae Rhys. Rwy'n credu bod hon yn gydnabyddiaeth bwysig iawn, oherwydd mae'n rhaid i chi gyrraedd safonau penodol i gael eich cydnabod fel dinas sy'n gyfeillgar i blant, ac un ohonynt, wrth gwrs, yw cynnwys plant yn y broses o wneud penderfyniadau ac i weld mai'r ddarpariaeth sydd gennym yw'r hyn y maent ei eisiau. 

Soniodd Jane am ddarpariaeth ieuenctid. Mae wedi bod yn ddinistriol, y ffordd y mae'r ddarpariaeth ieuenctid wedi cael ei difa dros nifer o flynyddoedd. Ond nawr mae'n dod yn ôl, diolch i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i awdurdodau lleol am y rheswm hwn. Yn sicr yng Nghaerdydd, mae gennym nifer o glybiau ieuenctid wedi dechrau bellach, sy'n hollol allweddol, rwy'n credu, ar gyfer mynediad agored, lleoedd i blant a phobl ifanc fynd, a chael oedolion y gallant siarad â nhw. Rwy'n credu ei bod yn wych fod hynny'n digwydd yma yng Nghaerdydd.

Mae'r ffaith mai ni yw'r genedl gyntaf yn y byd i basio deddf am gyfleoedd i chwarae eisoes wedi'i grybwyll. Rwy'n credu bod hynny'n beth beiddgar i'w wneud. Mae hynny'n rhoi'r rhwymedigaeth arnom i greu llefydd lle gall plant chwarae, lle gallant chwarae'n rhydd ac yn ddiogel, a lle gallant chwarae'n agos at adref. Hoffwn dalu teyrnged i'r sefydliadau gwych sy'n ymwneud â chwarae. Mae Chwarae Cymru wedi arloesi ym maes chwarae, ac rwy'n credu ei bod hi mor bwysig ein bod yn eu cefnogi fel Llywodraeth a'n bod ni'n parhau i'w cefnogi. Oherwydd fe wyddom fod plant yn wynebu rhwystrau i chwarae, gyda phrinder mannau gwyrdd. Rydym eisoes wedi siarad am anghydraddoldeb o ran mynediad.

Os ydym o ddifrif am hawliau plant, rwy'n credu bod rhaid inni wneud yn siŵr ei fod wedi'i ymgorffori ym mhob darn o bolisi, polisïau fel cynllunio a thai. Rydym eisoes wedi clywed heddiw am dai newydd yn cael eu hadeiladu ac nid yw'r mannau chwarae yno. Nid oes raid iddynt fod yn fannau chwarae a gynlluniwyd yn benodol, ond dylai fod man agored lle gall plant fod yn rhydd i ddefnyddio eu dychymyg eu hunain a chreu eu lleoedd eu hunain. Mae'r rhain i gyd yn benderfyniadau sy'n cael eu gwneud pan fyddwn yn cynllunio. Yn amlwg, mae'r system drafnidiaeth yn allweddol, a hefyd mae'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y gymuned yn allweddol. 

Rydym eisoes wedi clywed am blant anabl. Rwy'n credu bod rhaid bod cynllun yno i greu mannau chwarae cynhwysol. Rhaid i gynllunio da ystyried barn plant, ond hefyd barn y gymuned, oherwydd gwyddom fod llawer o fannau chwarae a llawer o'r ddarpariaeth chwarae yn cael eu datblygu gan y gymuned. Rwyf hefyd yn canmol strydoedd chwarae. Rwy'n gwybod bod gennym nifer o'r rheini yng Nghaerdydd, lle mae'r traffig wedi'i gyfyngu fel y gall plant chwarae yn y strydoedd hynny. Hoffwn dalu teyrnged i grŵp cymunedol yn ardal y Mynydd Bychan yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd sy'n ymgyrchu i ailddatblygu ac ailgynllunio ardal ym mharc y Mynydd Bychan yn arbennig ar gyfer plant. Rwy'n credu y bydd cael y gymuned yn rhan o bethau'n sicrhau bod y mannau hynny yr hyn y mae plant a theuluoedd ei eisiau. 

Mae buddsoddi mewn chwarae yn fuddsoddi mewn plant, mae'n fuddsoddi mewn cymunedau, ac mae'n dangos i blant eu bod yn werthfawr yn ein cymuned. Nhw yw'r bobl bwysicaf yn ein cymdeithas, a rhaid inni weithio i sicrhau bod ganddynt gyfleusterau i ddatblygu eu hunain, a dyna beth y mae chwarae yn ei roi iddynt. Diolch.

17:25

Yn gyntaf, rwy'n datgan buddiant—nid wyf yn siŵr a oes rhaid i mi—fel ymddiriedolwr ar gyfer Parc Brynbuga a Chlwb Trac Pwmp Brynbuga.

Diolch yn gyntaf i'r Aelod, Rhys ab Owen, am gyflwyno hyn i'r Senedd heddiw. Mae'r ddadl hon yn bwysig, oherwydd nid ymwneud â hamdden yn unig y mae chwarae, dyma lle mae gweithgarwch corfforol yn dechrau, lle mae hyder yn cael ei fagu a lle mae llawer o blant yn darganfod cariad at chwaraeon ac ymarfer corff am y tro cyntaf. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, rwyf i a'r grŵp trawsbleidiol wedi gweld yn glir iawn y cysylltiad rhwng mynediad at chwarae pan fydd plant yn ifanc a chymryd rhan mewn chwaraeon yn ddiweddarach mewn bywyd. Os nad yw plant yn symud, dringo, rhedeg a chwarae yn yr awyr agored, maent yn llawer llai tebygol o ymuno â thimau, defnyddio cyfleusterau neu aros yn egnïol fel pobl ifanc neu oedolion.

Dyna pam y dylai'r canfyddiadau yn adroddiad Chwarae Cymru beri pryder i bawb ohonom, ond yn sicr nid ydynt yn fy synnu. Mae parciau a chyfleusterau chwaraeon yn gyffredinol wedi bod ar waelod rhestr blaenoriaethau'r Llywodraeth ers degawdau. Mae llai o foddhad, offer mewn cyflwr gwael ac wedi torri a diffyg darpariaeth i blant hŷn yn awgrymu nad yw'r system yn diwallu anghenion plant. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod boddhad cyffredinol â chyfleoedd i chwarae wedi gostwng o 84 y cant yn 2019 i ddim ond 71 y cant heddiw, ffaith a ddylai seinio larymau i ni i gyd. Yn rhy aml, rydym yn siarad am strategaethau a hawliau newydd, ond mae teuluoedd yn dweud stori lawer symlach wrthym: mae'r maes chwarae yno, ond mae ar gau; mae'r offer yno, ond mae wedi torri; mae'r gofod yn bodoli, ond nid yw'n addas ar gyfer plant hŷn, plant anabl neu'r rhai sydd eisiau bod mewn man diogel i fod yn egnïol. Mae hon yn broblem fawr mewn ardaloedd gwledig a lled-wledig. Nid yw gofod ar ei ben ei hun yn cyfateb i fynediad. Gall pellter, trafnidiaeth, cynnal a chadw gwael a diffyg cynllun cynhwysol wneud cyfleusterau'n anaddas i bob pwrpas, yn enwedig i blant anabl a theuluoedd heb geir. Mae'n broblem anghydraddoldeb ehangach hefyd. Mae rhai cymunedau yn elwa o fannau chwarae aml-ddefnydd modern, cyfleusterau chwaraeon ysgol a chaeau 3G sydd ar gael y tu hwnt i oriau ysgol. Ond yn anffodus, mae llawer o gymunedau nad ydynt yn elwa o'r cyfleusterau hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae buddsoddiad mewn cyfleusterau pob tywydd yn enwedig yn hanfodol.

Mae'r mynediad anwastad hwnnw'n effeithio'n uniongyrchol ar gyfleoedd plant i fod yn egnïol ac i gymryd rhan mewn chwaraeon. Dyma'r union broblem sydd wedi codi dro ar ôl tro gyda'r grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, lle rydym yn clywed am gyfleusterau mewn cyflwr gwael, mynediad yn lleihau a disgwyl i gymunedau wneud mwy gyda llai.

Pan fydd Reform yn Llywodraeth fis Mai nesaf, byddwn yn llawer mwy uchelgeisiol gydag agor cyfleusterau ysgolion, buddsoddi mewn mannau aml-ddefnydd gwydn a chefnogi grwpiau cymunedol sy'n ceisio cadw mannau chwarae lleol yn fyw gydag adnoddau cyfyngedig. Mae ein pobl ifanc yn eu harddegau'n crefu am gampfeydd awyr agored mewn parciau a thraciau pwmp. Mae angen inni weithio gyda phlant ar gyfer plant, fel y dywedwyd eisoes—mae'n bwysig iawn. Rhywbeth a wnaethom ni yn sicr oedd ymgysylltu â'r gymuned a'r plant yn y gymuned honno wrth ddatblygu parc lleol yn fy nghymuned.

Mae bron un o bob tri phlentyn yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew bellach. Addawodd Llywodraeth Cymru gynllun atal drwy fuddsoddi mewn gweithgarwch corfforol a chyfleusterau chwaraeon, ond yn lle hynny, rydym wedi gweld parciau'n cau, offer mewn cyflwr gwael, llai o fynediad, gan adael plant â llai o gyfleoedd i fod yn egnïol, nid mwy, a mwy o berygl o fod yn ordew. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag atal, ynglŷn â mynd i'r afael â gordewdra, ynglŷn ag iechyd meddwl ac am roi dechrau teg i bob plentyn, rhaid trin mynediad at chwarae fel seilwaith hanfodol, nid ychwanegiad opsiynol pan fydd cyllidebau'n caniatáu.

Rwy'n cefnogi unrhyw ddull o weithredu sy'n canolbwyntio ar gyflawni ymarferol, cynnal a chadw priodol a mynediad teg i bob plentyn, ble bynnag y maent yn byw. Rwy'n cefnogi'n llwyr yr hyn y mae'r Aelod, Rhys ab Owen, yn ei gynnig heddiw. Diolch.

17:30

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r cynnig.

Mae gan bob plentyn hawl i chwarae a mynediad i fannau gwyrdd ac mannau chwarae. Dylent allu cerdded yno hefyd a pheidio â gorfod cael eu cludo yn y car. Yn y ffordd honno, maent yn dysgu sut i fod yn annibynnol. Maent hefyd yn lleoedd gwych i deuluoedd. Mae'n golygu y gall teuluoedd ddod i adnabod ei gilydd, ac mae'n adeiladu cymunedau cryf ac yn gwrthsefyll ynysu cymdeithasol hefyd i famau a rhieni ifanc.

Yn fy ardal i hefyd, roedd gennym gynlluniau chwarae haf yn y parciau chwarae, a golygai y byddai'r plant yn cyfarfod yn y parc ar adeg benodol a byddent yn cael eu harwain gan arweinwyr chwarae a fyddai'n mynd ymlaen i gael gyrfa mewn addysg o bosib, neu weithio gyda phobl ifanc, neu fel arweinwyr ieuenctid. Pan fyddent yn y man chwarae, roedd yn golygu y byddent yn aros allan ac yn parhau i chwarae gyda'i gilydd, a oedd yn wirioneddol wych. A dyna fyddai eu gwyliau i rai pobl ifanc nad oeddent yn cael gwyliau, cyfarfod yn y man chwarae lleol ar adeg benodol, dan arweiniad arweinydd chwarae, a chwarae allan drwy'r dydd. Teimlent mai dyna oedd eu gwyliau am ychydig wythnosau. Rwy'n gwybod bod ein bod ni wedi gorfod trefnu ein gwyliau gwersylla fel nad oedd yn cyd-daro â'r cynllun chwarae.

Fel y dywedais yn flaenorol, dechreuodd fy nhaith i i mewn i'r byd gwleidyddol am fod y troellwr wedi'i dynnu o'r man chwarae ar draws y ffordd ac roedd fy mhlant yn siomedig iawn, felly gofynnais i'r cyngor cymuned ariannu un newydd, ac fe wnaethant ddweud na allent fforddio gwneud hynny. Costiai oddeutu £7,000, a oedd yn swm syfrdanol bryd hynny mewn gwirionedd, ond roedd y gost o osod un newydd yn ei le yn fawr. Felly, pan ddeuthum yn gynghorydd sir, sefydlais gynllun arian cyfatebol er mwyn i'r cyngor sir roi'r un faint o arian â'r cyngor cymuned tuag at brynu darn o offer, i'w wneud yn fwy fforddiadwy.

Fe wnaethom sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a marcio mannau chwarae neu eu sgorio'n goch, oren, gwyrdd, ac fe gafodd y rhai a gafodd sgôr goch arian yn gyntaf, os oedd arian ar gael. Yna, dros y 12 mlynedd wedyn, adnewyddwyd pob un o'r 172 o fannau chwarae yn sir y Fflint. Yn wreiddiol, roeddent eisiau eu had-drefnu, am eu bod yn dweud na allent fforddio cymaint ohonynt, ond o leiaf drwy wneud hynny, fe gawsant eu hachub. Ac fe wnaethom ddefnyddio arian 106 o gynllunio—pe bai mwy na dau neu dri thŷ, roedd yn rhaid iddynt dalu swm ymrwymedig am fan chwarae a oedd yn bodoli'n barod, ond os oedd dros 15, rwy'n credu, roedd yn rhaid iddynt gael man gwyrdd o fewn y datblygiad, ac roedd hynny'n gweithio'n dda iawn.

Cynlluniwyd yr holl fannau chwarae mewn ymgynghoriad â phobl ifanc. Roedd hynny'n bwysig iawn, oherwydd mewn rhai mannau fe wnaethom osod podiau hefyd. Felly, pan oedd y rhieni'n cwyno am bodiau a phobl ifanc yn eu harddegau yn dod at ei gilydd yn y parciau, byddem yn dweud, 'Wel, fe ddigwyddodd mewn ymgynghoriad â'ch plentyn mewn gwirionedd.'

Roeddent hefyd yn lleoedd pwysig iawn ar gyfer chwaraeon llawr gwlad. Fe fuom yn siarad am y mannau chwarae aml-ddefnydd i bobl fynd i chwarae pêl-fasged, i fynd i daflu pêl drwy gylch, ac yna daeth rhagor, pêl-droed yn ogystal, ac yn y man chwarae ger lle rwy'n byw, fe wnaethom adeiladu trac pwmp BMX hefyd, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn, i ddatblygu sgiliau beicio mewn lle diogel.

Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu'r hawl i chwarae, ac mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae. Rwy'n hoffi'r syniad a gynigiwyd gan Jane Dodds a'r grŵp rydych chi wedi bod yn gweithio gyda nhw ynglŷn â chynnwys yr holl awdurdodau cyhoeddus. Rwy'n credu bod hwnnw'n awgrym da iawn ar gyfer y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Chwarae Cymru, sydd wedi bod yn dda iawn am ysgogi cyfleoedd chwarae i bobl ifanc, gan weithio gydag awdurdodau lleol. Mae gennym Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, a'n plant yw ein dyfodol. Rhaid inni fuddsoddi ynddynt, rhoi llais iddynt, ac rwy'n cefnogi'r cynnig hwn a gyflwynwyd.

17:35

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw fel cyd-gyflwynydd y ddadl a'r cynnig hwn, ac a gaf i ddiolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl heddiw a gweithio ar hyn fel y mae wedi'i wneud? O'm rhan i, fe wyddom pa mor bwysig yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ond hefyd fe wyddom mai Cymru, o bedair gwlad y DU, sydd â'r lefelau gordewdra uchaf, yn anffodus. Rydym hefyd yn gwybod bod y DU ymhlith y gwledydd lle mae gordewdra ymhlith plant ar ei uchaf ledled Ewrop. Felly, os oes unrhyw reswm i'r Llywodraeth heddiw a'r Llywodraeth nesaf gefnogi cryfhau deddfwriaeth mewn perthynas ag awdurdodau lleol, gan sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at fannau chwarae, dyma fe, oherwydd fe wyddom am y cysylltiad rhwng gordewdra ymhlith plant a chwarae a gweithgarwch corfforol.

Cefais fy nharo gan yr hyn a ddywedodd Carolyn Thomas hefyd, a soniodd mewn ymyriad cynharach—rwy'n credu bod eraill wedi sôn hefyd—am les cynllunio, ac mae hyn yn bwysig, oherwydd, mor aml, yn rhan o geisiadau cynllunio, mae lles cynllunio yn cael ei gynnwys, ac mae gofyniad i'r datblygwr ddarparu man agored neu fan chwarae. Ond mor aml, fe wyddom—ac rwy'n gwybod yn fy mhrofiad fy hun drwy waith achos—nad yw'r datblygwr wedyn yn darparu'r hyn sy'n ofynnol drwy'r caniatâd cynllunio. Weithiau, mae 10 mlynedd yn mynd heibio, ac mae gennyf etholwyr sy'n dal i fynd ar ôl yr awdurdod lleol i sicrhau bod y datblygwr yn ymrwymo i'r hyn y gwnaethant ei gytuno pan gymeradwywyd y caniatâd cynllunio. Weithiau, wrth gwrs, mae'r datblygwr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Felly, wrth gryfhau deddfwriaeth neu reoleiddio mewn unrhyw fodd, rhaid ystyried hyn hefyd i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei osod naill ochr, os mynnwch, i sicrhau nad yw cymunedau lleol yn cael eu hanghofio yn sgil lles cynllunio drwy geisiadau cynllunio.

Hefyd, ple arall sydd gennyf yn y ddadl hon yw bod unrhyw gyllid grant yn aml yn gysylltiedig â mannau chwarae newydd. Ond mor aml rydym yn edrych o gwmpas ac fe welwn fannau chwarae wedi dirywio. Maent yn edrych yn anniben. Rwy'n hoffi meddwl eu bod yn ddiogel, ond nid ydynt yn edrych yn dda o gwbl. Nid ydynt yn edrych yn apelgar. Weithiau, nid oes angen cyllid grant newydd i gael man chwarae newydd o reidrwydd, dim ond gwella man chwarae presennol. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth i'w ystyried hefyd, pan fyddwn yn meddwl am unrhyw ofynion sydd eu hangen ar gyfer cefnogi mannau chwarae newydd. Gadewch inni edrych ar gynyddu'r hyn sydd gennym eisoes a gwneud yn siŵr eu bod yn fannau da a diogel, ac yn apelgar i blant fynd i chwarae ynddynt. Diolch, Lywydd.

17:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau a gyflwynodd y cynnig hwn heddiw ac i'r rhai a gyfrannodd at y ddadl.

Fel y nodwyd yn y cynnig a chan lawer o Aelodau yn y ddadl heddiw, Cymru, wrth gwrs, oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros hawl plant i chwarae, o dan adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a dylem fod yn falch iawn fod Cymru'n parhau i arwain y ffordd ar hyrwyddo hawl plant i chwarae.

Mae ein dyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru asesu a sicrhau digon o gyfleoedd chwarae. Roedd yn dda clywed gan Mike Hedges am y darpariaethau cadarnhaol yn Abertawe, ac rwy'n sicr yn llongyfarch Abertawe ar hynny, Mike. A buaswn yn falch iawn o ymweld ar ryw adeg. Ac mae yna lawer o enghreifftiau eraill tebyg o gyfleusterau rhagorol ledled Cymru. Soniodd Julie Morgan am barc y Mynydd Bychan yn ei hetholaeth hi, a gallaf dynnu sylw at nifer o fannau chwarae a pharciau gwych yn fy etholaeth fy hun.

Ond ers deddfu i gefnogi chwarae plant, rydym wedi parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a Chwarae Cymru i gefnogi'r gwaith o weithredu'r dyletswyddau. Yn 2019 fe wnaethom ddechrau edrych yn fanwl a chydweithredol ar ein gweledigaeth ar gyfer chwarae a'n nodau chwarae. Roedd yr adroddiad ar adolygiad gweinidogol y grŵp llywio ar chwarae, a gyhoeddwyd yn 2023, yn gwneud argymhellion allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyhoeddwyd adroddiad cynnydd yn gynharach eleni ar gamau sy'n cael eu datblygu a'n huchelgais parhaus i wella cyfleoedd chwarae i bob plentyn yng Nghymru. Rydym wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i hanimeiddio a chyfeillgar i blant o'r adroddiad cynnydd, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd yr effaith bwerus y mae chwarae yn ei chael ar lesiant a datblygiad plant, a chafodd ei nodi gan nifer o gyfranwyr yn y ddadl heddiw.

Nawr, mae gan Gymru lawer o gyfleoedd chwarae gwych i blant ledled y wlad ac rydym yn parhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed ac yn canolbwyntio ar weithio ar y cyd i gyrraedd nodau'r adolygiad o chwarae. Fel y nodwyd yn y ddadl hefyd, mae statws Cyngor Caerdydd fel dinas gyntaf y DU sy'n gyfeillgar i blant dan achrediad UNICEF yn dyst i ymrwymiad yr awdurdod lleol hwnnw i hawliau a llesiant plant, ac ni ddylid ei ddiystyru na'i fychanu. Nid yw'n statws hawdd ei gyflawni, fel y nododd Julie Morgan—mae yna safonau trwyadl y mae'n rhaid eu bodloni. Ond mae plant yn bendant yn y canol yn ein deddfwriaeth, ein polisïau a'n canllawiau er mwyn i awdurdodau lleol hyrwyddo hawl plant i chwarae ac i gefnogi ein gweledigaeth ar y cyd i Gymru gyfan fod yn gyfeillgar i chwarae.

A thra bwyf yn croesawu'r cynnig sydd o'n blaenau a'r gefnogaeth drawsbleidiol y mae wedi'i ddenu, fel y nododd yr Aelodau'n gywir, mae chwarae'n hanfodol i iechyd, hapusrwydd a datblygiad plant. Ac mewn perthynas â phwyntiau 2, 3 a 4 o'r cynnig, a gaf i ddweud cymaint rwy'n gwerthfawrogi clywed lleisiau plant wedi'u crybwyll yn adroddiad Chwarae Cymru? Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd chwarae hygyrch a chynhwysol, ac i lawer o blant, mae mannau chwarae gyda siglenni, sleidiau ac offer yn lleoedd pwysig, ond nid dyma'r unig fathau o fannau chwarae y mae plant yn hoffi chwarae ynddynt.

Fel yr Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu heddiw, roeddwn innau hefyd yn siomedig o glywed bod gostyngiad wedi bod yng nghanran y plant sy'n fodlon â'u cyfleoedd i chwarae a chanran y plant sy'n nodi na chaniateir iddynt chwarae'n annibynnol, a byddwn yn edrych ymhellach ar hyn, ochr yn ochr ag adroddiad cyflwr chwarae 2025 a fydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar y flwyddyn nesaf i helpu i nodi'r tueddiadau a'r materion allweddol sydd wedi'u nodi gan awdurdodau lleol yn eu cynlluniau digonolrwydd cyfleoedd chwarae.

Nawr, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad Chwarae Cymru i gael safbwyntiau plant a gasglwyd gan awdurdodau lleol yn rhan o'u hasesiadau digonolrwydd cyfleoedd chwarae, a chefais fy nghalonogi gan rai o'r sgyrsiau gwerthfawr a gafwyd gyda phlant a phobl ifanc. Fel bob amser, mae yna rai safbwyntiau cadarnhaol a negyddol i ni eu hystyried, ond dylem nodi bod y £5 miliwn a fuddsoddwyd yn y flwyddyn ariannol hon i wella ansawdd mannau chwarae a meysydd chwarae wedi bod yn hanfodol bwysig i awdurdodau lleol allu darparu cyfleusterau newydd a gwella'r cyfleusterau presennol. Bydd yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon i blant am y mannau y maent yn chwarae ynddynt. Ond mae'r cyllid cyfalaf hwn yn ychwanegol at y buddsoddiad parhaus i gefnogi awdurdodau lleol i weithredu eu dyletswyddau digonolrwydd cyfleoedd chwarae. Eleni, rydym wedi cefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â bylchau o ran digonolrwydd a bwrw ymlaen â chynlluniau gweithredu, ac fel y nododd Lee Waters a Mike Hedges, mae hyn hefyd yn cynnwys mannau agored nad ydynt o reidrwydd wedi'u dynodi'n barciau neu'n fannau chwarae. Rydym hefyd yn cynyddu cyfleoedd i chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol, gydag £1 filiwn y flwyddyn i gyflawni prosiect gwyliau gwaith chwarae, i ddarparu gweithgareddau chwarae am ddim i blant.

Ar bwynt 5 y cynnig, rydym wedi adnewyddu canllawiau statudol ac wedi darparu pecyn cymorth i awdurdodau lleol, gan sicrhau dull cyfannol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, un sy'n fwriadol eang, heb fod yn gyfyngedig i feysydd chwarae yn unig, ac sy'n gallu ymateb i'r adborth gan blant a phobl ifanc. Ond er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon ynghylch mynediad i blant anabl, mae'r pecyn cymorth yn cynnwys adnoddau i gefnogi awdurdodau lleol i greu cyfleoedd chwarae cynhwysol a hygyrch iddynt.

Mae'r ddyletswydd digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau digon o gyfleoedd chwarae i bob plentyn yn eu hardaloedd lleol, gydag amser, lleoedd ar gael a chaniatâd i chwarae yn ffactorau allweddol wrth greu cymunedau sy'n gyfeillgar i chwarae. Felly, gofynnwn i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth gynhwysfawr am yr holl gyfleoedd chwarae a digwyddiadau i blant yn eu hardaloedd. Yn ogystal, mae gwefan Llywodraeth Cymru ar gyfer rhieni, Teulu Cymru, wedi cefnogi Chwarae Cymru i hyrwyddo ymgyrch Plentyndod Chwareus Cymru.

Yn bwysig, gyda chefnogaeth Chwarae Cymru, rydym wedi sefydlu cynrychiolwyr chwarae ar bob bwrdd partneriaeth rhanbarthol i sicrhau bod chwarae'n cael ei ystyried yng nghynlluniau strategol ehangach yr awdurdod lleol. Er mwyn cefnogi cymdeithas sy'n gyfeillgar i chwarae sy'n cynnig ystod eang o gyfleoedd chwarae a hamdden, mae ein canllawiau statudol yn gofyn i awdurdodau lleol weithio'n gydweithredol gyda'i holl bartneriaid perthnasol wrth gynllunio a darparu cyfleoedd chwarae. Rhaid i'r awdurdod lleol gynnig cyfleoedd chwarae sy'n gynhwysol ac yn hygyrch ac annog pob plentyn i chwarae a chyfarfod â'i gilydd os dymunant.

Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn aros i weld adroddiad cyflwr chwarae yn cael ei gyhoeddi gan Chwarae Cymru yn y flwyddyn newydd, ar eu dadansoddiad o asesiadau digonolrwydd cyfleoedd chwarae, a fydd yn cynnwys ffocws ar gynllunio cymdogaeth a chyfleoedd chwarae cynhwysol. Bydd yr adroddiad yn ein helpu i ystyried sut y gallwn barhau i wneud cynnydd ac arwain y ffordd ar hyrwyddo chwarae plant a chodi llawer o'r pwyntiau a godwyd mewn cyfraniadau heddiw, yn enwedig gan Aelodau fel Jane Dodds, sydd wedi hyrwyddo hyn ers cyhyd.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu hymrwymiad i chwarae plant. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael amser, lle a chaniatâd i chwarae nawr ac ar gyfer cenedlaethau sydd i ddod. Diolch yn fawr.

17:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Thank you, Llywydd. Could I start by saying that it would not be possible to hold a Member debate unless there was collaboration with other Members? So, I'd like to start by saying a special thank you to Russell, Mike and Jane for supporting this debate. Thank you very much. And I'd also like to thank everyone who has contributed to this debate. We've heard from Natasha about the experiences of children and the problems that they have with accessibility.

Rhoddodd Mike enghreifftiau o waith rhagorol yn Abertawe—uwchraddio 60 o feysydd chwarae. Ac rwy'n falch eich bod wedi llwyddo i sicrhau ymweliad gan y Gweinidog â rhai o feysydd chwarae Abertawe; rwy'n siŵr y bydd hi'n edrych ymlaen at hynny yn y flwyddyn newydd.

Soniodd Jane nad moethusrwydd yw chwarae, ond hawl sylfaenol, ac aeth Julie ymlaen i grybwyll a thynnu sylw eto at y ffaith bod Cymru wedi arwain y ffordd gyda hawliau plant. Soniodd Julie a Jane am y toriadau yn y blynyddoedd diwethaf i ddarpariaeth ieuenctid, ond soniodd Julie am enghreifftiau ardderchog o ganolfannau newydd yn agor. Ac mae'n dda eich bod wedi sôn am strydoedd chwarae—pwynt a wnaeth Lee Waters yn ei ymyriad.

Soniodd Laura nad yw gofod yn gyfystyr â mynediad, a dyna fy mhrofiad i yn sicr. Rwy'n cofio fy mam-gu a fy nhad-cu yn byw mewn ardal wledig, ond roedd yr holl gaeau wedi'u ffensio. Felly, os oeddech chi eisiau mynd i chwarae mewn cae, roedd yn rhaid i chi ddringo dros wrych neu ffens.

Carolyn, fe wnaethoch chi sôn, ac fe wnaeth fy nharo, pa mor bwysig yw annibyniaeth a chymunedau mewn perthynas â pharciau, ac mae hynny'n wir. Mae'n debyg mai'r lle cyntaf i mi fynd ar fy mhen fy hun oedd i'r parc, ac yna, yn ddiweddarach yn fy mywyd, rwyf wedi cyfarfod â llawer o deuluoedd drwy fod ein plant yn chwarae yn y parc ac yna byddem yn mynd i rywle gyda'n gilydd wedyn. Felly, mae'n bwysig iawn. Mae parciau'n bwysig iawn i annibyniaeth a chymunedau.

Russ, fe wnaethoch chi sôn am drafferthion iechyd, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y ceisiais ei grybwyll ar ddiwedd fy nghyfraniad. Rydym yn clywed yn wythnosol yn y lle hwn am yr anghydraddoldebau iechyd, y problemau iechyd sy'n wynebu Cymru. Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone yn dadlau'n gadarn dros atal problemau iechyd, ac mae chwarae, a chwarae ar oedran ifanc, yn hanfodol ar gyfer hynny, oherwydd, os ydych chi'n chwarae chwaraeon ac yn egnïol yn ifanc, rydych chi'n debygol o barhau i wneud hynny mewn blynyddoedd diweddarach.

Weinidog, diolch. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at lwyddiannau, ond fe wnaethoch chi hefyd gyfaddef yr heriau a dweud y byddech chi'n rhoi ystyriaeth drylwyr i'r heriau a godwyd. Ac wrth gwrs ni fyddai'r ddadl wedi digwydd pe na bai Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r adroddiad yn y lle cyntaf ac wedi gofyn am leisiau'r bobl ifanc, ac felly rwy'n ddiolchgar am hynny, ac rydym wedi clywed profiadau pobl ifanc.

Gaf i jest orffen, Llywydd, gyda geiriau y bobl bwysig, rhai o blant Cymru? Gan ddechrau gyda merch 13 mlwydd oed o Gasnewydd, ac roedd hi'n dweud:

''Does unman y galla' i chwarae neu gymdeithasu’n ddiogel ar fy mhen fy hun gan fy mod i’n defnyddio ffrâm i fy helpu i gerdded a 'does dim byd ar gyfer pobl anabl yn unman yn agos.'

Neu awn ni i graidd y ddadl heddiw, plentyn yn sir y Fflint, plentyn 10 mlwydd oed o Sir Fflint, yn dweud hyn:

‘Fy mharc lleol. Mae llawer o le a llwyth o eitemau hwyliog yno, mae hefyd yn agos iawn i fy nhŷ felly fe alla’ i fynd yno’n gyflym a phryd bynnag dwi eisiau.'

Dyna ni, dyna i chi darged arbennig i ni weithio tuag ati y Nadolig hwn ac yn 2026. Diolch yn fawr.

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Y setliad datganoli

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 8 yw'r eitem nesaf. Dadl Plaid Cymru yw hon, ar y setliad datganoli. Rhun ap Iorwerth sy'n gwneud y cynnig.

Cynnig NDM9090 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r llythyr a anfonwyd at Brif Weinidog y DU gan dros draean o Aelodau Llafur y Senedd ar 3 Rhagfyr 2025.

2. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU yn rhwyfo'n ôl ar y setliad datganoli presennol, fel y nodir yn y llythyr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd, ac wrth gyflwyno’r cynnig yma yn ffurfiol, dwi’n mynd i ddechrau fy nghyfraniad i efo dyfyniad.

Fe ddechreuaf gyda dyfyniad.

'Proses yw datganoli. Nid achlysur ydyw nac ychwaith daith ag iddi gyrchfan sefydlog. Mae’r broses ddatganoli’n ein galluogi i benderfynu drosom ein hunain a dewis ein blaenoriaethau, dyna’r pwynt pwysig.'

Nawr, fe wyddom pwy ddywedodd y geiriau hynny, wrth gwrs; maent wedi cael eu hailadrodd lawer gwaith. A byddai'n rhesymol, oni fyddai, i'r geiriau hynny gan Ron Davies, a gyhoeddwyd mewn pamffled cyn yr etholiadau cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol newydd Cymru yn 1999, barhau i fod yn wir heddiw. Cawsant eu siarad gan Ysgrifennydd Gwladol Llafur Cymru. Mae'n swydd y mae Llafur wedi'i hetifeddu unwaith eto. Ac o ddatganoli gweithredol i bwerau deddfu sylfaenol a model datganoli cadw pwerau nawr, rydym wedi gweld y broses yn datblygu. Mae wedi loncian yn ei blaen drwy'r rhan orau o dri degawd bellach, gan ddawnsio o bryd i'w gilydd, weithiau'n lletchwith, i guriad barn ystyriol, o gomisiwn Richard i gomisiwn Silk i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn fwy diweddar. Ac ar bob tro yn y ffordd, mae pobl Cymru wedi penderfynu beth fydd y cam nesaf, naill ai drwy refferenda neu fandad i Lywodraeth weithredu ar eu rhan. Maent wedi bod yn gerrig milltir o bwys cyfansoddiadol, mae'n wir, ond yn hollbwysig, maent wedi cael effaith ymarferol bob tro: pwerau at bwrpas, gyda chefnogaeth pobl Cymru fel y gallant fod o fudd i'n cymunedau.

A nawr mae ewyllys yr etholwyr yn cael ei anwybyddu'n enbyd, ar y gorau—ac rwy'n bod yn garedig yma—gan ddiffyg gweithredu yn Nhŷ Gwydyr, Swyddfa Cymru yn Whitehall, ac ar ei waethaf, mae'n ymgais ymwybodol a chyfunol gan Lywodraeth Lafur y DU, yn union fel y Torïaid o'u blaenau, i wrthod ei hawliau cyfansoddiadol i Gymru. Neu 'danseilio' y setliad datganoli presennol fel y dywedodd traean o aelodau'r meinciau Llafur yn y Senedd hon yn y llythyr at Keir Starmer yr wythnos diwethaf.

Yn ei adroddiad terfynol, roedd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn dweud yr hyn sy'n cael ei awgrymu bellach gan lofnodwyr y llythyr hwnnw gan yr aelodau Llafur. Dyma a ddywedodd y comisiwn:

'Mae cynnal cysylltiadau effeithiol rhwng pedair llywodraeth y DU yn rhy bwysig i ddibynnu ar fympwy gweinidogion unigol. Parch cydradd yw’r unig sylfaen ar gyfer cysylltiadau llwyddiannus.'

'Mae’n ymddangos weithiau bod llywodraeth y DU yn gweld cysylltiadau da fel rhywbeth ychwanegol dewisol; nid dyna’r achos.' 

Dyna a ddywedodd y comisiwn.

Nawr, er cydbwysedd—a dylem bob amser geisio hynny—nid yw hon yn ffenomen newydd. Fel y dywedais, fe wnaeth y Torïaid hefyd yr hyn y mae Llafur yn ei wneud nawr ac mae'n eironig fod yr Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol blaenorol dros Gymru bellach yn arwain swyddfa Darren Millar yma yn y Senedd, ac yn sicr, fe chwaraeodd ran yn ysgrifennu'r gwelliant Torïaidd heddiw sy'n amddiffyn ymagwedd ddirmygus Llywodraethau'r DU olynol, yn goch a glas, tuag at Gymru.

Ond rwy'n credu bod ei olynydd, Jo Stevens, yn dangos anhoffter arbennig ynghylch sefyll dros yr hyn y mae gennym hawl iddo. Fel gwrthblaid, fe gofiwn ei bod hi wedi sefyll ar lawr Tŷ'r Cyffredin a dweud wrth y byd fod £4 biliwn o arian canlyniadol HS2 yn ddyledus i ni. Ond yn y swydd, dim smic, dim byd. Mae hi'n eistedd wrth fwrdd y Cabinet sy'n cymeradwyo penderfyniadau eithaf hurt, fel dynodi bod llinell reilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt yn brosiect i Gymru a Lloegr, a dweud dim, gwneud dim, sefyll dros ddim.

Nawr fel aelod Llafur yng Nghymru, gallwn dybio, neu dylem allu tybio, y byddai hi hefyd, yn enw cyd-ddyletswydd, yn cefnogi polisi'r blaid yng Nghymru ar rywbeth fel datganoli Ystad y Goron. Ond mae hi'n siarad allan yn weithredol ac yn ymgyrchu yn ei erbyn. A nawr fe ddysgwn fod Llywodraeth y DU yn diystyru datganoli'n gyfan gwbl gyda'i chyllid Balchder Bro, gan gadw'r un pot o arian yn ôl, yr union yr un peth i Gymru, â'r hyn sydd o fewn rheolaeth Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, i gyd yn enw hwylustod, meddai Gweinidogion Cymru, ffordd o wneud pethau'n gyflymach, naill ai am nad yw Jo Stevens a Keir Starmer yn ymddiried yn Llywodraeth Lafur Cymru mwyach i gael pethau wedi'u gwneud, neu am nad ydynt yn credu y dylid gwneud pethau yma yng Nghymru. Y naill ffordd neu'r llall, caiff y cyfan ei wneud, medd y meinciau hyn, i danseilio datganoli. A dyna yw'r canlyniad yn y pen draw.

Mae'r rhestr o enghreifftiau'n ddiddiwedd. Gallwn barhau. Gallaf synhwyro y bydd y Torïaid yn colli diddordeb ar y pwynt hwn, oherwydd anaml y bydd yr hyn sy'n eu cyffroi a'r hyn sydd er budd i Gymru yn gorgyffwrdd. Ond rwy'n gwybod y bydd Aelodau Llafur yn cydnabod bod yr hyn rwy'n ei ddweud yn wir, er mor anodd yw hi i rai ohonynt ei ddweud yn gyhoeddus. Ond rwy'n dweud wrthynt: chwiliwch yn ddwfn ynoch chi eich hunain a gofynnwch a yw addewid Ron Davies o broses, nid achlysur, yn wir heddiw. Ac nid wyf yn meddwl y gallech chi ateb yn gadarnhaol gydag wyneb syth.

Llywydd, mi oedd yna sesiwn arall ddadlennol iawn o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan yr wythnos diwethaf. Mi gawsom ni gyfaddefiad rhyfeddol, mewn difrif, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, Rebecca Evans, fod bwlch o £86 miliwn rhwng y gyllid rhanbarthol a gafodd ei addo i Gymru gan Lywodraeth San Steffan dros y cyfnod gwariant yma, a'r swm llawer llai a gafodd ei gadarnhau fis Hydref. Unwaith eto, dyma i chi enghraifft o gyllid Cymreig yn cael ei lyncu yn ôl tu ôl i ddrysau caeedig i mewn i gynllun wedi ei reoli o Whitehall—cyllid oedd, cofiwch, wedi cael ei addo i gymunedau Cymreig yn cael ei ddyrannu yn Llundain, heb unrhyw sicrwydd y bydd o'n mynd i'r ardaloedd sydd fwyaf o'i angen ar gyfer prosiectau sydd fwyaf ei angen. Fel y dywedodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn, Llinos Medi, yn dilyn sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet, dyma sefyllfa sy'n codi cwestiynau difrifol dros barch Llafur tuag at ddatganoli ac, yn fwy sylfaenol, cwestiynau dros ymddiriedaeth a thegwch.

Yn wir, mae'n ymddangos fel pe bai'r agenda barch rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU yn gweithio un ffordd yn unig. Bydd San Steffan yn gwneud yr hyn y mae eisiau ei wneud. Bydd Cymru'n gwneud fel y dywedir wrthi am ei wneud. Mae'r Prif Weinidog wrth ei bodd yn ein hatgoffa sut y mae ganddi linell ffôn uniongyrchol i Rhif 10, er bod diffyg cyflawniad neu ddiddordeb Keir Starmer yng Nghymru yn awgrymu ei bod hi'n treulio'r rhan fwyaf o'i hamser yn aros i rywun ateb. Ond yn waeth byth, mae'n ymddangos ei bod hi'n meddwl mai dim ond Prif Weinidog Llafur yn y DU fydd yn codi'r ffôn i Brif Weinidog Llafur yng Nghymru. Onid yw'n wir y dylai unrhyw Brif Weinidog yn y DU o unrhyw blaid wleidyddol fod yn fodlon ymgysylltu'n barchus ac yn adeiladol â Phrif Weinidog Cymru o unrhyw blaid, ac fel arall yn wir? Rwyf am gael y berthynas adeiladol honno. Mae awgrymu fel arall, y bydd Prif Weinidog Llafur yn y DU ond yn siarad â Phrif Weinidog Llafur yma, yn teimlo fel diffyg parch dwfn tuag at Gymru, oni bai ei bod yn Gymru o'r un lliw gwleidyddol. Rhaid i Lywodraeth fod yn ymwybodol iawn na ddylai ymddangos yn haerllug neu'n freintiedig, gan fod priodoleddau o'r fath bron yn sicr o fod yn niweidiol i iechyd ein democratiaeth.

Confensiwn yn unig yw confensiwn Sewel—cytundeb llac o gyfyngiadau sylweddol. Onid yw'n bryd i ni gael cyfansoddiad Sewel, os mynnwch, fformiwleiddiad statudol newydd sy'n rhwymol yn gyfreithiol o gonfensiwn Sewel, a ddylai fod yn berthnasol i ddeddfwriaeth mewn perthynas â materion datganoledig, ac yn benodol i ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar statws neu bwerau'r deddfwrfeydd a'r Gweithrediaethau datganoledig, fel yr argymhellwyd gan gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU, fel yr addawyd ym maniffesto Llafur 2024, a siaradai am gryfhau confensiwn Sewel, ond sydd, mae'n ymddangos, yn casglu llwch ar silffoedd Llafur o addewidion toredig?

Rwyf am ddod i ben, Lywydd, drwy ddychwelyd at y cynnig a'n hatgoffa o'r llythyr a adlewyrchir yn ein cynnig heddiw—y llythyr gan aelodau o feinciau cefn Llafur yma at Brif Weinidog Llafur y DU. Ac fe ddywedaf hyn: ni wnaethom ymladd dros Senedd i ni ein hunain er mwyn inni allu mynegi barn drwy lythyr yn unig. Ni wnaethom ymladd dros Senedd i ni ein hunain i ddweud un peth ar bapur, a chefnu ar yr union safbwyntiau hynny yn Siambr ddemocrataidd ein gwlad. Ni wnaethom ymladd dros Senedd i ni ein hunain i greu Siambr fel platfform i arddangos diffyg dewrder moesol. Fe wnaethom ymladd dros y Senedd hon er mwyn cael cyfle i droi geiriau'n weithredoedd. Mae teyrngarwch pleidiol yn ddwfn ym mhob un ohonom wrth gwrs, ond mae'n rhaid i'n teyrngarwch i Gymru ddod yn gyntaf bob amser, a gallwn i gyd ddangos hynny heddiw drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru.

18:00

Dwi wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. James Evans, felly, i gynnig gwelliant 1. James Evans.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod ffraeo ynglŷn â'r setliad datganoli yn tynnu sylw oddi ar mynd i'r afael â'r heriau bob dydd sy'n wynebu Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. A dyma ni eto. Prynhawn Mercher arall, cynnig arall gan Blaid Cymru lle maent yn ddig am rywbeth arall. A gadewch imi fod yn gwbl glir o'r cychwyn cyntaf, nid yn unig fod dadleuon cyson am y setliad datganoli yn ddiflas, maent yn tynnu ein sylw oddi wrth yr heriau difrifol y mae pobl Cymru’n eu hwynebu. Tra bo gwleidyddion yn y Siambr hon yn dadlau dros bwerau, strwythurau a'r cyfansoddiad, mae pobl weithgar ledled Cymru’n gofyn cwestiwn teg a syml: beth y mae datganoli pwerau yma wedi'i gyflawni i mi mewn gwirionedd? Ar ôl mwy na dau ddegawd o ddatganoli, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau helaeth eisoes. Nid diffyg pwerau yw'r broblem, y broblem yw diffyg canlyniadau gan y Llywodraeth Lafur ym Mharc Cathays. Mae pobl yn colli ffydd mewn datganoli am eu bod yn gweld Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi hen golli stêm, wedi'i chynnal gan ymwahanwyr Plaid Cymru, yn gwthio eu hagenda sosialaidd asgell chwith eithafol ar ein cymunedau. Ac mae pobl yng Nghymru yn mynd yn fwyfwy rhwystredig, ac mae'r rhwystredigaeth honno'n troi'n ddadrithiad ynghylch y Senedd hon, ynghylch gwleidyddiaeth Cymru, ac ynghylch y setliad datganoli ei hun.

Mae cynnig heddiw'n dilyn llythyr a anfonwyd at y Prif Weinidog yn gynharach gan aelodau o grŵp y Blaid Lafur. Yn y llythyr hwnnw, mae Aelodau Llafur yn beirniadu eu cymheiriaid yn San Steffan am ariannu cynghorau Cymru yn uniongyrchol, gan ddarlunio hyn fel rhyw fath o drosedd gyfansoddiadol. Ond y gwir amdani—[Torri ar draws.] Rwyf am orffen y pwynt hwn, Jenny, ac yna fe ildiaf. Ond y gwir amdani yw hyn: nid oes unrhyw beth o'i le â chyllid yn mynd yn uniongyrchol i'r rhai sy'n gallu gwneud y mwyaf. Mae awdurdodau lleol yn adnabod eu cymunedau yn llawer gwell na Gweinidogion ym Mharc Cathays.

18:05

Rwy'n cytuno, nid oes unrhyw beth o gwbl o'i le gydag arian yn mynd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Nid hynny yw—

Na, na, ddim o gwbl. Gadewch imi orffen. Ond yr hyn nad yw'n iawn yw, gyda'r arian sy'n cael ei anfon drwy Balchder Bro, eu bod yn cael gwybod mai dim ond ar un gymuned y gellir ei wario, gan osod un ardal ddifreintiedig yn erbyn un arall. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru—. Pe bai'r arian a oedd i fod i ddod yn wreiddiol yn y gronfa twf lleol—. Daw'r arian o'r cyllid hwnnw. Byddai hynny wedi arwain at ddeialog ag awdurdodau lleol i nodi'r ffordd orau o wario'r arian hwnnw ar draws y cymunedau roedd yn eu cynrychioli. Felly, dyna pam fod hyn mor ddinistriol, ac mae'n sicr yn ymwneud â materion bob dydd y bobl rwy'n eu cynrychioli.

Wel, Jenny, nid wyf yn cytuno â chi, oherwydd pan oedd Llywodraeth Cymru yn cael cyfrannau o gyllid yr Undeb Ewropeaidd, roeddent yn ei anfon i berfeddwlad Llafur Cymru. Nid oedd o fudd i'r rhan fwyaf o'r bobl rwy'n eu cynrychioli. Felly, nid wyf yn ymddiried yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru i beidio â gwneud yr un peth eto.

Ond yn ystod pandemig COVID-19, cynghorau, nid Gweinidogion yma, a brofodd pa mor gyflym ac effeithiol y gallent ymateb pan fyddent wedi'u grymuso i weithredu a chyflawni. Ac rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith o'r blaen, ac mae angen i Blaid Cymru wrando ar hyn: mae gan Gymru ddwy Lywodraeth—un yma ac un yn San Steffan. Mae hynny'n ffaith. Rwy'n gwybod na fydd rhai ohonoch yn ei hoffi, ond mae'n ffaith.

Ac efallai fod y ffaith bod Aelodau'r Senedd yn honni bod y sefyllfa hon yn rhyw fath o warth cyfansoddiadol o fudd i'r rhai sy'n benderfynol o gadw at eu hideoleg sosialaidd o gymryd pwerau oddi wrth bobl leol i'w canoli, oherwydd, yn eu barn nhw, y wladwriaeth sy'n gwybod orau bob amser, onid e? Ond rydym ni ar y meinciau hyn yn gwybod nad yw'r dull hwnnw o weithredu'n gwneud dim i wella'r canlyniadau i'r bobl rydym yn eu cynrychioli. Mae'n cynyddu'r fiwrocratiaeth sydd wrth wraidd y Llywodraeth, ac nid yw'n cyflawni unrhyw beth i'r bobl.

Fe wnaethoch chi nodi'r anomaledd mwyaf yn eich cyfraniad eich hun yno mewn gwirionedd. Rydych chi'n dweud bod gan Gymru ddwy Lywodraeth, a dyna'n union yw'r broblem. Nid yw hynny'n normal i wlad gyffredin, ydy e?

Mae'r mwgwd wedi llithro: 'Rydym eisiau ymwahaniaeth.' Dyma'r blaid yma—

—sydd eisiau annibyniaeth a fyddai'n tynnu ein gwlad i'r gwter. Nid wyf am wrando ar unrhyw bregethau gan y blaid a gymerodd arian gan y Cyrnol Gaddafi.

Ond yr hyn sy'n bwysig nawr yw nid pwy sy'n rheoli'r arian, ond a yw'r arian hwnnw'n cyflawni canlyniadau ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Pan fydd dwy Lywodraeth yn cydweithio'n bragmatig, bydd cymunedau'n elwa—bargeinion twf, dinas-ranbarthau, porthladdoedd rhydd. Nid yw'r rhain yn gysyniadau haniaethol, maent yn enghreifftiau ymarferol o sut y mae cydweithredu'n cynhyrchu canlyniadau economaidd go iawn. A dyna ble y dylem fod yn canolbwyntio ein hamser—ar gyflawni ar ran y bobl a darparu gwerth am arian i drethdalwyr y wlad hon sy'n talu eu biliau ac yn disgwyl gwasanaeth yn gyfnewid. Pan fyddaf yn curo ar y drysau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, nid oes unrhyw yn siarad â mi am ddatganoli mwy o bwerau. [Torri ar draws.] Gallwch wneud ymyriad os ydych chi eisiau, Alun, buaswn wrth fy modd yn derbyn un. Nid oes unrhyw un yn siarad â mi am—[Torri ar draws.] Rwyf eisoes wedi derbyn un gennych chi, Jenny. [Torri ar draws.] Ewch amdani, felly. Pam lai? Rwy'n mwynhau hyn.

Wrth gwrs eu bod yn curo ar y drysau. Maent eisiau datrys y problemau sy'n eu hwynebu, boed yn ysgolion, y ffyrdd, y goleuadau, y sbwriel, y troseddu—mae'r holl bethau hyn yn wirioneddol bwysig. A'r hyn y mae Balchder Bro yn ei wneud yw sicrhau bod yn rhaid i'r arian fynd i un gymuned yn hytrach na'r pedair neu bum cymuned fwyaf difreintiedig.

Ond Jenny, rydych chi newydd dynnu sylw, onid ydych, at 27 mlynedd o fethiant? Oherwydd yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf yw bod Cymru wedi torri—gwasanaeth iechyd wedi torri, addysg wedi torri, ffermwyr wedi torri sy'n teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, ac economi wedi torri. Ond y broblem fwyaf y maent yn dweud wrthyf amdani o ddydd i ddydd yw eu bod wedi cael llond bol ar y Llywodraeth Lafur hon a'u hen gyfeillion, Plaid Cymru, sy'n honni eu bod yn wahanol, ond gallaf roi sicrwydd i bobl Cymru nad ydynt yn wahanol o gwbl—Llafur ydynt, ond gwaeth.

Felly, fel rwyf wedi'i ddweud, Lywydd, nid yw'r ddadl heddiw yn cynnig unrhyw atebion i'r problemau go iawn—[Torri ar draws.] Gallwch ymyrryd, Rhun, os ydych eisiau. Nid yw'r ddadl yn cynnig unrhyw atebion go iawn i'r problemau sy'n wynebu cymunedau Cymru. Yn hytrach, mae'n atgyfnerthu'r canfyddiad cynyddol o wleidyddion yn y lle hwn yn siarad am wleidyddiaeth pan fo pobl gyffredin, weithgar yn cael eu gadael i godi'r darnau ddydd ar ôl dydd. Mae Llafur wedi methu, ac fel rwyf wedi'i ddweud, cyn bo hir, bydd mwgwd yr ymwahanwyr draw yn y fan acw'n llithro hefyd. Mae Cymru'n haeddu gwell na hyn. Mae'n haeddu Llywodraeth wahanol. Mae'n haeddu Llywodraeth Geidwadol, ac am y rheswm hwnnw, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn ailddatgan ymrwymiad y Senedd hon i gryfhau'r setliad datganoli, yn unol â'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:09:50
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Mae hon yn ddadl y mae wedi bod ei hangen arnom ers peth amser. Yr hyn sy'n ddiddorol yw nad ymddengys bod gan Reform unrhyw ddiddordeb ynddi, er eu bod yn ymddangos yn awyddus iawn i fod yn Llywodraeth nesaf. Ble mae datganoli yn gorffen? Wel, nid wyf yn cytuno â Ron Davies, a ddaeth yn aelod o Blaid Cymru, ei bod yn broses, gan mai polisi Plaid Cymru yw un o sleifio gam wrth gam at annibyniaeth, wedi'i grynhoi gan 'ddatganoli, datganoli a datganoli' hyd nes na fydd dim ar ôl i'w ddatganoli—'anwybyddwch y ffaith bod Cymru’n fuddiolwr net ariannol o'r undeb'. Mae Cymru’n fuddiolwr net o'r undeb. Mae David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi amcangyfrif ei bod rhwng £12 biliwn a £15 biliwn y flwyddyn ar ei hennill o'r undeb. Pe bai Cymru'n cadw ei refeniw, yn ariannu ei gwariant cyhoeddus ei hun, ac yna'n gwneud cyfraniad yn seiliedig ar y boblogaeth at y sefyllfa ledled y DU, fel y mae o leiaf, byddai hynny'n arwain at ddiffyg cyllidol mawr i Gymru. Hefyd yn ôl David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae'r amcangyfrifon diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gwariant cyhoeddus yng Nghymru oddeutu 10 y cant yn uwch na'r hyn ydyw ar draws y DU gyfan, a hyn er ein bod yn codi cryn dipyn yn llai o arian.

Gwyddom hefyd nad oes gan wledydd bach y cryfderau economaidd i wrthsefyll stormydd ariannol. Roedd argyfwng ariannol Gwlad yr Iâ yn ddigwyddiad economaidd a gwleidyddol mawr yng Ngwlad yr Iâ rhwng 2008 a 2010. Roedd yn cynnwys methiant pob un o dri phrif fanc masnachol preifat y wlad yn hwyr yn 2008, yn dilyn problemau gydag ailgyllido eu dyled tymor byr a thynnu adneuon yn yr Iseldiroedd a'r DU. O gymharu â maint yr economi, cwymp bancio systemig Gwlad yr Iâ oedd y mwyaf mewn unrhyw wlad mewn hanes economaidd. Arweiniodd yr argyfwng hwn at ddirwasgiad difrifol ac argyfwng ariannol Gwlad yr Iâ yn 2009. Gwyddom hefyd fod Prydain wedi goroesi'r argyfwng bancio.

Mae polisi'r Ceidwadwyr yn eithaf syml: dyma ddiwedd y daith i ddatganoli, ac maent hyd yn oed wrthwynebu datganoli plismona, er ei fod eisoes wedi'i ddatganoli i rai o feiri Lloegr, yn ogystal â'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Rydym wedi cael sawl setliad datganoli i Gymru, ac nid ydym yn agosach at setliad hirdymor nag yr oeddem cyn y cyntaf. Yn y DU, rydym wedi gweld gwahanol setliadau datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â gwahanol gyfrifoldebau wedi'u datganoli i Lundain a rhai o ddinasoedd mwy Lloegr. Mae gennym yr hyn y bwriadwyd iddo fod yn fodel cadw pwerau yng Nghymru yn dilyn y setliad diweddaraf, ond mae'r llu o bwerau a gedwir yn ôl o fewn y meysydd datganoledig honedig yn tanseilio diffiniad o'r fath. Wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, mae bellach yn frwydr i gael y pwerau hynny sy'n cael eu hailwladoli i Brydain wedi'u datganoli i Gymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli'n llwyr. Pe bai'r setliad wedi bod yn fodel cadw pwerau cynhwysfawr, byddai hyn—[Torri ar draws.]

18:10

Rwy'n dilyn eich araith gyda diddordeb, fel bob amser. Ar eich pwynt am genhedloedd bach, o ystyried yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, pam y credwch fod gan Wlad yr Iâ y pumed cynnyrch domestig gros uchaf y pen yn y byd, sy'n sylweddol uwch na'r DU, neu Gymru yn wir?

Wel, rwy'n credu y gallem gael dadl hir am wledydd bach a gwledydd mwy. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn mai'r wlad fwyaf pwerus a chryf yn economaidd yn y byd yw Unol Daleithiau America, nad yw'n wlad fach yn sicr, ond rwy'n fwy na pharod i drafod hyn mewn dadl yn y dyfodol, ac os hoffech chi gyflwyno dadl ar hynny, rwy'n fwy na pharod i gymryd rhan ynddi.

A ydych chi'n ymwybodol fod yr Unol Daleithiau yn gwario mwy o arian ar garchardai nag ar addysg? Mae honno'n wlad sydd wedi torri.

Rwy'n trafod cyfoeth yr Unol Daleithiau yn hytrach na sut y maent yn gwario'r arian. Ni chredaf fod yr Unol Daleithiau yn enghraifft dda o sut y caiff arian ei wario, ond o ran cyfoeth, yr Unol Daleithiau yw'r wlad gyfoethocaf. Os gall rhywun enwi gwlad arall sy'n gyfoethocach na'r Unol Daleithiau, rhowch wybod i mi, gan fod popeth rwy'n ei ddarllen yn dangos ei bod ymhell o flaen Tsieina a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae gennym fodel sydd i fod yn fodel cadw pwerau, ond mae gennym broblem gyda lle rydym arni gyda'r pwerau a gedwir. Wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, mae brwydr newydd bellach i gael y pwerau hynny sy'n cael eu hailwladoli i Brydain wedi'u datganoli i Gymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli'n llwyr. Pe bai'r setliad wedi bod yn fodel cadw pwerau cynhwysfawr, ni fyddai hyn wedi codi, ac ni fyddai dim wedi'i ailwladoli y tu hwnt i'r rhestr bresennol o bwerau a gedwir yn ôl. Dyna pam y llofnodais y llythyr.

Mae yna feysydd amlwg y mae angen eu cadw'n ganolog, fel amddiffyn, materion tramor, diogelwch cenedlaethol, arian cyfred, cyfraddau llog, cymorth tramor, mewnfudo; trwyddedau gyrwyr a cheir, y banc canolog, ac yswiriant gwladol i enwi rhai. Os yw pob maes wedi'i ddatganoli, fe'i gelwir yn 'annibyniaeth' yn hytrach na 'datganoli'. Rwy'n synnu nad yw Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig dros annibyniaeth. Os gwelwch yn dda—. A oeddech chi'n mynd i wneud hynny, Rhun?

Roeddwn eisiau darparu'r wybodaeth yr oeddech chi'n chwilio amdani ynglŷn â pha wledydd sy'n gyfoethocach nag America. Yn ôl cynnyrch domestig gros y pen: Monaco; Liechtenstein; Lwcsembwrg; Bermuda; Iwerddon; y Swistir; Gwlad yr Iâ—byddaf yn cyrraedd yr Unol Daleithiau cyn bo hir—Ynysoedd Cayman; Singapore; Norwy; yr Unol Daleithiau—wythfed. Dyna chi.

18:15

A gaf i eich helpu, gan ei bod yn ymddangos eich bod yn ei chael hi'n anodd deall? O ran cyfoeth absoliwt, yr Unol Daleithiau sydd â'r cynnyrch domestig gros mwyaf yn y byd. Cynnyrch domestig gros y pen yw—[Torri ar draws.]

Rydym yn sôn am bwerau at ddiben, cyfoeth at ddiben. Does bosib nad ydym yn edrych ar yr effaith y gall gwlad ei chael ar ei dinasyddion; fesul pen yw hynny.

Os mai dyma eich dadl dros annibyniaeth, gwnewch hi. Cyflwynwch benderfyniad yn galw am annibyniaeth i Gymru. Gwnewch y ddadl honno. Anfonwch y £12 biliwn i £16 biliwn yn ôl. Ni allaf dderbyn mwy o ymyriadau gan na fydd y Llywydd yn gadael imi wneud hynny.

Gan symud ymlaen o'r diwedd, a ddylai trethi'r DU i dalu am eitemau a ariennir yn ganolog gael eu casglu'n lleol, gyda phob treth arall wedi'i datganoli, yn debyg i drethi taleithiol a threthi cenedlaethol yn UDA? Sut y bydd cymorth ariannol o'r rhanbarthau cyfoethocach i'r rhanbarthau tlotach yn cael ei drefnu, os o gwbl? Yr hyn rwy'n gofyn amdano yw i bopeth y gellir ei ddatganoli gael ei roi ar y bwrdd, heb fawr o lol, fel plismona yng Ngogledd Iwerddon, a gafodd gefnogaeth dwy ran o dair o Siambr Gogledd Iwerddon, a arweiniodd at ddatganoli plismona i Ogledd Iwerddon. Dyna'r ffordd i symud ymlaen â datganoli, ond mae'n rhaid bod pen draw i ddatganoli.

Ac yn olaf, a gaf i ddweud bod angen inni feddwl hefyd am ddatganoli mwy o bwerau i lywodraeth leol? Mae llywodraeth leol wedi colli llawer o'u pwerau, fel plismona, fel addysg bellach. Nid oes unrhyw beth wedi'i roi yn ôl iddynt. Mae angen inni weld ble mae pethau'n gweithio orau, nid canoli popeth yng Nghaerdydd.

Nid ffafr yw datganoli. Nid yw'n rhodd a gawn pan fydd San Steffan yn teimlo'n hael. Mewn cenedl sydd wedi pleidleisio ddwywaith mewn refferendwm o blaid, datganoli, yn syml, yw'r hawl i gael ein democratiaeth wedi'i pharchu.

Ym mis Gorffennaf 2024, daeth Llywodraeth Lafur y DU i rym gan addo newid, ond o ran datganoli, rydym wedi cael y gwrthwyneb i hynny. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cadarnhau, mewn ateb ysgrifenedig y mis diwethaf, na fu unrhyw enghraifft o drosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol gan Lywodraeth Lafur y DU i'r Senedd hon ers mis Gorffennaf 2024. Dim un. Do, mae rhai o Ddeddfau'r DU wedi rhoi pwerau i Weinidogion Cymru, ond mae pob un ohonynt wedi bod mewn meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli, oherwydd wrth gwrs, mae Llywodraeth Lafur y DU, fel rydym wedi'i glywed, wedi mynd yn groes i gonfensiwn Sewel yn gyson. Nid datganoli yw hynny. Dyna San Steffan yn dweud, 'Fe wnawn ni ysgrifennu'r sgript a gall Cymru lofnodi'r ymyl.'

Nawr, dyma’r eironi chwerw. Mewn gwirionedd, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol, a gyhuddwyd gan Lafur Cymru ac eraill, gyda pheth cyfiawnhad, o fod yn wrth-ddatganoli, ddarparu pwerau ychwanegol mewn ynni, rheilffyrdd, cyflogau athrawon, treth incwm, ac ati, ond nid yw Llywodraeth Lafur, wedi ei lapio yn iaith partneriaeth, wedi darparu unrhyw bwerau newydd o gwbl. Yn wir, fel y mae’r llythyr a lofnodwyd gan lawer o Aelodau’r grŵp Llafur wedi’i nodi, ymhell o danlinellu datganoli, mae Llafur mewn grym yn San Steffan wedi’i danseilio. Nid grymuso yw Balchder Bro, ond nawddogaeth. Mae'n Llywodraeth y DU fel cymwynaswr, a'r Senedd fel gwyliedydd. Nid ‘Balchder Bro’ mohono, ond ‘mae'n rhaid ichi wybod eich lle’ o ran democratiaeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod bob amser yn sefyll o blaid Cymru, ond yr hyn a welsom yw distawrwydd a diffyg gweithredu. Ystyriwch ddŵr, er enghraifft. Ddeng mlynedd yn ôl, gyda chytundeb Dydd Gŵyl Dewi, dywedwyd wrthym y gallai Cymru gael rheolaeth lawn dros ddŵr. Ac eto nid yw adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017 wedi'i chychwyn eto, a dywed Swyddfa Cymru nad oes amserlen i wneud hynny hyd yn oed gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais am y pwerau hynny. Ble rydych chi wedi bod ers wyth mlynedd? Ac yna, mae gennych anghyfiawnder cyfiawnder. Argymhellwyd datganoli gan gomisiwn Thomas, y comisiwn cyfansoddiadol annibynnol, a hyd yn oed gan gomisiwn Brown. Nid ydym wedi cael unrhyw beth o sylwedd gan Lywodraeth Lafur y DU. Ac fel y clywsom yn gynharach heddiw, ni wnaethant ymgynghori â Llywodraeth Cymru hyd yn oed ar y cynnig i ddiddymu comisiynwyr heddlu a throseddu neu i uno heddluoedd Cymru. Nid oedi datganoli yw hyn, ond gwadu datganoli.

Yr hyn sy'n cael ei gynnig i ni yn hytrach yw'r un model minimalaidd â gogledd-orllewin Lloegr—[Torri ar draws.]—gwnaf mewn eiliad—yn eu memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar y gwasanaeth prawf. Wel, gadewch imi rannu gyda chi sut y mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin wedi disgrifio'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwnnw: nid oes gan y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn 'unrhyw rym cyfreithiol'. Byddai'r Llywodraeth yn rhydd i dynnu'n ôl ohono 'ar unrhyw adeg'. Nid yw'n bosib codi unrhyw fath o anghydfod ffurfiol na chymryd camau cyfreithiol,

'os yw'r naill ochr neu'r llall yn credu nad yw telerau'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi'u dilyn.'

Nid datganoli yw hynny. Dyna fformiwla Barnett cadw pwerau; Cymru'n gorfod cytuno tra bo Whitehall yn cadw'r ysgrifbin. Fe ildiaf i Mike Hedges.

18:20

A ydych chi'n cefnogi datganoli, neu a ydych chi eisiau annibyniaeth i Gymru?

Rwy'n cefnogi egwyddor hunanlywodraeth ddemocrataidd, ac ar y pwynt hwnnw, os yw mwyafrif pobl Cymru’n penderfynu eu bod am arfer hynny drwy annibyniaeth, rwy'n cefnogi hynny'n llwyr. Ar hyn o bryd, mae mwyafrif pobl Cymru wedi pleidleisio ddwywaith o blaid datganoli. Pam nad yw'n cael ei gyflawni? [Torri ar draws.] Rhaid imi wneud rhywfaint o gynnydd, mae arnaf ofn.

Felly, dyma fy her i Lywodraeth Cymru. Mae Cymru'n cael ei thrin â dirmyg. Y Senedd hon, Llywodraeth Cymru, pobl Cymru, hyd yn oed Plaid Lafur Cymru. Ble mae eich dicter? Rydym wedi gweld cipolwg arno o'r meinciau cefn yn y llythyr a anfonodd y grŵp Llafur. Pe baem yn gweld ychydig ohono ar y meinciau blaen, efallai na fyddech chi fel plaid ar 10 y cant yn yr arolygon barn, ond yn bwysicach na hynny, efallai y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn dechrau trin Cymru â pharch. Ac os nad ydych chi, fel Llywodraeth Lafur Cymru, yn barod i ddefnyddio'ch llais i gefnogi'r cynnig hwn heno, mae'n bryd gwneud lle i Lywodraeth arall sy'n mynd i wneud hynny.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod y pethau hyn. Rwyf wrth fy modd fod gan Blaid Cymru gymaint o ddiddordeb ym materion mewnol y Blaid Lafur, ac rwyf wrth fy modd hefyd fod y Ceidwadwyr wedi gwneud eu hunain yn gwbl amherthnasol i'r dadleuon a gynhelir yma unwaith eto.

Ond mae rhai materion pwysig iawn i ni eu trafod yma, gan fod argyfwng gwirioneddol yn wynebu democratiaeth yn y Deyrnas Unedig, ac nid mater o bwerau'r lle hwn yn unig ydyw; mae a wnelo â'r ddemocratiaeth ar draws y deyrnas gyfan. Ac mae'r argyfwng hwnnw wedi'i greu gan fethiant economaidd systemig, gan ddiffyg arweinyddiaeth wleidyddol, gan Brexit a chan fethiant hanesyddol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sylfaenol yn ein cymdeithas. Mae'r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn un o'r lleoedd mwyaf anghyfartal yn Ewrop. Ac mae’n rhaid i'r rhai ohonom sy'n credu yn undeb y Deyrnas Unedig gydnabod hefyd fod angen diwygio radical ar y ddemocratiaeth hon a'r undeb hwn, ac ni ddylai hynny ynddo'i hun fod yn ddatganiad radical. Dywedwyd hynny'n glir iawn yn adroddiad Gordon Brown, y drafft gwreiddiol yn ogystal â'r drafft terfynol, ac mae'n drasiedi i'r Blaid Lafur fod adroddiad Gordon Brown yn casglu llwch yn hytrach na'n cael ei roi ar waith.

Ers gormod o amser, mae gwleidyddion o bob plaid wleidyddol wedi camddeall unoliaetholdeb i olygu canoliaetholdeb, a chlywsom hynny gan y Ceidwadwyr heddiw. Mae gormod o wleidyddion nad ydynt yn deall y gwahaniaeth rhwng y ddau beth. Mae gormod o wleidyddion yn credu'r myth mai Whitehall a San Steffan sy'n gwybod orau. Ond mae'r rhai ohonom sy'n dod o rai o draddodiadau hynaf y Blaid Lafur a'r mudiad Llafur yn cynnig rhywbeth y credaf ei fod wedi'i wreiddio yn nhraddodiadau'r blaid hon.

Blaenoriaeth gyntaf Keir Hardie oedd ymreolaeth. Diffiniodd yr alwad am ymreolaeth enedigaeth y Blaid Lafur, ac mae wedi bod yn un o'r edefynnau sydd wedi rhedeg drwy ein hanes. Wrth ymgyrchu ganrif yn ôl, deallodd bwysigrwydd pŵer gwleidyddol. Ac wrth gwrs, deallodd Aneurin Bevan bwysigrwydd ble y caiff pŵer gwleidyddol ei leoli. Os darllenwch In Place of Fear, mae pennod 1, y bennod gyntaf yn y llyfr hwnnw, yn ymwneud ag ymdrech Bevan i ddod o hyd i bŵer. Os ydych chi eisiau newid a herio anghydraddoldeb—anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol—fe wyddai fod yn rhaid ichi gael yr ysgogiadau a ddaw gyda phŵer gwleidyddol. A dyna pam y credaf ei bod yn bwysig i ni yn y Blaid Lafur, yn y mudiad Llafur, ac yn y lle hwn, fod ble y mae pŵer gwleidyddol wedi'i leoli yn ganolog i'n trafodaethau a'n dadleuon gwleidyddol.

A Llafur Cymru sydd wedi gallu arwain hyn drwy'r rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf. Llafur Cymru sydd wedi bod wrth wraidd gwleidyddiaeth, gan arwain pobl Cymru, yn gyntaf yn yr ymgyrch dros ymreolaeth—arweiniwyd ymgyrch Senedd i Gymru, os cofiwch, gan S.O. Davies. Arweiniwyd ymgyrch Senedd i Gymru, a arweiniodd at yr ymgyrch dros ddatganoli yng Nghymru, unwaith eto gan y Blaid Lafur, ac mae pob un ohonom yn cofio rôl Rhodri Morgan a'i ffrindiau yn parhau yn y lle hwn i ddiffinio datganoli. Ac roedd cyfraniad olaf Elystan Morgan, wrth gwrs, i wleidyddiaeth Cymru cyn i ni ei golli yn ymwneud â ble y mae pŵer gwleidyddol yn y wlad hon. A dyna pam fod angen inni sicrhau heddiw ein bod yn parhau i roi gwlad o flaen plaid, a pham fod yn rhaid inni barhau i honni bod Plaid Lafur Cymru yn credu mewn ymreolaeth, yn credu yn hunanlywodraeth ddemocrataidd Cymru o fewn y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n dweud hyn wrth unrhyw un sy'n dweud eu bod yn credu mewn datganoli: wel, mae angen dangos hynny drwy weithredoedd, nid geiriau. Rwy'n ildio.

18:25

Diolch yn fawr am dderbyn ymyriad. Fe welwn sut y bydd pobl wedi pleidleisio ar y diwedd, ond byddai'n ddefnyddiol ei gael wedi'i gofnodi nawr, cadarnhad y byddwch yn pleidleisio i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, i gefnogi'r geiriau a roesoch yn y llythyr hwnnw yr wythnos diwethaf.

Gadewch imi ddweud hyn wrthych, Rhun: yr hyn rwy'n ceisio mynd i'r afael ag ef yw rhai o'r pethau sylfaenol y dylem fod yn eu trafod a'u dadlau, a byddwn yn cael y ddadl hon cyn mis Mai nesaf, a buaswn yn awgrymu bod y bleidlais fis Mai nesaf yn bwysicach na'r bleidlais a fydd yn digwydd yn yr awr nesaf.

Ond fe ddywedaf hyn wrth unrhyw un sy'n dweud eu bod yn credu mewn datganoli, ac rydym wedi'i glywed yn yr wythnosau diwethaf: gwell gwneud na dweud. Mae Balchder Bro—[Torri ar draws.] Gadewch imi barhau. Roedd rhaglen Balchder Bro a'r ffordd y cafodd ei chyflwyno, gan ddefnyddio deddfwriaeth Geidwadol a model llywodraethu Ceidwadol, yn anghywir. Roedd yn anghywir, ac roedd Gweinidogion Cymru’n rhannu'r dicter hwn, ac roedd Gweinidogion Cymru’n rhannu'r rhwystredigaeth hon. A buaswn yn awgrymu bod pobl Cymru eisiau clywed y rhwystredigaeth honno hefyd, a dyna'n sicr pam y llofnodais y llythyr hwnnw, gan fy mod yn teimlo ei bod yn bwysig fod pobl Cymru yn ganolog yn ein sgyrsiau a heb eu heithrio o'r dadleuon hynny.

Mae angen inni sicrhau, wrth inni ymgyrchu ar y materion hyn, ein bod yn gwreiddio ein dadleuon yn ein safbwynt ac yn ein traddodiadau gwleidyddol. Byddaf yn ymgyrchu dros yr ychydig fisoedd nesaf dros gydraddoldeb yng Nghymru: cydraddoldeb ymhlith pobloedd, cydraddoldeb ymhlith ein cymunedau, ond hefyd cydraddoldeb i'n gwlad o fewn y Deyrnas Unedig. Nid yw'n deg fod Cymru'n cael ei thrin fel hyn, ac nid yw'n deg fod Gweinidogion Cymru'n cael eu bychanu—a gwelsom hynny y prynhawn yma—ac yn gorfod rhedeg i ddal i fyny am nad ydynt yn gwybod beth sy'n cael ei ddweud o Lundain. Nid yw'n deg fod angen i Weinidogion Cymru geisio egluro bod cyllid rheilffyrdd yn deg pan yw'n amlwg nad ydyw, fod fformiwla Barnett yn deg pan yw'n amlwg nad ydyw. Nid yw hynny'n deg. Nid yw'n deg i'r Llywodraeth hon, nid yw'n deg i'r Senedd hon, ond yn bwysicach fyth, nid yw'n deg i'n pobl. Felly, byddwn yn ymgyrchu dros gydraddoldeb dros y misoedd nesaf. Byddwn yn ymgyrchu dros gydraddoldeb pobl, fel y gwnaethom yn y mudiad Llafur drwy gydol ein hanes. Byddwn yn ymgyrchu dros gydraddoldeb ein cymunedau am fod Llafur yn credu ym mhob cymuned yn y wlad hon, ac yna byddwn yn ymgyrchu dros gydraddoldeb o fewn y Deyrnas Unedig i Gymru am fod Llafur Cymru yn credu yng Nghymru.

Roedd Llafur yn arfer ymfalchïo yn y ffaith mai nhw oedd plaid datganoli, er bod yn rhaid imi ddweud, gan fy mod yn dod yn wreiddiol o gymoedd Gwent a oedd yn diriogaeth Neil Kinnock pan oeddwn yn tyfu fyny yn y 1970au a'r 1980au, rwy'n cofio'n rhy dda fod elfen hirsefydlog a chryf iawn o amheuaeth ynghylch datganoli yn y gwythiennau Llafur Cymru hynny, Alun. Efallai mai dyna pam mai aelod o Blaid Cymru oeddech chi ar y pryd.

Ond gadewch inni ddelio â'r presennol, ac mae blwyddyn a hanner o'r bartneriaeth mewn grym honedig wedi chwalu'n anadferadwy y ddelwedd y mae Llafur yng Nghymru yn hoffi gwneud môr a mynydd ohoni. A chredaf fod yr holl rybuddion ynghylch difaterwch Starmeriaeth tuag at ddatganoli yng Nghymru wedi eu gweld ers peth amser cyn yr etholiad cyffredinol. Cefnwyd yn ddistaw bach ar ymrwymiadau hirsefydlog i ddatganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona, a ategwyd gan gyfoeth o ymchwil academaidd. Cafodd y grual gwan a gynigiwyd i Gymru gan adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol cyfansoddiadol y DU ei lastwreddio hyd yn oed ymhellach, a chafodd y syniad o ddatganoli fel ffordd o gyflawni dibenion blaengar ei anwybyddu'n llwyr gan agwedd haerllug 'ni sy'n gwybod orau' San Steffan.

Ond ers yr etholiad cyffredinol, mae'r difaterwch hwn wedi troi'n rhywbeth llawer mwy gelyniaethus. Oherwydd nid yn unig ein bod yn gweld Llywodraeth yn gwasgu'r brêc ar ddatganoli; mae hon yn Llywodraeth sy'n mynd ati'n weithredol i sathru dros ein setliad datganoli a enillwyd drwy lawer o ymdrech, gyda chymaint o ddirmyg â'u rhagflaenwyr. Mae hyn yn gwbl groes i'w hagwedd at ddatganoli yn Lloegr. Mae lleoedd fel Cumbria, Swydd Gaer, Essex, Hampshire, East Anglia a Sussex wedi cael eu rhoi ar lwybr carlam ar gyfer datganoli, tra bo Cymru'n cael ei gadael ar ôl.

A nawr, o'r diwedd, mae aelodau meinciau cefn y Blaid Lafur eu hunain yn deffro i'r realiti anochel hwn. Rydym yn canmol Mick, Hannah, Alun, John, Lesley, Julie, Jenny, Rhianon, Carolyn, Mike a Lee am feirniadu eu harweinwyr ar lefel y DU. Maent yn iawn i ddweud, pe bai'r gweithredoedd hyn wedi'u cyflawni gan Lywodraeth Geidwadol y DU, y byddai eu meinciau blaen wedi bod yn gandryll.

Pe bai gan Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw hunan-barch, byddent yn gwneud pob ymdrech i droi eu geiriau yn gôr o gondemniad. Ond er ein bod yn mawr obeithio y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif gan y ddau bencadlys Llafur, ni wnawn ddal ein gwynt. Wedi'r cyfan, mae'r gwelliant y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnig yn diystyru prif neges y llythyr yn llwyr: fod y setliad datganoli wedi'i danseilio o dan Lywodraeth Lafur y DU.

Pan fo'u Llywodraeth eu hunain mor barod i ysgubo pryderon dilys dros draean o'r grŵp Llafur yma yn y Senedd o'r neilltu, nid oes rhyfedd nad yw Starmer yn petruso o gwbl rhag bwrw ymlaen. Rwy'n gobeithio y gwelwn yr 11 Aelod Llafur yn rhoi eu harian ar eu gair y prynhawn yma ac yn pleidleisio o blaid y cynnig heddiw, ond nid oes gennyf lawer o obaith ar ôl clywed gan Alun Davies nawr. Oherwydd byddai'n drueni pe byddent yn dilyn araith mor bwerus am roi lles gwlad o flaen plaid drwy bleidleisio yn y pen draw yn y ffordd y byddai penaethiaid eu plaid yn ei ffafrio.

Ac o ran y Prif Weinidog, dylai hyn fod yn rhybudd brys iddi ynghylch ei hagwedd ei hun a sut y mae'n galluogi ymddygiad Llywodraeth y DU. Oherwydd ni allwch, ar y naill law, fynnu galw eich hunain yn blaid datganoli, gan barhau yn yr un gwynt i ailadrodd disgrifiadau San Steffan o ddatganoli fel rhywbeth sydd rywsut yn ymylol i faterion bara a menyn. Fel y clywsom unwaith eto yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, mae'n ymateb disynnwyr, plentynnaidd, poblyddol y dylai'r Prif Weinidog fod â chywilydd ohono.

Ar ben hynny, mae'r ymgais i esgusodi diystyru awdurdod Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ar sail y cynnydd honedig a wnaed mewn perthynas â'r gronfa twf lleol newydd yn chwalu o dan yr awgrym cyntaf o graffu ac yn nodweddiadol o'r wleidyddiaeth o ddisgwyliadau isel sydd wedi dod yn safbwynt diofyn i'r Llywodraeth hon. Nid yn unig fod y lefel o gyllid a gadarnhawyd i Gymru £83 miliwn yn llai na'r hyn a glustnodwyd yn wreiddiol yn yr adolygiad o wariant, o ganlyniad i gyrch gan y Trysorlys i gynyddu'r pot ar gyfer rhaglen Balchder Bro, mae lefel y cyllid blynyddol hefyd oddeutu hanner y swm a gafodd Cymru yn 2024-25 o dan y gronfa ffyniant gyffredin a fu'n gymaint o destun gwawd.

Gyda Llafur, yn ôl pob golwg, yn methu rhoi’r gorau i’w hen arfer o israddio datganoli er mwyn ymostwng i Starmer, mae’r craciau sydd eisoes yn ymddangos mewn cadarnleoedd a fu gynt yn anorchfygol fel Caerffili yn sicr o dyfu, ac mae arolwg barn arall yn dangos hynny’n glir. Oherwydd mae pobl Cymru wedi cael llond bol ar gael eu trin yn nawddoglyd gan sefydliad yn San Steffan y mae ei warchodaeth genfigennus o liferi pŵer wedi arwain at benderfyniad ar ôl penderfyniad yn cael ei wneud ar eu traul nhw—ar atal cyllid canlyniadol HS2, ar wrthod caniatáu inni elwa o’n hadnoddau naturiol ein hunain, ac ar y ffordd gywilyddus y mae'n manipiwleiddio fformiwla Barnett y mae ei hoes wedi dod i ben er mwyn tanariannu Cymru'n enbyd, ac mae'r rhestr yn parhau.

Rwy'n gorffen nawr, Llywydd.

Ym Mhlaid Cymru, maent yn gwybod bod yna blaid na fydd byth yn ildio ein ffydd ddiysgog mewn datganoli, nid fel rhyw fath o anghyfleustra cyfansoddiadol haniaethol, ond fel llwybr i ailfuddsoddi pŵer lle mae'n perthyn—yn nwylo pobl Cymru.

18:30

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon heno. Gadewch i mi ddechrau drwy roi cyd-destun i fy nghyfraniad heddiw drwy ddweud bod y Senedd hon wedi'i sefydlu yn 1997 gan ganlyniad refferendwm agos iawn—mwyafrif tenau'n ennill ar yr addewid y byddai datganoli yn gwella bywyd pob dydd yng Nghymru. Camfanteisiwyd ar yr ymddiriedaeth dro ar ôl tro ac mae'r modd y mae pleidiau gwleidyddol a oedd unwaith yn ymylol yn dod i'r tir canol yn bryderus, gan fod eu cymhelliant sylfaenol wedi'i wreiddio yn eu nod terfynol o annibyniaeth i Gymru.

Yr ymadrodd y mae gwleidyddion Plaid Cymru yn ei ailadrodd yw bod annibyniaeth yn daith, ac mae eu ffraeo cyson dros y setliad datganoli yn rhan o'r daith honno. Bydd pen draw'r daith, yr wyf i'n bersonol yn gobeithio na fyddwn byth yn ei gyrraedd, yn gwneud pawb yng Nghymru yn llawer tlotach. Maent bellach yn gweithredu fel cyfryngau i ddegawdau o fethiant. Fel y dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddoe, mewn un o lawer o gymariaethau addas, mae Llafur a Phlaid Cymru yn ddwy ran o'r un ceffyl pantomeim, sy'n gweithio ar y cyd i sicrhau bod Cymru ar waelod bron bob tabl cynghrair. 

Ar adeg pan fo pobl yn aros misoedd, weithiau blynyddoedd, am driniaeth y GIG, pan fo safonau yn ein hysgolion yn llithro flwyddyn ar ôl blwyddyn, a phan fo cymunedau fel gorllewin y Rhyl yn fy etholaeth i'n crefu am adfywio a swyddi, unwaith eto mae Plaid Cymru wedi dewis ailagor dadl ar dincran cyfansoddiadol. [Torri ar draws.] Ie, Llyr.

18:35

A ydych chi'n hapus gyda'r ffaith bod Cymru'n talu £25 miliwn yr wythnos tuag at seilwaith rheilffyrdd yn Lloegr? Oni allai'r arian hwnnw gael ei wario ar rai o'r gwasanaethau y gwnaethoch chi dreulio ychydig funudau'n eu beirniadu?

Byddai annibyniaeth i Gymru yn ein gwneud yn llawer tlotach, Llyr, ac mae'r ffigurau yno i bawb eu gweld. [Torri ar draws.] Iawn, Mike.

Oni allwn gytuno ar y ffaith ein bod yn cael budd o rhwng £12 biliwn a £16 biliwn y flwyddyn gan y Trysorlys drwy fod yn rhan o'r undeb? Mae hynny'n ffaith. Efallai nad yw'n ffaith y byddai Plaid Cymru yn hoffi ei chlywed, ond mae'n ffaith.

Rwy'n cytuno, Mike. Ac fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig alw am y cyllid o HS2, ac rydym bob amser wedi bod yn gyson ynglŷn â hynny.

Nid canlyniadau iechyd, nid safonau addysgol, nid twf economaidd, ond mwy o bwerau yw'r hyn y mae gan Blaid Cymru obsesiwn ag ef. Mae'r obsesiwn hwn â datganoli wedi tynnu sylw oddi ar y gwaith go iawn y dylai'r Senedd fod yn ei wneud. Nid yw Cymru'n dioddef o ddiffyg pwerau, mae'n dioddef o ddiffyg cyflawniad, a diffyg meddwl gwreiddiol. Rydym wedi cael gwladwriaeth asgell chwith barhaol ers dros chwarter canrif, ac edrychwch ble rydym ni.

Ers 1999, mae Llywodraeth Cymru wedi cronni awdurdod sylweddol dros iechyd, addysg, trafnidiaeth, tai a'r economi, ond mae amseroedd aros y GIG yn waeth nag yn Lloegr. Mae Cymru ar waelod safleoedd addysg y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ac mae ein heconomi'n parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU. Mae ateb Plaid Cymru i hyn i gyd bob amser yr un fath: rhowch fwy o rym i ni. Mwy o bŵer dros blismona, mwy o bŵer dros gyfiawnder, mwy o bŵer dros Ystad y Goron. Rhun.

Diolch am dderbyn ymyriad. Roeddwn i'n gweithio fel newyddiadurwr ar adeg y refferendwm datganoli ym 1997. Mae'n rhyfeddol cymaint rydych chi'n adleisio'r farn a gâi ei lleisio gan wleidyddion Ceidwadol yn ôl yn ystod y refferendwm hwnnw. A ydych chi'n ymwybodol eich bod chi'n siarad iaith y gwrth-ddatganolwyr hynny nawr, ac a ydych chi'n ddigon dewr i ddweud nawr eich bod yn erbyn rhoi llais i Gymru?

Ymgais dda, Rhun. Mae'n debyg yn eich blynyddoedd fel newyddiadurwr y byddwch chi wedi dysgu sut i sbinio ac ystumio pethau, ac nid dyna a wnaf i, ac fe wnaf gyflwyno'r achos yn fy nghyfraniad.

Yn onest, os na allwch arfer y pwerau sydd gennym yn barod mewn ffordd gymwys, pam ar y ddaear y dylai pobl Cymru ymddiried ynoch chi gyda mwy ohonynt? Rydym yn gweld gorymdeithiau YesCymru yn cael eu mynychu gan wleidyddion Plaid Cymru yn mynnu annibyniaeth pan fo llefydd fel gorllewin y Rhyl yn brwydro'n erbyn amddifadedd, anghydraddoldeb iechyd a diffyg cyfleoedd. Nid yw Plaid Cymru'n deall hyn, ond mae gan y trigolion bethau pwysicach i boeni amdanynt na'r setliad datganoli, pethau fel a allant droi eu gwres ymlaen neu gael pryd o fwyd y noson honno.

Mae'r llythyr diweddar gan feinciau cefn Llafur yn cyhuddo eu Llywodraeth eu hunain o danseilio datganoli yn dweud mwy am anhrefn mewnol y Blaid Lafur nag am realiti cyfansoddiadol. Eto i gyd, yn hytrach na derbyn cyfrifoldeb, mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn ildio i'r arfer diofyn o feio Llywodraeth flaenorol y DU, tynnu sylw oddi ar y pethau pwysig, a galwadau am fwy o bwerau. Ni wnaeth y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan erioed ddal gwn at Lywodraeth Cymru a'u gorfodi i wastraffu arian ar blannu coed yn Uganda. Ni wnaeth y Torïaid erioed orfodi Llywodraeth Cymru i wario £120 miliwn ar ehangu'r Senedd na gwario £20 miliwn ar gynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol neu £32 miliwn ar bolisi atgas 20 mya. Maent yn barod i daflu arian trethdalwyr i ffwrdd.

Ni yw'r unig blaid yn y Siambr hon sy'n amlwg yn erbyn datganoli mwy o bwerau. Mae Reform yn cefnogi ehangu. Mae Plaid Cymru eisiau annibyniaeth. Mae Llafur yn gwneud eu gorau glas i'w bodloni bob tro. Ond rydym ni'n sefyll dros atebolrwydd, oherwydd nid oes angen mwy o bwerau ar y Senedd, mae angen atebolrwydd a Llywodraeth sy'n defnyddio'r pwerau sydd ganddi i drwsio Cymru. Hyd nes y digwydd hynny, bydd dadleuon fel hyn yn parhau i deimlo'n ddatgysylltiedig oddi wrth fywydau go iawn y bobl y cawn ein hethol i'w gwasanaethu. Mae Cymru'n haeddu gwell na bogailsyllu cyfansoddiadol. Mae Cymru'n haeddu Llywodraeth sydd â syniadau newydd ar gyfer y problemau sy'n wynebu Cymru ac un sy'n benderfynol o'u cyflawni. A'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r Llywodraeth honno, Lywydd.

18:40

Mae'n teimlo fel pe baem wedi cyrraedd pwynt cyfyng ar ôl dros 12 mis o reolaeth Llafur yn San Steffan. Mae gennym y llythyr gan draean o Aelodau Llafur y Senedd. Hoffwn dalu teyrnged i chi ac i'ch dewrder am fynd allan yno a bod yn glir ynghylch yr hyn y mae llawer ohonom yn ei deimlo.Yn ail, gwelsom ddatganiad sarhaus iawn Jo Stevens ei bod hi'n cyfathrebu yn Saesneg yn unig. Ac mae symiau canlyniadol y mae gennym hawl iddynt yn dal i fod heb eu darparu, a diffyg datganoli—a dyna beth rwy'n ei olygu mewn gwirionedd, diffyg datganoli—HS2, Ystad y Goron, yr heddlu a chyfiawnder troseddol, y gwasanaeth prawf. Nid oes gennym unrhyw amserlen o gwbl ar gyfer datganoli'r materion pwysig hynny i ni yma yng Nghymru, er gwaethaf llawer o geisiadau, ac rydym yn rhedeg allan o ffordd.

Nid Llafur mewn partneriaeth â'r Llywodraeth Lafur yn Llundain yw'r hyn a welwn. Nid partneriaeth gyfartal yw hon mewn unrhyw ddull na modd. Roedd fy mam yn rhan o'r grŵp llywio ym 1997 a helpodd i ddatblygu sylfeini'r Cynulliad, a bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym yn gweld uchelgais, cawn ein gweld fel ôl-ystyriaeth. Yn 2025, nid ydym yn gweld partneriaeth, gwelwn ddiffyg parch. Dylid gwrando ar y Senedd hon, ni ddylem orfod mynnu ein hawliau. Dylid parchu ein hiaith, nid yn unig iaith y Senedd hon, ond iaith ein gwlad, sy'n gyfrwng i'n diwylliant. Ac er bod rhai'n ystyried nad yw'r ddadl hon yn mynd i'r afael â phroblemau pobl a phryderon bob dydd, mae'n gwbl sylfaenol i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru a darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom. Mae'r ddadl hon yn hanfodol, ac rwy'n diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno. Diolch yn fawr iawn.

Roeddwn i'n mynd i ddweud fy mod yn anghytuno â'r gwelliant Torïaidd am fy mod yn credu bod y dadleuon hyn ar ddatganoli yn ddefnyddiol ac yn bwysig. Ar ôl rhai o'r sylwadau a wnaed, rwy'n rhyw lun o gwestiynu hynny. Ond rwy'n cytuno bod y dadleuon hyn yn bwysig, ac nid wyf yn cytuno â'r rheini sy'n dweud nad yw materion cyfansoddiadol yn bwysig. Maent yn bwysig am eu bod yn mynd i graidd ein gallu i gyflawni dros Gymru a'r bobl a gynrychiolwn. Maent yn sail i'r egwyddorion a'r sail ddeddfwriaethol dros arfer pŵer a dosbarthu adnoddau.

Wrth gwrs, mae'r ddadl ar ddatganoli yn mynd yn ôl ymhell dros ganrif. Mae'n mynd yn ôl i droad y ganrif, at Cymru Fydd. Ac wrth gwrs, roedd yna ymgyrch 'Senedd Cymru' yn y 1950au, ac roedd rhai ohonom yma yn rhan fawr o refferendwm datganoli 1979. Cefin, rwy'n credu fy mod yn cofio ar y pryd i ni fynd benben â'r gwnstabliaeth wrth osod posteri ar bont bae Baglan, os ydw i'n iawn. Roedd yr ymgyrch honno yn 1979 yn un a gollwyd gennym, ac roeddem yn meddwl ar ôl hynny na fyddem byth yn gallu cael datganoli, ac na fyddai newid yn y dyfodol. Roedd yn gyfnod digalon iawn, ac roedd yn dangos pa mor rhanedig oedd Cymru ar y pryd. Roedd yn araf, ond 20 mlynedd yn ddiweddarach fe gafwyd cynnydd.

Mae llawer y gallaf gytuno ag ef mewn egwyddor yn y cynnig. Mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod unrhyw anghytundeb â barn sefydledig Llywodraeth Cymru a'r Senedd y dylid diddymu Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Roedd yn ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan y Torïaid i danseilio'r gwaith pwysig a wnaed ar sail y pedair gwlad i sefydlu fframweithiau cyffredin ar ôl Brexit er mwyn sicrhau parhad y farchnad sengl gan barchu buddiannau datganoledig ar yr un pryd. Mae'r Ddeddf yn diystyru'r fframweithiau, ac mae'n rhoi pwerau ariannol goresgynnol i Lywodraeth y DU mewn swyddogaethau datganoledig. Deddf oedd hi a gyflwynwyd gan y Torïaid i roi pwerau iddynt na allent eu cael drwy'r blwch pleidleisio.

Fel gwrthblaid, fe wrthwynebodd Llafur y Bil. Ac yng Nghymru, rydym yn ei wrthwynebu. Mae'n dal i gael ei adolygu, rydym yn parhau i alw am ei ddiddymu, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Lafur y DU ynghylch ei ddiddymu, gan mai dim ond yn San Steffan y gellir ei ddiddymu. Byddwn yn llwyddo yn y pen draw, naill ai drwy ddiddymu neu, fy hoff opsiwn, Deddf diwygio cyfansoddiadol newydd, oherwydd mae yna lu o ddiwygiadau sydd angen eu rhoi at ei gilydd i ddatrys rhai o'r materion hyn.

Fodd bynnag, rwy'n credu bod y modd y cafodd y cynnig ei ddrafftio yn siomedig, oherwydd mae cymaint y gellir cytuno yn ei gylch. Mae hefyd yn gyfle a gollwyd i fynd i'r afael yn fanylach â'r hyn y credaf ei fod yn fater datganoli mwy sylfaenol a pherthnasol, sef sofraniaeth. Mae cymaint o'r anghysondebau yn ein fframwaith cyfansoddiadol yn deillio o'r gwahanol ffyrdd y deellir sut y cymhwysir sofraniaeth a sut y caiff ei datblygu mewn gwlad a arferai fod ag un ddeddfwrfa'n unig, ond sydd bellach â phedair deddfwrfa, pob un ohonynt â'u mandadau democrataidd eu hunain. Ond rwy'n credu ei fod hefyd yn datgelu—[Torri ar draws.] Iawn.

18:45

Rwy'n derbyn eich bod yn siomedig ynghylch geiriad y cynnig. Onid ydych chi felly yr un mor siomedig nad oedd y gwelliant a gyflwynwyd gan eich plaid chi'n adlewyrchu eich safbwyntiau?

Wel, rwy'n mynd i bleidleisio dros y cynnig fel y'i diwygiwyd, oherwydd rwy'n credu y byddai hwnnw'n gynnig llawer mwy effeithiol. Rwy'n credu bod y modd y cafodd ei ddrafftio hefyd yn datgelu rhywfaint o analluedd ar ran Plaid Cymru yn y broses hon, oherwydd er mwyn cyflawni newid mae'n rhaid inni sicrhau consensws gyda San Steffan, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio. Rydym yn rhan o broses i'r perwyl hwnnw, ac nid wyf yn gweld unrhyw sail ar hyn o bryd lle rwy'n credu y gall Plaid Cymru ailadrodd hynny.

Nawr, mae'n wir fod cyflawni diwygio cyfansoddiadol yn broses araf, lafurus a rhwystredig. Pan gymerais ran yn yr ymgyrch yn gyntaf, roeddwn i'n 26 oed. Rwy'n 72 oed bellach, ac mae'n dal i fod yn frwydr barhaus. Ond Llafur Cymru a gyflawnodd ddiwygio, a bydd yn parhau i wneud hynny, ac rydym ni yn hyn am y tymor hir. Pan edrychaf yn ôl ar ddechrau'r broses ddatganoli, mae safbwynt Plaid Cymru yn aml wedi bod yn un negyddol. Er enghraifft, pan gynigiwyd rheolaeth i ni ar y bwrdd cyflogau amaethyddol yn Llywodraeth Cymru'n Un, fe wnaethoch chi ei wrthod, a gadawyd i Lafur gyflwyno Deddf amaethyddiaeth (Cymru) i wyrdroi'r safbwynt hwnnw. Pan gawsom gynnig pwerau ychwanegol o dan Ddeddf Cymru 2017, sef y sail y gallasom ddiwygio ein system etholiadol arni a diwygio'r Senedd, fe wnaethoch chi wrthwynebu'r ddeddfwriaeth honno mewn gwirionedd—fe wnaethoch chi wrthwynebu deddfwriaeth a oedd yn rhoi mwy o bwerau i'r Senedd.

Rwy'n credu ei bod yn debygol y caiff eich cynnig ei drechu. Os felly, rwy'n credu mai'r cwestiwn y buaswn yn ei ofyn yn ôl i chi yw: os caiff ei drechu, a fydd gennych yr aeddfedrwydd a'r dewrder a'r egwyddor i bleidleisio wedyn dros welliant y Llywodraeth i ailgymeradwyo canfyddiadau ac argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru? Rwy'n credu mai dyna fydd y prawf i chi yn y ddadl hon. Diolch yn fawr.

Yn ystod amser cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos yma, mi ddywedodd Eluned Morgan mai Llafur yw plaid datganoli, ac yna aeth hi ymlaen i feirniadu Plaid Cymru am fod eisiau trafod materion datganoli a materion cyfansoddiadol. Mae'r ddau ddatganiad yn croes-ddweud eu hunain. Os mai Llafur ydy plaid datganoli, pam beirniadu eraill am fod eisiau ei drafod o? Wedyn fe gafwyd datganiad arall gan y Prif Weinidog, sef bod pobl Cymru ishio i wleidyddion ganolbwyntio ar faterion bara menyn yn hytrach na materion cyfansoddiadol. A dŷn ni wedi cael yr un ddadl eto y prynhawn yma gan y Torïaid, yn galw arnon ni i siarad am fywydau pobl go iawn. Mae hon hefyd yn ddadl ffals, achos mae yna gysylltiad amlwg rhwng materion cyfansoddiadol a gwella bywydau. Mae cael y pwerau yn angenrheidiol er mwyn creu newid gwirioneddol ym mywydau pobl. Dwi'n mynd i roi un enghraifft i chi. Mi fyddwn i'n gallu dyfynnu miloedd, ond dwi am roi un enghraifft—[Torri ar draws.] Cyn hynny—.

Fe wnaethoch chi ddatganiad yno fod angen mwy o bwerau arnom i wella bywydau pobl. Roedd gennyf etholwr a fu farw wrth aros am ambiwlans. Nid wyf yn siŵr fod mwy o bwerau i'r Senedd yn mynd i wella canlyniadau iddo ef, onid ydych chi'n cytuno?

Dwi'n mynd i roi enghraifft i chi rŵan o newid gwirioneddol fyddai'n gallu digwydd efo pwerau llawn: digartrefedd. Mae yna 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro. Mae plant, y prynhawn yma, wedi cyrraedd adref o'r ysgol i lety anaddas: dim lle i goginio, dim lle i gael preifatrwydd, dim lle i wneud gwaith cartref neu ymlacio efo ffrindiau. Yr wythnos diwethaf, roeddem ni'n trafod Cyfnod 2 y Bil digartrefedd newydd yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai—Bil sydd yn ceisio rhoi ffocws ar atal digartrefedd, fel bod pobl yn cael cymorth cyn diweddu mewn llety dros dro neu ar y stryd, a Bil yr ydw i'n cytuno efo fo yn llwyr. Mae o'n cyflwyno dyletswydd newydd, dyletswydd ‘gofyn a gweithredu’ statudol sy'n gofyn i gyrff penodol chwilio am ganiatâd person y maen nhw'n amau sydd un ai yn ddigartref neu mewn risg o ddod yn ddigartref—caniatâd i'w cyfeirio nhw ymlaen at yr awdurdod lleol. Y bwriad, wrth gwrs, ydy canfod problemau'n gynnar a gwella eu cydweithio o gwmpas y person ar draws y system.

Mi wnes i gyflwyno gwelliant er mwyn ychwanegu'r heddlu fel un o'r cyrff a fyddai'n gorfod gweithredu’r ddyletswydd ‘gofyn a gweithredu’. Ond roedd y Llywodraeth yn erbyn hynny, ac fe gwympodd y gwelliant. Yr eglurhad a gafwyd oedd nad ydy'r heddlu ddim wedi'i ddatganoli, fel dŷn ni'n gwybod. Mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet tai ein bod ni angen caniatâd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i osod dyletswydd ar yr heddlu. Dydy'r caniatâd hwnnw ddim wedi cael ei roi, meddai'r Ysgrifennydd Cabinet, a heb y caniatâd hwnnw, mi fyddai'r Bil tu allan i gymhwysedd cyfreithiol y Senedd. 

Rŵan, mae hynny'n sefyllfa annerbyniol ar sawl lefel. Pam mae'n rhaid i ni fynd, efo cap mewn llaw, at Lywodraeth arall i ofyn am ganiatâd i wneud rhywbeth yn ein gwlad ein hunain er mwyn gwella bywydau pobl? Mae gan yr heddlu rôl allweddol i atal digartrefedd yng Nghymru, rôl hanfodol o weithio mewn partneriaeth efo llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol i atal digartrefedd. Mae ganddyn nhw rôl allweddol wrth adnabod ac ymgysylltu efo pobl sydd yn cysgu ar y stryd, yn rhoi cefnogaeth iechyd meddwl, yn taclo camddefnyddio cyffuriau. Does yna ddim synnwyr yn y byd nad oes modd alinio dyletswyddau'r heddlu efo dyletswyddau cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Dwi'n meddwl bod hwnna’n un enghraifft, un enghraifft yn unig, o setliad datganoli sydd ddim yn gweithio er budd rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas ni—mater cyfansoddiadol sydd angen ei drafod a'i newid er mwyn gallu atal digartrefedd rhag digwydd yng Nghymru, mater bara a menyn sydd o bwys mawr i'n hetholwyr ni.

Felly, mae'n hynod siomedig bod ymrwymiadau a wnaed dros gyfnod hir i ddatganoli cyfiawnder a phlismona wedi cael eu gollwng yn dawel bach, er gwaetha'r holl dystiolaeth sydd yna yn cefnogi eu bod nhw'n cael eu datganoli. Ac yna mae yna rwyfo nôl ar ddatganoli yn digwydd, fel sydd wedi cael ei amlinellu yma'r prynhawn yma gan fy nghyd-Aelodau, ac wedi ei amlygu yn glir iawn yn y llythyr at Keir Starmer. Llafur ydy plaid datganoli, meddai'r Prif Weinidog, ac os ydy'r Aelodau Llafur yn y Senedd yma wir yn credu hynny, ac eisiau i bobl Cymru gredu hynny, wel, cefnogwch ein cynnig ni a gyrru neges glir i San Steffan ar drothwy’r Nadolig.

18:50

Rwy'n credu ei bod yn briodol iawn ein bod ni'n cael y ddadl hon yn yr hen Siambr hon, un o nifer lai a llai y byddaf yn cymryd rhan ynddynt, ac un o'r rhai olaf y byddwn yn eu cynnal yma cyn inni symud i'r Siambr newydd ym mis Chwefror. Oherwydd rwy'n credu bod y Siambr hon yn fy atgoffa o ba mor bell y daethom, ond hefyd pa mor bell sydd gennym i fynd o hyd. Mae yna ymdeimlad o barhad a newid yma. Mae'r ddadl heddiw wedi fy atgoffa o'r teyrngarwch llwythol sy'n dal i'n gwahanu ar faterion lle dylai fod llawer o gonsensws mewn gwirionedd. Ond hefyd, gadewch inni gofio sut roedd pethau ym 1999 pan gafodd y lle hwn ei greu, pan oeddem yn cael Llywodraethau wedi'u gorfodi ar Gymru na wnaethom bleidleisio drostynt a meysydd polisi nad oeddem yn cytuno â nhw ac na allem wneud unrhyw beth amdanynt. Roeddem yn cael Ysgrifenyddion Gwladol Cymru o etholaethau yn Lloegr ac ni allem wneud unrhyw beth i'w dwyn i gyfrif. Ac edrychwch pa mor bell y daethom. Oes, wrth gwrs fod llawer mwy i'w wneud, ond rydym wedi dod yn bell. Ac os na allwn edrych ar y pethau sydd gennym yn gyffredin, mae perygl yr awn yn ôl i hyn. Ac rwy'n credu bod pobl yn anghofio pa mor llwm oedd hi cyn i'r lle hwn gael ei greu.

Nawr, fe ddechreuodd Rhun ap Iorwerth drwy ddyfynnu geiriau Ron Davies yn ei bamffled, 'Datganoli: proses nid achlysur', ac fe gynorthwyais i ysgrifennu'r pamffled hwnnw. Ac fe ddyfynnodd y llythyr at Keir Starmer, ac fe gynorthwyais i ysgrifennu hwnnw hefyd. Felly, rwyf wedi bod yn myfyrio llawer ar ba mor bell y daethom. Ac rwy'n credu bod y llythyr yn beth iach, oherwydd mae'n dangos bod yna bellach—. Mae anghydfod tiriogaethol yn rhan arferol o wleidyddiaeth ddatganoledig. Ni ddylai hynny fod yn fater i resynu yn ei gylch. Ni ddylai fod yn ymgais gan Blaid Cymru i gyflwyno cynigion sy'n ceisio ein dal ar ein cam—mae'n amlwg mai rhyw fath o wleidyddiaeth myfyrwyr yw'r cymhelliant sy'n sail i'r cynnig hwn heddiw. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio.

18:55

Mae lluchio cyhuddiadau o wleidyddiaeth myfyrwyr islaw eich urddas, ond mewn gwirionedd—

Wel, nid yw islaw eich urddas chi, Mike. [Chwerthin.] Mae mater consensws yn bwysig iawn. Mae Plaid Cymru yn llythrennol, yn y cynnig hwn heddiw, yn dyfynnu'r geiriau a roddwyd yn y llythyr y gwnaethoch chi helpu i'w ysgrifennu er mwyn ceisio dod â ni at ein gilydd ar draws y pleidiau gwleidyddol i adeiladu consensws ein bod yn credu bod datganoli wedi ei danseilio.

Os mai dyna oedd y cymhelliant, buaswn yn ei gefnogi, ond nid wyf yn siŵr fod y cymhelliant mor syml â hynny, sef y rheswm dros eich ymyriadau i geisio rhoi pobl ar brawf i weld a ydynt yn mynd i fynd yn groes i'r chwip i gefnogi eich cynnig.

Edrychwch, gadewch inni ei roi naill ochr. Mae hwn yn fater pitw ac mae'r ddadl hon wedi bod yn eithaf pitw. Mae gwrando ar gyfraniadau'r Ceidwadwyr—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, mae'r cyfraniadau Ceidwadol rwy'n siarad amdanynt yn dangos yn bennaf pa mor bell nad ydynt hwy wedi dod. Roeddwn yma fel newyddiadurwr pan welais Nick Bourne, David Melding, Jonathan Morgan, Glyn Davies, Suzy Davies, Angela Burns ac eraill yn mynd ati o ddifrif i geisio datblygu ffurf Gymreig ar Geidwadaeth—fe wnaeth Paul Davies am gyfnod hefyd; trodd ei gefn ar y syniad—ac mae'n ymddangos eu bod wedi dychwelyd at ffurf ddeuaidd iawn ar wrth-ddatganoli o gyfnod 1997, sy'n drueni go iawn ac yn gyfle a gollwyd iddynt, ac mae'r arolygon barn yn dangos eu bod yn mynd i dalu'r pris am hynny, fel rydym ni yn ôl pob tebyg.

Ond edrychwch, mae'n iawn fod y Senedd hon yn gwthio'n ôl pan fydd y setliad datganoli yn cael ei dorri—nid mater i Lywodraeth Cymru yn unig ydyw, mae'n fater i'r Senedd. Ceir consensws cryf, ar yr ochr hon i'r Senedd yn sicr, ac yn fy mhlaid i yn sicr, y dylid parchu datganoli ac y dylid ei gryfhau. Nid yw'n farn sy'n cael ei rhannu'n unfrydol ar draws y Blaid Lafur, ac rwyf wedi treulio digon o amser yn archif wleidyddol Cymru yn  Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i wybod nad yw'r rhain yn ddadleuon newydd. Mae'r rhain yn ddadleuon mor hen â sosialaeth ei hun, ac rydym yn gweld hynny'n dal i ddigwydd.

Mae yna anghytundeb. Nid oes dim byd o'i le mewn anghytuno. Holl bwynt datganoli oedd adlewyrchu'r anghytundeb hwnnw, nid cael ei wared, ond caniatáu i hynny gael ei wyntyllu a'i drafod a delio ag ef. A dyna fydd yn digwydd. Mae yna anghytundeb. Mae Llywodraeth San Steffan—yn y llythyr roedd llinell bwysig yn y tywod i ni yn dweud nad ydym yn hapus ag ef ac na fyddwn yn ei dderbyn yn dawel, ac rydym am wthio'n ôl yn ei erbyn. Rydym yn unedig ar hynny. Er mor anghyfleus yw hynny i lawer yn ein plaid, dyna yw ein safbwynt o egwyddor ac rydym yn sefyll dros hynny.

Yn y 25 mlynedd nesaf, yn sicr yn y pum mlynedd nesaf o ddatganoli, mae o fudd i ni i gyd fyfyrio ar y pethau y cytunwn arnynt, ac nid ceisio baglu ein gilydd yn gyson, oherwydd mae yna ddiwylliant gwleidyddol newydd yn datblygu yn y wlad ac rydym yn rhan ohono. Mae'n brosiect parhaus o ddatblygu diwylliannau gwleidyddol, ac mae diwylliannau gwleidyddol yn cymryd cenedlaethau, ac maent yn bethau bregus. Rwyf wedi bod yn falch o fod yn rhan o dyfu'r un hwn. Mae heddiw'n dangos bod gwaith i'w wneud o hyd. Ond serch hynny, mae'n dal i fod yn rhywbeth pwysig y mae pawb ohonom wedi cyfrannu ato. Mae'r llythyr yn rhan bwysig o adeiladu ar hynny, felly gadewch inni wneud yn siŵr nad ydym yn dychwelyd at ein greddfau llwythol yn ein hymateb iddo a'n bod yn edrych ar sut y gallwn adeiladu ar y consensws hwnnw.

Roeddwn yn falch o weld y llythyr gan bron bob un o aelodau'r meinciau cefn Llafur. Roedd hi'n bryd ei gael, ac mae'n dweud yn gywir y byddai llawer mwy o ddicter pe byddai Llywodraeth Geidwadol y DU yn ymddwyn yn yr un modd. Mae'n bwysig cael y ddadl hon. Rydym wedi treulio amser hir heno yn siarad am annibyniaeth, yn siarad am bwerau pellach neu beidio, a siarad am gynnyrch domestig gros gwledydd eraill. Mae cyfranwyr eraill wedi tynnu sylw at wendidau'r Llywodraeth bresennol, ond nid annibyniaeth, pwerau pellach neu beidio, na chyflawniad Llywodraeth Cymru, yw'r cynnig heddiw. Bydd y Senedd hon yn cael cyfle y flwyddyn nesaf i ethol Llywodraeth newydd, a gall pobl wneud yr achos o blaid neu yn erbyn pwerau pellach ac annibyniaeth y pryd hwnnw. Ond mae'r cynnig hwn yn ymwneud â'r ffaith bod y setliad datganoli fel sydd gennym nawr, pa un a ydym yn ei hoffi ai peidio, yn cael ei danseilio. Rwy'n credu bod pawb yma sy'n ddatganolwyr, ac rwy'n siŵr fod yna un yma, nad yw yn yr ystafell, wedi dod allan a dweud y byddai'n cefnogi diddymu'r Senedd—. Rwy'n credu y dylai pob datganolwr yma allu cefnogi'r cynnig hwn.

Gallwn bleidleisio o blaid, ac mae'n debyg y byddaf yn pleidleisio o blaid, cynnig Plaid Cymru a'r cynnig Llafur heno—rwy'n cael gwneud hynny nawr. [Chwerthin.] Ni allwn bleidleisio o blaid gwelliant y Torïaid fodd bynnag. Mae eraill wedi gwneud y pwynt, ond mae tanseilio'r setliad datganoli, cipio grym, mynd â'r cydgysylltiad oddi wrth Lywodraeth Cymru yn tanseilio pwerau'r lle hwn a gallu'r lle hwn i wella bywydau pobl Cymru.

Ar ôl i Fil y farchnad fewnol gael ei orfodi drwodd heb ganiatâd y lle hwn, heb ganiatâd Llywodraeth yr Alban, rydym wedi gweld cydsyniad yn cael ei gadw'n ôl yn llawer mwy rheolaidd. Amddiffynnodd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd eu dewis cychwynnol i basio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig drwy ddweud bod confensiwn Sewel ond yn dweud na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn deddfu ar faterion datganoledig—nid fel arfer. Roeddent yn dweud bod gadael marchnad tollau'r DU yn ddigwyddiad unigryw. Serch hynny, aethant yn eu blaenau i orfodi mwy na dwywaith cymaint o Filiau drwodd heb ganiatâd datganoledig yn nhymor seneddol 2019 i 2024 nag a wnaethai San Steffan erioed dros 20 mlynedd cyntaf datganoli. O ganlyniad i hyn, penderfynodd y Cwnsler Cyffredinol, ym mis Gorffennaf—mae gennym lawer o gonfensiynau; mae hi'n sôn am Sewel—nad yw llawer o'r confensiynau hyn yn werth y papur y cawsant eu hysgrifennu arno. Serch hynny, cawsom ein sicrhau ganddi nad oedd Llywodraeth Lafur San Steffan wedi ein diystyru fel hyn—ym mis Gorffennaf o leiaf ni wnaethant ein diystyru fel hynny.

Mae Bil y farchnad fewnol, y nododd eraill lawer o ddiffygion ynddo, gan gynnwys yr Ysgrifennydd cyllid, yn gosod y sylfaen ar gyfer y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, a basiwyd hefyd heb unrhyw ganiatâd datganoledig. Y Bil hwnnw yw'r rheswm y gall cwmni preifat fynd â Llywodraeth Cymru i'r tribiwnlys nawr i geisio ein hatal rhag buddsoddi mewn seilwaith pwysig, seilwaith cenedlaethol pwysig, Maes Awyr Caerdydd. Yn y bôn, nid yn unig eu bod yn bachu pwerau oddi wrth y lle hwn, maent yn trosglwyddo pwerau i gwmnïau preifat. Rydym bellach wedi gweld prosiect rheilffordd ar ôl prosiect rheilffordd yn cael eu dynodi fel rhai 'Cymru a Lloegr'. Ar ôl iddynt sylweddoli y gallent wneud hynny gyda HS2, maent wedi gwneud yr un peth gyda Rhydychen a Chaergrawnt, a nawr gyda Lerpwl i Hull. Yn union fel gydag anwybyddu cydsyniad deddfwriaethol, yn union fel gyda rheilffyrdd, maent bellach yn gwneud yr un peth eto gyda'r farchnad fewnol i ddadrymuso Cymru.

O ganlyniad i'r naddu cyson hwn, cawsom erthygl gan y BBC. Y pwnc oedd, ynghylch cyllid awdurdodau lleol, a ddylai San Steffan neu a ddylai'r Senedd benderfynu ar wariant ar drefi, gan ei fod yn fater o farn yn hytrach na setliad datganoli a gytunwyd. Mae hawl Cymru i hunanbenderfyniad yn cael ei naddu ymaith ar draws y gymdeithas i'r graddau bod y BBC bellach yn ei fframio fel mater o farn yn hytrach na mater o gyfraith. Wrth gwrs, dylai fod yn bŵer i'r lle hwn. Dyma'r setliad datganoli y pleidleisiodd pobl Cymru drosto. Y cynllun Balchder Bro yw dechrau'r trydydd iteriad o'r patrwm rwyf newydd ei drafod, a'r ddau gyntaf oedd cynigion cydsyniad deddfwriaethol a'r rheilffyrdd. Os bydd San Steffan yn llwyddo unwaith i ddeddfu a gweithredu mewn meysydd datganoledig, fe fyddant yn rhoi cynnig arni eto. Os gallant gymryd pŵer yn ôl dros gyllid lleol, byddant yn teimlo'n rhydd yn y blynyddoedd nesaf i fachu pŵer yn ôl dros dai, addysg, iechyd a mwy. Nid yw'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn addo gweithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban a Chymru ar Balchder Bro yn golygu dim. Mae fel pe bai rhywun yn mynd i dŷ rhywun, gwario eu cyflog, a dweud, 'Wel, fe wnawn ymgynghori â chi ar sut i wario'r cyflog rydych chi wedi'i ennill.' Dyma beth sy'n digwydd. Mae'r ffaith nad yw wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon yn dangos bod Llywodraeth y DU yn gwireddu'r setliad datganoli ac yn gallu parchu'r setliad datganoli. Mae'r casgliad bellach yn glir: mae San Steffan yn ymosod ar ddatganoli, beth bynnag yw lliw'r blaid.

19:00
Member (w)
Huw Irranca-Davies 19:04:57
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr, Lywydd. Gan mai hon yw'r ddadl olaf cyn i ni fynd yn ôl i'n hetholaethau a pharatoi ar gyfer tymor yr ŵyl, a gaf i fanteisio ar y cyfle i ddymuno'r gorau i'r holl Aelodau ar gyfer y Nadolig a'r flwyddyn newydd? A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau hefyd? Cafwyd rhai cyfraniadau tawel a meddylgar a rhai cyfraniadau mwy croch, fel sy'n gweddu i'r tymor yn ôl pob tebyg. Ond nid oes angen i mi atgoffa'r Aelodau ei bod yn fraint enfawr i ni gynnal y ddadl hon, gyda'r holl safbwyntiau amrywiol, oherwydd pleidleisiodd pobl Cymru mewn dau refferendwm i'w wneud—a'r cyntaf o ychydig iawn yn wir, fel y bydd llawer yn cofio. Yn wir, fe wnaeth un cyfrannwr ein hatgoffa heddiw o'r sefyllfa cyn i'r lle hwn gael ei sefydlu, mewn ymadrodd cofiadwy 'pa mor llwm oedd hi' pan nad oedd gan bobl Cymru lais ar faterion yng Nghymru, yma yng Nghymru.

Nawr, dros y blynyddoedd ers i hyn ddechrau, rydym wedi cryfhau'r setliad datganoli hwnnw gyda phwerau deddfu sylfaenol a phwerau amrywio trethi a phwerau benthyca. Rydym wedi symud ymlaen o'r Cynulliad sylfaenol hwnnw i gorff llawer mwy pwerus, lle mae'r Llywodraeth a'r craffu ar wahân ac yn tyfu mewn hyder ac mewn syniadau. Ac yn gyffredinol, er nad bob amser, fel y clywsom heddiw, cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol a thrawsgymdeithasol ehangach i'r cynnydd cyson a wnaethom—er mor llafurus y bu weithiau, Mick—ar y daith ddatganoli. Cafodd gefnogaeth o fewn y Siambr hon ac fe gafodd gefnogaeth y tu allan iddi.

Yn ddyn ifanc, roeddwn yn Is-Ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Cymru, yn delio â cheisiadau Cynulliad Cymru ar y pryd ar gyfer cyflawni'r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ar gig coch mewn deinameg pŵer anghytbwys iawn, a bellach rwyf ychydig—

19:05

Rwy'n gwybod. A nawr, Lywydd, rwyf ychydig yn hŷn ac yn bwrw ymlaen â chynigion ar ddatganoli rheoleiddio'r sector dŵr i Gymru, a chyda chyd-aelodau o'r Cabinet yma ac yn Llywodraeth y DU, yn gweithio ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Rydym yn dal i fod ar y daith honno. Rydym yn sefyll dros Gymru, rydym yn sefyll dros ddatganoli.

Ac i fod yn glir iawn, gadewch i mi ei ddweud yn uchel iawn: mae Llafur Cymru bob amser wedi bod a bob amser yn mynd i fod yn ganolog i'r cynnydd hwnnw—yn ymroddedig ond yn bragmatig, wedi'i harwain gan syniadau ond byth yn ideolegol yn unig. Rydym wedi arwain y ffordd ar eirioli dros ddatganoli ar bob cam a byddwn yn parhau i wneud hynny. A pham? Oherwydd bod yr egwyddor sylfaenol o wneud penderfyniadau yn agosach at adref, yn agosach at y bobl yr effeithir ar eu bywydau, bob amser wedi bod ac yn parhau i fod yn seren y gogledd i ni. Oherwydd bydd y penderfyniadau hynny'n benderfyniadau gwell. Mae hynny'n golygu y byddwn yn parhau nid yn unig i amddiffyn datganoli, ond yn sefyll wrth ein safbwyntiau sefydledig ac egwyddorol ar ddatganoli pellach mewn meysydd y credwn ac y gwyddom y byddant yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl yng Nghymru. Rydym yn parhau i fod yn Llywodraeth ac yn blaid datganoli—nid ymwahaniaeth, er ein bod yn parchu'r ffaith y bydd pleidiau gwleidyddol eraill yn dadlau dros y safbwynt hwnnw, ond o blaid datganoli, pŵer yn agosach at bobl Cymru.

Nid slogan yn unig yw sefyll dros Gymru; nid yw amddiffyn ac adeiladu ar ddatganoli yn gaer ideolegol ddi-sail. Mae hyn yn ymwneud â phethau ymarferol yr ydym wedi'u cyflawni drwy ein pwerau datganoledig: presgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai, brecwast ysgol am ddim, y Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac sy'n parhau i weithredu arno, y taliadau am fagiau plastig, ailgylchu sy'n arwain y byd, rhoi diwedd ar ysmygu mewn ceir gyda phlant, dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, cyflwyno'r brechlyn COVID yn gynt nag unman arall yn y DU, llinell ffôn iechyd meddwl bwrpasol, coedwig genedlaethol newydd i Gymru, prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd, tocynnau bws £1 i blant ifanc, a gallwn barhau. Dyna yw datganoli yn y bôn.

Felly, am y rheswm hwn, rydym yn gwrthod gwelliant y Torïaid yn llwyr. Nid yw hwn yn ddewis deuaidd rhwng sefyll dros ddatganoli neu wella bywydau beunyddiol pobl. Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw; dyna'r holl bwynt. Datganoli yw'r sail yr ydym yn sefyll arno, oherwydd datganoli yw'r hyn sy'n cyflawni'r manteision i bobl Cymru. Nawr, dyna pam ein bod am weld Ystad y Goron yn cael ei datganoli i Gymru. Dyna pam ein bod am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth phrawf fel cam cyntaf tuag at ddatganoli plismona a chyfiawnder yn ei gyfanrwydd. Dyna pam ein bod yn chwilio am set newydd o bwerau i helpu i lanhau ein hafonydd, a pham ein bod eisiau gweld confensiwn Sewel yn cael ei gryfhau, a mwy na hynny.

Nawr, dywedir yn aml bod datganoli'n broses, nid yn achlysur; mae'n cael ei ddweud yn aml am ei fod yn gywir. A byddwn yn parhau i wneud y cynnydd pragmatig tuag at gyflawni hyn, gam wrth gam yn bwrpasol. Felly, rydym yn falch—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Fe ildiaf.

19:10

Rwy'n deall bod meiri yn Lloegr wedi llwyddo i gael Llywodraeth y DU i gynhyrchu Bil Datganoli a Grymuso Cymunedol Lloegr, sy'n mynd trwy'r Senedd nawr. Sut y mae meiri yn Lloegr wedi bod yn fwy llwyddiannus na chi yn Llywodraeth Cymru?

Rwy'n credu bod y pwynt rydych chi'n ei wneud ar ardaloedd unigol yn mynd yn ôl i fy mhwynt gwreiddiol, y byddwn bob amser yn sefyll yn gadarn ar yr egwyddorion yr ydym wedi'u nodi yn ein gwelliant y gobeithiaf y byddwch chi'n eu cefnogi, oherwydd mae'n anelu at safbwynt o gonsensws o fewn y Senedd yr ydym wedi'i gyflawni o'r blaen. Ar yr egwyddorion hynny, gan gynnwys ar ddatganoli pellach, rydym yn sefyll yn gadarn iawn.

Rydym yn falch iawn, rhaid dweud, y bydd y grŵp arbenigol ar Ystad y Goron yn edrych ar y dystiolaeth fanwl nawr ac yn adeiladu ar y consensws sy'n bodoli, yn y Siambr ac yn y wlad, y dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru. Rydym yn cael trafodaethau cynhyrchiol gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut i ailalinio cyfrifoldebau dros gyfiawnder ieuenctid.

A lle nad ydym yn cytuno, gadewch imi fod yn glir, byddwn bob amser heb amheuaeth yn sefyll dros Gymru ac yn sefyll dros ddatganoli. Rydym yn gwrthwynebu Deddf Marchnad Fewnol y DU a'r defnydd o bwerau cymorth ariannol, fel y dywed y llythyr a drafodwyd heddiw. Dylid dirymu a diddymu Deddf Marchnad Fewnol y DU. Rydym wedi gwneud hyn yn glir a byddwn yn parhau i wneud hynny i bob lefel o Lywodraeth y DU. Unwaith eto, nid yw hwn yn ddewis deuaidd rhwng datganoli a chyflawni. Ochr yn ochr â gwthio am fwy a gwell datganoli gyda Llywodraeth y DU, rydym hefyd yn sefyll dros, ac yn ennill newidiadau a fydd yn helpu bywydau beunyddiol pobl yng Nghymru.

A oes ots gennych os gwnaf barhau â hyn am eiliad, ac yna fe wnaf dderbyn ymyriad? Byddwn yn helpu 70,000 o blant allan o dlodi drwy ddiddymu'r terfyn dau blentyn. Roedd hwnnw'n safbwynt y gwnaeth y Prif Weinidog sefyll drosto ac eirioli amdano'n falch, ac fe wnaethom ennill. Fe gawn y buddsoddiad arloesol mewn swyddi a diogeledd ynni yn Wylfa. Fe gawn yr ardaloedd twf deallusrwydd artiffisial yng ngogledd a de Cymru i gefnogi swyddi a sgiliau'r dyfodol. Gadewch inni beidio ag anghofio hefyd y gyllideb fwy nag erioed i Gymru sy'n ein helpu i droi'r gornel ar y blynyddoedd maith o gyni Torïaidd. Mae'r gyllideb honno'n darparu'r bara a'r menyn. Jenny.

Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedoch chi, Huw, ond y pwynt y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yw sut y gallwn ni, heb ryfel cartref, gael yr un parch ag y mae Hilary Benn yn ei ddangos at bobl Gogledd Iwerddon? Oherwydd yn y sefyllfa bresennol, nid ydym yn gweld unrhyw gynnydd ar y rheilffyrdd y mae Llywodraeth y DU yn eu rheoli. Rwyf newydd gael e-bost heddiw yn dweud bod hynny'n cael ei lastwreiddio unwaith eto. Ac rydym mewn perygl o gael hyd yn oed mwy o leoedd carchar wedi'u hadeiladu yng Nghymru, sydd wedyn yn ein gadael gyda mwy fyth o'n dinasyddion yn cael eu hanfon i'r carchar.

Jenny, diolch am y pwynt hwnnw. A gaf i wrth-ddweud un pwynt sydd wedi'i wneud gan sawl person heddiw am y cyllid Balchder Bro a grybwyllwyd ar gyfer Gogledd Iwerddon, a pham nad yw'r un peth yn digwydd yma? Mae ein dealltwriaeth o hyn yn wahanol iawn i'r hyn sydd wedi'i ddweud yma yn y Siambr. Ni fydd y cyllid Balchder Bro yn cael ei ddarparu yng Ngogledd Iwerddon gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, ac eithrio'r £2 filiwn y flwyddyn ar gyfer cynllun arloesol Belfast, sydd wedi'i gynnwys yn nyraniad y gronfa twf lleol. Felly, i fod yn berffaith glir ar hynny. Ac i fod yn glir hefyd, rwy'n deall ac rydym yn cytuno ac rydym wedi gwrthwynebu'r defnydd o'r dull y mae Llywodraeth y DU wedi'i weithredu ar gyfer y cynlluniau Balchder Bro gwerth £83 miliwn. Ond rydym wedi sicrhau, drwy ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, Jenny, £547 miliwn yn y gronfa twf lleol, y gwneir penderfyniadau yn ei chylch yma yng Nghymru, ac mae hwnnw wedi'i sicrhau drwy ein negodiadau yma gan Weinidogion Cymru.

Nawr mae'r pleidiau sydd eisiau canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol yn unig a dim ond ar faterion cyfansoddiadol, neu'r rhai sy'n dewis eu hanwybyddu'n llwyr, yn gwneud cam mawr â phobl Cymru. Nid yw'n fater o naill ai/neu. Cryfder ein cyflawniad ni fel Llywodraeth Lafur Cymru ac fel Plaid Lafur Cymru yw ein bod yn sefyll dros ddatganoli ac rydym yn cyflawni dros bobl Cymru. Rydym yn gwneud y ddau beth, a byddwn yn parhau i wneud y ddau beth.

Felly, Lywydd, gan mai dyma'r tymor pan fo pobl yn dod at ei gilydd ac yn ceisio dathlu'r hyn sydd ganddynt yn gyffredin a gwerthoedd cyffredin, yn yr ysbryd hwnnw, rydym yn ceisio diwygio'r cynnig fel ei fod yn adlewyrchu safbwynt o gonsensws yn y Senedd hon, fel ei fod yn adlewyrchu ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol datganoli a'r manteision y bydd yn eu creu i Gymru. Tynnodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, dan arweiniad Rowan Williams a Laura McAllister, ar ystod eang o safbwyntiau gan bob plaid wleidyddol a'r cyhoedd hefyd, a rhoddodd farn fanwl, ystyrlon ar sut y gallai Llywodraethau'r DU weithio gyda'i gilydd yn well a lle gellir cryfhau datganoli. Yr argymhellion hyn sy'n sail i'n hymagwedd tuag at ddiwygio cyfansoddiadol, yn cynnwys mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Nawr, rwy'n siŵr y byddai Aelodau ar draws y Siambr yn dymuno cydnabod gwaith pawb a roddodd amser i lunio'r adroddiad hwnnw. Mae'n iawn, rwy'n credu, ein bod yn dangos y consensws hwnnw heddiw ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i'w hargymhellion. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Llywodraeth i'r prif gynnig a gwrthod, fel y dywedodd siaradwr arall, y teyrngarwch llwythol, ac uno ar safbwynt clir a rennir. Diolch yn fawr.

19:15

Nid wyf yn dod yma am fy mod i'n mynd i siarad yn hir. Mae wedi bod yn ddadl faith. Rwy'n credu fy mod i'n gallu clywed clychau sled yn y cefndir nawr. Mae'r Nadolig yn agosáu'n gyflym.

Mae popeth wedi'i ddweud eisoes, ond i atgoffa pawb beth sydd gennym o'n blaenau heddiw, mae gennym gynnig gan Blaid Cymru sy'n mynnu bod datganoli yn cael ei barchu, ac sy'n adleisio geiriau a ysgrifennwyd gan Aelodau Llafur yma yn y Senedd hon, yn mynegi pryder fod datganoli'n cael ei danseilio—eu geiriau nhw. Mae gennym welliant gan y Ceidwadwyr, sy'n ddatganiad mor gryf ag a glywais ers canol y 1990au yn ôl pob tebyg fod hon yn blaid nad yw'n credu mewn datganoli. Mae'n tynnu sylw, rwy'n meddwl—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod gennym lefydd y mae angen inni fynd iddynt heno. Fel y dywedais, mae popeth wedi'i ddweud. Mae'n adlewyrchu amherthnasedd y Blaid Geidwadol fel plaid ymylol yng ngwleidyddiaeth Cymru bellach, a'r amherthnasedd hwnnw, wrth gwrs, sy'n creu cyfleoedd i blaid arall, Reform, na allai drafferthu cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw hyd yn oed. Wedyn, mae gennym welliant gan Lafur sy'n ceisio tawelu—gadewch inni fod yn onest ynglŷn â hyn—sy'n ceisio tawelu aelodau ei meinciau cefn a gwneud iddynt dynnu eu geiriau yn ôl. Fy neges i'r Aelodau Llafur hynny yw hyn: bydd unrhyw beth heblaw pleidlais dros gynnig Plaid Cymru, ac yn erbyn gwelliant Llafur, yn bleidlais i ddileu eich geiriau eich hun o'r cynnig hwn. Mae'n ildiad. Bydd unrhyw beth heblaw hynny—

Fe  wnaf orffen. Fe roddaf gyfle i chi mewn eiliad. Bydd unrhyw beth heblaw pleidleisio yn y modd hwnnw, ar ôl bod yn ddigon dewr i wneud y sylwadau hynny yr wythnos diwethaf, yn ymddiheuriad, yn y bôn, am y sylwadau hynny heddiw a rhybudd i gydymffurfio. Alun Davies.

Anaml y caf fy nghyhuddo o gael fy nhawelu, a gadewch imi ddweud wrthych nawr, Rhun, y gallaf ddewis fy ngeiriau fy hun. Nid oes angen eich rhai chi arnaf.

Yr hyn sydd gennym, fel y dywedaf, yw dileu geiriau Llafur a roddwyd mewn llythyr at y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Rydym wedi cael Aelodau Llafur yn egluro pam na fyddant yn pleidleisio yn y ffordd honno heddiw—cyhuddiadau o deyrngarwch llwythol. Ai'r hyn a olygwch yw nad oes unrhyw ffordd y gall Aelod Llafur gefnogi cynnig Plaid Cymru? Dyna beth yw teyrngarwch llwythol. Cawn gyhuddiadau fod Aelodau Plaid Cymru yn ceisio baglu Aelodau Llafur yn hytrach na chreu consensws. Chi sy'n gwneud y baglu i gyd. Nid oes unrhyw beth anarferol am aelodau o un blaid yn cefnogi cynnig a osodwyd ac a gyflwynwyd gan blaid arall, oni bai eich bod chi eisiau gweithredu mewn ffordd lwythol. Cafwyd cais, apêl am gonsensws gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn gofyn inni gefnogi'r cynnig fel y'i diwygiwyd, os mai dyna sydd gennym. Na, ni wnawn gefnogi'r gwelliant hwnnw. Ac fe ddywedaf wrthych pam na fyddwn yn cefnogi'r gwelliant hwnnw: oherwydd ein bod yn cefnogi aelodau o'ch meinciau cefn Llafur mewn ffordd na fydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei wneud. Ni wnawn dderbyn y ffordd y mae'r Plaid Lafur yn dileu geiriau a roddwyd ar bapur mewn llythyr at y Prif Weinidog. Gallaf synhwyro'r cywilydd ymhlith Aelodau Llafur, ar ôl iddynt gael eu canmol, eto heddiw, yn drawsbleidiol, am fod yn ddigon dewr, eu bod yn ildio yn y modd hwn heddiw—[Torri ar draws.] Iawn, yn fyr iawn.

Rydych chi'n siarad am fod yn ddewr. Roedd arweinwyr blaenorol Plaid Cymru o'ch blaen—Adam Price, Leanne Wood—yn hapus i ddweud eu bod yn cefnogi annibyniaeth. Mae'n ymddangos eich bod chi wedi mynd yn dawel iawn ar y mater. Onid ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bryd i chi fod yn ddewr a datgan eich bod chi eisiau annibyniaeth i Gymru? Neu, os nad ydych chi'n mynd i sôn amdano, pam y mae arnoch chi gymaint o ofn dweud wrth bobl?

19:20

Rwyf wedi arwain dadleuon yn y Senedd hon ar rymuso pobl Cymru drwy annibyniaeth pan fyddant yn credu bod yr amser yn iawn ar gyfer hynny. Nid ydych yn gwrando, neu a ydych chi eto'n dangos eich bod chi'n hollol amherthnasol ac allan o gysylltiad â'r hyn sy'n digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru? Dyna'r gwir. 

Gwrandewch, mae amser yn ein herbyn. Rydym yn agosáu at ddiwedd y tymor hwn, a byddai'n anghywir i mi beidio â manteisio ar y cyfle hwn i ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb yn y Senedd, ar draws y pleidiau. Felly, gadewch inni wneud y bleidlais olaf eleni yn un ystyrlon a chefnogi cynnig Plaid Cymru a chefnogi'r sylwadau dewr a wnaed gan aelodau o feinciau cefn Llafur yr wythnos diwethaf. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Felly, fe wnawn ni symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Os nad oes yna dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud i'r bleidlais.

9. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r pleidleisiau heno ar ddadl Plaid Cymru ar y setliad datganoli. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru: Y setliad datganoli. Cynnig heb ei ddiwygio. O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidlais ar welliant 1 fydd nesaf. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais, felly, ar welliant 1, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru: Y setliad datganoli. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. O blaid: 13, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru: Y setliad datganoli. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Y bleidlais olaf, felly, am eleni fydd y bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio. 

Cynnig NDM9090 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r llythyr a anfonwyd at Brif Weinidog y DU gan dros draean o Aelodau Llafur y Senedd ar 3 Rhagfyr 2025.

2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Senedd hon i gryfhau'r setliad datganoli, yn unol â'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, 13 yn ymatal, 12 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru: Y setliad datganoli. Cynnig wedi’i ddiwygio. O blaid: 25, Yn erbyn: 12, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Methu dianc, mêt! Effaith sgriniau, ffonau clyfar a gemau ar-lein ar bobl ifanc

I'r rhai ohonoch chi sy'n gadael, gaf i ddymuno Nadolig llawen ichi? Mae gwaith dal i'w gyflawni gan y gweddill ohonon ni. Mae'r ddadl fer yn dal i'w chynnal ac, felly, os ydy Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel. Mae'r ddadl fer yn cael ei chyflwyno heddiw gan John Griffiths. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n rhoi munud i Sam Rowlands yn y ddadl hon. Enw'r ddadl fer hon yw 'Methu dianc, mêt! Effaith sgriniau, ffonau clyfar a gemau ar-lein ar bobl ifanc'. Rwyf am ddechrau'r ddadl heddiw, Lywydd, drwy ddiolch i Tom, 14 oed o Gasnewydd, a helpodd fy swyddfa a minnau i ddewis enw ar gyfer y ddadl heddiw, yr elfen 'methu dianc, mêt', sef cyflwr wrth chwarae gêm fideo, o fod yn anymwybodol o unrhyw beth arall. Wrth gwrs, nid yw'n newyddion fod cynnydd technoleg wedi dod â manteision sylweddol i ni yn ei sgil, ond mae hefyd wedi creu heriau sylweddol, ac un o'r heriau hynny heddiw, rwy'n credu, yw'r epidemig o ddefnydd sgrin ymhlith ein poblogaeth iau.

Wrth i blant dyfu, mae'r mathau o ddyfeisiau a ddefnyddiant yn newid yn ddramatig. Ar gyfer plant dan bump oed, y teledu a chyfrifiaduron llechen yw 64 y cant o'r amser sgrin, yn ôl rhieni, o ran y defnydd o'r dyfeisiau hynny. Ond yn drawiadol, mae ymchwil gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn amcangyfrif bod hyd at 814,000 o blant y DU rhwng tair a phump oed eisoes yn ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol. I rai rhwng pump ac wyth oed, mae 54 y cant o blant yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser ar gyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, ac mae 58 y cant yn defnyddio dyfeisiau chwarae gemau fideo. Erbyn inni gyrraedd y grŵp oedran naw i 11 oed, mae'r niferoedd yn cynyddu i'r entrychion: mae bron i dri chwarter yn defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, ac yn benodol i Gymru, erbyn 11 oed, mae gan ddwy ran o dair o blant ysgolion cynradd Cymru eu ffôn clyfar eu hunain. Mae chwarae gemau fideo yn parhau i fod yn gryf: mae bron i 70 y cant yn defnyddio dyfais chwarae gemau ac 80 y cant yn defnyddio cyfrifiadur llechen.

Yn ddiddorol, mae gwahaniaeth yn y defnydd rhwng y rhywiau. Mae bechgyn ifanc yn treulio dwy awr yn fwy y dydd yn chwarae gemau ar-lein, tra bod merched yn treulio mwy o amser ar gyfryngau cymdeithasol a sgrolio riliau, arfer sydd wedi'i gysylltu ag effeithiau niweidiol ar hunan-barch a delwedd y corff drwy gymharu. Mae bechgyn yn fwy byr eu hamynedd a threisgar pan fyddant yn chwarae gemau treisgar, ac mae llawer o bryder, yn briodol ddigon, fod plant mewn teuluoedd mwy difreintiedig yn arbennig o agored i niwed.

Ac wrth i blant dyfu, mae eu byd digidol yn ehangu—mwy o ddyfeisiau a threulio mwy o amser arnynt. Mae plant rhwng pump ac 16 oed yn treulio o leiaf chwe awr y dydd yn edrych ar sgrin. Ar gyfer plant hŷn rhwng 11 a 14 oed, mae'n codi i naw awr y dydd. Mae ymchwil ddiweddar yn dangos nad yw dros 70 y cant o bobl ifanc yn y DU yn gwneud hyd yn oed un awr o weithgarwch corfforol y dydd, ond mae ganddynt o leiaf chwe awr i'w dreulio'n edrych ar sgrin. Mae plant yn eistedd y tu mewn gyda sgrin wrth eu trwynau ac nid ydynt yn treulio amser yn yr awyr agored, yn mwynhau eu cymunedau lleol neu'n chwarae a rhyngweithio â ffrindiau.

Felly, beth y mae'r holl amser sgrin hwn yn ei olygu i iechyd a datblygiad babanod, plant a phobl ifanc? Mae'n cael effeithiau niweidiol, megis lefelau cynyddol o ordewdra a diffyg ymarfer corff. Ac yn ddiddorol, mae nifer cynyddol o bobl ifanc hefyd yn profi problemau gyda'u golwg, gydag un o bob tri phlentyn yn fyd-eang bellach â golwg byr. O ran iechyd meddwl ac effeithiau cymdeithasol ehangach, mae mwyfwy o gysylltiad rhwng gorbryder ac iselder a defnydd gormodol o sgriniau, fel y mae tarfu ar gwsg, gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn ymyrryd â gorffwys a datblygiad emosiynol. Canfu astudiaeth o Seland Newydd o dros 6,000 o blant, rhwng dwy ac wyth oed, fod cysylltiad rhwng 90 munud neu fwy o amser sgrin dyddiol a pherfformiad is na'r cyfartaledd mewn cyfathrebu, ysgrifennu a rhifedd, ac roedd plant bach yn dangos lefelau uwch o broblemau ymddygiad. Ac fel y clywn yn rheolaidd gan rieni ac athrawon, mae gormod o ddefnydd sgrin yn effeithio ar niwroddatblygiad plant, gyda chyfnodau canolbwyntio llai a llai, ac anallu i ganolbwyntio. Mae hyn hefyd yn amharu ar eu gweithrediad goruchwyliol—sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer cynllunio, hunanreolaeth a datrys problemau—oherwydd os na all pobl ifanc ganolbwyntio ar dasg, ac os ydynt yn diflasu, maent yn aml yn colli diddordeb ar unwaith.

Ac wrth gwrs, nid ffeithiau ac ystadegau yn unig yw'r rhain. Mae effaith y rhwystrau hyn i ddatblygiad yn brofiadau bywyd i rieni, athrawon, teuluoedd ac wrth gwrs, i bobl ifanc eu hunain. Esboniodd fy etholwr, Danielle, er enghraifft, pan fydd ei mab wedi bod yn chwarae gemau fideo ers nifer fawr o oriau, ei fod yn fwy ymosodol a byr ei dymer tuag at eraill. Mae'n teimlo bod ei gystadleurwydd yn troi'n un afiach, sy'n wahanol iawn pan fo'n chwarae chwaraeon corfforol; neu Lucy, etholwr arall, a ddywedodd wrthyf fod ei phlant yn teimlo bod sgrolio riliau diddiwedd ar gyfryngau cymdeithasol yn gaethiwus. Pan fyddant yn dechrau sgrolio, mae'n anodd torri'r cylch, a phan fydd hi a'i gŵr yn mynd â'r dyfeisiau oddi wrthynt, mae'n aml yn arwain at strancio a dagrau.

Felly, Lywydd, sut y gallwn ni ymateb? A allwn ni gefnogi ysgolion ac athrawon? A allwn ni gynorthwyo rhieni i osod ffiniau clir? A allwn ni gefnogi plant eu hunain i ddod oddi ar ddyfeisiau ac ymgysylltu â'r amgylchedd ffisegol o'u cwmpas i raddau mwy? A oes angen i ni, fel llunwyr polisi, gyflwyno rheoliadau a deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn?

Gall technoleg ddatblygu ar gyflymder sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i bolisi cyhoeddus a'r gyfraith gadw i fyny a delio â niwed sy'n datblygu. Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023, a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, yn deddfu y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr ddangos prawf o'u hoedran i gael mynediad at y deunydd mwyaf niweidiol ar gyfryngau cymdeithasol a gwefannau eraill, gyda phlatfformau'n gorfod defnyddio dulliau diogel fel sganiau wyneb, gwiriadau adnabod ar ffurf ffotograff a gwiriadau cerdyn credyd i sefydlu oedran defnyddwyr, gan ei gwneud hi'n anos i bobl dan 18 oed gael mynediad at gynnwys niweidiol yn ddamweiniol neu'n anfwriadol. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen, ond i raddau helaeth, y gwefannau eithafol ar y rhyngrwyd y mae'r Ddeddf yn mynd i'r afael â nhw ac nid yr apiau ar ffonau neu'r gemau mewn consolau. Felly, mae angen inni fynd ymhellach.

Mae gwledydd fel Awstralia, Ffrainc a'r Eidal yn mynd ymhellach ac wedi cyflwyno gwiriadau oedran llym a gwaharddiadau ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl dan 16, ac yn dwyn platfformau i gyfrif am gadarnhau oedran defnyddwyr a gorfodi'r rheolau, gan drosglwyddo cyfrifoldeb oddi ar ysgwyddau teuluoedd i bob pwrpas. Felly, gall Cymru ddysgu o rai o'r enghreifftiau rhyngwladol hyn, ond byddai angen i gyflwyno polisi o'r fath yr wyf newydd sôn amdano ddod o lefel y DU, gan fod gwasanaethau rhyngrwyd yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl. Ond wrth gwrs, mae yna lawer y mae Cymru'n gyfrifol amdano, i allu cyflwyno mesurau a all helpu ein poblogaeth iau, drwy bolisi addysg, er enghraifft.

Mae'r Ffindir wedi cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio ffonau a dyfeisiau symudol eraill yn ystod gwersi ysgol, gydag eithriadau'n cael eu caniatáu ar gyfer sefyllfaoedd penodol yn unig. Yn ddiweddar, archwiliodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd yr opsiwn hwn, ond penderfynodd ei wrthod, gan nodi nad oedd y dystiolaeth a gasglwyd ganddo yn cefnogi newid i waharddiad cyffredinol ar ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru, er y dylem gofio bod gan ysgolion awdurdod eu hunain i wahardd ffonau yn gyfan gwbl drwy bolisi ysgol unigol. Yn yr adroddiad hwnnw, fodd bynnag, mae ysgolion ac athrawon wedi dweud y byddai polisi cyffredinol ledled Cymru yn ddefnyddiol i sicrhau cysondeb ar draws y wlad a dileu'r angen i benaethiaid amddiffyn polisïau eu hysgolion eu hunain. Felly, efallai fod y ffordd yr awn ati i ymdrin â'r mater penodol hwnnw yn parhau i fod yn agored i drafodaeth, ond mae yna ffeithiau'n gysylltiedig â'r mater na ellir eu hanwybyddu.

Mae straeon am heriau ymddygiadol cynyddol mewn ysgolion yn hysbys drwy dystiolaeth athrawon. Mae disgyblion yn ei chael hi'n fwyfwy anodd rhoi eu sylw i wersi ac yn aml ni allant ganolbwyntio am fwy nag ychydig funudau oherwydd yr amgylchedd cyflym y mae ffonau a gemau fideo yn ei greu. Mae hysbysiadau ac arferion amldasgio cyson yn gwneud dysgu dyfnach yn anos. Mae uwchgynhadledd Llywodraeth Cymru ar ymddygiad, arolwg o ddarparwyr addysg a staff cymorth, yn adrodd bod y ffordd y mae ffonau symudol neu ddyfeisiau electronig cludadwy eraill yn tynnu sylw disgyblion yn bryder mewn colegau addysg bellach ac ysgolion uwchradd yn bennaf, er bod y ffigurau'n awgrymu bod hon yn broblem gynyddol mewn ysgolion cynradd. Canfu arolwg ciplun gan Gomisiynydd Plant Cymru ym mis Hydref 2024 fod gan 97 y cant o ddysgwyr ffonau clyfar mewn ysgolion uwchradd, gyda 94 y cant yn dweud eu bod yn mynd â nhw i'r ysgol.

Er bod technoleg yn gwella dysgu mewn lleoliadau strwythuredig, mae athrawon yn aml yn ei chael hi'n anodd. Mae rhai ysgolion yn gweithredu. Yng Nghasnewydd, mae ysgolion cynradd yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jayne Bryant yng Ngorllewin Casnewydd yn ceisio atal y cynnydd mewn defnydd sgrin gormodol. Yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbili yn Nhŷ-du, maent wedi cyflwyno dadwenwyno digidol yn ystod y diwrnod ysgol, gan sicrhau bod amser chwarae yn ddi-dechnoleg. Yn Ysgol Gynradd Parc Malpas, ar ddechrau pob hanner tymor, mae pob athro bellach yn cyflwyno gwers e-ddiogelwch gan ddefnyddio'r adnoddau Synnwyr Cyffredin ar Hwb, sy'n cael ei hategu wedyn gan sgyrsiau gan Heddlu Gwent. Mae'r dull hwn yn ymrwymiad craidd gan yr ysgol, ac mae cynlluniau hefyd i ddarparu gweithdai e-ddiogelwch i rieni, y gymuned a'r clwstwr addysgol.

Wrth gwrs, mae gartref yn amlwg yn bwysig iawn hefyd, ac mae llawer o rieni'n cael trafferth goruchwylio a rheoli defnydd eu plant o'r technolegau newydd hyn, gan gynnwys y rhyngrwyd a'r cynnwys ar-lein y mae eu plant yn ei weld. Fe wnaeth y gyfres Netflix, Adolescence, a ddarlledwyd yn gynharach eleni, danio sgyrsiau dwys am yr her y mae pobl ifanc yn ei hwynebu heddiw, o frwydrau iechyd meddwl i bwysau cymdeithasol. Mae prif linyn y ddrama yn sefyll allan fel adlewyrchiad iasol o realiti: cynnydd niwed ar-lein, radicaleiddio dynion ifanc a normaleiddio misogynedd yn y gofodau digidol hyn.

Ond nid bwriad y ddadl hon yw creu bwgan o dechnoleg. Mae'n ymwneud â chydbwysedd. Gall sgriniau gyfoethogi dysgu a chysylltiad, ond rhaid inni sicrhau nad ydynt yn disodli rhyngweithio yn y byd go iawn, gweithgarwch corfforol a ffyrdd iach o fyw. Mae gan rieni, addysgwyr a llunwyr polisi oll rôl i'w chwarae yn gosod ffiniau a hyrwyddo defnydd ystyrlon. Er enghraifft, mae canllawiau'n awgrymu os yw babanod dros 18 mis yn cael eu cyflwyno i'r teledu, dylai fod yn weithgaredd ar y cyd rhwng rhiant a phlentyn. Ac mae Smartphone-free Childhood yn fudiad cynyddol o deuluoedd sy'n sefyll gyda'i gilydd dros ohirio defnydd o ffôn clyfar a chyfryngau cymdeithasol gan eu plant, codi oedran cynnwys digidol i 16 i atal effeithiau niweidiol algorithmau a lleihau natur gaethiwus cyfryngau cymdeithasol, gwahardd ffonau clyfar mewn ysgolion i dorri'r cylch 24 awr o ddefnydd o ffôn, a lansio ymgyrch iechyd cyhoeddus i dynnu sylw at niwed cyfryngau cymdeithasol.

Efallai fod 'Methu dianc, mêt', yn swnio fel ymadrodd bachog, ond y tu ôl iddo mae yna realiti difrifol. Mae ein plant mewn perygl o dreulio mwy o amser mewn bydoedd digidol nag yn yr un go iawn. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod defnydd gormodol o sgrin yn niweidio eu hymddygiad, eu hiechyd a'u dysgu mewn ffyrdd na allwn ac na ddylem eu hanwybyddu. Nid mater o ystadegau'n unig yw hyn, mae'n ymwneud â phrofiad bywyd teuluoedd, athrawon a phobl ifanc eu hunain. Rwy'n credu bod gennym ddewis, Lywydd. Gallwn barhau i adael i dechnoleg reoli plentyndod neu gallwn weithredu drwy addysg a chefnogaeth i'n pobl ifanc, drwy rymuso rhieni, drwy weithio gyda diwydiant a lle bo angen, drwy bolisi, rheoleiddio a deddf Llywodraeth.

Mae gwledydd eraill yn symud ymlaen ac ni ddylai Cymru gael ei gadael ar ôl. Os na weithredwn nawr, rydym mewn perygl o fagu cenhedlaeth wedi'i chloi i mewn, nid yn unig i sgriniau ond i'r cyfyngiadau a'r niwed y maent yn eu hachosi. Felly, gadewch inni weithio gyda'n gilydd yng Nghymru i greu dull cytbwys sy'n diogelu plant, yn grymuso teuluoedd ac yn sicrhau bod technoleg yn gwasanaethu fel offeryn ar gyfer dysgu, nid fel rhwystr i ddatblygiad.

19:35

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths am gyflwyno'r ddadl fer hon, nid o reidrwydd ar ddiwrnod olaf y tymor cyn y Nadolig, ond mae'n gwbl gywir ac yn briodol codi'r mater hwn heddiw. Tynnodd John Griffiths sylw at yr ystadegyn syfrdanol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, a ddangosodd fod dros 800,000 o blant rhwng tair a phump oed yn defnyddio o leiaf un platfform cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd. Roeddwn i'n teimlo bod hwnnw'n ystadegyn trist iawn mewn gwirionedd, a gobeithio ei fod yn canu larymau i ni yn y lle hwn ac i rieni ledled Cymru hefyd.

Rwyf am ganolbwyntio yn y foment fer sydd gennyf ar rai o'r algorithmau sy'n gyrru'r wybodaeth y mae pobl ifanc yn ei gweld, a'r effaith eithaf afiach y mae hynny'n ei chael, yn enwedig ar bobl ifanc yn eu harddegau. Darllenais fod pobl ifanc dros wyth gwaith yn fwy tebygol o deimlo neu weithredu ar ysgogiadau hunan-niweidiol pan fyddant yn agored i gynnwys hunan-niweidiol ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae'r bobl ifanc hynny'n gweld y wybodaeth honno'n llawer rhy hawdd. Mae defnyddwyr TikTok ag anhwylderau bwyta yn cael cynnwys anhwylder bwyta sydd dros 4,000 y cant yn fwy gwenwynig oherwydd yr algorithm sy'n gyrru'r wybodaeth o'u blaenau. Ac mae 70 y cant o bobl ifanc yn eu harddegau bellach yn gweld trais ar-lein yn rheolaidd. Felly, yn bendant, rwy'n cytuno â John Griffiths fod rôl i ni ei chwarae yma, ond hefyd i ddarparwyr cyfryngau cymdeithasol o ran yr hyn y maent yn ei fwydo i bobl ifanc a'r data y maent yn ei gasglu.

Dangoswyd bod y gydberthynas rhwng ansawdd iechyd meddwl a'r oedran y mae plentyn yn cael mynediad at ffôn clyfar yn glir iawn bellach. Po ieuengaf y bydd plentyn yn cael mynediad at ffôn clyfar, y gwaethaf yw eu iechyd meddwl, ac mae angen deall y wybodaeth hon. Felly, o ran atebion, rwy'n cytuno â John Griffiths. Buaswn i'n mynd ymhellach, mae'n debyg, fel rhiant i blant ifanc fy hun ar hyn o bryd, gan fy mod yn credu ei bod hi'n bwysig gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion. Rwy'n credu y byddai'n grymuso rhieni ac athrawon ac yn eu cefnogi, oherwydd mae her i'r rhieni hynny nad ydynt eisiau i'w plant gael ffonau symudol, gan fod y pwysau gan gyfoedion mor ddwys ar hyn o bryd. Pe bai safbwynt yn cael ei gytuno ar draws ysgolion, rwy'n credu y byddai'n llawer haws i'w reoli.

Mae'r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd yn galw am ymgyrch ymwybyddiaeth iechyd cyhoeddus ar niwed defnydd gormodol o ffonau clyfar, ac rwy'n cytuno, gan gynnwys yn nosbarthiadau cynenedigol y GIG, oherwydd mae'n fwy na defnydd plant o ffonau symudol, mae'n cynnwys defnydd rhieni wrth gwrs, ac yn enwedig rhieni â babanod. Rydym yn gweld cydberthynas glir rhwng problemau sy'n gysylltiedig â datblygiad lleferydd ac iaith a faint o amser y mae rhieni'n ei dreulio ar eu ffonau. Pethau syml, fel wrth fwydo babi ar y fron, fod cyswllt llygad mor bwysig ar gyfer datblygiad y plentyn, ac mor aml y dyddiau hyn mae rhieni'n edrych i ffwrdd ar eu ffôn, neu pan fyddant yn gwthio'r pram neu'r bygi, y cyswllt llygad a fyddai wedi bod yno'n naturiol yn y gorffennol, mae rhieni mor aml yn edrych ar eu ffonau yn hytrach na chanolbwyntio ar y berthynas honno, y cwlwm sy'n cael ei greu, ac mae'n effeithio ar leferydd ac iaith hefyd.

Felly, rwy'n gwybod fy mod wedi mynd dros fy munud, Lywydd, ond mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i John Griffiths am ei godi heddiw. Rwy'n gobeithio y cawn drafodaeth a dadl bellach yn y lle hwn ar fater mor bwysig. Diolch yn fawr iawn.

19:40

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, sy'n ymateb. 

Member (w)
Jane Hutt 19:42:10
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch, John, am godi'r pwnc pwysig hwn. Mae'n amserol iawn, y prynhawn yma, fod y Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein wedi cyfarfod ac wedi trafod y materion pwysig hyn gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru. Ac rydym yn byw trwy newid mawr. Mae plentyndod heddiw yn cael ei siapio gan dechnoleg mewn ffyrdd na allem eu dychmygu genhedlaeth yn ôl. Fel y clywsom, ac fel sydd wedi'i fynegi mor glir, i lawer o bobl ifanc, mae sgriniau, ffonau clyfar, a gemau ar-lein yn rhan o fywyd bob dydd. Mae adroddiad 'Cenedl Ar-lein' Ofcom, a ryddhawyd yr wythnos diwethaf, yn dangos pa mor ganolog yw'r byd ar-lein i bob un ohonom bellach.

Mae amser sgrin yn sbarduno dadl ym mhob cartref bron ledled y wlad. A'r gwir amdani yw bod ei effaith yn gymhleth. Pan fydd amser sgrin yn bwrpasol ac yn greadigol, fe wyddom y gall fod yn gadarnhaol. Mae offer digidol yn rhoi gallu i ddysgwyr gydweithio'n haws, archwilio syniadau newydd a chael mynediad at gyfoeth o wybodaeth. Ac mae canfyddiadau diweddaraf Ofcom a data o'n rhwydwaith ymchwil iechyd mewn ysgolion yn dangos bod amser sgrin ar gynnydd. Mae pobl ifanc rhwng wyth a 14 oed yn treulio bron i dair awr ar-lein bob dydd. Mae adroddiad Ofcom yn tynnu sylw at sut y mae pobl ifanc yn eu harddegau yn dibynnu ar yr apiau hyn i gadw mewn cysylltiad. Gall apiau cyfryngau cymdeithasol a negeseuon chwarae rhan gadarnhaol yn adeiladu cyfeillgarwch. I rai, yn enwedig y rhai sy'n teimlo'n ynysig, gall technoleg fod yn achubiaeth.

Ond ni allwn anwybyddu'r risgiau. Gall sgrolio goddefol, chwarae gemau'n ormodol, a gwaesgrolio ('doom scrolling') gael effaith niweidiol ar lesiant. Mae ymchwil yn cysylltu amser sgrin hir heb ei strwythuro â gorbryder, tarfu ar gwsg, a chyfnodau canolbwyntio byrrach. Ac mae'n rhywbeth y mae'r grŵp ieuenctid wedi'i godi hefyd. Maent yn poeni am yr effaith negyddol y gall cynnwys byr ei chael ar eu llesiant. Ac wrth gwrs, nid yw hon yn her newydd, ond mae'n un sy'n parhau i esblygu. Mae'n bwysig gwybod am ddatblygiadau er mwyn deall pa gymorth sydd ei angen ar blant i ddefnyddio technoleg yn ddiogel, yn gyfrifol, ac i adeiladu cymunedau cadarnhaol ar-lein.

Mae teuluoedd yn ymrafael â'r heriau hyn bob dydd a John, rydych chi wedi dweud wrthym am yr adborth pryderus a gawsoch gan rieni. Rydym yn gweld twf mudiadau, fel y dywedwch, yn galw am blentyndod heb ffonau clyfar i blant. Yn Awstralia, mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl dan 16 oed. Mae'n amlwg fod yna farn gref ar y ddwy ochr i'r ddadl.

Yma yn y DU, mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gam ymlaen. Mae wedi cyflwyno rheoliadau ar gyfer platfformau digidol a mwy o eglurder i bawb. Mae rheoleiddio'r rhyngrwyd wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, yma yng Nghymru rydym yn gweithio'n agos gydag Ofcom fel rheoleiddiwr ar y camau y mae'n disgwyl i gwmnïau technoleg eu cymryd i sicrhau bod plant yn cael profiadau mwy diogel ar-lein. Rydym wedi cymryd rhan yn ymarferion ymgynghori Ofcom fel rhan o'u gwaith i ddatblygu codau ymarfer i weithredu'r Ddeddf. Mae'n hanfodol ein bod yn dwyn platfformau cyfryngau cymdeithasol i gyfrif ac yn addysgu pobl ifanc am eu hawl i fod yn ddiogel ar-lein. Ond hefyd, yn hollbwysig, ein bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r niwed a beth i'w wneud os aiff rhywbeth o'i le.

Drwy leihau mynediad at gynnwys niweidiol, mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cyd-fynd â gwaith ataliol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hunanladdiad a hunan-niweidio. Fis diwethaf, cynhaliwyd y grŵp ieuenctid gan Ofcom. Fe wnaethant esbonio eu rôl fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein a'u gwaith ar lythrennedd yn y cyfryngau. Ysgogodd hyn drafodaeth onest am eu profiadau ers i'r rheoliadau newydd ddod i rym. Mae eu lleisiau yn ein hatgoffa bod yn rhaid i bolisi gael ei siapio gan brofiad bywyd.

Mae safle cadw'n ddiogel ar-lein Hwb yn darparu'r adnoddau, yr hyfforddiant a'r canllawiau diweddaraf i sicrhau bod ysgolion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer addysgu a chefnogi dysgwyr gydag ystod o faterion diogelwch ar-lein. Gall yr adnoddau hyn gefnogi sgyrsiau adeiladol ynghylch materion sy'n aml yn gymhleth a sensitif, gan gynnwys aflonyddu ar gyfoedion, agweddau niweidiol a risgiau eraill sy'n cael eu chwyddo gan gyfryngau cymdeithasol.

Un prif ffocws y cynllun gweithredu gwydnwch digidol mewn addysg yw sicrhau bod holl aelodau cymuned yr ysgol, gan gynnwys rhieni, gofalwyr a llywodraethwyr, yn cael eu cefnogi i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â materion diogelwch ar-lein. Drwy Hwb, rydym yn darparu canllawiau apiau dwyieithog i deuluoedd, gyda gwybodaeth allweddol am gyfryngau cymdeithasol a phlatfformau gemau ar-lein sy'n boblogaidd gyda phobl ifanc, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i osod gosodiadau diogelwch. Mae'r canllawiau hyn wedi'u cynllunio i bontio'r rhaniad rhwng y cenedlaethau, i annog sgyrsiau, ac i gefnogi rhieni a gofalwyr i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae'r cymorth diogelwch ar-lein yn cael ei lywio gan y dystiolaeth ddiweddaraf, arbenigedd a safbwyntiau ysgolion a dysgwyr. Ym mis Tachwedd, fe wnaethom gynnal ein symposiwm gwydnwch digidol mewn addysg. Ymunodd arbenigwyr blaenllaw ym maes diogelwch ar-lein, gan gynnwys Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, NSPCC, Internet Matters ac eraill, i rannu eu safbwyntiau. Hefyd, fe wnaethom wahodd cynrychiolwyr o Estyn, Ofcom Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru i sicrhau cydgysylltiad cryf ar draws y sector, a darparu ffocws penodol i Gymru. Eleni, roedd deallusrwydd artiffisial yn bwnc allweddol i'w drafod, ynghyd â phwysigrwydd sgiliau meddwl beirniadol a sicrhau bod pobl ifanc yn rhan o benderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Diolch eto, John, am gynnwys eich etholwr ifanc i helpu i lunio'r ddadl hon, 'Methu dianc, mêt!'

Byddwn yn defnyddio'r holl fewnwelediad a gasglwyd i barhau i adeiladu dull meddylgar, rhagweithiol o wella ein rhaglen waith gwydnwch digidol mewn addysg. Rhan allweddol o hyn yw Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Rydym yn annog ysgolion i gymryd rhan yn y diwrnod hwnnw a chynnig amrywiaeth o weithgareddau. Mae'n ymgyrch i annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio technoleg yn ddiogel ac yn gadarnhaol, rhywbeth y gall pawb ei gefnogi. Rydym wedi cynnal cystadleuaeth bwrdd stori ar gyfer ysgolion cynradd a ddaeth i ben yn gynharach yn y mis. Edrychwn ymlaen at weld y ffyrdd creadigol y mae dysgwyr yn cofnodi sut y caiff deallusrwydd artiffisial ei ddefnyddio, ochr yn ochr â'i fanteision a'i risgiau.

Gan edrych ymlaen, ar 10 Chwefror, ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ei hun, rydym yn gwahodd ysgolion uwchradd i fynychu ein digwyddiad Cadw'n Ddiogel Ar-lein yn Stadiwm y Principality, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei fynychu, i arddangos y gwaith a wnawn yn y maes hwn ar hyn o bryd.

Mae hyn i gyd yn cysylltu â'n huchelgais ehangach. Rydym eisiau i'n holl blant a phobl ifanc yng Nghymru dyfu fyny'n iach, yn ddiogel ac yn hapus. Mae eu lles yn flaenoriaeth allweddol. Fel y dywedwch, Sam Rowlands, mae hwn yn fater iechyd cyhoeddus. Bwriad y fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan o weithredu ar lesiant emosiynol a meddyliol yw cefnogi lleoliadau addysg i adolygu eu tirwedd lesiant eu hunain.

Mae mater ffonau symudol mewn ysgolion, sydd eisoes wedi'i godi, yn amserol iawn eleni. Canfu'r Pwyllgor Deisebau fod perthynas gymhleth rhwng ffonau clyfar y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i'r Llywodraeth, ysgolion a theuluoedd weithio gyda'i gilydd ar y mater hwn. Cyfeiriwyd at yr uwchgynhadledd ar ymddygiad ym mis Mai.

Fe wnaethom sefydlu fforwm ffonau symudol mewn ysgolion i gael ystod eang o safbwyntiau, yn cynnwys gan arweinwyr ysgolion, addysgwyr, cynrychiolwyr y trydydd sector, aelodau o'r Senedd Ieuenctid, awdurdodau lleol ac ymchwilwyr. Caiff gwaith y fforwm ei lywio gan ymchwil, gan gynnwys adroddiad 'SMART Schools' Prifysgol Birmingham. Canfu'r gwaith ymchwil hwn fod dull cydgysylltiedig, sy'n cynnwys amgylcheddau'r cartref a'r ysgol, yn hanfodol. Bydd y canllawiau a'r adnoddau ategol newydd yn cael eu lansio cyn diwedd mis Chwefror i gefnogi ysgolion gyda'r mater hwn.

Yn olaf, Lywydd, rhaid inni gofio bod gan naw o bob 10 o blant eu ffôn eu hunain erbyn cyrraedd 11 oed. I rai pobl ifanc, mae ffonau'n achubiaeth sy'n eu cysylltu â ffrindiau, dysgu a chymorth, ond gall eu gwneud yn agored i ystod o risgiau, felly mae datblygu eu sgiliau digidol a'u gwydnwch yn rhan hanfodol o'u haddysg. Rydym wedi rhoi camau ar waith i roi llesiant yn y canol mewn addysg, ac mae diogelwch ar-lein yn allweddol yn hynny. Bydd y grant cymorth cwricwlwm newydd ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, a ddarperir gan Stori Cymru, yn helpu ysgolion i addysgu elfennau gorfodol o'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae ein fframwaith cymhwysedd digidol hefyd wedi'i gynllunio i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu sgiliau digidol hanfodol ac yn hyrwyddo ymagwedd gytbwys tuag at amser sgrin.

Rhaid inni gydnabod, wrth gwrs, y rôl y gall gemau fideo ei chwarae, nid yn unig o ran hwyl, ond o ran datblygu sgiliau pwysig fel datrys problemau, meddwl beirniadol a gwaith tîm. Yn ddiweddar, daeth un o'n disgyblion yng Nghymru, Max o Ysgol St Cyres, yn ddeiliad Record y Byd Guinness fel y datblygwr gemau fideo gwrywaidd ieuengaf. Mae cyflawniad Max yn dangos y potensial y gall technoleg ei ryddhau. Mae ysgolion hefyd yn archwilio gwerth addysgol e-chwaraeon. Bydd ein partneriaeth â sefydliadau arbenigol fel yr NSPCC, Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ac Internet Matters yn parhau i lywio ein gwaith diogelwch ar-lein a chyngor i ysgolion.

Diolch am dynnu sylw at y mater pwysig hwn heddiw. Rwy'n siŵr y byddwn yn dod yn ôl i'w drafod. Mae technoleg yn agor y drysau i ddysgu a chreadigrwydd, ond mae'n galw am gyfrifoldeb. Dyna pam y mae'n rhaid inni rannu ymrwymiad i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod gan blant y sgiliau a'r hyder i lywio'r byd ar-lein yn ddiogel.

19:50

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni fel Senedd am y flwyddyn 2025.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:52.