Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/12/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirpwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yw'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies. 

Cyllideb Llywodraeth y DU

1. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar economi Dyffryn Clwyd? OQ63534

Mae cyllideb y DU yn darparu £508 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant. Mae hyn yn ychwanegol at y £5 biliwn o gyllid ychwanegol a dderbyniwyd yn adolygiad o wariant y DU. Daw hyn ar ôl cyhoeddiadau arwyddocaol ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys £2.5 biliwn ar gyfer Wylfa, ardal twf deallusrwydd artiffisial a pharth buddsoddi.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyhoeddwyd mynegai amddifadedd lluosog Cymru yr wythnos diwethaf, yn dangos mai gorllewin y Rhyl yw'r ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru am yr eildro yn olynol. Rwy'n ofni y bydd cyllideb yr hydref gan y Canghellor yn cael effaith hynod o negyddol ar y cymunedau hyn yn fy etholaeth i, y mae gwir angen swyddi o ansawdd uchel arnynt, nid cardod yn unig. Mae cyfraddau tlodi mewn gwaith hefyd yn peri cryn bryder, gyda dros un o bob pump o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a 400,000 o'r rheini o oedran gweithio. Felly, mae rhewi'r trothwyon treth incwm ac yswiriant gwladol ers 2021 yn golygu bod mwy o bobl mewn perygl o gael eu gwthio i fandiau treth uwch, beth bynnag y bo'u termau real. Bydd y dreth ar filltiredd cerbydau trydan hefyd yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio ac sydd wedi dilyn cymhellion y Llywodraeth drwy brynu ceir trydan ac sydd bellach yn cael eu cosbi am hynny. Nid yw hyd yn oed cynilion a phensiynau'n ddiogel. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gyllideb ar ardaloedd tlotaf Cymru, fel gorllewin y Rhyl, a sut y bydd y Llywodraeth yn defnyddio arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU i wrthbwyso'r niwed a achosir i'r cymunedau tlotaf gan y gyllideb hon, yn enwedig y rhai sydd mewn gwaith ac yn byw mewn tlodi? Diolch.

Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu mesurau yng nghyllideb Llywodraeth y DU sy'n rhoi arian yn uniongyrchol ym mhocedi pobl. Rhoddodd flaenoriaeth i'r pethau sydd bwysicaf i bobl ledled Cymru, gan gynnwys mynd i'r afael â chostau byw, cefnogi teuluoedd a pharhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith y bydd 150,000 o weithwyr yng Nghymru, gan gynnwys yn eich etholaeth chi, yn elwa o'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol a'r isafswm cyflog cenedlaethol. Ac wrth gwrs, rydym yn croesawu'r ffaith y bydd 70,000 o blant yng Nghymru yn elwa o ddileu'r terfyn dau blentyn—bydd 21,000 o deuluoedd yn elwa o hynny, a phlant yn cael eu codi allan o dlodi, gan gynnwys mewn aelwydydd sy'n gweithio. Felly, rydym yn croesawu hynny'n fawr iawn; mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi galw amdano ers amser maith. Ac rydym yn croesawu'r cynnydd o 4.8 y cant ym mhensiwn sylfaenol y wladwriaeth a'r pensiwn newydd o fis Ebrill 2026, a fydd o fudd i 700,000 o bensiynwyr yng Nghymru. Felly, mae'n amlwg fod llawer i'w groesawu yn y gyllideb, ac yn enwedig y mesurau hynny sy'n rhoi arian ym mhocedi pobl ledled Cymru.

Cefnogi Busnesau yn Nwyrain De Cymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yn Nwyrain De Cymru? OQ63536

Rydym yn cefnogi gwydnwch a thwf busnesau ledled Cymru, gan gynnwys yn y de-ddwyrain, drwy weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys prifddinas-ranbarth Caerdydd, awdurdodau lleol, a busnesau eu hunain, i sicrhau bod gennym y seilwaith a'r sgiliau cywir ar gyfer twf economaidd, ffyniant a chynhyrchiant.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ychydig iawn y mae cyllideb ddiweddar y Canghellor, ynghyd ag agwedd wrth-fusnes y Llywodraeth Lafur hon, yn ei roi i berchnogion busnesau gweithgar yn Nwyrain De Cymru a thu hwnt fod yn obeithiol yn ei gylch. Mae busnesau eisoes o dan bwysau aruthrol, gyda chostau'n codi'n sylweddol, a nawr, mae penderfyniad y Canghellor i gynyddu'r cyflog byw cenedlaethol wedi'u rhoi mewn sefyllfa heriol iawn. Gadewch inni beidio ag anghofio, diolch i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, fod cwmnïau'n cael eu cosbi â'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, a nawr, rydych chi a'ch cyd-Aelodau eisiau cael gwared ar y gostyngiad ardrethi busnes o 40 y cant y mae gan dafarndai a bragdai hawl iddo yn rhan o'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae tafarndai'n rhan annatod o fywyd Prydain; maent wedi'u hymgorffori yng ngwead cymaint o gymunedau. Ac eto, ymddengys nad yw gwleidyddion Llafur yn y lle hwn yn malio'r un botwm corn. Bydd canlyniad cael gwared ar y rhyddhad hwn yn drychinebus, gyda llawer o dafarndai'n sicr o gael eu gorfodi i roi'r gorau iddi am byth. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod £505 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru o San Steffan, a wnewch chi erfyn ar eich cyd-Aelodau i ddefnyddio'r cyllid ychwanegol hwn i ddiogelu ein busnesau yn ogystal â'n tafarndai, trwy gyflwyno pecyn hael o ryddhad ardrethi? Diolch.

A gaf i ofyn i'r Aelodau beidio â chael sgyrsiau ar draws y Siambr? Os ydych chi eisiau sgyrsiau, mae gennych chi hawl i adael y Siambr. Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch. Mae llawer iawn i ymateb iddo yn y cwestiwn penodol hwnnw, ond rwyf am ddechrau gyda'r ffaith ein bod yn croesawu'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol—bydd 150,000 o weithwyr yn elwa o hynny yng Nghymru, ac nid ydym yn ymddiheuro am groesawu'r ffaith y bydd gweithwyr yn cael cyflog teg sy'n cydnabod effaith costau byw. Felly, rydym yn croesawu hynny'n fawr.

Rydym yn Llywodraeth sy'n cefnogi busnes. Byddwch wedi gweld drosoch eich hunain dros y penwythnos—y cynulliad mwyaf o arweinwyr busnes dylanwadol a welwyd yng Nghymru erioed, gyda phobl yn dod o 30 o wledydd dros y byd, dros 300 o bobl, ac mae 150 o'r busnesau hynny'n newydd i Gymru. Daethant yma am fod Llywodraeth Cymru wedi estyn allan a dweud wrthynt am y pethau cyffrous sy'n digwydd mewn ardaloedd, yn cynnwys yr un y mae Natasha Asghar yn ei chynrychioli, o ran lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn y blaen. Maent yn dod yma er mwyn archwilio sut y gallant helpu economi Cymru i dyfu. Felly, unwaith eto, rydym yn gwneud gwaith pwysig iawn.

Rwy'n deall bod sylwedd y cwestiwn yn ymwneud â'r—. Roedd sylwedd y cwestiwn yn ymwneud ag ardrethi annomestig. Rydym yn darparu pecyn gwerth £335 miliwn o ryddhad ardrethi annomestig yn y flwyddyn ariannol hon—£0.3 biliwn i gefnogi busnesau gydag ardrethi annomestig. Mae'n bwysig iawn cydnabod bod y rhyddhad a ddarparwn yn golygu bod oddeutu 70,000 eiddo yn cael cymorth. Felly, mae oddeutu 80 y cant o'r eiddo mewn gwirionedd naill ai'n talu dim, neu'n cael eu cefnogi gyda'u rhyddhad. Nawr, cyflwynwyd y rhyddhad penodol y cyfeiriwyd ato yn ystod COVID. Roedd yno i gydnabod yr effaith benodol yr oedd COVID yn ei chael ar y sectorau lletygarwch a hamdden. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir bob amser na allai hynny barhau am byth, ac mae'r Gweinidog cyllid wedi dweud yn glir iawn beth fydd y camau nesaf yn ei dyb ef. Mae rhan o hynny'n ymwneud â defnyddio'r dulliau gweithredu newydd y mae ein deddfwriaeth newydd yn caniatáu i ni eu rhoi ar waith i gefnogi busnesau'r stryd fawr, yn enwedig ym maes manwerthu.

Felly, mae Llywodraeth Cymru’n darparu ystod gynhwysfawr iawn o gymorth i fusnesau, yn enwedig busnesau bach, ac ar yr un pryd, yn ceisio denu busnesau mawr o bedwar ban byd i ymgartrefu yma.

13:35

Fel rydych chi wedi'i ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n gyfnod cyffrous iawn i'r economi yn ne-ddwyrain Cymru—yng Nghasnewydd, er enghraifft, gyda'r diwydiant lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch, canolfannau data, a'r ardal deallusrwydd artiffisial sydd wedi'i sefydlu'n ddiweddar. Mae cymaint i'w ddathlu a bod yn gadarnhaol yn ei gylch, ac mae rhai ohonom o leiaf yn mynd i ddathlu hynny a hyrwyddo'r ardal yn y ffordd gadarnhaol honno. Un peth y bydd ei angen ar y busnesau hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw llawer o bobl sydd â'r sgiliau angenrheidiol i ddarparu'r twf. Credaf fod ymgysylltu ag ysgolion lleol yn rhan bwysig iawn o hynny. A oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i strwythuro'r ymgysylltiad hwnnw? Rwy'n arbennig o awyddus i weld cyflogwyr yn mynd â'r cyfleoedd cyffrous hyn i bob ysgol leol, gan gynnwys y rheini sy'n gwasanaethu'r ardaloedd mwy difreintiedig, i sicrhau eu bod yn manteisio ar y potensial, y dalent a'r gallu sy'n bodoli yn ein holl gymunedau yng Nghasnewydd.

Rwy'n llwyr gefnogi'r syniad o fusnesau'n mynd i ysgolion i archwilio pynciau STEM, yn enwedig, gyda phobl ifanc, ond hefyd y cyfleoedd anhygoel sy'n bodoli. Ond hyd yn oed yn fwy felly, rwy'n gyffrous pan fydd plant a phobl ifanc yn ymweld â'r busnesau eu hunain hefyd ac yn cael gweld drostynt eu hunain beth yw'r gyrfaoedd anhygoel hyn. Pan fo pobl ifanc yn cael cyfle i archwilio gyrfaoedd na allai eu rhieni fod wedi'u dychmygu hyd yn oed, rwy'n credu bod hynny'n ehangu gorwelion. Felly, mae'r holl waith rhwng busnesau a phobl ifanc yn wirioneddol allweddol, ac mae'n rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i'w gefnogi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar raglen Sharp End neithiwr, dywedodd y fenyw fusnes o Gasnewydd Hannah Williams nad oedd cyllideb yr wythnos diwethaf yn gyllideb ar gyfer busnes. A ydych chi'n cytuno?

Rwyf eisoes wedi nodi bod y gyllideb wedi rhoi cyfleoedd anhygoel i ni yma yng Nghymru—pan soniwn am y buddsoddiad sydd wedi'i wneud mewn ynni niwclear newydd yn Wylfa, gan greu nifer enfawr o swyddi a chyfleoedd anhygoel i'r gadwyn gyflenwi, y bu modd i mi eu harchwilio gyda busnesau yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi ar y penwythnos. Mae'r un peth yn wir am yr ardaloedd twf deallusrwydd artiffisial hefyd. Mae'r cyllid a ddaw i'r rheini'n allweddol. Rydym newydd sôn am y sector lled-ddargludyddion pwysig, er enghraifft—felly, £10 miliwn yn dod i Gymru ar gyfer ein sector lled-ddargludyddion cyfansawdd, i dyfu'r hyn sydd eisoes yn glwstwr diguro sydd gennym yma yng Nghymru, sy'n hynod bwysig i'n heconomi a'n henw da rhyngwladol. Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn dod i gefnogi hynny yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr yn fy marn i.

13:40

Mae'n eironig eich bod yn sôn am yr ardaloedd niwclear a deallusrwydd artiffisial newydd, oherwydd yn debyg iawn i'r gyllideb ei hun, cawsant eu datgelu wythnosau cyn cyhoeddiadau'r gyllideb, a'r gwir amdani yw bod y gyllideb hon yn gwthio'r baich treth cyffredinol i lefelau nad ydym wedi'u gweld ers yr ail ryfel byd—codiadau treth gwerth £26 biliwn, gyda thraean yn mynd i gyllideb les sydd eisoes yn rhy fawr, sy'n gadael aelwydydd ledled Cymru â llai o arian yn eu pocedi. Ar ôl y llanast o gyllideb hon, nid yw'n syndod fod y Prif Weinidog wedi methu dweud bod ganddi unrhyw hyder yn y Canghellor yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe. Mae gwariant Llywodraeth wedi cynyddu. Mae gwariant ar les wedi cynyddu. Mae lefelau diweithdra wedi cynyddu. Mae llog ar ddyledion wedi cynyddu. Mae lefelau chwyddiant wedi cynyddu. Yn anffodus, mae lefelau twf wedi lleihau ac mae lefelau hyder busnesau wedi gostwng. Felly, er na allai'r Prif Weinidog roi ei chefnogaeth i'r Canghellor ddoe, a oes gennych chi hyder ynddi, Ysgrifennydd y Cabinet?

Da iawn. Gadewch inni weld a ddaw hynny'n ôl i'w brathu. Gyda Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn digwydd cyn bo hir, y dydd Sadwrn hwn—[Torri ar draws.] Gallai'n hawdd ddod yn ôl i frathu'r Llywodraeth.

Mae siopau'r stryd fawr—[Torri ar draws.] Na. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn digwydd y dydd Sadwrn hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae siopau'r stryd fawr, tafarndai, bwytai a gwestai ledled Cymru’n crefu am gymorth. Nid yn unig eu bod yn gorfod talu rhai o'r ardrethi busnes uchaf yn y DU, ond mae newidiadau diweddar i werthoedd ardrethol wedi golygu bod rhai busnesau wedi cael eu taro â chodiadau enfawr. Mae un gwesty yn sir Benfro wedi gweld ei werth ardrethol yn mwy na dyblu, o £45,000 i £108,000. Gyda chodiad Llywodraeth Lafur y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, a chwyddiant yn uwch na hyd yn oed ar yr adeg hon y llynedd, dyma ergyd ariannol arall i sector busnes sydd eisoes o dan bwysau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ym misoedd olaf y Llywodraeth Lafur flinedig hon yng Nghymru, a oes gennych chi unrhyw beth cadarnhaol o gwbl i'w ddweud wrth fusnesau Cymru?

Mae'r gwerthoedd ardrethol wedi newid oherwydd galwad gan fusnesau, a oedd am i'r safleoedd busnes hynny gael eu hailbrisio'n fwy rheolaidd. Fe wnaethom ymateb yn gadarnhaol i'r alwad honno, a nawr, bydd busnesau'n cael eu hailbrisio bob tair blynedd. Golyga hynny fod prisiadau'r busnesau hynny'n fwy cywir ac yn decach. Credaf fod hynny'n ymateb da i alwadau gan fusnesau i ymgymryd â'r gwaith ailbrisio hwnnw.

O ran y cymorth a roddwn i fusnesau, gallaf eich cyfeirio at yr ateb blaenorol, a'r £0.3 biliwn a ddarparwn i fusnesau i'w cefnogi gyda'u hardrethi annomestig. Mewn gwirionedd, golyga ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach fod oddeutu 70,000 eiddo yn cael eu cefnogi. Dyna oddeutu 80 y cant o'r holl eiddo. Mewn gwirionedd, nid yw 50,000 o fusnesau'n talu unrhyw beth o gwbl mewn ardrethi busnesau bach. Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod hynny. Mae lefel enfawr o gymorth yn mynd i'r sector.

Ac wrth gwrs, rydym yn darparu cyllid pwrpasol ar gyfer rhannau o'r sector hefyd. Credaf fod y gronfa paratoi at y dyfodol yn enghraifft dda iawn o hynny. Gan wrando ar y sector twristiaeth, fe wnaethom gyflwyno'r gronfa addasu i'r tywydd. Ac wrth gwrs, rydym yn gwneud gwaith drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo'r sector hefyd. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig llawer iawn o gymorth. Yn amlwg, rydym yn gwneud hynny drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru, sydd yno i gefnogi busnesau yn y sectorau hyn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi yr wythnos hon, deallaf fod y diwydiannau creadigol a chwaraeon wedi cael sylw. A all y Gweinidog amlinellu beth y disgwylir i'r uwchgynhadledd ei gyflawni ar gyfer y ddwy elfen hon yn eich portffolio o ran buddsoddiad a swyddi?

Diolch i'r Aelod, a diolch iddi am gydnabod uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol Cymru, a oedd yn ddigwyddiad deuddydd llwyddiannus a gynhaliwyd ddydd Sul a dydd Llun yr wythnos hon. Roedd diwylliant a chwaraeon wrth wraidd y digwyddiadau, yn llywio'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, i fusnesau presennol a buddsoddwyr newydd hefyd. Cawsant y profiad o fynd i weld y rygbi. Cawsant y profiad o gyfarfod â Geraint Thomas, a llawer o bobl eraill. Ond ar y diwydiannau creadigol, Ddirprwy Lywydd, cefais gyfle i eistedd gyda buddsoddwyr o bob cwr o'r byd a oedd yn llawn cyffro ynglŷn â’r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig a'r hyn sydd gan Cymru Greadigol i'w gynnig. Rwy'n disgwyl y bydd buddsoddiad parhaus, yn enwedig mewn gemau a sgrîn—ffilm a theledu—lle mae gennym fanteision sylweddol i economi Cymru eisoes, a bydd yr uwchgynhadledd fuddsoddi yn parhau hynny.

Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi dweud bod diwylliant a chwaraeon wrth wraidd yr uwchgynhadledd. Mae'n anffodus nad ydynt wrth wraidd blaenoriaethau'r Llywodraeth. Hoffwn wybod y manylion ynghylch disgwyliadau, oherwydd fel y gwyddoch, mae nifer o bobl sy'n gweithio yn y sectorau, gan fy nghynnwys i, wedi mynegi rhwystredigaeth nad yw'r diwydiannau creadigol a chwaraeon yn rhan o'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Felly, yn absenoldeb strategaeth gydlynol sy'n dod â'r holl elfennau hyn ynghyd, sut rydych chi'n mesur llwyddiant? Beth yw'r ffigurau y gallwn edrych arnynt i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran yr hyn y bydd yr uwchgynhadledd hon wedi'i gyflawni ar ran y sectorau hynod bwysig hyn?

13:45

Diolch eto i'r Aelod. Mae'r Aelod yn dweud nad yw wrth wraidd blaenoriaethau'r Llywodraeth; roedd uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru’n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac wrth wraidd hynny, dros y ddau ddiwrnod, roedd i chwaraeon a diwylliant ran sylweddol. Yn wir, roedd un o'r sesiynau arddangos yn ymwneud â'r diwydiannau creadigol. Roedd gennym Bad Wolf yno, yn dathlu'r buddsoddiad y maent eisoes wedi'i wneud gyda Cymru Greadigol, ac y byddant yn mynd ymlaen i'w wneud yn y dyfodol, ochr yn ochr ag eraill, fel Rocket Science a'r diwydiant gemau cyfrifiadurol, a llawer iawn mwy.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', a'r ffaith nad ydynt yn cynnwys creadigrwydd a chwaraeon, wel, nid oeddent yno am mai dyna a gytunwyd rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru pan oedd y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn cael eu datblygu. Mae gan Cymru Greadigol eu blaenoriaethau strategol eu hunain sy'n cyd-fynd â'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud. Mae'r bwrdd yn atebol i Weinidogion hefyd. A Lywydd, o ran y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', mae'n werth crybwyll fod chwe mis wedi mynd heibio ers lansio'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', ac mae'r Llywodraeth wedi rhoi dros £13.5 miliwn yn ôl i mewn i'r sector. Rwy'n credu y dylai hynny gael ei groesawu gan bob Aelod o'r Senedd hon.

Wel, roedd llawer o eiriau yno, ond nid wyf fawr callach beth yw strategaeth y Llywodraeth na'i thargedau. Felly, efallai y byddai'r Gweinidog yn ddigon caredig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd rywbryd, oherwydd anaml iawn y clywn unrhyw beth am y sectorau hanfodol hyn ar ffurf datganiadau, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Ac os caf droi at y gweithlu, sydd wrth gwrs yn allweddol i lwyddiant y sectorau hyn, mae'r bobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn wedi delio â blynyddoedd o ansicrwydd, cyfleoedd swyddi cyfyngedig ac amodau gwaith anodd. Dangosodd ymchwil yn yr Alban mai dim ond 6 y cant o'r gweithlu lleol a ddefnyddiodd cynhyrchiad mawr a ffilmiwyd yno, The Traitors, gyda'r rhan fwyaf o'r swyddi'n mynd i griwiau o Lundain. Mae llawer o weithwyr llawrydd yn dweud wrthyf hefyd nad yw'r sector yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru chwaith. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau, pan ddaw cynyrchiadau mawr i Gymru, fod doniau Cymru’n cael eu blaenoriaethu a bod ein gweithlu creadigol yn gallu elwa o'r holl gyfleoedd hynny?

Unwaith eto, gwnaed datganiad ar Cymru Greadigol, a phum mlynedd o Cymru Greadigol, y llynedd. Ni chymerodd yr Aelod ran yn hynny. Mae datganiad ar Cymru Greadigol wedi'i gynllunio ar gyfer mis Chwefror hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd yn cymryd rhan i ddathlu llwyddiant y diwydiannau creadigol yn y dyfodol. Oherwydd pan fyddwn yn buddsoddi mewn diwydiannau creadigol, mae Cymru Greadigol wedi gwneud yn arbennig o dda. Yn enwedig gyda ffilm a theledu, am bob £1 a wariwyd gennym, rydym wedi gweld enillion o £12 i economi Cymru. Ac yn y sgyrsiau a gefais dros y penwythnos a ddydd Llun gyda swyddogion gweithredol o bob cwr o'r byd, yn dathlu'r hyn y mae Cymru wedi'i wneud yn barod, roedd hynny oherwydd y buddsoddiad y mae'r Llywodraeth eisoes wedi'i wneud, ond hefyd oherwydd llwyddiant y gweithlu.

Rwy'n derbyn y pwynt ynghylch pwysigrwydd y gweithlu, a dyna'n union sy'n digwydd pan fyddwn yn buddsoddi mewn cwmnïau: un o amodau'r grant yw bod yn rhaid iddynt gefnogi'r gweithlu drwy hyfforddeiaethau a lleoliadau gwaith eraill. Un o'r rhannau o sicrhau bod y gweithlu'n gynaliadwy yn y dyfodol yw cael llu o gyfleoedd, ystod o gyfleoedd o'n blaenau. A chredaf mai dyna fydd llwyddiant yr uwchgynhadledd fuddsoddi yn ei sicrhau.

Ac unwaith eto, ar y diwydiant llawrydd, rydym yn cefnogi'r diwydiant llawrydd drwy fuddsoddiadau a wneir drwy Cymru Greadigol. Dywedodd yr Aelod na chawsom gyfle i drafod hyn. Rydym wedi cael digon o gyfleoedd i'w drafod: rwyf ar fy nhraed yn y lle hwn, yn ateb cwestiynau gan yr Aelod; mae gennym gyfleoedd mewn pwyllgorau, ac mae amrywiaeth o ddatganiadau wedi'u gwneud.

Lywydd, os maddeuwch i mi am eiliad, deuthum i'r lle hwn oddeutu wyth mlynedd yn ôl. Wyth mlynedd yn ôl, ffarweliais am y tro olaf â fy nhad, ac ymrwymais bryd hynny i ddod â'r un brwdfrydedd ac egni ag a roddodd ef i'w gymuned leol a'i swydd yn y Llywodraeth. Ers imi fod yn fy swydd, yn cefnogi'r diwydiant diwylliant, rydym wedi gweld y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn cael eu cyflwyno; rydym wedi gweld £15 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer hynny; rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad cyfalaf; rydym wedi gweld buddsoddiad cynyddol mewn cyllid refeniw rhwng y llynedd ac eleni; rydym wedi gweld cyllidebau cynyddol yn ein sefyllfa canol blwyddyn. Dyna'r uchelgais sydd gennyf ar gyfer y sector. Rydym wedi gweld y buddsoddiadau gan Cymru Greadigol. Byddaf yn parhau i gefnogi'r buddsoddiad yn Cymru Greadigol a'r sector diwylliannol yn yr un ffordd.

13:50
Polisi Ynni

3. Sut y mae polisi ynni Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw elw corfforaethol yn rhoi baich gormodol ar filiau ynni teuluoedd? OQ63504

Nid yw biliau ynni'n fater datganoledig. Fodd bynnag, rydym wedi cyflawni polisïau i gefnogi teuluoedd ledled Cymru. Mae ein polisïau wedi cyflawni ar berchnogaeth leol ar ynni, gan gynnwys buddsoddi bron i £23 miliwn drwy Ynni Cymru, ac rydym yn cefnogi rhaglenni sy'n gwella effeithlonrwydd ynni i leihau'r galw am ynni. Gall y buddsoddiad hwn leihau biliau ynni teulu yn uniongyrchol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cyhoeddodd melin drafod Common Wealth ymchwil a ddangosodd, yn 2024, fod swm sy'n cyfateb i bron i 25 y cant o fil ynni cyfartalog y DU wedi mynd i elw cyn treth cwmnïau trydan mawr. Yn fyr, maent wedi cael caniatâd i ddefnyddio ein tir, ein môr, i gynhyrchu ac yna allforio ynni, ond heb fawr o fudd i gymunedau lleol, ac eithrio rhai cynlluniau grantiau bach cyfyngedig. Mae Cymru'n defnyddio oddeutu 13 TWh o drydan, tra bo trydan a gynhyrchir yng Nghymru yn cynhyrchu oddeutu 29 TWh. Mae hyn cyn i lawer o brosiectau mawr gael eu cwblhau, fel fferm wynt y môr Celtaidd. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o godi cyfalaf i gynorthwyo ein cymunedau o'r ynni a allforir o Gymru i rannau eraill o'r DU. Ac nid oes unrhyw beth newydd yn hyn; rwy'n cofio Dr Dafydd Huws yn darlithio am hyn 30 mlynedd yn ôl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i drafod gyda Llywodraeth y DU i weld a all Cymru a'r DU, o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, greu ardoll ar ynni a allforir o Gymru i helpu ein cymunedau, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd gyda biliau ynni uwch? Diolch yn fawr.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Credaf fod dau beth penodol yr hoffwn eu nodi mewn ymateb. Y cyntaf yw sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru, sy'n gydnabyddiaeth lwyr fod ynni yn y gorffennol wedi bod yn echdynnol iawn, ac rydym eisiau cadw cymaint o fudd ag y gallwn yma yng Nghymru. Felly, mae Trydan Gwyrdd Cymru yn eiddo i Gymru. Mae'n eiddo i bobl Cymru ac mae'n gwmni ynni sy'n eiddo i Gymru, a fydd yn datblygu, i ddechrau, ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Rydym eisoes wedi nodi'r tri phrosiect cyntaf ac wedi eu cyhoeddi. Y peth cyffrous yno, wrth gwrs, yw bod yr holl elw'n aros yng Nghymru, felly gellir ei ailfuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy neu i gefnogi aelwydydd sydd mewn tlodi ynni, er enghraifft, neu gallai'r cyllid hwnnw fynd i gefnogi'r GIG a blaenoriaethau eraill y Llywodraeth hefyd. Byddai hynny'n ddewis i Weinidogion y dyfodol ei wneud.

Ond hoffwn dynnu sylw hefyd at y gwaith a wnawn ar ddatblygu'r fargen sector ynni. Dyna rywbeth a ddechreuais er mwyn deall rolau neu briod rolau Llywodraeth a datblygwyr, gan gydnabod bod datblygwyr eisiau llawer gennym o ran cyflymu caniatâd cynllunio, er enghraifft, ond mewn gwirionedd, mae angen inni ofyn mwy gan ddatblygwyr hefyd o ran buddion cymunedol. Oherwydd mae angen i fuddion cymunedol olygu mwy nag ailaddurno neuadd y pentref neu noddi'r timau'n unig. Er mor bwysig yw'r pethau hynny, nid oes iddynt effaith strategol. Felly, mae'r gwaith hwnnw ar y fargen sector yn mynd rhagddo, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy nghyd-Aelodau wrth iddo ddatblygu.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni ellir gwadu bod pris ynni yn her wirioneddol i lawer o aelwydydd. Mae gennym heriau o ran diogelwch cenedlaethol ac ynni hefyd. Ni ddylem fod mewn sefyllfa yn y dyfodol, er enghraifft, lle rydym yn llwyr ddibynnol ar nwy Rwsia, fel a ddigwyddodd i'r Almaen. Rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud yw galluogi mwy o gynhyrchiant ynni gyda chymysgedd o ynni adnewyddadwy ac ynni niwclear, ac wrth gwrs, mae swyddi da ar gyflogau da i ddod o'r diwydiannau hynny ac yn rhai o'r crefftau cysylltiedig, y dangoswyd rhai ohonynt yn rowndiau terfynol WorldSkills a gynhaliwyd—a gyd-gynhaliwyd gan Gymru—yr wythnos diwethaf, ond hefyd y cyfleoedd i fusnesau leoli ger cyflenwadau trydan. Mae llawer o ddiwydiannau heddiw a'r dyfodol eisiau bod yn agos at gyflenwad pŵer, boed yn glwstwr lled-ddargludyddion, neu er enghraifft, y cyfleoedd o ardaloedd twf deallusrwydd artiffisial a chanolfannau data, ac wrth gwrs, mae'r buddsoddiad sylweddol gan Vantage yn enghraifft dda o hynny.

Rhan o'r hyn y mae angen inni ei wneud, fodd bynnag, yw cael sgwrs onest ynglŷn â sut yr awn ati i gynhyrchu ynni. Os dewiswn ei gwneud yn ddrytach i gynhyrchu ynni gwynt ar y tir, gyda chost cynhyrchu gyda thyrbinau llai, llai effeithlon a chostau'r rhwydwaith trawsyrru, bydd teuluoedd yng Nghymru yn talu mwy i roi'r goleuadau ymlaen. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen sgwrs onest am greu swyddi ym maes ynni, ynni uniongyrchol a gan fusnesau sydd eisiau bod yn agos ato, sut yr awn ati i gynhyrchu a defnyddio ynni, cost ynni a sut y mae cymunedau'n cael budd lleol uniongyrchol o'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu ger eu cartrefi?

13:55

Rwy'n ddiolchgar iawn eto am eich cwestiwn, a'r cyfle i gofnodi fy niolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o hyfforddi pobl o Gymru a oedd yn rhan o ddathliadau WorldSkills, a llongyfarchiadau i'r rheini a gafodd lwyddiant drwy hynny hefyd. Mae'n gyfle pwysig iawn, unwaith eto, i ddangos y gorau o Gymru i'r byd.

Rwy'n cytuno'n llwyr fod pontio i sero net mewn ffordd sy'n deg yn gwbl allweddol er mwyn cyflawni'r canlyniadau teg hynny i deuluoedd. Rydym yn defnyddio'r dulliau sydd gennym, ond rydym hefyd yn cydnabod bod hon yn ymdrech ar gyfer y DU gyfan. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cydgomisiynu'r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol i sicrhau y bydd y gwaith datblygu a fydd yn llywio'r system ynni yn y dyfodol, gan gynnwys y cynllun ynni gofodol strategol a chynlluniau systemau ynni rhanbarthol, yn cynrychioli buddiannau Cymru yn ogystal â fforddiadwyedd i'r defnyddiwr, sy'n gwbl hanfodol i ni yn hynny o beth.

Ac wrth gwrs, mae gennym y prisio cenedlaethol diwygiedig. Bydd hynny hefyd yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer 'Pŵer Glân 2030', gyda system bŵer yn y dyfodol sy'n harneisio budd gwell cynllunio strategol, yn ogystal â diwygio'r farchnad. Rwy'n falch iawn o'r gwaith sy'n mynd rhagddo ledled y DU o ran y cynllunio strategol ar gyfer y dyfodol, a chydnabod o ble y gallai'r galw am ynni ddod. Hefyd, rhaid inni gael sgwrs ynglŷn â sut y caiff yr ynni hwnnw ei drosglwyddo a'i ddosbarthu, a'r effeithiau y gallai hynny eu cael ar gymunedau. Ar bob cam, mewn gwirionedd, rhaid inni sicrhau bod cymunedau'n cael eu cynnwys yn llawn i allu dweud eu barn ynglŷn â beth y mae'r system honno'n ei gynnig iddynt hwy yn y dyfodol.

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn eisiau mynd yn ôl at eich ymateb cyntaf i Rhys, yn canolbwyntio ar bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Yng Nghymru, gwyddom fod oddeutu 340,000 o gartrefi'n byw mewn tlodi tanwydd, ac eto fe wyddom, ar lefelau buddsoddi presennol, na fydd rhaglen Cartrefi Clyd yn cyrraedd pob cartref sy'n dlawd o ran tanwydd tan y flwyddyn 2237, sy'n golygu aros am 212 mlynedd i rai. Hyd yn oed gyda dyraniad y gyllideb eleni, mae'n dal i olygu y bydd 1,500 o gartrefi yn cael y gwaith ôl-osod dwysach sy'n codi pobl allan o dlodi tanwydd, ond mae hynny'n llawer llai na'r 4,000 a gefnogwyd o dan y cynlluniau blaenorol.

Yn y cyfamser, fe wyddom fod teuluoedd yn dal i fod yn oer, a bod arolwg diweddar gan National Energy Action wedi canfod bod chwech o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn disgwyl gorfod cyfyngu ar eu defnydd o ynni y gaeaf hwn. Mae angen dyfodol ar Gymru lle nad oes unrhyw un yn byw mewn cartref oer, felly a allwch chi ddweud wrthyf, Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ymrwymo i glustnodi unrhyw gyllid canlyniadol yn y dyfodol o raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU er mwyn cyflymu rhaglen Cartrefi Clyd yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.

Roeddwn yn falch iawn o weld y camau yn y gyllideb a oedd yn ymwneud yn benodol â chefnogi aelwydydd gyda'u biliau ynni. Credaf y bydd y gostyngiad o £150 yn sicr o gael effaith ar nifer o deuluoedd. Gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, roedd yn dda croesawu Ed Miliband i'r Barri, lle aethom i Cyngor ar Bopeth a chael cyfle i siarad yn uniongyrchol â phobl a oedd yn profi tlodi tanwydd, a hefyd y bobl a oedd yn rhoi cyngor iddynt, i archwilio pa gymorth ychwanegol y gallai hyn ei ddarparu iddynt ar drothwy'r gaeaf.

Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod llawer mwy i'w wneud hefyd. Rydym yn buddsoddi'n eithaf sylweddol yn ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd, felly dros £30 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni hirdymor y cartrefi incwm isel sydd â'r effeithlonrwydd thermol lleiaf yng Nghymru. Bydd hynny'n arwain at filiau is. Hefyd, ers 2011, mae ein rhaglen Nyth wedi darparu £251 miliwn mewn cyllid i gefnogi cartrefi agored i niwed ledled Cymru, ac mae hynny wedi helpu 66,000 o deuluoedd i leihau eu biliau ynni. Felly, rwy'n credu ein bod wedi dod yn bell, ond yn sicr, mae angen inni wneud mwy.

Twristiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector twristiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ63528

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £7.5 miliwn yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ers 2022 drwy gyllid Croeso Cymru a Trawsnewid Trefi. Mae prosiectau a gefnogwyd yn cynnwys ailddatblygu cei'r de a chlwb golff Dinbych-y-pysgod, gyda'r nod o gefnogi swyddi, hybu twristiaeth a gwella profiadau ymwelwyr yn yr ardal.

14:00

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch chi'n ymwybodol fod twristiaeth yn rhan hanfodol o'r economi wledig ledled Cymru, ond hefyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ond mae'r sector wedi wynebu myrdd o newidiadau rheoleiddiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf: y trothwy 182 diwrnod, premiymau treth gyngor ar ail gartrefi, y dreth dwristiaeth, ac wrth gwrs, y Bil trwyddedu llety ymwelwyr, sy'n mynd drwodd ar hyn o bryd. Yn wir, dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, mewn pwyllgor, ei fod 

'wedi bod yn gyfnod cymharol brysur'

i'r sector twristiaeth. Dywedodd Andrew R.T. Davies fod y sector wedi gweld gormod o ddeddfwriaeth. Ond yr hyn sy'n fy syfrdanu i yw nad oes asesiad effaith economaidd wedi bod ar effaith yr holl newidiadau rheoleiddiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hachosi i'r sector twristiaeth. Felly, a wnewch chi ymrwymo, fel Ysgrifennydd Cabinet yr economi, i gynnal asesiad effaith economaidd o'r pwysau ar y sector twristiaeth o dan yr holl newidiadau rheoleiddiol hyn?

Rwy'n gwybod bod diddordeb yn effaith gronnol yr ystod o fesurau. Mae rhai wedi'u cyflwyno—y 182 diwrnod, er enghraifft. Mae hwnnw'n destun cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd o ran newidiadau a allai ddigwydd yn y dyfodol. Mae yna bethau yr ydym wedi ymgynghori arnynt hefyd. Felly, mae wedi bod yn gyfnod prysur o ran ymgysylltiad, ond mewn gwirionedd, nid yw'r mesurau hyn ar waith eto. Mae'r ardoll dwristiaeth a'r cynllun trwyddedu yn destun ymgynghoriad, ond nid ydynt yn cael effaith ar y sector y tu hwnt i fod yn rhan o'r ymgynghoriadau hynny.

Mae bob amser yn ddiddorol, pan fyddwch chi'n cael y sgyrsiau hyn, nad oes neb eisiau edrych ar yr ochr arall i'r geiniog—y ffyrdd yr ydym yn buddsoddi yn y sector a'r gwaith a wnawn ar hyrwyddo'r sector dramor. Mae gennym raglen y fasnach deithio lle down â phobl o bob cwr o'r byd i weld y gorau o'n sector twristiaeth yma yng Nghymru. Yn ddiweddar, fe wnaethom ddod â Marchnad Deithio'r Byd i sir Benfro, a hefyd fe wnaethom helpu i gefnogi busnesau i arddangos dramor. Rydym hefyd yn dod ag ymweliadau gan y cyfryngau rhyngwladol yma i ddangos Cymru ar ei gorau, ac mae'r pethau hynny'n arwain at gynnydd mewn twristiaeth, i roi un enghraifft.

Mae gennym ein hymgyrch Hwyl, sydd unwaith eto wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym yn gwario llawer iawn o arian yn hyrwyddo ein sector twristiaeth dramor, yn enwedig i farchnadoedd fel yr Almaen a'r UDA, sy'n farchnadoedd targed. Felly, pan fyddwn yn siarad am yr effeithiau cronnol, mae'n rhaid inni edrych hefyd ar yr ochr arall i'r geiniog, sef ein buddsoddiad sy'n mynd i'r sector. 

Parth Twf AI Gogledd Cymru

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar barth twf AI gogledd Cymru? OQ63538

Mae dynodi'r ardaloedd twf deallusrwydd artiffisial yng ngogledd Cymru yn gosod Cymru mewn sefyllfa i fanteisio ar ddatblygiadau technolegol, denu buddsoddiad, a chyflawni twf cynhwysol ledled y wlad. Ynghyd ag ardal twf deallusrwydd artiffisial de-ddwyrain Cymru, mae'n enghraifft o gydweithrediad effeithiol â Llywodraeth y DU ac mae'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i dwf gwyrdd a thrawsnewid digidol.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb yna. Mae'n rhaid dweud, dydw i ddim callach am beth mae o'n ei olygu go iawn. Ond mae yna ansicrwydd yn y gogledd ynghylch beth mae'r parth AI yma yn ei olygu i bobl ac i'n cymunedau ni. Y tu hwnt i'r penawdau, does yna ddim cynllun, hyd y gwelaf i, wedi cael ei gyflwyno er mwyn dangos sut mae'r ddwy Lywodraeth am sicrhau y buddion y maen nhw'n gobeithio amdanyn nhw o'r cynllun.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi gosod amodau er mwyn galluogi buddsoddiad yn y parth, ac yn Nhrawsfynydd yn benodol. Ymhlith yr amodau yma, maen nhw'n dweud y bydd Llywodraeth San Steffan yn gweithio efo'r Llywodraeth yma yng Nghymru er mwyn cytuno sut mae'r buddiannau a ddaw o borthladd rhydd Ynys Môn am fuddio y parth AI newydd, sy'n cynnwys Trawsfynydd. Felly, pa fudd y bydd Trawsfynydd a Gwynedd ehangach yn ei gael o borthladd rhydd sir Fôn, ac a ydy buddiannau'r porthladd rhydd yma am berthyn i ddatblygiadau Trawsfynydd yn benodol?

Diolch am y cwestiwn. Deilliodd ardal twf deallusrwydd artiffisial gogledd Cymru o berthynas hirsefydlog a dwfn rhwng Stena Line, perchennog-weithredwr porthladd Caergybi, a Chyngor Sir Ynys Môn fel cyd-noddwr y porthladd rhydd, felly mae'r pethau hyn yn cyd-fynd yn llwyr. Yn wahanol i gais de Cymru, roedd un gogledd Cymru yn bartneriaeth dan arweiniad y sector preifat, ac roedd hefyd yn cynnwys prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, M-SParc a Grŵp Llandrillo Menai. Fel y dywedais, mae'n adeiladu ar gynlluniau presennol, gan gynnwys y porthladd rhydd, ar gyfer hyfforddi a datblygu pobl leol mewn technolegau newydd i gefnogi datblygiad deallusrwydd artiffisial a chynhyrchiant ynni carbon isel.

Bydd gan y parc technoleg deallusrwydd artiffisial gwerth £2 biliwn sydd wedi'i leoli ym Mharc Ffyniant hyd at 10 modiwl canolfan ddata. Byddant yn cael eu hadeiladu dros y degawd nesaf ac mae'n gyfle inni gyflymu deallusrwydd artiffisial wedi'i feithrin yng Nghymru â galluogrwydd sofran. Rwy'n falch iawn hefyd fod ganddo botensial i greu nifer sylweddol o swyddi ac i ehangu buddsoddiad deallusrwydd artiffisial ar draws y rhanbarth. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn buddsoddi £5 miliwn yn yr ardaloedd yng ngogledd a de Cymru i ddatblygu'r sgiliau a'r arloesedd i gefnogi'r ardaloedd twf deallusrwydd deallus.

Yn amlwg, mae sgiliau'n fater datganoledig, felly bydd y trafodaethau hynny'n digwydd gyda Llywodraeth y DU ar y manylion. Yn sicr, mae angen gwneud mwy o waith ar y cam hwn i fireinio'r cynnig, ond yr hyn y mae'r ardal dwf yn ei wneud yn fwy nag unrhyw beth arall yw gweithredu fel magnet i fuddsoddiad. Mae buddsoddwyr yn cydnabod bod y rhain yn feysydd a fydd â galluogrwydd o ran y canolfannau data deallusrwydd artiffisial, ond hefyd galluogrwydd o ran staff medrus iawn a rhwydwaith i brifysgolion, colegau, busnesau a chanolfannau arloesi.

Dyna'r prosbectws lefel uchel ar gyfer yr ardal dwf. Yn amlwg, byddant yn dod yn safleoedd ar gyfer swyddi medrus iawn. Y nod hefyd yw sicrhau ein bod yn rhoi hwb i'r cadwyni cyflenwi lleol ac yn creu cyfleoedd mewn technoleg ar gyfer mentrau bach a chanolig, er enghraifft, yn y dyfodol.

14:05
Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru

7. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ddigon o adnoddau i ymdrin â cheisiadau datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol? OQ63527

Derbyniodd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru hwb ariannol o £2 filiwn yn 2025-26 i gynyddu capasiti ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a gwaith achos arall. Mae cyllid wedi cefnogi recriwtio staff ychwanegol a gwelliannau i'r porth gwaith achos. Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn parhau i fonitro lefelau staff i sicrhau eu bod yn cyfateb i niferoedd y ceisiadau.

Diolch yn fawr am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch yn iawn, mae Bute Energy bellach wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ar gyfer tyrbinau gwynt yn fy etholaeth i. Fodd bynnag, mae tystiolaeth groes i hynny allan yno ynghylch sŵn, colli bioamrywiaeth a nifer o bethau eraill. Mae'n mynd i gymryd adnoddau sylweddol gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf i wneud yn siŵr fod y penderfyniad y byddwch chi'n ei wneud, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael i chi. 

A allwch chi fy sicrhau eich bod yn credu bod digon o adnoddau ar gael i wneud yn siŵr eu bod yn gallu edrych ar yr holl wybodaeth berthnasol—yr wybodaeth ddiweddaraf, nid gwybodaeth sydd wedi dyddio—fel y gallwn wneud y cais cynllunio gorau posib? Nid wyf eisiau ei weld yn mynd rhagddo, ac rwy'n siŵr na fyddwch chi'n gwneud sylwadau ar hynny, ond hoffwn glywed ein bod yn mynd i gael rhywfaint o adnoddau ychwanegol i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a'r awdurdod lleol i wneud yn siŵr y gallwn ddelio â'r ceisiadau hyn.

Diolch i chi am gydnabod na allaf wneud sylwadau ar geisiadau penodol, ond rwyf am ymateb i'r pwynt am gapasiti o fewn Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Pan roddodd y portffolio hwn at ei gilydd, roedd y Prif Weinidog yn glir iawn fod cyflymu ceisiadau cynllunio yn brif flaenoriaeth iddi. Dyna ran o'r rheswm y tu ôl i'r £2 filiwn ychwanegol i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Roedd y cwestiwn hefyd yn cydnabod pwysigrwydd yr asesiadau a'r monitro a'r gwerthuso ac yn y blaen sydd eu hangen i gefnogi'r ceisiadau hynny, a dyna pam ein bod hefyd wedi buddsoddi £5 miliwn yn Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau eu bod yn gallu cael y capasiti sydd ei angen arnynt i ymdrin â chydsynio. Rwy'n hyderus ein bod wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol sylweddol ar gael.

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn â phennaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Ym mhob un o'r cyfarfodydd hynny, rydym yn siarad am gapasiti ac anghenion yn hynny o beth. Rwy'n hyderus fod y cyllid ychwanegol sydd wedi caniatáu i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru gyflogi 15 aelod arall o staff cyfwerth ag amser llawn yn gadarnhaol iawn, yn enwedig o ystyried ei bod yn anodd iawn cael cynllunwyr. Rwy'n falch iawn eu bod wedi gweld Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd fel lle i wneud gyrfa.

Cyfeiriais hefyd at yr uwchraddiadau a wnaed i'r porth gwaith achos. Mae hynny'n gwella gweithrediad ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid, gan helpu rhanddeiliaid ac ymgeiswyr i ddarparu'r wybodaeth gywir y tro cyntaf. Oherwydd mae hynny'n rhywbeth sy'n arafu ceisiadau cynllunio—pan fydd gwybodaeth ar goll o'r ceisiadau eu hunain neu pan nad ydynt o ansawdd digon da i symud ymlaen i'r cam nesaf.

Amgueddfeydd yng Nghaerdydd

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn wella mynediad i amgueddfeydd yng Nghaerdydd? OQ63515

Diolch. Rydym yn parhau i wella mynediad i amgueddfeydd ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghaerdydd, drwy amrywiol fentrau a rhaglenni ariannu. Mae hyn yn cynnwys £165,000 i GEM Cymru i ddarparu grantiau i ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth i ymweld ag amgueddfeydd lleol. Yn ystod fy ymweliad diweddar ag Amgueddfa Caerdydd, gwelais fudd y cyllid hwn.

14:10

Diolch am yr ateb.

Weinidog, mae amgueddfeydd o'r radd flaenaf fel Sain Ffagan ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays yn agos iawn at fy etholaeth i, ac fel y gŵyr y Gweinidog, mae pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig yn llai tebygol o gael mynediad i'n hamgueddfeydd gwych yng Nghaerdydd a ledled Cymru. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod plant, yn enwedig o gefndiroedd difreintiedig a phobl ifanc o Ogledd Caerdydd ac o bob cwr o Gymru, yn gallu ymweld â'r amgueddfeydd gwych sydd gennym?

A gaf i ddiolch i Julie Morgan am dynnu sylw at bwysigrwydd amgueddfeydd lleol a'r rhai o arwyddocâd cenedlaethol fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan, ac am ei holl waith yn hyrwyddo mynediad pobl ifanc at ddiwylliant, yn enwedig i'r rhai yn ei hetholaeth ei hun a'r rhai o gefndiroedd difreintiedig hefyd? Rwy'n rhannu'r angerdd hwnnw, a dyna pam ein bod wedi buddsoddi ym menter GEM Cymru i sicrhau y bydd plant o bob cwr o Gymru yn gallu dysgu am eu hanes lleol a mwynhau'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig yn ddiwylliannol.

Y ffordd orau o wella mynediad i amgueddfeydd, yn lleol ac yn genedlaethol, yw trwy fuddsoddi ynddynt. Dyna pam y bydd yr Aelodau'n falch o wybod—pob Aelod yn y Siambr hon—fod £13.5 miliwn o becyn gwerth £15 miliwn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', a ddathlodd chwe mis ers ei lansio yn Sain Ffagan gwta bythefnos yn ôl, wedi mynd yn uniongyrchol i'r sector. Mae hyn yn ychwanegol at ddyraniad cyfalaf yr amgueddfa yn y gyllideb, y gwnaethant hwy eu hunain ei ddisgrifio i'r Senedd hon fel un 'gwych'.

Rydyn ni'n gwybod mai un o'r rhwystrau o ran mynediad i amgueddfeydd ydy trafnidiaeth yn aml. Os ydyn ni'n edrych ar Sain Ffagan, yn aml mae'n heriol dros ben os nad oes gan deulu gar. Felly, dwi'n deall yr hyn rydych chi'n ei wneud i gefnogi ysgolion, ond sut ydyn ni'n sicrhau bod teuluoedd a'r rheini o bob oed yn cael y cyfle i ymweld â'n hamgueddfeydd ni, a hefyd, pan maen nhw yn ymweld, bod llefydd fel Sain Ffagan yn gallu cynnig ystod eang o brofiadau? Oherwydd yn rhy aml rŵan, mae nifer o'r adeiladau'n gorfod cau a ddim bod ar agor drwy'r adeg oherwydd heriau staffio, ac yn amlwg y toriadau mae'r sector wedi'u gweld dros y degawd a mwy diwethaf.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Roedd gennyf broblem gyda fy nghlustffonau, ond clywais y rhan fwyaf o'r hyn a oedd gan yr Aelod i'w ddweud.

Mae trafnidiaeth, wrth gwrs, yn fater pwysig i lawer o bobl ledled Cymru, nid yn unig i ysgolion lleol. Rwy'n credu bod menter yr ysgol leol yn enghraifft wych o ble rydym eisoes wedi cefnogi'r diwydiant. Yn fwy cyffredinol, gallwn gefnogi pobl i gael mynediad i amgueddfeydd trwy fentrau fel buddsoddi yn ein systemau trafnidiaeth, mewn trenau trwy Trafnidiaeth Cymru, a'r Bil Bysiau, a aeth trwy Gyfnod 3 ddoe. Cefais gyfle gwych i drafod hyn yn uniongyrchol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ddiweddar mewn cyfarfod dwyochrog ynglŷn â sut y gall gefnogi'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant, a dyna'n union beth y mae am ei wneud gyda'r Bil Bws.

Ar y pwynt am y gweithlu, mae'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer y gweithlu, ac rydym yn cefnogi hynny drwy'r £15 miliwn a glustnodwyd gennym eleni, ac yn wir y dyraniadau a wnaed yn y gyllideb ddrafft eleni, y cynnydd y llynedd, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn manteisio ar y cyfle i gefnogi'r buddsoddiad y tro hwn.

Busnesau Bach ac Annibynnol

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach ac annibynnol yn y cyfnod hyd at y Nadolig? OQ63518

Rydym yn hyrwyddo Dydd Sadwrn y Busnesau Bach i siopa'n lleol a byddwn yn parhau yn y cyfnod cyn y Nadolig. Gan mai microfusnesau a busnesau bach yw 98.4 y cant o holl fusnesau Cymru, nhw yw asgwrn cefn economi Cymru ac mae'n bwysig ein bod yn eu hyrwyddo dros gyfnod yr ŵyl. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi busnesau bach ac annibynnol trwy Busnes Cymru a thrwy Fanc Datblygu Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch eich bod yn cydnabod Dydd Sadwrn Busnesau Bach. Mae'n ymgyrch sy'n annog pobl i siopa mewn siopau bach ac annibynnol yn y cyfnod cyn y Nadolig—siopau fel No. 1 High Street yn y Drenewydd, Gifts of Wales yn y Trallwng, Little Gems yn Llanidloes, neu Ian Snow ym Machynlleth, ac mae gan bob un ohonynt anrhegion Nadolig ardderchog i deulu a ffrindiau. A ydych chi'n cytuno â—[Torri ar draws.] Ac mae llawer mwy o siopau o'r fath ar draws fy etholaeth. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, mai un o'r ffyrdd gorau o gefnogi ein strydoedd mawr y Nadolig hwn yw drwy siopa'n lleol?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

14:15

Rwy'n cytuno'n llwyr fod siopa'n lleol mor hanfodol i sicrhau ein bod yn cynnal strydoedd mawr bywiog a hyfyw, ac rwy'n credu bod siopa'n lleol ac ymweld â masnachwyr annibynnol yn rhoi profiad hollol wahanol o siopa i chi hefyd, a buaswn yn ei argymell i unrhyw un wrth iddynt ddechrau meddwl am eu siopa Nadolig.

Rwyf hefyd eisiau sôn am ymgyrch arall, sy'n bwysig iawn eleni, sef ymgyrch ShopKind Christmas. Caiff ei harwain gan arweinwyr diwydiant a rhanddeiliaid, fel y Gymdeithas Siopau Cyfleustra, Cymdeithas Manwerthu Cymru, ac mae'n cynnwys cyfranogiad undebau llafur y sector, fel yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod pobl yn gallu siopa'n ddiogel, a'n bod yn cofio bod y Nadolig yn gyfnod prysur a llawn straen i bawb, gan gynnwys y staff, felly dylem bob amser roi eiliad i feddwl a bod yn garedig i'r bobl sy'n ein gwasanaethu hefyd.

2. Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf fydd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn gan Peredur Owen Griffiths.

Cefnogi Gofalwyr

Mae cymorth i ofalwyr di-dâl yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Eleni rydym wedi darparu £13 miliwn o gyllid i gefnogi gofalwyr di-dâl. Ym mis Tachwedd fe wnaethom gyhoeddi £15.75 miliwn arall i ymestyn y cynllun seibiant byr a'r gronfa gymorth i ofalwyr am dair blynedd arall, tan fis Mawrth 2029.

Diolch yn fawr am eich ateb. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â gofalwyr a'r rhai sy'n eu cynrychioli ar draws fy rhanbarth, ac mae'r darlun yn un llwm. Maent wedi ymlâdd, yn teimlo'n ynysig ac wedi'u llethu'n ariannol. Mae mwy na 310,000 o ofalwyr yng Nghymru yn ôl y cyfrif diwethaf. Amcangyfrifir bod y nifer go iawn yn llawer iawn uwch. Gallai'r gofal y maent yn ei ddarparu i gyd gyda'i gilydd gostio dros £10 biliwn, swm syfrdanol sy'n hafal i holl gyllideb ein GIG. Os ydym am wneud y peth iawn i ofalwyr, mae angen nodi mwy o ofalwyr, asesu eu hanghenion a sicrhau eu bod yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Mae peidio â mynd i'r afael â hyn yn creu perygl o gondemnio cenhedlaeth arall o ofalwyr i salwch, tlodi ac anobaith. Sut y bwriadwch fynd i'r afael â'r status quo sy'n gwneud cam â chymaint o ofalwyr? A ydych chi wedi ystyried gwell cefnogaeth i fforymau gofalwyr ar lawr gwlad sy'n dda am ddarparu cymorth a chyngor, ond sy'n aml yn dod i ben neu'n ei chael hi'n anodd oherwydd diffyg cefnogaeth? Diolch.

Diolch. Diolch am y cwestiynau atodol, Peredur. Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw cydnabod yn llwyr cymaint o werth sydd i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Ac nid wyf yn siarad am y gwerth ariannol i Gymru yn unig, rwy'n siarad am y gwerth i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. I'r bobl hynny, mae eu gofal yn amhrisiadwy, ac nid yw arian yn fater sy'n codi mewn gwirionedd. Ond mae arnom ddyletswydd absoliwt i gefnogi'r bobl hyn er mwyn iddynt allu darparu'r gofal y mae angen iddynt ei ddarparu ar gyfer eu hanwyliaid, eu ffrindiau, eu teulu ac ar yr un pryd, sicrhau nad ydynt yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, a'u bod hefyd yn cael y gofal a'r seibiant sydd eu hangen arnynt.

Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael llawer o sgyrsiau yn y Siambr hon o'r blaen am yr angen i ofalwyr di-dâl gael eu hawl statudol i asesiad gofalwyr, ac rwy'n glir iawn fod honno'n flaenoriaeth fawr. Fe wnaethom gomisiynu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gynnal adolygiad o nifer y gofalwyr a oedd yn cael asesiad o'u hanghenion fel gofalwyr. Gwnaethom hynny ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac rydym wedi caniatáu i Gymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithas arwain y gwaith a wnawn, trwy grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr di-dâl, i sicrhau bod hynny'n dod yn nodwedd fwy rheolaidd. Felly, mae llawer o bethau ynghlwm wrth hynny. Mae'n fater o godi ymwybyddiaeth o bwy sy'n ofalwyr di-dâl, sut y maent yn ystyried eu hunain yn ofalwyr di-dâl, a dangos i awdurdodau mai dyna ydynt, ac yn enwedig awdurdodau lleol.

Mae gan awdurdodau lleol rwymedigaeth statudol i ddarparu asesiad o anghenion gofalwyr, ac wedi i'r asesiad gael ei gynnal, gellir nodi angen y gofalwr dan sylw. Gallai hynny fod yn angen am ofal seibiant, gallai fod yn angen am gymorth ariannol, a gallwn ddarparu hynny. Gall yr awdurdod lleol ddarparu gofal seibiant statudol; gallwn ni ddarparu gofal seibiant a seibiant byr sy'n ategu'r hyn y gall yr awdurdod lleol ei ddarparu. Felly, i gydnabod fy awydd i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd yn gyflymach nag y mae, oherwydd rwy'n teimlo lawn mor rhwystredig ag unrhyw un nad yw'n digwydd mor gyson ac mor gyflym ag y dylai, rwy'n mynd i ysgrifennu'n uniongyrchol at arweinydd pob awdurdod lleol yng Nghymru, i ddweud bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i hyn yn y ffordd y deliwn â gofalwyr di-dâl.

14:20

Helo, Weinidog. Mae'n gwestiwn braidd yn bersonol, ond mae hynny'n iawn. Fel gofalwr di-dâl fy hun, rwy'n gwybod yn union pa mor heriol y gall fod, ac rwy'n codi fy het i'r holl ofalwyr di-dâl ledled Cymru am y gwaith gwych a di-glod y maent yn ei wneud, bob dydd o'r flwyddyn. Mae bod yn ofalwr di-dâl yn gallu bod yn heriol, gyda phedwar o bob 10 yn dweud bod eu hiechyd meddwl naill ai'n 'wael' neu'n 'wael iawn', a 42 y cant yn dweud bod eu hiechyd corfforol wedi cael ei niweidio gan eu cyfrifoldebau gofalu. Ac eto, mae yna lawer o bobl sy'n ofalwyr di-dâl nad ydynt yn ystyried eu hunain yn ofalwyr, gydag ymchwil yn dangos bod bron eu hanner yn cymryd mwy na blwyddyn i ystyried eu hunain yn ofalwyr di-dâl, a bod nifer sylweddol yn cymryd mwy na phum mlynedd i wneud hynny. Gall methiant i gydnabod hyn weithredu fel rhwystr i fynediad at gymorth hanfodol, sydd wedyn yn rhoi pwysau pellach ar ein gofalwyr di-dâl.

Cam pwysig tuag at gael cymorth yw cael asesiad o anghenion gofalwr, y gwn eich bod wedi sôn amdano yn eich ateb ychydig eiliadau yn ôl, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn amdano. Fodd bynnag, canfu arolwg 'Cyflwr Gofalu yng Nghymru 2025' Gofalwyr Cymru nad oedd 75 y cant o ofalwyr wedi cael asesiad yn ystod y 12 mis diwethaf, a dywedodd y rhai a oedd wedi cael un nad ydynt wedi cael unrhyw gymorth hyd yma. Dywedodd 55 y cant o ofalwyr a gafodd asesiad gofalwyr eu bod wedi cael gwybodaeth neu gyngor yn hytrach na chymorth ffisegol go iawn, ac roedd 12 y cant yn dal i aros i glywed canlyniad yr asesiad. Felly, Weinidog, hoffwn wybod—a gwrandewais yn astud ar eich ymateb i fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths—ar wahân i ysgrifennu at arweinwyr cynghorau, sut yn benodol rydych chi a Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella'r nifer o asesiadau a wneir a sicrhau bod y rhai sydd â hawl i gymorth yn ei gael mewn gwirionedd, yn hytrach na chael cynnig gwybodaeth yn unig. Ac rwy'n derbyn yr hyn a nodwyd gennych am amserlenni, ond hoffwn wybod: beth fydd eich amserlen ar gyfer y cynghorau lleol y byddwch chi'n ysgrifennu atynt, er mwyn iddynt allu gwthio hyn yn ei flaen a chael canlyniadau'n gyflymach? Diolch yn fawr.

Wel, diolch am hynny, Natasha. Fel yr atebais yn fy ymateb i Peredur Owen Griffiths, mae codi ymwybyddiaeth yn elfen hanfodol o hyn, ac rydym wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith o gwmpas hynny, yn enwedig ar gyfer gofalwyr ifanc, ac rydym wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith codi ymwybyddiaeth trwy TikTok a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol, oherwydd yn aml nid yw gofalwyr ifanc yn enwedig yn ystyried eu bod yn ofalwyr. Nid ydynt yn sylweddoli bod rhoi ei meddyginiaeth i mam yn y bore a choginio brecwast iddi a gwneud hyn, llall ac arall yn gyfrifoldeb gofalu mewn gwirionedd. Felly, codi ymwybyddiaeth fel bod pobl yn deall eu bod yn ofalwyr yw'r peth cyntaf, ac rydym wedi bod yn gwneud cryn dipyn o waith ar hynny.

Yn benodol iawn, eto i adeiladu ar yr hyn a ddywedais wrth Peredur, fe wnaethom gomisiynu Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi beth oedd y rhwystrau i ofalwyr di-dâl gael yr asesiadau sydd eu hangen arnynt. Ac rydym i gyd yn deall y pwysau sydd ar awdurdodau lleol, ond mae ganddynt rwymedigaeth statudol, ac mae gan ofalwyr eu hunain hawl statudol i asesiad o'u hanghenion fel gofalwyr. Felly, rwy'n glir iawn, ac fe wnaeth adolygiad Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol nodi hynny fel prif faes i'w wella. Felly, nid wyf am sefyll yma heddiw a dweud fy mod yn meddwl bod y gwaith i gyd wedi'i wneud oherwydd ein bod wedi nodi hyn fel maes. Mae'n amlwg yn waith pwysig y mae angen inni ei gyflawni ar gyfer gofalwyr di-dâl, a dyna pam mai fy neges uniongyrchol i arweinwyr awdurdodau lleol yw pwysleisio'r angen i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaeth statudol i ofalwyr a nodir ganddynt, a'u bod yn darparu'r cymorth y maent ei angen.

Nawr, i rai gofalwyr, cyngor yn unig yw'r cymorth y byddant ei angen, a dim byd mwy ffisegol na hynny. Gallai ymwneud â chyngor ar fudd-daliadau. Gallai ymwneud â chyngor ar gael cymorth mewn meysydd eraill, a gellir delio â hynny'n weddol gyflym. Ond asesiad o'u hanghenion fel gofalwyr yw'r peth cyntaf y dylid ei ddarparu, a'r ail beth sy'n rhaid ei ddarparu yw'r hyn y mae'r pecyn o anghenion gofalwyr yn dweud y dylent ei gael. Felly, nid wyf yn credu y dowch chi o hyd i unrhyw wahaniaeth rhyngom ar hyn, Natasha. Yr her yw gwneud yn siŵr ein bod yn darparu hynny mewn modd amserol.

Weinidog, mae'r pwyllgor iechyd yn gwneud gwaith ar ofalwyr di-dâl ar hyn o bryd, ac fe glywsom dystiolaeth bwerus gan ofalwyr ifanc, ac yn amlwg mae ganddynt amgylchiadau penodol ac anghenion penodol. Un o'r prif faterion a gododd oedd gallu staff ysgol i adnabod pwy yw'r gofalwyr ifanc hyn yn yr ysgol, a gweld hefyd a oedd hyfforddiant systematig ar gyfer gweithlu ysgolion sy'n eu helpu i ddeall anghenion gofalwyr ifanc, i gydnabod y gallent fod yn ofalwyr ifanc, a hefyd i'w cefnogi os oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Felly, o ran gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r awdurdodau addysg lleol ac ysgolion, tybed a ydych chi'n ceisio lledaenu arferion da. Clywsom fod gan Ysgol Gyfun Radur, er enghraifft, arferion da iawn yn yr ysgol honno ar y materion hynny ac yn gyffredinol, ond efallai fod hynny'n dameidiog ac yn amrywio, ac mae angen lledaenu arferion da ledled Cymru. 

14:25

Diolch am y cwestiwn hwnnw, John. Rydym yn gweld hynny ym mhob agwedd ar ein gwaith polisi, onid ydym, fod gennym arferion da iawn yn digwydd mewn rhai mannau a bod angen inni uwchraddio ymarfer o'r fath a'i ledaenu ledled y wlad. Ar ofalwyr ifanc, gan fy mod newydd ateb y cwestiwn gan Natasha, hoffwn ddweud bod gofalwyr ifanc yn grŵp penodol iawn. Weithiau maent yn anodd eu nodi am nad ydynt yn ystyried eu hunain yn ofalwyr. Lle gallwn eu nodi, wrth gwrs, mae gennym y cerdyn adnabod gofalwyr ifanc, a dylai'r cerdyn agor pob math o ddrysau i'w cefnogi. Ac mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i'r cynllun hwnnw, felly gall unrhyw berson ifanc sy'n ofalwr ifanc yng Nghymru gael cerdyn adnabod gofalwyr ifanc, a ddylai, fel y dywedais, agor y drws a darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt, mewn ysgolion a thu hwnt, mewn siopau, mewn fferyllfeydd, yn y feddygfa, neu beth bynnag. Ac mewn ysgolion, y math o gymorth y chwiliwn amdano yw galluogi gofalwr ifanc i gael ychydig mwy o amser i gyflwyno eu gwaith cartref efallai, os na allant wneud eu gwaith cartref mewn pryd, a'r math hwnnw o beth. Ac mae yna arferion da iawn—rydych chi wedi nodi Radur, ond mae yna enghreifftiau eraill o arferion da iawn yn y ffordd y mae ysgolion yn delio â gofalwyr di-dâl. Ond rwyf wedi trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod yr arferion da hynny'n cael eu hymgorffori'n rheolaidd ar draws ein hysgolion, a lle gallwn nodi arfer da, ein bod yn gwneud hynny ac yn rhannu hynny ledled y wlad.

Cyflogau ac Amodau Staff y GIG

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cytundeb cenedlaethol diweddar i wella cyflogau ac amodau staff y GIG? OQ63513

Rwy'n hynod falch ein bod o'r diwedd wedi gallu datrys y mater hirsefydlog hwn sy'n effeithio ar oddeutu 6,000 o'n gweithwyr GIG ar y cyflogau isaf. Roedd hon yn flaenoriaeth i mi, ac mae'r cytundeb cenedlaethol yn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu'n gywir am y gwaith a wnânt, sy'n hanfodol i gefnogi gwasanaethau'r GIG.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd Cabinet. 

Mae'r cytundeb hwn yn gydnabyddiaeth deg sydd i'w chroesawu i waith, ymrwymiad ac ymroddiad y gweithwyr gofal iechyd hanfodol hyn. Fel y dywedoch chi, rwy'n credu, mae o fudd i fwy na 6,000 o weithwyr, menywod yn bennaf, sydd wedi cael eu cefnogi trwy'r broses hon gan eu hundeb llafur, Unsain. A dylwn ddatgan ar gyfer y cofnod, fel y dywed fy nghofrestr o fuddiannau, fy mod yn aelod balch o Unsain. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn: a ydych chi'n cytuno â mi fod y cytundeb hwn yn dangos y gwahaniaeth y gall Llywodraeth Lafur Cymru ei wneud ac y mae'n ei wneud i weithwyr? Gwaith teg, nid yn unig mewn egwyddor ond yn ymarferol hefyd. Ac a ydych chi hefyd yn cytuno ei fod yn dangos sut y gall y ffordd Gymreig o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol arwain at ganlyniadau go iawn? Diolch.

Ie, dylwn ddatgan yr un buddiant hefyd. Rwy'n credu mai ffrwyth y dull partneriaeth gymdeithasol hwnnw sydd wedi ein galluogi i ddatrys y mater hwn ar sail Cymru gyfan. Bu anghydfodau unigol mewn byrddau iechyd unigol, ond roeddwn yn awyddus inni fod mewn sefyllfa lle nad oedd hynny'n digwydd a'n bod yn gallu datrys y mater ar sail Cymru gyfan. Fel y dywed yr Aelod yn gywir, mae hyn yn ymwneud yn bennaf â phrofiadau menywod ar gyflogau isel yn y gwasanaeth iechyd—nid menywod i gyd, ond dyna yw'r rhan fwyaf o'r grŵp hwn o bobl a gaiff eu cefnogi. Y cynllun yw y dylai unrhyw weithiwr yr effeithir arnynt gan yr adolygiad gael y taliadau sy'n ddyledus iddynt erbyn diwedd mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, yn unol â'r cytundeb cenedlaethol, ac rwy'n ddiolchgar i gymheiriaid undebau llafur am eu hamynedd yn rhoi amser ychwanegol i ni ddod o hyd i ateb ledled Cymru i'r her hon rhwng gweithwyr band 2 a band 3. Dylwn ddweud hefyd fod gwaith sylweddol wedi'i wneud mewn partneriaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a'i swyddogion i ddod o hyd i ateb, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gallu gwneud hynny. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi awgrymu bod Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi'i ddiswyddo ar ôl blwyddyn yn unig yn y swydd ar ôl codi pryderon am drefniadau llywodraethu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac nad oedd tymor cadeirydd yr ymddiriedolaeth wedi'i ymestyn y tu hwnt i'r tymor o bedair blynedd chwaith, sy'n anarferol iawn, a chododd hithau bryderon tebyg ynglŷn â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. A allwch chi nodi heddiw beth a wyddoch chi am y mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y diswyddwyd y Prif Swyddog Gweithredol a pham na chafodd tymor y cadeirydd blaenorol ei ymestyn?

14:30

Wel, mae'r rhain, fel y bydd yr Aelod yn deall, yn faterion sy'n ymwneud â pherthynas gyflogaeth lawn cymaint ag unrhyw beth arall, ac ni fyddai'n briodol imi wneud sylwadau arnynt yn y cyd-destun hwnnw. Ac mae'r cyfyngiadau hynny, a'r dull gweithredu hwnnw, ar waith er mwyn diogelu gweithwyr lawn cymaint ag unrhyw beth arall. Ni chredaf ei bod yn briodol mynd i fanylion ynglŷn â hynny, ond ni chredaf mai'r darlun y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio yw'r darlun llawn.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod angen inni fynd i'r afael â'r materion hyn, gan fod adroddiad blynyddol yr ymddiriedolaeth yn nodi bod yr:

'Ymddiriedolaeth wedi codi pryderon llywodraethu mewn perthynas â Chydwasanaethau. Mae’r pryderon yn amrywiol ac wedi cael eu huwchgyfeirio.'

O ystyried yr afreoleidd-dra honedig o fewn y bartneriaeth gydwasanaethau o ran llywodraethu, ac ymadawiad sydyn prif weithredwr ymddiriedolaeth GIG Felindre, yn ôl y sôn am iddo ddechrau ymchwilio i'r materion hyn, mae cwestiynau difrifol yn codi ynglŷn â'r hyn yr oedd uwch arweinwyr a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ei wybod, a pha un a yw'r problemau hyn yn cael eu cadw o'r golwg, neu fod unigolion yn cael eu hanwybyddu er mwyn osgoi niwed i enw da'r Llywodraeth. Felly, a allwch chi gadarnhau heddiw pa un a ydych chi, neu unrhyw un o'ch swyddogion, wedi derbyn gohebiaeth neu bryderon gan unigolion sy'n chwythu'r chwiban mewn perthynas â'r materion llywodraethu a throseddoldeb honedig o fewn y bartneriaeth cydwasanaethau, neu ynghylch y berthynas rhwng uwch swyddogion Llywodraeth Cymru a chydweithwyr uwch yn y bartneriaeth? Ac os felly, a wnewch chi gyhoeddi'r deunydd yn llawn, fel y gallwn fod yn sicr nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn yn amhriodol?

Wel, mae'r materion y mae'r Aelod yn eu cyflwyno yn y Siambr yn perthyn i ddau gategori. Un yw penderfyniad y bwrdd, a'r perthnasoedd mewn perthynas â chyflogaeth y prif weithredwr. Dyna un set o faterion sy'n codi. Mae'n gofyn set ehangach o gwestiynau mewn perthynas â'r trefniadau llywodraethu. Cafwyd trafodaeth ynghylch y berthynas lywodraethu, ac mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau ei bod yn cael ei chryfhau yn y ffordd orau sy'n bosib. Mae hynny'n amlwg yn bwysig.

Ond o ran ymadawiad y prif weithredwr, bydd yr Aelod yn deall yn llwyr, gobeithio, pam nad yw'n briodol i eraill nad ydynt yn gyfrifol am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny wneud sylwadau ar benderfyniadau cyflogaeth unigol.

Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais gwestiwn syml i chi. Hoffwn wybod a ydych chi, neu unrhyw swyddogion yn Llywodraeth Cymru, wedi derbyn unrhyw ohebiaeth neu bryderon gan unigolion sy'n chwythu'r chwiban mewn perthynas â'r materion llywodraethu a throseddoldeb honedig o fewn y bartneriaeth cydwasanaethau, neu ynghylch y berthynas rhwng uwch swyddogion Llywodraeth Cymru a chydweithwyr uwch yn y bartneriaeth. Mae'n gwestiwn syml iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ateb 'do' neu 'naddo', ac os gallech ateb hynny, rwy'n credu y byddem yn hoffi gwybod, gan fod arian trethdalwyr yn cael ei wario yma—symiau enfawr o arian trethdalwyr yn cael ei wario—ac rydym ni, yma yn y Siambr, yn haeddu gwybod yr ateb.

Yr ateb i'r cwestiwn yw y bu gohebiaeth a thrafodaeth mewn perthynas â'r trefniadau llywodraethu, ac mae hynny wedi parhau. Ond mae hwnnw'n gwestiwn gwahanol i bwynt gwreiddiol yr Aelod, sy'n ymwneud ag ymadawiad y prif weithredwr.

Diolch, Lywydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dechrau ymgyrch ganmoladwy i sicrhau tryloywder a mwy o atebolrwydd yn y GIG. Mae'r cam hwn i'w groesawu. I'r perwyl hwn, comisiynwyd adolygiad i drefniadau llywodraethu cydwasanaethau'r GIG gan y cyn-gyfarwyddwr cyffredinol iechyd a gofal cymdeithasol Judith Paget ym mis Ebrill, ac fe'i cwblhawyd ym mis Gorffennaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ac wedi adolygu'r adroddiad hwn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon sicrhau ei fod yn cael ei gyhoeddi er mwyn inni allu craffu ar ei gynnwys?

Mae rhan o'r ohebiaeth yr wyf newydd gyfeirio ati yn fy ateb blaenorol yn ymwneud â'r gwaith sydd ar y gweill mewn perthynas â'r trefniadau llywodraethu. Mae hynny'n cael ei ystyried ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei ystyried gyda'r ymddiriedolaeth. Ac ar yr adeg briodol, fe wneir datganiad mewn perthynas â chanlyniad y broses honno.

Nawr, cyhoeddodd cydwasanaethau'r GIG eu cynllun tymor canolig integredig yn gynharach eleni. Fodd bynnag, rwy'n deall bod pob un o 12 prif swyddog gweithredol y GIG yng Nghymru wedi dweud yn glir nad oeddent yn cymeradwyo'r cynlluniau. Ar ben hynny, daeth adolygiad PricewaterhouseCoopers yn y gwanwyn i'r casgliad, o ganlyniad i broblemau llywodraethu gyda'r cydwasanaethau, fod gallu'r ymddiriedolaeth i gymeradwyo'r cyfrifon cyfunol a chadarnhau eu bod wedi cyflawni eu cyfrifoldebau i'w gweithwyr wedi'i gyfaddawdu. Dyna a ddywedwyd.

Gyda llaw, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam y disgwylir i adran sy'n rhan o ymddiriedolaeth GIG Felindre, ac nad yw'n gorff annibynnol, gynhyrchu cynllun tymor canolig integredig? Ond yn bwysicach fyth, a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet hyder yng nghydwasanaethau'r GIG?

14:35

Oes, a'r rheswm pam y mae gofyn iddynt lunio cynllun ar wahân yw oherwydd natur a hyd a lled eu gwasanaethau a'r graddau y mae gweddill y GIG yn dibynnu ar gyflawni'r swyddogaeth gynllunio honno'n iawn. Felly, bydd yr Aelod yn deall, fel sydd wedi bod yn amlwg o'r drafodaeth heddiw, fod yna berthynas lywodraethu rhwng y cydwasanaethau a Felindre. Mae'r cydwasanaethau'n sefydliad llawer mwy nag ymddiriedolaeth Felindre ei hun mewn gwirionedd. O ganlyniad i raddfa a chyrhaeddiad eu gweithgareddau i'r GIG, mae'n briodol cynnal ymarfer cynllunio ar wahân mewn perthynas â'u gwaith.

Mae'r cwestiynau heddiw'n ymwneud â llywodraethiant cydwasanaethau yn Felindre, ac rwyf wedi siarad yn fanwl am yr angen i wella'r strwythurau llywodraethu yn ein GIG. Nid llywodraethu yw'r pwnc gwleidyddol mwyaf cyffrous o reidrwydd, ond mae'n hanfodol serch hynny. Mae'n golygu bod y rheolau cywir ar waith a'u bod yn cael eu dilyn, gan arwain at ddiwylliant da neu ddrwg—pethau fel y rheolau a'r rheoliadau ynghylch llofnodi gorchmynion prynu, sicrhau bod strwythurau goruchwylio clir ar waith, cadwyni awdurdod ac atebolrwydd, a sicrhau nad yw camau'n cael eu cymryd a allai arwain at atebolrwydd troseddol, dynladdiad corfforaethol neu esgeuluster difrifol. Yn adroddiad blynyddol diweddaraf ymddiriedolaeth Felindre, nododd y prif swyddog gweithredol ar y pryd, fel y clywsom yn gynharach:

'mae'r Ymddiriedolaeth wedi codi pryderon llywodraethu mewn perthynas â Chydwasanaethau.'

Ysgrifennydd y Cabinet, a yw Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o'r pryderon hyn, ac os felly, pa gamau y mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd?

Dechreuodd yr Aelod ei gwestiynau drwy ofyn am adolygiad o drefniadau llywodraethu. Fel y nodais mewn ymateb i hynny, mae adolygiad wedi'i gynnal sy'n cael ei drafod gyda'r ymddiriedolaeth. Yng ngoleuni ei—. Gofynnodd gwestiwn cwbl briodol ynglŷn â thryloywder a didwylledd. Rwyf wedi ymrwymo, ar yr adeg iawn, pan fydd y sgwrs honno wedi'i chwblhau, i wneud datganiad a fydd yn nodi casgliadau'r drafodaeth honno.

Amseroedd Aros am Driniaeth yn y Rhondda

3. Pa effaith y mae'r £120 miliwn a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ym mis Mehefin 2025 wedi'i wneud i drigolion yn y Rhondda sy'n aros am driniaeth? OQ63531

Rhaid i fuddsoddiad ddigwydd law yn llaw â diwygio a gwella darpariaeth gwasanaethau. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru’n cael effaith uniongyrchol ar drigolion yn y Rhondda. Ar draws rhanbarth y bwrdd iechyd, mae arosiadau dwy flynedd wedi gostwng 75 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu dros 10,000 o apwyntiadau cleifion allanol newydd ychwanegol eleni, a 4,000 o driniaethau cataract ychwanegol gyda rhanbarth y de-ddwyrain.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud 'diolch' enfawr i holl staff y GIG yn y Rhondda am eu hymroddiad a'u gwaith caled, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Mae'r buddsoddiad o £120 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Mehefin i'w groesawu'n fawr. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i flaenoriaethu lleihau rhestrau aros fel nad oes yn rhaid i unrhyw un wynebu poen diangen wrth aros am driniaethau, boed ar gyfer cluniau, cataractau neu driniaethau hanfodol eraill. Rwy'n ymwybodol o drigolion sy'n aros ar hyn o bryd am ymgynghoriadau neu benderfyniadau ynghylch ceisiadau cyllido cleifion unigol i bennu a ellir ariannu eu meddyginiaethau didrwydded ar y GIG. Gall yr aros hwn fod yn hynod boenus ac yn hynod gostus i'r unigolion. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd lleihau amseroedd aros yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac a wnaiff edrych yn ofalus ar ddod o hyd i broses gyflymach ar gyfer y rhai sy'n aros ac yn talu am eu meddyginiaeth ddidrwydded ar hyn o bryd?

Rwyf am weld y cynnydd rhagorol a welwn ar leihau amseroedd aros yn parhau. Ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas â cheisiadau cyllido cleifion unigol ac yn y blaen, rwy'n credu ei bod yn bwysig sicrhau ein bod yn cael cymeradwyaeth amserol. Ar hyn o bryd, mae'r polisi'n ei gwneud yn ofynnol i achosion brys clinigol gael eu hystyried o fewn 48 awr i gyflwyno'r cais. Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf yn nodi bod pob un ond un o'r 32 achos brys clinigol wedi'u hadolygu o fewn y cyfnod o 48 awr. Felly, mae mecanwaith ar gael eisoes sy'n ein galluogi i gyflymu cymeradwyaeth, ac yn gyffredinol, mae hynny'n gweithio'n dda ar hyn o bryd. Rydym yn cydnabod mai'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau mynediad prydlon at driniaeth, lle ceir tystiolaeth glinigol dda, yw defnydd all-drwydded o feddyginiaeth, a gall gynnig gwerth am arian i'r GIG hefyd. Felly, mae'r meddyginiaethau hynny ar gael yn rheolaidd heb fod angen cyflwyno cais cyllido claf unigol. Pan ddefnyddir meddyginiaeth all-drwydded, y tu hwnt i delerau'r drwydded, ni fydd rhywfaint o'r dystiolaeth o effeithiolrwydd clinigol a chosteffeithiolrwydd ar gael. Am y rhesymau hynny, mae proses y ceisiadau cyllido cleifion unigol yn ei gwneud hi'n bosib gwneud penderfyniadau ar fynediad at feddyginiaethau heb eu trwyddedu ar sail achosion unigol. Ond rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r pwynt pwysig hwnnw.

14:40

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mynediad at Apwyntiadau Meddygon Teulu

4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella mynediad at apwyntiadau meddygon teulu? OQ63508

Meddygaeth deulu yw'r rhan brysuraf o'r gwasanaeth iechyd. Mae ein gweithlu medrus yn sicrhau bod gofal yn cael ei gadw’n agos at adref, gan gwrdd â galw enfawr bob dydd a sicrhau bod cleifion yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw. Yn gynharach eleni, cafodd dros £52 miliwn ei ddyrannu i gryfhau meddygaeth deulu gymunedol ar draws Cymru, gyda cyllid wedi’i glustnodi yn helpu practisys i reoli'r galw a chynnal mynediad i gleifion.

Mae nifer o'm hetholwyr yn esbonio i mi pa mor anodd yw hi iddyn nhw gael apwyntiad o flaen llaw gyda meddyg teulu, gyda nifer ohonyn nhw yn cyfeirio at y dagfa 8 y bore yr oedd Llywodraeth Cymru wedi datgan ein bod ni'n cael gwared ohoni bedair blynedd yn ôl. Mae hyn yn cael ei ategu gan dystiolaeth y mae Llais wedi'i chyflwyno i'r pwyllgor iechyd yn gynharach eleni, tystiolaeth gan y comisiynydd pobl hŷn, tystiolaeth gan fwrdd iechyd Hywel Dda o ran yr arolygon cleifion, sydd i gyd yn sôn am y sgrambl 8 o'r gloch y bore yma. Mi ydych chi wedi cyfeirio at adolygiad, Ysgrifennydd Cabinet, i mewn i'r safonau mynediad. Ydych chi'n gallu dweud pryd fydd yr adolygiad yma yn cael ei gwblhau? Yn y cyfamser, oes gyda chi ffigur ar gyfer canran y meddygon teulu sydd yn cydymffurfio â'r safon? Ddwy flynedd yn ôl, roeddech chi'n dweud ei fod yn 95 y cant. A ydy e wedi cynyddu ers hynny, neu ydy e wedi mynd lawr?

Mae'r ffigur o ran y rheini sydd yn cydlynu â'r safonau, y ffigurau diweddaraf sydd gyda ni, yn dangos 97 y cant. Mae'r practisys yn penderfynu eu hunain a ydyn nhw'n cyrraedd y nod, a doeddwn i ddim yn credu bod hynny'n ddigonol. Felly, fel rhan o'r adolygiad y gwnaethoch chi sôn amdano fe, mae gofyniad i fyrddau iechyd reoli'r data yna hefyd. Mae gwaith pellach yn mynd i ddigwydd dros y flwyddyn sydd i ddod, ond mae hynny wedi bod yn rhan o'r adolygiad hynny.

Fel canlyniad i'r adolygiad, mae canllawiau pellach wedi eu cyhoeddi i bractisiau i sicrhau eu bod nhw'n deall yn glir nad yw'r cytundeb yn caniatáu mai dim ond am 8 o'r gloch y bore mae'n bosib rhyddhau apwyntiadau ar gyfer y diwrnod hwnnw. Mae oblygiadau newydd ar fyrddau iechyd ac ar bractisiau i adrodd ar yr hyn sy'n digwydd i fynd i'r afael gyda'r pwysau sydd yn amlwg yn y system yn hynny o beth. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r ateb, ond dim ond rhan o'r ateb.

Yr hyn sydd angen ei wneud hefyd, ac mae gwaith yn digwydd i sicrhau hyn, yw sicrhau ein bod ni'n gallu gwahaniaethu rhwng apwyntiadau brys ac apwyntiadau efallai lle mae gan bobl fwy o amser cyn eu bod nhw'n gorfod gweld meddyg neu weld y person addas. Felly, mae gwaith yn digwydd i sicrhau ein bod ni'n gallu peilota mynediad hafal at ddarpariaeth gynradd frys ar yr un llaw, ond hefyd, drwy bethau fel yr ap, sicrhau bod apwyntiadau efallai sydd yn llai brys, lle nad oes angen triage clinigol, yn gallu cael eu sicrhau ar-lein ac nid trwy orfod galw'r practis. Felly, mae amryw bethau ar waith i fynd i'r afael gyda hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan bob un ohonom y broblem hon yn ein hetholaethau, onid oes, lle mae pobl sy'n ceisio cael yr apwyntiadau hyn yn ei chael hi'n anodd iawn, yn enwedig yn y boreau, ac apwyntiadau ar yr un diwrnod wrth gwrs? Ymddengys eu bod yn haws eu cael nag apwyntiadau ymlaen llaw, a cheisio trefnu apwyntiadau ymlaen llaw ar gyfer archwiliadau a phethau eraill lle nad oes cymaint o frys. Un o'r heriau y mae meddygon teulu yn dweud wrthyf eu bod yn eu hwynebu, oherwydd yr amseroedd aros hir iawn ar gyfer triniaethau ysbyty, yw eu bod bellach yn gorfod trin mwy o bobl, ac mae hynny'n rhoi mwy o bwysau ar apwyntiadau yn y gymuned. A gaf i ofyn i chi am yr wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig ar gyfer gogledd Cymru? Gwyddom fod y ffigurau amseroedd aros yn amheus i fyny yno, ond o ystyried y pwysau ychwanegol yn y gogledd oherwydd yr amseroedd aros hir iawn, pa adnoddau ychwanegol rydych chi'n eu rhoi i'r practisau meddygon teulu hynny fel y gallant ymdopi â'r baich ychwanegol y mae'n ei greu?

14:45

Mae rhywfaint o rym i'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ond nid yw'n egluro'r sefyllfa gyfan. Felly, credaf ei bod yn deg dweud, lle mae pobl wedi bod yn aros yn hirach, eu bod yn fwy tebygol o droi at eu meddyg teulu am gymorth parhaus. Rwy'n credu bod honno'n rhagdybiaeth synhwyrol. Mae'r dystiolaeth braidd yn amrywiol, ond mae'n bwynt sydd â rhywfaint o gryfder, yn amlwg. Ni chredaf mai dyna'r her gyfan. Mae ystod o faterion y mae angen inni allu mynd i'r afael â nhw, ac rwyf wedi ymateb ar lawer ohonynt i Adam Price yn ei gwestiwn.

Felly, rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod eu perfformiad cyffredinol yn gwella fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio. Gwneuthum bwynt ynghylch y data perfformiad rhestrau aros, y gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb mawr ynddo, yn y datganiad ysgrifenedig a wneuthum yr wythnos diwethaf. Ac rydym yn darparu cymorth pellach i'r bwrdd iechyd ar eu cais, gan benodi cyfarwyddwr gwelliant—menyw o'r enw Jane Farrell, sydd â phrofiad blaenorol helaeth yn y GIG yn Lloegr. Bydd hynny'n ymwneud â gwella perfformiad yn gyffredinol, gan gynnwys mewn gofal a gynlluniwyd, y cyfeiria'r Aelod ato yn rhan o'i gwestiwn, ond hefyd cefnogaeth mewn perthynas â chymorth gofal dwys brys, os caf ei roi felly. Mae hynny'n gysylltiedig â'r ffordd y cefnogwn welliant ar sail ddwys ym mherfformiad adrannau brys yn y gogledd. Ond mae yna ystod o bethau y mae angen inni eu gwneud. Mae'n ymwneud â mwy na chanlyniad yr arosiadau hirach yn y gogledd yn unig. Rwy'n gobeithio y bydd yr ateb a roddais i Adam Price yn ddefnyddiol yn ei gyd-destun ef hefyd.

Mynediad at Feddygon Teulu yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at feddygon teulu yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ63523

Meddygaeth deulu yw rhan brysuraf y GIG. Mae ein gweithlu medrus yn cadw gofal yn agos at adref, gan ddiwallu'r galw enfawr bob dydd a sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae meddygon teulu yn Hywel Dda yn cyflawni oddeutu 190,000 o apwyntiadau y mis—rhan o dros 1.5 miliwn a ddarperir ledled Cymru.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod eisoes wedi codi mater ar lawr y Siambr ynghylch Grŵp Meddygol Argyle a'r feddygfa yno, sydd â 22,000 o gleifion cofrestredig, ond dim ond naw meddyg teulu. Ac rwy'n canmol gwaith y staff yno ar y ddesg flaen, y gweithwyr iechyd proffesiynol yno hefyd, sy'n delio â chymaint o gleifion mewn ardal gymdeithasol ac economaidd ddifreintiedig. Ond yr hyn sydd wedi peri rhwystredigaeth i'r gymuned yn ddiweddar yw diddymu'r grŵp cyfranogiad cleifion. Nawr, rwyf wedi codi hyn gyda chi o'r blaen, ac yn anffodus, nid oeddwn yn fodlon â'r ateb, gan fod yna deimlad, er nad yw'n ofyniad i feddygfeydd gael grŵp cyfranogiad cleifion, er mwyn deall anghenion y gymuned  yn well a darparu gwell gwasanaethau meddygon teulu, fod grŵp cyfranogiad cleifion yn gyfrwng gwych ar gyfer hynny. Felly, a wnewch chi edrych eto i weld a allwch chi ofyn i bractisau meddygon teulu, a Stryd Argyle yn benodol, ailsefydlu grwpiau cyfranogiad cleifion i gadw'r cyfathrebu hanfodol hwnnw i fynd er mwyn sicrhau bod pawb ar yr un dudalen wrth geisio gwella mynediad at apwyntiadau meddygon teulu?

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le yn dweud bod angen i bractisau meddygon teulu a byrddau iechyd ymgysylltu â chleifion er mwyn deall disgwyliadau'r cleifion o ran gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Ac mae perthynas rhwng y ddau, yn y ffordd yr ymatebais i Darren Millar yn gynharach, a chredaf mai edrych ar ffyrdd creadigol o wneud hynny yw'r disgwyliad pwysicaf. Felly, rwyf wedi dweud yn glir iawn, yn yr hyn rwy'n ei ddisgwyl gan fyrddau iechyd, fod angen iddynt ddod o hyd i ffyrdd newydd, ffyrdd creadigol, o ymgysylltu â chleifion yn fwy hirdymor, ac nid yn unig yng nghyd-destun newidiadau i wasanaeth, er enghraifft. A buaswn yn ymestyn yr un egwyddor i ymarferwyr gofal sylfaenol—fod deialog barhaus â grwpiau cleifion yn rhan bwysig o'r gwaith o sicrhau bod cleifion yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, ond hefyd fod gan bractisau meddygon teulu yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn llunio eu gwasanaethau.

Deintyddiaeth y GIG

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn y gogledd? OQ63532

O ganlyniad i'n diwygiadau hyd yma, mae mwy na 101,000 o gleifion deintyddol newydd wedi cael apwyntiad ar gyfer cwrs llawn o driniaeth ers i’r gwaith o ddiwygio'r contract ailddechrau ym mis Ebrill 2022. Mae 37,000 o apwyntiadau eraill er mwyn i gleifion newydd allu cael triniaeth frys wedi cael eu darparu ers mis Ebrill 2023.

Hoffwn ddyfynnu profiad teulu Evans i chi, sydd wedi cael profiad o'r system ddeintyddol yng ngogledd a de Cymru. Dywed Mr Evans, 'Yng Nghaerdydd, roeddem wedi cofrestru gyda deintydd y GIG ac ni chawsom erioed unrhyw drafferth cael mynediad at ofal. Roeddem yn disgwyl y byddai'r un peth ar gael yng ngogledd ein gwlad. Cawsom ein rhoi ar restr aros y GIG am wasanaeth deintyddol, ac ar ôl aros am ddwy flynedd a hanner, fe wnaethom gysylltu â'r practis, dim ond i gael gwybod bod y rhestr wedi'i dileu'n llwyr a'i bod wedi symud i borth ar-lein newydd, ac nid oeddem wedi cael gwybod am hynny. Fe wnaethom gofrestru ar y porth ar unwaith, ond fisoedd yn ddiweddarach, nid ydym wedi clywed unrhyw beth o hyd. Yn yr amser hwn, roedd fy ngwraig yn feichiog ac yn gymwys i gael gofal deintyddol y GIG, ond nid oedd yn gallu cael mynediad ato'n lleol, oherwydd y sefyllfa. Rydym bellach yn ceisio cofrestru ein gefeilliaid newydd-anedig. Fodd bynnag, ymddengys bod porth deintyddol y GIG wedi torri. Wrth geisio ychwanegu plant at fy nghyfrif, nid yw'r botwm cyflwyno yn gweithio o gwbl. Dim ond llun ydyw, yn hytrach na botwm sy'n gweithio. Felly, ymddengys nad oes unrhyw ddulliau eraill o gofrestru plant ar gyfer gofal deintyddol y GIG yn y gogledd. Ni ddylai mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ddibynnu ar ba un a ydych chi'n byw yng ngogledd neu dde Cymru, ac ni ddylai teuluoedd gael eu gadael heb unrhyw lwybr i gofrestru eu plant.' Beth sydd gennych i'w ddweud wrth Mr Evans a'r holl deuluoedd eraill sy'n cael cam yn sgil aflwyddiant eich Llywodraeth gyda gwasanaethau deintyddol?

14:50

Wel, rwy'n credu y bydd yr Aelod yn cydnabod bod anawsterau wedi bod mewn rhannau o'r gogledd o ran dychwelyd contractau ac yn y blaen, ond bu ailfuddsoddi sylweddol hefyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r her sylfaenol y cyfeiria ei gwestiwn ati yn un y buaswn yn ei derbyn, sef bod angen inni sicrhau bod deintyddiaeth y GIG yn cael ei darparu'n haws ac ar gael yn haws. Rwy'n hyderus y bydd y contract, a ddaw i rym o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, yn cael effaith sylweddol wrth sicrhau bod mwy o ddeintyddiaeth y GIG ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac yn bwysig o'i safbwynt ef, yng ngogledd Cymru. Cafwyd datblygiadau cadarnhaol iawn dros y flwyddyn ddiwethaf—deintyddfeydd newydd yn agor gyda lle canolog ynddynt i ddeintyddiaeth y GIG mewn gwahanol rannau o'r gogledd.

Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am brofiad ei etholwyr, mewn perthynas â'r porth mynediad deintyddol yn enwedig. Mae'n rhan bwysig o sut y gallwn sicrhau bod mynediad at ddeintyddiaeth yn fwy cyfleus, nid yn llai cyfleus i bobl. Felly, byddaf yn gofyn i fy swyddogion edrych ar y pwynt y mae wedi'i godi heddiw.

Mynediad at Wasanaethau Iechyd yn y Canolbarth

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru? OQ63517

Byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu mynediad at wasanaethau gofal iechyd diogel ac o ansawdd uchel i'w poblogaeth leol. Rydym yn parhau i gefnogi byrddau iechyd i wneud gwelliannau gyda chyllid ychwanegol, ymyrraeth uniongyrchol a chymorth gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd iechyd. Yn gynharach eleni, ysgrifennais atoch a chodi yn y Siambr y risg wirioneddol y mae llawer o bractisau meddygon teulu gwledig yn ei hwynebu, sef nad ydynt yn hyfyw yn ariannol o dan y fformiwla gyllido bresennol. Yn anffodus, mae'r risg honno bellach wedi dod i'r amlwg yng ngogledd Powys. Mae Canolfan Feddygol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, sy'n safle i bractis grŵp Llanfyllin, yn hanfodol i drigolion dyffryn Tanat, ac mae'r ganolfan hon bellach mewn perygl sylweddol o gau oherwydd cyfyngiadau cyllido. Mae cynghorydd sir lleol yr ardal, y Cynghorydd Aled Davies, wedi nodi bod y practis grŵp yn cwmpasu un o'r ardaloedd daearyddol mwyaf Cymru, ar draws tri safle gwahanol, gan ddarparu gwasanaethau meddygol i bron i 12,000 o bobl. Nawr, byddai cau'r practis neu'r safle hwn yn golygu na fyddai nifer o'n hetholwyr bellach yn byw o fewn pellter ymarferol i bractis meddyg teulu. Mae llawer ohonynt, wrth gwrs, yn oedrannus ac yn methu teithio pellteroedd hir, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wael iawn. Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd iechyd, pam y mae'r fformiwla gyllido bresennol yn dal i fethu rhoi ystyriaeth ddigonol i gostau uwch a chymhlethdodau rhedeg practis gwledig ar draws sawl safle, fel Llanfyllin, a pha gamau uniongyrchol y byddwch chi'n eu cymryd, gan weithio gyda bwrdd iechyd Powys, i adfer y cyllid sy'n angenrheidiol i atal y safle hwn rhag cau, a safleoedd gwledig eraill sydd yn yr un sefyllfa ledled Cymru?

Efallai fod yr Aelod wedi cael cyfle i weld y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus a gynhaliais gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yr wythnos diwethaf, lle nad yw'n syndod fod pwysigrwydd gofal sylfaenol yn gwbl ganolog i'r drafodaeth a gawsom. Ac yn y drafodaeth honno, trafodwyd rhai o'r heriau y cyfeiria atynt yn ei gwestiwn mewn termau mwy cyffredinol na'r enghraifft benodol y mae'n ei chrybwyll.

Mae'r Llywodraeth yn gwneud nifer o ymyriadau er mwyn cefnogi practisau meddygon teulu gwledig, gan gofio dibyniaeth trigolion lleol arnynt, yn cynnwys cymorth, sydd o fudd i rannau o Bowys, i annog meddygon teulu i weithio mewn ardaloedd mwy gwledig lle mae recriwtio wedi bod yn arbennig o heriol yn y gorffennol o bosib.

Ar gwestiwn y fformiwla'n fwy cyffredinol, rwy'n disgwyl gwneud datganiad yn gymharol fuan mewn perthynas â ble rydym arni gyda'r trafodaethau gyda meddygon teulu, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n gallu mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud.

14:55
Ysbyty Athrofaol Cymru

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan ymgynghorwyr mewn perthynas â gweithredu a rheoli Ysbyty Athrofaol Cymru? OQ63511

Rydym wedi dweud yn glir wrth y bwrdd iechyd fod angen iddynt wella'r diwylliant a'r arweinyddiaeth, gan fynd i'r afael yn fwyaf arbennig â phryderon a godwyd yn yr adolygiadau mewnol diweddar a'r llythyr y cyfeiria'r Aelod ato gan feddygon ymgynghorol. Mae'r prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio wedi bod yn arwain rhaglen waith i gryfhau arweinyddiaeth glinigol yn GIG Cymru, ac mae hyn yn cynnwys datblygu model gweithredu ar gyfer gwella a thrawsnewid gwasanaethau o dan arweiniad clinigol.

Claf emffysema 77 oed yn crynu ar ôl i'w system wresogi fethu, a dyn 18 oed yn ei oriau olaf—ei oriau olaf—yn wlyb oherwydd diferion o nenfwd twnnel llawn colomennod, ac aelod staff pryderus sy'n dweud bod gweithio yn ysbyty mwyaf Cymru yn gwbl hunllefus bellach. Ysgrifennydd iechyd, rwyf wedi sefyll yma ar sawl achlysur yn tynnu sylw at y methiannau yn Ysbyty Prifysgol Cymru, ac nid wyf wedi gweld unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r pryderon a godais, o'r bygythiad i ddiddymu trwydded cyfleusterau'r corffdy yn Ysbyty Prifysgol Cymru i gyflwr erchyll y theatrau yn Ysbyty Prifysgol Cymru, a nawr y dyfyniad uniongyrchol gan gleifion a staff yn y Western Mail ddoe, y gallwn ei ganmol fel un o ychydig gyhoeddiadau'r wasg i dynnu sylw at gyflwr erchyll ysbyty mwyaf Cymru. Mae angen ichi fynd i'r afael â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, a mynd i'r bwrdd iechyd hwnnw a datrys y broblem cyn i fwy o gleifion orfod dioddef yr hyn a ddarllenais, gyda'u perthnasau'n pryderu am y ffordd y cânt eu trin yn ysbyty mwyaf Cymru, a staff yn digalonni. Felly, a wnewch chi ymrwymo i fynd i'r afael â'r problemau yn Ysbyty Prifysgol Cymru a sicrhau eich bod yn dod yn ôl o fewn mis i roi datganiad manwl ar y camau allweddol a roddir ar waith gennych i fynd i'r afael â'r pryderon hynny ac unioni'r problemau yn Ysbyty Prifysgol Cymru?

Darllenais y sylwadau a ddyfynnodd yr Aelod heddiw yn y wasg ddoe, ac maent yn sylwadau brawychus. Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, ac ni ddylai unrhyw glaf gael y profiadau hynny. Rwyf wedi nodi fy nisgwyliadau'n hynod o glir. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fy mod wedi codi'r materion hyn gyda'r bwrdd iechyd yn y sesiwn atebolrwydd cyhoeddus ychydig wythnosau yn ôl. Fe fydd hefyd yn ymwybodol fod y bwrdd iechyd wedi mynd i'r afael â'u sylwadau a'r camau y maent yn eu cymryd ac rwy'n disgwyl iddynt eu cymryd mewn ymateb i'r llythyr a godais gyda nhw yn y sesiwn honno. Maent yn cael eu huwchgyfeirio'n benodol oherwydd amrywiaeth o bryderon y bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol ohonynt.

O ran y cwestiwn penodol ynghylch ystadau, y cyfeiria atynt yn ei ddatganiad, mae'r bwrdd iechyd wrthi'n datblygu cynllun ar gyfer dyfodol safleoedd Ysbyty Prifysgol Cymru a Llandochau. Pan fydd y cynllun hwnnw'n cael ei gwblhau, byddwn yn gweithio gyda nhw ar opsiynau ac amserlenni. Mae cydnabyddiaeth glir nad yw cyflwr yr ystad yn Ysbyty Prifysgol Cymru yn ddigon da. Rydym wedi dyrannu cyllid fel Llywodraeth i gefnogi gwaith arolwg cynhwysfawr i lywio'r cynllun hwnnw, a bydd hwnnw'n rhoi dealltwriaeth glir o'r risgiau a pha flaenoriaethau buddsoddi sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw.

Rydym wedi darparu cyfalaf yn ôl disgresiwn o £17 miliwn i'r bwrdd iechyd yn y flwyddyn ariannol hon ac maent wedi derbyn cyllid ychwanegol wedi'i dargedu ar gyfer ystadau er mwyn mynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau eraill ar draws eu hystad. Fel y gŵyr, mae buddsoddiad cyfalaf wedi bod yn gyfyngedig tu hwnt ers amser hir iawn. Nid wyf am wneud pwynt gwleidyddol yng nghyd-destun y pwynt difrifol y mae'n ei godi, ond dyna'n anochel yw cyd-destun rhai o'r heriau y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu gyda'i ystad. Nid wyf yn defnyddio hynny i esgusodi'r heriau diwylliannol yr oedd y meddygon ymgynghorol yn eu codi yn eu llythyr; rhaid mynd i'r afael â'r rheini beth bynnag. Ond mae'r pwyntiau a wneuthum heddiw yn dangos ein bod, o fewn y cyfyngiadau ariannol hynny, yn anelu at fynd i'r afael â'r set honno o heriau. Ni ddylai unrhyw un gael y profiad y mae'r gŵr a nododd yr Aelod wedi'i gael.

Mae'n amlwg fod methiant llywodraethu yma gan y bwrdd, gan mai un o'r pethau y mae'r clinigwyr yn cwyno amdanynt yw diffyg gwelededd yr arweinyddiaeth a'u methiant i ymateb i'w pryderon cwbl briodol. Fy nghwestiwn i chi, mewn gwirionedd, yw pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru’n eu darparu i gadeirydd newydd y bwrdd iechyd, y mae gennyf bob hyder ynddi, ond sy'n wynebu storm berffaith o broblemau. Mae gennyf bryderon penodol ynghylch rheolaeth yr ystadau a'r defnydd o adnoddau i fynd i'r afael ag adeilad sy'n anodd iawn i'w gynnal.

15:00

Wel, mae gennyf hyder llawn yng nghadeirydd y bwrdd hefyd. Yn fy nhrafodaethau gyda hi, mae hi'n deall yn glir yr heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw. Mae nifer o'r pwyntiau ehangach a wnaeth yr Aelod mewn perthynas ag ymgysylltiad clinigol a gwelededd gweithredol mewn gwahanol safleoedd o amgylch ardal y bwrdd iechyd yn cael eu trafod yn benodol yn ymateb y bwrdd iechyd i'r llythyr gan y meddygon ymgynghorol. Mae'r meddygon ymgynghorol yn gwneud ystod eang o bwyntiau, ac maent yn cael sylw yn y llythyr hwnnw. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda'r bwrdd iechyd, ac roeddwn i'n glir yn y cyfarfod cyhoeddus gyda nhw, fy mod yn disgwyl i'r heriau hynny gael sylw, ond rwy'n disgwyl i glinigwyr gymryd rhan mewn proses ar gyfer datrys yr heriau hyn gyda'i gilydd. Mae cyfle, rwy'n credu, gyda pherthynas aeddfed rhwng y tîm gweithredol ac arweinyddiaeth glinigol y bwrdd iechyd, i allu gwneud gwelliant sylweddol yn hyn o beth. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod hon yn her i'r bwrdd fynd i'r afael â hi, ac rwy'n hyderus y bydd cadeirydd y bwrdd yn gwneud hynny.

Iechyd a Llesiant Dynion

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd a llesiant dynion? OQ63519

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, yn gynharach eleni, fe wnaethom gynhyrchu'r strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Fe wnaethom hynny er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y byd i gael model gofal mewn camau, mynediad agored, ac mae iechyd dynion yn mynd i fod yn hollol allweddol i hyn. Dyna pam ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda phobl sydd â phrofiadau bywyd yn ein cymunedau i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. 

Diolch am yr ateb.

Rwy'n gefnogol iawn i fudiad Men's Sheds. Rwyf wedi gweld drosof fy hun yn y Men's Shed yn Llys-faen y gwaith gwych y maent yn ei wneud yn helpu iechyd dynion. Ond maent wedi cysylltu â mi ac maent yn dweud eu bod yn teimlo nad oes digon am iechyd dynion yn y strategaeth ac yn meddwl tybed a allai'r Llywodraeth edrych ar y strategaeth a gweld a oes rhywbeth y gellid ei roi i mewn yn benodol i fynd i'r afael ag iechyd dynion. Yn amlwg, rydym yn gwybod am yr holl broblemau sy'n gysylltiedig ag iechyd dynion. Yn fwyaf arbennig, yng Nghymru, mae gennym gyfradd uchel o hunanladdiad ymhlith dynion. Felly, tybed a allech chi edrych i weld a oes unrhyw beth y gellid ei wneud i fynd i'r afael ag iechyd dynion yn fwy uniongyrchol yn y strategaeth.

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol. Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddweud pa mor wych yw Men's Sheds, a Men's Sheds Cymru. Yn ddiweddar ymwelais â changen Ogwr gyda Huw Irranca-Davies oherwydd roedd gennym ddirprwyaeth o Japan, ac mae Japan yn mynd i gopïo'r model nawr, a dyna fydd y Men's Sheds cyntaf yn Japan, sy'n wych. Hefyd, ym Mhencoed, yr wythnos diwethaf, euthum allan gyda'r Men's Sheds sydd newydd ei ffurfio yno, ac fe fuom yn clirio llwybrau cyhoeddus. Maent yn gwneud cymaint ledled Cymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn.

Roeddwn eisiau dweud hefyd mai'r uchelgais ar gyfer y strategaeth, fel y dywedais, yw mai ni fydd y genedl gyntaf gyda'n model un sesiwn. Mae mynediad agored yn arbennig o allweddol i hyn, ac rydym yn gwybod gan ddynion a gwrando ar ddynion, pan fyddant yn gofyn am help ac mewn sefyllfa lle gallant fynd i ofyn am yr help hwnnw, ei bod hi'n bwysig iawn eu bod yn ei gael. Gallwn weld hyn hefyd drwy'r gwasanaeth cenedlaethol '111 pwyso 2' sydd gennym, oherwydd ers iddo ddechrau, derbyniwyd 200,000 o alwadau gyda 40 y cant ohonynt gan ddynion. Felly, mae mynediad agored yn amlwg yn fformat y mae dynion yn ymateb iddo, ac mae angen inni adeiladu ar hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am iechyd dynion yng nghyd-destun y gyfradd hunanladdiad ar hyn o bryd, sy'n bryderus iawn. Fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn y broses o edrych ar wneud strategaeth iechyd dynion yn y cyd-destun hwnnw. Rwy'n gwylio'n astud ac yn darllen trwy'r gwerthusiad a'r wybodaeth sy'n dod drwodd, fel y gallwn ddeall anghenion dynion yn well. Rwy'n meddwl, mewn gwirionedd, fod yna naratif nad yw dynion bob amser yn gofyn am help. Fodd bynnag, mae rhywfaint o'r hyn sy'n dod drwodd yn y gwerthusiad yn awgrymu efallai nad ydym bob amser yn adnabod y ffordd y maent yn gofyn. Felly, mae'n bwysicach fyth, wrth inni symud ymlaen, ein bod yn cael mewnbwn gan ddynion i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yno pan fyddant eu hangen.

Bydd yna rôl allweddol i'r trydydd sector yn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol, strategaeth 10 mlynedd, ond gyda strategaeth gyflawni dair blynedd i ddechrau. Fel y gwyddom, mae llawer o ffactorau'n gallu effeithio ar iechyd meddwl, ac mae hynny'n cynnwys costau byw, perthnasoedd a gwaith, felly rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Rwy'n fwy na hapus i gael cyfarfod gyda Men's Sheds Cymru i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn rhan o'r broses hon; maent yn hollol allweddol. Mae'r trydydd sector yn allweddol i fodel gofal mewn camau a hefyd i'n fframwaith presgripsiynu cymdeithasol hefyd, fframwaith yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd. Mae Men's Sheds yn allweddol iawn i hynny. Felly, wrth gwrs, fe wnaf bopeth yn fy ngallu i atgyfnerthu popeth a ddywedais heddiw a gwneud yn siŵr fod hynny'n cael ei rannu gyda'n rhanddeiliaid. Diolch.

15:05
Pwynt o Drefn

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn. Yn gynharach y prynhawn yma, tynnodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol sylw at y ffaith nad oeddwn i'n bresennol i siarad yn ystod datganiad a wnaeth ar 19 Tachwedd 2024, gan roi'r argraff fy mod yn esgeuluso fy nghyfrifoldebau craffu. Er eglurder ac er mwyn y cofnod, ac fel y cytunwyd gan Bwyllgor Busnes y Senedd, roeddwn ym Mrwsel gyda'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, a chafodd y datganiad ei graffu'n fedrus ar ran Plaid Cymru gan Llyr Gruffydd. Mae'n ddrwg gennyf nad yw'r Gweinidog yn dilyn gwaith y pwyllgor sy'n craffu ar ei bortffolio.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 eiliad

Union 70 mlynedd i heno, yn Rhagfyr 1955, mewn cyfarfod o bwyllgor sirol yr NFU yn sir Gâr, arosod 12 ffermwr ar ôl ar ddiwedd y cyfarfod i sefydlu undeb annibynnol i ffermwyr Cymru. Fe oedd fy Wncwl Jac yn un o’r 12. Aethpwyd ati wedyn i sefydlu’r FUW ar hyd a lled Cymru yn wyneb cryn wrthwynebiad ac atgasedd. 'We’ll smash you in three months', dywedodd rhai, a'u cymharu â therfysgwyr Mau Mau Kenya a wnaeth eraill.

Beth symbylodd y weithred o greu undeb annibynnol? Wel, y teimlad bod yr NFU bryd hynny yn anwybyddu anghenion Cymru yn eu penderfyniadau yn Llundain. Yn sir Gâr yn enwedig, y prif symbyliad oedd bwriad y Llywodraeth a’r Comisiwn Coedwigaeth i goedwigo yn orfodol ar 20,000 o erwau amaethyddol yn ardal Rhandirmwyn.

Ivor Davies ddaeth yn gadeirydd cyntaf ar yr undeb. Fy Wncwl Jac i, J.B. Evans, Ceidwadwr gyda llaw, oedd ysgrifennydd cyffredinol cyntaf yr undeb. Y Llafurwr, John Morris, ddaeth yn is-ysgrifennydd cyffredinol, a fe, fel Ysgrifennydd Gwladol yn yr 1970au, sicrhaodd gydnabyddiaeth ffurfiol i’r FUW yn nhrafodaethau llywodraethol o hynny ymlaen.

Am 70 mlynedd, felly, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cynrychioli a brwydro dros ddyfodol amaethyddiaeth. Mae perchnogaeth amaethyddiaeth Cymru yn dal yn bennaf o fewn dwylo'r fferm deuluol, a hynny yn diogelu ein cymunedau ac amgylchedd gwledig ynghyd â gwytnwch ein cadwyn fwyd. Mae'r rhan fawr o’r diolch am hyn i weledigaeth y 12 ffermwr yna yn sir Gâr, union 70 mlynedd i heno, a greodd Undeb Amaethwyr Cymru. Mewn undeb, mae nerth.

Hoffwn dalu teyrnged i Fenter Iaith Caerffili, sy’n dathlu 25 mlynedd o ysbrydoli defnydd o’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Am chwarter canrif, o dan arweinyddiaeth ragorol ei phrif swyddog, Lowri Jones, maent wedi bod wrth galon y gwaith o gryfhau ein hiaith yn y sir drwy gynlluniau gofal plant, gweithgareddau gwyliau, a digwyddiadau cymunedol fel Ffiliffest. Mae eu hymroddiad yn dangos yr hyn sy’n bosibl pan fo cymunedau’n cydweithio, ac yn profi beth all ddigwydd pan gyfunir ysbrydoliaeth ag ymrwymiad.

Wrth inni edrych ymlaen at weld yr iaith yn parhau i dyfu, mae llwyddiannau fel hyn yn ein hatgoffa pa mor bell rydym wedi dod. Mae’r dyddiau pan oedd gelyniaeth agored gan awdurdodau tuag at hyrwyddo’r Gymraeg bellach yn y gorffennol. Nid oedd sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg i ateb galw rhieni bob amser yn hawdd. Gall selogion Plaid Cymru fel Phil Bevan gofio’r frwydr i sicrhau lleoedd addysg Gymraeg i blant y sir.

Heddiw, mae addysg Gymraeg yn ffynnu, ac mae hynny’n galonogol iawn. Mae gennym bellach ffordd i fynd i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr, ond gyda sefydliadau brwdfrydig fel menter Caerffili ac ewyllys wleidyddol glir, mae’n darged cwbl gredadwy. Llongyfarchiadau mawr i fenter Caerffili. Mwynheais y parti yn y Coed Duon nos Iau ddiwethaf, ac edrychaf ymlaen at weld eu gwaith gwerthfawr yn parhau am flynyddoedd i ddod. Pen-blwydd hapus.

15:10

Mae Gwaelod-y-garth yn bentref tawel a lled wledig ar gyrion Caerdydd. Heddiw, mae'n anodd credu ei fod wedi bod yn bentref diwydiannol am ganrifoedd, hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ddydd Gwener yma, bydd y trigolion yn cofnodi 150 o flynyddoedd ers trychineb glofa'r Llan lle collodd 16 o ddynion eu bywydau—yr unig drychineb fwyngloddio, hyd y gwn i, o fewn ffiniau cyfredol Caerdydd. Bydd y Cynghorydd Rhys Livesey yn darllen enwau'r 16, a bydd eitemau gan Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth. Mae hyn yn addas iawn oherwydd buodd pedwar plentyn farw yn y trychineb, yr ifancaf yn 12 mlwydd oed. Mae'n bwysig hefyd cofio'r teuluoedd a gafodd eu taflu mas o'u cartrefi oherwydd eu bod nhw'n methu talu'r rhent bellach, wedi colli eu gŵyr a'u meibion.

Fe wnaeth y drychineb arwain at newid yn y gyfraith, a dwi'n siŵr bod hynny wedi sicrhau arbed cannoedd, os nad miloedd, o fywydau. Mae'n bosib byddai'r cyfan wedi mynd yn angof erbyn hyn oni bai am waith diwyd Norma Procter a gwirfoddolwyr brwdfrydig eraill a sicrhaodd fod yna gofeb barhaol yn nodi'r lofa a'r drychineb, a honno wedi ei dadorchuddio gan Rhodri Morgan yn ôl yn 2012.

Terfynaf gyda geiriau'r gofeb, geiriau sydd yn berthnasol nid yn unig i gofio'r Llan, ond i gofio pawb sy'n cael eu hecsbloetio hyd heddiw ledled y byd:

'Ânt â ni o'r crud a'n gweithio hyd angau.'

Maent yn ein codi o'r crud ac yn ein gweithio i'r bedd.

Diolch yn fawr.

Ddydd Iau diwethaf, yn ddim ond 14 oed, bu farw Kyle Sieniawski o Bontypridd, a hoffwn dalu teyrnged heddiw i fachgen annwyl a hyfryd a llawn ysbrydoliaeth a gafodd ei gymryd oddi arnom yn llawer rhy fuan.

Dechreuodd Kyle ddioddef gyda phroblemau niwrolegol am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2024, ac ym mis Ionawr, cafodd ddiagnosis o glefyd niwronau motor. Credir mai ef yw'r person ieuengaf yn y DU erioed i gael diagnosis o'r clefyd creulon hwn, ac ers nos Galan y llynedd, bu'n byw mewn ystafell ysbyty yn Ysbyty Plant Arch Noa Cymru, gyda'i rieni, Mark a Melanie, a'i frawd Liam.

Cyn hyn, roedd Kyle yn iach, yn union fel unrhyw fachgen arall ei oedran, ac yn mwynhau chwarae gyda'i ffrindiau. Ei hoff hobi oedd taekwondo, ac roedd ganddo'r wên hyfrytaf a synnwyr digrifwch gwych. Er gwaethaf popeth a aeth drwyddo dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd ei wên a'i hiwmor, yn ogystal â'i gariad at Connect 4, yn disgleirio drwodd yn yr holl ddiweddariadau a rannodd ei deulu trwy dudalen Facebook Kyle's MND Story. 

Yn fwy na dim, ac er gwaethaf y gofal gwych a gafodd yn yr ysbyty, roedd Kyle eisiau dod adref. Gwnaeth ei deulu bopeth posib i geisio gwneud i hynny ddigwydd, a rhoi eu cartref ar y farchnad hyd yn oed am nad oedd yn addas ar gyfer addasiadau. Fodd bynnag, fel sy'n digwydd yn rhy aml gyda dioddefwyr clefyd niwronau motor, roedd cefnogaeth o'r fath yn llawer rhy araf, gyda'r teulu'n gorfod brwydro'n barhaus ar adeg pan ddylent fod wedi gallu canolbwyntio ar Kyle. Yn anffodus i Kyle a'i deulu, golygodd hynny na fu modd iddo gael ei ddymuniad. Mae'r teulu wedi addo parhau i ymgyrchu er cof am Kyle i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw deulu fynd drwy'r hyn y bu'n rhaid iddynt hwy ei ddioddef, ac rwy'n eu cefnogi gant y cant.

Ond heddiw, rwy'n siŵr y gwnaiff holl Aelodau'r Senedd ymuno â mi i anfon ein cydymdeimlad dwysaf i Mark, Melanie, Liam a holl deulu a ffrindiau Kyle. Er bod ei fywyd yn llawer rhy fyr, fe ddisgleiriodd yn llachar a chafodd ei garu'n fawr. Ni chaiff ei anghofio gan neb a'i cyfarfu neu a gafodd eu cyffwrdd gan ei stori.

5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Hybu Cig Cymru'

Eitem 5 yw dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Hybu Cig Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM9067 Andrew R.T. Davies

Cynnig bod y Senedd yn nodi:

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Hybu Cig Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i ar y papur trefn.

Mae ein cig coch yn gynnyrch y gallwn fod yn falch iawn ohono fel cenedl. Mae iddo enw da rhagorol yn fyd-eang ac mae'n cael ei fwynhau mewn barbeciws yn y Barri a gan bobl bwysig yn Dubai. Mae ein cig yn gig o ansawdd uchel, o anifeiliaid sydd wedi cael gofal da ac mae ei ôl troed carbon yn isel. Yn bersonol, buaswn yn dadlau bod hwn yn ddiwydiant lle mae cynnyrch o Gymru yn well na chynnyrch o'r un wlad arall. Fodd bynnag, mae ein ffermwyr a'n proseswyr yn wynebu nifer o heriau.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod chwyddiant bwyd a'r wasgfa costau byw yn gyffredinol yn gwneud cynnyrch o Gymru'n llai fforddiadwy, a bod cost ffermio wedi cynyddu'n ddramatig. Nid af drwy bob her sy'n wynebu ffermwyr, ond ar adegau fel hyn mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn gwneud ei gorau glas i gefnogi'r diwydiant, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod cyrff hyd braich yn perfformio hyd eithaf eu gallu. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir yn achos HCC yn ddiweddar. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r cythrwfl sydd wedi taro'r sefydliad yn ddiweddar a'r honiadau a wnaed yn y cyfryngau am y diwylliant yn HCC. Bydd y cythrwfl hwnnw wedi tarfu ar y staff yn HCC, gan eu hatal rhag cyflawni eu gorchwyl craidd.

Nid tribiwnlys cyflogaeth yw'r pwyllgor, ac nid bwriad yr adroddiad yw archwilio'r honiadau na'r materion sy'n codi. Yn hytrach, fe wnaethom benderfynu cynhyrchu adroddiad blaengar sy'n anelu at sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i gael HCC yn ôl ar y trywydd iawn ac atal problemau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu gyda chyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r newidiadau i'r dreth etifeddiant, mae yna lawer o ansicrwydd ar gyfer y dyfodol. Fel y gwyddoch, Ddirprwy Lywydd, mae ffermio'n ddiwydiant sydd angen sicrwydd. Mae ffermio yn waith hirdymor—marathon, nid sbrint. O ganlyniad i'r heriau hyn a'r ansicrwydd i'n diwydiant cig, ni all sefyll yn llonydd fod yn opsiwn i HCC.

Roeddwn i'n gobeithio y byddai'r adroddiad hwn wedi helpu Llywodraeth Cymru a bwrdd HCC i adfywio'r sefydliad. Dyma'r amser perffaith i ailasesu gwaith HCC a'i ailarfogi er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'r prif weithredwr newydd sicrhau y gall HCC chwarae ei rôl allweddol yn cefnogi ein diwydiant cig coch. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, a barnu yn ôl yr ymateb i'n hadroddiad, mae hwn yn gyfle yr ofnaf y bydd Llywodraeth bresennol Cymru yn ei golli.

Mae'r adroddiad yn gwneud naw argymhelliad. Mae'r argymhellion yn cynnwys edrych ar lywodraethiant HCC, a'i berchnogaeth o bosib, er mwyn cryfhau'r mesurau rheoli a rhoi dylanwad mwy uniongyrchol i dalwyr yr ardoll dros y sefydliad. Mae gan HCC dasg fawr, ac mae'n amlwg y bydd cyllid yn her iddo yn y dyfodol. Mae'r cyllid hwnnw'n gysylltiedig â niferoedd da byw—telir ardoll y pen ar anifeiliaid a brosesir. Gyda niferoedd da byw'n lleihau, mae hynny'n cyfyngu ar yr incwm y mae HCC yn ei gael. Hefyd, oherwydd ailddosbarthu TAW, nodwyd bod y gyllideb wedi cael ergyd o £0.5 miliwn oherwydd yr ailddosbarthiad hwnnw ac nad oedd modd i HCC ei adennill. O gofio bod cyfanswm cyllideb HCC tua £4.5 miliwn, mae honno'n ergyd sylweddol i'r incwm sydd ar gael i HCC ar gyfer hyrwyddo cig oen a chig eidion Cymru a chynhyrchion cig coch.

Credwn ei bod hi'n hanfodol felly fod perfformiad HCC yn cael ei fesur gan ddangosyddion perfformiad allweddol, a bod y data adrodd hwn ar gael i fesur y cynnydd y gall talwyr yr ardoll weld HCC yn ei wneud yn y dyfodol. Y rheswm pam ein bod yn canolbwyntio ar y llywodraethiant, ac wedi mynd mor bell ag awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn ystyried dychwelyd HCC i dalwyr yr ardoll, yw ei bod yn amlwg fod y system lywodraethu honno wedi methu yn ddiweddar. Fe wnaeth gam â chwsmeriaid, sef talwyr yr ardoll, ac fe wnaeth gam â'r bobl sy'n gweithio yn HCC. Rydym yn gobeithio y bydd chwyddo llais talwyr yr ardoll ar lefelau uwch yn y sefydliad yn help i gynnal gonestrwydd a ffocws HCC.

Er fy mod yn cydnabod ymateb y Dirprwy Brif Weinidog fod llawer o dalwyr yr ardoll ar y bwrdd, rwy'n teimlo bod hynny i raddau'n methu'r pwynt yr oeddem yn ei wneud. Bydd gan y bobl hyn rolau eraill ar y bwrdd. Roeddem eisiau aelodau o'r bwrdd a fyddai yno'n unig i gynrychioli buddiannau talwyr yr ardoll. Roeddwn yn siomedig iawn fod yr argymhelliad hwn wedi'i wrthod. Er nad oeddwn yn disgwyl i'r Llywodraeth fynd yr holl ffordd ac ildio eu budd yn HCC, roeddwn i'n disgwyl y byddent o leiaf y gwneud y gwaith archwilio i weld sut y gellid cryfhau lleisiau talwyr yr ardoll. Mae ad-drefnu'r bwrdd mewn ffordd a fyddai'n cynnwys rolau ar gyfer cynrychiolwyr talwyr yr ardoll i'w weld i mi yn syml iawn. Hoffwn annog y Dirprwy Brif Weinidog i ailystyried ei ymateb i argymhelliad 1 o'r adroddiad i weld sut y gellid ymgorffori hyn.

Yn yr un modd, roeddwn yn meddwl y byddai argymhelliad 9 yn gymharol syml i'w weithredu ac y byddai'n talu ar ei ganfed, felly roeddwn yn siomedig fod hwn wedi'i wrthod hefyd. Yr argymhelliad oedd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod lleisiau'r diwydiant yn cael eu cynrychioli'n dda yn y gwaith ar ddiweddaru cytundeb fframwaith HCC. Fe wnaethom argymell eu bod yn ymgynghori â'r diwydiant lle maent, er mwyn sicrhau eu bod yn clywed pob llais, nid y rhai sydd â'r amser a'r gallu i ymgysylltu'n hawdd â Llywodraeth Cymru yn unig. Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod ymgysylltu â'r diwydiant wedi bod yn brif flaenoriaeth i'r prif weithredwr newydd, ond mae angen inni wneud yn siŵr fod y diwydiant yn cael ei glywed ac yn teimlo ei fod yn cael ei glywed, nid yn unig ar gyfer y fframwaith, ond ym mhob dim y mae HCC yn ei wneud.

Dangosodd y dystiolaeth a ddaeth i law fod ffermwyr a phroseswyr yn cael trafferth dod o hyd i amser i ymgysylltu â HCC a'r Llywodraeth. Nid yw hyn yn newyddion syfrdanol, ond mae'n bwynt pwysig o egwyddor. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth fynd ar eu trywydd ac ymgysylltu â nhw ar eu telerau nhw.

I orffen ar nodyn cadarnhaol, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer o'n hargymhellion, gan gynnwys yr angen i HCC adrodd yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru ar ei ddiwylliant gwaith a chytuno ar ddangosyddion perfformiad allweddol mesuradwy newydd ar gyfer y sefydliad. Rwy'n gobeithio y bydd gweithredu'r argymhellion a dderbyniwyd yn arwain at welliant yn HCC sy'n gweithio i'r diwydiant cig coch ac yn helpu i osgoi ailadrodd y cythrwfl a welsom.

Er ein bod yn cydnabod mai hawl y Gweinidog hwn yw gwrthod argymhellion pwyllgorau, mae etholiad ar y ffordd, ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn ei gyfanrwydd yn cynnig cynllun cynhwysfawr ar gyfer sefydliad HCC bywiog i hyrwyddo'r hyn sydd orau am ddiwydiant da byw Cymru a hyrwyddo cig coch ledled y byd ac yma yn y Deyrnas Unedig. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill y prynhawn yma. Byddaf yn diolch iddynt am eu cyfraniadau cyn imi grynhoi ar ddiwedd y ddadl hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

15:20

Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, Andrew R.T. Davies, yn ogystal â'r clercod a phawb a gyfrannodd at yr adroddiad hwn, gan gynnwys y tystion. 

Mae cig coch yn destun balchder i ffermwyr Cymru ac i Gymru gyfan. Mae'n cynnal ein heconomi wledig, yn cefnogi miloedd o deuluoedd ac yn ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd, y gallu i olrhain ac ansawdd eithriadol. Dylai Hybu Cig Cymru fod yn chwarae rhan allweddol yn hyrwyddo ein cynnyrch a chefnogi'r sector. Felly, pan gyflwynodd y pwyllgor gyfres o argymhellion gyda'r bwriad o gryfhau HCC a rhoi mwy o hyder i dalwyr yr ardoll yn y ffordd y caiff eu harian ei ddefnyddio, roedd yn siomedig gweld nifer o'r argymhellion hynny'n cael eu gwrthod gan y Llywodraeth.

Os caf droi yn gyntaf at argymhelliad 1, ein galwad am adolygiad o drefniadau llywodraethu HCC gyda'r bwriad o wella cynrychiolaeth talwyr yr ardoll a chynyddu cyfranogiad ehangach y diwydiant, fe wrthodwyd hyn gan y Llywodraeth, a ddadleuai fod y bwrdd presennol eisoes yn cynnwys talwyr yr ardoll a bod y penodiadau cyhoeddus yn cyfrannu sgiliau pwysig. Ond holl bwrpas ein hargymhelliad oedd cydnabod yr hyn a glywsom yn glir yn ystod yr ymchwiliad: mae talwyr yr ardoll eisiau ac yn haeddu perchnogaeth gryfach ar y corff a ariennir gan eu cyfraniadau gwerthfawr nhw.

Fe wnaeth NFU Cymru bwynt pwysig yn eu tystiolaeth: er bod penodiadau'r Llywodraeth yn cynnig ehangder, rhaid i'r broses ei hun sicrhau bod cynhyrchwyr a phroseswyr yn cael mwy na'u cynrychioli'n unig; dylai fod rôl uniongyrchol a pharhaol iddynt ym mhenodiadau'r bwrdd. Nid yw'r syniad o undebau ffermio a chymdeithasau proseswyr yn cael seddi dynodedig yn un radical; mae'n ffordd ymarferol o sicrhau atebolrwydd i'r diwydiant. Mae gwrthod y syniad hwn yn llwyr yn teimlo fel cyfle a gollwyd, fel y nododd y Cadeirydd. Buaswn yn mynd gam ymhellach yn bersonol, a dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddychwelyd perchnogaeth lawn ar HCC i dalwyr yr ardoll a'r diwydiant.

Gan droi at argymhellion 2 a 3 ar gynaliadwyedd ariannol HCC, derbyniwyd y rhain mewn egwyddor, ond nid yw derbyn mewn egwyddor yn talu am ymgyrchoedd marchnata neu ddatblygiadau sector. Cawsom ein hatgoffa gan NFU Cymru mai'r rhesymeg wreiddiol dros roi HCC ym meddiant Gweinidogion Cymru oedd er mwyn i'r Llywodraeth allu buddsoddi yn ei waith. Mae'r buddsoddiad hwnnw bellach wedi diflannu.

Yn y cyfamser, yn Iwerddon, mae'r Llywodraeth yn rhoi cyllid sylweddol i gyrff fel Bord Bia. Mae ffermwyr Iwerddon yn elwa o fodel lle nad yw cyllid yr ardoll ond yn 5 y cant o'r incwm, gyda'r Llywodraeth yn camu ymlaen i gefnogi marchnata a hyrwyddo. Os nad yw Cymru'n dangos yr un lefel o uchelgais, rydym mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi mewn marchnadoedd domestig a thramor. Os nad yw'r Llywodraeth yn credu ei bod yn briodol darparu cefnogaeth o'r fath, rydym yn dychwelyd at fy mhwynt cynharach a'r cwestiwn dilys: beth yw'r cyfiawnhad parhaus dros i HCC fod ym meddiant Gweinidogion Cymru?

Gan symud at argymhelliad 4, mae ymateb y Llywodraeth yn awgrymu'n gryf ei bod yn cyd-fynd â llwybr Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU sy'n hyrwyddo gostyngiadau yn niferoedd da byw. Rhaid herio hyn. Mae gwerth cig coch i Gymru yn enfawr. Mae allbwn amaethyddol, y gadwyn gyflenwi bwyd a diod ehangach a chyflogwyr mawr fel ein tri lladd-dy mawr oll yn dibynnu ar gynnal y màs critigol o dda byw. Os bydd nifer y da byw yn gostwng yn sylweddol, fel sy'n cael ei glustnodi, byddai'r effeithiau canlyniadol ar swyddi gwledig, practisau milfeddygol, marchnadoedd, masnachwyr bwyd anifeiliaid, busnesau cludo nwyddau a'r gymuned wledig ehangach yn ddifrifol.

Gadewch inni fod yn glir am eiliad, oherwydd mae cig coch Cymru yn ystyriol o'r hinsawdd. Mae tystiolaeth yn adroddiad 'Y Ffordd Gymreig' HCC ei hun yn dangos bod allyriadau cig eidion yng Nghymru tua 40 y cant o'r cyfartaledd yn fyd-eang. Mae ein systemau eidion sugno yn defnyddio glaswellt a dŵr glaw ar dir sy'n anaddas ar gyfer cnydau. Nid ydynt yn gyrru datgoedwigo dramor ac nid ydynt yn defnyddio adnoddau dŵr prin. Mae'r ddadl bod ffermio cig eidion yng Nghymru yr un fath â ffermio anifeiliaid i'w pesgi yn Ne America yn gwbl anghywir. Os ydym yn cyfyngu ar gynhyrchiant domestig yma, nid ydym yn cyfyngu ar allyriadau byd-eang, rydym yn eu tramori i leoedd â safonau amgylcheddol is, ac yna'n dibynnu ar ailfewnforio cig eidion a chig coch sy'n cynnig lefel is o foddhad. 

Mae argymhelliad 7 yn hynod o bwysig o ran symleiddio ac effeithlonrwydd. Rwy'n dal i gredu bod gormod o ddyblygu, a gyda lansiad y cynllun ffermio cynaliadwy ym mis Ionawr, rwy'n ofni y gallai hyn waethygu. Mae dyblygu'n costio arian, amser, ynni, ac yn y diwedd, y diwydiant sydd ar ei golled. Hoffwn glywed yn uniongyrchol gan Ysgrifennydd y Cabinet sut y mae'n gweld HCC yn gweithio gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac os o gwbl, gyda Cyswllt Ffermio.

Ddirprwy Lywydd, daw'r adroddiad hwn hefyd yn sgil cyfnod cyhoeddus ac anodd iawn i HCC, ei staff a'i gyn-staff, fel y soniodd y Cadeirydd. Rwy'n drist na chafwyd ymddiheuriad cyhoeddus i'r rhai a deimlai nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond gadael y sefydliad oherwydd y problemau cyhoeddus iawn.  Rwy'n credu mai dyna'r lleiaf y maent yn ei haeddu.

I gloi, rwy'n credu'n gryf fod amaethyddiaeth Cymru angen HCC; ond nid yw'n gwbl fodlon ei fod yn cyflawni'r gorau sy'n bosib o ran ei fformat a'i strwythur llywodraethu presennol.

15:25

Fel yr Aelod a amlygodd nifer o'r gofidiau ynglŷn â diwylliant mewnol Hybu Cig Cymru bron i ddwy flynedd yn ôl nawr, ac fel rhywun a alwodd ar y pwyllgor economi i gynnal ymchwiliad i mewn i'r corff, dwi eisiau diolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am eu gwaith ac am yr adroddiad sydd o'n blaenau ni heddiw.

Ar yr adeg honno, mi oedd yna alwadau i ddiddymu Hybu Cig Cymru a chreu corff newydd. Dwi ddim o reidrwydd yn cytuno â hynny; yr hyn dwi eisiau ei weld yw bod Hybu Cig Cymru yn cyflawni ei lawn botensial ac yn bencampwr effeithiol i sector cig coch Cymru, yn delifro ar ei ddyletswyddau a'i gylch gorchwyl hyd eithaf ei allu. Ond mae hynny yn golygu symud ymlaen o'r trafferthion blaenorol, edrych o'r newydd ar y trefniadau llywodraethiant a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi y gefnogaeth sydd ei hangen ar y sector a Hybu Cig Cymru iddyn nhw fedru gwneud yr hyn y mae gofyn iddyn nhw ei gyflawni. Dwi yn croesawu argymhellion y pwyllgor fel lle da i gychwyn gyda hynny.

Dwi ddim eisiau defnyddio'r ddadl yma i ail-fyw trafferthion y gorffennol. A thrwy ddweud hynny, dwi ddim, gyda llaw, yn awgrymu nad oes yna ragor o waith i'w wneud pan fo'n dod i'r diwylliant corfforaethol. Ond gyda phrif weithredwr newydd wrth y llyw, mae yna gyfle, dwi'n meddwl, nawr i adfer ac i ailadeiladu hyder yn y corff fel endid, ond hefyd, yn bwysicach, yng ngallu'r corff i ddelifro dros y talwyr lefi a'r sector cig coch ehangach. Mae'r Llywodraeth, fel ŷn ni wedi clywed, wedi gwrthod yr argymhelliad i adolygu llywodraethiant Hybu Cig Cymru, ond mae'n rhaid i fi ddweud, gyda'r holl broblemau sydd wedi cael eu hwynebu dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, sut arall y gall Llywodraeth Cymru roi sicrwydd i'w hun bod y trefniadau presennol yn addas i bwrpas?

Byddwn i yn ategu yr angen ŷn ni wedi'i glywed i sicrhau bod llais y talwyr lefi yn cael ei gynrychioli yn llawn. Dwi hefyd yn cydnabod bod angen ar fwrdd ystod eang o sgiliau ac arbenigeddau. Efallai fy mod i'n mynd i wrth-ddweud fy hun fan hyn tamaid bach, ond i gorff sy'n cyflogi prin 30 o staff, mae ganddyn nhw fwrdd o dua 12, felly oes yna gwestiwn ynglŷn â gormod o aelodau, efallai? Dwi ddim yn gwybod. Ond mi fyddai proses o adolygu, neu gymryd cam objective yn ôl ac edrych ar y trefniadau hynny, dwi'n meddwl, o fantais. Oherwydd os ŷn ni eisiau creu corff deinamig, hyblyg, sy'n gallu ymateb a gweithredu yn sydyn pan fod angen, yna mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn y strwythurau llywodraethiant. Mae'n gwestiwn i'w ofyn ac yn rhywbeth efallai y byddai adolygiad yn gallu ei ystyried.

Dwi'n cefnogi beth mae'r pwyllgor yn ei ddweud am yr adnoddau sydd ar gael i Hybu Cig Cymru gyflawni ei gylch gorchwyl yn effeithiol. Dyw incwm y lefi ar ei ben ei hun ddim yn mynd i fod yn ddigon i gyflawni'r hyn ŷn ni i gyd eisiau ei weld yn digwydd. Dwi'n ddigon hirben i wybod hefyd nad oes gan y Llywodraeth ddim arian sylweddol i daflu i gyfeiriad Hybu Cig Cymru. Felly, y cwestiwn wedyn yw: sut mae modd 'leverage-io' adnoddau ychwanegol er mwyn gallu ychwanegu gwerth i'r pres sy'n dod o gyfeiriad y lefi a'r Llywodraeth? Ac mae angen troi pob carreg, oddi mewn i'r Llywodraeth, oes, ond mae yna grantiau allanol, fel mae'r adroddiad yn sôn amdano fe. Mae cynhyrchu incwm o'u gwasanaethau eu hunain yn opsiwn, ac mae cydweithio gyda chyrff eraill hefyd yn bwysig er mwyn rhannu adnoddau, ond hefyd rhannu costau, lle mae hynny yn bosib, a sicrhau'r gwerth gorau posib i bob punt. A gobeithio, pan welwn ni strategaeth neu weledigaeth Hybu Cig Cymru hyd at 2030, efallai y bydd yna elfennau o hynny yn cael eu hamlygu yn fanna. 

Mae'r pwynt olaf dwi eisiau'i wneud, i bob pwrpas, o gwmpas argymhelliad 4, a'r cwestiwn sylfaenol yma sydd yng nghalon yr adroddiad hwn, dwi'n meddwl, i Lywodraeth Cymru, sef: ydych chi eisiau sector cig coch yng Nghymru yn y dyfodol? Allaf i ddim credu fy mod i'n gofyn y cwestiwn, ond os ydych chi, ble mae'r weledigaeth, y tu hwnt i'r cynllun ffermio cynaliadwy? Ble mae'r weledigaeth ehangach? Ble mae'r cynllun? Ble mae'r llwybr i wireddu hynny ar draws y gadwyn brosesu?

Mae'r trajectory, fel rŷn ni'n gwybod, yn dangos bod niferoedd da byw wedi bod yn disgyn, ac am y cyfnod nesaf, mae'n debyg, hefyd yn mynd i fod yn parhau i ddisgyn. Mae niferoedd lladd-dai i lawr. Rŷn ni wedi colli hanner ohonyn nhw yn y 25 mlynedd diwethaf. Mae lefel y throughput presennol o fewn y sector prosesu yn annigonol. Mae colli'r critical mass yna yn taflu cysgod dros gynaladwyedd y sector. Ac felly, mae gan Hybu Cig Cymru, wrth gwrs, rôl ganolog i dyfu a chreu'r farchnad, i ddatblygu'r cynnyrch, i ladmeru dros y sector, ond, ar ddiwedd y dydd, mae gan y Llywodraeth rôl hyd yn oed pwysicach yn uwcholeuo neu'n dangos y strategaeth ehangach yna er mwyn creu amgylchiadau a fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Diolch. 

15:30

A galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:32:07
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd am roi cyfle imi ymateb a thynnu sylw at y gwaith pwysig mae Hybu Cig Cymru yn ei gyflawni. 

A diolch i'r Cadeirydd ac Aelodau'r pwyllgor, a chyn-Aelodau yn wir, am eu cyfraniadau heddiw hefyd.

Yn gyntaf oll, gadewch imi ddatgan, ar y cychwyn, fy ymrwymiad i a Llywodraeth Cymru i ddyfodol bywiog a chynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru, gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy wrth wraidd y weledigaeth hon. A thrwy hyrwyddo cynhyrchu da byw cynaliadwy, ein nod yw meithrin arferion gorau gwydn a hyfywedd hirdymor ar draws y sector. Ac mae Hybu Cig Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth, yn cyflawni'r uchelgeisiau hyn, gan weithio mewn partneriaeth â'r Llywodraeth, a gyda'r diwydiant, i hyrwyddo arloesedd, i gefnogi amcanion strategol y sector ac i sicrhau bod ffermio Cymru’n parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.

Felly, diolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am eu hymchwiliad trylwyr a diwyd i Hybu Cig Cymru ac am yr argymhellion. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r rhai a roddodd eu hamser i roi tystiolaeth i'r pwyllgor ei hasesu.

Felly, gadewch imi droi'n uniongyrchol at fanylion yr adroddiad, a thrwy wneud hynny, byddaf yn ymateb i rai o'r materion a godwyd yn y ddadl heddiw hefyd. Rwy'n cydnabod, yn gyntaf oll, fod argymhellion y pwyllgor yn cael eu gwneud gyda'r bwriad clir o gefnogi prif weithredwr newydd HCC a helpu'r sefydliad i symud yn ei flaen. Mae Llywodraeth Cymru’n rhannu ymrwymiad y pwyllgor i sicrhau bod HCC yn cael ei lywodraethu'n dda, ei fod yn atebol a'i fod yn gallu cyflawni ar gyfer talwyr yr ardoll a'r diwydiant ehangach. Ac i'r perwyl hwnnw, rwyf wedi derbyn llawer o'r argymhellion a wnaed, fel y nododd y Cadeirydd. Ond ystyriwyd pob argymhelliad yn ofalus iawn yng nghyd-destun llywodraethiant presennol HCC, sgiliau a phrofiad ei fwrdd a'r angen am sefydlogrwydd wrth i'r prif weithredwr newydd gyflwyno newidiadau a datblygu'r weledigaeth bwysig ar gyfer 2026 i 2030.

Felly, yn gyntaf oll, gadewch imi sôn am y tri argymhelliad nad ydym wedi gallu cytuno arnynt. Ar argymhelliad 1 ar fater llywodraethiant, mae bwrdd cyfredol HCC, fel y nodwyd gennym yn ein hymateb, eisoes yn cynnwys mwyafrif sy'n dalwyr yr ardoll ac ystod eang o arbenigeddau, yn cynnwys marchnata, cyllid, iechyd anifeiliaid a chynaliadwyedd. A chredwn fel Llywodraeth fod hyn yn darparu sylfaen gref ar gyfer goruchwyliaeth gadarn a chyflawni effeithiol. Nawr, yn dilyn dadansoddiad o fylchau sgiliau ar y bwrdd, byddaf yn dechrau ymgyrch cyn bo hir i recriwtio aelodau newydd i'r bwrdd, ac wrth gwrs, byddaf yn ystyried argymhellion y pwyllgor yn rhan o'r broses recriwtio honno.

Mae adolygiad llawn o lywodraethiant, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor, yn ymrwymiad sylweddol, a chredwn mai Llywodraeth nesaf Cymru fydd yn y sefyllfa orau i ystyried hynny, pan fydd gweledigaeth newydd HCC ar waith, a phan fydd y prif weithredwr wedi cael digon o amser i ymgorffori'r diwygiadau angenrheidiol.

Ar gydweithio a rhannu adnoddau, fel y nodir yn argymhelliad 7, ac fel y nodais innau yn fy ngohebiaeth i'r pwyllgor ar y mater, rwy'n fodlon fod HCC eisoes yn cydweithio'n helaeth â chyrff ardollau a sefydliadau eraill y sector. Bydd y broses bresennol o gaffael contract Cyswllt Ffermio newydd yn cryfhau'r partneriaethau hyn ymhellach ac yn sicrhau bod gweithgareddau'n ategu ei gilydd ac yn effeithlon. Credwn y byddai adolygiad pellach ar hyn o bryd yn gynamserol ac o bosib yn tarfu ar y sefydliad.

Ar y cytundeb fframwaith, argymhelliad rhif 9, mae'n bwysig nodi yn gyntaf mai trefniant mewnol rhwng Gweinidogion Cymru a HCC yw hwn. Fodd bynnag, mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda HCC i gytuno ar gytundeb fframwaith diwygiedig wedi'i ddiweddaru, sydd bellach wedi'i gyhoeddi. Mae'n darparu eglurder i bob parti drwy nodi'r rolau a'r cyfrifoldebau. Ond rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo hefyd i ymgysylltu'n barhaus ac yn ystyrlon â rhanddeiliaid y diwydiant, drwy amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys ymgynghoriadau uniongyrchol, arolygon a digwyddiadau ledled Cymru.

Nawr, wedi dweud hynny, mae llawer o feysydd yn adroddiad y pwyllgor yr ydym yn cytuno â nhw, mewn gwirionedd, ac rydym wedi dweud hynny. Ond cyn imi droi at y rheini, rydym wedi clywed awgrymiadau heddiw, Ddirprwy Lywydd, y dylai HCC ddychwelyd yn gyfan gwbl i dalwyr yr ardoll. A gaf i nodi bod hynny'n anghyson ag argymhellion eraill gan yr un lleisiau yn y Siambr hon, y dylid rhoi mwy o gyllid trethdalwyr i HCC? Ei ddychwelyd i dalwyr yr ardoll, ond rhoi mwy o gyllid iddo—dim ond nodi y gallai fod rhywfaint o anghysondeb yn hynny.

Ond ar y meysydd yn argymhellion y pwyllgor yr ydym wedi cytuno â nhw, mae nifer wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Nawr, mae'r rhain yn cynnwys cynigion sydd â'r nod o wella ymgysylltiad â rhanddeiliaid, gwella tryloywder a sicrhau bod metrigau perfformiad—y metrigau perfformiad pwysig hynny—yn gadarn ac yn cyd-fynd yn glir â'r weledigaeth strategol newydd. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda HCC i weithredu'r argymhellion hyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion esblygol y sector cig coch, gan gynnal hyblygrwydd o ran dull o weithredu hefyd. Mae'r dull cydweithredol hwn yn dangos ein dyhead cyffredin i hybu gwelliant parhaus ac atebolrwydd o fewn y sefydliad.

Nawr, rydym yn cydnabod y gwerth a'r bwriad y tu ôl i'r cynigion hyn, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â HCC a phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. Mae ein cytundeb mewn egwyddor yn adlewyrchu ein cefnogaeth i'r cyfeiriad teithio hwnnw, hyd yn oed lle gallai fod angen trafod neu addasu pellach ar yr union fecanweithiau neu'r amseriad i gyd-fynd ag anghenion esblygol y sector. Felly, er enghraifft, rydym yn croesawu'r argymhellion sy'n ymwneud â gwell ymgysylltiad â rhanddeiliaid a gwell tryloywder wrth wneud penderfyniadau. Felly, rydym yn annog HCC i barhau i gryfhau ei sianeli cyfathrebu ac i sicrhau bod pob llais perthnasol yn cael eu clywed yn rhan o'r broses gynllunio strategol.

Nawr, yn ogystal, rydym yn cefnogi'r galwadau am fwy o eglurder ynghylch y metrigau perfformiad a'r canlyniadau. Felly, rydym wedi gofyn i HCC weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu dangosyddion mesuradwy cadarn sy'n cyd-fynd â'r weledigaeth ar gyfer 2026-30. Yn ogystal â'n hymrwymiad i lywodraethiant ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid, mae cynaliadwyedd ariannol yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd i Lywodraeth Cymru a HCC. Nawr, mae rheolaeth ariannol effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu'n effeithlon a bod y sefydliad yn darparu'r gwerth mwyaf i dalwyr yr ardoll. Yn bwysig, mae gan HCC rôl allweddol i'w chwarae yn cefnogi ac ategu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, drwy weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid y diwydiant, gall HCC helpu i hyrwyddo amcanion y cynllun ffermio cynaliadwy, meithrin arferion gorau, a sicrhau bod yr amcanion strategol yn cael eu cyflawni er gwydnwch a hyfywedd hirdymor y sector.

Felly, drwy gytuno mewn egwyddor i'r argymhellion hyn, rydym yn nodi ein bwriad i symud ymlaen yn adeiladol, gan weithio mewn partneriaeth i ymgorffori arferion gorau a hybu gwelliant parhaus. Hoffwn roi sicrwydd clir i'r Aelodau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi llwyddiant HCC yn y dyfodol. Felly, byddwn yn parhau i fonitro perfformiad HCC yn agos, drwy gyfarfodydd llywodraethiant ffurfiol, ac rydym yn gweithio gyda'r sefydliad i ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol newydd mesuradwy a thryloyw. Bydd y rhain yn sicrhau bod HCC yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian a chanlyniadau cryf i dalwyr yr ardoll. Fe ildiaf.

15:35

Diolch yn fawr. Diolch i chi am ildio; rwy'n ymwybodol efallai eich bod yn dirwyn i ben. O ystyried bod yr adroddiad hwn yn dilyn heriau cyhoeddus iawn y mae HCC a rhai o'i staff wedi'u hwynebu—codais y pwynt yn fy nghyfraniad nad oes ymddiheuriad cyhoeddus wedi'i wneud—a ydych chi'n mynd i achub ar y cyfle i ymddiheuro'n gyhoeddus ar ran y Llywodraeth, gan mai'r Llywodraeth sy'n berchen ar HCC, i'r aelodau staff a deimlai nad oedd ganddynt unrhyw ddewis arall heblaw gadael HCC oherwydd y problemau hynny?

15:40

Sam, fe fyddwch yn ymwybodol o ddadleuon blaenorol a gawsom ar y mater hwn, er nad yw Llywodraeth Cymru’n ymwneud yn uniongyrchol â'r rheoli mewnol na rheoli adnoddau dynol, ein bod wedi dweud yn glir iawn wrth HCC fod angen iddynt gael yr arferion gorau ar waith a gwella eu gweithdrefnau llywodraethiant mewnol, yn enwedig gydag adnoddau dynol hefyd, yn y dyfodol. Dros y 15 mis neu fwy y bûm yn y swydd, gwelais ganlyniadau'r mesurau a roddwyd ar waith ganddynt. Rydym wedi eu trafod o'r blaen ar y llawr yma. Mae'n bwysig iawn fod HCC, wrth symud ymlaen, yn gweithio gyda holl aelodau ei fwrdd, ei dîm mewnol, i sicrhau bod y sefydliad yn perfformio i dalwyr yr ardoll, a hefyd yn gwneud hynny'n unol â'r arferion gorau o ran llywodraethiant a llywodraethiant mewnol ac adnoddau dynol hefyd. Ddirprwy Lywydd, rydym hefyd wedi gweld cynnydd cadarnhaol o ran ymgysylltiad â rhanddeiliaid a HCC yn mynd ati'n weithredol i geisio barn o bob rhan o'r diwydiant wrth iddo ddatblygu ei weledigaeth newydd. Bydd y gwaith hwn yn hanfodol wrth siapio dyfodol y sector a sicrhau, yn wir, fod pob llais yn cael ei glywed.

I gloi, hoffwn ddiolch eto i'r Cadeirydd ac i'r pwyllgor am eu her adeiladol a'u craffu parhaus. Er efallai nad ydym yn cytuno ar bob argymhelliad, ein nod cyffredin yw dyfodol bywiog, cynaliadwy a llwyddiannus i amaethyddiaeth Cymru a'r sector cig coch. Edrychaf ymlaen at barhau i drafod a chydweithio wrth inni weithio gyda'n gilydd i gyflawni'r nod hwnnw. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r ddau Aelod a gyfrannodd yn y ddadl hon. Credaf mai dyna'r nifer isaf a welais erioed yn cyfrannu at ddadl pwyllgor, sy'n drueni mawr o ystyried y trallod a achoswyd i bobl sydd wedi gweithio yn HCC dros nifer o flynyddoedd, a ddisgrifiwyd gan Llyr ac sydd wedi cael sylw gan y cyfryngau. Rhaid imi ddweud fy mod yn synnu bod cyn lleied o ddiddordeb wedi'i fynegi yn y Siambr hon ynghylch yr adroddiad, o ystyried trafferthion a sefyllfaoedd personol pobl yn HCC. Ond diolch i'r ddau Aelod a gyfrannodd yn y ddadl heddiw. Roedd eu cyfraniadau'n ddeallus ac yn wybodus, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan ddau Aelod sy'n ymwybodol iawn o'r problemau yn y sefydliad hwn sy'n eiddo i'r Llywodraeth.

Tynnodd Sam Kurtz sylw at y broblem gyda safbwyntiau talwyr yr ardoll yn cael eu hystyried a'u derbyn yn llawn. Dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi HCC dan berchnogaeth y diwydiant yn gyfan gwbl, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd y Gweinidog, yn ei ateb, fod anghysondeb yn y farn honno, gan fod lleisiau'n galw am i arian Llywodraeth Cymru fynd i'r sefydliad cyn dweud wedyn y dylid ei werthu. Nid oes unrhyw anghysondeb yn hynny o gwbl. Daw sefydliadau at Lywodraeth Cymru am gymorth, o bob cefndir, sefydliadau nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru’n penderfynu, ar sail teilyngdod, a yw'n dymuno rhoi arian trethdalwyr i hyrwyddo'r gwahanol lwybrau y gallai'r sefydliad hwnnw fod yn eu hyrwyddo. Felly, pan fyddwch chi'n ystyried y problemau a fu yn HCC, gallai'r Gweinidog a'i swyddogion o leiaf fod wedi cydnabod bod hyn yn rhywbeth y dylid bod wedi'i ystyried, a derbyn yr argymhelliad er mwyn gallu ei ddatblygu.

Dyna pam y tynnais sylw yn fy sylwadau wrth agor y ddadl hon at sut y mae etholiad ar y ffordd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth ar ôl mis Mai yn edrych ar hyn fel mater difrifol, fel ffordd o gryfhau HCC, ac yn edrych ar sut y gallwn greu corff hyrwyddo cig sy'n addas i’r diben ac sy'n barod i ysgwyddo'r heriau mewn byd heriol o ofod manwerthu sydd bob amser yn chwilio am gynnyrch newydd a defnyddwyr â chwaeth ddetholgar a all benderfynu yn y pen draw ble maent am wario eu harian.

Yn ei ymateb, gwrthododd Ysgrifennydd y Cabinet yr argymhelliad hwnnw a dweud nad oedd yn werth ei ystyried. Pwysleisiodd y pwynt am y ddogfen y weledigaeth ar gyfer 2026-30 a rhoi llawer o bwyslais ar hynny, fel y gwnaeth Llyr, a dynnodd sylw at y ddogfen benodol y mae HCC yn gweithio arni ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y ddogfen honno'n llwyddo i wella gweithgarwch hyrwyddo'r sefydliad, i sicrhau, yn hytrach na bod ei gronfeydd yn cael eu dihysbyddu ar ôl talu cyfreithwyr a chynghorwyr adnoddau dynol drud, y gallwn gael incwm ardoll y tu ôl i ddogfen weledigaeth a fydd yn y pen draw yn sicrhau mwy o lwyddiant a gwell treiddiad i'r farchnad i'r sector cig coch.

Yn ei gyfraniad, tynnodd Llyr sylw hefyd at ba mor hir y mae hyn wedi bod yn digwydd—dros ddwy flynedd—a'r ffaith mai dim ond oddeutu 30 aelod o staff sydd ganddynt, ond mae oddeutu 12 aelod ar y bwrdd. Hynny yw, credaf y gallai rhai pobl gydnabod, yn gywir ddigon, fod hwnnw'n sefydliad eithaf pendrwm. Ac unwaith eto, dyna ble byddai adolygiad o lywodraethiant o leiaf wedi profi'r ddadl i weld beth sy'n addas i’r diben, pe bai'r profion hynny'n dod yn ôl ac yn dweud wrth y Llywodraeth ei bod yn bryd newid strwythur llywodraethu a strwythur bwrdd HCC i fod yn addas i’r diben yn y dyfodol.

Ond yn fy sylwadau, tynnais sylw at bwysigrwydd niferoedd da byw, oherwydd, fel bwrdd ardollau, yn amlwg, mae'r incwm yn dibynnu ar nifer yr unedau da byw sy'n cael eu prosesu yma yng Nghymru, ac yn wir ledled y Deyrnas Unedig, i greu'r incwm. Ac yn anffodus, ni chyffyrddodd y Gweinidog â'r pwynt hwnnw o gwbl yn ei gyfraniad, ac i mi, dangosai hynny ddiffyg dealltwriaeth sylfaenol o sut y caiff y sefydliad hwn ei ariannu.

A daeth yr her gan Sam yn ei sylwadau, gan dynnu sylw at argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd ynghylch lleihau niferoedd da byw, rhywbeth y nodaf fod Llywodraeth yr Alban wedi'i wrthod. A byddai wedi bod yn dda clywed amddiffyniad cadarn gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cadw niferoedd da byw ar y lefel bresennol o leiaf, neu geisio hyrwyddo nifer yr unedau da byw sydd eu hangen arnom i gadw ein cyfleusterau prosesu ar agor, fel nad ydym yn gwyrddgalchu ac yn gorfod mewnforio cynnyrch o wledydd sydd â pherfformiad amgylcheddol llawer gwaeth na'n perfformiad ni ein hunain.

A gwnaeth Sam y pwynt da iawn, mewn gwirionedd, fod cig coch Cymru 60 y cant yn fwy ecogyfeillgar na chynnyrch o gyrchfannau rhyngwladol a ddaw i'r wlad hon. Mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Gallaf weld bod yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru’n dweud mai 40 y cant yw'r ffigur, ond os mai 100 y cant yw'r cyfanswm, mae 60 y cant yn golygu bod gan y cig coch a ddaw i mewn ôl troed amgylcheddol uwch. Ac felly, dyna sy'n wirioneddol bwysig—sicrhau nad ydym yn gwyrddgalchu. A phe baech chi wedi bod yn awyddus i gyfrannu yn y ddadl, Joyce, byddai wedi bod yn dda iawn clywed Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, lle mae HCC wedi'i leoli, yn Aberystwyth, yn siarad ar ran sefydliad sy'n wirioneddol bwysig.

Ond rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl dystiolaeth a roddwyd yn y drafodaeth bwysig hon. Credaf fod cynllun yma y mae'n wirioneddol bwysig bwrw ymlaen ag ef ar gyfer y sector cig coch yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn rhai o'r argymhellion, a'r ymateb 'derbyn mewn egwyddor' ofnadwy hefyd. Pan ddaw'r etholiad a thu hwnt i hynny, rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad cyfan yn cael ei ystyried gan y Llywodraeth newydd a'i ddefnyddio fel templed i gyflwyno corff hyrwyddo a all ymgysylltu'n agos iawn â'r sector a hyrwyddo gwerth y cig coch sydd gennym yma yng Nghymru, fel ein bod yn cael mwy o le ar y silff i'r cynnyrch sy'n gyrru ein heconomi wledig, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Senedd.

15:45

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Cyd-dynnu, nid tynnu’n groes: Rhaid i Gymru weithredu'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Cyd-dynnu, nid tynnu’n groes: Rhaid i Gymru weithredu'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jenny Rathbone.

Cynnig NDM9066 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Cyd-dynnu, nid tynnu’n groes: Rhaid i Gymru weithredu', a osodwyd ar 9 Hydref 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Argyfwng ymddiriedaeth mewn sefydliadau, anghydraddoldeb sy'n dyfnhau, epidemig o newyddion ffug—dyma rai o'r tueddiadau dychrynllyd sy'n cyfrannu at ddirywiad mewn cydlyniant cymdeithasol a restrir gennym yn ein hadroddiad. Mae gormod o bobl yn teimlo nad ydynt yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi na'u clywed, ac mae hyn yn ychwanegu at flwch tân o anfodlonrwydd, sy'n llythrennol yn bygwth ein democratiaeth. Hoffwn dalu teyrnged i bawb a gymerodd ran yn ein hymchwiliad, ac fe wnawn ymdrechu i adlewyrchu eu cyfraniad gwerthfawr.

Yn gyntaf oll, nid slogan yw cydlyniant cymdeithasol, ond mesur diogelu. Yr hyder tawel, beunyddiol nad yw eich cymydog yn ddieithryn, fod pob un ohonom yn perthyn i ble rydym yn ei alw'n gartref ac nad risg yw ein gwahaniaethau, ond adnodd. Mae'n wir, mae democratiaeth weithiau'n flêr, ond serch hynny, mae'n hanfodol. Y dewis arall yw bygythiadau a gorfodaeth. Caiff ei adeiladu yn ein cymunedau, y mannau a rannwn, un sgwrs ar y tro fel arfer. Mae gan Gymru sylfeini cynefin a chroeso y mae angen inni bwyso arnynt yn yr amseroedd heriol hyn. Mae'r sylfeini hyn o dan bwysau digynsail, o ganlyniad i anghydraddoldebau cynyddol, yn ogystal â grymoedd tramor yn taflu arian at dwyllwybodaeth wedi'i chynllunio'n fwriadol i greu anghydfod a dicter.

Treuliodd y Fonesig Sara Khan dair blynedd yn edrych ar y bygythiadau i gydlyniant cymdeithasol a chyflwr gwydnwch democrataidd, a chanfu fod lefelau ymgysylltiad sifil yn gostwng a lefelau dadrithiad ynghylch democratiaeth yn codi. Ac mae'n drist nodi mai ychydig iawn o weithredu a ddeilliodd o'i hadroddiad i'r Llywodraeth ar y pryd ym mis Mawrth 2024. Yn ein byd sydd o dan warchae gan yr hyn y mae'r Fonesig Sarah Khan yn ei alw'n 'aflonyddwch sy'n cyfyngu ar ryddid', mae angen dewrder ac arweinyddiaeth i ddewis cydweithredu yn hytrach na gwrthdaro.

Neges ganolog ein hadroddiad yw ei bod yn ddyletswydd arnom i beidio â chilio rhag yr heriau, fel y mae rhai pobl yn y Siambr wedi'i wneud yn ôl pob golwg, ond mae gwir angen inni redeg tuag atynt er mwyn mynd i'r afael â nhw. Fel gwleidyddion, rhaid inni wneud mwy i dawelu'r goelcerth o anfodlonrwydd ac ymladd yn erbyn yr ymdrechion i fegino fflamau ymraniad. Rhaid dod o hyd i atebion o'r gwaelod i fyny, nid gan ryw Lywodraeth bell yn rhagnodi Balchder Bro neu Gynllun Cymdogaethau heb adnabod na gwybod pwy sy'n cynnal yr asedau cymunedol neu arweinyddiaeth neu flaenoriaethau'r bobl sy'n byw yno.

Gwelsom lawer o enghreifftiau rhagorol o gymunedau gwydn yn ein hymweliadau â Pharc Caia yn Wrecsam, Cae Fardre ym Mhentre’r Eglwys, Rhondda Cynon Taf, a Gerddi’r Rheilffordd yn y Sblot, a ddangosodd i ni pa mor bwysig yw hi i bobl ddod ynghyd a diogelu'r lleoedd lle gall pobl gyfarfod, rhannu eu pryderon a threfnu. Roedd y dystiolaeth a gawsom gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn ddiamod: y cymunedau lleiaf gwydn yw’r rhai sydd ag amddifadedd uchel a fawr ddim asedau cymunedol.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi croesawu pob un o'n pedwar argymhelliad at ei gilydd, mae eu hymateb i'r angen i unioni'r diffyg hawliau statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau, fel yn yr Alban, a'r hawl i wneud cais neu herio, fel yn Lloegr, yn siomedig. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar hawl y gymuned i brynu, ac mae angen inni sicrhau bod yr hawl hon gan Gymru hefyd. Rydym yn siomedig fod yr ymateb cyfunol gan Lywodraeth Cymru, nid gan yr Ysgrifennydd Cabinet unigol, mor betrusgar ac araf.

Mae ein tri argymhelliad arall yn ymwneud â rôl arweiniol Llywodraeth Cymru a'r camau sydd eu hangen i gryfhau cydlyniant cymdeithasol yn wyneb cyfuniad angheuol o fygythiadau, na ellir eu gadael i sefydliadau llawr gwlad yn unig. Roedd gan Lywodraeth Cymru ragwelediad i sefydlu rhaglen gydlyniant cymunedol yn ôl yn 2009, ond tybed faint o Aelodau sy'n ymwybodol o'r wyth tîm cydlyniant hyn, hyd yn oed ar ôl i'r rhaglen gael ei hehangu yn 2019. Mae gan y timau hyn fwriadau da, heb os, ond nid yw'r cydgysylltiad, y cysondeb na'r cyfathrebu bob amser mor dda ag sydd angen iddynt fod yn wyneb yr aflonyddwch difrifol a welwyd yn y ddwy neu dair blynedd diwethaf, lle mae pobl wedi mynd ati'n fwriadol i herio'r gymdeithas sy'n seiliedig ar reolau sy'n sail i ddemocratiaeth. Pe na baent yn bodoli, byddai angen inni ddyfeisio'r cydgysylltwyr cymunedol hyn. Ond mae angen inni gael syniad llawer cliriach am eu heffeithiolrwydd i weithredu fel seinfwrdd ar gyfer trafferthion sydd ar y ffordd cyn iddynt ffrwydro ac i allu cymryd camau ataliol i osgoi aflonyddwch trawmatig.

Cafodd tref Oldham ei chrybwyll gan sawl tyst fel un â dull ataliol effeithiol iawn, ac rydym yn argymell y dylai Lywodraeth Cymru edrych arni i weld beth y gallem ei ddysgu gan Oldham. O'r 35 achos o aflonyddwch yn Lloegr a'r Alban yn dilyn llofruddiaethau erchyll y plant yn Southport ym mis Awst y llynedd, dylid nodi na ddigwyddodd yr un yn Oldham—nac yng Nghymru, yn wir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n gyflym i sefydlu grŵp arbenigol ar gydlyniant cymdeithasol o blith pobl sy'n cynrychioli cymuned gyfan Cymru, i ddatblygu dull strategol hirdymor o gryfhau ein holl gymunedau, gwrthsefyll eithafiaeth a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle croesawgar ac unedig. Mae angen i'r grŵp hwn weithio ar gyflymder digynsail, ac mae'r pwyllgor yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu ar yr argymhelliad ac wedi penodi Gaynor Legall yn gadeirydd, a chredaf ei fod eisoes wedi cyfarfod.

Mae ein hadroddiad yn nodi'n glir y dylai Llywodraeth Cymru chwarae rhan ganolog wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn. Fodd bynnag, nid yw'r holl ysgogiadau sy'n effeithio ar gydlyniant cymdeithasol ar gael iddi. Mae angen dull pedair gwlad arnom, a chydgysylltu â Llywodraethau eraill ar lefel y DU, i fynd i'r afael â'r gwenwyn sy'n cael ei wasgaru ar ein tonfeddi, yn enwedig gan yr asgell dde eithafol, a pha mor hawdd y gall ledaenu fel feirws. Mae'n peryglu diogelwch gweithwyr rheng flaen, arweinwyr gwleidyddol o bob math, yn ogystal ag aelodau o'r gymuned sy'n iawn i fod yn ofnus ynglŷn â'u diogelwch.

Rydym yn pwysleisio'r angen am y dull pedair gwlad hwn, ac mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn galw amdano, felly mae'n siomedig nad oes cyfarfod grŵp rhyngweinidogol wedi'i gynnal eto, oherwydd newidiadau gweinidogol ar lefel y DU. Yng ngoleuni'r bygythiad i ddemocratiaeth gan yr asgell dde eithafol, sy'n megino fflamau anfodlonrwydd, mae hyn yn galw am sylw'r pedair Llywodraeth a'r holl bleidiau yn y Senedd hon ar frys.

15:55

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad ac i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth, a hefyd i'r Fonesig Sara Khan am ei mewnwelediad amhrisiadwy i'r rhesymau dros y cynnydd mewn safbwyntiau eithafol ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi'n glir iawn fod cydlyniant cymdeithasol yng Nghymru dan fygythiad, ac mae'n nodi rhai o'r camau sydd angen eu cymryd, gan gynnwys, mewn llawer o achosion, adeiladu ar rywfaint o'r gwaith cadarnhaol sydd eisoes yn mynd rhagddo i gryfhau cydlyniant ein cymunedau.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at fentrau cymunedol y mae Cadeirydd y pwyllgor wedi cyfeirio atynt y prynhawn yma, a hoffwn dynnu sylw at un enghraifft gadarnhaol yn fy etholaeth i, sef y fenter 'Cysylltu'r Gymuned' a drefnwyd gan y Cynghorydd Randell Izaiah Thomas-Turner a'r Cynghorydd Dani Thomas-Turner. Cefnogir y prosiect gan sawl sefydliad lleol ac mae'n gwahodd trigolion i gael prydau poeth am ddim a chymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim yn Hwlffordd. Mae'n lle cynhwysol i fusnesau ac elusennau lleol ymgysylltu â thrigolion ac adeiladu pontydd yn y gymuned. A dyna'r math o weithgarwch y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei gefnogi ar lawr gwlad yn ein cymunedau, gan adeiladu pontydd a rhwydweithiau ar draws ein cymunedau mewn mannau lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi, eu croesawu a'u cynnwys.

Nawr, argymhelliad cyntaf y pwyllgor yw i Lywodraeth Cymru sefydlu grŵp arbenigol ar gydlyniant cymdeithasol i lunio set o gamau gweithredu tymor byr, canolig a hir i ddiogelu ac ehangu cydlyniant cymdeithasol. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud mwy wrthym am gynnydd y gwaith hwnnw a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y grŵp arbenigol hwnnw yn ei hymateb i'r ddadl.

Nawr, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai meysydd lle gellir gwneud gwaith mewn perthynas â'r rhaglen cydlyniant cymunedol, fel mynd i'r afael â'r anghysondeb ar draws wyth rhanbarth cydlyniant Cymru. Oherwydd mewn rhai ardaloedd, mae arweinwyr cydlyniant rhanbarthol yn rhagweithiol iawn, ac mewn rhanbarthau eraill, maent yn llai felly.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg amcanion clir, tryloywder a gwybodaeth am y rhaglen cydlyniant cymunedol, gan gynnwys sut y mae'r rhaglen yn cael ei monitro. Ac felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet achub ar y cyfle i ddweud wrthym sut y cafodd y rhaglen hon ei monitro ers ei sefydlu yn ôl yn 2009, a gweld a fyddai o fudd i'r grŵp arbenigol adolygu'r rhaglen yn rhan o'i waith.

Nawr, mae trydydd argymhelliad y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu rôl arweiniol ar gyfer ymdrin â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Pwysleisiodd y Fonesig Sara Khan y gostyngiad yn y lefelau o gydlyniant cymdeithasol, ynghyd â'r gostyngiad yn y lefelau o ymgysylltiad dinesig, a rhybuddion clir am lefelau cynyddol o ddadrithiad â democratiaeth a diffyg ymddiriedaeth yn ein sefydliadau democrataidd.

Mae gennym ni fel Aelodau’r Senedd ddyletswydd yma i hyrwyddo goddefgarwch a pharch, ac mae’n rhaid inni gydweithio i ddangos i bobl Cymru y gallwn drafod mewn ffordd iach, heb dwyllwybodaeth ac eithafiaeth. Mae eithafwyr yn cymryd mantais ar y diffyg ymddiriedaeth mewn sefydliadau democrataidd i greu ymraniadau pellach yn ein cymunedau. Hoffwn atgoffa’r Aelodau ein bod yn byw mewn oes lle mae dau Aelod Seneddol wedi cael eu llofruddio yn y blynyddoedd diwethaf, a gwn fod llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi wynebu camdriniaeth wyneb yn wyneb, ac ar-lein.

Mae troseddau casineb ar gynnydd, ac mae ideolegau gwleidyddol peryglus ar asgell dde eithafol, ac ar asgell chwith eithafol yn wir, y sbectrwm gwleidyddol yn rhan o'r broblem. Fel y mae'r adroddiad yn egluro, nid ideolegau gwleidyddol yn unig sy'n peri pryder. Ceir pryderon ynghylch mathau eraill o eithafiaeth. Esboniodd Dr Andrew Thomas o Brifysgol Abertawe i'r pwyllgor fod y gymuned 'incel' yn sylweddol, gydag un fforwm ar-lein yn unig â bron i 30,000 o aelodau. Mae'r fforymau hyn a'u safbwyntiau eithafol yn hyrwyddo trais yn erbyn menywod, ac roedd yn frawychus darllen yn adroddiad y pwyllgor fod penaethiaid yng Nghaerdydd wedi cadarnhau bod bechgyn mor ifanc â blwyddyn 7 yn dangos arwyddion o gael eu dylanwadu gan y math hwn o ideoleg. Felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau a gafodd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r mater hwn a'r camau sy'n cael eu cymryd mewn ysgolion i herio'r safbwyntiau eithafol hyn.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad? Edrychaf ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet am rai o'r camau sy'n cael eu cymryd i feithrin mwy o wydnwch cenedlaethol a chydlyniant cymdeithasol. Mae llawer o waith cadarnhaol yn mynd rhagddo ar feithrin cymunedau iach, ac mae angen i Lywodraeth Cymru adeiladu ar hynny. Mae angen gwaith ac adnoddau pellach i fynd i'r afael â chyffredinrwydd eithafiaeth, gan fod rhai o'r safbwyntiau hyn yn treiddio i ystafelloedd dosbarth Cymru ac yn lleihau cydlyniant cymdeithasol drwy hyrwyddo gwrthdaro rhwng dynion a menywod ifanc. Dyna pam fod angen inni sicrhau bod gan awdurdodau lleol ac ysgolion y dulliau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ein cymunedau.

16:00

Mae'r adroddiad hwn yn hynod bwysig, dwi'n meddwl, achos ei fod e'n ymwneud â'r hyn sy'n greiddiol i ddyfodol ein cymdeithas, ac yn gofyn sut rŷn ni'n cyd-greu Cymru'r dyfodol fel ein bod ni'n medru cyd-fyw yn y Gymru honno.

Deilliodd yr ymchwiliad mewn rhan yn sgil yr aflonyddwch cymdeithasol difrifol a welwyd yn Lloegr yn ystod haf 2024, yn dilyn llofruddiaethau ofnadwy tair merch fach yn Southport. Ac er na brofodd Cymru yr un fath o derfysgoedd bryd hynny, roedd yna enghreifftiau o aflonyddwch cymdeithasol yn Abertawe a Chaerdydd yr haf blaenorol, ac wrth i'n hymchwiliad dynnu tua'i derfyn, fe welodd Cymru brawf pellach o raniadau cymdeithasol wrth i brotestiadau a defnydd o'n baner genedlaethol greu tensiynau pryderus ar hyd a lled y wlad. Y cyfan yn dangos nad yw Cymru wedi ei heithrio rhag bygythiad ac effeithiau andwyol diffyg cydlyniant cymdeithasol.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth glir o'r heriau sydd yn ein hwynebu yn hyn o beth, ac yn galw am ymateb pendant a brys gan y Llywodraeth er mwyn atal dirywiad pellach i'r gwead cymdeithasol sy'n cynnal lles ein cymdeithas, gan fygwth diogelwch dinasyddion, yn enwedig rhai grwpiau penodol fel lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac unigolion LHDTC+ ac iechyd ein democratiaeth. 

Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor ac wedi gweithredu ar frys, yn unol â'n hargymhelliad cyntaf, i sefydlu grŵp arbenigol i arwain y gwaith o geisio ffyrdd o ddod â'n cymunedau at ei gilydd yn wyneb y rhaniadau cynyddol yma. Ond hoffwn ofyn ar hynny: pryd gallwn ddisgwyl i'r grŵp yma adrodd, a phryd y gwelwn ni weithredu ar ei argymhellion? Fe wnaethon ni argymell bod y Llywodraeth yn adlewyrchu'r dull ymateb a gafwyd i'r argyfwng costau byw, ac y dylai gyflwyno adroddiad cyn diwedd y flwyddyn, gyda set o gamau gweithredu i'w cyflawni ar unwaith, yn y tymor canolig, ac yn y tymor hir, sef yr hyn a wnaeth y panel costau byw a sefydlwyd. Felly, beth yw'r rheswm dros beidio dilyn yr un trywydd?

Yn yr un modd, rwyf braidd yn siomedig gyda'r diffyg ymdeimlad o frys yn yr ymateb i argymhelliad 2, sef cymryd camau i amddiffyn mannau cymunedol. Rhoddwyd, fel ymateb, ymrwymiad i archwilio hawl y gymuned i brynu. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ac eraill yn pryderu am effaith y gostyngiad yn nifer y mannau cyhoeddus sydd ar gael ar gydlyniant cymdeithasol, ac maen nhw'n cefnogi cyflwyno hawl y gymuned i brynu, fel sydd yn bodoli, mewn gwahanol ffyrdd, yn Lloegr a'r Alban. Mae'r rhesymeg yn glir, mae yna fodelau amlwg i'w mabwysiadu, felly pam nad oes gweithredu wedi bod ar hyn, a beth yw'r rhesymeg dros fwy o oedi?

Roedden ni'n glir y dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd wrth ymdrin â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Mae'n gywilyddus bod yna rai gwleidyddion ac, mae'n flin gen i ddweud, rhai sydd yn y lle hwn, yn euog o ledaenu camwybodaeth a thwyllwybodaeth sy'n achosi ofn a gofid ac yn corddi casineb a rhaniadau cymdeithasol. Bydd cydlyniant cymdeithasol byth yn gryf pan wneir i grwpiau cyfan o bobl, sy'n profi anfantais yn barod, deimlo fel eu bod nhw dan fygythiad. Clywon ni dystiolaeth rymus a phryderus gan y trydydd sector am effaith hyn ar y bobl maen nhw'n ceisio eu cefnogi, ac ar eu sefydliadau nhw eu hunain.

Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom ni hefyd sut y gall tensiynau a gwrthdaro gael effaith hir dymor ar gymunedau penodol, fel yn Llanelli, yn sgil y gwrthdaro yno pan wnaeth y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar y pryd gau Gwesty Parc y Strade gyda’r bwriad o’i droi yn llety i geiswyr lloches. Ond fe glywon ni hefyd enghreifftiau gwych o gymunedau sydd yn cydweithio, a gallwn ddatblygu'r sylfeini hynny. Ond mae angen arweinyddiaeth arnom, mae angen gweithredu arnom, ac mae eu hangen arnom ni nawr.

Felly, ydych chi'n cytuno bod angen gwell ffocws ar y lefelau digynsail o fygythiadau y mae rhai grwpiau penodol yn eu profi, yn enwedig, efallai, lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, a'r effaith andwyol y mae hyn yn ei chael ar eu lles nhw? A fyddai'r Llywodraeth yn ystyried cymryd camau i godi ymwybyddiaeth o'r mater yma sy'n debygol o ddwysáu wrth i ni nesáu at yr etholiadau ym mis Mai?

Fel mae'r Cadeirydd yn nodi yn ei rhagair,

'Mae Cymru wedi'i hadeiladu ar sylfeini cadarn cynefin a chroeso',

sydd wedi helpu ein cymunedau i oroesi a dygymod â chyfnodau anodd. Mae Plaid Cymru yn credu bod cryfder Cymru yn gorwedd mewn cynhwysiant ac ymddiriedaeth, a bod cymunedau cefnogol, croesawgar a goddefgar yn cryfhau ein cenedl. Diolch.

16:05

Diolch. Rwy'n falch iawn o siarad am yr adroddiad pwysig hwn, ac rwyf hefyd eisiau dweud fy mod mor falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno ar unwaith i sefydlu'r grŵp arbenigol ar gydlyniant cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud yng Nghymru ar gydlyniant cymunedol, ac rwy'n cymeradwyo'r rhaglen cydlyniant cymunedol sy'n gweithredu ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol. Ar rôl cydgysylltwyr cymunedol, y cyfeiriwyd ati eisoes gan y Cadeirydd, rwy'n credu eu bod yn eithaf unigryw yn y DU, ac rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i gynnal y cyllid ar gyfer y rhaglen gydlyniant. Ond rwy'n credu y bydd sefydlu'r grŵp hwn yn rhoi cyfeiriad cenedlaethol i'r gwaith, ac rwy'n falch iawn ynghylch y dewis o gadeirydd, fod Gaynor Legall wedi'i phenodi'n gadeirydd y grŵp, oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod am ei gwaith gwych.

Fe gyfeiriaf weddill fy sylwadau at gasgliad 3, sy'n tynnu sylw at y diffyg ymddiriedaeth mewn democratiaeth. Mae'n ymwneud yn benodol â'r lleihad yn yr ymddiriedaeth mewn sefydliadau a gwleidyddion, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu ei gwaith i gynnwys dinasyddion wrth wneud penderfyniadau drwy ddulliau democrataidd cydgynghorol. Wrth gwrs, mae yna gymaint o ffyrdd o ddefnyddio pobl, fel cynulliadau dinasyddion, refferenda, pleidleisio, grwpiau ffocws. Rwy'n credu ein bod wedi defnyddio'r rheini o bryd i'w gilydd, ond rwy'n credu bod angen ymdrech fawr i greu cymaint o ffyrdd â phosib o gynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau ac i roi cyfle iddynt deimlo eu bod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae ein hadroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad y cyhoedd a'u rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hollol hanfodol mewn democratiaeth effeithiol fod pobl yn teimlo bod ganddynt gyfran yn yr hyn sy'n digwydd a'u bod yn teimlo y gallant ddylanwadu ar ddigwyddiadau. Ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw bŵer ac nad oes ganddynt lais.

Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n addysgu ac yn annog, pobl ifanc yn enwedig, i fod yn rhan o benderfyniadau. Ac mae'n wych fod y Senedd wedi ymestyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol i bobl ifanc 16 a 17 oed, a bod Llywodraeth y DU yn mynd i'w ymestyn fel y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau seneddol y DU yn y dyfodol. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod plant yn cael addysg wleidyddol yn yr ysgol, ac wrth gwrs mae'r cwricwlwm newydd yn annog hynny i ddigwydd. Fel llawer o Aelodau eraill, bûm allan yn siarad â llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd am yr hyn y gallwch ei gyflawni mewn gwleidyddiaeth, a pha mor bwysig yw dweud eich barn, ac rwy'n credu mai dyna sydd angen i ni ei gyfleu i bobl, ac i blant yn arbennig, y gallwn newid pethau.

Rwyf am dynnu sylw arbennig at ddigwyddiad a fynychais yn y deml Hindŵaidd yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf, yn rhan o Wythnos Senedd y DU, wedi'i hanelu at bobl ifanc. Roedd yna amrywiaeth enfawr o blant a phobl ifanc yno o'r gymuned Hindŵaidd: llawer o blant ifanc iawn yn tynnu lluniau a lliwio baneri ac yn siarad am yr hyn y mae gwledydd yn ei olygu, a phobl ifanc hŷn yn eu harddegau a oedd yn trafod maniffestos a beth oeddent hwy ei eisiau gan wleidyddiaeth, ac yn dysgu am y system bleidleisio. Trefnwyd y digwyddiad gan KAHO UK, sef sefydliad Hindŵaidd o'r diaspora Indiaidd sy'n siarad Kannada, ac mae'n hyrwyddo ymgysylltiad â'r gymuned. Roedd yn ddigwyddiad hwyliog iawn, ac roedd y bobl ifanc yn ymateb mor gadarnhaol, ac roedd yn ymddangos i mi ein bod ni eisiau digwyddiadau o'r fath ledled y wlad, lle rydych chi'n dod â phobl ifanc i mewn ac rydych chi'n dangos iddynt beth yw gwleidyddaeth, ac yn rhoi cyfle iddynt feddwl am yr hyn y maent hwy ei eisiau gan wleidyddiaeth. Deuthum oddi yno'n teimlo'n adeiladol iawn am gynhwysiant ac yn llawn positifrwydd, a'r teimlad y gallwch chi gyflawni pethau, ac y gallwch chi greu'r math o awyrgylch lle mae pobl ifanc yn teimlo'u bod yn gallu cyflawni pethau, fod yna le iddynt, a bod lle iddynt yng Nghymru yn y dyfodol.

16:10

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n falch iawn o glywed eich myfyrdodau ar ymgysylltiad cymunedau ffydd yn yr agenda hon. Nid wyf yn gwybod a oeddech chi'n bresennol ar gyfer lansiad yr adroddiad 'Ffydd yng Nghymru', a gyhoeddwyd gan y Gynghrair Efengylaidd yn ddiweddar iawn, ond dangosodd effaith gadarnhaol enfawr yr ystod eang o gymunedau ffydd ledled Cymru ar bob math o waith y mae gan y Senedd hon ran allweddol yn ei gyflawniad.

A fyddech chi'n cytuno â mi y dylem ganmol y Gynghrair Efengylaidd, a'r holl gymunedau ffydd amrywiol o bob math o wahanol draddodiadau, am y gwaith rhagorol y maent yn ei wneud ledled Cymru ar y mater yr ydym yn ei drafod heddiw, ac ystod eang o faterion eraill?

Ie, diolch yn fawr iawn i Darren Millar am yr ymyriad hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod yr ymdrechion enfawr a wneir gan lawer o grwpiau gwahanol i sicrhau ein bod yn gweithio tuag at Gymru gydlynus. Rwy'n credu mai dyna beth a wnawn yn y Senedd hon, ac rwy'n credu bod yr adroddiad yn cyfrannu tuag at gyflawni hynny. Diolch.

Rwyf am ddechrau trwy ddiolch i'r holl sefydliadau a gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Mae eu tystiolaeth yn siapio'r iaith a ddefnyddiwn heddiw, iaith sy'n adlewyrchu brys gwirioneddol y sefyllfa a wynebwn, iaith sy'n siarad am danwydd a choelcerthi. Diolch hefyd i fy nghyd-Aelodau, ac mae'n ddrwg gennyf nad yw Altaf gyda ni y prynhawn yma. Diolch i Paul Davies am roi ymateb y Ceidwadwyr—diolch yn fawr iawn. A hoffwn ddiolch hefyd i glercod y pwyllgor ac aelodau eraill o staff a helpodd i gynhyrchu'r adroddiad hwn.

Nid oeddwn yn hynod o awyddus i ni edrych ar y mater hwn, ond gallaf weld ei fod yn fater mor sylfaenol bwysig i ni yma yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Rwy'n croesawu sawl agwedd ar ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Mae creu'r grŵp arbenigol fis diwethaf o dan gadeirydd annibynnol ac ymestyn cyllid y rhaglen cydlyniant cymunedol yn hanfodol ac i'w groesawu. Ond mae ein hadroddiad yn sôn am danwydd a choelcerthi nawr. O Lanelli i'r Drenewydd, mae'r pwysau'n cynyddu mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae ofn a rhaniadau'n dechrau ymffurfio.

Dim ond un wreichionen sydd ei hangen i danio argyfwng. Mae'r arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru'n dangos bod cytundeb ar draws tri mesur cydlyniant wedi gostwng o 64 y cant i 58 y cant, gyda gostyngiad mawr yn ymdeimlad o berthyn unigolion. Fel y clywsom, mae CLlLC, Race Council Cymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru oll yn adrodd am droseddau casineb a cham-drin ar-lein sydd ar gynnydd. Yn 2022 yn unig, cynyddodd ymosodiadau yn targedu pobl oherwydd eu crefydd 26 y cant a chynyddodd y rhai wedi eu hanelu at unigolion trawsryweddol 22 y cant.

Rwyf am ganolbwyntio fy nghynnwys yma ar ddau faes penodol y clywsom ychydig amdanynt: twyllwybodaeth a chamwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, a hefyd y diffyg democrataidd. Rhaid inni beidio ag anghofio bod y tensiynau'n cael eu gwaethygu hefyd gan dlodi ac anghydraddoldeb economaidd. Rhaid inni sicrhau bod gennym y sylfeini yn eu lle i sicrhau y gallwn adeiladu ar y gwaith da y gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn ei ddatblygu.

Ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, yn enwedig mewn perthynas â chyfryngau cymdeithasol, cawsom enghreifftiau brawychus, a gall llawer ohonom yn y Siambr dystio i hynny. Ond os edrychwn ar sefydliadau sy'n cynrychioli ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gallwn weld bod Cyngor Ffoaduriaid Cymru, er enghraifft, wedi gorfod cau ei ddrysau am dri diwrnod oherwydd cam-drin ar-lein wedi'i dargedu—nid oherwydd unrhyw fygythiad allanol i ddiogelwch, ond oherwydd bod cyswllt fideo wedi'i aflunio wedi sbarduno ton o gasineb a olygodd fod staff, gwirfoddolwyr a ffoaduriaid a oedd eisoes wedi'u trawmateiddio yn anniogel. Nid rhywbeth damcaniaethol yw hyn, mae'n digwydd i bobl go iawn yn ein cymunedau nawr.

Mae unrhyw un sy'n gweithio dros gynhwysiant a chydraddoldeb yn cael ei dargedu fwyfwy gan ymgyrchoedd ar-lein cydgysylltiedig. Nid yw'n ddigon i ymateb iddo'n unig, mae angen inni weithredu. Nid ydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddeddfu i reoleiddio'r cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi gofyn iddynt yn ein hadroddiad i arwain o fewn y pwerau sydd ganddynt: cydgysylltu ymatebion, comisiynu monitro, gweithio gyda chymunedau—nid oes angen pwerau neilltuedig. Yr hyn sydd ei angen yw ewyllys gwleidyddol ac ymdeimlad o frys. Felly, hoffwn eich herio i fynd i'r afael â hynny yn eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae'r ail faes yn ymwneud ag iechyd democrataidd. Drwy'r grŵp cynghori ar arloesi democratiaeth, fe wyddom fod dulliau cyfranogol ac ymdrechion i gynnwys dinasyddion yn fwy uniongyrchol yn y prosesau gwneud penderfyniadau yn cyflawni canlyniadau. Ond mae gennym rôl yma yn y Senedd hon. Ni allwn gael democratiaeth ystyrlon pan fydd yr amgylchedd gwybodaeth wedi ei wenwyno. Ni allwn ailadeiladu ymddiriedaeth tra bôm yn caniatáu i'r ecosystem sy'n ei dinistrio weithredu heb ei rheoli. Dyna pam fy mod i ac eraill wedi cefnogi ymdrechion yn y Senedd hon i anfon neges glir mai digon yw digon. Ni allwn oddef camwirionedd a thwyll bwriadol yn ein sefydliadau gwleidyddol mwyach. Dyna pam fy mod eisiau gweld Bil atebolrwydd Aelodau yn dod i rym yn 2026 i fynd i'r afael â thwyll gwleidyddol bwriadol. Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny yma cyn y gallwn ddisgwyl i hynny ddigwydd yn ein cymunedau.

I orffen, os ydym o ddifrif ynglŷn â gwarchod cydlyniant, diogelu cymunedau ac adfer ymddiriedaeth yn ein democratiaeth, ni ellir gohirio gweithredu. Rhaid iddo ddechrau nawr. Diolch yn fawr iawn.

16:15
Member (w)
Jane Hutt 16:19:34
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am gynhyrchu'r set amserol a phwysig hon o argymhellion. Diolch hefyd i'r holl bobl a sefydliadau a gyfrannodd eu profiad bywyd a'u harbenigedd yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth. Ni ellir gwadu ein bod yn byw mewn cyfnod heriol iawn i gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru ac ar draws y DU a'r byd. Mae lledaeniad cyflym technolegau newydd a dirywiad ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus wedi gadael ein cymunedau yn agored i raniadau a naratifau casineb gor-syml. Rydym wedi gweld gwybodaeth ffug yn llifo i ofodau ar-lein i achosi dicter, pryder a dryswch.

Mae eithafwyr yn parhau i ymdreiddio i gymunedau i danio tensiynau mewn cyfnodau bregus. Dyma sydd wedi eich arwain i gynnal yr ymchwiliad hwn. O ganlyniad, mae llawer o'n ffrindiau, teuluoedd, cydweithwyr a chymdogion yn ofnus oherwydd yr hinsawdd anwadal a'r drafodaeth wenwynig a welant ac a brofant ar-lein, yn y cyfryngau, ac yn gynyddol ar eu stryd. Tynnodd y pwyllgor sylw at y pryderon dwfn hyn yn effeithiol iawn, ond fe ystyriodd lawer o bethau cadarnhaol yn ogystal, pethau a rannwyd heddiw hefyd, gan gynnwys y sylfeini cryf sydd gennym yng Nghymru ac enghreifftiau o gymunedau'n dod at ei gilydd i ddatrys gwrthdaro a helpu ei gilydd trwy gyfnodau anodd.

Fe wyddom na ellir cyflawni cymunedau cydlynus trwy weithio ar eich pen eich hun yn unig. Mae angen dull cymdeithas gyfan arnom. Rwy'n gobeithio y bydd adroddiad y pwyllgor a'r grŵp arbenigol y mae wedi'i ysbrydoli—ac rwy'n rhoi hynny i chi; rydych chi wedi ein hysbrydoli i fwrw ymlaen â hyn—yn ein gosod ar y llwybr cywir. Rydym eisiau gweld cydweithredu'n digwydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; mae angen i dair gwlad arall y DU weithio gyda ni i fynd i'r afael â'r heriau sylfaenol hyn. Mynegodd y Dirprwy Brif Weinidog gefnogaeth i sefydlu grŵp rhyngweinidogol ar gydlyniant cymunedol yn ystod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar 20 Tachwedd, ac mae'n mynd i ysgrifennu'n ffurfiol at bwyllgorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y trafodaethau hyn. Edrychaf ymlaen at ymuno â grŵp rhyngweinidogol o'r fath.

Pan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad, fe wneuthum gadarnhau ar unwaith ein bwriad i fwrw ymlaen ag argymhellion 1 a 4 o'r adroddiad drwy sefydlu'r grŵp arbenigol ar gydlyniant. Ers hynny, fel y cydnabuwyd heddiw yn y ddadl hon, rydym wedi cynnull grŵp o arbenigwyr o lywodraeth leol, plismona, sefydliadau'r trydydd sector, sefydliadau academaidd ac ymchwil, yn ogystal ag arbenigwyr ar bolisi a strategaeth, arweinwyr cymunedol, ac arbenigwyr trwy brofiad.

Fel y cydnabuwyd, cadeirir y grŵp gan Gaynor Legall, sydd â blynyddoedd lawer o brofiad a gwasanaeth cyhoeddus rhagorol mewn rôl o'r fath. Pwrpas y grŵp yw darparu cyngor a chynnig argymhellion ar gyfer gweithredu i Lywodraeth Cymru ar sut i gryfhau cydlyniant ledled Cymru. Fe wnaethant gyfarfod ar 20 Tachwedd a thrafododd y grŵp egwyddorion cydlyniant drafft a diffiniad a rennir o gydlyniant cymunedol. Cafodd y drafodaeth dderbyniad cadarnhaol, ac rydym yn gobeithio gallu mireinio a chyhoeddi'r egwyddorion hyn yn fuan. Rwyf am i hyn fod yn ymgysylltiad gweithredol â'r pwyllgor dros yr wythnosau nesaf wrth i'r pwyllgor gyfarfod, a byddaf yn adrodd yn ôl ar hynny.

16:20

Diolch. Diolch yn fawr am esbonio egwyddorion y grŵp. Rwy'n awyddus iddynt allu blaenoriaethu maes camwybodaeth a thwyllwybodaeth cyfryngau cymdeithasol. Roeddwn i'n meddwl tybed beth oedd eich cyfarwyddyd chi iddynt mewn perthynas â'r maes penodol hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

Maent yn awyddus iawn i gwmpasu pob un o'r materion allweddol hynny. Rwy'n credu mai'r egwyddorion y maent yn siarad amdanynt yw egwyddorion cydlyniant, a all lywio nid yn unig gwaith y pwyllgor, ond gall ein harwain ni i gyd yn y ffordd y bwriwn ymlaen â hyn.

Mae'r grŵp yn edrych ar gamau gweithredu tymor canolig a hirdymor. Mae'n edrych ar ffocws ar sut rydym yn mesur cydlyniant, monitro gwell a lliniaru bygythiadau i gydlyniant. Hefyd—ac argymhellwyd hyn gan y pwyllgor—rydym eisoes wedi agor deialog gyda Chyngor Oldham; mae'n ddefnyddiol iawn eich bod chi wedi ymgysylltu â nhw. Rydym eisoes wedi cyfarfod â nhw i sicrhau bod eu gwaith ar fesur cydlyniant cymunedol a mynd i'r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth, sef eich pwynt allweddol, yn cael sylw. Mae'r grŵp arbenigol yn awyddus i weld hyn yn digwydd, ond rydym eisoes yn ymgysylltu. Bydd argymhelliad y grŵp arbenigol wedi ei gwblhau erbyn mis Mawrth, ac wrth gwrs bydd ar gael i Lywodraeth nesaf Cymru ei fabwysiadu.

Argymhellodd y pwyllgor hefyd ein bod yn adolygu cyllid y rhaglen gydlyniant, ac mae hyn wedi'i grybwyll heddiw. Rwyf wedi ymestyn cyllid y rhaglen cydlyniant cymunedol tan 2029 i ganiatáu i awdurdodau lleol a ni ein hunain adeiladu ar y cyflawniadau a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad. Ddydd Llun, cyfarfûm ag aelodau cabinet Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod yr heriau a rannwn i feithrin cydlyniant cymunedol, gan gynnig cefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru, ac maent hwy hefyd yn rhan o'r grŵp arbenigol.

Mewn perthynas ag argymhelliad 2, a gyflwynwyd i'w drafod heddiw, gallaf ddweud ein bod ni, Sioned, wedi ymrwymo'n gadarn i hyrwyddo hawl y gymuned i brynu. Mae Bil yn cael ei baratoi ar gyfer tymor nesaf y Senedd. Y disgwyliad ar hyn o bryd yw y bydd adroddiad y comisiwn asedau cymunedol yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Unwaith eto, mae hwn yn ymrwymiad y gwn y byddwch chi'n ei groesawu. Ar weithio i wella asedau cymunedol, ers 2022, fel y gwyddoch, rydym wedi buddsoddi £4.6 miliwn yn ein canolfannau cynnes a diogel. Diolch, Paul, am roi'r enghraifft gadarnhaol honno yn sir Benfro ynglŷn â chysylltu cymunedau. Gallwn weld hynny ledled Cymru. Mae ymchwil Prifysgol Abertawe wedi dangos bod mannau cynnes yn chwarae rhan bwysig wrth feithrin cysylltiadau cymdeithasol a lleddfu unigrwydd.

Hefyd, rydym wedi darparu dros £70 miliwn mewn bron i 500 o brosiectau ers 2015 drwy ein rhaglen cyfleusterau cymunedol. Rwy'n credu bod llawer o'r prosiectau y gwnaethoch chi ymweld â nhw wedi bod yn elwa o'r rhaglen honno. Mae dod â phobl at ei gilydd, darparu lleoedd i bobl gyfarfod, cymdeithasu, gweithio a gwirfoddoli yn hanfodol, a dyna a wnawn yng Nghymru. Rwyf hefyd eisiau cydnabod gwaith Ystadau Cymru, y gweithgor asedau cymunedol a gwerth cymdeithasol, sy'n hwyluso cydweithio rhwng yr holl fuddiannau cymunedol hynny.

Rwy'n croesawu cyfraniad Julie Morgan ynglŷn â'n hymgysylltiad democrataidd. Mewn gwirionedd, aeth Jane Dodds ar drywydd hynny hefyd. Rwy'n credu bod y grŵp cynghori ar arloesi democratiaeth yn mynd i fod yn bwysig, yn dilyn gwaith y comisiwn. I ddilyn yr esiampl dda o'r deml Hindŵaidd a'r bobl ifanc yno, cynrychiolwyd yr holl bleidiau yn nigwyddiad y cyngor rhyng-ffydd, lle roedd pobl ifanc o bob cwr o Gymru, o gymunedau ffydd a dim ond o ymgysylltiad cymunedol, hefyd yn rhannu eu profiad.

Ddirprwy Lywydd, nid oes gennyf amser i ymdrin â'r holl faterion, ond o ran mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud ag addysg a sefydliadau'r trydydd sector, hoffwn ddweud bod ein cwricwlwm yn galluogi pobl ifanc i dyfu i fyny yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus. Mae ein haddysg cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â misogynedd a rhywiaeth, a hefyd o ran ein gwaith gyda'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'.

Yn olaf, rydym yn cynnal cwrs hyfforddi 'diogelu eich sefydliad' ar gyfer pob sefydliad trydydd sector sy'n cael eu targedu gan gasineb ac aflonyddu yng Nghymru. Rwy'n cofio'r digwyddiad Noddfa yn y Senedd, pan ddywedodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, 'Sefydlogrwydd i bobl, cryfder i Gymru.' Rwy'n credu bod hynny'n crynhoi'r hyn y chwiliwn amdano mewn Cymru sy'n groesawgar i bawb. Diolch yn fawr.

16:25

Diolch, Paul Davies, am wneud y cyfraniad ar ran eich grŵp. Rwy'n gwybod bod Altaf yn malio'n fawr am hyn, ac yn anffodus nid yw'n gallu bod yma heddiw. Roedd yn wych clywed am eich tri arweinydd cymunedol yn sir Benfro yn cysylltu'r gymuned. Mae hynny'n hynod o bwysig. Dyna'r math o arweinyddiaeth wleidyddol sydd ei hangen arnom ledled Cymru. Mae angen i bobl nad ydynt yn barod i wneud y math yma o bethau ar lawr gwlad gamu o'r neilltu er mwyn i eraill ymgymryd â'r rôl honno, oherwydd mae mor bwysig. Ddoe, ar y teledu, cawsom ein hatgoffa bod yna 17,000 o bobl oedrannus yng Nghymru nad oeddent yn mynd i allu cyfnewid cerdyn Nadolig ag unrhyw un. Mae hynny'n ddigon i wneud i chi grio, onid yw? Mae'r math hwnnw o unigrwydd yn ofnadwy. Nid dyna'r Gymru rydym ei heisiau.

Diolch hefyd am nodi pwysigrwydd strategaeth glir ar gyfer gwrthsefyll celwyddau gwenwynig, ac am ein hatgoffa bod gwleidyddion wedi cael eu llofruddio. Rwy'n credu bod tystiolaeth Dr Andrew Thomas am y mudiad 'incel' a'r ffordd y mae'n effeithio neu'n heintio rhai o'n pobl ifanc—. Mae'n bwysig iawn, fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet, fod y cwricwlwm yn delio â'r hyn sy'n ymddygiad normal, fod angen inni fynegi ein hemosiynau a'n teimladau a chael rhyddid i archwilio'r hyn a gredwn, ond mae angen inni wybod beth sy'n berthnasoedd normal rhwng pobl, ac mae angen i hynny ddechrau o oedran cynnar iawn, yn y feithrinfa. Yn amlwg, mae'n sgwrs wahanol i blant a phobl ifanc yn yr ysgol uwchradd, ond serch hynny, mae angen inni barchu ein gilydd ac mae'r seiliau i hyn oll yn eithriadol o bwysig. Rwy'n credu bod ein cwricwlwm yn deall hynny'n dda ac mae'n dda iawn gweld hynny'n digwydd.

Sioned Williams, roeddech chi'n iawn i bwysleisio mai'r bobl sy'n teimlo ar y rheng flaen yn hyn i gyd ar hyn o bryd yw ein lleiafrifoedd ethnig, ein cymunedau LHDT, unrhyw un ag anabledd, pobl sydd ychydig yn wahanol i'r person nesaf, ac mae'n wirioneddol frawychus iddynt. Un o'r sgyrsiau mwyaf dychrynllyd a gefais yn ddiweddar oedd un a gefais gydag uwch feddyg yn fy mwrdd iechyd lleol a gafodd ei eni yng Nghymru, ond a ddywedodd, 'Nid wyf yn siŵr fy mod i'n teimlo bod croeso i mi yma yn y wlad hon mwyach', a hynny'n unig am nad yw'n wyn. Hynny yw, mae'n beryglus iawn ac nid yw'n ystyried ein hanes. A bod yn onest, mewnfudwyr yw pob un ohonom, ac mae cymaint o gryfder mewn mewnfudwyr, a dyna sgwrs rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi'i chael ar garreg y drws yng Nghaerffili—ac mae'n wych gweld Lindsay Whittle yma—am fod pobl yn meddwl bod mewnfudwyr yn fygythiad iddynt hwy rywsut, ac eto fe nodais wrthynt, yn fy etholaeth i, fod yna lawer mwy o fewnfudwyr ac economi lawer mwy bywiog, ac mae cysylltiad yno. Mae angen inni gyfleu i bobl fod mewnfudwyr yn cyfrannu sgiliau sy'n cyfoethogi ein cymdeithas.

Julie Morgan, fe wnaethoch chi dynnu sylw at bwysigrwydd cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol—pe na baent yn bodoli, byddai angen i ni eu dyfeisio. Ac aeth Jacqueline Broadhead o Inclusive Cities UK allan o'i ffordd i ganmol Llywodraeth Cymru am y rôl y gall y bobl hyn ei chwarae a pha mor wahanol oedd hi mewn llawer o awdurdodau yn Lloegr. Felly, mae'n hynod siomedig clywed bod Llywodraeth Prydain wedi bod ar ei hôl hi braidd yn cael y trafodaethau pedair gwlad hyn ynghyd, oherwydd, o'r holl bobl, mae pobl Gogledd Iwerddon yn gwybod beth sy'n digwydd pan fydd pobl yn ymladd ei gilydd am eu bod yn dod o wahanol grefyddau. Ac felly gallwn yn sicr ddysgu ganddynt hwy beth yw'r risgiau a beth yw'r manteision o ddeall hyn hefyd. Ond wrth gwrs, mae angen inni barchu'r holl arweinwyr crefyddol, fel y nododd Julie Morgan, a chafwyd ymyriad i'w groesawu gan Darren Millar am ffydd yng Nghymru a'r gwaith eciwmenaidd, yn ogystal â'r gwaith cymdeithasol y mae grwpiau crefyddol yn ei wneud yn ein holl gymunedau nad yw pobl eraill yn ei wneud, ac mae'n rhaid inni eu canmol a dathlu eu gwaith.

Jane Dodds, fe wnaethoch chi bwysleisio'r cyfuniad o anghydraddoldeb economaidd cynyddol. Nid yn gymaint tlodi, oherwydd pe baem i gyd yn dlawd—byddai'n broblematig, ond ar lefel wahanol i'r anghytgord a achosir gan anghydraddoldeb. A'r digwyddiadau a welwyd yn fy etholaeth i, lle bu'n rhaid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru gau er mwyn diogelu staff a'r defnyddwyr a'r gymuned yn gyffredinol—hynny yw, mae'r rhain yn ddigwyddiadau pryderus iawn, ac mae angen inni ystyried sut y gallwn eu hosgoi, a dyna pam y mae rôl mor bwysig gan gydgysylltwyr cymunedol i fod yn seinfwrdd i gymunedau ac i gymryd y camau sydd eu hangen i atal pethau rhag ffrwydro ac achosi llawer gormod o niwed. Rydych chi'n hollol iawn i ddweud y dylem gael Bil atebolrwydd Aelodau. Mae geiriau'n bwysig, yn enwedig yng nghyd-destun popeth sy'n digwydd ar hyn o bryd. Cawsom ein hatgoffa gan Ysgrifennydd y Cabinet mai'r bobl fwyaf pryderus yw ein ffrindiau, ein teuluoedd, ein cymdogion.

Rwy'n falch fod y grŵp rhyngweinidogol yn mynd i gyfarfod nawr, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gallwn frwydro yn erbyn yr hyn sy'n digwydd ar y we ar ein pen ein hunain. Mae hon yn broblem y mae angen i bob gwlad ei rhannu. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â'r pwyllgor arbenigol, ac rwy'n falch iawn o glywed, fel y mae holl aelodau'r pwyllgor, rwy'n siŵr, fod cyllid y cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol wedi'i gadarnhau hyd at 2029, sy'n arweinyddiaeth ardderchog iawn. Diolch yn fawr iawn.

Rwyf hefyd yn cymeradwyo'n fawr y ffaith eich bod wedi cyfarfod ag arweinwyr CLlLC ar y mater hwn. Yn amlwg, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan hynod bwysig. Maent yn adnabod eu cymunedau'n dda iawn, ac mae angen inni sicrhau bod ein holl adnoddau gwleidyddol a chymunedol yn cael eu cynnull i fynd i'r afael â'r problemau y gallem eu hwynebu os nad ydym yn gweithredu nawr. Felly, diolch yn fawr.

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru: setliad llywodraeth leol dros dro. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i wneud y cynnig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Cynnig NDM9069 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Llywodraeth Lafur Cymru, a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2025.

2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai’r setliad dros dro yn arwain at gynnydd dramatig yn y dreth gyngor a’r posibilrwydd o golli miloedd o swyddi.

3. Yn gresynu bod y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn peri risgiau gwirioneddol i wydnwch gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a gweithio gydag awdurdodau lleol i ostwng biliau'r dreth gyngor.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwyddom fod llywodraethau lleol yn wynebu argyfwng ledled Cymru. Mae CLlLC wedi dweud bod cynghorau'n wynebu pwysau ariannol gwerth £560 miliwn, a fyddai'n galw am gynnydd o 7 y cant mewn gwariant refeniw net. Ni fydd y cynnydd o £169 miliwn yn y gyllideb dros dro yn talu am hyd yn oed draean o'r diffyg hwnnw.

Er bod y gyllideb ddrafft yn dyrannu £6.4 biliwn mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig, sy'n cyfateb i gynnydd cyllidol cyfartalog o 2.7 y cant, mae hyn yn dal i adael pwysau ar y gyllideb o tua 5 y cant i gynghorau ledled Cymru. Mae ffigurau CLlLC yn amcangyfrif y byddai hyd yn oed cynnydd o 3 y cant yn gadael cynghorau'n brin o £373 miliwn. Amcangyfrifwyd bod cynnydd o 2 y cant yn gadael awdurdodau yn brin o £436 miliwn.

Bydd y pwysau dwys y mae cynghorau ledled Cymru yn ei hwynebu yn golygu y bydd angen i awdurdodau lleol gynyddu'r dreth gyngor neu dorri swyddi, neu gyfuniad o'r ddau. Mae tystiolaeth gan CLlLC yn nodi y gallai cynnydd o 3 y cant i gyllid olygu naill ai cynnydd o 19 y cant yn y dreth gyngor neu golli 12,000 o swyddi. Bydd y penderfyniadau hyn, sy'n angenrheidiol ar gyfer cynnal gwasanaethau hanfodol, yn cael effeithiau go iawn ar gymunedau ledled y wlad, gan waethygu'r pwysau ar yr argyfwng costau byw.

Mae'n amlwg y bydd y setliad dros dro yn achosi problemau go iawn. Rydym yn barod i weld sut y gallwn weithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod cynghorau a chymunedau ledled Cymru yn cael mwy o arian i ddiogelu gwasanaethau hanfodol ac i gadw biliau'r dreth gyngor mor isel â phosib.

Mae awdurdodau lleol wedi tynnu sylw'n aml at y cyfyngiadau y maent yn eu hwynebu gyda modelau cyllido blynyddol, yn enwedig mewn perthynas â grantiau. Mae cynghorwyr wedi mynegi rhwystredigaeth gydag amserlenni grantiau, sy'n golygu bod cyllidebau'n aml yn cael eu gwneud heb sicrwydd. Maent hefyd wedi mynegi bod grantiau'n aml yn rhy gyfyngol, gan orfodi cynghorau i wario arian ar brosiectau nad ydynt yn bwysig yn eu hardal o bosib. Mae nifer wedi mynegi y dylid cynnwys arian grant yn y grant cymorth refeniw i roi'r hyblygrwydd y maent yn ei ddymuno i gynghorau—mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw wedi digwydd eisoes, ond fe ellir gwneud mwy—ac y dylid dyrannu'r arian hwn ar sail amlflwyddyn.

Gwyddom fod natur y model cyllido'n cael ei bennu gan gyllideb Llywodraeth Cymru, a dyna pam y caiff ei ddyrannu'n flynyddol fel sy'n digwydd gyda'r gyllideb genedlaethol. Fel ar lefel gwlad, ni all awdurdod lleol neilltuo'r adnoddau angenrheidiol yn gynaliadwy ac yn ystyrlon i ddatrys materion heb sicrwydd y bydd yr arian hwn yn parhau.

Mae angen adolygiad annibynnol o gyllid awdurdodau lleol, ac mae angen mwy o sicrwydd ar gyllideb Cymru os ydym am fuddsoddi'n gynaliadwy ac yn ystyrlon yn ein cymunedau. Edrychaf ymlaen at y ddadl hon a'r pwnc allweddol y byddwn yn ei drafod y prynhawn yma. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Heledd Fychan. Diolch yn fawr.

16:40

Rwyf wedi dethol y gwelliannau i’r cynnig, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i gynnig y gwelliant yn ffurfiol—gwelliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt un a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Cyllideb Ddrafft 2026-27 yn darparu refeniw o £7.6 biliwn i lywodraeth leol drwy'r setliad dros dro a grantiau penodol.

Yn nodi cynnig Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid yn y Senedd i sicrhau Cyllideb Derfynol, sy'n cefnogi llywodraeth leol ac yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol yng Nghymru;

b) gweithio gyda chynghorau i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl;

c) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyngor sy'n cynnig codiad treth gyngor o 5 y cant neu fwy gynnal refferendwm lleol a chael pleidlais o blaid cyn gweithredu'r codiad arfaethedig; a

d) lleihau biwrocratiaeth llywodraeth leol yng Nghymru er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies, sy'n ceisio adeiladu ar y cynnig gwreiddiol. Felly, gadewch imi ddechrau drwy amlinellu ein cefnogaeth i'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Mae'r setliad llywodraeth leol a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd yn enghraifft berffaith arall o Lafur Cymru yn gwneud cyn lleied â phosib gan ddisgwyl i gynghorau wneud gwyrthiau rywsut. Mae'n denau, mae'n afrealistig ac wedi'i ddatgysylltu'n llwyr o'r realiti dyddiol sy'n wynebu awdurdodau lleol. Efallai y bydd Ysgrifenyddion y Cabinet yn ceisio ei ddisgrifio'n 'heriol ond yn deg', ond ni all unrhyw sbin guddio'r ffaith y bydd cynghorau unwaith eto'n cael trafferth diogelu'r gwasanaethau mwyaf sylfaenol hyd yn oed.

Pan fo Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhybuddio y bydd y setliad hwn yn golygu cynnydd dramatig yn y dreth gyngor a cholli miloedd o swyddi, dylai'r Llywodraeth nodi nad awgrym cwrtais ydyw, ond cyhuddiad damniol. Daw'r rhybuddion hyn o bob cwr o Gymru, gan gynghorau o bob lliw yn wleidyddol, oll yn unedig wrth ddweud yr un peth: nid yw'r setliad hwn yn agos at fod yn ddigon. Ond mae'r Llywodraeth flinedig hon yn credu ei hanwireddau ei hun, gan esgus bod popeth yn iawn tra bod gwasanaethau cyhoeddus yn chwalu o'u cwmpas. 

Mae'r cynnig yn iawn i dynnu sylw at yr argyfwng cynyddol mewn ardaloedd gwledig. Mae cynghorau gwledig wedi wynebu costau cyflenwi uwch a thanariannu cronig ers blynyddoedd, ac mae'r setliad hwn yn eu gwthio'n agosach at yr ymyl. Rwy'n ofni ei fod yn creu risg o amddifadu cymunedau sydd eisoes yn teimlo'u bod yn cael eu hanwybyddu o wasanaethau craidd, a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru yw'r rhai a gaiff eu gorfodi i dalu'r pris uchaf am Lywodraeth Lafur nad yw'n fodlon wynebu realiti.

Mae angen mwy o ddiogelwch ar wasanaethau rheng flaen, ac mae angen gweithredu i atal biliau'r dreth gyngor rhag codi allan o reolaeth. Nid peiriannau arian parod ar gyfer methiannau'r Llywodraeth yw trigolion, ac ni ddylai cynghorau gael eu gorfodi i wneud dewisiadau amhosib oherwydd bod Llafur Cymru unwaith eto wedi methu darparu setliad cynaliadwy. Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru roi'r gorau i wthio'r baich tuag at i lawr.

Lywydd, roeddwn wedi gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb am y llanast hwn, ond gadewch inni fod yn onest, nid dyna mae sosialwyr yn ei wneud. Beio pobl eraill yn unig a wnânt, a dim ond dweud nad eu bai nhw ydyw pan ddaw'r arian i ben. Lywydd, rydym wedi clywed yr holl esgusodion hyn dro ar ôl tro o'r blaen. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud, 'Digon yw digon.' Mae angen Llywodraeth sy'n ariannu gwasanaethau lleol yn iawn, yn hytrach na gadael cynghorau i godi'r darnau.

Bydd canlyniadau'r setliad hwn i'w teimlo am flynyddoedd i ddod—[Torri ar draws.]—gyda gwasanaethau gwannach, colli swyddi ac aelwydydd unwaith eto—gadewch i mi orffen—yn gorfod delio â thalu mwy am lai. Gall y Blaid Lafur siarad sbin, taflu'r bai neu wadu popeth cymaint ag y dymunant, ond mae'r realiti'n glir yn rhybudd enbyd CLlLC ac yng nghyllideb pob cyngor ledled Cymru.

Nid wyf yma i amddiffyn y Llywodraeth Lafur, ond a ydych chi'n meddwl bod Llywodraeth y DU o dan reolaeth y Ceidwadwyr wedi ariannu cynghorau Lloegr yn deg, ac os felly, pam y bu i Birmingham fynd yn fethdalwr?

Wel, rwy'n credu gyda hynny y bydd angen i chi ofyn i gyngor Birmingham. Rwy'n credu bod y Llywodraeth Geidwadol wedi chwarae gyda'r cardiau a ddeliwyd iddi gan y weinyddiaeth flaenorol, i fod yn onest. Rwy'n gwybod ein bod ni bob amser wedi dweud hynny, ond dyna rwy'n ei gredu'n onest.

Iawn, os caf barhau, Lywydd, rwy'n falch o ddadlau dros welliannau'r Ceidwadwyr Cymreig oherwydd eu bod yn sôn yn uniongyrchol am y rhwystredigaethau a deimlir gan gynghorau a chymunedau ar ôl blynyddoedd o gamreoli, diffyg twf a diffyg atebolrwydd am gyllid llywodraeth leol yng Nghymru. Am lawer gormod o amser, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthsefyll diwygiadau ystyrlon i system y mae pawb yn gwybod ei bod yn hen ac yn annheg. Mae'r gwelliannau hyn yn cyflwyno mesurau ymarferol, mesurau synnwyr cyffredin y dylid bod wedi eu gweithredu flynyddoedd yn ôl. Mae adolygiad annibynnol nid yn unig yn ddymunol, mae'n hen bryd ei gael. Mae cynghorau ledled Cymru wedi dadlau ers tro nad yw'r setliad presennol yn adlewyrchu realiti ar lawr gwlad. Mae addewid y Llywodraeth i gadw'r fformiwla dan adolygiad wedi dod yn god am ohirio gweithredu a gwneud cyn lleied â phosib. Byddai adolygiad allanol yn rhoi hwb i'w helpu i dorri'r cylch hwnnw a darparu'r tegwch a'r tryloywder y mae awdurdodau lleol yn eu haeddu.

Rwyf wedi siarad sawl gwaith yn y Siambr hon ynglŷn â'r ffordd y mae trigolion ledled Cymru yn cael trafferth i dalu biliau treth gyngor cynyddol, ond mae'r Llywodraeth yn parhau i wthio cyfrifoldeb ar gynghorau gan wrthod ymdrechion dilys i leddfu'r baich. Mae'r gwelliant hwn yn annog cynghorau, yn briodol ddigon, i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn gyfrifol i ddiogelu trethdalwyr. Yn hytrach na dwyn o bocedi trigolion yn systematig ac yn greulon, mae'n galw am reolaeth ariannol fwy doeth a chydweithrediad go iawn. Ni ellir pwysleisio digon pa mor gywir yw hi y dylai codiadau o fwy na 5 y cant i'r dreth gyngor alw am gytundeb trigolion. Mae'r gwelliant hwn yn cyflwyno atebolrwydd democrataidd, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn amlwg wedi bod yn amharod i'w fabwysiadu dros y blynyddoedd. Os yw cyngor eisiau codi trethi 5 y cant neu fwy, dylai trigolion gael dweud eu barn yn uniongyrchol. Nid yw hyn yn radical; parch sylfaenol at bobl ac ariannu llywodraeth leol ydyw. Mae Lloegr wedi gweithredu o dan y disgwyliad hwn ers blynyddoedd, ond gyda system Cymru, caiff teuluoedd eu taro gan filiau cynyddol tra bod y Llywodraeth Lafur hon yn troi llygad dall.

Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser, felly rwy'n dod i ben. Mae'r gwelliannau ychwanegol hyn i'r cynnig yn cynnig dewis arall cydlynol, credadwy i'r duedd bresennol. Maent yn rhoi trethdalwyr yn gyntaf, yn cryfhau atebolrwydd, ac yn mynnu tryloywder sydd wedi bod ar goll ers gormod o amser. Maent yn herio Llywodraeth Cymru i wneud yn well ar gyllid llywodraeth leol ac i roi'r gorau i ddisgwyl i gynghorau a thrigolion dalu am eu methiant i weithredu. Felly, rwy'n annog yr Aelodau yma i gefnogi ein gwelliannau, sy'n ychwanegu cryfder ac atebolrwydd at y cynnig gwreiddiol. Diolch.

16:45

Rhaid i mi ddechrau trwy ddweud gwirionedd a ddylai ddychryn pob Aelod o'r Senedd hon. Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn wynebu ei hargyfwng mwyaf ers yr ail ryfel byd. Rwy'n gyn-arweinydd cyngor Caerffili ers naw mlynedd, fel y gwyddoch, ac rwy'n drist fod y cyngor yr oeddwn yn falch o'i arwain wedi cael gwared ar ddwy amgueddfa eleni, a chau 10 llyfrgell a dau bwll nofio. Yr wythnos hon, gofynnwyd i 600 o aelodau o staff ystyried gadael eu swyddi, neu fel arall bydd yn rhaid i ddiswyddiadau gorfodol ddilyn yn anochel.

Nawr, pan fyddwn yn siarad am setliad, mae'n awgrymu cytundeb, penderfyniad. Wel, beth sydd gan ein cynghorau o'u blaenau? Nid setliad. Diffyg dwfn a pheryglus ydyw. Dywedwyd wrthym fod £169 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu, ond y realiti yw mai'r ffigur sydd ei angen yn gyffredinol ar awdurdodau lleol i gynnal gwasanaethau yw £560 miliwn. Mae hyn yn gadael hafn o dros draean o biliwn o bunnoedd o ddiffyg yn y system. Ni freuddwydiais y byddai gan Gymru ei hafn fawr ei hun o ddyled, a dyna beth sy'n mynd i ddigwydd.

A beth yw canlyniad y gyfrifeg ddiofal hon? Gwyddom fod yr archwilydd cyffredinol eisoes wedi cyhoeddi rhybudd clir y gallai o leiaf ddau o'n hawdurdodau lleol gael eu gorfodi i ddatgan hysbysiad adran 114. Edrychwch, gadewch inni beidio â gwastraffu geiriau. Hysbysiad adran 114 yw sŵn awdurdod yn cyfaddef chwalfa ariannol, yr arwydd y bydd toriadau uniongyrchol a chreulon i wasanaethau statudol hanfodol yn dilyn. Mae'n fethiant i lywodraethu, ac mae'n senario brawychus i'n cymunedau. Dychmygwch gomisiynwyr, comisiynwyr sy'n edrych yn unig ar gydbwyso'r cyfrifon heb fawr o dosturi os o gwbl tuag at y gwasanaethau eu hunain.

Mae gwleidyddion yma ac yno i lywodraethu, ac mae llywodraethu'n golygu diogelu pobl. Dim ond ers ychydig wythnosau byr y bûm yma ac eisoes mae fy mewnflwch yn gorlifo o ganlyniadau dynol y penderfyniadau hyn. Edrychwch yn gyntaf ar ein dyletswyddau—dyletswyddau statudol, mewn gwirionedd—mewn addysg. Rydym yn brwydro yn erbyn costau sy'n cynyddu'n ofnadwy yn y sector, a'r rhai sy'n dioddef gyntaf yw'r mwyaf agored i niwed. Rwy'n derbyn cwyn ar ôl cwyn am blant ag anghenion dysgu ychwanegol nad ydynt yn cael y gwasanaeth llawn y maent ei angen i'r fath raddau, a hynny'n unig am fod ein hysgolion yn cael trafferth gyda chyllidebau amhosib. Pan fyddwn yn methu cyflawni ein dyletswydd o ofal i'n plant a'u datblygiad, gadewch inni fod yn glir: rydym yn gwneud cam â'n dyfodol.

Ac edrychwch ar ein dinasyddion mwyaf oedrannus a sâl. Mae ein gwasanaethau cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd darparu gwasanaeth digonol. Mae hyn yn gadael teuluoedd yn wynebu anhawster wrth ofalu am eu hanwyliaid, gan geisio cynnal yr ychydig urddas sydd ar ôl gan rai ohonynt. Mae hwn yn argyfwng moesol sy'n digwydd yn ein hysbytai ac yn ein cartrefi.

Ac yn olaf, Lywydd, rhaid imi fynd i'r afael â pharadocs pur ein polisi tai. Dadleuais yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor lle roeddwn i'n dirprwyo fod tai yn haeddu blaenoriaeth lawer mwy. Mae gennym dros 300 o gartrefi yn wag yng Nghaerffili. Maent yn wag am bron i 250 i 300 diwrnod, ac rydym yn colli incwm rhent hanfodol, ac mae cynghorau'n cael eu gorfodi i dalu ffioedd gwesty gormodol i bobl ddigartref am fod llawer o bobl yn dal i gysgu wrth ddrysau siopau a chysgodfannau bysiau. A beth yw ymateb y Llywodraeth hon i'r Ddeddf ddigartrefedd newydd? Swm bychan. Swm bychan o £2.5 miliwn, wedi'i rannu rhwng 22 awdurdod lleol. Mae'n camliwio maint yr her ym maes tai.

Bûm yn rheolwr tai yn y ddinas hon ers 25 mlynedd, ac rwy'n gwybod beth yw maint y broblem nid yn unig yn y brifddinas, ond ar draws Cymru gyfan. Mae tai'n angen sylfaenol i bob dinesydd. Nid dyma'r Gymru rydym eisiau byw ynddi. Rhaid inni roi'r gorau i'r ffocws ar gydbwyso rhifau haniaethol a dechrau blaenoriaethu bywydau dynol, urddas, yn ogystal â'n dyletswyddau statudol. Rwy'n galw ar y Gweinidog i adolygu'r setliad hwn ar unwaith ac i ddarparu'r cyllid angenrheidiol er mwyn atal y trychineb cymdeithasol ac ariannol sy'n ein hwynebu nawr. Diolch.

16:50

Rwy'n credu bod llywodraeth leol yn darparu llawer o'r gwasanaethau allweddol a ddarperir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n cytuno â barn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid fod gosod cyllideb sy'n gyllideb dreigl i bob pwrpas yn beth synhwyrol i'w wneud yn y flwyddyn olaf o dymor Senedd. Ac rydym i gyd yn gwybod os na chaiff cynnig cyllideb ei basio cyn 1 Ebrill fod adran 127 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn digwydd yn awtomatig. Bydd hyn yn rhoi awdurdod i Lywodraeth Cymru a chyrff a ariennir yn uniongyrchol wario hyd at 75 y cant o'r terfynau a gymeradwywyd yn y flwyddyn flaenorol. Os nad yw cyllideb wedi ei phasio erbyn diwedd mis Gorffennaf, ystyrir bod hyd at 95 y cant o derfynau'r flwyddyn flaenorol wedi'u hawdurdodi. Mae hyn yn cyfateb i doriad arian parod o 5 y cant mewn termau ariannol, yn ogystal â dim cynnydd ar gyfer chwyddiant.

Fel yr awgrymir ar hyn o bryd, fodd bynnag, byddai cyllideb dreigl yn golygu y byddai'n rhaid i gynghorau baratoi ar gyfer cyfuniad o gyfraddau treth gyngor uchel iawn, toriadau i wasanaethau a/neu dorri swyddi er mwyn osgoi diffygion cyllidebol sylweddol a allai niweidio ein cymuned leol. Rhaid i gyllideb dreigl ystyried y pwysau ar gyllideb awdurdodau lleol, a bod yn fwy nag ymarfer mathemategol syml.

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi derbyn tystiolaeth gan dystion am y gyfradd wahaniaethol lle bydd chwyddiant yn cael effaith ar eu cyllidebau. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar lawr y Senedd wrth gyflwyno'r gyllideb ddrafft ei fod yn arbennig o effro i amgylchiadau arbennig llywodraeth leol, oherwydd y cyfyngiadau deddfwriaethol sydd arnynt wrth osod eu cyllidebau eu hunain—yn fwy penodol, rhaid iddynt osod y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylai fod mai pwysau chwyddiant ar lywodraeth leol, nid y mynegai prisiau defnyddwyr, sy'n cynhyrchu'r cynnydd.

Mae sawl gwahanol fath o bwysau ariannol y tu allan i reolaeth llywodraeth leol yng Nghymru. Rwyf am sôn am rai ohonynt yn unig. Mae addysg yn faes gwariant mawr, a rhaid talu codiadau i gyflogau athrawon yn llawn. Mae addysg yn allweddol i godi plant allan o dlodi.

Rwy'n mynd i drafod tri phrif fath o bwysau ariannol ar draws llywodraeth leol yn fanwl. Mae'r pwysau amcangyfrifedig ar draws gwasanaethau llywodraeth leol, fel y dywedwyd o'r blaen, yn £559 miliwn. Gwasanaethau cymdeithasol yn unig yw 45 y cant o'r pwysau disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef £106 miliwn o orwariant ychwanegol. Mae darparu gofal cymdeithasol yn hanfodol i'r system iechyd a gofal allu gweithredu'n effeithiol, ac mae'n chwarae rhan allweddol yn cyflawni canlyniadau iechyd cadarnhaol. Mae buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn arwain yn uniongyrchol at leihau'r pwysau ar y GIG, drwy gadw pobl allan o'r ysbyty a helpu pobl i ddychwelyd adref ar yr adeg briodol, gan leihau oedi wrth drosglwyddo gofal. Ac os caf ddweud, mae'n fuddiol i bobl hefyd; nid yr ochr ariannol yn unig—mae'n fuddiol i bobl. Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio, ac mae pobl yn byw'n hwy gydag anghenion cymhleth a dementia. Bydd hyn, heb os, yn parhau i gynyddu'r pwysau ar wasanaethau gofal. Rhagwelir y bydd nifer yr oedolion hŷn sy'n byw gyda dementia difrifol yn dyblu erbyn 2040.

Mae cynghorau yng Nghymru yn parhau i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ond mae'r galw a'r costau cynyddol yn ei wneud yn anodd ei gynnal. Mae ffigurau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dangos bod disgwyl i wariant ar anghenion dysgu ychwanegol a chymorth blynyddoedd cynnar gynyddu tua 6 y cant yn 2026-27, sy'n gyfystyr â chynnydd o tua £46 miliwn.

Mae'r nifer uchaf erioed o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro, wrth i alw cynyddol am gymorth digartrefedd godi gwariant cynghorau dros 600 y cant dros y degawd diwethaf. Mae cynghorau unigol yn rhagweld cynnydd o hyd at 14 y cant y flwyddyn ar ADY, ac mae dros 70 y cant o'r gwariant ADY ei hun yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi dysgwyr, tra bod y gweddill yn mynd tuag at gostau trafnidiaeth.

Fe wyddom am y nifer o bobl y soniais amdanynt nawr sy'n byw mewn llety dros dro. Mae'r swm o arian a werir ar ymdrin â digartrefedd wedi neidio o £13 miliwn yn 2016-17 i £101 miliwn yn 2025-26—cynnydd sy'n llawer uwch na'r cynnydd i gyllid llywodraeth leol ac sydd wedi gorfodi cynghorau i ddargyfeirio arian o wasanaethau hanfodol eraill. Mae'r rhain yn feysydd lle nad oes gan lywodraeth leol fawr iawn o allu i leihau'r galw. Nid yw'r rhain yn benderfyniadau a wnânt ynglŷn â'r ffordd o'i wneud; dyma sy'n rhaid iddynt ei wneud. Rwyf wedi edrych ar gyllideb Cyngor Abertawe ar gyfer 2024-25 ac o'i threiglo ymlaen, wedi ystyried amcangyfrifon ar yr uchod. Amcangyfrifais fod angen cynnydd o tua 5 y cant ar gyllideb dreigl ddigyfnewid ar gyfer llywodraeth leol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â'r ffigur hwnnw, ac os na, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gynhyrchu'r cyfrifiadau manwl sydd eu hangen ar lywodraeth leol?

Mae'r cymorth arfaethedig o'r grant cynnal refeniw a'r ardrethi annomestig yn golygu y bydd cynghorau Cymru, o dan y cynigion presennol, yn cael 2.7 y cant ar gyfartaledd. Mae hynny ychydig dros hanner yr hyn sydd ei angen arnynt. Yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw bod y dreth gyngor wedi codi tra bod gwasanaethau wedi lleihau, ac mae talwyr y dreth gyngor yn ymateb mewn amryw o wahanol ffyrdd, yn amrywio rhwng dicter a dryswch. Y rheswm am hyn yw bod y dreth gyngor yn talu am lai na chwarter cyfanswm gwasanaethau'r cyngor, gyda'r gweddill yn cael ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru.

Fe wnaethom drafod y cynnydd canrannol i gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer pob awdurdod lleol, ond mae'r swm gwirioneddol y pen yn amrywio'n sylweddol. Gwyddom mai sir Fynwy sydd â'r nifer mwyaf o eiddo ym mand D ac uwch, tra bod dros hanner eiddo Blaenau Gwent ym mand A. Mae hyn yn arwain at lai o gymorth ariannol i sir Fynwy a mwy o gymorth ariannol i Flaenau Gwent. Rwy'n gwybod dau beth am y grant sy'n cael ei ddarparu. Yn gyntaf, mae'n seiliedig ar allu cyngor i godi arian o'r dreth gyngor a newid cymharol yn y boblogaeth, a gall mân newidiadau i'r fformiwla arwain at oblygiadau mawr. Newidiwyd rhan y priffyrdd o'r fformiwla ar un adeg o 52 y cant poblogaeth, 48 y cant hyd ffordd, i 50 y cant o'r naill a'r llall. Arweiniodd hynny at filiynau o bunnoedd yn cael eu symud o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig. Felly, rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa. Nid wyf am barhau, dim ond dweud bod angen setliad da ar lywodraeth leol.

16:55

Diolch am y ddadl bwysig a dyrys hon. Ond mae hi'n gyfle gwerthfawr i ni rannu pryderon y mae arweinwyr cynghorau sir yn fy rhanbarth i ac etholwyr wedi'u mynegi i fi a chyd-Aelodau ers blynyddoedd lawer. Er y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru'n cael ei daro'n galed gan y setliad arfaethedig, mae'n debygol mai cynghorau gwledig fydd yn cael eu taro yn galetaf. Rŷn ni'n gwybod bod y gost o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn llawer uwch y pen nac mewn ardaloedd trefol, a hynny oherwydd ystod o ffactorau, er enghraifft, yr angen am wasanaethau megis ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden uwch, o'i gymharu ag ardaloedd trefol; er mwyn darparu ar gyfer tiriogaeth a phoblogaeth mwy eang; y pellteroedd hirach y mae staff yn gorfod teithio; anawsterau i ddod o hyd i bobl gyda sgiliau arbenigol, a dibyniaeth oherwydd hynny ar staff o asiantaethau, sydd yn costi'n fwy; a chost gofal cymdeithasol uwch sydd ynghlwm â phoblogaeth sy'n heneiddio. Ac ar yr un pryd, mae'r gallu i godi trethi cyngor yn is mewn ardaloedd gwledig, gan fod cyfran uwch o'r boblogaeth yn bensiynwyr, fod llai o swyddi sy'n talu'r cyflogau uchaf, a'r nifer o bobl sy'n asset rich ond yn cash poor yn benodol, fel ein ffermwyr ni.

Felly, dydy'r setliad sydd o'n blaenau ni heddiw ddim yn cydnabod dim o hyn. Mae bron pob sir yng Nghymru wledig, gyda nifer ohonyn nhw yn fy rhanbarth i, yn derbyn y cynnydd canrannol isaf posibl i'w cyllidebau o 2.3 y cant—siroedd fel Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Powys, sir Benfro, Ceredigion a sir Gaerfyrddin. Ac ar adeg pan fo chwyddiant yn 3.6 y cant, mae hyn yn ostyngiad real i'w cyllidebau, a hyn oll yn dilyn cyfnod o 15 mlynedd o doriadau gan y Torïaid i wasanaethau. Ac mae'n golygu bod cynghorau erbyn hyn yn gorfod chwilota am dorri mwy posibl o wasanaethau a benthyg o gronfeydd wrth gefn, a dwi'n cofio pa mor boenus oedd hynny pan oeddwn i'n aelod o gabinet Cyngor Sir Gâr. Mae Cyngor Sir Powys, er enghraifft, wedi rhybuddio, hyd yn oed ar ôl y cynnydd hwn o 2.3 y cant i'w cyllideb, a dod o hyd i £10 miliwn mewn arbedion, eu bod nhw'n dal i wynebu diffyg o £11.8 miliwn, sy'n gyfystyr â chynnydd yn y dreth gyngor o 12 y cant. Ac fel cyd-destun, mae'r dreth gyngor ym Mhowys eisoes wedi cynyddu ar gyfartaledd o 6 y cant bob blwyddyn dros y chwe blynedd diwethaf.

Ond hoffwn i dynnu'r sylwadau yma i glo drwy gyfeirio efallai at addysg, fy mhortffolio i. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif y bydd £137 miliwn o ddiffyg yng nghyllidebau ysgolion drwy Gymru yn sgil y setliad hwn. Ac mae'r NAHT wedi rhybuddio bod arweinwyr ysgolion eisoes yn dechrau ystyried sut i wneud arbedion drwy gwtogi staff neu dorri adnoddau. A hynny ar yr union adeg pan mae gofynion uwch arnyn nhw i wella safonau mewn ysgolion a gwella darpariaeth ar gyfer y dysgwyr hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Ar adeg pan fo gofynion gwario addysg eisoes yn gorfodi cystadlu gyda chostau uwch ar gyfer gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a thai, mae pryderon dealladwy y daw arbedion ar draul addysg yn sgil y gyllideb gwbl annigonol hon.

Felly, dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar y Llywodraeth i gynyddu'r setliad fel y gall awdurdodau buddsoddi yn ein system addysg a gwasanaethau hanfodol eraill. Diolch.

17:00

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld Plaid Cymru yn gwneud cynnig realistig i sicrhau setliad da i lywodraeth leol. Nid yn unig fod awdurdodau lleol yn gorfod sicrhau arian i ddarparu gwasanaethau hanfodol, ond o'u cyfuno â byrddau iechyd lleol, maent yn darparu 40 y cant o'r gyflogaeth leol mewn unrhyw ardal.

Ac rydym wedi clywed straeon yma heddiw—ac nid straeon ydynt, ond y gwirionedd—am swyddogaethau anstatudol, fel llyfrgelloedd, pyllau nofio ac ati, yn dod o dan bwysau enfawr ac yn diflannu o'n cymunedau. Ac rwyf am ganolbwyntio ar y ddau beth hynny—a gwn fod llawer o bethau eraill—gan mai llyfrgelloedd yw asgwrn cefn dysgu i bobl na allant fforddio mynediad at lyfrau eu hunain, mynediad at gyfrifiaduron hefyd, ynghyd â'r holl brofiad o fod yn rhan o system addysg, ac efallai weithiau nad yn yr ysgol y ceir rhai o'r profiadau hynny. Felly, mae eu swyddogaethau'n llawer ehangach na'r hyn a welwn ar yr olwg gyntaf. Rwy'n cofio'r tro cyntaf imi fynd i lyfrgell, ac roeddwn yn syfrdan fy mod yn cael dewis—ni allwn gredu'r peth—unrhyw lyfr a ddymunwn, mynd ag ef adref a dod yn ôl ag ef ar ôl ei ddarllen a chymryd un arall. Felly, mae angen inni feithrin y dysgu hwnnw mewn pobl ifanc, ac rwy'n siŵr y byddant hwythau hefyd yn teimlo'r un wefr. Oherwydd, fel y dywedais, nid copi caled yn unig sy'n cael ei gynnig bellach.

Yn sicr, nid wyf am wrando ar unrhyw bregethu gan y Torïaid am gyllidebau llai. Blwyddyn ar ôl blwyddyn o gyni a dim un gair ganddynt, dim gair ganddynt i ddweud ei fod yn anghywir. Ac ni chredaf y bydd unrhyw un o'r pleidleiswyr yn cael eu twyllo gan hynny chwaith, gan ei bod yn ddadl gwbl ffuantus erbyn hyn.

Ond mae cynghorau o dan bwysau, yn enwedig cynghorau gwledig, ac rwy'n gwasanaethu ardal wledig; maent o dan bwysau. Gwyddom fod cyllid gwaelodol ar gael, ond unwaith eto, rwy'n gobeithio y bydd Plaid Cymru, a'r Torïaid efallai hyd yn oed, yn sylweddoli bod yn rhaid i'r setliad fod ychydig yn wahanol. Ac rwyf wedi clywed yr angerdd a fynegwyd yma heddiw, ac rwy'n ei groesawu. Buaswn wedi'i groesawu y llynedd hefyd pe baech chi wedi pleidleisio dros y gyllideb, ond ni wnaethoch, felly—. Rwy'n gobeithio na fydd y sefyllfa honno'n cael ei hailadrodd eleni.

Ac mae'n ffaith, oherwydd ni ellir cyflawni'r holl bethau sy'n bwysig i ni—ac maent yn hynod o bwysig i ni; nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglŷn â diffuantrwydd pobl—os na allwn gytuno ar gyllideb. A gwyddom nad yw'r gyllideb dreigl hon yn ddigon—fi fyddai'r cyntaf i ddweud hynny, ac rwyf wedi'i ddweud cyn heddiw—felly mae angen inni ei chynyddu, ond mae angen i bobl eraill ddod gyda ni, a byddaf yn croesawu'r hyn y gobeithiaf ei weld yn digwydd, ac mai felly y bydd.

17:05

Mae ein cynnig heddiw'n sôn am realiti y mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ei ddeall yn rhy dda. Nid yw'r setliad llywodraeth leol dros dro fel y mae ar hyn o bryd yn ddigon da ar gyfer yr heriau sy'n wynebu ein cynghorau, ac nid oes unman lle mae hynny'n fwy amlwg nag mewn gofal cymdeithasol oedolion a phlant. Y mis diwethaf, buom yn trafod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae yn cefnogi rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Fe wnaethom gydnabod bryd hynny mai cynghorau, ddydd ar ôl dydd, yw'r glud sy'n dal ein system iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd. Ond os bydd yr argyfwng yn y system honno'n gwaethygu, bydd yna effaith ddinistriol ar ofal cymdeithasol, ar deuluoedd, ar ofalwyr di-dâl, ac yn y pen draw, ar y GIG ei hun. Nid fy rhybudd i yn unig yw hyn. Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd grŵp Llafur CLlLC, yn blaen:

'Mae costau gofal cymdeithasol, digartrefedd, addysg a gweithlu yn parhau i godi’n gyflymach nag y gall adnoddau gadw i fyny. Bydd angen i gynghorau wneud dewisiadau anodd o hyd, ac mae hynny’n parhau i fod yn bryder.'

Gadewch inni fod yn onest yma. Yr iaith wleidyddol yw 'dewisiadau anodd', ond gŵyr pawb yn y Siambr hon mai geiriau teg yw'r rhain am doriadau a chynnydd i filiau'r dreth gyngor. Mae'n golygu diswyddiadau, ac mae'n golygu mwy o bwysau ar yr union wasanaethau yr honnwn eu bod yn bwysig i ni.

Ni allwn anwybyddu maint y pwysau ariannol: mae 36 y cant o'r holl bwysau ar awdurdodau lleol yn dod yn uniongyrchol o ofal cymdeithasol. Disgwylir mai ar ofal cymdeithasol yn unig y bydd bron 40 y cant o orwariant cynghorau Cymru—bron £70 miliwn. Pan fo bron 40 y cant o'r holl straen ariannol yn dod o un sector, dylai fod yn gwbl glir y bydd setliad annigonol yn cael effaith ddifrifol ar allu awdurdodau lleol i gefnogi pobl a'u cadw'n ddiogel ac yn iach.

Ni allwn gladdu ein pennau yn y tywod. Mae'r pwysau'n aruthrol. Allan o boblogaeth o ychydig dros 3 miliwn o bobl, mae mwy na 0.5 miliwn yn ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am anwyliaid, gan arbed dros £10 biliwn y flwyddyn i'r genedl, ond 6 y cant yn unig a gafodd asesiad o'u hanghenion yn 2024. Dychmygwch ddibynnu ar system sydd o dan gymaint o bwysau fel bod hyd yn oed nodi eich anghenion yn dod yn foethusrwydd. Ar yr un pryd, mae'r gweithlu gofal cymdeithasol cyflogedig yn dioddef cyflogau isel, amodau gwaith gwael a throsiant uchel, gyda dros 5,300 o swyddi gwag.

Ond nid yw'n dod i ben gyda gwasanaethau a reolir gan awdurdodau lleol: mae cynghorau hefyd yn comisiynu cyrff allanol hanfodol i ddarparu cymorth rheng flaen, sefydliadau sydd bellach dan fygythiad difrifol. Cymerwch Anheddau, sydd wedi bod yn darparu cymorth hanfodol i bobl ag anableddau dysgu allu byw'n annibynnol ers 35 mlynedd. Maent yn cael eu hariannu'n llwyr drwy gomisiynau llywodraeth leol, ac eto mae'r straen ariannol arnynt eisoes wedi arwain at golli swyddi, rhewi swyddi a nifer cynyddol o swyddi gwag. Cawsant eu taro'n anhygoel o galed gan gynnydd Llywodraeth Lafur y DU i yswiriant gwladol: bron £1 filiwn o gostau ychwanegol i'r gyflogres. Ac er eu bod wedi gwrthod cyfaddawdu ar hyfforddiant gan nad yw darparu cymorth medrus, diogel, o ansawdd uchel yn agored i negodi, cânt eu cosbi am yr ymrwymiad hwnnw.

Ac yna mae gennym y cylch cyllidebol hwyr. Y llynedd, ni chyrhaeddodd eu cytundeb cyllido tan fis Medi. Dychmygwch redeg hanner blwyddyn ariannol heb sicrwydd, heb eglurder, heb sefydlogrwydd, ond yn gyfrifol am rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Nid dyma'r ffordd i redeg gwasanaethau hanfodol, ac yn sicr, nid yw'n ffordd o ddiogelu'r bobl sy'n dibynnu arnynt. Oherwydd yn y pen draw, Lywydd, y bobl fregus hyn fydd yn dioddef os nad yw cyllideb Cymru'n iawn. Ni chaiff cymdeithas ei mesur yn ôl ei rhethreg, ond yn ôl sut y mae'n trin ei phobl fwyaf agored i niwed. Ac ar hyn o bryd, rydym mewn perygl o fethu cyrraedd y safon honno.

Mae'r Llywodraeth yn aml yn sôn am awdurdodau lleol fel eu partneriaid cyflawni, ond mae'n rhaid cael modd o gyflawni i gyd-fynd â phartneriaeth. Mae disgwyliadau wedi codi, mae cyfrifoldebau statudol wedi ehangu, ond nid yw'r cymorth ariannol wedi dilyn. Ni allwch barhau i ofyn i gynghorau wneud mwy gyda llai a mynegi syndod pan fydd gwasanaethau'n dechrau methu. Felly, rwy'n annog pawb i wrando ar rybuddion CLlLC, y darparwyr, y gofalwyr, y teuluoedd a staff rheng flaen. Rhowch y dulliau gweithredu i lywodraeth leol sefydlogi gofal cymdeithasol. Oherwydd heb setliad cynaliadwy, bydd y canlyniadau'n cael eu teimlo, nid yn unig yng nghyllidebau cynghorau, ond ym mywydau pobl. Diolch.

17:10

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma gydag un frawddeg i roi'r setliad llywodraeth leol dros dro yng nghyd-destun y tymor hwn. Yn nhair o'r pedair blynedd diwethaf, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld eu cyllidebau'n cynyddu 4.5 y cant, 7.9 y cant, a 9.4 y cant. Nawr, ni chredaf fod y codiadau sylweddol hynny i gyllid blynyddol yn syndod, oherwydd mewn cymaint o ffyrdd, mae hanes datganoli wedi'i siapio gan etifeddiaeth llywodraeth leol y Senedd hon.

Dymor ar ôl tymor, mae Aelodau’r Senedd wedi deillio, mewn niferoedd mawr, o blith y rhai a gychwynnodd eu gyrfaoedd gwleidyddol mewn awdurdodau lleol. Mae’r rhai ohonom sy’n cofio tymor cyntaf y Cynulliad yn cofio dylanwad arweinwyr awdurdodau lleol yma yn y Siambr hon. Pauline Jarman, Tom Middlehurst a Sue Essex—un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ei hoes—yn ogystal â chynifer o rai eraill: Mike German, Jenny Randerson, Peter Black, Rosemary Butler, Jane Hutt, Jane Davidson. Mae hanes datganoli a’r Senedd hon wedi’i siapio gan bobl sydd wedi dechrau eu gyrfaoedd gwleidyddol mewn llywodraeth leol, ac sydd wedi dod â'r holl brofiad hwnnw i’n dadleuon.

Nid oes gennyf amser i sôn am bob un o dymhorau'r Senedd ers hynny, ond os symudwn ymlaen yn gyflym i'r Siambr hon a'r tymor hwn, rydym ni unwaith eto'n elwa o gyfraniadau cyn-uwch aelodau o awdurdodau lleol. Rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf inni gael arweinydd ym mhob grŵp yma o awdurdod lleol: Sam Rowlands a Peter Fox, Mike Hedges, Lindsay Whittle a ffigurau blaenllaw eraill, yn cynnwys Siân Gwenllian, Carolyn Thomas a Cefin Campbell.

Pwynt y rhagarweiniad hwn, Lywydd, yw dangos y dylanwad y mae profiad o lywodraeth leol bob amser wedi'i gael ar ein trafodion. Profiad cronnol sydd wrth wraidd y ffyrdd cwbl wahanol y mae awdurdodau lleol wedi ffynnu yma yng Nghymru o gymharu â thros y ffin yn Lloegr yn oes datganoli.

Lywydd, nid wyf am allu ymateb i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Dechreuodd Joel James drwy ddweud bod pethau wedi'u datgysylltu'n llwyr o'r realiti dyddiol, cyn mynd ymlaen i brofi'r gosodiad y dechreuodd gydag ef.

Tynnodd Mike Hedges sylw at gymhlethdod y setliad llywodraeth leol a'r nifer o ffactorau y mae'n rhaid i chi eu hystyried. Ac er bod y Llywodraeth wedi cynnig ein gwelliant ein hunain i'r ddadl heddiw, rwy'n cydnabod ar y dechrau, fel y gwnaeth Joyce Watson yn ei chyfraniad, yr uchelgais a rennir ar draws y Siambr hon i gefnogi ein hawdurdodau lleol, hyd yn oed pan fydd gennym ryseitiau gwahanol ar gyfer troi'r uchelgais honno'n gamau ymarferol.

Yn wir, Lywydd, dyna pam y cydnabûm, o'r diwrnod cyntaf y trafodwyd ymagwedd y Llywodraeth hon at y gyllideb ddrafft, y cyfyngiadau deddfwriaethol unigryw y mae ein hawdurdodau lleol yn eu hwynebu. Yn fy nghyfarfodydd niferus gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac CLlLC, rydym wedi gweithio i ddod o hyd i ffyrdd o liniaru effaith cyllideb ailddatganedig, hyd yn oed os mai dyna'r cyfan y llwyddasom i gytuno yn ei gylch. Mae'r ymgynghori'n parhau ar syniadau fel defnydd mwy hyblyg o dderbyniadau cyfalaf at ddibenion refeniw; y ddarpariaeth o fesurau lliniaru statudol, fel y'i defnyddiwyd yn Lloegr dros nifer o flynyddoedd; a newidiadau i isafswm y ddarpariaeth refeniw sydd ei angen i wasanaethu dyled awdurdodau lleol.

Ond wrth gwrs, y ffordd orau o ddarparu gwell setliad i'n hawdurdodau lleol yw pasio cyllideb derfynol sy'n defnyddio'r symiau sydd ar gael i'r Senedd hon ac sydd heb eu dyrannu ar hyn o bryd. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, ac roeddwn yn ddiolchgar hefyd am fy nghyfarfodydd ddoe gyda llefarwyr cyllid o bob rhan o'r Siambr. Rwy'n parhau i fod yn obeithiol y gellir cytuno ar lwybr a fydd yn caniatáu i'r Siambr hon basio'r gyllideb derfynol fwy uchelgeisiol honno y mae Llywodraeth Cymru wedi gobeithio ei gweld o'r cychwyn cyntaf.

Mae'r achos dros wneud hynny yn glir iawn, Lywydd. Am beth y bydd datganoli'n cael ei gofio ym mywydau ein cyd-ddinasyddion? Am beth fydd y chweched Senedd hon yn cael ei chofio wedi i'n holl ddadleuon ddod i ben? Fy ateb i yw'r pethau hynny sydd wedi'u cyflawni ym mhob tymor pan fydd grymoedd blaengar wedi dod ynghyd i wneud gwahaniaeth: mynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau a theithio am ddim ar fysiau i rai dros 60 oed yn y tymor cyntaf; brecwast am ddim yn ein hysgolion cynradd yn yr ail Senedd; sefydlu'r coleg cenedlaethol yn ein trydydd tymor; creu budd-dal y dreth gyngor a'r gronfa cymorth dewisol yn y bedwaredd Senedd; yr unig gynllun cenedlaethol i drechu llwgu yn ystod y gwyliau a ariennir yn gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yn y pumed tymor; ac yn y chweched Senedd, popeth a gyflawnwyd gennym i ymateb i nifer yr ail gartrefi, dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a'r degau o filiynau o brydau ysgol am ddim sydd wedi cael eu gweini i'n plant oedran cynradd.

Mae'r rhestr honno wedi'i chasglu o set lawer hirach o bolisïau nodedig a gyflwynwyd oherwydd datganoli ac oherwydd y Senedd hon. Yr hyn sy'n gyffredin rhyngddynt—tai, cynllunio, trafnidiaeth, celfyddydau, addysg a gwasanaethau gofal—yw bod pob un ohonynt yn gyflawniadau sydd wedi dibynnu ar allu ein hawdurdodau lleol i wneud iddynt ddigwydd ar lawr gwlad. Fy apêl heno yw y dylid cofio'r Senedd hon hefyd oherwydd, hyd yn oed o dan bwysau prinder cyllid, dadleuon polisi a gwahaniaethau gwleidyddol, rydym wedi dod o hyd i gyllideb y gallem gytuno arni a chyllideb sy'n cefnogi ein hawdurdodau lleol ym mhopeth a wnânt.

Y prynhawn yma, clywsom gyfraniadau pwerus yn tynnu sylw at yr holl bethau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud ar ran ein cyd-ddinasyddion. Mae arian eto i'w ddyrannu yn y gyllideb derfynol. Gadewch inni ddod ynghyd, gadewch inni ddod o hyd i ffordd i sicrhau ein bod yn defnyddio'r arian hwnnw i'r eithaf, gan mai dyna'r ateb gorau i'r anawsterau y mae cyd-Aelodau wedi'u hamlinellu y prynhawn yma.

17:15

Diolch, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl heddiw.

Rwy'n croesawu'r ffordd y mae pawb wedi ymroi i'r ddadl heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd arweinwyr awdurdodau lleol a'r rhai sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru’n cael sicrwydd heddiw ein bod yn gwrando, ein bod yn deall eu pryderon, ond hefyd ein bod yn hynod ddiolchgar am y gwaith a wnânt o ddydd i ddydd, a'r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu. Gwn fod llawer o'r rheini wedi'u rhestru heddiw, ond mae llu o rai eraill hefyd. Rydym wedi clywed am wasanaethau statudol ac anstatudol.

Yn fy ardal fy hun, pan fyddwn wedi wynebu llifogydd—gormod o weithiau i'w cyfrif—gwn mai gweithwyr awdurdodau lleol sydd wedi bod yno'n darparu cymorth, yn gwneud gwahaniaeth. Gwyddom ei bod yn heriol iawn ar hyn o bryd gyda'r hyn a welwn gyda newid hinsawdd a'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei wynebu. Rwyf eisiau diolch i bawb sy'n gweithio yn ein hawdurdodau lleol, yn ein hysgolion a phob gwasanaeth sy'n gysylltiedig.

Mabon, fe sonioch chi am wasanaethau a gomisiynir, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod heddiw yr effaith a gafodd y cynnydd i yswiriant gwladol arnynt yn uniongyrchol. Ni chredaf y cawn y darlun llawn tan y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd yn destun pryder yn y gyllideb yr wythnos diwethaf nad achubodd y Canghellor ar y cyfle i ailystyried, gan fod hyn yn cael effaith nid yn unig yma yng Nghymru, ond yn Lloegr hefyd. Mae hynny wedi bod yn glir yn ogystal. Ond mae'r gwasanaethau hyn a gomisiynir yn wirioneddol hanfodol. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ddod o hyd i ffordd o sicrhau y gallant barhau.

Un peth yr hoffwn fyfyrio arno, fodd bynnag, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi dweud yn y gyllideb ddrafft pan gafodd ei chyflwyno y byddai'n darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i'n hetholwyr. Ond fel y mae, nid yw'n darparu'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd hwnnw. Lindsay, yn eich cyfraniad, rwy'n credu bod yr hyn a ddywedoch chi am yr ymgynghoriadau hynny'n bwerus iawn—600 o swyddi yng Nghaerffili yn unig. Ac rydym wedi clywed y rhybuddion, onid ydym? Miloedd o swyddi a allai fod mewn perygl ledled Cymru. Oherwydd y blynyddoedd o gyni a welsom, fe wn am yr effaith y mae wynebu ansicrwydd cyson wedi'i chael ar staff, nifer y swyddi a gollwyd. Mae lefelau salwch yn uchel iawn mewn nifer o'n hawdurdodau lleol, yn ein hysgolion, gan fod cymaint o wasgfa ar gyllid. Bydd hyn yn ychwanegu at y straen eto. Felly, rwy'n credu bod angen inni ddod o hyd i ffordd o roi'r sicrwydd hwnnw i'n hawdurdodau lleol ac i'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, gan fod hwn yn gyfnod o ansicrwydd i staff, ac maent yn darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn, ond mae angen y sicrwydd hwnnw arnynt hwythau hefyd.

Cefin, credaf eich bod yn llygad eich lle, a Joyce hefyd, o ran yr effaith ar ein hardaloedd gwledig a pham nad yw'r setliad hwn yn deg o ran ystyried y straen sydd ar gymunedau gwledig ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn boddi mewn materion yn ymwneud â thoriadau a wnaed i awdurdodau lleol. Yn fy ardal i, mae ymgyrch Save the School Transport RCT yn canolbwyntio ar y newidiadau na wnaed o ran Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Dyna'r pethau sy'n bwysig i bobl. Hefyd ein llyfrgelloedd, ein hamgueddfeydd, ein pyllau nofio—yr holl bethau sy'n wirioneddol hanfodol. Joyce, fe nodoch chi bwysigrwydd llyfrgelloedd, ac amgueddfeydd, a phyllau nofio hefyd. Mae gwaith atal yn rhywbeth yr ydym yn sôn amdano'n aml yma. Os na all pobl gael mynediad at gyfleoedd celfyddydol neu chwaraeon, sut y gallwn ni symud yr agenda atal yn ei blaen?

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi bod yn glir iawn, nid yn unig wrth rybuddio am y ddau gyngor penodol sydd mewn perygl, ond hefyd ynglŷn â chyflawniad cynghorau lleol, a bod angen inni edrych o ddifrif ar awdurdodau lleol a'r hyn y disgwyliwn iddynt allu ei wneud gyda'r adnoddau sydd ar gael iddynt. Rwy'n gobeithio y byddwn nid yn unig yn edrych ar y gyllideb sydd o'n blaenau ac yn edrych ar ffyrdd y gallwn ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ond ein bod hefyd yn edrych y tu hwnt i hynny ar sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth go iawn ag awdurdodau lleol.

Clywsom gynifer o enghreifftiau. Mabon, fe sonioch chi am y glud sy'n dal iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd. Dyna'r glud ar gyfer cynifer o wasanaethau. Cafodd y straen ar addysg ADY ei chrybwyll hefyd. Nid yn unig—

17:20

Diolch. Rwyf wedi bod yn darllen y cynnig eto ac wedi bod yn gwrando ar bopeth a ddywedwyd, ond nid ydych chi wedi amlinellu beth fyddech yn ei wneud. Mae ein gwelliannau'n amlinellu rhai o'r materion y byddem yn ceisio mynd i'r afael â nhw er mwyn datrys materion cyllidebol, ond nid ydych chi, ar eich ochr chi, wedi dweud unrhyw beth heblaw cwyno. A oes unrhyw beth y byddech chi'n nodi y byddech yn ei wneud yn wahanol? Diolch.

Rwy'n credu ei bod yn glir iawn yno fod setliad sy'n gweithio i awdurdodau lleol, sy'n ystyried galwadau CLlLC—. Fel rydym wedi'i nodi o'r blaen, nid ydym yn cytuno â rhai o'r elfennau yn eich gwelliant, oherwydd y cyfyngiadau o ran refferendwm ac yn y blaen. Rydym wedi cael y dadleuon hynny o'r blaen. Ond os ydych chi'n credu bod gennych atebion yma, mae arnaf ofn eich bod yn anghywir ar y rheini. [Torri ar draws.] Mike.

Fel y gwyddoch, pan oeddwn yn siarad, dywedais fy mod yn credu bod angen cynnydd o 5 y cant ar lywodraeth leol er mwyn aros yn ddigyfnewid. A yw eich cyfrif chi'n uwch neu'n is na hynny?

Pam na wnaethoch chi ymyriad mewn perthynas â hynny pan oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn siarad? Rwy'n credu y gallai fod wedi darparu setliad gwell, ond dewisodd beidio, felly gadewch inni fod yn glir yma.

Rydym wedi dod o hyd i undod heddiw ar gyfer chwilio am ffordd ymlaen. Credaf fod pawb wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid pasio cyllideb. Rydym hefyd wedi clywed yn glir iawn ar draws y pleidiau gwleidyddol nad yw'r gyllideb fel y mae yn ddigonol ar gyfer awdurdodau lleol ac ar gyfer ein gwasanaethau lleol, felly mae angen inni ddod o hyd i ffordd ymlaen. Rwy'n gobeithio bod ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol wedi clywed y neges honno heddiw. Ein cyfrifoldeb ni nawr yw mabwysiadu ymagwedd aeddfed at y gyllideb hon a sicrhau ein bod yn darparu sefydlogrwydd i wasanaethau lleol.

Mae'n hanfodol fod pob un ohonom, gyda'n gilydd, yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael gwell cefnogaeth i gymunedau, gweithwyr cyngor a thrigolion. Mae'r pwysau ariannol cynyddol yn anodd iawn, a'n trigolion mwyaf bregus fydd yn dioddef. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn gytuno gyda'n gilydd ar gynnig Plaid Cymru fel y'i cyflwynwyd, ac yn fwy na dim, y gallwn ddod o hyd i ffordd ymlaen i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a darparu'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd y mae cymaint o'u hangen arnynt.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio'r pleidleisiau ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch, mi awn ni'n syth i'r bleidlais gyntaf.

8. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, dadl Plaid Cymru ar setliad llywodraeth leol dros dro. Mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 12, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Awn ni ymlaen i welliant 1. Dwi'n galw am bleidlais nawr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly byddaf yn defnyddio fy mhleidlais yn erbyn y gwelliant. Mae'r gwelliant yn cwympo, gyda 22 o blaid y gwelliant, 23 yn erbyn y gwelliant, a neb yn ymatal.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 22, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Mae'r gwelliant yna hefyd yn cwympo.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.: O blaid: 10, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, mae'r gwelliannau a'r cynnig wedi cwympo a dim byd wedi ei dderbyn.

Dyna ddiwedd y pleidleisio, diwedd ein gwaith ni y prynhawn yma, a diwedd y cyfarfod.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:27.