Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/11/2025

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd Statement by the Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2. Business Statement and Announcement
3. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig: Storm Claudia 3. Statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs: Storm Claudia
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Deallusrwydd Artiffisial yng Nghymru 4. Statement by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning: AI in Wales
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cartrefi Fforddiadwy 5. Statement by the Cabinet Secretary for Housing and Local Government: Affordable Housing
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Canlyniad yr Adolygiad Mewnol o Gymorth Busnes 6. Statement by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning: Outcome of the Internal Business Support Review
7. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Dysgu a Sgiliau yn y Carchar 7. Statement by the Minister for Further and Higher Education: Learning and Skills in Prison
8. Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 8. The Health Impact Assessment (Wales) Regulations 2025
9. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) (Rhif 2) 2025 9. The Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (Wales) (No. 2) Regulations 2025
10. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) (Rhif 3) 2025 10. The Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (Wales) (No. 3) Regulations 2025
11. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd y Gymraeg 11. Debate: The Welsh Language Commissioner’s Annual Report 2024-25

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

Datganiad gan y Llywydd
Statement by the Llywydd

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i mi alw ar y Prif Weinidog i ateb y cwestiynau, ar ein rhan ni i gyd fel Senedd, dwi eisiau cydymdeimlo gyda chi, Brif Weinidog, a'ch teulu, ar eich profedigaeth drist yn ddiweddar. 

Good afternoon and welcome to today's Plenary meeting. Before I call on the First Minister to answer questions, on behalf of us all as a Senedd, I extend our condolences to you, First Minister, and to your family, on your sad loss recently. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Yr eitem gyntaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Mike Hedges. 

The first item, therefore, will be questions to the First Minister, and the first question this afternoon is from Mike Hedges. 

Y Sector Cydweithredol
The Co-operative Sector

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r sector cydweithredol? OQ63419

1. What is the Welsh Government doing to develop the co-operative sector? OQ63419

We're not just supporting and developing co-operatives, the Welsh Labour Government is championing them, because we know they work. Wales now has 533 co-ops, and that number is growing. Co-operatives keep wealth local, create decent jobs and put communities in control. Through Social Business Wales, we're providing specialist advice and funding to help new co-ops start up and existing ones to scale up. 

Nid cefnogi a datblygu mentrau cydweithredol yn unig ydym ni, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu hyrwyddo, gan ein bod ni'n gwybod eu bod nhw'n gweithio. Mae gan Gymru 533 o fentrau cydweithredol erbyn hyn, ac mae'r nifer honno yn tyfu. Mae mentrau cydweithredol yn cadw cyfoeth yn lleol, yn creu swyddi gwerth chweil ac yn rhoi cymunedau mewn rheolaeth. Trwy Busnes Cymdeithasol Cymru, rydym ni'n darparu cyngor arbenigol a chyllid i helpu cwmnïau cydweithredol newydd i sefydlu a rhai sydd eisoes yn bodoli i ehangu. 

Can I thank the First Minister for that response, and can I declare that I'm a member of the Co-operative Party? I'm an enthusiastic advocate for co-operative housing. In most of Europe and North America, housing co-operatives are a common form of housing provision. Despite some Government support, and the involvement of Cwmpas, Wales is still not building co-operative housing at the scale that it's happening in the rest of Europe and North America. Will the First Minister support that, when teaching entrepreneurship in schools and colleges, the promotion of the co-op model, as one of the entrepreneurship models, is one that is promoted, and for this to then be followed by support for co-operatives and mutual investment start-ups in Wales?

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna, ac a gaf i ddatgan fy mod i'n aelod o'r Blaid Gydweithredol? Rwy'n eiriolwr brwdfrydig dros dai cydweithredol. Yn y rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd America, mae mentrau tai cydweithredol yn ffurf gyffredin o ddarpariaeth tai. Er gwaethaf rhywfaint o gefnogaeth gan y Llywodraeth, a chyfranogiad Cwmpas, nid yw Cymru yn adeiladu tai cydweithredol ar y raddfa y mae'n digwydd yng ngweddill Ewrop ac yng Ngogledd America o hyd. A wnaiff y Prif Weinidog gefnogi, wrth addysgu entrepreneuriaeth mewn ysgolion a cholegau, bod hyrwyddo'r model cydweithredol, fel un o'r modelau entrepreneuriaeth, yn un sy'n cael ei hyrwyddo, ac i hyn gael ei ddilyn wedyn gan gefnogaeth i fentrau cydweithredol a busnesau buddsoddi cydfuddiannol newydd sbon yng Nghymru?

Diolch yn fawr, Mike. As you know, Social Business Wales provides comprehensive advice to support co-operatives and social enterprise, and we also have Cwmpas, of course, which is Wales's leading co-operative agency. Certainly, one of the things that they've done is that they are working with about 50 groups, and they have over 300 homes in the pipeline. Could they do more? There's always room to do more. So, certainly, I know that Dream Homes in Swansea is an example of that co-operative model being used. 

You asked about schools. The Big Ideas Wales programme helps make sure that young people in schools develop enterprise skills, and that is being done in classrooms across our country. So, that's showing them how co-ops and social enterprises can be a real career, not just a lesson. 

Diolch yn fawr, Mike. Fel y gwyddoch chi, mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu cyngor cynhwysfawr i gynorthwyo cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol, ac mae gennym ni Cwmpas hefyd, wrth gwrs, sef prif asiantaeth mentrau cydweithredol Cymru. Yn sicr, un o'r pethau y maen nhw wedi ei wneud yw y maen nhw'n gweithio gyda thua 50 o grwpiau, ac mae ganddyn nhw dros 300 o gartrefi ar y ffordd. A allen nhw wneud mwy? Mae lle i wneud mwy bob amser. Felly, yn sicr, rwy'n gwybod bod Dream Homes yn Abertawe yn enghraifft o'r model cydweithredol hwnnw yn cael ei ddefnyddio. 

Fe wnaethoch chi ofyn am ysgolion. Mae rhaglen Syniadau Mawr Cymru yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl ifanc mewn ysgolion yn datblygu sgiliau menter, ac mae hynny'n cael ei wneud mewn ystafelloedd dosbarth ledled ein gwlad. Felly, mae hynny'n dangos iddyn nhw sut y gall mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol fod yn yrfa wirioneddol, ac nid gwers yn unig. 

First Minister, sadly, the biggest barrier to social enterprise in Wales remains the Chancellor of the Exchequer. Next week, we have Rachel Reeves's latest budget, which is likely to be as anti-business as her last one. These decisions impact social enterprises as much as they do companies limited by guarantee. First Minister, how can we possibly hope to encourage more employee-owned companies when we have such a hostile taxation regime? What discussions have you had with the UK Treasury about reducing the burden on co-operatives, as well as traditional businesses?

Prif Weinidog, yn anffodus, y rhwystr mwyaf i fentrau cymdeithasol yng Nghymru o hyd yw Canghellor y Trysorlys. Yr wythnos nesaf, mae gennym ni gyllideb ddiweddaraf Rachel Reeves, sy'n debygol o fod mor wrth-fusnes â'i un diwethaf. Mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio ar fentrau cymdeithasol cymaint ag y maen nhw'n effeithio ar gwmnïau cyfyngedig trwy warant. Prif Weinidog, sut yn y byd allwn ni obeithio annog mwy o gwmnïau sy'n eiddo i weithwyr pan fo gennym ni drefn drethiant mor elyniaethus? Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Thrysorlys y DU ynglŷn â lleihau'r baich ar gwmnïau cydweithredol, yn ogystal â busnesau traddodiadol?

Thanks very much. Altaf, you'll understand if I won't take any lessons from a Tory on how to run an economy, and certainly when it comes to a budget. We all remember Liz Truss's particular budget, and we are still paying the price for that today. When it comes to what we're doing in Wales, I think it's probably worth emphasising that we doubled employee-owned businesses this Senedd term. That is a proud record, and we are also very proud of the fact that we established, in 2022, the Perthyn project, and that was to provide local, early stage support to Welsh-speaking communities in north and west Wales. And now that that has been expanded beyond that, that's something I'm particularly proud of. Last month, we had the latest round of the £400,000 Perthyn grants, and, as I say, that's now been opened up to the whole of Wales. And that has already helped 65 community groups in Wales, holding people in their own communities, making sure that it's their communities who are benefiting from that growth and enterprise.

Diolch yn fawr iawn. Altaf, fe wnewch chi ddeall os na wnaf i gymryd unrhyw wersi gan Dori ar sut i redeg economi, ac yn sicr pan ddaw i gyllideb. Rydym ni i gyd yn cofio cyllideb benodol Liz Truss, ac rydym ni'n dal i dalu'r pris am honno heddiw. O ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru, rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth pwysleisio ein bod ni wedi dyblu busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn ystod tymor y Senedd hon. Mae honno'n record anrhydeddus, ac rydym ni hefyd yn falch iawn o'r ffaith ein bod ni wedi sefydlu prosiect Perthyn yn 2022, ac roedd hwnnw i ddarparu cymorth lleol, cam cynnar i gymunedau Cymraeg eu hiaith yn y gogledd a'r gorllewin. A nawr bod hynny wedi cael ei ehangu y tu hwnt i hynny, mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n arbennig o falch ohono. Fis diwethaf, cawsom ni'r rownd ddiweddaraf o grantiau gwerth £400,000 Perthyn, ac, fel y dywedais, mae hwnnw bellach ar gael i Gymru gyfan. Ac mae hynny eisoes wedi helpu 65 o grwpiau cymunedol yng Nghymru, gan gadw pobl yn eu cymunedau eu hunain, gan wneud yn siŵr mai eu cymunedau nhw sy'n elwa ar y twf hwnnw a'r fenter honno.

Education is going to be a key part of the future of the co-operative movement in the UK. And we also need to move away from this idea that this is a completely different way of doing business. It's just another way of doing business. It's still a private entity that still needs to make profit. But what I want to pick up on is something that the First Minister said in her answer to Mike Hedges, around scaling up co-operatives. We really need to evolve our thinking now around co-operatives and social enterprises, going beyond simply just wanting to see more of them and doubling the size of the sector. The scaling-up piece really needs to be a priority for the Government, so that we have co-operatives that aren't simply just employing 10 or 20 people, but actually are employing thousands of people. So, what I would like to get an understanding from the First Minister on is whether or not it is a priority for her to simply increase the number or to do that scale-up piece. The reality is the capacity within the sector at the moment can't do both. Which one would be a priority for the First Minister: scaling up or just simply increasing the number?

Mae addysg yn mynd i fod yn rhan allweddol o ddyfodol y mudiad cydweithredol yn y DU. Ac mae angen i ni hefyd symud oddi wrth y syniad hwn bod hon yn ffordd hollol wahanol o gyflawni busnes. Dim ond ffordd arall o gyflawni busnes yw hi. Mae'n dal yn endid preifat y mae angen iddo wneud elw o hyd. Ond yr hyn yr wyf i eisiau ei godi yw rhywbeth a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei hateb i Mike Hedges, ynglŷn â chynyddu graddfa mentrau cydweithredol. Mae gwir angen i ni esblygu ein syniadau nawr ynghylch cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol, gan fynd y tu hwnt i ddim ond eisiau gweld mwy ohonyn nhw a dyblu maint y sector. Mae gir angen i'r agwedd cynyddu graddfa fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, fel bod gennym ni fentrau cydweithredol nad ydyn nhw'n cyflogi 10 neu 20 o bobl yn unig, ond mewn gwirionedd yn cyflogi miloedd o bobl. Felly, yr hyn yr hoffwn i gael dealltwriaeth gan y Prif Weinidog amdano yw pa un a yw'n flaenoriaeth iddi gynyddu'r nifer yn unig, neu i gyflawni'r agwedd cynyddu graddfa honno. Y gwir amdani yw na all y capasiti o fewn y sector ar hyn o bryd wneud y ddau. Pa un fyddai'n flaenoriaeth i'r Prif Weinidog: cynyddu'r raddfa neu gynyddu'r nifer yn unig?

13:35

I think we've got to do both, and Cwmpas does precisely that. It not just encourages people and gives advice to organisations on how to develop this particular model, but also on scaling up what already exists. So, I think we have to make sure that that is still a focus. The fact is that we have seen a 13 per cent increase when it comes to social businesses in Wales, compared to 2022. I think that's a proud record. Do I want to go further? I always want to go further. I'm very proud of the fact that I've recently joined the Co-operative Party. It took me a while—I don't know why it's taken me quite so long, but I'm there now. [Laughter.]

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud y ddau, ac mae Cwmpas yn gwneud yn union hynny. Nid yn unig y mae'n annog pobl ac yn rhoi cyngor i sefydliadau ar sut i ddatblygu'r model penodol hwn, ond hefyd ar gynyddu graddfa'r hyn sy'n bodoli eisoes. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod hynny'n dal i fod yn bwyslais. Y gwir amdani yw ein bod ni wedi gweld cynnydd o 13 y cant o ran busnesau cymdeithasol yng Nghymru, o'i gymharu â 2022. Rwy'n credu bod honno'n record anrhydeddus. A ydw i eisiau mynd ymhellach? Rwyf i bob amser eisiau mynd ymhellach. Rwy'n falch iawn o'r ffaith fy mod i wedi ymuno â'r Blaid Gydweithredol yn ddiweddar. Cymerodd ychydig o amser i mi—wn i ddim pam mae wedi cymryd cyhyd i mi, ond rwyf i yno nawr. [Chwerthin.]

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro
Health Services in Preseli Pembrokeshire

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63409

2. What is the Welsh Government doing to improve the delivery of health services in Preseli Pembrokeshire? OQ63409

Health workers in Pembrokeshire are working flat out to make sure they try and meet the massive demand that exists. I understand that there are always frustrations, and there's room for improvement, and there's a long way to go. But, the good news is that waiting times are coming down. In Hywel Dda health board, we've seen a 95 per cent drop in people waiting over 52 weeks for out-patient appointments, and an 89 per cent reduction in waits over 104 weeks. What that means is thousands more people getting care faster. But, let me be clear: the job is not done. That's why we've given Hywel Dda an extra £8 million this year, specifically to drive down waiting times.

Mae gweithwyr iechyd yn sir Benfro yn gweithio mor galed ag y gallan nhw i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ceisio bodloni'r galw enfawr sy'n bodoli. Rwy'n deall bod yna rwystredigaethau bob amser, ac mae lle i wella, ac mae ffordd bell i fynd. Ond, y newyddion da yw bod amseroedd aros yn lleihau. Ym mwrdd iechyd Hywel Dda, rydym ni wedi gweld gostyngiad o 95 y cant yn nifer y bobl sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiadau cleifion allanol, a gostyngiad o 89 y cant yn yr arosiadau dros 104 wythnos. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw miloedd yn fwy o bobl yn cael gofal yn gyflymach. Ond, gadewch i mi fod yn eglur: nid yw'r gwaith wedi'i gyflawni. Dyna pam rydym ni wedi rhoi £8 miliwn ychwanegol i Hywel Dda eleni, yn benodol i leihau amseroedd aros.

First Minister, as you are aware, Hywel Dda University Health Board held a public consultation over the summer regarding its plans for clinical services within the health board area. Throughout the process, I have made it clear that I do not support any proposals that result in the removal of services from Withybush hospital. I'm particularly concerned about the potential impact of some of the proposals, such as the possible removal of the intensive care unit and emergency general surgery services. I firmly believe that the people of Pembrokeshire should not have to travel further to access essential healthcare services. My constituents have made it very clear that they oppose the health board's continued downgrading and centralisation of services. Now, First Minister, you also represent the people of Pembrokeshire, and I therefore urge you to oppose any plans that would take services away from the people that we represent. So, can you tell us what discussions you've had with Hywel Dda University Health Board about its clinical services plan, and what reassurances can you offer the people of Pembrokeshire that they will not have to travel further for essential services in the future?

Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf ar ei gynlluniau ar gyfer gwasanaethau clinigol yn ardal y bwrdd iechyd. Rwyf i wedi ei gwneud yn eglur trwy gydol y broses nad wyf i'n cefnogi unrhyw gynigion sy'n arwain at gael gwared ar wasanaethau o ysbyty Llwynhelyg. Rwy'n arbennig o bryderus am effaith bosibl rhai o'r cynigion, fel cael gwared o bosibl ar yr uned gofal dwys a gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol brys. Rwy'n credu'n gryf na ddylai fod yn rhaid i bobl sir Benfro deithio ymhellach i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol. Mae fy etholwyr wedi ei gwneud hi'n eglur iawn eu bod nhw'n gwrthwynebu israddio a chanoli gwasanaethau parhaus y bwrdd iechyd. Nawr, Prif Weinidog, rydych chithau hefyd yn cynrychioli pobl Sir Benfro, ac felly rwy'n eich annog chi i wrthwynebu unrhyw gynlluniau a fyddai'n cymryd gwasanaethau oddi wrth y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau rydych chi wedi eu cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ei gynllun gwasanaethau clinigol, a pha sicrwydd allwch chi ei gynnig i bobl sir Benfro na fydd yn rhaid iddyn nhw deithio ymhellach ar gyfer gwasanaethau hanfodol yn y dyfodol?

Thanks very much. I know that the health board is developing its clinical services plan. That aims to drive improvement, particularly in service fragility. We've got some services where they are utterly dependent on one particular consultant. We need to look at sustainability and quality and performance. Now, what I understand is that people feel very strongly about their local health services. I have, clearly, made representations in my capacity as a regional member to the chair of the board, but no decision has been made by Hywel Dda University Health Board about the future of identified services in its clinical services plan. I think what we must focus on is sustainability and outcomes—what are the best outcomes we can expect for the public?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn datblygu ei gynllun gwasanaethau clinigol. Nod hwnnw yw ysgogi gwelliant, yn enwedig o ran bregusrwydd gwasanaethau. Mae gennym ni rai gwasanaethau lle maen nhw'n gwbl ddibynnol ar un meddyg ymgynghorol penodol. Mae angen i ni edrych ar gynaliadwyedd ac ansawdd a pherfformiad. Nawr, yr hyn yr wyf i'n ei ddeall yw bod pobl yn teimlo'n gryf iawn am eu gwasanaethau iechyd lleol. Rwyf i wedi gwneud sylwadau yn fy swyddogaeth fel aelod rhanbarthol i gadeirydd y bwrdd, ond nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwneud unrhyw benderfyniad am ddyfodol gwasanaethau a nodwyd yn ei gynllun gwasanaethau clinigol. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno yw cynaliadwyedd a chanlyniadau—beth yw'r canlyniadau gorau y gallwn ni eu disgwyl i'r cyhoedd?

Of course, one of the important things about providing services is about getting them closer to home. So, I'd be interested to know about the shift towards care closer to home. That includes, I hope, community pathways, the pharmacy and the optometry reforms, which are all making life a lot easier, by the results that I'm having from those people who use them. Of course, in turn, that relieves the pressure on the hospitals, so that we haven't got people in the wrong place at the wrong time, because they understand what the pharmacies can do for them and the optometrists, and they've had the new contracts that we have given them money towards.

Wrth gwrs, un o'r pethau pwysig am ddarparu gwasanaethau yw eu cael nhw'n agosach at adref. Felly, byddai gen i ddiddordeb cael gwybod am y newid tuag at ofal yn agosach at adref. Mae hynny'n cynnwys, rwy'n gobeithio, llwybrau cymunedol, y diwygiadau i fferyllfeydd ac optometreg, sydd i gyd yn gwneud bywyd yn llawer haws, drwy'r canlyniadau yr wyf i'n eu cael gan y bobl hynny sy'n eu defnyddio. Wrth gwrs, yn ei dro, mae hynny yn lleddfu'r pwysau ar yr ysbytai, fel nad oes gennym ni bobl yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir, gan eu bod nhw'n deall beth all y fferyllfeydd ei wneud iddyn nhw a'r optometryddion, ac maen nhw wedi cael y contractau newydd yr ydym ni wedi rhoi arian iddyn nhw tuag atyn nhw.

13:40

Thanks, Joyce. You're absolutely right, particularly in rural areas like Pembrokeshire, that getting care close to home is not a luxury, it's a lifeline. For many older people or people who can't easily travel, a long trip to hospital can be quite tough, and that's why it's important that we make sure that there are mechanisms for people to get there, particularly those without cars.

When we're talking about community pathways, I think Hywel Dda, of all the health boards, have understood that you do need to try and provide as much community support as possible. We're doing it through pharmacies. It's amazing that 28 different conditions can be seen in our pharmacies in local communities. We've seen optometry reforms, so that you can go right into the centre of Haverfordwest, for example, and get your eyesight not just tested, but actually tested for all kinds of conditions. It is making a difference.

When I visited Withybush recently, I was shown the remote monitoring kits that they're using to support patients at home. Certainly, seeing that, for me, really brought it back to life. It's simple, it's effective, and it means that people can stay safe and well in familiar surroundings whilst being monitored by clinical experts. That's certainly the shift that I'd like to see in future.

Diolch, Joyce. Rydych chi yn llygad eich lle, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel sir Benfro, nad moethusrwydd yw cael gofal yn agos at adref, ond achubiaeth. I lawer o bobl hŷn neu bobl nad ydyn nhw'n gallu teithio yn hawdd, gall taith hir i'r ysbyty fod yn eithaf anodd, a dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod dulliau i bobl gyrraedd yno, yn enwedig y rhai heb geir.

Pan fyddwn ni'n siarad am lwybrau cymunedol, rwy'n credu bod Hywel Dda, o'r holl fyrddau iechyd, wedi deall bod angen i chi geisio darparu cymaint o gymorth cymunedol â phosibl. Rydym ni'n gwneud hynny drwy fferyllfeydd. Mae'n anhygoel bod 28 o wahanol gyflyrau yn gallu cael eu gweld yn ein fferyllfeydd mewn cymunedau lleol. Rydym ni wedi gweld diwygiadau optometreg, fel y gallwch chi fynd yn syth i ganol Hwlffordd, er enghraifft, ac nid yn unig cael prawf ar eich golwg, ond cael profion ar gyfer pob math o gyflyrau mewn gwirionedd. Mae'n gwneud gwahaniaeth.

Pan ymwelais â Llwynhelyg yn ddiweddar, dangoswyd y pecynnau monitro o bell y maen nhw'n eu defnyddio i gynorthwyo cleifion gartref. Yn sicr, fe wnaeth gweld hynny, i mi, wir ddod ag ef yn ôl yn fyw. Mae'n syml, mae'n effeithiol, ac mae'n golygu y gall pobl gadw'n ddiogel ac yn iach mewn amgylchedd cyfarwydd tra byddant yn cael eu monitro gan arbenigwyr clinigol. Dyna'n sicr y newid yr hoffwn i ei weld yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Questions now from the party leaders. The leader of the Welsh Conservatives, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. First Minister, yesterday, I visited Monmouth and I saw for myself the devastation that was wrought by storm Claudia there over the weekend. Of course, Monmouth was not the only community that was affected by flooding; there were many others that were likewise hit by those storms. I want to put on record my party's thanks to all of those who responded in the aftermath of those floods, particularly the emergency services, the local authority teams, the faith groups, the volunteers, and everybody else who rallied around to try and help those who were affected. Their efforts have been absolutely outstanding.

The scenes, of course, in Monmouth were extraordinary. Those were the ones that captured the headlines. The River Monnow overtopped the flood defences. It swept right through the centre of the town at a pace that nobody could have expected. Homes were inundated, elderly residents had to be evacuated in the middle of the night, and, of course, entire businesses were left destroyed with us being just weeks away from Christmas. I met some of those home owners, I met some of those businesses, and I met the wonderful people in places like the Methodist chapel that have been helping to respond to what happened. While those individuals are incredibly resilient, and the people of Monmouth and some of those other communities are incredibly resilient, it seems very clear to me that they need the help of the Welsh Government to get back on their feet. So, can you set out today, in clear and practical terms, what immediate support the Welsh Government will provide to those who have been affected as they begin the long and painful process of rebuilding their lives?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ymwelais â Threfynwy ddoe a gwelais drosof fy hun y dinistr a achoswyd gan storm Claudia yno dros y penwythnos. Wrth gwrs, nid Trefynwy oedd yr unig gymuned yr effeithiwyd arni gan lifogydd; roedd llawer o rai eraill a darwyd gan y stormydd hynny yn yr un modd. Hoffwn gofnodi diolch fy mhlaid i bawb a ymatebodd yn sgil y llifogydd hynny, yn enwedig y gwasanaethau brys, timau awdurdodau lleol, y grwpiau ffydd, y gwirfoddolwyr, a phawb arall a gamodd i'r adwy i geisio helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Mae eu hymdrechion wedi bod yn gwbl ragorol.

Roedd y golygfeydd yn Nhrefynwy, wrth gwrs, yn anhygoel. Y rheini wnaeth gipio'r penawdau. Fe wnaeth Afon Mynwy orlifo'r amddiffynfeydd rhag llifogydd. Ysgubodd trwy ganol y dref ar gyflymder na allai neb fod wedi ei ddisgwyl. Cafodd cartrefi eu gorlifo, bu'n rhaid symud trigolion oedrannus yng nghanol y nos, ac, wrth gwrs, cafodd busnesau cyfan eu dinistrio â ninnau ychydig wythnosau yn unig i ffwrdd o'r Nadolig. Fe wnes i gyfarfod â rhai o'r perchnogion tai hynny, fe wnes i gyfarfod â rhai o'r busnesau hynny, ac fe wnes i gyfarfod â'r bobl wych mewn lleoedd fel y capel Methodistaidd sydd wedi bod yn helpu i ymateb i'r hyn a ddigwyddodd. Er bod yr unigolion hynny yn eithriadol o gydnerth, a bod pobl Trefynwy a rhai o'r cymunedau eraill hynny yn eithriadol o gydnerth, mae'n ymddangos yn amlwg iawn i mi fod angen cymorth Llywodraeth Cymru arnyn nhw i'w cael yn ôl ar eu traed. Felly, a allwch chi nodi heddiw, mewn ffordd eglur ac ymarferol, pa gymorth uniongyrchol y gwnaiff Llywodraeth Cymru ei ddarparu i'r rhai yr effeithiwyd arnynt wrth iddyn nhw gychwyn y broses hir a phoenus o ailadeiladu eu bywydau?

Thanks very much, Darren. We all know how devastating the impact of these floods can be on people, on their mental health, on their businesses, on their communities. I think one of the things we've seen in Monmouthshire, as we saw in Carmarthenshire last week, is that community resilience—people coming together. You see the very best of humanity under these conditions. It's particularly difficult to see that happening to businesses just before Christmas. I'd like to thank the Deputy First Minister for going to visit on the weekend. I spoke to the leader of Monmouthshire council, who I think has done a sterling job of leading her council and the community in pulling together the emergency services. NRW gave a lot of warnings; we knew this was coming. And we've been offered support by the Prime Minister. It is, of course, important that we stand with these communities, and that's why we have the emergency financial assistance schemes for these very scenarios. I know that the propositions are being built up as we speak, and local government finance officials are working to establish what support can be provided.

Diolch yn fawr iawn, Darren. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor ofnadwy y gall effaith y llifogydd hyn fod ar bobl, ar eu hiechyd meddwl, ar eu busnesau, ar eu cymunedau. Rwy'n credu mai un o'r pethau yr ydym ni wedi eu gweld yn sir Fynwy, fel y gwelsom ni yn sir Gaerfyrddin yr wythnos diwethaf, yw'r cydnerthedd cymunedol hwnnw—pobl yn dod at ei gilydd. Rydych chi'n gweld y gorau o ddynoliaeth o dan yr amodau hyn. Mae'n arbennig o anodd gweld hynny yn digwydd i fusnesau ychydig cyn y Nadolig. Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am fynd i ymweld dros y penwythnos. Siaradais ag arweinydd Cyngor Sir Fynwy, sydd, rwy'n credu, wedi gwneud gwaith gwych o arwain ei chyngor a'r gymuned o ran tynnu'r gwasanaethau brys at ei gilydd. Rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru lawer o rybuddion; roeddem ni'n gwybod bod hyn yn dod. Ac rydym wedi cael cynnig cymorth gan Brif Weinidog y DU. Mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n sefyll gyda'r cymunedau hyn, a dyna pam mae gennym ni'r cynlluniau cymorth ariannol brys ar gyfer yr union sefyllfaoedd hyn. Rwy'n gwybod bod y cynigion yn cael eu datblygu wrth i ni siarad, ac mae swyddogion cyllid llywodraeth leol yn gweithio i ddarganfod pa gymorth y gellir ei ddarparu.

Thank you for that answer, First Minister. I also met with Natural Resources Wales yesterday, and the chief executive of the local authority, and they tell me that the flood defences in Monmouth have been there since 1991—that's when they were installed. They were designed to meet the standard required at that time and which was anticipated in the future. But, of course, we're now many years on from then—over 30 years on—and times have changed, models have changed. They told me, Natural Resources Wales, that the defences came very close to overtopping last year too. And of course, that means that people are going to be on edge, even if they do return to their homes, even if they do rebuild their lives.

Now, when we had serious storms back in 2020, the Welsh Government commissioned an independent review of what happened in those storms and the response of the various agencies to getting to grips with the problems. It made recommendations and a report was published, but it was three and a half years after the event. Now, we've got to make sure that we learn lessons from these events quickly. So, what assurances can you give that a rapid review will now be undertaken into what's happened, and that speedy action will be taken to invest, as is necessary, to improve those flood defences and help this community, particularly in Monmouth, to get back on its feet, given that it was the hardest hit?

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fe wnes i hefyd gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe, a phrif weithredwr yr awdurdod lleol, ac maen nhw'n dweud wrthyf i fod yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Nhrefynwy wedi bod yno ers 1991—dyna pryd y cawson nhw eu gosod. Fe'u dyluniwyd i fodloni'r safon a oedd yn ofynnol ar yr adeg honno ac a ragwelwyd yn y dyfodol. Ond, wrth gwrs, rydym ni bellach flynyddoedd lawer yn ymlaen o hynny—dros 30 mlynedd ymlaen—ac mae'r oes wedi newid, mae modelau wedi newid. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i, Cyfoeth Naturiol Cymru, bod yr amddiffynfeydd wedi dod yn agos iawn at orlifo y llynedd hefyd. Ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod pobl yn mynd i fod ar bigau'r drain, hyd yn oed os byddan nhw'n dychwelyd i'w cartrefi, hyd yn oed os byddan nhw'n ailadeiladu eu bywydau.

Nawr, pan gawsom ni stormydd difrifol yn ôl yn 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o'r hyn a ddigwyddodd yn y stormydd hynny ac ymateb y gwahanol asiantaethau i fynd i'r afael â'r problemau. Gwnaeth argymhellion a chyhoeddwyd adroddiad, ond roedd hynny dair blynedd a hanner ar ôl y digwyddiad. Nawr, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu gwersi o'r digwyddiadau hyn yn gyflym. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd adolygiad cyflym yn cael ei gynnal nawr o'r hyn a ddigwyddodd, ac y bydd camau cyflym yn cael eu cymryd i fuddsoddi, yn ôl yr angen, i wella'r amddiffynfeydd rhag y llifogydd hynny a helpu'r gymuned hon, yn enwedig yn Nhrefynwy, i godi yn ôl ar ei thraed, o ystyried mai hi gafodd ei tharo galetaf?

13:45

Thanks very much. We can, and we do, try and prepare for situations like this, but when you get five inches of rain in five hours you get a situation that was much worse in Monmouthshire than even the storms of Bert and Dennis. So, we didn't see that absolute inundation and the impact it would have. But there was as much preparation as could have been possible. Everybody gave all the warnings in advance. And I'd like to put on record my thanks to the emergency services for their sterling work in relation to this, but also to the communities, who've absolutely come together, who are working together and making sure that they are responding.

Look, when it comes to investment, we have got a really proud record on this: £375 million this Senedd term, we've protected 45,000 homes, and we're proposing £77 million next year. We are committed to this agenda. This is, actually, addressing the issue of net zero. Sometimes, you talk against the need for addressing net zero. This is an example of where you have to prepare for a changing climate, a changing environment. And you ask about reviewing—we review after every event. Every single time, there is a group that comes together, that assesses—'What did we do? Could it be done better?'—and it's always used and always improved for the next one that comes along.

Diolch yn fawr iawn. Fe allwn ni, ac rydym ni yn ceisio paratoi ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn, ond pan fyddwch chi'n cael pum modfedd o law mewn pum awr rydych chi'n cael sefyllfa a oedd yn llawer gwaeth yn sir Fynwy na hyd yn oed stormydd Bert a Dennis. Felly, ni welsom ni'r llifogydd llwyr hynny a'r effaith y bydden nhw'n ei chael. Ond roedd cymaint o baratoi ag y gallai fod wedi bod yn bosibl. Rhoddodd pawb yr holl rybuddion ymlaen llaw. A hoffwn gofnodi fy niolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith rhagorol o ran hyn, ond hefyd i'r cymunedau, sy'n sicr wedi dod at ei gilydd, sy'n gweithio gyda'i gilydd ac yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb.

Edrychwch, o ran buddsoddiad, mae gennym ni record anrhydeddus iawn ar hyn: £375 miliwn yn nhymor y Senedd hon, rydym ni wedi diogelu 45,000 o gartrefi, ac rydym ni'n cynnig £77 miliwn y flwyddyn nesaf. Rydym ni wedi ymrwymo i'r agenda hon. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn mynd i'r afael â mater sero net. Weithiau, rydych chi'n siarad yn erbyn yr angen i fynd i'r afael â sero net. Dyma enghraifft o le mae'n rhaid i chi baratoi ar gyfer hinsawdd sy'n newid, amgylchedd sy'n newid. Ac rydych chi'n gofyn am adolygu—rydym ni'n adolygu ar ôl pob digwyddiad. Bob un tro, ceir grŵp sy'n dod at ei gilydd, sy'n asesu—'Beth wnaethon ni? A ellid ei wneud yn well?'—ac mae bob amser yn cael ei ddefnyddio a bob amser yn cael ei wella ar gyfer yr un nesaf sy'n dod.

I don't think anyone is questioning that reviews do take place—of course they take place, and it's quite right that they do, but it shouldn't take three and a half years to get a review if a community has been flooded. That's what happened with the independent review last time. It was published three and a half years after the events in the storms of early 2020. And, as I said, look, First Minister, Christmas is just around the corner. These are communities that need support and protection now, not in many months' time, not in many years' time. They need emergency funding to be made available to help people get back on their feet and to get those businesses operating in the all-important weeks before Christmas. Now, as you know, Welsh Government Ministers have the power to be able to trigger that emergency funding under the Bellwin scheme in these sorts of situations. Now, you've been incredibly generous as a Welsh Government to those who've been affected by disasters overseas in recent years, but communities here in Wales right now need your support. So, can I urge you to pull that emergency funding trigger to get the help into the hands of those Welsh families and businesses affected by flooding who desperately need it?

Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn cwestiynu bod adolygiadau yn cael eu cynnal—wrth gwrs eu bod nhw'n cael eu cynnal, ac mae'n gwbl gywir eu bod nhw, ond ni ddylai gymryd tair blynedd a hanner i gael adolygiad os yw cymuned wedi dioddef llifogydd. Dyna ddigwyddodd gyda'r adolygiad annibynnol y tro diwethaf. Fe'i cyhoeddwyd dair blynedd a hanner ar ôl y digwyddiadau yn stormydd ddechrau 2020. Ac, fel y dywedais, edrychwch, Prif Weinidog, mae'r Nadolig ar y gorwel. Mae'r rhain yn gymunedau sydd angen cymorth ac amddiffyniad nawr, nid ymhen misoedd lawer, nid ymhen blynyddoedd lawer. Maen nhw angen i gyllid brys fod ar gael i helpu pobl ac i'w cael yn ôl ar eu traed ac i gael y busnesau hynny yn gweithredu yn yr wythnosau hollbwysig cyn y Nadolig. Nawr, fel y gwyddoch, mae gan Weinidogion Llywodraeth Cymru y grym i allu sbarduno'r cyllid brys hwnnw o dan gynllun Bellwin yn y mathau hyn o sefyllfaoedd. Nawr, rydych chi wedi bod yn eithriadol o hael fel Llywodraeth Cymru gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan drychinebau dramor yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae angen eich cymorth ar gymunedau yma yng Nghymru nawr. Felly, a gaf i eich annog i sbarduno'r cyllid brys hwnnw i gael y cymorth i ddwylo'r teuluoedd a'r busnesau hynny yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd sydd ei angen yn ddirfawr?

Thanks very much. Just to be absolutely clear, it takes days for us to review and learn lessons, so that is already being done, I can assure you; from what we did last year with Bert and Dennis, and even from a few days ago in Carmarthenshire, we are constantly learning. It does not take years. The second thing to say is, as I've told you already, local government finance officials are already working to establish what support can be provided. We're looking at how we provide that funding in the least bureaucratic way and making sure we can get that funding out as soon as possible.

Diolch yn fawr iawn. Dim ond i fod yn hollol eglur, mae'n cymryd diwrnodau i ni adolygu a dysgu gwersi, felly mae hynny'n cael ei wneud eisoes, gallaf eich sicrhau chi; o'r hyn a wnaethom ni y llynedd gyda Bert a Dennis, a hyd yn oed o ychydig ddiwrnodau yn ôl yn sir Gaerfyrddin, rydym ni'n dysgu yn barhaus. Nid yw'n cymryd blynyddoedd. Yr ail beth i'w ddweud, fel yr wyf i wedi ei ddweud wrthych chi eisoes, mae swyddogion cyllid llywodraeth leol eisoes yn gweithio i ddarganfod pa gymorth y gellir ei ddarparu. Rydym ni'n edrych ar sut rydym ni'n darparu'r cyllid hwnnw yn y ffordd leiaf biwrocrataidd ac yn gwneud yn siŵr y gallwn ni gael y cyllid hwnnw allan cyn gynted â phosibl.

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

Plaid Cymru leader, Rhun ap Iorwerth.  

Diolch, Llywydd. The floods that hit many parts of Wales over the weekend significantly impacted lives and livelihoods, along with transport infrastructure. It's another reminder, isn't it, of the urgent need to ensure that we are resilient enough to withstand ever-increasing extreme weather conditions. I'd like to pay tribute too to the tireless work of the emergency services and other responders in Monmouth in particular and send our best wishes to all those impacted. I will write to the First Minister later today, seeking assurances that the Welsh Government will undertake an urgent assessment of our preparedness for extreme weather conditions this winter and beyond, and Government's ability to respond.

Our ability to invest, of course, depends on fair funding, so I will move on to questions about fair funding. We're often told that different views in different parts of the UK on the way Treasury funding works are a barrier to changing the outdated Barnett formula. Maybe that's why, on 9 October, the Cabinet Secretary for finance was adamant that the Finance: Interministerial Standing Committee was not the forum to advance the case for a needs-based funding formula for Wales. Indeed, he told Heled Fychan, and I quote,

'if you think that the FISC is a good place to make progress on it, then, I'm afraid, if you were around the table, you would see that it's absolutely not the context where you're likely to make any progress.'

Does this remain the Government's position?

Diolch, Llywydd. Fe wnaeth y llifogydd a darodd sawl rhan o Gymru dros y penwythnos effeithio'n sylweddol ar fywydau a bywoliaethau, ynghyd â seilwaith trafnidiaeth. Mae rhywbeth arall i'n hatgoffa, onid yw, o'r angen brys i sicrhau ein bod ni'n ddigon cydnerth i wrthsefyll amodau tywydd eithafol sy'n cynyddu'n barhaus. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i waith diflino y gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill yn Nhrefynwy yn arbennig ac anfon ein dymuniadau gorau i bawb yr effeithiwyd arnynt. Byddaf yn ysgrifennu at y Prif Weinidog yn ddiweddarach heddiw, yn gofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad brys o'n parodrwydd ar gyfer amodau tywydd eithafol y gaeaf hwn a thu hwnt, a gallu'r Llywodraeth i ymateb.

Mae ein gallu i fuddsoddi, wrth gwrs, yn dibynnu ar gyllid teg, felly fe wnaf i symud ymlaen at gwestiynau am gyllid teg. Dywedir wrthym ni'n aml bod gwahanol safbwyntiau mewn gwahanol rannau o'r DU ar y ffordd y mae cyllid y Trysorlys yn gweithio yn rhwystr i newid fformiwla Barnett sydd wedi mynd heibio ei hamser. Efallai mai dyna pam, ar 9 Hydref, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn sicr nad y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid oedd y fforwm ar gyfer gwneud y ddadl dros fformiwla ariannu seiliedig ar anghenion i Gymru. Yn wir, dywedodd wrth Heledd Fychan, ac rwy'n dyfynnu,

'os ydych chi'n meddwl bod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn lle da i wneud cynnydd ar hynny, yna, mae gen i ofn, pe baech chi o gwmpas y bwrdd, byddech chi'n gweld yn sicr nad dyma'r cyd-destun lle rydych chi'n debygol o wneud unrhyw gynnydd.'

Ai dyma safbwynt y Llywodraeth o hyd?

13:50

Thanks very much. Before I answer your question, I'm sure you'd like to join with me in welcoming the massive investment in jobs in your own constituency, in Anglesey, in Wylfa, and also the north Wales AI growth zone—a double win for Wales, thousands of jobs being created, the biggest investment in a generation and a transformative opportunity for the community he represents. So, I think that's wonderful news.

Just in terms of the preparations for winter, we made a statement just a couple of weeks ago precisely on this point, and obviously the issue of flooding and preparing for what might come was made at that point.

When you talk about the Barnett formula, look, we've never hidden from the fact that we'd like to see a review. We know that FISC is a place to bring up this issue. Of course, what we need is a political decision from the top of the UK Government. I can assure you I keep on pressing for this issue.

Diolch yn fawr iawn. Cyn i mi ateb eich cwestiwn, rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i groesawu'r buddsoddiad enfawr mewn swyddi yn eich etholaeth eich hun, yn Ynys Môn, yn Wylfa, a hefyd ardal twf deallusrwydd artiffisial gogledd Cymru—buddugoliaeth ddwbl i Gymru, miloedd o swyddi yn cael eu creu, y buddsoddiad mwyaf mewn cenhedlaeth a chyfle trawsnewidiol i'r gymuned y mae'n ei chynrychioli. Felly, rwy'n credu bod hynny'n newyddion gwych.

Dim ond o ran y paratoadau ar gyfer y gaeaf, fe wnaethom ni ddatganiad ychydig wythnosau yn ôl ar yr union bwynt hwn, ac yn amlwg gwnaed y mater o lifogydd a pharatoi ar gyfer yr hyn a allai ddod ar yr adeg honno.

Pan fyddwch chi'n siarad am fformiwla Barnett, edrychwch, nid ydym ni erioed wedi cuddio rhag y ffaith yr hoffem ni weld adolygiad. Rydym ni'n gwybod bod Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn lle i godi'r mater hwn. Wrth gwrs, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw penderfyniad gwleidyddol o frig Llywodraeth y DU. Gallaf eich sicrhau chi fy mod i'n parhau i bwyso am y mater hwn.

My question, of course, was on comments by the Cabinet Secretary that FISC was not the place to discuss this, but I think that Government needs to get its story straight, because a few weeks on from saying that progress couldn't be made at that four-nations finance Minister forum, the Cabinet Secretary for finance confirmed in a written answer that he's agreed that FISC is the place where Barnett will be discussed, albeit improving its operation rather than its abolition.

Now last week, the Deputy First Minister, to much fanfare, suggested that Barnett had been promoted high up the UK Government's agenda and that there’d been some sort of breakthrough moment. In fact, it turns out that all he was doing was dressing up a regular meeting of a committee that was happening anyway. So, can the First Minister confirm what the Welsh Government will be asking for, and by when, as part of discussions now with UK Government, or is it the case that Labour still has no plan to secure fair funding for Wales?

Roedd fy nghwestiwn, wrth gwrs, am sylwadau gan yr Ysgrifennydd Cabinet nad y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid oedd y lle i drafod hyn, ond rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth gael trefn ar ei stori, oherwydd ychydig wythnosau ar ôl dweud na ellid gwneud cynnydd yn y fforwm Gweinidogion cyllid pedair gwlad honno, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid mewn ateb ysgrifenedig ei fod wedi cytuno mai Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yw'r man lle bydd Barnett yn cael ei drafod, er mai gwella ei weithrediad fydd hynny yn hytrach na'i ddiddymu.

Nawr yr wythnos diwethaf, awgrymodd y Dirprwy Brif Weinidog, â llawer o ffanffer, bod Barnett wedi cael ei ddyrchafu'n uchel ar agenda Llywodraeth y DU ac y bu rhyw fath o foment o gynnydd. Mewn gwirionedd, mae'n ymddangos mai'r cwbl yr oedd yn ei wneud oedd sôn am gyfarfod cyffredin pwyllgor a oedd yn digwydd beth bynnag. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau beth fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano, ac erbyn pryd, yn rhan o'r trafodaethau nawr gyda Llywodraeth y DU, neu a yw'n wir nad oes gan Lafur gynllun o hyd i sicrhau cyllid teg i Gymru?

Well, thanks very much. Certainly, we have always said that we want to see reform of the Barnett formula. We're not talking about replacing the Barnett formula, because if he’d read, actually, the report by Cardiff University recently, he'd have seen that the Barnett floor, which was negotiated in part by the finance Secretary, actually ensured that we've got £1 billion of extra finance as a result of that Barnett floor. So, we have to make sure that, when we look at reforming, we don't lose out. There is the potential that this could go the wrong way for us, and I want to make sure that that doesn't happen, and that Barnett floor that the finance Secretary negotiated is absolutely critical to that.

Listen, my focus is on getting as much additional money into Wales as possible. Last week, we got £2.5 billion extra direct investment as a result of the contribution from the UK Government to Wylfa. There are other examples, which will leverage massive, massive investment, which will of course help to provide jobs, bring in the taxation. Those are the focuses that I'm absolutely concentrated on when it comes to the budget.

Wel, diolch yn fawr iawn. Yn sicr, rydym ni bob amser wedi dweud ein bod ni eisiau gweld fformiwla Barnett yn cael ei diwygio. Dydyn ni ddim yn sôn am ddisodli fformiwla Barnett, oherwydd pe bai wedi darllen, a dweud y gwir, adroddiad Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar, byddai wedi gweld bod llawr Barnett, a gytunwyd yn rhannol gan yr Ysgrifennydd cyllid, mewn gwirionedd yn sicrhau bod gennym ni £1 biliwn o gyllid ychwanegol o ganlyniad i'r llawr Barnett hwnnw. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n edrych ar ddiwygio, nad ydym ni ar ein colled. Ceir potensial y gallai hyn fynd y ffordd anghywir i ni, ac rwyf i eisiau gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd, ac mae'r llawr Barnett hwnnw y mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi ei negodi yn gwbl hanfodol i hynny.

Gwrandewch, mae fy mhwyslais i ar gael cymaint o arian ychwanegol â phosibl i Gymru. Yr wythnos diwethaf, fe gawsom ni £2.5 biliwn o fuddsoddiad uniongyrchol ychwanegol o ganlyniad i'r cyfraniad gan Lywodraeth y DU at Wylfa. Ceir enghreifftiau eraill, a fydd yn trosoli buddsoddiad enfawr iawn, a fydd wrth gwrs yn helpu i ddarparu swyddi, i ddod â'r trethiant i mewn. Dyna'r pethau yr wyf i'n canolbwyntio yn bendant arnyn nhw o ran y gyllideb.

I disagree. I think Barnett should be replaced, and former Labour First Ministers have called for Barnett to be replaced. But, of course, yes, we are talking about the whole way Barnett is applied, and what is not included. HS2, course, exposed the fact that there are many dimensions to the unfair and unsustainable treatment of Wales by Westminster. But you've only got to look at Welsh Government's own budget for next year to see how vital it is that the funding injustice is addressed. Had there been a broad needs-based funding system in place already, the next Welsh Government wouldn't find itself in such a perilous position. We were told there was significant headroom left in next year's budget, but, as things currently stand, giving all that headroom to the health service would still leave the NHS with a historically low increase in Wales, far less than in England, and leave council tax bills out of control and local government having to make redundancies on an unprecedented scale. Now, you do wonder why there was such a fanfare after the publication of the comprehensive spending review, but does the First Minister regret the fact that the so-called 'partnership in power' is still clearly leaving Wales's public services in such a perilous position?

Rwy'n anghytuno. Rwy'n credu y dylid disodli Barnett, ac mae cyn-Brif Weinidogion Llafur wedi galw am ddisodli Barnett. Ond, wrth gwrs, ydym, rydym ni'n siarad am yr holl ffordd y mae Barnett yn cael ei weithredu, a'r hyn nad yw wedi'i gynnwys. Wrth gwrs, datgelodd HS2 y ffaith fod llawer o ddimensiynau i'r driniaeth annheg ac anghynaliadwy o Gymru gan San Steffan. Ond does dim ond rhaid i chi edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y flwyddyn nesaf i weld pa mor hanfodol yw hi fod yr anghyfiawnder ariannu yn cael ei ddatrys. Pe bai system ariannu seiliedig ar anghenion eang eisoes ar waith, ni fyddai Llywodraeth nesaf Cymru yn cael ei hun mewn sefyllfa mor beryglus. Dywedwyd wrthym ni fod llawer o le ar ôl yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, ond, fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddai rhoi'r holl le hwnnw i'r gwasanaeth iechyd yn dal i adael y GIG gyda chynnydd hanesyddol isel yng Nghymru, llawer llai nag yn Lloegr, ac yn gadael biliau'r dreth gyngor allan o reolaeth a llywodraeth leol yn gorfod gwneud diswyddiadau ar raddfa ddigynsail. Nawr, rydych chi yn meddwl tybed pam roedd cymaint o ffanffer ar ôl cyhoeddi'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, ond a yw'r Prif Weinidog yn difaru'r ffaith bod y 'bartneriaeth mewn grym' fel y'i gelwir yn dal yn amlwg yn gadael gwasanaethau cyhoeddus Cymru mewn sefyllfa mor beryglus?

13:55

I'll tell you what will leave our public services in a perilous position is if we can't get our budget through. That is the truth of it. So, we can ask for anything we want from the UK Government; if we don't do our job here, in this Senedd, then it's the people on the front lines in our communities that will be paying the price, and I do hope that we can negotiate with all the different parties in this place to make sure that we are delivering for the Welsh people.

I do notice that you still haven't welcomed the money for Wylfa, having asked on two occasions. But also can I just point out that there were significant increases in the budget from last year, and they didn't support it? If they'd had their way, we would have seen—[Interruption.]—we would have seen cuts last year compared to this year. So, let's be clear: austerity is over. We have seen £1.6 billion of additional funding going to our front-line services, and you are trying to block money from going to our front-line services. I do hope that—[Interruption.] I do hope that, in future, we will see a change in approach compared to what we saw in the budget last year.

Fe wnaf i ddweud wrthych beth wnaiff adael ein gwasanaethau cyhoeddus mewn sefyllfa beryglus, sef os na allwn ni gael ein cyllideb drwodd. Dyna'r gwir amdani. Felly, gallwn ofyn am unrhyw beth yr ydym ni ei eisiau gan Lywodraeth y DU; os nad ydym ni'n gwneud ein gwaith yma, yn y Senedd hon, yna'r bobl ar y rhengoedd blaen yn ein cymunedau fydd yn talu'r pris, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni negodi â'r holl wahanol bleidiau yn y lle hwn i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni dros bobl Cymru.

Rwy'n sylwi nad ydych chi wedi croesawu'r arian ar gyfer Wylfa o hyd, ar ôl gofyn ar ddau achlysur. Ond a gaf i nodi hefyd y bu cynnydd sylweddol i'r gyllideb ers y llynedd, ac na wnaethon nhw ei chefnogi? Pe baen nhw wedi cael eu ffordd, byddem ni wedi gweld—[Torri ar draws.]—byddem ni wedi gweld toriadau y llynedd o'i chymharu ag eleni. Felly, gadewch i ni fod yn eglur: mae cyni cyllidol drosodd. Rydym ni wedi gweld £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol yn mynd i'n gwasanaethau rheng flaen, ac rydych chi'n ceisio rhwystro arian rhag mynd i'n gwasanaethau rheng flaen. Rwyf i yn gobeithio—[Torri ar draws.] Rwyf i yn gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn ni'n gweld newid agwedd o'i chymharu â'r hyn a welsom ni yn y gyllideb y llynedd.

Cartrefi Gofal
Care Homes

3. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cartrefi gofal yng ngogledd Cymru yn wydn yn ariannol? OQ63413

3. What steps is the First Minister taking to ensure that care homes in north Wales are financially resilient? OQ63413

The Welsh Labour Government is doing more to protect people needing care than anywhere else in the United Kingdom, and that's a fact. We've kept the capital limit at £50,000, the most generous in Britain, protecting people's life savings. Care home workers earn at least the real living wage, and we uplifted the revenue support grant, which helps local authorities pay for care, by an average of 4.5 per cent this year, and of course, on top of that, we have a cap on domiciliary care of £100 a week. But I think what matters is fairness, and we've introduced a national commissioning framework, and it's really important that local authorities, the health boards, apply these rules in a fair way.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud mwy i amddiffyn pobl sydd angen gofal nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n ffaith. Rydym ni wedi cadw'r terfyn cyfalaf ar £50,000, y mwyaf hael ym Mhrydain, gan amddiffyn cynilion bywyd pobl. Mae gweithwyr cartrefi gofal yn ennill y cyflog byw gwirioneddol o leiaf, ac fe wnaethom ni gynyddu'r grant cynnal refeniw, sy'n helpu awdurdodau lleol i dalu am ofal, 4.5 y cant ar gyfartaledd eleni, ac wrth gwrs, ar ben hynny, mae gennym ni gap o £100 yr wythnos ar ofal cartref. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw tegwch, ac rydym ni wedi cyflwyno fframwaith comisiynu cenedlaethol, ac mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol, y byrddau iechyd, yn rhoi'r rheolau hyn ar waith mewn ffordd deg.

Diolch. Rather like local government settlements, as you rightly pointed out there, there needs to be a fairness in this process. Now, in my constituency of Aberconwy, not only have we lost beds in care homes, we have lost care homes. We cannot afford to lose any more care homes, due to the older population. Now, you are aware, because I've written in about this, that if a resident is moved from funded nursing care to continuing healthcare—so that's a higher level of care—the care home then receives less, which just does not make sense. Betsi Cadwaladr health board pay £1,217, which is £108.52 less than anywhere else. Having raised formal concerns with the Welsh Government, a response came from Ms Dawn Bowden, Minister for Children and Social Care, last week, saying her team had liaised with the health board and ascertained that whilst £82 million is spent on meeting, you keep having to top it up by about £32 million. Bear in mind that this money is then topped up. Why not just give them the money in the first place and allow that certainty for those care home owners and, indeed, the very vulnerable patients and residents that they look after? 

Diolch. Yn debyg i setliadau llywodraeth leol, fel y gwnaethoch chi ei nodi'n briodol yn y fan yna, mae angen tegwch yn y broses hon. Nawr, yn fy etholaeth i yn Aberconwy, nid yn unig yr ydym ni wedi colli gwelyau mewn cartrefi gofal, rydym ni wedi colli cartrefi gofal. Allwn ni ddim fforddio colli mwy o gartrefi gofal, oherwydd y boblogaeth hŷn. Nawr, rydych chi'n ymwybodol, gan fy mod i wedi ysgrifennu am hyn, os bydd preswylydd yn cael ei symud o ofal nyrsio wedi'i ariannu i ofal iechyd parhaus—felly mae honno'n lefel uwch o ofal—mae'r cartref gofal yn derbyn llai wedyn, sydd ddim yn gwneud synnwyr. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn talu £1,217, sydd £108.52 yn llai nag unrhyw le arall. Ar ôl codi pryderon ffurfiol gyda Llywodraeth Cymru, daeth ymateb gan Ms Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, yr wythnos diwethaf, yn dweud bod ei thîm wedi cysylltu â'r bwrdd iechyd ac wedi canfod, er bod £82 miliwn yn cael ei wario ar gyfarfod, bod yn rhaid i chi ychwanegu tua £32 miliwn ato drwy'r amser. Cofiwch fod yr arian hwn wedyn yn cael ei ychwanegu wedyn. Beth am roi'r arian iddyn nhw yn y lle cyntaf a rhoi'r sicrwydd hwnnw i'r perchnogion cartrefi gofal hynny ac, yn wir, y cleifion a'r preswylwyr agored iawn y niwed y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw? 

Care homes receive much of their funding directly from the NHS via the continuing NHS healthcare, and the fee rates for care and support services are set and agreed by local authorities and health boards. Commissioners must set fee rates that reflect the true cost of care, transparently and in partnership with providers, and I think it's probably worth noting that Conwy's rates were raised by 20 per cent in 2024-25, and they're now above the CHC base rate in north Wales, as well as being higher than some other local authority rates.

Mae cartrefi gofal yn derbyn llawer o'u cyllid yn uniongyrchol gan y GIG drwy ofal iechyd parhaus y GIG, ac mae'r cyfraddau ffioedd ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth yn cael eu gosod a'u cytuno gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Mae'n rhaid i gomisiynwyr osod cyfraddau ffioedd sy'n adlewyrchu gwir gost gofal, yn dryloyw ac mewn partneriaeth â darparwyr, ac rwy'n credu ei bod yn werth nodi, yn ôl pob tebyg, y codwyd cyfraddau Conwy 20 y cant yn 2024-25, ac maen nhw bellach yn uwch na'r gyfradd gofal iechyd parhaus sylfaenol yn y gogledd, yn ogystal â bod yn uwch na rhai cyfraddau awdurdodau lleol eraill.

14:00
Hawliau Plant
Children's Rights

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hawliau plant? OQ63450

4. How does the Welsh Government support children's rights? OQ63450

Rŷn ni’n gwneud mwy na siarad am hawliau plant; mae Llafur Cymru yn gweithredu ar y mater. Ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y gyfraith yn ôl yn 2011. Ni hefyd oedd y wlad gyntaf i benodi comisiynydd plant, a gwnaethon ni gyflwyno deddfwriaeth yn dod â'r amddiffyniad 'cosb resymol' am daro plant i ben. Fe roddon ni’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed ac rŷn ni'n darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, a hyd yma mae 52 miliwn o brydau wedi cael eu gweini, ac mae’r ffigwr yna yn dal i gynyddu.

We don't just talk about children's rights; Welsh Labour delivers on this issue. We were the first country in the UK to enshrine the United Nations Convention on the Rights of the Child in law back in 2011. We were also the first country to appoint a children's commissioner, and we introduced legislation to remove the 'reasonable punishment' defence for hitting children. We gave the vote to 16 and 17-year-olds and we are providing free school meals to every primary school pupil, and so far, 52 million meals have been served, with the figure still rising.

Diolch. It's a proud record, isn't it, but it's being undermined by your partners in Westminster. A case has been brought to me where a boy seeking asylum was offered a place at a local football academy, but couldn't take it up because of UK immigration rules. These rules classify academy players as professional sportspersons requiring a right to work, though he wouldn't have received any pay. The Football Association of Wales share my concern that this policy unfairly limits opportunities for young players to develop their potential, and they've made representations to the Home Office, but to no avail. While a rules-based immigration system is essential, when such inflexible rules are stopping children from playing football, and all that can offer them as regards good mental health, social inclusion and happiness, they must be looked at again.

Under the UN Convention on the Rights of the Child, which your Government is committed to, as you've stated, article 31 guarantees every child the right to participate in sport and recreation, and article 2 protects them from discrimination. The Welsh Refugee Council and the children's commissioner have also expressed concerns about the impact of immigration rules on children's rights under the UNCRC. So, will the Welsh Government press the UK Government to change this policy? And is the Welsh Government concerned that its commitment to children's rights will be undermined by the proposals put forward by the Home Secretary on immigration, which will see children placed in deportation centres and ripped from their communities and friends?

Diolch. Mae'n record anrhydeddus, onid yw hi, ond mae'n cael ei thanseilio gan eich partneriaid yn San Steffan. Tynnwyd fy sylw at achos lle cynigiwyd lle mewn academi bêl-droed leol i fachgen sy'n ceisio lloches, ond na allai ei gymryd oherwydd rheolau mewnfudo y DU. Mae'r rheolau hyn yn dosbarthu chwaraewyr academi fel chwaraewyr proffesiynol sydd angen hawl i weithio, er na fyddai wedi derbyn unrhyw dâl. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhannu fy mhryder bod y polisi hwn yn cyfyngu'n annheg ar gyfleoedd i chwaraewyr ifanc ddatblygu eu potensial, ac maen nhw wedi gwneud sylwadau i'r Swyddfa Gartref, ond heb lwyddiant. Er bod system fewnfudo sy'n seiliedig ar reolau yn hanfodol, pan fydd rheolau anhyblyg o'r fath yn atal plant rhag chwarae pêl-droed, a phopeth y gall hynny ei gynnig iddyn nhw o ran iechyd meddwl da, cynhwysiant cymdeithasol a hapusrwydd, mae'n rhaid edrych arnyn nhw eto.

O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, y mae eich Llywodraeth wedi ymrwymo iddo, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, mae erthygl 31 yn sicrhau'r hawl i bob plentyn gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden, ac mae erthygl 2 yn eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu. Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru a'r comisiynydd plant hefyd wedi mynegi pryderon am effaith rheolau mewnfudo ar hawliau plant o dan y confensiwn. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i newid y polisi hwn? Ac a yw Llywodraeth Cymru yn pryderu y bydd ei hymrwymiad i hawliau plant yn cael ei danseilio gan y cynigion a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref ar fewnfudo, a fydd yn arwain at roi plant mewn canolfannau allgludo a'u rhwygo o'u cymunedau a'u ffrindiau?

Thanks very much. I think we've all seen the terrible scenes of people crossing the channel in boats, particularly when you see children and how many children have died under these circumstances. None of us want to see that situation. We are proud of our position in relation to children's rights in Wales. I'm particularly sad to hear the example you gave there, and I will undertake to make my own personal representation to the Home Office in relation to that case.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gweld y golygfeydd ofnadwy o bobl yn croesi'r sianel mewn cychod, yn enwedig pan fyddwch chi'n gweld plant a faint o blant sydd wedi marw o dan yr amgylchiadau hyn. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld y sefyllfa honno. Rydym ni'n falch o'n safbwynt o ran hawliau plant yng Nghymru. Rwy'n arbennig o drist o glywed yr enghraifft y gwnaethoch chi ei rhoi yn y fan yna, ac fe wnaf i ymrwymo i wneud fy sylwadau personol fy hun i'r Swyddfa Gartref o ran yr achos hwnnw.

First Minister, I noticed the platitude that you gave my colleague in response to her question about children's rights, but it sounds a little bit hollow to me in light of the lack of protection your Government is giving young girls in Wales. Not only do we have a UK inquiry into grooming gangs that lies in tatters, and are yet to see a Wales-led inquiry, but it has now been over six months since the Supreme Court judgment made its landmark decision to recognise women as biological sex only under the Equality Act 2010. And still not a peep from the Welsh Government about protecting girls' rights in sports and changing rooms. So, First Minister, do you believe in protecting girls' rights? If so, why haven't you acted upon this ruling? Thank you.

Prif Weinidog, sylwais ar yr ystrydeb y gwnaethoch chi ei rhoi i'm cyd-Aelod mewn ymateb i'w chwestiwn am hawliau plant, ond mae'n swnio braidd yn wag i mi yng ngoleuni'r diffyg amddiffyniad y mae eich Llywodraeth yn ei roi i ferched ifanc yng Nghymru. Nid yn unig y mae gennym ni ymchwiliad y DU i gangiau meithrin perthynas amhriodol sydd ar chwâl, ac nid ydym ni wedi gweld ymchwiliad dan arweiniad Cymru eto, ond bu dros chwe mis bellach ers i ddyfarniad y Goruchaf Lys wneud ei benderfyniad pwysig i gydnabod menywod fel rhyw biolegol yn unig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ac eto dim smic gan Lywodraeth Cymru am amddiffyn hawliau merched mewn chwaraeon ac ystafelloedd newid. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu mewn amddiffyn hawliau merched? Os felly, pam nad ydych chi wedi gweithredu ar y dyfarniad hwn? Diolch.

Look, I am interested in making sure that we talk about all children's rights, including the fact that we've got this proud record. We've ended reasonable punishment for hitting children. We've given 16 and 17-year-olds votes. We've provided free school meals to every primary school, and we are the first nation in the UK to ban profit making from children's residential care. I am more interested in focusing on that kind of thing than in participating in your culture wars.

Edrychwch, mae gen i ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n siarad am hawliau pob plentyn, gan gynnwys y ffaith bod gennym ni'r record anrhydeddus hon. Rydym ni wedi rhoi terfyn ar gosb resymol am daro plant. Rydym ni wedi rhoi pleidleisiau i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Rydym ni wedi darparu prydau ysgol am ddim i bob ysgol gynradd, a ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i wahardd gwneud elw o ofal preswyl plant. Mae gen i fwy o ddiddordeb mewn canolbwyntio ar y math hwnnw o beth nag mewn cymryd rhan yn eich rhyfeloedd diwylliant.

I want to focus on ending the profit motive in children's care. Last week, I watched Nick Martin's investigation into the death of Nonita Grabovskyte, a looked-after 17-year-old who was supposed to be in the care of Barnet Council in London. She was an intelligent, autistic young woman with no college place to go to after she left school. She had well-documented suicidal thoughts, specifically to end her life by throwing herself under a train. She was discharged from child and adolescent mental health services at age 17 with no adult support in place, and then she was put in an unregistered private home close to a railway line, with no-one qualified to deal with her mental distress. So, what progress is the Welsh Government making on eliminating, today, the private sector from the care of the most vulnerable young people in Wales, so that we don't have another Nonita disaster here?

Hoffwn ganolbwyntio ar roi terfyn ar y cymhelliant elw mewn gofal plant. Yr wythnos diwethaf, gwyliais ymchwiliad Nick Martin i farwolaeth Nonita Grabovskyte, merch 17 oed a oedd fod yng ngofal Cyngor Barnet yn Llundain. Roedd yn ferch ifanc ddeallus, awtistig heb le coleg i fynd iddo ar ôl iddi adael yr ysgol. Roedd ganddi feddyliau hunanladdol a oedd wedi cael llawer o sylw, ac yn benodol am roi terfyn ar ei bywyd trwy daflu ei hun o dan drên. Cafodd ei rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn 17 oed heb unrhyw gymorth oedolion ar waith, ac yna cafodd ei rhoi mewn cartref preifat heb ei gofrestru ger rheilffordd, â neb yn gymwys i ymdrin â'i gofid meddyliol. Felly, pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cael gwared, heddiw, ar y sector preifat o ofal y bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru, fel nad oes gennym ni drychineb Nonita arall yma?

14:05

Thanks, Jenny. That case, I know, is utterly devastating. I don't think any young person should ever be placed somewhere where they can't be kept safe or that the facility can't meet their needs, and that, I think, shows exactly why this work is so important and why we're very proud of the fact that we will be phasing out profit in residential and foster care. So, after Royal Assent in March, we're moving very quickly so that, from April 2026, no new for-profit children's homes will be able to exist, and we won't see expansion of the current ones. But the important thing to recognise is that we're not just talking about this, we're actually providing £75 million in terms of grant funding to make sure that local authorities can step into that space, so that we don’t have a gap in provision. Because we have a responsibility in particular for looked-after children, and I think it's essential that we follow through on what I think is one of the proudest achievements of this Welsh Government.

Diolch, Jenny. Mae'r achos hwnnw, rwy'n gwybod, yn hollol ofnadwy. Nid wyf i'n credu y dylai unrhyw berson ifanc byth gael ei leoli yn rhywle lle na ellir ei gadw yn ddiogel neu na all y cyfleuster ddiwallu ei anghenion, ac mae hynny, rwy'n credu, yn dangos yn union pam mae'r gwaith hwn mor bwysig a pham rydym ni'n falch iawn o'r ffaith y byddwn ni'n cael gwared yn raddol ar elw mewn gofal preswyl a maeth. Felly, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth, rydym ni'n symud yn gyflym iawn fel na fydd, o fis Ebrill 2026, unrhyw gartrefi plant er elw newydd yn gallu bodoli, ac ni fyddwn ni'n gweld y rhai presennol yn cael eu hehangu. Ond y peth pwysig i'w gydnabod yw nad ydym ni'n siarad am hyn yn unig, rydym ni wir yn darparu £75 miliwn o ran cyllid grant i wneud yn siŵr y gall awdurdodau lleol gamu i mewn i'r bwlch hwnnw, fel nad oes gennym ni fwlch yn y ddarpariaeth. Oherwydd mae gennym ni gyfrifoldeb yn arbennig am blant sy'n derbyn gofal, ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n cyflawni'r hyn yr wyf i'n ei gredu yw un o lwyddiannau mwyaf balch y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Good afternoon, First Minister. I'd just like to follow on from Sioned's points in relation to asylum seeking and refugee children. I'm also shocked by the Home Secretary's plans that, as we understand, would see children and families—children who are already frightened and vulnerable and potentially very settled in their communities—being ripped out, potentially a forced removal back to a country that many of them don't know.

No-one wants to get into a small boat and cross a huge expanse of water, but that's what they're faced with when there are no safe and legal routes. Lord Dubs, who, as a child, came on the Kindertransport, said yesterday that this approach uses children as a weapon and is a shabby thing. Amnesty International warns that it represents a dangerous drift towards treating fundamental human rights as optional.

I have worked with children and families, many of those children have been terrified by the thought of dawn raids to remove them to deportation centres and then back home. We are faced with that again on a much larger scale, as we're seeing right now in the United States. So, I'd like to ask you, First Minister: what is your view on the plans put forward by the Home Secretary yesterday, particularly when it comes to our children and young people? Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn ddilyn pwyntiau Sioned o ran plant sy'n ceisio lloches a phlant sy'n ffoaduriaid. Rwyf innau hefyd wedi fy syfrdanu gan gynlluniau'r Ysgrifennydd Cartref a fyddai, fel yr ydym ni'n ei ddeall, yn arwain at blant a theuluoedd—plant sydd eisoes yn ofnus ac yn agored i niwed ac o bosibl wedi hen ymgartrefu yn eu cymunedau—yn cael eu rhwygo allan, o bosibl yn cael eu symud yn ôl yn orfodol i wlad nad yw llawer ohonyn nhw yn ei hadnabod.

Does neb eisiau dringo i mewn i gwch bach a chroesi ehangder enfawr o ddŵr, ond dyna'r hyn sy'n eu hwynebu pan nad oes llwybrau diogel a chyfreithlon. Dywedodd yr Arglwydd Dubs, a ddaeth ar y Kindertransport fel plentyn, ddoe bod y dull hwn yn defnyddio plant fel arf ac yn beth gwael. Mae Amnest Rhyngwladol yn rhybuddio ei fod yn gyfystyr â symudiad peryglus tuag at drin hawliau dynol sylfaenol ar sail ddewisol.

Rwyf i wedi gweithio gyda phlant a theuluoedd, mae llawer o'r plant hynny wedi cael eu dychryn gan y syniad o gyrchoedd adeg y wawr i'w symud i ganolfannau allgludo ac yna yn ôl adref. Mae hynny'n ein hwynebu ni eto ar raddfa lawer mwy, fel rydym ni'n ei weld ar hyn o bryd yn yr Unol Daleithiau. Felly, hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog: beth yw eich barn ar y cynlluniau a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref ddoe, yn enwedig o ran ein plant a'n pobl ifanc? Diolch yn fawr iawn.

Well, I think we've got to note the significant contribution that migrants make to our country. The fact is that, in all kinds of aspects, where we rely on people, we are dependent on people who have come here from other countries, not least the health service, the care service; we're utterly dependent on the skills of these people and their contributions.

I listened carefully to Lord Dubs on the radio this morning. He is really a symbolic figure of a group of children who came to this country, and our country was there to open our arms to them. And you think about the contribution of somebody like Lord Dubs, not just to his community but to our nation, and I think it is important that we are generous when it comes to our welcome.

Clearly, we all want to see illegal immigration being addressed, but I think we've got to be extremely sensitive and extremely careful when it comes to creating an otherness of people who have made their homes amongst us.

Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i ni nodi'r cyfraniad sylweddol y mae ymfudwyr yn ei wneud at ein gwlad. Y gwir amdani yw, ym mhob math o agweddau, lle rydym ni'n dibynnu ar bobl, rydym ni'n ddibynnol ar bobl sydd wedi dod yma o wledydd eraill, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth gofal; rydym ni'n gwbl ddibynnol ar sgiliau'r bobl hyn a'u cyfraniadau.

Gwrandawais yn ofalus ar yr Arglwydd Dubs ar y radio y bore yma. Mae wir yn ffigwr symbolaidd o grŵp o blant a ddaeth i'r wlad hon, ac roedd ein gwlad ni yno i agor ein breichiau iddyn nhw. Ac rydych chi'n meddwl am gyfraniad rhywun fel yr Arglwydd Dubs, nid yn unig at ei gymuned ond at ein cenedl, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n hael o ran ein croeso.

Yn amlwg, rydym ni i gyd eisiau gweld mewnfudo anghyfreithlon yn cael sylw, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn eithriadol o sensitif ac yn eithriadol o ofalus o ran creu arallrwydd pobl sydd wedi gwneud eu cartrefi yn ein plith.

Amseroedd Aros y GIG
NHS Waiting Times

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros y GIG yng Ngogledd Cymru? OQ63408

5. What action is the Welsh Government taking to reduce NHS waiting times in North Wales? OQ63408

I completely understand why people in north Wales are frustrated. Betsi Cadwaladr is still in special measures for a reason, and that is because waiting times are too long. But there is progress. Two-year waits are down 48 per cent compared to last year, and three-year waits are down 80 per cent. And this year, we've invested £21 million in planned care and £2.7 million in neurodevelopment services to end three-year waits by March 2026. Ambulance handovers are down by 10 per cent when waiting more than an hour. And my message to the health board is clear: we need urgent, sustained improvement, no excuses. People in north Wales deserve better, and I know that there'll be a statement soon by the health Secretary on the issue of Betsi.

Rwy'n deall yn llwyr pam mae pobl yn y gogledd yn teimlo rhwystredigaeth. Mae Betsi Cadwaladr yn dal i fod mewn mesurau arbennig am reswm, ac mae hynny oherwydd bod amseroedd aros yn rhy hir. Ond mae cynnydd. Mae arosiadau dwy flynedd wedi gostwng 48 y cant o'u cymharu â'r llynedd, ac mae arosiadau tair blynedd wedi gostwng 80 y cant. Ac eleni, rydym ni wedi buddsoddi £21 miliwn mewn gofal wedi'i gynllunio a £2.7 miliwn mewn gwasanaethau niwroddatblygiad i roi terfyn ar arosiadau tair blynedd erbyn mis Mawrth 2026. Mae trosglwyddiadau ambiwlans wedi gostwng 10 y cant o ran aros mwy nag awr. Ac mae fy neges i'r bwrdd iechyd yn eglur: rydym ni angen gwelliant brys, parhaus, dim esgusodion. Mae pobl yn y gogledd yn haeddu gwell, ac rwy'n gwybod y bydd datganiad yn fuan gan yr Ysgrifennydd dros iechyd ar fater Betsi.

14:10

Across Wales, patients and staff say the NHS is struggling to cope. The problems are most severe in north Wales where, as you say, Betsi Cadwaladr University Health Board remains under special measures. Following Welsh Government policy, they've been cutting community hospital beds since 2009. They now have the worst figures in Wales for corridor waits and delayed discharge of patients. I warned this would happen when I led the Community Hospitals Acting Nationally Together Cymru campaign in the noughties.

A group of retired medics and nurses have now formed an action group to try and reverse the current unnecessary situation in north Wales with their Beds campaign, to bring back community beds, end corridor tragedies, decrease mortality and locate senior medics at the front door. Why has the Welsh Government so far dismissed their calls for a meeting with the health Secretary, or is Betsi Cadwaladr University Health Board simply complying with your policies?

Ledled Cymru, mae cleifion a staff yn dweud bod y GIG yn cael trafferth yn ymdopi. Mae'r problemau mwyaf difrifol yn y gogledd lle, fel y dywedwch chi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod yn destun mesurau arbennig. Gan ddilyn polisi Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi bod yn gostwng nifer gwelyau ysbytai cymuned ers 2009. Erbyn hyn mae ganddyn nhw'r ffigurau gwaethaf yng Nghymru ar gyfer arosiadau mewn coridorau ac oedi cyn rhyddhau cleifion. Rhybuddiais y byddai hyn yn digwydd pan arweiniais ymgyrch Ysbytai Cymuned yn Gweithredu’n Genedlaethol Gyda’i Gilydd Cymru yn y 2000au.

Mae grŵp o feddygon a nyrsys sydd wedi ymddeol bellach wedi ffurfio grŵp gweithredu i geisio gwrthdroi'r sefyllfa ddiangen bresennol yn y gogledd gyda'u hymgyrch Beds, i ddod â gwelyau cymunedol yn ôl, rhoi terfyn ar drasiedïau ar goridorau, i leihau marwolaethau ac i ddod o hyd i uwch feddygon wrth y drws ffrynt. Pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod hyd yma eu galwadau am gyfarfod gyda'r Ysgrifennydd dros iechyd, neu ai'r cwbl y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei wneud yw cydymffurfio â'ch polisïau?

Well, look, as I say, the health Secretary is going to announce further measures to support Betsi, to drive the kind of improvements that you're interested in seeing, in particular when it comes to patient care. There has been improvement since the escalation to special measures in 2023, but it's clear that persistent challenges remain. The health Secretary is going to talk about the need to reduce ambulance handover delays and the situation in relation to flow, touch on planned treatment, improving waiting times for cancer and strengthening governance. People generally, though, would rather be looked after in their own homes. Let's just be clear, that is the shift that we would like to see. So, supporting people in their own communities, in their own homes, is actually a very deliberate approach by this Government. 

Wel, edrychwch, fel y dywedais i, mae'r Ysgrifennydd dros iechyd yn mynd i gyhoeddi mesurau pellach i gynorthwyo Betsi, i ysgogi'r math o welliannau y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw, yn enwedig o ran gofal cleifion. Bu gwelliant ers yr uwchgyfeirio i fesurau arbennig yn 2023, ond mae'n amlwg bod heriau parhaus yn parhau. Mae'r Ysgrifennydd dros iechyd yn mynd i siarad am yr angen i leihau oedi cyn trosglwyddo o ambiwlansys a'r sefyllfa o ran llif, yn mynd i sôn am driniaeth a gynlluniwyd, gwella amseroedd aros ar gyfer canser a chryfhau llywodraethu. Byddai'n well gan bobl yn gyffredinol, fodd bynnag, dderbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Gadewch i ni fod yn glir, dyna'r newid yr hoffem ni ei weld. Felly, mae cynorthwyo pobl yn eu cymunedau eu hunain, yn eu cartrefi eu hunain, yn ddull bwriadol iawn gan y Llywodraeth hon mewn gwirionedd.

Ail-wneud Cais am Fathodyn Glas
Reapplying for a Blue Badge

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud y broses o ail-wneud cais am fathodyn glas yn fwy cyson ar draws awdurdodau lleol? OQ63430

6. Will the First Minister provide an update on the Welsh Government's work with the Welsh Local Government Association to make the process of reapplying for a blue badge more consistent across local authorities? OQ63430

The blue badge scheme is vital in helping people with serious mobility challenges to live independently, but we recognise that there's been inconsistency when it comes to reapplying for blue badges, which is why we've set up an expert group with local authorities to try and improve the situation. New training sessions are already under way to streamline applications, especially for those people with lifelong conditions.

Mae'r cynllun bathodyn glas yn hanfodol i helpu pobl â heriau symudedd difrifol i fyw yn annibynnol, ond rydym ni'n cydnabod y bu anghysondeb o ran ailymgeisio am fathodynnau glas, a dyna pam rydym ni wedi sefydlu grŵp arbenigol gydag awdurdodau lleol i geisio gwella'r sefyllfa. Mae sesiynau hyfforddi newydd eisoes ar y gweill i symleiddio ceisiadau, yn enwedig ar gyfer y bobl hynny sydd â chyflyrau gydol oes.

That's great. Thank you for your answer, First Minister. I've been working closely with Julie from STAND North Wales, and also Mark Isherwood, as chair of the cross-party group on disabilities, following her petition to make blue badges lifelong for those with lifelong conditions. I've supported many residents through the application process. It can be really challenging and stressful, especially for those that are already vulnerable. Do you agree that a sensible way forward would be to add a not-for-reassessment marker on the local authority database for applicants with lifelong conditions, so that, for future renewals, all they would have to do is to send an updated photograph and proof of address going forward? 

Mae hynna'n wych. Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Rwyf i wedi bod yn gweithio'n agos gyda Julie o STAND Gogledd Cymru, a hefyd Mark Isherwood, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau, yn dilyn ei deiseb i wneud bathodynnau glas yn rhai gydol oes i'r rhai sydd â chyflyrau gydol oes. Rwyf i wedi cynorthwyo llawer o drigolion drwy'r broses ymgeisio. Gall fod yn wirioneddol heriol gan beri straen, yn enwedig i'r rhai sydd eisoes yn agored i niwed. A ydych chi'n cytuno mai ffordd synhwyrol ymlaen fyddai ychwanegu nod 'heb orfod cael eu hailasesu' ar gronfa ddata yr awdurdod lleol ar gyfer ymgeiswyr sydd â chyflyrau gydol oes, fel mai'r cwbl y byddai'n rhaid iddyn nhw ei wneud ar gyfer adnewyddiadau yn y dyfodol yw anfon llun mwy diweddar a phrawf o gyfeiriad yn y dyfodol?

Thanks very much, Carolyn. Thanks to Julie, and thanks to you, Mark, as well, for your work on this issue. I can tell you that it is making a difference, and we are changing our approach. For people with lifelong conditions that significantly impact their physical or cognitive mobility, I think it makes sense. I think it's uncompassionate not to have a system that means that they don't have to go through this time and time again. That's why we've reinforced the not-for-reassessment route. We've already highlighted this and provided enhanced guidance and additional training to local authorities on using it. The whole point is to do exactly what you have suggested. Once a council is satisfied that someone will always meet the eligibility criteria, future reapplications should only require proof of address, ID and a photograph. They won't have to do that repeated supported medical evidence, and there won't be any bureaucracy. So, thank you for your efforts on this. It has made a difference.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn. Diolch i Julie, a diolch i chi, Mark, hefyd, am eich gwaith ar y mater hwn. Gallaf ddweud wrthych chi ei fod yn gwneud gwahaniaeth, ac rydym ni'n newid ein dull gweithredu. I bobl â chyflyrau gydol oes sy'n effeithio'n sylweddol ar eu symudedd corfforol neu wybyddol, rwy'n credu ei fod yn gwneud synnwyr. Rwy'n credu ei fod yn annhosturiol peidio â chael system sy'n golygu nad oes yn rhaid iddyn nhw fynd trwy hyn dro ar ôl tro. Dyna pam rydym ni wedi atgyfnerthu'r llwybr 'heb orfod cael eu hailasesu'. Rydym ni eisoes wedi tynnu sylw at hyn ac wedi darparu canllawiau gwell a hyfforddiant ychwanegol i awdurdodau lleol ynghylch ei ddefnyddio. Yr holl bwynt yw gwneud yn union yr hyn yr ydych chi wedi ei awgrymu. Unwaith y bydd cyngor yn fodlon y bydd rhywun bob amser yn bodloni'r meini prawf cymhwyso, dylai'r broses ailymgeisio yn y dyfodol fod angen prawf o gyfeiriad, prawf adnabod a llun yn unig. Ni fydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno'r dystiolaeth feddygol wedi'i chefnogi honno dro ar ôl tro, ac ni fydd unrhyw fiwrocratiaeth. Felly, diolch am eich ymdrechion ar hyn. Mae wedi gwneud gwahaniaeth.

14:15
Agregau Crai
Primary Aggregates

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni gan y Llywodraeth dros y bum mlynedd ddiwethaf i leihau'r defnydd o agregau crai? OQ63439

7. Will the First Minister provide an update on what has been achieved by the Government over the past five years to lessen the use of primary aggregates? OQ63439

Rŷn ni'n newid ffordd Cymru o adeiladu—i ddefnyddio mwy o bren, mwy o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, a llai o goncrit a cherrig sydd newydd eu cloddio. Mae ein strategaeth, ‘Datblygu’r diwydiant pren yng Nghymru’, yn gyrru'r newid hwnnw. Mae cartrefi modiwlar modern yn defnyddio pren parod, sy’n lleihau carbon ac yn creu safleoedd adeiladu glanach. Mae ein polisi cynllunio hefyd yn rhoi blaenoriaeth i agregau eilaidd ac wedi'u hailgylchu, yn lle cloddio o’r newydd.

We’re changing how Wales builds—using more timber, more recycled materials and less concrete and newly quarried stone. Our strategy, ‘Making Wood Work for Wales’, is driving that shift. Modern modular homes use prefabricated timber, cutting carbon and creating cleaner building sites. Our planning policy also prioritises recycled and secondary aggregates over new extraction. 

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn amlwg, o ran MTAN 1, a gyhoeddwyd 21 mlynedd yn ôl bellach, mae yna ffocws cryf ar gynyddu'r defnydd o ddeunyddiau eilaidd neu wedi'u hailgylchu yn hytrach nag echdynnu agregau crai. Mae'n dweud yn benodol bod rhaid mynd ati o ddifri i gynllunio fel hyn. Wythnos diwethaf, mi wnes i holi'r Dirprwy Brif Weinidog ar yr union bwynt yma, ac mi ddywedodd o fod angen gwneud llawer mwy yn y maes hwn. Felly, i gymunedau fel Glyncoch yn fy rhanbarth i, sydd yn dioddef oherwydd echdynnu crai, efo chwarel Craig-yr-Hesg, er enghraifft, sut ydyn ni'n mynd i fynd ati efo ffocws o'r newydd i sicrhau nad ydyn ni mor dibynnol ar ddeunyddiau craidd fel hyn? A ydych chi'n credu ei bod hi'n amser i ni ailedrych ar MTAN 1 i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny yn cael eu gwireddu ym mhob maes?

Thank you very much for that response, First Minister. Clearly, in terms of MTAN 1, which was published 21 years ago now, there is a strong focus on increasing the use of secondary or recycled materials rather than extracting primary aggregates. It says specifically that we must meaningfully plan in this way. Last week, I questioned the Deputy First Minister on this very point, and he said that much more needs to be done in this area. So, for communities like Glyncoch in my region, which are suffering because of core extraction, with the Craig-yr-Hesg quarry, for example, how will we provide a renewed focus in order to ensure that we are not as reliant on these core materials? Do you think that it is time for us to relook at MTAN 1 to ensure that those commitments are delivered in all areas?

Diolch. Obviously, it’s difficult for me to comment on the Craig-yr-Hesg case in particular, but what I can tell you is that dust, noise and health impacts have always got to be taken really seriously. Currently, as you will know, there is a 200m buffer zone in terms of national policy. On the minerals technical advice note 1 that you’re talking about, we are constantly keeping that under review. But I think the more important point is that we’ve got to make sure there’s consistent enforcement by councils, Natural Resources Wales and the Health and Safety Executive. They’ve got to act when conditions are breached and make sure that they use that opportunity. My understanding is that operators who are working at Craig-yr-Hesg are going to now be setting up a quarry community liaison group, and the aim of that group would be to make sure that there is an information exchange between operator and local community representatives.

Diolch. Yn amlwg, mae hi'n anodd i mi roi sylwadau ar achos Craig-yr-Hesg yn benodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod rhaid ystyried llwch, sŵn ac effeithiau ar iechyd yn bethau difrifol iawn bob amser. Ar hyn o bryd, fel gwyddoch chi, fe geir clustogfa 200m o ran polisi cenedlaethol. Ar nodyn 1 y cyngor technegol ar fwynau yr ydych chi'n sôn amdano, rydym ni'n cadw hwnnw dan adolygiad yn gyson. Ond rwy'n credu mai'r pwynt pwysicaf yw bod rhaid i ni sicrhau bod yr orfodaeth gan y cynghorau, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gyson. Mae'n rhaid iddyn nhw weithredu pan fydd amodau yn cael eu torri a sicrhau eu bod nhw'n defnyddio'r cyfle hwnnw. Fy nealltwriaeth i yw y bydd gweithredwyr sy'n gweithio yng Nghraig-yr-Hesg yn mynd i ffurfio grŵp cyswllt cymunedol i'r chwarel, a nod y grŵp hwnnw fyddai sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng gweithredwyr a chynrychiolwyr y gymuned leol.

Rhaglenni Sgrinio Antigenau Penodol i'r Prostad
Prostate-specific Antigen Screening Programmes

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno neu gefnogi rhaglenni sgrinio antigen penodol i'r prostad ar gyfer dynion sydd â risg uwch o ganser y prostad? OQ63416

8. What plans does the Welsh Government have to introduce or support prostate-specific antigen screening programmes for men who are of higher risk of prostate cancer? OQ63416

Dwi’n deall pam mae dynion yn gofyn am hyn—mae canser y prostad yn ddifrifol. Serch hynny, dyw Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ddim yn argymell sgrinio ar hyn o bryd, felly dyw NHS Cymru ddim yn cynnig rhaglen genedlaethol na rhaglen wedi'i thargedu. Y rheswm am hynny yw achos dyw’r prawf PSA ddim yn ddigon dibynadwy, ac mae’n gallu arwain at driniaethau diangen a niweidiol.

I understand why men are asking about this—prostate cancer is serious. But the UK National Screening Committee does not currently recommend screening, so NHS Wales does not offer a national or targeted programme. The reason for that is that the PSA test isn’t reliable enough and can lead to unnecessary and harmful procedures.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel rŷch chi wedi awgrymu yn barod, canser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin ymysg dynion, gydag un mewn wyth yn derbyn diagnosis. Mae hyn yn taro ein teuluoedd ni oll, ac mae hyn yn cynyddu os ydych chi'n ddu, dros 50 neu â hanes o'r afiechyd yn eich teulu. Fodd bynnag, canser y prostad yw'r unig ganser amlwg sydd ddim yn cael ei sgrinio. Mae hynny'n wir am y rhesymau rŷch chi wedi eu rhoi yn barod.

Ond mae'n gyffrous gweld gwaith ymchwil diweddar Prostate Cancer UK, sydd wedi ymchwilio i wneud diagnosis mwy cywir nag erioed o'r blaen. Does neb yn moyn triniaethau pan nad oes angen triniaethau. Mae diagnosis anghywir, wrth gwrs, yn arwain at ganlyniadau gwael iawn. Ond yn dilyn y gwaith ymchwil diweddar gyda Prostate Cancer UK, ac wrth i ni aros am ganlyniadau pwyllgor sgrinio y DU ar yr ymchwil diweddar yma, ydych chi fel Llywodraeth yn paratoi o gwbl an y posibiliad o gyflwyno sgrinio cenedlaethol yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Thank you very much, First Minister. As you have suggested already, prostate cancer is the most common cancer among men, with one in eight being given a diagnosis. It is hitting all of our families, and this increases if you are black, over 50 or have a family history of this disease. However, prostate cancer is the only prominent cancer that is not screened for. That is true for the reasons that you have already given.

It is interesting to see recent research by Prostate Cancer UK that has looked into a more accurate diagnosis than ever before. Nobody wants unnecessary treatments, and a wrong diagnosis can lead to very poor outcomes. But given this recent research, and as we await the decision of the UK screening committee on this recent research, are you as a Government preparing at all for the possibility of introducing national screening here in Wales? Thank you. 

14:20

I understand there's a huge number of men who are affected by this, and I understand why they would want to see this screening, but we've got to follow the evidence. Right now, the PSA just isn't reliable enough for screening. It misses cancers. It can lead to invasive procedures that people don't need. The UK screening committee currently doesn't recommend routine or age-based PSA testing, but they're reviewing that evidence again this month. Obviously, we'll act on their advice.

In the meantime, I think it's really important that any man over 50, or younger if they are at higher risk, should speak to their GP. It is important that people take their health very seriously and follow up. Men, especially men over 50 and black men, should speak to their GP. Survival rates of prostate cancer are really high, so we wouldn't want to introduce a test that could do more harm than good.

Rwy'n deall bod hyn yn effeithio ar nifer enfawr o ddynion, ac rwy'n deall pam y bydden nhw'n dymuno gweld y sgrinio hwn, ond mae'n rhaid i ni ddilyn y dystiolaeth. Ar hyn o bryd, nid yw'r prawf PSA yn ddigon dibynadwy ar gyfer sgrinio. Nid yw'n nodi pob canser. Fe all arwain at weithdrefnau ymyrrol nad oes eu hangen ar bobl. Ar hyn o bryd nid yw pwyllgor sgrinio'r DU yn argymell profion PSA arferol nac ar sail oedran, ond fe fyddan nhw'n adolygu'r dystiolaeth honno unwaith eto'r mis hwn. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n gweithredu ar eu cyngor nhw.

Yn y cyfamser, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i unrhyw ddyn dros 50, neu iau os oes cyfradd uwch o risg, siarad â'i feddyg teulu. Mae hi'n bwysig bod pobl yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'w hiechyd a chymryd camau dilynol. Fe ddylai dynion, yn enwedig dynion dros 50 oed a dynion du, siarad â'u meddygon teulu. Mae cyfraddau goroesi canser y prostad yn uchel iawn, ac felly ni fyddem ni'n awyddus i gyflwyno prawf a allai wneud mwy o niwed nag o les.

Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog. 

Thank you very much to the First Minister. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt sy'n gwneud y datganiad busnes.

The next item will be the business statement and announcement. I call on the Trefnydd to make that statement. Jane Hutt to make the business statement. 

Member (w)
Jane Hutt 14:21:41
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Ar agenda heddiw, mae datganiad ar storm Claudia. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i gynnal dadl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad fel yr eitem busnes olaf cyn pleidleisio. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Thank you very much, Llywydd. There are two changes to this week's business. A statement on storm Claudia has been added to today's agenda. The Business Committee has agreed that the Standards of Conduct Committee debate should be taken as the last item of business before voting. Business for the next three weeks is shown on the business statement, which is available to Members electronically.

Trefnydd, I'm requesting a statement from the Welsh Government on support for the road haulage sector here in Wales. As we approach the busiest retail period of the year, I would like to pay tribute to our road hauliers, who work tirelessly in all conditions to ensure that goods are transported efficiently across the country. These individuals are often the unsung heroes of our economy, and I believe the sector is in clear need of greater support. In my previous role as Chair of the Economy, Trade and Rural Affairs Committee, the first subject inquiry I led focused on support for HGV drivers. I'm proud of the comprehensive report that the committee produced as a result of that work. The report set out 11 important recommendations. Trefnydd, I'd be grateful if we could have an update on the progress made in implementing those recommendations, together with details of any additional measures the Welsh Government is taking to support the road haulage sector here in Wales.

Trefnydd, rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i'r sector cludo nwyddau ar y ffyrdd yma yng Nghymru. Wrth i ni agosáu at gyfnod prysuraf y flwyddyn i fanwerthwyr, fe hoffwn i roi teyrnged i'r rhai sy'n cludo nwyddau ar y ffyrdd, ac sy'n gweithio yn ddiflino ym mhob tywydd i sicrhau bod nwyddau yn cael eu cludo yn effeithlon drwy'r wlad. Mae'r unigolion hyn yn arwyr di-glod yn ein heconomi ni, ac rwy'n credu bod angen mwy o gefnogaeth i'r sector. Yn fy swydd flaenorol yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, roedd yr ymchwiliad pwnc cyntaf a arweiniais i'n canolbwyntio ar gefnogaeth i yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Rwy'n falch o'r adroddiad cynhwysfawr a gynhyrchodd y pwyllgor o ganlyniad i'r gwaith hwnnw. Roedd yr adroddiad yn nodi 11 o argymhellion pwysig. Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r cynnydd sydd wedi bod i roi'r argymhellion hynny ar waith, ynghyd â manylion unrhyw fesurau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector cludo nwyddau ar y ffyrdd yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Like you, I would also like to pay tribute to road hauliers in Wales. I thank the ETRA committee, when you were previously chairing it, for producing that report, which, of course, did have recommendations for the Welsh Government. I'll ask the Cabinet Secretary to respond accordingly.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Fel chwithau, fe hoffwn innau hefyd roi teyrnged i gludwyr ar y ffyrdd yng Nghymru. Rwy'n diolch i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, pan oeddech chi'n ei gadeirio yn flaenorol, am gynhyrchu'r adroddiad hwnnw, a oedd, wrth gwrs, ag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Fe fyddaf i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb yn unol â hynny.

Rydw i'n nodi bod yna ddatganiad ysgrifenedig wedi bod ddydd Iau diwethaf ynglyn â'r cyhoeddiad am ddatblygiad newydd ar safle'r Wylfa. Mi fyddai wedi bod yn dda gallu cael datganiad ar lafar yma yn y Senedd, ac mi fyddwn i'n gofyn am gyfleon i sicrhau bod yna gyfle i drafod y datblygiad hwnnw yma yn y Senedd, ac nid dim ond fel un digwyddiad. Dwi'n gwneud yr alwad am sicrhau bod yna ddatganiadau cyson yn digwydd er mwyn diweddaru a chael barn y Senedd yma ynglŷn ag effaith y datblygiad yma ar Ynys Môn a'r economi Gymreig yn ehangach. Oherwydd mae yna sawl tasg o'n blaenau ni rŵan: sicrhau bod y cyfleon yn cael eu huchafu o ran swyddi yn lleol a'r impact economaidd ac ati, ond hefyd gwneud yn siŵr ein bod ni fel cymuned leol ac fel gwlad yn barod i gymryd y camau angenrheidiol i liniaru lle mae yna heriau annatod yn codi yn sgil unrhyw ddatblygiad o'r maint a'r natur yma. Felly, mae'r apêl yna am gyfle i gael yma yn y Senedd, yn amser y Llywodraeth, y cyfle i drafod y datblygiad yma, a sicrhau bod hynny yn digwydd yn gyson wrth i gamau cael eu cymryd dros y cyfnod nesaf.

I note that there was a written statement last Thursday on the announcement of the new development on the Wylfa site. It would have been good to have had an oral statement here in the Senedd, and I would request opportunities to ensure that there's an opportunity to discuss that development here in the Senedd, and not just as one event. I am making the call for regular statements in order to provide updates and seek the Senedd's views on the impact of this development on Anglesey and the Welsh economy more broadly. Because we are facing a number of tasks now: to ensure that opportunities are maximised in terms of local jobs and the economic impact, but also to ensure that we, as a local community and as a nation, are ready to take the necessary steps to mitigate the integral challenges that are sure to arise in terms of a development of this scale and nature. So, I appeal for an opportunity to have time, in Government time here in the Senedd, to discuss this development, and to ensure that that happens regularly as steps are taken over the ensuing period.

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. I know the First Minister was calling on you as she was welcoming that great investment and that plan, which I do believe I heard you welcoming as well on Radio Cymru on the day. It is a hugely important development for north Wales. Indeed, it was great to see all those Coleg Menai students and apprentices, who could see the opportunities that lay ahead, and also just hearing from the community as well, that optimism that was coming through. But of course, this is something that is a demonstration of the influence the First Minister and the Welsh Government have to ensure that this development is taking place in Wylfa on Ynys Môn.

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Fe wn i fod y Prif Weinidog yn galw arnoch chi wrth groesawu'r buddsoddiad rhagorol hwnnw a'r cynllun hwnnw, ac rwy'n credu fy mod i wedi eich clywed chi'n ei groesawu ar Radio Cymru ar y diwrnod hefyd. Mae hwn yn ddatblygiad hynod bwysig i'r gogledd. Yn wir, roedd hi'n hyfryd gweld yr holl fyfyrwyr a phrentisiaid hynny yng Ngholeg Menai, a oedd yn gallu gweld y cyfleoedd sydd i ddod, a chlywed oddi wrth y gymuned hefyd, yr optimistiaeth a oedd i'w gweld. Ond wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth sy'n dangos y dylanwad sydd gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod y datblygiad hwn yn digwydd yn Wylfa ar Ynys Môn.

14:25

I'd like to ask for two statements today, please. First of all, I wondered if we could have an update on the baby bundle scheme from the Minister for Children and Social Care. It's some time since we last heard of what was happening, and I know that there's been progress. So, it'd be great to actually hear what was happening. And I'd like to use the opportunity to pay tribute to a small group in Cardiff, who worked on this from 2018. A member of the union, a member of Swansea University and one of my constituency workers came up with a plan for what was a baby box then, but, of course, it has developed into a baby bundle. I think it would be absolutely great when this goes out, so could we have a statement on that?

And the other thing: would it be possible to have a statement from the Minister for Further and Higher Education about the great research that has been carried out in Welsh universities? It was wonderful to see the announcement last week about the research being undertaken by Cardiff University into new treatments for serious mental illnesses like schizophrenia, bipolar and psychosis. They're going to do this by looking at the underlying biological, psychological and social reasons behind these illnesses. This could be groundbreaking and could result in the ability to create new treatments for these illnesses, for which there hasn't really been any new treatment developed for 50 years.

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch chi'n dda. Yn gyntaf i gyd, roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddiweddariad ar y cynllun bwndeli babi gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Mae cryn amser wedi bod ers i ni glywed am yr hyn a oedd yn digwydd, ac fe wn i fod cynnydd wedi bod. Felly, fe fyddai hi'n hyfryd clywed beth a oedd yn digwydd mewn gwirionedd. Ac fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle i roi teyrnged i grŵp bach yng Nghaerdydd, a weithiodd ar hyn o 2018. Lluniodd aelod o'r undeb, aelod o Brifysgol Abertawe ac un o weithwyr fy etholaeth gynllun ar gyfer yr hyn a elwid yn focs babi bryd hynny, ond, wrth gwrs, mae hwnnw wedi datblygu yn fwndel babi. Rwy'n credu y byddai hi'n gwbl gampus pan ddaw hyn allan, felly a gawn ddatganiad ynglŷn â hynny?

A'r peth arall: a fyddai hi'n bosibl i ni gael datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch am yr ymchwil rhagorol a gafodd ei wneud ym mhrifysgolion Cymru? Roedd hi'n ardderchog gweld cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am yr ymchwil sy'n cael ei wneud gan Brifysgol Caerdydd o ran triniaethau newydd ar gyfer afiechydon meddwl difrifol fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, a seicosis. Fe fyddan nhw'n gwneud hyn drwy edrych ar y rhesymau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sylfaenol y tu ôl i'r afiechydon hyn. Fe allai hyn fod yn arloesol ac arwain at y gallu i lunio triniaethau newydd ar gyfer yr afiechydon hyn, na chafodd unrhyw driniaeth newydd ei datblygu ar eu cyfer nhw mewn gwirionedd ers 50 mlynedd.

Diolch yn fawr, Julie Morgan, and thank you for championing what was then the baby box. I recall coming out and meeting with parents at a childcare setting many moons ago, it feels, doesn't it? But now we are in this position to offer a baby bundle to more families across Wales. It remains a priority for the Welsh Government and, of course, a programme for government commitment.

In fact, I was pleased that on 3 November, alongside Dawn Bowden, the Minister for Children and Social Care, I met with Allied Publicity Services, the main supplier for the baby bundles programme, and their Wales-based subcontractors. It was good that we had local social enterprises engaged in the community—in fact, in the Minister's constituency in Merthyr Tydfil, and also one of the enterprises from Ebbw Vale, so local supplies.

Of course, the baby bundles programme will support families in need, but also the Welsh economy, as I've described, by creating and sustaining local employment. Just to say that a baby bundle will include items such as a warm blanket and clothing, as well as helpful information on where to turn for further help and support. We're on track to deliver the first baby bundles to eligible families from February 2026. This is very timely, this question, because first registrations are being taken from 25 November.

Thank you for also drawing attention to the important world-class research being undertaken at Cardiff University. Thank you for drawing attention to this, so that the Minister for Further and Higher Education can respond. It is so important that we support universities undertaking research that actually transforms lives. Cardiff University's leadership in mental health research is a prime example of how Welsh institutions contribute to global innovation. What's good, of course, in terms of looking at those issues, like the root causes of conditions like schizophrenia and bipolar disorder, is that it's also about collaboration—Cardiff University working with the NHS, other universities, and people with lived experience—to ensure research translates into real-world benefits.

Diolch yn fawr, Julie Morgan, a diolch i chi am hyrwyddo'r hyn a oedd yn focs babi ar yr adeg honno. Rwy'n cofio dod allan a chyfarfod â rhieni mewn lleoliad gofal plant dro byd yn ôl, felly mae hi'n teimlo, ynte? Ond nawr rydym ni yn y sefyllfa hon i gynnig bwndel babi i fwy o deuluoedd ledled Cymru. Mae hon yn dal i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, mae hi'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth.

Mewn gwirionedd, roeddwn i'n falch fy mod wedi cael cwrdd ag Allied Publicity Services, prif gyflenwyr y rhaglen bwndeli babi a'u hisgontractwyr nhw yng Nghymru, ar 3 Tachwedd gyda Dawn Bowden. Roedd hi'n dda bod gennym ni fentrau cymdeithasol lleol yn ymwneud â'r gymuned—mewn gwirionedd, yn etholaeth y Gweinidog ym Merthyr Tudful, a hefyd yn un o'r mentrau yng Nglynebwy, felly cyflenwadau lleol.

Wrth gwrs, bydd y rhaglen bwndeli babi yn cefnogi teuluoedd mewn angen, ond economi Cymru hefyd, fel y gwnes i ddisgrifio, trwy greu a chynnal cyflogaeth leol. Dim ond gair i ddweud y bydd bwndel babi yn cynnwys eitemau fel blanced gynnes a dillad, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ar ble i droi am gymorth a chefnogaeth bellach. Rydym ni ar y trywydd iawn i ddosbarthu'r bwndeli babi cyntaf i deuluoedd cymwys o fis Chwefror 2026. Mae hwn yn amserol iawn, y cwestiwn hwn, oherwydd fe fydd y cofrestriadau cyntaf yn cael eu cymryd o 25 Tachwedd.

Diolch i chi am dynnu sylw at yr ymchwil bwysig o safon fyd-eang sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd. Diolch i chi am dynnu sylw at hyn, er mwyn i'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ymateb. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n cefnogi prifysgolion sy'n ymgymryd ag ymchwil sy'n trawsnewid bywydau mewn ffyrdd gwirioneddol. Mae arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd gydag ymchwil iechyd meddwl yn enghraifft wych o sut y mae sefydliadau Cymru yn cyfrannu at arloesi byd-eang. Yr hyn sy'n dda iawn, wrth gwrs, o ran edrych ar y materion hynny, fel achosion sylfaenol cyflyrau fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, yw bod hynny'n ymwneud â chydweithio hefyd—Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda'r GIG, a phrifysgolion eraill, a phobl sydd â phrofiad bywyd—i sicrhau bod ymchwil yn trosi yn fanteision yn y byd go iawn.

14:30

Trefnydd, you'll recall that I've previously raised the community campaign that I'm leading to bring a banking hub to Pembroke Dock in south Pembrokeshire. Unfortunately, Link have determined that there isn't a requirement for one. However, we are compiling a very strong case to submit to them when they can review this on 29 January. Indeed, today I’ve written to the older person’s commissioner asking for their support for this campaign. Over 600 local people have signed my petition in support of bringing a banking hub, and, indeed, I’m involving the local MP as well, as this is a cross-party call for a banking hub in south Pembrokeshire. I’ll be including local charities and organisations as well.

But how can I go about getting support from the Welsh Government on this campaign, perhaps from yourself as the Cabinet Secretary for Social Justice, to really show that there is a societal need for a banking hub that serves the constituents of south Pembrokeshire?

Trefnydd, fe fyddwch chi'n cofio fy mod i wedi sôn o'r blaen am yr ymgyrch gymunedol yr wyf i'n ei harwain ar ddod â chanolfan fancio i Ddoc Penfro yn ne sir Benfro. Yn anffodus, mae Link wedi penderfynu nad oes angen am un. Serch hynny, rydym ni'n llunio achos cryf iawn i'w gyflwyno iddyn nhw pan fyddan nhw'n gallu adolygu hyn ar 29 Ionawr. Yn wir, rydw i wedi ysgrifennu heddiw at y comisiynydd pobl hŷn yn gofyn am ei chefnogaeth i'r ymgyrch hon. Mae dros 600 o bobl leol wedi llofnodi fy neiseb i gefnogi cyflwyno canolfan fancio, ac, yn wir, rwy'n cynnwys yr AS lleol hefyd, gan mai galwad drawsbleidiol yw hon am ganolfan fancio yn ne sir Benfro. Fe fyddaf i'n cynnwys elusennau a sefydliadau lleol hefyd.

Ond sut allaf i fynd ati i gael cefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ymgyrch hon, efallai oddi wrthych chi'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, i ddangos bod gwir angen am ganolfan fancio i fod o wasanaeth i etholwyr de sir Benfro?

Thank you very much. Diolch yn fawr, Sam Kurtz. Yes, I think banking hubs, with the loss of our high-street banks across the nation, are important. We have been welcoming and supporting the development of banking hubs, and I’ve been visiting some across Wales. And it’s good that you are looking to that wider support—the older people’s commissioner and, indeed, cross-party support as well—and I’m sure that Joyce Watson, Eluned Morgan and others will want to join you.

I will certainly take this back to my officials and ask them whether they're aware of this, and how we can also ensure that our support is also acknowledged.

Diolch yn fawr iawn i chi. Diolch yn fawr, Sam Kurtz. Ydw, rwyf i o'r farn fod canolfannau bancio, ar ôl i ni golli banciau'r strydoedd mawr ledled y genedl, yn bwysig iawn. Rydym ni wedi bod yn croesawu ac yn cefnogi datblygiad canolfannau bancio, ac fe fues i'n ymweld â rhai ledled Cymru. Ac mae'n beth da eich bod chi'n edrych ar y gefnogaeth ehangach honno—y comisiynydd pobl hŷn ac, yn wir, cefnogaeth drawsbleidiol hefyd—ac rwy'n siŵr y bydd Joyce Watson, Eluned Morgan ac eraill yn awyddus i ymuno â chi.

Yn sicr, fe fyddaf i'n sôn am hyn wrth fy swyddogion ac yn gofyn iddyn nhw a ydyn nhw'n ymwybodol o hyn ac, yn ogystal â hynny, sut y gallwn ni sicrhau bod ein cefnogaeth ni'n cael ei chydnabod hefyd.

Trefnydd, I wonder if we might have two statements from the health Secretary. I’ve been contacted by concerned constituents in Caldicot regarding the introduction of charges by pharmacists for what are known as 'dosette boxes'. These are boxes that help people store and organise their medication, to ensure they take the right medication at the right time. And those affected are often vulnerable and in receipt of means-tested benefits or, indeed, personal independence payments. They’re now paying as much as £25 a month, and I wonder if we might have a statement from the Cabinet Secretary for health on how he will work with the health board and community pharmacists to address this issue.

Tomorrow, Trefnydd, is World Chronic Obstructive Pulmonary Disease Day. It’s a condition affecting around 185,000 people here in Wales, with many more undiagnosed. It often worsens when winter-time viruses and flu strike, and I wonder if we might have a statement from the health Secretary on how Welsh Government will further support people with this condition, especially given that, since 2022, only half of sufferers in Wales have chosen to receive their flu vaccine, despite it being offered free to them.

Trefnydd, tybed a gawn ni ddau ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros iechyd. Mae etholwyr pryderus yng Nghil-y-coed wedi cysylltu â mi ynglŷn â fferyllwyr yn cyflwyno ffioedd am yr hyn a elwir yn 'flychau dosette'. Blychau yw'r rhain sy'n helpu pobl i storio a chael trefn ar eu meddyginiaethau, i sicrhau eu bod nhw'n cymryd y feddyginiaeth gywir ar yr amser priodol. Ac mae'r rhai yr effeithir arnynt gan hyn yn aml iawn yn agored i niwed ac yn cael budd-daliadau prawf modd neu daliadau annibyniaeth bersonol, yn wir. Maen nhw'n talu cymaint â £25 y mis erbyn hyn, ac rwy'n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar sut y bydd ef yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd a'r fferyllwyr cymunedol i ymdrin â'r mater hwn.

Yfory, Trefnydd, yw Diwrnod Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint. Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar oddeutu 185,000 o bobl yma yng Nghymru, gyda llawer mwy heb ddiagnosis. Yn aml, fe fydd y cyflwr yn gwaethygu pan fydd feirysau a ffliw yn taro yn ystod y gaeaf, ac rwy'n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros iechyd ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl â'r cyflwr hwn ymhellach, yn enwedig o ystyried mai dim ond hanner y dioddefwyr yng Nghymru sydd wedi dewis derbyn eu brechlyn ffliw ers 2022, er gwaethaf y ffaith ei fod yn cael ei gynnig am ddim iddyn nhw.

Diolch yn fawr, John Griffiths, am eich cwestiynau pwysig iawn. 

Thank you very much, John Griffiths, for your very important questions. 

Now, it’s interesting—the dosette boxes, as you say, are known as monitored dosage systems, and they are particularly important for people with protected characteristics. I can understand that that is really important, but the provision of dosette boxes isn’t part of the NHS contract for community pharmacies. But they can make reasonable adjustments to ensure people with protected characteristics can access all pharmacy services under the Equality Act 2010, and that includes ensuring people can take their prescribed medicines. And for community pharmacies, of course, it’s all-important for them, and their role, that they ensure that people can access their medications in this way.

And, of course, there are ways in which people and carers can be helped to take or administer medicine safely. Some people find that dosette boxes assist them in taking their medicine, but also there can be drawbacks. So, this is something that you’ve brought to our attention and is an important point that has been raised in your constituency. And I know that community pharmacies will be looking at this. Of course, the provision of dosette boxes is a private service. It remains a business decision made by the contractors as to whether to charge for this service or not.

You also draw attention, which is really important, to the fact that it's World Chronic Obstructive Pulmonary Disease Day tomorrow. It does go back to the statements that were made earlier this term about preparing for winter, particularly in terms of the impact on the NHS. I will take this opportunity, John Griffiths, to say that it's imperative, with the new strain and the earlier start of the flu season, that all those eligible get vaccinated, as, indeed, do those sufferers of COPD, as soon as possible. But I also wish to say that the vaccination teams and primary care contractors have worked really hard. Since 1 October, over 650,000 people have been vaccinated, which is a good record. I'm sure the Cabinet Secretary for Health and Social Care—. But, of course, there are more who could be eligible. We've sent advice and guidance to the NHS care homes on the importance of vaccination. But you have enabled us today, again, to share across the Senedd the importance of taking up the flu vaccination opportunities, to ensure that we mitigate the spread of flu and other respiratory viruses. There may be other interventions that are necessary to help, to ensure that we do take action to minimise the impact on vulnerable people in our health and care services.

Nawr, mae hi'n ddiddorol—y blychau dosette, fel rydych chi'n dweud, fe'u gelwir yn systemau dosau wedi'u monitro, ac maen nhw'n arbennig o bwysig i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Rwy'n gallu deall eu bod nhw'n bwysig iawn, ond nid yw darparu blychau dosette yn rhan o gytundeb y GIG ar gyfer fferyllfeydd cymunedol. Ond fe allan nhw wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod pobl â nodweddion gwarchodedig yn gallu gafael ar y gwasanaethau fferylliaeth i gyd sydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod pobl yn gallu cymryd eu meddyginiaethau presgripsiwn. Ac i fferyllfeydd cymunedol, wrth gwrs, mae'n hollbwysig iddyn nhw, a'u swyddogaeth, sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar eu meddyginiaethau yn y modd hwn.

Ac, wrth gwrs, mae yna ffyrdd y gellir helpu pobl a gofalwyr i gymryd neu weinyddu meddyginiaeth yn ddiogel. Mae rhai pobl yn canfod bod blychau dosette yn eu helpu nhw i gymryd eu meddyginiaeth, ond fe all anfanteision fod hefyd. Felly, mae hwn yn fater yr ydych chi wedi tynnu ein sylw ni eto ac mae'n bwynt pwysig a gododd yn eich etholaeth chi. Ac fe wn i y bydd fferyllfeydd cymunedol yn ystyried hyn. Wrth gwrs, gwasanaeth preifat yw'r ddarpariaeth o flychau dosette. Penderfyniad busnes yw hwn o hyd sy'n cael ei wneud gan y contractwyr ynghylch a ddylid codi tâl am y gwasanaeth hwn ai peidio.

Rydych chi'n tynnu sylw hefyd, sy'n beth pwysig iawn, at y ffaith y bydd hi'n Ddiwrnod Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint yfory. Mae hyn y dwyn i gof y datganiadau a gafodd eu gwneud yn gynharach yn y tymor hwn am baratoi ar gyfer y gaeaf, yn enwedig o ran yr effaith ar y GIG. Rwyf i am fanteisio ar y cyfle hwn, John Griffiths, i ddweud ei bod hi'n hanfodol, gyda'r straen newydd a'r tymor ffliw yn dechrau yn gynt, i bawb sy'n gymwys gael eu brechu, fel y rhai sy'n dioddef o Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint, cyn gynted â phosibl. Ond fe hoffwn i ddweud hefyd fod y timau brechu a'r contractwyr gofal sylfaenol wedi bod yn gweithio'n galed iawn. Ers 1 Hydref, mae dros 650,000 o bobl wedi cael eu brechu, sy'n ganmoladwy. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—. Ond, wrth gwrs, mae yna fwy o bobl a allai fod yn gymwys. Fe wnaethom ni anfon cyngor ac arweiniad at gartrefi gofal y GIG ynglŷn â phwysigrwydd brechiadau. Ond rydych chi wedi ein galluogi ni heddiw, unwaith eto, i fynegi ar draws y Senedd pa mor bwysig yw manteisio ar y cyfleoedd i frechu yn erbyn y ffliw i sicrhau ein bod ni'n lliniaru ymlediad y ffliw a feirysau anadlol eraill. Efallai y bydd ymyriadau eraill a fydd yn angenrheidiol i gynorthwyo, ar gyfer sicrhau ein bod ni'n cymryd camau i leihau'r effaith ar bobl agored i niwed yn ein gwasanaethau iechyd a gofal.

14:35

I'd like to request a statement, please, from the Cabinet Secretary for Health and Social Care regarding the motion approved by Denbighshire County Council last week declaring a health emergency. I'm sure the Trefnydd is aware that the Welsh Conservatives tabled a motion in July calling for a health emergency, which Welsh Labour MSs voted against. Today the situation still remains dire. We've also had comments echoing this from the chair of Betsi Cadwaladr University Health Board, which has the worst accident and emergency waiting times in the country, and those closest to what's happening on the ground, particularly councillors, have sent a strong message to the Welsh Government.

The Conservatives introduced the motion last week in Denbighshire County Council, and the Welsh Government's own Labour colleagues voted for an amended motion, which still declared a health emergency. So, can we have a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care on the declaration of a health emergency by Denbighshire County Council, and whether the Welsh Government will now follow suit?

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â'r cynnig a gymeradwywyd gan Gyngor Sir Ddinbych yr wythnos diwethaf yn datgan argyfwng iechyd. Rwy'n siŵr bod y Trefnydd yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynnig ym mis Gorffennaf yn galw am ddatgan argyfwng iechyd, ac fe bleidleisiodd Aelodau Llafur yn Senedd Cymru yn erbyn hynny. Mae'r sefyllfa yn dal i fod yn un ofnadwy heddiw. Fe gawsom ni sylwadau hefyd sy'n adleisio hyn gan gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd â'r amseroedd aros gwaethaf drwy'r genedl o ran adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'r rhai sydd agosaf at yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, yn enwedig cynghorwyr, wedi anfon neges gadarn at Lywodraeth Cymru.

Y Ceidwadwyr a gyflwynodd y cynnig yng Nghyngor Sir Ddinbych yr wythnos diwethaf, ac fe bleidleisiodd cyd-Aelodau Llywodraeth Cymru yn y Blaid Lafur o blaid cynnig diwygiedig eu hunain, a oedd hefyd yn datgan argyfwng iechyd. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddatganiad argyfwng iechyd gan Gyngor Sir Ddinbych, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn ei esiampl nawr?

Thank you for that question. It is obviously important that Betsi Cadwaladr University Health Board is responding to those publicly raised issues from a democratically elected local authority, and you do raise these issues, in terms of the pressures in Betsi Cadwaladr. It's good to see that a Betsi Cadwaladr health board spokesperson has said that improving urgent and emergency care is the health board's top operational priority, with plans to reduce delays in emergency departments, improve patient flow and develop services, and to develop services, for example—and I'm sure you would welcome this—at the Royal Alexandra Hospital in Rhyl.

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Mae hi'n amlwg yn bwysig fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymateb i'r materion hynny a godwyd yn gyhoeddus gan yr awdurdod lleol a etholwyd yn ddemocrataidd, ac rydych chi'n codi'r materion hyn, o ran y pwysau ar Betsi Cadwaladr. Mae hi'n beth da gweld bod llefarydd ar ran bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud mai gwella gofal brys yw prif flaenoriaeth weithredol y bwrdd iechyd, gyda chynlluniau ar gyfer byrhau oedi mewn adrannau brys, gwella llif cleifion a datblygu gwasanaethau, a datblygu gwasanaethau, er enghraifft—ac rwy'n siŵr y byddech chi'n croesawu hyn—yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl.

Good afternoon, Trefnydd. I wanted to request a statement, if I may, please, on health and social care. In September, 50 per cent of the patients in Powys hospitals were awaiting discharge. They were either fit to go and there was no social care available to them, or they were awaiting assessments. In November we find the number is exactly the same: 51 per cent of patients in Powys hospitals are still waiting to go home. Christmas is only round the corner, and we know how important it is for people to be at home. So, I'm just wondering what action and what focus is the Welsh Government giving in order to ensure that social carers are enhanced and packages of care, as well as joint assessments, which means that we can accelerate the pathways and speed at which people leave hospital. Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Trefnydd. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os caf i, os gwelwch yn dda, ar ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Ym mis Medi, roedd 50 y cant o'r cleifion yn ysbytai Powys yn aros i gael eu rhyddhau. Roedden nhw naill ai'n ddigon iach ond nad oedd gofal cymdeithasol ar gael iddyn nhw, neu eu bod nhw'n aros am asesiadau. Ym mis Tachwedd fe welwn ni fod y rhif yr un fath yn union: 51 y cant o gleifion yn ysbytai Powys yn aros i gael mynd adref. Mae'r Nadolig wrth y drws, ac fe wyddom ni pa mor bwysig yw hi i bobl fod yn eu cartrefi. Felly, rwy'n meddwl tybed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ac ar beth y mae hi'n canolbwyntio ar gyfer sicrhau bod gofalwyr cymdeithasol yn gallu manteisio ar becynnau gofal, yn ogystal ag asesiadau ar y cyd, sy'n golygu y gallwn ni gyflymu'r llwybrau a'r cyflymder o ran pobl yn gadael ysbytai. Diolch yn fawr iawn.

Thank you very much, Jane Dodds, for that very important question, which is particularly pertinent at this time of the year as well. Management and support for all patients to leave hospital in a safe and timely manner is a key Government priority. We've made significant improvements over the last few years in reducing the number of discharge delays. It is about improving the effectiveness of moving people out of hospital safely—it might be back to their homes, or on to their next stage of care. Of course, funding is crucial. Your support for funding has been vital in terms of the continued commitment to social care. We've invested £30 million now through the pathways of care transformation grant from 2025-26, and this funding is helping councils to support hospital discharge. But also it's about prevention, isn't it, strengthening community capacity to prevent avoidable admission. In terms of the importance of getting the packages of care, the social care funding, as you say, we've published updated guidance for staff on hospital discharge practices, which are routinely updated to ensure that that guidance remains current and relevant. So, we do expect multi-agency integrated health boards, the voluntary sector all to collaborate to ensure timely, safe and person-centred discharge planning. But, again, I thank you for your engagement with us in terms of the £30 million for the pathways of care transformation grant—vital to help move this forward.

Diolch yn fawr iawn i chi, Jane Dodds, am y cwestiwn pwysig iawn yna, sy'n arbennig o berthnasol ar yr adeg hon o'r flwyddyn hefyd. Mae rheolaeth a chefnogaeth i bob claf wrth adael yr ysbyty mewn modd diogel ac amserol yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth. Rydym ni wedi gwneud gwelliannau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf wrth leihau niferoedd yr oediadau o ran rhyddhau. Mae'n ymwneud â gwella'r effeithiolrwydd wrth symud pobl allan o'r ysbyty yn ddiogel—fe allai hynny olygu mynd yn ôl i'w cartrefi, neu ymlaen i'w cam gofal nesaf. Wrth gwrs, mae cyllid yn allweddol. Mae eich cefnogaeth ar gyfer cyllid wedi bod yn hanfodol o ran yr ymrwymiad parhaus i ofal cymdeithasol. Rydym ni wedi buddsoddi £30 miliwn erbyn hyn trwy Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal o 2025-26, ac mae'r cyllid hwn yn helpu cynghorau i gefnogi rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Ond mae'n ymwneud hefyd ag atal, onid yw e', a chryfhau'r gallu yn y gymuned i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellid eu hosgoi. O ran pwysigrwydd cael y pecynnau gofal, y cyllid gofal cymdeithasol, fel rydych chi'n dweud, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau diweddaredig i staff ynglŷn ag ymarfer rhyddhau o'r ysbyty, sy'n cael eu diweddaru yn rheolaidd i sicrhau bod y canllawiau hynny'n parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol. Felly, rydym ni'n disgwyl i'r byrddau iechyd integredig amlasiantaeth, a'r sector gwirfoddol gydweithio i gyd er mwyn sicrhau cynllun rhyddhau sy'n amserol, yn ddiogel ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Ond, unwaith eto, rwy'n diolch i chi am eich ymgysylltiad â ni o ran y £30 miliwn ar gyfer y Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal—sy'n hanfodol wrth helpu i symud hwn ymlaen.

14:40

Trefnydd, I'd like to request a statement from the Minister for Mental Health and Well-being on the urgent matter relating to the absence of specialist avoidant restrictive food intake disorders and complex feeding services within Cwm Taf Morgannwg University Health Board. Concerned parents have written to the Minister directly and to the health board on this issue, but the responses that they've received have not addressed the concerns about the complete lack of specialist service, nor the failure to implement the national pathway. This lack of a substantive reply from the health board and the Minister leaves parents very concerned about what the future means for their children. So, given the urgency of this, Trefnydd, could I request a statement on this matter, or can you instruct the Minister for Mental Health and Well-being to meet with me and concerned parents?

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y mater dyrys o ran absenoldeb gwasanaethau arbenigol anhwylderau cymeriant bwyd osgoi cyfyngol a bwydo cymhleth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae rhieni pryderus wedi ysgrifennu yn uniongyrchol at y Gweinidog ac at y bwrdd iechyd ynglŷn â'r mater hwn, ond nid yw'r ymatebion a gawson nhw wedi mynd i'r afael â'r pryderon ynglŷn â'r diffyg llwyr o wasanaethau arbenigol, na'r methiant i roi'r llwybr cenedlaethol ar waith. Mae methiant y bwrdd iechyd a'r Gweinidog i roi ateb gwirioneddol yn golygu bod rhieni yn bryderus iawn am yr hyn y mae'r dyfodol yn ei olygu i'w plant nhw. Felly, o ystyried pa mor argyfyngus yw hyn, Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y mater hwn, neu a wnewch chi gyfarwyddo'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gwrdd â'r rhieni pryderus a minnau?

Thank you very much, James Evans. It is important that you feed this back from parents who have raised this with you in terms of complex feeding services needed for their children, for your constituents, and to ensure that the health board, of course, is complying with and delivering on the pathway, to ensure that these services are fit for purpose. We will raise this, of course, with the Minister for Mental Health and Well-being, and I'm sure she will respond positively in terms of responding to you directly and engaging with you henceforth with constituents.

Diolch yn fawr iawn, James Evans. Mae hi'n bwysig eich bod chi'n dod â'r adborth hwn gerbron sydd wedi dod oddi wrth rieni sydd wedi codi hyn gyda chi o ran gwasanaethau bwydo cymhleth sy'n angenrheidiol ar gyfer eu plant, ar gyfer eich etholwyr, a sicrhau bod y bwrdd iechyd, wrth gwrs, yn cydymffurfio â'r llwybr ac yn cyflawni yn unol ag ef, i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn addas i'r diben. Fe fyddwn ni'n codi hyn, wrth gwrs, gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ymateb yn gadarnhaol o ran rhoi ateb uniongyrchol i chi ac ymgysylltu â chi o hyn ymlaen ynghyd ag etholwyr.

Trefnydd, on Friday of this week, a former member of this Senedd, Mr Nathan Gill, a former leader in Wales of Reform, will be sentenced in the Old Bailey for accepting Russian bribes. He has pleaded guilty to all eight charges. I'll be attending the sentencing hearing.

In the damning 2020 'Russia' report of the Intelligence and Security Committee of Parliament, it was clear that the last UK Government made no attempt to either see or seek evidence of interference in UK democratic processes. There are clearly many unanswered questions. Will the Welsh Government make a statement on any contacts they've had with the UK Government or security services regarding the activities and role that Mr Gill may have played whilst a Member of this Parliament and in receipt of public money?

Trefnydd, ddydd Gwener yr wythnos hon, bydd cyn-aelod o'r Senedd hon, Mr Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, yn cael ei ddedfrydu yn yr Hen Feili am dderbyn llwgrwobrwyon gan Rwsia. Mae wedi pledio yn euog i bob un o'r wyth cyhuddiad. Fe fyddaf i'n bresennol yn y gwrandawiad dedfrydu.

Yn adroddiad damniol 2020 'Russia' gan Bwyllgor Cuddwybodaeth a Diogelwch Senedd y DU, roedd hi'n amlwg nad oedd Llywodraeth ddiwethaf y DU wedi gwneud unrhyw ymgais i weld na chwilio am dystiolaeth o ymyrraeth ym mhrosesau democrataidd y DU. Mae hi'n amlwg bod llawer o gwestiynau heb eu hateb fyth. A yw Llywodraeth Cymru am wneud datganiad am unrhyw gysylltiadau a gafodd hi â Llywodraeth y DU neu'r gwasanaethau diogelwch ynglŷn â'r gweithgareddau a'r swyddogaeth y gallai Mr Gill fod wedi ei chyflawni pan oedd ef yn Aelod o'r Senedd hon ac yn cael arian cyhoeddus?

Thank you very much, Mick Antoniw. There haven't been any discussions with the UK Government on this particular matter, but it is a very concerning case, so thank you for drawing this to the attention of the Senedd. The case is centred on criminal infringements relating to political conduct and breaches of electoral or financial regulations, and raises significant concerns about transparency and integrity in public life. The case is an example of the importance of robust safeguards and scrutiny to uphold the standards that underpin our democratic process in Wales and the rest of the UK.

The Electoral Commission's got a key role to play here, and we're committed, of course, to the commission's independence, working in partnership with it to protect the integrity of our elections and democratic institutions. The Welsh Government doesn't comment on the work of the UK security services, but works closely with the UK Government and a range of partners to help ensure the integrity of Wales's democratic institutions and processes, defend against interference, and ensure all threats to Wales are understood and communicated appropriately.

Diolch yn fawr iawn, Mick Antoniw. Nid oes unrhyw drafodaethau wedi bod gyda Llywodraeth y DU ar y mater penodol hwn, ond mae'n achos pryderus iawn, felly diolch am dynnu hyn at sylw'r Senedd. Mae'r achos yn canolbwyntio ar doriadau troseddol sy'n ymwneud ag ymddygiad gwleidyddol a thorri rheoliadau etholiadol neu ariannol, ac mae'n codi pryderon sylweddol am dryloywder ac uniondeb mewn bywyd cyhoeddus. Mae'r achos yn enghraifft o bwysigrwydd mesurau diogelu a chraffu cadarn i gynnal y safonau sy'n sail i'n proses ddemocrataidd yng Nghymru a gweddill y DU.

Mae gan y Comisiwn Etholiadol rôl allweddol i'w chwarae yma, ac rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, i annibyniaeth y comisiwn, gan weithio mewn partneriaeth ag ef i amddiffyn uniondeb ein hetholiadau a'n sefydliadau democrataidd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau ar waith gwasanaethau diogelwch y DU, ond mae'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ac ystod o bartneriaid i helpu i sicrhau uniondeb sefydliadau a phrosesau democrataidd Cymru, amddiffyn rhag ymyrraeth, a sicrhau bod pob bygythiad i Gymru yn cael ei ddeall a'i gyfleu'n briodol.

Leader of the house, could I seek two statements from the health Minister, please? One is in relation to the dental reforms that are coming in in April next year. We can debate and discuss the pros and cons of those reforms, but the practicalities that dentist practices are highlighting with me are around the software and the roll-out of updates to that software. The one software provider, Software of Excellence, provides the computer systems to about 60 per cent of NHS practices, and the lack of information flowing from the Welsh Government has now driven that provider to withdraw its services and not offer any upgrades at all to the 60 per cent of practices, because they do not believe that time allows for the software to be updated and staff trained accordingly. So, it is vital that we understand why the Welsh Government haven't been engaging on supporting NHS dental practices to upgrade their software, and what measures they are putting in place to make sure that that computer database and staff training are in place, so that, if you are to proceed with the contract changes of 1 April, the support staff are fully trained and that the software can account for those changes. Otherwise, we will see people not getting the dental appointments that they require.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch chi'n dda? Un o ran y diwygiadau i ddeintyddiaeth a fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Fe allwn ni drin a thrafod manteision ac anfanteision y diwygiadau hynny, ond mae'r pethau ymarferol y mae practisau deintyddion yn tynnu sylw atyn nhw gyda mi yn ymwneud â'r feddalwedd a chyflwyniad diweddariadau i'r feddalwedd honno. Mae'r un darparwr meddalwedd, Software of Excellence, yn darparu'r systemau cyfrifiadurol i tua 60 y cant o bractisau'r GIG, ac mae diffyg llif gwybodaeth o Lywodraeth Cymru wedi gyrru'r darparwr hwnnw i dynnu ei wasanaethau yn ôl erbyn hyn a pheidio â chynnig unrhyw uwchraddiadau o gwbl i'r 60 y cant o bractisau, oherwydd nad ydyn nhw o'r farn fod amser yn caniatáu i'r feddalwedd gael ei diweddaru a hyfforddi'r staff yn unol â hynny. Felly, mae hi'n hanfodol ein bod yn deall pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â phractisau deintyddol y GIG i uwchraddio eu meddalwedd na'u cefnogi nhw i wneud felly, a pha fesurau y maen nhw'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod y gronfa ddata gyfrifiadurol honno a'r hyfforddiant staff yn digwydd yn iawn, fel y bydd y staff cymorth, os byddwch chi'n bwrw ymlaen â'r newidiadau i'r cytundeb ar 1 Ebrill, wedi cael eu hyfforddi yn iawn ac y gall y feddalwedd roi cyfrif am y newidiadau hynny. Fel arall, fe welwn ni bobl yn methu â chael yr apwyntiadau deintyddol sydd eu hangen arnyn nhw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

14:45

And the second statement, please, is in relation to the consultants' letter that came forward yesterday on the University Hospital of Wales here in Cardiff. There aren't many people who would not have some interaction with that hospital in the whole of south-east Wales, given the specialities that exist on that site. And it is really important that we understand what the Welsh Government is doing, working with the health board, to address the numerous concerns that the consultants and the negotiating committee highlighted. I understand that they were about to put a vote of no confidence in the management of the hospital, but they withdrew from doing that. But it shows the severity of the lack of action on behalf of the management and the concern that senior medics have about patient safety and staff safety on that site.

Ac mae'r ail ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, yn ymwneud â'r llythyr gan y meddygon ymgynghorol a ddaeth gerbron ddoe am Ysbyty Athrofaol Cymru yma yng Nghaerdydd. Nid oes llawer o bobl yn y de-ddwyrain i gyd na fydden nhw'n cael rhywfaint o ryngweithio â'r ysbyty hwnnw, o ystyried yr arbenigeddau sy'n bodoli ar y safle hwnnw. Ac mae hi'n bwysig iawn ein bod yn deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan weithio gyda'r bwrdd iechyd, i fynd i'r afael â'r pryderon niferus yr oedd y meddygon ymgynghorol a'r pwyllgor trafod yn tynnu sylw atyn nhw. Rwy'n deall iddyn nhw fod ar fin cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn rheolaeth yr ysbyty, ond fe wnaethon nhw ymatal rhag gwneud hynny. Ond mae hyn yn dangos pa mor ddifrifol yw'r diffyg gweithredu ar ran y rheolwyr a'r pryder sydd gan uwch feddygon am ddiogelwch cleifion a diogelwch staff ar y safle hwnnw.

So, what is the Welsh Government doing to work with the health board to address those concerns?

Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar gyfer gweithio gyda'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r pryderon hynny?

Thank you very much, Andrew R.T. Davies. You referred to the all-important implementation of dental reforms, which are crucial to patient services to our patients and, indeed, to the delivery of those reforms by our dental profession in Wales. You've drawn attention to one particular operational issue in relation to software provision. Of course, this is now on the record, and I'm sure that the Cabinet Secretary for Health and Social Care will be able to respond and, indeed, to follow this up in terms of an update on implementation.

On your second question, yes, there's no doubt that recent reviews of clinical services at Cardiff and Vale University Health Board have highlighted concerns regarding culture, individual behaviours, leadership, management structures and infrastructure. The reviews noted a perceived disconnect between executive leadership and front-line clinical teams, as well as limited clinical engagement and decision making. So, I just want to assure you that the health board's leadership has responded to correspondence, which you referred to, on the issues raised, with a commitment to improving communication and engagement. As far as Welsh Government actions are concerned, the chief medical officer and chief nursing officer have been leading a programme of work to strengthen clinical leadership in NHS Wales, and this includes developing an operating model for clinically led service improvement and transformation. Of course, that's working with all medical directors across Wales, but it will be crucially important for Cardiff and Vale University Health Board.

Diolch yn fawr iawn i chi, Andrew R.T. Davies. Roeddech chi'n cyfeirio at roi diwygiadau deintyddol ar waith, sy'n hollbwysig ac yn hanfodol i wasanaethau cleifion er mwyn ein cleifion ni ac, yn wir, o ran cyflawniad y diwygiadau hynny gan ein proffesiwn deintyddol ni yng Nghymru. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at un mater gweithredol penodol o ran darpariaeth meddalwedd. Wrth gwrs, mae hyn ar gofnod nawr, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gallu ymateb ac, yn wir, yn dilyn oddi ar hyn o ran diweddariad ar y gweithredu.

O ran eich ail gwestiwn, ie, nid oes unrhyw amheuaeth fod adolygiadau diweddar o wasanaethau clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch diwylliant, ymddygiadau unigol, arweinyddiaeth, y strwythurau rheoli a'r seilwaith. Roedd yr adolygiadau yn nodi datgysylltiad canfyddedig rhwng yr arweinyddiaeth weithredol a'r timau clinigol rheng flaen, yn ogystal â'r cyfyngiadau ar ymgysylltiad clinigol a gwneud penderfyniadau. Felly, rwy'n awyddus i'ch sicrhau bod arweinyddiaeth y bwrdd iechyd wedi ymateb i ohebiaeth, yr oeddech chi'n cyfeirio ati, ynglŷn â'r materion a godwyd, gydag ymrwymiad i rymuso cyfathrebu ac ymgysylltu. O ran camau gweithredu Llywodraeth Cymru, mae'r prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio wedi bod yn arwain rhaglen waith i gryfhau arweinyddiaeth glinigol yn GIG Cymru, ac mae hyn yn cynnwys datblygu model gweithredu dan arweiniad clinigol ar gyfer gwella a thrawsnewid gwasanaethau. Wrth gwrs, mae hynny'n golygu gweithio gyda'r holl gyfarwyddwyr meddygol ledled Cymru, ond fe fydd hyn yn hanfodol bwysig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Diolch. Thank you. Trefnydd, I'm calling for an urgent statement from the Cabinet Secretary for transport regarding the disruption and impact on the transport infrastructure in Monmouthshire and on the rail lines between Newport and Hereford, as a result of storm Claudia this weekend. Transport for Wales admitted that it could not guarantee that passengers, including workers, of course, would reach their destinations, and admitted there weren't enough replacement buses. Staff couldn't get to work, deliveries were delayed and, of course, people were unable to get to medical appointments. Storm damage, of course, is not an excuse for poor planning in this regard and there should have been replacement services in place. But also, we saw roads disrupted and closed, namely in Grosmont in Monmouthshire, where we saw a major route in and out of England, affecting businesses and residents, closed. It's not just that this needs a quick repair, but there needs to be prevention in the future regarding this and how we mitigate these sorts of disasters. So, I'm just wondering if we could have a statement on that. Diolch. 

Diolch. Trefnydd, rwy'n galw am ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â'r amhariad a'r effaith ar y seilwaith trafnidiaeth yn sir Fynwy ac ar y rheilffyrdd rhwng Casnewydd a Henffordd, o ganlyniad i storm Claudia'r penwythnos diwethaf. Roedd Trafnidiaeth Cymru yn cyfaddef na allai warantu y byddai teithwyr, gan gynnwys gweithwyr, wrth gwrs, yn cyrraedd pennau eu teithiau, ac nad oedd yna ddigon o fysiau i gymryd lle trenau. Nid oedd staff yn gallu mynd i'w gwaith, cafodd danfoniadau eu gohirio ac, wrth gwrs, nid oedd pobl yn gallu mynd i gael eu hapwyntiadau meddygol. Nid yw difrod storm, wrth gwrs, yn esgus dros gynllunio gwael yn hyn o beth ac fe ddylai fod digon o wasanaethau ar waith yn lle'r trenau. Ond hefyd, fe welsom ni ffyrdd yn dioddef amhariadau ac yn cau, sef yn Y Grysmwnt yn sir Fynwy, lle gwelsom ni brif lwybr i mewn ac allan o Loegr, sy'n effeithio ar fusnesau a thrigolion, ar gau. Nid yn unig fod angen cywiro hyn yn gyflym ond mae angen atal hyn yn y dyfodol ac ystyried sut y byddwn ni'n lliniaru trychinebau o'r fath. Felly, rwy'n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad ar hynny. Diolch. 

Well, of course, there will be imminently an oral statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for climate change on the impacts. Of course, there can be questions and there will be a statement. We must thank all of the emergency services and all of those who are responsible for our infrastructure in terms of their response. I think, sadly, the flood impacts we've seen so far this winter are yet another timely reminder of why we must continue to invest in our flood infrastructure. Climate change is increasing the risk of flooding to our communities. That's absolutely clear to us in the Welsh Government, and that's why we are maintaining record levels of funding through our flood and coastal risk management programme. And, of course, this does involve and include all of those who have responsibilities for providing services, including, of course, transport, road and rail.

Wel, wrth gwrs, fe fydd datganiad llafar cyn hir gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd ar yr effeithiau. Wrth gwrs, fe all fod cwestiynau ac fe fydd yna ddatganiad. Mae'n rhaid i ni ddiolch i'r gwasanaethau brys i gyd a phawb sy'n gyfrifol am ein seilwaith ni am eu hymateb nhw. Yn anffodus, rwy'n credu bod effeithiau'r llifogydd a welsom ni hyd yn hyn y gaeaf hwn yn atgofiad amserol arall o pam mae'n rhaid i ni ddal ati i fuddsoddi yn ein seilwaith llifogydd. Mae newid hinsawdd yn cynyddu'r risg o lifogydd i'n cymunedau. Mae hynny'n hollol eglur i ni yn Llywodraeth Cymru, a dyna pam rydym ni'n dal i fuddsoddi'r cyfraddau uchaf erioed o gyllid drwy gyfrwng ein rhaglen i reoli perygl llifogydd ac amddiffyn yr arfordir. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn golygu ac yn cynnwys pawb sydd â chyfrifoldebau am ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys, wrth gwrs, trafnidiaeth, y ffyrdd a'r rheilffyrdd.

14:50
3. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig: Storm Claudia
3. Statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs: Storm Claudia

Eitem 3 yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar storm Claudia. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies. 

Item 3 is a statement by the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on storm Claudia. I call on the Deputy First Minister to make the statement—Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 14:51:16
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ychydig dros fis yn ôl, fe wnes i sefyll yn y Siambr yn nodi beth rydyn ni a'n partneriaid wedi bod yn ei wneud i baratoi ar gyfer y gaeaf o'n blaenau. Yn barod, mae ein paratoadau wedi cael eu galw ar waith. Rydym wedi gweld tywydd garw rheolaidd yn arwain at lifogydd lleol, gan daro cymunedau ledled Cymru, gan arwain at effeithiau storm Claudia y penwythnos hwn. 

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. Just over a month ago, I stood in the Chamber setting out what we and our partners have been doing to prepare for the winter ahead. Already our preparations have been called into action. We have seen recurrent inclement weather leading to localised flooding, hitting communities across Wales, culminating in the impacts of storm Claudia this weekend.

I would like to start, Dirprwy Lywydd, by offering my heartfelt sympathies to every single household and every single business affected by the flood events this month, in Carmarthenshire, Monmouthshire and more broadly across Wales. I’ve seen the impacts up close, and people whose homes and businesses have been affected have told me just how devastating flooding can be. I also want to offer my wholehearted thanks to Natural Resources Wales, local authorities, third sector organisations and communities themselves, for your diligent preparations, your response work, and your recovery support that is helping right now to mitigate the impacts in our most hard-hit areas. Your proactive measures and rapid responses have helped to prevent the impacts from becoming more widespread.

Storm Claudia, Dirprwy Lywydd, arrived in Wales on 14 November, bringing strong winds and heavy rainfall. The stormy conditions particularly affected the south-eastern parts of Wales. During the highest impact on 14 November, a major incident was declared in Monmouth, where the River Monnow and River Wye overtopped defences, leading to widespread flooding. Just to be clear, rainfall peaked at 120mm in the Monnow catchment. Dirprwy Lywydd, we had nearly 5 inches of rain in around five hours. Other areas such as Abergavenny, Skenfrith, Osbaston, and Overmonnow in Monmouthshire were significantly impacted, but also parts of Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Caerphilly, Newport, and Powys as well. Natural Resources Wales issued four severe flood warnings during the storm, signalling a significant risk to life.

Whilst the full detail of the impacts from storm Claudia on communities across Wales is still emerging, my officials are in constant and close contact with local authorities. As of 11:30 this morning, current indications suggest that hundreds of homes and business have been flooded across the county of Monmouthshire. Impacts are also reported to have been felt in Monmouth itself, Skenfrith, Osbaston, Abergavenny, Little Mill, Monkswood, Penperlleni, Gilwern, Maesygwartha and Clydach, with the full scale yet to be determined. Beyond Monmouthshire, local authorities have reported 48 residential and three business properties as having been flooded, including two in Caerphilly, two in Cardiff, seven in Denbighshire, seven residential and one business in Newport, one in Powys, one in Rhondda Cynon Taf, 28 in Torfaen, and two business properties in the Vale of Glamorgan. That’s the extent of the widespread nature of this.

On Saturday 15 November, while the emergency response was still under way, I visited several communities affected by storm Claudia. Seeing the devastation first-hand is deeply sobering, and the impact on families and businesses will stay with me for many, many years to come. Accompanied by the leader of Monmouthshire County Council, I spoke to the head of the fire and rescue service in Monmouth on Saturday to express my gratitude for their hard work. Standing here in the Senedd a few days after the event, I would like to once again pay tribute to the emergency services, the local authority teams, the NRW staff and, indeed, volunteers who worked tirelessly to keep people safe and to limit the extent of the damage. They have been simply heroic. I also want to acknowledge the incredible resilience and solidarity shown by local communities: neighbours supporting neighbours, businesses offering shelter, volunteers stepping in to help with clean-up efforts. These acts of kindness and co-operation have been widely reported in Monmouth and beyond, and, I've got to say, they reflect the strength of our communities even in the hardest times.

We will continue, Dirprwy Lywydd, to receive further details on the impacts in the coming days and weeks, as local authorities move now into recovery and into investigation. My officials are working closely with the local authorities to establish what support they need, and we have already written to invite applications for funding to repair flood risk management infrastructure damaged by November events. I understand that local government finance officials are also working to establish what support can be provided through the emergency financial assistance scheme too.

Now, these past few weeks have been yet another reminder of the stark reality of our changing climate and the increasing frequency of extreme weather events. Whilst it is not possible to eliminate all flooding, we remain committed to reducing the impacts and strengthening resilience across Wales, and that is why we have invested a record £77 million this year into flood and coastal erosion risk management in Wales. This includes £36 million in capital funding, with £22 million allocated to NRW and £14 million to local authorities for flood alleviation schemes. We have made £185,000 available to Monmouthshire County Council in 2025-26 to progress their applications for flood risk management schemes in the region, and we're continuing to fund the grant award of £445,000 for the progression of the detailed design and full business case for a scheme at Woodside in Usk. My officials have met with Monmouthshire since storm Claudia to discuss emergency funding opportunities being made available. NRW have recently completed the strategic outline case for the Skenfrith scheme, and, following storm Claudia, officials are discussing with NRW the impacts of the storm and the implications for the scheme moving forward. The Welsh Government has also made £2.1 million available to Carmarthenshire County Council in 2025-26 to progress flood risk management schemes in the region, including almost £670,000 for the construction of the Arthur Street scheme. In addition, Dirprwy Lywydd, £2 million will support 23 natural flood management projects aimed at benefiting over 2,800 properties across Wales.

Now, these investments demonstrate our commitment to combining hard engineering with nature-based solutions to build our national resilience to flooding. I can also confirm that, in addition to the regular debriefs that always take place following a major event, I will also be undertaking my own debrief with stakeholders in the days ahead to ensure that lessons are learnt and captured and used to enhance once again our future resilience activities.

Fe hoffwn i ddechrau, Dirprwy Lywydd, drwy fynegi fy ngydymdeimlad o'r galon â phob aelwyd a phob busnes unigol yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau llifogydd y mis hwn, yn sir Gaerfyrddin, sir Fynwy ac yng Nghymru yn fwy eang. Fe welais i'r effeithiau o agos, ac fe ddywedodd pobl y bu i'w cartrefi a'u busnesau ddioddef yr effeithiau pa mor ddinistriol y gall llifogydd fod. Rwy'n dymuno mynegi diolch o galon i Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a'r cymunedau eu hunain, am eu paratoadau dyfal, eu gwaith ymateb, a'u cymorth wrth adfer sy'n helpu i liniaru'r effeithiau ar y foment hon yn ein hardaloedd ni sydd wedi cael eu taro galetaf. Mae eich mesurau rhagweithiol chi a'ch ymateb cyflym wedi helpu i atal yr effeithiau rhag mynd yn fwy eang.

Cyrhaeddodd Storm Claudia, Dirprwy Lywydd, yng Nghymru ar 14 Tachwedd, gan ddod â gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn ei sgil. Effeithiodd y tywydd stormus ar ardaloedd yn y de-ddwyrain yn fwyaf arbennig. Yn ystod yr effaith fwyaf ar 14 Tachwedd, cafodd digwyddiad mawr ei gyhoeddi yn Nhrefynwy, lle torrodd Afon Mynwy ac Afon Gwy dros amddiffynfeydd, a arweiniodd at lifogydd eang. Dim ond i fod yn eglur, cyrhaeddodd y glawiad uchafbwynt o 120mm yn nalgylch afon Mynwy. Dirprwy Lywydd, fe welsom ni bron i 5 modfedd o law mewn tua phum awr. Effeithiwyd yn sylweddol ar ardaloedd eraill fel y Fenni, Ynysgynwraidd, Osbaston, ac Overmonnow yn sir Fynwy yn ogystal â rhannau o Rondda Cynon Taf, Torfaen, Caerffili, Casnewydd a Phowys. Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru bedwar rhybudd o lifogydd difrifol yn ystod y storm, sy'n golygu bod perygl sylweddol i fywyd.

Er bod y manylion llawn ynglŷn ag effeithiau storm Claudia ar gymunedau ledled Cymru yn dal i ddod i'r golwg, mae fy swyddogion i mewn cysylltiad cyson ac agos â'r awdurdodau lleol. Fel roedd hi am 11:30 fore heddiw, mae'r arwyddion ar hyn o bryd yn awgrymu bod cannoedd o gartrefi a busnesau wedi dioddef llifogydd ar draws sir Fynwy. Adroddir hefyd fod effeithiau wedi cael eu teimlo yn Nhrefynwy ei hun, Ynysgynwraidd, Osbaston, Y Fenni, Y Felin Fach, Capel Coed y Mynach, Penperlleni, Gilwern, Maesygwartha a Chlydach, ac nid yw'r maint llawn wedi ei bennu eto. Y tu hwnt i sir Fynwy, mae awdurdodau lleol wedi adrodd bod 48 o dai a thri eiddo busnes wedi dioddef llifogydd, gan gynnwys dau yng Nghaerffili, dau yng Nghaerdydd, saith yn sir Ddinbych, saith annedd ac un busnes yng Nghasnewydd, un ym Mhowys, un yn Rhondda Cynon Taf, 28 yn Nhorfaen, a dau eiddo i fusnesau ym Mro Morgannwg. Dyna pa mor eang yw'r mater hwn.

Ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd, wrth i'r ymateb brys fod yn mynd rhagddo, fe ymwelais i â sawl cymuned yr effeithiwyd arnyn nhw gan storm Claudia. Mae gweld y dinistr yn uniongyrchol yn beth sobr iawn, ac fe fydd yr effaith ar deuluoedd a busnesau yn aros gyda mi am lawer iawn o flynyddoedd i ddod. Yng nghwmni arweinydd Cyngor Sir Fynwy, fe fues i'n siarad â phennaeth y gwasanaeth tân ac achub yn Nhrefynwy ar y dydd Sadwrn er mwyn mynegi fy niolchgarwch am eu gwaith caled nhw. Wrth sefyll yma yn y Senedd ychydig ddyddiau wedi'r digwyddiad, fe hoffwn i roi teyrnged unwaith eto i'r gwasanaethau brys, timau'r awdurdodau lleol, staff CNC ac, yn wir, i'r gwirfoddolwyr a weithiodd yn ddiflino i gadw pobl yn ddiogel a chyfyngu ar faint y difrod. Mewn gair, maen nhw wedi bod yn arwrol. Fe hoffwn i gydnabod y cydnerthedd a'r undod anhygoel y gwnaeth cymunedau lleol eu harddangos: cymdogion yn cefnogi cymdogion, busnesau yn cynnig lloches, gwirfoddolwyr yn camu i'r adwy i helpu gyda'r ymdrechion glanhau. Mae adroddiadau lu yn Nhrefynwy a thu hwnt am weithredoedd o garedigrwydd a chydweithrediad, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, maen nhw'n adlewyrchu cryfder ein cymunedau ni yn yr amseroedd caletaf hyd yn oed.

Fe fyddwn ni'n dal i gael rhagor o fanylion, Dirprwy Lywydd, am yr effeithiau yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf, wrth i awdurdodau lleol symud nawr tuag at adfer ac ymchwilio. Mae fy swyddogion i'n gweithio yn agos gyda'r awdurdodau lleol i ddeall pa gymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac rydym ni wedi ysgrifennu eisoes er mwyn gwahodd ceisiadau am gyllid i atgyweirio seilwaith rheoli perygl llifogydd a gafodd ei ddifrodi gan ddigwyddiadau mis Tachwedd. Rwy'n deall bod swyddogion cyllid llywodraeth leol yn gweithio i ddarganfod pa gymorth y gellir ei ddarparu trwy'r cynllun cymorth ariannol brys hefyd.

Nawr, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn atgofiad arall o sefyllfa wirioneddol hinsawdd newidiol ac amlder cynyddol digwyddiadau tywydd eithafol. Er nad yw hi'n bosibl gwneud i ffwrdd â llifogydd yn gyfan gwbl, rydym ni'n dal i fod yn ymrwymedig i leihau'r effeithiau a chryfhau cydnerthedd ledled Cymru, a dyna pam y gwnaethom ni fuddsoddi £77 miliwn eleni, y swm mwyaf erioed, mewn rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys £36 miliwn mewn cyllid cyfalaf, gyda dyraniad o £22 miliwn i CNC a £14 miliwn i'r awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd. Rydym ni wedi sicrhau bod £185,000 ar gael i Gyngor Sir Fynwy yn 2025-26 i fwrw ymlaen â'i geisiadau am gynlluniau rheoli perygl llifogydd yn y rhanbarth, ac rydym ni'n parhau i ariannu'r grant o £445,000 ar gyfer bwrw ymlaen â dyluniad manwl a'r achos busnes llawn ar gyfer cynllun yn Woodside ym Mrynbuga. Mae fy swyddogion i wedi cwrdd â sir Fynwy ers storm Claudia i drafod cyfleoedd cyllido brys sydd ar gael. Yn ddiweddar, mae CNC wedi cwblhau'r achos amlinellol strategol ar gyfer cynllun Ynysgynwraidd, ac yn dilyn storm Claudia, mae swyddogion yn trafod gyda CNC effeithiau'r storm a'r goblygiadau i'r cynllun wrth symud ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £2.1 miliwn ar gael i Gyngor Sir Gaerfyrddin hefyd yn 2025-26 i fwrw ymlaen â chynlluniau rheoli perygl llifogydd yn y rhanbarth, gan gynnwys bron i £670,000 ar gyfer adeiladu cynllun Stryd Arthur. Yn ogystal â hynny, Dirprwy Lywydd, bydd £2 filiwn yn cefnogi 23 o brosiectau rheoli llifogydd naturiol gyda'r nod o fod o fantais i dros 2,800 o dai ledled Cymru.

Nawr, mae'r buddsoddiadau hyn yn arddangos ein hymrwymiad i gyfuno gwaith peirianyddol cadarn a datrysiadau ar sail natur i fagu cydnerthedd drwy'r genedl o ran llifogydd. Fe allaf i gadarnhau hefyd, yn ogystal â'r ôl-drafodaethau sy'n digwydd yn rheolaidd ar ôl digwyddiad mawr bob amser, y byddaf i'n ymgymryd â'm hôl-drafodaeth fy hun gyda rhanddeiliaid yn y dyddiau nesaf i sicrhau y bydd gwersi yn cael eu dysgu a'u cadw mewn cof a'u defnyddio yn y dyfodol unwaith eto ar gyfer gwella ein gweithgareddau o ran cydnerthedd.

Felly, mae'n rhaid i ni gyd barhau i fod yn barod i ddelio â digwyddiadau llifogydd mwy aml a difrifol yn wyneb newid hinsawdd. Mae digwyddiadau'r mis hwn wedi dangos i ni eto fod paratoi yn hanfodol. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ganllawiau ymarferol ar eu gwefan ar beth i wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cymorth hwn a chofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd lleol, sydd am ddim ar gyfer eich ardal. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu ein gwydnwch ar y cyd a sefyll yn barod yn wyneb ein hinsawdd sy'n newid. Diolch.

We must, therefore, all continue to be ready to deal with more frequent and severe flood events in the face of climate change. The events this month have shown us again that preparedness is critical. NRW has practical guidance on its website on what to do before, during and after a flood. I urge everyone to make use of this support, and sign up for the free local flood warnings that are available for your area. Together, we can build our collective resilience and stand ready in the face of our changing climate. Thank you.

14:55

Thank you, Deputy First Minister, for that statement. Storm Claudia brought havoc right across Wales. We know that, and our heart goes out to everyone who was affected, wherever they were or are in Wales. But I'll focus my attention today, if I may, on those devastating scenes in Monmouth. First of all, can I thank you, First Minister, for actually attending early on on Saturday? You witnessed yourself some of the fallout and the huge damage that came about through scenes I've never witnessed before in my 45 years living in that area, and, talking to people of older generations, since the 1950s we have not seen such devastation.

Diolch i chi, Dirprwy Brif Weinidog, am y datganiad yna. Fe ddaeth Storm Claudia â dinistr ledled Cymru. Fe wyddom ni hynny, ac mae gofid calon gennym ni dros bawb yr effeithiwyd arnynt, ble bynnag yr oedden nhw neu y maen nhw yng Nghymru. Ond fe fyddaf i'n canolbwyntio fy sylwadau heddiw, os caf i, ar y golygfeydd dirdynnol hynny yn Nhrefynwy. Yn gyntaf i gyd, a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am fynd yno'n gynnar ar ddydd Sadwrn? Fe welsoch chi'r effeithiau a'r difrod aruthrol drosoch eich hun yn y golygfeydd na welais eu bath erioed o'r blaen yn ystod y 45 mlynedd y bues i'n byw yn yr ardal honno, ac, wrth siarad â phobl o genedlaethau hŷn, ni welsom ni'r fath ddinistr ers y 1950au.

And, actually, the devastation was of a different sort of ferocity than we might have seen in usual times when flooding is threatened, because it came in a different way. Usually, we would see the Wye full to the brim and pushing back the Monnow and causing a gentle flooding, or potential for flooding. This time, we didn't see the Wye so high, but we saw Monnow come forward with a ferocity that was frightening. We saw social media videos of a 7 ft or 8 ft rapid—I can only call it a 'rapid'—running down Monnow Street in Monmouth, causing damage to 50 per cent of the town's shops, probably, there, and it is horrifying what was left behind. And the other side, well, that attracted media attention across the world. The tragedy, in many ways, the human tragedy, lay across the bridge in Cinderhill Street, Drybridge Street and the areas of Overmonnow, and people are reeling from the effects there.

Many haven't got insurance. Many wouldn't be able to get insurance. Many of the businesses, because of the proximity to a river, face a massive excess straight away if they have got insurance. Some may have nowhere near the insurance to cover it. We saw businesses who've lost £20,000 to £30,000 of stock and no insurance to cover it; other businesses who've lost £65,000-worth in bookings through to Christmas that they can no longer honour, with £100,000 of capital losses as a result. And that's just in Monmouth town.

We saw, in Abergavenny, flooding and businesses flooded. I went to the community of Skenfrith yesterday and saw the devastation there—a small village with 23 houses, and they'd never seen flooding like it. Five times they've been flooded in five years, and I thank you, in the statement, for talking about the scheme there, but they feel like a village forgotten. The vicar said to me, because the church had been fully underwater, 'We are a dead village. Nobody wants us. Nobody cares about us. We have no future. We can't sell our homes.' Nobody can come in there. They believe they have to help themselves, and they're looking for help for specific things, things like higher volume water pumps, so they can actually help themselves, yet they feel that they're forgotten about, and I make their voice heard here.

But I want to, as you did, thank the community for the efforts they put in, in coming together. Out of adversity came something very special. The way the community came together—the town council, the local residents, community groups—it was awesome, the opportunity. I saw couples yesterday crying in tears. They had nothing left, everything had gone, and the Methodist chapel were kitting them out with everything they needed. It was heartbreaking.

And the emergency services, since Friday afternoon, right the way through, all the blue-light services, many other groups, and Monmouthshire—. I pay massive tribute to MCC's emergency staff, who were just wonderful. Yesterday, there was lorry after lorry clearing hundreds of tons of waste out from the town. You'd probably go there today and you'd think nothing had happened, unless you went into the bowels of the shops that were affected.

I thank you for your statement, and whilst we recognise that there has been some money made available to the county to do certain bits of work, and there's the Woodside scheme coming on, and the Skenfrith project, the reality is that was in motion before we saw the scale of what we have now. And I would ask you to consider, perhaps directly, is there likely to be direct support to residents and to businesses—things that we've heard offered in other areas in similar situations? Those businesses are so anxious about what might happen next. Some of them, they're just lost now, and it'll probably be the last straw for some in the future, as they roll up towards Christmas. And if the council were to offer something as powerful as a non-domestic rates break for a short period, a holiday, will the Government stand behind them and underwrite that, or are they expected to manage that? Because, at the moment, your statement, as well meaning as it is, doesn't give the clarity that people want today. The council is on recovery today. It's started that mode and it needs positive messages to be fed through. So, Dirprwy Lywydd—

Ac, mewn gwirionedd, roedd y difrod â math gwahanol o ffyrnigrwydd o'i gymharu â'r hyn y gallem fod wedi'i weld mewn cyfnodau arferol pan fo llifogydd yn bygwth, oherwydd daeth mewn ffordd wahanol. Fel arfer, byddem yn gweld afon Gwy yn llawn i'r ymylon ac yn gwthio afon Mynwy yn ôl ac yn achosi llifogydd ysgafn, neu bosibilrwydd o lifogydd. Y tro hwn, ni welsom afon Gwy mor uchel â hynny, ond gwelsom afon Mynwy yn dod ymlaen gyda ffyrnigrwydd a oedd yn frawychus. Gwelsom fideos ar y cyfryngau cymdeithasol o ddyfroedd gwyllt 7 troedfedd neu 8 troedfedd—ni allaf ond eu galw'n 'ddyfroedd gwyllt'—yn llifo i lawr Stryd Mynwy yn Nhrefynwy, gan achosi difrod i 50 y cant o siopau'r dref yno, mae'n debyg, ac mae'n ofnadwy yr hyn a adawyd ar ôl. A'r ochr arall, wel, denodd hynny sylw'r cyfryngau ledled y byd. Mae'r drasiedi, mewn sawl ffordd, y drasiedi ddynol, i'w gweld ar draws y bont yn Stryd Cinderhill, Stryd Drybridge ac ardaloedd Overmonnow, ac mae pobl yn gwegian yn sgil yr effeithiau yno.

Nid oes gan lawer yswiriant. Ni fyddai llawer yn gallu cael yswiriant. Mae llawer o'r busnesau, oherwydd eu bod yn agos at yr afon, yn wynebu tâl-dros-ben enfawr ar unwaith os oes ganddynt yswiriant. Efallai nad oes gan rai unrhyw yswiriant digonol. Gwelsom fusnesau sydd wedi colli gwerth £20,000 i £30,000 o stoc a dim yswiriant; busnesau eraill sydd wedi colli gwerth £65,000 mewn archebion hyd at y Nadolig na allant eu hanrhydeddu mwyach, gyda £100,000 o golledion cyfalaf o ganlyniad. A hynny yn nhref Trefynwy yn unig.

Yn y Fenni gwelsom lifogydd a busnesau dan lifogydd. Es i i gymuned Ynysgynwraidd ddoe a gweld y dinistr yno—pentref bach gyda 23 tŷ, ac nid oeddent erioed wedi gweld llifogydd fel hyn. Maen nhw wedi cael llifogydd bum gwaith mewn pum mlynedd, ac rwy'n diolch i chi, yn y datganiad, am siarad am y cynllun yno, ond maen nhw'n teimlo fel pentref anghofiedig. Dywedodd y ficer wrthyf, oherwydd bod yr eglwys wedi bod o dan y dŵr yn llwyr, 'Rydym yn bentref marw. Does neb eisiau ni. Does neb yn poeni amdanom ni. Nid oes gennym ddyfodol. Allwn ni ddim gwerthu ein cartrefi.' Ni all neb ddod i mewn yno. Maen nhw'n credu bod yn rhaid iddyn nhw helpu eu hunain, ac maen nhw'n chwilio am gymorth ar gyfer pethau penodol, pethau fel pympiau dŵr cyfaint uwch, fel y gallant helpu eu hunain mewn gwirionedd, ond maen nhw'n teimlo bod pawb wedi anghofio amdanynt, ac rwy'n sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed yma.

Ond rydw i eisiau, fel y gwnaethoch chithau, ddiolch i'r gymuned am yr ymdrechion maen nhw'n eu gwneud gan ddod at ei gilydd. Allan o adfyd daeth rhywbeth arbennig iawn. Y ffordd y daeth y gymuned at ei gilydd—cyngor y dref, y trigolion lleol, grwpiau cymunedol—roedd yn anhygoel, y cyfle. Gwelais gyplau ddoe yn crio. Doedd ganddyn nhw ddim byd ar ôl, roedd popeth wedi mynd, ac roedd y capel Methodistaidd yn rhoi iddyn nhw bopeth oedd ei angen arnynt. Roedd yn dorcalonnus.

A'r gwasanaethau brys, ers prynhawn dydd Gwener, drwy'r cyfnod hwn, yr holl wasanaethau golau glas, llawer o grwpiau eraill, a sir Fynwy—. Rwy'n talu teyrnged enfawr i staff brys Cyngor Sir Fynwy, a oedd yn wych. Ddoe, roedd lori ar ôl lori yn clirio cannoedd o dunelli o wastraff allan o'r dref. Mae'n debyg y byddech chi'n mynd yno heddiw a byddech chi'n meddwl nad oedd unrhyw beth wedi digwydd, oni bai eich bod chi'n mynd i mewn i ganol y siopau yr effeithiwyd arnynt.

Rwy'n diolch i chi am eich datganiad, ac er ein bod yn cydnabod bod rhywfaint o arian ar gael i'r sir i wneud rhywfaint o waith, ac mae cynllun Woodside yn dod ymlaen, a phrosiect Ynysgynwraidd, y gwir amdani yw bod rheini ar waith cyn i ni weld graddfa'r hyn sydd gennym nawr. A byddwn yn gofyn i chi ystyried, efallai'n uniongyrchol, a yw'n debygol y bydd cefnogaeth uniongyrchol i breswylwyr ac i fusnesau—pethau rydym ni wedi clywed amdanynt yn cael eu cynnig mewn ardaloedd eraill mewn sefyllfaoedd tebyg? Mae'r busnesau hynny mor bryderus am yr hyn a allai ddigwydd nesaf. Mae rhai ohonynt, maen nhw ar goll nawr, ac mae'n debyg mai dyma'i diwedd hi i rai yn y dyfodol, wrth iddyn nhw nesáu at y Nadolig. A phe bai'r cyngor yn cynnig rhywbeth mor bwerus â thoriad ardrethi annomestig am gyfnod byr, gwyliau, a fydd y Llywodraeth yn eu cefnogi nhw ac yn gwarantu hynny, neu a oes disgwyl iddyn nhw reoli hynny? Oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw eich datganiad, er ei fod â bwriadau da, yn rhoi'r eglurder y mae pobl ei angen heddiw. Mae'r cyngor ar adferiad heddiw. Mae wedi dechrau ar y dull hwnnw ac mae angen derbyn negeseuon cadarnhaol. Felly, Dirprwy Lywydd—

15:05

Peter, I've recognised your role as the constituency Member, and I'm giving you flexibility, but you need to come to a conclusion.

Peter, rydw i wedi cydnabod eich rôl fel yr Aelod dros yr etholaeth, ac rwy'n rhoi hyblygrwydd i chi, ond mae angen i chi ddod i ben.

I accept that, Dirprwy Lywydd—thank you very much. So, that does bring me to the end, Deputy First Minister. I thank you again for coming out to see what was happening there, and recognising the wider scope of damage across the county. But if you could give a firmer commitment today of what might be available to councils, to businesses and to individuals, it would be very much appreciated. Diolch.

Rwy'n derbyn hynny, Dirprwy Lywydd—diolch yn fawr iawn. Felly, mae hynny'n dod â mi i'r diwedd, Dirprwy Brif Weinidog. Diolch i chi eto am ddod allan i weld beth oedd yn digwydd yno, a chydnabod cwmpas ehangach y difrod ar draws y sir. Ond pe gallech roi ymrwymiad cadarnach heddiw o'r hyn a allai fod ar gael i gynghorau, i fusnesau ac i unigolion, byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch.

Peter, thank you very much. And in the most difficult of circumstances, it was good to be with you there on the streets in the lower part of Monmouth on that day, and also, I've got to say, to see the work that was going on with the volunteers down in the recreation centre and the wide support that was coming in across those communities.

And just to say, for those who may not be aware, you're right in what you're saying; people were telling us that they'd never seen the like of it, with the Monnow bursting its banks in anger and overtopping, while at the same time the Wye itself was swollen too. But the support that was coming in there included, for example, fire and rescue and blue-light services from right across Wales. There were people there who were turning up who were coming from Powys, from Newport, from south-west Wales and others to help out, as they were doing in other areas of Wales that were affected as well. We had local authorities like Torfaen who were lending their emergency pumps across to Monmouthshire, whilst they themselves were being affected as well. But it's that mutual support between local authorities that showed just how strong our statutory sector partners are in working together on this.

The Skenfrith scheme, I can say, as I mentioned in my opening remarks, Peter, is under consideration with NRW and with residents and with the local authority working through what would be best. Could I suggest as well, on the issue of more localised things for properties—and I've been with the Skenfrith residents before and, my goodness, they're getting regularly hit, and they're incredibly resilient and incredibly supportive of each other—on things like additional pumps or whatever, having that discussion with the local authority, the risk and resilience authority within the area, about whether the funding is appropriate to do those sorts of things as well?

And you asked me, quite rightly, what support will be available for businesses and residents. We're already in detailed discussion with all the local authorities affected, including Monmouthshire, about the emergency financial assistance scheme, EFAS. I'm expecting advice to be with me perhaps by the time I even sit down from this, but certainly within the next few hours. But we have also asked them to explore other options, as we've done previously, to see whether there are other ways in which we can support the businesses, because the important thing here is to enable people to get back into their homes as quickly as possible, and dry them out and get them back into their homes, but, secondly, for businesses to be up and running.

And in that respect, can I just say as well, we'd really encourage businesses—? And you're right on the struggle for homeowners who are in flood areas, but also businesses, in getting insurance. Flood Re is there, it's a deal with the insurance industry to make sure that insurance is available, but it doesn't extend to businesses. For businesses, can I just send out the clear message for them to engage with the BIBA, the British Insurance Brokers' Association, a commercial scheme that offers flood assurance for commercial properties, especially those who are at high flood risk? But we're also exploring in Welsh Government other opportunities for SMEs to get alternative finance and investment to become more resilient to flooding. But we've already got some there.

Business Wales can provide information and business advice to businesses managing the disruption of storms or flooding and so on. The Development Bank of Wales has confirmed it can support smaller businesses affected by flooding through the Wales micro loan fund—so, it's loans, but they can fast-track loans from £1,000 up to £50,000—and the Development Bank of Wales also offers flexibility around loans as well. So, I would signpost that to businesses, but, meanwhile, we in Welsh Government, working with the local authority in Monmouthshire, but also in other parts of Wales, are actively considering what additional support we can offer, and I suspect some local authorities, as we've had before, will themselves want to step up to the mark as well.

Peter, diolch yn fawr iawn. Ac yn yr amgylchiadau anoddaf, roedd yn dda bod gyda chi yno ar y strydoedd yn rhan isaf Trefynwy ar y diwrnod hwnnw, a hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, i weld y gwaith oedd yn digwydd gyda'r gwirfoddolwyr i lawr yn y ganolfan hamdden a'r gefnogaeth eang a oedd yn dod i mewn ar draws y cymunedau hynny.

A dim ond i ddweud, i'r rhai nad ydynt efallai'n ymwybodol, rydych chi'n iawn yn yr hyn rydych chi'n ei ddweud; roedd pobl yn dweud wrthym nad oedden nhw erioed wedi gweld ei debyg, gydag afon Mynwy yn torri ei glannau mewn dicter ac yn gorlifo, gydag afon Gwy yn chwyddo ar yr un pryd hefyd. Ond roedd y gefnogaeth a oedd yn dod i mewn yno yn cynnwys, er enghraifft, gwasanaethau tân ac achub a golau glas o bob cwr o Gymru. Roedd yna bobl yno a oedd wedi dod o Bowys, o Gasnewydd, o'r de-orllewin ac eraill i helpu, fel yr oeddent yn gwneud mewn ardaloedd eraill o Gymru a effeithiwyd hefyd. Roedd gennym awdurdodau lleol fel Torfaen a oedd yn benthyg eu pympiau brys i sir Fynwy, pan oedden nhw eu hunain yn dioddef yr effaith hefyd. Ond y gydgefnogaeth rhwng awdurdodau lleol a ddangosodd pa mor gryf yw ein partneriaid sector statudol wrth weithio gyda'i gilydd ar hyn.

Mae cynllun Ynysgynwraidd, gallaf ddweud, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, Peter, yn cael ei ystyried gan CNC a thrigolion ac mae'r awdurdod lleol yn gweithio drwy'r hyn a fyddai orau. A gaf i awgrymu hefyd, ar y mater o bethau mwy lleol o ran eiddo—ac rydw i wedi bod gyda thrigolion Ynysgynwraidd o'r blaen a bobl bach, maen nhw'n cael eu taro'n rheolaidd, ac maen nhw'n hynod o gydnerth ac yn hynod gefnogol i'w gilydd—ar bethau fel pympiau ychwanegol neu beth bynnag, cael y drafodaeth honno gyda'r awdurdod lleol, yr awdurdod risg a chydnerthedd yn yr ardal, ynghylch a yw'r cyllid yn briodol i wneud y mathau hynny o bethau hefyd?

Ac fe wnaethoch chi ofyn i mi, yn briodol, pa gymorth fydd ar gael i fusnesau a thrigolion. Rydym eisoes mewn trafodaeth fanwl gyda'r holl awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnynt, gan gynnwys sir Fynwy, am y cynllun cymorth ariannol brys, EFAS. Rwy'n disgwyl cael cyngor efallai erbyn i mi hyd yn oed eistedd i lawr, ond yn sicr o fewn yr oriau nesaf. Ond rydym hefyd wedi gofyn iddynt archwilio opsiynau eraill, fel yr ydym wedi'i wneud o'r blaen, i weld a oes ffyrdd eraill y gallwn ei defnyddio i gefnogi'r busnesau, oherwydd y peth pwysig yma yw galluogi pobl i fynd yn ôl i'w cartrefi cyn gynted â phosibl, a'u sychu a'u cael yn ôl i'w cartrefi, ond, yn ail, i fusnesau fod ar waith.

Ac yn hynny o beth, a gaf i ddweud hefyd, byddem yn annog busnesau mewn gwirionedd—? Ac rydych chi'n iawn am y frwydr i berchnogion tai sydd mewn ardaloedd llifogydd, ond hefyd busnesau, i gael yswiriant. Mae Flood Re yno, mae'n gytundeb gyda'r diwydiant yswiriant i wneud yn siŵr bod yswiriant ar gael, ond nid yw'n ymestyn i fusnesau. Ar gyfer busnesau, a gaf anfon y neges glir iddyn nhw ymgysylltu â BIBA, Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain, cynllun masnachol sy'n cynnig sicrwydd llifogydd ar gyfer eiddo masnachol, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl mawr o lifogydd? Ond rydym hefyd yn archwilio cyfleoedd eraill i fusnesau bach a chanolig gael cyllid a buddsoddiad amgen i ddod yn fwy cydnerth rhag llifogydd. Ond mae gennym ni rai yno eisoes.

Gall Busnes Cymru ddarparu gwybodaeth a chyngor busnes i fusnesau ynghylch rheoli amhariadau stormydd neu lifogydd ac ati. Mae Banc Datblygu Cymru wedi cadarnhau y gall gefnogi busnesau llai yr effeithir arnynt gan lifogydd drwy gronfa microfenthyciadau Cymru—felly, benthyciadau, ond gallant gynnig benthyciadau llwybr carlam o £1,000 hyd at £50,000—ac mae Banc Datblygu Cymru hefyd yn cynnig hyblygrwydd o ran benthyciadau hefyd. Felly, byddwn yn cyfeirio hynny at fusnesau, ond, yn y cyfamser, rydym ni yn Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r awdurdod lleol yn sir Fynwy, ond hefyd mewn rhannau eraill o Gymru, yn ystyried yn weithredol pa gymorth ychwanegol y gallwn ei gynnig, ac rwy'n amau y bydd rhai awdurdodau lleol, fel yr ydym wedi'i weld o'r blaen, eu hunain eisiau camu i'r adwy hefyd.

15:10

Thank you, Deputy First Minister, for your statement today and for the briefing over the weekend. My heart goes out to all those communities affected by the storm over the weekend. I really appreciate having that ongoing engagement with you and your team. It's been helpful and important in engaging with constituents. Storm Claudia has caused severe flooding across Monmouthshire, especially around Monmouth and Abergavenny and Skenfrith, leaving communities shaken and worried about the next prolonged period of rain, and they're not alone; people across Wales have been affected by this and previous storms.

I want to begin by thanking the council staff, emergency teams, and particularly the volunteers who stepped in straight away to help those at risk and to get essential services back up and running. Can the Government set out what support has been provided for evacuations and sheltering, and what extra help is being given to Monmouthshire County Council as the recovery continues? And are there further pots of funding that can be accessed to augment the Welsh Government funding that is being made available?

Given the border location of Monmouth, an update on any cross-border co-ordination over the weekend would also be welcome. Homes have been hit hard. Owners, tenants and renters are all dealing with the damage, lost belongings and the stress of temporary accommodation. Many are also struggling with insurers. What financial support is being offered and what discussions is the Government having with insurers to make sure people aren't left to cope alone? Especially with the weather reported to be getting much colder over the next week or so, what support is being given to those returning to homes that are cold and wet? Communities cannot keep facing repeated flooding. What long-term investment is planned to protect homes and strengthen flood defences? You've talked about some of those already.

How is the Government ensuring that early-warning systems are reliable and reach everyone who needs them? I also want to stress the importance of supporting local businesses. Monmouthshire is still open for business, and shops, cafes and producers need customers, especially with their Christmas trade at stake. Will the Government work with the council to make sure that the message reaches everybody and that the impact of the storm does not deter people from coming?

Finally, as the Plaid Cymru spokesperson on transport, I want to mention the disruption caused to the major train route between Newport and Hereford. It's welcome news that the train services have been able to resume today after the completion of emergency repairs to the large void left beneath the section of track near Pandy. I want to commend everybody involved in getting this important train service up and running. Are you now looking, with the Cabinet Secretary for transport, to futureproof our rail network for storms of the magnitude and frequency of storm Claudia that we are experiencing as a result of the climate crisis? I know from visiting Wales Rail Operating Centre earlier this year that extreme weather is becoming an increasing problem and factor in causing train delays and cancellations. Diolch yn fawr.

Diolch, Dirprwy Brif Weinidog, am eich datganiad heddiw ac am y sesiwn friffio dros y penwythnos. Mae fy nghalon yn mynd allan at yr holl gymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt gan y storm dros y penwythnos. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr cael yr ymgysylltiad parhaus hwnnw gyda chi a'ch tîm. Mae wedi bod yn ddefnyddiol ac yn bwysig wrth ymgysylltu ag etholwyr. Mae Storm Claudia wedi achosi llifogydd difrifol ar draws sir Fynwy, yn enwedig o amgylch Trefynwy a'r Fenni ac Ynysgynwraidd, gan adael cymunedau wedi'u hysgwyd ac yn poeni am y cyfnod hir nesaf o law, ac nid ydynt ar eu pennau eu hunain; mae pobl ledled Cymru wedi dioddef effeithiau'r storm hon a rhai blaenorol.

Rwyf eisiau dechrau trwy ddiolch i staff y cyngor, timau brys, ac yn enwedig y gwirfoddolwyr a gamodd i mewn ar unwaith i helpu'r rhai oedd mewn perygl ac i gael gwasanaethau hanfodol yn ôl ar waith. A all y Llywodraeth nodi pa gymorth sydd wedi'i ddarparu ar gyfer symud pobl o eiddo a rhoi lloches, a pha gymorth ychwanegol sy'n cael ei roi i Gyngor Sir Fynwy wrth i'r gwaith adfer barhau? Ac a oes rhagor o gyllid ar gael i gynyddu cyllid Llywodraeth Cymru sy'n cael ei ddarparu?

O ystyried lleoliad Trefynwy ar y ffin, byddai diweddariad ar unrhyw gydlynu trawsffiniol dros y penwythnos hefyd yn cael ei groesawu. Mae cartrefi wedi cael eu taro'n galed. Mae perchnogion, tenantiaid a rhentwyr i gyd yn ymdrin â'r difrod, eiddo a gollwyd a'r straen o lety dros dro. Mae llawer hefyd yn cael trafferth gydag yswirwyr. Pa gymorth ariannol sy'n cael ei gynnig a pha drafodaethau mae'r Llywodraeth yn eu cael gydag yswirwyr i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael i ymdopi ar eu pennau eu hunain? Yn enwedig gydag adroddiadau y bydd y tywydd yn llawer oerach dros yr wythnos nesaf, pa gefnogaeth sy'n cael ei roi i'r rhai sy'n dychwelyd i gartrefi sy'n oer ac yn wlyb? Ni all cymunedau barhau i wynebu llifogydd dro ar ôl tro. Pa fuddsoddiad hirdymor sydd wedi'i gynllunio i amddiffyn cartrefi a chryfhau amddiffynfeydd rhag llifogydd? Rydych chi wedi siarad am rai o'r rheini eisoes.

Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod systemau rhybuddio cynnar yn ddibynadwy ac yn cyrraedd pawb sydd eu hangen? Rwyf hefyd eisiau pwysleisio pwysigrwydd cefnogi busnesau lleol. Mae sir Fynwy yn dal ar agor ar gyfer busnes, ac mae siopau, caffis a chynhyrchwyr angen cwsmeriaid, yn enwedig gyda'u masnach Nadolig yn y fantol. A fydd y Llywodraeth yn gweithio gyda'r cyngor i wneud yn siŵr bod y neges yn cyrraedd pawb ac nad yw effaith y storm yn atal pobl rhag dod?

Yn olaf, fel llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, rwyf eisiau sôn am yr amhariad a achoswyd i'r prif lwybr trên rhwng Casnewydd a Henffordd. Mae'n newyddion i'w groesawu bod y gwasanaethau trên wedi gallu ailddechrau heddiw ar ôl cwblhau atgyweiriadau brys i'r gwagle mawr a adawyd o dan ran o'r rheilffordd ger Pandy. Rwyf eisiau canmol pawb a oedd yn ymwneud â'r gwaith o adfer y gwasanaeth trên pwysig hwn. Ydych chi nawr yn ceisio, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, i ddiogelu ein rhwydwaith rheilffyrdd yn y dyfodol ar gyfer stormydd o faint ac amlder storm Claudia yr ydym yn eu profi o ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd? Rwy'n gwybod o ymweld â Chanolfan Gweithrediadau Rheilffyrdd Cymru yn gynharach eleni fod tywydd eithafol yn dod yn broblem gynyddol ac yn ffactor sy'n achosi oedi a chanslo trenau. Diolch yn fawr.

Thank you very much, Peredur, and thanks for your time over the weekend there, as we talk through the implications of this critical event there. And you're right in saying that the volunteer support was quite incredible, what we saw being provided. not just in the recreation centre, but, as I was on the way there on Saturday morning, I called back because I had to cancel, in my own patch, events, and the instant response from people I was speaking to was, 'What can we do to fundraise?' And a fundraising forum was set up within an hour, and we were sending that message out as well. But it's the donations of clothes, of toys, people offering support in, 'Can I put somebody up in my home?' Because, bear in mind, we had people who were flooded in businesses and in their homes; we also had a caravan park where people were—. I know people will find this a bit odd, but people were holidaying. It's a beautiful place to holiday in the autumn. People were in caravans in the area that was flooded. But all of those people now, partly I have to say, by an incredible piece of work that we saw on the day by the local authority housing officers in actually rehoming both from the caravans, but people who'd lost their own home as well—. By that evening, it had gone down from 70 individuals to 20. By the following morning, everybody was in a home, they weren't in the leisure centre any more. But the leisure centre staff, as well, were incredible, the Red Cross who were there, the churches and chapels who were donating and organising it—a quite incredible response. So, you're absolutely right in paying tribute to the volunteers there and the support that's been, as we often see in these, from the area, but also across Wales as well.

The UK Government, just to inform you, reached out during the weekend as well, and we were very grateful for that, from both Department for Environment, Food and Rural Affairs Ministers and the Wales Office, but also from the Prime Minister's office, to say, 'Is there anything we can do?' We've assured them that through the good discussions that we're having with local authorities and with my good colleague here the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, but also Jayne Bryant, the Cabinet Secretary for housing, we're already engaged in discussions around EFAS, the emergency financial support, but also what else we might do. As I responded to Peter earlier on, we're looking at all options for what we could do. I'm sure the local authority is also considering what it can do as well.

The major infrastructure point is a really critical one. I've stood here before and talked about the fact that we need to invest in climate-resilient infrastructure, whether that is energy, whether that is rail, whether that is road networks, whether it is our disused tips as well, in the way that we monitor them, because we were also keeping a very close eye on those over the weekend, not just on disused tips, but on what you would regard as potential non-tip-based slips and so on. We are a hilly and valley country, and when the deluges come down in this way, we do assess them as well.

But in terms of rail, just to say the Marches line between Hereford and Abergavenny has now reopened. There are currently, I'm told, no outstanding issues reported for rail, the strategic road network or ports, but there were major impacts, and they've recovered well, and tribute to them. The force of the water from the River Monnow breaking its banks had significant impacts on the rail network in the area, but the £4 million invested by Transport for Wales in this line in 2021 to reduce the extreme weather impacts, to plan ahead and prepare for this, did reduce the overall impact on these lines, and has enabled us now to get them up and running much quicker than we would have otherwise. There's the investment of keeping the investment going in critical infrastructure as well.

You mentioned support for businesses in the run-up to Christmas. I spoke to businesses there in lower Monnow who had been affected, but it's also wider, because people would be looking at that and thinking, 'Well, the whole of Monmouth is closed there.' It isn't closed. It's open for business, and getting businesses back up on their feet is very important. I should say, I'll be going back there to do some of my Christmas shopping. People often comment on my glorious rose-patterned ties here. They're actually wedding ties, but it's my leitmotif here. I wear these ties. They're from a shop in Monmouth. So, I'll be making sure I go back and support them. But in all the communities affected, we need to get back on those high streets and support them in the run-up to Christmas because this is where they'll be making their money. Get them back on their feet and then go and spend your money in local businesses.

Diolch yn fawr iawn, Peredur, a diolch am eich amser dros y penwythnos, wrth i ni siarad trwy oblygiadau'r digwyddiad difrifol hwn. Ac rydych chi'n iawn wrth ddweud bod y gefnogaeth gan wirfoddolwyr yn anhygoel, yr hyn a welsom yn cael ei ddarparu. Nid yn unig yn y ganolfan hamdden, ond, pan oeddwn ar y ffordd yno fore Sadwrn, galwais yn ôl oherwydd bu'n rhaid i mi ganslo digwyddiadau yn fy ardal fy hun, a'r ymateb ar unwaith gan bobl roeddwn i'n siarad â nhw oedd, 'Beth allwn ni ei wneud i godi arian?' Ac roedd fforwm codi arian wedi'i sefydlu o fewn awr, ac roedden ni'n anfon y neges honno allan hefyd. Ond y rhoddion o ddillad, o deganau, pobl yn cynnig cefnogaeth, 'A allaf roi lloches i rywun yn fy nghartref?' Oherwydd, cofiwch, roedd pobl wedi dioddef llifogydd mewn busnesau ac yn eu cartrefi; roedd gennym hefyd barc carafanau lle roedd pobl—. Rwy'n gwybod y bydd pobl yn gweld hyn ychydig yn od, ond roedd pobl ar wyliau. Mae'n lle hyfryd ar gyfer gwyliau yn yr hydref. Roedd pobl mewn carafanau yn yr ardal a ddioddefodd lifogydd. Ond mae'r holl bobl hynny nawr, yn rhannol rhaid i mi ddweud oherwydd y gwaith a welsom ar y diwrnod gan swyddogion tai yr awdurdod lleol, wedi eu hailgartrefu, o'r carafanau, ond pobl a oedd wedi colli eu cartrefi eu hunain hefyd—. Erbyn y noson honno, roedd wedi gostwng o 70 o unigolion i 20. Erbyn y bore wedyn, roedd pawb mewn cartref, nid oeddent yn y ganolfan hamdden mwyach. Ond roedd staff y ganolfan hamdden, hefyd, yn anhygoel, y Groes Goch oedd yno, yr eglwysi a'r capeli â'u rhoddion ac yn trefnu—ymateb anhygoel wir. Felly, rydych chi'n hollol iawn wrth dalu teyrnged i'r gwirfoddolwyr yno a'r gefnogaeth sydd wedi bod, fel y gwelwn yn aml yn y rhain, o'r ardal, ond hefyd ledled Cymru.

Estynnodd Llywodraeth y DU gefnogaeth, dim ond i'ch hysbysu, yn ystod y penwythnos hefyd, ac roeddem yn ddiolchgar iawn am hynny, gan Weinidogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Swyddfa Cymru, ond hefyd gan swyddfa'r Prif Weinidog, a ddywedodd, 'A oes unrhyw beth y gallwn ei wneud?' Rydym wedi eu sicrhau, drwy'r trafodaethau da rydym ni'n eu cael gydag awdurdodau lleol a gyda fy nghyd-Ysgrifennydd yma, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, ond hefyd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros dai, ein bod eisoes wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn ag EFAS, y cymorth ariannol brys, ond hefyd beth arall y gallem ei wneud. Fel yr ymatebais i Peter yn gynharach, rydym ni'n edrych ar bob opsiwn ar gyfer yr hyn y gallem ei wneud. Rwy'n siŵr bod yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried beth y gall ei wneud hefyd.

Mae'r prif bwynt o ran seilwaith yn un hanfodol iawn. Rwyf wedi sefyll yma o'r blaen a siarad am y ffaith bod angen i ni fuddsoddi mewn seilwaith sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, p'un a yw hynny'n ynni, p'un a yw hynny'n rheilffyrdd, p'un a yw hynny'n rhwydweithiau ffyrdd, p'un a yw hynny'n domenni segur hefyd, yn y ffordd yr ydym yn eu monitro, oherwydd roeddem hefyd yn cadw llygad barcud ar y rheini dros y penwythnos, nid yn unig ar domenni segur, ond ar yr hyn y byddech chi'n eu hystyried yn llithriadau posibl nad ydynt yn ymwneud â'r tomenni ac ati. Rydym yn wlad o fryniau a dyffrynnoedd, a phan ddaw y dilywiau y ffordd yma, rydym yn eu hasesu nhw hefyd.

Ond o ran rheilffyrdd, dim ond i ddweud bod rheilffordd y Gororau rhwng Henffordd a'r Fenni bellach wedi ailagor. Ar hyn o bryd, dywedir wrthyf, nad oes unrhyw fater heb ei ddatrys o ran rheilffyrdd, y rhwydwaith ffyrdd strategol neu borthladdoedd, ond roedd effeithiau mawr, ac maen nhw wedi cael eu hadfer yn dda, a phob clod iddyn nhw. Effeithiodd grym y dŵr o Afon Mynwy ar ôl iddi dorri ei glannau yn sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn yr ardal, ond roedd y £4 miliwn a fuddsoddwyd gan Trafnidiaeth Cymru yn y rheilffordd hon yn 2021 i leihau effeithiau tywydd eithafol, i gynllunio ymlaen llaw a pharatoi ar gyfer hyn, yn lleihau'r effaith gyffredinol ar y rheilffyrdd hyn, ac mae wedi ein galluogi nawr i'w cael yn ôl ar waith yn llawer cyflymach nag y byddem fel arall. Mae yna fuddsoddiad i gadw'r buddsoddiad i fynd mewn seilwaith tyngedfennol hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn am gefnogaeth i fusnesau yn y cyfnod cyn y Nadolig. Siaradais â busnesau yn Nhrefynwy isaf a oedd wedi dioddef yr effeithiau, ond mae hefyd yn ehangach, oherwydd byddai pobl yn edrych ar hynny ac yn meddwl, 'Wel, mae Trefynwy gyfan ar gau.' Nid yw ar gau. Mae'n agored i fusnes, ac mae cael busnesau yn ôl ar eu traed yn bwysig iawn. Dylwn ddweud, byddaf yn mynd yn ôl yno i wneud rhywfaint o fy siopa Nadolig. Mae pobl yn aml yn gwneud sylwadau ar fy nheis ysblennydd gyda phatrymau rhosod yma. Maen nhw'n deis priodas mewn gwirionedd, ond hwn yw fy leitmotif yma. Rwy'n gwisgo'r teis hyn. Maen nhw'n dod o siop yn Nhrefynwy. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n mynd yn ôl a'u cefnogi nhw. Ond yn yr holl gymunedau yr effeithir arnynt, mae angen i ni fynd yn ôl i'r strydoedd mawr hynny a'u cefnogi yn y cyfnod cyn y Nadolig oherwydd dyma pryd y byddan nhw'n gwneud eu harian. Helpwch nhw'n ôl ar eu traed ac yna ewch i wario eich arian yn y busnesau lleol.

15:15

I want to echo all the thanks that you've given to all those people. I heard somebody say that people from Cardiff had gone down to deliver, so the community spirit was much wider than the initial community.

We know that there's been £77 million spent this year, with £36 million being for capital infrastructure. But there are other things we have to do when we're thinking of going ahead. We have to take the water out of the system, because the system's being deluged with water that doesn't necessarily need to be there. Of course, we've got sustainable urban drainage systems or SuDS that help in this area. But also, a fact that I keep mentioning is 1 cu ft of soil will keep 7.48 gallons of water in situ. That, obviously, leads me to hard-surface water. There was a report by Sir Michael Pitt way back in 2007, where he said that urban flooding, 80 per cent of it, is caused by run-off from hard surfaces. Going ahead, and to save the misery that we have seen, where it can be avoided, we have to invest in that. The £2 million for nature flood management projects, which is going to protect—

Rwyf eisiau adleisio'r holl ddiolchiadau rydych chi wedi'u rhoi i'r holl bobl hynny. Clywais rywun yn dweud bod pobl o Gaerdydd wedi mynd i lawr i ddosbarthu, felly roedd yr ysbryd cymunedol yn llawer ehangach na'r gymuned wreiddiol.

Gwyddom fod £77 miliwn wedi'i wario eleni, gyda £36 miliwn ar gyfer seilwaith cyfalaf. Ond mae yna bethau eraill y mae'n rhaid i ni eu gwneud pan fyddwn ni'n meddwl am fynd ymlaen. Mae'n rhaid i ni dynnu'r dŵr allan o'r system, oherwydd mae'r system yn dioddef gorlifiad dŵr nad oes angen iddo fod yno o reidrwydd. Wrth gwrs, mae gennym systemau draenio trefol cynaliadwy neu SDCau sy'n helpu yn y maes hwn. Ond hefyd, y ffaith yr wyf yn parhau i'w chrybwyll sef y bydd 1 troedfedd giwbig o bridd yn cadw 7.48 galwyn o ddŵr yn y fan a'r lle. Mae hynny, yn amlwg, yn fy arwain at ddŵr wyneb caled. Roedd adroddiad gan Syr Michael Pitt yn ôl yn 2007, pan ddywedodd fod llifogydd trefol, 80 y cant ohonynt, yn cael eu hachosi gan ddŵr ffo o wynebau caled. Wrth fynd ymlaen, ac i osgoi'r diflastod rydym ni wedi'i weld, lle gellir ei osgoi, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn hynny. Mae'r £2 filiwn ar gyfer prosiectau rheoli llifogydd natur, sy'n mynd i ddiogelu—

You need to ask a question now, please, Joyce.

Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda, Joyce.

15:20

—2,800 properties, is essential. So, will you give a guarantee today that you will look at all those solutions, particularly going forward, about those nature-based solutions where people, in many ways, can help themselves?

—2,800 eiddo, yn hanfodol. Felly, a wnewch chi roi gwarant heddiw y byddwch chi'n edrych ar yr holl atebion hynny, yn enwedig wrth fynd ymlaen, yr atebion hynny sy'n seiliedig ar natur lle gall pobl, mewn sawl ffordd, helpu eu hunain?

Yes, indeed. Thank you so much. It's such an important issue, and we can do this in a number of ways, this use of the upstream processes. So, that includes the remarkable investment that we've made with partners in peatland restoration, because that will hold the water in the uplands, slow the progress down to prevent flooding further downstream, and I've seen that all across Wales. We achieved our targets a year ahead, now we need to reset the targets and ask what more we can do and work with some of the big landowners to actually do that.

But we also need to look at the right trees in the right place—planting trees—and that includes alongside riparian corridors alongside the rivers, again slowing it down, as well as being good for wildlife. It also includes things such as the major investment that we're making in re-wiggling rivers. I've stood alongside the banks of these in places and it sounds like an odd thing, but we've channelised too many rivers that flow the water straight down to the communities below them, and it hits them and devastates them, so we need to get some of these natural processes going again.

So, I mentioned that we've put £2 million, currently, into that—it's 23 projects across Wales—but the impact is much bigger, because that's just short of 3,000 homes that it's having a beneficial effect on. We need to do more of this as time goes by. And we also need to do exactly what you're saying, which is in our townscapes, which are often townscapes that were designed in the 1930s, 1940s and 1950s, where we need SuDS being developed, but we also need to deal with surface water, run-off and the impact that has in flowing through to our rivers as well. It's a joined-up approach that's needed on this; it's not all to do with hard engineering, and some of this needs to be upstream.

Gwnaf, yn wir. Diolch yn fawr iawn. Mae'n fater mor bwysig, a gallwn wneud hyn mewn nifer o ffyrdd, y defnydd hwn o brosesau i fyny'r afon. Felly, mae hynny'n cynnwys y buddsoddiad rhyfeddol rydym ni wedi'i wneud gyda phartneriaid mewn adfer mawndiroedd, oherwydd bydd hynny'n dal y dŵr yn yr ucheldiroedd, yn arafu'r cynnydd er mwyn atal llifogydd ymhellach i lawr yr afon, ac rydw i wedi gweld hynny ledled Cymru. Fe wnaethom ni gyrraedd ein targedau flwyddyn ymlaen llaw, nawr mae angen i ni ailosod y targedau a gofyn beth mwy y gallwn ei wneud a gweithio gyda rhai o'r tirfeddianwyr mawr i wneud hynny mewn gwirionedd.

Ond mae angen i ni hefyd edrych ar y coed cywir yn y lle cywir—plannu coed—ac mae hynny'n cynnwys ochr yn ochr â choridorau glannau'r afon, ochr yn ochr ag afonydd, gan ei arafu eto, yn ogystal â bod o fudd i fywyd gwyllt. Mae hefyd yn cynnwys pethau fel y buddsoddiad mawr rydym ni'n ei wneud mewn ail-igam-ogamu afonydd. Rydw i wedi sefyll ar lannau'r rhain mewn mannau ac mae'n swnio fel peth od, ond rydym ni wedi sianelu gormod o afonydd sy'n peri i'r dŵr lifo yn syth i lawr i'r cymunedau oddi tanynt, ac mae'n eu taro ac yn eu dinistrio, felly mae angen i ni gael rhai o'r prosesau naturiol hyn ar waith eto.

Felly, soniais ein bod wedi rhoi £2 filiwn, ar hyn o bryd, i mewn i hynny—mae'n 23 o brosiectau ledled Cymru—ond mae'r effaith yn llawer mwy, oherwydd mae hynny'n cael effaith fuddiol ar bron i 3,000 o gartrefi. Mae angen i ni wneud mwy o hyn wrth i amser fynd heibio. Ac mae angen i ni hefyd wneud yn union yr hyn rydych chi'n ei ddweud, sef yn ein trefluniau, sy'n aml yn drefluniau a ddyluniwyd yn y 1930au, 1940au a'r 1950au, lle mae angen i ni ddatblygu SDCau, ond mae angen i ni hefyd ymdrin â dŵr wyneb, dŵr ffo a'r effaith y mae'n ei gael wrth lifo drwodd i'n hafonydd hefyd. Mae angen ddull cydgysylltiedig ar gyfer hyn; nid yw'r cyfan yn ymwneud â pheiriannu caled, ac mae angen i rywfaint o hyn fod i fyny'r afon.

Before I begin, I'd like to thank the Deputy First Minister, not only for your statement today, but also for reaching out to Members across the region, and as well to your team for being so proactive. It really did mean a lot.

The scenes we saw in Monmouth and the surrounding communities over the weekend were utterly heartbreaking, with flooding causing major devastation to many of my constituents. I want to take a moment, as well, to pay tribute not only to the emergency services and key agencies for their swift action in evacuating people and ensuring their safety, but also to all of the residents who've rallied together in the wake of the flooding and those further afield. I know that a mosque in Cardiff sent a van down there with goods to help and support the community, and it just showed that it doesn't matter about race, religion or creed, everyone rallies together whenever there's a problem in Wales, which was wonderful to see. And it was heartwarming to see the amazing response from locals when I visited the Methodist church yesterday, which has been turned into a donation centre for those in need. I would encourage anyone who needs support to head to the church as there is plenty for them to have.

I appreciate I'm short on time, Deputy Presiding Officer, so I'll make it quick. Cabinet Secretary, I know that many colleagues have touched upon various issues, but I have a couple of questions. First of all, is there any provision by the Welsh Government to provide business rate relief support for those affected by the flooding?

I'd also like to focus a little bit on the insurance aspect and I promise I will make it quick. Residents living near the river have been unable to insure their properties, and now, after enduring the unthinkable, are facing huge repair bills. I know that my colleague Peter Fox and others have raised this matter, and I appreciate that insurance is a private matter for individuals. However, many residents have found themselves in a predicament because they've found their properties to be uninsurable due to previous floods that have taken place in Monmouth. So, Deputy First Minister, what immediate financial support is the Government going to be giving and putting in place to help my constituents get back on their feet, taking this into consideration? You mentioned the EFAS earlier, but when will guidance be provided to us, and has any consideration been given to a longer term plan to ensure that no-one else is in this position should anything like this happen again? Thank you very much.

Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Brif Weinidog, nid yn unig am eich datganiad heddiw, ond hefyd am estyn allan at Aelodau ledled y rhanbarth, a hefyd i'ch tîm am fod mor rhagweithiol. Roedd yn golygu llawer mewn gwirionedd.

Roedd y golygfeydd a welsom yn Nhrefynwy a'r cymunedau cyfagos dros y penwythnos yn hollol dorcalonnus, gyda llifogydd yn achosi dinistr mawr i lawer o fy etholwyr. Rwyf am gymryd eiliad, hefyd, i dalu teyrnged nid yn unig i'r gwasanaethau brys a'r asiantaethau allweddol am eu gweithredu cyflym wrth symud pobl o'u cartrefi a sicrhau eu diogelwch, ond hefyd i'r holl drigolion sydd wedi ymgynnull gyda'i gilydd yn sgil y llifogydd a'r rhai ymhellach i ffwrdd. Rwy'n gwybod bod mosg yng Nghaerdydd wedi anfon fan i lawr yno gyda nwyddau i helpu a chefnogi'r gymuned, ac roedd yn dangos nad oes ots am hil, crefydd na chredo, mae pawb yn dod at ei gilydd pryd bynnag y mae problem yng Nghymru, a oedd yn hyfryd i'w weld. Ac roedd yn galonogol gweld yr ymateb anhygoel gan bobl leol pan ymwelais â'r eglwys Fethodistaidd ddoe, sydd wedi cael ei throi'n ganolfan rhoddion i'r rhai mewn angen. Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cefnogaeth i fynd i'r eglwys gan fod digon ar gael iddyn nhw.

Rwy'n gwerthfawrogi fy mod i'n brin o amser, Dirprwy Lywydd, felly byddaf yn gyflym. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n gwybod bod llawer o gyd-Aelodau wedi crybwyll materion amrywiol, ond mae gen i gwpl o gwestiynau. Yn gyntaf oll, a oes unrhyw ddarpariaeth gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth rhyddhad ardrethi busnes i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd?

Hoffwn hefyd ganolbwyntio ychydig ar yr agwedd yswiriant ac rwy'n addo y byddaf yn gyflym. Mae trigolion sy'n byw ger yr afon wedi methu yswirio eu heiddo, ac yn awr, ar ôl dioddef yr hyn sy'n anhygoel, maent yn wynebu biliau atgyweirio enfawr. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Peter Fox ac eraill wedi codi'r mater hwn, ac rwy'n gwerthfawrogi bod yswiriant yn fater preifat i unigolion. Fodd bynnag, mae llawer o drigolion wedi cael eu hunain mewn sefyllfa anodd oherwydd eu bod wedi canfod nad yw eu heiddo yn yswiriadwy oherwydd llifogydd blaenorol sydd wedi digwydd yn Nhrefynwy. Felly, Dirprwy Brif Weinidog, pa gefnogaeth ariannol uniongyrchol y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w rhoi a'i rhoi ar waith i helpu fy etholwyr i ddod yn ôl ar eu traed, gan ystyried hyn? Fe wnaethoch chi sôn am yr EFAS yn gynharach, ond pryd y bydd canllawiau yn cael eu rhoi i ni, ac a oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i gynllun tymor hwy i sicrhau nad oes neb arall yn y sefyllfa hon pe bai unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto? Diolch yn fawr iawn.

Thank you very much, and you're right in saying that in the insurance space, the Flood Re approach is an arrangement that was reached between insurers and the UK Government at the time, some years ago, and it is based on the classic insurer's balance of probabilities of risk for properties, but also on an understanding that Government will step into the space with investment. So, I think it's important in this space that we emphasise that we're doing our bit here—£77 million record funding into flooding—and on that basis, the insurers then provide a scheme through Flood Re. But you are right, it should mean that no domestic premises is uninsurable, but it can mean that the excess is high and the premiums are high, but not uninsurable, but it does stretch people. But you rightly say—and thank you for saying that—that insurance is a private piece, a contract between the home owner and the insurer, as opposed to Government stepping in and providing insurance.

The business rate relief support, I'm sure that's something that, locally, is being considered. In previous instances, interestingly, there are local authorities that found ways, either through that or other ways, of stepping in at a local authority level. What we can do, both through the emergency financial assistance scheme, or EFAS, and looking at other ways, which we have done before, thanks to my good colleagues around the Cabinet table, is find that and other ways in which we can help businesses and home owners to get back much quicker—[Inaudible.]—crisis event like this. So, we're looking at it. I'm hopeful, as I mentioned, that the advice will be with me within the next few hours—[Interruption.] Yes, indeed. As soon as we do, we'll make sure that we let all Members know what we've done and what we've come to, so they can convey that to their constituents as well.

I would also say to residents affected, 'If you haven't already, do look at insurers that offer the build back better options within their insurance', because that, then, working with the insurers—very simple things on flood resilience. It's funding of up to £10,000 with certain insurers, where they will—. For example, when I walked into one home there, it was a hard-surface floor—tick—rather than carpets. Not everybody likes hard-surface floors, but it means they can clean it out, mop it up and get back in within 24 hours, instead of days of getting rid of soaking, stinking, smelly furnishings on the floor and so on. Raising electric points, et cetera, et cetera. There are funds available with many insurers now to do that through build back better options.

But, again, I'd just close in response by saying that you're absolutely right: the support from communities right across Wales to places that were affected does, yes, warm your heart in the most tragic of circumstances. It really warms your heart.

Diolch yn fawr iawn, ac rydych chi'n iawn i ddweud bod y dull Flood Re yn drefniant rhwng yswirwyr a Llywodraeth y DU ar y pryd, rai blynyddoedd yn ôl, ac mae'n seiliedig ar gydbwysedd tebygolrwydd risg clasurol yswiriwr ar gyfer eiddo, ond hefyd ar ddealltwriaeth y bydd y Llywodraeth yn camu i'r adwy gyda buddsoddiad. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig yn y maes hwn ein bod yn pwysleisio ein bod yn gwneud ein rhan yma—£77 miliwn o gyllid hanesyddol ar gyfer llifogydd—ac ar y sail honno, mae'r yswirwyr wedyn yn darparu cynllun trwy Flood Re. Ond rydych chi'n iawn, dylai olygu nad oes unrhyw fangre ddomestig yn anyswiriadwy, ond gall olygu bod y tâl-dros-ben yn uchel a'r premiymau yn uchel, ond nid yn anyswiriadwy, ond mae'n rhoi pwysau ar bobl. Ond rydych chi'n dweud yn gywir—a diolch am ddweud hynny—bod yswiriant yn rhywbeth preifat, contract rhwng perchennog y cartref a'r yswiriwr, yn hytrach na'r Llywodraeth yn camu i mewn a darparu yswiriant.

Y cymorth rhyddhad ardrethi busnes, rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried. Mewn achosion blaenorol, yn ddiddorol, fe wnaeth awdurdodau lleol ddod o hyd i ffyrdd, naill ai trwy hynny neu ffyrdd eraill, o gamu i mewn ar lefel awdurdod lleol. Yr hyn y gallwn ni ei wneud, drwy'r cynllun cymorth ariannol brys, neu EFAS, ac edrych ar ffyrdd eraill, yr ydym wedi'i wneud o'r blaen, diolch i'm cyd-Aelodau da o amgylch bwrdd y Cabinet, yw dod o hyd i hynny a ffyrdd eraill y gallwn helpu busnesau a pherchnogion tai i fynd yn ôl yn gyflymach o lawer—[Anghlywadwy.]—digwyddiad argyfwng fel hwn. Felly, rydym ni'n edrych arno. Rwy'n gobeithio, fel y soniais i, y bydd y cyngor gennyf i o fewn yr oriau nesaf—[Torri ar draws.] Ydw, yn wir. Cyn gynted ag y byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi gwybod i'r holl Aelodau beth rydym ni wedi'i wneud a ble yr ydym ni, fel y gallant gyfleu hynny i'w hetholwyr hefyd.

Byddwn hefyd yn dweud wrth drigolion yr effeithir arnynt, 'Os nad ydych wedi gwneud eisoes, edrychwch ar yswirwyr sy'n cynnig opsiynau ailgodi'n gryfach o fewn eu hyswiriant', oherwydd hwnnw, gweithio gyda'r yswirwyr—pethau syml iawn ynghylch cydnerthedd rhag llifogydd. Mae'n gyllid hyd at £10,000 gan rai yswirwyr, lle byddant—. Er enghraifft, pan gerddais i mewn i un cartref yno, roedd y llawr yn wyneb caled—tick—yn hytrach na charpedi. Nid yw pawb yn hoffi llawr wyneb caled, ond mae'n golygu y gallant ei lanhau, ei fopio ac yna mynd yn ôl i mewn o fewn 24 awr, yn hytrach na threulio dyddiau yn cael gwared ar eitemau dodrefnu gwlyb, drewllyd ar y llawr ac ati. Codi pwyntiau trydan, ac ati, ac ati. Mae arian ar gael gan lawer o yswirwyr nawr i wneud hynny trwy opsiynau ailgodi'n gryfach.

Ond eto, rwyf am orffen mewn ymateb trwy ddweud eich bod chi'n hollol iawn: mae'r gefnogaeth gan gymunedau ledled Cymru i leoedd yr effeithiwyd arnynt yn cynhesu'ch calon yn yr amgylchiadau mwyaf trasig. Mae'n cynhesu eich calon mewn gwirionedd.

15:25

May I thank you for the statement? I would add my sympathy to everyone impacted recently. Unfortunately, it's far too frequent now that we have to have these statements, have these conversations, and I just wondered: I know you gave a statement only a few weeks ago about preparing for winter, but with the frequency and the extent of the storms, do we now need to re-look at the plans we have? Because, following storm Dennis, Natural Resources Wales said quite clearly that there was a shortage of circa 70 roles; we know that their budgets are still constrained. Local authorities are now looking to make savings; we know that they're struggling to recruit some of the jobs that are really crucial, in terms of ensuring that we're able to spend the money that you've made available to be able to respond to the flooding that we're seeing.

So, what steps are you going to be taking to ensure that we take stock of how significant these storms are now, re-look at the resources allocated, and ensure that we are in the best possible position to support communities so that they can build back, but also in terms of that psychological support, which we don't have in place currently? People have told me, ‘If I'm flooded again, I don't know if I can live.’ That's the point people are at. So, how do we ensure that the resources are there so that we can get going on a number of the proposals from the National Infrastructure Commission for Wales as well?

A gaf i ddiolch i chi am y datganiad? Byddwn yn ychwanegu fy nghydymdeimlad â phawb yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddar. Yn anffodus, rydym yn cael y datganiadau hyn yn llawer rhy aml nawr, y sgyrsiau hyn, ac roeddwn i'n meddwl: rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi datganiad ychydig wythnosau yn ôl ynghylch paratoi ar gyfer y gaeaf, ond gydag amlder a maint y stormydd, a oes angen i ni nawr ailedrych ar y cynlluniau sydd gennym? Oherwydd, yn dilyn storm Dennis, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn eithaf clir bod prinder o tua 70 o swyddi; gwyddom fod eu cyllidebau yn dal i fod yn gyfyngedig. Mae awdurdodau lleol bellach yn ceisio gwneud arbedion; rydym ni'n gwybod eu bod yn cael trafferth recriwtio i rai o'r swyddi sy'n wirioneddol hanfodol, o ran sicrhau ein bod ni'n gallu gwario'r arian rydych chi wedi'i roi ar gyfer ymateb i'r llifogydd rydym ni'n ei gweld.

Felly, pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i sicrhau ein bod yn ystyried pa mor arwyddocaol yw'r stormydd hyn nawr, ailedrych ar yr adnoddau sydd wedi'u dyrannu, a sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i gefnogi cymunedau fel y gallant godi'n ôl ar eu traed, ond hefyd o ran y gefnogaeth seicolegol honno, nad oes gennym ar waith ar hyn o bryd? Mae pobl wedi dweud wrthyf, 'Os ydw i'n dioddef llifogydd eto, dydw i ddim yn gwybod a allaf fyw.' Dyna'r sefyllfa y mae pobl ynddi. Felly, sut ydym ni'n sicrhau bod yr adnoddau yno fel y gallwn weithredu ar nifer o'r cynigion gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru hefyd?

Thank you, Heledd. Can I just thank you for raising regularly in this Senedd Chamber the issue of the mental toll on individuals and communities affected by this, whether it's people in Skenfrith who were affected one more time, or people like those in Clydach Terrace, who, like me, whenever they see the storm alerts, instantly think, ‘Well, I can't sleep tonight, I'm going to stay up’? Indeed, there were communities that were evacuated where the floods didn't hit, but they were evacuated in case, and I think that is the right approach. And it does show, by the way, that our flood preparedness, our flood alerts and our flood warning systems are now starting to bite with people; people are starting to really grasp the urgency of taking action.

We will keep a very close eye on that mental health support, and I know you've advocated consistently as well for what more we can do, either with or alongside the National Flood Forum, which provides such a useful form of support in many parts of communities affected by flooding. I've said in a previous statement, only recently, that we're taking forward a piece of work now looking at how we can have a Wales-wide approach on that, in one shape or another.

The other aspect that you raised was the question of whether we need to refresh our approach and refresh our strategy, in terms of the national infrastructure commission report and so on. Well, what we can say is that the record funding that we're putting in is doing good things. There are people who were not flooded this time around because of the investment that we're making. It's of no comfort to those who were flooded, but we have to be very clear on this: that record funding is protecting homes. There are people who were not flooded in this recent event, and previous ones, because of the measures we've put in place, some of which will never be seen, because they're things like culvert inspection, video monitoring et cetera. You only know because you haven't been flooded that they're working. But that's very important. 

The question is can we do more. I think the hard reality is that, as we're faced with these much more frequent, much more devastating flood impacts, this Senedd is going to have to keep revisiting this, and say whether the record funding we've got now is sufficient, or whether we need to do more, and, frankly, where that funding should go. Should it be in soft engineering in the uplands, to stop the water progressing down so fast, or is it in hard engineering, or is it in individual home resilience, or is it a mixture of them?

But we will keep stuck to that plate. We are not going to walk away from this, and we're not going to walk away from what is happening here. These are individual weather events, but there is absolutely no doubt now that what is happening is that we're having greater precipitation, in greater deluges—5 inches, just short of it, in five hours. It's happening more often, and that is down to water being picked up over the Atlantic and dropping on the valleys of Wales, and right across Wales. That is climate change in action.

Diolch, Heledd. A gaf i ddiolch i chi am godi'n rheolaidd yn Siambr y Senedd hon y mater o'r niwed meddyliol i unigolion a chymunedau yr effeithir arnynt gan hyn, boed hynny'n bobl yn Ynysgynwraidd yr effeithiwyd arnynt unwaith eto, neu bobl fel y rhai yn Nheras Clydach, sydd, fel fi, pryd bynnag y byddant yn gweld y rhybuddion storm, yn meddwl ar unwaith, 'Wel, ni allaf gysgu heno, Rydw i'n mynd i aros yn effro'? Yn wir, roedd yna gymunedau a gafodd eu symud lle nad oedd y llifogydd yn taro, ond cawsant eu symud rhag ofn, ac rwy'n credu mai dyna'r dull cywir. Ac mae'n dangos, gyda llaw, bod ein parodrwydd ar gyfer llifogydd, ein rhybuddion llifogydd a'n systemau rhybuddio llifogydd bellach yn dechrau taro pobl; mae pobl yn dechrau deall bod angen brys wrth weithredu.

Byddwn yn cadw llygad manwl iawn ar y cymorth iechyd meddwl hwnnw, ac rwy'n gwybod eich bod wedi eirioli'n gyson hefyd dros yr hyn gallwn ei wneud yn ychwanegol, naill ai gyda'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu ochr yn ochr ag ef, sy'n darparu math mor ddefnyddiol o gymorth mewn sawl rhan o gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd. Rwyf wedi dweud mewn datganiad blaenorol, dim ond yn ddiweddar, ein bod yn bwrw ymlaen â darn o waith nawr sy'n edrych ar sut y gallwn gael dull Cymru gyfan o ran hyn, mewn rhyw ffurf.

Yr agwedd arall a godwyd gennych oedd y cwestiwn a oes angen i ni adnewyddu ein dull ac adnewyddu ein strategaeth, o ran adroddiad y comisiwn seilwaith cenedlaethol ac ati. Wel, yr hyn y gallwn ei ddweud yw bod y cyllid hanesyddol rydym ni'n ei roi i mewn yn cyflawni pethau da. Mae yna bobl na chawsant lifogydd y tro hwn oherwydd y buddsoddiad rydym ni'n ei wneud. Nid yw'n gysur i'r rhai a gafodd lifogydd, ond mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn ar hyn: bod y cyllid hanesyddol yn diogelu cartrefi. Mae yna bobl na chawsant lifogydd yn y digwyddiad diweddar hwn, a'r rhai blaenorol, oherwydd y mesurau rydym ni wedi'u rhoi ar waith, rhai ohonynt na fyddant byth yn cael eu gweld, oherwydd maen nhw'n bethau fel arolygu cwlferi, monitro fideo ac ati. Rydych chi'n gwybod, dim ond oherwydd nad ydych wedi cael llifogydd, eu bod yn gweithio. Ond mae hynny'n bwysig iawn.

Y cwestiwn yw a allwn ni wneud mwy. Rwy'n credu mai'r gwir am y sefyllfa yw, wrth i ni wynebu'r effeithiau llifogydd llawer mwy aml, llawer mwy dinistriol, bydd yn rhaid i'r Senedd hon barhau i ailedrych ar hyn, a dweud a yw'r cyllid hanesyddol sydd gennym nawr yn ddigonol, neu a oes angen i ni wneud mwy, ac, i fod yn onest, i ble ddylai'r cyllid hwnnw fynd. A ddylai fod mewn peiriannu meddal yn yr ucheldiroedd, i atal y dŵr rhag symud i lawr mor gyflym, neu a yw mewn peiriannu caled, neu a yw mewn cydnerthedd cartref unigol, neu a yw'n gymysgedd ohonynt?

Ond byddwn yn glynu wrth hyn. Nid ydym yn mynd i gerdded i ffwrdd, ac nid ydym yn mynd i gerdded i ffwrdd o'r hyn sy'n digwydd yma. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau tywydd unigol, ond does dim amheuaeth nawr, yr hyn sy'n digwydd yw ein bod yn cael mwy o wlybaniaeth, mewn mwy o ddilywiau—5 modfedd bron mewn pum awr. Mae'n digwydd yn amlach, ac mae hynny oherwydd bod dŵr yn cael ei godi dros Fôr Iwerydd ac yn disgyn ar gymoedd Cymru, ac ar draws Cymru. Dyna newid hinsawdd ar waith.

15:30

Diolch. Cabinet Secretary, it has been heartbreaking to see first-hand the devastation in Monmouth, Skenfrith and Abergavenny over the last few days. I thank you too for coming there—it's really appreciated. I also want to start by thanking the emergency services, council staff, volunteers, people who've given up their homes and accommodation to those affected. I spoke to many in the services and in the community—having been in Monmouth over the last few days—who worked through the night, and tirelessly since. It was incredible to witness—one family, of course, having a newborn baby and all that that entails. Without their care and commitment, the situation could have been far worse. I'm thinking particularly of those elderly and disabled residents who were stranded in the dark following the power cut, with no food, and the inability to ring for help—something that perhaps needs better planning in the future. 

This flood has had a significant impact on Monmouthshire. Yes, there was, on the River Monnow, 5 inches of rain in five hours—understandable. But what is clear is that flood defences, pumps and infrastructure in Monmouth, Abergavenny and Skenfrith, and the often forgotten-about Grosmont, need to be drastically improved, with significant investment made in them by this Government. And drains, of course, need to be regularly cleared and maintained. Skenfrith, as has already been mentioned, saw major flooding. How many times does that place need to be flooded before the serious action that they need is in place? 

We also saw a major route in and out of Grosmont, to England, closed. There need to be preventative measures there put in place, as well as repairs. Our small villages need our protection, Cabinet Secretary, as well as our towns. I was going to ask you when that finance will be urgently made available. I thank you for the statement that you will update us ASAP on that, but I urge you to also have a full comprehensive review into the places that I've mentioned in Monmouthshire, please, and what we need to do going forward. These communities need real and urgent action, not warm words. Diolch.

Diolch. Ysgrifennydd Cabinet, mae wedi bod yn dorcalonnus gweld drosof fy hun y dinistr yn Nhrefynwy, Ynysgynwraidd a'r Fenni dros y dyddiau diwethaf. Diolch i chi hefyd am ddod yno— mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwyf hefyd eisiau dechrau trwy ddiolch i'r gwasanaethau brys, staff y cyngor, gwirfoddolwyr, pobl sydd wedi rhoi eu cartrefi a'u lletyau i'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Siaradais â llawer yn y gwasanaethau ac yn y gymuned—ar ôl bod yn Nhrefynwy dros y dyddiau diwethaf—a weithiodd drwy'r nos, ac yn ddiflino ers hynny. Roedd yn anhygoel gweld—un teulu, wrth gwrs, â babi newydd-anedig a phopeth mae hynny yn ei olygu. Heb eu gofal a'u hymrwymiad, gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn llawer gwaeth. Rwy'n meddwl yn arbennig am y trigolion oedrannus ac anabl hynny a oedd yn sownd yn y tywyllwch yn dilyn toriad yn y pŵer, heb fwyd, a'r anallu i ffonio am help—rhywbeth sydd efallai angen cynllunio gwell yn y dyfodol.

Mae'r llifogydd hyn wedi cael effaith sylweddol ar sir Fynwy. Oedd, roedd yna, ar Afon Mynwy, 5 modfedd o law mewn pum awr—dealladwy. Ond yr hyn sy'n amlwg yw bod angen gwella'n sylweddol amddiffynfeydd rhag llifogydd, pympiau a seilwaith yn Nhrefynwy, y Fenni ac Ynysgynwraidd, a'r Grysmwnt sy'n aml yn cael ei anghofio, gyda buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud ynddynt gan y Llywodraeth hon. Ac mae angen clirio a chynnal draeniau, wrth gwrs, yn rheolaidd. Gwelodd Ynysgynwraidd, fel y soniwyd eisoes, lifogydd mawr. Sawl gwaith y mae angen i'r lle hwnnw ddioddef llifogydd cyn i'r camau difrifol sydd eu hangen arnynt fod ar waith?

Gwelsom hefyd brif lwybr i mewn ac allan o'r Grysmwnt, i Loegr, ar gau. Mae angen rhoi mesurau ataliol yno, yn ogystal ag atgyweiriadau. Mae ein pentrefi bach angen ein hamddiffyniad, Ysgrifennydd Cabinet, yn ogystal â'n trefi. Roeddwn i'n mynd i ofyn i chi pryd y bydd y cyllid hwnnw ar gael ar frys. Diolch i chi am y datganiad y byddwch yn ein diweddaru cyn gynted â phosibl ar hynny, ond rwy'n eich annog hefyd i gael adolygiad cynhwysfawr llawn o'r lleoedd yr wyf wedi sôn amdanynt yn sir Fynwy, os gwelwch yn dda, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y dyfodol. Mae angen gweithredu go iawn ac ar frys ar y cymunedau hyn, nid geiriau cynnes. Diolch.

Thank you. Let me just say that, after every major event of this type, there is a formal debriefing amongst all the responders and agencies to learn lessons going ahead. Some of them will undoubtedly be looking at is there more that can be done in defence of individual communities. I know a lot of our focus today has been on Monmouth, but there was other flooding in other parts of Wales as well, and not just in Monmouthshire, but wider. So, that will be looked at, and it will always be based on the criteria of the best value-for-money case to defend the most people and the most businesses. People are very important, and lives are very important here as well. So, that is in place. 

The question that you asked me is whether we need to do more. As I've responded in previous questions, I think this is a question that this Senedd will wrestle with: whether it is willing to put the focus, as the years go by, on more and more funding. But we cannot, to be crystal clear—and I've said this repeatedly, and very honestly—defend every single inch of every single property and every piece of coastline in Wales. I think most Members would recognise that. We need to make sure we put the investment where there is the greatest benefit as well, and that is on lives and homes, as well as businesses. But we will keep that record investment going.

Thank you for touching there—and it's an appropriate way to finish, Dirprwy Lywydd—on the work of the emergency services and so on. Because even the day after, there were still young families being evacuated out of properties. There were people in care homes that were being cared for with the rising flood water and then being brought out on inflatables. The coastguard were there onsite, et cetera. This was an incredible response, an incredible effort. I just want to say that, because even when these things happen, Dirprwy Lywydd, the amount of preparation and the quality of the response shows the lessons that we've learned from previous events, and we will keep on doing better. But my tribute to all those who responded here and who are now doing the repair work under way. We need to get these communities up and going, businesses back in place, shoppers in there, and people back in their homes.

Diolch. Gadewch i mi ddweud, ar ôl pob digwyddiad mawr o'r math hwn, ceir trafodaeth ffurfiol ynghylch yr hyn a ddigwyddodd ymhlith yr holl ymatebwyr ac asiantaethau i ddysgu gwersi wrth symud ymlaen. Bydd rhai ohonynt yn sicr yn edrych i weld a oes mwy y gellir ei wneud i amddiffyn cymunedau unigol. Rwy'n gwybod bod llawer o'n ffocws heddiw wedi bod ar Drefynwy, ond roedd llifogydd eraill mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ac nid yn unig yn sir Fynwy, ond yn ehangach. Felly, bydd hynny'n cael ei ystyried, a bydd bob amser yn seiliedig ar feini prawf yr achos gwerth am arian gorau i amddiffyn y rhan fwyaf o bobl a'r rhan fwyaf o fusnesau. Mae pobl yn bwysig iawn, ac mae bywydau'n bwysig iawn yma hefyd. Felly, mae hynny yn ei le. 

Y cwestiwn a ofynnwyd i mi yw a oes angen i ni wneud mwy. Fel yr wyf wedi ymateb mewn cwestiynau blaenorol, rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn y bydd y Senedd hon yn ymgodymu ag ef: a yw'n fodlon rhoi ffocws, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, ar fwy a mwy o gyllid. Ond ni allwn, i fod yn glir iawn—ac rydw i wedi dweud hyn dro ar ôl tro, ac yn onest iawn—amddiffyn pob modfedd o bob eiddo a phob darn o arfordir yng Nghymru. Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o Aelodau yn cydnabod hynny. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r buddsoddiad lle mae'r budd mwyaf hefyd, ac mae hynny ar fywydau a chartrefi, yn ogystal â busnesau. Ond byddwn yn cadw'r buddsoddiad hanesyddol hwnnw i fynd.

Diolch am grybwyll—ac mae'n ffordd briodol o orffen, Dirprwy Lywydd—gwaith y gwasanaethau brys ac ati. Oherwydd hyd yn oed y diwrnod wedyn, roedd teuluoedd ifanc yn dal i gael eu symud allan o eiddo. Roedd yna bobl mewn cartrefi gofal a oedd yn cael gofal pan oedd dŵr y llifogydd yn codi ac yna'n cael eu symud allan ar gychod rwber pwmpiadwy. Roedd gwylwyr y glannau yno ar y safle, ac ati. Roedd hwn yn ymateb anhygoel, ymdrech anhygoel. Rwyf eisiau dweud hynny, oherwydd hyd yn oed pan fydd y pethau hyn yn digwydd, Dirprwy Lywydd, mae faint o baratoi sydd wedi bod ac ansawdd yr ymateb yn dangos y gwersi rydym ni wedi'u dysgu o ddigwyddiadau blaenorol, a byddwn yn parhau i wneud yn well. Ond rwy'n talu teyrnged i bawb a ymatebodd yma ac sydd bellach yn gwneud y gwaith atgyweirio. Mae angen i ni gael y cymunedau hyn yn ôl ar eu traed, busnesau ar agor eto, siopwyr yno, a phobl yn ôl yn eu cartrefi.

15:35
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Deallusrwydd Artiffisial yng Nghymru
4. Statement by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning: AI in Wales

Eitem 4 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar ddeallusrwydd artiffisial yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Rebecca Evans.

Item 4 today is a statement by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning on AI in Wales. I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Rebecca Evans.

Diolch. Our digital strategy for Wales set out a strong vision of improving the lives of everyone in Wales through collaboration and innovation, leading to the delivery of better public services. The AI plan for Wales, which I'm launching today, now articulates our vision to harness the transformative power of AI to unlock inclusive economic growth, enhance public services in both English and Welsh, and equip people in Wales with the skills to thrive in our fast-changing world. We live in a time of rapid technological change. AI is no longer a distant concept; it's everyday, it's mainstream, and it's reshaping our world—how we live, how we work and how we learn. And its influence will only grow. AI presents us with extraordinary opportunities but also challenges that we must navigate with care and foresight.

The AI plan for Wales is our road map for this exciting journey. We have already proved that, as a nation, we are uniquely positioned to lead in AI innovation. The huge investment announced last week for the north Wales AI growth zone, alongside the UK's first modular reactors at Wylfa on Anglesey, will ensure that we can reap the economic benefits of AI. The north Wales growth zone will accelerate the build-out of our AI data centres, and our close-knit tech community will foster collaboration across sectors. It will lead support for AI investments to facilitate real benefits for our local communities, creating high-quality jobs and growing our economy.

Even as we publish our AI plan for Wales today, we are already on our AI journey. We have kicked off action at pace across public services. In June, I announced the establishment of the office for AI in the Welsh Government. It's already strengthening our capability, facilitating informed policy making and supporting meaningful collaboration with stakeholders across Wales. Through the office for AI, we're providing funding to a series of exciting initiatives that are supporting the responsible implementation of AI across Welsh public services. These projects aim to demonstrate the practical benefits of AI and establish a robust foundation for future AI activity.

Alongside the office for AI, I also established a strategic AI advisory group, bringing together experts from academia, industry and the public sector to provide independent advice on how AI can support public service transformation. This cross-sectoral forum reflects our deep-rooted social partnership approach, and it is serving as a key advocate for responsible innovation and the ethical application of emerging technologies. The work of the group is building on the workforce partnership council for Wales's guidance on the ethical and responsible use of AI across public sector workplaces, reinforcing our unique Welsh way of social partnership and ensuring a just transition for workers.

AI is already delivering impact in our public services. It's enabling faster NHS diagnoses and treatment decisions, it's facilitating personalised learning in schools, and it's helping us increase the daily use of Cymraeg, supporting our 'Cymraeg 2050' goals. Local authorities and health boards are using AI scribing technologies to reduce the administrative burden and to automate repetitive tasks, giving staff more time to spend with those who need it.

The AI plan for Wales brings together these cross-sector endeavours in a coherent and structured way. It articulates our collective ambition to use AI to serve the public good, drive forward our economy, grow AI skills, and it reflects the values of Welsh society. The plan contains quick wins that will be delivered before the end of this Senedd term. They include rolling out AI training to the whole of the Welsh public sector, supporting schools and learners to use AI, improving AI speech and language technologies in Welsh, and providing a shared public service platform to test, use and scale AI tools. 

The plan also sets out a range of ambitious actions for the medium to longer term. These include maximising the opportunities resulting from the AI growth zone in north Wales; creating centres of excellence with further education, higher education, industry and unions; using our strengths in AI to attract inward investment; and developing an AI college for public sector workers. Delivery of the AI plan for Wales is anchored in four strategic pillars: economic growth, educating Wales, equitable delivery, and excellence and trust. These pillars are underpinned by our foundational principles that all AI in Wales is ethical, empathetic, enterprising and effective.

The plan reflects our distinct Welsh approach, rooted in fairness, transparency and the well-being of future generations Act. It's a living framework that will evolve with the speed of change. We will remain committed to ensuring AI is used in ways that are transparent, inclusive and safe, maintaining public trust through strong partnerships, human oversight, fair work and a shared commitment to ethical innovation. Together, we can shape a future where AI works for everyone in Wales.

Diolch. Mae ein strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru yn nodi gweledigaeth gref o wella bywydau pawb yng Nghymru drwy gydweithio ac arloesi, gan arwain at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Mae'r cynllun deallusrwydd artiffisial neu AI i Gymru, yr wyf yn ei lansio heddiw, bellach yn mynegi ein gweledigaeth i ddefnyddio pŵer trawsnewidiol AI i ddatgloi twf economaidd cynhwysol, gwella gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg, ac arfogi pobl yng Nghymru â'r sgiliau i ffynnu yn ein byd sy'n newid yn gyflym. Rydym yn byw mewn cyfnod o newid technolegol cyflym. Nid yw AI bellach yn gysyniad pell; mae yma bob dydd, mae'n brif ffrwd, ac mae'n ail-ffurfio ein byd—sut rydym ni'n byw, sut rydym ni'n gweithio a sut rydym ni'n dysgu. A bydd ei ddylanwad dim ond yn tyfu. Mae AI yn cyflwyno cyfleoedd anhygoel i ni ond hefyd heriau y mae'n rhaid i ni eu llywio gyda gofal a rhagwelediad.

Cynllun AI i Gymru yw ein map ffordd ar gyfer y daith gyffrous hon. Rydym eisoes wedi profi, fel cenedl, ein bod mewn sefyllfa unigryw i arwain mewn arloesedd AI. Bydd y buddsoddiad enfawr a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer parth twf AI ar gyfer y gogledd, ochr yn ochr ag adweithyddion modiwlaidd cyntaf y DU yn Wylfa ar Ynys Môn, yn sicrhau y gallwn elwa ar fanteision economaidd AI. Bydd parth twf y gogledd yn cyflymu'r gwaith o adeiladu ein canolfannau data AI, a bydd ein cymuned dechnoleg glòs yn meithrin cydweithredu ar draws sectorau. Bydd yn arwain cefnogaeth i fuddsoddiadau AI i hwyluso manteision gwirioneddol i'n cymunedau lleol, creu swyddi o ansawdd uchel a thyfu ein heconomi.

Hyd yn oed wrth i ni gyhoeddi ein cynllun AI i Cymru heddiw, rydym eisoes ar ein taith AI. Rydym wedi cychwyn gweithredu ar gyflymder ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Ym mis Mehefin, cyhoeddais sefydlu'r swyddfa ar gyfer AI yn Llywodraeth Cymru. Mae eisoes yn cryfhau ein gallu, hwyluso llunio polisïau ar sail gwybodaeth a chefnogi cydweithredu ystyrlon â rhanddeiliaid ledled Cymru. Trwy'r swyddfa ar gyfer AI, rydym yn darparu cyllid i gyfres o fentrau cyffrous sy'n cefnogi gweithredu AI yn gyfrifol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Nod y prosiectau hyn yw dangos manteision ymarferol AI a sefydlu sylfaen gadarn ar gyfer gweithgarwch AI yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â'r swyddfa ar gyfer AI, sefydlais hefyd grŵp cynghori AI strategol, gan ddod ag arbenigwyr o'r byd academaidd, diwydiant a'r sector cyhoeddus ynghyd i ddarparu cyngor annibynnol ar sut y gall AI gefnogi trawsnewid gwasanaeth cyhoeddus. Mae'r fforwm traws-sector hwn yn adlewyrchu ein dull partneriaeth gymdeithasol sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn, ac mae'n gwasanaethu fel eiriolwr allweddol dros arloesi cyfrifol a chymhwyso'n foesegol dechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Mae gwaith y grŵp yn adeiladu ar ganllawiau cyngor partneriaeth gweithlu Cymru ar y defnydd moesegol a chyfrifol o AI ar draws gweithleoedd y sector cyhoeddus, gan atgyfnerthu ein dull unigryw yng Nghymru o bartneriaeth gymdeithasol a sicrhau pontio teg i weithwyr.

Mae AI eisoes yn cyflawni effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n galluogi diagnosisau a phenderfyniadau triniaeth y GIG i gael eu cyflawni'n gyflymach, mae'n hwyluso dysgu wedi'i bersonoli mewn ysgolion, ac mae'n ein helpu i gynyddu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg, gan gefnogi ein nodau 'Cymraeg 2050'. Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn defnyddio technolegau ysgrifennu AI i leihau'r baich gweinyddol ac i awtomeiddio tasgau ailadroddus, gan roi mwy o gyfle i staff dreulio amser gyda'r rhai sydd ei angen.

Mae'r cynllun AI i Gymru yn dwyn ynghyd yr ymdrechion traws-sector hyn mewn ffordd gydlynol a strwythuredig. Mae'n mynegi ein huchelgais ar y cyd i ddefnyddio AI i wasanaethu er lles y cyhoedd, sbarduno ein heconomi, tyfu sgiliau AI, ac mae'n adlewyrchu gwerthoedd cymdeithas Cymru. Mae'r cynllun yn cynnwys cyflawniadau cyflym a fydd yn cael eu cyflwyno cyn diwedd tymor y Senedd hon. Maent yn cynnwys cyflwyno hyfforddiant AI i sector cyhoeddus Cymru gyfan, cefnogi ysgolion a dysgwyr i ddefnyddio AI, gwella technolegau lleferydd ac iaith AI yn Gymraeg, a darparu platfform gwasanaeth cyhoeddus a rennir i brofi, defnyddio a graddio offer AI.

Mae'r cynllun hefyd yn nodi ystod o gamau gweithredu uchelgeisiol ar gyfer y tymor canolig a hwy. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio o'r parth twf AI yn y gogledd creu canolfannau rhagoriaeth gydag addysg bellach, addysg uwch, diwydiant ac undebau; defnyddio ein cryfderau mewn AI i ddenu mewnfuddsoddiad; a datblygu coleg AI ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus. Mae cyflawni'r cynllun AI i Gymru wedi'i angori mewn pedair colofn strategol: twf economaidd, addysgu Cymru, cyflawni teg, a rhagoriaeth ac ymddiriedaeth. Mae'r colofnau hyn wedi'u hategu gan ein hegwyddorion sylfaenol bod pob AI yng Nghymru yn foesegol, empathig, mentrus ac effeithiol.

Mae'r cynllun yn adlewyrchu ein dull Cymreig unigryw, sydd wedi'i wreiddio mewn tegwch, tryloywder a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n fframwaith byw a fydd yn datblygu gyda chyflymder newid. Byddwn yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n dryloyw, cynhwysol a diogel, gan gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd trwy bartneriaethau cryf, goruchwyliaeth ddynol, gwaith teg ac ymrwymiad a rennir i arloesi moesegol. Gyda'n gilydd, gallwn lunio dyfodol lle mae AI yn gweithio i bawb yng Nghymru.

15:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

I welcome the Cabinet Secretary's statement and the publication of the Welsh Government's AI plan. There is much in the ambition that we can all support: using AI to drive economic growth, improve public services and widen opportunities for people here in Wales. The Cabinet Secretary is correct, AI is no longer abstract. It is already shaping how we live, work and learn. AI is also helping clinicians make faster decisions, easing administrative burdens in councils, and enhancing learning in our schools. The prize is not only economic, but the delivery of better public services. But if Wales is to benefit fully from this transformation, we need to move beyond principles and into delivery. Businesses, public bodies and communities are asking the same question: where is Wales in the race for AI?

We do not need to speculate about the value AI can create, we can already see it here in Wales. The Everbright Group, operating hotels in north Wales, has shown how AI can reduce costs, improve personalised service, and create hundreds of jobs. If that is achievable in hospitality, imagine what AI could mean for manufacturing, retail, tourism, logistics, agriculture and the foundational economy. Wales has natural advantages—our scale, research base and close-knit networks—but SMEs need clear support to adopt AI. So, Cabinet Secretary, what specific steps will the Welsh Government be taking to help SMEs gain the skills, confidence and infrastructure they need to follow the example of companies already innovating with AI?

This matters because, as evidence to the ETRA committee highlighted, particularly from Paul Teather of AMPLYFI, Wales has lacked a joined-up approach for too long. While the AI plan is welcome, businesses are still waiting for the delivery road maps beneath it, the timelines, milestones, and the concrete actions across each part of the AI supply chain. When, roughly, will we see those?

The urgency is underscored by UK-wide developments. The UK Government's announcement of an AI growth zone linked to the Wylfa development, expected to create around 3,500 jobs alongside major skills investment, shows the scale of the opportunity, and indeed it is welcome. Your statement refers to engagement with the UK Government on AI opportunities, possibly including further growth zones, but could you provide further detail on that, please? May I ask as well what specific commitments now exist between the Welsh and UK Governments regarding the north Wales growth zone, and how will you ensure Wales captures the full value of the jobs and investment available?

Investment alone is not enough. It must be backed with infrastructure. Microsoft's decision to build new data-centre capacity in Newport shows that Wales can attract world-leading companies. Yet, concerns remain about grid capacity, planning delays and the ability of energy infrastructure to support the rapid growth of this industry. Now, your plan acknowledges the risks, but does not explain specifically how they will be addressed. So, what concrete actions will the Government take to strengthen grid resilience, accelerate planning and ensure AI ambitions are not constrained by infrastructure that is already stretched? 

We also need to look at the wider economic picture. As Klaire Tanner, founder of CreuTech, warned, Wales cannot become an AI hub if economic performance lags in many regions. A strong AI ecosystem requires thriving communities across the whole of Wales, that is why we are committed to levelling up every part of the country, cutting income tax, abolishing stamp duty for primary homes, removing business rates for small firms, scrapping the tourism tax and revitalising seaside and market towns, because a dynamic economy is the platform on which digital innovation sits.

So, finally, how do the Welsh Government's ambitions for AI align with our wider industrial landscape, particularly energy generation and sustainable water use, because data centres are major energy consumers and many require significant volumes of water for cooling. So, how will these pressures be balanced with the environmental commitments and the needs of other industries? 

Llywydd, Wales has the talent. We have world-class researchers, ambitious entrepreneurs and public servants eager to use AI to deliver better services. Indeed, I am an advocate of AI myself in my own office. But Wales already shows what is possible. AI can speed up NHS diagnoses, it can support personalised learning and, importantly in our bilingual nation, it can strengthen the daily use of Cymraeg. The potential is huge, but potential alone is not enough. Because without a detailed delivery programme, one that sets out our investment needs, supports businesses of all sizes and tackles infrastructure barriers and ensures that every region of Wales can participate, we risk falling behind in one of the most important economic shifts of the century. Otherwise, it will remain a promising document that delivers little on the ground. Diolch, Llywydd.

Rwy'n croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet a chyhoeddi cynllun AI Llywodraeth Cymru. Mae llawer yn yr uchelgais y gallwn ni i gyd ei gefnogi: defnyddio AI i sbarduno twf economaidd, gwella gwasanaethau cyhoeddus ac ehangu cyfleoedd i bobl yma yng Nghymru. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gywir, nid yw AI bellach yn haniaethol. Mae eisoes yn llunio sut rydym ni'n byw, gweithio a dysgu. Mae AI hefyd yn helpu clinigwyr i wneud penderfyniadau cyflymach, lleddfu beichiau gweinyddol mewn cynghorau, a gwella dysgu yn ein hysgolion. Mae'r wobr nid yn unig yn economaidd, ond mae'n darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Ond os yw Cymru am elwa yn llawn ar y trawsnewidiad hwn, mae angen i ni symud y tu hwnt i egwyddorion ac i gyflawni. Mae busnesau, cyrff cyhoeddus a chymunedau'n gofyn yr un cwestiwn: ble mae Cymru yn y ras am AI?

Nid oes angen i ni ddyfalu ynghylch y gwerth y gall AI ei greu, gallwn ei weld eisoes yma yng Nghymru. Mae Grŵp Everbright, sy'n gweithredu gwestai yn y gogledd, wedi dangos sut y gall AI leihau costau, gwella gwasanaeth personol, a chreu cannoedd o swyddi. Os yw hynny'n gyflawnadwy mewn lletygarwch, dychmygwch beth allai AI ei olygu i weithgynhyrchu, manwerthu, twristiaeth, logisteg, amaethyddiaeth a'r economi sylfaenol. Mae gan Gymru fanteision naturiol—ein graddfa, ein sylfaen ymchwil a'n rhwydweithiau clòs—ond mae angen cefnogaeth glir ar fusnesau bach a chanolig i fabwysiadu AI. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu busnesau bach a chanolig i ennill y sgiliau, yr hyder a'r seilwaith sydd eu hangen arnynt i ddilyn esiampl cwmnïau sydd eisoes yn arloesi gydag AI?

Mae hyn yn bwysig oherwydd, fel yr amlygodd tystiolaeth i'r pwyllgor ETRA, yn enwedig gan Paul Teather o AMPLYFI, mae Cymru wedi bod heb ddull cydgysylltiedig ers gormod o amser. Er bod y cynllun AI yn cael ei groesawu, mae busnesau'n dal i aros am y mapiau ffordd cyflawni sy'n sail iddo, yr amserlenni, cerrig milltir, a'r camau gweithredu pendant ar draws pob rhan o'r gadwyn gyflenwi AI. Pryd, yn fras, fyddwn ni'n gweld y rheini?

Mae'r brys yn cael ei danlinellu gan ddatblygiadau ledled y DU. Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am barth twf AI sy'n gysylltiedig â datblygiad Wylfa, y disgwylir iddo greu tua 3,500 o swyddi ochr yn ochr â buddsoddiad mawr mewn sgiliau, yn dangos maint y cyfle, ac yn wir mae'n cael ei groesawu. Mae eich datganiad yn cyfeirio at ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar gyfleoedd AI, o bosibl yn cynnwys parthau twf pellach, ond a allech chi roi rhagor o fanylion am hynny, os gwelwch yn dda? A gaf i ofyn hefyd pa ymrwymiadau penodol sy'n bodoli bellach rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU ynglŷn â pharth twf gogledd Cymru, a sut y byddwch yn sicrhau bod Cymru'n cipio gwerth llawn y swyddi a'r buddsoddiad sydd ar gael?

Nid yw buddsoddiad yn unig yn ddigon. Mae'n rhaid iddo gael ei gefnogi gan seilwaith. Mae penderfyniad Microsoft i adeiladu capasiti canolfan ddata newydd yng Nghasnewydd yn dangos y gall Cymru ddenu cwmnïau sy'n arwain y byd. Eto, mae pryderon yn parhau am gapasiti grid, oedi cynllunio a gallu seilwaith ynni i gefnogi twf cyflym y diwydiant hwn. Nawr, mae eich cynllun yn cydnabod y risgiau, ond nid yw'n esbonio'n benodol sut yr eir i'r afael â nhw. Felly, pa gamau pendant y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gryfhau cydnerthedd y grid, cyflymu cynllunio a sicrhau nad yw uchelgeisiau AI yn cael eu cyfyngu gan seilwaith sydd eisoes dan bwysau?

Mae angen i ni hefyd edrych ar y darlun economaidd ehangach. Fel y rhybuddiodd Klaire Tanner, sylfaenydd CreuTech, ni all Cymru ddod yn hyb AI os yw perfformiad economaidd yn lleihau mewn llawer o ranbarthau. Mae ecosystem AI gref yn gofyn am gymunedau ffyniannus ledled Cymru gyfan, dyna pam rydym wedi ymrwymo i ffyniant bro ym mhob rhan o'r wlad, torri treth incwm, diddymu'r dreth stamp ar gyfer prif gartrefi, dileu ardrethi busnes i gwmnïau bach, dileu'r dreth dwristiaeth ac adfywio trefi glan môr a marchnad, oherwydd economi ddeinamig yw'r platfform ar gyfer arloesi digidol.

Felly, yn olaf, sut mae uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer AI yn cyd-fynd â'n tirwedd ddiwydiannol ehangach, yn enwedig cynhyrchu ynni a defnyddio dŵr cynaliadwy, oherwydd bod canolfannau data yn ddefnyddwyr ynni mawr ac mae llawer angen cyfeintiau sylweddol o ddŵr i'w hoeri. Felly, sut bydd y pwysau hyn yn cael eu cydbwyso â'r ymrwymiadau amgylcheddol ac anghenion diwydiannau eraill? 

Llywydd, mae gan Gymru'r dalent. Mae gennym ymchwilwyr o'r radd flaenaf, entrepreneuriaid uchelgeisiol a gweision cyhoeddus sy'n awyddus i ddefnyddio AI i ddarparu gwasanaethau gwell. Yn wir, rwy'n eiriolwr dros AI fy hun yn fy swyddfa fy hun. Ond mae Cymru eisoes yn dangos beth sy'n bosibl. Gall AI gyflymu diagnosisau'r GIG, gall gefnogi dysgu wedi'i bersonoli ac, yn bwysig yn ein cenedl ddwyieithog, gall gryfhau'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg. Mae'r potensial yn enfawr, ond nid yw'r potensial ar ei ben ei hun yn ddigon. Oherwydd heb raglen gyflawni fanwl, un sy'n nodi ein hanghenion buddsoddi, sy'n cefnogi busnesau o bob maint ac yn mynd i'r afael â rhwystrau seilwaith ac yn sicrhau y gall pob rhanbarth o Gymru gymryd rhan, rydym mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi yn un o newidiadau economaidd pwysicaf y ganrif. Fel arall, bydd yn parhau i fod yn ddogfen addawol sy'n cyflawni ychydig ar lawr gwlad. Diolch, Llywydd.

15:45

I'm really grateful for those questions and, I think, for the broad welcome of the report today. Like me, I know that Sam Kurtz is very, very keen that there is urgent action now in terms of the support that we can provide. But, actually, we are not starting from zero. There is an awful lot already happening. So, as you will see in the report, it identifies that there is already significant growth in the AI sector here in Wales. We've got the data-centre boom going on at the moment. We've heard reference to Microsoft. Of course, Vantage Data Centers have announced an investment of £12 billion in the UK. The majority of that is expected to be spent right here in Wales. Of course, these really do show the confidence that the data-centre market has in Wales and what we are able to provide here.

I was absolutely delighted by the announcement of the AI growth zone for north Wales last week. I just want to reassure colleagues that we absolutely see the case for an AI zone in south Wales as well. That network between Newport over to Bridgend, and even further west, is absolutely critical. So, we are continuing those discussions, and I will say they are positive discussions with the UK Government on that particular point.

Wales does have connectivity and power, which, again, are really essential for this agenda. So, we offer direct access to the UK supergrid. We've got already renewable energy sources that are being used in this space, for example the Pen y Cymoedd wind farm. And, obviously, we have that infrastructure in terms of proximity to London and the M4, which is important for investors as well. So, I think that linking up the important work that we're doing on this agenda alongside the clean energy agenda is absolutely critical, because these data centres are very energy hungry.

Also, in Wales we do have that network and infrastructure in terms of universities and research and development. So, Cardiff University, Swansea University and the University of South Wales are all recognised for AI already. We have access to consented health and social care data, which makes Wales a really important place to do research, with the SAIL database and so on. Of course, cyber security and semiconductor research is taking place in Wales—again, really important sectors here, alongside the expertise we have in relation to climate and green energy.

I really understand that businesses are hungry to understand what AI can mean for them and how they can, or should, transition to being adopters of AI technologies, where they're not already. Across the UK, there is a drive to bring together research communities and industry to explore how businesses can adopt AI and to drive productivity, such as the partnership that is established between the Hartree National Centre for Digital Innovation and IBM. Business Wales does provide entrepreneurs and businesses with access to a really wide range of impartial information, advice and guidance to help them start and grow, including advice on digital exploitation. And, of course, I mentioned the Hartree centre. That does provide support for businesses here who want to focus on exploring a particular business problem, and with them they will explore whether AI needs to be part of that solution.

There are also some really good examples taking place across Wales of how industry is using AI tools in day-to-day delivery. However, we do know that this sector and AI can be difficult to navigate without expert advice. We have data from the Wales economic and fiscal report showing the extent to which businesses are already using AI, but we know there's absolutely more we can do, which is why we're looking within the next six months to provide some additional support for businesses in terms of using AI. We don't want to reinvent the wheel, so we've been working closely, for example, with the Information Commissioner's Office to explore what resources they are able to provide. I think it's really important that we take advantage of expertise wherever it exists.

In terms of the north Wales growth zone and how it will work, if you like, there's currently an exchange of letters taking place between the UK Government and Welsh Government setting out a bit more detail in terms of the parameters and so on. So, we'll be able to provide a bit more detail on that in due course. But that's a really, really exciting announcement for Wales. I agree that accelerating planning is going to be absolutely critical if businesses are going to be able to maximise the benefits of AI. So, that's one of the reasons the First Minister put economy, energy and planning together, because she recognised how important it is for those things to work together. We've already laid the regulations in respect of local authorities moving to full cost recovery for planning services. We've provided millions of pounds of additional funding into Natural Resources Wales for planning and we're also bolstering local planning services through the provision of bursaries, for example. So, there's an awful lot happening in the planning space to speed up decision making, which I think is all really positive as well.

I think that what's happening in the space in terms of AI and the Welsh language is really exciting. So, obviously, AI can be a huge part and technology can be a huge part as we move towards the greater use of Welsh. So, we are working in partnership with OpenAI to improve how AI technologies work in Welsh. And we've already been able to share resources and components that we as a Government have funded. We've also collaborated with the Barcelona Supercomputing Center. That's identified and developed some new multilingual AI resources, including Welsh, and some automatic translation engines. They're freely available online, thanks to a memorandum of understanding between ourselves and the Catalan Government. And also Microsoft has announced it is supporting Welsh and Catalan in Copilot. Again, that's really exciting and it's part of our partnership with Microsoft. Now we want to work to explore how we can improve Copilot in Welsh. And, of course, Microsoft Teams has also begun to transcribe Welsh and English simultaneously, essential for bilingual countries like ours. So, I think that in the very short future, we are going to see huge benefits of AI in terms of enabling us to be that truly bilingual country that we aim to be.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna ac, rwy'n credu, am y croeso eang i'r adroddiad heddiw. Fel fi, rwy'n gwybod bod Sam Kurtz yn awyddus iawn bod gweithredu brys nawr o ran y gefnogaeth y gallwn ei darparu. Ond, mewn gwirionedd, nid ydym yn dechrau o sero. Mae llawer iawn o bethau'n digwydd eisoes. Felly, fel y gwelwch yn yr adroddiad, mae'n nodi bod twf sylweddol eisoes yn y sector AI yma yng Nghymru. Mae gennym ffyniant canolfannau data yn mynd ymlaen ar hyn o bryd. Rydym ni wedi clywed cyfeiriad at Microsoft. Wrth gwrs, mae Vantage Data Centers wedi cyhoeddi buddsoddiad o £12 biliwn yn y DU. Disgwylir i'r rhan fwyaf o hynny gael ei wario yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'r rhain yn dangos yr hyder sydd gan y farchnad ganolfannau data yng Nghymru a'r hyn yr ydym yn gallu ei ddarparu yma.

Roeddwn wrth fy modd gyda'r cyhoeddiad o'r parth twf AI ar gyfer y gogledd yr wythnos diwethaf. Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau ein bod yn gweld yr achos dros barth AI yn y de hefyd. Mae'r rhwydwaith hwnnw rhwng Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr, a hyd yn oed ymhellach i'r gorllewin, yn hollol hanfodol. Felly, rydym yn parhau â'r trafodaethau hynny, a byddaf yn dweud eu bod yn drafodaethau cadarnhaol gyda Llywodraeth y DU ar y pwynt penodol hwnnw.

Mae gan Gymru gysylltedd a phŵer, sydd, unwaith eto, yn wirioneddol hanfodol ar gyfer yr agenda hon. Felly, rydym yn cynnig mynediad uniongyrchol i uwchgrid y DU. Mae gennym ffynonellau ynni adnewyddadwy eisoes sy'n cael eu defnyddio yn y maes hwn, er enghraifft fferm wynt Pen y Cymoedd. Ac, yn amlwg, mae gennym y seilwaith hwnnw o ran agosrwydd at Lundain a'r M4, sy'n bwysig i fuddsoddwyr hefyd. Felly, rwy'n credu bod cysylltu'r gwaith pwysig rydym ni'n ei wneud ar yr agenda hon ochr yn ochr â'r agenda ynni glân yn hollol hanfodol, oherwydd mae'r canolfannau data hyn yn llwglyd iawn o safbwynt ynni.

Hefyd, yng Nghymru mae gennym y rhwydwaith a'r seilwaith hwnnw o ran prifysgolion ac ymchwil a datblygu. Felly, mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru i gyd yn cael eu cydnabod am ddeallusrwydd artiffisial eisoes. Mae gennym fynediad at ddata iechyd a gofal cymdeithasol â chaniatâd, sy'n gwneud Cymru'n lle pwysig iawn i wneud ymchwil, gyda chronfa ddata SAIL ac ati. Wrth gwrs, mae ymchwil seiberddiogelwch a lled-ddargludyddion yn digwydd yng Nghymru—unwaith eto, sectorau pwysig iawn yma, ochr yn ochr â'r arbenigedd sydd gennym mewn perthynas â'r hinsawdd ac ynni gwyrdd.

Rwy'n deall bod busnesau â chwant i ddeall beth y gall AI ei olygu iddyn nhw a sut y gallant, neu y dylent, bontio i fod yn fabwysiadwyr technolegau AI, pan nad ydynt eisoes. Ledled y DU, mae ymgyrch i ddod â chymunedau ymchwil a diwydiant ynghyd i archwilio sut y gall busnesau fabwysiadu AI ac i sbarduno cynhyrchiant, fel y bartneriaeth sydd wedi'i sefydlu rhwng Canolfan Genedlaethol Hartree ar gyfer Arloesi Digidol ac IBM. Mae Busnes Cymru yn darparu mynediad i entrepreneuriaid a busnesau i ystod eang iawn o wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd i'w helpu i ddechrau a thyfu, gan gynnwys cyngor ar ecsbloetio digidol. Ac, wrth gwrs, soniais am ganolfan Hartree. Mae honno'n darparu cefnogaeth i fusnesau yma sydd eisiau canolbwyntio ar archwilio problem fusnes benodol, a chyda nhw byddant yn archwilio a oes angen i AI fod yn rhan o'r ateb hwnnw.

Mae yna hefyd rai enghreifftiau da iawn yn digwydd ledled Cymru o sut mae diwydiant yn defnyddio offer AI wrth gyflawni o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gall bod yn anodd llywio drwy'r sector hwn ac AI heb gyngor arbenigol. Mae gennym ddata o adroddiad economaidd a chyllidol Cymru sy'n dangos i ba raddau y mae busnesau eisoes yn defnyddio AI, ond rydym yn gwybod bod mwy y gallwn ei wneud, a dyna pam rydym ni'n bwriadu, o fewn y chwe mis nesaf, darparu rhywfaint o gymorth ychwanegol i fusnesau o ran defnyddio AI. Nid ydym eisiau ailddyfeisio'r olwyn, felly rydym wedi bod yn gweithio'n agos, er enghraifft, gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i archwilio pa adnoddau maen nhw'n gallu eu darparu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n manteisio ar arbenigedd lle bynnag y mae'n bodoli.

O ran parth twf y gogledd a sut y bydd yn gweithio, os dymunwch, ar hyn o bryd mae cyfnewid llythyrau yn digwydd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sy'n nodi ychydig mwy o fanylion o ran y paramedrau ac ati. Felly, byddwn yn gallu darparu ychydig mwy o fanylion ar hynny maes o law. Ond mae hynny'n gyhoeddiad cyffrous iawn i Gymru. Rwy'n cytuno bod cyflymu cynllunio yn mynd i fod yn hollol hanfodol os yw busnesau yn mynd i allu manteisio i'r eithaf ar AI. Felly, dyna un o'r rhesymau pam y rhoddodd y Prif Weinidog economi, ynni a chynllunio at ei gilydd, oherwydd ei bod yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i'r pethau hynny weithio gyda'i gilydd. Rydym eisoes wedi gosod y rheoliadau mewn perthynas ag awdurdodau lleol sy'n symud i adennill costau llawn ar gyfer gwasanaethau cynllunio. Rydym wedi darparu miliynau o bunnau o gyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cynllunio ac rydym hefyd yn cryfhau gwasanaethau cynllunio lleol drwy ddarparu bwrsariaethau, er enghraifft. Felly, mae llawer iawn yn digwydd yn y maes cynllunio i gyflymu gwneud penderfyniadau, sy'n fy marn i gyd yn gadarnhaol iawn hefyd.

Rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd yn y maes o ran AI a'r Gymraeg yn gyffrous iawn. Felly, yn amlwg, gall AI chwarae rhan enfawr a gall technoleg chwarae rhan enfawr wrth i ni symud tuag at fwy o ddefnydd o'r Gymraeg. Felly, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag OpenAI i wella sut mae technolegau AI yn gweithio yn Gymraeg. Ac rydym eisoes wedi gallu rhannu adnoddau a chydrannau yr ydym ni fel Llywodraeth wedi'u hariannu. Rydym hefyd wedi cydweithio â Chanolfan Uwchgyfrifiadura Barcelona. Mae honno wedi nodi a datblygu rhai adnoddau AI amlieithog newydd, gan gynnwys y Gymraeg, a rhai peiriannau cyfieithu awtomatig. Maent ar gael am ddim ar-lein, diolch i femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhyngom ni a Llywodraeth Catalwnia. A hefyd mae Microsoft wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi'r Gymraeg a Chatalaneg yn Copilot. Unwaith eto, mae hynny'n gyffrous iawn ac mae'n rhan o'n partneriaeth â Microsoft. Nawr rydym ni eisiau gweithio i archwilio sut y gallwn wella Copilot yn Gymraeg. Ac, wrth gwrs, mae Microsoft Teams hefyd wedi dechrau trawsgrifio Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd, sy'n hanfodol i wledydd dwyieithog fel ein un ni. Felly, rwy'n credu yn y dyfodol byr iawn, rydym ni'n mynd i weld manteision enfawr AI o ran ein galluogi ni i fod y wlad wirioneddol ddwyieithog honno yr ydym yn bwriadu iddi fod.

15:50

Thank you for today's statement, Cabinet Secretary. As I've mentioned previously, it's good to see these announcements from the Welsh Government, especially around the acknowledgement that strong oversight and governance is required. Perhaps I take a bit more of a cautious approach in comparison to my counterpart in the Conservative Party. I definitely see the opportunities and the positives. The more I read around the development of AI, the more agnostic I am becoming, and there are definitely some risks and barriers that we need to consider. I'd also point the Cabinet Secretary to the work that the Economy, Trade and Rural Affairs Committee has conducted. There are a number of things I think that the Government could take away from the report that we produced, particularly around those barriers to businesses.

What I want to particularly focus on for a moment are, actually, the risks to jobs that AI presents. The International Monetary Fund has warned that almost 60 per cent of jobs in advanced economies are exposed to AI, roughly half may benefit from integration, but for the other half, AI could execute tasks currently performed by humans, lowering those wages, reducing hiring and, in some cases, eliminating jobs altogether. These aren't abstract risks, they are real concerns that demand careful planning and safeguards. So, with that context, has the Welsh Government conducted a risk analysis of AI to the Welsh jobs market? 

There are also environmental questions. We've touched on data centres. According to the International Energy Agency, AI-optimised data centres are set to increase fourfold by 2030. Sam has referenced the energy demand. Global electricity consumption from data centres is projected to double, reaching nearly 3 per cent of total global electricity use. National Grid's 'Future Energy Scenarios' report warns that data centres could become one of the fastest growing sources of demand in the UK by the 2030s. Aurora Energy Research has concluded that without co-ordinated action, consumer energy prices could rise by 9 per cent by 2040. So, there are real serious and genuine concerns around energy demand and consumption of AI-specific data centres.

What I want to focus on is slightly different to what was outlined by Sam. The UK Government has said the discounts for data centres harnessing energy generation will mean no additional costs for other electricity bill payers, but also notes that these savings apply when centres are located in Scotland and the north of England. So, can the Cabinet Secretary clarify today whether these savings will also apply to the north Wales growth zone and confirm that Welsh households will not face higher energy bills as a result of this progressing?

And then, finally, Llywydd, there are growing concerns about the existence of an AI bubble. The Bank of England has warned the risk of that bubble bursting. So, if the Government is serious about building resilience, it must show how Wales will be protected from such shocks. While we welcome innovation, we must also demand some realism here. AI can bring benefits, but only if we invest in skills, confront some of those inequalities that are presented by AI, manage those environmental impacts and guard against those economic risks. So, I'd welcome the Cabinet Secretary's thoughts on that.

Diolch am y datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Fel yr wyf wedi sôn o'r blaen, mae'n dda gweld y cyhoeddiadau hyn gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig ynghylch y gydnabyddiaeth bod angen goruchwyliaeth a llywodraethu cryf. Efallai fy mod i'n mabwysiadu dull ychydig mwy gofalus o'i gymharu ag un fy nghyd-Aelod yn y Blaid Geidwadol. Rwy'n bendant yn gweld y cyfleoedd a'r pethau positif. Po fwyaf rwy'n darllen ynghylch datblygiad AI, y mwyaf agnostig rydw i'n dod, ac yn bendant mae rhai risgiau a rhwystrau y mae angen i ni eu hystyried. Byddwn hefyd yn cyfeirio'r Ysgrifennydd Cabinet at y gwaith y mae'r Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi'i wneud. Mae yna nifer o bethau rwy'n credu y gallai'r Llywodraeth eu cymryd o'r adroddiad a gynhyrchwyd gennym, yn enwedig ynghylch y rhwystrau hynny i fusnesau.

Yr hyn yr wyf eisiau canolbwyntio'n arbennig arno am eiliad yw, mewn gwirionedd, y risgiau i swyddi y mae AI yn eu cyflwyno. Mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio bod bron i 60 y cant o swyddi mewn economïau datblygedig yn agored i AI, gall tua hanner elwa ar integreiddio, ond ar gyfer yr hanner arall, gallai AI gyflawni tasgau a gyflawnir ar hyn o bryd gan bobl, gan ostwng y cyflogau hynny, lleihau llogi ac, mewn rhai achosion, dileu swyddi yn gyfan gwbl. Nid risgiau haniaethol yw'r rhain, maent yn bryderon gwirioneddol sy'n gofyn am gynllunio a diogelu gofalus. Felly, gyda'r cyd-destun hwnnw, a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad o'r risg y gallai AI beri i'r farchnad swyddi yng Nghymru?

Mae yna hefyd gwestiynau amgylcheddol. Rydym wedi crybwyll canolfannau data. Yn ôl yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol, mae canolfannau data wedi'u hoptimeiddio gan AI ar fin cynyddu bedair gwaith drosodd erbyn 2030. Mae Sam wedi cyfeirio at y galw am ynni. Rhagwelir y bydd y defnydd o drydan byd-eang gan ganolfannau data yn dyblu, gan gyrraedd bron i 3 y cant o gyfanswm y defnydd o drydan yn fyd-eang. Mae adroddiad 'Senarios Ynni'r Dyfodol' y Grid Cenedlaethol yn rhybuddio y gallai canolfannau data ddod yn un o'r ffynonellau galw sy'n tyfu gyflymaf yn y DU erbyn y 2030au. Mae Aurora Energy Research wedi dod i'r casgliad, heb weithredu cydgysylltiedig, gallai prisiau ynni defnyddwyr godi 9 y cant erbyn 2040. Felly, mae pryderon difrifol a gwirioneddol ynghylch y galw a'r defnydd o ynni gan ganolfannau'n ymwneud â data AI yn benodol.

Mae'r hyn rydw i eisiau canolbwyntio arno ychydig yn wahanol i'r hyn a amlinellwyd gan Sam. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd y gostyngiadau ar gyfer canolfannau data sy'n defnyddio cynhyrchiant ynni yn golygu unrhyw gostau ychwanegol i dalwyr biliau trydan eraill, ond hefyd yn nodi bod yr arbedion hyn yn berthnasol pan fo canolfannau wedi'u lleoli yn yr Alban a gogledd Lloegr. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet egluro heddiw a fydd yr arbedion hyn hefyd yn berthnasol i barth twf gogledd Cymru a chadarnhau na fydd aelwydydd Cymru yn wynebu biliau ynni uwch o ganlyniad i'r cynnydd hwn?

Ac yna, yn olaf, Llywydd, mae pryderon cynyddol am fodolaeth swigen AI. Mae Banc Lloegr wedi rhybuddio ynghylch y perygl y bydd y swigen honno yn byrstio. Felly, os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn ag adeiladu cydnerthedd, mae'n rhaid iddi ddangos sut y bydd Cymru'n cael ei hamddiffyn rhag siociau o'r fath. Er ein bod yn croesawu arloesedd, mae'n rhaid i ni hefyd fynnu rhywfaint o realaeth yma. Gall AI ddod â manteision, ond dim ond os ydym yn buddsoddi mewn sgiliau, wynebu rhai o'r anghydraddoldebau hynny sy'n cael eu cyflwyno gan AI, rheoli'r effeithiau amgylcheddol hynny a gwarchod rhag y risgiau economaidd hynny. Felly, byddwn yn croesawu clywed beth yw meddyliau'r Ysgrifennydd Cabinet ynghylch hynna.

15:55

Again, I'm really grateful for those questions, and I hope that you heard in my statement, and have also seen in the plan, that we are absolutely focused on reaping the benefits of AI, but doing so in a way that is ethical and fair. I think governance and oversight is absolutely critical, as we've just heard. That's one of the reasons that we established the office for AI within the Welsh Government. That really is strengthening our policy and delivery capability, facilitating informed policy making, but crucially making sure that our decisions are taken within that context of fairness and equity. And we've also established the AI advisory group, which I referred to—again, experts from academia, industry and the public sector coming together. And, again, all of their discussions, without fail, have that point around the importance of governance, oversight, safety, transparency and so on at the heart of them.

We do have the digital service standard for Wales. I think that that and the Digital and Data Standards Board for Wales are really important in terms of defining what good looks like from the perspective of governance and oversight. And that's really about designing and delivering efficient, cost-effective, user-centred services, but, again, making sure that we do so in a way that is fair, transparent and equitable and so on.

We're really keen to continue to work with the UK Government on this as well. We know this is a shared challenge for us, not just in Wales, but across the UK and even further beyond as well, which is one of the reasons I was so pleased that I was able to attend the group, the Disruptive and Emerging Technologies Alliance. That brings together people from as far away as Brazil, North America, throughout Europe and beyond, all to consider the ways in which we can grapple with the challenges that AI is presenting us with at the moment. And, again, at the heart of those international discussions was the importance of safety, transparency and fairness. I'm really pleased that we are all approaching things with a similar lens.

In health and social care, we do have the AI health and social care advisory group. That exists to perform that vital role in advising on the safe and responsible use of AI within health and social care settings, and again, of course, our whole approach is about the social partnership approach and its ethics. The workforce partnership council has already developed some landmark guidance on the ethical and responsible use of AI in public sector workplaces. All of that is absolutely critical to what we want to achieve.

We do understand concerns, again, about the risk to jobs, which is why the workforce partnership council's role has been so important in terms of making sure that we involve the workforce as we move to the adoption of AI. As I tried to set out as well in my statement, this isn't about necessarily replacing jobs. Actually, it's about freeing people up to do their job in a different way. I do understand, though, that globally there are risks to certain categories of jobs.

Equally, though, there are opportunities here as well. I'm aware of some research commissioned by the Department for Science, Innovation and Technology that shows that, by 2035, around 10 million workers will be in roles where AI is part of their role, and a further 3.9 million roles will actually be directly in AI. Actually, this does have the opportunity to create a large number of roles as well, which is why the investment zones will be so important.

The points about energy, again, are really well made. At the current projection, we expect that within Wales our electricity consumption will triple by 2050. I do wonder, actually, if we need to reassess that when we think about data centres and the growing role of AI, and we could see figures moving in advance of that, which is why I'm so pleased that we are doing so much in the renewable and clean energy space—the Wylfa announcement is really, really positive news—but also looking towards floating offshore wind and so on. We have an awful lot of irons in the fire in terms of renewable energy, and it is a question of being able to keep pace. Of course, technology is always changing on the small advanced modular reactor side of things on nuclear as well. There are significant advances being made in that space as well. But is a concern that we have to make sure that our ambitions for AI and the use of AI and that kind of modern industrial economy that we want have to be married alongside the provision of clean and green energy as well.

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna, ac rwy'n gobeithio eich bod wedi clywed yn fy natganiad, ac wedi gweld hefyd yn y cynllun, ein bod yn canolbwyntio'n llwyr ar fanteisio i'r eithaf ar AI, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n foesegol ac yn deg. Rwy'n credu bod llywodraethu a goruchwylio yn hollol hanfodol, fel yr ydym newydd glywed. Dyna un o'r rhesymau pam wnaethom ni sefydlu'r swyddfa ar gyfer AI o fewn Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n cryfhau'n wirioneddol ein gallu o ran polisi a chyflawni, hwyluso llunio polisïau gwybodus, ond yn sicrhau'n llwyr fod ein penderfyniadau'n cael eu gwneud o fewn y cyd-destun hwnnw o uniondeb a thegwch. Ac rydym hefyd wedi sefydlu'r grŵp cynghori AI, y cyfeiriais ato—unwaith eto, arbenigwyr o'r byd academaidd, diwydiant a'r sector cyhoeddus yn dod at ei gilydd. Ac, unwaith eto, mae gan eu holl drafodaethau, yn ddi-feth, y pwynt hwnnw ynghylch pwysigrwydd llywodraethu, goruchwyliaeth, diogelwch, tryloywder ac ati yn ganolog iddynt.

Mae gennym y safon gwasanaeth digidol i Gymru. Rwy'n credu bod hynny a Bwrdd Safonau Digidol a Data Cymru yn bwysig iawn o ran diffinio sut mae da yn edrych o safbwynt llywodraethu a goruchwylio. Ac mae hynny'n ymwneud â dylunio a darparu gwasanaethau effeithlon, cost-effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ond, unwaith eto, gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg a thryloyw ac ati.

Rydym yn awyddus iawn i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn hefyd. Rydym yn gwybod bod hon yn her a rennir i ni, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU a hyd yn oed ymhellach y tu hwnt hefyd, a dyna un o'r rhesymau pam roeddwn mor falch fy mod wedi gallu mynychu'r grŵp, y Gynghrair Technoleg sy'n Tarfu ac sy'n Dod i'r Amlwg. Mae hynny'n dod â phobl ynghyd o mor bell i ffwrdd â Brasil, Gogledd America, ledled Ewrop a thu hwnt, i gyd i ystyried y ffyrdd y gallwn ymdopi â'r heriau y mae AI yn eu cyflwyno i ni ar hyn o bryd. Ac, eto, wrth wraidd y trafodaethau rhyngwladol hynny oedd pwysigrwydd diogelwch, tryloywder a thegwch. Rwy'n falch iawn ein bod ni i gyd yn mynd i'r afael â phethau gydag ymagwedd debyg.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae gennym y grŵp cynghori iechyd a gofal cymdeithasol AI. Mae hwnnw'n bodoli i gyflawni'r rôl hanfodol honno wrth gynghori ar ddefnydd diogel a chyfrifol o AI mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac eto, wrth gwrs, mae ein dull cyfan yn ymwneud â'r dull partneriaeth gymdeithasol a'i foeseg. Mae cyngor partneriaeth y gweithlu eisoes wedi datblygu rhai canllawiau pwysig ar y defnydd moesegol a chyfrifol o AI mewn gweithleoedd sector cyhoeddus. Mae hynny i gyd yn hollol hanfodol i'r hyn rydym ni eisiau ei gyflawni.

Rydym yn deall pryderon, unwaith eto, am y risg i swyddi, a dyna pam mae rôl cyngor partneriaeth y gweithlu wedi bod mor bwysig o ran sicrhau ein bod yn cynnwys y gweithlu wrth i ni fabwysiadu AI. Fel yr wyf yn ceisio ei nodi hefyd yn fy natganiad, nid yw hyn yn ymwneud â disodli swyddi o reidrwydd. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â rhyddhau pobl i wneud eu gwaith mewn ffordd wahanol. Rwy'n deall, fodd bynnag, fod risgiau i gategorïau penodol o swyddi yn fyd-eang.

Yn yr un modd, fodd bynnag, mae yna gyfleoedd yma hefyd. Rwy'n ymwybodol o rywfaint o ymchwil a gomisiynwyd gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg sy'n dangos y bydd tua 10 miliwn o weithwyr mewn rolau lle mae AI yn rhan o'u rôl, a bydd 3.9 miliwn o rolau eraill mewn gwirionedd yn uniongyrchol mewn AI. Mewn gwirionedd, mae hyn yn rhoi cyfle i greu nifer fawr o rolau hefyd, a dyna pam y bydd y parthau buddsoddi mor bwysig.

Mae'r pwyntiau am ynni, unwaith eto, wedi'u gwneud yn dda iawn. Yn yr amcanestyniad presennol, rydym yn disgwyl y bydd ein defnydd o drydan yng Nghymru yn treblu erbyn 2050. Tybed, mewn gwirionedd, a oes angen i ni ailasesu hynny pan fyddwn yn meddwl am ganolfannau data a rôl gynyddol AI, a gallem weld ffigurau'n symud cyn hynny, a dyna pam rydw i mor falch ein bod yn gwneud cymaint yn y maes ynni adnewyddadwy a glân—mae'r cyhoeddiad am Wylfa mewn gwirionedd, yn newyddion cadarnhaol iawn—ond hefyd edrych tuag at wynt ar y môr ac ati. Mae gennym lawer iawn o haearn yn y tân o ran ynni adnewyddadwy, ac mae'n fater o allu cadw i fyny. Wrth gwrs, mae technoleg bob amser yn newid o ran yr adweithydd modiwlaidd datblygedig bach ym maes niwclear hefyd. Mae datblygiadau sylweddol yn cael eu gwneud yn y maes hwnnw hefyd. Ond mae'n bryder bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein huchelgeisiau ar gyfer AI a'r defnydd o AI a'r math o economi ddiwydiannol fodern yr ydym eisiau ei gweld yn cyd-fynd â'r ddarpariaeth o ynni glân a gwyrdd hefyd.

16:00

I welcome the statement. AI is coming, whether people want it to or not, and it has already started. I welcome the AI plan for Wales, a bold and forward-looking plan that sets out how we will harness the transformative power of artificial intelligence to drive economic growth, enhance public services and equip people across Wales with the skills to thrive in an AI-shaped future.

As with the previous industrial revolution, we know it will be disruptive, change jobs, de-skill some jobs and create new jobs. It will also massively improve productivity. The promise of AI must be matched by a commitment to its responsible use. Equality, trust and safety are not optional; they are fundamental.

We also know that being first is much less important than being best. WordStar, the word processor, Lotus 123 and other spreadsheets, and Nokia for mobile phones were early sector leaders. They have been replaced by Word, Excel and iPhones.

I believe the key driver for AI in Wales is university research. How is the Welsh Government supporting university departments to innovate in AI and turn that innovation into economic growth for Wales?

Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae AI yn dod, p'un a yw pobl eisiau hynny neu beidio, ac mae eisoes wedi dechrau. Rwy'n croesawu'r cynllun AI i Gymru, cynllun beiddgar a blaengar sy'n nodi sut y byddwn yn defnyddio pŵer trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial i ysgogi twf economaidd, gwella gwasanaethau cyhoeddus ac arfogi pobl ledled Cymru â'r sgiliau i ffynnu mewn dyfodol wedi'i lunio gan AI.

Fel gyda'r chwyldro diwydiannol blaenorol, gwyddom y bydd yn tarfu, yn newid swyddi, yn dadsgilio rhai swyddi a chreu swyddi newydd. Bydd hefyd yn gwella cynhyrchiant yn aruthrol. Rhaid i addewid AI gyfateb ag ymrwymiad i'w ddefnydd cyfrifol. Nid yw cydraddoldeb, ymddiriedaeth a diogelwch yn ddewisol; maen nhw'n sylfaenol.

Mae bod y cyntaf, fel y gwyddom, yn llawer llai pwysig na bod y gorau. Roedd WordStar, y prosesydd geiriau, Lotus 123 a thaenlenni eraill, a Nokia ar gyfer ffonau symudol yn arweinwyr sector cynnar. Maent wedi cael eu disodli gan Word, Excel a'r iPhone.

Rwy'n credu mai'r prif sbardun ar gyfer AI yng Nghymru yw ymchwil prifysgol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adrannau prifysgol i arloesi mewn AI a throi'r arloesedd hwnnw'n dwf economaidd i Gymru?

That's a really, really important question. I absolutely agree that, actually, it is not about being first, it is about being best. In being best, I think it is important that we look to others across the globe who are grappling with the challenges of AI, but also seeing where the opportunities are. We absolutely do that through the international group that I mentioned, for example.

I’m really excited that next week is Wales Tech Week. This is a really important opportunity to put Wales on the map insofar as our approach to tech is concerned. It's an opportunity to bring together universities, but also businesses. I think that that collaboration is going to be absolutely key in terms of ensuring that we reap the rewards and the benefits of AI. We’ll be looking to the existing structures that already are there to enable and allow that collaboration.

We know that we have fantastic ideas here in Wales. We’ve certainly got the skills, and that's something, again, that we're looking to ensure that we continue to develop through our approach to AI within education—again, equipping the next generation to ensure that they can maximise their access to these new and exciting jobs as well.

But Wales Tech Week will put us on the map, and then, if we needed to re-emphasise the point, we've got the First Minister's investment summit, which, again, is very exciting, at the end of the month and the start of the next month. Those will be opportunities again to look at AI, because there's a specific focus there on digital and tech as well—so, bringing together some of the greatest minds in the world, some of the biggest investors, all to look at what we can offer here in Wales.

Mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr, mewn gwirionedd, nad yw'n ymwneud â bod y cyntaf, mae'n ymwneud â bod y gorau. Wrth fod y gorau, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar eraill ledled y byd sy'n ymdopi â heriau AI, ond hefyd yn gweld ble mae'r cyfleoedd. Rydym ni'n gwneud hynny trwy'r grŵp rhyngwladol y soniais amdano, er enghraifft.

Rwy'n teimlo'n llawn cyffro oherwydd yr wythnos nesaf yw Wythnos Dechnoleg Cymru. Mae hwn yn gyfle pwysig iawn i roi Cymru ar y map o ran ein hymagwedd tuag at dechnoleg. Mae'n gyfle i ddod â phrifysgolion, ond hefyd busnesau at ei gilydd. Rwy'n credu bod y cydweithrediad hwnnw'n mynd i fod yn hollol allweddol o ran sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar AI. Byddwn yn edrych ar y strwythurau presennol sydd eisoes yno i alluogi a chaniatáu'r cydweithrediad hwnnw.

Rydym ni'n gwybod bod gennym syniadau gwych yma yng Nghymru. Yn sicr, mae gennym y sgiliau, ac mae hynny'n rhywbeth, unwaith eto, yr ydym yn ceisio sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu trwy ein dull AI o fewn addysg—unwaith eto, gan arfogi'r genhedlaeth nesaf i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y mwyaf o'u mynediad i'r swyddi newydd a chyffrous hyn hefyd.

Ond bydd Wythnos Dechnoleg Cymru yn ein rhoi ar y map, ac yna, os oes angen i ni ailbwysleisio'r pwynt, mae gennym uwchgynhadledd fuddsoddi'r Prif Weinidog, sydd, unwaith eto, yn gyffrous iawn, ar ddiwedd y mis a dechrau'r mis nesaf. Bydd y rhain yn gyfleoedd eto i edrych ar AI, oherwydd mae ffocws penodol yno ar ddigidol a thechnoleg hefyd—felly, dod â rhai o'r meddyliau mwyaf yn y byd, rhai o'r buddsoddwyr mwyaf, i gyd at ei gilydd i edrych ar yr hyn y gallwn ei gynnig yma yng Nghymru.

16:05

Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, Newport City Council and its leader, Dimitri Batrouni, are champions for AI in Wales with regard to the ambitions for a south-east Wales AI growth zone, and regarding the delivery of access to public services. With the latter, the authority have taken forward the automation of temporary accommodation housing benefits payments, speeding up processing times for quicker and better outcomes for residents. And now the authority is exploring WhatsApp to engage with residents on a 24/7 basis. How will Welsh Government work with Newport City Council to ensure the local authority's commitment to AI plays a full part in realising Wales's AI potential for economic development and public service delivery? 

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, mae Cyngor Dinas Casnewydd a'i arweinydd, Dimitri Batrouni, yn hyrwyddwyr ar gyfer deallusrwydd artiffisial yng Nghymru o ran yr uchelgeisiau ar gyfer parth twf deallusrwydd artiffisial yn y de-ddwyrain, ac o ran sicrhau mynediad at wasanaethau cyhoeddus. O ran yr olaf, mae'r awdurdod wedi bwrw ymlaen ag awtomeiddio taliadau budd-daliadau tai llety dros dro, gan gyflymu amseroedd prosesu a sicrhau canlyniadau cyflymach a gwell i breswylwyr. A nawr mae'r awdurdod yn archwilio WhatsApp i ymgysylltu â thrigolion 24/7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau bod ymrwymiad yr awdurdod lleol i ddeallusrwydd artiffisial yn chwarae rhan lawn wrth wireddu potensial deallusrwydd artiffisial Cymru ar gyfer datblygu economaidd a darparu gwasanaethau cyhoeddus? 

I'm grateful for those questions, and there's an awful lot happening in Newport in the space of AI, and digital and tech more widely. It's a really, really exciting place to be, I think, in this particular field. The Welsh Government's currently working in really close partnership with the Welsh Local Government Association and the local government chief digital officer to drive digital transformation and embed AI responsibly across local government. We've just heard some really good examples of how Newport is using AI and tech to improve the experience of citizens living locally.

Neath Talbot County Borough Council has also been providing us with some really good examples. They recently won an Association for Public Service Excellence award for the way they've transformed their adult social care service by using generative AI to streamline administrative tasks and to support decision making. I know that all local authorities are really keen to share with each other the great work that they're doing to improve public services using AI.

As part of the public sector AI fund, funding has been allocated to develop guidance for local authorities on the responsible and effective adoption of AI, to help them harness that transformative potential of AI locally as well. We do provide an annual grant of over £2 million to the WLGA to support delivery of both the improvement and the digital agendas in local government. The plan for the spending of that funding does include discovery work relating to AI data centres, as well as trialling AI further in social care.

So, there are some really exciting things happening in local government, and we've had some great examples there from Newport, which is a real hotbed of AI excitement at the moment.

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau hynny, ac mae llawer iawn yn digwydd yng Nghasnewydd ym maes deallusrwydd artiffisial, a digidol a thechnoleg yn ehangach. Mae'n lle cyffrous iawn i fod, rwy'n credu, yn y maes penodol hwn. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos iawn â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phrif swyddog digidol llywodraeth leol i ysgogi trawsnewid digidol ac ymwreiddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol ar draws llywodraeth leol. Rydyn ni newydd glywed rhai enghreifftiau da iawn o'r ffordd y mae Casnewydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg i wella profiad dinasyddion sy'n byw yn lleol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Talbot hefyd wedi bod yn rhoi enghreifftiau da iawn i ni. Yn ddiweddar, fe wnaethon nhw ennill gwobr y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus am y ffordd maen nhw wedi trawsnewid eu gwasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i symleiddio tasgau gweinyddol ac i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau. Rwy'n gwybod bod pob awdurdod lleol yn awyddus iawn i rannu gyda'i gilydd y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.

Fel rhan o gronfa deallusrwydd artiffisial y sector cyhoeddus, mae cyllid wedi'i ddyrannu i ddatblygu canllawiau i awdurdodau lleol ar fabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol ac effeithiol, i'w helpu i ddefnyddio potensial trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial yn lleol hefyd. Rydyn ni'n rhoi grant blynyddol o dros £2 filiwn i CLlLC i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r agendâu gwella a digidol ym maes llywodraeth leol. Mae'r cynllun ar gyfer gwario'r cyllid hwnnw yn cynnwys gwaith darganfod sy'n ymwneud â chanolfannau data deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â threialu deallusrwydd artiffisial ymhellach ym maes gofal cymdeithasol.

Felly, mae yna rai pethau cyffrous iawn yn digwydd ym maes llywodraeth leol, ac rydyn ni wedi cael rhai enghreifftiau gwych yn y fan yna o Gasnewydd, sy'n fwrlwm gwirioneddol o gyffro ynghylch deallusrwydd artiffisial ar hyn o bryd.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cartrefi Fforddiadwy
5. Statement by the Cabinet Secretary for Housing and Local Government: Affordable Housing

Yr eitem nesaf felly fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar dai fforddiadwy. A'r Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad yma—Jayne Bryant. 

The next item will be a statement by the Cabinet Secretary for Housing and Local Government on affordable housing. And I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Jayne Bryant. 

Diolch, Llywydd. With just under six months left of this Senedd term, and a year into my role as Cabinet Secretary for Housing and Local Government, I'd like to reflect on the huge achievements and continuing progress to deliver more homes in Wales. But I want to start by saying 'thank you': thank you to all involved in delivering our ambition of creating more homes for the people of Wales—local authorities, housing associations, house builders of all sizes and community partners. Thank you for your dedication, your partnership and for your innovation.

Housing has steadfastly remained one of this Government’s top priorities, because a fairer, healthier, more prosperous Wales begins at home. Having a home is about far more than bricks and mortar. It’s about stability, security and dignity. It's about knowing that your children can grow up safe, warm and as part of a community that cares. That is why we're determined to deliver more homes for the people of Wales.

Diolch, Llywydd. Gydag ychydig llai na chwe mis ar ôl o dymor y Senedd hon, a blwyddyn ers i mi ymgymryd â'm rôl fel yr Ysgrifennydd Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, hoffwn fyfyrio ar y cyflawniadau enfawr a'r cynnydd parhaus i ddarparu mwy o gartrefi yng Nghymru. Ond rwyf eisiau dechrau drwy ddweud 'diolch': diolch i bawb sy'n gysylltiedig â chyflawni ein huchelgais o greu mwy o gartrefi i bobl Cymru—awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, adeiladwyr tai o bob maint a phartneriaid cymunedol. Diolch am eich ymroddiad, eich partneriaeth ac am eich arloesedd.

Mae tai wedi parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon, oherwydd mae Cymru decach, iachach, mwy llewyrchus yn dechrau gartref. Mae cael cartref yn ymwneud â llawer mwy na brics a morter. Mae'n ymwneud â sefydlogrwydd, diogelwch ac urddas. Mae'n ymwneud â gwybod y gall eich plant dyfu i fyny yn ddiogel, yn gynnes ac fel rhan o gymuned ofalgar. Dyna pam rydyn ni'n benderfynol o ddarparu mwy o gartrefi i bobl Cymru.

Last week, we published our latest affordable housing statistics. To improve the timeliness of data, management information has been included in the statistical release, to complement existing accredited official statistics. Publishing this information brings Wales in line with all other UK nations and allows us to be as transparent as possible in terms of providing a source for any delivery statements we make before the end of the Senedd term.

When we set our target of an additional 20,000 low-carbon homes for rent in the social sector during this Senedd term, we knew it was ambitious, but we also knew how much it mattered. That's why we backed our commitment with over £2 billion of investment, the largest ever investment in social housing in Wales. The data released last week shows that investment is delivering results. It tells a story of remarkable achievement. In 2024-25, 3,643 additional affordable homes were completed across Wales, a 12 per cent increase on the year before, and the highest total since records began in 2007. By May 2026, we are forecast to have delivered 18,652 low-carbon homes for rent within the social sector, and the pipeline of delivery that we have established is expected to deliver a further 1,652 units by the end of 2026, bringing that total up to 20,304. That represents the highest sustained delivery of social housing in Wales in nearly two decades, and the pipeline beyond 2026 remains strong. These aren't just statistics, they are lives changed: a nurse finally able to live near the hospital where she works; a mother able to tuck her children into a bed in a home she can afford; and an older couple able to stay in the community they've called home all their lives.

We've kept building through challenge, because we know how much a good home matters. A good home builds confidence, supports better health, and gives every child a foundation to thrive. And we achieved this whilst facing unprecedented global challenges that no Government could have predicted. We were emerging from a pandemic that had closed construction sites for months, inflation soared to levels we hadn't seen in a generation, energy and materials costs rocketed, and Brexit-related labour shortages and supply chains caused delays. These weren't minor inconveniences, they were fundamental disruptions that affected construction across the entire United Kingdom.

And our delivery extends beyond more homes. Our Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill will transform how we support people experiencing homelessness, treating every person with the dignity and compassion they deserve. Moving away from systems that ask people to prove they're worthy of help, instead we've embraced prevention, recognising that anyone can face housing difficulties, and, when they do, we'll be there when they need it most. Councils will step in sooner and do more to help. Public services in Wales will work together. There will also be extra protections for vulnerable groups like care leavers to ensure they avoid homelessness and find stable, long-term homes.

Since August 2023, we've helped more than 18,500 people move from temporary accommodation into permanent homes. That's thousands of new beginnings, thousands of chances to rebuild and thrive. And for those who do need temporary accommodation, we're ensuring it's as close to home as possible, with 73 per cent of families with children being placed in traditional homes in the social or private sector. When compared to 2024, we've reduced the use of hotels and B&Bs by 6 per cent and, crucially, we've seen a 9 per cent reduction in the number of children in temporary accommodation. Every child deserves stability, and we're working to deliver it, tackling the blight of child poverty.

Just this October, we boosted our transitional accommodation capital programme by £55 million, bringing this year's budget to £155 million, delivering good-quality, longer term housing at pace for people in housing need.

We're also continuing to make good progress in responding to the recommendations of the affordable housing taskforce. I have had some very productive progress with the local authorities on local leadership and project management of major developments, particularly when they are at risk of delays, and with health boards and other public bodies on the availability of land. Furthermore, I have made recent announcements in relation to land site purchases for housing at Cosmeston and Porthcawl.

In addition, our support for affordable private housing is an important part of our housing toolkit to provide vital homes in Wales. Despite the previous UK Government ending Help to Buy in England in March 2023, we have provided an extra £57 million to extend our Help to Buy—Wales scheme, which has helped almost 15,000 people to purchase a new home, over its lifespan. Since April 2022, 85 per cent of Help to Buy—Wales purchasers have been first-time buyers. And we shouldn't forget the thousands more homes that we've supported through schemes like Homebuy—Wales and the empty homes grant, which also deliver against Wales's housing need.

I also recognise the importance of building a strong SME house building sector, and we will continue to provide a range of financial support through the Development Bank of Wales. This is delivery. This is what happens when the Government and the sector work together with shared purpose and unshakeable determination. I will continue to work with my Cabinet colleagues and the sector to do everything we can to deliver more homes for Wales, not because we have a target or policy, but because there's a human story. These stories are why delivery matters. Not delivery for its own sake, but delivery that transforms lives, strengthens communities, and builds the Wales we all want to see. Diolch.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi ein hystadegau diweddaraf ar dai fforddiadwy. Er mwyn gwella amseroldeb data, mae gwybodaeth rheoli wedi'i chynnwys yn y datganiad ystadegol, i ategu ystadegau swyddogol achrededig presennol. Mae cyhoeddi'r wybodaeth hon yn dod â Chymru yn unol â phob un o wledydd eraill y DU ac mae'n ein galluogi i fod mor dryloyw â phosibl o ran darparu ffynhonnell ar gyfer unrhyw ddatganiadau cyflawni a wneir gennym cyn diwedd tymor y Senedd.

Pan wnaethon ni osod ein targed o 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon, roedden ni'n gwybod ei fod yn uchelgeisiol, ond roedden ni hefyd yn gwybod pa mor bwysig ydoedd. Dyna pam y gwnaethon ni gefnogi ein hymrwymiad gyda dros £2 biliwn o fuddsoddiad, y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r data a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod buddsoddiad yn sicrhau canlyniadau. Mae'n adrodd stori o gyflawniad rhyfeddol. Yn 2024-25, cafodd 3,643 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol eu cwblhau ledled Cymru, cynnydd o 12 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a'r cyfanswm uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2007. Erbyn mis Mai 2026, rhagwelir y byddwn ni wedi darparu 18,652 o gartrefi carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol, a disgwylir i'r llif a sefydlwyd gennym ddarparu 1,652 o unedau eraill erbyn diwedd 2026, gan ddod â'r cyfanswm hwnnw i fyny i 20,304. Mae hynny'n cynrychioli'r cyflenwad parhaus uchaf o dai cymdeithasol yng Nghymru ers bron i ddau ddegawd, ac mae'r llif y tu hwnt i 2026 yn parhau i fod yn gryf. Nid ystadegau yn unig yw'r rhain, maen nhw'n fywydau sydd wedi'u newid: nyrs sy'n gallu byw o'r diwedd ger yr ysbyty lle mae hi'n gweithio; mam sy'n gallu rhoi ei phlant i'r gwely mewn cartref y mae hi'n galllu ei fforddio; a chwpl hŷn sy'n gallu aros yn y gymuned maen nhw wedi'i galw'n gartref trwy gydol eu hoes.

Rydyn ni wedi parhau i adeiladu trwy her, oherwydd rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw cartref da. Mae cartref da yn magu hyder, yn cefnogi iechyd gwell, ac yn rhoi sylfaen i bob plentyn allu ffynnu. Ac fe wnaethon ni gyflawni hyn wrth wynebu heriau byd-eang digynsail na allai unrhyw Lywodraeth fod wedi'u rhagweld. Roedden ni'n dod allan o bandemig a oedd wedi cau safleoedd adeiladu am fisoedd, saethodd chwyddiant i fyny i lefelau nad oedden ni wedi'u gweld mewn cenhedlaeth, cynyddodd costau ynni a deunyddiau yn syfrdanol, ac arweiniodd prinder llafur a chadwyni cyflenwi yn gysylltiedig â Brexit at oedi. Nid mân drafferthion oedd y rhain, roedden nhw'n amhariadau sylfaenol a effeithiodd ar adeiladu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.

Ac mae'r hyn rydyn ni'n ei gyflawni yn ymestyn y tu hwnt i fwy o gartrefi. Bydd ein Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn trawsnewid y ffordd rydyn ni'n cefnogi pobl sy'n wynebu digartrefedd, gan drin pob person gyda'r urddas a'r tosturi mae'n ei haeddu. Gan symud i ffwrdd o systemau sy'n gofyn i bobl brofi eu bod yn deilwng o gael help, yn hytrach rydyn ni wedi croesawu atal, gan gydnabod bod unrhyw un yn gallu wynebu anawsterau tai, a, phan fyddan nhw, byddwn ni yno pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf. Bydd cynghorau yn camu i mewn yn gynt ac yn gwneud mwy i helpu. Bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd. Bydd amddiffyniadau ychwanegol hefyd i grwpiau agored i niwed fel pobl sy'n gadael gofal i sicrhau eu bod yn osgoi digartrefedd ac yn dod o hyd i gartrefi sefydlog, hirdymor.

Ers mis Awst 2023, rydyn ni wedi helpu mwy na 18,500 o bobl i symud o lety dros dro i gartrefi parhaol. Mae hynny'n filoedd o ddechreuadau newydd, miloedd o gyfleoedd i ailadeiladu a ffynnu. Ac i'r rhai sydd angen llety dros dro, rydyn ni'n sicrhau ei fod mor agos at adref â phosibl, gyda 73 y cant o deuluoedd â phlant yn cael eu lleoli mewn cartrefi traddodiadol yn y sector cymdeithasol neu breifat. O gymharu â 2024, rydyn ni wedi lleihau'r defnydd o westai a llety gwely a brecwast 6 y cant ac, yn hollbwysig, rydyn ni wedi gweld gostyngiad o 9 y cant yn nifer y plant mewn llety dros dro. Mae pob plentyn yn haeddu sefydlogrwydd, ac rydyn ni'n gweithio i'w gyflawni, gan ymdrin â malltod tlodi plant.

Ym mis Hydref yn unig, fe wnaethon ni roi hwb o £55 miliwn i'n rhaglen gyfalaf llety trosiannol, gan ddod â'r gyllideb eleni i £155 miliwn, gan ddarparu tai mwy hirdymor o ansawdd da yn gyflym i bobl sydd angen tai.

Rydyn ni hefyd yn parhau i wneud cynnydd da wrth ymateb i argymhellion y tasglu tai fforddiadwy. Rwyf wedi gwneud cynnydd cynhyrchiol iawn gyda'r awdurdodau lleol ar arweinyddiaeth leol a rheoli prosiectau datblygiadau mawr, yn enwedig pan fyddan nhw'n wynebu risg o oedi, a chyda byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill ar y tir sydd ar gael. Ar ben hynny, rwyf wedi gwneud cyhoeddiadau diweddar o ran prynu safleoedd tir ar gyfer tai yn Cosmeston a Phorthcawl.

Yn ogystal, mae'r cymorth rydyn ni'n ei roi ar gyfer tai preifat fforddiadwy yn rhan bwysig o'n pecyn cymorth tai i ddarparu cartrefi hanfodol yng Nghymru. Er bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi dod â Cymorth i Brynu i ben yn Lloegr ym mis Mawrth 2023, rydyn ni wedi rhoi £57 miliwn ychwanegol i ymestyn ein cynllun Cymorth i Brynu—Cymru, sydd wedi helpu bron i 15,000 o bobl i brynu cartref newydd, dros ei oes. Ers mis Ebrill 2022, mae 85 y cant o brynwyr Cymorth i Brynu—Cymru wedi bod yn brynwyr tro cyntaf. Ac ni ddylem anghofio am y miloedd yn rhagor o gartrefi rydyn ni wedi'u cefnogi drwy gynlluniau fel Cymorth Prynu—Cymru a'r grant cartrefi gwag, sydd hefyd yn cyflawni yn erbyn anghenion tai Cymru.

Rwyf hefyd yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu sector adeiladu tai BBaCh cryf, a byddwn ni'n parhau i ddarparu amrywiaeth o gymorth ariannol drwy Fanc Datblygu Cymru. Mae hyn yn gyflawni. Dyma'r hyn sy'n digwydd pan fo'r Llywodraeth a'r sector yn gweithio gyda'i gilydd gyda diben cyffredin a phenderfyniad diysgog. Byddaf yn parhau i weithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a'r sector i wneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu mwy o gartrefi i Gymru, nid oherwydd bod gennym ni darged neu bolisi, ond oherwydd bod yna stori ddynol. Y straeon hyn yw'r rheswm pam mae cyflawni'n bwysig. Nid cyflawni er ei fwyn ei hun, ond cyflawni sy'n trawsnewid bywydau, yn cryfhau cymunedau, ac yn adeiladu'r Gymru rydyn ni i gyd eisiau ei gweld. Diolch.

16:15

Thank you, Cabinet Secretary, for your statement today. However, I think it was entirely predictable that the Welsh Government would miss their affordable housing targets. Since taking on the task of shadowing your brief, I have met and spoken with a lot of industry organisations who are all saying the same thing: the Welsh Government has failed because it has failed to understand the barriers that exist in the house building sector.

Even though you've been in Government in one way or another for over 25 years, you have no overarching housing strategy, and you have no strategy for increasing the numbers within the house building profession. This all means that you have conflicting policy aims, which substantially increases the risk of development for operators and substantially increases the risk of a scenario whereby the skill set of the workforce is inadequate to meet the demands you are making.

Ultimately, the truth is that you have no defence against this complete lack of strategy and planning. You are fully aware of it. Audit Wales has criticised the Government for your absence of a formal, long-term strategy for affordable housing, and has highlighted a lack of coherent, collective approaches to tackling capacity constraints in local planning services. Therefore, with this in mind, Cabinet Secretary, will the Welsh Government finally consider producing a strategy for building affordable homes that recognises the limitations of building in Wales? I believe that the industry, and certainly other sectors of the Government, would appreciate such a plan, and I'm sure your efforts would not be in vain.

As mentioned, Cabinet Secretary, inflation across the supply chain outside of the control of the UK has severely increased the costs of meeting the 20,000 homes commitment. However, since you made the initial predictions in 2019, you have not made any additional reassessments as to what is achievable, and this has meant that you have had to increasingly rely on renovating existing buildings rather than building brand-new, low-carbon homes to help meet the target. It has also meant that you have not been agile enough in responding to the changing circumstances. Audit Wales, in their 2024 report, note that beyond the current five-year target, there is no robust commitment or funding plan in place.

CIH Cymru has warned that your final budget for 2025-26 falls well short of what's needed to hit the 20,000 target. Given that your comrades in Westminster are doing everything in their power to wreck our economy and, at present, 1,000 jobs—[Interruption.]—are being lost every day in the UK, with unemployment soaring to 5 per cent, there's no doubt that, by the time this Labour Government is through punishing the workforce, the people of this country, the need for affordable housing in Wales will be substantially greater. There's unlikely to be capacity in the block grant funding to support the scale of building of affordable housing needed going forward. How do you, therefore, envisage the Welsh Government financing affordable house building in the future?

As you can no doubt appreciate, I think this is a very relevant and timely question, Cabinet Secretary, because one of the worrying concerns is that you're bringing forward new legislation, in the Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill, that works on the premise of actually increasing affordable housing in Wales. So, if this legislation comes into force, it will increase the number of people that local authorities have to provide homes for. So, without a clear funding pathway and strategy, you will create another self-destructing policy that will, undoubtedly, cause more problems than it solves.

Finally, Cabinet Secretary, the Home Builders Federation has pointed to delays at all stages of the planning process in Wales, from pre-applications and actual planning applications, to even discharging conditions, and this has had a substantial knock-on effect in meeting the affordable housing targets. They believe, as do many of us, that the delays are largely because planning departments and statutory consultees, in particular problems with the SuDS approval bodies, are under-resourced, which, unsurprisingly, comes from a lack of funding. This is a critical aspect of increasing the speed at which affordable housing can be built. Furthermore, the affordable housing taskforce has identified a need to streamline the planning process by standardising agreements and improving consistency in section 106 agreements. Therefore, what assessment have you made, or are you going to make, in terms of the funding, training and resources needed for the planning process to be able to increase capacity and streamline section 106 agreements? Thank you.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn gwbl rhagweladwy y byddai Llywodraeth Cymru yn methu eu targedau tai fforddiadwy. Ers ymgymryd â'r dasg o gysgodi eich briff, rwyf wedi cwrdd ac wedi siarad â llawer o sefydliadau yn y diwydiant ac mae pob un ohonyn nhw'n dweud yr un peth: mae Llywodraeth Cymru wedi methu oherwydd mae wedi methu deall y rhwystrau sy'n bodoli yn y sector adeiladu tai.

Er eich bod chi wedi bod yn y Llywodraeth mewn un ffordd neu'r llall ers dros 25 mlynedd, does gennych chi ddim strategaeth tai gyffredinol, a does gennych chi ddim strategaeth ar gyfer cynyddu'r niferoedd yn y proffesiwn adeiladu tai. Mae hyn i gyd yn golygu bod gennych chi nodau polisi anghyson, sy'n cynyddu'n sylweddol y risg o ddatblygu i weithredwyr ac yn cynyddu'n sylweddol y risg o senario lle nad yw set sgiliau'r gweithlu yn ddigonol i fodloni'r gofynion rydych chi'n eu gwneud.

Yn y pen draw, y gwir amdani yw, does gennych chi ddim amddiffyniad rhag y diffyg llwyr hwn o ran strategaeth a chynllunio. Rydych chi'n gwbl ymwybodol ohono. Mae Archwilio Cymru wedi beirniadu'r Llywodraeth am y ffaith nad oes gennych chi strategaeth ffurfiol, hirdymor ar gyfer tai fforddiadwy, ac mae wedi tynnu sylw at ddiffyg dulliau cydlynol, cyfunol o ymdrin â chyfyngiadau capasiti mewn gwasanaethau cynllunio lleol. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd Cabinet, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried o'r diwedd gynhyrchu strategaeth ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy sy'n cydnabod cyfyngiadau adeiladu yng Nghymru? Rwy'n credu y byddai'r diwydiant, ac yn sicr sectorau eraill o'r Llywodraeth, yn gwerthfawrogi cynllun o'r fath, ac rwy'n siŵr na fyddai eich ymdrechion yn ofer.

Fel y crybwyllwyd, Ysgrifennydd Cabinet, mae chwyddiant ar draws y gadwyn gyflenwi, y tu allan i reolaeth y DU, wedi cynyddu'n sylweddol y costau o gyflawni'r ymrwymiad o 20,000 o gartrefi. Fodd bynnag, ers i chi wneud y rhagolygon cychwynnol yn 2019, dydych chi ddim wedi gwneud unrhyw ailasesiadau ychwanegol ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni, ac mae hyn wedi golygu eich bod chi wedi gorfod dibynnu fwyfwy ar adnewyddu adeiladau presennol yn hytrach nag adeiladu cartrefi newydd sbon, carbon isel i helpu i gyrraedd y targed. Mae hefyd wedi golygu nad ydych chi wedi bod yn ddigon hyblyg wrth ymateb i'r amgylchiadau sy'n newid. Mae Archwilio Cymru, yn eu hadroddiad yn 2024, yn nodi nad oes ymrwymiad cadarn na chynllun cyllido ar waith y tu hwnt i'r targed pum mlynedd presennol.

Mae Sefydliad Tai Siartredig Cymru wedi rhybuddio bod eich cyllideb derfynol ar gyfer 2025-26 yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen i gyrraedd y targed o 20,000. O ystyried bod eich cyd-Aelodau yn San Steffan yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddryllio ein heconomi ac, ar hyn o bryd, mae 1,000 o swyddi—[Torri ar draws.]—yn cael eu colli bob dydd yn y DU, gyda diweithdra yn saethu i fyny i 5 y cant, does dim amheuaeth, erbyn i'r Llywodraeth Lafur hon orffen cosbi'r gweithlu, pobl y wlad hon, bydd yr angen am dai fforddiadwy yng Nghymru yn llawer uwch. Mae'n annhebygol y bydd capasiti yn y cyllid grant bloc i gefnogi'r gwaith o adeiladu nifer y tai fforddiadwy y bydd eu hangen yn y dyfodol. Sut ydych chi, felly, yn rhagweld y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu adeiladu tai fforddiadwy yn y dyfodol?

Fel y gallwch chi werthfawrogi yn ddiau, rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn perthnasol ac amserol iawn, Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd un o'r pryderon gofidus yw eich bod chi'n cyflwyno deddfwriaeth newydd, yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), sy'n gweithredu ar y rhagdybiaeth o gynyddu tai fforddiadwy yng Nghymru. Felly, os daw'r ddeddfwriaeth hon i rym, bydd yn cynyddu nifer y bobl y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cartrefi ar eu cyfer. Felly, heb lwybr a strategaeth ariannu clir, byddwch chi'n creu polisi hunanddinistriol arall a fydd, yn ddiau, yn achosi mwy o broblemau nag y mae'n eu datrys. 

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi tynnu sylw at oedi ar bob cam o'r broses gynllunio yng Nghymru, o weithgarwch cyn ymgeisio a cheisiadau cynllunio gwirioneddol, i hyd yn oed amodau rhyddhau, ac mae hyn wedi cael effaith sylweddol o ran cyrraedd y targedau tai fforddiadwy. Maen nhw'n credu, fel y mae llawer ohonon ni'n ei wneud, bod yr oedi yn cael ei achosi'n bennaf oherwydd bod adrannau cynllunio ac ymgynghoreion statudol, yn enwedig problemau gyda chyrff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy, yn brin o adnoddau, ac nid yw'n syndod bod hyn yn dod o ddiffyg cyllid. Mae hyn yn agwedd hanfodol ar gynyddu pa mor gyflym y gall tai fforddiadwy gael eu hadeiladu. Ar ben hynny, mae'r tasglu tai fforddiadwy wedi nodi bod symleiddio'r broses gynllunio trwy safoni cytundebau a gwella cysondeb yng nghytundebau adran 106. Felly, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud, neu ydych chi'n mynd i'w wneud, o ran y cyllid, yr hyfforddiant a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn i'r broses gynllunio allu cynyddu capasiti a symleiddio cytundebau adran 106? Diolch.

16:20

Well, diolch, Joel. It is a shame you didn't recognise it in your speech, but this is a level of delivery that we should be really, really proud of. It does represent the highest sustained delivery of social housing in Wales for nearly two decades. That is significant. It's not just me standing here to say that. It's about the effort that has been put in across the sector. I'm very proud of that effort that has gone in to having this sustained, record-breaking level of delivery that we've seen, and I think that's something that you should really acknowledge. Let us be clear, the UK Tory Government made it even harder for us to deliver this, with all the things that they put in face of that, so we've actually delivered despite that. I think that's a real credit to the sector and this Government, who are keen to drive that delivery, and I think the target has really done its job by driving that delivery.

In terms of the affordable housing taskforce, we are making good progress in responding to the recommendations, particularly on things like identifying public land, resourcing the planning system, tracking schemes and skills support. And as an example of responding to the recommendations, £9 million is being invested in services provided by Planning and Environment Decisions Wales, Natural Resources Wales and the Welsh Government's planning directorate. New planning fee regulations are expected to come into force at the end of the year, and that will help us generate further revenue that will be reinvested into the planning services. Again, I've had some really productive progress through local authorities on local leadership and project management, as I said in my statement, and with the health boards, on the availability of land. I did touch on those two recent announcements, which are in your region, in Cosmeston and Porthcawl as well.

In terms of the properties that we have included, we've been clear from the outset about the important role that acquisitions play, and existing properties play, in delivering housing for those most in need. The independent affordable housing taskforce reaffirmed this position, and without investing in those properties to bring them back into use, they could have been sold and lost completely from the social housing stock. So, I think what we need to remember is that those houses play an important role, and they are homes for people, not just empty properties any more.

Wel, diolch, Joel. Mae'n drueni na wnaethoch chi ei gydnabod yn eich araith, ond mae hon yn lefel gyflawni y dylen ni fod yn wirioneddol falch ohoni. Mae'n cynrychioli'r cyflenwad parhaus uchaf o dai cymdeithasol yng Nghymru ers bron i ddau ddegawd. Mae hynny'n arwyddocaol. Nid dim ond fi sy'n sefyll yma yn dweud hynny. Mae'n ymwneud â'r ymdrech sydd wedi'i gwneud ar draws y sector. Rwy'n falch iawn o'r ymdrech honno sydd wedi'i gwneud i gael y lefel barhaus hon o gyflawni rydyn ni wedi'i gweld, y lefel uchaf erioed, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylech chi wir ei gydnabod. Gadewch i ni fod yn glir, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi'i gwneud hi'n anoddach byth i ni gyflawni hyn, gyda'r holl bethau wnaethon nhw eu rhoi yn wyneb hynny, felly rydyn ni wedi cyflawni er gwaethaf hynny. Rwy'n credu bod hynny'n glod gwirioneddol i'r sector ac i'r Llywodraeth hon, sy'n awyddus i ysgogi’r cyflawniad hwnnw, ac rwy'n credu bod y targed wedi gwneud ei waith trwy ysgogi'r cyflawniad hwnnw.

O ran y tasglu tai fforddiadwy, rydyn ni'n gwneud cynnydd da wrth ymateb i'r argymhellion, yn enwedig ar bethau fel nodi tir cyhoeddus, darparu adnoddau ar gyfer y system gynllunio, cynlluniau olrhain a chymorth sgiliau. Ac fel enghraifft o ymateb i'r argymhellion, mae £9 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyfarwyddiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru. Disgwylir i reoliadau ffioedd cynllunio newydd ddod i rym ar ddiwedd y flwyddyn, a bydd hynny'n ein helpu ni i gynhyrchu refeniw pellach a fydd yn cael ei ailfuddsoddi yn y gwasanaethau cynllunio. Unwaith eto, rwyf wedi gwneud cynnydd cynhyrchiol iawn trwy awdurdodau lleol ar arweinyddiaeth leol a rheoli prosiectau, fel y dywedais yn fy natganiad, a chyda'r byrddau iechyd, ar y tir sydd ar gael. Fe wnes i grybwyll y ddau gyhoeddiad diweddar hynny, sydd yn eich rhanbarth chi, yn Cosmeston a Phorthcawl hefyd.

O ran yr eiddo rydyn ni wedi'u cynnwys, rydyn ni wedi bod yn glir o'r dechrau am y rôl bwysig y mae caffaeliadau yn ei chwarae, ac y mae eiddo presennol yn ei chwarae, wrth ddarparu tai ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn angen. Fe wnaeth y tasglu tai fforddiadwy annibynnol ailddatgan y sefyllfa hon, a heb fuddsoddi yn yr eiddo hynny i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio eto, gallen nhw fod wedi cael eu gwerthu a'u colli'n gyfan gwbl o'r stoc tai cymdeithasol. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei gofio yw bod y tai hynny'n chwarae rôl bwysig, a'u bod nhw'n gartrefi i bobl, nid eiddo gwag mwyach.

16:25

Mae'r cynnydd o 12 y cant a rhai o'r ystadegau eraill yn lled gadarnhaol, ond mae'n rhaid ychwanegu'r tri gair, 'ar yr wyneb'. Hyd yma, ychydig dros 13,000 o'r targed o 20,000 sydd wedi cael eu darparu, a hwnna ydy'r unig ffigwr sydd yn cyfrif. Hwnnw ydy'r ffigur pwysig. 'Efallai y bydd yn digwydd' ydy'r gweddill. Felly, gadewch inni beidio troi'r datganiad yma yn ddathliad.

Mae gennym ni argyfwng tai yng Nghymru ac mae'r argyfwng yn dyfnhau. Pan edrychwn ni'n ddyfnach ar y darlun cyfan, mae hi'n hollol amlwg fod realiti pobl Cymru yn mynd yn gwbl groes i'r naratif optimistaidd rydyn ni'n ei glywed gan y Llywodraeth heddiw. Mae un o bob 14 aelwyd yn aros am dŷ cymdeithasol, ac efo'r gyfradd bresennol byddai'n cymryd 35 mlynedd i wireddu'r galw. Mae miloedd ar restrau aros, miloedd mewn llety dros dro, 3,000 o blant yn cyrraedd adref o'r ysgol heno i lety hollol anaddas—dim lle i goginio, i olchi dillad, i wneud gwaith cartref. Ac felly mae o'n taro yn reit chwithig bod yna ymgais i ddathlu heddiw, tra bod yr argyfwng yna yn rhan o realiti bywyd bob dydd cynifer o bobl. Ac, mewn gwirionedd, dathlu tanberfformiad sydd yn digwydd efo'r datganiad yma. Ydych chi, Weinidog, yn cytuno efo fi nad dangos tanberfformiad ydy'r peth pwysig i'w wneud efo defnyddio data? Dylai data agored a thryloyw fod yn ymwneud â sut rydyn ni'n gwella perfformiad, ac mi ddylai fo helpu i ddatblygu polisi ac addasu cyflawni i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Mae Cymru yn wynebu argyfwng tai sy'n achosi dioddefaint gwirioneddol i bobl yng Nghymru, a does dim ots faint ydych chi'n chwarae efo ystadegau a diffiniadau, dyna ydy'r sefyllfa, ac mae yna dystiolaeth ar gyfer hynny ym mhob rhan o'r sector tai. Os ydyn ni am fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn ymarferol, mae angen data gwell er mwyn i Gymru lywio polisi a chyflawni yn fwy effeithiol.

Dwi'n meddwl bod yna gyfle ar gyfer gwneud hyn efo'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)—cyfle ar gyfer sefydlu trefn am well data. Felly, dwi'n gobeithio bydd modd gwella'r ddeddfwriaeth i'r perwyl hynny. Dwi'n bryderus y bydd Rhan 2 o ddeddfwriaeth ddrafft y Bil digartrefedd yn ei gwneud hi'n anoddach inni ddeall y galw gwirioneddol am dai cymdeithasol yng Nghymru, oherwydd mae cyflwyno meini prawf personau cymwys yn golygu bydd y niferoedd ar restrau aros yn dod i lawr ar bapur, ond fydd hyn ddim yn newid realiti profiad byw pobl. Ac mewn gwirionedd, fe fydd o'n gwneud pethau yn waeth ac yn cynnwys creu stigma pellach o amgylch tai cymdeithasol. Felly, gaf i ofyn, Weinidog, a wnewch chi gefnogi fy ngalwad i i ddileu'r meini prawf person cymwys o'r Bil digartrefedd? Dwi'n edrych ymlaen at gael y drafodaeth yna.

Ydych chi'n cytuno y dylid canolbwyntio ar wella cyflawni, yn hytrach na threulio eich amser ar ddehongli mewn ffordd ffansi y data sydd gerbron heddiw? Er enghraifft, beth am ddwyn perswâd ar Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i ddod â'r rhewi ar y lwfans tai lleol i ben? A beth am i Lywodraeth Cymru ddarparu'r arweinyddiaeth strategol sydd ei hangen ar gyfer symud y blociau allweddol sy'n rhwystro cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol newydd? A beth am sicrhau bod gennym ni y data sydd ei angen arnom ni er mwyn sicrhau ein bod ni'n targedu ein hadnoddau mor effeithiol â phosib? Dwi'n edrych ymlaen at eich ymateb.

The increase of 12 per cent and some of the other statistics are quite positive, but we have to add the three words, 'on the surface'. Up to now, just over 13,000 of the 20,000 target have been provided, and that is the only figure that counts. That is the important figure. The other things are maybes. So, let's not turn this statement into a celebration.

We have a housing crisis in Wales and the crisis is deepening. When we look more deeply at the entire picture, it's clear that the reality of the people of Wales runs counter to the optimistic narrative that we're hearing from the Government today. One in every 14 households is waiting for a social home, and at the current rate it would take 35 years to meet that demand. There are thousands on waiting lists, thousands in temporary accommodation, 3,000 children arriving home from school tonight to completely inappropriate housing—with nowhere to cook, to wash their clothes or to do their homework. And so, it is quite strange that there is an effort to celebrate today, while that crisis is part of the reality of the everyday lives of so many people. And, in truth, you're celebrating underperformance in this statement. Minister, do you agree with me that showing underperformance is not the important thing to do in terms of using data? Open and transparent data should relate to how we improve performance, and it should help to develop policy and adapt delivery to make a difference to people's lives.

Wales faces a housing crisis that is causing real suffering for people in Wales, and it doesn't matter how much you play with the statistics and the definitions, that's the situation, and there is evidence for that in every part of the housing sector. If we want to tackle the housing crisis in practice, we need better data in order for Wales to be able to have better policy and deliver more effectively.

I think that there is an opportunity for doing this with the Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill—an opportunity to create a system for better data. So, I do hope that it will be possible to amend the legislation to that end. I am concerned that Part 2 of the draft homelessness Bill will make it more difficult for us to understand the genuine demand for social housing in Wales, because introducing criteria for eligible persons means that the numbers on the waiting lists will come down on paper, but it won't change the reality of people's lived experience. And, in truth, it will make things worse and will include the creation of further stigma around social housing. So, could I ask you, Minister, will you support my call to eliminate the eligible persons criteria from the homelessness Bill? I'm looking forward to having that discussion.

Do you agree that we should focus on improving the delivery here, rather than spending your time on interpreting in a fanciful way the data before us today? For example, how about persuading the UK Labour Government to bring the freeze on the local housing allowance to an end? And how about Welsh Government providing the strategic leadership needed to eliminate the key barriers to delivering more social housing? And how about ensuring that we have the data that we need to ensure that we are targeting our resources in the most effective means possible? I look forward to your response.

Diolch, Siân. I think today is about setting out the data and showing how far we've come and where we will get to by November 2026. I think what's really important is that it's not about me standing here to celebrate, it's actually about saying a huge 'thank you' to all the effort that has been put in through this time by not just me, but by all the partners who've worked incredibly hard, through RSLs, local authorities, to all the house builders as well. There's been a huge amount of effort.

We heard from so many people that people didn't think we'd get anywhere near this, and I think what we're seeing today and this week with these statistics that have been published is how far we've come. I think that that is because of that sustained level of delivery and sustained level of funding that has meant there's been confidence within the sector that has led to this. I think that is something we should be really proud of.

Do I want to see more homes? Absolutely. I know we need to do that. We need to see more homes, and that's why we have to keep going. This is just one of those milestones. I think it's really important that we all acknowledge it and make sure that the whole ecosystem involved in this is absolutely part of that.

In terms of data, we want to be as transparent as possible when we give our updates and in statements, but due to the nature of that data collection, there is a time lag between the end of the reporting period and the publication of the official statistics. To improve the timeliness of data, we've also published management information in this statistical release to complement existing accredited official statistics.

Estimates of homes delivered are available from management information collected throughout the year. That data supports monitoring of housing delivery linked to Government-funded programmes. Alongside that statistical release, we've published a chief statistician's blog, which provides users with additional information on the strengths and limitations of both the official statistics and the management information. The Office for Statistics Regulation has supported our approach to publishing more timely management information alongside the accredited official statistics. I think it is about being transparent with the information that we have.

In terms of the numbers on waiting lists, I absolutely recognise that every number that we see on that waiting list is a person behind that. I feel that very strongly myself. I think when we look at the statistics through the temporary accommodation, sometimes it seems like a very static number, but actually, hundreds of people are being moved through that temporary accommodation into permanent homes regularly, and that's due to the huge efforts by local authorities and RSLs.

We still need to do more there, and obviously, we don't want to see so many people in temporary accommodation. We absolutely want to drive that number down. I keep that determination to do that, because I do recognise very much the human cost of people being in temporary accommodation. I think I've set out some of the stats where we've seen that reduced.

In terms of when we're talking about social housing in Wales, I think it is really important to recognise that waiting lists are not a measure of housing need; they're a measure of who would like to and who have applied to live in social housing. Anyone can apply for social housing. They can apply in multiple areas, and therefore the numbers include people who live in secure housing but wish to move into social housing. So, I think it's really important to recognise that when we're talking about waiting lists as well.

Diolch, Siân. Rwy'n credu bod heddiw yn ymwneud â nodi'r data a dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod a ble y byddwn ni'n cyrraedd erbyn mis Tachwedd 2026. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw nad yw'n ymwneud â mi yn sefyll yma yn dathlu, mae'n ymwneud â rhoi 'diolch' enfawr am yr holl ymdrech sydd wedi'i gwneud trwy'r cyfnod hwn nid yn unig gennyf i, ond gan yr holl bartneriaid sydd wedi gweithio'n anhygoel o galed, trwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol, i'r holl adeiladwyr tai hefyd. Mae llawer iawn o ymdrech wedi bod.

Fe wnaethon ni glywed gan gymaint o bobl nad oedd pobl yn credu y bydden ni'n dod yn agos at hyn, ac rwy'n credu mai'r hyn rydyn ni'n ei weld heddiw a'r wythnos hon gyda'r ystadegau hyn sydd wedi'u cyhoeddi yw pa mor bell rydyn ni wedi dod. Rwy'n credu bod hynny oherwydd y lefel barhaus honno o gyflawni a'r lefel barhaus o gyllid sydd wedi golygu bod hyder yn y sector sydd wedi arwain at hyn. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylen ni fod yn falch iawn ohono.

Ydw i eisiau gweld mwy o gartrefi? Wrth gwrs. Rwy'n gwybod bod angen i ni wneud hynny. Mae angen i ni weld mwy o gartrefi, a dyna pam mae'n rhaid i ni ddal ati. Dim ond un o'r cerrig milltir hynny yw hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni i gyd yn ei gydnabod ac yn gwneud yn siŵr bod yr ecosystem gyfan sy'n ymwneud â hyn yn rhan o hynny.

O ran data, rydyn ni eisiau bod mor dryloyw â phosibl pan fyddwn ni'n rhoi ein diweddariadau ac mewn datganiadau, ond oherwydd natur y broses casglu data honno, mae oedi rhwng diwedd y cyfnod adrodd a chyhoeddi'r ystadegau swyddogol. Er mwyn gwella amseroldeb data, rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth reoli yn y datganiad ystadegol hwn i ategu ystadegau swyddogol achrededig sy'n bodoli eisoes.

Mae amcangyfrifon o gartrefi sydd wedi'u darparu ar gael o wybodaeth reoli sy'n cael ei chasglu trwy gydol y flwyddyn. Mae'r data hwnnw'n cefnogi'r gwaith o fonitro'r ddarpariaeth dai sy'n gysylltiedig â rhaglenni a ariennir gan y Llywodraeth. Ochr yn ochr â'r datganiad ystadegol hwnnw, rydyn ni wedi cyhoeddi blog y prif ystadegydd, sy'n rhoi gwybodaeth ychwanegol i ddefnyddwyr am gryfderau a chyfyngiadau'r ystadegau swyddogol a'r wybodaeth reoli. Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cefnogi ein dull o gyhoeddi gwybodaeth reoli fwy amserol ochr yn ochr â'r ystadegau swyddogol achrededig. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â bod yn dryloyw gyda'r wybodaeth sydd gennym ni.

O ran y niferoedd ar restrau aros, rwy'n cydnabod yn llwyr bod yna berson y tu ôl i bob rhif a welwn ni ar y rhestr aros honno. Rwy'n teimlo hynny'n gryf iawn fy hun. Rwy'n credu pan edrychwn ni ar yr ystadegau trwy'r llety dros dro, weithiau mae'n ymddangos fel nifer statig iawn, ond mewn gwirionedd, mae cannoedd o bobl yn cael eu symud trwy'r llety dros dro hwnnw i gartrefi parhaol yn rheolaidd, ac mae hynny oherwydd ymdrechion enfawr awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae dal angen i ni wneud mwy yn y fan yna, ac yn amlwg, dydyn ni ddim eisiau gweld cymaint o bobl mewn llety dros dro. Yn sicr, rydyn ni eisiau mynd ati i leihau'r nifer hwnnw. Rwy'n cadw'r penderfyniad hwnnw i wneud hynny, oherwydd rwy'n cydnabod y gost ddynol pan fydd pobl mewn llety dros dro. Rwy'n credu fy mod i wedi nodi rhai o'r ystadegau lle rydyn ni wedi gweld hynny'n lleihau.

O ran pan ydyn ni'n sôn am dai cymdeithasol yng Nghymru, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod nad yw rhestrau aros yn fesur o'r angen am dai; maen nhw'n fesur o bwy fyddai'n hoffi byw mewn tai cymdeithasol a phwy sydd wedi gwneud cais. Gall unrhyw un wneud cais am dai cymdeithasol. Gallan nhw wneud cais mewn sawl ardal, ac felly mae'r niferoedd yn cynnwys pobl sy'n byw mewn tai diogel ond sydd am symud i dai cymdeithasol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod hynny pan ydyn ni'n siarad am restrau aros hefyd.

16:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer took the Chair.

Since the second world war, household size has continued to decrease, driven by smaller family sizes and family units, and an increase in the number of single-person households. I regularly raise the importance of housing; a good home builds confidence, supports better health, and gives every child the foundation to thrive and improve their educational attainment. I'm a strong supporter of the building of council houses at the rate they were built in the 1950s and 1960s. This needs a change of Treasury rules to allow councils to borrow and build houses. English councils can and have borrowed to buy shopping centres, but not to build houses. We need to build a mix of homes in terms of both tenure and size. Will the Welsh Government support an increase in the number of co-operative houses being built? Despite some Government support and the involvement of Cwmpas, Wales is still not building co-operative housing at anywhere near the scale that is happening in the rest of Europe and North America.

Ers yr ail ryfel byd, mae maint aelwydydd wedi parhau i ostwng, wedi'i ysgogi gan deuluoedd ac unedau teuluol llai, a chynnydd yn nifer yr aelwydydd un person. Rwy'n codi pwysigrwydd tai yn rheolaidd; mae cartref da yn magu hyder, yn cefnogi iechyd gwell, ac yn rhoi sylfaen i bob plentyn ffynnu a gwella ei gyrhaeddiad addysgol. Rwy'n gefnogwr brwd dros adeiladu tai cyngor ar y gyfradd y cawson nhw eu hadeiladu yn y 1950au a'r 1960au. Mae angen newid rheolau'r Trysorlys i ganiatáu i gynghorau fenthyg arian ac adeiladu tai. Mae cynghorau yn Lloegr yn gallu, ac wedi, benthyg arian i brynu canolfannau siopa, ond nid i adeiladu tai. Mae angen i ni adeiladu cymysgedd o gartrefi o ran deiliadaeth a maint. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi cynnydd yn nifer y tai cydweithredol sy'n cael eu hadeiladu? Er gwaethaf rhywfaint o gefnogaeth gan y Llywodraeth a chyfranogiad Cwmpas, dydy Cymru dal ddim yn adeiladu tai cydweithredol unrhyw le yn agos at y raddfa sy'n digwydd yng ngweddill Ewrop a Gogledd America.

16:35

Diolch, Mike. You raise the issue of housing and co-operative and community-led housing on a regular basis. I know you are a champion of that. I'd just like to put on record that I'm a member of the Co-op Party and a big fan of community-led housing as well. This Government has been supporting community-led housing for over decade, and our programme for government includes a commitment to support co-operative housing, community-led initiatives and community land trusts.

We have increased our funding to £200,000 this financial year to continue to support community-led housing through Cwmpas, and we do recognise that community-led housing is and does remain part of the solution to housing in Wales. We are happy to support the further development of community-led and co-operative housing where there is an RSL partner through our social housing grant. I'm really keen, like you are, Mike, and others here, to see more community-led housing brought forward using this route. Community-led housing groups can also access our empty homes grant.

I'm pleased that we're working with Cwmpas and partners on a number of schemes to deliver housing, including the Rhisom co-operative and the Nefyn Town Trust, which have received funding through the land and buildings development fund. So, I know there are schemes that are going on. Like you, I would like to see more of them as well, so I very much recognise that that is still part of our solution to housing in Wales. 

Diolch, Mike. Rydych chi'n codi'r mater o dai a thai cydweithredol a chymunedol yn rheolaidd. Rwy'n gwybod eich bod chi'n hyrwyddo hynny. Hoffwn i roi ar gofnod fy mod i'n aelod o'r Blaid Gydweithredol ac yn gefnogwr brwd i dai a arweinir gan y gymuned hefyd. Mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn cefnogi tai a arweinir gan y gymuned ers dros ddegawd, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned ac ymddiriedolaethau tir cymunedol.

Rydyn ni wedi cynyddu ein cyllid i £200,000 y flwyddyn ariannol hon i barhau i gefnogi tai a arweinir gan y gymuned drwy Gwmpas, ac rydyn ni'n cydnabod bod tai a arweinir gan y gymuned yn, ac yn parhau i fod yn rhan o'r ateb i dai yng Nghymru. Rydyn ni'n hapus i gefnogi datblygiad pellach tai a arweinir gan y gymuned a thai cydweithredol lle mae yna bartner landlord cymdeithasol cofrestredig trwy ein grant tai cymdeithasol. Rwy'n awyddus iawn, fel chi, Mike, ac eraill yma, i weld mwy o dai a arweinir gan y gymuned yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio'r llwybr hwn. Gall grwpiau tai a arweinir gan y gymuned hefyd gael mynediad i'n grant cartrefi gwag.

Rwy'n falch ein bod ni'n gweithio gyda Cwmpas a phartneriaid ar nifer o gynlluniau i ddarparu tai, gan gynnwys cymdeithas gydweithredol Rhisom ac Ymddiriedolaeth Tref Nefyn, sydd wedi cael cyllid drwy'r gronfa datblygu tir ac adeiladau. Felly, rwy'n gwybod bod yna gynlluniau ar y gweill. Yn debyg i chi, hoffwn weld mwy ohonyn nhw hefyd, felly rwy'n cydnabod bod hynny'n dal i fod yn rhan o'n datrysiad i dai yng Nghymru. 

Two decades ago, the Welsh Government dismissed warnings that there would be a housing crisis, warnings by the sector and myself in this Chamber, and it carried on with its cuts to social housing accordingly. Given that your figures still fall short of your inadequate target by 1,350 homes, and the concerns expressed by the Chartered Institute of Housing in Wales regarding this, your statement today that this is the highest delivery of social housing in Wales in nearly two decades is therefore an admission of long-term failure. You only set a target to deliver 20,000 new low-carbon homes for social rent this Senedd term, and you now say you're forecast to have delivered 18,652 low-carbon homes for rent within the social sector. Given that you have inflated this by adding homes that are not new builds, not low carbon and not for social rent, including homes for intermediate rent and shared ownership as identified by Audit Wales, why should you not be accused of deliberate deception in your statement today?

Dau ddegawd yn ôl, wfftiodd Llywodraeth Cymru rybuddion y byddai argyfwng tai, rhybuddion gan y sector a minnau yn y Siambr hon, ac fe barhaodd â'i thoriadau i dai cymdeithasol yn unol â hynny. O ystyried bod eich ffigurau yn dal i fod yn llai na'ch targed annigonol o 1,350 o gartrefi, a'r pryderon y mae Sefydliad Tai Siartredig Cymru wedi'u mynegi ynglŷn â hyn, mae eich datganiad heddiw mai hwn yw'r cyflenwad uchaf o dai cymdeithasol yng Nghymru ers bron i ddau ddegawd felly yn gyfaddefiad o fethiant hirdymor. Gwnaethoch chi ond gosod targed o ddarparu 20,000 o gartref cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu yn nhymor y Senedd hon, ac nawr rydych chi'n dweud eich bod chi'n rhagweld y byddwch chi wedi darparu 18,652 o gartrefi carbon isel i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. O ystyried eich bod chi wedi chwyddo hyn drwy ychwanegu cartrefi nad ydyn nhw'n adeiladau newydd, nad ydyn nhw'n garbon isel ac nad ydyn nhw'n dai rhent cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi ar gyfer rhent canolradd a chydberchnogaeth fel y nodwyd gan Archwilio Cymru, pam na ddylech chi gael eich cyhuddo o ddichell fwriadol yn eich datganiad heddiw?

I think the question being asked by the Member is perhaps inappropriate in the sense of asking whether the Minister is making deliberate misstatements or deception. Cabinet Secretary, I'm going to leave you to decide whether you wish to answer that question.

Rwy'n credu bod y cwestiwn sy'n cael ei ofyn gan yr Aelod yn amhriodol efallai yn yr ystyr ei fod yn gofyn a yw'r Gweinidog yn gwneud camddatganiadau bwriadol neu ddichell fwriadaol. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n mynd i adael i chi benderfynu a ydych chi eisiau ateb y cwestiwn hwnnw.

I would just like to say that this was a stretching target that we set right at the start of the Senedd term. There were a number of things that were included in the target last time. In this target, we are not including our statistics on help to buy, for example, so it's not the only homes that we're investing in here in Wales. So, it's a stretching target. That has meant that the sector has really pushed on to do that. As I said, they're record levels of delivery and record levels of investment. In terms of including voids as something within the stats, which are a small number, that is a recommendation that we accepted from the affordable homes taskforce and the number of people who sit on that taskforce. They asked us to include that, which we did.

Hoffwn i ddweud bod hwn yn darged ymestynnol a gafodd ei osod gennym ar ddechrau tymor y Senedd. Roedd nifer o bethau a gafodd eu cynnwys yn y targed y tro diwethaf. Yn y targed hwn, dydyn ni ddim yn cynnwys ein hystadegau ar gymorth i brynu, er enghraifft, felly nid dyma'r unig gartrefi rydyn ni'n buddsoddi ynddyn nhw yma yng Nghymru. Felly, mae'n darged ymestynnol. Mae hynny wedi golygu bod y sector wedi gwthio ymlaen i wneud hynny. Fel y dywedais i, y lefelau cyflawni mwyaf erioed a'r lefelau buddsoddi mwyaf erioed yw'r rhain. O ran cynnwys eiddo gwag fel rhywbeth yn yr ystadegau, sy'n fach o ran nifer, mae hynny'n argymhelliad y gwnaethon ni ei dderbyn gan y tasglu cartrefi fforddiadwy a nifer y bobl sy'n eistedd ar y tasglu hwnnw. Fe wnaethon nhw ofyn i ni gynnwys hynny, a dyna wnaethon ni.

Before I ask the next person, I ask Members to be careful of their language. Claiming intentional deception is a serious allegation for all Members. Jenny Rathbone. 

Cyn i mi alw'r person nesaf, gofynnaf i'r Aelodau fod yn ofalus o'r iaith maen nhw'n ei defnyddio. Mae honni dichell fwriadol yn honiad difrifol i bob Aelod. Jenny Rathbone. 

Thank you. Thank you for your statistics, particularly the graph, which is very useful to see where local authorities are taking this housing crisis seriously and where others are not playing their part sufficiently. I acknowledge that there has been an improvement in the number of homes being built, and the fact that it's the highest increase for two decades is welcomed, but we still have a massive housing crisis. We've got over 800 prisoners being released from Welsh prisons with no fixed abode to go to, and I'm afraid that some of them are ending up back in prison because of that problem, because they're not meeting their bail conditions.

I know of the fantastic work done by the Wallich in my constituency to help people hold down a tenancy after some very difficult problems with addiction, et cetera. They're staying in those properties for far longer than they need to, after they are able to move on, simply because the properties aren't there for them to move on to. And that, obviously, has a knock-on impact on the people who need supported housing themselves. I note that Caerphilly, which has got—

Diolch. Diolch am eich ystadegau, yn enwedig y graff, sy'n ddefnyddiol iawn i weld lle mae awdurdodau lleol yn cymryd yr argyfwng tai hwn o ddifrif a lle nad yw eraill yn chwarae eu rhan yn ddigonol. Rwy'n cydnabod bod gwelliant wedi bod yn nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, ac mae'r ffaith mai dyma'r cynnydd uchaf ers dau ddegawd i'w groesawu, ond mae gennym ni argyfwng tai enfawr o hyd. Mae gennym ni dros 800 o garcharorion yn cael eu rhyddhau o garchardai yng Nghymru heb breswylfa sefydlog i fynd iddi, ac rwy'n ofni bod rhai ohonyn nhw'n dychwelyd i'r carchar oherwydd y broblem honno, oherwydd dydyn nhw ddim yn bodloni eu hamodau mechnïaeth.

Rwy'n gwybod am y gwaith gwych y mae'r Wallich yn ei wneud yn fy etholaeth i helpu pobl i gynnal tenantiaeth ar ôl problemau anodd iawn gyda dibyniaeth, ac ati. Maen nhw'n aros yn yr eiddo hwnnw am lawer mwy o amser nag sydd angen iddyn nhw ei wneud, ar ôl iddyn nhw allu symud ymlaen, oherwydd does dim eiddo ar gael iddyn nhw symud ymlaen iddo. Ac mae hynny, yn amlwg, yn cael effaith ar y bobl y mae angen angen tai â chymorth arnyn nhw eu hunain. Nodaf mai Caerffili, sydd â—

16:40

—a lot of private housing, with a lot of transport chaos to go with it, is one of the lowest providers of social housing. It's also very well connected to Cardiff. So, I wondered what contribution, in the future, we can see from Caerphilly, where you can pop on a train and get to Cardiff quite easily these days, because of our fantastic investment in Transport for Wales—

—llawer o dai preifat, a llawer o anhrefn o ran trafnidiaeth i fynd gydag ef, yw un o'r darparwyr tai cymdeithasol isaf. Mae ganddi hefyd gysylltiad da iawn â Chaerdydd. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa gyfraniad, yn y dyfodol, y gallwn ni ei weld gan Gaerffili, lle gallwch chi fynd ar drên a chyrraedd Caerdydd yn eithaf hawdd y dyddiau hyn, oherwydd ein buddsoddiad gwych yn Trafnidiaeth Cymru—

How are we going to ensure that all local authorities are playing their part in tackling this housing crisis?

Sut ydyn ni'n mynd i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn chwarae ei ran wrth fynd i'r afael â'r argyfwng tai hwn?

Absolutely, Jenny. This today is about showing the figures and seeing where we've come, and the sector as well. But I absolutely know that we need more homes; we're seeing this across the UK as well. One of the things that I've been doing is holding regional round-tables with local authority housing leads and housing officials, and also RSLs. We had one in Cardiff last week, actually, which included Caerphilly. That's where we get to talk about best practice and people can learn from each other and challenges that are faced. We are looking to work together. They've been really successful so far. I very much appreciate them and I know that local authorities and RSLs do as well.

In terms of Caerphilly, yes, I absolutely see that in the graph. Just for you to know, Caerphilly has the fourth highest social housing stock in Wales amongst local authorities. It has had 368 social housing grant-funded homes, and there's a number more in the pipeline, which is really good. There are another 186 in reserve and a potential 306 in the pipeline as well. So, there is a pipeline coming from Caerphilly, as there are with other local authorities. But we work with local authorities closely, and housing associations and RSLs, to really see where they can improve.

There's been a huge effort that has gone into this. It's not just about the target and a target, we've got to keep pushing on. That means sustained levels of investment, and that leads to sustained confidence and delivery. I think that's why it's not just about today, it's about pushing on. I'm really pleased that we do have a good pipeline. I'd be more worried if we didn't have a pipeline. I think the fact that we have a really good pipeline should stand us in good stead with what else we want to do.

Yn hollol, Jenny. Mae hyn heddiw yn ymwneud â dangos y ffigurau a gweld o ble rydyn ni wedi dod, a'r sector hefyd. Ond rwy'n gwybod yn iawn bod angen mwy o gartrefi arnon ni; rydyn ni'n gweld hyn ledled y DU hefyd. Un o'r pethau rydw i wedi bod yn ei wneud yw cynnal byrddau crwn rhanbarthol gydag arweinwyr tai awdurdodau lleol a swyddogion tai, a hefyd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fe gawson ni un yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf a oedd, yn wir, yn cynnwys Caerffili. Dyna lle rydyn ni'n cael siarad am arferion gorau a lle y gall pobl ddysgu oddi wrth ei gilydd ac o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu. Rydyn ni'n ceisio gweithio gyda'n gilydd. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn. Rwy'n eu gwerthfawrogi'n fawr ac rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn eu gwerthfawrogi hefyd.

O ran Caerffili, ie, rydw i'n gweld hynny yn y graff. Dim ond i chi gael gwybod, mae gan Gaerffili y bedwaredd stoc tai cymdeithasol uchaf yng Nghymru ymhlith awdurdodau lleol. Mae wedi cael 368 o gartrefi sydd wedi'u hariannu gan grantiau tai cymdeithasol, ac mae mwy yn yr arfaeth, sy'n dda iawn. Mae 186 arall wrth gefn a 306 posibl yn yr arfaeth hefyd. Felly, mae llif yn dod o Gaerffili, fel y mae gydag awdurdodau lleol eraill. Ond rydyn ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, a chymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, i weld ble y gallan nhw wella.

Mae ymdrech enfawr wedi mynd i mewn i hyn. Nid yw'n ymwneud â'r targed a tharged yn unig, mae'n rhaid i ni barhau i wthio ymlaen. Mae hynny'n golygu lefelau parhaus o fuddsoddiad, ac mae hynny'n arwain at hyder a chyflawniad parhaus. Rwy'n credu mai dyna pam nad yw'n ymwneud â heddiw yn unig, mae'n ymwneud â gwthio ymlaen. Rwy'n falch iawn bod gennym lif da. Byddwn i'n poeni mwy pe na bai gennym lif. Rwy'n credu y dylai'r ffaith bod gennym lif da iawn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda o ran beth arall rydyn ni eisiau ei wneud.

I very much welcome your statement today, Cabinet Secretary. As you stated, the target of the additional 20,000 low-carbon homes for rent in the social sector was a very ambitious target, and I think reaching it is a significant achievement. In Wrexham, 33.6 units per 10,000 households—well above the Welsh average of 26.5—have been delivered, and I want to congratulate all partners, and that includes Wrexham County Borough Council, housing associations, builders and community partners, for making this possible. The statistics clearly demonstrate that this is and always has been a key priority for the Welsh Government, and it shows what can be achieved in the longer term if there's a political will. I know that you recognise that more work is needed, as we all do, to ensure that everyone in Wales has a safe and affordable place to call home. But how do you think we can sustain this momentum and ensure that affordable housing remains a priority in the years ahead? Diolch.

Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud, roedd y targed o 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn darged uchelgeisiol iawn, ac rwy'n credu bod cyrraedd hynny yn gyflawniad sylweddol. Yn Wrecsam, mae 33.6 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd—ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru o 26.5—wedi'u darparu, ac rwyf eisiau llongyfarch yr holl bartneriaid, ac mae hynny'n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cymdeithasau tai, adeiladwyr a phartneriaid cymunedol, am sicrhau bod hyn yn bosibl. Mae'r ystadegau'n dangos yn glir bod hyn yn, ac wastad wedi bod, yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni yn y tymor hwy os oes ewyllys wleidyddol. Rwy'n gwybod eich bod chi'n cydnabod bod angen mwy o waith, fel yr ydyn ni i gyd yn ei wneud, i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le diogel a fforddiadwy i'w alw'n gartref. Ond sut ydych chi'n credu y gallwn ni gynnal y momentwm hwn a sicrhau bod tai fforddiadwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y blynyddoedd i ddod? Diolch.

16:45

Diolch, Lesley. Thank you. I'd like to put on record my thanks to Wrexham council and all of the other partners who've worked so hard in this area as well. When I visited Wrexham in the summer, I was able to go and visit somebody who'd moved from temporary accommodation into a Leasing Scheme Wales property, which had changed his life, and to see how well Wrexham has done in terms of Leasing Scheme Wales, which has been really, really good. We've provided £30 million in capital funding over five years for Leasing Scheme Wales, which means that local authorities can lease private rented sector properties from landlords. As I say, Wrexham council has made a real impact locally by actively engaging with Leasing Scheme Wales since its launch and has helped more people to access that secure and affordable housing.

The target for this Government term, as I said, was a lot narrower than the definition of the target from the previous term of Government, which included all affordable homes and those supported through the successful Help to Buy—Wales scheme. I think one of the things that we need to do is to keep the momentum going. As I said, this record that we have to date, which is record levels of delivery, is because of that record level of investment, and, again, that confidence that we have within the sector by working together. This isn't just a Government direction, this is something where we all have to come together and have that as a priority, because we know that we need to make a difference to people who live in Wales and who are in housing need as well. So, we very much know that we have to keep going. This is just one of those milestones, but it's just a real push on to keep working with the sector, all partners, to make sure that we deliver for the people of Wales.

Diolch, Lesley. Diolch. Hoffwn gofnodi fy niolch i gyngor Wrecsam a phob un o'r partneriaid eraill sydd wedi gweithio mor galed yn y maes hwn hefyd. Pan ymwelais i â Wrecsam yn yr haf, fe fu'n bosibl i mi ymweld â rhywun oedd wedi symud o lety dros dro i eiddo Cynllun Lesu Cymru, a oedd wedi newid ei fywyd, a gweld pa mor dda mae Wrecsam wedi'i wneud o ran Cynllun Lesu Cymru, sydd wedi bod yn dda iawn. Rydyn ni wedi rhoi £30 miliwn o gyllid cyfalaf dros bum mlynedd ar gyfer Cynllun Lesu Cymru, sy'n golygu y gall awdurdodau lleol lesu eiddo sector rhent preifat gan landlordiaid. Fel y dywedais i, mae cyngor Wrecsam wedi cael effaith wirioneddol yn lleol drwy ymgysylltu'n weithredol â Chynllun Lesu Cymru ers iddo gael ei lansio ac mae wedi helpu mwy o bobl i gael mynediad at y tai diogel a fforddiadwy hynny.

Roedd y targed ar gyfer tymor y Llywodraeth hon, fel y dywedais i, yn llawer culach na'r diffiniad o'r targed o dymor blaenorol y Llywodraeth, a oedd yn cynnwys pob cartref fforddiadwy a'r rhai a gefnogir drwy gynllun llwyddiannus Cymorth i Brynu—Cymru. Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae angen i ni ei wneud yw cynnal y momentwm. Fel y dywedais i, y rheswm am y record hon sydd gennym ni hyd yn hyn, sef y lefelau cyflawni uchaf erioed, yw'r lefel uchaf erioed honno o fuddsoddi, ac, unwaith eto, yr hyder hwnnw sydd gennym ni yn y sector trwy weithio gyda'n gilydd. Nid cyfarwyddyd gan y Llywodraeth yn unig yw hyn, mae'n rhywbeth lle mae'n rhaid i ni i gyd ddod at ein gilydd a sicrhau ei fod yn flaenoriaeth, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod angen i ni wneud gwahaniaeth i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sydd angen tai hefyd. Felly, rydyn ni'n gwybod yn iawn bod yn rhaid i ni ddal ati. Dim ond un o'r cerrig milltir hynny yw hon, ond mae'n hwb go iawn i barhau i weithio gyda'r sector, yr holl bartneriaid, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cabinet Secretary, this area of affordable housing is a priority for the Local Government and Housing Committee, as outlined in our report on social housing supply of a year ago. We would like to see a three-times-greater rate of build, from the 20,000 target up to 60,000. We'd be grateful for an outline of progress with the committee's recommendations that

'the Welsh Government should explore how it can capture more land value for the public benefit. As part of this, the Welsh Government should redouble efforts to seek devolution of powers to introduce a Vacant Land Tax', 

and that

'the Welsh Government work with local authorities on unlocking the potential of smaller sites within existing communities',

with more transparency around land ownership, together with progress on recommendations of the affordable housing taskforce. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, mae'r maes hwn o dai fforddiadwy yn flaenoriaeth i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad ar y cyflenwad o dai cymdeithasol flwyddyn yn ôl. Hoffem weld cyfradd adeiladu dair gwaith yn uwch, o'r targed o 20,000 i 60,000. Byddem yn ddiolchgar am amlinelliad o'r cynnydd sydd wedi'i wneud gydag argymhellion y pwyllgor sef

'y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gall sicrhau mwy o werth tir er budd y cyhoedd. Fel rhan o hyn, dylai Llywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i geisio datganoli pwerau i gyflwyno Treth ar Dir Gwag',

ac

'y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i ddatgloi potensial safleoedd llai o fewn cymunedau sy’n bodoli eisoes',

gyda mwy o dryloywder ynghylch perchnogaeth tir, ynghyd â chynnydd ar argymhellion y tasglu tai fforddiadwy. Diolch.

Diolch, John, and thank you for all your work, and the committee's work, in this area; it has been really valuable to me and the Welsh Government, and we are working on ways to deliver the recommendations that we have accepted on social housing supply. Again, just to say that we have the most ambitious housing target in our nation's history, and we have backed it with over £2 billion over this Senedd term, including £466 million in 2025-26 alone. We opened our transitional accommodation capital programme, TACP, funding four months earlier than previously to have that overall indicative allocation of £100 million, and we added an extra £55 million to this year's programmes.

So, you know, we are making progress on those recommendations. I know that ambitions for the delivery of large-scale strategic sites and supporting alignment of housing and regeneration efforts can be delivered by the place division, and the division will continue to work with partners within and outside of Welsh Government to those ends.

Diolch, John, a diolch i chi am eich holl waith, a gwaith y pwyllgor, yn y maes hwn; mae wedi bod yn werthfawr iawn i mi ac i Lywodraeth Cymru, ac rydyn ni'n gweithio ar ffyrdd o gyflawni'r argymhellion rydyn ni wedi'u derbyn ar y cyflenwad o dai cymdeithasol. Unwaith eto, dim ond i ddweud bod gennym ni'r targed tai mwyaf uchelgeisiol yn hanes ein cenedl, ac rydyn ni wedi'i gefnogi gyda dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hon, gan gynnwys £466 miliwn yn 2025-26 yn unig. Fe wnaethon ni agor y cyllid ar gyfer ein rhaglen gyfalaf llety trosiannol bedwar mis yn gynharach nag o'r blaen i gael y dyraniad dangosol cyffredinol hwnnw o £100 miliwn, ac fe wnaethon ni ychwanegu £55 miliwn yn ychwanegol at y rhaglenni eleni.

Felly, wyddoch chi, rydyn ni'n gwneud cynnydd ar yr argymhellion hynny. Rwy'n gwybod y gall yr uchelgeisiau ar gyfer cyflawni safleoedd strategol ar raddfa fawr a chefnogi alinio ymdrechion tai ac adfywio gael eu cyflawni gan yr is-adran lle, a bydd yr is-adran yn parhau i weithio gyda phartneriaid o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru i'r dibenion hynny.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Canlyniad yr Adolygiad Mewnol o Gymorth Busnes
6. Statement by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning: Outcome of the Internal Business Support Review

Eitem 6 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: canlyniad yr adolygiad mewnol o gymorth busnes. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Rebecca Evans.

Item 6 this afternoon is a statement by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning: outcome of the internal business support review. I call on the Cabinet Secretary, Rebecca Evans.

Thank you very much for the opportunity today to present the findings of our internal business support review, a foundational assessment of the Welsh Government’s current business support provision. This review, supported by OB3 Research Ltd, draws on extensive internal and external analysis, desk research and stakeholder engagement, including key partners such as the Welsh Local Government Association and the Federation of Small Businesses.

The review was commissioned to ensure that our business support is fit for purpose, is aligned with our economic mission and is able to deliver against this Government’s priorities for a more prosperous, sustainable and inclusive Welsh economy. It focused on immediate opportunities for improvement with minimal disruption, while ensuring that our support meets the needs of businesses and communities across Wales. The review was not exhaustive but was a focused, evidence-based evaluation, drawing on reports from the Organisation for Economic Co-operation and Development, FSB and others.

The review highlights a number of significant strengths in our current provision. Notably, our adaptability, the strength of our partnerships and the positive impact that we have had on business growth and innovation. Business Wales has emerged as a trusted one-stop shop, especially for new and hard-to-reach entrepreneurs, with an impressive 84 per cent client satisfaction rate, particularly in relation to adviser expertise and impartiality. The Wales business fund has contributed to 58 per cent of supported employment growth, while the Business Wales accelerated growth programme has met nearly all of its job creation objectives. Critically, businesses supported by our programmes have more than double the four-year survival rate compared to those that have not received support. Grant programmes have delivered substantial gains in gross value added, improved financial sustainability, increased turnover and driven job creation.

To put this impact into perspective, for every £1 invested in Business Wales, up to £18 is generated in GVA. Export support programmes yield a remarkable £20 for every £1 spent, and the HELIX food and drink programme reports up to £15 per £1 invested. The accelerated growth programme is particularly efficient in job creation, and, overall, our grant programmes have delivered tangible and measurable outcomes for businesses and for the Welsh economy.

However, the review also identifies areas where we can improve. The business support ecosystem in Wales is complex, involving a multitude of partners at national, regional, local and private sector levels. UK Government policies and funding streams, often designed with England in mind, add further complexity and do not always address the specific needs of Wales. The result is a fragmented landscape, with businesses having to navigate a confusing array of separate initiatives. This increases duplication, makes it harder to align programmes and can prevent support from reaching those who need it most. Inconsistencies in data collection and performance management further limit our ability to demonstrate value for money and assess the true impact of our interventions. 

Welsh small and medium-sized enterprises, in particular, continue to face challenges in accessing finance, with application processes often described as complicated and time-consuming. We also know that boosting innovation and improving workforce skills are essential for closing the productivity gap in Wales.

The report sets out a comprehensive series of recommendations. Some of these I'll be able to address immediately, and for others I will prepare the ground in the remaining time that we have in this term of Government. In particular, I've asked officials to begin immediate work on arranging a number of seminars to bring providers together in order to consider how we can simplify our collective business offer. We'll make immediate progress on additional dedicated support for major investors and improvements to our data and performance frameworks.

In conclusion, the approach recommended in this review is closely aligned with our economic mission and the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. By clarifying and simplifying business support, removing duplication and identifying gaps, we will deliver a refreshed, responsive and tailored approach to supporting Welsh businesses. I've accepted the recommendations of the report, and the Welsh Government will continue to build a more productive, resilient and sustainable economy for Wales, one that offers opportunity for all of our businesses, our communities and future generations.

Diolch yn fawr iawn am y cyfle heddiw i gyflwyno canfyddiadau ein hadolygiad mewnol o gymorth busnes, sef asesiad sylfaenol o'r cymorth busnes a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae'r adolygiad hwn, sydd wedi'i gefnogi gan OB3 Research Ltd, yn defnyddio ddadansoddiad mewnol ac allanol helaeth, ymchwil desg ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid, gan gynnwys partneriaid allweddol fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu i sicrhau bod ein cymorth busnes yn addas i'r diben, yn cyd-fynd â'n cenhadaeth economaidd ac yn gallu cyflawni yn erbyn blaenoriaethau'r Llywodraeth hon i sicrhau economi fwy llewyrchus, gynaliadwy a chynhwysol yng Nghymru. Fe ganolbwyntiodd ar gyfleoedd uniongyrchol ar gyfer gwella heb nemor ddim tarfu, gan sicrhau bod y cymorth a roddir gennym yn diwallu anghenion busnesau a chymunedau ledled Cymru. Doedd yr adolygiad ddim yn un cynhwysfawr. Yn hytrach, roedd yn werthusiad â ffocws yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio adroddiadau gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd, y Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill.

Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at nifer o gryfderau sylweddol yn ein darpariaeth bresennol. Yn nodedig, ein gallu i addasu, cryfder ein partneriaethau a'r effaith gadarnhaol rydyn ni wedi'i chael ar dwf ac arloesedd busnesau. Mae Busnes Cymru wedi dod i'r amlwg fel siop un stop ddibynadwy, yn enwedig ar gyfer entrepreneuriaid newydd a rhai sy'n anodd eu cyrraedd, gyda chyfradd boddhad trawiadol o 84 y cant ymhlith cleientiaid, yn enwedig o ran arbenigedd a didueddrwydd cynghorwyr. Mae cronfa fusnes Cymru wedi cyfrannu at dwf o 58 y cant mewn cyflogaeth â chymorth, tra bod rhaglen twf cyflym Busnes Cymru wedi cyflawni bron pob un o'i hamcanion ar gyfer creu swyddi. Yn hanfodol, mae gan fusnesau sydd wedi cael help gan ein rhaglenni fwy na dwbl y gyfradd oroesi pedair blynedd o gymharu â'r rhai nad ydyn nhw wedi cael cymorth. Mae rhaglenni grant wedi cyflawni enillion sylweddol mewn gwerth ychwanegol gros, wedi gwella cynaliadwyedd ariannol, wedi cynyddu trosiant ac wedi ysgogi creu swyddi.

I roi'r effaith hon mewn persbectif, am bob £1 sydd wedi'i buddsoddi yn Busnes Cymru, mae £18 yn cael ei gynhyrchu mewn gwerth ychwanegol gros. Mae rhaglenni cymorth allforio yn cynhyrchu swm rhyfeddol o £20 am bob £1 sy'n cael ei gwario, ac mae rhaglen bwyd a diod HELIX yn adrodd hyd at £15 am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi. Mae'r rhaglen twf cyflym yn arbennig o effeithlon o ran creu swyddi, ac, ar y cyfan, mae ein rhaglenni grant wedi cyflawni canlyniadau gwirioneddol a mesuradwy i fusnesau ac i economi Cymru.

Fodd bynnag, mae'r adolygiad hefyd yn nodi meysydd lle gallwn ni wella. Mae'r ecosystem cymorth busnes yng Nghymru yn gymhleth, ac mae'n cynnwys llu o bartneriaid ar lefel genedlaethol, ranbarthol, leol a sector preifat. Mae polisïau a ffrydiau cyllido Llywodraeth y DU, sydd wedi'u cynllunio'n aml gyda Lloegr mewn golwg, yn ychwanegu cymhlethdod arall ac nid ydynt bob amser yn ymdrin ag anghenion penodol Cymru. Y canlyniad yw tirwedd dameidiog, gyda busnesau yn gorfod llywio amrywiaeth ddryslyd o fentrau gwahanol. Mae hyn yn cynyddu dyblygu, yn ei gwneud hi'n anoddach alinio rhaglenni a gall atal cymorth rhag cyrraedd y rhai y mae ei angen arnyn nhw fwyaf. Mae anghysondebau o ran casglu data a rheoli perfformiad yn cyfyngu ymhellach ar ein gallu i ddangos gwerth am arian ac asesu gwir effaith ein hymyriadau.

Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru, yn arbennig, yn parhau i wynebu heriau wrth gael mynediad at gyllid, gyda phrosesau ymgeisio yn aml yn cael eu digrifio fel rhai cymhleth sy'n cymryd llawer o amser. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod hybu arloesedd a gwella sgiliau'r gweithlu yn hanfodol ar gyfer cau'r bwlch cynhyrchiant yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn nodi cyfres gynhwysfawr o argymhellion. Byddaf yn gallu mynd i'r afael â rhai o'r rhain yn syth ac, ar gyfer rhai eraill, byddaf yn paratoi'r tir yn yr amser sy'n weddill gennym yn nhymor y Llywodraeth hon. Yn benodol, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio yn syth ar drefnu nifer o seminarau i ddod â darparwyr at ei gilydd er mwyn ystyried sut y gallwn ni symleiddio ein cynnig busnes ar y cyd. Byddwn ni'n gwneud cynnydd ar gymorth pwrpasol ychwanegol i fuddsoddwyr mawr a gwelliannau i'n fframweithiau data a pherfformiad ar unwaith.

I gloi, mae'r dull sydd wedi'i argymell yn yr adolygiad hwn yn cyd-fynd yn agos â'n cenhadaeth economaidd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Drwy egluro a symleiddio cymorth busnes, dileu dyblygu a nodi bylchau, byddwn ni'n darparu dull newydd, ymatebol a phwrpasol o gefnogi busnesau Cymru. Rwyf wedi derbyn argymhellion yr adroddiad, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adeiladu economi fwy cynhyrchiol, gadarn a chynaliadwy i Gymru, un sy'n cynnig cyfleoedd i'n holl fusnesau, ein cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.

16:50

I thank the Cabinet Secretary for her statement on the outcome of the internal business support review. But I must say, from the outset, businesses across Wales will be listening closely today, not just for warm words, but for reassurance that this Government grasps the scale of the economic challenge we face and the urgency in which we must act.

For years, Ministers have spoken of creating a high-productivity, high-skill economy, yet the reality remains stark. The most recent labour market overview paints a deeply concerning picture: a 1 per cent fall in the employment rate, five times the UK drop, unemployment up 1.4 per cent in a single quarter, and an economic inactivity rate that is still the highest in Great Britain. These are not isolated fluctuations, they are the continuation of a long-term pattern of decline under a Welsh Labour Government propped up by Plaid and the Lib Dems and turbocharged by a failing UK Labour Government.

They can be addressed, however, because some of these problems are at the hands of the Welsh Government and could be rectified if Welsh Government is prepared to champion the businesses rather than further burdening them. Now, I recognise that the Cabinet Secretary announced in June that she would review Wales's business support landscape, but today's update, drawing on the review supported by OB3 Research, and the strengths highlighted around Business Wales, the Wales business fund and the high survival rates among supported firms show that there should be no resting on laurels, because Wales is not short of entrepreneurs or ambition. What Wales lacks is a Government willing to match that ambition with timely, accessible and adequately resourced support.

The review also highlights the complexity and fragmentation of the current support landscape, something that’s been allowed to grow under this Government for 26 years. As the statement itself acknowledges, navigating multiple national, regional and local initiatives leaves businesses facing duplication, inconsistency and, too often, dead ends. But the real-world experience of SMEs is more telling. Many still report that they cannot get clear or timely guidance, nor speak to a consistent adviser. A named case officer model already used effectively elsewhere in the UK could make a significant difference. So, Cabinet Secretary, will you commit to introducing a case officer system with guaranteed response time targets for businesses seeking substantive support?

The need for specialist expertise is another area the review highlights, especially if we want SMEs to innovate, digitalise and scale. The proposed voucher-based model could be genuinely transformational, enabling firms to access private sector expertise without excessive bureaucracy. But, again, we need certainty. So, Cabinet Secretary, can you confirm whether this voucher scheme will be adopted and if so, on what timescale?

Turning to productivity, the Welsh Government's own SME productivity review confirms that Wales has the lowest productivity of any UK nation or region. SMEs, which employ more than 62 per cent of our workforce, simply cannot raise productivity without targeted, intensive and long-term support. The FSB describe this gap as the 'missing middle'—those scaling firms that receive too little attention. So, what new resources will be allocated to support this cohort, and how will the Government ensure these firms can finally improve productivity in line with the rest of the UK? And when I use the term ‘resources’, I don't mean finance only.

Finally—co-ordination. The Cabinet Secretary says she will arrange seminars and improve signposting, and while all this is welcome, what businesses really need is a system that works. That is why the recommendation for a new business growth board is important, bringing users and providers together, strengthening accountability and driving continuous improvement. So, will the Cabinet Secretary establish this independent board and give us a timeline on which it will be established?

Dirprwy Lywydd, the Welsh Conservatives believe in a Wales that is open for business, supported with practical pro-growth action. We should abolish business rates for small firms, cut income tax, reduce rates in our town centres, scrap the tourism tax and introduce investment funds to revive our seaside and market towns. These are policies designed to stimulate growth and restore confidence. Because what businesses need now, in an uncertain world, is certainty, ambition and a Government that truly believes in them. So, Cabinet Secretary, today must mark a turning point, because Wales can't afford further drift, more reviews or more delays. Our businesses deserve a support system that matches their ambition, and they deserve it as soon as possible. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad ar ganlyniad yr adolygiad mewnol o gymorth busnes. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, o'r cychwyn cyntaf, bydd busnesau ledled Cymru yn gwrando'n astud heddiw, nid yn unig am eiriau cynnes, ond am sicrwydd bod y Llywodraeth hon yn deall maint yr her economaidd sy'n ein hwynebu ni a pha mor gyflym y mae angen i ni weithredu.

Ers blynyddoedd, mae Gweinidogion wedi siarad am greu economi cynhyrchiant uchel, sgiliau uchel, ond mae'r realiti yn parhau i fod yn llwm. Mae'r trosolwg diweddaraf o'r farchnad lafur yn paentio darlun pryderus iawn: gostyngiad o 1 y cant yn y gyfradd gyflogaeth, bum gwaith yn fwy na'r DU, diweithdra i fyny 1.4 y cant mewn un chwarter, a chyfradd anweithgarwch economaidd sy'n dal i fod yr uchaf ym Mhrydain Fawr. Nid amrywiadau unigryw yw'r rhain, maen nhw'n barhad patrwm hirdymor o ddirywiad o dan Lywodraeth Lafur Cymru sy'n cael ei chefnogi gan Blaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol a'i hyrwyddo gan Lywodraeth Lafur y DU sy'n methu.

Mae modd ymdrin â nhw, fodd bynnag, oherwydd mae rhai o'r problemau hyn yn nwylo Llywodraeth Cymru a gallan nhw gael eu cywiro os yw Llywodraeth Cymru yn barod i hyrwyddo'r busnesau yn hytrach na rhoi baich ychwanegol arnyn nhw. Nawr, rwy'n cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi ym mis Mehefin y byddai'n adolygu'r dirwedd cymorth busnes yng Nghymru, ond mae'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw, gan ddefnyddio'r adolygiad a gefnogwyd gan OB3 Research, a'r cryfderau a amlygwyd o ran Busnes Cymru, cronfa fusnes Cymru a'r cyfraddau goroesi uchel ymhlith cwmnïau sydd wedi'u cefnogi yn dangos na ddylen ni fod yn llaesu dwylo, oherwydd dydy Cymru ddim yn brin o entrepreneuriaid nac uchelgais. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw Llywodraeth sy'n barod i baru'r uchelgais honno â chymorth amserol, hygyrch ac adnoddau digonol.

Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at gymhlethdod a natur ddarniog y dirwedd cymorth bresennol, rhywbeth sydd wedi cael ei ganiatáu i dyfu o dan y Llywodraeth hon ers 26 mlynedd. Fel y mae'r datganiad ei hun yn cydnabod, mae llywio mentrau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol amryfal yn golygu bod busnesau yn wynebu dyblygu, anghysondeb ac, yn rhy aml, cyfleoedd di-werth. Ond mae profiad gwirioneddol busnesau bach a chanolig yn datgelu mwy. Mae llawer yn dal i adrodd nad ydyn nhw'n gallu cael arweiniad clir neu amserol, nac yn gallu siarad â chynghorydd cyson. Gallai model swyddog achos penodol a ddefnyddir yn effeithiol mewn mannau eraill yn y DU wneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno system swyddogion achos gyda thargedau amser ymateb gwarantedig ar gyfer busnesau y mae angen cymorth sylweddol arnyn nhw?

Mae'r angen am arbenigedd arbenigol yn faes arall y mae'r adolygiad yn tynnu sylw ato, yn enwedig os ydyn ni eisiau i fusnesau bach a chanolig arloesi, digideiddio a thyfu. Gallai'r model arfaethedig sy'n seiliedig ar dalebau fod yn wirioneddol drawsnewidiol, gan alluogi cwmnïau i gael mynediad at arbenigedd sector preifat heb ormod o fiwrocratiaeth. Ond eto, mae angen sicrwydd arnom. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allwch chi gadarnhau a fydd y cynllun talebau hwn yn cael ei fabwysiadu ac, os felly, beth fydd yr amserlen?

Gan droi at gynhyrchiant, mae adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun o gynhyrchiant busnesau bach a chanolig yn cadarnhau mai Cymru sydd â'r cynhyrchiant isaf o blith unrhyw genedl neu ranbarth yn y DU. Ni all busnesau bach a chanolig, sy'n cyflogi mwy na 62 y cant o'n gweithlu, gynyddu cynhyrchiant heb gymorth dwys, hirdymor wedi'i dargedu. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn disgrifio'r bwlch hwn fel y 'canol coll'—y cwmnïau hynny sy'n tyfu nad ydyn nhw'n cael digon o sylw. Felly, pa adnoddau newydd fydd yn cael eu dyrannu i gefnogi'r garfan hon, a sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y gall y cwmnïau hyn wella cynhyrchiant o'r diwedd yn unol â gweddill y DU? Ac wrth ddefnyddio'r term 'adnoddau', dydw i ddim yn golygu cyllid yn unig.

Yn olaf—cydlynu. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud y bydd hi'n trefnu seminarau ac yn gwella cyfeirio, ac er bod hyn i gyd i'w groesawu, yr hyn sydd ei angen ar fusnesau mewn gwirionedd yw system sy'n gweithio. Dyna pam mae'r argymhelliad ar gyfer bwrdd twf busnesau newydd yn bwysig, gan ddod â defnyddwyr a darparwyr at ei gilydd, cryfhau atebolrwydd ac ysgogi gwelliant parhaus. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet sefydlu'r bwrdd annibynnol hwn a rhoi amserlen i ni ar gyfer y broses o'i sefydlu?

Dirprwy Lywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn Cymru sy'n agored i fusnes, sy'n cael ei chefnogi gyda chamau gweithredu ymarferol o blaid twf. Dylen ni ddileu ardrethi busnes i gwmnïau bach, torri treth incwm, lleihau ardrethi yng nghanol ein trefi, dileu'r dreth dwristiaeth a chyflwyno cronfeydd buddsoddi i adfywio ein trefi glan môr a'n trefi marchnad. Mae'r rhain yn bolisïau sydd wedi'u cynllunio i ysgogi twf ac adfer hyder. Oherwydd yr hyn sydd ei angen ar fusnesau nawr, mewn byd ansicr, yw sicrwydd, uchelgais a Llywodraeth sydd wir yn credu ynddyn nhw. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae'n rhaid i heddiw nodi trobwynt, oherwydd ni all Cymru fforddio mwy o lithriad, mwy o adolygiadau na mwy o oedi. Mae ein busnesau yn haeddu system gymorth sy'n cyd-fynd â'u huchelgais, ac maen nhw'n ei haeddu cyn gynted â phosibl. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:55

I'm very grateful for the questions this afternoon. I wouldn't say that the review in itself bears out entirely the rather glum portrayal that we've had of Welsh Government support, because I think the figures do speak for themselves. I said in my statement that Business Wales generates an estimated up to £18 in GVA for every £1 that we invest in it, and I think that, by anyone's measure, is a successful programme, particularly so in respect of our export programmes, where we could be looking at up to £20 for every £1 spent, and, for the HELIX food and drink programme, £15 for every £1 spent.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau y prynhawn yma. Fyddwn i ddim yn dweud bod yr adolygiad ynddo'i hun yn cadarnhau'n llwyr y darlun eitha digalon rydyn ni wedi'i gael o gymorth  Llywodraeth Cymru, oherwydd rwy'n credu bod y ffigurau'n siarad drostyn nhw eu hunain. Fe ddywedais i yn fy natganiad bod Busnes Cymru yn cynhyrchu amcangyfrif o hyd at £18 mewn gwerth ychwanegol gros am bob £1 rydyn ni'n ei buddsoddi ynddo, ac rwy'n credu bod hynny, yn ôl mesur unrhyw un, yn rhaglen lwyddiannus, yn enwedig felly o ran ein rhaglenni allforio, lle gallen ni fod yn edrych ar hyd at £20 am bob £1 sy'n cael ei gwario, ac, ar gyfer rhaglen bwyd a diod HELIX, £15 am bob £1 sy'n cael ei gwario.

So, these are really successful programmes, and Business Wales is already recognised as a trusted one-stop shop with a really, really strong brand. It's got high accessibility for new and hard-to-reach entrepreneurs, and client satisfaction is really high at 84 per cent, especially when people are asked about the expertise and the impartiality of advisers. I think that that shows a service that is responsive, but I think equally it's important that we make sure that things are fit for purpose and fit for the future, because, since Business Wales was established, there's been an awful lot of change in the landscape of economic development in Wales. We now have our corporate joint committees, we've got the city and growth deals, we have the free ports, the investment zones and so on, so it's really important that all of these things work cohesively together.

And separately, I've also published a written statement today that looks at total investment by the Development Bank of Wales, because that's a really important part of our infrastructure here in Wales as well. Total investment there has passed £1 billion, and it's created or safeguarded over 50,000 jobs since it was formed in 2017. So, again, I think a real Welsh success story in terms of the DBW.

So, I do think that there's plenty to be proud of, plenty to celebrate, but, equally, it's really important that we do make sure that everything is fit for purpose for the future as well, which was the purpose of this very honest review. I do think those points about potential duplication are really well made, and it's important that we address all of those.

I do think that the importance of relationship managers has really been borne out as well. We do have, for example, in the mid and south-west Wales regions, a team proactively managing relationships with around 120 priority businesses. They reactively deal with small and medium-sized enterprises of importance within each local authority area, and they go out and build relationships. They make sure that those businesses are aware of all of the opportunities. They work with them, for example, to identify premises if they're looking to new properties to move and to expand and to grow and so on.

Some examples of the high-profile relationships that are managed in the region that the opposition spokesperson represents include Valero, RWE power station, Invertek Drives. All of those as well are really integral, of course, to the wider approach in terms of the city deal and so on, and the Celtic Freeport, of course. So, I think all of these things working together are important, which is why it's so important that we did this review to understand where we can potentially work together more seamlessly for the benefit of business in future.

Again, as I say, I've accepted all of the recommendations. I think there's certainly work that we can do immediately within this Senedd term, but certainly, again, things to look to for the future. I know that, from a political perspective, all of us will be considering our offers to business, so I genuinely hope that this work is also useful to all parties as they start to think through their offer for business for the future as well.

I think there are some good results as well of the support we've been providing. I have to say again that we shouldn't be using those statistics that the Member used at the start of his contribution. The ONS has no longer designated those as official national statistics—they are statistics in development—so it's important that we look at a broader range of data. But the annual growth estimate of labour productivity, as measured by gross value added per hour worked in Wales between 2022 and 2023, which are the most recent figures I have, was higher for Wales than 11 of the 12 UK countries and English regions. I think that's really impressive. Wales's productivity has grown by 14.1 per cent since 2009, as compared to 10.5 per cent in the UK. So, actually, productivity is growing faster in Wales and has been growing faster in Wales for some considerable time as well.

So, I think that what we all want is a system that works for business. I think that we've had a health check, and there are certainly things that are working really, really well. But, equally, there's certainly more that we can do, and I think that the report helps us identify the improvements we can make for the future.

Felly, mae'r rhain yn rhaglenni llwyddiannus iawn, ac mae Busnes Cymru eisoes yn cael ei gydnabod fel siop un stop dibynadwy gyda brand cryf iawn. Mae ganddo lawer o hygyrchedd i entrepreneuriaid newydd a rhai anodd eu cyrraedd, ac mae boddhad cleientiaid yn uchel iawn ar 84 y cant, yn enwedig pan ydym ni'n gofyn i bobl am arbenigedd a didueddrwydd cynghorwyr. Rwy'n credu bod hynny'n dangos gwasanaeth sy'n ymatebol, ond rwy'n credu ei bod yr un mor bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr bod pethau'n addas i'r diben ac yn addas ar gyfer y dyfodol, oherwydd, ers sefydlu Busnes Cymru, mae llawer iawn o newid wedi bod yng nghyd-destun datblygu economaidd yng Nghymru. Mae gennym ni nawr ein cyd-bwyllgorau corfforedig, mae gennym ni fargeinion dinesig a thwf, mae gennym ni'r porthladdoedd rhydd, y parthau buddsoddi ac ati, felly mae'n bwysig iawn bod yr holl bethau hyn yn gweithio'n gydlynol â'i gilydd.

Ac ar wahân, rwyf i hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw sy'n ystyried cyfanswm y buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru, oherwydd mae hynny'n rhan bwysig iawn o'n seilwaith ni yma yng Nghymru hefyd. Mae cyfanswm y buddsoddiad yno wedi mynd y tu hwnt i £1 biliwn, ac mae wedi creu neu ddiogelu dros 50,000 o swyddi ers iddo gael ei ffurfio yn 2017. Felly, eto, stori o lwyddiant gwirioneddol, rwy'n credu, o ran Banc Datblygu Cymru.

Felly, rwy'n credu bod digon i fod yn falch ohono, digon i'w ddathlu, ond, yn yr un modd, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod popeth yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol hefyd, a dyna oedd diben yr adolygiad gonest iawn hwn. Rwy'n credu bod y pwyntiau hynny am ddyblygu posibl wedi'u gwneud yn dda iawn, ac mae'n bwysig ein bod ni'n ymdrin â phob un o'r rheini.

Rwy'n credu bod pwysigrwydd rheolwyr cydberthynas wedi cael ei gadarnhau hefyd. Mae gennym ni, er enghraifft, yn rhanbarthau canolbarth a de-orllewin Cymru, dîm sy'n rheoli'n rhagweithiol gydberthynas â thua 120 o fusnesau â blaenoriaeth. Maen nhw'n ymdrin yn adweithiol â mentrau bach a chanolig o bwys ym mhob ardal awdurdod lleol, ac maen nhw'n mynd allan ac yn meithrin cydberthnasoedd. Maen nhw'n gwneud yn siŵr bod y busnesau hynny'n ymwybodol o'r holl gyfleoedd. Maen nhw'n gweithio gyda nhw, er enghraifft, i nodi eiddo os ydyn nhw'n chwilio am eiddo newydd i'w symud ac i ehangu ac i dyfu ac ati.

Mae rhai enghreifftiau o'r cydberthnasoedd proffil uchel sy'n cael eu rheoli yn y rhanbarth y mae llefarydd yr wrthblaid yn eu cynrychioli yn cynnwys Valero, gorsaf bŵer RWE, Invertek Drives. Mae'r rheini i gyd hefyd yn rhan annatod iawn, wrth gwrs, o'r dull ehangach o ran y fargen ddinesig ac ati, a'r Porthladd rhydd, wrth gwrs. Felly, rwy'n credu bod yr holl bethau hyn yn gweithio gyda'i gilydd yn bwysig, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni wedi gwneud yr adolygiad hwn i ddeall ble y gallwn ni weithio gyda'n gilydd yn fwy di-dor er budd busnes yn y dyfodol.

Eto, fel yr wyf i'n ei ddweud, rydw i wedi derbyn pob argymhelliad. Rwy'n credu bod yna waith y gallwn ni ei wneud yn ddi-oed o fewn tymor y Senedd hon, ond yn sicr, eto, pethau i edrych arnyn nhw ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gwybod, o safbwynt gwleidyddol, y bydd pob un ohonon ni'n ystyried ein cynigion i fusnes, felly rwy'n gobeithio bod y gwaith hwn hefyd yn ddefnyddiol i bob plaid wrth iddyn nhw ddechrau meddwl trwy eu cynnig ar gyfer busnes ar gyfer y dyfodol hefyd.

Rwy'n credu bod yna ganlyniadau da hefyd o'r gefnogaeth yr ydyn ni wedi bod yn ei darparu. Mae'n rhaid i mi ddweud eto na ddylen ni fod yn defnyddio'r ystadegau hynny y gwnaeth yr Aelod eu defnyddio ar ddechrau'i gyfraniad. Nid yw'r SYG bellach wedi dynodi'r rheini fel ystadegau cenedlaethol swyddogol—maen nhw'n ystadegau sy'n cael eu datblygu—felly mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar amrywiaeth ehangach o ddata. Ond roedd yr amcangyfrif twf blynyddol o gynhyrchiant llafur, fel y mae wedi'i fesur gan werth ychwanegol gros fesul awr a gafodd ei weithio yng Nghymru rhwng 2022 a 2023, sef y ffigurau diweddaraf sydd gennyf i, yn uwch i Gymru nag 11 o'r 12 o wledydd a rhanbarthau Lloegr y DU. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol drawiadol. Mae cynhyrchiant Cymru wedi tyfu 14.1 y cant ers 2009, o'i gymharu â 10.5 y cant yn y DU. Felly, mewn gwirionedd, mae cynhyrchiant yn tyfu'n gyflymach yng Nghymru ac wedi bod yn tyfu'n gyflymach yng Nghymru ers cryn amser hefyd.

Felly, rwy'n credu mai'r hyn yr ydyn ni i gyd eisiau yw system sy'n gweithio i fusnes. Rwy'n credu ein bod ni wedi cael archwiliad iechyd, ac yn sicr mae yna bethau sy'n gweithio'n dda iawn. Ond, yn yr un modd, mae mwy y gallwn ni ei wneud, ac rwy'n credu bod yr adroddiad yn ein helpu ni i nodi'r gwelliannau y gallwn ni eu gwneud ar gyfer y dyfodol.

17:05

Can I say I welcome the review? I think it's been long overdue. The Cabinet Secretary used the word 'honest' in reference to that review, and I have to say that the review points out some positive stuff; it also points out where there's a need for improvement and some of the things that aren't quite working. So, it's quite refreshing, actually, to see in a Government document a willingness to engage, particularly in those things that the Government's not doing as good as it should be in. So, I wholeheartedly welcome the review. The review also highlights something that I think we've all recognised over the last couple of years, which is that business support landscape being quite complicated. So, it's good to see that we can all agree now on that particular issue.

On that point, I would turn to recommendation 1, because it does sound as though the Government is entertaining a degree of rationalisation here when it come to business support, the aim being to clarify and simplify the range of support, to use the words of the review. Is that a fair assumption on my part? Because the review also seemed to rule out the possibility of using an arm's-length body to lead on the direction and delivery of business support services in Wales, and there is a link here, potentially, with that rationalisation piece. There are many, including myself, who would argue that a national development agency should be explored, and I think there's some tension here in the report. The suggestion that improvements can be made without the overheads of a new organisation I think ignores that broad consensus that economic development in Wales has suffered since the dissolution of the old Welsh Development Agency. So, the case for a successor to the WDA, and one that learns from the mistakes of its predecessor and looks to tackle those particular challenges businesses in Wales face in the here and now, has been outlined by many, and the idea is broadly supported by businesses that I've spoken to, as well as other relevant stakeholders.

I agree with the point in the report that there are too many players in the Welsh business landscape. So, perhaps it may be time for Welsh Government to take stock of what it is actually getting out of the existing structures and explore whether, as part of that rationalisation piece, a genuine one-stop shop, like a new WDA, is needed. So, perhaps, actually, a natural evolution of this review would be a cost-benefit analysis of the current landscape and support on offer. Is that something the Cabinet Secretary is looking to do next?

I also want to touch briefly on the economic missions underpinning the Government's strategic approach. I criticised them at the time that they were announced in 2023 for being woolly and vague, little more than slogans dressed up as a strategy, and I still believe a new guiding philosophy is urgently required, one with a bit more substance, geared more towards the mechanisms of delivery and more focused on sustainable development of meaningfully Welsh and Welsh-owned businesses. Is the Government considering a change in those missions in response to this review?

Finally, the review cites the FSB's findings that Wales's business support ecosystem represents a strategic advantage, pointing to high-brand recognition of Welsh business support providers. I think this is only half of the story. Business Wales is indeed a key service familiar to SMEs, and, of those who have accessed it, yes, many have good things to say, yet institutions such as the Development Bank of Wales don't fare as well. According to FSB findings from this year, only 11 per cent of stakeholders saw support from the development bank. A critical issue that the development bank was designed to address was access to finance and business support for SMEs, and, while it has increased the supply of finance available to SMEs, there has not been an even or uniform increase in demand for it. The current level of resources made available via the Development Bank of Wales to promote succession, for example, processes that retain medium-sized businesses in Wales, has recently been increased to £40 million. I think that's very welcome, but this is still arguably not enough to meet the scale of the challenge. Crucially, there is still no fund managed by the bank specifically geared towards promoting employee ownership. So, what steps will the Government take to improve awareness and uptake of development bank services among SMEs, and how will the Government measure whether the development bank is genuinely addressing the finance gap, rather than simply increasing supply without stimulating demand?

So, to conclude, while the review identifies some strengths, it also exposes deep weaknesses that I think the Government has acknowledged—that is very welcome. How it decides to go about addressing those will probably now be left to the next Government at this stage in the Senedd, but I think that makes it all the more important that we set out clearly now what the priorities must be. So, rationalisation is essential, a new guiding philosophy is essential, and a serious conversation about a successor, not a carbon copy, to the WDA is essential. Would the Cabinet Secretary agree with me on that?

A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r adolygiad? Rwy'n credu ei fod yn hen bryd i ni ei gael. Defnyddiodd yr Ysgrifennydd Cabinet y gair 'gonest' wrth gyfeirio at yr adolygiad hwnnw, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yr adolygiad yn tynnu sylw at rai pethau cadarnhaol; mae hefyd yn nodi lle mae angen gwella a rhai o'r pethau nad ydyn nhw'n gweithio'n iawn. Felly, mae'n eithaf calonogol, mewn gwirionedd, i weld yn nogfen y Llywodraeth barodrwydd i ymgysylltu, yn enwedig â'r pethau hynny nad yw'r Llywodraeth yn gwneud cystal ag y dylai fod. Felly, rwy'n croesawu'r adolygiad yn llwyr. Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at rywbeth yr wyf i'n credu ein bod ni i gyd wedi'i gydnabod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, sef bod cyd-destun cymorth busnes yn eithaf cymhleth. Felly, mae'n dda gweld y gallwn ni i gyd gytuno nawr ar y mater penodol hwnnw.

Ar y pwynt hwnnw, trof at argymhelliad 1, oherwydd mae'n swnio fel petai'r Llywodraeth yn defnyddio rhywfaint o resymoli yma o ran cymorth busnes, a'r nod yw egluro a symleiddio'r amrywiaeth o gymorth, i ddefnyddio geiriau'r adolygiad. A yw hynny'n rhagdybiaeth deg ar fy rhan i? Oherwydd roedd yr adolygiad hefyd yn ymddangos ei fod yn diystyru'r posibilrwydd defnyddio corff hyd braich i arwain ar gyfeiriad a darpariaeth gwasanaethau cymorth busnes yng Nghymru, ac mae cysylltiad yma, o bosibl, â'r darn rhesymoli hwnnw. Mae yna lawer, gan gynnwys minnau, a fyddai'n dadlau y dylai asiantaeth datblygu genedlaethol gael ei archwilio, ac rwy'n credu bod rhywfaint o densiwn yma yn yr adroddiad. Mae'r awgrym y byddai'n bosibl gwneud gwelliannau heb orbenion sefydliad newydd, rwy'n credu yn anwybyddu'r consensws eang hwnnw bod datblygiad economaidd yng Nghymru wedi dioddef ers diddymu hen Awdurdod Datblygu Cymru. Felly, mae'r achos dros olynydd i Awdurdod Datblygu Cymru, ac un sy'n dysgu o gamgymeriadau ei ragflaenydd ac yn ceisio ymdrin â'r heriau penodol hynny y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu heddiw, wedi'i amlinellu gan lawer, ac mae busnesau yr wyf i wedi siarad â nhw yn cefnogi'r syniad yn eang, yn ogystal â rhanddeiliaid perthnasol eraill.

Rwy'n cytuno â'r pwynt yn yr adroddiad bod gormod o chwaraewyr yng nghyd-destun busnes Cymru. Felly, efallai ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru ystyried yr hyn y mae'n ei gael o'r strwythurau presennol ac archwilio a oes angen siop un stop wirioneddol, fel Awdurdod Datblygu Cymru newydd, fel rhan o'r darn rhesymoli hwnnw. Felly, efallai, mewn gwirionedd, y byddai datblygiad naturiol yr adolygiad hwn yn ddadansoddiad cost a budd o'r cyd-destun presennol a'r gefnogaeth sy'n cael ei chynnig. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu ei wneud nesaf?

Rwyf i hefyd eisiau cyffwrdd yn fyr â'r cenadaethau economaidd sy'n sail i ddull strategol y Llywodraeth. Fe wnes i eu beirniadu ar yr adeg y cawson nhw eu cyhoeddi yn 2023 am fod yn aneglur ac amwys, dim mwy na sloganau wedi'u cyflwyno fel strategaeth, ac rwy'n dal i gredu bod angen athroniaeth arweiniol newydd ar frys, un gydag ychydig mwy o sylwedd, wedi'i thargedu'n fwy at y dulliau cyflawni ac yn canolbwyntio'n fwy ar ddatblygu cynaliadwy busnesau ystyrlon Cymru a busnesau sy'n eiddo i Gymry. A yw'r Llywodraeth yn ystyried newid yn y genhadaeth honno mewn ymateb i'r adolygiad hwn?

Yn olaf, mae'r adolygiad yn dyfynnu canfyddiadau'r Ffederasiwn Busnesau Bach fod ecosystem cymorth busnes Cymru yn cynrychioli mantais strategol, gan dynnu sylw at gydnabyddiaeth uchel o ddarparwyr cymorth busnes yng Nghymru. Rwy'n credu mai dim ond hanner y stori yw hyn. Mae Busnes Cymru yn wir yn wasanaeth allweddol sy'n gyfarwydd i fusnesau bach a chanolig, ac, o'r rhai sydd wedi cael y cyfle i fanteisio arno, mae ganddynt lawer o bethau da i'w ddweud, ond nid yw sefydliadau fel Banc Datblygu Cymru yn gwneud cystal. Yn ôl canfyddiadau'r Ffederasiwn Busnesau Bach eleni, dim ond 11 y cant o randdeiliaid a welodd gefnogaeth gan y banc datblygu. Mater hanfodol y cafodd y banc datblygu ei gynllunio i ymdrin ag ef oedd mynediad at gyllid a chymorth busnes i fusnesau bach a chanolig, ac, er ei fod wedi cynyddu'r cyflenwad o gyllid sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig, nid oes cynnydd cyfartal neu unffurf wedi bod yn y galw amdano. Yn ddiweddar, cafodd y lefel bresennol o adnoddau sydd ar gael drwy Fanc Datblygu Cymru i hyrwyddo olyniaeth, er enghraifft, prosesau sy'n cadw busnesau canolig yng Nghymru, ei gynyddu i £40 miliwn. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae modd dadlau nad yw hyn yn ddigon i fodloni maint yr her. Yn hollbwysig, nid oes cronfa wedi'i rheoli gan y banc ar gyfer hyrwyddo perchnogaeth gan weithwyr. Felly, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i wella ymwybyddiaeth a defnyddio gwasanaethau'r banc datblygu ymhlith busnesau bach a chanolig, a sut y bydd y Llywodraeth yn mesur a yw'r banc datblygu wir yn ymdrin â'r bwlch cyllid, yn hytrach na dim ond cynyddu'r cyflenwad heb ysgogi'r galw?

Felly, i gloi, er bod yr adolygiad yn nodi rhai cryfderau, mae hefyd yn datgelu gwendidau dwfn yr wyf i'n credu bod y Llywodraeth wedi'u cydnabod—mae hynny'n i'w groesawu'n fawr. Mae'n debyg y bydd sut mae'n penderfynu mynd ati i ymdrin â'r rheini yn cael ei adael i'r Llywodraeth nesaf ar yr adeg hon yn y Senedd, ond rwy'n credu bod hynny'n ei gwneud hi'n bwysicach fyth ein bod ni'n nodi'n glir nawr beth y mae'n rhaid i'r blaenoriaethau fod. Felly, mae rhesymoli yn hanfodol, mae athroniaeth arweiniol newydd yn hanfodol, ac mae sgwrs ddifrifol am olynydd, nid copi carbon, i Awdurdod Datblygu Cymru yn hanfodol. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â mi ar hynny?

17:10

I'm grateful for those questions. I do think that question in relation to an arm's-length body is an interesting one, and it's certainly something for consideration. I do think that there is a temptation to look back at the WDA particularly fondly, but I also think we have to remember that the WDA's budget was many times the budget that we now have for business support. So, I do think that we would be comparing two very different situations.

Also, the fundamental question, really, in terms of whether or not an arm's-length body would perform better is really around, 'What is it that we're trying to fix?' So, that was what I tried to look at through this review—that was one of the purposes of the review, to understand what the problems are, are there things that we need to fix. The question as to whether an arm's-length body would be better placed to fix the issues that we've identified, I think that that's a fair question to be considered, certainly, but I don't think that the report itself lands squarely in that particular space.

We did hear about the possibility of using an ALB to lead and manage business support services during the work that was undertaken, but it did find, as we've heard, that business support services are actually really well regarded, that the Business Wales brand is really highly regarded at the moment as it is. So, in that sense, that's not what we would be looking to fix. I think there are genuine questions as well that would have to be grappled with around governance, for example, around democratic accountability. Also, we've talked about how complex the layers are currently with CJCs, city deals, investment zones and so on, and then we would be introducing another body into that mix as well. So, these are all just legitimate questions that I think need to be considered, alongside, of course, the points around the cost. Anything that we spend running the ALB would be money that is not going to the front-line delivery of services and support. So, all of those things are legitimate questions to be thought through, certainly.

In terms of Business Wales at the moment, it is a well-regarded service. I've been able to talk about some of the good figures that we have had on those returns on investment. We're committed to developing a really proactive entrepreneurship support service and support service for SMEs. In doing so, we are investing £22 million in Business Wales in this financial year, which is really, really significant. Also, it can support businesses of all sizes, from microbusinesses right up to large businesses, to become more resilient and supports businesses at every stage of their life, from somebody who has got a fantastic idea right the way through to businesses that are thinking about succession planning as well. So, all of that, I think, is really, really positive and well regarded as well.

In terms of the development bank, clearly, that provides important support to businesses right across Wales. I'm really, really pleased that they have their five offices. They've got one in Wrexham, Cardiff, Llanelli, Llandudno Junction and Newtown. I think that that regional presence really does help the bank to remain locally accessible whilst maintaining that kind of national oversight that they have too as it continues with its mission to drive economic development and business resilience across Wales. You'll see in the statement I have released today a bit more information about how the bank is supporting businesses on a regional basis as well so that individual Members of the Senedd can understand the impact locally. But I know the bank is more than happy to share specific examples on a constituency basis with people as well, as to the ways in which they've been able to help businesses.

The net promoter score is the development bank's standard measure of customer satisfaction. The results of the 2024-25 surveys for both their Wales investments and the FW Capital track customer feedback on all microloans, larger debt, equity, technology ventures and property deals in Wales, together with all the transactions completed by FW Capital. This combined score of 90 does place the bank's service levels in the top quartile, so it is a well-regarded source for businesses as well.

In terms of the economic missions, there are no immediate plans to change the economic missions. I think they have been serving us well, and I really do think it's important to recognise, also, how well they dovetail with the UK Government's investment strategy. I think that, together, both of those things provide us with a really good opportunity to grow the economy here in Wales. That laser-like focus on specific sectors that are primed and ready to grow, but also doing so through the lens that looks to keep the benefits here in Wales, to make sure that we've got the skilled workers for the future, and to make sure that we share prosperity in every single part of Wales as well.

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau yna. Rwy'n credu bod y cwestiwn yna o ran corff hyd braich yn un diddorol, ac mae'n sicr yn rhywbeth i'w ystyried. Rwy'n credu bod temtasiwn i edrych nôl yn arbennig o ddymunol ar Awdurdod Datblygu Cymru, ond rwy'n credu hefyd bod yn rhaid i ni gofio bod cyllideb Awdurdod Datblygu Cymru sawl gwaith yn fwy na'r gyllideb sydd gennym ni ar gyfer cymorth busnes. Felly, rwy'n credu y bydden ni'n cymharu dwy sefyllfa wahanol iawn.

Hefyd, y cwestiwn sylfaenol, mewn gwirionedd, o ran a fyddai corff hyd braich yn perfformio'n well ai peidio, yw, 'Beth ydyn ni'n ceisio ei drwsio?' Felly, dyna beth wnes i geisio ei ystyried trwy'r adolygiad hwn—dyna oedd un o ddibenion yr adolygiad, i ddeall beth yw'r problemau, a oes yna bethau y mae angen i ni eu trwsio. Y cwestiwn ynghylch a fyddai corff hyd braich mewn gwell sefyllfa i ddatrys y materion yr ydyn ni wedi'u nodi, rwy'n credu bod hynny'n gwestiwn teg i'w ystyried, yn sicr, ond nid wyf i'n credu ei bod yn glir bod yr adroddiad o blaid y dewis penodol hwnnw.

Fe wnaethon ni glywed am y posibilrwydd o ddefnyddio corff hyd braich i arwain a rheoli gwasanaethau cymorth busnes yn ystod y gwaith a gafodd ei gyflawni, ond fe wnaeth ganfod, fel yr ydyn ni wedi clywed, fod cryn dipyn o barch at wasanaethau cymorth busnes mewn gwirionedd, a bod brand Busnes Cymru yn uchel ei barch ar hyn o bryd fel y mae hi. Felly, yn yr ystyr hwnnw, nid dyna beth fydden ni'n ceisio'i drwsio. Rwy'n credu bod yna gwestiynau dilys hefyd y byddai'n rhaid ymdrin â nhw ynglŷn â llywodraethu, er enghraifft, ynghylch atebolrwydd democrataidd. Hefyd, rydyn ni wedi siarad am ba mor gymhleth yw'r haenau ar hyn o bryd gyda chyd-bwyllgorau corfforedig, bargeinion dinesig, parthau buddsoddi ac ati, ac yna bydden ni'n cyflwyno corff arall i'r cymysgedd hwnnw hefyd. Felly, mae'r rhain i gyd yn gwestiynau dilys y mae angen eu hystyried, yn fy marn i, ochr yn ochr, wrth gwrs, â'r pwyntiau o ran y gost. Byddai unrhyw beth yr ydyn ni'n ei wario yn cynnal y corff hyd braich yn arian nad yw'n mynd i'r rheng flaen i ddarparu gwasanaethau a chymorth. Felly, mae'r holl bethau hynny yn gwestiynau dilys i'w hystyried, yn sicr.

O ran Busnes Cymru ar hyn o bryd, mae'n wasanaeth uchel ei barch. Rydw i wedi gallu siarad am rai o'r ffigurau da yr ydyn ni wedi'u cael ar yr enillion hynny ar fuddsoddiad. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaeth cymorth entrepreneuriaeth ragweithiol iawn a gwasanaeth cymorth i fusnesau bach a chanolig. Wrth wneud hynny, rydyn ni'n buddsoddi £22 miliwn yn Busnes Cymru yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n wirioneddol sylweddol. Hefyd, gall gefnogi busnesau o bob maint, o ficrofusnesau hyd at fusnesau mawr, i ddod yn fwy cadarn ac mae'n cefnogi busnesau ar bob cam o'u bywyd, o rywun sydd â syniad gwych i'r ffordd drwodd i fusnesau sy'n ystyried cynllunio ar gyfer olyniaeth hefyd. Felly, mae hynny i gyd, rwy'n credu, yn wirioneddol gadarnhaol ac yn uchel ei barch hefyd.

O ran y banc datblygu, yn amlwg, mae hwnnw'n darparu cefnogaeth bwysig i fusnesau ledled Cymru. Rydw i wir yn falch bod ganddyn nhw eu pum swyddfa. Mae ganddyn nhw un yn Wrecsam, Caerdydd, Llanelli, Cyffordd Llandudno a'r Drenewydd. Rwy'n credu bod y presenoldeb rhanbarthol hwnnw wir yn helpu'r banc i barhau i fod yn hygyrch yn lleol wrth gynnal y math hwnnw o drosolwg cenedlaethol sydd ganddyn nhw hefyd wrth iddo barhau â'i genhadaeth i ysgogi datblygiad economaidd a chadernid busnes ledled Cymru. Fe welwch chi yn y datganiad fy mod i wedi rhyddhau heddiw ychydig mwy o wybodaeth am sut mae'r banc yn cefnogi busnesau ar sail ranbarthol hefyd fel y gall Aelodau unigol y Senedd ddeall yr effaith yn lleol. Ond rwy'n gwybod bod y banc yn fwy na pharod i rannu enghreifftiau penodol ar sail etholaeth gyda phobl hefyd, o ran y ffyrdd y maen nhw wedi gallu helpu busnesau.

Y sgôr hyrwyddwr net yw mesur safonol y banc datblygu o foddhad cwsmeriaid. Mae canlyniadau arolygon 2024-25 ar gyfer eu buddsoddiadau yng Nghymru a FW Capital yn tracio adborth cwsmeriaid ar yr holl ficrofenthyciadau, dyled fwy, ecwiti, mentrau technoleg a bargeinion eiddo yng Nghymru, ynghyd â'r holl drafodiadau y mae FW Capital yn eu cwblhau. Mae'r sgôr gyfunol hon o 90 yn gosod lefelau gwasanaeth y banc yn y chwartel uchaf, felly mae'n ffynhonnell uchel ei pharch i fusnesau hefyd.

O ran y cenadaethau economaidd, nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y cenadaethau economaidd. Rwy'n credu eu bod wedi ein gwasanaethu'n dda, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, hefyd, pa mor dda y maen nhw'n cyd-fynd â strategaeth fuddsoddi Llywodraeth y DU. Rwy'n credu bod y ddau beth hynny, gyda'i gilydd, yn rhoi cyfle da iawn i ni dyfu'r economi yma yng Nghymru. Y ffocws craff hwnnw ar sectorau penodol sydd wedi'u paratoi ac yn barod i dyfu, ond hefyd yn gwneud hynny drwy'r lens sy'n ceisio cadw'r manteision yma yng Nghymru, i wneud yn siŵr bod gennym ni'r gweithwyr medrus ar gyfer y dyfodol, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhannu ffyniant ym mhob rhan o Gymru hefyd.

17:15

As you say, there is quite a complex business development ecosystem. One of them was present in the Senedd this afternoon, GW4, which is an alliance of four south-west and south Wales universities, and clearly they've got some fantastic ideas for business development. As you say, Business Wales is a trusted one-stop shop, so why not bring them all together under one organisation? I appreciate there will be different roles for the development bank or the business fund, but one of the concerns I've had recently from an incredibly entrepreneurial engineer was that he couldn't get past your civil servants to get to you or your equivalent, and this seems quite frustrating for people who've got fantastic ideas, but don't seem to be able to get them front and centre of the Welsh Government. And I just wondered what thoughts you might have on how we overcome that.

Fel y dywedwch chi, mae yna ecosystem datblygu busnes eithaf cymhleth. Roedd un ohonyn nhw'n bresennol yn y Senedd y prynhawn yma, GW4, sy'n gynghrair o bedair prifysgol yn ne-orllewin Lloegr a de Cymru, ac mae'n amlwg bod ganddyn nhw syniadau gwych ar gyfer datblygu busnes. Fel y dywedwch chi, mae Busnes Cymru yn adnodd cynhwysfawr dibynadwy, felly beth am ddod â nhw i gyd at ei gilydd o dan un sefydliad? Rwy'n sylweddoli y bydd swyddogaethau gwahanol i'r banc datblygu neu'r gronfa fusnes, ond un o'r pryderon a ddygwyd i fy sylw yn ddiweddar gan beiriannydd anhygoel o entrepreneuraidd oedd nad oedd yn gallu mynd heibio i'ch gweision sifil i'ch cyrraedd chi neu'r sawl sy'n gwneud gwaith tebyg ichi, ac mae hyn yn ymddangos yn eithaf rhwystredig i bobl sydd â syniadau gwych, ond nad ymddengys hi y gallan nhw ddod â nhw i sylw Llywodraeth Cymru. A dim ond meddwl oeddwn i tybed oes gennych chi farn ynghylch sut y gallwn ni oresgyn hynny.

So, I think that one of the benefits that we have here in Wales is just how accessible we are and, certainly, I try to visit as many businesses as humanly possible, of all sizes and in all parts of Wales. But, ideally, if an entrepreneur or anybody with a small business wants to get support, they shouldn't feel that they have to come to me directly. They should be able to make sure that they can contact Business Wales and have a good exemplary service. So, I'd certainly be keen to explore, with Jenny Rathbone, a bit more about that individual's experience to see what we can do to make sure that they get the support they need to make their business and their ideas a success.

Felly, rwy'n credu mai un o'r manteision sydd gennym ni yma yng Nghymru yw pa mor hygyrch ydym ni ac, yn sicr, rwy'n ceisio ymweld â chymaint o fusnesau â phosibl, o bob maint ac ym mhob rhan o Gymru. Ond, yn ddelfrydol, os oes ar entrepreneur neu unrhyw un sydd â busnes bach eisiau cael cefnogaeth, ni ddylen nhw deimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddod ata i yn uniongyrchol. Fe ddylen nhw allu gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cysylltu â Busnes Cymru a chael gwasanaeth rhagorol da. Felly, byddwn yn sicr yn awyddus i archwilio, gyda Jenny Rathbone, ychydig mwy am brofiad yr unigolyn hwnnw i weld beth allwn ni ei wneud i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud eu busnes a'u syniadau yn llwyddiant.

7. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Dysgu a Sgiliau yn y Carchar
7. Statement by the Minister for Further and Higher Education: Learning and Skills in Prison

Eitem 7 yw datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar ddysgu a sgiliau yn y carchar, a galwaf ar Gweinidog, Vikki Howells.

Item 7 is a statement by the Minister for Further and Higher Education on learning and skills in prison, and I call on the Minister, Vikki Howells.

Today I am pleased to be able to provide an update and share the progress we've made in the delivery of learning and skills provision in prisons here in Wales. We know that people in the justice system are often some of the most disadvantaged in society. Many have had negative experiences in school and may also have learning difficulties or learning disabilities that have not been properly supported or diagnosed. We've ensured that we have put in place the right support for these individuals to enable a positive transition back into their communities.

Just over a year ago, we set out our vision to deliver a safe and inclusive learning environment in prisons. The intention is to build confidence, engage and inspire individuals, helping them to become job ready and gain and retain sustainable employment. This shared vision is set out in our 'Better Learning, Better Chances' policy, which was co-designed with His Majesty's Prison and Probation Service in Wales and other stakeholders, as well as prison learners and prison leavers. The policy defines our expectations for learning and skills provision in Welsh prisons and aligns these to wider Welsh Government priorities. It clarifies our respective roles—Welsh Government, HMPPS and delivery partners alike—fostering collaboration, co-production and accountability, all with a shared goal of providing better support for offenders.

A recent example of this partnership can be seen at HMP Swansea. Here, Working Wales careers advisors, Department for Work and Pensions prison work coaches and the employment hub staff collaborated to provide tailored support for an individual to gain qualifications in a field with strong local employment opportunities. Upon release, this individual is working and thriving, and their employer has provided great feedback on their commitment, enthusiasm and technical skills. Collaboration like this transforms lives.

Heddiw rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a rhannu'r cynnydd rydym ni wedi'i wneud o ran darpariaeth dysgu a sgiliau mewn carchardai yma yng Nghymru. Fe wyddom ni fod pobl yn y system gyfiawnder yn aml ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas. Mae llawer wedi cael profiadau negyddol yn yr ysgol ac efallai y bydd ganddyn nhw anawsterau dysgu neu anableddau dysgu nad ydyn nhw wedi'u cefnogi neu wedi cael diagnosis yn briodol. Rydym ni wedi sicrhau ein bod ni wedi rhoi'r gefnogaeth gywir ar waith i'r unigolion hyn i alluogi pontio'n gadarnhaol yn ôl i'w cymunedau.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe wnaethom ni amlinellu ein gweledigaeth i ddarparu amgylchedd dysgu diogel a chynhwysol mewn carchardai. Y bwriad yw meithrin hyder, ennyn diddordeb ac ysbrydoli unigolion, gan eu helpu i fod yn barod am swyddi ac i sicrhau a chadw cyflogaeth gynaliadwy. Mae'r weledigaeth gyffredin hon wedi'i nodi yn ein polisi 'Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd', a gynlluniwyd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru a rhanddeiliaid eraill, yn ogystal â dysgwyr mewn carchardai a phobl sy'n gadael y carchardai. Mae'r polisi yn diffinio ein disgwyliadau ar gyfer darparu dysgu a sgiliau yng ngharchardai Cymru ac yn cysoni'r rhain â blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru. Mae'n egluro ein swyddogaethau priodol—Llywodraeth Cymru, HMPPS a phartneriaid cyflenwi fel ei gilydd—gan feithrin cydweithredu, cyd-gynhyrchu ac atebolrwydd, i gyd gyda'r nod cyffredin o ddarparu gwell cymorth i droseddwyr.

Mae enghraifft ddiweddar o'r bartneriaeth hon i'w gweld yng Ngharchar Ei Fawrhydi Abertawe. Yma, cydweithiodd cynghorwyr gyrfaoedd Cymru'n Gweithio, hyfforddwyr gwaith carchardai yr Adran Gwaith a Phensiynau a staff yr hwb cyflogaeth i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i unigolyn ennill cymwysterau mewn maes sydd â chyfleoedd cyflogaeth lleol cryf. Ar ôl ei ryddhau, mae'r unigolyn hwn yn gweithio ac yn ffynnu, ac mae eu cyflogwr wedi darparu adborth gwych ar eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u sgiliau technegol. Mae cydweithredu fel hyn yn trawsnewid bywydau.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Paul Davies took the Chair.

17:20

As a former teacher myself, I know first-hand how life-changing learning can be. It can rebuild confidence, restore dignity, and transform lives—not only for individuals, but also for their families and communities. We ensure, where possible, that our employability programmes are accessible inside the secure estate. The young person's guarantee is a good example of this, along with the programmes that underpin it, such as ReAct+.

In 2024-25, 38 per cent of people in Welsh prisons participated in at least one accredited learning opportunity. These ranged from essential skills to vocational training such as bricklaying and barista courses, helping learners gain practical skills that directly enhance employability. The proportion of people in Wales employed six months after leaving prison has more than doubled between 2020-21 and 2023-24, from 14.8 per cent to 37.5 per cent. This puts Wales in the top range of the performance tables, compared to regions in England. This is a really positive shift in performance due to our joined-up and collaborative approach to delivery.

It is estimated that, within the secure estate, about 57 per cent of adult prisoners have literacy levels below those expected of an 11-year-old, and that up to half are considered neurodivergent. We are working hard with partners to ensure we cater for and provide an environment that is safe and inclusive for everyone. I have heard many inspiring stories of individuals re-engaging with learning after years of disengagement. One man who had struggled at school due to undiagnosed ADHD has since achieved qualifications in English and maths and is now in his second year of an Open University degree. For the first time, he is optimistic about his future. I'm also encouraged to see that GCSEs and A-levels were undertaken by nine learners in HMP Parc and HMP Usk, achieving a range of grades in English, maths, history, biology and citizen studies. Additionally, four prison learners and three members of staff undertook Welsh language skills and sat the mynediad entry-level exams in June, with six passes. Six of these learners are continuing with their learning and have gone on to the foundation course.

Given the complex needs of our prison population, a one-size-fits-all approach to learning simply would not work. Everyone's circumstances are unique and our approach must reflect that. Through collaboration, prisons have developed targeted interventions to address individual needs. One such initiative is the neurodiversity harbour in HMP Swansea, which supports prisoners with additional learning needs to develop literacy and numeracy skills. Its success is now being shared as best practice across the prison network. Teachers at HMP Parc have also improved their understanding of autistic learners through a hands-on training initiative that allows staff to experience and empathise with the world from an autistic person's perspective. Such initiatives ensure our educators are equipped to support every learner effectively.

Llywydd, the way we collaborate with partners across Wales ensures we are setting the right environment to encourage learning and self-development, ensuring that individuals feel supported to dream of new possibilities and career paths, and make a real difference to themselves and their families. Just last week, I attended the offender learning and employability stakeholder group, where I saw this collaborative spirit in action. The dedication of our partners, tutors and teachers is truly inspiring. They are helping individuals in custody to see themselves as learners again, preparing them for employment and lifelong learning.

Our focus remains on rehabilitation through learning and skills and employability support. We know that access to meaningful work and learning reduces reoffending and supports community reintegration. Our commitment to fostering a rehabilitative culture within the criminal justice system is central to this mission. The progress we have made reflects collective effort across Government, providers, employers and third sector organisations. Each partner plays a vital role in helping individuals rebuild their lives through learning and skills.

Llywydd, the stories I've shared today show what can be achieved when we work together and believe in the power of learning to transform lives. I remain steadfast in my commitment to providing quality learning and skills opportunities in prisons. By continuing to implement our 'Better Learning, Better Chances' policy, strengthening partnerships and investing in innovation, we can give every individual the chance to build a better future for themselves, their families and their communities.

Fel cyn-athrawes fy hun, rwy'n gwybod yn uniongyrchol pa mor drawsnewidiol y gall dysgu fod i fywyd rhywun. Gall ailadeiladu hyder, adfer urddas, a thrawsnewid bywydau—nid yn unig i unigolion, ond hefyd i'w teuluoedd a'u cymunedau. Rydym ni'n sicrhau, lle bo'n bosibl, bod ein rhaglenni cyflogadwyedd yn hygyrch i bobl mewn sefydliadau diogel. Mae gwarant y person ifanc yn enghraifft dda o hyn, ynghyd â'r rhaglenni sy'n sail iddo, fel ReAct+.

Yn 2024-25, cymerodd 38 y cant o bobl mewn carchardai Cymru ran mewn o leiaf un cyfle dysgu achrededig. Roedd y rhain yn amrywio o sgiliau hanfodol i hyfforddiant galwedigaethol fel cyrsiau bricio a barista, gan helpu dysgwyr i ennill sgiliau ymarferol sy'n gwella cyflogadwyedd yn uniongyrchol. Mae cyfran y bobl yng Nghymru sy'n cael eu cyflogi chwe mis ar ôl gadael y carchar wedi mwy na dyblu rhwng 2020-21 a 2023-24, o 14.8 y cant i 37.5 y cant. Mae hyn yn rhoi Cymru yn ystod uchaf y tablau perfformiad, o'i gymharu â rhanbarthau yn Lloegr. Mae hwn yn newid cadarnhaol iawn mewn perfformiad oherwydd ein dull cynhwysfawr a chydweithredol o gyflawni.

Amcangyfrifir bod gan tua 57 y cant o garcharorion sy'n oedolion lefelau llythrennedd is na'r rhai a ddisgwylir gan blentyn 11 oed, a bod hyd at hanner yn cael eu hystyried yn niwroamrywiol. Rydym ni'n gweithio'n galed gyda phartneriaid i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd sy'n ddiogel ac yn gynhwysol i bawb. Rwyf wedi clywed llawer o straeon ysbrydoledig am unigolion sy'n mynd ati o'r newydd i ddysgu ar ôl blynyddoedd o ddatgysylltu. Mae un dyn a oedd wedi cael trafferth yn yr ysgol oherwydd ADHD heb ei ddiagnosio bellach wedi ennill cymwysterau mewn Saesneg a mathemateg ac mae bellach yn ei ail flwyddyn o radd Prifysgol Agored. Am y tro cyntaf, mae'n gadarnhaol am ei ddyfodol. Rwy'n galonogol hefyd weld bod naw o ddysgwyr yng Ngharchar Ei Fawrhydi y Parc a Charchar Ei Fawrhydi Brynbuga wedi sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, gan gyflawni amrywiaeth o raddau mewn Saesneg, mathemateg, hanes, bioleg ac astudiaethau dinasyddion. Yn ogystal, bu i bedwar dysgwr yn y carchar a thri aelod o staff ennill sgiliau Cymraeg a sefyll yr arholiadau lefel mynediad ym mis Mehefin, gyda chwech yn pasio. Mae chwech o'r dysgwyr hyn yn parhau â'u dysgu ac wedi mynd ymlaen i'r cwrs sylfaen.

O ystyried anghenion cymhleth ein carcharorion, ni fyddai un ffordd gyffredinol o ddysgu yn gweithio. Mae amgylchiadau pawb yn unigryw ac mae'n rhaid i'n ffordd ni o fynd ati adlewyrchu hynny. Trwy gydweithio, mae carchardai wedi datblygu ymyriadau wedi'u targedu i fynd i'r afael ag anghenion unigol. Un o'r mentrau hyn yw'r harbwr niwroamrywiaeth yng Ngharchar Ei Fawrhydi Abertawe, sy'n cefnogi carcharorion ag anghenion dysgu ychwanegol i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Mae ei lwyddiant bellach yn cael ei rannu fel arfer gorau ar draws y rhwydwaith carchardai. Mae athrawon yng Ngharchar Ei Fawrhydi y Parc hefyd wedi gwella eu dealltwriaeth o ddysgwyr awtistig trwy fenter hyfforddi ymarferol sy'n caniatáu i staff brofi ac uniaethu â'r byd o safbwynt person awtistig. Mae mentrau o'r fath yn sicrhau bod ein haddysgwyr wedi'u paratoi i gefnogi pob dysgwr yn effeithiol.

Llywydd, mae'r ffordd rydym ni'n cydweithio â phartneriaid ledled Cymru yn sicrhau ein bod yn creu'r amgylchiadau cywir i annog dysgu a hunan-ddatblygiad, gan sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i freuddwydio am bosibiliadau a llwybrau gyrfa newydd, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd. Dim ond yr wythnos diwethaf, mynychais y grŵp rhanddeiliaid dysgu a chyflogadwyedd troseddwyr, lle gwelais yr ysbryd cydweithredol hwn ar waith. Mae ymroddiad ein partneriaid, tiwtoriaid ac athrawon yn wirioneddol ysbrydoledig. Maen nhw'n helpu unigolion yn y ddalfa i weld eu hunain fel dysgwyr eto, gan eu paratoi ar gyfer cyflogaeth a dysgu gydol oes.

Mae ein pwyslais yn parhau i fod ar adsefydlu trwy ddysgu a sgiliau a chymorth gyda chyflogadwyedd. Rydym ni'n gwybod bod mynediad at waith a dysgu ystyrlon yn lleihau aildroseddu ac yn cefnogi ailintegreiddio cymunedol. Mae ein hymrwymiad i feithrin diwylliant adsefydlu o fewn y system cyfiawnder troseddol yn ganolog i'r genhadaeth hon. Mae'r cynnydd rydym ni wedi'i wneud yn adlewyrchu ymdrech ar y cyd ar draws y Llywodraeth, darparwyr, cyflogwyr a sefydliadau'r trydydd sector. Mae pob partner yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu unigolion i ailadeiladu eu bywydau trwy ddysgu a sgiliau.

Llywydd, mae'r straeon rydw i wedi'u rhannu heddiw yn dangos beth ellir ei gyflawni pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd ac yn credu yng ngrym dysgu i drawsnewid bywydau. Rwy'n parhau i fod yn gadarn yn fy ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd dysgu a sgiliau o safon mewn carchardai. Drwy barhau i weithredu ein polisi 'Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd', cryfhau partneriaethau a buddsoddi mewn arloesedd, fe allwn ni roi cyfle i bob unigolyn adeiladu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau.

17:25

Thank you, Minister, for this afternoon's statement. There's something rather ironic about discussing prisoner education this afternoon in light of everything that's been going on recently across the country. Under Labour, prisoners are not behind bars long enough to learn anything. No sooner are they locked up than they're accidentally released back onto the streets. They barely have time to unpack their belongings, let alone enrol in a class. Acting Presiding Officer, Labour's idea of a short course in prison really is short: in today and out tomorrow, sadly. Perhaps instead of educating prisoners, the Minister would instead like to teach her Labour counterparts in Westminster how to run the justice system properly.

In all seriousness, though, providing prisoners with an education can bring some really big benefits to society, and anything to tackle reoffending rates is to be welcomed. The Welsh Conservatives believe access to education is essential for offenders' rehabilitation. A strong education for prisoners gives them skills and training that they need to get sustained employment on release and turn their back on crime. The evidence is clear: not only does education reduce reoffending, but it also helps more people into employment and plays a positive role in improving mental health.

Minister, you have made reference to HMP Parc, HMP Swansea and HMP Usk, but we have more prisons in Wales than that. Whilst I appreciate the success stories that you've shared, can you please outline some of the work being carried out in some of the other prisons, such as HMP Cardiff and HMP Berwyn?

Minister, your statement comes amid a backdrop of mooted cuts to front-line spending on education courses in the UK by the Labour Government in Westminster. This comes despite Keir Starmer's promise to improve access to learning in prisons in the party's 2024 manifesto. Will these cuts, if they indeed do go ahead, have an impact on the Welsh Government's ambitions for prisoner learning, and have you raised these with your UK counterparts if that is the case?

In 2024-25, you say that 38 per cent of people in Welsh prisons participated in at least one accredited learning opportunity. Whilst that is welcome, I would argue that it is still a relatively low number, so what steps are you taking with partners to increase this figure going forward?

Minister, you also made reference to the young person's guarantee in your statement as a way of ensuring employment programmes are accessible. We know the guarantee includes apprenticeships as a key part of its offer, yet the number of apprenticeship starts are dwindling. So, how are you going to be ensuring that prisoners are able to maintain their course so they can continue on their rehabilitation journey?

Literacy: I know it's a topic I've spoken about a lot here in this Chamber, but it's been a major issue here in Wales, as I'm sure you're all aware here. It is damning that 57 per cent of adult prisoners have literacy levels below those expected of an 11-year-old child. You say that you're working hard to address this, but, Minister, can you elaborate on what steps the Government is going to take to actually fix that now?

And, Minister, a lot of what you've outlined this afternoon is hard to disagree with, if I'm honest with you, and I fully do believe and accept that education must form the cornerstone of rehabilitation. Education, without a doubt, provides prisoners with a chance to turn their lives around and ultimately out of prison, which is what I'm sure we all want to see here, so thank you very much.

Diolch, Gweinidog, am ddatganiad y prynhawn yma. Mae rhywbeth eithaf eironig ynglŷn â thrafod addysg carcharorion y prynhawn yma yng ngoleuni popeth sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar ledled y wlad. O dan y blaid Lafur, nid yw carcharorion y tu ôl i fariau yn ddigon hir i ddysgu unrhyw beth. Cyn gynted ag y maen nhw o dan glo maen nhw'n cael eu rhyddhau yn ôl ar y strydoedd yn ddamweiniol. Prin fod ganddyn nhw amser i ddadbacio eu heiddo, heb sôn am gofrestru mewn dosbarth. Llywydd Dros Dro, mae syniad Llafur o gwrs byr yn y carchar yn fyr mewn gwirionedd: i fewn heddiw ac allan yfory, yn anffodus. Efallai yn lle addysgu carcharorion, byddai'r Gweinidog yn hytrach yn hoffi dysgu ei chyd-Aelodau Llafur yn San Steffan sut i redeg y system gyfiawnder yn iawn.

I fod yn gwbl o ddifrif, fodd bynnag, gall darparu addysg i garcharorion ddod â manteision mawr iawn i gymdeithas, ac mae unrhyw beth i fynd i'r afael â chyfraddau aildroseddu i'w groesawu. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod mynediad at addysg yn hanfodol ar gyfer adsefydlu troseddwyr. Mae addysg gref i garcharorion yn rhoi sgiliau a hyfforddiant sydd eu hangen arnyn nhw i gael cyflogaeth barhaus ar ôl eu rhyddhau a throi eu cefn ar droseddu. Mae'r dystiolaeth yn glir: nid yn unig mae addysg yn lleihau aildroseddu, ond mae hefyd yn helpu mwy o bobl i gael cyflogaeth ac yn chwarae rhan gadarnhaol wrth wella iechyd meddwl.

Gweinidog, rydych chi wedi cyfeirio at garchardai'r Parc, Abertawe a Brynbuga, ond mae gennym ni fwy o garchardai yng Nghymru na hynny. Er fy mod i'n gwerthfawrogi'r straeon llwyddiant rydych chi wedi'u rhannu, a allwch chi amlinellu peth o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn rhai o'r carchardai eraill, megis Caerdydd a charchar y Berwyn?

Gweinidog, daw eich datganiad yng nghanol cefndir o doriadau dadleuol i wariant rheng flaen ar gyrsiau addysg yn y Deyrnas Unedig gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Daw hyn er gwaethaf addewid Keir Starmer i wella mynediad at ddysgu mewn carchardai ym maniffesto 2024 y blaid. A fydd y toriadau hyn, os byddant yn mynd yn eu blaen, yn cael effaith ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu carcharorion, ac ydych chi wedi codi'r rhain gyda'ch cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig os mai dyna'r achos?

Yn 2024-25, rydych chi'n dweud bod 38 y cant o bobl yng ngharchardai Cymru wedi cymryd rhan mewn o leiaf un cyfle dysgu achrededig. Er bod hynny'n cael ei groesawu, byddwn yn dadlau ei fod yn dal i fod yn nifer cymharol isel, felly pa gamau ydych chi'n eu cymryd gyda phartneriaid i gynyddu'r ffigur hwn yn y dyfodol?

Gweinidog, fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at warant y person ifanc yn eich datganiad fel ffordd o sicrhau bod rhaglenni cyflogaeth yn hygyrch. Fe wyddom ni fod y warant yn cynnwys prentisiaethau fel rhan allweddol o'i gynnig, ond mae nifer y bobl sy'n dechrau prentisiaethau yn gostwng . Felly, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod carcharorion yn gallu cynnal eu cwrs fel y gallan nhw barhau ar eu taith adsefydlu?

Llythrennedd: Rwy'n gwybod ei fod yn bwnc yr wyf wedi siarad llawer amdano yma yn y Siambr hon, ond mae wedi bod yn fater mawr yma yng Nghymru, fel yr wyf yn siŵr eich bod i gyd yn ymwybodol yma. Mae'n ddamniol bod gan 57 y cant o garcharorion sy'n oedolion lefelau llythrennedd is na'r rhai a ddisgwylir gan blentyn 11 oed. Rydych chi'n dweud eich bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â hyn, ond, Gweinidog, a allwch chi ymhelaethu ar ba gamau y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w cymryd i wyrdroi hynny nawr?

A, Gweinidog, mae llawer o'r hyn rydych chi wedi'i amlinellu y prynhawn yma yn anodd anghytuno ag ef, os ydw i'n onest gyda chi, ac rwy'n credu ac yn derbyn yn llwyr fod yn rhaid i addysg fod yn gonglfaen adsefydlu. Mae addysg, heb amheuaeth, yn rhoi cyfle i garcharorion drawsffurfio eu bywydau ac yn y pen draw cadw allan o'r carchar, a dyna beth rwy'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau ei weld yma, felly diolch yn fawr iawn.

I thank Natasha Asghar for those questions. If I can start by addressing your question on the prisoner learning budget, that is totally separate to the education budget. It's a complex area, but we do receive—. Last year, it was £11.066 million directly funded through the Ministry of Justice for learning and skills in the Welsh prison estate. 

You asked about continuing support on leaving prison as well. There are a range of Welsh Government schemes that provide support to Welsh prisoners when they're reintegrating into society. I've had a chance to speak to those who deliver those programmes on my visits to various prisons through Wales. The ReAct+ programme is one of those, and also the Communities for Work programme as well. They track and monitor progress, and I think that they play a key role in those stats that I provided for you there, which show how well we're doing compared with regions in England with our offenders, once being released, holding down employment six months after release.

You asked about some of the other prisons in Wales as well. If I start with Cardiff prison, they have a lot of prisoners who are there on short sentences. When I visited them along with the Minister for Culture, Skills and Social Partnership a few months ago, it was really impressive to see the speed at which they can roll out the employability and training support programmes there. There are some courses that they put on where you can actually gain the qualifications within 10 hours, which I think is very impressive indeed. They also focus on the Construction Skills Certification Scheme cards, which are really vital for a range of different professions that ex-offenders can go into, such as building and scaffolding. They're able to provide those within a short space of time as well.

Berwyn prison definitely has offered the greatest range of learning provision that I've seen on my visits to prisons in Wales. It was so impressive to see the range of different courses that are available there, everything from basic skills provision through to a range of vocational training opportunities. There was even a course in heritage masonry, which I thought was fantastic. It's great to see ex-offenders being able to focus on niche areas like that. You might be aware as well that they have a restaurant there that is a programme that was set up by the tv chef Fred Sirieix. They are doing a fabulous job in getting qualifications for those prisoners in things like barista training and other hospitality courses as well, where they are very successful in gaining employment on release.

Diolch i Natasha Asghar am y cwestiynau hynny. Os caf i ddechrau trwy fynd i'r afael â'ch cwestiwn ar y gyllideb o ran dysgu carcharorion, mae hynny'n gwbl ar wahân i'r gyllideb addysg. Mae'n faes cymhleth, ond rydym ni'n derbyn—. Y llynedd, ariannwyd £11.066 miliwn yn uniongyrchol drwy'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer dysgu a sgiliau yng ngharchardai Cymru.

Fe wnaethoch chi ofyn am barhau â'r gefnogaeth ar ôl gadael y carchar hefyd. Mae yna amrywiaeth o gynlluniau gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth i garcharorion Cymru pan fyddant yn ailintegreiddio i gymdeithas. Rwyf wedi cael cyfle i siarad â'r rhai sy'n cyflwyno'r rhaglenni hynny ar fy ymweliadau â gwahanol garchardai ledled Cymru. Mae'r rhaglen ReAct yn un o'r rheini, a hefyd y rhaglen Cymunedau am Waith hefyd. Maen nhw'n olrhain ac yn monitro cynnydd, ac rwy'n credu eu bod yn chwarae rhan allweddol yn yr ystadegau hynny a ddarparais i chi yn y fan yna, sy'n dangos pa mor dda rydym ni'n gwneud o'i gymharu â rhanbarthau yn Lloegr gyda'n troseddwyr, ar ôl cael eu rhyddhau, sydd mewn gwaith chwe mis ar ôl eu rhyddhau.

Fe wnaethoch chi ofyn am rai o'r carchardai eraill yng Nghymru hefyd. Os dw i'n dechrau gyda charchar Caerdydd, mae ganddyn nhw lawer o garcharorion sydd yno ar ddedfrydau byr. Pan ymwelais â nhw ynghyd â'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ychydig fisoedd yn ôl, roedd yn wirioneddol drawiadol gweld pa mor gyflym y gallan nhw gyflwyno'r rhaglenni cymorth cyflogadwyedd a hyfforddiant yno. Mae yna rai cyrsiau maen nhw'n eu cynnal lle gallwch chi ennill y cymwysterau o fewn 10 awr, sydd yn fy marn i yn drawiadol iawn mewn gwirionedd. Maen nhw hefyd yn canolbwyntio ar y cardiau Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, sy'n wirioneddol hanfodol ar gyfer ystod o wahanol broffesiynau y gall cyn-droseddwyr fynd iddyn nhw, fel adeiladu a sgaffaldio. Maen nhw'n gallu darparu'r rheini o fewn cyfnod byr o amser hefyd.

Mae carchar Berwyn yn bendant wedi cynnig yr ystod fwyaf o ddarpariaeth ddysgu a welais ar fy ymweliadau â charchardai yng Nghymru. Roedd mor drawiadol gweld yr amrywiaeth o wahanol gyrsiau sydd ar gael yno, popeth o ddarparu sgiliau sylfaenol i ystod o gyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol. Roedd hyd yn oed cwrs mewn gwaith cerrig treftadaeth, a oeddwn i'n meddwl oedd yn wych. Mae'n wych gweld cyn-droseddwyr yn gallu canolbwyntio ar feysydd arbenigol fel yna. Efallai eich bod chi'n ymwybodol hefyd bod ganddyn nhw fwyty yno sy'n rhaglen a sefydlwyd gan y cogydd teledu Fred Sirieix. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych wrth gael cymwysterau i'r carcharorion hynny mewn pethau fel hyfforddiant barista a chyrsiau lletygarwch eraill hefyd, lle maen nhw'n llwyddiannus iawn yn cael cyflogaeth ar ôl eu rhyddhau.

17:30

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy—. Na, Llywydd dros dro. Mae'n flin gennyf fy mod i wedi camgyfeirio atoch chi.

Thank you very much, Deputy—. No, acting Llywydd. I'm sorry I referred to you incorrectly.

I welcome the statement, Minister, as it contains a number of positive outcomes since the launch of the 'Better Learning, Better Chances' document about 18 months ago. I was particularly pleased to see that 38 per cent of people in Welsh prisons participated in at least one accredited learning opportunity. The proportion of prison leavers employed six months after leaving prison has more than doubled over a three-year period, from 14.8 per cent to 37.5 per cent, which compares really well with regions in England.

As you acknowledged in your statement, education is one of the most powerful tools for rehabilitation. It reduces reoffending, builds confidence and opens pathways to employment. With reoffending costing society about £15 billion every year, and prison leavers who secure employment being up to nine percentage points less likely to reoffend, the stakes couldn't be higher.

With some of the highest rates of incarceration in Europe, persistently high levels of reoffending and chronic failings in a perennially overcrowded prison estate, Wales is consistently disadvantaged by the jagged edge of the non-devolved justice system. It's been over a decade since the Thomas commission categorically and unequivocally recommended the full devolution of justice and policing powers, in line with those already exercised by Scotland and Northern Ireland. The fact that your Westminster Labour colleagues continue to irrationally resist the compelling case for reform reflects their in-built tendency to dismiss devolution as an inconvenience, rather than a route to creating a fairer and more just society. Justice should align with Wales's distinct social, health and education policies, yet this remains impossible under the current settlement. So, Minister, what assessment has the Welsh Government made of how this lack of devolution limits its ability to integrate prison education with wider Welsh education, health and rehabilitation strategies?

The 'Better Learning, Better Chances' policy promised an inclusive, supportive learning environment in prisons, with flexible access, alignment to labour market needs and continuous improvement. However, challenges remain: overcrowding, staffing shortages and limited digital access. They all undermine delivery. There is also a lack of published data on participation and achievement. So, Minister, how is success being monitored? Are participation and achievement data now available for every prison in Wales? Has there been any evidence yet that the policy is reducing reoffending rates among Welsh prison leavers?

You've referred in your statement to one or two examples, but what practical measures ensure that qualifications gained in prison lead to real employment opportunities? Do courses reflect current and future labour market needs in Wales? How are prisoners encouraged to progress with their learning? We've heard a number of examples from you about low-level attainment, which is great, but obviously we want to encourage them to progress further. And then, finally, has the funding for prison education increased in real terms since the policy was introduced?

Rwy'n croesawu'r datganiad, Gweinidog, gan ei fod yn cynnwys nifer o ganlyniadau cadarnhaol ers lansio'r ddogfen 'Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd' tua 18 mis yn ôl. Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod 38 y cant o bobl mewn carchardai yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn o leiaf un cyfle dysgu achrededig. Mae cyfran y rhai sy'n gadael y carchar a gyflogir chwe mis ar ôl gadael y carchar wedi mwy na dyblu dros gyfnod o dair blynedd, o 14.8 y cant i 37.5 y cant, sy'n cymharu'n dda iawn â rhanbarthau yn Lloegr.

Fel y gwnaethoch chi gydnabod yn eich datganiad, addysg yw un o'r ffyrdd grymusaf o adsefydlu. Mae'n lleihau aildroseddu, yn meithrin hyder ac yn agor llwybrau at gyflogaeth. Gydag aildroseddu yn costio tua £15 biliwn i gymdeithas bob blwyddyn, a phobl sy'n gadael carchardai sy'n sicrhau cyflogaeth hyd at naw pwynt canran yn llai tebygol o aildroseddu, ni allai'r fantol fod yn fwy.

Gyda rhai o'r cyfraddau uchaf yn Ewrop o bobl yn y carchar, lefelau uchel o aildroseddu a methiannau cronig mewn carchardai sy'n orlawn yn barhaol, mae Cymru'n gyson dan anfantais gan ymyl garw'r system gyfiawnder nad yw wedi ei datganoli. Mae dros ddegawd wedi bod ers i gomisiwn Thomas argymell datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llwyr, yn unol â'r rhai a arferir eisoes gan yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r ffaith bod eich cyd-Aelodau Llafur yn San Steffan yn parhau i wrthsefyll yr achos cryf dros ddiwygio mewn modd cwbl afresymol yn adlewyrchu eu tueddiad creiddiol i ddiystyru datganoli fel anghyfleustra, yn hytrach na llwybr i greu cymdeithas decach a mwy cyfiawn. Dylai cyfiawnder fod yn gyson â pholisïau cymdeithasol, iechyd ac addysg gwahanol Cymru, ond mae hyn yn parhau i fod yn amhosibl o dan y setliad presennol. Felly, Gweinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae'r diffyg datganoli hwn yn cyfyngu ar ei gallu i integreiddio addysg carchardai â strategaethau addysg, iechyd ac adsefydlu ehangach yng Nghymru?

Roedd y polisi 'Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd' yn addo amgylchedd dysgu cynhwysol, cefnogol mewn carchardai, gyda mynediad hyblyg, cysondeb ag anghenion y farchnad lafur a gwelliant parhaus. Fodd bynnag, mae heriau yn parhau: gorlenwi, prinder staffio a mynediad digidol cyfyngedig. Maen nhw i gyd yn tanseilio cyflawni. Mae yna hefyd ddiffyg data cyhoeddedig ar gyfranogiad a chyflawniad. Felly, Gweinidog, sut mae llwyddiant yn cael ei fonitro? A yw data cyfranogiad a chyflawniad bellach ar gael ar gyfer pob carchar yng Nghymru? A oes unrhyw dystiolaeth eto bod y polisi yn lleihau cyfraddau aildroseddu ymhlith pobl sy'n gadael carchardai yng Nghymru?

Rydych chi wedi cyfeirio yn eich datganiad at un neu ddwy enghraifft, ond pa fesurau ymarferol sy'n sicrhau bod cymwysterau a enillwyd yn y carchar yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth go iawn? A yw cyrsiau'n adlewyrchu anghenion y farchnad lafur yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? Sut mae carcharorion yn cael eu hannog i symud ymlaen gyda'u dysgu? Rydym ni wedi clywed nifer o enghreifftiau gennych chi am gyrhaeddiad lefel isel, sy'n wych, ond yn amlwg rydym ni eisiau eu hannog i symud ymlaen ymhellach. Ac yna, yn olaf, a yw'r cyllid ar gyfer addysg carchardai wedi cynyddu mewn termau real ers i'r polisi gael ei gyflwyno?

A jest i gloi, rhywbeth ynglŷn â'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y carchardai. Mae yna ryw 200 o garcharorion yn siaradwyr Cymraeg mewn carchardai yng Nghymru yn ôl ystadegau gan Gomisiynydd y Gymraeg, ond beth welodd hi oedd mai dim ond cyrsiau dysgu iaith oedd ar gael yn y carchardai, nid cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd gwahanol i ddysgu iaith. Felly, os gallwch chi edrych ar hwnna. 

And just to conclude, a few words on the use of the Welsh language in prisons. There are around 200 prisoners who are Welsh speakers in prison in Wales according to the statistics of the Welsh Language Commissioner, but what she saw was that there were only language learning courses available in our prisons, not courses through the medium of Welsh in different areas. So, if you could look at that.

Finally, Minister, as you know, there is no women's prison in Wales, yet the number of Welsh women in custody across the UK has increased for the fourth consecutive year. How is the Welsh Government ensuring parity of education and rehabilitation provision for Welsh women held in English prisons? And finally, what progress has been made in establishing mentoring programmes for female offenders with organisations like Women's Aid? Diolch.

Yn olaf, Gweinidog, fel y gwyddoch chi, nid oes carchar i fenywod yng Nghymru, ond mae nifer y menywod o Gymru sydd yn y ddalfa ledled y Deyrnas Unedig wedi cynyddu am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cydraddoldeb o ran addysg a darpariaeth adsefydlu i fenywod Cymru sy'n cael eu cadw yng ngharchardai Lloegr? Ac yn olaf, pa gynnydd sydd wedi'i wneud wrth sefydlu rhaglenni mentora ar gyfer troseddwyr benywaidd gyda sefydliadau fel Cymorth i Fenywod? Diolch.

17:35

I'd like to thank Cefin Campbell for those questions. There was an awful lot there, so I'll try to get through as many as I can. I'll start with what I think is the most important point that you raised there, on the devolution of the justice system—that is absolutely crucial indeed. It is and remains the main goal of the Welsh Government to see the criminal justice system devolved in its entirety. That is our ultimate ambition, that is our ultimate goal. Only through aligning justice policies with our wider pursuit of social justice, as you rightly said, will we be able to reduce pressures on the justice system and truly deliver the improvements needed.

But pragmatically, a change of this scale clearly needs a phased approach, and that's why our focus at the moment is on the areas most likely to be taken forward in the near future, including youth justice and probation. These are areas that are inextricably linked with a range of devolved responsibilities, so we believe that it's only right that they should be determined and delivered in Wales. And officials in both Governments are working together to explore options where responsibilities in the youth justice system can be realigned.

I'll turn to your question about female offenders—another very important question there. For women in Wales who commit crimes and are placed in custody, interventions for learning and skills can be complex, and currently, as you know, secure estates are sited in England. We are further developing our collaborative partnership with the UK Government to take forward a learning pathway for women, though, aligning it with our women's justice blueprint for Wales. A residential women's centre remains a key priority for the Welsh Government, as we believe that it will improve the lives of women in Wales and would be a real asset, providing therapeutic and rehabilitative services as part of a trauma-informed approach. And of course, that would give us the ability to roll out our own education programmes there as well. 

You also raise a very important point with regard to the Welsh language; it has certainly been a hot topic in the press recently, and one that I've been keeping a close eye on. I'll start with some positive news on that front, and that's the fact that the new HMPPS Welsh language scheme was published on 15 October, and that, I believe, is much strengthened compared to the previous document. There are key commitments in there regarding language preference and recording, bilingual materials and signage, staffing and capability, visitor and public-facing services, digital and tech access, and Welsh language culture and community.

As well as expanding the focus, it commits to providing Welsh language services outside of Wales, where the prisoner or probation clients have expressed a preference and where there is sufficient demand. There are also other arrangements in place to progress Welsh language priorities across the prison estate, including an internal Welsh language board, a strategic Welsh language plan, the appointment of a Welsh language lead for each prison in Wales and a regional expectation that each prison in Wales will have, as a minimum, a Welsh language forum for prisoners, opportunities for prisoners to learn and develop their Welsh language skills and a Welsh language action plan in place to address key priorities.

Turning to your question about the delivery of lessons through the medium of Welsh, the current status with regard to that is that the number of learners who would prefer to attend classes delivered through the medium of Welsh is really very small; therefore, under current resources, this preference can't be met. If I give you an idea of how small the numbers are, in HMP Cardiff, in a snapshot that was the latest available to me, there was one prisoner with a Welsh language speaking preference and one with a Welsh language written preference; one Welsh language speaking preference in Swansea and two for written; in HMPPS, it was three Welsh language speaking preference and three for written; in Prescoed, one of each; in Parc, five prisoners identified the Welsh language as being their speaking preference and three for written. Then, in Berwyn, which is, of course, our largest prison, 27 learners said that their preference was Welsh language speaking and 24 Welsh language learning.

Overall, that equates to, within this snapshot, 0.7 per cent of prisoners expressing a preference for Welsh language speaking and 0.5 per cent for Welsh language as their writing preference. So, it would be, absolutely, a goal for us to be able to deliver lessons through the medium of Welsh, and maybe with the Welsh Government's 2050 policy we’ll see an increase—not, of course, that I’m saying I want to see more Welsh speakers becoming prisoners.

You did ask a range of other questions, but I think I might be testing the Dirprwy Lywydd’s patience. If I just touch on data, you asked whether there is data available for all prisons. We’ve certainly got a lot more data now than we did have; whether it’s the data you’d want to see, if you would wish to write to me, I will share with you the data that we do have.

Fe hoffwn i ddiolch i Cefin Campbell am y cwestiynau hynny. Roedd yna lawer iawn yn y fan yna, felly byddaf yn ceisio ymdrin â chymaint ag y gallaf i. Byddaf yn dechrau gyda'r hyn rwy'n credu yw'r pwynt pwysicaf a godwyd gennych chi yn y fan yna, sef datganoli'r system gyfiawnder—mae hynny'n hollol hanfodol mewn gwirionedd. Prif nod Llywodraeth Cymru yw gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli yn ei chyfanrwydd. Dyna ein huchelgais yn y pen draw, dyna ein nod yn y pen draw. Dim ond trwy gysoni polisïau cyfiawnder â'n hymdrechion ehangach o gyfiawnder cymdeithasol, fel y dywedoch chi'n briodol, y byddwn yn gallu lleihau pwysau ar y system gyfiawnder a chyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen mewn gwirionedd.

Ond yn ymarferol, gyda newid o'r raddfa hon yn amlwg mae angen mynd ati'n raddol, a dyna pam mae ein pwyslais ar hyn o bryd ar y meysydd mwyaf tebygol o gael eu datganoli yn y dyfodol agos, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Mae'r rhain yn feysydd sydd wedi'u cysylltu'n annatod ag ystod o gyfrifoldebau datganoledig, felly credwn ei bod hi'n briodol eu bod yn cael eu penderfynu a'u cyflawni yng Nghymru. Ac mae swyddogion yn y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio opsiynau lle gellir ail-gysoni cyfrifoldebau yn y system cyfiawnder ieuenctid.

Fe wnaf droi at eich cwestiwn am droseddwyr benywaidd—cwestiwn pwysig iawn arall yn y fan yna. I fenywod yng Nghymru sy'n cyflawni troseddau ac sy'n cael eu rhoi yn y ddalfa, gall ymyriadau ar gyfer dysgu a sgiliau fod yn gymhleth, ac ar hyn o bryd, fel y gwyddoch chi, mae ystadau diogel wedi'u lleoli yn Lloegr. Rydym yn datblygu ymhellach ein partneriaeth gydweithredol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â llwybr dysgu i fenywod, fodd bynnag, gan ei gysoni â'n glasbrint cyfiawnder menywod ar gyfer Cymru. Mae canolfan breswyl i fenywod yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, gan ein bod yn credu y bydd yn gwella bywydau menywod yng Nghymru ac y byddai'n gaffaeliad gwirioneddol, gan ddarparu gwasanaethau therapiwtig ac adsefydlu fel rhan o ddull sy'n seiliedig ar drawma. Ac wrth gwrs, byddai hynny'n rhoi'r gallu i ni gyflwyno ein rhaglenni addysg ein hunain yn hynny o beth hefyd.

Rydych chi hefyd yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r Gymraeg; mae'n sicr wedi bod yn bwnc llosg yn y wasg yn ddiweddar, ac yn un yr wyf wedi bod yn cadw llygad agos arno. Byddaf yn dechrau gyda rhywfaint o newyddion cadarnhaol yn hynny o beth, a dyna'r ffaith bod cynllun iaith Gymraeg newydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi wedi'i gyhoeddi ar 15 Hydref, ac mae hynny, rwy'n credu, yn llawer cryfach o'i gymharu â'r ddogfen flaenorol. Mae ymrwymiadau allweddol yno o ran dewis iaith a chofnodi, deunyddiau ac arwyddion dwyieithog, staffio a gallu, gwasanaethau ymwelwyr a chyhoeddus, mynediad digidol a thechnoleg, a'r Gymraeg, diwylliant a chymuned.

Yn ogystal ag ehangu'r pwyslais, mae'n ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg y tu allan i Gymru, lle mae'r carcharor neu'r cleientiaid prawf wedi mynegi ffafriaeth a lle mae digon o alw. Mae trefniadau eraill hefyd ar waith i hyrwyddo blaenoriaethau'r Gymraeg ar draws carchardai, gan gynnwys bwrdd iaith Gymraeg mewnol, cynllun iaith Gymraeg strategol, penodi arweinydd Cymraeg ar gyfer pob carchar yng Nghymru a disgwyliad rhanbarthol y bydd gan bob carchar yng Nghymru, o leiaf, fforwm iaith Gymraeg i garcharorion, cyfleoedd i garcharorion ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg a chynllun gweithredu Cymraeg ar waith i fynd i'r afael â blaenoriaethau allweddol.

Gan droi at eich cwestiwn ynglŷn â chyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg, y statws presennol mewn perthynas â hynny yw bod nifer y dysgwyr a fyddai'n well ganddyn nhw fynychu dosbarthiadau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn fach iawn mewn gwirionedd; felly, gyda'r adnoddau cyfredol, ni ellir bodloni'r dewis hwn. Os rhoddaf syniad i chi o ba mor fach yw'r niferoedd, yng Ngharchar Ei Fawrhydi Caerdydd, o ran y cipolwg diweddaraf a oedd ar gael i mi, roedd un carcharor wedi nodi ei fod yn ffafrio siarad Gymraeg ac un ei fod yn ffafrio sgrifennu'n Gymraeg; roedd un yn ffafrio siarad Cymraeg yn Abertawe a dau yn ffafrio sgrifennu; yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi., roedd tri yn ffafrio siarad Cymraeg a thri yn ffafrio sgrifennu'n Gymraeg; yn Prescoed, un o bob un; yn y Parc, nododd pump o garcharorion eu bod yn ffafrio siarad Cymraeg a thri eu bod yn ffafrio sgrifennu'n Gym,raeg Yna, yn y Berwyn, sef ein carchar mwyaf wrth gwrs, dywedodd 27 o ddysgwyr eu bod yn ffafrio siarad Cymraeg a 24 eu bod yn ffafrio dysgu drwy'r Gymraeg.

Ar y cyfan, mae hynny'n cyfateb i, o fewn y cipolwg hwn, 0.7 y cant o garcharorion yn mynegi ffafriaeth i'r Gymraeg a 0.5 y cant i'r Gymraeg fel eu dewis gyfrwng ysgrifennu. Felly, byddai'n nod i ni allu cyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg, ac efallai gyda pholisi 2050 Llywodraeth Cymru y byddwn yn gweld cynnydd—nid fy mod i'n dweud fod arnaf i eisiau gweld mwy o siaradwyr Cymraeg yn dod yn garcharorion.

Fe wnaethoch ofyn ystod o gwestiynau eraill, ond rwy'n credu y gallwn ni drethu amynedd y Dirprwy Lywydd. Os caf i grybwyll data, fe wnaethoch chi a oes data ar gael ar gyfer pob carchar. Yn sicr, mae gennym ni lawer mwy o ddata nawr nag oedd gennym ni; felly os mai'r data yr hoffech chi ei weld, os hoffech chi ysgrifennu ataf fi, byddaf yn rhannu'r data sydd gennym ni gyda chi.

17:40

Thank you very much for your statement. I congratulate you on the work that has been done to raise the employability of prisoners, as it’s incredibly important for ensuring they don’t go back to prison. You mentioned that just over £11 million is directly provided by the UK Government for prisoner education, and I wonder if you're able to tell us if there's been any increase in that sum in the last year or the last five years.

The second question is: HMP Cardiff used to train people in rail track maintenance, which is obviously badly needed on the east-west relief lines going east of Cardiff. Is that still happening, because it was a job where there was a lot less discrimination against ex-prisoners? Were you aware that in HMP Berwyn—I learnt last week from the Welsh Affairs Committee—prisoners are being banned from speaking Welsh, which, were it to be a devolved service, would obviously be in breach of the law?

Lastly, six in 10 households never cook from scratch, and ultra-processed takeaways and ready meals do not provide the nutrition that people need to be able to cope with life's daily challenges. I wonder what opportunity is being made to ensure that every prisoner knows how to cook for themselves, so that they can be contributing to the service that's being provided internally in these prisons, but also enables them to go out and become cooks. There is a great shortage of cooks, and that would be not just baristas—proper cooks—because the prison service has absolutely ignored—

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Rwy'n eich llongyfarch ar y gwaith sydd wedi'i wneud i gynyddu cyflogadwyedd carcharorion, gan ei fod yn hynod bwysig sicrhau nad ydyn nhw'n mynd yn ôl i'r carchar. Fe wnaethoch chi sôn bod ychydig dros £11 miliwn yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer addysg carcharorion, ac rwy'n meddwl tybed a ydych chi'n gallu dweud wrthym ni a fu unrhyw gynnydd yn y swm hwnnw yn y flwyddyn ddiwethaf neu'r pum mlynedd diwethaf.

Yr ail gwestiwn yw: roedd Carchar Ei Fawrhydi Caerdydd yn arfer hyfforddi pobl i gynnal a chadw traciau rheilffordd, sydd yn amlwg yn angenrheidiol ar y llinellau rhyddhad dwyrain-gorllewin sy'n mynd i'r dwyrain o Gaerdydd. A yw hynny'n dal i ddigwydd, oherwydd roedd yn swydd lle roedd llawer llai o wahaniaethu yn erbyn cyn-garcharorion? Oeddech chi'n ymwybodol bod carcharorion yn cael eu gwahardd rhag siarad Cymraeg yng Ngharchar Ei Fawrhydi Y Berwyn—dysgais yr wythnos diwethaf gan y Pwyllgor Materion Cymreig, a fyddai'n amlwg yn groes i'r gyfraith pe bai'n wasanaeth datganoledig?

Yn olaf, nid yw chwech o bob 10 aelwyd byth yn coginio pryd o ddim, ac nid yw cludfwyd a phrydau parod wedi'u prosesu'n helaeth yn darparu'r maeth sydd ei angen ar bobl i allu ymdopi â heriau dyddiol bywyd. Tybed pa gyfle sydd yna i sicrhau bod pob carcharor yn gwybod sut i goginio drostyn nhw eu hunain, fel y gallan nhw fod yn cyfrannu at y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu yn fewnol yn y carchardai hyn, ond hefyd yn eu galluogi i ddod yn gogyddion wedi eu rhyddhau. Mae yna brinder mawr o gogyddion, ac nid dim ond baristas yw hynny—cogyddion go iawn—achos mae'r gwasanaeth carchar wedi anwybyddu'n llwyr—

17:45

The Member must now conclude, please.

Rhaid i'r Aelod ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.

—the reports that came out of the young offender institution in Aylesbury, which showed that had a massive improvement on prisoner behaviour. 

—yr adroddiadau a ryddhawyd o'r sefydliad troseddwyr ifanc yn Aylesbury, a ddangosodd fod hynny'n arwain at welliant enfawr yn ymddygiad carcharorion. 

I thank Jenny Rathbone for those questions. If we start with the funding issue, as I said, last year the total funding provided by the Ministry of Justice for learning and skills in the Welsh prison estate was £11.066 million. That hasn't increased, but the fact that we are able to add in our own additional support, through things like the young person's guarantee, ReAct+ and Communities for Work, definitely helps to bolster that funding.

You asked a question about Cardiff prison and its rail track course—certainly, on my visits to prisons, one of the areas where I've seen prisoners engaging most effectively is with training courses on the railways, and I know that not only is that an area of work where ex-offenders are welcome, but it's also, generally, really well-paid and secure employment as well. I'm not sure on the specifics of whether Cardiff is offering that course, but if you'd like to write to me, I will find out the answer to that for you.

I shared your concerns around those headlines from Berwyn with regard to the Welsh language. To me, I just thought it was such a shame that a prison I visited, which had such a wonderful learning offer, was in the headlines for those reasons. I understand the Welsh Language Commissioner is going to be visiting Berwyn this month, and I've asked for some feedback on that conversation, and also on the way that the prison will be looking to embed the new HMPPS Welsh language standards. 

You are right to identify cooking there, Jenny, as being a key area for prisoners. There are lots of employment opportunities within the hospitality industry for them on release, and certainly, in every prison that I have visited, I've seen some really good offers around that. The standout offer has to be the one I mentioned earlier to Natasha Asghar, which is the Right Course restaurant partnership in Berwyn, led by the tv chef Fred Sirieix. Unfortunately, I didn't get to meet him when I was there, but I was certainly very impressed with the cakes, pastries and freshly made coffee that the learners there provided for us.

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau hynny. Os dechreuwn ni gyda'r mater ariannu, fel y dywedais i, y llynedd cyfanswm y cyllid a ddarparwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer dysgu a sgiliau yng ngharchardai Cymru oedd £11.066 miliwn. Nid yw hynny wedi cynyddu, ond mae'r ffaith ein bod yn gallu ychwanegu ein cefnogaeth ychwanegol ein hunain, trwy bethau fel gwarant y person ifanc, ReAct a Chymunedau am Waith, yn bendant yn helpu i gryfhau'r cyllid hwnnw.

Fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn am garchar Caerdydd a'i gwrs ar draciau rheilffordd—yn sicr, ar fy ymweliadau â charchardai, un o'r meysydd lle rydw i wedi gweld carcharorion yn ymgysylltu fwyaf effeithiol yw cyrsiau hyfforddi ar y rheilffyrdd, ac rwy'n gwybod bod hynny nid yn unig yn faes gwaith lle mae croeso i gyn-droseddwyr, ond mae hefyd, yn gyffredinol, yn cynnig cyflog da iawn a chyflogaeth ddiogel hefyd. Nid wyf yn siŵr ynghylch y manylion a yw Caerdydd yn cynnig y cwrs hwnnw, ond os hoffech chi ysgrifennu ataf i, byddaf yn darganfod yr ateb i hynny i chi.

Rhannais eich pryderon ynglŷn â'r penawdau hynny o garchar y Berwyn ynglŷn â'r iaith Gymraeg. I mi, roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n gymaint o drueni bod carchar yr ymwelais â hi, a oedd â chynnig dysgu mor wych, yn y penawdau am y rhesymau hynny. Rwy'n deall bod Comisiynydd y Gymraeg yn mynd i ymweld â'r Berwyn y mis hwn, ac rwyf wedi gofyn am rywfaint o adborth ar y sgwrs honno, a hefyd ar y ffordd y bydd y carchar yn ceisio ymgorffori safonau Cymraeg newydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi.

Rydych chi'n iawn i nodi coginio yn y fan yna, Jenny, fel maes allweddol i garcharorion. Mae yna lawer o gyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant lletygarwch iddyn nhw ar ôl eu rhyddhau, ac yn sicr, ym mhob carchar rydw i wedi ymweld â nhw, rydw i wedi gweld rhai cynigion da iawn yn hynny o beth. Y cynnig gorau yw'r un y soniais amdano yn gynharach wrth Natasha Asghar, sef partneriaeth bwyty Right Course yn y Berwyn, dan arweiniad y cogydd teledu Fred Sirieix. Yn anffodus, ches i ddim cwrdd ag ef pan oeddwn yno, ond yn sicr cefais fy modloni'n fawr gan y cacennau, y teisennau a'r coffi ffres a ddarparodd y dysgwyr yno i ni.

Thank you, Minister, for the statement. There are a lot of positives to take away from the statement, and I don't want to be the person who adds a 'but' to my statement, but the Minister will be acutely aware of the deeply troubling period that HMP Parc in Bridgend has endured in recent years. In 2023 alone assaults on staff increased by 109 per cent and incidents of self-harm rose by 113 per cent. Seventeen individuals tragically lost their lives in 2024, more than in any other prison across England and Wales, with at least four of those deaths believed to be drug-related overdoses. This context makes it quite clear why efforts to promote stability and rehabilitation have faced such a profound challenge in Parc.

Earlier this year, an action plan submitted by the UK prison and probation service highlighted that few prisoners were attending education, skills or work sessions, partly due to the weaknesses in allocation processes and inconsistencies in the daily regime. It also noted that attendance data was not being used effectively to identify trends or tackle poor participation. Access to the library also remained far too limited, especially for those not enrolled in education classes. So, while there were some welcome references to positive developments at Parc in your statement, the overall picture presented by the prison and probation service's report is frankly stark. So, what hand will the Welsh Government have in helping improve provision in Parc with UK counterparts, and what improvements does the Minister expect to see in the coming months?

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Mae yna lawer o bethau cadarnhaol i'w tynnu o'r datganiad, a does arnaf i ddim eisiau bod y person sy'n ychwanegu 'ond' at fy natganiad, ond bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r cyfnod pryderus iawn y mae Carchar Ei Fawrhydi Y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi'i ddioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dim ond yn 2023 cynyddodd ymosodiadau ar staff 109 y cant a chynyddodd achosion o hunan-niweidio 113 y cant. Collodd saith ar bymtheg o unigolion eu bywydau yn drasig yn 2024, mwy nag mewn unrhyw garchar arall ledled Cymru a Lloegr, a chredir bod o leiaf pedair o'r marwolaethau hynny yn orddosau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae'r cyd-destun hwn yn ei gwneud hi'n eithaf clir pam mae ymdrechion i hyrwyddo sefydlogrwydd ac adsefydlu wedi bod yn dalcen caled iawn yn y Parc.

Yn gynharach eleni, roedd cynllun gweithredu a gyflwynwyd gan wasanaeth carchardai a phrawf y Deyrnas Unedig yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd llawer o garcharorion yn mynychu addysg, yn dysgu sgiliau neu mewn sesiynau gwaith, yn rhannol oherwydd y gwendidau mewn prosesau dyrannu ac anghysondebau yn y drefn ddyddiol. Nododd hefyd nad oedd data presenoldeb yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i nodi tueddiadau neu fynd i'r afael â chyfranogiad gwael. Roedd mynediad i'r llyfrgell hefyd yn llawer rhy gyfyngedig, yn enwedig i'r rhai nad oedden nhw wedi'u cofrestru mewn dosbarthiadau addysg. Felly, er bod rhai cyfeiriadau i'w croesawu at ddatblygiadau cadarnhaol yn y Parc yn eich datganiad, mae'r darlun cyffredinol a gyflwynwyd gan adroddiad y gwasanaeth carchardai a phrawf yn ddiffygiol iawn mewn difrif. Felly, pa ran fydd gan Lywodraeth Cymru wrth helpu i wella'r ddarpariaeth yn y Parc gyda chymheiriaid yn y Deyrnas Unedig, a pha welliannau y mae'r Gweinidog yn disgwyl eu gweld yn ystod y misoedd nesaf?

17:50

I thank Luke Fletcher for that series of questions on Parc prison. I think it's very important that you've asked that. We all know that you need a good, stable environment to deliver any type of learning, whether that's in schools, in colleges, in universities, but most especially within prisons. Although the operational running of prisons is reserved, we are liaising with UK Government and partners to ensure that action is being taken at Parc. I know that Parc is shortly to undergo its Estyn inspection—I believe it's in January—and therefore I've asked if I can visit in February to discuss the outcome of that inspection. I know that there are some positive initiatives going on there that they are keen to point out to me, and I do look forward to seeing those. But I think that the results of the Estyn inspection will be key for us to monitor delivery there, and just to show the work that's being done across Government, I know that the Cabinet Secretary for Social Justice met with Lord Timpson on 9 June to discuss some of the issues that you covered there.

Diolch i Luke Fletcher am y gyfres honno o gwestiynau ynghylch carchar y Parc. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod wedi gofyn hynny. Rydym ni i gyd yn gwybod bod angen amgylchedd da, sefydlog arnoch chi i ddarparu unrhyw fath o ddysgu, boed hynny mewn ysgolion, mewn colegau, mewn prifysgolion, ond yn enwedig mewn carchardai. Er bod y gwaith gweithredol o redeg carchardai yn fater a gedwir yn ôl, rydym yn cysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a phartneriaid i sicrhau bod camau yn cael eu cymryd yn y Parc. Rwy'n gwybod bod y Parc yn fuan i gael ei arolygiad gan Estyn—rwy'n credu ei fod ym mis Ionawr—ac felly rwyf wedi gofyn a allaf ymweld ym mis Chwefror i drafod canlyniad yr arolygiad hwnnw. Rwy'n gwybod bod rhai mentrau cadarnhaol yn digwydd yno y maen nhw'n awyddus i'w dwyn i fy sylw, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y rheini. Ond rwy'n credu y bydd canlyniadau arolygiad Estyn yn allweddol i ni fonitro'r cyflawniad yno, a dim ond i ddangos y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y Llywodraeth, fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi cwrdd â'r Arglwydd Timpson ar 9 Mehefin i drafod rhai o'r materion y gwnaethoch chi ymdrin â nhw yn y fan yna.

Thank you very much for the statement. I think there were some very inspiring examples in what you told us. You did mention in response to Natasha about Cardiff prison and the fact that there are so many people there with short sentences. I think, in fact, that over 50 per cent are on remand in Cardiff prison, so that obviously creates an atmosphere of uncertainty. You mentioned the many short courses that were able to be offered, and I wondered if you had any evaluation or any opinion on how those short training courses were effective with prisoners who were on remand. So, that was one question. The other thing I did wonder—obviously, most of the prisoners are young men, and lots of them have children, and I wondered if there were any schemes that enabled the young men with their children to learn, and them to help their children and to further their abilities.

Diolch yn fawr iawn am y datganiad. Rwy'n credu bod rhai enghreifftiau ysbrydoledig iawn yn yr hyn a ddywedoch chi wrthym ni. Fe wnaethoch chi sôn mewn ymateb i Natasha am garchar Caerdydd a'r ffaith bod cymaint o bobl yno gyda dedfrydau byr. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod dros 50 y cant yn cael eu cadw yng ngharchar Caerdydd, felly mae hynny'n amlwg yn creu awyrgylch o ansicrwydd. Fe wnaethoch chi sôn am y nifer o gyrsiau byr a oedd yn gallu cael eu cynnig, a meddwl oeddwn i tybed a oedd gennych chi unrhyw werthusiad neu unrhyw farn ar sut roedd y cyrsiau hyfforddi byr hynny'n effeithiol gyda charcharorion a oedd ar remand. Felly, dyna oedd un cwestiwn. Y peth arall oedd ar fy meddwl i—yn amlwg, mae'r rhan fwyaf o'r carcharorion yn ddynion ifanc, ac mae gan lawer ohonyn nhw blant, a meddwl oeddwn i tybed a oedd unrhyw gynlluniau a oedd yn galluogi'r dynion ifanc gyda'u plant i ddysgu, a nhw i helpu eu plant ac i hybu'u galluoedd.

I thank Julie Morgan for those questions. You're absolutely right there in identifying the high number of prisoners at Cardiff prison who are on short sentences or on remand, and that's definitely one of the biggest challenges we face to our goal of delivering person-centric and timely education and training responses. As I said in my previous answer, this was something that I focused on during my visit to Cardiff, and they were very keen to point out the range of short courses that they offer to try and address this. So, every inmate at every prison in Wales undergoes a rigorous assessment process within five days of arriving at prison, and Cardiff has tailored its provision to deliver many short, sharply focused courses. So, as I said, there are some courses where skills accreditation can be achieved in as little as 10 hours, which I think is a really very important step that's taken for those men who are only there for a short time. I think the accessing of the CSCS card, in particular, is something that Cardiff prison should be really proud of—being able to deliver that training within the space of a week, which opens so many employment opportunities on release. I think the success there at Cardiff is shown by the fact that if you look at its key performance indicator performance, Cardiff has a 92.8 per cent completion rate, a 92.7 per cent achievement rate and an 86 per cent success rate.

In addition, Welsh Government provides additional employability support, and has increased the Working Wales adviser provision in HMP Cardiff from 2.5 days a week to 5.5 days a week. The intensity of that provision there definitely helps. You're right, they do have a good scheme there for fathers to be able to meet with their children, and I think that that is also very important in enabling rehabilitation.

Diolch i Julie Morgan am y cwestiynau hynny. Rydych chi'n hollol iawn yn y fan yna yn nodi'r nifer fawr o garcharorion yng ngharchar Caerdydd sydd ar ddedfrydau byr neu ar remand, a dyna'n bendant un o'r heriau mwyaf rydym ni'n eu hwynebu i'n nod o ddarparu ymatebion addysg a hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n amserol. Fel y dywedais i yn fy ateb blaenorol, roedd hyn yn rhywbeth roeddwn yn canolbwyntio arno yn ystod fy ymweliad â Chaerdydd, ac roedden nhw'n awyddus iawn i dynnu sylw at yr ystod o gyrsiau byr maen nhw'n eu cynnig i geisio mynd i'r afael â hyn. Felly, mae pob carcharor ym mhob carchar yng Nghymru yn cael proses asesu drylwyr o fewn pum niwrnod ar ôl cyrraedd y carchar, ac mae Caerdydd wedi teilwra ei ddarpariaeth i ddarparu llawer o gyrsiau byr, hynod benodol. Felly, fel y dywedais i, mae yna rai cyrsiau lle gellir cyflawni achrediad sgiliau mewn cyn lleied â 10 awr, ac rwy'n credu ei fod yn gam pwysig iawn i'r dynion hynny sydd yno am gyfnod byr yn unig. Rwy'n credu bod cael mynediad at y cerdyn CSCS, yn arbennig, yn rhywbeth y dylai carchar Caerdydd fod yn falch iawn ohono—gallu darparu'r hyfforddiant hwnnw o fewn wythnos, sy'n agor cymaint o gyfleoedd cyflogaeth ar ôl eu rhyddhau. Rwy'n credu bod y llwyddiant yno yng Nghaerdydd yn cael ei ddangos gan y ffaith, os edrychwch chi ar ei pherfformiad dangosydd perfformiad allweddol, fod gan Gaerdydd gyfradd cwblhau o 92.8 y cant, cyfradd cyflawniad o 92.7 y cant a chyfradd llwyddiant o 86 y cant.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth cyflogadwyedd ychwanegol, ac wedi cynyddu darpariaeth cynghorwyr Cymru'n Gweithio yng Ngharchar Ei Fawrhydi Caerdydd o 2.5 diwrnod yr wythnos i 5.5 diwrnod yr wythnos. Mae dwyster y ddarpariaeth honno yn y fan yna yn bendant yn helpu. Rydych chi'n iawn, mae ganddyn nhw gynllun da yn y fan yna i dadau allu cwrdd â'u plant, ac rwy'n credu bod hynny hefyd yn bwysig iawn wrth alluogi adsefydlu.

17:55

Diolch yn fawr, Gweinidog, for your inspiring statement, as Julie Morgan said. Of course, one has to feel that you've got at least one hand tied behind your back, if not two, because of the jagged edge and because how horrific some of these statistics really are: 45 per cent of adults released from prison reoffending within 12 months. That's not just a statistic, that's a failure and, ultimately, it's our communities that suffer.

I do generally think you're doing your best as Welsh Government within a very difficult framework, and I really enjoyed hearing about the short courses you are now offering to deal with the issue Julie Morgan mentioned, about so many being on remand and so many being on short sentences. Education is so important: 40 per cent cuts in reoffending if they can receive the proper reoffending—. It's a second chance. It's a chance to rebuild, not to repeat.

What I find terrible, frightening, is that neurodiversity is three times more common in the prison population than outside. Half our prison population is neurodivergent. We're letting people down. How can we make sure that the education there in prison is available to all, especially people who are neurodivergent? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad ysbrydoledig, fel y dywedodd Julie Morgan. Wrth gwrs, mae'n rhaid teimlo bod gennych chi o leiaf un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'ch cefn, os nad y ddwy, oherwydd yr ymyl garw ac oherwydd pa mor ofnadwy yw rhai o'r ystadegau hyn mewn gwirionedd: 45 y cant o oedolion sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar yn aildroseddu o fewn 12 mis. Nid ystadegyn yn unig yw hynny, mae hynny'n fethiant ac, yn y pen draw, mae ein cymunedau yn dioddef.

Yn gyffredinol, rwy'n credu eich bod chi'n gwneud eich gorau fel Llywodraeth Cymru o fewn fframwaith anodd iawn, ac roeddwn i'n mwynhau clywed am y cyrsiau byrion rydych chi'n eu cynnig nawr i ymdrin â'r mater y soniodd Julie Morgan, am gymaint o bobl ar remand a chymaint ar ddedfrydau byr. Mae addysg mor bwysig: Lleihad o 40 y cant mewn aildroseddu os gallant dderbyn y math priodol o—. Mae'n ail gyfle. Mae'n gyfle i ailadeiladu, nid i ailadrodd.

Yr hyn rwy'n ei chael yn ddychrynllyd, yn frawychus, yw bod niwroamrywiaeth dair gwaith yn fwy cyffredin ymhlith carcharorion nag mewn pobl y tu allan. Mae hanner ein carcharorion yn niwroamrywiol. Rydym ni'n siomi pobl. Sut allwn ni wneud yn siŵr bod yr addysg yno yn y carchar ar gael i bawb, yn enwedig pobl sy'n niwroamrywiol? Diolch yn fawr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

Thank you, Rhys ab Owen, for those questions. I agree with you about the scale of the problem to try and break that cycle of reoffending, and the importance of doing that as well. It certainly is a challenge, not just here in the UK but around the world as well. I think that's why it's so important that we've got Lord Timpson now taking on that role in UK Government because of the work that he has done and the success that he's had. He's bringing real-life experience and skills to that role.

You raise a very important point there about the level of neurodiversity within the prison population as well, and I'd like to reassure you that we do take a proactive person-centred approach to identifying and supporting neurodivergent individuals within our prisons. If I can give one example of that—this is a positive example from Parc prison—and that's called the Cynnwys unit. It's the neurodivergent unit there. It's a dedicated unit for autistic people, for those with learning disabilities or brain injuries. Since its establishment, the prison has seen a significant reduction in violence, self-harm, rule breaking and substance misuse among that particular cohort.

Also, if I can touch on the wider work of Welsh Government, we're currently implementing a neurodivergence improvement programme, widening the previous code of practice for autism to include other neurodivergent conditions. I'm sure that this work will have an impact on devolved services, working within the secure estate, and also provide our regional partnership boards, who work with us closely on employment opportunities for offenders once they're released—. It will provide those regional partnership boards with enhanced guidance and frameworks to ensure effective collaboration and integrated service delivery.

Diolch, Rhys ab Owen, am y cwestiynau hynny. Rwy'n cytuno â chi am raddfa'r broblem i geisio torri'r cylch hwnnw o aildroseddu, a phwysigrwydd gwneud hynny hefyd. Mae'n sicr yn her, nid yn unig yma yn y Deyrnas Unedig ond ledled y byd hefyd. Rwy'n credu mai dyna pam ei bod hi mor bwysig bod yr Arglwydd Timpson bellach yn ymgymryd â'r swyddogaeth honno yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig oherwydd y gwaith y mae wedi'i wneud a'r llwyddiant y mae wedi'i gael. Mae'n dod â phrofiad a sgiliau bywyd go iawn i'r swyddogaeth honno.

Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn yn y fan yna am lefel niwroamrywiaeth ymhlith carcharorion hefyd, ac fe hoffwn i eich sicrhau ein bod yn mynd ati'n rhagweithiol ac mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person i adnabod a chefnogi unigolion niwroamrywiol yn ein carchardai. Os gallaf i roi un enghraifft o hynny—mae hon yn enghraifft gadarnhaol o garchar y Parc—ac mae hynny'n cael ei alw yr uned Cynnwys. Dyma'r uned niwroamrywiol yno. Mae'n uned bwrpasol ar gyfer pobl awtistig, ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu neu anafiadau i'r ymennydd. Ers ei sefydlu, mae'r carchar wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn trais, hunan-niweidio, torri rheolau a chamddefnyddio sylweddau ymhlith y garfan benodol honno.

Hefyd, os caf i grybwyll gwaith ehangach Llywodraeth Cymru, rydym ni ar hyn o bryd yn gweithredu rhaglen gwella niwroamrywiaeth, gan ehangu'r cod ymarfer blaenorol ar gyfer awtistiaeth i gynnwys cyflyrau niwroamrywiol eraill. Rwy'n siŵr y bydd y gwaith hwn yn cael effaith ar wasanaethau datganoledig, gweithio o fewn yr ystad ddiogel, a hefyd yn darparu ein byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n gweithio'n agos gyda ni ar gyfleoedd cyflogaeth i droseddwyr unwaith y byddant yn cael eu rhyddhau. Bydd yn darparu canllawiau a fframweithiau gwell i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny i sicrhau cydweithrediad effeithiol a darparu gwasanaethau integredig.

8. Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025
8. The Health Impact Assessment (Wales) Regulations 2025

Eitem 8 sydd nesaf, Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Jeremy Miles. 

Item 8 is next, the Health Impact Assessment (Wales) Regulations 2025, and I call on the Cabinet Secretary for Health and Social Care to move the motion— Jeremy Miles.

Cynnig NDM9048 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025.

Motion NDM9048 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Health Impact Assessment (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 16 September 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

18:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. The regulations before the Senedd today represent a bold and progressive step forward in our collective mission to embed health equity at the heart of public decision making. If they're passed by the Senedd, they will mandate health impact assessments that will be carried out by a wide range of public bodies when proposing to make certain decisions. This is another important action that we are taking to help end those persistent and stubborn health inequalities that we know continue to blight too many communities in Wales. If these regulations are passed today, they will join other schemes that are also targeted at closing that gap, including the Marmot nation, universal free school meals in primary schools, our childhood vaccination programme, our programme to build 20,000 new homes to rent, and funded childcare for two to four-year-olds. 

Dirprwy Lywydd, at its core, a health impact assessment is a structured process that helps decision makers consider how their policies, their programmes or other projects might affect the physical and mental health of the population. Crucially, it goes beyond the boundaries of healthcare services to consider the wider determinants of health, like housing, transport, education, employment, culture, and the environment. These are the factors that shape our daily lives and, ultimately, our health outcomes. The Welsh Government has long championed a health-in-all-policies approach. The passage of these regulations will then position Wales as a world leader in the application of public health policy and legislation. So, this is not just a regulatory milestone, it's a statement of intent. It signals our commitment to prevention, to fairness and to ensuring that health considerations are not an afterthought but a foundational element of strategic decision making.

These regulations would place a statutory duty on specified public bodies to carry out health impact assessments when proposing to make certain decisions, to clarify when these assessments are required, and to promote consistency without creating unnecessary bureaucracy, complementing existing duties, such as those under the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. Health impact assessments provide robust evidence to inform decisions to help reduce health inequalities and strengthen proposals that more broadly support population health. They enable public bodies to demonstrate how their policies contribute to a healthier, fairer Wales, and they foster transparency and accountability in how decisions are made.

From an operational perspective, importantly, the regulations are designed to be proportionate and practical. Public Health Wales will provide guidance and training, and a transition period has been built in to allow organisations to prepare and to align with financial and planning cycles. This is not about adding complexity, it's about embedding the health of our population into the DNA of our public services.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw yn cynrychioli cam beiddgar a blaengar ymlaen yn ein cenhadaeth ar y cyd i ymgorffori tegwch iechyd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau cyhoeddus. Os cânt eu pasio gan y Senedd, byddant yn mandadu asesiadau effaith iechyd a fydd yn cael eu cynnal gan ystod eang o gyrff cyhoeddus wrth gynnig gwneud penderfyniadau penodol. Dyma gam pwysig arall rydym yn ei gymryd i helpu i roi terfyn ar yr anghydraddoldebau iechyd parhaus ac ystyfnig hynny rydym yn gwybod eu bod yn parhau i fod yn falltod ar ormod o gymunedau yng Nghymru. Os caiff y rheoliadau hyn eu pasio heddiw, byddant yn ymuno â chynlluniau eraill sydd hefyd wedi'u targedu at gau'r bwlch hwnnw, gan gynnwys cenedl Marmot, prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd, ein rhaglen brechu plant, ein rhaglen i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd i'w rhentu, a gofal plant wedi'i ariannu i blant dwy i bedair oed. 

Dirprwy Lywydd, yn ei hanfod, mae asesiad effaith ar iechyd yn broses strwythuredig sy'n helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ystyried sut y gallai eu polisïau, eu rhaglenni neu brosiectau eraill effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol y boblogaeth. Yn hanfodol, mae'n mynd y tu hwnt i ffiniau gwasanaethau gofal iechyd i ystyried penderfynyddion ehangach iechyd, fel tai, trafnidiaeth, addysg, cyflogaeth, diwylliant, a'r amgylchedd. Dyma'r ffactorau sy'n siapio ein bywydau bob dydd ac, yn y pen draw, ein canlyniadau iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo ymagwedd iechyd ym mhob polisi ers tro. Bydd pasio'r rheoliadau hyn wedyn yn gosod Cymru fel arweinydd byd-eang o ran cymhwyso polisi a deddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Felly, nid carreg filltir reoleiddiol yn unig mohoni, mae'n ddatganiad o fwriad. Mae'n arwydd o'n hymrwymiad i atal, i degwch ac i sicrhau nad yw ystyriaethau iechyd yn ôl-ystyriaeth ond yn elfen sylfaenol o wneud penderfyniadau strategol.

Byddai'r rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodedig i gynnal asesiadau effaith ar iechyd wrth gynnig gwneud penderfyniadau penodol, i egluro pryd mae angen yr asesiadau hyn, ac i hyrwyddo cysondeb heb greu biwrocratiaeth ddiangen, gan ategu dyletswyddau presennol, fel y rhai o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae asesiadau effaith ar iechyd yn darparu tystiolaeth gadarn i lywio penderfyniadau er mwyn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a chryfhau cynigion sy'n cefnogi iechyd y boblogaeth yn ehangach. Maen nhw'n galluogi cyrff cyhoeddus i ddangos sut mae eu polisïau yn cyfrannu at Gymru iachach a thecach, ac maen nhw'n meithrin tryloywder ac atebolrwydd yn y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud.

O safbwynt gweithredol, yn bwysig, mae'r rheoliadau wedi'u dylunio i fod yn gymesur ac yn ymarferol. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arweiniad a hyfforddiant, ac mae cyfnod pontio wedi'i gynnwys i ganiatáu i sefydliadau baratoi ac alinio â chylchoedd ariannol a chynllunio. Dydy hyn ddim yn ymwneud ag ychwanegu cymhlethdod, mae'n ymwneud ag ymwreiddio iechyd ein poblogaeth yn DNA ein gwasanaethau cyhoeddus.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Mike Hedges.

I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee—Mike Hedges.

Thank you, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered the draft regulations on 29 September and subsequently considered the Welsh Government response to the committee's report on 13 October.

The committee's report identified one technical reporting point and one merits scrutiny reporting point. The regulations provide that Public Health Wales must publish guidance to assist public bodies carrying out a health impact assessment. However, the explanatory memorandum in relation to these regulations also states that Public Health Wales is required to provide a programme of support to public bodies. The technical reporting point notes that this programme of support is not specified in the regulations themselves. In response, the Welsh Government set out that the detail of the additional assistance would be contained in direction to be issued by the Welsh Ministers under the National Health Service (Wales) Act 2006. The response states that this will enable the system to be flexible and reactive to the requirements of relevant public bodies.

The committee's merits scrutiny reporting point highlights that Part 6 of the Public Health (Wales) Act 2017 was commenced on 19 September 2025, just over eight years after Part 6 was enacted. The Welsh Government's response stated that work on implementing the 2017 Act started immediately after the passing of the Act. However, it sets out that staff were redeployed in 2017 to work on the Brexit response, then again in 2020, in response to the COVID-19 pandemic, and that work resumed on the regulations in 2022-23.

The Legislation, Justice and Constitution Committee was not satisfied with the justification for the eight-year delay provided by the Welsh Government in its response. We subsequently wrote to the Cabinet Secretary for Health and Social Care to express our disappointment in the untimely implementation by the Welsh Government of legislation passed by the Senedd. We considered the Cabinet Secretary's response to our letter on Monday. In the letter, the Cabinet Secretary reiterates the impact of Brexit and the pandemic on resources available to develop the regulations. The Cabinet Secretary also states that extensive engagement with stakeholders has been essential in ensuring that the regulations are not disproportionately bureaucratic or burdensome. The committee noted the Cabinet Secretary's response.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Aeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ati yn ystyried y rheoliadau drafft ar 29 Medi ac, yn dilyn hynny, aeth ati i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor ar 13 Hydref.

Nododd adroddiad y pwyllgor un pwynt adrodd technegol ac un pwynt adrodd craffu ar rinweddau. Mae'r rheoliadau'n darparu bod yn rhaid i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo cyrff cyhoeddus i gynnal asesiad effaith ar iechyd. Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol mewn perthynas â'r rheoliadau hyn hefyd yn nodi ei bod yn ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu rhaglen gymorth i gyrff cyhoeddus. Mae'r pwynt adrodd technegol yn nodi nad yw'r rhaglen gymorth hon wedi'i nodi yn y rheoliadau eu hunain. Mewn ymateb, nododd Llywodraeth Cymru y byddai manylion y cymorth ychwanegol yn cael eu cynnwys mewn cyfarwyddyd i'w gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae'r ymateb yn nodi y bydd hyn yn sicrhau bod y system yn gallu bod yn hyblyg ac yn adweithiol i ofynion cyrff cyhoeddus perthnasol.

Mae pwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 wedi'i chychwyn ar 19 Medi 2025, ychydig dros wyth mlynedd ar ôl i Ran 6 gael ei deddfu. Nododd ymateb Llywodraeth Cymru fod gwaith ar weithredu Deddf 2017 wedi dechrau yn syth ar ôl i'r Ddeddf gael ei phasio. Fodd bynnag, mae'n nodi bod staff wedi'u hadleoli yn 2017 i weithio ar yr ymateb i Brexit, yna eto yn 2020, mewn ymateb i bandemig COVID-19, a bod gwaith ar y rheoliadau wedi ailddechrau yn 2022-23.

Doedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ddim yn fodlon â'r cyfiawnhad dros yr wyth mlynedd o oedi a roddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei hymateb. Gwnaethom ysgrifennu wedyn at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynegi ein siom ynghylch y ffordd anamserol y cafodd deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd ei rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaethom ystyried ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'n llythyr ddydd Llun. Yn y llythyr, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ailadrodd effaith Brexit a'r pandemig ar yr adnoddau oedd ar gael i ddatblygu'r rheoliadau. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn nodi bod ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid wedi bod yn hanfodol i sicrhau nad yw'r rheoliadau yn anghymesur o fiwrocrataidd neu feichus. Nododd y pwyllgor ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet.

18:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. I'm grateful to the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee for setting out the terms in which the Government responded to the work of the committee, and I'm grateful to them for their consideration. I would just say that we are, in a sense, all disappointed by the delay, which has been necessary. But, as someone who had some involvement both in relation to the preparation for Brexit and the consequences in particular of COVID, I can assure Members that the pressures that were visited upon all sorts of aspects of Government activity were very real and significant over a prolonged period of time, and we have engaged proactively with the work of consulting on these regulations to ensure that they do reflect both our policy priorities and are proportionate and effective in the means in which we plan to introduce them. So, I'm grateful to the committee for its consideration.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am nodi sut yr ymatebodd y Llywodraeth i waith y pwyllgor, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am eu hystyriaeth. Byddwn i'n dweud ein bod ni i gyd, ar ryw ystyr, yn siomedig ynghylch yr oedi, sydd wedi bod yn angenrheidiol. Ond, fel rhywun a oedd â rhywfaint o ran wrth baratoi ar gyfer Brexit a chanlyniadau COVID yn arbennig, gallaf sicrhau Aelodau bod y pwysau a roddwyd ar bob math o agweddau ar weithgarwch y Llywodraeth yn real iawn ac yn sylweddol dros gyfnod hir, ac rydyn ni wedi ymgysylltu'n rhagweithiol â'r gwaith o ymgynghori ar y rheoliadau hyn i sicrhau eu bod nhw'n adlewyrchu ein blaenoriaethau polisi a'u bod nhw'n gymesur ac yn effeithiol yn y modd rydym yn bwriadu eu cyflwyno. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am ei ystyriaeth.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

No. Sorry, Sioned. You weren't on the list.

Na. Mae'n ddrwg gen i, Sioned. Doeddech chi ddim ar y rhestr.

9. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) (Rhif 2) 2025
9. The Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (Wales) (No. 2) Regulations 2025

Eitem 9, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) (Rhif 2) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Item 9, the Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (Wales) (No. 2) Regulations 2025. I call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move the motion—Mark Drakeford.

Cynnig NDM9049 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 2) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Hydref 2025.

Motion NDM9049 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (No. 2) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 21 October 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. These regulations amend Schedule 21A to the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Act 2017 to provide land transaction tax relief to the newly designated north Anglesey special tax sites within the Ynys Môn free port. These new sites include the former Octel and Rhosgoch sites.

The regulations provide relief until 30 September 2029, with a review scheduled in 2028. Following that review, it will be for the next Welsh Government to decide whether or not to extend the relief. If the Senedd approve the regulations today, relief for transactions in these new areas will come into force on Friday 21 November. This will align with the UK Government's coming-into-force date of their special tax site designation regulations for the north Anglesey special tax sites in the Ynys Môn free port, meaning all the reserved and devolved tax incentives will be available on the same date. I ask Members to approve the regulations.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 21A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrth-osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 i ddarparu rhyddhad treth trafodiadau tir i'r safleoedd treth arbennig newydd yng ngogledd Ynys Môn ym mhorthladd rhydd Ynys Môn. Mae'r safleoedd newydd hyn yn cynnwys hen safleoedd Octel a Rhosgoch.

Mae'r rheoliadau'n darparu rhyddhad tan 30 Medi 2029, gydag adolygiad wedi'i drefnu yn 2028. Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, Llywodraeth nesaf Cymru fydd yn penderfynu a ddylid ymestyn y rhyddhad ai peidio. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau heddiw, bydd rhyddhad ar gyfer trafodion yn yr ardaloedd newydd hyn yn dod i rym ddydd Gwener 21 Tachwedd. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r dyddiad y bydd rheoliadau dynodi safleoedd treth arbennig Llywodraeth y DU yn dod i rym ar gyfer safleoedd treth arbennig gogledd Ynys Môn ym mhorthladd rhydd Ynys Môn, a fydd yn golygu y bydd yr holl gymhellion treth a gedwir yn ôl a'r rhai datganoledig ar gael ar yr un dyddiad. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Mike Hedges.

I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee—Mike Hedges.

Diolch, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered the draft regulations on 10 November and subsequently considered the Welsh Government response to the committee's report on Monday.

The committee's report identifies one technical reporting point and two merit scrutiny reporting points. The coming-into-force date in italics below the title of the regulation states that they come into force on 21 November 2025. However, regulation 1 provides that they come into force at midnight on 21 November 2025. The technical reporting point seeks clarity on the purpose and meaning of 'midnight' in this provision, and why it differs from the coming-into-force date in italics below the title. In its response, the Welsh Government stated that it would add 'at 12 a.m.' to the text below the title and replace 'midnight' with '12 a.m.' in regulation 1 prior to making the regulations.

The first merits scrutiny reporting point highlights that the regulations extend special tax relief from land transaction tax to further areas forming part of the Ynys Môn free port until 30 September 2029, thereby affecting payments made by the Welsh Revenue Authority into the Welsh consolidated fund. The second highlights that the tax relief in the regulations is a subsidy, and that the subsidy control scheme for the Welsh free ports has been referred to the Competition and Markets Authority and registered on the subsidy database in line with the Subsidy Control Act 2022.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Aeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ati i ystyried y rheoliadau drafft ar 10 Tachwedd ac, yn dilyn hynny, aeth ati i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor ddydd Llun.

Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi un pwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd craffu ar rinweddau. Mae'r dyddiad dod i rym mewn italig o dan teitl y rheoliad yn nodi eu bod yn dod i rym ar 21 Tachwedd 2025. Fodd bynnag, mae rheoliad 1 yn darparu eu bod yn dod i rym am hanner nos ar 21 Tachwedd 2025. Mae'r pwynt adrodd technegol yn ceisio eglurder ynghylch pwrpas ac ystyr 'hanner nos' yn y ddarpariaeth hon, a pham ei fod yn wahanol i'r dyddiad dod i rym mewn italig o dan y teitl. Yn ei hymateb, nododd Llywodraeth Cymru y byddai'n ychwanegu 'am 12 a.m.' at y testun o dan y teitl ac yn rhoi '12 a.m' yn lle 'hanner nos' yn rheoliad 1 cyn gwneud y rheoliadau.

Mae'r pwynt adrodd craffu ar rinweddau cyntaf yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau'n ymestyn rhyddhad treth arbennig o dreth trafodiadau tir i ardaloedd pellach sy'n rhan o borthladd rhydd Ynys Môn tan 30 Medi 2029, gan effeithio ar daliadau a wneir gan Awdurdod Refeniw Cymru i gronfa gyfunol Cymru. Mae'r ail yn tynnu sylw at y ffaith bod y rhyddhad treth yn y rheoliadau yn gymhorthdal, a bod y cynllun rheoli cymorthdaliadau ar gyfer porthladdoedd rhydd Cymru wedi'i gyfeirio at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a'i gofrestru ar y gronfa ddata cymorthdaliadau yn unol â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

I thank the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee for their report, Dirprwy Lywydd. Mike Hedges faithfully recorded the way in which the Government has responded to the point that the committee had raised about the consistency within the regulations, and that has now been rectified before the regulations will be made. This targeted relief is one of the key drivers of the Welsh free-ports programme. The free-port tax incentives, including LTT relief, have been designed with the intention to help sites attract private investment, support economic growth in north Anglesey, and deliver the wider policy objectives of the free-ports programme. Again, I ask Members to approve the regulations.

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiad, Dirprwy Lywydd. Cofnododd Mike Hedges yn ffyddlon y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymateb i'r pwynt yr oedd y pwyllgor wedi'i godi ynglŷn â'r cysondeb o fewn y rheoliadau, ac mae hynny bellach wedi'i gywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. Mae'r rhyddhad penodol hwn yn un o brif ysgogwyr rhaglen porthladdoedd rhydd Cymru. Mae'r cymhellion treth ar gyfer porthladdoedd rhydd, gan gynnwys rhyddhad treth trafodiadau tir, wedi'u cynllunio gyda'r bwriad o helpu safleoedd i ddenu buddsoddiad preifat, cefnogi twf economaidd yng ngogledd Ynys Môn, a chyflawni amcanion polisi ehangach y rhaglen porthladdoedd rhydd. Unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is, therefore, agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

10. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) (Rhif 3) 2025
10. The Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (Wales) (No. 3) Regulations 2025

Eitem 10, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) (Rhif 3) 2025, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Item 10 is next, which is on the Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (Wales) (No. 3) Regulations 2025, and I call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move the motion—Mark Drakeford.

Cynnig NDM9050 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 3) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Hydref 2025.

Motion NDM9050 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Land Transaction Tax (Modification of Special Tax Sites Relief) (No. 3) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 21 October 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. These regulations amend Schedule 21A to the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Act 2017 to provide land transaction tax relief for sites within the Flintshire and Wrexham investment zone. The regulations provide the relief until 30 September 2034 and is a key element of the Welsh investment zone programme.

The investment zone has chosen to use part of the £160 million available funding to provide devolved and reserved tax reliefs, in addition to the direct funding, as a package of interventions. If the Senedd approve the regulations today, relief for transactions in these new areas will come into force on Friday 21 November. This will align with the UK Government's coming-into-force date of their special tax site designation regulations for the Flintshire and Wrexham investment zone, meaning all the reserved and devolved tax incentives will be available on the same date. I ask Members to approve the regulations.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 21A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrth-osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 i ddarparu rhyddhad treth trafodiadau tir ar gyfer safleoedd ym mharth buddsoddi sir y Fflint a Wrecsam. Mae'r rheoliadau'n darparu'r rhyddhad tan 30 Medi 2034 ac mae'n elfen allweddol o raglen parth buddsoddi Cymru.

Mae'r parth buddsoddi wedi dewis defnyddio rhan o'r £160 miliwn o gyllid sydd ar gael i ddarparu rhyddhad o dreth datganoledig a threth a gedwir yn ôl, yn ogystal â'r cyllid uniongyrchol, fel pecyn o ymyriadau. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau heddiw, bydd rhyddhad ar gyfer trafodion yn yr ardaloedd newydd hyn yn dod i rym ddydd Gwener 21 Tachwedd. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r dyddiad y bydd rheoliadau dynodi safleoedd treth arbennig Llywodraeth y DU yn dod i rym ar gyfer parth buddsoddi sir y Fflint a Wrecsam, sy'n golygu y bydd yr holl gymhellion treth a gedwir yn ôl a'r rhai datganoledig ar gael ar yr un dyddiad. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau.

Galwaf ar gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Mike Hedges.

I call on the chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee—Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Llywydd. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered the draft regulations on 10 November and subsequently considered the Welsh Government response to the committee's report on Monday. The committee's report on these regulations identifies a similar technical reporting point and merits scrutiny point as outlined in relation to the No. 2 regulations. The report seeks clarity on why the regulations themselves specify they will come into force at 12:01 on 21 November 2025, whereas the coming-into-force date in italics below the title is 21 November 2025 and omits the relevant time. In response, the Welsh Government stated it would add '12:01' to the text below the title prior to making the regulations.

The merits scrutiny reporting point highlights that the regulations extend special tax relief from land transaction tax to designated areas of the Flintshire and Wrexham investment zone until 30 September 2034, affecting payments made by the Welsh Revenue Authority into the Welsh consolidated fund, and that the subsidy control scheme for Welsh investment zones has been referred to the Competition and Markets Authority and registered on the subsidy database in line with the Subsidy Control Act 2022.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Aeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ati i ystyried y rheoliadau drafft ar 10 Tachwedd ac, yn dilyn hynny, aeth ati i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor ddydd Llun. Mae adroddiad y pwyllgor ar y rheoliadau hyn yn nodi pwynt adrodd technegol a phwynt craffu ar rinweddau tebyg i'r rhai a amlinellir mewn perthynas â'r rheoliadau Rhif 2. Mae'r adroddiad yn ceisio eglurder ynghylch pam mae'r rheoliadau eu hunain yn nodi y byddant yn dod i rym am 12:01 ar 21 Tachwedd 2025, tra mai'r dyddiad dod i rym mewn italig o dan y teitl yw 21 Tachwedd 2025 ac mae'n hepgor yr amser perthnasol. Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ychwanegu '12:01' at y testun o dan y teitl cyn gwneud y rheoliadau.

Mae'r pwynt adrodd craffu ar rinweddau yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau'n ymestyn rhyddhad treth arbennig o dreth trafodion tir i ardaloedd dynodedig ym mharth buddsoddi sir y Fflint a Wrecsam tan 30 Medi 2034, gan effeithio ar daliadau a wneir gan Awdurdod Refeniw Cymru i gronfa gyfunol Cymru, a bod y cynllun rheoli cymorthdaliadau ar gyfer parthau buddsoddi Cymru wedi'i gyfeirio at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a'i gofrestru ar y gronfa ddata cymorthdaliadau yn unol â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Well, once again, the technical reporting point raised by the Legislation, Justice and Constitution Committee has been corrected and is, therefore, rectified before the making of the regulations. The regulations themselves are an important step in supporting investment and growth in the new Flintshire and Wrexham investment zone and, once again, I ask Members to approve these regulations.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, unwaith eto, mae'r pwynt adrodd technegol a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi'i gywiro ac felly mae wedi cael ei gywiro cyn gwneud y rheoliadau. Mae'r rheoliadau eu hunain yn gam pwysig wrth gefnogi buddsoddiad a thwf ym mharth buddsoddi newydd sir y Fflint a Wrecsam ac, unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is, therefore, agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

11. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd y Gymraeg
11. Debate: The Welsh Language Commissioner’s Annual Report 2024-25

Eitem 11 yw dadl ar adroddiad blynyddol 2024-25 Comisiynydd y Gymraeg, a galwaf ar Ysgirfennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Item 11 today is a debate on the Welsh Language Commissioner's annual report 2024-25, and I call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move the motion—Mark Drakeford.

Cynnig NDM9047 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd y Gymraeg.

Motion NDM9047 Jane Hutt

To propose that the Senedd:

Notes the Welsh Language Commissioner’s Annual Report 2024-25.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Pleser yw agor y ddadl yma heddiw a gofyn i Aelodau nodi adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25. Wrth gwrs, bydd llawer o bethau wedi digwydd y tu hwnt i gyfnod yr adroddiad a, heddiw, dwi am ganolbwyntio ar faterion o fewn yr adroddiad blynyddol, sef pwrpas y ddadl hon.

Mae'r adroddiad yn adlewyrchu blwyddyn o waith gan y comisiynydd i gryfhau'r Gymraeg mewn sawl maes. Mae'r comisiynydd yn llais annibynnol ar y Gymraeg, ac mae'r adroddiad yn dangos hynny yn glir. Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gwaith y comisiynydd yn ffocysu ar bedwar amcan strategol, sef sicrhau tegwch, cyfiawnder a hawliau i siaradwyr Cymraeg; sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried mewn polisi a deddfwriaeth; cynnal a chynyddu cydymffurfiaeth sefydliadau gyda'u dyletswyddau statudol; a chynyddu defnydd o'r Gymraeg gan sefydliadau ar draws pob sector.

Thank you very much, Dirprwy Lywydd. It's my pleasure to open this debate today and to ask Members to note the annual report of the Welsh Language Commissioner for the financial year 2024-25. Of course, a lot will have happened beyond the scope of this report and, today, I want to focus on issues within the annual report, which is the purpose of this debate.

The report reflects a year's work by the commissioner to strengthen the Welsh language in many different areas. The commissioner is an independent voice on the Welsh language, and the report demonstrates that clearly. During the reporting year, the work of the commissioner focused on four key strategic objectives, namely ensuring fairness, justice and rights for Welsh speakers; ensuring that the Welsh language is a consideration in policy and legislation; maintaining and increasing organisations' compliance with their statutory duties; and increasing the use of the Welsh language by organisations across all sectors.

Dirprwy Lywydd, mae'r comisiynydd wedi symud tuag at ffordd fwy rhagweithiol o gydreoleiddio, sy'n canolbwyntio ar chwe deilliant reoleiddio. Mae'r dull hwn yn ffocysu ar reoleiddio mewn modd sy'n cael yr effaith fwyaf er mwyn gwella cydymffurfiaeth, annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg a gwella profiad siaradwyr Cymraeg. Mae'r gwaith ymchwil a thrafod gyda'r cyhoedd yn parhau i fod yn rhan bwysig o waith y comisiynydd, gan sicrhau bod barn siaradwyr Cymraeg yn llywio'r gwaith o wella gwasanaethau. Roedd yr arolwg barn blynyddol yn dangos bod canran uwch o bobl yn teimlo bod eu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wedi cynyddu. Roedd canran uwch hefyd o'r farn bod gwasanaethau Cymraeg cyrff cyhoeddus yn gwella'n cyffredinol a'u bod yn fwy tebygol o'u defnyddio pan fo'r gwasanaethau hynny yn cael eu hyrwyddo'n glir.

Serch hynny, Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg bod heriau'n parhau. Dim ond 17 y cant o sampl yr arolwg oedd yn nodi bod yn well ganddynt ddefnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus. Rhai o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddewis iaith yw natur dechnegol i'r pwnc, hyder personol, a'r person arall yn siarad Cymraeg yn gyntaf. Mae hyn yn dangos bod angen parhau i daclo rhwystrau i ddefnyddio'r Gymraeg, fel bod pobl yn teimlo'n gyfforddus ac yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol.

Dirprwy Lywydd, mae cynyddu defnydd o wasanaethau Cymraeg yn un o flaenoriaethau strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru, a hefyd i'r comisiynydd. Mae'r comisiynydd eisiau gweld cyrff yn gwella'r ffordd maen nhw'n hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg, er mwyn sicrhau bod mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'r gwasanaethau hynny. Dwi'n croesawu ffocws y comisiynydd ar blant a phobl ifanc hefyd. Roedd mewnbwn adeiladol y comisiynydd wrth ddatblygu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn bwysig. Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg. Mae'n hanfodol, felly, fod cyfleodd i blant a phobl ifanc i fyw, dysgu a gweithio drwy'r Gymraeg.

Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd hefyd yn flaenoriaeth i'r comisiynydd—rhywbeth dwi'n ei groesawu'n fawr. Fel rhan o'r gwaith yma, mae'r comisiynydd wedi gweithio gyda'r cyrff i adolygu polisïau defnydd mewnol o'r Gymraeg. Dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu at y gwaith hwn drwy ein strategaeth 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd', lle rydym yn anelu at fod yn sefydliad wirioneddol ddwyieithog erbyn 2050.

Mae dros 130 o gyrff bellach yn dod o dan safonau, gan gynnwys cwmnïau dŵr. Dwi'n falch bod cynnydd cyffredinol yn lefel cydymffurfiaeth y cyrff gyda'r safonau. Mae'r comisiynydd yn barod i gefnogi cyrff trwy ddarparu arweiniad clir ac ymgysylltu adeiladol er mwyn sicrhau bod cyrff yn deall y dyletswyddau ac yn cydymffurfio. Mae sicrhau bod dyletswyddau fel y safonau yn cael eu gweithredu'n briodol ac yn effeithiol yn rhan bwysig o waith y comisiynydd, ac felly hefyd y gallu i'n dal ni, fel Llywodraeth, a chyrff eraill i gyfrif pan fydd angen.

Dirprwy Lywydd, the commissioner has moved to a more proactive approach of co-regulation, which focuses on six regulation outcomes. This approach focuses on regulation in a way that has the greatest impact in order to improve compliance, to encourage more use of the Welsh language and to improve the experiences of Welsh speakers. Research and discussion undertaken with the public continues to be an important part of the commissioner's work, ensuring that the views of Welsh speakers do steer the work of improving services. The annual survey demonstrated that a higher percentage of people felt that their opportunities to use the Welsh language had increased. There was also a higher percentage of the opinion that Welsh language services provided by public bodies were generally improving and that they were more likely to make use of those services when the services were properly promoted.

However, Dirprwy Lywydd, it is clear that challenges remain. Only 17 per cent of the survey sample noted that they preferred to use the Welsh language with public bodies. Some of the factors influencing language choice are the technical nature of a subject, individual confidence, and the other person speaking Welsh first. This shows that we need to continue to tackle barriers to the use of the Welsh language so that people feel comfortable and willing to use the Welsh language naturally.

Dirprwy Lywydd, increasing the use of Welsh language services is one of the priorities of the Welsh Government's 'Cymraeg 2050' strategy, and is also a priority for the commissioner. The commissioner wants to see organisations improving the way that they promote Welsh language services, in order to ensure that more use is made of those services. I welcome the commissioner's focus on children and young people too. The constructive input of the commissioner whilst developing the Welsh Language and Education (Wales) Act 2025 was important. The Act ensures that every child in Wales will have the opportunity to become a Welsh speaker. It's crucial, therefore, that there are opportunities for children and young people to live, learn and work through the medium of the Welsh language.

Increasing the use of the Welsh language in workplaces is also a priority for the commissioner—something I warmly welcome. As part of this work, the commissioner has worked with organisations to review policies on the internal use of the Welsh language. I'm pleased that the Welsh Government has been able to contribute to this work through our 'Cymraeg. It belongs to us all' strategy, where we aim to be a truly bilingual organisation by 2050.

Over 130 bodies are now captured by the standards system, including the water companies. I'm pleased that there's been general progress in terms of the compliance level among the bodies subject to standards. The commissioner is ready to support organisations by providing clear guidance and constructive engagement in order to ensure that bodies understand their duties and responsibilities and comply with those. Ensuring that duties like the standards are implemented appropriately and effectively is an important part of the commissioner's work, as is the ability to hold us as a Government and other organisations to account when required. 

Mae nifer y cwynion a chamau gorfodi yn llai yn ystod y cyfnod adrodd o'i gymharu â blynyddoedd adrodd blaenorol. Dwi'n cefnogi'r egwyddor fod llwyddiant yn cael ei fesur yn ôl ansawdd gwasanaethau Cymraeg a barn y cyhoedd, nid nifer y cwynion neu'r camau gorfodi yn unig. Mae'n bwysig, Dirprwy Lywydd, cofio mai un elfen o waith rheoleiddio'r comisiynydd yw delio â chwynion. Mae rheoleiddio hefyd yn cynnwys gwaith monitro er mwyn adnabod a datrys problemau cyn iddynt arwain at gwynion, ac ar yr un pryd mae'n bwysig bod y comisiynydd yn parhau i deimlo'n hyderus ac yn barod i ddefnyddio'r ystod o bwerau sydd ganddi ac i ddefnyddio ei phwerau'n llawn pan fydd angen.

Mae'r comisiynydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus, o faes addysg a sgiliau i iechyd a gofal, tai a chynllunio. Ar yr adeg sy'n cael ei gwmpasu gan yr adroddiad, roedd y comisiynydd yn awyddus i gael eglurder ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu ar argymhelliad Comisiwn Cymunedau Cymraeg bod angen sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch a'i bod hi'n gweld cyfle i safonau gyfrannu'n uniongyrchol at weithredu rhai o'r argymhellion. Yn bwysig, mae'r adroddiad yn dangos bod y comisiynydd yn barod i'n herio ni fel Llywodraeth ac i amlygu lle mae cyfleoedd i sicrhau gwell ystyriaeth i'r Gymraeg. Mae'r briff y gwnaeth hi ei gyhoeddi yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa o ran gofal dementia i siaradwyr Cymraeg wedi golygu momentwm o'r newydd yn y maes yma. Dwi'n gwerthfawrogi cyfraniad y comisiynydd ym mhob maes polisi ac rwy'n barod i gydweithio lle'n briodol i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried mewn penderfyniadau polisi. Mae'r comisiynydd hefyd yn gweithio gyda busnesau ac elusennau i'w hannog i ddarparu a datblygu gwasanaethau Cymraeg. Yn ystod y flwyddyn, ymunodd 47 corff â'r cynllun Cynnig Cymraeg, gan ddod â'r cyfanswm i 160.

Dirprwy Lywydd, yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yma yng Nghymru—digwyddiad pwysig wnaeth amlygu effaith safonau'r Gymraeg ar lefel rhyngwladol. Roedd yn fraint gweld Cymru'n arwain trafodaethau byd-eang ar hawliau ieithyddol cyn trosglwyddo'r gadeiryddiaeth i New Brunswick yng Nghanada.

Yn ystod y cyfnod sy'n cael ei gwmpasu gan yr adroddiad blynyddol hwn, roedd lansiad cronfa enwau lleoedd safonol Cymru yn gam pwysig tuag at warchod statws a hyrwyddo'r defnydd o enwau lleoedd Cymraeg. Hoffwn hefyd nodi cyfraniad y comisiynydd wrth sicrhau mai enwau Cymraeg yn unig bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer etholaethau'r Senedd, rhywbeth arwyddocaol yn hanes y Gymraeg.

Dirprwy Lywydd, bydd y comisiynydd yn cyhoeddi ei thrydydd adroddiad pum mlynedd yn 2026. Dwi'n edrych ymlaen at ei ddarllen ac rwy'n siŵr y bydd yn cynnwys gwybodaeth werthfawr, ddefnyddiol a heriol fydd yn ein helpu i lywio gwaith y comisiynydd a'r Llywodraeth i'r dyfodol. Mae'r comisiynydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i hyrwyddo a chynyddu defnydd o'r Gymraeg. Mae rôl y comisiynydd yn hollbwysig i roi llais annibynnol ar y Gymraeg ac i'n herio ni fel Llywodraeth a chyrff eraill hefyd. Dwi'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda hi i gynyddu defnydd o'r Gymraeg a gwireddu amcanion 'Cymraeg 2050'. Diolch yn fawr.

The number of complaints and enforcement actions are reduced during this reporting period as compared to previous reporting years. I support the principle that success should be measured according to the quality of Welsh language services and the views of the public on those services, not on the number of complaints or enforcement actions taken only. It's important, Dirprwy Lywydd, to bear in mind that dealing with complaints is one element of the commissioner's regulatory work. Regulation also includes monitoring work in order to identify and resolve problems before they lead to complaints, whilst simultaneously it is important that the commissioner continues to feel confident and willing to use the range of powers that she has and to use her powers in full when required. 

The commissioner plays a key role in influencing public policy, from education and skills to health and care, housing and planning. At the time encapsulated within this report, the commissioner was eager to seek clarity as to how the Government intends to implement the Commission for Welsh-speaking Communities's recommendation that we need to establish areas of higher density linguistic significance and that she sees an opportunity for standards to contribute directly to the implementation or delivery of some of those recommendations. Importantly, the report demonstrates that the commissioner is willing to challenge us as a Government and to highlight areas where there are opportunities to ensure better, more effective consideration of the Welsh language. The brief that she published providing an update on the situation in terms of dementia care for Welsh speakers has led to renewed momentum in this area. I appreciate the commissioner's contribution in all policy areas and am willing to work with her where appropriate to ensure that the Welsh language is considered in policy decisions. The commissioner also works with businesses and charities to encourage them to provide and develop Welsh language services. During the year, 47 bodies joined the Cynnig Cymraeg programme, bringing the total to 160.

Dirprwy Lywydd, during the year, the International Association of Language Commissioners' conference was staged here in Wales; it was an important event that highlighted the impact of Welsh language standards on the international stage. It was a privilege to see Wales leading the global conversation on linguistic rights before transferring the chair to New Brunswick in Canada.

During the reporting period, the launch of the standardised place names database was an important step towards protecting the status and promoting the use of Welsh language place names. I would also like to note the commissioner's contribution in ensuring that Welsh language names alone will now be used for Senedd constituency names, which is a significant step in the history of the Welsh language. 

Dirprwy Lywydd, the commissioner will publish her third quinquennial report in 2026, and I look forward to reading that report, and I am sure that it will include valuable, useful and challenging information that will help us to steer the commissioner's and the Government's work for the future. The commissioner makes a valuable contribution to promoting and increasing the use of the Welsh language. The role of the commissioner is crucial in providing an independent voice on the Welsh language and to challenge us as a Government, and other organisations too. I look forward to continuing to work with the commissioner to increase use of the Welsh language and to deliver the objectives of 'Cymraeg 2050'. Thank you.

18:25

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw yn nodi gwaith parhaus Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn codi ymwybyddiaeth am ddefnydd yr iaith a'i phwysigrwydd, yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i bobl yng Nghymru allu defnyddio'r iaith Gymraeg, sydd yn rhoi mwy o opsiynau a rhyddid i bawb i ddefnyddio a siarad Cymraeg bryd bynnag y dymunant.

Dirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau trwy godi pryderon a godwyd gan y comisiynydd yn adran adroddiad perfformiad yr adroddiad blynyddol. Mae'r comisiynydd yn nodi:

'Ers datganoli, rydym wedi gweld nifer o bolisïau a strategaethau oedd â’r bwriad o gryfhau prosesau cynllunio addysg Gymraeg. Serch hynny, ychydig o gynnydd gwirioneddol rydym wedi ei weld dros yr ugain mlynedd diwethaf'.

Rydyn ni'n gwybod, yn anffodus, fod hyn wedi cael ei gefnogi gan ganlyniadau y cyfrifiad diwethaf a ddangosodd bod dim ond 17.8 y cant o’r boblogaeth yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, y lefel isaf erioed a gofnododd, sy'n dangos y realiti, y diffyg cynnydd sydd wedi ei wneud i hybu siaradwyr Cymraeg ers datganoli, ac, yn amlwg, bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng ers 2001. Datgelodd y cyfrifiad hefyd anghyfartaleddau a gwahaniaethau daearyddol, gyda thyfiant addawol mewn defnydd o'r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd, Y Fro a Rhondda, dim progress ym Merthyr, ond gostyngiad mewn yr awdurdodau lleol eraill.

Mae'r comisiynydd felly yn gywir i nodi’r diffyg cynnydd hwn a'r diffygion sydd yn bresennol yn y drefn gynllunio iaith bresennol. Rydyn ni'n gwybod nad targedau yw’r broblem. Y broblem yw'r cynnydd tuag at gyflawni’r nodau hyn, sydd yn methu. Er fy mod i'n gwerthfawrogi maint y dasg hon a’r amser a gymerir yn aml i gynyddu niferoedd o ran unrhyw iaith, bu gan Lywodraeth Cymru lawer o amser i wneud hynny hyd at hyn.

Fodd bynnag, hoffwn ailadrodd fy ngobaith o gwmpas nodau'r Ddeddf addysg a'r iaith Gymraeg, fel nodwyd hefyd yn adroddiad blynyddol y comisiynydd, ac rydyn ni wedi siarad am hyn sawl gwaith yn y Siambr hon, a’i allu i gynyddu cyfleoedd i’n pobl ifanc i ddysgu'r iaith o oedran ifanc.

Rydyn ni'n gwybod mai un mater a amlygwyd gan y Ddeddf addysg Cymraeg roedd wedi'i godi o fewn y cyfrifiad yn barod yw'r ffordd y casglwyd gwybodaeth am allu pobl i siarad Cymraeg drwy'r system hunan-asesu. Mae'r dystiolaeth dŷn ni wedi ei gweld o'r cyfrifiad wedi dangos bod llawer, os nad y mwyafrif, o siaradwyr Cymraeg, yn tueddu i ostwng eu gallu, gan roi ystadegau isel. Felly, mae'n bleser bod gennym y fframwaith cyffredinol Ewropeaidd ar gyfer sgiliau ieithyddol ar waith i strwythuro lefelau gallu a dealltwriaeth.

Ond un elfen o'r CEFR yr wyf wedi bod yn bryderus amdani yng nghyd-destun cyrraedd ‘Cymraeg 2050’ ac rwy’n hapus i godi gyda'r Ysgrifennydd Cabinet heddiw yw'r ddealltwriaeth y tu allan i leoliadau addysgol. Er fy mod i'n deall bod dealltwriaeth o’r strwythur o fewn lleoliadau addysgol yng nghyd-destun y Ddeddf addysg Gymraeg yn addawol, wrth i ddysgwyr symud i fod yn oedolion, neu hyd yn oed dysgwyr oedolion eu hunain, efallai na fyddan nhw'n rhyngweithio â'r fframwaith yn rheolaidd ac felly byddant yn llai ymwybodol o'r system graddio neu lle maen nhw'n eistedd arno fe. Felly, mae angen inni sicrhau bod y rhai sydd y tu allan i leoliadau addysg yn ymwybodol o'r fframwaith cyffredin a’i system raddio, er mwyn i'r data am gynnydd yr iaith adlewyrchu, mor gywir â phosibl, ble rydym yn y blynyddoedd i ddod ar waith y Ddeddf ei hun.

Un pwynt arall dwi am godi heddiw, Dirprwy Lywydd, yw'r gwaith Cynnig Cymraeg ac ymdrechion i annog y sector preifat. Rwyf yn aml wedi codi fy mhryderon ynghylch cynnydd yr iaith yn y sector preifat a'r ysgogiadau i fusnesau a sefydliadau gymryd rhan wrth gefnogi'r gwaith tuag at dargedau'r Llywodraeth. Yr hyn na allwn fforddio ei wneud yw cael dull dau gyflymder rhwng ymgorffori'r iaith yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

A'r peth olaf—. Sori, roeddwn i'n mynd i sôn am bwynt arall, ond does gen i ddim amser ar ôl. Diolch.

I'm pleased to take part in this debate today and note the ongoing work of the Welsh Language Commissioner in raising awareness of the use of the language and its importance, as well as increasing opportunities for people in Wales to be able to use the language, which provides more options and freedom for people to use and speak Welsh whenever they wish to do so.

Dirprwy Lywydd, I'd like to start by raising concerns that were raised by the commissioner in the performance report section of the annual report. The commissioner notes that:

'Since devolution, we have seen a number of policies and strategies that were intended to strengthen the planning processes of Welsh-medium education. Nevertheless, we have seen little real progress over the last twenty years'.

We know, unfortunately, that this is backed by the results of the last census, which showed that only 17.8 per cent of the population in Wales can speak Welsh, which is the lowest level ever, and shows the reality of the lack of progress that has been made to promote the speaking of Welsh since devolution, and, evidently, that the number of Welsh speakers has been reducing since 2001. The census also showed anomalies and geographical variations, with promising growth of the use of the Welsh language in Cardiff, in the Vale and in Rhondda, no progress in Merthyr, but a reduction in the other local authorities.

The commissioner, therefore, is right to note this lack of progress and the deficiencies in the current language planning system. We know that targets aren't the problem. The problem is the progress towards achieving these targets. Even though I do appreciate the scale of the task and the time that it takes to increase the number of speakers of any language, the Government has had a lot of time to do that.

However, I'd like to reiterate my hope in terms of the aims of the Welsh language and education Act, as also noted in the annual report, and we've spoken about this several times in this Chamber, and its ability to increase opportunities for young people to learn the language from a young age.

We know that one issue made evident by the Act that was already raised in the census is how information was gathered about the ability of people to speak Welsh through the self-assessment process. The evidence from the census shows that many, if not the majority of, Welsh speakers tend to underestimate their ability, providing lower statistics. So, it's important that we have the European general framework for language skills now to structure language ability and understanding.

One element of the CEFR that I've been concerned about in the context of reaching 'Cymraeg 2050', and something I want to raise with the Cabinet Secretary today, is the understanding outside educational settings. Even though I do understand that understanding of CEFR within education settings in the context of the Welsh education Act is promising, as learners become adults, or learn as adults themselves, they might not interact with the framework regularly and so they might be less aware of the grading system or where they sit in that framework. So, we need to ensure that those who are outwith educational settings are aware of CEFR and the grading system in order for the data on language progress to reflect as accurately as possible where we are in the years to come and the impact of the Act itself.

Another point that I want to raise today, Dirprwy Lywydd, is work on the Cynnig Cymraeg and efforts to encourage the private sector. I have often raised concerns about progress on the Welsh language in the private sector and the incentives for businesses and organisations to take part in supporting work towards the Government's targets. What we can't afford to do is to have a two-speed process in terms of incorporating the language in the public and private sectors.

And finally—. Sorry, I was going to address another point, but I don't have any time left. Thank you.

18:30

Dwi'n croesawu'r cyfle i fod yn trafod yr adroddiad hwn. Mi ges i gyfle i graffu ar y comisiynydd yr wythnos diwethaf, ac roeddwn i'n falch o glywed yr ymateb a oedd ganddi hi. Dwi'n meddwl eich bod chi'n berffaith iawn, Ysgrifennydd Cabinet, o ran y rôl bwysig sydd gan Gomisiynydd y Gymraeg, a'n holl gomisiynwyr ni, o ran herio a dwyn i gyfrif, nid dim ond Llywodraeth Cymru ond ein gwaith craffu ni hefyd. Mae o'n bwysig eithriadol o ran datblygiad polisi hefyd. Dwi'n croesawu'r ffaith bod Comisiynydd y Gymraeg hefyd wedi cyhoeddi maniffesto efo gofynion pendant i bob plaid sydd yn gobeithio bod yma, neu sydd yn cynrychioli yma yn y Senedd, a dwi'n gobeithio'n fawr y bydd bob plaid yn ymgysylltu â swyddfa'r comisiynydd.

Rhai o'r cwestiynau sydd gen i ydy cwestiynau a oedd yn codi gan y comisiynydd. Nawr, efallai nad ydych chi wedi cael cyfle i'w hystyried nhw, oherwydd yn amlwg mae'n adroddiad cynhwysfawr, ond dim ond o ran yr ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi o ran yr adnoddau sydd ar gael i Gomisiynydd y Gymraeg, a'r graddau y mae hynny efallai wedi effeithio ar allu'r comisiynydd i ymwneud efo'i holl ystod o ddyletswyddau. Yn amlwg, mae'n gyllideb sydd wedi'i chyfyngu oherwydd yr heriau dros y blynyddoedd diwethaf yma, ond hoffwn i ddeall pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael o ran rhai o'r pethau sydd ddim wedi bod yn bosib i'r comisiynydd fynd â nhw rhagddynt, neu efallai pa effaith y mae'r gyllideb wedi ei chael o ran galluogi mwy o waith hyrwyddo—rhywbeth sydd mor eithriadol o bwysig, wrth gwrs, o ran rôl y comisiynydd.

Mi ydych chi eisoes wedi cyfeirio at ddementia yn benodol a 'Mwy na geiriau'. Dwi'n meddwl yn sicr fod yr her honno'n un teg, fel rydych chi'n cydnabod, gan y comisiynydd. Mae'n siomedig gweld y diffyg cynnydd ers 2018 ac mae'n rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus amdano fo. A dwi'n falch o weld bod ailsefydlu'r is-grŵp wedi digwydd, ond dwi ddim ond eisiau gweld sut ydyn ni'n mynd i sicrhau ein bod ni ddim yn colli'r un momentwm eto, oherwydd, yn amlwg, mae hi'n elfen allweddol.

Roeddwn i hefyd eisiau codi efo chi, os ydyn ni'n mynd efo'r ddogfen sy'n cyd-fynd efo'r adroddiad blynyddol, sef y gofrestr o gamau gorfodi, mi ges i gyfle i groesholi'r comisiynydd o ran pam fod yna leihad, ac ati, felly, dwi wedi cael y cyfle hwnnw. Ond yr hyn sydd gen i ddiddordeb ynddo ydy sut ydych chi, fel Llywodraeth, yn mynd drwy'r camau gorfodi hynny. Oherwydd pan ydyn ni wedi cael trafodaethau o'r blaen o ran hynny, yn aml rydyn ni'n gweld nifer o awdurdodau lleol yn dod i fyny dro ar ôl tro, a'r un rhai ydyn nhw'n aml iawn, ac weithiau am yr un rhesymau. A dwi'n nodi yn yr adroddiad y tro yma fod yna un enghraifft o ran adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg sydd yn bryderus dros ben. Beth roeddwn i eisiau ei ddeall oedd sut ydych chi, fel Llywodraeth, yn edrych ar y camau gorfodi hynny, a pha drafodaethau ydych chi'n eu cael efo llywodraethau lleol i sicrhau eu bod nhw'n deall pwysigrwydd hyn. Oherwydd, yn amlwg, mae honno'n ddeialog bendant dwi'n siŵr eich bod chi'n ei chael, ond pam ydyn ni wedyn yn gweld yr un awdurdodau lleol yn methu â chydymffurfio?

Dwi'n meddwl ei bod hi'n eithaf trawiadol gweld faint o wasanaethau hamdden sy'n cael eu crybwyll o ran camau gorfodi y tro yma. Wel, rydyn ni'n gwybod am yr heriau sydd wedi bod i gyllidebau llywodraeth leol, a bod nifer o awdurdodau lleol rŵan wedi rhoi'r gwasanaeth hwnnw i gwmnïau eraill. Felly, sut ydyn ni'n sicrhau, pan fydd yna gytundebau fel yna, eu bod nhw hefyd yn deall y pwysigrwydd? Byddwch chi'n gwybod yn iawn, rydyn ni wedi sôn ynglŷn â phwysigrwydd cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r dosbarth. Wel, mae gwasanaethau hamdden yn hollol, hollol amlwg fel elfen hollbwysig o hynny, ond eto rydyn ni'n gweld bod hyn yn broblem, ac mewn mwy nag un awdurdod lleol. Felly, dwi eisiau gweld beth rydych chi'n bwriadu ei wneud, fel ein bod ni wedyn ddim yn gorfod gwastraffu amser Comisiynydd y Gymraeg a'i hadnoddau o ran ymchwilio i hyn, a'n bod ni'n gweld gwelliant yn y gwasanaethau hynny.

Yn benodol hefyd, mi oedd yna un cyfeiriad at Academi Seren a'r methiant i gynnig cwrs yn y Gymraeg. Roeddwn i eisiau gofyn pa waith ydych chi wedi'i wneud i sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd gan y comisiynydd yn mynd rhagddynt.

Felly, dwi'n mawr obeithio y byddwch chi'n cymryd y sylwadau yn y ffordd rydw i wedi eu bwriadu nhw, yn adeiladol, ond dwi'n sicr yn meddwl bod lot o'r camau gorfodi'n bethau y dylid eu hosgoi, yn enwedig pan fydd hi'n dod at awdurdodau lleol, a hefyd wrth gwrs efo Llywodraeth Cymru.

I welcome the opportunity to discuss this report. I had an opportunity to scrutinise the commissioner last week, and I was pleased to hear her response. I think you're entirely right, Cabinet Secretary, in terms of the important role that the Welsh Language Commissioner and all of our commissioners have in terms of challenging and holding to account, not just the Welsh Government, but also in terms of our scrutiny too. And it's very important in terms of policy development too. I welcome the fact that the Welsh Language Commissioner has published a manifesto with clear asks for all parties hoping to be here, or who already represent people in this Senedd, and I very much hope that every party will engage with the commissioner's office on that.

Some of the questions that I have are questions that were raised by the commissioner. Perhaps you haven't had an opportunity to reflect on them, because obviously it's a comprehensive report, but just in terms of the consideration you've given to the resources available to the Welsh Language Commissioner, and the extent to which that perhaps has had an impact on the commissioner's ability to deal with the full range of responsibilities that she has. Clearly, it's a budget that has reduced because of the challenges in recent years, but I would like to know what discussions you have had in terms of some of the things that haven't been possible for the commissioner to take forward, or perhaps what impact the budget might have had in terms of enabling more promotional work, which is such a crucially important part, of course, of the commissioner's role.

You've already referred to dementia specifically and 'More than just words'. I do think that that challenge is a fair one from the commissioner, as you've recognised. It's disappointing to see the lack of progress since 2018, and that is something that we should be concerned about. And I'm pleased to see that the re-establishment of the sub-group has happened, but I just want to understand how we can avoid losing momentum again in future, because clearly this is a key element.

I also wanted to raise with you, if we look at the document that sits alongside the annual report, which is the register of enforcement activities, I had the chance to question the commissioner as to why there had been a reduction, and so on, so I've had that opportunity. But what I'm interested in is how you, as a Government, go through those enforcement activities. Because when we have had discussions in the past on that, we often see many local authorities' names coming up time and time again, and they're often the same names, and sometimes for the same reasons. And I note in this year's report that there is one example from the Vale of Glamorgan  Council's social services department that is very concerning indeed. What I wanted to understand was how you, as a Government, look at those enforcement activities, and what discussions you are having with local authorities to ensure that they understand the importance of this. Because clearly that is a dialogue that I'm sure you are having, but then why are we seeing the same local authorities failing to comply time and again?

I think it was quite striking to see how many leisure services are named in terms of enforcement activities this time. Well, we know the challenges facing local authorities in terms of their budgets, and that many local authorities have now handed those services to other companies. So, how do we ensure, when such contracts are drawn up, that they too understand the importance of the Welsh language? As you will know, we've mentioned the importance of the ability to use the Welsh language outside the classroom. Well, leisure services are a prominent and crucial part of that, but again we see that this is a problem, and it's a problem in more than one local authority. So, I want to know what you intend to do, so that we don't have to waste the Welsh Language Commissioner's time and resources conducting investigations into this, and that we see improvements in those services. 

Specifically, there was one reference to the Seren Academy and the failure to provide a Welsh language course. I wanted to ask what work you've done to ensure that all the enforcement activities noted by the commissioner are being taken forward.

So, I very much hope that you're taking these comments in the way that I intended them, as constructive comments, but I do think that many of the enforcement activities should be avoided, particularly when it comes to local authorities, and also the Welsh Government.

18:35

Yn ystod y misoedd diwethaf, dwi wedi darllen llawer am rôl y comisiynydd iaith, ddim i gyd yn bositif, ond hoffwn gymryd y cyfle yma i ddatgan fy nghefnogaeth i’r comisiynydd ac i'w swyddfa a'r rôl bwysig y mae hi'n gwneud i sicrhau dyfodol y Gymraeg.

Nid gwaith hawdd yw cynnal iaith leiafrifol yng nghysgod iaith gryfaf y byd. Nid peth newydd na hawdd yw datrys lefel isel o ddefnydd yr iaith Gymraeg. Dwi’n gweld hynny gyda fy mhlant fy hun. Er mai'r Gymraeg yw iaith yr aelwyd a bod y ddau riant yn siarad Cymraeg, mae'r plant yn dueddol o siarad Saesneg gyda'i gilydd. Nid peth newydd yw hynny, yn anffodus.

Ond, mae yna arwyddion o obaith: ffrindiau fy merch pum mlwydd oed sy’n dod o gartrefi di-Gymraeg yn troi yn rhugl yn hynod y gyflym, mewn cyfnod byr iawn; tadau ifanc fel Matt o swydd Gaint a Paddy o Essex yn ymdrechu i ddysgu’r Gymraeg. Mae Paddy yn cael pedair gwers Gymraeg yr wythnos er mwyn dod yn rhugl yn yr iaith i allu siarad y Gymraeg gyda'i feibion. Mae Matt yn browd iawn o siarad Cymraeg. Roedd Matt a fi yn cael cyrri un diwrnod—mae llun ohonoch chi yn y curry house yma, gyda llaw, Ysgrifennydd y Cabinet—a dyma'r Prif Weinidog yn cerdded mewn, a dyma Matt o swydd Gaint yn dweud yn Gymraeg wrth y Prif Weinidog, 'Rwy’n dysgu'r Gymraeg gan fy mod eisiau i’r iaith Gymraeg barhau.' Dywedodd e hynny, ac roedd Eluned Morgan wrth ei bodd yn clywed hynny gan Matt o swydd Gaint. Felly, mae yna arwyddion o obaith.

Nawr, dwi wedi darllen beirniadaeth, fe wnaethoch chi sôn am hyn, fod yr adroddiad blynyddol yn dangos gostyngiad yn nifer yr ymchwiliadau yn dilyn cwynion. Byddwn i’n synnu pe bai hynny ddim yn digwydd, a byddwn i yn feirniadol pe byddai hynny ddim yn digwydd, pe byddai sefydliadau ddim yn gwella, pe byddai'r comisiynydd iaith ddim yn dylanwadu ar sefydliadau a bod sefydliadau ddim yn newid eu polisïau ac yn newid y ffordd y maen nhw'n delio â'r Gymraeg. Felly, dwi ddim yn gweld hynny fel beirniadaeth; dwi'n gobeithio bod hyn wedi digwydd oherwydd newid diwylliant yn sgil dylanwad y comisiynydd iaith a'i swyddfa.

Mae’n newyddion da hefyd fod 130 o sefydliadau nawr angen cydymffurfio â'r safonau, a 160 wedi ymrwymo i ddarparu mwy o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi derbyn cydnabyddiaeth swyddogol gan y comisiynydd. Newyddion da pellach yw lansiad y dashfwrdd data rhyngweithiol ar ganlyniadau cyfrifiad 2021, sy'n hanfodol er mwyn gwneud polisïau iaith a chael mynediad hawdd at ddata.

Dwi'n cytuno â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn i'n falch o weld blaenoriaethau'r comisiynydd iaith ar gyfer y pum mlynedd nesaf mewn ardaloedd allweddol i'r Gymraeg: iechyd a gofal, mae mor bwysig bod iechyd a gofal trwy gyfrwng y Gymraeg pan fydd eu hangen; plant a phobl ifanc, mae addysg yn hanfodol i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg; ac roeddwn i hefyd mor falch i weld bod y gweithle yn cael lle amlwg. Rydyn ni'n ei weld yn y fan hyn, onid ydyn? Dwi'n cofio pan ddechreuodd Tom Giffard, doeddet ti ddim yn gwneud areithiau trwy'r Gymraeg pan ddechreuaist ti fan hyn, ond rwyt nawr yn gwneud areithiau. Rydyn ni'n gweld hyn yn ein swyddfeydd ni. Mae modd normaleiddio'r iaith yn y gweithle, efallai jest drwy ddefnyddio brawddeg syml fel, 'Wyt ti eisiau te neu goffi?' Mae'r Gymraeg yn cael ei normaleiddio mewn swyddfeydd, mewn gweithleoedd fel hyn.

I fi, mae’r adroddiad yma yn dangos cynnydd. Mae’n rhoi gobaith. Oes, mae yna heriau difrifol i'r Gymraeg. Mae yna lawer o waith eto i’w wneud i sicrhau bod y Gymraeg, ein heniaith fwyn ni, yn ffynnu ac nid yn unig yn goroesi, ond mae'r comisiynydd iaith yn rhan o'r ffyniant yna. Diolch yn fawr.

In recent months, I've read a lot about the role of the commissioner, not all positive, but I'd like to take this opportunity to declare my support for the commissioner and her office and the important role that she plays in ensuring the future of the Welsh language.

It's not an easy task to maintain a minority language in the shadow of the world's strongest language. It's not a new thing or an easy thing to solve the low use of the Welsh language. I see that with my own children. Even though Welsh is the language of our household and both parents speak Welsh, the children tend to speak English to each other. That's not a new thing, unfortunately.

But, there are signs of hope: the friends of my five-year-old daughter who come from non-Welsh-speaking homes becoming fluent in a very short period of time; young fathers like Matt from Kent and Paddy from Essex striving to learn the Welsh language. Paddy has four Welsh lessons a week to become fluent to speak Welsh to his sons. Matt is very proud of speaking Welsh. Matt and I were having a curry one day—there's a photo of you in this curry house, by the way, Cabinet Secretary—and the First Minister walked in, and Matt from Kent said in Welsh to the First Minister, 'I'm learning Welsh because I want the Welsh language to continue.' He said that, and Eluned Morgan was delighted to hear that from Matt from Kent. So, there are signs of hope.

Now, I've read some criticism, and you mentioned this, that the annual report shows a reduction in the number of investigations following complaints. Well, I'd be surprised if that wasn't happening, and I'd be critical if that was not happening, if organisations were not improving, if the commissioner wasn't influencing organisations and that organisations weren't changing their policies and the way that they deal with the Welsh language. So, I don't see that as a criticism; I hope that this has happened because of a cultural shift following the influence of the Welsh Language Commissioner and her office.

It's good news also that 130 organisations now need to comply with standards, and 160 have committed to providing more Welsh language services and have received official recognition from the commissioner. Further good news is the launch of an interactive data dashboard on the results of the 2021 census, which is vital in order to make language policies and for easy access to the data.

I agree with you, Cabinet Secretary, I was pleased to see the priorities of the commissioner for the next five years in critical areas for the language: health and care, it's so important that health and care through the medium of Welsh are available when needed; children and young people, education is vital to ensure the future of the language; and I was also pleased to see that the workforce has a prominent place. We see it here, don't we? I remember when Tom Giffard started, you weren't making speeches in Welsh when you started here, and now you make speeches in Welsh. We see it in our offices. It's possible to normalise the language in the workplace, maybe just by the use of a simple sentence like, 'Would you like tea or coffee?' The Welsh language is being normalised in offices, in workplaces such as this one.

To me, this report shows progress. It offers hope. Yes, there are major challenges for the Welsh language. There is a lot of work still to be done to ensure that the Welsh language, our ancient fair language, prospers and doesn't just survive, but the language commissioner is a part of that prosperity. Thank you.

18:40

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.

I call on the Cabinet Secretary to reply to the debate.

Diolch yn fawr i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl, Dirprwy Lywydd, ac am yr ysbryd adeiladol ac optimistig hefyd rŷn ni wedi'i glywed yng nghyfraniadau pob Aelod. Fel roedd Tom Giffard yn ei ddweud, mae'r adroddiad yn dangos rhai pethau heriol i ni, ond hefyd mae'n dangos beth mae'r comisiynydd yn ei wneud i drial ein helpu ni i wynebu'r problemau sydd yna.

Ym mis Mai diwethaf, tu hwnt i gyfnod yr adroddiad, fe wnaeth y comisiynydd gyhoeddi ei hadroddiad hi ar ddefnydd yr iaith Gymraeg gan bobl ifanc tu fas i'r ysgol. Fe wnaeth hi hynny yn Eisteddfod yr Urdd i ddangos pan ŷn ni'n rhoi cyfleon i bobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg mewn meysydd fel chwaraeon, y celfyddydau ac yn y blaen, maen nhw yn defnyddio'r Gymraeg. Mae jest yn bwysig i ni ddatblygu mwy o gyfleon iddyn nhw wneud hynny.

Heledd, diolch yn fawr am ysbryd eich cyfraniad. Mae maniffesto'r comisiynydd yn ddogfen bwysig. Dwi wedi cael cyfle i siarad â hi yn gyffredinol am y syniadau yn y maniffesto. Mae hi'n rhoi darn o waith i'r Senedd newydd, i fwrw ymlaen â'r gwaith rydyn ni wedi ei wneud yn ystod cyfnod y Senedd hon, lle rydyn ni wedi ymestyn nifer y cyrff sy'n dod o dan y safonau. Mae hi eisiau i'r Senedd ganolbwyntio, yn y tymor nesaf, ar y cyrff newydd mae hi eisiau eu gweld yn dod o dan y safonau.

Roedd Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd, yn codi nifer o gwestiynau pwysig am beth rŷn ni'n ei wneud gyda'r wybodaeth mae'r comisiynydd yn ei chyhoeddi am y camau gorfodi mae hi'n eu cymryd. Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith, dwi yn cael cyngor oddi wrth ein swyddogion ni sy'n tynnu fy sylw at beth mae'r comisiynydd yn ei ddweud, os oes patrymau yn codi o'r camau gorfodi mae hi'n eu defnyddio, ac mae cyfleon gennym ni i fynd ar ôl rhai pethau fel yna. Cwrddais i'r mis diwethaf gydag aelodau cabinet yr awdurdodau lleol—pob awdurdod lleol—sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, i siarad â nhw. Roedd yr agenda'n eithaf llawn o bethau i siarad amdanyn nhw gyda nhw, ond mae cyfleoedd fel yna yn rhai o'r patrymau sydd gyda ni i fynd ar ôl y wybodaeth mae'r comisiynydd yn ei chyhoeddi.

Roedd Heledd Fychan yn codi un pwynt diddorol, Dirprwy Lywydd, a dwi wedi gweld y patrwm newydd fy hunan yn y wybodaeth mae'r comisiynydd yn ei rhoi i ni, sef y canolfannau hamdden. Gan ei bod hi wedi dweud yn ei hadroddiad am bwysigrwydd rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn y maes chwarae, pan fydd awdurdodau lleol yn rhoi'r cyfrifoldeb i roi gwasanaethau yn y maes hamdden, mae'n bwysig iddyn nhw drosglwyddo'r cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn glir yn yr un modd.

Jest i ddweud un gair arall am 'Mwy na geiriau'. Dwi'n gwybod bod Jeremy Miles yn cymryd o ddifrif popeth rŷn ni'n ei wneud yn 'Mwy na geiriau' yn y maes iechyd a gofal. Mae wedi sefydlu grŵp newydd i'n cynghori ni ac i gael pobl at ei gilydd i rannu profiadau ac i wneud mwy i roi 'Mwy na geiriau' ar waith i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau iechyd a gofal ac sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg.

Rhys ab Owen, diolch yn fawr am eich cyfraniad. Dwi'n cytuno â chi, wrth gwrs, am bwysigrwydd gwaith y comisiynydd. Wrth gwrs, mae heriau yn dal i fod yna, ond pan mae'r cwynion yn mynd i lawr, dwi'n cytuno bod hwn yn dangos bod pethau'n gwella yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni, ac mae hynny'n newyddion da. 

Pan soniodd Rhys ab Owen am bwysigrwydd y gweithlu, mae hwnna'n hollbwysig, dwi'n meddwl. Un o'r pethau sydd drwy adroddiad y comisiynydd i gyd yw pwysigrwydd defnydd o'r Gymraeg. Fel roedd Tom Giffard yn ei ddweud, does dim pwynt cael pob polisi yn y lle gorau os nad yw pobl ddim yn defnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael ar ôl y polisïau yna. Dyna pam, yn y gwaith rŷn ni'n ei wneud, rŷn ni eisiau cael 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ond rŷn ni eisiau dyblu defnydd yr iaith hefyd, ac mae gwaith y comisiynydd yn hollol hanfodol i hwnna.

Thank you to everyone who's contributed to the debate, Dirprwy Lywydd, and for the constructive and optimistic contributions that we have heard from all Members. As Tom Giffard said, the report does identify some challenging issues for us, but it also demonstrates what the commissioner is doing to try and assist us to overcome some of those challenges.

In May of last year, which is beyond the scope of this report, the commissioner published her report on the use of the Welsh language among young people outside of school. She did that at the Urdd Eisteddfod in order to demonstrate that, when we provide opportunities for young people to use the Welsh language in areas such as sports, the arts and so on, they do so. It's just important that we develop more of those opportunities for them to do that.

Heledd, thank you very much for the spirit in which you made your contribution. The commissioner's manifesto is an important document. I've had an opportunity to discuss it with her in general terms in relation to the ideas in that manifesto. She is giving the next Senedd a piece of work to progress with what we've been doing during this Senedd term, where we've extended the number of bodies captured by the standards. She wants the Senedd to focus, in the next term, on those new bodies that she wants to see becoming subject to standards.

Dirprwy Lywydd, Heledd Fychan also raised a number of important questions as to what we do with the information published by the commissioner in terms of the enforcement activities that she undertakes. As Minister with responsibility for the Welsh language, I do receive advice from my officials that draws my attention to what the commissioner has said, if patterns do emerge from the enforcement activity of the commissioner, and there are opportunities for us to pursue some of those issues. I met during this last month with local authority cabinet members with responsibility for the Welsh language from all of the local authorities, to talk to them. I had a very full agenda that I wanted to discuss with them, but those opportunities are available to us, and we can pursue the information published by the commissioner.

Heledd Fychan raised an interesting point, Dirprwy Lywydd, and I have identified this new pattern myself in the information provided by the commissioner, and that is in relation to leisure centres. As she said in her report that it's important to provide more opportunities for young people to use the Welsh language as they play or play sport, when local authorities pass the responsibility for leisure activities to outside organisations, it's important that they also transfer that responsibility for the Welsh language clearly in that same manner. 

Just to say a few words on 'More than just words'. I know that Jeremy Miles takes seriously everything that we're doing in 'More than just words' in the health and care sector. He has established a new group to advise us and to draw people together to share their experiences and to do more to implement 'More than just words' for people who use our health and care services and want to do so through the medium of Welsh.

Rhys ab Owen, thank you very much for your contribution. I agree with you, of course, on the importance of the commissioner's work. Of course, challenges remain, but when complaint numbers are going down, I agree with you that that demonstrates that things are improving in our public services, and that is good news. 

When Rhys ab Owen mentioned the importance of the workforce, that is crucially important, in my opinion. One of the things that runs through the commissioner's report is the importance of the use of the Welsh language. Tom Giffard made the point that there is no point having policies in place if people don't actually use the services available to them once those policies have been put in place. That is why, in the work that we are doing, we do want to see 1 million Welsh speakers by 2050, but we also want to double the use of the Welsh language. The commissioner's work is crucial to that.

18:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr. 

That brings today's proceedings to a close. Thank you very much.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:46.

The meeting ended at 18:46.