Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/10/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, a bydd y cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds. 

Gofal Cymdeithasol

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghenion pobl y mae angen gofal cymdeithasol arnynt? OQ63264

Rŷn ni am i bawb yng Nghymru gael y gofal cywir, yn agos at adref—gofal sy'n cael ei gynnig gydag urddas a thosturi. Ond er mwyn rhoi gofal, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gofalwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae pob gweithiwr gofal yng Nghymru bellach yn ennill o leiaf y cyflog byw, a gyda dy gymorth di, Jane, rŷn ni wedi buddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol eleni i leihau oedi mewn ysbytai a helpu mwy o bobl i wella gartre'n gyflymach. Rŷn ni hefyd wedi rhoi arian i gefnogi'r fyddin enfawr o ofalwyr di-dâl—y gwir arwyr yn ein teuluoedd a'n cymunedau.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. 

Gallwn weld, fodd bynnag, er gwaethaf y mentrau hynny, bod ein system iechyd a gofal wir o dan bwysau annioddefol, ac y bydd ein GIG yn parhau i fod ar dorbwynt heb fuddsoddiad brys. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, fel rydym ni i gyd wedi ei glywed, bob dydd, nid yw mwy na 1,300 o bobl sy'n barod i adael yr ysbyty yn gallu gwneud hynny. Mae hynny'n costio bron i £0.75 miliwn bob nos i'r GIG, ond mae'r gost wirioneddol i bobl a chymunedau. Yn ein cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y penwythnos hwn—rwy'n deall bod cynhadledd arall yn cael ei chynnal y penwythnos hwn hefyd—fe wnaethom ni gyflwyno cynllun beiddgar a gonest i drawsnewid gofal cymdeithasol, i fuddsoddi mewn atal, annibyniaeth a chymorth cymunedol, gan wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn. Rydym ni wedi bod yn eglur ac yn onest, os yw hynny'n golygu codi ceiniog ar dreth incwm i'w ariannu, yna mae angen i ni wneud hynny, ac mae angen i ni fod yn eglur gyda phleidleiswyr mai dyna sydd ei angen, oherwydd mae Cymru angen uchelgais a gweithredu. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, o ystyried y lefel uchel o angen, sut ydych chi'n bwriadu ariannu'r diwygio a'r buddsoddiad sydd y mae angen mor frys amdanyn nhw ar ein system ofal? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Ac rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn bod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio a bod y gofynion yn mynd i gynyddu yn hytrach na lleihau. A dyna pam mae atal yn gwbl hanfodol, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n osgoi'r derbyniadau hynny i'r ysbyty, os yw'n bosibl. A dyna pam wnaeth yr arian ychwanegol y gwnaethoch chi ein cefnogi ag ef y llynedd—£30 miliwn yn ychwanegol—gryfhau'r cymorth rhyddhau hwnnw y gallem ni ei adeiladu, ac adeiladu'r capasiti cymunedol hwnnw. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau allweddol i ni ganolbwyntio arno yw'r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i mewn i'r gofod atal hwnnw. Mae gwario arian ar addasiadau i gartrefi, ail-alluogi, cymorth cymunedol rydym ni'n meddwl yn fecanwaith craffach, mwy tosturiol, mwy cynaliadwy i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Bydd pwysau ar y system. Rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni wedi gweld gostyngiad o 15 y cant i gyfanswm oedi o ran llwybrau gofal yn y flwyddyn ddiwethaf yn dangos ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad cywir. Ond yr arian ychwanegol hwnnw y gwnaethoch chi helpu i'w roi ar y bwrdd sydd wedi helpu gyda gostwng y ffigurau hynny.

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud ei hymrwymiad yn eglur yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i gynorthwyo pobl sydd angen gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r gofalwyr di-dâl sydd weithiau'n gwneud y gofal hwnnw'n bosibl. Un o'r prif ffyrdd y mae hyn i fod i ddigwydd yw trwy asesiadau o anghenion gofalwyr, a all helpu i nodi pa gymorth sydd ei angen ar ofalwr i barhau yn ei swyddogaeth. Fodd bynnag, mae llawer o ofalwyr di-dâl ledled Cymru yn dweud wrthym ni nad ydyn nhw erioed wedi cael cynnig asesiad, sy'n golygu y gallai eu llesiant eu hunain ac ansawdd y gofal y gallan nhw ei ddarparu fod mewn perygl. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod pob gofalwr di-dâl ledled Cymru yn cael ei nodi ac yn cael cynnig asesiad priodol o anghenion, ac yn cael y cymorth iawn sydd ei angen arnyn nhw fel y gallan nhw fod yn ofalwr gwych i'w hanwyliaid a'u teuluoedd?

Diolch yn fawr iawn. Fel rhywun sy'n treulio'r rhan fwyaf o benwythnosau yn cael dim ond blas ar sut beth yw bod yn ofalwr, rwy'n ymwybodol o'r ymdrechion arwrol sy'n cael eu gwneud gan bobl ar hyd a lled ein gwlad, yn broffesiynol ac yn ddi-dâl, sy'n cynorthwyo ein pobl fwyaf agored i niwed. Rydych chi'n gwbl gywir—mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cynorthwyo nid yn unig y bobl sydd angen gofal, ond ein bod ni'n cynorthwyo'r gofalwyr, yn enwedig y gofalwyr di-dâl hynny. Rwy'n gwybod bod Julie Morgan wedi bod yn hyrwyddwr gofalwyr di-dâl ers degawdau, a hoffwn ddiolch iddi am y gwaith hwnnw. Mae'n bwysig eu bod nhw'n cael cynnal eu hasesiadau hefyd. Yn amlwg, mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd ein bod ni'n canolbwyntio ar anghenion asesu'r cleifion eu hunain, y bobl sydd angen gofal, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cynorthwyo, ac, yn amlwg, bod pobl hefyd yn manteisio ar y cymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw gan Lywodraeth y DU.

13:35

Na.

Fe wnaethoch chi golli eich cyfle yn y fan yna, Mabon ap Gwynfor. [Chwerthin.]

Cwestiwn 2, Altaf Hussain.

Gordewdra ymysg Plant

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymysg plant? OQ63267

Mae helpu pob plentyn yng Nghymru i dyfu i fyny'n iach ac yn egnïol yn genhadaeth genedlaethol i Lafur Cymru. Mae gan ein cynllun cyflenwi newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach' bwyslais pendant ar blant, o feichiogrwydd i oedran ysgol. Rydym ni'n gwybod bod amddifadedd yn ysgogiad allweddol, ac rydym ni'n targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Rydym ni wedi lansio'r rhaglen newydd Pwysau Iach Plant yng Nghymru ym Merthyr, Ynys Môn a Chaerdydd, gan helpu teuluoedd i fwyta'n dda a chadw'n egnïol, a'n bwriad yw cyflwyno'r rhaglen hon ledled y wlad.

Diolch, Prif Weinidog. Yn anffodus, fe allem ni gael cenhedlaeth o blant yng Nghymru a fydd yn cael eu goroesi gan eu rhieni. Mae chwarter plant Cymru yn rhy drwm neu'n ordew erbyn y byddan nhw'n dechrau'r ysgol, ac amcangyfrifir y gallai hyn gostio bron i £0.5 biliwn i'r GIG erbyn 2050. Mae'n rhaid i ni weithredu nawr. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais gyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes a chefais fy syfrdanu gan y cyflwyniad gan Diabetes Cymru. Bu ffrwydrad mewn diabetes mewn plentyndod, sy'n cyd-fynd â'r cynnydd i ordewdra mewn plentyndod yn ystod y degawdau diwethaf. Mae 84 y cant o bobl dan 18 oed sy'n byw gyda diabetes yn cael eu dosbarthu'n feddygol ordew. Rydym ni'n gwybod bod diabetes math 2 mewn plant ac oedolion ifanc yn ffurf fwy ymosodol o'r cyflwr hwn. Os nad yw'n cael ei drin, gall diabetes math 2 arwain at niwed parhaol yn y corff oherwydd y croniad o siwgr yn y gwaed. Oni bai ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth o'r perygl o ordewdra a diabetes, byddwn yn gweld llawer gormod o bobl ifanc yn byw gydag effeithiau hirdymor, sy'n cyfyngu ar fywyd diabetes math 2. Prif Weinidog, â'r peryglon amlwg i iechyd hirdymor, sut mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 2 yn rhan o'i strategaeth gordewdra plant? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n eithriadol o ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu plant sydd dros bwysau. Mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod nhw a'u rhieni yn ymwybodol o'r heriau a fydd yn eu hwynebu, o bosibl, trwy gydol eu bywydau, oni bai y rhoddir sylw iddo'n gynnar iawn. Mae hynny'n cynnwys, yn amlwg, ymwybyddiaeth o ddiabetes math 2. Y newyddion da yw bod lefelau pwysau iach mewn plant, diolch byth, yn uwch nawr nag yr oedden nhw yn ystod y pandemig. Felly, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, ond, mawredd, mae gennym ni ffordd bell i fynd. Dangosodd y rhaglen mesur plant fod 73 y cant o'n plant ar bwysau iach, sy'n awgrymu nad yw'r lleill. Felly, byddwch yn ymwybodol bod gennym ni gynllun cyflenwi 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Cyhoeddwyd hwnnw fis diwethaf. Mae ganddo bwyslais pendant ar gynorthwyo babanod, plant a phobl ifanc, a mynd i'r afael â rhai o'r problemau yr ydych chi wedi eu rhannu â ni heddiw.

Yng Nghasnewydd, Prif Weinidog, rwyf i wedi trefnu digwyddiadau Casnewydd Actif, i geisio cael poblogaeth fwy gorfforol egnïol, ac rwy'n bwriadu parhau â'r ymdrech honno. Rydym ni'n gwybod bod llawer o arwyr, gwirfoddolwyr mewn chwaraeon llawr gwlad, sy'n cynnig cyfleoedd pwysig iawn i'n pobl ifanc ddod yn fwy egnïol. Rydym ni'n gwybod y gall ysgolion wneud llawer i gael plant i gerdded, beicio a sgwtio i'r ysgol, yn ogystal â bod yn egnïol o fewn cwricwlwm yr ysgol, sy'n bwysig iawn. O ran y blynyddoedd cynharaf, mae maniffesto Blynyddoedd Cynnar Cymru yn sôn am ymgorffori gweithgarwch corfforol ar y camau cynharach, gan gynnwys cyn-ysgol, ac ymgorffori'r gweithgarwch hwnnw mewn deddfwriaeth sy'n ymdrin â'r blynyddoedd cynnar. Felly, tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi roi ymrwymiad i edrych ar sefydliadau sydd ag arbenigedd a phrofiad i'w cynnig, i wneud yn siŵr ein bod ni wir yn gallu dod o hyd i'r ffyrdd hyn o gael poblogaeth ifanc fwy egnïol yma yng Nghymru.

13:40

Diolch yn fawr iawn, John, a diolch am arwain drwy esiampl. Rwy'n gwybod eich bod chi'n ffanatig ffitrwydd ac rydych chi wedi arwain y ffordd i lawer o bobl ifanc ei hefelychu. Ond nid yw'n ymwneud ag ymarfer corff yn unig; mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod pobl yn bwyta'n iach hefyd. Dyna pam mae'n rhaid i chi ddechrau ymhell cyn yr ysgol, a bwydo ar y fron yw lle'r ydych chi'n dechrau. Mae gennym ni gynllun gweithredu bwydo ar y fron, sy'n ei gychwyn, yna mae gennym ni Cychwyn Iach, sy'n rhaglen sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth y DU. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yn manteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd i gael mynediad at hynny. Rydym ni'n ymwybodol o ymdrechion arwrol pobl yn ein cymunedau. Maen nhw'n deall bod angen mynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n falch iawn bod llawer o'r sefydliadau hynny yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r cynllun 'Pwysau Iach: Cymru Iach', ac maen nhw bellach yn cymryd rhan yn y gwaith o gyflenwi'r cynllun hwnnw. Mae gennym ni gynllun nawr—gadewch i ni gadw at y cynllun, gadewch i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gyflawni a gwneud yn siŵr mai'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn y dyfodol yw plant iach yn ein cymunedau nad ydyn nhw'n wynebu'r mathau o anawsterau, o ran iechyd, y bydden nhw'n eu hwynebu fel arall.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau economaidd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod economi Cymru wir mewn trafferthion. Mae diweithdra wedi cynyddu traean yng Nghymru ers i Lywodraeth Lafur y DU gael ei hethol yn ôl ym mis Gorffennaf 2024. Ceir 12,000 yn llai o swyddi, ac mae pecynnau cyflog yma yw'r isaf ym Mhrydain o hyd. Mae'n amlwg iawn bod y cynnydd i yswiriant gwladol, ynghyd â'r agenda gwrth-ffermio, gwrth-fusnes a'r amgylchedd ledled y DU, bellach yn gwneud difrod bellach. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd, ac y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w cymryd, i roi hwb i economi Cymru?

Diolch yn fawr iawn. Gadewch i ni fod yn eglur bod llawer o bobl yn dioddef ar hyn o bryd. Maen nhw mewn trafferthion gyda'r argyfwng costau byw, a'r ffordd o ddod allan o hynny yw gwneud yn siŵr y gallwn ni ddarparu swyddi o ansawdd iddyn nhw. Rwy'n falch o weld bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is ym mis Mawrth o'i chymharu â chyfartaledd y DU, a'n bod ni yn Llywodraeth Cymru wedi cefnogi 43,000 o swyddi ledled Cymru yn y tymor Senedd hwn. Y ffigurau yr ydych chi'n eu dyfynnu heddiw, mae hyd yn oed y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gwrthod y ffigurau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod cyfleoedd i ni adeiladu economi gryfach, yn enwedig nawr bod gennym ni'r gronfa twf leol, â £547 miliwn yn cael ei gyfrannu at economi Cymru i'n helpu i gyflawni'r union beth yr ydych chi'n ei awgrymu: swyddi o ansawdd, hyfforddiant, cyfleoedd, a modd i bobl fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw y maen nhw'n cael trafferth ag ef.

Mae 12,000 yn llai o swyddi a degau o filiynau yn llai o fuddsoddiad yn ein cymunedau nag a addawyd gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Rwy'n sylwi na wnaethoch chi sôn am y farchnad dai yn eich ymateb yn y fan yna, oherwydd un peth yr ydym ni i gyd yn ei wybod ac yn ei ddeall yw bod adeiladu tai yn ddangosydd economaidd allweddol hefyd. Yn ôl ffigurau eich Llywodraeth eich hun—nid rhai neb arall yw'r rhain, rhai eich Llywodraeth chi ydyn nhw, felly allwch chi ddim dadlau â'r rhain—yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, crëwyd 4,600 o gartrefi newydd yn unig yng Nghymru. Yr unig dro y mae wedi bod yn is na hynny oedd yng nghanol pandemig COVID. Mae'r nifer honno yn llai na hanner y nifer a adeiladwyd yng Nghymru pan oedd y Ceidwadwyr yn gyfrifol am dai yng Nghymru ddiwethaf yn ôl ym 1997, pan adeiladwyd dros 10,000 o gartrefi newydd mewn gwirionedd. Mae'r galw am dai a'r diffyg cyflenwad o dan oruchwyliaeth Llafur wedi arwain at brisiau eiddo uwch, ac mae'r chwalfa yn y farchnad dai wedi bod yn gwbl drychinebus i bobl, yn enwedig y rhai sy'n dyheu am fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. A ydych chi'n derbyn bod y ffigurau hynny'n ofnadwy, bod Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu eu targedau tai eu hunain ac wedi gadael gormod o bobl heb y cyfle realistig o gael yr allweddi i'w drws ffrynt eu hunain?

Mae tai yn hollbwysig pan ddaw i bobl yn gallu teimlo'n gyfforddus, i fod â sail y gallan nhw gymryd rhan mewn cymunedau a chymdeithasau ohoni. Ond, ar ben hynny, mae'n fecanwaith da ar gyfer twf economaidd, a dyna pam, lle mae gennym ni'r rheolaeth absoliwt dros hyn, yr ydym ni'n falch iawn o'r ffaith bod gennym ni'r cyfraddau cyflenwi blynyddol uchaf ers 2008. Felly, rydym ni wedi cael 9,000 o gartrefi cymdeithasol newydd. Pan fyddwn ni'n sôn am y sector preifat, ers 2021, adeiladwyd hyd at 16,000 o gartrefi sector preifat. Ond, mewn gwirionedd, mae'r ffigurau yn debygol o fod yn llawer uwch na hynny, oherwydd y tangyfrif gan arolygwyr cymeradwy preifat. Felly, mae yna gyfleoedd. Rydym ni'n cyflawni, yn enwedig lle mae gennym ni'r rheolaeth absoliwt yn ein dwylo. Rydym ni'n falch iawn, a dweud y gwir, o'r ffaith ein bod ni'n gwthio'n galed i sicrhau'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd hynny erbyn diwedd tymor hwn y Senedd.

13:45

Rydych chi'n methu eich targedau eich hun. Mae'r ffigurau'n siarad drostyn nhw eu hunain; maen nhw wedi'u cyhoeddi ar eich gwefan chi, nid gwefan neb arall. Ac mae'n amlwg iawn mai dim ond hanner y cartrefi newydd a oedd yn cael eu cyflenwi gan y Llywodraeth Geidwadol, y tro diwethaf yr oeddem ni'n gyfrifol am dai, sy'n cael eu cyflenwi gennych chi.

Nawr, Prif Weinidog, heddiw rydych chi wedi cyhoeddi eich cyllideb ddrafft fel Llywodraeth Cymru. Rydych chi wedi cydnabod dro ar ôl tro, yn y Senedd hon yng Nghymru ac mewn mannau eraill, fod y rhifyddeg seneddol yn golygu bod gennych chi her wirioneddol i gael cytundeb ar honno a'i chael drwy'r Senedd hon, ac rydych chi wedi rhybuddio am y canlyniadau gwleidyddol enbyd a allai ddod i'r amlwg pe na bai'r gyllideb honno yn cael ei chytuno. Nawr, er ein bod ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yn anghytuno'n sylfaenol â llawer o bethau y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu gwneud, rwyf i wedi ysgrifennu atoch chi y bore yma, gydag ewyllys da, i ddweud, er na allwn ni gefnogi dull mwy o'r un fath o ymdrin â'ch cynlluniau gwario, ein bod ni'n agored i gael rhai trafodaethau cyllideb gyda chi, os ydych chi'n agored i drafod rhai o'n blaenoriaethau allweddol. A wnewch chi gytuno i gyfarfod â mi er mwyn trafod y materion hyn?

Wel, diolch yn fawr iawn. Edrychwch, ein bwriad, fel Llywodraeth Lafur, yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n bwysig i'r bobl yng Nghymru—rydym ni'n sôn am swyddi, rydym ni'n sôn am wneud yn siŵr y gall ein plant gael eu haddysgu, bod y biniau'n cael eu casglu, bod y gwasanaeth iechyd yn weithredol ac yn ymateb i anghenion pobl. O ran gwasanaethau cyhoeddus, rwy'n agored iawn i sgwrs. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi ysgrifennu ataf i heddiw. Rwy'n credu bod hyn yn dangos gwleidyddiaeth aeddfed. Mae hyn yn dangos y ffaith mai'r hyn sydd ei angen arnom yw pasio cyllideb. Yn amlwg nid wyf i'n mynd i negodi ar lawr y Senedd. Ond mae ein drws ar agor, a gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru a pheidio â gweld sefyllfa lle mae ein sector cyhoeddus yn cael ei chwalu.

Diolch, Llywydd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn 10 oed eleni, Deddf sy'n gosod saith nod llesiant y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio tuag atyn nhw. Yn anffodus, mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu ein bod ni'n symud yn llawer rhy araf ar y gorau, ond ar lawer o fesurau ein bod ni'n mynd am yn ôl. Dyma beth mae prif ystadegydd Cymru yn ei ddweud yn adroddiad 'Llesiant Cymru 2025':

'Roedd pedair carreg filltir yn dangos dirywiad ac nid oedd chwech arall yn dangos fawr ddim newid, os o gwbl.' 

Rŵan, mae Llafur wedi cael 26 mlynedd i greu argraff go iawn a newid bywydau pobl Cymru er gwell, ond efo'r adroddiad yma'n adlewyrchu mor wael ar ganlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, diwylliannol ac eraill, pa fesurau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gywiro hynny?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu y dylem ni fod yn falch iawn o'r ffaith mai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yw'r unig Ddeddf yn y byd sydd wedi cymryd nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig a'u troi'n gyfraith. Mae'n bwysig ein bod ni'n cyflawni a'n bod ni'n ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol bob tro y byddwn ni'n llunio polisi. Dim ond i roi enghraifft i chi o'r math o beth yr wyf i'n credu y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ymwneud ag ef—mae'n gwestiwn sydd wedi codi yn gynharach—mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn bwyd a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran bwyd. A dyna pam rwy'n falch iawn ein bod ni'n gweithio ar bethau fel y cynllun cyflenwi 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a bod gennym ni bethau fel y dull lleoli a hyrwyddo prisiau, sy'n wahanol iawn, a bydd hwnnw'n cael ei gyflwyno'n fuan, ac mae'n ymateb yn uniongyrchol i rai o bryderon comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol.

13:50

Fe wnaf i ddyfynnu o'r adroddiad eto, os caf:

'Mae'r farchnad lafur wedi gwanhau gyda cholledion swyddi wedi'i ganoli mewn diwydiannau sector preifat sydd â chyflogau cymharol isel.'

'Mae perfformiad economaidd Cymru yn parhau i fod yn wannach na’r Deyrnas Unedig drwyddi draw o ran cynnyrch economaidd (gwerth ychwanegol gros) ac incwm aelwydydd'.

Mae darlun economaidd Cymru, mae gen i ofn, yn parhau i fod yn un o ddiffyg twf, ac rydym ni wedi cael ffigurau pellach a gyhoeddwyd heddiw sy'n cadarnhau hynny. Ac ydy, mae Cymru yn dal i ddioddef, heb os, o ganlyniad i gyni cyllidol y Torïaid, ond nid ydym ni wedi clywed eto beth mae'r Prif Weinidog yn gofyn amdano gan Brif Weinidog y DU a'r Canghellor o gyllideb yr hydref, er enghraifft, a sut y gallai hynny helpu. Ond tra bod y Prif Weinidog yn petruso, mae gen i ofn, ac yn methu â sefyll yn gadarn dros fuddiannau pobl Cymru, mae Plaid Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Am yr union ffaith ein bod ni'n credu ym mhotensial Cymru yr ydym ni eisiau sefydlu asiantaeth ddatblygu i Gymru sy'n canolbwyntio ar greu swyddi hynod fedrus â chyflogau da, ar gefnogi mentrau bach a chanolig eu maint, ar ddenu buddsoddiad. A fyddai'n well gan y Prif Weinidog weld economi Cymru yn dioddef wrth law mympwyon cylchol San Steffan, neu a wnaiff hi gefnogi uchelgeisiau Plaid?

Na, rydym ni'n brysur yn llywodraethu, nid yn dangos ein hunain, a'r gwir amdani yw bod 43,000 o swyddi wedi cael eu creu ledled Cymru a'u cefnogi yn nhymor hwn y Senedd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw cynnydd o 30 y cant i swyddi o fewnfuddsoddiad, rydym ni wedi gweld dros 58,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y warant i bobl ifanc ac rydym ni wedi gweld twf cynhyrchiant llafur yng Nghymru yn cynyddu llawer mwy nag y mae yn Lloegr.

Ond mae ffigyrau  gyhoeddwyd heddiw yn dangos nad yw beth bynnag y mae'r Prif Weinidog yn honni sy'n weithredu ar ran y Llywodraeth hon, yn gweithio. Ac yn ôl at yr adroddiad eto, mae'n dweud,

'Mae heriau economaidd yn parhau i effeithio ar y grwpiau mwyaf difreintiedig.'

Mae hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder arbennig. Mae'n tynnu sylw at gynnydd mawr i dlodi tanwydd. Mae'n nodi

'colli swyddi sy'n talu'n wael, yn amlwg. Mae'r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi ehangu, ac mae’r disgwyliad oes iach cyffredinol yng Nghymru bellach ar ei lefel isaf a gofnodwyd.'

Mae'r rhain yn eiriau eithaf damniol ar etifeddiaeth Llafur. Nawr, rwy'n eglur ynghylch yr hyn y byddwn i'n ei wneud: ehangu cynnig gofal plant Cymru i 20 awr i'r rhai rhwng naw mis a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn, gan ei wneud y cynnig mwyaf hael yn y DU, a byddai'n lleddfu'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd ac yn sicrhau, wrth gwrs, y cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn. Byddai cynllun peilot taliad plant uniongyrchol Cynnal Plaid Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yn uniongyrchol ac yn lleihau'r bwlch rhwng y rhai mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig. Felly, y tro hwn, i deuluoedd ac i blant, rwy'n gofyn eto, beth yw cynllun y Prif Weinidog?

Wel, mae'r ffigurau hynny a ddyfynnwyd gennych chi yn annibynadwy, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. A gadewch i mi ei gwneud hi'n eglur mai'r hyn sydd wedi digwydd yr wythnos hon yw ein bod ni wedi cael cyhoeddiad o £547 miliwn mewn cronfeydd twf lleol yn dod i Gymru. Bydd hynny'n ein helpu ni i fynd i'r afael â rhai o'r materion yr ydych chi'n siarad amdanyn nhw: tyfu economi Cymru, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd rhanbarthol, cynorthwyo pobl i gael gwaith, helpu pobl i ennill sgiliau a chymwysterau. Rydym ni wedi cael 22 y cant o gyllideb gyfan Llywodraeth y DU ar gyfer hyn. Ac o ran gofal plant, rydym ni eisoes yn gwario £150 miliwn ar ofal plant. Diolch byth, fe wnaeth Jane Dodds ein helpu ni gyda gwario hyd yn oed mwy yn y gyllideb ddiwethaf, cyllideb na wnaethoch chi ei chefnogi. Felly, byddai llai o ofal plant wedi bod yng Nghymru pe bai i fyny i chi o ran yr hyn y gallem ni ei gynnig eleni. Rydym ni o ddifrif am hyn, ond pan fyddwn ni'n cyflwyno ac yn datblygu rhaglenni llywodraeth, rydym ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gyflawnadwy, bod y sgiliau ar gael, bod y bobl ar gael er mwyn cyflawni'r rheini. A dyna pam mae gennym ni ddull cynhwysfawr o ddatblygu sgiliau o ran gofal plant.

Mynediad at Ddeintyddion y GIG

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ddeintyddion y GIG ledled Gorllewin De Cymru? OQ63246

Rydym ni wedi gweld cynnydd gwirioneddol. Diolch i'n diwygiadau deintyddol, mae bron i 70,000 o gleifion newydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi derbyn triniaeth lawn ers 2022 ac mae 27,000 arall wedi cael gofal brys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Ledled Cymru, mae dros 445,000 o bobl newydd bellach wedi cael mynediad deintyddol y GIG ers dechrau ein diwygiadau, sy'n brawf bod diwygio deintyddol y GIG Llafur Cymru yn gweithio.

Nid wyf i'n credu y byddai llawer o'm hetholwyr yng Ngorllewin De Cymru yn rhannu'r farn hyfryd honno ar y darlun o ddeintyddiaeth GIG ym Mae Abertawe yn arbennig, ond ledled Cymru, mae'n debyg, Prif Weinidog. Oherwydd mae etholwyr i mi yng Nghilâ, yn Abertawe, ond, yn onest, gallen nhw fod yn unrhyw le, wedi cysylltu â mi am eu practis deintyddol lleol yn mynd yn breifat, yn gwrthod contract y GIG, gan adael etholwyr yn cael eu gorfodi rhwng dewis pa un a ydyn nhw'n parhau i dalu am y gofal yr oedden nhw'n ei dderbyn yn flaenorol ar y GIG yn yr un practis, neu a oes rhaid iddyn nhw gymryd eu siawns ar gofrestru gyda deintydd GIG yn y lle cyntaf. Mae hynny'n cael ei wneud ychydig yn waeth, byddwn i'n dweud, gan rai o'r newidiadau a gyhoeddwyd gennych chi'n ddiweddar, oherwydd, yn gwbl onest, mae pobl bellach yn gorfod talu efallai tua £30 y mis i gael archwiliad deintyddol bob chwe mis, neu, os gallan nhw gael mynediad at ddeintydd GIG, efallai cael un bob rhyw ddwy flynedd. Yr hyn yr ydych chi wedi ei greu yw system ddwy haen mewn deintyddiaeth, yn seiliedig ar eich gallu i dalu amdano. Mae'n swnio fel rhywbeth y byddai Reform yn ei gyflwyno, yn gwbl onest, Prif Weinidog. A allwch chi edrych eto ar y newidiadau yr ydych chi wedi eu gwneud yng nghontract deintyddol y GIG fel ei fod yn fwy deniadol i ddeintyddion, oherwydd mae gormod ar hyn o bryd yn ei wrthod ac yn gorfodi eu cleifion i fynd yn breifat?

13:55

Diolch yn fawr iawn. Mae saith deg mil o bobl, fel y dywedais i, wedi derbyn triniaeth ddeintyddol yn eich rhanbarth chi o ganlyniad i'n diwygiadau deintyddol. Mae'n drueni nad ydych chi wedi clywed ganddyn nhw, ond gallaf eich sicrhau chi y bydden nhw'n hapus gyda'r newidiadau yr ydym ni wedi eu cyflwyno. A dweud y gwir, ym Mae Abertawe, rydym ni wedi gweld y nifer isaf o derfyniadau contract yng Nghymru, ac felly mae'n bwysig i ni gydnabod y bu trafodaethau maith gyda'r proffesiwn deintyddol. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw dilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal o ran pa mor aml y mae angen i chi weld eich deintydd. Rydym ni'n dilyn canllawiau proffesiynol yn hytrach na chadw at system sydd wedi bod yno erioed, nad oedd, a bod yn onest, o reidrwydd yn gwasanaethu'r claf nac yn wir, y deintydd.

Mae prinder deintyddion GIG yn yr ardal. Rwy'n gwybod hynny o'r nifer o bobl sy'n cysylltu â mi sydd angen deintydd GIG. Collwyd deintyddion Ewropeaidd yn dilyn Brexit, gan gynnwys yn y practis deintyddol yr wyf i'n ei ddefnyddio. Mae angen cytuno ar gontract sy'n gweithio i ddeintyddion. Mae'r rhai sydd eisiau gadael y GIG wedi mynd i bractis preifat amser maith yn ôl. Dydyn ni ddim eisiau colli'r rhai sydd eisiau aros gyda'r GIG. Ceir pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd sy'n ansicr a fyddan nhw'n gallu aros gyda'u deintydd presennol, ac ymhlith gweithwyr deintyddol proffesiynol nad oes ganddyn nhw fanylion o hyd am eu contract yn y dyfodol. A all y Prif Weinidog ddweud pryd y bydd manylion llawn y contract newydd yn cael eu cyhoeddi, fel y gall cleifion a'r proffesiwn fod â hyder yn y broses bontio ac y bydd pobl yn gwybod y gallan nhw aros gyda'r un deintydd?

Diolch yn fawr iawn, Mike. Rydych chi'n gwbl gywir i dynnu sylw at effaith Brexit ar rai yn y gweithlu deintyddol. Fe wnes innau hefyd golli fy neintydd o ddwyrain Ewrop ar ôl Brexit. Nawr, mae ein contract deintyddol newydd yng Nghymru, y diwygiad mawr cyntaf ers dau ddegawd, yn sicrhau bod atal a pharhad yn ganolog iddo, ochr yn ochr â thâl tecach i ddeintyddion. Byddan nhw'n cael cynnydd i'w ffi gyffredinol, o £135 yr awr i £150 yr awr. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y system yn gweithio i'r ddau. Dim ond i dawelu eich meddwl chi a rhai eich etholwyr, bydd y newidiadau yn sicrhau bod cleifion yn gallu aros gyda'u practis deintyddol ac, fel y dywedais i, gwneud gwell cynnig tâl i ddeintyddion.

Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddenedigol

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol? OQ63260

Mae pob marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol yn drasiedi sy'n aros gyda theuluoedd am oes, ac fel Llywodraeth rydym ni'n benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i atal hynny rhag digwydd. Dyna pam rydym ni wedi cyflwyno datganiad ansawdd newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, gan osod safonau eglur a chyson ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru. Drwy ein rhaglen cymorth diogelwch, rydym ni'n gwella systemau rhybudd cynnar, gofal genedigaeth cynamserol a'r ffordd y cynhelir adolygiadau clinigol, fel bod pob mam a babi yn cael y gofal mwyaf diogel posibl.

Diolch am yr ateb. 

Heddiw yw diwrnod olaf ond un Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Mae'n gyfle i ddod â phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan golled beichiogrwydd neu golled babi ynghyd fel cymuned. Mae'n newyddion da bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd tystysgrifau colli babanod dwyieithog ar gael yng Nghymru ar gyfer babanod sydd wedi cael eu colli cyn 24 wythnos. Fel y mae'r rhieni yn ei ddweud, mae'n rhaid i ni dorri'r tawelwch. Ers llawer rhy hir, mae colli babanod a phrofedigaeth wedi bod yn rhywbeth nad yw'n cael ei drafod yng Nghymru. Yn rhan o'r Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, mae grŵp o rieni mewn profedigaeth o bob cwr o Gymru wedi cyhoeddi deiseb heddiw. Maen nhw'n galw am dargedau i achub bywydau babanod ac am ofal profedigaeth ac iechyd meddwl cyson i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan golli babanod. Mae'n wych gweld safonau gofal profedigaeth yn cael eu creu yng Nghymru. Ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol Cymru yn cael ei weithredu ym mhob lleoliad gofal iechyd, gan sicrhau y gall pob rhiant mewn profedigaeth gael mynediad at y gofal y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu?

14:00

Diolch yn fawr iawn, Julie. Rydym ni'n gwybod bod pob achos o golli babi yn gwbl dorcalonnus i'r teulu, ac mae'n rhywbeth nad yw byth yn mynd i ffwrdd—byth yn mynd i ffwrdd. Roedd yn dorcalonnus clywed am George a Henry ym Merthyr heddiw ar y radio, a sut mae eu mam yn dal i fod mewn poen llwyr o ganlyniad i'r golled honno.

Rwy'n falch o weld bod cyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru wedi gostwng 17 y cant, felly rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, ond, mawredd, mae gennym ni fwy i'w wneud, ac ni fyddwn ni byth yn rhoi'r gorau i wthio tuag at ganlyniadau mwy eglur a gwell. Rwy'n falch iawn bod gennym ni'r tystysgrifau ar gael bellach os yw beichiogrwydd yn dod i ben cyn 24 wythnos, ac mae hynny'n ddewisol ac mae am ddim, a diolch i'r Gweinidog am fwrw ymlaen â hwnnw. A dim ond fel ein bod ni'n eglur, pan fydd y cynllun yn dechrau, bydd pobl yn gallu cael tystysgrifau ar gyfer colledion yn y gorffennol hefyd, yn union fel y maen nhw wedi ei wneud yn Lloegr.

Dim ond o ran y llwybrau profedigaeth, rydym ni wedi dyrannu cyllid i Sands ar gyfer y llwybrau profedigaeth cenedlaethol. Rydym ni'n disgwyl iddyn nhw gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn a'u lansio erbyn mis Mawrth 2026. Bydd y llwybrau yn cefnogi mynediad at gwnsela, yn cynnig cyfleoedd creu atgofion, llyfrynnau gwybodaeth ac adnoddau ar-lein wedi'u teilwra i wahanol fathau o golled, ac atgyfeiriadau at elusennau a sefydliadau cymorth ar gyfer gofal parhaus. Felly, mae hynny i gyd wrthi'n cael ei gyflawni.

Yr wythnos hon, wrth gwrs, yw Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Mae hyn yn codi ymwybyddiaeth o golled beichiogrwydd a cholled babanod, gan ddarparu cefnogaeth i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan hyn. Yn anffodus, fodd bynnag, rydym ni'n parhau i glywed y straeon ofnadwy am farw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol yn ein byrddau iechyd: 1,000 o farwolaethau babanod y gellid eu hatal yng Nghymru, cyfradd marwolaethau babanod o 3.6 marwolaeth fesul 1,000 o enedigaethau yn 2023, a 111 o farw-enedigaethau a 72 o farwolaethau newyddenedigol.

Dyma un o'r profiadau mwyaf gofidus a phoenus y gall unrhyw un ei wynebu, ac rwy'n siarad o brofiad personol am hyn, ond yn fwy felly y ffaith y gellid bod wedi atal y 1,000 o farwolaethau babanod hyn y gellid eu hatal. Rwy'n cydnabod, Sarah, y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud ar y tystysgrifau colli babanod, ac mae hynny'n wych, ac fe wnaf i siarad â chi'n dawel am ba mor bell yn ôl mae hyn yn mynd. Mae'n gam mor hyfryd. Ond mae'r ffaith yn parhau bod yn rhaid i'r marwolaethau hyn allu gael eu hatal yn y dyfodol. Pan fyddwch chi'n ystyried y ffigurau yn Lloegr, mae gennym ni gyfradd marw-enedigaethau uwch na Lloegr. Rydym ni angen gwybod pam. Felly, a fyddech chi, Prif Weinidog, yn cytuno â mi bod angen llawer mwy o weithredu ar gyfer esgor diogel o ran cynifer â phosibl o'n hesgoriadau babanod yng Nghymru, a hefyd ein bod ni angen mwy o weithredu a chefnogaeth ar y pryd i'r rhieni hynny sy'n dioddef y golled drasig hon? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae gennym ni ddatganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac mae hwnnw'n gosod safonau ar gyfer gofal diogel a theg. Mae pob marwolaeth amenedigol yng Nghymru bellach yn cael ei hadolygu drwy ddull adolygu marwolaethau amenedigol MBRRACE-UK. Yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw gwneud yn siŵr bod pob gwers yn cael ei dysgu, a bod hynny'n arwain at ofal mwy diogel yn y dyfodol. Rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig. Rwy'n credu mai dyna y mae rhieni eisiau ei glywed. Dydyn nhw ddim eisiau i unrhyw un arall fynd trwy'r hyn y maen nhw'n mynd drwyddo.

A dim ond o ran y gwahaniaeth ystadegol, fy nealltwriaeth i yw bod yr anwadalrwydd oherwydd y niferoedd bach o ran Cymru a Lloegr yn golygu ei bod hi'n anodd iawn gwneud y cymariaethau hynny, felly hoffwn nodi hynny'n eglur. Edrychwch, mae wedi gostwng 17 y cant ers 2010. Dydyn ni ddim yn hunanfodlon. Mae gennym ni fwy i'w wneud, ac rydym ni'n ei wneud.

Prif Weinidog, fel rŷch chi'n gwybod, yn ystod y pedair blynedd diwethaf dwi wedi colli dau nai bach, Steffan, yn awr oed, ac Emrys, yn wyth diwrnod oed, a hoffwn i gydnabod yn gyhoeddus fan hyn, Prif Weinidog, y cysur roeddech chi wedi ei roi i ni—eich geiriau chi o gysur i ni fel teulu, a oedd yn golygu llawer iawn i ni yn ystod y cyfnod anodd yna. Fel dywedoch chi, mae'r trasiedi a'r teimlad o golled yn parhau, a phob cam ym mywyd y plentyn rŷch chi'n teimlo'r golled unwaith eto; dylai Steffan wedi dechrau'r ysgol gynradd eleni.

Hoffwn i dalu teyrnged i Heather Mackerness, etholwraig sydd wedi bod yn e-bostio fi lawer iawn, a gollodd blentyn 38 mlynedd yn ôl, nôl yn 1987. Mae hi wedi bod yn brwydro am gydnabyddiaeth i'w babi hi. Roedd hi'n hapus iawn i gael yr ateb i'm cwestiwn ysgrifenedig oddi wrth Sarah Murphy wythnos diwethaf y bydd tystysgrif nawr. Dau gwestiwn oedd gyda hi. A fyddai fe'n retrospective? Ac roeddwn i'n gallu ateb hynny: bydd. Yr ail gwestiwn roedd hi moyn gwybod oedd: pryd? A doeddwn i ddim wedi gallu cael yr ateb yna oddi wrth y Gweinidog. Mae'r etholwraig wedi aros 38 o flynyddoedd nawr. A allech chi roi unrhyw syniad i Heather ac i nifer o deuluoedd eraill pryd y gallan nhw gael cydnabyddiaeth swyddogol i'w plant nhw? Diolch yn fawr.

14:05

Diolch yn fawr. Mae'r golled, dwi'n gwybod, yn annioddefol o boenus nid yn unig i'r rhieni ond hefyd i'r teulu ehangach. Mae'n cyffwrdd â chymaint o bobl. Felly, dwi'n falch hefyd bod y person o'ch etholaeth chi yn mynd i gael cysur o gael y dystysgrif yma i ddangos eu bod nhw wedi cael sefyllfa lle roedd eu plentyn nhw wedi byw, fod yna rywbeth pendant wedi digwydd yn eu bywydau nhw. Maen nhw eisiau gwybod hynny. Maen nhw eisiau'r gydnabyddiaeth hynny. A dwi'n gwybod bod Sarah Murphy yn awyddus iawn i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gyflymed â phosibl.

Oriau Agor Tafarndai

5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith ei newidiadau arfaethedig i oriau agor tafarndai ar Gymru? OQ63268

Mae gan Gymru sector lletygarwch balch a bywiog. O'n tafarndai i'n lleoliadau cerddoriaeth fyw, maen nhw'n ganolog i'n cymunedau a'n diwylliant. Dyna pam mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn cefnogi'r sector gyda £78 miliwn mewn rhyddhad ardrethi eleni, a buddsoddiad hirdymor drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Rydym ni eisiau i'r lleoedd hyn ffynnu, ond byddai unrhyw ymgais i ddiystyru pwerau cynllunio lleol yn gam difrifol yn ôl i ddatganoli.

Wel, rwy'n cytuno â hynny. Rwy'n cytuno bod tafarndai yn lleoedd gwych i bobl gyfarfod a chymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd, ond mae lefelau gormodol o alcohol, rydym ni'n gwybod, yn arwain at ganlyniadau difrifol iawn. Dangosodd un astudiaeth fod dynion saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn rhan o drais ar sail rhywedd os ydyn nhw'n gaeth i alcohol neu gyffuriau, ac mae'n amlwg bod cysylltiadau eglur â chanser a chlefyd yr afu, sydd i gyd yn codi'r galw am wasanaethau'r GIG. Felly, hoffwn ddeall sut y gallai'r amnest hwn ar lawer o'r amodau trwyddedu hyn—yr ystyrir eu bod nhw'n amrywiadau lleiaf—danseilio awydd trigolion i sicrhau nad yw tafarndai yn lle sy'n tarfu ar eu cwsg ac yn achosi troseddu. Sut gall Cymru gynnal dull iechyd cyhoeddus i osgoi yfed gormod o alcohol?

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddechrau trwy ddweud bod llawer ohonom ni'n hoffi llymaid o bryd i'w gilydd, ac nid yw'n beth drwg. Yn sicr, nid ydych chi'n mynd i fy nghael i'n awgrymu ein bod ni'n lleihau'r cyfleoedd i bobl fwynhau eu hunain, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni nodi hynny. Ond rwy'n cydnabod—ac mae'n bwysig cydnabod—bod alcohol yn cael dylanwad niweidiol ar sawl agwedd ar ein cymunedau a'n bywydau, yn enwedig o ran trais yn erbyn menywod a merched. Mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n edrych ar strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod Llafur Cymru. Mae'n ei gwneud yn eglur yn honno bod yn rhaid i atal a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau fynd law yn llaw.

Dim ond o ran y darn penodol hwn, y newidiadau arfaethedig i oriau agor tafarndai, Llywodraeth y DU sy'n lansio'r alwad bedair wythnos hon am dystiolaeth i wrando ar safbwyntiau rhanddeiliaid, a byddwn yn annog pobl i gymryd rhan yn yr alwad honno am dystiolaeth. Ond byddwn ni'n gwneud yn siŵr nad yw'n tanseilio ein pwerau yma yng Nghymru.

14:10

Prif Weinidog, rwy'n rhannu eich brwdfrydedd am fwynhau llymaid neu ddau o bryd i'w gilydd, ac rwy'n croesawu'n gyffredinol y newidiadau arfaethedig i gyfreithiau trwyddedu—cam cadarnhaol ymlaen i helpu ein sector lletygarwch—ond y gwir yw bod angen gwneud llawer mwy. Oherwydd, ledled Cymru, tafarndai a busnesau lletygarwch bach yw calon ein cymunedau, gan ddarparu swyddi, cefnogi cyflenwyr lleol a chadw ein cymunedau yn fyw. Eto, ledled y DU, mae wyth tafarn yn cau bob wythnos ac mae dros 200 eisoes wedi cau eu drysau yn ystod hanner cyntaf 2025. Mae costau cynyddol yn parlysu'r busnesau hyn—costau sydd wedi cael eu gwaethygu gan Lafur yn San Steffan trwy gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr uwch, a Llafur ym Mae Caerdydd, â'r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain Fawr. Felly, Prif Weinidog, pa gamau pellach wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynorthwyo lleoliadau annibynnol bach, ac a ydych chi'n cytuno â ni, y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai diddymu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach yn gyfan gwbl yn rhoi'r achubiaeth i'n sector lletygarwch y mae angen ar gymaint o frys? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn, a bydd yn ddiddorol gweld o le'r ydych chi'n mynd i ddod o hyd i'r arian hwnnw. Os ydych chi'n hapus i ymgysylltu, gadewch i ni sgwrsio. Ond gadewch i mi ddweud wrthych ein bod ni, eisoes, yn darparu £78 miliwn mewn rhyddhad ardrethi i dafarndai ar hyn o bryd. Nawr, mae'n anodd gweld, os ydym ni eisiau parhau â hynny, o le mae'r arian hwnnw yn mynd i ddod, ond byddwn yn hapus i drafod sut y gallai hynny weithio yn y dyfodol.

Ond y peth allweddol i mi yw ein bod ni'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod canol ein trefi yn lleoedd bywiog. Roedd yn wych bod yng nghanol Hwlffordd yr wythnos diwethaf, yn agor canol y dref, yn ceisio cael pobl yn ôl i ganol ein trefi, fel eu bod nhw'n lleoedd lle gall cymunedau ddod at ei gilydd.

Gwasanaethau Cyhoeddus

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posib i'r boblogaeth y maent yn eu gwasanaethu? OQ63266

Llywodraeth leol wir yw asgwrn cefn ein gwasanaethau cyhoeddus ac mae Llafur Cymru yn cefnogi cynghorau i gyflawni ar gyfer eu cymunedau. Eleni, rydym ni wedi darparu mwy na £7.4 biliwn o gyllid—mae hynny'n gynnydd o 4.5 y cant o'i gymharu â'r llynedd—i helpu i ddiogelu swyddi a chadw gwasanaethau lleol hanfodol yn rhedeg, o ofal cymdeithasol i'n hysgolion. Rydym ni hefyd yn darparu £2 filiwn y flwyddyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynorthwyo trawsnewid digidol, arweinyddiaeth gref a gwelliant ar draws pob cyngor yng Nghymru.

Ynghyd â llawer o'm hetholwyr, rwy'n eithriadol o bryderus am adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru yn ymwneud ag ymddygiad cyngor Wrecsam. Mae'n tynnu sylw at achosion o ymddygiad gwael a pherthnasoedd toredig ar lefel uwch, sy'n bygwth proses gwneud penderfyniadau cyngor Wrecsam, eu llywodraethiant a'u henw da. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi bod perthnasoedd dan straen a diffyg ymddiriedaeth parhaus rhwng rhai aelodau ac uwch swyddogion, ac, oni bai ei fod yn cael sylw ar frys ac yn wirioneddol, bydd hyn yn tanseilio gwaith cadarnhaol y cyngor ehangach a'i weithlu. Byddai adroddiad o'r natur hon yn frawychus ar y gorau, ond dyma'r ail adolygiad yr ydym ni wedi ei gael o'r gwerthoedd a'r ymddygiadau yn Wrecsam ers 2023, ac mae'r ffaith nad yw'r cyngor wedi mynd i'r afael yn llawn ag argymhellion blaenorol a wnaed gan Archwilio Cymru yn destun pryder, yn esgeulus ac yn anghyfrifol. Mae'n rhaid gofyn cwestiynau difrifol am yr arweinyddiaeth yng nghyngor Wrecsam, gyda'r adroddiad yn nodi bod ymwybyddiaeth gyfyngedig o swyddogaethau a chyfrifoldeb disgwyliedig.

Prif Weinidog, mae pobl Wrecsam yn haeddu gwell. Byddwn yn ddiolchgar am eich safbwyntiau ar yr adroddiad a pha un a allech chi amlinellu pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag uwch swyddogion yng nghyngor Wrecsam, a pha mor ddifrifol y mae'n rhaid i'r sefyllfa droi cyn i Lywodraeth Cymru gael ei gorfodi i ymyrryd ac efallai gwneud cyngor Wrecsam yn destun mesurau arbennig?

Diolch yn fawr iawn, Lesley, ac roedd yr adroddiad diweddaraf gan Archwilio Cymru yn destun pryder mawr i minnau hefyd, ac rwy'n cydnabod yr angen i'r canfyddiadau hyn gael sylw. Nawr, mater i gyngor Wrecsam yw ystyried eu hymateb. Gallaf eich sicrhau chi bod fy swyddogion wedi cynnal trafodaethau cychwynnol, gyda CLlLC ac Archwilio Cymru, i nodi cymorth priodol. Rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi, o asesiad panel cymheiriaid a gyhoeddwyd ym mis Medi, bod cyngor Wrecsam yn darparu ei wasanaethau yn gyffredinol. Felly, fe wnaethoch chi sôn am yr ymdrechion a wnaed gan y bobl sy'n gweithio i'r cyngor, ac mae hynny'n amlwg yn talu ar ei ganfed o ran y ddarpariaeth o wasanaethau. Ond canolbwyntiodd yr un adroddiad ei argymhellion ar arweinyddiaeth a pherthnasoedd rhwng aelodau a swyddogion. Mae'r trothwy i ymyrryd yn uchel iawn a dweud y gwir. Felly, mae'n rhaid asesu nad yw'r cyngor yn bodloni'r gofynion perfformiad, ac nid dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd. Felly, er gwaethaf y canfyddiadau anghyfforddus, nid wyf i'n credu bod y trothwy hwnnw wedi cael ei gyrraedd. Ond mae'n bwysig bod aelodau a swyddogion yn dilyn eu codau ymddygiad priodol, gan nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir ganddyn nhw.

14:15
Metro De Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygiad Metro De Cymru? OQ63265

Mae metro de Cymru yn trawsnewid sut mae pobl yn teithio ar draws ein rhanbarth eisoes, gyda threnau modern, gwasanaethau newydd a chysylltiadau cyflymach sy'n fwy cyson yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Fe wnaethom fuddsoddi dros £1 biliwn i uwchraddio rheilffyrdd craidd y Cymoedd, £800 miliwn arall mewn trenau newydd spon, a £70 miliwn yn rheilffordd Glynebwy, sy'n dyblu'r gwasanaeth ac yn golygu bod trenau uniongyrchol i Gasnewydd am y tro cyntaf ers y 1960au. A dydyn ni ddim yn stopio yn y fan honno. Rydym ni'n cyflwyno tocynnau talu wrth fynd—mae gennym ni 1 miliwn o deithwyr sy'n defnyddio'r rhain—ac yn darparu tocynnau bws am £1 i bobl ifanc, ac rydym ni'n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn symlach, yn decach ac yn fwy fforddiadwy.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw. Mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw datganoli'r cyfrifoldeb am seilwaith y rheilffyrdd. Mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol hefyd fod y cyn Ddirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi ysgrifennu ataf ac wedi amlinellu'r cynlluniau a'r weledigaeth ar gyfer rheilffordd Glynebwy, ac wrth ysgrifennu ataf i, fe eglurodd, ac rwy'n dyfynnu, 'fod yr uchelgeisiau ar gyfer rheilffordd Glynebwy yr un rhai â'r rhai sydd gennym ni ar gyfer Rheilffyrdd Craidd y cymoedd, a gafodd eu datganoli, a lle gall Llywodraeth Cymru gyfeirio buddsoddiad'. Dywedodd, 'Yn fyr, yr uchelgais hwn yw pedwar trên bob awr a chwblhau cangen Abertyleri'.

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau'r prynhawn yma ai dyna yw gweledigaeth a pholisi Llywodraeth Cymru o hyd?

Rwy'n gallu cadarnhau hynny. Dyna yw ein huchelgais ni o hyd; fel y bu erioed. Pan mae gennym ni berchnogaeth, rydym ni'n cyflawni. Mae rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn brawf o hynny: £1 biliwn wedi cael ei fuddsoddi; 170 km o gledrau. Maen nhw wedi cael eu trydaneiddio, maen nhw'n drenau sy'n mynd yn gyflymach, ac yn wyrddach nawr sy'n rhedeg ar draws y de. Mae rheilffordd Glynebwy, gyda gwerth £70 miliwn o fuddsoddiad, wedi dyblu'r gwasanaethau eisoes. Fel y dywedais i, mae'r cysylltiadau uniongyrchol hynny gennym ni â Lerpwl.

Rydym ni'n barod i fynd ymhellach, gan gynnwys ar gangen Abertyleri, ond fel mae pethau, mae seilwaith y rheilffyrdd y tu draw i reilffyrdd craidd y Cymoedd yn dal i fod yn nwylo Llywodraeth y DU. Felly, fe fyddwn ni'n annog, gwthio, perswadio ac yn sicrhau y bydd Llywodraeth y DU yn cwblhau'r gangen honno.

Rhestrau Aros Niwroamrywiaeth

8. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael a rhestrau aros niwroamrywiaeth? OQ63255

Mae'r galw am asesiadau niwroamrywiaeth wedi cynyddu ymhob cwr o'r Deyrnas Unedig, ond yma yng Nghymru rŷn ni'n cymryd camau i sicrhau bod teuluoedd yn cael yr help maen nhw ei angen yn gyflymach. Rŷn ni eisoes wedi rhoi diwedd ar aros pedair blynedd am asesiadau niwroddatblygiadol i blant, ac mae gan bob bwrdd iechyd gynllun clir i gael gwared ar amseroedd aros tair blynedd erbyn mis Mawrth 2026.

Yn y gogledd, rŷn ni wedi rhoi £2.7 miliwn yn ychwanegol i Betsi Cadwaladr i gyflwyno tua 1,700 o asesiadau ychwanegol eleni, ac maen nhw ar y trywydd iawn i wneud hynny.

Diolch am yr ymateb hynny. Dwi'n siŵr y bydd pob Aelod yma heddiw yn bresennol wedi gweld nifer cynyddol o waith achos o amgylch diagnosis a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd yn byw efo cyflyrau niwroamrywiol. Yn fy achos i, dwi wedi gweld rhieni yn dod mewn i gymorthfeydd ac yn dod mewn i'r swyddfa yn eu dagrau oherwydd bod ganddyn nhw blant 11 oed yn niweidio eu hunain, a rhai yn trio cymryd eu bywydau eu hunain, oherwydd nad oes ganddyn nhw'r diagnosis na'r gefnogaeth angenrheidiol.

Rŵan, yn wahanol i'r data rydych chi newydd ei ddweud, mae'r data dwi wedi'i gael drwy FOI yn dangos bod yna dros 7,000 o blant a phobl ifanc yng ngogledd Cymru yn aros am asesiad, ac efo tua 40 asesiad yn cael eu gwneud bob mis yn unig yn y gogledd, mae hwnna'n golygu y bydd o'n cymryd tua 15 mlynedd i fynd drwy'r rhestr aros awtistiaeth a niwroamrywiaeth yn y gogledd. Pymtheg mlynedd. Ydych chi'n meddwl bod hynny'n dderbyniol?

14:20

Nac ydw, a dyna pam y rhoddwyd arian ychwanegol i ddod â'r rhestrau aros yna i lawr. A gaf i eich atgoffa chi eich bod chi wedi pleidleisio yn erbyn yr arian ychwanegol yna yn mynd at ddod â'r rhestrau aros yna i lawr? Mae hi'n sefyllfa sydd yn ddifrifol, a dyna pam rŷn ni wedi rhoi'r arian ychwanegol yna gerbron. Rŷn ni'n mynd i gyflwyno 1,700 o asesiadau ychwanegol, ac rŷn ni wedi rhoi £2.7 miliwn, sydd ddim yn arian bach, i helpu'r sefyllfa yn Betsi.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd yr ail eitem. Y datganiad a chyhoeddiad busnes yw'r eitem yma. Y Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad. Y Trefnydd, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:21:08
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, ar 10 Hydref 2022, aeth ysgol Maenorbŷr yn fy etholaeth i, yn anffodus, ar dân. Diolch i waith caled y tîm yno, cadwyd y disgyblion a'r staff i gyd yn ddiogel ac, ers hynny, maen nhw wedi bod yn cael eu haddysg, addysg wych, yn Neuadd Gymunedol Jameston, dan arweiniad y pennaeth, Sharon Davies. Nawr, mae'r cyngor wedi addo ailadeiladu'r ysgol honno, ond yn gynharach eleni, fe gyhoeddwyd ymgynghoriad a oedd yn nodi eu penderfyniad y dylid cau'r ysgol, er gwaethaf deiseb gyda dros 12,000 o enwau arni. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut mae hi am gefnogi Cyngor Sir Penfro ar ôl cau'r ysgol hon oherwydd y tân, a pha waith y mae'n ei wneud i sicrhau y bydd Cyngor Sir Penfro yn cadw ei air ac yn ailadeiladu'r ysgol honno.

Ac, yn ail, tra bod amser gyda fi, yr uwchgynhadledd fuddsoddi a drefnwyd i'w chynnal yn ddiweddarach eleni, rwy'n ymwybodol o nifer o fusnesau sy'n awyddus i fynd iddi, ond nid oes unrhyw wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru na Busnes Cymru am sut y gall busnesau fynd o'i chwmpas hi i gael eu gwahodd. Yn wir, mae'n ymddangos mai digwyddiad ar gyfer gwahoddedigion yn unig ydyw. Meddwl oeddwn i tybed, Trefnydd, gyda'ch cysylltiadau chi yn y Cabinet, a fyddech chi'n rhyddhau rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â sut y gallai busnesau gael eu gwahodd i'r uwchgynhadledd fuddsoddi honno. Diolch.

Diolch yn fawr, Samuel Kurtz. Yn amlwg, mae hi'n drist iawn clywed, nid yn unig am y tân, sydd wedi effeithio ar ddisgyblion yr ysgol yn sir Benfro, ond mae yna benderfyniadau anodd, yn amlwg, y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu gwneud er mwyn sicrhau y bydd y disgyblion hynny'n gallu symud ymlaen. Yn amlwg, mae trefniadau dros dro ganddyn nhw, ond rwy'n credu hefyd mai'r hyn sy'n amlwg gan Lywodraeth Cymru yw bod trefniadau cymorth cyllido a bennwyd yn eglur gennym ni o ran ein rhaglen adeiladu ysgolion. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei ddwyn ymlaen, ond fe wnaf dynnu sylw'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg at hyn.

Ie, yr uwchgynhadledd fuddsoddi, mae yna lawer o ddiddordeb, fel rwy'n siŵr eich bod chi'n falch iawn o glywed, yn ein huwchgynhadledd fuddsoddi. Fe wnaf gyfeirio eich cwestiwn chi at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, dim ond i weld, unwaith eto, a fydd yna gyfleoedd ac agoriadau i fwy o fusnesau fod yn bresennol.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Trefnydd, mi hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn sgil y cyhoeddiad rydym ni wedi'i weld o ran cronfa twf lleol newydd i Gymru. Dwi'n siŵr, fel finnau, fod gan nifer o Aelodau'r Senedd gwestiynau ynglŷn â sut y bydd hyn yn mynd rhagddo, o ran amserlen ac ati, a hefyd faint sy'n refeniw a faint sy'n gyfalaf. Felly, dwi'n meddwl, a ninnau efo cyn gymaint o gwestiynau i'w holi a chraffu o ran hyn, y byddai datganiad yn cael ei werthfawrogi gan nifer ohonom.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae'r newyddion bod Cymru am dderbyn dros £0.5 biliwn o gyllid strwythurol ôl-UE yn y gronfa twf lleol newydd yn galonnog iawn, a fydd yn rhoi buddsoddiad mawr yn ein cymunedau a'n heconomi a'n dyfodol. Ac mae hi'n foment nodedig i Gymru sy'n arddangos yn eglur iawn ein hymrwymiad ni i rymuso cenhedloedd datganoledig a chyflawni newid gwirioneddol iawn. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw y bydd hyn yn rhoi'r grym yn ei briod le, sef yn nwylo cymunedau lleol gyda Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gwrando, yn cynllunio ac yn cyflawni er mwyn Gymru. Ond mae'r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet yn nodi hyn, ac wrth gwrs fe fydd yna ddigon o gyfle i fynd ar drywydd hyn o ran craffu a chwestiynau i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog.

14:25

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Yn gyntaf, ddydd Iau diwethaf fe wnes i noddi digwyddiad yn y Senedd ar gyfer yr Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu, neu SURE, ym Mhrifysgol Caerdydd a gynhelir o Ysbyty Athrofaol Cymru yn fy etholaeth i. Cynhaliwyd y digwyddiad i nodi 25 mlynedd o SURE a dathlu'r gwaith pwysig y mae'r tîm wedi ei wneud, gan ymgymryd â llawer iawn o brosiectau ynglŷn â gofal lliniarol, syndrom ofari polysystig, a gwaith hanfodol i Lywodraeth Cymru o ran gofal cymdeithasol plant ac oedolion. Felly, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r broses o adolygiadau llenyddiaeth systematig i sicrhau bod y wybodaeth yr ydym ni sy'n llunio polisïau yn ei defnyddio mor gyfredol a dibynadwy â phosibl.

Yn ail, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar alwad Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i ganllawiau gael eu cynhyrchu ar amrywiaeth a chynhwysiant gan bleidiau gwleidyddol cyn etholiadau'r Senedd. A wnaiff y Trefnydd ein diweddaru ni ar yr hyn y mae'r pleidiau gwleidyddol wedi ei gynhyrchu o ran y canllawiau hyn, ac a allai hi wneud datganiad ar hyn? 

Diolch yn fawr, Julie Morgan. Diolch i chi am dynnu sylw at y digwyddiad a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf yr oeddech chi'n bresennol ynddo, gyda'r gwaith arloesol gan fenter SURE Prifysgol Caerdydd, sy'n parhau, wrth gwrs. Dim ond i dawelu eich meddwl chi, o ran Llywodraeth Cymru, mae gennym ni lenyddiaeth ymchwil gymdeithasol ac arolygiadau systematig yn cael eu cynnal yn unol â phroses sicrhau ansawdd ymchwil gymdeithasol y Llywodraeth, ac mae hyfforddiant ar gael i roi'r sgiliau i ymchwilwyr cymdeithasol a llunwyr polisi gynnal eu chwiliadau effeithiol eu hunain. Mae'n hanfodol bod adolygiadau o dystiolaeth a gynhaliwyd neu a gomisiynwyd gan ymchwilwyr cymdeithasol y Llywodraeth yn cael eu cynnal yn unol â chodau ymchwil gymdeithasol a gwasanaeth sifil y Llywodraeth, ond mae hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n ystyried arbenigedd a thystiolaeth allanol, y gwnaethoch chi dynnu sylw atyn nhw heddiw, ac fe allwn ni eu llongyfarch nhw a thynnu sylw at hyn, o ran Prifysgol Caerdydd.

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw ynglŷn â chanllawiau amrywiaeth a chynhwysiant. Fel mae llawer ar draws y Siambr hon yn ei gofio, mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y pleidiau gwleidyddol. Fe gyhoeddais i'r canllawiau hyn yn ôl ym mis Mawrth, ac fe fydd y canllawiau hynny, rwy'n credu, yn helpu i gefnogi pleidiau gwleidyddol wrth gyhoeddi eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant cyn yr etholiad nesaf i'r Senedd. Rydym ni'n arwain y ffordd yn y DU gyda'r canllawiau hyn mewn gwirionedd, ond mae hi'n braf iawn gweld hefyd fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gychwyn adran 106 Deddf Cydraddoldeb 2010, a fydd yn rhoi gofyniad cyfreithiol ar bleidiau gwleidyddol cofrestredig i gyhoeddi data dienw ar amrywiaeth eu hymgeiswyr nhw i'r Senedd. Rydym ni wedi achub y blaen o ran y gofyniad cyfreithiol hwnnw a fydd yn cael ei gyflwyno, o ran ein canllawiau ni, ond rwy'n gobeithio cael gweld tystiolaeth yn fuan fod pob plaid wleidyddol wedi cymryd y camau a awgrymir yn y canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant, yn rhan o'u hymrwymiad nhw i gyflawni ein nod cyffredin o lunio Senedd fwy amrywiol. Rwy'n gobeithio gweld strategaethau'r pleidiau yn cael eu cyhoeddi yn yr amlwg, fel bydd tryloywder llawn o ran materion hyn, ac fe fyddaf i'n codi hyn gyda phanel pleidiau gwleidyddol y Senedd y Comisiwn Etholiadol ynglŷn â'r canllawiau. Fe wn i fod ganddyn nhw ddiddordeb yn hyn hefyd. Rwyf i wedi cwrdd â nhw eisoes i drafod hyn, ac rwy'n awyddus i gwrdd â nhw eto ar ddechrau mis Tachwedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y panel a'r pleidiau i gyd yng Nghymru am y cynnydd sydd wedi bod.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad busnes ar y parth rheoli dros dro a roddwyd ar waith yn sir Fynwy yn dilyn yr achosion o'r tafod glas yn yr etholaeth? Ni chafodd llawer o ffermwyr yn y parth unrhyw hysbysiad am fod yn y parth ac nid oedden nhw'n sylweddoli eu bod nhw ynddo nes iddyn nhw geisio mynd â'u stoc i farchnad da byw. Nid oeddwn i'n gwybod fy hunan nes i mi gael neges destun gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Felly, mae'r parth rheoli dros dro ar gyfer y tafod glas yn golygu mai gyda thrwydded symud yn unig y gall symudiadau o anifeiliaid sy'n agored i'r afiechyd, fel gwartheg, defaid, geifr, ac ati, ddigwydd o'r tu mewn a'r tu allan i'r parth hwnnw. Nawr, fe gafodd y parth ei ddatgan ar ddydd Mercher 1 Hydref, ond fe gymerodd hi tan nos Wener i'r gyfran gyntaf o drwyddedau symud gael ei chyhoeddi, gyda mwy i ddilyn yn ystod yr wythnos hon. Roedd y tebygolrwydd y bydai'r tafod glas yn dod i Gymru—ac felly rhoddwyd parth rheoli dros dro ar waith—yn uchel yn hydref eleni, sy'n golygu bod y galw am drwyddedau symud yn hawdd ei ragweld. A gaf i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch pam mae oedi mor hir wedi bod cyn cyhoeddi'r dogfennau pwysig hyn a pha baratoadau a wnaed?

14:30

Diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Fe wn i y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn awyddus i sicrhau bod y gymuned ffermio yn ymwybodol o'r cyhoeddiad bod parthau rheoli dros dro wedi'u cyhoeddi. A chyda'r adborth hwn heddiw, fe wnaeth sylwadau eisoes ac mae e' wedi ymgysylltu'n llawn â'r undebau ffermio, a chyda llefarwyr, ynglŷn â threfniadau i Gymru ar gyfer rheoli'r llwybr atal o ran y tafod glas. Ond, yn sicr, fe fyddaf i'n gofyn iddo ef roi diweddariad am y datblygiadau.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol, os gwelwch chi'n dda, yn gyntaf, ar oryrru ar gefnffyrdd o amgylch Aberhonddu. Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod pentref gyda thrigolion o Libanus a Llanspyddid, a chodwyd pryderon difrifol am oryrru, diogelwch ar y ffyrdd ac effaith traffig ar eu cymunedau. Fe ddywedais i wrth Lywodraeth Cymru am y pryderon hyn—roedden nhw'n bresennol yn y cyfarfodydd hynny—nôl ym mis Awst, ond rwy'n aros am ymateb o hyd. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad, os gwelwch chi'n dda, yn amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r pryderon hyn a pha gamau sy'n cael eu cymryd.

Yn ogystal â hynny, fe hoffwn ofyn am ddatganiad o ran gwerth iechyd ataliol chwaraeon. Felly, yr wythnos diwethaf, fe chwaraeais i denis a thenis padel yng Nghanolfan Tenis a Padel Wrecsam. Roedd hwnnw'n brofiad newydd i mi. Chwaraeon Cymru a oedd yn ei drefnu. Fe ymunais i â dosbarth o oedolion, a gweld drosof fy hunan pa mor bwysig yw chwaraeon cymunedol, o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl hefyd. Felly, fe hoffwn i ofyn i Lywodraeth Cymru sut ydych chi am hyrwyddo chwaraeon fel mesur iechyd ataliol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, am eich cwestiynau pwysig iawn. 

Diolch i chi am godi'r mater hwn ynglŷn â goryrru ar y ffyrdd. Rwy'n credu y gallai llawer ar draws y Siambr fyfyrio ar y pryderon sydd gan drigolion o ran goryrru ar ffyrdd hefyd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig o amgylch trefi. Felly, fe ddaeth adolygiadau cyflymder blaenorol i'r casgliad y dylai terfynau cyflymder aros ar 50 mya, ond mae'r canllawiau cyfredol ar bennu terfynau cyflymder yng Nghymru yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a wnaethpwyd ar gyfer cyflwyno 20 mya. A phan gyhoeddir y canllawiau newydd hyn ar derfynau cyflymder, sy'n cael eu hadolygu ledled Cymru, gan gynnwys y rhan hon o'r A40 a'r A470. Ac a gaf i ddweud bod hynny'n cynnwys adolygiad o ran Libanus a Llanspyddid. Felly, mae angen i sicrhau bod y wybodaeth honno'n cael ei chyfathrebu i drigolion lleol.

Ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn dymuno eich llongyfarch chi am eich gweithgareddau chwarae tenis, ac rwy'n ein hannog ni i gyd i wneud yr un peth. Wrth gwrs, mae honno'n un o'n rhaglenni ni ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth i hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon, cefnogaeth i athletwyr ifanc a thalentog, yn ogystal â'r rhai y dymunwn iddyn nhw weld bod chwaraeon yn hanfodol bwysig i'r economi, bywyd cenedlaethol, ac iechyd a lles. Ac rwy'n credu mai mater yw hwn i'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, sydd yn y Siambr gyda ni heddiw, mewn cysylltiad â'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gan weithio gyda Chwaraeon Cymru, fe wn eich bod chi wedi cael cyfarfod yn ddiweddar—bord gron—pryd roeddech chi'n rhoi ystyriaeth arbennig, er enghraifft, i brosiect sy'n mynd i'r afael ag iechyd meddwl, gwŷr yn arbennig felly. Ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig hefyd, o ran yr anghenion hynny. Mae grymuso ataliaeth afiechyd yn un o wyth egwyddor Marmot, ac ar hyn o bryd, wrth i ni fod yn ymdrechu a symud at fod yn genedl Marmot, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn elfennau yn ein dull ataliol ni, oherwydd mae bod yn genedl Marmot yn ychwanegu arf arall at ein pecyn cymorth i atgyfnerthu pwysigrwydd ataliaeth a darparu gwellhad o ran iechyd a lles i bawb.

14:35

Rwy'n gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb am dai ynglŷn ag argaeledd tai i'm hetholwyr i yn Nyffryn Clwyd. Mae pobl ifanc yn arbennig yn cysylltu â mi'n rheolaidd, am eu bod yn teimlo rhwystredigaeth gynyddol ynglŷn â'r diffyg tai yn yr ardal leol oherwydd bod y tai hynny ar lawer o achlysuron ar gael i bobl o'r tu allan i'r ardal. Nid ymhél a negyddoldeb mewn ystyr uniongyrchol yw hynny, ond yn hytrach tynnu sylw at y mater nad yw etholwyr lleol yn fy ardal i yn gallu prynu tai cymdeithasol na mynd, yn wir, ar ris cyntaf yr ysgol dai oherwydd y sefyllfa hon. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad ynghylch pa drafodaethau sydd gennych o fewn y Cabinet, fel Llywodraeth, ynglŷn â'r mater hwn a pha ganllawiau a sgyrsiau sy'n cael eu cynnal gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn gallu byw yn eu hardaloedd lleol a bod yn falch y gallan nhw roi troed ar yr ysgol neu ddod o hyd i dŷ cymdeithasol ym mro eu cynefin, nac ydyw ar gael yn rhwydd i bobl o'r tu hwnt i'r fro. Fel y dywedais i, nid yw hynny'n achos uniongyrchol o negyddoldeb; ond yn fwy i dynnu sylw at y ffaith y dylai pobl allu ffynnu ac, yn wir, byw a magu teulu yn yr ardal sy'n gartref iddyn nhw.

Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies. Nid wyf i'n hollol siŵr beth yw casgliad eich cwestiwn, ond rwy'n gobeithio mai'r hyn yr ydych chi'n ei gasglu yw ei bod hi'n bwysig—. Gan gydnabod ein hymrwymiad ni i ehangu tai cymdeithasol yng Nghymru, mae'n amlwg mai'r ehangiad hwnnw, y buddsoddiad hwnnw mewn tai cymdeithasol, sy'n rhoi cyfle gwirioneddol i bobl leol gael mynediad at dai cymdeithasol. Wrth gwrs, mae gan bob awdurdod lleol ei lwybr ar gyfer mynediad at dai cymdeithasol. Weithiau, wrth gwrs, o ran y cyfleoedd i gael mynediad at dai cymdeithasol, lle ceir angen o ran tai yn yr ardal honno, fe allai gynnwys pobl sydd mewn angen o ran tai, sydd mewn llety dros dro ac yna fe allan nhw wneud cais am y llwybrau i gyd. Wrth gwrs, mae'r llwybr arall ar gael sef mynediad at dai preifat, ac fe gefnogir y gris cyntaf ar yr ysgol i lawer gan ein trefniadau hael iawn ni yng Nghymru, sef Cymorth i Brynu.

Gweinidog, a gaf ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chymorth i'r rhai sydd â'r cyflwr ymenyddol atroffi dentatorubraidd-palidolwysiaidd, neu DRPLA, yn Ne Ddwyrain Cymru? Rwy'n ymddiheuro am fy ynganiad ofnadwy. Mae DRPLA yn gyflwr niwrolegol etifeddol prin sy'n achosi symptomau difrifol mewn plant ac oedolion, o epilepsi ac anawsterau dysgu i ddementia a dibyniaeth lwyr. Mae fy etholwr, Zoe Hoes, wedi rhannu stori dorcalonnus ei merch fabwysiedig, Gabriella, sy'n wyth oed, sydd wedi cael diagnosis o DRPLA. Er gwaethaf cadarnhad y diagnosis, mae Gabriella wedi wynebu oedi annerbyniol wrth gael gafael ar ofal arbenigol. Gwrthodwyd atgyfeiriad brys. Mae asesiad preifat wedi bod yn gyfyngedig. Mae mynediad at dreial cyffuriau addawol yn yr Unol Daleithiau yn dibynnu ar asesiad niwrolegydd yn y DU, sydd wedi gorfodi'r teulu i ystyried adleoli. Mae ymchwil Zoe, a gefnogir gan dystiolaeth glinigol, yn dangos bod DRPLA yn llawer mwy cyffredin yn y de-ddwyrain nag a gydnabuwyd yn flaenorol. Mae hyn yn codi rhai cwestiynau difrifol ynglŷn ag ymwybyddiaeth, diagnosis a chydlynu gofal ar gyfer clefydau prin yng Nghymru. Fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a fyddai'n amlinellu sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i wella profion genetig, i godi ymwybyddiaeth, i rymuso llwybrau gofal a chefnogi teuluoedd yn emosiynol ac yn ariannol. Ni ddylai unrhyw deulu yng Nghymru fod yn wynebu clefyd prin ar eu pennau eu hunain. Mae hi'n bwysig i ni weithredu nawr i sicrhau bod gofal amserol, teg a thosturiol ar gael i bawb. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn i chi, Natasha Asghar. Diolch i chi am dynnu sylw at DRPLA. Rwy'n siŵr nad oes llawer ohonom ni'n ymwybodol o'r cyflwr hwnnw, ond mae hi'n bwysig eich bod wedi codi ymwybyddiaeth heddiw. Mae hyn, rwy'n credu, yn berthnasol iawn i flaenoriaethau'r cynllun gweithredu clefydau prin, y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn agos gyda'r GIG yn ei gylch. Mae'n cynnwys codi ymwybyddiaeth—fel gwnaethoch chi heddiw—a gwella argaeledd gwybodaeth ac adnoddau. Fe ddaw fframwaith clefydau prin y DU a'r cynlluniau gweithredu cenedlaethol sy'n cefnogi hwnnw i ben yn 2026. Felly, mae swyddogion o bob un o'r pedair gwlad yn ystyried dyfodol cydweithrediad polisi clefydau prin ledled y DU, sy'n bwysig iawn o ran mynd i'r afael â'r anghenion hyn. Mewn gwirionedd, fe gynhaliwyd digwyddiad cyntaf rhwydwaith ymchwil clefydau prin Cymru yn ystod y mis diwethaf ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae hwnnw'n gam pwysig, i'w rannu gyda'r Senedd heddiw, oherwydd mae'n cryfhau ymagwedd Cymru, yn ogystal â'r dull pedair gwlad, o ymchwilio i glefydau prin.

14:40

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf ynghylch lles cŵn. Er fy mod i'n croesawu'r ddeddfwriaeth a gafodd ei phasio eisoes, yn ogystal â'r ymrwymiad i wahardd rasio milgwn, mae mwy i'w wneud eto. Fe ddylai'r datganiad gynnwys cynigion i rymuso amodau trwyddedu bridio cŵn, i sicrhau bod amddiffyniad cynhwysfawr i gŵn, geist a'u hepil trwy gyflwyno safonau cadarn, a chynigion hefyd i reoleiddio gwarchodfeydd, canolfannau achub ac ailgartrefu, i amddiffyn anifeiliaid rhag cyfraddau is na'r safon ddisgwyliedig o ofal a gweithredwyr amheus.

Yr ail ddatganiad y byddwn i'n ei hoffi yw un ar wella lles ceffylau, gan gynnwys rheoleiddio iardiau stablau hurio, sy'n cartrefu llawer o geffylau yng Nghymru. Mae angen mynd i'r afael â chlymu ceffylau hefyd. Mae niferoedd y digwyddiadau sy'n cael eu hadrodd amdanyn nhw wedi lleihau, ond fe geir problem o hyd gyda chlymu ceffylau, ac fe fyddai croeso mawr i gynnig i ddiddymu hyn.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Diolch i chi am godi cwestiynau mor rheolaidd a chyfrannu at ddadleuon a chefnogi rheoliadau ar les anifeiliaid. Rydym ni'n ymfalchïo o fod â safonau rhagorol o ran lles anifeiliaid. Rydym ni'n disgwyl i bawb adlewyrchu hyn trwy fod yn berchnogion ac yn fridwyr cyfrifol. Mae hynny'n cynnwys mesurau sylweddol ar gyfer diogelu lles cŵn yng Nghymru, gan roi ystyriaeth arbennig i fridio cŵn mewn ffordd gyfrifol. Fe gawsom ni'r uwchgynhadledd bridio a pherchnogaeth gyfrifol o gŵn, sy'n dangos sut, os byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd gyda dull partner rhanddeiliaid aml-asiantaeth, fe all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ond, ystyr hyn yw addysg i'r cyhoedd, prynu cŵn bach mewn ffordd sy'n gyfrifol, a chefnogaeth gyda hyfforddiant ac ymddygiad. Rwy'n falch fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth a'r camau nesaf i'r ymgynghoriad ynglŷn â thrwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd lles anifeiliaid. Mae honno'n garreg filltir wirioneddol i wella safonau lles anifeiliaid ledled Cymru.

Wrth gwrs, mae hynny'n ymestyn at geffylau hefyd. Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar berchnogion ceffylau i ddiwallu eu hanghenion o ran lles, gan gynnwys lloches, porthiant, gofal iechyd a rhyddid o ran ymddygiad. Mae gennym god ymarfer ar gyfer lles ceffylau, sy'n cynnwys gwybodaeth am safonau gofal ac sy'n cael ei orfodi gan yr awdurdodau lleol. Mae angen i ni gael gweld mai dyma sut y byddwn ni'n blaenoriaethu rheoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid. Fe ellir ystyried iardiau stablau hurio ar gyfer rheoleiddio yn y dyfodol. Mae ceffylau rasio, yn olaf, yn cael eu diogelu dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 hefyd. Mae diwygiadau gennym ni ar y ffordd sy'n cael eu cyflwyno gan Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain.

Diolch. Fe hoffwn i gymeradwyo hynny. Fe hoffwn innau ofyn am ddatganiad ar y materion o ran lles anifeiliaid a gododd fy nghydweithiwr Mike Hedges, yn enwedig o ran clymu ceffylau.

Mae fy ail gais i am ddatganiad yn ymwneud â phont Menai a'r gwaith cyfredol sy'n gorfod parhau o hyd, wedi tair blynedd. Fe wnes i ymgais i godi dau gwestiwn brys yn y fan hon, un amserol, a hyd yn hyn ni chawsom ni ddiweddariad. Rwy'n siŵr y gallai unrhyw Aelod Cabinet yn Llywodraeth Cymru ddod ymlaen. Mae diffygion pellach wedi cael eu darganfod. Mae hynny wedi tair blynedd o atgyweiriadau sydd wedi golygu bod busnesau wedi cael eu heffeithio arnyn nhw'n wael iawn, bu llawer o dagfeydd, oediadau mawr ac ati. Mae hyn yn gwbl drychinebus i Ynys Môn, ond mae'n effeithio ar bobl yn fy etholaeth innau hefyd sy'n teithio yno ac yn eu holau ar gyfer gweithio. Fe gafodd y bont ei chyfyngu i gerbydau mewn un cyfeiriad yn unig, ac mae pawb yn gynddeiriog ynglŷn â hynny. Mae angen gwirioneddol i Weinidog Cabinet neu'r Prif Weinidog ddod ymlaen gyda datganiad ynghylch yr hyn sydd am ddigwydd nesaf a'r hyn y maen nhw'n ei wneud o ran cefnogaeth. Fe fyddwn i'n gobeithio hefyd, yn y datganiad hwnnw, y byddai sôn am iawndal i'r busnesau hynny, mae rhai ohonyn nhw wedi gweld colli 90 y cant o'u henillion. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

14:45

Diolch i chi, Janet Finch-Saunders. Ac wrth gwrs, rwy'n diolch i chi am ategu pryderon Mike Hedges ynglŷn â lles anifeiliaid, ac fe wnes i grybwyll y ffaith fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth—ein cam nesaf i ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, ac, wrth gwrs, fe fydd clymu, rwy'n siŵr, yn cael ei gynnwys yn hwnnw.

Ynglŷn â'ch ail gwestiwn chi, rydym yn pwyso ar Briffyrdd y DU A55 am ddatrysiad cynnar i'r mater sy'n ymwneud â phont grog Menai. Dadlennodd archwiliad diogelwch diweddar fod yn rhaid i sawl bollt—ac roeddwn i'n awyddus i gael cyfle i ymdrin â hyn ac ateb eich cwestiwn chi—sy'n dal trawstiau'r strwythur gael eu hamnewid. Ac mae honno'n bont restredig gradd I 200 mlwydd oed, fel y gwyddoch chi, ac mae hi'n cysylltu Ynys Môn â'r tir mawr ac fe gafodd ei chau yn annisgwyl ar 4 Hydref. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod yn rhaid i ni gydnabod y pryderon difrifol sydd wedi bod o ran diogelwch, a nodwyd yn ôl yn 2022, ac fe wnaeth hynny arwain at gau'r bont yn ddisymwth bryd hynny, ac mae hynny'n achosi amhariad sylweddol.

Ond rwy'n credu ar 7 Hydref, yr wythnos diwethaf, i ni gyhoeddi, yn Llywodraeth Cymru, ein bod ni'n gweithio yn ddyfal gyda Phriffyrdd y DU a Heddlu Gogledd Cymru i ailagor pont grog Menai yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn y dyddiau nesaf; 07:00 tan 19:00 roedd disgwyl i hynny fod yn weithredol—ailagor yn rhannol. Yn amlwg, mater yw hwn, o ran ein hymgysylltiad ni ag ef, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Ac fe wn i, fel chithau, ei fod ef wedi ymgysylltu, er nad yw'n gallu gwneud hynny ar hyn o bryd, ond fe fyddaf i'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio eich diweddaru chi'n uniongyrchol.

3. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad ar y gyllideb ddrafft amlinellol ar gyfer 2026-27. A'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid sy'n gwneud y datganiad yma—Mark Drakeford. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw rwy'n gosod cyllideb ddrafft amlinellol 2026-27 gerbron, y cam cyntaf tuag at gyllideb derfynol y tymor y Senedd hon. Hon yw'r ddegfed flwyddyn yn olynol i mi ymwneud yn uniongyrchol â'r busnes heriol o lunio cyllideb i Gymru, ond fy man cychwyn i, Llywydd, yw'r un un â'ch un chi: mae rhaid i'r wythnosau nesaf arwain at basio cyllideb. Dim ond dechrau'r broses honno yw'r drafft hwn. Fe fydd gan bob Aelod yn y fan hon ei ran, a phob plaid wleidyddol ei chyfrifoldeb. Oherwydd, Llywydd, nid cyfriflyfr o rifau a dim arall mo'r gyllideb, o biliynau o bunnoedd yn cael gwasgaru yn ofalus rhwng gwahanol golofnau a llinellau o wariant. Dyma arian cyflog pobl, cyfrifon busnesau lleol, prydau ysgol am ddim a deunyddiau addysgu yn ein hysgolion, y trenau newydd ar ein rheilffyrdd a'n cartrefi yn ein cymunedau. Dyma'r miloedd o leoliadau gofal plant sy'n gofalu am ein plant, y to newydd ar yr oriel gelf, y presgripsiynau sy'n cael eu rhoi bob dydd a'r meddyginiaethau newydd sy'n achub bywydau gan gynnig gobaith newydd. Wrth nodi'r gyllideb ddrafft amlinellol, fe fyddaf i, fel arfer, yn canolbwyntio ar ei blociau adeiladu mawr, gan esbonio'r penderfyniadau sy'n arwain at y cyllid a fydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac yna'n nodi ei ddyraniadau o wariant adrannol lefel uchel.

I ddechrau, felly, gydag agwedd incwm y cyfriflyfr. Ar ôl mwy na degawd o gyni parhaus, fe gyhoeddodd Llywodraeth newydd y DU ein cyllidebau refeniw a chyfalaf ym mis Mehefin ar gyfer y tair a'r pedair blynedd nesaf yn y drefn honno. Bydd £5 biliwn ychwanegol yn dod i Gymru dros y cyfnod hwnnw o'r adolygiad gwariant, £1 biliwn yn fwy yn 2026-27, £1.6 biliwn ychwanegol yn y flwyddyn ganlynol a £2.4 biliwn yn 2028-29. A hyn i gyd, wrth gwrs, ar ben y £1.6 biliwn ychwanegol, sy'n cael ei adlewyrchu yng nghyllideb y flwyddyn gyfredol ac sy'n darparu llwyfan newydd, ddyrchafedig ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nawr, Llywydd, fe fyddwn i'n falch iawn o allu manteisio ar y gorwel newydd tair a phedair blynedd a ddarparwyd gan y Canghellor, ond ym misoedd olaf tymor y Senedd hon, nid wyf o'r farn y byddai pennu cynlluniau gwariant yn ddwfn i'r pedair blynedd nesaf yn darparu gwir sicrwydd. Yn hytrach na hynny, rydym ni am afael ar gyfle'r gorwel hirdymor drwy waith yr adolygiad o wariant Cymru.

Yn cynnwys y cwbl, mae £27.6 biliwn o gyllid ar gael i Gymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae'r gyllideb ddrafft amlinellol hon yn dyrannu 98.6 y cant o hynny. O'r £27.6 biliwn hwnnw, fe ddaw £21.9 biliwn o grant bloc Llywodraeth y DU, gyda £18.3 biliwn o'r grant bloc hwnnw'n darparu ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd neu refeniw a £3.6 biliwn ar gyfer buddsoddiad, neu gyfalaf. Mae hynny'n golygu bod tua 20 y cant, neu £5.5 biliwn, o'r refeniw sydd ar gael i'r Senedd hon yn cael ei godi drwy drethi datganoledig. Fel yr esboniais i y llynedd, Llywydd, mae datganoli cyllidol bron yn ddeng mlwydd oed erbyn hyn, ac fe fu'n llwyddiant amlwg yng Nghymru. Mae gan y gyllideb sydd gerbron yr Aelodau bron i £500 miliwn yn fwy ynddi hi ar gyfer buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus y flwyddyn nesaf nag y byddai wedi bod pe na bai trethiant wedi ei ddatganoli i ni. Ond, Llywydd, nid mater o ddatganoli treth yn unig mohono, ond sut bydd honno'n cael ei ddefnyddio. Nid oes dim yn ddamweiniol yn y £500 miliwn hwnnw, mae'n adlewyrchu penderfyniadau a wneir yma yn y Senedd.

Llywydd, rwyf i am nodi cynigion y gyllideb ddrafft nawr o ran pob un o'n tair treth ddatganoledig. Disgwylir i gyfraddau treth incwm Cymru godi £3.9 biliwn yn 2026-27. Rwy'n bwriadu gadael y cyfraddau hynny heb eu newid. Mae incymau'r mwyafrif helaeth o dalwyr treth incwm yng Nghymru cael eu trethu ar y gyfradd safonol yn unig. Nid wyf i'n bwriadu ychwanegu at yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu ar adeg pan fo effaith cynnydd mewn costau byw yn parhau i fod yn wirioneddol iawn. Fel arfer, fe fydd pleidlais ar wahân yn cael ei chynnal yma ar y cynnig hwn. Pe na bai'r Senedd yn cymeradwyo cyfraddau treth incwm arfaethedig Cymru, yna fe fyddai hi'n rhaid lleihau gwariant gan y bron i £4 biliwn yr ydym ni'n ei godi yn y modd hwnnw.

Nawr, mae'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi wedi cael eu datganoli yn llawn i Gymru. Rhagwelir y bydd y dreth trafodiadau tir yn codi £401 miliwn yn 2026-27. Y trothwy y bydd y dreth trafodiadau tir yn daladwy o'i groesi yng Nghymru yw £225,000, sy'n uwch na chost gyfredol gyfartalog eiddo yng Nghymru, sef £217,000, ac yn llawer mwy na'r cyfartaledd o £188,000 ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf. Nid yw tua chwech o bob 10 gwerthiant ar gyfer prif gartref yng Nghymru yn talu unrhyw dreth o gwbl. Rwy'n bwriadu parhau â'r patrwm blaengar y gwnaethom ni ei sefydlu ers i ni fod â chyfrifoldeb am y dreth hon. Yn y gyllideb ddrafft hon, mae'r cyfraddau yn aros yr un fath. Mae'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth yn ei gael yn llawn, a'r rhai sy'n gallu fforddio talu yn gwneud felly.

Mae gen i un newid i'w gyhoeddi heddiw o ran y gyfundrefn rhyddhad anheddau lluosog. Rwy'n bwriadu cyflwyno rheol cydraddoldeb newydd, a fydd yn gwella tegwch i drethdalwyr sy'n prynu mwy nag un annedd yn yr un gwerthiant, neu mewn trafodion cysylltiedig. Fe fyddaf i'n cyflwyno ad-daliad newydd hefyd o gyfraddau preswyl uwch treth trafodiadau tir, pryd bydd mae trethdalwr yn prynu annedd ac yn ei brydlesu i awdurdod lleol wedyn drwy Gynllun Lesio Cymru. Fe fyddwn ni'n parhau i adolygu'r rheol ad-dalu newydd, wrth gwrs, i sicrhau ei bod hi'n cyflawni'r canlyniad arfaethedig o sicrhau cartrefi mwy fforddiadwy i'w rhentu.

Gan droi at dreth gwarediadau tirlenwi, Llywydd, fe gafodd honno ei chynllunio, fel y gwyddoch chi, yn gymaint i ddylanwadu ar ymddygiad na chodi refeniw, os nad yn fwy na hynny. Rhagwelir y bydd honno'n codi £34 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rwy'n bwriadu cynyddu cyfradd safonol y dreth gwarediadau tirlenwi ar gyfer y flwyddyn honno yn ôl mynegai prisiau manwerthu a ragwelir, a chynnal y gyfradd is ar y gyfradd gwaredu anawdurdodedig ar 5 y cant a 150 y cant o'r gyfradd safonol yn y drefn honno. Fe fydd gwerth ariannol y cyfraddau hyn yn cael ei chadarnhau ar sail y rhagolwg diweddaredig sydd i'w gyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb hydref y DU ar 26 Tachwedd.

Mae'r gyllideb hon yn darparu £285,000 ychwanegol i Awdurdod Cyllid Cymru hefyd ar gyfer cefnogi mwy o weithgarwch ymchwilio mewn ymateb i warediadau heb ganiatâd. Bydd y cyllid hwn yn arwain at refeniw treth gwarediad tirlenwi ychwanegol o £715,000 yn 2026-27, yn ôl rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

Ar ôl ei hymgynghoriad ar ddiwygio'r dreth tirlenwi yn Lloegr, fe allai Llywodraeth y DU ddiwygio ei dull ei hun yn y maes hwn o drethiant. Os bydd angen, ni fyddaf i'n petruso rhag diogelu ein system ein hunain yng Nghymru rhag bod gwastraff yn croesi'r ffin yn ddiangen, a sicrhau bod ein treth ni'n parhau i gyfrannu at ein nodau amgylcheddol a'r economi gylchol. Os bydd angen ymdrin, Llywydd, â newidiadau o ran y dreth trafodiadau tir neu'r dreth gwarediadau tirlenwi, yna fe fyddaf i wrth gwrs yn cyflwyno cynigion gerbron y Senedd i'w cymeradwyo.

Yn olaf, o ran y dreth gwarediadau tirlenwi, mae'r Aelodau yn sicr o gofio bod y gyfradd is wedi codi i 5 y cant o gyfradd safonol y llynedd ac fe ddywedais i y byddwn yn cynyddu honno i 10 y cant pe na bai'r ymateb ymddygiadol a ddymunir yn dod i'r golwg. Ar y pwynt hwn yng nghylch y gyllideb, dim ond un chwarter o ddata sydd ar gael ers i'r newid gael ei wneud. Nid wyf i'n credu bod hynny'n ddigon i wneud dyfarniad dibynadwy, ac felly nid wyf i'n bwriadu gwneud newidiadau ychwanegol ar hyn o bryd. Fe fydd hwnnw'n benderfyniad, serch hynny, i Weinidogion Cyllid y dyfodol ei ystyried.

Gan droi at ardrethi annomestig, mae'r gyllideb ddrafft yn adlewyrchu'r disgwyliad y bydd refeniw yn cael ei gynnal mewn termau real. Nid yw'r gyllideb ddrafft hon yn cynnwys cyllid pellach i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch. Cyhoeddodd y Canghellor ei bwriad i ddirwyn y cynllun dros dro hwn i ben yn Lloegr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac felly fe fydd y cyllid canlyniadol sydd wedi cefnogi'r cynllun yng Nghymru yn dod i ben ar y pwynt hwnnw hefyd. Serch hynny, yn y Llywodraeth, rydym ni'n cydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu siopau manwerthu diriaethol yn wyneb cystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein. Rwy'n parhau i gynllunio i gyflwyno lluosydd is, a fydd yn lleihau biliau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo a feddiannir gan fanwerthwyr bach a chanolig. Bydd manylion y cynllun yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd ac yn cael eu cynnwys, wrth gwrs, yn ein cyllideb derfynol ar 27 Ionawr y flwyddyn nesaf. Llywydd, fel pob amser, mae'r gyllideb ddrafft ei hun yn cyd-fynd â set o ddogfennau ategol. Mae adroddiad polisi treth Cymru, er enghraifft, yn darparu manylion ychwanegol am, a'r cyd-destun ehangach ar gyfer, y penderfyniadau y gwnes i eu nodi nhw nawr.

Llywydd, rwyf i am droi nawr at sut mae'r gyllideb ddrafft yn defnyddio'r cyllid sydd ar gael i ni. Mae'r cynigion gerbron y Senedd yn parhau âg enw da Llywodraethau Llafur Cymru olynol o ran cynnal y gwasanaethau cyhoeddus y mae cymaint o'n cyd-ddinasyddion ni'n dibynnu arnyn nhw. Fe ddaw cyfran sylweddol o'r buddsoddiad hwnnw, fel dywedais i'n gynharach, o ganlyniad i'r £1.6 biliwn sydd ar gael i Gymru ym mlwyddyn gyntaf Llywodraeth Lafur newydd y DU. Y cyllid hwnnw sydd wedi fy ngalluogi i ddarparu cyllid ychwanegol i adrannau yn y flwyddyn ariannol gyfredol, fel £220 miliwn i gefnogi cyflogwyr y sector cyhoeddus gyda mwy o gyfraniadau yswiriant gwladol, a'r £137 miliwn a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn i gefnogi codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus. Mae cyllideb heddiw yn cadarnhau y bydd y symiau hyn yn cael gwaelodlin a'u bod nhw'n ymddangos yn y ffigurau a gyhoeddwyd.

Rwyf i hefyd wedi penderfynu rhoi llinell sylfaen yng nghyllideb y flwyddyn nesaf ar gyfer nifer o'r buddsoddiadau y gwnaethon ni gytuno arnyn nhw gyda Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fel rhan o gyllideb eleni. Felly, mae'r ffigurau sydd wedi'u cynnwys yn y gyllideb ddrafft yn parhau â'r £30 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol a'r £30 miliwn ar gyfer gofal plant i mewn i 2026-27 a oedd wrth wraidd y cytundeb hwnnw. Rwyf i hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer ail flwyddyn o gyllid ar gyfer y gwasanaeth wedi'i hadfer ar reilffordd Calon Cymru, cwblhau'r cynllun peilot £1 o deithio ar fysiau i bobl ifanc, a'r refeniw sydd ei angen arnom i gefnogi £120 miliwn o fenthyca awdurdodau lleol ar gyfer gwelliannau i ffyrdd a phalmentydd lleol.

Llywydd, bydd y Senedd, yn briodol, yn disgwyl bod cyllidebau'n gwneud darpariaeth ar gyfer penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y Senedd hon. Mae Bil Iaith Arwyddion Prydain yn Fil pwysig dan arweiniad Aelodau sydd â chefnogaeth eang. Er nad yw hwn yn fil gan y Llywodraeth, rwyf i wedi sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud yn y gyllideb ddrafft hon i alluogi nodau'r Bil hwnnw i gael eu deddfu, gan ddefnyddio'r ffigurau a nodwyd yn asesiad effaith rheoleiddiol Mr Isherwood ei hun.

Ar hyn o bryd, ac fel yr eglurwyd yn fy natganiad i'r Senedd ar 1 Gorffennaf, mae'r holl gyllideb adrannol yn cael eu cynyddu i adlewyrchu rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Mawrth 2025 ar gyfer chwyddiant yn 2026-27. Mae hyn yn cynnwys y rhagolwg ar gyfer y datchwyddydd cynnyrch domestig gros, y mae disgwyl iddo fod yn 1.7 y cant, chwyddiant mynegai prisiau defnyddwyr ar 1.9 y cant a thwf cyflog ar 2.2 y cant. At ei gilydd, mae hyn yn golygu y bydd cyllidebau nad ydynt yn gyflog yn cynyddu tua 2 y cant, gyda chynnydd o 2.2 y cant ar gyfer elfennau cyflog y sector cyhoeddus o gyllidebau adrannol. Bydd y rhagolygon hyn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cael eu diweddaru ym mis Tachwedd, a bydd ein cyllideb derfynol yn ystyried effaith unrhyw newidiadau iddynt.

Llywydd, rwyf eisiau pwysleisio i'r Aelodau mai man cychwyn ym mhroses y gyllideb yw'r gyllideb ddrafft hon, nid diwedd proses y gyllideb. Er ei bod yn defnyddio'r mwyafrif helaeth o'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru—98.6 y cant ohono—dylai fod ein bwriad cyffredin i ddefnyddio'r holl arian sydd ar gael i ni i lunio'r gyllideb ar gyfer 2026-27 er budd dinasyddion Cymru. Mae'r 1.4 y cant sydd heb ei ddyrannu yn gyfystyr â rhyw £380 miliwn, sy'n cynnwys cyfuniad o refeniw a chyfalaf. Mae yna gyllideb fwy uchelgeisiol, felly, y byddai'n bosibl cytuno arni ym mis Ionawr, ond mae hynny, wrth gwrs, yn gofyn am gyfranogiad pleidiau gwleidyddol eraill. Mae'r achos dros wneud hynny yn ymddangos yn glir i mi, o ystyried yr heriau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus hyd yn oed gyda chynnydd mewn termau real i gyllidebau.

Yn y cyd-destun hwnnw, Llywydd, rwy'n arbennig o ymwybodol o'r sefyllfa unigryw sy'n wynebu ein hawdurdodau lleol o ystyried y paramedrau cyfreithiol y mae'n rhaid iddyn nhw osod eu cyllidebau eu hunain oddi mewn iddyn nhw. Mae'n gosod rhwymedigaeth ar bob un ohonom i helpu i elwa i'r eithaf ar bŵer gwario cynghorau wrth i ni weithio tuag at y gyllideb derfynol honno. Eisoes, fel rhan o'r gyllideb ddrafft, rwyf wedi cytuno y bydd awdurdodau lleol yn cadw'r holl dwf disgwyliedig y flwyddyn nesaf mewn ardrethi annomestig. Mae hynny'n golygu twf cyfartalog o 2.5 y cant mewn cyllid awdurdodau lleol trwy'r setliad. Yn ogystal, rwyf wedi penderfynu parhau â llawr cyllido ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel y gwnaethom ni ei gytuno ag Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y flwyddyn gyfredol, gyda'r nod o sicrhau nad oes unrhyw gyngor yn derbyn llai na 2.3 y cant yn y cam hwn o broses y gyllideb.

Llywydd, mae ein proses gyllideb yn wahanol eleni nag yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n falch y gallwn ni ddychwelyd i'r trefniant arferol o gyhoeddi cyllideb dau gam, fel sydd wedi'i nodi yn ein protocol cyllideb. Mae hyn yn rhoi'r amser mwyaf posibl i'r Senedd, ac, yn benodol, i'r Pwyllgor Cyllid, graffu ar y penderfyniadau sydd wedi'u nodi ynddi.

Y prynhawn yma, mae blociau adeiladu mawr y gyllideb wedi'u nodi. Bellach mae'n troi at bob Ysgrifennydd Cabinet i benderfynu sut orau i ddefnyddio'r adnoddau hyn, a bydd y penderfyniadau gwariant manwl hynny yn cael eu cyhoeddi ar 3 Tachwedd.

Llywydd, yn olaf, hoffwn i bwysleisio eto heddiw yr hyn a ddywedais yn fy natganiad ar 1 Gorffennaf. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau cyllideb derfynol y mae'n bosibl ei phasio gan y Senedd hon. Ein cyfrifoldeb—ein cyfrifoldeb ar y cyd—fel Aelodau etholedig yw sicrhau'r gyllideb orau bosibl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. I'r perwyl hwnnw, rwy'n annog yr holl Aelodau i gymryd rhan mewn trafodaethau yn ystod yr wythnosau nesaf fel y gall y gyllideb ddrafft hon arwain at gyfres lawn a therfynol o gynigion y mae modd eu pasio gan y Senedd ym mis Ionawr. I'r perwyl hwnnw, edrychaf ymlaen at glywed gan yr Aelodau heddiw. Diolch yn fawr.

15:05

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad yma y prynhawn yma, a hefyd am gymryd amser, gyda'ch swyddogion, i fy mriffio i y bore yma ac, wrth gwrs, am gael gweld cyfraniad heddiw ymlaen llaw hefyd.

Fe wnaf i ddechrau, Llywydd, gyda lle orffennodd yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi amlinellu risgiau'r gyllideb hon sydd gennym ni o'n blaenau heddiw, ac, fel yr ydym wedi clywed, os nad yw'r gyllideb yn cael ei chefnogi, yna gallai gwasanaethau cyhoeddus fod o dan fygythiad. Wrth gwrs, nid oes neb eisiau gweld sefyllfa lle nad yw pobl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, a dyna pam rwy'n falch, fel yr amlinellodd Darren Millar yn gynharach yn sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog, bod y Ceidwadwyr, mewn ysbryd ewyllys da, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog heddiw i gynnig cyfle i drafod y gyllideb hon ymhellach, ac rwy'n falch gydag ymateb cychwynnol y Prif Weinidog. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn wrthblaid gyfrifol, ac er ein bod yn anghytuno'n sylfaenol â'r Llywodraeth Lafur hon ar lawer o faterion, gan gynnwys blaenoriaethau gwario, rydyn ni'n cydnabod mai ymgysylltu â chi ar y gyllideb hon yw'r peth cyfrifol i'w wneud, oherwydd rydyn ni hefyd eisiau osgoi poen diangen yn y gwasanaethau y mae pobl yng Nghymru yn dibynnu arnyn nhw.

Mae'r hyn yr ydyn ni wedi'i glywed heddiw yn teimlo'n gyfarwydd iawn, fodd bynnag, â'r datganiad y cawson ni ym mis Gorffennaf gan yr Ysgrifennydd Cabinet, pan amlinellodd y Llywodraeth ei blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2026-27. Roedd y datganiad hwnnw, fel heddiw, yn sôn am gynnal llinellau sylfaen adrannol, gan addasu ar gyfer chwyddiant a gadael y penderfyniadau mawr hynny i Lywodraeth y dyfodol yn y lle hwn ymdrin â nhw. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod rhai o'r addasiadau llai y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet eu hamlinellu heddiw, yn enwedig o ran y dreth trafodiadau tir, ac yn sicr, byddaf yn awyddus i weld pa wahaniaeth y mae'r addasiadau hynny'n ei wneud.

Yn fras, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi ei fod yn cyflwyno cyllideb 'busnes fel arfer', a fydd yn addasu gyda chwyddiant. Rydyn ni'n glir, fodd bynnag, na all yr hen drefn barhau. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen dan straen, mae ein heconomi'n ddi-dwf ac mae cymunedau'n teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, gyda chyfraddau cyflogaeth Cymru yn gostwng a chyfradd gweithgarwch economaidd isel wedi'i gwaethygu gan gynnydd yswiriant gwladol Llywodraeth y DU ar gyfer cyflogwyr, sy'n effeithio ar bron i filiwn o fusnesau ledled y DU. Mae'r busnesau bach hynny o dan bwysau enfawr. Gyda datganiad hydref y DU yn dal i fod yn yr arfaeth, mae'r gyllideb hon yn gyfle allweddol i roi eglurder i bobl a busnesau ledled Cymru er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol hwn, mae gennym ni athroniaethau gwahanol, wrth gwrs. Un o'r beirniadaethau dro ar ôl tro y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu'n rhy aml, yw ei bod yn ystyried ei hun yn ddarparwr gwasanaethau yn hytrach nag yn alluogwr: hwylusydd entrepreneuriaeth, arloesi a thwf economaidd. Dylai fod yn Llywodraeth sy'n ymddiried yn y bobl a'r busnesau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau: darparu swyddi a chefnogi ein heconomi. Byddai gweledigaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn ail-gydbwyso hyn. Dylai'r Llywodraeth a'i chyllideb ddatgloi cyfleoedd a chreu'r amgylchedd cywir ar gyfer twf economaidd, nid dim ond dyrannu adnoddau ar draws llinellau cyllideb.

Felly, gadewch i mi nodi yr hyn y byddem ni yn ei ystyried yn lle hynny, sut olwg allai fod ar ddull beiddgar y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n canolbwyntio ar dwf. Rydyn ni'n gwybod bod diddymu treth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd yn dileu rhwystrau i brynwyr cartrefi ac yn chwistrellu mwy o weithgarwch i'r farchnad dai, yn annog mwy o bobl i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain ac yn helpu i alluogi prynwyr tro cyntaf i gael lle eu hunain. Gwyddom fod gostwng cyfradd sylfaenol treth incwm o 1c, gan roi arian yn ôl ym mhocedi pobl, yn cefnogi pobl sy'n gweithio ac yn helpu i ysgogi ein heconomi. Rydyn ni'n blaid sy'n ymddiried mewn pobl â'u harian eu hunain i wneud y penderfyniadau cywir iddyn nhw a'u teuluoedd. Gwyddom fod dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach yn caniatáu i entrepreneuriaid, siopau stryd fawr a busnesau cymunedol dyfu heb gael eu mygu gan gostau treth beichus. Ac rydyn ni'n gwybod y byddai dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym yn amddiffyn y cymunedau gwledig ac arfordirol sy'n dibynnu ar y busnes pwysig hwn.

Ym maes gwasanaethau iechyd a chyhoeddus, byddem ni'n datgan argyfwng iechyd, yn ymrwymo i leihau amseroedd aros, yn cyflwyno gwarant meddygon teulu saith diwrnod ac yn sefydlu cofrestr arweinyddiaeth y GIG fel nad yw'n bosibl ail-gyflogi rheolwyr sydd wedi methu mewn mannau eraill. Bydd GIG iach yn cael mwy o bobl yn ôl i'r gwaith ac yn lleihau'r nifer pryderus o uchel o bobl economaidd anweithgar sydd gennym ni yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Fe wnaf ildio i'r Aelod.

15:10

Diolch yn fawr iawn. Ac mae'r rhain yn gynigion hollol ddilys: i leihau treth incwm, i ddileu treth stamp a dileu ardrethi busnes. Mae'n gyllideb sefydlog, felly, os gwnawn ni hynny, mae yna gost. Rydych chi naill ai'n torri arian neu rydych chi'n codi arian. Felly, beth yw amcangyfrif y gost y mae'r Ceidwadwyr yn ei rhoi ar leihau'r trethi hynny, ac o ble fyddai'r cyllid hwnnw'n dod?

Mae'n ymyriad teg, ac yn sicr, fe wnawn ni nodi'r holl fanylion i chi cyn yr etholiadau ym mis Mai. Ond rydyn ni eisoes wedi clywed—[Torri ar draws.] Rydyn ni eisoes wedi clywed—[Torri ar draws.] Rydyn ni eisoes wedi clywed—[Torri ar draws.] Rydyn ni eisoes wedi clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Rydyn ni eisoes wedi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet bod £380 miliwn o arian heb ei ddyrannu ar hyn o bryd. Rydyn ni eisoes yn ymwybodol o'r lefelau gwastraff yn Llywodraeth Cymru y byddwch chi, Lee Waters, yn sicr yn y bôn, yn ymwybodol ohonyn nhw, a byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod gennym ni gyllideb gytbwys, yn hollol.

Rydyn ni hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth Lafur y DU i ollwng y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ac i wrthdroi newidiadau treth etifeddiant, y ddau ohonyn nhw'n effeithio'n niweidiol ar gwmnïau teuluol Cymru a ffermydd teuluol Cymru. Nid yw'r rhain yn ofynion amwys. Bydd Lee Waters yn falch o glywed eu bod yn ddewisiadau pendant wedi'u costio'n llawn ac wedi'u gwreiddio'n mewn athroniaeth wahanol: cefnogi twf, lleihau beichiau, grymuso economïau a chymunedau lleol, sicrhau bod y Llywodraeth yn ddarbodus ond yn effeithiol. Cyferbynnwch hynny â'r amlinelliad heddiw: dim ymrwymiadau gwariant mawr newydd, dim agenda drawsnewidiol glir, parhad o'r hyn sydd wedi dod o'r blaen. Yn y cyfamser, mae'r cefndir economaidd yn gwaethygu.

Llywydd, ni all pobl yng Nghymru fforddio i bethau sefyll yn stond, nid pan fo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau a theuluoedd yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i bwyso am gyllideb sy'n feiddgar, sy'n galluogi, sy'n canolbwyntio ar dwf ac sydd wedi'i gwreiddio mewn darparu pŵer, cyfle a dewis nôl i bobl a'u cymunedau. Mae pobl Cymru yn haeddu mwy. Maen nhw'n haeddu gweledigaeth, cynllun a Llywodraeth sy'n credu ynddyn nhw. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad, a hoffwn innau hefyd ddiolch am y briff gyda swyddogion a chithau yn gynharach heddiw ac rwy'n gwerthfawrogi gweld y datganiad ymlaen llaw, wrth gwrs. Mae'r dogfennau'n gynhwysfawr. Fedraf i ddim dweud fy mod i wedi mynd drwyddyn nhw i gyd eto, ond rwy'n gweithio drwyddyn nhw. Yn hytrach na mynd am yr hyn rydyn ni newydd ei weld rŵan, fel rhyw party political broadcast gan y Ceidwadwyr, dwi yn mynd i sicrhau fy mod i'n ymateb i'r hyn sydd o'n blaenau ni heddiw, sef y gyllideb ddrafft hon.

Wrth gwrs, mi ydyn ni fel plaid yn deall pwysigrwydd bod y gyllideb yn pasio. Fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet, bydd yna effaith real ar bobl Cymru a'n gwasanaethau cyhoeddus ni. Mae hwnna'n berffaith amlwg. Yn amlwg, yn y rhagair, yn wahanol i'r hyn rydych chi wedi'i ddarllen heddiw, i'r gyllideb ddrafft, rydych chi'n sôn mai cyfrifoldeb y Llywodraeth ydy sicrhau bod cyllideb yn pasio. Ac mae'r ffaith nad oes yna gyllideb lawn hyd yma'n cael ei chyflwyno—mae'n rhaid eich bod chithau'n cydnabod bod hynna'n creu ansefydlogrwydd a phryder, yn arbennig, felly, fel roeddech chi'n sôn, o ran llywodraeth leol. Mae hyd yn oed pasio'r gyllideb hon fel y mae hi yn mynd i greu problemau aruthrol. Rydyn ni wedi clywed llywodraeth leol yn sôn am y codiadau fyddai eu hangen o ran y dreth gyngor, er enghraifft, o 20 y cant, miloedd o swyddi yn cael eu colli. Dwi'n siŵr bod yna neb fan hyn sydd eisiau gweld hynny'n digwydd, felly mae hi yn sicr yn rhywbeth mae'n rhaid inni i gyd fod yn ei drafod, ac yn deall arwyddocâd o beth mae'r gyllideb hon, fel mae wedi cael ei chyflwyno heddiw, yn ei olygu, felly.

Mi oeddech chi'n sôn am yr hyn rydych chi wedi'i wneud o ran yswiriant gwladol. Yn amlwg, mae hwn hefyd wedi bod yn bwnc rydyn ni wedi'i drafod lawer gwaith yn ystod y misoedd diwethaf yma. Mi fyddwn i'n hoffi gwybod gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn eich ymateb i'r ddadl, pa drafodaethau pellach sydd wedi bod efo Llywodraeth Lafur San Steffan o ran hyn. Mae o'n mynd â chanran helaeth o'n cyllideb ni erbyn hyn. Mae hwn yn golygu toriad real i gyllideb Llywodraeth Cymru gan San Steffan. Felly, sut ydyn ni am fynd rhagddo efo hyn? Oherwydd dwi'n cydnabod eich bod chi wedi rhoi hyn yn y gyllideb ddrafft, a dwi'n deall pam bod hyn yn angenrheidiol a beth fyddai'r sefyllfa o beidio â gwneud hyn—yn sicr, rydyn ni wedi clywed tystiolaeth gref ar hyn ym mhob pwyllgor craffu dros y flwyddyn ddiwethaf yma—ond eisiau gwybod ydw i sut ydyn ni'n mynd i gael y sicrwydd yna. A pha sicrwydd ydyn ni'n mynd i'w gael na fydd y gyllideb nesaf gan Lywodraeth Lafur San Steffan ddim hefyd yn mynd i greu bylchau pellach i ni?

Felly, yr hyn y byddwn i hefyd yn hoffi ei wybod—. Yn amlwg, mae'r Alban wedi penderfynu aros a gweld o ran eu cyllideb nhw, o ran yr hyn a fydd yn dod allan o gyllideb yr hydref, sy'n fwy o gyllideb y gaeaf yn ôl yr amseru gan Lywodraeth Lafur San Steffan. Beth fyddwch chi'n ei wneud, felly, o ran galluogi'r hyblygrwydd i ymateb i beth fydd yn y gyllideb honno, a beth ydy'r hyn rydych chi'n gobeithio ei weld yno, fel ein bod ni'n gallu mynd ati i edrych ar yr hyn yr oeddech chi'n ei ddeisyfu o ran gwasanaethau cyhoeddus?

Mi ydw i'n croesawu eich ymrwymiad trawsbleidiol o ran Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Dwi'n meddwl bod hwn yn beth dylem ni i gyd fod yn ei groesawu. Mae yna nifer ohonom ni yn drawsbleidiol yn gweld gwerth a phwysigrwydd hyn, a dwi'n credu, yn olwg y ffordd rydych chi'n ceisio mynd ati efo'r gyllideb hon i gael consensws, fod hwnna'n rhywbeth i'w groesawu.

15:15

A wnewch chi gymryd ymyriad? Dros y penwythnos, fe glywais i am gynigion sydd ar ddod, megis cyflwyno gofal plant a chyllid i gadw athrawon. Fel chi, rwy'n poeni am wasanaethau cyhoeddus hefyd, ond heb roi'r cynnydd hwnnw i wasanaethau cyhoeddus, nad ydych wedi sôn amdano—rydych chi wedi sôn am y pethau eraill hyn—sut allwn ni ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus? 

Ydych chi'n gofyn i Lywodraeth Plaid Cymru yn y dyfodol, yr hoffech wybod sut y byddem yn talu am y rheini? Ai dyna’r hyn rydych chi'n gofyn?  

Na, rwy'n gofyn oherwydd eich bod chi'n seilio'r cynigion hynny ar gyflwyno cyllideb dreigl, yn y bôn, gyda chynnydd o 2 y cant. Does dim modd cyflawni unrhyw un o'r cynigion hynny heb fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn gyntaf, a sicrhau bod y blociau adeiladu yno yn eu lle.

A byddwn ni'n edrych gyda chyllid teg ar amrywiaeth eang o faterion eraill, a bydd gennym ni faniffesto wedi'i gostio'n llawn. Ond heddiw rydyn ni'n trafod y maniffesto sydd o'n blaenau ni nawr. Fel y dywedais i, dydw i ddim yn achub ar y cyfle i fod yn ddarllediad gwleidyddol. Rwy'n ymgysylltu â'r gyllideb sydd o'i blaen hi nawr, ac rwy'n gobeithio bod hynny wedi bod yn glir. Nid yw hyn yn fater o sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Felly, wrth i'r trafodaethau fynd heibio a rhagddo, dwi'n edrych ymlaen at fod yn rhan lawn o ran y broses graffu. Mi fyddem ni'n hapus iawn, wrth gwrs, i fod yn rhan o hynny drwy bwyllgorau ac yn uniongyrchol, i weld sut ydyn ni'n mynd ati i sicrhau ein gwasanaethau cyhoeddus ni. Mae'r rhybuddion wedi bod yn glir, felly mae yna reidrwydd arnom ni i fod yn aeddfed o ran y drafodaeth dros y misoedd nesaf yma. Dwi'n edrych ymlaen at fynd ati i glywed mwy o'r sylwadau yn ystod y ddadl yma heddiw, ac wrth gwrs dros y misoedd a'r wythnosau nesaf yma.

Fel y gwnaethoch chi ei nodi, Ysgrifennydd Cabinet, yn ystod eich datganiad, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau cyllideb derfynol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn derbyn y cyllid sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i'n hetholwyr, a hefyd i ddiogelu swyddi.

Yn fy nghyfraniad i, rwyf eisiau canolbwyntio ar dreth ddatganoledig, y dreth gwarediadau tirlenwi, y cyfeirioch chi ati eto yn eich datganiad gwreiddiol. Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gosod cynigion uchelgeisiol i ddiwygio ei threth tirlenwi ym mis Ebrill. Roedd y cynigion hynny'n cynnwys symud o'r system bresennol ddwy gyfradd i un gyfradd erbyn 2030, a dileu gostyngiadau eraill hefyd. Fe wnaethoch chi siarad am sut, yn dibynnu ar ganlyniad y cynigion hynny yn Lloegr, y byddech chi'n amddiffyn ein treth gwarediadau tirlenwi, a hefyd sut y byddech chi'n amddiffyn Cymru rhag twristiaeth gwastraff. Felly, hoffwn i ofyn i chi egluro pa asesiadau rydych chi wedi'u gwneud o'r cynigion hynny a pha gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau, os bydd y cynigion hyn yn arwain at newid, na fydd hynny'n arwain at dwristiaeth gwastraff. Byddwch chi'n gwerthfawrogi fy mod i'n cynrychioli etholaeth ar y ffin, ac ar hyd y coridor hwnnw yn y gogledd-ddwyrain i gyd mae gennym bryderon gwirioneddol am dwristiaeth gwastraff.

Fe wnaethoch chi hefyd sôn am y newidiadau y gwnaeth Llywodraeth Cymru eu cyflwyno y llynedd ynghylch y rheolau ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi, gan wneud y gyfradd is yn ganran sefydlog o'r gyfradd uwch. Ac oherwydd mai dim ond, rwy'n credu i chi ddweud, 25 y cant o'r data oedd ar gael, na fyddech chi'n gwneud unrhyw benderfyniad pellach ar hyn o bryd. Ond tybed a allech chi hefyd roi eglurhad ynghylch hynny mewn diweddariad. Diolch.

15:20

Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r cadarnhad y bydd darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer fy Mil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) dan arweiniad Aelod.

Fodd bynnag, gan gyfeirio at faterion eraill, mae'n rhaid i mi ddweud bod cyllideb y llynedd yn llawn ymdrechion ofer i fod yn ddarbodus. Mae ein helusennau a'n sefydliadau cymunedol yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd o'r gwaelod i fyny, gan ddarparu gwasanaethau allweddol sy'n gwella bywydau ond sydd hefyd yn lleihau'r galw am wasanaethau statudol. Fodd bynnag, er gwaethaf cefnogaeth gyhoeddus honedig yr Ysgrifennydd cyllid hwn i wasanaethau iechyd a gofal darbodus—gyda gweithwyr proffesiynol gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau yn gweithio ochr yn ochr i ddarparu datrysiadau, ac ar gyfer cynhwysiant, atal ac ymyrraeth gynnar—fe wnaeth atal darparwyr gwasanaethau elusennol a chymunedol rhag cael adnoddau, a thrwy hynny rhoddwyd pwysau costau llawer uwch ar ddarparwyr gwasanaethau statudol.

Yn ystod y ddadl ar gyllideb ddrafft 2025-26, fe dynnais i sylw at drafferthion y sector, wedi'u hysgogi gan gostau cynyddol a'r cynnydd mewn yswiriant gwladol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur y DU. Fel y rhagwelwyd, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny i elusennau a darparwyr trydydd sector, gan gynnwys ein hosbisau elusennol, gyda methiant Llywodraeth Cymru i'w cefnogi yn gwaethygu'r pwysau ar wasanaethau statudol. Er bod Llywodraeth Cymru yn ariannu tua 32 y cant o wariant hosbisau oedolion, mae amrywiad sylweddol yn lefelau'r cyllid, ac, yn gyffredinol, mae hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru yn cael llai o gyllid gan y Llywodraeth fel cyfran o wariant nag yn Lloegr a'r Alban.

Mae Hosbis Dewi Sant wedi gorfod cau pedwar gwely yng Nghaergybi, mae Hosbis Shalom House yn sir Benfro wedi cyhoeddi y bydd yn cau ddiwedd y mis hwn, ac mae sawl hosbis arall yn ystyried cau. Anwybyddodd yr Ysgrifennydd cyllid hwn y cyllidebau diffygion ar gyfer 2025-26 a ragwelwyd gan ein hosbisau, ac mae'n rhaid ymdrin â hyn yng nghyllideb 2026-27. Dydy gofal hosbis ddim yn foethusbeth; mae'n angenrheidiol.

Cafodd rhybuddion gan Gofal Canser Tenovus eu hanwybyddu hefyd. Er iddyn nhw gymryd camau i ddiogelu gwasanaethau hanfodol yn 2025-26 trwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i gefnogi cyllideb ddiffyg, roedd costau ynghlwm wrth hynny: cau dwy siop elusen, diswyddiadau a cholli gwirfoddolwyr gwerthfawr. Wrth edrych ymlaen, mae Tenovus yn wynebu cylch cynllunio arall o dan bwysau ariannol cynyddol. Mae elusennau fel Tenovus yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl yng Nghymru sydd â diagnosis o ganser, ond mae angen mwy o gymorth ar frys. Maen nhw a'r sector ehangach yn parhau i wynebu heriau gydag ansicrwydd ynghylch cyhoeddiadau am y gyllideb, a dim arwydd o gymorth ychwanegol i elusennau sy'n ategu gwaith y GIG a llywodraeth leol.

Mae'r elusen iechyd meddwl a chaethiwed, Adferiad, wedi cael cymorth ariannol cyfyngedig mewn ymateb i gostau cynyddol. Dim ond y grant cymorth tai a wnaeth gydnabod effaith y cynnydd mewn yswiriant gwladol yn llawn. O ganlyniad, mae Adferiad wedi gorfod lleihau ei gwasanaethau, ail-dendro contractau gyda llai o oriau, a rhoi rolau â llai o oriau yn lle swyddi gwag.

Mae Cerebral Palsy Cymru yn cefnogi plant a theuluoedd ledled Cymru, ond mae toriadau cyllid wedi cael effaith ddifrifol ar eu gwaith, yn fwyaf nodedig gostyngiad o 70 y cant i'w rhaglen ymyrraeth gynnar sy'n arwain y byd. Gyda thros 6,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda pharlys yr ymennydd a babi yn cael ei eni â'r cyflwr bob pum diwrnod, mae'r elusen nawr, am y tro cyntaf mewn 32 o flynyddoedd, yn gwrthod babanod y mae angen ei chymorth sy'n newid bywydau arnynt. Fel y dywedon nhw, bydd hyn yn cynyddu anghydraddoldeb iechyd, yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau statudol ac yn codi costau'r GIG a gofal cymdeithasol yn yr hirdymor. Maen nhw'n annog pob plaid wleidyddol i ymrwymo £300,000 bob blwyddyn i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at ymyrraeth gynnar.

Ym mis Mehefin, fe wnes i gyfarfod â phrif weithredwr Anheddau Cyf, elusen nid-er-elw sy'n darparu gwasanaeth byw â chymorth hanfodol 24 awr i 140 o oedolion ag anableddau dysgu ledled y gogledd, gan gynnwys gwasanaethau wedi'u comisiynu ar gyfer pum awdurdod lleol yn y gogledd. Heddiw, mae'n brwydro i oroesi oherwydd costau cynyddol. Erbyn hyn, mae deiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ac achub Anheddau wedi cael cefnogaeth dros 1,000 o bobl. Ers dros 35 o flynyddoedd, maen nhw wedi cefnogi pobl sy'n byw gydag awtistiaeth, anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl ac anghenion cymhleth, ond maen nhw'n wynebu diffyg o £400,000, gan roi 400 o swyddi mewn perygl, a chyda nhw'r gymuned gofal ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru hefyd yn annog mwy o ffocws ar atal yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Fel y dywed y comisiynydd:

'Drwy gefnogi heneiddio’n iach, gellir lleihau neu oedi’r galw am rai gwasanaethau, gan osgoi’r angen am ymyriadau mwy costus yn nes ymlaen. Mae buddsoddi mewn atal nid yn unig yn gost-effeithiol—mae hefyd yn gwella safon bywyd pobl hŷn.'

Felly, rhaid i gyllideb 2026-27 wario'n well, gan fuddsoddi'n ddoeth i ganiatáu i ddarparwyr gwasanaethau trydydd sector leihau pwysau costau ar wasanaethau statudol trwy gadw pobl, lle bynnag y bo'n bosibl, allan o wasanaethau statudol. A'r ateb yw trwy fuddsoddi symiau llai yn y gwasanaethau allweddol hyn i sicrhau nad yw costau uwch wedyn yn cael eu gosod ar wasanaeth statudol trwy ymdrechion ofer i fod yn ddarbodus. Diolch yn fawr.

15:25

Mae'r gyllideb yn benderfyniad pwysig a wneir gan y Senedd. Mae methiant i basio'r gyllideb yn arwain at ganlyniadau trychinebus, nid i Lywodraeth Cymru, ond i'r rhai sy'n cael eu cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac i bobl Cymru. Mae cytundeb y Senedd i'r cynnig cyllideb blynyddol yn awdurdodi Llywodraeth Cymru a chyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan gronfa gyfunol Cymru i wario adnoddau, fel y nodir yn y cynnig, yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n gysylltiedig â'r gyllideb. Mae hefyd yn pennu terfynau'r incwm y gall Llywodraeth Cymru a chyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol ei gadw, a faint o arian y gall pob corff ei dynnu o gronfa gyfunol Cymru. [Torri ar draws.] A gaf i orffen y darn nesaf, ac yna, wrth gwrs?

Yr hyn sy'n digwydd os nad yw cynnig cyllideb yn cael ei basio cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod yw bod adran 127 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dod i rym yn awtomatig. Ie.

Wrth edrych ar y niferoedd a'r ffaith bod rhywun wedi newid plaid yn ddiweddar, beth ydych chi'n credu sy'n mynd i ddigwydd o ran—? Ydych chi'n credu y bydd y gyllideb yn cael ei chefnogi? [Torri ar draws.] [Chwerthin.]

Ydw i'n credu y bydd y gyllideb yn cael ei chefnogi? Rwy'n gobeithio y bydd hi, oherwydd bydd yr effeithiau yn drychinebus os na chaiff hi, gan gynnwys ar gyfer Aelodau na fyddan nhw'n cael eu cyflogau llawn.

Byddai hyn yn rhoi awdurdod i Lywodraeth Cymru a chyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol wario adnoddau, cadw incwm, a thynnu arian parod o gronfa gyfunol Cymru hyd at 75 y cant o'r terfynau a gymeradwywyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Os na fydd cynnig cyllideb wedi'i basio o hyd erbyn diwedd mis Gorffennaf, ystyrir bod hyd at 95 y cant o derfynau'r flwyddyn ariannol flaenorol wedi'u hawdurdodi. Rwy'n credu fel y dywedoch chi, Llywydd, mewn cyfarfod, y gall hyn achosi problemau difrifol.

Yn ymarferol, mae'n golygu y bydd byrddau iechyd yn gorwario o ddechrau'r flwyddyn hyd at y 95 y cant gwarantedig. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn rhan gyntaf y flwyddyn, hyd at fis Gorffennaf, i ddiogelu 95 y cant o'r gwariant cyfredol. Ar gyfer y cynghorau hynny sydd heb fawr o gronfeydd wrth gefn, bydd angen i Lywodraeth Cymru wneud benthyciad tymor byr i ganiatáu i'r cynghorau barhau i weithredu. Bydd y naill senario a'r llall yn effeithio ar weddill y sector cyhoeddus. Os nad oes cyllideb, bydd hyn yn golygu bod toriadau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus a nifer mawr o ddiswyddiadau.

Y dewis arall a awgrymwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yw cynyddu pob cyllideb yn ôl chwyddiant a phenderfynu ar unrhyw arian sy'n weddill ar ôl yr etholiad, cyllideb dreigl i bob pwrpas. Nid yw hyn yn syml. Chwyddiant yw'r gyfradd cynnydd mewn prisiau, ac mae yna lawer o ffyrdd o'i gyfrifo. Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwirio prisiau cannoedd o eitemau mewn basged o nwyddau a gwasanaethau sydd wedi'i chynllunio i gynrychioli'r hyn y mae pobl yn ei brynu ar gyfartaledd. Mae'r fasged yn cynnwys eitemau cost isel fel torth o fara neu docyn bws, ac mae hefyd yn cynnwys rhai llawer mwy, fel car a gwyliau. Yr enw ar bris cyffredinol y fasged yw'r mynegai prisiau defnyddwyr. Nid yw prisiau gwyliau a thocynnau bws yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Mae cost chwyddiant gwasanaethau cyhoeddus yn wahanol. Er mwyn cyfrifo'r gyfradd chwyddiant, maen nhw'n cymharu'r mynegai prisiau defnyddwyr â'r hyn yr oedd flwyddyn yn ôl. Y newid yn lefelau y prisiau dros y flwyddyn yw'r gyfradd chwyddiant, ond mae llawer o'r cynnydd diweddar mewn chwyddiant wedi'i greu gan brisiau nwyddau byd-eang, ynni a bwyd yn bennaf. Roedden ni'n arfer defnyddio'r mynegai prisiau manwerthu, ond mae'r mynegai prisiau defnyddwyr wedi cymryd ei le nawr. Mae'r mynegai prisiau defnyddwyr, sy'n canolbwyntio ar fasged o nwyddau a gwasanaethau, yn cael ei brynu fel arfer gan aelwydydd, tra bod y mynegai prisiau manwerthu yn amrywiaeth ehangach o eitemau sy'n cynnwys taliadau llog morgais a'r dreth gyngor. Nawr, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus sy'n talu cyfraddau llog morgais. Nid yw'r naill na'r llall o'r rhain yr un fath â'r gyfradd chwyddiant ar gyfer iechyd, llywodraeth leol neu wasanaethau cyhoeddus eraill.

Ym mis Awst, amcangyfrifwyd bod y gyfradd chwyddiant gwasanaethau cyhoeddus yn 4.7 y cant, ac ym mis Gorffennaf roedd yn 5 y cant. Bydd y gyfradd chwyddiant ar gyfer gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus yn wahanol. Ond nid y sector cyhoeddus yw'r hyn y mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei gynhyrchu, y mynegai prisiau defnyddwyr na'r mynegai prisiau manwerthu; y cynnydd mewn prisiau mewn sefydliadau ydyw. Mae chwyddiant gwasanaethau ar gyfer llywodraeth leol dros 4 y cant yn uwch na'r amcangyfrif chwyddiant derbyniedig, felly byddai cynnydd o 2 y cant yn heriol iawn ac ni fyddai'n gyllideb sy'n aros yn ei hunfan. Os bydd cynghorau yn parhau i wneud arbedion effeithlonrwydd ar draws pob maes gwasanaeth, lle mae'r rhain yn bosibl, bydd cyfuniad niweidiol o gynnydd yn y dreth gyngor, toriadau i wasanaethau a llai o swyddi yn cael ei deimlo gan staff a chymunedau. 

Yr hyn y gallwn ni ei weld yw bod chwyddiant y sector cyhoeddus yn wahanol i naill ai'r mynegai prisiau defnyddwyr neu'r mynegai prisiau manwerthu, felly byddai defnyddio'r naill neu'r llall yn amhriodol ac, yn wir, byddai'n anghywir. Yr hyn sydd ei angen arnon ni yw'r gyfradd chwyddiant ar gyfer y sector cyhoeddus. Ac mae'r wybodaeth honno yn bodoli, a dyna sydd ei angen arnon ni. Fel arall, rydyn ni'n mynd i gael cyllideb dreigl, a fydd yn golygu dwyn toriadau ymlaen. A dydw i ddim yn credu bod unrhyw un yn yr ystafell hon eisiau dwyn toriadau ymlaen. Felly, mae angen cynnydd o rhwng 4 y cant a 5 y cant er mwyn ei chyflawni. Os gall rhywun wneud cyfrifiad ar gyfer chwyddiant y sector cyhoeddus sy'n rhoi rhif gwahanol i hynny, byddwn i'n hapus i'w drafod gyda nhw. Ond mae llywodraeth leol ac iechyd yn dweud wrthyf fod angen 4 y cant neu 5 y cant ar gyfer cyllideb dreigl. Mae cynnydd o 2 y cant neu 3 y cant, mewn gwirionedd, yn doriad o 3 y cant neu 2 y cant. Mae unrhyw beth llai yn gyllideb sy'n seiliedig ar doriadau, nid cyllideb dreigl. 

Ac a gaf i ddweud i gloi, o ran y dreth trafodiadau tir, os ydych chi'n torri'r dreth trafodiadau tir, yr unig beth rydych chi'n ei wneud yw cynyddu prisiau tai. 

15:30

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad hwn? A gaf i ddweud hefyd fy mod i'n ddiolchgar iawn am y warant barhaus o'r £30 miliwn ar ofal cymdeithasol, y £30 miliwn ar ofal plant, cyllid parhaus ar gyfer rheilffordd Calon Cymru, blwyddyn 2 o docynnau bws £1 yn parhau, a hefyd gyllid gwaelodol ar gyfer awdurdodau lleol? Rwyf eisiau dechrau trwy fod yn glir iawn fy mod i'n barod i weithio gydag unrhyw blaid i ddod o hyd i ffordd adeiladol ymlaen yn y gyllideb hon, fel y gwnes i'r llynedd. Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol. Allwn ni ddim bod yn fodlon â gwasanaeth gofal cymdeithasol sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Allwn ni ddim bod yn fodlon â thlodi plant ar 29 y cant. Allwn ni ddim bod yn fodlon bod ein hafonydd a'n moroedd yn parhau i gael eu llygru.

Yn gyntaf, mae angen uchelgais arnon ni o ran gofal cymdeithasol. Rydyn ni wedi clywed ac rydyn ni'n gwybod bod un o bob saith gwely ysbyty ar draws Cymru wedi'i lenwi gan rywun sy'n barod i fynd adref, ond allan nhw ddim oherwydd nad yw'r gofal ar gael. Mae disgwyl nawr i bwysau gofal cymdeithasol gyfrif am bron i 40 y cant o'r straen ariannol ar lywodraeth leol. Mae ein gweithlu gofal yn benodol wedi'u hymestyn. Mae ganddyn nhw gynnydd cyfyngedig, ac un o'r cyfraddau trosiant uchaf o blith unrhyw sector. Y penwythnos hwn, gosododd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru gynllun beiddgar i ymdrin â'r argyfwng cymdeithasol yn uniongyrchol, wedi'i ariannu gan gynnydd cymedrol o un geiniog yn y dreth incwm, oherwydd dydy ceiniog ar gyfer gofal cymdeithasol ddim yn ymwneud â threthu mwy, mae'n ymwneud â gofalu mwy. 

Mae gofal plant yn faes arall lle mae angen i ni fod yn uchelgeisiol. Erbyn hyn, mae Cymru yn cynnig y ddarpariaeth gofal plant leiaf hael yn y DU. Ac mae arolwg gofal plant diweddaraf Coram yn dangos y gall plant dan ddwy oed gostio mwy na £15,000 y flwyddyn i deuluoedd, gyda rhai menywod yn gwario bron i 60 y cant o'u henillion wythnosol dim ond i weithio. Drwy ein gwaith ar y gyllideb flaenorol, llwyddon ni i sicrhau'r £30 miliwn ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg, gan gyflwyno honno ledled Cymru i deuluoedd ble bynnag y maen nhw'n byw, oherwydd mae ein huchelgais yn bwysig iawn, iawn, ond dylen ni ddim gorffen yn y fan yna. Rydyn ni'n credu mewn 30 awr o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn, ar gyfer pob plentyn o naw mis i bedair oed. Mae hwn yn gynnig sy'n newid bywydau sy'n llawer mwy hael nag sydd gennym ni ar hyn o bryd . 

O ran ein hafonydd a'n moroedd, mae'r llygredd ledled Cymru yn cynyddu, yn anffodus. Rydyn ni'n gweld ein hafonydd a'n traethau yn cael eu llygru â charthffosiaeth heb ei thrin, gan niweidio bywyd gwyllt, niweidio cymunedau a bygwth twristiaeth. Mae'r raddfa yn syfrdanol. Yn ein parciau cenedlaethol, mae gorlifoedd carthion yn digwydd ddwywaith cymaint ag a welir mewn mannau eraill o'r wlad, gyda Bannau Brycheiniog yn wynebu 489 awr o orlifoedd yn 2024. Ac mae fy afon leol fy hun, Afon Gwy, wedi dirywio mor wael fel bod bron i 4,000 o bobl wedi cymryd y cam digynsail o lansio yr achos cyfreithiol amgylcheddol mwyaf erioed yn y DU. Mae angen i ni weld camau gweithredu brys a phendant.

Yn olaf, ni ellir anwybyddu gwasanaethau lleol. Mae cynghorau ar y rheng flaen, yn cyflawni'r hyn sy'n bwysicaf i bobl. Ond, erbyn hyn, mae dros 70 y cant o gyllidebau awdurdodau lleol yn cael eu llyncu gan y galw cynyddol ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant ac addysg. Mae CLlLC yn rhybuddio bod cynghorau Cymru yn wynebu diffyg cyllid o 7 y cant—bwlch na allan nhw ei gau heb dorri gwasanaethau, gwneud diswyddiadau neu godi'r dreth gyngor. Roeddwn i'n falch o glywed am barhad cyllid gwaelodol, ond mae angen iddo fod yn uchelgeisiol. Mae angen iddo fod o leiaf 6 y cant.

Mae Cymru'n haeddu mwy na dim ond setlo. Mae angen uchelgais arni. Mae'r heriau sydd o'n blaenau yn gofyn am ddewrder, cydweithredu a gweledigaeth. Rydyn ni wedi dangos yn y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, pan fyddwn ni'n gweithio'n adeiladol, y gallwn ni gyflawni newid gwirioneddol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gynigion manylach, ac i bob un ohonon ni yma yn y Senedd, mae angen i ni ymgysylltu o ddifrif â'n gilydd ar y materion sy'n effeithio ar bobl yn eu bywydau bob dydd. Diolch yn fawr iawn.

15:35

Ysgrifennydd Cabinet, deddfwrfa ydyn ni, ac mae'n un o'n prif swyddogaethau fel Senedd. Fodd bynnag, mae'r trefniadau cyllido ar gyfer Llywodraethau datganoledig yn annheg. Mae gennym ni bedair deddfwrfa yn y Deyrnas Unedig, a thra bod yr adnoddau gofynnol yn cael eu darparu ar gyfer deddfwriaeth ar lefel y DU, wrth gwrs mae darpariaeth annheg o ran y Llywodraethau datganoledig. Un o'r pryderon sydd gennyf yw'r gallu nid yn unig i gefnogi'r ddeddfwriaeth, ond hefyd y broses ddeddfwriaethol, ac yn arbennig hefyd i gefnogi'r gallu i gyflwyno deddfwriaeth meinciau cefn. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn i chi sut mae'r gyllideb ddrafft yn adlewyrchu costau deddfwriaeth, prosesau deddfwriaethol, ac yn enwedig costau deddfwriaeth meinciau cefn, neu'n gwneud darpariaeth ddigonol ar eu cyfer?

Mae'r datganiad heddiw ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, 2026-27, yn amlygu'r hyn y mae trigolion Cymru yn gwybod fwyfwy ei fod yn wir: Llywodraeth Lafur flinedig ym Mae Caerdydd sydd wedi rhedeg allan o stêm ac wedi rhedeg allan o syniadau. Does dim ymrwymiadau gwariant newydd, does dim strategaeth twf a does dim gweledigaeth wirioneddol ar gyfer Cymru. Yn hytrach, dywedir wrthym y bydd y gyllideb hon yn cynyddu ar yr un raddfa â chwyddiant ac y bydd unrhyw 'arian sy'n weddill' yn cael ei adael i'r Llywodraeth nesaf benderfynu arno. Wel, Llywydd, os yw cyflwr presennol ein heconomi yn ffon fesur o unrhyw fath, yna ni all y Llywodraeth nesaf ddod yn ddigon buan, oherwydd mae pobl Cymru yn talu mwy ac yn cael llai. Mae gennym ni'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU, ar 70.8 y cant, yr anweithgarwch economaidd uchaf, ar 25.6 y cant, ac mae diweithdra yn codi fis ar ôl mis.

Ond dydy hyn ddim yn haniaethol. Y tu ôl i bob un o'r rhifau hynny mae teulu sy'n cael ei chael hi'n anodd ymdopi â biliau uwch, busnes sydd mewn perygl o gau, neu dafarn, neu berson ifanc sy'n gadael Cymru i chwilio am gyfle yn rhywle arall. Felly, mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o swyddi gwyrdd a thwf a chyfle i bob teulu yn swnio'n eithaf gwag pan ydyn ni'n symud am yn ôl yn y ddau faes. Amlinelliad y gyllideb hon yw cadw'r un hen drefn—dim uchelgais, dim diwygio, dim gobaith. Llywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir ynglŷn â'r hyn y bydden ni'n ei flaenoriaethu mewn cyllideb: torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm 1c—y gwrthwyneb i'r hyn y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei addo heddiw—gan arbed dros £450 y flwyddyn i'r aelwyd gyffredin; diddymu'r dreth trafodiadau tir ar bob prif breswylfa, gan helpu pobl i brynu cartref am y tro cyntaf a rhoi hwb i'r farchnad dai; cael gwared ar ardrethi busnes—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, Mike, cewch.

Pam ydych chi'n credu na fyddai dileu'r dreth trafodiadau tir ond yn cynyddu prisiau tai?

Oherwydd mae'n rhoi cyfle i bobl, fel yr wyf i'n ei ddweud, i brynu cartref am y tro cyntaf, buddsoddi mewn eiddo, a bod yn falch o fod yn berchen ar dŷ, sy'n rhywbeth i'w drysori, rwy'n credu.

Byddem yn cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, anadl einioes ein strydoedd mawr, ac yn diddymu treth twristiaeth niweidiol Llafur cyn iddi ddechrau hyd yn oed—treth ar ymwelwyr, swyddi a thwf. Mae'r rhain yn fesurau ymarferol, treth isel, o blaid twf, o blaid teuluoedd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Ond, yn hytrach, mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn parhau i ddangos nad oes ganddi unrhyw ddyheadau. Mae eu methiant i reoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol yn golygu eu bod wedi gorfod defnyddio £36 miliwn o gronfeydd wrth gefn dim ond i lenwi twll a gafodd ei adael gan eu cymheiriaid eu hunain yn San Steffan. Yn hytrach na thwrio i gronfeydd wrth gefn, dylen nhw fod yn rhoi pwysau ar Rachel Reeves i ddileu'r cynnydd trychinebus mewn yswiriant gwladol. Mae'r cynnydd mewn yswiriant gwladol wedi achosi anhrefn, gyda chyflogwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn brin o £72 miliwn nawr. Mae hynny'n arian sy'n cael ei rwygo o'r gwasanaeth iechyd, ein hysgolion a'n cynghorau lleol a'n meddygon teulu. Mae deintyddion ac elusennau bach yn meddwl tybed sut maen nhw i fod i dalu'r costau newydd hyn. Dyma'r hyn sy'n digwydd pan fo Llafur ym Mae Caerdydd a Llafur yn San Steffan yn rhoi'r gorau i wrando ar y bobl sy'n creu swyddi ac sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Ysgrifennodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, at y Prif Weinidog gyda chynnig adeiladol. Roedd yn cydnabod, o ystyried y rhifyddeg seneddol bresennol, y byddai'n anodd i Lafur basio cyllideb ar ei phen ei hun. Ond cynigiodd gangen olewydd hefyd. Felly, dywedaf wrth Lywodraeth Cymru, 'Gweithiwch gyda ni, a manteisiwch ar y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru', oherwydd os yw'r Llywodraeth hon yn parhau i droedio'r un llwybr blinedig—[Torri ar draws.] Fe wnaf i gymryd ymyriad gan bwy bynnag—

15:40

Gallaf weld hynny. Rwy'n hoffi meddwl y byddai sylwadau pobl ar y cofnod cyhoeddus, yn hytrach na chuddio y tu ôl i anhysbysrwydd.

Wrth drethu mwy, gwario'n wael, a chyflawni llai, ni fydd yn gallu beio neb ond ei hun pan fydd y gyllideb hon yn methu â chael ei phasio. A dim ond am hyn a hyn y gallwch chi barhau i feio pawb arall am ein trafferthion economaidd. Banc Lloegr—

A fyddech chi'n dweud bod eich Llywodraeth yn y DU wedi cyfrannu at yr effaith economaidd honno? Roeddwn i'n darllen erthygl yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud bod Brexit wedi cyfrannu llawer mwy at lle rydym ni gyda'r economi na phandemig COVID. Aeth David Cameron â ni i Brexit, wrth geisio achub eich plaid chi. Fe wnaeth hynny weithio'n dda, on'd do fe?

Diolch am hynny, ond fe bleidleisiodd pobl i adael yr UE, Lesley, gan gynnwys eich etholwyr yn Wrecsam, os cofiaf yn iawn. Rwy'n gwybod ei fod yn mynd yn ôl ychydig flynyddoedd erbyn hyn. Ond, yn wir, do.

Ers hynny, mae Banc Lloegr wedi cyfaddef bod dwy ran o dair o'r symudiad yn y farchnad yn 2022 oherwydd eu methiant i reoleiddio pensiynau'n gywir. Ond, ers hynny, mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi arllwys petrol ar y tân hwn, gyda'r twll du, fel y'i gelwir, yn gwaethygu, gyda mwy o fenthyca, mwy o drethi a gwariant uwch. Ac ar ôl mwy na blwyddyn yn y swydd, nid yw twf mewn cynnyrch domestig gros yn ddim mwy na si. Mae barn y cyhoedd ar Lywodraeth y DU yn siarad drosto'i hun, gyda Keir Starmer yn cael ei nodi fel y Prif Weinidog lleiaf poblogaidd yn hanes polau.

Ond dydy analluogrwydd economaidd yn y Blaid Lafur, yn anffodus i ni, ddim wedi'i gyfyngu i'r dwyrain o Glawdd Offa. Dyna pam mae Cymru'n haeddu cyllideb ac, yn fwy, Llywodraeth sy'n gwobrwyo gwaith caled, yn cefnogi menter ac yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau, nid mwy o'r un hen drefn gan blaid flinedig sydd wedi bod mewn grym ers chwarter canrif. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda ni ac i gwneud y gorau dros Gymru. Gadewch i ni dorri trethi, gan ddechrau gyda'n treth stamp a'n hyswiriant gwladol yng Nghymru. Gadewch i ni dyfu ein heconomi ac adeiladu Cymru nid ar gyfer dibyniaeth, ond ar gyfer cyfle a bywiogrwydd yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid am wneud y datganiad hwn heddiw am y gyllideb ddrafft amlinellol. Rwy'n credu bod hon yn gyllideb hynod bwysig i Gymru, wedi'i seilio ar sylfaen gadarn cyllideb y llynedd, a oedd yn cynnwys y £1.6 biliwn ychwanegol ac, wrth gwrs, £5 biliwn ychwanegol dros y cyfnod adolygu gwariant. Mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i Lywodraeth Lafur yn y DU, ac rwy'n credu y dylen ni i gyd gydnabod hynny.

Rwy'n credu bod angen i hon fod yn gyllideb rydyn ni i gyd yn ei chefnogi wrth i ni gychwyn ar gyfnod o newid pwysig yn hanes y Senedd. Mae'n rhaid i wasanaethau cyhoeddus a phobl Cymru fod ar flaen ein meddyliau wrth i ni drafod y gyllideb hon heddiw ac o ran y camau y byddwn ni'n eu cymryd. Rwy'n cefnogi strategaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wrth ymdrin â'r gyllideb hon, ac rwy'n credu ei bod er budd Cymru ei fod yn ymdrin â hi fel hyn.

Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r ymrwymiad sydd wedi'i wneud heddiw i barhau â'r £30 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol a'r £30 miliwn ar gyfer gofal plant, a gytunwyd â Jane Dodds. Rwy'n credu mai gofal plant yw'r llwybr allan o dlodi, ac rwy'n falch bod y ddarpariaeth gofal plant i blant dwy oed eisoes yn symud yn raddol tuag at gynnwys pob plentyn dwy oed, gan weithio'n agos iawn gyda'r awdurdodau lleol a sicrhau bod y safonau uchel sydd gennym ni yng Nghymru ym maes gofal plant yn parhau, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau i ddatblygu.

Rwyf hefyd yn falch iawn o weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol ar gyfer cyflwyno a darparu'r Bil Iaith Arwyddion Prydain. Rwy'n falch o fod yn eistedd ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i graffu ar y Bil, ac mae adnoddau digonol wedi cael eu pwysleisio dro ar ôl tro gan y bobl sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth i ni yn y pwyllgor. 'Da iawn' i Mark Isherwood am gyflwyno'r Bil hwn ac i'r Llywodraeth am roi cefnogaeth iddo.

Hoffwn siarad yn fyr a gofyn ychydig o gwestiynau am y dreth trafodiadau tir heddiw. Dyma un o'n trethi datganoledig pwysicaf ac un sy'n dod ag arian hanfodol i ni ei wario ar ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o weld yn ei ddatganiad fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau bod cyfraddau a throthwyon treth trafodiadau tir yn aros yn sefydlog yng Nghymru, fel y maen nhw wedi'u gwneud ers blynyddoedd lawer, gan ddod â £401 miliwn i mewn yn 2026-27. Mae'r trothwy o £225,000 ar gyfer y dreth trafodiadau tir, gyda phris tŷ ar gyfartaledd yn £217,000, i'w groesawu'n fawr ac, yn amlwg, mae'r mwyafrif o bobl yng Nghymru yn is na'r trothwy. Mae hynny'n wahanol yng Nghaerdydd, sydd â phrisiau uwch. Ond a allai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau bod chwech o bob 10 eiddo yng Nghymru yn parhau i fod yn is na'r trothwy ar gyfer y dreth trafodiadau tir? Ac a yw'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ystyried y pedwar gostyngiad yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr eleni yn y penderfyniadau y mae wedi'u gwneud ynghylch y dreth trafodiadau tir? Diolch.

15:45

Diolch am eich datganiad ac am eich gwaith hefyd, Ysgrifennydd Cabinet.

Mae'n bosibl seilio'r gyllideb eleni ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd gan gyllideb Llywodraeth Cymru y llynedd, cam sylweddol i'r cyfeiriad cywir ar ôl ymhell dros ddegawd pan welwyd llai o gyllid yn dod i'n cyfeiriad ni. Ond yn realistig, rydyn ni'n gwybod, yn anffodus, y bydd yn cymryd amser i wrthdroi effeithiau hyn, ac rwy'n gwybod bod nifer o awdurdodau lleol, gan gynnwys yn fy nghornel fy hun o'r wlad, yn parhau i wynebu pwysau sylweddol. Rwyf wedi nodi ac ailadrodd yr heriau hyn sawl gwaith cyn cyflwyno sylwadau yn y lle hwn. Byddaf i'n parhau i weithio i eirioli ar hyn, ond hefyd i weithio ar y cyd i feddwl yn arloesol pan ddaw i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. A'r ysbryd hwnnw o gydweithio a sicrhau ei fod yn ystyrlon yn ymarferol yw'r hyn rwyf eisiau canolbwyntio arno heddiw.

O ran yr heriau sy'n ein hwynebu ni, ac i lywio'r penderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud, yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru nad yw'n bodoli yng ngweddill y DU yw partneriaeth gymdeithasol. Ysgrifennydd Cabinet, mae'r dull partneriaeth gymdeithasol hwn yn rhywbeth y mae'r ddau ohonon ni'n weddol gyfarwydd ag ef, ac rwy'n parhau i fod yn falch o fod wedi arwain ar ddeddfwriaeth i ymwreiddio partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru a buddsoddi mewn datgloi ei photensial. Ac mae potensial gwirioneddol yng nghyd-destun trafodaethau ac ystyriaethau ynghylch y gyllideb. Mae partneriaeth gymdeithasol nid yn unig yn cynnig ffordd o ymgysylltu, ond hefyd ffordd o gynnwys partneriaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus a thu hwnt. Felly, ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd Cabinet, bod gan y cyngor partneriaeth gymdeithasol cymharol newydd ran bwysig i'w chwarae yn hyn?

Rydyn ni wedi clywed yn gynharach heddiw, yn y ddadl hon, am ganlyniadau posibl methiant i basio cyllideb ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, ond mae'n rhaid i ni gofio mai wrth wraidd y rheini yw ein gweision cyhoeddus ymroddedig. Mae'n hanfodol bod eu llais yn cael ei glywed trwy eu hundebau llafur a'n dulliau partneriaeth gymdeithasol. Felly, wrth edrych tua'r dyfodol, wrth i'r adroddiadau ar flynyddoedd cyntaf y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol gael eu cynhyrchu a'u cyflwyno i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol, efallai y byddai'n werth ystyried sut y gallai'r ddyletswydd honno ddod yn ddarn allweddol mewn mudiad a fyddai'n golygu bod y rhai sy'n darparu ein gwasanaethau yn cael eu grymuso i lunio a gwella effeithiolrwydd y gwasanaethau y maen nhw'n gweithio'n feunyddiol i'w cyflawni. Wedi'r cyfan, nhw yw'r arbenigwyr go iawn yn rhinwedd eu profiad bywyd go iawn.

I gloi, rwyf wir yn credu bod gennym ni ddyletswydd i basio cyllideb sy'n adeiladu ar yr hyn sydd wedi dod o'r blaen, dyletswydd i'r bobl rydyn ni i gyd wedi cael ein hethol i'w gwasanaethu a dyletswydd i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi ein gweision cyhoeddus ymroddedig. Wedi'r cyfan, Ysgrifennydd Cabinet, fel y mae'r ddau ohonom yn ei wybod yn iawn, gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth er lles pawb yn gyffredinol yw'r ffordd Gymreig o wneud pethau. Diolch.

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, a chydnabod cymhlethdod darparu cyllideb, gan wybod bod pob punt sy'n cael ei neilltuo i un gwasanaeth yn dod ar draul un arall. Mae'r cyfaddawdau hynny'n dweud popeth wrthyn ni am werthoedd Llywodraeth, ac mae unrhyw un yn y Siambr hon sy'n gofyn am arian heb ddweud o ble mae'n mynd i ddod yn byw mewn byd ffantasi, mae arna' i ofn.

Gadewch i mi ddechrau gyda graddfa. Mae gan Lywodraeth Cymru £27.6 biliwn ar gael iddi, mae £13.7 biliwn yn mynd i iechyd a gofal cymdeithasol, £7 biliwn i dai a llywodraeth leol a £3.78 biliwn i addysg. Mae'r rhain yn symiau enfawr o arian, ond er gwaethaf buddsoddiad hanesyddol yn y gwasanaethau hyn, mae hyder y cyhoedd yn isel. Mae rhestrau aros yn parhau i fod yn ystyfnig, mae problemau o hyd yn ein system addysg ac mae ein cynghorau yn dweud bod gwasanaethau plant a gofal cymdeithasol oedolion yn wynebu pwysau cyllidebol eithafol. O ystyried faint o arian rydyn ni wedi'i roi i'r gwasanaethau hyn, dydyn ni ddim yn gweld enillion ar y buddsoddiad hwnnw. Rwy'n credu, yn y Siambr hon, bod yn rhaid i ni fod yn ddewr pan ddaw i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus. Allwn ni ddim parhau i fwrw ymlaen yn yr un hen ffordd, ac rwy'n credu bod angen i ni edrych yn galed iawn ar strwythur ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn addas ar gyfer y byd modern ac i wneud yn siŵr nad ydyn ni'n taflu arian da ar ôl drwg trwy'r amser, oherwydd nid gwneud yr un peth dro ar ôl tro yw'r ffordd gywir ac nid dyna'r dull cywir.

Mae'r gyllideb amlinellol, yn fy marn i, yn blaenoriaethu cynnal a chadw dros y diwygio trawsnewidiol hwnnw, a hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am y cynnydd mewn staff yng nghyllideb gwasanaethau canolog Cymru. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn yn y gorffennol am beidio â chynyddu costau canolog oherwydd pwysau costau byw—rydw i wedi gweld Carolyn; byddaf yn dod ati nawr—a'r pwysau sy'n wynebu adrannau eraill y Llywodraeth. Felly, hoffwn wybod pam ei fod wedi newid hynny ac a yw, wrth gynyddu'r gyllideb honno, wedi gofyn i adrannau eraill wneud yn siŵr bod effeithlonrwydd gweinyddol wedi'i gynnwys gyda'r dyraniadau cyllideb lefel uwch hynny. Ie, Carolyn.

15:50

Roeddwn i eisiau i chi esbonio ychydig ymhellach sut y gallai llywodraeth leol fynd ati i ddiwygio. Dros 14 mlynedd, maen nhw wedi ailstrwythuro, ad-drefnu. Mae deugain y cant o swyddi wedi mynd ac maen nhw eisoes wedi cael gwared ar y rhai nad oedd eu hangen ac maen nhw wedi'u torri i'r asgwrn nawr wrth geisio darparu gwasanaethau rheng flaen sylfaenol.

Wel, Carolyn, rwy'n credu bod angen i ni gael sgwrs wirioneddol am sut fydd llywodraeth leol yn edrych, sut fydd gwasanaethau addysg yn edrych o fewn yr ôl troed llywodraeth leol hwnnw, a sut fydd ein hôl troed iechyd yn edrych ledled Cymru yn y dyfodol. Allwn ni ddim parhau â'r un hen naratif a pharhau i'w ariannu yn y ffordd rydyn ni oherwydd dydy e ddim yn gweithio nawr, felly efallai bod angen i ni edrych ar ddull newydd. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi siarad am wasanaeth cyhoeddus Cymru gyfan yn y gorffennol. A yw hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni edrych arno eto? Dydw i ddim yn erbyn edrych ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus; mae eraill ychydig yn ofnus i wneud hynny, ond mae arna' i ofn bod yn rhaid i ni fwrw ati a mynd i'r afael ag ef.

Un peth rwy'n awyddus iawn i'w weld yn y gyllideb—. Rydyn ni'n siarad llawer yn y Siambr hon am sgiliau a'r gwaith rydym yn ei wneud i ddatblygu sgiliau, tyfu ein heconomi, gwneud yn siŵr bod gennym ni'r seilwaith yno yn y dyfodol, ond dydw i ddim yn credu bod gennym ni'r weledigaeth economaidd honno yn y gyllideb. Mae Cymru wedi colli tua £50.3 miliwn mewn colledion economaidd ar draws ein gwlad, ac rwy'n credu y dylen ni weld mwy o arian yn mynd i'r agenda sgiliau honno. Fel y dywedais i, os ydyn ni eisiau adeiladu cartrefi i bobl, os ydyn ni eisiau cael seilwaith yn y dyfodol, mae angen i ni gael pobl ar lawr gwlad i wneud hynny. Rwy'n canmol y Gweinidog dros sgiliau am ei waith yn y maes hwn, ond rwy'n credu bod angen mwy o gymorth cyllidol arno i alluogi hynny i ddigwydd, i gael prentisiaid y dyfodol, ein graddedigion prifysgol y dyfodol, i fuddsoddi go iawn yn nyfodol Cymru.

Felly, dyma graidd fy her i'r Ysgrifennydd Cabinet, ac i bawb yn y Siambr hon, fwy na thebyg: mae angen i ni symud y ffocws o'r symbolaeth honno i ffocws ar y sylwedd. Mae angen i ni newid y gyllideb. Mae angen i ni ystyried diwygio gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd diwygio gwasanaethau cyhoeddus yw'r unig ffordd rydyn ni'n mynd i ddarparu gwell gwerth am arian a gwell gwasanaethau cyhoeddus. Gallen ni ddefnyddio'r arian ychwanegol hwnnw y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i ddyrannu, y £380 miliwn hwnnw, i'w roi i mewn i sgiliau i sicrhau'r cyflawni effaith uchel hwnnw. Fel y dywedais i, ei ddefnyddio i gynyddu cyllid prentisiaethau, rhoi mwy o sicrwydd i'n cynghorau o ran cyllid yn y tymor byr, yn enwedig y siroedd hynny sy'n fwy prin eu poblogaeth yr wyf yn gwybod bod Jane Dodds a minnau ac eraill yn eu cynrychioli ar draws y Siambr hon. Diolch, Llywydd.

Rwy'n pryderu y byddai cynnydd o 2 y cant neu 2.3 y cant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn doriad mewn termau real, ac ni fydd llawer o'r pethau a fydd ar faniffestos a rhestrau dymuniadau pobl yn cael eu cyflawni, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod y sylfeini yn eu lle yn gyntaf. Mae angen i fannau gofal plant gael lleoedd gofal plant sydd wedi'u hariannu'n briodol a'u datblygu gyda staff yn eu lle. Hoffwn weld gofal plant yn cael ei gyflwyno, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod y sylfeini yno hefyd, ac mae'r parhad hwnnw o ran cynnydd mewn cyllid i gynghorau barhau â'r gwaith hwnnw.

Yn ystod y 14 mlynedd o gyni'r Torïaid, mae cynghorau wedi cael eu torri i'r asgwrn. Roedd hanner yn y DU mewn perygl o fethdaliad. Cawson nhw seibiant gyda'r newid yn Llywodraeth y DU a oedd yn credu mewn ariannu gwasanaethau cyhoeddus eto, ac iechyd, ond mae llawer ohonyn nhw'n dal i gael eu hymestyn. Mae angen cynnydd o 4 y cant i 5 y cant o leiaf ar gynghorau i ymdrin â chodiadau cyflog a phwysau chwyddiant, fel y dywedodd Mike Hedges. Mae costau cludiant ysgol wedi cynyddu 40 y cant ers y pandemig. Mae angen mwy o fuddsoddiad mewn anghenion dysgu ychwanegol, anogaeth mewn ysgolion i'w cael nhw i ddod yn ôl i ysgolion nawr. Mae angen i ni recriwtio mwy o weithwyr gofal, fel y dywedodd Jane Dodds, ac rwy'n gweld bod bwrdd iechyd gogledd Cymru angen cynnydd o 4 y cant o leiaf, ac mae'n bryderus iawn am ei gyllideb. Ond o'r diwedd rydyn ni'n gweld rhestrau aros yn dod i lawr, diolch i chwistrelliad o arian gan Lywodraeth Lafur newydd y DU trwy Lywodraeth Cymru, ac rwyf eisiau gweld hynny'n parhau. Mae angen i ni barhau â'r cynnydd chwyddiannol hwnnw. 

Mae cynghorau yn cynllunio eu cyllidebau nawr. Bydd popeth nôl ar y bwrdd nawr: cymorthdaliadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, cynnal y rhwydwaith trafnidiaeth wledig, canolfannau hamdden, canolfannau sglefrio, pyllau nofio, llyfrgelloedd, cludiant ysgol, parciau gwledig, toiledau cyhoeddus. Rwy'n sôn am bob un o'r rhain oherwydd dydy pobl ddim yn sylweddoli beth mae cynghorau yn ei ariannu. Grwpiau mamau a phlant bach—roeddwn i'n curo ar ddrysau yn y Rhyl ac roedden nhw'n flin iawn bod grŵp mamau a phlant bach lleol wedi cau—a mannau gwyrdd ar gyfer natur a lles. Mae'r rhain i gyd yn bwysig iawn i bobl. Mae llywodraethwyr ysgolion yn edrych ar eu cyllidebau nawr. Mae angen rhoi sylw i athrawon. Os byddwn ni'n eu colli, fyddwn ni ddim yn eu cael nhw nôl. Mae'r rhain yn swyddi—ein gwasanaethau cyhoeddus yw un o'n cyflogwyr mwyaf yng Nghymru. Bydd diswyddiadau ar raddfa fawr os na chaiff cyllideb ei phasio, neu os mai dim ond cyllideb dreigl ydyw. Mae angen gobaith ar bobl, bywyd boddhaol. Maen nhw'n gwerthfawrogi'r llyfrgelloedd, y canolfannau hamdden a'r pyllau nofio, y gwasanaeth bysiau—yr holl bethau sy'n cael eu torri wrth i gynghorau orfod ceisio cwmpasu pwysau chwyddiant anghenion addysg a gofal iechyd cymdeithasol. Dyma sy'n achosi rhaniad mewn cymunedau, y ffaith nad oes ganddyn nhw'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae angen newid ar bobl: buddsoddiad mewn cymunedau, bywyd boddhaol, cyflogau boddhaol, ac mae llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan gynghorau ac iechyd. Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaf i gofyn yr un cwestiwn i chi ag y gofynnais i'r Prif Weinidog ychydig wythnosau yn ôl: allwch chi gadarnhau y byddwch chi'n defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â phwysau chwyddiant i ddiogelu gwasanaethau lleol fel addysg, tai, trafnidiaeth, gofal plant a'n gwasanaeth iechyd? Os gallwn ni gael y cynnydd hwnnw o 4 y cant i 5 y cant i gynghorau yn hytrach na mynd trwy'r gyllideb, hoffwn i ei weld, dim ond cyfradd safonol hefyd, fel bod y cynghorau hynny sydd wedi ei chael hi'n anodd flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda fformiwla'r gyllideb—yn enwedig y cynghorau hynny yn y gogledd—yn gallu cael cynnydd boddhaol a pharhau i ddarparu gwasanaethau. Diolch.

15:55

Fel chi, roeddwn i'n ymgyrchydd gweithgar yn yr ymgyrch 'Ie dros Gymru' yn 1997 ac eto yn 2001. Wrth greu'r Senedd hon, rydyn ni wedi ceisio creu rhywbeth gwahanol, rhywbeth sy'n seiliedig ar fodel cydsyniol. Yn fwriadol, mae'r cynllun yn y Siambr arferol yn adlewyrchu hynny, mae'r system bleidleisio yn adlewyrchu hynny, ac mae'r ffaith na allwn ni gael ein traed yn rhydd i alw etholiad hawdd neu fethu â phasio cyllideb yn adlewyrchu ein bod ni wedi'n cloi yma gyda'n gilydd ac yn gorfod wynebu dewisiadau difrifol gyda'n gilydd. Mae'r gyllideb hon yn foment ddifrifol i Gymru ac i'r Senedd hon.

Nawr, nid yw'r Gweinidog cyllid, a phob clod iddo am hynny, wedi cyflwyno cyllideb gyhyrog i orfodi'r Senedd i gyflawni ei blaenoriaethau. Mae e' wedi dod â chyllideb ddiymhongar iawn, rwy'n credu, i ddweud, 'Dyma'r pecyn sylfaenol o fesurau sy'n diogelu popeth sydd gennym ni bron, gyda'r cynnydd lleiaf mewn costau, ac mae'r gweddill yn agored i'w drafod.' Oherwydd allwn ni ddim pasio cyllideb ar ein pennau ein hunain. Dydyn ni byth wedi gallu pasio cyllideb ar ein pennau ein hunain, ond mae'n arbennig o drawiadol eleni. Hyd yn oed gyda chymorth ein gilydd, fyddwn ni ddim yn gallu cael y gefnogaeth angenrheidiol. Rydyn ni chwe mis i ffwrdd o etholiad y Senedd ac mae'r wleidyddiaeth, yn amlwg, ar feddwl pawb. Fe glywais i gynnig y Ceidwadwyr i ymgysylltu'n adeiladol, ac mae hynny i'w groesawu, ond rwy'n credu bod y mwgwd wedi llithro'n eithaf cyflym, oherwydd pan ofynnais i i Sam Rowlands, y llefarydd cyllid, faint y byddai'n ei gostio, yn ei farn ef, i leihau treth incwm, dileu'r dreth stamp a chael gwared ar ardrethi busnes, dywedodd y byddai hynny yn eu maniffesto. Wel, mae angen i ni wneud penderfyniad cyn y maniffestos. Mae angen i ni wneud penderfyniad yn y misoedd nesaf. Nawr, mae'n ymddangos bod ganddo gostau cyfrinachol, cynllun cyfrinachol, ond os yw cynnig Darren Millar i gael sgwrs gyda'r Llywodraeth yn unrhyw beth mwy na stynt, yna mae angen i ni symud y tu hwnt i gimics.

Nawr, fy nghyfrifiadau bras iawn o gyfradd treth incwm is byddai rhywbeth fel £300 miliwn, byddai dileu'r dreth stamp yn rhywbeth fel £400 miliwn, a byddai cael gwared ar ardrethi busnes, yn dibynnu ar yr hyn yr oedd gennych chi mewn golwg, yn agosach at £1 biliwn. Nawr, yn amlwg, mae hynny ymhellach y tu hwnt i'r £380 miliwn sydd ar gael yng nghyllideb Cymru. Nawr, rydyn ni wedi clywed amrywiaeth o ddyheadau gan amrywiaeth o siaradwyr y prynhawn yma ynghylch y pethau yr hoffen ni i gyd ei gweld yn talu amdanyn nhw. Rydyn ni wedi clywed Mark Isherwood yn croesawu'r ffaith bod y gyllideb ddrafft yn mynd i gefnogi'r Bil Aelod preifat y mae'n ei gyflwyno. Byddai hynny'n awgrymu i mi y dylai ef ei chefnogi. Rydyn ni wedi clywed Jane Dodds yn croesawu'r ffaith bod y gwariant parhaus ar gyfer y cytundeb y gwnaeth hi ei gyrraedd y llynedd wedi'i gynnwys ynddi, a byddai hynny, i mi, yn awgrymu ei bod yn haeddu cefnogaeth eto. Ond dydyn ni ddim wedi cael unrhyw un yn ymgysylltu o ddifrif â'r Llywodraeth ynglŷn â'r hyn y byddai'r gefnogaeth honno'n ei olygu, a dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud; dyna'r hyn y mae pobl Cymru yn disgwyl i ni ei wneud. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, dydy hyn ddim yn ymwneud â niweidio'r Llywodraeth; mae hyn yn ymwneud â niweidio gwasanaethau cyhoeddus.

A gadewch i ni wynebu realiti peidio â gallu pasio cyllideb. Beth mae hynny'n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â bod yn embaras i'r Senedd, methiant y Senedd i wneud ei gwaith—felly, niwed go iawn, rwy'n credu, i'r prosiect datganoli? Os na allwn ni wneud y gwaith y cawson ni ein hethol i'w wneud, sef pasio cyllideb, beth mae hynny'n ei ddweud amdanon ni fel lle pwysig, sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau dros Gymru? Rydyn ni'n gwybod, o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru, y byddai cyllideb yn cael ei phasio ar ddim ond 75 y cant o'r cynlluniau gwariant cyfredol. Nawr, byddai hynny'n drychinebus i lywodraeth leol. Fel y mae'r Gweinidog cyllid wedi awgrymu, bydden nhw'n cael eu gorfodi i osod cyllideb yn seiliedig ar y 75 y cant hwnnw, a byddai hynny'n golygu rhoi hysbysiadau diswyddo ar unwaith i filoedd o weithwyr ledled Cymru er mwyn bodloni llawlyfr trysoryddion sir o ran eu cyfrifoldebau statudol.

Felly, nid rhyw ymarfer esoterig yw hwn, nid yw'n ddamcaniaethol—mae yna ganlyniadau ymarferol go iawn os byddwn yn methu â chyflawni ein cyfrifoldebau ar y cyd, ac mae'n hawdd i Aelodau, ar feinciau cefn y Llywodraeth a'r wrthblaid, wneud cyfres o restrau o ofynion, ond dyma lle rydyn ni. Mae gennym ni £380 miliwn heb ei ddyrannu. Nawr, fe allwn ni awgrymu rhyddhau mwy trwy dorri pethau, neu fe allwn ni awgrymu sut rydyn ni'n blaenoriaethu'r £380 miliwn hwnnw. A hyd yn hyn, nid yw gwleidyddion yn y lle hwn yn fodlon gwneud hynny, a dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni i gyd ei wneud. Felly nid yw hyn, ar y pwynt hwn, yn ymwneud â'r Llywodraeth yn pasio ei chyllideb; mae hyn, ar y pwynt hwn, yn ymwneud â gallu'r Senedd i basio cyllideb a chyflawni'r cyfrifoldeb sydd ar bob un ohonon ni.

Rwy'n croesawu rhai o'r mesurau y mae'r Gweinidog cyllid wedi'u rhoi ar waith, yn enwedig newid y ffordd y mae ardrethi annomestig yn cael eu gosod i helpu siopau manwerthu bach a gofyn i siediau ar gyrion trefi dalu mwy. Mae yna lawer o bethau da y bydden ni'n eu cefnogi yn y gyllideb hon, ond, oni bai ei bod yn cael ei phasio, ni fydd dim o hynny'n berthnasol, a bydd yn rhaid i ni i gyd esbonio i'n hetholwyr, pan fyddwn ni’n curo ar eu drysau yn y chwe mis nesaf, pam ein bod ni wedi methu ymddwyn fel oedolion.

16:00

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl ar y datganiad. Mae'r ffordd yma i ddelio gyda phethau cymhleth fel y gyllideb, dwi'n meddwl, yn gweithio i ni yma yn y Senedd.

Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gyfres ddiddorol hon o gyfraniadau. Nid wyf yn mynd i allu ymateb i bawb, Llywydd, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl. Rydw i'n mynd i ymateb i rai, ac mae gen i ychydig o sylwadau i gloi. Diolch i Sam Rowlands am yr hyn a ddywedodd. Tynnodd sylw at ganlyniadau methiant, gan gydnabod y rhwymedigaeth sydd ar bob un ohonon ni i osgoi hynny. Dywedodd fod y cynnig o drafodaethau yn un a gafodd ei wneud mewn ewyllys da, ac rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n hapus i barhau i gael sgyrsiau ar sail yr ewyllys da hwnnw.

Yn anffodus, cymerodd Lee Waters fy rhestr, oherwydd roeddwn i hefyd yn mynd i helpu'r Aelod, oherwydd, os na allai gyfrif faint roedd ei syniadau'n ei gostio, roeddwn i'n gallu ei helpu gyda hynny: diddymu Treth Trafodiadau Tir, £401 miliwn; gostyngiad o 1c mewn treth incwm, £299 miliwn; cael gwared ar ardrethi busnes, £1.2 biliwn fwy na thebyg—gostyngiad o £2 biliwn yn yr incwm sydd ar gael i'r Senedd y byddai ond yn bosibl darparu ar ei gyfer drwy doriadau sylweddol iawn yn y pethau rydyn ni'n eu gwneud. Dywedodd Sam Rowlands fod pobl Cymru yn haeddu mwy, ond, yn anffodus, pe bai ei gynigion yn cael eu cyflwyno, bydden nhw'n cael llawer llai yn y pen draw.

Diolch i Heledd Fychan am yr ysbryd adeiladol yn ei chyfraniad hi. Roedd hi'n cydnabod pwysigrwydd cael y gyllideb drwy'r Senedd, a dwi'n edrych ymlaen at gael mwy o drafodaethau gyda hi yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

Roedd nifer o bwyntiau penodol yng nghyfraniad Heledd Fychan. Rwy'n parhau i gael trafodaethau ar gyfraniadau yswiriant gwladol, ac mae cyfarfod o bob Gweinidog cyllid o'r pedair gwlad yng Nghaeredin ddydd Gwener yr wythnos hon. Byddaf i yno a byddaf yn gwneud y pwyntiau hyn eto i Weinidogion y DU. Mae gennym ni sicrwydd o ran lefel y cyfraniad y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud o ran NSI. Bydd hynny'n parhau i'r flwyddyn nesaf. Dyna pam rydw i'n gallu ei roi yn y gyllideb ddrafft. Mae'r Alban wedi cymryd agwedd wahanol at y gyllideb, ond mae hynny oherwydd bod ei Rheolau Sefydlog yn wahanol ac mae'n caniatáu iddyn nhw aros tan yn ddiweddarach yn y broses. Wrth gwrs, mae'n culhau'n sylweddol faint o graffu y mae Senedd yr Alban yn gallu ei wneud ar gynigion cyllideb Llywodraeth yr Alban. Mae gennym ni gyfnod llawer hirach, ac mae hynny'n caniatáu i'r broses graffu ein helpu ni i wella'r cynigion rydyn ni'n eu cyflwyno.

16:05

Diolch yn fawr. Cwestiwn dilys, mewn gwirionedd. Rydyn ni wedi cael mynediad dros dro i gronfa wrth gefn lawn Cymru heb unrhyw gyfyngiadau ar dynnu i lawr y flwyddyn ariannol hon. Ar ba bwynt ydych chi'n disgwyl darganfod beth fydd y sefyllfa y flwyddyn nesaf, oherwydd rydych chi wedi gwneud eich safbwynt yn glir, eich bod chi'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar hynny, ac rwy'n meddwl tybed, o ran rhoi ystyriaeth ymarferol i'r hyn a allai neu na allai fod yn bosibl ei gyflawni y flwyddyn nesaf, efallai y byddai gwybodaeth gynnar am hynny yn ddefnyddiol?

Rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw y mae'r Aelod wedi'i wneud, Llywydd. Mae hyblygrwydd ariannol yn eitem ar yr agenda yng nghyfarfod llawn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid ddydd Gwener, oherwydd mae gan bob un o'r tair Llywodraeth ddatganoledig ddiddordeb mewn sicrhau dull gweithredu mwy hyblyg o ymdrin â hynny, a byddai hynny'n sicr o fudd i Lywodraeth yn y dyfodol wrth reoli cyllideb o £27 biliwn yma yng Nghymru.

Yn fyr iawn, drwy nifer fach o bwyntiau eraill, a gaf i sicrhau Lesley Griffiths ein bod ni wedi gwneud asesiad o gynigion Llywodraeth y DU? Nid yw'n hollol glir a fyddan nhw'n bwrw ymlaen ag unrhyw un ohonyn nhw yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond rwy'n barod, pe bai unrhyw fesurau yn cael eu cymryd, i ni weithredu i sicrhau safle Cymru ac i wneud yn siŵr, yn y pen draw, nad oes llawer iawn o wastraff yn dod ar draws ein ffin oherwydd bod pobl yn meddwl ei bod hi'n haws defnyddio safleoedd tirlenwi yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

Fe wnaeth Mike Hedges, rwy'n credu, nodi'n fuddiol beth sy'n digwydd os nad yw cyllideb yn cael ei phasio—rydych chi wedi clywed nifer o gyd-Aelodau'n dweud hynny—ond fe wnaeth hefyd godi rhai pwyntiau pwysig o ran defnyddio cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol.

Diolch i Jane Dodds am ei hymrwymiad adeiladol parhaus wrth sicrhau bod cyllideb yn cael ei phasio drwy'r Senedd. Mae yna lawer iawn o bethau yr hoffen ni eu gwneud, ac nid arian yw'r ateb bob amser. Pan ddaw i ofal plant, er enghraifft, oes, mae angen arian arnoch i fuddsoddi, ond mae'n rhaid i chi gael gweithlu, ac mae'n anodd recriwtio yn y maes hwn, ac mae'n rhaid i chi gael lleoedd hefyd. Rwy'n credu bod Carolyn Thomas wedi dweud bod angen lleoedd gofal plant ar fannau gofal plant, ac rydyn ni wedi diddymu talu ardrethi annomestig ar gyfer mannau gofal plant, ond rydyn ni'n dal i wybod bod hynny'n her yn y sector.

Bydd Mick Antoniw wedi gweld ein bod ni wedi gwneud darpariaeth ar gyfer y Bil Iaith Arwyddion Prydain, deddfwriaeth meinciau cefn. Rwy'n disgwyl i fy nghyd-Aelodau, pan fyddan nhw'n cyflwyno deddfwriaeth, dalu costau hynny o'u cyllidebau. Mae'n rhan o waith arferol y Llywodraeth i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn ystyried y mesurau y mae hi ei hun yn disgwyl eu cymryd. Ond lle nad deddfwriaeth y Llywodraeth yw hynny, yna rwy'n credu bod cyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod ewyllys y Senedd yn cael ei gefnogi gan gyllidebau.

Fe glywais i Gareth Davies. Dywedodd fod y Llywodraeth wedi rhedeg allan o stêm. Rwy'n credu y gallwn ni ddweud yn ddiogel nad yw ef ei hun wedi rhedeg allan o ystrydebau. [Torri ar draws.] Rwy'n derbyn yn llwyr y bydd mwy o'r rheiny i ddod, fwy na thebyg. [Chwerthin.] Ond fe wnaf symud ymlaen yn gyflym.

Diolch i Julie Morgan am yr hyn a ddywedodd. Edrychwch—

Gareth Davies a gododd—

Diolch yn fawr iawn. Wna i ddim rhoi mwy o ystrydebau i chi, ond dim ond i ddweud pan fyddaf yn dweud 'allan o stêm', mae'n rhaid i chi gofio bod eich plaid wedi bod mewn Llywodraeth ers 26 o flynyddoedd. Fe wnaethoch chi ddweud eich hun, wrth agor y ddadl hon, mai hon yw'r ddegfed gyllideb rydych wedi llywyddu drosti, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn y Llywodraeth. Mae hynny'n gwneud y pwynt ei bod wedi rhedeg allan o stêm, efallai, a'i bod yn bryd cael Llywodraeth newydd.

Wel, Llywydd, y rheswm pam mae'r Llywodraeth wedi bod mewn grym ers 26 mlynedd yw am fod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros hynny ers 26 mlynedd. Wnaethon ni ddim ei ennill mewn raffl. Rydyn ni yma oherwydd ein bod ni wedi wynebu pobl yng Nghymru dro ar ôl tro ac maen nhw wedi cefnogi Llywodraeth Lafur arall.

Ac ydy, mae'n wir fy mod i wedi bod yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gyfrifol am gyllidebau mewn amseroedd gwael ac mewn amseroedd da. A chredwch chi fi, pan ydych chi'n ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa lle rydych chi wedi cael £1.6 biliwn ychwanegol i'w fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus y llynedd, a £1 biliwn arall eleni, mae hynny'n fyd o wahaniaeth i'r blynyddoedd pan oedd yn rhaid i ni ymdrin â'r toriadau cyni a gafodd eu gosod ar Gymru gan eich plaid chi flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Diolch i Julie Morgan. Fe bwysleisiodd hi'r pwynt ynghylch y dreth trafodiadau tir, ac rwyf eisiau cefnogi'r hyn y mae Mike Hedges wedi'i ddweud, oherwydd mae'r ymchwil yn glir iawn, oherwydd mae cyfraddau'r dreth trafodiadau tir wedi mynd i fyny ac i lawr ar wahanol bwyntiau o dan wahanol Lywodraethau. Pan mae cyfraddau'r dreth trafodiadau tir yn gostwng, mae prisiau tai yn codi. Gwerthwyr, nid prynwyr, sy'n elwa, oherwydd, pan mae mwy o arian ym mhocedi pobl, mae pris y tŷ yn codi. Dyna'r hyn sy'n digwydd, a dydy prynwyr tro cyntaf a phrynwyr eraill ddim yn elwa ar y symudiad hwnnw. Dyna'r hyn y mae'r ymchwil yn ei ddangos yn ddiamwys.

Nawr, fe wnaeth Hannah Blythyn y pwynt am y cyngor partneriaeth gymdeithasol ac roeddwn i'n falch iawn o ymddangos gerbron y cyngor partneriaeth gymdeithasol ychydig wythnosau yn ôl fel rhan o'r broses hon o lunio cyllideb. Dydyn ni ddim wedi canolbwyntio cymaint ar ganlyniadau peidio â phasio cyllideb yma y prynhawn yma, ond, credwch chi fi, fe wnaeth y cyngor partneriaeth gymdeithasol hynny. Maen nhw'n bryderus iawn ynghylch yr hyn a allai ddigwydd os nad yw'r Senedd hon yn gallu, fel y dywedodd Lee Waters, wynebu ei chyfrifoldebau wrth basio cyllideb, oherwydd dydych chi ddim yn sôn am y cynnydd, am yr 1.4 y cant sydd yn y fantol o hyd yma: yn hytrach na chyflwyno cyllideb sy'n ychwanegu £800 miliwn i'n gwasanaethau cyhoeddus, fe fydden i'n cyflwyno cyllideb sy'n torri popeth y mae'r Senedd hon yn ei wneud rhwng £6 biliwn a £7 biliwn. Dyna'r hyn yr oedd y cyngor partneriaeth gymdeithasol eisiau siarad amdano, a dyna pam mae'r cyfrifoldeb rydyn ni'n ei wynebu yma mor bwysig.

Roeddwn i eisiau diolch yn arbennig i James Evans am ei gyfraniad. Roeddwn i'n credu ei fod yn feddylgar; roeddwn i'n credu ei fod yn codi rhai pwyntiau newydd. Mae'n gwneud y pwynt pwysig bod cyfaddawdau yn hyn i gyd, a diwygio—efallai fy mod i'n anghytuno ag ef ynghylch natur y diwygio, ond mae diwygio—yn beth pwysig iawn i ni ei drafod, nid mwy o arian ar gyfer hyn, mwy o arian ar gyfer y llall yn unig. Mae llunio cyllideb yn golygu mwy na hynny, a gwnaethon ni ddim clywed llawer o gyfraniadau y prynhawn yma a wnaeth ganolbwyntio ar y darlun ehangach hwnnw.

Fe ofynnodd i mi yn benodol am y MEG gwasanaethau canolog. Llywydd, ers 2010, mae nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu 8 y cant. Mae wedi cynyddu 28 y cant ar lefel Llywodraeth y DU, ac mae wedi cynyddu 57 y cant yn Llywodraeth yr Alban. Ac mae hynny oherwydd, yn y 10 mlynedd rwyf wedi bod yn gyfrifol, rwyf wedi'i gwneud yn rheol nad oeddwn i'n barod i drin Llywodraeth Cymru yn fwy ffafriol nag yr oeddwn i'n gallu trin unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall, ac mae hynny wedi golygu cyfyngiadau gwirioneddol ar allu peiriant y gwasanaeth sifil i gefnogi Llywodraeth Cymru yn ein holl uchelgeisiau, ond rwy'n parhau i gredu mai dyma'r ffordd iawn a theg i ni drin ein hunain yn unol â phawb arall.

Diolch i Carolyn Thomas. Fe dynnodd hi sylw, fel y mae llawer o gyd-Aelodau wedi'i wneud, at effaith y gyllideb ddrafft ar lywodraeth leol. Rwy'n parhau i weithio bob wythnos gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, a ffigurau llywodraeth leol hefyd, i ddod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol y gallwn ni gynorthwyo llywodraeth leol yn yr amgylchiadau heriol y mae eu cyfyngiadau deddfwriaethol unigryw yn eu gosod arnyn nhw.

Gadewch i mi orffen, Llywydd, lle y gorffenodd Lee Waters. Nid dadl am benderfyniadau damcaniaethol yw hon; nid dadl mewn cymdeithas ddadlau ydyw. Mae'n ddadl mewn lle sy'n mynd i wneud un o'r penderfyniadau mwyaf canlyniadol ym mywydau ein cyd-ddinasyddion y mae unrhyw Senedd o'r math hwn yn ei wneud. Mae methiant i basio cyllideb yn wirioneddol drychinebus—mae'n drychinebus i enw da'r Senedd, mae'n tanseilio enw da datganoli, ond, yn bwysicaf oll, mae'n drychinebus i fywydau'r miloedd hynny o bobl a fydd yn cael eu gadael heb wasanaeth, heb swydd, heb obaith y gallwn ni ei ddal o'u blaenau y bydd pethau'n parhau i wella yn y dyfodol. Dyna pam mae'r ychydig wythnosau nesaf mor bwysig. Dyna pam mai dechrau nid diwedd y broses yw hyn; dyna pam mae'r sgyrsiau y mae pleidiau eraill wedi bod yn ddigon da i'w cynnig y prynhawn yma mor bwysig. Rwy'n edrych ymlaen at bob un ohonyn nhw, ac rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd yma ar ddiwedd y broses hon yn benderfynol o gyflawni ein cyfrifoldebau.

16:15
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diweddariad ar y Diwygiadau ADY

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ddiweddariad ar y diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol. Lynne Neagle.

Llywydd, heddiw rwyf wedi cyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad deddfwriaethol ar anghenion dysgu ychwanegol a thribiwnlys addysg a'r mewnwelediadau gan rieni a gofalwyr fel rhan o werthusiad annibynnol ALNET. Mae Tribiwnlys Addysg Cymru wedi rhannu gyda mi y mewnwelediadau a dynnwyd o brofiad barnwrol ar apeliadau na ddatryswyd yn lleol a bydd yn cyhoeddi eu hadroddiad ar wahân. Rwyf am fod yn glir fy mod wedi gobeithio y byddai adroddiad y tribiwnlys yn cael ei gyhoeddi heddiw, ochr yn ochr â'r dystiolaeth arall, gan fod tryloywder a didwylledd, yn enwedig gyda theuluoedd, yn bwysig iawn i mi. Yn anffodus, mae hyn wedi bod y tu hwnt i fy rheolaeth. Rwyf wedi gofyn iddo gael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl. Ynghyd â'r gwerthusiad ehangach, adolygiadau thematig Estyn a data system, mae'r dystiolaeth yn gyson ac yn llywio'r camau ymarferol y byddaf yn eu nodi heddiw. 

Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod gennym system addysg lle mae anghenion pob dysgwr yn cael eu deall ac yr ymatebir iddynt gyda'r gefnogaeth gywir ar waith. I wireddu ein huchelgais ar gyfer system addysg wirioneddol gynhwysol, dwyieithog, rhaid i'r diwygiadau ADY weithio'n well yn ymarferol a chael eu hymgorffori'n effeithiol ar draws y system dim i 25. Mae hynny'n golygu disgwyliadau clir, gwneud penderfyniadau hyderus a'r gefnogaeth gywir ar waith i bob dysgwr, ym mhob rhan o Gymru.

Y diwygiadau ADY yw rhai o'r newidiadau mwyaf sylweddol i'n system addysg mewn cenhedlaeth. Rwyf am gydnabod yr hyn sydd wedi'i gyflawni trwy ymdrech ar y cyd gan ymarferwyr addysg, awdurdodau lleol, partneriaid iechyd, yn ogystal â dysgwyr a'u teuluoedd. Gyda'n gilydd rydym wedi gweithredu dyletswyddau newydd, ffyrdd newydd o weithio o'r blynyddoedd cynnar nes eu bod yn oedolion, ym meysydd addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Ochr yn ochr â hyn bu newid diwylliannol wrth ddarparu system addysg gynhwysol yng Nghymru. Nid yw'r raddfa honno o newid wedi bod yn hawdd, ac rwyf am ddiolch i bob rhan o'r sector am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb ar draws diwygiadau addysg.

Mae awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau wedi gwneud cynnydd. Mae mwy na 32,000 o gynlluniau datblygu unigol statudol wedi'u creu mewn ysgolion trwy brosesau sy'n canolbwyntio ar y person. Mewn sawl lleoliad, rwyf wedi gweld y diwygiadau yn gweithio'n dda, yn enwedig y pwyslais ar gynhwysiant, rhoi llais y dysgwr wrth wraidd y broses, a gwaith tîm cryf rhwng ysgolion, teuluoedd a gwasanaethau.

Mae Estyn yn adrodd ar ystwythder ac addasiadau gan ysgolion i ddiwallu anghenion dysgwyr, addasu'r ddarpariaeth a gweithredu ymyriadau meddylgar, creadigol, ac wedi'u targedu. Maen nhw'n adrodd hefyd ar dwf mewn cronfeydd adnoddau arbenigol mewn ysgolion, gan gynnig amgylcheddau magwrol, digyffro a chefnogol lle mae disgyblion yn ffynnu ac yn integreiddio i ddosbarthiadau prif ffrwd ac yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol. Mae hyn yn cael ei gefnogi drwy ein rhaglen buddsoddi cyfalaf.

Fodd bynnag, mae heriau sylweddol yn parhau. Rwyf wedi ystyried a gwrando'n ofalus ar bryderon. Mae'r dystiolaeth ehangach yn cadarnhau cefnogaeth gref i egwyddorion y diwygiadau, yn enwedig cynhwysiant a chynllunio sy'n canolbwyntio ar y person, ond mae hefyd yn tynnu sylw at anghysondeb yn y ffordd y caiff y diffiniadau ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol eu cymhwyso ledled Cymru. Mae pwysau yn parhau, ac er gwaethaf buddsoddiad sylweddol ers 2020, mae adnoddau'n brin tra bod cymhlethdod yr angen yn parhau i godi. Am y rheswm hwn, rwy'n falch o gyhoeddi £8.2 miliwn arall eleni i'w ddyrannu'n uniongyrchol i awdurdodau lleol, lleoliadau addysg a cholegau i wella cyflawni diwygiadau ADY.

Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r arolwg rhieni a gofalwyr fel rhan o werthusiad ALNET. Hoffwn ddiolch i'r rhieni a'r gofalwyr a rannodd eu profiadau, ac am siarad mor onest am y rhwystredigaethau o ran oedi, penderfyniadau anghyson a diffyg gwybodaeth glir neu gefnogaeth. Mae'r adborth yn glir: mae angen gwell gwybodaeth ar deuluoedd a mwy o gefnogaeth cyd-gysylltiedig, ac mae'n rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud yn fwy cyson wrth gymhwyso'r gyfraith a'r cod.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

16:20

Rydym hefyd wedi gwrando a dysgu gwersi o ddarpariaeth ledled Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r holl dystiolaeth yn llywio ein pwyslais ar wella darpariaeth fel bod pob dysgwr yn derbyn y cymorth iawn ar yr adeg iawn, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru. Heddiw, byddaf yn nodi'r camau nesaf a'r amserlen i gyflawni hyn.

Dirprwy Lywydd Dros Dro, mae diwygio yn ymdrech a rennir. Bydd angen ymdrech gyson, myfyrio gonest a phartneriaeth barhaus i ddarparu'r system y mae dysgwyr a theuluoedd yn ei haeddu. Dyna pam, dros yr haf, fe wnes i oedi'n fwriadol i archwilio'r dystiolaeth a gawsom ac i ddechrau archwilio atebion ymarferol gyda phartneriaid. Bydd y gwaith hwnnw'n parhau a bydd yn ysgogi camau gweithredu yn erbyn fy mhum blaenoriaeth.

Yn gyntaf, eglurder ar gyfer y sector: pwy sydd ag ADY a pha gefnogaeth y gall pob dysgwr ei ddisgwyl mewn addysg? Rydym yn egluro'r diffiniadau sydd wrth wraidd y system: sut i ddarparu tystiolaeth o 'lawer mwy o anhawster dysgu' a beth yw 'darpariaeth a wneir yn gyffredinol'. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ymarferol, fel bod penderfyniadau adnabod a darparu mewn awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau yn brydlon, yn deg ac yn esboniadwy, ac yn cael eu hangori'n llawn i'r fframwaith cyfreithiol.

Yn ail, cysondeb cenedlaethol wrth gyflawni. Fis diwethaf, cadeiriais ein bwrdd cyflawni a gwella ALN cyntaf i ddarparu goruchwyliaeth gryfach o welliannau. Rwy'n ymgynghori ar set ddata ADY genedlaethol newydd i ddatblygu darlun data cenedlaethol cliriach, olrhain perfformiad a llywio gwelliant. Rwy'n cryfhau cefnogaeth genedlaethol gyda chynghorwyr proffesiynol newydd i ysgogi ansawdd a darpariaeth gyson yn y blynyddoedd cynnar, addysg brif ffrwd a chefnogi anghenion gofal iechyd. Byddwn yn rhannu arfer effeithiol i ddatblygu atebion a rennir i faterion cyffredin ledled Cymru. Bydd grant arloesedd ADY newydd yn cefnogi lleoliadau addysg i gryfhau darpariaeth y system ADY, gwella arbenigedd arbenigol a rhannu arfer gorau mewn addysg gynhwysol ar draws y sector addysg brif ffrwd ac arbenigol. Rydym yn ymgorffori ymhellach rôl y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o fewn arweinyddiaeth ysgolion, felly mae'r rôl yn cael ei chydnabod, ei chefnogi ac yn ddylanwadol i arwain gwelliannau strategol wrth ddarparu cymorth i ddysgwyr ag ADY. Mae hyn wedi'i ategu gan raglen dysgu proffesiynol newydd ar ddatblygiad plant, niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl.

Yn drydydd, y wybodaeth a'r gefnogaeth gywir ar gyfer teuluoedd. Mae teuluoedd wedi dweud wrthym yn glir bod ansicrwydd a diffyg cefnogaeth wedi bod ymhlith y profiadau a achosodd y mwyaf o straen iddynt. Mae'r adborth hwnnw'n bwysig, a dyna pam mae cryfhau'r wybodaeth sydd ar gael i deuluoedd yn rhan ganolog o'r cam nesaf. Rydym yn cwblhau'r broses o gyd-ddylunio pecyn cymorth gwybodaeth i rieni a gofalwyr, fel bod teuluoedd yn gwybod beth i'w ddisgwyl, pryd a chan bwy. Byddwn hefyd yn datblygu cyfres o adnoddau i gyfathrebu'r cynnig yn well yn y blynyddoedd cynnar, ac opsiynau i ddysgwyr sy'n symud ymlaen i addysg ôl-16. Byddwn yn adolygu gwasanaethau eiriolaeth ADY yng Nghymru cyn bo hir i ddeall sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu ar hyn o bryd, nodi lle y gellir gwneud gwelliannau, ac archwilio opsiynau i gryfhau mynediad at gymorth annibynnol. Yn ogystal â hyn, byddwn yn atgyfnerthu disgwyliadau clir ar wneud penderfyniadau tryloyw, er mwyn i deuluoedd allu deall sut a pham mae penderfyniadau ADY yn cael eu gwneud a sicrhau bod eu hawliau i apêl yn hysbys. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni leihau anghydfodau y gellir eu hosgoi a gwella ymddiriedaeth yn y system.

Yn bedwerydd, rydym yn cryfhau integreiddio aml-asiantaeth ar draws addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cyd-gynhyrchu canllawiau aml-asiantaeth newydd gyda phartneriaid cyflawni i ddarparu eglurder a chysondeb ymarfer a disgwyliadau rhwng lleoliadau iechyd ac addysg. Bydd adolygu'r canllawiau 'Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd' yn egluro rolau a chyfrifoldebau, a bydd digwyddiad byrddau partneriaeth rhanbarthol ym mis Rhagfyr yn tynnu sylw at y dull system gyfan o gefnogi ADY ar draws addysg, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Yn bumed, mae'n rhaid i ni barhau ar ein taith i gyflawni system addysg ddwyieithog a chynhwysol: profiad addysg lle mae anawsterau dysgwyr wrth ymgysylltu a chael mynediad at addysg yn cael eu deall, a dulliau ac amgylcheddau yn cael eu haddasu i ddiwallu eu hanghenion. Byddwn yn ehangu dysgu proffesiynol ac yn rhannu ymarfer effeithiol presennol sy'n digwydd ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol, fel bod ymarfer cynhwysol o ansawdd uchel yn norm ym mhob ystafell ddosbarth. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio i wella dealltwriaeth o gostau system ADY a defnyddio cyllid i ddarparu darpariaeth ADY ar gyfer dysgwyr rhwng dim a 25 oed. Rwyf wedi cychwyn yr adolygiad pum mlynedd cyntaf i asesu digonolrwydd darpariaeth dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg er mwyn cryfhau cysondeb ac ansawdd ledled Cymru.

Dirprwy Lywydd dros dro, mae'r diwygiadau hyn yn ymrwymiad hirdymor i degwch a chynhwysiant. Mae'r fframwaith statudol ar waith, ac mae'r diwylliant o ymarfer cynhwysol yn datblygu; yr her nawr yw darpariaeth gyson, hyderus. Trwy gyd-gynhyrchu a gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, byddwn yn cryfhau eglurder a chydweithio, fel bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, ble bynnag y maen nhw'n byw.

16:25

A gaf i hefyd gymryd eiliad i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddatganiad y prynhawn yma ac am yr amser a neilltuodd y bore yma i friffio? Mae gwneud yn siŵr bod cefnogaeth ar waith i'r rhai sydd ei angen fwyaf yn hanfodol, ac mae croeso mawr i'r adolygiad hwn, gan fod y system newydd yn sicr wedi profi'n ddadleuol. Mae'n amlwg nad yw'r diwygiadau wedi'u gweithredu yn y ffordd yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i fwriadu a'i ragweld yn wreiddiol. Mae ofnau bod plant ag ADY yn cael eu gadael i lawr o dan y system, ac mae gen i ofn, yn seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiad, yr ofnau hynny yw'r realiti difrifol mewn gwirionedd. Cysondeb, neu yn hytrach diffyg cysondeb, yw'r diffyg sylfaenol yma, Ysgrifennydd Cabinet, er nad yw hynny'n sioc fawr, fel y rhybuddiodd Estyn yn flaenorol, ac rwy'n dyfynnu:

'nid oedd gweithredu diwygio ADY yn gyson, ac o ganlyniad, nid oedd anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu cefnogi’n ddigon da bob amser.'

Tynnodd fy nghydweithiwr a'm rhagflaenydd Tom Giffard AS sylw at y materion gyda diwygio ADY yn gynnar yn 2024, gan ddweud, ac rwy'n dyfynnu eto:

'Mae eich datganiad chi heddiw, a'ch ymateb chi i'r pwyllgor hwnnw, yn fy ngwneud i'n bryderus nad ydych chi'n ystyried yr angen i ddatrys y materion eglur o ran diwygio ADY gyda'r brys y mae'n ei haeddu mor amlwg.'

Mae sylwadau Tom, byddwn i'n dadlau, yn dal i fod yn berthnasol yr holl amser hwn yn ddiweddarach. Dyma ni, dros flwyddyn ers ei rybudd, ac yn anffodus nid oes unrhyw beth wedi newid. Mae'r problemau hirsefydlog gyda chysondeb yn parhau. Felly, mae fy nghwestiwn, Ysgrifennydd Cabinet, yn syml: pam mae wedi cymryd cymaint o amser i chi weithredu ar y materion hyn pan maen nhw wedi bod yn hysbys ers cryn dipyn o amser? Ym mis Mai y llynedd, Ysgrifennydd Cabinet, fe ddywedoch chi wrth y Senedd, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae hi'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i weithredu system o gymorth ADY sy'n darparu ar gyfer dysgwyr y gall rhieni a staff ysgol ei llywio hi...mae canolbwyntio ar ddiwygio ADY wedi bod ymhlith y blaenoriaethau cyntaf sydd gennyf i. Rwyf i'n awyddus y bydd sylfeini deddfwriaethol cadarn ar waith, ac rwy'n awyddus i gryfhau gweithredu trwy wella cysondeb yr ymagwedd a gymerir.'

O ystyried bod hynny 17 mis yn ôl, ac rydym bellach yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o beidio â gallu diwygio'r ddeddfwriaeth oherwydd yr etholiad sydd ar ddod ym mis Mai y flwyddyn nesaf, mae'n ymddangos bod eich plaid wedi bod yn cysgu wrth y llyw, Ysgrifennydd Cabinet. Ydych chi'n teimlo bod hynny'n wir mewn gwirionedd? Oherwydd fy mhryder mwyaf ar hyn o bryd yw bod gostyngiad o 53 y cant yn nifer y disgyblion sy'n cael eu nodi fel rhai sydd ag ADY dros y pedair blynedd ers cyflwyno'r system newydd. Daw'r cwymp hwnnw, o fwy na 92,500 o ddisgyblion i ychydig o dan 44,000, ar yr un pryd mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mwy o blant yn cyflwyno anghenion mwy cymhleth. Felly, a yw plant yn cael eu colli yn y system nawr, Ysgrifennydd Cabinet, ac yn llithro trwy'r craciau, oherwydd sut arall fyddech chi'n esbonio'r gostyngiad sylweddol yn y niferoedd? Honnodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol fod y dirywiad yn deillio o or-adrodd ac adnabod ADY yn anghywir. Hoffwn wybod: ydych chi'n rhannu barn eich rhagflaenydd, Ysgrifennydd Cabinet?

Gallai'r pwysau llwyth gwaith ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r system ADY newydd, yn enwedig darparu cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pob dysgwr ag ADY, godi'r bar o ran cael mynediad at gymorth. Mae'r rhain yn bryderon hirdymor sydd wedi cael eu nodi dro ar ôl tro dros y blynyddoedd, ond yn anffodus maen nhw'n parhau hyd yn oed heddiw. Rydym yn gwybod bod heriau mawr yn y maes hwn; rydyn ni i gyd yn derbyn hynny. Mae ôl-groniadau dwys, sy'n llethu awdurdodau lleol ac ysgolion, ynghyd ag amseroedd aros hir am asesiad. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â hyn nawr, Ysgrifennydd Cabinet? Rydym wedi rhybuddio yn flaenorol y gallai nifer y plant sy'n aros am asesiad awtistiaeth neu ADHD yng Nghymru bron dreblu i 61,000 dros y ddwy flynedd nesaf yn unig. Mae myfyrwyr yn cael eu gadael mewn sefyllfa ansicr, a rhai eisoes yn gadael yr ysgol ymhell cyn iddyn nhw hyd yn oed gael diagnosis. Yn amlwg, rwy'n derbyn rhannau o hyn y tu allan i'ch cylch gwaith chi, Ysgrifennydd Cabinet, ond mae angen iddo fod yn ymateb ar y cyd gan y Llywodraeth i helpu i leddfu'r pwysau yn y tymor hir. Felly, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Aelodau yn yr adran iechyd am y mater hwn, a pha gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd sydd ar ddod?

Mae cyllid yn parhau i fod yn bryder mawr i lawer, Ysgrifennydd Cabinet, pan ddaw i allu gweithredu'r diwygiadau hyn yn effeithiol. Roedd hwn yn bwnc a amlygwyd yn arolwg cenedlaethol diweddar Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru. Dywedodd un ymateb, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae niferoedd ADY yn cynyddu’n sylweddol heb y cyllid angenrheidiol gan yr ALl. Mae adnoddau wedi’u gwasgaru’n rhy denau'.

Dywedodd ymateb arall:

'Mae toriadau i’r gyllideb addysg yn ein sir wedi golygu nad ydym yn gallu cyflogi’r nifer o staff sydd eu hangen i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Fel ysgol gynhwysol, mae gennym anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol amrywiol yn ogystal â gorlwythiadau synhwyraidd ac yn hytrach na gallu cynnig cefnogaeth mae’n rhaid i ni dorri’r staff, i sicrhau ein bod yn cadw athrawon o flaen y dosbarth.'

Daeth Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru i'r casgliad, ac rwy'n dyfynnu:

'O’r adborth a gawsom, nid yw’n ymddangos bod darlun cyson a chydlynol o sut mae dysgwyr ADY yn cael eu cefnogi. Mae sylwadau’n dangos nad yw’r ddarpariaeth ADY yn deg, nad oes ganddo adnoddau digonol ac mae diffyg capasiti yn y system i sicrhau bod strategaethau ymyrraeth amserol ac effeithiol yn cael eu rhoi ar waith.'

Canfu ymchwil NASUWT fod 89 y cant o athrawon â chyfrifoldebau ADY yn adrodd nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i'w cyflawni, ac mae 83 y cant o athrawon yn dweud bod toriadau i gyllid ac adnoddau ADY wedi cynyddu eu llwyth gwaith. Mae'r diffyg adnoddau yn her fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ac rwy'n credu y gall pawb o'n holl wahanol bleidiau gytuno ar hynny hefyd. Rydych chi wedi crybwyll £8.2 miliwn ychwanegol yn y datganiad heddiw, ond o ystyried yr hyn yr wyf newydd ei amlinellu, ydych chi'n teimlo bod hynny'n ddigon? A allwch chi ymhelaethu ar sut y bydd hyn yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru? Oherwydd bod y cwestiwn, a'r broblem, ledled Cymru.

Yn y datganiad y prynhawn yma fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at ddylunio pecyn cymorth i deuluoedd i sicrhau eu bod ganddynt wybodaeth well, ond nid oes amserlen i hyn. Felly, hoffwn wybod mwy am hynny. A hoffwn ofyn hefyd, pryd mae'r Llywodraeth yn disgwyl i hyn fod ar waith i deuluoedd gael mynediad ato? Unwaith eto, mae'r un peth yn berthnasol am yr adolygiad o wasanaethau eiriolaeth—nid oes amserlen, Ysgrifennydd Cabinet. Felly, hoffwn wybod pryd y bydd y darn hwn o waith yn dechrau mewn gwirionedd, a phryd ydych chi'n disgwyl iddo gael ei gwblhau mewn gwirionedd?

16:30

Diolch yn fawr. Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn hefyd ofyn i chi, yn fanwl, pa gamau cyraeddadwy y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd rhwng nawr a bryd hynny fel nad yw ein pobl ifanc ag ADY yn mynd i gael eu gorfodi i barhau i ddioddef o dan y system ddiffygiol o dan y Llywodraeth nesaf, a fydd yn cael ei ffurfio ym mis Mai 2026. Oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael hyn yn iawn, ac nid wyf eto yn argyhoeddedig bod gan y Llywodraeth hon reolaeth ar y mater. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Natasha, am eich croeso i'r adolygiad. Roedd rhywfaint o bositifrwydd yno o leiaf. Fe wnaethoch chi ddyfynnu Estyn. Mae adolygiad thematig diwethaf Estyn, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf, yn cadarnhau bod ADY yn dechrau cyflawni gwelliannau ystyrlon ledled Cymru, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae wedi'i gofleidio gydag eglurder ac ymrwymiad. Ond fe wnaethon nhw hefyd ddod o hyd i weithrediad anghyson ledled Cymru, a dyna'n union yr wyf i wedi bod yn ei ddweud heddiw. Fe wnaethon nhw argymell mwy o gysondeb a thryloywder i sicrhau darpariaeth deg ac effeithiol i bob dysgwr ag anghenion ychwanegol, canllawiau cliriach ar gyfrifoldebau, monitro data cryfach, sicrhau ansawdd ar gyfer cynlluniau datblygu unigol a gwell cyfathrebu â theuluoedd. Fel yr wyf newydd ei nodi, rydyn ni'n gweithredu ar yr holl feysydd hynny.

Dydw i'n sicr ddim yn derbyn fy mod wedi bod yn cysgu wrth y llyw. Nodais, ar ôl dod i'r swydd, fod pryderon am y system ADY. Roeddwn i'n pryderu am ein gweithrediad o'r system ADY. Darllenais y dystiolaeth. Gwrandawais ar y wybodaeth a ddarparwyd i mi. Gwyliais dystiolaeth llywydd y tribiwnlys i'r pwyllgor, ac rwyf wedi cymryd camau, gydag adolygiad cynhwysfawr o'r gwaith yn y maes hwn, drwy nid yn unig gomisiynu'r barnwr i ddarparu tystiolaeth ar y pwyntiau a wnaeth, bod y system yn gymhleth ac aneglur, ond hefyd drwy gymryd tystiolaeth gan 50 o randdeiliaid, yn ogystal ag ymgymryd â'n hadolygiad mewnol ein hunain gan Lywodraeth Cymru. Mae'r adolygiad cyfreithiol hwn—. Mae hwn yn fater cymhleth iawn ac mae'n rhaid i ni wneud hyn yn iawn. Byddwn i wedi hoffi bod wedi rhoi trefn ar y cyfan mewn tair wythnos ar ôl i mi ddod i'r swydd, ac nid oeddwn yn y swydd yn gynnar yn 2024 chwaith. Ond mae'n rhaid i ni wneud hyn yn iawn. Mae hwn yn fater cymhleth.

Y pwynt arall y byddwn i'n ei wneud i chi yw ein bod ni newydd orffen gweithredu'r system o ran mai yn ddiweddar iawn y mae'r garfan ddiwethaf o ddysgwyr wedi trosglwyddo o'r system AAA i'r system ADY. Felly, mae hon wedi bod yn broses.

Byddwn hefyd yn gwneud y pwynt bod y byd wedi newid llawer ers 2018 pan wnaethom ni basio'r ddeddfwriaeth honno. Fe wnaethom ni basio'r ddeddfwriaeth honno cyn i ni basio'r ddeddfwriaeth cwricwlwm sy'n cyflwyno newid radical iawn, sy'n darparu cyfle i gynnig dysgu wedi'i deilwra ar wahân i'n plant a'n pobl ifanc. Rydyn ni wedi cael pandemig, ac rydyn ni'n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith ar gymhlethdod yr hyn rydyn ni'n ei weld mewn ysgolion o ran presenoldeb, ymddygiad. Rwyf wedi gweld adroddiadau yn ddiweddar am nifer y plant sy'n dechrau ysgol gydag ychydig iawn o iaith. Gellir cysylltu hynny hefyd â'r pandemig. Felly, mae'n sefyllfa gymhleth iawn yr ydym yn delio â hi yma.

O ran y pwyntiau a wnaethoch am niferoedd, unwaith eto, mae hwn yn faes cymhleth oherwydd bod gennym fwy na 32,000 o ddysgwyr sydd â chynlluniau datblygu unigol statudol ledled Cymru. Mae hynny'n fwy na'r plant a oedd â chynllun statudol o dan y system AAA. Ond yr hyn rwy'n ei dderbyn yw nad yw'r holl ddysgwyr sydd ar y lefelau is o gefnogaeth AAA—gweithredu gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy—i gyd wedi trosglwyddo i'r system newydd hon. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion wedi mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y person, fesul achos, i ddeall a oes gan ddysgwyr ADY. Rydym yn gwybod bod llawer o anghenion dysgwyr bellach yn cael eu diwallu'n effeithiol drwy ymarfer cynhwysol o ansawdd uchel a hefyd wedi'u hategu gan y Cwricwlwm i Gymru.

Cawsom yr adolygiad hwnnw i ddeall y gostyngiad a'r amrywioldeb mewn dysgwyr a nodwyd ag AAA neu ADY, ac mae bellach yn gliriach. Mae'n rhannol oherwydd cysondebau yn y ffordd y mae ADY yn cael ei nodi ledled Cymru. Dyna pam mae'r gwaith yr wyf wedi'i nodi, egluro'r diffiniad cyfreithiol o ADY, yn brif flaenoriaeth. Rydym am i ymarferwyr allu gwneud penderfyniadau sy'n gyson, teg a thryloyw ac yn amlwg yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth. Mae hynny'n hanfodol bwysig. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio dros yr haf gyda phartneriaid i egluro'r prawf dau gam ar gyfer ADY. Mae gennym eisoes ddrafft o ganllawiau ar hynny, ac rydym yn symud gyda chyflymder i wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gyfathrebu i'r sector.

Fe wnaethoch chi godi cryn dipyn o faterion eraill. O ran y cyllid, mae'r £8.2 miliwn sy'n cael ei rannu rhwng—. Mae hwnnw'n arian yn ystod y flwyddyn eleni, ar ben y miliynau lawer o bunnoedd rydyn ni wedi'u diogelu ar gyfer ADY yn y grant addysg awdurdod lleol eleni, ar ben yr arian cynyddol yn y grant cynnal refeniw, yr oeddem yn glir iawn gyda llywodraeth leol oedd i fynd i'r afael â phwysau ym maes ADY. Mae hynny'n £5 miliwn i ysgolion, £3.2 miliwn ar gyfer addysg bellach. Bydd y £5 miliwn ar gyfer ysgolion yn mynd allan drwy'r grant addysg awdurdodau lleol fel arfer, a byddwn yn gneud gwaith dilynol ar hynny gydag awdurdodau lleol.Bydd y £3.2 miliwn yn mynd allan trwy Medr i golegau AB.

O ran y pecyn cymorth, mae'r gwaith ar hwnnw bron iawn wedi'i gwblhau. Rydyn ni wedi ei gyd-gynhyrchu hynny gyda rhieni, ac rydyn ni'n gobeithio ei lansio ym mis Tachwedd. Mae'r adolygiad o eiriolaeth i fod i ddechrau yn fuan a bydd yn adrodd, gobeithio, yn gynnar yn 2026. Ond byddwn yn ailadrodd eto bod yn rhaid i ni gael hyn yn iawn i blant a phobl ifanc, ac mae hwn yn faes cymhleth.

16:35

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ac am eich amser y bore yma i drafod y materion hyn yn fanwl, gyda swyddogion a minnau, cyn y ddadl heddiw.

Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser maith am system addysg wirioneddol gynhwysol, un sy'n diwallu anghenion pob dysgwr, beth bynnag yw eu cefndir, eu gallu neu'u hiaith. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r wybodaeth ddiweddaraf bwysig hon ar ddiwygiadau ADY. Nawr, rydyn ni ym Mhlaid Cymru'n credu bod yn rhaid cyflawni'r diwygiadau hyn gydag uchelgais ond hefyd gyda realaeth. Mae hynny'n golygu sicrhau bod gan ysgolion y staff, yr hyfforddiant a'r adnoddau i gyflawni eu dyletswyddau statudol, a bod dysgwyr a theuluoedd yn gallu manteisio ar gymorth yn deg, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru. Nawr, mae hynny'n golygu cysondeb o ran ymagwedd ledled awdurdodau lleol—rhywbeth y gwnaethon ni ei drafod y bore yma—a chydweithredu rhwng y sectorau iechyd ac addysg, cyllid digonol a datblygiad proffesiynol effeithiol. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi eisoes wedi cyfeirio at rai o'r materion hyn yn eich datganiad, ac rwy'n croesawu hynny.

Ond mae'n rhaid barnu datganiad heddiw yn erbyn profiad bywyd dysgwyr, teuluoedd ac addysgwyr ledled Cymru, ac mae'r dystiolaeth yn glir: mae'r system o dan straen. Mae Estyn, Comisiynydd Plant Cymru, pwyllgor addysg y Senedd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyd wedi codi pryderon difrifol am weithrediad anghyson, diffyg adnoddau a diffyg eglurder yn y system, yr ydych chi eisoes wedi'u cydnabod. Felly, mae'n amlwg y bydd angen diwygiadau eraill i'r cod ADY, p'un ai yw hynny trwy ddeddfwriaeth neu reoleiddio, i ymdrin ag anghysondebau a bylchau. Felly, er ein bod ni'n cydnabod bod cyfnod cyfyngedig o amser ar ôl yn y calendr deddfwriaethol cyn diwedd tymor y Senedd, mae'n hanfodol bod camau paratoi yn cael eu cymryd nawr i sicrhau bod pwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf yn gallu cadw momentwm ac osgoi oedi. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gychwyn gwaith paratoi i sicrhau bod modd bwrw ymlaen yn gyflym yn nhymor nesaf y Senedd ag unrhyw ddiwygiadau i'r cod ADY neu reoliadau ategol yn y dyfodol, a beth fydd y gwaith paratoi hwnnw'n ei gynnwys?

Nawr, mae athrawon, staff cymorth ac arbenigwyr yn gweithio'n ddiflino i ddiwallu anghenion cynyddol a chynyddol gymhleth, ond mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau sylfaen o gymhwysedd ledled y system addysg. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i hyfforddiant ADY gorfodol ar gyfer pob athro a chynorthwyydd addysgu, fel rhan o addysg gychwynnol yr athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus? Nawr, gallai hyn sicrhau bod pob addysgwr ag adnoddau i adnabod a chefnogi dysgwyr ag ADY a bod darpariaeth gyffredinol yn ystyrlon ac yn gyson.

Nawr yn Gymraeg: un elfen hollbwysig, yn fy marn i, yw’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol sydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae Estyn wedi argymell ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac mae’r comisiynydd plant a Chomisiynydd y Gymraeg wedi tynnu sylw at yr angen i wella elfennau o’r gwasanaethau hyn. Pa ystyriaethau, felly, mae’r Llywodraeth yn eu rhoi i wasanaethau cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd? A chan dderbyn bod adolygiad statudol yn cael ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf, dŷn ni angen gweithredu nawr i fynd i’r afael â’r heriau megis recriwtio, hyfforddiant a chynllunio.

Ac yn ogystal ag adolygiad y Llywodraeth ei hun o'r fframwaith deddfwriaethol, mae nifer o adolygiadau eraill yn yr arfaeth, er enghraifft adolygiad pum mlynedd o ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg, adolygiad gan bwyllgor Archwilio Cymru, adolygiad y Tribiwnlys Addysg Cymru ac ymchwiliad y pwyllgor addysg. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod y canfyddiadau a'r argymhellion o'r adolygiadau hyn yn cael eu hystyried mewn ffordd gydlynus a strategol, yn hytrach nag fel elfennau ar wahân?

I gloi, felly, heb weithredu ar frys, bydd yr addewid i ddiwygio ADY yn parhau heb ei gyflawni a bydd y dysgwyr mwyaf agored i niwed yn parhau i gael eu siomi gan system sydd heb y gallu, yr eglurder a'r cysondeb y maen nhw'n yn eu haeddu. Rwy'n annog y Llywodraeth i wneud cymaint â phosibl rhwng nawr a mis Mai nesaf i leddfu'r pwysau ar y system, a phe bai Plaid Cymru neu unrhyw blaid arall yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf, bydden nhw wedyn yn barod i gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y diwygiadau hyn yn gweithio i ddisgyblion a rhieni fel ei gilydd. Diolch.

16:45

Diolch yn fawr iawn, Cefin, a diolch am eich amser y bore yma hefyd. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr eich bod yn datgan ymrwymiad Plaid Cymru i addysg gynhwysol. Rwy'n credu mai dyna lle rydyn ni i gyd eisiau mynd. Dyna'r daith rydyn ni i gyd arni. Nid wyf wedi cuddio rhag y materion heddiw ynghylch cysondeb a'r angen i ni fynd i'r afael â'r materion hynny. Rwyf hefyd yn cytuno'n fawr â'ch pwyntiau am brofiad bywyd. Dyna pam roeddwn i eisiau cyhoeddi neu sicrhau bod yr holl ddogfennau yn cael eu cyhoeddi heddiw, oherwydd rydw i wedi clywed beth mae teuluoedd wedi'i ddweud am frwydro. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw frwydro, ac rydw i eisiau iddyn nhw wybod ein bod ni'n gwrando.

Fe wnaethoch chi godi mater y cod ADY, ac fe wnaethom drafod hynny y bore 'ma. Yn anffodus, nid oes amser i adolygu'r cod ADY yn nhymor y Senedd hon. Pe baem yn mynd i wneud hynny, byddai'n rhaid cyhoeddi cod drafft newydd nawr ar gyfer ymgynghori, ac nid ydym ar y cam hwnnw eto. Hefyd, mae rhanddeiliaid wedi bod yn glir iawn gyda ni nad ydyn nhw'n credu y dylem frysio hyn. Mae'n rhaid i ni ei wneud yn iawn. Mae hynny'n bwysig iawn. Dydyn ni ddim eisiau ailadrodd unrhyw gamgymeriadau. Yr hyn y byddaf yn rhoi fy sicrwydd i chi yw ein bod yn paratoi ar gyfer y newidiadau deddfwriaethol hynny—yn amlwg, i bwy bynnag fydd y Llywodraeth newydd i fwrw ymlaen â hynny. Mae gennych fy sicrwydd llwyr; Rwyf ond eisiau gweld cynnydd yno. Fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich sylwadau cloi at ddysgwyr sy'n agored i niwed. Dyna'r lens: edrych ar beth yw anghenion plant a phobl ifanc. Dyna pam rwy'n codi o'r gwely yn y bore. Felly, mae gennych fy sicrwydd y byddwn yn bwrw ymlaen â hynny. Dylwn i hefyd ddiolch i fy swyddogion, mewn gwirionedd. Nid ydynt yn cael eu diolch yn aml iawn, swyddogion, ond rwyf am ddiolch i fy swyddogion ADY, sydd wedi gweithio'n ddiflino ar hyn ers misoedd, ac mae wedi bod yn ddarn cymhleth ac anodd o waith. Gallaf eich sicrhau y byddan nhw a minnau yn parhau i wneud hynny i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cynnydd.

Rydych chi wedi tynnu sylw at y gwahanol adolygiadau. Mae'r adolygiad pum mlynedd wedi'i nodi yn y ddeddfwriaeth sylfaenol, felly rydym wedi comisiynu hwnnw. Mae'r adolygiad ETW yn rhan o'r gwaith hwn mewn gwirionedd. Fe wnaethon ni ei gomisiynu, ac fe wnaethon ni ddarparu rhywfaint o gyllid ar ei gyfer. Felly, mae hynny'n rhan allweddol o'r gwaith ac mae wedi'i ystyried yn llawn yn y rhaglen waith rydyn ni wedi'i rhoi at ei gilydd. Rwyf hefyd yn croesawu adolygiad Archwilio Cymru, yr ydym yn disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Rwy'n hapus iawn i'ch sicrhau y byddwn yn gwneud ein gorau glas i driongl yr holl adolygiadau hynny. Ni fydd yr adolygiad pum mlynedd yn adrodd tan ar ôl etholiadau'r Senedd.

Fe wnaethoch chi hefyd godi materion pwysig iawn ynglŷn â'r Gymraeg. Yn amlwg, nid dim ond yr adolygiad pum mlynedd yr ydym yn gweithredu arno yn y maes hwn. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i'n strategaeth 'Cymraeg 2050'. Un o egwyddorion allweddol y ddeddfwriaeth yw creu system ddwyieithog. Yn ôl ym mis Ebrill y llynedd, fe wnaethom benodi arweinydd gweithredu ar gyfer y Gymraeg, Trystan Williams. Mae'n gwneud gwaith gwych gyda'r sector i drawsnewid sut mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cefnogi dysgwyr gydag ADY. Rydyn ni wir wedi gwneud rhai camau sylweddol ers iddo fod yn y swydd. Felly, i roi rhai enghreifftiau i chi, mae gennym offer arloesol fel Siwrne Siarad, sy'n gwneud gwahaniaeth, gan rymuso athrawon i nodi a chefnogi anghenion iaith a llythrennedd plant yn gynharach ac yn fwy effeithiol. Bydd hynny'n cael ei gyhoeddi ar Hwb, fel y gall pob ymarferydd ei ddefnyddio. Mae gennym hefyd offeryn mapio llythrennedd, platfform digidol i helpu ysgolion i nodi, monitro ac olrhain datblygiad llythrennedd dysgwyr unigol fel y gallwn ymyrryd mewn ffordd amserol. Mae'r cyngor llyfrau ac Adnodd wedi comisiynu set o lyfrau darllen cyfrwng Cymraeg i blant ag ADY. Rydym hefyd wedi buddsoddi yn yr hyn a arferai fod yn offeryn llythrennedd Caerdydd, a elwir bellach yn GoFaL. Bydd hynny'n rhoi asesiad trylwyr, safonol i ni, wedi'i deilwra ar gyfer amgylchedd dwyieithog, i nodi anghenion llythrennedd mewn pobl ifanc 11 i 17 oed, tra hefyd yn gwarantu mynediad teg iddynt i drefniadau arholiadau'r Cyd-gyngor Cymwysterau. Rydyn ni'n gwneud pethau eraill, fel cyfres o bodlediadau dwyieithog, sy'n arddangos ymarfer effeithiol ymhlith addysgwyr.

Ond dydw i ddim yn mynd i guddio rhag yr heriau yn y fan yma hefyd. Rydych chi'n ymwybodol iawn, Cefin, o'r heriau sydd gennym o ran recriwtio cyfrwng Cymraeg, ac mae'r un peth yn wir am ein gweithlu mwy arbenigol. Bydd y cynllun gweithlu strategol rydyn ni'n ei ddatblygu yn nodi mesurau i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.

16:50

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n falch o siarad heddiw ar y mater pwysig hwn ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol, rydym ni wedi bod yn dilyn gweithredu'r diwygiadau ADY ers dechrau'r Senedd. Dim ond un cyfle y mae plant yn ei gael yn yr ysgol, felly mae'n hanfodol bod pob plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno fel y gall ffynnu. Yn anffodus, nid yw hyn yn wir i ormod o blant, a dyna pam y gwnaethom ni groesawu eich ymrwymiad i gynnal yr adolygiad hwn yng nghyfarfod ein pwyllgor ym mis Mai 2024. Fel pwyllgor, rydym ni'n sicrhau bod profiad bywyd yn ganolog i'n gwaith. Rydym ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n clywed gan rieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc, a phartneriaid mewn llywodraeth leol a'r trydydd sector, oherwydd y rhain yw'r bobl sy'n ymdrin â'r diwygiadau ADY ar lawr gwlad, bob un dydd.

Un o'n pryderon mwyaf fu'r gostyngiad sylweddol i nifer y dysgwyr y nodir bod ganddyn nhw ADY, pryderon y gwn eich bod chi'n eu rhannu. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a yw'r adolygiad wedi nodi'r prif ffactorau sy'n achosi'r gostyngiad hwn o dros 50 y cant? Ac a ydych chi'n gwbl hyderus bod anghenion plant na chydnabyddir mwyach bod ganddyn nhw ADY, ac felly nad oes ganddyn nhw gynllun datblygu unigol, yn cael eu diwallu? Ac a ydych chi'n meddwl bod y system ADY yn cael ei gweithredu fel y bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru yn wreiddiol pan basiwyd y Ddeddf a'r cod dilynol? Os nad ydych, pa gamau pendant y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol neu o leiaf egluro sut mae'r system i fod i weithredu? A phryd fydd y camau hyn yn dechrau dwyn ffrwyth? Diolch.

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am y sylwadau hynny a chanmol y pwyllgor ar eu pwyslais parhaus yn y maes hwn a'u hymrwymiad i wrando ar brofiad bywyd teuluoedd? Rydym ni wedi trafod ychydig eisoes y problemau gyda'r niferoedd. Fel y dywedais i, cafwyd adolygiad gan CADYau, a ystyriodd hyn ar sail achosion unigol, ond rwy'n cydnabod hefyd bod problemau hefyd gyda'r anghysondebau a sut mae ADY yn cael ei nodi ledled Cymru.

Rydym ni mewn sefyllfa wahanol iawn i 2018, a phan roedd y ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Senedd, yn amlwg, fi oedd Cadeirydd y pwyllgor bryd hynny. Roeddem ni'n credu y byddai'r holl ddysgwyr a oedd yn y system anghenion addysgol arbennig, felly gweithredu gan yr ysgol, gweithredu gan yr ysgol a mwy, yn ogystal ag â datganiad, yn symud drosodd i'r system ADY. Mae'n amlwg nad yw hynny wedi digwydd, ond, i rai plant, bydd hynny oherwydd ymarfer cynhwysol a'n hysgolion yn gwella o ran diwallu anghenion dysgwyr trwy bethau fel y dull ysgol gyfan, y cwricwlwm newydd. Ond dyna pam—y pwynt am anghysondeb yw pam—mai'r brif flaenoriaeth, yn rhan o'r gwaith hwn yr ydym ni'n ei wneud, yw egluro'r diffiniadau o ADY. Mae hynny'n golygu gwneud yn siŵr bod pawb yn deall y prawf dau gam. Mae angen iddyn nhw ddeall bod prawf dau gam. Mae angen dealltwriaeth o'r amrywiaeth o dystiolaeth sy'n llywio cam cyntaf hynny, sef yn benodol yr hyn sy'n gyfystyr â 'llawer mwy o anhawster' yn ddysgu, ond yna mae angen iddyn nhw hefyd allu disgrifio'r ddarpariaeth sydd ar gael yn gyffredinol yng Nghymru, sef ail ran y prawf hwnnw. Felly, os oes gan blentyn hawl i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, mae'r ddarpariaeth honno yn ychwanegol at ddarpariaeth a wneir yn gyffredinol. Os caf i sicrhau'r Aelod ein bod ni wedi dechrau gweithio dros yr haf ar hyn. Fe wnaethom ni sefydlu gweithgor i egluro hyn. Mae'r grŵp hwnnw'n cael ei gadeirio gan Gaynor Davies, sef cyfarwyddwr addysg RhCT, a Dr Lowri Brown o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'r gwaith hwnnw wedi parhau dros yr haf. Mae gennym ni ganllawiau drafft ar gael eisoes, sy'n cael eu profi gyda'r sector.

Gyda'ch caniatâd, Dirprwy Lywydd dros dro, rwyf i wedi sylweddoli na wnes i ymateb i bwynt Cefin Campbell ar ddysgu proffesiynol, a hoffwn gydnabod pa mor bwysig yw hyn i deuluoedd. Rwy'n credu y bydd angen i ni fod mewn sefyllfa, oherwydd y niferoedd cynyddol o blant ag anghenion dysgu ychwanegol a chymhlethdod uwch, lle mae ein gweithlu ysgol gyfan yn cael ei uwchsgilio i gefnogi plant, ac rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda i wneud hynny nawr. Yn amlwg, mae gennym ni Dysgu ar waith, ein corff dysgu proffesiynol newydd; dyddiau cynnar yw hi i Dysgu, ond rwyf i wedi bod yn eglur gyda Dysgu mai'r blaenoriaethau yw llythrennedd, rhifedd, cynhwysiant ac iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Felly, byddwn yn disgwyl i Dysgu ddod o gwmpas hynny a gwneud yn siŵr y gallwn ni hyrwyddo'r dysgu hwnnw drwy'r sector cyfan. Gyda'n rhaglen partneriaeth gwella ysgolion, rydym ni'n cydgysylltu honno nawr gyda'r gwaith ar gynhwysiant, felly rydym ni'n dod â'r arweinwyr cynhwysiant a'r arweinwyr gwella ysgolion at ei gilydd, fel nad yw cynhwysiant draw yn y fan yna, ond yn rhan o graidd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Dros y gaeaf nawr, rydym ni'n treialu rhaglen dysgu proffesiynol newydd ar ddatblygiad plant, niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl a ddatblygwyd gan Education Support. Byddaf yn edrych i weld sut y gallwn ni gyflwyno hon. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod rhai ysgolion yn wirioneddol dda yn hyn o beth, beth bynnag, felly yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod pob ysgol yn dod i fyny i lefel y goreuon. Diolch.

16:55

Rwyf i wir yn croesawu'r datganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r adolygiad. Rwyf i wir yn croesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud o ran hyfforddiant hefyd, oherwydd yn ystod gwaith craffu yn y gorffennol mae hynny wedi bod yn elfen allweddol.

Os caf i ofyn o ran darpariaeth Gymraeg yn benodol, mae'n loteri cod post lwyr o ran y cymorth hwnnw. Mae'n ymwneud cymaint ag agwedd mewn rhai awdurdodau lleol ag y mae'n ymwneud â'r adnoddau sydd ar gael, ac rwy'n meddwl tybed pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael gydag awdurdodau lleol. Byddwn yn hapus i gael sgwrs gyda chi am rywfaint o'r gwaith achos yr ydym ni'n ei dderbyn, sydd wir wedi fy syfrdanu, oherwydd mae'n achosi mwy o drallod i'r teuluoedd hynny ac yn ychwanegu at y teimlad hwnnw o orfod brwydro am ddarpariaeth i'w plentyn ac yn cael eu hystyried yn broblem gan eu bod nhw eisiau i'w plentyn dderbyn y cymorth hwnnw yn Gymraeg. Felly, tybed a fyddech chi'n fodlon cyfarfod â mi ynghylch y materion penodol hynny.

O ran yr £8.2 miliwn pellach, un o'r pethau y mae ysgolion yn ei ddweud wrthyf i yw faint mae'r elfen adnoddau yn effeithio ar sut maen nhw'n gallu cynorthwyo plant. Felly, faint o'r arian hwnnw fydd yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion, o'r £8.2 miliwn? Ac os caf i, rwy'n sylwi o ran rhywfaint o'r adolygiad sydd wedi cael ei gyhoeddi a'r sylwadau a wnaed gan rieni bod 85 y cant o bobl sydd wedi gwneud penderfyniad i addysgu eu plant gartref wedi dweud mai'r diffyg cymorth oedd un o'r rhesymau, a byddai hanner ohonyn nhw'n hoffi i'w plentyn ddychwelyd i'r ysgol. Felly, sut ydym ni'n cynorthwyo'r teuluoedd hynny sydd eisiau cael y plant hynny yn ôl i'r ysgol i sicrhau eu bod nhw'n gallu gwneud hynny?

Diolch yn fawr iawn, Heledd. Rwyf i wir yn cydnabod bod gennym ni lawer o waith i'w wneud ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac rwyf i eisiau i blant sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg beidio â chael eu gwthio allan o'r system oherwydd nad yw'r ddarpariaeth yno. Rydw i wedi cael plant yn fy etholaeth fy hun y mae hynny wedi digwydd iddyn nhw ac ni ddylai hynny fod yn wir. Mae ADY yn rhan allweddol o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac mae Trystan Williams yn adolygu'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Yn amlwg, os oes unrhyw ddiffygion yn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, rydym ni'n mynd ar drywydd hynny wedyn gyda'r awdurdodau lleol, ond rwy'n hapus iawn i gael cyfarfod gyda chi i drafod y gwaith achos yr ydych chi wedi ei godi, neu i chi ysgrifennu ataf i, pa un bynnag sydd fwyaf cyfleus.

Edrychwch, nid wyf i'n mynd i guddio chwaith rhag y ffaith bod pwysau enfawr mewn ysgolion o ran adnoddau ar hyn o bryd, ac mae ADY yn rhan fawr iawn o hynny. Mae hefyd yn bwysau enfawr ar awdurdodau lleol gyda chostau cludiant ysgol yn mynd i fyny ac i fyny. Dyma un o'r rhesymau pam rwyf i wedi bod mor groch am adnoddau ar gyfer addysg. Fe wnaethom sicrhau y llynedd—. Eleni a'r llynedd, fe wnaethom ni lwyddo i fuddsoddi £262 miliwn ychwanegol mewn addysg, ond mae'r galw yn parhau i dyfu. A'r hyn yr wyf i wedi ceisio ei wneud gyda'r potiau hyn o arian yw gwneud yn siŵr bod cymaint â phosibl ohono'n cyrraedd y rheng flaen, a byddaf yn gwneud hynny gyda'r arian hwn. Ond nid yw'n ymwneud â'r potiau o arian ar gyfer ADY yn unig; yr hyn yr ydych chi'n ei ganfod yw pan fo ysgolion o dan bwysau gyda chyllid, y staff cyntaf i fynd yw pethau fel staff bugeiliol, y staff sy'n helpu gydag ymddygiad, a phethau felly. Felly, dull systematig sydd ei angen arnom ni. Yn amlwg, cawsom ni'r drafodaeth gychwynnol am y gyllideb heddiw, a byddaf yn parhau i wneud dadl mor gryf â phosibl dros addysg, a gobeithio y bydd llawer o Aelodau eraill yn gwneud hynny hefyd.

Ac ar yr addysg gartref ddewisol, rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn y fan yna, gan fy mod i'n gwybod bod teuluoedd sydd wedi tynnu eu plant allan am y rheswm hwnnw. Yn amlwg, rydym ni eisiau i'n plant fod yn yr ysgol. Yn rhan o'r gwaith hwn, rydym ni'n gwneud gwaith penodol o ran tri grŵp o blant: plant a addysgir gartref, plant sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, a phlant sydd â phrofiad o ofal. Ceir mecanwaith i blant sy'n cael eu haddysgu gartref i gael cymorth gan yr awdurdod lleol, ac rwy'n aml yn ysgrifennu yn ôl at Aelodau i'w hysbysu am hynny, ond rwy'n cydnabod, os yw teuluoedd yn teimlo nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu, mae hynny'n rhwystr eithaf mawr i'w oresgyn.

17:00

Rwy'n cefnogi'n llwyr eich uchelgeisiau ar gyfer system addysg lle mae anghenion pob dysgwr yn cael eu deall, yn cael ymateb, a chyda'r cymorth cywir ar waith. Ond hoffwn ganolbwyntio ar hyn o bryd ar sefyllfa gwydr hanner llawn, yn hytrach na gwydr hanner gwag, oherwydd mae llawer o waith gwych yn cael ei wneud, ac mae angen i ni adeiladu ar hynny. Rydym ni'n gwybod nad yw arfer da yn teithio'n hawdd, felly hoffwn ganolbwyntio hefyd ar yr angen i leihau anghydfodau y gellir eu hosgoi a gwella ymddiriedaeth yn y system, ac mae hynny oherwydd bod gan rai pobl ddisgwyliadau afrealistig o'r hyn sydd dan sylw yma. Nid wyf i'n credu bod angen CDU ar 70 y cant o'r holl bobl ifanc. Rwy'n credu bod llawer o blant angen cymorth ychwanegol, ond nid yw hynny yr un fath â CDU. Mae hefyd yn bwysig gwybod y gall ymyriadau arwain at fod angen llai o gymorth, gan fod yr ymyrraeth wedi bod yn llwyddiannus o ran cynorthwyo'r dysgwr i oresgyn yr anawsterau yr oedd yn eu cael.

Felly, mae gen i dri pheth am ledaenu arfer da. Gall, fe all fod yn broses ddryslyd iawn i rieni, sydd wrth gwrs i gyd eisiau gwneud y peth iawn i'w plentyn. Felly, hoffwn ganmol yr un daenlen a ddefnyddir gan Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, lle rwy'n llywodraethwr, lle gall yr holl staff sy'n rhyngweithio â disgybl penodol gofnodi eu sylwadau ar yr un ddalen honno o bapur. Mae'n ddogfen weithredol fyw, ar gyfrifiadur yn amlwg, ond gall y disgybl ac aelod o'r teulu hefyd ychwanegu eu sylwadau ar bob cam o'r broses. Ac yna, yn yr ysgol uwchradd—

Iawn. Felly, mae cryfhau swydd y CADY yn bwysig iawn, oherwydd y datblygiad proffesiynol hwnnw i athrawon llai profiadol a staff cymorth dysgu, gan mai nhw'n aml yw'r rhai sy'n gwneud y gwaith unigol. Hefyd, mae AALl Ceredigion yn amlwg ymhell ar y blaen o ran addysg gynhwysol—

17:05

Rwyf i wedi bod yn hael iawn, iawn, Jenny Rathbone. Dewch i ben os gwelwch yn dda.

Iawn. Rwy'n credu mai dyma sut rydym ni'n lledaenu arfer da y gellir ei nodi, fel nad ydym yn ailadrodd arfer gwael, a'n bod ni'n ymdrin ag ef yn llawer cyflymach.

Diolch yn fawr iawn, Jenny, ac rydych chi'n gwbl gywir, mae arfer gwych allan yna. Fe wnaethoch chi sôn am Geredigion, ac fe wnes i fynd i Geredigion, oherwydd nid oes gan Geredigion unrhyw ysgolion arbennig, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i nad oedden nhw wedi anfon unrhyw ddysgwyr cyn 16 oed allan o'r sir ers tua 2018. Fe wnes i fynd i Ysgol Llwyn-yr-Eos, sydd ag unedau adnoddau, ac roedd cymhlethdod anghenion y dysgwyr hynny a oedd yn cael eu haddysgu mewn ysgol brif ffrwd wir yn ysbrydoliaeth. Ond mae angen i ni ledaenu'r arfer da hwnnw, a dyna pam rydym ni wedi dechrau'r digwyddiadau ymarfer cynhwysol hyn, ac rydym ni'n edrych ar ffyrdd eraill o rannu'r arfer da drwy Hwb a phodlediadau a phethau felly.

Diolch am enghraifft Teilo Sant. Mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn symud tuag at system lle mae gennym ffordd gyson o gasglu gwybodaeth. Gall barchu anghenion lleol, ond mae angen i ni edrych ar yr arfer da hwnnw a sicrhau ein bod ni'n rhannu hwnnw.

Diolch am sôn am swyddogaeth y CADYau. Rwyf i wedi cyfarfod â llawer o CADYau ers dod i fy swydd ac rwy'n credu eu bod nhw'n gwneud gwaith cwbl ragorol. Maen nhw o dan lawer o bwysau, ac mae rhai ohonyn nhw, rwy'n credu, yn teimlo wedi'u gorlwytho, ac rwyf i eisiau gwneud popeth yn ein gallu i'w cynorthwyo. Dyna pam rydym ni'n symud CADYau i'r raddfa arweinyddiaeth, fel yr argymhellir gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Rydym ni eisiau iddyn nhw fod â'r swyddogaeth strategol honno o fewn yr ysgol, a hefyd i gael eu cydnabod a bod â'r statws ar gyfer hynny.

Gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw? Mae hi'n amlwg iawn, iawn i fi yn ystod fy nghymorthfeydd etholaeth gymaint mae teuluoedd yn wynebu mwy o broblemau, fis ar ôl mis. Mae nifer o deuluoedd wedi troi yn ymgyrchwyr ac yn ddeisebwyr. Dwi'n diolch i bobl fel Danielle Jones am fy addysgu i am yr effaith mae diffyg cefnogaeth ac arafwch i gael asesiad ac ati yn ei gael arnyn nhw fel teuluoedd.

Dwi'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio at y pwysau mawr sydd yna, wrth gwrs, ar awdurdodau lleol ac ysgolion i ddarparu y gefnogaeth sydd ei hangen, a thra dwi'n croesawu y cyhoeddiad am fwy o fuddsoddiad, mi fyddai'n dda cael mwy o ddealltwriaeth o sut mae hwnna yn mynd i effeithio ar deuluoedd. Felly, beth fyddai neges yr Ysgrifennydd Cabinet i deuluoedd ynglŷn â sut y bydd cefnogaeth ychwanegol i awdurdodau lleol yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw? Sut fydd hyfforddiant ychwanegol, sut fydd y disgwyliadau ar gysondeb ar draws Cymru yn gweithio drwyddo i sicrhau bod teuluoedd yn gweld effaith hyn yn fuan?

Diolch yn fawr iawn, Rhun. Yn amlwg, rwy'n cydnabod y pwysau y mae teuluoedd yn eu hwynebu. Nid wyf i eisiau gweld unrhyw deuluoedd yn gorfod brwydro. Rwy'n credu bod y sefyllfa fuddsoddi yn amlochrog, mewn gwirionedd. Bydd yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei gyhoeddi nawr, a'r arian ychwanegol a gyhoeddais y llynedd, yn cael ei ddosbarthu drwy grant addysg yr awdurdod lleol, ond rwy'n disgwyl i'r arian hwnnw gyrraedd y rheng flaen. Bydd hwnnw'n cael ei wario ar bethau fel dysgu proffesiynol, gan greu'r lle ar gyfer y math hwnnw o ddysgu proffesiynol, a gweithio gyda'r blaenoriaethau y mae awdurdodau lleol ac ysgolion wedi eu nodi.

Yr hyn y dylwn i ei ddweud hefyd, fodd bynnag, yw hefyd, yn rhan o'r ffrydiau gwaith yr ydym ni wedi eu sefydlu o dan y gwaith hwn, mae gennym ni ddarn o waith ar gyllid sy'n cael ei arwain gan Will McLean, sy'n gyfarwyddwr addysg yn sir Fynwy. Mae'n edrych yn fanwl iawn ar y pwysau o ran ADY ledled Cymru, sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddyrannu, a bydd hynny'n rhoi darlun llawer mwy eglur i ni. Y peth arall i dynnu sylw ato yw ein bod ni wedi cael yr adolygiad o fformiwlâu ariannu ysgolion mewn awdurdodau lleol; yn amlwg, mae gennym ni 22 o wahanol fformiwlâu, 22 o wahanol fformiwlâu ar gyfer ADY. Ac rydym ni wedi ymgynghori ar reoliadau a fydd yn golygu y gallwn ni weld faint o arian sy'n mynd allan trwy ADY, ac rwy'n credu bod tryloywder—. Yn amlwg, nid yw'n mynd i newid maint y gacen gyffredinol, ond rwy'n credu y bydd y tryloywder yn ein helpu ni i weld ble mae'r arian hwnnw yn mynd ac yn arwain at fwy o atebolrwydd.

17:10
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Mae Casineb yn Brifo Cymru

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Mae Casineb yn Brifo Cymru. A dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 17:10:59
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, acting Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo'n falch o gael cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol casineb ac, wrth i ni herio casineb, byddwn yn parhau i gefnogi'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio ganddo, a chryfhau ymwybyddiaeth o fanteision cydlyniant cymunedol. Rydym ni wedi gweld cynnydd pryderus mewn casineb ac anghydfod yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae naratifau a phrotestiadau gwrth-ymfudwyr wedi bod yn brif thema sawl haf yn olynol, a dim ond wythnosau yn ôl, bu i ymosodiad terfysgol ffiaidd dargedu synagog ym Manceinion. Mae'r gweithgarwch hwn o gasineb yn cyrydu ein cymunedau, gan adael llawer yn teimlo'n ofnus ac ynysig.

Mae troseddau casineb yn effeithio ar ddioddefwyr drwy gydol y flwyddyn. Mae ymosodiadau sy'n seiliedig ar hunaniaeth yn glwyf cymdeithasol dwfn. Rhaid i'n hymdrechion fod yn barhaus, ond mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn cynnig eiliad hanfodol i fyfyrio a chanolbwyntio o'r newydd. Pan fyddwn yn gweithredu gyda'n gilydd, rydym yn anfon neges glir: rydym yn unedig yn erbyn casineb ac yn unedig yn ein nodau i feithrin cydlyniant cymunedol yng Nghymru. Mae safiad Llywodraeth Cymru yn ddiamwys: nid oes lle i gasineb a rhagfarn yng Nghymru. Mae'r egwyddor hon yn sail i'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ein cynllun gweithredu LHDTC a datblygu cynllun hawliau pobl anabl. Un o'n saith amcan cydraddoldeb cenedlaethol yw creu Cymru lle nad oes yna wahaniaethu, aflonyddu a throseddau casineb. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn cynnwys nod o greu Cymru o gymunedau cydlynol.

Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb eleni yn canolbwyntio ar gasineb anabledd. Ddoe, siaradais mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan ein Canolfan Cymorth Casineb Cymru, lle clywsom ni sut mae casineb yn parhau i fod yn rhwystr mawr sy'n rhwystro pobl anabl rhag cael cydraddoldeb. Mae rhagfarnau a chamsyniadau dwfn yn tanio'r troseddau hyn, sy'n aml yn mynd heb eu hadrodd. Efallai y bydd dioddefwyr yn ofni na fyddant yn cael eu cymryd o ddifrif neu heb yr hyder i godi llais. Yn anffodus, weithiau mae troseddwyr hyd yn oed yn cael eu hystyried yn ffrind gan y dioddefwr, sef 'trosedd cyfaill' fel y gelwir y peth. Mae'n rhaid i ni chwalu'r rhwystrau hyn. Dyna pam rydym ni wedi cynyddu cyllid ar gyfer ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, gan helpu dioddefwyr i adnabod troseddau casineb a cheisio help. Rydym ni hefyd yn annog tystion i weithredu. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn credu mewn helpu dioddefwyr, nid yw llawer yn gweithredu. Ein nod yw magu hyder fel y gall tystion gynnig cefnogaeth ystyrlon. Mae arnom ni hefyd eisiau i droseddwyr ddeall canlyniadau eu gweithredoedd ar ddioddefwyr ac arnyn nhw eu hunain. Byddant yn gweld ein bod yn grymuso dioddefwyr ac yn annog tystion i gofnodi casineb a rhoi gwybod amdano. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn hyrwyddo'r ymgyrch sydd bellach ar y gweill. Rhannwch ddeunyddiau ar draws eich rhwydweithiau. Gyda'n gilydd, fe allwn ni wneud y gorau ohono.

Rydym ni'n falch o ariannu Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy'n cynnig cymorth hanfodol i ddioddefwyr, gan gynnwys pobl ifanc. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnal y fforwm eiriolaeth profiad byw, lle mae goroeswyr yn helpu i wella ein hymateb ar y cyd. Cyhoeddwyd yr ystadegau troseddau casineb cenedlaethol diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr yr wythnos diwethaf, ac mae'r ffigurau ar gyfer troseddau casineb a gofnodwyd ar draws pedair ardal heddlu Cymru yn dangos cynnydd o 5 y cant yn gyffredinol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rydym yn cymryd y cynnydd hwn o ddifrif iawn ac rydym yn effro i'r cynnydd mewn naratifau casineb, yn enwedig mewn perthynas â chasineb crefyddol a hiliol.

Mae ymdrechion mawr yng Nghymru i ddileu troseddau casineb, ond mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud o hyd. Rydym ni i gyd eisiau gweld Cymru heb gasineb a bydd yn rhaid i ni barhau i gyflawni hyn. Mae mwy o gasineb wedi'i gofnodi o leiaf yn awgrymu bod gan gymunedau ffydd yn yr heddluoedd a Chanolfan Cymorth Casineb Cymru i roi help iddynt.

Er gwaethaf casineb diweddar, mae'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn yn lleiafrif bychan. Ond oni bai bod y mwyafrif tawel yn codi llais, oni bai bod tystion yn rhoi gwybod, ac oni bai ein bod ni fel Senedd yn gwrthod casineb ac anghydfod, bydd cymunedau'n parhau i fod yn ofnus ac yn ynysig. Mae rhai yn bychanu troseddau casineb fel dim  byd mwy na galw enwau. Rhaid i ni atgoffa'r cyhoedd bod troseddau casineb yn unrhyw drosedd sy'n cael ei ysgogi gan ragfarn. Mae'n achosi niwed parhaol ac yn tanseilio cydlyniant. Rhaid i ni ei drin gyda'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu. Mae canlyniadau diffyg gweithredu yn wyneb dad-ddynoli a chasineb yn amlwg i unrhyw un sydd â hyd yn oed ddim ond ychydig o wybodaeth am hanes.

Er nad yw plismona, deddfwriaeth troseddau casineb ac erlyniad wedi'u datganoli, mae gennym ni ddyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cydraddoldeb 2010 i feithrin cymunedau cydlynol a dileu erledigaeth. Dydd Iau diwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru. Bu i'r ymchwiliad ddod ag amryw o arbenigwyr at ei gilydd i lywio'r trafodaethau, ac rydym yn ddiolchgar iddyn nhw am ddarparu eu gwybodaeth a'u dirnadaeth fel rhan o'r broses. Rydym yn croesawu adroddiad y pwyllgor a byddwn yn dechrau gweithio ar unwaith drwy dderbyn argymhelliad 1 i sefydlu grŵp arbenigol ar gydlyniant cymdeithasol. Rydym yn rhoi sylw buan i weddill yr argymhellion. Bydd arnom ni eisiau sicrhau bod y grŵp arbenigol yn elwa ar yr ystod o fentrau a phartneriaethau rhagorol sydd ar waith ledled Cymru. Er mwyn cyflymu hyn, rwyf wedi gofyn i Gaynor Legall CBE gadeirio'r grŵp arbenigol hwn a darparu goruchwyliaeth annibynnol o ddatblygu camau y gallwn ni eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf.

Mae'n amlwg o'r ymchwiliad bod awydd cryf i weld mwy o gyfranogiad ac arweinyddiaeth. Enghraifft wych o hyn yw rhaglen Cynefin Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle i ysgolion weithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol amrywiol i archwilio'r amrywiaeth ethnig yng Nghymru a chyfraniad hyn i gymdeithas a diwylliant. Yn ddiweddar, rwyf wedi ymestyn cyllid y cydlynwyr cydlyniant cymunedol tan 2029 i'n galluogi i barhau i adeiladu ar y gwaith cadarnhaol a amlygwyd yn ystod yr ymchwiliad. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan waith ac ymdrech cymaint o bartneriaid ledled Cymru i ddod â chymunedau at ei gilydd. Rwy'n falch bod y pwyllgor wedi argymell y camau hyn.

Mae ein fforwm cymunedau ffydd yn darparu man i drafod, i wrando a dysgu oddi wrth ei gilydd, a dathlu'r cyfraniad y gall cymunedau ffydd ei wneud, ac y maen nhw'n ei wneud, i'w cymunedau ehangach. Mae'n meithrin cyd-ddealltwriaeth ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer parch a chwrteisi. Yn ddiweddar, cyfarfu'r fforwm a thrafod materion cydlyniant ar 21 Medi, gan barhau â'n deialog rhyng-ffydd amhrisiadwy.

Mae casineb a chamwybodaeth ar-lein yn fygythiadau cynyddol. Yn ddiweddar, mae unigolion a sefydliadau sy'n hyrwyddo cynhwysiant a chydlyniant wedi cael eu targedu. Rydym yn gweithio i helpu partneriaid i gadw'n ddiogel ac ymdrin â sylwadau o gasineb. Rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg wneud mwy i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed. Rydym yn parhau i weithio gydag Ofcom i ddeall sut y bydd pwerau newydd yn amddiffyn pobl yng Nghymru. Yn olaf, Llywydd, rwy'n ein hannog ni i gyd i siarad mewn undod nid yn unig yr wythnos hon, ond bob wythnos.

Mae casineb yn brifo Cymru, a rhaid peidio â'i oddef.

17:15

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Nid oes lle i gasineb yng Nghymru, ac rwy'n cytuno â Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu troseddau casineb yng Nghymru. Mae'n loes calon imi, yn ystod yr wythnosau diwethaf, ein bod wedi gweld dyn ifanc yn llunio swastikas ar draws Maesteg, gan gynnwys y tu allan i fwyty Tsieineaidd. Mae'n ffaith drist bod algorithmau ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyrru mwy a mwy o bobl ifanc i'r manospher fel y'i gelwir ac i ddrysfa go iawn. Mae'r cymunedau ar-lein hyn yn helpu i danio eu hynysigrwydd, eu hofn o eraill ac yn tanio'u casineb. Diolch byth, nid yw'r mwyafrif helaeth yn gweithredu ar eu casineb, ac rydym ni wedi gweld troseddau casineb yng Nghymru yn tueddu ar i lawr dros y degawd diwethaf.

Ysgrifennydd Cabinet, bu gostyngiad cyffredinol o 5 y cant mewn troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr, ond cynnydd o 5 y cant yma yng Nghymru. Pam ydych chi'n credu bod y sefyllfa ar draws heddluoedd Cymru wedi gwaethygu? Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos bod troseddau casineb ar sail crefydd wedi cynyddu chwarter yn y 12 mis diwethaf. Mae'r canrannau'n amlwg: ymosodwyd ar 121 o bobl fesul 10,000 am fod yn Iddewig a 10 fesul 10,000 am fod yn Fwslimaidd.

Ysgrifennydd Cabinet, fe siaradoch chi am waith y fforwm cymunedau ffydd, sy'n gwneud gwaith amhrisiadwy i feithrin cyd-barch a dealltwriaeth rhwng arweinwyr ffydd. Ond sut gall y fforwm feithrin cydlyniant a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd ehangach? Rydych chi'n nodi yn eich datganiad bod yn rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg wneud mwy i fynd i'r afael â chasineb a sut rydych chi'n gweithio gydag Ofcom. Mae gan Ofcom ran wrth amddiffyn plant, ond, i oedolion ifanc, mae'n dal i fod fel y gorllewin gwyllt. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n deall nad oes gennych chi unrhyw bwerau dros y cwmnïau technoleg, ond pa drafodaethau ydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y camau y gallant eu cymryd i fynd i'r afael â chamwybodaeth?

Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ofalus nad ydym yn cael effaith negyddol ar ryddid mynegiant. Ydych chi'n cytuno bod anffyddiwr sy'n gwneud hwyl ar athrawiaeth grefyddol yn wahanol iawn i labwst adain dde eithafol sy'n galw am farwolaeth bob Mwslim ac Iddew? Ysgrifennydd Cabinet, a yw Llywodraeth Cymru wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i roi'r gorau i gynlluniau i fynnu cofnodi digwyddiadau casineb nad ydynt yn ymwneud â throseddau ac i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â throseddau casineb gwirioneddol, fel y digwyddiad yn y Rhyl lle lledaenwyd graffiti gwrth-Fwslimaidd ar draws y dref?

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, byddaf yn falch o 'ddangos y cerdyn coch i hiliaeth' ddydd Gwener, ac mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n glir bod Cymru yn genedl oddefgar oni bai am oddef troseddau casineb. Ond a ydych chi'n cytuno â mi, oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i'r afael â'r cynnydd mewn mewnfudwyr anghyfreithlon, sy'n gwneud fawr ddim i feithrin cydlyniant cymunedol, ein bod yn peryglu gweld Cymru'n dod yn genedl fwy anoddefgar? Diolch yn fawr.

17:20

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch i chi am y gefnogaeth i'r datganiad hwn a byddaf yn ymateb i lawer o gwestiynau rydych chi wedi'u gofyn, ond byddwn yn dechrau trwy ddweud bod hwn yn ddatganiad lle rwy'n gobeithio y gallwn ni ddod at ein gilydd ar draws y Siambr hon. Mewn gwirionedd, pwyllgor trawsbleidiol, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a gynhyrchodd yr adroddiad arloesol hwn, ac rydym ni wedi sefydlu grŵp arbenigol. Ond fe hoffwn i ddweud, er bod polisi mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl, bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n fawr i sicrhau bod pawb sy'n gwneud eu cartref yng Nghymru yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Rydych chi wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig lle cywirais y camwybodaeth—. Rydych chi'n gofyn am sut rydym ni'n mynd i'r afael â chamwybodaeth. Gofynnaf i chi eto edrych ar fy natganiad, oherwydd mae camwybodaeth am y ffordd y mae ein polisi wedi'i bortreadu, sydd wedi cael effaith andwyol ar sefydliadau, yn enwedig y rhai sy'n helpu Cymru i fod yn wlad groesawgar honno, sydd mewn gwirionedd yn helpu i sicrhau ein bod yn galluogi unrhyw un sy'n dod i fyw yn y wlad hon—. Rydym ni'n derbyn ein cyfran gyfrannol o geiswyr noddfa i Gymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig, tua 5 y cant. Nid yw'n ymwneud â faint o bobl sy'n dod i Gymru; Mae'n ymwneud â sut rydym ni'n rhoi'r cyfle gorau i unrhyw un sy'n cyrraedd integreiddio'n llwyddiannus a bod o fudd i'r cymunedau lle maen nhw'n ymgartrefu. Rhaid i hynny fod yn flaenllaw yn ein hymrwymiad ar draws y Siambr hon, rwy'n credu, heddiw, i ddweud bod casineb yn brifo Cymru.

Rydym yn gwbl o ddifrif am y cynnydd o 5 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru. Daw ar ôl dau ostyngiad blynyddol. Wrth gwrs, roedd problem ynglŷn â than-adrodd. Gwyddom nad yw cynnydd mewn troseddau casineb a gofnodwyd bob amser yn adlewyrchu cynnydd mewn digwyddiadau casineb. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud pobl yn ymwybodol a'u bod yn hyderus y gallan nhw roi gwybod am droseddau casineb.

Rwy'n hynod bryderus am gynnydd o 30 y cant mewn troseddau casineb crefyddol yng Nghymru o'i gymharu â'r llynedd. Mae hyn yn dilyn cynnydd o 21 y cant yn ystadegau y llynedd. Ni ddylai unrhyw un orfod ofni trais am arfer eu rhyddid crefyddol, beth bynnag fo'ch credoau neu gefndir, neu ddim. Rydym yn cydnabod bod ymosodiadau ar ein cymunedau ffydd yn ymosodiadau ar ryddid a gwerthoedd ein cymdeithas gyfan, y dylai cymdeithas gyfan allu eu mwynhau.

Fe wna i ymateb i'ch sylw am gasineb ar-lein. Unwaith eto, byddaf yn crybwyll y sylw am gamwybodaeth, oherwydd mae risg ac effaith casineb a chamwybodaeth ar-lein yn parhau i gynyddu. Rydym ni wedi gweld sefydliadau, fel yr wyf wedi sôn, ac unigolion yn cael eu targedu. Mae'r rhain yn sefydliadau sydd mewn gwirionedd yn meithrin perthynas dda, yn creu cydlyniant yng Nghymru. Rydym ni'n gweithio i sicrhau bod partneriaid yn gwybod sut i gadw'n ddiogel ac i ymateb i gamwybodaeth a thargedu oherwydd casineb. Rydym ni'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i edrych ar hyfforddiant i awdurdodau lleol a chynghorwyr i'w helpu i ymdrin â chasineb a chamwybodaeth ar-lein.

A gaf i, yn olaf, mewn ymateb i'r cwestiynau hyn a godwyd gan yr Aelod y prynhawn yma, ddweud faint yr wyf yn croesawu'r datganiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor, a hefyd mewn ymateb i'n hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru? Dyfynnaf y Cynghorydd Jason McLellan, y llefarydd dros gyfiawnder cymdeithasol:

'Rydym...yn croesawu pwyslais yr adroddiad ar fynd i'r afael â chamwybodaeth ac eithafiaeth a'u heffeithiau gwenwynig ar ddisgwrs a democratiaeth. Mae cam-driniaeth ac ymddygiad fygythiol yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, gan beryglu tawelu'r rhai sydd fwyaf angen cael eu clywed. Mae ymgysylltu dinesig yn dibynnu ar bobl sy'n teimlo'n ddiogel, yn wybodus ac yn cael eu grymuso i gyfrannu. Ni ddylai unrhyw un gael ei wneud i deimlo wedi'i eithrio neu nad ydynt yn perthyn i'n cymunedau.'

Mae hi mor dda bod llywodraeth leol yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn y gymdeithas ddinesig i fynd i'r afael â chasineb yng Nghymru.

17:25

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Fe welais i hysbyseb ar Facebook gan Lywodraeth Cymru a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgyrch Hate Hurts Wales, ac roedd rhai o'r sylwadau o dan y postiad yn dweud y cyfan, dwi'n meddwl, am yr her sy'n ein hwynebu ni—sylwadau fel:

'Os nad oedd y rhai nad ni ydym eu heisiau yma, yna ni allen nhw gael eu targedu na'u cam-drin, ac mae pawb yn hapus'; 'Does mo'r fath beth â throsedd casineb'; 'Mae amrywiaeth yn golygu ymrannu'.

Ac mae mwy dwi ddim am eu dyfynnu, ond sydd yn dilorni ac yn ymosod ar yr ymgyrch. Ac rwy'n falch i ddweud hefyd fod yna nifer o sylwadau a oedd yn herio'r safbwyntiau yna. Ond yr hyn sy'n frawychus i fi yw bod gwadu neu gyfiawnhau casineb tuag at bobl yng Nghymru bellach mor gyffredin ac yn dderbyniol i rai yn ein cymdeithas. Mae'n gyfnod brawychus i leiafrifoedd a phobl sy'n cael eu gweld fel targedau dilys naill ai o ran ymosodiadau corfforol, ymosodiadau ar-lein neu ymosodiadau gwleidyddol. 

Mae Cymru yn wynebu rhaniadau dwfn, ond nid rhaniadau yw'r rhain sydd wedi eu creu gan wahaniaethau, ond rhaniadau sydd wedi eu corddi gan gasineb, wedi eu targedu tuag at bobl sy'n cael eu portreadu yn wahanol. Mae trosedd casineb yn fwy na gweithred o drais. Mae'n neges wedi ei thargedu nid yn unig at unigolyn, ond at grŵp cyfan, boed wedi ei wreiddio mewn hiliaeth, anoddefgarwch crefyddol, homoffobia, trawsffobia, senoffobia neu ablaeth. Mae'r cymhelliad yr un fath—gwneud rhywun yn llai nag eraill, yn llai na dynol, eu hynysu a'u brawychu. 

Fe ddywedodd y goroeswr Holocost, Elie Wiesel,

'Nid casineb yw gwrthwyneb cariad, ond difaterwch'.

Ac rwy'n falch i chi sôn yn eich datganiad am y ddyletswydd yna sydd gan bawb i wrthsefyll y casineb hwn sy'n niweidio ein cymdeithas ac yn brawychu pobl yng Nghymru. Mae difaterwch yn caniatáu i ragfarn wreiddio a thyfu i ddinistrio cymunedau a gwenwyno cenedlaethau'r dyfodol, gan danseilio cydraddoldeb, tegwch a thosturi, egwyddorion sy'n sail i unrhyw gymdeithas wâr. Felly, rwy'n cytuno—i wrthsefyll casineb, rhaid i ni ei enwi, addysgu ein gilydd amdano, gwrando ar leisiau y rhai sy'n ei ddioddef, ac, yn fwyaf pwysig, gweithredu. 

Fe gyfeirioch chi at waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'n hadroddiad newydd, hynod bwysig ni, dwi'n meddwl, ar y rhaniadau cynyddol yn ein cymunedau, a'n galwadau ni am weithredu gan y Llywodraeth. Ac rwy'n croesawu eich bod chi fel Llywodraeth—ac fel y sonioch chi yn eich datganiad—am ymateb yn syth i'n hargymhelliad ni i sefydlu grŵp arbenigol i arwain y gwaith yma o fynd i'r afael â'r rhaniadau hyn a'u goblygiadau i ddiogelwch y cyhoedd. Tra fy mod i’n croesawu hyn, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu a buddsoddi i sicrhau y cydlyniant cymdeithasol fyddai'n atal troseddau casineb rhag digwydd, er enghraifft—a rhywbeth rŷn ni'n sôn amdano fe yn ein hadroddiad—drwy gefnogi hawl cymunedau i brynu adnoddau a fyddai'n helpu dod â phobl at ei gilydd? Mae e'n rhywbeth y mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi galw amdano, onid yw e? Ac o ran y grŵp, allwch chi roi mwy o fanylion i ni ynglŷn â beth fydd cylch gwaith y grŵp arbenigol yma a phryd y gallwn ni ddisgwyl y byddan nhw'n adrodd yn ôl?

Mae Plaid Cymru'n credu mewn Cymru lle caiff amrywiaeth ei ddathlu, nid ei gasáu na'i ddirmygu. Ac rŷn ni wedi dadlau ers tro os ŷn ni o ddifrif am fynd i'r afael â chasineb, yna mae'n rhaid inni gael y grymoedd i wneud hynny. Felly, mae neges Plaid Cymru yn glir o ran hynny: rhaid datganoli cyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru. Allwn ni ddim mynd i'r afael â chasineb sy'n cynyddu gyda'n dwylo wedi'u clymu tu ôl i'n cefnau. Felly, tu hwnt i eiriau, sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yr achos dros ddatganoli pwerau dros feysydd fel plismona a chyfiawnder er mwyn mynd i’r afael yn llawn ac yn iawn â chasineb yng Nghymru, a fyddai'n gwella cydlyniant cymdeithasol? Pa reswm sy'n cael ei roi i chi gan Weinidogion Llafur San Steffan dros beidio â rhoi y grymoedd hynny i Gymru? Diolch.

17:30

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Fel y dywedwch chi'n gwbl briodol, rydym ni eisoes yn dadlau hyn, mewn gwirionedd, y prynhawn yma, yn nhermau gwahanol gwestiynau a chraffu. Mae'r heriau o allu gweithredu ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru yn enfawr. Maen nhw'n heriau y mae'n rhaid i ni eu hwynebu. Mae hyn yn ymwneud ag arweinyddiaeth ar draws y Siambr, ac Mae Casineb yn Brifo Cymru yw ein hymgyrch gyfathrebu yn erbyn troseddau casineb. Mae'n bwysig ei bod yn pwysleisio i droseddwyr, neu i droseddwyr posib, effaith negyddol iawn eu gweithredoedd ar y dioddefwr, ar eu bywydau eu hunain ac ar ein cymunedau. Ac, wrth gwrs, yr hyn rydym ni'n ei wneud yn yr ymgyrch yw tynnu sylw, fel rydw i wedi dweud, at bwysigrwydd tystion. Mae tystion wedi—. Mae arnom ni eisiau ceisio eu troi'n weithredwyr o ran sicrhau canlyniad cadarnhaol i fynd i'r afael â throseddau casineb. Rwyf yn gobeithio, ar draws y Siambr, y gallwn ni gael rhywfaint o ddealltwriaeth o ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru.

Mewn gwirionedd, rydym ni wedi cynyddu cyllideb Mae Casineb yn Brifo Cymru o fwy nag 80 y cant yn 2025-26, eleni, i sicrhau bod dioddefwyr yn dysgu am y cymorth sydd ar gael, yn enwedig yng nghyd-destun y rhethreg gynyddol hon o gasineb. Dyma beth sy'n newid, onid e, y rhethreg gynyddol hon o gasineb. A gaf i ddweud, gyda hyn mewn golwg, os ydych chi wedi dioddef troseddau casineb, fe allwch chi ffonio Canolfan Cymorth Casineb Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr—am ddim, yn gyfrinachol, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn—neu ymweld â reporthate.victimsupport.org.uk.

Mae hi yn bwysig, er nad yw pwerau plismona wedi'u datganoli i ni eto yng Nghymru—fe hoffem ni i blismona gael ei ddatganoli—ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda'n heddluoedd yng Nghymru. Rwy'n cadeirio'r bwrdd plismona partneriaeth, a'r hyn sy'n ddiddorol yw ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid heddlu yng Nghymru i ddatblygu cynllun peilot cydweithredol ar gyfer y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb, gyda'r nod o ddod o hyd i ddulliau amgen y tu allan i'r llys ar gyfer datrys troseddau casineb. Gall hynny fod yn bwysig pan mae'n briodol, os mai dyna yw ewyllys y dioddefwr a bod y troseddwr wedi dangos edifeirwch, oherwydd mae'n rhaid i ni newid diwylliant yma, onid oes? Mae'r math hwn o fenter rwy'n credu yn bwysig yn ein cymunedau, ac rydym ni'n mynd i ddechrau'r cynllun peilot hwnnw yn y flwyddyn ariannol hon.

Fe hoffwn i ddim ond canolbwyntio ar fater, ac rydych chi wedi ei grybwyll, am droseddau casineb a chynnydd troseddau casineb crefyddol, oherwydd—. A gaf i ddweud eto—ac mae'n bwysig ein bod ni'n gytûn ar hyn ar draws y Siambr hon—ein bod yn sefyll gyda'r cymunedau Iddewig a Mwslimaidd, yn enwedig ar hyn o bryd? Rydym yn condemnio'r casineb ffiaidd a fynegir gan unigolion sy'n creu hinsawdd o ofn ac yn ceisio darnio ein cymunedau. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn. Fe wnes i ddatganiad ar ôl yr ymosodiad terfysgol ar synagog Heaton Park Hebrew Congregation ym Manceinion—gweithred  ffiaidd a llwfr o fradychu gwerthoedd a rennir; rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd ac yn siarad â'n cymuned Iddewig trwy ein fforwm cymunedau ffydd hefyd—ond hefyd wedyn yn cydnabod bod ymosodiadau ar fosgiau, ac fe wnaeth fy swyddogion gyfarfod â'r holl imamiaid yr wythnos diwethaf o'r holl fosgiau. Siaradais â Chyngor Mwslimaidd Cymru. Mae angen i ni sicrhau bod mannau addoli yn bwysig, lle mae heddwch a pharch i'r ddwy ochr, ac fe hoffwn i ddiolch i aelodau'r fforwm cymunedau ffydd am eu cefnogaeth a'r ffordd y maen nhw'n ymgysylltu ac yn helpu tuag at y nodau sydd gennym ni i gyd i Gymru fod yn genedl o barch, ac yn deall cydlyniant cymunedol.

Yn olaf, fe hoffwn i ddweud ein bod wedi darparu cynnydd o 25 y cant i gyllid ein rhaglen cydlyniant cymunedol. Rwy'n gwybod mai hwn oedd un o'r argymhellion gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, oherwydd, mewn gwirionedd, cafodd y rhaglen, ein rhaglen cydlyniant cymunedol, a'n cydlynwyr eu cydnabod mewn gwirionedd gan rai o'r melinau trafod a oedd yn gweithio ar felin drafod cydlyniant y Deyrnas Unedig ar ôl Southport, ar ôl yr adroddiad terfysgoedd. Fe welson nhw y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddysgu o'n rhaglen cydlyniant cymunedol. Felly, rydym ni'n cynyddu'r gefnogaeth, ond yn ei ymestyn i 2029. Rydym yn mynd â hi i £1.6 miliwn ar draws wyth tîm rhanbarthol llywodraeth leol, ac rwy'n annog Aelodau i gwrdd â'u cydweithwyr cydlyniant cymunedol ledled Cymru.

Ydw, rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi clywed y cwestiwn am y cynnydd gyda'r comisiwn ar asedau cymunedol. Rydym yn edrych ymlaen at, ac yn disgwyl, gobeithio yn eithaf buan, ymateb i hynny. A gaf i ddiolch i'r pwyllgor am gael ymchwiliad mor feddylgar ac eang am gasineb, am gydlyniant cymdeithasol, sydd wrth gwrs mor berthnasol i'r ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru?

17:35

Diolch yn fawr iawn am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n falch eich bod wedi ymateb mor gadarnhaol i'r adroddiad gan y pwyllgor, ac yn enwedig derbyn yr argymhelliad yn syth i sefydlu grŵp arbenigol. Rwy'n falch iawn bod Gaynor Legall yn mynd i fod yn gadeirydd, oherwydd rydym ni'n gwybod bod ganddi hanes gwych yn y maes hwn. Rwy'n gwybod bod Sioned wedi gofyn i chi a oeddech chi wedi meddwl mwy am gyfansoddiad y grŵp, felly dydw i ddim yn gwybod os oes gennych chi unrhyw beth mwy i'w ddweud am hynny.

Amser cinio fe gawsom ni gyfarfod o'r grŵp Sipsiwn a Theithwyr, gyda Sioned, ac roeddem ni'n falch iawn bod Jayne Bryant yno fel y Gweinidog Tai. Mae bod yn wrth-Sipsiwn yn cael ei ystyried yn fath dderbyniol o wahaniaethu, ac mae Sipsiwn a Theithwyr yn profi troseddau casineb yn rheolaidd. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2023, roedd 62 y cant o Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi profi ymosodiad hiliol. Fodd bynnag, nid yw'r heddluoedd yn cofnodi adroddiadau ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gyson, sy'n cuddio maint llawn troseddau casineb yn erbyn y grŵp bregus hwn. Mae gwahaniaethu mor hirsefydlog ac wedi ei wreiddio mor wreiddio yn erbyn y gymuned Sipsiwn nad yw'n syndod eu bod yn oedi cyn adrodd am unrhyw droseddau, oherwydd mae eu holl brofiad o gymdeithas ac o gael eu derbyn mor negyddol. Yn sicr, yn y grŵp trawsbleidiol, rydym ni wedi clywed hynny dros y blynyddoedd, y rhagfarn ddofn sy'n bodoli yn erbyn Sipsiwn a Theithwyr.

Felly, mae gennym ni rannau o'n cymunedau yma yng Nghymru yn byw mewn ofn, ac nid dyna'r Gymru mae arnom ni ei heisiau, ac rwy'n gwybod nad dyma'r Gymru y mae ar y Llywodraeth ei heisiau. Beth mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i helpu grwpiau penodol, fel Sipsiwn a Theithwyr?

17:40

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, a diolch eto am rannu'r adborth pwysig hwnnw gan y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr. Rydw i mor falch eich bod wedi ailymgynnull y grŵp hwnnw. Mae'n bwerus iawn, ac mae'n golygu ein bod ni'n dysgu gan Sipsiwn a Theithwyr am sut beth yw byw a bod yn rhywun o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Mae hynny'n mynd i'n helpu ni, o ran ymateb i'r argymhellion. Rwy'n meddwl bod hyn yn allweddol iawn i'r gwaith sydd wedi'i wneud gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac, yn wir, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'n cael ei adlewyrchu yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Mae'r fersiwn wedi'i hadnewyddu wedi canolbwyntio ar gyfiawnder i bobl o'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'n ymwneud â'u hawliau, yr hyn sy'n ddyledus iddyn nhw, a pharch, gan gydnabod nad yw llawer o droseddau casineb yn erbyn Sipsiwn a Theithwyr yn aml yn cael eu hadrodd ac nad ydyn nhw'n cael eu cydnabod yn yr un ffordd gan aelodau o'r cyhoedd. Efallai y gallwn ni rannu gyda'r grŵp trawsbleidiol, gyda'r rhai a fynychodd y grŵp, y manylion am Ganolfan Cymorth Casineb Cymru, oherwydd dylai Sipsiwn a Theithwyr allu disgwyl yr un fath o ofal, cefnogaeth a sylw.

Rwy'n credu hefyd y gallaf ddweud, yn ôl i'r pwynt—. Mae'n ddrwg gennyf, wnes i ddim ymateb yn llawn i Sioned Williams. Y grŵp arbenigol—byddwn wrth gwrs yn edrych ar y buddiannau rydych chi wedi'u nodi yn adroddiad ac argymhellion y pwyllgor fel rhai sy'n berthnasol ar gyfer aelodaeth o'r grŵp arbenigol hwn. Mae gennym ni eisoes banel ymwybyddiaeth o droseddau casineb, sydd eto mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r grwpiau hynny. Bu'n rhaid sefydlu hyn oherwydd y cynnydd mewn troseddau casineb, ond mae'n estyn allan yn wir at bawb sy'n cael eu heffeithio— profiad byw, yn ogystal â'r rhai sydd â chyfrifoldeb statudol hefyd. Diolch eto am dynnu sylw at hyn fel rhan o ddim ond y broses o ddysgu am a deall bywydau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.

Diolch am eich datganiad meddylgar a phenodol, Ysgrifennydd Cabinet, ac am ba mor gyflym rydych chi wedi ymateb i argymhelliad cyntaf y pwyllgor, a adroddodd ddim ond pedwar diwrnod gwaith yn ôl. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cael y wobr am ymateb yn hynny o beth.

Rwy'n credu bod y gyllideb ar gyfer cydlynwyr cymunedol sy'n cael ei sicrhau tan 2029 yn bwysig iawn ac yn adlewyrchu, rwy'n credu, dealltwriaeth pawb ein bod ni mewn sefyllfa anodd iawn, iawn ar hyn o bryd, a gall ond gwaethygu wrth i ni symud tuag at etholiad hynod gystadleuol fis Mai nesaf. Rwy'n credu bod y sgwrs a gafodd lawer ohonom ni rwy'n siŵr gydag uwch blismon heddiw yn dweud wrthym ni nad yw hyn yn mynd i fod yn hawdd.

Yn gynharach heddiw rhuthrais allan i gwrdd â lobi, ar risiau'r Senedd, o bobl sy'n derbyn taliadau annibyniaeth bersonol, oherwydd eu bod nhw'n teimlo'n bryderus iawn y gallai'r arian hwn gael ei gymryd oddi wrthyn nhw, ac fe allai hyn amharu ar eu gallu nhw i weithio neu fyw eu bywydau cystal â phosibl. Yn amlwg, dyma un o'r sefydliadau y mae angen i ni sicrhau ein bod yn trafod â nhw, yn barchus, a'u bod yn rhan o'r adolygiad y mae Stephen Timms yn ei gynnal.

Roeddwn i eisiau crybwyll eich sylw bod angen i droseddwyr ddeall canlyniadau eu gweithredoedd, a chysylltu â hynny â throi tystion yn weithredwyr, oherwydd arferai un o'm hetholwyr ymwneud â chyfiawnder adferol yn ein carchardai, yn mynd â dioddefwyr i'r carchar a chwrdd â'r troseddwr. Rwy'n credu bod hynny mor fuddiol, i'r dioddefwr ac i alluogi'r troseddwr i ddeall pa mor ddinistriol mae'r weithred hon wedi bod. Felly, cafodd hyn ei ganslo pan ddaeth Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig i rym, felly dydyn nhw ddim yn ei wneud mwyach. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a gawsoch chi unrhyw sgyrsiau ar wneud y math hwn o beth eto, oherwydd gellid ei wneud, er gwaethaf y ffaith nad yw'n gyfrifoldeb datganoledig ar hyn o bryd.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch i chi, unwaith eto, fel y dywedais i, am y gwaith ardderchog rydych chi wedi'i wneud wrth gadeirio'r pwyllgor—cyfraniad defnyddiol iawn i'n gwaith ar gydlyniant yng Nghymru, fel y gwyddoch chi. Nid yw hyn yn digwydd yn aml, ond roeddem yn teimlo bod yn rhaid i ni ymateb ar unwaith, heb aros am ystyriaeth, i'r argymhelliad cyntaf hwnnw gyda'r grŵp arbenigol ar gydlyniant. Rydw i wedi sôn am hynny eisoes. Ond dim ond i ddweud, y peth arall i'n helpu, oherwydd bod arnom ni eisiau gwneud cymaint ag y gallwn ni cyn diwedd tymor y Senedd, cyn diwedd mis Mawrth, yw ein bod yn ymgysylltu â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'n helpu gyda hyn, oherwydd rydych chi wedi darparu tystiolaeth ac mae arnom ni eisiau manteisio ar eu harbenigedd hefyd, gan gynnwys y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor. Ond hefyd mae'n rhaid i ni gydnabod bod hyn—gan fynd yn ôl at yr hyn a ddywedais i yn fy natganiad—yn ymwneud â Chymru o gymunedau cydlynol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r ffaith bod hyn yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio ac yn credu y bydd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd ddiddordeb ynddo.

Rydych chi'n iawn i ddweud bod hwn yn fater i bobl anabl, ac, mewn gwirionedd, roedd Canolfan Cymorth Casineb Cymru, yn eu digwyddiadau a drefnwyd ganddyn nhw yr wythnos hon, ac y siaradais â nhw, yn canolbwyntio ar wirionedd troseddau casineb anabledd a bod, mewn gwirionedd, dim ond yn nhermau'r diweddaraf, roedd 12 y cant yn droseddau casineb anabledd yn nhermau ystadegau pedwar ardal heddlu Cymru. Fe wyddom ni mewn gwirionedd—. Mae hyn yn rhywbeth rydym ni wedi bod yn mynd i'r afael ag ef yn ein tasglu hawliau anabledd, a bydd yn cael ei adlewyrchu'n fawr yn ein cynllun hawliau pobl anabl, ac rwyf yn amlwg wedi gwneud sylwadau ynglŷn â, fel y gwyddoch chi, yr adolygiad o PIP, taliadau annibyniaeth bersonol. Rwyf hefyd wedi gofyn am gynrychiolaeth yng Nghymru, gan fy mod yn gwybod bod pobl anabl yng Nghymru wedi gofyn amdano, ac rwy'n sicr yn ymateb i'r alwad honno ac wedi crybwyll hyn, fel y mae'n wir, mae'n rhaid i mi ddweud—. Cyfarfu'r Gweinidog, Stephen Timms, â'r fforwm cydraddoldeb anabledd yng Nghymru a chlywed y neges honno'n gryf iawn hefyd.

O ran eich sylw am gyfiawnder adferol, rwy'n gobeithio efallai y gallwn ni adeiladu ar y cynllun peilot rydym ni'n ei ddatblygu y soniais amdano yn gynharach, y peilot troseddau casineb cydweithredol. Ond byddaf yn manteisio ar y cyfle i ofyn y cwestiwn am y gwaith blaenorol a wnaed ar gyfiawnder adferol gyda'r Ysgrifennydd Cartref a hefyd ein holl gydweithwyr o ran partneriaid cyfiawnder troseddol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'n cydweithwyr yn yr heddlu hefyd. Felly, rwy'n credu bod y rhain hefyd yn bwyntiau defnyddiol y gallai'r grŵp arbenigol edrych arnyn nhw hefyd.

Ein gwaith ni fel gwleidyddion, siawns, yw dod â phobl at ei gilydd, gwrando, arwain gydag empathi a meithrin ymddiriedaeth lle mae wedi'i golli. Dylai democratiaeth uno pobl o amgylch gwerthoedd cyffredin o barch, tegwch a chymuned, nid eu gyrru ar wahân.

Mae'r casineb a'r camwybodaeth ar-lein yn cynyddu. Mae llawer ohonom ni'n dargedau o hynny ac mae'r iaith wleidyddol rydym ni'n ei defnyddio yn hollol hanfodol yn y byd hwn. Bydd llawer ohonoch chi'n gwybod fy mod i'n cefnogi'r Bil atebolrwydd Aelodau a'r elfen o ddichell sy'n rhan o hynny. Deilliodd hynny o'r terfysgoedd yn dilyn y digwyddiad trasig pan laddwyd y tair merch ifanc yn Southport, ac roedd y camwybodaeth a darddodd o hynny yn ffrwyth bobl yn y byd gwleidyddol. Felly, mae gennym ni gyfrifoldeb yn y Siambr hon.

Rwy'n falch o gefnogi'r genedl noddfa ac rwy'n drist oherwydd rhai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud am hynny. Rwyf hefyd yn falch iawn o gefnogi llawer o'r elusennau hynny sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod llawer yn ein cymuned yn cael eu cefnogi a'u gofalu amdanyn nhw. Ddoe, ysgrifennodd 150 o elusennau yn genedlaethol at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gofyn am ei help i sefyll yn erbyn casineb yr asgell dde a oedd yn cael ei dargedu yn eu herbyn, gan arwain at fwy o fesurau diogelwch ac ofnau am eu diogelwch. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi sut ydych chi'n gweithio gyda'r elusennau yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu diogelwch ac er mwyn sicrhau ein bod ni, fel Siambr, yn gallu rhoi ein cefnogaeth lawn iddyn nhw yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch i chi am y datganiad grymus iawn rydych chi wedi'i wneud heddiw ac, yn wir, yr ydych chi wedi'i wneud i gefnogi ein cenedl noddfa. Mae'n rhaid i ni sefyll a siarad ac uno. Rwy'n credu bod y materion ynghylch casineb a chamwybodaeth ar-lein, fel y dywedais, yn parhau i gynyddu. Nid ydym ni wedi sôn llawer heddiw i ddweud y gwir o ran ein datganiad am effaith bosib hyn ar blant. Ac fe hoffwn i ddweud eto bod gennym ni'r gwasanaeth Hwb 'Cadw'n ddiogel ar-lein', gyda gwybodaeth ac arweiniad helaeth i blant a phobl ifanc, sy'n eu helpu i feddwl yn feirniadol a defnyddio technoleg yn gyfrifol. Rwy'n credu ein bod ni yn edrych ar ein plant a'n pobl ifanc i arddel hyn. 'Hawliau, parch, cydraddoldeb' yw ein canllawiau gwrth-fwlio i ysgolion, a dyna beth roeddech chi'n ei ddweud y dylem ni i gyd fod yn galw amdano heddiw. Ar ddechrau'r tymor hwn, ysgrifennwyd at yr holl gyfarwyddwyr addysg i dynnu sylw at y tensiynau cynyddol a'r elyniaeth sy'n gysylltiedig â gwrthdaro, naratifau ar-lein niweidiol, ac aeth y neges honno i'n holl ysgolion. Mae'n bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â'r holl faterion hyn.

O ran y sector gwirfoddol, y rhai sydd wedi'u targedu, rydym yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, cynghorau gwirfoddol sirol, i helpu sefydliadau'r trydydd sector i archwilio'r camau y gallent eu cymryd i leihau risgiau heb gyfaddawdu ar eu nodau elusennol. Ond rydym ni'n sefyll gyda nhw, rydym ni'n sefyll gyda nhw, a byddaf hefyd yn dweud fy mod i'n meddwl ein bod ni'n cydsefyll gyda'r holl ysgolion noddfa, prifysgolion noddfa, trefi noddfa, siroedd noddfa ledled Cymru, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu'r hyn y mae'r mwyafrif o bobl yng Nghymru yn ei gredu. Mae ein harolwg cenedlaethol, yn olaf, yn gofyn i bobl beth maen nhw'n ei deimlo am ymdeimlad o berthyn yn eu hardal, a ydyn nhw'n teimlo bod pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu'n dda gyda'i gilydd yn eu hardal leol, a yw pobl yn trin ei gilydd gyda pharch. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn awgrymu bod Cymru yn lle cydlynol a chynhwysol i fyw i raddau helaeth, ac mae'n gydlynol a chynhwysol i raddau helaeth oherwydd ei bod yn amrywiol ac oherwydd bod gennym ni'r ymrwymiad mawr hwn i fod yn Gymru, yn genedl gydlynol.

Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn, Ysgrifennydd Cabinet. Mae gan aelodau o'n cymunedau yma yng Nghymru yr hawl i fyw eu bywydau gyda chysylltiadau cymunedol da, nid i brofi gelyniaeth a chasineb. Rwy'n cytuno'n fawr â chi am y genedl noddfa a phawb yng Nghymru a'r holl sefydliadau yng Nghymru sy'n rhan o hynny, yn rhan o wireddu hynny. Rwy'n cytuno'n fawr â Jane Dodds, yn amlwg, bod gan wleidyddion ac Aelodau'r Senedd gyfrifoldeb i fod yn ofalus iawn am yr hyn maen nhw'n ei ddweud ac, yn wir, yr hyn maen nhw'n ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, o ystyried yr awyrgylch o densiwn a'r awyrgylch gwenwynig weithiau sy'n amgylchynu dadl wleidyddol am y materion hyn ar hyn o bryd. Yn anffodus, gall hynny waethygu yn y cyfnod cyn etholiad mis Mai nesaf yma yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw Aelodau'r Senedd bob amser yn dangos cyfrifoldeb yn y materion hyn.

Rwyf yn credu ei bod hi'n sefyllfa drist, Ysgrifennydd Cabinet, pan fydd ysgol yn gwneud fideo i annog ffoaduriaid i ddod i Gymru, gan ddangos eu hymwybyddiaeth eu hunain o'r materion hyn, eu cyfrifoldeb eu hunain a'u hempathi eu hunain tuag at garfanau bregus o'n cymuned, ac, oherwydd bod Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn rhannu'r fideo hwnnw, yna ymosodir ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru a'i rwystro yn ei allu i gyflawni ei ddyletswyddau pwysig iawn a chyflawni ei wasanaethau. Mae hynny'n sefyllfa drist iawn, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi ynghylch hynny. Mae'n pwysleisio'r angen i Aelodau'r Senedd hon fod yn gyfrifol iawn ac yn ofalus i beidio ag ystumio a pheidio â lledaenu camwybodaeth. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi bod angen i ni i gyd roi ystyriaeth ddwys a chlir iawn i'n cyfrifoldebau ein hunain i beidio ag ystumio a rhannu camwybodaeth er budd gwleidyddol tybiedig.

17:55

Diolch yn fawr iawn, John Griffiths. Rwy'n cytuno â chi ac yn gwybod ac yn falch iawn ein bod yn ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Rydyn ni'n eu hariannu i sicrhau bod pobl yn cael eu helpu a'u hintegreiddio i'n cymunedau a'n cymdeithas—gall hynny fod yn dai, gall fod yn iaith, gall fod yn ofal a chymorth.

Rwyf hefyd eisiau dweud bod yn rhaid i ni gofio bod amrywiaeth yn thema drawsbynciol o fewn y Cwricwlwm i Gymru newydd. Mae addysgu hanesion, cyfraniadau a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, gan gynnwys rhai cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn orfodol fel rhan o stori Cymru. Mae hyn wedi'i wneud yn glir yn nghanllawiau'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'n dda fy mod yn rhoi hynny ar y cofnod. Unwaith eto, roeddem mor falch pan gyflawnom ni hynny, ei fod yn orfodol o ran yr addysgu hwnnw yng Nghymru, ac mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi'i gynllunio i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus. Maen nhw'n mynd i ddysgu llawer i ni, on'd ydyn nhw? Dywedais y diwrnod o'r blaen, efallai y dylem fynd yn ôl i'r ysgol i gael budd o'r cwricwlwm hwn, gan helpu ein plant i ddeall a pharchu eu diwylliannau a'u traddodiadau eu hunain a'i gilydd. Ni, wrth gwrs, oedd y genedl gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanesion a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn orfodol, a bydd pawb sy'n cerdded heibio'r cerflun o Betty Campbell yng nghanol Caerdydd yn cofio mai hi oedd y pennaeth du cyntaf yng Nghymru, a alwodd am hyn.

Yn olaf, Llywydd, os gallech chi ganiatáu i mi ddweud fy mod wedi cwrdd â rhai pobl ifanc ddoe. Roedd comisiynydd yr heddlu a throseddu, Emma Wools, yn datblygu cynllun sy'n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ym maes cydlyniant cymunedol. Roedden nhw wedi creu cân fach, ac mae'n dweud, 'Allgymorth ieuenctid, gadewch i ni ei ledaenu'n eang / Rhowch gyfle i ni, gadewch i'n lleisiau godi / bydd ofn trais yn tewi'r distawrwydd / Gallwn wneud newid gydag ychydig o arweiniad / Helpwch ni, rhowch gyfle i ni / Rydyn ni hefyd yn rhan o'ch cymuned.' A daeth hynny gan grŵp gwych, amrywiol o bobl ifanc yng Nghymru sy'n dylanwadu ar gynlluniau ein comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd.

6. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025

Eitem 6 sydd nesaf, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025 yw'r rheoliadau yma. Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol sydd yn gwneud y cynnig—Jack Sargeant.

Cynnig NDM9004 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno i'r Senedd y prynhawn yma Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025 i'w cymeradwyo.

Llywydd, mae gwasanaeth cynllunio gwydn sy'n cyflawni'n dda yn hanfodol ar gyfer ffyniant a chynhwysiant ein cenedl. Fodd bynnag, mae gwasanaethau cynllunio awdurdodau lleol yn wynebu heriau sylweddol o ran adnoddau, gydag incwm ffioedd yn cwmpasu dim ond tua 60 y cant o gyfanswm y costau. Mae cynnydd blaenorol mewn ffioedd wedi'u gweithredu trwy ddeddfwriaeth newydd ac yn seiliedig ar gynnydd canrannol cyffredinol yn hytrach na chost wirioneddol prosesu ceisiadau. Mae'r dull hwn wedi profi i fod yn afreolaidd ac anhyblyg, gan symud awdurdodau cynllunio lleol ymhellach i ffwrdd o adennill costau llawn. Nid yw'r ffordd flaenorol o wneud pethau yn gynaliadwy mwyach ac mae angen dull newydd. Llywydd, bydd y rheoliadau hyn yn mynd i'r afael â'r diffyg hwn drwy ddarparu system deg, effeithiol ac effeithlon ar gyfer diweddaru a chyhoeddi ffioedd. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi dogfen ffioedd sy'n nodi swm y ffioedd sy'n daladwy a'r dull ac amseriad cynyddu ffioedd.

Mae'r strwythur ffioedd newydd wedi derbyn cefnogaeth eang a bydd yn dod i rym o 1 Rhagfyr. Bydd ffioedd yn cael eu cynyddu 50 y cant ar gyfartaledd i ddechrau ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau a bydd y mwyafrif yn cyflawni adferiad costau llawn ymhen tair i bum mlynedd. Llywydd, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod ein hadrannau cynllunio yn cael adnoddau priodol i chwarae eu rhan mewn twf economaidd. Byddai'r dewis arall yn arbed symiau cymharol fach i ymgeiswyr, tra gallai darparu adnoddau priodol i adrannau cynllunio arbed miliynau i brosiectau mawr, gan eu gwneud yn hyfyw.

Rwyf am ddiolch, Llywydd, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi ymateb a bydd yn diwygio'r rheoliadau, yn seiliedig ar eu hadroddiad, cyn eu gweithredu. Gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau hyn. Diolch.

18:00

Galwaf nawr, felly, ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mike Hedges, i gyfrannu.

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn bythefnos yn ôl, ac fe wnaethom ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pum pwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd craffu ar rinweddau.

Mae tri o'r pwyntiau adrodd technegol yn ymwneud â drafftio diffygiol posibl. O'r rheini, mae'r pwyllgor wedi nodi dau achos lle defnyddiwyd y rhaniad anghywir yn nhestun y rheoliadau, ac un achlysur lle mae'r pwyllgor o'r farn bod anghysondeb yn y testun Cymraeg yn golygu nad yw'r gwelliant yn cyflawni'r effaith a fwriadwyd.

Mae'r ddau bwynt adrodd technegol arall yn ymwneud ag anghysondebau rhwng ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn yr achos cyntaf, pwynt adrodd 2, mae darpariaeth ychwanegol yn y testun Cymraeg nad yw'n ymddangos yn y testun Saesneg. Yn yr ail achos, pwynt adrodd 5, mae'r testun Saesneg yn disodli'r 2.5 hectar presennol gyda chyfeiriad newydd at 1.2 hectar. Fodd bynnag, mae'r testun Cymraeg yn disodli'r 2.5 hectar presennol gydag 1.5 hectar.

Yn bennaf, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwyntiau adrodd technegol ac wedi dweud y bydd yn gwneud y mân gywiriadau cyn gwneud y rheoliadau. Gwahoddaf y Gweinidog i egluro yn ei sylwadau terfynol pa asesiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i benderfynu bod unioni'r gwall o ran y ffigur hectarau yn cael ei ystyried yn ddefnydd priodol o'r cywiriad cyn gwneud y broses.

Mae'r ddau bwynt rhinwedd a amlygwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ymwneud â meysydd a allai fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol, neu a allai fod o ddiddordeb i'r Senedd fel arall. Yn benodol, mae pwynt adrodd terfynol y pwyllgor yn amlygu mai bwriad polisi Llywodraeth Cymru yw gweithredu cynnydd graddol yng nghost ffioedd cynllunio dros gyfnod o dair i bum mlynedd, gan symud ymlaen tuag at nod o 'adennill costau llawn' fel y'i gelwir, lle mae'r ffioedd a godir ar ymgeiswyr yn cwmpasu'n llawn y treuliau y mae awdurdod lleol yn eu hysgwyddo.

Oherwydd y pwysau sylweddol sy'n wynebu llywodraeth leol, mae Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor o gau'r bwlch rhwng costau penderfynu ceisiadau a'r incwm sy'n cael ei dderbyn ar gyfer darparu gwasanaethau cynllunio, ac rydyn ni yn cytuno hefyd y dylid cyflwyno'r newid yma yn raddol. Ond mae angen sicrwydd y bydd hyn yn arwain at wasanaethau cynllunio mwy cynaliadwy a gwydn, ac y bydd hynny yn cyflymu'r broses o ddelio efo ceisiadau cynllunio, gan gynnwys y rhai ar gyfer tai cymdeithasol. Mae hyn yn allweddol ar gyfer datrys yr argyfwng tai sydd yn effeithio cymaint o deuluoedd yng Nghymru erbyn hyn.

Mae hefyd angen bod yn effro i effaith potensial y newid ar gwmnïau adeiladu bychain ac ar yr ardaloedd gwledig yn ein gwlad ni, ac mae angen ystyried oes angen rhoi mesurau lliniaru ar waith. Efallai y gall y Gweinidog ateb y ddau bwynt penodol yna wrth ymateb. Diolch yn fawr.

Rwy'n ddiolchgar, Llywydd, i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth ac i Siân Gwenllian am eu sylwadau. O ran y pwyllgor, Llywydd, rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb i'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud a bydd yn gwneud y newidiadau hynny i'r rheoliadau cyn eu gweithredu, ac rwy'n credu bod hynny'n ymateb cadarnhaol i'r pwyllgor.

O ran pwyntiau Siân Gwenllian, rwy'n falch bod Plaid Cymru yn gefnogol i'r dull o wneud mwy yn y maes hwn. Mae hyn i gyd, fel y dywedais yn gynharach, yn ymwneud â sicrhau bod adrannau cynllunio yn ein hawdurdodau lleol yn cael adnoddau priodol i allu gwneud y penderfyniadau cyflym ac amserol hynny yr ydym i gyd eisiau eu gweld. Clywais arweinydd yr wrthblaid y prynhawn yma yn siarad am bwysigrwydd economaidd cynllunio ac, yn benodol, adeiladu tai. Mae hynny'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros dai yn gweithio arno bob dydd.

Dydw i ddim yn credu bod ots a ydych chi'n ddatblygwr mawr neu'n fenter fach neu ganolig, neu yn wir yn berchennog tŷ eich hun, mae penderfyniadau amserol gan adrannau cynllunio sydd ag adnoddau priodol yn mynd rhywfaint o'r ffordd—. Wrth gefnogi'r cynigion hyn a sicrhau bod costau llawn yn cael eu hadennill yn y modd hwn, gyda'r llwybr dros dair i bum mlynedd ar gyfer y mwyafrif o geisiadau ac, yn wir, costau llawn rhai yn cael eu hadennill wedyn yn y tymor agos o 1 Rhagfyr, bydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at sicrhau bod gan awdurdodau cynllunio adnoddau priodol i allu gwneud y penderfyniadau hynny. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n cefnogi'r sector, ar gyfer adeiladu tai a thwf economaidd ehangach.

Llywydd, mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu system deg ac effeithiol o ddiweddaru a chyhoeddi ffioedd. Bydd y ddeddfwriaeth yn galluogi'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r diffyg presennol rhwng y gost o benderfynu ar geisiadau a'r incwm a dderbynnir am ddarparu'r gwasanaeth hwn, gan sicrhau bod modd gwella gwasanaethau cynllunio ledled Cymru. Gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025. Diolch.

18:05

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025

Eitem 7 sydd nesaf, Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd sy'n gwneud y cynnig yma—Jeremy Miles.

Cynnig NDM9005 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r rheoliadau hyn a fydd yn cryfhau system gwynion bresennol yr NHS yn sylweddol.

Cafodd 'Gweithio i Wella' ei gyflwyno yn yr NHS yng Nghymru bron i 15 mlynedd yn ôl i sicrhau bod cwynion a phryderon pobl yn cael eu hymchwilio'n briodol a bod gwersi'n cael eu dysgu pan fydd camgymeriadau'n cael eu gwneud. Roedd hwn yn gam uchelgeisiol i Gymru ei gymryd ar y pryd, ac nid oedd unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig wedi mabwysiadu system mor rhagweithiol o wneud iawn. Ond rydym yn gwybod nad yw 'Gweithio i Wella' wedi gweithio i bawb, a bron i 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r system a gafodd ei chynllunio ar sail yr egwyddorion o fod yn agored a thryloyw wedi gadael gormod o bobl i lawr.

Rŷm ni wedi clywed am ormod o enghreifftiau o system sy'n rhy fiwrocrataidd a deddfol, sydd wedi ychwanegu yn aml at loes a galar pobl; system sy'n gallu bod yn brin o empathi. Hoffwn i ddiolch i'r nifer fawr o bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad a rhannu eu profiadau personol. Rwy'n ymddiheuro i bawb na dderbyniodd y safonau uchel rŷm ni'n eu disgwyl gan yr NHS ac a gafodd eu gadael i lawr. Er hynny, trwy godi eich llais, rŷch chi wedi helpu i newid y diwylliant o ran y ffordd y mae cwynion yr NHS yn cael eu trin, i greu system sy'n llawer mwy agored a chefnogol.

Mae'r rheoliadau sy'n dod o'm blaenau heddiw yn cyflwyno diwygiadau i'r broses datrys cwynion dau gam, sydd wedi'i seilio ar wrando a gweithredu, ac ymchwilio, adrodd a dysgu. Mae'r cam cyntaf yn canolbwyntio ar ddatrys yn gynnar o fewn cyfnod o 10 diwrnod gwaith. Mae'r ail gam yn cynnwys asesu atebolrwydd ac a ddylid cynnig gwneud iawn.

Mae'r newidiadau i'r broses, Llywydd, yn cynnwys cynnig gorfodol o drafodaeth wrando, lle bydd sefydliadau'r GIG yn ystyried profiad yr unigolyn sy'n codi pryder neu gŵyn. Bydd cyfathrebu clir a thosturiol drwyddi draw. Os defnyddir unrhyw derminoleg gyfreithiol neu feddygol gymhleth, bydd yn cael ei hesbonio'n iawn. Bydd achwynwyr yn cael cynnig eiriolaeth a chymorth cyfreithiol, a bydd gwiriad gorfodol bod y pryder wedi'i ddatrys o fewn yr amserlenni a nodir yn y rheoliadau.

Llywydd, mae pedair egwyddor yn sail i'r broses hon sydd wedi'i diweddaru. Yn gyntaf, gwrandewir yn weithredol ar bobl sy'n codi pryderon a'u trin â pharch, tosturi a chwrteisi, a bydd eu hawliau a'u dewisiadau yn cael eu hegluro mewn ffordd y gallant ei deall. Yn ail, ymchwilir i bryderon yn gymesur ac yn effeithiol. Bydd achwynwyr yn cael eu diweddaru am amserlenni, gan gynnwys cynnydd ac unrhyw oedi. Bydd y canlyniad yn cael ei rannu mewn iaith hawdd ei deall. Mae gan sefydliadau'r GIG, yn drydydd, ddyletswydd i ddysgu o gwynion ac i weithio i atal yr un peth rhag digwydd eto, a rhannu'r camau a gymerir gydag achwynwyr. Ac yn olaf, rhaid i arweinwyr sefydliadau'r GIG roi sicrwydd eu bod yn bodloni gofynion rheoleiddiol a darparu tystiolaeth o'r hyn a ddysgwyd.

Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn arwain y gwaith o weithredu'r system newydd, a bydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Llais rôl wrth ddwyn y system newydd i gyfrif. Llywydd, rydym yn cynyddu'r trothwy iawndal i £50,000, a fydd yn golygu y bydd llai o bobl yn gorfod troi at ymgyfreitha costus i hawlio iawndal. Bydd ad-daliad ar gyfer cyfreithwyr hawlwyr yn seiliedig ar ymchwil Llywodraeth y DU i gostau sefydlog y gellir eu hadennill ar gyfer hawliadau esgeuluster clinigol gwerth isel a bydd yn adlewyrchu anghenion cyfredol yn fwy cywir.

Yn olaf, wrth i ni ddatblygu'r drefn newydd hon mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a phobl sydd â phrofiad o weithdrefn gwyno'r GIG, mae wedi dod yn amlwg nad yw'r enw 'Gweithio i Wella' yn cael ei ystyried yn addas i'r diben mwyach. Wrth i ni symud ymlaen, bydd y system newydd yn adlewyrchu'r hyn y bydd yn ei wneud, a bydd yn cael ei galw'n 'Gwrando ar Bobl'. Dyma beth rydyn ni i gyd ei eisiau: gwasanaeth iechyd sy'n rhoi pobl yn gyntaf ac sydd bob amser yn gwrando, yn dysgu ac yn gwella. 

18:10

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges, i gyfrannu.

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor brynhawn ddoe.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol, sy'n tynnu sylw at yr anghysondeb rhwng ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn benodol, ceisiodd y pwyllgor eglurder ar eiriau agoriadol rheoliad 22A(4) sydd newydd ei fewnosod. Mae'n nodi

'has attempted resolution during the early resolution period',

yn y testun Saesneg, ac yn nodi,

'wedi ceisio datrys y pryder yn ystod y cyfnod datrys yn gynnar',

yn y testun Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb eu bod yn fodlon bod ystyr cyfatebol rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg, a bod eu drafftio yn fwy cyson â deddfwriaeth flaenorol, a bod 'ceisio datrys y pryder' yn ddewis mwy naturiol o eiriau yn Gymraeg. Ni all y pwyllgor ond nodi ymateb Llywodraeth Cymru.

Dim ond i ddweud fy mod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r rheoliadau ac, fel y nododd y Cadeirydd, rydym wedi ymateb i bryderon y pwyllgor.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna dan eitem 7 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025

Eitem 8 sydd nesaf. Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025 yw'r rhain. Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai sy'n gwneud y cynnig. Jayne Bryant.

Cynnig NDM9006 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003) (Cymru) 2025.

Llywydd, mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i gyd-bwyllgorau corfforedig gael eu creu drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae eu creu yn cynrychioli diwygiad sylweddol, sy'n galluogi cyflawni swyddogaethau llywodraeth leol penodol yn effeithiol ar raddfa ranbarthol, lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny. O'r dechrau, fe wnaethom nodi bwriad clir y byddai'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu trin fel rhan o'r teulu llywodraeth leol. Mae'r diwygiad arfaethedig heddiw i adran 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gam arall tuag at gydnabod hyn.

Gellir defnyddio pwerau eang o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i dalu grant yn uniongyrchol i unrhyw berson, gan gynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig, ar gyfer hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Nid yw hyn yn optimaidd. Dyna pam rwy'n cynnig diwygiad i adran 33 o Ddeddf 2003 i sicrhau bod modd talu cyllid grant yn uniongyrchol i gyd-bwyllgorau corfforedig trwy adran 31 o'r ddeddfwriaeth hon sy'n benodol i lywodraeth leol.

Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar y cynigion hyn ym mis Mehefin, ac roedd yr ymatebion yn cadarnhau cefnogaeth eang i'r gwelliant hwn. Yn ystod yr ymgynghoriad, cafwyd galwad am hyblygrwydd i gyd-bwyllgor corfforedig benderfynu ar ddosbarthiad cyllid grant yn ei ranbarth, wedi'i ysgogi gan flaenoriaethau rhanbarthol. Mae'r mater hwn o hyblygrwydd yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad o'r protocol drafft ar grantiau wedi'u neilltuo rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. 

I gloi, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau hyn, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

Diolch am egluro hynny. Does gan neb arall unrhyw beth i'w ddweud ar y rhain chwaith, felly rwy'n dyfalu nad oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet unrhyw beth i'w ychwanegu. 

Felly, dyna ni. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna dan eitem 8 wedi'i dderbyn hefyd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae hynny'n golygu na fydd angen pleidleisio y prynhawn yma, felly dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:14.