Y Cyfarfod Llawn
Plenary
08/10/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Mae'r cwestiwn cyntaf, [OQ63217], gan Laura Anne Jones, wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 2, felly, Delyth Jewell.
2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Comisiwn Etholiadol, awdurdodau lleol a'r heddlu ynglŷn â diogelwch etholiadau'r Senedd yn y dyfodol? OQ63200

Diolch. Mae'n hanfodol fod etholiadau'n ddiogel i unrhyw un eu sefyll, gweithio arnynt, neu bleidleisio ynddynt. Er bod diogelwch etholiadau yn fater a gedwir yn ôl, mae fy nghyd-Aelod a minnau wedi cael trafodaethau gydag amrywiaeth o randdeiliaid ar y mater hollbwysig hwn.
Diolch yn fawr am eich ateb. Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail yn wleidyddol. Mae cyn-arweinydd Reform yng Nghymru wedi pledio'n euog i gymryd llwgrwobrwyon gan Rwsia i hyrwyddo propaganda o blaid Rwsia. Nawr, mae hynny'n sicr yn codi pryderon difrifol ynghylch y perygl o lygredigaeth, a'r perygl o lygredigaeth eithaf difrifol yn wir, mewn etholiadau yn y dyfodol. Nawr, mae bygythiad ymyrraeth dramor yn glir. Rydym yn byw mewn cyfnod pan fo biliwnyddion yn rheoli'r platfformau lle mae mwy a mwy o bobl yn cael eu newyddion. Gall y biliwnyddion hynny foneteiddio mannau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac maent wedi gwneud hynny, fel bod algorithmau'n ffafrio cynnwys am dâl a phrosesau gwirio ffeithiau'n cael eu hanwybyddu. Y rhai sy'n gweiddi uchaf, er mor gymysglyd, er mor anonest, ac yn y dyfodol efallai, er mor droseddol, yw'r rhai sy'n cael eu clywed. Gallem fod yn cerdded tuag at ddyfodol lle mae'n bosib i weithredwyr tramor nid yn unig ddylanwadu ar etholiadau, ond eu prynu'n gyfan gwbl. A gaf i ofyn pa mor ymwybodol yw Llywodraeth Cymru o'r bygythiad hwn a pha drafodaethau brys rydych chi'n eu cael gyda'ch swyddogion cyfatebol yn San Steffan i atal y perygl y bydd pethau'n gwaethygu hyd yn oed ymhellach?
Diolch, Delyth. Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod pob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd ar hyn gan ei fod yn fater difrifol iawn. Yn ddiweddar, cynhaliais grŵp rhyngweinidogol ar etholiadau, a oedd yn cynnwys ffocws ar ddiogelwch. Trafododd y grŵp y gwersi a ddysgwyd o etholiadau diweddar a beth arall y gellid ei wneud i sicrhau diogelwch ein proses ddemocrataidd. Rydym yn ymgysylltu â thasglu diogelu democratiaeth Llywodraeth y DU a'r uned diogelwch a pharodrwydd etholiadau ar y cyd, ac mae swyddogion yn cymryd rhan mewn ymarferion ac yn cynllunio strwythurau gwydnwch ar gyfer yr etholiadau yn 2026. Fe fyddwch yn gwybod bod y Prif Weinidog wedi dweud hefyd ei bod wedi cyfarfod â Gweinidog diogelwch y DU yn gynharach eleni, a roddodd sicrwydd fod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu'n agos ar ddiogelwch etholiadau'r Senedd. Mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn, a'n bod yn effro iddo. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ac i'r Siambr ein bod yn gwneud hynny ac yn gwneud popeth yn ein gallu, ar y cyd â Llywodraeth y DU.
Diolch am gyflwyno'r cwestiwn hwn, Delyth. Fe wyddom, oni wyddom, ein bod weithiau'n cymryd yn ganiataol pa mor ddiogel a sicr yw ein hetholiadau a pha mor dda y cânt eu rhedeg yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr y byddwch eisiau ymuno â mi i ddiolch i'n swyddogion canlyniadau ledled y wlad, a'u timau, sy'n gwneud i'r broses honno ddigwydd. Mae Delyth yn llygad ei lle i ddweud ein bod yn byw mewn cyfnod lle mae gweithredwyr tramor yn ceisio dylanwadu ar etholiadau ar draws y gorllewin. Mae hynny wedi dod yn fwy difrifol yn yr wythnosau diwethaf ar ôl i gyn-arweinydd Reform UK bledio'n euog i dderbyn llwgrwobrwyon gan Rwsia i ddylanwadu ar ddatganiadau a wnaeth yn Senedd Ewrop—un o gyn-Aelodau'r Senedd hon, wrth gwrs. Sut y gallwn feithrin hyder yn y broses ddemocrataidd fel bod pobl yn gwybod, pan fydd eu gwleidyddion yn siarad ar eu rhan, pan fydd eu hymgeiswyr yn curo ar eu drysau yn yr etholiad sydd i ddod, eu bod yn dweud y pethau y maent eisiau iddynt eu dweud, y maent o ddifrif yn eu credu, y mae eu pleidiau'n sefyll drostynt, ac nid y pethau y mae gweithredwyr tramor gyda bwriadau maleisus eisiau iddynt eu dweud a'u gwneud?
Diolch, Tom. Fel rydych chi a Delyth wedi'i ddweud, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn cofio bod rhywun a fu yn y Siambr hon wedi'i gael yn euog am hynny. Rwy'n credu ei bod yn gwbl syfrdanol fod rhywun wedi codi a dweud hynny gan wybod eu bod wedi cael y taliadau hynny.
Ar bwysigrwydd y diogelwch, fel y dywedais, rydym o ddifrif ynglŷn â hyn. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, a chredaf fod hynny'n rhywbeth a fydd yn parhau. Gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, lle gallaf, mewn perthynas â Gweinidog diogelwch y DU a'r gwaith a wnawn yno. Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol, a sefydlwyd yn y gyfraith gennym yn ddiweddar, wedi sefydlu grŵp cynllunio etholiadau, sy'n cynnwys ffocws ar ddiogelwch etholiadau, ac mae wedi gwahodd yr heddlu i gyfarfodydd er mwyn cefnogi hynny.
Fel y dywedoch chi'n gywir ddigon, diolch i'n holl swyddogion canlyniadau etholiadol a'r holl bobl sy'n gweithio ar ein hetholiadau. Mae hynny mor bwysig. Fel y dywedais yn yr ateb i gwestiynau cychwynnol Delyth, mae'n bwysig fod pob un ohonynt hwy'n cael eu diogelu hefyd. Gwn fod y prif gwnstabl cynorthwyol Simon Belcher yn arwain gwaith mewn perthynas â diogelwch etholiadol, a chaiff ei gefnogi gan uwcharolygwyr ar draws pob heddlu yng Nghymru. Mae'n mynychu cyfarfodydd y bwrdd rheoli etholiadol a'r gweithdai sydd ar y ffordd ym mis Hydref i gefnogi gwaith cynllunio diogelwch ar gyfer etholiadau'r Senedd. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cynnwys mesurau i ddiogelu a gwarchod y system etholiadol fel rhan o'i gynllun corfforaethol.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y clywsom, mae'n bwysig sicrhau nid yn unig diogelwch ffisegol etholiadau'r Senedd yn y dyfodol, ond hefyd uniondeb y wybodaeth y mae pleidleiswyr yn ei chael. Mae diogelwch yn ymwneud â mwy na blychau pleidleisio yn unig, mae hefyd yn ymwneud â'r gwir. Felly, rwy'n croesawu gyhoeddiad y Bil atebolrwydd Aelodau drafft, ond rwy'n pryderu bod y drosedd o ddichell fwriadol—ymrwymiad a wnaed gan y Llywodraeth hon fwy na blwyddyn yn ôl—unwaith eto'n cael ei gohirio i Orchmynion cynnal etholiadau y dyfodol a thymhorau'r dyfodol. Yn ymarferol, golyga hynny y bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal cyn i'r drosedd hon fodoli mewn gwirionedd. Nid dyma a addawyd i'r Senedd, nac i bobl Cymru. Mae'r cyhoedd yn gwylio—mae 72 y cant o'r cyhoedd yn cefnogi ei gwneud yn anghyfreithlon i wleidyddion ddweud celwydd yn fwriadol. Maent eisiau gonestrwydd, nid esgusodion. Felly, er fy mod yn deall bod y prosesau yma yn y Senedd yn cael eu dilyn mewn perthynas â'r Bil atebolrwydd Aelodau, hoffwn ofyn i chi: a fyddech chi'n parhau i fod yn agored i roi'r drosedd o ddichell fwriadol ar wyneb y Bil, gan sicrhau ei fod mewn grym cyn yr etholiad nesaf? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane. Gwn fod gennych chi ac Aelodau eraill yn y Siambr hon gryn ddiddordeb yn hyn. Mae hwn yn Fil sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, y Cwnsler Cyffredinol. Gwn fod llawer o drafodaethau wedi'u cynnal gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar hyn hefyd, a'i bod wedi dod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar hynny. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch ymhellach ar hynny. Ond dylai pob un ohonom fod yn effro, unwaith eto, i'r risg o ymyrraeth dramor yn ein hetholiadau, ac unrhyw ymgais arall i wadu ein hawl, a enillwyd drwy ymdrech, i etholiadau teg. Fel y dywedais, rwy'n gwybod bod manipiwleiddio bwriadol yn rhywbeth yr ydych chi'n bryderus iawn yn ei gylch, felly byddaf yn sicrhau ein bod yn ysgrifennu atoch ynglŷn â hynny.
3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau? OQ63219
Diolch, Julie. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod etholiadau'n hygyrch ac i rymuso cymunedau ledled Cymru i gymryd rhan mewn democratiaeth. Mae hyn yn cynnwys treialu pleidleisio hyblyg, deddfwriaeth ddiweddar sy'n ei gwneud yn ofynnol i roi cymorth i ymgeiswyr anabl a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ein grant ymgysylltu â democratiaeth, a phrofi gan ddefnyddwyr i sicrhau gorsafoedd pleidleisio hygyrch.
Diolch am yr ateb.
Roedd etholiadau'r Senedd 2021 yn achlysur pwysig, gyda phobl 16 a 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn yr etholiadau hynny yng Nghymru wrth i'r oedran pleidleisio gael ei ostwng. Yn anffodus, roedd yr etholiadau hynny'n wahanol iawn i etholiadau arferol, gan iddynt gael eu cynnal yn ystod COVID, ac roedd yn anodd iawn ymgysylltu â phleidleiswyr ifanc. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud bod etholiadau 2021 yn gamgychwyniad o ran gostwng yr oedran pleidleisio. Dywedant eu bod yn teimlo y dylid trin etholiadau 2026 fel dechrau cwbl newydd ar gyfer ymgysylltu â phobl 16 a 17 oed. Pwynt arall a wnânt yw bod llai o ymgysylltu â gwleidyddiaeth ddatganoledig ymhlith pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg ac sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Felly, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu â phleidleiswyr ifanc, i sicrhau eu bod yn cael eu dysgu am etholiadau'r Senedd, ac i gynyddu eu hymwybyddiaeth o'r system wleidyddol?
Diolch, Julie. Diolch am yr holl waith a wnaethoch, yn enwedig ar hyrwyddo'r bleidlais i bobl 16, sy'n rhywbeth rydych chi wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer, a hefyd y ffaith eich bod wedi ymgyrchu'n ddiflino dros hawl pobl ifanc i gymryd rhan mewn etholiadau. Hoffwn gofnodi fy niolch i chi am hynny. Gwn eich bod wedi cymryd rhan yn un o'r sesiynau deialog ddigidol gydag Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin yn ôl yn 2024, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi a'r holl Aelodau eraill sy'n cefnogi sesiynau deialog ddigidol. Ac mae'r sesiynau hynny'n cael eu hariannu drwy ein grant ymgysylltu â democratiaeth, sy'n dod â disgyblion ysgol uwchradd a'u Haelodau etholedig lleol ynghyd i drafod yr hyn sy'n bwysig iddynt, a buaswn yn annog pawb i gymryd rhan ynddynt, gan ei bod yn bwysig iawn fod pobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau ac o gymryd rhan yn ein democratiaeth, ac mae hynny'n mynd y tu hwnt i fwrw eich pleidlais yn unig. Pan fyddaf yn siarad â phobl ifanc, rwy'n ceisio dweud ei bod yn bwysig iawn eu bod yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am beth, at bwy i anfon eich syniadau, gyda phwy i siarad am hynny, a phwy i ddweud wrthynt os nad yw rhywbeth yn iawn, ac mae hynny'n bwysig iawn—sut i godi eich pryderon. Ond hefyd—ac mae hyn yn ymwneud â rhai o'r cwestiynau rydym newydd eu trafod—mae mynd i'r afael â chamwybodaeth yr un mor bwysig hefyd. Mae pobl ifanc yn dda iawn am ddod o hyd i ffyrdd o rannu rhyngddynt eu hunain pa mor bwysig yw mynd i'r afael â'r gamwybodaeth honno, ac rwyf wedi gweld enghreifftiau da iawn o hynny. Gwn fod rhai pobl ifanc wedi creu podlediad am gamwybodaeth, ac rwy'n awyddus iddo gael ei rannu ledled Cymru.
Felly, mae gennym grant ymgysylltu â democratiaeth. Fel y dywedais, mae a wnelo â sicrhau bod llawer o wahanol bobl yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae gennym rownd newydd o brosiectau a ariennir ac mae hynny'n mynd â chyfanswm y cyllid a ddyrannwyd i weithgareddau sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc i dros £1 filiwn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon i ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u hawliau a'u bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus a deall sut y gallant fod yn ddinasyddion democrataidd gweithredol.
Fel swyddogion etholedig ac unigolion sy'n angerddol am wleidyddiaeth a chefnogi ein hetholwyr, rydym yn deall pwysigrwydd cyfranogiad pleidleiswyr. Pleidleisiodd y ganran fwyaf erioed, sef 46.6 y cant, yn etholiad y Senedd yn 2021. Fodd bynnag, y flwyddyn ganlynol, cwympodd y ganran a bleidleisiodd mewn etholiadau llywodraeth leol i 38 y cant. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Rydych chi wedi cyflwyno system rhestr gaeedig ar gyfer etholiadau'r Senedd, ynghyd â phleidlais sy'n seiliedig ar gynrychiolaeth gyfrannol, a 36 Aelod ychwanegol, yn gwbl groes i ddymuniadau ein pleidleiswyr. Mae'r newidiadau hyn mewn perygl o anwybyddu lleisiau'r etholwyr, a ddylai allu dewis eu hymgeiswyr yn seiliedig ar deilyngdod. Yn hytrach na chanolbwyntio ar bolisïau fel cynyddu nifer y gwleidyddion, dylai fod mwy o bwyslais ar y materion sy'n bwysig i'r cyhoedd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, er mwyn annog mwy o gyfranogiad pleidleiswyr, y dylai blaenoriaethau pobl Cymru fod wrth wraidd addewidion gwleidyddol, ac mai dim ond ar ôl pleidlais gyhoeddus y dylid rhoi gwahaniaethau o un etholiad i'r nesaf ar waith? Diolch.
Diolch, Janet. Rwy'n credu y bydd yn rhaid inni gytuno i anghytuno ar hynny. Ac mae wedi bod yn bwysig iawn fod gennym system yng Nghymru i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol. A gŵyr pob un ohonom fod gennym fwy o bwerau ers i'r lle hwn gael ei sefydlu gyntaf fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a bod gennym fwy o bwerau bellach fel Senedd. Mae'n hanfodol bwysig fod pobl yn cymryd rhan mewn etholiadau, ac mae a wnelo hynny â sut y mae pob un ohonom yn mynd i siarad â phobl, sut y mae pob un ohonom yn ymgysylltu â phobl, a phobl yn deall beth y mae'r lle hwn yn ei wneud. Rydym yn gwneud penderfyniadau pwysig iawn yma. Mae a wnelo â gwybod beth sy'n cael ei wneud yma, ond beth sy'n cael ei wneud mewn llywodraeth leol ac yn Senedd y DU hefyd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn cytuno mai ein strydoedd mawr yw calon ein cymunedau. Maent yn fwy na rhesi o siopau yn unig; dyna ble rydym yn cyfarfod, yn siarad, yn teimlo ein bod yn perthyn—rhan o hunaniaeth ein cymuned. Maent yn rhoi cymeriad ac enaid i'n cymdogaethau. Ond ni allwn wadu bod ein strydoedd mawr wedi'i chael hi'n anodd ers blynyddoedd. Mae siopau'n cau o hyd, mae strydoedd yn gwagio, ac nid yw awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â'r heriau, gyda phroblemau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu codi'n rheolaidd gyda mi. Mae trigolion wedi siarad â mi dro ar ôl tro am bobl yn rasio o gwmpas o hyd ar e-sgwteri, yn gweiddi, yn tarfu a sut y mae hynny'n eu gwneud yn ofnus nid yn unig drostynt eu hunain, ond dros eu cymuned, dros eu plant a'u hwyrion sy'n defnyddio'r stryd fawr. Mae gweithwyr siopau wedi dweud wrthyf sut y maent yn teimlo'n anniogel a sut y mae lladradau rheolaidd yn bwyta i mewn i'w helw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen camau gweithredu arnom. Mae angen i awdurdodau lleol roi'r gorau i droi llygad dall. Sut rydych chi'n herio'r cynghorau hyn a'r heddlu i helpu cymunedau a strydoedd mawr lleol i ddelio â'r broblem hon? Diolch.
Diolch, Joel. A hoffwn achub ar y cyfle i'ch croesawu i'ch swydd. Dyma'r tro cyntaf inni gael cyfle i drafod yn y Siambr hon, felly llongyfarchiadau ar eich rôl newydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi.
Yn sicr, mae canol trefi yn hynod bwysig i'n cymunedau. Maent yn galon i bopeth, a dros y blynyddoedd, gwn fod llawer ohonom, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU wedi gweld dirywiad yn ein strydoedd mawr. A dyna pam mai un o'r pethau pwysicaf yn fy mhortffolio yw'r rhaglen Trawsnewid Trefi, sy'n ymwneud â gweithio gydag awdurdodau lleol, a chymunedau hefyd, i roi'r cynlluniau hynny ar waith, i ddod â chanol ein trefi yn eu holau a sicrhau eu bod yn ffynnu unwaith eto. Ac rydym wedi buddsoddi llawer yn hynny fel Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd.
Cefais y fraint o fynd i weld canol gwahanol drefi ledled Cymru, ac mae hynny wedi bod yn bwysig iawn. Felly, darparwyd £100 miliwn ledled Cymru rhwng 2022 a mis Mawrth 2025, gyda £57 miliwn pellach ar gael o 2025-26 i ailddatblygu a gwella canol ein trefi neu'r ardaloedd cyfagos. Cefais gyfle i fynd i ganol tref Cwmbrân ddoe, yn Nhorfaen, a gweld peth o'r gwaith sy'n dod â hen adeilad, a elwir yn House of Fraser yn lleol, yn ôl yn fyw, ac maent wedi dod ag ef yn ôl yn fyw bellach, sy'n gyffrous iawn i'w weld. Felly, llawer o bethau yno. A chredaf fod eich pwynt ynglŷn â gwneud i bobl deimlo'n ddiogel yng nghanol ein trefi yn bwysig iawn, a dyna pam fod y bartneriaeth â'n hawdurdodau lleol a'r heddlu yn bwysig iawn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel rydych chi wedi'i weld yn ddiweddar o bosib, mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu cael gwared ar barcio am ddim am ddwy awr ym meysydd parcio canol y ddinas, a gosod trefn godi tâl newydd yn ei le. I siopau'r stryd fawr, mae hyn yn teimlo fel hoelen arall yn yr arch, rheswm arall i bobl ddweud, 'Beth am beidio â thrafferthu mynd allan, fe'i prynwn ar-lein.' Yr hyn nad yw Cyngor Caerdydd yn ei ddeall yw mai seicoleg codi tâl—gorfod talu'n gyson, gorfod ciwio'n gyson i gael tocyn, a'r pryder o gael dirwy os ydych chi ychydig dros amser—sy'n gwneud y niwed. Nid yn unig fod hyn yn cosbi'r bobl sydd angen taro i'r swyddfa bost, prynu coffi neu brynu'r llaeth y maent wedi'i anghofio, mae hefyd yn cosbi strydoedd preswyl cyfagos sydd bellach yn orlawn o gerbydau.
Y gwir amdani yw bod Cyngor Caerdydd yn ei gweld fel trethiant lleol arall yn unig, ffordd arall o wasgu trigolion. A oeddech chi'n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod disgwyl i Gyngor Caerdydd wneud elw syfrdanol o £7 miliwn o daliadau parcio ceir eleni, a hynny gan gynnig llai o wasanaethau i'w trigolion? Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal cynghorau, fel Caerdydd, rhag cosbi trigolion â thaliadau gormodol am barcio ceir, ac i helpu'r strydoedd mawr drwy ddarparu cyfleusterau parcio am ddim addas? Diolch.
Diolch, Joel. Wel, fe wyddoch mai materion i gyngor dinas Caerdydd eu hunain yw'r rhain. Ni fyddent yn disgwyl, ac rwy'n siŵr na fyddech chi'n disgwyl, i mi roi gorchmynion i awdurdodau lleol ynglŷn â'r hyn y cânt ei wneud. Maent wedi'u hethol yn ddemocrataidd, mae ganddynt gynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, ac mae hynny'n bendant yn fater i Gyngor Caerdydd.
Rwy'n credu bod Cyngor Caerdydd yn ceisio gwneud gwelliannau i ganol y ddinas. Maent yn ceisio sicrhau ei fod yn lle croesawgar, ac fel y dywedais, mae llawer o heriau wedi bod i ganol ein trefi a'n dinasoedd, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. A gwn fod Cyngor Caerdydd yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod Caerdydd yn ddinas groesawgar fel y gwyddom ei bod.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pan fyddwch chi'n gyrru o amgylch ein prifddinas, ni allwch beidio â sylwi ar faint o sbwriel sydd wedi'i adael ar ein strydoedd a'i ddympio ar ymyl y ffordd, neu efallai eich bod wedi methu gweld y llanast hwn, yn union fel rydych chi wedi methu gweld y llanast y mae Llafur Cymru wedi'i wneud o'n gwlad.
Yn ôl adroddiad Cadwch Gymru'n Daclus yn 2024, bu cynnydd syfrdanol o 286 y cant yn nifer y strydoedd sydd wedi cael gradd D yng Nghaerdydd, y sgôr glanweithdra isaf posib, ac un o'r canlyniadau gwaethaf mewn 17 mlynedd o fonitro. Datgelodd arolwg yn 2023 fod 146,662 darn o sbwriel ar ffyrdd Caerdydd, sef cyfartaledd o un darn bob 1.22m. Nid yw'r strydoedd mawr wedi dianc rhag hyn chwaith: mae cartonau bwyd a diodydd wrth fynd, bonion sigaréts, caniau cwrw a phapur lapio losin ym mron pob llwyn, o dan bron bob coeden ac ar bron bob palmant. Dywed trigolion wrthyf fod ein prifddinas yn dechrau edrych fel tomen sbwriel, ac ni ellir caniatáu i hyn barhau.
Ysgrifennydd y Cabinet, er mai greddf y Llywodraeth hon yw claddu ei phen yn y tywod yn wyneb problemau, ni chredaf y gallwch anwybyddu hyn mwyach. Fel prifddinas, nid dinas yn unig yw Caerdydd, mae'n cynrychioli ein gwlad. Pa ymdrechion rydych chi'n eu gwneud i fynnu bod Cyngor Caerdydd yn glanhau prifddinas ein cenedl? Diolch.
Diolch, Joel. Fe wneuthum eich croesawu i'ch swydd—. Rwy'n teimlo y dylwn fod yn arweinydd Cyngor Caerdydd yn ateb y cwestiynau hyn. Mater i gyngor dinas Caerdydd yw hynny, ond credaf fod angen inni gofio bob amser fod y cyngor yn gwneud gwaith anhygoel yn gwneud popeth i gasglu'r sbwriel hwn, sy'n costio i bobl, ond nid nhw yw'r rhai sy'n gollwng y sbwriel i ddechrau. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod hynny—meddylfryd pobl sy'n gollwng y sbwriel i ddechrau. Ond mae cyngor y ddinas yn gwneud popeth yn eu gallu i'w glirio. Felly, rwy'n credu bod rhywfaint o hyn yn annheg. Rwy'n cerdded drwy ganol dinas Caerdydd fy hun ac rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa, ac rwyf wedi gweld rhai o lanhawyr stryd cyngor dinas Caerdydd yn gweithio'n galed iawn, yn y gwaith a wnânt, i sicrhau bod sbwriel yn cael ei godi. Ond mae angen inni edrych ar ble mae'r cyfrifoldeb hwnnw ar y dechrau, sef gyda'r bobl sy'n taflu'r sbwriel.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, sydd nesaf.
Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, cawsom ein storm gyntaf ag enw eleni, ac rwy'n siŵr y bydd mwy ar y ffordd. Fel y nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddoe, y gaeaf diwethaf, cafodd 768 eiddo eu taro gan lifogydd a 40 eiddo eu gwacáu yn dilyn llithriad tomen lo. Pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn ag atal llifogydd?
Diolch, Peredur. Ydy, mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i weld dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, y llifogydd cynyddol. Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Huw Irranca-Davies, yn arwain y gwaith hwnnw, a gwn y byddwn yn cael rhai trafodaethau ynghylch hynny, yn ogystal â phan fyddaf yn siarad ag awdurdodau lleol yn unigol, a phan fyddaf yn siarad â nhw'n fwy uniongyrchol, byddant yn codi hynny, rwy'n siŵr, a byddwn yn gweld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd.
Diolch yn fawr. Ac mae hynny'n arwain at fy nghwestiwn nesaf mewn ffordd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn y digwyddiad i gyflwyno'r cynllun rheoli llifogydd newydd yn Llyswyry, sy'n dangos y gwaith y gellir ei wneud pan fydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cydweithio. Mae'r un mor bwysig fod awdurdodau lleol yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer tywydd mwyfwy anwadal a stormydd amlach. Gall y gwaith hanfodol hwn fod yn anghyson ledled Cymru. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn hanfodol fod cymunedau ledled Cymru yn barod ar gyfer y gaeaf.
Yn eu maniffesto diweddaraf, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud mai
'Cael rhaglen ataliol hollgynhwysol yw’r unig ddatrysiad i’r heriau a gyflwynwyd gan newid hinsawdd a llifogydd'.
A ydych chi'n cytuno â'r datganiad hwnnw, a pha drafodaethau a gawsoch gydag arweinwyr cynghorau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod adnoddau ar gael a bod paratoadau'n cael eu gwneud?
Diolch, Peredur. Fe sonioch chi am y cynllun yn Llyswyry, y gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, Huw Irranca-Davies, wedi ymweld ag ef. Gwn fod hynny'n rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig i'r gymuned leol honno, ac mae a wnelo â cheisio egluro hynny, fod y gwaith a'r buddsoddiad wedi digwydd i ddiogelu'r gymuned leol rhag llifogydd posib yn y dyfodol. Felly, mae'n dda iawn gweld hynny.
Fel y dywedwch, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn dod ynghyd i gydnabod peth o'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar draws Llywodraeth Cymru hefyd i atal mwy o lifogydd yn y dyfodol, a sicrhau ein bod yn barod i allu gwneud hynny, gan fod yn rhaid inni ddysgu rhai o wersi'r blynyddoedd diwethaf. A gwn fod awdurdodau lleol, fel Rhondda Cynon Taf, wedi gweithio'n galed iawn i ymateb yn gyflym iawn a bod ar y rheng flaen o ran ymateb. Felly, mae yna wersi y mae angen i awdurdodau lleol eraill fod yn ymwybodol ohonynt hefyd, a gwn fod hynny wedi'i rannu drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Felly, rwy'n sicr yn gwybod bod hyn yn flaenoriaeth bwysig. Gwyddom ein bod yn mynd i weld mwy o'r digwyddiadau hyn, a gwyddom fod angen inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau.
Diolch yn fawr. Rwy'n cytuno â chi fod rhannu arferion da yn sicr yn bwysig iawn, yn ogystal â rôl CLlLC ac arweinwyr cynghorau yn rhannu'r arferion da hynny ledled Cymru. Mae hynny'n fy arwain felly at fy nghwestiwn olaf, sy'n ymwneud mwy â stormydd ac agwedd arall ar yr hyn a ddigwyddodd y llynedd, pan agorodd llyncdwll mawr yng ngardd gefn pensiynwr gweddw yn un o drefi'r Cymoedd.
Ar ôl archwiliad gan swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, penderfynwyd nad oedd ganddynt unrhyw rwymedigaeth i atgyweirio'r llyncdwll, a hynny er ei fod yn amlwg yn ffinio â lôn gyhoeddus, ac yn ôl archwiliad ar wahân gan Dŵr Cymru, mae'n bosib iawn fod y broblem wedi deillio o ased cyhoeddus. Ar ôl i fy swyddfa ymyrryd, daeth yr awdurdod lleol at eu coed, a gwnaethant gais am y cyllid angenrheidiol i atgyweirio'r difrod.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi unrhyw ganllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn diogelu trigolion gyda'r holl adnoddau sydd ar gael iddynt, a bod swyddogion yn gwybod sut i gael mynediad at gronfeydd a chynlluniau Llywodraeth Cymru i helpu trigolion yr effeithir arnynt gan hyn ac achosion tebyg?
Diolch, Peredur. Diolch am y gwaith a wnaethoch ar y pryd. Rwy'n cofio pan ddigwyddodd hynny, a daethom at ein gilydd ar draws y Llywodraeth hefyd, gyda'r awdurdod lleol, i geisio dod ynghyd i sicrhau ein bod yn ymateb i hynny cyn gynted â phosib. Credaf fod y pwynt a wnewch yn bwysig. Efallai y gallech ysgrifennu ataf ymhellach ar hynny, gyda'r awgrym hwnnw, gan fod angen inni ymateb cyn gynted â phosibl yn yr amgylchiadau hyn, ac unwaith eto, i rannu'r arferion da hynny ledled Cymru.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag effaith ei rhaglen Pride in Place ar awdurdodau lleol yng Nghymru wledig? OQ63207
Diolch, Cefin. Rydym yn ymwybodol o gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ei rhaglen Pride in Place ac y bydd yn cynnwys dyraniadau i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Y disgwyliad gan Lywodraeth y DU yw y bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio. Rydym yn llawn ddisgwyl i Lywodraeth y DU sicrhau y bydd y cyllid yn ategu ein buddsoddiadau ein hunain yn ein trefi, yn enwedig rhaglenni Trawsnewid Trefi, Trefi Taclus a chyfleusterau cymunedol, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â llywodraeth leol.
Diolch yn fawr iawn.
'Mae’n rhaid inni ennill y rhyfel yn erbyn y celcwyr yn San Steffan. Rhowch y pŵer yn ôl a rhowch gymunedau wrth y llyw.'
Nawr, nid fy ngeiriau i yw'r rheini, ond geiriau Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, mewn cynhadledd Lafur yn 2023. Addawodd Llafur pan oedd yn wrthblaid y byddai cyllid datblygu rhanbarthol yn cael ei ddatganoli i Gymru. A hithau bellach mewn grym, fel gyda chymaint o bethau eraill, mae'r addewid hwn wedi diflannu.
Yn ogystal â methu cyflawni addewid y Torïaid na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit, anwybyddodd cronfeydd ffyniant bro a ffyniant gyffredin y Llywodraeth Geidwadol flaenorol Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon, ac fe ymunoch chi â ni, yn gywir ddigon, i gondemnio hyn, ond mae Pride in Place yn dilyn yr un patrwm yn union. Ymhellach, mae'r gofyniad ariannu ar gyfer Pride in Place yn gyfyngedig i ardaloedd â phoblogaethau o 10,000 neu fwy, gan eithrio llawer o gymunedau gwledig, a fydd unwaith eto'n teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso.
Felly, Weinidog, os yw eich Prif Weinidog eich hun yn y DU yn dweud y dylid rhoi pŵer yn ôl a rhoi cymunedau wrth y llyw, pa bryd fydd Llywodraeth Lafur y DU yn cyflawni ei haddewidion ar hyn i gefn gwlad Cymru ac yn rhoi dylanwad strategol i Lywodraeth Cymru dros gyllid Pride in Place?
Diolch, Cefin. Rydym yn parhau i fod o'r farn y dylid diddymu'r pwerau cymorth ariannol, a byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol fel nad yw cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cymunedau a threfi yn dyblygu nac yn gwrthdaro â darpariaethau datganoledig. Gyda'n rhaglenni, rydym eisoes yn buddsoddi mewn cymunedau a threfi ledled Cymru, drwy gynlluniau sy'n cynnwys, fel y dywedais, Trawsnewid Trefi, sy'n cefnogi prosiectau ledled canolbarth a gorllewin Cymru. Mae'r cynllun hwnnw wedi darparu dros £70 miliwn o gyllid ers 2020. Ond fel y dywedais, rydym yn parhau i fod o'r farn y dylid diddymu'r pwerau cymorth ariannol.
5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sut y bydd y menter gydweithredol rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Lovell Partnerships yn helpu i gyflymu'r gwaith o ddarparu tai arbenigol a chynlluniau newydd? OQ63218
Diolch, Vaughan. Rwy'n croesawu ac yn llongyfarch pawb sy'n gysylltiedig â'r bartneriaeth hon, sydd nid yn unig yn cefnogi ein huchelgais am fwy o dai fforddiadwy, yn enwedig tai cymdeithasol, ond a fydd hefyd yn creu cannoedd o swyddi newydd a chyfleoedd prentisiaeth i bobl leol.
Diolch. Mae'r cytundeb partneriaeth tai a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng Cyngor Caerdydd dan arweiniad Llafur, Cyngor Bro Morgannwg a phartneriaeth Lovell ar fin darparu 2,500 o gartrefi newydd, ac fel y sonioch chi, swyddi a phrentisiaethau i fynd gyda nhw. Yn allweddol, bydd y bartneriaeth gyhoeddus-breifat hon yn cyflymu'r broses o ddarparu tai i deuluoedd lleol sydd eu hangen. Mae'n cynnwys mwyafrif o gartrefi cyngor a chymdeithasol, rhannu ecwiti a chartrefi preifat i'w gwerthu ar draws 25 o safleoedd gwahanol sydd eisoes wedi'u nodi. Dylai'r bartneriaeth hon gyflymu darpariaeth drwy osgoi ailadrodd tendrau, gan greu cydweithrediad agos rhwng y partneriaid a'r gallu i addasu safleoedd pan fo angen. A wnewch chi a'ch swyddogion ystyried cyfarfod â'r ddau gyngor i helpu i ddysgu o'r bartneriaeth hon, i helpu i gyflymu'r gwaith o gyflwyno cynlluniau tai arbenigol a newydd, nid yn unig yng Nghaerdydd a'r Fro, ond ledled Cymru, a chymryd yr enghraifft hon o arweinyddiaeth Lafur leol yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd a chymunedau yn fy etholaeth i, sef De Caerdydd a Phenarth?
Diolch, Vaughan. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, nid moethusrwydd yw cartref sefydlog, ond sylfaen i fywyd diogel. A dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £2 biliwn yn nhymor y Senedd hon i ddarparu cartrefi cymdeithasol. Bydd y rhaglen gyda Lovell yn darparu tua 2,500 o gartrefi newydd. Bydd o leiaf 50 y cant o'r cartrefi yn eiddo fforddiadwy sydd ar gael drwy rent cymdeithasol neu ran-berchnogaeth. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol i archwilio pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu, yn enwedig drwy ein cynllun Cymorth i Brynu—Cymru, ein grant tai cymdeithasol a'n rhaglen gyfalaf llety trosiannol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r awdurdod lleol. Mae wedi bod yn gyffrous iawn gweld beth sydd wedi digwydd. Byddaf yn sicr yn cyfarfod â nhw i drafod beth arall y gallwn ei wneud, a hefyd i rannu'r arferion da hynny.
Mae unrhyw fenter i ddod â mwy o dai i'r farchnad, ac yn enwedig tai cymdeithasol, i'w gwerthfawrogi a'i chroesawu. A yw'n dal i fod yn fwriad gan y Llywodraeth i gyrraedd ei hymrwymiad maniffesto a'i haddewid yn etholiad 2021 i ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon? Os cefnwyd ar yr addewid hwnnw, pa niferoedd rydych chi'n gweithio tuag atynt, gwta chwe mis i ffwrdd, i'w cyflawni yma yng Nghymru dros dymor pum mlynedd y Senedd?
Diolch, Andrew. Gadewch inni fod yn glir: dyma'r targed mwyaf uchelgeisiol yn hanes ein cenedl, ac rydym yn ei gefnogi gyda'r swm uchaf erioed o gyllid—fel y dywedais, dros £2 biliwn yn nhymor y Senedd hon, ac mae hynny'n cynnwys £466 miliwn yn 2025-26. Mae'r lefel ddigynsail honno o fuddsoddiad yn arwain at y cyflawniad uchaf a welsom mewn bron i 20 mlynedd. Mae hyn yn golygu bod y cartrefi sydd eu hangen arnynt o fewn cyrraedd i fwy o bobl ledled Cymru. Rydym yn gwybod bod angen inni fod yn feiddgar ar hyn, ac rydym wedi bod yn feiddgar yn ein targed. Ond gadewch inni fod yn glir: mae'r targed hwnnw'n gwneud ei waith. Mae'n ysgogi cyflawniad. Felly rydym yn gwneud, ac wedi gwneud, popeth a allwn. Gyda'r hyn sydd gennym yn yr arfaeth, rydym yn disgwyl cynnal y lefel uchaf erioed hon o gyflawniad. Gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas. Rydym yn gwybod bod angen i ni barhau â hyn, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr ein bod yn cael y cartrefi sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod amserlen i fynd i'r afael â'r materion ariannol sy'n wynebu perchnogion tai oherwydd diffyg rheoleiddio cwmnïau rheoli ystadau? OQ63195
Diolch, Rhys. Fe wnaethom weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar basio Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, sy'n rhoi amddiffyniadau mawr eu hangen i berchnogion tai sy'n talu'r ffioedd hyn. Bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni ar fanylion y drefn newydd, a fydd yn cael eu nodi wedyn mewn is-ddeddfwriaeth.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Fe fyddwch yn cofio ein dadl ddiweddar yn y Pwyllgor Deisebau ar fabwysiadu ystadau tai. Yn dilyn y ddadl honno, daeth cwpl o Fro Morgannwg sy'n ceisio symud cartref i gysylltiad â mi. Er mwyn symud, mae'n rhaid iddynt brynu pecyn rheoli gan y cwmni rheoli. Mae hwn yn costio £440 am wasanaeth o fewn 15 diwrnod neu £650 am wasanaeth o fewn tri diwrnod. Mae cynnwys y pecyn yn aneglur. Yn ogystal, mae yna gwmni rheoli segur sy'n gofyn am £150 arall ar gyfer rhagor o ddogfennau. Maent angen y rhain i gyd cyn y gallant werthu. I roi hyn mewn persbectif, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r perchnogion tai hyn yn gwario mwy ar becynnau rheoli, a'u pwrpas yn aneglur, nag ar ffioedd cyfreithiol a TAW. Ysgrifennydd y Cabinet, pa atebion y gallwch chi eu cynnig i berchnogion tai sy'n gaeth mewn sefyllfa o'r fath? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys. Mae'n ddrwg gennyf glywed am yr hyn y mae eich etholwyr yn mynd drwyddo, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau—ac fe wnaethoch chi gymryd rhan yn y ddadl honno, rwy'n gwybod—am ystyried mater taliadau rheoli ystadau. Mae'r adroddiad hwnnw'n bwysig iawn. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi eu bod yn bwriadu mynd ymhellach na Deddf 2024 drwy ymgynghori ar opsiynau i leihau nifer yr achosion o drefniadau rheoli preifat, a diddymu'r hyn y cyfeirir ato weithiau fel 'fleecehold'. Byddwn yn parhau i drafod y cynlluniau hyn gyda nhw, a byddwn hefyd yn ystyried a fyddai gweithio gyda'n gilydd ar y mater hwn o fudd i berchnogion tai yng Nghymru. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd ar flaen ein meddyliau, ond rydym yn gweithio gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU hefyd.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru? OQ63223
Diolch, Tom. O'r 459 o adeiladau yn y rhaglen, rwy'n falch o gadarnhau bod gwaith wedi'i gwblhau neu ar y gweill ar 203 o adeiladau. Mae cynnydd cyson yn cael ei wneud, ond rwy'n sicr fod angen mwy o gyflymder i roi diwedd ar drallod lesddeiliaid.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn cofio, gobeithio, fy mod wedi ysgrifennu atoch nifer o fisoedd yn ôl am adeilad Altamar yn Abertawe, sy'n un o'r oddeutu 400 o adeiladau y sonioch chi amdanynt. Yn eich ateb, fe gynigioch chi gyfarwyddyd technegol gan Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ar ran fy etholwyr yno. Mae'n ddrwg gennyf ddweud wrthych fod hwnnw wedi cael ei ganslo ar y funud olaf ddwywaith yn y tair wythnos ddiwethaf gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn wedi gobeithio gofyn cwestiwn i chi heddiw yn seiliedig ar y cyfarwyddyd technegol hwnnw, ond nid yw hynny wedi digwydd ac nid yw'r rhesymau am hynny'n glir. A gaf i ofyn i chi yn ddiffuant i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd, fy mod yn cael yr atebion rwy'n eu haeddu fel y gall fy etholwyr gael yr atebion y maent hwy yn eu haeddu? Oherwydd maent wedi aros ers amser ofnadwy o hir i hyn ddigwydd. Maent wedi bod yn aros ers wyth mlynedd i'r gwaith cyweirio ddigwydd. Nid yw'r oedi a'r canslo ar ran Llywodraeth Cymru yn helpu'r naratif yn eu meddyliau fod hon yn Llywodraeth sydd eisiau datrys y broblem.
Diolch, Tom. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n codi hynny gyda mi. Roeddwn i'n awyddus i ni gael y sesiynau cyfarwyddyd technegol, ond byddaf yn sicrhau nad yw'r cyfarfod hwnnw'n cael ei ganslo eto, a'ch bod yn cael y cyfarwyddyd technegol hwnnw, oherwydd mae'n rhywbeth a gynigais i holl Aelodau'r Senedd, ac rwy'n credu bod cael cyfle i fanteisio arno yn bwysig iawn i gael y wybodaeth honno. Unwaith eto, ni allaf ond ymddiheuro ei fod wedi cael ei ganslo, oherwydd mae'n bwysig eich bod yn gallu dwyn materion i sylw swyddogion, a gwneud yn siŵr eich bod yn cael clywed gan swyddogion beth sy'n digwydd.
Rwy'n ymwybodol iawn fod llawer o rwystredigaeth ddealladwy ymhlith rhai lesddeiliaid ynghylch cyflymder gwaith cyweirio, ac rwy'n ymrwymedig i wneud popeth posib i gael gwared ar rwystrau i gynnydd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod lle rydym wedi cael llwyddiant sylweddol. Cawsom hynny yn y rhaglen hefyd. Unwaith eto, nid wyf yn hunanfodlon. Rwy'n cyfarfod â datblygwyr yn rheolaidd, ac rwyf wedi bod yn glir, os nad wyf yn fodlon fod gwaith yn mynd rhagddo'n ddigon cyflym, byddant yn destun mwy o fonitro a gweithredu arall posib os nad yw perfformiad yn gwella.
Rwy'n ymrwymedig i gynyddu tryloywder ein rhaglen gyweirio. Dyna oedd un o'r rhesymau pam fy mod yn awyddus i'r cyfarwyddyd technegol ddigwydd. Rwy'n falch iawn hefyd o rannu gyda chi ein bod newydd lansio dangosfwrdd cynnydd gwaith cyweirio ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, am y tro cyntaf, gallwch chi a'ch etholwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y rhaglen gael y wybodaeth honno mewn ffordd hollol dryloyw.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau adeiladu tai yng Nghymru? OQ63188
Mae dros 16,000 o gartrefi sector preifat wedi'u cwblhau ers 2021. Mae hyn ar ben rhai o'r cyfraddau cyflawni blynyddol uchaf ar gyfer tai cymdeithasol o fewn bron i 20 mlynedd. Rydym yn parhau i roi camau ar waith i ddarparu cymaint o gartrefi â phosib, gan gynnwys ymestyn Cymorth i Brynu—Cymru. Mae darparu mwy o gartrefi yn parhau i fod yn un o bedair prif flaenoriaeth y Llywodraeth hon.
Diolch. Felly, 16,600 mewn bron i bum mlynedd pan oedd eich targed yn 12,000 y flwyddyn, felly rydych chi ymhell y tu ôl i'r niferoedd mewn gwirionedd. Rydych chi wedi methu cyrraedd eich targedau eich hun ac rydych chi ar ei hôl hi o ran niferoedd tai.
Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ebrill 2025, dechreuodd gwaith adeiladu ar 3,798 eiddo newydd yn unig, bron 9,000 islaw eich targedau eich hun. Mae hefyd yn ostyngiad o 26 y cant o'r flwyddyn flaenorol, felly mae'n wirioneddol ddryslyd. Dyma'r nifer isaf a gofnodwyd erioed. Y gwir amdani yw bod eich Llywodraeth yn methu cyrraedd ei thargedau adeiladu tai. Buaswn i'n dweud nawr fod angen y rheini, o'r niferoedd y siaradwn amdanynt gydag adeiladwyr tai ledled Cymru. Mae angen tua 16,000 i 18,000 o dai y flwyddyn nawr ddim ond i gadw'n pennau uwchben y dŵr.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r camau brys sydd eu hangen ar waith i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru? Mae ein proses gynllunio'n ddiffygiol iawn, gan gymryd blynyddoedd i rai datblygwyr. Mae tair blynedd yn eithaf arferol nawr i ddatblygwyr tai allu cael brics ar y ddaear, fel petai. Felly, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, peidiwch â brolio am niferoedd mwy o dai pan fo'r realiti'n dweud rhywbeth gwahanol wrthym. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â siarad am y realiti. Fel y dywedais, rydym wedi buddsoddi dros £2 biliwn mewn tai cymdeithasol yn nhymor y Senedd hon. Dyna'r lefel uchaf mewn bron i ddau ddegawd, ac mae wedi ysgogi cyflawniad hefyd, lle rydym wedi gweld lefel uwch nag erioed o gyflawniad. Felly, mae'n rhaid inni ddeall hynny. Ond rwy'n derbyn bod angen mwy o gartrefi arnom. Rydym yn gwneud popeth a allwn, ac rwy'n gwneud popeth a allaf fel Ysgrifennydd y Cabinet. Ond un o'r agweddau pwysig yw'r ffordd y gweithiwn gyda'n gilydd ar draws sectorau eraill hefyd, fel adeiladwyr tai ac eraill.
Rydym wedi cael nifer o adroddiadau, ac mae hynny'n cynnwys ein tasglu tai fforddiadwy. Mae ei adroddiad wedi gwneud argymhellion, fel y gwyddoch. Rwyf wedi cadeirio nifer o gyfarfodydd nawr gyda grŵp argymhellion y tasglu, sy'n ddull tîm Cymru go iawn o weithredu, gan gymryd perchnogaeth ar y cyd ar gyflawniad a monitro cynnydd y 41 argymhelliad, ond yn allweddol, gyda phob un yn cymryd cyfrifoldeb am feysydd arbenigedd.
Felly, rydym yn gwneud popeth a allwn. Er mai tasglu cartrefi fforddiadwy ydyw, mae hynny hefyd yn cwmpasu rhai o'r pwyntiau y mae adeiladwyr tai preifat eraill yn dod ar eu traws. Mae yna lawer o bethau yr awn i'r afael â nhw yno gyda'n gilydd, felly rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu gwneud hynny. Ond ar rai o'r ystadegau a nodwyd gennych, mae cyfyngiadau i gywirdeb y dadansoddiad o ddeiliadaeth o fewn yr ystadegau adeiladu tai newydd. Mae'n broblem ledled y DU. Mae'r datganiad ystadegol blynyddol o ddarpariaeth tai fforddiadwy yn darparu manylion cynhwysfawr o'r tai fforddiadwy a gwblheir bob blwyddyn. Ond fel y dywedais, o ran tai cymdeithasol, rydym yn rhoi lefelau digynsail o fuddsoddiad i mewn, ac mae hynny'n ysgogi'r lefelau uchaf erioed o gyflawniad.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Andrew R.T. Davies.
9. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gefnogi cynghorau i gadw'r dreth gyngor yn isel? OQ63203

Diolch, Andrew. Mater i gynghorau unigol yw lefelau'r dreth gyngor. Rydym yn cydnabod eu bod yn wynebu penderfyniadau anodd wrth iddynt weithio i gydbwyso eu cyllidebau. Wrth wneud hynny, bydd angen iddynt daro cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau a chyfyngu ar y pwysau ariannol ar aelwydydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, y peth allweddol i awdurdodau lleol yw ystyried eu cyfrifoldebau a chanolbwyntio ar y cyfrifoldebau y mae pleidleiswyr yn eu hanfon i siambrau'r cyngor i'w cyflawni ar eu rhan. Ym Mro Morgannwg, gan adeiladu ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y genedl noddfa, mae ganddynt sir noddfa, ac mae hyn wedi dargyfeirio adnoddau o wasanaethau cyhoeddus allweddol i fentrau fel ysgol Easgleswell, ail-ddatblygiad a oedd i fod yn ganolfan iechyd yn Llanilltud Fawr ac sydd bellach yn ddatblygiad tai a adeiladwyd o dan bwerau brys sy'n costio £25 miliwn. Ai eich cyngor chi i awdurdodau lleol yw cadw at swyddogaeth graidd yr hyn y dylai awdurdodau lleol ei wneud, sef darparu strydoedd glân, amgylchedd diogel i ysgolion weithredu o ddydd i ddydd ac yn anad dim, sicrhau eu bod yn cadw'r dreth gyngor yn isel yn y blynyddoedd i ddod, fel y gall aelwydydd dan bwysau fyw o fewn eu modd?
I ystyried y bobl sy'n byw ym Mro Morgannwg, rwy'n credu y byddant eisiau gweld nad yw cymunedau'n cael eu rhannu a'n bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i roi'r gorau i rannu cymunedau ledled Cymru. Mae hwnnw'n ymateb tosturiol a roddir gennym. A gadewch inni fod yn glir: yng Nghymru, rydym wedi croesawu llawer o bobl sawl gwaith, yn cynnwys yn fy etholaeth fy hun dros y blynyddoedd. Rydym wedi dathlu'r ffaith ein bod wedi derbyn plant o Wlad y Basg a ddaeth fel ffoaduriaid o Sbaen, a chawsant groeso cynnes i Gymru, ac i Gaerllion, ac maent wedi cyfrannu'n helaeth iawn ers hynny. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gofio ein bod wedi bod yn wlad groesawgar ers blynyddoedd lawer.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 2 heddiw yw cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle. Cwestiwn 1 gan Julie Morgan.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi oedolion sy'n ddysgwyr? OQ63221

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer addysg i oedolion yn wirioneddol hygyrch i bawb. Dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod, bydd y Llywodraeth hon, drwy Medr, yn buddsoddi mwy na £80 miliwn i gefnogi darparu addysg i oedolion mewn amrywiaeth o leoliadau.
Diolch am yr ateb.
Ym mis Medi, cynhaliwyd gwobrau dysgu Ysbrydoli! yn Abertawe ynl rhan o Wythnos Addysg Oedolion, ac rwy'n falch iawn mai un o'r 11 enillydd oedd y grŵp addysg rhieni, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Uwchradd Cathays yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, ysgol lle mae mwy na 65 o ieithoedd gwahanol wedi bod yn cael eu siarad ers 2014. Mae'r grŵp yn grymuso menywod i gefnogi addysg eu plant ac i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol ar yr un pryd, gan astudio llythrennedd, rhifedd, sgiliau digidol, gofal plant, y celfyddydau creadigol a choginio, wedi'i ddarparu mewn partneriaeth â Addysg Oedolion Cymru. Mae hyn wedi golygu bod dysgwyr yn cyflawni tua 120 o gymwysterau y flwyddyn, gyda bron i hanner y rhai sy'n cymryd rhan yn mynd ymlaen i ddod o hyd i waith. Felly, mae'n gyflawniad hollol ragorol i'r ysgol, ac rwyf wedi bod yn falch o allu ymweld â'r grŵp hwnnw. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ganmol y gwaith sy'n digwydd yn Ysgol Uwchradd Cathays a chytuno mai dyma'r union fath o beth y dylai Llywodraeth Cymru barhau i'w gefnogi a'i hyrwyddo'n weithredol?

A gaf i ddiolch i Julie Morgan am y cwestiwn atodol, a chanmol gwaith y grŵp addysg deuluol yn Ysgol Uwchradd Cathays? Roeddwn wrth fy modd eu bod wedi ennill Gwobr Hywel Francis am eu heffaith ar y gymuned. Bydd y rhai ohonom sydd wedi bod yn y Blaid Lafur ers amser maith yn cofio ymrwymiad gydol oes Hywel i ddysgu gydol oes. Gwelais beth o'r cynnydd sydd wedi deillio o waith y grŵp hwnnw, ac mae'n wirioneddol drawiadol. Mae dros 50 o fenywod wedi mynd yn ôl i weithio mewn gwahanol sectorau. Mae wedi adeiladu sgiliau a meithrin hyder, mae wedi codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd. Ond wrth gwrs, mae hefyd yn galluogi dysgwyr i gefnogi eu plant yn well yn eu haddysg ac mae'n rhan hanfodol o'n dull ysgolion bro.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i longyfarch yr holl enillwyr yng ngwobrau Ysbrydoli!. Llwyddais i fynd y llynedd, ac roedd hi'n noson wirioneddol ysbrydoledig, oherwydd roedd pobl wedi wynebu cymaint o heriau, ond wedi dyfalbarhau, wedi parhau ar eu taith addysg oedolion, ac roeddent wedi cael canlyniadau sy'n newid bywyd o ganlyniad i'r gwaith hwnnw. Felly, rwy'n credu bod honno'n stori wirioneddol gadarnhaol. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt ac i Ysgol Uwchradd Cathays.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. I barhau ar y trywydd hwnnw, rydym yn gwybod bod dysgu gydol oes a sicrhau bod ein dysgwyr sy'n oedolion yn cael eu cefnogi yn dda i bawb. Mae'n dda i'r oedolion syn cael y profiad hwnnw, yn enwedig os ydynt yn dod o gefndir lle maent wedi ei chael hi'n anodd, ond mae hefyd yn dda i'r economi. Mae'n dda i'r economi oherwydd ein bod ni'n cael pobl wedi'u hyfforddi'n well yn dod i mewn i'n diwydiannau. Un o'r pethau yr oeddwn eisiau cyffwrdd arnynt yw sut i gael cyfleoedd dysgu gydol oes i oedolion i edrych ar y diwydiant gwyrdd, er mwyn gwella sgiliau gwyrdd, i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y bobl sy'n dweud nad oes ganddynt ddigon o bobl fedrus yn dod i mewn i'r diwydiant gwyrdd. Felly, tybed a allech chi wneud sylwadau ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei weld fel gweledigaeth i sicrhau bod gennym gyfleoedd dysgu gydol oes i'n hoedolion allu addasu a newid, yn enwedig yn y diwydiant gwyrdd? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Jane. Wrth gwrs, rydym wedi nodi dyletswydd, nad yw wedi dechrau eto, yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, sy'n dangos ein hymrwymiad i addysg gydol oes i oedolion. Mae'n debyg y dylwn ddatgan diddordeb fy hun, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwy'n oedolyn sy'n dysgu gan fy mod yn gwneud cwrs astudiaethau cwnsela lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar hyn o bryd, felly gallaf dystio i'r manteision a grybwyllwyd gennych.
Mae yna wahanol fathau o addysg oedolion, onid oes? Mae yna bethau y mae pobl yn eu gwneud er pleser, er llesiant, ond rydych chi'n iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol uwchsgilio pobl er mwyn yr economi hefyd. Un o'n prif gyfryngau i wneud hynny yw ein rhaglen cyfrif dysgu personol, sy'n ceisio darparu cyfleoedd i weithwyr uwchsgilio mewn sectorau allweddol. A wyddoch chi, wrth fynd ymlaen, yn amlwg, mae'r economi werdd yn mynd i fod yn rhan fawr iawn o hynny i ni.
2. Sut mae'r cwricwlwm i Gymru yn ymgorffori dysgu cysylltiedig â gwaith ac addysg yrfaol yn ei fframwaith? OQ63206
Mae gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith yn thema drawsbynciol yn y canllawiau cwricwlwm statudol. Mae wedi'i hymgorffori yn addysg dysgwr drwyddi draw, rhwng tair a 16 oed. Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn adeiladu profiadau gwerthfawr ac yn gallu cymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn cyd-destunau sy'n ysbrydoli yn y byd go iawn.
Diolch am eich ateb. Mae ysgolion yn chwarae rhan bwysig yn helpu pobl ifanc i ddeall a chael mynediad at wahanol lwybrau gyrfa, ond ni all ddigwydd heb gydweithredu cryf rhwng y Llywodraeth, darparwyr addysg a chyflogwyr. Mae ystod eang o gyfleoedd ar gael mewn swyddi sy'n dod yn amlwg yn yr economi werdd, fel y soniwyd nawr, yn ogystal â gyrfaoedd allweddol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG. Mae gan rieni rôl hanfodol yn cynorthwyo eu plant i archwilio ehangder llawn y cyfleoedd hyn. Mewn gwirionedd, nhw yw'r dylanwad mwyaf yn aml iawn.
Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau partneriaeth rhwng ysgolion, rhieni a chyflogwyr i sicrhau bod y cwricwlwm yn paratoi dysgwyr yn effeithiol ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol a'u bod yn gwybod pa swyddi sydd ar gael yn eu hardal?
Diolch yn fawr, Carolyn. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu perthynas gref a llwyddiannus rhwng ysgolion, rhieni a chyflogwyr i gefnogi dysgwyr. Mae hyn yn allweddol i wella rhagolygon swyddi dysgwyr ac i'w helpu i ddeall gwerthoedd cyflogwyr lleol. Ac yn amlwg, mae hefyd yn golygu y gall busnesau recriwtio yn eu hardal leol.
Un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru wedi'i gefnogi yw menter o'r enw Partneriaeth Busnes Addysg, sy'n dod â chyflogwyr ac ysgolion at ei gilydd i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ac athrawon eu cyfarfod a rhyngweithio â nhw. Nod Partneriaeth Busnes Addysg yw hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc mewn perthynas â'u gyrfa yn y dyfodol.
Mae gennym hefyd gynllun partner gwerthfawr i ysgolion, sy'n rhoi cydnabyddiaeth i gyflogwyr sy'n cefnogi ysgolion unigol drwy o leiaf dri gweithgaredd ymgysylltu â chyflogwyr Gyrfa Cymru y flwyddyn, yn rhan o'r gwaith a wnawn ar uwchsgilio addysgwyr mewn addysg yrfaol a dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith. Un o'r pethau a wnawn hefyd yw cryfhau eu gwybodaeth am y bylchau sydd gennym yn yr economi, gwybodaeth am swyddi, sy'n bwysig iawn. Ond rydych chi hefyd yn iawn i dynnu sylw, ac mae hyn yn cael ei gydnabod yn ein canllawiau, at bwysigrwydd dull cyd-adeiladol gyda chyfranwyr allweddol, ac mae hynny'n cynnwys rhieni a gofalwyr. Fe wnaethom gomisiynu gwaith diddorol iawn gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i edrych ar ymgysylltiad pobl ifanc yn eu harddegau â chyngor gyrfaoedd, a rhoddodd ddata diddorol iawn i ni am ba mor ddylanwadol oedd rhieni yn y maes hwn. Dyna pam y mae'n bwysig inni roi'r wybodaeth honno iddynt hwythau hefyd, fel y gallant gynorthwyo pobl ifanc i wneud y penderfyniadau gorau posib.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru gymaint i'w gynnig o ran cyngor gyrfaoedd a chyngor sgiliau i lawer o bobl ifanc. O beirianneg i logisteg, meddygaeth, TG ac arweinyddiaeth, mae yna gyfleoedd gwaith eang sydd yno yn ein lluoedd arfog nad yw ein pobl ifanc yn ein hysgolion yn clywed llawer amdanynt. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried sut y gall ysgolion weithio'n agosach gyda chymuned ein lluoedd arfog yng Nghymru fel y gall addysg sy'n gysylltiedig â gyrfa hidlo drwodd iddynt, er mwyn iddynt allu ystyried gyrfa yn ein lluoedd arfog, i gefnogi ein lluoedd arfog ledled y byd?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, James. Yn amlwg, mae'n hanfodol fod pobl ifanc yn cael cynnig cyngor gyrfaoedd yn eu hysgolion. Rwy'n gwybod bod rhai ysgolion yn ymgysylltu â sefydliadau'r lluoedd arfog sy'n dod i siarad ag ysgolion. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod hynny'n cael ei wneud mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran hefyd wrth gwrs. Ond rydym yn darparu cynnig arweiniad gyrfaoedd cynhwysfawr iawn i bob unigolyn ifanc ledled Cymru. Felly, er enghraifft, yn eich ardal chi, roedd y nifer a fanteisiodd ar gynnig Gyrfa Cymru yn 95 y cant ar draws ysgolion Powys—yn uwch na chyfartaledd Cymru—a gwelwyd 100 y cant o ddisgyblion yn manteisio ar y cynnig mewn saith o 11 ysgol ledled Powys yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, sy'n golygu bod pob unigolyn ifanc yn yr ysgolion hynny wedi cael cyfweliad arweiniad gyrfaoedd cyn gadael blwyddyn 11. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i gynghorwyr gyrfaoedd weithio gyda phobl ifanc mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ifanc i ystyried yr holl opsiynau sy'n agored iddynt.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymraeg, Tom Giffard.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth inni ddod at ddiwedd tymor cynadleddau'r pleidiau gwleidyddol, bydd pleidleiswyr yn edrych ar safbwyntiau polisi pob un o'r gwahanol bleidiau ar addysg ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch pwy sydd â'r atebion i wella ein system addysg. Fe fyddwch chi'n gwybod cystal â minnau fod cannoedd o ddigwyddiadau yng nghynadleddau'r pleidiau ar ystod o bynciau gwahanol. Tybed beth a wnaethoch chi o'r adroddiad gan ohebydd addysg PoliticsHome a nododd nad oedd gan gynhadledd Reform unrhyw ddigwyddiad yn rhoi sylw i addysg. Ac o siarad â phobl yn y blaid, nid oedd yn ymddangos eu bod wedi meddwl rhyw lawer am bolisi addysg o gwbl. A ydych chi'n cytuno â mi mai plaid nad oes ganddi ddim i'w ddweud ar addysg, un o'r materion allweddol yn etholiad nesaf y Senedd, yw'r bobl olaf y dylid ymddiried ynddynt i redeg ein system addysg yng Nghymru?
Diolch, Tom. A mawredd, ar ôl yr holl ddadleuon a gawsom dros y misoedd, o'r diwedd dyma rywbeth rydym yn cytuno yn ei gylch. Felly, mae hynny'n rhywbeth i'w nodi, onid yw? Yn amlwg, mae'n hanfodol fod gan unrhyw blaid sy'n dymuno llywodraethu gwlad rywbeth i'w ddweud am addysg. Gwelais yr adroddiadau yn Schools Week na wnaeth Nigel Farage ymateb iddynt pan ofynnwyd iddo am bolisïau addysg Reform. Mewn gwirionedd, dywedodd swyddfa'r wasg Reform wrthynt fod rôl y llefarydd addysg bellach yn wag, heb unrhyw esboniad pellach.
Mae addysg hefyd wedi sgorio'n isel ymhlith cefnogwyr Reform pan ofynnwyd iddynt enwi'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r wlad, a daeth athrawon ar waelod y grwpiau y dylai'r Llywodraeth eu diogelu wrth wneud penderfyniadau gwariant. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos i chi beth yw eu safbwynt. Yn anffodus, mae'r darlun hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn y Senedd hon, lle mae ein hunig Aelod o Reform wedi gwrthod lle ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg allweddol, lle cafodd gyfle i fynd ar drywydd materion ar ran pobl ifanc. Os caf gloi drwy atgoffa'r Aelod hefyd mai blaenoriaeth Reform yn etholiad cyffredinol 2024 oedd rhoi 20 y cant o ryddhad treth ar ffioedd ysgolion preifat. Mae hynny, wrth gwrs, yn cyferbynnu â'n Llywodraeth Lafur, sydd wedi newid y rheolau TAW i sicrhau y gallwn godi mwy o arian i ariannu addysg gyhoeddus ledled y DU.
Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch chi. Mae angen i blaid sydd eisiau rhedeg y Senedd hon allu cael cynllun i redeg ei gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n amlwg, o ran addysg, nad oes gan Reform unrhyw ddiddordeb.
Nawr, mae’n ddrwg gennyf dorri'r consensws—[Chwerthin.] Ond rwy'n mynd i edrych ar berfformiad Llywodraeth Cymru o ran addysg, a byddwch wedi gweld yr adroddiad gan Onward, 'Devolved to Fail'. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres hir o adroddiadau sy'n paentio darlun llwm a digalon o gyflwr addysg yng Nghymru ar ôl 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur. Mae'n datgan:
'Mae canlyniadau addysg yng Nghymru yn sylweddol is na'r gwledydd cyfagos, nid yn unig yn y DU, ond ar draws gwledydd eraill y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Heb ddiwygiadau ystyrlon, mae'r dadansoddiad yn y papur hwn yn dangos y gallai perfformiad barhau i waethygu.'
Un o'r mewnwelediadau yn yr adroddiad yw:
'Cafodd Gymru wared ar dablau cynghrair ysgolion a dyfarniadau un gair, gan wneud y canlyniadau uniongyrchol i ysgolion sy'n perfformio'n wael yn llai difrifol.'
Felly, a wnewch chi ymrwymo i edrych eto ar ddileu tablau cynghrair a dyfarniadau un gair, fel y mae adroddiad Onward yn ei argymell, er mwyn gwella dewis rhieni a chodi safonau ysgolion yng Nghymru?
O, ac roedd yn mynd mor dda. Dyna ni. Diolch, Tom. Efallai nad oeddech chi yn y Siambr pan gefais fy holi gan Natasha Asghar am adroddiad Onward. Yn amlwg, mae Onward yn felin drafod Geidwadol, ac yn agored iawn ynglŷn â hynny, ac fel y dywedais wrth Natasha, ysgrifennwyd y rhagair gan yr arbenigwr addysg enwog hwnnw, yr AS Mims Davis. Felly, rwy'n credu y gallwn gael—[Torri ar draws.] Rwy'n credu y gallwn gael—[Torri ar draws.] Ond roeddwn yn sôn am sylwedd yr adroddiad. Mae ein hadroddiadau'n seiliedig ar dystiolaeth, ac nid ydym yn cydnabod llawer o'r dystiolaeth sydd yn yr adroddiad hwnnw. Rwyf bob amser wedi bod yn barod i gydnabod lle mae tystiolaeth ddilys wedi dangos i ni fod angen inni wneud pethau'n wahanol. Rydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru. Gwelsom set dda o ganlyniadau Safon Uwch. Gwelsom welliannau i'r cymwysterau TGAU. Roedd ein canlyniadau asesiadau personol yn galonogol mewn llythrennedd hefyd.
O ran arolygu, roeddwn gydag Estyn ddoe mewn gwirionedd, ac rwy'n fodlon iawn ar ein cyfundrefn arolygu yng Nghymru. Mae gennym gyfundrefn arolygu well nawr, lle bydd ysgolion yn cael mwy o ymweliadau. Byddant yn cael cymorth mwy trwyadl gan Estyn, sy'n gadarnhaol iawn yn fy marn i, ac wrth gwrs, gall rhieni hefyd gael mynediad at wybodaeth ynglŷn â pherfformiad eu hysgol drwy wefan 'Fy ysgol leol'. Fel rhan o'r gwaith a wnaethom ar yr hawl dysgu 14-16, rydym bellach ar gamau diweddarach datblygu fframwaith dangosyddion, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob ysgol, ac a fydd yn dangos nid yn unig perfformiad mewn cymwysterau, ond pethau eraill sy'n bwysig i blant a phobl ifanc: pa mor dda yw'r ysgol o ran lles, pa mor dda ydynt am ganolbwyntio ar gyrchfannau ôl-16 i blant a phobl ifanc, ac ystod fwy cyfannol o fesurau o'r fath. Rwy'n sicr mai dyna'r cyfeiriad cywir i fynd iddo.
Diolch am eich ateb. Mae'n drueni, yn fy marn i, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Llywodraeth Lafur Cymru, dros 26 mlynedd, wedi bod mor barod i ddiystyru atebion a llwyddiannau o fannau eraill yn y DU am eu bod yn fesurau Ceidwadol. Drwy wneud hynny, rydych chi'n colli'r rhan bwysicaf. Dylech fod yn eu rhoi ar waith nid oherwydd eu bod yn fesurau Ceidwadol, ond am eu bod mor llwyddiannus. Wrth i addysg Cymru barhau gyda phethau fel y dull defnyddio ciwiau a wrthbrofwyd, daeth disgyblion Lloegr yn rhai o ddarllenwyr gorau'r byd gorllewinol. Gallech fod wedi gwneud yr un peth, ond fe ddewisoch chi beidio â gwneud hynny am fod y Llywodraeth Geidwadol yn ei wneud yn Lloegr. Dyna a olygwn pan ddywedwn fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi ideoleg o flaen y dystiolaeth wrth ystyried safonau addysgol Cymru, a'n plant sy'n talu'r pris. Nid yw hynny'n gliriach yn unman nag yn ein cwricwlwm. Felly, mae adroddiad Onward, fel ninnau, wedi dadlau ers tro fod y dystiolaeth fyd-eang yn dangos bod cwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau yn hytrach na chwricwlwm sy'n seiliedig ar wybodaeth yn arwain at safonau is a bod y gwledydd hynny a'i rhoddodd ar waith yn gorfod cefnu arno yn y pen draw. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddilyn y dystiolaeth nawr, fel y dywedodd y byddai'n ei wneud, a chytuno i edrych eto ar y cwricwlwm, ac edrych yn benodol ar gyflwyno cwricwlwm sy'n seiliedig ar wybodaeth, gan y gwyddom y bydd hynny'n gweithio ac yn gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc ledled Cymru?
Diolch, Tom. A dweud y gwir, efallai nad ydych wedi bod yn gwrando arnaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf os ydych chi'n mynd i honni fy mod yn ideolegol, gan nad wyf yn ideolegol o gwbl. Yr unig ideoleg sydd gennyf yw beth sydd orau i blant a phobl ifanc a beth fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau posib iddynt. Dyna'r lens rwy'n edrych ar bopeth drwyddi.
Hoffwn ddweud yn gwbl glir eto ein bod wedi dweud yn glir iawn wrth ysgolion ein bod yn disgwyl i bob un ohonynt addysgu ffoneg. Rydym yn cryfhau ein dysgu proffesiynol, ein cymorth statudol ar gyfer hynny, ac ystod eang o fesurau eraill.
Ar y pwynt a wnaethoch ynglŷn â sgiliau, rwyf wedi colli golwg ar sawl gwaith y dywedais wrthych fod gwybodaeth yn rhan gwbl sylfaenol o'r Cwricwlwm i Gymru. Ond yr hyn a wnawn drwy'r Cwricwlwm i Gymru yw gofyn i bobl ifanc roi'r wybodaeth honno ar waith mewn ffyrdd ystyrlon.
Rwyf bob amser wedi bod yn fwy na pharod i edrych ar dystiolaeth o fannau eraill. Cyfarfûm â Gweinidog Seland Newydd, lle maent yng nghyfnodau diweddarach cwricwlwm newydd. Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog yr Alban. Cyfarfûm â Bridget Phillipson ddoe, a byddaf yn cynnal cyngor gweinidogol ymhen ychydig wythnosau gyda Gweinidogion o bob cwr o'r DU lle byddwn yn canolbwyntio ar y cwricwlwm. Ond fy mhrif flaenoriaeth yw sicrhau bod ein cwricwlwm, sy'n llawn gwybodaeth ac yn bwrpasol, yn cyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan dro ar ôl tro eu hymrwymiad nhw i sicrhau y gall pawb, beth bynnag fo eu cefndir, gael mynediad at addysg uwch. Eto i gyd, mae'r data diweddaraf yn rhoi darlun hollol wahanol i hyn. Yn ôl UCAS, dim ond 32.5 y cant o bobl 18 oed Cymru a wnaeth gais i brifysgol yn 2024, sy'n sylweddol is na chyfartaledd y Deyrnas Gyfunol o 41.2 y cant. Ond mae'r ffigur cenedlaethol hwn yn cuddio lefelau o anghydraddoldeb sydd hyd yn oed yn ddyfnach na hyn. Yng Ngogledd Caerdydd, er enghraifft, roedd y gyfradd mynediad i brifysgol yn 47.9 y cant. Yn y cyfamser, yn Nhorfaen—eich etholaeth chi, Ysgrifennydd Cabinet—dim ond 16.9 y cant oedd wedi gwneud cais i brifysgol, yr isaf yng Nghymru.
Felly, yn fy meddwl i, mae'r ffigurau hyn yn codi nifer o gwestiynau anghyfforddus i chi fel Llywodraeth. Hynny yw, beth yw'r rhesymau am y gwahaniaethau hyn? Ac a yw'n dderbyniol, mewn gwlad sydd wedi ymrwymo i ehangu mynediad ac i wella cyfleoedd a lefelau dyhead, fod hyn yn digwydd?
Diolch am eich cwestiwn, Cefin. Wrth gwrs, mae codi cyfraddau cyfranogiad ôl-16 yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae fy nghyd-Aelod Vikki Howells wedi siarad yn fanwl am hyn yn y Siambr hon yn y gorffennol. Mae angen inni ddeall y ffigurau hynny. Rydym yn dal i aros am yr ystod lawn o ddata gan UCAS. Fy nealltwriaeth i yw bod y ceisiadau i brifysgolion Cymru fwy neu lai ar yr un lefel â'r hyn roedd prifysgolion Cymru wedi ei ddisgwyl. Rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid inni ystyried addysg bellach, lle mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol mewn gwirionedd, a chofio bod gwahanol lwybrau i bobl ifanc wrth iddynt benderfynu beth a wnânt ar ôl cyrraedd 16 oed. Ond rydym yn ymwybodol o'r heriau gyda chyfranogiad. Mae gennym y cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr mwyaf hael yn y DU. Ond fel Llywodraeth, rydym yn edrych ar beth arall sydd angen i ni ei wneud i sicrhau y gall pob unigolyn ifanc sydd am gamu ymlaen i addysg uwch wneud hynny.
Diolch. Mae annog myfyrwyr i fynd i'r brifysgol yn un peth, ond mae eu hannog nhw i aros ac astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn fater hollol wahanol. Nawr, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn blaenoriaethu eu cyllid i annog myfyrwyr i astudio adref. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rŷch chi fel Llywodraeth yn defnyddio arian trethdalwyr i ariannu myfyrwyr i astudio y tu fas i Gymru, yn hytrach na chryfhau ein sefydliadau addysg uwch ein hunain.
Dros gyfnod o bum mlynedd, mae Academi Seren wedi costio dros £11 miliwn i'r pwrs cyhoeddus. Ac eto mae 70 y cant o'r holl ddisgyblion ysgol sydd wedi eu cofrestru gyda Seren yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion y tu fas i Gymru, yn bennaf yn Lloegr. Os yw pob cenedl arall yn y Deyrnas Gyfunol yn amddiffyn eu buddiannau eu hunain ac yn cefnogi sefydliadau addysg uwch eu hunain, pam mae Llywodraeth Lafur Cymru mor benderfynol o saethu ei hunan yn ei throed dro ar ôl tro gyda'r cynllun hwn?
Diolch, Cefin. Wel, rwy'n falch iawn o'n rhaglen Seren, ac mae ein rhaglen Seren yn galluogi dysgwyr i astudio ble bynnag y maent eisiau astudio. Mae'n rhaglen sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n galluogi pobl ifanc i gyflawni eu dyheadau, ac rwy'n hynod falch ohoni a'i llwyddiannau. Rydym yn fewnforiwr net, fel y gwyddoch, o fyfyrwyr i Gymru, a chredaf ei bod yn hanfodol fod pobl ifanc yn gallu dewis i ble maent am fynd.
Rydych chi'n ymwybodol ein bod wedi bod yn ailffocysu ein rhaglen Seren fel y gallwn gefnogi rhai o'n dysgwyr mwyaf difreintiedig yn well, ond rydym hefyd yn cynyddu'r gwaith a wnawn gyda phrifysgolion Cymru. Fel y nodoch chi, dewisodd 35 y cant o ddysgwyr Seren a ddechreuodd yn y brifysgol yn 2024 astudio yng Nghymru. Mae Seren wedi meithrin perthynas gref iawn â phrifysgolion yng Nghymru drwy eu rhaglen o weithgarwch rhanbarthol a chenedlaethol.
Yn 2024, cynhaliwyd 83 o ddigwyddiadau a chyfleoedd gyda phrifysgolion yng Nghymru, ac o'r holl ddysgwyr a fynychodd ysgol haf feddygol Seren gyda Phrifysgol Caerdydd yn 2023, fe wnaeth 82 y cant ohonynt gais i Brifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae Seren yn gweithio'n agos iawn gyda Chaerdydd, Abertawe, Prifysgol De Cymru, Aberystwyth a Bangor i gefnogi dysgwyr ar eu taith addysgol drwy gynnal dosbarthiadau meistr, seminarau a chyrsiau preswyl. Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch a minnau'n annog prifysgolion Cymru yn barhaus i ymgysylltu'n llawn â rhaglen Seren, yn enwedig o dan ein model cyflawni newydd, fel y gallant hyrwyddo eu cyrsiau mwyaf llwyddiannus.
Mae hynny'n iawn, ond mae 70 y cant yn dal i astudio y tu allan i Gymru.
Mater arall sy'n peryglu hyfywedd ein prifysgolion, ac yn wir, hyfywedd yr economi gyfan, yw cynigion Llywodraeth y DU i gyflwyno ardoll ar fyfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU. Nawr, mae ardoll arfaethedig Llywodraeth y DU o 6 y cant ar ffioedd myfyrwyr rhyngwladol yn cael ei hyrwyddo fel cymorth i addysg uwch, ond mae tystiolaeth yn dangos y byddai'n gwneud y gwrthwyneb: byddai ffioedd yn codi 6.3 y cant, gan ddatgymell myfyrwyr rhyngwladol. Byddai prifysgolion yn colli £240 miliwn ym mlwyddyn 1, gan godi i £2.2 biliwn dros bum mlynedd, a gallai sefydliadau dorri lleoedd myfyrwyr, ymchwil ac addysgu yn y DU.
Felly, os caiff ei chyflwyno yng Nghymru, gallai'r ardoll gostio £65 miliwn i economi Cymru mewn gwerth ychwanegol gros a gollwyd, gan daro'r trefi prifysgol galetaf, fel Bangor, Caerdydd, Wrecsam ac yn y blaen. Felly, ymhell o gryfhau prifysgolion, mae'r ardoll yn bygwth eu gwanhau a gwneud Cymru'n llai cystadleuol yn fyd-eang. Felly, fy nghwestiwn i yw hwn: mae Llywodraeth y DU bellach yn dweud bod yn rhaid i Lywodraethau datganoledig benderfynu a ddylid cyflwyno'r ardoll. Mae'r Alban wedi'i diystyru—a wnewch chi?
Diolch, Cefin, ac yn amlwg, rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac eisoes wedi cadarnhau na fydd yr ardoll myfyrwyr yn berthnasol i Gymru. Nid ydym yn ceisio cymedroli galw myfyrwyr tramor yn y ffordd hon, ac yn wir, rydym yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol yn fawr iawn. Rydym am i'n myfyrwyr rhyngwladol barhau i deimlo eu bod yn cael eu croesawu am y cyfraniadau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cadarnhaol y maent yn eu gwneud yng Nghymru, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod hynny'n parhau. Felly, ni fydd ardoll yng Nghymru.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a chanlyniadau uwchgynhadledd genedlaethol Llywodraeth Cymru ar ymddygiad? OQ63224
Amlinellodd adroddiad yr uwchgynhadledd ar ymddygiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf allbynnau allweddol a'r camau nesaf uniongyrchol. Gan adeiladu ar y momentwm hwn, mae cynnydd cadarnhaol yn cynnwys lansio fforymau newydd ar ffonau symudol mewn ysgolion a gwaharddiadau a chadw plant ar ôl ysgol, gwaith ymgysylltu cynnar gyda phlant a phobl ifanc, a chynlluniau i gyflymu ymgysylltiad addysgwyr y tymor hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer y digwyddiadau treisgar gan ddisgyblion yn ein hysgolion bron â bod wedi treblu ers 2019. Mae hon yn broblem wirioneddol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, pan oeddwn yn llefarydd addysg, ac eraill wedi gofyn i chi ers amser maith pa gamau rydych chi'n mynd i'w cymryd i fynd i'r afael â hynny. Am amser maith, fe gyfeirioch chi at yr uwchgynhadledd genedlaethol hon ar ymddygiad fel yr ateb i'r cwestiynau hynny, ac fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ôl yr uwchgynhadledd honno lle gwnaethoch gydnabod ychydig o bwyntiau allweddol. Fe ddywedoch chi fod awydd cryf i ddiweddaru canllawiau, fe ddywedoch chi fod angen datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n canolbwyntio ar dechnegau rheoli ymddygiad, tawelu sefyllfaoedd ac ymyrraeth, ac fe ddywedoch chi hefyd eich bod yn cydnabod yr angen i sicrhau bod diffiniadau cyson a bod pob digwyddiad yn cael ei gofnodi. Nawr, rwy'n cytuno â hynny oll, ond i mi, maent yn swnio fel myfyrdodau ar y cyfarfod hwnnw yn hytrach na chamau gweithredu o'r cyfarfod hwnnw. Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym wedi bod yn glir iawn. Rydym wedi creu cynllun, yr wyf eisoes wedi'i gyflwyno i chi, ar gyfer gwell ymddygiad mewn ysgolion a mynd i'r afael â thrais mewn ysgolion, sy'n cynnwys cael strategaeth gadarn, ond sicrhau gwaharddiadau o ysgolion hefyd a bod canllawiau unedau cyfeirio disgyblion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu diweddaru i sicrhau bod y rhai sy'n cario arf yn cael eu gwahardd o'r ysgol. Felly, a wnewch chi sôn am y canlyniadau a'r camau a gymerwyd gennych yn sgil yr uwchgynhadledd ar ymddygiad, ac nid eich myfyrdodau ar yr uwchgynhadledd yn unig?
Diolch yn fawr, Tom. Fel y dywedais, fe wnaethom nodi pum cam gweithredu uniongyrchol o'r uwchgynhadledd yn ôl ym mis Mai, ac mae pob un o'r camau gweithredu hynny wedi creu llif gwaith oddi tanynt. Mae gennym y grŵp sy'n edrych ar waharddiadau, ac mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar hynny gydag addysgwyr. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n gyflym, felly hefyd y gwaith ar ffonau symudol. Rydym eisoes yn gweithio i ddiweddaru'r canllawiau ar gyfer ysgolion i sicrhau mwy o eglurder a chysondeb ledled Cymru. Ac ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth ymddygiad newydd. Rydym hefyd yn gweithio nawr gyda phartneriaid addysg uwch a fydd yn ein cefnogi yn y gwaith hwn, gan edrych ar y math o dechnegau sydd eu hangen arnom. Cyhoeddwyd y pecyn cymorth ymddygiad, fel y dywedais, ar ddechrau tymor yr hydref ar gyfer ysgolion, ond rydym hefyd yn gweithio ar y materion a gododd o'r cyfarfod bord gron ar drais, gan ei bod yn hanfodol fod gennym ganllawiau mwy cyson yn y cyswllt hwnnw. Ond hoffwn nodi'n glir y gall ysgolion eisoes wahardd plant a phobl ifanc sy'n cael eu canfod ag arf yn yr ysgol os ydynt eisiau gwneud hynny. Mae'n gwbl glir y gallant wneud hynny'n barod. Gallant wneud y penderfyniad hwnnw, gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i wneud hynny fel arweinwyr yr ysgol sy'n adnabod y dysgwyr hynny.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â lles staff a diogelwch swyddi ym Mhrifysgol Bangor? OQ63212
Mae cefnogi ein gweithlu addysg yn hanfodol, ac rwy'n cydnabod bod ansicrwydd parhaus ynghylch swyddi'n achosi lefel uchel o bryder i'r rhai yr effeithir arnynt. Rwy'n disgwyl i Brifysgol Bangor weithio'n agos gyda'i staff, undebau llafur a myfyrwyr mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael.
Diolch am yr ateb yna. Fedrwch chi gadarnhau bod Prifysgol Bangor wedi derbyn £1.4 miliwn o arian ar gyfer lliniaru gostyngiad yn y gweithlu? Ydych chi'n hyderus bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lliniaru toriadu staffio? Mae pryder mawr y bydd rhai staff yn cael eu diswyddo'n orfodol a bod eraill wedi derbyn diswyddiad gwirfoddol am nad oedden nhw'n meddwl bod ganddyn nhw unrhyw ddewis. Fel rydych chi'n gwybod, fel dwi wedi sôn droeon, mae Prifysgol Bangor yn rhan allweddol o economi yr ardal dwi'n yn ei chynrychioli, ac mae'r toriadau presennol am gael effaith nid yn unig ar y staff a'u teuluoedd, ond ar yr economi drwyddi draw.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn atodol, Siân. Yn amlwg, rwy'n cydnabod bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'r brifysgol, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â phwysigrwydd Prifysgol Bangor yn y rhan honno o ogledd Cymru.
O ran cymorth ariannol, i gydnabod yr heriau ariannol sy'n wynebu addysg uwch, fe wnaethom ddarparu £28.5 miliwn ychwanegol yn 2024-25. Roedd rhywfaint ohono'n refeniw, rhywfaint ohono'n gyfalaf, a daeth hynny â chyfanswm y cymorth grant i'r sector i dros £200 miliwn. Daw hynny yn ogystal â chynyddu ffioedd dysgu ddwy flynedd yn olynol, ffioedd yr ydym yn disgwyl iddynt gynhyrchu hyd at £21.9 miliwn mewn incwm ar gyfer 2025-26. Rydym yn disgwyl i bob prifysgol weithio mewn partneriaeth gymdeithasol agos â'u staff wrth iddynt ddelio â'r materion hyn, ac rwyf hefyd yn falch iawn fod Prifysgol Bangor wedi cyflwyno nifer o raglenni cymorth i staff a bod ganddi fentrau ar waith i gefnogi staff yr effeithir arnynt gan y broses ailstrwythuro. Mae hynny'n cynnwys rhaglenni cymorth i weithwyr, cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, a chyfeirio at ffynonellau allanol o gymorth ychwanegol.
Os caf roi sicrwydd i Siân hefyd, fod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi bod yn ymgysylltu ag is-gangellorion a phrifathrawon i ddeall yn well y pwysau sy'n wynebu'r sector ac archwilio sut y gallwn barhau i'w cefnogi drwy gydol y cyfnod hwnnw. Ac rydym hefyd wedi cael trafodaethau rheolaidd a chynhyrchiol, ar lefel weinidogol a swyddogol, gyda chyd-undebau llafur ôl-16, a byddwn yn parhau â'r gwaith hwnnw mewn partneriaeth gymdeithasol.

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw yn ysgolion? OQ63198
Mae Llywodraeth Cymru yn parchu dyfarniad y Goruchaf Lys ynghylch y diffiniad o ryw o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac rydym wedi datgan y dylai pawb sydd â dyletswydd ddilyn dyfarniad y Goruchaf Lys a cheisio'r cyngor cyfreithiol priodol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid ydych wedi cyhoeddi unrhyw ganllawiau newydd i ysgolion eto. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn blaid sy'n credu bod rhyw biolegol yn bwysig os ydym am ddiogelu hawliau menywod a merched. Ac eto, mae llawer o ysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd heb fannau i fenywod yn unig na mannau i ferched yn unig—er enghraifft, mewn toiledau, mannau newid a dosbarthiadau addysg gorfforol, a bydd chwaraeon merched yn ein hysgolion hefyd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau hyn. Pryd fyddwch chi'n cyhoeddi canllawiau newydd i'n hysgolion ledled Cymru i sicrhau eu bod yn parchu dyfarniad y Goruchaf Lys, gan fod angen inni sicrhau bod menywod a merched yn cael eu diogelu ym mhob man cyhoeddus ac ym mhob un o'n hysgolion cyhoeddus ledled Cymru? Mae hwn yn gam hanfodol. Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi'i gymryd. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei safbwynt yn glir. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i oedi a mynd i'r afael â hyn hefyd.
Diolch, Darren. Roedd Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer ysgolion ac maent wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig yr wythnos hon. Fel y gwyddoch, rwy'n credu, roeddem yn gweithio ar ganllawiau ar gyfer ysgolion ar gefnogi dysgwyr, gan gynnwys dysgwyr traws a dysgwyr rhywedd-gwestiynol. Fe wnaethom benderfyniad i gymryd amser ychwanegol ar y gwaith hwnnw er mwyn ystyried yr holl dystiolaeth, gan gynnwys y dyfarniad y cyfeirioch chi ato. Gwn fod fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi dweud wrth y Siambr ein bod yn aros i ganllawiau newydd ar Hawliau Dynol fynd drwy Dŷ'r Cyffredin fel y gallwn wneud datganiad pendant. Ond yn fy marn i, mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn drylwyr a'n bod yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu nid yn unig â phobl ifanc, ond â rhieni. Roeddwn hefyd yn awyddus iawn inni ystyried canfyddiadau adolygiad Cass.
Nawr, ar doiledau, mae ein canllawiau eisoes yn nodi bod yn rhaid i ysgolion ddarparu toiledau un rhyw i blant dros wyth oed. Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymgynghoriad i weld a ddylem ddarparu toiledau rhywedd-niwtral hefyd yn rhan o hynny, ond yn ychwanegol at doiledau un rhyw. A hoffwn nodi'n glir, wrth imi edrych ar y mater hwn, fy mod bob amser yn gwneud hynny gyda lles pob dysgwr ar flaen fy meddwl. Rwyf am i'n hysgolion fod yn lleoedd cynhwysol a chroesawgar i bob dysgwr. Mae lleoedd fel toiledau'n cael effaith fawr iawn ar lesiant. Gwyddom drwy Estyn y gallant fod yn ffocws i fwlio, felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn, ac nad ydym yn ei wneud ar frys, ond yn sicrhau bod y canllawiau yn union fel y dylent fod.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu yn achos y rhai sydd wedi'u dadleoli o ganlyniad i adeiladau ysgol yn cael eu cau oherwydd pryderon diogelwch? OQ63222
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Er bod diogelwch dysgwyr yn gyfrifoldeb statudol a rennir rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion, rwy'n parhau'n ymrwymedig i sicrhau lles a pharhad addysg ein holl ddysgwyr. Byddaf yn parhau i weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, yn enwedig lle mae ysgolion wedi cau, gan sicrhau bod anghenion a lles dysgwyr yn cael eu cefnogi'n llawn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Am chwe blynedd, mae plant Ysgol Gynradd Godre'r Graig wedi cael eu haddysgu mewn cabanau symudol, filltiroedd o'u cymuned, yn dilyn cau adeilad eu hysgol a'i ddymchwel wedi hynny. Er bod cymuned gyfan yr ysgol wedi gwneud gwaith gwych o dan amgylchiadau mor heriol, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno nad yw'n drefniant addas. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno cais am ysgol yn ei lle, un a fydd wedi'i lleoli yng Ngodre'r Graig ac a fydd yn diwallu anghenion dysgwyr a theuluoedd ar draws cymunedau Godre'r Graig, Ystalyfera a Chilmaengwyn. Fodd bynnag, mae llythyr gan un o'ch swyddogion at swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn awgrymu ei bod yn annhebygol y bydd cyllid yn cael ei ddarparu. Mae'r llythyr yn sôn am yr effaith y byddai ysgol newydd yn ei chael ar niferoedd disgyblion mewn ysgolion eraill, ond nid yr effaith y mae'r sefyllfa bresennol yn ei chael ar niferoedd disgyblion yn Ysgol Godre'r Graig. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam fod Llywodraeth Cymru yn asesu'r cais hwn gan ddefnyddio'r un meini prawf ag ar gyfer ysgol newydd sbon, nid un yn lle un arall, ac a yw'n credu ei bod yn dderbyniol nad yw'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn Ysgol Godre'r Graig erioed wedi cael eu haddysgu mewn adeilad ysgol parhaol yn eu cymuned eu hunain? A wnewch chi gytuno i ymweld â'r ysgol, i gyfarfod ag arweinwyr, i ddeall cyd-destun eithriadol y cais hwn am gymorth?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Sioned. Os caf bwysleisio eto, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau lles a pharhad addysg i'n holl ddysgwyr. Hoffwn dalu teyrnged i'r ysgol, gan fy mod yn gwybod, er gwaethaf unrhyw heriau, eu bod wedi cael arolygiadau cadarnhaol iawn a'u bod yn ysgol gynnes a chefnogol i'r plant y maent yn eu gwasanaethu.
Roeddwn yn meddwl y dylwn nodi'r gadwyn o ddigwyddiadau rhwng 2019 a nawr, gan fod mwy iddo na'r hyn rydych chi newydd ei ddisgrifio. Yn 2020, daeth achos busnes i law Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect gwreiddiol gogyfer ag ysgol gynradd yng nghwm Tawe, adeilad newydd, gan uno Ysgol Gynradd Alltwen, Ysgol Gynradd Llangiwg ac Ysgol Gynradd Godre'r Graig. Rhoddwyd cymeradwyaeth, yn amodol ar gwblhau asesiad o’r effaith ar y Gymraeg yn foddhaol. Ni ddigwyddodd hynny oherwydd yr adolygiad barnwrol dilynol a phenderfyniad gan yr awdurdod lleol i beidio â bwrw ymlaen â'r cynlluniau. Ar hyn o bryd, nid yw Ysgol Gynradd Godre'r Graig wedi'i chynnwys yn rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy naw mlynedd Castell-nedd Port Talbot, ac nid ydym wedi cael achos busnes. Ym mis Tachwedd 2023, cyflwynodd y cyngor gais i ddiwygio ei raglen amlinellol strategol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn eu hadeiladau, ac roedd y cais hwnnw'n cynnwys codi adeilad newydd yn lle Ysgol Gynradd Godre'r Graig. Ym mis Ionawr 2024, mewn ymateb i'r cais, gofynnwyd i'r awdurdod lleol gynnal asesiad o’r effaith ar y Gymraeg ac ystyried unrhyw gamau lliniaru y gallai fod eu hangen. Cyflwynwyd yr asesiad hwnnw ym mis Ionawr 2025, ac ym mis Ebrill 2025, cyflwynodd yr awdurdod lleol eu camau lliniaru arfaethedig. Cododd swyddogion bryderon ynghylch cost sylweddol y prosiect, ond hefyd yr effaith bosib y gallai cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Saesneg ei chael mewn ardal—[Torri ar draws.]—o sensitifrwydd ieithyddol ac ar ysgolion cyfagos.
I roi sicrwydd i'r Aelod, cefais ohebiaeth am yr ysgol yn yr haf ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu'n rhagweithiol â'r cyngor. Maent wedi cael trafodaethau gyda'r cyngor, a gwn fod swyddogion i fod i gyfarfod â'r prif weithredwr a'r cyfarwyddwr addysg, hamdden a dysgu gydol oes ar 20 Hydref i drafod eu cynlluniau. Ac rwy'n fwy na pharod i ymweld â'r ysgol.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella presenoldeb mewn ysgolion? OQ63204
Rydym yn parhau i weld gwelliannau yn y lefelau presenoldeb ac rwy'n falch fod y lefelau absenoldeb yn gyffredinol wedi gostwng o 12 y cant i 10.9 y cant dros y flwyddyn ysgol 2024-25. Ond rydym eisiau dychwelyd at y lefelau a welsom cyn y pandemig ac rydym yn buddsoddi £7 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi ymgysylltiad cadarnhaol â'r ysgol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cefais fy nghalonogi gan y data diweddar sy'n dangos y gwelliant yr ydych chi newydd ei grybwyll, a lefelau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn arbennig. Rydym i gyd yn gwybod bod ysgolion wedi wynebu heriau gyda phresenoldeb ers pandemig COVID-19. Gall y rhesymau dros golli ysgol fod yn gymhleth. Rwy'n siŵr fod mynd at wraidd pam y mae plant yn colli ysgol yn barhaus yn allweddol i wella lefelau presenoldeb. Felly, rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a £2 filiwn i helpu disgyblion gyda chyfleoedd cyfoethogi ychwanegol. Rwy'n siŵr y bydd hynny'n allweddol i gyflawni'r nod hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod cydweithio amlasiantaethol yn hanfodol i helpu i wella lefelau presenoldeb mewn ysgolion, a bod yn rhaid i blant a theuluoedd fod yn ganolog i gynlluniau i fynd i'r afael â lefelau presenoldeb mewn ysgolion er mwyn cyflawni'r canlyniad gorau i blant sy'n colli ysgol yn barhaus?
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Joyce, ac am y croeso i'r arian ychwanegol sydd wedi ein galluogi i gyflogi swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ychwanegol. Mae'r swyddogion hynny'n gwneud gwaith gwych iawn. Rydym wedi sefydlu rhwydwaith ohonynt. Rwyf wedi cyfarfod â nhw ac rwyf wedi clywed yn uniongyrchol sut y gwnânt y gwaith cymhleth hwnnw gyda theuluoedd, oherwydd mae'r rhesymau pam nad yw plant yn mynychu'r ysgol yn gymhleth iawn. Mae yna bob math o rwystrau, boed yn dlodi, trafnidiaeth, salwch, ac mae'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn gwneud gwaith gwych iawn.
Ond rydych chi wedi gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chydweithio amlasiantaethol, ac mae hynny hefyd yn cysylltu â'r hyn a ofynnodd Tom i mi am yr uwchgynhadledd ar ymddygiad, oherwydd thema gyson a glywais gan ysgolion ers i mi ddod i'r swydd yw eu bod yn teimlo bod llawer o broblemau cymdeithasol yn glanio ar garreg eu drws. Mae rhai ysgolion wedi disgrifio'u hunain fel y pedwerydd gwasanaeth brys, ac mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod gennym gymorth cofleidiol amlasiantaethol i ysgolion. Dyna pam mai un o'r camau gweithredu o'r uwchgynhadledd oedd mynd i'r afael â'r materion amlasiantaethol hynny, i wneud yn siŵr fod pob asiantaeth yn camu i'r adwy i gefnogi ysgolion; nad ysgolion yn unig sy'n gwneud gwaith allgymorth, mae'n fewngymorth gan yr holl asiantaethau. Fe euthum â phapur i'r Cabinet ychydig wythnosau yn ôl, i edrych ar yr hyn y gallwn ni fel Llywodraeth ei wneud ar draws yr holl Weinidogion i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ysgolion. Rydym yn gweithio ar hynny ar lefel swyddogol nawr, ac ar lefel weinidogol yn ogystal. Mae hynny'n rhywbeth sy'n hollol hanfodol. Roedd yn neges allweddol hefyd yn adroddiad Ysgol Dyffryn Aman, felly rhaid inni fynd i'r afael â'r materion amlasiantaethol hynny.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Mark Isherwood.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl i mewn i addysg bellach? OQ63189
Mae addysg bellach yn ganolog i uchelgeisiau addysg ac economaidd Cymru ac i'r dysgwyr a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rwy'n falch o weld cynnydd sylweddol y nifer y cofrestriadau dros y flwyddyn ddiwethaf. Er mwyn cydnabod y cynnydd hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cynnydd o bron i £14 miliwn o ddyraniadau cyllid i golegau eleni.
Diolch. Dangosodd dadansoddiad gan ColegauCymru ym mis Mehefin 2023, yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael gwared ar y brentisiaeth sylfaen lefel 2, fod 1,075 yn llai o brentisiaid adeiladu o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym mis Mehefin 2025, dangosodd data a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, Medr, ostyngiad o 48 y cant yn nifer y prentisiaethau adeiladu newydd, gan briodoli'r gostyngiad i ddileu'r brentisiaeth sylfaen lefel 2 a thoriad o 14 y cant i'r gyllideb brentisiaethau. Mae staff colegau sy'n aelodau o ColegauCymru a'r sector adeiladu bellach yn tynnu sylw at hyn fel problem fawr sy'n effeithio ar bobl ac economi Cymru.
Mae colegau hefyd yn dweud wrthyf fod addysg bellach yn profi twf sylweddol yn niferoedd myfyrwyr craidd amser llawn, ymhell y tu hwnt i'r lefelau cyllid presennol, a'u bod ochr yn ochr â hyn, yn gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 heb fwy o gyllid, er bod nifer y dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynyddu'n sylweddol, gyda'r llwyth gwaith craidd yn mwy na dyblu mewn dwy flynedd. Ar ôl anwybyddu'r rhybuddion, pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Lywodraeth Cymru nawr i gefnogi'r sector drwy fynd i'r afael â'r materion hyn?
Diolch yn fawr, Mark. Mae'r rhain i gyd yn bwyntiau pwysig. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i dwf prentisiaethau. Yn amlwg, mae prentisiaethau ym mhortffolio Jack Sargeant, felly os yw hynny'n iawn, fe ysgrifennaf atoch ynglŷn â manylion y prentisiaethau adeiladu.
Ar y pwyntiau a godwyd gennych am y cynnydd yn y niferoedd, rwyf wedi cydnabod hynny, gan gynnwys yn fy ateb i Cefin Campbell, ac rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol. Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi cyllid ychwanegol eleni i gefnogi mwy o ddysgwyr i ymgymryd ag addysg bellach. Yn amlwg, rydym ar fin dechrau'r rownd gyllidebol, felly ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau ynglŷn â chyllid ychwanegol, ond rwy'n dadlau'n gryf dros bwysigrwydd nid yn unig mwy o gyllid ar gyfer addysg, ond pwysigrwydd addysg bellach a'r angen i'w chefnogi, a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Rwy'n cydnabod bod colegau dan bwysau mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddaf yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf ar yr adolygiad deddfwriaethol, lle bydd gennyf ragor i'w ddweud am hynny. Rwy'n ailadrodd fy mod yn ymwybodol o'r angen am gyllid ar gyfer cymorth ADY mewn colegau, ac mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rwy'n eu cael gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 3 ar ein hagenda, sef y cwestiynau amserol. Ni fydd cwestiwn amserol Siân Gwenllian [TQ1378] i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn cael ei ofyn, felly mae'r Llywydd wedi dethol un cwestiwn heddiw, sydd yn mynd i gael ei ofyn gan Luke Fletcher, ac i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Luke Fletcher.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith tariffau cynyddol yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwydiant dur Cymru? TQ1383

Rydym yn bryderus iawn am gyhoeddiad yr UE ar y mesurau tariff newydd a'r hyn y byddant yn ei olygu i'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU. Rydym yn pwyso'n gryf ar Lywodraeth y DU i gael trafodaethau brys gyda'r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau nad yw Cymru a dur Cymru yn cael eu gadael ar ôl mewn unrhyw drefniadau masnachu dur gyda'r UE yn y dyfodol.
Diolch am yr ateb.
Unwaith eto, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi cael ei dal ar y droed ôl gan y diwydiant dur ac mae bellach mewn panig. Mae hwn yn amser tyngedfennol i ddiwydiant dur Cymru. Mae penderfyniad yr UE i haneru cwotâu di-dariff, bron iawn, ar gyfer dur wedi'i fewnforio yn bygwth rhwystro mynediad at ein marchnad allforio fwyaf, gydag arweinwyr y diwydiant yn rhybuddio efallai mai dyma'r argyfwng mwyaf y mae sector dur y DU wedi'i wynebu erioed.
Addawodd Llafur berthynas newydd ag Ewrop. Addawodd Llafur hefyd y byddai'n Llywodraeth a fyddai'n symud mynyddoedd er mwyn dur. Eto, flwyddyn ar ôl Port Talbot, dyma ni eto. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw gweithfeydd Cymreig fel Port Talbot a Llan-wern yn cael eu gadael i ysgwyddo pwysau'r rhyfel tariffau hwn rhwng Brwsel a Washington, gan na all ein cymunedau dur gymryd llawer mwy? Ac mae hanes gan Lywodraeth Lafur y DU eisoes o ddiogelu gweithfeydd dur yn Lloegr.
Mae'n amlwg fod perygl i gynnig yr UE arwain at ganlyniadau gwael i sector dur Cymru ar adeg pan fo eisoes o dan bwysau masnachu aruthrol, fel y nodwyd, oherwydd tariffau'r Unol Daleithiau a gorgapasiti byd-eang. Wrth gwrs, mae'n werth cydnabod hefyd mai'r UE yw ein partner masnachu agosaf a chryfaf ar gyfer dur, ac rydym am weld Llywodraeth y DU yn dadlau'r achos yn gryf i'r UE dros gadw ein trefniadau presennol, yn enwedig ar adeg pan fo'r sector yn pontio i sero net.
Mewn gwirionedd, mae'r DU mewn sefyllfa debyg i'r UE o ran y mesurau diogelu presennol ar gyfer dur, a'u bod yn dod i ben ym mis Mehefin 2026. Cafodd mesurau diogelu dur presennol y DU eu trosglwyddo'n wreiddiol o'r UE i'r DU ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac fe'u hymestynnwyd am yr eildro a'r tro olaf ym mis Mehefin 2024. Felly, yn yr un modd â'r UE, ni ellir cymhwyso mesurau diogelu pellach ar gyfer dur o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd.
Felly, bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi cynnal ei hymgynghoriad ei hun ar y mater hwn ac wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth i bara am chwe wythnos ym mis Mehefin, ac ar hyn o bryd mae'n ystyried y ffordd ymlaen. Rwy'n credu bod Prif Weinidog y DU wedi bod yn glir iawn hefyd fod ei Lywodraeth yn y DU yn sefyll tu ôl i'r diwydiant dur ac yn deall difrifoldeb y sefyllfa'n llawn. Yn amlwg, mae ffordd i fynd nawr i Llywodraeth y DU benderfynu ar y ffordd ymlaen a'i hymateb. Ond rwyf am roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau ein bod mewn cysylltiad agos iawn â Llywodraeth y DU ar y mater a'u bod yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa a pha mor bwysig yw hyn i Gymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd Luke Fletcher yn hollol gywir, mae'r cymunedau dur wedi dioddef yn ddiweddar, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny i sicrhau parhad busnes. Nawr, rwy'n croesawu eich pryderon, ond rwyf hefyd eisiau i chi wneud yn siŵr eich bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid yn Ewrop hefyd, fel eu bod yn ei weld mewn gwirionedd, oherwydd mae gennym gynghreiriaid a ffrindiau yn Ewrop a fydd yn gweithio ar ein rhan yn ogystal.
Efallai fod y DU yn negodi am gytundebau masnach, ond mae dur yn ddiwydiant hynod o bwysig ac mae hyn yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar gyfran fawr o'n cymunedau os na chaiff ei wneud yn iawn. Felly, dylem gael llais yn rhywle yn y negodiadau hynny. A wnewch chi fynd at Lywodraeth y DU felly a gofyn am gael rhan yn y trafodaethau hynny, i edrych ar gwotâu fel y gallwn gael cwota di-dariff ar gyfer y DU sy'n caniatáu i ni gael mynediad, a thariffau is ar gyfer dur y DU, ac edrych hefyd ar gynaliadwyedd yn y dyfodol a sut rydym yn gweithio gyda dur gwyrdd? Rydym eisiau symud oddi wrth y ddadl toddi a thywallt hefyd, oherwydd yn yr Unol Daleithiau, mae'r ddadl toddi a thywallt yn rhoi tariffau enfawr ar ddur Cymreig a gynhyrchir yma, sy'n cael ei rolio yn Trostre. Ni allwn gael hynny yn Ewrop. Mae'n rhaid inni symud oddi wrtho.
Felly, mae trafodaeth fawr i'w chael, a dim ond llais o Gymru yn y negodiadau hynny a fydd yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael ein diogelu. Felly, a wnewch chi fynd at Lywodraeth y DU, cael lle i chi'ch hun wrth y bwrdd, gwneud yn siŵr ein bod ni yno, fel y gallwn gael y cwotâu sy'n gweithio i ni, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio i'r DU gyfan?
Mae David Rees yn hollol gywir, fod rhaid i beth bynnag sy'n deillio o hyn weithio'n dda i Gymru, o gofio pa mor bwysig yw ein diwydiant dur i ni. Mae'n bosib y gallai'r cynigion o'r UE newid dros amser, oherwydd y broses ddeddfwriaethol helaeth y bydd yn rhaid iddi ddigwydd nawr, fel sy'n ofynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd. Fodd bynnag, rwy'n credu mai'r disgwyliad yw y bydd y rhan fwyaf o aelod-wladwriaethau yn gefnogol i'r mesurau newydd, ond mae lle inni barhau i gyflwyno dadleuon yn y gofod hwnnw.
Rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried pob opsiwn, y pwyntiau da a wnaed ynghylch dur gwyrdd a dyfodol dur, gan edrych ar y diwydiant heddiw, a'r dyfodol hirdymor hefyd. Yn sicr, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gael y dylanwad mwyaf sy'n bosib yn y trafodaethau hynny, a nodi'n union pa mor bwysig yw hyn i Gymru. Mae gennym nifer o lwybrau i wneud hynny. Yn amlwg, mae swyddogion mewn cysylltiad cyson nawr â'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Mae gennyf gysylltiadau gweinidogol, ac mae gennym fforymau fel fforwm dur y DU hefyd, y Cyngor Dur, felly rwy'n credu bod yna amryw o gyfleoedd i wneud y dadleuon hyn.
Diolch i Luke Fletcher am godi hyn. Nid oes neb yn gwadu difrifoldeb y broblem o'n blaenau, ond mae'n ddwyochrog, oherwydd mae'n eithaf tebygol hefyd, pan wrthodir mynediad i ryw gynnyrch, y gallai hwnnw orlifo marchnad y DU. Ac rydym yn gwybod bod Tsieina yn parhau i gynhyrchu llawer o ddur byd-eang hefyd.
Ond Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n pwyso arnoch mewn perthynas â'r agwedd benodol Gymreig ynghylch dyfodol Tata a'r ffwrnais arc drydan, oherwydd gwyddom fod ArcelorMittal wedi cefnu ar fuddsoddi i symud o ffwrnais chwyth i ffwrnais arc drydan, oherwydd cost trydan. Ac yn y Deyrnas Unedig, fe wyddom fod cost trydan i ddiwydiant yn uwch na'r hyn ydyw ar y cyfandir, felly mae gwneud dur yma yn y Deyrnas Unedig yn ddrytach nag ar y cyfandir. Felly, a allwch chi sicrhau'r Siambr yma heddiw eich bod yn parhau i gael trafodaethau gyda Tata am eu cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot, y cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny hefyd, a'ch bod yn siarad â'ch cymheiriaid yn Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau cost cynhyrchu a thrydan i'n diwydiannau yma yng Nghymru er mwyn sicrhau tegwch i ddiwydiannau domestig, o gymharu â'r rhai ar y cyfandir?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny. Yn hollol, un o'n pryderon mawr yw'r perygl o ddympio. Ni allwn fod mewn sefyllfa lle mae ein prif bartneriaid yn gweithredu atebion i ddiogelu eu sectorau dur nhw a'n bod ni'n cael ein gadael mewn sefyllfa fregus iawn. Felly, mae'n dda fod Llywodraeth y DU wedi cwblhau ei galwad am dystiolaeth ac yn archwilio'r canlyniadau, a nawr mae gennym ddealltwriaeth o leiaf o ble mae'r UE yn mynd hefyd.
Mae'r holl drafodaethau hynny y byddech chi'n disgwyl i ni eu cael yn fyw. Yn amlwg, rydym yn siarad â Tata am yr effeithiau posibl ar Tata a busnesau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi. Byddai ymgynghoriad Llywodraeth y DU, ei galwad am dystiolaeth, yn rhywbeth y gwn y byddai Tata yn ymgysylltu'n llawn ag ef. Gofynnai gwestiynau penodol ynghylch y sefyllfa ddur bresennol, ond gan edrych i'r dyfodol hefyd a beth yn union y dylai Llywodraeth y DU ei wneud i ddiogelu diwydiant y DU rhag gorgapasiti, gan edrych unwaith eto ar y pwynt cyntaf a wnaed. Felly, rwy'n credu bod yna ddealltwriaeth gyffredin o'r problemau yma ac awydd am gyfle i fynd i'r afael â nhw gyda'n gilydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amser pryderus ar ddur—nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae ein heconomi yn gyffredinol yn agored i niwed, a dur yn sicr, wrth inni weld y rhyfeloedd tariff rhwng blociau mawr, fel yr Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau, a'r gorgapasiti, a chwilio am farchnadoedd nad ydynt wedi'u diogelu gan y lefel honno o dariff. Mae'n bryderus iawn. Yn y trafodaethau a gawsoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn y camau a gymerwyd, a wnewch chi sicrhau bod gweithfeydd fel Llan-wern yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd, ffatri orffennu sydd hefyd yn gwneud gwaith ZODIAC pwysig iawn sy'n cynhyrchu dur ar gyfer y diwydiant modurol, yn cael rhan fawr yn y trafodaethau a'r ystyriaethau sy'n digwydd ac yn y camau gweithredu a fydd yn deillio ohonynt yn y pen draw?
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn inni ystyried ein sector dur yn ei gyfanrwydd yma yng Nghymru a'n bod yn gwneud yn siŵr fod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud nawr gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchu ein diwydiant dur yn ei gyfanrwydd. Dyna pam ei bod hi mor bwysig hefyd ein bod ni'n parhau â'n trafodaethau gyda'r undebau gan eu bod yn deall yn dda beth yw'r sefyllfa ar lawr gwlad ac mae ganddynt syniadau da sut y gallwn barhau i fynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, byddwn yn cael trafodaethau trylwyr â nhw hefyd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiad 90 eiliad heddiw.
Symudwn ymlaen i'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Paul Davies.
Cynnig NNDM9007 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Russell George (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Joel James (Ceidwadwyr Cymreig).
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Yy cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 yw'r cynnig i ddiddymu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Paul Davies.
Cynnig NDM8997 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ei sefydlu ar 16 Mai 2023.
2. Yn nodi y gosodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 25 Mawrth 2025.
3. Yn nodi y trafodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 16 Gorffennaf 2025.
4. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ddod i ben.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Ddirprwy Lywydd, wrth inni drafod y cynnig hwn, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod yna fethiant mawr yma, yn sail i'r cynnig. Mae yna fethiant sefydliadol ar ran y Llywodraeth, ac ar ran y mwyafrif yn y Senedd hon hefyd, methiant i wneud ein gwaith ar ran y bobl a gynrychiolwn.
Mae'n arbennig o ddigalon ei fod yn digwydd yn y cyd-destun hwn. Yn y pandemig, roedd gennym gyfrifoldebau enfawr, yn llythrennol dros fywyd a marwolaeth wrth gwrs. Yng nghyd-destun hynny,dangosodd y sefydliad hwn allu i arloesi, o ran sut y gwnaethom gydymgynghori o bell, ond hefyd y gallu i ddangos y gallem symud yn gyflym.
Mae llawer ohonom yn credu na wnaethom symud yn ddigon cyflym mewn rhai achosion, ond yn sicr, roedd yna allu i ddeddfu, er enghraifft, yn gyflymach nag y gwyddem ei fod yn bosib. Roedd ystwythder bryd hynny, ond yn anffodus, mae'r agwedd a welsom ers hynny yn oediog—anallu i greu fforwm priodol lle gallem ddysgu'r gwersi.
Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle anferth a gollwyd, ac mae'n fy mhoeni gryn dipyn, oherwydd, mewn un ystyr, os ydym ni—naill ai fel Llywodraeth neu fel sefydliad seneddol—yn methu arfer atgyrchedd, dysgu gwersi, rydym hefyd yn colli'r gallu i ragweld y dyfodol. Atgyrchedd yw'r bont rhwng ôl-welediad a rhagwelediad. Dyna lle mae dod o hyd i syniadau newydd a gwell, a gwella ac arloesedd.
Rydym wedi colli cyfle yn y Senedd hon i wneud y gwaith pwysig hwnnw ar ran pobl Cymru: y rhai sy'n fyw—a rhaid i mi ddweud hyn, ac rwy'n ei ddweud gyda'r parch mwyaf—y meirw, a'u hanwyliaid hefyd. Mater i Senedd arall, a Llywodraeth arall, fydd unioni'r camgymeriadau hynny.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud, yn fwyaf arbennig, fy mod wedi gwasanaethu ar y pwyllgor hwn, ac roeddwn eisiau, ac rwy'n dal i fod eisiau, ymchwiliad priodol. Dyna'r unig ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn mewn gwirionedd, ac rwy'n gobeithio y bydd fy mhlaid yn cael cyfle yn y Senedd nesaf i hwyluso hynny.
Ond fe wasanaethais ar y pwyllgor hwn, ac fe wasanaethais arno'n onest, oherwydd er nad oedd cystal ag y gallai fod, fe ddeilliodd o gyfaddawd rhwng, nid fy mhlaid i, ond rhwng dwy blaid arall—. Ond ceisiais wneud iddo weithio, ac fe weithiodd clercod y pwyllgor yn ddewr iawn i geisio creu ffordd y gellid defnyddio hyn o leiaf, er mor amherffaith ydoedd, i geisio cael atebion i bobl Cymru.
Ond cefais fy synnu. Cawsom ddwy blaid yn dod at ei gilydd mewn cynghrair anfad, gallech ddweud. Ac eto, ar ôl gwneud y cyfaddawd hwnnw, nid oeddent yn barod mwyach i wneud cyfaddawdau eraill i wneud iddo weithio. A rhaid imi ddweud, os ydych chi'n gwneud cytundeb o'r math hwnnw, mae'n rhaid i chi ei gyflawni. Fel arall, rydych chi'n niweidio ymddiriedaeth y bobl yn y broses ddemocrataidd.
Mae hon wedi bod yn bennod drist iawn yn hanes y sefydliad hwn. Rwy'n gobeithio y byddwn yn dysgu o hynny yn y Senedd nesaf, a hefyd yn ceisio dysgu'n briodol o'r pethau a wnaethom yn iawn—y penderfyniadau a wnaethom lle gwnaethom bethau'n iawn yng nghyd-destun y pandemig—a'r rhai lle gwnaethom gamgymeriadau. Dyna hanfod democratiaeth: bod yn ddigon gonest i gyfaddef eich camgymeriadau, gan mai dyna'r unig ffordd y gallwch chi greu dyfodol gwell.
A gaf i ddweud fy mod yn ôl pob tebyg yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? Fe wnaethom ni, fel y Blaid Geidwadol, ddod yn llawn ewyllys da i'r pwyllgor diben arbennig COVID-19 i nodi'r bylchau rhwng yr hyn a fethwyd yn ymchwiliad y DU a'r hyn a wnaethom ni yma yng Nghymru a oedd yn benodol wahanol i weddill y Deyrnas Unedig. Aeth arweinydd ein plaid ar y pryd, Andrew R.T. Davies, iddo gyda'r Prif Weinidog blaenorol, Mark Drakeford, fel y dywedais, mewn ysbryd agored o gydweithrediad i weithio gyda'i gilydd.
Rydym i gyd yn cytuno ar yr ochr hon i'r Siambr, ac rwy'n siŵr eich bod chi, fod angen ymchwiliad COVID-19 priodol yma yng Nghymru, i edrych ar bethau'n fwy fforensig. Gyda'r Llywodraeth y mae'r broblem yn hyn o beth. Nid oedd y Llywodraeth eisiau mynd i'r pwyllgor yn llawn ewyllys da. Roedd yna amheuon yn gysylltiedig â thyngu llwon. Rwy'n gwybod bod amheuon ar y pryd, oherwydd roeddwn ar y pwyllgor yn ystod hynny, ond pan welwyd ei fod yn gyfreithlon a'n bod ni'n cael gwneud hynny, roedd yn ymddangos bod y Llywodraeth yn cilio rhag hynny. Nid oeddent eisiau'r craffu. Rwy'n credu bod cwestiynau difrifol i'w hateb yma ynglŷn â pham na fyddai Llywodraeth eisiau cael ei chraffu. Mae'n debyg y gallaf ddyfalu pam.
Ond rwy'n credu y dylai unrhyw un sy'n mynd i unrhyw bwyllgor yn llawn ewyllys da allu cael ei graffu. Maent yn mynd i San Steffan ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus yno ac yn tyngu llw. Dylai fod wedi digwydd yma. Fel rydych chi wedi dweud, rwy'n credu ein bod wedi gwneud cam â theuluoedd pobl a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig COVID-19, oherwydd dylem fod wedi gallu rhoi Gweinidogion ac arbenigwyr dan lw er mwyn mynd dan groen pethau, i'w deall yn iawn. Yn y Senedd nesaf, bydd angen i ni gael ymchwiliad COVID-19 priodol. Rwy'n credu mai dyna'r unig ffordd y gallwn roi cyfiawnder i deuluoedd y rhai sydd wedi colli anwyliaid.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Cadeiryddion ac aelodau'r pwyllgor diben arbennig am eu hadroddiad, a chroesawu'r gwaith a wnaeth drwy ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Nodwn nawr fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cytuno i fwrw ymlaen â gwaith penodol ar COVID-19 dros dymor yr hydref, ac edrychwn ymlaen at weld mwy o fanylion am hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag ymchwiliad COVID-19 y DU, yn fwyaf diweddar fel rhan o'r modiwl sy'n archwilio effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc, a dechreuodd y gwrandawiadau llafar yr wythnos diwethaf. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd i'r Senedd ac i ymchwiliad y DU am y cynnydd a wnawn mewn ymateb i argymhellion modiwl 1. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnig y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM8996 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25' a osodwyd ar 21 Mai 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i fod yma yn cyfrannu i'r ddadl yma heddiw ar adroddiad y pwyllgor ar Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae ein hadroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn edrych yn ôl ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2023-24, ac mae'n ystyried cynnydd tuag at ei raglen waith ehangach. Mae'n ystyried llywodraethu corfforaethol, cyllidebu ac arweinyddiaeth y sefydliad, a'i ymateb penodol i rai o'r heriau amgylcheddol y gwyddom ein bod yn eu hwynebu fel cenedl.
Gwnaethom 11 o argymhellion ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae CNC wedi ymateb yn gadarnhaol iddynt. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymateb i'r argymhellion. Mae wedi derbyn wyth o'r rheini'n llawn. Mae wedi derbyn dau mewn egwyddor ac wedi gwrthod un. Roedd yn mynd mor dda, ond dyna ni. Ond rwy'n credu bod y gymeradwyaeth fras honno i ganfyddiadau'r pwyllgor i'w chroesawu.
Ar adeg craffu blynyddol y llynedd, roedd CNC wedi datblygu cynllun corfforaethol newydd o'r enw 'Byd natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd', ac roedd ffocws ein craffu ar weithredu'r cynllun hwn, drwy ddatblygu cytundebau lefel gwasanaeth gan CNC a Llywodraeth Cymru ar draws ystod o feysydd blaenoriaeth, ynghyd â datblygu dangosyddion strategol newydd. Serch hynny, ar y pryd, roedd y sefyllfa gyllidebol yn heriol, a dywedodd y prif swyddog gweithredol ar y pryd, Clare Pillman, wrth y pwyllgor,
'Ni allwch weithio gyda llai o gyllideb a llai o bobl a darparu'r un gwasanaethau.'
Ac ers hynny, wrth gwrs, datgelwyd graddfa lawn yr heriau sy'n wynebu CNC, ac yn ddealladwy, mae yna bryder sylweddol ers i CNC gyhoeddi toriadau, colli swyddi a thoriadau eang i wasanaethau.
Fel pwyllgor, hoffem ddiolch i bawb sy'n gweithio yn CNC ar yr adeg hon. Ni all unrhyw sefydliad gyflawni'r fath newid heb effaith ar forâl staff. Rwyf am ddweud yn uniongyrchol wrth bawb yn y sefydliad ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith allweddol a wnewch a'n bod yn deall yr effaith y bydd y cyfnod ansefydlog diweddar wedi'i chael ar yr holl staff. Fe ddof at rai o'r heriau penodol hynny mewn eiliad, ond cyn imi wneud hynny, rwyf am ganolbwyntio ar fater allweddol yr arweinyddiaeth o fewn CNC.
Mae CNC yn sefydliad sy'n wynebu heriau digyffelyb, fel y dywedais, a hynny yn ystod cyfnod o newid yn ei dîm arweinyddiaeth. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae CNC wedi cyhoeddi ymddeoliad ei brif swyddog gweithredol, ac yn y cyfamser wrth gwrs, bydd cyfnod y cadeirydd yn ei swydd yn dod i ben y mis hwn. Mae CNC yn sefydliad sydd angen sefydlogrwydd ar frys, a dyna'r pryder sy'n llywio argymhelliad cyntaf y pwyllgor: fod yn rhaid i CNC symud yn gyflym i recriwtio prif swyddog gweithredol parhaol o fewn y chwe mis nesaf—dywedwyd hyn ym mis Mai, gyda llaw—a sicrhau bod cynlluniau ar waith ar gyfer olyniaeth drefnus i gadeirydd newydd ym mis Hydref eleni.
Nawr, ers cyhoeddi'r adroddiad hwn, mae'r pwyllgor hefyd wedi cynnal gwrandawiad cyn penodi gyda dewis y Dirprwy Brif Weinidog o gadeirydd, Neil Sachdev. Nid ein hadroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi yw ffocws y ddadl hon, ond gyda'r penodiad hwnnw bellach wedi'i gadarnhau, edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog am ei ddealltwriaeth o'r broses sy'n cael ei rhoi ar waith i sefydlu'r cadeirydd newydd, ac i fynd ati'n gyflym hefyd wrth gwrs i lenwi'r bwlch arweinyddiaeth arall—swydd y prif weithredwr.
Mae'n amlwg pam fod angen arweinyddiaeth sefydlog a chlir. Rhaglen yr 'Achos dros Newid' yw ffocws llawer o adroddiad y pwyllgor. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod mewn cyflwr cyson o esblygiad a newid ers blynyddoedd lawer. Disgrifiwyd rhaglen yr 'Achos dros Newid' i ni fel newid sylfaenol i'r model cyflawni a fydd yn golygu llawer o newid i lawer o bobl. Mae'n cynnwys llawer o ddiswyddiadau ac adleoliadau. Disgwylir i'r newid hwn bara drwy gydol y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Yn wir, dywedodd y cadeirydd sy'n gadael, Syr David Henshaw, wrth y pwyllgor
'fe fydd yn 12 mis anodd.'
Nawr, bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen, yn union fel y bydd yn effeithio ar weithlu Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylai'r Aelodau ddeall y bydd hyn yn effeithio ar holl wasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n hanfodol i allu Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd, llifogydd a llygredd amgylcheddol. Hoffwn ganolbwyntio'n benodol am ychydig ar rai o'r rhain.
Mae argymhelliad 2 yn ymwneud â dyfodol tair canolfan ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd, yn ddealladwy, wedi bod yn destun cryn dipyn o bryder cyhoeddus. Mae cau'r canolfannau wedi bod yn destun deisebau a dadleuon yn y Senedd. Mae Aelodau o bob plaid wedi mynegi pryderon. Mae'r canolfannau hyn, fel y gwyddom, yn chwarae rhan bwysig mewn ymgysylltu cymunedol a thwristiaeth, a bydd eu cau yn cael effaith fawr. Gall y safleoedd ymwelwyr ehangach aros ar agor, wrth gwrs, ond mae'r canolfannau ymwelwyr yn rhan hanfodol o'r cynnig i ymwelwyr, a hebddynt, efallai na fydd y safleoedd yn gallu denu cymaint o ymwelwyr ag a welwyd yn flaenorol. Felly, dyma argymhelliad 2:
'Rhaid i CNC ddarparu cynllun credadwy ar fyrder ar gyfer ailagor y tair canolfan ymwelwyr. Rhaid i hyn gynnwys eglurder ynghylch ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y canolfannau ymwelwyr, y lefelau gwasanaeth y mae’n dymuno eu gweld a strategaeth ariannol hyfyw ac amserlen ar gyfer cyflawni hyn. Dylid darparu’r cynllun hwn i’r Pwyllgor o fewn tri mis.'
Nawr, mae'r Llywodraeth yn dweud yn ei hymateb y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r pwyllgor ynghylch y trefniadau o fewn amserlen y pwyllgor. Ond mae mwy na phedwar mis wedi mynd heibio ac nid yw'r wybodaeth hon wedi'i darparu i'r pwyllgor. Felly, rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Senedd eisiau clywed amserlen glir gan y Gweinidog heddiw ar gyfer ailagor y canolfannau hynny.
Mae argymhellion 4 a 5 ill dau yn ymwneud ag effaith toriadau cyllidebol ar ddau faes hanfodol: llifogydd a llygredd amgylcheddol. Nawr, tua diwedd 2024, fel y gwyddom, achosodd stormydd Bert a Darragh lifogydd sylweddol ac aflonyddwch eang, gan achosi difrod i gartrefi, busnesau a seilwaith. Wrth i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddigwydd yn amlach o ganlyniad i newid hinsawdd, mae disgwyl i’r perygl o lifogydd gynyddu, ynghyd â chost rheoli hynny. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol yn y gwaith o reoli perygl llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ac fel rydym wedi’i nodi'n gyson fel pwyllgor, mae angen cynnydd mewn buddsoddiad i achub y blaen ar newid hinsawdd. Yn ddiamau, byddwn yn dychwelyd at hyn yn rheolaidd, fel y byddwn gyda'n hadroddiad sydd i'w drafod yn fuan ar yr ymatebion i stormydd, a byddwn eisiau craffu'n ofalus ar y gyllideb sydd ar y ffordd i'r perwyl hwn hefyd.
Mae'r pwyllgor wedi clywed yn gyson nad yw CNC yn cael digon o gyllid i ymdopi â'i lu o swyddogaethau, dyletswyddau a chyfrifoldebau. Mae blynyddoedd o danfuddsoddi wedi rhoi gormod o bwysau ar CNC. Mae hyn yn amlwg yn cyfyngu ar ei allu i ymateb yn effeithiol i'r argyfwng natur a hinsawdd. Rydym yn parhau i bryderu y bydd y toriadau yn anochel yn gwanhau mwy ar allu CNC i ymateb. Mae penderfyniad CNC i fabwysiadu goddefiant risg uwch wrth reoli digwyddiadau llygredd yn destun pryder i lawer o aelodau'r pwyllgor. Gellir gweld rhesymeg canolbwyntio ar y meysydd sy’n effeithio fwyaf ar yr amgylchedd wrth gwrs, ond mae’n dal i fod yn aneglur beth fydd effaith y prinder gorfodi sy'n anochel o ddigwydd mewn meysydd eraill. Mae CNC eisoes yn wynebu beirniadaeth sylweddol am ei ymateb i ddigwyddiadau llygredd. Felly, nid yw'n glir i ni sut y gellir cyfiawnhau llai o orfodi mewn gwirionedd.
Yn olaf, fel pe na bai digon i ymdopi ag ef, mae gennym effaith y bil treth £19 miliwn gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Nawr, amlygodd y ffiasgo hon fethiannau llywodraethu difrifol yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Ar adeg o gyllidebau cyfyngedig, toriadau mewn gwasanaethau a chau cyfleusterau, mae'n destun cryn ofid fod arian trethdalwyr yn cael ei ddargyfeirio i bob pwrpas o wasanaethau rheng flaen i dalu am gamgymeriadau o'r fath. Felly, mae ein hargymhellion 8 a 9 yn canolbwyntio ar yr angen i Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru roi sicrwydd eu bod yn fodlon fod trefniadau goruchwylio priodol ar waith bellach, ac na fydd y pethau hyn yn cael eu hailadrodd. Ond yn fwy na hynny, mae angen inni glywed gan y Dirprwy Brif Weinidog heddiw sut y bydd yn sicrhau y bydd yr arian hwn yn cael ei ad-dalu heb effeithio ar wasanaethau rheng flaen.
Ddirprwy Lywydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn un o wasanaethau cyhoeddus rheng flaen pwysicaf Cymru. Yn anffodus, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ddiffygion sylweddol. Serch hynny, mae dyfodiad y cadeirydd newydd a phenodiad prif weithredwr parhaol newydd cyn bo hir yn gyfle newydd. Mae'r tîm arweinyddiaeth newydd hwn yn sicr o wynebu heriau, ac mae pob un ohonom eisiau iddynt lwyddo. Nid yw gweithlu ymroddedig Cyfoeth Naturiol Cymru angen—yn wir, nid yw'n haeddu—gronyn yn llai na hynny. Bydd y pwyllgor yn cadw llygad ar gynnydd am yr hyn sy'n weddill o dymor y Senedd hon. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed cyfraniadau'r Aelodau at y ddadl hon, ac yn enwedig ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.
Diolch i Llyr am ei gyfraniad eithriadol, ac am ei dweud hi fel y mae mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn wir, mewn perthynas â'r adroddiad.
Fel y gŵyr pob un ohonom, Cyfoeth Naturiol Cymru yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion adnoddau naturiol, ond mae hefyd yn cyflawni ystod eang o gyfrifoldebau rheoleiddio gweithredol. Yn dilyn ein sesiwn graffu, nododd ein pwyllgor 11 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Er iddi dderbyn 10 o'r 11, mae'n siomedig iddi dderbyn dau mewn egwyddor yn unig. Pan fydd pwyllgor craffu ar waith a'n bod yn rhoi argymhellion, rwy'n credu ein bod yn gwneud hynny yn seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi'i chyflwyno i ni, ac rwy'n credu bod angen parchu hynny.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, tynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru sylw at yr anwadalrwydd yn y farchnad bren—nid yw ein marchnad bren yn cael ei chrybwyll yn ddigon aml a dweud y gwir—a'i gallu i reoli cyllid ystad goed Llywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn effeithio ar sut y gall gynllunio a buddsoddi mewn tyfu a chynaeafu coed. Rwy'n cofio'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol yn dweud heb fod mor bell yn ôl â hynny ei bod eisiau gweld mwy o bren naturiol a brodorol yn cael ei ddefnyddio yn ein diwydiant cynhyrchu tai, felly byddai'n ddiddorol gweld pa mor bell rydym wedi'i gyrraedd gyda'r agenda honno.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllideb warantedig o £33 miliwn i CNC i helpu i reoli'r ansicrwydd mewn incwm pren ar gyfer 2024-25, nid yw hyn yn mynd i'r afael â'r broblem fwy hirdymor fod CNC yn methu rheoli ei incwm ar draws blynyddoedd ariannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 11, gan fod cyfrifon CNC wedi'u cyfuno â rhai Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gan gydnabod yr effaith y mae hyn yn ei chael, maent wedi ymestyn y gyllideb warantedig i 2025-26. Felly, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet unwaith eto i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hwn yn sefydliad rydym wedi'i weld yn bownsio o un argyfwng i'r llall. Ystyrir y cyllidebau gwarantedig presennol nid yn unig gan y sefydliad ei hun ond gennym ni fel Aelodau fel mesur dros dro yn unig.
Mae argymhelliad 7 yn nodi y dylai CNC barhau i bwyso am drefn ariannu amlflwyddyn i’w helpu i reoli ei gyllidebau ar gyfer y tymor hir. Fel gyda mater incwm coed, byddai trefn ariannu amlflwyddyn yn galluogi CNC i gynllunio eu cyllid a'u gweithgareddau gyda phersbectif mwy hirdymor, ac mae hynny'n rhywbeth y mae nid yn unig eich adran chi ond sefydliadau eraill yn ei ddweud wrthym ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno mewn egwyddor y dylent weithio i leihau ansicrwydd cyllidol a deall yn llawn yr heriau a achosir gan y broses gyllidebol bresennol. Felly, os gallwch egluro heddiw sut rydych chi'n bwrw ymlaen â'r materion hynny. Maent yn nodi bod yn rhaid i newidiadau weithio o fewn y cyfyngiadau presennol, a'u bod yn cael eu heffeithio gan gylchoedd etholiadol Llywodraeth y DU a'r Senedd. Gyda hyn mewn golwg, mae cyfle i archwilio sut y gellid alinio trefn ariannu amlflwyddyn â chylch etholiadol y Senedd.
Trafodwyd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) hefyd yn y sesiwn graffu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, rhywbeth yr ydym ni ar y meinciau hyn wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd lawer. Gwnaeth y pwyllgor ddau argymhelliad yn y maes hwn. Argymhelliad 10 oedd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru adrodd yn ôl i'r pwyllgor cyn i'r Bil gael ei gyflwyno ar y casgliadau y daeth iddynt gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr adnoddau. Mae hwn yn Fil sy'n creu corff newydd, na ddylid ei gyflwyno oni bai bod gan Lywodraeth Cymru adnoddau eisoes i'w roi ar waith. Ac roedd yn siomedig clywed yn ddiweddar gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod llawer o wybodaeth ar goll a'u bod yn teimlo nad oedd yr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wedi bod yn foddhaol. Ac rwy'n falch o weld eich bod wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw mewn gwirionedd. Fodd bynnag, oherwydd amseriad cyhoeddi'r adroddiad, a gosod y Bil, ni lwyddodd Llywodraeth Cymru i adrodd yn ôl, fel y dylai fod wedi'i wneud, i'r pwyllgor newid hinsawdd cyn ei gyflwyno, ac rydym wedi codi pryderon am hynny yn y pwyllgor.
At ei gilydd, mae'r adroddiad hwn yn nodi'n glir fod angen mwy o gynllunio hirdymor, mwy o gynlluniau ariannu hirdymor fel eu bod yn gwybod yn union—. Byddai'n gas gennyf fod yn aelod o Cyfoeth Naturiol Cymru, heb wybod pryd yn union y mae'r cyllid yn dod ac am ba hyd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo felly i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod yr arian sydd ei angen—? Nid ydym am weld unrhyw doriadau staff pellach; ni all y sefydliad golli rhagor o staff. Rydym am allu ei gefnogi i weithio'n fwy effeithiol. Diolch.
Rwy'n falch iawn o'r cyfle i sôn am graffu blynyddol y pwyllgor ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Un o'r pwyntiau a wnaed gan Llyr, Cadeirydd y pwyllgor, oedd pryder ynghylch effaith yr holl newidiadau hyn ar forâl staff. Fel y dywedwn ar ddechrau ein hadroddiad, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio mai dim ond ers 2013 y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bodoli, gyda chyfrifoldebau ychwanegol yn cael eu hychwanegu yn 2016. Ac roedd cyfuniad o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth bob amser yn mynd i fod yn anodd—asiantaethau sefydledig yn dod ynghyd i gael ethos cyffredin. Ac yn sicr, dangosodd arolygon staff yr anawsterau hynny, ond rwy'n credu bod cynnydd wedi'i wneud o ran creu hunaniaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae'r gwaith ailstrwythuro a wnaed wedi creu newid ac ansicrwydd. Mae hyn wedi golygu y bydd 235 yn llai o staff, sy'n destun pryder. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi dweud wrthym fod ganddo dros 200 o swyddi gwag, a bydd yn defnyddio'r rhain fel ffynhonnell ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan yr ailstrwythuro. Felly, fe geir diswyddiadau ac adleoliadau. Felly, nid oes amheuaeth y bydd aelodau staff, mewn awyrgylch o newid o'r fath, yn bryderus iawn. Oherwydd dywedwyd wrthym yn y pen draw fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn newid ei fodel cyflawni ac yn ailstrwythuro er mwyn ailflaenoriaethu, a allai fod yn beth da i'w wneud, ond credaf fod y newidiadau sy'n digwydd gyda hynny'n sicr o achosi llawer o darfu o fewn y sefydliad.
Felly, fel y gwnaeth y Cadeirydd, hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith y mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud, yn enwedig y staff ar y rheng flaen, yn ystod y cyfnodau parhaus hyn o newid. A hoffwn gyfeirio at y cymorth penodol yn fy etholaeth a gefais gan Cyfoeth Naturiol Cymru, pan gawsom ein taro gan lifogydd yn yr Eglwys Newydd yng Ngogledd Caerdydd ar ôl storm Dennis, lle mynychodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfarfodydd dirifedi gyda'r trigolion ac aelodau etholedig eraill a chymryd rhan mewn ymweliadau safle, ac ni allent fod wedi gwneud mwy i'n cefnogi yn y sefyllfa honno.
Ac roeddwn yn falch iawn hefyd fy mod i a fy nhîm wedi ymweld â'r ystafell reoli yn Llaneirwg, lle gwelsom yn union sut roeddent yn ymateb i ddigwyddiadau tywydd, fel llifogydd. Felly, roeddwn eisiau dweud, fel Aelod etholaeth, fy mod bob amser wedi cael gwasanaeth rhagorol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac roeddwn eisiau nodi hynny, gan y gwn fod pryder ynghylch y ffordd y bydd yr holl newidiadau sy'n digwydd yn effeithio ar eu gwasanaethau, ac mae'r Cadeirydd wedi cyfeirio at y rheini yn ei gyfraniad. Ond fel y dywedodd y Cadeirydd, mae hyn oll yn digwydd yn ogystal â'r newidiadau ar y brig. Felly, roeddwn yn falch o weld bod disgwyl i'r cadeirydd newydd ddechrau ar 1 Tachwedd, a phenodi'r prif weithredwr, ac mae'r Cadeirydd wedi cyfeirio at y cyfnod sefydlu a fydd yn cael ei gynllunio.
Roeddwn hefyd eisiau gwneud sylwadau ar gau'r tair canolfan ymwelwyr fel rhan o raglen yr 'Achos dros Newid'. Gwn fod cynlluniau iddynt ailagor ar ffurf arall, ond mae'n destun gofid nad oes unrhyw barhad wedi bod—ac fe wnaeth yr adroddiad y pwynt hwnnw—a bod yn rhaid cau o gwbl. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Llywodraeth, yn eu hymatebion, wedi pwysleisio nad y safleoedd eu hunain sy'n cau, ond yn hytrach y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo. Ond mae ymateb enfawr wedi bod gan y cyhoedd, yn mynegi pryder am gau'r canolfannau hyn, ac mae'r pwyllgor yn rhannu'r pryderon hyn, gan fod y canolfannau ymwelwyr yn llawer mwy na lle i gael coffi a rhywle i brynu swfenîrs; maent yn rhan o'r profiad cyfan y mae pobl yn ei gael wrth gysylltu â natur.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Brif Weinidog, wrth ymateb, yn gallu rhoi rhywfaint o wybodaeth bendant i ni am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yn y canolfannau ymwelwyr. Gwn mai barn y pwyllgor oedd y dylid ailagor y rhain cyn gynted â phosib, gan fod eu cau wedi achosi cymaint o bryder. Diolch.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor a’r tîm pwyllgor am eu gwaith. Wel, fel nifer o'r Aelodau eraill, hoffwn i hefyd ddechrau drwy gydnabod y gwaith pwysig mae staff NRW yn ei gyflawni. Bob dydd, maen nhw’n helpu i ddiogelu ein hafonydd, ein tirluniau a'n coedwigoedd. Mae’n waith pwysig, ac mae’n rhaid iddyn nhw wneud hyn dan bwysau aruthrol. Dim ond pan fydd pethau’n mynd yn wael mae’r wasg yn siarad am eu gwaith, wrth gwrs. Dydy’r boblogaeth, ar y cyfan, ddim yn clywed cymaint am eu llwyddiannau, ac mae ein hadroddiad yn eu clodfori nhw am eu hymroddiad nhw i'n hamgylchedd. Mae diolch mawr iddynt.
Nawr, mae ein hadroddiad yn gwneud yn glir pa mor sylweddol ydy’r sialensau sy’n eu hwynebu, wrth gwrs. Mae cyfrifoldebau’r corff wedi cynyddu, fel rydyn ni wedi clywed, ond mae ei gyllid heb wneud yr un peth. Ac felly, gyda cholledion staff, mae arbenigedd wedi’i golli, ac mae ansicrwydd yn gwneud cynllunio a chyllido yn anodd. Mae gofyn i gorff wneud mwy gyda llai yn troi'n fwy a mwy o broblem, ac, wrth gwrs, mae'n amhosibl i'w wneud, fel rydyn ni wedi clywed gan Clare Pillman. Ac mae ein hadroddiad hefyd yn sôn am yr angen am eglurder ac am sefydlogrwydd yn y berthynas sydd yn digwydd wastad—y perthnasau—rhwng y Llywodraeth a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd gosod cyfeiriad ac atebolrwydd yn hollbwysig wrth inni fynd ymlaen i sicrhau bod y corff yn gallu gwneud ei waith.
Nawr, mae'r Bil sydd gerbron y pwyllgor ar hyn o bryd, sy’n ymwneud ag egwyddorion amgylcheddol, mae hwnnw, wrth gwrs, yn gam sylweddol i Gymru. Efallai bydd e’n brawf hefyd. Mae'r Bil yn ffocysu ar yr angen i gryfhau llywodraethiant amgylcheddol a chau'r gap sy’n parhau i fod o ran atebolrwydd. Rydyn ni yng Nghymru, wrth gwrs, ar ei hôl hi o ganlyniad i Brexit. Nawr, gall y Bil hwn fod yn gyfle i sicrhau bod llywodraethiant amgylcheddol yn gyson, yn dryloyw, ac yn effeithlon. Ond rhaid i ni ofyn sut y bydd y trefniadau hyn yn ffitio mewn gyda rôl Cyfoeth Naturiol Cymru. Sut y bydd gwersi o’r adroddiad rydyn ni nawr yn sôn amdano fe yn cael eu dysgu, o ran capasiti, o ran arbenigrwydd, o ran atebolrwydd, er mwyn fframio fel y bydd y trefniadau newydd yn gweithio? Ac a fydd y Bil yn cynnig y sicrwydd mae cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru ei angen? Achos mae llywodraethiant clir a chadarn yn angenrheidiol os ydy Cymru am ateb y sialensau amgylcheddol a hinsawdd sydd o’n blaenau. Felly, buaswn i'n ategu'r hyn mae'r Cadeirydd wedi ei ddweud. Buaswn i'n ddiolch eto i'r Cadeirydd am ein llywio ni trwy hyn i gyd.
A buaswn i'n gorffen fel roeddwn i wedi dechrau, gyda diolch unwaith eto i'r staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru sydd, rwy'n meddwl, wastad yn clywed neu'n gweld y penawdau am y sialensau sydd yn eu hwynebu nhw. Ond rydyn ni'n gweld y gwaith maen nhw'n ei wneud, rydyn ni'n ddiolchgar am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ac mae hynna yn rhywbeth rydyn ni yn ei nodi ac yn clodfori. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am gynhyrchu eu hadroddiad blynyddol. Mae'n ddogfen bwysig iawn, felly diolch yn fawr iawn am hynny. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod yn enw cyfarwydd yng Nghymru ac wedi cymryd mwy a mwy o gyfrifoldeb dros faterion amgylcheddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwyf innau hefyd yn diolch i'r rhai sy'n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru am bopeth a wnânt.
Mae fy etholaeth yn ddigon lwcus i gael mynyddoedd, arfordir, camlesi ac afonydd ar draws ffiniau Torfaen a sir Fynwy, sydd oll yn feysydd diddordeb i Cyfoeth Naturiol Cymru. Y prif faes yr hoffwn ganolbwyntio arno heddiw yw llifogydd, a all, fel y gwyddom yn rhy dda, fod yn gwbl ddinistriol i’n cymunedau. Mae gormod o ardaloedd wedi cael eu dinistrio dros y blynyddoedd diwethaf gan lifogydd yn fy etholaeth, gan gynnwys lleoedd fel Ynysgynwraidd, Tyndyrn a Threfynwy dro ar ôl tro. Sylwaf o’r adroddiad fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu heriau ariannu a staffio, gyda stormydd diweddar yn amlygu'r angen am fwy o gyllid, a'i bod yn glir nad yw’r cyllid presennol yn ddigonol ar gyfer risgiau hinsawdd yn y dyfodol. Fodd bynnag, gwelaf fod rhai toriadau wedi’u nodi ar gyfer gwaith rheoli llifogydd a risg, ond mae cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth wedi’i ganfod i liniaru rhai toriadau arfaethedig. Sut y gall y ddau beth fod yn gydnaws? Onid gwerthu'r fuwch i brynu tarw yw hyn?
Yn ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r adroddiad, ar lifogydd yn benodol, maent yn cyfeirio at bwysau ariannol a'r angen i flaenoriaethu oherwydd adnoddau cyfyngedig. Mae Llywodraeth Cymru, yn eu hymateb i'r adroddiad hwn, yn awgrymu y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fonitro ac adrodd ar gyllid ac effeithiolrwydd gwaith rheoli llifogydd i lywio cyllidebau yn y dyfodol. Nawr, ymddengys ein bod yn troi mewn cylchoedd. Mae'n amlwg o'r adroddiad a'r ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru fod angen mwy o gyllid i gefnogi gwaith rheoli llifogydd, felly pam y mae angen mwy o fonitro cyllidebau? Gadewch inni dorri'r fiwrocratiaeth a gwneud cynnydd go iawn i wella mesurau atal a rheoli llifogydd. Nid yw'r cymunedau yr effeithir arnynt yn fy ardal i yn poeni llawer am fonitro cyllidebau. Yr hyn sydd bwysicaf iddynt yw sicrwydd na fydd eu cartrefi'n cael eu difrodi gan lifogydd bob tro y bydd storm. Mae'r gaeaf ar y ffordd, ac felly hefyd y tywydd oerach a gwlypach. Felly, bydd trigolion yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o lifogydd dros y misoedd nesaf, felly buaswn yn croesawu ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwaith rheoli risg llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn briodol er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'n trigolion ledled Cymru.
Gyda fy nghyd-Aelodau, hoffwn ddiolch yn arbennig i staff Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithio'n ddiflino i gyflawni'r hyn a allant mewn sefyllfaoedd sy'n cystadlu â'i gilydd, ond sydd, serch hynny, wedi ymrwymo i wneud eu gorau dros Gymru. Hoffwn nodi hefyd fod y cyfnod rydym yn sôn amdano, a'r heriau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u hwynebu, wedi bod o dan ambarél toriadau'r Torïaid i wariant cyhoeddus, ac ni allwch wadu y bydd y toriadau hynny'n cael effaith.
Ond hoffwn ddiolch hefyd i aelodau fy mhwyllgor, y tîm cymorth a'r clercod am ein helpu i gyflawni a gweithio tuag at yr adroddiad hwn. Rwyf wedi bod yn rhan o'r adolygiadau hyn ers nifer o flynyddoedd, ac rwyf wedi ffurfio darlun o'r heriau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u hwynebu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyllidebau sy'n lleihau yn amlwg yn un o'r rheini, ynghyd â chyfrifoldebau cynyddol, y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt, ac fel pe na bai hynny'n ddigon, mae ganddynt broblemau hefyd o ran capasiti staffio.
Fodd bynnag, diolch i gyllideb Cymru a setliad ariannol uwch Llywodraeth y DU i Gymru, y mwyaf ers datganoli, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru fwy o gyllid i weithio gydag ef yn y dyfodol. Awgrymodd y byddai'n cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn ansawdd dŵr ac mewn camau gweithredu i gefnogi bioamrywiaeth ac adferiad natur, ond mae hynny ar gyfer y flwyddyn nesaf mewn gwirionedd, ac nid yw ein hadolygiad yn cynnwys hynny.
Mae'r heriau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u hwynebu yn y blynyddoedd diwethaf wedi cyd-daro â newid yn yr uwch dîm arweinyddiaeth, ac mae hynny wedi'i grybwyll heddiw, gyda Syr David Henshaw yn camu i lawr a chadeirydd newydd yn dechrau, ar yr un pryd ag ymddeoliad y cyn-brif weithredwr ym mis Mawrth, a cheisiadau am y rôl honno'n cau ddiwedd y mis hwn. Bydd y tarfu hwnnw ar frig unrhyw sefydliad yn peri pryder, felly roedd llawer i'w ystyried, ac yn enwedig mewn perthynas â chynlluniau'r sefydliad i symleiddio'r ddarpariaeth ac arbed £12 miliwn o dan ei gynllun 'Achos dros Newid', y siaradwyd llawer amdano.
Ac fel y dywedodd y Cadeirydd, fe wnaethom chwe argymhelliad. Rwy'n fodlon ar ymateb manwl Cyfoeth Naturiol Cymru i argymhelliad 2, a'r camau y mae'n eu cymryd nawr i ailagor ei ganolfannau ymwelwyr. Ond fel y soniwyd eisoes, mae angen inni wybod llawer mwy na hynny—beth fydd hynny'n ei olygu i annog unigolion, pobl a phlant i roi sylw i'w hamgylchedd ac i'w fwynhau hefyd.
Ond rwy'n bryderus iawn am doriadau cyllidebol ym maes llifogydd a llygredd amgylcheddol. Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 4, sy'n sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro ac yn gwerthuso digonolrwydd y cyllid ar gyfer rheoli llifogydd a’r defnydd ohono. O dan waith y Llywodraeth hon ar addasu i'r hinsawdd, rydym wedi gweld y buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwaith amddiffyn rhag llifogydd, ond mae'n rhaid inni wthio ymlaen, nid llithro'n ôl. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud y bydd yn blaenoriaethu ardaloedd sydd â'r perygl mwyaf o lifogydd, a'i fod wedi mabwysiadu goddefiant risg uwch wrth reoli digwyddiadau llygredd. Ond ar adeg pan fo'n dyfrffyrdd o dan gymaint o straen a phwysau oherwydd llygredd, unwaith eto, rhaid inni sicrhau mwy o ymyrraeth, nid llai. Mae hwn yn un maes sy'n peri cryn bryder i mi ac rwy'n edrych ymlaen at eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud ei fod wedi ymrwymo i wella ymdrechion i wella ansawdd dŵr a monitro, ond a fyddwn yn gweld sut y mae'r asesiadau a'r nodau hynny'n asio â'i gilydd dros y flwyddyn fonitro nesaf? Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn hollbwysig.
Ond ar y cyfan, mae ein hadroddiad yn cofnodi sefydliad sydd wedi parhau i gyflawni ei waith hanfodol yn wyneb yr holl heriau y mae pob un ohonom wedi siarad amdanynt—heriau, newid a tharfu. Maent wedi gwneud hynny diolch i waith caled iawn y staff, ac maent wedi helpu i sicrhau bod pob £1 o arian cyhoeddus yn cael ei defnyddio'n effeithlon i ddarparu nwyddau cyhoeddus. Ac mae ei ffocws ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, adfer bioamrywiaeth a goresgyn risgiau amgylcheddol yn flaenoriaethau y credaf y gall pob un ohonom eu cefnogi.
A galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn yn wir.
Prynhawn da, bawb, a diolch am roi cyfle i mi ymateb a thynnu sylw at y gwaith pwysig y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei gyflawni.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am eu hystyriaeth ofalus iawn a'u craffu diwyd ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru, ac argymhellion y pwyllgor. Nawr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y mae llawer o Aelodau wedi'i nodi yn eu cyfraniadau heddiw, wedi wynebu nifer o heriau yn ddiweddar, a nodwyd hefyd eu bod wedi dod drwy gyfnodau anodd gyda'r gyllideb sydd gennym yng Nghymru, a'r gyllideb y gallasom ei throsglwyddo i'n hasiantaethau. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn canmol ei staff am eu proffesiynoldeb a'u gwydnwch yn y cyfnod anodd hwn, ac fel y gwnaeth Joyce ein hatgoffa, maent wedi parhau i gyflawni. Maent yn angerddol am y gwaith a wnânt. Maent yn parhau i weithio'n ddiwyro i sicrhau bod ein hamgylchedd yn cael ei ddiogelu nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
Gadewch imi droi at fanylion yr adroddiad. Fe wnaeth y pwyllgor 11 o argymhellion, ac fel y dywedodd y Cadeirydd, rydym wedi derbyn 10 o'r argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor, ac mae'r argymhelliad sy'n weddill wedi'i wrthod. Ymddiheuriadau am wrthod un, ond gadewch imi blymio'n syth i mewn a throi at yr unig argymhelliad sydd wedi'i wrthod. Os caf ddweud wrth Janet, a gododd y pwynt, ac wrth y Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor hefyd, mae gennym barch gwirioneddol at waith y pwyllgor a'r argymhellion, ond mae yna onestrwydd ac esboniad hefyd pan fydd y Llywodraeth yn anghytuno'n barchus â rhywbeth, yn hytrach na dweud, 'Gadewch inni ei dderbyn mewn egwyddor a'i lastwreiddio yn nes ymlaen.' Felly, hoffwn nodi hynny'n glir—parch llwyr at y gwaith a wnaethoch a'r argymhellion.
Ond mae argymhelliad 11, sy'n ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli ei incwm o bren masnachol yn effeithiol ar draws blynyddoedd ariannol—nawr, nid yw hyn yn bosib o fewn y gyllideb un flwyddyn a argymhellir ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd y pwyllgor yn ymwybodol o'r trefniadau a roesom ar waith ar gyfer 2024-25 i ddarparu cyllideb bren warantedig i Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi ei reolaeth o ystad goed Llywodraeth Cymru. Er mwyn sicrhau bod y trefniadau hyn yn parhau i fod yn addas i'r diben, cânt eu hadolygu'n flynyddol yn rhan o drafodaethau cyllidebol Cyfoeth Naturiol Cymru. Daw hynny â sefydlogrwydd i'r gwaith o gynllunio a rheoli'r ystad goed, felly dyna pam.
Roedd argymhelliad 1, a dderbyniwyd gennym, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd recriwtio prif swyddog gweithredol parhaol a throsglwyddo llyfn i'r cadeirydd newydd—y pwynt ynghylch sefydlogrwydd. Gallaf gadarnhau bod y broses recriwtio ar gyfer y prif swyddog gweithredol wedi dechrau. Os caf droi at benodiad y cadeirydd, bydd y pwyllgor yn ymwybodol y bydd Mr Neil Sachdev yn dechrau'r penodiad fel cadeirydd y bwrdd ar 1 Tachwedd. Mae rhaglen sefydlu fanwl ar waith, sy'n ei helpu i ymgartrefu yn y sefydliad, i ennill dealltwriaeth ddyfnach o'i hanes diweddar, ei waith, ei randdeiliaid, a'r heriau y mae'n eu hwynebu wrth inni fynd i'r afael â'n hargyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.
Mae argymhellion 2 i 7 yn canolbwyntio ar 'Achos dros Newid' CNC, ac maent yn canolbwyntio'n benodol ar ganolfannau ymwelwyr CNC, ei weithgareddau rheoleiddio a gorfodi, gan gynnwys ei ymateb i ddigwyddiadau llygredd a rheoli perygl llifogydd. Rydym wedi derbyn pob un o'r rhain naill ai'n llawn neu mewn egwyddor.
Nawr, ar y canolfannau ymwelwyr, rwyf am bwysleisio unwaith eto, rwyf am fod yn hollol glir: nid oes yr un o'r tair canolfan ymwelwyr ar gau, maent yn parhau i fod ar agor, ac mae llawer o bobl yn eu defnyddio ar gyfer cerdded, beicio, mynediad i ardaloedd chwarae, parcio ceir, toiledau a mwy. Mae'r canolfannau ymwelwyr yn borth gwych i hamdden awyr agored ac yn atyniad pwysig i gymunedau a thwristiaid fel ei gilydd yng nghanolbarth Cymru.
Felly, rwy'n falch o rannu diweddariad bach gyda'r pwyllgor. Mae hyb cymunedol y Borth, elusen fach lawr gwlad a ddechreuodd yn 2007 i gynnig cefnogaeth a gweithgareddau i'r gymuned leol, sy'n ymestyn o ogledd Ceredigion i Fachynlleth, bellach yn rhedeg gofod cymunedol yn Ynys-las, ac mae'n ychwanegiad i'w groesawu i'r gymuned leol. Mae disgwyl i'r gwahoddiadau i dendro ar gyfer Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin gael eu lansio ym mis Tachwedd, a'r gobaith yw y bydd y contractau ar waith ar gyfer Ebrill 2026, ac maent ar y gweill. Mae rheolaeth barhaus gwarchodfa natur genedlaethol Dyfi yn Ynys-las yn un o ofynion craidd swyddogaethau statudol CNC, a bydd yn parhau. Mae cynllun rheoli hirsefydlog wedi'i gymeradwyo ar waith ar gyfer y safle, sy'n manylu ar raglen o waith cadwraethol, dan oruchwyliaeth tîm rheoli tir CNC.
Gan symud ymlaen at yr argymhellion eraill, mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos iawn gyda CNC ar ei raglen rheoli llifogydd. Maent yn cael diweddariadau rheolaidd ar ei waith sy'n rhoi sicrwydd fod eu hadnoddau'n cael eu defnyddio drwy'r dull ar sail risg, gyda'r gweithgareddau wedi'u targedu'n briodol ddigon at y bobl a'r cymunedau sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd. Dyna beth y dylid ei wneud. A'r wythnos diwethaf agorais amddiffynfa rhag llifogydd Stryd Stephenson, gwerth £25 miliwn. Yr wythnos hon rwyf yn y Rhyl, yn cwblhau rhan arall o'u hamddiffynfa rhag llifogydd, a fydd yn costio dros £100 miliwn i gyd. Fe roesom £60 miliwn tuag at y system rybuddio am lifogydd, sy'n cael ei hadolygu a'i diweddaru a'i harolygu drwy'r amser. Dyna ran o'r buddsoddiad mwy nag erioed a wnawn, ac mae angen inni gadw'r buddsoddiad hwnnw i fynd. Byddwn yn troi at adroddiadau dilynol y pwyllgor hefyd, ac yn archwilio hyn yn fwy manwl.
Ond wrth gwrs, bydd rôl CNC yn monitro ac ymateb i ddigwyddiadau llygredd yn parhau i fod yn swyddogaeth statudol allweddol. Rhan o waith parhaus CNC yw datblygu metrigau ar gyfer casglu eu data perfformiad, i ddangos cynnydd, ar ôl ymgymryd â dull ar sail risg o ymateb i ddigwyddiadau llygredd. Rydym am i CNC dargedu'r rhai sy'n defnyddio dull ar sail risg, y digwyddiadau llygredd hynny. Dyna beth rydym eisiau iddynt ei wneud. Ac rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol dros y flwyddyn ddiwethaf yn benodol ar gyfer gwaith gorfodi. Felly, rydym wedi dod o hyd i ffyrdd o roi mwy o arian lle mae ei angen.
Rwy'n ymwybodol hefyd fod CNC yn cefnogi cyflwyno pwerau cosb sifil blaengar fel dewis arall yn lle erlyn troseddol, ac rwy'n nodi ei fod wedi darparu tystiolaeth i'r pwyllgor sy'n dangos eu meddylfryd ar hyn. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda CNC ar asesu'r cymorth sydd ei angen i oresgyn eu heriau wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd, a byddai hyn yn cynnwys ystyried unrhyw ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen. Nawr, mae'n berthnasol ar y pwynt hwn i nodi mai mater i'r Llywodraeth nesaf a'r Senedd nesaf fydd unrhyw ddeddfwriaeth bellach.
Rwyf wedi derbyn argymhelliad 7 mewn egwyddor. Rwy'n deall awydd Cyfoeth Naturiol Cymru i symud i drefn ariannu amlflwyddyn i helpu ei gynlluniau hirdymor, ond ni fyddai hyn yn gweithio gyda'r cyfyngiadau presennol y gweithredwn oddi tanynt. Mae nifer o ffactorau ar waith yma, yn enwedig digwyddiadau cyllidol y DU a chylchoedd etholiadau'r DU a'r Senedd. Ond rwy'n deall pam y byddent eisiau gweld setliad amlflwyddyn. Ond yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda CNC yn barhaus, gan ddarparu'r holl gefnogaeth angenrheidiol, y cyfeiriais at beth ohoni nawr, i sicrhau bod rhaglenni a phrosiectau a gytunwyd ag iddynt ffocws amlflwyddyn yn cael eu cyflawni.
Rwyf am ganolbwyntio ar argymhellion 8 a 9, y ddau'n ymwneud â'r rhwymedigaeth dreth IR35, ac rydym wedi derbyn y ddau argymhelliad. Cytunir yn sylfaenol fod angen i CNC gynnal adolygiad cynhwysfawr i ddeall sut y gellir gwella ei brosesau a'i arferion perthnasol ymhellach, yn dilyn casgliad ymchwiliadau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni. Mae disgwyl i CNC roi diweddariad llawn i'r pwyllgor yn fuan, diweddariad sy'n cynnwys sut y mae'n bwriadu rheoli'r gostyngiad yn y gyllideb i gyfrif am y taliad ar gyfrif, a'i adolygiad sy'n nodi'r gwersi a ddysgwyd.
Rwyf am symud ymlaen at argymhelliad 10 a dderbyniais mewn egwyddor am nad oedd amseriad cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn alinio â chais y pwyllgor. Mae ymgysylltiad helaeth â CNC yn parhau drwy basio'r Bil a ffrydiau gwaith dilynol ar gyfer ei weithrediad, i ddeall yn llawn yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithredu'r ddeddfwriaeth yn briodol. Ac wrth gwrs, bydd hyn yn cael ei wella gan sylwadau a ddarparwyd yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil.
Felly, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r pwyllgor am eu gwaith craffu gwerthfawr ac am lunio'r adroddiad dilynol. Diolch hefyd i Gyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith parhaus wrth ddiogelu'r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet a phawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma.
Dim ond ambell sylw, heb redeg drwy bob gair a ddywedodd pawb arall. Weithiau rwy'n rhannu'r un rhwystredigaeth â chi, Janet, pan fydd pethau'n cael eu derbyn mewn egwyddor, ond os trowch at y naratif y tu ôl iddo, rwy'n credu eich bod yn cael rhywbeth o werth. Ond weithiau—nid wyf yn awgrymu bod yr Ysgrifennydd Cabinet hwn yn ei wneud—ond weithiau mae'n teimlo fel 'Ie, ie, fe wyddom fod angen ei wneud, ond nid ydym yn mynd i'w wneud', math o beth. Ond dyna ni. Cyn belled â'n bod ni'n ymwybodol o hynny, fel pwyllgor, rwy'n credu y gallwn ei drin, wyddoch chi—. Ac yn amlwg, nid adroddiadau untro yw'r rhain, i'w gadael ar ôl heb eu darllen, ac mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn sicrhau bod y Llywodraeth yn ei wneud, a gweld pan fyddant yn dweud eu bod yn mynd i wneud rhywbeth, eu bod yn ei wneud.
Ar reoli incwm dros flynyddoedd ariannol, rydym yn byw mewn cyfnod anodd o bwysau cyllidebol wrth gwrs, ac mae cael y gwerth gorau am ein harian bob amser yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ymdrechu i'w gyflawni. Rwy'n credu y byddai caniatáu rheolaeth fwy hyblyg ar y cyllidebau hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn yn hwyluso hynny—ond rwy'n deall rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig â chaniatáu i hynny ddigwydd—fel y byddai cylch cyllido amlflwyddyn. Byddai'n caniatáu i chi gynllunio a defnyddio'ch arian yn fwy strategol dros y tymor hwy, yn hytrach na methu gwneud hynny mor effeithiol ag y dymunwch, o bosib. Ond down yn ôl yn rheolaidd at y naratif o amgylch CNC a bod gofyn iddo wneud mwy a mwy, tra bod y gyllideb sydd ganddo i gyflawni ei waith yn lleihau. Ac yn y bôn, rwy'n credu mai dyna sydd angen inni ei ddatrys wrth graffu, a gwneud yn siŵr fod CNC yn gallu cyflawni'r hyn yr ydym ni fel Senedd, a'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl ganddo.
Mae Julie'n iawn am forâl staff; mae'n rhywbeth a nodwyd gennym o'r blaen. Mae Delyth hefyd, a phawb mewn gwirionedd, wedi mynegi ein diolch. Nid yn unig fod morâl yn broblem, rydych chi'n colli profiad yn aml iawn pan fyddwch chi'n mynd drwy brosesau diswyddiadau, rydych chi'n colli'r rhai mwyaf profiadol o bosib, a'r rhai sydd â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch. Mae'n fwy na cholli capasiti yn unig.
Llifogydd: wel, unwaith eto, mae'n debyg, onid yw? Mae perygl llifogydd yn cynyddu mewn cymaint o gymunedau, mae'r bygythiad yn cyrraedd ymhellach, ond efallai nad yw'r pwysau ar wasanaethau llifogydd yn adlewyrchu hynny fel y dylai. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i sôn am y buddsoddiad, ac mae hynny i gyd i'w groesawu, fel y dywedais yn fy anerchiad agoriadol. Fe wnaethoch chi restru ambell eitem o seilwaith, ond wrth gwrs roedd yn seilwaith caled, ond mae pawb yn gwybod—ac rydych chi'n deall hyn hefyd—fod gan seilwaith meddal ac atebion naturiol rôl fawr i'w chwarae. Ac mae'n siŵr fod gan CNC rôl hyd yn oed yn fwy i'w chwarae yn y gofod hwnnw, ac mae caniatáu iddynt gael y capasiti, y set sgiliau a'r amser a'r lle i allu gwneud hynny yn bwysig iawn.
Rwy'n credu bod Joyce yn iawn i ddweud ei fod yn her, yn newid, yn aflonyddwch—dyna fu stori CNC hyd yma. Mae'n teimlo fel pe bai wedi bod mewn rhyw fath o gyflwr cyson o newid ac esblygiad. Ond er hynny, rydym yn atgoffa ein hunain eu bod yn dal i gyflawni cymaint o'r hyn y mae pobl Cymru yn gofyn iddynt ei gyflawni. Maent yn cyflawni ar gyfer pobl ac ar gyfer natur.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, dylem ddiolch i Clare Pillman am ei chyfnod wrth y llyw fel prif swyddog gweithredol CNC, yn yr amgylchiadau heriol iawn y buom yn eu trafod am yr awr ddiwethaf. Diolch hefyd i Syr David Henshaw am ei dymor fel cadeirydd a'r gwaith y mae wedi llywyddu drosto yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae ein prif ddiolch, wrth gwrs, i ddod â'r cyfan at ei gilydd, i bawb sy'n gweithio i'r sefydliad, yn enwedig y rhai ar y rheng flaen. Rydym bob amser yn barod iawn i godi a beirniadu CNC am hyn a'r llall—weithiau'n gyfiawn, weithiau'n annheg o bosib—ond yn y pen draw, maent yno am y rheswm cywir, maent yn gwneud eu gorau, ac am hynny rydym yn diolch yn fawr iddynt.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Cynnig NDM8995 John Griffiths
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar gymorth tai i bobl agored i niwed. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, gan gynnwys y rhai a gymerodd ran mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau, am rannu eu profiadau gyda ni. Clywsom gan bobl sy'n cael mynediad at wasanaethau cymorth tai a chan weithwyr rheng flaen sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Mae'r mewnwelediad sy'n gysylltiedig â hynny bob amser yn werthfawr ac yn cael ei werthfawrogi.
Gwnaed ein gwaith cyn cyflwyno'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), ac ynghyd â'r gwaith arall a wnaethom ar dai priodol a chynaliadwy yn y Senedd hon, mae wedi helpu i lywio ein gwaith craffu ar y Bil hwnnw. Byddwn yn adrodd ar egwyddorion cyffredinol y Bil yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae gwasanaethau cymorth tai yn rhan hanfodol o'r system ddigartrefedd, ond clywsom eu bod yn aml heb gael eu gwerthfawrogi ddigon. Dywedwyd wrthym am straen ar staff a gorflinder oherwydd pwysau'r swydd, sydd, ynghyd â chyflogau isel, wedi arwain at heriau recriwtio a chadw. Fe'n synnwyd yn arbennig gan y dystiolaeth bwerus fod rhai pobl sy'n gweithio yn y sector eu hunain yn wynebu risg digartrefedd. Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol.
Mae'r gweithlu'n chwarae rhan allweddol yn cynorthwyo pobl agored i niwed i fyw'n annibynnol. Mae eu gwaith yn allweddol ac mewn rhai achosion, yn achub bywydau. Rhaid i well cefnogaeth i staff fod yn flaenoriaeth. Gwyddom fod grŵp gorchwyl a gorffen ar y gweithlu wedi'i sefydlu, ac mae'r grŵp hwnnw wedi cyflwyno'i adroddiad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i roi diweddariad i ni ar ymateb i'r adroddiad hwnnw, ac rwy'n ei hannog unwaith eto heddiw i ddarparu'r diweddariad hwnnw cyn gynted â phosib. Rhaid inni ddangos i'r gweithlu fod eu pryderon yn cael eu clywed a'u datrys.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Lywydd dros dro, rwyf am droi nawr at y tri argymhelliad a wnaed yn ein hadroddiad, ynghyd ag 11 casgliad. Derbyniwyd un o'n hargymhellion yn llawn a dau mewn egwyddor.
Rwy'n falch fod ein hargymhelliad ar ddata perfformiad gwasanaeth wedi'i dderbyn yn llawn. Mae hyn yn bwysig fel y gall darparwyr ac awdurdodau lleol werthuso eu gwasanaethau yn erbyn eraill a nodi arferion da. Fe wyddom fod llawer iawn o ddata yn cael ei gasglu, a chredwn y gellid gwneud llawer gwell defnydd ohono.
Roedd argymhelliad arall yn ymwneud ag uchelgais Llywodraeth Cymru i weithredu'r newid ailgartrefu cyflym. Gwyddom fod goblygiadau sylweddol yn deillio o hyn i wasanaethau'r grant cymorth tai, gan ei fod yn golygu symud hirdymor oddi wrth ffurfiau ar lety trosiannol, fel hosteli digartrefedd, tuag at roi cartrefi parhaol i bobl cyn gynted â phosib, ynghyd â'r cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt. Fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwell defnydd o dystiolaeth i osod disgwyliadau clir ar awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol ynghylch y mathau o gymorth a llety y dylent eu comisiynu. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn gliriach ynglŷn â sut olwg sydd ar fodelau arferion da ailgartrefu cyflym mewn gwirionedd, gan fod diffyg tystiolaeth i lywio'r mathau o wasanaethau a llety sy'n cael eu comisiynu o dan y pennawd hwn.
Roedd ein trydydd argymhelliad yn ymwneud â chydweithio, yn enwedig y ffordd y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r dystiolaeth sydd ar gael i ysgogi newid. Clywsom am ddau brosiect amlasiantaethol yn ymwneud ag iechyd a thai, un dan arweiniad bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg a'r llall gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Ein pryder yw nad yw dwy enghraifft yn ddigon ar eu pen eu hunain. Os yw tystiolaeth yn profi bod dull o weithredu yn effeithiol, credwn y dylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol eraill ddilyn y dystiolaeth honno. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau a chyflwyno arferion cydweithio da, nid drwy ledaenu gwybodaeth yn unig, ond drwy fod yn fwy cadarn, er enghraifft drwy osod amodau ar gyllid grant.
Nid yw'n ormod dweud y gall cymorth tai achub bywydau, gan atal argyfyngau a fyddai'n costio llawer mwy o arian i sefydliadau eraill, fel y GIG, i ymdrin â nhw. Mae'n ganolog i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd. Rwyf wedi cyfeirio'n aml at yr ymchwil sy'n profi gwerth buddsoddi yn y grant cymorth tai drwy atal digartrefedd, lleddfu'r pwysau ar iechyd a gofal cymdeithasol a lleihau rhyngweithio â'r system cyfiawnder troseddol. Mae'r gwasanaeth a ddarperir drwy'r grant yn arwain at arbediad net o £1.40 am bob £1 a fuddsoddir.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft fis nesaf, a bydd pwyllgorau'n craffu arni wedyn. Cyn hynny, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwnaethom mewn blynyddoedd blaenorol, i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y grant cymorth tai. Mae'n hanfodol er mwyn cyflawni'r dull ailgartrefu cyflym ac i gyflawni ein nod cyffredin o sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn beth prin a byrhoedlog nad yw'n ailddigwydd. Felly, mae sicrhau bod adnoddau digonol ar gyfer y grant yn hollol allweddol.
I gloi, roedd tystion yn glir y bydd cyflawni'r uchelgeisiau hynny'n dibynnu ar gynlluniau hirdymor, ariannu sefydlog, partneriaethau amlasiantaethol cryf, a chynnydd mawr yn y cyflenwad tai cymdeithasol. Gwyddom mai nod y Bil yr ydym yn craffu arno ar hyn o bryd yw gwella mesurau ataliol, lleihau'r pwysau ar lety dros dro a gwella gweithio mewn partneriaeth, a byddwn yn adrodd ar ein casgliadau yr wythnos nesaf. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch a thalu teyrnged i'r rhai sy'n gweithio yn y sector cymorth tai. Mae'n bwysig ein bod yn cofio eu bod yn gweithio mewn amgylchedd heriol, lle maent yn delio o ddydd i ddydd â phobl agored i niwed a all fod ag anghenion cymhleth. Gall hyn gael effaith emosiynol arnynt wrth iddynt wneud eu gorau i'w helpu. Ar ben hynny, mae cynifer yn ennill isafswm cyflog ac yn gweithio mewn amgylcheddau anodd iawn—mewn hosteli, er enghraifft, lle gall fod bygythiad sylweddol o drais tuag atynt. Rwy'n hynod ddiolchgar am y gwaith a wnânt, a dylem i gyd gydnabod hyn.
Lywydd dros dro, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn gwneud gwaith da o dynnu sylw at y problemau sy'n wynebu asiantaethau a'u staff sy'n helpu pobl agored i niwed i ddod o hyd i gartrefi. Mae'n amlwg nad yw natur fyrhoedlog ac anghysondeb y model cyllido yn fuddiol, a rhaid inni fod yn ymwybodol, er bod cyllid y Llywodraeth bob amser dan bwysau, nad yw problem digartrefedd byth yn mynd i ddiflannu. Bydd yna bob amser bobl mewn sefyllfa fregus yn eu bywydau, yn delio â thrawma sy'n rhoi pwysau enfawr arnynt, heb rwydweithiau cymorth teulu a ffrindiau i'w helpu.
Felly, rwy'n teimlo'n gryf fod angen inni wneud mwy i lunio model cyllido hirdymor cynaliadwy. Rwy'n dychmygu ei bod yn hynod rwystredig i'r asiantaethau hyn, sydd ond eisiau bwrw ati i helpu pobl, orfod treulio cymaint o amser yn gwneud cais am grantiau, yn poeni am y cylch cyllido nesaf, neu'n poeni a fyddant yn gymwys i gael cynnydd mewn cyllid. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw cyllid cyson wedi ei warantu, sy'n caniatáu iddynt fwrw ymlaen â'r gwaith o helpu pobl. Rwy'n credu y bydd hyn yn helpu i wella arferion da cyson drwy helpu i gadw staff ac arbed arian drwy leihau'r angen i barhau i ailhyfforddi pobl.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y trosiant uchel o staff oherwydd yr amgylchedd anodd y maent yn gweithio ynddo. Os oes gennych fodel cyllido cyson, mae'n galluogi sefydliadau i wobrwyo staff yn ariannol am eu gwaith caled a'u teyrngarwch, a gall hynny fynd yn bell i helpu staff i deimlo'n ddiogel. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl fod llawer o bobl yn gweithio yn y sector hwn am eu bod yn cael boddhad o'r gwaith a wnânt yn helpu, ac mae'n briodol iddynt gael swyddi sefydlog sy'n talu cyflog gweddus a theg iddynt.
Lywydd dros dro, rwyf am fynd ar drywydd pwynt 71 yn yr adroddiad, lle tynnodd Llamau sylw at y ffaith bod y model ariannu ar gyfer llety â chymorth yn dibynnu ar adfer canran o'r costau staffio o renti a thaliadau gwasanaeth, yn hytrach na'r grant cymorth tai, sy'n golygu bod rhenti'n mynd yn ddrud iawn, yn eu geiriau nhw, ac yn ei gwneud hi'n anodd i bobl ifanc symud i gyflogaeth tra byddant yn byw yno, gan y byddai gofyn iddynt dalu'r rhent drwy eu cyflogau, yn hytrach na thrwy fudd-dal tai.
Rwy'n credu bod hon yn dystiolaeth gref nad yw'r model cyllido presennol yn addas i'r diben mwyach a bod angen ei ailstrwythuro. Mae diwygiadau Llywodraeth Cymru wedi effeithio'n ddifrifol ar y farchnad dai rhent, gan achosi i brisiau rhent y farchnad gynyddu'n sylweddol. Ac mae'n rhaid inni wynebu'r realiti fod costau rhent wedi codi gryn dipyn yn gyflymach na'r cynnydd mewn cyllid. Mae adennill canran o gostau staffio o renti a thaliadau gwasanaeth yn amlwg yn gweithio yn erbyn yr hyn y ceisiwn ei gyflawni, sef helpu pobl i ddod o hyd i dai fforddiadwy a swyddi diogel.
Rwy'n ymwybodol nad oes coeden arian hud y gall Llywodraeth Cymru ei chynhyrchu i dalu am bopeth, ond rwy'n teimlo bod cymaint o wastraff mewn cael model cyllido digyswllt, ac os symleiddiwn y ffordd y caiff cyllid ei ddarparu, mae potensial i arbed arian y gellir ei ailgyfeirio i lle mae ei angen.
Ar argaeledd tai, mae'n amlwg fod hon yn her fawr ac yn cael ei gwaethygu gan y ffaith nad yw'r farchnad llety rhent preifat wedi cadw i fyny ag anghenion tai. Mae diwygiadau'r llywodraeth wedi golygu nad yw'r risg o fuddsoddi gan unigolion preifat yn y farchnad rentu bellach yn werth yr elw. Rhaid inni dderbyn, yn y tymor hir, fod y gyfran o'r farchnad sydd ar gael ar gyfer rhentu yn gostwng yn barhaol. Mae'r ffaith bod 70 y cant amcangyfrifedig o denantiaid cymdeithasau tai angen lefel o gymorth tai i gynnal y denantiaeth yn dangos pa mor wael yw'r sefyllfa erbyn hyn.
Rhaid inni ystyried hefyd nad yw landlordiaid preifat yn hynod o frwdfrydig i osod eu heiddo i awdurdodau lleol. Gwelsom nifer o achosion lle nad yw'r gefnogaeth a addawyd i landlordiaid wedi'i gwireddu, difrod heb ei gyweirio, cynghorau gelyniaethus, a gwaeth: tenantiaid mewn llety anaddas ac mewn lleoliadau anaddas. Yn y pen draw dengys hyn fod delwedd wael i osod i awdurdodau lleol a bod y risg yn fawr i landlordiaid preifat. Felly, er mwyn i hyn newid, mae angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn delio â landlordiaid preifat.
Yn olaf, fel y gwelsom, ni chaiff llety dros dro groeso bob amser gan y rhai sy'n chwilio am lety, am ei fod yn cael ei ystyried yn rhy beryglus. Rwyf wedi siarad â phobl sydd, credwch neu beidio, Lywydd dros dro, yn dweud eu bod yn llawer mwy diogel yn cysgu ar y strydoedd na mewn llety dros dro, oherwydd y trais a'r defnydd o gyffuriau sy'n digwydd yno.
I gloi, Lywydd dros dro, carwn ailadrodd bod hwn yn adroddiad cytbwys sydd wedi nodi rhai o'r heriau mawr a wynebwn. Yn amlwg, mae problem fawr gyda'r model cyllido ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys. Mae angen inni gofio hefyd nad yw problem bregusrwydd byth yn mynd i ddiflannu, ac felly mae'n bwysig ein bod yn buddsoddi mewn system sy'n gallu ymdopi â'r heriau. Rydym i gyd eisiau gweld digartrefedd yn cael ei ddileu—
Rhaid i'r Aelod ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Diolch. Rydym i gyd eisiau gweld digartrefedd yn cael ei ddileu, ond rwy'n teimlo, yn anffodus, o ystyried lle rydym arni, fod hynny'n bell iawn i ffwrdd. Diolch.
Diolch yn fawr. Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r holl randdeiliaid a chyfranwyr sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu i'r ymchwiliad yma, ac yn benodol diolch i'r bobl sydd ar y rheng flaen yn darparu cymorth i bobl agored i niwed ledled Cymru. Mae’r gweithlu yma yn wynebu pwysau eithriadol, ac maen nhw'n gwneud gwaith hanfodol sydd yn aml yn achub bywydau.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor llawer o argymhellion y pwyllgor, mae'n bryderus eu bod yn trosglwyddo cyfrifoldeb am nifer o'r argymhellion i’r awdurdodau lleol yn ystod argyfwng sy’n ddibynnol ar gydweithio ar draws pob lefel o lywodraeth. Ac wrth gwrs, rydym ni'n croesawu unrhyw gamau positif tuag at newid ystyrlon, megis y cynnydd i’r grant cymorth tai a’r ymrwymiad i’r dull tai yn gyntaf. Mae’r cymorth hwn yn hanfodol, ac wedi bod yn alwad gyson gan Blaid Cymru ers blynyddoedd. Fodd bynnag, er gwaetha'r camau yma, mae bylchau sylweddol yn parhau yn y system. Mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn dangos yn glir bod strategaeth dai y Llywodraeth wedi methu’n llwyr â deall maint yr argyfwng yn y sector, ac mae diffyg y Llywodraeth i gasglu data digonol ar lefel genedlaethol yn ychwanegu at hynny.
Hoffwn i dynnu sylw at ddwy agwedd allweddol yn yr adroddiad yma. Yn gyntaf, y prinder difrifol o dai cymdeithasol. Hynny sydd wrth wraidd yr argyfwng tai presennol. Mae’r diffyg yma yn gorfodi gormod o aelwydydd bregus i droi at y sector rhentu preifat, lle maen nhw'n wynebu costau rhentu uwch ac yn byw dan fygythiad cyson o gael eu troi allan ar fyr rybudd. Yn ogystal â hyn, mae'r adroddiad yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o’r llety dros dro presennol yn addas i bobl efo heriau cymhleth. Sut mae'r Llywodraeth yn gallu cyfiawnhau rhoi rhywun sy'n agored i niwed mewn sefyllfa heb gyfleusterau coginio sylfaenol? Dyna chi ddiffyg parch dybryd at urddas dynol a bywyd annibynnol. Mae'n drueni felly nad yw'r Llywodraeth yn fodlon comisiynu gwerthusiad o effeithlonrwydd llety a chymorth ar raddfa fawr.
Mae hyn yn gwbl groes i egwyddor tai yn gyntaf ac yn creu cylch o ansicrwydd, sy’n tanseilio pob ymdrech i sicrhau sefydlogrwydd i unigolion sydd eisoes dan straen. Dyna pam rydym ni ym Mhlaid Cymru yn ymrwymo i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol ac i sicrhau yr hawl i bawb gael mynediad at dai digonol. Ond does dim modd datrys hyn heb ddeall yn union beth ydy'r galw gwirioneddol am yr anghenion, a dwi yn pryderu bod y cynigion presennol sydd yn Rhan 2 o’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn debygol o wanhau’r sail dystiolaeth yn hytrach na’i chryfhau.
Yn ail, gwnaf droi at y dystiolaeth sy’n dangos methiant y Llywodraeth i ymdrin â'r agwedd ataliol yn effeithiol. Er bod ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr adroddiad yn honni y gall y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) gynnig atebion, mae’r fersiwn drafft yn codi pryderon sylweddol ynghylch ei effeithlonrwydd ymarferol. Er enghraifft, dydy'r cyrff allweddol, megis ysgolion a meddygon teulu, ddim wedi cael eu cynnwys o dan y ddyletswydd i ofyn ac i weithredu. Mae’r adroddiad, dwi'n teimlo, yn dangos yn glir nad ydy cydweithio rhwng asiantaethau yn digwydd yn ddigon aml, ac mewn achosion lle mae cyfle i'r Llywodraeth ysgogi newid, fel yn y Bil digartrefedd sydd yn mynd ar ei daith ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn methu â chynnwys y cyrff hanfodol hynny sy'n gallu diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed.
Dwi'n gweld bod fy amser yn prysur ddod i ben. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y gwaith o lunio'r adroddiad pwysig yma. Dwi'n gobeithio y bydd y gwaith yn ffeindio'i ffordd i mewn i'r ddeddfwriaeth sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy'r Senedd. Diolch yn fawr.
Yr wythnos hon, derbyniodd pwyllgorau gopi o lythyr a anfonodd y Prif Weinidog at y Llywydd ddiwedd yr haf yn gofyn iddynt wneud llai o argymhellion i'r Llywodraeth. Dyma a ddywedai:
'Rwy'n awyddus i gyrraedd sefyllfa lle mae Pwyllgorau, wrth gyflawni eu gwaith, yn canolbwyntio ar lai o argymhellion, gyda ffocws ar argymhellion penodol ac wedi'u diffinio'n glir a fydd yn cael yr effaith fwyaf fel y bo'n briodol i'r mater dan sylw.'
Nawr, mae rhai wedi gwaredu at y llythyr hwn; rwy'n ei groesawu. Rwy'n credu ei bod hi'n llygad ei lle, ac mae hyn yn rhywbeth yr oedd yr ymchwiliad pwyllgor hwn ar y droed flaen yn ei wneud; mae'n rhywbeth yr oeddem eisoes wedi penderfynu ei wneud ac mae hwn yn adroddiad trawsbleidiol ar fater nad yw'n bleidiol ac rydym wedi dilyn y dystiolaeth a wedi llunio tri argymhelliad yn unig. Ac er hynny, o'r tri argymhelliad, cafodd dau eu derbyn mewn egwyddor, a phan edrychwch ar yr hyn sy'n cael ei ddweud mewn ymateb i hynny, maent yn bethau go wan, Lywydd dros dro, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth a ddylai beri pryder i bawb ohonom. Rydym yn siarad llawer am ddiwygio'r Senedd yn y lle hwn a'r angen am Aelodau ychwanegol i ddarparu craffu ychwanegol, ond rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn dangos nad mater o niferoedd yn unig yw craffu, mae'n fater o ddiwylliant, mae'n fater o barodrwydd pwyllgorau ac Aelodau i herio, a Llywodraeth i ymateb yn yr un ysbryd. Ac mae i Lywodraeth sy'n cyflwyno'r mesur diwygio hwn, gan ddweud ei bod eisiau mwy o graffu, roi ymateb mor wan pan ddarperir craffu priodol, i dri argymhelliad yn unig wedi'r cyfan—.
Felly, rwy'n credu bod hwn yn ymateb hynod siomedig ac rwyf am ganolbwyntio ar argymhelliad 3 yn unig, nad yw'n ddadleuol iawn o gwbl yn fy marn i. Mae'r argymhelliad yn dweud
'Dylai Llywodraeth Cymru gymryd rôl fwy pendant mewn perthynas â chydweithio i sicrhau bod arfer da sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei efelychu ym mhobman y mae ei angen ledled Cymru. Dylai wneud hyn trwy sicrhau bod y strwythurau a'r cyllid grant cywir ar waith, gan gynnwys amodau grant lle bo angen.'
Nid wyf yn meddwl bod hynny'n arbennig o ddadleuol. Rydym wedi clywed ers tro byd am rannu arferion da, ond fe wyddom nad yw rhannu arfer da yn arwain at fabwysiadu'r arferion da hynny. Yn ogystal ag arloesedd, mae angen inni weld lledaeniad, mae angen inni weld arferion da yn cael eu mabwysiadu fel safon, a'r argymhelliad a wnaed gan ein pwyllgor ynghylch y grant tai cymdeithasol, sy'n £21 miliwn y flwyddyn wedi'r cyfan, a roddir i awdurdodau lleol Cymru i wella amodau, er mwyn atal pobl rhag mynd yn ddigartref—. Dylem ddweud lle gwelir arfer da, lle mae arloesedd yn digwydd—ni ddylai ei fabwysiadu ddigwydd yn ôl mympwy awdurdodau lleol. Dylai fod yn ddisgwyliedig, dylai fod yn safon, ac os nad yw'r awdurdodau lleol eu hunain yn barod i wneud hynny, dylai Llywodraeth Cymru drwy'i hamodau grant ddweud, 'Mabwysiadwch yr arfer da hwn neu gyfiawnhau pam na allwch wneud hynny.' Nawr, ymateb Llywodraeth Cymru i hynny yw—wel, mae'n anodd ei ddehongli, i fod yn onest. Rwyf wedi mynd drwy'r adroddiad ar argymhelliad 3 ac mae'n nodi'n syml ei fod yn cefnogi cydweithio drwy ei ganllawiau, fod Bil yn cael ei gyflwyno a fydd yn cryfhau'r fframwaith statudol ar gyfer cydweithio, bydd yn sefydlu protocolau ar y cyd ac yn hyrwyddo cydweithredu, ond nid dyna beth y mae'r argymhelliad yn ei ddweud. Nid yw'r argymhelliad yn dweud y dylai hyrwyddo arfer da. Mae'n dweud y dylid ailadrodd arfer da a dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hamodau grant os oes angen i roi hynny ar waith.
Ceir enghraifft ddiddorol arall mewn ymateb i un arall o'r casgliadau yn yr adroddiad, lle mae argymhelliad 2 yn dweud bod y pwyllgor yn dweud
'Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod data cymorth tai yn ysgogi gwelliannau i wasanaethau',
ac y dylai trefniadau rhannu data fod yn gadarn. Ac mae'r ymateb gan y Llywodraeth yn dweud yn syml nad ydynt yn bwriadu gwneud—. Dyma ni:
'Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwerthusiad annibynnol o effeithiolrwydd llety â chymorth ar raddfa fawr, gan ystyried safbwyntiau tenantiaid.'
Yr ymateb gan y Llywodraeth:
'Ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu comisiynu gwerthusiad o unedau llety â chymorth mawr.'
Dyma'r darn allweddol:
'Cyfrifoldeb yr ALl yw penderfynu pa lety sy'n briodol ar gyfer unigolion'.
Felly, yn syml, mae Llywodraeth Cymru yno i drosglwyddo'r grant yn unig. Nid oes ganddi unrhyw arweinyddiaeth i ddarparu unrhyw ddiwygio strategol i sicrhau arfer da er mwyn gwneud yn siŵr yr eir i'r afael â digartrefedd a bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Mae yno'n syml i awgrymu, o bosib, i annog, efallai, ond i fynnu, dim o gwbl. Rwy'n credu y dangoswyd bod hynny'n aneffeithiol, ac roedd y dystiolaeth a gawsom gan nifer o dystion—y Wallich, er enghraifft—yn dweud bod rhwystrau i gydweithio yn rhan o'r broses gomisiynu. Dywedodd ClwydAlyn wrthym, er gwaethaf enghreifftiau da o arfer da iawn, nid yw'n gyson, maent yn ddigwyddiadau untro:
'Maent yn aml yn gynlluniau peilot; deuir o hyd i arian newydd am gyfnod, ceir canlyniadau gwych, ac yna daw'r pethau hynny i ben pan nad yw'r cyllid yno mwyach.'
Roedd hyd yn oed CLlLC yn cytuno bod angen mwy o gydweithredu ledled Cymru, nid yn unig fel offeryn defnyddiol, ond fel rhywbeth hanfodol, ac rwy'n dweud wrth y Gweinidog ac wrth y Llywodraeth gyfan, nid eistedd yn ôl a gobeithio y bydd pethau da yn digwydd yw eu rôl. Maent yno i ddarparu arweinyddiaeth. Mae'r pwyllgor hwn wedi gwneud yr argymhelliad hwnnw, rydym wedi gwrando ar y Prif Weinidog wrth flaenoriaethu'r argymhellion hynny, a gwnaed tro gwag â ni.
Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

Diolch, Lywydd dros dro. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon heddiw. Hoffwn ddechrau drwy groesawu gwaith y pwyllgor yn ystod ei ymchwiliad i wasanaethau cymorth tai i bobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o wynebu digartrefedd. Hefyd, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd dystiolaeth i'r ymchwiliad, gyda llawer ohonynt wedi rhannu eu profiadau personol. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad. Rwyf wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor bob un o'r tri argymhelliad a wnaed mewn perthynas â'r defnydd o ddata canlyniadau y grant cymorth tai, ailgartrefu cyflym a gweithio ar y cyd mewn partneriaeth. Rwy'n derbyn pwynt fy nghyd-Aelod Lee Waters ynglŷn â'r nifer bach o argymhellion, a derbyn neu dderbyn mewn egwyddor y niferoedd hynny, ac fe af i'r afael â rhai o'r pwyntiau eraill a gododd hefyd.
Mae gwasanaethau cymorth tai effeithiol o ansawdd da yn hanfodol i sicrhau bod gennym system ar waith sy'n atal digartrefedd ac yn gosod y bobl iawn yn y cartrefi cywir yn y cymunedau cywir gyda'r gefnogaeth gywir er mwyn i bobl lwyddo a ffynnu. Fe fyddwch i gyd yn ymwybodol o uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, fel y nodir yn ein cynllun gweithredu rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Mae'r grant cymorth tai yn chwarae rôl ganolog yn darparu'r gwasanaethau cymorth tai hanfodol hyn, sy'n ategu dyletswyddau statudol awdurdodau lleol i atal a lliniaru digartrefedd. Mae'r grant hwn, ynghyd â'r symud i ddull ailgartrefu cyflym a'n diwygiadau i ddeddfwriaeth ddigartrefedd, yn cefnogi cyflawniad y newid trawsnewidiol hirdymor sy'n angenrheidiol i sicrhau bod digartrefedd yn beth prin a byrhoedlog nad yw'n ailddigwydd.
Felly, ein nod yw cyflawni newid systematig ac ymgorffori dull gwasanaeth cyhoeddus go iawn o atal a lliniaru digartrefedd, un sy'n ein galluogi i oresgyn heriau ac achosion sylfaenol digartrefedd. Dyna pam fy mod yn falch iawn o gyflwyno'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i'r Senedd ym mis Mai. Mae'r ddeddfwriaeth nodedig hon yn gam beiddgar ymlaen yn ein hymrwymiad i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Mae'r Bil wedi'i wreiddio mewn profiad bywyd ac wedi'i siapio gan ymgynghori helaeth. Mae'n cyflwyno ystod o fesurau trawsnewidiol a luniwyd i greu system ddigartrefedd fwy ataliol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n ystyriol o drawma yng Nghymru, a chydweithrediad cryfach ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru. Felly, bydd y misoedd nesaf yn allweddol wrth i'r gwaith o graffu ar y Bil fynd rhagddo yn y Senedd, ac rwy'n annog pob Aelod sy'n rhannu fy mhryderon ynglŷn â digartrefedd i gefnogi'r Bil.
Rydym hefyd yn parhau i wthio'r newid tuag at ailgartrefu cyflym. Fis diwethaf, mewn partneriaeth â Cymorth Cymru, mynychodd dros 140 o bartneriaid allweddol ddigwyddiad i rannu arferion gorau mewn perthynas ag ailgartrefu cyflym. Roedd yn gyfle gwerthfawr i gryfhau cydweithredu ac i arddangos dulliau arloesol sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth ledled Cymru. Derbyniais yr argymhelliad mewn egwyddor hefyd, oherwydd mae strwythurau a chanllawiau grant eisoes ar waith sy'n hwyluso ac yn hyrwyddo cydweithio gan awdurdodau lleol.
Mae ailgartrefu cyflym yn hanfodol i leihau ein dibyniaeth ar lety dros dro, ac i sicrhau bod pobl yn cael eu cynorthwyo i gael cartrefi sefydlog, parhaol cyn gynted â phosib, gyda'r cymorth cofleidiol cywir i'w helpu i ffynnu. Mae gweithredu ailgartrefu cyflym yn llwyddiannus yn dibynnu ar argaeledd llety priodol i ddiwallu anghenion pobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd. Mae hyn yn galw am drawsnewid y sector tai cyfan i sicrhau bod rhaglenni datblygu tai'n adlewyrchu anghenion pobl sy'n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o brofi digartrefedd.
Felly, mae fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'r bwrdd cynghori cenedlaethol ar roi diwedd ar ddigartrefedd i hyrwyddo dull rhagweithiol o roi diwedd ar ddigartrefedd drwy sicrhau bod y cyflenwad tai yn diwallu anghenion tai ledled Cymru. Mae'r gwaith hwn wedi'i lywio gan ddadansoddiad manwl o asesiadau'r farchnad dai leol a chynlluniau ailgartrefu cyflym tri awdurdod lleol i ystyried sut y gall data a gwybodaeth am anghenion tai amrywiol aelwydydd sy'n profi digartrefedd lywio'n gywir y broses o ddarparu cyflenwad tai. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Gonwy, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd am eu cyfranogiad yn yr ymarfer hwn ac am rannu'r gwersi a ddysgwyd ohono yn y digwyddiad arferion gorau yn ddiweddar.
Rwy'n cydnabod hefyd fod yn rhaid inni barhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau cymorth sy'n gwneud atal yn bosib. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £240 miliwn mewn atal digartrefedd a chymorth digartrefedd eleni. Ac mae hyn yn cynnwys trosglwyddo dros £21.32 miliwn i'r grant cynnal refeniw i barhau i gefnogi dyletswyddau digartrefedd statudol awdurdodau lleol, a chynnydd o £21 miliwn i'r grant cymorth tai, gan fynd ag ef i dros £204 miliwn. Mae'r buddsoddiad hwn yn hanfodol i gryfhau system sydd nid yn unig yn ymateb i ddigartrefedd, ond yn ei atal yn weithredol.
Sylfaen ein holl waith, wrth gwrs, yw'r gweithlu digartrefedd a chymorth tai sy'n darparu'r gwasanaethau cymorth hanfodol a ariennir gan y grant. Fel y mae'r holl Aelodau wedi'i wneud, rwyf am fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddynt unwaith eto am eu gwaith caled yn cefnogi pobl mewn cymunedau ledled Cymru. Rwy'n cydnabod y pwysau arnynt a'r gwasanaethau y maent yn gweithio ynddynt, pwysau sydd wedi cael sylw yn adroddiad y pwyllgor. Dyma'n union pam ein bod wedi cynyddu'r grant cymorth tai, yn y flwyddyn ariannol hon ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, i gefnogi'r sector i dalu'r cyflog byw gwirioneddol.
Mae datblygu gweithlu gwydn a gwerthfawr sy'n cael ei gydnabod am ei arbenigedd yn un o'r camau gweithredu yn ein cynllun gweithredu rhoi diwedd ar ddigartrefedd, gyda grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu o dan ein bwrdd cynghori cenedlaethol i fwrw ymlaen â hyn. Edrychaf ymlaen at gael yr argymhellion terfynol gan y grŵp yr hydref hwn, a byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor maes o law gyda diweddariad ar y camau nesaf, ar ôl ystyried adroddiad y grŵp.
Yn olaf, rwyf am ailadrodd i Aelodau'r Senedd fy mod wedi, ac y byddaf yn parhau i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i anelu tuag at ein nod hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym wedi gweld camau pwysig yn cael eu rhoi ar waith drwy ddeddfwriaeth, buddsoddiad, dulliau gweithredu newydd a gweithio mewn partneriaeth, ac mae'n hanfodol fod hyn yn parhau. Mae'n cynnwys sicrhau bod ein grant cymorth tai yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau cymorth tai hanfodol sydd eu hangen i atal a lliniaru digartrefedd.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl—John Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn y ddadl ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Thema gyffredin gan bawb oedd y deyrnged angenrheidiol iawn i'r gweithlu. Clywsom mewn tystiolaeth—ac mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi ategu hyn—ein bod yn ffodus iawn i gael gweithlu mor ymroddedig sy'n darparu cymorth tai i'n cymunedau bregus yma yng Nghymru, ac maent yn gwneud hynny heb y wobr o ran y cyflog a'r amodau y maent yn ddi-os yn eu haeddu. Nid oes unrhyw ffordd fod y tâl yn cyd-fynd â'r cyfrifoldebau a'r pwysau, felly rwy'n credu ei bod mor bwysig i bawb ohonom gofnodi hynny'n gadarn iawn yn y ddadl hon heddiw. Fe wnaeth Joel James hynny wrth ddechrau cyfraniadau'r Aelodau. Tynnodd Joel sylw hefyd at yr angen i gael sefyllfa ariannu fwy hirdymor, fwy sefydlog ar gyfer y gwasanaethau hyn, ac yn sicr, mae hwnnw'n bwynt cryf yng ngwaith y pwyllgor a'r adroddiad hwn. Hefyd, soniodd Joel am rôl y sector rhentu preifat ac nad yw'r berthynas ag awdurdodau lleol yn bopeth y dylai fod bob amser, ac rwy'n siŵr fod honno'n un elfen o arfer da y gellir ei rhannu'n ddefnyddiol—edrych ar ble mae'r berthynas honno'n bopeth y mae angen iddi fod a gwneud yn siŵr fod hynny'n cael ei ailadrodd ledled Cymru.
Diolch i Siân Gwenllian am ei chyfraniad, am dalu teyrnged unwaith eto i angerdd enfawr y gweithlu a'u rôl yn achub bywydau, ac am bwysleisio pwysigrwydd cyflenwad digonol o dai, yn enwedig tai cymdeithasol. Mae hynny wedi bod yn thema mor gryf yng ngwaith y pwyllgor dros gyfnod o amser. Ein barn ddatganedig, sydd wedi'i chofnodi yn ein hadroddiad, yw bod angen rhywbeth fel 60,000 ychwanegol o dai cymdeithasol fforddiadwy o ansawdd da i'w gosod ar rent dros gyfnod o rywbeth fel y pum mlynedd nesaf efallai, i mewn i dymor nesaf y Senedd. Yn amlwg, mae honno'n her enfawr o ran dod o hyd i'r adnoddau, ond mae gwir angen i hynny ddigwydd os ydym am fynd i'r afael yn ddigonol â'r amrywiaeth o heriau sydd gennym yn gysylltiedig â thai.
Yn briodol ddigon, pwysleisiodd Siân y dull ataliol sy'n thema gref yn ein hadroddiad a'n gwaith yn gyffredinol ac fel y gwyddom i gyd, mae'n gwneud synnwyr mawr am bob math o resymau. Pwysleisiodd Lee Waters yr her gan y Prif Weinidog i gael llai o argymhellion a'u gwneud yn glir, ac rwy'n credu iddo ofyn, yn ddealladwy, i Weinidogion Llywodraeth Cymru ymateb i hynny a deall y ddisgyblaeth a oedd yn gysylltiedig â'r ymarfer hwnnw, ac ymateb, gobeithio, yn gryf ac yn gadarnhaol i'r argymhellion. Fel y clywsom yn y ddadl flaenorol ar adroddiad pwyllgor y prynhawn yma, rydym hefyd fel pwyllgor yn awyddus iawn i ddilyn hynt ein hargymhellion a sicrhau ein bod yn gweld cynnydd digonol ac angenrheidiol. Rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor, yn cynnwys Lee Waters, yn awyddus iawn i wneud hynny. Ar ôl mynd drwy ddisgyblaeth y tri argymhelliad, byddwn yn gwneud gwaith dilynol i wneud yn siŵr ein bod yn cael y cynnydd y mae pawb ohonom eisiau ei weld.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, sy'n dangos yn glir ei hymrwymiad i'r maes gwaith hwn, ei dealltwriaeth o'i bwysigrwydd, a'i pharodrwydd i weithio gyda'r pwyllgor? Rydym yn gwerthfawrogi hynny. Mae'n bwysig iawn cael y berthynas honno fel pwyllgor gyda Gweinidogion cyfrifol Llywodraeth Cymru, cael cyd-ddealltwriaeth o faterion, nodau ac uchelgeisiau a rennir, yn aml iawn, a pherthynas dda o ran craffu gan bwyllgorau, sesiynau craffu pwyllgorau a dadleuon yn y Cyfarfod Llawn, mewn perthynas â'r modd y byddwn yn bwrw materion yn eu blaen a gwneud yn siŵr fod adroddiadau pwyllgor yn cyfrif. Felly, edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yng ngoleuni'r ddadl hon heddiw, rwy'n gobeithio y gwelwn gynnydd go iawn ar y materion pwysig hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig, cynllun ffermio cynaliadwy. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8999 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu y bydd asesiad Llywodraeth Cymru o effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2025 yn arwain, yn ôl amcangyfrifon, at:
a) 56,000 o dda byw Cymreig yn cael eu colli;
b) 1,163 o swyddi ar ffermydd Cymru yn cael eu colli; a
c) £76.3 miliwn o incwm busnes ffermydd yn cael ei golli.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol a chyflwyno cynllun yn ei le sy'n gweithio i ffermwyr, gan roi diogeledd bwyd a chynhyrchiant yn ganolog iddo.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto rydym yn trafod cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth, ac unwaith eto, mae eu hasesiad eu hunain o'r effaith economaidd yn adrodd stori enbyd: colli swyddi, gostyngiad yn niferoedd da byw a miliynau wedi'u dileu o incwm busnesau fferm. Dywedir wrthym am beidio â phoeni, mai ffigurau modelu'n unig yw'r rhain yn seiliedig ar yr haen gyffredinol yn unig, nid yr haenau opsiynol a chydweithredol, a bod hyn yn adlewyrchu cyllideb haen gyffredinol y flwyddyn gyntaf o £238 miliwn yn unig—cyllideb y mae'r Llywodraeth eisoes yn bwriadu ei thorri yn y blynyddoedd i ddod. Ond gadewch inni fod yn glir: nid yw hyd yn oed y modelu hwn yn gwrthsefyll craffu.

A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad.
Ble mae'n nodi ein bod yn bwriadu torri'r haen gyffredinol yn y blynyddoedd i ddod?
Rydych chi wedi datgan o'r blaen eich bod yn dymuno symud cyllid oddi wrth yr haenau cyffredinol i'r haenau opsiynol a chydweithredol. Rwy'n ymwybodol fod y Dirprwy Brif Weinidog yn mynd i gael cyfle i wneud datganiad hir—
Ddirprwy Lywydd, hoffwn gywiro'r cofnod.
—felly hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd. Bydd gennych 10 munud i ymateb.
Pwynt o drefn.
Fe gymeraf y pwynt o drefn ar ddiwedd y ddadl.
Diolch.
Ond gadewch i ni fod yn glir: nid yw hyd yn oed y model hwn yn gwrthsefyll craffu. Nid oedd dros 3,000 o ffermwyr sydd ar gynllun Cynefin Cymru ar hyn o bryd wedi'u cynnwys yn y modelu hyd yn oed. Felly, pan fo'r Llywodraeth yn dweud nad yw'r data'n dweud y stori lawn, gallwn gytuno, ond am resymau gwahanol iawn. Oherwydd, Ddirprwy Lywydd, os yw'r modelu'n ddiffygiol, mae'r polisi y mae wedi'i adeiladu arno'n ddiffygiol hefyd.
Y tu ôl i bob un o'r ffigurau hynny mae teulu, cymuned, busnes, pobl sydd wedi gwasanaethu Cymru ers cenedlaethau. Nid galwedigaeth yn unig yw ffermio. Mae'n ffordd o fyw, calon ein heconomi wledig, a chonglfaen hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae sector ffermio Cymru yn cyflogi tua 50,000 o bobl yn uniongyrchol ac yn cefnogi dros chwarter miliwn arall ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd a diod ehangach—sector sy'n werth £9.3 biliwn i'n heconomi bob blwyddyn. Am bob £1 o arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn ffermio, daw £9 yn ôl. Dyna werth gwirioneddol am arian. Felly, pan fydd Llywodraeth yn cynnig cynllun sy'n tanseilio cynhyrchiant, yn lleihau niferoedd da byw ac yn bygwth swyddi, nid ffermwyr yn unig sydd ar eu colled, ond Cymru gyfan.
Addawyd i ffermwyr na fyddai ymyl clogwyn o ran cyllido, ac eto bydd cynllun y taliad sylfaenol yn cael ei dorri 40 y cant yn 2026 a'i ddileu'n gyfan gwbl erbyn 2029. Mae hynny'n gadael ffermwyr heb unrhyw ddewis go iawn ond cofrestru ar gynllun diffygiol—un nad ydynt wedi cael fawr o amser i'w graffu—neu wynebu pwysau ariannol difrifol. Mae rhai eisoes wedi dweud na fyddant yn cofrestru o gwbl, a phwy all eu beio?
Cyhoeddwyd asesiad effaith y Llywodraeth ei hun sy'n cadarnhau'r canlyniadau dinistriol hyn dri mis yn unig cyn i'r cynllun fynd yn fyw ym mis Ionawr 2026. Nid wyf yn credu bod hynny'n dderbyniol. Mae ffermwyr Cymru yn haeddu llawer gwell. Rydym yn croesawu dileu'r gofyniad am 10 y cant o orchudd coed a chyflwyno taliad gwerth cymdeithasol, ond mae'r problemau sylfaenol yn parhau: mae hwn yn gynllun sy'n blaenoriaethu biwrocratiaeth dros ymarferoldeb, cynllun sy'n rhoi targedau amgylcheddol uwchlaw cynhyrchu bwyd, a chynllun sy'n creu perygl o ddiberfeddu ffermio Cymru, yr haen gyffredinol, o blaid haenau sy'n gwthio cynhyrchu bwyd o'r canol i'r ymylon. Oherwydd, gadewch i ni fod yn onest, Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn credu mai cynllun ffermio yw hwn; rwy'n credu mai cynllun amgylcheddol ydyw, un y mae'r Llywodraeth yn disgwyl i ffermwyr ei gyflawni.
Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd rheoli tir yn gynaliadwy, ond yn rhy aml, pan fydd y Llywodraeth hon yn siarad am gynaliadwyedd, caiff ei gyfyngu i nodau amgylcheddol yn unig. Mae gwir gynaliadwyedd yn llawer ehangach na hynny. Mae'n gynaliadwyedd cymunedol, cadw ein trefi a'n pentrefi gwledig yn fyw; cynaliadwyedd economaidd, sicrhau bod teuluoedd ffermio yn gallu gwneud bywoliaeth deg; cynaliadwyedd diwylliannol ac ieithyddol, cadw'r Gymraeg a'n traddodiadau Cymreig wedi'u gwreiddio yn ein tir; a chynaliadwyedd cynnyrch Cymreig, cyflenwad dibynadwy o fwyd olrheiniadwy o ansawdd uchel y mae pobl ledled y byd yn ymddiried ynddo.
Ond nid y cynllun diffygiol hwn yw'r unig fygythiad sy'n wynebu ein ffermwyr. Ochr yn ochr ag ef, mae'r dreth arfaethedig ar y fferm deuluol, y methiant parhaus i ddileu TB mewn gwartheg, ac anymarferoldeb rheoliadau'r parthau perygl nitradau. Mae pob un o'r rhain yn ychwanegu pwysau at y baich cronnus sydd eisoes yn gwasgu ein cymunedau gwledig. Ac nid ni'n unig sy'n lleisio pryderon. Mae NFU Cymru wedi disgrifio modelu economaidd y Llywodraeth fel rhywbeth sy'n peri pryder mawr, gan alw am sicrwydd nad yw ffermwyr Cymru yn cael eu gadael yn waeth eu byd nag o dan gynllun y taliad sylfaenol. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio am fiwrocratiaeth, baich gweinyddol a phryder ynghylch trefniadau arolygu cosbol. Serch hynny, mae Llafur yn mynnu eu bod yn gwrando. Eto, pan alwodd y Ceidwadwyr Cymreig am bleidlais rwymol yn y Senedd ar y cynllun ffermio cynaliadwy terfynol, er mwyn sicrhau cyfreithlondeb democrataidd cyn ei weithredu, fe wrthododd Llafur. Fe wnaethant amddifadu ffermwyr o'r cyfle i gael eu lleisiau wedi eu clywed yn iawn yma yn y lle hwn. Nid wyf yn credu mai democratiaeth ar waith yw hynny, ond yn hytrach, Llywodraeth drwy ordinhad.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwybod beth yw'r realiti: bydd Llafur yn bwrw ymlaen a bydd y cynllun yn dechrau ym mis Ionawr. Ond rydym hefyd yn gwybod y gall Cymru wneud yn well, ac mae'n rhaid iddi wneud yn well. Nid ydym yn galw am ddychwelyd at gynllun y taliad sylfaenol. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i gymorth amaethyddol esblygu. Byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn sefydlu model sy'n gweithio i'n ffermwyr yn lle'r cynllun ffermio cynaliadwy—un sy'n rhoi cynhyrchiant bwyd a diogeledd bwyd yn y canol. Byddem yn ymrwymo £100 miliwn ychwanegol i ffermwyr dros dymor nesaf y Senedd, gan sicrhau sefydlogrwydd, tegwch a hyder ar gyfer y dyfodol. Ni wnawn fodloni ar ddirywiad wedi'i reoli. Byddwn yn buddsoddi yn y diwydiant Cymreig allweddol hwn. Byddwn yn cefnogi'r bobl sy'n bwydo ein cenedl. Oherwydd nid rhywbeth opsiynol yw sector ffermio ffyniannus; mae'n allweddol i Gymru ffyniannus. Oherwydd mae'r ddadl hon yn ymwneud â mwy na pholisïau a chanrannau; mae'n ymwneud â goroesiad cymunedau sydd wedi siapio ein cenedl ers canrifoedd. Mae'n ymwneud â diogelu'r bwyd a gynhyrchwn, y tir a garwn, a bywoliaeth y bobl sy'n dibynnu ar y ddau.
Felly, gan fod y gwelliannau i'n dadl yn dangos na fydd Llafur a Phlaid Cymru yn sefyll dros ein ffermwyr, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud yr hyn sydd er budd y genedl. Fe safwn gyda'n ffermwyr. Fe safwn gyda'r Gymru wledig. Ac fe anfonwn neges glir i'r Llywodraeth hon: ni wnawn dderbyn cynllun sy'n peryglu ein ffermydd, ein swyddi a'n diogeledd bwyd. Fel y dywedodd un amaethwr mawr unwaith, os yw amaethyddiaeth yn methu, ni fydd gan unrhyw beth arall obaith o lwyddo. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1, yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cydweithio a ddigwyddodd wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfraniad sylweddol rhanddeiliaid.
2. Yn nodi cyhoeddi’r Cynllun ar 15 Gorffennaf 2025 a’r gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid ar yr haenau Dewisol a Chydweithredol.
3. Yn croesawu cyhoeddi Achos Busnes llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn bod yn agored a thryloyw.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £340 miliwn yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026.
5. Yn annog ffermwyr i ystyried manylion y cynllun ei hun a defnyddio’r canllaw cyflym sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.

Symud.
A galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2 a 3, yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu pwynt 2 a'i roi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Bord Gron Gweinidogol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i barhau i esblygu a diwygio'r cynllun er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a hyfyw i'r sector amaethyddol yng Nghymru.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithio gyda'i gilydd i ddarparu setliad ariannol aml-flwyddyn i'r sector amaethyddol, ac i symud i ffwrdd o Farnetteiddio'r gyllideb ffermio er mwyn darparu sefydlogrwydd economaidd i'r sector.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn eisiau dechrau—. Rwyf am wneud cyfraniad cadarnhaol, ond rwy'n credu bod yna lawer iawn o eironi yma, yn y ffaith bod y rhai a gefnogodd Brexit, y rhai a dreuliodd eu hamser yn dweud wrthym y byddai Brexit yn dda i'r wlad hon, bellach yn cwyno am ganlyniadau Brexit. Ni fyddem yma o gwbl heddiw yn trafod hyn oni bai am Brexit. Nawr, fe wnaeth pobl Cymru wrando ar y bobl hynny bryd hynny; rwy'n credu y byddant yn meddwl ddwywaith ynglŷn â gwrando arnynt eto. Ond rydym lle rydym ni, ac mae'n rhaid inni fwrw ymlaen. A dyna'r—[Torri ar draws.] Na. Ac mae'n rhaid imi fwrw ymlaen gyda fy araith hefyd, mae arnaf ofn. Na.
Dwi eisiau dweud fy mod i gyda’r undebau amaeth ar y mater yma. Dwi ddim yn meddwl mai rhwygo’r cyfan i fyny a chychwyn eto yw'r ffordd orau ymlaen ar hyn. Mae'r sector wedi dioddef blynyddoedd o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd yn barod yn dilyn Brexit.
Nawr, mae'r holl waith sydd wedi digwydd yn y cyfnod diwethaf, byddwn i’n dweud, wedi cyrraedd man syndod o dda o dan yr amgylchiadau. Yn sicr, mae'r undebau wedi chwarae rhan yn hynny o beth, ac mae yna gonsensws tu ôl i'r fframwaith sydd wrth galon y rhaglen, os nad oes yna gonsensws o gwmpas rhai o'r manylion, a byddai taflu hynny i'r naill ochr, dwi'n meddwl, yn gamgymeriad.
Na, dyw e ddim—dyw e ddim—yn berffaith. Rŷn ni i gyd—neu lawer iawn ohonom ni beth bynnag—yn derbyn hynny. Dwi wedi clywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud dyw'r asesiad impact ddim efallai yn gwbl ddibynadwy, a gallwch chi gwestiynu rhai o'r ystadegau a'r baselines sy’n flynyddoedd oed, ac efallai mai ond yn ystyried yr haen unifersal yma mae e’n ei wneud, ac yn y blaen. Ac ie, efallai mai’r worst-case scenario yw e, ond mae e'n peri gofid i fi ac i nifer o bobl mas fanna sydd â'u bywoliaethau yn dibynnu ar y cynllun.
Pan ŷch chi'n edrych ar gwymp yn niferoedd y da byw, eto, dwi’n gwybod bod nifer yn dweud bod angen ffocysu ar effeithlonrwydd a chynhyrchiant, yntefe—efficiency and productivity—yn hytrach na niferoedd. Wel, mae yna realiti tu ôl i hynny hefyd, cofiwch, wrth gwrs, achos rŷn ni’n gwybod bod nifer o ladd-dai a phroseswyr cig yn stryglo yn barod. Felly, dŷn ni angen clywed gan y Llywodraeth beth felly yw’r cynllun i sicrhau bod y lladd-dai hynny, er enghraifft, yn aros yn hyfyw os oes yna lai o anifeiliaid yn dod trwy’r system.
Mae’r asesiad hefyd, wrth gwrs, yn sôn am golli swyddi. Wel, rŷn ni eisiau clywed, felly, beth yw’r cyfleoedd fydd yn dod yn sgil y rhaglen newydd. Rŷn ni’n gwybod bydd yna gyfleoedd mewn cyd-destun agri-amgylcheddol, creu seilwaith newydd ar ffermydd ac yn y blaen—wel, beth yw’r rheini? Ond y gofid mwyaf i fi, fel nifer, dwi’n siŵr, yw bod yr asesiad yn dweud efallai bydd lefelau incwm ffermydd yn disgyn. Eto, dwi’n gwybod mai worst-case scenario yw hyn, a dyw e ddim felly o reidrwydd yn siarad i amgylchiadau pob fferm unigol, ac mae i fyny i’r ffermwyr unigol hynny wneud yn siŵr neu ffeindio beth fydd yr effaith arnyn nhw, ond mae yn dangos yn glir i fi fod angen i’r Llywodraeth droi pob carreg nawr i gau’r bwlch incwm yna.
A dyna, wrth gwrs, le mae’r toriadau i’r siâr o ariannu amaethyddol sy’n dod i Gymru o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ein brifo ni nawr yn fwy nag erioed. ‘Not a penny less’ oedd yr addewid, wrth gwrs, gan y Ceidwadwyr, ond, wrth gwrs, roedd Llafur yn ceryddu hynny ar y pryd, a nawr mae Llywodraeth Llafur y Deyrnas Unedig wedi Barnetteiddio cyllideb amaethyddol Cymru, sy’n golygu, yn hytrach na’r 9.4 y cant o’r cyllid sy’n adlewyrchu maint a phwysigrwydd relative y sector i ni yng Nghymru, rŷn ni’n nawr yn derbyn 5 y cant, sy’n adlewyrchu maint y boblogaeth. Os yw’r bartneriaeth mewn pŵer yma yn golygu unrhyw beth i unrhyw un, mi ddylai fe olygu o leiaf fod yr arian yna a oedd yn arfer dod i Gymru, dylai ddod i Gymru, yn dod i Gymru. Mi fyddai hynny yn helpu cau’r bwlch incwm, oni byddai fe? Felly, mi fyddwn i yn eich annog chi i gefnogi ein gwelliant ni i’r cynnig yma ynglŷn â hynny.
Ac, wrth gwrs, dwi’n dod nôl at y cyfnod trosiannol. Rŷn ni eisiau gweld mwy o amser i’r sector addasu ac i sicrhau bod y cynllun yn gweithio i bawb. Nawr, mae’r undebau amaeth yn iawn yn fy marn i: peidiwch â mynd am y nuclear option a thaflu’r cyfan i ffwrdd. Oes, mae yna waith i'w wneud. Oes, mae yna le i wella, ac, oes, mae yna angen i’r Llywodraeth barhau i newid ac esblygu’r cynllun yma wrth fynd yn ei blaen. Ond, yn ei hanfod, mae’n gynllun sy'n rhoi strwythur i ni fedru gweithio gydag e. Ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i bob fferm unigol edrych ar yr impact sydd ar eu busnes nhw—dyw un headline figure ddim wastad yn dweud y stori gyfan.
Dwi'n cytuno gydag un elfen o'r cynnig. Er gwaethaf beth mae'r Gweinidog yn ei ddweud, dwi hefyd yn gresynu at yr hyn mae'r asesiad yn ei awgrymu. Dwi'n cefnogi'r rhan honno o'r cynnig. Ond, fel mae'r undebau amaeth yn ei ddweud, peidiwch â thaflu'r cyfan allan. Parhewch i weithio i wella ac i esblygu'r cynllun er mwyn cyrraedd lle lle mae e yn gweithio i bawb. Felly, fyddaf i ddim yn cefnogi ail ran y cynnig ac mi fyddwn i yn gofyn i'r Senedd gefnogi gwelliannau Plaid Cymru, sy'n fwy cyson, fel dwi'n dweud, â'r hyn mae'r undebau amaeth yn ei ddweud. Diolch.
Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau fel ffermwr. Rwy'n credu bod yn rhaid inni roi peth amser i atgoffa ein hunain o'r hyn y mae ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig wedi'i ddioddef dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y clywsom, TB mewn gwartheg, rheoliadau dŵr, mwy o fiwrocratiaeth, ofn y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn anymarferol, ac yn fwy diweddar, y tafod glas wrth gwrs. Ychwanegwch at hyn y posibilrwydd real iawn o orfod chwalu eu ffermydd i dalu treth etifeddiant newydd Llafur, a gallwch weld sut y mae'n rhaid eu bod yn teimlo ar hyn o bryd. Mae wedi bod yn storm berffaith o heriau.
Y problemau gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy y llynedd oedd y gwelltyn olaf a arweiniodd at y brotest fwyaf a welodd y Senedd hon, gyda miloedd o ffermwyr yn protestio ar y grisiau y tu allan. Yn dilyn y fersiwn drychinebus honno o'r cynllun ffermio cynaliadwy, roeddem yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi ailwerthuso'r cynllun. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw eglurder ynglŷn â'r effaith wirioneddol y byddai'r cynllun diwygiedig hwn yn ei chael ar ffermwyr Cymru. Newydd ddod yn amlwg nawr y mae hynny. Er efallai nad yw asesiad effaith y cynllun diweddaraf hwn mor drychinebus â'r olaf, mae'n dal i ddynodi dyfodol annerbyniol i'n diwydiant ffermio. Fel y clywsom, mae modelu Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y cynllun diweddaraf hwn yn rhagweld gostyngiad amcangyfrifedig o 56,000 o unedau da byw yng Nghymru; gallai bron i 1,200 o swyddi gael eu colli; a gallem weld bron i £77 miliwn yn cael ei ddileu oddi ar incwm busnesau fferm.
A ellir ei alw'n gynllun ffermio cynaliadwy pan fo'n bygwth y diwydiant, gan ei wneud yn llai cynaliadwy mewn cymaint o ffyrdd? Fel y clywsom, mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi disgrifio'r canlyniadau posib hyn fel rhai hynod bryderus, ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i esblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy yng ngoleuni'r effeithiau hyn. Mae Undeb Amaethwyr Cymru hefyd yn bryderus iawn ac wedi tynnu sylw at yr effeithiau negyddol y bydd y newidiadau hyn yn eu cael ar ffermydd teuluol ledled Cymru. Nawr, Ddirprwy Lywydd, mae effeithiau asesedig y Llywodraeth wedi brawychu ein cymunedau gwledig unwaith eto.
Er bod angen sefydlogrwydd ar y gymuned ffermio, rhaid inni ofyn ar ba gost y dylai'r sefydlogrwydd hwnnw ddod, os gall ddod yn wir. Mae angen cynllun yn lle'r cynllun ffermio cynaliadwy fel y mae, un a fyddai'n diogelu ein diogeledd bwyd ac yn gosod cynhyrchiant bwyd yn y canol, gan ddiogelu'r amgylchedd wrth gwrs. Rwy'n ymwybodol fod yr amser i ffermwyr gofrestru ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn prysur agosáu, ac yn anffodus, efallai nad oes fawr o ddewis ond symud ymlaen gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy ar ei ffurf bresennol am gyfnod byr. Ond rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gellid llunio cynllun gwell, un sy'n darparu cynhyrchiant bwyd cynaliadwy ac yn galluogi ffermwyr i fod yn gynaliadwy. I'r perwyl hwnnw, fel y clywsoch, byddem yn buddsoddi £100 miliwn ychwanegol yn y gyllideb amaethyddol dros y tymor nesaf. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n bosib cyflwyno cynllun gwell, un na fyddai'n dinistrio ein diwydiant ffermio, ond a fyddai'n ei gynnal ar gyfer ffermwyr a chenedlaethau'r dyfodol o ffermwyr, yn wahanol i'r effeithiau dinistriol y byddai'r cynllun ffermio cynaliadwy presennol yn eu creu i Gymru.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni sicrhau bod unrhyw gynllun ffermio yn y dyfodol yn darparu dyfodol go iawn i ffermwyr, ac nid un sy'n niweidio'r diwydiant yn economaidd. Felly, hoffwn alw ar yr Aelodau yma i gefnogi ein cynnig.
Rwy'n gweld bod cynnig y Torïaid yn gynnig gwydr hanner gwag go iawn, oherwydd nid ydych wedi ystyried yr holl waith sydd wedi digwydd i gynnwys y nifer uchaf o ffermwyr yn rhan o'r gwaith o lunio'r cynllun hwn, ac yn hytrach, rydych chi'n canolbwyntio ar rywbeth a allai fod yn broblem, neu fel arall. Felly, yn eich cynnig, rydych chi'n pwyntio at ragfynegiad o ostyngiad yn niferoedd da byw, ond gall hynny fod yn beth da. Nid ydych chi hyd yn oed yn ystyried hynny. Mae rhai ffermydd yn cadw mwy o anifeiliaid ar eu tir nag y bydd y tir hwnnw'n caniatáu ar eu cyfer, ac mae'n gorlethu'r tir hwnnw, ac yna rhaid iddynt ddod â—[Torri ar draws.] Nid wyf wedi gorffen fy mrawddeg. Rhaid iddynt ddod â soia a grawn drud wedi'u mewnforio i mewn, pethau y gellid eu defnyddio i fwydo pobl.
Jenny, onid ydych chi'n sylweddoli, gyda'r gostyngiad yn niferoedd da byw ledled Cymru—fel y soniodd Llyr Gruffydd—y bydd y màs critigol o dda byw sy'n mynd i'n lladd-dai yn llai, gan arwain at golli swyddi yn rhai o'r diwydiannau allweddol hynny, lle nad oes cymaint â hynny o swyddi yn y meysydd hynny ar hyn o bryd?
Rwy'n derbyn bod cael ein lladd-dai ein hunain yn fater pwysig iawn, ac mae angen inni eu diogelu, oherwydd fel arall rydym yn colli rheolaeth yn llwyr ar ble mae'r anifeiliaid yn mynd, a hefyd ar y lefi sy'n mynd gyda nhw.
Yn eich cynnig, rydych chi'n siarad am swyddi a gollir; beth am y swyddi ychwanegol y bydd eu hangen ar gyfer cynnal profion ar briddoedd a gofynion eraill o dan y cynllun ffermio cynaliadwy? Mae gwir angen inni warchod ein priddoedd, gan nad oes neb wedi dyfeisio sut i greu mwy ohono. Ni all dim gymryd ei le, mae angen inni ofalu amdano, gan nad ydym am iddo fynd i mewn i'r dŵr, gyda mwy o law yn mynd i mewn i'n hafonydd, ac nid ydym am iddo gael ei lethu gan orddefnydd o wrteithiau fel na fydd unrhyw beth yn tyfu ynddo. Mae saith o bob 10 o'r bobl ledled y wlad sy'n cyfrannu at y cynllun ffermio cynaliadwy, eisiau gweld lefelau is o wrtaith a phlaladdwyr yn cael eu caniatáu, oherwydd eu bod yn poeni am yr effaith ar yr amgylchedd a'r argyfwng natur y mae hyn yn ei achosi.
Rydym wedi llwyddo i gael sgyrsiau da iawn gyda ffermwyr am y materion pwysig hyn, ac mae angen inni fwrw ati i leihau'r niwed y mae'n ei wneud i natur, lleihau'r niwed y mae'n ei wneud i'n hafonydd. Rydym wedi gweld, er enghraifft, yr effaith y mae ffermydd ieir yn ei chael o amgylch afon Gwy, afon Wysg ac afon Llugwy, a'r achos cyfreithiol amgylcheddol mwyaf yn y DU. Mae bron i 4,000 o bobl wedi gweithredu i geisio diogelu'r afonydd a arferai gynnwys dŵr pur ac sydd bellach ychydig yn debyg i garthbyllau.
Felly, rwy'n cytuno y gallwn ddathlu'r bwyd olrheiniadwy o ansawdd uchel y mae pobl ledled y byd yn ymddiried ynddo, ond y broblem yw bod y rhan fwyaf ohono'n mynd i rannau eraill o'r byd yn hytrach nag aros yng Nghymru. Ond gan fod y pwrs cyhoeddus yn darparu £238 miliwn, mae angen inni sicrhau bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn galluogi mwy o bobl Cymru i allu mwynhau ffrwyth y bwyd o ansawdd uchel. Nid wyf yn awgrymu y dylai'r pwrs cyhoeddus fod yn prynu toriadau drud o gig oen neu borc neu gig eidion, ond faint o'r pumed chwarter—pwysig iawn yn y lladd-dy—sy'n cyrraedd stiwiau cig oen blasus neu gawliau cig eidion i'n disgyblion, ein cleifion a phreswylwyr ein cartrefi gofal? Rwy'n dal i fod heb gael ateb i hynny, ond mae'n gwestiwn pwysig iawn, oherwydd mae'n rhaid inni fod yn tyfu ar gyfer pobl Cymru yn ogystal ag ar gyfer allforio dramor.
Rydym yn gwybod bod traean o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn dod o'r system fwyd fyd-eang, ac mae'n ddyletswydd arnom i wella ein gweithredoedd, i newid ein deietau, i sicrhau nad ydym yn achosi newyn i bobl ar yr ochr arall i'r byd.
Diolch am ildio, Jenny, ac rwy'n gwerthfawrogi'r amser. Rwyf bob amser yn pryderu pan fyddwn yn cymharu effaith fyd-eang amaethyddiaeth ag effaith amaethyddiaeth yng Nghymru, oherwydd mae amaethyddiaeth Cymru yn llawer mwy cynaliadwy na buarthau pesgi yn yr Ariannin a Brasil. Mae'n llawer mwy cynaliadwy na'r cyfartaledd cyffredinol, ac rwy'n credu bod y data wrth fesur amaethyddiaeth Cymru yn ôl cyfartaledd byd-eang yn gwneud cam â'r diwydiant yng Nghymru.
Rwy'n derbyn yr hyn rydych chi'n ei ddweud yn sicr, ond yn achos garddwriaeth, rydym mewn lle gwahanol yn gyfan gwbl. Gwyddom mai dim ond 0.1 y cant o'r tir sy'n cael ei ffermio a ddefnyddir ar gyfer garddwriaeth, a gwyddom fod rhaid i bawb ohonom gael deiet iach, cytbwys. Ac o ystyried cyflwr y byd, lle gallai'r rhyfel ar dir mawr Ewrop ledaenu ac achosi aflonyddwch enfawr i'r bwyd a fewnforiwn ar hyn o bryd, er mwyn ein diogeledd bwyd ein hunain mae angen inni gynyddu faint o ffrwythau a llysiau a dyfwn ym mhridd Cymru. Ac mae angen inni ddiogelu'r 20 y cant o dir sy'n cael ei gategoreiddio fel—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda, Jenny.
—y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas. Rhaid i lawer newid, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud wrthym sut y mae elfennau opsiynol a chydweithredol y cynllun ffermio cynaliadwy yn mynd i gyflawni gwell diogeledd bwyd mewn ffrwythau a llysiau.
Wel, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'n grŵp am gyflwyno'r ddadl hon, Sam Kurtz am ei harwain, ac i'n holl ffermwyr—nid yn unig yn fy etholaeth i, Aberconwy, ond ar draws Cymru gyfan. Y gladiatoriaid hynny sy'n gweithio, mewn rhai achosion, yn llawer caletach na llawer o wleidyddion, ond maent yn gwneud hynny gan ymladd yn gyson yn erbyn y polisïau negyddol a ddaw gennych chi. Ffermio yw asgwrn cefn Cymru. Mae'r sector yn cyflogi tua 50,000 o bobl, gyda thua 230,000 yn cael eu cyflogi ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yn ei chyfanrwydd. Am bob £1 o arian cyhoeddus a fuddsoddir, caiff £9 ei roi yn ôl i economi Cymru; £2.2 biliwn bob blwyddyn o allbwn ffermio, a £9.3 biliwn yw gwerth ein sector bwyd yng Nghymru. Felly, maent yn haeddu ein diolch. A byddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, bob amser yn cefnogi ein ffermwyr.
Mae'r manteision o gael sector ffermio cryf, ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru yn ddiamheuol, ond maent yn gweithio'n galed, gan beryglu eu bywydau eu hunain ar adegau, mewn amodau gwaith nad wyf yn credu y byddai llawer yn y Siambr hon yn eu mwynhau. Boed law neu hindda, cenllysg, rhew neu eira, mae ein ffermwyr allan bob dydd yn gofalu am eu da byw, yn gofalu am ein hamgylchedd ac yn rhoi bwyd ar y bwrdd i lawer. Ond mae Llywodraeth Lafur y DU a Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gweithredu polisïau sy'n niweidio'r sector hanfodol hwn: parthau perygl nitradau, diffyg cymorth TB, dryswch ynghylch y tafod glas, i enwi ond tri. Mae treth Llafur ar y fferm deuluol yn bygwth bywydau a bywoliaeth pobl yng nghefn gwlad Cymru.
Ac ar y pwynt hwn, rhaid i mi ddiolch hefyd i Abi Reader, am ei holl ymdrechion i dynnu sylw at bwysigrwydd ffermio yng Nghymru, ac mae hi'n hyrwyddwr da iawn i ffermio llaeth.
A ydych chi'n ymwybodol ei bod hi'n hyrwyddo garddwriaeth hefyd? Rwy'n cytuno ei bod hi'n arweinydd amaethyddol gwych, ond mae yna lawer o bobl eraill—
Da iawn. Wel, diolch, Abi, os ydych chi'n gwylio neu'n gwrando. Nid yn unig eich bod chi'n siarad dros y diwydiant ffermio, rydych chi'n arddwriaethydd da hefyd. Da iawn.
Mae llywydd NFU Cymru, Aled Jones, wedi dweud wrth ASau yn y Pwyllgor Materion Cymreig fod y cyhoeddiad wedi creu cythrwfl i lawer o fusnesau teuluol yng Nghymru ac wedi gorfodi teuluoedd i gael sgyrsiau anodd iawn. Rydym wedi gweld ffermwyr â phroblemau iechyd meddwl. Jenny, fe wnaethoch chi siarad am uchafswm y niferoedd y mae ffermwyr yn—. Eu tir nhw ydyw. Maent yn gwybod am les anifeiliaid. Ac rwy'n adnabod cymaint o ffermwyr sy'n teimlo'n hollol—. Fe wnaethoch chi sôn am yr holl fewnbwn y maent wedi'i gael yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Wel, dewch i siarad â fy ffermwyr yn Aberconwy, oherwydd mae llawer ohonynt yn teimlo nad oes ganddynt lais o gwbl. Nid ydynt wedi siarad â neb am unrhyw gynllun ffermio cynaliadwy. Mae hyn yn annerbyniol—
A gaf i wneud ymyriad?
Cyn belled ag y caf yr amser a ganiateir, cewch.
Rwy'n credu bod hwnnw'n sylw diddorol, ac mae'n amlygu'r ffaith nad yw'r rhan fwyaf o ffermwyr yn aelodau o'r undebau ffermio; mae'n debyg mai dyna pam y mae'r aelodau hynny'n teimlo nad ydynt wedi cael fawr o lais yn hyn. Ac eto mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cyflwyno'r undebau ffermio fel llais y diwydiant ffermio, ac mae hi newydd brofi nad yw hynny'n wir.
Yn y pen draw—. Fe wyddoch fy marn am undebau. Rwy'n credu bod hon yn dreth ar bobl sy'n gweithio, drwy fod yn rhan o undeb sydd wedyn yn ariannu eich ymgyrchoedd etholiadol. [Torri ar draws.] Rhai ymgyrchoedd etholiadol. [Torri ar draws.] Rhai undebau, hyd yn oed.
Wel, er y gallwn i gyd gytuno ynghylch yr angen am ynni adnewyddadwy, ni ddylai hyn byth ddigwydd ar draul ein diogeledd bwyd. Fel y mae, ein ffermwyr yw rhai o'n prif gyfranwyr yn y gwaith o adfer natur, bioamrywiaeth, a chefnogi rhywogaethau sy'n dirywio, ond nid yw hynny byth yn cael ei gydnabod. Gwnaed y cynllun plannu coed 10 y cant heb feddwl am y canlyniadau a allai wneud rhai ffermydd llaeth yn anhyfyw.
Mae asesiad Llywodraeth Cymru o effaith economaidd y cynllun ffermio cynaliadwy yn amcangyfrif y bydd yn arwain at golli 56,000 o dda byw yng Nghymru—ac mae'n ddrwg gennyf, Jenny, nid wyf yn cytuno â hynny; at golli 1,163 o swyddi ar ffermydd Cymru—nid wyf yn cytuno â hynny; a cholli £73 miliwn mewn incwm busnesau fferm. Mae'r rhain yn gostau na allwn eu fforddio. Rydym yn siarad am—[Torri ar draws.] Rwy'n mynd i barhau os nad oes ots gennych. Rydym yn siarad am ddiogeledd bwyd. Mae angen inni ddiogelu a chefnogi ein ffermwyr. Maent yn cyfrannu'n enfawr at ein cynnyrch domestig gros, ac maent hefyd yn geidwaid cefn gwlad. Mewn gwirionedd, i bobl Cymru, rwy'n credu'n gryf eu bod yn bwysicach na gwleidyddion.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn sefyll gyda'n ffermwyr. Byddem yn cael gwared ar y cynllun ffermio cynaliadwy ac yn cyflwyno cynllun arall sy'n llawer mwy buddiol. Byddem yn darparu £100 miliwn ychwanegol dros dymor nesaf y Senedd, ac yn cael cynllun yn ei le sy'n gweithio'n iawn i ffermwyr, gyda diogeledd bwyd a chynhyrchiant yn cael lle canolog ynddo. Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i drwsio Cymru. Mae ein ffermwyr yn rhan enfawr o'r cynllun hwnnw. Fis Mai nesaf, pleidleisiwch dros ein ffermwyr drwy bleidleisio i'r Ceidwadwyr Cymreig. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl hon. Gadewch imi ddweud yn glir y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cefnogi ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ac o'r radd flaenaf, a mynd i'r afael ar yr un pryd â newid hinsawdd ac addasu iddo, rheoli eu hadnoddau naturiol a'u cynefinoedd, a sicrhau safonau uchel parhaus o ran iechyd anifeiliaid: dull fferm gyfan, Cymru gyfan y mae'n amlwg nad yw'r Ceidwadwyr yn ei gefnogi, sy'n anffodus iawn. Felly, rwy'n edrych ymlaen hefyd, Ddirprwy Lywydd, at gywiro'r camgymeriadau yn y ffordd y mae rhai—ac rwy'n edrych i'r dde yn wleidyddol ac yn llythrennol—wedi dehongli'r data a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf.
Mae hyd yn oed y cynnig a gyflwynwyd heddiw yn anghywir. Nid yw'n dweud yn unman—yn unman—yn y dystiolaeth a gyhoeddwyd gennym y bydd swyddi'n sicr o gael eu colli, niferoedd da byw'n sicr yn gostwng, neu incwm busnesau fferm yn sicr o leihau. Nid yn unman. Ceisio troi gwybodaeth wirioneddol gymhleth yn sloganau syml yw hyn. Nid yw'n ddefnyddiol mewn dadl ddifrifol ac yn bwysicach na dim, nid yw'n ddefnyddiol i ffermwyr. Mae'r dogfennau a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf—ac mae'n iawn ein bod wedi eu cyhoeddi, gan ein bod yn credu mewn bod yn agored ac yn dryloyw—wedi caniatáu i mi, fel Dirprwy Brif Weinidog, wneud penderfyniad i fuddsoddi dros £340 miliwn yn ein cynllun ffermio cynaliadwy yn 2026.
Ac ar yr addewid newydd y clywsom amdano heddiw gan y Ceidwadwyr i roi mwy o arian i ffermio, dyma'r un blaid a addawodd na fyddem geiniog ar ein colled. Lle oedd hynny? [Torri ar draws.] Sam, dywedwch wrthyf lle mae hwnnw. Eich plaid chi a'i haddawodd. Dyma'r blaid sydd wedi bradychu'r ffermwyr drwy beidio â gwireddu'r addewid hwnnw. A dyma'r blaid a addawodd yr wythnos hon, fel y clywsom yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol, y byddai toriad o £47 biliwn i gyllideb y DU yn y dyfodol. Beth fydd hynny'n ei olygu—rwy'n edrych ar Ysgrifennydd y Trysorlys yma—i'r swm a gaiff ei drosglwyddo yma i Gymru? Beth y mae hynny'n ei olygu i ffermio, heb sôn am wasanaethau cyhoeddus? I fod yn onest, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei hystyried yn hurt fod modd ymddiried yn addewidion y Ceidwadwyr o gwbl, yn enwedig y gymuned ffermio. Mae angen ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gennym yn ei chyfanrwydd, gyda'r holl gyfyngiadau wedi eu deall, a pheidio â chael ffigurau wedi'u dyfynnu allan o gyd-destun, ac yn anghywir mewn llawer o achosion.
Gadewch i mi fod yn hollol glir. Mae'r achos busnes yn dweud yn glir fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnig gwell gwerth am arian—rhywbeth y byddwn wedi meddwl y byddai'r Ceidwadwyr wedi credu ynddo—canlyniadau gwell na model cyllido presennol cynllun y taliad sylfaenol. O ran y canlyniadau modelu a gyhoeddwyd, mae'n bwysig pwysleisio mai senarios yw'r rhain, nid rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol fel y byddai rhai yn honni. Hyd yn oed wedyn, gwyddom fod y senarios hyn yn debygol o fod yn oramcangyfrifon.
Gadewch imi esbonio pam, Ddirprwy Lywydd. Un o nodweddion pwysig y cynllun yw ein bod yn rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosib i ffermwyr i fodloni'r gofynion. Mae hyn yn wir ar gyfer rheoli cynefin. Mae'r cynllun yn cynnwys canllawiau i helpu ffermwyr i reoli eu cynefinoedd, ond canllawiau ydynt. Rydym yn caniatáu, yn galluogi ffermwyr i wneud eu penderfyniadau rheoli, gan gynnwys ynglŷn â lefelau stocio, yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio i'w ffermydd nhw. Wyddoch chi, mae ffermwyr yn go glyfar yn y ffordd y maent yn rheoli eu ffermydd. Mae gennyf hyder yn y ffermwyr hynny, hyder y gallant wneud y penderfyniad cywir i gyflawni'r holl ganlyniadau a geisiwn.
Ond rwy'n gwybod bod y Ceidwadwyr wedi dweud yn glir nad ydynt yn cytuno â'r dull fferm gyfan a'r canlyniadau y ceisiwn eu cyflawni. Mae'n foment eithaf dadlennol. [Torri ar draws.] Gadewch imi barhau am eiliad. Mae'r modelu economaidd hefyd yn rhagdybio y byddai pob ffermwr yn cael eu gorfodi i ddilyn cyfraddau stocio llym ar gyfer rheoli cynefinoedd. Fel y dywedaf, ni fydd hyn yn wir yn ymarferol. Mae gennym ddull o weithredu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Caiff hyn ei anwybyddu gan y Ceidwadwyr. Mae'n golygu bod gostyngiadau i niferoedd da byw, ac o ganlyniad, i incwm busnesau fferm a gofynion llafur safonol yn llawer llai tebygol o ddigwydd nag y byddai canlyniadau'r modelu'n ei awgrymu. [Torri ar draws.] Gallaf glywed, Ddirprwy Lywydd, o'i sedd—
Rwyf am ofyn i'r Aelodau gadw'n dawel. Maent yn siarad yn eithaf uchel, ac ni allaf glywed y Dirprwy Brif Weinidog heb iddo orfod codi ei lais.
Ac nid wyf yn hoffi codi fy llais, fel y gwyddoch, Ddirprwy Lywydd, ond gallaf glywed beth y maent yn ei ofyn, a dyna pam y mae hyn yn ddefnyddiol. Mae'n ddefnyddiol am ei fod wedi caniatáu i mi, a'r ford gron weinidogol hefyd, gyda'r holl randdeiliaid, ddod i gasgliad fod y cynllun hwn yn gweithio i ffermwyr a'r ystod eang o ganlyniadau. Mae'n fodelu sy'n ein helpu i wneud y penderfyniad hwnnw. Sam.
Diolch. Rydych chi newydd ddweud yno y byddai'r ford gron yn cytuno i hyn. A ydych chi'n dweud bod yr undebau ffermio yn derbyn yr asesiad o'r effaith economaidd?
Rwy'n dweud bod yr undebau ffermio'n derbyn mai'r cynllun a lansiwyd gennym yn ôl ym mis Gorffennaf, gyda'i holl golofnau, yw'r cynllun cywir i'w symud ymlaen, er eich bod chi nawr yn argymell ei ddileu a dechrau eto. Ac os ydych chi eisiau creu ansicrwydd yn y byd ffermio, dyna'r ffordd Geidwadol o'i wneud. Rydych chi wedi siarad yn aml iawn yn y Siambr hon am effeithiau pwysau amrywiol ar ffermwyr a'u lles a'u hiechyd meddyliol. Rydych chi eisiau dileu'r cynllun hwn a dechrau eto. Y neges i ffermwyr yw mai ansicrwydd ac ansefydlogrwydd a gewch chi gan y Torïaid, ac ni fydd hynny'n dda.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gofyn i arweinydd yr wrthblaid dawelu. Felly, fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet ostwng ei lais.
Rwy'n angerddol iawn.
Er eich bod chi'n angerddol, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig ein bod yn cadw tôn synhwyrol yn y ddadl.
Yn wir. Ac mae hefyd yn hanfodol cofio, Ddirprwy Lywydd, nad yw'r modelu yn ystyried manteision economaidd ac amgylcheddol sylweddol posib y camau gweithredu opsiynol a chydweithredol. Dyma lle bydd llawer o'r manteision i ffermwyr a'r amgylchedd. Dyna pam mai ein ffocws ar hyn o bryd yw gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i ddatblygu cynnig manwl i ffermwyr ar gyfer yr haenau hyn. Mae'n hanfodol fod y gwaith hwnnw'n parhau gyda'r holl randdeiliaid a'n bod yn darparu'r cyfleoedd hynny.
Ond yn bwysicaf oll efallai, yr hyn y mae pob ffermwr unigol eisiau ei wybod yw beth y mae hyn yn ei olygu i mi a fy fferm. Nid yw'r dystiolaeth a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf yn ateb y cwestiwn hwn. Nid oes dwy fferm yr un fath yng Nghymru. Mae pob fferm yn wahanol, gydag amgylchiadau gwahanol iawn. Rydym wedi gweld yr awydd ymhlith ffermwyr i ddeall y cynllun a'r taliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y sioeau haf a'n digwyddiadau teithiol poblogaidd a ddechreuodd yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch fod cymaint o ffermwyr yn ymgysylltu â ni yn y modd hwn.
Rydym wedi gweithio'n galed iawn, holl aelodau'r ford gron, i wneud y cynllun yn hygyrch. Ond gadewch imi ddweud yn glir, mae mynediad yn ddewis y mae angen i bob ffermwr ei wneud, yn seiliedig ar amgylchiadau unigol eu busnes fferm. Felly, rwy'n annog ffermwyr nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny i edrych ar y canllaw cyflym i weld beth fydd eich taliadau'n debygol o fod o dan y cynllun ffermio cynaliadwy y flwyddyn nesaf. Dewch i'r digwyddiadau teithiol ledled Cymru yr hydref hwn i ddeall beth y mae hyn yn ei olygu i chi.
Rwy'n aml yn dweud fy mod wedi ymgysylltu'n agos iawn ag aelodau'r ford gron weinidogol wrth ddatblygu'r cynllun, ein bod wedi gweithio ar y cyd, ac mae hynny i gyd yn wir. Ond nid yw'n gwneud cyfiawnder â'r cannoedd o oriau y mae cymaint o sefydliadau wedi'u rhoi i wneud y cynllun yn llwyddiant. Rydym wedi gweithio mor galed ag y gallwn, fel y dywedais y byddem yn ei wneud. Mae'r cynllun yn gryfach—mae'r achos busnes yn dangos hynny'n glir—ac yn fwy hygyrch o ganlyniad.
Ac nid ydym wedi gorffen eto. I ateb y pwynt a wnaed yng ngwelliant Plaid Cymru, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i lunio i fod yn gynllun sy'n esblygu. Bydd yn gynllun byw sy'n newid ac yn addasu yn ôl yr angen, felly nid oes angen y gwelliant hwn. Rwyf wedi bod yn glir am hyn sawl gwaith o'r blaen, ond rwy'n hapus i roi sicrwydd pellach yn ei gylch heddiw. Yr hyn y mae ffermwyr ei eisiau a'r hyn y maent yn ei haeddu nawr yw sicrwydd. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy a ddatblygwyd drwy gydweithredu digynsail yn darparu fframwaith a fydd yn adeiladu gwydnwch economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i ffermwyr a'u ffermydd ledled Cymru, nawr ac am genedlaethau i ddod. Rwy'n annog y Senedd i gefnogi gwelliant y Llywodraeth, ac i wrthod y prif gynnig heddiw a gwelliannau'r wrthblaid.
Galwaf ar James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am ddadl dda a bywiog y prynhawn yma a gododd lais y Dirprwy Brif Weinidog yn bennaf.
Hoffwn ddiolch i Sam Kurtz am agor y ddadl heddiw a nodi'r hyn y mae'r cynllun hwn a'r asesiad effaith wedi'i ddweud: colli swyddi, colli incwm fferm, a gostyngiad yn niferoedd da byw. Ond fel y dywedodd, nid ffigurau'n unig yw'r rhain ond teuluoedd pobl, cartrefi pobl, bywoliaeth pobl—ac ni ddylid anghofio hynny. Fel y dywedodd, mae ffermwyr wedi bod yn glir. Rwy'n credu bod angen i'r Dirprwy Brif Weinidog edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld beth y mae ffermwyr go iawn yn ei feddwl. Nid ydynt yn hapus gyda'r cynllun hwn. Nid ydynt yn hapus â'r cynigion fel y maent ar hyn o bryd. Fel y gwyddom o arolygon barn a wnaed, mae ffermwyr wedi dweud nad ydynt yn mynd i ymuno â'r cynllun ac y byddant yn mynd ar eu liwt eu hunain—nid rhywbeth rwyf i eisiau ei weld. Rwyf am weld diwydiant ffermio sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth ac nid un sy'n torri'n rhydd oddi wrthi.
Nododd Sam fod plannu coed wedi'i ddileu ohono. Roedd hynny'n rhywbeth cadarnhaol, ond nid yw'r cynllun hwn wedi mynd yn ddigon pell. Mae'r undebau wedi dweud nad ydynt yn hapus â'r cynllun ar ei ffurf bresennol. Mae ffermwyr wedi dweud nad ydynt yn hapus â'r cynllun ar ei ffurf bresennol. Mae angen inni wneud yn siŵr, pan fydd y Llywodraeth yn llunio unrhyw beth, ei bod yn rhoi ffermio a diogeledd bwyd yn y canol.
Soniodd Sam hefyd am ein safonau uchel o ran lles anifeiliaid a bwyd ledled Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ddiogelu a gwneud yn siŵr ein bod yn ei hyrwyddo—y bwyd o ansawdd uchel y mae pawb ohonom eisiau ei gynhyrchu yma yng Nghymru.
Yna dechreuodd Llyr Gruffydd ei ddadl, fel y mae llawer o Aelodau Plaid Cymru yn ei wneud, drwy siarad am Brexit. Hoffwn atgoffa Llyr, pe bai'n edrych ar y cyfandir, mae ffermwyr wedi bod yn protestio ledled Ewrop am eu bod yn anhapus â'r ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd yn llunio eu cynllun. Felly, nid wyf yn meddwl y gallwn edrych yno am unrhyw ysbrydoliaeth. Mae angen inni wneud yn siŵr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid oeddwn yn siŵr ai sefyll o gwmpas oeddech chi ai peidio. Iawn, fe wnaf.
Mae ychydig yn lletchwith am eich bod chi'n sefyll y tu ôl i mi. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r risg economaidd fwyaf i'n heconomi wledig a'n diwydiant ffermio yw cynllun Plaid Cymru ar gyfer annibyniaeth, a fyddai'n gwneud Cymru'n waeth ei byd ac yn costio miloedd o bunnoedd i bob cartref yn ein gwlad? Mae hon yn blaid sydd wedi cefnogi'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ers blynyddoedd. Wrth gwrs, dyma'r blaid a luniodd y cynllun ffermio cynaliadwy gwreiddiol, a oedd yn drychineb, pe bai wedi cael ei weithredu.
Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth rydych chi newydd ei ddweud, Darren. Rwy'n cytuno â chi y byddai Plaid Cymru yn rhwygo Cymru oddi wrth y Deyrnas Unedig, a fyddai'n peryglu ein diogeledd bwyd, ac nid yn unig hynny, ond ein diogelwch cenedlaethol hefyd.
Llyr, rwy'n cytuno â chi ynghylch y gwaith sydd wedi'i wneud gan yr undebau, ac mae Aelodau eraill wedi codi hynny hefyd, a'r bobl a gyfrannodd at y ford gron. Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod yna bobl eraill wedi bod yn bwydo i mewn, undebau ac eraill, ond nid ydynt yn hapus â'r cynllun ar ei ffurf bresennol, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod cynllun yn cael ei gyflwyno ar ôl yr etholiad nesaf a fydd yn gweithio i'n ffermwyr. Fel chi, ac fel y dywedais wrth Jenny, rwy'n pryderu ynghylch colli niferoedd da byw. Mae hynny'n mynd i fod yn enfawr i'n lladd-dai ledled Cymru. Siaradais â lladd-dai sy'n agos at fy rhan i o'r byd yn fy etholaeth, ac maent yn bryderus iawn y bydd y màs critigol o dda byw'n gostwng, ac mae'n bryder enfawr, sydd ond yn mynd i wthio costau bwyd i fyny, nid eu gwthio i lawr.
Peter Fox, fe wnaethoch chi siarad am y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, nid ar y cynllun hwn, ond y materion ehangach gyda TB mewn gwartheg, parthau perygl nitradau, y tafod glas—beth bynnag a nodwch, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llanast ohono, onid ydynt? Ond fe wnaethoch chi sôn wedyn am y 56,000 o dda byw a'r 1,200 o swyddi a gaiff eu colli, a'r £76 miliwn o incwm ffermydd a gollir. Mae'n enfawr. Os ydym yn ei rannu rhwng ein holl ffermydd teuluol ledled Cymru, mae'n golled enfawr i'r holl ffermwyr sydd angen yr arian hwnnw i gynnal eu—[Torri ar draws.] Iawn, ewch amdani, Jenny.
A oeddech chi yn yr ystafell pan esboniodd Huw Irranca-Davies mai amcangyfrifon oedd y rhain, nid ffigurau gwirioneddol? [Torri ar draws.] Modelau oeddent, ac nid yw'n ymddangos eich bod wedi ystyried hynny.
Am eiliad, Jenny. Fe ddof at hynny mewn munud. Oherwydd wedyn, Jenny, fe ddaethoch chi i mewn i'r ddadl, ac fe wnaethoch chi siarad am blaladdwyr a'r angen i leihau eu defnydd. Rwy'n cytuno, mae angen inni leihau dibyniaeth ar blaladdwyr. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn dadlau ynglŷn â hynny. Ond mae'n golygu bod angen inni wneud yn siŵr fod yna fuddsoddiad priodol mewn ymchwil a datblygu i sicrhau bod dewisiadau amgen yn cael eu darparu, oherwydd os nad oes gennym blaladdwyr, byddai rhai o'n cnydau bwyd yn methu, a byddem yn gweld prinder bwyd ledled y byd, ac ni allwn gael hynny.
Fe wnaethoch chi siarad hefyd am ffermydd dofednod a'r effaith a gânt ar ein hamgylchedd. Mae ein ffermwyr dofednod yn un o'r rhannau o'n system fwyd a reoleiddir fwyaf ledled y wlad. Mae'n siŵr fod ganddynt fwy o gynlluniau rheoli maethynnau nag unrhyw ran arall o'r diwydiant amaethyddol, ac rwy'n diolch i'n ffermwyr dofednod ledled Cymru am wneud y gwaith gwych a wnânt yn cynhyrchu bwyd maethlon i'n poblogaeth. [Torri ar draws.] Fe adawaf i chi gael un tro arall, Jenny, ac yna—[Anghlywadwy.]
Hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith nad yw bron yr holl gyw iâr sy'n cael ei weini yn ein hysgolion yn dod o Gymru, mae'n dod o Wlad Thai. Ac mae hynny'n rhan o'r broblem.
Ac mae hynny'n fethiant gan y Llywodraeth, onid yw? Mae'n fethiant gan Lywodraeth Lafur Cymru nad ydynt yn dod â bwyd Prydeinig a Chymreig i mewn i'n hysgolion. Felly, rwy'n credu y dylech godi hynny gyda'ch Ysgrifennydd Cabinet eich hun, Jenny.
Janet Finch-Saunders, fe gymeroch chi ran yn y ddadl yn eich ffordd huawdl, ddoniol ac unigryw arferol, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud hynny, gan ichi ddiolch i'n holl ffermwyr am y gwaith a wnânt ledled ein gwlad a'r ffermwyr yn eich etholaeth chi, a gŵyr pob un ohonom pa mor gefnogol ydych chi i ffermwyr yn eich etholaeth a'u hymroddiad, ddydd ar ôl dydd, ym mhob tywydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ac ni ellir anwybyddu hynny. Ac fe sonioch chi hefyd am yr effaith ar iechyd meddwl ein ffermwyr. Ydy, mae'r ddadl hon yn fywiog, ond mae'n rhaid inni sylweddoli ein bod yn sôn am fywoliaeth pobl, dyma eu ffordd o fyw, ac mae arnaf ofn fod llawer o elusennau'n cael eu gorlethu â galwadau gan ffermwyr sy'n ansicr ynghylch y dyfodol, ac mae a wnelo hyn â mwy na'r cynllun ffermio cynaliadwy yn unig, mae a wnelo â TB, mae a wnelo â nifer o faterion. Felly, mae angen inni gofio bod pobl wrth wraidd y ddadl hon.
Yna, fe wnaethom symud ymlaen at Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd mewn hwyliau da y prynhawn yma, yn tynnu sylw at holl safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar y cynllun. Ond credaf fod angen inni gywiro camargraff yma, Huw, onid oes? Fe sonioch chi am y gwaith modelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud—mae'n fodel. Ond yn y bôn, yr hyn rydych chi'n ceisio'i ddweud yw nad yw'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. [Torri ar draws.] Wel, dyna rydych chi'n ei awgrymu, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad gennych, gan mai dyna rydych chi'n ei awgrymu.
I egluro unwaith eto, gan ei bod yn amlwg nad oedd yr Aelod yma pan ymatebais i hyn yn gynharach neu mewn dadleuon blaenorol, mae'r gwaith modelu wedi fy helpu i a'r grŵp bord gron gweinidogol i lunio cynllun. Mae wedi ein helpu i lunio cynllun. Nid yw'n ddiffiniol, nid yw'n rhagfynegi, nid yw'n fywyd go iawn; bywyd go iawn yw'r hyn y bydd pob ffermwr yn ei wneud. Felly, dyna egluro hynny unwaith eto.
Felly, pam ei bod wedi cymryd tan nawr i chi gyhoeddi'r gwaith modelu, Ysgrifennydd y Cabinet? Fe lansiwyd y cynllun gennych heb y gwaith modelu, ac yna fe gyflwynoch chi'r gwaith modelu i helpu i lywio'r cynllun. Wel, mae hyn yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl, Ysgrifennydd y Cabinet. [Torri ar draws.] Rwy'n credu ein bod wedi clywed—[Torri ar draws.]
[Anghlywadwy.]—yn ôl ac ymlaen.
Mae eich Aelod yn cloi'r ddadl; gadewch iddo gloi'r ddadl. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno gofyn am ymyriad, dewis yr Aelod yw ei dderbyn ai peidio.
Fe wnaf dderbyn un arall gennych, Ysgrifennydd y Cabinet. Ie, ewch amdani.
Felly, fel yr eglurwyd mewn gwirionedd, diben cyflwyno'r achos busnes, sy'n achos busnes cyflawn, oedd bod angen cwblhau'r asesiad amgylcheddol a'r asesiad economaidd dros yr haf gan nad oedd pob manylyn wedi'i gwblhau. Dyna pam y gwnaethom ei gynhyrchu yn ei gyfanrwydd. Yr hyn rydych chi wedi dewis ei wneud fel y blaid Dorïaidd yw dethol pethau ohono a dweud, 'Mae'n ffaith, mae'n mynd i ddigwydd', ac rydych chi'n anghywir ac yn gwneud cam â'r gymuned ffermio.
Yr hyn y mae'r Blaid Geidwadol yma'n ei wneud yw sefyll o blaid ein ffermwyr ledled Cymru, lle mae Llywodraeth Lafur Cymru, ar ôl 26 mlynedd, wedi methu. Maent wedi methu ar TB, maent wedi methu ar barthau perygl nitradau, maent wedi methu ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac i lawr y ffordd yn San Steffan, maent wedi methu ar ran ein ffermwyr gyda'u treth ar ffermydd teuluol. Nid yw Llafur yn deall cymunedau gwledig. Nid ydynt erioed wedi eu deall, ac ni fyddant byth yn eu deall. Felly, dywedaf wrth bawb yn y Siambr hon heddiw: cefnogwch ein cynnig, oherwydd wrth wneud hynny, rydym yn anfon neges glir at y diwydiant amaethyddol: rydym ni'n eich cefnogi, rydym yn cyd-sefyll gyda chi ac ni fyddwn byth, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn bradychu ein cymuned amaethyddol ar drywydd rhyw agenda amgylcheddol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffech chi godi pwynt o drefn?
Hoffwn. Diolch. Mae gennyf lawer o barch at Sam, a gyflwynodd y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu ei fod yn wir yn Aelod anrhydeddus o Siambr y Senedd, ac na fyddai'n ceisio camarwain na datgan pethau gwallus. Dywedodd ym munudau cyntaf ei sylwadau agoriadol fy mod wedi dweud y bydd y cyllid yn yr haen gyffredinol yn cael ei dorri. Mae hynny'n gwbl anghywir, yn gwbl wallus, ac rwyf wedi gwirio'r Cofnod hefyd, Sam. Felly, gwn eich bod yn unigolyn anrhydeddus. Rwy'n eich gwahodd i dynnu hynny'n ôl, gan na fyddech chi eisiau camarwain y Senedd.
Ddirprwy Lywydd, os caf, ar y pymthegfed o Orffennaf, wrth sôn am swm y taliad:
'Felly, mae uchafswm ar y lefel gyffredinol—rydym yn bod yn agored ac yn onest iawn am y peth—ac mae isafswm lefel ar yr opsiynol a chydweithredol'.
Felly, os yw'n parhau ar £238 miliwn, bydd toriad mewn termau real i gyllid yr haen gyffredinol. Rwy'n ŵr anrhydeddus ac rwy'n deall cwyn yr Aelod yr wyf yn ei barchu'n fawr, ond bydd toriad mewn termau real i'r haen gyffredinol fel y dywedwyd, yr uchafswm a nododd, ar y pymthegfed o Orffennaf.
Rydych chi wedi cyflwyno eich dadl dros yr hyn a ddywedoch chi. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno ei safbwynt ef. Mae'r cyfan wedi'i gofnodi. Rwy'n credu y gwnawn ei gadael hi ar hynny.
Reit, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Byddwn yn pleidleisio ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: cynllun ffermio cynaliadwy. Yn gyntaf, galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Cynnig heb ei ddiwygio : O blaid: 11, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 22, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Mae gwelliant 2 wedi ei ddad-ddethol.
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 9, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan : O blaid: 9, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Nawr galwaf am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8999 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cydweithio a ddigwyddodd wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfraniad sylweddol rhanddeiliaid.
2. Yn nodi cyhoeddi’r Cynllun ar 15 Gorffennaf 2025 a’r gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid ar yr haenau Dewisol a Chydweithredol.
3. Yn croesawu cyhoeddi Achos Busnes llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn bod yn agored a thryloyw.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £340 miliwn yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026.
5. Yn annog ffermwyr i ystyried manylion y cynllun ei hun a defnyddio’r canllaw cyflym sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 20, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Heledd Fychan i siarad am y pwnc. Heledd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
A diolch i'r rhai ohonoch chi a fydd yn aros ar gyfer y ddadl heddiw. Hoffwn roi munud o fy amser i Llyr Gruffydd a Luke Fletcher ac rwy'n ymddiheuro i eraill a oedd eisiau cyfrannu, ond ni allaf roi mwy o amser heddiw. Rwy'n gobeithio y cewch chi gyfle i ymyrryd os hoffech wneud hynny.
Fel y gŵyr pob un ohonom, mae teithio gan ddysgwyr yn fater sy'n codi dro ar ôl tro yn y Senedd, ac eto, er gwaethaf adolygiad gan Lywodraeth Cymru a ddechreuodd yn 2019, mae'r problemau'n parhau. Nid yn unig eu bod yn parhau, ond maent yn gwaethygu wrth i fwy o awdurdodau lleol leihau'r swm y maent yn ei wario ar gludiant i'r ysgol fel eu bod yn gweithredu'n gyson â darpariaeth statudol, sef, wrth gwrs, 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd neu goleg addysg bellach a 2 filltir ar gyfer ysgol gynradd.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Ym mis Ionawr eleni, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y byddai canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025, chwe blynedd ar ôl i'r adolygiad ddechrau. Ond gyda'r ymgynghoriad bellach wedi'i ymestyn tan fis Tachwedd, pwy a ŵyr pryd y bydd y canllawiau hynny'n gweld golau dydd. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw beth fydd yn y canllawiau hynny, gan fod yr ymgynghoriad yn cynnwys cynnig i gynyddu'r amser a ystyrir yn dderbyniol i blentyn neu unigolyn ifanc dros 11 oed gerdded i'r ysgol o'r 60 munud presennol i 75 munud, ac un ffordd yw hynny. Felly, dwy awr a hanner o gerdded i'r ysgol ac yn ôl bob dydd o bosib. Faint ohonom a fyddai'n barod i wneud hynny ym mhob tywydd, hyd yn oed pan fydd hi'n dywyll, gan gario bagiau llawn llyfrau a dillad ymarfer corff, ac offeryn cerdd hyd yn oed? Roeddwn yn chwarae'r sielo pan oeddwn yn yr ysgol. Roedd yn ddigon anodd mynd ag ef ar y bws. Nid oes unrhyw ffordd y byddech chi'n cario sielo am bron i 3 milltir. Ni fyddai'r un ohonom yn gwneud hynny, yn enwedig ar hyd rhai o'r llwybrau y nodwyd eu bod yn ddiogel, ond dyna a ddisgwyliwn gan ein plant.
Mae hwn yn fater byw iawn yn fy rhanbarth i, yn enwedig yn Rhondda Cynon Taf, lle daeth newidiadau i gludiant i'r ysgol i rym fis diwethaf. Er na fydd yr effaith lawn yn cael ei deall yn llawn am rai blynyddoedd, mae'n amlwg fod y canlyniadau eisoes yn ddwys. Felly, hoffwn rannu gyda chi heddiw sut y mae hyn yn effeithio ar fy etholwyr, a pham y mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu. Hoffwn ailadrodd galwadau ar Lywodraeth Cymru hefyd i sicrhau bod hyn yn cael sylw drwy'r Bil bysiau yn hytrach na'i gadw fel mater ar wahân.
Mae'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth y byddaf yn ei rhannu gyda chi wedi'i chrynhoi gan grŵp anhygoel o fenywod sy'n ymgyrchu ar y mater o dan faner ymgyrch Achub Cludiant Ysgol RhCT. Mae Tina, Kayleigh, Laura, Ange a Helen wedi gwneud gwaith gwych yn cydlynu'r ymgyrch, gyda deiseb a sefydlwyd ganddynt yn denu llawer iawn o gefnogaeth a fydd, gobeithio, yn arwain at ddadl bellach yn y Senedd cyn gynted ag y byddant yn pasio'r trothwy 10,000 o lofnodion. Roeddwn yn falch o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wedi cytuno i gyfarfod â nhw a gwrando ar eu pryderon yn uniongyrchol, ac edrychaf ymlaen at glywed sut yr eir i'r afael â'u pryderon yn sgil y cyfarfod hwnnw.
Fel rhan o'u hymgyrch, maent wedi creu'r ddogfen hon, ac mae'n seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd ganddynt ac a gwblhawyd gan rieni a myfyrwyr, gyda 947 o bobl yn ymateb, pob un yn RhCT. Dyma rai o'r prif ystadegau: dywedodd 82 y cant o ddisgyblion fod eu llwybr i'r ysgol yn anniogel, gyda 72 y cant yn nodi prinder croesfannau diogel; mae 91 y cant o rieni'n poeni am eu plant yn eistedd mewn dillad gwlyb drwy'r dydd ar ôl cerdded mewn tywydd gwael; mae 44 y cant yn pryderu am absenoliaeth gynyddol; ac mae 64 y cant yn wynebu pwysau ariannol newydd o ganlyniad i orfod talu am drafnidiaeth gyhoeddus neu orfod lleihau eu horiau gwaith er mwyn gallu mynd â'u plant i'r ysgol ac yn ôl.
Mae'r effaith ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn arbennig o ddifrifol, gyda llawer o deuluoedd yn nodi bod y diffyg trafnidiaeth yn ei gwneud yn amhosib i'w plant fynychu'r ysgol yn ddiogel ac yn gyson. Hoffwn rannu rhai dyfyniadau uniongyrchol gan rieni sy'n dod â hyn oll yn fyw. Mae tudalennau a thudalennau o'r rhain, ond dyma bump ohonynt:
'Mae gan fy mab awtistiaeth ac mae'n cael trafferth gyda newid. Mae colli ei fws ysgol wedi'i wneud yn bryderus a gwneud iddo fynd i'w gragen. Mae wedi colli sawl diwrnod yn barod am nad yw'n gallu ymdopi â'r cerdded a'r bysiau cyhoeddus gorlawn.'
Dywed un arall:
'Mae'n rhaid imi ddewis rhwng talu am y bws neu brynu bwyd. Mae'r cyngor yn dweud ei fod yn statudol, ond beth am ddiogelwch ein plant?'
Ac un arall:
'Ers y newidiadau, mae fy mhlentyn wedi bod yn hwyr bron bob dydd. Mae'r bws cyhoeddus yn orlawn ac yn annibynadwy. Mae hi wedi blino'n lân cyn iddi hyd yn oed ddechrau ei gwersi.'
Mae un arall yn datgan:
'Rwy'n rhiant sengl ac mae gan fy mab anghenion ychwanegol. Rwyf wedi gorfod lleihau fy oriau gwaith am na allaf adael iddo gerdded ar ei ben ei hun. Rydym yn teimlo ein bod wedi ein gadael ar ôl.'
A'r dyfyniad olaf yr hoffwn ei rannu:
'Mae'n ymwneud â mwy na'r pellter—mae'n ymwneud â'r bryniau, y tywydd, a'r diffyg croesfannau diogel. Nid yw'r polisi'n adlewyrchu realiti ein cymuned.'
Mae athrawon wedi sôn wrthyf am blant yn cyrraedd yr ysgol yn wlyb at eu crwyn neu wedi blino'n lân, a llyfrau ysgol wedi'u difetha mewn tywydd garw. Ac mae rhieni wedi bod yn eu dagrau, yn dweud wrthyf sut y mae hyn yn effeithio arnynt yn ariannol, neu sut y mae eu swydd mewn perygl am na allant weithio'r un oriau mwyach. Mae hyn yn arbennig o anodd i rieni sengl.
Mae’r newid hefyd yn cael effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg, gyda rhai sy'n byw yn agos at ysgol cyfrwng Saesneg yn colli mynediad at gludiant ysgol i'r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf, sydd, mewn nifer o esiamplau, jest o dan y trothwy o dair milltir. Mae rhieni wedi dweud wrthyf i y byddan nhw naill ai'n tynnu eu plant allan o addysg cyfrwng Cymraeg, neu ddim yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn y lle cyntaf os ydy hyn yn parhau i fod yn bolisi. Ydy’r Llywodraeth, felly, yn fodlon bod pellter ysgol, ac argaeledd trafnidiaeth, yn rhwystr i blant fynychu addysg cyfrwng Cymraeg? A sut mae hyn yn cyd-fynd â thargedau 'Cymraeg 2050'?
Dywed y canllaw presennol hefyd fod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau cludiant addas i sicrhau na fyddant yn achosi lefelau afresymol o straen i ddysgwyr. Ond, gan nad yw’r Mesur yn diffinio 'straen', na'n cynnwys rhestr ddiffiniol o’r meini prawf, sut mae disgwyl i awdurdodau fesur effaith hyn ar y funud? A beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud os oes tystiolaeth gref o ran diffyg gweithredu o ran hyn?
Rŵan, dwi’n siŵr y clywn ni yn yr ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio at ddiweddariad ddoe ar brisiau bws £1, ond dwi'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym yn cyfuno'r ddau fater yma heddiw. Bydd, mi fydd pris £1 yn helpu mewn rhai achosion, ond nid ydy hyn yn ddatrysiad i bawb, fel sy'n cael ei ddangos o'r sylwadau dwi eisoes wedi'u darllen. Dydy argaeledd a llwybrau bysys cyhoeddus ddim cystal ym mhobman ag y maen nhw yng Nghaerdydd, er enghraifft. A dŷn ni'n gwybod hyd yn oed yng Nghaerdydd mae yna broblemau, oherwydd y diffyg trafnidiaeth i ysgolion ar amseroedd sydd yn gyfleus.
Felly, beth nesaf? Sut ydyn ni am ddatrys hyn? Wel, mae’n amlwg dydy'r pellter statudol ddim yn diwallu anghenion dysgwyr na chwaith eu rhieni. Dydy o ddim yn cymryd i ystyriaeth daearyddiaeth, na lles plant. Dydy’r polisi ddim chwaith yn ystyried diogelwch plant yn ddigonol ac maen nhw'n disgwyl i ddisgyblion gerdded llwybrau unig heb eu goleuo'n ddigonol.
Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i wrando ar leisiau rhieni, athrawon ac ymgyrchwyr, i ailedrych ar y darnau dirifedi o dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt dros y chwe blynedd diwethaf, gan gynnwys gan gomisiynwyr, gan Senedd Ieuenctid Cymru, gan bwyllgorau'r Senedd, a thrwy ohebiaeth gan Aelodau. Mae’n rhaid inni adolygu a diwygio'r Mesur teithio gan ddysgwyr, gostwng y trothwyon milltiredd, a sicrhau bod plant agored i niwed yn cael eu diogelu.
Ddoe, cysylltodd dau riant sengl â mi ar wahân, y ddau yn methu gweithio mwyach am fod angen mynd â'u plant i wahanol ysgolion, ac nid yw hyn yn anarferol. Mae gan un dri o blant, ac mae un ohonynt yn niwroamrywiol ac wedi cael problemau presenoldeb yn yr ysgol ers colli ei fws. Mae'r rhiant bellach wedi gorfod rhoi'r gorau i'w swydd i fynd â'u plentyn i'r ysgol uwchradd. Dywedodd yr ail riant a gysylltodd â mi wrthyf:
'Rwy'n gweithio'n rhan-amser yn y GIG ond rwyf i ffwrdd o'r gwaith ar hyn o bryd. Rwy'n rhiant sengl i ddau o blant. Mae gan un anabledd corfforol ac mae gan y llall gyflwr meddygol cymhleth. Mae'r ddau mewn ysgolion gwahanol. Rwyf wrth fy modd yn gweithio ac mae'n hanfodol ar gyfer ein sefyllfa ariannol fy mod yn gwneud hynny Roeddwn i'n arfer gallu gweithio tri diwrnod llawn yr wythnos. Ni allaf wneud hynny nawr am nad yw fy mhlentyn yn cael bws ysgol i'r ysgol uwchradd mwyach ac nid oes gennyf unrhyw ffordd ymarferol na diogel o fynd â'r ddau blentyn i'r ysgol a gweithio fy oriau contract.'
Felly, gadewch inni beidio â mantoli'r cyfrifon ar draul rhai o'n hunigolion mwyaf agored i niwed. Gadewch inni fuddsoddi yn eu dyfodol, fel y gall pob plentyn yng Nghymru gael mynediad at addysg yn ddiogel, yn fforddiadwy a chydag urddas. A gadewch inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad oes unrhyw blant yn cael eu gadael ar ôl oherwydd ble maent yn byw neu'r heriau a wynebant. Mae wedi bod yn chwe blynedd ers inni adolygu'r polisi hwn—pryd y gwelwn ni newid?
Clywch, clywch, Heledd Fychan, dywedaf i, a diolch am ddod â'r ddadl yma gerbron y Senedd. Mae yna ormod o bobl ifanc ledled Cymru yn cael eu gadael lawr ar hyn o bryd. Rŷn ni yn gyson yn codi enghreifftiau yn y Siambr fan hyn, ac mae gen i enghraifft benodol dwi eisiau cyfeirio ati, sef un disgybl sydd yn awr, hanner ffordd drwy yrfa ysgol, yn gorfod newid ysgol oherwydd y rheolau trafnidiaeth ysgol—wedi bod yn yr ysgol am bum mlynedd, a'r cyngor nawr yn dweud ei bod hi'n amhosib parhau i fynychu’r un ysgol er mwyn cael addysg chweched dosbarth, er bod yr ysgol mae’r cyngor yn mynd i anfon yr unigolyn yma iddi ymhellach i ffwrdd, er nad yw'r ysgol newydd yna yn mynd i fod yn medru darparu’r pynciau lefel A mae’r unigolyn yn awyddus i’w hastudio. Ble mae'r synnwyr cyffredin yn hynny? Ble mae’r ystyriaeth o lesiant yr unigolyn dan sylw? Bywydau pobl rŷn ni'n sôn amdanyn nhw fan hyn—myfyrwyr, eu teuluoedd, a'r hawl i barhau â'u haddysg yn yr ysgol y maen nhw’n ei galw’n gartref mewn rhyw ffordd, yntefe, lle mae eu ffrindiau nhw i gyd hefyd. Ond na, mae'r system yn dweud yn wahanol. Mae'n amser i degwch a synnwyr cyffredin ddod yn gyntaf, ac mae'n amser i'r sefyllfa fel y mae hi i newid.
Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dos Lywodraeth Leol a Thai i ymateb i'r ddadl—Jayne Bryant.

Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl hon ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, nad yw'n gallu bod yn bresennol. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Siambr heddiw, a hoffwn ddiolch hefyd i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu ar fater emosiynol a chymhleth i deuluoedd, cymunedau a llunwyr polisi ar lefel genedlaethol a lleol. Ac rwy'n ddiolchgar i Heledd ac i Llyr am leisio pryderon eu hetholwyr.
Mae'r Llywodraeth yn deall y rhesymeg dros lawer o'r dadleuon a gyflwynwyd heddiw ynghylch pam fod angen newid. Fodd bynnag, mae hefyd yn ddyletswydd arnom i gydnabod a gweithio o fewn y cyd-destun ariannol a deddfwriaethol sydd gennym. Y llynedd, gwariwyd £204 miliwn ar gludiant i'r ysgol. Mae ymestyn hawliau a throthwyon milltiredd yn cael effaith anochel ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer blaenoriaethau eraill. Mae'n golygu dewisiadau anodd i Lywodraeth Cymru ac i awdurdodau lleol sy'n rheoli cyllidebau cyfyngedig. Mae mwy y gallwn ei wneud bob amser, ond nid oes gennym adnoddau diderfyn chwaith i wneud popeth y gallem fod eisiau ei wneud. Ond rydym yn cymryd camau ystyrlon.
Mae'r ddadl hon heddiw yn amserol gan ei bod yn chwe mis ers i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru gynnal dadl Llywodraeth ar y mater pwysig hwn. Ers hynny, mae wedi cynnal uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog addysg, Lynne Neagle, a chyda phartneriaid cyflawni. Felly, dyma'r tro cyntaf inni ddod â'r holl chwaraewyr allweddol ynghyd yn yr un ystafell.
Mae wedi cyhoeddi'r canllawiau gweithredol diwygiedig drafft ar gyfer ymgynghori arnynt—y tro cyntaf i'r ddogfen bwysig hon gael ei diweddaru ers dros 10 mlynedd. Felly, o ran y ddogfen honno, mae wedi bod yn rhan o'r llif gwaith o'r uwchgynhadledd deithio honno.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. A allwch chi egluro'r rhesymeg pam fod 75 munud yn cael ei argymell yn hytrach na'r 60 munud presennol, o ystyried eich bod wedi cydnabod bod yna heriau enfawr? A oes rhesymeg pam fod 75 munud yn cael ei ystyried yn dderbyniol—cyfanswm o ddwy awr a hanner i fynd i'r ysgol ac yn ôl?
Diolch. Efallai y caf ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu at yr Aelod ar y mater hwnnw'n benodol. Ond o ran y canllawiau, fel y dywedais, roeddent yn cael eu diweddaru, agorwyd ymgynghoriad arnynt ym mis Mehefin, ac roedd hwnnw i fod i ddod i ben ddechrau mis Medi. Fodd bynnag, ar ôl gwrando ar bryderon nad oedd pawb a oedd am gyfrannu wedi cael y cyfle i wneud hynny, gwnaed y penderfyniad i ymestyn y dyddiad cau i 28 Tachwedd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i leisio eu barn i helpu i lunio polisïau yn y dyfodol.
Hefyd, rydym wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru arwain ar y gwaith hwn, ar rannu arferion gorau ar draws awdurdodau lleol, gwella cydweithio a chydweithredu. Maent eisoes wedi dechrau gwaith i flaenoriaethu gweithgarwch a drafodwyd yn yr uwchgynhadledd, fel contractau safonol a datblygu hyfforddiant wedi'i deilwra y gellir ei gyflwyno ledled Cymru. Rydym hefyd wedi cyflwyno teithiau bws am £1 i'n pobl ifanc—yr ymyrraeth genedlaethol gyntaf o'i bath i bobl ifanc yng Nghymru, ac mae wedi cael derbyniad da. Ac rydym hefyd yn ymrwymo £110 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i lwybrau teithio llesol, rhaglen Teithiau Iach a grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sydd oll yn helpu i wneud strydoedd ein hysgolion yn fwy diogel.
Yn y chwe mis diwethaf, mae'r Llywodraeth hon wedi gweithredu cynnydd i drothwy incwm aelwydydd ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg, gan ddarparu cymorth ariannol i 3,500 o fyfyrwyr ychwanegol. Rydym hefyd wedi buddsoddi £6.5 miliwn mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i helpu i gefnogi presenoldeb, ac rydym wedi cynyddu cyllid, drwy'r setliad llywodraeth leol, i dros £6 biliwn mewn cyllid refeniw i'w wario ar ddarparu gwasanaethau, sy'n cynnwys trafnidiaeth bysiau ysgol.
O ran y Bil bysiau y soniodd Heledd amdano, er nad yw'r Bil bysiau'n nodi unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau i'r Mesur teithio gan ddysgwyr, credwn y bydd y Bil bysiau'n hwyluso gwell darpariaeth teithio gan ddysgwyr ar y rhwydwaith o wasanaethau bysiau lleol, a bydd yn helpu i ddarparu'r newidiadau strwythurol sydd eu hangen i gefnogi lleoliadau dysgu a sicrhau'r lefelau gwasanaeth gofynnol i annog mwy o blant a phobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at eu haddysg. Ond nid oes un ateb cyffredinol i ddatrys cymhlethdodau teithio gan ddysgwyr, ac ni fydd pob un o'r gweithgareddau hyn ar eu pen eu hunain yn datrys yr holl heriau a drafodwyd gennym heddiw. Ond gyda'i gilydd, rydym ni fel Llywodraeth yn defnyddio'r dulliau sydd gennym, a'n hadnoddau cyfunol, i gefnogi opsiynau teithio a thrafnidiaeth effeithiol i'n pobl ifanc.
Ers i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ymgymryd â'i rôl, mae wedi nodi'n glir ein bod am gydweithio ar draws y pleidiau gwleidyddol i archwilio a cheisio ymateb i'r heriau yr ydym yn derbyn eu bod yn bodoli o ran darpariaeth teithio gan ddysgwyr. Nid oes atebion hawdd, ac rydym yn barod i weithio gyda phawb sydd â diddordeb i wella polisi a darpariaeth. Dyma pam y gwnaethom ymestyn yr ymgynghoriad ar y canllawiau teithio gan ddysgwyr, oherwydd ein bod am i bawb gyfrannu.
Fodd bynnag, yn absenoldeb miliynau lawer o bunnoedd i'w buddsoddi ac argaeledd gweithredwyr a gyrwyr bysiau mewn rhai rhannau o Gymru, rhaid inni edrych ar ddulliau gweithredu eraill, a dyna pam ein bod yn gwella prisiau bysiau i bobl ifanc, yn bwrw ymlaen â'r Bil bysiau, sy'n rhoi'r gallu inni lunio rhwydwaith sy'n gweithio'n well i deithwyr, a pham ein bod yn parhau ac yn ehangu ein hymgysylltiad â phobl ifanc. Rydym eisiau lleihau rhwystrau trafnidiaeth i bobl ifanc sy'n cael addysg yng Nghymru, ac rydym yn croesawu eich cefnogaeth i helpu i gyflawni hyn. Diolch yn fawr.
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:58.