Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/06/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dileu Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar Gymru? OQ62913

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Cefin Cambell am y cwestiwn. Rwyf wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fydd unrhyw effaith ar gyflawni'r cyfrifoldebau statudol perthnasol o ran Cymru o ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio i Gyllid a Thollau ei Fawrhydi.

Diolch yn fawr iawn. Fis diwethaf, fe lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gyflwyno fformiwla tecach i benderfynu ar lefelau cyfraddau busnes manwerthwyr bach a chanolig—sef syniad Plaid Cymru yn wreiddiol, wrth gwrs. Ond rŷn ni, fel plaid, yn awyddus i gynnwys lletygarwch o dan y system cyfraddau newydd. Felly, buaswn i'n licio gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet pam mae e wedi penderfynu peidio â chynnwys lletygarwch yn rhan o'r arolwg yna.

Ond yn fwy perthnasol, yn eich datganiad yn gynharach y mis hwn ar drethi lleol tecach, fe dynnoch chi sylw at bwysigrwydd cydweithredu ag asiantaeth y swyddfa brisio i gyflawni'r cynlluniau hyn. Nawr, y broblem yw nad yw asiantaeth y swyddfa brisio yn bodoli mwyach. Byddwch yn gwybod fy mod wedi codi ymgyrch gan fusnesau lleol yn Aberystwyth yn y Siambr o'r blaen, ac un o'r materion y maent wedi'u codi, o ran ardrethi busnes syfrdanol o uchel, yw'r ffordd y mae asiantaeth y swyddfa brisio yn gwerthuso eiddo yno. Pa waith, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a chan fod yr asiantaeth y swyddfa brisio wedi'i ddiddymu bellach, gyda phwy, i sicrhau bod eiddo'n cael ei werthuso'n briodol yng nghanol ein trefi, i ddarparu sail gynaliadwy ar gyfer ein system ardrethi busnes?

Diolch i Cefin Campbell am y cwestiynau ychwanegol. O ran lletygarwch, rŷn ni'n dal i fod yn yr amser i gasglu gwybodaeth a phosibiliadau am y pwerau newydd sydd gyda ni, a dwi'n mynd i aros i weld beth sy'n mynd i ddod atom ni drwy'r broses yna.

O ran asiantaeth y swyddfa brisio, mae'n bwysig iawn, i fod yn glir, fod gennym gytundeb lefel gwasanaeth gydag asiantaeth y swyddfa brisio. Rydym yn talu am y gwasanaethau y mae'n eu darparu. Nid ydynt yn cael eu darparu i ni o ewyllys da yn unig gan asiantaeth y swyddfa brisio, ac rydym yn disgwyl derbyn y gwasanaeth yr ydym wedi talu amdano. Ni waeth beth y bo'r trefniant rhwng CThEF fel rhiant-adran ac asiantaeth y swyddfa brisio, nid yw hynny'n gwneud unrhyw wahaniaeth i'r ffaith, fel un o gwsmeriaid y gwasanaeth hwnnw, fod hawl gennym i dderbyn y gwasanaeth a gomisiynwyd gennym, ac rydym yn hyderus y gwnawn.

Rydym yn dibynnu ar arbenigedd asiantaeth y swyddfa brisio. Mae'n sefydliad annibynnol. Mae ganddi ei methodolegau ei hun ar gyfer y ffordd y mae'n gwerthuso ac yn ailbrisio eiddo. Mae'n set o fethodolegau sydd wedi'u profi'n dda. Yn ddiweddar, mae wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am y ffordd y mae wedi defnyddio posibiliadau data newydd, ffyrdd modern o gyflawni ei chyfrifoldebau, a chafodd y gydnabyddiaeth honno'n benodol mewn perthynas â'r gwaith y mae wedi'i wneud ar ein cyfer ni yma yng Nghymru. Felly, bydd Aberystwyth, fel gweddill Cymru, yn rhan o'r ymarfer ailbrisio yr ydym wedi bod yn ei gynnal eleni ar gyfer eiddo busnes, a nod asiantaeth y swyddfa brisio fydd sicrhau bod ei gwerthusiadau newydd o eiddo ym mhob rhan o Gymru yn adlewyrchu'n llawn y newidiadau yn yr amgylchiadau economaidd ers yr ailbrisiad diwethaf, dair blynedd yn ôl.

Mae'n rhaid imi ddweud y gwir, tan i Cefin Campbell godi hyn, nid oeddwn yn rhy gyfarwydd â'r ffaith bod asiantaeth y swyddfa brisio wedi'i diddymu, sydd yn y cwestiwn gwreiddiol. Fel y gwyddoch chi'n enwedig, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi fy mhryderon sawl tro ynghylch ei gweithrediad yma yng Nghymru. Yn wir, o ganlyniad i'w perfformiad gwael, rwyf wedi cwestiynu'r cytundeb lefel gwasanaeth gyda chi rai blynyddoedd yn ôl. Mae gennyf fusnesau sy'n credu bod y gwasanaeth hwnnw'n ofnadwy. Wrth apelio yn erbyn gwerthoedd ardrethol, maent wedi gorfod aros am ddwy i dair blynedd. Weithiau, nid yw etholwyr hyd yn oed yn cael ymateb. Serch hynny, mae gwaith asiantaeth y swyddfa brisio yn cefnogi'r gwaith o gasglu dros £60 biliwn y flwyddyn drwy'r dreth gyngor ac ardrethi busnes. Nawr, maent yn dweud nawr y bydd y rhan fwyaf—yn gyffredinol, yn amlwg—o swyddogaethau asiantaeth y swyddfa brisio yn dod yn rhan o gyfrifoldeb CThEF erbyn 26 Ebrill. A yw hynny'n gywir? Nawr—

13:35

O'r gorau, iawn. Pan ddaw'n bryd adnewyddu'r contract, a fyddwch chi'n adolygu a oes unrhyw opsiynau gwasanaeth eraill i Gymru yn hytrach na gorfod dibynnu ar CThEF?

Wel, yn gyntaf oll, Ddirprwy Lywydd, dylid cadarnhau mai penderfyniad Llywodraeth y DU fu ailamsugno asiantaeth y swyddfa brisio i mewn i CThEF; nid yw wedi cael ei diddymu. Roedd hwn bob amser yn rhiant-gwmni gydag asiantaeth a noddid ganddo ac yr oedd yn gyfrifol amdani, ac mae wedi penderfynu dod â hi yn ôl o dan reolaeth CThEF am resymau y mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn ymwneud ag effeithlonrwydd wrth sicrhau nad oes swyddogaethau'n cael eu dyblygu.

Rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod, bob tro y byddwn yn ailnegodi cytundeb lefel gwasanaeth, ein bod yn edrych i weld sut arall y gellid darparu'r gwasanaeth hwnnw. Mae fy swyddogion yn cyfarfod ag asiantaeth y swyddfa brisio bob chwarter i adolygu cynnydd yn erbyn y dangosyddion perfformiad yn y cytundeb lefel gwasanaeth. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod asiantaeth y swyddfa brisio yn cyflawni ei chyfrifoldebau yma yng Nghymru yn y ffordd orau sy'n bosibl ac yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl. Bob tro y daw'n bryd ailnegodi'r cytundeb lefel gwasanaeth, mae'n gyfle i edrych i weld a ydym yn cael y gwasanaeth gorau ac a oes unrhyw bosibiliadau eraill ar gyfer cael y gwasanaethau y mae asiantaeth y swyddfa brisio yn eu darparu ar hyn o bryd.

Sefydlwyd asiantaeth y swyddfa brisio gan Gymro a Phrif Weinidog y DU, David Lloyd George, o ganlyniad i gyllideb y bobl ym 1909 a'r penderfyniad i gyflwyno treth gwerth tir. Felly, tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi roi gwybod i'r Cyfarfod Llawn heddiw am y camau diweddaraf y gallech chi eu cymryd i ystyried y posibilrwydd o dreth gwerth tir i Gymru.

Wel, diolch yn fawr iawn i John Griffiths am ei gwestiwn pellach diddorol iawn. Mae'n llygad ei le—mae gwreiddiau asiantaeth y swyddfa brisio yn dyddio'n ôl i gyllideb y bobl ym 1909. Cyflwynodd Lloyd George drethiant gwerth tir fel rhan o'r gyllideb honno, ac er mwyn gwneud y dreth honno'n ymarferol, roedd angen iddo roi gwerth ar yr holl wahanol ddarnau o dir a oedd i'w cael ledled y Deyrnas Unedig.

Rydym yn parhau i archwilio treth gwerth tir i Gymru. Bydd yr Aelodau yma’n ymwybodol o’r gwaith a wnaeth Prifysgol Bangor ar ein cyfer ar ddichonoldeb treth gwerth tir i Gymru, a chanfu fod llawer o’r heriau a wynebodd Lloyd George yn parhau i fod yn heriau heddiw. Os ydych chi'n mynd i gael treth gwerth tir, mae angen ichi wybod pwy sy’n berchen ar y tir ac mae angen ichi allu gwerthuso’r tir. Nawr, mae’n debyg ein bod mewn sefyllfa lawer gwell heddiw nag yr oeddent dros 100 mlynedd yn ôl o ran gwybod pwy sy’n berchen ar y tir—mae honno bellach yn wybodaeth sy'n fwy tryloyw ac agored i’r cyhoedd. Ond mae’r cwestiwn o sut rydych chi'n rhoi gwerth ar y tir yn parhau i fod yn her o ran polisi. Efallai fod John Griffiths yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig tendr yn ddiweddar am gyfres o ffyrdd arbrofol o werthuso tir yma yng Nghymru. Nid ydym wedi cwblhau'r broses dendro honno eto, ond rwy’n falch o adrodd ein bod wedi cael datganiadau o ddiddordeb ar gyfer pob agwedd wahanol ar y tendr hwnnw a fy mod yn gobeithio y bydd y gwaith hwnnw’n mynd rhagddo cyn diwedd tymor y Senedd hon. Felly, ar ôl etholiadau nesaf y Senedd, bydd cyflwyno treth gwerth tir yn ymarferol yn agosach a bydd y dewisiadau polisi hynny ar gael ar gyfer y Senedd nesaf.

13:40
Adolygiad Gwariant

2. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith adolygiad gwariant diweddar Llywodraeth y DU ar bobl Canolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62911

Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn, Ddirprwy Lywydd. Mae'r adolygiad o wariant yn golygu £5 biliwn mewn cyllid ychwanegol i Gymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu buddsoddiad ychwanegol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Yn ogystal, bydd buddsoddiad yn rhaglen y Porthladd Rhydd Celtaidd, a bargen ddinesig a thwf canolbarth Cymru, yn creu swyddi a chyfleoedd newydd yn rhanbarth yr Aelod.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Nodaf yn yr adolygiad o wariant fod Canghellor y DU wedi cadarnhau £80 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer porthladd Port Talbot. Mae'r cyllid hwn yn newyddion gwych i Gymru wrth gwrs. Bydd porthladdoedd Cymru, fel porthladd Port Talbot, yn allweddol wrth helpu i gyflawni prosiectau ynni gwynt ar y môr hanfodol yn y blynyddoedd i ddod. Gyda'r buddsoddiad hwn, bydd gan y porthladd hwn yr offer priodol i ddarparu'r seilwaith sydd ei angen. Pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi y bydd yr £80 miliwn ychwanegol ar gyfer porthladd Port Talbot o fudd i'r Porthladd Rhydd Celtaidd ehangach, gan gynnwys porthladd Aberdaugleddau yn fy rhanbarth i?

Diolch i Joyce Watson am wneud y pwyntiau pwysig hynny, Ddirprwy Lywydd. Ac fe fydd yn cofio, fel y byddwch chi ac eraill, mai holl bwynt model y Porthladd Rhydd Celtaidd oedd dod â dau borthladd ynghyd a fyddai, gyda'i gilydd, yn gallu gwasanaethu'r diwydiant ynni gwynt ar y môr sy'n tyfu yma yng Nghymru. Ac mae'n bwysig iawn meddwl am y buddsoddiadau hyn fel rhai sy'n ategu ei gilydd. Mae'r buddsoddiad ym Mhort Talbot yn fuddsoddiad yn y Porthladd Rhydd Celtaidd ehangach, a bydd yr £80 miliwn yn caniatáu datblygiadau sylweddol iawn ym Mhort Talbot, ond mae'n rhan o'r ymdrech ar y cyd i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn gallu bod yn rhan o'r broses o greu'r tyrbinau enfawr y bydd eu hangen ar gyfer y diwydiant ynni gwynt ar y môr, ond i'w gwasanaethu wedyn hefyd pan fyddant ar waith.

Nawr, yn ogystal â'r £80 miliwn a gyhoeddwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, cafwyd cadarnhad, wrth gwrs, fod yr achos busnes terfynol ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd hefyd wedi mynd drwy ei gamau cadarnhau terfynol gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn troi ein sylw nawr at lofnodi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy Lywodraeth, a bydd hynny'n rhyddhau cyllid—cyllid ym Mhort Talbot, cyllid yn Aberdaugleddau hefyd—yn ychwanegol at yr £80 miliwn y cyfeiriodd yr Aelod ato.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae adolygiad o wariant y DU yn gosod cyllideb gyfartalog flynyddol Cymru ar oddeutu £22.4 biliwn dros y tair blynedd nesaf, gyda rhagolygon y bydd cyllid cyfalaf yn gostwng 0.9 y cant mewn termau real. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhybuddio y gallai'r cynnydd cymedrol o 1.2 y cant mewn termau real yn y gwariant o ddydd i ddydd gael ei amsugno gan bwysau o fewn GIG Cymru yn unig. Yng ngoleuni hyn, hoffwn wybod pa asesiad a wnaethoch chi a Llywodraeth Cymru o sut y bydd hyn yn effeithio ar wariant o ddydd i ddydd er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus yn fy etholaeth.

Wel, y pwynt cyntaf i'w wneud i'r Aelod, wrth gwrs, yw nad yw'r ffigurau y mae'n eu dyfynnu yn cynnwys y cyllid a godir yn uniongyrchol gan y Senedd hon. Nid yw 20 y cant o'r arian a werir ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dod drwy'r grant bloc; mae'n dod drwy'r penderfyniadau a wneir yma ar gyfraddau treth incwm Cymru, ac ar y dreth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir. Felly, mae'r ffigur a ddyfynnodd yn tanadrodd yn sylweddol y cyfanswm o arian sydd ar gael i'r Senedd ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Mater i'r Senedd fydd penderfynu, wrth inni fynd ati i gynllunio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, sut y dylid defnyddio'r adnoddau ychwanegol—cyfalaf a refeniw—a fydd gennym yn ein cyllideb y flwyddyn nesaf. Ac er bod yr Aelod yn iawn i ddweud, dros y cyfnod pedair blynedd cyfan, y bydd gennym gyfalaf is yn y pen draw nag sydd gennym heddiw, mae mwy o gyfalaf ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru ar y cychwyn mewn gwirionedd, a bydd mwy o gyfalaf ar gael i'r Senedd wrth osod cyllideb y flwyddyn nesaf nag a gafwyd eleni, ac roedd cyllideb gyfalaf eleni gannoedd o filiynau o bunnoedd yn uwch na'r hyn ydoedd pan osododd Jeremy Hunt ein cyllidebau cyfalaf yn ei gyllideb olaf.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Dwi'n siŵr y gwnaethoch chi weld ddydd Llun sylwadau arweinydd Reform UK, Nigel Farage, yn dweud ei fod e'n moyn cael gwared ar y targed 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, er bod y blaid yn dweud eu bod nhw'n moyn tyfu'r iaith yng Nghymru. Dŷn ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn meddwl bod y sylwadau hynny yn fyr yn eu golwg, os ydych chi'n moyn cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Felly, a allwch chi sôn, yn eich profiad chi fel Ysgrifennydd Cabinet a Phrif Weinidog, am y pwysigrwydd o gael y targed hwn yng nghanol popeth mae'r Llywodraeth yn gwneud, dros departments, a'ch barn chi ar sylwadau Nigel Farage?

Diolch yn fawr i Tom Giffard am y cwestiwn pwysig yna, a diolch iddo fe a pharti y Ceidwadwyr yma yn y Siambr am y gefnogaeth rŷch chi wedi ei roi at yr iaith Gymraeg, fel roeddem ni'n gweld pan oedd y Bil addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn mynd drwy'r Senedd jest fis yn ôl.

Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo i dargedau 'Cymraeg 2050', sy'n anelu at 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o'r iaith erbyn 2050. Mae hwn yn hollol bwysig i ni yma yng Nghymru. Does dim rhaid inni gael pobl tu fas i Gymru yn dod i mewn i fod yn feirniadol o bopeth rŷn ni'n ei wneud i warchod yr iaith Gymraeg.

Mae e jest yn dangos, onid yw, y ffaith nad oes arweinyddiaeth i barti Reform yma yng Nghymru? Mae'n dibynnu ar bobl sydd ddim yn gyfarwydd gyda ni yng Nghymru. Bob tro mae Nigel Farage yn dod dros y ffin, mae rhywbeth arall gyda fe i'w ddweud sydd ddim yn taro pobl yma yng Nghymru. Y tro diwethaf y daeth, roedd eisiau gweld pobl ifanc yng Nghymru nôl o dan y ddaear mewn pyllau glo. Wel, dydy hynny ddim yn rhan o'r dyfodol rŷn ni eisiau gweld i Gymru. Pan wnaeth e ddweud beth ddywedodd e am yr iaith Gymraeg, roedd e jest yn dangos unwaith eto, os ydyn nhw'n mynd i ddibynnu ar bobl sydd ddim yn gyfarwydd o gwbl gyda ni yma yng Nghymru, bydd hynny'n amlwg i bobl yng Nghymru. Dwi'n siŵr y bydd hynny'n cael effaith ar y dewisiadau sydd gyda nhw i'w gwneud yn y flwyddyn nesaf.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb. I symud at bwnc arall, Ysgrifennydd Cabinet, yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru doriad cyllid £90,000 i'r unig ysgol iaith Gymraeg tu allan i Gymru, Ysgol Gymraeg Llundain. Mae'r ysgol, sydd wedi'i lleoli yn Ealing yng ngorllewin Llundain, wedi bod yn dysgu disgyblion cynradd yn yr iaith Gymraeg er saith degawd, ac yn gweithredu'n gwbl ddwyieithog.

Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn cyfrannu swm anferthol yn uniongyrchol tuag at darged 'Cymraeg 2050', gan greu siaradwyr Cymraeg hyderus a rhugl, yn gwreiddio'r iaith Gymraeg ym mywydau beunyddiol pobl ifanc, ac yn adeiladu cymuned ryng-genedlaethol o amgylch yr iaith Gymraeg.

Fel dywedodd llefarydd dros yr ysgol, yn gwbl briodol, byddai ailgyfeirio'r arian i rywle arall nid yn unig yn chwalu llwyddiant y sefydliad, ond hefyd yn peryglu 70 mlynedd o dwf, dysg a hanes yr iaith Gymraeg yn ysgol Llundain. Fe allai gymryd blynyddoedd i ailadrodd y canlyniadau hyn, ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddai sefydliad newydd yn ei lle mor llwyddiannus.

Felly, o ystyried hyn, a allwch amlinellu pa sgyrsiau sydd wedi cael eu cynnal o fewn y Llywodraeth ynghylch, yn gyntaf, y rheswm dros dynnu'r cyllid yn ôl, a ble y bwriedir buddsoddi'r £90,000 yn lle?

Jest i fod yn glir, nid yw'r ddadl am yr arian. Mae'r arian yn y gyllideb am y flwyddyn ariannol bresennol, a dwi'n siŵr y bydd yr arian yn y gyllideb am y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Y ddadl yw sut i ddefnyddio'r arian yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae'n drist i ddweud, ond y ffaith yw bod nifer y disgyblion yn Ysgol Gymraeg Llundain yn is. Deg o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd. Roedd cyfnod COVID wedi cael effaith ar yr ysgol, a dydyn nhw ddim wedi llwyddo i ailgynyddu nifer y plant sy'n mynd i'r ysgol yn yr amser sydd wedi bod ers y cyfnod COVID.

Felly, y ddadl yw: beth yw'r ffordd orau i ddefnyddio'r arian sydd gyda ni i helpu'r iaith Gymraeg yn Llundain, ac a oes pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud sy'n fwy effeithiol i helpu pobl yn Llundain sydd yn siarad Cymraeg, ac nid jest gwario'r arian i gyd ar 10 o blant? A dyna pam rŷn ni wedi cael y trafodaethau rŷn ni wedi eu cael gyda'r ysgol. Mae'n anodd, dwi'n gwybod hynny, ar ôl yr hanes a phopeth roedd Tom Giffard wedi cyfeirio ato fe, ond mae'n rhaid inni—mae parti y Ceidwadwyr wedi codi hwn nifer o weithiau—ystyried effeithiolrwydd, effectiveness, yr arian rŷn ni'n ei wario yma yng Nghymru, a dyna'r ddadl rŷn ni'n ei chael yng nghyd-destun Ysgol Gymraeg Llundain. 

Mae fy swyddogion i wedi cwrdd â'r ysgol ac wedi siarad â nhw, a dwi jest ar fin ysgrifennu at gadeirydd bwrdd yr ysgol ac i gytuno i gwrdd â nhw i barhau gyda'r sgwrs. Ond mae'r sgwrs yn un bwysig i ni. Dydyn ni ddim jest yn gallu cadw gwneud beth rŷn ni wedi gwneud dros y blynyddoedd pan ŷn ni'n gallu gweld bod y cyd-destun wedi newid. A dwi eisiau gweld yr arian sydd gyda ni yn cael ei ddefnyddio yn Llundain mewn ffordd sy'n effeithiol i ddyfodol yr iaith. 

13:50

Diolch am yr ateb, a dwi'n deall y pwysau roeddech chi'n sôn sydd ar Lywodraeth Cymru o ran hyn. Y peth oedd yn dod trwyddo yn yr e-bost a phethau eraill o Ysgol Gymraeg Llundain oedd y math o gyfathrebu, y ffordd y mae hyn wedi cael ei gyfathrebu. Maen nhw wedi cael rhybudd am gyllid ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yng nghanol y flwyddyn academaidd hon, ac mae hwnna'n meddwl bod y disgyblion sydd yn yr ysgol ddim yn gwybod a oes dyfodol iddyn nhw yn yr ysgol yn yr hirdymor. Felly, ydych chi'n fodlon dweud nawr y bydd y bobl yn yr ysgol, sy'n cael addysg yn yr ysgol heddiw, yn gallu cwblhau eu haddysg yn yr ysgol yna yn y dyfodol?

Wel, diolch am y pwynt pwysig yna. Dwi'n ymwybodol o'r pwynt mae'r ysgol yn ei wneud am bobl ifanc yng nghanol y flwyddyn academaidd. Dyna un o'r rhesymau pam dwi'n barod i gwrdd â chadeirydd y bwrdd i ail-drafod y pwynt yna gyda hi. Fel y dywedais i, mae'r arian gyda ni drwy'r flwyddyn ariannol bresennol, a dwi'n disgwyl cael arian yn y gyllideb i bethau yn Llundain yn y flwyddyn ariannol nesaf hefyd. Felly, dwi'n hollol fodlon i drafod y pwynt am y bobl sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd a'r ffaith y bydd y flwyddyn academaidd ddim yn dod i ben ar yr un amser ag y mae'r flwyddyn ariannol yn dod i ben. A chawn ni weld beth sy'n dod mas o'r trafodaethau yna. Ond mae hwnna'n un pwynt, onid yw e, yn y ddadl fwyaf am sut y gallwn ni helpu pobl yn Llundain sydd yn siarad Cymraeg ac i gefnogi'r iaith yna. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, mi fyddwn i'n hoffi ategu'r hyn dŷn ni wedi ei glywed. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig eithriadol ein bod ni'n unedig fel Senedd yn datgan a chondemnio yn llwyr sylwadau Nigel Farage o ran y Gymraeg, ac mi fyddwn i'n falch iawn o ailddatgan cefnogaeth Plaid Cymru, wrth gwrs, i'r targed o o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd. Mae'n dda iawn ein bod ni'n gallu bod yn drawsbleidiol yn fan hyn o ran dyfodol y Gymraeg. 

Mi fyddwn innau hefyd yn hoffi gofyn cwestiwn ynglŷn ag Ysgol Gymraeg Llundain, wedi bod yn gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn roeddech chi'n dweud wrth Tom Giffard. Mae'n heriol dros ben, onid ydy, oherwydd dŷn ni'n gwybod hefyd efo ysgolion bach, unwaith maen nhw dan fygythiad, mae'r niferoedd hefyd yn gostwng, oherwydd mae pobl eisiau sefydlogrwydd hefyd o ran dysgwyr, ac mae COVID wedi bod yn arbennig o niweidiol, dŷn ni'n gwybod, o ran Ysgol Gymraeg Llundain yn benodol. Dŷn ni hefyd, dwi'n siŵr, yn adnabod amryw o bobl sydd wedi bod drwy Ysgol Gymraeg Llundain, sydd wedyn wedi symud i Gymru a gwneud cyfraniad eithriadol o bwysig hefyd. A dwi'n meddwl, mi fyddem ni i gyd wedi ein tristáu o feddwl bod yr ysgol yn dod i ben.

Beth fyddwn i yn hoffi gofyn, yn ychwanegol i'r hyn y mae Tom Giffard wedi ei godi heddiw, ydy: sut fath o drafodaethau sydd yna o ran cefnogi beth fyddai pecyn o gefnogaeth? Dwi'n deall yr arian ar gael yn Llundain o ran y Gymraeg, ond i gefnogi'r rheini sydd eisiau magu eu plant yn y Gymraeg. Dydy cael Cyw un unig ar S4C ddim yn ddigon o gynhaliaeth, er bod hwnna, wrth gwrs, yn gyfraniad pwysig. Ond sut ydyn ni am sicrhau bod y rheini sydd eisiau addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud hynny?

13:55

Diolch i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi am bwysigrwydd yr iaith, a'r ffaith ein bod ni'n cefnogi'r iaith yma yn y Senedd yn drawsbleidiol. Mae nifer fawr o bosibiliadau newydd gyda ni i gefnogi'r iaith yn Llundain, a dwi eisiau i hynny fod yn rhan o'r trafodaethau rŷn ni'n eu cael am yr ysgol yn y cyd-destun ehangach hynny.

Mae ysgol Sadwrn nawr yn Llundain, ac mae mwy o blant yn mynd at yr ysgol Sadwrn nag sy'n mynd i'r ysgol Gymraeg. Ac mae posibiliadau trwy ddefnyddio technoleg newydd, i bobl sydd yn Llundain, plant sydd yn Llundain, i gymryd rhan mewn gwersi sy'n mynd ymlaen yma yng Nghymru. Ac rŷn ni'n gwybod bod nifer fawr o fyfyrwyr sydd wedi cael addysg drwy gyfrwng yr iaith Cymraeg, a nawr maen nhw mewn prifysgolion yn Llundain, ac rŷn ni eisiau ffeindio ffyrdd newydd, trwy ddefnyddio'r posibiliadau newydd, i'w helpu nhw i gario ymlaen gyda defnydd o'r iaith Gymraeg.

So, dyna natur y drafodaeth, sy'n fwy na gyda'r bobl sy'n gyfrifol am yr ysgol, am sut y gallwn ni ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym ni i helpu mwy o bobl sy'n byw yn Llundain sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg neu sydd eisiau dysgu'r Gymraeg—os oes pethau newydd ac effeithiol allwn ni eu gwneud sy'n mynd i helpu mwy o bobl nag mae'r ysgol yn gallu ei wneud ar hyn o bryd.

Diolch am hynny. Dwi'n siŵr y byddwn ni'n edrych ymlaen ar gyfer diweddariadau wrth i'r trafodaethau hynny barhau.

Os caf droi nawr at strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, a oedd yn cynnwys diwygiadau i'r cynllun pensiwn llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr, gyda'r nod o wella ei gefnogaeth i dwf lleol a rhanbarthol. Fodd bynnag, os yw'n parhau i gael ei reoli gan San Steffan, sut y gallwn sicrhau bod cronfeydd pensiwn Cymru yn cael eu buddsoddi mewn prosiectau yng Nghymru, yn hytrach na'u dargyfeirio dros y ffin, fel sy'n digwydd mor aml, yn anffodus, gyda chyfoeth Cymru ac elw o adnoddau Cymru? Pa warantau a gawsoch chi na fydd hyn yn digwydd, a bod penderfyniadau ynghylch y ffordd y caiff pensiynau Cymru eu buddsoddi yn cael eu gwneud yma yng Nghymru?

Diolch i Heledd Fychan, ac rwy'n cytuno â hi ynglŷn â phwysigrwydd cronfeydd pensiwn. Nid ydym wedi gwneud defnydd digonol o'r adnoddau hynny er budd hirdymor nid yn unig y bobl sydd wedi buddsoddi yn y cronfeydd pensiwn, ond pawb sydd â buddiant ynddynt—eu teuluoedd a'u plant. Hoffent weld y potiau pensiwn y maent wedi cyfrannu atynt dros eu blynyddoedd yn cael eu defnyddio'n dda er budd y gymuned ehangach yma yng Nghymru. Cafodd Llywodraeth Cymru sicrwydd gan Lywodraeth y DU, pan aethant ati i ddiwygio'r ffordd y byddai'r potiau pensiwn yn cael eu llywodraethu, na fyddai unrhyw newidiadau i'r ffordd y byddai arian sydd yng nghynlluniau pensiwn Cymru yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol. Hoffwn weld newidiadau yn hynny o beth, yn yr ystyr fy mod am weld y ffynonellau buddsoddiad hynny'n cael eu defnyddio'n fwy pwrpasol at anghenion Cymru yn y dyfodol. Ond rwy'n cytuno mai'r lle gorau i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yw gan y bobl sy'n gyfrifol am y trefniadau pensiwn hynny, ac mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol a'r Senedd.

Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, ac o ran sicrhau ein bod yn gallu gwneud cynnydd ar hyn nawr, mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr hoffem ei weld yn cael ei flaenoriaethu. Ond rydym wedi gweld, wrth gwrs, gyda Llywodraeth Lafur y DU, gyda'r defnydd o fformiwla Barnett i benderfynu ar y cyllid a roddwyd i ni, er enghraifft, tuag at y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol, peidio ag ailddosbarthu HS2, a saga prosiect East West Rail, ein bod ar ein colled yng Nghymru mewn perthynas â chyllid. Yn ychwanegol at hynny, mae'r addewid maniffesto i ddiwygio fframwaith cyllidol y Senedd wedi methu'n llwyr â dod yn wir, heb unrhyw newid o gwbl yn yr uchafswm y gellid ei ddefnyddio o gronfa wrth gefn Cymru a phwerau benthyca'r Senedd yn unol â chwyddiant, er gwaethaf y ffaith y byddai gwneud hynny'n gymharol syml, fel y gwnaethoch chi ddatgan eich hun mewn pwyllgorau ar ddechrau'r flwyddyn. Felly, a ydych chi'n cytuno, fel rwyf innau, ag asesiad eich cyd-Aelod Mick Antoniw fod

'sylwedd yn brin a'r ymrwymiad i ddiwygio yn swrth'

yn y maes hwn o dan Lywodraeth y DU a bod y sefyllfa o ran esblygiad ein pensaernïaeth ddatganoledig a chyllidol nid yn unig wedi arafu ond wedi dirywio?

14:00

Wel, Ddirprwy Lywydd, fel yr Ysgrifennydd cyllid yn Llywodraeth Cymru, mae gennyf 5 biliwn o resymau dros wybod y gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ei wneud. Felly, er na fu cynnydd ar yr holl bethau yr hoffem eu gweld yn y flwyddyn gyntaf o Lywodraeth Lafur, mae'r ffaith y bydd gennym £5 biliwn yn fwy—£6 biliwn yn fwy nag y byddem wedi'i gael o dan Lywodraeth Geidwadol—i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn awgrymu i mi fod y sylwadau a wnaeth yr Aelod yn asesiad rhannol, yn hytrach nag asesiad cyflawn o gyflawniad y Llywodraeth Lafur yn ei misoedd cynnar.

Ar y fframwaith cyllidol, byddaf yng nghyfarfod y Gweinidogion cyllid yn Llundain yfory, ac fel cymheiriaid o'r Alban a Gogledd Iwerddon, byddaf yn bendant yn codi gyda'r Prif Ysgrifennydd yr angen i ddiweddaru trefniadau'r fframwaith cyllidol fel bod gennym offer gwell i reoli'r arian a gawn yn y ffordd fwyaf effeithiol. Ond eleni, mewn ffordd na chefais erioed o dan unrhyw Ganghellor Ceidwadol, mae gennyf fynediad di-rwystr at gronfeydd wrth gefn Cymru. Nawr, rwy'n ystyried hynny'n flaendal i'r diwygio ehangach i'r fframwaith cyllidol, i'n galluogi i wneud cynnydd gwell eleni, tra bod manylion y diwygio hwnnw'n cael eu cytuno. Yn sicr, byddwn yn nodi unwaith eto i'r Prif Ysgrifennydd, i'r Trysorlys, yfory yr angen i fwrw ymlaen â chyflawni'r ymrwymiad hwnnw, a oedd, wrth gwrs, yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur.

Rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru

3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Canghellor ynglŷn â chyllid ar gyfer rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru? OQ62898

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidogion y Trysorlys ar ystod o faterion cyllidol, gan gynnwys cyllid ar gyfer gwelliannau rheilffyrdd ledled Cymru. Mae'r buddsoddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn dechrau mynd i'r afael â thanfuddsoddi hanesyddol yn y seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys yng ngogledd Cymru wrth gwrs.

Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi cymaint y gwerthfawrogwn Lywodraethau Ceidwadol y DU yn y gorffennol a'r £1.1 biliwn a ddarparwyd ganddynt rhwng 2014 a 2024 ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Nawr, nid yw'r Canghellor newydd ond wedi addo £445 miliwn. Nid yw hynny'n gynnydd yn llygaid unrhyw un, nid yw'n uchelgais, mae'n gam yn ôl. Addawodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU £1.1 biliwn ar gyfer trydaneiddio prif linell gogledd Cymru yn unig, ond nid yw Llafur yn darparu ar gyfer hynny hyd yn oed. Felly, mae cyllid i'w groesawu, ydy, ond nid yw'n agos digon.

Pan godwyd y diffyg cyllid yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Darren Jones, wrth David Chadwick AS am fod yn ddiolchgar—yn ddiolchgar—am arian i reilffyrdd Cymru. Mae hynny'n ofnadwy, ond mae'n dangos yr agwedd ddiystyriol sydd gan Lywodraeth Lafur y DU—

Wrth gwrs. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet barhau i alw ar y Canghellor am gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, yn ogystal â galw am ddarparu'r cyllid HS2 i Gymru? Ac a wnewch chi wadu a nodi eich syndod a'ch dicter aruthrol y dylem gael ein hystyried yma, fel pobl sy'n byw yng Nghymru, y dylem gael ein hystyried yn deilwng o fod yn ddiolchgar i Lywodraeth Lafur y DU?

Wel, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu mai hanes y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf yw'r hyn y dylem ddibynnu arno, yn hytrach nag addewidion a wnaethant yn nyddiau olaf y Llywodraeth honno, addewidion y gwyddent na fyddai galw arnynt i'w gwireddu byth. Yn ystod cyfnod y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, roedd 45 y cant o'r rheilffyrdd yn Lloegr wedi'u trydaneiddio a 2 y cant—2 y cant—45 y cant yn Lloegr, 2 y cant yng Nghymru. Dyna yw gwir gyflawniad y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, ac mae'r addewid o £1 biliwn ar gyfer gogledd Cymru, na ddarparwyd yr un geiniog ohono erioed yn dweud wrthych i ba raddau y dylid dibynnu ar hynny. Mewn cyferbyniad, mae gennym sicrwydd bellach o £455 miliwn i'w fuddsoddi mewn gwella rheilffyrdd yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n ystyried hwnnw'n gam cyntaf. Mae Llywodraeth y DU wedi addo y bydd adolygiadau cynhwysfawr o wariant bob dwy flynedd. Felly, rwy'n disgwyl yn yr un nesaf, a'r un wedyn, y bydd mwy o fuddsoddi yn y rheilffyrdd yma yng Nghymru. Ond mae £455 miliwn, arian y gwyddom ein bod yn mynd i'w gael, yn werth llawer mwy i bobl Cymru nag addewid o £1 biliwn, na chafwyd ceiniog ohono erioed.

14:05
Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU

4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn sgil y cyhoeddiad y bydd £5 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU? OQ62906

Wel, Ddirprwy Lywydd, bydd y £5 biliwn ychwanegol o gyllid dros y cyfnod gwariant yn ein galluogi i ymateb yn well i flaenoriaethau Cymru a chyflawni gwelliannau parhaus ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Byddaf yn nodi ein cynlluniau manwl yn y gyllideb ddrafft yn yr hydref yn y ffordd arferol.

Nid oedd yn gyd-ddigwyddiad, yn ystod y blynyddoedd pan oedd dwy Lywodraeth Lafur mewn grym hyd at 2010, fod cyfraddau boddhad â'r GIG ar eu huchaf a lefelau tlodi plant ar eu hisaf erioed. Cafodd y canlyniadau hyn eu gyrru gan bartneriaeth gref a buddsoddiad go iawn mewn gwasanaethau cyhoeddus. Heddiw, mae gennym bartneriaeth gref yn darparu unwaith eto ar gyfer Cymru, gyda mwy o gyllid i gefnogi meysydd allweddol, gan gynnwys cyllid ar gyfer tomenni glo. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y £118 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer diogelwch tomenni glo o fudd uniongyrchol i fy etholwyr i yn y Rhondda, i sicrhau bod ein tomenni glo yn fwy diogel a bod pobl ar draws ein cymoedd yn teimlo'n fwy diogel?

Wel, diolch i Buffy Williams am hynny, Ddirprwy Lywydd. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod dau ddegawd cyntaf datganoli mewn cymaint o ffyrdd yn gymaint o gyferbyniad. Y degawd cyntaf hwnnw, gyda buddsoddiad parhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus—. Nid 1948, pan gafodd ei sefydlu, nac yn ystod y 1960au, pan oedd yn cael ei ddatblygu mor gyflym y gwelwyd y flwyddyn pan oedd lefelau boddhad â'r GIG ar eu huchaf; y flwyddyn pan oedd cyfraddau boddhad â GIG Cymru ar eu huchaf oedd 2010. A pham hynny? Wel, oherwydd bod y gwasanaethau wedi elwa o'r ailfuddsoddi dros ddegawd yn y gwasanaethau hynny. Wedyn cawsom ddegawd pan gafodd y strategaeth gwbl groes i hynny ei mabwysiadu, degawd o gyni pan orfodwyd ein gwasanaethau i wneud y tro ar lai nag oedd ei angen. Nawr, yr hyn rwyf eisiau ei weld yw'r degawd nesaf, degawd sy'n adlewyrchu'r degawd cyntaf hwnnw, pan geir buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, pan eir i'r afael â thlodi plant a phan fydd yn dechrau dod i lawr eto.

Rwy'n credu y gall pobl yng Nghymru fod â hyder yn hynny oherwydd rhai o'r pwyntiau a wnaeth Buffy Williams. Diogelwch tomenni glo: ni cheir mater sy'n fwy emblemataidd o Lywodraeth Lafur na gwneud yn siŵr fod pobl sy'n byw o dan gysgod gwaddol y diwydiant hwnnw yn gwybod bod eu hanghenion wrth wraidd yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. A'r £118 miliwn yw'r hyn y gwnaethom ofyn amdano ar gyfer y cyfnod tair blynedd cyntaf hwnnw. Mae'n golygu y bydd dros £220 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn niogelwch tomenni glo erbyn diwedd yr adolygiad cynhwysfawr presennol o wariant, ac mae honno'n neges bwerus i'r bobl sy'n byw yn etholaeth yr Aelod ac etholaethau eraill sy'n dwyn creithiau'r diwydiant glofaol heddiw fod eu diogelwch, fod eu hanghenion yn gwbl ganolog i'r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru a Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Er fy mod yn croesawu'r cyllid ychwanegol i Gymru drwy'r adolygiad o wariant, yn ystod cyfnodau rheoli 5 a 6, Ysgrifennydd y Cabinet, fe fuddsoddodd Llywodraethau Ceidwadol y DU £750 miliwn a £350 miliwn yn y drefn honno yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, sy'n sicr yn rhagori ar y £445 miliwn a ddyrannwyd yn yr adolygiad o wariant hwn y mae gan Weinidogion Llafur, fel y nododd Janet Finch-Saunders, wyneb i ddweud wrthym y dylem fod yn ddiolchgar amdano. Ni ddylai fod angen i ni ymbil, yn enwedig pan gawsom ein hamddifadu o arian canlyniadol HS2 ac yn dilyn ailddynodi llinell Rhydychen i Gaergrawnt yn ddiweddar fel prosiect Cymru a Lloegr er mwyn gwrthod y cyllid canlyniadol i ni. Hyd yn hyn, rydym wedi gweld y DU yn gwastraffu £30 biliwn a roddwyd yn sgil cytundeb Ynysoedd Chagos, lle mae'n rhaid i ni dalu am y pleser o ddefnyddio'r tir a drosglwyddwyd gennym, a biliynau'n fwy yn cael ei roi tuag at dargedau gwyrdd anfforddiadwy a thaliadau undebau llafur. Er gwaethaf addewidion trafnidiaeth ranbarthol, unwaith eto mae gogledd Cymru wedi'i gadael ar ôl, heb unrhyw amserlen ar— 

14:10

—y buddsoddiad a ddarparwyd a dim yn agos at y buddsoddiad ym metro de Cymru. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd yr arian ychwanegol o fudd i gymunedau yng ngogledd Cymru ac a all roi amserlen ar gyfer buddsoddi'r arian hwn?

Wel, Ddirprwy Lywydd, mater i'r Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth yw nodi sut y caiff yr arian ei ddefnyddio. Ond gallaf ddweud wrth yr Aelod, o'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud wrthyf, y bydd cyfuniad o gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r arian y byddwn yn ei weld yn cael ei wario gan Lywodraeth y DU yng Nghymru yn ei gwneud hi'n bosibl darparu 50 y cant yn fwy o wasanaethau ar brif linell gogledd Cymru erbyn mis Mai 2026; bydd yn ei gwneud hi'n bosibl dyblu amlder y gwasanaeth rhwng Caer a Wrecsam o fis Rhagfyr; bydd yn ei gwneud hi'n bosibl rhedeg dau drên yr awr ar y gwasanaeth rhwng Wrecsam a Lerpwl erbyn diwedd cyfnod yr adolygiad o wariant. Bydd hynny i gyd yn cael ei wneud dros gyfnod pan na fydd y Llywodraeth hon yn arfer unrhyw gyfrifoldebau mewn perthynas ag Ynysoedd Chagos.

Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ganddi'r arian sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn yng Nghymru? OQ62918

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Ddirprwy Lywydd. Mae ymgysylltiad rheolaidd yn digwydd ar lefel swyddogol a gweinidogol gyda Thrysorlys EF yn arwain at adolygiad o wariant y DU. Byddaf yn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yfory, pan fyddaf unwaith eto'n cyflwyno'r achos dros Gymru ac yn amlinellu ein blaenoriaethau cyn cyllideb yr hydref.

Mae'n werth cofio, onid yw, y pwysau y mae chwyddiant yn ei roi ar gyllidebau Llywodraeth Cymru. Ac mae'n amlwg yn werth atgoffa pawb fod chwyddiant adeg yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2 y cant; heddiw mae'n 3.5 y cant ac yn codi. Y tro diwethaf i chwyddiant fod ar lefel a oedd yn unrhyw beth tebyg i'r lefel a welwn heddiw, roeddech chi'n Brif Weinidog Cymru ac fe ddywedoch chi fod gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei 'erydu gan chwyddiant'. Mae'n ddoniol nad ydych chi'n dweud hynny heddiw, gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan erbyn hyn. Felly, a wnewch chi gadarnhau'r pwysau y mae chwyddiant yn ei roi ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ac a wnewch chi ofyn, yn eich cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys y sonioch chi amdano, am i'r cydbwysedd hwnnw gael sylw eto? Oherwydd mae'r Canghellor wedi colli rheolaeth ar chwyddiant, wedi colli rheolaeth ar yr economi, a Chymru sy'n talu'r pris.

Wel, nid wyf yn cytuno â'r pwynt a wnaeth yr Aelod. Dywedodd Llywodraethwr Banc Lloegr yng nghyfarfod chwarterol diwethaf y pwyllgor polisi ariannol ei fod yn disgwyl gweld chwyddiant yn dychwelyd i 2 y cant erbyn diwedd eleni—nid yw hynny'n swnio i mi fel pe bai chwyddiant wedi mynd allan o reolaeth. Mae'n sicr ymhell islaw'r hyn a ddigwyddodd i chwyddiant ar ôl cyllideb drychinebus Liz Truss yr oedd ef a'i gymheiriaid mor awyddus i'w chefnogi, pan gododd chwyddiant i 10 y cant yma yng Nghymru. Er bod chwyddiant yn erydu cyllidebau—wrth gwrs ei fod—ar ochr arall y geiniog, mae cyfraddau llog wedi gostwng bedair gwaith ers ethol Llywodraeth Lafur ym mis Gorffennaf y llynedd, a bob tro y bydd cyfraddau llog yn gostwng, mae hynny'n lleddfu'r pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru oherwydd ei fod yn lleddfu'r swm o arian y mae'n rhaid i ni ei dalu i gynnal y ddyled gyfalaf.

Wrth gwrs ein bod eisiau mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus—mae pob Llywodraeth ddatganoledig, cyngor ac adran San Steffan eisiau mwy o arian. Pethau rydym wedi gofyn amdanynt yn gyson yw cynlluniau gwariant hirdymor, y gallu i symud arian i mewn ac allan o gronfeydd wrth gefn, heb ei rwystro gan y Trysorlys, a chyfalaf ychwanegol, oherwydd gall gwariant cyfalaf leihau costau refeniw yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â'r £5 biliwn ychwanegol tuag at gyllideb Llywodraeth Cymru, a yw'n wir mai gwahaniaeth allweddol rhwng adolygiad cynhwysfawr o wariant Llafur a'r hyn y daethom i arfer ag ef o dan y Ceidwadwyr yw'r ffaith bod gennym refeniw tair blynedd a chyllideb gyfalaf bedair blynedd erbyn hyn, ac felly mae modd i chi gynllunio'n fwy hirdymor?

14:15

Mae Mike Hedges yn gwneud pwynt pwysig iawn, Ddirprwy Lywydd, ac un sydd i'w weld fel pe bai wedi ei golli, braidd, yn y ddadl gyhoeddus yn dilyn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Wrth gwrs, y £5 biliwn yw'r rhan sydd i'w chroesawu fwyaf yn hynny, ond mae'r ffaith bod gennym orwel refeniw tair blynedd, gorwel cyfalaf pedair blynedd ac addewid y bydd hyn yn cael ei ddiweddaru bob dwy flynedd yn welliant sylfaenol i allu Llywodraeth Cymru i gynllunio i ddefnyddio'r arian sydd gennym yn y ffordd orau sy'n bosibl. Rydym wedi dod i arfer cymaint â chael gorwelion gwariant blwyddyn yn unig o dan y Llywodraeth ddiwethaf. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, methodd gyflwyno adolygiad cynhwysfawr, ar ôl ei addo flwyddyn ar ôl blwyddyn. A phob blwyddyn, roedd hynny'n golygu mai dim ond blwyddyn o arian y gallem gynllunio ar ei gyfer a gwneud y defnydd gorau ohono. Nawr, fel y dywed Mike Hedges, mae gennym orwel mwy hirdymor ac addewid y caiff y gorwel mwy hirdymor ei gynnal, ac mae hynny'n golygu bod cyfleoedd llawer gwell i'r Llywodraeth hon, ac i Lywodraethau olynol, allu rheoli'r arian sydd ar gael i ni.

Penderfyniadau Cyllido

6. Sut y bydd adolygiad gwariant Cymru yn ystyried sut mae agweddau trawsbynciol ar waith Llywodraeth Cymru yn cael mwy o amlygrwydd mewn penderfyniadau cyllido? OQ62915

Ddirprwy Lywydd, mae adolygiad o wariant Cymru wedi'i seilio ar y nodau a'r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac egwyddorion Marmot. Mae hyn yn sicrhau ffocws cyson ar effeithiau hirdymor a natur ryng-gysylltiedig uchelgeisiau polisi a phenderfyniadau ariannu.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet.

Hoffwn ganolbwyntio ar ariannu sgiliau trwy lens yr adolygiad o wariant. Nawr, mae cyfrifoldeb yn y Llywodraeth am ddarparu prentisiaethau a'r agenda sgiliau ehangach yn disgyn bron yn gyfan gwbl ar un adran. Rydym yn gwybod bod sgiliau'n fater trawsbynciol, sy'n ganolog nid yn unig i addysg, ond hefyd i bortffolios iechyd, trafnidiaeth a phortffolios eraill. Nawr, rydych chi wedi dweud yn gywir bod yr adolygiad o wariant yn cynnig cyfle i roi mwy o amlygrwydd i'r agweddau trawsbynciol hyn ar y Llywodraeth. Felly, mae fy niddordeb yma'n benodol yn ymwneud â sut y gellid defnyddio Medr fel cyfrwng lle mae adrannau, sefydliadau a chytundebau twf eraill, er enghraifft, yn cyfrannu cyllid, fel bod y cyfrifoldeb am ddatblygu sylfaen sgiliau Cymru yn dod yn flaenoriaeth drawslywodraethol a thrawsgymdeithasol a rennir, ac o bosibl yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at helpu'r cyllid ar gyfer sgiliau i adfer ar ôl colli cyllid yr UE, ond gan sicrhau hefyd fod yr holl gyllid yn cael ei ddefnyddio'n strategol. Felly, a allech chi amlinellu pa fath o drafodaethau rhyngadrannol y byddai'n rhaid iddynt ddigwydd er mwyn cefnogi'r dull hwn o weithredu, ac a fyddai'r Llywodraeth â diddordeb mewn archwilio hynny ymhellach?

Diolch i'r Aelod am yr holl bwyntiau hynny. Rwy'n credu fy mod yn cytuno â phob un ohonynt. Mae materion trawsbynciol bob amser yn her i Lywodraethau, oherwydd mae Llywodraethau'n gweithredu ar sail adrannol, ac mae perswadio adrannau fod angen iddynt weithio gyda'i gilydd bob amser yn rhywbeth sy'n gorfod bod yn rhan o'r hyn y ceisiaf ei wneud fel Ysgrifennydd y Cabinet gyda throsolwg ar gyllid. Mae adolygiad o wariant Cymru wedi bwrw yn ei flaen yn yr union ffordd honno. Rydym wedi cael grwpiau o gyd-Weinidogion Cabinet yn cyfarfod â'i gilydd i edrych ar themâu sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'w cyfrifoldebau adrannol. Rydym wedi cael cyfarfod Cabinet lle daethom â hynny oll at ei gilydd, fel y gellid ei adolygu ar draws y Cabinet cyfan. Rwy'n awyddus iawn nawr, yn y cam nesaf, i gynnwys sefydliadau y tu hwnt i gylch uniongyrchol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Medr, er mwyn cynnull yr uchelgeisiau hynny, na ellir ond eu cyflawni pan fydd gennych waith ar draws y llinellau adrannol, ac mae hynny'n rhan fawr o'r hyn y mae adolygiad o wariant Cymru yn ei wneud.

Diolch yn fawr iawn. Sori, dwi wedi'i golli o am eiliad. Mae'n ddrwg calon gen i.

Mentrau Iaith yng Nghanol De Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith mentrau iaith yng Nghanol De Cymru? OQ62910

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn. Dirprwy Lywydd, rydym yn darparu grant o bron i £370,000 i fentrau iaith Canol De Cymru. Mae hyn yn eu galluogi i gynnal amrywiaeth o weithgareddau cymunedol, gan gynnwys gwyliau blynyddol: Tafwyl, Gŵyl Fach y Fro a Parti Ponty. Mae’r mentrau yn cynyddu defnydd iaith i gefnogi ein strategaeth, 'Cymraeg 2050'.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, mi gawsoch chithau a minnau amser wrth ein boddau yn Tafwyl. Mi oedd hi'n wych gweld cymaint yn mwynhau yn y Gymraeg, a hefyd cymaint o bobl ddi-Gymraeg yn dod i fwynhau'r Gymraeg fel iaith fyw.

Yn anffodus, mi wnaethoch chi gyfeirio at Parti Ponty yn fan yna, gŵyl sydd wedi bod yn eithriadol o bwysig ym Mhontypridd, ac mi fyddwn ni i gyd yn cofio'r Eisteddfod Genedlaethol arbennig yno y llynedd. Parti Bach Ponty eleni, oherwydd yr heriau ariannol o gynnal gwyliau o'r fath, a hefyd diffyg cyllid ar gael. Felly, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o barhad gwyliau fel Parti Ponty, a sut ydyn ni'n mynd i'w galluogi nhw i barhau i'r dyfodol?

14:20

Diolch i Heledd Fychan. Wel, darllenais i'r dystiolaeth a oedd wedi cael ei rhoi gan y mentrau iaith i'r ymchwiliad 'Cymraeg i bawb?' gan y pwyllgor, a beth ddywedon nhw am y rôl maen nhw'n ei rhoi i wyliau, nid jest yng Nghanol De Cymru, ond ledled Cymru. Rŷn ni wedi cynyddu'r arian sydd ar gael yng nghyllid y mentrau iaith o 16 y cant yn ystod y flwyddyn bresennol. Wrth gwrs, rŷn ni'n cydnabod, gyda mwy o arian, byddai mwy o bethau byddai'r mentrau iaith yn gallu eu gwneud. Fel dywedodd Mike Hedges, mae pob gwasanaeth cyhoeddus yn gallu gwneud mwy pan fydd mwy o gyllid gyda nhw. Ar hyn o bryd, gyda'r cyllid sydd gyda nhw, mae cyfrifoldeb ar y gwahanol fentrau i flaenoriaethu eu gweithgareddau yn unol â'u hadnoddau. Ond, wrth gwrs, rŷn ni'n parhau i drafod gyda nhw y posibiliadau at y dyfodol.

Ariannu Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

8. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch ariannu trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OQ62916

Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gydag aelodau'r Cabinet i drafod cyllid. Rwy'n croesawu'r gwaith sy’n cael ei arwain gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i wella trafnidiaeth yn y gogledd.

Diolch am yr ateb. Dwi'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod beth ydy byrdwn fy nghwestiwn cyn fy mod i'n ei ofyn o. Bydd o wedi clywed fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe ynghylch ariannu ffordd osgoi Llanbedr, ac mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o achos Llanbedr. Wrth gwrs, ers i Lywodraeth Cymru dynnu'r plwg ar y cynllun gwreiddiol yno bedair blynedd yn ôl, cynllun a oedd ar y pryd yn mynd i gostio £14 miliwn, mae cost y cynllun hwnnw, oherwydd chwyddiant, wedi cynyddu bellach i fod yn werth dros £32 miliwn.

Rŵan, yn ei hymateb i fi ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fod yna swp o bres gwerth £100 miliwn am fynd i ogledd Cymru ar gyfer cynlluniau ariannu isadeiledd ffyrdd a theithio. Ond felly yr hyn mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud wrthyf i ydy bod disgwyl i Gyngor Gwynedd roi cais i holl awdurdodau'r gogledd am draean o'r pot yna o bres ar gyfer un ffordd yng ngorllewin Gwynedd. Rŵan, gymaint â dwi'n cefnogi'r achos, a dwi'n gobeithio y bydd e'n cael ei dderbyn, dwi'n ei weld o'n anodd iawn gweld sut bydd awdurdodau yn y gogledd-ddwyrain yn caniatáu gwario'r lefel yna o bres ar Lanbedr, er dwi'n eu hannog nhw i wneud hynny. Ydych chi'n credu, felly, fod hyn yn gredadwy?

Fe sonioch chi ynghynt fod yna adolygiad ariannol am fod bob dwy flynedd. A wnewch chi, felly, roi cais i mewn rŵan hyn i Lywodraeth San Steffan yn gofyn am y pres ar gyfer Llanbedr, fel ein bod ni'n cael sicrwydd bod yna ariannu i gael y cynllun yna ar y gweill, os gwelwch yn dda?

Diolch am y cwestiynau ychwanegol. Dwi'n gyfarwydd â Llanbedr, wrth gwrs. Ond jest i fod yn glir, Dirprwy Lywydd, fy swydd fel Gweinidog cyllid yw mobileiddio a gwneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn y gwaith maen nhw'n ei wneud. Mae'r rhaglenni gwariant penodol iddyn nhw eu penderfynu, nid i fi. Wrth gwrs, dwi'n parhau i siarad â'r Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth am y gwaith mae e eisiau ei wneud yng ngogledd Cymru, ond y manylion am y rhaglenni, fe sy'n gyfrifol amdanyn nhw; fi sy'n gyfrifol am drio ffeindio'r arian i gefnogi popeth mae e'n treial ei wneud, yn y gogledd a ledled Cymru.

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Eitem 2 heddiw yw cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.

Y Diwydiant Amaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo, amddiffyn a darparu ar gyfer y diwydiant amaethyddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62919

Member (w)
Huw Irranca-Davies 14:24:56
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Sam. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr gyda dros £366 miliwn o gymorth eleni yn unig, yn cynnwys mwy na £44 miliwn o dan gynllun y taliad sylfaenol 2024 yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Rydym yn darparu cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol, cymorth ymarferol, cyngor a chymorth wedi'i deilwra gyda phopeth o gynaliadwyedd i wella iechyd meddwl.

14:25

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi argymell toriad sylweddol o dros 25 y cant yn niferoedd da byw yng Nghymru. Mae'r cynnig hwn wedi achosi pryder mawr ymhlith ffermwyr Cymru ac ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach, sy'n dibynnu ar gynhyrchu bwyd Cymreig cynaliadwy o ansawdd uchel y gellir ei olrhain. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud safiad clir yn gwrthod cyngor y pwyllgor, ac yn addo peidio â lleihau niferoedd da byw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cefnogi'r dull Albanaidd hwn o weithredu neu a ydych chi'n cefnogi galwad y Pwyllgor Newid Hinsawdd i leihau niferoedd da byw yng Nghymru?

Sam, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn darparu cyngor annibynnol ar ddiwallu anghenion cyllidebau carbon, ond ni sy'n penderfynu ar y llwybrau. Rhan o hynny yw'r gwaith a wnawn ar y cynllun ffermio cynaliadwy, fel y gallwn benderfynu ar y ffordd gywir o ddefnyddio ein trefniadau rheoli tir i edrych ar leihau carbon. Mae yna wahanol ffyrdd y gallwn ei wneud. Fe sylwch hefyd wrth gwrs fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn eu dadansoddiad diweddaraf o'r gyllideb garbon wedi adolygu eu targedau ar gyfer plannu coetir yng Nghymru, yn ogystal ag yn yr Alban, ac yn y blaen.

Ond gadewch i mi ddweud yn hollol glir: fel bob amser, rydym yn credu'r cyngor sy'n cael ei roi gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Rwy'n falch ein bod yn gallu dweud y byddwn yn gallu dod â'r ail gyllideb garbon i mewn, gyda hyder tawel, ond mater i'r gwledydd a'r Llywodraethau unigol eu penderfynu yw'r llwybrau bob amser, a byddant yn cael cyngor gan bobl, ein rhanddeiliaid, ac yn cydnabod y dull y mae angen i ni ei ddilyn yma yng Nghymru yn benodol, ond rydym yn croesawu'r cyngor sydd wedi'i gyflwyno.

Yr Economi Gylchol

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r economi gylchol? OQ62922

Diolch, Vaughan. Gan adeiladu ar ein llwyddiant ailgylchu, rydym yn buddsoddi mewn seilwaith i gynnwys deunyddiau ailgylchu ansawdd uchel. Rydym yn denu buddsoddiad gan gwmnïau i ehangu ein capasiti ailbrosesu, rydym yn cefnogi busnesau i ymgorffori deunyddiau wedi'u hailgylchu mewn cynhyrchion, ac yn gwella'r defnydd o ddeunyddiau trwy ddiwygiadau fel cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Rydym yn creu swyddi ac rydym yn gyrru twf gwyrdd.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y maes hwn, ac mae'n faes lle mae cydnabyddiaeth ryngwladol i'r camau y mae Cymru'n eu cymryd, ac rwy'n gwybod hynny o fy nghyfnod yn y Llywodraeth. Mae'r diddordeb hwnnw hefyd yn arwain at nifer o sgyrsiau am fuddsoddiad pellach. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am y gwaith a wnaethom yn fwriadol yng Nghymru nid yn unig i gyrraedd targedau ailgylchu yn ôl cyfaint, ond ansawdd uwch y deunydd ailgylchu sy'n cael ei ystyried yn ased gan gwmnïau sy'n awyddus i'w ailddefnyddio ar gyfer y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf ddiddordeb yn y buddsoddiad sydd ar gael i Gymru, y DU ac yn rhyngwladol, a'r twf o ran gwerth a swyddi, gan fodloni ein hamcanion amgylcheddol a chynaliadwyedd ar yr un pryd. A gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith rydych chi'n ei wneud yn eich adran, ac yn wir gydag Ysgrifennydd yr economi, i nodi cyfleoedd pellach i hyrwyddo'r hyn rydym eisoes yn ei wneud? Ac yn benodol, sut rydych chi'n gweithio gydag Ysgrifennydd yr economi i nodi a mynd ar drywydd cyfleoedd ar gyfer mwy o dwf a mwy o swyddi yn y maes hwn?

Vaughan, diolch, ac mae'n iawn fy mod yn rhoi clod i chi yn gyntaf am y gwaith a wnaethoch chi yn arwain ar yr agenda hon. Ond rydych chi'n iawn: Cymru sy'n arwain yr agenda ar hyn. Mae pobl yn edrych arnom yn rhyngwladol am yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gennym ar hyn, ac rwy'n cofio pan oedd gennym dros 400 o gynrychiolwyr yn rhyngwladol yn mynychu'r hotspot economi gylchol yng Ngerddi Sophia. Roeddem yn dysgu o enghreifftiau rhyngwladol, ond roeddent hwythau hefyd wedi dod i Gymru i ddysgu gennym ni.

Mae hon yn agenda drawslywodraethol, felly mae'r pontio i economi gylchol yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol iawn i Gymru ddatgloi mwy o werth economaidd o'r deunyddiau a gynhyrchir gennym, deunyddiau yr ydym yn arwain y byd ar eu casglu. Mae'r gronfa economi gylchol ar gyfer busnesau yn darparu cyllid i fusnesau roi camau pwysig ar waith, fel addasu eu prosesau i ailgylchu deunydd a lleihau'r deunyddiau y mae angen iddynt eu defnyddio.

Ac os edrychwch ar beth o'r arloesedd anhygoel sy'n digwydd ym mhob rhan o Gymru, mewn llefydd fel y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant er enghraifft, lle maent yn ailddefnyddio'r metelau gwerthfawr hynny a mwynau eraill er budd economaidd a chreu swyddi newydd. Mae 42 o fusnesau, Vaughan, wedi elwa o'n cefnogaeth yn y gronfa economi gylchol i fusnesau hyd yn hyn. Ond rydym hefyd yn denu mewnfuddsoddiad ac yn creu swyddi newydd yng Nghymru. Yng Nglannau Dyfrdwy, mae ailddatblygu Melin Shotton wedi denu buddsoddiad o dros £1 biliwn erbyn hyn. Mae wedi diogelu 147 o swyddi. Bydd y safle yn un o ganolfannau deunydd pecynnu wedi'i ailgylchu mwyaf yn y DU, gan greu 220 o swyddi pellach. Mae busnesau fel hyn yn gwybod, wrth ddod i Gymru, y gallant gael mynediad at ailgylchu o ansawdd da diolch i ymdrechion pobl Cymru a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ond mae mwy y gallwn ei wneud. Rwy'n gweithio gyda fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, ac ar draws y Llywodraeth, i fanteisio ar y cyfleoedd hyn i Gymru a'r arweiniad a ddangosir gennym.

14:30

Ychydig wythnosau yn ôl, cyfarfûm ag amrywiaeth o fusnesau, ochr yn ochr â Jenny Rathbone, yma yn y Senedd—nifer o fusnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a oedd â phryderon difrifol ynghylch cyflwyno'r cynllun dychwelyd ernes yma yng Nghymru. Mae'n gynllun sydd fel pe bai'n hongian dros y diwydiant fel cleddyf Damocles, gan na wyddom beth sy'n mynd i ddigwydd, ond mae'r hyn a wyddom yn peri cryn bryder i'r busnesau hyn, yn enwedig ynghylch y diffyg synergedd rhwng Cymru a gweddill y DU, a allai roi beichiau gweinyddol, biwrocrataidd ac ariannol ychwanegol ar nifer o'r busnesau hynny. Roedd y busnesau a oedd yno eisiau diweddariad, sicrwydd ein bod ar y trywydd iawn ar hyn, a bod eu pryderon yn cael eu clywed. Oherwydd mae'r busnesau hyn yn rhan enfawr a hanfodol o'n heconomi ac maent eisiau gwybod bod ganddynt Lywodraeth sy'n gefn iddynt.

Tom, diolch am hynny. Mae'n bwynt da iawn i'w wneud, oherwydd wrth fyfyrio ar y cwestiwn cychwynnol ar hyn gan Vaughan ar y cyfleoedd, mae'r cynllun dychwelyd ernes yn gyfle gwirioneddol i Gymru gan y gallwn fanteisio ar y cyfle i fod yn gyntaf yn y DU—gan weithio ledled y DU, a chymaint â phosibl o ryngweithredu, sef yr hyn y clywoch chi amdano yn ôl pob tebyg, sut mae gwneud i'r cynlluniau hyn weithio ochr yn ochr â'i gilydd. Ymwelais â Latfia yn ddiweddar. Latfia yw un o'r gwledydd diweddaraf i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes, ond mae ganddynt gynllun ychydig yn wahanol i'r un yn Estonia, cynllun ychydig yn wahanol ar draws—. Ac maent yn ffiniau agored, gyda llaw. Ond maent wedi gwneud iddynt weithio, a'r holl fanwerthwyr a chyflenwyr a siopau, mawr a bach, o bob maint gwahanol, maent wedi gweithio'n galed yn Latfia i wneud i hynny weithio.

Dyna rydym yn ei wneud yng Nghymru. Mae gennym broses ymgysylltu lawn â rhanddeiliaid yn mynd rhagddi. Mae wedi bod yn mynd rhagddi ers sawl mis. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o'r cwmnïau fy hun. Rydym hefyd ar fin dechrau ar gyfnod ymgynghori priodol nawr. Gallaf roi'r warant hon i chi: rydym eisiau llunio a dyfeisio'r cynllun dychwelyd ernes ar gyfer Cymru, ochr yn ochr â'r cynllun dychwelyd ernes ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mewn ffordd sy'n sicrhau cymaint â phosibl o ryngweithredu, sy'n gweithio gyda'r rhanddeiliaid i'w gynllunio'n iawn, fel y gallwn wneud hynny, ac yna byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd hynny. Oherwydd mae cyfleoedd i gwmnïau sy'n ciwio i ddweud, 'Rydym am fod yn rhan o hyn, yn y gwaith o olchi, yr ail-labelu, y broses o fewn hyn'. Gall Cymru arwain y ffordd yn y DU unwaith eto, ond rwy'n gwarantu i chi, Tom, fod rhannau eraill o'r DU eisiau dilyn yr hyn a wnawn ni. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, byddwn yn gweithio gyda'r sefydliad rheoli, ac yn anad dim, byddwn yn gweithio gyda'r holl gadwyni cyflenwi yng Nghymru i wneud hyn yn iawn.

Cefais y cyfle i ymweld â Kontroltek ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Ebrill, lle cyfarfûm ag Andrew, y rheolwr gyfarwyddwr. Efallai fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod Kontroltek yn gwmni sy'n eiddo i'r gweithwyr ac sy'n arbenigo mewn atgyweirio diwydiannol. Maent yn wasanaeth atgyweirio yn gyntaf ac yn gyflenwr yn ail. Mae eu hymrwymiad i gylcholrwydd ac ailddefnyddio wedi'i wreiddio yn eu model busnes ac yn eu gosod ar wahân mewn diwylliant sy'n ffafrio newid yn hytrach nag atgyweirio. Yn ystod ein sgwrs, cododd Andrew fater pwysig ynghylch sgiliau. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyrsiau atgyweirio electronig sylfaenol ar gael yng Nghymru, sy'n golygu bod yn rhaid iddo anfon ei staff i Gaint ar gyfer yr uwchsgilio angenrheidiol. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw sgyrsiau, efallai gyda'r Gweinidog sgiliau neu'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ynglŷn â'r agwedd hon ar waith y Llywodraeth ac ynglŷn â thargedu datblygu sgiliau mewn meysydd fel atgyweirio ac ailddefnyddio, ac yn fwy cyffredinol, y sector ailgylchu, lle mae potensial heb ei gyffwrdd o ran yr economi gylchol?

Luke, diolch. Rwy'n fwy na pharod i fynd ar drywydd y pwynt hwnnw a chael y sgyrsiau hynny. Oherwydd wrth inni bontio i economi gylchol—ac mae'n drawsnewid sy'n llawn o gyfleoedd—mae angen inni alinio'r rhannau cywir o'r peiriant y tu ôl iddo. Rwy'n fwy na pharod i siarad â'n Gweinidogion sgiliau ynglŷn â hyn ac ynglŷn â sut y gallwn lenwi'r un penodol iawn hwnnw, sy'n un pwysig iawn, ond yr agenda ehangach hefyd.

Ond gadewch inni beidio â bod o dan gamargraff yma: mae'r daith hon yn heriol, ond mewn gwirionedd, mae'n gyffrous iawn. Pan oedd pobl eisiau dod i'n clywed yn ystod yr Wythnos Hinsawdd yn Efrog Newydd, i glywed beth oedd Cymru'n ei wneud yn y maes hwn, gwnaed pwynt gan weithredwr blaenllaw yn y byd masnachol byd-eang, a ddywedodd, 'Gadewch inni roi'r gorau i boeni cymaint am y gwledydd hynny sy'n dal gafael ar eu hasedau a'u hadnoddau mwynau ac yn y blaen, a gadewch inni ddechrau trafod sut rydym yn ailddefnyddio ac yn symud tuag at yr economi gylchol'—lle gall cwmnïau o'r fath, yn ein hardal leol, ffynnu drwy ddefnyddio'r hyn sydd gennym eisoes mewn cylchrediad. Dyna'r cyfle economaidd yma, ac roedd y gorfforaeth fyd-eang honno'n iawn ar y pwynt hwnnw—rhowch y gorau i boeni am y lleill, gadewch i ni fwrw ymlaen.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf y nawr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae Dŵr Cymru wedi cael dirwy o £1.35 miliwn am fethu monitro ansawdd dŵr yn briodol mewn 300 o safleoedd gwahanol ym mis Mai, fis diwethaf. Mae'r cwmni hwn wedi pledio'n euog i 15 cyhuddiad yn ymwneud â mwy nag 800 o droseddau yn 2020 a 2021—gallech ofyn pam ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt gael dirwy—am dorri eu trwyddedau gollyngiadau carthion. Yn syfrdanol, serch hynny, yn hytrach na bod yr £1.35 miliwn wedi mynd tuag at fynd i'r afael â'r niwed a achoswyd ac i wella'r amgylchedd yma yng Nghymru, mae'r dirwyon yn sgil unrhyw ddigwyddiad llygredd yng Nghymru yn mynd i Drysorlys y DU, ac nid yw'r arian wedi'i glustnodi, sy'n golygu nad yw'n dod yn ôl yma.

Mae llawer o sôn ym Mil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) am y llygrydd yn talu. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno â mi—rwy'n credu eich bod wedi cytuno â hyn eisoes mewn gwirionedd; rydych hi wedi awgrymu eich bod yn agored i hyn—y dylai'r arian hwn ddod i Gymru, a pha drafodaethau a gawsoch gyda Thrysorlys y DU?

Wrth gwrs, a diolch am godi hyn gyda mi eto. Gallaf gadarnhau y byddem eisiau gweld, mewn sefyllfa ddelfrydol, yr arian yn dychwelyd yma. Yr hyn sydd bwysicaf, serch hynny, gyda Dŵr Cymru yw—. Ac rydych chi'n iawn i ddweud bod llawer o le i feirniadu'r gollyngiadau llygredd, ac fel y gwyddom mor dda, y system hen ffasiwn y mae'n rhaid iddynt ddelio â hi nawr.

Bydd talwyr biliau'n wynebu cynnydd enfawr yn eu biliau nawr, ac mae'n rhaid inni wneud dau beth gyda hynny: un yw sicrhau bod y cwsmeriaid mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu; ond yn ail, sicrhau bod y cwantwm o fuddsoddiad yn delio â'r broblem hon nawr. Oherwydd mae pob un ohonom yn rhannu'r awydd, ar draws y Siambr hon, i weld ein hafonydd yn cael eu glanhau a'r pethau hyn yn cael eu datrys. Ond unwaith eto, i gadarnhau—. Ac rwy'n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol â'i swyddogion cyfatebol yn Llundain, i weld a allwn archwilio ffordd y gall yr arian ddychwelyd yma.

Ond i fod yn gwbl glir, maent wedi cael cynnydd sylweddol mewn cyllid nawr o ganlyniad i PR24. Rydym eisiau i'r arian hwnnw ganolbwyntio ar eu perfformiad, gan gynnwys nid yn unig meysydd eraill lle gallent fod ar ei hôl hi—. Maent uwchlaw cwmnïau eraill, gyda llaw, mewn rhai meysydd eraill. Nid wyf eisiau dweud nad yw Dŵr Cymru yn arwain mewn rhai meysydd, gan eu bod, ond o ran digwyddiadau llygredd—y monitro a'r gwaith o fynd i'r afael â hwy—mae angen iddynt wella eu perfformiad.

Diolch. Mae hynny'n eithaf calonogol. Ond i mi hefyd, mae'n fy nghythruddo pan fydd etholwyr yn dweud eu bod wedi cysylltu â Dŵr Cymru—rwyf wedi gwneud hyn fy hun—ynghylch gollyngiadau a dŵr yn llythrennol yn tywallt i lawr y draen. Mae'n nwydd hanfodol, ac yn fwy na hynny, fel y nodoch chi'n gywir ddigon, talwyr biliau sy'n talu am y dŵr hwn.

Y peth olaf y dylai Dŵr Cymru fod eisiau ei wneud mewn gwirionedd, neu y gall fforddio ei wneud, gan mai arian trethdalwyr sy'n talu'r biliau—. Dylent gael yr opsiwn i ddadwneud y niwed a achoswyd a lleihau'r risg o droseddau'n digwydd eto. Daeth y barnwr rhanbarth Gwyn Jones i'r casgliad fod y cwmni wedi bod yn esgeulus ac

'wedi achosi cywilydd sylweddol heb os i'r holl bersonél ymroddedig hynny yn Dŵr Cymru.'

Mewn geiriau eraill, y gweithwyr ar y rheng flaen.

Yn ogystal â'r ddirwy enfawr, nid oes unrhyw beth yn creu mwy o embaras ac yn fwy anfforddiadwy i'r cwmni dŵr—a gwn fy mod i ac Aelodau eraill wedi codi hyn gyda chi o'r blaen—na'r swm gormodol a delir i'r prif weithredwr: £892,000 am flwyddyn o waith i sefydliad nid-er-elw honedig. Mae hynny £459,000 yn fwy na Phrif Weinidog y DU, 465 y cant yn fwy na'r Prif Weinidog, a bron i 500 y cant yn uwch na phrif weithredwr dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru.

A wnewch chi ymuno â mi i ddatgan bod talu'r mathau hyn o symiau, yn enwedig i brif weithredwr Dŵr Cymru yn yr achos hwn, yn anghywir pan nad yw'n perfformio hyd eithaf ei allu, a siarad o blaid eu holl gwsmeriaid drwy alw ar Dŵr Cymru i ymrwymo i beidio â thalu cyflogau mor enfawr â hyn eto? Diolch.

14:40

Diolch. Nid oes unrhyw beth o'i le mewn codi'r materion hyn dro ar ôl tro, gan y credaf ei bod yn bwysig eu bod yn cael eu trafod. Ond mae'n bwysig dweud, yn gyntaf oll, nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros gyflogau a chydnabyddiaeth ariannol i gyfarwyddwyr a byrddau cwmnïau dŵr a charthffosiaeth.

Fodd bynnag, lle gallwn chwarae rhan, a lle rydym wedi chwarae rhan, yw yn y bartneriaeth â Llywodraeth y DU yn ddiweddar, lle rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth sy'n nodi'n glir fod yn rhaid i gydnabyddiaeth ariannol—bonysau ac ati—fod yn gysylltiedig â pherfformiad. Ac os nad yw'r perfformiad yn dda, ni ddylai'r byrddau hynny, yn y ddeddfwriaeth rydym wedi'i chyflwyno yng Nghymru a Lloegr, gael eu talu i fethu lle mae'r perfformiad yn ddiffygiol. Credaf fod honno'n neges bwysig iawn.

Rydym am i'r bobl gywir fod yn gwneud y swyddi hyn yn y sefydliadau mawr hyn, ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd ei bod yn sefyllfa fonopolaidd i raddau helaeth fel cyfleustod. Os felly, rhaid iddynt gyflawni ar ran talwyr biliau, rhaid iddynt gyflawni ar ran yr amgylchedd, rhaid iddynt ddelio â gollyngiadau, rhaid iddynt wella boddhad cwsmeriaid—yr holl bethau hyn. Rwy'n credu bod y ddeddf hon, rhyngof fi a'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn anfon neges gref iawn: os nad ydych chi'n perfformio, ni ddylech ddisgwyl cydnabyddiaeth ariannol ychwanegol.

Ond mae arnaf ofn nad oes gennyf unrhyw reolaeth uniongyrchol dros lefelau cyflog, neu fel arall byddwn yn dyblu cyflogau pob un ohonoch, rwy'n siŵr. [Torri ar draws.] Mae rhywun yn cymeradwyo yn y cefn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi'n llygad eich lle yn nodi bod Dŵr Cymru yn sefydliad nid-er-elw. Wrth gwrs, mae arnom eisiau arweinwyr sy'n gweithredu er budd gorau Cymru. Yn ogystal â derbyn cyflog teg, dylai unigolion mewn rolau arweinyddiaeth yng Nghymru fod yn ymrwymedig 100 y cant i Gymru.

Mae hyn yn fy arwain at rôl rydych chi newydd ei chymeradwyo. Mae gennym gadeirydd newydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru bellach, sefydliad sydd wedi mynd drwy rywfaint o ad-drefnu, rhywfaint o bwysau—beth bynnag rydych chi'n ei alw. Mae gan y cadeirydd presennol—rwyf am osgoi defnyddio enwau—nifer o swyddi eraill, gan gynnwys cadeirydd East West Rail—sy'n adeiladu'r llinell reilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt—ac mae ar fin dod yn gadeirydd Prifysgol Warwick, ac os darllenwch am yr unigolyn dan sylw, mae'n gadeirydd ar gymaint o sefydliadau nad ydynt, i mi, yn berthnasol i'w rôl yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedais yn glir wrth y pwyllgor—. Ac mae'n rhaid imi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, mae mor annifyr pan fydd y bobl hyn yn cael eu penodi, a gofynnir i ni fel pwyllgor roi ein barn, i ddarllen y curriculum vitae, i wrando arnynt yn ystod y cyfweliad, a chael gwybod wedyn nad yw'r hyn a ddywedwn yn bwysig mewn gwirionedd, ei fod yn fait accompli. Ac yn yr achos hwn—

A ydych chi wir yn credu bod angen i'r broses benodiadau cyhoeddus yng Nghymru newid? Mae cwestiwn yn ddiweddarach, ac rwyf ar hwnnw hefyd, ond mae gennyf ddogfen yma'n ymwneud â phenodiadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'n ddamniol iawn. A wnewch chi edrych, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet, ar sut y gallwch wneud y broses benodiadau cyhoeddus yn fwy tryloyw, yn fwy atebol, ac yn fwy perthnasol i'r rolau y mae'r bobl hyn yn ymgymryd â hwy, a ddaw gyda threuliau da iawn fel arfer? Diolch.

Diolch, Janet. Ddirprwy Lywydd, dylwn egluro, ar y broses sydd ar y gweill ar hyn o bryd, fy mod wedi cynnig ymgeisydd a ffafriaf. Mae'r pwyllgor wedi craffu ar yr ymgeisydd hwnnw ac wedi cyflwyno adroddiad. Er eglurder, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallaf ei ddweud, oherwydd gyda'r prosesau hyn, y ffordd y mae'n gweithio yw ei fod wedyn yn ddarostyngedig i fy mhenodiad terfynol a llythyrau cyfnewid ac ati. Felly, fe fyddwch yn deall bod cyfyngiadau llym ar yr hyn y gallaf ei ddweud, Ddirprwy Lywydd.

Ond dylwn ddweud, yn syml, o ran y penodiad hwn, ei bod hi'n galonogol iawn gweld bod gennym amrywiaeth eang a chryf iawn o ymgeiswyr, fod profiad yr ymgeisydd a ffafriaf yn sylweddol, ac rydym bob amser yn ymdrechu yn Llywodraeth Cymru i sicrhau, ar y rhestrau hir a'r rhestrau byr, fod yna amrywiaeth dda o ymgeiswyr.

Ond wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru, ac yn ein trafodaethau gyda'r cyrff mewnol sy'n gysylltiedig â hyn, rydym bob amser yn edrych ar y broses. Os yw'r pwyllgor yn teimlo y byddent yn hoffi chwarae mwy o ran mewn gwahanol benodiadau ar draws y Llywodraeth, dylai'r pwyllgorau nodi hynny. Dywedaf wrthych, yn syml, nad yw bob amser yn fantais dweud wrth bwyllgorau, 'Chi sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol.' Fe ddywedaf yn syml, ar rai pwyntiau, y gallai hynny ymwneud nid yn unig â mater o farn o ran profiad a gallu, ond efallai â'r wleidyddiaeth yn y cyswllt hwnnw hefyd. Beth bynnag, mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn a ddywedoch chi, ond mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallaf ei ddweud ynglŷn â phroses sy'n dal i fynd rhagddi hyd at y penodiad terfynol a chyfnewid llythyrau.

14:45

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mi gyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ddiweddariad ar y cynllun ffermio cynaliadwy y llynedd, a oedd yn cynnwys cynnydd ar nifer o faterion allweddol roedd Plaid Cymru wedi'u codi—materion fel dileu'r gofyniad gorchudd coed o 10 y cant a lleihau nifer y camau gweithredu cyffredinol. Ond, rydyn ni'n dal i ddisgwyl am y fersiwn derfynol, a dwi'n gobeithio'n arw y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cytuno ei bod yn bwysig iawn fod hynny gennym ni cyn y sioe fawr. 

Ond, mae yna wybodaeth arall yr ydym ni'n edrych ymlaen i'w gweld ochr yn ochr â'r SFS ei hun, yn cynnwys asesiad newydd o effaith debygol ar y sector, o gofio bod asesiad effaith economaidd blaenorol yn awgrymu y gallai 5,500 o swyddi ffermio fod mewn perygl o dan y drafft gwreiddiol. Ac rydyn ni angen manylion am y taliadau hefyd. Felly, dau gwestiwn: a fydd y cynigion terfynol yn cynnwys gwybodaeth glir iawn am y taliadau y gall ffermwyr eu disgwyl ar gyfer cwblhau camau gweithredu, ac a fydd asesiad effaith economaidd newydd, manwl yn cael ei gyhoeddi yr un pryd â'r cynllun i ddangos a fydd y cynigion terfynol yn costio swyddi?

Diolch yn fawr iawn, Rhun. Yn gyntaf, rydym wedi gwneud llawer o gynnydd da gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n adeg hollbwysig mewn ychydig wythnosau hollbwysig, fel y dywedais, ond mae'r holl faterion yn ymwneud â choed a gwrychoedd a gorchudd coetir, asesiadau effaith, taliadau—yr holl bethau hynny—bellach yn cael eu trafod yn y cymysgedd terfynol. Ond fe fyddwch yn deall natur gwaith y grŵp bord gron a'r grŵp swyddogion sydd wedi bod yn ei gefnogi—ac rwy'n talu teyrnged anhygoel iddynt am y gwaith a wnaethant—a byddwn yn ei gyflwyno mewn ychydig wythnosau. Ac rydym yn gobeithio, gyda llaw, y gallwn wneud hynny cyn y Sioe Frenhinol, os gallwn gael yr holl fanylion terfynol wedi'u cadarnhau.

A bydd, bydd ffermwyr yn gwybod beth fydd y taliadau, yn yr haen gyffredinol ond hefyd yn yr haen opsiynol a chydweithredol. Rwyf am ddweud wrth yr Aelodau, 'Dangoswch ddiddordeb yn y cynllun cyfan', oherwydd mae elfennau unigol iddo, ond rydym yn ceisio cyflwyno cynllun fferm gyfan. Ac wrth gwrs, rydym hefyd yn gwneud asesiad effaith llawn, sy'n cynnwys yr effaith economaidd, ond mae hefyd yn cynnwys yr effeithiau amgylcheddol. Oherwydd ei fod yn gynllun fferm gyfan, sy'n cynnwys y pedwar amcan ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy, rydym yn edrych ar hynny yn ei gyfanrwydd.

Diolch am yr eglurder ar hynny. Mi wnaf i droi rŵan at fygythiad feirws y tafod glas. Mae llawer yn cael ei gydbwyso yn yr ymateb—y rhwystrau ymarferol sydd yna o gael dau statws gwahanol ar y ddwy ochr i'r ffin, ond hefyd yr angen i roi y mesurau lles anifeiliaid mwyaf effeithiol yn eu lle. Mae Plaid Cymru yn glir iawn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru rŵan wneud popeth yn ei gallu i hyrwyddo brechu a sicrhau bod yna ddigon o'r brechlyn ar gael. Rydym ni'n poeni, serch hynny, y gallai ffermwyr weld y gofyniad i sicrhau prawf negyddol cyn symud fel cam digonol i gadw'r feirws i ffwrdd, tra bod hynny, mewn realiti, yn un mewn nifer o fesurau, ochr yn ochr â brechu, i atal lledaeniad y feirws. Felly, er mwyn cynyddu cyfraddau brechu'n benodol, ac i helpu i liniaru rhywfaint o effeithiau ymarferol ar y ffin, ac ati, ydy Llywodraeth Cymru'n barod i ystyried caniatáu i dda byw sydd wedi'u brechu deithio heb yr angen am brawf negyddol cyn symud?

Mewn ateb uniongyrchol i'ch cwestiwn, nid ar hyn o bryd. Ond pan sefais yma a gwneud y datganiad yr wythnos diwethaf, dywedais y byddem yn adolygu hyn yn barhaus. Rydym yn awyddus i ymgysylltu ac i wrando nid yn unig ar y milfeddygon a'r arbenigwyr iechyd a lles anifeiliaid ar lawr gwlad, ond hefyd ar ffermwyr, arwerthwyr ac eraill, ac rydym am barhau â'r ddeialog honno. Ar y sail honno, rydym yn awyddus i archwilio llwybrau eraill y gallem fod am eu cyflwyno, os yw'r amseru'n iawn. Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd, ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn creu beichiau ariannol pellach i ffermwyr, os ydynt yn bwriadu symud anifeiliaid, gan nad ydym wedi atal symud, ond rhoddwyd mesurau ychwanegol ar waith gennym i atal y feirws—. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio nawr ar weithio gyda'r sector i wneud i hyn weithio.

Yn ail, rydych chi'n llygad eich lle, ynghyd â'r prif—. Mae llythyr wedi'i anfon gan y pedwar prif swyddog milfeddygol, gyda phob un yn pwysleisio, ledled y DU, fod angen inni ganolbwyntio ar frechu, fod angen i ffermwyr ystyried hyn, fod angen i ffermwyr weithio gyda'u milfeddyg fferm eu hunain i drafod a yw hyn yn iawn iddynt hwy ar sail strategol ar eu fferm—a yw'n iawn i'w wneud—a byddem yn annog hynny. Ond fe fyddaf yn hollol glir gyda chi a chyda phobl eraill wrth gydnabod nad un safbwynt a geir. Mae gwahanol safbwyntiau ynglŷn ag a ddylem fod wedi newid ar unwaith i barth Lloegr a Chymru ac yn y blaen. Yr hyn y ceisiwn ei wneud yma, a dweud y gwir, yw prynu amser i ffermwyr. Hyd yn oed os na allwn gadw'r clefyd hwn draw yn llwyr, os gallwn brynu amser fel bod gennym gyflenwadau mwy o'r brechlyn, a brechlynnau eraill yn dod i mewn hefyd, yna byddwn wedi gwneud gwaith da iawn ar ran ein cymunedau ffermio, a byddwn wedi osgoi, gyda llaw, effaith hyn yn lledaenu ar unwaith drwy ei gludo i orllewin a gogledd-orllewin Cymru ac ati. Dyna rydym yn ceisio'i wneud.

14:50

Diolch yn fawr iawn. A bod yn ddeinamig, dwi'n meddwl, ydy'r alwad ar y Llywodraeth, onid e?

Mae yna lawer yn digwydd yr wythnos yma, felly dwi am droi at drydydd mater, os caf i, sef y datganiad ysgrifenedig ddoe ar isadeiledd ffiniau ar ôl Brexit. Mae penderfyniad i beidio â chomisiynu rŵan y safle rheoli ffiniau yng Nghaergybi ar ôl gwario dros £50 miliwn arno fo yn adlewyrchu anrhefn Brexit, onid yw? Degau o filiynau o bunnau o arian cyhoeddus—. Dŷn ni wedi colli adnodd parcio lorïau yng Nghaergybi—rhan bwysig iawn o isadeiledd y porthladd, ac ati. Mae'r pethau yma'n cael effeithiau go iawn ar y gymuned. Ond mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod talu rhyw £7 miliwn at y datblygiad, er bod Brexit, wrth gwrs, yn fater sydd wedi cael ei ddal yn ôl. Mae angen rŵan sicrwydd gan San Steffan y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei digolledu am ei chyfraniad i'r prosiect yma ac y bydd unrhyw gyllid sydd ei angen i ailbwrpasu'r safle yma ar gyfer defnydd yn y dyfodol hefyd yn cael ei dalu yn llawn gan y Trysorlys. A gaf i ofyn am gytundeb y Dirprwy Brif Weinidog ar hynny? Ac ydy o'n cytuno efo fi na ddylai Caergybi na Chymru fod yn talu'r pris am Brexit caled gafodd ei wneud yn Llundain? 

Wel, gallaf ddweud ein bod wedi cyflwyno'r ddadl yn gyson i'r Llywodraeth flaenorol, gan fod hyn yn deillio'n uniongyrchol o'r penderfyniad i ymadael â'r UE—rydych chi'n llygad eich lle—a dywedais hynny'n glir yn fy natganiad byr ar hyn. Felly, mae rheolaethau'r ffin ar nwyddau'r UE yn ganlyniad uniongyrchol i adael yr UE. Felly, rydym wedi dweud yn glir ac yn gyson o'r cychwyn, drwy ddeiliaid blaenorol y swydd hon, drwy Brif Weinidogion blaenorol, ein bod yn disgwyl i'n holl gostau—yr holl gostau, cyfalaf a refeniw—gael eu talu gan Lywodraeth y DU. Nodwn fod Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi cyllid uniongyrchol i gyfleusterau mewn nifer o borthladdoedd eraill yn Lloegr ac yn yr Alban. Felly, rydym wedi gwneud y ddadl honno.

Mae cyfraniad bach yn yr achos hwn, oherwydd rhywbeth sy'n hollbwysig i mi ac i fy rhagflaenydd hefyd yw bod angen y rhain arnom, rhag ofn. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw fy mod wedi dewis peidio â chomisiynu hyn, ond mewn gwirionedd, gallwn wneud hynny. Mae gennym obaith mawr y bydd y cytundeb iechydol a ffytoiechydol rhwng y DU a'r UE yn dwyn ffrwyth ac na fydd angen safle rheolaethau'r ffin. Os felly, rydym mewn amgylchiadau gwahanol wedyn o ran edrych ar beth yw'r defnydd amgen a newydd. Ond ar hyn o bryd, hyd nes y caiff hynny ei gymeradwyo'n derfynol, mae angen inni gadw safle rheolaethau'r ffin yn barod ac yn abl i gael ei weithredu. Nawr, golyga hynny fod angen inni roi rhywfaint o—. Rydym yn ei gadw i'r lefel isaf bosibl, ond mae angen inni gadw rhywfaint o fuddsoddiad yno. Rydym yn cyflwyno'r ddadl eto i Lywodraeth y DU y dylai Llywodraeth y DU dalu am rywfaint o fuddsoddiad. Ond nid wyf am adael iddo redeg i lawr, oherwydd, yn gyntaf ac yn bennaf, safle rheolaethau'r ffin yw hwn. Mae angen inni edrych ar y gweithdrefnau iechydol a ffytoiechydol, a sicrhau y gall y fasnach weithio. Felly, os oes angen hyn arnom, mae angen iddo fod yn barod i gael ei roi ar waith. Felly, er ein bod yn gwneud y dadleuon hynny, fy mhrif flaenoriaeth yw, 'A all fod yn barod i gael ei roi ar waith pan fo angen?' Felly, bydd angen inni roi rhywfaint o gyllid tuag at gynnal a chadw a diogelwch i'w gadw'n barod. Ni ellir ei ddefnyddio at ddibenion eraill. Gwn fod rhai pobl wedi dweud wrthyf, 'Wel, yn y cyfamser, a allwn ni ei ddefnyddio ar gyfer hyn, llall ac arall?' Mae'n gyfleuster pwrpasol ac arbennig iawn mewn gwirionedd. Ond edrychwch, byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU ac yn gwneud y dadleuon yn gyson, fel y gwneuthum mewn cyfarfodydd olynol o'r grŵp rhyngweinidogol, ac yn ysgrifenedig, i ddweud y dylai Llywodraeth y DU ysgwyddo'r costau. Pe bai hyn wedi'i wneud mewn ffordd wahanol gan y Llywodraeth flaenorol, gallem fod mewn sefyllfa wahanol iawn. Ond mae'r costau yr ydym yn eu hysgwyddo nawr yn ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau a wnaed a'r ffordd y cyflawnwyd Brexit.

14:55
Clefyd y Tafod Glas

3. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i sioeau amaethyddol yng Ngogledd Cymru sy'n wynebu cansladau neu gyfyngiadau o ganlyniad i glefyd y tafod glas? OQ62912

Diolch, Sam. Fel y saif pethau, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw sioeau amaethyddol yng ngogledd Cymru sy'n wynebu gorfod canslo neu gyfyngiadau oherwydd clefyd y tafod glas.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol o bryder y sector amaethyddol—ac rydym eisoes wedi cael dadleuon yn y lle hwn—ynghylch polisi Llywodraeth Cymru ar glefyd y tafod glas, sy'n cynnwys yr effaith ar sioeau amaethyddol, sydd, rwy'n siŵr eich bod yn deall, yn uchafbwynt gwirioneddol i ni yma ar lefel sirol, ond ledled Cymru hefyd. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymweld â llawer o'r rheini dros gyfnod yr haf, ac rwy'n meddwl am fy sioe amaethyddol leol, sioe Dinbych a Fflint, yn benodol, oherwydd nid yn unig fod y sioeau hyn yn bwysig o safbwynt diwylliannol i ni yma yng Nghymru, maent hefyd yn darparu budd economaidd lleol go iawn i'n cymunedau. Ar y pwynt hwnnw, roeddwn yn siomedig o weld na chynhaliwyd unrhyw asesiad o'r effaith economaidd gan Lywodraeth Cymru cyn y polisi tafod glas a gyhoeddwyd gennych, a chredaf fod hynny'n gamgymeriad gwirioneddol drwy fethu deall effaith economaidd y penderfyniad hwnnw. Felly, yn y cyfamser, gyda golwg ar rai o'r pryderon sy'n wynebu sioeau amaethyddol yn y misoedd nesaf, a wnewch chi ystyried, yn gyntaf oll, asesiad o effaith economaidd y polisi hwn, ac yn ail, a wnewch chi roi pecyn cymorth ar waith ar gyfer unrhyw sioeau amaethyddol a fydd yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r polisi hwn?

Diolch, Sam, ac fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwy'n cydnabod y beichiau ychwanegol y mae hyn yn eu rhoi ar y sector ffermio ar hyn o bryd, ond hefyd y penderfyniadau y mae'n rhaid i sioeau amaethyddol eu gwneud. Gallaf ddweud bod Sioe Frenhinol Cymru, er enghraifft, yn bresennol yn y cyfarfod bord gron a gynullais ar 5 Mehefin, ac rydym yn parhau i drafod gyda hwy, a sioeau eraill, sut y gallwn weithio ein ffordd drwy hyn, gan gofio mai'r hyn y ceisiwn ei wneud yw atal cynnydd clefyd y tafod glas a'i atal rhag lledaenu tua'r gorllewin i'r ardal hon, a fyddai'n ddinistriol i ffermwyr ac i sioeau hefyd. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i'w gadw draw ar hyn o bryd. Mater i bwyllgorau'r sioeau amaethyddol yw'r rheolau a'r gofynion mynediad, ac maent yn gwneud eu dewisiadau annibynnol yn unol â'u polisïau a'u cyngor milfeddygol eu hunain. Rhaid imi ddweud, mae fy mhrif swyddog milfeddygol wedi bod mewn cysylltiad nid yn unig â Sioe Frenhinol Cymru, ond â sioeau eraill hefyd, gan eu cynorthwyo gyda rhywfaint o gyngor. Ond nid yw Llywodraeth Cymru yn ceisio ymyrryd yn y materion hyn, sydd, yn gywir ddigon, ar gyfer y sioeau eu hunain.

Ond o ran yr asesiad o'r effaith economaidd, fel y dywedais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, yr hyn rydym yn ei wynebu yw darlun esblygol a deinamig o'r clefyd, yng Nghymru ac yn Lloegr. Felly, ni fyddai cynnal asesiad o'r effaith economaidd yn rhoi data cadarn i ni mewn gwirionedd, gan y gallai newid o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos. Mae angen canolbwyntio, fel y nodwyd yn gynharach, ar ddefnyddio brechlynnau a ffermwyr yn gwneud y penderfyniadau cywir ar hynny, a chadw'r clefyd hwn draw.

Felly, gallaf ddweud fy mod yn deall, o drafodaethau gyda sioeau a fy nghynghorwyr, fod gan sioeau gynlluniau wrth gefn ar waith rhag ofn y byddant yn cael eu gorfodi i ganslo, am ba bynnag reswm. Mae ganddynt eu cynlluniau wrth gefn ar waith. Nid oes cymorth ar gael i sioeau sy'n gwneud penderfyniad masnachol i ganslo neu sy'n ddigon anffodus i fod mewn ardal a fydd o fewn parth rheoli'r tafod glas yn y dyfodol. A gadewch imi egluro beth rwy'n ei olygu wrth hynny hefyd, gan ei bod yn bwysig deall, a gwn fod rhai Aelodau wedi dod i'r sesiwn friffio dechnegol fanwl iawn a drefnwyd gennym ychydig ddyddiau yn ôl. Felly, er enghraifft, os caiff parth rheoli tafod glas o 20 km ei ddatgan mewn rhan o Gymru, ni fyddai modd cynnal sioe da byw yn yr ardal honno. Felly, dyna'r math o fanylion yr ydym yn edrych arnynt—manylion manwl. Ond edrychwch, mae Cymru'n rhydd o'r tafod glas ar hyn o bryd. Mae da byw Cymru yn rhydd i symud yng Nghymru ac i fynd i sioeau heb unrhyw gyfyngiadau tafod glas. Rwy'n argymell yn gryf y dylai sioeau ofyn am gyngor milfeddygol eu hunain ynghylch y tafod glas, ond byddaf yn parhau i wrando arnynt hefyd, Sam.

15:00

Rydych chi wedi datgan mai eich penderfyniad, Ysgrifennydd y Cabinet, yw prynu amser i ffermwyr, ac y byddwch yn cadw'r polisi dan adolygiad. Mae'n hanfodol eich bod chi'n gwrando ar ffermwyr, ac mae sioeau amaethyddol yr haf yn rhoi'r cyfle hwnnw i chi, ynghyd â siarad a gwrando ar randdeiliaid eraill, ac arbenigwyr milfeddygol wrth gwrs.

Fe wnaethoch chi sôn bod y prif swyddog milfeddygol wedi rhoi briff technegol i Aelodau'r Senedd, ac mae rôl brechu yn amlwg yn allweddol. Mae pawb yn cytuno nad yw gwybed yn parchu ffiniau. Felly, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n bwysig fod y defnydd o frechlynnau'n cael ei hyrwyddo a'i annog ar ddwy ochr y ffin, yng Nghymru a Lloegr, ac a ydych chi'n fodlon fod hyn yn cael ei wneud yn effeithiol?

Diolch, Lesley. Mae'n gwestiwn mor dda. Soniais fod yr holl brif swyddogion milfeddygol bellach wedi ysgrifennu ar y cyd i annog pob ffermwr ledled Cymru, Lloegr a'r Alban i ystyried a yw brechu'n iawn iddynt hwy ac a ellir ei ddefnyddio. Mae brechlyn yn offeryn pwysig yma yn ein hamddiffyniad yn erbyn y tafod glas. Mae yna unfrydedd ynghylch hyn hefyd wrth gwrs. Er bod gwahaniaethau barn ar y mesurau ar hyn o bryd, mae unfrydedd o ran dweud bod angen i ni i gyd gefnogi brechu. Felly, mae grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru wedi dweud hynny, ond mae ffermwyr, arwerthwyr da byw a phawb wedi gwneud hynny hefyd—mae pob Tom, Dic a Harriet wedi dweud yr un peth.

Mewn partneriaeth â'r sectorau da byw a milfeddygol, rydym wedi llwyddo i gadw'r tafod glas allan o Gymru. Mae hynny'n eithaf rhyfeddol, a bod yn onest. Rydym yn falch iawn o ymdrechion pawb i alluogi hynny, ac rwy'n annog pobl i ddod at ei gilydd a pharhau i weithio ar hyn. Rydym yn cadw'r trafodaethau hynny i fynd, Lesley, gyda'n partneriaid allweddol, gan gynnwys yr undebau ffermio, y Sioe Frenhinol, y Gymdeithas Arwerthwyr Da Byw, a byddwn ninnau'n cadw'r trafodaethau hynny i fynd hefyd. Ond ceir cytundeb cryf mai brechu yw'r ffordd orau o ddiogelu ein diadelloedd a'n buchesi yng Nghymru yn erbyn y tafod glas. Felly, byddwn yn parhau i wrando, byddwn yn parhau i ymgysylltu a byddwn yn parhau i weithio ar y dystiolaeth o'r hyn sydd orau, nid yn unig ar gyfer da byw, defaid a gwartheg, ond i'r gymuned ffermio yng Nghymru hefyd.

Casglu Dŵr Glaw

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu casglu dŵr glaw? OQ62914

Diolch, Jenny. Mae rheoli ein cyflenwadau dŵr yn effeithiol yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae cwmnïau dŵr yn ystyried cynllunio ar gyfer sychder yng nghynlluniau'r cwmni ac o dan ein deddfwriaeth systemau draenio cynaliadwy, byddwn yn sicrhau bod systemau draenio cadarn yn cael eu gosod ar gyfer pob datblygiad trefol a gwledig newydd, gan gryfhau gwydnwch ein rhwydwaith dŵr wyneb a charthffosiaeth.

Diolch am hynny. Prosiect Grangetown Wyrddach oedd y cyntaf o'i fath yn y DU, ac mae wedi tynnu 40,000 ciwb o ddŵr wyneb o'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus bob blwyddyn dros y chwe neu saith mlynedd diwethaf. Mae hefyd wedi darparu 108 o erddi glaw, a thros 130 o goed, rwy'n credu, yn ogystal â'r stryd feicio gyntaf yng Nghymru. Felly, o ystyried bygythiadau posibl o sychder yr haf hwn, pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gost a budd gosod—ôl-osod—rhaglenni systemau draenio cynaliadwy ledled Cymru mewn amgylcheddau trefol eraill, o ystyried y costau enfawr sy'n gysylltiedig, er enghraifft, â chreu cronfeydd dŵr newydd? 

Jenny, diolch yn fawr. Rydym yn awyddus iawn i ôl-osod, yn ogystal â datblygiadau newydd, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda mwy o fanylion ar sut y gwnawn ddadansoddiadau o hynny a sut y gallwn ddatblygu'r gwaith ôl-osod, yn ogystal â gosod ar ddatblygiadau newydd.

Diolch am dynnu sylw at brosiect Grangetown Wyrddach, oherwydd pan gawsom gonfensiwn ledled y DU yma o beirianwyr systemau draenio cynaliadwy yn adeilad Arup rownd y gornel, fe aethant i weld hynny ac fe wnaeth argraff fawr arnynt, ac nid dyma'r unig un yng Nghymru. Ond mae'r enghraifft honno'n enghraifft glir o fanteision lluosog draenio cynaliadwy. Mae'n gosod y safon, rhaid imi ddweud, ar gyfer prosiectau dilynol ledled Cymru, ac rydym yn gwybod bod rhannau eraill o'r DU eisiau dilyn hefyd. Yn ddiddorol, roedd yn bartneriaeth hefyd ar sawl lefel, rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac er ei fod yn gweithio gyda dros 500 o eiddo ger afon Taf, fe ddileodd—. Tynnodd y cynllun hwnnw'n unig oddeutu 42,000 metr sgwâr o ddŵr ffo o'r system. Mae hynny'n sylweddol. Roedd 12 stryd wedi'u targedu, ac fe'i cynlluniwyd mewn ymgynghoriad â'r gymuned. Felly, dyna wers arall—gwnewch y pethau hyn gyda'r gymuned i ddangos y manteision lluosog ac ansawdd yr amgylchedd. Mae wedi cael effaith enfawr eisoes ar yr orsaf bwmpio i lawr yr afon, o ran y defnydd o ynni a gollyngiadau o'r all-lifau. Mae wedi cael yr effaith uniongyrchol honno. Ni chofnodwyd unrhyw orlifoedd o gwbl yn 2023, a oedd yn flwyddyn hynod o wlyb. Mae'n gweithio. Mae angen inni wneud mwy o hyn. A byddaf yn ysgrifennu atoch gyda mwy o fanylion ar yr ôl-osod.

15:05
Mesurau Iechyd Anifeiliaid

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y mesurau iechyd anifeiliaid y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith? OQ62896

Yn wir. Mae mesurau iechyd anifeiliaid a weithredir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu llywio drwy ymgynghori â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, sy'n cynnwys grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, cynrychiolwyr milfeddygol a'r diwydiant a chyngor cyfreithiol.

Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Os caf eich cywiro ar ateb a roddoch chi i arweinydd Plaid Cymru yn ddiweddar, anfonodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion neges destun at ffermwyr ddydd Gwener yn nodi na fyddai angen prawf cyn symud ar wartheg a oedd wedi'u brechu'n llawn gyda'r brechlyn Boehringer. Yn eich ateb i arweinydd Plaid Cymru, fe ddywedoch chi y byddai angen prawf cyn symud ar anifeiliaid. Dyma'r anhawster—mae'r negeseuon sy'n dod allan yn ddryslyd ac yn anodd, a phan fo'r Gweinidog sy'n gyfrifol yn codi i siarad yma yn y Senedd ac yn rhoi ateb sy'n gwrth-ddweud negeseuon a anfonwyd at ffermwyr, a allwch chi ddeall sut y mae pobl yn teimlo'n ddryslyd iawn ac yn methu deall beth fydd yn ddisgwyliedig ganddynt ar 1 Gorffennaf?

Ond yn bwysicach fyth, o gofio'r penderfyniad hollbwysig yr ydych chi wedi'i wneud, un rwy'n anghytuno'n angerddol ag ef—a dylwn fod wedi sôn am fy natganiad o fuddiant fel ffermwr da byw, Ddirprwy Lywydd—a allech chi enwi sefydliad yn y sector da byw neu sy'n cefnogi'r sector da byw sy'n cefnogi eich penderfyniad i greu rhwystr i symudiadau da byw rhwng Cymru a Lloegr yn hytrach na chadw ardal un parth Cymru a Lloegr at ddibenion iechyd anifeiliaid mewn perthynas â'r tafod glas?

Andrew, a gaf fi ddweud wrthych mai fy nealltwriaeth i yw eu bod yn gefnogol i'r dull a weithredwn yma yn y cyfarfodydd diweddaraf o grŵp iechyd a lles anifeiliaid Cymru, yn gefnogol hefyd i'r polisi ar frechu i hyrwyddo brechu hefyd, ac maent hefyd yn tynnu sylw at y risg o roi Cymru mewn parth dan gyfyngiadau yma nawr. Mae yna risgiau'n codi gyda hyn hefyd, i les anifeiliaid ond hefyd i ffermwyr. Mae un o'r risgiau hynny'n gysylltiedig â stoc pedigri gyda llaw. Felly, mae'r cwestiwn o wahodd y clefyd i Gymru yn un dadleuol, rwy'n gwybod, ond mae'n un lle'r ydym yn ceisio ymatal rhag ei wahodd i mewn.

Fel y dywedais, bydd angen—. Gyda llaw, nid wyf yn gwybod a oeddech chi yng nghynulliad blynyddol y sefydliadau milfeddygol a Chymdeithas Milfeddygol Prydain ddoe, ond roedd yn ddiddorol clywed eu barn hwy ar hyn hefyd, ar gadw'r clefyd allan, ar geisio cloi'r clefyd allan. Nid wyf yn gwybod a oeddech chi'n gallu mynychu'r sesiwn friffio technegol y diwrnod o'r blaen—efallai, efallai ddim—a drefnwyd gennym ar gyfer yr Aelodau, oherwydd aethom trwy lawer iawn o fanylion. Roedd yr ateb a roddais i arweinydd yr wrthblaid mewn ymateb i gwestiwn ychydig yn wahanol, ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch os nad oeddech chi'n gallu mynychu'r sesiwn friffio technegol a fynychwyd gan lawer o Aelodau i roi'r holl wybodaeth ynglŷn â sut y mae'r polisi hwn yn gweithio—beth y mae'n ei olygu ar gyfer gwartheg, beth y mae'n ei olygu ar gyfer defaid, beth nad yw'n ei olygu o ran gosod ffin galed mewn gwirionedd, oherwydd nid ydym wedi rhoi ffin galed yn ei lle. Ond bydd angen i ffermwyr weithio gyda'u milfeddyg fferm nawr i benderfynu beth yw'r dull cywir. Ac os ydynt yn mynd i symud gwartheg, os ydynt yn mynd i symud defaid, mae angen iddynt weithio trwy'r rheolau a roddwyd ar waith gennym.

Roedd cwestiwn 6 [OQ62915] wedi'i dynnu'n ôl. Felly, cwestiwn 7 sydd nesaf—Janet Finch-Saunders. 

Sbwriel o'r Alban

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a ganiateir i sbwriel o'r Alban gael ei drosglwyddo i Gymru ar ôl i'r gwaharddiad ar anfon sbwriel i safleoedd tirlenwi yn yr Alban ddod i rym ddiwedd 2025? OQ62897

Diolch, Janet. Mae derbyn gwastraff yn benderfyniad masnachol i weithredwyr tirlenwi. Mae'r drwydded amgylcheddol ar gyfer pob safle tirlenwi yn rhestru'r mathau o wastraff a'r meintiau y caniateir eu derbyn. Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reoleiddio'r gweithgareddau ac am sicrhau cydymffurfiaeth y safle â gofynion amgylcheddol a chyfreithiol llym.

Diolch. Mae gwaharddiad yr Alban ar dirlenwi gwastraff trefol bioddiraddadwy i ddod i rym ar 31 Rhagfyr 2025. Mae adroddiad Zero Waste Scotland wedi rhybuddio y bydd yr Alban yn gweld diffyg yn y capasiti o tua 600,000 tunnell yn y flwyddyn gyntaf. Bydd cymaint â 100 llond lori o wastraff yr Alban bellach yn cael ei symud, bob dydd, i Loegr. Mae'r rhan fwyaf o safleoedd tirlenwi a safleoedd troi gwastraff yn ynni agosaf at y ffin wedi nodi na allant dderbyn unrhyw gapasiti ychwanegol. Felly, mae safleoedd yn cael eu hystyried ymhellach i ffwrdd, fel Glannau Mersi. Mewn gwirionedd, mae rhai o gynghorau'r Alban a chwmnïau gwastraff masnachol wedi bod yn cysylltu â gweithredwyr trin sbwriel yn Lloegr i drafod contractau pontio. Fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, ni ddylid caniatáu i unrhyw wastraff o'r Alban ddod i mewn i Gymru. A wnewch chi gadarnhau'r safbwynt hwnnw os gwelwch yn dda?

15:10

Fe wnaf. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn nawr o'r gwaharddiad sydd ar y ffordd ar dirlenwi gwastraff trefol bioddiraddadwy yn yr Alban, a bydd y gwaharddiad yn cynnwys gwastraff cymysg a gwastraff wedi'i gasglu ar wahân o gartrefi, felly rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa wrth i'r gwaharddiad ddod i rym.

Nawr, yma yng Nghymru, wrth gwrs, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth weithredu ein polisi i gael gwared ar dirlenwi gwastraff yn raddol, fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn ddiwastraff erbyn 2050. Felly, ers dechrau datganoli, rydym wedi gweld cyfraddau tirlenwi'n gostwng yn ddramatig yng Nghymru, o 95 y cant yn 1998 i lai nag 1 y cant bellach o sbwriel a gesglir gan awdurdodau lleol.

Nawr, rwy'n deall bod y gallu cyfyngedig i ddelio â gwastraff yn yr Alban yn sefyllfa dros dro, gyda chynlluniau troi gwastraff yn ynni i ddod i mewn yn y flwyddyn nesaf, a dros y tair blynedd nesaf, ochr yn ochr â chamau gweithredu lluosog i gynyddu ailgylchu, ac maent wedi bod yn dysgu o'r profiad a'r arbenigedd yma yng Nghymru. Mae'r gwastraff a dderbynnir, o fewn terfynau'r drwydded, fel y dywedais, yn benderfyniadau masnachol i weithredwr y safle. Ond i fod yn glir, mae gwastraff yn cael ei dderbyn o rannau eraill o'r DU yng Nghymru, ond mae gwastraff hefyd yn cael ei anfon i rannau eraill o'r DU o Gymru. Felly, mae gwastraff yn symud ar draws ffiniau.

Cynlluniau Rheoli SoDdGA

8. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynhyrchu ynglŷn â gweithredu cynlluniau rheoli SoDdGA? OQ62899

Ddim o gwbl. Mae CNC, Mark, yn darparu arweiniad a chefnogaeth ar gyfer rheoli safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth drwy MapDataCymru a mentrau fel y Rhwydweithiau Natur a'r rhaglenni gweithredu cenedlaethol ar gyfer mawndiroedd. Byddwn yn cefnogi tirfeddianwyr i roi camau cadarnhaol ar waith i wella cyflwr safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Fis diwethaf fe ofynnais i chi yma ynglŷn â'r cynllun ffermio cynaliadwy a sut y bydd yn helpu i gyrraedd nodau bioamrywiaeth Cymru 2030, yn enwedig ar gyfer diogelu rhywogaethau fel y gylfinir. Er bod safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig wedi'u cynnwys yn y cynllun ffermio cynaliadwy, nodais nad oes unrhyw ofyniad ar hyn o bryd ar gyfer eu rheoli'n weithredol. Heb weithredu ar frys ar gynefinoedd, gallai'r gylfinir ddiflannu yng Nghymru erbyn 2033, a gofynnais am sicrwydd y byddai'r cynllun ffermio cynaliadwy yn cynorthwyo ffermwyr i gyflawni'r ymdrechion cadwraeth mawr sydd eu hangen. Fe wnaethoch chi ateb bod y cynllun ffermio cynaliadwy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynhyrchu cynlluniau rheoli safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o dan ei weithredoedd cyffredinol. Fodd bynnag, rwy'n deall nad oes unrhyw rwymedigaeth i weithredu'r cynlluniau hyn o hyd ac o ganlyniad, ni fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd oni bai bod cyfranogwyr yn dewis gwneud hynny'n wirfoddol. Os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt ddewis o haenau opsiynol a chydweithredol y cynllun, ac mae llawer o'r rheini'n dal i gael eu cwblhau, sy'n golygu bod yr amserlen ar gyfer camau gweithredu wedi'u targedu ar gyfer safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn parhau i fod yn aneglur ac yn annhebygol o gael ei cyflawni erbyn 2030. Pam felly nad yw'n ofynnol gweithredu'r cynlluniau hyn?

Diolch, Mark. Os caf eich atgoffa, nid ydym wedi cynhyrchu'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ei gyfanrwydd eto. Fe wnaethom gynhyrchu'r amlinelliad yn ôl ym mis Tachwedd. Rydym yn gwybod am rai o'r rhannau; nid ydym yn gwybod beth fydd y cynllun cyfan. Byddwn yn gwybod yn fuan iawn. Ond mae'r gwaith ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig wedi bod yn rhan greiddiol o ddatblygu'r hyn a elwir gennym yn 'haen gyffredinol'. Ac mae 'cyffredinol' yn golygu yn union hynny—yr haen y disgwyliwn y bydd yn hygyrch i bob ffermwr, a bydd angen i bob ffermwr gydymffurfio â'r hyn sydd yn yr haen gyffredinol. Felly, o fewn hynny, mae'r gweithredoedd cyffredinol wedi'u cynllunio i gynnal a gwella'r cynefinoedd gwerthfawr, y gwrychoedd a'r coetiroedd sy'n bodoli eisoes. Gyda llaw, nid yw llawer o'r tir hwn erioed wedi cael ei gynnwys mewn cytundebau rheoli o'r blaen mewn cynlluniau blaenorol. Bydd angen gwella cyflwr safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ein hardaloedd cynefin mwyaf gwerthfawr, felly ceir gweithred gyffredinol wedi'i hanelu'n benodol at ddod â safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o dan gynllun rheoli a chefnogi ffermwyr i roi camau cadarnhaol ar waith i wella eu cyflwr.

Rydym hefyd wedi cadw gofyniad y cynllun i 10 y cant o ffermydd yn y cynllun fod yn dir cynefin. Mae hyn yn cydnabod y berthynas gadarnhaol sydd gan natur a'r amgylchedd â'n cynhyrchiant bwyd proffidiol a chynaliadwy. Ond rydych chi'n iawn i nodi hefyd fod yna gyfleoedd yno yn y camau opsiynol a chydweithredol. Er bod llawer o'n ffocws ar ben blaen datblygu'r cynllun hwn wedi bod ar yr haen gyffredinol, gall y camau opsiynol a chydweithredol fynd â ni—a chan weithio gyda ffermwyr—hyd yn oed ymhellach. A'r haen gydweithredol honno yw'r un lle gallwn weld ymyriadau ar raddfa'r dirwedd sy'n debyg i'r hyn a welsom yn ddiweddar lle rydym wedi treialu'r cynllun adnoddau naturiol integredig, sydd ar raddfa'r dirwedd, ond hefyd cynllun Ffermio Bro, a lansiwyd gennym ym Mannau Brycheiniog yn ddiweddar, sy'n dwyn llawer o ffermwyr ynghyd—gyda chefnogaeth ein cyrff dynodedig sy'n gweithio gyda ffermwyr—i weithio gyda'i gilydd ar ystod o faterion ar gynefinoedd, rheoli tir, ansawdd dŵr ac yn y blaen. Ac o dan y cynllun ffermio cynaliadwy bydd cyfleoedd, Mark—a diolch am hyrwyddo'r gylfinir yn gyson—i gyflawni gweithredoedd wedi'u targedu ar raddfa'r dirwedd i wella cynefinoedd o dan yr haenau opsiynol a chydweithredol hynny, er budd ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys y gylfinir.

15:15
Microblastigau a Nanoblastigau

9. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi a mynd i'r afael â gwahanol ffynonellau microblastigau a nanoblastigau yng Nghymru? OQ62905

Diolch, Rhys. Rydym yn mynd i'r afael ag effeithiau llygredd microblastigau a nanoblastigau drwy ddeddfwriaeth, ymchwil ac ymwybyddiaeth gyhoeddus. Hefyd, drwy drafodaethau cytuniadau rhyngwladol, mae rhanddeiliaid yn parhau i lywio camau gweithredu ychwanegol. Rydym yn cefnogi arloesedd, cydweithio arbenigol a monitro uwch er mwyn lleihau llygredd plastig ymhellach, ac i warchod iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Brif Weinidog. Rwy'n derbyn bod hwn yn fater cymhleth ac nid wyf yn disgwyl i chi ddatrys y cyfan mewn un sesiwn o'r Cyfarfod Llawn, ond mewn ymateb i gwestiynau blaenorol ar ficroblastigau, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at ganfyddiad Ymchwil Diwydiant Dŵr y DU fod 99.9 y cant o ficroblastigau'n cael eu tynnu o ddŵr yfed a dŵr gwastraff. Fodd bynnag, wrth imi siarad ag arbenigwyr yn y maes hwn, fe wnaethant dynnu sylw at sawl problem sydd ganddynt gyda'r adroddiad hwn, ac un ohonynt yw nad yw'r ffigur yn cynnwys slwtsh. Pan samplodd yr un adroddiad slwtsh, fe wnaethant ddarganfod bod yn rhaid iddynt ailblotio graff ar wahân, am fod lefel y microblastigau mor uchel. Mae slwtsh carthion yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd fel gwrtaith ar dir amaethyddol, fel y gwyddoch. Felly, mewn gwirionedd, mae'r adroddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei nodi fel prawf nad oes rhaid inni boeni yn disgrifio system lle rydym yn ei dynnu o ddŵr yfed ond wedyn yn ei roi ar dir amaethyddol, gan ei wasgaru ar ein tir fferm. Nawr, pa gynllun yn union sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i ysgrifennu atoch chi, ac mae gennym lythyr manwl y credaf y bydd yn eich bodloni'n fawr ar yr hyn rydym yn ei wneud ar ficroblastigau a nanoblastigau, ond gallaf roi rhagolwg bach cyflym i chi, os hoffech chi. Felly, rydym yn gweithio—mae fy swyddogion yn gweithio—gyda'r DU a Llywodraethau datganoledig eraill trwy OSPAR i ddatblygu dangosydd microblastigau ar gyfer gwaddodion gwely'r môr, a fydd yn helpu wedyn i olrhain cynnydd wrth leihau'r plastigion hynny yn yr amgylchedd ar raddfa ranbarthol. Mae gennym gymheiriaid yn Llywodraeth y DU sy'n gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a'r diwydiant dŵr i sefydlu dulliau o ganfod a nodweddu a meintioli microblastigau sy'n mynd i mewn i waith trin dŵr gwastraff—ac wrth gwrs, os gallwch chi wneud hynny, mae'n rhan o'r daith honno—a hefyd i werthuso effeithlonrwydd prosesau trin dŵr sy'n eu tynnu o ddŵr gwastraff domestig. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymheiriaid DEFRA i ddeall y canlyniadau. Ond bydd gennyf fwy o fanylion yn y llythyr sydd ar ei ffordd. Mae'n faes da iawn i ni wneud mwy o ymchwilio a mwy o waith ymchwil ynddo, oherwydd mae'n rhan o'r ateb i fynd i'r afael â llygredd plastig sy'n wirioneddol endemig erbyn hyn.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau amserol. Rwyf i wedi dewis dau gwestiwn amserol y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol ac i'w ofyn gan Tom Giffard.

15:20
Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar y goblygiadau cyfansoddiadol i Gymru sy'n gysylltiedig â'r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), o ystyried y bleidlais ddiweddar yn San Steffan lle y collodd y Senedd feto ynghylch a yw'r gyfraith yn dod i rym yng Nghymru? TQ1356

Fel bob amser, bydd y gwelliannau diweddaraf yn cael eu hasesu yn unol â Rheol Sefydlog 29 a'u cynnwys mewn memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol lle bo angen.

Gwnsler Cyffredinol, mae hon yn ddadl bwysig ac emosiynol i lawer, ac rwy'n teimlo cydymdeimlad mawr—rwy'n siŵr ein bod i gyd—â'r rhai y mae eu salwch mor ddifrifol fel eu bod yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall heblaw dod â'u bywydau i ben. Ond am heddiw, mae gennyf ddiddordeb yn statws technegol a chyfreithiol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Bil hwn a'r sicrwydd a gafodd gan Lywodraeth y DU.

Nawr, er mai Bil San Steffan yw hwn, mae'n amlwg fod ganddo gysylltiad sylweddol â chymwyseddau datganoledig y Senedd hon. Ac er nad yw'n anarferol i ddeddfwriaeth groesi rhwng y cymwyseddau hynny, roedd amddiffyniad yn y Bil yn gynharach, sydd ers hynny wedi'i ddileu gan ASau, i roi llais i'r Senedd yn y Bil hwn. Rwy'n credu ei bod yn anffodus iawn fod llais y Senedd hon—a Chymru—wedi cael ei dawelu ar y mater, o ystyried y cyfrifoldeb clir a fydd gan y Senedd yn y maes, yn enwedig o ystyried nad oedd y Senedd yn cefnogi'r cynnig pan wnaethom bleidleisio arno. Mae'n ymddangos—ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi cadarnhau—y bydd llais y Senedd hon bellach yn cael ei glywed ar ffurf cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Fe fyddwch yn gwybod wrth gwrs y gall cynigion cydsyniad deddfwriaethol gael eu hanwybyddu gan Lywodraethau'r DU, ac mae hynny wedi digwydd yn y gorffennol, lle mae Llywodraeth y DU yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed gan y Senedd. Felly, a allwch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i sefyll dros lais y Senedd hon, er mwyn sicrhau bod gennym lais yn y mater? Ac a ydych chi wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU, os bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn y Senedd yn cynhyrchu canlyniad gwahanol i'r bleidlais yn Senedd y DU, y bydd ein penderfyniad ni'n cael ei barchu gan Lywodraeth y DU?

Wel, diolch, Tom. Fe esboniaf beth a wnaeth cymal 54 o'r Bil. Mae cymal 54 o'r Bil yn ymdrin â chychwyn, ac roedd yn darparu'n flaenorol na ddylai pwerau cychwyn yr Ysgrifennydd Gwladol a'r dyddiad olaf un o bedair blynedd i ddarpariaethau'r Ddeddf ddod i rym fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru ac yn hytrach, byddai Gweinidogion Cymru yn dod â darpariaethau'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru i rym ar ddiwrnod neu ddiwrnodau a bennid ganddynt hwy, gyda'r rheoliadau'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd. Roedd y gwelliannau a gytunwyd i gymal 54 yn nadl Cyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin ar 20 Mehefin 2025 yn cyfyngu ar bwerau cychwyn Gweinidogion Cymru o dan y Bil i gymalau sy'n rhoi pwerau gwneud rheoliadau gweithredol iddynt, sef cymalau 42(1) a (2) a 51(2) a (3). Nid yw'r pwerau cychwyn hyn yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ddeddfwriaethol gan y Senedd. Bydd darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym i raddau helaeth mewn perthynas â Chymru pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy reoliadau, yn pennu neu'n unol â'r dyddiad olaf un o bedair blynedd—. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n mynd i ddweud hynny eto. Bydd darpariaethau'r Ddeddf yn dod i rym mewn perthynas â Chymru pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy reoliad, yn pennu diwrnod cychwyn neu'n unol â'r diwrnod olaf un o bedair blynedd, sy'n alinio Cymru a Lloegr mewn perthynas â chychwyn prif ddarpariaethau'r Ddeddf. 

Nid oherwydd ei fod yn amddifadu Cymru o feto y mae hyn yn bwysig, fel y mae'r cwestiwn yn ei ddweud, ond am ei fod yn sicrhau bod pwerau cychwyn Gweinidogion Cymru o dan y Bil yn cyd-fynd â'r setliad datganoli ac nid ydynt yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gychwyn darpariaethau sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a hynny o ganlyniad i'r cyfyngiad o dan baragraff 4 o Atodlen 7B yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sef addasu troseddau mewn perthynas â hunanladdiad. Felly, i esbonio hynny'n syml iawn, nid oedd y gwelliant yn y Bil erioed wedi'i fwriadu i weithredu fel feto. Mae'n ymwneud â gweithredu a newidiadau i Ddeddf Hunanladdiad 1961, sy'n ganolog i'r ddeddfwriaeth hon. Mae hwn yn fater sy'n cael ei gadw'n ôl yn gyfan gwbl o dan y ddeddfwriaeth ddatganoli bresennol ac felly nid oes ganddo unrhyw oblygiadau cyfansoddiadol newydd i Gymru. Ond i dawelu meddwl yr Aelod, a holl Aelodau'r Senedd yn wir, mae'r Bil yn dal i gynnwys y darpariaethau allweddol sy'n golygu na fydd y GIG nac unrhyw gorff cyhoeddus yng Nghymru yn gallu darparu gwasanaethau marw â chymorth yn wirfoddol nes bod rheoliadau wedi'u gosod gan Weinidogion a bod pleidlais gadarnhaol wedi bod yn y Senedd i'r perwyl hwnnw. 

Ac ar y pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn â chynigion cydsyniad deddfwriaethol yn cael eu hanwybyddu gan y Llywodraeth, byddai hynny wrth gwrs yn cyfeirio at y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol a oedd yn anwybyddu pleidleisiau yn y lle hwn yn rheolaidd. Nid yw hynny'n wir o dan y Llywodraeth newydd. 

Fel rwy'n ei ddeall, mae'r Bil yn newid Deddf Hunanladdiad 1961 ac nid yw cyfraith droseddol wedi'i datganoli, felly rwy'n deall y pwynt hwnnw, ond a all y Cwnsler Cyffredinol fy sicrhau y bydd gwaith agos iawn rhwng Gweinidogion yn Llywodraeth y DU a Gweinidogion yma i sicrhau, os daw hyn yn gyfraith, ein bod yn llunio system sy'n gallu gweithredu'n gwbl deg i bobl yng Nghymru sy'n dymuno marw â chymorth? Ac roeddwn i'n meddwl tybed a oedd ganddi unrhyw syniad o amserlen—ac rwy'n gwybod bod y Bil yn mynd i Dŷ'r Arglwyddi nawr—os oes angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol, pryd fyddai hynny'n debygol o ddigwydd, ac a oes ganddi unrhyw wybodaeth arall o'r math hwnnw.

15:25

Diolch, Julie. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda noddwr y Bil, Kim Leadbeater, ers y camau seneddol cynharach, a nod y cyfranogiad hwn oedd cryfhau buddiannau Cymru yn y trefniadau datganoli, mewn perthynas â rôl Gweinidogion Cymru ac mewn perthynas â rôl y Senedd mewn gwelliannau, ac rydym yn falch iawn fod pob un o'r rheini wedi cael eu derbyn. Byddwn yn gosod cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol maes o law, i adlewyrchu'r newidiadau hyn, sy'n cryfhau rôl y sefydliadau datganoledig.

Y llinell amser sydd gennyf, nad yw o reidrwydd yr un y cedwir ati, fel y gwyddoch yn well na fi, yw bod Darlleniad Cyntaf yr Arglwyddi ddiwedd Mehefin 2025—mae'n digwydd nawr mewn gwirionedd. Bydd Ail Ddarlleniad yr Arglwyddi ym mis Gorffennaf 2025, cyn toriad yr haf. Yna mae'r Cyfnod Pwyllgor rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2025, a bydd y Cyfnod Adrodd a'r Trydydd Darlleniad ddiwedd 2025 neu ddechrau 2026, ac yna'r ping-pong fel y'i gelwir rhwng Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn gynnar yn 2026, ac rydym yn disgwyl y gofynnir am Gydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2026 hefyd. Ac mae'r cyfnod gweithredu wedyn yn cymryd hyd at bedair blynedd gyda'r dyddiad olaf un.

Bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei osod cyn gynted ag y gallwn, o ran unrhyw beth sy'n digwydd sy'n newid hynny. Rydym eisoes wedi gosod un ar 9 Ebrill mewn perthynas â chymalau 37, 39, 45, 47, 50 a 54 y Bil, ac rydym yn cadw llygad agos ar yr hyn y bydd angen i ni ei wneud o ran unrhyw welliannau eraill, a byddwn yn gosod y rheini cyn gynted ag y gallwn. Mae hwn yn Fil unigryw, fel y gŵyr yr Aelod, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn parhau i fod yn niwtral ar y Bil, ac rydym yn disgwyl i hynny fod yn wir yma yng Nghymru.

Diolch am y cwestiwn gan Tom, a dydw i, yn yr un modd, ddim eisiau mynd i mewn i fanylion egwyddorion sylfaenol y Bil. Mae yna gyfle arall yn mynd i fod i drafod y materion hynny. Ond dwi yn pryderi, yng nghyd-destun yr hyn sydd ger ein bron ni, fod yna fethiannau yn y broses. Er enghraifft, pan fo'n dod i'r iaith Gymraeg fel rhan o'r ddarpariaeth, bydd yna ofyn i'r claf nodi'n benodol yr angen i gael defnydd o'r Gymraeg, heb fod y Gymraeg yn ddewis naturiol sydd yn cael ei gynnig yn yr un modd. Fel mae o'n sefyll ar hyn o bryd, mae gofyn i ymgynnull panel i benderfynu ar ofyniad unigolyn, ond fydd yna ddim, o reidrwydd, gallu gan bawb fydd yn aelodau o'r panel hynny i siarad neu i weithredu drwy'r Gymraeg. Felly, mae yna ystyriaethau Cymreig iawn yma sydd angen bod yn rhan o'r Bil, ond nad ydyn nhw ar hyn o bryd. Felly, dwi eisiau gwybod pa rôl ydych chi fel Llywodraeth am ei chwarae er mwyn sicrhau parch i bobl sydd yn dymuno gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, a pharch i'r iaith.

Ond, ymhellach i hynny, mae gen i bryderon cyfansoddiadol am hyn, a does yna ddim amser gennym i ni fynd drwy'r manylion i gyd, ond mi fydd y Bil yma, o'i weithredu, yn ôl fy nealltwriaeth i, yn rhoi'r grym i Ysgrifennydd Gwladol iechyd San Steffan ar faterion sydd wedi cael eu datganoli. Er enghraifft, mae gofal lliniarol a diwedd oes yn faterion datganoledig sydd o dan gymhwysedd Senedd a Llywodraeth Cymru, ond mi fydd y Bil yma'n cyflwyno fframweithiau newydd, a bydd y fframweithiau newydd yma yn eistedd fel rhan o ddeddf Cymru a Lloegr, neu Lloegr a Chymru, heb angen cydsyniad y Senedd neu Lywodraeth Cymru i'w gweithredu—dyna fy nealltwriaeth i. Felly, ydych chi'n credu bod hyn yn dderbyniol, a pa gamau ydych chi am eu cymryd er mwyn sicrhau mai'r Senedd yma sydd efo'r dweud olaf ar faterion sydd yn ymwneud â iechyd pobl Cymru? Diolch.

Wel, diolch, Mabon. Dim ond i ddweud, yn amlwg, nad fi yw'r Gweinidog portffolio sy'n gyfrifol am y Bil hwn, a dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch cynnwys y Bil at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ond gallaf ddweud wrthych, ac rwy'n gobeithio bod hyn yn ddefnyddiol, fod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'i swyddogion wedi bod yn ofalus iawn wrth sicrhau bod buddiannau datganoledig yn cael eu hadlewyrchu'n llawn wrth ddrafftio'r Bil. Mae ef a minnau wedi cael nifer o drafodaethau ar y Bil ynghylch sicrhau bod buddiannau'r Senedd a buddiannau pobl Cymru yn cael eu hadlewyrchu'n llawn.

Mae'r cyswllt â Llywodraeth y DU wedi cynnwys ymgysylltiad technegol rheolaidd, gan gynnwys cyfarfodydd wythnosol, sydd wedi chwarae rhan weithredol wrth lunio cymalau sy'n ystyried materion datganoledig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion wedi bod mewn cysylltiad cyson â'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, ac mae'r materion hynny wedi cynnwys ystyriaethau'n ymwneud â'r Gymraeg. Rwy'n ofni nad fi yw'r un i ofyn iddi am fanylion ynglŷn â beth yn union yw'r darpariaethau hynny ar hyn o bryd, ond os hoffai'r Aelod, rwy'n hollol hapus i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gysylltu ag ef ynghylch y materion hynny.

15:30

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.

Mae'r ail gwestiwn i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac i'w ofyn gan Gareth Davies.

Y Tân yn Nhwnnel Conwy

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn ymateb i'r tân mawr yn Nhwnnel Conwy yng ngogledd Cymru? TQ1359

Wrth gwrs. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb cyflym a chydgysylltiedig gan y nifer o asiantaethau a fu'n gweithio ar hyn, a olygodd na chollwyd unrhyw fywydau ac na chafwyd unrhyw anafiadau difrifol mewn sefyllfa lle roedd perygl mawr o hynny. Gweithiodd yr holl gyfarpar brys a osodwyd yn union fel y cynlluniwyd iddo ei wneud, ac ailagorwyd y twnnel yn llawn fore Sul.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddydd Iau diwethaf, gwelodd pobl gogledd Cymru un o'r digwyddiadau gwaethaf yn hanes yr A55 a thwnnel Conwy, gyda thân mawr yn y twnnel o ganlyniad i gludwr craen yn mynd ar dân wrth deithio tua'r gorllewin yn fuan ar ôl mynd i mewn i'r twnnel. Er fy mod yn cydnabod bod y twnnel wedi ailagor, sy'n dyst i waith a diwydrwydd gwych y gwasanaeth tân, awdurdodau ffyrdd, yr heddlu a'r holl wasanaethau dan sylw, roeddwn yn pryderu na fyddai digwyddiad mor fawr yn y gogledd yn cael ei drafod ar lawr y Senedd hon, ac yn wir, na fyddai unrhyw gwestiynau cyhoeddus yn cael eu gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater, a dyna pam y cyflwynais y cwestiwn amserol.

Er bod materion wedi'u datrys o ran ailagor y twnnel, rhywbeth a amlygwyd ac a gofiwyd o ganlyniad i'r tân oedd pa mor fregus yw rhwydweithiau ffyrdd gogledd Cymru, a chawsom ein hatgoffa o'r rheswm pam y cafodd ffyrdd fel yr A55 a thwnnel Conwy eu hadeiladu yn y lle cyntaf, a phe bai'r twnnel ar gau am gyfnod hirach yn y dyfodol, byddai'n golygu dychwelyd at ddyddiau tywyllach y gorffennol, gyda thraffig yn gorfod mynd drwy dref gaerog Conwy a heibio Bodlondeb, neu os ydynt yn teimlo'n anturus, yn llywio cymhlethdodau bwlch Sychnant a dychwelyd i'r A55 yn Nwygyfylchi.

Y peth pwysig i'w nodi hefyd yw bod twneli Conwy, Pen-y-clip a thwneli Penmaen-bach, a adeiladwyd yn y 1980au a'r 1990au, yn dal i fod ymhlith yr enghreifftiau gorau o beirianneg sifil i ni eu gweld yn y cyfnod modern, ac mae twnnel Conwy, er iddo agor ym 1991, yn parhau i fod yn un o'r unig dwneli tanddwr ym Mhrydain. Felly, mae'n ddarn o ffordd eithaf unigryw, fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae angen atgoffa a thynnu sylw pobl at hynny.

Felly, yn sgil y digwyddiad mawr hwn, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch hirdymor twnnel Conwy, ac eraill ar hyd y darn hwnnw o ffordd yn y dyfodol, i roi sicrwydd i'r cyhoedd fod seilwaith o'r fath yn wydn yn erbyn damweiniau a digwyddiadau posibl yn y dyfodol? A ydych chi'n cydnabod bod y rhwydwaith ffyrdd yn fregus? Os ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo'ch adran i fuddsoddi yn yr A55 yn ôl yr angen, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru, yn ôl pob golwg, yn parhau i dderbyn clod am bethau a gyflawnwyd cyn datganoli?

Wel, yn gyntaf oll, a chyn imi ateb y nifer o gwestiynau a godwyd gan yr Aelod, a gaf i estyn cynnig yr wyf eisoes wedi'i wneud i Janet Finch-Saunders, i Gareth Davies, ac yn wir, i unrhyw Aelod sydd â diddordeb yn y twneli? Byddwn wrth fy modd yn trefnu taith ac archwiliad o'r twneli, a threfnu cyfle hefyd i siarad yn uniongyrchol â'r bobl a wnaeth waith anhygoel dros y penwythnos. Rydym yn trefnu teithiau a chyfleoedd i siarad â'r gweithwyr gwerthfawr hynny ddydd Llun neu ddydd Iau nesaf. Fel y dywedais, mae hwn yn wahoddiad sy'n agored i bob Aelod.

Hoffwn ailadrodd pa mor ddiolchgar yw pob un ohonom i'r timau ymateb brys, ein partneriaid allweddol, ac wrth gwrs, ein hasiant—Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru—am eu hymateb cyflym a chydgysylltiedig. Ac fel y dywedais eisoes, fe weithiodd pob cydran o'r cyfarpar brys a osodwyd yn union fel y cynlluniwyd iddo ei wneud.

Mae Gareth wedi rhoi gwers hanes ddiddorol iawn i ni—ac rwy'n ei gwerthfawrogi—ar y twneli ar hyd yr A55. Mae hefyd yn ddiddorol nodi bod y systemau sydd wedi'u gosod yn ein twneli ymhlith y rhai mwyaf datblygedig sydd ar gael. A'r amgylchiadau trasig, oddeutu 20 mlynedd yn ôl, rhwng yr Eidal a Ffrainc yn nhwnnel Mont Blanc a arweiniodd at gyflwyno cyfarwyddebau'r UE a olygodd fod diogelwch twneli wedi gwella'n sylweddol ledled Ewrop, gan gynnwys yng ngogledd Cymru.

Mewn ymateb uniongyrchol i'r cwestiwn ynglŷn â gwydnwch ffyrdd, rwy'n falch o ddweud bod astudiaeth o wydnwch ffyrdd wedi'i chomisiynu ac yn cael ei llunio ar hyn o bryd. Mae'n ymwneud nid yn unig â'r A55 a thwneli'r A55, ond â'r rhwydwaith ffyrdd strategol cyfan, gan fy mod yn cydnabod pa mor fregus y gall y rhwydwaith fod.

O ran cynnal a chadw ffyrdd, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi dioddef 14 mlynedd o gyni a'r Torïaid yn y DU yn chwalu'r economi fel pe bai'n gar taro. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, bellach yn buddsoddi'n helaeth iawn yn y rhwydwaith ffyrdd—nid yn unig y rhwydwaith ffyrdd strategol, ond ein ffyrdd lleol hefyd.

Nawr, o ran tarfu, wrth gwrs, byddem bob amser yn dymuno osgoi tarfu pan fydd digwyddiadau fel hyn yn codi, ond mae cynlluniau a pharatoadau, a gafodd eu hymarfer gwta ddeufis yn ôl yn wir, wedi'u profi i sicrhau y gallwn leihau tarfu a sicrhau cyn lleied â phosibl o anafiadau a marwolaethau.

Bydd pobl sy'n gyfarwydd â'r ffyrdd lleol bob amser yn ceisio dod o hyd i ddewisiadau eraill yn lle'r llwybr gwyro ffurfiol, a gall hynny roi pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd lleol mewn cymunedau. Ond gyda digwyddiad fel hwn—ac roedd yn ddigwyddiad mawr, ond yn ffodus, ni chollwyd unrhyw fywydau ac ni chafodd unrhyw bobl eu hanafu—afraid dweud y bydd yna darfu. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb am eu gwaith anhygoel rownd y cloc—rownd y cloc am y tri diwrnod tra oedd y twnnel ar gau—i leihau ar y tarfu. Gwnaed y gorchymyn olaf i ailagor y twnnel tua'r gorllewin am 4.30 fore Sul. Ac rwy'n credu bod hynny'n dangos, Ddirprwy Lywydd, pa mor bwysig oedd ein timau, ein gwasanaethau brys, a'n gweithredu cydgysylltiedig.

15:35

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb, ac i chi, Gareth, am godi'r cwestiwn hwn. O ran yr hanes, wrth gwrs, oni bai am y diweddar Wyn Roberts a Llywodraeth Geidwadol y DU, ni fyddem wedi cael yr A55 na'r twneli. Ac roedd fy niweddar rieni gydag ef—bu'n Syr Wyn a Barwn Wyn Roberts hefyd—pan agorwyd y twneli hyn. Felly, mae hynny'n rhywbeth eithaf hanesyddol.

Beth bynnag, a gaf i ddiolch i'r gwasanaethau tân ac achub—roeddent yn aruthrol; nid oeddent yn gwybod beth oeddent yn delio ag ef; sefyllfa ddigynsail a pheryglus iawn; i yrrwr y craen am ei ymateb cyflym—pan oedd ei graen ar dân, ei brif flaenoriaeth oedd cael pobl allan o'u ceir, allan o'r twnnel, ac i fan diogel; i'ch adran briffyrdd eich hun, y siaradais â hwy ddydd Gwener; ac i'r awdurdod lleol?

Y rheswm pam fy mod yn siarad nawr yw oherwydd yr anhrefn a ddilynodd, ac rydym yn gweld yr anhrefn hwn yn rhy aml, Ysgrifennydd y Cabinet, ym Metws-y-coed, Abergwyngregyn, Dwygyfylchi, Penmaenmawr a bwlch Sychnant. Mae'r drafnidiaeth ffordd—. Rwyf wedi ysgrifennu at arweinydd y cyngor, a byddwch yn cael copi. Felly, effeithiodd hyn ar dref Conwy, Glan Conwy, Llanrwst, Betws-y-coed, Capel Curig a Bethesda. Nawr, er ei bod yn wir fod tarfu o'r fath yn anochel mewn amgylchiadau mor ddigynsail, mewn gwirionedd—ac fe wyddoch fy mod wedi gwneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth ar hyn—yn rhy aml nawr, fe welwn darfu o'r fath, pan fo'r A55 ar gau oherwydd damweiniau, neu am ryw reswm neu'i gilydd. Mae tagfeydd traffig wedi'u gwaethygu gan y ffaith nad oedd unrhyw swyddogion o unrhyw awdurdod yn bresennol i helpu i reoli nifer y cerbydau. Ac felly, pan fyddwch yn cael ôl-drafodaeth ar hyn, hoffwn fod yn rhan ohoni, er mwyn cyfleu gwybodaeth dda iawn i chi.

Credaf fod £9 miliwn wedi'i wario ar arolwg ac astudiaeth gwmpasu ar gyfer cael gwared ar y ddwy gylchfan ar gyffordd 17 a 18, oherwydd nifer y damweiniau. Mewn gwirionedd, aeth carafán dros un o'r cylchfannau yn eithaf diweddar, ac unwaith eto, fe achosodd dagfa aruthrol. Gwariodd deiliad blaenorol eich portffolio £9 miliwn ar yr arolwg, ond ni chyflawnwyd unrhyw newidiadau. Mae'r cylchfannau yno o hyd, er bod yr arolwg wedi dweud bod angen cael gwared arnynt.

A allwn ni gydweithio ar hyn, Ysgrifennydd y Cabinet? Rhaid rhoi cynllun wrth gefn strategol ar waith nawr ar gyfer pryd bynnag y bydd unrhyw sefyllfa'n codi, unrhyw ddamwain yn digwydd, unrhyw darfu, fel y gallwn sicrhau nad yw'r pentrefi anghysbell hynny'n cael eu heffeithio yn y ffordd erchyll honno, gyda phobl yn dadlau, pobl yn dod allan o'u ceir ac yn ceisio rheoli'r traffig eu hunain, nad yw'n gynaliadwy, ac nid yw'n ddiogel.

Felly, edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, ac edrychaf ymlaen at ein hymweliad. Diolch.

15:40

Wel, Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn fod Janet Finch-Saunders wedi derbyn y gwahoddiad i ymweld â'r twneli, ac rwy'n credu y bydd yn gyfle gwerthfawr i drafod rhai o'r materion y mae'r Aelod wedi'u codi heddiw.

Rhaid imi bwysleisio bod llwybr gwyro sefydledig wedi bod yno ers tro ar gyfer y twneli, a chafodd ei roi ar waith ar unwaith. Mae hwnnw wedi'i gynllunio a'i gydlynu gydag awdurdodau lleol. Mae'n gynllun gwyro sydd wedi'i ei rannu â'r fforwm gwydnwch lleol, sy'n cynnwys yr awdurdod lleol. Ond fel y dywedais wrth Gareth Davies, bydd pobl sy'n gyfarwydd iawn â'r rhwydwaith ffyrdd lleol yn aml yn ceisio osgoi llwybr gwyro—llwybr gwyro ffurfiol—a gall hynny roi pwysau ar gymunedau lleol. Fy nghyngor i fyddai glynu wrth y llwybr gwyro ffurfiol bob amser.

Ond fel y dywedais wrth Gareth Davies, rwy'n cydnabod pa mor fregus y gall y rhwydwaith ffyrdd fod ar adegau, a dyna pam fod gwaith gwydnwch wedi dechrau, i archwilio ein holl gefnffyrdd. Ac wrth gwrs, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau, gyda phob Aelod, wrth inni geisio gwella'r rhwydwaith ffyrdd ar draws y gogledd, gan gynnwys y cylchfannau hynny. Ac yn ddiweddar, rhoddais ddiweddariad i newyddiadurwyr ar y gwaith a wnawn mewn perthynas â'r cylchfannau hynny.

Fel rhywun a fagwyd yn y gogledd, rwy'n cofio'r twneli hyn yn cael eu hadeiladu. Ond hoffwn innau ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb cyflym, ac i holl aelodau'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cydweithrediad.

O ystyried pwysigrwydd strategol twnnel Conwy, yn enwedig fel llwybr trafnidiaeth allweddol rhwng y DU a'r UE sy'n gwasanaethu porthladd Caergybi, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw eglurhad pellach ynghylch yr amserlenni disgwyliedig ar gyfer unrhyw atgyweiriadau pellach sydd eu hangen—gwn fod y twnnel ar agor bellach—ac a oes angen i unrhyw beth arall ddigwydd ai peidio?

Fe wnaethoch chi gydnabod pryderon pobl leol ynghylch bregusrwydd y llwybr pwysig hwn i economi Cymru. Fe awgrymoch chi yn eich ateb rywfaint o'r gwaith y byddwch yn ei wneud ar wydnwch, a gwelliannau o bosibl. A allech chi roi rhagor o wybodaeth i ni am amserlenni'r gwaith hwnnw, er mwyn deall pryd y byddwn yn clywed am hynny? Ac er mai damwain oedd y digwyddiad diweddaraf hwn yn ôl pob golwg, a yw'n tanlinellu'r angen i ystyried gwelliannau i'r ffordd, er mwyn sicrhau ei bod yn fwy cadarn ac yn llai agored i darfu yn y dyfodol?

A gaf i ddiolch i Peredur am ei gwestiynau? Credaf ei bod yn anodd iawn gwella ffordd i'r graddau y gall ymdopi â digwyddiadau annisgwyl fel craen yn mynd ar dân. Yr hyn y gallwch ei wneud, a'r hyn rydym wedi'i wneud—a chredaf fod llwyddiant hyn wedi'i ddangos yn yr wythnos diwethaf—yw cynllunio ar gyfer digwyddiadau. Ni allwch gyflwyno ffyrdd newydd gyda'r bwriad penodol o ddarparu llwybr gwyro i bobl pan fydd craen yn mynd ar dân, ond gallwch roi mesurau gwydnwch ar waith, a gallwch gynllunio'r mesurau gwydnwch hynny, a dyna'n union a wnaethom.

Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ffyrdd cyn y toriad, ac yn y datganiad hwnnw, byddaf yn rhoi manylion am y gwaith gwydnwch a fydd yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r rhwydwaith ffyrdd strategol. Mae'r Aelod yn codi cwestiynau pwysig iawn am waith atgyweirio parhaus, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw parhaus sydd wedi'i gynllunio. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y digwyddiad hwn wedi tynnu sylw at pam ei bod mor hanfodol gwneud gwaith cynnal a chadw a chynnal archwiliadau rheolaidd o'r rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig yn ein twneli.

Bydd yna gau dros nos. Dechreuodd hynny ddoe. Bydd yn cau yfory. Bydd ar gau dros nos o 30 Mehefin hyd at 3 Gorffennaf. Fe gawn ddealltwriaeth lawn bryd hynny o'r gwaith a wnaed ac unrhyw waith pellach sydd ei angen. Fel y dywedais, mae cynlluniau eisoes i gau lonydd dros nos ar gyfer gwaith cynnal a chadw rheolaidd, sydd mor bwysig, rhwng 14 a 17 Gorffennaf. Rydym yn ymdrechu, bob amser, i leihau tarfu i'r cyhoedd ar y ffyrdd, ac rwy'n credu bod hynny wedi'i ddangos gan ba mor gyflym y gwnaethom ailagor y twnnel tua'r gorllewin.

15:45

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cyd-Aelodau eraill wedi codi gwydnwch cefnffordd yr A55, ac mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i godi sawl gwaith yn y gorffennol hefyd, wrth gwrs. Rydych chi'n dweud na allwch gynllunio ar gyfer pob digwyddiad posibl—rwy'n deall hynny'n iawn. Ond yr hyn y gallwch ei wneud yw gwella'r ffordd i'r graddau fod llain galed ar hyd rhannau helaeth ohoni. Fe wyddoch chi a minnau nad yw hynny'n wir ar hyn o bryd.

Gallwch gynllunio i alluogi gwrthlifau er mwyn osgoi mynd â llwybrau gwyro drwy ganol rhai o'n trefi a'n pentrefi, sydd wedyn yn cael eu tagu gan draffig. Nid yw'r rheini ar waith. Fe ddywedwch eich bod wedi rhoi astudiaeth wydnwch ar waith, ond mae hynny ar draws y rhwydwaith cyfan. Yr hyn y mae pobl eisiau ei weld yw buddsoddiad yng nghefnffordd yr A55. Dyma'r brif ffordd ar gyfer ein heconomi, i bobl gyrraedd y lleoliadau y mae angen iddynt eu cyrraedd o ran gwaith, addysg, ysbytai ac ati.

Pam na allwch chi wneud gwaith sy'n canolbwyntio ar wydnwch ar yr un ffordd benodol hon yn unig, gan ystyried yr angen am wrthlifau, a chan sicrhau bod gennym ddull graddol o wneud gwelliannau i ddarparu lleiniau caled, fel y gallwn sicrhau bod yr A55 yn addas i'r diben ac nad yw'n dioddef tagfeydd traffig rheolaidd pan nad oes eu hangen arnom, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, sy'n rhoi argraff negyddol o Gymru pan fydd pobl yn gyrru arnynt?

A gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gwestiynau? Dylwn atgoffa Darren Millar fod rhai o'i Aelodau ei hun wedi pwyso am y math o waith yr ydym wedi'i ddechrau ar gefnffyrdd eraill ledled Cymru. Mae yna broblemau gwydnwch sy'n effeithio ar lawer o'n cefnffyrdd. Byddwn yn gwneud gwaith penodol mewn perthynas â'r A55, ond rwy'n credu bod angen gwaith ehangach i edrych ar ein holl brif lwybrau.

Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n eithriad ym Mhrydain, nac yn Ewrop. Rwyf eisoes wedi sôn am dwnnel Mont Blanc a'r digwyddiad trasig yno oddeutu 20 mlynedd yn ôl lle collodd pobl eu bywydau. Efallai y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gwybod y bydd twnnel Mont Blanc ei hun yn cau nid am un diwrnod, nac un wythnos, nac un mis—bydd ar gau rhwng mis Medi a mis Rhagfyr eleni ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol. Mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw amynedd o ran cynnal a chadw ein rhwydwaith ffyrdd, ac yn hollbwysig, ein twneli.

Fel y dywedais eisoes, byddwn bob amser yn ceisio lleihau'r effaith y mae gwaith cynnal a chadw ac archwiliadau rheolaidd yn ei chael ar y cyhoedd ar y ffyrdd, ond mae'n hanfodol ein bod yn gwneud y gwaith hwnnw. Fel y dywedais, mae buddsoddiad yn parhau. Rydym wedi dioddef 14 mlynedd o gyni a diffyg buddsoddiad gan Lywodraethau Ceidwadol y DU, ond nawr, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi agor y tapiau ac rydym yn buddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys yn y gogledd.

Heddiw, roeddwn yng Nghonwy gyda chynghorwyr lleol, gan gynnwys arweinydd y cyngor, a gwelais waith a oedd yn mynd rhagddo ar osod wyneb newydd ar 14 km o ffordd leol o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ffyrdd yn y gogledd. Ni allwn edrych ar gefnffyrdd ar eu pen eu hunain. Rhaid inni gydnabod pwysigrwydd hanfodol ffyrdd lleol wrth symud pobl a nwyddau ar draws ein gwlad. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Rydym yn buddsoddi'n helaeth ac yn cynnwys cyllid ychwanegol i gynnal ein ffyrdd eleni ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol, yn ogystal â buddsoddiad ychwanegol o £120 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer ein ffyrdd lleol.

4. Datganiadau 90 eiliad
5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Enseffalomyelitis Myalgig
6. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Eitem 6 yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.  

15:50

Cynnig NNDM8937 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol mai’r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yw’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu trafod NDM8916 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 25 Mehefin 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd

Eitem 7, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8916 Mabon ap Gwynfor, James Evans, Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi rôl hanfodol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wrth gynnal poblogaeth iach yn galluogi pobl i fod yn gymdeithasol ac yn economaidd weithgar.

2. Yn mynegi pryder am:

a) prinderau gweithlu yn y proffesiynau perthynol i iechyd;

b) proffil heneiddiol y gweithlu gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd; ac

c) angen cynyddol y boblogaeth i gael cymorth gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu strategaeth gweithlu tymor hir i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd;

b) cynyddu lleoliadau myfyrwyr i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd; ac

c) cynyddu llwybrau i gymwysterau yng Nghymru er mwyn ateb galw cynyddol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar yr olwg gyntaf, mae'r cynnig sydd o'n blaenau ni yn ymwneud â grŵp penodol o bobl o fewn gweithlu'r NHS, gweithlu sy'n cael llawer rhy ychydig o sylw ac sy'n cael eu tanbrisio'n barhaus, ein allied health professionals. Ond mewn gwirionedd, mae'r cynnig yn llawer mwy na'r gweithlu yn unig; mae'n alwad am newid yn y ffordd rydym ni'n ymdrin ag iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae AHPs yn cyfrif am chwarter o weithlu'r NHS yma, ac yn cynrychioli 13 o broffesiynau, o therapyddion galwedigaethol i ddietegwyr, o radiolegwyr i therapyddion iaith a lleferydd a mwy. Maent yn rhan annatod o'n gwasanaeth iechyd nid yn unig mewn triniaeth, ond yn arbennig yn y gwaith o atal salwch ac annog llesiant. Maent yn cefnogi unigolion o'r crud i'r bedd, yn gweithio yn y gymuned i ganfod risgiau iechyd, addysgu'r cyhoedd a darparu ymyriadau ataliol sy'n gallu lleihau salwch cronig ac atal derbyniadau i'r ysbyty. Mae'n hanfodol ein bod ni'n deall bod AHPs yn gonglfaen yn ein hagenda ataliol. Drwy helpu pobl i fyw'n iachach ac yn fwy annibynnol, maent yn cryfhau ein cymunedau ac yn lleihau'r baich ar wasanaethau eilaidd. Maent yn cynorthwyo pobl i wella eu gallu i weithredu, gan eu grymuso i gymryd rheolaeth o'u hiechyd eu hun.

Er hyn, mae'r gweithlu AHP yng Nghymru o dan fygythiad difrifol. Mae prinder gweithlu, proffil oedran sy'n heneiddio a chynnydd yn y galw gan y boblogaeth yn peri pryder gwirioneddol. Mi rydym ni eisoes yn gweld anghydraddoldebau daearyddol mewn mynediad at wasanaethau, yn enwedig at sefydlu cymunedol, elfen hanfodol o adferiad a rheoli cyflyrau hirdymor. Heb weithlu cryf, ni fydd modd darparu'r gwasanaethau hyn yn deg nac yn effeithiol. Mae'r diffyg cynllunio gweithlu hirdymor ar gyfer AHPs yn bygwth dyfodol ein gwasanaethau iechyd. Mae polisïau eraill y Llywodraeth eisoes yn pwysleisio'r angen am ofal wedi'i wreiddio yn y gymuned, ond ni ellir gwireddu'r nod hwn heb fuddsoddi'n fwriadol mewn AHPs. 

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Yn rhy aml, mae trafodaethau ynghylch iechyd yn canolbwyntio ar ysbytai, meddygon teulu, gwelyau a thargedau. Ac er bod y rhain yn hanfodol, rydym mewn perygl o golli golwg ar y darlun ehangach, fod iechyd yn dechrau yn ein cartrefi, ein gweithleoedd, ein hysgolion a'n cymunedau. Mae'n bryd ailgydbwyso ein system yn gyfan gwbl, gan newid o fodel adweithiol i un rhagweithiol. Wrth wraidd y newid hwnnw mae ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Mae'n rhaid i atal ddod yn edefyn aur sy'n rhedeg drwy bob polisi iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac nid yn unig fod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn sefyllfa dda i gyflawni hyn, maent eisoes yn ei wneud. Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn arbenigo mewn ymyrraeth gynnar, maent yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, maent yn cefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol gartref, maent yn grymuso pobl â chyflyrau hirdymor i hunanreoli, ac maent yn darparu gofal adsefydlu sy'n cyflymu rhyddhau cleifion ac yn gwella ansawdd bywyd. Maent yn cefnogi adferiad iechyd meddwl, yn lleihau'r risg o gwympiadau, yn gwella maeth a chyfathrebu, ac yn sicrhau bod pobl yn gorfforol egnïol ac yn cyfranogi'n gymdeithasol.

Yng Nghymru, rydym yn wynebu heriau sylweddol o ran iechyd y cyhoedd. Mae dros 60 y cant o oedolion dros bwysau neu'n ordew, mae un o bob pump o bobl yn byw gyda chyflwr iechyd meddwl, mae ein poblogaeth sy'n heneiddio yn tyfu, a chyda hynny, y galw am gymorth hirdymor. Gwyddom fod 80 y cant o'r baich ar ein gwasanaeth iechyd yn deillio o gyflyrau cronig y gellir eu hatal. Ni all meddygon a nyrsys fynd i'r afael â hyn ar eu pen eu hunain. Mae angen ymdrech tîm arnom, ac mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn aelodau hanfodol o'r tîm yn y genhadaeth genedlaethol hon.

Ledled Cymru, rydym eisoes yn gweld tystiolaeth o'r rôl drawsnewidiol y gall gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ei chwarae pan gânt eu grymuso i arwain. Er enghraifft, ym Mhowys, mae ffisiotherapyddion mewn practisau meddygon teulu wedi lleihau atgyfeiriadau diangen i ofal eilaidd ac wedi helpu cleifion i reoli poen cyhyrysgerbydol heb fod angen meddyginiaeth. Ym Mae Abertawe, mae timau estynedig o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cefnogi dros 240 o oedolion hŷn drwy ymyrraeth gynnar, rheoli cydafiacheddau cymhleth a gofal lliniarol. Dyma atal ar waith, gan gadw pobl yn iach gartref, atal cyflyrau rhag gwaethygu a chadw urddas. Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae deietegwyr yn cyflwyno rhaglenni sy'n mynd i'r afael â diffyg maeth mewn oedolion hŷn, yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty ac yn gwella canlyniadau iechyd.

Nid enghreifftiau ynysig yw'r rhain, maent yn gipolwg ar yr hyn sy'n bosibl pan fydd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu hintegreiddio'n iawn yn y strategaeth iechyd. Ond yn rhy aml, mae eu cyfraniadau'n cael eu cadw ar wahân, eu tanddefnyddio neu eu camddeall. Ac mae'r loterïau cod post yn parhau. Yn rhy aml, mae eich gallu i gael mynediad at gymorth a allai newid eich bywyd yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, yn hytrach na'r hyn sydd ei angen arnoch. Dyna pam fod y cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fynediad cyffredinol at wasanaethau gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhan o lwybrau triniaeth.

Mae hyn yn ymwneud â phwy sy'n cael ei adael ar ôl yn ogystal â'r pethau y gall gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eu gwneud. Bob blwyddyn, mae Cymru'n buddsoddi mewn hyfforddiant i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ond yn syfrdanol, mae llawer ohonynt yn methu dod o hyd i gyflogaeth ar ôl cymhwyso. Mae'r rhain yn unigolion medrus a brwdfrydig iawn sydd wedi'u hyfforddi ag arian cyhoeddus, ond yn aml, nid ydynt yn cael digon o waith, neu cânt eu gorfodi i adael Cymru i weithio. Yn rhanbarth bwrdd prifysgol Hywel Dda, mae'r broblem yn arbennig o ddifrifol. Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd newydd gymhwyso yn gorfod aros yn hir i swyddi addas ddod ar gael, ac mae'n rhaid i rai adael Cymru yn gyfan gwbl. Mae hyn yn wastraff talent, sy'n warthus.

Ar yr un pryd, mae gwasanaethau'n parhau i fod dan bwysau, mae rhestrau aros yn tyfu ac mae lefelau salwch hirdymor yn codi. Nid yw'n fater o alw, mae'n fater o arweinyddiaeth a chynllunio'r gweithlu. Nid ydym yn gwneud digon o ddefnydd o weithwyr proffesiynol hyfforddedig nac yn rhoi gwasanaeth digonol i'n poblogaeth. Mae hyn yn aneffeithlon, ac mae'n anghyfiawn.

Felly, beth sy'n rhaid ei newid? Yn gyntaf, mae angen strategaeth genedlaethol arnom ar gyfer y gweithlu sy'n cydnabod rôl hanfodol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar draws pob sector. Yn ail, rhaid inni ymgorffori gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ym mhob agwedd ar ein hagenda ataliol. Mae hynny'n golygu galluogi mynediad uniongyrchol at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal sylfaenol. Yn drydydd, mae’n rhaid inni sicrhau bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhan o'r arweinyddiaeth a gwaith llunio polisïau ar bob lefel. Dylid eu cynnwys ar dimau gweithredol byrddau iechyd. Dylid gwrando ar eu llais wrth gynllunio systemau gofal integredig a chynlluniau iechyd cenedlaethol. Ni fydd gwaith atal byth yn cael blaenoriaeth os yw'r rhai sy'n ei gyflawni'n cael eu gadael allan o'r sgwrs.

Yn bedwerydd, rhaid inni ehangu gwasanaethau dan arweiniad gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn sylweddol yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys ymarferwyr cyswllt cyntaf, clinigau atal cwympiadau, canolfannau adsefydlu cymunedol a thimau ailalluogi cleifion ar ôl eu rhyddhau. Mae pob derbyniad i'r ysbyty y llwyddwn i'w atal drwy ymyrraeth leol amserol yn arbed nid yn unig arian, ond dioddefaint dynol.

Nid yn unig ei fod yn bolisi da, mae'n economeg gadarn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod pob £1 a werir ar ymyrraeth gynnar yn arwain at o leiaf £4 mewn arbedion hirdymor. Gall buddsoddi mewn rhaglenni atal cwympiadau dan arweiniad gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, er enghraifft, leihau cwympiadau hyd at 30 y cant yn y poblogaethau sydd mewn perygl, gan arbed miliynau ar gost derbyniadau brys a gofal hirdymor. Mewn GIG sydd o dan straen ariannol, ni allwn fforddio peidio â buddsoddi mewn gwaith atal, ac ni allwn gyflawni gwaith atal heb weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Mae'r achos yn glir. Mae'r angen yn daer, ac mae'r gweithlu'n barod. Nid tystiolaeth, na chyllid, na hyd yn oed capasiti yw'r hyn sydd ar goll. Yr hyn sydd ar goll yw arweinyddiaeth, parodrwydd i roi gwaith atal yn y canol ac i rymuso'r gweithwyr proffesiynol sydd yn y sefyllfa orau i'w gyflawni. Gadewch inni beidio â gwastraffu blwyddyn arall, cenhedlaeth arall o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd graddedig, na chyfle arall i adeiladu Cymru decach, iachach a mwy cynaliadwy. Gadewch inni weithredu drwy greu llwybrau cyflogaeth, ymgorffori gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gwasanaethau ataliol, a chydnabod eu lle cywir wrth wraidd ein system iechyd a gofal. Nid ysbytai sy'n ehangu'n barhaus na rhestrau aros hirach yw dyfodol gofal iechyd Cymru, ond atal, cymorth cynnar, cadw pobl yn iach ac yn annibynnol am amser hirach. Dim ond gyda'n gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd y gellir gwireddu'r dyfodol hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

15:55

Ar ôl gweithio gyda sawl un o'r 13 corff proffesiynol sy'n cynrychioli gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd, roeddwn yn falch o fynychu lansiad Ffederasiwn Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru yma ar 26 Mawrth. Ers gormod o amser, mae'r proffesiynau perthynol i iechyd yng Nghymru wedi darparu cyfle a gollwyd i leihau'r pwysau yn ein hysbytai a'n gwasanaethau iechyd acíwt er mwyn gwella bywydau a gwneud gwell defnydd o adnoddau. Mae gan y proffesiynau perthynol i iechyd, sy'n 25 y cant o weithlu GIG Cymru, rôl allweddol i'w chwarae yn gwella iechyd a lles y boblogaeth yng Nghymru. Cenhadaeth amserol Ffederasiwn Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru, sydd newydd ei ffurfio, yw darparu arweinyddiaeth a chynrychiolaeth gyfunol i ddylanwadu ar bolisi a chanllawiau cenedlaethol ar lefel strategol.

Ers degawdau bellach, mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol wedi bod yn gweithio i helpu gwleidyddion yma i ddeall rôl therapi galwedigaethol a'r rôl y mae'n ei chwarae'n gwella iechyd ac ansawdd bywyd pobl. Ledled Cymru, mae eu therapyddion galwedigaethol yn chwarae rhan hanfodol yn darparu gwasanaethau arloesol, ond gallent wneud cymaint mwy. Ers blynyddoedd lawer, mae'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi wedi bod yn tynnu sylw at y cymorth brys sydd ei angen ar y bobl niferus sy'n aros yn hirach am lawdriniaeth orthopedig, gan gynnwys cyrsiau poen i gefnogi pobl sy'n aros yn hirach am lawdriniaeth ar gyfer ymyriadau clun a phen-glin a gofod adsefydlu i ganiatáu i'r ystod lawn o wasanaethau adsefydlu fod ar gael ledled Cymru.

Gall anhwylder iaith plentyndod effeithio ar allu plentyn i ddysgu siarad, enwi gwrthrychau ac adeiladu brawddegau cyflawn. Mae anhwylderau iaith mewn oedolion bron bob amser yn ganlyniad i anaf i'r ymennydd neu glefyd. Mae pobl sydd wedi cael strôc, er enghraifft, yn aml yn cael trafferth ffurfio brawddegau neu gofio geiriau. Ym mis Ionawr, arweiniais ddadl yn y Senedd ar therapi lleferydd ac iaith, gan weithio gyda Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith ac yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i sefydlu model cyllido clir, cynaliadwy ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith, i gynllunio'r gweithlu'n well ar gyfer y proffesiwn, ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud presenoldeb therapydd lleferydd ac iaith yn orfodol ym mhob tîm cyfiawnder ieuenctid fel gofyniad statudol.

Er bod therapyddion lleferydd ac iaith yn chwarae rhan hanfodol yn helpu pobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol, mae gan Gymru lai o therapyddion lleferydd ac iaith y pen nag unrhyw le arall yn y DU. I wneud pethau'n waeth, mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn nodi bod gan 71 y cant o blant a ddedfrydwyd anawsterau lleferydd, iaith neu gyfathrebu, gan ddangos pa mor bwysig yw'r gwasanaethau hyn. Roedd hi'n siomedig felly fod Llafur wedi pleidleisio yn erbyn ein cynnig. Fel y dywedais bryd hynny, dim ond 55 o therapyddion lleferydd ac iaith y flwyddyn y mae Cymru'n eu hyfforddi, ac er bod hyn yn cynnwys rhaglen sydd i'w chroesawu yn Wrecsam, dyma'r rhaglen leiaf yn y DU. Fel y dywedais bryd hynny hefyd, mae'r coleg brenhinol yn galw am gynnydd cyson i nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer therapi lleferydd ac iaith, yn cynnwys cyflwyno cyfleoedd 'ennill wrth ddysgu', cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith i ateb y galw cynyddol, a chynllunio gweithlu gwell a mwy soffistigedig ar gyfer y proffesiwn, fel rhan o'r agenda ataliol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhagweld erbyn 2035-36, y bydd cymaint ag un o bob 11 oedolyn yng Nghymru yn byw gyda diabetes—260,000 o bobl. Bydd cyfran sylweddol o'r rhain angen mynediad at ofal podiatreg i atal cymhlethdodau'r traed a'r coesau. Yn 2021 collodd dros 600 o bobl â diabetes fys troed, troed neu goes yng Nghymru, ac adroddir bod y cyfraddau hyn ar gynnydd. Mae'r gyfradd farwolaethau yn sgil wlserau diabetig ar y traed yn drydydd yn unig i ganserau'r pancreas a'r ysgyfaint ar ôl pum mlynedd. Mae hyd at 70 y cant yn marw o fewn pum mlynedd o gael torri aelod i ffwrdd a thua 50 y cant yn marw o fewn pum mlynedd o ddatblygu wlser traed. Felly, mae angen ymdrech gydgysylltiedig i atal cymhlethdodau traed diabetig, a bydd gweithlu podiatreg digonol i ddiwallu anghenion yn hollbwysig. Felly, mae'r Coleg Podiatreg Brenhinol yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gynllun gweithlu ar gyfer proffesiynau perthynol i iechyd yng Nghymru i gynyddu nifer y lleoedd i fyfyrwyr ac i ymrwymo i radd-brentisiaethau yng Nghymru ar gyfer proffesiynau perthynol i iechyd, fel sy'n bodoli yn Lloegr.

Fel y dywed 'Maniffesto 2026' Ffederasiwn Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru, mae

'cyfraniadau hanfodol AHPs i iechyd a lles y boblogaeth yn cael eu hanwybyddu’n rhy aml.'

Wrth i'r galw am wasanaethau gofal iechyd barhau i dyfu, nid yw'r angen amdanynt

'erioed wedi bod yn fwy o allweddol'.

A

'Heb strategaeth gweithlu genedlaethol gydgysylltiedig, mae’r proffesiynau hyn mewn perygl o ddod yn anghynaliadwy, gan arwain at lefelau staffio anniogel a’r potensial am niwed i gleifion.'

Er mwyn popeth, gadewch inni fynd i'r afael â hyn.

16:05

Diolch am gyflwyno'r ddadl hon—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Nid oeddwn wedi sylweddoli bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn 25 y cant o'r gweithlu, oherwydd yn sicr nid ydynt yn cael 25 y cant o'r sylw, felly mae hon yn ddadl i'w chroesawu. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen inni gael mwy o atal yn y gwasanaeth iechyd a chael model rhagweithiol, a chael pobl i symud, eu cael i fwyta bwyd gwell ac i ofalu amdanynt eu hunain yn well yn gyffredinol.

Mae'r ffigurau y mae Mark Isherwood yn eu cyflwyno ynghylch yr epidemig diabetes yn amlwg yn ofnadwy. Ac yn amlwg, bron i flwyddyn i mewn i Lywodraeth Lafur y DU, mae'n hynod siomedig nad oes gennym unrhyw dreth o hyd ar fwyd wedi'i brosesu'n helaeth, oherwydd dyna sydd ei angen i geisio newid y diwylliant o fwyta bwyd gwael sy'n lladd pobl.

Roeddwn i'n edrych ar yr ystadegau ar gyfer niferoedd y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o'i gymharu â—. Y ffigurau diweddaraf ar gyfer 2024 o'i gymharu â 2019, felly cyn COVID. Mae cynnydd o tua 1,100 wedi bod ym mhob disgyblaeth, ond rwy'n tybio bod hynny ychydig llai na'r niferoedd sydd wedi cael eu recriwtio mewn rhannau eraill o weithlu'r GIG. Felly, mae'n ymddangos nad oes digon o sylw yn cael ei roi i hyn.

Yng ngoleuni'r sgwrs a gefais ddoe gydag uwch-anesthetydd, a phwysigrwydd cynllunio ar gyfer llawdriniaethau ymlaen llaw fel nad ydym yn gwastraffu lleoedd gwelyau mewn ysbytai, yn amlwg mae hon yn swydd i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, oherwydd mae'r asesiadau sgrinio cyn llawdriniaeth yn ymwneud â 'Pa mor iach ydych chi, faint dros bwysau ydych chi, a oes gennych chi ddiabetes ac a ydych chi'n ei reoli'n iawn?' ac, 'A ydych chi'n symud, a ydych chi'n cerdded, a oes gennych chi'r cyhyrau i allu elwa o glun newydd neu ben-glin newydd neu beth bynnag, ac a ydych chi'n gwneud yr ymarferion yn iawn i gynorthwyo'ch adferiad pan fyddwch chi'n cael eich llawdriniaeth?' At ei gilydd, mae'r holl bethau hyn yn cael eu gwneud gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a dim ond yr achosion anoddaf a fydd yn cael eu hatgyfeirio at yr anesthetydd ymgynghorol neu'r llawfeddyg ymgynghorol.

Felly, os ydym am sicrhau ein bod ni'n rheoli pobl yn gywir, mae angen inni sicrhau bod pobl yn barod ar gyfer y llawdriniaeth a'u bod yn mynd i wneud y mwyaf o'i manteision, ac felly mae angen mwy o'r mathau hyn o bobl. Pa fyddaf yn mynd o gwmpas i weld ymarfer cyffredinol, rwy'n synnu nad wyf yn clywed mwy am y deietegydd neu'r ffisiotherapydd neu'r podiatrydd—rôl bwysig iawn, rwy'n cytuno, a dyna un proffesiwn mewn gwirionedd lle mae'r niferoedd wedi gostwng ychydig. Felly, hoffwn wybod—

Roeddwn i'n chwilfrydig am eich sylwadau ynghylch cryfhau cyhyrau a rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cyn llawdriniaeth, sy'n bwysig, yn amlwg. Ond wedyn, a ydych chi hefyd yn cydnabod eu hymyriadau ar ôl llawdriniaeth? Felly, cymerwch y glun, er enghraifft. Bydd rhywun yn cael clun newydd a'r gwaith ar ôl hynny yw gwneud yr ymarferion perthnasol i gryfhau'r cyhyrau, yn yr ysbyty yn gyntaf, yna'r lleoliad cymunedol, ac yna rhai o'r pethau ataliol hynny, fel pan fydd therapyddion galwedigaethol yn gallu dod i mewn a rhoi atebion ymarferol ar waith i atal pobl rhag mynd i'r ysbyty. A ydych chi'n cydnabod y rheini?

Ydw, yn bendant. Ond rwyf eisiau mynd yn ôl at bodiatreg, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn bwnc pwysig iawn. Rwyf am wybod pam fod gostyngiad wedi bod yn y niferoedd—dim ond 20, ond ni fu unrhyw gynnydd. Ai oherwydd nad yw cynorthwywyr gofal traed yn cael eu cyfrif yn y ffigurau podiatreg? Oherwydd, yn amlwg, mae rhai pobl yn dod yn rhy anabl i allu torri eu hewinedd traed eu hunain, sy'n bwysig iawn, yn enwedig gyda diabetes. Nid oes angen ichi fod yn bodiatrydd wedi cymhwyso'n llawn i wneud hynny—mae angen ichi gael rhywfaint o hyfforddiant—ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall hyn.

Yn gyffredinol, y peth pwysicaf yw bod angen inni weithredu gofal iechyd darbodus, sy'n golygu bod y person sy'n cyflawni'r ymyrraeth yn gymwys i wneud beth bynnag sydd ei angen, ond nad yw'n fwy cymwys na hynny. Fel arall, nid ydym byth yn mynd i sicrhau effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y GIG os nad oes gennym yr unigolyn priodol sydd â'r sgìl priodol i gyflawni hynny, ac er mwyn inni gadw'r bobl fwyaf cymwys i wneud y pethau mwyaf cymhleth. Diolch.

16:10

Gaf i ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ddod â'r ddadl bwysig hon ger ein bron ni? Mae o'n cyd-fynd yn dda iawn efo fy nadl i'r wythnos diwethaf o ran pwysigrwydd diwylliant hefyd, a gymaint o'r pwyntiau a godwyd adeg hynny. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol dros iechyd a'r celfyddydau, roeddwn i eisiau canolbwyntio'n benodol o ran therapyddion celf, drama a cherddoriaeth, sydd mor, mor bwysig, oherwydd nid rhywbeth i ategu triniaeth mo'u gwaith nhw, ond mae o'n driniaeth ohono'i hun. Mae o'n driniaeth feddygol. Yn aml, mae rhai o'r swyddi yma'n cael eu gweld o fewn byrddau iechyd fel rhywbeth braf iawn i'w cael yn hytrach na rhywbeth cyfan gwbl hanfodol, ond maen nhw'n gyfan gwbl hanfodol. Mae yna enghreifftiau lu ledled Cymru o brosiectau o fewn ein byrddau iechyd ni sydd yn trawsnewid bywydau pobl, sy'n achub bywydau pobl, gan bobl sy'n gweithio yn y meysydd hyn. Os ystyriwn ni—[Torri ar draws.] Dwi'n hapus iawn i gymryd ymyriad.

Hoffwn nodi, yn ôl yr ystadegau, mai dim ond 23 o'r therapyddion celf, cerddoriaeth a drama hyn a gyflogwyd y llynedd, dim ond dau yn fwy nag yn 2019. Felly, mae'n amlwg nad oes llawer iawn ohonynt yn gweithredu yn GIG Cymru.

Diolch yn fawr iawn am godi hynna, oherwydd un o'r pethau dŷn ni wedi gweld hefyd ydy rhai byrddau iechyd ddim yn parhau efo'r rolau hyn, er enghraifft yng Nghaerdydd a'r Fro, o ran y bwrdd iechyd. Ond mae yna fyrddau iechyd eraill, megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sydd wedi cael siarter celfyddydau ac iechyd, sef addewid cyhoeddus i integreiddio'r celfyddydau i waith y bwrdd iechyd, a dwi'n meddwl bod hyn i'w groesawu'n fawr. Ac mae'r prosiectau sydd ganddyn nhw—wel, mae'n werth i bob un ohonon ni fel Aelodau o'r Senedd fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Ac yn sicr, pan dŷn ni'n eu trafod nhw yn y grŵp trawsbleidiol, dŷch chi'n gweld holl effaith hynny. Mae'r holl dystiolaeth gyfoethog yma ar gael, ac yn sicr, byddwn i'n hoffi gweld hyn yn cael ei normaleiddio o fewn pob bwrdd iechyd a phawb yn cael y cyfle, oherwydd, ar y funud, bach iawn ydy nifer y bobl sy'n gallu manteisio ar hyn, er gwaethaf pa mor bwysig a thrawsnewidiol ydy o i bobl o bob oed. Felly, yn sicr, dwi'n meddwl, mae'r dadleuon yna, mae'r dystiolaeth yna—sut ydyn ni rŵan yn symud y byrddau iechyd i fod yn gweithredu fel hyn a symud at agenda ataliol?

Yn sicr, yng ngwaith y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, mi ydyn ni wedi gweld adroddiad ar ôl adroddiad sydd yn dangos ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru yn dweud am bwysigrwydd yr agenda ataliol. Ond dwi'n meddwl bod ein hadroddiad diwethaf ni'n dangos ein bod ni'n cael yr un peth yn cael ei ddweud am bum mlynedd bellach, ond dim byd yn symud yn ei flaen fel hyn.

Hefyd, wrth gwrs, mae yna broblemau o ran recriwtio, a dwi'n meddwl mai gwaethygu a wnaiff hyn. Os ydyn ni'n edrych ar ein system addysg ni ar y funud, mae'r niferoedd sy'n cymryd drama a cherddoriaeth, er enghraifft, ar lefel TGAU a lefel A, yn lleihau. Dydy rhai ysgolion ddim mwyach yn medru eu cynnig nhw, felly mae hyn yn mynd i greu problemau yn y dyfodol. Mae'n rhaid inni edrych ar y system addysg yn ei chyfanrwydd ac edrych pa sgiliau dŷn ni eu hangen os dŷn ni'n mynd i recriwtio therapyddion celf, drama a cherddoriaeth. Ydyn ni'n hybu'r swyddi yma o fewn ein hysgolion ni ac yn ein colegau ni, oherwydd, hefyd, dyma rai yn union o'r cyrsiau sydd wedi bod dan fygythiad, os dŷn ni'n ystyried, er enghraifft, beth welson ni ym Mhrifysgol Caerdydd efo'r adran gerddoriaeth ac ati? Mae'n rhaid i hyn glymu at ei gilydd, felly dyna pam mae o'n draws-bortffolio. Mae angen i'r holl Lywodraeth yn ei chyfanrwydd edrych ar hyn. A dwi'n cofio'n iawn, a dwi wedi dweud hyn nifer o droeon erbyn hyn, y cyn-Weinidog diwylliant yn gweiddi arnaf fi yn y Siambr—wel, ein cyn-Siambr ni—y llynedd, 'Beth am y gwasanaeth iechyd?', pan oeddwn i'n sôn am bwysigrwydd diwylliant. Wel, dyma pam mae o'n bwysig.

Dwi'n falch iawn hefyd o'r pwyntiau sydd wedi'u codi o ran therapyddion iaith a lleferydd. Mae hyn yn eithriadol o bwysig o ran plant a phobl ifanc, a phobl o bob oed, oherwydd mae pobl weithiau yn meddwl ei bod dim ond ynglŷn â lleferydd, ond mae ynglŷn â bwyta, a hefyd—rhywbeth sydd mor eithriadol o bwysig—llyncu. Mae hyn yn bwysig.

Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych hefyd o ran y niferoedd, fel gwnaeth Mark Isherwood yn cyfeirio ato fo, sydd yn y system efo'r youth justice service, oherwydd, o fewn ein carchardai ni, mae cymaint o bobl sydd ddim wedi cael y gefnogaeth honno, a pha mor drawsnewidiol fyddai hynny? Mae cymaint o blant sydd wedi eu cicio allan o'r ysgol gan eu bod nhw'n camfihafio, ond methu cyfathrebu maen nhw. Rydyn ni angen therapyddion lleferydd.

Felly, diolch i bawb sy'n gweithio yn y meysydd eithriadol o bwysig hynny. Maen nhw'n gwneud gwaith pwysig, trawsnewidiol, ond mae angen mwy ohonyn nhw, a sut mae Llywodraeth Cymru am wneud hynny ydy'r her heddiw.

16:15

Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Roeddwn yn hapus iawn i'w gefnogi hefyd, oherwydd mae angen inni gydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei wneud i iechyd a lles ein cenedl. Ond mae'r cynnig hwn heddiw'n glir iawn ynglŷn â mynegi ein pryderon hefyd, ac mae'r pryderon hynny'n ymwneud â'n prinder gweithlu—rydym i gyd yn gwybod am y pwysau yno—am broffiliau staff sy'n heneiddio ar draws ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd—mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fod yn bryderus iawn yn ei gylch—y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a llwybrau gwell ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa, a llwybrau gwell i bobl eu dilyn i fod yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Mae pobl eraill wedi dweud bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cyfrannu llawer iawn i'r GIG—25 y cant o'r gweithlu—ac fel y dywedodd eraill, nid wyf yn credu ein bod yn siarad digon am hynny yn y Siambr. Rydym yn treulio llawer iawn o'n hamser yn siarad am feddygon a nyrsys, ond nid y bobl sy'n cefnogi'r GIG yn ehangach, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni siarad mwy amdano. Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone wedi codi hynny.

Mae yna nifer o wahanol broffesiynau. Nid wyf am ymhelaethu ar y rheini am fod eraill wedi gwneud. Ond rwy'n credu mai un peth nad ydym yn ei gydnabod yw pa mor bwysig ydynt yn broses o wneud diagnosis, atal, adsefydlu a chynnal annibyniaeth pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain, ac mae hynny'n lleihau derbyniadau i'r ysbyty, mae'n byrhau arosiadau ac yn lleddfu pwysau ar ein meddygon teulu a'n gwasanaethau brys. Mae hynny'n rhywbeth y credaf fod angen ei ddathlu am ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Maent yn gwneud gwaith gwych.

Maent hefyd yn helpu pobl i gadw'n egnïol yn eu cymunedau am fwy o amser. Siaradodd Jenny Rathbone am yr argyfwng gordewdra, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni wthio llawer mwy arno, helpu pobl i  gadw'n fwy heini am fwy o amser. Oherwydd fe welwn yn llawer rhy aml fod pobl yn dirywio'n gyflym iawn pan na chânt gefnogaeth i gadw'n egnïol, i fynd allan yn eu cymunedau, i fynd allan i fannau agored, a dyna yw gwaith ffisiotherapyddion ac eraill, cadw pobl yn egnïol, eu cadw'n fwy heini ac yn eu cartrefi eu hunain.

Mae'r gweithlu o dan straen enfawr—a dyna pam y mae angen strategaeth genedlaethol ar gyfer y gweithlu sy'n cynnwys ein gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, i wneud yn siŵr y gallwn gael ymagwedd gyfannol ledled y wlad. Nid oes unrhyw bwrpas mewn edrych arno'n unigol mewn byrddau iechyd unigol. Mae angen iddi fod yn strategaeth genedlaethol fel y gallwn gynllunio'n iawn a rhoi pobl lle mae eu hangen, nid yr effaith dameidiog sy'n digwydd weithiau. Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone wedi sôn am bodiatreg, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i'n poblogaeth sy'n heneiddio; mae yna bobl sy'n colli'r gallu i blygu i lawr i dorri eu hewinedd traed eu hunain, ac mewn gwirionedd gall pobl na chânt eu gweld gan bodiatrydd wynebu llawer o boen hefyd, yn enwedig pobl sy'n dioddef o ddiabetes, fel y dywedoch chi.

Ond mae'n eithaf pryderus fod 55 y cant o'r staff dros 50 oed. Mae'r bobl hynny'n mynd i fod yn gadael y proffesiwn yn gyflym iawn, ac rwy'n credu bod angen inni wneud rhywbeth o ddifrif yn y maes hwnnw, ac mae angen inni recriwtio'n galed iawn i gael pobl yno. Rwy'n gwybod efallai nad yw'n cael ei weld yn broffesiwn atyniadol, edrych ar draed pobl—mae rhai pobl yn hoffi edrych ar draed pobl, ond nid wyf i. Ond un peth y mae angen inni wneud mwy ohono yw cael pobl i mewn i'r proffesiwn hwnnw, oherwydd mae'n helpu ansawdd bywyd pobl, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig.

Mae cyfraddau clefydau cronig sy'n digwydd ledled Cymru yn gwaethygu hyn i gyd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni—. Mae'r cyhoedd bellach wedi—. Rydym wedi gwthio pobl i gael mwy o ofal cymunedol, i gael eu gweld gartref, ond mae hynny'n creu galw enfawr ar ein gwasanaethau, ac rwy'n credu mai dyna pam y mae'r cynnig hwn yn glir iawn am gael mwy o bobl i'r proffesiwn, oherwydd os ydym yn gwneud hynny mae'n ein helpu i gadw pobl yn eu cymunedau ac yn eu cartrefi eu hunain. Rwy'n credu bod y cynnig yn glir iawn ynghylch strategaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd ar drywydd hyn. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi'i lansio yn ddiweddar—cynllun datblygu'r gweithlu gyda'u 54 o gamau gweithredu dros y ddwy flynedd. Hoffwn glywed ychydig mwy am hynny a beth a wnewch o ran gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Ond elfen arall sy'n bwysig iawn i mi—ac rwy'n gwybod, pe bai'r Gweinidog partneriaeth gymdeithasol yma, ei fod yn bwysig iawn iddo yntau hefyd—yw ein gradd-brentisiaethau a chynyddu llwybrau i mewn i'r proffesiwn. Nid yw astudio yn y brifysgol cyn mynd ar leoliad yn gweddu i bawb. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar ailgynllunio'r ffordd yr edrychwn ar addysg ym maes iechyd i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi llwybrau gwahanol i mewn i'r proffesiwn i bobl, ac rwy'n credu y gwnaiff hynny gynyddu ein niferoedd staff, oherwydd rydym ychydig ar ei hôl hi yng Nghymru yn yr ystyr fod yn rhaid i bobl fynd i astudio yn y brifysgol, aros yno am y tymor, a mynd allan ar leoliadau wedyn. Ond rwy'n credu bod angen inni gael—. Nid oes gennym ddigon o radd-brentisiaethau. Rwy'n gweld nad yw'r Gweinidog yn cytuno'n llwyr â mi, gan ei fod yn edrych ar un o'i gyd-Aelodau, ond bydd yn rhaid inni weld beth y mae'r Gweinidog eisiau ei ddweud ymhellach am hynny. Dywedir wrthym nad yw hynny'n digwydd, nad ydym yn gweld digon o hynny'n cael ei gyflawni, ac os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gyflawni hynny, hoffem weld mwy o gyflymder o gwmpas hynny.

Roeddwn yn falch iawn hefyd pan lansiodd Ffederasiwn Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru eu maniffesto yma yn y Senedd. Rwy'n credu ei fod yn glod i'r proffesiynau hynny eu bod i gyd wedi dod at ei gilydd i ofyn i wneuthurwyr polisi yma yn y Senedd weithredu ar eu rhan, ac rwy'n credu bod dyletswydd arnom i wneud hynny. Os ydym yn mynd i achub ein GIG a gwneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol, mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhan allweddol o hynny. Maent hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r problemau gofal cymdeithasol sydd gennym, oherwydd mae'r bobl hynny'n helpu pobl i ddod allan o ysbytai, yn ôl i'w cartrefi, ac yn eu cynorthwyo i aros yno. Oherwydd heb weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, yr hyn a gawn yw pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty nad ydynt yn ddigon ffit i fynd adref, ânt adref, maent yn cwympo, ac ânt yn ôl i mewn i'r ysbyty. Ac mae'r cylch dieflig hwnnw'n mynd rownd a rownd, gan effeithio ar gyfraddau oedi cyn rhyddhau.

Felly, rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Rwy'n credu ei fod wedi'i eirio'n dda iawn. Mae cefnogaeth drawsbleidiol iddo gan y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Rwy'n gobeithio y clywn eiriau cynnes iawn gan y Llywodraeth y bydd yn cefnogi cynigion Mabon ap Gwynfor heddiw, oherwydd rwy'n credu bod angen inni ganolbwyntio ar y maes hwn, ac y bydd yn rhan allweddol o waith y Senedd yn y dyfodol. Diolch.

16:20

Rwy'n croesawu'n fawr y ddadl hon heddiw a'r ffocws ar atal a chefnogi'r ddarpariaeth gofal iechyd yn ein cymunedau, a rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a'u parodrwydd, mewn gwirionedd, i gyflwyno argymhellion ac i ymgysylltu â gwleidyddion yma yn y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae hynny i gyd i'w groesawu'n fawr.

Gwyddom fod un o bob pump o bobl yn byw gyda chyflwr ar yr ysgyfaint yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys cyflyrau fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, bronciectasis, ffeibrosis yr ysgyfaint ac asthma difrifol. Mae adsefydlu ysgyfeintiol yn ddefnyddiol iawn fel rhaglen strwythuredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gynlluniwyd ar gyfer unigolion sy'n byw gyda chyflyrau ar yr ysgyfaint a phobl sy'n profi diffyg anadl o ganlyniad i gyflyrau hirdymor.

Mae'r rhaglen, yr wyf wedi'i gweld ar waith, ac rwy'n siŵr fod llawer o Aelodau eraill o'r Senedd wedi'i gweld, yn cynnig sesiynau ymarfer corff wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer pobl â'r cyflyrau hynny ar yr ysgyfaint. Mae'n mynd ochr yn ochr ag addysg i bobl allu rheoli eu cyflyrau eu hunain, ac rwy'n credu mai dyma'n sicr yw'r dull cywir o weithredu, rhoi rheolaeth ar eu hiechyd i'r bobl eu hunain, ac wrth gwrs, y bobl eu hunain sy'n adnabod eu cyrff orau. Mae hefyd yn cynnwys technegau a strategaethau anadlu i gefnogi lles cyffredinol. Fel arfer caiff ei gyflwyno dros gyfnod o chwech i wyth wythnos a gall fod yn achubiaeth, gyda gwelliannau i anadlu'n arwain at effeithiau buddiol sylweddol ar ansawdd bywyd. Mae pobl ar y rhaglenni hyn yn gweld cryfder cyhyrau'n gwella, gan alluogi defnydd mwy effeithlon o ocsigen a llai o ddiffyg anadl, ac mae hyn yn hwb i hyder wrth gyflawni gweithgareddau dyddiol, sy'n mynd law yn llaw â gwell iechyd meddwl a lles cyffredinol.

Gwyddom hefyd fod cyflyrau'r ysgyfaint yn costio tua £295 miliwn i'r GIG yng Nghymru mewn costau uniongyrchol bob blwyddyn, sy'n 1.3 y cant o gyfanswm gwariant y GIG. Maent yn achosi cyfanswm o £477 miliwn y flwyddyn yn llai o gynhyrchiant yn sgil salwch a marwolaethau cynamserol, ac felly cânt effaith gyffredinol o tua £772 miliwn ar economi Cymru. Felly, mewn cyd-destun o'r fath, adsefydlu ysgyfeintiol yw un o'r triniaethau mwyaf costeffeithiol ar gyfer COPD, ac mewn gwirionedd, dim ond rhoi'r gorau i ysmygu a brechlynnau ffliw sy'n fwy costeffeithiol. Pe baem yn mynd i'r afael o ddifrif â'r hyn sydd gan adsefydlu ysgyfeintiol i'w gynnig i ni yng Nghymru, gallai arbed £7.7 miliwn i GIG Cymru ac atal 10,500 diwrnod gwely, yn ôl ffigurau a ddarparwyd gan Asthma + Lung UK Cymru.

Fe wyddom, fodd bynnag, fod llawer o gleifion cymwys yn wynebu rhwystrau sylweddol i gymryd rhan, yn cynnwys darpariaeth gyfyngedig o wasanaethau mewn rhai ardaloedd bwrdd iechyd, amseroedd aros hir, a heriau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth, mynediad digidol a diffyg cyfleusterau lleol. Felly, mae yna lawer o faterion y mae angen mynd i'r afael â hwy os ydym am wireddu'n llawn y manteision sydd gan adsefydlu ysgyfeintiol i'w cynnig.

Ac wrth gwrs, mae prinder cyson yn y gweithlu ar draws ein rolau proffesiynol perthynol i iechyd yn cymhlethu pob un o'r pethau hynny, ac mae'n parhau i danseilio capasiti a chynaliadwyedd y gwasanaethau hanfodol hyn. Bydd mynd i'r afael â'r heriau hyn yn galw am weithredu cydgysylltiedig ar draws y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i wella prosesau casglu data, cryfhau'r gweithlu, a sicrhau mynediad cyfartal at ofal o ansawdd uchel. Gwyddom hefyd fod rhestrau aros yn amrywio'n ddramatig, gydag amseroedd aros rhai gwasanaethau'n ychydig wythnosau, tra bod amseroedd aros o hyd at 75 wythnos mewn rhai rhannau o Gymru.

Felly, wedi dweud hynny i gyd, mae'n hollbwysig ein bod yn buddsoddi yn ein staff, ac yn ein lleoliadau yn wir, er mwyn ei gwneud hi'n bosibl ehangu'r adsefydlu ysgyfeintiol hanfodol hwn. Mae angen inni sicrhau bod gan bawb yng Nghymru hawl i'r gwasanaethau a'r adsefydlu hwn.

16:25

Mae'n bleser gennyf siarad yn y ddadl hon heddiw i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan Mabon ap Gwynfor, a diolch i'r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd am ei gyflwyno.

Gadewch imi ddechrau drwy gydnabod a diolch am gyfraniad hanfodol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sef y trydydd gweithlu clinigol mwyaf yn GIG Cymru, a gweithlu sy'n ganolog i swyddogaeth ein gwasanaeth iechyd. Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn grŵp amrywiol sy'n cynnwys ffisiotherapyddion, radiograffwyr, therapyddion galwedigaethol, deietegwyr, podiatryddion, therapyddion lleferydd ac iaith a llawer mwy. Gan weithio mewn ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion, cymunedau a llysoedd, maent yn rhan annatod o system gofal iechyd modern, effeithiol, ac efallai'n bwysicaf oll, system gofal iechyd ataliol.

Ar ôl gweithio yn y GIG fy hun am 11 mlynedd, rwy'n gwybod yn bersonol am y gwaith y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei wneud yn cynnal iechyd ein cenedl, gan fod pobl yn gymhleth. Mae'r problemau iechyd sydd gan bobl yn mynd yn fwy cymhleth, sy'n golygu bod rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn dod yn bwysicach ac mae mwy o alw amdani. Maent yn helpu pobl i wella ar ôl strôc, i adfer annibyniaeth ar ôl anafiadau, i reoli cyflyrau hirdymor, i oresgyn anhwylderau cyfathrebu, ac i fyw bywydau iachach, mwy egnïol, gan leihau pwysau ar feddygon teulu ac osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty. Os yw GIG Cymru i fod yn gynaliadwy, rhaid i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hariannu'n briodol.

Y meysydd y mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt, sy'n cael eu cydnabod yn y cynnig, yw prinder gweithlu, gweithlu sy'n heneiddio, a'r bwlch cynyddol rhwng y galw a'r cyflenwad, yn enwedig mewn meysydd fel therapi lleferydd ac iaith, lle mae'r angen yn acíwt ac yn cynyddu. Ar hyn o bryd mae gennym lai o therapyddion lleferydd ac iaith y pen o'r boblogaeth yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r DU, gyda swyddi gwag ar oddeutu 11 y cant mewn gwasanaethau pediatrig, a 15 y cant mewn gwasanaethau i oedolion, ac mae'r broblem hon yn fwy amlwg yng ngogledd Cymru, lle caiff recriwtio ei lesteirio gan gwlwm dwy flynedd bwrsariaeth y GIG. Mae angen mynd i'r afael â'r diffyg cynnydd yn y niferoedd sy'n hyfforddi hefyd. Er bod ail gwrs israddedig mewn therapi lleferydd ac iaith wedi ei ychwanegu ym Mhrifysgol Wrecsam, nid yw niferoedd y lleoedd hyfforddi yng Nghymru wedi cynyddu ers 2020. Yn bryderus, hyd yn oed gyda galw uwch am leoedd, mae'r ddau gwrs yn gweithredu islaw'r capasiti addysgu. Yn Lloegr, fodd bynnag, mae'r nifer sy'n gymwys wedi dyblu dros y degawd diwethaf, a dyna pam ei bod yn gwbl hanfodol i Lywodraeth Cymru ddilyn argymhellion Ffederasiwn Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru, sy'n cynrychioli 13 o gyrff gwahanol, i greu strategaethau cenedlaethol ar gyfer y gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd.

Nid yw'r model presennol yn gynaliadwy. Mae'r anghenion yn cynyddu, boed hynny yn y blynyddoedd cynnar, lle mae anawsterau cyfathrebu yn effeithio ar barodrwydd plentyn i fynd i'r ysgol, neu mewn oedolion hŷn, lle mae problemau lleferydd a llyncu'n effeithio ar y rhai sy'n byw gyda strôc neu Parkinson's. Mae oedi cyn rhoi therapi neu ddiffyg therapi yn arwain at ganlyniadau hirdymor ac yn rhoi pwysau pellach ar y GIG. Gwelir mwy a mwy o blant ag amhariad lleferydd ac iaith, a phroblemau'n mynd yn fwy a mwy cymhleth hefyd. Gwaethygodd y pandemig COVID y problemau hyn yn enfawr, ond ni chynyddwyd y buddsoddiad mewn therapyddion lleferydd ac iaith i unioni'r aflonyddwch enfawr i fywydau pobl ifanc a achoswyd gan y pandemig.

16:30

A ydych chi'n cydnabod bod therapyddion lleferydd ac iaith hefyd—rwy'n gwybod bod yna bobl eraill yn y Siambr sy'n cynrychioli etholaethau gwledig—fod rhai etholaethau gwledig dan anfantais o ran therapyddion lleferydd ac iaith, yn enwedig llefydd fel Powys? Dim ond un neu ddau o bobl sydd gennym dros ardal ddaearyddol enfawr, felly nid yw rhai pobl yn y system—a phlant ifanc—yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.

Ydw, yn sicr. Oherwydd, wyddoch chi—. Gwelais hynny fy hun pan oeddwn yn gweithio mewn ysbytai cymunedol, y prinder therapyddion lleferydd ac iaith. Oherwydd bod prinder, maent yn tueddu i gael eu gosod mewn ysbytai mawr—wyddoch chi, ac efallai'n briodol felly yn yr achosion hynny—ond wedyn, oherwydd y prinder, nid yw'n cael ei deimlo a'i gydnabod yn y cymunedau gwledig hynny.

Mae yna effaith fawr hefyd ar y system cyfiawnder ieuenctid, ac mae gan 71 y cant o'r plant sy'n cael eu dedfrydu am drosedd anghenion lleferydd ac iaith a chyfathrebu. A phan welais yr ystadegyn hwnnw, roeddwn i'n ei weld yn erchyll iawn. Ac fe ddywedaf hynny eto: mae gan 71 y cant o blant sy'n cael eu dedfrydu am drosedd anghenion lleferydd ac iaith a chyfathrebu. Ond gyda'r mwyafrif helaeth o'r achosion hyn ond yn cael eu nodi ar ôl euogfarn yn unig, mae'r rhain yn gyfleoedd a gollwyd i ymyrryd yn gynharach a newid bywydau er gwell.

Felly, Lywydd dros dro, nid ychwanegiad i'n gwasanaeth iechyd yw gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, maent yn allweddol i ofal diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu a dilyn cyngor arbenigwyr a datblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer y gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd i gynyddu'r niferoedd sy'n hyfforddi er mwyn sicrhau bod pawb, yn hen ac ifanc, ym mhob rhan o Gymru, yn cael y gofal arbenigol sydd ei angen arnynt, gyda'r dystiolaeth yn dangos y bydd yr enillion ar y buddsoddiad hwn yn niferus. Diolch.

Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch yn fawr i'r Aelodau am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw a thynnu sylw at y gwaith pwysig mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei wneud yn y gwasanaethau iechyd, a hynny, yn aml, heb gael digon o sylw, fel gwnaeth Jenny Rathbone ei grybwyll yn ei chyfraniad hi.

Rwy'n croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf gerbron y Siambr am sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r rhan hanfodol hon o weithlu'r gwasanaeth iechyd, sy'n chwarae rhan mor allweddol i helpu pobl i fyw bywydau iachach ac annibynnol. Mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod pobl yn cael mynediad amserol, uniongyrchol at y gweithwyr proffesiynol hyn, a gwasanaethau adsefydlu cymunedol, er enghraifft, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu aros mor iach â phosib cyn hired â phosib, a gwella cymaint ag y bo modd ar ôl argyfwng iechyd.

Mae AHPs yn cynnig dull ataliol, rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar atebion i ddiwallu anghenion iechyd a lles pobl, naill ai yn y cartref neu'n agos iawn ato, yn unol â model gofal sylfaenol Cymru. Ac rydyn ni i gyd, wrth gwrs, yn deall ac yn cydnabod y pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaethau iechyd a'r gweithlu. Ond er yr heriau hynny, mae cyfleoedd gyda ni hefyd. Mae cyfle i adeiladu cenhedlaeth gryfach, fwy gwydn o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys ein AHPs ymroddedig. Ac mae'n bwysig yn hynny o beth i gofio mai'r allwedd i'r dyfodol hwn yw ein pobl—ein hased mwyaf gwerthfawr, fel rydym ni wedi clywed yn y drafodaeth yma heddiw.

Mae eu hymroddiad nhw a'u sgiliau nhw yn guriad calon i'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae angen inni fuddsoddi i feithrin ac i ddatblygu'r gweithlu hwn ymhellach. Ac mae'n rhaid i'r gwaith o ddenu a chadw'r gweithlu yma fod yn ymdrech ar y cyd.

Geilw hyn am gydweithrediad rhwng y Llywodraeth, cyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau addysg, cyrff proffesiynol, undebau llafur a rheoleiddwyr proffesiynol, fel y mae rhai cyd-Aelodau wedi nodi yn y ddadl hyd yma. Rhaid inni rannu arferion gorau a symleiddio prosesau a gweithio gyda'n gilydd i greu'r amgylchedd cefnogol sydd ei angen arnom i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal allu dysgu a gweithio ynddo.

Heddiw, mae gennym fwy o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen: cynnydd o 12 y cant yn y tair blynedd diwethaf yn unig. Ac mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gryfhau ein gweithlu gofal iechyd a darparu'r gofal gorau posibl i'n cymunedau. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru, fel y clywsom, eisoes wedi datblygu cynllun datblygu pwrpasol ar gyfer y gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd i fynd i'r afael â heriau'r gweithlu yn y presennol a'r dyfodol, ac yn y ddadl, clywsom am y rôl bwysig y gall prentisiaethau ei chwarae yn y maes—mae'n sicr yn faes y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo. Rydym yn awyddus i fynd ar drywydd ehangu gradd-brentisiaethau, ac rydym yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar hynny eisoes. Mae gennym radd-brentisiaethau yn y GIG ar lefel anghlinigol, ac rydym am geisio ehangu hynny. Mae gan bob bwrdd iechyd ei gynllun prentisiaethau ei hun, sy'n cynnig ystod o gyfleoedd i bobl ymuno â'r gweithlu gofal iechyd.

16:35

Mae gennyf ddiddordeb mewn amserlenni. Rydych chi'n dweud eich bod chi'n barod i ehangu ac edrych i mewn iddo ymhellach. Hoffwn wybod a oes gennych chi unrhyw amserlenni mewn golwg ar gyfer pryd yr hoffech chi weithredu rhai o'r pethau hyn? Oherwydd mae gan bob un ohonom uchelgais i wneud rhywbeth, ond mae cael amserlen yn helpu, onid yw?

Ydy. A'r pwynt roeddwn i'n ei wneud yw bod hyn eisoes yn digwydd. Felly, er enghraifft, mae gan fwrdd iechyd Hywel Dda brentisiaeth gofal iechyd saith mlynedd, lle gall unigolion ddechrau fel prentis sylfaen a symud ymlaen i fod yn nyrs gymwysedig, trwy astudio rhan-amser. Ceir prentisiaethau sylfaen lefel 2, ac fel y soniais, gradd-brentisiaethau yn y GIG, ac rydym am weld y rheini'n cael eu hehangu. Mae cynllun Addysg a Gwella Iechyd Cymru y cyfeiriais ato eiliad yn ôl yn nodi amserlenni a chyflawniadau clir dros y ddwy flynedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n tawelu meddyliau'r Aelodau. Drwy roi hynny ar waith, gallwn sicrhau bod y gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd yn barod ar gyfer diwallu anghenion esblygol ein poblogaeth.

Mae fframwaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd Cymru yn nodi'r camau sydd eu hangen yn genedlaethol ac yn lleol i wneud yn siŵr y gallwn wireddu gwerth ac effaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn llawn, gan geisio cynyddu cyfran y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n cyflawni ymyriadau cymunedol ac ataliol, a hybu iechyd. Mae nifer o Aelodau heddiw wedi tynnu sylw'n gywir ddigon at ba mor bwysig yw hynny i'r agenda ehangach sydd gennym, a bod yn rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i'w wireddu, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael eu cadw'n iach yn eu cymunedau.

O fis Ebrill 2023, fe wnaethom ryddhau £5 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd bob blwyddyn i greu swyddi gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ychwanegol, i gynyddu mynediad at ofal cymunedol o'r fath. Mae mwy na 100 o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gweithwyr cymorth cyfwerth ag amser llawn ychwanegol wedi'u cyflogi o ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw. Mae'n helpu pobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel, gyda mynediad at yr asesiadau cymunedol cywir ac adsefydlu, fel y gallant aros yn egnïol cyn hired â phosibl, a byw gyda'u teuluoedd, gwneud y pethau maent yn mwynhau eu gwneud fwyaf yn eu bywydau bob dydd. Mae'r buddsoddiad hwnnw hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu neu ehangu gwasanaethau i atal derbyniadau i'r ysbyty. Er enghraifft, gall parafeddygon atgyfeirio pobl yn uniongyrchol at dîm ymateb i gwympiadau neu therapi yn y gymuned yn hytrach na mynd â hwy i adran frys. Clywsom am bwysigrwydd hynny eto yn y ddadl heddiw.

Mae'r GIG yn cynnig gyrfa wahanol i unrhyw yrfa arall. Mae'n un o'r cyflogwyr prin hynny sy'n cynnig swydd hynod werth chweil am oes, gyda chyfleoedd go iawn i gamu ymlaen mewn gyrfa a chyfleoedd datblygu proffesiynol â chymorth. Mae'n faes lle gall staff weld y gwahaniaeth anhygoel y maent hwy eu hunain yn ei wneud i fywydau pobl bob dydd. Ond mae angen inni wneud mwy os ydym am wneud y GIG yn ddewis cyntaf ac yn ddewis parhaus i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Felly, byddwn yn parhau i weithio i greu a chynnal diwylliant lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u grymuso, yn cynnal cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa, cyfleoedd mewn lleoliadau modern—clywsom am hynny yn y ddadl hefyd—ac yn datblygu arweinyddiaeth ac ymchwil y dylai gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, fel rhannau eraill o'r gweithlu gofal iechyd, allu manteisio arnynt. Y math o rwydwaith cyflogaeth sy'n cefnogi ein gilydd, lle rydym yn rhannu arferion gorau, yn datblygu ein gilydd ac yn bod yn gydweithwyr y mae pawb ohonom yn eu haeddu. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. A diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma y prynhawn yma, yn trafod y cynnig dwi wedi'i roi gerbron. Mae nifer fawr o bobl wedi cyfrannu, sydd yn adlewyrchiad o bwysigrwydd y cynnig ac, o'r diwedd, yn gydnabyddiaeth ac yn werthfawrogiad o rôl hanfodol y gweithlu yma. Mae'r cyfraniadau wedi bod yn sôn am bwysigrwydd podiatryddion, deietegyddion a therapyddion celfyddydau, a'r bobl yma'n cynorthwyo pobl gydag anghenion esgyrnol, er enghraifft, clefyd y siwgr, lleferydd, strôc, yr ysgyfaint, ac iechyd meddwl. Yr ystod yna o waith sydd yn cael ei wneud gan y gweithlu yma, mae'r cyfan wedi cael ei gyffwrdd arno heddiw, felly af i ddim drwy bob un o'ch cyfraniadau chi, dim ond i ddweud, dwi'n meddwl, eu bod nhw yn gyfraniadau pwysig ac rwy'n ddiolchgar amdanyn nhw, a dwi'n siŵr bydd nifer yn gwrando i mewn ac yn gwerthfawrogi yr hyn sydd wedi cael ei ddweud.

Mae'r ddadl yn bwysig, yn enwedig am mai gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yw chwarter gweithlu'r GIG, fel y crybwyllwyd gennym. Os ydym am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a pharatoi ar gyfer demograffeg sy'n newid, mae'n rhaid inni roi'r agenda ataliol ar flaen ein strategaeth iechyd. Ac mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn chwarae rhan annatod, felly mae angen inni sicrhau bod gennym gynllun gweithlu cynhwysfawr ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn grym yma yng Nghymru. Mae'r 'Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth' gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod

'Bydd gwneud y GIG yn fwy effeithlon yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn gofal sylfaenol a gweithlu ehangach (e.e. Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd)'.

Ac rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gyfeirio at yr angen i fuddsoddi ymhellach yn y gweithlu yn ei gyfraniad, ac rwy'n siŵr y bydd eraill yn gwerthfawrogi hynny hefyd. Felly, mae cydnabyddiaeth i'r angen hwn gan y sector, ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth. A gadewch inni fod yn glir, mae uchelgeisiau polisi allweddol y Llywodraeth, megis lleihau rhestrau aros neu gadw pobl yn iach gartref, wel, mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn allweddol ar gyfer cyflawni'r rhain.

Mewn dadl flaenorol, dadleuais sut oedd Cymru'n ardderchog am ddatblygu arferion gorau, ond yn ofnadwy o wael am gyflwyno'r arferion gorau hynny ar raddfa fwy. Ac mae datblygiadau ymhlith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn enghraifft berffaith. Mae brysbennu cynnar traed diabetig adran bodiatreg Caerdydd a'r Fro yn un o Enghreifftiau Bevan, ac mae pobl Caerdydd a'r Fro yn lwcus iawn. Ond pam y dylai'r gwasanaeth hwnnw ddod i ben ar ffin Caerdydd a'r Fro? Mae pawb ledled Cymru yn haeddu'r un lefel o wasanaeth. Dylai cleifion ledled Cymru allu cael mynediad at yr holl wasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd hyn yn rhan o'u triniaeth.

Ond yn olaf, rwyf am bwysleisio'r pwynt fod gwasanaethau therapi yn cael eu darparu mewn lleoliadau y tu hwnt i'r GIG. Maent yn wirioneddol gymunedol, gyda therapyddion a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill yn gweithredu o awdurdodau lleol, ysgolion, a'r system farnwrol. Yn anfynych y byddwn yn trafod y gweithlu hwn yn y Siambr, ac maent yn aml, neu'n llawer rhy aml yn cael eu hanghofio a'u hanwybyddu. Ond maent yn asgwrn cefn i'n gwasanaeth iechyd. Felly, i'r holl orthotyddion, therapyddion drama, therapyddion cerdd, prosthetyddion ac orthotyddion, deietegwyr, seicolegwyr, ffisiotherapyddion, parafeddygon, therapyddion galwedigaethol, podiatryddion, therapyddion lleferydd ac iaith, radiograffwyr, osteopathiaid a therapyddion celf allan yno, diolch am y gwaith aruthrol a wnewch. Rydych chi hefyd yn haeddu ein cefnogaeth, a dyna pam rwy'n gofyn i'r Siambr gefnogi'r cynnig heddiw.

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio y bleidlais o dan yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Penodiadau Cyhoeddus

Fe symudwn ni nawr ymlaen i eitem 8, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar benodiadau cyhoeddus. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mark Isherwood.

Cynnig NDM8935 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad ac adroddiad atodol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Benodiadau Cyhoeddus a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Prynhawn da, a diolch am y cyfle i drafod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar benodiadau cyhoeddus yng Nghymru, a ddatgelodd fethiannau difrifol yn agwedd Llywodraeth Cymru at benodiadau'r sector cyhoeddus. Cyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor ar 27 Mawrth. Cytunodd y pwyllgor i fynd ar drywydd y mater yn rhan o'i gylch gwaith gweinyddiaeth gyhoeddus, yn sgil estyn cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o'r Senedd flaenorol.

Roedd cylch gwaith ymchwiliad y pwyllgor yn cynnwys ystyriaeth o rôl uned cyrff cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn y broses, rôl y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, materion yn ymwneud ag amrywiaeth, pa mor effeithiol yw dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â materion amrywiaeth, a sut y gall y broses fod yn fwy tryloyw yn gyffredinol. Cynhaliodd y pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, Comisiwn y Senedd, amrywiaeth o randdeiliaid allanol, a Llywodraeth Cymru ei hun. Hefyd, cynhaliodd tîm ymgysylltu â dinasyddion y Senedd gyfweliadau ag ymgeiswyr blaenorol am swyddi cyhoeddus, gyda rhai'n cael eu gwahodd i ddarparu tystiolaeth i'r pwyllgor.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i 23 o argymhellion y pwyllgor mewn dau adroddiad ar 9 Mehefin eleni. Mae'r ymateb yn peri pryder difrifol, o ystyried nad oes unrhyw arwydd o hyd fod unrhyw un o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn, eu gwrthod neu hyd yn oed eu derbyn mewn egwyddor neu'n rhannol. Er y byddaf yn myfyrio ar yr ymateb ar ddiwedd fy anerchiad, dylid nodi bod yr ymateb yn annerbyniol ac yn wyriad pryderus o'r confensiwn blaenorol, y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ddifrifol iddo.

Gwnaed ein hargymhellion gyda bwriad gwirioneddol i wneud gwelliannau yn dilyn sesiynau tystiolaeth manwl, ac er budd atebolrwydd, byddem yn disgwyl i ymateb Llywodraeth Cymru i bob argymhelliad gael ei nodi'n glir gan ddarparu esboniad llawn am y rhesymau. Clywsom dystiolaeth bryderus am y diffyg amrywiaeth yn ei phenodiadau cyhoeddus ar sail ethnigrwydd, anabledd, oedran, rhyw a hunaniaeth rywiol. Ar ben hynny, mae'n amlwg nad yw penodiadau cyhoeddus yn gynrychioliadol o Gymru gyfan ar sail nodweddion nad ydynt wedi'u gwarchod, gyda llawer gormod o benodiadau wedi'u clystyru yng Nghaerdydd a'r de-ddwyrain a'r cyffiniau.

Er gwaethaf y pryderon hyn, mae'n amlwg hefyd fod Llywodraeth Cymru yn aneffeithiol wrth gasglu data sy'n ymwneud ag amrywiaeth, er gwaethaf ei strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru', sy'n ei gwneud yn orfodol i wybodaeth o'r fath gael ei chasglu. Cyhoeddwyd y strategaeth yn wreiddiol yn 2020, a daeth i ben yn 2023, gyda chwech o'i gweithredoedd yn parhau heb eu cwblhau. Roedd tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2022 yn dweud bod cyflawni'r strategaeth yn flaenoriaeth weinidogol. Yn anffodus, mae'n anodd derbyn hyn nawr, o ystyried y diffyg cynnydd amlwg yn erbyn nodau'r strategaeth a'r methiannau dilynol i roi strategaeth newydd neu ddiwygiedig ar waith ar gyfer y dyfodol.

Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r strategaeth ar frys a gosod amserlen glir ar gyfer datblygu a gweithredu strategaeth newydd yn ei lle. Fodd bynnag, yn y tymor byr, fe wnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru adfer y strategaeth wreiddiol 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' tan fis Mai 2026, ac rydym yn nodi bod hynny wedi digwydd. Cawn ein calonogi y bydd yna werthusiad ffurfiol o'r strategaeth, wedi'i arwain yn annibynnol, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am ei gasgliadau.

Mae'r uned cyrff cyhoeddus yn tangyflawni yn ei rôl mewn perthynas â phenodiadau cyhoeddus. Roedd ei rôl a'i bwrpas yn ddryslyd ac yn aneglur, gyda llawer o  benodeion cyhoeddus yn dweud wrth y pwyllgor nad oeddent yn ymwybodol fod yr uned yn bodoli hyd yn oed. Mae'r uned wedi bod yn faes pryder i'r pwyllgor ers peth amser, yn fwyaf arbennig mewn perthynas â'n gwaith craffu ar faterion llywodraethu yn Amgueddfa Cymru. Yn wreiddiol, cafodd yr uned y gwaith di-uchelgais o gynnal adolygiadau wedi'u teilwra o bob corff cymwys yn ystod tymor y Senedd hon. Fodd bynnag, roedd hon yn her na lwyddodd yr uned i ddod yn agos at ei chyflawni, gyda'r rhaglen adolygu deilwredig wedi'i hailgynllunio'n llwyr yn ôl model hunanasesu newydd heb unrhyw ddyfnder yn perthyn iddi.

Ni chafodd ein pryderon am effeithiolrwydd yr uned eu hystyried yn ystod yr ymchwiliad hwn. Ddwy waith yn ystod ein hymchwiliad, cafodd yr uned ei symud i drefniadau llywodraethu newydd. Dylai'r uned fod wedi chwarae rhan ganolog yn gyrru gwelliannau i'r broses penodiadau cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad oedd iddi welededd na phwysigrwydd o fewn strwythurau sefydliadol Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom argymell yn ddelfrydol y dylid ailfrandio'r uned cyrff cyhoeddus a'i hail-lansio gyda chylch gwaith a phwrpas clir. Fodd bynnag, mae'n amlwg o ymateb Llywodraeth Cymru fod yr uned wedi'i diddymu, gyda rhai o'i swyddogaethau'n symud i rannau eraill o'r sefydliad.

16:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi bod hyn wedi'i esbonio yn ystod y dystiolaeth a ddarparwyd ar 17 Hydref. Fodd bynnag, ar ôl adolygu'r trawsgrifiad, roedd hyn ymhell o fod wedi'i nodi'n glir i'r pwyllgor. Er hynny, mae egwyddor ein casgliadau'n parhau i fod yn ddilys a dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried o ddifrif. Mae'r pwyllgor o'r farn fod cael tîm ymroddedig sy'n gyrru gwelliannau i'r broses ac sy'n gweithio'n rhagweithiol gyda darpar ymgeiswyr yn hanfodol. Efallai na fydd rhannu'r swyddogaethau hyn ar draws y sefydliad yn ysgogi'r newid sydd ei angen yn fawr.

Clywsom dystiolaeth werthfawr gan ymgeiswyr blaenorol am rai o'r addasiadau rhesymol y gellid eu gwneud i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n codi mewn perthynas ag amrywiaeth o ran nodweddion gwarchodedig a nodweddion heb eu gwarchod. Roedd nifer o randdeiliaid yn teimlo bod y broses ei hun yn creu rhwystrau i grwpiau na chânt eu cynrychioli'n ddigonol, gyda nifer yn dweud bod llunio ceisiadau llwyddiannus yn grefft, a allai rwystro ymgeiswyr newydd rhag dod yn rhan o'r broses. Cafodd y materion hyn eu gwaethygu gan y problemau gyda'r uned cyrff cyhoeddus, nad oedd yn ddigon gweladwy nac yn ddigon rhagweithiol wrth gynorthwyo ymgeiswyr i oresgyn y rhwystrau hyn.

Roedd y pwyllgor yn argyhoeddedig y gallai arloesi pellach a newidiadau syml i'r broses helpu i ddatrys rhai o'r problemau hyn, gan gynnwys: cyfleoedd i gysgodi rolau; dull mwy cynhwysol o hysbysebu swyddi gwag; hyrwyddo'r addasiadau rhesymol sydd ar gael i ddarpar ymgeiswyr; adborth gwell a mwy cyson ar geisiadau a hyfforddiant ar gyfer paneli recriwtio; ac adolygiad o gydnabyddiaeth ariannol i benodeion cyhoeddus, gydag amcangyfrif mwy realistig o'r ymrwymiad amser a ddisgwylir wedi'i hysbysebu o'r cychwyn cyntaf.

Nid oedd y pwyllgor yn argyhoeddedig fod rôl Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus Cymru a Lloegr yn sbarduno gwelliannau effeithiol yn y system. Dim ond cyfran fach iawn o waith y comisiynydd yw Cymru o hyd, ac felly nid yw'n meddu ar yr offer i gyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen yng Nghymru. Ar ôl clywed tystiolaeth gan Gomisiynydd Safonau Moesegol yr Alban, sy'n rhannu'r rôl honno ochr yn ochr â'i rôl fel comisiynydd penodiadau cyhoeddus yr Alban, roedd y pwyllgor yn argyhoeddedig fod hwn yn fodel a fyddai'n gweithio'n dda yng Nghymru. Rydym yn cydnabod yn ein hadroddiad nad oedd digon o benodiadau yng Nghymru i gyfiawnhau cael comisiynydd annibynnol. Fodd bynnag, fel yn yr Alban, roeddem yn teimlo y gellid dod o hyd i ateb costeffeithiol trwy gyfuno'r rôl â rôl comisiynydd presennol. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn dymuno bwrw ymlaen ar y sail hon, er na roddodd unrhyw wrthwynebiad penodol i'r argymhellion a oedd yn ymwneud â chomisiynydd newydd.

Rhaid imi oedi eto gyda'r ymateb annerbyniol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad pwysig hwn. Mae gwyro oddi wrth y confensiwn sefydledig a darparu ymateb o'r fath i'n hadroddiad yn codi cwestiynau difrifol ynghylch atebolrwydd ac ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r materion pwysig a godwyd yn ein hadroddiad. Mae'r pwyllgor yn derbyn nad oes raid i Lywodraeth Cymru dderbyn pob argymhelliad ac mewn rhai achosion, efallai y bydd rhesymau cwbl ddilys dros hynny.

Er budd atebolrwydd, fodd bynnag, os bwriedir gwrthod argymhelliad, dylid datgan hyn yn ddiamwys, a rhoi rhesymau. Mae methu gwneud hynny'n rhwystro ein gwaith craffu ar y materion pwysig hyn. Os yw Llywodraeth Cymru'n dymuno gwrthod argymhelliad, dylai ddatgan hyn gydag argyhoeddiad. Fel y digwyddodd, mae'n amlwg fod rhai o'n hargymhellion wedi'u gwrthod ar sail yr ymateb naratif. Mewn achosion lle caiff argymhellion eu derbyn neu eu gwrthod, byddem yn disgwyl er budd atebolrwydd i hyn gael ei nodi'n glir yn ymateb Llywodraeth Cymru a rhoi esboniad llawn o'r rhesymau dros hyn.

Ers hynny, mae rhanddeiliad a gymerodd ran yn yr ymchwiliad wedi cysylltu â ni i ddweud eu bod yn rhannu ein pryderon ynghylch annigonolrwydd ymateb Llywodraeth Cymru. Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar frys felly i fyfyrio ar eu dull o weithredu ac i ystyried darparu ymateb diwygiedig ar frys ac fel mater posibl i'w drafod gan bob pwyllgor yn y Senedd hon, o ystyried y cynsail peryglus y gallai ei osod.

Fel y dywedais yn y Pwyllgor yr wythnos diwethaf, mae'n amharchus i'r pwyllgor hwn a'r Senedd. Mae bron yn ddirmygus o'r Senedd a'r rôl y mae'r Senedd yn ei chwarae mewn democratiaeth gynrychioliadol. Bydd y pwyllgor yn mynd ar drywydd y materion hyn ymhellach gyda Llywodraeth Cymru er gwaethaf yr ymateb annigonol a gafwyd. Mae yna lawer o welliannau y gellir eu gwneud i system sydd ar hyn o bryd yn atal cyrff cyhoeddus rhag denu'r dalent orau a rhag bod mor gynrychioliadol ag y gallant fod. Bydd y pwyllgor yn ystyried y materion hyn yn ein hadroddiad etifeddol, gan ein bod yn teimlo bod y rhain yn faterion a fydd yn haeddu sylw hirdymor a chraffu gan bwyllgor.

Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi ystyriaeth ddifrifol i'n hargymhellion a mynd i'r afael â system nad yw'n addas i'r diben ar hyn o bryd. Diolch yn fawr.

16:55

Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad cynhwysfawr. Mewn cyfnod lle mae hyder y cyhoedd yn ein sefydliadau yn is nag erioed, yn aml am resymau dilys, mae’n hanfodol bod safonau uchel yn cael eu cynnal o ran penodiadau cyhoeddus. Ond yn anffodus, mae'n glir bod y Llywodraeth wedi bod yn hunanfodlon yn y maes hwn. Mae casgliadau'r adroddiad yn feirniadol dros ben, ac yn gwbl haeddiannol felly.

Yn waeth fyth, mae ymatebion gwan y Llywodraeth i argymhellion y pwyllgor yn tanseilio unrhyw gred yn byddant yn dysgu gwersi o fethiannau'r gorffennol, ac mae hyn yn rhan o batrwm mwy eang o oedi diangen, yn enwedig o ran hyrwyddo cynrychiolaeth a phryder am amrywiaeth. Wrth i’r adain dde eithafol ymosod yn ddi-baid ar egwyddorion amrywiaeth a chydraddoldeb i warchod ei statws breintiedig, mae'n fwy pwysig nag erioed ein bod ni yng Nghymru yn dangos esiampl gadarnhaol, yn unol â'n hunaniaeth fel cenedl sy'n croesawu ac yn dathlu'r amrywiaeth, a'r manteision cymdeithasol a diwylliannol ar ddaw ar sail hynny.

Roedd yn dorcalonnus clywed bod y strwythurau i gefnogi pobl anabl ac aelodau o gymunedau ethnig lleiafrifol wedi bod yn annigonol ers tro. Mae'r diffyg cynrychiolaeth yma hefyd yn amlwg yn ddaearyddol, gyda 43 y cant o benodiadau cyhoeddus yn byw mewn codau post CF a NP yn unig. Unwaith eto, gwelwn amcanion da’r Llywodraeth, fel y nodwyd yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol, yn methu â chael eu gwireddu mewn canlyniadau ymarferol.

Yn 2020, cyhoeddodd y Llywodraeth ei strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru’. Nod y strategaeth oedd casglu data gan holl aelodau byrddau cyhoeddus i lunio darlun sylfaenol ac i ddatblygu system gadarn i gasglu gwybodaeth am grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys cefndir economaidd-gymdeithasol, iaith a lleoliad daearyddol. Ond bum mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal heb weld y data hwn. Ac er gwaetha honiad bod hyn yn faes blaenoriaeth, dim ond un adroddiad ar y strategaeth a gafwyd mewn hanner degawd, ac mae'r ymrwymiad i ymgynghori ar dargedau ar gyfer amrywiaeth wedi diflannu’n llwyr. Os mai dyma yw gwerth blaenoriaeth gan y Llywodraeth hon, mae hynny'n warthus; mae pobl Cymru'n haeddu llawer gwell.

Mae hefyd yn bryderus gweld gorgynrychiolaeth o benodiadau sydd wedi datgan gweithgarwch gwleidyddol sylweddol yn y gorffennol. Yn ôl y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, roedd bron i chwarter o benodiadau yng Nghymru yn 2020-21 yn cwympo i'r categori yma, o gymharu â llai na 6 y cant yn San Steffan. O ystyried y sylw a'r pryder cyfiawn dros y blynyddoedd diwethaf am wleidyddoli sefydliadau cyhoeddus, gobeithiaf yn fawr y bydd y canfyddiadau hyn yn sbarduno ymateb brys.

Un o'r problemau craidd yw nad oes gennym system benodol yng Nghymru; rydym yn ddibynnol ar fframwaith Lloegr a Chymru unwaith eto, heb wasanaethu buddiannau Cymru yn ddigonol. Fel y nododd yr adroddiad, nid fu Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru gymaint ag y byddai wedi dymuno. Mae angen i ni felly lunio gweithdrefn benodol gyhoeddus newydd sy'n addas i Gymru, gan edrych ar esiamplau fel yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae trefniadau penodol i'r wlad yn bodoli. Yn ogystal, mae angen sefydlu ysgol llywodraethiant i Gymru, rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers tro, i hyfforddi arweinwyr sifil a gwella’r gefnogaeth a’r arweinyddiaeth ar ein byrddau cyhoeddus. Yn bwysicaf oll, mae angen ailgydio yn nodau’r strategaeth, sydd, mewn gwirionedd, wedi cael eu rhoi o’r neilltu gan y Llywodraeth bresennol, gyda’r egni penderfynol sydd wedi bod ar goll hyd yn hyn. Mae amser yn brin ac mae Cymru yn haeddu gwell. Diolch yn fawr.

17:00

Treuliodd y pwyllgor amser hir yn ymchwilio i benodiadau cyhoeddus. Mae craffu yn golygu ceisio gwneud pethau'n well. Mae'n anodd iawn ceisio gwneud pethau'n well pan fyddwch chi'n delio â phobl nad ydynt eisiau gwneud hynny. Rwy'n cymeradwyo'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor i'r Senedd. Nid beirniadaeth o Weinidogion yw hon, ond un sy'n feirniadol iawn o uwch-weision sifil. Rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yw edrych ar waith y Llywodraeth. Fe wnaethom gyfarfod ag uwch-weision sifil y Llywodraeth a oedd, ar y gorau, yn fawr o gymorth, neu yn fy marn i, ac ym marn aelodau eraill o'r pwyllgor o bosibl, yn bendant yn rhwystrol.

Weithiau, roedd yr ymchwiliad fel pennod o Yes Minister, heb yr hiwmor, ond gyda'r niwlogrwydd bwriadol. Mae ymchwiliadau'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaeth gyhoeddus yn wahanol i bwyllgorau eraill. Anaml iawn y bydd ganddynt Weinidogion y Llywodraeth i'w holi. Mae'n cwestiynu uwch-weision sifil ynghylch cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaethau cyhoeddus.

Fel Aelodau eraill, rwy'n flin ac yn siomedig nad yw'r ymateb a gawsom yn derbyn unrhyw un o'r argymhellion. Rwyf i, fel Aelodau eraill, yn credu bod yr ymateb i ymholiad am benodiadau cyhoeddus yn warthus, ac yn dangos diffyg parch sy'n ffinio ar ddirmyg, nid yn unig at y rhai ohonom sy'n aelodau o'r pwyllgor hwnnw, ond at y Senedd ei hun.

Rwy'n mynd i dynnu sylw at rai o'r casgliadau na chawsant eu derbyn. Fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi datganiad clir i ni ar y pum maes datblygu a nodwyd gan yr adolygiad thematig o waith recriwtio byrddau cyhoeddus. Dylai'r datganiad nodi'n glir pa gamau sy'n cael eu cwblhau ai peidio, gan nodi sut y mae'r camau'n cael eu cwblhau, ac os nad ydynt wedi'u cwblhau, pam. Yr ymateb i bob un oedd 'ar waith'. Y rhan fwyaf cadarnhaol o'r ymateb oedd:

'Mae’r pum maes hyn yn cael eu datblygu fel rhan o’r Rhaglen Diwygio Penodiadau Cyhoeddus ehangach. Bydd diweddariad pellach yn cael ei roi i’r Pwyllgor yn ystod hydref 2025 fel rhan o’n gwaith adrodd parhaus ar ddiwygio penodiadau cyhoeddus.'

Gan fod y strategaeth ffurfiol wedi dod i ben a heb unrhyw strategaeth olynol wedi'i rhoi ar waith, fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar frys i roi strategaeth a chynllun gweithredu penodiadau cyhoeddus annibynnol pwrpasol ar waith sy'n cwmpasu amrywiaeth a chynhwysiant yn ei ystyr ehangach, gan gynnwys iaith a lleoliad daearyddol. Yn anffodus, nid yw Adam Price yma heddiw, oherwydd treuliodd Adam Price lawer o amser yn ein cyfarfod yn trafod iaith a'r ffaith, mewn rhai rhannau o Gymru, ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n siarad Cymraeg os ydych chi mewn swydd gyhoeddus gan mai dyna'r iaith a ddefnyddir gan y mwyafrif helaeth o bobl yn y gymuned honno.

Yr hyn a oedd yn rhyfedd iawn i ni, ac rwy'n sicr yn credu ei fod yn rhyfedd, oedd bod gennym sefyllfa lle nad oeddent yn gwybod faint o bobl a oedd yn siarad Cymraeg. Mae hynny'n anodd i mi ei gredu. Pan fyddwch chi'n llenwi'r rhan fwyaf o ffurflenni, mae'n dweud 'Siaradwr Cymraeg—tic neu beidio'. Pam nad ydynt yn gwneud hynny, neu pam nad ydynt yn gallu darllen y ffurflenni hynny a chadw cyfrif—.

Ni fydd yn dderbyniol amsugno hyn i mewn i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', fel yr awgrymwyd, yn enwedig o ystyried bod cymaint o agweddau sylfaenol ar strategaeth 2020-23 sydd heb eu cyflawni eto. Fodd bynnag, rydym yn nodi, o ystyried yr amser byr sydd ar ôl yn nhymor y Senedd, y gallai Llywodraeth Cymru fod eisiau ystyried ailgyflwyno'r strategaeth bresennol tan fis Mai 2026. Credaf nad cynnwys y strategaeth yw'r broblem, ond diffyg cyflawni ymrwymiad a diffyg hyder y gellir gwneud hynny.

Mae'n anodd credu nad yw gweision sifil Llywodraeth Cymru yn gwybod beth yw cyfeiriadau post penodeion. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro am fap o benodiadau yn seiliedig ar ran gyntaf y cod post. Nid yw rhan gyntaf y cod post yn datgelu pwy yw pobl, ond mae'n darparu gwybodaeth am yr ardal lle maent yn byw. O'r wybodaeth sydd gennyf am benodiadau, rwy'n credu bod gan ardaloedd mwy cefnog gyfran lawer uwch o benodiadau Llywodraeth nag ardaloedd llai cefnog. Dylai penodiadau cyhoeddus fod yn gynrychioliadol o bobl Cymru. Dylent fod ar gael i bawb.

Nid oedd y pwyllgor yn argyhoeddedig fod digon yn cael ei wneud i ddatblygu ffrwd o dalent ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn argymell y dylid gwella'r dull o annog a chefnogi unigolion sy'n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys mwy o gyfleoedd i gysgodi a dull mwy cynhwysol o hyrwyddo'r swyddi sydd ar gael. Mae llawer ohonom yn cofio, cyn y Senedd, y dyn a oedd â chynifer o swyddi cyhoeddus nes ei fod yn gweithio wyth diwrnod yr wythnos.

Argymhellodd y pwyllgor, fel mater o flaenoriaeth, y dylid rhoi amserlen i'r pwyllgor yn nodi'r bwriadau a'r terfynau amser pendant, gydag adolygiad o'r strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, a datblygiad a gweithrediad strategaeth newydd. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd:

'nid ydym mewn sefyllfa i gyhoeddi amserlen gyflawni lawn eto.'

Rwyf wedi tynnu sylw at rai o'r argymhellion. Gan mai cynnig am gytundeb ar lawr y Senedd yw hwn, credaf y bydd yn cael ei dderbyn yn unfrydol, neu bron yn unfrydol. Nid yw'r ffaith nad yw hyn yn ddim gwell nag yn Lloegr yn rhoi unrhyw gysur o gwbl i ni.

I ddyfynnu o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan yn 2024:

'Nid oes gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus...hyder fod y broses benodiadau cyhoeddus yn effeithlon, yn dryloyw ac yn deg. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn rhybuddio nad yw'r broses benodiadau wedi'i sefydlu i annog amrywiaeth ymhlith cyfarwyddwyr anweithredol...gyda diffyg tryloywder ar ofynion ar gyfer annibyniaeth wleidyddol, a phenodiadau ar gyfer y rolau hyn yn cymryd llawer gormod o amser.'

Beth sy'n digwydd nesaf? Caiff yr adroddiad ei nodi a chaiff ymateb y Llywodraeth ei nodi, a byddant yn cael eu hanghofio, a bydd pethau'n parhau fel arfer. Neu—a dyma rwy'n gofyn amdano—ymchwiliad cyhoeddus allanol i sut y caiff penodiadau cyhoeddus eu gwneud fel mater o frys.

17:05

Wrth gwrs, mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi datgelu cyfres o fethiannau yn null Llywodraeth Cymru o ddod o hyd i ac o sicrhau cronfa eang ac amrywiol o ymgeiswyr o ansawdd uchel ar gyfer penodiadau yn y sector cyhoeddus. Rwyf eisoes wedi codi fy mhryderon yn gynharach ynghylch penodiadau pwyllgor a ddaeth ger ein bron, fel aelodau pwyllgor, ac roeddwn yn teimlo fel pe bai'n fait accompli i raddau helaeth. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at ddiffygion gan gomisiynydd penodiadau cyhoeddus Cymru a Lloegr, ac mae'n adroddiad hynod o ddamniol.

Yn y sesiynau tystiolaeth, cyflwynodd y prif swyddog gweithredu ohebiaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn datgelu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi casglu na dadansoddi data ar sawl maes allweddol, gan gynnwys nifer y siaradwyr Cymraeg ar fyrddau cyhoeddus; canran yr aelodau o fyrddau cyhoeddus sy'n byw y tu allan i Gymru; ac a yw data'n cael ei gasglu ar leoliadau preswyl penodeion cyhoeddus. Er bod Llywodraeth Cymru yn casglu data ar gyfeiriadau ymgeiswyr a'u gallu i siarad Cymraeg, nid yw'r wybodaeth hon wedi'i dadansoddi na'i chrynhoi. Mae hyn yn gamgymeriad mawr, yn enwedig pan fydd pwyllgorau'n craffu ar ymgeiswyr i sicrhau eu bod yn llwyr ddeall heriau ac anghenion ardaloedd penodol yng Nghymru. Mae diffyg data cynhwysfawr o'r fath yn peri pryder.

Yn ogystal, roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn brin o ddata ar gynrychiolaeth pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, pobl ag anableddau, pobl LHDTC+ ac unigolion ar fyrddau cyhoeddus. Er na ddylai'r nodweddion hyn ddylanwadu ar benodiadau unigol ynddynt eu hunain, mae'r data hwn yn hanfodol mewn gwirionedd fel y gall y Senedd ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hefyd yn peri cryn bryder fod yn rhaid i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ofyn am ragor o wybodaeth er mwyn cyflawni ei swyddogaethau craffu ei hun. Yn ychwanegol at hynny, mae strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant Llywodraeth Cymru bellach wedi dod i ben ers dros flwyddyn, heb unrhyw werthusiad, ymgynghoriad, camau gweithredu na chynllun ar waith i'w diweddaru na chael un arall yn ei lle.

Mae'r data sydd ar gael yn peri pryder. O'r 391 o geisiadau a wnaed i gyrff cyhoeddus rheoleiddiedig, gwnaed 42.7 y cant gan unigolion yn ne-ddwyrain Cymru, gyda 56.4 y cant o'r rheini'n cael eu penodi. Dim ond 4.3 y cant o'r ymgeiswyr a oedd yn dod o ganolbarth Cymru. Mae'r ffigurau hyn yn awgrymu anghydbwysedd daearyddol mewn penodiadau cyhoeddus, gan amlygu posibilrwydd fod rhai ardaloedd o Gymru heb gynrychiolaeth ddigonol a heb eu clywed. Er bod strategaeth Llywodraeth Cymru yn amlinellu pwysigrwydd casglu a rhannu data, mae'n amlwg nad yw hyn wedi'i wneud yn effeithiol. Fel y nododd y pwyllgor, ar y gorau, byddai Llywodraeth Cymru yn cyflawni pwynt gweithredu 1 o amcan 1, ond yn hwyr iawn yn y broses—bum mlynedd yn rhy hwyr, i fod yn fanwl gywir. Ar y gwaethaf, efallai nad yw wedi'i gyflawni o gwbl. A bydd yn rhaid inni aros tan 2025 i weld unrhyw gynnydd. Beth bynnag, mae hyn yn adlewyrchu hanes gwael iawn o gyflawni ar bwynt gweithredu allweddol yn un o strategaethau canolog y Llywodraeth.

Tynnodd y pwyllgor sylw hefyd at ei bryderon ynghylch newidiadau i raglen yr adolygiad teilwredig, a fydd yn symud tuag at fodel hunanasesu newydd yn lle'r system flaenorol, er bod problemau llywodraethu difrifol eisoes wedi codi o dan y model gweithredol fel y gwelwyd yn Amgueddfa Cymru. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i adolygu'r newidiadau hyn ac i roi gwybod i'r pwyllgor ynglŷn â sut y bydd yr adolygiadau hyn yn cael eu monitro.

Thema gyffredinol yr adroddiad hwn yw pryder dwys ynghylch diffyg tryloywder a diffyg cyflawni. Un o'r achosion a archwiliwyd gan y pwyllgor yw'r methiant i hyd yn oed sefydlu'r grŵp llywodraethu, ac rwy'n cytuno gyda'r pwyllgor fod cael strategaeth ar waith am dair blynedd heb lywodraethu trylwyr na monitro ei gweithrediad yn destun pryder difrifol pellach. Heb yr oruchwyliaeth hon, gall problemau a heriau sylweddol fynd heb eu nodi a heb eu datrys. At ei gilydd, mae'r adroddiad hwn yn peri cryn bryder yn wir. Dylid ei ddefnyddio i arwain camau brys i fynd i'r afael â'r methiannau a nodwyd. Rwy'n credu bod hwn yn fater difrifol iawn. Yn y pen draw, mae'n rhaid sicrhau tryloywder, gonestrwydd, uniondeb ac atebolrwydd ym mhob penodiad i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Diolch.

17:10

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus am yr hyn rwy'n ei ystyried yn adroddiad rhagorol, a dylid canmol pawb am eu gwaith. Rwyf am ganolbwyntio ar wrandawiadau cyn penodi, sef rhan 7 o'r adroddiad, gan y credaf eu bod yn elfen hollbwysig o benodiadau cyhoeddus. Maent i fod yn destun craffu mewn democratiaeth, a chredaf fod hynny'n bwysig tu hwnt gan fod y gwrandawiadau hyn i fod i wneud un peth syml: sicrhau tryloywder ac atebolrwydd yn y system. Maent yn rhoi cyfle i'r Senedd holi ymgeiswyr cyn iddynt ymgymryd â rolau sydd â phŵer a chyfrifoldeb go iawn yn ein gwasanaethau cyhoeddus—rolau sy'n llunio ein byrddau iechyd, ein cyrff diwylliannol, ein rheoleiddwyr a'n sefydliadau sy'n wirioneddol bwysig i fywydau pobl yma yng Nghymru.

Ond y broblem yw mai dyna sut y dylent weithio, ond nid ydynt yn gweithio ar hyn o bryd. Yr hyn y mae'r pwyllgor wedi'i ddatgelu, yn glir ac yn argyhoeddiadol, yw bod y gwrandawiadau hyn wedi dod yn fawr mwy nag ymarfer ticio blychau i'r Llywodraeth. Cânt eu trin fel anghenion gweithdrefnol yn hytrach na'r oruchwyliaeth ystyrlon sy'n rhan o rôl y pwyllgorau yma yn y Senedd. Mewn gwirionedd, yr hyn welsom, ac fe nododd y pwyllgor hyn, yw bod ymgeiswyr eisoes wedi dechrau'r swyddi y maent i fod yn eu gwneud cyn i'r pwyllgorau gael cyfle i graffu ar yr ymgeiswyr hyn mewn gwirionedd. Ni chredaf fod hynny'n briodol, a gwn nad yw'r pwyllgor yn credu bod hynny'n briodol, gan fod angen inni graffu ar y bobl hyn.

Daw cydnabyddiaeth ariannol sylweddol gyda rhai o'r swyddi hyn hefyd. Mae'n bwysig iawn, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a materion eraill, fod y Senedd yn cael dweud ei dweud, oherwydd ar hyn o bryd, nid goruchwylio yw'r hyn a wnawn, dim ond darn o theatr lle rydym yn cymryd arnom ein bod yn gwneud hynny. Ni chredaf mai dyna sydd angen ei wneud. Perfformiad yw hynny. Rydym yn dweud ei fod yn ymwneud ag atebolrwydd, yr hyn a wnawn, ond ar hyn o bryd, fel y dywedais, mae braidd yn ffug. Theatr yw'r cyfan, ac yn fy marn i, nid yw'n cyflawni'r hyn y mae'r bobl ei eisiau, gan fod y cyhoedd yn disgwyl gwell. Pan fydd rhywun yn cael eu penodi i swydd gyhoeddus uwch, dylent allu dangos eu profiad a'u haddasrwydd, a'u hannibyniaeth ar y Llywodraeth, a byddaf yn codi hynny ar y diwedd. Dylid eu holi cyn iddynt ddechrau gan eu bod yn gwneud penderfyniadau ar ran pobl Cymru, ac ni ddylem orfod eu cwestiynu ar ôl iddynt gael eu penodi a phan fydd pethau wedi digwydd.

Ond beth oedd ateb y Llywodraeth i hyn? Fe wnaethant wrthod codeiddio gwrandawiadau cyn penodi yn y Rheolau Sefydlog, ac fe wnaethant wrthdroi unrhyw gamau i gryfhau'r broses ar gyfer pwyllgorau yma. Maent yn mynnu bod y dulliau mewnol presennol yn ddigon, hyd yn oed pan fo'r dulliau hyn yn amlwg wedi methu dro ar ôl tro. Ond gadewch inni beidio â gwneud esgusodion, gadewch i ni ei alw'n beth ydyw: gwrthodiad y Llywodraeth, neu hyd yn oed, fel y dywedodd Mike, gwrthodiad rhai uwch-weision sifil, i dderbyn craffu ac amharodrwydd i ildio rheolaeth, ac ni chredaf fod hynny'n ddigon da. Os yw Gweinidogion yma o ddifrif ynglŷn ag adfer hyder yn y ffordd y gwneir penodiadau cyhoeddus, dylai ddechrau yma: yng nghartref democratiaeth yng Nghymru, gan roi rôl briodol i bwyllgorau'r Senedd yn y broses benodi, fel y dywedais yn gynharach, nid eu derbyn yn ddifeddwl fel ymarfer ticio blychau i'r Llywodraeth.

Maes arall yr hoffwn ei drafod yw'r amserlen dynn iawn y mae'r Llywodraeth yn gofyn i bwyllgorau gwblhau adroddiadau o'i mewn. Mae rhoi 48 awr yn unig i bwyllgor gwblhau popeth ar ôl penodiad yn amser byr iawn, ac rwy'n credu bod gwir angen i'r Llywodraeth edrych ar hynny.

Mater arall y credaf ei fod yn bwysig iawn yw'r un wynebau yn y penodiadau hyn. Maent yn mynd rownd a rownd—yr un bobl yn cael eu hailbenodi i wahanol fyrddau. Gwn fod y Gweinidog yn ciledrych arnaf. Mae un—fy rhagflaenydd, Kirsty Williams—yn gwasanaethu ar ddigon o fyrddau ar hyn o bryd beth bynnag, ond mae'r wyneb hwnnw'n dod rownd a rownd eto wrth iddi gael ei hailbenodi i wahanol swyddi. A yw hynny'n iawn? Ai hi yw'r unigolyn gorau ar gyfer y rôl? Nid ydym yn gwybod am fod Llywodraeth yn dewis a dethol y bobl hyn, weithiau, ar gyfer y rolau hyn, ac ni chredaf fod hynny'n briodol.

Un peth sy'n fy nharo, ac un peth y credaf ei fod yn bwysig iawn, ond efallai nad yw'n cael ei grybwyll gymaint â hynny yn yr adroddiad, yw mater annibyniaeth ar y Llywodraeth, oherwydd weithiau, rydym yn gweld ymgeiswyr a chanddynt gysylltiadau cryf â phlaid wleidyddol y Llywodraeth bresennol. Ni chredaf fod hynny'n briodol, a chredaf ei fod yn rhoi cyfle i bleidiau gwleidyddol eraill dynnu sylw at y problemau a rhai o'r methiannau yn y Llywodraeth. Gallaf weld dau o Ysgrifenyddion y Cabinet yn cwyno yn y blaen. Mae un ar hyn o bryd a oedd yn asiant i blaid wleidyddol yma yng Nghaerdydd, a'r un sy'n Llywodraeth. Felly, os ydym am agor y prosesau hyn, mae angen inni sicrhau eu bod yn agored iawn ac yn dryloyw iawn, ac rwy'n canmol gwaith y pwyllgor. [Torri ar draws.] Roeddech chi'n cytuno â mi pan oedd—

17:15

Nid wyf am gael unrhyw sgyrsiau—[Torri ar draws.] Nid wyf am gael unrhyw sgyrsiau ar draws y Siambr, os gwelwch yn dda. Cawsoch eich cyfle i wneud eich cyfraniad, ac fe'i gwnaethoch, a nawr fe gawn y cyfraniad nesaf. A'r unigolyn nesaf yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 17:15:57
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Prynhawn da, bawb, a diolch am y cyfle i gyfrannu ac i ymateb i'r ddadl bwysig iawn heddiw. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei ymchwiliad i benodiadau cyhoeddus a'r ddau adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth. Mae'r rhain yn deillio o adolygiad hirhoedlog y pwyllgor i benodiadau cyhoeddus, ac rydym yn parchu'r adroddiad hwnnw a'ch ymrwymiad i welliannau. A gaf i ddweud, o'r cychwyn cyntaf, ein bod yn croesawu her a chraffu, ac rwy'n gobeithio y bydd fy ymateb heddiw yn dangos y camau clir a phendant ar y pryderon a godwyd, yn enwedig ynghylch amrywiaeth, llywodraethiant, tryloywder a'r angen i foderneiddio mewn penodiadau cyhoeddus? Mae'n drueni fod y ddarpariaeth hanesyddol yn y maes hwn wedi methu cyrraedd y disgwyliadau. Dyna pam fy mod wedi gofyn am—ac rydym yn cyflawni—rhaglen ddiwygio drylwyr, gan sicrhau bod penodiadau cyhoeddus o ddifrif yn adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir gennym, a bydd adroddiad eich ymchwiliad yn ein helpu i wneud hyn.

Ein hegwyddorion yw tegwch a thryloywder, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i ymgorffori egwyddorion 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'. Dyna oedd y strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant arloesol ar gyfer penodiadau cyhoeddus a gomisiynwyd ac a gyhoeddwyd gennym. Yn unol ag argymhelliad 7 yn adroddiad y pwyllgor—ac mae hyn wedi'i godi yn y ddadl—rwy'n falch o gadarnhau ein bod yn ymestyn strategaeth 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' tan fis Mai 2026, mewn ymateb i'ch argymhelliad. Mae'r strategaeth yn cael ei gwerthuso, fel y crybwyllwyd hefyd, ac wrth gwrs, fe wnaethom ddweud hyn yn ein hymateb. Bydd canlyniadau'r gwerthusiad hwnnw'n helpu i lunio cam nesaf ein dull gweithredu, gan sicrhau ei fod wedi'i lywio gan dystiolaeth a phrofiad bywyd. Rydym yn gweld momentwm. Mae diwygio'n weladwy, ac mae wedi cyflymu dros y chwe mis diwethaf. Rydym eisoes yn gweld gwelliannau.

Rwy'n falch iawn fy mod i nawr yn gallu rhannu ein data Cais diweddaraf gyda chi, ar gyfer mis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025, sy'n dangos cynnydd calonogol iawn. Felly, mae 20.5 y cant o benodeion o gefndiroedd ethnig leiafrifol, i fyny o'r 14.4 y cant a nodwyd yn flaenorol; roedd 61.5 y cant o benodiadau'n fenywod; mae 12.8 y cant yn nodi eu bod yn anabl, sy'n fwy na dwbl y ffigur blaenorol a nodwyd; ac mae gan 25.6 y cant o benodeion sgiliau iaith Gymraeg uwch, gan helpu i sicrhau bod byrddau'n adlewyrchu amrywiaeth ieithyddol ein cenedl, ein cenedl ddwyieithog, ac yn cefnogi uchelgeisiau 'Cymraeg 2050'. Felly, mae'r data hwn yn adlewyrchu cynnydd sydd i'w groesawu, ac rwy'n falch fy mod yn gallu ei rannu gyda chi heddiw. Mike.

Diolch, Weinidog. Os oes gennych wybodaeth i ni nawr ynglŷn â nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg pan gânt eu penodi, pam na allai'r gwasanaeth sifil ddweud hynny wrthym pan oeddem yn cynnal ein hymchwiliad?

Wel, rwy'n falch fy mod wedi gallu rhannu hyn gyda chi heddiw—ynghyd â'r holl ystadegau a data arall, yn wir, a gwn y byddant yn galonogol i chi. Ond diolch am y pwynt ynglŷn â rhagor o eglurder a thryloywder ynghylch ymgeiswyr a phenodeion sy'n siarad Cymraeg.

Felly, mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i'r egwyddorion a nodir yn ein strategaeth, 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru'. Mae cyflwyno ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn bwysig i hyn, oherwydd fel y gwyddoch, fe'i cydgynhyrchwyd gyda chymunedau a grwpiau amrywiol ledled Cymru, ac yn ein cynllun gweithredu diweddaraf, mae hyn yn cynnwys nodau i wella amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus.

Ond hoffwn dynnu sylw hefyd at ein cynllun gweithredu ar hawliau pobl anabl, a fydd yn ein helpu i hyrwyddo hawliau a chyfleoedd pobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys cynrychiolaeth ar ein cyrff cyhoeddus, ac mae hwnnw'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Cynhaliwyd digwyddiad, heddiw yn wir, ynghylch yr ymgynghoriad ar y cynllun hwnnw.

Rydym hefyd yn buddsoddi yn y dyfodol. Ein cyllid ar gyfer Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, partneriaeth rhwng Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Thîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru—. Unwaith eto, o ran mentora ac ymgysylltu a grymuso ymgeiswyr, mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn wirioneddol bwysig. Mae gennym raglen Academi Wales ar gyfer darpar aelodau bwrdd, sy'n helpu i adeiladu ffrwd gref ac amrywiol o arweinwyr y dyfodol, yn unol ag argymhelliad 13 yn adroddiad y pwyllgor. Ac rydym hefyd yn recriwtio swyddog arweiniol amrywiaeth, cynhwysiant ac allgymorth penodedig i gefnogi cam nesaf ein ffrwd dalent a'n gwaith ymgysylltu.

Rwyf am ymateb i argymhellion 5 a 6 yn adroddiad y pwyllgor, gan dynnu sylw at yr angen i ailfrandio ac ail-lansio gwasanaeth recriwtio cyrff cyhoeddus a'r broses benodi, ac wrth gwrs, mae'r pwyntiau a wnaed yn adroddiad eich ymchwiliad ac yn y ddadl yn bwysig. Rydym eisoes wedi lansio tudalennau gwe cyhoeddus newydd i gefnogi darpar ymgeiswyr, a thrwy'r rhain, rydym wedi cyflwyno canllawiau newydd, cyngor i ymgeiswyr tro cyntaf ac astudiaethau achos aelodau bwrdd go iawn, a byddant yn cael eu datblygu ymhellach yn yr iteriad nesaf. Mae'n bwysig, ac rydym yn benderfynol o roi'r hyder hwnnw i'r Senedd a'r pwyllgor fod y gwasanaeth yn gadarn, yn gryfach ac yn dryloyw.

Mewn ymateb i argymhelliad 14, rydym wedi cyflwyno canllawiau ar gyfer ymgeiswyr sydd angen addasiadau rhesymol, ac mae hyn wedi'i godi y prynhawn yma. Mae ein deunyddiau ar gyfer ymgeiswyr bellach yn gwahodd unigolion i gysylltu â'r tîm i drafod unrhyw addasiadau neu gymorth a allai fod ei angen arnynt. Mae'n hanfodol fod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cefnogi drwy gydol y broses. Rydym hefyd wedi datblygu a rhannu canllaw ymarferol ar arferion cynhwysol i fyrddau gyda phob cadeirydd yn dilyn cyfarfod ein rhwydwaith cadeiryddion byrddau. Rydym wedi cryfhau ymgysylltiad ar draws y Llywodraeth drwy'r grŵp cyfeirio cyrff cyhoeddus a chyfathrebu â phartneriaid.

Ar ddata, rydym wedi ymateb i argymhelliad 11 drwy ddarparu'r data a oedd ar gael cyn tystiolaeth y pwyllgor gyda swyddogion ar 17 Hydref y llynedd a gohebiaeth ddilynol, ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwella ein systemau data, yn enwedig olrhain canlyniadau ar ôl penodi, ac rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer hynny yn y dyfodol.

Mae argymhelliad 20 yn awgrymu adolygiad o wrandawiadau cyn penodi. Rydym wedi egluro'r broses ar gyfer craffu cyn penodi mewn perthynas â rolau arwyddocaol, gan ddarparu mwy o dryloywder a chysondeb, ac wedi cymryd camau i gryfhau trefniadau llywodraethu ac egluro disgwyliadau ar gyfer penodiadau, gan gynnwys prosesau craffu wedi'u diweddaru a mwy o dryloywder.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud ein bod yn gwybod bod mwy i'w wneud. Yn fwyaf arbennig, yr adroddiad atodol, byddwn yn ymateb i hwnnw. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym god llywodraethiant penodol i Gymru ar benodiadau cyhoeddus. Rydym yn cydnabod argymhellion 1 i 3 ynghylch y posibilrwydd o sefydlu comisiynydd penodiadau cyhoeddus i Gymru. Wel, wrth gwrs, i wneud hynny, byddai angen deddfwriaeth sylfaenol, cydsyniad Llywodraeth y DU a fframweithiau statudol newydd—peidiwch â'i ddiystyru, ond ein blaenoriaeth yw cyflawni gwelliannau gweladwy nawr o fewn y model rheoleiddio sy'n cael ei adolygu.

Felly, nid rheidrwydd moesol yn unig yw arweinyddiaeth amrywiol. Mae'n ysgogi gwell penderfyniadau ac yn cyflawni gwell canlyniadau. Bydd rhai gwelliannau'n cymryd amser. Mae'r cyfeiriad yn glir. Rydym yn gweithredu. Rydym yn gwrando. Rydym yn gwella. A hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eich adroddiad. Mae wedi gwneud pethau'n well a bydd yn parhau i wneud pethau'n well. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i adeiladu system gynhwysol, dryloyw a theg, un sy'n ennill ymddiriedaeth y cyhoedd ac sy'n cyflawni gwerth cyhoeddus. Diolch yn fawr.

17:20

Diolch i bawb am eu cyfraniadau. Peredur Owen Griffiths a ddechreuodd. Fel y dywedodd, nid yw'r amcanion wedi'u cyflawni. Nid oes gennym system i Gymru sy'n darparu gwasanaeth digonol i Gymru, ac mae angen inni ailymgysylltu â nodau'r strategaeth, nad yw'n digwydd ar hyn o bryd.

Nododd Mike Hedges, a chwaraeodd ran werthfawr yn y gwaith craffu a wnaed ar gynhyrchu'r Bil hwn, ein bod wedi treulio llawer o amser yn craffu ar hyn. Cyfeiriodd at swyddogion Llywodraeth Cymru, a dywedodd fod yr ymchwiliad, yn y cyd-destun hwnnw, fel pennod o Yes Minister. Dywedodd fod yr ymateb yn warthus, yn dangos diffyg parch a oedd yn ymylu ar ddirmyg at y Senedd ei hun. Siaradodd am y diffyg hyder mewn gwneud neu roi'r camau angenrheidiol ar waith. Nododd nad oedd y pwyllgor wedi'i argyhoeddi bod digon yn cael ei wneud i greu ffrwd o dalent yng Nghymru. Cyfeiriodd at ddiffyg tryloywder a'r angen am ymchwiliad i benodiadau cyhoeddus fel mater o frys.

Nododd Janet Finch-Saunders fod yr adroddiad wedi datgelu methiannau difrifol yn null gweithredu Llywodraeth Cymru o ran dod o hyd i ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Dywedodd nad yw Llywodraeth Cymru wedi casglu na dadansoddi data ar benodeion cyhoeddus, ac felly nad yw'n deall yr heriau, y rhwystrau a'r cyfleoedd a gollwyd yn sgil hynny. Dywedodd ei bod yn destun pryder fod yn rhaid i'r pwyllgor ofyn am ragor o wybodaeth er mwyn cyflawni ei swyddogaethau, a'i bod yn destun pryder, yn yr ymateb, y dywedwyd wrthym na ddylem fod wedi bod yn gofyn, i bob pwrpas, i gymryd un o'r camau a argymhellwyd gennym. Nid lle'r Llywodraeth yw dweud wrth bwyllgor craffu, yn enwedig un o uwch-bwyllgorau'r Senedd, beth y dylai neu na ddylai fod yn ei wneud yn rhan o'i ymchwiliadau. Dywedodd fod yr anghydbwysedd daearyddol mewn penodiadau a wnaed yn adlewyrchu hanes gwael iawn o gyflawni. Mae thema gyffredinol yr adroddiad hwn yn destun cryn bryder, meddai, ac yn datgelu diffyg tryloywder ac atebolrwydd, a bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r methiannau a nodwyd yn y gwasanaeth.

James Evans, diolch am gydnabod bod hwn yn adroddiad rhagorol. Cyfeiriodd yn benodol at y ffaith nad yw gwrandawiadau cyn penodi yn gweithio fel y dylent, gan nad ydynt bellach yn fawr mwy nag ymarfer ticio blychau i Lywodraeth Cymru, pan fo angen inni graffu ar yr ymgeiswyr dan sylw, a gwrthododd y Llywodraeth a/neu uwch-weision sifil dderbyn bod craffu'n bryder—os yw'r Gweinidog o ddifrif ynglŷn â sut y caiff penodiadau cyhoeddus eu gwneud, byddai hwn yn lle da i ddechrau—a mater allweddol annibyniaeth ar y Llywodraeth.

Yn ei hymateb, croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, neu nododd fod Llywodraeth Cymru yn croesawu, her a chraffu, dywedodd ei bod yn destun pryder fod y ddarpariaeth hanesyddol wedi methu bodloni'r disgwyliadau, a nododd fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni rhaglen ddiwygio drylwyr. Fel y dywedais, ac fe'i cadarnhaodd eto, mae'r strategaeth wedi'i hymestyn hyd at 2026. Yna, darparodd ystadegau, a oedd yn swnio fel pe baent yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ond ni chawsant eu rhannu gyda ni pan oeddem eu hangen, ac felly nid yw'r pwyllgor wedi eu pwyso a'u mesur yn rhan o'i waith craffu. Rhestrodd gamau gweithredu na chafodd eu rhannu gyda'r pwyllgor, ac unwaith eto felly, ni chawsom gyfle i graffu ar y camau gweithredu hynny a gweld a yw pethau fel y dylent fod ai peidio.

Fe wyddom fod mwy i'w wneud, fel y dywedodd, felly rwyf am gloi drwy ofyn: a yw hynny'n cynnwys darparu ymateb diwygiedig i'r adroddiad hwn, gan nodi mewn gwirionedd a yw'r argymhellion wedi'u derbyn, eu gwrthod neu eu derbyn yn rhannol? Fel y dywedais yn gynharach, ac fe'i dywedaf eto, roedd yr ymateb yn annerbyniol ac yn gwyro'n bryderus oddi wrth y confensiwn blaenorol. Gwnaed ein hargymhellion gyda bwriadau dilys i wneud gwelliannau, ac er budd atebolrwydd, rydym yn disgwyl i ymateb Llywodraeth Cymru i bob argymhelliad gael ei nodi'n glir, gydag esboniad llawn o'r rhesymau. Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati'n gyflym i fyfyrio ar eu dull gweithredu, ac ystyried darparu ymateb diwygiedig ar frys.

Rwy'n gobeithio bod y Senedd gyfan yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu'r ymateb hwnnw nawr, oherwydd os na wnaiff hynny, byddai'n dangos diffyg parch tuag at y pwyllgor a diffyg parch tuag at y Senedd hon a fyddai'n ymylu ar ddirmyg tuag at rôl y pwyllgor a'r Senedd, a'r rolau y maent yn eu chwarae yn ein democratiaeth gynrychioliadol. Diolch yn fawr.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl Plaid Cymru: Fformiwla cyllido i Gymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Eitem 9 heddiw yw dadl Plaid Cymru, fformiwla cyllido i Gymru, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8938 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod model cyllido presennol Cymru, yn seiliedig ar Fformiwla Barnett, wedi dyddio ac yn annheg.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr achos i Lywodraeth y DU dros ddisodli Fformiwla Barnett a rhoi setliad newydd o gyllido teg i Gymru yn ei le.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn o allu cyflwyno'r cynnig yma gerbron y Senedd heddiw yma. Mae tegwch yn rhywbeth ddylai fod yn gonglfaen i unrhyw berthynas iach, ac mae'r un peth yn wir am berthynas gyfansoddiadol sydd i fod yn undeb o bartneriaid cyfartal. Felly, mae'r ffaith ein bod ni yma unwaith eto, yn gorfod dal i fyny y tegwch rydym ni wedi bod yn chwilio amdano fo ers gwawr datganoli, yn dweud cymaint, onid ydy hi? Mae'n ddamniol, yn wir, nid yn unig o statws ymylol iawn Cymru yn yr undeb yma o anghydraddoldebau, ond hefyd esgeulustod llwyr gweinyddiaethau olynol San Steffan tuag at ein hanghenion ni. Yn anffodus, mae'r fargen wael mae Cymru'n ei derbyn yn cael ei dangos mewn sawl ffordd wahanol yn y ffaith bod Llywodraethau, un ar ôl y llall, wedi gwrthod datganoli Ystâd y Goron, wedi gwrthod datganoli y system gyfiawnder. Ond mae'r broblem yn cael ei dangos ar ei hamlycaf, dwi'n meddwl y gallwn ni gytuno, yn y trefniadau ariannu sy'n gwneud cam gwag â phobl Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae annigonolrwydd fformiwla Barnett wedi bod yn amlwg byth ers ei sefydlu, sydd, wrth gwrs, yn rhagflaenu'r cyfnod datganoli. Ni chafodd ei gynllunio gyda Chymru mewn golwg, a dywedodd pensaer y fformiwla ei hun hyd yn oed, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, Joel Barnett, ei fod bob amser wedi'i fwriadu i fod yn fesur dros dro, ac nid yn un wedi'i anelu at Gymru, ond yn fesur dros dro i gynorthwyo trefniadau cyllido yn yr Alban cyn refferendwm 1979.

Nawr, o ystyried eu dirmyg nad oedd prin wedi'i guddio tuag at ddatganoli, nid yw'n syndod fod y Llywodraeth Geidwadol flaenorol heb ddangos fawr o ddiddordeb yn y mater hwn, ac ar yr achlysuron prin y gwnaethant hynny, dim ond i ddefnyddio anghydraddoldebau Barnett i roi llai fyth i ni y gwnaed hynny, fel y gwelsom gyda sgandal HS2, sy'n parhau wrth gwrs. Ond am flynyddoedd, hyd at yr etholiad cyffredinol diwethaf bron i flwyddyn yn ôl, cawsom addewid y byddai pethau'n wahanol iawn gyda Llywodraeth Lafur mewn grym yn San Steffan. Dywedwyd wrthym gan y Prif Weinidog ar y pryd, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid bellach, ddechrau'r llynedd, y byddai Llywodraeth Lafur newydd y DU yn darparu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Ychydig ddyddiau cyn yr etholiad cyffredinol, sicrhaodd ei olynydd fel Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Lafur newydd y DU yn

'sefyll dros ddyfodol Cymru, dros gyllid teg',

a chanlyniadau teg. Rwy'n dyfynnu'r cyn-Brif Weinidog yno. Ac wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog presennol wedi bod yn huawdl iawn, onid yw, ynghylch y manteision a fyddai'n deillio o'r hyn a elwir yn bartneriaeth mewn grym.

A pham y byddai pleidleiswyr Cymru yn eu hamau? Pam na fyddent yn credu eu geiriau? Wedi'r cyfan, ni fyddai'n ormod gofyn i Lafur wneud yn iawn i'r wlad y mae mor ddyledus iddi am ei llwyddiant etholiadol dros y blynyddoedd, ac am ei bodolaeth hyd yn oed, gellid dadlau. Ond yn anffodus, fel y dangosodd digwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf, nid yn unig ei bod y tu hwnt i unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Lafur y DU wedi etifeddu difaterwch—ac rwy'n dewis fy ngeiriau'n ofalus—eu rhagflaenydd tuag at y syniad o fargen deg i Gymru, maent wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o ddoctora fformiwla Barnett yn ddigywilydd ar ein traul ni.

Cawsom dreth ychwanegol o £72 miliwn ar Gymru, drwy gyfrifo diffygiol i ad-daliadau'r Trysorlys am y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn hollol iawn i fod yn ddig am y peth. 'Annhegwch sylfaenol' tuag atom, meddai, sy'n gadael cronfeydd wrth gefn Cymru mewn sefyllfa hynod ansicr ac sy'n gwaethygu pwysau ariannol ar ein hawdurdodau lleol a rhannau eraill o wasanaeth cyhoeddus sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

Mae HS2—rwyf wedi sôn amdano unwaith; fe'i clywch gennyf eto, heb amheuaeth—wedi parhau i fod yn sgandal o dan y Llywodraeth hon. Dim arian canlyniadol am arian sydd eisoes wedi'i wario, ac yn hollbwysig, dim arian canlyniadol i ddod. Dywedir wrthym am y gwariant sydd i ddod: degau o biliynau o bunnoedd yn gadael Cymru, colli biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus i ni. Gwelsom greu sgandal HS2 newydd hyd yn oed, trwy ailddynodi prosiect East West Rail yn brosiect Cymru a Lloegr, twyll a fydd yn gweld Cymru'n colli tua £360 miliwn arall. A hynny ar ben y £4.6 biliwn—fe ddefnyddiaf ffigur Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei hun—sydd eisoes yn ddyledus i ni o HS2, a'r biliynau'n fwy, wrth gwrs, y cytunwyd yma eu bod wedi eu cadw'n ôl o ganlyniad i danfuddsoddi hanesyddol yn ein rhwydwaith rheilffyrdd gan Lywodraethau olynol, Llafur a Cheidwadol, y DU.

A phythefnos yn ôl, cawsom adolygiad o wariant a oedd, er ei fod yn cynnwys rhai ffigurau mawr, am fod cyllidebau Llywodraeth yn gwneud hynny, a bod cyllidebau'n tueddu i godi hyd yn oed mewn amseroedd gwael, yn adolygiad cynhwysfawr o wariant a fydd yn gadael Cymru i wynebu'r cynnydd gwaethaf mewn termau real yn ei gwariant o ddydd i ddydd y tu allan i'r blynyddoedd cyntaf o gyni, a chyllideb gyfalaf sy'n crebachu ar adeg pan nad yw'r angen i fuddsoddi yn ein seilwaith cyhoeddus erioed wedi bod yn gliriach. Ydy, mae'r addewid o fuddsoddiad mewn seilwaith a fyddai'n dod o gael dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd yn doriad mewn gwirionedd, tra bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn y blynyddoedd i ddod, yn gweld cynnydd.

Mae honiad diweddar Prif Ysgrifennydd y Trysorlys y dylem ni yng Nghymru fod yn fwy diolchgar am y briwsion prin sy'n disgyn oddi ar y bwrdd yn nodweddiadol o'r dirmyg a ddangosir gan Lywodraeth y DU yn y ffordd y mae'n trin Cymru, a sut y mae'r driniaeth honno wedi cael ei normaleiddio yng nghoridorau grym San Steffan. A dyma ble mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo ei chyfran o'r cyfrifoldeb am fethu dwyn eu cymheiriaid Llafur yn y DU i gyfrif.

Gosodwyd y cywair yn gynnar gan y Prif Weinidog, a honnodd, mewn ymateb i fy llythyr yn syth ar ôl etholiad cyffredinol y llynedd, na fyddai ond yn gofyn am i fformiwla Barnett gael ei chymhwyso'n deg yn ei thrafodaethau gyda Phrif Weinidog newydd y DU. Nid y fformiwla Barnett newydd yr oedd Llafur wedi cytuno â ni fod ei hangen, ond cymhwyso'r fformiwla honno'n deg. Ceisio gwasgu annhegwch o system sy'n sylfaenol annheg. Gwrth-ddweud rhesymegol a oedd yn rhagfynegi'r math o gymnasteg feddyliol y mae ei Llywodraeth wedi'i defnyddio'n barhaus mewn ymgais enbyd i gyfiawnhau castiau'r Llywodraeth Lafur newydd hon yn y DU.

Ac fe gafodd yr arfer drwg hwn ei arddangos bythefnos yn ôl, pan wnaethant ddewis canmol yn hytrach na gresynu at adolygiad o wariant sydd hyd yn oed yn llai hael na pheth o'r grual tenau a gâi ei gynnig gan y gweinyddiaethau Ceidwadol blaenorol. Naill ai nad oeddent wedi darllen y print mân neu maent wedi dod mor gyfarwydd â'u partneriaid mewn grym yn camfanteisio arnynt fel eu bod wedi colli golwg ar sut beth yw bargen dda i Gymru mewn gwirionedd.

Dros y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnig ar ôl cynnig gan feinciau Plaid Cymru ar gyllido teg i Gymru gan San Steffan yn cael eu gwrthod gan y Llywodraeth yma mewn pleidleisiau, yn rhoi caniatâd i'w penaethiaid nhw yn Llundain i anwybyddu'r achos cryf dros ddiwygio Barnett. Rhywbeth sydd, gadewch i ni gofio, yn rhywbeth sydd â chefnogaeth y Siambr yma, y mwyafrif ohoni hi. Oherwydd y gwir ydy, os nad ydy Llafur yng Nghymru yn cymryd yr achos am gyllido Cymru yn deg o ddifrif yn eu gwaith o ddydd i ddydd, yn gwneud y galwadau ddydd ar ôl dydd, pa reswm sydd gan Lafur yn Llundain i wneud? Felly, tra fy mod i'n falch o weld y Llywodraeth o'r diwedd yn dweud eu bod nhw'n cefnogi ariannu teg i Gymru—a dwi'n gobeithio y byddan nhw'n cefnogi'r cynnig yma heddiw—y gwir ydy, mae amser wedi cael ei golli ac yn dal i gael ei golli, ac mae difrod yn dal i gael ei wneud.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi cael cyfleon dro ar ôl tro i brofi gwerth y bartneriaeth mewn grym i Gymru a phrofi dylanwad ar 10 Downing Street trwy roi hyn ar dop eu hagenda, ond y realiti ydy, dro ar ôl tro, maen nhw wedi profi'u parodrwydd i roi plaid o flaen gwlad ar y mater hwn, i beidio siglo'r cwch, ac yn gwneud hynny gan aberthu buddiannau Cymru yn y broses.

Ddirprwy Lywydd, gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio, cyfraddau syfrdanol o uchel o dlodi plant, seilwaith cyhoeddus sydd, yn ein hysbytai, ein hysgolion, a'n rhwydwaith rheilffyrdd wrth gwrs, yn llythrennol yn chwalu o flaen ein llygaid, ni allwn fforddio aros i Lafur atgoffa'i hun sut i sefyll dros Gymru. Ac roedd sylwadau'r Prif Weinidog i mi yn y cwestiynau yr wythnos diwethaf yn dweud llawer yn hynny o beth. Fe wnaeth fy nghyhuddo o gwyno bob amser am y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn trin Cymru. Fel pe bai gweld ein cenedl yn cael ei hamddifadu o werth biliynau o bunnoedd o gyllid mawr ei angen yn rhywbeth nad yw'n werth cwyno yn ei gylch, ond efallai fod hynny'n tanlinellu'r gwahaniaeth allweddol rhyngom ni a'r Blaid Lafur bresennol: ni wnawn ni fodloni nes bod tegwch i Gymru yn realiti diamod, cyflawn a diamwys, heb unrhyw esgusodion.

17:40

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Sam Rowlands i gynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Paul Davies, fel y'i nodwyd. Wrth gwrs, mae'r fframwaith cyllidol a'r fformiwla ariannu wedi bod yn ffynhonnell llawer o ddadlau dros y blynyddoedd. Nid yw bob amser yn rhywbeth sy'n ennyn teimladau mawr o reidrwydd, neu'n bachu'r penawdau angenrheidiol, ond fe wyddom yn y lle hwn fod cael y fformiwla ariannu'n iawn yn hanfodol i allu darparu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am gyflwyno'r ddadl sydd ger ein bron.

Ond rwyf am siarad am ein gwelliant ni'n benodol yn y rhan fwyaf o fy nghyfraniad, ac er efallai y gall yr hyn y bydd gennyf i'w ddweud fod yn eithaf sych ac ymylu ar fod yn ddiflas ar adegau, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nodi'r trosolwg byr o'r sefyllfa bresennol, fel bod mwy o gyd-destun i'r rheswm pam ein bod wedi cynnwys y gwelliant fel y mae wedi ei osod. I'ch atgoffa, ein gwelliant yw ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig gan Blaid Cymru i alw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru. 

Fel y mae'n sefyll, ac fel y gwyddom, mewn termau syml, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 gan Lywodraeth y DU am bob £1 a werir ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Bydd yr Aelodau yn y lle hwn yn gwybod mai dyma'r prif drefniant ariannu a gyflwynwyd yn dilyn adolygiad Llywodraeth Geidwadol y DU yn 2015 o gyllid i Gymru, a elwir yn fframwaith cyllidol—fframwaith cyllidol a oedd yn mynd y tu hwnt i'r angen a aseswyd ar y pryd o £1.18 am bob £1 a werid yn Lloegr. Rwy'n nodi arweinydd Plaid Cymru, ond hoffwn wthio'n ôl ar ei ddisgrifiad o 'ddirmyg' gan y Llywodraeth Geidwadol, o ystyried bod cynnydd o'r hyn a argymhellwyd ar gyfer fformiwla Barnett ar y pryd. Roedd hyn yn perthyn i'w gyfnod, yn 2015—

Diolch am dderbyn ymyriad. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn nodi bob amser nad cymwynasgarwch i Gymru ydyw; mae yna rannau o Loegr, gan gynnwys Llundain ei hun, sy'n cael lefelau uchel o gyllid, a dyna pam ein bod ni'n credu bob amser y dylai cyllid fod yn seiliedig ar angen, nad yw'n wir ar hyn o bryd, a dyna pam y mae angen y newid hwn arnom.

A dyna pam ein bod ni'n ei gefnogi, ond rwy'n credu ei bod yn werth cydnabod mai Llywodraeth Geidwadol y DU a aeth y tu hwnt i'r angen a aseswyd ar y pryd o £1.18 i fyny i £1.20, i gydnabod y gefnogaeth y mae Cymru'n ei haeddu, yn sicr.

Ond roedd hynny, 2015, yn perthyn i'w gyfnod, a digwyddodd yn sgil fframwaith comisiwn Holtham, a gychwynnwyd yn 2007, ac rydym i gyd yn gwybod bod hwnnw'n darparu £1.12, yn hytrach na £1.15, a argymhellwyd ar y pryd hefyd. Ond gydag adolygiad 2015, cafwyd rhagdybiaeth briodol y byddai adolygiadau cyfnodol o'r fframwaith hwn, a dyna pam ein bod ni'n cefnogi eich cynnig heddiw, oherwydd nid yw'r adolygiadau hynny wedi digwydd, fel roedd angen gwirioneddol iddynt ei wneud.

Ond mae ein gwelliant heddiw yn ymwneud â mwy nag elfennau Barnetteiddio cyllid yn unig, mae'n ymwneud hefyd â'r trefniadau cyllidol ehangach, y gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn rhwystredig yn eu cylch sawl gwaith ei hun. Rwyf am nodi nad ydym ni yng Nghymru wedi cael yr adolygiadau hynny ers 2015, tra bod yr Alban wedi cael o leiaf ddau adolygiad yn yr un cyfnod. Os caf nodi'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban ers 2015, mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r fframwaith sydd gan yr Alban bellach yn caniatáu iddynt godi eu terfynau blynyddol ar bwerau benthyca cyfalaf o ble roeddent ar £300 miliwn i £450 miliwn o fenthyca cyfalaf blynyddol, ac yn bwysig, maent yn codi'n unol â chwyddiant hefyd. Mae'r terfyn statudol ar gyfer cyfanswm y benthyca cyfalaf gan Lywodraeth yr Alban wedi cael ei godi i £3 biliwn, ac unwaith eto, mae'n codi bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Yn ogystal, mae terfynau benthyca adnoddau yr Alban wedi codi i £600 miliwn y flwyddyn, gyda therfyn cyffredinol o £1.75 biliwn, ac fel gyda'r terfynau cyfalaf, mae'n cynyddu yn unol â chwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn hefyd.

Felly, ar y meinciau hyn, ac ar draws y Siambr rwy'n siŵr, er efallai ein bod yn dadlau am flaenoriaethu gwariant gan Lywodraeth Cymru gyda'r arian sydd ar gael iddi, y peth lleiaf y dylem ei gael yng Nghymru yn fy marn i, ar y trefniadau cyllidol ehangach, yw symud yn unol â chwyddiant i sicrhau nad yw'r pwerau benthyca a chronfeydd wrth gefn yn cael eu gwanhau dros amser. Oherwydd ar hyn o bryd, bob blwyddyn, mae'r gallu neu'r cyfle i Gymru gyflawni ar ei hangen a aseswyd yn hanesyddol yn cael ei wneud yn anos oherwydd pŵer erydol chwyddiant.

Fel y dywedais, mae'r Alban wedi cael dau adolygiad ar eu setliad cyllido, tra bod Cymru heb gael un o gwbl yn yr un ffrâm amser. Ond nid ein cymharu â'r Alban yn unig a wnaf—fe wyddom fod ein cyfeillion yng Ngogledd Iwerddon wedi elwa o adolygiadau diweddar hefyd. Mae eu hadolygiad diweddaraf, a gyhoeddwyd yn 2024, yn darparu asesiad anghenion Barnett o gynnydd o 24 y cant, yn erbyn 20 y cant yng Nghymru. Felly, er bod yr Alban wedi cael adolygiadau, a Gogledd Iwerddon wedi cael adolygiad, nid yw'n ymddangos yn iawn i mi nad yw Cymru wedi cael adolygiad eto.

Rwyf am ddod i ben nawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu y byddai'n bwysig heddiw, ac yn arwydd da, pe baem yn cael llais unedig o'r Senedd i geisio sicrhau cyllid teg sy'n seiliedig ar anghenion a threfniadau cyllidol ehangach i Gymru. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud ei rhan i godi llais dros Gymru ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion hyn. Rwy'n credu y byddai unrhyw beth llai na hyn yn fethiant i'r bobl a gynrychiolwn yn y lle hwn. Gadewch inni weld rhywfaint o synnwyr cyffredin a phragmatiaeth yn y ddadl hon, fel y byddai adolygiad llawn o fframwaith cyllidol Cymru yn ei ddarparu. Diolch yn fawr iawn.

17:45

Nid mater o ddogma neu ideoleg wleidyddol ydy'r frwydr dros setliad ariannol teg i Gymru, a dydy o ddim chwaith yn fater o ddiwygio cyfansoddiadol sych. Yn ei hanfod, mae'n fater sy'n ymwneud ag iechyd cyhoeddus—nid iechyd cyhoeddus fel cysyniad cyffredinol, ond mater o'r pwys mwyaf yn ymwneud ag iechyd pobl Cymru heddiw. Bob blwyddyn sy'n mynd heibio, mae gwendidau sylfaenol fformiwla Barnett yn dod yn fwyfwy amlwg—mecanwaith a grëwyd heb unrhyw ystyriaeth o anghenion, heb sôn am y galwadau iechyd cynyddol sy'n wynebu Cymru. Mae'n gwbl glir erbyn hyn fod y fformiwla'n hen ffasiwn, yn anhyblyg, ac yn hollol anaddas i ateb anghenion iechyd ein poblogaeth.

Gadewch inni ystyried y newidiadau aruthrol sydd wedi digwydd yn y maes iechyd dros y pedwar degawd a hanner diwethaf—datblygiadau meddygol rhyfeddol, y cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus mawr, ac, wrth gwrs, pandemig byd-eang a osododd ein gwasanaethau ar brawf yn y modd fwyaf eithriadol. Ac eto, er gwaethaf y newidiadau hyn i gyd, mae ein mecanwaith cyllido wedi aros bron yn union yr un fath dros bum degawd, gan lywio ein cyllid heddiw, ac yn methu'n llwyr ag adlewyrchu'r newidiadau seismig yma. Os mai fformiwla Barnett ydy datrysiad San Steffan i anghenion iechyd pobl Cymru, yna mae'n dangos diffyg dealltwriaeth o Gymru, neu, yn waeth, diffyg diddordeb llwyr.

Ac nid â thanariannu hanesyddol yn unig y mae'n ymwneud—mae a wnelo â'r tueddiadau pryderus iawn sydd o'n blaenau. Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf, Cymru yw'r wlad sydd â'r boblogaeth hynaf yn y DU, gydag oedran canolrifol o 43. Erbyn 2031, rhagwelir y bydd bron i draean ein pobl dros 60 oed, a bydd bron i 12 y cant dros 75 oed. Gallwch dybio, gyda phobl yn byw'n hirach, ein bod ni'n dod yn genedl iachach. Yn anffodus, mae'r gwrthwyneb yn aml yn wir. Mewn gormod o gymunedau ledled Cymru, mae disgwyliad oes iach yn gostwng mewn gwirionedd. Er gwaethaf uchelgeisiau da Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rydym yn gweld tueddiadau iechyd hirdymor yn dod i stop neu hyd yn oed yn gwrthdroi.

Cymru hefyd sydd â'r cyfraddau uchaf o salwch hirdymor yn y DU. Mae cyflyrau cronig fel diabetes, gordewdra a dementia eisoes yn creu pwysau ar ein gwasanaethau, a rhagwelir y bydd yn cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Nid ystadegau'n unig yw'r rhain, maent yn bobl go iawn, teuluoedd go iawn sy'n wynebu caledi, ac sy'n aml yn cael trafferth cael mynediad at ofal a chymorth amserol. Mae'r gallu i ddarparu'r gofal cymdeithasol angenrheidiol i'n hanwyliaid ar bwynt tyngedfennol bellach, gyda'r wlad yn methu talu'r hyn y mae'r gweithlu gofal yn ei haeddu i adlewyrchu pa mor bwysig ac anodd yw'r gofal hanfodol y maent yn ei ddarparu.

A beth yw ymateb Llywodraeth y DU? Fformiwla sy'n trin pensiynwr ym Mhowys yr un fath â banciwr yn Ninas Llundain, mecanwaith ariannu nad yw'n ystyried bod ein hanghenion yn wahanol, yn fwy ac ar gynnydd. I wneud pethau'n waeth, gwelwn fod Llywodraeth Cymru'n gwario dros £1.5 biliwn ers yr etholiad diwethaf ar fesurau brys i dorri rhestrau aros. Ond beth y mae'r buddsoddiad hwnnw wedi'i gyflawni? Cynnydd syfrdanol o bron i 200,000 yn yr un rhestrau aros hynny. Yn y cyfamser, mae'r math o fuddsoddiad ataliol sydd ei angen i feithrin poblogaeth iachach, fwy gwydn yn cael ei ohirio neu ei ddadflaenoriaethu'n barhaus. Mae hyn nid yn unig yn aneffeithlon, mae'n hunandrechol. Nid moethusrwydd yw mesurau iechyd ataliol; maent yn anghenraid. Mae buddsoddi mewn cadw pobl yn iach bob amser yn well ac yn rhatach na thrin salwch pan fydd yn ddifrifol. Ond o dan fodel cyllido sy'n gwasgu pob ceiniog ac yn anwybyddu angen, cawn ein gorfodi i reoli argyfwng yn hytrach na chynllunio'n hirdymor.

Gyda dros hanner cyllideb gyfan Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei llyncu gan wariant ar iechyd, gwelwn feysydd datganoledig hanfodol eraill—addysg, llywodraeth leol, tai—yn ei chael hi'n anodd ymdopi. A phan fydd y sectorau hynny'n methu, mae'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn tyfu. Mae'n gylch dieflig. Nid ymwneud â rhifau ar fantolen yn unig y mae cael gwared ar fformiwla Barnett. Mae'n ymwneud â sicrhau iechyd a lles pobl Cymru yn y dyfodol. Mae'n ymwneud â thegwch. Mae angen model cyllido sy'n seiliedig ar anghenion i adlewyrchu ein realiti demograffig a'n heriau cymdeithasol yn briodol—model sy'n rhoi'r offer i ni fuddsoddi mewn atal, i adeiladu gwasanaethau cynaliadwy ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn eu gwraidd. Rwy'n annog pob Aelod o'r Siambr i gefnogi'r cynnig hwn.

17:50

A gaf i ddweud yn gyntaf fod achos economaidd cryf iawn dros y Deyrnas Unedig, nid yn unig gyda Chymru'n fuddiolwr net o ailddosbarthu, ond hefyd gall gwledydd mwy o faint wrthsefyll stormydd economaidd yn haws a chefnogi'r rhannau llai cyfoethog? Mae datganoli Ystad y Goron yn syniad arbennig o dda, ond nid yw'n rhoi unrhyw arian ychwanegol i chi. Pan gewch chi ddatganoli, a'r cyllid o ddatganoli rhywbeth, daw oddi ar y grant bloc. Mae hynny wedi digwydd i bopeth sydd erioed wedi'i wneud yma. [Torri ar draws.] Rhun, byddai'n dda gennyf pe baech chi'n dweud wrthyf am rywbeth na ddaeth oddi ar y grant bloc.

O'r gorau. Cefin, a ydych chi eisiau dweud wrthyf beth na ddaeth oddi ar y grant bloc?

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n dyfalu—[Torri ar draws.] Rwy'n dyfalu eich bod chi'n edrych ar fodel yr Alban, lle maent wedi cael gostyngiad bach yn y grant bloc, i gydnabod hynny, oddeutu £10 miliwn os cofiaf yn iawn, ond maent yn gwneud £118 miliwn o'r refeniw o Ystad y Goron, felly nid yw hynny'n gwneud synnwyr, Mike.

Na. Nid yw'r hyn rydych chi wedi'i ddweud yn gwneud synnwyr, ond nid oes gennyf amser i gywiro'r cyfan. Nid yw Cymru erioed wedi elwa ohono. Rwy'n gwybod y gwahaniaeth rhwng net a—[Torri ar draws.] Dysgwch y gwahaniaeth rhwng net a gros. Byddai'n gwneud bywyd gymaint yn haws.

Esblygodd fformiwla Barnett o fformiwla Goschen, a gynlluniwyd yn benodol i gadw mantais gwariant cyhoeddus yr Alban dros Loegr. Felly, ni chafodd y fformiwla erioed mo'i chynllunio gyda Chymru mewn golwg. Wedi'i chymhwyso'n egnïol, dylai'r fformiwla fod wedi arwain at gydgyfeirio lefelau gwariant y pen ledled y DU. Cadwodd y fformiwla fantais wario Cymru dros Loegr. Bu addasiadau cyfnodol i weithrediad y fformiwla ers 1980, yn bennaf trwy newidiadau poblogaeth cymharol. Mae'r addasiadau hyn wedi cynyddu lefelau gwariant cymharol yng Nghymru.

Prif fantais y fformiwla yw ei symlrwydd a'i gwrthrychedd fel sail ar gyfer gwneud dyraniadau gwariant. Cafwyd llwyddiant clir i sicrhau ffordd o osgoi'r fformiwla ers datganoli, er enghraifft mewn perthynas â chyllid cyfatebol amcan 1 a'r cyllid ar gyfer bargeinion dinesig. Cawn gyllid gwaelodol Barnett hefyd. Yn adolygiad o wariant 2015, gweithredodd Llywodraeth Geidwadol y DU gyllid gwaelodol yng Nghymru. Darparodd warant na fyddai cyllid grant bloc y pen Llywodraeth Cymru yn disgyn o dan 115 y cant o'r cyllid cyfatebol y pen yn Lloegr.

Beth yw'r opsiynau eraill—Cymru'n talu ei chyfran o gostau San Steffan ac yn cadw gweddill y trethi a godir yng Nghymru? Dyna sut beth yw annibyniaeth. Byddai'n cael effaith drychinebus ar wariant cyhoeddus yng Nghymru. O ddata a gyhoeddwyd gan y swyddfa ystadegau gwladol, gwyddom fod Cymru'n codi tua 72.1 y cant y pen fel canran o'r incwm a godir ym Mhrydain. Yr unig ffordd y gallai Plaid Cymru fynd yn agos at ei gael i weithio yw peidio â chyllido pensiwn y wladwriaeth fel gwariant canolog ar fudd-dal a pheidio ag ariannu cyfran Cymru o'r ddyled genedlaethol.

Cymru i gael cyfran ei phoblogaeth o wariant datganoledig—dyma'r symlaf a'r ail fwyaf trychinebus. Byddai'r cyllid gwaelodol Barnett o 115 y cant yn cael ei ostwng i 100 y cant o wariant Lloegr. Byddai hyn yn arwain at gael gwared ar gyllid gwaelodol Barnett sy'n diogelu gwariant yng Nghymru.

Mae fformiwla newydd yn cael ei chreu, ac rwy'n meddwl mai dyna'r hyn y mae pobl yn gofyn amdano. Ni fydd unrhyw fformiwla newydd yn ddi-fai. Ystyriwch y fformiwla llywodraeth leol a'r camddealltwriaeth, y dadleuon a'r datganiadau camarweiniol a gawn yn ei chylch. Y ddau awdurdod sy'n cael y cymorth lleiaf y pen gan y Llywodraeth yw sir Fynwy a Bro Morgannwg. Ni fyddech chi byth yn clywed hynny mewn dadleuon yma. Mae'r system o ddyrannu grantiau wedi'i chynllunio i fod yn wrthrychol ac i gydraddoli ar gyfer angen ac adnoddau. Yr egwyddorion canlynol sy'n sail i gyfrifiad o asesiad gwariant safonol.

Mae pwysau cymharol y gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol yn cael eu pennu gan batrymau gwariant gwirioneddol. Mae'r dosbarthiad o fewn gwasanaethau yn gyffredinol yn cael ei bennu gan ddangosyddion gwrthrychol o angen cymharol awdurdodau i wario. At ddibenion cyfrifo dyraniadau asesiadau gwariant safonol unigol, mae gwariant refeniw llywodraeth leol wedi'i rannu'n 55 o feysydd tybiannol. Mae dull dosbarthu ar wahân yn bodoli ar gyfer pob un o'r elfennau hyn er mwyn dosbarthu'r cyfanswm ar draws yr awdurdodau. Gellid cymharu'r fformiwla â Lloegr a'i defnyddio i gyfrifo'r angen cymharol rhwng Cymru a Lloegr. Gallem ddatrys y broblem honno i lywodraeth leol yn yr ystyr fod gennym asesiadau gwariant safonol yng Nghymru a Lloegr, felly gallwch gyfrif beth ydyw.  

Iechyd yw'r rhan fwyaf o gyllideb Cymru, ac ar iechyd, roedd fformiwla syml yn seiliedig ar oedran i gyfrifo angen cymharol. Mae yna hefyd fformiwla fwy cymhleth a chywir, gan gynnwys nifer achosion cymharol o'r holl gyflyrau a chlefydau, gyda phwysau costau cysylltiedig. Byddai hyn yn creu fformiwla hir a manwl iawn ond mae'n gymharol hawdd i'w gyflawni. Mae'r data'n bodoli a gellid gwneud y cyfrifiad. Mae pawb yn siarad am fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion fel pe bai'n rhyw fath o alcemi. Nid yw hynny'n wir; mae'n ymwneud â rhoi rhifau mewn fformiwla a rhoi lluosiadau i mewn a chael ateb ar y diwedd. Gellid cyfrifo pob maes gwasanaeth arall yn yr un modd yn hawdd. Rwy'n defnyddio'r gair 'hawdd'; byddent yn hir ac yn gymhleth iawn, ond fe fyddai modd eu cyfrifo. 

A all Ysgrifennydd y Cabinet neu Blaid Cymru roi fformiwla enghreifftiol a chanlyniadau rhedeg y fformiwla honno? Sut beth yw hi? Beth ydych chi'n ei roi yn y fformiwla a pha ganlyniad ydych chi'n ei gael ohoni? Nid yw'n fater o, 'Rydym eisiau fformiwla deg', sut beth yw'r fformiwla? Gadewch inni ddechrau dadlau am ba fformiwla rydym ei heisiau. [Torri ar draws.] Dyna oedd fy ngair olaf, ond—

17:55

A gaf i ddod yn ôl? Rwyf eisiau egluro rhywbeth. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud. A ydych chi'n dweud eich bod chi'n mynd i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw am nad ydych chi'n credu y dylid adolygu'r ffordd y caiff Cymru ei hariannu?

Nac ydw, ond yr hyn rwy'n ei gredu yw y byddai'r adolygiad hwnnw'n creu fformiwla ar gyfer ariannu Cymru, ac mae angen inni ddechrau siarad am y fformiwla, nid 'O, rydym eisiau fformiwla deg. Nid ydym eisiau siarad am ba fformiwla rydym ei heisiau.' [Torri ar draws.]

Nid oes unrhyw sgyrsiau rhwng y ddau ohonoch. Rydych chi wedi cael yr ymyriad ac fe roddodd ateb, felly mae angen inni symud ymlaen. [Torri ar draws.] Wel, fe glywais leisiau oddi ar y meinciau.

Mae'r tanfuddsoddi parhaol yn ein seilwaith rheilffyrdd dros ddegawdau yn adlewyrchu’r annhegwch strwythurol sydd wrth galon y setliad ariannol presennol rhwng Cymru a San Steffan. Mae’n dystiolaeth glir o system sydd wedi methu Cymru, dro ar ôl tro. Er i’r Gweinidog trafnidiaeth gyfaddef ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf bod Cymru wedi cael ei thrin yn annheg yn hanesyddol, does dim ymdrech o gwbl wedi dod gan Lafur i unioni'r cam. Dim cynllun, dim ymrwymiad, dim newid. Yn wir, mae’r Llywodraeth San Steffan bresennol yn ymddangos yn benderfynol o wthio annhegwch fformiwla Barnett i’r eithaf, ac yn lle sefyll yn ei herbyn, mae Llafur yng Nghymru wedi bod yn gydweithredol yn eu distawrwydd.

Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, roedd y rhybuddion yno ers tro. Wedi blynyddoedd o alw am ein cyfran deg o gyllid HS2—dros £4 biliwn, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru—fe wnaeth Llafur fynd yn ddistaw wrth i’r etholiad cyffredinol nesáu. Doedd dim protest a dim brwydro dros Gymru. Ac er gwaethaf honiadau’r Prif Weinidog ers hynny ei bod hi’n gwneud yr achos yn gyson dros gyllid HS2, y gwirionedd yw nad yw’r un geiniog wedi cyrraedd Cymru. Dyna drychineb y ffordd goch Gymreig.

Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, rydym bellach yn gweld Llafur yn cefnogi cam nesaf yr annhegwch, penderfyniad i ailddynodi prosiect East West Rail, rhwng Rhydychen a Chaergrawnt, fel prosiect Cymru a Lloegr. Dim un modfedd o drac yng Nghymru, ond byddwn ni £360 miliwn allan o’n poced. Mae’n rhyfeddod chwerthinllyd. Hyd yn oed pan oedd y Torïaid yn barod i gydnabod hawl Cymru i’r cyllid, fe wnaeth Llywodraeth Lafur atal y trefniadau. Ac mae’n werth cofio’r geiriau a ddefnyddiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ychydig fisoedd yn ôl i ddisgrifio’r sefyllfa:

'mae'n sgandal, onid yw? Fod rheilffordd sy'n gyfan gwbl yn Lloegr... yn cael ei thrin fel pe bai'n brosiect Cymru a Lloegr, ac nad ydym yn cael unrhyw fudd o ganlyniad i hynny.'

Ond rŵan, rydym yn gweld union yr un annhegwch yn digwydd eto, ac yn lle dicter, rydym wedi cael ymateb diymateb gan y Llywodraeth. Dim un gair o wrthwynebiad. Dim un mymryn o gywilydd. Yn lle hynny, esboniadau Orwelaidd i geisio cyfiawnhau penderfyniad eu partneriaid yn San Steffan. Mae hyn i gyd yn rhan o batrwm gan Lafur, patrwm esgeuluso Cymru, o danbrisio dealltwriaeth pobl Cymru, ac o gydsynio i danfuddsoddiad parhaus yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. A chofiwch, pan ofynnwyd pam nad oedd cyllid HS2 yn dod i Gymru, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod oherwydd nad oedd HS2 yn bodoli mwyach. Mae'n well dweud hynny wrth y Gweinidog trafnidiaeth yn San Steffan sydd yn dal i'w ariannu.

Yn ogystal, ceisiodd nifer o Weinidogion bortreadu adolygiad gwariant diweddar fel rhyw fuddugoliaeth enfawr i Gymru, er bod y swm a glustnodwyd i'r mater trafnidiaeth dros ddegawd yn llai na 10 y cant o'r hyn sy'n ddyledus i ni o HS2 yn unig. A phwy sy'n dweud hynny? Nid ni'n unig. Dyma farn Canolfan Llywodraethiant Cymru:

'Mae unrhyw awgrym fod y cyllid hwn mewn unrhyw ffordd yn digolledu Cymru am y golled a ddeilliodd o HS2 yn amlwg yn anghynaliadwy.'

Felly, Dirprwy Lywydd, mae'n hen bryd i'r Llywodraeth hon ddweud yn glir: a ydych chi'n cefnogi'r penderfyniadau hyn, ac a ydych chi'n sefyll gyda San Steffan neu gyda phobl Cymru? Oherwydd os ydych chi'n derbyn ailddynodiad East West Rail fel prosiect Cymru a Lloegr, rydych hefyd yn derbyn diffyg cyllid HS2. Ac os ydych chi wir yn credu bod yr adolygiad gwariant yn fuddugoliaeth, yna rydych yn cydnabod yn agored nad oes gobaith i Lafur unioni'r cam hanesyddol hwn yn ein rheilffyrdd. Mae Cymru yn haeddu gwell, mae'n haeddu tegwch, ac mae'n hen bryd i Lafur ddewis: dros Gymru, neu yn ei herbyn hi. Diolch yn fawr.

18:00

Hoffwn wneud tri phwynt eithaf syml am y sefyllfa sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd. Y cyntaf, y ffordd y mae fformiwla Barnett yn ariannu ar sail flynyddol. Mae'n ei gwneud hi'n anodd iawn cynllunio ar gyfer y tymor hir. Pa mor aml y clywsom bryder gan etholwyr, gan sefydliadau, gan bobl sy'n dibynnu ar grantiau blynyddol? Rwyf wedi clywed gan bobl mewn sawl diwydiant ar draws elusennau a busnesau bach a fyddai'n hoffi pe bai cyllid Llywodraeth Cymru yn gallu gweithio ar sail fwy hirdymor, fel y gellid dibynnu arno, fel y gall ysgrifennu strategaeth twf go iawn, yn hytrach na wynebu ansicrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Yn ail, fel y gwyddom, fel y soniodd Mike, nid yw fformiwla Barnett yn seiliedig ar angen. Nawr, rydym i gyd yn gwybod na fyddai fformiwla newydd yn bodloni pawb wrth gwrs, ond mae'r fformiwla bresennol yn sicr yn anfoddhaol. Rydym i gyd yn ymwybodol fod gan Gymru ei demograffeg ei hun. Ar gyfartaledd, rydym yn hŷn, fel y dywedodd Mabon, ac yn fwy sâl na Lloegr, ac mae rhesymau hanesyddol am hyn. Fodd bynnag, mae fformiwla Barnett, yn enwedig o ran iechyd, yn golygu nad ydym yn mynd i'r afael ag angen penodol Cymru. Yn hytrach, mae'r fformiwla'n cymryd yn ganiataol ein bod yn rhyw fath o gyfartaledd o beth bynnag sy'n digwydd yn Lloegr. Mae cyllid wedi'i gysylltu â newidiadau penodol mewn gwariant cyhoeddus yn Lloegr ac mae'n sylfaenol ymatebol i angen Lloegr—beth sy'n digwydd yn Lloegr—yn hytrach nag angen Cymru. Mae angen i gyllid fod yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru. Y dyraniad hwn o gyllid iechyd sy'n seiliedig ar anghenion yw'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr mewn gwirionedd. Yno, mae byrddau iechyd sy'n gwasanaethu'r rhai ag anghenion uwch yn cael mwy o arian. Y bore yma, adroddwyd y bydd y cyllid hwn sy'n seiliedig ar anghenion yn Lloegr yn cael ei gryfhau gan Lywodraeth y DU. Mae Wes Streeting wedi cyhoeddi heddiw y bydd £2.2 biliwn o gyllid y GIG yn cael ei ddargyfeirio tuag at y trefi arfordirol a'r ardaloedd difreintiedig yn Lloegr—[Torri ar draws.]—na, mae'n ddrwg gennyf, Mike—tuag at y llefydd tlotaf sydd â'r iechyd gwaethaf. Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gydnabod y dylai gwariant iechyd fod yn seiliedig ar angen, ond ni fydd yr athroniaeth honno'n cael ei chymhwyso i Gymru oherwydd y ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithio. Yn lle hynny, mae Cymru, sef y tlotaf o'r pedair gwlad, a'r fwyaf sâl, yn cael ei thrin fel cyfartaledd o'r hyn a geir yn Lloegr. Mae iechyd y genedl yn cael effaith ganlyniadol ar bob rhan arall o'r wlad, fel y dywedodd Mabon eisoes—tai, cynhyrchiant, addysg. Os ydym eisiau dyfodol ffyniannus i Gymru, mae angen cyllid arnom sy'n ymatebol i anghenion Cymru yn y presennol.

Yn olaf, rwyf am siarad am fenthyca, ac rwy'n falch o weld cynnig y Ceidwadwyr, ac nid wyf yn aml yn dweud y geiriau hynny, ac nid wyf yn aml yn dweud fy mod wedi cytuno'n llwyr â Sam Rowland heddiw. Mae a wnelo hyn â mwy na fformiwla Barnett yn unig; mae'n rhan o'r fframwaith cyllidol rhwng Cymru a'r DU, ac rwy'n falch o gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw. Mae'r gallu i fenthyca a gwario yn hanfodol i adeiladu dyfodol ffyniannus i Gymru. Caiff y ffaith economaidd hon ei chydnabod gan Ganghellor y DU, Rachel Reeves y Blaid Lafur, Hefin David, y mae ei rheolau cyllidol ei hun wedi gwneud benthyca ar gyfer gwariant cyfalaf yn llawer iawn haws. Ond nid yw'r gallu hwn i fuddsoddi yn y dyfodol wedi'i drosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, Cymru yw'r wlad sydd â'r pwerau benthyca lleiaf yn y Deyrnas Unedig. Os edrychwn ar fenthyca cyfalaf yn y gwledydd datganoledig eraill, mae gan yr Alban derfyn benthyca cyfalaf blynyddol o £450 miliwn, dair gwaith yn fwy na £150 miliwn Cymru, er mai bron i ddwywaith a hanner maint Cymru yw hi. O ran cyfanswm y terfyn benthyca, gall yr Alban a Gogledd Iwerddon fenthyca cyfanswm o £3 biliwn, er mai terfyn benthyca Cymru yw £1 biliwn. Yn gymesur â'r boblogaeth y maent yn ei chynrychioli, mae gan gynghorau sir hefyd fwy o bwerau benthyca na Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae cynghorau Caerdydd ac Abertawe, y ddwy ddinas fwyaf yng Nghymru, gyda'i gilydd wedi benthyca a buddsoddi mwy na £1 biliwn. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i mi fod hyn yn fwy na'r cyfan y caiff Llywodraeth Cymru ei fenthyca ar gyfer buddsoddiad cyfalaf.

Fel y dywedais o'r blaen, mae Cymru'n dlotach o gymharu â gweddill y DU. Ymateb teg i'r ffaith hon, yn fy marn i, fyddai buddsoddi mwy yng Nghymru, nid llai. I gloi, nid fformiwla Barnett yn unig sy'n cyfyngu ar ddyfodol Cymru. Mae yna faterion yn codi ar draws y fframwaith cyllidol. Mae hyn yn gwaethygu anghydraddoldeb hanesyddol yn y ffordd y caiff Cymru ei thrin. Rwy'n gorffen ar y pwynt hwn: mae'n dda gweld bod cefnogaeth ar draws y Siambr ac yn Llywodraeth Cymru i newid. Gobeithio y gall y Siambr uno heddiw i gefnogi'r cynnig a chefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.

18:05

Sylfaen cymdeithas deg, gyfartal a ffyniannus yw fframwaith cyllidol sy'n rhagweladwy, yn seiliedig ar set glir o reolau, ac yn bennaf oll, sy'n cyd-fynd ac yn gwasanaethu anghenion ei phoblogaeth. Yn anffodus, cafodd pob un o'r gofynion sylfaenol hyn eu hamddifadu i Gymru ers dechrau datganoli, oherwydd yr hyn sydd gennym yn lle hynny yw set o drefniadau cwbl ddryslyd, anghyson a rywsut-rywsut nad ydynt yn addas o gwbl ar gyfer anghenion pobl Cymru. Mae cyllid teg yn un o'r offerynnau mwyaf pwerus sydd ar gael i sicrhau cydraddoldeb a thegwch mewn cymdeithas. Yn achos Cymru, cenedl sydd ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd dwfn ac eang, mae angen i wariant fynd ati'n weithredol i gywiro anghydbwysedd hanesyddol a strwythurol. Mae fformiwla Barnett, wrth gwrs, yn methu cyflawni'r naill neu'r llall o'r egwyddorion hyn, ac yn hytrach, mae'n atgyfnerthu anfantais.

Hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar oblygiadau adolygiad o wariant y DU i wariant cyfalaf, sy'n symptom o ddiffygion ehangach fformiwla Barnett. Fel y mae eraill eisoes wedi'i nodi, mae'r angen i fuddsoddi yn ein seilwaith cyhoeddus yn amlwg. Mae ein stoc dai adfeiliedig sy'n heneiddio, gyda mwy na'i chwarter yn dyddio'n ôl cyn y rhyfel byd cyntaf, yn cynnwys rhai o'r tai lleiaf effeithlon o ran ynni yng ngorllewin Ewrop, gan ddyfnhau tlodi tanwydd sydd eisoes yn ddifrifol, gyda 18 y cant wedi eu categoreiddio fel rhai mewn cyflwr gwael. Nid yw polisi blaenllaw Llywodraeth Cymru sy'n anelu at fynd i'r afael â hyn, fel y nododd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, prin yn cyffwrdd â'r ochrau oherwydd diffyg buddsoddiad. Mae ein system drafnidiaeth ddatgysylltiedig, fel y clywsom, yn cael ei hamddifadu o gyllid teg flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ceir ôl-groniad o waith cynnal a chadw brys gwerth £0.25 biliwn yn ein hystad GIG, ac mae ein hystad ysgolion yn llawn o broblemau dwfn tebyg o ran buddsoddi. Felly, ar draws cymaint o feysydd, mae'r dystiolaeth o ddiffygion y sylfaen ariannol hanfodol honno yn llethol. Fel rydym wedi trafod cymaint o weithiau, mae'r diffygion hyn yn pwyso'n anghymesur ar y rhai sydd eisoes dan anfantais yn sgil anghydraddoldebau cymdeithasol. Er enghraifft, fel y nododd adroddiad gan Shelter Cymru ar yr hawl i dai digonol, mae pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yng Nghymru yn anghymesur o debygol o fod yn byw mewn tai gorlawn sydd mewn cyflwr gwael.

Yn y cyfamser, fel y datgelodd dadansoddiad Plaid Cymru ar ddechrau'r flwyddyn, mae'r ôl-groniadau o waith cynnal a chadw mwyaf brys mewn addysg yn tueddu i fod wedi'u clystyru yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae gan Flaenau Gwent, er enghraifft, sy'n gyson tuag at y pen uchaf ym mynegai amddifadedd lluosog Cymru, un o'r cyfraddau tlodi plant gwaethaf yn y DU gyfan, ac mae 23 o'i 25 ysgol wedi'u dosbarthu fel rhai sydd angen gwaith cynnal a chadw brys. Onid yw'n eironig, felly, fod Llywodraeth y DU sy'n poeni cymaint am dwf economaidd, adnewyddu ac egwyddorion 'securonomics' ar yr un pryd yn ffafrio model cyllido i Gymru sy'n arwain i unman heblaw'n ddyfnach ac yn ddyfnach i gors o ddirywiad wedi'i reoli, fel y dengys y ffaith bod disgwyl i'r grant bloc cyfalaf hwn fod 3.6 y cant yn llai ar ddiwedd cyfnod yr adolygiad o wariant hwn? Fel y dywedodd y cyn-Gwnsler Cyffredinol mewn erthygl yn ddiweddar, yn y flwyddyn ers yr etholiad cyffredinol, rydym nid yn unig wedi gweld cynnydd ar ddiwygiadau mawr eu hangen i'n pensaernïaeth gyllidol a datganoledig yn dod i stop yn llwyr, mewn sawl ffordd, mae'r sefyllfa wedi dirywio hyd yn oed ymhellach. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef.

Rwyf wedi clywed rhai o'r Aelodau'n dweud heddiw, 'Mae'r mater hwn yn sych. Mae'r mater hwn yn ddiflas. Wel, mae'n gymhleth.' Ond mae'r tanariannu hwn yn arwain at ganlyniadau mor ddifrifol i Gymru a'i phobl. Dylai fod wedi bod yno yn y rhestr o flaenoriaethau a gawsom gan y Prif Weinidog presennol—nid oedd yn unman i'w weld—oherwydd mae'n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hirsefydlog mewn iechyd, addysg, trafnidiaeth a mynediad at ddiwylliant. Mae'n dyfnhau lefelau tlodi sydd eisoes yn annerbyniol. Mae cymunedau ledled Cymru—y cymunedau y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli—yn wynebu gwasanaethau tlotach a chanlyniadau tlotach, nid oherwydd methiannau lleol, ond oherwydd bod y mecanwaith canolog ar gyfer dyrannu arian i Gymru mor gynhenid anghyfiawn. Rhaid inni weld yr anghenion hyn yn cael eu hadlewyrchu a gweld Cymru'n cael adnoddau mewn ffordd sy'n caniatáu iddi fynd i'r afael yn effeithiol ag anfantais ddofn.

Mae cael system sy'n seiliedig ar anghenion yn lle fformiwla Barnett yn hanfodol ar gyfer adeiladu Cymru fwy cyfartal, fwy teg a mwy cyfiawn. Ni allwn greu'r Gymru honno os yw ein mecanweithiau cyllido yn strwythurol annheg. Hyd nes y bydd hyn yn newid, bydd Cymru'n parhau i gael ei dal yn ôl gan fodel cyllido sy'n ei hamddifadu o'r offer i sicrhau ffyniant gwirioneddol. Diolch.

18:10

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Bydd ochr y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig heddiw, oherwydd nid yw'n ddim mwy nag ailddatganiad o bolisi hirsefydlog Llywodraethau Cymru olynol.

Rwyf am gymryd elfennau'r cynnig yn eu trefn. Mae'n dechrau trwy ddweud bod fformiwla Barnett wedi dyddio. Wel, nid wyf yn credu y gall fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Fel y clywsom, cafodd fformiwla Barnett ei gwrthod gan yr Arglwydd Barnett ei hun. Dywedodd yn 2003:

'Nid oedd erioed yn fformiwla pan wneuthum ei dyfeisio; daeth yn un wedi 18 mlynedd o'r weinyddiaeth flaenorol ac o dan yr un hon. Mae'n annheg iawn ac ni ddylid bod wedi ei pharhau'.

Rhoddodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol fel yr oedd ar y pryd a thrwy gydol y degawd cyntaf, ddarlith i'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn y degawd hwnnw. Dadleuodd dros ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi. Dadleuodd dros system etholiadol yn seiliedig ar gynrychiolaeth gyfrannol. Galwodd am gyfansoddiad ysgrifenedig a fyddai'n darparu cyllid teg i Gymru. Dywedodd y byddai'r cyfansoddiad ysgrifenedig hwnnw'n cynnwys y tri chymal canlynol: y byddai fformiwla dosbarthu adnoddau ymhlith gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig; y dylai'r fformiwla fod yn seiliedig ar gydraddoldeb ac ailddosbarthu; ac y byddai proses datrys anghydfodau ar gyfer problemau sy'n digwydd rhwng y gwahanol weithredwyr. Wel, dyna ni. Dyna'r degawd cyntaf.

Yn yr ail ddegawd, cyhoeddodd Carwyn Jones 'Diwygio ein Hundeb'. Galwai am system ariannu yn seiliedig ar anghenion:

'Dylid pennu pŵer gwario llywodraethau datganoledig'—

meddai—

'drwy gyfeirio at gyfres o ddangosyddion gwrthrychol a gytunwyd o angen cymharol, fel bod pŵer gwario'n deg ar draws y gwahanol lywodraethau ac er mwyn gallu darparu lefel ac ansawdd cyfatebol o nwyddau cyhoeddus ym mhob rhan o'r DU.'

Galwodd 'Diwygio ein Hundeb' am system newydd yn seiliedig ar anghenion cymharol a fyddai'n cael ei gweithredu o fewn fframwaith cyllidol cynhwysfawr a chyson y byddai pob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn cytuno arni. Ac i fod yn eciwmenaidd yn hyn i gyd, Ddirprwy Lywydd, wedyn, yn 2023-24, cafodd Bil Fformiwla Barnett (Newid) ei gynnig yn Nhŷ'r Cyffredin gan Syr Christopher Chope, yr Aelod Ceidwadol dros Bournemouth—unigolyn annhebygol, gallech feddwl, ond roedd y Bil Aelod preifat a gynigiodd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Ganghellor y Trysorlys adrodd i Senedd y DU ar gynigion i gael cynllun statudol yn lle fformiwla Barnett ar gyfer dyrannu adnoddau'n seiliedig ar asesiad o anghenion cymharol. Dyna chi. Mae unrhyw syniad fod y ddadl heddiw yn torri tir newydd yn amlwg yn anghywir. Dyma yw polisi nifer o'r pleidiau ers blynyddoedd lawer.

Nawr, mae ail gymal y cynnig yn dweud bod system Barnett yn 'annheg'. Ydy, yn wir, mae'r system yn annheg, ond i wahanol raddau ac mewn gwahanol ffyrdd. Dyma bedair ffordd lle nad yw fformiwla Barnett yn fformiwla deg ar hyn o bryd. Y gyntaf yw'r ffordd y mae'r mecanwaith cymharedd, sy'n ganolog i Barnett, yn gweithredu. Clywsom lawer y prynhawn yma am y llinell Rhydychen i Gaergrawnt, felly roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n defnyddio honno fel fy enghraifft o sut nad yw'r ffactor cymharedd sy'n gyrru fformiwla Barnett yn gweithredu mewn ffordd deg.

Disgrifiwyd rheilffordd Rhydychen i Gaergrawnt yn wreiddiol fel cynllun lleol, ac felly roedd ffactor cymharedd yn codi, ac fe wnaeth hynny yn ei dro arwain at swm canlyniadol Barnett. Nawr fe gaiff ei ddisgrifio fel cynllun Cymru a Lloegr, nad oes ffactor cymharedd ar ei gyfer, ac felly ni cheir arian canlyniadol. Ond yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, oherwydd bod y Trysorlys wedi dweud bod y disgrifiad gwreiddiol yn camgymhwyso'r rheolau, penderfynodd y Trysorlys na fyddai'r rheol honno'n cael ei dilyn. Er na ddylai fod ffactor cymharedd, fe wnaethant benderfynu y byddent yn rhoi ffactor cymharedd iddo. Felly, fe wnaeth cynllun a oedd wedi cynhyrchu symiau canlyniadol Barnett yn flaenorol, ond na ddylai gynhyrchu swm canlyniadol o'r fath mwyach, gynhyrchu swm canlyniadol Barnett yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Nawr, efallai fod hwnnw'n ganlyniad da i Gymru, ond mae'n ganlyniad gwael iawn i unrhyw un sy'n credu mewn system sy'n seiliedig ar reolau. Felly, yr ail reswm pam y mae Barnett yn annheg yw y gellir anwybyddu Barnett. Nid yw cyllid yn cael ei ddyrannu'n deg ac yn systematig ar draws y gwledydd datganoledig. Enghraifft dda o hynny yw rhodd Theresa May o £1 biliwn i Ogledd Iwerddon yn dilyn etholiad 2017, wedi'i hysgogi'n gyfan gwbl gan yr angen i gynnal Llywodraeth Geidwadol leiafrifol yn y DU—annheg i bobl Lloegr, ac annheg i bobl Cymru a'r Alban.

Ac yna, yn drydydd, mae Barnett yn aml yn cael ei ddiystyru. Cafodd ei ddiystyru yn y cynnydd gan Lywodraeth y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, a arweiniodd at fwy o gostau cyflogau sector cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig, lle na ddarparwyd ond cyfran Barnett o gostau Lloegr i'r tair Llywodraeth ddatganoledig.

Yn bedwerydd, mae Barnett yn fformiwla fympwyol, oherwydd mae'n gyfan gwbl yn nwylo Trysorlys y DU. Os ydych chi'n credu nad yw'r rheolau wedi'u dilyn yn iawn, beth allwch chi ei wneud? Rydych chi'n apelio i'r Trysorlys, y sefydliad a wnaeth y rheolau ac a wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf. Nid oes unrhyw elfen annibynnol yn y ffordd y mae Barnett yn gweithredu, ac mae hynny hefyd yn annheg.

Felly, mae'n amlwg ar y lefel fanwl hon fod fformiwla Barnett yn annheg, ond mae'r darlun mawr yn llai clir. Sefydlodd Llywodraeth Cymru'n Un, y mae rhai ohonom yma yn ei chofio'n dda iawn, gomisiwn Holtham, ac mae adroddiad y comisiwn yn parhau i fod yn ddigwyddiad pwysig yn hanes byr datganoli. Er mwyn caniatáu ar gyfer darparu ansawdd a lefel gyfatebol o nwyddau cyhoeddus yng Nghymru, sefydlodd ei ddadansoddiad awdurdodol fod angen rhwng 115 y cant a 117 y cant o'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyfatebol yn Lloegr. Y dadansoddiad hwnnw oedd y sail i drafodaethau 2016 i gytuno ar fframwaith cyllidol newydd i Gymru. Mae'r fframwaith hwnnw'n cydnabod bod y gyllideb sydd ar gael i'r Senedd hon bellach yn gymysgedd o symiau canlyniadol Barnett a'r trethi sydd wedi eu datganoli i Gymru. Mae 20 y cant o'r adnodd yng nghyllideb y flwyddyn gyfredol yn cael ei godi, nid trwy Barnett o gwbl, ond gan benderfyniadau a wneir ar drethi i Gymru yn y Senedd Gymreig hon. 

Mae'r fframwaith cyllidol hefyd yn cyflwyno ffactor anghenion i fformiwla Barnett. Nid yw'n wir nad yw angen yn berthnasol i Barnett, oherwydd mae yna ffactor anghenion ynddi, sef y 5 y cant o gyllid ychwanegol a gawn ar ben y cyllid gwaelodol y mae'r fframwaith cyllidol wedi'i osod ar y lefel o 115 y cant a argymhellwyd gan Holtham. Mae'r ffactor anghenion wedi bod yn werth dros £2 biliwn i Gymru ers iddo gael ei gyflwyno yn 2017. Ac ers i'r cytundeb gael ei daro, mae cyllid cymharol yng Nghymru wedi bod tua 20 y cant yn uwch y pen na gwariant cyfatebol yn Lloegr. 

Fe ddywedodd Mike Hedges yn ei gyfraniad, 'Byddwch yn ofalus ynglŷn â beth rydych chi'n dymuno ei gael pan fyddwch chi'n galw am fformiwla yn lle Barnett', oherwydd er bod yr achos dros gael gwared arni'n gryf, nid yw galw am hynny heb wneud y gwaith i sefydlu pam y byddai fformiwla wahanol yn well na'r un sydd gennym nawr yn ateb digonol i'r broblem.

18:20

Fe wnaf yr hyn y mae'r cynnig yn ei ofyn, Ddirprwy Lywydd. Fe wnaf yr achos yfory, yng nghyfarfod chwarterol y Gweinidogion cyllid yn Llundain, dros fformiwla yn lle fformiwla Barnett. Ond bydd yn rhaid iddi fod yn un sy'n seiliedig nid ar gynigion, ond ar drafodaethau—trafodaethau sy'n cynnwys pob un o'r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig, lle bydd pob gwlad eisiau gwybod bod ei safbwynt wedi'i ddiogelu. Rwyf i yno i ddiogelu safbwynt Cymru. Dyna pam y byddwn yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Braf iawn ydy deall y bydd y bleidlais yn debygol o fod yn unfrydol o ran y cynnig hwn, oherwydd mae'n bwysig ein bod ni, ar adegau ac ar faterion o bwys fel hyn, yn medru uno a siarad ag un llais. A gobeithio mai'r neges ddiamwys y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfleu i Lywodraeth San Steffan heddiw, a dros yr wythnosau a misoedd nesaf, ydy hyn: mae Cymru yn haeddu tegwch, ac mae Aelodau Senedd Cymru yn gyfan gwbl unedig o ran mynnu model cyllido newydd i Gymru. Mae honno'n neges glir, a gobeithio y bydd hi'n unfrydol.

Yn amlwg, yr her rŵan i'n Llywodraeth ni ydy sut ydyn ni'n mynd i sicrhau hynny, a hynny ar fyrder. Mi oedd hi'n ddifyr clywed y cyfraniad gan yr Ysgrifennydd Cabinet rŵan yn ein hatgoffa ni o'r hyn fuodd yn safle Llafur yn y gorffennol. Mi wnaeth Rhun ap Iorwerth ein hatgoffa ni o'r hyn ddywedodd ein Prif Weinidog presennol ni mewn ymateb iddo fo ers dod yn Brif Weinidog: 

cymhwysiad teg o Barnett. 

Wel, fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, dydy'r fath beth ddim yn bosib.

A hefyd, os ydyn ni'n edrych hefyd ar gynigion dŷn ni wedi'u rhoi gerbron hyd yn oed yn y flwyddyn ddiwethaf yma, mae'r Llywodraeth wedi pleidleisio yn erbyn gwelliannau dŷn ni wedi'u rhoi gerbron sydd wedi bod yn galw ynglŷn ag adolygiad o'r fformiwla Barnett, ynghyd â newid o ran yr hyn dŷn ni'n gallu ei fenthyg. Felly, mae'n dda ein bod ni'n gorfod ailddatgan a'n bod ni'n gallu bod yn unedig, ond mae'n siomedig bod hyn ddim wedi bod yn gyfan gwbl gyson. Felly, mae'n rhaid inni fod yn glir o ran hynny hefyd.

Os ystyriwch chi fod Llywodraeth Tony Blair wedi llwyddo i gynnal refferendwm a arweiniodd at sefydlu'r Senedd hon, a gweithredu ar ymrwymiad maniffesto bedwar mis wedi etholiad 1997, a bod y Senedd hon wedi agor ddwy flynedd yn ddiweddarach, dwi ddim yn derbyn y ddadl dwi wedi'i chlywed yn gynharach heddiw ei bod hi'n rhesymol nad ydyn ni wedi gweld unrhyw symudiad o ran hyn gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig o fewn eu blwyddyn gyntaf mewn grym. Mae'n rhaid inni weld gweithredu ac amserlen bendant ar waith.

Mae llawer o'r siaradwyr heddiw wedi amlinellu annhegwch y ffordd y caiff Cymru ei hariannu, ac nid wyf am ailadrodd yr holl ddadleuon hynny wrth gloi. Mae'r pwyntiau wedi'u gwneud yn dda. Fodd bynnag, hoffwn ychwanegu fy llais yn fy sylwadau olaf i adleisio'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth wrth agor y ddadl, i gondemnio geiriau Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Darren Jones, a ddywedodd wrth AS o Gymru y dylai fod yn 'ychydig yn fwy diolchgar' am y cyllid rheilffyrdd a gafodd Cymru yn yr adolygiad o wariant. Roedd yn ddirmygus. 'Ychydig yn fwy diolchgar'—mewn difrif? Yn ddiolchgar hyd yn oed pan fo'r arian yn brin o allu unioni tanariannu hanesyddol y seilwaith rheilffyrdd. Ychydig yn fwy diolchgar hyd yn oed pan fo HS2 yn dal i gael ei ystyried yn brosiect Cymru a Lloegr, gan olygu nad yw Cymru'n cael yr hyn sy'n ddyledus iddi. Ychydig yn fwy diolchgar pan fo rhanbarthau yn Lloegr yn cael £15.8 biliwn ar gyfer trafnidiaeth leol a rhanbarthol o'i gymharu â'r £445 miliwn ar gyfer gwlad gyfan. Yn ddiolchgar am beidio â chael ein had-dalu'n llawn am gyfraniadau yswiriant gwladol. Yn ddiolchgar nad ydym yn cael y budd o'n hadnoddau naturiol ein hunain am fod Llafur yn gwrthod datganoli Ystad y Goron i Gymru.

Felly, gadewch imi fod yn glir: nid yw Plaid Cymru yn ddiolchgar pan nad yw Cymru'n cael yr hyn sy'n ddyledus iddi, ac ni ddylai'r Senedd hon fod yn ddiolchgar ychwaith. Oherwydd pwy sy'n dioddef pan na chawn yr hyn sy'n ddyledus i ni? Ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn eu tro, ein hetholwyr. Nid oes gan fformiwla ariannu o'r 1970au le yn nemocratiaeth fodern Cymru, ac mae'n hen bryd ei thaflu i fin sbwriel hanes.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Mae un bleidlais heddiw, ar eitem 7, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, roedd 16 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd: O blaid: 31, Yn erbyn: 0, Ymatal: 16

Derbyniwyd y cynnig

A dyna ddiwedd ar y pleidleisiau am heddiw. 

Cofiwch fod yna ddadl fer, felly os ydych chi'n gadael, gwnewch hynny'n dawel.

11. Dadl Fer: Cydraddoldeb o ran mynediad a pharch ar gyfer gwasanaethau dibyniaeth yng Nghymru

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Peredur Owen Griffiths a Sam Rowlands. 

Mae'n bleser cyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar bwnc triniaethau ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Rwyf wedi datgan buddiant fel noddwr i ganolfan adsefydlu Brynawel neu Ganolfan Adsefydlu Alcohol a Chyffuriau Tŷ Brynawel. Drwy fy ymwneud â Brynawel, yn gyntaf fel cadeirydd a nawr fel noddwr, rwyf wedi dod i ddeall yn well y baich y mae dibyniaeth yn ei gosod ar unigolyn yn ogystal â'r camau sydd eu hangen i ymladd dibyniaeth. Dros y 40 mlynedd diwethaf mae Brynawel wedi datblygu triniaethau arloesol i helpu i fynd i'r afael â dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol. Ei chenhadaeth a'i chred yw y gall unrhyw un wella o ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol o gael y gefnogaeth gywir.

Mae camddefnyddio sylweddau yn drasiedi fyd-eang sy'n effeithio ar filiynau o bobl. Defnyddiodd tua 275 miliwn o bobl ledled y byd, sef tua 5.6 y cant o'r boblogaeth fyd-eang rhwng 15 a 64 oed, gyffuriau anghyfreithlon o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i'r pwynt lle gallai fod angen triniaeth arnynt. Opioidau sy'n parhau i achosi'r niwed mwyaf, gan achosi 76 y cant o'r marwolaethau. Yn fyd-eang, cynyddodd nifer y marwolaethau a achosir yn uniongyrchol gan y defnydd o gyffuriau 60 y cant dros y 25 mlynedd diwethaf.

Yma yng Nghymru, cawsom 4,342 o dderbyniadau'n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon a 12,628 o dderbyniadau'n gysylltiedig ag alcohol yn benodol. Cynyddodd nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol—y rhai o gyflyrau a achoswyd yn gyfan gwbl gan alcohol—i'r lefel uchaf erioed, gyda 562 o farwolaethau wedi'u cofnodi yng Nghymru. Mae bron i un o bob 10 o bobl mewn gwely ysbyty yn y DU yn ddibynnol ar alcohol. Crib y rhewfryn yn unig yw'r rheini. Y gost i'n GIG yw £109 miliwn y flwyddyn o niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn unig. Nid oes gennym ffigurau penodol ar gyfer Cymru ond yn ôl y Swyddfa Gartref, mae cost defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn y Deyrnas Unedig yn £11 biliwn y flwyddyn.

Daeth ymchwil a gomisiynwyd gan Adran Iechyd y DU i'r casgliad mai'r unig fath o wasanaeth triniaeth ffurfiol a oedd yn ffactor allweddol wrth helpu defnyddwyr cyffuriau i barhau i beidio â'u defnyddio oedd adsefydlu preswyl. Daeth i'r casgliad fod triniaethau strwythuredig hirdymor ffurfiol heblaw adsefydlu preswyl ond yn chwarae rôl ymylol yn y daith tuag at adferiad. Pan ystyriwch y gost o drin pobl, rhaid i chi ei chymharu â'r gost o beidio â'u trin. Mae ymchwil wedi dangos bod pob £1 a fuddsoddir mewn triniaeth gyffuriau yn arwain at fudd o £2.50 i gymdeithas.

Mae Brynawel yn credu y gall pawb wella o gael y gefnogaeth gywir. Ond rydym yn cydnabod ei fod yn fater iechyd. Mae'n amlwg yn fwy cymhleth na llawdriniaeth pendics, ond mae'n broblem iechyd serch hynny. Bydd canran o bobl yn ailwaelu, ond mae'n bosibl, neu hyd yn oed yn debygol, y byddant yn ailymgysylltu. O'i gymharu â llawer o afiechydon meddygol a seiciatrig eraill, mae'r prognosis yn dda i bobl sy'n gaeth i gamddefnyddio sylweddau. Amcangyfrifir y gall hyd at 66 y cant o bobl sy'n gaeth i gamddefnyddio sylweddau wella'n llawn, er y gall gymryd amser i wneud hynny.

Fodd bynnag, ni all pawb elwa o'r driniaeth a gynigir ym Mrynawel. Fel sefydliad nid-er-elw bach, dim ond 20 o leoedd preswyl y gallant eu cynnig, ac fel y dywedais yn gynharach, mae cannoedd, hyd yn oed miloedd, o bobl ledled y wlad angen y driniaeth hon—triniaeth sy'n gallu darparu adferiad parhaus, bywyd iach yn rhydd o afael cyffuriau ac alcohol—a rhaglenni triniaeth wedi'u teilwra i anghenion unigol y cleientiaid.

A allwch chi ddychmygu'r trychineb pe bai'r gwasanaethau iechyd yn mabwysiadu rhaglen un maint i bawb ar gyfer trin cleifion? Ni ddylai fod yn wahanol ar gyfer trin dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol. Mae Brynawel yn defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil yn unig. Bydd cleientiaid ond yn cael therapi gan weithiwr proffesiynol profiadol iawn sy'n gymwys i'w helpu i oresgyn dibyniaeth yn effeithiol mewn sefyllfa gyfrinachol.

Y triniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddarperir yw therapi gwybyddol ymddygiadol, therapi ymddygiad dialectig, cyfweliadau ysgogol, atal ailwaelu ac ymyriadau seicogymdeithasol, gan gynnwys therapi teulu, ond nid yw'n dod i ben yn y fan honno. Mae Brynawel yn bwriadu datblygu llwybr gofal diagnostig a thriniaeth ar gyfer unigolion sydd â niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol.

Mae niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol yn epidemig iechyd na wneir diagnosis digonol ohono ar hyn o bryd. Mae prinder ymchwil, data iechyd a gwasanaethau wedi'u comisiynu yn arwain at ganlyniadau gwael i gleifion. Mae mwy o yfed alcohol, yn enwedig defnydd trwm parhaus, yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu dementia. Mae'r dystiolaeth fwyaf cadarn yn cysylltu anhwylderau defnyddio alcohol â dirywiad gwybyddol cynnar a difrifol. Mae cyfyngu ar yr alcohol a yfir, neu'n ddelfrydol, ymatal rhagddo'n gyfan gwbl, yn fesur ataliol pwysig ar gyfer iechyd yr ymennydd a lleihau'r risg o ddementia. Felly, mae goblygiadau rhyng-gysylltiedig pwysig i negeseuon iechyd cyhoeddus yn y poblogaethau perthnasol o ran caethiwed a dementia.

Mae perthynas ddibynnol ar ddos rhwng faint o alcohol sy'n cael ei yfed a pha mor aml a'r cynnydd esbonyddol yn y risg o ddementia. Canfu astudiaeth Ffrengig fawr fod anhwylderau defnyddio alcohol yn gysylltiedig â thair gwaith mwy o risg o bob math o ddementia, ac roedd dros 50 y cant o achosion o ddementia cynnar yn gysylltiedig ag alcohol. Wedi dweud hynny, er nad yw niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol yn cael ei ystyried yn ddementia per se, mae'n derm ymbarél ar gyfer ystod o gyflyrau lle mae camddefnyddio alcohol yn hirdymor yn arwain at amhariad gwybyddol a niwed i'r ymennydd. Mae rhai o'r cyflyrau hyn yn cyd-fynd â'r meini prawf ar gyfer dementia, yn enwedig os yw'r amhariadau gwybyddol yn ddifrifol, yn gynyddol ac yn effeithio ar fywyd bob dydd. Mewn llawer o achosion, mae cyflyrau niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol yn dynwared clefyd Alzheimer ond mae'n dechrau'n gynnar fel arfer, yn y 40au i'r 60au, a gallant effeithio ar wahanol weithrediadau'r ymennydd, fel gweithrediad goruchwyliol, yn hytrach na'r cof.

Mewn lleoliadau ysbyty a gofal eilaidd, gall cleifion â niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol arddangos niwed gwybyddol oherwydd llu o ffactorau achosol, ac mae'n hanfodol gwahaniaethu rhwng y cyflyrau hyn. Ychydig iawn o wasanaethau pwrpasol a geir ledled Cymru i reoli niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol yn gynhyrchiol. Canolfan Brynawel yw'r unig ganolfan adsefydlu nid-er-elw sy'n cynnig asesiadau, diagnosis ac adsefydlu i bobl â niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol. Fodd bynnag, maent yn aml i'w gweld yn gyntaf mewn lleoliadau meddygol acíwt neu ofal sylfaenol lle gall ymwybyddiaeth o'r llwybrau ymgyflwyno i ddiagnosis fod yn gyfyngedig. Hyd yn oed pan gânt eu gweld mewn gwasanaethau cof, nid ystyrir eu bod yn cyd-fynd â'r meini prawf ar gyfer gwasanaeth. Gall cleifion gael eu lleoli rhwng gwasanaethau, gydag anghytundeb ynghylch pa wasanaeth a ddylai fod yn gyfrifol am eu gofal—sy'n drychineb, pan all ymatal, thiamin ac adsefydlu ddarparu canlyniadau hirdymor da yn aml ar gyfer eu hadferiad—heb sôn am y ffaith nad oes llwybr ariannu wedi'i gytuno ar gyfer adsefydlu'r grŵp hwn o gleifion yn y rhan fwyaf o ardaloedd byrddau iechyd Cymru.

Er bod gennyf ddiddordeb mewn hyrwyddo Brynawel, gobeithio y byddwch chi i gyd yn hyrwyddwyr i'r driniaeth y maent yn ei chynnig. Mae dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yn arwain at golli bywydau'n ddiangen, ac mae Brynawel yn cynnig llwybr i atal y marwolaethau hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn ehangu eu triniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r miloedd o ddinasyddion Cymru sy'n ymladd dibyniaeth. Diolch yn fawr.

18:35

Diolch yn fawr Altaf am roi munud o amser i mi yn y ddadl hon, a hefyd am ddod â'r ddadl bwysig hon i'n Senedd. Mae hon yn broblem y deuthum ar ei thraws sawl gwaith yn y grŵp trawsbleidiol ar ddefnyddio sylweddau a dibyniaeth a gadeirir gennyf—pobl sy'n aml yn aros yn rhy hir am y driniaeth y mae cymaint o'i hangen arnynt, neu'n rhy aml, mae ansawdd neu hyd y driniaeth a gânt yn dibynnu ar ble maent yn byw. Ni ddylem dderbyn hyn.

Un peth a allai helpu'n fawr i ddarparu gofal cyson, heb sôn am ddarparu eglurder ac arweinyddiaeth, yw strategaeth genedlaethol ar ddefnyddio sylweddau. Cyhoeddwyd yr un ddiwethaf yn 2008, rwy'n credu, ac roedd i fod i redeg tan 2018, felly mae saith mlynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad hwnnw ac rydym yn dal i aros am strategaeth newydd. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes yn dweud bod ei angen yn ddirfawr yng Nghymru. Bydd llythyr gan y grŵp trawsbleidiol ar ei ffordd atoch yn fuan, Weinidog, ond hoffwn ddeall ble rydych chi arni gyda hynny, ac unrhyw amserlenni y gallech eu darparu i ni ar gyfer strategaeth. A hoffwn wybod, a hoffwn glywed, a allwn ni edrych ymlaen at un yn y dyfodol ai peidio. Diolch yn fawr.

18:40

Rwy'n ddiolchgar i Altaf Hussain, yn gyntaf oll, am gynnal dadl fer yma heddiw, ond hefyd am roi munud o'i amser i mi. Cefais innau hefyd y fraint o ymweld â Brynawel ddiwedd y llynedd, ym mis Rhagfyr 2024. Treuliais amser gyda Sue a'r tîm yno, a'r hyn a wnaeth fy nharo am fy amser yno yw ein bod ni'n siarad am systemau a strwythurau, ac am brosesau, ond mae hyn i gyd yn ymwneud â phobl. Ac mae dau grŵp o bobl yn arbennig rwyf i eisiau rhoi clod iddynt heddiw: yn gyntaf oll, y bobl hynny sy'n troi at y gwasanaethau pwysig hyn ac yn gofyn am y cymorth a gaiff ei ddarparu iddynt. Gall y rhain fod yn bobl o unrhyw gefndir, o unrhyw gymuned, o unrhyw deulu, ac rwyf am roi clod iddynt am estyn allan yn yr eiliadau hynny o anhawster mwyaf, a chydnabod yr angen i newid eu bywydau. Felly, mae'n dda rhoi clod iddynt a'u parchu am gymryd y cam cyntaf a gwneud hynny, gan oresgyn yr hyn a all fod yn anodd ar adegau, o ran balchder a chywilydd efallai, a chydnabod bod angen y gefnogaeth honno arnynt. Roeddwn eisiau rhoi clod iddynt yn y lle hwn heddiw.

Rwyf hefyd yn cydnabod y bobl sy'n gweithio mewn llefydd fel Brynawel, sy'n darparu cymorth i'r bobl sy'n troi at y gwasanaethau hynny. Maent yn arwyr yn y ffordd y maent yn helpu pobl i dorri dibyniaeth gydol oes sy'n dryllio bywydau, ac rwy'n eu parchu ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion i gefnogi ein hetholwyr—fel y dywedaf, efallai y bydd angen eu cefnogaeth ar unrhyw un o unrhyw gymuned. A'r hyn rwy'n ei ofyn, yn fyr, i'r Llywodraeth—ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwneud hynny yn ei hymateb—yw iddi gydnabod y ddau grŵp hyn o bobl sydd angen y gefnogaeth reolaidd honno, a gofyn am rannu nid yn unig geiriau yn y lle hwn heddiw, ond ymrwymiad hefyd i gefnogaeth barhaus, boed hynny trwy adnoddau neu drwy gyllid, beth bynnag sydd ei angen, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu parhau, fod ein hetholwyr yn gallu parhau, i gael mynediad at y gwasanaethau gwirioneddol bwysig hyn. Diolch yn fawr iawn.

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant nawr i ymateb i'r ddadl. Sarah Murphy.

Diolch. Ac rwyf am ddiolch yn fawr i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon heno. Mae mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â dibyniaeth yn rhan bwysig o fy mhortffolio, ond hefyd yn fy rôl cyn imi fod yn Weinidog, cefais y pleser o fod yn ymddiriedolwr ar fwrdd Brynawel tra oedd Altaf Hussain yn gadeirydd, a dysgais lawer iawn tra oeddwn i yno. Rwy'n freintiedig iawn nawr i gael bod yn Weinidog yn y rôl hon a cheisio bwrw ymlaen cymaint ag y gallaf â'r hyn a ddysgais.

Cefais y fraint o gyfarfod â llawer o bobl a sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn, ac mae angerdd ac ymrwymiad pobl i'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a ddarparant wedi creu cymaint o argraff arnaf. Os edrychwn ar gamddefnyddio sylweddau, yn anffodus, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos yn union beth yw maint yr her. Y llynedd, cafwyd y nifer uchaf erioed o farwolaethau yn sgil defnyddio cyffuriau yng Nghymru, a gellid bod wedi osgoi pob un o'r rheini.

Rwy'n falch fod ein polisi camddefnyddio sylweddau yng Nghymru wedi'i wreiddio yn y dull lleihau niwed, sy'n cydnabod bod camddefnyddio sylweddau yn fater iechyd cyhoeddus ac nid mater cyfiawnder troseddol yn unig. Ac i ddod yn syth at gwestiwn Peredur Owen Griffiths i mi am y strategaeth, y strategaeth ddiweddaraf a oedd gennym oedd yr un ar gyfer 2019 i 2022, ond yn amlwg, mae'n 2025 nawr. Ond os caf ddweud bod gennym bolisi camddefnyddio sylweddau o hyd sydd wedi'i wreiddio yn y dull lleihau niwed. Byddai angen i ni wneud adolygiad, fel y gwnaethom gyda'r un blaenorol, i weld beth oedd yn gweithio a beth nad oedd yn gweithio a beth y gellir ei wella. Ond hefyd, yn y cyfamser, rydym wedi nodi'r canllawiau ar gyfer y strategaeth camddefnyddio sylweddau i bobl ifanc hefyd.

Felly, nid yw'n wir nad ydym yn gwneud unrhyw beth yn y gofod hwn—ac rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch yn llwyr o ran gosod y cyfeiriad wrth inni symud ymlaen, felly diolch. Ac yn amlwg, golyga hyn ein bod yn ystyried achosion ehangach defnyddio sylweddau a'i effeithiau. Mae'r rhain yn cynnwys mynediad at addysg, tai o safon, gofal iechyd, cyflogaeth dda a diogelwch ariannol. Ac rydym yn gwybod bod cymaint o bobl sy'n ymladd y defnydd o sylweddau wedi cael eu heffeithio'n ddwfn gan drawma yn ystod plentyndod neu brofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod. Ac yn yr hinsawdd ariannol anoddaf sydd ohoni dyna pam ein bod wedi gweithio'n galed nid yn unig i gynnal, ond i gynyddu lefel y cyllid gan y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau defnyddio sylweddau i ychydig dros £67 miliwn eleni. Ac mae hynny'n cydnabod maint y broblem a phwysigrwydd y gwaith hwn. Ac mae'r rhan fwyaf o'r cyllid hwn yn cael ei ddarparu i fyrddau cynllunio ardal, sy'n comisiynu gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion yr ardal.

Nawr, mae ymddangosiad sylweddau newydd, fel opioidau synthetig, yn golygu bod angen i'r gwasanaeth ymateb yn ddeinamig i dueddiadau cyfredol a thueddiadau newydd. A'r llynedd, cymerodd swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â chymheiriaid o Iechyd Cyhoeddus Cymru, ran mewn ymarfer cynllunio senarios i archwilio'r ymateb i gynnydd yn y niwed sy'n gysylltiedig ag opioidau synthetig. Ac yna cynhaliwyd trafodaethau pellach mewn byrddau cynllunio ardal i sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith.

Rydym hefyd yn ffodus iawn i gael rhaglen cyffuriau newydd ac adnabod sylweddau newydd yng Nghymru sy'n darparu data amser real a gwybodaeth i leihau niwed am sylweddau newydd a sylweddau sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru a'r DU. Ac mae rhaglen cyffuriau newydd ac adnabod sylweddau newydd Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn seinio'r larwm am nitazenes, ac yn darparu gwybodaeth i wasanaethau am yr hyn sydd angen ei wneud o ran datblygu ymwybyddiaeth a chefnogaeth.

Mae pryder cynyddol hefyd am y defnydd o cetamin ar hyn o bryd. Roedd hyn yn rhywbeth y gwnaethoch chi ei godi gyda mi ar ran y grŵp trawsbleidiol ar ddefnyddio sylweddau a dibyniaeth. Mae'n rhywbeth y mae fy swyddogion bellach yn edrych arno o ddifrif. Rwy'n croesawu ac yn gwerthfawrogi'r holl ymchwil y galloch chi ei rannu gyda mi. A thros y—. A hefyd, mae cetamin yn—. Rydym yn gwneud gwaith nawr gyda'r byrddau cynllunio ardal, ac maent yn cyflwyno asesiadau ar y cyd, fel y gall pobl gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt nawr. Ac unwaith eto, mae'n pwyntio at ble y byddem yn mynd nawr gyda'r strategaeth ar gyfer y dyfodol. Mae pethau'n symud mor gyflym yn y maes hwn.

Dros y pum mlynedd diwethaf hefyd, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol a chyson yn y marwolaethau sy'n gysylltiedig â defnyddio cocên, yn ogystal â chynnydd yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty a nifer cynyddol o bobl yn gofyn am driniaeth ar gyfer y defnydd o cocên. Yn aml, ychydig iawn o gysylltiad â gwasanaethau sydd gan bobl sy'n defnyddio cocên, ac mae hwn yn faes y gwyddom fod angen inni weithio arno. Rydym am i bobl fod yn ymwybodol o risgiau posibl a'r effaith fel y gallant wneud eu dewisiadau gwybodus eu hunain, ac yn bwysicaf oll, eu bod yn gwybod ble y gallant gael cymorth a chefnogaeth. A dyna pam y byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid, yn enwedig trwy'r byrddau cynllunio ardal a'r trydydd sector, i sicrhau bod anghenion y rhai mwyaf agored i niwed yn cael eu diwallu a'r arweiniad a'r driniaeth briodol ar waith.

Fis diwethaf, cefais y pleser o fynychu canolfan adsefydlu breswyl Brynawel yn Llanharan i agor Meadow Lodge yn swyddogol. Rwy'n siŵr y bydd y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cymaint o bobl. Roedd Altaf Hussain yno gyda mi y diwrnod hwnnw ac roedd yn foment bwysig ac arbennig iawn. Mae cael y gwelyau dadwenwyno hynny'n hynod o bwysig. Clywsom gan ddefnyddiwr gwasanaeth blaenorol a ddywedodd nad yw mynd trwy ddadwenwyno yn ddymunol, felly pan fyddwch chi'n cael ei wneud mewn cyfleuster cefnogol, modern, mae'n gwneud i chi deimlo y gallwch chi lwyddo, ac mae'n gwella'r canlyniadau. Gwyddom fod Brynawel wedi darparu gwasanaethau adsefydlu rhagorol ers bron i 50 mlynedd, a bydd y cyfleusterau newydd hyn yn cryfhau'r gwaith hwn ymhellach. Rydym hefyd wedi buddsoddi £800,000 ar gyfer datblygu Tŷ Brynawel, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd gwella'r gefnogaeth i wasanaethau a phobl sy'n brwydro.

Fel y clywsom hefyd, mae Brynawel yn cefnogi pobl sydd â niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol. Ac unwaith eto, mae hwn yn faes y gwn eich bod chi, Altaf, wedi bod mor angerddol yn ei gylch ers cymaint o flynyddoedd. Oherwydd ei fod wedi'i arwain gan ymchwil, mae'n seiliedig ar dystiolaeth a gallwch wrthdroi'r niwed. Hynny yw, mae'n hollol anhygoel. Unwaith eto, cyfarfûm â defnyddiwr gwasanaeth yno o Ferthyr Tudful ac roedd hi wedi cael ei bywyd yn ôl ac roedd hi'n meddwl na fyddai hi'n gallu siarad neu edrych ar ôl ei hun byth eto, a chyda'r gefnogaeth honno, roedd ganddi fywyd hollol newydd. Roedd yn anhygoel. Felly, o dan y fframwaith niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol, mae llwybrau clinigol yn fater i bob bwrdd cynllunio ardal ei benderfynu, ac mae'n bwysig eu bod yn gweithio'n agos gyda'r holl sefydliadau priodol i sicrhau bod niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol yn cael ei ganfod yn gynnar. Ond rwy'n derbyn bod mwy y gallwn ei wneud ar hyn, a diolch i chi am barhau i godi ymwybyddiaeth.

Rwy'n credu'n gryf fod mwy o ddealltwriaeth, arloesedd a newid a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i fynd i'r afael â chaethiwed a defnydd o gyffuriau. Ac ni allaf beidio â sôn am gyflwyno Buvidal yng Nghymru yn ystod y pandemig. Ni allaf bwysleisio digon pa mor arwyddocaol oedd hyn, ac rydym yn sicr wedi arwain y ffordd. Os byddwch chi byth yn siarad gydag unrhyw un sydd wedi defnyddio Buvidal, fe welwch eu bod wedi gallu gwneud y cam tuag at adferiad a chael eu bywydau yn ôl at ei gilydd, ac rwyf mor falch ein bod wedi gwneud hynny. Mae bellach yn cefnogi mwy na 2,000 o bobl yn y gymuned yng Nghymru, a phan fyddaf yn siarad â Llywodraeth y DU, mae'n rhywbeth rwy'n ceisio pwyntio ato a dweud, 'Mae gennym y dystiolaeth yma, gallwn ddangos i chi cymaint o wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud.'

18:50

Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â Buvidal; rwy'n credu ei fod yn wych. Ond pan fyddwch chi'n siarad â'r Llywodraeth, yn enwedig y Swyddfa Gartref, ynghylch plismona a chael trwyddedau ar gyfer profi, mae gan rai elusennau beiriannau profi na allant eu defnyddio am na allant gael trwydded, ac mae'n cael ei rwystro, felly a yw hynny'n rhywbeth y gallwch siarad â'ch cymheiriaid yn San Steffan yn ei gylch, i geisio lleddfu rhai o'r rhwystrau hynny?

Yn sicr. Mae'r cyfarfod nesaf o bedair gwlad y DU ym mis Medi, rwy'n credu, felly gall hynny'n sicr fod ar yr agenda, ond mae hefyd yn rhywbeth rwy'n ei drafod yn eithaf rheolaidd. Dylwn allu rhoi ymateb i chi wedyn ar ôl imi fynychu'r cyfarfod hwnnw.

Ac roeddwn eisiau dweud diolch hefyd wrth Dr Jan Melichar a'i dîm, sy'n rhan o wasanaeth cymorth seicolegol Buvidal. Mae cynllun peilot yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd nawr, felly bydd gennym fwy o dystiolaeth eto i ddangos cymaint o wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i bobl.

Roeddwn i hefyd eisiau cyffwrdd â'r rhaglen naloxone, oherwydd, unwaith eto, rydym yn arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru. Mae mwy na 48,000 o gitiau wedi'u dosbarthu, ac mae 3,800 a mwy ohonynt wedi'u defnyddio i wrthdroi gorddos. Unwaith eto, mae'n ymwneud â lleihau niwed, mae'n achub bywydau, ac mae'n cael ei ehangu nawr i gynnwys swyddogion carchar hefyd.

Nid oeddwn eisiau peidio â sôn am wasanaethau cymorth gamblo, oherwydd rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae llawer ohonoch wedi bod yn ei godi. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod ardoll y diwydiant gamblo bellach wedi dod i rym. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda chymheiriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru i ddatblygu gweithgareddau atal a llwybrau triniaeth sydd eu hangen arnom. Felly, rwyf am sicrhau bod unrhyw un sy'n dioddef o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn gallu cael mynediad at driniaeth amserol a phriodol, a byddaf yn cyhoeddi datganiad cyn toriad yr haf yn amlinellu ein cynlluniau, felly mae hynny'n symud yn ei flaen.

Ac rwy'n mynd i orffen trwy ddweud diolch eto am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n bwysig iawn. Mae'n tynnu sylw at lawer iawn o'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Mae Cymru'n arwain y ffordd mewn cymaint o feysydd, a hefyd y meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt, oherwydd mae hyn yn symud yn gyflym iawn. Rwy'n mynd i orffen trwy ddweud fy mod eisiau diolch i bawb sydd â phrofiad bywyd ac sy'n ei rannu. Mae cymaint o gywilydd a stigma'n gysylltiedig â hyn o hyd, ond yn union fel y dywedodd Altaf Hussain, gall pawb wella. A phan fydd pobl yn rhannu eu profiad bywyd a thaith eu hadferiad, rwy'n credu mai dyna'r peth mwyaf pwerus y gallwch ei wneud. Dyna sy'n gwneud i bobl deimlo'n llai unig, dyna sy'n helpu pobl i ofyn am gefnogaeth, a dyna beth sy'n drawsnewidiol. Felly, rwy'n parchu pawb sydd wedi siarad am eu profiad, a phawb sy'n parhau i gefnogi'r bobl hynny hefyd. Felly, diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:53.