Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/06/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Russell George.

Ffermio yn y Canolbarth

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermio yng nghanolbarth Cymru? OQ62876

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr, gyda dros £366 miliwn yn mynd at gymorth i ffermydd eleni yn unig, gan gynnwys mwy na £80 miliwn ar gyfer y cynllun taliad sylfaenol yn y canolbarth. Tra bod eraill yn sôn am sefyll yn gadarn dros gymunedau gwledig, rydym ni'n bwrw ymlaen ac yn darparu cymorth ymarferol, cyngor wedi'i deilwra trwy Cyswllt Ffermio, a chymorth gyda phopeth o gynaliadwyedd i iechyd meddwl.

Prif Weinidog, mae penderfyniad y Dirprwy Brif Weinidog i beidio â chysoni â Lloegr o 1 Gorffennaf o ran polisi tafod glas yn un trychinebus, ac yn un a fydd yn costio'n sylweddol i economi canolbarth Cymru. Mae hefyd yn bolisi anymarferol. Nid fy marn i yn unig yw hyn; dyma farn arwerthwyr a ffermwyr y gwnes i gyfarfod â nhw ym marchnad da byw y Trallwng ddoe. Byddwch yn gwybod, Prif Weinidog, mai hon yw un o'r marchnadoedd mwyaf yng Nghymru a Lloegr, ar y ffin ei hun—a dweud y gwir, gallwch chi weld y ffin â Lloegr o'r farchnad ei hun. Bydd y polisi hwn, a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf, yn arwain at oblygiadau enfawr i fasnach drawsffiniol. Bydd yn effeithio nid yn unig ar ffermwyr, ond ar y gadwyn gyflenwi gyfan, gan gynnwys yr arwerthwyr sy'n gwerthu eu stoc. Bydd ffermwyr ddim yn gwario arian yn lleol yn cael sgil-effeithiau, a bydd y sefyllfa bolisi yn costio miliynau o bunnoedd i economi canolbarth Cymru. Pan siaradais â ffermwyr ddoe, roedden nhw'n bryderus ac roedden nhw'n poeni am eu bywoliaethau. Maen nhw'n poeni am fethu â gallu dod o hyd i stoc, gan gynnwys stoc ar gyfer bridio. Felly, byddwn yn awgrymu bod angen i Lywodraeth Cymru adolygu ei pholisi ar frys cyn 1 Gorffennaf. Siaradodd y Dirprwy Brif Weinidog am ei benderfyniad yr wythnos diwethaf, gan ei wneud yn seiliedig ar y dystiolaeth a oedd ar gael. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith economaidd o'r rheolaethau y maen nhw'n bwriadu eu cyflwyno o 1 Gorffennaf?

Rwy'n gwybod bod cryn bryder mewn cymunedau gwledig ynghylch tafod glas, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud popeth yn ei allu i geisio ei gadw allan o'r wlad hon. Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'n holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys undebau ffermwyr, gan gynnwys Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a'r Gymdeithas Arwerthwyr Da Byw. Felly, mae'r trafodaethau hynny wedi cael eu cynnal. Bydd datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog yn ddiweddarach, yr wyf i'n siŵr y bydd eisiau mynd i mewn i lawer mwy o'r manylion hynny, ond hoffwn eich sicrhau y bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n barhaus ac yn ymateb i'r sefyllfa sy'n parhau.

Prif Weinidog, dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â thafod glas yw un o'r pethau mwyaf annealladwy ac anymarferol yr wyf i wedi eu gweld gan y Llywodraeth hon. Unwaith eto, ni ddefnyddiwyd unrhyw synnwyr cyffredin o gwbl. Yr hyn y mae'n ei ddangos yw datgysylltiad gwirioneddol a diffyg dealltwriaeth gan y Llywodraeth o sut mae symudiadau da byw a'n gwerthiannau da byw yn gweithio mewn gwirionedd. Ac nid yw'n dangos chwaith bod ffermwyr sydd â defaid allan ar sail dymhorol yn Lloegr bellach yn wynebu costau profi syfrdanol, trwyddedu cymhleth ac ansicrwydd enfawr, yn y dyfodol. Mae'r effaith ar fasnach drawsffiniol hefyd yn mynd i fod yn sylweddol, gan darfu ar farchnadoedd, creu system dwy haen o ran prynu da byw o ran prisiau, a tharo ein gwerthiannau bridio ledled y wlad. A gadewch i ni fod yn onest, Prif Weinidog, nid yw'r gwybed mân yn gwybod y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr—dydyn nhw ddim yn gwybod ble mae Clawdd Offa, a dydyn nhw ddim yn stopio i ddangos manylion adnabod na phasbort. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cael y penderfyniad hwn yn anghywir, ac mae'n bryd i chi gamu i mewn a dangos rhywfaint o arweinyddiaeth a newid trywydd. Felly, a wnewch chi gadarnhau heddiw y gwnewch chi newid trywydd ar y polisi hwn cyn i niwed aruthrol gael ei wneud i'n diwydiant da byw yng Nghymru? Neu a ydych chi unwaith eto yn mynd i eistedd i lawr, bod yn dawel, a dangos bod Llafur ddim yn gwybod beth sy'n digwydd, a ddim yn gwybod beth sy'n digwydd gyda'n ffermwyr da byw, fy etholwyr i a'r bobl sy'n cynhyrchu bwyd ar gyfer y wlad hon?

Fel y dywedais i, bydd datganiad mwy cynhwysfawr gan y Dirprwy Brif Weinidog yn ddiweddarach. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni'n ymwybodol bod pwysau ariannol ar ddiwydiant yn deillio o'r penderfyniad hwn, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod angen i ni fod yn bryderus am lesiant ffermwyr o ran effeithiau ymdrin ag anifeiliaid sâl os daw tafod glas i mewn. Y pwynt yw nad yw yma ar hyn o bryd, felly pam fyddem ni'n ei wahodd i mewn? Ceir goblygiadau i'r clefyd hwn. Yn amlwg, fel y dywedais i, bydd hyn yn cael ei adolygu drwy'r amser.

13:35

Prif Weinidog, mae'r undebau ffermwyr—. Rydym ni eisoes wedi clywed y dicter dwfn am y penderfyniad hwn a dull Llywodraeth Cymru o reoli tafod glas. Rydym ni'n gwybod bod pryderon y bydd y cyd-destun gwahanol ar gyfer rheoli'r clefyd ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn arwain at gostau a tharfu sylweddol o ran daliadau a masnach drawsffiniol. Felly, a gaf i ofyn yn benodol pa gymorth yr ydych chi'n ei roi i'r sector, ac yn arbennig eich cymorth i'r marchnadoedd da byw y soniwyd amdanyn nhw eisoes, yn nghanolbarth Cymru yn arbennig, sy'n dibynnu'n drwm ar y fasnach drawsffiniol honno mewn symudiadau anifeiliaid, a sut y bydd hynny'n cael ei darfu gan y dulliau cynyddol wahanol y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn eu mabwysiadu ar hyn. Felly, beth yn union ydych chi'n ei roi o ran eich cymorth?

Diolch yn fawr iawn. Cynhaliodd y Dirprwy Brif Weinidog gyfarfod bord gron tafod glas gyda chynrychiolwyr o'r sectorau da byw a milfeddygol ar 5 Mehefin i glywed eu safbwyntiau, a gwnaeth benderfyniad ar 12 Mehefin. Yn dilyn penderfyniad y Dirprwy Brif Weinidog, bydd symud da byw i gael eu lladd mewn lladd-dai dynodedig yn cael ei ganiatáu. Ond, fel y dywedais i, bydd mwy o wybodaeth pan fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn siarad yn ddiweddarach.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rydym ni wedi clywed ar draws y Siambr heddiw y pryder sy'n bodoli yn ein cymunedau gwledig, ond mewn cymunedau eraill hefyd. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid oeddwn i wedi sylweddoli'r wir effaith y bydd hyn yn ei chael ar bob agwedd ar ein bywyd yma yng Nghymru. Fel fy nghydweithwyr, rwyf i wedi cyfarfod ag arwerthwyr da byw, gyda ffermwyr, gyda milfeddygon hefyd, i glywed eu safbwyntiau. Mae opsiynau. Yn y cyfarfod bord gron ac yn y datganiad ar 12 Mehefin, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd y byddai brechu yn opsiwn a fyddai'n cael ei ystyried, ond gall hyn weithio dim ond os yw Cymru a Lloegr yn un parth ac nad oes ffin. I'r rhai ohonom ni sy'n byw mewn cymunedau ar y ffin, mae hyn yn gwbl hanfodol. Felly, Prif Weinidog—ac rwy'n sylweddoli y bydd datganiad yn ddiweddarach—rydym ni angen i chi gamu yn ôl ac ailystyried y safbwynt hwn, mae angen i ni ailfeddwl pa opsiynau sydd ar gael, mae angen i ni edrych ar frechu, ac mae angen i ni edrych ar Gymru a Lloegr fel un parth. A yw hynny'n rhywbeth y byddai eich Llywodraeth yn ei ystyried? Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol mai brechu yw'r ffordd orau o sicrhau heidiau a buchesi yn erbyn tafod glas. Rydym ni'n mynd i fod yn gweithio gyda'n partneriaid i annog ffermwyr i ystyried brechu gyda'u milfeddygon ac i gadw'n wyliadwrus am y clefyd a hysbysu am unrhyw achosion amheus. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n wir y bydd yn gweithio dim ond os bydd Cymru a Lloegr yn ei wneud, ond rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Brif Weinidog eisiau rhoi sylw i'r mater hwnnw yn ddiweddarach.

Seilwaith Trydan

2. Pryd fydd y Llywodraeth yn rhoi’r darpariaethau yn Neddf Seilwaith (Cymru) 2024 ar waith mewn perthynas â phrosiectau trydan, gan gynnwys seilwaith trosglwyddo a dosbarthu? OQ62882

Dwi’n falch o ddweud ein bod ni wedi gosod y rheoliadau heddiw ac, o fis Rhagfyr ymlaen, bydd cymunedau yn cael llais go iawn dros seilwaith ynni mawr. Dyma Lywodraeth Lafur sy’n gwneud datganoli yn y ffordd iawn, yn sefyll dros Gymru wledig, yn rhoi pobl o flaen elw, ac yn rhoi mwy o rym i leisiau lleol nag erioed o'r blaen.

Diolch am yr ateb hynny. Ydy'r Prif Weinidog yn gallu egluro a ydy'r rheoliadau sydd wedi'u gosod heddiw yn ymwneud â Rhannau 2 i 8 o'r Ddeddf sydd yn cyfro prosiectau trydan, gan gynnwys peilonau trosglwyddo a dosbarthu trydan? Beth fydd y trefniadau trosiannol i gynlluniau sydd eisoes wedi cynnal peth gwaith cyn ymgeisio, o dan yr hen drefn, fel petai, os cyflwynir y cais wedyn ar ôl y cyfnod cychwyn ar gyfer y darnau perthnasol o'r Ddeddf seilwaith? Hynny yw, a fydd dewis gyda nhw i barhau fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol—'DNS' yn Saesneg—neu a fydd yna orfodaeth i ailgyflwyno'r cais fel prosiect seilwaith arwyddocaol—'SIP' yn Saesneg? A faint o amser fydd gyda nhw i benderfynu pa lwybr fyddan nhw'n gallu ei ddewis?  

13:40

Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn darparu proses gwneud penderfyniadau gyfredol i ni ar gyfer prosiectau seilwaith sylweddol yng Nghymru, a'r holl bwynt yw ei fod yn ymwneud ag ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Mae angen i ni gryfhau'r ymgysylltiad cymunedol, a bydd gofynion ymgynghori cyn ymgeisio gwell a chyson. Gallaf ysgrifennu atoch o ran yr atebion i'ch cwestiynau penodol, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nawr ein bod ni'n cydnabod bod llawer o bryder mewn llawer o gymunedau. Rydym ni'n gwybod, fodd bynnag, y bydd rhoi ceblau pŵer o dan y ddaear yn arwain at gostau cynyddol i ddefnyddwyr, ar adeg pan fo pobl yn cael trafferth yn talu eu biliau. Felly, mae angen i ni gael y cydbwysedd hwn yn iawn, ac mae hynny, yn amlwg, yn rhan o'r hyn y bydd angen ei ystyried yn y rheoliadau newydd hyn.

Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb i Adam Price. Wrth gwrs, mae cael seilwaith yn iawn yn hanfodol i hybu economi Cymru—ysgogi twf, creu swyddi a chefnogi cymunedau, yn enwedig yn fy rhanbarth i yn y gogledd. Byddwch yn gwybod, gyda'r Ddeddf, y bydd angen y cydsyniad seilwaith newydd ar gyfer gorsafoedd pŵer yng Nghymru rhwng 50 MW a 350 MW, sef, wrth gwrs, yr ystod y byddai gennych chi adweithyddion modiwlaidd bach, tua 300 MW, ar gyfer y sector niwclear, sy'n faes posibl o dwf enfawr yn fy rhanbarth i sef Gogledd Cymru. Mae ganddo'r potensial i roi hwb i economi Cymru drwy greu'r swyddi hynny o ansawdd uchel y mae mawr eu hangen, ac, wrth gwrs, i safleoedd niwclear, fel Trawsfynydd a Wylfa, mae seilwaith sylweddol yno eisoes i gefnogi datblygiad yno hefyd. Felly, meddwl ydw i tybed pa gymorth fydd yn cael ei roi i'r sector niwclear drwy weithredu'r Ddeddf hon a'r gwaith parhaus y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, i osgoi unrhyw beryglon yn y broses gynllunio a chydsynio, yn benodol o ran canllawiau i ddatblygwyr sydd eisiau buddsoddi yn y gogledd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae'n ymddangos mai adweithyddion modiwlaidd bach yw'r newydd-ddyfodiad diweddaraf, ac yn sicr byddwch chi wedi gweld yn y cyhoeddiadau yr wythnos diwethaf bod hyn yn rhywbeth y mae gan Lywodraeth y DU ddiddordeb mawr mewn manteisio arno. Mae'r seilwaith yn bodoli, fel y dywedwch chi, yn y gogledd, yn enwedig yn Wylfa a Thrawsfynydd, felly efallai y bydd cyfleoedd yno. Rwy'n credu ein bod ni ar gychwyn cyntaf y drafodaeth hon, ond ceir cyfleoedd gwirioneddol hefyd, yn enwedig nawr mai Rolls-Royce fydd y cynigydd a ffefrir o ran adweithyddion modiwlaidd bach.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddechrau mis Ionawr, yn absenoldeb ymchwiliad ar lefel y DU i gyffredinrwydd gangiau meithrin perthynas amhriodol, galwais ar eich Llywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad i gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru. Fe wnaethoch chi wrthod. Fe wnaethoch chi awgrymu bod y mater wedi cael ei wleidyddeiddio i'r pwynt lle mae pobl yn teimlo o dan fygythiad, ac fe wnaethoch chi fynegi siom ddwywaith fy mod i'n codi'r mater yn y Senedd. Wrth ddisgrifio profiadau dim ond un dioddefwr yng Nghymru, fe wnaeth Aelodau'r Senedd hon fy ngwawdio, fy heclo a thorri ar fy nhraws, gan gynnwys, mae'n ddrwg gen i ddweud, aelodau o'ch Llywodraeth Cymru eich hun. Rydym ni ym mis Mehefin bellach, ac o'r diwedd, ar ôl misoedd lawer o oedi a mwy o loes a niwed a achoswyd i'r dioddefwyr dewr hynny sydd wedi siarad am eu profiadau, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno o'r diwedd i ymchwiliad cenedlaethol i gangiau meithrin perthynas amhriodol. A ydych chi'n difaru gwrthod galwadau dioddefwyr a goroeswyr am ymchwiliad fis Ionawr diwethaf? A ydych chi'n derbyn bod yr oedi wedi achosi mwy o niwed a loes? Ac a wnewch chi roi ymrwymiad cyhoeddus llawn nawr y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymchwiliad hwnnw ar lefel y DU ac yn cyfarwyddo pob corff cyhoeddus o dan eich rheolaeth chi yma yng Nghymru i gydweithredu'n llawn ag ef, gan fod dioddefwyr a'u teuluoedd yn haeddu dim llai?

Wel, diolch yn fawr iawn, Darren. Mae hwn yn fater eithriadol o sensitif, a phryd bynnag y byddwn ni'n trafod y materion hyn, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud anghenion a phryderon y dioddefwyr yn gwbl ganolog i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Hoffwn eich sicrhau nad oes unrhyw hunanfodlonrwydd o gwbl yn Llywodraeth Cymru. Os yw menywod neu blant yn cael eu cam-drin, rwyf i eisiau gwybod amdano ac rwyf i eisiau i ni gamu i mewn a'i atal. A dyna pam rydym ni'n gwybod y cafwyd yr ymchwiliad annibynnol hwn i gam-drin plant yn rhywiol eisoes a gadeiriwyd gan Alexis Jay, ac rydym ni eisoes yn ymgymryd â'r argymhellion a nodwyd yno.

Fel y byddwch yn gwybod, y camau a ddigwyddodd oedd bod Prif Weinidog y DU wedi comisiynu'r Farwnes Casey i gynnal archwiliad o ran gangiau meithrin perthynas amhriodol. Felly, wnaethom ni ddim dweud ein bod ni'n ei wrthod, fe wnaethom ni ddweud, 'Gadewch i ni gynnal yr archwiliad yn gyntaf.' Mae'r archwiliad hwnnw wedi cael ei gynnal bellach ac mae'r Farwnes Louise Casey ei hun bellach wedi dweud ei bod wedi newid ei meddwl am ymchwiliad cenedlaethol ac, wrth gwrs, rydym ni'n croesawu'r penderfyniad a wnaed gan Brif Weinidog y DU i gynnal ymchwiliad statudol cenedlaethol i gangiau meithrin perthynas amhriodol, a bydd ganddyn nhw ein cydweithrediad llawn, wrth gwrs.

13:45

Rwy'n falch o glywed y sicrwydd hwnnw ac rwy'n falch mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw eu bod nhw'n cefnogi'r ymchwiliad hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, yn ôl ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiadau yn galw arnaf i ddarparu tystiolaeth bod angen ymchwiliad, ac eto fe wnaeth ymchwiliad Jay, yr ydych chi newydd gyfeirio ato, i gamfanteisio'n rhywiol ar blant, yr oeddech chi'n gwybod amdano, un rhan o Gymru yn unig, sef Abertawe, a datgelodd dystiolaeth mor bell yn ôl â 2022 o gangiau meithrin perthynas amhriodol yn gweithredu yn y ddinas, gan nodi enghraifft o ferch 11 oed â phartneriaid rhywiol lluosog. Tynnodd adroddiad gan Barnardo's, sy'n mynd hyd yn oed ymhellach yn ôl i 2016, sylw at grwpiau o ddynion yn cam-drin bechgyn yn Abertawe a Chasnewydd. A dim ond y llynedd, rhybuddiodd Crimestoppers am berchnogion siopau fêps yn meithrin perthynas amhriodol â phlant cyn eu harddegau i gamfanteisio arnyn nhw'n rhywiol. Gwnaeth adroddiad Casey, a gyhoeddwyd ddoe, nifer o gyfeiriadau at Gymru, gan gynnwys camfanteisio ar blant gan gang yn Wrecsam ac achos merch 13 oed a gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan dri dyn, ond a oedd ar gynllun amddiffyn plant oherwydd esgeulustod yn unig, yn hytrach na chamfanteisio rhywiol. Felly, mae'r dystiolaeth yn eglur: mae camfanteisio rhywiol wedi bod yn digwydd o dan ein trwynau yma yng Nghymru, ac, yn achos pryder, cyfeiriodd y Farwnes Casey hefyd at fwy na 1,000 o blant o dan 18 oed yn derbyn cymorth mewn canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yma yng Nghymru yn 2023-24 yn unig. Ac mae'n ymddangos bod hynny'n fwy na dwywaith y gyfradd o bobl ifanc dan 18 oed sy'n cyflwyno mewn canolfannau o'r fath yn Lloegr. Mae hynny'n frawychus. 

Nawr, pan gyflwynais gwestiynau ysgrifenedig yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei gohebiaeth â'r heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill yn ôl ym mis Ionawr, cymerodd bum wythnos i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ymateb syml o dair brawddeg. Ni chyhoeddodd yr wybodaeth; cyhoeddodd yr hyn yr oeddwn i'n ei gredu oedd yn ymateb tair brawddeg diystyriol. Ac mae adroddiad Casey hefyd yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu gwybodaeth y gofynnodd amdani hefyd, a rhybuddiodd bod ofni cael eu cyhuddo o hiliaeth wedi atal awdurdodau rhag gweithredu, yma yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, a wnewch chi sicrhau, Prif Weinidog, y bydd cydweithrediad llawn â'r ymchwiliad cenedlaethol nawr, y byddwch chi'n cyhoeddi'r wybodaeth yr wyf i wedi gofyn i chi ei rhoi yn y parth cyhoeddus yn y gorffennol o ran gohebiaeth rhwng asiantaethau, ac y byddwch chi'n cyfarwyddo nawr yr holl gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r holl wybodaeth a dogfennau y gofynnir amdanyn nhw, beth bynnag fo ethnigrwydd y troseddwyr?

Wel, diolch yn fawr iawn. Cyhoeddwyd yr adroddiad ddoe. Yn amlwg, byddwn yn edrych ar yr argymhellion i sicrhau bod cydweithrediad llawn. Rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i sicrhau y bydd materion Cymru ac unrhyw ddigwyddiadau diweddar, yn ogystal â digwyddiadau hanesyddol, yn cael eu hymchwilio a'u dadansoddi gan yr ymchwiliad hwn. Mae'n amlwg yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef, felly rwy'n credu bod angen dysgu gwersi. Mae'n rhaid i ni beidio â phetruso rhag casglu data ar ethnigrwydd troseddwyr. Cam-drin yw cam-drin yn fy marn i, ac mae'n rhaid ei gondemnio, o le bynnag y mae'n dod. Ond yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n cydymffurfio a'n bod ni'n gweithio gyda'r ymchwiliad i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal yr agwedd ofnadwy hon a bod y pethau sy'n digwydd i ferched ifanc yn ein cymunedau yn dod i ben.

Prif Weinidog, fe wnes i'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus yn ôl ym mis Ionawr oherwydd i mi ddarllen am hanes Emily, goroeswr cam-drin rhywiol o Gymru. Fel y byddwch chi'n gwybod, oherwydd adroddiadau yn y cyfryngau, pan oedd yn ei harddegau, fe wnaeth grŵp o ddynion yng Nghymru feithrin perthynas amhriodol â hi a wedyn ei masnachu o gwmpas y DU ar gyfer rhyw. Cafodd ei threisio dros 1,000 o weithiau. Ysgrifennodd lyfr torcalonnus am ei phrofiadau, ac ers blynyddoedd mae wedi bod yn ymgyrchu dros gyfiawnder, nid yn unig iddi hi ei hun, ond i'r holl ddioddefwyr eraill hynny o'r drosedd ffiaidd hon, ac i'r rhai y mae eisiau eu hamddiffyn, gan ei bod yn credu bod y pethau hyn yn dal i ddigwydd. Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad ag Emily yn ystod y dyddiau diwethaf, a chefais sgwrs â hi eto y bore yma, a dywedodd wrthyf ei bod wedi bod yn ceisio codi pryderon am gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ond yn teimlo ei bod wedi cael ei siomi gan yr awdurdodau, gan arbenigwyr honedig, a chan Lywodraeth Cymru yn wir. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog: a wnewch chi gytuno i gwrdd ag Emily, gyda mi, yn bersonol, fel y gallwch chi glywed yn bersonol am ei phrofiadau, ac fel y gallwn ni nodi ei phryderon a chydweithio o'r diwedd trwy roi gwleidyddiaeth pleidiau o'r neilltu i wneud yn siŵr bod yr ymchwiliad hwn yn sicrhau cyfiawnder i Emily a miloedd o ddioddefwyr fel hi ar draws y wlad hon?

13:50

Diolch yn fawr iawn. Mae gormod o fenywod a merched wedi dioddef yn nwylo'r troseddwyr hyn. Rwyf i eisoes wedi cyfarfod â menywod a oedd wedi'u lleoli mewn hostel a oedd yn amlwg yn cael ei dargedu gan rai pobl. Rwyf i wedi cyfarfod â chomisiynwyr yr heddlu i drafod y mater hwn. Ac rwy'n credu mai'r peth pwysig yw ein bod ni'n parhau i gadw'r dioddefwyr yn flaenllaw yn ein meddyliau a'n bod ni'n dilyn nawr lle mae'r ymchwiliad yn mynd â ni.

Diolch, Llywydd. Mae gan Blaid Cymru weledigaeth gadarnhaol ar gyfer Cymru, gan gredu, heb amheuaeth, nad yw hyn mor dda ag y gallai pethau fod i'n cenedl. Mae angen y weledigaeth honno arnom ni ar gyfer tegwch, ar gyfer ffyniant, ac i gyfleoedd newydd gael eu creu, ond rydym ni gwybod ei fod angen buddsoddiad. Dyna pam mae rhwystredigaeth ddofn flwyddyn ar ôl blwyddyn ynglŷn â'r ffordd y mae Cymru'n cael ei hariannu, a dyna pam mae rhwystredigaeth ddwys pan fydd Llywodraeth Cymru yn dathlu fel buddugoliaeth yr hyn a oedd yn amlwg yn adolygiad o wariant a adawodd Gymru ymhellach ar ei hôl hi o ran y buddsoddiad sydd ei angen: y twf termau real gwaethaf i gyllideb gyfalaf yr holl Lywodraethau datganoledig, bargen waeth na'r Alban a Gogledd Iwerddon, bloc cyfalaf sy'n gostwng rhwng 2026 a 2030, y risg o doriadau termau real i rai gwasanaethau, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, y twf arafach i wariant dyddiol Llywodraeth Cymru y tu allan i flynyddoedd cyni cyllidol, a'r posibilrwydd o doriadau i gyllidebau y tu hwnt i iechyd ar y gorwel. A yw'r Prif Weinidog yn anghytuno ag unrhyw un o'r ffeithiau hynny yr wyf i newydd eu cyflwyno?

Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw ein bod ni wedi gweld £5 biliwn yn yr adolygiad diweddar o wariant o ran gwariant cyhoeddus. Mae hwnnw'n arian y gallwn ni ei wario ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru, gan gynnwys pethau fel iechyd, addysg a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cynhyrchu swyddi o ansawdd. Y gwir amdani yw pan fyddwn ni'n cael arian i mewn i Gymru, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael ein cefnogi a'i fod yn cael ei wario ar y cymunedau hynny, ac mae gen i ofn bod eich plaid chi wedi dangos yn y gorffennol na wnewch chi sefyll yn gadarn â ni a chefnogi cyllideb a fyddai'n mynd at gynorthwyo cymunedau.

Rwy'n gweld nad oes unrhyw beth wedi newid ers yr wythnos diwethaf, ac yn y bôn mae gennym ni Brif Weinidog sy'n amddiffyn yr anamddiffynadwy. Gwrandewch, pe bai Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn treulio llai o amser yn chwifio ei fys arnaf i, a Llywodraeth Cymru fwy o amser yn tynnu ei bys allan ac yn tynnu sylw at ddiffygion yr adolygiad hwn o wariant, efallai na fyddai'r cyhoedd yng Nghymru yn colli cymaint o ffydd yn Llafur.

Gadewch i ni symud ymlaen at fwy o ffeithiau: £445 miliwn mewn cyllid rheilffyrdd, tua hanner yr hyn y dylem ni fod yn ei gael mewn symiau canlyniadol HS2 yn unig dros gyfnod yr adolygiad o wariant, heb sôn am wneud iawn am danariannu hanesyddol gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol. O ddilyn cyfrifiadau'r Prif Weinidog ei hun, bydd Cymru yn colli mwy na £100 miliwn o gyllid cyfalaf bob blwyddyn oherwydd dynodiad HS2 fel prosiect Cymru a Lloegr. Roedd ffynonellau Llafur yn dweud bod y £445 miliwn yn fwy na chyfran Cymru o gyllid rheilffyrdd pe bai wedi cael ei gyfrifo ar sail Barnett. Yn syml, nid yw'n wir. Ac, fel y dywedodd Canolfan Llywodraethiant Cymru:

'Mae unrhyw awgrym bod y cyllid hwn yn digolledu Cymru mewn unrhyw ffordd am y golled a ddeilliwyd o HS2 yn amlwg yn anghynaliadwy.'

Nawr, onid yw cyfaddefiad Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid mai'r rheswm nad ydym ni'n cael mwy o arian yw oherwydd nad oes gennym ni unrhyw beth i'w wario arno yn ddatganiad damniol o fethiant Llywodraeth Cymru dros flynyddoedd lawer i wneud y ddadl dros wariant ar seilwaith Cymru?

13:55

Wel, mae hwn yn gam cyntaf da i fynd i'r afael â'r tanariannu hanesyddol o ran seilwaith rheilffyrdd gwirioneddol, a gadewch i ni beidio ag anghofio nad yw hyn wedi'i ddatganoli. Nid yw hyn wedi'i ddatganoli. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hyn, ac mae'n bwysig y gallwn ni symud ymlaen, bod llif o brosiectau, a chyfeiriwyd at y llif hwnnw o brosiectau gan y Canghellor ar ei hymweliad â Chymru yr wythnos diwethaf. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y darparwyd pethau eraill yn yr adolygiad hwn o wariant. Fe wnaethom ni ofyn am flynyddoedd am gymorth i gael gwared ar y tomenni glo ac i ddiogelu'r tomenni glo hynny. Nawr rydym ni wedi cael yr arian ychwanegol hwnnw, £118 miliwn, i gynorthwyo'r cymunedau hynny tra eu bod nhw'n gweld o'u cwmpas yr ansefydlogrwydd o ran y tomenni glo hynny o ganlyniad i newid hinsawdd. Y peth pwysig i'w gofio yw bod yn rhaid i ni amsugno'r arian hwn. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw gwneud yn siŵr bod gennym ni'r bobl ar gael ac yn barod i fynd yn y cymunedau hynny, y swyddi hyn yn y cymunedau hynny, ac mae'r un peth yn wir am reilffyrdd hefyd. Ni allwch chi droi'r pethau hyn ymlaen dros nos. Rydym ni wedi gwneud ein gwaith yn Llywodraeth Cymru i baratoi, i wneud yn siŵr bod pethau yn eu lle, yn barod i fynd, ond roedd cydnabyddiaeth erioed y byddai'n cymryd mwy na thair blynedd i adeiladu rhai o'r gorsafoedd rheilffordd hynny.

Yr hyn a welais yr wythnos diwethaf, ac yr wyf i'n dal i'w weld nawr, yw eich bod chi'n 'Prif Weinidog: mae'r gwaith ar ben', ac mae honno'n sefyllfa beryglus iawn i fod ynddi. Ac o ran tomenni glo, yr hyn sydd gennym ni o hyd yw Llywodraeth y DU yn cytuno i dalu dim ond £1 mewn £5 o'r arian sydd ei angen i unioni anghyfiawnder hirsefydlog. A phan ddaw i Gymru, gadewch i ni fod yn onest, doedd dim byd cynhwysfawr o gwbl, oedd yna, am yr adolygiad o wariant. Ni fu unrhyw newid i'r system sydd wedi torri, sy'n gwreiddio annhegwch buddsoddiad rheilffyrdd, dim newid i derfynau benthyg 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, dim newid i'r terfynau wrth gefn, dim newid i'r fformiwla ariannu sydd wedi dyddio.

Nawr, dywedodd y Prif Weinidog, o'i gwthio, mewn cyfweliad dros y penwythnos ei bod hi eisiau gweld adolygiad o gyllid. Haleliwia. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am hyn ers cynifer o flynyddoedd, fel y gallwn ni fynd ar drywydd y weledigaeth honno o degwch i Gymru. Heb gyllid teg, fformiwla ariannu teg, y cwbl sydd gennym ni yw cytundeb ystafell gefn rhwng canghennau Llafur yng Nghymru a Llundain, cytundeb na fydd yn gwneud bywyd yn rhy anodd i'r llall trwy ofyn am yr hyn sy'n ddyledus mewn gwirionedd. Yng ngeiriau'r Canghellor ei hun, cafodd Llywodraeth Cymru yr hyn a ofynnodd amdano. Nawr, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf yr wythnos diwethaf, yma, nad oedd yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn yr adolygiad o wariant, er gwaethaf ei fideo, yr oedd yn ymddangos fel pe bai wedi cael ei ffilmio y diwrnod hwnnw, yn awgrymu ei bod hi. Ond onid y gwir yw nad oedd eisiau dweud wrthyf i gan ei bod yn teimlo cywilydd am ofyn am gyn lleied a chael yn union hynny?

Rydych chi'n sôn am ddim byd yn newid ers yr wythnos diwethaf. Nid oes unrhyw beth wedi newid o'r wythnos diwethaf o'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Fe wnaethom ni rybuddio yr wythnos diwethaf, beth bynnag y byddai Llywodraeth y DU yn ei gynnig, y byddai Plaid Cymru yn cwyno. A dyma nhw, yn y fan a'r lle. Gadewch i mi ddweud wrthych chi, o ran gwaith ar ben, nid yw fy ngwaith byth yn mynd i fod ar ben. Byddaf bob amser yn gofyn am fwy o ran Cymru. Byddaf bob amser yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n mynnu ein cyfran deg. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i ofyn amdani, a dyna pam mae'n iawn y byddwn ni'n parhau i ofyn am fformiwla i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cyfran deg. Rydych chi'n galw ac rydych chi'n galw ac rydych chi'n galw, a dydych chi byth yn cyflawni. Rydych chi'n galw am annibyniaeth. Mae hynny'n rhywbeth nad yw'r cyhoedd yng Nghymru eisiau ei weld. Ond, pe baen nhw'n ei weld, gadewch i mi ddweud wrthych chi, byddech chi'n crafu o gwmpas am arian na allech chi fyth ddod o hyd iddo. Ac fe ddywedaf i wrthych chi beth: ni fyddai eich cymunedau yn diolch i chi am hynny.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o’r effaith y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi'i chael ar lesiant pobl yng Nghymru? OQ62888

Mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn unig wedi ei chyflwyno, gan roi pobl, y blaned a systemau meddwl hirdymor mewn cyfraith. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i ysgogi newid, o brydau ysgol am ddim cyffredinol i brosiectau cymunedol gwyrdd. Nid polisi yn unig ydyw; dyma'r ffordd goch Gymreig o lywodraethu.

Diolch, Prif Weinidog. Felly, 2025 yw degfed pen-blwydd y Ddeddf, darn pwysig o ddeddfwriaeth a meddylfryd sy'n rhoi'r uchelgais, y caniatâd a'r rhwymedigaeth gyfreithiol i ni wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae'n rhoi sylw i'r tymor hir. Mae gennym ni un Gymru ac un blaned. Mae angen i ni droedio'n ysgafn ac yn gynaliadwy. Rydych chi'n gwybod mai blaenoriaeth i mi yw diogelu ein hamgylchedd naturiol i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau, ac yn gwybod bod gan lawer o wledydd eraill ddiddordeb mawr yn y Ddeddf hon. Felly, a ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod y Ddeddf yn enghraifft arloesol o sut mae Cymru yn arwain y byd o ran blaengaredd, a'i fod yn ddull gwych o lywodraethu? Sut allwn ni gynorthwyo awdurdodau cyhoeddus i feddwl ar sail hirdymor pan fyddan nhw'n ymdrin, ar hyn o bryd, gyda'r hyn sy'n digwydd yma nawr? Diolch.

14:00

Diolch yn fawr iawn. Mae'r Ddeddf wedi bod yn arloeswr ac mae'n enghraifft flaenllaw o bolisi cenedlaethau'r dyfodol yn rhyngwladol, ac mae hynny'n dylanwadu ar wledydd ym mhedwar ban byd. Yn 2024, enillodd y Ddeddf Wobr Polisi Dyfodol y Byd am fod yn enghraifft flaenllaw o bolisi cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni'n aelod blaenllaw o'r rhwydwaith Llywodraethau Economi Llesiant. Mae'r holl bethau hyn ynghlwm i'r Ddeddf.

Ac fe wnaethoch chi ofyn am sut y gall awdurdodau lleol weithio a defnyddio'r Ddeddf. Wel, maen nhw'n defnyddio'r Ddeddf trwy ddefnyddio'r pum ffordd o weithio fel esiampl o ran meddwl sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Mae hynny'n cefnogi'r pwyslais ar atal. Mae hynny'n mynnu edrych ar y tymor hir. Mae'n un o'r pum ffordd o weithio o fewn yr egwyddorion datblygu cynaliadwy. Felly, mae'n golygu gwneud yn siŵr eich bod chi'n diwallu anghenion heddiw heb aberthu cenedlaethau yfory.

Prif Weinidog, yn y 10 mlynedd ers cyflwyno Deddf cenedlaethau'r dyfodol, mae bron i un rhan o dair o blant ein cenedl yn byw mewn tlodi. Mae defnydd o fanciau bwyd yn eithriadol o uchel, ac mae teuluoedd sy'n gweithio yn wynebu trethi ar eu lefel uchaf erioed. Os na allwn ni atal cenedlaethau'r dyfodol rhag bod ar y llinell dlodi, beth yw pwynt y comisiynydd? Prif Weinidog, a oes gan eich Llywodraeth unrhyw gynlluniau i ail-werthuso'r Ddeddf neu ailstrwythuro'r comisiynydd?

Wel, diolch yn fawr iawn. Allaf i ddim credu bod Ceidwadwr yn siarad â mi am dlodi plant. Cynyddodd yn sylweddol iawn o dan y Ceidwadwyr. Nawr, gadewch i mi siarad am y 50 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Yn y rhan fwyaf o'r argymhellion—. Mae'r comisiynydd wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar a bydd yn edrych ar argymhellion yr adroddiadau hynny. Mae'n edrych fel ein bod ni'n gwneud cynnydd mewn sawl maes yn ymwneud â'r nodau llesiant, yn enwedig o ran ansawdd aer efallai. Ond yn amlwg, mae mwy i'w wneud bob amser a cheir llawer o ddangosyddion lle'r ydym ni'n gwybod nad yw'r duedd yn mynd y ffordd iawn ac mae angen i ni wneud mwy. Ond os edrychwch chi ar bethau fel tlodi plant, yn amlwg, a phethau fel prydau ysgol am ddim, pethau fel y ffaith ein bod ni'n cynorthwyo pobl sydd ar fudd-daliadau gyda'u treth gyngor, mae'r holl bethau hynny yn bethau sy'n helpu i leihau tlodi plant, a dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gwario £7 biliwn ar gynorthwyo pobl sy'n cael trafferth gyda'u biliau ac yn byw mewn tlodi.

Ariannu Gofal Cymdeithasol

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu gofal cymdeithasol? OQ62893

Rŷn ni'n buddsoddi dros £6.1 biliwn mewn gwasanaethau lleol eleni, gan gynnwys grant newydd o £30 miliwn i drawsnewid llwybrau gofal. Rŷn ni'n deall bod gofal da yn angen sylfaenol, ac nid yn opsiwn ychwanegol. Mae'r Llywodraeth Lafur yma'n cefnogi gofalwyr, yn cefnogi teuluoedd ac yn gosod y sylfaen ar gyfer gwasanaeth gofal cenedlaethol.

Diolch am yr ateb. Wel, yr wythnos diwethaf fe gawsom ni adolygiad ariannol Llywodraeth San Steffan, ac mae methiant yr adolygiad yna i ddarparu ariannu teg i Gymru wedi cael ei gofnodi yn helaeth, ac yn wybyddus i o leiaf rhan fwyaf o bobl Cymru. Ond beth sydd wedi cael llai o sylw ydy methiant llwyr yr adolygiad i ariannu'r gwasanaeth gofal. Yn wir, mae llywodraeth leol yn Lloegr am weld eu cyllidebau nhw yn cael eu gwasgu, sydd yn debygol o arwain at lai o arian at y gwasanaeth gofal yno. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi inni yma na fydd y sector gofal yng Nghymru yn dioddef yn sgil yr ariannu a ddaw i Gymru, ac a ddylen nhw ddisgwyl gweld cynnydd yn eu cyllidebau?

Diolch yn fawr. Mae hwn, wrth gwrs, yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol o ran cyllidebau, a'r sialens fawr, wrth gwrs, o ran gofal cymdeithasol yw ffeindio digon o weithwyr gofal, a dyna pam rŷn ni yn ein pedwaredd flwyddyn o'n hymrwymiad i ariannu cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol. Ac ar ben hynny, rŷn ni'n darparu £32 miliwn i Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi recriwtio a chadw staff. Felly, rŷn ni'n gwneud beth rŷn ni'n gallu yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi buddsoddi yn y gwasanaeth gofal ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau o ran ble fyddwn ni eisiau buddsoddi yn y dyfodol.

14:05

Ym mis Mawrth, gwnaeth sefydliad nid-er-elw Fforwm Gofal Cymru—sydd, fel y gwyddoch chi, yn cynrychioli darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol ledled Cymru—gyhoeddi gwaith ymchwil yn dangos y gydberthynas ymddangosiadol rhwng cynghorau sy'n talu'r ffioedd cartrefi gofal isaf ac ysbytai â'r ganran uchaf o gleifion nad ydyn nhw'n gallu gadael yr ysbyty oherwydd diffyg gwelyau sydd ar gael, neu flocio gwelyau. Betsi Cadwaladr yn y gogledd a Hywel Dda oedd y byrddau iechyd â'r cyfraddau uchaf. Ynys Môn a Gwynedd oedd y ddau gyngor â'r ganran uchaf o gleifion a oedd yn aros am welyau fel y gallen nhw gael eu rhyddhau. Er eu bod ymhlith y talwyr ffioedd gofal isaf, maen nhw hefyd ar y gwaelod o ran cyllid llywodraeth leol Llywodraeth Cymru.

Roedd gan Gonwy, un arall o'r cynghorau ar waelod cynghrair ariannu Llywodraeth Cymru, lefel uwch o flocio gwelyau, er ei fod yn dalwr uwch, ond mae ganddo'r boblogaeth hynaf yng Nghymru. Ac er ei bod yn talu'r swm isaf yr wythnos am leoedd gofal, sir Ddinbych oedd â'r ganran isaf o gleifion ysbyty yn y gogledd a oedd yn aros am welyau gofal, ond yn dal yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Pa gamau, felly, os o gwbl, ydych chi'n eu cymryd gyda Fforwm Gofal Cymru i ddarganfod y rhesymau am hyn o'r diwedd a'i ddatrys?

Diolch yn fawr iawn. Ceir llawer o ffactorau sy'n cyfrannu at yr anhawster yn cael pobl allan o ysbytai, ac rydych chi'n iawn, efallai fod rhywfaint ohono'n ymwneud â ffioedd cartrefi gofal, ond mewn gwirionedd mae rhywfaint ohono'n yn ymwneud yn syml â'r ffaith ei bod hi'n anoddach recriwtio pobl i weithio yn y sector gofal mewn rhai ardaloedd o'u cymharu ag eraill. Felly, nid wyf i'n credu bod y pethau hyn yn ddu a gwyn; rwy'n credu bod llawer o wahanol faterion y mae'n rhaid i ni eu hystyried, ond yn sicr y peth allweddol, yn fy marn i, yw ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd yn gweithio yn y sector gofal yn cael eu talu, ac yn cael eu talu'r cyflog byw gwirioneddol, fel yr ydym ni wedi darparu ar ei gyfer.

Er fy mod i'n sylweddoli bod gosod ffioedd gofal cymdeithasol yn gymhleth, ceir anghysondebau enfawr yng ngwerth hawl gofal unigolion, gyda Wrecsam yn gyson ar waelod y 22 ardal awdurdod lleol, ac ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, mae'r pedwar lle isaf yn y tabl wedi'u llenwi gan awdurdodau lleol yn y gogledd. Ac mae hefyd yn amlwg nad yw byrddau iechyd bob amser yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar fethodoleg gostio. Mae gennym ni safonau rheoleiddio cenedlaethol ac mae gennym ni reoleiddiwr cenedlaethol, ond mae gennym ni'r anghydraddoldeb hwn o hyd sy'n wynebu rhai o'm hetholwyr mwyaf agored i niwed. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa annheg hon?

Wel, os oes gennych chi dystiolaeth nad ydyn nhw'n dilyn canllawiau, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn gweld honno, fel y gallwn ni fynd ar drywydd hynny. Rwy'n credu mai'r peth pwysig i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi cymaint o gymorth â phosibl. Rydym ni'n ceisio, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, creu dull mwy cenedlaethol, lle ceir system lle mae pawb yn deall ble maen nhw'n sefyll. Mae'r corff cenedlaethol hwnnw, y dull cenedlaethol hwnnw, yn datblygu—rydym ni ymhellach ar y blaen yn hynny, o'n cymharu â Lloegr—ond y gwir amdani yma yw bod angen mwy o arian yn y system, ac mae hynny'n anodd iawn. Yn amlwg, mewn byd delfrydol, hoffem weld hynny'n cael ei ddeall gan Lywodraeth y DU, ond mae'n anhawster i ni. Yn ddelfrydol, byddai'n dda ei wneud gyda nhw, ond mae'n amlwg bod y mater hwn yn mynd i fod yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei gymryd o ddifrif, ac rwy'n gobeithio bod y ffaith ein bod ni ar daith o ran creu gwasanaeth gofal cenedlaethol yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y mae pobl yn ei werthfawrogi, ond ar ryw adeg, mae problem i'w datrys o ran sut rydym ni'n ariannu gofal yn y dyfodol.

Ffioedd Rheoli Ystadau

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â ffioedd rheoli ystadau? OQ62854

Rydym ni'n gweithio law yn llaw â Llywodraeth Lafur y DU i sefyll yn gadarn dros berchnogion tai a chyflawni newid gwirioneddol trwy Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024. Am y tro cyntaf, bydd gan bobl yr hawl i herio taliadau ystad annheg a mynnu tryloywder llawn. Mae'n gam mawr ymlaen, a bydd ymgynghoriad ar weithredu yn cychwyn yn ddiweddarach eleni. Dwy Lywodraeth Lafur yn sicrhau tegwch ac atebolrwydd.

14:10

Mae trigolion Cwm Calon yn Ystrad Mynach newydd gael eu trydydd cynnydd mewn cynifer o flynyddoedd i'r ffioedd y maen nhw'n eu talu, ac, a dweud y gwir, mae Meadfleet yn darparu gwasanaeth cywilyddus o wael. Rwy'n credu bod angen cyfle arnyn nhw i newid eu cwmni rheoli a gwneud y cwynion sy'n angenrheidiol i gael y gwelliannau y maen nhw eu heisiau. Yn anffodus, nid yw'r Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad wedi cael ei rhoi ar waith eto yn hynny o beth. Rydym ni'n dal i aros i'r rheoliadau ddigwydd er mwyn ei roi ar waith. Mae Alistair Strathern, yr AS Llafur dros Hitchin, wedi codi hyn yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae wedi cyflwyno ei Fil Aelod preifat ei hun sy'n mynd ymhellach na'r Ddeddf lesddaliad a diwygio. Yr hyn y mae'n galw amdano yw na ddylai fod gan ystadau newydd dir sydd heb ei fabwysiadu sy'n cael ei drosglwyddo i gwmnïau rheoli ystadau. Ar hyn o bryd, mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn dweud bod 80 y cant o ddatblygiadau newydd yn destun lesddaliad. Ac mae'n dweud bod angen i ni feddwl am beth mwy y gallwn ni ei wneud i atal mwy o ystadau heb eu mabwysiadu rhag dod yn norm cyn i ni weithredu. Mae gormod yng Nghymru sydd yn y sefyllfa honno.

Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi cyhoeddi'r adroddiad hwn, 'Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol'. Mae'r teitl yn dweud y cyfan, ond mae ceir rhai argymhellion da iawn ynddo. Felly, un neu ddau o bethau yr hoffwn eu gweld yw, yn gyntaf oll, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar sut yr hoffai ymateb i'r adroddiad hwnnw, ac i'r Prif Weinidog siarad â Llywodraeth y DU i roi'r pethau hynny ar waith yn y Ddeddf lesddaliad a rhydd-ddaliad, fel y gellir atal y sgandalau hyn ledled Cymru a ledled y DU rhag digwydd yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, Hefin, a diolch am hyrwyddo ac eirioli'n ddiflino dros lesddeiliaid yn eich etholaeth. Rwy'n credu eu bod nhw wedi wynebu problemau sydd wedi para ers amser maith iawn gyda thaliadau rheoli ystadau, ac rydych chi wedi nodi'r rheini heddiw. Edrychwch, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau am y gwaith ar ddyfodol taliadau rheoli ystadau. Mae pobl yn cael trafferth gyda chostau byw eisoes heb y math yma o beth ar ei ben.

Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn mynd i adrodd ym mis Gorffennaf ar yr argymhellion y mae'r pwyllgor wedi eu gwneud, a bydd cyfle i chi gael dadl ar y pwynt hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud, o ran y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud gyda'r Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad, yw bod yr hawliau hynny, fel y dywedais i, yn dechrau cael eu rhoi ar waith, ac rydym ni'n dechrau ymgynghori nawr, ond ceir bwriad gan Lywodraeth y DU i fynd ymhellach gyda Bil diwygio lesddaliad a chyfunddaliad newydd, a disgwylir i hwnnw gael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Felly ceir cyfle, gobeithio, i ymgorffori rhai o'r materion yr ydych chi'n poeni amdanyn nhw yn hynny.

Yn dilyn ymlaen o'r hyn y mae Hefin David newydd ei ddweud, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n mynd i'r afael â'r broblem hon, sy'n bodoli ledled Cymru. Mae'n effeithio ar drigolion ar draws fy rhanbarth i yn yr un ffordd ag y mae yng Nghaerffili. Yr hyn sy'n aml yn digwydd yw bod trigolion hefyd yn canfod nad yw'r gwaith a addawyd gan y bobl hyn ar gyfer y cynnydd sy'n cael ei hyrwyddo yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd. Felly, mae honno'n broblem arall sydd gennym ni yn y fan honno. Rwy'n croesawu'r ddogfen a amlinellwyd eisoes gan Hefin David. Ceir rhai awgrymiadau da ynddi, ac rwy'n croesawu unrhyw beth a wnaed eisoes gan y ddwy Lywodraeth, ond, a dweud y gwir, mae angen gwneud mwy.

Un o'r pethau y mae rhai o'm trigolion wedi ei ddweud yw eu bod nhw, mewn ystadau tai newydd, yn talu ffioedd blynyddol enfawr am barciau, ffyrdd ac ymylon, a phopeth arall, tra hefyd yn talu'r dreth gyngor. Mae hon yn dreth ddwbl ar drigolion i bob pwrpas. Felly, roeddwn i'n meddwl, Prif Weinidog, pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi i edrych ar roi gostyngiad treth gyngor, efallai, i drigolion mewn ystadau tai newydd i adlewyrchu'r tâl dwbl hwnnw? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Dyma rai o'r pethau a fydd yn cael sylw gan yr Aelod Cabinet pan fydd yn ymateb i'r adroddiad hwnnw. Rwy'n credu bod pethau yn mynd i gyfeiriad gwell ers cyflwyno'r Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad: gwell hawliau i ymestyn les neu brynu'r rhydd-ddaliad; cynyddu tryloywder ffioedd gwasanaeth; dileu'r rhagdybiaeth y bydd lesddeiliaid bob amser yn talu ffioedd cyfreithiol eu landlordiaid; gwahardd y defnydd o lesddaliad ar gyfer tai newydd; a chynyddu hawliau i rydd-ddeiliaid sy'n talu ffioedd rheoli ystad. Felly, mae pob un o'r rheini yn dod—mae hynny'n beth da. Ond fel y dywedais i, mae bwriad i fynd hyd yn oed ymhellach i lenwi'r bylchau a adawyd gan y Llywodraeth ddiwethaf.

14:15
Prentisiaethau

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu prentisiaethau yn Nwyrain De Cymru? OQ62890

Rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Senedd hon, gyda chefnogaeth £144 miliwn o fuddsoddiad, ac mae hynny'n cefnogi sgiliau gwirioneddol, swyddi gwirioneddol a dyfodol gwirioneddol. Mae ein hymgyrchoedd cenedlaethol ni'n herio hen stereoteipiau, ac maen nhw'n gwneud prentisiaethau yn llwybrau a fydd yn ddewis cyntaf i bobl ifanc a chyflogwyr fel ei gilydd. Mae ein gwasanaeth prentisiaethau swyddi gwag yn helpu busnesau i ddod o hyd i'r dalent y mae ei angen arnyn nhw, ac yn y de-ddwyrain yn unig, fe ddechreuwyd ar dros 4,000 o brentisiaethau'r llynedd. Rydym ni'n creu cyfleoedd, rydym ni'n meithrin ein heconomi ac yn rhoi'r arfau i'r genhedlaeth nesaf ar gyfer llwyddo.

Diolch i chi am eich ymateb, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod prentisiaethau yn llwybrau hynod werthfawr i'r gweithle i rai nad ydyn nhw'n awyddus i fynd i brifysgol efallai ac nad yw astudiaeth bellach yn ddeniadol iddyn nhw. Ond mae penderfyniad y Llywodraeth hon i dorri cyllideb prentisiaethau 14 y cant ag effaith ddinistriol, gyda gostyngiad o 20 y cant o ran prentisiaethau yn gyffredinol. Mae hynny'n golygu y bydd dros 900 yn llai o gyfleoedd i bobl fynd am brentisiaeth.

Fe hoffwn i ganolbwyntio ar brentisiaethau adeiladu yn benodol y prynhawn yma, gan fod y sector hwnnw wedi gweld gostyngiad syfrdanol o 48 y cant yn y niferoedd sy'n manteisio arnyn nhw. Prif Weinidog, mae hynny'n golygu 205 yn llai o  brentisiaethau adeiladu yn dechrau o'i gymharu â'r un chwarter y llynedd. A gadewch i ni fod yn eglur, cafodd y dirywiad sydyn hwn ei achosi gan doriadau cyllideb y Llywodraeth a'r penderfyniad i gael gwared ar brentisiaethau sylfaen lefel 2. Mae ymchwil wedi canfod bod 1,075 yn llai o brentisiaethau adeiladu ar gael o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae'n rhaid i mi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch a rhoi teyrnged i'm cyd-Aelod Samuel Kurtz, sydd wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol o ran dwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran prentisiaethau. Prif Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth chi wrthdroi'r toriadau cyllideb creulon hyn ac ailsefydlu'r brentisiaeth sylfaen lefel 2, gan mai dyna'r peth cymwys i'w wneud ar gyfer myfyrwyr y dyfodol a'n heconomi ni yn y dyfodol? Diolch i chi.

Rydym ni'n buddsoddi £144 miliwn mewn prentisiaethau o ansawdd da eleni. Mae hynny'n golygu y byddwn ni'n taro'r nod o ddarparu'r 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Senedd hon. Ni allwch ddiystyru hynny. Mae hynny'n rhywbeth sy'n achosi eiddigedd mewn ardaloedd eraill. A pheidiwn ag anghofio i ni gael 14 mlynedd o gyni; roedd rhaid i ni wneud sawl penderfyniad anodd. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi fy mod i'n falch iawn o'r ffaith bod £144 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn prentisiaethau. A pheidiwch ag anghofio fod hynny ar ben y 100,000 a gyflwynwyd yn nhymor y Senedd ddiwethaf. Felly, os oes unrhyw faes y dylem ni fod yn falch ohono yn y Llywodraeth hon o ran cyflawniad, hwn yw ef yn fy marn i. Mae hi'n arbennig o galonogol gweld y gyfradd o bobl gydag anabledd neu anawsterau dysgu ar 11 y cant ar gyfer ymgymryd â'r prentisiaethau hynny. Fe wyddom ni fod hwnnw'n faes y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Rydych chi'n iawn, mae prentisiaethau yn llwybr da iawn at gyflogaeth ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n dilyn y llwybrau academaidd traddodiadol hynny.

Clefyd Niwronau Motor

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o glefyd niwronau motor? OQ62887

Mae cael diagnosis fel motor neurone disease yn ddinistriol, a phan fydd yn taro person ifanc, mae'n taro'n galetach. Dyna pam mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gweithio gyda'r rhwydwaith clinigol strategol i wneud yn siŵr bod byrddau iechyd yn darparu'r gofal gorau posibl trwy ein datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Rŷn ni’n gyrru gwelliannau ar draws y bwrdd, fel bod pob person, beth bynnag eu hoedran, yn cael y gefnogaeth, yr urddas a'r canlyniadau.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Fel gwyddoch chi, mae fy nhîm a minnau wedi bod yn cefnogi Kyle Sieniawski a'i deulu. Mae Kyle yn 13 oed; fe fydd yn cael ei ben-blwydd yn 14 yr wythnos hon, ac felly rydym ni'n dymuno pen-blwydd hapus i Kyle. Fe gredir mai ef yw'r unigolyn ieuengaf yn y DU a gafodd ddiagnosis o glefyd niwronau motor. Mae wedi bod yn yr ysbyty ers mis Ionawr. Mae ei deulu yn dyheu am gael dod ag ef adref i gael gofal, ond yn anffodus, nid ydyn nhw wedi llwyddo i gael gafael ar unrhyw gyllid grant ar gyfer addasiadau hanfodol gan fod eu cartref presennol yn anaddas i'r diben. O ganlyniad i hynny, maen nhw wedi gorfod rhoi cartref y teulu ar werth, ac nid oes ganddyn nhw syniad faint o amser y bydd hi'n ei gymryd nes y bydden nhw'n cael bywyd teuluol gyda'i gilydd.

Nid achos ynysig mo hwn, yn anffodus. Mae mynediad at dai diogel a hygyrch yn parhau i fod yn her enfawr i lawer o bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor a'r rhai yr effeithir arnynt gan hwnnw, gyda'r cymorth presennol yn pallu yn aml, fel profodd teulu Kyle, yn anffodus, a chydag ymatebiadau didrugaredd a chalon-galed fel rwy'n deall. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru am roi cymorth ar waith i sicrhau y bydd pobl sydd â chlefyd niwronau motor a'u teuluoedd nhw'n cael y cymorth hwnnw?

14:20

Diolch yn fawr. Mae clefyd niwronau motor yn gyflwr creulon iawn ac mae'n effeithio fel arfer ar bobl dros 50, felly pan fyddwch chi'n clywed am rywun o oedran Kyle, mae'n amlwg ei fod yn dristwch deublyg, ac rwy'n falch iawn fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gallu ymweld â Kyle yn yr ysbyty. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n gwneud y cyfan a allwn o ran cefnogi pobl â chlefyd niwronau motor; mae tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr. Rydym ni'n gwario llawer o arian ac yn gweithio gyda thimau yn y rhwydwaith gofal ac ymchwil—timau clinigol—ac rydym ni'n gwneud yr hyn y gallwn, yn enwedig o ran eu cael nhw i weithio gyda thimau pediatrig hefyd.

Yr hyn yr wyf i'n ei ddeall yw bod amser o'r pwys mwyaf i'r bobl hyn. Rydych chi'n gwybod bod cronfa sylweddol gennym ni—y gronfa tai a gofal. Mae cyllideb o £60 miliwn gan honno. Yn amlwg, os ydyn nhw'n dweud bod problem gydag addasu'r tŷ, mae hynny'n anodd iawn, onid yw e? Mae problem wedi bod gennym ni drwy'r amser gyda pha mor gyflym y gallwn ni symud pethau yn eu blaenau, ac fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn ymdrin â hyn, ond rydym ni'n rhoi cryn dipyn o arian tuag at hyn. Y gwir amdani yw bod y rhwydwaith nawr—y tîm rhwydwaith clinigol gofal ac ymchwil—yn cael ei ystyried yn un sy'n arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig o ran treialon meddygol clefyd niwronau motor. Nid honno oedd y sefyllfa ychydig flynyddoedd yn ôl, felly mae pethau yn gwella.

Tlodi Plant

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi plant? OQ62875

Taclo tlodi plant yw cenhadaeth y Llywodraeth Lafur yma. Ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, gan roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw blentyn yn teimlo’n llwglyd yn yr ystafell ddosbarth. O dalebau tanwydd i gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a'r gronfa gynghori sengl, rŷn ni’n defnyddio pob dull sydd ar gael i ni. Ers 2022, rŷn ni wedi buddsoddi dros £7 biliwn i gefnogi teuluoedd.

Diolch yn fawr iawn. Fel y byddwch chi'n gwybod, erbyn 2029, bydd gan Gymru y cyfraddau tlodi plant uchaf yn y Deyrnas Gyfunol. O fewn Cymru, mae'r cyfraddau hefyd yn syfrdanol, er enghraifft yn y rhanbarth rŷn ni'n ei gynrychioli. Yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, mae rhyw 30 y cant o blant yn byw mewn tlodi; yng Ngheredigion a sir Benfro, mae'n rhywbeth fel 32.5 y cant. Rŷn ni'n gwybod bod y niferoedd hyn yn cael eu gwneud yn waeth oherwydd y cap budd-dal dau blentyn, gyda rhyw 65,000 o blant yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y polisi creulon hwn a gafodd ei gyflwyno gan y Torïaid ac sy'n cael ei barhau gan Llafur. 

Pan alwodd Plaid Cymru am ddiddymu'r cap yma, fe gawsom ni ein gwawdio. Fe wnaeth pob un o Aelodau Llafur yn y Siambr hon, ac Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan, bleidleisio yn erbyn ein cynnig ni i'w ddileu fe. Rŷn ni'n deall nawr eich bod chi eisiau cael gwared ar y cap. Felly a gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, pa drafodaethau rŷch chi wedi'u cael â'r Llywodraeth yn San Steffan i waredu'r cap yma, ac a ydych chi'n ffyddiog y bydd Keir Starmer yn gwrando arnoch chi?

Diolch yn fawr. Rŷn ni yn poeni am dlodi plant, a'r ffordd orau o leihau tlodi plant yw sicrhau bod gan bobl sydd â phlant fynediad at swyddi o ansawdd uchel. Dyna pam mae tyfu'r economi mor bwysig, fel eu bod nhw'n gallu cael swyddi ac wedyn yn gallu cael yr arian i helpu eu plant nhw. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn hapus am y sefyllfa gyda'r budd-dal o ran y cap dau blentyn; rŷn ni wedi gwneud hynny'n glir ers misoedd lawer. Roedd hynny'n rhywbeth ddaeth i mewn gyda'r Torïaid, ac mae'n bolisi rŷn ni wastad wedi bod yn ei erbyn.

Dwi wedi codi'r mater yma gyda Liz Kendall yr wythnos diwethaf, gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am social justice yn Llywodraeth Cymru. Felly, rŷn ni yn codi'r mater yma. Dwi ddim yn meddwl bod neb yn y Blaid Lafur eisiau parhau â hwn. Mae e jest yn fater o ble mae'r arian yn dod a phryd mae'r arian yn gallu dod i mewn. Does neb sy'n ymaelodi â'r Blaid Lafur yn hoffi'r gwerthoedd sy'n ymwneud â pholisi'r Torïaid i ddod â'r cap i mewn. Felly, mae hi'n gwestiwn o ble mae'r arian yn dod, ac wrth gwrs, bydd yna ymdrechion, rŷn ni i gyd yn gobeithio, i sicrhau bod hwnna'n cael ei ddiddymu.

14:25
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Mae'r cwestiwn cyntaf i'r Cwnsler Cyffredinol yn dod gan Mabon ap Gwynfor.

Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar apêl Llywodraeth Cymru i'r Goruchaf Lys ynghylch cynllun datblygu lleol Wrecsam? OQ62864

Diolch i chi, Mabon. Ceisiodd Llywodraeth Cymru ganiatâd gan Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig i apelio yn erbyn dyfarniad y Llys Apêl. Gwrthododd y Goruchaf Lys roi caniatâd. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn derbyn ac yn parchu'r penderfyniad.

Diolch i chi am yr ymateb. Mae'r cwestiwn ynglŷn â Chynllun Datblygu Lleol Wrecsam a'r achos llys cysylltiedig wedi gosod cynseiliau o bob math, gyda goblygiadau i bob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru. Os ydych chi'n anwybyddu'r holl gynnwrf sy'n ymwneud â'r mater, y ffaith amdani yw y bu'r dyfarniad o blaid y cynghorwyr ac yn erbyn datblygwyr mawr ac mae'r Llywodraeth hon yn ei gwneud hi'n eglur y dylid parchu democratiaeth leol. Cafodd Cynlluniau Datblygu Lleol eraill a gafodd eu diwygio yn helaeth gan y Llywodraeth hon eu herio gan gynghorwyr, ond yn y pen draw fe'u mabwysiadwyd nhw oherwydd roedd yn rhaid iddyn nhw eu mabwysiadu neu fynd i berygl o gael eu dwyn gerbron y llysoedd. A yw'r Gweinidog Cabinet yn cytuno, felly, y dylid parchu llais democrataidd cynghorwyr ar faterion a ddirprwyir iddyn nhw, er y gallai'r Llywodraeth hon anghytuno â hynny, a beth mae'r dyfarniad hwn yn ei olygu i Gynlluniau Datblygu Lleol eraill a chynlluniau datblygu yng Nghymru yn y dyfodol?

Diolch, Mabon. Mae cyfres gymhleth iawn o faterion yn codi o ganlyniad i hyn. I Wrecsam yn benodol, mae tri pheth y mae Wrecsam—. Yn gyntaf i gyd, fe ddylwn i egluro yn bendant iawn mai penderfyniad y cyngor llawn yw hwn. Ni ellir ei ddirprwyo i gabinet nac i aelod o'r cabinet, felly mae'n rhaid iddo gael ei roi gerbron cyfarfod cyngor llawn. Ac yna, i Wrecsam ei hun, mae tri dewis ganddyn nhw o ran gweithredu, fel rwy'n ei ddeall. Fe allan nhw ofyn i Lywodraeth Cymru dynnu'r cynllun yn ei ôl a dechrau unwaith eto; fe allan nhw adael y Cynllun Datblygu Lleol presennol fel cynllun sy'n dod i'r amlwg ac ymlwybro o'r fan honno, ar gyfer mynd yn ôl trwy'r broses; neu fe allan nhw ofyn i ni fabwysiadu'r cynllun ar eu cyfer nhw. Penderfyniad iddyn nhw yw dewis pa un o'r pethau hyn i'w wneud.

Rydym ni wedi bod o'r farn bob amser yn Llywodraeth Cymru y dylai'r cyngor fabwysiadu ei gynllun ei hun a pheidio â chamu i mewn ar gyfer gwneud hynny, er bod pŵer gan Lywodraeth Cymru i wneud felly, dim ond i fod yn eglur. Roedd llawer o'r drafodaeth gyda Wrecsam yn ymwneud â'r ffaith nad oeddem ni'n dymuno gwneud hynny; roeddem ni'n awyddus iddyn nhw wneud. Rydym ni'n derbyn bod y llys wedi penderfynu bod y rheolau yn wahanol i'r ffordd yr oeddem ni'n eu dehongli nhw, ac mae hynny'n rhywbeth y bydd hi'n rhaid ei ystyried yn y dyfodol. Fe fydd hi'n rhaid i ni ystyried unwaith eto sut wedd sydd ar y rheolau hynny a sut i addasu'r system ar gyfer hynny.

Yn y cyfamser, nid oes gan Wrecsam unrhyw gynllun ar waith. Yr anhawster i Wrecsam felly yw bod y methiant o ran bod â chynllun ar waith yn broblem wirioneddol, gan nad oes ganddyn nhw gynllun ar waith ar gyfer gwrthwynebu unrhyw ddatblygiadau tybiannol. Y mater gwirioneddol yn hyn o beth yw canfod ffordd o weithio gyda chyngor Wrecsam i fod â chynllun a fydd yn eu galluogi nhw i wrthsefyll datblygiadau tybiannol a chreu'r math o ddatblygiad y maen nhw'n awyddus i'w weld fel rydym ninnau mewn modd amserol. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw lwybr cyflym tuag at hynny, ond rydym ni'n hapus iawn i weithio gyda'r cyngor i gyrraedd y sefyllfa honno.

Fe gafodd y cynlluniau eraill eu mabwysiadu, felly nid oes dewis ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd ar gyfer gwyrdroi mabwysiad y cynllun. Wrecsam yw'r unig gyngor sydd yn y sefyllfa honno yng Nghymru. Mae'r Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a minnau'n awyddus iawn i weithio gyda Wrecsam i'w cael nhw mewn sefyllfa unwaith eto sy'n addas i bob parti. Dim ond ar gyfer bod yn eglur iawn, y mater gwirioneddol yw cael cyngor Wrecsam mewn sefyllfa lle bydd cynllun ganddo y gall pobl Wrecsam ei ddibynnu arno, ac yna fe allan nhw wrthsefyll unrhyw geisiadau datblygu tybiannol. Nid ydyn nhw yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd.

Confensiwn Sewel

2. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â Chonfensiwn Sewel? OQ62861

Diolch, Mabon. Rwyf i, ynghyd â chyd-Weinidogion eraill yng Nghymru, wedi codi pwysigrwydd cadw at gonfensiwn Sewel a'i ddiwygio gyda Gweinidogion y DU yn uniongyrchol. Fe wnaethom ni bwysleisio'r angen i'w gryfhau a sicrhau y bydd y confensiwn yn cael ei barchu ac yn gweithredu yn rhwydd.

14:30

Diolch am yr ymateb yna. Mae gennym ni nifer fawr o gynigion cydsyniad deddfwriaethol yn dod i gwrdd â ni, gyda Llywodraeth y DU yn deddfu ar feysydd a gafodd eu datganoli, gydag ychydig iawn o graffu neu leisiau o Gymru yn rhan o'r broses honno, er y bydd goblygiadau'r Biliau hyn â chanlyniadau aruthrol ar fywydau pobl Cymru. Y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol diweddaraf i ddod gerbron yw'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Er hynny, mae cymal 151 yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud darpariaethau canlyniadol o ran y Bil. Mae hyn yn cynnwys un o bwerau Harri VIII, sy'n caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfwriaeth, sy'n cynnwys Deddf neu Fesur gan y Senedd hon. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, trwy drosglwyddo pwerau i San Steffan i ddiwygio, diddymu neu ddirymu Deddfau neu Fesurau a gafodd eu pasio gan y Senedd hon, mae hynny nid yn unig yn tanseilio'r ddeddfwriaeth a'r corff deddfwriaethol hwn yn llwyr, ond mae'n groes i gonfensiwn Sewel hefyd? Pa gamau, felly, y mae'r Llywodraeth hon am eu cymryd i sicrhau y bydd confensiwn Sewel nid yn unig yn cael ei barchu, ond yn cael ei naddu ar lechen ac na ddylem ni fod yn gweld cymalau o'r fath fyth eto?

Diolch, Mabon. Felly, fe aethom ni drwy gyfnod, fel gwyddoch chi, o ansefydlogrwydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pan fyddai cydymffurfio â chonfensiwn Sewel yn cael ei ystyried fel rhywbeth dewisol i bob pwrpas gan Lywodraeth flaenorol y DU. Mae nifer fawr o enghreifftiau gennym ni ac achlysuron pan bleidleisiodd y Senedd hon mewn ffordd arbennig ac yna fe gafodd hynny ei anwybyddu yn San Steffan. Rydym ni wedi gweithio yn galed iawn gyda'r Llywodraeth hon yn y DU i sicrhau bod confensiwn Sewel yn cael ei barchu, ac ar hyn o bryd, nid oes gennym—. Nid yw'r Senedd wedi gwrthod caniatâd i rywbeth a ddigwyddodd wedyn, nac i'r gwrthwyneb. Felly, rwy'n falch iawn o fod wedi cyrraedd y sefyllfa honno. Fe fyddwn ni'n dal ati i frwydro er mwyn amddiffyn y sefyllfa, ac mae hynny'n bwysig dros ben. Mae'n bwysig dros ben.

Gadewch i ni fod yn eglur iawn: efallai y bydd y Llywodraeth yn argymell derbyn memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac efallai y byddai'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn hynny, ac fe fyddem ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU barchu dymuniadau'r Senedd, nid y Llywodraeth. Nid yw honno'n sefyllfa rwydd i fod ynddi hi pe byddech chi'n Llywodraeth sy'n dymuno i'r cynnig fynd yn ei flaen, ond fe fuom ni'n eglur iawn mai honno yw ein sefyllfa ni. Yn amlwg, rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr y bydd y Senedd yn pleidleisio fel mae'r Llywodraeth yn dymuno iddi bleidleisio, o ystyried y trafodaethau sy'n digwydd, ond pe na fyddai'r Senedd yn gwneud felly, yna fe fyddem ni'n awyddus iawn i gonfensiwn Sewel fod yn cael ei barchu. Dyna swm a sylwedd y peth, onid e?

Wrth gwrs, wedyn, y tu ôl i'r llenni, rydym ni'n cynnal trafodaethau hirfaith. Mae pob Ysgrifennydd Cabinet unigol, a minnau'r Cwnsler Cyffredinol, yn cynnal sgyrsiau maith ar bob gynnig unigol am femorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy'n dod gerbron. Wel, nid memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mohono, Deddf sy'n cael ei chyflwyno, ac wedyn mae gennym ni—. Mae'n fater o beth sy'n gofyn am femorandwm cydsyniad deddfwriaethol hyd yn oed, oherwydd, mewn gwirionedd, ni fyddwn ni'n cytuno â Llywodraeth y DU bob amser. Fe fyddan nhw o'r farn weithiau nad yw darpariaeth yn gofyn am un ond fe fyddwn ni o'r farn ei bod hi'n gofyn am un. Felly, o'r cychwyn yn deg, mae yna drafodaeth ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei gredu.

Fe fydd gennym ni achos cyffredin â Llywodraeth yr Alban o bryd i'w gilydd, pan fydd yna broblem debyg yn y fan honno. Felly, mae cwpl o enghreifftiau o hynny wedi bod yn ddiweddar. Ac roedd gennym ni un anodd dros ben yn ddiweddar yn ymwneud â fframwaith Windsor hefyd. Felly, mae yna laweroedd o sgyrsiau yn digwydd y tu ôl i'r llenni.

Nid wyf i'n anghytuno â'ch dadansoddiad chi. Nid ydym ni'n hoffi gweld pwerau Harri VIII yn cael eu rhoi i Weinidogion Llywodraeth y DU. Mae ein hymagwedd ni ynglŷn â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn bragmataidd ar y cyfan, ond nid wyf i'n celu unrhyw beth o gwbl mewn sgyrsiau â Gweinidogion y Llywodraeth, ac nid yw cyd-Aelodau sy'n eistedd yn y Llywodraeth yn petruso dim ynglŷn â'r ffaith nad ydym ni'n hapus am y peth. Ond, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni wneud penderfyniad pragmataidd ynglŷn â'r Bil yn ei gyfanrwydd a sut wedd sydd arno. Roedd enghraifft dda iawn gennych chi nawr. Rydym ni'n dymuno i'r Bil Hawliau Cyflogaeth fod yn berthnasol i Gymru. Rydym ni dymuno i weithwyr yng Nghymru fod yn gallu defnyddio'r mecanweithiau hynny. Nid ydym ni'n hapus am y ffordd y cafodd hyn ei gyflawni ynddi, ond yn y pen draw, fe wnaethpwyd y penderfyniad pragmataidd i'w argymell.

Mae llawer o sôn wedi bod yn ddiweddar gan Weinidogion am ymladd yn erbyn Llywodraeth y DU. Yr wythnos diwethaf roedd y Prif Weinidog yn siarad am faterion ariannu. Yr wythnos hon mae'r Cwnsler Cyffredinol yn siarad am faterion mwy cyfansoddiadol. Y gwir amdani yw nad dyma'r ffordd y dylai cyfansoddiad weithredu ynddi. Ni ddylai gweinidogion fod yn dadlau nac yn brwydro nac yn ymladd dros y dyraniadau sylfaenol iawn, boed hynny o ran cyllid neu awdurdod deddfwriaethol. I mi, mae'r union ffaith bod Llywodraeth Cymru yn teimlo bod rhaid iddi ymryson fel hyn yn dangos nad yw'r strwythurau a'r prosesau sydd gennym ni ar waith yn addas i'r diben ar hyn o bryd. A ydych felly yn cytuno â mi, Cwnsler Cyffredinol, mai'r hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw Bil diwygio sy'n dodi confensiwn Sewel ar sail statudol ac yn sefydlu cydberthynas yn eglur rhwng ein Llywodraethau a'n Seneddau ni?

Diolch i chi, Alun. Felly, fel gwyddoch chi, rydym ni o'r farn mai dilyniant yw hyn ac mae hi'n annhebygol y byddwn ni'n cyrraedd y fan gydag un cam, oherwydd y ffordd y digwyddodd datganoli ym Mhrydain Fawr, mewn gwirionedd, nid y Deyrnas Unedig yn unig, a natur anghymesur y setliad datganoli hwnnw. Hyd nes y bydd hynny'n cael ei ddatrys, yn y bôn, fe fyddwn yn parhau i gynnal sgwrs—pwy bynnag a fo mewn grym. Mae'r setliadau datganoli yn gymhleth, nid ydyn nhw'n unffurf, mae yna ymylon garw ac ati, ac ati.

Ac nid wyf i'n credu fy mod i wedi dweud 'brwydro'; 'trafodaeth gyda' a ddywedais i, dim ond i egluro. Os dywedais i 'frwydro', nid oeddwn i'n bwriadu dweud 'brwydro', 'trafodaeth gyda' yr oeddwn i'n ei feddwl. Fe fyddwn ni'n cael dadleuon—rwy'n hapus i ddefnyddio'r gair 'dadleuon' hefyd—oherwydd nid ydym ni'n gweld llygad yn llygad ar rai pwyntiau. Mewn gwirionedd, mae'r setliad datganoli yn rhy gymhleth, ac mae hi'n anodd iawn i bobl ei ddehongli.

Ond, yn gam cyntaf, mae ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth i rymuso confensiwn Sewel yn cynnig cyfle cynnar i gefnogi gweithrediad effeithiol y confensiwn. Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cymryd rhan mewn trafodaethau manwl ar y memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill yn y misoedd i ddod. Rydym ni o'r farn y byddai dodi'r confensiwn ar sail statudol yn cynnig mesurau diogelu pwysig ar gyfer datganoli, fel mae'r comisiwn cyfansoddiadol yn ei gydnabod. Ond fel dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yr wythnos diwethaf—ac fe wn i eich bod chi'n gwybod hyn, Alun—ein blaenoriaeth ni yw canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei gyflawni yn realistig o fewn tymor y Senedd hon. Felly, rydym ni eisiau ymdrechu yn ddifrifol i roi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar y bwrdd yn gyntaf, ond nid wyf i'n anghytuno o gwbl â'ch dadansoddiad chi yn y pen draw.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gan ddychwelyd at adroddiad ddoe gan y Farwnes Casey ar gamfanteisio rhywiol ar blant a gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol, mae'r adroddiad yn nodi, ac rwy'n dyfynnu:

'Roeddem ni'n...gofyn am ddata gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol...a Llywodraeth Cymru ar niferoedd yr achosion o gamdriniaeth neu gamfanteisio ar blant yn rhywiol yr oedden nhw'n eu gweld yn y gwasanaethau iechyd ond dim ond gan Ganolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (Lloegr) y cawsom ni ddata.'

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol esbonio pam roedd Llywodraeth Cymru naill ai'n anfodlon neu'n methu â rhoi'r data y gofynnwyd amdano gan y Farwnes Casey?

Dim ond ddoe y cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi. Fe wnaeth y Prif Weinidog hi'n eglur iawn gynnau fach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ein bod hi'n gefnogol iawn i'r adroddiad ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i gydymffurfio ag ef. Felly, wrth symud ymlaen, fe fyddwn ni'n sicrhau y bydd hynny'n digwydd. Nid oes gwybodaeth gennyf o ran pam y cafodd y frawddeg honno ei chynnwys yn yr adroddiad, ond fe allaf i eich sicrhau chi'n gyfan gwbl, ac mae'r Prif Weinidog ei hunan newydd sicrhau'r Senedd, y byddwn ni, wrth gwrs, yn cydweithredu â'r adroddiad ac yn sicrhau y bydd yr wybodaeth angenrheidiol i gyd ar gael iddo.

Wel, mae hi'n amlwg yn yr adroddiad na wnaethoch chi gydweithredu â'r adroddiad hwn, ac rwy'n credu bod gofyn cwestiynau pam na ddigwyddodd hynny'n beth rhesymol. Un thema sy'n edefyn drwy'r adroddiad, serch hynny, yw annigonolrwydd y data sydd gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth. Felly, mae'n mynegi, er enghraifft:

'Yn Lloegr, mae nifer yr asesiadau sy'n nodi camfanteisio ar blant yn rhywiol wedi gostwng bob blwyddyn ers 2017/8 ac mae'r gyfradd wedi gostwng mwy na 30% erbyn hyn o gymharu â chwe blynedd yn ôl. Nid yw'r data hyn ar gael yng Nghymru.'

Mae rhan arall o'r adroddiad yn mynegi:

'Darparwyd data o ran achosion difrifol yn ymwneud â phlant i'r archwiliad hwn gan y Panel Diogelu Plant Cenedlaethol. Nid yw'r data hyn ar gael yng Nghymru.'

Mae'n mynd ymlaen i ddweud yn yr adroddiad, ar dudalen 94:

'Yn ystod yr archwiliad hwn, codwyd enghraifft ddiweddar o'r broblem hon gyda ni lle cafodd merch 13 oed ei threisio gan dri dyn gwahanol ond roedd ar gynllun amddiffyn plant oherwydd esgeulustod.'

A ydych chi'n derbyn bod dulliau Llywodraeth Cymru o gadw data yn annigonol ac yn golygu nad oeddech chi'n gallu cyfrannu at yr adroddiad hwn ac mae hynny wedi cyfrannu hefyd at anallu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater a bod â dealltwriaeth ddigonol o raddfa'r broblem yng Nghymru? Os felly, a fyddwch chi'n ymddiheuro am hynny?

Tom, fe wn i eich bod chi'n dymuno dod i gasgliadau amrywiol yn gyflym ar sail geiriad yr adroddiad, ond nid yw geiriad yr adroddiad yn mynegi'r hyn a gasgloch chi, mewn gwirionedd. Er eglurder, yng Nghymru, rydym ni wedi gweithredu sawl un o'r argymhellion ar gyfer yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol eisoes, gan gynnwys, datblygu'r strategaeth 10 mlynedd gyntaf, gyda phartneriaid, ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Mae'r strategaeth ar fin cael ei rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Nid wyf i'n gwybod pam y mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd ddoe, yn mynegi'r hyn a wna am argaeledd data yng Nghymru. Nid wyf i'n gwybod pam nad oedd y data hynny ar gael, ac nid ydych chwithau chwaith. Rwyf i wedi dweud wrthych chi eisoes i ni fod yn eglur iawn y byddwn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'r ymchwiliad, ac y byddwn yn cydweithredu ag ef. Nid oes unrhyw beth yn rhagor i'w ychwanegu at hynny gennyf i. Fe fyddwn ni'n cefnogi'r ymchwiliad yn llawn, ac fe fyddwn ni'n cydweithredu ag ef.

Fe ddywedaf i pam wrthych chi, am na wnaethoch chi ddarparu'r data. Mae hi'n eithaf amlwg—

—yn yr adroddiad. Fe ofynnwyd i chi am ddata, ac mae'r adroddiad yn mynegi na chafwyd y data hynny oddi wrthych chi. Nawr, fe ysgrifennodd Darren Millar at y Prif Weinidog ym mis Ionawr—fe gymerodd hi bum wythnos i gael ateb—yn gofyn i Lywodraeth Cymru a fyddai'n cyhoeddi'r ohebiaeth gyfan gyda rhanddeiliaid ynglŷn â gweithrediad gangiau meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol yng Nghymru, yn cyhoeddi gohebiaeth gyda'r heddluoedd am gangiau meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol yng Nghymru, yn cyhoeddi gohebiaeth gyda'r awdurdodau lleol a chyda gwasanaethau cymdeithasol o ran gweithgaredd gangiau meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol yng Nghymru. Fe wrthododd Llywodraeth Cymru wneud hynny ar bob un o'r pedwar cyfrif, yn hytrach na hynny, fe roddwyd ymateb swta o dair brawddeg i Darren Millar.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n eglur o'r adroddiad a'ch atebion chi heddiw, a bod yn hollol onest, Cwnsler Cyffredinol, yw nad yw Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r mater hwn, neu nad ydyw hi wedi ymdrin â'r mater hwn, gyda'r difrifoldeb a'r brys y mae mor amlwg yn haeddiannol ohonyn nhw. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi'r holl ddata hynny y gofynnodd Darren Millar amdanyn nhw heddiw? Ac yn yr un modd, rwyf i am ddweud hefyd fod Darren wedi gofyn i'r Prif Weinidog a fyddai hi'n cwrdd ag Emily Vaughn, un sydd wedi goroesi camdriniaeth gang meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol a gafodd ei chludo a'i threisio ledled y wlad dros 1,000 o weithiau—sy'n gwbl syfrdanol—ond, am ryw reswm, ni wnaeth y Prif Weinidog ymrwymo i gwrdd ag Emily a Darren er mwyn iddi allu rhannu ei stori hi, ac nid wyf i'n siŵr pam felly. Gan hynny, a wnewch chi ategu'r alwad ar y Prif Weinidog i wneud hynny, a sicrhau y bydd hi'n cwrdd â'r goroeswyr hyn? 

14:40

Wrth gwrs na fyddaf i'n ymrwymo i gyhoeddi gohebiaeth rhyngom ni a'r heddlu yn ymwneud â throseddau rhywiol yn erbyn plant, oherwydd nid oes gennyf i unrhyw ddealltwriaeth o gwbl o gynnwys y ddogfennaeth honno fy hunan, ac rydych chi'n gallu deall yn hawdd y gallai'r ddogfennaeth honno gynnwys manylion na fyddai'n addas i'w cyhoeddi nhw. Nid oes angen llawer o ddychymyg i ddeall y gallai hynny fod yn wir. Rwy'n hapus i adolygu hynny, ond nid oes angen llawer o ddychymyg i ddeall y gallai'r ddogfennaeth honno gynnwys materion nad ydyn nhw'n addas i'w cyhoeddi. Dyna'r ateb, yn amlwg iawn. Mae gweddill y cwestiynau wedi cael eu hateb gan y Prif Weinidog eisoes.

Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi amlinellu a yw penderfyniadau Trysorlys y DU ar ffactorau cymhariaeth a dynodiadau prosiectau yn ôl fformiwla Barnett, mewn egwyddor, yn agored i adolygiad barnwrol? Yn benodol, a yw'r penderfyniad diweddar i ail-gategoreiddio'r cynllun o £6.6 biliwn ar gyfer lein East West Rail o Rydychen i Gaergrawnt o 'Loegr yn unig', fel nodir hynny yn natganiad polisi cyllido 2020-24, i 'Gymru a Lloegr', gan ddiddymu oddeutu £360 miliwn o gyllid canlyniadol, yn fater traddodadwy? Pe bai'r newid yn cael ei wneud, fel digwyddodd hynny'n ôl pob golwg, heb ymgynghoriad na rhesymu digonol, pa rwystrau cyfreithiol a fyddai Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth ddwyn achos, a pha gywiriadau a allai fod ar gael?

Felly, fy nealltwriaeth i yw i'r cynllun dan sylw fod yn rhan o lif prosiectau i Gymru a Lloegr. Rydym ni wedi trafod hyn sawl gwaith yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Nid yw rheilffyrdd trwm yn ddatganoledig i Gymru. Mae'r cynlluniau sy'n cael eu cynhyrchu yn cael eu cynhyrchu yn aml trwy ddefnyddio grantiau trafnidiaeth leol yn y lle cyntaf, ac yna, pan fyddan nhw'n barod, fe fyddan nhw'n cael eu trosglwyddo i mewn i'r llif prosiectau. Nid wyf i'n deall yn union pam y cymerodd un Rhydychen a Chaergrawnt gymaint o amser i'w drosglwyddo, ond dyna'r hyn sydd wedi digwydd yno'n amlwg. I mi, mae'r ffaith fod y llif prosiectau yn cynnwys digon o gynlluniau yng Nghymru i ddiwallu'r angen am fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yng Nghymru yn fater llawer pwysicach, ac felly rydym ni wedi canolbwyntio ein hymdrechion ni yn y Llywodraeth ar geisio sicrhau bod y llif prosiectau hwnnw'n addas i'r diben, ac fe gawsom ni newyddion, fel gwyddoch chi, am y llif prosiectau ar gyfer Cymru yn yr adolygiad nesaf o wariant, ac fe ailadroddodd y Prif Weinidog hynny heddiw yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Felly, fy nealltwriaeth i yw bod y dosbarthiad yn gywir, fe ddigwyddodd y trosglwyddiad yn hwyr, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddem ni'n arbennig o awyddus i'w ddwyn gerbron y llys, ond mai'r mater gwirioneddol yn hyn o beth yw sicrhau y bydd y llif prosiectau ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys digon o fuddsoddiad ar gyfer rhan Cymru yn hynny, i sicrhau y bydd y gyfradd briodol o fuddsoddiad yn dod i bobl Cymru. A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r newid yn ansawdd y gyfradd honno o fuddsoddiad mewn, wel, nid oes blwyddyn wedi bod hyd yn oed, ers i'r Llywodraeth hon fod mewn grym?

Onid y pwynt allweddol, serch hynny, yw bod prosiect East West Rail wedi cael ei restru yn gyhoeddus yn wreiddiol ar gyfer 'Lloegr yn unig', ac felly yr oedd hi am bedair blynedd? Onid oedd y dynodiad cyhoeddedig hwnnw yn creu disgwyliad cyfreithlon yn nhermau cyfreithiol yr oedd cynllunio cyllideb Cymru yn dibynnu arno? Ac os felly, a yw newid safbwynt y Trysorlys sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, hyd yma, heb unrhyw esboniad iddo, ac sy'n effeithio ar gynllun, wedi'r cyfan, gadewch i ni gofio, y mae ei seilwaith ffisegol yn gyfan gwbl yn Lloegr, heb unrhyw fudd i Gymru yn uniongyrchol nac yn wir yn anuniongyrchol—. Mae hynny'n ymddangos fel toriad o ran tegwch gweithdrefnol yn fy marn i, neu o bosibl yn mynd dros drothwy Wednesbury o afresymoldeb, oherwydd y mae'n benderfyniad gwrthnysig, a dyna pam na chafodd unrhyw esboniad gwirioneddol ei gynnig. Felly, gan ofyn i chi'r Cwnsler Cyffredinol, pa dystiolaeth ddogfennol o anfantais a fyddai angen i chi ei chasglu—ac mewn dibyniaeth, o ran y ffeithiau yr wyf i newydd eu cyflwyno—ac a fyddech chi'n cefnogi cyhoeddi llythyr cyn gweithredu a fyddai'n gorfodi Llywodraeth y DU i ddatgelu'r rhesymeg y tu ôl i'r ailddosbarthiad?

14:45

Na fyddwn, nid wyf i o'r farn y byddai hynny'n ddefnydd da o adnoddau'r Llywodraeth o gwbl, Adam. Fel dywedais i, nid wyf i'n deall pam y bu oediad yn ei drosglwyddo o gynllunio lleol i gynllunio cenedlaethol, ond mae'r cynllunio cenedlaethol ar sail Cymru a Lloegr. Felly, fe fyddai unrhyw gynllun yn Lloegr sydd â rheilffordd drom ynddo y buddsoddir ynddo gan Lywodraeth y DU ar sail Cymru a Lloegr, ac, mewn gwirionedd, fe fyddai unrhyw gynllun yng Nghymru ar sail Cymru a Lloegr. Felly, fe fyddai lein heb unrhyw gyffyrddiad â Lloegr ar sail Cymru a Lloegr hefyd. Y broblem wirioneddol i ni yw nad oes unrhyw un o'r rhain yn bodoli. Rydym ni wedi gweld tanfuddsoddi difrifol, a'r hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw'r buddsoddiadau hynny'n dod i Gymru. Mae angen i ni sicrhau bod y llif prosiectau yn llif wirioneddol rhwng Cymru a Lloegr ac nid yn llif prosiectau ar gyfer Lloegr yn unig, fel roedd hi dan y Llywodraeth flaenorol. Ac, fel roeddwn i'n ei esbonio, rwy'n falch iawn o weld y llif prosiectau hwnnw yn cael ei ddechreuad yn yr adolygiad hwn o wariant tair blynedd. Fe fyddwn ni'n gweithio yn galed iawn i sicrhau y bydd y llif prosiectau hwnnw'n parhau i'r dyfodol.

Fe fyddwn i'n mynd cyn belled â dweud—a gaf i ddweud mai barn bersonol yw hon; ac nid yn un yr wyf i wedi ei thrafod yn arbennig gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet—y byddwn i fy hunan yn falch o weld rheilffyrdd trwm yn cael eu datganoli i Gymru, gyda'r cyllid i fynd gyda'r rhain, neu o leiaf eu rhoi mewn rhanbarth i Gymru er mwyn gallu gweld y cyllid ymlaen llaw. Felly, hyd yn oed pe na chafodd hynny ei ddatganoli, fe fyddai'n rhanbarth 'Cymru' ac nid rhanbarth yn cynnwys rhan o Loegr, oherwydd mae hynny wedi drysu pethau, yn sicr. Ond, mewn gwirionedd, rydym ni'n cyfeirio ein hymdrechion ni at sicrhau y bydd y llif prosiectau hwnnw'n cynnwys prosiectau i Gymru—bod llif prosiectau Cymru a Lloegr yn cynnwys prosiectau i Gymru.

Gan droi, os caf i, Cwnsler Cyffredinol, at y cynnydd o 1.2 pwynt canran mewn yswiriant gwladol cyflogwyr o 6 o fis Ebrill yn gynharach eleni, mae Cymru wedi cael £185 miliwn drwy Barnett i ateb cost dybiedig flynyddol o £257 miliwn, a fydd yn golygu diffyg o £72 miliwn yn digwydd dro ar ôl tro. Mae'r datganiad o bolisi cyllido yn nodi na ddylai gweinyddiaethau datganoledig ddioddef unrhyw golledion oherwydd penderfyniadau polisi'r DU. Yn eich barn chi, yn Gwnsler Cyffredinol y Llywodraeth a'i phrif gynghorydd cyfreithiol, a oes llwybr cyfreithiol credadwy, boed hynny trwy adolygiad barnwrol neu drwy ddulliau eraill, i sicrhau ad-daliad y swm hwn yn llawn? Pa ffactorau fyddai'n penderfynu a ellid gorfodi'r geiriad polisi hwnnw'n gyfreithiol, a pha gamau a fyddech chi'n eu cynghori i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus Cymru rhag effaith y bwlch cyllidol hwn?

Diolch i chi, Adam. Rwy'n credu bod hwn yn doriad amlwg yn y polisi cyllido, ac mae'r Gweinidog cyllid wedi bod yn eglur iawn ei fod yntau hefyd yn ystyried hwn yn doriad yn y polisi cyllido. Y cwestiwn yr ydych chi'n ei ofyn i mi, serch hynny, yw a yw hi'n werth i ni geisio unrhyw fath o ddull barnwrol ar gyfer unioni hynny, ac rwy'n credu mai ein barn ni yw nad ydyw hi ddim, oherwydd fe fyddai hynny'n cynnwys llawer iawn o wariant, fe fyddai'n llosgi'r gwely i ladd y chwannen i ryw raddau, ac rydym ni o'r farn fod yna ffyrdd amgen o gynnal y drafodaeth honno, ac fe fyddwn i'n parhau i gredu hynny. Rwyf i o'r farn, mewn gwirionedd, ar gyfer cymryd camau yn erbyn Llywodraeth y DU ynglŷn â mater o'r fath, fe fyddai'n rhaid goresgyn rhwystrau uchel iawn ar gyfer mynd ar y trywydd hwnnw. Yn y cyfamser, fe  fyddwn ni'n defnyddio'r mecanweithiau rhynglywodraethol i gyd, y grwpiau gweinidogol rhynglywodraethol, er enghraifft—yr IMGs, fel y'u gelwir nhw—i godi'r ffaith ein bod ni o'r farn fod hwn yn doriad amlwg yn y datganiad cyllido, fel gwna'r gwledydd datganoledig eraill sydd yn yr un sefyllfa.

Deallusrwydd Artiffisial

3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ei gwaith? OQ62868

Diolch i chi, Janet. Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu defnydd moesegol, diogel a chyfreithiol o dechnolegau deallusrwydd artiffisial yn ei gwaith. Mae'r sefydliad yn gweithio gyda sawl arbenigwr ar y pwnc, gan gynnwys yr Uned Mabwysiadu Technoleg Gyfrifol, ac yn defnyddio dull partneriaeth gymdeithasol wrth ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.

Diolch i chi. Rwy'n credu eich bod chi wedi ateb fy nghwestiwn mewn gwirionedd cyn i mi ei ofyn. Mae gan ChatGPT 400 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol sy'n cyrchu'r ap unwaith yr wythnos. Fe'i lawrlwythwyd 280 miliwn o weithiau yn 2024. Mae un o bob chwe busnes yn rhoi o leiaf un ap deallusrwydd artiffisial ar waith, ac mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn eang ym mhob proffesiwn ac ym mywydau pobl bob dydd. Er hynny, mae'r Uchel Lys wedi gofyn i gyfreithwyr y DU yn ddiweddar i beidio â defnyddio deallusrwydd artiffisial yn dilyn gwysion cyfreithiol achos ffug. Roedd un achos yn cynnwys pum achos ffug fel gwysion tystiolaeth. Mae hyn yn ogystal â'r perygl o dorri hawlfraint yn ddiarwybod yn peri peth pryder. Felly, a allech chi egluro pa ddefnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ddeallusrwydd artiffisial yn eich gwaith i gyd? Yn amlwg, mae yna ormod i chi ei ddweud wrthyf i nawr, ond fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i, dim ond ar gyfer fy nghynghori i ynglŷn â hynny. A hefyd, ynglŷn â'r cyngor cyfreithiol a gymerwyd, rwy'n dyfalu, wrth i ni i gyd ddechrau arbrofi gyda deallusrwydd artiffisial, fe allai rhai goblygiadau fodoli o ran adnoddau i ni ac i chwithau yn y Llywodraeth. Diolch i chi. 

14:50

Diolch i chi, Janet. Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, ac rwy'n dymuno mynegi fy safbwynt unigol ar gyfreithiwr yn defnyddio ChatGPT i gynhyrchu dadl gydag achosion ffug ynddi nad yw wedi edrych ar y gyfraith achos y mae'n bwriadu dibynnu arni yn y llys, oherwydd rwy'n credu yw'r hyn sydd gennych yn y fan honno yw nid deallusrwydd artiffisial diffaith, ond cyfreithiwr diffaith. Mae'r un peth ag yr oeddem yn ei wneud pan ddaeth Google ar gael am y tro cyntaf—fe fyddai pobl yn dweud, 'Peidiwch â defnyddio Google, gwnewch eich gwaith ymchwil eich hun.' Wel, yn amlwg, gwnewch eich gwaith ymchwil eich hun. Mae ChatGPT yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddod ag esgyrn dadl at ei gilydd. Mae'n rhoi rhai syniadau i chi ac ati. Ond fe ddylai unrhyw gyfreithiwr sydd wedi dibynnu yn llwyr ar hynny yn y llys, yn onest, gael ei dynnu trwy'r strydoedd a'i wneud yn destun sbort, yn fy marn i, oherwydd un o'r pethau y dylech chi ei gael mewn cyfreithiwr da yw ymlyniad wrth y print mân, fel dywedodd un o'm hathrawon wrthyf i un tro. Felly, os oes unrhyw un heb groes-wirio ei gyfeiriadau, fel rwy'n dweud, yr hyn sydd gennych chi yno yn y fan honno yw cyfreithiwr gwael, ac nid deallusrwydd artiffisial gwael.

Yn Llywodraeth Cymru, rydym ni'n darparu datrysiadau deallusrwydd artiffisial yn fewnol. Rydym ni ar flaen y gad yn profi Microsoft 365 Copilot yn y Llywodraeth, ac mae gwaith arloesol yn cael ei wneud gan ein huned gwyddor data. Fis diwethaf, rwy'n falch iawn o ddweud, roedd yr uned gwyddor data, bu'r tîm daearyddiaeth a Cadw yn fuddugol ar y cyd yn y categori arloesi yng ngwobrau proffesiwn daearyddiaeth y llywodraeth—pwy wyddai am y digwyddiad hwnnw? Roedd y wobr am eu defnydd arloesol nhw o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer nodi ardaloedd o goetir o fapiau hanesyddol. Felly, fe ddigwyddodd cyfran o waith da iawn yn hynny o beth.

Fodd bynnag, rydym ni'n benderfynol o wneud hyn mewn partneriaeth gymdeithasol, ac rydym ni'n arwain gweithgareddau i helpu i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn y ffyrdd mwyaf manteisiol ar draws sector cyhoeddus Cymru. Rwy'n argymell yn gryf, ar wefan Llywodraeth Cymru, y gellir darllen yr adroddiad o fis Chwefror 2025, os nad ydych chi wedi gweld hwnnw eisoes, Janet—efallai eich bod wedi ei weld, oherwydd fe wn i fod diddordeb gennych chi—sy'n ymwneud â defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffyrdd cyfrifol a moesegol yn y sector cyhoeddus. Mae'n sôn am y gwaith a wnaethom ni gyda chyngor partneriaeth gweithlu Cymru a'u gweithgor nhw ar hyn, ac mae'n sôn am weithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i wella llythrennedd ac ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd artiffisial yn sector cyhoeddus Cymru. Mae gennym ni gomisiwn deallusrwydd artiffisial hefyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy'n blaenoriaethu mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn ffyrdd diogel, moesegol ac effeithiol i'r sector, ac maen nhw'n datblygu adnoddau i roi arweiniad a hyfforddiant i staff ac yn arwain trafodaeth genedlaethol am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn y sector. Os nad oes ots gan y Llywydd fy mod i'n dweud hynny, mewn sgwrs ddiweddar gyda hi, fe wnaethom ni drafod y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y Senedd ac yn systemau'r Llywodraeth hefyd. Mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd, ac felly'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw bwrw ymlaen a sicrhau bod y canllawiau ar waith gennym ni.

Rwyf i wedi dechrau chwarae gêm yn fy mhen wrth eistedd yn y fan hon, i geisio dechrau canfod a oes unrhyw un o'r areithiau a glywaf i yn yr ystafell hon wedi cael eu cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial. Rwy'n credu efallai fy mod i wedi clywed un dros y pythefnos neu dair wythnos diwethaf a allai fod o gynnyrch deallusrwydd artiffisial. Nid wyf i'n edrych ar neb yn neilltuol ar hyn o bryd, ond mae hi wedi mynd yn gêm i mi yn fy mhen. Rhowch brawf arnaf i weld a fyddwch chi'n cael eich dal neu beidio.

Cwestiwn 4, Rhys ab Owen.

Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth herio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020? OQ62856

Diolch, Rhys. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu Deddf marchnad fewnol y DU gyda chysondeb ers cryn amser ac rydym ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio cyfleoedd ar gyfer ei diwygio, fel bydd y Ddeddf a'r farchnad fewnol yn fwy eang yn adlewyrchu'r setliad datganoli yn well.

Wrth gwrs, rydych chi'n siŵr o fod yn cofio, Cwnsler Cyffredinol, bod Deddf y farchnad fewnol wedi cael ei gwrthod gan Seneddau'r Alban a Chymru, ond fe gafodd hi ei gwthio drwodd beth bynnag. Nawr yn 2022, fe gyhoeddodd eich rhagflaenydd fel Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, ddatganiad ysgrifenedig yn galw Deddf y farchnad fewnol yn

'ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar ddatganoli ac ar hawl y Senedd i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi eu datganoli i Gymru.'

Yn fwy diweddar, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi egluro mai Deddf y farchnad fewnol yw'r rheswm pam mae cynllun dychwelyd ernes Cymru wedi cael ei ohirio. Nawr, fe fyddai cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru yn ddiamau, wedi cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod statudol o ailgylchu 75 y cant o wastraff eleni. Yn 2022, fe ddyfarnodd y Goruchaf Lys na allai ymyrryd â Deddf y farchnad fewnol oherwydd nad oedd gennym ni ddeddfwriaeth i'w brofi. Nawr fe welwn ni ddeddfwriaeth yn methu â mynd drwodd oherwydd Deddf y farchnad fewnol, ac felly mae hi'n ymddangos ein bod mewn sefyllfa heb ddatrysiad yn hyn o beth, Cwnsler Cyffredinol. Sut ydym am ddod o'r llanast hwn i ganiatáu i'r Senedd basio deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig ar fwy o gyflymder, ac amddiffyn ein setliadau datganoli hefyd? Diolch yn fawr.

14:55

Diolch i chi, Rhys. Mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Ar hyn o bryd, mae adolygiad o Ddeddf marchnad fewnol y DU 2020 yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a minnau wedi bod â rhan yn y sgwrs honno—ef ychydig yn fwy na mi, mewn gwirionedd, oherwydd mae hyn yn ymwneud â rhai o'r goblygiadau ymarferol. Mae'n ddrwg gennyf i ddweud, serch hynny, nad yw'r adolygiad hwnnw'n cynnwys y pwerau o ran cymorth ariannol. Rydym ni wedi galw ers amser maith—a hwnnw yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn—y dylid diddymu'r pwerau hynny o ran cymorth ariannol, oherwydd eu bod yn ymestyn yn syth ar draws y setliad datganoli, ac rydym ni'n eu gwrthwynebu nhw.

Eto i gyd, mae gennym ni ran yn yr adolygiad o weddill Deddf marchnad fewnol y DU. Mae'r sgyrsiau hynny'n parhau, ac maen nhw'n cynnwys pethau fel—. Yn rhyfeddol iawn, fe wrthododd y Llywodraeth flaenorol wneud hyn yn llwyr, ond nid yw hi'n eglur o gwbl, pan fo un o'r Llywodraethau datganoledig yn dymuno ymadael â safbwynt y farchnad—mae'r cynllun dychwelyd ernes yn enghraifft dda—beth yw'r broses ar gyfer hawlio'r eithriad. Nid oes unrhyw broses eglur. Y broses honno a welais i—. Roeddwn i yn y cyfarfod pan ddywedwyd wrth Lywodraeth yr Alban na allai fwrw ymlaen a chynllyn dychwelyd ernes ar gyfer gwydr, ac fe gafodd hynny ei wneud ar fympwy Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ar y pryd—mympwy oedd hynny'n llythrennol. Wedyn fe wnaethom ofyn dro ar ôl tro am broses ar gyfer hawlio eithriad, a dyna un o'r pethau yr ydym ni'n gobeithio yn fawr a fydd yn deillio o hyn.

Rydym ni wedi galw yn bendant hefyd am roi'r trefniadau cydweithredu rhynglywodraethol ar waith fel eu bod nhw'n gweithio yn briodol, ond rydym ni'n dal i fod yn eglur y dylid diddymu'r darpariaethau o ran cymorth ariannol. Rydym ni'n derbyn yn llwyr fod angen marchnad sy'n gweithio ar gyfer y DU, ond, yn amlwg, mae'n rhaid iddi weithio mewn ffordd glir a thryloyw fel bydd pob un o'r Llywodraethau datganoledig yn deall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn gwthio'r agenda yn ei blaen.

Wedi'r cwbl, mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd mewn nifer o feysydd. Oni bai amdanom ni, ni fyddai gwaharddiad fyth wedi bod ar fagiau plastig yng ngweddill y DU. Mae Deddf Rhoi Organau (Cydsyniad Tybiedig) 2019 yn un arall. Mae sawl un ohonyn nhw. Ac mae hi er lles y DU i fod â Llywodraeth ddatganoledig sy'n gallu profi a yw rhywbeth yn gweithio a mynd rhyw fymryn ymhellach. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â chi fod angen cael trefn ar hyn. Rydym yn derbyn yr angen am drefniant llywodraethu ar gyfer y farchnad yn llwyr, ond mae'n rhaid i ni fod ag eglurder o leiaf ynghylch sut y byddwch chi'n bwrw ati i hawlio eithriadau.

Mynediad at Gyfiawnder

5. Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i wella mynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ62855

Diolch, Rhys. Mae mynediad at gyfiawnder yn sylfaenol i reolaeth y gyfraith ac mae hwnnw, wrth gwrs, yn faes na chafodd ei ddatganoli i raddau helaeth. Fe fyddaf i'n codi materion sy'n peri pryder mewn cyfarfodydd â Gweinidogion Llywodraeth y DU, ac rwy'n falch fod gwaith paratoadol ar y gweill i gyflwyno Bil ar gyfer gwella ein tribiwnlysoedd ein hunain.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am yr ateb yna, ac fe wn i eich bod chi'n cytuno na ellir rhoi gormod o bwyslais ar bwysigrwydd system gyfiawnder sy'n deg a hygyrch. Er hynny, mae niferoedd cynyddol o unigolion yn teimlo bod y system gyfiawnder wedi cael ei neilltuo ar gyfer y rhai sydd â modd ariannol. Yn yr oes hon lle mae niferoedd cynyddol o unigolion yn teimlo eu bod nhw wedi eu gadael ar ôl, mae hi mor bwysig, yn ein systemau deddfwriaethol a chyfreithiol, eu bod nhw'n teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli yn y meysydd hyn, a bod mynediad at gyfiawnder yn cael ei gynnal ac yn amddiffyn y rhai sydd wedi bod neu a fydd yn ddioddefwyr anghyfiawnder o unrhyw fath.

Rwy'n siŵr, yn eich swydd flaenorol, Cwnsler Cyffredinol, a'ch swydd chi ar hyn o bryd, i chi fod yn ymwybodol o'r achos llys yn erbyn y rhai sydd rownd y gornel yn y fan hon, sef Barratt Redrow ccc, cwmni sy'n gyfrifol am lawer o ddatblygiadau ledled Cymru a gweddill y DU, gan gynnwys datblygiad Plasdŵr yma yng Nghaerdydd, yr ymwelodd Rachel Reeves ag ef yn ddiweddar. Rwy'n siŵr i chi fod yn ymwybodol o'r achos diweddar yn ymwneud â Mr Gareth Wilson, preswylydd o rownd y gornel yn Celestia, sy'n wynebu costau cyfreithiol o dros £30,000 ac na all apelio yn erbyn ei achos oherwydd fe fyddai'n wynebu costau o dros £100,000. Rwy'n gwybod na allwch chi wneud unrhyw sylwadau ar yr achos hwnnw, ond os rhown ni hynny i'r naill ochr, yn sicr nid yw hynny'n iawn—bod y system gyfiawnder yn cael ei neilltuo i bobl sydd â'r swm hwnnw o arian ar gael ganddyn nhw. Pa sgyrsiau a ydych chi'n eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r proffesiynau cyfreithiol i sicrhau bod y system gyfiawnder ar gael i bawb sydd ag angen amdani? Diolch yn fawr.

Diolch i chi, Rhys. Mae'r un pryderon gennyf innau hefyd, yn sicr. Fe gefais i nifer o sgyrsiau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, ac mae'r sgyrsiau hynny wedi bod rhwng unigolion ac mewn grwpiau rhyng-weinidogol weithiau ynghylch— ac roeddwn i'n falch iawn o weld—symudiad o ran cymorth cyfreithiol. Nid dyna'r hyn y byddem ni'n dymuno ei weld, ond mae'n golygu dechrau symud i'r cyfeiriad cywir. Yr hyn sydd angen i ni ei weld yw adferiad o gymorth cyfreithiol yn gyffredinol, ac nid ar gyfer cymorth cyfreithiol troseddol yn unig ychwaith, fel roeddech chi'n iawn i'w ddweud. Rwy'n bryderus iawn, er enghraifft, nad yw pobl sydd â diffygion atgyweirio tai yn y sector preifat yn gallu cael gafael ar gymorth cyfreithiol. Roedd hynny'n arfer bod yn rhywbeth y gallai pobl gael gafael arno, ac roedd hwnnw'n ddefnyddiol iawn, ac fe'i tynnwyd yn ôl beth amser yn ôl. Mewn gwirionedd, hyd yn oed o ran cymorth cyfreithiol troseddol, mae pobl yn synnu o ddarganfod bod disgwyl iddyn nhw wneud cyfraniad at yr amddiffyniad ac ati. Felly, rwy'n credu bod y system yn enbyd ar hyn o bryd.

Y peth arall a gafodd ei egluro i mi'n dda iawn gan Gymdeithas y Gyfraith yng Nghymru—ac rwyf i wedi cwrdd â nhw sawl tro ynglŷn â hyn—yw bod cwmnïau troseddol ledled Cymru yn cael trafferth mewn gwirionedd, oherwydd mae'r swm o arian y maen nhw'n gallu ei ennill os ydyn nhw'n cynnig cymorth cyfreithiol troseddol, yn fach iawn mewn gwirionedd, Ac mae'r swm o arian yr ydych chi'n gallu ei ennill fel cyfreithiwr troseddol cwbl gymwys yn isel iawn. Fe fyddai pobl yn synnu'n fawr o ddarganfod bod cyflogau cyfartalog yn y £20,000au isel ar gyfer cyfreithwyr cwbl gymwys sy'n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol. Hynny yw, ni allwn ni ganiatáu i hynny barhau, felly rydym ni wedi gwneud sylwadau—mae'r Dirprwy Brif Weinidog a minnau wedi gwneud sylwadau ein dau—ynglŷn â mynediad at gyfiawnder, o ran argaeledd cymorth cyfreithiol i bobl yng Nghymru—ni chafodd hynny ei ddatganoli, ond nid yw hynny'n ein rhwystro ni rhag gofyn am adolygiad o'r gwasanaeth yng Nghymru, ond—o ran mynediad at gymorth cyfreithiol i unigolion yng Nghymru, ac edrych hefyd, mewn gwirionedd, yn bwysig iawn, ar hyfywedd cwmnïau cyfreithiol ledled Cymru. Mae yna anialwch i'r gorllewin o Abertawe o ran cyngor cyfreithiol i bob pwrpas, mewn gwirionedd. Felly, rydym ni wedi bod yn ceisio ystyried beth allwn ni ei wneud gyda thechnoleg gyfreithiol, i annog modelau prif ganolfan a lloerennau, i annog cymorthfeydd y tu draw i leoliadau'r cwmnïau mewn gwirionedd, ar gyfer annog defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau eraill, i sicrhau bod mynediad at hynny gennym ni.

Roeddwn i'n siarad mewn digwyddiad technoleg gyfreithiol yn ddiweddar, ac yn sôn am yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu cwmnïau ledled Cymru i gael mynediad at dechnoleg gyfreithiol er mwyn gallu ehangu cyrhaeddiad eu gwasanaethau nhw. Roeddwn i'n siarad ag Arglwydd Ponsonby a'i gynghorwyr ef ddydd Iau diwethaf—mae fy synnwyr i o amser yn ofnadwy; yn ddiweddar iawn—ac fe siaradais i â'r gwas sifil sy'n gyfrifol am y gronfa technoleg gyfreithiol ynglŷn â sut y gallwn gael mynediad i honno i Gymru, ac fe fyddaf i'n sicrhau y bydd Cymdeithas y Gyfraith yn gallu cael mynediad ar ran eu haelodau nhw. Felly, mae yna nifer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud, ond, yn y pen draw, nid yw hwn yn faes datganoledig.

Y darn olaf yr oeddwn i'n dymuno sôn amdano oedd bod fy nghyd-Aelod o'r Cabinet Jane Hutt a minnau wedi bod yn gweithio yn galed iawn i sicrhau bod y glasbrint menywod a dargyfeiriad o'r system garchardai yn gweithio. Rydym ni'n deall bod adolygiad o hwnnw ar y gweill, ac rydym ni'n sicrhau y bydd llais Cymru yn cael ei glywed yn hyglyw yn yr adolygiad hwnnw.

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Cyllid Seilwaith Rheilffyrdd

6. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Llywodraeth am statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn perthynas â'r rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt sy’n werth £6.6 biliwn? OQ62870

Diolch, Peredur. Nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru, ac mae rheilffordd Rhydychen-Caergrawnt yn rhan o lwybr gwelliannau'r rhwydwaith rheilffyrdd, felly mae'n cael ei ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr. Rydyn ni'n parhau i wneud yr achos dros gyfran deg o gyllid ar gyfer prosiectau seilwaith rheilffyrdd.

Diolch am yr ateb yna.

Yn dilyn trywydd cwestiynau Adam yn gynharach, roeddwn i ond eisiau cadarnhau—a wyf wedi deall hyn yn gywir—nad ydych chi'n mynd i herio'r penderfyniad i ailddosbarthu rheilffordd East West Rail, ac felly rydych chi'n fodlon â'r penderfyniad hwnnw. Ac er eich bod yn fodlon ag ef, ydych chi wedi cyfarwyddo'ch swyddogion i ystyried y dewisiadau o ran camau gyfreithiol y byddai'n bosibl eu cymryd fel ymateb i benderfyniadau y mae'r Trysorlys wedi'u gwneud yn yr achos hwn, a hefyd yn y sefyllfa ganlyniadol yswiriant gwladol? Ac a ydych chi'n cytuno â mi nad yw yn ysbryd partneriaeth mewn grym bod gan y Trysorlys yr holl rym dros y penderfyniadau hyn a'i bod yn gynhenid annheg a dylai gael ei adolygu a'i ddiwygio yn unol ag argymhellion comisiwn Holtham?

Wel, gallaf i ddechrau ar y diwedd a dweud 'ydyn' i hynny; rydyn ni'n credu y dylai fformiwla Barnett gael ei adolygu. Rydyn ni wedi gwneud hynny'n glir iawn yn wir. Rydyn ni'n credu bod yna nifer o gamau cyn i chi gyrraedd yno, ond rydyn ni wedi gwneud hynny'n glir iawn. Felly, gallaf i ddechrau trwy gytuno'n llwyr â chi ar hynny.

Mae'n ddrwg gennyf i, mae angen i mi sôn mwy am fanylion cyllid y rheilffyrdd, ac mae'n gallu bod yn eithaf cymhleth. Felly, hyd yn hyn, mae East West Rail wedi'i nodi'n gymharol yn y datganiad polisi cyllido. Mae Llywodraeth y DU erbyn hyn yn dweud y bydd yn cael ei gyflawni drwy raglen gwella seilwaith rheilffyrdd Network Rail England a Chymru, nad yw'n gymharol, ac mae hyn i gyd wedi dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod ers 2 Mehefin. Rydyn ni'n deall, yn dilyn trafodaethau diweddar ar lefel swyddogol, bod Trysorlys EF, i ddechrau, wedi nodi'r dosbarthiad blaenorol fel camgymeriad posibl, ac maen nhw'n trafod y mater hwn  gydag Adran Drafnidiaeth. Mae'r Trysorlys erbyn hyn, yn ystyried sut mae hyn i gyd yn effeithio ar gymhariaeth gyffredinol, ond maen nhw wedi cadarnhau bod gennym ni'r un ffactorau cymhariaeth a gafodd eu defnyddio yng nghyllideb yr hydref yn adolygiad gwariant yr wythnos diwethaf. Mae'r enghraifft hon yn dangos yn berffaith yr hyn sydd o'i le gyda fformiwla Barnett. Felly, gan fynd i'ch cwestiwn olaf, mae'n enghraifft dda iawn o'r hyn sydd o'i le, ond, fel y dywedais i mewn ateb i Adam, o safbwynt cyfreithiol, mae'n amlwg iawn nad yw rheilffordd trwm wedi cael ei ddatganoli i Gymru, ei fod yn swyddogaeth Cymru a Lloegr, felly. Nid wyf i'n credu y byddai'n gwasanaethu'r cyhoedd yng Nghymru orau i wario adnoddau ar ddadlau gyda'r Trysorlys ynghylch a yw hynny'n gamgymeriad, neu'r dosbarthiad—. Nid wyf i'n credu y byddai hynny'n mynd â ni i unrhyw le. Nid wyf i'n credu y byddai gennym ni ddadl gyfreithiol dda i'w chynnig o ran nad oedd yn gamgymeriad, ac rwy'n credu y bydden ni'n methu yn y pen draw.

Felly, fel y dywedais i mewn ymateb i Adam Price, rydyn ni wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod gan lwybr Cymru a Lloegr ran ohono yng Nghymru, a bod y llwybr hwnnw'n addas i'r diben. Mae gennym ni adolygiad gwariant tair blynedd ar gyfer y llwybr nawr sydd wedi'i gyhoeddi, ac rydyn ni'n falch iawn o hynny, ac rydyn ni'n parhau i wneud yr achos dros ymestyn y llwybr hwnnw. Byddwn ni wedyn, yn y pen draw, yn gwneud yr achos y dylai ardal Network Rail fod yng Nghymru yn unig, fel bod gennych chi lawer mwy o dryloywder o ran y penderfyniadau buddsoddi. Ond, o ran yr achos cyfreithiol, nid wyf i'n credu y byddai'r achos cyfreithiol hwnnw'n un da, ac rwy'n credu y bydden ni'n gwario llawer o arian er mwyn peidio â mynd yn bell iawn.

15:05
Blaenoriaethau'r Llywodraeth

7. Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod blaenoriaethau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni yng Nghanol De Cymru? OQ62862

Diolch, Andrew. Rwy'n gweithio'n agos gydag aelodau'r Cabinet i sicrhau bod blaenoriaethau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni mewn ffordd integredig. Yng Nghanol De Cymru, mae hynny'n golygu £66 miliwn ar gyfer cyllid tai fforddiadwy eleni, metro newydd i dde-ddwyrain Cymru, £1.2 biliwn yng nghytundeb dinas prifddinas-ranbarth Caerdydd, a lleihau rhestrau aros.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am yr ymateb hwnnw. Un o'r paramedrau allweddol ar gyfer llwyddiant economaidd i Ganol De Cymru y mae Llywodraethau blaenorol Cymru wedi tynnu sylw ato yw bod ei gweithgarwch wedi dod â cyswllt Qatar Airways o Faes Awyr Caerdydd i Doha. Rwy'n deall ei bod yn dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon sicrhau adfer y cyswllt hwnnw o Gaerdydd i Doha, ond eto, hyd yn hyn, nid ydyn ni wedi gweld y cwmni hedfan hwnnw yn dod yn ôl i Gaerdydd ers ei atal yn ystod COVID. A yw'n dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth gyflawni'r cysylltiad hwnnw a dod â Qatar Airways yn ôl i Faes Awyr Caerdydd, ac, os ydyw, sut ydych chi fel y Gweinidog Cyflawni yn gweithio gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth a Gweinidog yr economi i wireddu hynny? 

Diolch, Andrew. Felly, y ffordd y mae fy rôl yn gweithio yno yw, y byddai dau Weinidog sydd â mater trawsbynciol yn gofyn i mi eu cynorthwyo i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd mewn modd cytûn. Mae Maes Awyr Caerdydd Cymru yn enghraifft dda iawn o hynny. Felly, mae wedi dod i'r Cabinet cwpl o weithiau yn ddiweddar. Rwy'n gweithio'n galed iawn ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod y cyngor cyfreithiol ynghylch y gefnogaeth i Faes Awyr Caerdydd Cymru a'r manylion ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth yn rhoi ei hadnoddau i wneud y darn hwnnw o waith yn gweithio'n dda.

O ran y manylion, ni fyddai manylion y sgwrs gyda chwmni hedfan unigol gennyf i. Byddai hynny'n fater i Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, ond rwy'n hapus iawn i ofyn iddo ysgrifennu atoch chi am y manylion. Ni fyddai'n ddyletswydd arnaf i i edrych ar y manylion. Byddai'n ddyletswydd arnaf i i edrych ar—. Er enghraifft, pe bai'n cael y trafodaethau hynny ac roedd angen gwybodaeth am sgiliau neu swyddi neu unrhyw fath arall o gymorth arno, yna fy rôl i fyddai gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn gallu dod â'r holl wybodaeth honno i'r bwrdd i wneud yn siŵr bod y trafodaethau yn mynd yn dda ac roedd gennym ni set lawn o bethau. Ond o ran y peth penodol iawn, oni bai fy mod i'n gofyn, ni fyddwn i'n gwybod. Felly, byddaf i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth ysgrifennu atoch chi am y mater penodol hwnnw. Nid oes gennyf i'r wybodaeth honno wrth law.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Member (w)
Jane Hutt 15:09:25
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar y tafod glas. Yn ail, mae datganiad ar gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig wedi cael ei dynnu'n ôl. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau'n electronig.

15:10

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae elusen iechyd meddwl leol yn fy etholaeth i, o'r enw Megan's Starr Foundation, wedi cysylltu â mi oherwydd mae gofyn wedi bod arnyn nhw i ymgymryd ag achosion a ddylai fod yn nwylo’r gwasanaethau statudol. Fe wnaethon nhw rannu achos gyda mi lle y cawson nhw wybod am ferch 16 oed. Treuliodd y ferch sawl noson yn yr ysbyty yn dilyn ail ymgais i ladd ei hun fewn tri mis. Erbyn hyn, mae ganddi symptomau seicotig brawychus, ac eto dim ond ffenestr gymorth pythefnos y cynigiodd gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc iddi gan drosglwyddo'r ferch i Megan's Starr Foundation fel elusen. Nawr maen nhw'n pryderu oherwydd nad yw hyn yn trosglwyddo gofal yn briodol nac yn ddiogel. Mae'n eithaf amlwg bod plant risg uchel yn cael eu rhyddhau o CAMHS i ofal elusennau, ac mae'n rhaid i ni ymchwilio pam mae hynny'n digwydd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar os gallwn gael datganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl fel y gallwn ni ddeall pam mae hyn yn digwydd ac a allai cymorth ariannol gael ei roi i elusennau a sefydliadau lleol sy'n ymgymryd â'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn hefyd. Diolch.

Diolch yn fawr, Paul Davies, a diolch am dynnu sylw at yr achos pryderus iawn hwn yn eich etholaeth. A allwn ni gydnabod rôl wirioneddol bwysig yr elusennau hynny, elusennau iechyd meddwl cenedlaethol a lleol? Wrth gwrs, rydyn ni'n cefnogi llawer o'r elusennau hynny gyda grantiau a chefnogaeth gan y cynghorau lleol ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol. Mae hyn yn rhywbeth sydd—. Rydych chi wedi'i ddarlledu heddiw yn y Siambr. Mae'n fater i Hywel Dda, rwy'n credu, nid yn unig glywed yr achos penodol hwn, ond edrych ar hyn yn nhermau eu gwasanaethau. Ac, wrth gwrs, bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rwy'n siŵr, hefyd yn clywed am hyn a byddai eisiau ymateb yn nhermau ei gweledigaeth, sy'n gryf ac yn glir iawn, nid yn unig ar gyfer gwella ond cynnal a chefnogi gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.

Trefnydd, mi hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, y cyntaf gan y Gweinidog dros ddiwylliant ynglŷn ag erthygl fuodd yn ddiweddar ar y BBC ynglŷn â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r ffaith bod yna 2,200 o eitemau ar goll. Yn amlwg, mi oedd ymateb y Llywodraeth yn nodi mai mater o ran achrediad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ydy hyn, ond, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau bod yr adnoddau digonol gan ein sefydliadau cenedlaethol ni i ofalu am y casgliadau cenedlaethol. Felly, mi fyddwn i yn hoffi cael datganiad ar hynny.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei ofyn yw deintyddiaeth. Fel y gwyddoch chi, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd am ddiwygio gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG. Mae'n cau mewn tri diwrnod. Mae nifer o ddeintyddion y GIG wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon dwfn gan ddweud wrthyf i eu bod yn credu mai dyma fydd diwedd deintyddiaeth y GIG os bydd y cynlluniau yn mynd rhagddo. O ystyried arwyddocâd a difrifoldeb y pryderon sydd wedi'u mynegi gan bobl sydd wedi gweithio ers degawdau fel deintyddion y GIG—maen nhw'n credu yn wirioneddol yn nyfodol y gwasanaeth—. Maen nhw wedi mynegi pryderon hefyd nad yw'r ymgynghoriad ei hun yn caniatáu iddyn nhw ddarparu'r holl farn yr hoffen nhw eu mynegi. Felly, hoffwn i wybod sut y gallwn ni sicrhau bod y safbwyntiau hynny'n cael eu cyfleu a bod y Llywodraeth yn gwrando arnyn nhw.

Diolch yn fawr. Heledd Fychan, a diolch am godi'r hyn a oedd, yn y parth cyhoeddus, yn bryder mawr—y 2,200 o eitemau hynny ar goll. Mae'r rhain i gyd yn bwysig i'r dreftadaeth a'r casgliadau gwych sy'n cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth anffodus iawn. Mae wedi cael ei ddwyn i'n sylw ac mae'r archwiliad yn parhau, ond mae'n rhywbeth rwy'n gwybod bod y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn ymwybodol iawn ohono pan fydd hefyd yn cwrdd ac yn ymgysylltu â'r llyfrgell genedlaethol, o ran eu cyfrifoldeb a'n monitro o'r sefyllfaoedd hyn.

O ran eich ail gwestiwn ar ddeintyddiaeth, wrth gwrs dyma'r ymgynghoriad sy'n nodi cynigion ar gyfer y contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol newydd. Mewn gwirionedd, mae'r ymgynghoriad i fod i gau ar 19 Mehefin, sydd ar fin digwydd, ac mae nifer fawr o ymatebion wedi bod. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n glir iawn yw ei bod bwysig i'r rhai sydd â chlefyd cronig, bod gofal yn parhau gan yr un person, ac, o ran yr unedau hynny o weithgarwch deintyddol, mae'r berthynas rhwng y claf a'r clinigydd yn cael ei ystyried unwaith y bydd cwrs triniaeth wedi'i ddarparu. Mae'r rhain yn faterion sy'n amlwg yn cael eu hystyried yn glir yn nhermau'r contract. Rwy'n credu bod hyn wir yn symud i ganllawiau NICE hefyd, sydd wedi bod yn eu lle ers 2004. Rydyn ni eisiau gweld y canllawiau hynny'n cael eu gweithredu i'w eithaf, fel y gallwn ni greu capasiti i'r rhai sydd â chlefyd gweithredol, oherwydd eu bod yn argymell cyfnodau hirach o ran anghenion unigol y claf, ac mae'n bwysig nad yw'r cynnig hwn yn effeithio ar blant.

15:15

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod wedi lansio ymgynghoriad ar reoleiddio'r sector gorfodi dyledion. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau wedi wynebu'r trallod sy'n cael ei achosi weithiau i'n hetholwyr gan feilïaid. Felly, y rheoliad, rwy'n gefnogol iawn iddo. Nid oes digon o reoleiddio o'r sector hwn wedi bod, felly a gaf i ofyn am ddatganiad ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori a pha oblygiadau fydd ganddo yng Nghymru?

Yn ail, roeddwn i eisiau codi eto yn y Siambr hon, mater cau banciau, oherwydd yr wythnos diwethaf cefais i hysbysiad bod banc NatWest yn Llanisien, yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, yn cau ym mis Medi, a dyma'r gangen banc olaf yng Ngogledd Caerdydd. Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn dioddef pan fydd cangen banc yn cau, yn enwedig pobl hŷn a phobl agored i niwed, a phob tro mae cangen wedi cau rydw i wedi protestio, ynghyd â'r gwleidyddion lleol eraill yn yr ardal, ac wedi pledio, ond nid yw erioed wedi cael unrhyw ganlyniad. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai datganiad fod ar yr hyn y gallai'r Llywodraeth geisio'i wneud i helpu yn y swyddi hyn ac i ymgysylltu ymhellach â banciau i weld a oes modd bod cael rhyw ddatrysiad.

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw yr wythnos diwethaf bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod angen i ni fod â gorfodi. Wrth gwrs, cafodd y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ei sefydlu yn 2022, a oedd i'w groesawu'n fawr, ond roedd yn gynllun achredu gwirfoddol, felly rwy'n cytuno'n gryf mai'r unig ffordd y mae'n bosibl gorfodi hyn, a sicrhau ei fod yn cael ei orfodi, yw cael rheoleiddio statudol annibynnol ar gyfer y sector gorfodi dyledion yng Nghymru a Lloegr. Rwy'n gwybod bod y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi wedi cwrdd ag Aelodau'r Senedd yma heddiw, ac rydyn ni wedi croesawu'r ffaith bod ein holl awdurdodau lleol, mewn gwirionedd, wedi llofnodi'r cod ymddygiad gorfodi a hefyd wedi gweithredu'r protocol y dreth gyngor yn 2019. Roedd hynny'n gam pwysig iawn yn y diwylliant o orfodi'r dreth gyngor yng Nghymru, lle'r ydyn ni'n gwybod bod defnyddio beilïaid yn aml wedi achosi pryderon. Felly, rwy'n credu bod y ffaith bod Llywodraeth y DU, erbyn hyn, yn mynd i symud i sail statudol ar gyfer y sector gorfodi dyledion i'w groesawu'n fawr. Wrth gwrs, mae ymgynghoriad ar hyn, ac rwy'n siŵr y bydd ein sector cynghori yn benodol yn ymateb, ond byddwn ni'n ymateb, oherwydd mae'n ymwneud ag ymgynghori ar rôl rheoleiddiwr statudol annibynnol, sut y bydd yn cael ei ariannu a sut y bydd yn cael ei ddwyn i gyfrif i'r Senedd. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n croesawu hyn ar draws y Siambr ac yn ymateb iddo.

Mae'n bryderus iawn clywed eich bod chi'n debygol o gael eich gadael, ac y byddwch chi'n cael eich gadael, yng Ngogledd Caerdydd heb ganghennau banc, gyda'r cyhoeddiad diweddar bod NatWest yn mynd i gau eu cangen yn Llanisien yn y don ddiweddaraf o fanciau'n cau rhwng Medi a Chwefror. Ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni, ar draws y Siambr hon, wedi cael cymaint o enghreifftiau o'r math hwn o fanciau'n cau. Rydyn ni'n edrych ar yr hyn y dylai banciau fod yn ei wneud. Mae'r penderfyniad i adael cwsmeriaid ffyddlon—unigolion a busnesau—heb y cyfle i fanteisio ar wasanaethau bancio wyneb yn wyneb mewn canghennau’n anffodus iawn, ac rwy'n siŵr, unwaith eto, ein bod ni'n rhannu'r pwynt hwnnw ac yn rhannu'r pryder hwnnw ar draws y Siambr. Wrth gwrs, nid yw rheoleiddio bancio wedi'i ddatganoli. Mae yna gyfleoedd i ddatblygu hybiau bancio, ac efallai y bydd rhai yn codi yn eich etholaethau chi, ac mae hynny'n rhywbeth lle y byddwn i'n eich annog chi i ymgysylltu â LINK, y gweithredwr peiriannau twll yn y wal, sydd â gwasanaeth adolygu mynediad at arian parod, a gall arwain at argymhellion ar gyfer hyb bancio. Ond rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a minnau yn trafod hyn gyda Llywodraeth y DU hefyd, oherwydd mae hyn yn cael ei reoleiddio gan Lywodraeth y DU, ac mae banciau'n cau ac mae'n arwain at ddim canghennau banc yn eich etholaeth a llawer o rai eraill.

15:20

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad llafar neu ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r cynnydd brawychus mewn troseddau gwledig yng Nghymru? Mae ffigurau NFU Mutual yn dangos bod troseddau gwledig wedi cynyddu 18 y cant yn 2024, gan gyrraedd £2.8 miliwn, yr uchaf mewn dros ddegawd, a Chymru yw'r unig genedl yn y DU i weld cynnydd o'r fath. Mae gangiau cyfundrefnol yn defnyddio dronau i dargedu sawl fferm mewn un noson, gan ddwyn cerbydau sy'n addas ar gyfer pob math o dir, systemau lleoli byd-eang a da byw, gan adael ffermwyr nid yn unig ar eu colled, ond yn ofnus yn eu cartrefi eu hunain. Er fy mod i'n canmol ymdrech heddluoedd Cymru a'r cydlynydd bywyd gwyllt a throseddau gwledig a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Rob Taylor, mae'n amlwg bod angen gwneud mwy; mae angen dull cydgysylltiedig y Llywodraeth i wrthdroi'r duedd hon a chefnogi dioddefwyr troseddau hefyd. Gan ddeall y berthynas rhwng cyfrifoldebau a gedwir yn ôl a chyfrifoldebau datganoledig, a gaf i ofyn i chi siarad â'r Dirprwy Brif Weinidog i ofyn iddo nodi pa gamau eraill y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddiogelu cymunedau gwledig yng Nghymru?

Diolch yn fawr, Sam Kurtz, a diolch am godi'r pryderon hyn am droseddau gwledig. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi clywed eich galwad, ac mae'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a datganiad ar hyn. Mae hyn hefyd yn rhywbeth y byddwn i'n ei ddweud ei fod yn fy nghyfrifoldeb i, cysylltu â phlismona yn ein bwrdd partneriaeth plismona ar gyfer Cymru, yr wyf i'n ei gadeirio, ac ymgysylltu â chomisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru. Mewn gwirionedd, Dafydd Llywelyn yw prif gomisiynydd yr heddlu a throseddu ar gyfer ein Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, a byddaf i'n rhoi hyn ar yr agenda ar gyfer fy nghyfarfod nesaf ag ef.

Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Prif Weinidog ynghylch a yw'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn defnyddio unrhyw ganolfannau neu adeiladau milwrol yng Nghymru i hyfforddi personél byddin Israel, ac os yw hynny'n wir, a fydd hi'n codi hynny gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn gwrthwynebu hynny ar y sail bod gan Gymru ddyletswydd statudol i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac mae hyn yn groes i ddyfarniad y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol ar feddiannaeth anghyfreithlon Israel o diriogaethau Palestina.

Hoffwn i hefyd gael sicrwydd ganddi nad yw Cymru'n cefnogi hil-laddiad parhaus pobl Palestina, drwy sicrhau nad oes unrhyw weithgareddau, partneriaethau ac arferion caffael Llywodraeth Cymru ar gyfer cwmnïau neu weithgareddau yn gysylltiedig ag unrhyw feddiannaeth anghyfreithlon neu weithred filwrol gan Israel.

Yn ail, a gaf i ofyn pam mae'r datganiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar lywodraeth leol a thai wedi cael ei dynnu'n ôl? A fydd cofrestru awtomatig yn cael ei gyflwyno erbyn etholiad y Senedd 2026? Oherwydd rydyn ni wedi cael datganiadau anghyson yn ddiweddar gan Weinidogion ar hyn, felly hoffwn i gael eglurder ar hynny, os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams, a diolch am godi'r cwestiwn hwnnw ar gyfer y Prif Weinidog. Fe wnaf i sicrhau ein bod ni'n cael ymateb i hynny o ran eich pwynt cyntaf, a hefyd i ddweud y byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, bod y Prif Weinidog, yn ei rôl fel arweinydd Llafur Cymru, wedi cyhoeddi galwad gyhoeddus ddydd Sadwrn am heddwch yn Gaza a diwedd ar ddioddefaint pobl ddiniwed Palesteina, ond fel Prif Weinidog hefyd, fe ymunodd hi ag arweinwyr eraill i wneud datganiad ac ysgrifennu ar y pwynt hwn.

Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle'r ydyn ni i gyd yn unol yn ein pryder enfawr am y gwrthdaro parhaus a'r argyfwng dyngarol yn Gaza, a'r dull presennol o ddosbarthu cymorth, nad yw'n cael ei ddosbarthu; mae'n defnyddio bwyd fel arf. Wrth gwrs, rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn galw am godi'r blocâd cymorth yn Gaza ac wedi datgan na ddylai cymorth dyngarol byth cael ei ddefnyddio fel offeryn gwleidyddol. Rydyn ni'n ymuno â Llywodraeth y DU i alw ar Israel i barchu cyfraith ryngwladol a chaniatáu i'r Cenhedloedd Unedig ac asiantaethau eraill ddarparu cymorth achub bywydau i'r rhai yn Gaza sydd ei angen mor ddirfawr. Rwy'n edrych ymlaen hefyd at gyfarfod yr wythnos nesaf â chynrychiolwyr o Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid Palesteina yn y Dwyrain Agos. Mae Julie Morgan yn cynnal cyfarfodydd, rwy'n gwybod, ar gyfer holl Aelodau'r Senedd, ac rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog a minnau hefyd yn cyfarfod â nhw. Gobeithio, felly, y gallwn ni wneud mwy o sylwadau ar yr hyn yr ydyn ni wedi'i ddysgu o'r cyfarfod hwnnw.

Ar eich ail bwynt, ydy, mae'r datganiad ar gofrestru awtomatig wedi'i ohirio. Nid yw wedi'i ganslo; mae wedi cael ei ohirio. Mae'n cael ei aildrefnu. Hefyd, mae Llywodraeth y DU yn gweithio ar gofrestru awtomatig. Ond fe ofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet i—. Gallwn ni sicrhau ein bod ni'n ei gael ar yr amserlen ar gyfer y datganiad busnes.

15:25

Prynhawn da, Trefnydd. Yn dilyn yr hyn y mae Sioned newydd ei ddweud, hoffwn i hefyd alw am ddatganiad gan y Prif Weinidog, yn datgan yn glir iawn bod Senedd Cymru eisiau atal yr holl arfau sy'n mynd i Israel. Nid yw'n ddigon i ddweud ein bod ni i gyd eisiau heddwch. Dydy e ddim o gwbl. Mae angen i ni fod yn glir a heb unrhyw sefyllfa o gamarwain neu unrhyw amheuaeth o gwbl, bod Senedd Cymru eisiau atal arfau rhag mynd i Israel. Felly, hoffwn i chi ateb y cwestiwn hwnnw yn iawn, os gwelwch yn dda. A yw hyn yn rhywbeth y byddech chi'n ei gefnogi? Hynny yw, galwad gan Lywodraeth Cymru i atal arfau rhag mynd i Israel.

Yn ail, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r campws yn Gelli Aur, lle anhygoel yr ymwelais i ag ef bythefnos yn ôl. Maen nhw'n datblygu academi yno, academi sgiliau gwyrdd, a fydd yn ein paratoi ni ar gyfer y dyfodol. Felly, hoffwn i wneud yn siŵr bod y cyllid ar gyfer Gelli Aur yn parhau. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch eto. Mae'n bwysig bod gennym ni'r datganiadau cryf hyn gan Aelodau'r Senedd i atal arfau i Israel, a bod Senedd Cymru yn mynegi barn ar hynny. Wrth gwrs, bydd hynny'n cael ei gyfleu nid yn unig o ran ymateb y Prif Weinidog, fel y cefais fy ngofyn amdano'n gynharach, ond hefyd i ystyried hyn yn nhermau'r hyn sy'n digwydd. Rwy'n gobeithio y gallaf i adrodd yn ôl ar hynny, eto, o ran y trefniadau a'r sefyllfa lle rydyn ni ei heisiau, fel y dywedwch chi, Jane, fod yn glir iawn ynglŷn â sut yr ydyn ni'n stopio'r rhyfel, sut yr ydyn ni'n stopio'r trychineb dyngarol sy'n effeithio mor greulon ar bobl Palesteina yn Gaza. Mae atal arfau'n hanfodol i hynny, yn ogystal ag, yn amlwg—. O fewn cyfraith ryngwladol, mae'n rhaid i ni gydnabod yr alwad hon heddiw.

Ar eich ail bwynt, mae croeso cynnes o ran gweld y ffaith bod yna bartneriaeth wirioneddol wych sy'n darparu cyllid a chefnogaeth i Goleg Sir Gâr i sefydlu eu academi sgiliau gwyrdd. Wrth gwrs, cafodd ei gefnogi trwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn 2023-25, gan greu ymwybyddiaeth ar draws gwahanol grwpiau oedran y llwybr sgiliau gwyrdd. Yn ystod y prosiect, cafodd arolwg ei gynnal ymhlith pobl ifanc i ddeall eu hanghenion a'u hymwybyddiaeth o gyfleoedd sgiliau gwyrdd. Rwy'n deall y bydd Green 24 yn canolbwyntio'n benodol ar yr angen am hyfforddiant ac ymwybyddiaeth sero net yn y sector cyhoeddus, a hefyd bod cymwysterau galwedigaethol academi sgiliau gwyrdd a chyfrifon dysgu personol i gyd yn cael eu rheoli o fewn y gyllideb ariannu gan sefydliadau addysg bellach a Medr.

Trefnydd, fel y gwyddoch chi efallai, mae parc dŵr wedi bod ar waith ym Mae Caerdydd am y pum mlynedd diwethaf, ond oherwydd pryderon iechyd y cyhoedd ynghylch ansawdd dŵr, ni all weithredu mwyach. Fel cynrychiolydd y Fro, yn sicr, rydych chi wedi gweld y penawdau bod Cyngor Bro Morgannwg wedi cynnig Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston fel lleoliad arall, penderfyniad sydd wedi cythruddo llawer o drigolion.

Fel y gwyddoch chi, mae llynnoedd Cosmeston yn ardal cadwraeth natur ddynodedig ac yn fan gwyrdd y mae pobl yn hoff iawn ohono, sy'n cael ei werthfawrogi am ei dawelwch a'i addasrwydd ar gyfer hamdden heddychlon. Mae pryderon difrifol y byddai parc dŵr nid yn unig yn denu nifer fawr o ymwelwyr, gan llethu capasiti cyfyngedig y safle, ond hefyd yn llethu'r seilwaith y ffyrdd sydd yn rhai preswyl yn bennaf.

Fodd bynnag, mae'r pryderon mwyaf dybryd yn ymwneud â'r effaith bosibl ar fywyd gwyllt lleol. Mae'r llynnoedd yn gartref i adar nythu a llygod dŵr, y ddau ohonyn nhw'n sensitif iawn i fwy o sŵn a gweithgarwch dynol, ac mae ofn gwirioneddol y gallai presenoldeb y parc dŵr beryglu'r rhywogaethau agored i niwed hyn. Mae protestwyr hefyd wedi tynnu sylw at yr arwyddion o amgylch y llynnoedd sy'n glir—

15:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ond mae'n rhaid i mi brotestio yma: os byddem ni wedi cael atebion cryno gan y Trefnydd, ni fydden ni yma, yn brin o amser.

Rydych chi'n cael eich gofyn i ofyn eich cwestiwn o fewn y terfyn amser. Nid ydych chi hyd yn oed wedi gofyn cwestiwn neu wedi gofyn am ddatganiad yn y terfyn amser hwnnw. Gwnewch hynny os gwelwch yn dda.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fodd bynnag, rydych chi'n gwybod y pryderon yma. Mae arwyddion o gwmpas y llynnoedd yn gwahardd nofio oherwydd etifeddiaeth ddiwydiannol y llynnoedd. A gawn ni ddatganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi pwerau gwirioneddol i bobl wrthwynebu'r datblygiadau hyn? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn, Joel James. Mae hyn, wrth gwrs, yn fater i Gyngor Bro Morgannwg.

Gaf fi ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella safon y gofal ar gyfer cleifion sy'n dioddef o PoTS, neu postural tachycardia syndrome, yng Nghymru? Dwi'n falch iawn o groesawu i'r Senedd heddiw yma Siân Griffiths, sy'n etholwraig i fi, ac aelodau o dîm PoTS UK, sydd wedi bod yn trafod efo Aelodau y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth am y cyflwr, gan annog unrhyw un sydd yn dioddef i estyn allan am gefnogaeth.

Mae'r ffigurau wirioneddol yn drawiadol. Mae 91 y cant o'r rheini sy'n dioddef â'r cyflwr yng Nghymru yn cael trafferth cael mynediad at ofal, ac mae'r effaith mae hynny'n ei gael ar y gallu i fynychu gwaith neu fynychu ysgol wirioneddol yn ddifrifol. Mae angen llwybr gofal clir ar gyfer y rhai sy'n dioddef. Felly, gaf fi ofyn am i'r datganiad yna gan yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr PoTS, fel bod yr effaith ar eu bywydau dydd i ddydd nhw'n cael ei gyfyngu gymaint â phosib?

Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Rhun ap Iorwerth, am dynnu ein sylw at hwn, ac, yn amlwg, ar ôl cael trafodaethau gyda'ch etholwr, sydd hefyd gyda ni heddiw, a deall—. Rydyn ni bob amser yn dysgu gan gleifion eu hunain sut beth yw byw gyda'r cyflyrau pryderus iawn hyn. Wrth gwrs, mae'n bryder o ran mynediad at ofal, lle bydd llwybr gofal wrth gwrs yn helpu i wella'r mynediad hwnnw. Felly, yn sicr, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yma yn y Siambr, a bydd yn ystyried hynny o ran pa le y gall fod iddo, o ran llwybr gofal, i sicrhau ein bod ni'n cael y driniaeth a'r gefnogaeth orau ar gyfer y cyflwr hwn.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os caf i, gan Lywodraeth Cymru am safleoedd bysiau. Yn anffodus, pan fyddaf i'n teithio o amgylch fy rhanbarth, mae'n amlwg bod angen canolbwyntio'n fwy ar ein safleoedd bysiau. Nid yw llawer ohonyn nhw'n hyfyw hyd yn oed. Maen nhw mewn cyflwr druenus, maen nhw'n beryglus, ac maen nhw'n anniogel. Mae yna un safle yn Nhryleg, sir Fynwy lle mae pobl yn dod oddi ar y bws yn syth i mewn i glawdd. Dim ond amser cinio yr oeddwn i'n siarad â Mencap am safleoedd bysiau anaddas i'r rhai ag anableddau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel sir Fynwy. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru o ran sut maen nhw'n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod safleoedd bysiau, gyda rhywfaint o frys, yn cael eu hadnewyddu, fel bod mynediad ar gael i bawb, a bod anableddau yn cael eu hystyried, ac, yn bwysicaf oll, eu bod yn cael eu gwneud yn ddiogel. Ni allwn ni aros nes bod Bil bysiau o bosibl yn dod ymhen ychydig flynyddoedd. Mae angen i'r pethau hyn ddigwydd nawr. Diolch.

Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Mae'n rhaid i mi ddweud eto bod hyn yn fater i lywodraeth leol, i awdurdodau lleol, o ran darparu safleoedd bysiau. Ond wrth gwrs, rwy'n gwybod y bydd safonau dylunio a chanllawiau ar y ddarpariaeth honno. Wrth gwrs, rydyn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol ymateb i'n cynllun hawliau pobl anabl, sydd ag adran gyfan ar hygyrchedd i drafnidiaeth. Felly, rwy'n siŵr y byddan nhw'n gweld ac yn clywed eich pwynt heddiw, a gobeithio y bydd hyn yn rhan o'u hymateb i drafnidiaeth fwy hygyrch a mynediad at drafnidiaeth.

Gaf fi ofyn am asesiad a datganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynghylch cynllun peilot Dwyfor? Mae yna bryder ar lawr gwlad nad oes gan y cynllun peilot ddannedd mewn gwirionedd a bod yna laesu dwylo wedi bod ac nad ydy'r arian a glustnodwyd ar gyfer y cynllun wedi cael ei wario yn llawn. Mae yna angen i ni weld canlyniadau'r cynllun peilot yma er mwyn medru asesu beth sydd wedi llwyddo a beth sydd angen ei gryfhau. Felly, a gawn ni ddatganiad yn rhoi ac yn gosod allan asesiad o'r rhaglen peilot Dwyfor, os gwelwch yn dda?

15:35

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb i hyn. Yn wir, mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu y byddai'n addas iawn ar gyfer ei chwestiynau llafar yn y Senedd.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ? Mae un am y ffordd o Sycamore Cross i gyffordd Meisgyn yr M4, yr wyf i'n siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â hi. Roedd yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ffordd newydd sy'n cysylltu'r ddau bwynt hynny. Cafodd hynny ei ollwng gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn gynnig rhy gymhleth o lawer a fyddai wedi dinistrio cefn gwlad. Ond yn hytrach na dod yn ôl gyda chynnig diwygiedig, mae Llywodraeth Cymru wedi gadael y darn hanfodol hwn o seilwaith heb ei gyfwrdd. Mae llawer o rwystrau erbyn hyn yn atal traffig rhag llifo ar hyd y ffordd honno. Dim ond heddiw, cefais etholwr yn tynnu sylw at sut y gwnaeth lori gymalog achosi rhwystr yno am sawl awr, ac mae risg wirioneddol i gerbydau brys gyrraedd pentref Pendeulwyn. Felly, mae angen datganiad gan Lywodraeth Cymru arnon ni i ddeall a fyddan nhw'n cyflwyno unrhyw gynigion newydd i weithio gyda chyngor y Fro i wella'r darn hwnnw o seilwaith a chreu mwy o leoedd pasio i ganiatáu i draffig lifo.

Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ei gael gan Lywodraeth Cymru, ac mae hwnnw gennych chi eich hun fel Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol o ran y ffordd y mae arweinwyr y cyngor yn ymddwyn eu hunain. Oherwydd, mae arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, o ran y mater y gwnaeth Joel James ei godi am lynnoedd Cosmeston, wedi ymgysylltu â phrotestwyr a phobl sydd â phryderon gwirioneddol yno drwy ddweud bod eu pryderon yn 'nonsens maleisus', 'rwtsh' a 'camwybodaeth'—iaith na ddylai gael ei defnyddio wrth ymgysylltu â phobl sydd â phryderon gwirioneddol am yr amgylchedd y maen ei alw'n gartref ac maen nhw'n byw drws nesaf iddo a pharc sy'n agos at galonnau llawer o drigolion. Yn sicr, nid dyna'r lefel o ymgysylltu y byddech chi'n ei ddisgwyl gan uwch wleidydd etholedig lleol. Yn eich rôl fel Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, sy'n ymdrin â'r materion hyn, yn sicr byddech chi eisiau gosod safon uwch ar gyfer ymgysylltu ag aelodau etholedig pan fyddan nhw'n ymgysylltu â thrigolion pryderus.

Diolch am y ddau gwestiwn hynny, Andrew R.T. Davies. Ydw, rwy'n gyfarwydd iawn â'r cyswllt rhwng Sycamore Cross, Five Mile Lane, yr A48 a'r M4. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ymgynghoriad helaeth a gafodd ei gynnal, fel y byddwch chi'n cofio, pan gafodd mwy nag un cynnig eu cyflwyno i greu'r cyswllt hwnnw. Mae'n rhywbeth yr oedd ymgynghori helaeth arno. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gwrthwynebiad enfawr i greu ffordd newydd drwy'r ardal wledig honno. Ond eto, mae hyn yn rhywbeth sydd, o ran defnyddio'r cysylltiad hwnnw â'r M4, rwy'n gwybod ei fod yn boblogaidd. Mae hynny'n fater i'r awdurdod lleol o ran rheoli'r ffordd honno.

Nid oes gennyf i fwy i'w ddweud ar eich ail bwynt. Mae'n rhaid i ni gofio bod hyn yn ymwneud â phobl etholedig yn lleol a'u rolau mewn llywodraeth leol. Mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, ac yn amlwg roedd hyn o ganlyniad i ymgynghori ac ymgysylltu.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, clywodd trigolion sir Ddinbych y newyddion siomedig na fydd un ffordd yn y sir yn cael ei dychwelyd i 30 mya o 20 mya yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru y llynedd. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud y penderfyniad hwn er gwaethaf teimlad cryf y cyhoedd y dylai nifer sylweddol o ffyrdd gael eu dychwelyd i 30 mya, ac er bod llawer o ffyrdd yn bodloni'r meini prawf yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer dychwelyd i 30 mya. Yn ddealladwy, mae llawer o drigolion lleol wedi'u drysu gan y penderfyniad hwn ac maen nhw wedi cysylltu â mi i ofyn beth sy'n digwydd.

Byddwn i'n ddiolchgar o gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau eu bod yn dilyn canllawiau'n ofalus, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu penderfyniadau'r cyngor ar bob ffordd ac yn gwirio a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno'i bod wedi cydymffurfio â nhw. Oherwydd mae'n rhaid i ni gofio mai dim ond 0.6 y cant o ffyrdd yn sir Ddinbych sydd wedi'u heithrio ar hyn o bryd, sef un o'r cyfraddau isaf yng Nghymru gyfan, ac mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i benderfyniad eich Llywodraeth i gyflwyno'r parth 20 mya diofyn.

Anfonais lythyr gan etholwyr at Gyngor Sir Ddinbych bron i ddwy flynedd yn ôl, gyda rhestr o eithriadau fe wnes i eu llunio gydag etholwyr. Nid yw'n iawn bod y cyngor yn gwneud y penderfyniadau hyn. Felly, rwy'n gofyn pa gyfrifoldeb uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ei arfer gyda'r awdurdod lleol i wneud yn siŵr fod modd llunio eithriadau yn y ffordd gywir a phriodol ar gyfer fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd. 

15:40

Diolch, Gareth Davies. Does dim byd sydd wedi cael ei ddwyn i'm sylw y prynhawn yma sy'n unrhyw beth ond penderfyniad cyngor a etholwyd yn lleol ac yn ddemocrataidd yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y canllawiau sydd wedi'u darparu gan Lywodraeth Cymru.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: 10fed Pen-blwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Eitem 4 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: degfed pen-blwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt. 

Member (w)
Jane Hutt 15:41:10
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, cychwynnodd pobl Cymru ar daith anhygoel. Trwy sgwrs genedlaethol yn 2014, fe wnaethom ateb cwestiwn dwys gyda'n gilydd: 'Pa fath o Gymru ydych chi eisiau ei gadael i'ch plant a'ch wyrion?' Daeth eu lleisiau yn sylfaen i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a heddiw rwy'n falch o ddathlu degfed pen-blwydd y ddeddfwriaeth arloesol hon drwy arddangos sut mae ein llwybr dewisol wedi sbarduno datblygu cynaliadwy ledled Cymru. Dros y degawd diwethaf, mae'r Ddeddf wedi trawsnewid yn sylfaenol sut mae sector cyhoeddus Cymru yn blaenoriaethu llesiant pobl a'r blaned. Mae'r pen-blwydd hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni asesu ein cyflawniadau a mapio ein llwybr ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Ddeddf wedi chwyldroi ein dull o fewn Llywodraeth Cymru, yn enwedig drwy ein harferion caffael. Mae'r ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol bellach yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyflawni'r pedwar piler cynaliadwyedd—llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, a diwylliannol—trwy bob gweithgaredd caffael. Mae'r trawsnewidiad hwn yn sicrhau bod caffael yn y sector cyhoeddus yn dod yn un o'n hoffer mwyaf pwerus ar gyfer adeiladu Cymru fwy cyfartal, cynaliadwy a ffyniannus.

Mae ein cynllun dysgu a gwella parhaus yn dangos sut mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy wedi cael ei ymgorffori yn natblygiad polisïau allweddol, fel 'Llwybr Newydd'. Mae'r strategaeth drafnidiaeth uchelgeisiol hon yn canolbwyntio ar uchelgeisiau llesiant, gan ddangos sut y gall trafnidiaeth gyfrannu at ein nodau llesiant, drwy hyrwyddo teithio llesol, ymdrechion datgarboneiddio, ac atebion trafnidiaeth hygyrch. Mae'r Ddeddf wedi bod yn allweddol wrth i Gymru gyrraedd yr ail safle yn fyd-eang ar gyfer ailgylchu o ansawdd uchel, gan gyfrannu'n sylweddol at ein heconomi gylchol. Mae'r llwyddiant amgylcheddol hwn wedi sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol, gan greu Cymru fwy cydnerth, ffyniannus a chyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein cyflawniadau wedi denu mewnfuddsoddiad mawr, gan gynnwys cyfleusterau ailgylchu newydd ar raddfa y DU sydd wedi creu cannoedd o swyddi gwyrdd yng Ngorseinon a Shotton.

Y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, mae'r Ddeddf yn chwarae rhan annatod wrth wella llesiant Cymru drwy ein partneriaid cyrff cyhoeddus. Y llynedd, fe wnaethom ymestyn y Ddeddf i gynnwys wyth corff cyhoeddus ychwanegol, gan ddod â'n cyfanswm i 56. Mae'r ehangu hwn wedi ehangu cwmpas agenda datblygu cynaliadwy Cymru, gyda'r sefydliadau hyn yn cofleidio ac ymgorffori datblygu cynaliadwy yn frwdfrydig yn eu gweithrediadau. Mae Trafnidiaeth Cymru, un o'n cyrff rheoledig mwyaf diweddar, yn enghraifft o'r ymrwymiad hwn. Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd eu hamcanion llesiant cyntaf, gan sicrhau bod eu penderfyniadau o fudd i bobl, cymunedau, yr amgylchedd, economïau lleol, y Gymraeg a diwylliant Cymru.

Wedi'u harwain gan egwyddorion gwaith teg Llywodraeth Cymru, daethant yn gyflogwr cyflog byw go iawn, gan warantu cyflogau teg sy'n gwella diogelwch ariannol, yn lleihau anghydraddoldeb, ac yn cefnogi economïau lleol. Mae mentrau buddsoddi cymunedol Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn arbennig o drawiadol, gan fuddsoddi mewn 44 o brosiectau effaith gynaliadwy a 22 o brosiectau etifeddiaeth trwy gydweithio â 54 o bartneriaid, gan gynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol. Dros bedair blynedd, mae'r gwaith hwn wedi cynhyrchu enillion effaith gymdeithasol fynegol o £7.6 miliwn, gan greu mannau gwyrdd, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, meithrin cyfleoedd gwirfoddoli, a hyrwyddo prosiectau diwylliannol sy'n dathlu treftadaeth Cymru. 

Mae effaith y Ddeddf yn ymestyn y tu hwnt i gyrff a reoleiddir yn ffurfiol. Yr wythnos hon yn unig, cyhoeddodd Medr eu hachrediad ar gyfer talu'r cyflog byw go iawn i'w gweithwyr. Maent yn ymuno â chriw cynyddol o gyflogwyr cyflog byw go iawn yng Nghymru. Yn y sector preifat, mae cwmnïau mawr gan gynnwys Bluestone, Dŵr Cymru, Principality a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn alinio eu strategaethau corfforaethol ag egwyddorion y Ddeddf.

Mae'r Ddeddf wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel deddf sy'n arddangos polisi llesiant. Yn 2024 derbyniodd Wobr Polisi Dyfodol y Byd, gwobr glodfawr gan Gyngor Dyfodol y Byd, a gydnabyddir fel enghraifft flaenllaw o bolisi cenedlaethau'r dyfodol yn dylanwadu ar wledydd ledled y byd. Yn 2025 anrhydeddwyd Llywodraeth Cymru, fel aelod o fenter Llywodraethau'r Economi Llesiant, â'r wobr llesiant am wneud cyfraniadau ystyrlon ac effeithiol at lesiant mewn cymunedau ledled y byd drwy'r Ddeddf.

Rwyf eisiau tynnu sylw at sut mae'r Ddeddf yn trawsnewid llesiant lleol ym mhob cymuned yng Nghymru drwy ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r byrddau hyn yn uno arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol ymroddedig i asesu a mynd i'r afael â llesiant eu hardaloedd o fewn ein fframwaith nodau llesiant. Yn eu cynllun llesiant, ymrwymodd BGC Gwent i ddod yn rhanbarth Marmot, gan ddefnyddio gweithredu cydweithredol yn seiliedig ar dystiolaeth i leihau anghydraddoldebau. Mae'r fenter hon yn cyflymu'r cynnydd tuag at fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd a rhai cysylltiedig ledled Gwent. Yn dilyn y cynllun treialu llwyddiannus yng Ngwent, rwy'n falch ein bod wedi cyhoeddi ddoe y bydd Cymru yn dod yn genedl Marmot gyntaf y byd, gan sicrhau bod gennym Gymru iachach. Sefydlodd aelodau BGC Gogledd Cymru bartneriaeth ymchwil a mewnwelediad yn y gogledd, gan ddod â chynrychiolwyr y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i ysgogi gweithredu ar y cyd. Trwy'r cydweithrediad hwn, maent wedi meithrin ymddiriedaeth, integreiddio amcanion a datblygu prosiectau ar y cyd fel y brifysgol plant arloesol.

Dirprwy Lywydd, er efallai na fyddwn yn deall effaith hirdymor y Ddeddf yn llawn am flynyddoedd i ddod, rydym eisoes yn gweld newidiadau trawsnewidiol yn y ffordd y mae Cymru yn mynd i'r afael â datblygu cynaliadwy. Mae'r Ddeddf yn gosod llesiant dinasyddion fel prif sbardun newid ledled Cymru. Dangoswyd y trawsnewidiad cymunedol hwn mewn modd hyfryd yn ystod ymweliad diweddar y Prif Weinidog â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru â Star of the Sea, lleoliad celfyddydau a cherddoriaeth lleol yn y Borth. Yno fe glywsant sut y gosododd y lleoliad baneli solar gyda chefnogaeth gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, i gyflenwi trydan i'r feddygfa leol a phweru'r capel lleol. Mae'r prosiect hwn yn ymgorffori hanfod y Ddeddf trwy fynd i'r afael â sawl nod llesiant ar yr un pryd. Mae'r manteision yn ymestyn ymhell y tu hwnt i leihau carbon ac arbedion ariannol, gan ddangos sut y gall cynlluniau ynni lleol ddefnyddio gwerthoedd datblygu cynaliadwy i greu newid cadarnhaol. Mae'n cynrychioli dull gwirioneddol gydweithredol, hirdymor lle mae cymunedau yn cysylltu gweithredu hinsawdd â diwylliant bywiog a chanlyniadau iechyd gwell.

Yn olaf, mae 2025 yn nodi'r flwyddyn pan ydym yn goleuo'r dyfodol ac yn adnewyddu ein haddewid o ddegawd yn ôl i genedlaethau'r dyfodol. Trwy barhau i weithredu'r Ddeddf ac ysgogi cynnydd tuag at ein nodau llesiant, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni ar gyfer pawb yng Nghymru—ar gyfer pobl, y blaned, ar gyfer nawr ac ar gyfer y dyfodol. Ar draws pob cymuned yng Nghymru, mae arweinwyr lleol yn defnyddio'r Ddeddf er budd eu cymunedau gan sicrhau bywydau gwell i genedlaethau'r dyfodol. Mae'r ymdrech ar y cyd hon yn sicrhau bod ein deddfwriaeth arloesol yn parhau i greu newid ystyrlon, parhaol a fydd yn atseinio dros y cenedlaethau i ddod.

15:45

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Ddeng mlynedd yn ôl, cawsom addewid y byddai Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol yn helpu i drawsnewid ein cymdeithas a sicrhau dyfodol gwell i bobl ifanc Cymru, ond roedd hynny'n ffantasi. Rydym bellach yn gwybod, diolch i Swyddfa Archwilio Cymru, nad yw'r Ddeddf yn sbarduno newid ar draws y system, sef ei holl bwrpas. Tynnodd yr archwilydd cyffredinol sylw at fethiannau yng ngweithrediad y Ddeddf gan y sector cyhoeddus. Nid oedd rhai cyrff cyhoeddus, er bod ganddynt amcanion llesiant, yn eu cysylltu â'u gweithrediadau dyddiol neu wrth gyflawni ac nid ydynt yn eu monitro mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu nad yw nifer o gyrff cyhoeddus yn amcanion llesiant Cymru yn cynnig unrhyw gyfeiriad ystyrlon o gwbl. Er gwaethaf y canfyddiadau hyn, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi gwneud honiadau dro ar ôl tro am lwyddiant y Ddeddf a llwyddiant ei swyddfa. Yn ôl pob golwg mae'r Ddeddf yn gyfrifol am drafnidiaeth wyrddach a'r cwricwlwm newydd, a ddylai fod yn syndod mawr i lawer o'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet. Mewn gwirionedd, nid oes achos cymhellol bod unrhyw un o'r llwyddiannau a restrir gan y comisiynydd o ganlyniad i'r Ddeddf neu'r comisiynydd, ac mae'n debygol iawn y byddai pob un wedi digwydd beth bynnag.

Ysgrifennydd Cabinet, yn eich datganiad, fe wnaethoch chi dynnu sylw at y cyfraddau ailgylchu sy'n arwain y byd, ond onid yw'n wir y byddai'r rhain wedi digwydd beth bynnag, bod Cymru eisoes ar y trywydd iawn, oherwydd penderfyniadau polisi nad oedd ganddynt unrhyw beth i'w wneud â'r Ddeddf? Mae'r archwilydd cyffredinol wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i werthuso'r Ddeddf. Bum mlynedd yn ôl, galwodd am adolygiad o'r Ddeddf i archwilio sut y gellid goresgyn rhwystrau rhag gweithredu a sut y gallai Cymru barhau ar flaen y gad o ran camau gweithredu i wella llesiant, ond nid oes adolygiad o'r fath wedi digwydd eto. Nawr, dyma ni ar ddegfed pen-blwydd y Ddeddf ac mae Archwilio Cymru yn gofyn am adolygiad, ond nid ydych wedi cyhoeddi un. Ysgrifennydd Cabinet, yn eich datganiad, rydych chi'n dweud efallai na fyddwn yn deall effaith hirdymor y Ddeddf yn llawn am flynyddoedd i ddod. Onid yw'n bryd i ni ganfod hyn? A wnewch chi nawr orchymyn adolygiad o weithrediad y Ddeddf ac effeithiolrwydd swyddfa'r comisiynydd?

Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n ymateb i'r rhai sy'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn wych am greu cynlluniau a strategaethau, ond yn dda i ddim o ran cyflawni gwelliannau gwirioneddol i fywydau pobl? Os ydych chi'n wirioneddol ymrwymedig i wella llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a wnewch chi nawr gynnal adolygiad trylwyr o'r Ddeddf a sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar ganlyniadau? Diolch yn fawr.

15:50

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Rwy'n siomedig, mewn gwirionedd, yn eich cwestiynau heddiw. Nid wyf yn credu eu bod yn adlewyrchu'r adroddiad cadarnhaol yr wyf wedi'i wneud yn fy natganiad heddiw o ran ymgysylltiad y 56 o gyrff hynny sy'n ymwneud yn llawn â chyflawni deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n siomedig, mae'n rhaid i mi ddweud, ac nid wyf yn aml yn dweud hynny wrthych, Altaf Hussain, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai ymatebion mwy cadarnhaol, yn wir, gan eich plaid o ran pwysigrwydd y Ddeddf, sydd, wrth gwrs, bellach yn nodi ei degfed pen-blwydd.

Rwyf wedi arwain cynllun cenedlaethol Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at fanteision y Ddeddf ac i alluogi Llywodraeth Cymru ac eraill i ailymrwymo i'r Ddeddf, felly mae heddiw yn gyfle, onid ydyw, i ni a chyrff cyhoeddus ailymrwymo i'r Ddeddf. A rhan o'r cynllun hwnnw yw creu prosiect hanes llafar i gasglu a chyflwyno straeon nid yn unig am greu a gweithredu'r Ddeddf, ond hefyd casglu myfyrdodau unigol ynghylch y gwahaniaeth y mae'r Ddeddf wedi'i wneud mewn enghreifftiau go iawn. Fe wnaethom weithio gyda'r Brifysgol Agored a swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i ddatblygu pecyn e-ddysgu sydd bellach ar gael i'r cyhoedd, o'r enw 'Ti, Fi a Dyfodol Cymru', ac rydym wedi cyflwyno'r diwrnod gweithredu cenedlaethol hwnnw i ganolbwyntio sylw ar y Ddeddf ar draws a thu allan i Gymru, o'r enw 'Goleuo'r dyfodol', yr wyf eisoes wedi sôn amdano. Ac, wrth gwrs, mae'n bwysig fod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn eu huwchgynhadledd weithredu ar y nawfed ar hugain, wedi ymgysylltu ag arweinwyr y sector cyhoeddus, i weld eu hymroddiad a'u trylwyredd wrth iddynt gyflawni eu cynlluniau llesiant.

Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â sut y gallwn sicrhau ein bod yn gweithio drwy ein pum ffordd o weithio, sut rydym yn cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a'r holl gyrff hynny sy'n ymgysylltu â hyn. Ac, wrth gwrs, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn ddeall sut y gallwn barhau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac edrychaf ymlaen at y gwaith sy'n mynd i gael ei wneud gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sydd hefyd yn edrych ar ystyriaeth ôl-ddeddfwriaethol o'r Ddeddf.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig—rwyf wedi sôn am lawer o'r meysydd sy'n cael eu sbarduno gan y Ddeddf yn fy natganiad—o fewn Llywodraeth Cymru mae'r Ddeddf yn llunio'r ffordd rydym yn datblygu a gweithredu polisïau, y pum ffordd o weithio, gan sicrhau bod ein polisïau'n cael eu cyflawni mewn modd cydweithredol, hirdymor. A hoffwn hefyd ddweud ei fod wedi effeithio ar bob maes o'r Llywodraeth, o brydau ysgol am ddim, y warant i bobl ifanc, atal digartrefedd a thlodi plant i'r goedwig genedlaethol. Gadewch i ni gofio bod y Ddeddf yn fwy na deddfwriaeth yn unig; mae'n fframwaith ar gyfer ffordd wahanol, fwy arloesol o weithio. Ac rwy'n falch bod y Ddeddf yn dylanwadu ar y ffordd y mae'r rhai y tu allan i'r Llywodraeth yn gweithio, gan gynnwys y rhai yn y trydydd sector a'r sector preifat, fel yr wyf wedi nodi.

15:55

Diolch am y datganiad, Weinidog. Fe fyddaf i, fel aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, yn medru craffu ar ymateb y Llywodraeth i adroddiad y comisiynydd mewn mwy o fanylder na'r ychydig iawn o amser rŷn ni wedi'i gael heddiw i wneud sylwadau ar ddengmlwyddiant y Ddeddf, wrth gwrs, ac fe fyddwn ni, fel pwyllgor, yn cychwyn ar y craffu yna o fewn y mis nesaf. Mae'n waith sydd fawr ei angen, dwi'n meddwl, yn enwedig yn sgil diffyg y Llywodraeth i adolygu'r ddeddfwriaeth yn unol â galwadau'r archwilydd cyffredinol a phwyllgorau'r Senedd hon ers nifer o flynyddoedd. Felly, bydd y drafodaeth a fydd yn deillio o hynny yn hynod bwysig ac angen ei hystyried, dwi'n meddwl, fel mater brys i Lywodraeth Cymru.

Mae Plaid Cymru wastad wedi cefnogi uchelgais a nod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r Ddeddf yn cynnig gweledigaeth feiddgar a gobeithiol i Gymru, sydd wedi’i gwreiddio mewn cynaliadwyedd, cydraddoldeb a'r ethos o atal effeithiau negyddol a niweidiol polisïau ar ein cenedl. Ond ddeng mlynedd ers gosod y nod clodwiw yma mewn modd mor arloesol, mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gyflawni hynny'n ddigonol. Mae yna dystiolaeth dros hynny yn gwbl eglur, ac felly, hefyd, mae'r consensws yn cefnogi'r safbwynt hwnnw.  

Mae'r adroddiad diweddaraf ar lesiant Cymru, er enghraifft, yn paentio darlun sy'n peri pryder: mae disgwyliad oes menywod yn gostwng; mae ymddygiadau sy'n cyfrannu at ffordd iach o fyw wedi gostwng; mae'r bwlch cyflog ethnig wedi cynyddu deg gwaith ers 2019; mae'r bwlch cyflog anabledd, fel y clywon ni, wrth gwrs, mewn manylder yn adroddiad diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn llawer yn rhy fawr yng Nghymru—y bwlch mwyaf o holl wledydd y Deyrnas Gyfunol; mae lles ac iechyd meddwl plant yn gwaethygu; mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng; ac nid yw ein bioamrywiaeth wedi gwella ers dros ddegawd. Mae pob un o'r ffeithiau hyn am gyflwr ein cenedl yn ergyd i nodau craidd y Ddeddf. Felly, er gwaethaf arweiniad y Ddeddf, mae'n amlwg nad yw ffocws y Llywodraeth wedi newid yn ddigonol i sicrhau bod y nodau yma yn llywio ei gwaith, ac efallai'n bwysig yn cael eu gweld gan ddinasyddion Cymru yn llywio ei gwaith.

'Mae owns o atal werth pwys o wellhad',

meddai'r hen air. Ac wrth i gyrff cyhoeddus Cymru wegian yn sgil diffyg cyllido digonol, mae'r ffocws ataliol erioed wedi bod yn fwy allweddol. Mae'r diffyg cynnydd ar dlodi plant a gafodd ei danlinellu eto yn ddiweddar gan adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree, ac effaith niweidiol tlodi plant ar bob agwedd ar fywyd a gyflwynwyd mor rymus gan ymchwil 'Pŵer y Llais' Achub y Plant Cymru yr wythnos diwethaf, yn brawf o'r ffaith nad yw'r ffocws ataliol yn ddigonol. Felly, pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ei phenderfyniadau polisi ei hun ac wrth gydweithio â Llywodraeth Lafur San Steffan i sicrhau nad yw nodau'r Ddeddf yn cael eu tanseilio i'r dyfodol, yn enwedig o ran atal tlodi plant?

Ydych chi'n cytuno â'r comisiynydd fod strategaeth economaidd Llywodraeth Lafur San Steffan, wrth ganolbwyntio ar dwf yn unig, yn rhoi llesiant mewn perygl? Os felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei chynlluniau economaidd yn cyflawni nodau llesiant Cymru? O feddwl am y buddsoddiad enfawr mewn arfau, sut ydych chi'n sicrhau eich bod chi'n ufuddhau â'r ddyletswydd yna i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang?

Mae'r comisiynydd hefyd yn cyfeirio at ddirywiad ymddiriedaeth yn ein sefydliadau cyhoeddus, gan bwysleisio bod angen sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed. A allwch chi roi enghreifftiau, felly, o gynlluniau sydd ar waith i gefnogi democratiaeth a chyfle i bobl gyfrannu eu lleisiau? Pryd, er enghraifft, gawn ni sicrwydd y bydd cofrestru awtomatig pleidleiswyr Cymru—rhywbeth a fydd yn cynyddu cyfranogiad yn ein hetholiadau—yn dod i rym?

Ac yn olaf, beth, yn eich barn chi, fyddai natur y diwygiad mwyaf effeithiol i'r Ddeddf er mwyn sicrhau ei bod hi'n fwy effeithiol wrth roi cyfeiriad i'w pholisi ei hun, a hefyd o ran y cyrff cyhoeddus sydd i fod i weithredu'r Ddeddf? Mae Plaid Cymru'n credu yng ngwerthoedd y ddeddfwriaeth yma, ond dyw gwerthoedd ddim yn ddigon. Mae'n glir bod angen inni weld mwy o arweiniad gan y Llywodraeth yn sgil yn y Ddeddf. Ydych chi'n cytuno, felly, fod hynny'n golygu cryfhau'r Ddeddf, rhoi pwerau gorfodi priodol i'r comisiynydd, a rhoi cymunedau wrth wraidd gwneud penderfyniadau mewn modd mwy ystyrlon, er enghraifft, drwy sicrhau hawl i brynu asedau cymunedol? Diolch.

16:00

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am y cwestiynau pwysig a threiddgar yna am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ein degfed pen-blwydd. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol edrych ar yr adroddiad—adroddiad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, 'Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025', ac, yn wir, adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, 'Dim amser i’w golli: Gwersi o’n gwaith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol'. Dyma, wrth gwrs, yr hyn yr ydym yn craffu arno ac yn ei ystyried heddiw, gwersi o'n gwaith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ac rwy'n croesawu'r adroddiadau hynny. Maen nhw'n hanfodol i'n helpu ni i ddeall a chyrff o dan y Ddeddf i ddeall sut y gellir eu dal i gyfrif, sut y gallant barhau i gyflawni'r nodau llesiant.

Cefais fy nghyffroi'n fawr—rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi'n cyffroi—gan adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r ffordd y mae wedi canolbwyntio ar 'Cymru Can', y genhadaeth honno, lle gwelwn y canfyddiadau a'r asesiadau y mae'n eu gwneud yn y meysydd hynny. Ar y diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiadau, ysgrifennais at Derek Walker, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac Adrian Crompton, i ddiolch iddynt am eu hadroddiadau, ac, wrth gwrs, gosodais ddatganiad ysgrifenedig. Byddwn yn ymateb i'r 50 o argymhellion yn Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025 erbyn diwedd mis Hydref.

Rydym yn cydnabod, o ran y 56 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy'n ddarostyngedig i ddyletswyddau'r Ddeddf, bod y cyrff hyn eu hunain, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, yr amgueddfa a'r llyfrgell genedlaethol, ein hawdurdodau parciau cenedlaethol, eu hunain yn edrych ar effaith y Ddeddf ar gyflawni cynaliadwyedd drwy eu hamcanion llesiant. Rwyf wedi crybwyll Trafnidiaeth Cymru a nifer o enghreifftiau eraill, cyrff cyhoeddus, megis y gwaith datgarboneiddio enghreifftiol sy'n digwydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae tirwedd ac amgylchedd ar gyfer asesu ac adrodd llesiant i gyrff cyhoeddus. Mae wedi newid dros y 10 mlynedd diwethaf, ac rydym yn gweithio i ymateb i'r argymhellion yn eich adroddiad.

Edrychaf ymlaen at ymgysylltu ag ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i werthuso ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn wir, ysgrifennais at Gadeirydd y pwyllgor i groesawu'r ymchwiliad. Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer gwerthuso'r Ddeddf yn y dyfodol, ymunodd cymrawd polisi'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol â'n hadran dyfodol cynaliadwy yn Llywodraeth Cymru i gynllunio gwerthusiad o'r Ddeddf, i gyflwyno cam cyntaf yr hyn sy'n debygol o fod yn werthusiad amlflwyddyn. Bydd hyn, wrth gwrs, o ran adroddiad y gwaith a fydd yn dod ymlaen, a'r adroddiad ymchwiliad, adroddiad y pwyllgor, yn helpu i lywio a llunio dyluniad unrhyw werthusiad o'r Ddeddf yn y dyfodol.

Rwyf wedi rhoi nifer o enghreifftiau o effaith y Ddeddf, gydag astudiaethau achos cyrff cyhoeddus—rwyf wedi defnyddio Trafnidiaeth Cymru. Ond hoffwn ddychwelyd yn fyr at y byrddau gwasanaethau cyhoeddus hynny sydd wedi ysgogi hyn ymlaen. Rwyf wedi sôn am fwrdd gwasanaethau cyhoeddus Gwent yn cytuno i ddod yn rhanbarth Marmot, ac mae'n ddiddorol gweld sut mae'r egwyddorion hynny'n cysylltu â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r egwyddorion yn darparu fframwaith i lywio'r camau gweithredu i ymateb i'r heriau y maent yn eu hwynebu ar draws Gwent. Bydd llawer o'r heriau rydych chi wedi'u mynegi, yr heriau yr ydym yn eu hwynebu fel cenedl, yn cael eu datrys hefyd, wrth i Gymru ddod yn genedl Marmot, ond maent yn wir gysylltiedig ag ailganolbwyntio a chyflymu cynnydd, gan edrych ar leihau achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd a rhai cysylltiedig, a bydd hyn yn helpu BGC Gwent i gyflawni eu cynllun llesiant ehangach.

Rwyf eisiau cydnabod yn gyflym hefyd y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Gyngor Sir Caerfyrddin—Pentre Awel, datblygiad arloesol gwerth £87 miliwn a ddarperir gan sir Gaerfyrddin. Byddwch yn ymwybodol o hynny, ac rwy'n siŵr bod llawer yn y rhanbarth hwnnw—y safle 83 erw yn Llynnoedd Delta, a chynllun cydweithredol gwych iawn, a fydd yn creu dros 1,800 o swyddi, cyfleoedd prentisiaeth ac yn rhoi hwb i'r economi leol. Mae'n bartneriaeth sy'n cael ei harwain gan y gymuned, y cyngor sir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, prifysgolion a cholegau, ac wedi'i hariannu'n rhannol gan fargen ddinesig bae Abertawe. Rwyf hefyd yn credu bod gennym gyfleoedd gwirioneddol o ran y ffordd ymlaen gan fod gennym y gwerthusiad ôl-ddeddfwriaethol hwn, y gwaith hwn sy'n cael ei wneud gan y cymrawd ymchwil hwn, a'r ymateb i'r adroddiadau gan y comisiynydd ac, yn wir, yr archwilydd cyffredinol.

16:05

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Mae'n garreg filltir bwysig, rwy'n credu, degfed pen-blwydd Deddf cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru, ac mae wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol o ran ei phwysigrwydd a'i gwerth, sy'n dda iawn i'w weld. Un o'r agweddau yr wyf yn credu sy'n dangos yn glir y dull y mae'r Ddeddf yn gofyn amdano, a'r manteision y gall ei gyflawni, Ysgrifennydd Cabinet, yw ynghylch yr agenda iechyd ataliol, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol bod gweithgarwch corfforol, er enghraifft, yn fuddiol iawn o ran iechyd a llesiant—mae'n bwysig o ran y tymor hir, mae'n bwysig iawn o ran atal—a hefyd uno'r sectorau iechyd a llesiant gyda chwaraeon ar lawr gwlad a'r prif gyflawnwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Felly, tybed a fyddech chi'n cytuno, Ysgrifennydd Cabinet, efallai mai un pwyslais pwysig ynghylch iechyd a llesiant fyddai ceisio sicrhau mwy o integreiddio ac uno rhwng y ddau sector hynny: iechyd a llesiant, a'n sectorau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.

Diolch yn fawr, John Griffiths. Wel, wrth gwrs, mae hyn i gyd yn ymwneud â'r pum egwyddor, y pum ffordd o weithio, llywodraeth gydgysylltiedig, sy'n cysylltu o ran atal, ymyrraeth gynnar ac ymgysylltu. Rwy'n credu y bydd y ffaith ein bod bellach yn symud tuag at fod yn genedl Marmot yn ein helpu i ddwyn hyn ymlaen. Rwy'n credu ei fod yn bwysig. Fe wnaethoch chi sôn am y ffaith bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cael ei gweld yn rhyngwladol, bod y Ddeddf wedi dylanwadu ar ddatganiad y Cenhedloedd Unedig ar genedlaethau'r dyfodol, ac, yn fwyaf diweddar, mae'r UE wedi penodi Comisiynydd Tegwch Rhwng Cenedlaethau, Ieuenctid, Diwylliant a Chwaraeon. Mae'r comisiynydd hwnnw'n cymryd diddordeb brwd yn y Ddeddf, ac mae wedi cwrdd â ni yn ddiweddar i drafod sut mae'n gweithio.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig edrych hefyd ar y ffaith bod gennym gerrig milltir clir, sy'n berthnasol iawn i fynd i'r afael â'r materion hyn. Er enghraifft, edrych ar un neu ddwy o'r cerrig milltir cenedlaethol hynny, y gwnaethom ymgynghori arnynt, er mwyn cynyddu canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw i fwy na 97 y cant erbyn 2050, ac i gynyddu canran y plant sydd â dau neu fwy o ymddygiadau iach i 94 y cant erbyn 2035 a mwy na 99 y cant erbyn 2050. Mae gennym y cerrig milltir hynny. Mae gennym ein hadroddiad 'Tueddiadau'r Dyfodol', sy'n nodi ffyrdd y gallwn gefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i feddwl am y tymor hir, i ddeall y ffactorau hynny, ac wrth gwrs mae cyfuno iechyd a llesiant â'r holl gyfrifoldebau sydd gennym, nid yn unig o ran Llywodraeth Cymru, ond yr holl gyrff cyhoeddus hynny sydd â chyfrifoldebau o dan y Ddeddf, yn gwneud y cysylltiad iechyd a llesiant hwnnw mor glir.

Roeddwn i'n teimlo'n gyffrous iawn pan ddaeth y Ddeddf hon i fodolaeth, ac yn fwy felly y ffaith bod gennym Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru. Roedd gennym Sophie Howe ar y pryd, ac mae'n rhaid i mi ddweud, cynhyrchiol iawn, iawn yn ystod y cyfnod hwnnw. Rwy'n credu y bu'n rhagweithiol iawn.

Fodd bynnag, rydym bellach 10 mlynedd i lawr y ffordd. Hoffwn gefnogi popeth y mae fy nghyd-Aelod Altaf Hussain wedi'i ddweud. Yr holl bwynt, rwy'n credu, yw y dylid adolygu'r Ddeddf hon, ond hefyd rôl y comisiynydd. Mae gennym y sefyllfa hon o hyd, a chyhoeddodd ei adroddiad 'Llesiant Cymru' ei hun, bod cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn parhau i fod yn is i fenywod, sef 70 y cant, na dynion, ar 76 y cant, mae canran yr aelwydydd a gafodd eu hatal yn llwyddiannus a'u rhyddhau o ddigartrefedd wedi gostwng, tra bod nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi cynyddu. Mae lefelau boddhad bywyd a phryder i oedolion wedi dirywio o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

Credaf fod hyn yn dystiolaeth gref nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd digon cryf yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol, a nodwyd yn sylfaenol yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol. Yn hytrach, mae pobl Cymru yn wynebu anghydraddoldeb ac mae'r bwlch hwnnw'n ehangu. Pa dystiolaeth gryfach sydd ei hangen arnoch i ddangos bod Llywodraeth Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn methu o ran eu rhwymedigaethau? 

16:10

Un filiwn, chwe chant wyth deg mil o bunnau wrth symud ymlaen: rwy'n credu y byddai'n well gwario'r arian hwn ar ein diffygion iechyd, ac rwy'n credu y dylid adolygu rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac efallai ei dileu'n gyfan gwbl. Diolch.

Cyfraniad siomedig iawn, unwaith eto, gan y Ceidwadwyr Cymreig, gan Janet Finch-Saunders. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi edrych ar y cyd-destun yr ydym wedi bod yn gweithio ynddo sef ceisio dylanwadu a gwella canlyniadau a llesiant Cymru o ganlyniad i 14 mlynedd o gyni, sydd wedi cael effaith mor niweidiol ar ein hiechyd a'n llesiant cymunedol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn asesu ein cynnydd tuag at ein 50 dangosydd cenedlaethol a'n cerrig milltir llesiant. Rydym yn cyhoeddi ein hasesiadau yn ein hadroddiad 'Llesiant Cymru'. Gobeithio eich bod wedi darllen yr adroddiad diweddar, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024, y cyntaf ers i ni newid y diffiniad o nodau Cymru ffyniannus i gynnwys gwaith teg, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd hwnnw. Wrth gwrs, mae adroddiad 2024 yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd mewn rhai o'r meysydd rydych chi'n pryderu'n fawr amdanyn nhw, rwy'n gwybod, Janet, tuag at nodau llesiant, er enghraifft, ar ansawdd aer. Rwy'n siŵr eich bod chi'n croesawu hynny. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw rhai dangosyddion yn symud yn y ffordd gywir, ac rydym yn parhau i wella eu cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn cydnabod y ffaith ein bod yn cael manteision mawr o ganlyniad i'r ffyrdd o weithio astudiaeth achos GwyrddNi, gan rymuso cymunedau yng Ngwynedd, ac rwy'n siŵr y bydd gennych ddiddordeb ynddynt. Treuliodd GwyrddNi ddwy flynedd yn cynnwys 500 o bobl o bob rhan o Wynedd mewn cynulliadau a gweithdai cymunedol newid hinsawdd. Roedden nhw'n cynnwys 650 o blant ysgol, gan gyd-greu cynlluniau gweithredu cymunedol. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol o hynny, Janet Finch-Saunders, ond, o'r cynlluniau hynny, daeth cysylltiadau cymunedol cryfach a buddion unigol i'r amlwg, a phob math o ganlyniadau yn sgil hynny. Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ei hun wedi cael llawer o astudiaethau achos o'r math hwnnw. Rwy'n gwybod y byddwch yn cydnabod y ffaith bod Cymru wedi bod mor llwyddiannus o ran yr economi gylchol. Y gwir amdani—mae datblygu cynaliadwy, er gwaethaf holl heriau'r 14 mlynedd diwethaf o gyni, wedi bod wrth wraidd—[Torri ar draws.] Mae datblygu cynaliadwy wedi bod wrth wraidd llwyddiant Cymru o ran economi gylchol. Rwy'n gwybod eich bod chi'n croesawu hynny, Janet.

Trefnydd, rwy'n croesawu'r cyfle i ni drafod hyn heddiw. Mae'n Ddeddf yr wyf yn ei chroesawu. Yn sicr, mae wedi dal dychymyg cymunedau ledled Cymru, ond rwy'n rhannu'r rhwystredigaethau a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod Sioned Williams, dim ond o ran y ffaith nad oes ganddi'r gallu i wneud yr hyn sydd angen iddi ei wneud mewn gwirionedd o ran materion fel cynllunio, yn benodol. Bu enghreifftiau lle mae pwyllgorau cynllunio, megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, wedi gwrthod ceisiadau yn seiliedig ar y Ddeddf. Ond yna, pan ddaw i apeliadau, mae hynny'n newid oherwydd bod gwerth economaidd pethau fel mwynau yn troi'r fantol yn erbyn yr effaith ar iechyd.

Felly, a gaf i ofyn: beth yn ychwanegol hoffech chi ei weld, fel Llywodraeth Cymru, yn newid er mwyn i'r Ddeddf fod yn ystyrlon i gymunedau, oherwydd fy mhryder i yw eu bod yn colli ffydd ynddi? Maen nhw'n ei deall, maen nhw'n teimlo'n gyffrous o'i herwydd, ond dydyn nhw ddim yn gweld ei bod yn newid pethau mewn gwirionedd ac nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed pan ddaw i benderfyniadau mawr sy'n effeithio ar genedlaethau'r dyfodol.

16:15

Diolch, Heledd Fychan. Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod nawr yn edrych ar y gwerthusiad yr wyf wedi'i amlinellu heddiw, a hefyd ar y gwaith sy'n mynd i gael ei wneud gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac edrych ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd. Byddaf yn ymateb i hynny. Rwyf wedi rhoi llawer o enghreifftiau ac ni fyddaf yn eu hailadrodd heddiw o ran effaith y pum ffordd o weithio, gan edrych tuag at y nodau llesiant yr ydym yn ceisio eu cyflawni, gan ddefnyddio'r cerrig milltir a'r dangosyddion cenedlaethol.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio beth yw nod y Ddeddf hon: mae'n ymwneud â defnyddio diffiniad eang ar gyfer datblygu cynaliadwy. A ni yw'r unig wlad, cenedl, sy'n gwneud hyn, yn y modd hwn, i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trwy weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae pobl a sefydliadau wedi ei chofleidio, ac mae angen i ni edrych ar nod cyffredinol y Ddeddf yn nhermau cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, i sicrhau bod gennym gyfiawnder rhwng cenedlaethau wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon.

Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl yma heddiw ynghylch dathlu degfed pen-blwydd Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n credu ein bod wedi arwain y byd wrth greu'r Ddeddf hon, ac mae'n enghraifft wych o'n hymrwymiad i greu Cymru sy'n gynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol. Rwy'n credu bod ganddi'r fframwaith i ddarparu grym i weithio mewn ffordd fwy uchelgeisiol. Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at y sgwrs a'i dechreuodd, a gallaf gofio hynny'n dda, a chyffro'r holl bobl ifanc a oedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru oherwydd ein bod yn mynd i ystyried eu dyfodol ym mhopeth yr oeddem yn mynd i'w wneud. Ac rydw i hefyd yn falch iawn o fod yn rhan o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac yn edrych ymlaen at ei astudio.

Ond rwy'n arbennig o falch o'r pwysigrwydd a roddir ynghylch rhyngwladoldeb yn y Ddeddf, a sut mae'n ein hannog i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang ac i feddwl am effaith fyd-eang ein holl weithredoedd, pan fyddwn yn gweithio i wella ein llesiant ein hunain, ond rydym ni hefyd yn meddwl am yr holl bobl hynny ledled y byd. Ac mewn byd sydd mor rhanedig ac yn llawn rhyfel ar hyn o bryd, rwy'n credu bod hyn mor bwysig, ein bod ni'n meddwl am egwyddorion Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet roi rhai enghreifftiau i ni o sut mae Cymru yn gweithio mewn ffordd ryngwladol i hyrwyddo ffordd gyfrifol o weithio'n fyd-eang, a pha effaith mae hi'n teimlo bod hynny'n ei chael yn y byd?

Diolch yn fawr, Julie Morgan. Wel, Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang yw un o'n nodau llesiant allweddol, ac mae'n bwysig meddwl yn ôl am y sgyrsiau hynny a gawsom gyda phobl ifanc. Rwy'n credu bod y nod llesiant hwnnw wedi cael dylanwad mawr ar ddatblygiad ein cwricwlwm, a fydd yn galluogi ein plant a'n pobl ifanc i dyfu i fyny fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus. Mae dinasyddiaeth fyd-eang wedi bod yn rhan allweddol o'r cwricwlwm, ac mae Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang hefyd wedi tynnu cysylltiad rhyngwladol â gwledydd sydd bellach yn edrych i weld a allant efelychu'r hyn rydym ni'n ei wneud. Ond mae undod byd-eang yn orchymyn moesol. Nid yw'n ymwneud ag elusen, ond partneriaeth; nid yw'n ymwneud â chymorth, ond parch i'r ddwy ochr, a dyna pam rydym ni wedi gosod cyfrifoldeb byd-eang yn y Ddeddf.

Felly, a allaf ddweud yn fyr iawn, a allaf nodi'r ffaith ei bod hi'n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos hon? Cawsom noson wych o wobrau cenedl noddfa neithiwr, gyda phobl wirioneddol ysbrydoledig yr ydym yn eu croesawu i Gymru, sy'n gwneud cymaint o gyfraniad. Cryfder a chydnerthedd pobl sy'n chwilio am noddfa, a'r cyfraniadau enfawr y maent yn eu gwneud i fywyd Cymru ac yn ein cymunedau ledled Cymru. Ond yn rhyngwladol iawn, roedden ni'n teimlo ein bod ni yng Nghymru, ond roedden ni yn y byd neithiwr; roedd yn deimlad mor gryf. Gweledigaeth cenedl noddfa, a nodir yng 'Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', Cymru lle mae pawb, ni waeth beth fo'u cefndir, yn cael eu trin â pharch, urddas a dynoliaeth. Byddwn hefyd yn dweud ein bod yn falch iawn o'n rhaglen Cymru ac Affrica, sydd, wrth gwrs, yn arddangosiad clir o'n nod, sef Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ein nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

16:20

Rwy'n hoffi meddwl fy mod i'n berson eithaf cadarnhaol, optimistaidd, ac, mewn gwirionedd, pan fyddaf yn siarad am y Ddeddf hon ag unrhyw un, mae ag ymdeimlad gwirioneddol o falchder a dathlu. Mae mwy i'w wneud bob amser, ac mae'n drist iawn, mae gen i ofn, clywed gan y Ceidwadwyr eu bod mor negyddol ynghylch hyn. Mae angen i ni adeiladu hyn i fyny ac i weld y manteision y mae'n eu cynnig. Cymru oedd y wlad gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd. Dywedodd pennaeth datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, 'Yr hyn y mae Cymru yn ei wneud heddiw, rydym yn gobeithio y bydd y byd yn ei wneud yfory.' Mae hynny'n rhywbeth y dylem ei nodi a bod yn falch ohono.

Yn rhy aml, mae penderfyniadau gan lywodraethau yn rhai byrdymor iawn. Nid yw'r Ddeddf hon yn caniatáu hynny; bydd y Ddeddf hon yn aros gyda ni, rydym yn gobeithio'n fawr, ac mae'n gwneud yn siŵr bod pethau'n gynaliadwy. Mae yna, wrth gwrs, mwy i'w wneud, ond rwy'n falch iawn o bethau fel y cynllun treialu incwm sylfaenol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, y cynllun treialu incwm sylfaenol pontio hefyd, a gobeithio y bydd yn cael ei ddatblygu. Mae potensial Cymru yn anhygoel, ac mae'r Ddeddf hon yn ein helpu i adeiladu arno.

Mae'n rhaid i mi sôn mai'r yr un maes y mae angen i ni wneud llawer mwy arno o hyd, ymhlith llawer o rai eraill, sydd wrth gwrs heb gael ei ddatrys, yw tlodi plant. Felly, mewn gwirionedd, o ran cenedlaethau'r dyfodol, os ydym eisiau gweld cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cyflawni eu potensial, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw'r plant hynny'n byw mewn tlodi. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf pryd y byddwn yn gallu cyflwyno rhywbeth, er enghraifft, fel taliad budd-dal plant Cymru, a fydd yn helpu ein plant yma yng Nghymru, ond y gellid ei ymgorffori yn y Ddeddf honno hefyd? Diolch yn fawr iawn.

Wel, diolch yn fawr iawn, Jane Dodds, am fynegi'r brwdfrydedd hwnnw, yr ymdeimlad hwnnw o falchder sydd gennym gyda'n deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ymdeimlad go iawn o falchder. Hynny yw, mae cymaint o achosion pan fo pobl yn dweud, 'Rydym ni'n edrych ar yr hyn rydych chi'n ei wneud, Cymru.' Dyma Gymru yr ydym yn falch ohoni, fel y Gymru yr oeddem yn falch ohoni neithiwr gyda'n gwobrau cenedl noddfa.

Ac, ydw, rwy'n cofio Lesley Griffiths mewn gwirionedd yn datgan mai Cymru yw'r genedl gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd. Roedden ni bob amser yn gyntaf i wneud hyn, onid oedden ni? Mae cymaint o bolisïau cymdeithasol sydd, mewn gwirionedd, wedi cael eu rhannu nid yn unig gan Lafur Cymru, ond gan bleidiau gwleidyddol eraill, eich hunain a Phlaid Cymru. Rydym wedi bod yn glir iawn ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol, ac rwy'n diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth i'r cynllun treialu incwm sylfaenol hefyd, lle rydym ni erbyn hyn yn dechrau cael canlyniadau'r gwerthusiad.

Felly, mae gennym ffordd bell i fynd o ran mynd i'r afael â thlodi plant, ond mae gennym ein cerrig milltir a'n dangosyddion a fframwaith monitro, ac rydym hefyd yn glir iawn ynghylch yr hyn rydym ni'n meddwl y dylid ei wneud o ran diwygio nawdd cymdeithasol, dod â'r terfyn budd-dal dau blentyn i ben, a hefyd gweithio tuag at ffyrdd y gallwn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau a'n hysgogiadau o ran mynd i'r afael â thlodi plant.

Mae'n ddarn gwirioneddol bwysig o ddeddfwriaeth a meddylfryd yr wyf yn credu sy'n gwerthfawrogi ein gwlad a'n planed, ynghyd â bod yn gymdeithasol gyfrifol a lle mwy caredig. Y tai cyngor newydd di-garbon sy'n cael eu hadeiladu, yr ysgolion cymunedol cynaliadwy, ailgylchu a hefyd creu mannau lleol ar gyfer natur. Mae'r rhain i gyd yn bethau rydym ni wedi'u cyflawni mewn partneriaeth ag awdurdodau cyhoeddus, ac mae wedi bod er gwaethaf cefndir o doriadau i les a chyllid. Rwy'n credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth.

A gaf i ofyn i chi, fodd bynnag, pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar faterion nad ydynt wedi'u datganoli, fel pensiynau Cymru, a gawn ni ofyn iddynt roi sylw i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fel eu bod yn buddsoddi mewn prosiectau cynaliadwy fel tai yma, ynni cymunedol ac amaethyddiaeth ailwladychu, sef yr egwyddorion yr ydym yn eu hoffi yng Nghymru? Diolch.

Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Diolch am ein hatgoffa unwaith eto yn y Siambr hon o'r ffyrdd yr ydym wedi ymgorffori'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn ein rhaglen ar gyfer llywodraethu o ran cartrefi sero net a'n hysgolion sero net gwych sy'n cael eu hadeiladu nawr, a'n mannau lleol ar gyfer natur.

O ran Llywodraeth y DU yn tynnu sylw, mae diddordeb wedi bod yn neddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n meddwl, dros y ffordd, mae cynhadledd, cynhadledd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, lle rwy'n gwybod bod yna bobl sydd eisiau dod drosodd a siarad â ni am y ddeddfwriaeth llesiant—. Mae'n debyg eu bod yn ei godi yn y gynhadledd nawr, ac eisiau ystyried, mewn gwahanol rannau o'r DU a'r byd, yn wir, sut y gallent gyflwyno deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n cofio cwrdd â gwleidyddion o India a ddaeth i gael gwybod mwy, oherwydd eu bod eisiau datblygu hyn yn eu rhanbarth nhw, ac eto edrych ar y cyfleoedd. Gadewch i ni beidio â thanseilio'r effaith y mae wedi'i chael, yn sicr arnom ni yn y Llywodraeth, o ran pob polisi yr ydym wedi'i gyflwyno yn y rhaglen ar gyfer llywodraethu. Pan edrychwn i'r tymor hir, edrychwn ar genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â'r rhai rydym ni'n eu gwasanaethu heddiw.

16:25

Diolch yn fawr. Defnyddir cryn sbloets ac, os gallaf ddweud, gormodiaith i ddisgrifio'r Ddeddf hon. Mae wedi cael ei disgrifio fel 'un yn arwain y byd' ac fel 'testun cenfigen gwledydd eraill'. Fodd bynnag, 10 mlynedd yn ddiweddarach, nid oes un wlad arall wedi ein dilyn. Pe bai'n gymaint o lwyddiant, Trefnydd, rwy'n siŵr y byddai gwledydd eraill wedi pasio deddfwriaeth debyg erbyn hyn. Dydw i ddim yn argyhoeddedig bod yr enghreifftiau rydych chi wedi'u rhoi heddiw wedi digwydd oherwydd y Ddeddf, neu na fyddent wedi digwydd pe na bai'r Ddeddf yn ei lle. Mae'n rhaid i ni gydnabod gwendidau'r Ddeddf, ac nid wyf yn credu bod hynny'n dod ar draws yn eich datganiad heddiw. Y brif broblem gyda'r Ddeddf yw nad oes ganddi ddannedd. Disgrifiodd barnwr yr Uchel Lys y Ddeddf fel 'amwys' a 'dyheadol', ni ellid ei defnyddio ar gyfer adolygiad barnwrol, a disgrifiodd un o gyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Cwnsler y Brenin, y Ddeddf fel 'bron yn ddiwerth'. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw grŵp ymgyrchu sydd wedi defnyddio'r Ddeddf yn llwyddiannus i herio corff cyhoeddus. Ar ei phen-blwydd yn ddeg oed, felly, Trefnydd, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i roi rhai dannedd i'r Ddeddf, fel y gall cymunedau lleol ei defnyddio'n ymarferol? Diolch yn fawr.

Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol iawn eich bod wedi bod yn amheus ynghylch y Ddeddf hon, Rhys ab Owen, ac rwy'n cofio dadl gadarn a gawsom ar hyn. A gaf i ddweud, mae'r Ddeddf wedi dylanwadu ar genhedloedd eraill i ymgorffori datblygu cynaliadwy a chenedlaethau'r dyfodol yn eu llywodraethu? Pasiodd Senedd yr Ynysoedd Baleares yn Sbaen Ddeddf llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn 2023. Oeddech chi'n ymwybodol o hynny, Rhys ab Owen? A hefyd, mae'r Alban, Iwerddon ac, fel y soniais i, talaith yn India, talaith Maharashtra, yn datblygu cynigion cenedlaethau'r dyfodol.

Rydym eisoes wedi sôn am y ffaith ein bod wedi ennill y gwobrau byd hyn. Nid yw gwobrau yn ddim os nad ydyn nhw'n newid pethau ar gyfer bywydau pobl, ond rwy'n edrych ar bwysigrwydd adolygiad ôl-ddeddfwriaethol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol o'r Ddeddf ac, yn wir, yr ymateb y byddwn yn ei roi i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r archwilydd cyffredinol. A gaf i ddweud wrth gyd-Aelodau ar draws y Siambr fod hwn wedi bod yn ddatganiad pwysig iawn, amser pwysig iawn ar gyfer craffu, cwestiynau, canmoliaeth, cymeradwyaeth a hefyd her? Diolch yn fawr.

5. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Feirws y Tafod Glas

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar feirws y tafod glas, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:28:33
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mewn partneriaeth â'r sectorau da byw a'r sectorau milfeddygol, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gadw feirws y tafod glas seroteip 3—BTV-3—allan o Gymru eleni. Fodd bynnag, mae dyfodiad parth dan gyfyngiadau y tafod glas Lloegr gyfan, RZ, o 1 Gorffennaf, wedi gorfodi Llywodraeth Cymru i adolygu ei dull o reoli'r tafod glas. Mae peidio â chael clustogfa ddwy sir bellach rhwng da byw a allai fod wedi'u heintio yn yr RZ presennol yn Lloegr a'r ffin â Chymru yn cynyddu'r risg o ymlediad y clefyd i Gymru, naill ai trwy symud da byw heintiedig neu drwy wybed mân sy'n cario feirws yn dod i mewn o'r tu hwnt i'r ffin.

Mae clefyd y tafod glas yn glefyd feirysol da byw cnoi cil. Nid yw'r clefyd yn heintio pobl ac ni ellir ei ledaenu mewn cig neu laeth. Mae'n cael ei ledaenu gan frathiadau gwybed mân. Gall achosi salwch mewn da byw heintiedig, lleihau cynnyrch llaeth, a lleihau perfformiad atgenhedlu da byw, gan gynnwys colli ŵyn a lloi heintiedig. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gall achosi marwolaeth. Gall yr holl effeithiau hyn gael effaith niweidiol ar incwm fferm. Rwy'n bryderus iawn am effeithiau economaidd a llesiant ffermwyr wrth iddynt ymdrin ag anifeiliaid sâl a chynhyrchiant da byw a'r colledion ffrwythlondeb sy'n gysylltiedig â thafod glas difrifol, fel y gwelwyd mewn llawer o wledydd Ewropeaidd yr effeithir arnynt.

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n gwerthfawrogi bod safbwyntiau gwahanol ynglŷn â'r dull o reoli tafod glas yng Nghymru yn y dyfodol. Cynhaliais gyfarfod bwrdd crwn tafod glas gydag uwch gynrychiolwyr o'r sectorau da byw a milfeddygol ar 5 Mehefin. Gwrandawais ar eu barn i sicrhau bod gennyf bersbectif cytbwys a gwybodus. Ystyriais y safbwyntiau hynny'n ofalus cyn penderfynu ar bolisi cymesur ar gyfer rheoli tafod glas yng Nghymru yn y dyfodol. Fel y cyhoeddwyd mewn datganiad ysgrifenedig ar 12 Mehefin, fy mhenderfyniad yw gweithio ar y cyd i gadw'r clefyd draw cyhyd ag y gallwn. Mae hwn yn benderfyniad cytbwys iawn. O ystyried y diffyg consensws ymhlith aelodau'r bwrdd crwn a'r ansicrwydd ynghylch effaith y clefyd ar ardaloedd da byw dwys fel Cymru, gadewch i mi ei gwneud hi'n glir na allaf ac na fyddaf, gan dilyn fy nghydwybod, wahodd y tafod glas i Gymru.

Yr hyn sydd bwysicaf yn fy meddwl i yw'r risgiau posibl o broblemau economaidd a llesiant ffermwyr a achosir drwy ymdrin ag achosion difrifol o'r tafod glas. Rwyf hefyd eisiau caniatáu mwy o amser i gadw golwg ar ddifrifoldeb y clefyd yn Lloegr ac i geidwaid frechu eu buchesi a'u diadelloedd yn erbyn effeithiau gwaethaf y clefyd. Roedd yr holl gynrychiolwyr yn y bwrdd crwn yn unfrydol yn eu cefnogaeth i frechu gan ei ystyried y dull gorau ar gyfer amddiffyn da byw ac i leihau effeithiau tafod glas. Roedd pawb yn cytuno bod hyrwyddo'r brechlyn yn flaenoriaeth bwysig dros yr wythnosau nesaf.

Gyda'r bwriad o hwyluso symudiad rhydd anifeiliaid sydd wedi'u brechu'n llawn pan fyddai hyn yn briodol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro datblygiad ac effeithiolrwydd brechlyn yn agos mewn cydweithrediad â'r gweinyddiaethau eraill ledled Prydain Fawr. Mae swyddogion hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda gwneuthurwyr brechlynnau, y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol a chynrychiolwyr o sectorau diwydiant a milfeddygol yng Nghymru a ledled Prydain Fawr i ddeall y cyflenwad a'r galw ac i dynnu sylw at offer i gynorthwyo milfeddygon a ffermwyr i ddatblygu strategaethau sy'n benodol i ffermydd i amddiffyn eu buchesi a'u diadelloedd ac i wneud penderfyniadau ar y defnydd o frechlynnau BTV-3. Wrth gwrs, ni allaf warantu y bydd fy mhenderfyniad yn llwyddiannus i gadw tafod glas allan o Gymru am byth, ond credaf ei fod yn darparu'r cyfle gorau sydd gennym i wneud hynny cyhyd â phosibl.

Rydym yn ymdrin â darlun deinamig sy'n datblygu o glefyd, felly rwyf wedi ymrwymo i adolygu'r polisi hwn yn rheolaidd, yn seiliedig ar y dystiolaeth ar lawr gwlad yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Brydain Fawr. Rwy'n credu mai dyma'r unig ddull pragmatig o dan yr amgylchiadau hyn. Ac i fod yn glir, mae'r dull newydd o reoli tafod glas yn galluogi symudiadau anifeiliaid rhwng Cymru a Lloegr lle bo hynny'n bosibl. Wrth i'n dealltwriaeth o'r clefyd ddatblygu, rydym yn gallu cymryd dull llawer mwy gwybodus seiliedig ar risg. Felly, o 20 Mehefin, yn unol â'r asesiadau risg diweddaraf, bydd da byw yn cael symud o'r RZ presennol—parth dan gyfyngiadau— yn Lloegr i fyw yng Nghymru, yn amodol ar gael trwydded i symud ac, yn hollbwysig, prawf cyn symud negyddol y bydd y ceidwad yn talu amdano. Mae hyn er mwyn caniatáu i ffermwyr gael gafael ar anifeiliaid sy'n hanfodol i'w busnes fel cyfnewid buchesi a diadelloedd.

Yn ogystal, rydym yn rhoi trefniadau ar waith i ganiatáu i dda byw symud i mewn ac allan o sioeau a gwerthiannau yn yr RZ presennol o 20 Mehefin, yn amodol ar drwyddedau a naill ai profion cyn symud neu ar ôl symud fel y bo'n briodol. Bydd y polisïau hyn yn parhau i fod yn berthnasol ar ôl 1 Gorffennaf. Yn seiliedig ar yr asesiadau risg blaenorol, gall symudiadau'n uniongyrchol i ladd-dai barhau, gyda'r amod bod yn rhaid dynodi y lladd-dai hyn yng Nghymru o 1 Gorffennaf ymlaen gan sicrhau eu bod yn bodloni'r amodau trwyddedu priodol i drin anifeiliaid sy'n agored i'r clefyd tafod glas. Ar hyn o bryd mae gennym bum lladd-dy dynodedig yng Nghymru. Anogir unrhyw sefydliadau eraill sydd â buddiant i wneud cais am ddynodiad gan gymryd y newidiadau o 1 Gorffennaf i ystyriaeth.

Gofynnwyd i mi pam rydym ni'n cyflwyno rheolaethau newydd sy'n berthnasol i'r RZ presennol cyn i RZ Loegr gyfan ddod i fodolaeth ar 1 Gorffennaf. Yr ateb syml yw bod hwn yn benderfyniad sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth. Mae'r tymheredd yn cynyddu ac mae'r risg y bydd y feirws yn atblygu mewn gwybed mân ac yn cael ei drosglwyddo i dda byw yn cynyddu, yn enwedig ar hyd ffin sir Fynwy a Phowys â Lloegr, Cilgwri a gogledd-ddwyrain Cymru ac ar hyd coridor yr M4. Gan ein bod mewn sefyllfa lle mae'r clefyd yn datblygu'n barhaus, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i adolygu canllawiau ac i ddiweddaru gwefannau yn ôl yr angen.

Rwy'n cydnabod y bydd y mesurau rheoli tafod glas yr ydym yn eu cyflwyno yn heriol i fusnesau, gan gynnwys marchnadoedd da byw a lladd-dai, ac rwyf hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd gwerthiannau'r hydref yn y calendr ffermio. Felly, byddwn yn adolygu ein polisi ar y materion hyn yn barhaus a byddwn yn addasu i unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau. Mae fy swyddogion yn cyfarfod eto â chynrychiolwyr Cymdeithas Arwerthwyr Da Byw a Chymdeithas Proseswyr Cig Prydain dros y dyddiau nesaf i drafod yr effeithiau ac i ystyried atebion ymarferol sy'n seiliedig ar risg.

I gloi, Llywydd, rwy'n mabwysiadu ymateb cymesur a phragmatig i'r risgiau ansicr sy'n gysylltiedig â'r clefyd tafod glas. Rwyf wedi cydnabod yr angen am symudiadau da byw rhwng Cymru a Lloegr ac wedi sicrhau bod y gadwyn gyflenwi lladd-dai yn ddiogel. Rwy'n gwbl ymrwymedig i annog brechu da byw, ac rwy'n gwbl ymrwymedig i adolygu ein dull o reoli tafod glas yn unol â thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg. Bydd llwyddiant wrth gadw'r clefyd hwn a allai fod yn ddinistriol draw yn dibynnu, fel bob amser, ar ein hymdrech ar y cyd. Gwaith caled yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, y labordy yn Sefydliad Pirbright a chefnogaeth a chydweithrediad parhaus y sectorau da byw a milfeddygol. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r sector a'r holl bartneriaid yn yr ymdrech ar y cyd hon. Diolch, Llywydd.

16:35

Cyfeiriaf Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau. Rhaid i mi ddechrau trwy fynegi fy mhryder dwfn, oherwydd mae'r ffordd y mae'r mater hwn wedi cael ei drin gan Lywodraeth Cymru yn llawer llai na'r hyn y mae ein ffermwyr yn ei haeddu. I fod yn glir, nid yw Aelodau'r Senedd wedi cael unrhyw friffio technegol, oddi wrth swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog nac oddi wrth y prif swyddog milfeddygol ynghylch y penderfyniad hwn na'r wyddoniaeth y tu ôl iddo.

Nid oes unrhyw asesiad effaith economaidd, er gwaethaf y canlyniadau pellgyrhaeddol i'n cymuned wledig. Ac efallai'r peth mwyaf pryderus, cyhoeddwyd y penderfyniad trwy ddatganiad ysgrifenedig brynhawn Iau, ychydig ar ôl i wythnos y Senedd ddod i ben, gan sicrhau nad oedd unrhyw graffu, dim cwestiynau a dim atebion tan heddiw. Cymerodd saith diwrnod i'r bwrdd crwn gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, a phum diwrnod arall cyn i'r Senedd allu ei drafod. Dirprwy Brif Weinidog, nid oedd yr oedi hwnnw wedi osgoi sylw'r gymuned ffermio. Gadawyd ffermwyr yn wynebu penwythnos o ddryswch a phryder. Rydw i wedi clywed gan arwerthwyr, gweithredwyr marchnad, cynhyrchwyr a ffermwyr, pob un ohonynt yn ysu am eglurder.

Gadewch i ni ystyried effaith ymarferol y penderfyniad hwn. Rydym i gyd yn deall pwysigrwydd diogelu da byw Cymru rhag y clefyd tafod glas, ond mae'r mesurau a osodir nid yn unig yn ormodol, maen nhw'n anymarferol. Efallai fod angen profion cyn symud ar gyfer pob achos o fewnforio byw, hyd yn oed anifeiliaid wedi'u brechu, yn edrych yn rhesymol ar bapur, ond ym myd go iawn ffermio yng Nghymru, mae'n anhrefn. Rwyf wedi siarad â ffermwr yng nghanolbarth Cymru sydd bellach yn wynebu bil o £18,000 o leiaf, dim ond i ddod â'u defaid eu hunain yn ôl o Loegr, cae sydd dim ond pum milltir i lawr y ffordd. Mae'r gost honno'n cwmpasu profion, yr oedi wrth gludo, cur pen logistaidd—ac nid yw hwnnw'n ddigwyddiad unigryw.

Mae arwerthwyr wedi cysylltu â mi gyda phryderon difrifol. Mae marchnadoedd da byw, sydd eisoes dan straen, bellach yn wynebu cwymp mewn hyder. Mae cyfyngiadau symud yn creu ansicrwydd ar anterth y tymor masnachu. Nid yw hyn yn amddiffyn y diwydiant; mae'n ei barlysu, lle bydd diffyg stoc yn gwneud llawer o'r marts yn anhyfyw. Postiodd Matthew Nicholls, arwerthwr sy'n gweithredu ar ddwy ochr y ffin, fideo yn amlinellu'r pryderon hyn. Mae wedi cael ei weld bron i 0.25 miliwn o weithiau, ac os nad ydych wedi ei weld, Dirprwy Brif Weinidog, rwy'n awgrymu yn gryf eich bod chi a'ch tîm yn gwneud hynny.

Ystyriwch y gost ehangach: byddai brechu'r holl dda byw yng Nghymru yn costio dros £32 miliwn; £6 y fuwch, £3 y ddafad neu afr. Mae hynny'n faich ariannol syfrdanol i ddiwydiant sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau mewnbwn uchel a thywydd gwael. A gadewch i ni siarad am y wyddoniaeth. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn sôn am gadw'r clefyd draw, ond nid yw'r clefyd yn parchu ffiniau. Trwy osod dyddiad cau, gall Llywodraeth Cymru gynyddu'r risg y bydd y clefyd tafod glas yn dod i mewn i Gymru, yn union fel y gwelsom gyda COVID, pan oedd dyddiadau cau penodol yn aml yn tanseilio ymdrechion cyfyngu. Gallai hyn wahodd y clefyd i Gymru, rhywbeth y mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn dweud nad yw'n dymuno ei wneud.

Nid yw'r penderfyniad yn cyd-fynd â realiti ffermio, ac nid yw'n gymesur nac yn bragmatig fel y dywedwch chi yn eich datganiad. Nid fi yn unig sy'n dweud hyn, mae lleisiau'r diwydiant drwyddi draw wedi beirniadu'r polisi am ei anymarferoldeb llwyr, ei gost a'i fiwrocratiaeth. Nid wyf hyd yn oed wedi cyffwrdd â'r pryderon mawr ynghylch profion a chapasiti labordai, a allai amharu ar gynlluniau'r Llywodraeth hon yn llwyr. Hyd yn hyn, mae 260 o achosion wedi'u cadarnhau yn Lloegr, sydd â bron i 20 miliwn o ddefaid a gwartheg. Mae hynny'n 0.001 y cant.

Llywydd, rydym ni i gyd eisiau cadw'r tafod glas draw. Rydym i gyd eisiau amddiffyn ein buches a'n diadelloedd, ond mae hyd yn oed y Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud na all warantu y bydd y dull hwn yn cadw'r tafod glas allan o Gymru, a'r cwbl yn anymarferol, yn fiwrocrataidd ac yn gostus. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud y bydd y polisi yn cael ei adolygu, ond heb unrhyw amserlenni clir. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei sefyllfa ar frys a symud Cymru i barth dan gyfyngiadau ochr yn ochr â Lloegr. Er bod y diwydiant yn cydnabod nad yw'r dull hwn yn berffaith, mae'n cydnabod ei fod yn adlewyrchu realiti symudiadau anifeiliaid, natur y bygythiad a rennir a'r angen am bolisi cydgysylltiedig ar draws y ffin. Diolch, Llywydd.

16:40

Diolch yn fawr, Sam. Llywydd, roedd llawer o bwyntiau wedi'u gwneud yn y fan yna, ond dydw i ddim yn siŵr pa rai oedd yn gwestiynau mewn gwirionedd, ar wahân i'r un ynghylch a fyddwn i'n ailystyried nawr y penderfyniad rydym ni wedi ei wneud. A'r ateb i hynny yw, 'Yn groes i'r graen, na fyddwn, ond byddwn yn adolygu'r polisi hwn yn fyw ac yn rheolaidd.' Byddwch chi'n sylwi mai'r hyn yr ydym ni wedi'i ddweud, Sam, yw ei fod yn adolygiad byw a rheolaidd. Felly, os yw'r dystiolaeth yn newid ar lawr gwlad, gallwn ailedrych ar y polisi hwn a dod yn ôl ato.

Un o'r dewisiadau allweddol yma yn yr hyn yr wyf wedi'i ddisgrifio fel barn gytbwys yw a ydym yn sefyll ac yn ceisio cadw'r clefyd hwn allan o Gymru cyhyd â phosibl, yn rhannol, fel yr eglurais yn fy sylwadau agoriadol, i'n galluogi i osgoi'r costau a fydd yn cael eu hwynebu gan ffermwyr a'r effeithiau o ran llesiant ar ffermwyr yn sgil ymdrin â'r clefyd hwn os bydd yn dod i mewn i Gymru, yn rhannol hefyd er mwyn sicrhau ein bod yn trefnu a deall yn well y cyflenwad a'r galw o ran brechiadau, rhywbeth y mae pawb o amgylch y bwrdd crwn, er bod gwahaniaeth barn ar y ffordd gywir ymlaen, yn cytuno mai dyma'r ffordd gywir ymlaen.

Felly, yr hyn rydym ni'n ei wneud yma mewn gwirionedd, Sam, er mor anodd yw'r penderfyniad hwn, er mor ansefydlog yw'r cydbwysedd fel y mae, yw ein bod ni'n meddwl bod yna gyfle teg yma i gadw hwn draw, o leiaf am beth amser. Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn hyn yng Nghymru oherwydd bod yr holl bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd ac oherwydd y defnydd o frechlyn, ac efallai y bydd hynny'n dod â ni i'r pwynt lle nad ydym yn wynebu costau ac effeithiau enfawr ar y gymuned ffermio oherwydd i ni wahodd y clefyd hwn i mewn. Felly, byddwn yn eich annog i fyfyrio ar y gwahanol safbwyntiau sy'n cael eu mynegi gan bobl ar draws y sector, gan gynnwys, gyda llaw, cyngor y milfeddygon hefyd. Felly, ar y sail honno, gofynnaf i chi fyfyrio hefyd, ond byddwn yn parhau i adolygu hyn.

A allaf egluro un peth yr wyf yn meddwl eich bod wedi'i gamddeall o ran y polisi pan wnaethoch chi sôn am fferm sydd, os oeddwn i'n eich deall yn iawn, bellach yn edrych ar gostau enfawr wrth drosglwyddo anifeiliaid yn ôl ac ymlaen ar draws y ffin? Efallai fy mod wedi camddeall, felly rydw i eisiau egluro'r mater ynghylch ffermydd trawsffiniol. Mae symudiadau trawsffiniol gan ffermydd, fel yr ydym wedi'i wneud mewn ardaloedd blaenorol lle rydym wedi gwneud hyn, yn gallu digwydd. Ni fydd unrhyw ofynion profi ar gyfer symudiadau i mewn ac allan o dir o fewn daliad cyfunol ffermwr. Felly, byddwn yn defnyddio'r rheolau TB presennol sydd gennym ar waith ar gyfer symudiadau i ddaliadau cysylltiedig, fel y rheolau ynghylch cysylltiadau tir dros dro. Efallai fy mod wedi camddeall, ond rwyf eisiau roi hynny'n glir ar gofnod, oherwydd un o'r pethau a fydd yn peri pryder yw pan fo ffermydd yn croesi'r ffin, ar ddwy ochr y ffin, felly mae ffordd ymlaen ynghylch hynny.

Rydych chi wedi esbonio i ni mai rhan o'r sail resymegol hon yw prynu amser, ond mae'n rhaid i mi ddweud, 'Ble ydych chi wedi bod?' Rydym ni'n gwybod ers misoedd a misoedd, os nad blynyddoedd, fod y tafod glas ar ei ffordd. Ai nawr yr ydych chi'n meddwl bod angen i chi brynu peth amser a chael y seilwaith yn ei le? Hynny yw, rwy'n poeni'n ofnadwy os yw hynny'n wir, mae'n rhaid i mi ddweud, ac rwy'n credu'n wirioneddol eich bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir yn yr achos hwn. Ydym, rydym yn gwybod bod y tafod glas yn mynd i ddod â phryder, aflonyddwch ac anesmwythyd, ond rwy'n ofni y bydd eich penderfyniad a'ch penderfyniad polisi yr wythnos hon yn dod â hyd yn oed mwy o bryder, hyd yn oed mwy o aflonyddwch a hyd yn oed mwy o anesmwythyd yn ei sgil. Wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau cadw'r tafod glas allan o Gymru, ond rydym ni i gyd yn gwybod ei fod yn dod, a'r ffaith eich bod chi'n pwysleisio—. Fe wnes i gyfrif pump neu chwech o weithiau yn eich datganiad, y byddwch yn adolygu eich dull; wrth gwrs rwy'n croesawu hynny, ond mae hynny ynddo'i hun yn dweud eich bod chi eich hun yn gwybod ei fod yn dod. Rwy'n credu'n wirioneddol, o ystyried yr adnoddau prin sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a'i chyrff a'r sector yn ehangach hefyd, y dylid canolbwyntio ar baratoi ar gyfer yr anochel, ar y brechu a rheoli tafod glas pan ddaw, yn hytrach na'i wthio i mewn i drefn brofi a thrwyddedu costus sy'n mynd i achosi anhrefn llwyr a llanast llwyr.

Gwyddom na fydd ffermydd Cymru yn gallu cael gafael ar eu stoc bridio nawr, yn bennaf o ganlyniad i hyn. Mae yna gwestiynau am faterion lles anifeiliaid, rydych chi'n gwybod, bydd defaid tac yn fwy tebygol o aros yng Nghymru ac rydym yn gwybod, gyda'r argyfwng porthiant, y gallai hynny olygu problemau enfawr ymhellach ymlaen. Dywedir wrthyf fod samplau prawf cyn symud yn ddilys am 10 diwrnod a bod yn rhaid cwblhau y symud o fewn saith diwrnod o samplu, ond dywedir wrthyf hefyd, ar hyn o bryd, y gall gymryd rhwng pump a 10 diwrnod i gael y canlyniad yn ôl o'r labordy. Nawr, byddwn i'n dychmygu y gallai hynny hyd yn oed fynd ychydig yn hirach gyda'r galw cynyddol o ganlyniad i'r penderfyniad polisi hwn, sy'n golygu y gallai ffermydd gael eu hysbysu a ydyn nhw'n glir pan fydd y cyfnod sydd ar gael i symud yr anifail eisoes wedi dod i ben. Nawr, dyma beth rydych chi'n ei gyflwyno yma. Mae'n mynd i amharu ar ymarferoldeb yr ecosystem amaethyddol gyfan a gallai hynny ynddo'i hun fod yn fwy niweidiol nag ymdrin â'r clefyd tafod glas.

Felly, ychydig o gwestiynau: ydych chi wedi cyfrifo'r gost a ragwelir i'r diwydiant yn sgil y cynnig hwn rydych chi'n ei gyflwyno, ac os ydych chi, pa gefnogaeth sy'n cael ei ystyried i wrthbwyso rhywfaint o'r baich hwnnw? A oes y capasiti sydd ei angen o ran labordai a phrofion i wneud yn siŵr bod y system hon yn gallu gweithredu? A pha sicrwydd allwch chi ei roi ar yr amser a gymerir o ran cael trwydded symud a chael canlyniadau'r profion? Ac o ran brechlyn, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda rhanddeiliaid perthnasol i wneud yn siŵr bod cyflenwad diogel a bod sianeli dosbarthu ar gael i Gymru? Ydych chi'n ystyried, er enghraifft, gynllun caffael a dosbarthu canolog fel y gallwn leihau rhai o'r costau i'r sector a gwneud yn siŵr bod mynediad teg at y brechlyn hefyd? Oherwydd dydw i ddim eisiau gweld ysgarmes a ffrwgwd a rhyw ddull parhad y trechaf o ran brechlynnau yng Nghymru. Ac yn olaf, Dirprwy Brif Weinidog, os ceir y tafod glas ar ochr Cymru o'r ffin, yna beth yw'r cynllun? A fyddwch chi'n symud y parth dan gyfyngiadau ymhellach i Gymru, neu os bydd yn digwydd, a fyddwch wedyn yn symud ar unwaith i barth dan gyfyngiadau Cymru gyfan, a dyna, i fod yn onest, yr hyn rwy'n credu y dylech fod wedi ei wneud yn y lle cyntaf?

16:45

Llyr, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Unwaith eto, rwy'n dod yn ôl at y pwynt bod hwn yn benderfyniad cytbwys iawn gennyf, ond byddwn yn ei adolygu'n fyw yn barhaus, ac rydym yn gallu addasu'r polisi, wedyn, yn seiliedig ar bethau'n newid ar lawr gwlad. Ond rydych chi'n dweud, 'Ble rydym ni wedi bod?' Rydym wedi bod yn cadw'r clefyd allan o Gymru, Llyr, yn gweithio gyda'r sector, yn gweithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yn gweithio gyda milfeddygon. Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus, dros nifer o flynyddoedd, i gadw'r clefyd hwn allan o Gymru, a dyna, Llyr, lle rydym ni wedi bod, a dyna beth rydym ni'n mynd i barhau i geisio ei wneud. Nid yw'n anochel, fel y mae'n ymddangos eich bod chi a Sam yn ei ddweud, y bydd y clefyd nawr yn cerdded i mewn drwy'r drws. Yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw cadw'r drws hwnnw ar gau mor gadarn ag y gallwn, i gynyddu'r posibilrwydd y gallwn gadw'r clefyd allan. Felly, nid yw'n anochel, ond mae'n fwy o bosibilrwydd cyn gynted ag y bydd y ffin yn cael ei hymestyn at y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

A dim ond i ddweud hefyd, nid yw ei adolygu'n barhaus, fel y dywedais i, yn ymwneud â—. Pan fyddwch chi'n rhoi geiriau yn fy ngheg yn dweud bod yna dderbyniad mai pryd, neu raddfa'r newid yn y polisi—. Rydym yn dechrau gyda'r rhagdybiaeth ein bod yn mynd i weithio gyda'r holl sectorau a'r milfeddygon ac APHA i gadw'r clefyd hwn allan, nid yn unig i brynu amser ond i gynyddu'r siawns y gallwn ei gadw allan. Ond os nad yw'n gwneud hynny, byddwn yn newid y polisi a byddwn yn gwneud hynny gan wrando ar y sector ac ymgysylltu ag ef, ac yng ngoleuni'r dystiolaeth ar lawr gwlad. Felly, nid ydym yn derbyn ei fod yn anochel, ac yn sicr ni fyddwn yn dweud bod gennym ddyddiad neu ddyddiadau pan fyddwn yn dod yn ôl a dweud, 'Wel, dyma'r dyddiad y byddwn yn newid y polisi.' Byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd ddeinamig a byw.

Rydych chi'n codi rhai cwestiynau pwysig yna. A gaf i droi at fater brechiadau, yn gyntaf oll? Rydym yn annog ffermwyr i drafod brechiadau BTV-3 gyda'u milfeddyg i benderfynu a yw'n iawn i'w hanifeiliaid nhw. Dim ond i ddweud, mae gan y grŵp Ruminant Health & Welfare ystod o adnoddau sy'n gysylltiedig â'r clefyd tafod glas ar gael am ddim ar-lein. Mae'r rhain yn cynnwys offer i helpu'r milfeddygon a'r ffermwyr i ddatblygu eu strategaethau fferm-benodol eu hunain i amddiffyn y buchesi a'r diadelloedd, a gwneud penderfyniadau ynghylch y defnydd o frechlynnau BTV-3, os yw'n briodol iddynt.

Mae tri brechlyn BTV-3 a ganiateir i'w defnyddio ym Mhrydain Fawr ar hyn o bryd, yn amodol ar drwydded, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae brechu yn opsiwn addawol, yn opsiwn hirdymor ar gyfer rheoli clefydau. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda diwydiant i hyrwyddo ei ddefnydd yng Nghymru. Dim ond i ychwanegu at hynny, yn unol â'n hymrwymiad—ymrwymiad parhaus—i adolygu polisi yng ngoleuni tystiolaeth newydd, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r posibilrwydd yn y dyfodol—nid yw hyn ar unwaith—o symudiad rhydd anifeiliaid wedi'u brechu yn y dyfodol. Mae'n gymhleth, bydd yn cymryd peth amser i'w ystyried yn iawn, ond rydym yn nodi bod un gwneuthurwr brechlyn yn adrodd am botensial ei gynnyrch i amddiffyn rhag firemia mewn gwartheg. Felly, mae'r wyddoniaeth ar lawr gwlad yn newid yn llythrennol wrth i ni siarad. Ond yr hyn y mae'r dull hwn yn ei wneud, Llyr, yw ei fod yn rhoi'r cyfle hwnnw i ni arafu hwn, neu o bosibl hyd yn oed atal hwn rhag dod i mewn, wrth i ni hefyd wneud yn siŵr bod gennym gyflenwad er mwyn i ffermwyr gael gafael arno.

Rydych chi'n sôn am gapasiti APHA a chapasiti labordai. Wel, rwy'n cydnabod y pryderon sydd wedi'u hamlinellu, yr un pryderon sydd gennyf i, ond rydym ni'n gwybod, o drin clefydau eraill, gan gynnwys ffliw adar a TB gwartheg, bod y galw ar APHA yn ddeinamig ac mae'n anodd ei amddiffyn. Bydd yn newid o fis i fis ac ati. Ac maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed iawn i geisio dal hwn yn ôl yn y ddwy sir o fewn Lloegr. Bydd yn rhaid i'r gwaith hwnnw barhau mewn ffordd wahanol. Nid yw hynny'n mynd i ffwrdd, bydd yn rhaid iddyn nhw barhau i brofi a monitro. Bydd trwyddedau symud yn parhau i gael eu cyhoeddi drwy dîm hyb canolog APHA, a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag APHA a gweinyddiaethau eraill Prydain Fawr i fonitro hyn, monitro adnoddau, a sicrhau ein bod yn gallu cynnal y safon honno.

Pirbright, wrth gwrs, yw'r prif gyfleuster labordy sydd gennym—y labordy cyfeirio cenedlaethol ar gyfer y clefyd tafod glas. Ar hyn o bryd dyma'r unig gyfleuster ym Mhrydain sydd wedi'i awdurdodi i brofi am BTV-3. Nawr, eto, fel gydag APHA a'r galw—ac mae'n anodd rhagweld y galw—yr hyn y byddwn yn ei wneud yw gweithio gyda'r labordy a gweinyddiaethau eraill Prydain i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau, os ydynt yn cael eu hadrodd i ni. Ond ar hyn o bryd, dyna'r un a ffefrir ar gyfer y profion labordy. Gyda llaw, rydym yn archwilio ffyrdd o ddatblygu capasiti ychwanegol yng Nghymru i wella cydnerthedd labordai ar lefel Prydain Fawr, a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Pirbright a gweinyddiaethau eraill Prydain i fonitro'r broses o ddarparu adnoddau ar gyfer hynny hefyd.

Roedd sawl cwestiwn arall a grybwyllwyd gennych, gan gynnwys, rwy'n credu, yr asesiad effaith economaidd. Wrth ymateb i hyn—. Fe wnaethoch chi ddechrau eich cwestiwn trwy ofyn, 'Ble rydym ni wedi bod?' Wel, rydym ni wedi bod yn cadw'r clefyd allan o Gymru, Llyr. Ble rydym ni nawr? Yr hyn sydd wedi newid ar lawr gwlad yw penderfyniad Llywodraeth y DU i ehangu'r parth dan gyfyngiadau at y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mewn ymateb i hynny, rydym wedi cwrdd â'r bwrdd crwn, rydym wedi trafod gyda rhanddeiliaid, rydw i wedi gwneud penderfyniad, a byddwn yn ei adolygu'n barhaus. Ond o ystyried yr ansicrwydd ynglŷn â'r hyn fydd yn digwydd gyda'r clefyd nawr, a'r difrifoldeb posibl, nid ydym yn gwybod, mewn gwledydd da byw dwys fel Cymru, gan gynnwys ardaloedd y ffin, ac effaith, mae'n rhaid i mi ddweud, tafod glas, nid yn unig yr ymlediad i Gymru, ond mewn gwirionedd yr effaith ar gynhyrchiant ac iechyd da byw hefyd, a ffrwythlondeb, nid yw'n bosibl cynnal asesiad effaith economaidd ar hyn o bryd. A gallai hyn newid, yn llythrennol wythnos ar ôl wythnos a dydd i ddydd. Ond rwy'n credu mai'r peth pwysig yma yw brwydro i arafu mynediad y clefyd, ei gadw allan, os gallwn, ac, yn y cyfamser, ei adolygu'n fyw yn barhaus. Os oes angen i ni newid y polisi, gallaf eich sicrhau chi: wrth i'r dystiolaeth newid, byddwn yn ailedrych ac yn adolygu hyn mewn ffordd ddeinamig. 

16:55

Mae'n glir iawn, Ysgrifennydd Cabinet, o'ch datganiad llafar heddiw a'ch datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf bod y penderfyniad ar y mesurau rheoli tafod glas sy'n cael eu cyflwyno ar 1 Gorffennaf yn gytbwys iawn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei adolygu. Mae'n bwysig iawn, iawn fod y sector amaethyddol yn parhau i fod yn wyliadwrus o ran y clefyd hwn a'u bod yn parhau i brofi a brechu. Ond byddwch chi'n gwerthfawrogi bod y cwestiwn a ofynnodd Llyr i chi ynglŷn â chapasiti yn bwysig iawn, ac rydych chi newydd ddweud eich bod chi'n archwilio lle gallwch gael mwy o gapasiti. Rwy'n credu bod ffermwyr, os ydym eisiau iddyn nhw frechu, os ydyn nhw'n talu am hyn, maen nhw eisiau gwybod eu bod nhw'n mynd i gael y canlyniadau hynny yn ôl yn eithaf cyflym. Felly, efallai y gallech chi ddweud ychydig mwy am y capasiti.

Byddwch yn gwerthfawrogi bod fy etholaeth i, Wrecsam yn etholaeth ar y ffin, ac er bod hyn yn bryder i bob ffermwr ledled Cymru, o ran ffermydd ar y ffin sydd â thir yng Nghymru a Lloegr, bydd angen iddynt drosglwyddo eu da byw. Bydd angen i'r mesurau diogelu cywir fod ar waith, ond maen nhw'n bryderus iawn am sut y bydd hyn yn cael ei wneud a phwy fydd yn talu amdano. Felly, efallai y gallech egluro safbwynt y Llywodraeth.

Diolch yn fawr iawn. Byddwn, yn wir, byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i ymgysylltu ag APHA a Pirbright ynghylch cyflymder profi a monitro, oherwydd mae angen i ni gael y canlyniadau hynny yn ôl yn gyflym iawn i ffermwyr a'u milfeddygon ar y fferm fel y gallant gymryd y camau angenrheidiol, a gallai hynny olygu, fel y dywedwn, gwneud y dewis, felly, i frechu mewn gwirionedd neu ffyrdd eraill ymlaen ar gyfer y fferm benodol honno.

Ar fater costau, wel, bydd costau profion cyn symud a brechiadau yn cael eu talu gan y ffermwr, ac rydym yn cydnabod bod hyn yn gost i'r ffermwr hwnnw. Nid yw'r Llywodraeth yn darparu cymorth i benderfyniadau busnes unigol ar sail fferm. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn ariannu'r buddsoddiad nad yw'n ddibwys yn APHA a'r profion a'r monitro cysylltiedig. Felly, byddwn yn parhau i wneud hynny, oherwydd mae'n rhaid i hyn fod yn bartneriaeth. Felly, byddwn yn ceisio gweithio gyda'r gymuned ffermio, ac fel y dywedais i, y peth pwysig arall yw, fel y dywedoch yn gywir ar y dechrau, nid fi yn tynnu llinell yn y tywod yw hyn a dweud, 'Dyma fydd y polisi o hyn ymlaen a'r ffordd ymlaen.' Rydym yn cydnabod y bydd y clefyd hwn yn newid, ac yn yr achos hwnnw bydd angen i ni edrych ar y dystiolaeth ar lawr gwlad a newid. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n brofiad brawychus hefyd cael fy holi ar hyn gan fy rhagflaenydd fel y Gweinidog yma hefyd. Ond diolch am y cwestiwn.

Tynnaf sylw'r Aelodau at fy natganiad o fuddiant fel ffermwr da byw.

Dirprwy Brif Weinidog, a allaf ailadrodd y pwynt a wnaeth Sam Kurtz? Mor siomedig yw hi nad oedd swyddogion ar gael i Aelodau etholedig wrth i chi wneud penderfyniad mor allweddol, sydd yn fy marn i, yn rhoi'r diwydiant da byw yma yng Nghymru ar allor ffolineb. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Dylech fod wedi dewis un parth sy'n cysylltu Cymru a Lloegr, oherwydd mae llwybrau masnachu da byw yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin, o'r gorllewin i'r dwyrain, ac mae hynny'n hanfodol bwysig i ddyfodol y diwydiant da byw yma yng Nghymru. Ac i'w roi mewn cyd-destun, mae hyn ychydig fel dweud wrth fanwerthwr, yn y cyfnod cyn y Nadolig, na all gael unrhyw un o'r nwyddau sydd eu hangen arno i helpu ei gwsmeriaid i gael eu hanrhegion—y nwyddau sydd eu hangen arnynt i gadw ei fusnes i fynd. Oherwydd rydym yn mynd i mewn i'r tymor bridio allweddol, ac rydym ni'n mynd i'r tymor ailstocio allweddol yn yr hydref, felly mae'n hanfodol eich bod chi'n nodi heddiw pa fath o amodau sydd eu hangen arnoch i wrthdroi'r penderfyniad hwn a dychwelyd i ymdeimlad o normalrwydd, fel y gellir ailsefydlu'r llwybrau masnachu allweddol hynny o'r dwyrain i'r gorllewin, o'r gorllewin i'r dwyrain, ac mae gennym farchnadoedd da byw yn ffynnu, mae gennym ffermydd da byw sy'n ffynnu, ac mae gennym wlad sy'n falch o'i diwydiant da byw, yn hytrach na Llywodraeth sy'n ceisio ei chau gyda phenderfyniadau mor ffôl.

Wel, Andrew, mae'n fy ngofidio clywed naws a sylwedd eich cyfraniad, ydy wir. Oherwydd pan fyddwch chi'n disgrifio hyn fel penderfyniad a wnaed ar allor ffolineb, rwy'n edrych ymlaen at y tro nesaf y byddwch chi'n siarad â'ch milfeddyg ar y fferm, neu pan fyddwch chi'n siarad â'r prif swyddog milfeddygol neu unrhyw aelod o'r proffesiwn milfeddygol, oherwydd yr hyn rydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd yw dweud bod eu dull yn seiliedig ar dystiolaeth a'u mewnbwn i hyn yn ffolineb—ffolineb. [Torri ar draws.] Dyna beth rydych chi newydd ei ddweud. Rydych chi newydd ei ddisgrifio felly. Felly, mae naws hyn yn fy ngofidio, oherwydd fel y disgrifiais, Llywydd, mae hwn yn benderfyniad cytbwys iawn. Mae'n benderfyniad y byddwn yn ei adolygu'n barhaus hefyd. Nid yw'n allor ffolineb, ac yn sicr nid wyf am fynd i mewn i sgarmes wleidyddol ynghylch hyn.

Ond gadewch i mi ddweud wrthych, Andrew, y costau y gallwn eu gweld, nid y costau yn unig yn y dull presennol hwn yr wyf wedi'i roi ar waith, ond, os edrychwch ar wledydd eraill ledled Ewrop, roedd costau yn yr Iseldiroedd, lle adroddwyd am effeithiau difrifol BTV-3, tua €100 miliwn. Ni fyddaf, yn ddidwyll a gyda chydwybod glir, yn agor y drws a gwahodd y clefyd tafod glas i Gymru, oherwydd bydd y costau hynny'n disgyn ar ysgwyddau cymuned ffermio Cymru. Felly, os gwelwch yn dda, gadewch i ni gael trafodaeth resymegol am hyn, a byddaf yn adolygu'r polisi hwn yn rheolaidd, fel yr wyf wedi dweud gymaint o weithiau, ond am y tro mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud ein gorau glas i gadw'r clefyd allan o Gymru.

17:00

Fe wnes i gyfarfod ddoe â Matthew Nicholls, y siaradwyd amdano; fe wnes i gyfarfod â ffermwyr a milfeddyg lleol. Mae pryder ynglŷn â'r clefyd tafod glas, yn bendant, ac mae cydnabyddiaeth y bu'n rhaid gwneud penderfyniad anodd. Ond roedden nhw'n glir iawn mai'r gair yw 'na' o ran profi a thrwyddedu, am yr holl resymau sydd wedi'u hegluro y prynhawn yma: y gost, a'r amser sydd ei angen i aros amdanynt.

Felly, roeddwn i'n awyddus i edrych i weld beth fyddai ffordd gadarnhaol ymlaen. Rydych chi wedi clywed pobl yn dweud bod angen un parth dan gyfyngiadau, Cymru a Lloegr gyda'i gilydd—nawr, ni fyddai hynny mor anodd, gobeithio, o ystyried bod gennych aelod cyfatebol yn yr un blaid yn San Steffan—ond mai brechiadau yn ateb hefyd. Rydym ni'n gwybod ei bod yn weithred o gydbwyso, ond, ar gyfer ffermydd ar y ffin, ac rwyf yn cynrychioli llawer ohonynt, ac rwy'n gwybod bod eraill yma yn gwneud hynny hefyd, mae pryder difrifol, straen difrifol ar ffermwyr. Mae'r pwysau iechyd meddwl arnyn nhw eisoes yn sylweddol, ac mae hyn yn beth arall ar ben hynny. Felly, a fyddech chi'n ystyried yr awgrymiadau cadarnhaol sydd wedi dod o'r prynhawn yma sef bod â pharth Cymru a Lloegr gyfan, a bod brechu yn cael ei roi ar frig yr agenda, nid profi a thrwyddedu, a'ch bod chi'n symud hynny ymlaen? Diolch yn fawr iawn.

Jane, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi—dylai brechu fod ar frig yr agenda, ond mae angen penderfyniad fferm unigol hefyd. Rwyf wedi tynnu sylw at rai o'r adnoddau sydd ar gael i ffermwyr, gyda'u milfeddyg, i weld a yw'n briodol iddyn nhw ac yna defnyddio'r brechlynnau. Bydd y penderfyniad rydw i wedi'i wneud hyd yma hefyd yn rhoi'r amser a'r gallu iddyn nhw wneud y penderfyniad cywir hwnnw. Mae llawer o ffermwyr yn defnyddio brechiad eisoes, gyda llaw, ar gyfer tafod glas, ond mae hwn yn gyfle i eraill, os yw'n briodol iddyn nhw, yn enwedig os ydyn nhw'n cyflwyno da byw newydd i'w buchesi, wneud yn union hynny.

A Jane, efallai y bydd angen i ni ailymweld â hyn. Ni allaf fod yn glir yn ei gylch. Os gwelwn ymlediad i mewn i Gymru, os gwelwn y dystiolaeth ar lawr gwlad, efallai y bydd angen i ni ailymweld â hyn ac, os gwnawn, fe wnawn. Ond mae yna siawns dda yma ac ar hyn o bryd y gallwn arafu neu hyd yn oed atal lledaeniad y clefyd hwn, fel rydym ni wedi'i wneud dros nifer o flynyddoedd. Beth sydd wedi newid yn sylweddol—. Ac rwy'n gofidio ynghylch y penderfyniad i ymestyn at y ffin, mae'n rhaid i mi ddweud, oherwydd rwy'n credu mai ein trafodaethau gyda Gweinidogion y DU oedd y byddai'n well cynnal clustog dwy sir, parth clustogi rhyngom ni a lle roedd y clefyd. Ond rydym yn deall y realiti yr oedd Gweinidog y DU yn gweithio ynddi, a pham mae'r penderfyniad hwnnw wedi'i wneud. Nid yw hynny'n golygu ein bod ni'n symud yn awtomatig wedyn at barth Cymru a Lloegr gyfan, pan fyddwn ni'n ceisio, am y rhesymau rydw i wedi'u nodi, cadw'r clefyd hwn allan cyhyd â phosibl. Ond efallai y bydd yn dod i hynny ac, os yw'n digwydd, yna bydd yn rhaid i ni ailedrych ar y penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth ar lawr gwlad, a gallwn wneud hynny mewn ffordd ddeinamig a byw hefyd.

Roeddwn i eisiau dweud yn syml, oherwydd nid yw wedi bod—. Fe wnaethoch chi ei grybwyll, ond nid yw wedi cael ei bwysleisio digon yma heddiw, yn fy marn i. Rydw i wedi gweld rhywfaint o ohebiaeth ar gyfryngau cymdeithasol ac ati yn dweud bod gennym ffin galed erbyn hyn. Nid oes gennym ffin galed. Yr hyn rydw i wedi'i nodi yn y ffordd ymlaen yma yw nad oes gwaharddiad ar symud da byw o Loegr; nid oes ffin galed. Bydd atal pob symudiad yn cael effaith economaidd hollol anghymesur ar y sector da byw ledled Cymru. Byddai hynny'n amharu ar batrymau masnachu traddodiadol i gynhyrchwyr yn llwyr. Felly, yr hyn rydym ni wedi'i wneud yma yw bod y mwyafrif o dda byw yn gallu symud o'r RZ presennol yn Lloegr i Gymru heb gyfyngiadau ar hyn o bryd. Oherwydd y newidiadau yma, y tymheredd uwch, y risg o wybed mân yn trosglwyddo'r clefyd tafod glas, byddwn nawr yn symud at drwydded a dull prawf cyn symud, ond gall y symudiadau ddigwydd o hyd ar y sail honno. Caniateir symudiadau o'r RZ yn uniongyrchol i'w lladd mewn unrhyw ladd-dy, ar yr amod eu bod yn lladd-dai wedi'u dynodi unwaith eto. Felly, mae caniatáu y symudiadau hyn yn caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau sy'n hanfodol i fusnesau ynghylch cael gafael ar dda byw newydd, diogelu cyflenwad lladd-dai, a diogelu cadwyn gyflenwi'r lladd-dai hefyd. Felly, nid yw'n ffin galed. Mae hyn yn mynd i fod yn anodd, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Bydd costau i ffermwyr. Ond, fel y dywedais i, os yw'r realiti ar lawr gwlad yn newid a bod gennym ymlediad dwfn o'r clefyd yng Nghymru, gallwn ailedrych ar y penderfyniad hwn.

17:05

Hoffwn atgoffa Aelodau o'm buddiant cysylltiedig.

Ysgrifennydd Cabinet, fel y gwyddoch yn dda, rwyf yn erbyn y penderfyniad hwn rydych chi wedi'i wneud heddiw, ond mae gennyf gwpl o gwestiynau miniog. Mewn digwyddiadau tywydd eithafol—os oes gennych ddefaid tac yn Lloegr a bod digwyddiad tywydd eithafol, sy'n fewndirol, y tu allan i'ch daliad, ac mae angen i chi symud y stociau hynny'n gyflym—sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod pobl yn gallu symud y stociau hynny? Oherwydd bydd canlyniadau profion yn cymryd tua 14 diwrnod i ddod yn ôl, ac, os ydych chi ar orlifdir, bydd y defaid hynny i lawr yr afon a bydd y lefelau wedi gostwng erbyn i chi gael canlyniadau eich profion yn ôl. Felly, hoffwn wybod pa bethau ymarferol rydych chi'n mynd i'w wneud o ran digwyddiadau tywydd eithafol.

Fe wnaethoch chi hefyd siarad am yr asesiad effaith, nad oedd yn bosibl ei wneud cyn y cyhoeddiad hwn, sy'n fy marn i ychydig yn siomedig, o ystyried yr amser rydych chi wedi'i gael. Ond hoffwn wybod: a yw eich swyddogion yn bwriadu gwneud asesiad effaith, ac, os caiff ei wneud, a fyddwch chi'n ei gyhoeddi'n llawn fel y gall y diwydiant cyfan weld yr effaith y bydd yn ei chael? Ac rwy'n credu hefyd y byddai'n ddefnyddiol iawn i bob un ohonom gael ein briffio gan y prif swyddog milfeddygol. Felly, pe gallech chi roi hynny ar waith heddiw, rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn a gallai ateb llawer o'r cwestiynau technegol sydd gennym, y mae'n debyg nad oes gennych yr atebion iddynt.

A'm cwestiwn olaf yr hoffwn i chi ei ateb heddiw: os bydd y clefyd yn cael ei ganfod yng Nghymru, a fyddwch chi'n rhoi system glustogi sirol ar waith, neu a wnewch chi ddynodi Cymru gyfan gyda'i gilydd? Oherwydd, os oes gennych system glustogi ar waith yng Nghymru, bydd hynny'n cael effaith niweidiol iawn ar fasnach os daw yma. Felly, hoffwn glywed eich atebion i'r rhain, os gwelwch yn dda. Ac, fel y dywedais i, mae angen y briffio technegol, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi gadarnhau hynny heddiw.

James, diolch am godi hynny eto, ac ymddiheuriadau, Sam, fe wnaethoch chi ei godi yn gynharach. Rwy'n fwy na hapus i sicrhau bod briffio technegol ar gael, ac yn syml i ddweud, ar y pwynt a wnaed yn gynharach am y datganiad llafar a'r datganiad ysgrifenedig: fe wnaethom ryddhau'r datganiad ysgrifenedig yn gynnar iawn er mwyn rhoi rhywfaint o wybodaeth am y penderfyniad a oedd yn dod, ac fe wnaethom drefniadau ar unwaith ar y pwynt hwnnw i gyflwyno datganiad llafar hefyd, Felly gallem gael y cwestiynau hyn heddiw. Felly, mae'n bell o fod yn osgoi tryloywder mewn gwirionedd; ni allwn fod yn fwy tryloyw na rhoi fy hun yn y sefyllfa hon, ar gael i ateb y cwestiynau hyn heddiw.

Ar y briffio technegol, Sam, a godwyd gennych—mae'n ddrwg gennyf na wnes i ateb hynny yn gynharach, ond, James, gallaf ei ateb i chi nawr—rwy'n fwy na hapus i wneud i hynny ddigwydd. Roedd bob amser wedi bod yn fwriad, nawr bod gennym y manylion hyn, gallwn fynd i mewn i rywfaint o fanylion go iawn, go iawn gyda'r prif swyddog milfeddygol, a gydag eraill, ynghylch sut y bydd hyn yn gweithio. Yn syml, ar fater digwyddiadau tywydd eithafol, os yw o fewn yr un fferm, yna gall anifeiliaid symud, fel yr wyf wedi'i ddisgrifio o'r blaen, ond fel arall rydym yn ystyried fesul achos. Yr hyn y byddem yn ceisio ei wneud, felly, yw cefnogi busnesau o fewn y senario hwnnw. Ond mae'n sail achos wrth achos; nid oes dull un ateb sy'n addas i bawb, James. Byddwch chi'n gwybod hynny'n dda. Mae'n benderfyniad fferm unigol y mae angen i chi ei wneud. Ac mae'r achos lle mae afon yn codi ac yn effeithio ar sawl fferm, yr wyf yn credu eich bod chi'n siarad amdano sotto voce, yw'r union beth y byddwn yn edrych arno fesul achos. Nid dim ond un fferm ydyw, ond ar bwy y bydd yn effeithio. Ond Llywydd, byddaf yn sicrhau y bydd y briffio technegol ar gael i'r holl Aelodau.

Dirprwy Brif Weinidog, ar sawl achlysur heddiw rydych wedi siarad am benderfyniad cytbwys iawn, dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan wneud y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael i chi, ac mae sawl cwestiwn wedi bod heddiw ynglŷn â'r asesiad effaith economaidd. Dydw i ddim yn hollol siŵr eich bod wedi rhoi ateb llawn ar hynny eto, pam na ellid gwneud yr asesiad hwnnw cyn eich penderfyniad. Mae hyn yn hanfodol, oherwydd ffermwyr canolbarth Cymru yn unig ar y ffin—. Ac os ydych chi'n ystyried marchnad da byw y Trallwng a faint ac arwyddocâd y gwerthiannau sy'n cael eu denu o stoc yn Lloegr, mae hyn yn arwyddocaol i arwerthwyr a marchnadoedd da byw. Os nad oeddech yn gallu gwneud asesiad effaith cyn eich penderfyniad, a allwch amlinellu pam na ellir gwneud yr asesiad hwnnw nawr a sicrhau ei fod ar gael, fel y gofynnodd James Evans?

Gallaf, oherwydd bod gan y clefyd nodwedd ddeinamig hefyd. Rydym wedi gweld hynny yn ei ymlediad o ddwyrain Lloegr wrth iddo symud tua'r gorllewin. Felly, bydd difrifoldeb y clefyd, lledaeniad y clefyd, i gyd â gwahanol drynewidiadau, sy'n ei gwneud hi'n eithriadol o anodd gwneud asesiad effaith economaidd. Rwyf eisoes wedi amlinellu pam nad oedd yn bosibl nawr. Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniad clir mewn trefn gyflym, mae'n rhaid i mi ddweud, a cheisio rhoi cymaint â phosib o amser i bobl baratoi ar gyfer y newidiadau hyn ar 20 Mehefin a 1 Gorffennaf.

Ond, wrth fynd ymlaen, gallai'r clefyd symud ymlaen yn araf iawn, heb unrhyw ddifrifoldeb mawr, neu gallai symud ymlaen yn gyflym iawn, ac yn yr achos hwnnw bydd yr effaith economaidd yn sylweddol wahanol. Felly, Russell, nid yr hen ddywediad, 'Rydym yn adeiladu asiantaeth neu awdurdod neu adeilad newydd', yw hwn lle gallwn wedyn edrych ar senarios un achos dangosadwy o asesiad effaith. Mewn mis, gallai edrych yn wahanol iawn eto. Mae'n rhaid i'r pwyslais nawr fod ar weithio gyda ffermwyr ynghylch brechu, ar y strategaethau ar gyfer eu ffermydd, gan eu galluogi, os ydyn nhw eisiau symud anifeiliaid ar draws o barth dan gyfyngiadau, i wneud hynny o fewn y canllawiau newydd y byddwn yn eu cyflwyno, a dyna'n sicr lle mae ein pwyslais.  

17:10

Diolch am eich datganiad, Dirprwy Brif Weinidog. Rydw i wedi cwrdd â ffermwyr yn fy rhanbarth yn ddiweddar sy'n mynd i gael eu cosbi'n annheg gan y penderfyniad hwn, er gwaethaf y consensws gwyddonol clir bod y clefyd tafod glas yn cael ei ledaenu gan wybed mân, nid trwy gysylltiad uniongyrchol rhwng da byw a da byw. Maen nhw'n cytuno bod y polisi hwn yn ymateb cwbl anghymesur, ac mae'n anodd iawn ei gyfiawnhau. Mae'r polisi hwn yn hynod niweidiol i fasnach drawsffiniol, fel y dywedwyd sawl gwaith bellach ar y datganiad hwn, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn gyda bridio, fel y nodwyd hefyd, yn enwedig mewn siroedd trawsffiniol fel fy sir enedigol, sir Fynwy. Mae rheolwr marchnad canolfan da byw sir Fynwy wedi dweud y bydd y cyfyngiadau symud sydd ar ddod yn cael effaith drychinebus ar y diwydiant da byw ar ddwy ochr y ffin. Nid yw'n ymddangos eich bod wedi gwrando arnyn nhw, ac, fel y dywed llawer, bydd y cyfyngiadau anghymesur hyn yn achosi llawer mwy o niwed nag o bosibl y clefyd tafod glas ei hun, ond mae'n ymddangos nad oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi o effaith ariannol y polisi hwn.

Dirprwy Brif Weinidog, rydych chi wedi gwneud penderfyniad anghywir. Nid yw'n ddigon i adolygu'r mesurau hyn yn barhaus. Dirprwy Brif Weinidog, sut allwch chi gyfiawnhau peidio â chynnal asesiad effaith economaidd ar raddfa genedlaethol, neu raddfa fwy lleol, pan fo angen gwneud un ar gyfer penderfyniad o'r maint hwn? A hefyd pam na fyddech chi wedi mabwysiadu dull un parth pan nad oes ffin galed, fel rydych chi newydd ddweud? Pe bai'r clefyd tafod glas yn cael ei ganfod, Dirprwy Brif Weinidog, yng Nghymru, a fyddech chi'n sefydlu clustogfa sirol neu un parth? Ymddengys nad oes unrhyw synnwyr cyffredin i'r polisi hwn, ac rwy'n gofyn i chi ac rwy'n eich annog i'w wrthdroi nawr.

Laura, diolch am y cwestiwn yna. Rydym yn anghytuno, ac mae'n farn gytbwys iawn, ond rydym yn anghytuno. Os symudwn ar unwaith tuag at barth tafod glas Cymru a Lloegr nawr, byddwn yn gwahodd y clefyd i Gymru. Ac i fod yn glir beth rwy'n ei olygu wrth hynny, pan nad oes gennym unrhyw brofion a dim trwyddedu, ac mae gennym wartheg wedi'u mewnforio o barth dan gyfyngiadau heb y mesurau diogelu hynny—heb y mesurau diogelu—i mewn yn ddwfn i orllewin Cymru neu ogledd-orllewin Cymru, yna dyna beth rydym ni'n ei wneud. Nawr, rwy'n dweud wrthych, dyna'r ystyriaeth. I'r rhai sy'n dweud y dylem ei ymestyn nawr a gwneud parth Cymru a Lloegr gyfan, rydym ni, mewn gwirionedd, yn dweud, 'Yma, nawr, ar 1 Gorffennaf, rydym yn agor y drysau i'r clefyd tafod glas yng Nghymru.' Nawr, dyna benderfyniad yr wyf wedi dweud na allaf ei wneud oherwydd cydwybod. Mae angen i ni weithio gyda'r gymuned ffermio, gyda milfeddygon, gyda'r arwerthwyr—a oedd wrth y bwrdd crwn, gyda llaw, ac roedd gwahaniaethau barn. Nid oedd unfrydedd, yn anffodus. Nid oedd consensws. Roedd yna arlliwiau hefyd. Ac mae'r hyn rydw i wedi ceisio ei adlewyrchu yn y penderfyniad rydym ni wedi dod ato nawr yn ffordd bragmatig iawn ymlaen, ond mae'n ffordd ymlaen y gellir ailymweld â hi yn seiliedig ar y dystiolaeth ar lawr gwlad, ac, os ydym yn cadw'r clefyd hwn draw, yna byddwn wedi llwyddo ar gyfer ffermio yng Nghymru oherwydd, fel y soniais wrthych, effaith €100 miliwn yn yr Iseldiroedd yn sgil y clefyd hwn yn rhemp ar draws yr ardal. Os gallwn gadw'r clefyd hwn draw, yna byddwn wedi cyflawni gwasanaeth da i'r gymuned ffermio.

Llywydd, rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn yna.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Y Glasbrint Cyfiawnder Menywod a’r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid

Eitem 6 sydd nesaf, a'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar y glasbrint cyfiawnder menywod a'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid yw'r datganiad yma. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, Jane Hutt.

17:15
Member (w)
Jane Hutt 17:15:12
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydym am weld system cyfiawnder troseddol wedi ei seilio ar dystiolaeth sy'n ystyried y trawma sy'n cael ei achosi.

Gall y ffordd yma o fynd ati sy'n rhoi pwyslais ar drawma a thystiolaeth atal troseddu rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau datganoledig teg a chyfartal, fel bod gan bawb yn y system cyfiawnder troseddol y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i fyw bywydau llwyddiannus, di-drosedd. Ynghyd â sicrhau bod y system gyfiawnder yn gweithio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i weithio ar y cyd i wella'r system gyfiawnder a hyrwyddo fersiwn o gyfiawnder troseddol gyda gwedd Gymreig iddi.

Mae'r gwaith hwn yn gwella canlyniadau i'r bobl sy'n aml yn agored iawn i niwed sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder, gan helpu i gadw pobl yng Nghymru yn ddiogel a helpu'r rhai sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder i roi'r gorau i droseddu. Yn y cyd-destun hwn, mae'r glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid yn ymgorffori ein gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder. Drwyddyn nhw, rydym ni'n gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i gefnogi a dargyfeirio pobl agored i niwed i ffwrdd o droseddu a thuag at ddyfodol gwell iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau.

Fe wnaethom ni gyhoeddi'r glasbrintiau yn 2019 ochr yn ochr â chynllun gweithredu pum mlynedd, yn bwysig mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, plismona yng Nghymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr a phartneriaid y trydydd sector. Mae'r glasbrintiau yn amlinellu ffordd benodol o gynnal gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru, un sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth ac atal cynnar, ac mae'r glasbrintiau yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion unigol y rhai sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, eu dargyfeirio i ffwrdd o droseddu, a darparu cymorth cynhwysfawr ac adsefydlol i'r rhai sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. Maen nhw'n weledigaethau cyfunol ynghylch sut mae arnom ni eisiau i brofiadau menywod a phlant o'r system gyfiawnder gael eu trawsnewid, gan ganolbwyntio ar sicrhau dull sy'n seiliedig ar drawma.

O fis Ebrill 2025, mae'r glasbrintiau wedi symud i gyfnod cyflawni newydd wrth i ni ystyried adeiladu ar y fframwaith presennol a pharhau i ymgorffori arfer gorau, gan gynnal dull cydweithredol, cydnabod anghenion penodol menywod a phlant, hyrwyddo lles cadarnhaol a chefnogi canlyniadau hirdymor llwyddiannus i leihau aildroseddu.

Mae tystiolaeth glir bod y glasbrint cyfiawnder menywod yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r ymdrech barhaus ar y cyd partneriaid y glasbrint wedi datblygu strwythurau llywodraethu newydd ac wedi darparu atebion lleol cynaliadwy i ddiwallu anghenion cymhleth menywod bregus. Sefydlwyd bwrdd menywod mewn cyfiawnder Cymru gyfan i ddarparu cyfeiriad strategol i bartneriaid cyfiawnder troseddol a chymdeithasol, gan sicrhau cyflawni blaenoriaethau strategol y glasbrint yn effeithiol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sefydlu Bwrdd Cyfiawnder Menywod cenedlaethol i leihau nifer y menywod yn y carchar a chynyddu cefnogaeth gymunedol, sy'n cyd-fynd â'r glasbrint. Mae cydnabyddiaeth glir o bwysigrwydd mannau hygyrch, cymunedol i fenywod a darpariaethau ar gyfer menywod yn unig. Mae bwrdd menywod mewn cyfiawnder Cymru gyfan yn cynrychioli persbectif Cymru ochr yn ochr â'r Bwrdd Cyfiawnder Menywod cenedlaethol.

Erbyn hyn mae cynlluniau dargyfeirio ar waith ar gyfer menywod sy'n agored i niwed ar draws pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru ac wedi cyd-gomisiynu gwasanaethau integredig i fenywod drwy'r gwasanaeth Cymru'n Un. Mae swyddogion yn gweithio gyda darparwyr gofal iechyd yng ngharchardai Lloegr, Carchar Ei Fawrhydi Eastwood Park a Charchar Ei Fawrhydi Styal, gan sicrhau bod menywod o Gymru sy'n y carchar yn gallu aros ar Buvidal, meddyginiaeth i drin dibyniaeth ar opioid. Ac fe wnaethom ni ddarparu £65,000 o gyllid tuag at gynghorydd trais domestig annibynnol i fenywod Cymru yn y carchardai hyn, gan gydnabod bod llawer o fenywod yn y ddalfa yn oroeswyr cam-drin domestig.

Mae cynnydd wedi'i wneud tuag at ddatblygu hyfforddiant ac arweiniad, gan sicrhau arfer gorau. Mae pecyn hyfforddi sgiliau ymarferwyr datblygiad proffesiynol parhaus, achrededig sy'n ystyried rhywedd a thrawma wedi'i ddatblygu a'i gyflwyno i dros 840 o ymarferwyr aml-asiantaeth ledled Cymru. Mae rhaglen ymgysylltu ar gyfer ynadon, dedfrydwyr a gweithwyr proffesiynol allweddol eraill y llys ledled Cymru hefyd wedi'i datblygu, gan feithrin hyder mewn dewisiadau dedfrydu cymunedol.

Mae'r cynnig i sefydlu canolfan breswyl i fenywod yn elfen allweddol o'r glasbrint cyfiawnder menywod. Mae'n siomedig nad yw'r ganolfan yn Abertawe, oedd i fod i agor yn 2024, ar agor o hyd. Bydd y ganolfan yn gaffaeliad gwirioneddol i fenywod yng Nghymru, gan ddarparu gwasanaethau therapiwtig ac adsefydlu fel rhan o ddull sy'n seiliedig ar drawma. Bydd yn caniatáu i fenywod aros yn agosach at adref a chynnal cysylltiadau teuluol hanfodol, yn enwedig gyda'u plant, gan fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n cyfrannu at eu hymddygiad troseddol, fel materion iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu drais domestig. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i eiriol dros agor y ganolfan, gyda'r nod yn y pen draw o leihau nifer y menywod yn y carchar yn sylweddol.

Gan droi at y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, dros y 15 mlynedd diwethaf bu gostyngiad dramatig a pharhaus yn nifer y plant sy'n troseddu ac sy'n dod i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ffurfiol yng Nghymru. Bu gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer y plant sy'n cael eu carcharu. Mae hyn yn dyst i'r dulliau ataliol a dargyfeiriol y mae'r gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid wedi bod yn eu defnyddio, mabwysiadu cynyddol y sylfaen dystiolaeth plant yn gyntaf a chydweithio effeithiol.

Ers ei lansio yn 2019, mae'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid wedi cyflawni ystod o waith sy'n adeiladu ar y cyflawniadau hyn i gefnogi plant a phobl ifanc ymhellach. Mae hyn yn cynnwys ehangu'r cynnig gwasanaeth ymgynghori fforensig y glasoed, gan gynnwys holl wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn rheoli achosion yn well. Mae'r dull aml-asiantaeth hwn sy'n cael ei arwain gan seicoleg yn cydnabod y trawma y mae pobl ifanc wedi'i brofi. Cyhoeddwyd adroddiad braenaru, o'r enw 'Gwerthusiad Braenaru Plant yn Gyntaf—Gwasanaeth Cyfiawnder ac Atal Ieuenctid Ceredigion'. Roedd canfyddiadau yn llywio datblygiad fframwaith atal cyfiawnder ieuenctid i Gymru.

Roedd fy natganiad glasbrint blaenorol yn 2023 yn gosod yr uchelgais i ymgorffori arferion sy'n seiliedig ar drawma yn y sefydliadau diogelu yng Nghymru, ac rwy'n falch o gadarnhau bod hyn wedi'i gyflawni drwy dynnu ar fframwaith Cymru sy'n ystyriol o drawma. Cyhoeddodd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid eu hystadegau blynyddol ym mis Ionawr 2025. Mae'r ystadegau hyn yn dangos tuedd gadarnhaol barhaus o lai o blant yn mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid, gyda nifer y rhai sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf yng Nghymru wedi gostwng o 1,386 yn 2013 i 422 o bobl ifanc yn 2023. Yn y dyfodol, bydd y fframwaith atal cyfiawnder ieuenctid yn darparu un golwg ar yr hyn sy'n gweithio i atal troseddu, a sut rydym ni'n cefnogi plant agored i fyw bywydau cyflawn di-drosedd.

Yn olaf, Llywydd, mae trefniadau llywodraethu ar y cyd wedi darparu strwythur ar gyfer cyfarwyddyd a goruchwylio gweithredu'r glasbrint. Darparodd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid uwch arweinyddiaeth, oherwydd eu harbenigedd penodol. Yn y dyfodol, bydd mwy o bwyslais nawr yn cael ei roi ar barhau i gryfhau swyddogaeth panel cynghori cyfiawnder ieuenctid Cymru, neu WYJAP, sy'n cael ei gadeirio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'n dwyn ynghyd ar lefel genedlaethol bartneriaid strategol sy'n ymwneud â gweithredu'r system cyfiawnder ieuenctid ac atal troseddau gan blant, i gefnogi goruchwyliaeth effeithiol o'r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

Ac er ein bod ni wedi cyflawni llawer iawn o newid cadarnhaol trwy'r glasbrintiau, fe allem ni gyflawni hyd yn oed mwy pe bai gennym ni system gyfiawnder gwbl ddatganoledig. Dyna pam rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i eiriol dros ddatganoli cyfiawnder. Bydd cael un Llywodraeth yng Nghymru yn gyfrifol am gyfiawnder yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r maes hwn mewn ffordd wirioneddol gynhwysfawr, gyda chyfiawnder cymdeithasol wrth ei galon, yn hytrach na chyfiawnder yn cael ei rannu ar draws yr ymyl garw hwnnw rhwng Llywodraeth y DU a Chymru.

17:20

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n hwyr glas gweld y glasbrintiau cyfiawnder ac roedd ail-werthuso y rhan fwyaf, os nad pob un, o'r amcanion yn y cynlluniau gweithredu i fod i gael ei gyflawni sawl blwyddyn yn ôl. Fodd bynnag, rydych chi wedi dweud y prynhawn yma bod y glasbrintiau wedi symud i gyfnod cyflawni newydd wrth i chi fwriadu adeiladu ar y fframwaith presennol a pharhau i ymgorffori arfer gorau.

Rwy'n croesawu'r pethau cadarnhaol sy'n cael eu gwneud i atal menywod a phobl ifanc rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, fodd bynnag, nid yw'n glir a yw'r glasbrintiau wedi cael unrhyw effaith ar ail-droseddu. Ysgrifennydd Cabinet, yn hytrach na gwneud ymgais ofer arall i annog datganoli cyfiawnder, rhywbeth y mae gwleidyddion Llafur a Phlaid Cymru yn unig yn ei feddwl sy'n syniad da, onid ydych chi'n meddwl y dylem ni fod yn cymryd camau i sicrhau bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â chyfraddau aildroseddu?

Beth ydych chi'n ei wneud i sefydlu canolfan breswyl i ferched, ar wahân i fynegi siom? Er fy mod i'n croesawu'r cyllid ar gyfer Buvidal, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod troseddwyr yn cael y triniaethau gorau posibl ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol? Llywydd, yn hyn o beth, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant fel noddwr Canolfan adsefydlu Brynawel. Mae canolfan adsefydlu breswyl yn cynnig y driniaeth orau ar gyfer dibyniaeth. Ysgrifennydd Cabinet, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod menywod a throseddwyr ifanc yn cael mynediad at ganolfannau adsefydlu preswyl?

Wrth edrych ar droseddu ieuenctid, mae'n rhaid i ni ddathlu'r gostyngiad mewn troseddwyr ifanc dros y degawd diwethaf, ond mae gennym ni gannoedd o blant a phobl ifanc sydd angen dedfrydau o garchar. Gyda gorlenwi yn y Parc a'r Brynbuga, mae'n fwyfwy anodd sicrhau bod troseddwyr ifanc o Gymru yn cael eu lletya mewn sefydliadau yng Nghymru. Pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda chydweithwyr yng Nghabinet y DU ynglŷn â sicrhau bod capasiti mewn sefydliadau troseddwyr ifanc yng Nghymru? Roedd Llywodraeth flaenorol y DU yn ymchwilio i'r defnydd o ysgolion sgiliau. A yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n ei gefnogi ac a ydych chi wedi trafod hyn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder?

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r ystadegau troseddau diweddaraf yn tynnu sylw at y ffaith bod plant du yn parhau i gael eu gor-gynrychioli o ran niferoedd ac fel cyfran. Mae'n ymddangos bod tystiolaeth yn cyfeirio at gyfranogiad mewn gangiau troseddol trawsffiniol, fel llinellau cyffuriau. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu am beryglon cymryd rhan mewn gangiau, a sut mae ysgolion a cholegau yn gweithio i sicrhau nad yw pobl ifanc yn dioddef yn sgil natur ysglyfaethus y gangiau troseddol hyn? Diolch yn fawr.

17:25

Diolch yn fawr, Altaf Hussain, a diolch am gydnabod swyddogaeth bwysig y glasbrintiau, glasbrintiau cyfiawnder menywod a throseddu ieuenctid, a hefyd am gydnabod eu bod yn cyflawni. Ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig o ran eich cwestiynau am gyfiawnder, oherwydd byddai datganoli cyfiawnder yn ein galluogi i gael capasiti llawn dros y grymoedd sydd eu hangen arnom ni i gyflawni cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Yn wir, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni bellach yn gwneud cynnydd ag ef o ran trafodaethau ac ymgysylltu. Rydym ni'n archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid. Ac roeddwn i'n falch iawn bod datganoli cyfiawnder ieuenctid yn rhywbeth y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i godi gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig. Rydym ni hefyd wedi trafod pwysigrwydd cynnydd yn y maes hwn gyda nifer o Weinidogion, a chafodd y Dirprwy Brif Weinidog gyfarfod cadarnhaol yr wythnos diwethaf gyda'r Arglwydd Ganghellor i drafod camau gweithredu ar ymrwymiad maniffesto Llywodraeth Lafur y DU i archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid. Felly, nawr rydym ni'n aros am y cynnydd, y mae swyddogion yn ei wneud, yn optimistaidd y bydd gennym ni rywbeth cadarnhaol i'w ddweud ar y mater hwn cyn bo hir. Ond rydym ni hefyd wedi parhau i ymgymryd â gweithgareddau paratoi. Nid yw hyn yn ymwneud â dadlau'r achos dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, mae'n ymwneud â pharatoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid, ac mae gennym ni raglen ymchwil cyfiawnder, ymgysylltu parhaus ag arbenigwyr, y rhai sydd â phrofiad byw o'r system gyfiawnder a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r undebau llafur cyfiawnder.

Mae'n bwysig cydnabod y ffaith ein bod wedi lleihau nifer y bobl ifanc sy'n cael eu tynnu i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle rydym ni'n gwybod ei fod yn gyfle i ni ddysgu beth sy'n gweithio yn nhermau'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar o ymweld â Syr Nic Dakin, sef Gweinidog Cyfiawnder Ieuenctid Llywodraeth y DU, gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Caerdydd yng Nghanolfan John Kane—mae'r ganolfan honno'n gyfrifol am gyfiawnder ieuenctid—a dysgu gyda'r bobl ifanc eu hunain, gan ddefnyddio technoleg realiti rhithwir, sut mae pobl ifanc mewn gwirionedd yn ymdrin â sefyllfaoedd realistig, sydd, yn bwysig, yn caniatáu iddyn nhw archwilio canlyniadau cymryd rhan mewn gangiau mewn amgylchedd diogel a rheoledig, ac mae hynny hefyd yn ymwneud â'ch pwynt olaf. Ond hefyd, roedd gen i ddiddordeb mawr yng Nghanolfan Ieuenctid Bwlch, gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid sir Gaerfyrddin, yr ymwelais â hi y llynedd, a ystyriwyd yn rhagorol. Rwyf eisoes wedi sôn am waith pwysig gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Ceredigion, sydd wedi arwain at ein strategaeth atal cyfiawnder ieuenctid. 

Byddaf yn dweud ar y ganolfan breswyl i ferched ein bod yn parhau nid yn unig i eiriol ond i alw am agor y ganolfan breswyl i ferched yn Abertawe. Fe wnes i gyfarfod â'r Arglwydd Timpson ar 9 Mehefin. Fe wnes i ddadlau unwaith eto am agor y ganolfan yn Abertawe. Hefyd, rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol wedi codi hyn yr wythnos diwethaf gyda'r Arglwydd Ponsonby. Mae hi i'w groesawu'n fawr bod yr adolygiad dedfrydu annibynnol dan arweiniad David Gauke yn gefnogol iawn i gynyddu'r defnydd o ddedfrydau nad ydynt yn garchar ar gyfer troseddwyr, gydag eithriadau, ac wedi canfod mai'r rhaglenni adsefydlu hyn sydd wedi'u hymgorffori ynddo yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau carfanau sy'n aildroseddu.

Mae'r cynnig i sefydlu'r ganolfan honno, wrth gwrs, yn elfen allweddol o'n glasbrint cyfiawnder menywod, a byddwn yn parhau i ganlyn arni gyda hyn gan fod gennym ni ganolfan ar gael. Rwy'n falch fy mod wedi cael fy ngwahodd i eistedd ar fwrdd menywod mewn cyfiawnder sydd wedi'i sefydlu gan yr Arglwydd Ganghellor i ganolbwyntio ar ddewisiadau amgen yn hytrach na'r ddalfa a chefnogi'r bwrdd i sicrhau bod yr amgylchiadau unigryw yng Nghymru yn cael eu deall yn iawn.

17:30

Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich datganiad. Mae eich gweledigaeth o system gyfiawnder sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth sydd yn rhoi ystyriaeth ganolog i rôl trawma o ran dioddefwyr a throseddwyr yn un clodwiw a deniadol, ond mae'r dystiolaeth yn dal i ddangos bwlch sylweddol rhwng y weledigaeth honno a'r sefyllfa ar lawr gwlad. Erbyn 2023, roedd 5,034 o bobl o Gymru mewn carchar—y ffigur uchaf erioed, gan godi'r gyfradd i 171 fesul 100,000, yr uchaf yng ngorllewin Ewrop—dros un o bob pedwar ohonynt, 28 y cant, yn cael eu carcharu dros y ffin yn Lloegr. Sut ŷch chi'n asesu effaith cadw carcharorion mor bell i ffwrdd ar adfer a gwasanaethau ôl-ryddhau, ac a yw lleihau'r ddibyniaeth ar garchardai Lloegr yn flaenoriaeth benodol i Lywodraeth Cymru?

Yn 2023, fe gafodd bron 20 y cant o'r menywod o Gymru a ddedfrydwyd garchar o fis neu lai. Mae'r MoJ yn rhagweld y bydd nifer y menywod o Gymru sy'n cael eu carcharu yn codi o 245 i 285 erbyn 2027. Ar ben hynny, mae llythyr gan y Gweinidog carchardai y mis yma yn cadarnhau bod prosiect y ganolfan breswyl yn Abertawe wedi ei ohirio ar hyn o bryd, heb ddyddiad agor newydd. Yn wyneb hynny, ydych chi'n argyhoeddedig y bydd y camau ŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw heddiw yn ddigon i leihau carcharu byr i fenywod ac yn gwrthdroi'r cynnydd o ran carcharu menywod mae'r MoJ yng Nghymru yn ei ragweld?

Bron i ddau ddegawd ar ôl adroddiad Corston, nid oes gan yr MoJ ddata cyhoeddus ar feichiogrwydd na chyfrifoldebau gofal menywod Cymreig yn y ddalfa. A allwch gadarnhau eich bod bellach wedi cael ymrwymiad pendant i gasglu a chyhoeddi'r wybodaeth sylfaenol hon, fel y gallwn fesur effaith dedfrydau byr ar blant?

Mae'n galonogol fod nifer y bobl ifanc sy'n dod i gyswllt gyda'r system gyfiawnder am y tro cyntaf wedi syrthio i 422 yn 2023, ond ar draws Cymru a Lloegr, cynyddodd cyfradd aildroseddu plant a phobl ifanc i 32.2 y cant yn 2022-23, gan dorri'r duedd ostwng flaenorol. Heb ffigurau Cymru-benodol, ni allwn ni wybod ble na pham mae'r risg aildroseddu yn cynyddu. Pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i gyhoeddi data aildroseddu ar gyfer Cymru, er mwyn targedu adnoddau yn fanylach?

Mae prinder therapi lleferydd a chyfathrebu yn tanseilio gwaith ataliol. Mae gohebiaeth rhwng cymdeithas y therapyddion llais a'ch adran yn nodi nad oes unrhyw therapydd lleferydd wedi ei ariannu gan dimau cyfiawnder ieuenctid yng ngogledd na chanolbarth Cymru a bod cytundebau presennol eraill yn dod i ben. Pa sicrwydd y gallwch chi ei gynnig o ran mynediad therapi lleferydd a chyfathrebu yn gyffredinol, a pha sgyrsiau ŷch chi wedi eu cael i wneud hyn yn ofyniad statudol drwy'r MoJ?

Dangosodd yr adolygiad gwariant y bydd cyllideb gyfalaf yr MoJ yn disgyn 2.1 y cant y flwyddyn yn nhermau real tan ddiwedd y ddegawd. Sut fydd y toriad yma yn effeithio ar flaenoriaethau'r glasbrintiau, yn enwedig y ganolfan breswyl i fenywod, a hefyd estyn cynlluniau ataliol i bobl ifanc?

Dywedoch chi wrth gloi mai'r ymyl anwastad yw'r rhwystr mwyaf. Dangosodd 'Delivering Justice for Wales', eich adroddiad y llynedd, fod trafodaethau'n parhau ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Pa faterion polisi neu ymarferol sydd eto i'w datrys cyn y gellir datganoli'r pwerau hyn? Ŷch chi'n disgwyl gweld hyn yn digwydd yn ystod y tymor San Steffan presennol? Heb ddata Cymreig cyflawn, heb adnoddau cynaliadwy ac, yn fwyaf oll, heb bwerau datganoledig llawn, bydd y nod o system gyfiawnder rhagweithredol, un sydd yn ymwybodol o drawma, yn aros ac yn methu ar yr ymyl anwastad. Rhowch reswm i ni gredu yn wahanol, Ysgrifennydd Cabinet.

17:35

Diolch yn fawr, Adam Price. Fel y dywedwch chi, mae'n hanfodol bod ein system gyfiawnder a'n polisi sy'n cymell ac yn datblygu ein system gyfiawnder yn seiliedig ar dystiolaeth. Fe hoffwn i droi at eich sylw ynglŷn â data, a chydnabod bod hyn yn mynd yn ôl i'r gwaith pwysig sydd wedi'i wneud gan Dr Robert Jones yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, a'r ffeiliau ffeithiau y mae wedi'u cynhyrchu lle bu'n rhaid iddo geisio'r data hwnnw drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Yn y cyfarfod cyntaf a gefais gyda James Timpson, y Gweinidog newydd dros garchardai, dywedais—ac fe wnes i gyfarfod â Dr Jones hefyd—bod angen i ni fynd i'r afael â hyn.

Dyma un o'r pethau cyntaf y gallai Llywodraeth y DU ei wneud i'n galluogi i gynllunio ar gyfer datganoli cyfiawnder. Mae angen i ni gael y data hwnnw ar gyfer Cymru. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith bod hyn bellach yn cael ei datrys ar lefel swyddogol a gweinidogol, a byddwn yn gobeithio gallu adrodd ar gynnydd maes o law, oherwydd mae'n bwysig iawn o ran y glasbrint cyfiawnder menywod a'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid hefyd bod gennym ni'r mynediad hwnnw at ddata.

Rwy'n credu bod eich cwestiynau'n bwysig iawn ynghylch sut y gallwn ni fynd i'r afael â'r dystiolaeth a gafwyd, yn wir, drwy'r ystadegau, yn ogystal â thrwy gyfraniadau ac ymchwil a gynhaliwyd, fel y dywedais i eisoes, gan Dr Robert Jones, ynghylch sut y gallwn ni leihau dedfrydau carchar tymor byr, sut y gallwn ni mewn gwirionedd ddargyfeirio menywod a'r system gyfiawnder i ffwrdd o ddedfrydu carchar. Felly, rwyf wedi croesawu'r adolygiad dedfrydu annibynnol.

Nododd ail ran yr adolygiad hwnnw y mesurau hynny a oedd yn bwriadu mynd i'r afael â'r bwlch o ran capasiti carchardai, fel ei fod yn creu system fwy cefnogol, effeithiol ar gyfer troseddwyr a'u dioddefwyr, oherwydd dyna'r ymagwedd ataliol, seiliedig ar drawma at gyfiawnder. Mae'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu, atal troseddau rhag digwydd yn y lle cyntaf, ond hefyd i chwilio am ddewisiadau amgen i ddedfryd o garchar, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn brif nod ac amcan y glasbrint cyfiawnder menywod, ac yn wir nod Jean Corston gyda'i hadroddiad arloesol, a oedd, fel y dywedwch chi, ddau ddegawd yn ôl. Un o'i phrif argymhellion oedd datblygu canolfannau preswyl i fenywod. Mae'r dystiolaeth yno. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi bwrw ymlaen â hynny hefyd, ac rwy'n ceisio gweithredu'r cynllun peilot yng Nghymru drwy ein hymgysylltiad nawr â Llywodraeth y DU.

Fe wnaethoch chi hefyd dynnu sylw at yr adroddiad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a siaradais am hyn yn y ddadl a gawsom ni ar yr adroddiad pwysig hwnnw. Mae'n rhywbeth y mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol amdano, oherwydd mae'n seiliedig ar anghenion iechyd y boblogaeth ac yn penderfynu'r ffordd orau o ddiwallu anghenion eu poblogaeth. Ond hefyd, rydym ni wedi nodi mai lle timau gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid fyddai darparu gwasanaethau pellach sy'n ymwneud ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae'n bwysig, unwaith eto, ein bod yn edrych ar ymateb a chyfrifoldebau a chyfleoedd ariannu Llywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, mae llawer o awdurdodau lleol bellach yn defnyddio'r cynllun cyllido Turnaround i helpu i fynd i'r afael â bylchau o ran gwasanaethau, ac mae hynny'n cynnwys anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Rwyf wedi siarad am y cynlluniau dargyfeirio sydd bellach ar waith ledled Cymru gyfan. Gadewch i ni edrych ar yr hyn rydym ni wedi gallu ei wneud i atal menywod, yn enwedig o ran y glasbrint cyfiawnder menywod, rhag cael dedfrydau carchar. Mae'r cynllun braenaru menywod cynhwysfawr, sy'n helpu menywod i fynd i'r afael â materion fel iechyd meddwl ym mhob cam o'r system gyfiawnder, gan eu dargyfeirio i ffwrdd o ddedfrydu carchar diangen sy'n tarfu ar eu bywydau a rhoi hyfforddiant sy'n seiliedig ar drawma i staff sy'n gweithio gyda menywod, a siarad â menywod a staff ar y rheng flaen, yn dangos sut y gall gwelliannau mewn canlyniadau personol o'r rhai a atgyfeiriwyd fod mor bwysig. Ond rwy'n credu bod pwysigrwydd yr hyn rydym ni'n ei wneud nawr o ran cryfhau cysylltiadau teuluol i fenywod yn y carchar yn adlewyrchu blaenoriaeth allweddol o fewn y glasbrint cyfiawnder menywod. Ac rydym ni yn ariannu, wrth gwrs, y gwasanaeth Ymweld â Mam, sy'n cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai.

Yn olaf, o ran eich cwestiynau heddiw, mae hyn yn ymwneud â sut rydym ni wedi gallu gweithio gyda'r glasbrintiau. Bu hynny ar y cyd â Gweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Ond mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, â'r darparwyr yng Nghymru sy'n cyflawni'r gostyngiad hwnnw o ran troseddu ieuenctid ac yn dargyfeirio menywod a phobl ifanc i ffwrdd o'r llysoedd a dedfrydau carchar. Mae gennym ni ffordd bell i fynd. Mae'n bwysig iawn fy mod i'n rhannu hyn gyda chi y prynhawn yma fel y gallwch chi weld bod arnom ni eisiau cau'r bwlch hwnnw rhwng ein gweledigaeth a'r sefyllfa ar lawr gwlad.

17:40

Cyn i mi fynd ymlaen at rai o'r pethau yn eich datganiad, fe hoffwn i egluro ein bod nawr yn mynd i gael y data sydd ei angen arnom ni a ddarparwyd yn flaenorol gan Dr Robert Jones, oherwydd mae bellach wedi cael ei atal rhag cael yr wybodaeth hon drwy Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae'n rhaid i ni wybod a ydym ni'n cael unrhyw effaith o gwbl ar yr hiliaeth sy'n greiddiol i'r cyfraddau troseddu, oherwydd mae hwn mewn gwirionedd yn ystadegyn cywilyddus ac mae'n rheswm clir pam mae angen datganoli cyfiawnder. Mae hynny, er budd Altaf Hussain, er mwyn cyfuno hyfforddiant, addysg ac iechyd, sicrhau nad yw pobl yn aildroseddu ac nad ydym ni'n eu hanfon i'r carchar yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n falch iawn o'r gwaith sy'n digwydd yn y canolfannau menywod yng Nghaerdydd, sy'n cael eu rhedeg gan Gymru Ddiogel ac Ymddiriedolaeth Nelson. Maen nhw'n gwneud gwaith ardderchog o gadw pobl allan o'r carchar a'u helpu i ailintegreiddio i'r gymuned os ydyn nhw wedi gadael y carchar yn ddiweddar.

Rwy'n credu mai'r hyn yr hoffwn i chi ddweud ychydig mwy amdano yw'r gwaith pwysig rydych chi'n ei wneud gyda'r Gymdeithas Ynadon i atal pobl rhag cael eu hanfon i'r carchar yn gwbl aneffeithiol am o leiaf un mis. Mae unrhyw beth llai na blwyddyn yn wastraff amser llwyr o ran adsefydlu, ac mae'n galluogi menywod i golli eu swyddi, eu cartrefi a'u plant. Felly, mae'n drychineb ac yn wastraff llwyr o arian cyhoeddus. Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud unrhyw beth mwy ynghylch pam nad ydym ni wedi gweld cynnydd gyda chanolfan merched Abertawe hefyd.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Y cyfan y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd, o ran datgyfuno data, yw fy mod i'n teimlo ein bod yn gwneud llawer iawn o gynnydd yn hynny o beth, oherwydd mae cydnabyddiaeth na allwn ni reoli, datblygu a chynllunio gwasanaethau heb y dadgyfuno hwnnw o ddata. Rwy'n hyderus ein bod ar y trywydd iawn i gael y canlyniad cadarnhaol hwnnw.

Rwy'n falch hefyd eich bod wedi cyfeirio at gynrychiolaeth anghymesur pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn wir, soniodd Altaf Hussain am hynny hefyd. Gall fod yn bobl ifanc, gall fod yn ddynion ifanc, ac mae'n rhywbeth lle rwy'n falch fod gennym ni nid yn unig 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'—Llywodraeth Cymru—ond hefyd mae'r asiantaethau cyfiawnder troseddol hefyd wedi mabwysiadu cynllun gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac mae angen i ni weld effaith gadarnhaol hynny.

Mae gwaith dedfrydau yn hanfodol bwysig. Roedd eich adroddiad yn hanfodol. Roedd yn dangos sut roedd yn rhaid i ni godi ymwybyddiaeth ymhlith y farnwriaeth o effaith dedfrydau carchar ar fenywod Cymru. Felly, bu nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu, hyfforddiant, codi ymwybyddiaeth gyda dedfrydau, ynadon, am ddewisiadau cymunedol. Cysylltwyd â dros 270 o bobl gyda'r gwaith hwn, ac mae ymgysylltu â dedfrydau yn flaenoriaeth y glasbrint. Ond hefyd mae dedfrydau eisoes yn cwmpasu'r ystod hon—mynediad at ystod eang o ddewisiadau i fenywod ar wahân i fynd i'r carchar: dedfrydau gohiriedig, gwaith di-dâl, monitro electronig, gofynion triniaeth dedfrydau cymunedol, gofynion gweithgarwch adsefydlu. Mae gennym ni'r dewisiadau hynny ar gael ledled Cymru. Carchar ddylai fod y dewis olaf, os oes ei angen o gwbl. Byddaf bob amser yn cofio ymweld â Charchar Ei Fawrhydi Eastwood Park gyda'r cyn-Gwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, a chwrdd â'r llywodraethwr a ddywedodd, 'Mae'r mwyafrif o fenywod yn y carchar hwn wedi dioddef trawma, wedi dioddef eu hunain o gam-drin domestig, tlodi, camddefnyddio sylweddau.' Mae gennym ni gyfrifoldeb llwyr i ddadlau'n gryf dros y dewisiadau dedfrydu amgen hynny, ac rwy'n cefnogi'r adolygiad dedfrydu annibynnol o ran y ffyrdd y maen nhw'n gweithio ar hyn.

A gaf i ddim ond dweud, o ran canolfannau amhreswyl i fenywod, faint rwy'n cytuno â chi am y canolfannau dydd hynny, megis canolfan Ymddiriedolaeth Nelson a Chanolfan Menywod Gogledd Cymru yn y Rhyl? Wrth gwrs, rydw i wedi ymweld â llawer o'r canolfannau hyn—maen nhw'n darparu'r gefnogaeth honno i reoli goresgyn camddefnyddio sylweddau, ond hefyd yn darparu cymorth gofal plant, cymorth gyda chostau byw, mynediad a gwybodaeth. Yr wythnos diwethaf bu modd i mi ymweld ag Ymddiriedolaeth St Giles a chwrdd â menywod sydd â phrofiad byw o'r system cyfiawnder troseddol, sydd bellach yn wirfoddolwyr ac yn cael lleoliadau gwaith gyda chyflogwyr, ac yn edrych tuag at y cyfle i allu ailadeiladu eu bywydau, a hefyd bywydau eu plant, a symud i waith â thâl. Felly, mae llawer o waith da yn mynd rhagddo o ran sut rydym ni'n cefnogi, ac yn arbennig yn cefnogi, menywod, yn ogystal â phobl ifanc. 

Dim ond o ran y materion ynghylch gwaith Cymru Ddiogelach, y cyllid rydym ni'n ei roi i Gymru Ddiogelach, gallwn weld y gefnogaeth uniongyrchol i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, ac wrth eiriol a nodi cyfleoedd penodol nid yn unig ar gyfer cymorth cyflogaeth, llety, ond dewisiadau gwell o ran eu bywydau a bywydau eu teuluoedd.

Mae'r rhan fwyaf o'r materion roeddwn i'n mynd i'w codi eisoes wedi eu crybwyll. Yr hyn rwy'n ei gefnogi'n arbennig am y glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid a menywod yw bod ganddyn nhw fenywod, plant a phobl ifanc, a'u hanghenion penodol ac unigryw, wrth wraidd yr ymateb cyfiawnder.

Roedd arnaf i eisiau crybwyll yn arbennig mater pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod y dystiolaeth yn dangos bod pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn cael eu gor-gynrychioli ymhlith y bobl yn y carchar. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cofio ymweliad a wnaethom ni gyda'n gilydd â charchar y Parc, lle gwelsom ni garcharorion oedd â phrofiad o fod mewn gofal a gynhyrchodd ddrama am eu profiadau o fod mewn gofal, a oedd yn deimladwy iawn. Felly, meddwl oeddwn i tybed a oedd ganddi unrhyw sylwadau neu unrhyw gynigion ynghylch sut y byddem yn ceisio atal cymaint o blant yn y system gofal rhag mynd i garchar.

Rwy'n ategu hefyd yr hyn a ddywedwyd am fater y glasbrint menywod a'r ganolfan breswyl. Soniodd Adam am Jean Corston. Roeddwn yn y Senedd yn 2006 pan gyhoeddwyd yr adroddiad grymus hwnnw. Mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn gwirionedd wedi mynd i'r cyfeiriad arall, felly rwy'n gobeithio—. Mae'r holl leisiau yma heddiw yn dweud bod angen i ni weithredu, bod angen i ni weithredu gyda'r ganolfan breswyl hon, felly mae arnaf i eisiau ategu hynny.

17:50

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, a diolch am dynnu sylw at y gorgynrychiolaeth o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn y carchar. Yn wir, fe wnaethom ni ymweld â charchar y Parc a chwrdd â charcharorion oedd â phrofiad o ofal a oedd yn ymgysylltu ac yn rhannu eu profiadau, gyda chefnogaeth aelod o staff a oedd yn eu galluogi i archwilio hyn trwy ddrama. Rwyf hefyd yn cofio ymweld â charchardai eraill lle mae carcharorion sydd â phrofiad o ofal wedi sefydlu eu grwpiau eu hunain i weithio gyda'i gilydd i oresgyn y materion sydd wedi effeithio arnyn nhw.

Ond mae'r mater yn ymwneud â sut rydym ni'n atal pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal rhag cael eu tynnu i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, a byddwn yn troi nawr at y maniffesto radical ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaethoch chi, wrth gwrs, ddechrau arno, yn eich hen swydd weinidogol, a nawr Dawn Bowden, fel y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Yn wir, yn draws-lywodraethol, rydym ni'n cwrdd â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, hyd yn oed yn ddiweddar iawn, i glywed am eu profiadau mewn bywyd a sut y gallwn ni ddarparu'r cyfleoedd amgen hynny, sy'n ymwneud â'r fframwaith atal ym maes cyfiawnder ieuenctid.

Mewn gwirionedd, mae'r fframwaith atal ym maes cyfiawnder ieuenctid newydd gael ei gyhoeddi, ac mae'n ymwneud â thystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio i atal plant a phobl ifanc rhag dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn gweld hyn, oherwydd mewn gwirionedd mae'n rhoi un darlun cynhwysfawr o sut rydym ni'n atal pobl ifanc rhag cymryd rhag troseddu, ac yn seiliedig i raddau helaeth iawn ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n ein harwain yng Nghymru.

Diolch am ategu'r alwad am agor y ganolfan breswyl i ferched, gan gofio eich ymgysylltiad â Jean Corston a'ch ymgyrchu hirdymor dros y ddarpariaeth hon, lle credaf y gallai Cymru ddangos y ffordd o ran cyflawni'r ganolfan honno.

Mae'r anghydraddoldebau syfrdanol a welwn ni yn ein system cyfiawnder troseddol y soniwyd amdanyn nhw y prynhawn yma yn dangos nad yw'n addas i'r diben, ac mae'n niweidio rhai grwpiau o Gymru yn arbennig. Mae cymaint o adroddiadau, cymaint o lyfrau a chomisiynau wedi manylu ac wedi tystio effaith niweidiol yr ymyl garw o bwerau a chyfrifoldebau datganoledig ac a gadwyd yn ôl ar rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Pan ofynnais i chi yn uniongyrchol cyn yr etholiad diwethaf yn y DU i gadarnhau eich safbwynt ar ddatganoli cyfiawnder er mwyn y dinasyddion hyn, fe ddywedoch chi wrthyf i eich bod yn paratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid. Wel, roedd hynny yn 2023, ac rydych chi wedi ei ailadrodd eto heddiw. Felly, pryd rydyn ni'n mynd i weld gweithredu nawr bod Llafur mewn grym yn San Steffan? Pam mae eich cyd-Aelodau Llafur yn San Steffan yn gwarafun y modd i Gymru a Llywodraeth Cymru helpu i sicrhau bod ganddi system gyfiawnder sy'n ymgorffori ymyrraeth ac atal cynnar, gan roi'r pwerau sydd eu hangen arnoch chi i chi wneud hynny? Rwyf wir eisiau i chi roi gwybod i ni pam. Gofynnodd Adam Price y cwestiwn hwn ac ni chawsom ni ateb. Beth yw'r rhwystr yma?

Fe hoffwn i ailadrodd y sylw a wnaed gan Adam Price ac eraill ar y diffyg cefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc ag anawsterau lleferydd ac iaith, rydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi eu gor-gynrychioli yn sylweddol yn y system cyfiawnder troseddol. Soniwyd am hyn eto i mi yn ystod ymweliad pwyllgor â charchar Parc ddoe. Felly, fe hoffwn i wybod sut y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r sefyllfa annerbyniol hon. Pa gynnydd a wneir? Yr ateb a roesoch chi o'r blaen oedd mai cyfrifoldeb pobl eraill yw hyn. Eich cyfrifoldeb chi yw'r glasbrint hwn, ac mae hyn yn rhan allweddol, rwy'n credu, o ymyrraeth ac atal, on'd ydy? 

17:55

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Does dim amheuaeth am ein hymrwymiad ni, Lywodraeth Cymru, ynglŷn â datganoli cyfiawnder i Gymru. Rwyf wedi amlinellu sut rydym ni'n cyflawni o ran y glasbrintiau, ond ein nod yn y pen draw yw sicrhau datganoli cyfiawnder, a byddai hynny'n cynnwys plismona yn ogystal â'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. Argymhellwyd hynny i gyd gan gomisiwn Thomas, ac yn fwy diweddar gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, dan gadeiryddiaeth Rowan Williams a Laura McAllister. Ond rydym ni bob amser wedi gwybod y byddai angen dull graddol ar hyn, a dyna pam mae'r camau—. Rydym ni'n croesawu'r ffaith bod maniffesto Llywodraeth y DU wedi nodi'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid fel ymgeiswyr cryf ar gyfer datganoli cynnar, oherwydd y ffaith bod y gwasanaethau hynny'n cyd-fynd â gwasanaethau datganoledig presennol. 

Felly, gallai datganoli ganiatáu inni gynnig y gwasanaethau hynny, ac mae'n ddechrau, mae'n gam o'r cyflenwi—. Bydd datganoli cyfiawnder yn ein galluogi i ganolbwyntio ar heriau lleol yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi amlinellu sut rydym ni'n cael cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU— cyfarfod cadarnhaol yr wythnos diwethaf gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Arglwydd Ganghellor, a chyfarfodydd rydw i wedi'u cael gyda'r Arglwydd Timpson hefyd. Rwy'n croesawu'r ffaith y gellir gofyn y cwestiynau i mi heddiw, i wneud yn siŵr bod dealltwriaeth a chydnabyddiaeth gyhoeddus ein bod yn galw am hyn ac yn gweithio tuag at hyn. Yn wir, wrth gwrs, mewn perthynas ag adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fe wnaethom ni ymateb yn gadarnhaol i hynny o ran ein cyfrifoldebau fel Llywodraeth Cymru.

Mae amser bron iawn ar ben ar gyfer y datganiad hwn, ond gallaf wasgu dau gwestiwn arall, os gallaf gael cwestiynau byr ac atebion byr. Alun Davies.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl am ei hymrwymiad i'r materion hyn. Fodd bynnag, mae'n rhai blynyddoedd ers i mi gyhoeddi'r cyntaf o'r glasbrintiau hyn, ac mae'n rai blynyddoedd ers i'r Arglwydd John Thomas gyhoeddi ei ymchwiliad i gyflwr cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Roedd yn anfoddhaol bryd hynny, mae'n anfoddhaol heddiw. Rwy'n credu bod angen i gefnu nawr ar adrodd ar y materion hyn, ac amlinellu sut rydym ni'n mynd i symud ymlaen. Nid yw bellach yn hyfyw i Lywodraeth Cymru weinyddu'r materion hyn yn unig. Mae angen cynnydd arnom ni. Mae gormod o bobl yn dioddef yn rhy wael yn y wlad hon i ganiatáu inni eistedd yn ôl a pheidio â mynd ar drywydd y materion hyn gydag egni mawr.

Felly, gobeithio, Ysgrifennydd Cabinet, y byddwch yn gallu gwneud datganiad i'r lle hwn yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â'r materion hyn, gan gyflwyno polisïau a fydd yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n wynebu, yn enwedig yma, menywod a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol, ond creu system cyfiawnder troseddol sy'n deg, yn darparu cyfiawnder cymdeithasol ac yn ein galluogi ni i gyd yng Nghymru i gael system cyfiawnder troseddol gweddus sy'n gwasanaethu ein hanghenion ni ac nid anghenion rhywun arall.

Diolch yn fawr iawn, Alun Davies, a diolch i chi am gychwyn hyn o ran y glasbrintiau yn eich swydd weinidogol flaenorol. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n gadarnhaol a'r hyn y mae'n rhaid i ni edrych arno yw'r ffaith, o ran y ganolfan breswyl i ferched, bod hwn mewn gwirionedd yn gynnig a gymeradwywyd gan y Llywodraeth flaenorol fel cynllun peilot i Gymru. Fe'i datblygwyd mewn cydweithrediad â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a phartneriaid allweddol. Mae gennych chi fwrdd menywod mewn cyfiawnder. Mewn gwirionedd, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg gyfarfod o'r bwrdd hwnnw, ac mae disgwyl un cyn bo hir. Maen nhw'n edrych ar ddewisiadau amgen yn lle'r ddalfa. Mae gennym ni le yn barod i agor yma. Felly, rwy'n credu bod gennym ni bob cyfle nawr yng Nghymru, gyda'r adolygiad dedfrydu annibynnol, i ddadlau'r achos i fwrw ymlaen â hyn, ac fe gafodd y Dirprwy Brif Weinidog gyfarfodydd calonogol iawn o ran datganoli cyfiawnder ieuenctid.

18:00

Fe hoffwn i ategu'r gefnogaeth at nod Llywodraeth Cymru o gyflawni system gyfiawnder gwbl ddatganoledig cyn gynted â phosibl. Mae'r glasbrintiau yn dangos yn llwyr sut mae gennym ni ymagwedd wahanol iawn yma yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar nodi lle gall cymorth atal troseddu ac aildroseddu. Rydych chi wedi cyfeirio at y swm sylweddol o waith a wnaed gyda Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, ac mae'n hanfodol bod cydweithredu yn parhau â'r Llywodraeth bresennol yn gyflym. Rwy'n rhannu pryder llawer o gyd-Aelodau, a'ch un chi, ynghylch yr adeilad a ddynodwyd sawl blwyddyn yn ôl i fod yn ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe nad yw ar agor o hyd. Ar ôl ymweld â Charchar Ei Fawrhydi Eastwood Park a siarad â menywod Cymru, mae'n amlwg faint o angen sydd am y ganolfan honno. Rwy'n credu'n gryf bod angen darpariaeth yng ngogledd Cymru hefyd, lle rwyf wedi siarad ag etholwyr sydd ag aelodau benywaidd o'u teulu yng Ngharchar Ei Fawrhydi Styal. Felly, er fy mod yn sylweddoli mai'r pwyslais yw sicrhau bod y ganolfan yn Abertawe yn cael ei hagor heb unrhyw oedi pellach, tybed a gawsoch chi unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â darpariaeth o'r fath ar gyfer y gogledd?

Diolch yn fawr iawn, Lesley Griffiths, a diolch am eich swyddogaeth a'ch ymgysylltiad, gynt mewn swyddogaeth weinidogol, ond eich ymrwymiad—ymrwymiad hirsefydlog—i'r glasbrint menywod mewn cyfiawnder. Yn wir, rwyf wedi sôn am ganolfan menywod y gogledd, gan ei bod hi'n rhagflaenu llawer o'r canolfannau menywod sydd wedi cael eu hagor yn ddiweddarach yn ne Cymru. Fe wnes i ymweld â Charchar Ei Fawrhydi Styal hefyd a chwrdd â'r menywod o ogledd Cymru, sydd, mewn gwirionedd, o ran eu hamgylchiadau—amgylchiadau bywyd—yn cwestiynu pam eu bod yn y carchar o gwbl. Ac roedd hi'r un fath pan aethom ni i Garchar Ei Fawrhydi Styal Eastwood Park. Rwy'n credu mai dyma'r pwynt a wnaeth Adam Price am ddedfrydau byr. Mae gennym ni gyfle nawr, gyda'r adolygiad dedfrydu annibynnol, i fynd i'r afael â hynny. Ond, unwaith eto, rwy'n credu os gallwn ni gael y peilot yn y de, yna dadlau'r achos dros y gogledd i ddilyn hynny.

7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig
8. Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025

Eitem 8 yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025. Yr Ysgrifennydd Cabinet newid hinsawdd sy'n cyflwyno'r rheoliadau yma—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8926 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:02:35
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw i gyflwyno Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 i leihau'r newid amgylcheddol a achosir trwy waredu weips gwlyb mewn modd anghyfrifol.

Yn 2023, casglwyd 21,000 o weipau gan wirfoddolwyr y Gymdeithas Cadwraeth Forol ar draws 92 milltir o draethau y DU yn ystod eu digwyddiad Beachwatch. Erbyn 2024, roedd nifer y weipiau a gasglwyd wedi codi i fwy na 26,000. Ni ddylai fod lle i weipau gwlyb ymhlith y cerrig a'r tywod a'r gwymon ar ein harfordir hardd yng Nghymru. Canfu arolwg diweddar fod 22 y cant o bobl wedi cyfaddef eu bod wedi taflu weipiau gwlyb i'r system garthffosiaeth. Er gwaethaf ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth fel 'Gallwch Chi Stopio'r Bloc' Dŵr Cymru, mae nifer fawr o weipiau gwlyb yn dal i fynd i mewn i'r amgylchedd naturiol oherwydd gwaredu amhriodol. Mae'r weipiau hyn yn aml yn cynnwys plastig, sy'n gyfrannwr sylweddol at lygredd plastig niweidiol yn ein hafonydd a'n cefnforoedd. Felly, trwy gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon heddiw, rydym ni'n cymryd cam arall yn ein hymrwymiad i leihau'r niwed amgylcheddol a achosir gan lygredd plastig a microblastig.

Mae'r llygredd hwn, fel y gwyddom ni i gyd, yn weladwy, mae ei effaith yn ddiriaethol, ac mae'n hirhoedlog. Bydd cymryd camau pendant yn annog gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr o'r angen i barhau â'n newid tuag at gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio ac nad ydyn nhw'n blastig. Nawr, mae wedi bod yn amlwg, Llywydd, o ddadleuon blaenorol yn y Siambr hon ar lygredd plastig, bod cefnogaeth drawsbleidiol eang i weithredu o'r fath ac, felly, rwy'n galonogol y bydd Aelodau'n cefnogi'r rheoliadau sy'n cael eu trafod heddiw yn seiliedig ar ddadleuon blaenorol.

Gan droi at y rheoliadau eu hunain, rydym ni wedi defnyddio pwerau o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Bydd weipiau gwlyb sy'n cynnwys plastig yn cael eu hychwanegu at dabl 1 yn yr Atodlen i'r Ddeddf. O 18 Rhagfyr 2026 ymlaen, bydd yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi weipiau gwlyb sy'n cynnwys plastig yng Nghymru. Bydd y cyfnod pontio 18 mis hwn yn rhoi'r amser i weithgynhyrchwyr addasu eu busnesau. Nawr, rydym ni'n deall bod rhai pobl ag anghenion iechyd penodol yn dibynnu ar weipiau gwlyb gradd feddygol sy'n cynnwys plastig. Mae eithriad ar gyfer cadachau o'r fath sydd wedi'u cynllunio neu eu cynhyrchu i'w defnyddio mewn cysylltiad â gofal neu driniaeth feddygol, felly, wedi'i gynnwys.

Dylid nodi, o dan y Ddeddf cynnyrch plastig untro, nad yw'r gwaharddiad yn ymestyn i gyflenwi rhwng busnesau, gan fod y Ddeddf yn cwmpasu cyflenwi i ddefnyddwyr yn unig. Felly, nid yw weipiau gwlyb ar gyfer defnydd diwydiannol penodol, lle mae dewisiadau amgen di-blastig naill ai'n anaddas neu nad ydynt yn bodoli, yn cael eu cynnwys, ond byddwn yn parhau i annog y sectorau hyn i arloesi ymhellach i leihau cynnwys plastig mewn weipiau o'r fath neu i chwilio am ddewisiadau amgen.

Gadewch imi orffen trwy ailadrodd bod gwahardd cynhyrchion plastig untro fel weipiau gwlyb yn rhan o'n hymgyrch barhaus i leihau'r difrod a achosir gan lygredd microblastig. Rydym yn cymryd y camau hyn i amddiffyn a chynnal ein cynefinoedd naturiol a'n hiechyd a'n llesiant.

Rwy'n falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.

18:05

Nid yn aml rydw i'n dweud hyn, ond diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am gyflwyno'ch datganiad heddiw, ac, yn wir, y gwaharddiad hwn. Mae hyn wedi fy anfon yn wallgof dros gyfnod y—. Yn sicr, yn ystod y pum neu saith mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi codi gymaint o weithiau yn y Siambr hon, y mater o weips gwlyb. Mae biliwn ar ddeg o weips gwlyb yn cael eu defnyddio ledled y DU. Yn ôl y sôn, nhw sy'n gyfrifol am 93 y cant o rwystrau yng ngharthffosydd y DU. Mae Dŵr Cymru wedi datgan bod 2,000 o rwystrau yng ngharthffosydd Cymru yn cael eu hachosi bob mis gan weips gwlyb anniraddadwy. Mae'r weips hyn yn parhau i gyfrannu at nifer sylweddol o rwystrau mewn carthffosydd, gan achosi gorlifiadau. Ac, yn uniongyrchol, rydw i wedi gweld lle mae cannoedd o bysgod wedi marw o ganlyniad i'r rhwystrau hyn sydd wedyn yn llygru ein hafonydd.

Mae microblastigau neu nanoblastigau wedi'u darganfod mewn afonydd, pridd, môr, ac maen nhw hyd yn oed wedi cael eu llyncu gan organebau. Nawr, yn 2019, nodwyd bod hanner yr holl bryfed yn Afon Taf yn cynnwys nanoblastigau. Mae Stephen Ormerod wedi dweud y gall dwysedd gronynnau plastig ar wely'r afon fod cymaint â 0.5 miliwn o ronynnau fesul metr sgwâr. Mae hyn i gyd yn frawychus ac yn tynnu sylw at y broblem ddifrifol sydd gennym ni gyda phlastigau.

Rwy'n credu, fel cenedl, bod gennym ni broblem yn gyffredinol gyda weips. Fel plentyn yn fy magwraeth, rwy'n cofio nad oedd y fath beth â weipes gwlyb. Byddai pobl yn defnyddio clwtyn y gellid ei ailddefnyddio, ac roedd yna ffyrdd a oedd—. Ond, eto, yn y dyddiau hynny, roedd cewynnau terry—cewynnau lliain cotwm terry. Ond nawr, mae'n deg dweud bod—. Ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn pan fydd arloesedd yn dod â ffyrdd newydd a haws o gyflawni'r tasgau y mae angen i ni eu gwneud. Yn union fel atal gwellt plastig, fêps tafladwy, rwyf i wedi ymgyrchu ers amser maith—wel, rydyn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymgyrchu ers amser maith—dros y rheoliadau hyn sy'n gwneud weips gwlyb untro sy'n cynnwys plastig yn gynnyrch plastig untro gwaharddedig at ddibenion Deddf 2023. O na byddai'n cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr eleni, ond mae'n rhaid i ni fod yn ddiolchgar am sut yr ydych chi wedi gweithio i gyflawni hyn. Felly, diolch. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet.

Does gyda fi ddim mwy o siaradwyr, ond mae croeso i chi ymateb i'r diolchiadau hynna, Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch, Janet, hefyd.

A gaf i ddweud ychydig eiriau? Yn gyntaf oll, diolch, Janet, ond diolch hefyd, pawb yn y Siambr hon, am y gefnogaeth drawsbleidiol gref sydd wedi bod ar gyfer hyn drwy'r amser. Rydyn wedi creu ychydig o amser i'r gweithgynhyrchwyr gael hyn yn gywir, oherwydd rydyn ni eisiau i weithgynhyrchwyr symud eu cynhyrchu i ffyrdd mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Ond, rydych chi'n gywir—mae'r rhwystrau yn y carthffosydd, y llygredd yn yr afonydd a'r cefnforoedd, yn rhywbeth y mae angen i ni fwrw ymlaen ac ymdrin ag ef.

So, wrth gloi'r ddadl hon, hoffwn i ddiolch i fy nghyd-Aelodau o'r Senedd am gymryd rhan yn y ddadl brief yma heddiw, a diolch iddyn nhw am y pwyntiau ystyriol maen nhw wedi eu gwneud.

Rydyn ni'n gwybod bod tipyn o gefnogaeth gan cyhoedd i'r weithred hon hefyd, ac mae hyn yn gam arall ymlaen yn ein hymdrechion i ymdrin â phlastigau a microblastigau. Diolch yn fawr iawn.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025

Y Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025 sydd nesaf, ac i wneud y cynnig yma ar y rheoliadau hyn yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid, Mark Isherwood—nage, nid Mark Isherwood; Mark Drakeford [Chwerthin.]

Cynnig NDM8927 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd—dwi'n meddwl.

Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025. Daeth Deddf Caffael 2023 i rym ar 24 Chwefror eleni, gan newid sut mae caffael cyhoeddus yn gweithio ledled Cymru. Mae'r Ddeddf yn helpu i sicrhau bod pob punt yn mynd ymhellach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau.

Mae'r rheoliadau o flaen y Senedd y prynhawn yma'n rhoi proses glir i awdurdodau contractio Cymru benderfynu a yw contract wedi'i eithrio o'r Ddeddf gaffael. Trwy gynnig diffiniadau manwl a dulliau cyfrifo, mae'r rheoliadau hyn yn gwella dealltwriaeth, cysondeb a defnyddio adnoddau'n effeithlon. Bydd y rheoliadau hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 i ymdrin â'r sylwadau a ddaeth gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Reoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025. Wrth gwrs, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau hyn yn barhaus. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau gerbron y Senedd heddiw.

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 12 Mai. Wedi hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru ymateb i'r pwyllgor i'w adroddiad, a gafodd ei ystyried ar 2 Mehefin.

Roedd adroddiad y pwyllgor yn cynnwys wyth pwynt technegol. Mae dau o'r pwyntiau hyn yn nodi anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a Saesneg, ac nid dyma'r tro cyntaf i mi godi a dweud hynny am ddeddfwriaeth, felly a gaf i annog Llywodraeth Cymru i geisio sicrhau bod cysondeb rhwng y Saesneg a'r Gymraeg? Mae un yn nodi drafftio diffygiol posibl ac mae'r pum pwynt sy'n weddill yn tynnu sylw at faterion y mae'r pwyllgor yn ystyried bod angen esboniad pellach arnyn nhw. O ran pwynt adrodd 3 a drafftio diffygiol posibl, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi cyfeiriadau anghywir at 'is-baragraffau' pan ydyn ni'n credu y dylai'r cyfeiriad fod at 'paragraffau'. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod y gwall hwn eisoes yn digwydd yn rheoliadau 2024. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â'n dehongliad o'i 'Drafftio deddfau i Gymru: canllaw', ac er ei bod yn cydnabod rhinweddau'r pwynt technegol sydd wedi'i godi, dywedodd wrth y pwyllgor nad yw'n bwriadu gwneud unrhyw welliannau.

Mae pwynt adrodd 4 yn nodi'r cyntaf o ddau le lle nododd y pwyllgor anghysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn rheoliad 3(4) yn y diffiniad o 'reorganisation', mae anghysondeb yn yr ymadrodd sy'n cael ei ddefnyddio yn y testun Cymraeg, sy'n cyfleu ystyr yr ymadrodd 'other than a minimal or incidental change'. Mae'r mater cyfwerthedd iaith arall wedi'i nodi ym mhwynt adrodd 8. Unwaith eto, yn rheoliad 3(4), yn y testun Saesneg, mae'n ymddangos bod 'of the preparation' wedi cael ei ailadrodd ar gam ddwywaith yn y frawddeg. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r pwyllgor ar y ddau fater ac yn bwriadu cywiro'r camgymeriadau cyn i'r rheoliadau gael eu cyflwyno, pe bai'r Senedd yn eu cymeradwyo y prynhawn yma.

Yn olaf, byddaf i'n ymdrin â phwynt adrodd 1 yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, sy'n nodi mater y mae'r pwyllgor yn ystyried bod angen esboniad pellach. Unwaith eto, yn rheoliad 3(4), yn rheoliadau newydd 45E(9) a 45F(9), mae'r term 'dyddiad dyfarnu contract' gyda'r un ystyr ar gyfer y ddau reoliad hwnnw. Fodd bynnag, mae'r un term eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn sawl man yn rheoliadau 2024. Gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru egluro a oes gan y term 'dyddiad dyfarnu contract' yr un ystyr yn y rheoliadau presennol â'r diffiniad sydd wedi'i roi ar gyfer y rheoliadau newydd. Mae'r pwyllgor yn pryderu y gallai'r diffyg eglurder arwain rhai pobl i ystyried bod ystyr 'dyddiad dyfarnu contract' yn wahanol ar draws y rheoliadau presennol 2024 a'r rheoliadau newydd hynny. Mewn ymateb i'r pwynt hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor nad yw'n cytuno bod unrhyw amwysedd, fodd bynnag, y bydd yn ceisio gwneud gwelliant yn y set o reoliadau yn y dyfodol yn gynnar yn 2026 i egluro'r diffiniad. Diolch.

Wel, Llywydd, fel y dywedais i, rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am y ffordd ofalus y maen nhw wedi craffu ar y rheoliadau. Rhoddodd Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd y Cadeirydd, ymateb manwl. Mae yna nifer o leoedd lle'r oedden ni'n gallu cynnig newidiadau i ymdrin â phwyntiau a chafodd eu gwneud gan y pwyllgor. Mewn mannau eraill—barn y pwyllgor o'r gwahaniaeth rhwng 'is-baragraff' a 'paragraff', er enghraifft—nid oedden ni'n teimlo bod angen newid i'r rheoliadau'r yn sgil y pwyntiau hynny, ond rwy'n ddiolchgar am y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. A lle'r ydyn ni wedi'i nodi y byddwn ni'n gwneud cywiriadau i sicrhau bod y testunau Cymraeg a Saesneg yn gwbl gyson â'i gilydd, byddwn ni'n gwneud hynny, yn union fel y mae'r rheoliadau hyn yn ymateb i bwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud o ran reoliadau cynharach a gafodd eu gosod gerbron y Senedd.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, does yna ddim gwrthwynebiad a does dim angen pleidlais. Mae'r rheoliadau yna wedi'u cymeradwyo. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:15.