Y Cyfarfod Llawn
Plenary
06/05/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62641

Diolch yn fawr. Mae 'Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach' yn nodi pedwar maes blaenoriaeth cenedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys pontio cyfiawn a ffyniant gwyrdd; platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant; partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'r economi bob dydd; a buddsoddi ar gyfer twf.
Prif Weinidog, mae datblygu seilwaith yn hanfodol i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro ac, fel yr ydych chi'n gwybod, ceir problem hirsefydlog o ran y rhwydwaith ffyrdd yn nhref isaf Abergwaun. Mae'r system ffyrdd bresennol yn golygu bod yn rhaid i gerddwyr ddefnyddio'r un bont â cherbydau o bob maint, ac mae adroddiadau rheolaidd o dagfeydd difrifol gan fod rhai cerbydau nwyddau trwm yn anwybyddu'r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Nid yw dim o hyn o gymorth i'r gymuned leol nac, yn wir, i'r economi leol, a chan fod hyn ar wahân i wleidyddiaeth bleidiol, rwyf i a Ben Lake, AS Ceredigion Preseli, wedi gweithio gyda chyngor y dref, ac wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd atoch chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ym mis Mawrth, yn gofyn am ymyrraeth ar ôl blynyddoedd o'r broblem hon yn effeithio ar yr ardal. Nid ydym wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw eto, er bod fy swyddfa wedi bod ar ei drywydd, ac felly efallai y gallech chi ddweud wrthym ni nawr a fyddech chi ac, yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ymweld â'r safle drosoch eich hunain, a chyfarfod â mi, Ben Lake a chyngor y dref fel y gallwn ddatrys y broblem hon unwaith ac am byth.

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi yn llygad eich lle—mae seilwaith ffyrdd yn bwysig iawn, yn enwedig yn sir Benfro, ac roedd yn fraint mawr i mi ddydd Gwener gallu agor ffordd yr A40 rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross. Ac mae'n rhyddhad mawr, mae'n rhaid i mi ddweud, gan fy mod i'n teithio ar y ffordd honno bob un wythnos, ac mae wedi cymryd pedair blynedd, ac nid oes dim o'r bolardiau hynny i'w gweld mwyach, sy'n rhyddhad mawr i mi ac i unrhyw un arall sy'n defnyddio'r ffordd honno. Bydd hynny'n helpu twristiaeth a bydd yn helpu'r economi. Ond rydych chi yn llygad eich lle—mae yna ffyrdd eraill y mae angen i ni edrych arnyn nhw a chanolbwyntio arnyn nhw. Mae'r cynllun yn Abergwaun isaf yn anodd, fel yr ydych chi'n gwybod. Mae'n anodd iawn, iawn, ac rydych chi'n gwbl gywir bod angen i ni atal y cerbydau nwyddau trwm rhag defnyddio'r llwybr penodol hwnnw, ond ceir llawer o wahanol alwadau o ran y rhwydwaith ffyrdd. Byddwch hefyd yn ymwybodol bod Niwgwl o dan fygythiad gan newid hinsawdd i bob pwrpas, a bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd am hynny.
Felly, mae angen i ni edrych ar beth yw'r blaenoriaethau. Diolch byth, cafodd yr A40 ei helpu gan £40 miliwn o fuddsoddiad Ewropeaidd. Wel, diolch i bobl a bleidleisiodd dros Brexit, nid yw mynediad at y math hwnnw o gyllid ariannol ar gael i ni mwyach, sy'n golygu, lle efallai y byddai arian wedi bod gennym ni ar gyfer seilwaith yn flaenorol, ni fydd gennym ni nawr. Ond fe wnaf i holi'r Ysgrifennydd trafnidiaeth pam nad ydych chi wedi cael ateb i'r llythyr penodol a anfonwyd gennych chi am Abergwaun.
2. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau diweddar o ran ystâd dadfeiliedig Ysbyty Athrofaol Cymru? OQ62647

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd yn gyfrifol am gyflwr ei ystâd ei hun. Mae’r bwrdd iechyd yn gallu cyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf ar gyfer y blaenoriaethau sydd wedi’u hasesu ganddo. Yna, bydd y rhain yn cael eu hystyried yn erbyn cynlluniau eraill ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Diolch, Brif Weinidog. Dwi’n siŵr eich bod chi wedi darllen yr adroddiadau diweddar am gyflwr ysbyty'r Heath, neu'r Mynydd Bychan, fel mae’n cael ei alw yn lleol. Dwi’n cofio cerdded y coridorau gyda fy ngwraig beichiog ddwy flynedd yn ôl, wrth geisio ysgogi ein merch ni i ddod yn oriau mân y bore, a synnu pa mor wael oedd cyflwr y coridorau a chyflwr yr ysbyty. Nawr, yn ôl yng Ngorffennaf 2021, fe wnaeth y bwrdd iechyd ysgrifennu adroddiad yn sôn am nifer o broblemau yn yr ysbyty, ac argymell bryd hynny fod angen ysbyty newydd. Yr amcangyfrif bryd hynny oedd y byddai'r ysbyty newydd yn costio £107 miliwn, a chynigiwyd y byddai'r gwaith yn gallu cael ei ddechrau yn 2025 a'i orffen erbyn 2028. Yn amlwg, dyw hynny heb ddigwydd. Brif Weinidog, dwi wedi gwrando ar beth ddywedoch chi gynnau, mai'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol, ond beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru? Pa arweiniad y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r bwrdd iechyd ynglŷn ag Ysbyty'r Mynydd Bychan? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Rŷn ni'n ymwybodol iawn fod tua 61 y cant o ystâd y byrddau iechyd yng Nghymru wedi ei adeiladu cyn 1995. Dwi'n gwybod bod yr ysbyty yn yr Heath dros 50 mlwydd oed. Wrth gwrs, maen nhw eisoes wedi gwneud lot o newidiadau, yn cynnwys newid electrical infrastructure, mortuary refurbishment. Ond mae yna bethau eraill y mae'n rhaid i ni fel Llywodraeth eu hystyried—y ffaith ein bod ni'n buddsoddi, er enghraifft, trwy raglen y model buddsoddi cydfuddiannol, £350 miliwn mewn canolfan canser newydd yn Felindre. Mae lot o arian yn mynd yn fanna. Yn amlwg, mae'r pot wedi ei gyfyngu, ond beth sy'n dda yw ein bod ni wedi gweld lot mwy o arian cyfalaf wedi dod o ganlyniad i'r ffaith bod gyda ni nawr Lywodraeth yn San Steffan sydd eisiau buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Nid hynny oedd yr achos am flynyddoedd lawer.
Prif Weinidog, fe allwch chi fod â'r adeiladau gorau yn y byd—ac rydym ni'n deall, yn amlwg, bod adeiladwaith Ysbyty Athrofaol Cymru yn edrych yn flinedig o ystyried ei statws 50 mlwydd oed, ond gellir disodli'r adeiladau hynny—ond yr hyn sydd ei angen y tu mewn i'r adeiladau hynny yw llywodraethu da a hyder, pan fydd pobl yn mynd i'r ysbyty, y byddan nhw'n cael y driniaeth a'r parch y maen nhw'n ei haeddu. Mae'r bwrdd iechyd newydd lunio adroddiad ar bresenoldeb pobl amhriodol yn yr ystafelloedd llawdriniaeth. Cyflwynwyd yr adroddiad hwnnw i'r bwrdd iechyd ddiwedd mis Ebrill. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio dylanwad Llywodraeth Cymru i wneud canfyddiadau'r adroddiad hwnnw ar gael cyn gynted â phosibl ac, yn anad dim, i weithredu ar sail unrhyw un o'r argymhellion, oherwydd nid oes lleoliad lle mae rhywun yn fwy agored i niwed na chlaf mewn ystafell lawdriniaeth ac yna'n cael pobl yn edrych arno ac yn ei archwilio, a phobl yn y lle hwnnw na ddylai fod yn y lle hwnnw?

Diolch yn fawr. Rydych chi'n gwbl gywir—mae adeiladau dros 50 oed yn flinedig, ac felly hefyd gwleidyddion dros 50 oed. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn—[Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cymryd y materion hyn o ddifrif. Os oes pobl amhriodol yn ein hystafelloedd llawdriniaeth, yna wrth gwrs mae'n rhaid i ni gymryd hynny o ddifrif. Bydd yr adroddiad hwnnw yn cael ei ystyried, bydd yn cael ei gymryd o ddifrif. Rwy'n falch iawn o weld y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan ein meddygon, ac mae hynny i'w weld ar y rhaglen Saving Lives in Cardiff. Rwy'n credu bod honno wedi bod yn rhaglen wych, sy'n tynnu sylw at y goreuon ymhlith ein gweithwyr meddygol proffesiynol.
Gaf i ddiolch i Rhys ab Owen am godi'r pwnc eithriadol bwysig hwn? Dwi eisiau cael cadarnhad eich bod chi wedi gweld yr adroddiadau mwyaf diweddar, yn arbennig yr hyn a rannwyd gan Will Hayward. Os caf i ddyfynnu, mi oedd o'n dweud,
'O ganol mis Mawrth tan 7 Ebrill, cyflwynodd Ysbyty Athrofaol Cymru bolisi ymwelwyr newydd oherwydd achosion o norofeirws. Bu sawl cyfres arall o achosion hefyd. Mae'r rhain yn lladd pobl, ac mae staff yr ysbyty wedi dweud wrthyf ei bod hi'n anochel bod yr amgylchedd ffisegol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ffactor sy'n cyfrannu.'
Gaf i ofyn beth ydy'ch ymateb chi, oherwydd doedd yr ymateb i Rhys ab Owen ddim yn rhoi'r sicrwydd, dwi'n meddwl, y byddem ni'n deisyfu ei weld gan y Llywodraeth hon am ddifrifoldeb y sefyllfa? Hefyd, nid dyma'r unig beth sydd wedi bod yn y wasg. Fe wnaethom ni glywed yr wythnos diwethaf hefyd am ddau achos lle y bu bron i ddau o bobl gael llawdriniaeth heb i'r consent forms iawn fod yn eu lle. Felly, beth sy'n digwydd yn ysbyty mwyaf Cymru, a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am hynny?

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni gymryd y pethau yma o ddifrif. Y ffaith yw bod gyda ni ysbyty sydd dros 50 mlwydd oed. Mae rhai eraill hyd yn oed yn hynach na hynny, ac mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau caled. Y ffaith yw ein bod ni wedi eu helpu nhw gydag electrical infrastructure, ac mae liffts newydd wedi mynd mewn. Ond nhw sy'n gorfod penderfynu beth i'w flaenoriaethu. Mae yn help bod gyda ni y gyllideb gyfalaf ychwanegol yna, ac mae'n bwysig ein bod ni'n edrych i'r dyfodol. Dwi'n gwybod y bydd dyfodol yr Heath yn cael ei weld yng nghyd-destun y pethau eraill sydd angen i ni eu gwneud, ond yn sicr mae eisiau i ni weld system fwy modern. Yr arian yw'r broblem, ynglŷn â sut rydym ni'n gallu gwneud hynny gyda'r arian sydd gyda ni. Ac, wrth gwrs, mae cyfalaf ychwanegol yn help. Mae eisiau i ni gael syniad o beth mae hwnnw'n edrych fel wrth edrych i'r dyfodol.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i ni nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yr wythnos hon, rydym ni'n cael ein hatgoffa o ymdrechion dewr cenhedlaeth adeg y rhyfel, a dalodd bris uchel iawn i sicrhau buddugoliaeth dros ffasgiaeth yn Ewrop, ac nid yn unig hynny, ond i sicrhau'r rhyddid yr ydym ni i gyd yn ei fwynhau yma yng Nghymru heddiw. Ond ceir atgoffâd prudd hefyd na allwn ni gymryd y rhyddid hwn yn ganiataol, oherwydd, wrth gwrs, mae rhyfel yn parhau i daranu yn nwyrain Ewrop oherwydd ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin—gwlad yr ymwelais â hi, ynghyd â nifer o ASau eraill, yn ystod toriad y Pasg, fy ail ymweliad ers dechrau'r rhyfel. Cefais fy nharo pan ymwelais y tro hwn gan faint mae pobl yn Wcráin yn gwerthfawrogi cefnogaeth pobl Cymru a chefnogaeth y Senedd i'w hymdrechion rhyfel. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl Wcráin yn wyneb ymosodiad Rwsia?

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn innau hefyd dalu teyrnged, yr wythnos hon yn arbennig, i'r rhai sydd wedi ymladd dros ein rhyddid, ac yn enwedig y rhai a ymladdodd dros ein rhyddid yn yr ail ryfel byd. Yn amlwg, byddwn yn nodi diwedd y rhyfel hwnnw yn ddiweddarach yr wythnos hon, a byddaf yn gwneud datganiad ynghylch hynny ar ôl hyn.
Wrth gwrs, rydym ni'n sefyll yn un ag Wcráin. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Rwy'n gwybod bod Aelodau yn y Siambr hon sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellir ei ddisgwyl ganddyn nhw, a hoffwn ddiolch i Mick Antoniw ac Alun Davies yn arbennig am eu hymdrechion ar ran pobl Wcráin—cwbl ryfeddol y brwdfrydedd y maen nhw wedi ei gyfrannu at hyn. Ac nid yw drosodd; mae Putin yn creu difrod difrifol i'r wlad honno, ac mae pobl yn dal i farw bob dydd. Rydym ni'n wlad sydd wedi ymrwymo i heddwch—mae gennym ni academi heddwch—ac wrth gwrs rydym ni'n sefyll yn un ag Wcráin.
Rwy'n ddiolchgar i chi am ddweud ein bod ni'n sefyll yn un ag Wcráin, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth bod hynny'n wir. Roeddwn i'n siomedig, fodd bynnag, na wnaethoch chi sôn am y rhan bwysig y mae ein diwydiant amddiffyn yn ei chwarae yma yng Nghymru. Rydym ni'n chwarae rhan allweddol yn y diwydiant amddiffyn yn y Deyrnas Unedig, â dros 160 o gwmnïau yn cyflogi mwy na 20,000 o bobl. Mae arfau, bwledi a chetris, cyflenwadau eraill a thechnolegau newydd o Gymru yn elfen allweddol yn y frwydr dros ryddid yn Wcráin, ac, wrth gwrs, dros ein diogelwch cenedlaethol mewn byd sy'n fwyfwy ansicr. Dyna pam cefais sioc o glywed yn ddiweddar bod Banc Datblygu Cymru yn eithrio busnesau yn y sector amddiffyn rhag gallu gwneud cais am gymorth ariannol. A allwch chi esbonio, Prif Weinidog, pam mae hynny'n wir, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud i gael gwared ar y cyfyngiad ar Fanc Datblygu Cymru rhag gallu buddsoddi yn y cwmnïau amddiffyn y mae angen i ni eu gweld yn llwyddo er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ni ddiogelwch cenedlaethol yma gartref a thramor?

Diolch yn fawr iawn. Darren, rydych chi'n gofyn i mi'n gyson i beidio â gwneud gormod yn rhyngwladol, a nawr rydych chi'n gofyn i mi ganolbwyntio arno. Ond, gwrandewch, rwyf i'n gwbl o ddifrif am ein cyfleoedd o ran y diwydiant amddiffyn. Rwy'n credu bod cwmnïau a busnesau yng Nghymru a all wneud cyfraniad mawr, ac rwy'n credu y bydd y ffaith y bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael cynnydd sylweddol i'w chyllideb bellach yn cynnig cyfle i gwmnïau Cymru. Ond rwy'n hapus i archwilio ymhellach beth yw'r sefyllfa o ran Banc Datblygu Cymru. Rwy'n credu bod cryn dipyn o arian sy'n debygol o ddod o'r Weinyddiaeth Amddiffyn a dweud y gwir. Bydd systemau caffael. Weithiau, mae hynny'n golygu nad yw'n bosibl i chi gael gafael ar gyllid o fwy nag un cyfeiriad.
Rwyf i wedi fy siomi'n fawr gan eich ymateb, Prif Weinidog. Wrth gwrs bod angen i ni fanteisio ar y buddsoddiad cynyddol, a hynny'n gwbl briodol, yn ein hamddiffyniad a'n diogelwch gyda'r cynnydd i gyllid sy'n dod gan Lywodraeth y DU o ran amddiffyn. Dyna'r peth priodol, yn sicr. Ond rwy'n eich holi chi yma am bethau y mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gyfrifol amdanyn nhw. Chi sy'n gyfrifol, drwy'r llythyr cylch gwaith a anfonir at Fanc Datblygu Cymru, am benderfynu sut a ble y mae'r banc hwnnw yn buddsoddi ei arian. Am ryw reswm, mae gennych chi gyfyngiad ar waith ar hyn o bryd sy'n atal y banc rhag gallu buddsoddi mewn cwmnïau amddiffyn. Mae'r rhain yn rhan bwysig o'n heconomi, ond maen nhw hefyd yn bwysig i'n diogelwch cenedlaethol. Felly, gofynnaf i chi eto nid yn unig i edrych ar hyn, ond i gadarnhau heddiw y byddwch chi'n newid y cyfyngiad hwnnw, yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddiddymu, fel y gall ein cwmnïau amddiffyn, sydd angen tyfu, sydd angen ffynnu o safbwynt economi, hefyd wneud hynny o safbwynt diogelwch cenedlaethol, fel ein bod ni'n cael ein cyfran deg o fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn amddiffyn yn y dyfodol.

Rwyf i wedi dweud wrthych chi fy mod i'n hapus i archwilio hyn ymhellach, i gael golwg ar yr hyn sy'n bosibl. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus, gan y gallai cael gafael ar arian drwy un dull penodol olygu na fyddan nhw'n gallu cael gafael ar gontractau caffael gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Hoffwn archwilio hynny ymhellach cyn ymrwymo i hyn.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Adroddwyd yr wythnos diwethaf bod y Prif Weinidog wedi beirniadu ASau Llafur o Gymru am beidio â sefyll yn gadarn dros Gymru. A all hi gadarnhau a wnaeth hi wir eu beirniadu nhw'n uniongyrchol am eu hamwysedd tuag at Gymru?

Mater i ni yw'r hyn sy'n digwydd rhyngof i ac ASau Llafur Cymru. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni wedi canolbwyntio yn y Blaid Lafur ar wrando ar bobl Cymru, ar gyflawni'r blaenoriaethau hynny, ac rydym ni'n gallu gwneud hynny oherwydd bod gennym ni gyllid ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y DU. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud, a'r hyn y byddaf i'n ei wneud, yw gwneud yn siŵr fy mod i'n sefyll yn gadarn dros Gymru ar bob un cyfle. Byddaf yn gwneud hynny. Rwyf i wedi gwneud hynny yn eglur iawn y bore yma. Ni wnaf i gadw'n dawel os byddwn ni'n gweld annhegwch. Ni wnaf i gadw'n dawel os byddwn ni'n credu y bydd materion sy'n niweidio cymunedau Cymru. Mae'n bwysig ein bod ni'n manteisio ar y cyfle hwn i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael ein cyfran deg i bobl Cymru.
Ar y cyfarfod hwnnw gydag ASau Llafur o Gymru, dywedodd y Prif Weinidog hyn:
'mae gennym ni berthynas dda...bydd adegau pan fyddwn ni'n gweld pethau mewn gwahanol oleuni efallai. Mae hynny'n iawn. Mae angen i bawb ymlacio.'
Mae'n ddirmygus, mewn gwirionedd. Mae hi'n ddigynnwrf am ei phlaid ei hun yn gweithredu yn erbyn buddiannau Cymru, am y brad o weithwyr dur a phensiynwyr, HS2, Ystad y Goron, toriadau lles a thoriadau tanwydd y gaeaf, y cynnydd gwrth-fusnes i yswiriant gwladol, cynnydd i yswiriant gwladol y mae'r sector cyhoeddus yn Lloegr, wrth gwrs, wedi cael ei ddigolledu amdano ac mae Cymru yn cael ei tharo â bil o £65 miliwn amdano, gyda llaw. Siawns y dylai'r Blaid Lafur yng Nghymru fod wedi bod yn unfryd yn eu condemniad, ond yn hytrach mae eu harweinydd wedi bod yn gefnogwr o'r ochr waethaf, ac yn dawel o'r ochr orau.
Ceisiodd Rhodri Morgan roi 'dŵr coch clir' rhyngddo ef a Tony Blair. Mae'n ymadrodd y mae'n aml yn cael ei gysylltu ag ef, ond roeddwn i'n newyddiadurwr yn ymdrin â'r araith honno ar y pryd, ac rwy'n gwybod na ddywedodd y geiriau hynny erioed mewn gwirionedd. Fodd bynnag, cynigodd y Prif Weinidog 'ffordd goch Gymru' i ni heddiw. Ond onid y gwahaniaeth rhyngddi hi a Rhodri Morgan yw ei fod ef yn ei olygu ond na wnaeth erioed ei ddweud, tra bod hi wedi ei ddweud ond does neb yn credu ei bod hi'n ei olygu o gwbl?

Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl warthus bod plaid fel eich un chi, a ddylai ddeall sut mae datganoli yn gweithio, a ddylai ddeall mewn gwirionedd ei bod hi'n iawn i ni wneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru, ei bod hi mewn gwirionedd yn gwbl briodol i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ymateb i anghenion y cyhoedd yng Nghymru—. A dyna'r ydym ni'n ei wneud, ac os yw hynny'n wahanol yng Nghymru, yna rwy'n credu y dylem ni ymlacio. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud yr hyn yr ydym ni'n ei gredu sy'n iawn i Gymru ac, wrth gwrs, bydd Keir Starmer yn gwneud yr hyn y mae'n ei gredu sy'n iawn i'r Deyrnas Unedig. Ond byddaf yn sefyll yn gadarn dros Gymru ar bob achlysur, a phan fyddaf yn gweld anghyfiawnder, fel ar gyllid rheilffyrdd, fel ar y ffaith nad ydym ni'n cael digon o arian o ran cael gwared ar domenni glo, fel ar y ffaith nad yw Ystad y Goron yn rhoi digon i ni yng Nghymru, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n nodi sut rydym ni'n wahanol yn wleidyddol. Ond y gwahaniaeth rhyngom ni yw y gallwn ni eistedd mewn ystafell, gallwn ni gael dadl ar hyn a gallwn ni gyflawni. Nawr gadewch i ni weld a allwn ni gyflawni yn ystod y misoedd nesaf.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod hon yn her i Lywodraeth Lafur y DU. Rydym ni yn yr un teulu, ond ceir adegau pan fydd teuluoedd yn dilyn eu trywydd unigryw. Ond rydym ni'n dod yn ôl at ein gilydd gan ein bod ni'n rhannu'r un gwerthoedd—gwerthoedd sy'n siarad â phobl Cymru. Peidiwch ag anghofio, gwerthoedd sydd wedi helpu i sicrhau bod dros 130,000 o bobl yng Nghymru wedi cael cynnydd i'w cyflogau oherwydd y cyflog byw gwirioneddol a'r isafswm cyflog. Ceir manteision o ddifrif i bobl Cymru yr ydym ni wedi eu cael hyd yma gan Lywodraeth Lafur Cymru. A gadewch i ni beidio ag anghofio bod Plaid Cymru a'r Torïaid wedi pleidleisio gyda'i gilydd i rwystro arian sylweddol rhag dod i'n cymunedau, a fyddai wedi ein hatal rhag gallu lleihau'r rhestrau aros hynny.
Fe wnaeth Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn y gyllideb oherwydd ein bod ni'n anghytuno â chyllideb Llafur. Mae mor syml â hynny, a hoffwn pe gallai'r Prif Weinidog ei ddeall. Mae'n sôn am Lafur fel teulu; plaid wleidyddol yw hi. Plaid wleidyddol yw hi, y mae'r Prif Weinidog hon yn gofyn i bobl bleidleisio drosti tra'n cadarnhau eto heddiw ei bod hi'n berffaith hapus i ASau Llafur o Gymru bleidleisio yn erbyn buddiannau Cymru, dro ar ôl tro.
Dywedodd y Prif Weinidog—a mwynhaodd ei ddweud yn y sesiynau hyn, ar sawl achlysur—bod ganddi fwy o ddylanwad ar Keir Starmer nag y bydd gen i fyth. Rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur fy mod i eisiau cael perthynas adeiladol iawn gydag unrhyw Brif Weinidog y DU, ond bydd yn un onest a thryloyw. Y broblem i'r Prif Weinidog yw, pe bai eu partneriaeth mewn grym yn golygu rhywbeth, siawns y dylem ni fod wedi gallu gweld rhywfaint o dystiolaeth o'r dylanwad hwnnw yn cael ei ddefnyddio'n gadarnhaol erbyn hyn, a dydyn ni ddim, wrth gwrs. Mae'r Prif Weinidog bellach yn ceisio rhoi rhyw berfformiad rhaff uchel, gan gydbwyso rhwng cefnogi ac yn ôl pob golwg gwrthwynebu Keir Starmer, sydd ddim hyd yn oed yn gwrando arni.
Beth sy'n newid? Dyna'r cwestiwn. Beth sy'n newid nawr i Gymru o'r Prif Weinidog yn mabwysiadu slogan newydd arall? Nawr ei bod wedi cadarnhau ei bod hi'n aros yn y swydd, mae'n debyg, ym mha faes fyddwn ni'n gweld effaith gyntaf ymarfer cysylltiadau cyhoeddus heddiw, ac erbyn pryd?

Fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn arian yn mynd i'r cymunedau hynny yng Nghymru. Dyna'r ffaith y mae angen i bobl ei chydnabod. Y gwir amdani yw mai'r brif flaenoriaeth i bobl Cymru oedd ceisio lleihau'r rhestrau aros hynny. Oherwydd yr arian ychwanegol hwnnw, maen nhw'n lleihau. Fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid yn erbyn yr arian hwnnw—£4 biliwn yn y fantol oherwydd y ffordd y gwnaethoch chi ymddwyn, gan eich bod chi eisiau gwneud pwynt gwleidyddol yn hytrach na chanolbwyntio ar y bobl yn eich cymunedau.
Rydym ni eisoes wedi cael £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol i goffrau Llywodraeth Cymru. Mae'n bwysig i ni gydnabod hynny. Rydym ni wedi cyflwyno heddiw gyfres lawn o feysydd lle'r ydym ni eisiau gweld partneriaeth mewn grym yn cyflawni mwy. Nid yw hynny'n achosi embaras i mi, nid wyf i'n teimlo cywilydd am hynny, rwy'n sefyll yn gadarn dros fy ngwlad. Bydd gwlad bob amser yn dod yn gyntaf, o flaen y blaid. Dyna'r hyn yr wyf i wedi ei wneud yn eglur heddiw.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyflwyno profion monitro iechyd blynyddol ar gyfer diffoddwyr tân? OQ62667

Rŷn ni wedi gweithio mewn partneriaeth agos â'r gwasanaeth tân ac achub ac undebau i leihau'r risgiau i iechyd diffoddwyr tân. Byddwn ni’n parhau i wneud hyn.
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.
Yn ôl ym mis Chwefror, fe wnaethoch chi nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gofyn i'r prif swyddog meddygol ymchwilio ar frys i fonitro iechyd ataliol ar gyfer diffoddwyr tân. Fodd bynnag, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig diweddar a gyflwynais yn benodol yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y prif swyddog meddygol yn y maes hwn, ni wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw gyfeiriad at y prif swyddog meddygol na dim o'r gwaith ar y mater hwnnw. Felly, a allech chi egluro heddiw a ofynnwyd mewn gwirionedd i'r prif swyddog meddygol ymchwilio i fonitro iechyd blynyddol ar gyfer diffoddwyr tân, ac, os felly, a ddarparwyd unrhyw gyngor neu argymhellion?

Diolch yn fawr iawn, a diolch am eich dyfalbarhad ar y mater pwysig iawn hwn. Mae'n sicr yn sioc gweld y peryglon i ddiffoddwyr tân o ran mathau penodol o ganser, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd hynny o ddifrif. Felly, diolch am hynna.
Rwyf i wedi holi'n benodol beth yw ein sefyllfa o ran y prif swyddog meddygol. Yr hyn sydd wedi digwydd ers i chi ofyn y cwestiwn diwethaf ym mis Chwefror, rwy'n credu oedd hi, yw ein bod ni wedi newid y prif swyddog meddygol. Rydym ni'n aros am y prif swyddog meddygol newydd. Mae newydd ddechrau ei swydd yn ddiweddar. Rydym ni wedi gofyn iddi edrych ar hyn fel mater o flaenoriaeth.
Prif Weinidog, mae ein diffoddwyr tân yn rhoi eu hiechyd yn y fantol yn rheolaidd i ymdrin â bygythiadau i'n hiechyd ni. Y lleiaf y gallwn ni ei wneud yw sicrhau eu bod nhw'n cael eu diogelu rhag niwed y gellir ei atal. Monitro iechyd blynyddol yw'r lleiaf y gallwn ni ei wneud. Mae angen i ni sicrhau hefyd bod ganddyn nhw fynediad llawn at gyfleusterau dihalogi. Rydym ni'n gwybod o waith ymchwil bod diffoddwyr tân yn cael canser ar gyfraddau uwch yn iau na'r boblogaeth gyffredinol. Mae hyn oherwydd eu hamlygiad i halogion wrth ymladd tanau. Fodd bynnag, gall yr amlygiad barhau ymhell ar ôl ymdrin â'r tân. Gall offer halogedig fel menig, dillad a helmedau budr roi diffoddwyr tân mewn perygl o sylweddau gwenwynig. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan ein diffoddwyr tân fynediad at gyfleusterau a gweithdrefnau dihalogi bob amser? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Mae'r ystadegau yn gwbl syfrdanol o ran gweld y risgiau y maen nhw'n eu cymryd. Mae diffoddwyr tân 365 y cant yn fwy tebygol o gael canser o ganlyniad i'w swydd. Mae hwnnw'n ffigur enfawr ac yn amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni ei gymryd o ddifrif, a dyna pam rydym ni'n ei gymryd o ddifrif. Rwy'n gwybod beth sydd wedi digwydd: bu cytundeb rhwng cyflogwyr ac undebau i leihau amlygiad i amgylcheddau llawn mwg. Mae'r holl wasanaethau tân ac achub bellach wedi mabwysiadu arferion gorau wrth ddefnyddio a chynnal a chadw offer anadlu, ond byddwn yn ymchwilio i'r awgrym penodol hwnnw sydd gennych chi i weld a yw hynny'n rhywbeth y dylem ni edrych arno hefyd.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl yr ardoll twristiaeth arfaethedig ar nifer yr ymwelwyr a'r economi dwristiaeth ehangach yng ngogledd Cymru? OQ62666

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y Bil Llety i Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) ar 25 Tachwedd. Cyhoeddwyd yr asesiadau effaith ar gyfer y cynigion ar ein gwefan. Mae memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol ar gael ar dudalennau gwe y Senedd.
Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, rwy'n cynrychioli ardaloedd fel y Rhyl, sydd, o'i gymharu â dyddiau gogoneddus gwyliau glan môr, wedi bod mewn trafferthion yn ystod y degawdau diwethaf, â llawer o weithredwyr busnesau yn dweud wrthyf i am eu problemau presennol o ganlyniad i gynnydd eich Llywodraeth Lafur y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a'r cynnydd cyffredinol i gostau o ganlyniad i bolisïau eich plaid. Ar ben hyn, mae ganddyn nhw bryder uwch ynghylch y dreth dwristiaeth arfaethedig gan eich Llywodraeth, y maen nhw'n ei ddweud, yn eu geiriau eu hunain, fydd yn creu rhwystrau ychwanegol i dwristiaeth ac yn niweidio buddsoddiad, yn rhwystro twf a datblygiad economaidd mewn ardaloedd sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd. Mae angen i ni fod yn cael gwared ar rwystrau i dwristiaeth, nid eu creu, Prif Weinidog. Felly, pa neges uniongyrchol allwch chi ei rhoi i'm hetholwyr y bydd y dreth dwristiaeth hon o fudd i'r cymunedau yr wyf i'n eu cynrychioli yn sir Ddinbych, neu a yw'n achos arall o Lafur yn trethu mwy ac yn cyflawni llai, yn union fel Cyngor Sir Ddinbych o dan arweiniad Llafur?

Mae ardollau ymwelwyr yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus ledled y byd. Dim ond yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, mae Lerpwl hefyd wedi dweud eu bod nhw'n mynd i gyflwyno ardoll ymwelwyr. Nid yw'n anarferol. Y gwir amdani yw, os gofynnwch chi i drigolion, mae mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu tuag at y gost o gynnal a buddsoddi yn y cyrchfannau lle maen nhw'n aros. Rydych chi'n gofyn am y Rhyl; wel, ymwelais â'r Rhyl yn ddiweddar a gallaf ddweud wrthych chi ei fod ar gynnydd. Mae'n edrych yn llawer iawn gwahanol i'r adegau yr wyf i wedi ei weld yn y gorffennol. Mae wedi cael buddsoddiad enfawr gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r awdurdod lleol. Dyna beth mae'r bobl dwristiaeth yn eich ardal chi eisiau ei weld yn fwy na dim—y dref yn edrych yn llawer mwy llewyrchus. Bydd hynny'n denu mwy o bobl, llawer mwy, mewn gwirionedd, na'r pryderon sydd gennych chi ynghylch yr ardoll ymwelwyr.
Fe allai'r arian ychwanegol ddaw o'r ardoll arwain at wella profiadau ymwelwyr, ac felly fod yn hwb i'r economi twristiaeth—er enghraifft, gwella trafnidiaeth a pharcio, mwy o doiledau, mwy o swyddogion ar y traethau ac ati. Felly, dwi'n croesawu'r Bil.
Mae'r Bil yn creu cofrestr o eiddo gwyliau am y tro cyntaf. Gaf i ofyn ichi sicrhau bod y gofrestr yn un sydd yn cynnwys diffiniadau manwl o'r gwahanol fathau o lety gwyliau tymor byr? Er enghraifft, a ydyn nhw'n eiddo sydd yn addas fel tai preswyl tymor hir ai peidio? Dŷn ni angen y data llawn yma er mwyn creu polisïau ym maes tai a thwristiaeth i'r dyfodol.

Diolch yn fawr. Wel, rŷch chi'n eithaf reit. Dwi'n meddwl bod yr ardoll, achos y syniad yw bod yna ring fence ar gyfer clustnodi hynny ar gyfer twristiaeth—. Dwi'n meddwl bydd hwnna yn help. Dwi'n meddwl bod cymunedau lleol yn gweld y pwysau aruthrol sydd mewn rhai llefydd o ganlyniad i'r niferoedd sy'n dod mewn, ac wrth gwrs mae croeso mawr iddyn nhw, ond mae angen inni sicrhau bod y cyfleusterau ar gael iddyn nhw.
Rŷch chi'n gofyn am y cofrestru. Wel, mi fydd proses o registration ar gyfer providers yn dechrau ym mis Hydref 2026, ac fe gawn ni edrych ar faint o fanylder y bydd ei angen yn y broses yna o registration.
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd corfforol? OQ62672

Mae 'Cymru Iachach' yn nodi'r weledigaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyma weledigaeth sy’n cydnabod bod angen inni ddarparu lefel gyfartal o driniaeth, gofal neu gymorth i bobl drwy gydol eu bywydau, boed yn fater iechyd corfforol neu feddyliol.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.
Hoffwn siarad ychydig am anghenion iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae llawer ohonom ni'n gwybod bod eu hanghenion yn llawer iawn mwy na'r boblogaeth yn gyffredinol. Maen nhw bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef anawsterau iechyd meddwl, ac mewn astudiaeth a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2024, dim ond 50 y cant oedd yn gwybod ble i fynd er mwyn cael gafael ar gymorth iechyd meddwl.
Mae rhai ohonom ni ar draws y Siambr hon yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod ni efallai'n edrych ar flaenoriaethu anghenion iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal trwy Fil newydd ar gyfer Senedd Cymru—Bil pob plentyn—sy'n sicrhau bod pobl ifanc sydd o'r cefndir hwnnw, ac rydym ni'n gwybod bod llawer ohonyn nhw wedi cael trasiedïau yn eu bywydau a magwraeth ofnadwy o gamdriniol sy'n golygu bod eu hanghenion iechyd meddwl yn llawer mwy na'n rhai ni yn y Siambr hon a phlant ledled Cymru—. Felly, a gaf i ofyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal fynediad â blaenoriaeth at wasanaethau iechyd meddwl? Diolch yn fawr iawn.

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol newydd, a lansiwyd dim ond yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog, Sarah Murphy, yn ategu'r strategaeth genedlaethol ar ymarfer amlasiantaethol ar gyfer plant. Mae hyn yn rhywbeth y mae pobl yn sylweddoli'n bendant bod yn rhaid iddo fod yn flaenoriaeth. Ac rydym ni wedi diweddaru ein canllawiau amseroedd aros yn ddiweddar i sicrhau nad yw plant sy'n derbyn gofal o dan anfantais os byddan nhw'n symud rhwng ardaloedd bwrdd iechyd tra eu bod nhw ar restr aros am driniaeth. Mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae rhai ohonyn nhw'n symud o gwmpas, ac, fel rydych chi'n dweud, mae'r rhain yn blant agored iawn i niwed sydd angen y cymorth iechyd meddwl hwnnw.
Bydd uwchgynhadledd profiad o ofal arall ar 10 Mai. Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon yn hollol o ddifrif o ran plant sy'n derbyn gofal. Bydd pum Gweinidog y Llywodraeth yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw, felly rydym ni'n cymryd hyn o ddifrif, a byddwn yn sicr yn gwneud yn siŵr bod iechyd meddwl yn faes sy'n cael ei archwilio gyda nhw, ac yn sicr mae angen i ni wneud yn siŵr bod ganddyn nhw fynediad mewn ffordd sy'n deall bod ganddyn nhw anghenion penodol.
Prif Weinidog, rydym ni'n aml yn clywed ymrwymiadau i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol—cyfeirir ato yn y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol newydd—ond yn ymarferol, rydym ni'n dal i weld yr anghydraddoldebau sylweddol hynny ar draws y system. Mae amseroedd aros am gymorth iechyd meddwl yn aml yn llawer hwy nag ar gyfer triniaethau corfforol ac mae ymyrraeth gynnar hefyd yn brin o adnoddau, ac mae llawer o ardaloedd yn dal heb gymorth iechyd meddwl lleol hygyrch. Felly, yr hyn yr ydym ni angen ei glywed gennych chi yw pa gamau pendant—pendant—y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau'n benodol y cydraddoldeb parch rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol. Yr hyn nad ydym ni angen ei weld yw mwy o ddogfennau polisi sgleiniog neu fwy o bwyllgorau yn cael eu sefydlu i edrych ar y pethau hyn. Yr hyn yr ydym ni angen ei weld yw cyflawni gwirioneddol ar lawr gwlad, helpu pobl yn eu cymunedau, oherwydd nid wyf i'n credu y dylai fod yn rhaid i unrhyw un aros i gael diagnosis o'u cyflwr neu gymorth dim ond oherwydd na allwch chi ei weld. A hoffwn weld yr hyn a ddywedais: camau pendant yr ydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb rhwng y ddau fater.

Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn faes yr ydym ni'n ei gymryd o ddifrif iawn. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyhoeddi cynllun newydd wedi'i ddiweddaru, strategaeth newydd, a bod rhaglen gyflawni sy'n rhedeg ochr yn ochr ag ef yn dangos pa mor o ddifrif yr ydym ni'n cymryd hyn, a'r ffaith bod gennym ni'r gwasanaeth '111 pwyso 2' yng Nghymru, nad yw'n bodoli mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, mae gennym ni ffordd bell i fynd, ond rwyf i wir yn credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cydnabod, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi cymryd rhai camau breision eisoes o ran iechyd meddwl. Felly, pan edrychwch chi ar y ffigurau ar gyfer y rhai dan 18 oed, mae 92 y cant ohonyn nhw'n cael eu gweld o fewn 28 diwrnod, ac o ran o asesiad i ymyrraeth, i'r rhai hŷn na 18 oed, mae gan 92 y cant ohonyn nhw ymyrraeth wirioneddol o fewn 28 diwrnod.
Felly, mae hyn yn gynnydd enfawr o'i gymharu â lle'r oeddem ni, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu hynny. Roedd cyfnod ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd yn rhaid i bobl aros am flynyddoedd i gael y cymorth. Nid yw hynny'n wir mwyach. Mae pethau wedi gwella'n ddramatig. Mae gennym ni bob amser fwy o waith i'w wneud, ond rwyf i wir yn credu ein bod ni wedi dechrau newid y sefyllfa o ran y mater pwysig hwn sydd wir yn effeithio ar nifer enfawr o bobl yng Nghymru.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r argyfwng natur? OQ62670

Mae diwrnod bioamrywiaeth y Senedd heddiw yn dathlu sut mae cydweithio â rhanddeiliaid yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur ac mae'n ganolog i adeiladu Cymru wyrddach, decach a mwy gwydn. Trwy fuddsoddi mewn mentrau fel Rhwydweithiau Natur, partneriaethau fel y tasglu peillwyr a thargedau bioamrywiaeth, rydym ni'n ysgogi newid cadarnhaol i fyd natur a phobl gyda'n gilydd.
Diolch am eich ymateb. Roedd yn wych cael yr ail ddiwrnod bioamrywiaeth blynyddol yn y Senedd, â thua 25 o sefydliadau yn dod bresennol—maen nhw'n gwneud gwaith gwych i ddiogelu ein hamgylchedd. Wrth i natur ddod yn fyw o'n cwmpas ac y gallwn glywed côr y bore bach a gweld y blodau gwyllt, mae weithiau'n anodd credu ein bod ni'n wynebu argyfwng natur mewn gwirionedd, ag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Rwy'n cofio amser pan oedd digonedd o loÿnnod byw, a faint o bryfed oedd wedi'u gwasgu ar y sgrin wynt neu wedi glynu at eich corff pan oeddech chi'n beicio ar y lonydd—. Ond mae hynny wedi newid. Mae chwe deg y cant o bryfed hedfan wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf; mae hynny'n enfawr, onid yw? A faint o adar gardd nad ydyn o gwmpas mwyach hefyd—. Mae'n digwydd yn raddol, a dydyn ni ddim yn sylwi arno. Rydym ni'n anwybyddu'r dirywiad hwn ar berygl i ni ein hunain.
Felly, Prif Weinidog, rwy'n pryderu ar hyn o bryd am y rhethreg sy'n peri pryder gan y rhai sy'n gwadu'r argyfwng hinsawdd yma ac yn rhyngwladol. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn heddiw i ddatgan yn eglur bod y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng natur drosom ni ein hunain, i'n cenedlaethau i ddod yn y dyfodol ac ar gyfer natur? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn, a diolch am eich arweinyddiaeth ar y mater hwn. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Bydd ein plant yn ein dwyn i gyfrif ar hyn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ei gymryd o ddifrif iawn. Rydym ni'n gwrthod yn llwyr unrhyw rethreg sy'n gwadu natur frys yr argyfyngau hinsawdd a natur, boed yma neu'n rhyngwladol, a dyna pam rydym ni'n ymgorffori brys yn ein polisïau. Mae gennym ni rywfaint o ddeddfwriaeth eisoes. Mae gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gennym ni Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac, wrth gwrs, mae gennym ni Fil yr amgylchedd bellach, a fydd yn cael ei gyflwyno cyn toriad yr haf, ac mae hwnnw'n mynd i ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru a sefydlu fframwaith gosod targedau ar gyfer bioamrywiaeth.
7. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyflymu’r broses o uwchraddio a gwella cartrefi? OQ62665

Rŷn ni’n helpu i hyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr y sector adeiladu drwy ariannu nifer o raglenni gwahanol. Diolch i'r buddsoddiad yma a'r buddsoddiad yn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, rŷn ni wedi ariannu gwaith ôl-osod ar 13,000 o gartrefi cymdeithasol ledled Cymru. Mae’r gwaith yma’n helpu cartrefi i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon.
Dŷn ni'n wynebu her anferth i uwchraddio 1.4 miliwn o gartrefi. Roeddech chi'n sôn am 13,000; mae 1.4 miliwn o gartrefi angen eu huwchraddio i gyflawni targedau sero net a thaclo tlodi tanwydd yma yng Nghymru. Mi fyddwch chi'n ymwybodol o'r ymgyrch hir yn Arfon i adfer gwaith diffygiol wnaed dan gynllun Arbed eich Llywodraeth chi. Rŵan, mae yna lawer o wersi i'w dysgu o'r profiad yma, gan gynnwys yr angen i greu gweithlu lleol dibynadwy i wneud y gwaith angenrheidiol. Dŷch chi'n sôn am gynlluniau a strategaethau mae eich Llywodraeth chi'n eu cyflwyno, ond faint o dystiolaeth sydd yna ar lawr gwlad fod yna ffocws penodol ar hyfforddi ac uwchsgilio'r gweithwyr a busnesau lleol ar gyfer y gwaith hanfodol yma o uwchraddio a gwella ein cartrefi ni?

Diolch yn fawr. Mae gyda ni'r rhaglen yma, yr optimised retrofit programme, fel roeddwn i'n dweud. Felly, rŷch chi'n iawn, mae hwn yn ddechrau, ond beth sy'n bwysig yw bod gyda ni'r rhaglen, ac roeddech chi'n iawn, mae angen pobl wedyn i neud y gwaith. Dyna pam rŷn ni wedi buddsoddi. Mae gyda ni brentisiaethau, wrth gwrs, ac mae yna dros 2,000 o'r rheini yn y construction sector. Felly, mae'r rhain yn bobl sydd yn gallu helpu i wneud y math o waith sydd angen ei wneud yn eich etholaeth chi o ganlyniad i'r ffaith bod problemau wedi bod i bethau fel y rhaglen. Felly, dwi'n gobeithio bod y prentisiaethau yna yn helpu. Mae 100 y cant o'r cyrsiau hyfforddi hynny yn gallu dod o Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig nodi bod arian ychwanegol wedi mynd i'r further education colleges hefyd, ac mae'r rheini, wrth gwrs, yn hyfforddi pobl.
Prif Weinidog, mae diffyg gweithwyr adeiladu enfawr yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn seiliedig ar ffigurau presennol, mae Cymru angen dros 10,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol i fodloni'r galw hwnnw. Roedd yn gam cadarnhaol iawn, yn fy marn i, cyflwyno TGAU mewn amgylchedd adeiledig i ganolfannau fel colegau ac ysgolion ledled Cymru ei addysgu, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cynyddu cyfranogiad yn y cyrsiau hynny i sicrhau y gallwn ni fodloni'r gofynion hynny yn y dyfodol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oes gan Lywodraeth Cymru ffigurau ar hyn o bryd ar y nifer sy'n astudio ar gyfer y cymhwyster TGAU hwnnw ledled Cymru, os gwelwch yn dda, a pha fesurau y mae'r Llywodraeth hon yn eu rhoi ar waith i sicrhau y gall y nifer sy'n astudio'r pwnc pwysig hwn dyfu mewn gwirionedd. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae'n bwysig ein bod ni'n cael pobl i ddysgu yn y crefftau lle mae angen cymorth arnom ni, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog sgiliau yn sicr yn canolbwyntio ar hynny ac yn deall, yn enwedig o ran y sector adeiladu—. Gadewch i ni beidio ag esgus bod hon yn broblem unigryw i Gymru. Yr hyn sydd gennym ni yma, fodd bynnag, yw cynllun rhannu prentisiaeth, ac mae hyn yn wahanol iawn i'r hyn sydd ar gael mewn lleoedd eraill, gan fod rhai cwmnïau'n amharod, oherwydd natur y contractau y maen nhw'n eu cael, i gymryd prentis. Ond, drwy'r cynllun rhannu prentisiaeth hwn, mae'n golygu bod sefydliad ymbarél sydd bob amser yn gofalu am y prentisiaid. Ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr, a dyna pam rydym ni wedi gallu cyrraedd ein targed—rydym ni ar fin ei gyrraedd erbyn diwedd tymor y Senedd—o 100,000 o brentisiaid y tymor Senedd hwn. Ond, rydych chi'n gwbl gywir, mae angen i ni gychwyn gyda TGAU; mae angen i ni eu cychwyn nhw'n gynnar i wneud yn siŵr bod llwybr iddyn nhw ac y gallwn ni adeiladu'r tai sydd eu hangen ar bobl yn eu cymunedau.
Yn olaf, cwestiwn 8, Mark Isherwood.
8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i bobl sydd â cholled synhwyraidd? OQ62637

Mae sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael i bobl sydd â cholled synhwyraidd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n diwygio ac yn buddsoddi mewn gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn cefnogi byrddau iechyd gyda'u trefniadau o ran cynllunio a chomisiynu. Mae hyn yn hwyluso mynediad da i wasanaethau synhwyraidd o ansawdd uchel i wella canlyniadau pobl gyda chysondeb ledled Cymru.
Diolch. Pan wnes i eich holi chi yn y fan hon ym mis Ionawr ynglŷn â chamau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod canol trefi a mannau cyhoeddus awyr agored yn hygyrch i bobl ddall a rhannol ddall, roeddech chi'n dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn gweithio ar y mater hwn eisoes. Er hynny, gan nodi eich ymateb, ar y pryd, fe anfonodd Cŵn Tywys Cymru e-bost ar ôl hynny yn dweud, 'Yn anaml iawn, yn anffodus, y caiff pobl phobl ddall a phobl ag amhariad ar eu golwg eu hymgynghori ar gynlluniau i greu lleoedd, er gwaethaf disgwyliadau Llywodraeth Cymru a'r gofyniad cyfreithiol i asesiadau effaith ar gydraddoldeb arddangos gwaith ymgysylltu hygyrch ac ystyrlon.'
Yn yr un modd, mae adroddiad diweddaraf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, 'Still ignored: the fight for accessible healthcare' wedi canfod, er gwaethaf cyflwyno safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch dros ddegawd yn ôl, yn 2013, llai nag un ym mhob pump sy'n cytuno bod eu hanghenion o ran gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu diwallu yn fwy aml nawr na degawd yn ôl. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru, o'r diwedd, gyflwyno monitro safonau hygyrchedd Cymru gyfan i bobl â cholled synhwyraidd, gan eu cynnwys nhw yn y broses, ac, os felly, pryd a sut?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ddefnyddio pobl sydd â phrofiad bywyd i helpu i lunio ein polisïau; mae hyn yn rhywbeth y gwn i fod Gweinidogion yn awyddus iawn i'w wneud. Fe wnes i gwrdd yn ddiweddar â grŵp o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a fu'n cynghori ar sut i wneud ein trenau'n fwy rhwydd i'w defnyddio. Felly, mae hyn yn sicr yn digwydd mewn rhai ardaloedd, ac fe fyddaf i'n gofyn i'r Gweinidog perthnasol sicrhau y bydd hynny'n cael ei wneud pan ddaw i ddatblygu canol trefi.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma—Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos yma. Bydd mwy o amser ar gyfer Cyfnod 3 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gennych chi, Gweinidog, yn rhinwedd eich swydd arall yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol? Efallai eich bod chi'n ymwybodol i dwrnamaint agored Pêl-rwyd Ewrop gael ei drefnu i ddigwydd yng Nghaerdydd yr wythnos hon ond, yn anffodus, fe benderfynodd y trefnwyr ganslo'r digwyddiad oherwydd eu bod nhw'n pryderu am ddiogelwch tîm cenedlaethol Israel a oedd i gymryd rhan ynddo.
Nawr, rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon yn cytuno y dylai'r rhai hynny sy'n ymweld â Chymru deimlo eu bod nhw'n ddiogel bob amser tra byddan nhw yma, ac mae'n gwbl annerbyniol bod lleiafrif bach o bobl wedi gweithredu mewn ffordd sydd wedi bygwth diogelwch tîm Israel, i bob pwrpas, pe bydden nhw'n dymuno cymryd rhan. Yn wir, roeddwn i'n arswydo yn llwyr o ddarllen bod hyfforddwr tîm Israel wedi dweud y byddai hi'n teimlo yn fwy diogel pe byddai hi'n chwarae yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, neu yn Israel ei hun, sydd, wrth gwrs, mewn rhyfel gyda Hamas, yn hytrach nag yma yng Nghymru, ar sail diogelwch. Rwy'n credu bod hynny'n bryder, ac fe hoffwn i gael gwybod beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i allu sicrhau y bydd digwyddiadau fel hyn, yr ydym ni'n gweithio'n galed i'w cael nhw i ddod i Gymru, yn gallu cael eu cynnal ar ôl eu trefnu, heb achosi siom i'r cefnogwyr a'r chwaraewyr niferus sy'n gweithio yn galed er mwyn cymryd rhan ynddyn nhw.
Diolch i chi am y cwestiwn yna. Dydw i ddim yn ymwybodol o'r canlyniad na'r trafodaethau a arweiniodd at ganslo'r digwyddiad pêl-droed—pêl-rwyd, mae'n ddrwg gen i—a oedd wedi'i drefnu. Yn amlwg, rydym ni'n awyddus i unrhyw chwaraeon fod yn rhyngwladol—i groesawu timau i Gymru. Yn amlwg, mae yna anhawster arbennig o ran yr hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol, sydd wedi effeithio ar hyn, a does dim amheuaeth ei fod wedi effeithio ar y sefyllfa a gododd.
Trefnydd, dydw i ddim yn siŵr a ydych chi'n ymwybodol ond, ym mis Gorffennaf 2023, fe noddais i ddigwyddiad yn y Pierhead, ac roedd llawer o Aelodau eraill o'r Senedd sydd yma heddiw yn bresennol, pan wnaethom ni groesawu'r Freedom Flotilla Coalition ar ei gorchwyl o hwylio er mwyn plant Gaza a chludo cymorth i Gaza. Rwy'n siŵr, ar y pryd, na allem fod wedi rhagweld yr erchyllterau a fyddai'n dilyn. Ond, yn oriau mân bore Gwener, fe aeth y llong ar dân 14 milltir oddi ar arfordir Malta. Mae'r grŵp yn honni bod hyn o ganlyniad i ymosodiad drôn gan Israel. Mae byddin Israel wedi gwrthod rhoi sylwadau ar yr ymosodiad honedig, ond mae'r ffeithiau'n dal i gael eu sefydlu. Mae'n amlwg bod yr angen am gymorth yn daer iawn yn Gaza. A gaf i ofyn, felly: a wnaiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei llais i gondemnio'r ymosodiad, galw am ddiwedd ar y blocâd, a galw am ymchwiliad i'r digwyddiad hwn hefyd?
Wel, diolch i chi am y cwestiwn hwnnw ac, yn wir, roedd y digwyddiad y gwnaethoch ei gynnal, y gwnaethoch ei noddi, yn un pwysig iawn, yn ôl yn 2023, o ran danfon cymorth i blant Gaza. Ac onid oes angen y cymorth hwnnw ar blant yn Gaza nawr yn daer—yn daer? Ac mae'r diffyg cymorth dyngarol sy'n cyrraedd plant yn Gaza a Gaza yn rhywbeth sy'n annerbyniol i ni, rwy'n gwybod, yma yn y Senedd hon, o ran ein cefnogaeth ni—yn wir, y £100,000 y gwnaethom ni ei roi ar gael i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau. Fe wnes i gyfarfod â'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau wedyn i drafod sut y gellid defnyddio'r cymorth hwnnw. Nawr, wrth gwrs, mae'r cyfan wedi dod i ben, oherwydd fe ddaeth y cadoediad i ben. Felly, rydym ni i gyd, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr hon, a Llywodraeth Cymru, yn gobeithio y bydd trafodaethau yn ailgychwyn, y bydd cadoediad parhaol, a'n bod yn edrych tuag at y plant hynny yn Gaza, i gael y cymorth hwnnw, y cymorth dyngarol hwnnw, iddyn nhw, ac yn gresynu'n gyfan gwbl at yr hyn sy'n digwydd o ran y gwrthdaro hwnnw a'r effaith a gaiff, ar blant a phobl ifanc yn enwedig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Fe hoffwn i ofyn heddiw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae'r cyntaf o ran y newyddion bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi tynnu ei gyllid yn ôl oddi wrth Weithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro. Rwy'n deall bod y cyfnod cytundebol o dair blynedd wedi dod i ben, ac fe gafodd y penderfyniad ei wneud i beidio ag adnewyddu'r ymrwymiad i ariannu, a fydd yn gweld y gwasanaeth yn dod i ben ym mis Medi. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro yn darparu gwasanaeth cwbl hanfodol, gan gefnogi grwpiau gwirfoddol a sefydliadau'r trydydd sector gyda'u darpariaeth iechyd meddwl, ac mae eu gwefan nhw'n cynnig siop un stop. Felly, roeddwn i'n bryderus iawn o glywed am y newyddion hyn, ac yn meddwl tybed beth fyddai ymateb y Llywodraeth.
Yn ail, fe hoffwn i dynnu sylw at becyn cymorth amrywiaeth a chynhwysiant Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod—WEN—a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, rwy'n credu yr oedd hi, i helpu pleidiau gwleidyddol gyda'u dewis o ymgeiswyr yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd. Fe wn i fod y Llywodraeth wedi gweithio yn galed iawn ar gynhyrchu canllawiau i bleidiau gwleidyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau'r Senedd, a meddwl oeddwn i tybed a fyddai'n bosibl hyrwyddo pecyn cymorth WEN, ac y byddai'r ddau faes hyn o bolisi yn cydweithio.
Diolch yn fawr, Julie Morgan, am y—
—cwestiynau pwysig iawn.
Fe wnes i ddod yn ymwybodol, ac, yn wir, ar y penwythnos fe gafwyd rhywfaint o gyhoeddusrwydd ynglŷn â cholli cyllid Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro, ac mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant etholaethol yma gan ei fod yn cwmpasu Bro Morgannwg, ac fe gafodd y gwaith rhagorol y mae'r grŵp hwn yn ei wneud am flynyddoedd lawer iawn ei gydnabod gan ein gwasanaethau gwirfoddol lleol ni hefyd. Felly, mae hi'n anffodus dros ben fod y cyllid wedi'i golli. Mae'n bwysig, o ran y bwrdd iechyd, ar yr achlysur hwn, ein bod ni'n ariannu—. Rydym ni'n amlwg yn dyrannu cyllid. Nid ydym ni'n ymgysylltu â sut y maen nhw'n dosbarthu'r cyllid hwnnw, ond rydym ni'n gofyn i'r sefydliadau hynny esbonio sut y gwnaethon nhw reoli a thrin hyn, sut y gwnaethon nhw ymgynghori ac hefyd ystyried effaith colli'r cyllid hwn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o gydnabyddiaeth o golli'r cyllid hwnnw nawr, o ganlyniad i ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac y bydd yn cael ei ystyried.
Rwy'n croesawu lansio'r pecyn cymorth cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal ar 1 Mai gan gynghrair 5050Amrywiol. Mae'r pecyn cymorth yn ategu ein canllawiau ni o ran amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol, a gyhoeddwyd gennym ni ar 31 Mawrth. Wrth gwrs, mae hwnnw ar gael, y pecyn cymorth, i bob plaid ei ddefnyddio ochr yn ochr â chanllawiau Llywodraeth Cymru i lywio eu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant a gwaith sy'n mynd rhagddo. Yn wir, fe fyddaf i'n gwneud datganiad llafar ar ganllawiau amrywiaeth a chynhwysiant maes o law, ond nawr yw'r amser pan fydd y rhai a allai fod â diddordeb mewn dod ymlaen ar draws y pleidiau gwleidyddol i gyd i gynnig eu hunain i gael eu dewis i fod yn ymgeiswyr y pleidiau gwleidyddol y flwyddyn nesaf. Fe fydd y pecyn cymorth hwn yn ddefnyddiol dros ben iddyn nhw. Mae yna syniadau ymarferol iawn am fathau o weithgareddau a gweithredoedd y gall pleidiau gymryd rhan ynddynt i sicrhau bod ymgeiswyr ar gyfer swyddi etholedig yn adlewyrchu cymunedau Cymru. Felly, wrth i ni nesáu at yr etholiad y flwyddyn nesaf, nawr yw'r amser i bob plaid sicrhau bod eu prosesau ar gyfer dewis pobl i fod yn ymgeiswyr ar gyfer ein Senedd ni yng Nghymru yn adlewyrchu Cymru gyfoes ac amrywiol mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn yr oedd y Prif Weinidog yn ei wneud heddiw: Cymru gyfoes ac amrywiol. Mae cyfle gwirioneddol gennym ni nawr, gydag ehangiad y Senedd, diwygio'r Senedd, i ganiatáu i ymgeiswyr mwy amrywiol ddod ymlaen.
A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Lywodraeth Cymru ar fur mawr Clydach yn sir Fynwy? Mae trigolion Cilwern yn gynddeiriog oherwydd y ffens ddur lachar, sgleiniog, 6 troedfedd o uchder, 200m ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a alwyd yn 'fur mawr Clydach'. Fe'i gosodwyd er diogelwch gan y cyngor i atal creigiau rhag cwympo, sy'n ddealladwy, ond mae'r ffens wedi ysgogi gwrthwynebiad cryf y bobl leol oherwydd ei ymddangosiad salw a'r diffyg ymgynghori â'r cyhoedd. Mae rhai trigolion yn galw am ei dynnu i lawr, tra bod eraill yn hapus iddo gael ei baentio yn wyrdd, i adlewyrchu harddwch naturiol yr ardal. Fe fyddai'n wych cael datganiad i wybod am sgyrsiau a gafodd y Llywodraeth gyda'r parc cenedlaethol a Chyngor Sir Fynwy i ganfod ffordd ymlaen ar hyn a fydd yn dderbyniol. Diolch.
Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Diddorol—mur mawr Clydach; dydw i ddim yn credu bod llawer ohonom wedi gweld hwnnw eto. Rwy'n siŵr ei fod wedi cael ei osod yno at ddibenion diogelwch. Bannau Brycheiniog sy'n gyfrifol am y parc cenedlaethol hwn, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy, ac rydych chi wedi mynegi eich pryderon ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymgysylltu â'r ddau awdurdod hynny ynglŷn â'r mater hwn.
Rwyf i am alw am ddadl gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda, ar bwysigrwydd llyfrgelloedd yn ein cymunedau. Ar draws bwrdeistref Caerffili, mae 10 llyfrgell sydd mewn perygl o'u cau. Mae safleoedd yn Nelson, Llanbradach, Bedwas, Abertridwr a Machen, Deri, Pengam, Aberbargoed, Abercarn ac Oakdale i gyd yn wynebu cael eu cau. Mae trigolion sy'n dibynnu ar y llyfrgelloedd hyn yn aros ar bigau'r drain am ganlyniadau ymgynghoriad y cyngor. Roedd y mwyafrif llethol o'r ymatebion yn erfyn ar y cyngor i gadw'r safleoedd hyn ar agor, oherwydd mae llyfrgelloedd yn fwy nag adeiladau yn unig. Maen nhw'n ganolfannau cymorth i bobl agored i niwed, yn gonglfeini ein cymuned, ac yn drysorau cudd i blant. Pa mor gibddall fyddai cau'r mannau hyn sy'n cynnig cysur a rhyfeddod. Nawr, mae gan Lywodraethau ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau llyfrgell. Mewn cyfnod o gyni, yn sicr mae'n rhaid rhoi mwy o gefnogaeth i gynghorau i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cadw yn agored. Mae canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn prysur agosáu, felly a gawn ni ddadl frys i geisio achub y llyfrgelloedd hyn a'u cadw nhw'n agored?
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Wel, fe gafodd hyn ei godi yn y Siambr, ac ymgynghoriad yw hwnnw, wrth gwrs, sy'n mynd rhagddo. Ymgynghoriad a gafodd ei ddechrau gan gyngor Caerffili, i edrych ar y pwysau a'r blaenoriaethau o ran yr awdurdod hwnnw, er, yn wir, o ganlyniad i'r gyllideb o £1.6 biliwn—a fydd, wrth gwrs, yn dod drwodd ar gyfer y flwyddyn nesaf—mae llywodraeth leol mewn sefyllfa well.
Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r ymgynghoriad a'r ymatebion gael eu derbyn. Ac fe wyddom ni, ledled Cymru, ac yn sicr yn fy etholaeth i, a llawer o rai eraill, ein bod ni wedi gweld y ffordd y gellir parhau a chynnal llyfrgelloedd ynddi, dan berchnogaeth wahanol efallai o ran cynghorau tref a chymunedol, grwpiau cymunedol lleol. Ac rwy'n siŵr y bydd hynny i'w weld yn y cymysgedd o benderfyniadau anodd y bydd angen eu gwneud o ran dyfodol y llyfrgelloedd hynny.
Ond rydych chi'n hollol iawn: nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd llyfrgelloedd. Maen nhw'n ganolfannau, ac mae llawer o gynghorau wedi defnyddio ein cyllid ni ar gyfer canolfannau clyd i gefnogi eu llyfrgelloedd yn lleoedd i fod, i gael gwybodaeth a chefnogaeth, yn ogystal â gallu benthyca llyfrau, wrth gwrs, sy'n hollbwysig.
Rwy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn y Senedd. Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar delerau ac amodau gwaith staff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithio i asiantaethau annibynnol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe gefais fy synnu o ddarganfod bod gan y llyfrgell genedlaethol ei chynllun pensiwn ei hun ar gyfer 250 o aelodau. A minnau'n aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, rwy'n ymwybodol o'r problemau a geir yn yr amgueddfa genedlaethol, ond fe fyddai rhannu cyflogres, adnoddau dynol a swyddogaethau swyddfa gefn eraill ar gyfer y sefydliadau hyn i gyd yn arbed arian.
Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad gan y Llywodraeth ar erydiad glannau afonydd, sy'n digwydd ar Afon Tawe, ac fe fyddai'n syndod mawr i mi pe nad yw hyn yn digwydd ar afonydd eraill yn ystod cyfnodau o law trwm. Rwyf i, a'm hetholwyr, yn pryderu y byddwn ni'n gweld colli tir a llenwi'r afon â llaid yn nes at y môr.
Diolch yn fawr, Mike Hedges. Ie, roedd hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn o ran y wybodaeth a gawsoch chi'n ôl gan aelodau'r PCS, yn edrych ar un enghraifft o ran y cynllun pensiwn a'r llyfrgell genedlaethol. Wrth gwrs, mae telerau ac amodau staff ar gyfer cyrff hyd braich a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu pennu gan eu trefniadau llywodraethu arbennig nhw, sy'n aml yn hanesyddol o ran eu dechreuad. Ond maen nhw'n cael eu harwain gan ganllawiau 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', a thelerau'r sector cyhoeddus yn fwy eang. Ond mae'n bwysig i'r byrddau fod â ffyrdd o ystyried sut y gallan nhw weithio orau gyda'i gilydd, o ran llywodraethu, o ran rheoli cynlluniau fel cynlluniau pensiwn, sy'n gallu bod o gymorth, nid yn unig wrth gefnogi staff, ond wrth greu arbedion. Ond rydym ni'n adolygu sut y gallwn ddwyn proses fwy eglur at ei gilydd o ran y cyfrifoldebau hynny ar gyfer cyrff hyd braich.
A'r hyn y byddwn i'n ei ddweud o ganlyniad i'ch cwestiwn chi yw ei bod hi mor bwysig, sef ein hymrwymiad ni i bartneriaeth gymdeithasol, ac ymgysylltu â'n hundebau llafur, sef yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl gan y cyrff hynny, wrth gwrs, o ganlyniad i'n hymrwymiad ni i bartneriaeth gymdeithasol a'r ddeddfwriaeth.
O ran eich cwestiwn chi am erydiad glannau Afon Tawe, rydym ni'n ymwybodol o bryderon ynglŷn â llithriadau tir ar lannau'r afon ar hyd cwrs Afon Tawe, yn enwedig ers y stormydd a welsom ni yn ystod y gaeaf sydd wedi bod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod mewn cysylltiad—. Mae cysylltiad wedi bod gyda CNC ynglŷn â deall y materion. Nawr, wrth gwrs, rydych chi'n ymwybodol o'r tirfeddianwyr, tirfeddianwyr y glannau, sy'n berchen ar y tir ar bwys nant afon, ac, wrth gwrs, mae hwnnw'n fater hanesyddol iawn, o ran y gyfraith gyffredin ers blynyddoedd lawer. Felly, yr hyn sy'n bwysig yw bod CNC yn ymgysylltu. Mae wedi cynhyrchu dogfen ar gyfer rhoi canllawiau yn arbennig i dirfeddianwyr. Ac, wrth gwrs, nid yw'r mater o goed wedi cwympo yn gyfyngedig i afon Tawe; mae achosion o'r fath ar lawer o brif afonydd Cymru yn dilyn storm Darragh ym mis Rhagfyr.
Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf i, un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr amseroedd aros cynyddol i gleifion ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae'r cyhoeddiad diweddar y bydd cleifion sy'n cael eu cyfeirio at ysbytai yn Lloegr yn wynebu amseroedd aros hwy yn rhan o ymdrechion i leihau diffygion ariannol yn un pryderus iawn.
Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad ynglŷn â mater yr wyf yn gwybod y bydd pobl eraill yn y Siambr yn ymuno â mi i holi yn ei gylch, ac mae hwnnw o ran camau gan Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU o ran y sefyllfa ofnadwy yn Gaza. Mae pobl yn Gaza, a phlant yn enwedig felly, fel gwyddom ni, yn wynebu brwydr hyd farwolaeth yn llythrennol bob dydd er mwyn cael bwyd. Mae'r blocâd sy'n bodoli gan Lywodraeth Israel yn llwgu pobl i farwolaeth. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod camau gan Lywodraeth y DU a fydd yn pwyso ar y gymuned ryngwladol i sicrhau bod y blocâd yn cael ei godi a gall pobl ddechrau goroesi. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'n bwysig wrth ystyried eich cwestiwn cyntaf chi, o ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac amseroedd aros trawsffiniol, wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—. Fe wnaethom ni ddarparu £5.5 miliwn o gyllid ychwanegol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ogystal â'r dyraniad ariannol craidd, a oedd yn cynnwys y gydnabyddiaeth honno o'r gost ychwanegol i'r bwrdd iechyd o'r sefyllfa o gomisiynu ar gyfer trigolion Powys sy'n cael eu trin yn Lloegr, ar gyfer taro nodau amseroedd aros Cymru. Mae hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru a phartneriaid y GIG yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i'w helpu i wneud y gwelliannau hynny er mwyn cyflawni gwelliannau sy'n gynaliadwy. Wrth gwrs, rydych chi'n ymwybodol o raglen Gwella Gyda'n Gilydd, a lansiwyd ar 28 Ebrill, yn gofyn barn y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol—y bwrdd iechyd yw hwnnw—ac yn edrych ar bob maes o'i wasanaethau yn ei dro. Ac mae'n canolbwyntio, mewn gwirionedd, yn 2025 ar wasanaethau iechyd meddwl oedolion a chymunedol.
Diolch i chi am godi sefyllfa bryderus iawn y gwrthdaro parhaus a'r argyfwng dyngarol yn Gaza unwaith eto, a gafodd ei godi eisoes y prynhawn yma. Wrth gwrs, materion i Lywodraeth y DU yw'r rhai sy'n ymwneud â pholisi tramor, ond edrych tuag allan yr ydym ni'n ei wneud, onid e? Rydym ni'n pryderu, gyda golwg ryngwladol, o ran sut y byddwn ni'n ceisio ymgysylltu a chefnogi, ac rydym ni wedi ymgysylltu a chefnogi, fel y dywedais i'n barod. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hyn, ein bod ni'n ei drafod. Mae llawer iawn o sylw i hyn yn y newyddion ar hyn o bryd o ran yr hyn sy'n digwydd. Ac yn wir, yr anghytundebau o fewn Israel ei hun, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hynny o ran sefyllfa'r gwystlon hefyd a'u teuluoedd. Ac yna'r sefyllfa lle mae'r rhai yn Gaza, nid yn unig o ran y sefyllfa ddyngarol a'r perygl a'r plant a'r teuluoedd hynny sy'n dioddef, ond y drafodaeth wleidyddol nawr hefyd, yr wyf i'n siŵr y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio dylanwadu arni, er mwyn cefnogi'r rhai hynny yn Gaza a Phalestina gyfan, mewn gwirionedd.
Fe hoffwn i godi datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynglŷn â'r defnydd parhaus o dynnu cilddannedd blaen pobl ifanc yn eu harddegau sy'n derbyn triniaeth orthodontig ar y GIG yma yng Nghymru fel mater o drefn. Mae gwahaniaeth barn yn dal i fodoli ymhlith orthodontyddion ynglŷn â'r mater hwn, ond mae tystiolaeth fwy diweddar gan orthodontyddion blaenllaw, fel yr adroddwyd yn The Times, wedi codi pryderon difrifol am yr arfer hirsefydlog hwn. Rwyf wedi cwrdd ag etholwyr sy'n credu bod eu bywydau wedi cael eu heffeithio'n sylweddol ar ôl cael y driniaeth hon yn eu harddegau. Mae llawer o glinigwyr yn dadlau erbyn hyn y gall tynnu cilddanedd blaen iach, a wneir yn aml ar gyfer gwneud lle i ddannedd eraill, achosi niwed yn yr hirdymor. Fe all y niweidiau hyn gynnwys culhau llwybrau anadlu a pherygl mawr hyd yn oed o ddatblygu apnoea cwsg yn ddiweddarach mewn bywyd, gyda rhai arbenigwyr yn dadlau dros ddulliau nad ydyn nhw'n cynnwys tynnu dannedd ond sy'n defnyddio technegau i ehangu'r genau, sy'n cynnal strwythur yr wyneb ac yn cefnogi iechyd hirdymor y genau.
Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu a yw Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r dystiolaeth glinigol sy'n ymwneud â'r arfer hwn, a pha gamau, os oes rhai, sy'n cael eu cymryd i ddiweddaru protocolau orthodonteg y GIG yng ngoleuni'r arfer gorau cyfredol? Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth Davies. Wel, mae hwn, fel rydych chi'n dweud, yn fater clinigol i raddau helaeth iawn ac yn amlwg fe geir safbwyntiau ac arferion amrywiol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi clywed eich cwestiwn chi a'ch sylwadau ynglŷn â hyn heddiw, ond mae'n bwysig ei fod yn cael ein sylw ni oherwydd y pryderon am yr effeithiau y gall ymarfer clinigol ei achosi, yn enwedig ar bobl ifanc a'r glasoed.
Fe hoffwn gael datganiad gan y Prif Weinidog i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar y newyddion bod Gweinidogion Israel wedi cymeradwyo cynllun i feddiannu Gaza gyfan am gyfnod amhenodol ac yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i derfynu gwerthu arfau o unrhyw fath i Israel a chydnabod gwladwriaeth Palestina.
Nid yw polisi tramor wedi'i ddatganoli, fel roeddech chi'n sôn, ond rydych chi wedi cael tri chwestiwn ynglŷn â'r mater hwn heddiw. Ac fel tynnwyd sylw Gweinidogion Cymru ato eisoes gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae gan Gymru gyfrifoldeb i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, dangos arweinyddiaeth ar y mater hwn, ac eirioli dros derfynu gwerthu arfau. Fe fyddai'r cynllun anghyfreithlon hwn, yng ngeiriau'r Cenhedloedd Unedig, yn arwain yn anochel at farwolaeth a dioddefaint sifiliaid yn Gaza a rhagor o ddinistr yn Gaza.
Unwaith eto, mae Prif Weinidog Cymru wedi aros yn dawedog tra bod arweinwyr cenedlaethol eraill wedi siarad allan. Mae Prif Weinidog yr Alban, John Swinney, yn un o'r rhai sydd wedi dweud na ddylai Gaza fod yn cael ei meddiannu yn anghyfreithlon ac mae ef wedi galw am gydnabod gwladwriaeth Palestina. Mae'r DEC wedi dweud bod yr argyfwng dyngarol yn Gaza yn gwaethygu bob dydd. Rydych chi newydd gyfeirio at hynny. Ac mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi cefnogi'r ymdrechion hynny'n ariannol. Felly, fe hoffwn i gael gwybod pa sgyrsiau sydd wedi cael eu cynnal gyda'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn y DU i atal y gwaethygiad hwn o sefyllfa sydd eisoes yn enbyd, oherwydd mae hyn yn galw am embargo arfau llawn.
Diolch yn fawr, Sioned. Ac eto, fel y dywedais i, fe gafodd hyn ei godi'r prynhawn yma, ac yn wir fe wn i y byddai'r Prif Weinidog wedi ymateb pe byddai hyn wedi cael ei godi gyda hi yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Mae hi'n cydnabod y dioddefaint yn rheolaidd ynghyd â'r mater a'r angen am weld diwedd ar yr ymladd i ganiatáu i'r cymorth dyngarol y mae gennym ni ein rhan ynddo yn Llywodraeth Cymru, wrth i ni gyfrannu at y Pwyllgor Argyfyngau Brys.
Mater i Lywodraeth y DU yw hwn, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'r geisio rhoi diwedd ar yr ymladd, i'r datrysiad dwy wladwriaeth hwnnw, ac ymgysylltiad a mynd i'r afael â'r materion o ran gwerthu arfau hefyd, y mae David Lammy wedi gwneud hynny. Felly, mater yw hwn, unwaith eto, yr ydym ni'n edrych tuag allan arno. Rydym ni'n edrych ar rai a welwn ni ledled y byd yn dioddef oherwydd ymladd. Diolch i chi am ei godi unwaith eto. Rydym ni wedi cael cyfle i rannu ein pryderon ni ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n codi hyn ar bob cyfle a gawn ni.
Fe hoffwn i rannu'r pryderon a godwyd gan gyd-Aelodau o ochr arall y Siambr. Mae hyn yn rhywbeth gofidus iawn. Mae etholwyr wedi bod yn dangos lluniau i mi o blant heb gael digon o faeth, sydd â golwg arnyn nhw fel eu bod wedi dod o wersyll-garchar. Mae'n wirioneddol arswydus. Ond nid oes angen i chi ailadrodd y pryderon y gwnaethoch chi eu mynegi eisoes.
Roeddwn i'n dymuno gofyn, wythnos diwethaf, fe ofynnodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddod yn genedl Marmot, sydd yn ymwneud â lleihau anghydraddoldebau, yn enwedig o ran disgwyliad oes iach. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn awyddus i weld diwedd ar yn y cynnydd mewn gordewdra, cyfyngu ar lygredd aer, gwella inswleiddio mewn cartrefi. Meddwl oeddwn i tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i nodi beth fyddai hi'n ei gymryd i ni fabwysiadu'r ymrwymiad hwn i ddod yn genedl Marmot mewn ffordd ymarferol. Rwy'n gwybod bod Gwent wedi mabwysiadu polisi o ddod yn rhanbarth Marmot, ond beth fyddai angen i ni ei wneud er mwyn dod yn genedl Marmot?
Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n gallu cadarnhau bod Cymru yn genedl Marmot. Yr hyn sydd raid i ni ei wneud efallai yw egluro'r hyn y mae hynny'n ei olygu, oherwydd wrth gwrs mae hynny'n cwmpasu pob agwedd ar bolisi. Mae Athro Michael Marmot wedi bod mewn ymgysylltiad llawn â Chymru, ac nid yn unig o ran materion sy'n ymwneud ag iechyd, oherwydd, fel y gwyddoch chi, roedd ef ar y pwyllgor cyfansoddiadol annibynnol dan gadeiryddiaeth Laura McAllister a Rowan Williams. Mae ef wedi dylanwadu ar bolisi, fel rydych chi'n dweud, ac mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn ystyried yr hyn y mae bod yn rhanbarth Marmot yn ei olygu. Roedd ef ar y bwrdd cynghori ar gyfer ein gwaith ni â'r cynllun peilot incwm sylfaenol hefyd. Ac rwy'n siŵr, o ran y gydnabyddiaeth gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o'r cyfle hwn y gall bod yn genedl Marmot ei ddarparu yn hyn o beth, fe allwn ninnau fwrw ymlaen â hyn. Fe fyddaf i'n gwneud datganiad i nodi deng mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac felly fe fyddaf i'n ceisio ymdrin â hyn yn y datganiad hwnnw hefyd, oherwydd mae'n honno'n gydnabyddiaeth gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond mae'n amlwg ei fod yn rhywbeth yr ydym ni—. Rwy'n credu bod hyn yn dychwelyd at sefyllfa unigryw Cymru, lle rydym ni'n ein hystyried ein hunain yn genedl, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, am fod anghydraddoldebau yn peri niwed i fywydau pobl, ac fe gafodd ef ei ysgogi ar hyd ei oes i dynnu sylw at y cysylltiadau rhwng anghydraddoldeb ag afiechyd ac, yn wir, at y ffaith bod anghydraddoldeb yn niweidio cymunedau a'r economi hefyd. Felly, rydym ni'n ymrwymo yn llwyr iawn i fod yn genedl Marmot.
Trefnydd, fe glywais i eich ymateb blaenorol chi, ond ni ellir amddiffyn gofyn i ddarparwyr iechyd yn Lloegr arafu'r broses o ddarparu gofal i gleifion Powys, er bod digon o gapasiti i'w gael yno. Nid yw hi'n dderbyniol i gleifion Powys gael eu trin fel dinasyddion ail ddosbarth. Fe fydd y mesurau hyn yn dod i rym o fis Gorffennaf ymlaen, oni bai y bydd ymyrraeth. Fe godais i'r mater hwn gyda'r Prif Weinidog ym mis Mawrth. Rwy'n falch o ddweud bod y Prif Weinidog wedi cytuno nad yw'r sefyllfa yn dderbyniol. A gaf i ofyn am ddatganiad brys gan yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ariannu a thrin cleifion yn unol â nodau amser aros Lloegr? Neu, o ystyried y ffaith, wrth gwrs, mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru ac am gleifion Powys yn y pen draw, a fydd hi'n cyfarwyddo'r bwrdd iechyd na allan nhw symud ymlaen gyda'r cynlluniau hyn, y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cyfeirio atyn nhw fel rhai annerbyniol? Rwy'n falch fod yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd a'r Prif Weinidog yn yr ystafell—yn y Siambr—heddiw, ond fe ddylwn i ychwanegu fy mod i wedi gofyn i'r Prif Weinidog mewn llythyr bron i bedair wythnos yn ôl a ellid rhoi sylw ac eglurder ar frys i'r mater hwn. Nid wyf i wedi derbyn ateb hyd yn hyn. Mae hwn yn fater sy'n sensitif i amser ac mae angen ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru ar frys.
Diolch i chi, Russell George. A gaf i eich sicrhau chi, a'i gwneud hi'n eglur iawn, nad yw trigolion a dinasyddion Powys yn cael eu trin fel dinasyddion ail ddosbarth o ran ein disgwyliadau ni nac o ran amseroedd aros trawsffiniol? Wrth gwrs, mae gennych chi hawl i ofyn eich cwestiynau chi ac, fel rydych chi'n dweud, fe wnaethoch chi godi'r cwestiwn hwn eisoes. Fe gewch chi ofyn eich cwestiynau chi i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo yw sicrhau y bydd gan bobl fynediad teg ac amserol at wasanaethau gofal iechyd o ansawdd da ym mhob cwr o Gymru. Ac mae Powys mewn sefyllfa wahanol o ran sut mae anghenion y cleifion yn cael eu diwallu o ran gofal eilaidd ac arbenigol, ond, wrth gwrs, mae hynny rhywbeth hirsefydlog. A'r cyllid ychwanegol hwnnw, rwy'n credu, ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ar ben ei ddyraniad ariannol craidd, oedd y gydnabyddiaeth honno, fel y dywedais i wrth ymateb i Jane Dodds, o'r gost ychwanegol oherwydd sefyllfa'r bwrdd iechyd o fod yn comisiynu gofal iechyd i drigolion Powys sy'n cael eu trin yn Lloegr. Wrth gwrs, mae'r disgwyliad hwnnw gennym ni y bydd ein byrddau iechyd ni i gyd yn taro nodau amseroedd aros Cymru. Dyna'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddymuno a dyna'r hyn y mae pobl Powys yn ei ddymuno mewn gwirionedd, sef ein bod ni'n taro'r nod hwnnw gydag amseroedd aros yng Nghymru, ac fe wnaethom ni roi adnoddau iddyn nhw wneud hynny.
Yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Fe fyddwn ni'n nodi Diwrnod VE ddydd Iau, ond, wrth gwrs, ddydd Gwener 9 Mai, fe fyddwn ni'n nodi Diwrnod Ewrop hefyd. Ac nid mater i Lywodraeth Cymru ydyw hwn, ond rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn chwifio'r faner Ewropeaidd ar yr ystad hon i nodi'r rhan bwysig hon o'n treftadaeth ni ac, wrth gwrs, i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd. Ond a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddau beth, rheolwr busnes: yn gyntaf, cyflwyno datganiad am y difrod y mae Brexit wedi bod yn ei achosi i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf? Mae hi'n bwysig, wrth i ni wynebu'r etholiad nesaf, fod pobl Cymru yn deall y difrod y mae hyn yn ei wneud i wead ein cenedl a'n cymunedau. Ac, yn ail, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno dadl ar gynnig i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i Brexit? Mae'n debyg mai dyma'r peth mwyaf niweidiol a welsom ni'n wynebu Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig mewn cyfnod o heddwch. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i ddeall yn union pa ddifrod sy'n cael ei wneud i wead y genedl hon oherwydd Brexit.
Diolch yn fawr iawn i chi, Alun Davies, a diolch i chi am ein hatgoffa ni a thynnu ein sylw ni at Ddiwrnod Ewrop. Mae Diwrnod Ewrop yn ddiwrnod sydd—. Rwy'n cofio pan oedd y Prif Weinidog yn ein cynrychioli ni yn Ewrop, cymaint o ddathliadau a oedd yn cael eu cynnal ar Ddiwrnod Ewrop, ac roeddem ninnau'n dathlu ledled Cymru oherwydd y ffyrdd yr oedd cyllid o Ewrop a bod yn rhan o'r gymuned Ewropeaidd yn dod â buddion mor gadarnhaol i ni. Yn ôl y data diweddaraf, fe ostyngodd swm yr allforion o Gymru i'r UE gan oddeutu 31 y cant yn 2019-24, ac fe ostyngodd cyfraddau mewnforion o'r UE i Gymru gan 20 y cant. Ac mae disgwyl i ymadawiad y DU o'r UE, fel pob amser—ac fe brofwyd hynny erbyn hyn—grebachu masnach a chynhyrchiant a bod ag effaith ddinistriol ar yr economi. Yn ôl rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, fe ddisgwylir i gynhyrchiant hirdymor y DU fod 4 y cant yn llai o gymharu ag yr hyn y byddai wedi bod o aros yn yr UE. Ac fe ragwelir y bydd cyfaint yr allforion a'r mewnforion tua 15 y cant yn llai yn yr hirdymor. Felly, fe wyddom ni ac fe welwn ni'r dystiolaeth o'r difrod a wnaeth Brexit i Gymru. Felly, diolch i chi unwaith eto am ein hatgoffa ni. Ond, wrth gwrs, mae yna gyfleoedd o ran y berthynas y gwnaethom ni lwyddo i'w chadw ac yr ydym ni'n dymuno ei chael wrth fynd ymlaen, ac mae Diwrnod Ewrop yn rhoi'r cyfle hwnnw i ni.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw datganiad gan y Prif Weinidog: Diwrnod VE. Galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Roedd yr wythfed Fai 1945 yn nodi buddugoliaeth y Cynghreiriaid dros yr Almaen Natsïaidd a Buddugoliaeth yn Ewrop neu Ddiwrnod VE. Roedd honno'n garreg filltir bwysig yn ein hanes, o bwysigrwydd mawr i Gymru, y DU a'r byd yn fwy eang, ac mae hi'n dal i fod felly. Mae'r diwrnod yn coffáu diwedd y gwrthdaro a gafodd effaith ddifrifol ar gymunedau Cymru, gyda dros 15,000 o Gymry yn colli eu bywydau a llawer mwy yn cael eu hanafu. Yr wythfed o Fai 1945. Am ddiwrnod oedd hwnnw. Diwrnod yn nodi buddugoliaeth y Cynghreiriaid dros yr Almaen Natsïaidd—Diwrnod VE, buddugoliaeth yn Ewrop. Nid rhyw ddyddiad arall yn y llyfrau hanes oedd hwn; roedd yn foment a newidiodd fywydau, ac fe newidiodd Gymru, ac fe newidiodd ein byd ni.
I ni yng Nghymru, nid buddugoliaeth pell i ffwrdd ar faes y gad oedd hon. Roedd yn cyffwrdd â phob stryd, pob pentref, pob teulu. Ni ddaeth dros 15,000 o Gymry fyth adref. Fe ddychwelodd miloedd gyda chlwyfau gweladwy a chudd. Ni ddylem ni fyth anghofio amdanyn nhw. A thra'n bod ni'n nodi Diwrnod VE nawr, rwy'n dymuno cydnabod 15 Awst hefyd, sef Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan, pan ddaeth yr ail ryfel byd i ben mewn gwirionedd. Fe fyddwn ni yn y toriad bryd hynny, a dyna pam rwy'n siarad am y ddau ddathliad heddiw.
Rwyf wedi teimlo bob amser y gall 'buddugoliaeth' fod yn air ychydig yn arw weithiau—enillwyr a chollwyr, ac ati. Mae'n well gen i feddwl am y peth fel diwedd rhyfel, dechrau heddwch, oherwydd dyna sy'n wirioneddol bwysig. Mae'r dathliad hwn yn ymwneud ag anrhydeddu pobl gyffredin o Gymru a wnaeth bethau anhygoel—pobl a roddodd wasanaeth ymhell o'u cartrefi, pobl a gynhaliodd ein cymunedau ni trwy'r dyddiau tywyllaf. Fe wn i y bydd gan lawer o Aelodau yn y fan hon heddiw eu straeon teuluol eu hunain i'w rhannu. Meddyliwch am yr hyn a ddioddefodd ein cymunedau ni: anwyliaid yn absennol am flynyddoedd, dognau llym ac arswyd cwymp y bomiau. Nid rhyfel pell i ffwrdd oedd hwn. Fe ddaeth â dychryn i Gymru, yn enwedig trwy'r Blitz a'i gyrchoedd ar borthladdoedd y de a Doc Penfro. Fe gafodd tŷ fy nhad ei daro yn uniongyrchol yn Nhremorfa yn nociau Caerdydd. Fe gafodd y tŷ ei ddinistrio yn llwyr ac yn ffodus roedd pawb newydd ffoi i'r lloches Anderson ac wedi cyrraedd mewn pryd, ac mae fy mam, hyd yn ddiweddar iawn, wedi sôn am un bom strae a laniodd ger y maes chwarae yn Nhyddewi yn sir Benfro.
A allwch chi ddychmygu sut deimlad oedd y diwrnod hwnnw 80 mlynedd yn ôl—y rhyddhad a'r llawenydd pur a ledaenodd dros Cymru? Clychau'r eglwysi yn canu, strydoedd yn llawn dawnsio, cymunedau yn dod at ei gilydd ar ôl blynyddoedd o aberth. Yr ysbryd hwnnw o fod gyda'n gilydd, dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei ail-greu'r wythnos hon. Rydw i wedi bod yn llawn cyffro i weld cymunedau ledled Cymru yn cynnal digwyddiadau, yn rhannu bwyd a straeon. Mae Cinio Mawr y Together Coalition wedi bod yn arbennig o hyfryd, gan ddod â phobl at ei gilydd yn union fel y daethon nhw at ei gilydd 80 mlynedd yn ôl. Cefais fy nghyffwrdd yn ddwfn gan lythyr agored y mudiad gan gyn-filwyr Diwrnod VE, a oedd yn cynnwys lleisiau o Gymru hefyd: Jean Rees a fu'n gwasanaethu yn Llynges yr Unol Daleithiau, a John Eskdale, comando gyda'r Môr-filwyr Brenhinol. Mae eu geiriau yn ein hatgoffa ni o'r hyn mae'r coffâd hwn yn ei olygu mewn gwirionedd.
Nos yfory, bydd gwasanaeth diolchgarwch cenedlaethol yng nghadeirlan Llandaf, adeilad sy'n gallu adrodd ei stori ei hun o ddinistr ac ailadeiladu. Mae'r crater a achoswyd gan ffrwydrad yn 1941 nawr yn ardd goffa heddychlon. Ar Ddiwrnod VE, byddaf i yn Abaty Westminster gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig ac arweinwyr eraill. Yma yn y Senedd, bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn cynnal gwasanaeth coffa arbennig, a dwi'n siŵr y bydd llawer ohonoch chi yno. Bydd fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, yno ar ran ein Llywodraeth ni.
Dyw'r rhan fwyaf o'r rhai a fu'n ymladd ddim gyda ni bellach, ond, i'n dinasyddion hynaf, y rhai a oedd yn blant ar y pryd, mae Diwrnod VE yn dal i fod yn un o'r adegau yna lle maen nhw'n gallu dweud wrthych chi yn union ble roedden nhw a sut roedden nhw'n teimlo pan gyhoeddwyd diwedd y rhyfel. A'r peth mwyaf pwerus am y dyddiad hwn i fi yw'r ffordd mae'n ein hatgoffa ni nad buddugoliaeth Cymru neu fuddugoliaeth Prydain yn unig oedd hon, ond roedd yn ymdrech fyd-eang. Daeth pobl o bob cwr o'r byd at ei gilydd i drechu tywyllwch Natsïaeth. Mae'r amrywiaeth yna nawr yn cael ei hadlewyrchu ynom ni fel cenedl, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu.
Ond nid dim ond y rhai mewn iwnifform wnaeth gyfrannu. Meddyliwch am y menywod a oedd yn gweithio yn ein ffatrioedd, y Bevin Boys i lawr yn y pyllau glo, y Land Army yn ein bwydo ni, a'r Merchant Navy yn cadw'r nwyddau i lifo—pob un yn chwarae ei rhan. Pan fyddwn ni'n gweld y lluniau eiconig o'r dathlu yn 1945, gadewch i ni gofio'r cymhlethdod a oedd tu ôl i'r lluniau yna. I gymaint o bobl, roedd yna deimladau cymysg—hapusrwydd wedi ei gymysgu â galar am y rhai na fyddai byth yn dod nôl, a gwybod fod yr ymladd yn dal i ddigwydd yn y dwyrain pell.
Yr wythnos diwethaf, fe ges i'r anrhydedd anhygoel o gwrdd â dwy fenyw—roedd y ddwy ohonyn nhw yn 101 mlwydd oed—a oedd yn arfer gweithio yn Bletchley Park. Nawr, dyna beth oedd braint—cael siarad gyda'r bobl anhygoel hyn a oedd wedi newid cwrs y rhyfel yn llythrennol trwy helpu i dorri cod y Natsïaid. Trwy eu gwaith gwych, eu hymroddiad a'u cyfrinachedd absoliwt, fe lwyddon nhw i wneud y rhyfel rhwng dwy a phedair blynedd yn fyrrach, gan achub llwyth o fywydau. A'r peth sydd wedi creu'r argraff fwyaf arnaf i oedd eu bod nhw wedi cadw popeth mor gyfrinachol am ddegawdau. Doedd un o'r menywod erioed wedi cyffesu wrth ei gŵr ei bod hi wedi gweithio yn Bletchley. Dyma'r arwyr tawel—mathemategwyr, arbenigwyr iaith, teipwyr, gweinyddwyr.
Mae'r dathliadau hyn yn gwneud i ni fyfyrio ar werth heddwch hefyd a pha mor fregus y gall fod. Roeddwn i'n teimlo yn arbennig o falch fy mod wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer yr Academi Heddwch yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn 2020, pan oeddwn i'n Weinidog Cysylltiadau Rhyngwladol. Rwy'n credu yn gryf fod gan Gymru, er mai cenedl fach yw hi, lais pwysig iawn wrth annog heddwch. Mae'r ddarlith heddwch flynyddol yn arddangos yr ymrwymiad hwnnw. Fe ddylem gofio hefyd mai yng Nghymru y mae cartref yr adran wleidyddiaeth ryngwladol gyntaf drwy'r byd yn Aberystwyth, a sefydlwyd ar ôl y rhyfel byd cyntaf yn benodol ar gyfer hyrwyddo achos cyfiawnder a heddwch. Rwy'n meddwl yn aml am yr hyn y bydd Archesgob Rowan Williams, cadeirydd yr Academi Heddwch, yn ei ddweud: 'Nid absenoldeb gwrthdaro yw heddwch. Mae'n ymwneud â deall mai rhodd yw gallu deall ein gilydd; gan groesawu a thrysori ein gilydd, ac anwesu'r hyn sy'n dod atom ni gan ein cymdogion.'
Yn drist iawn, mae ein byd ni heddiw yn dal i fod â gormod o wrthdaro. Fel roeddem ni yn ystod yr ail ryfel byd, mae Cymru yn parhau i fod yn genedl noddfa. Rwy'n cydymdeimlo o waelod calon â'r rhai sydd wedi cael lloches gyda ni nad ydyn nhw'n gallu dathlu unrhyw fuddugoliaeth heddiw, y mae cysgod brwydrau yn dal i fod ar eu cartrefi nhw. Heddiw, rydym ni'n cofio aberth cenedlaethau'r gorffennol. Rydym ni'n diolch am fod cyfnod dychrynllyd o ryfel wedi dod i'w ddiwedd. Rydym yn gwerthfawrogi'r rhyddid a enillwyd, ac rydym ni'n ymrwymo i feithrin heddwch ym mha le bynnag y gallwn ni, yn genedl fach a thrugarog fel yr ydym ni. Diolch.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae yna lawer o bethau sy'n ein gwahanu yn y Siambr hon, ond mae hwn yn fater rydym yn cytuno'n llwyr arno. Rydym yn cytuno ar y gwerthoedd sylfaenol hynny y gwnaeth pobl ymladd drostyn nhw yn Ewrop yr holl flynyddoedd hynny yn ôl: credoau mewn rhyddid, mewn democratiaeth, ac mewn hawliau dynol. Dyma'r gwerthoedd rydym yn eu rhannu'n gyffredin ar draws y Siambr hon. Nhw yw'r rhai ddaeth â phobl at ei gilydd i sefyll yn erbyn mallau ffasgiaeth 80 mlynedd yn ôl a sicrhaodd y fuddugoliaeth honno dros gyfundrefnau ffasgaidd y Natsïaid a'u cynghreiriaid. Dyma'r gwerthoedd a roddodd ddewrder i ddynion ifanc gamu allan o'r cychod glanio hynny i dân gynnau peiriant ar y traethau hynny yn Normandi ym mis Mai 1944, sef yr ysgogiad ar draws Ewrop gyfan, wrth gwrs, wrth i filwyr o'r cynghreiriaid yr oedd gennym wneud cynnydd ar draws Ewrop i gyflawni'r fuddugoliaeth yr ydym yn ei nodi yr wythnos hon.
Wrth gwrs, gwnaeth llawer o'r unigolion hynny, fel y dywedoch chi yn iawn, dalu'r aberth eithaf. Ddaethon nhw ddim adref, miloedd lawer ohonyn nhw o Gymru. Gwnaeth llawer o bobl eraill, wrth gwrs, aberthu llawer ond fe ddaethon nhw allan yn fyw, ac fe wnaethon nhw fyw—ac maen nhw'n dal i fyw, yn anffodus—gyda'u creithiau. Ac, wrth gwrs, nid dim ond y rhai a ymladdodd ar y rheng flaen oedd y rheini, fel y dywedoch yn iawn. Roedd llawer gartref, ar y ffrynt cartref, fel petai, a oedd yn ymladd ac yn chwarae eu rhan yn yr ymdrech ryfel i sicrhau'r fuddugoliaeth dyngedfennol honno. Roedden nhw'n gwneud y bwledi, yn gwneud yr arfau, yn sicrhau'r cyflenwadau o fwyd a phopeth arall yr oedd ei angen ar bobl ar y rheng flaen, ac rydym yn ddyledus iawn iddyn nhw hefyd.
Byddwn ni, wrth gwrs, yn nodi Diwrnod VJ maes o law, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd dyna oedd gwir ddiwedd yr ail ryfel byd, pan ildiodd Byddin Ymerodrol Japan o'r diwedd. Ond rhaid i ni beidio â thynnu oddi ar y ffaith mai buddugoliaeth rydym yn ei nodi'r wythnos hon. Ni waeth pa mor anodd yw'r gair hwnnw, dylem ei ddathlu, a dylem wneud yn siŵr ei fod yn cael ei nodi'n briodol yn ein cenedl. Rwy'n falch o nodi bod yna ddigwyddiadau yn mynd rhagddynt, nid yn unig ar lefel genedlaethol, yn eglwys gadeiriol Llandaf—ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi trefnu'r digwyddiad hwnnw—ond hefyd, wrth gwrs, yn ein cymunedau, ar hyd a lled y wlad. Rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiadau yn fy etholaeth i, fel y bydd llawer o Aelodau yma yn ei wneud yn ystod yr wythnos nesaf.
Fe wnes i fanteisio ar y cyfle i ymweld â chyn-filwyr a chyfarfod â nhw yng nghanolfan cyn-filwyr Abertawe yr wythnos diwethaf, ac roedd yn atgof pwerus iawn tra roeddwn i yno, er bod yr ail ryfel byd yn rhan o hanes, bod rhai o'r cyn-filwyr hynny yn dal gyda ni, fel y mae cyn-filwyr gwrthdaro arall ers hynny, sydd hefyd wedi ymladd dros ein cenedl. Maen nhw wedi rhoi eu bywydau yn y fantol.
Fe wnes i gyfarfod â Wayne Jenkins, y rheolwr gyfarwyddwr, a chyn-filwr 93 oed, Charles Allen. Wnaeth e ddim gwasanaethu yn yr ail ryfel byd, ond fe wasanaethodd yn rhyfel Korea, yn y llynges. Dyma rai o'r brwydrau rydym weithiau'n dueddol o anghofio amdanyn nhw. Dydyn ni ddim yn eu cofio'n ddigon da—gwrthdaro fel Irac, Affganistan, Ynysoedd y Falkland, Gogledd Iwerddon. Maen nhw'n dal i fod yn bethau y mae gennym ni unigolion yn ein gwlad sy'n talu pris uchel iawn amdanyn nhw, teuluoedd sydd wedi colli pobl yn y gwrthdaro hwnnw ac, yn wir, unigolion a chyn-filwyr sydd wedi dychwelyd o'r gwrthdaro hwnnw ac sy'n dal i wynebu'r canlyniadau bob dydd.
Dyna pam ei bod yn bwysig iawn ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd yn y Siambr hon i gefnogi ein cyn-filwyr yng Nghymru a chymuned ehangach y lluoedd arfog. Rwyf wedi bod yn falch o fwrw ati gydag Aelodau eraill o'r Siambr hon dros y blynyddoedd i geisio gwneud hynny, oherwydd rwyf am i Gymru fod y genedl fwyaf cyfeillgar i gyn-filwyr, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond yn y byd, ac rwy'n credu y gallwn ni gyflawni'r nod hwnnw.
Un o'r pethau y mae pobl wedi dweud wrthyf yn ystod y blynyddoedd a'r misoedd diwethaf yw'r ffaith bod angen i ni gefnogi ein cyn-filwyr o hyd gyda heriau iechyd meddwl a chyda anhwylder straen ôl-drawmatig. Fe wnaethon ni ddathlu pymthegfed pen-blwydd gwasanaeth gwych GIG Cymru i Gyn-filwyr yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead, ac roedd yn wych gweld y Gweinidog dros iechyd meddwl yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwnnw, ond mae hwnnw'n wasanaeth sydd, mor wych ag ydyw, yn dal i fod angen mwy o fuddsoddiad. Byddai'n wych yr wythnos hon, Prif Weinidog, pe baech chi'n gallu cyhoeddi rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol i wneud yn siŵr y gall y gwasanaeth hwnnw fuddsoddi yn y mentoriaid cyfoedion sydd eu hangen arno yn y dyfodol.
A hoffwn ofyn un peth arall, os gallaf. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru ddeisebu Llywodraeth y DU fel y gall ein comisiynydd cyn-filwyr yng Nghymru ddod yn swydd barhaol? Mae honno'n swydd y disgwylir iddi ddod i ben ar hyn o bryd ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon. Dydw i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond rwy'n teimlo'n angerddol iawn bod angen i honno ddod yn swydd barhaol fel bod cyn-filwyr yma yn gallu parhau i elwa ar rywun sy'n sefyll drostyn nhw ac sy'n siarad drostyn nhw mewn ffordd ddiduedd, anwleidyddol. Diolch.

Diolch yn fawr, Darren. Diolch am y geiriau hynny ar ran y Blaid Geidwadol. Hoffwn ddiolch i chi am y gwaith rydych chi'n ei wneud yn cefnogi'r lluoedd arfog yng Nghymru ac yn enwedig y gwaith rydych chi'n ei wneud yn cefnogi cyn-filwyr. Rydych chi'n iawn, mae problemau iechyd meddwl a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn bwysig. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa. Roedd yn dda eich bod chi'n gallu mynd i'r digwyddiad hwnnw. Fe edrychaf ar y sefyllfa o ran comisiynydd cyn-filwyr Cymru i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud o ran hynny.
Wrth i ni nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE, rydym yn cofio dewrder ac aberth y genhedlaeth a drechodd ffasgiaeth ac a sicrhaodd heddwch yn Ewrop. Mae dewrder ein lluoedd arfog, ochr yn ochr â gwytnwch y rhai ar y ffrynt cartref, yn ein hatgoffa o'r gwerthoedd y mae'n rhaid i ni barhau i'w cynnal: rhyddid, democratiaeth ac undod.
Mae Diwrnod VE yn fwy na choffâd o'r gorffennol; mae'n ein hatgoffa bod y fuddugoliaeth dros ffasgiaeth yn cynrychioli buddugoliaeth ar y cyd o benderfyniad dynoliaeth i fyw mewn byd o heddwch a chyd-barch. Dylai'r diwrnod hwn ein huno ni i gyd yn ein hymrwymiadau i adeiladu byd mwy diogel, mwy teg ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, fel y bydd y digwyddiadau coffáu ar gyfer Diwrnod VJ yn ddiweddarach eleni.
Rydym hefyd yn anrhydeddu gwasanaeth ac aberth y rhai o bob cwr o Gymru sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad, boed ar y rheng flaen neu mewn rolau cefnogol, yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ddiogel ac yn cael ein diogelu. Hoffwn hefyd gydnabod ymdrechion diflino sefydliadau, gwirfoddolwyr ac unigolion ledled Cymru sy'n cefnogi cyn-filwyr. Mae'r grwpiau hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol ac ymdeimlad o gymuned i'r rhai sydd wedi gwasanaethu, gan sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hanghofio ar ôl eu hamser yn y lluoedd. Ond mae mwy i'w wneud o hyd, ac mae'n rhaid i ni gofio nad rhan o hanes yn unig yw'r aberth sydd wedi'i wneud gan bobl o bob cwr o Gymru; mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i'w cefnogi pan fyddan nhw'n dychwelyd adref.
Mae gormod o gyn-filwyr yn wynebu caledi ariannol, brwydrau iechyd meddwl a digartrefedd. Mae angen i ni sicrhau bod gan gyn-filwyr fynediad at wasanaethau hanfodol fel tai, cymorth cyflogaeth a gofal iechyd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, wedi'u teilwra i'r heriau unigryw maen nhw'n eu hwynebu. Byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn parhau i alw am sicrhau nad yw'r rhai sydd wedi rhoi cymaint dros heddwch yn cael eu gadael i wynebu anawsterau wedyn.
Efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym, er enghraifft, pa ganran o bractisau meddygon teulu sydd wedi'u hachredu erbyn hyn o dan y cynllun achredu meddygon teulu cyfeillgar i 'gyn-filwyr'. Roedd Cymru wedi bod ar ei hôl hi, a gallwn ni fforddio gwneud hynny. Byddwn i hefyd yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth â'r cyfamod milwrol ac yn sicrhau arferion da ar draws pob bwrdd iechyd, gan gynnwys ym maes gofal deintyddol.
Wrth i ni goffáu Diwrnod VE a myfyrio ar y frwydr yn erbyn ffasgiaeth, allwn ni ddim anwybyddu y cynnydd brawychus mewn ideolegau asgell dde eithafol a ffasgaidd yn fyd-eang heddiw, yn cynnwys yma yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'r ideolegau peryglus yma yn bygwth gwerthoedd democratiaeth, cydraddoldeb a rhyddid a gafodd eu hamddiffyn gan ddewrder y rhai oedd yn brwydro yn yr ail ryfel byd. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn uno ac yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn unedig yn erbyn adfywiad o gasineb, gwahaniaethu ac eithafiaeth. Rhaid inni sefyll yn gadarn yn erbyn y grymoedd yma, yn union fel y gwnaeth ein hynafiaid yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth, a sicrhau nad ydy anoddefgarwch a rhagfarn byth yn cael lle i wreiddio yn ein cymdeithas.
Yn olaf, wrth i ni fyfyrio ar wersi Diwrnod VE, mae'n rhaid inni hefyd gofio bod erchyllterau rhyfel ymhell o fod drosodd. Mae gwrthdaro a rhyfel yn parhau i achosi creithiau a chostio bywydau ledled y byd, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd ar drywydd atebion heddychlon bob amser. Mae colli bywydau mewn rhyfel yn drasiedi, ac mae'n rhaid inni roi'r gorau i'w hailadrodd. Hanfod cymdeithas, ddywedwn i, ydy bod wedi ymrwymo i heddwch a bod yn barod i gondemnio gweithredoedd milwrol, yn enwedig y rhai sy'n mynd yn groes i gyfraith ryngwladol. Ar gyfandir Affrica, yn Wcráin, ac, fel rydym wedi clywed y prynhawn yma yn barod, yn Gaza, rydym ni’n parhau i weld y dinistr mae rhyfel yn ei achosi i fywydau pobl ddiniwed, ac yn dal i weld cyfraith ryngwladol yn cael ei thorri. Ein dyletswydd ni i'r rhai a roddodd bopeth yn ystod yr ail ryfel byd ydy sicrhau nad ydyn ni byth yn ailadrodd yr erchyllterau hynny, a'n bod ni'n gweithio dros atebion heddychlon i wrthdaro bob amser.

Diolch yn fawr iawn, Rhun, a diolch am eich geiriau ar ran Plaid Cymru. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at heddwch a'n bod ni yn cefnogi ein feterans ni.
Fe gaf i'r wybodaeth i chi o ran practisau meddygon teulu a'r cyfamod milwrol. Gallwn ni gael y wybodaeth honno i chi.
Rwyf hefyd yn poeni am y cynnydd mewn ideolegau asgell dde. Rwy'n credu y gallwn ni oddef llawer o bethau, ar wahân i anoddefgarwch, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n gwarchod yn ei erbyn. Rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn hanfodol ein bod ni'n parhau i weithio tuag at heddwch.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Prif Weinidog. Rwyf hefyd yn falch iawn o weld y Senedd yn siarad fel un ar y mater hwn. Rwy'n credu bod hynny'n dangos y Senedd ar ei gorau. Fel y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd, byddaf yn mynychu dathliadau Diwrnod VE yr wythnos hon. Fel rydyn ni'n ei ddweud bob mis Tachwedd ynglŷn â'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf i helpu i drechu ffasgiaeth, byddwn yn eu cofio. Rwy'n ymwybodol hefyd o'r nifer bach o bobl sy'n dymuno ein bod ni wedi colli'r ail ryfel byd.
Rwyf am godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth a roddwyd gan luoedd y Gymanwlad o Affrica, y Caribî a byddin enfawr India, a oedd yn cynnwys personél o Bacistan, Nepal a Bangladesh heddiw. A fydd y Prif Weinidog yn ymuno â mi i ddiolch i'r bobl hynny o'r Gymanwlad a ymladdodd hefyd i drechu ffasgiaeth ar ein rhan?

Diolch yn fawr iawn, Mike. Diolch am dynnu ein sylw at y ffaith bod yna bobl ymhell y tu hwnt i'r glannau hyn a ymladdodd drosom i wneud yn siŵr ein bod ni'n cadw ein rhyddid yma. Ac, wrth gwrs, fe wna' i ymuno â chi i ddiolch i'r rhai o wledydd y Gymanwlad am eu cymorth.
Rwy'n falch y byddwch chi'n cymryd rhan mewn dathliadau Diwrnod VE. Roedd yn fraint fawr cael mynychu digwyddiad yng nghanolfan gymunedol Crundale yn sir Benfro. Roedd yna lawer o femorabilia yno. Roedd yn ddiddorol iawn gweld sut roedden nhw wedi llwyddo i gysylltu â theuluoedd awyrenwyr yr oedd eu hawyrennau wedi cwympo'n lleol. Llwyddon nhw i olrhain y bobl hyn, a daeth eu teuluoedd yn ôl i ymweld y llynedd. Ac oherwydd y diddordeb sydd gan bobl yn hynny yn lleol, roedden nhw'n gallu, unwaith eto, dod â'r cynghreiriaid hyn at ei gilydd i goffáu diwrnod anodd i rai o'r teuluoedd hynny, ond roedd y genhedlaeth nesaf yn awyddus i nodi'r hyn a oedd yn ddamwain anodd i'w teuluoedd.
Yna fe es i i ddigwyddiad yn Noc Penfro, a oedd yn llawer iawn o hwyl, gyda chestyll bownsio, disgos, a phobl ifanc yn cymryd rhan yn yr hyn oedd dan sylw. Ac rwy'n credu mai dyna pam mae hyn mor bwysig. Mae hon yn genhedlaeth nad yw wedi profi'n uniongyrchol effaith rhyfel, ac felly mae mor bwysig i ni drosglwyddo'r straeon hynny ymlaen i wneud yn siŵr eu bod yn deall na allwch chi gymryd heddwch yn ganiataol, a'n bod ni'n gallu byw heddiw oherwydd aberth pobl yn y gorffennol.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Heddiw rydym yn oedi fel un, fel cenedl, i fyfyrio ar ddau o'r adegau mwyaf diffiniol yn ein hanes ar y cyd: Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan—dyddiau sy'n nodi diwedd y gwrthdaro mwyaf dinistriol y mae'r byd wedi'i weld erioed, a dyddiau lle roedd dewrder, aberth ac undod yn drech na gorthrwm.
Mae Cymru yn chwarae rhan anhygoel yn y fuddugoliaeth honno. Ar gyfartaledd, ymladdodd 300,000 o filwyr ar draws yr holl frwydrau. O draethau Normandi i'r awyr uwchben Ewrop, a'r ymdrech gartref, roedd dynion a menywod o Gymru yn gwasanaethu gyda rhagoriaeth, a llawer ohonynt yn talu'r pris eithaf. Gwnaeth eu dewrder lunio'r rhyddid yr ydym yn ei werthfawrogi heddiw. Ond nid ar faes y gad yn unig yr ymladdwyd y rhyfel, cafodd ei ymladd yn ein trefi, yn ein pentrefi, yn ein cymunedau ac ar ein ffermydd. Un ddelwedd bwerus sy'n aros gyda mi yw'r miloedd o blant a gafodd eu cludo fel faciwîs i Gymru. Agorodd teuluoedd yng Nghymru eu cartrefi a'u calonnau. Cafodd y faciwîs ifanc hyn loches yn ein bryniau a'n dyffrynnoedd, a gwnaeth llawer ohonynt greu cysylltiadau a barhaodd ymhell ar ôl i'r rhyfel ddod i ben. Roedd yn weithred wirioneddol o dosturi ac undod, gan ddangos y gorau o ysbryd Cymru.
Ger fy nghartref i yn sir Fynwy, gadawodd y rhyfel ei farc hefyd. Roedd yn fy atgoffa o stori o bentref Tryleg, lle byddai ffermwyr lleol, er gwaethaf y dyddiau hir yn gweithio ar y tir i fwydo'r genedl, yn patrolio cefn gwlad wedyn fel rhan o'r Gwarchodlu Cartref gyda'r nos, wedi'u harfogi â phenderfyniad ac weithiau ychydig mwy na ffon brwsh ar y dechrau, yn sefyll yn barod i amddiffyn ein gwlad a'n pobl. Mae'r dewrder tawel hwnnw, yr arwriaeth bob dydd, yn rhywbeth na ddylem byth ei anghofio.
Ac i mi, nid dim ond atgof pell o hanes ydyw, mae'n bersonol—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Roedd yn effeithio ar bobl yn fy nheulu i yr oeddwn i'n eu hadnabod a ymladdodd yn y rhyfel fel cadfridog, fel Wren ac fel uwchgapten, a hefyd ochr arall fy nheulu a oedd yn ffermwyr trwy gydol y gwrthdaro hwnnw. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod ffordd bell i fynd o hyd o ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud i anrhydeddu ein cyn-filwyr—mae hyn wedi ei godi eisoes heddiw—ac a wnaiff hi ymuno â mi i edrych ymlaen at y dathliadau gwych sydd gennym i ddod gweddill yr wythnos hon? Rwyf eisoes wedi ymuno â dathliadau yn Llangybi ac yng Ngoetre yn fy llecyn i yn sir Fynwy ac yn fy rhanbarth, ac rwy'n edrych ymlaen at lawer mwy, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni—. Roedd fy mhlentyn chwech oed gyda mi yn ystod y dathliad hwnnw, ac fel rydych chi newydd ei ddweud, Prif Weinidog, mae mor bwysig—
Mae angen i chi orffen, os gwelwch yn dda.
—onid yw, ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall yr aberth a wnaed mewn gwirionedd. Ni fyddwn byth yn eu hanghofio.

Diolch yn fawr iawn, Laura. Rydych chi'n iawn, mae angen i ni anrhydeddu ein cyn-filwyr. Byddwn i'n annog pobl yma i ymuno yn y dathliadau. Roedd yn fraint enfawr i mi gwrdd â gŵr bonheddig ddoe a ddangosodd yn falch i mi lun o'i fam a oedd yn ferch boster i fyddin y tir. Ond roedd yn esbonio i mi mai dim ond clogyn oedd hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, roedd ei swydd ym maes cudd-wybodaeth. Nid yw'r llun enwog, eiconig hwnnw o'r ferch honno ym myddin y tir yn ferch ym myddin y tir mewn gwirionedd. Dyna chi, fe glywsoch chi hynny yma yn gyntaf. Mae yna bobl sydd â ddiddordeb aruthrol yn y byd hwn, a diolch byth amdanyn nhw, oherwydd maen nhw'n dod â chyfoeth i ni, o ran cael cip ar hanes, y gallwn ni i gyd deimlo cysylltiad ag ef.
Mae Diwrnod VE yn caniatáu i ni ddathlu cydnerthedd a chydberthynas y bobl o Brydain wnaeth fyw drwy flynyddoedd o gyfyngiadau a pheryglon yn ystod y rhyfel, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i ni fyfyrio, ac mae'r dathliad 80 mlynedd hwn yn arbennig o ingol, gan y bydd yn un o'r adegau cyhoeddus mawr olaf o gydnabyddiaeth i'r nifer sy'n lleihau o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd. Wrth i gysylltiadau uniongyrchol â'r gorffennol ddiflannu, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n cofio'r rhai a amddiffynnodd ein democratiaeth ac a wnaeth yr aberth eithaf i amddiffyn ein ffordd o fyw, ac na wnaethon nhw byth ddychwelyd adref at eu teuluoedd.
Mae Wrecsam yn ddinas sydd â thraddodiad milwrol cryf a chysylltiad balch â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac mae hynny'n dyddio'n ôl dros 300 mlynedd. Bydd yn chwarae ei ran ddydd Iau gyda gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn eglwys plwyf St Giles, cyn i gorfflu drymiau gwirfoddol Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig arwain gorymdaith i'r senotaff ym Modhyfryd, lle y byddaf i'n falch iawn o osod torch. Mae llawer iawn o bobl yn mynychu'r achlysuron coffa hyn bob tro, ac rwy'n siŵr y bydd pobl Wrecsam allan yn llu ddydd Iau i dalu eu teyrnged.
Felly, diolch yn fawr iawn am eich datganiad pwysig heddiw, Prif Weinidog. Mae'n gyfle i chi ailadrodd ymrwymiad Cymru i ddatblygu heddwch, fel y gwnaethoch chi, fel rhan o'n cyfrifoldeb byd-eang, ond mae hefyd yn gyfle i chi ailadrodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'n holl gyn-filwyr, yr ydyn ni'n ddyledus iawn iddyn nhw.

Diolch yn fawr iawn, Lesley, a diolch i chi am gofio'r rhai a roddodd eu bywydau hefyd. Rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl yn Wrecsam yn manteisio ar y cyfle hwnnw ar yr achlysur pwysig hwn, i nodi cyfnod pwysig yn hanes ein cenedl.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich datganiad teimladwy a phersonol iawn. Fel chi, dwi'n cofio straeon gan fy nhad a'i chwiorydd am y bomio yng Nghaerdydd a sut y gwnaethon nhw golli ffrind ysgol yn y bomio yn y Rhath, ac mae olion y bomio hynny yn dal i'w gweld yn Canton, Grangetown, y Rhath a Cathays.
Dwi'n cofio mynd i Wlad Belg, rhyw chwarter canrif yn ôl, ac roeddwn i'n fed up o esbonio i bobl o hyd ble oedd Cymru. Mae hynny wedi newid nawr, wrth gwrs, ond roeddwn i'n gorfod dweud wrth bobl ble oedd Cymru, tan i fi gwrdd â rhyw hen wraig, oedd yn gwybod yn union ble oedd Cymru, oherwydd milwyr o Gymru wnaeth ryddhau ei phentref yng Ngwlad Belg o ormes y Natsïaid.
Mae hi mor hawdd anghofio, Prif Weinidog, ac roeddwn i'n ddigalon o gael gohebiaeth gan etholwyr yn ddiweddar am eu cyngor yn ceisio gwahardd ac yna codi tâl am bartïon stryd VE. Yn ffodus, roedd yna dro pedol ar hynny, ond ni ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf.
Rydw i wedi bod yn ffodus i adnabod llawer o gyn-filwyr, o aelodau doeth fy nheulu i fy rheolwr swyddfa nawr, Nicky Ryan—rhywun sy'n dal i gyfrannu ac yn dal i wasanaethu ei chymuned. Trwy ei chefnogaeth hi, rydw i wedi codi sefyllfa cyn-filwyr ar sawl achlysur. Fe wnes i gwrdd ag un yn ddiweddar a oedd wedi bod yn byw o dan bont ym Merthyr. Rydw i wedi gweld gormod ohonyn nhw mewn ystafelloedd llys ac mewn carchardai.
Rwy'n gwerthfawrogi nad yw o fewn eich gallu ar hyn o bryd i atal rhyfeloedd, Prif Weinidog, ond mae o fewn eich grym chi i sicrhau bod dynion a menywod o Gymru sy'n cofrestru i luoedd arfog Prydain yn cael gofal ar ôl dychwelyd. Dywedodd y comisiynydd cyn-filwyr yn ei adroddiad blynyddol fod Cymru'n parhau i fod yn lle eithaf da i fod yn gyn-filwr. Ond fel y dywedodd Darren Millar—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn, Rhys.
—sut allwn ni wneud yn siŵr mai Cymru yw'r lle gorau i fod yn gyn-filwr? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfle i ddathlu, ac mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n trin ein harwyr o gyn-filwyr gyda pharch, a dyna pam mae gennym ni'r cyfamod. Ydy, mae'n dweud nad ydy ni ddim yn ffôl, ond yn amlwg gallwn bob amser ymdrechu i wneud yn well.
Fel eraill, byddaf i'n mynychu digwyddiadau yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent ddydd Iau, i gofio'r genhedlaeth o bobl a aberthodd gymaint fel y gallwn ni gyfarfod yma mewn heddwch a diogelwch a democratiaeth heddiw. Rwy'n cofio cyn-filwyr yn sefyll o gwmpas y senotaff yn Nhredegar pan oeddwn i'n blentyn. Roedd y cyn-filwyr wedyn yn eu 40au a'u 50au. Nid wyf yn disgwyl gweld unrhyw gyn-filwyr yn ymuno â ni ddydd Iau.
Ond mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n ystyried—.Mae'r datganiad a wnaethoch chi yn sôn am ysbryd cydberthynas, ac rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o bwy ydyn ni i gofio nid yn unig digwyddiadau 1945, ond hefyd ysbryd 1945. Y genhedlaeth a orchfygodd ffasgiaeth hefyd oedd yr un genhedlaeth a osododd y sylfaen ar gyfer heddwch yn Ewrop. Cyn i'r flwyddyn ddod i ben, roedd y Cenhedloedd Unedig wedi'u sefydlu yn San Francisco. Y flwyddyn ganlynol, gwnaeth araith Churchill yn Zurich, yn galw am unol daleithiau Ewrop arwain at greu Cyngor Ewrop ym 1946. O fewn ychydig flynyddoedd, roedd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn cael ei ddrafftio ac o fewn y degawd, roedd datganiad Schuman yn gosod y sylfeini ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Nid oedd y bobl hynny a oedd wedi wynebu gwirionedd rhyfel yn cytuno â'r rhai a oedd eisiau creu rhaniadau newydd a chreu ffiniau newydd a'u dyfnhau. Yn eich barn chi, Prif Weinidog, a yw'n bwysig nad ydyn ni heddiw ond yn ail-greu ffasiynau 1945, ond ein bod ni'n cofio ysbryd 1945, a'n bod ni'n addo eto y byddwn ni'n ymladd yn erbyn hiliaeth, byddwn ni'n ymladd yn erbyn ffasgiaeth, ac na fyddwn ni byth yn ceisio creu ffiniau newydd a rhaniadau newydd?

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol iawn, yr ysbryd hwnnw o gydberthynas yw'r union beth sydd angen i ni fod yn ei ddatblygu yn ein cymunedau heddiw. Mae'n hollol iawn ein bod ni'n ymladd yn erbyn hiliaeth ac unrhyw beth sy'n ceisio rhannu ein cymunedau'n fwriadol. Gan mlynedd yn ôl, datblygodd menywod Cymru ddeiseb heddwch. Llofnododd cannoedd o filoedd ohonyn nhw'r ddeiseb yn gofyn am heddwch ar ôl y rhyfel byd cyntaf, ac rwy'n credu bod hynny'n crynhoi'r math o ysbryd y gwnaethoch chi ei weld yn y genedl. Ac rydyn ni'n meddwl mai'r hyn oedd yn wirioneddol ryfeddol yw mai 100 mlynedd yn ôl mai menywod a fynnodd, ac a ddywedodd, 'Ni allwn ni fynd trwy hynny eto. Ni allwn ni ganiatáu i'n meibion fynd i ffwrdd a chael eu lladd yn eu miloedd yn y ffordd y gwnaethon nhw.' Ac felly mae'n bwysig ein bod yn cofio'r ymrwymiad i heddwch a oedd yn bodoli 100 mlynedd yn ôl, a oedd yn bodoli ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn parhau â'r traddodiad hwnnw yma yng Nghymru.
Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau cofio yma, menyw ryfeddol o'r enw Patti Flynn, a frwydrodd am 26 mlynedd i godi cofeb yng Nghaerdydd i anrhydeddu'r bobl hynny o'r Caribî, y dynion a'r menywod lleiafrifoedd ethnig hynny, a wnaeth ymladd droson ni yn y rhyfel byd cyntaf a hefyd yn yr ail ryfel byd. Yng nghwmni hi roedd Uzo Iwobi a Chyngor Hil Cymru, a hefyd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog, a'r Cynghorydd Susan Elsmore o Gyngor Caerdydd i sicrhau nad oedd y bobl hynny a'u haberth yn cael eu hanghofio. Yn 2019—a dim ond chwe blynedd yn ôl—llwyddon nhw i osod y gofeb honno yng Nghaerdydd. Felly, yr hyn yr ydw i'n gofyn i chi heddiw, Prif Weinidog, yw i gofio'r bobl hynny, y menywod hynny yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw, yn enwedig wedi'u hysgogi gan awydd Patti Flynn na fyddai'r bobl hynny'n cael eu hanghofio, i gydnabod eu brwydr, eu hymgyrch, fel y bydd hynny'n cael ei gofio am byth yn y ddinas hon.

Diolch yn fawr iawn, Joyce, a diolch am eich diddordeb mewn hyrwyddo, gyda Patti Flynn, y cyfraniadau a gafodd ei wneud gan y bobl hynny o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a phobl o bob cwr o'r byd i sicrhau ein rhyddid, ac mae'n wych gweld bod y plac hwnnw yno, ac na fyddan nhw byth yn cael eu hanghofio. A gaf i orffen trwy ddweud fy mod i'n credu bod hon wedi bod yn ddadl dda iawn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yna adegau pan fo cydberthynas yn bwysig? Ac mae heddiw yn un o'r achlysuron hynny pan fyddwn ni'n dod at ein gilydd ac yn deall y gallwn ni gyflawni mwy gyda'n gilydd nag y gallwn ni pan fyddwn ni wedi'n rhannu. Hoffwn i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Eitem 4 yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol. A galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.

Diolch. Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn heddiw o roi gwybod i'r Aelodau ein bod ni wedi cyhoeddi ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant 10 mlynedd uchelgeisiol, a fydd yn ysgogi gwelliannau pellach i bobl ledled Cymru ac, yn bwysig, yn ein symud tuag at ddarparu gwasanaethau mynediad agored ar yr un diwrnod. Bydd hyn yn golygu y bydd cymorth mynediad hawdd gael fwyfwy i bobl pan fydd ei angen arnyn nhw, lle mae ei angen arnyn nhw.
Mae'r strategaeth yn benllanw mwy na 18 mis o waith caled. Mae'n tynnu ar brofiad bywyd pobl ledled Cymru ac mae'n cyd-fynd â'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, a gafodd ei chyhoeddi gennym ni ddechrau'r mis diwethaf. Gyda'i gilydd, mae'r ddwy strategaeth hon, a'u cynlluniau cyflawni, yn nodi newid sylweddol pellach yn ein dull o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl a'n penderfyniad i gefnogi pawb sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl.
Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r strategaeth uchelgeisiol hon, yn enwedig pawb sydd wedi bod yn barod i rannu eu profiadau personol i helpu i lunio ein dull gweithredu. Mae'r strategaeth wedi'i llywio gan ymgysylltu agored o'r fath, ac hefyd mae'n rhoi cydgynhyrchu wrth wraidd sut yr ydyn ni eisiau gweithio yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Mae'n hanfodol bod datblygu polisi a gwasanaethau yn parhau i gael ei lywio gan y rhai sydd â phrofiad bywyd.
Yn ystod y degawd diwethaf, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol i gefnogi a gwella gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl, i chwalu'r rhwystrau, sydd yn rhy aml, yn atal pobl rhag chwilio am help, ac i ymgorffori gwaith traws-lywodraethol ac aml-asiantaeth i wella iechyd meddwl a llesiant. Rydyn ni wedi ehangu gwasanaethau a chefnogaeth, ac mae ein Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) unigryw 2010 wedi rhoi ffocws i wasanaethau i weithio mewn partneriaeth i ddiwallu anghenion unigol a darparu gwell cefnogaeth.
Ond, er ein bod ni wedi gwneud cynnydd da, mae effaith y pandemig a'r argyfwng costau byw dilynol wedi cael effaith barhaol ar ein hiechyd meddwl ac ar y materion llawer ehangach hynny a all arwain at iechyd meddwl gwael—cyllid personol, cyflogaeth, tai, addysg a phrofedigaeth. Dyna pam mae'r strategaeth newydd yn rhoi ffocws parhaus a mwy ar weithio ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â sylfeini iechyd meddwl. Mae'n ein symud ni o'r dull blaenorol wedi'i arwain gan iechyd at ddull iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n sefydlu trefniadau goruchwylio gweinidogol ar y cyd â'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i adlewyrchu hyn.
Mae'r strategaeth wedi'i strwythuro'n bedwar maes allweddol, sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Y cyntaf yw sicrhau bod y sylfeini yn eu lle i gefnogi iechyd meddwl da. Mae hyn yn ymwneud yn sylweddol â'r penderfynyddion ehangach hynny o iechyd meddwl a sicrhau bod y ffocws hwnnw ar draws Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ar gyfer ystyried yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant wrth ddatblygu polisïau a phob rhaglen.
Nesaf, mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ymagwedd iechyd y cyhoedd at iechyd meddwl, fel bod gan bobl yr wybodaeth, y cyfle a'r hyder i ddiogelu a gwella eu hiechyd meddwl a'u llesiant eu hunain. Rydyn ni hefyd eisiau gwella'r sylfaen dystiolaeth a chreu'r amgylchedd ar gyfer iechyd meddwl da, fel y gallwn ni i gyd gymryd camau i wella a diogelu ein hiechyd meddwl a'n llesiant ein hunain.
Mae'r trydydd maes yn ymateb i'r ffaith bod anghenion iechyd meddwl yn newid. Yn hanesyddol, cafodd gwasanaethau iechyd meddwl eu datblygu o amgylch salwch meddwl a chyflyrau meddwl penodol. Er bod angen rhywfaint o ofal arbenigol o hyd, nid oes angen gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar y mwyafrif o bobl. Ein nod yw i wasanaethau fod wedi'u cysylltu'n well â'r math cywir o gymorth sydd ei angen ar bobl i ymdrin ag achos sylfaenol eu trallod meddwl a'u salwch, fel y gallan nhw gael mynediad at y cymorth cywir ar yr adeg gywir, gan uwchgyfeirio'n glir i wasanaethau mwy arbenigol os oes ei angen.
Ac yna nod rhan olaf y strategaeth yw cyflawni gwasanaethau iechyd meddwl di-dor sydd wir yn canolbwyntio ar y person, wedi'u harwain gan anghenion a sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y cymorth cywir pan ydyn nhw'n gofyn amdano, a heb oedi. Rydyn ni eisoes ar y ffordd i gyflawni hyn. Mae'r rhaglen strategol genedlaethol ar gyfer iechyd meddwl yn arwain gwaith gyda gwasanaethau iechyd meddwl i wireddu hyn.
Ym mis Ebrill, arweiniodd gweithrediaeth y GIG ddigwyddiad arweinyddiaeth iechyd meddwl fel catalydd i drawsnewid gwasanaethau. Roedd yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth am fis, ac roedd awydd amlwg i gysylltu, cydweithio a datblygu syniadau newydd i wella canlyniadau i bobl. Yn ganolog i'r trawsnewidiad hwn yw symud i wasanaethau iechyd meddwl mynediad agored. Roedd cyflwyno'r gwasanaeth '111 pwyswch 2' yn gam sylweddol tuag at wasanaethau iechyd meddwl mynediad agored, ond mae angen i ni fynd ymhellach i gyflawni'r mynediad hwnnw ar yr un diwrnod heb atgyfeiriad. Bydd hyn yn seiliedig ar fodel gofal cam wrth gam, gan ddarparu cymorth priodol ar bob lefel, gan atgyfeirio at gymorth dwysach, dim ond os oes angen. I wneud hyn, byddwn ni'n archwilio'r rhai sydd wedi mabwysiadu'r model hwn yn gynnar, ac yn ei werthuso cyn gwneud cynlluniau ar gyfer cyflwyno ehangach ledled Cymru.
Dirprwy Lywydd, mae hon yn strategaeth eang ac uchelgeisiol, ac rwy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal a chymorth iechyd meddwl yng Nghymru. Mae wedi'i gwreiddio ym mhrofiad bywyd pobl, a bydd yn ymateb i brofiadau pobl. Rwy'n gyffrous am y cyfleoedd yn y strategaeth, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi a phartneriaid yng Nghymru i gyflawni ei huchelgais. Diolch.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'r datganiad heddiw, ac rwy'n cydnabod cyhoeddi strategaeth iechyd meddwl a llesiant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-35, a'r holl waith rwy'n ymwybodol sydd wedi mynd i mewn iddi dros amser gan Weinidogion blaenorol yn y portffolio hwn, ac mae'n gadarnhaol. Ond, er bod y strategaeth yn amlinellu gweledigaeth gadarnhaol eang, ac rwy'n croesawu hynny, mae'n hanfodol ein bod ni'n symud y tu hwnt i'r prif uchelgeisiau a chanolbwyntio ar sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni yn ymarferol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn oherwydd, i ormod o bobl ledled Cymru, mae mynediad at gymorth iechyd meddwl amserol, fel y soniais i amdano'n gynharach, yn frwydr. Dyna pam y cyflwynais i fy Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) fy hun, i ymgorffori'r atebolrwydd hwnnw a gwella mynediad a sicrhau cysondeb ar draws y gwasanaeth ledled Cymru. Daeth y Bil hwnnw o ymgysylltu helaeth â gweithwyr proffesiynol rheng flaen, defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd sydd i gyd wedi gorfod llywio'r fframwaith hwn a'r system hon, ac rwy'n credu ei bod yn braf gweld rhywfaint o hynny'n cael ei gyflwyno o fewn y strategaeth hefyd o sut yr ydyn ni'n mynd i wella rhai o'r pethau hyn mewn gwirionedd.
Gweinidog, mae gennyf i ddiddordeb yn yr ymrwymiad y gwnaethoch chi i wasanaethau iechyd meddwl mynediad agored ar yr un diwrnod. Mae'n swnio'n addawol, ond nid yw'r strategaeth yn rhoi'r manylion ynghylch y rheini. Pryd fydd hyn ar gael, ac ym mha feysydd y bydd ar gael? Hoffwn i wybod hefyd—. Nid ardaloedd trefol yn unig sydd gan Gymru, mae ganddi'r ardaloedd gwledig, ac rwyf i eisiau gwybod a yw'r gwasanaeth hwn yn mynd i gael ei gymhwyso yn gyfartal i'n hardaloedd gwledig hefyd, nid yn unig i'r canolfannau trefol. A sut byddwch chi'n sicrhau bod pobl yn gallu dibynnu ar y gefnogaeth hon drwy'r amser—nid yn unig mewn theori, ond mewn gwirionedd yno drwy'r amser, fel eu bod yn ei gael?
Fe wnaethoch chi hefyd sôn am y rhai sydd wedi'i mabwysiadu'n gynnar a chynlluniau peilot. Rydyn ni wedi gweld yn rhy aml o lawer, onid ydyn ni—ac roeddech chi'n gwybod hyn o pan oeddech chi ar y meinciau cefn hefyd—y gall y rhain arwain at loterïau cod post a rhai pobl yn colli cyfle. Ni ddylai mynediad pobl at gymorth iechyd meddwl ddibynnu ar ble mae eu cod post. Dylai fod yn ymwneud â'r hyn y gallan nhw ei gael a sut y gallan nhw ei gael, ac nid pa mor bell maen nhw'n byw o ardal beilot. Felly, hoffwn i wybod, pan fydd gennych chi'r cynlluniau peilot hyn ar waith, sut maen nhw'n mynd i gael eu hehangu i wneud yn siŵr nad oes neb yn colli cyfle o ran y cynlluniau peilot hyn.
Rwyf hefyd yn nodi, fel y gwnaethoch chi sôn amdano tua diwedd eich datganiad, y newid strategaeth o fodel gofal cymdeithasol wedi'i arwain gan iechyd. Er fy mod i'n cytuno â hynny mewn egwyddor, rwy'n cwestiynu gallu gwasanaethau lleol i gwrdd â'r her hon. Rydyn ni i gyd yn clywed ar draws y Siambr hon am yr heriau o fewn gwasanaethau cymdeithasol—mae eisoes o dan bwysau enfawr. Ni all integreiddio rhwng y ddwy system hyn olygu trosglwyddo mwy o gyfrifoldeb i awdurdodau lleol sydd wedi'u gor-ymestyn heb y buddsoddiad angenrheidiol. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod sut olwg fydd ar y buddsoddiad hwnnw a sut mae'r broses integreiddio honno'n mynd i weithio yn ymarferol, oherwydd rwy'n credu bod ei ddweud yn un mater ond, mewn gwirionedd, mae ei gyflwyno'n fater arall.
Un peth rwy'n siarad llawer amdano yn y Siambr hon yw atebolrwydd. Mae'r strategaeth yn sôn am gydgynhyrchu a phrofiad bywyd—elfennau pwysig iawn; rwy'n frwd dros hynny fy hun. Ond nid oes llawer o eglurder ynghylch pwy fydd yn cael ei ddwyn i gyfrif pan fydd pethau'n mynd o'i le. Os ydyn ni'n ei ddeall, 'O, mae popeth yn mynd i fod yn berffaith yn y pen draw'—. Bydd yna adegau pan fydd yn methu. Felly, hoffem ni wybod pwy sy'n mynd i gael ei ddwyn i gyfrif, oherwydd mae angen i ni weld targedau cyhoeddedig, adroddiadau blynyddol, a mecanweithiau hefyd er mwyn i'r Senedd hon allu craffu ar gynnydd yn gywir. Mae'n hyfryd cael adolygiadau mewnol o fewn Llywodraeth Cymru ac iaith obeithiol yn cael ei chyflwyno mewn datganiadau, ond mewn gwirionedd bara menyn y Senedd hon yn mynd oddi tano, craffu arni a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio.
Mae'r strategaeth yn dda iawn—rydw i wedi dweud fy mod i'n ei chroesawu—ond ni all unrhyw strategaeth weithio heb weithlu priodol, ac nid oes modd ei chyflawni hebddyn nhw. Mae gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, fel y gwyddoch chi, yn dweud wrthyn ni ledled Cymru eu bod yn brin o staff, yn brin o adnoddau, ac mae recriwtio'n broblem go iawn. Felly, hoffwn i wybod beth sy'n cael ei wneud i gadw a datblygu gweithlu cryfach fel y gallwn ni gyflawni'r nodau estynedig hyn.
Yn olaf, Gweinidog, mater yr hoffwn i ei godi gyda chi yw'r mater am fentoriaid cymheiriaid i'n cyn-filwyr ar draws ein byrddau iechyd. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych wrth gefnogi ein cyn-filwyr, y rhai sydd gennym ni ar hyn o bryd—nid ydyn nhw ym mhob bwrdd iechyd, meddwl—gan gefnogi timau i ddeall y materion y mae cyn-filwyr yn eu hwynebu o ran eu hiechyd meddwl; mae ganddyn nhw heriau unigol o'r profiadau maen nhw wedi'u hwynebu, yn y rhannau mwyaf heriol o'r byd, gan ein cadw'n ddiogel. Ar gyfer y buddsoddiad ym mhob bwrdd iechyd, byddai hynny'n costio £450,000. Mewn gwirionedd mae'n swm bach iawn o arian ar gyfer y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud wrth gefnogi iechyd meddwl cyn-filwyr, ac rwy'n credu y byddai'n hyfryd clywed mewn gwirionedd, ar ddyddiad dathlu Diwrnod VE, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i roi'r £450,000 hwnnw ar waith i gefnogi ein cymuned o gyn-filwyr ledled Cymru.
I gloi, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau bod yn glir ein bod ni i gyd eisiau gweld gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl a llesiant ledled Cymru. Caf fy nghalonogi pan welaf ystadegau'n dangos bod gwelliant. Nid ydw i'n un o'r gwleidyddion hynny nad ydyn nhw eisiau gweld pethau'n gwella; rydw i wir, wir eisiau gweld hynny, oherwydd dyna'r hyn yr ydyn ni yma i'w wneud: cynrychioli ein hetholwyr a gwneud yn siŵr bod pethau'n gwella.
Ond mae angen i ni gael mwy na gweledigaeth; mae angen i ni gael newid cyflawnadwy, mesuradwy a chraffu priodol. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gweithio'n agos gydag Aelodau yn y Siambr hon, gan gynnwys y rhai ohono ni sydd wedi cyflwyno deddfwriaeth iechyd meddwl yn y gorffennol, i sicrhau nad yw'r strategaeth hon ond yn cyflawni, ond ei bod mewn gwirionedd yn creu'r systemau iechyd meddwl a chymorth gorau y gallwn ni eu cael, unman yn Ewrop. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn, James Evans. Rwyf i bob amser yn cydnabod, yn ddiffuant, y llwyth o waith yr ydych chi wedi'i wneud yn y maes hwn, ac rydw i bob amser yn croesawu'ch cyfraniadau a'ch cwestiynau ac, os gwelwch yn dda, gwaith parhaus ynghylch hyn i gyd, yn enwedig yn y meysydd yr ydych chi'n eu cynrychioli hefyd.
Felly, rwyf eisiau eich sicrhau chi yn llwyr bod gennym ni'r strategaeth 10 mlynedd, y strategaeth iechyd meddwl a llesiant, ond mae gennym ni hefyd strategaeth gyflawni gychwynnol dair blynedd benodol iawn. Rwy'n credu ei bod yn gynhwysfawr iawn, ac yn cyd-fynd yn dda â'r camau gweithredu, pwy sy'n atebol amdani, a hefyd yr amserlenni ar gyfer y cyflwyniad hwnnw ar gyfer y tair blynedd gyntaf hynny, felly gallwn ni wir rhoi hon ar waith.
Felly, dim ond i ddweud, fel y byddwch chi'n gallu ei weld, yn y pwynt cychwynnol, yr O.1., y pwynt gweithredu cyntaf un sydd gennym ni, ar unwaith nawr rydyn ni'n mynd i sefydlu bwrdd cynghori gweinidogol ar y cyd, gyda chylch gwaith sy'n nodi'r berthynas â strwythurau a sefydliadau eraill, a'r fframwaith adrodd clir hwnnw. Byddaf i'n gwneud hynny ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Felly, bydd hynny o fewn chwe mis.
Rydyn ni hefyd yn mynd i sicrhau ein bod ni'n cyhoeddi adroddiad terfynu, sy'n amlinellu'r cyflawniadau yn erbyn yr adroddiad 'Gyda'n gilydd dros iechyd meddwl', i osod y llinell sylfaen honno ar gyfer y strategaeth newydd. Felly, nid ydyn ni'n rhoi'r gorau i'r gwaith blaenorol yn llwyr. Mae hi bob amser yn bwysig ein bod ni'n dysgu'r gwersi hynny, ac rydyn ni'n ei ddatblygu—cymaint o waith da yn hynny. Yna byddwn ni'n cyhoeddi fframwaith canlyniadau a theori newid a fydd yn cefnogi comisiynu gwerthusiad a strategaeth annibynnol. Nid ydyn ni'n marcio ein gwaith cartref ein hunain ar hyn; bydd hwn yn werthusiad annibynnol. Ac yna byddwn ni hefyd yn cyhoeddi diweddariadau blynyddol yn erbyn y camau gweithredu yn y cynllun fel rhan o'r broses hon. Byddwn ni'n adolygu cynnydd, a byddwn ni'n manylu ar unrhyw weithgaredd ychwanegol sydd, yn ein barn ni, yn angenrheidiol i'w gyflawni yn erbyn y meysydd blaenoriaeth hyn.
Felly, rwyf i eisiau'ch sicrhau'n llwyr ein bod ni wir yn cymryd hyn o ddifrif. Ni fyddwn i'n barod i wneud yr ymrwymiad hwn i bobl Cymru oni bai fy mod yn hyderus bod gennym ni'r atebolrwydd a'r strwythurau llywodraethu ar waith i sicrhau ein bod ni'n cyflawni hyn. Ni ddywedaf y byddwn ni'n ei gyflwyno dros nos. Nid dyna'r hyn y gallwn ni ei wneud yma. Yr hyn y gallwn ni ei wneud, fodd bynnag, yw y gallwn ni ystyried yr hyn sydd gennym ni eisoes a gallwn ni ddechrau adnewyddu a dechrau ei drefnu a'i symud i fodel gofal llawer mwy graddol sy'n gyfannol ac sy'n mynd i helpu pobl yn union pryd y mae ei angen arnyn nhw.
Felly, bydd gan lawer ohonoch chi grwpiau—rwy'n gwybod bod gennyf i un fy nghymuned fy hun—sydd wedi dweud wrthyf, 'Diawch, wyddoch chi, y strategaeth ddiwethaf dros y 10 mlynedd, rydyn ni wedi gwneud cymaint i leihau stigma.' Ac mae hynny wedi bod yn bennaf oherwydd pobl yn rhannu eu profiad bywyd. Trwy wneud hynny nawr, rydyn ni wedi dweud wrth bobl, 'Iawn, ewch i siarad â rhywun, gofynnwch am help, cysylltwch', ac maen nhw wedi dweud wrthyn ni, 'Pan wnaethon ni hynny, nid oedd yno.' Ac felly rwy'n credu mai dyna'r peth arall, y bydd llawer o bobl yn mynd i mewn i ofal sylfaenol, ac yna byddan nhw'n cael sgwrs gyda rhywun, ac weithiau byddan nhw'n cael eu rhoi ar restr aros ar gyfer rhai sesiynau cwnsela mewn tri mis neu efallai chwe mis. Dyma weithiau'r hyn sy'n digwydd. Yr hyn yr ydyn ni'n ei wybod yw, yn aml, dyna pryd mae pobl yn mynd i'r sesiwn cwnsela gyntaf honno. Nawr, gallai hynny fod oherwydd nad oedd yno pan oedd ei angen arnyn nhw, oherwydd mae ei angen arnoch chi pan fo'i hangen arnoch chi. Mae angen y sgwrs gychwynnol gyda rhywun arnyn nhw fel y gallan nhw wneud asesiad. A dyna beth yw'r model gofal cam wrth gam. Mae'n ymwneud â gallu gwneud yr asesiad hwnnw, yr ymyrraeth gychwynnol honno, a sicrhau wedyn eich bod chi'n mynd i'r gwasanaeth cywir. Mae'n ymwneud ag atal. Nid ydyn ni eisiau bod cyflwr pobl yn dwysáu. Rydyn ni eisiau cael yr help a'r gefnogaeth iddyn nhw yn union pan fo'u hangen arnyn nhw.
Rydw i hefyd eisiau dweud bod llawer iawn o frwdfrydedd wedi bod am hyn. Mae wedi cymryd 18 mis, ond oherwydd hynny—. Nid yw cydgynhyrchu'n gyflym—rwy'n edrych ar fy rhagflaenydd, Lynne Neagle, yma—nid yw cyd-gynhyrchu'n gyflym, rwy'n bwrw ymlaen â'r gwaith y gwnaethoch chi ei ddechrau 18 mis yn ôl, ond mae'n gymaint gwell, oherwydd mae'n wirioneddol ystyrlon, a bydd yn cyrraedd y bobl y mae angen i ni eu cyrraedd, ac rydych chi wir yn dod â phawb gyda chi. Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ofyn yw bod yn rhaid i'r cydgynhyrchu hwnnw barhau. Nid yw'n gyflym, ond mae'n mynd i fod gymaint gwell pan fyddwn ni'n ei ymgorffori.
Fe wnaf i sôn yma hefyd am yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud wrthom ni am y gweithlu. Ochr yn ochr â hyn, mae gennym ni gynllun gweithlu iechyd meddwl strategol. Ond, fel y soniais i, fe wnaeth gweithrediaeth y GIG, a fydd yn arwain ar sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni nawr, gynnal sesiwn wych gyda'r gweithlu iechyd meddwl yn ddiweddar. Dyma'r math o ofal y maen nhw eisiau ei ddarparu. Roedd cymaint o optimistiaeth amdano, oherwydd dyma'n union beth maen nhw eisiau gallu ei wneud hefyd. Felly, mae hynny'n mynd tipyn o ffordd i weithredu hyn.
Dim loteri cod post. Dyma pam yr ydyn ni wedi gwneud yr ymrwymiad uchelgeisiol i sicrhau mae ni yw'r wlad gyntaf yn y byd—rwy'n 99 y cant yn siŵr, rydw i wedi ymchwilio'n drylwyr i hyn—i wneud hyn ar sail cenedl gyfan, oherwydd mae gennym ni fodelau o hyn eisoes yn digwydd. Es i Goleg Merthyr Tudful yn ddiweddar, gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac maen nhw'n gwneud hynny yno. Wrth i chi fynd i mewn, mae yna arwydd mawr hardd ar gyfer 'llesiant', canolfan gyfan. Gallwch chi alw heibio yno, gallwch chi gael rhai adnoddau, gallwch chi gael sgwrs â phobl, gallwch chi deimlo'n gysylltiedig ac yn well. Os oes angen help arnoch chi, mae ganddyn nhw ymrwymiad lle byddan nhw'n cael rhywun i gael sgwrs â chi o fewn tri diwrnod ar y mwyaf. Ac nid oedd gan un person ifanc y siaradais i â nhw unrhyw amheuaeth nac unrhyw stigma nac unrhyw gywilydd am ddweud, 'Nid yw fy iechyd meddwl yn wych ar hyn o bryd, mae angen ychydig o gefnogaeth arna i.' Dyna'r hyn rydw i eisiau ar sail cenedl gyfan. Felly, diben hyn yw nad oes mwy o loteri cod post.
Ac yna, roeddwn i hefyd eisiau dweud bod hyn mewn gwirionedd, fel y dywedais i—fe wnaethoch chi sôn am awdurdodau lleol yno—mae hyn yn ymwneud ag awdurdodau lleol, mae hyn yn ymwneud â byrddau partneriaeth rhanbarthol, dyma'r sector gwirfoddol, dyma'r trydydd sector, mae hwn yn ymwneud â chymaint o sefydliadau yn dod at ei gilydd ac yn cadw'r profiad bywyd hwnnw'n weledol bob amser. Felly, rwy'n teimlo bod yr atebolrwydd a'r llywodraethu wir yno. Mae'n mynd i gael ei harwain gan dystiolaeth yn bennaf, gan ddatblygu gwaith blaenorol gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg nawr, ac rydyn ni'n wir yn mynd i fonitro hyn. A da chi, cofiwch ein dwyn ni i gyfrif drosto, oherwydd rwy'n gwbl benderfynol , mai ni fydd y genedl gyntaf yn y byd sy'n gwneud hyn mewn gwirionedd. [Torri ar draws.]
A'r cyn-filwyr, mae'n ddrwg gennyf i. Ie, felly'r gefnogaeth gan gymheiriaid i gyn-filwyr, rwy'n wirioneddol angerddol am hyn. Es i i'r digwyddiad a gafodd ei gynnal gan Darren Millar yn y Pierhead yr wythnos diwethaf. Cefais y cyfle i glywed gan lawer o'r mentoriaid cymheiriaid ar draws y byrddau iechyd. Dim ond cael y math hwnnw o gefnogaeth, lle rydych chi'n siarad yn yr un ffordd a'ch bod chi wir yn fath o—. A hefyd mae yna agwedd dawel iddi, y gefnogaeth yr ydych chi'n ei gael. Edrychwch, rydw i eisiau cael hynny ar draws pob bwrdd iechyd, ond cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw hi i wneud yr asesiad o anghenion eu cymunedau. Felly, mae eisoes gennym ni fyrddau iechyd sy'n gwneud hyn; rwyf i eisiau i'r byrddau iechyd eraill wneud hynny. Ni fyddaf i'n ymrwymo i'r cyllid ychwanegol ar gyfer hynny nes y gallaf i gael asesiad clir o pam nad yw'r byrddau iechyd hynny'n ei wneud, oherwydd os oes anghenion gan gyn-filwyr yn eu hardal bwrdd iechyd yna dylen nhw fod yn darparu'r gefnogaeth honno. A hefyd, yr hyn y gwnaf i ei ddweud yw bod Laura Anne Jones wedi bod yn dda iawn wrth godi ymwybyddiaeth yn y Gynghrair Cyn-filwyr Benywaidd, a dyna arian y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei roi i'r peilotiaid hynny. Ac rydw i'n mynd i orllewin Cymru i gwrdd â'r mentor cymorth cymheiriaid benywaidd cyntaf a'r unig fenywaidd, rwy'n credu, a hoffwn i hefyd weld hynny'n tyfu. Diolch.
Dwi ddim yn gwybod ai cyd-ddigwyddiad ydy o ein bod ni'n trafod strategaeth iechyd meddwl yn dilyn y datganiad ar Ddiwrnod VE, ond dwi'n gwybod roedd fy nhad-cu i, Ellis Richards, ddaru o fynd allan i ymladd yn yr ail ryfel byd yn Ouistreham ac yn Ewrop, ac roedd y dyn ddaeth yn ôl yn wahanol iawn i'r bachgen aeth allan. Mi fyddai wedi bod yn wych cael gwasanaeth o'r fath bryd hynny.
'Ta waeth, yn gyntaf, dwi am ddiolch i’r Gweinidog am gyflwyno'r strategaeth yma. Mae’n arfer gwael iawn yn ein gwleidyddiaeth ni, onid yw, i weld gwrthbleidiau'n beirniadu oherwydd hwylustod gwleidyddol, gan gyhuddo'r Llywodraeth o beidio â dangos uchelgais ac yn y blaen, ond dydy hynny ddim yn wir yn yr achos yma. O ehangder y weledigaeth a pha mor gynhwysfawr oedd yr ymwneud â’r sector, mae’r strategaeth hon yn trin iechyd meddwl gyda’r difrifoldeb mwyaf y mae’n ei haeddu. Mae'n dangos tôn tra gwahanol o’i chymharu â’r anwybodaeth ddi-hid sydd wedi cael ei dangos gan rai o wleidyddion San Steffan yn ddiweddar, a dwi'n diolch am hynny. Felly, yr hyn sydd gennym ni yma ydy sylfaen gadarn i adeiladu arni ar gyfer y ddegawd nesaf. Ac rwy’n mawr obeithio y bydd pa bynnag Lywodraeth a ddaw allan o’r etholiad nesaf yn ymrwymo i’r cyfeiriad sydd wedi cael ei osod fan hyn. Ond mae uchelgais yn un peth. Nawr mae’r gwaith caled yn dechrau o droi’r uchelgais yn realiti, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod gofal iechyd meddwl yn y wlad hon yn parhau i fod yn brin o ble mae angen iddo fod.
Dwi'n croesawu'n fawr y ffocws ar fynd i'r afael â materion hir sefydlog o ran darparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod pontio o blentyndod i fod yn oedolyn. Bydd y Gweinidog yn cofio fy mod i wedi codi mater y plant a phobl ifanc o’r blaen sy’n wynebu beth rŷn ni’n cyfeirio ato fel y 'cliff edge' yna pan eu bod nhw’n troi’n 17 oed. Felly, dwi'n falch iawn o gydnabyddiaeth bendant y strategaeth y bydd y broses bontio hon yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn hytrach na chael ei phennu gan feini prawf mympwyol oedran. Tybed felly a all y Gweinidog roi ychydig mwy o fanylion am sut beth ydy'r newid hwn yn ymarferol a beth mae’n ei olygu ar gyfer datblygu sgiliau'r gweithlu presennol wrth ystyried y newid.
Ymhellach, ar y symudiad tuag at fodel mwy claf-ganolog—a dwi'n cymeradwyo hynny’n llwyr—pa wersi y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd o brofiadau blaenorol? Dwi'n meddwl yn arbennig am y cyfleoedd a gollwyd sydd wedi cael eu hamlygu o adroddiad diweddar y pwyllgor ar gyflyrau cronig, er enghraifft.
Mae'r pwyslais ar ddiwygiadau llywodraethu yn falm i f'enaid, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol y bûm i'n eirioli dros ddiwygiadau o'r fath yn ehangach o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol ers peth amser. Felly, mae'n wych gweld y Llywodraeth yn dechrau deall hyn o'r diwedd. Nawr, mae gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol ran allweddol yn hyn o beth, yn enwedig o ystyried eu cyfrifoldebau mewn perthynas â model NYTH/NEST. Felly, a gaf i ofyn am farn y Gweinidog am eu heffeithiolrwydd ymarferol ac a ydych chi'n ystyried unrhyw newidiadau yn y ffordd y mae eu perfformiad yn cael ei fonitro? A ydych chi hefyd yn cytuno â mi y dylid adolygu a safoni arferion adrodd data ar ran byrddau iechyd ledled Cymru fel mater o flaenoriaeth?
Mae'r strategaeth yn pwysleisio'n gywir yr angen i hyrwyddo arloesedd yn y sector. Nawr, roedd Llywodraeth Cymru wedi dynodi cyllid cenedlaethol ar gyfer arloesi ym maes iechyd meddwl, sydd ers hynny wedi dod yn rhan o'r gyllideb iechyd meddwl ehangach. O ystyried bod Cymru'n hanesyddol wedi cael trafferth gweithredu enghreifftiau o arfer gorau ar raddfa ehangach, a yw'r Gweinidog yn credu bod achos dros adfer y ffrwd ariannu benodol hon?
Yn olaf, beth bynnag yw addewid y strategaeth hon, y gwir amdani yw y bydd polisïau Llywodraeth y DU yn gwneud cyflawni ei hamcanion yn llawer anoddach i'w cyflawni—gyda thynnu'r lwfans tanwydd gaeaf yn ôl a'r toriadau lles creulon a fydd yn gwthio mwy o'n poblogaeth i mewn i dlodi ac yn cael effaith ddinistriol ar iechyd meddwl a lles ein cenedl. Yn y cyfamser, bydd cynnydd diweddar mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a'r methiant penodol i ad-dalu Cymru yn briodol yn tanseilio'r union sefydliadau yn y trydydd sector sydd wedi'u nodi'n briodol yn y strategaeth fel partneriaid cyflawni allweddol mewn gwaith ar ragnodi cymdeithasol ac ymgysylltu â'r gymuned. A gaf i ofyn felly a yw'r Gweinidog wedi gofyn am asesiad penodol o'r newidiadau arfaethedig i les gan Lywodraeth y DU, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi gorfod ailasesu unrhyw un o'r cerrig milltir a'r targedau yn y cynllun cyflawni o ganlyniad i gamau gweithredu diweddar San Steffan? Diolch.
Diolch yn fawr, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr eich sylwadau agoriadol, Mabon ap Gwynfor. Fel y dywedais i, mae hon yn strategaeth, i fod yn onest, y caf i sefyll yma a'i chyhoeddi heddiw, ond cafodd ei llunio gan gymaint o bobl. Mae'r cyd-gynhyrchiad yn wirioneddol anhygoel. Felly, mae hyn mewn gwirionedd yn dyst i'r gwaith maen nhw wedi'i wneud. Rwyf hefyd eisiau adleisio'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, ein bod yn gwbl o ddifrif ynghylch hyn. Mae iechyd meddwl a llesiant mor ddifrifol ac mae mor gysylltiedig â'n hunaniaeth. Mae gennym ni bob amser gymaint yng Nghymru, rydym ni wir wedi ymgorffori'r agwedd o ystyried trawma, bod yn dosturiol. Rydym ni'n gwybod am y cysylltiadau rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae gennym ni'r strategaeth 'Cymru Iachach', sy'n ymgorffori hynny i gyd mewn gwirionedd. Felly, rydym ni'n ymrwymo i hynny, a dyna pam rydym ni'n mynd i gael y sylfaen gadarn honno, fel y dywedoch chi, yn ei le, fel y gellir cyflawni hyn, doed a ddelo. Ac mae hynny mor bwysig.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi siarad am y pontio rhwng plant ac oedolion. Roeddwn i ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan glywsom ni'r dystiolaeth. Ar y pryd, roedd Mind Cymru wedi dod â grŵp gwych o bobl ifanc a oedd wedi mynd trwy'r profiad hwnnw at ei gilydd ac, yn yr adroddiad 'Sort the Switch' a wnaethon nhw, a oedd yn wirioneddol esbonio sut beth all y broses honno fod. Felly, mae'n amlwg bod Mind Cymru wedi chwarae rhan fawr yn ein helpu i gyd-gynhyrchu hyn a sicrhau bod y lleisiau hynny wedi eu cynnwys. Ac rwy'n gobeithio mewn gwirionedd y bydd cael y newid hwn sy'n canolbwyntio ar y person nawr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ac yna mae gennym ni hefyd y fframwaith, wrth gwrs, ar gyfer plant, ac rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol hefyd, fel y gallwn ni sicrhau, er ei fod yn cwmpasu pob oedran, ei fod mewn gwirionedd yn fwy am newid y ffordd rydym ni'n darparu'r gwasanaethau. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n elfen allweddol y byddwn ni'n gwylio amdani ac y byddwn yn sicrhau ein bod yn ei chyflawni'n gywir.
Fe hoffwn i hefyd ddweud, fodd bynnag, edrychwch, gyda CAMHS a'r asesiadau, rydym ni wedi bod yn gwneud yn dda iawn ac rydym ni fel arfer yn rhagori ar y targed hwnnw o 80 y cant o bobl ifanc yn cael eu gweld o fewn y 28 diwrnod hynny. Felly, byddaf yn adleisio'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach: meddyliwch am yr hyn rydym ni wedi'i gyflawni, yr asesiadau hynny yn cael eu gwneud mewn llai na 28 diwrnod. Bobol bach, byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth mor fawr i gymaint o bobl yn y gorffennol. Mae bod yn y sefyllfa honno nawr, ac yna i fod yn symud hyd yn oed ymhellach ymlaen ag ef, rwy'n credu, yn aruthrol.
O ran cyflyrau cronig, rydw i wedi darllen adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Unwaith eto, rwy'n credu ei fod wrth gwrs yn effeithio ar eich iechyd meddwl, ac mae'n dod yn ôl at ethos y strategaeth hon, sef bod yn canolbwyntio ar y person, peidio â theimlo eich bod yn cael eich diystyru, cael sgwrs gyda rhywun pan fydd angen, cael yr asesiad hwnnw, cael y monitro hwnnw, a chael pobl i gyflwr lle maen nhw'n teimlo'n iawn ac maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac yna monitro'r cynnal hwnnw hefyd, gyda phobl ddim yn teimlo fel pe baent yn cael eu diystyru. Felly, wrth gwrs, bydd hynny, hefyd, yn rhywbeth rydym ni'n gweithio'n agos iawn arno i bobl â chyflyrau cronig. Wrth gwrs, fi hefyd yw'r Gweinidog dros iechyd menywod ac mae endometriosis yn faes lle clywaf fenywod yn aml yn dweud wrthyf faint o effaith mae'n ei gael ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, ac nid yn unig nhw eu hunain, ond pawb o'u cwmpas. Felly, gallu deall hynny, a byddwn yn cyfleu hynny hefyd yn y cynllun iechyd menywod.
Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth siarad am rywfaint o gynhyrchiant, rwy'n credu bod adroddiad diweddar y grŵp cynghori gweinidogol, y pethau a ddeallais i oedd bod angen i ni ganolbwyntio ar wasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, tryloywder data a gwella yn gyhoeddus, a hefyd bod y llif ariannol yn mynd gyda'r perfformiad a'r blaenoriaethau. Felly, rwy'n credu bod hynny'n cyfateb yn dda iawn i'r hyn rydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r strategaeth iechyd meddwl hon, ac rwy'n credu mai dyna fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn ei gyflawni trwy'r rhannau eraill hynny o'r GIG.
Fe wnaethoch chi sôn am y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, rwy'n credu eu bod nhw'n gwneud gwaith hollol aruthrol. Mae pob un ychydig yn wahanol hefyd, a dyna'r diben. Rwy'n mynd allan a chwrdd â llawer o'r Byrddau Partneriaeth, ac rwy'n mynd allan a chwrdd â llawer o'r prosiectau maen nhw'n eu hariannu mewn llawer o wahanol feysydd, ac rwy'n ei hoffi oherwydd eu bod nhw'n deall mewn difrif eu cymunedau, ac maen nhw'n deall mewn difrif beth sydd ei angen a beth fydd yn gweithio. Byddwn yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd ac yn cwrdd â nhw'n rheolaidd.
Mae NYTH/NEST, rwy'n credu, yn fframwaith gwych. Roedd bob amser yn mynd i gymryd peth amser i ymwreiddio. Unwaith eto, rydym ni'n gweld rhai meysydd lle caiff ei gofleidio ac y caiff ei ddefnyddio mor dda. Roedd yna, mewn gwirionedd, brosiect yr ymwelais ag ef yn Nhorfaen, lle mae gan bobl ifanc y gefnogaeth aml-asiantaeth o'u cwmpas, ac mae pawb yn dweud, 'Ai fi yw'r person gorau i helpu yn hyn? Ai fi yw'r person gorau?' Fe allwch chi weld gweithlu, gallu gweithio yn y fframwaith hwnnw, sydd mewn gwirionedd wrth eu boddau ac yn ffynnu, ac rwy'n credu bod hynny'n gwneud cymaint o wahaniaeth i ganlyniadau. Rydym ni'n dal i'w ymgorffori, byddwn i'n dweud. Yn ddiweddar, fe wnaethom ni ryddhau'r adroddiad blynyddol ar ei gyfer. Rwy'n credu bod cymaint o frwdfrydedd amdano, serch hynny, ac rwy'n credu y byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle byddwn yn gallu rhoi mwy o ddata ar ganlyniadau, ond, unwaith eto, mae'n cymryd ychydig o amser iddo ymwreiddio ac i ni allu gwneud hynny a gwneud yr asesiad hwnnw o'r hyn sydd ei angen.
Fe wnaethoch chi hefyd sôn am ddata a digidol a'r cyllid ar gyfer hynny. Ar hyn o bryd, rydw i a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar y gronfa arloesi a oedd yn mynd i awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ac roedd hyn yn y sector iechyd. Rydym ni'n edrych nawr ar beth oedd yn gweithio'n dda ac yn gwneud ychydig o waith gwerthuso. Beth ydym ni'n meddwl y dylem ni ei ehangu? Felly, mae yna o hyd, dim ond i ddweud, yr arloesedd hwnnw yn y maes yma. Fodd bynnag, o ran a fyddai gennym ni linell benodol yn y gyllideb ar gyfer iechyd meddwl, byddwn yn dweud 'na', oherwydd, unwaith eto, y Gweinidog dros iechyd digidol a gofal cymdeithasol sy'n gyfrifol am hynny. Mae angen i hyn i gyd ddod at ei gilydd nawr. Mae wedi bod yn rhy dameidiog fel y mae. Mae angen i ni gyrraedd y sefyllfa honno o ddigidol yn gyntaf, ac mae hynny ar draws popeth. Byddwn yn tynnu sylw at y cofnod iechyd meddwl electronig, sy'n cael ei arwain gan Betsi Cadwaladr, ynghyd â bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, fel arwydd da iawn o hyn, oherwydd gyda hyn gwelwyd llawer o bobl yn eistedd i lawr ac yn dweud, 'Beth sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd? Gadewch i ni ei wneud. Gadewch i ni wneud yn siŵr bod y cyllid yno, ac yna byddwn ni'n ei gyflwyno.' Ni fyddwn yn eu gwahanu eto. Y pethau y mae angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw nawr yn ddigidol yw'r bensaernïaeth genedlaethol, y cofnod iechyd electronig, fel y gwyddoch chi, a'r adnodd data cenedlaethol, a bydd hynny o fudd i bob rhan o'r GIG. Felly, mae angen i ni gydweithio ar hynny.
Ac yna, ie, pan ddaw at yr asesiadau, mae llawer o hyn yn dal i fod yn y cyfnod Papur Gwyn, felly nid wyf wedi gofyn am asesiad effaith yn benodol ar yr agwedd iechyd meddwl. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, fodd bynnag, yw imi ei ddarllen yn drylwyr iawn. Mae angen mwy o dystiolaeth arno, ac mae angen mwy o dystiolaeth Gymreig. Ar sail pedair gwlad, rydym ni'n siarad â Gweinidogion iechyd meddwl eraill, ac rydym ni'n falch iawn o'r strategaeth hon ac yn ceisio dweud ein bod ni'n meddwl bod hwn yn fodel da iawn. Rwy'n credu bod angen mwy o dystiolaeth arnom ni; does dim digon yno, yn fy marn i. Felly, dyna beth fyddwn i'n galw amdano pan fyddwn ni'n cyrraedd y cam nesaf. Diolch.
Gweinidog, fe wnaethoch chi bwysleisio'n gywir y cysylltiadau rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Y llynedd, roeddwn yn falch o groesawu, yma yn y Senedd, Athletau Cymru a Mind Cymru ar gyfer lansiad eu cynllun hyrwyddwyr iechyd meddwl. Y nod yw bod gan bob clwb rhedeg cysylltiedig ledled Cymru o leiaf un unigolyn sydd wedi'i hyfforddi i hyrwyddo'r effaith gadarnhaol y gall rhedeg ei chael ar iechyd meddwl, i sylwi ar yr arwyddion y gallai rhywun yn eu clwb neu grŵp fod yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl a'u cefnogi, ac i gyfeirio pobl at gymorth pellach.
Yng Nghasnewydd, mae clybiau fel Rhedwyr Lliswerry, RUNNewport a Chlwb Rhedeg Caerllion wedi ymuno â'r cynllun, sydd eisoes â 67 o wirfoddolwyr, ac mae 33 ohonyn nhw wedi cwblhau eu hyfforddiant. Trwy gydol y rhaglen, mae unigolion yn derbyn hyfforddiant gan Mind eu hunain ac yn dilyn dysgu ar-lein gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol. Mae'r cynllun bellach yn mynd i'w ail flwyddyn. Gweinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch Mind Cymru ac Athletau Cymru ar y cynllun ac efallai ystyried ymweld â chlwb rhedeg lleol i ddysgu mwy am y cynllun a'i fanteision, a hefyd i annog cyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru i fod yn rhan o'r cynllun hwn, a chynnig cefnogaeth Llywodraeth Cymru iddyn nhw hwyluso a galluogi hynny.
Diolch yn fawr iawn, John Griffiths. Mae'n wirioneddol anhygoel clywed hynny. Mae bod â chymaint o bobl wedi'u hyfforddi yn gwneud gwahaniaeth enfawr, mae wirioneddol yn gweud gwahaniaeth.
Hoffwn ddechrau trwy ddweud fy mod i'n credu bod Mind Cymru a'r gwaith maen nhw wedi'i wneud ym maes chwaraeon ac athletau yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Dyma lle mae pobl, dyma lle mae pobl yn dod at ei gilydd. Mae eisoes y cysylltiad hwnnw ag iechyd corfforol. Rydych chi'n creu bondiau a gallwch gael sgyrsiau gyda phobl, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr ac yn lleihau'r stigma hwnnw. Rydym yn aml yn clywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn sôn am y clybiau chwaraeon hyn a gwneud yn siŵr bod gennych chi bobl yno sy'n gallu helpu eraill mewn gwirionedd—nid yw hyd yn oed ar gyfer y bobl sy'n cymryd rhan yn unig mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ble bynnag y mae, mae hefyd ar gyfer eu cymuned ehangach a'u teulu ehangach, a'r ymdeimlad hwnnw o berthyn. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rwyf am ddweud, wrth gwrs, bod fy nghyd-Aelod Jack Sargeant yn angerddol iawn am hyn. Cyfarfu ef a minnau yn Chwaraeon Cymru yr wythnos diwethaf i drafod sut y gellid gwneud hyn yn ehangach. Rwy'n gyffrous iawn am hynny, oherwydd, fel y dywedoch chi, mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Gwahoddwch fi os gwelwch yn dda. Byddwn i wrth fy modd yn dod. Byddwn i wrth fy modd yn dod i gwrdd â phobl a chael sgwrs gyda nhw a gwybod beth yw eu barn arno.
Mae gwneud yr hyfforddiant iechyd meddwl yn bwysig iawn, ac rwyf am gysylltu hyn â'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio a lansiwyd gennym ar ddechrau'r mis, oherwydd rhan fawr o hynny yw'r ddealltwriaeth o hyd. Un o'r pethau sy'n atseinio gyda phobl yw y byddwn ni i gyd yn ei chael hi'n anodd iawn bod mewn sefyllfa lle mae rhywun yn dod atoch chi a dweud, 'Rwy'n cael trafferth; Mae angen help arnaf', ac rydych chi'n cael y foment honno o banig lle rydych chi'n meddwl, 'Dydw i ddim yn gwybod beth i'w wneud gyda hyn. Dydw i ddim yn gwybod sut i helpu, dydw i ddim yn gwybod ble i fynd â chi. Dydw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Dydw i ddim eisiau ei gael yn anghywir', ac rwy'n meddwl mai dyna'r pethau rydw i wedi'u gweld gan bobl yn yr hyfforddiant, a thrwy siarad â phobl, rydych chi'n cael siarad trwy rywfaint o hynny. Ac felly, yn y sefyllfaoedd hynny, rydych chi'n gwybod yn union beth i'w wneud, rydych chi'n gwybod yn union sut i helpu, ac rydych chi'n gwneud i'r person hwnnw deimlo'n ddiogel iawn, sy'n bwysig iawn. Felly, diolch. Gwahoddwch fi os gwelwch yn dda. Ac fel y dywedais i, rwyf i a Jack Sargeant yn parhau i weithio'n agos iawn ar gyflwyno hyn fel y gall mwy o bobl elwa. Diolch.
Mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problem iechyd meddwl na rhywun sy'n clywed, ond Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl i'r byddar. Wrth siarad yma fis Tachwedd diwethaf, galwais am ddatganiad gennych chi fel y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gynnwys pobl fyddar yn y strategaeth iechyd meddwl newydd ar gyfer Cymru, ar ôl i'r grŵp iechyd meddwl a llesiant pobl fyddar Cymru gyfan—grŵp o weithwyr proffesiynol ac elusennau sy'n gweithio yn y maes byddar a chlyw—ysgrifennu atoch chi'n dweud eu bod yn awyddus i sicrhau bod pobl fyddar yng Nghymru yn rhan o hyn.
Ar ôl holi'r Prif Weinidog yma ym mis Chwefror, gan ofyn am ddiweddariad ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r grŵp a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, y maen nhw'n gweithio'n agos gyda nhw, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru gynnal adolygiad i wella gwasanaethau iechyd meddwl i'r rhai sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw, ac y byddai'r adolygiad hwn yn llywio'r cynllun cyflawni a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r strategaeth.
Er bod y strategaeth bellach yn nodi y bydd datganiadau ansawdd yn cael eu llywio gan adolygiad diweddar o wasanaethau iechyd meddwl i bobl fyddar, pam nad yw hyn yn cadarnhau cyfranogiad Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Pobl Fyddar Cymru Gyfan neu y bydd cynllun cyflawni yn troi'r datganiad ansawdd perthnasol o weledigaeth i weithredu mesuradwy?
Yn olaf, er bod y strategaeth yn nodi bod pobl niwroamrywiol mewn mwy o berygl o brofi cyflyrau iechyd meddwl, pam nad yw'n nodi'n gategoraidd bod cyflyrau fel awtistiaeth ac ADHD yn gyflyrau gydol oes, nid cyflyrau iechyd meddwl, er y gallan nhw arwain at heriau a allai gynyddu'r risg o straen, gorbryder ac iselder, ac felly mae'n ddyletswydd ar wasanaethau i sefydlu ac addasu i anghenion cyfathrebu, synhwyraidd a phrosesu rhywun awtistig, cydnabod achosion eu gorbryder, ac felly rhoi'r gorau i'w trin fel y broblem?
Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Fel rwy'n siŵr y gwyddoch chi, mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod yr wythnos hon. Y thema eleni yw 'y tu hwnt i dawelwch', ac mae hynny'n ymwneud â chwalu'r rhwystrau hynny a hefyd dathlu'r diwylliant byddar cyfoethog sydd gennym ni. Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi sut rydych chi'n eiriol dros y gymuned fyddar. Diolch yn fawr iawn.
Oherwydd eich cwestiynau, a'ch bod yn parhau i'w codi, fe hoffwn i eich sicrhau, yn y cynllun cyflawni tair blynedd—ac mae'n dod o dan ddatganiad gweledigaeth 4, felly 4.9—mae gennym ni ymrwymiad yma sy'n dweud y byddwn yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad diweddar o wasanaethau iechyd meddwl i bobl fyddar ac yn datblygu cynllun gweithredu i gysoni â'r dull canolog o wella cymorth i bobl â cholled synhwyraidd ar draws yr holl wasanaethau iechyd. Mae gennym ni ymrwymiad i wneud hynny erbyn diwedd blwyddyn 1. Y rheswm am hynny, unwaith eto, yw oherwydd y caiff ei gyflawni mewn difrif trwy gyd-gynhyrchu, sy'n cymryd amser ac mae arnom ni eisiau ei wneud yn iawn. Ond fe hoffwn i hefyd eich sicrhau bod yr ymrwymiad hwnnw yno yn y strategaeth.
Yn ogystal, o dan ddatganiad gweledigaeth 4.12, ein hymrwymiad yw adolygu llwybrau i sicrhau eu bod yn addas i'r diben o ran asesiadau rheng flaen o bell, ac mae hynny ar draws ein poblogaeth. Bydd hynny hefyd yn cynnwys pobl fyddar, yn ogystal â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl LHDTC+, a chymunedau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd hynny erbyn diwedd blwyddyn 2, eto, i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth a ddarperir i bawb yn briodol i'r hyn sydd ei angen arnyn nhw.
Hefyd, dim ond i fod yn hollol glir, ac rwyf yn teimlo bod y strategaeth felly, wrth gwrs nid cyflwr iechyd meddwl yw niwroamrywiaeth, ond mae sicrhau bod pobl sy'n niwroamrywiol ac sydd hefyd ag anghenion iechyd meddwl yn derbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw pan fydd ganddyn nhw'r anghenion hynny yn flaenoriaeth sy'n weithred yn y strategaeth.
Rydym ni wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros a chynyddu'r gefnogaeth cyn-ddiagnostig i bobl ag ADHD, awtistiaeth a chyflyrau niwroamrywiol eraill. Fel y gwyddoch chi, rydym ni'n parhau i fuddsoddi fel eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt nhw o ran asesiadau niwroamrywiol. Ond hefyd, ochr yn ochr â hynny, bydd hyn oll ynglŷn â dull sy'n canolbwyntio ar y person ac ystyried yr anghenion penodol hynny sydd gan bobl pan fyddant yn ceisio cymorth iechyd meddwl.
Ac yn olaf, Julie Morgan.
Diolch. Yn gyntaf oll, fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad pwysig iawn hwn heddiw. Yn y grŵp trawsbleidiol ar atal hunanladdiad yr wythnos diwethaf, fe gawsom ni gyflwyniad ar y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, a chyflwyniad hefyd ar ganolfan atal a hunan-niweidio newydd Prifysgol Abertawe, o dan yr Athro Ann John, a chafodd hyn i gyd dderbyniad da iawn. Rwy'n gwybod bod y strategaeth iechyd meddwl yn cyd-fynd â'r strategaeth hon, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym ni sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau y gwneir cynnydd ar hyn.
Eisoes y prynhawn yma, rydym ni wedi clywed sôn am anghydraddoldebau iechyd a sut maen nhw'n effeithio ar ganlyniadau ac iechyd meddwl pobl. Felly, efallai y gallech chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd yn bosibl cysylltu â strategaethau, fel y strategaeth weithredu LHDTC+ a'r cynllun gweithredu gwrth-hiliol. Yn olaf, gyda phlant, sut bydd hyn yn cysylltu â, er enghraifft, y strategaeth tlodi plant? Oherwydd mae arnom ni i gyd eisiau rhoi'r dechrau gorau i'n plant mewn bywyd, ac rydym ni'n gwybod bod y blynyddoedd cynnar mor bwysig o ran yr hyn sy'n digwydd wedyn.
Yn hollol. Diolch yn fawr, Julie Morgan, am y cwestiynau hynny. Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi pan fyddwch chi'n fy ngwahodd i'r grwpiau trawsbleidiol. Mae'n wych cael y mewnbwn hyd yn oed yn ehangach hynny. Rwy'n falch iawn bod yr Athro Ann John, sy'n arbenigwr mawr yn y maes hwn, ac rydym yn ffodus iawn i gael ei mewnbwn, wedi bod yno i siarad amdano, a hefyd yr agwedd hunan-niweidio ohono hefyd. Cefais fy syfrdanu pan gawsom ni'r gynhadledd am yr ymchwil drylwyr sydd wedi'i wneud yn y maes hwnnw, ac nid oedd i fod i gael ei weld fel ychwanegiad. Roedd hunan-niweidio, ynghyd â'r strategaeth atal hunanladdiad, yn hollol hanfodol.
Maen nhw'n chwaer strategaethau, dyna'r ffordd rydw i'n ei weld. Oherwydd—ac rwy'n credu, fel y dywedais i, mae Lynne Neagle bob amser wedi dweud hyn o'r blaen—mae angen y strategaeth iechyd meddwl a lles cyffredinol, a dyna lle rydym ni nawr yn ceisio dod â'r model hwnnw o ofal, y gofal graddol hwnnw, un sesiwn, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod angen i ni ddeall cymaint yn well y rhesymau dros hunanladdiad a hunan-niweidio, ac mae angen i hynny fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi ei arwain gan dystiolaeth, oherwydd ni chawsom ni erioed hynny mewn gwirionedd. Ac felly o hynny, yna, bydd gennym ni'r gefnogaeth honno wedi'i theilwra a'r gyfres honno o ganlyniadau y mae angen i ni eu sicrhau fel y gallwn ni wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Maen nhw wedi'u cydblethu mewn sawl ffordd, oherwydd yr hyn rydw i eisiau ei weld o'n strategaeth iechyd meddwl a lles yw, yn y pen draw, bod pobl yn cael y gefnogaeth honno cyn gynted â phosibl, ac nad ydyn nhw'n cyrraedd y pwynt argyfwng hwnnw, ond yna rydym ni hefyd yn rhyddhau capasiti i bobl a fydd angen gofal arbenigol. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau allweddol a welir bob amser yw, os yw pobl yn estyn allan, neu os ydyn nhw'n magu'r dewrder hwnnw i estyn allan—ac mae mor anodd mynegi weithiau yn union beth rydych chi'n ei deimlo, ac yn union beth sydd ei angen arnoch chi pan nad ydych chi'n gwybod beth sydd ei angen arnoch chi—ac os ydyn nhw'n teimlo wedyn fel pe na bai hynny'n cael ei glywed, sut y gall hynny arwain at argyfwng mewn gwirionedd, a sut mae'n anodd iawn iddyn nhw wneud hynny eto.
Felly mae'r cyfan yn gysylltiedig, ond rwy'n falch iawn bod gennym ni bobl mor ardderchog yn gwneud yr ymchwil sydd ei angen arnom ni, oherwydd mae angen i ni ei ddeall yn well. Rwyf bob amser yn siarad cymaint am brofiad bywyd pobl. Fel rydw i wedi dweud o'r blaen, dywedodd Neil Ingham o'r Samariaid wrthyf ar y diwrnod y gwnaethom ni lansio'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio mai'r gwahaniaeth, pan fyddwch chi'n edrych ar hunanladdiad, yw bod gennych chi brofiad byw y bobl sy'n dal yma, a bron bod angen ichi adael cadair yno yn yr ystafell i'r bobl sydd ddim, oherwydd dyna'r profiad nad oes gennym ni, o reidrwydd. Felly mae mor sensitif, ac roedd arna i eisiau esbonio mai dyna pam mae gennym ni nhw ar wahân, ond maen nhw'n chwiorydd.
Roedd arna i hefyd eisiau dweud, am y rhan cydraddoldeb ohono, y bu hyn yn wir yn ffrwyth cydweithio traws-lywodraethol. Rydw i wedi cael mewnbwn anhygoel llawer o fy nghyd-Aelodau, a Jane Hutt, ac yn edrych ar, fel y dywedoch chi, y cynllun gweithredu cydraddoldeb hil, y cynllun gweithredu anabledd hefyd. Mae hyn i gyd wedi'i gydblethu, oherwydd y prif beth am hyn yw ein bod ni'n rhoi'r gorau i drin iechyd meddwl fel rhywbeth meddygol, oherwydd rydym ni'n gwybod bod cymaint o ffactorau sy'n effeithio arno, ac mae angen i ni allu siarad amdanyn nhw i gyd. Felly fe hoffwn i eich sicrhau bod hyn yn gywaith gyda'r Llywodraeth gyfan, ac yn ystyried yr holl strategaethau cydraddoldeb sydd, unwaith eto, wedi'u cynllunio gan bobl sydd â phrofiad byw.
Ac yna yn olaf, ie, o ran cefnogi plant a phobl ifanc, pan gawsom ni'r ymgynghoriad, fe gawsom ni lawer iawn o adborth gan blant a phobl ifanc, ac rwy'n parhau i dderbyn hynny. Y dydd Sadwrn yma, byddaf i a fy nghyd-Aelod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn treulio'r diwrnod mewn gweithdai gyda phlant sy'n derbyn gofal, ac yn gofyn iddyn nhw, 'Beth mae hyn yn ei olygu i chi? Sut fyddai hyn yn gweithio orau i chi?' Ac yna bydd hefyd yn berthnasol, wrth gwrs, i'r fframweithiau sydd gennym ni eisoes ar waith, felly mae'r fframwaith ymarfer aml-asiantaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau plant—caiff ei blethu i hynny hefyd. Fel y gwyddoch chi, rwy'n gefnogol iawn o eiriol dros blant, ac rwy'n credu bod angen i hynny hefyd fod â rhan allweddol yn hyn. Ond ymgynghorwyd â nhw hefyd, ac rwy'n gobeithio bod hynny yn adlewyrchu felly, yn y strategaeth a'r cynllun cyflawni, yn union beth rydym ni'n ceisio ei gyflawni ar gyfer ein holl genedlaethau ledled Cymru. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.
Eitem 5 sydd nesaf, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM8886 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Data (Defnydd a Mynediad) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ac argymhellaf fod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil Data (Defnydd a Mynediad), fel y nodir yn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd ar y Bil hwn.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor—
Mae'n ddrwg gen i, Dirprwy—. Roeddwn i'n mynd i barhau. Doeddwn i ddim yn hollol siŵr a oedd pawb yn clywed. [Chwerthin.]
Gallaf eich clywed yn glir.
Dim ond dechrau oeddwn i. Ymddiheuriadau i'm cyd-aelodau.
Mae gennych chi bedwar munud arall. Rydych chi'n iawn.
Iawn. Felly, trwy'r Bil hwn, mae Llywodraeth y DU yn ceisio harneisio pŵer data ar gyfer twf economaidd, cefnogi Llywodraeth ddigidol fodern a gwella bywydau pobl.
Er bod mwyafrif helaeth y Bil hwn wedi'i gadw'n ôl, mae darpariaethau sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel yr amlinellir yn y memoranda. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth gyda Llywodraeth y DU sy'n canolbwyntio ar oblygiadau datganoledig rhai o'r darpariaethau hyn. Rwy'n falch o ddweud mai canlyniad hyn oedd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau i'r darpariaethau cofrestr asedau tanddaearol cenedlaethol ar 25 Mawrth 2025. Mae'r gofrestr asedau tanddaearol cenedlaethol, sydd wedi bod yn cael ei defnyddio yma yng Nghymru ers 2021, yn enghraifft wych o sut y gellir defnyddio gwasanaethau digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl sy'n byw yng Nghymru. Mae'r diwygiadau a wnaed i'r darpariaethau newydd yn dangos consesiwn ar ran Llywodraeth y DU, ac yn darparu mesurau diogelwch cyfansoddiadol angenrheidiol ynghylch y rhan hon o'r Bil.
Roedd ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried goblygiadau datganoledig Rhannau 1 a 2 o'r Bil. Bydd aelodau'n ymwybodol nad oedd y ddwy Lywodraeth yn gytûn yn y dadansoddiad o ddatganoli sy'n ymwneud â'r darpariaethau hyn. Fodd bynnag, rwy'n croesawu bwriad polisi y darpariaethau hyn, a fydd yn dod â buddion i bobl yng Nghymru. Er enghraifft, bydd rheoliadau sy'n sail i sefydlu cynlluniau data clyfar yn gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i unigolion a busnesau yng Nghymru, tra bydd mwy o ddefnydd o hunaniaethau digidol yn ei gwneud hi'n haws i unigolion brofi eu hunaniaethau, gan alluogi mwy o fynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol.
Rwy'n sylweddoli y bydd y Senedd yn siomedig gyda'r cyflwyniad hwyr o'r pedwerydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Er bod trafod cyflym â Llywodraeth y DU wedi ein galluogi i gyflwyno'r memorandwm gofynnol yn gyflym iawn, rwy'n sylweddoli y bydd gallu'r Senedd i graffu ar y gwelliannau hynny wedi cael ei effeithio.
Ar fater digonolrwydd data yr UE, bydd y Senedd yn ymwybodol fy mod wedi codi pryderon ynghylch effaith bosibl y Bil hwn ar ddigonolrwydd. Byddaf yn parhau i godi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU trwy'r sianeli rhynglywodraethol priodol.
Felly, i gloi, fe hoffwn i ddiolch i'r pwyllgorau am ystyried y memoranda hyn, ac i gydnabod effeithiau cadarnhaol y Bil hwn, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac yn rhoi ei chydsyniad.
Nawr galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Cysylltiadau Rhyngwladol, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cafodd y pedwar memorandwm yn gysylltiedig â'r Bil data eu cyfeirio at ein pwyllgor ni. Yn anffodus, oherwydd na chafodd y ddau femorandwm diweddaraf eu gosod tan ddiwrnod cyn toriad y Pasg a dydd Llun diwethaf, nid yw'r pwyllgor wedi cael amser i ystyried memoranda 3 a 4. Mae adroddiad y pwyllgor, felly, yn canolbwyntio ar y memorandwm gwreiddiol a memorandwm atodol Rhif 2 yn unig. Mae'n drueni nad ydym wedi cael cyfle i graffu ar y lleill.
Mae rhannu data rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn elfen hollbwysig, wrth gwrs, o'r berthynas sydd rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.
Rydym ni felly yn rhannu pryderon Llywodraeth Cymru am effaith bosibl y Bil ar y penderfyniadau digonolrwydd presennol ac yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â masnach a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau preifat a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dibynnu ar lif data trawsffiniol, a gallai colli digonolrwydd effeithio ar feysydd eraill o rannu data, gan gynnwys gorfodi'r gyfraith.
Rydym ni hyd yn oed yn fwy pryderus am effeithiau posibl y Bil ar ddigonolrwydd data yr UE a'r cytundeb masnach a chydweithredu pan gaiff ei ystyried yng nghyd-destun cysylltiadau rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. Mae llythyr diweddar y Prif Weinidog atom ni ym mis Ionawr yn rhestru sicrhau cadw digonolrwydd data yr UE ar gyfer busnesau Cymru sy'n masnachu gyda'r UE fel blaenoriaeth ar gyfer adolygiad y cytundeb masnach a chydweithredu. O ystyried y flaenoriaeth honno, mae'r posibilrwydd o golli digonolrwydd data yr UE o ganlyniad i'r Bil, a'r bygythiad mawr y byddai hyn yn ei achosi i fusnesau allforio Cymru, yn arbennig o bryderus.
Rydym yn siomedig nad yw'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol na'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn cynnwys dadansoddiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu, er gwaethaf bod Llywodraeth Cymru yn derbyn ein hargymhelliad y dylai memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar Filiau sy'n effeithio ar y cytundeb masnach a chydweithredu nodi asesiad Llywodraeth Cymru o effaith o'r fath. Nodwn nad yw Llywodraeth Cymru yn credu y bydd y Bil yn cael effaith uniongyrchol nac uniongyrchol ar gydymffurfiaeth y DU â'r cytundeb masnach. Fodd bynnag, nodwn fod Llywodraeth Cymru bellach o'r farn y gallai darpariaethau diogelu data y cytundeb hwn gael eu tanseilio, pe bai'r Bil yn arwain at wahaniaethau'r DU a'r UE. Rydym yn rhannu pryderon Llywodraeth Cymru y gallai'r Bil nodi dechrau gwyriad y DU o'r drefn diogelu data sydd ar waith ar hyn o bryd ledled yr UE, ac effaith bosib hyn ar fusnesau preifat a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â gorfodi'r gyfraith.
Felly, er nad yw’r pwyllgor wedi ystyried memoranda 3 a 4, rwy’n nodi bod pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch digonolrwydd data yn dal yn bodoli. Felly, nes bod y pryderon hyn wedi eu datrys, bydd fy mhwyllgor i yn argymell bod y Senedd yn dal ei chydsyniad yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfu ar y materion datganoledig hyn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gweld beth oedd problem Rebecca. Rwy'n tybio—. O, mae wedi mynd yn goch eto nawr.
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adrodd ar bob un o'r pedwar memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Cyflwynwyd ein pedwerydd adroddiad yn gynharach heddiw, o ystyried mai dim ond yr wythnos diwethaf y cyflwynwyd memorandwm Rhif 4. Penderfynodd y pwyllgor ystyried ac adrodd ar femorandwm Rhif 4 yn gyflym oherwydd y sefyllfa y mae'r Senedd hon bellach ynddi.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad i'r darpariaethau perthnasol, er gwaethaf parhau i fod â phryderon cyfansoddiadol am y Bil. Mae adroddiadau'r pwyllgor wedi canolbwyntio ar y materion cyfansoddiadol arwyddocaol hyn. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn glir bod ganddi bryderon o hyd am oblygiadau cyfansoddiadol darpariaethau yn Rhannau 1 a 2 o'r Bil sy'n effeithio ar faterion datganoledig. Er enghraifft, mae Rhan 1 yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Lywodraeth y DU mewn maes datganoledig heb unrhyw swyddogaeth i Weinidogion Cymru na'r Senedd.
Ym memorandwm Rhif 3, ymddengys bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn awgrymu na roddwyd sylw i'r diwygiadau i'r darpariaethau sy'n peri pryder yn Rhannau 1 a 2 o'r Bil oherwydd nad oedd Llywodraeth Cymru a'r DU yn gyson o ran eu dadansoddiad o ddatganoli ar y rhannau hyn o'r Bil. Mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at bryderon Llywodraeth Cymru gyda darpariaethau tebyg am ddata cwsmeriaid a busnesau ac roedd datgelu gwybodaeth yn flaenorol ym Mil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi argymell i'r Senedd fod cydsyniad i'r Bil hwnnw yn cael ei atal. Nid yw'r pwyllgor yn fodlon bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cynnig dadl argyhoeddiadol ynghylch pam y gellid cydnabod y pryderon gyda Rhan 1 a 2 o'r Bil. Mae'r pwyllgor wedi cydnabod bod y gwelliannau a gyflwynwyd i Ran 3 ar gyfer Cyfnod Adroddiad Tŷ'r Cyffredin yn bodloni pryder yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch y darpariaethau perthnasol yn y rhan honno. Fodd bynnag, er bod swyddogaeth gydsynio i Weinidogion Cymru yn welliant sylweddol i ofynion Rhan 3 o'r Bil, byddai swyddogaeth i Weinidogion Cymru yn unig wrth arfer pwerau dirprwyedig gan Lywodraeth y DU, sy'n effeithio ar fuddiannau datganoledig, yn dal i olygu osgoi'r Senedd yn y materion hyn. Ar ben hynny, er bod y pwyllgor wedi cydnabod y swyddogaeth gydsynio newydd hon i Weinidogion Cymru, mae'n parhau i fod yn wir y bydd cymalau 56 a 57 o'r Bil fel y'i diwygiwyd yn dal i roi pwerau dirprwyedig sydd i'w harfer mewn meysydd datganoledig gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig. Mae hyn yn annerbyniol ac yn achos pryder difrifol.
Yn ogystal â'r materion sy'n peri pryder gyda Rhannau 1 a 2, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn parhau i bryderu y gallai'r Bil gael effaith ar statws digonolrwydd data rhwng y DU a'r UE, gyda goblygiadau posibl ar gyflenwi masnach a gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw'n glir i ni sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu datrys pryderon Llywodraeth Cymru. Mae'r pwyllgor o'r farn bod ymdriniaeth Llywodraeth Cymru â'r Biliau a gyflwynwyd i Senedd y DU, sy'n gwneud darpariaeth sy'n ystyried materion datganoledig, yn fwyfwy annigonol. Mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at y pwysau a'r cyfrifoldeb sydd ar bwyllgorau'r Senedd i adrodd ar faterion difrifol, fel bod y Senedd yn ei chyfanrwydd yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid cydsynio i'r Bil ai peidio. Mae'r pwyllgor yn pryderu bod memoranda annigonol, o ran ansawdd a phrydlondeb, yn cynyddu'r risg y gallai'r Senedd wneud penderfyniadau cydsyniad deddfwriaethol na fyddai fel arfer yn eu gwneud, pe bai wedi gallu ystyried gwybodaeth allweddol o fewn fframwaith priodol.
Er ein bod yn croesawu rhai elfennau o'r Bil—ac mae yna, wrth gwrs, yn bendant angen gwell symleiddio, hygyrchedd a chludadwyedd data, er mwyn gwella effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus—ni all Plaid Cymru gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, yn enwedig oherwydd goblygiadau cyfansoddiadol pellgyrhaeddol posibl, sydd, fel y nodwyd gan bwyllgorau, heb gael eu datrys mewn ffordd foddhaol. Mae pryderon cyfreithlon hefyd wedi'u codi ynglŷn â'i botensial i wanhau safonau ar ddiogelu data, ac mae'n ddweud yn hyn o beth bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhannu'r asesiad risg perthnasol hwn ar y mater hwn gyda Llywodraeth Cymru.
O safbwynt ehangach, mae'n werth nodi hefyd bod y Bil hwn yn debygol o fod yn rhan allweddol o agenda twf Llywodraeth y DU, agenda sydd hyd yma wedi cynhyrchu ychydig o fudd diriaethol i Gymru. Felly, oherwydd y rhesymau hynny, byddwn yn pleidleisio yn erbyn cydsynio.
Fe hoffwn i siarad am y gofrestr asedau tanddaearol cenedlaethol, sy'n rhan o'r Bil hwn. Felly, ai'r bwriad yw y bydd yn dal i ddod o dan yr Ysgrifennydd Gwladol? Fe hoffwn i ddim ond siarad am gymhlethdodau'r gwe o bibellau a cheblau sydd o dan y ddaear. Mae'n gymhleth iawn. Mae angen mapio gyda gwybodaeth leol, ac mae angen arbenigedd. Fe welsom ni enghreifftiau yn ddiweddar o lyncdyllau lle mae pibellau wedi gollwng o dan y ffyrdd ac mae ffyrdd wedi diflannu. Mae dwythellau yn cael eu rhwystro, ac mae'n golygu bod gennych chi waith ffordd dro ar ôl tro, sawl gwaith cyn i unrhyw waith gael ei wneud, ac mae'n broblem enfawr pan fydd awdurdodau lleol yn ceisio rheoli hyn.
Mae ein rhwydwaith ffyrdd strategol wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae ein rhwydwaith ffyrdd lleol wedi'i ddatganoli i awdurdodau lleol. Mae cynllunio wedi'i ddatganoli. Pan fydd angen i gwmnïau cyfleustodau gael mynediad i'r rhwydwaith tanddaearol, rhaid iddyn nhw gysylltu ag adrannau gwaith stryd awdurdodau lleol. Felly, fe hoffwn i wybod, a ymgynghorwyd ag awdurdodau lleol, ac a yw swyddogion yn ymwybodol o anferthedd hyn? Diolch.
Ai llaw i fyny yw hynny? Ydych chi'n dymuno siarad, Mr Davies? Alun Davies.
Diolch. Rwy'n credu bod y pwyntiau a godwyd gan Carolyn Thomas yn bwerus iawn ac yn bwysig iawn, ac mae'n debyg bod angen i'r Ysgrifennydd Cabinet roi sylw iddyn nhw yn ei hymateb. Roedd y Prif Weinidog yn glir iawn y bore yma mewn araith a wnaeth yn yr eglwys Norwyaidd o ran y setliad datganoledig, oni bai bod cydsyniad gyda Gweinidogion Cymru, yna ni fyddai cydsyniad yn cael ei roi i ddeddfwriaeth y DU. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n glir iawn am y pwynt hwnnw. Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn methu'r prawf hwnnw, rwy'n credu, yn y ffordd a nodwyd gan Carolyn Thomas.
Bu holl stori'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn un lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhedeg i ddal i fyny â phenderfyniadau a wnaed yn Llundain ac wedi bod yn ceisio—. Ac rwy'n canmol yr Ysgrifennydd Cabinet am y gwaith y mae hi wedi'i wneud wrth geisio gwella'r Bil, oherwydd mae hi wedi gwneud ymdrechion sylweddol, ac mae hi wedi cael effaith o ran yr hyn y mae wedi'i gyflawni, ac fe ddylid ei chanmol am hynny. Ond nid yw hyn yn cyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog y bore yma. A'r hyn na ddylai fod yn digwydd yw Llywodraeth y DU o unrhyw liw yn cyflwyno deddfwriaeth sydd wedi'i wreiddio yn sylfaenol mewn materion datganoledig heb gydsyniad Llywodraeth Cymru a heb yn wybod i Lywodraeth Cymru a heb i Lywodraeth Cymru fod yn bartner i hynny. Rydym ni wedi gweld gormod o femoranda cydsyniad deddfwriaethol yn y Senedd hon yn eu cyfanswm, ond yr hyn rydym ni'n ei weld nawr yw memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy'n delio â materion datganoledig a lle mae Llywodraeth Cymru yn ildio'r setliad i Weinidogion y DU, a hefyd, ar yr un pryd, yn galluogi Gweinidogion y DU i ddiwygio deddfwriaeth Cymru heb gyfeirio at Weinidogion Cymru na'r Senedd hon, ac mae hynny'n annerbyniol. Mae'n methu'n llwyr y profion sydd wedi'u gosod gan y Prif Weinidog i gefnogi deddfwriaeth y DU. Felly, yn fy marn i, nid wyf yn teimlo y dylem ni fod yn gyfforddus wrth bleidleisio o blaid hyn heddiw.
Byddai'n well gen i'r Gweinidog, yr Ysgrifennydd Cabinet, dynnu hyn yn ôl heddiw a dod yn ôl gyda memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy'n pasio'r prawf a sefydlwyd gan y Prif Weinidog. Ond fel arall, rwy'n credu y bydd llawer o Aelodau Llafur a gefnogodd y Prif Weinidog y bore yma yn teimlo'n anghyffyrddus iawn, iawn am bleidleisio dros hyn y prynhawn yma.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.

Wel, rwy'n ddiolchgar i'r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Gobeithio y bydd yr hyn y byddaf yn gallu ei ddweud yn lleddfu rhai o'r pryderon a godwyd gan nifer o gyd-Aelodau.
Byddaf yn dechrau ar y pwynt digonolrwydd data. Felly, mae'n amlwg nad yw digonolrwydd data wedi ei ddatganoli ac mae'n fater sy'n cael sylw gan Lywodraeth y DU ar y cyd â Chomisiwn yr UE. Comisiwn yr UE sydd â'r cyfrifoldeb am y broses adnewyddu honno ar gyfer digonolrwydd data. Bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol eu bod wedi cynnig estyniad chwe mis i'w benderfyniadau digonolrwydd, a hynny yw rhoi amser i'r Comisiwn gwblhau ei adolygiad o ddigonolrwydd data unwaith y bydd y Bil data wedi cwblhau ei hynt drwy Senedd y DU.
Rydw i a swyddogion wedi pwysleisio pwysigrwydd cadw digonolrwydd data fel mater i Lywodraeth y DU ac ni fydd canlyniad adolygiadau digonolrwydd data yn hysbys tan ar ôl i'r Bil gwblhau ei hynt drwy'r Senedd. Felly, fe hoffwn i fod yn glir iawn gyda chyd-Aelodau na fydd gwrthod cydsyniad i'r Bil yn datrys hyn o safbwynt digonolrwydd heddiw. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr ymateb hwnnw, o leiaf i gyfraniad y Cadeirydd cyntaf y prynhawn yma, o ran un o'r rhesymau pam nad yw'r pwyllgor yn argymell cydsyniad—. Mae hi'n hollol hanfodol bod y DU yn cadw ei statws o ran digonolrwydd data, ac rwy'n sicrhau cyd-Aelodau, unwaith eto, bod ein swyddogion yn cyfrannu at y gwaith sydd ei angen i sicrhau bod digonolrwydd yn cael ei gyflawni, a byddwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol i Lywodraeth y DU yn ôl yr angen yn y cyfnod hwnnw.
Ac eto, mewn perthynas â'r pryderon am y cytundeb masnach a chydweithredu, ysgrifennais at bwyllgorau ar 5 Chwefror, yn nodi barn Llywodraeth Cymru na fydd y Bil yn cael effaith uniongyrchol nac ar unwaith ar gydymffurfiaeth y DU â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a gallaf gadarnhau nad oes unrhyw un o'r gwelliannau perthnasol wedi newid ein hasesiad o effaith y Bil ar y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae'r darpariaethau diogelu data o fewn y cytundeb, yn gyffredinol, yn eithaf eang ac ar lefel uchel, ac, fel y cyfryw, mae'r newidiadau i fframwaith diogelu data y DU a gynigir gan y Bil yn annhebygol o effeithio ar gydymffurfiaeth y DU â'r cytundeb masnach a chydweithredu. Ond, wrth gwrs, rydym ni wedi tynnu sylw at wyriad oddi wrth y drefn diogelu data sydd ar waith ar hyn o bryd ledled yr UE a'r DU fel rhywbeth a allai danseilio'r darpariaethau diogelu data yn y cytundeb masnach a chydweithredu yn y dyfodol.
Ac rydw i wir eisiau mynd i'r afael â'r pwyntiau a wnaed am y gofrestr asedau tanddaearol cenedlaethol hefyd. Bydd y pwyntiau hynny o fewn y Bil yn sicr yn gwella'r ffordd y mae cyrff a diwydiant ledled y DU yn gosod, cynnal a gweithredu ac atgyweirio seilwaith claddu. Nid yn unig y bydd hynny'n darparu arbedion ariannol, ond bydd hefyd yn gwella effeithlonrwydd ac yn lleihau'r achosion o daro asedau ac yn lleihau tarfu i'r cyhoedd a busnesau. Yn amlwg, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddem ni i gyd yn ei groesawu a'i gefnogi. Pan argymhellodd Llywodraeth Cymru y dylid gwrthod cydsyniad ar gyfer y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol blaenorol, roedd yr ymagwedd y Llywodraeth honno mewn perthynas â darpariaethau'r gofrestr asedau tanddaearol cenedlaethol.
Amlygwyd bod tynnu swyddogaeth weithredol ddatganoledig oddi wrth Weinidogion Cymru heb gytundeb yn gwbl amhriodol, ac rwy'n gwybod bod pwyllgorau yn rhannu'r farn honno. Fodd bynnag, mae trafod â Llywodraeth bresennol y DU wedi datrys y mater hwnnw, ac rwyf wedi cyfeirio at y gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 25 Mawrth. Felly, unwaith eto, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i gyd-Aelodau yn hynny o beth.
Ac yna, o ran y pryderon cyfansoddiadol hynny ynghylch Rhannau 1 a 2 o'r Bil, bydd cyd-Aelodau a drafododd hyn yn y pwyllgor yn cofio bod hynny'n rhan benodol o'r Bil. Mae Llywodraeth yr Alban o'r farn ei bod hi'n bwysig bod yr un drefn reoleiddiol yn berthnasol ledled y DU, gan symleiddio gweithrediadau busnes a sicrhau bod defnyddwyr a chwmnïau hefyd yn elwa. Ac maen nhw o'r farn—ac mae dadl, yn sicr, o blaid—bod cod ymarfer ledled y DU ar gyfer rhannu gwybodaeth bersonol at ddibenion dilysu digidol yn sicr yn fanteisiol. Byddai cael dau god gwahanol yn creu gwahaniaeth mewn canllawiau, gydag anghysondeb o bosibl yn creu dryswch rhwng awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a darparwyr gwasanaethau hunaniaeth ledled y DU y byddent yn darparu'r wybodaeth honno iddyn nhw.
Felly, cytunodd Senedd yr Alban ar y cynnig ynghylch y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar 1 Ebrill, gan gydsynio i'r Bil, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu mynd i'r afael â'r pryderon penodol y bu gan gyd-Aelodau mewn perthynas â'r gwelliannau diweddar a wnaed i'r Bil gan Lywodraeth y DU a'r ffaith na fydd yr hyn a benderfynwn ni heddiw yn effeithio ar ble rydym ni arni mewn perthynas â'r cytundeb masnach a chydweithredu na'r data penderfyniadau digonolrwydd, a wneir ar ôl pasio'r Bil.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 6 heddiw yw cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM8885 Jane Hutt
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r Atodlenni i’r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 1 i 4;
b) Atodlen 1;
c) Adran 5;
d) Atodlen 2;
e) Adran 6;
f) Atodlen 3;
g) Adrannau 7 ac 8;
h) Yr enw hir.
Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n symud y cynnig.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Pleidleisiwn ar eitem 5, cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil data. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Data (Defnydd a Mynediad): O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Byddwn nawr yn cael egwyl am 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn inni ailgynnull. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:35.
Ailymgynullodd y Senedd am 16:49, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
[Anghlywadwy.]—y sesiwn heddiw drwy edrych nawr ar Gyfnod 3 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).
Grŵp 1 yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud â strategaeth y Gymraeg. Gwelliant 22 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant. Mark Drakeford.
Cynigiwyd gwelliant 22 (Mark Drakeford).

Llywydd, diolch yn fawr. Mae'r targed o filiwn o siaradwyr wedi cael ei gydnabod yn eang ers iddo gael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru yn ein strategaeth 'Cymraeg 2050' yn 2017. Mae cael nod clir i fynegi'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni drwy ein hymdrechion i hybu a hwyluso dysgu a defnyddio'r Gymraeg wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd. Hefyd, mae wedi ysgogi ymdrechion cynifer o sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i ymuno â ni ar y daith hon.
Yng Nghyfnod 2, pleidleisiodd y pwyllgor i gefnogi gwelliannau Cefin Campbell oedd yn rhoi y tu hwnt i unrhyw amheuaeth nad oedd y targed o filiwn o siaradwyr erioed wedi'i fwriadu i weithredu fel cap. Mae'r Llywodraeth yn parhau i gefnogi'r bwriad hwn. Mae gwelliannau 20, 21, 22 a 23 y Llywodraeth yr wyf yn eu symud heddiw yn welliannau i'r testun Cymraeg yn unig o'r adrannau a gafodd eu newid yng Nghyfnod 2. Mae eu hangen er mwyn bod yn gyson ag arddull drafftio Llywodraeth Cymru. Nid ydynt mewn unrhyw ffordd yn newid effaith y gwelliannau a gafodd eu cytuno yng Nghyfnod 2.
Gan droi at welliannau eraill yn y grŵp hwn, pwrpas gwelliant 49 yn enw Cefin Campbell yw sicrhau bod yn rhaid i'r strategaeth iaith gynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog cynnydd yn y defnydd digidol o'r Gymraeg. Roeddwn yn falch o allu cydweithio â'r Aelod yn dilyn Cyfnod 2 ar y gwelliant hwn, a gallaf gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 49, ynghyd â gwelliannau 47 a 48, sy'n sicrhau drafftio mwy cywir o fewn yr un adran. Felly, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.
Wel, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y trafodaethau sydd yn digwydd heddiw, ond cyn cyfeirio at y gwelliannau penodol sydd yn y grŵp hwn, hoffwn i wneud ychydig o sylwadau cyffredinol am y Bil hollbwysig hwn. I ddechrau, hoffwn i ddatgan buddiant. Fel ŷch chi'n gwybod, bues i'n rhan o'r trafodaethau cynnar ar ddatblygiad y Bil hwn, yn arbennig wrth baratoi'r Papur Gwyn fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Ond fel y gwyddoch chi, daeth y cytundeb i ben cyn bod unrhyw waith penodol yn digwydd ar lunio'r Bil ei hun.
Llywydd, chwarter canrif wedi agor y Senedd hon, mae'n fater o siom bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r cyfle i ddysgu'r Gymraeg yn ein cyfundrefn addysg a'i defnyddio yn eu bywyd pob dydd. Yn sgil y methiannau hyn dros y degawdau diwethaf, mae'n hollbwysig ein bod yn deddfu yn y maes hwn i sicrhau'r cynnydd angenrheidiol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Os edrychwn ni ar y ffigurau dros y ddegawd ddiwethaf yn unig, yn 2014 roedd 21.9 y cant o ddisgyblion cynradd yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion lle mai'r Gymraeg oedd y prif gyfrwng addysg. Erbyn 2024, y ganran gyfatebol oedd 22.5 y cant, cynnydd eithriadol o fychan o ddim ond 0.6 y cant. Yn wir, dros yr un cyfnod ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd, mae'r ganran o'r rhai oedd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg mewn gwirionedd wedi gostwng o 14.2 y cant i 13.5 y cant. Mae’r ffaith ein bod ni wedi aros yn ein hunfan am ddegawd gyfan yn tanlinellu’r angen am drawsnewid y drefniadaeth bresennol yn llwyr ar gyfer gweld twf sylweddol yn y nifer sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, a newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Gan droi, felly, at fy ngwelliannau i yn y grŵp hwn, yng Nghyfnod 2 fe wnes i gyflwyno gwelliant yn aflwyddiannus a oedd yn ceisio ychwanegu cyfeiriad at lwyfannau digidol yn strategaeth y Gymraeg. Er na basiwyd y gwelliant hwn, roeddwn yn ddiolchgar iawn i gael ymrwymiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet—ac rŷn ni wedi clywed yr ymrwymiad hwnnw yn barod—y byddai e’n gweithio gyda fi ar y mater penodol hwn yn ystod Cyfnod 3. Felly, dyma ni yn cydweithio ar y gwelliannau sydd o’n blaenau ni heddiw yn y grŵp hwn.
Felly, pwrpas gwelliant 49 yw ychwanegu cymal yn adran 1, sydd yn sicrhau y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, wrth lunio strategaeth Gymraeg newydd, yn cynnwys y camau maent yn bwriadu eu cymryd i annog cynnydd mewn defnydd digidol o’r Gymraeg, a dwi’n falch iawn o groesawu cefnogaeth yr Ysgrifennydd Cabinet a’r Llywodraeth i’r gwelliant hwn. Fel rŷn ni i gyd yn gwybod, yn y byd sydd ohoni, allwn ni ddim anwybyddu dylanwad a phresenoldeb y cyfryngau digidol ym mywydau pob un ohonom ni, ond yn arbennig ein plant a phobl ifanc o ran defnydd o’r Gymraeg.
Gall technoleg ei gwneud hi’n haws i ni ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, o addysg a gwaith i sgwrsio gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr. Mae’n ddiddorol, fe glywais i ystadegyn yn ddiweddar a oedd yn dangos bod dros 70 y cant o bobl ifanc yn cysylltu â’u ffrindiau drwy dechnoleg yn unig. Rwy’n gobeithio felly, drwy ymgorffori’r gwelliant hwn, y bydd y Bil yn alinio’n dda â dyheadau a strategaethau technoleg ddigidol presennol y Llywodraeth. Felly, mae gwelliannau 47 a 48 yn fy enw i yn ganlyniadol i welliant 49, drwy ychwanegu 'defnydd' i adran 1, is-adran 1(b)(i) a (ii) pan yn cyfeirio at bennu targedau i gynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle ac yn gymdeithasol.
Felly, rwy'n derbyn cefnogaeth yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd i addasu targed Llywodraeth Cymru i o leiaf 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 er mwyn sicrhau nad yw'r nenfwd yn aros ar y filiwn. A dwi ddim yn poeni am leoliad un gair neu un coma—fuodd hynny'n dipyn o drafodaeth rhyngof i a'r Ysgrifennydd Cabinet ar un adeg—ond mae yna ymrwymiad yma i osod y nod yn uchel iawn, iawn. Felly, bydd y newid geiriad yma'n cadw'r ymrwymiad polisi presennol, ond yn rhoi lle i'r Llywodraeth a Llywodraethau'r dyfodol anelu ymhellach fyth o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Diolch yn fawr iawn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Llywydd, diolch i Cefin Campbell am setio mas y cefndir a chyd-destun y Bil, ac, wrth gwrs, dwi'n croesawu'r ffaith ei fod e'n cefnogi'r gwelliannau yng ngrŵp 1, a dwi'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yn gwneud yr un peth.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 22 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 23 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 23 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? Mae gwelliant 23 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cefin Campbell, ydy gwelliant 47 yn cael ei symud?
Ymatal, achos—
Na, dwi'n meddwl bod e'n cael ei—
Cynigiwyd gwelliant 47 (Cefin Campbell).
Sori, symud 47. Sori, wnes i ddim clywed. Sori, symud hwnna, ie.
Na, mae'n iawn. Mae'n iawn. Mae gwelliant 47 wedi cael ei symud, felly. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 47 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 48. Yn cael ei symud, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 48 (Cefin Campbell).
Symud.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 48? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae e felly wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 49, a yw'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 49 (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 49? Nac oes. Felly, mae gwelliant 49 wedi'i dderbyn hefyd.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 2. Gwelliannau technegol yw y rhain. Gwelliant 24 yw'r prif welliant yn y grŵp. Yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant—Mark Drakeford.
Cynigiwyd gwelliant 24 (Mark Drakeford).
Diolch yn fawr, Llywydd. Gwelliannau technegol yw'r gwelliannau yn y grŵp hwn, a gyflwynwyd i sicrhau bod darpariaethau'r Bil yn gweithio fel y bwriadwyd. Pwrpas ac effaith gwelliant 24 yw i ddarparu diffiniad o addysg Gymraeg yn Rhan 1 y Bil. Pwrpas gwelliant 34 yw dileu cyfeiriad diangen. Mae gwelliant 35 yn adlewyrchu y pwrpas o hybu addysg Gymraeg mewn ysgolion prif iaith Cymraeg. Pwrpas ac effaith gwelliannau 40, 41 a 43 yw sicrhau bod y testun yn gywir. Gyda gwelliannau 38, 39 a 42, maen nhw'n sicrhau cysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg, ac maent yn diwygio'r testun Saesneg yn unig. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi pob gwelliant yn y grŵp yma.
Does gyda fi ddim siaradwyr ar y grŵp yma. Felly, y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 24. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae gwelliant 24 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Byddwn yn symud nawr, felly, i grŵp 3. Mae'r trydydd grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg. Gwelliant 72 yw'r prif welliant yn y grŵp. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma—Mark Drakeford.
Cynigiwyd gwelliant 72 (Mark Drakeford).
Llywydd, symudaf welliant 72, sy'n ymateb i welliant 103, a gyflwynwyd gan Cefin Campbell yng Nghyfnod 2 ac a gytunwyd gan y pwyllgor; a hefyd welliant 1, a gyflwynwyd gan Tom Giffard yng Nghyfnod 3, ond sydd nawr wedi'i dynnu yn ôl. Effaith gwelliant 72 yw gwneud newidiadau technegol i'r drafftio a darparu eglurder bod yn rhaid cyfrifo canran y disgyblion mewn ysgolion categori prif iaith Cymraeg ar sail pob disgybl o oedran ysgol gorfodol sydd mewn ysgolion a gynhelir.
Mae hefyd yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys, o leiaf unwaith bob pum mlynedd, asesiad o gyfanswm nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, drwy gyfeirio at oedran yn yr adroddiad ar strategaeth y Gymraeg. Mae'r rhan hon o'r gwelliant wedi'i chynnwys yn dilyn ystyried gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Tom Giffard, sydd bellach wedi ei dynnu yn ôl. Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliant hwnnw, ac rwy'n diolch i Tom Giffard am dynnu gwelliant 1 yn ôl i hwyluso cynnwys y mater hwn yng ngwelliant 72.
Mae gwelliant 44 y Llywodraeth yn welliant technegol sydd o ganlyniad i welliant 72. Galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 72 a 44 yn y grŵp hwn.
Eto, hoffwn i nodi bod y gwelliannau hyn yn deillio o welliant yn fy enw i, a gymeradwywyd gan y pwyllgor addysg yng Nghyfnod 2. Rwy'n credu, wrth asesu nifer a chanran y disgyblion o oedran ysgol gorfodol ym mhob ardal awdurdod lleol sy'n cael addysg mewn ysgolion categori prif iaith Gymraeg, y byddwn ni'n gallu mesur y cynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar draws Cymru, a gweld os oes angen mwy o gefnogaeth ac anogaeth ar rai awdurdodau lleol yn fwy na'i gilydd, o ran cynyddu'r ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn eu hardal.
Felly, rwy'n derbyn y gwelliant hwn a chyfiawnhad yr Ysgrifennydd Cabinet am eu cyflwyno, ac yn croesawu hefyd yr ychwanegiad bod asesiad yn cael ei wneud o nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys dadansoddiad yn ôl oedran. Diolch.
A yw'r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb?
Jest i ddiolch i Cefin Campbell am ei gefnogaeth i'r gwelliannau yn y grŵp hwn.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 72? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae gwelliant 72 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 4 o welliannau—dyma'r grŵp sy'n ymwneud ag adolygu'r cod. Gwelliant 2 yw'r prif welliant, a'r unig welliant yn y grŵp yma. Tom Giffard sy'n cynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Tom Giffard).
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ddechrau gan sôn am yr holl Fil? Mae'n bwysig bod Senedd a phobl Cymru yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig o blaid yr iaith Gymraeg, ein bod ni o blaid Cymru, ein bod ni o blaid cyrraedd y targed o 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Gobeithio y byddwch yn gweld dros y broses hon, yn y gwelliannau rydyn ni wedi'u rhoi i mewn i'r Bil, ein bod ni'n moyn gwneud y Bil yn fwy cryf, mwy realistig ac yn rhoi mwy o ddewis i rieni a phlant hefyd.
Mae gwelliant 2 yn y grŵp hwn yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gwblhau o leiaf un adolygiad o'r cod mewn pob cyfnod o 10 mlynedd, ac felly mae'n ychwanegu ffrâm amser ar gyfer adolygu a monitro adran 7(2) ynglŷn â'r angen am fodel i ddisgrifio gallu iaith Gymraeg yn seiliedig ar fframwaith cyffredin Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd. Mae'r ychwanegiad o ffrâm amser o fewn ein gwelliant yn caniatáu i'r cod gael ei ddiweddaru a'i addasu yn unol ag unrhyw newidiadau a diwygiadau a fydd yn digwydd o ganlyniad i'r Bil. Drwy ddefnyddio ffrâm amser, bydd hyn yn caniatáu mwy o sicrwydd a strwythur i fesur llwyddiant y cod o fewn y Bil.
Yn ogystal, credwn fod 10 mlynedd yn ddigon hir i weld ble mae'r cod yn llwyddo wrth fesur a disgrifio gallu, ac yn yr un modd, lle mae angen unrhyw addasiadau neu newidiadau yn ystod y cyfnodau hyn. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet i gyfrannu, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Er bod y Llywodraeth yn deall y bwriad sydd y tu ôl i'r gwelliant, ein barn ni yw nad oes angen gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gwblhau o leiaf un adolygiad o'r cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg o fewn pob cyfnod o 10 mlynedd. Mae dyletswydd eisoes yn adran 7(1)(b) i Weinidogion Cymru adolygu'r cod o bryd i'w gilydd, a phŵer i ddiwygio'r cod fel y bo'n briodol. Mae nodi bod yn rhaid gwneud hyn unwaith bob 10 mlynedd yn ychwanegu lefel o fanylion nad yw'n ofynnol, yn ein barn ni, o ystyried natur y ddogfen. Mae'r cod yn ddogfen gyfeirio, technegol ei natur, ac nid yn gysylltiedig â chylchoedd cynllunio'r fframwaith cenedlaethol na'r WESPs.
Mae adran 6(1) yn nodi bod yn rhaid i'r cod fod yn seiliedig ar y CEFR. Felly, y sefyllfa fwyaf tebygol ar gyfer adolygu'r cod fyddai pe bai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r CEFR. Fel cyd-destun, dim ond unwaith, yn 2020, y mae fframwaith CEFR wedi cael ei ddiweddaru ers ei gyhoeddi yn gyntaf yn 2001. Gan fod y cod yn seiliedig ar y CEFR, nid ydym o'r farn ei bod yn briodol clymu dwylo'r Llywodraeth i adolygiadau ar amserlen mor benodol. Felly, byddwn yn annog Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliant 2.
Ydy Tom Giffard yn moyn ymateb?
Diolch, Llywydd. Dwi'n clywed beth mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, ond dwi'n dal yn credu bod gwelliant 2 yn ceisio darparu mwy o strwythur a chyfrifoldeb ar adolygu'r cod. Felly, dwi'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n cael pleidlais arno.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes yna unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthynebiad, ac felly cymerwn ni bleidlais ar welliant 2 yn enw Tom Giffard. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Gwelliant 2: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y grŵp nesaf o welliannau yw'r pumed grŵp o welliannau, sydd yn ymwneud a'r isafswm o addysg Gymraeg a nodau dysgu Cymraeg. Gwelliant 26 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant. Mark Drakeford.
Cynigiwyd gwelliant 26 (Mark Drakeford).
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ôl pedwar grŵp byrrach o welliannau ac yn aml technegol eu natur, mae grŵp 5 yn cynnwys gwelliannau gydag arwyddocâd polisi penodol. Rwy’n ymddiheuro ymlaen llaw am faint o amser y gallai gymryd i mi nodi pam y mae’r Llywodraeth yn cyflwyno rhai o’r gwelliannau hyn, a pham na allwn ni gefnogi eraill.
I droi at sylwedd y gwelliannau, felly, Llywydd, er mai gwelliant 26 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn, dylwn nodi efallai mai gwelliannau 27 a 28 yw'r gwelliannau sylweddol yn y grŵp hwn. Ond i ddelio gyda'r gwelliannau yn y drefn y maen nhw’n ymddangos yn y grŵp yma, mae gwelliant 26 yn dechnegol ei natur. Mae'n sicrhau bod adran 9 yn adlewyrchu adran 10 yn gywir, fel y mae’n cael ei ddiwygio gan welliant 27, sy'n darparu 'isafswm' o addysg Gymraeg ar gyfer pob categori, yn hytrach na 'swm'.
Mae gwelliant 27 yn disodli is-adrannau (1) i (4) o adran 10 er mwyn rhoi manylion ar wyneb y Bil ynghylch yr isafswm ar gyfer pob categori, gan gynnwys y categorïau dwy iaith a phrif iaith Cymraeg. Mae’r gwelliant hwn yn golygu bod yr isafswm ar gyfer pob categori wedi ei nodi ar wyneb y Bil yn hytrach na mewn rheoliadau a fyddai’n cael eu gwneud maes o law. Mae’r isafsymiau wedi eu nodi fel canran o’r addysg a’r hyfforddiant a ddarperir dros flwyddyn ysgol yn ystod sesiynau ysgol i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol.
Mae'r gwelliant yn gosod yr isafsymiau hyn ar gyfer y categorïau: 80 y cant ar gyfer y categori prif iaith Cymraeg; 50 y cant ar gyfer y categori dwy iaith; 10 y cant ar gyfer y categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg. Rwy’n credu bod y canrannau hyn yn cynnig gwaelodlin realistig ar gyfer pob categori ysgol. Yn ôl y data PLASC diweddaraf, mae pob ysgol a gynhelir yng Nghymru wedi rhoi eu hunain mewn categori iaith anstatudol. Mae'r canrannau sy’n cael eu cynnig gan y gwelliant hwn yn seiliedig, i raddau helaeth, ar y categorïau anstatudol presennol.
Mae pŵer i ddiwygio'r isafsymiau dros amser drwy reoliadau cyn belled nad ydynt yn disgyn islaw pob gwaelodlin. Hefyd, fel y mae’r Bil yn ei ddarparu ar hyn o bryd, mae gofyniad ar Weinidogion Cymru i benderfynu a ddylid diwygio'r isafswm ar gyfer y categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg pob pum mlynedd.
Mae gwelliant 27 yn ychwanegu y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu a ddylid diwygio'r isafsymiau, ystyried effaith debygol yr isafsymiau ar gyflawni'r targedau a osodir gan strategaeth y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n credu bod y gwelliant hwn yn ymateb i'r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac yn benodol argymhelliad 5 o'i adroddiad Cyfnod 1 a alwodd am fwy
'o eglurder am bob un o’r categorïau iaith, yn enwedig y swm tebygol o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y categorïau ysgolion "Prif Iaith – Cymraeg" ac ysgolion "Dwy Iaith".'
Rwy'n cytuno â'r pwyllgor fod yr eglurder hwn yn fuddiol, yn enwedig i ysgolion ac awdurdodau lleol wrth baratoi ar gyfer darpariaethau'r Bil pan fyddan nhw’n dod i rym. Felly, rwy'n galw ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 27.
Mae gwelliant 27A a 27B yn enw Cefin Campbell yn ceisio cynyddu'r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer ysgolion categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg o 10 y cant i 20 y cant. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, rwy’n credu bod cynyddu'r isafswm o addysg Gymraeg i 20 y cant yn arwain at risg sylweddol na fydd hi’n bosibl cyflawni hyn yn ymarferol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig yn y tymor byr inni sicrhau bod yr isafswm o 10 y cant yn cael ei ddarparu'n effeithiol, yn hytrach na dyblu'r swm hwnnw heb ddigon o gapasiti i wneud hynny. Yn fy marn i, ar hyn o bryd, nid yw'r dystiolaeth a gafodd ei chlywed yn ystod y sesiynau craffu gan randdeiliaid allweddol yn y sector addysg yn cefnogi cynnydd o'r fath i'r isafswm o addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg. Felly, rwy'n galw ar yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliant 27A a gwelliant 27B.
Mae gwelliant 50 Cefin Campbell yn ceisio diwygio adran 10 o'r Bil. Y nod yw sicrhau bod y swm o addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith yn cael ei ddarparu i 'bob disgybl'. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, mae hyn yn groes i’n safbwynt polisi ni, sef bod darpariaethau'r Bil yn ymwneud â darpariaeth iaith yr ysgol yn gyffredinol, nid y ddarpariaeth iaith a ddarperir i bob disgybl, fel y cynigir gan y gwelliant hwn. Yr hyn y mae'r ysgolion wedi gofyn amdano yw rhywfaint o hyblygrwydd er mwyn delio ag amgylchiadau ac anghenion penodol, a rhoi hyblygrwydd i ysgolion, os ydyn nhw angen hynny, i sicrhau darpariaeth addas—o ran anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft. Mae gwahaniaeth pwysig rhwng sicrhau bod pob disgybl yn derbyn yr un ddarpariaeth a'r gofyniad presennol yn y Bil fod y ddarpariaeth gyffredinol ar lefel yr ysgol yn bodloni gofynion y categorïau iaith. Pan siaradodd yr Aelod am y gwelliant procio tebyg y gwnaeth e ei gyflwyno yng Nghyfnod 2, dywedodd ei fod yn gobeithio cael gwybodaeth gan y Llywodraeth o ran sut y gallwn ni sicrhau bod pob disgybl, neu mor agos at bob disgybl â phosibl, yn derbyn yr isafswm o ddarpariaeth addysg Gymraeg.
Cyn belled ag y bo'n ymarferol, wrth gwrs byddem ni'n hoffi gweld bron pob disgybl yn derbyn yr isafswm a nodir yn y Bil. Gallwn ni ddarparu manylion am hyn mewn canllawiau ar gategorïau ysgolion a fydd yn helpu ysgolion i benderfynu ar eu categori iaith. Felly, rwy'n galw ar yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliant 50.
Mae gwelliant 28 yn cryfhau polisi adran 11 a'r ffordd y mae wedi ei ddrafftio. Mae'n amlinellu'r nodau dysgu Cymraeg ar gyfer pob categori. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod ysgolion categori dwy iaith a phrif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg gyda 'nod cychwynnol', a fydd yn cael ei uwchraddio gan reoliadau gan Weinidogion Cymru pan fydd hynny'n briodol.
Yn ogystal, mae'r gwelliant yn nodi y bydd y nodau dysgu wedi'u huwchraddio yn berthnasol i grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol benodol, ac i'r grwpiau blwyddyn dilynol. Mae hyn yn egluro'r weithdrefn ar gyfer uwchraddio'r nodau dysgu. Fel sy'n wir gyda chyflwyno llawer o ddarpariaethau newydd mewn ysgolion, bydd yn cael ei wneud fesul cam.
Llywydd, rwy'n cynnig gwelliant 29, sydd wedi'i ddrafftio yn dilyn trafodaethau gyda Cefin Campbell, a gyflwynodd welliant yng Nghyfnod 2 y dylai'r nodau dysgu gael eu huwchraddio erbyn 31 Rhagfyr 2050 fan bellaf.
Mae gwelliant 29 yn darparu, wrth ystyried y blynyddoedd ysgol a'r grwpiau blwyddyn y bydd y nod dysgu yn cael ei uwchraddio ar eu cyfer, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried effaith debygol y nodau dysgu ar gyflawni'r targedau a gaiff eu gosod yn strategaeth y Gymraeg.
Mae hyn yn cynnwys y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Felly, bydd dyddiad 2050 yn sicr o ddylanwadu ar y penderfyniad ynghylch pryd y dylid uwchraddio'r nodau dysgu. Rwy'n gobeithio y bydd y nodau yn cael eu huwchraddio cyn gynted ag y bydd ffactorau'n caniatáu i hynny ddigwydd, pan fydd digon o weithlu ac adnoddau. Fy ngobaith yw y gwneir hyn cyn 2050 er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gadael ysgolion categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg fel siaradwyr Cymraeg annibynnol a fydd yn cyfrannu at y filiwn.
Mae gwelliant 30 yn rhoi diffiniad o'r term 'grŵp blwyddyn' sy'n cael ei ddefnyddio yng ngwelliannau 28 a 29.
Mae gwelliant 32 yn ganlyniad i welliant 27, gan ddileu rhai o'r pwerau a oedd wedi'u cynnwys yn adran 13. Nid oes eu hangen bellach, gan fod gwelliant 27 yn golygu bod mwy o fanylion am y categorïau iaith wedi'u nodi ar wyneb y ddeddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys dileu'r pŵer i greu categorïau ychwanegol, nad ydw i'n credu eu bod yn briodol bellach o ystyried y canrannau a osodwyd gan welliant 27.
Mae gwelliant 33 yn welliant technegol sy'n cynnwys croesgyfeiriad at welliant 27.
Ac yn olaf, Llywydd, mae gwelliant 45 yn gwneud newidiadau technegol i adlewyrchu gwelliant 28, ac mae gwelliant 46 yn sicrhau croesgyfeirio cywir yng ngoleuni gwelliannau 27 a 28. Diolch yn fawr.
Byddwn ni'n cefnogi y rhan fwyaf o'r gwelliannau yn y grŵp hwn, ond, er budd amser, bydda i ddim ond yn rhoi ffocws ar welliannau 27A a 27B nawr.
Dŷn ni'n gwybod bod gwelliant 27 yn cydnabod hyblygrwydd i Weinidogion allu newid y swm isaf o addysg iaith Gymraeg ar gyfer pob categori iaith, ac rydym ni'n cefnogi egwyddor yr hyblygrwydd, ac rydym wedi gwneud hynny drwy gydol y broses archwilio, gan ein bod wedi clywed yn gyson gan randdeiliaid nad oes gennym yr adnoddau dysgu ar hyn o bryd i gefnogi nod y Bil. Yn ystod fy amser ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, galwais yn gyson am ymagwedd realistig er mwyn cyflawni prif nod y Bil, sef cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac, yn fwy penodol, o'r pwynt mae pobl ifanc yn gadael ysgol, sydd yn rhywbeth, fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn cefnogi mewn egwyddor.
Rwyf wedi canolbwyntio yn gyson i sicrhau bod y Bil yn ymarferol, ac felly ni fyddwn ni'n cefnogi gwelliannau 27A a 27B, sydd yn galw am o leiaf 20 y cant o addysgu Cymraeg ymhob ysgol bennaf Saesneg ac yn rhannol Gymraeg. Felly, byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau 27A a 27B Plaid Cymru oherwydd ein bod ni'n credu bod y canrannau gofynnol afrealistig hyn, fel y nodwyd gan randdeiliaid, sydd wedi ailadrodd ac wedi cefnogi ein pryderon am y realiti o gyflawni'r targedau afrealistig hyn, yn mynd i wneud y Bil yn amhosibl ei gyflawni ac yn anaddas yn ymarferol. Rydym yn gwybod ac wedi clywed sawl gwaith yn ystod craffu ar y pwyllgor fod amrywiol ysgolion ledled Cymru eisoes yn bryderus iawn ynglŷn â chyrraedd isafswm o 10 y cant, a byddai 20 y cant yn arwain at bwysau hyd yn oed mwy ar y gweithlu, gyda diffyg cynllun gweithlu, a'r disgyblion eu hunain, ac yn debygol o arwain at yr angen i ymestyn amserlenni eithriadau. Diolch.
Mae i’r gwelliannau hyn arwyddocâd sylweddol, felly dwi, yn anffodus i bawb, yn mynd i orfod cymryd peth amser i esbonio ein safbwynt ni ar hyn. Yn gyntaf, hoffwn i gyfeirio at welliant 27 yn enw'r Llywodraeth a fy ngwelliannau i i'r gwelliant hwnnw—27A a 27B. Fel y mae'n sefyll, mae'r categorïau sy'n cael eu hamlinellu yn y Bil yn broblematig, felly dwi'n cynnig bod angen eu diffinio yn fwy clir. Mae rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, RhAG, Cymdeithas yr Iaith, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn dadlau bod angen i'r categori prif iaith Cymraeg adlewyrchu'r categorïau 3 a 3P presennol, lle mae'r mwyafrif helaeth o'r addysgu yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg, sef, mewn gwirionedd, pob pwnc ac eithrio'r Saesneg yn achos y categori 3P. Fel arall, mae yna berygl o lithro'n ôl o ran faint o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n cael ei chynnig, oherwydd, fel y mae pethau'n sefyll, byddai'n berffaith bosibl i ysgol prif iaith Cymraeg ddarparu cyn lleied â 51 y cant drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn bod yn brif iaith.
Nawr, dwi'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf ohonon ni'n cytuno na fyddai'r dehongliad llac a phenagored hwn yn dderbyniol fel diffiniad o'r categori hwn. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei barodrwydd i gefnogi hyn yn dilyn y drafodaeth ar welliannau yn ystod Cyfnod 2 y Bil, a dwi'n falch, felly, ein bod ni wedi gallu dwyn perswâd arno fe a'r Llywodraeth i osod isafswm ar ganran yr addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg yn y categorïau prif iaith Cymraeg a dwy iaith, sef 80 y cant a 50 y cant fel ei gilydd, fel sydd i'w gweld yng ngwelliant 27. Mae hyn yn gam sylweddol tuag at leddfu pryderon y rhanddeiliaid dwi eisoes wedi'u nodi o ran sicrhau bod y categori presennol 3P yn cael ei adlewyrchu mewn rhyw ffordd ar wyneb y Bil hwn.
Fodd bynnag, ar ochr arall y pegwn, rwy'n parhau i bryderu am yr isafswm o ran y ddarpariaeth addysg Gymraeg sy'n cael ei nodi yn y categori prif iaith Saesneg. Mae'n aneglur yn y Bil, ac mae hyn yn rhan o dystiolaeth nifer o sefydliadau a gyflwynodd dystiolaeth inni, a yw'r 10 y cant sy'n cael ei nodi fel isafswm yn cynnwys yr amser sydd eisoes yn cael ei neilltuo ar gyfer dysgu'r Gymraeg fel pwnc—ac mae hynny'n gallu amrywio o ryw 6 i 8 y cant o'r cwricwlwm, yn dibynnu ar yr ysgol—neu a ydy'r 10 y cant ar ben hynny. Felly, os yw'n cynnwys yr oriau sydd eisoes yn y cwricwlwm ar gyfer y Gymraeg fel pwnc, wel dyw e fawr o gynnydd mewn gwirionedd. Felly, byddwn i'n hoffi esboniad gan yr Ysgrifennydd Cabinet a ydy e'n 10 y cant ar ben y 6 i 8 y cant presennol, neu ydy'r 6 i 8 y cant yn gynwysedig yn y 10 y cant. Dyna pam dwi wedi cyflwyno gwelliannau 27A a 27B i welliant 27, er mwyn ceisio ychwanegu 10 y cant at yr isafswm presennol—hynny yw, newid yr isafswm i o gwmpas 20 y cant. Mae hynny'n golygu byddai'n rhaid i ysgolion gwrdd â'r isafswm hwn mewn dwy ffordd, sef dysgu'r Gymraeg fel pwnc a hefyd cynnal un neu ddwy o sesiynau addysgol yr wythnos mewn pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ei adroddiad blynyddol diwethaf, fe wnaeth Estyn gyfeirio at nifer fawr o ysgolion prif gyfrwng Saesneg, a'u bod nhw'n dangos arfer dda yn barod o ran cyflwyno pynciau tu hwnt i'r Gymraeg fel pwnc cyfrwng, a rheini yn ysgolion prif iaith Saesneg, fel gwnes i nodi. Felly, dwi'n credu y dylid gosod yr isafswm yn uwch, sef 20 y cant fel man cychwyn, sydd yn gynnydd ar y sefyllfa bresennol, ac annog pob ysgol i ddechrau gweithio tuag at y nod hwn yn syth, gyda chefnogaeth y Llywodraeth i wneud hynny.
Fel dwi wedi dweud yn barod, mae nifer o ysgolion eisoes yn gwneud hyn yn llwyddiannus. Felly, er ein bod yn gefnogol i'r isafswm o 80 y cant a 50 y cant ar gyfer y ddau gategori arall yng ngwelliant 27, os nad yw ein gwelliannau i'r gwelliant gwreiddiol yn cael eu derbyn, yna byddwn ni'n ymatal ar welliant 27.
Ond byddwn yn cefnogi gwelliant 29 gan y Llywodraeth, sydd yn deillio o'n trafodaethau ers Cyfnod 2 ar y mater o bennu nod addysg 2050 i sicrhau bod pob disgybl yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus ac annibynnol ac yn cyrraedd lefel B2 o leiaf, o ran y fframwaith cyfeirio cyffredin Ewropeaidd, neu'r CEFR, mewn ffordd fwy syml, erbyn 2050.
Nawr, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod, roeddwn i eisiau newid y dyddiad terfyn i ysgolion fedru cyflawni'r targedau hyn yn y ddau gategori cyntaf o ran nodau dysgu. Ac roedd yna bryder gyda fi ynglŷn â geiriad gwreiddiol y Bil, oedd yn rhoi, yn fy marn i, ormod o bwerau i Weinidogion i newid pethau drwy reoliadau, yn hytrach na rhoi 'erbyn 2050', felly dwi'n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymrwymo i ddyddiad 2050, os gwnes i ddeall hynny yn iawn. Ond, gan dderbyn y pwynt a wnaeth yr Ysgrifennydd, mae'n bwysig ein bod ni'n pwysleisio'n glir ei fod e'n cyd-fynd â'r nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ein bod ni'n gosod yr 2050 yna yn glir yn y Bil.
Nawr, ar y pwynt yma, ac efallai ar nodyn ychydig bach mwy ysgafn, dwi'n credu ei fod e'n werth nodi sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol yn y datganiad ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth wythnos diwethaf, pan ddywedodd hi fod y Bil yma, a dwi'n dyfynnu:
'yn adlewyrchu ein huchelgais y bydd pob disgybl yng Nghymru erbyn 2025 yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn iddyn nhw adael yr ysgol'.
Nawr, dwi ddim yn siŵr os taw camgymeriad oedd hynny, ond oes taw bwriad y Llywodraeth yw sicrhau bod pob disgybl yn troi'n siaradwr Cymraeg hyderus erbyn diwedd y flwyddyn hon, yna dwi'n ei groesawu yn fawr iawn. 'Bring it on,' dywedaf i ar hwnna.
Fodd bynnag, bydd angen rhoi ystyriaeth benodol i dargedau strategaeth y Gymraeg, sy'n cynnwys o leiaf miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
O ran gwelliannau eraill y Llywodraeth yn y grŵp hwn, ein bwriad yw eu cefnogi.
Dwi wedi cyflwyno, Llywydd, welliant 50 oherwydd bod swyddogion y Llywodraeth wedi nodi—ac rŷn ni wedi clywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio at hyn yn barod—na fyddai'r lleiafswm 10 y cant presennol yn cael ei gynnig i bob disgybl, ond yn hytrach fel 10 y cant o'r ddarpariaeth gyffredinol gan ysgol. Mae'n fater o bryder, achos mater cysylltiedig sy'n berthnasol i'r elfen hon yw'r egwyddor sylfaenol y dylai lleiafswm penodol o addysg Gymraeg fod ar gael i bob disgybl. Dyna'r egwyddor sydd yn fan hyn, yn fy marn i, fod pob disgybl yn cael y cyfle i feistroli'r iaith Gymraeg. Fel arall, dyw hi ddim yn glir sut y bydd modd cyflawni'r nod addysg fod pob disgybl yn cyrraedd o leiaf lefel B2 yn y Gymraeg, os nad oes gwarant y bydd pob disgybl yn derbyn y ddarpariaeth a'r oriau cyswllt angenrheidiol.
Bwriad gwelliant 50, felly, er ei fod yn welliant procio, yw ceisio cael gwybodaeth bellach gan y Llywodraeth ar sut y gallwn ni sicrhau bod pob disgybl, neu'r agosaf at hynny, yn derbyn o leiaf y lleiafswm o ddarpariaeth addysg Gymraeg i gyrraedd yn hyderus lefel B2. Rŷn ni wedi cael rhyw fath o esboniad ar hynny y prynhawn yma, ond dwi'n edrych ymlaen at esboniad mwy manwl yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb nawr. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr i Tom Giffard a Cefin Campbell, Llywydd. Wel, dwi'n uchelgeisiol am y Bil, ond gallaf i ddweud wrth Cefin Campbell nad ydyn ni'n disgwyl cael pob disgybl yn ein hysgolion ni yn siaradwyr Cymraeg annibynnol cyn diwedd y flwyddyn, ond, trwy'r Bil, dyna beth rŷn ni'n mynd i'w wneud yn y dyfodol. Ond mae'n rhaid inni ei wneud e mewn ffordd sy'n tynnu pobl gyda ni ar y daith a gyda digon o hyblygrwydd i bobl yn y dosbarth wneud beth rydyn ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud.
So, jest i ganolbwyntio ar dri o'r gwelliannau yn y grŵp, Llywydd, fel dwi wedi esbonio yn barod, ni fyddaf yn gallu cefnogi gwelliannau 27A a 27B, a dwi ddim wedi clywed, dwi'n meddwl, unrhyw beth newydd gan Cefin Campbell y prynhawn yma i fy mherswadio i fynd yn groes i'r dystiolaeth a gafodd ei chlywed gan y pwyllgor, y sgyrsiau rydyn ni wedi eu cael gydag undebau athrawon ac ysgolion. Mae eu tystiolaeth nhw yn nodi na fyddai isafswm o 20 y cant o addysg Gymraeg yn ymarferol. A jest i ymateb i'r cwestiwn roedd Cefin Campbell yn ei godi, pan ŷn ni'n siarad am 10 y cant, rŷn ni'n siarad am wersi yn Gymraeg, am y Gymraeg, a phethau eraill mae'r ysgolion yn gallu eu gwneud. Wrth gwrs, dwi eisiau pwysleisio bod y Bil yn cynnwys mecanwaith i gynyddu'r 10 y cant pan fydd ffactorau'n caniatáu, a dyletswydd ar Weinidogion Cymru i benderfynu a ddylid cynyddu'r ganran honno bob pum mlynedd. Mae hynny, dwi'n meddwl, yn ymarferol ac yn rhesymol, a dwi ddim yn gallu cefnogi'r gwelliannau i welliant 27.
Jest i droi unwaith eto at welliant 50, rydym wedi clywed gan undebau a'r sector addysg ei bod hi'n hanfodol bod gan ysgolion rhywfaint o hyblygrwydd yn y ffordd y maen nhw'n bodloni'r isafswm. Beth am y plant sy'n cwympo'n dost? Beth am y teulu yng Nglan yr Afon yma yng Nghaerdydd sy'n mynd tramor am wythnosau? Beth am blant gydag anawsterau dysgu? Os ŷn ni’n cefnogi gwelliant 50, bydd yn rhaid i’r person yn y dosbarth ffeindio ffordd i roi'r un peth i bob plentyn, ond dydy pob plentyn ddim yr un fath â’r plentyn nesaf. Dyna pam mae hyblygrwydd yn bwysig i’r athrawon, a dyna pam allwn ni ddim cefnogi gwelliant 50. Llywydd, diolch yn fawr.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 26 yn gyntaf? A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny, gwelliant 26? Gwelliant 26 yn cael ei gymeradwyo, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 27. Fel gwelliant i welliant 27, bydd gwelliant 27A yn cael ei waredu yn gyntaf. Cefin Campbell, ydy gwelliant 27A yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 27A (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27A? A oes yna unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 27A. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 27A wedi ei wrthod.
Gwelliant 27A: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 27B sydd nesaf. Cefin Campbell, ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 27B (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy. Oes yna wrthwynebiad i 27B? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar 27B. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 27B yn cael ei wrthod.
Gwelliant 27B: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 27 yn cael ei symud, Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 27 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Os derbynnir gwelliant 27, bydd gwelliant 50 yn cael ei wrthod—yn methu. Felly, gwelliant 27: oes gwrthwynebiad i welliant 27? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 27. Fe gymerwn ni bleidlais, felly, ar welliant 27. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 13 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 27 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 27: O blaid: 39, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 50 wedi methu.
Methodd gwelliant 50.
Gwelliant 28, Ysgrifennydd Cabinet, yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 28 (Mark Drakeford).
Symud.
Yn cael ei symud. Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 28? Nac oes. Gwelliant 28 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 29. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 29 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad i 29? Nac oes. Felly mae e'n cael ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 30. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 30 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 30? Nac oes. Ac mae e'n cael ei gymeradwyo, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 6 sydd nesaf, y grŵp yma o welliannau yn ymwneud ag esemptiadau. Gwelliant 31 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant. Mark Drakeford.
Cynigiwyd gwelliant 31 (Mark Drakeford).
Diolch, Llywydd. Dwi'n dechrau gyda gwelliant 31, sy'n welliant technegol sy’n ei gwneud yn glir bod yr esemptiadau o dan adrannau 18 ac 19 o’r Bil yn berthnasol i’r ysgolion yn y categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg, yn unig.
Mae gwelliant 55, sef y gwelliant sylweddol yn y grŵp yma, yn dileu adran 19 o’r Bil, sef y cyfle i gyrff llywodraethu ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg, i ofyn am esemptiad pellach, yn dilyn esemptiad cychwynnol a roddwyd o dan adran 18. Mae'r Llywodraeth yn disgwyl i'r ail eithriad gael ei ddefnyddio yn anaml a dim ond mewn achosion eithriadol. Ein polisi yw bod y 10 y cant yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl ac nid ydym yn disgwyl i’r esemptiad gael ei gymeradwyo heb ystyriaeth fanwl a llawn gan yr awdurdod lleol. Ond oherwydd y gall yr amgylchiadau eithriadol hyn fodoli mewn nifer fach o achosion dilys, ni allaf gefnogi’r gwelliant yma gan fod safbwynt y Llywodraeth yn adlewyrchu beth glywodd y pwyllgor a’r sgyrsiau yr ydyn ni wedi eu cael gyda rhanddeiliaid, y gallai ail esemptiad fod yn rhesymol o dan rai amgylchiadau.
Er fy mod yn deall rhywfaint o rwystredigaeth gyda darparu esemptiad pellach, hoffwn atgoffa’r Aelodau fod adran 19(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cynllun cyflawni ddarparu gwybodaeth fanwl ynghylch sut y byddan nhw yn sicrhau bod yr isafswm o 10 y cant yn cael ei gyrraedd. Mae adran 19(2)(b) yn benodol yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu nodi pryd yn union y bydd yr isafswm yn cael ei gyrraedd, heb fod yn hwyrach na diwedd cyfnod o dair blynedd y cynllun cyflawni. Nid yw’r esemptiad pellach yn awtomatig am dair blynedd llawn.
Byddwn hefyd yn atgoffa’r Aelodau nad yw ail esemptiad yn rhywbeth y gall ysgol benderfynu arno ar ei ben ei hun. Mae cynlluniau cyflawni yn cynnwys proses gymeradwyo gan yr awdurdod lleol o dan adran 15 o’r Bil. Os nad yw awdurdod lleol wedi’i argyhoeddi gan y rhesymau dros wneud cais am esemptiad pellach, neu os yw’r awdurdod lleol yn credu y gellir darparu cymorth ychwanegol i ysgol sy’n gofyn am esemptiad pellach, gall yr awdurdod lleol wrthod y cynllun cyflawni neu ei gymeradwyo gydag addasiadau. Am y rhesymau yma, gofynnaf i’r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliant yma.
Mae gwelliannau 51 a 57 yn cyfeirio at adran 19. Gan nad ydym yn cefnogi’r gwelliant sylweddol, sef gwelliant 55, rhaid inni hefyd bleidleisio yn erbyn gwelliannau 51 a 57.
Mae'r grŵp o welliannau hyn yn sôn am eithriadau angenrheidiol o fewn y Bil. Fel Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn cefnogi gwelliant 31, sydd yn ceisio egluro bod ysgolion Saesneg yn bennaf, Cymraeg yn rhannol, at ddiben y Bil yn medru derbyn eithriadau, lle bod angen, o dan adrannau 18 ac 19 o’r Bil.
Fel y cyfeiriais ato yn gynharach wrth siarad am welliannau grŵp 5, rydym wedi clywed ar sawl achlysur gan randdeiliaid yn ystod craffu’r pwyllgor ar y Bil, yn gyntaf, pryderon sylweddol ynghylch diffyg cynllun gweithlu i gyd-fynd â'r Bil, ac yn ail, pryderon gan ysgolion uwchradd ledled Cymru, yn enwedig mewn rhai ardaloedd yn ne Cymru, lle mae'r amser a dreulir yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a gwersi Cymraeg yn sylweddol is na 10 y cant, ac efallai na fyddant yn gallu cyrraedd y targed o 10 y cant o fewn yr amserlen eithrio gyntaf.
Rydym felly yn cefnogi egwyddor eithriad pellach o dan adran 19, a dyna pam y byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn gwelliannau 51, 55 a 57 yn y grŵp hwn, sydd yn galw am ddileu adran 19. Diolch.
Wel, ie, esemptiadau sy'n cael y sylw yn y grŵp bach hwn o welliannau. Pwrpas gwelliannau 51, 55 a 57 yw hepgor, yn adran 19 o'r Bil, y cyfeiriad at esemptiad pellach ar gyfer ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg. Mae'n arbennig o berthnasol i'r ysgolion hynny sy'n parhau i ddadlau nad yw'n rhesymol ymarferol iddyn nhw ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg a fyddai'n ofynnol fel rhan o'r Bil. Fel rydw i wedi cyfeirio ato eisoes yn y drafodaeth yn y grŵp diwethaf ac yng Nghyfnod 2, wrth drafod faint o isafswm y dylid ei osod ar wyneb y Bil o ran addysg Gymraeg, os yw'r Bil yn mynnu mai 10 y cant yw'r isafswm, wel, fyddwn i ddim yn disgwyl i unrhyw ysgol uwchradd fynnu fan pellach mwy nag un esemptiad o hynny, achos, fel dwi wedi dadlau'n barod, maen nhw eisoes yn darparu rhyw 6 i 8 y cant drwy ddysgu'r Gymraeg fel pwnc.
Nawr, dwi'n derbyn bod rhai rhanddeiliaid, wrth gyflwyno tystiolaeth, fel awdurdodau lleol drwy'r WLGA, y Cyngor Gweithlu Addysg a rhai undebau, wedi dweud y byddai esemptiad yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion, ond dwi hefyd, ar y llaw arall, yn cofio Comisiynydd y Gymraeg yn awgrymu y gallai esemptiad barhau am gyfnod o hyd at 10 mlynedd. Dwi ddim yn credu bod un ohonom ni eisiau rhoi cymaint â hynny o esemptiad i unrhyw ysgol. Achos, os felly, mae'n annhebyg iawn y byddwn ni'n cyrraedd y nod o o leiaf miliwn o siaradwyr erbyn 2050, os byddwn yn colli 10 mlynedd o addysg yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg yn y cyfamser. Fe wnaeth tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith hefyd awgrymu y gallem ni weld oedi hir yn digwydd mewn rhai achosion, a byddai hyn yn sicr yn amharu ar ddatblygiad sgiliau iaith disgyblion.
Nawr, os oes ysgol mewn sefyllfa o angen esemptiad, yna esemptiad arall eto, dyw hynny ddim yn caniatáu bron dim amser i'r ysgol chwarae ei rhan, fel rŷm ni'n disgwyl i bob ysgol ei wneud, o ran cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Byddai hynny ddim yn deg ar y disgyblion hynny sy'n cael eu heffeithio, a ddylai, yn fy marn i, gael yr un hawl â phob disgybl mewn ysgolion eraill sydd yn gwneud yr ymdrech i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi awgrymu dileu adrannau 18 ac 19 yn gyfan gwbl, ac roedd y Mudiad Meithrin o'r un farn, a dwi'n dyfynnu:
'Ni ddylai fod yn dderbyniol i ysgol dderbyn eithriad parhaol o dan rheoliadau "ecsemptiad" ac "ecsemptiad pellach".'
Dwi'n derbyn, efallai, Ysgrifennydd Cabinet, nad oes yna bellter mawr rhyngom ni ar y mater hwn, a'n bod ni'n rhannu'r un uchelgais. Yn wir, fe wnaethoch chi nodi mai yn anaml neu mewn achosion eithriadol y byddai hyn yn digwydd. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i, efallai, yw'r math o negeseuon rŷn ni'n eu rhoi i ysgolion uwchradd. Dwi'n cofio, yn eich tystiolaeth chi i'r pwyllgor addysg, pan wnaethoch chi ddweud y gallai ysgolion uwchradd gael esemptiad o hyd at ryw 10 mlynedd mewn rhai eithriadau prin. Rydw i'n gwbl sicr nad eich bwriad chi oedd awgrymu y dylai pob ysgol uwchradd gymryd mantais a gwneud hynny o gwbl, ac rwy'n derbyn yn ddiffuant eich bod chi eisiau cyrraedd yr un man â fi ar hyn, ond hwyrach y byddai rhai ysgolion uwchradd yn gweld hwn yn gyfle i oedi’r broses.
Os ydyn nhw’n rhesymau cwbl, cwbl ddiffuant—ac rwy’n derbyn y byddai yna rôl gan awdurdodau lleol yn hyn o beth—mi fyddai rhywun yn gallu dangos rhywfaint o gydymdeimlad a rhoi cefnogaeth briodol iddyn nhw. Ond dydw i ddim yn gweld pam na ellir cyrraedd y man yna ymhen rhyw saith mlynedd o nawr. Erbyn i’r Bil yma ddod yn weithredol ac erbyn rhoi un esemptiad i ysgol, byddai rhyw chwech neu saith mlynedd wedi pasio erbyn hynny. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n amser afresymol i ddisgwyl i ysgolion gynllunio eu gweithlu a chynllunio’r cwricwlwm i ddarparu, yn ein barn ni, o leiaf 20 y cant drwy gyfrwng y Gymraeg, er bod hynny wedi cael ei wrthod.
Rydw i wir yn poeni, os byddem ni'n rhoi dau esemptiad ar ben y cyfnod hwn, y bydd, o bosibl, rhyw 12 mlynedd yn cael eu colli yn natblygiad sgiliau iaith disgyblion, sydd yn gwbl annerbyniol yn fy marn i. A phetai gormod o ysgolion uwchradd yn gwneud hyn, wel, byddai’r targed o greu o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg yn gwbl amhosibl i'w gyflawni.
Felly, er mwyn sicrhau hyblygrwydd, yn enwedig os ydyn ni'n gweld yr isafswm yn cynyddu dros amser, mae'r gwelliannau hyn, sydd yn cael gwared ar adran 19 ac esemptiad pellach, yn ei gwneud hi’n glir bod yn rhaid i bawb—Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion—weithio'n ddyfal i gynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yng Nghymru. A rhaid cynllunio yn unol â hynny, gan roi un cyfle yn unig am esemptiad. Galwaf ar yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau yn y grŵp hwn.
Yr Ysgrifennydd Cabinet yn awr i ymateb.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i wedi gwrando yn ofalus ar beth mae Cefin Campbell wedi'i ddweud, ac rydw i eisiau dweud wrtho fe, ac wrth Aelodau eraill, dwi ddim eisiau gweld, a dydy'r Llywodraeth ddim eisiau gweld, esemptiadau yn cael eu defnyddio heb eu bod yn angenrheidiol. Y broblem yw, rydyn ni wedi clywed, ac roedd y pwyllgor wedi clywed, gan bobl sy'n rhoi addysg yn y maes eu bod nhw'n gallu gweld rhai amgylchiadau lle bydd e'n angenrheidiol i gael yr esemptiadau. Ac rŷn ni'n dibynnu arnyn nhw, onid ydyn ni? Rŷn ni'n dibynnu arnyn nhw i wneud popeth rŷn ni eisiau iddyn nhw ei wneud drwy'r Bil.
Dyna pam dwi'n credu bod adran 19 yn taro'r cydbwysedd cywir. Bydd yn galluogi ysgolion i gael mwy o amser lle mae hynny'n angenrheidiol, ond mae'n darparu sicrwydd yn y broses honno oherwydd rôl gymeradwyo'r awdurdod lleol. Bydd neb yn gallu cael esemptiad jest drwy ddweud eu bod nhw eisiau cael un. Mae proses yno, yn y Bil, i gadw llygad gofalus ar y broses. Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi clywed digon y prynhawn yma gan Cefin Campbell i'm perswadio i fynd yn erbyn cryfder y dystiolaeth a dderbyniwyd yng Nghyfnod 1. Felly, rydw i'n galw ar yr Aelodau i beidio â chefnogi gwelliannau 51, 55 a 57, ac i gefnogi gwelliant 31.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae gwelliant 31 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 51 sydd nesaf. A yw'n cael ei gynnig, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 51 (Cefin Campbell).
Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 51? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais, felly, ar welliant 51. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 51 wedi'i wrthod.
Gwelliant 51: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 32, ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 32 (Mark Drakeford).
Ydy, mae e. Os derbynnir gwelliant 32, bydd gwelliant 3 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 32 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gan fod gwelliant 32 wedi'i dderbyn, mae gwelliant 3 wedi methu.
Methodd gwelliant 3.
Rydyn ni, felly, yn symud ymlaen i grŵp 7 o welliannau. Y grŵp yma yw'r seithfed grŵp ac mae'n ymwneud â chategorïau iaith ysgolion. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp. Tom Giffard sy'n cynnig y gwelliant yma.
Cynigiwyd gwelliant 4 (Tom Giffard).
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn siarad am welliannau 3 a 4, sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i. Mae gwelliant 3 yn ceisio sicrhau na fydd unrhyw newidiadau i gategorïau iaith ysgol heb ymgynghori â'r Senedd. Felly, byddai rheoliadau i wneud unrhyw newidiadau yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu trafod a'u cymeradwyo gan y Senedd cyn y gellir gwneud unrhyw newidiadau. Bydd sicrhau bod y pwyllgor perthnasol yn rhan o'r broses a bod trafodaeth ac archwiliad pellach yn digwydd yn cryfhau'r Bil a'i ganlyniadau. Mae gwelliant 4 yn ceisio gwneud darpariaethau ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol, nid yn unig i sicrhau eu bod nhw'n derbyn cefnogaeth briodol, ond hefyd i sicrhau bod unrhyw ganllawiau ar gategorïau iaith ysgol yn cael eu cyhoeddi gan gydnabod gwerth tryloywder yn y maes hwn.
Rydym wedi clywed drwy gyfraniadau rhanddeiliaid, nid yn unig yn ystod camau cynharach y Bil hwn, ond hefyd yn rheolaidd drwy waith parhaus y pwyllgorau, am y pwysau presennol ar blant gydag anghenion dysgu ychwanegol ac ar ysgolion yn eu darpariaeth o gefnogaeth ddigonol yn y maes hwn. Ni allwn fforddio rhoi mwy o bwysau ar blant gydag anghenion dysgu ychwanegol nac ar ysgolion sydd yn darparu cefnogaeth hanfodol iddynt. Byddai'r gwelliannau hyn yn sicrhau mwy o eglurder a chefnogaeth ar gyfer ein pobl ifanc. Diolch.
Pwrpas gwelliant 52 yw sicrhau ar wyneb y Bil ddyletswydd ar gorff llywodraethu i gynllunio ar gyfer newid categori iaith ei ysgol. Byddai hyn yn adlewyrchu'r meddylfryd nad yw'r categorïau yn gategorïau statig, ac na ddylai ysgol aros yn ei hunfan o fewn categori chwaith. Dyna yw prif fyrdwn y gwelliant hwn, sef ein bod ni'n awyddus i weld ysgolion yn symud ymlaen ar hyd y continwwm iaith yn hytrach nag aros mewn un categori yn dragwyddol.
Ymhellach i hyn, dwi wedi addasu'r gwelliant, ar ôl cyflwyno un tebyg yng Nghyfnod 2, er mwyn ymateb i sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet. Bellach, mae'r gwelliant yn caniatáu i gorff llywodraethwyr symud yn syth o gategori prif iaith Saesneg i gategori prif iaith Gymraeg, pe byddent yn dymuno gwneud hynny.
Yn yr un modd, mae gwelliannau 58 a 67 yn seiliedig ar welliant y gwnes i ei gyflwyno yng Nghyfnod 2 oedd yn ceisio ei gwneud hi'n gliriach yn y fframwaith cenedlaethol fod angen i ysgolion gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser er mwyn caniatáu i ysgolion symud drwy'r categorïau addysg. Mae'r gwelliant hwn bellach wedi'i rhannu'n ddau er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod y fframwaith cenedlaethol erbyn hyn yn cynnwys addysg drydyddol. Felly, mae'n angenrheidiol ymdrin â hyn mewn is-adran ar wahân i adran 24. Dwi hefyd wedi ychwanegu darpariaeth sy'n caniatáu i hyn gael ei drin mewn cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn ogystal â chynlluniau cyflawni.
O ran gwelliant 4 yn enw Tom Giffard yn y grŵp hwn, byddwn yn ei gefnogi. Dwi'n credu ei fod yn briodol i gael canllawiau ar gyfer ysgolion fydd yn ystyried anghenion disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau eu bod nhw hefyd, pob un ohonyn nhw, yn derbyn yr isafswm o addysg Gymraeg yn y ffordd fwyaf effeithiol a phriodol posibl. Diolch yn fawr iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n dechrau gyda gwelliant 4 yn enw Tom Giffard a, drwy wneud hynny, mae'n werth i mi dynnu sylw at y ffaith bod adran 48 o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Bil, roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru. Yn sicr, fe fydd canllawiau ynghylch categorïau iaith ysgolion, gan sicrhau bod ysgolion yn deall beth mae'r categorïau yn golygu.
Mae adran 48(2) o'r Bil yn ddefnyddiol oherwydd nid yw'n cyfyngu'r ddyletswydd i roi sylw i ganllawiau sy'n cael eu crybwyll yn y Bil yn unig, ac nid yw'n cyfyngu i ganllawiau ar un mater yn unig. Cafodd adran 48 ei ddrafftio fel y gellir cwmpasu ystod eang o ganllawiau, ac mae'n bosib y bydd hi'n briodol ei gyhoeddi gan gynnwys y canllawiau y mae Tom Giffard yn sôn amdanyn nhw yn ei welliant. Cafodd adran 48 ei ddrafftio gyda dehongliad cyffredinol yn fwriadol er mwyn cadw'r drws ar agor i ganllawiau ar unrhyw bwnc sy'n ofynnol yn sgil darpariaethau'r Bil. Drwy greu dyletswydd benodol i gyhoeddi canllawiau a rai elfennau penodol, fel y mae gwelliant 4 yn ei wneud, mae risg y byddai'n creu amwysedd am effaith adran 48(2).
Gallaf ddweud ar lawr y Senedd heddiw mai'r bwriad yw i'r canllawiau ar gyfer categorïau iaith ysgolion fod yn gynhwysfawr, gan ddelio â llawer o agweddau ar gategorïau iaith ysgolion a sut y dylid eu gweithredu a'u deall. Rwy'n hyderus y bydd canllawiau yn cael eu darparu i ddelio ag anghenion dysgu ychwanegol, fel y mae'r gwelliant yma yn ei drafod. Gyda hyn mewn golwg, byddaf i'n pleidleisio yn erbyn gwelliant 4 heddiw.
Gan droi at welliant 52, yn enw Cefin Campbell, dydyn ni ddim yn credu y dylai fod yn ofynnol i bob ysgol ddatgan sut y byddant yn symud categori. Yn ystod cynllun cyflawni tair blynedd, efallai na fydden nhw'n symud categori. Rwy'n credu bod y dull sydd i'w weld yn adran 14(1)(e) yn fwy briodol yn ymarferol. Mae'r adran yma yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu nodi ei gynigion ar gyfer cynnal y swm o addysg Gymraeg, a chynyddu'r swm lle bod hyn yn rhesymol ymarferol.
Llywydd, byddaf i'n delio â'r ddau welliant olaf yn y grŵp hwn gyda'i gilydd, sef gwelliannau 58 a 67. Hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith rydym wedi ei wneud gyda Cefin Campbell wrth ddrafftio testun sydd bellach wedi'i gynnwys yn y memorandwm esboniadol yn dilyn Cyfnod 2. Mae'r testun hwnnw'n adlewyrchu cred y Llywodraeth mai addysg mewn ysgolion categori prif iaith Cymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau siaradwyr annibynnol, hyderus sy'n fwy tebygol o ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg y tu hwnt i addysg, yn y gymuned ac mewn swyddi yn y dyfodol, a throsglwyddo'r gallu i ddefnyddio'r iaith o fewn teuluoedd. Fodd bynnag, nid polisi Llywodraeth Cymru yw i bob ysgol gynllunio i symud i'r categori nesaf. Mae'r Bil wedi'i baratoi ar y sail mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol ac ysgolion yw tyfu'r ddarpariaeth yn seiliedig ar amgylchiadau lleol, gan ymateb i dargedau sy’n cael eu gosod yn y fframwaith cenedlaethol. Rwy’n awyddus i bwysleisio unwaith eto mor bwysig yw ysgolion categori prif iaith Cymraeg, ac yn cydnabod y bydd rhai ysgolion yn symud i’r categori hwn fel rhan o’u taith iaith, ond allaf i ddim cefnogi gwelliannau 52, 58 a 67 fel y maen nhw wedi eu cyflwyno gan Cefin Campbell, ac rwy’n galw ar Aelodau i bleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn.
Tom Giffard i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Anghofiais i ddweud wrth agor, wrth gwrs, fod gwelliant 3 wedi methu oherwydd bod gwelliant 32 wedi cael ei dderbyn. Diolch i Cefin Campbell a Phlaid Cymru am eu cefnogaeth o ran gwelliant 4. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael gwasanaeth gwell, a hefyd mwy o dryloywder o dan y canllawiau hyn. Felly, mae'n bwysig, yn ein barn ni, oherwydd os nad yw'r Bil yn gweithio yn effeithiol mewn theori, ni fydd hwn yn bosibl i'w weithredu yn ymarferol. Felly, rwyf yn dal i ddymuno gwthio'r gwelliant hwn i bleidlais. Diolch.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymrwn ni bleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.
Gwelliant 4: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â chymorth i rieni. Gwelliant 5 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Tom Giffard sy'n cyflwyno'r gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Tom Giffard).
Diolch, Llywydd. Byddaf yn siarad am y holl welliannau yn y grŵp hyn. Mae pob gwelliant yn y grŵp hwn, 5 hyd at 11, wedi eu cyflwyno gyda'r un nod a bwriad, sef cefnogi reini a gwarcheidwaid i helpu eu plant gyda gwaith ysgol a gwaith cartref os nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain. Byddant nid yn unig yn gwella ac yn cryfhau'r Bil, ond hefyd rwydwaith cymorth pobl ifanc yn eu dysgu ac, yn y pen draw, waith cyffredinol y Bil.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn hanfodol i'n system addysg. Nid yn unig y maent yn atgyfnerthu'r addysgu y mae eu plant yn ei dderbyn yn yr ysgol, ond maent yn addysgwyr a chefnogwyr gartref. Rydym yn ymwybodol o'r gwahaniaeth sylweddol y mae cefnogaeth rhieni y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn ei wneud ac, fel y nododd fy nghyd-Aelod Sam Kurtz yn ystod Cyfnod 2, un o gryfderau allweddol y ddeddfwriaeth hon yw bod pob plentyn yn derbyn addysg iaith Gymraeg, ni waeth beth yw iaith ei gartref. Ond er mwyn i hwn fod yn effeithiol, mae cefnogaeth rhieni gyda gwaith cartref a phrosiectau yn hanfodol.
Fel grŵp Ceidwadwyr Cymreig, rydym wedi codi pryderon yn gyson ynghylch y diffyg cefnogaeth i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg trwy gydol y broses hon. Mae llawer ohonynt efallai'n teimlo diffyg hyder mewn cymryd rhan yn y maes hwn o addysg eu plentyn. Nod y gwelliannau hyn yw annog rhieni i deimlo'n hyderus yn y gefnogaeth y maen nhw'n ei darparu, a sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi yn eu cyfranogiad hefyd. Dyna pam mae gwelliannau 5, 10 ac 11 yn benodol, gyda chymorth gwelliannau 6, 7, 8 a 9, yn mewnosod mesurau ychwanegol wrth alw am y gefnogaeth angenrheidiol hon. Diolch.
Dwi'n cytuno'n llwyr â'r gwelliannau y grŵp hwn a fydd yn cryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i rieni. Un o lwyddiannau mawr addysg Gymraeg dros y 50 mlynedd diwethaf yw'r ffaith bod cymaint o rieni di-Gymraeg wedi cymryd y naid yna o ffydd drwy roi eu plant mewn addysg mewn iaith dŷn nhw eu hunain ddim yn ei siarad. Mae'n rhaid talu teyrnged i'r miloedd ar filoedd o rieni sydd wedi gwneud y dewis yna ac wedi gweld ffrwyth y penderfyniad yna drwy weld eu plant yn dod yn siaradwyr dwyieithog. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod ni'n rhoi cefnogaeth i'r rhieni yma. Rŷn ni'n gwybod bod nifer o ysgolion eisoes yn rhoi cefnogaeth i rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg, neu rai sydd yn dysgu'r iaith, er mwyn eu galluogi nhw i gefnogi datblygiad addysgol eu plentyn. Felly, dwi'n credu, drwy ymgorffori'r gwelliannau hyn yn y Bil, bydd modd rhannu'r arfer da hwn ar draws Cymru fel bod pob rhiant yn cael yr un gefnogaeth mewn cylch meithrin neu mewn ysgolion sydd yn debyg i'w gilydd. Felly, dwi'n hapus iawn i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Llywydd, dwi'n falch o ddweud y gallaf gefnogi pob gwelliant yn y grŵp yma. Hoffwn ddiolch i ragflaenydd Tom Giffard, Sam Kurtz, am y trafodaethau a gawsom am y gwelliannau. Nawr, rŷn ni wedi dod at y pwynt ble dwi'n clywed rŷn ni'n mynd i gael cefnogaeth dros y Senedd am y gwelliannau yn y grŵp hwn.
Tom Giffard i ymateb.
Ar ôl pedair blynedd o anghytuno gyda Mark Drakeford, mae'n bleser gweld ein bod ni'n gallu cytuno ar hyn, so diolch yn fawr.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 52, ydy e'n cael ei symud, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 52 (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 52? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni symud i bleidlais ar welliant 52. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 52 wedi ei wrthod.
Gwelliant 52: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 6, ydy e'n cael ei symud, Tom Giffard?
Cynigiwyd gwelliant 6 (Tom Giffard).
Symud.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 6? Nac oes. Felly, mae gwelliant 6 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 7 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 7 (Tom Giffard).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 7? Nac oes. Felly, mae gwelliant 7 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 8 yn caei ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 8 (Tom Giffard).
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 8? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 9, ydy e'n cael ei symud, Tom Giffard?
Cynigiwyd gwelliant 9 (Tom Giffard).
Symud.
Ydy, mae. Oes gwrthwynebiad i welliant 9? Nac oes. Felly, mae wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau, sy'n ymwneud ag ysgolion newydd ac ad-drefnu ysgolion. Gwelliant 53 yw'r prif welliant yma. Cefin Campbell i gynnig y gwelliant.
Cynigiwyd gwelliant 53 (Cefin Campbell).
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae gwelliant 53 yn gofyn i awdurdod lleol gynnal asesiad effaith pan fydd ysgol newydd yn cael ei hagor mewn ardal. Bydd hyn yn gyfraniad cadarnhaol arall o ran cynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg mewn ardal, ac yn sicrhau nad oes unrhyw benderfyniad gan awdurdod lleol yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg ac addysg Gymraeg mewn ardal.
O ran ysgolion newydd, does dim sylw o gwbl i hyn yn y Bil presennol. Roedd paragraffau 66 a 67 o'r Papur Gwyn yn gosod dau opsiwn posibl, sef rhagdybiaeth y byddai unrhyw ysgol newydd yn ysgol Gymraeg, neu opsiwn arall bod asesiad effaith yn cael ei gynnal, ond nid yw un o'r opsiynau hyn wedi'u cynnwys yn narpariaethau'r Bil bresennol. Yn bersonol, dwi'n ffafrio'r rhagdybiaeth y byddai unrhyw ysgol newydd yn un cyfrwng Cymraeg.
Mae gwelliant 56, felly, yn ymateb i hynny, ac i dystiolaeth gan Gymdeithas yr Iaith, er enghraifft. Nodir yn eu tystiolaeth nhw, a dwi'n dyfynnu,
'Byddai sefydlu unrhyw ddarpariaeth cyfrwng Saesneg newydd yn tanseilio’r nod o gynyddu canran y ddarpariaeth addysg Gymraeg.'
Dwi'n cytuno. Felly, yn fy marn i, mae angen adran newydd yn y Bil sy'n ymdrin â statws ieithyddol ysgolion newydd mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion. Mae fy ngwelliant i, felly, yn ceisio sicrhau, o fewn y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mai tybiaeth o blaid cyfrwng Cymraeg fydd i unrhyw ysgol newydd a sefydlir.
Yn debyg, mae gwelliant 68 yn ceisio ymdrin â'r broblem hon o safbwynt aildrefnu ysgolion mewn ardal. Pwrpas y gwelliant yw symleiddio'r broses. Yn hytrach na gosod adran newydd ar wyneb y Bil, dylid gosod cymal newydd o fewn adran 30, sy'n ymwneud â chynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, yn galw ar awdurdodau lleol i nodi'r camau y byddant yn eu cymryd i sicrhau na fydd lefel yr addysg Gymraeg sy'n cael ei ddarparu i ddisgyblion, os oes bwriad i ad-drefnu ysgolion o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn cael ei ostwng os cymeradwyir y cynnig, a bod unrhyw ysgol sy'n deillio o'r ad-drefnu yn symud i fyny'r continwwm ieithyddol.
Byddwn yn falch iawn o dderbyn cefnogaeth i'r gwelliannau hyn, os nad yr egwyddor, gan y Llywodraeth, a byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i'r Ysgrifennydd Cabinet ystyried y gwelliannau hyn yn ofalus wrth gyfrannu i'r drafodaeth. Diolch yn fawr.
Hoffwn siarad ar y gwelliannau yn y grŵp hwn, gyda ffocws allweddol ar welliannau 53 a 56. Fel y clywsom gan Cefin Campbell, mae gwelliant 53 yn ceisio gweithredu gofyniad i awdurdodau lleol gynnal asesiad ieithyddol cyn y gellir cymeradwyo unrhyw ysgol brif ffrwd newydd. Er fy mod yn gwerthfawrogi bwriadau'r Aelod o ran y syniad o greu asesiadau ieithyddol, mae'r gwelliant yn amwys, a bydd yn cynyddu llwyth gwaith ein cynghorau lleol, sydd eisoes dan gyllidebau tynn ac o dan bwysau.
Yn ogystal, Llywydd, mae gwelliant 56 yn mynd ymlaen i greu rhagdybiaeth y bydd pob ysgol newydd yn darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, byddai hyn yn golygu y byddai pob ysgol newydd yn dod o dan y categori iaith Gymraeg, oni bai bod yr awdurdod lleol yn darparu rhesymau cadarn dros pam na ddylai fod. Nid yn unig y mae hyn unwaith eto yn ychwanegu pwysau aruthrol yn ôl ar ein hawdurdodau lleol, ond mae hefyd yn rhoi pwysau ar yr ysgolion eu hunain, gyda diffyg cynllun gweithlu yn debygol o ddod yn fwy amlwg.
Llywydd, fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn cefnogi'n fawr hyrwyddo a'r defnydd o'r iaith Gymraeg, yn enwedig o fewn sefydliadau addysgol. Fodd bynnag, elfen allweddol o'r Bil hwn yw cyflwyno'r syniadau a'r cynlluniau hyn yn gorfforol, ac felly mae ymagwedd pragmatig a realistig tuag at y ddeddfwriaeth yn hollbwysig. Rhaid i'r Bil sicrhau, yn ei gynnwys, ei fod yn gyflawnadwy, ac, yn absenoldeb cynllun gweithlu a chyda'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn dibynnu'n llwyr ar waith pellach gan ein hawdurdodau lleol, ni allwn gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn, ac felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau 53, 56 a 68.
Yn y grŵp hwn, rydym yn dychwelyd at faterion a drafodwyd yn ystod Cyfnod 2. Byddaf yn delio gyda gwelliant 56 yn gyntaf, cyn troi at welliant 53 ac yna 68.
O ran gwelliant 56, mae'r Bil yn ceisio gwella'r ffordd y caiff darpariaeth Gymraeg ei chynllunio o fewn y system addysg. Yr amcan polisi yw bod pob awdurdod lleol yn cymryd penderfyniadau sy'n effeithio'n bositif ar y Gymraeg yn lleol ac yn cyfrannu tuag at y targedau a gaiff eu gosod arnynt gan Weinidogion Cymru drwy'r fframwaith cenedlaethol. Mae gan bob awdurdod lleol ffactorau lleol sy'n unigryw iddyn nhw ac, wrth gynllunio, bydd rhaid iddynt gymryd ystyriaeth o'r ffactorau hynny.
Gan hynny, barn y Llywodraeth yw mai yng nghyd-destun y cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg, a'r targedau a fydd yn gyrru'r cynlluniau hynny, y dylai awdurdodau lleol benderfynu ar gategori ieithyddol ysgol newydd, gan eu galluogi i ystyried ffactorau lleol. Wrth benderfynu ar gategori iaith ysgol newydd, bydd angen i'r awdurdod lleol ystyried y targedau a osodir arnynt gan y fframwaith cenedlaethol a'u dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i gyrraedd y targedau hynny. Bydd yn rhaid iddynt hefyd fodloni gofynion y cod trefniadaeth ysgolion. Mae hynny'n rhesymol gan fod y Bil yn ei gyfanwaith yn esblygu'r modd y caiff y Gymraeg mewn addysg ei gynllunio, a bydd y WESPs yn rhan allweddol o hynny.
Byddai gofyniad i ragdybio fod pob ysgol newydd yn un prif iaith Cymraeg yn torri ar draws y broses o gynllunio yn unol â'r targedau. Mae risg hefyd y gallai dilyn y trywydd o osod rhagdybiaeth arwain at ganlyniadau anfwriadol a fyddai'n niweidiol i'r Gymraeg. Er enghraifft, gallai gorfodi rhagdybiaeth ar y gymuned leol y dylai pob ysgol newydd fod yn un prif iaith Cymraeg arwain at ddiffyg perchnogaeth gan y gymuned. Rŷn ni wedi gweld hynny'n barod yng Nghymru. Rhaid i'r Llywodraeth, felly, wrthod gwelliant 56.
Mae gan Weinidogion Cymru eisoes y pŵer i gynnwys yn y cod trefniadaeth ysgolion yr hyn y mae gwelliant 53 yn ceisio ei gyflawni. Yn wir, mae cod diwygiedig wedi bod yn destun ymgynghoriad yn ddiweddar. Roedd y cod diwygiedig drafft a oedd yn destun ymgynghoriad wedi ei gryfhau i'w wneud yn ofynnol i—a dyma beth mae'r cod yn mynd i'w ddweud—gynnal asesiad o'r effaith ar y Gymraeg ar gyfer pob cynnig, ni waeth beth fo categori iaith yr ysgolion sy'n destun y cynigion. Rhaid iddo gynnwys tystiolaeth berthnasol a ffactorau lliniaru fel gofyniad sylfaenol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i asesiad effaith ar y Gymraeg gael ei gynnwys fel rhan o'r ddogfen ymgynghori neu ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad maes o law. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau heddiw nad oedd unrhyw wrthwynebiad i gynnwys y cod drafft mewn perthynas ag asesiadau effaith y Gymraeg. Ac ar sail hynny, galwaf ar Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliant 53.
Llywydd, bydd Aelodau wedi clywed yr achos a wnaed gan Cefin Campbell ynghylch gwelliant 68. Tra bod y Llywodraeth yn cefnogi’r egwyddor y tu ôl i’r gwelliant na ddylai cynnig arwain at leihad mewn darpariaeth Gymraeg, nid y WESP yw’r lle gorau i ddelio â’r mater hwn. Mae'r WESP yn ddogfen gynllunio ac ni fyddai'n ymarferol i awdurdod ragweld pob cynnig yn y dyfodol o dan y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013. Hefyd, mae cynllun cyflawni yr ysgol, yn adran 14 y Bil, yn ymdrin â faint o addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgol, a bydd angen i hyn esbonio beth fydd yr ysgol yn ei wneud i sicrhau ei bod yn cynnal neu'n cynyddu'r ddarpariaeth lle bo'n rhesymol ymarferol i wneud hynny. Am y rhesymau dwi wedi eu hamlinellu, galwaf ar Aelodau i bleidleisio yn erbyn gwelliant 68.
Cefin Campbell i ymateb.
Ie, jest ychydig sylwadau. O ran sylwadau Tom Giffard i ddechrau, o ran y rhagdybiaeth, y ddadl y byddai'n faich gwaith ar awdurdod lleol ac yn effeithio ar staff, wel mae unrhyw ad-drefnu ysgolion yn cymryd blynyddoedd o amser. Mae'n golygu camau cynllunio manwl ac, o brofiad, dwi'n gwybod mor hir y mae hynny'n gallu cymryd. Felly, dwi ddim yn credu y byddai tu hwnt i unrhyw awdurdod lleol i baratoi ysgol, staff a swyddogion ar gyfer blynyddoedd o symud tuag at y rhagdybiaeth y byddai ysgol newydd yn ysgol Gymraeg.
O ran sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet, dwi'n cytuno gyda fe fod ffactorau unigol yn chwarae rhan ac mai penderfyniad awdurdod lleol ddylai hyn fod. Dwi ddim yn gweld pam na fyddai awdurdod lleol yn gallu derbyn rhagdybiaeth fel egwyddor a dadlau yn erbyn pam na fyddai'r ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg, achos dyna beth fyddai eu hawl nhw a dyna beth fyddai eu penderfyniad nhw, yn hytrach na'n bod ni'n dechrau o fan gwahanol, yn gorfod dadlau o blaid ysgol Gymraeg. Dwi'n meddwl bod hynny'n newid y pwyslais yn sylweddol ac yn ddatganiad o fwriad clir gan awdurdod eu bod nhw o ddifrif ynglŷn â chynyddu maint yr addysg sy'n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod diffyg perchnogaeth. Wel, byddwn i'n dweud yr un pwynt eto â'r pwynt y gwnes i mewn ymateb i Tom Giffard: mae'r broses yma'n cymryd blynyddoedd. Felly, mi fyddai ennill perchnogaeth rhieni drwy ymgynghoriadau manwl yn ffordd wych o sicrhau perchnogaeth. Felly, dwi ddim yn derbyn y dadleuon yn erbyn rhagdybiaeth, fel dwi wedi clywed y prynhawn yma. Felly, dwi'n gofyn i bobl gefnogi ein cynnig ni.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 53? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 53. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 1 yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 53 wedi ei wrthod.
Gwelliant 53: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Grŵp 10 fydd nesaf ac mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chynyddu niferoedd mewn ysgolion categori prif iaith Cymraeg. Gwelliant 54 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Cefin Campbell i gynnig y prif welliant hwnnw.
Cynigiwyd gwelliant 54 (Cefin Campbell).
Diolch, Llywydd. Elfen allweddol gafodd ei chynnwys yn y Papur Gwyn ar ddechrau'r broses o ddrafftio'r Bil oedd rhoi ystyriaeth i'r taflwybr ar gyfer y ganran o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Dwi'n dyfynnu o'r Papur Gwyn—. Ac mae'r gwelliant hwn, os caf nodi fel rhagarweiniad, yn un o'r pwysicaf dwi am ei gyflwyno'r prynhawn yma, a dwi'n dyfynnu o'r Papur Gwyn:
'Mae’r taflwybr presennol a osodwyd gan "Cymraeg 2050" yn 2017 yn gosod nod bydd o leiaf 40% o holl ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
'Fel rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, bydd y Llywodraeth hefyd yn cynnal astudiaeth dechnegol llawn ynghylch y taflwybr gyda mewnbwn arbenigol i gyd-fynd gyda’r uchelgais newydd fydd yn ganolog i’r Bil. Bydd yr astudiaeth yn ystyried taflwybr mwy serth ar gyfer 2050 a thu hwnt sy’n modelu ar gyfer 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.'
Dyna beth oedd yn y Papur Gwyn fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Yn anffodus, mae'n debyg na chafodd astudiaeth dechnegol llawn ei chynnal. Fodd bynnag, gan ystyried bod y Bil yn gosod fframwaith ac ymyriadau tymor canol a hir ar gyfer y Gymraeg—er enghraifft, miliwn o siaradwyr erbyn 2050, gosod nod addysg 2050—dwi'n credu y byddai datgan y taflwybr hwn yn y Bil yn ategu a chefnogi'r amcanion cysylltiedig hyn, yn ogystal â thanlinellu disgwyliadau clir i'r sector addysg a'r rhanddeiliaid perthnasol ynglŷn â maint yr uchelgais. Dyna, felly, yw bwriad gwelliant 54.
Os yw'r Llywodraeth a'r Senedd hon, gyda chefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y targed o filiwn o siaradwyr, o ddifrif am drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg drwy gynyddu’n sylweddol y nifer sy'n medru siarad yr iaith yn hyderus, yna rhaid gwthio'r uchelgais yma ymhellach, gyda 50 y cant o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, ac ymrwymiad i sicrhau twf pellach o 10 y cant pob degawd ar ôl hynny. Os nad ydyn ni'n cynyddu'r uchelgais yma, bydd y Llywodraeth yn parhau i amddifadu 60 y cant o blant Cymru o'r cyfle i ddysgu'r iaith a dod yn siaradwyr hyderus, hyd yn oed ymhen chwarter canrif.
Fel y mae tystiolaeth gan Gymdeithas yr Iaith yn ei nodi, a dwi'n dyfynnu,
'Yn yr ugain mlynedd rhwng 2003/04 a 2023/24',
sef cyfnod o 20 mlynedd,
'dim ond o 19.06% i 22.47%',
sef rhyw 3 y cant,
'mae canran y plant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd wedi cynyddu.'
Dim ond cynnydd o 0.6 y cant sydd wedi bod dros y degawd diwethaf. Mae'r ffigwr cyfatebol ar gyfer addysg uwchradd dros yr un cyfnod wedi cynyddu o 12.89 y cant i 13.48 y cant, sef 0.5 y cant o gynnydd.
Dwi'n ymwybodol y codwyd pryder o safbwynt y Llywodraeth y gallai'r ffaith na chafodd y ffigur o 50 y cant ei gynnwys ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth, a'u bod nhw'n teimlo bod hyn yn faen tramgwydd i'r symudiad i'w gynnwys yn y Bil, gan nad oedd yna ymgynghori wedi bod arno fe—. Wrth gwrs, mae ymarfer da yn hawlio'n gyffredinol fod bwriadau deddfwriaethol y Llywodraeth yn cael eu datgelu i’r cyhoedd o flaen llaw, a’u bod yn cael y cyfle i fynegi barn arnyn nhw trwy ymgynghoriad llawn. Ond nid yw hynny bob amser yn bosib, ac yn y pen draw Aelodau’r Senedd, fel cynrychiolwyr yr etholwyr, sydd a’r hawl i benderfynu beth i’w gynnwys mewn Deddf.
Dyma’n wir yw barn Keith Bush KC, sydd hefyd yn dadlau mewn cyngor cyfreithiol i ni—. Nid oes, felly, unrhyw rwystr cyfreithiol i ddiwygio'r Bil er mwyn cynnwys yn y Ddeddf darged neu dargedau ar gyfer canran yr addysgwyr a fydd, erbyn blwyddyn benodedig, yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, hynny yw rhai prif iaith Cymraeg, neu mewn ysgolion dwy iaith. Ac fel mae'n digwydd, mae yna sawl rheswm dros ddadlau na fyddai gwelliant felly, o dan yr amgylchiadau perthnasol, yn groes hyd yn oed i egwyddorion ymarfer da, sef, yn gyntaf, y mewnosodwyd eisoes yn y Bil, trwy welliant a gynigiwyd gan y Llywodraeth ei hun yn ystod Cyfnod 2, ddarpariaeth ar gyfer pennu targedau ar gyfer nifer y dysgwyr sy'n derbyn addysg mewn ysgolion prif iaith Cymraeg. O dan y gwelliant hwnnw, Gweinidogion Cymru fydd yn pennu'r targedau perthnasol drwy eu cynnwys yn strategaeth statudol y Gymraeg. Nid oedd y Papur Gwyn yn awgrymu y byddai'r Ddeddf arfaethedig yn cynnwys darpariaeth felly.
Nawr bod yr egwyddor bod yn rhaid gosod targedau, felly, wedi cael ei chynnwys yn y Bil, nid yw'n gam mawr i osod amodau ar ddyletswydd y Llywodraeth i bennu'r targedau hyn fel, er enghraifft, fod yn rhaid i'r nifer sy'n derbyn addysg Gymraeg fod o leiaf 50 y cant o'r cyfanswm.
Hefyd, er nad awgrymodd y Papur Gwyn y byddai dyletswydd i bennu targedau fel rhan o’r Bil arfaethedig, fe dynnodd rhagair y Gweinidog sylw at y ffaith fod y taflwybr presennol a osodwyd gan strategaeth statudol y Gymraeg eisoes yn gosod nod o 40 y cant ar gyfer y dysgwyr sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Ac aiff y rhagair ymlaen i grybwyll y posibilrwydd y gallai'r nod hwnnw gael ei gynyddu. Felly, roedd yna gyfeiriad yn barod yn y Papur Gwyn at y posibilrwydd hwnnw i'w gynyddu fe i 50 y cant, pe byddai astudiaeth yn cael ei chynnal yn cyfiawnhau hynny. Felly, ni fyddai effaith ymarferol cynnwys nod o 40 y cant neu 50 y cant ar wyneb y Ddeddf yn golygu, felly, dod â chysyniad newydd i mewn i'r fframwaith cyfreithiol, na gosod nod nad oedd y Llywodraeth eisoes wedi ei dderbyn.
Felly, i gloi, Llywydd, gan symud ymlaen at y gwelliant arall yn y grŵp hwn, mae gwelliant 66 yn deillio o'r trafodaethau dwi wedi'u cael gyda'r Llywodraeth ers Cyfnod 2 er mwyn ceisio cryfhau elfennau o'r Bil sydd yn sicrhau cynnydd yn y niferoedd mewn ysgolion categori prif iaith Cymraeg a chynnydd yn nifer yr ysgolion prif iaith Cymraeg. Bydd y gwelliant hwn, felly, yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud hyn drwy eu CSCAs lleol.
Edrychaf ymlaen, felly, at glywed cyfraniadau eraill ar y gwelliannau hyn. Diolch yn fawr.
Llywydd, hoffwn i siarad am ddau welliant Plaid Cymru o fewn y grŵp hwn, gwelliannau 54 a 66. Er yr hoffwn ailadrodd fy nheimlad o'r grŵp diwethaf o welliannau, lle siaradais am ein cefnogaeth fel grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ar ddefnyddio a hyrwyddo'r iaith ei hun, ac felly, mewn theori, y nod tu ôl i'r grŵp hwn o welliannau i gynyddu nifer y disgyblion mewn ysgolion Cymraeg, byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau 54 a 66, oherwydd ein hanghytundeb ynglŷn â'r ffordd y bydd y nod hwn yn cael ei gyrraedd.
Mae gwelliant 54 yn sicrhau, erbyn diwedd 2050, y bydd nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgolion categori iaith Cymraeg yn o leiaf 50 y cant o gyfanswm nifer y disgyblion oedran ysgol gorfodol yng Nghymru, ac mae gwelliant 66 eto yn gosod cyfrifoldeb mawr ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n derbyn addysg mewn ysgolion categori iaith Cymraeg yn bennaf yn eu hardal.
Rwy'n gwrthwynebu'r ddau welliant hyn, yn bennaf oherwydd natur gwelliant 54, sy'n dileu lefel o ddewis i rieni, gydag o leiaf hanner yr ysgolion o fewn unrhyw awdurdod lleol penodol yn cael eu gosod fel ysgolion categori iaith Cymraeg, a fyddai nid yn unig yn tynnu opsiynau a dewis o fewn yr ardal o ysgolion dwyieithog ac ysgolion Saesneg yn bennaf, Cymraeg yn rhannol, ond, fel yr wyf wedi cyfeirio ato mewn grwpiau blaenorol, byddai'n debygol o fod yn anodd ei gweithredu heb gynllun gweithlu priodol a dull gyflwyno. Byddaf yn manylu ymhellach ar y cysyniad o ddewis wrth siarad am ein gwelliannau 74, 75 a 76 yng ngrŵp 13.
Rydym eisoes yn deall o gyfraniadau gwerthfawr rhanddeiliaid drwy gydol proses graffu'r pwyllgor bydd llawer o ysgolion mewn rhanbarthau iaith Saesneg yn bennaf yn cael trafferth i gyrraedd y targed 10 y cant, a dweud y gwir, heb sôn am gyrraedd 50 y cant ar draws pob ardal mewn cyfnod o 25 mlynedd. Felly, Llywydd, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau o fewn y grŵp hwn.
Llywydd, o ran gwelliant 54, cafodd gwelliant tebyg ei gyflwyno gan yr Aelod, Cefin Campbell, yng Nghyfnod 2, ac, fel y dywedais bryd hwnnw, nid yw'n bolisi gan Lywodraeth Cymru bod pob plentyn yn derbyn addysg mewn ysgolion categori prif iaith Cymraeg. Byddai hynny'n anfon y neges anghywir i'n hysgolion categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg a chategori dwy iaith, gan danseilio eu rôl nhw wrth greu siaradwyr Cymraeg hyderus, annibynnol, yn unol â nod y Bil.
Fodd bynnag, dywedais yng Nghyfnod 2 y byddwn yn ystyried ymhellach yr elfen o'r gwelliant sy'n gosod targed bod 50 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion categori prif iaith Cymraeg erbyn 2050. Rydw i hefyd wedi cael trafodaethau gyda Cefin Campbell am yr agwedd hon yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yng ngoleuni gwelliant yr Aelod, hoffwn roi sicrwydd heddiw y bydd y Llywodraeth yn cynnig ymgynghori ar y targed 50 y cant erbyn 2050 fel rhan o'r ymgynghoriad ar strategaeth y Gymraeg newydd. Ni fyddaf i'n gallu cefnogi gwelliant 54 am y rhesymau hyn, ond dwi eisiau rhoi ar y record y prynhawn yma y ffaith y bydd y Llywodraeth yn cynnig ymgynghoriad ar y targed 50 y cant erbyn 2050.
Gan droi at welliant 66, hoffwn ddiolch i Cefin Campbell am y drafodaeth a gawsom ni ar hyn. Credaf fod y Bil yn cael ei gryfhau gan gynnwys y gwelliant hwn ac rwy'n falch o fod yn ei gefnogi heddiw.
Cefin Campbell i ymateb.
Diolch yn fawr iawn. Dwi am ddechrau drwy ymateb i sylwadau Tom Giffard. Wrth gwrs, mae'r Torïaid fel tiwn gron yn sôn am ddewis rhieni. Wel, beth am ddewis y plentyn? Dylai pob plentyn, os ydyn nhw'n credu yn yr egwyddor, gael yr hawl i fod yn ddwyieithog, i siarad iaith eu gwlad, ochr yn ochr â'r Saesneg, a chael y rhodd gwerthfawr hwnnw o ddwyieithrwydd. Nid yw addysg cyfrwng Cymraeg yn dileu'r dewis; mae'n rhoi'r rhodd arbennig yna i bob plentyn, ac ar hyn o bryd mae'r system yn gwadu'r hawl hwnnw i lawer gormod o bobl ifanc.
O ran sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet, mae'n siomedig nad yw'r Llywodraeth yn barod i gefnogi'r polisi y dylai pob plentyn yng Nghymru gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Eto, mae'n amlwg bod y Llywodraeth yn hapus i amddifadu carfan o bobl ifanc Cymru o’r rhodd arbennig yna o ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Dwi ddim yn hapus gyda hynny, na Phlaid Cymru chwaith, achos dŷn ni eisiau gweld bob plentyn yn cael y cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg dwyieithog.
Wedi dweud hynny, dwi'n hapus ac yn croesawu sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet bod y Llywodraeth yn mynd i ymrwymo i ymgynghoriad ar newid y taflwybr o 40 y cant i 50 y cant yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050, a bydd yr ymgynghoriad yna yn digwydd cyn diwedd y Senedd hon. Felly, mae hynny yn rhywbeth dwi yn croesawu yn fawr. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 54? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 54. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal a 39 yn erbyn. Gwelliant 54 wedi'i wrthod.
Gwelliant 54: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 33 yn cael ei gynnig, Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 33 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 33? Nac oes. Mae gwelliant 33 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 34. Yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 34 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 34? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 55, Cefin Campbell. Yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 55 (Cefin Campbell).
Cynnig.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 55? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 55. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal a 39 yn erbyn. Mae gwelliant 55 wedi'i wrthod.
Gwelliant 55: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 56. Yn cael ei symud, Cefin Campbell?
Tynnu hwnna yn ôl.
Dyw e ddim yn cael ei symud. Felly, does yna ddim gwrthwynebiad i hynny. Nac oes. Felly, fyddwn ni ddim yn pleidleisio ar welliant 56.
Ni chynigiwyd gwelliant 56 (Cefin Campbell).
Gwelliant 10, Tom Giffard. Ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 10 (Tom Giffard).
Ie, symud.
Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 10? Nac oes. Felly, mae gwelliant 10 wedi'i gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 11. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 11 (Tom Giffard).
Ydy, mae e, gan Tom Giffard. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae e'n cael ei dderbyn, felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 57. Ydy e'n cael ei symud, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 57 (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. A oes unrhyw wrthwynebiad i 57? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 57. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, a 39 yn erbyn. Gwelliant 57 wedi'i wrthod.
Gwelliant 57: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 58 yn cael ei symud, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 58 (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy, mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 58? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 58. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 58 wedi'i wrthod.
Gwelliant 58: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 35. Yn cael ei symud, Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 35 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 35? Nac oes, dim gwrthwynebiad. Gwelliant 35 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 11 bydd y grŵp nesaf, ond fe wnawn ni gymryd toriad byr cyn cychwyn ar grŵp 11, ac fe wnawn ni geisio ailddechrau mewn tua 20 munud.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:54.
Ailymgynullodd y Senedd am 19:21, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Dyma ni'n ailddechrau, felly, gyda grŵp 11. Mae grŵp 11 o welliannau yn ymwneud â'r gweithlu addysg. Gwelliant 36 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant yna.
Cynigiwyd gwelliant 36 (Mark Drakeford).
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae gwelliannau 36 a 37 yn dileu is-adrannau 24(3)(d) a 24(6)(c) o'r Bil oherwydd bod gwelliant y cytunwyd arno yng Nghyfnod 2 yn ailadrodd y darpariaethau hyn yn adran 25, ynghylch y gweithlu ysgolion.
Mae gwelliant 62, yn enw Cefin Campbell, yn ceisio ei gwneud yn glir bod yn rhaid i'r asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg sydd eu hangen ym mhob ardal awdurdod lleol i gyrraedd y targedau fod ar gyfer pan fydd y fframwaith yn cael ei baratoi ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r fframwaith, o ran ei natur, yn ddogfen gynllunio gyda golwg i'r dyfodol, golwg 10 mlynedd, ac yn cael ei adolygu bob pum mlynedd. Bydd yn rhaid cynnal asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg sydd eu hangen ym mhob ardal awdurdod lleol mewn perthynas â'r holl dargedau a osodir yn y fframwaith, yn unol ag adrannau 24(5) a (7). Felly, mae gwelliant 62 yn ddiangen.
Yn yr un modd, mae gwelliant 63 Cefin Campbell yn ceisio ei gwneud yn glir bod y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd at ddibenion sicrhau bod nifer yr ymarferwyr addysg yn bodloni'r angen yn berthnasol i pan fydd y fframwaith yn cael ei baratoi ac yn y dyfodol. Unwaith eto, mae'r gwelliant hwn yn ddiangen am yr un rhesymau a amlinellais mewn perthynas â gwelliant 62: mae’r Bil eisoes yn gwneud hyn.
Mae gwelliant 64 Cefin Campbell yn ceisio gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau mewn perthynas â recriwtio, cadw a hyfforddi'r gweithlu addysg dwyieithog Cymraeg a Saesneg yng Nghymru yn y fframwaith cenedlaethol. Mae adran 25(2)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i'r fframwaith cenedlaethol gynnwys asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg sydd eu hangen ym mhob awdurdod lleol i gyrraedd unrhyw darged a osodir o dan adran 24(5) a (7). Bydd hyn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddeall faint o ymarferwyr addysg sydd eu hangen. Bydd yn rhaid i ni nodi, yn unol ag adran 25(2)(b), y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd, yn seiliedig ar yr asesiad hwnnw, er mwyn sicrhau bod nifer yr ymarferwyr addysg sy'n gweithio yng Nghymru yn diwallu'r angen. Mae'r Llywodraeth felly yn credu y byddai'r gwelliant hwn yn dyblygu'r adran 25(2) bresennol.
Byddai gwelliant 65 Cefin Campbell a'r gwelliant cysylltiedig, 70, yn ymestyn y diffiniad o 'ymarferydd addysg' at ddibenion adran 25 i gynnwys 'athro neu athrawes addysg bellach' a 'gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach', fel y'i diffinnir yn Neddf Addysg (Cymru) 2014.
Yng Nghyfnod 2, cyflwynodd y Llywodraeth welliannau i ddod ag addysg drydyddol o dan gwmpas y fframwaith cenedlaethol, yn dilyn galwadau am welliant o'r fath gan randdeiliaid a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fodd bynnag, nid yw'r Llywodraeth o'r farn bod angen ymestyn adran 25 i gynnwys ymarferwyr mewn addysg drydyddol. Y bwriad yw bod y ddarpariaeth hon yn ymwneud â'r gweithlu addysg mewn ysgolion. Mae hyn i gefnogi prif amcan y Bil, sef cynyddu a gwella canlyniadau ynglŷn â'r Gymraeg mewn ysgolion.
Ond nid yw hynny'n ymestyn i ehangu cwmpas adran 25. Mae ffocws canolog y Bil yn parhau i fod ar addysg plant o oedran ysgol gorfodol. Byddai gwelliannau 65 a 70 yn gwanhau ein ffocws ar y gweithlu addysg sydd ei angen i ddelifro’r Bil ar gyfer y plant hyn. Ni allaf eu derbyn.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud â sgiliau Cymraeg o fewn addysg drydyddol. Er enghraifft, un o amcanion Medr yn eu cynllun strategol yw:
'Byddwn yn gweithio gyda darparwyr a phartneriaid i gael dealltwriaeth well am sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg drydyddol, i wella cyfraddau recriwtio a chadw staff Cymraeg, ac i hyrwyddo dysgu proffesiynol fel bod mwy o staff yn hyderus i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.'
Galwaf felly ar yr Aelodau i gefnogi gwelliannau 36 a 37, a phleidleisio yn erbyn gwelliannau 62, 63, 64, 65 a 70.
Fel cyn-aelod o'r gweithlu addysg Cymreig, rwy'n credu mai'r grŵp hwn yw'r grŵp mwyaf pwysig yn y Bil. Wrth gwrs, heb weithlu, ni fyddai unrhyw linell o'r Bil hwn yn gweithio. Dyna pam rwyf am weld y Bil yn llwyddo gyda nodau, targedau a strwythur pragmatig a realistig er mwyn cyflwyno'r iaith Gymraeg ar draws ein hysgolion yng Nghymru. Er mwyn i hyn ddigwydd a sicrhau canlyniadau teg, rhaid i'r Bil gydnabod, deall ac ymateb yn llwyr i'r argyfwng mae ein gweithlu addysg yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Mae gennym argyfwng recriwtio athrawon, anawsterau oherwydd y pandemig nad ydynt eto wedi'u hadfer i lefelau cyn y pandemig, cyfyngiadau cyllidebol ac ystadegau absenoldeb hynod heriol. Mae gweithio tuag at a chreu strategaeth ar gyfer y gweithlu sy'n gref i ymdrin â heriau pwysig o fewn yr hinsawdd addysg yn allweddol cyn gweithredu newidiadau systemig mor fawr.
Fel y nododd fy nghyd-Aelod Sam Kurtz yn nhrafodion Cyfnod 2, mae Estyn a NEU Cymru eisoes wedi ein rhybuddio'n gryf yn erbyn gosod gofynion ychwanegol ar y gweithlu heb hyfforddiant a chynllunio priodol mewn lle. Rydym yn gwybod nad recriwtio yn unig sy'n heriol, ond hefyd mae cadw athrawon sy'n siarad Cymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r iaith Saesneg yn dominyddu, yn parhau i fod yn her fawr, heb unrhyw gynllun i ymdrin â hyn er gwaethaf yr ymdrechion gan ein plaid i gyflwyno gwelliannau sy'n ymdrin â'r mater hwn yn ystod Cyfnod 2, a oedd yn cyd-fynd â'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor ar y Bil hwn.
O ran gwelliannau Cefin Campbell o fewn y grŵp hwn, byddaf i’n cefnogi gwelliannau 62, 63, 64 a 65 oherwydd eu natur bragmatig o ran sicrhau bod targedau yn cael eu gosod o ran recriwtio, cadw a hyfforddi gweithlu dwyieithog yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau lefelau digonol o ymarferwyr addysg o fewn y gweithlu yn gyffredinol. Fodd bynnag, ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 70, sy'n ceisio dileu diffiniad o ‘ymarferydd addysg’ yn y Bil o dan adran 25.
O ran gwelliannau'r Gweinidog o fewn y grŵp hwn, byddaf yn cefnogi gwelliant 37, sydd yn ceisio cael gwared ar linellau 30 i 31 o'r testun Saesneg, a fyddai wedi gosod baich ychwanegol ar y fframwaith cenedlaethol i gynnwys asesiad ychwanegol o nifer yr ymarferwyr addysg sydd eu hangen ym mhob awdurdod lleol i gyrraedd unrhyw darged a osodwyd.
Fodd bynnag, byddaf yn gwrthwynebu gwelliant 36, sydd yn ceisio cael gwared ar linellau 5 i 7, a fyddai fel arall yn darparu hyfforddiant datblygiad proffesiynol a chymorth i ymarferwyr addysg at y diben o wella eu gallu yn y Gymraeg. Byddai cael gwared ar yr adnodd hyfforddi a chymorth hwn ond yn gwneud niwed pellach i'r gweithlu sydd eisoes dan straen yng Nghymru, ac fel Ceidwadwyr Cymreig, credwn ni fod hyn yn hanfodol i lwyddiant cyffredinol y Bil.
Cyn cyflwyno gwelliannau fy hun, hoffwn i nodi y byddwn yn cefnogi gwelliannau 36 a 37 yn enw'r Ysgrifennydd Cabinet.
Felly, i symud ymlaen at y gwelliannau sydd yn fy enw i yn y grŵp yma—pump i gyd—un o'r diffygion mwyaf sydd wedi cael ei amlinellu mewn perthynas â'r Bil hwn yn ystod Cyfnod 1, gan randdeiliaid, oedd y methiant ar wyneb y Bil i ymdrin â’r mater o greu gweithlu digonol a safonol er mwyn gwireddu amcanion ac uchelgeisiau'r Bil. Fel dywedodd Tom Giffard, heb y gweithlu, fydd dim un o amcanion y Bil yma yn gallu cael eu cyflawni.
Yn syml, dŷn ni ddim yn recriwtio digon o athrawon cyfrwng Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ddarparwyr addysg gychwynnol i athrawon weithio tuag at darged o 30 y cant o'r rhai sy'n dilyn cwrs hyfforddi i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, ond y ffigwr recriwtio diweddaraf oedd 20 y cant, sydd dipyn yn is. Mae hyn yn golygu mai rhyw 325 o'r 1,610 a ddechreuodd gyrsiau AGA oedd yn hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg yn 2021-22, ac mae'r ffigwr wedi gostwng i 18.7 y cant ers hynny. Felly, rŷn ni'n mynd i'r cyfeiriad anghywir.
O ganlyniad i hynny, cafwyd trafodaeth eang yn ystod Cyfnod 2 ar yr amrywiaeth o welliannau mewn perthynas â’r gweithlu addysg. Er i ni geisio sicrhau bod y cynllun gweithlu addysg dwyieithog yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil, rwy'n derbyn ymdrechion y Llywodraeth i symud ychydig tuag at y cyfeiriad hwnnw drwy greu adran 25 newydd yn ystod Cyfnod 2, a oedd yn gosod darpariaeth bellach ar y gweithlu addysg ar wyneb y Bil, a dwi'n ddiolchgar am hynny. Fodd bynnag, dwi'n dal yn credu bod modd cryfhau’r adran hon ymhellach, a bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'm pryderon i o ran creu cynllun anstatudol o ran datblygu gweithlu dwyieithog. Dwi'n awgrymu, felly, y dylid cryfhau’r adran hon mewn tair ffordd.
Yn gyntaf, mae gwelliannau 62 a 63 yn ceisio sicrhau bod y Llywodraeth yn cynllunio nid yn unig i ddatblygu gweithlu addysg ar gyfer anghenion heddiw, ond hefyd—ac yn bwysicach, efallai—i gynllunio er mwyn asesu'r angen at y dyfodol. Yn ail, mae gwelliant 64 yn ychwanegu gofyniad i'r fframwaith cenedlaethol i bennu targedau mewn perthynas â recriwtio, cadw a hyfforddi'r gweithlu addysg dwyieithog. Mae hyn yn deillio o ymateb y Cyngor Gweithlu Addysg i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, a oedd yn dadlau o blaid cynnwys targedau ar wyneb y Bil. Byddai hyn yn galluogi Gweinidogion, gwleidyddion a rhanddeiliaid y dyfodol i wybod a yw Llywodraeth y dydd yn gwneud digon i ateb y galw ar y pryd ac i'r dyfodol o ran y gweithlu addysg.
Ac yn drydydd ac yn olaf, rwyf wedi cyflwyno gwelliannau 65 a 70 er mwyn ceisio ehangu'r diffiniad ac ystyr y term 'ymarferydd addysg' o fewn yr adran hon. Ar hyn o bryd, mae'r diffiniad yn gaeth i'r diffiniad a roddir yn Neddf Addysg 2002, sef athro neu athrawes ysgol yn unig. Nawr, dwi'n credu fod hyn yn wendid sylfaenol yn yr adran hon oherwydd ni ellir cynllunio'r gweithlu addysg drwy lens athrawon ysgol yn unig, a dwi wedi clywed y sylwadau gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Os ydym ni'n symud at greu gwell partneriaeth rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach, gwell synthesis o ran addysg ôl-16 yn arbennig, mi fyddai hynny'n rhwym o gynnwys addysgwyr sydd ar hyn o bryd yn y sector addysg bellach. Allwn ni ddim ag anghofio am y sector hwn wrth gynllunio addysg ôl-16 i'r dyfodol mewn ysgolion. Dyna pam fy mod i'n cynnig diffiniad mwy eang o'r term 'ymarferydd addysg' yn hytrach na beth oedd yn y gwreiddiol.
Felly, at ei gilydd, gobeithio y gallaf dderbyn eich cefnogaeth fel Aelodau i'r tair elfen hyn yn y gwelliannau. Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.
Diolch, Llywydd. Diolch i ddechrau i Cefin Campbell am beth ddywedodd e am gefnogi'r gwelliannau yn enw'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, ac, wrth gwrs, dwi wedi gwrando'n ofalus ar y dadleuon a gyflwynwyd gan Cefin Campbell. Nid oes gwahaniaeth o ran egwyddor rhwng y Llywodraeth a'r Aelod yn y grŵp hwn. Yn wir, mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod heriau o ran y gweithlu ysgolion yn gyffredinol, ond dyna pam mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi ei bod yn llunio cynllun strategol gweithlu addysg i Gymru. Ac fel esboniais yn gynharach, mae'r Bil eisoes yn cynnwys mesurau clir, wedi eu cryfhau gan welliannau yng Nghyfnod 2, i sicrhau bod gan weithlu ysgolion y sgiliau Cymraeg priodol. Ym marn y Llywodraeth, nid oes angen gwelliannau Cefin Campbell i gyflawni'r nodau rydyn ni'n dau yn eu rhannu. Bydd y Llywodraeth yn pleidleisio yn erbyn.
Y cwestiwn yw felly: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 36. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 36 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 36: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Grŵp 12 sydd nesaf. Mae'r gwelliannau yma yn ymwneud â'r fframwaith cenedlaethol: cyffredinol. Gwelliant 59 yw'r prif welliant. Cefin Campbell sy'n cyflwyno'r gwelliant hynny.
Cynigiwyd gwelliant 59 (Cefin Campbell).
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o agor y drafodaeth ar y grŵp hwn o welliannau sy'n edrych ar ddiwygio adrannau o'r fframwaith cenedlaethol. Pwrpas gwelliant 59 yw cynnwys gwasanaethau datblygu ieuenctid o fewn cwmpas y fframwaith cenedlaethol.
Awgrymodd Estyn y dylai gwaith ieuenctid a gynhelir gan yr awdurdodau lleol neu drwy gytundebau'r sector anstatudol gael ei gynnwys yng nghwmpas y Bil ac o fewn y fframwaith. Dywedodd Estyn y dylai gallu'r sector i ehangu'r defnydd o Gymraeg y tu allan i leoliadau ysgol ac mewn cyd-destunau amrywiol fod yn ganolog i strategaeth 'Cymraeg 2050'.
Mae'r gwaith ymgysylltu mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ei wneud wedi amlygu'r ffaith bod cyfleoedd ac anogaeth i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol yn brin ar hyn o bryd. Dywedodd 80 y cant o ymatebwyr i arolwg a oedd wedi cael ei gynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd eu bod nhw prin byth yn defnyddio'r Gymraeg y tu fas i'r ysgol, a dywedodd un ohonyn nhw eu bod byth yn defnyddio'r Gymraeg o gwbl. Felly, er mwyn cynyddu'r niferoedd, gofynnwyd am awgrymiadau ymhlith y bobl ifanc, a chyfleoedd mwy anffurfiol fel clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau oedd yr ymatebion mwyaf poblogaidd. Gobeithio, felly, y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymateb yn gadarnhaol i'r gwelliant hwn.
I droi yn awr at y mater o gymwysterau yn yr iaith Gymraeg, yn wreiddiol, fy mwriad i yng Nghyfnod 2 oedd gweithredu argymhelliad sydd yn dal heb ei gyflawni gan y Llywodraeth, ers dros 10 mlynedd erbyn hyn, sef argymhelliad yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd i ddiddymu cymhwyster Cymraeg ail iaith. Awgrymodd hi y dylid creu un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir y byddai disgyblion sy'n dysgu'r iaith mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn derbyn canllawiau clir a deunyddiau cefnogi a hyfforddiant digonol, ac, felly, o ganlyniad i hynny, dileu yn y bôn TGAU Cymraeg ail iaith. Sail ei thystiolaeth hi oedd bod y cwrs ail iaith yn gyffredinol wedi methu creu siaradwyr Cymraeg rhugl a hyderus. Ddeuddeng mlynedd ers i adroddiad yr Athro Sioned Davies gael ei gyhoeddi, mae Cymraeg ail iaith yn parhau i gael ei addysgu mewn ysgolion, a hynny er gwaethaf nifer o ymrwymiadau gan Weinidogion dros y blynyddoedd diwethaf i'w ddileu.
Nawr, dwi'n derbyn bod Cymwysterau Cymru bellach yn cynllunio i gyflwyno cymwysterau newydd o ran y Gymraeg, ond barn Plaid Cymru yw mai un cymhwyster sydd ei angen i gyfleu continwwm ieithyddol o ran cyflwyno'r Gymraeg fel pwnc. Amser a ddengys, felly, a fydd y datganiad hwn yr un modd berthnasol, sef datganiad Sioned Davies ynglŷn â methiannau Cymraeg ail iaith, ei fod e yr un modd berthnasol i'r cymwysterau newydd sydd yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd. Dwi'n derbyn nad yw'n ymarferol ailadolygu'r cymwysterau newydd hyn mor fuan ar ôl eu cyflwyno, ond mae gwelliant 60 yn ychwanegu cymal sydd yn datgan bod yn rhaid i'r fframwaith cenedlaethol nodi'r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i adolygu'r modd y mae'r cymwysterau newydd yn cyd-fynd â'r CEFR. Gobeithio, felly, y gall yr Ysgrifennydd Cabinet nodi ar y record, mewn ymateb i'r gwelliant hwn, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymdrin â'r mater o ddatblygu cymwysterau perthnasol ac effeithiol i greu siaradwyr Cymraeg hyderus, yn enwedig gan gofio bod llu o Weinidogion dros y blynyddoedd wedi ymrwymo i ddileu Cymraeg ail iaith a chreu un cymhwyster i bawb.
Mae gwelliant 61 yn ailgyflwyniad o welliant y gwnes i ei gyflwyno yng Nghyfnod 2, sydd yn ymgorffori argymhelliad 10 o adroddiad trawsbleidiol Cyfnod 1 y pwyllgor deddfwriaeth, a oedd yn nodi y dylid diwygio'r Bil i gynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori cyn gosod rheoliadau drafft o dan adran 23 gynt—bellach, adran 24, llinell 9. Fel y mae'r Bil yn sefyll ar hyn o byd, fel mae adroddiad y pwyllgor yn nodi, gall Gweinidogion y dyfodol newid cynnwys pump is-adran yn y Bil heb fawr ddim goruchwyliaeth. Rŷn ni o'r farn bod y ddarpariaeth hon yn dirprwyo pŵer amhriodol i Weinidogion y dyfodol, ac rwy'n cytuno â sylwadau'r pwyllgor yn hynny o beth. Mae'r pump is-adran o dan sylw yn rhai sydd yn gwbl greiddiol i nod ac amcanion y Bil. Maen nhw'n creu fframwaith cenedlaethol effeithiol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg, a rhaid i ni ddiogelu'r fframwaith hwnnw i'r dyfodol.
Dwi'n gweld bod gwelliant 12 yn enw Tom Giffard yn debyg iawn i hyn o ran gosod dyletswydd i ymgynghori â phwyllgor priodol o'r Senedd. Felly, byddwn ni yn cefnogi gwelliant 12 yn ogystal. Ond allwn ni ddim â chefnogi gwelliant 13 gan Tom, sydd yn galw am osod drafft o'r fframwaith gerbron y Senedd, oherwydd, yn fy marn i, mae gofyniad eisoes ar Weinidogion i osod y fframwaith terfynol gerbron yn dilyn cyfnod dwys o ymgynghori gyda nifer helaeth o randdeiliaid.
Felly, Llywydd, dwi'n edrych ymlaen i glywed barn y Senedd ar y gwelliannau hyn. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd y fframwaith cenedlaethol ar gyfer addysg a dysgu Cymraeg yn destun proses ymgynghori eang, fel sy'n ofynnol gan adran 28(1). Fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, bydd awdurdodau lleol, ymhlith eraill, yn cael cyfle i ystyried y targedau sy’n cael eu cynnwys yn y fframwaith drafft. Bydd rhanddeiliaid eraill sy’n cael eu heffeithio gan y fframwaith hefyd yn cael eu clywed yn ystod y broses ymgynghori. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y fersiwn derfynol o'r fframwaith sy'n cael ei chyhoeddi gan Weinidogion Cymru yn elwa o broses ymgynghori fanwl.
Effaith gwelliant 13 yn enw Tom Giffard fyddai na ellid gwneud y fframwaith cenedlaethol heb ddilyn gweithdrefn benodol yn y Senedd. O ystyried y broses ymgynghori eang a fyddai eisoes wedi digwydd erbyn i'r fframwaith cenedlaethol gyrraedd y cam hwn, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen y weithdrefn hon, ac ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn.
Llywydd, ynglŷn a gwelliant 12 yn enw Tom Giffard, nid yw'r Senedd heb lais yn y broses yma. Bydd Aelodau, yn unigol ac ar y cyd, yn gallu cyfrannu at y fframwaith cenedlaethol drwy nifer o ffyrdd. Yn ogystal, mae llais y Senedd eisoes yn rhan annatod o’r broses, gan fod y rheoliadau o dan adran 24(10) yn dod o dan y weithdrefn gadarnhaol. Hefyd, bydd yn bosibl i'r pwyllgor perthnasol wahodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru i drafod y fframwaith cenedlaethol gyda nhw ar unrhyw adeg wrth ei baratoi a'i weithredu. Ni all y Llywodraeth, felly, gefnogi gwelliant 12.
Mae gwelliant 61 yn enw Cefin Campbell yn mynd ar ôl thema debyg. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru ar wyneb y Bil i ymgynghori cyn gwneud rheoliadau i ddiwygio'r hyn sy'n ofynnol neu all gael ei gynnwys yn y fframwaith cenedlaethol. Yn dibynnu ar natur unrhyw newid, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnwys rheoliadau fel mater o drefn. Byddai'r rheoliadau dan sylw hefyd yn dod o dan y weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth wrthod gwelliant 61.
Ni all y Llywodraeth chwaith gefnogi gwelliant 59, sy'n ceisio ymestyn adran 23(4) i gynnwys gwasanaethau datblygu ieuenctid yn y rhestr o faterion y mae'n rhaid i'r fframwaith fynd i'r afael â hwy o ran darparu cyfleoedd i bobl o bob oed yng Nghymru i ddysgu Cymraeg. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu cynigion i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys egluro diffiniad o waith ieuenctid. Byddai cynnwys y ddarpariaeth yng ngwelliant 59 yma yn torri ar draws y gwaith hwnnw. Gallai hynny greu dryswch ar adeg pan fo gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau eglurder a chydlyniad ar y materion hyn. Wrth gwrs, mae gan waith ieuenctid rôl hanfodol i'w chwarae wrth alluogi pob person ifanc, beth bynnag fo'u gallu neu gefndir yn y Gymraeg, i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg. Bydd hyn yn parhau i fod yn nodwedd ganolog o waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Yn olaf, Llywydd, mae gwelliant 60 Cefin Campbell yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i'r fframwaith cenedlaethol nodi pa gamau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i adolygu aliniad cymwysterau'r Gymraeg gyda'r CEFR a'r cod. Mae hwn yn fater a gododd Cefin Campbell yng Nghyfnod 2, ac, ers hynny, rwyf wedi trafod y mater hwn gydag ef. Rwy'n deall yr awydd i alinio cymwysterau Cymraeg gyda lefelau CEFR, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen y ddarpariaeth hon yn y Bil.
Gallaf gadarnhau bod Cymwysterau Cymru wedi rhoi sicrwydd i mi mewn llythyr, yr wyf wedi ei rannu gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y bydd yn alinio cymwysterau gyda'r lefelau cyfeirio cyffredin yn y cod. Mae'n cydnabod y bydd hyn yn caniatáu i bobl ddisgrifio eu gallu yn y Gymraeg mewn ffordd sy'n cael ei chydnabod, a fydd yn eu helpu i asesu ble maen nhw ar eu taith dysgu Cymraeg gydol oes.
Dechreuodd y gwaith i greu cymwysterau cenedlaethol 14-16 newydd cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Fodd bynnag, mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mapio'r cymwysterau hyn i'r lefelau cyfeirio cyffredin yn y cod fel ffordd o ddarparu gwaelodlin ar gyfer mesur cynnydd yn y dyfodol tuag at y nodau dysgu Cymraeg. Maent yn rhagweld dechrau'r gwaith hwn yn 2026.
Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn bwriadu gosod gofynion mewn diwygiadau sydd i ddod, gan gynnwys y cymwysterau Cymraeg Uwch Gyfrannol, AS, a Safon Uwch newydd, fel eu bod yn cael eu dylunio i alinio gyda'r lefelau cyfeirio cyffredin yn y cod. Bydd y rhain ar gael o fis Medi 2027.
Gofynnaf, felly, i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn gwelliant 60 a'r holl welliannau eraill yn y grŵp hwn.
Cefin Campbell i ymateb.
Diolch, Llywydd. Sylwadau byr iawn. Rwy'n siomedig i glywed nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Llywodraeth yn barod i gynnwys gwaith ieuenctid yn y Bil. Mae Estyn yn dweud yn glir fod angen hynny er mwyn ymestyn yr iaith o fod yn iaith y dosbarth i fod yn iaith chwarae a hamdden. Y ddadl, mae'n debyg, yw bod gwaith ar y gweill i roi gwaith ieuenctid ar sail statudol, ac y byddai hyn yn torri ar draws. Dwi ddim yn cytuno â hynny. Dwi'n credu y byddai rhoi hynny yn y Bil yn cryfhau'r sail statudol ar gyfer gwaith ieuenctid.
O ran alinio'r CEFR a'r cod i gymwysterau a'r Bil, dwi'n credu y byddai'n fwy taclus petaem ni'n gwneud hynny yn y Bil ac y byddai hynny'n rhoi arweiniad clir i Gymwysterau Cymru ynglyn â bwriadau'r Senedd hon. Felly, gyda hynny o sylwadau, Llywydd, dwi'n barod i ildio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 59? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 59. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 12 yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yna wedi'i gwrthod.
Gwelliant 59: O blaid: 14, Yn erbyn: 26, Ymatal: 12
Gwrthodwyd y gwelliant
Cefin Campbell, ydy gwelliant 60 yn cael ei symud?
Na, dwi'n tynnu hwnnw'n ôl.
Felly, dyw gwelliant 60 ddim yn cael ei symud. Fydd yna ddim pleidlais, os nad oes rhywun yn galw am hynny.
Ni chynigiwyd gwelliant 60 (Cefin Campbell).
Ysgrifennydd y Cabinet, ydy gwelliant 37 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 37 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Oes gwrthwynebiad i welliant 37? Nac oes. Mae gwelliant 37 yn pasio.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Tom Giffard, gwelliant 12.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Tom Giffard).
Symud.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 12? Nac oes, felly mae gwelliant 12 yn cael ei—[Gwrthwynebiad.]
O, symudais i'n rhy gyflym. Cadwch i fyny.
Dyw gwelliant 12 ddim yn cael ei dderbyn. Doeddwn i heb symud ymlaen yn llwyr, ac felly, jest mewn pryd, gallwn ni gael pleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 12 wedi'i wrthod.
Gwelliant 12: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 61 yn cael ei symud, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 61 (Cefin Campbell).
Symud.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe wnawn ni gael pleidlais ar welliant 61. Agor y bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 61 wedi'i wrthod.
Gwelliant 61: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd Cabinet, ydy gwelliant 38 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 38 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 38? Nac oes, felly mae e wedi ei gymeradwyo.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 39 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 39 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 39? Nac oes. Mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cefin Campbell, ydy gwelliant 62 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 62 (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi gawn ni bleidlais ar welliant 62. Agor y bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 62 wedi ei wrthod.
Gwelliant 62: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 63 yn cael ei symud, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 63 (Cefin Campbell).
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes mae yna, felly cymerwn ni bleidlais. Agor y pleidlais ar welliant 63. Cau'r bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Gwelliant 63 wedi'i wrthod.
Gwelliant 63: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 64 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 64 (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae. Felly, agor y bleidlais ar welliant 64. Cau'r bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Gwelliant 64 wedi ei wrthod.
Gwelliant 64: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 65 yn cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 65 (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy mae e. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy mae e. Felly, cymerwn ni bleidlais ar welliant 65. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 65 wedi'i wrthod.
Gwelliant 65: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 40, Ysgrifennydd Cabinet, yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 40 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy mae e. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly mae e wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 13, Tom Giffard?
Cynigiwyd gwelliant 13 (Tom Giffard).
Symud.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly cymerwn ni bleidlais ar welliant 13. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 13 wedi'i wrthod.
Gwelliant 13: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 66, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 66 (Cefin Campbell).
Symud.
Yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly cymerwn ni bleidlais ar welliant 66. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 66 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 66: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Grŵp 13 o welliannau sydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â chynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg. Gwelliant 74 yw'r prif welliant, i'w gynnig gan Tom Giffard.
Cynigiwyd gwelliant 74 (Tom Giffard).
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 74, 75 a 76 yn fy enw i, a dwi'n dymuno siarad am bob gwelliant yn y grŵp hwn. Fel y nodwyd gennyf fi, a'r Aelod Sam Kurtz yn ystod Cyfnod 2 o'r Bil, er ein bod o blaid cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn ein hysgolion, rydym hefyd yn gryf o blaid sicrhau dewis i rieni a disgyblion ledled Cymru pan ddaw'n fater o addysg. Rwyf wedi cyflwyno gwelliannau 74, 75 a 76, sy'n nodi'r bwriad i sicrhau bod o leiaf un ysgol gynradd ac uwchradd o bob categori iaith ym mhob awdurdod lleol, lle bo'n briodol.
Mae gwelliant 74 a 75 gyda'i gilydd yn hwyluso dewisiadau i rieni a disgyblion ynglŷn â sut mae eu plentyn, a'r disgybl, yn cael eu haddysgu yn y Gymraeg, ac yn caniatáu i'r person ifanc gael y mwyaf o'u haddysg yn yr amgylchedd sy'n gweddu orau iddynt. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r disgybl a'r rhiant yn aml yn ymwybodol iawn ohono.
Mae ail ran y gwelliant yn galw am ganiatâd, lle nad yw'n bosib i awdurdod lleol gyflawni hyn am resymau a nodir ganddynt, y byddent yn gallu gweithio gydag awdurdodau cyfagos i ganiatáu i ddisgyblion, lle bo angen, gael mynediad a'r opsiwn i fynychu ysgol o'r categori angenrheidiol yn yr awdurdod cyfagos. Nid yn unig y byddai hyn yn cefnogi trefniant sy'n rhoi rhyddid i rieni a disgyblion i ddewis yr amgylchedd dysgu ieithyddol gorau ar gyfer eu plentyn, neu eu hunain, byddai hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i gydweithio yn adeiladol i gyrraedd y targedau a osodir yn y Bil.
Yn ogystal, lle mae awdurdodau lleol yn gwasanaethu ardaloedd lle mae Saesneg yn bennaf yn cael ei siarad, rydym yn gwybod y bydd yn aml yn parhau i fod yn her sylweddol i symud ymlaen drwy’r categorïau iaith fel y nodir yn y Bil. Felly, mae’r gwelliant hwn yn ceisio ymdrin â hynny mewn modd cynhyrchiol a phragmatig, tra, ar yr un pryd, yn galluogi awdurdodau llai, lle na fydd yn bosibl cael un ysgol gynradd ac uwchradd o bob categori iaith, i weithio gyda’i gilydd i gyflawni nod y gwelliant hwn er budd addysg ar draws Cymru. Yn y pen draw, mae ein gwelliannau 74, 75 a 76 yn ceisio hwyluso mynediad gwell at addysg yn gyffredinol.
Ar welliant Cefin Campbell yn y grŵp hwn, gwelliant 69, ni fyddaf yn cefnogi’r gwelliant, gan ei fod yn ceisio caniatáu i Weinidogion Cymru wrthod cynllun strategol Cymraeg mewn addysg, a gosod fersiwn newydd o'u dewis ar awdurdodau lleol. Unwaith eto, byddai’r baich yn disgyn ar ein hawdurdodau lleol, sydd eisoes dan bwysau, i weithredu’r cynllun yn llwyr, fel y nodir yn y gwelliant, gyda’r bwriad i osod fersiwn o ddewis Gweinidogion ar yr awdurdod. Felly, byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant 69, yn unol â’n gwelliannau ni, a dwi’n edrych ymlaen at glywed oddi wrth Aelodau eraill.
O ran gwelliannau Tom Giffard yn y grŵp hwn, gallwn ni ddim eu cefnogi oherwydd eu bod yn mynd yn groes i’r egwyddor y mae Plaid Cymru yn credu’n gryf ynddo fe, sef mai addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yw’r dull mwyaf effeithiol o sicrhau siaradwyr hyderus a rhugl, sydd yn fwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r byd addysg, yn gymunedol, mewn swyddi yn y dyfodol, ac i drosglwyddo’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn teuluoedd.
Yn ein barn ni, felly, ysgolion cyfrwng Cymraeg neu brif iaith Cymraeg yw'r categori ieithyddol mwyaf addas i gyrraedd y nod hwn. Os ydyn ni am weld pob disgybl yn gadael ysgol fel siaradwr Cymraeg hyderus, byddwn ni eisiau gweld pob ysgol yn un prif iaith Cymraeg yn y pen draw. Wrth gwrs, efallai mewn rhai ardaloedd bydd un neu ddwy ysgol prif iaith Saesneg neu ddwy iaith yn parhau yn y dyfodol, ond diben y gwelliant hwn gan Tom Giffard yw gosod cyfyngiadau ar allu awdurdodau lleol i sicrhau bod pob ysgol yn eu hardal yn un prif iaith Cymraeg os dyna yw eu dymuniad, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith y mwyafrif helaeth o blant a thrigolion lleol, megis Gwynedd.
Ar thema debyg, dwi wedi cyflwyno gwelliant 69 yn y grŵp hwn er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth yn y Bil o ran cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg os nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell o ran cynyddu addysg Gymraeg yn eu hardal. Rwy'n credu'n gryf y dylai Gweinidogion gael y pŵer i osod CSCAu ar awdurdodau lleol lle nad yw eu cynlluniau yn cwrdd â'r disgwyliadau a'r targedau sy'n cael eu gosod gan y fframwaith cenedlaethol. Cafwyd awgrym o hyn yn y Papur Gwyn gwreiddiol oedd wedi cael ei ddatblygu ar y cyd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Nododd paragraff 106, er enghraifft:
'Rydym yn cynnig, felly, bod y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru orfodi awdurdodau lleol i gyflwyno cynllun newydd i’w gymeradwyo.'
Ond nid yw darpariaethau’r Bil presennol mor gryf â hyn. Yn lle hynny, mae'r Bil yn dweud y gall Gweinidogion ofyn i awdurdod lleol ailystyried eu cynllun. Dwi ddim yn credu bod hynny'n ddigon cryf, felly rwy’n cyflwyno'r gwelliant hwn er mwyn galluogi Gweinidogion y dyfodol, os bydd angen, i wrthod cynllun gan awdurdod a gosod cynllun arall yn ei le.
Rwy'n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn credu'n gryf yn y pwysigrwydd o adeiladu partneriaethau i gyflawni amcanion y Bil, a dwi’n cytuno'n llwyr gyda hynny, a bod y partneriaethau yna’n allweddol o ran cyrraedd y nod o gael CSCA mor gryf ac uchelgeisiol â phosibl. Ond mae yna bosibilrwydd o hyd y byddai'r ewyllys gorau yn y byd yn methu. Felly, rhag ofn y bydd unrhyw awdurdod, er gwaetha'r holl berswadio a darbwyllo, yn dal i ddweud 'na', yr hyn dwi’n gofyn amdano yw rhoi pŵer i Weinidogion, yn ychwanegol at y pwer sydd eisoes ar gael yn yr adran hon, i wrthod cynllun sy’n syrthio’n brin o ran uchelgais gan awdurdod, a gosod CSCA yn ei le sy’n adlewyrchu dyhead Llywodraeth Cymru. Dyna, felly, yw sail y gwelliant hwn. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r rhai sydd wedi bod yn gweithio mor ddidwyll ar y Bil hanesyddol hwn? Mae o'n bwysig eithriadol. Mi oeddwn i eisiau siarad yn gryf yn erbyn gwelliant 74, oherwydd dwi’n meddwl ei fod o'n mynd yn gyfan gwbl groes i holl egwyddor y Bil.
Mi oedd Tom Giffard yn sôn bod y Blaid Geidwadol o blaid cynyddu defnydd, ond yn dal i sôn am 'ddewis' yn hytrach na 'hawl'. Yr hyn sy'n ganolog i'r Bil hwn ydy sicrhau hawl i'r Gymraeg, oherwydd dydy hynny ddim yn bodoli ar y funud, ac mae’n fy siomi’n fawr o glywed y tôn wrth gyflwyno’r gwelliant hwnnw gan y Ceidwadwyr o blaid cynyddu defnydd fel bod cael ychydig bach yn fwy o Gymraeg yn dderbyniol ond ddim yn rhoi’r iaith, yn ei chenedl ei hunan, i bob plentyn sy’n mynd i ysgol yng Nghymru. A dyna pam mae o’n rhwystredig. Oes, mae yna symudiad wedi bod gan y Llywodraeth, ond dydy’r Bil yma ddim yn mynd yn ddigon pell. Ac ar ôl 26 mlynedd o’n Senedd ein hunain, fedraf i ddim coelio ein bod ni’n dal i glywed sôn am ddewis yn lle hawl.
Mae yna ddiffyg uchelgais wedi bod o ran addysg Gymraeg mewn rhai awdurdodau. Mae hynny'n dal i fodoli heddiw. Mae penderfyniadau yn dal i gael eu gwneud sy'n ei gwneud hi’n anoddach i blant gael mynediad at addysg Gymraeg. Mae yna ormod o lawer o bobl ifanc dwi’n siarad efo nhw rŵan sydd yn y system bresennol sydd wedi cael eu geni ers i'r Senedd hon fodoli a dydyn nhw dal ddim yn rhugl yn y Gymraeg. Maen nhw'n ceisio dysgu rŵan yn 16, 17, neu ar ôl iddyn nhw adael yr ysgol. Mae hwnna'n fethiant mawr o ran addysg Gymraeg.
Felly, mae yna nifer o bethau i'w croesawu o ran y Bil hwn heddiw, ond mae yna waith mawr o'n blaenau ni. Mae'n rhaid i ni ddangos ein bod ni'n fodlon bod yn ddewr, ein bod ni'n fodlon dangos arweiniad o ran addysg Gymraeg, ond hawl ydy'r iaith, nid dewis.
Byddai'r gwelliannau, a gyflwynwyd gan Tom Giffard yn y grŵp hwn, yn torri ar draws y ffordd y mae'r Bil yn gweithio. Mae'r Bil yn darparu fframwaith lle mae Gweinidogion Cymru yn gosod targedau i awdurdodau lleol eu cyflawni drwy eu WESPs. Mae'n fater i awdurdodau lleol weithio gyda'r ysgolion yn eu hardal, mewn ymgynghoriad â phob cymuned ysgol, i ddatblygu darpariaeth briodol, gan ystyried amgylchiadau lleol.
Mae Aelodau wedi clywed Tom Giffard yn siarad o blaid gwelliant 74. Barn Llywodraeth Cymru yw bod hyn yn gosod cyfyngiad diangen ar awdurdodau lleol. Mae'n fater i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion benderfynu ar ddarpariaeth leol, gan ystyried amgylchiadau lleol a'r targedau y mae Gweinidogion Cymru yn gosod yn y fframwaith cenedlaethol. Ni all y Llywodraeth, felly, gefnogi gwelliant 74.
Mae gwelliant 75 yn enw Tom Giffard yn ceisio cyflwyno'r cysyniad lle bo llefydd ysgol yn seiliedig ar y galw. Rydym wedi symud i ffwrdd o'r cysyniad o ymateb i'r galw o ran y Gymraeg mewn addysg. Yn hytrach, mae'r gwaith o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei arwain gan gyflenwad er mwyn cynyddu'r niferoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny wedi ei yrru gan dargedau ac wedi ei gefnogi gan ymdrechion i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r Bil yn adlewyrchu hyn gyda'r gofyniad i osod targedau mewn perthynas â nifer y disgyblion mewn ysgolion Cymraeg yn bennaf a nifer yr ysgolion hynny.
Mae ein profiad yng Nghymru wedi dangos bod dull o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg drwy ei gynnig yn rhagweithiol, yn hytrach na dibynnu ar y galw, wedi bod yn llwyddiannus. Ni ddylem ddychwelyd at yr hen gysyniad o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn seiliedig ar alw. Ni allwn, felly, gefnogi gwelliant 75.
Mae gwelliant 76 Tom Giffard yn dyblygu adran 22, sy'n ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr sy'n cynnwys categorïau iaith pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol. Felly, mae'n ddiangen, ac rwy'n annog Aelodau i bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn.
Gan droi at welliant 69, yn enw Cefin Campbell, effaith y gwelliant hwn yw rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wrthod WESP awdurdod lleol a gosod un newydd. Mae hwn yn fater a drafodwyd yng Nghyfnod 2, yn dilyn gwelliant tebyg a gyflwynwyd gan yr Aelod. Mae cynllunio a chyflawni WESP yn dibynnu'n fawr ar adeiladu partneriaethau cryf rhwng ysgolion, cymuned, rhanddeiliaid ac aelodau'r cabinet i gyflawni nod cyffredin. Os yw'r berchnogaeth leol honno'n cael ei thynnu o'r darlun a'i disodli gan gynllun a gaiff ei orfodi, fy marn i yw ei fod yn annhebygol o lwyddo. Dyma pam mae adran 32.3 o'r Bil wedi ei ddrafftio, fel bod gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried diwygio eu cynllun. Mae hyn yn fwy tebygol o yrru ymddygiadau cadarnhaol mewn perthynas â gweithredu WESP.
Mae perygl hefyd y byddai pŵer o'r fath yn cael canlyniadau anfwriadol pe na bai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn fodlon cymeradwyo cynlluniau uchelgeisiol gan rai awdurdodau lleol. A dwi’n deall bod Cefin Campbell yn becso ble mae’r cynlluniau sy'n dod lan o’r awdurdodau lleol ddim yn ddigon cryf, ond mae e’n mynd i roi pŵer yn nwylo Gweinidogion Cymru yn y dyfodol i droi nôl cynlluniau uchelgeisiol hefyd, os nad yw'r Gweinidogion eisiau cefnogi awdurdodau lleol sydd eisiau gwneud mwy yn y maes, a byddai hyn yn tanseilio nodau'r Bil hwn. Mae hyn yn ymwneud â gwneud cyfraith well sy'n arwain at newid cadarnhaol.
Ar y seiliau hyn, rwy'n gofyn i Aelodau wrthod gwelliant 69. Rwyf hefyd yn annog Aelodau i wrthod gwelliannau 74, 75 a 76.
Tom Giffard i ymateb.
Diolch, Llywydd. Allaf i ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn hyn? Ac a allaf i ddweud rhywbeth wrth Blaid Cymru, i Heledd Fychan ac i Cefin Campbell, ar ôl clywed beth maen nhw wedi dweud am ein gwelliant ni, gwelliant 74, yn wreiddiol? Edrychwch, dŷn ni'n credu mewn addysg Gymraeg. Dwi'n credu bod addysg Gymraeg yn addysg bwysig iawn, a dwi'n moyn i bob rhiant, os maen nhw'n moyn, ddewis yr iaith Gymraeg i'w plentyn nhw. Ond beth rŷn ni wedi clywed heddiw, dwi’n credu, yw agwedd gwleidyddion ar y chwith, weithiau, sydd yn dweud, 'Na, na, ni sy'n gwybod orau.' [Torri ar draws.] Na, dim diolch. 'Ni sy’n gwybod orau. Nid rhieni, nid plant, nid pobl Cymru, ond ni, gwleidyddion, sy'n gwybod beth sydd orau i'ch plentyn chi.' A beth dŷn ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn teimlo yw ei fod e’n ddewis mae’n rhaid i rieni ei wneud, mae’n rhaid i'r plant ei wneud, mae’n rhaid i bobl Cymru ei wneud. A dyna pam dŷn ni’n rhoi'r gwelliannau hyn i mewn heddiw, a dyna pam dwi’n teimlo bod hyn yn bwysig. Diolch yn fawr.
[Torri ar draws.] Na, mae e wedi gorffen ei gyfraniad. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 74? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gymerwn ni bleidlais, felly, ar welliant 74. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 74 wedi ei wrthod.
Gwelliant 74: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Yw gwelliant 67 yn cael ei gynnig, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 67 (Cefin Campbell).
Symud.
Gwelliant 67—oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais, felly, ar welliant 67. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 67 wedi ei wrthod.
Gwelliant 67: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Yw gwelliant 68 yn cael ei gynnig, Cefin Campbell?
Dwi'n tynnu hwnna nôl.
Felly, dyw e ddim yn cael ei gynnig, a fydd yna ddim pleidlais, os nad oes neb yn gofyn am hynny.
Ni chynigiwyd gwelliant 68 (Cefin Campbell).
Felly, gwelliant 75 fydd nesaf. Tom Giffard, ydy e'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 75 (Tom Giffard).
Ydy.
Mae e'n cael ei symud. Y cwestiwn yw: ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae'n cael ei wrthwynebu. Fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 75. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant yn cael ei wrthod.
Gwelliant 75: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 76—ydy e'n cael ei symud, Cefin Campbell?
Na, sori. Dim Cefin Campbell—Tom Giffard.
Cynigiwyd gwelliant 76 (Tom Giffard).
Symud.
Mae e'n cael ei symud gan Tom Giffard. Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 76. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 76 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 76: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y gwelliant nesaf fydd gwelliant 41. Ydy e'n cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 41 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 41 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 69—ydy e'n cael ei symud, Cefin Campbell?
Cynigiwyd gwelliant 69 (Cefin Campbell).
Ydy, mae e.
Oes gwrthwynebiad i welliant 69? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Cymerwn ni bleidlais ar 69. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 69 wedi ei wrthod. Mae gwelliant 69 wedi ei wrthod.
Gwelliant 69: O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Cefin Campbell, gwelliant 70—a yw yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 70 (Cefin Campbell).
Symud.
Ydy, mae e. A ydyw e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae e. Felly, agor y bleidlais ar welliant 70. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 70 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 70: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y grŵp nesaf fydd grŵp 14, ac mae'r gwelliannau yma'n ymwneud â'r athrofa dysgu Cymraeg genedlaethol—aelodaeth, staff a gweithdrefnau. Gwelliant 73 yw'r prif welliant. Yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n cynnig y gwelliant yma. Mark Drakeford.
Cynigiwyd gwelliant 73 (Mark Drakeford).
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 73 yn un dechnegol ei natur. Mae'n arferol cael pŵer sy'n galluogi aelodau anweithredol i gael tâl, sef remuneration yn Saesneg, yn hytrach na chyflog. Mae'r gwelliant yn sicrhau bod gan yr athrofa y pŵer i wneud taliadau, ac mae hyn yn dangos bod yr aelodau yn dal swydd yn hytrach na’n weithwyr sy’n cael cyflog.
Nid wyf i'n gallu cefnogi gwelliant 16. Bydd gan yr athrofa rôl bwysig iawn, ac rydyn ni eisiau i'r bobl orau fod yn rhan ohoni, pobl sydd yn dod o ystod o gefndiroedd, sydd â’r sgiliau cywir, nid dim ond y rheini sydd yn ddigon ffodus i allu fforddio talu i wneud hyn eu hunain. Mae'n arferol i gael pŵer i dalu aelodau anweithredol. Dwi ddim yn gweld pam ddylem ni drin corff Cymraeg fel yr athrofa yn wahanol. Mae gwelliant 73 eisoes yn disodli 'cyflog' gyda 'tâl', ac rydym am gadw'r pŵer i dalu aelodau, fel ein bod ni’n gallu denu'r bobl orau i'r athrofa. Am y rheswm hwn, rwy'n annog Aelodau i wrthod y gwelliant hwn.
Gan droi at welliant 17, sy'n dileu'r pŵer i dalu pensiynau i aelodau anweithredol, eto mae'n arferol cadw hyblygrwydd mewn deddfwriaeth i dalu pensiynau pe bai angen hynny—mewn gwirionedd rhywbeth sydd ddim yn digwydd yn aml. Rydym yn cynnwys y pŵer hwn mewn deddfwriaeth ar gyfer cyrff eraill ac rwyf am gadw'r un drefn ar gyfer yr athrofa. Hefyd, mae’n werth nodi nad dyletswydd yw hyn. Petaent yn gofyn i Weinidogion ystyried gwneud hynny, mae'r Bil yn darparu y byddai angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo talu unrhyw bensiynau i aelodau anweithredol. Am y rhesymau hyn, galwaf ar Aelodau i wrthod y gwelliant hwn.
Mae gwelliant 18, sy'n ymwneud â dangos gwerth am arian wrth benodi prif weithredwr, yn ddiangen ym marn y Llywodraeth, o ystyried bod egwyddorion gwerth am arian wedi eu cynnwys yn gyffredinol mewn trefniadau llywodraethu a rheoli ariannol y sector gyhoeddus. Rydym yn gweithio i gyfres o egwyddorion cyflog yn y sector gyhoeddus wrth bennu lefelau tâl uwch staff, a bydd y ddogfen fframwaith rhwng Gweinidogion Cymru a'r athrofa yn sicrhau bod yr athrofa yn gweithio i'r un set o egwyddorion. Nid ydym yn cynnwys y gofyniad hwn ar wyneb deddfwriaeth ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill, ac nid wyf yn gweld pam y dylem drin yr athrofa yn wahanol. Bydd disgwyl i'r athrofa hefyd gyhoeddi datganiad polisi cyflog blynyddol sy'n nodi’r polisi ar gyflog a thalu’r gweithlu. Ni allaf gefnogi hyn a galwaf ar Aelodau i wrthod y gwelliant hwn.
Nid yw'r lefel o fanylder yng ngwelliant 19, sy'n ymwneud â chyhoeddi cofnodion, yn briodol ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Bydd y ddogfen fframwaith rhwng Gweinidogion Cymru a'r athrofa yn sicrhau bod bwrdd yr athrofa yn gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw. Bydd hwn yn gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn cyhoeddi ei gofnodion a'i agendâu. Felly, galwaf ar Aelodau i bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn hefyd.
Hoffwn siarad am welliannau 16, 17, 18 ac 19, sy'n ceisio mynd i'r afael â'r gofyniad i Lywodraeth Cymru talu cyflog a phensiwn i aelodau anweithredol o'r sefydliad dysgu Cymraeg, yn ogystal â sicrhau tryloywder o ran cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd a sicrhau gwerth am arian mewn perthynas â rôl prif weithredwr y sefydliad.
Fel y Ceidwadwyr Cymreig, rydyn ni'n cefnogi ac yn dymuno annog darparu sefydliad sy'n sicrhau gwerth am arian a thryloywder—dyna'r gair eto—yn enwedig pan gyfeiriwn at ddefnyddio arian cyhoeddus wrth redeg y sefydliad dysgu Cymraeg. Mae trethdalwyr ledled Cymru'n haeddu tryloywder, cyfrifoldeb a gwerth am arian mewn gweithredu sefydliad cyhoeddus. Rwyf wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn gyda'r nod craidd o sicrhau bod hynny yn cael ei gyflawni gyda'r sefydliad dysgu Cymraeg.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Wel, dwi wedi esbonio'n barod pam allaf i ddim cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn, Llywydd, a galwaf, felly, ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 73 ac i bleidleisio yn erbyn gwelliannau 17, 18 ac 19.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 73? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes mae yna wrthwynebiad. Awn ni at bleidlais ar welliant 73. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 73 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 73: O blaid: 40, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 16. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 16 (Tom Giffard).
Ydy, mae'n cael ei symud gan Tom Giffard. Y cwestiwn yw: a ddylid ei dderbyn? [Gwrthwynebiad.] Na, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 16. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Gwelliant 16 wedi ei wrthod.
Gwelliant 16: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 17. Yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 17 (Tom Giffard).
Ydy, gan Tom Giffard. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 17. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Gwelliant 17 wedi ei wrthod.
Gwelliant 17: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 18. Yn cael ei symud, Tom Giffard?
Cynigiwyd gwelliant 18 (Tom Giffard).
Symud.
Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 18. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Gwelliant 18 wedi ei wrthod.
Gwelliant 18: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 19. Yn cael ei symud, Tom Giffard?
Cynigiwyd gwelliant 19 (Tom Giffard).
Symud.
Ydy, mae e. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae e. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 19. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly mae gwelliant 19 wedi ei wrthod.
Gwelliant 19: O blaid: 24, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 42. Ydy e'n cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 42 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 42? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y grŵp nesaf, a'r un olaf o welliannau, yw'r grŵp sy'n ymwneud â'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol—swyddogaethau a dyletswyddau. Gwelliant 71 yw'r prif welliant. Mae'n cael ei gyflwyno gan Cefin Campbell.
Cynigiwyd gwelliant 71 (Cefin Campbell).
Diolch, Llywydd, ac mae'n braf gen i agor y drafodaeth ar y grŵp olaf o welliannau. Rŷn ni bron yna, gyfeillion.
Mae gwelliant 71 yn welliant i adran 39, sy'n rhoi dyletswydd ar yr athrofa i gymryd sylw o'r asesiad o anghenion y gweithlu a wneir gan Weinidogion Cymru i'w gynnwys yn y fframwaith cenedlaethol. Fel rŷn ni wedi trafod eisoes, mae'r gweithlu yn hollbwysig i wireddu amcanion y Bil hwn, felly mae hyn yn cryfhau, yn fy marn i, swyddogaethau'r athrofa yn y maes hwn.
O ran gwelliannau Tom Giffard yn y grŵp o welliannau, dwi ddim yn credu bod angen gwelliant 15 o ran rhoi diweddariad ar nifer y siaradwyr Cymraeg yn adroddiad blynyddol yr athrofa. Wrth gwrs, ar gychwyn y Bil, rŷn ni eisoes wedi sôn am gyfrifo nifer y siaradwyr a gwneud hynny'n swyddogol trwy'r cyfrifiad bob degawd. Yn ystod y blynyddoedd rhwng pob cyfrifiad, mae arolwg o nifer y siaradwyr blynyddol yn cael ei gynnal gan y Llywodraeth a'r ONS. Ond sampl yw'r arolwg hwn, nid cyfrifiad o bob person. Felly, mae'n debygol o fod yn llai cywir. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr arolygon hyn yn cael sylw o fewn y strategaeth a'r fframwaith cenedlaethol beth bynnag. Felly, yn fy marn i, does dim angen deddfu ar ei gyfer o gwbl.
Dwi hefyd yn anghytuno gyda gwelliant 14. Mae tystiolaeth yn dangos mai addysg mewn ysgolion prif iaith Cymraeg yw'r dull mwyaf effeithiol o gynhyrchu siaradwyr hyderus ac annibynnol sydd yn fwyaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r dosbarth. Hynny sydd bellach yn cael ei adlewyrchu ym memorandwm esboniadol y Bil. Felly, dwi'n credu bod gwelliant 14 yn tanseilio hyn, ac oherwydd hynny allwn ni ddim ei gefnogi. Diolch.
Gan mai hwn yw'r tro olaf byddaf yn siarad heddiw, a allaf ddechrau gyda chwpl o eiriau o ddiolch i gwpl o bobl? Byddaf i'n glou, dwi'n addo. A allaf i ddechrau gan ddiolch i Sam Kurtz am y gwaith mae e wedi'i wneud yng Nghyfnod 2 y Bil hwn? Mae hynny'n bwysig. Allaf i ddiolch hefyd i staff y Senedd sydd wedi ymuno gyda ni drwy'r broses hon? Allaf i ddweud gair o ddiolch hefyd i Tabitha Anthony, yn ein swyddfa grŵp Ceidwadwyr, a gair hefyd i Anna Banks a Bethan Thomas-Rowlands yn fy swyddfa i. Dwi wastad yn meddwl fy mod i'n ffodus bob dydd i gael dwy fenyw gryf yn fy swyddfa i'm cadw mewn trefn.
Hoffwn siarad hefyd am welliannau 14 ac 15, sydd wedi cael eu cyflwyno yn fy enw i. Mae gwelliant 14 yn gosod gofyniad ar y sefydliad dysgu Cymraeg i gyhoeddi model arfer orau mewn perthynas â dulliau dysgu ar gyfer dysgwyr dros oedran ysgol gorfodol. Fel mae'r gwelliant yn nodi, byddai model arfer orau yn galluogi pobl ifanc i gael y gorau o'u haddysg yn y Gymraeg, gan ddod ag arferion gorau i'r blaen o ran addysgu a chaniatáu i genedlaethau'r dyfodol elwa o'r union arferion hyn, yn ogystal â chaniatáu i ddisgyblion tu hwnt i oedran ysgol gorfodol barhau i ddefnyddio eu Cymraeg.
Yn ogystal â hyn, mae gwelliant 15 yn ceisio galluogi'r adroddiad blynyddol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ni allwn fesur ein cynnydd heb dargedau a diweddariadau, ac felly byddai hyn yn galluogi mesur a thracio cynnydd ymarferol y Bil yn gywir. Diolch.
Yr Ysgrifennydd Cabinet.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gan mai hwn fydd y tro olaf i mi siarad heddiw hefyd, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu'r Bil hwn i gyrraedd y cyfnod pwysig rydym wedi'i gyrraedd heddiw. Mae hyn yn cynnwys y pwyllgorau a phawb a roddodd dystiolaeth yng Nghyfnod 1. Dwi eisiau ddweud gair o ddiolch, yn enwedig, i lefarwyr y pleidiau eraill am eu hymrwymiad adeiladol drwy gydol y broses, yn enwedig i Siân Gwenllian a Cefin Campbell. Fel rydych chi wedi clywed yn barod, roedd y Bil hwn wedi dechrau fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.
Llywydd, hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i'r tîm bach o swyddogion sydd wedi datblygu'r Bil o'r cychwyn cyntaf, dros y blynyddoedd nawr, wrth inni gyrraedd y garreg filltir yma heddiw. Dwi eisiau cydnabod eu hymrwymiad a'u cefnogaeth gyson a phroffesiynol. Dwi mor ddiolchgar iddyn nhw i gyd.
So, jest i droi i'r grŵp olaf o welliannau, Llywydd, cyflwynodd y Llywodraeth welliant yng Nghyfnod 2 fel bod yn rhaid i'r fframwaith cenedlaethol yn Rhan 4 y Bil gynnwys asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg sydd eu hangen ym mhob awdurdod lleol er mwyn cwrdd â thargedau yn y fframwaith. Rwy'n croesawu gwelliant 71, gan y bydd yn sicrhau bod llinell atebolrwydd clir rhwng y cynllunio a wneir ar lefel genedlaethol a'r cynlluniau a'r trefniadau y mae'r athrofa yn eu gwneud ar gyfer y gweithlu addysg. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi hwn, y gwelliant olaf gan Cefin Campbell.
Gan droi at y gwelliannau a gyflwynwyd gan Tom Giffard, ni allaf gefnogi gwelliant 14, achos nid yw'n glir i fi beth sydd i’w ennill gan y gwelliant. Mae mwy nag un model arfer orau. Mae sawl gwahanol ffordd o wneud hyn sydd wedi’u seilio ar anghenion gwahanol dysgwyr ac ar ffyrdd gwahanol dysgwyr o ddysgu. Gall yr hyn sy'n gweithio'n dda i berson ifanc yn yr ysgol neu'r coleg fod yn hollol wahanol i oedolion sydd newydd ddechrau eu taith iaith yn hwyrach mewn bywyd.
Gall hefyd fod gwahaniaethau yn yr hyn sy'n gweithio orau mewn gwahanol rannau o Gymru sydd â gwahanol broffiliau ieithyddol. Bydd arfer orau yn newid yn dibynnu ar y cyd-destun. Un o'r rhesymau mae Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn llwyddiannus yw ei gallu i addasu dysgu i anghenion gwahanol dysgwyr a gweithleoedd, gan gynnig ystod eang o bethau, o hunan-astudio ar-lein i gyrsiau preswyl dwys, ac rwyf am wneud yn siŵr ei bod yn cadw'r hyblygrwydd a'r gallu hwn i addasu pan fydd yr athrofa yn cael ei sefydlu.
Rwyf hefyd o'r farn bod y gwelliant hwn yn ddiangen o ystyried bod adran 44 eisoes yn darparu ar gyfer dyletswydd debyg i hybu rhannu arfer orau. Hefyd, mae dyletswyddau amrywiol yn y Bil ar gyfer dylunio a datblygu dysgu, datblygu cwricwlwm cenedlaethol a datblygiad proffesiynol parhaus i’r rhai hynny sy'n addysgu'r Gymraeg, yn ogystal â phŵer mwy cyffredinol sy'n gysylltiedig â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso eu cynnydd. Felly, gall yr athrofa eisoes archwilio beth yw ystyr arfer orau a darparu arweiniad neu gyngor. Yn fy marn i, felly, yr athrofa ei hun sydd yn y lle gorau i benderfynu ar beth yw'r arfer orau ac i'w rannu, fel sydd wedi'i nodi yn adran 44 y Bil.
Nid wyf yn gallu cefnogi gwelliant 15, sy'n delio â rhoi diweddariad ar nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae data ar allu pobl yn y Gymraeg, a pha mor aml maen nhw'n siarad yr iaith, yn dod o'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth, ac mae'r cyfrifiad hefyd yn rhoi data i ni ar sgiliau Cymraeg pobl sy'n byw yng Nghymru. Yn amlwg, byddwn i'n disgwyl i'r athrofa gynnwys diweddariad ar nifer y bobl dros oedran ysgol gorfodol sy'n dysgu Cymraeg. Bydd hyn yn seiliedig ar y data bydd yn rhaid i'r athrofa ei gasglu a'i gyhoeddi o dan adran 39 o'r Bil. Fodd bynnag, mae eraill mewn gwell sefyllfa i ganfod a rhoi diweddariad ar nifer y siaradwyr Cymraeg, ac am y rheswm hwn, galwaf ar Aelodau i bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn.
Yr unig beth sydd ar ôl i'w ddweud, Llywydd, yw rhoi diolch i bobl, fel mae eraill wedi'i wneud: y bobl hynny sydd wedi gweithio ar y Bil hanesyddol hwn a chefnogi datblygiad y gwelliannau dros y cyfnod diwethaf, y rhanddeiliaid sydd wedi cynnig tystiolaeth, aelodau'r pwyllgor addysg, y clercod a'r swyddogion, y cyfreithwyr, yr ymchwilwyr, a diolch yn arbennig i Wil Rees—os caf i nodi cyfraniad Wil—ymchwilydd y Blaid ar addysg a'r Gymraeg. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Ysgrifennydd Cabinet am nifer o sgyrsiau adeiladol a chadarnhaol rhwng Cyfnod 2 a Chyfnod 3 y Bil. Dŷn ni ddim wedi cytuno ar bopeth, ac i ddefnyddio geiriau Keir Starmer, sydd yn beth od iawn i'w wneud pan ŷn ni'n trafod Bil addysg Gymraeg, roeddwn i eisiau mynd yn ‘further and faster’, ond rwy'n cydnabod awydd yr Ysgrifennydd Cabinet ar rai elfennau i gymryd agwedd mwy pragmataidd.
Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at allu cwblhau'r broses ddeddfwriaethol yn ystod Cyfnod 4 y Bil yr wythnos nesaf, er mwyn sicrhau—a dyma beth sydd yn bwysig—fod pob plentyn yng Nghymru yn y dyfodol yn derbyn y rhodd fwyaf gwerthfawr posibl, sef y gallu i siarad iaith eu mamwlad, sydd wedi bod yn un o nodweddion unigryw'r genedl hon ers 15 canrif a mwy. Diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau, a nos da i bawb.
Dim cweit eto. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 71? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 71. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Mae gwelliant 71 wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 71: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 14 yn cael ei symud, Tom Giffard?
Cynigiwyd gwelliant 14 (Tom Giffard).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 14? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 14. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 14 wedi'i wrthod.
Gwelliant 14: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 43, ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 43 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 43? Nac oes. Mae gwelliant 43 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 15, Tom Giffard, ydy e'n cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 15 (Tom Giffard).
Ydy, mae e wedi'i symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, pleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 15. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 15 wedi'i wrthod.
Gwelliant 15: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 44, a ydy e'n cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 44 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy. A oes gwrthwynebiad i welliant 44? Mae wedi ei gymeradwyo felly.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 45 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 45 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i welliant 45. Agor y bleidlais felly ar welliant 45. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Mae gwelliant 45 wedi ei gymeradwyo.
Gwelliant 45: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Ydy gwelliant 46 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 46 (Mark Drakeford).
Symud, Llywydd.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 46 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 20, ydy e'n cael ei symud gan yr Ysgrifennydd Cabinet?
Cynigiwyd gwelliant 20 (Mark Drakeford).
Symud.
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Gwelliant 20 wedi ei basio.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ydy gwelliant 21 yn cael ei symud?
Cynigiwyd gwelliant 21 (Mark Drakeford).
Cynnig.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 21 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A dyna ni, felly. Dwi'n medru datgan bod hyn yn ddiwedd i ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a dwi'n datgan y bernir fod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
Diolch i chi am eich gwaith drwy'r prynhawn i mewn i'r nos yma. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:46.