Y Cyfarfod Llawn

Plenary

22/01/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni heddiw fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Cyllidebau Cynghorau Lleol

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllidebau cynghorau lleol yn y flwyddyn ariannol nesaf? OQ62184

Yn 2025-26, bydd awdurdodau lleol yn cael £6.1 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i’w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o gyfartaledd o 4.3 y cant neu £253 miliwn ar sail debyg am debyg o gymharu â’r flwyddyn gyfredol.

Mae cynghorau, wrth gwrs, yn wynebu cynnydd yn eu costau oherwydd y cynnydd yn y cyfraniad yswiriant gwladol. Dwi'n gwybod, yn fy rhanbarth i, fod rhywle fel Wrecsam yn wynebu cynnydd o £5 miliwn, a sir y Fflint dros £4 miliwn hefyd. Ac mi fydd y cynghorau yma nawr yn gorfod setio cyllidebau heb wybod faint o gymorth maen nhw am ei gael gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â'r gost ychwanegol yna. Nawr, mae hynny yn ei hunan yn creu ansicrwydd mawr i gynghorau ar hyd a lled Cymru. Ond ar ben hynny, mae cynghorau, a chyrff cyhoeddus eraill, yn contractio llawer o wasanaethau gan gwmnïau a mentrau allanol. Nawr, mi fydd y rhain hefyd yn wynebu cynnydd yn eu cyfraniadau yswiriant gwladol, ac yn debyg, efallai, o basio'r gost ychwanegol yna ymlaen i'r cynghorau hyn. Felly, gaf i ofyn pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau na fydd y cynnydd yma yn y cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael effaith negyddol, yn uniongyrchol ar awdurdodau lleol, ond hefyd ar y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu trwy drydydd partïon, oherwydd, ar ddiwedd y dydd, y trigolion lleol fydd yn dioddef os yw'r gwasanaethau yma'n gorfod cael eu torri?

Diolch, Llyr. Diolch am eich cwestiwn. Rhoddais ystyriaeth i'r pwysau yr oedd awdurdodau lleol yn ei nodi wrth wneud penderfyniadau cyllidebol. Rwyf wedi bod o gwmpas ac wedi siarad ag arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru, ac yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, maent yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd. Rydym wedi dweud bod hon yn gyllideb dda. Rydym yn cydnabod na ellir trawsnewid 14 mlynedd o gyllid cyfyngedig mewn un gyllideb yn unig; bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus ymadfer. Rydych chi'n codi pwynt pwysig ynghylch y pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, a mater y cyfraniadau yswiriant gwladol. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid i weithwyr y sector cyhoeddus er mwyn talu am gostau uwch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Ac mae wedi'i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ein cyfran o'r cyllid i gefnogi'r gost i'r sector cyhoeddus datganoledig. Bydd y cyllid hwnnw yn ychwanegol at yr arian a roddwyd i Gymru ar 30 Hydref yng nghyllideb y DU. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EF i gadarnhau'r manylion a lefel y cymorth a fydd yn cael ei ddarparu, ac ni fyddech yn disgwyl inni wneud dim llai.

Ar fater y trydydd sector—ac fe wnaethoch chi nodi—mae gennym gynnydd arfaethedig o £21 miliwn yn ein cyllid grant cymorth tai ar gyfer 2025-26. Nod hynny yw helpu i gefnogi comisiynwyr i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i’r sector, ac i helpu i adeiladu capasiti yn y system, i ymateb i’r galw cynyddol hwnnw. Nawr, nid oes dim o'r cynnydd arfaethedig o £21 miliwn i'r cyllid ar gyfer y grant cymorth tai wedi'i fwriadu ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol uwch, yn amlwg, gan nad yw yswiriant gwladol wedi'i ddatganoli. Ond yn amlwg, rydym yn gweithio ar y cyd â Thrysorlys EF i gadarnhau lefelau o gymorth ychwanegol i lywio'r broses o gynllunio'r gyllideb. Ond rwy'n cydnabod bod sefydliadau'r trydydd sector, a gomisiynir gan y sector cyhoeddus, megis y rhai drwy'r grant cymorth tai, yn pryderu am effaith y newidiadau, ac fel y dywedais, bydd y trafodaethau hynny'n parhau.

Rwy’n ddiolchgar i Llyr Gruffydd am godi’r pwynt pwysig hwn heddiw. Fel y nododd Llyr, yn gywir ddigon, mae effaith y cynnydd mewn yswiriant gwladol ar gynghorau ledled Cymru yn sylweddol. Ac er ichi nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, y cyllid ychwanegol a allai ddod i gefnogi gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol, fe wyddoch yn iawn, mewn meysydd penodol fel gofal cymdeithasol, fod cynghorau'n comisiynu naill ai'r trydydd sector neu'r sector annibynnol i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Ni chredaf fy mod yn clywed geiriau digon cryf gennych chi na Llywodraeth Cymru yn y lle hwn, ac nid ydym wedi clywed geiriau digon cryf ar y mater hwn ers misoedd. Fe wyddom fod gwasanaethau gofal cymdeithasol ar ymyl y dibyn, ac mae angen cyllid arnynt i gefnogi’r cynnydd i yswiriant gwladol yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac mae angen ei warantu hefyd. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i fynd yn ôl at eich swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU a mynnu bod cyllid yn cael ei ddarparu i gefnogi'r newid polisi sydd wedi digwydd ar lefel y DU fel y gall ein gwasanaethau gofal cymdeithasol barhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar bobl ledled Cymru?

13:35

Diolch, Sam, ac fel y dywedais, rwy'n deall y pwyntiau a godwch. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwr o ran y gwasanaethau dan gontract, ac rwyf hefyd wedi dweud bod y trafodaethau’n parhau. Rwyf i, fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet, a sefydliadau'r trydydd sector rwy’n siŵr, yn gwneud y pwyntiau hynny’n glir. Ond rydym yn cael y trafodaethau hynny. Rydym wedi rhoi—. Ar gyfer pethau y gallwn eu gwneud, a dyna pam ein bod wedi rhoi arian yn y grant cymorth tai, a pham yr oeddwn yn falch o roi'r arian hwnnw yn y grant cymorth tai—. Fel y dywedais, nid yw wedi'i fwriadu ar gyfer y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, oherwydd yn amlwg, nid yw hynny wedi'i ddatganoli. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda chymheiriaid yn San Steffan ar hyn, a byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r trafodaethau ar hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus, a hynny'n gywir ddigon, ac rwy’n cydnabod bod y gyllideb ddrafft eleni yn gam tuag at ddyfodol mwy disglair, ond y bydd yn cymryd amser i ddadwneud y niwed a wnaed gan gyni. Fodd bynnag, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod i ac eraill yn fy etholaeth yn pryderu bod Cyngor Sir y Fflint unwaith eto yn agos at waelod y tabl cyllid allanol cyfun. Ac rwy'n awyddus iawn i dalu teyrnged i’r gwaith a wnaed dros y blynyddoedd i fantoli'r cyfrifon, a hynny'n dilyn penderfyniadau anodd iawn ar yr un pryd â chynnal a datblygu pethau fel darpariaeth gofal cymdeithasol mewnol i oedolion.

Felly heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn annog Llywodraeth Cymru unwaith eto i adeiladu ar y setliad, fel y’i nodir yn y gyllideb ddrafft, a darparu cyllid gwaelodol fel bod yr awdurdodau lleol, fel fy un i yn sir y Fflint, yn cael y cymorth gorau i alluogi darpariaeth barhaus o wasanaethau y mae ein pobl a'n lleoedd yn dibynnu'n fawr arnynt. Wrth wneud hynny, a gaf i ofyn hefyd sut y gall Llywodraeth Cymru ystyried ymhellach efallai sut y gall cyllid grant helpu o bosibl i fynd i'r afael â rhai o'r bylchau ariannol y mae awdurdodau, fel Cyngor Sir y Fflint, yn eu hwynebu? Diolch.

Diolch, Hannah. Yn sicr, ac rwyf wedi siarad ag arweinydd sir y Fflint, yn ogystal ag arweinydd pob awdurdod lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac rydych chi'n dweud, yn gywir ddigon, fod pob awdurdod lleol wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn dros nifer o flynyddoedd bellach. A chyda’r buddsoddiad cynyddol a wnawn ar gyfer y flwyddyn nesaf, nid yw hynny’n dileu’r hyn sydd wedi digwydd dros y 14 mlynedd diwethaf. Felly, credaf mai dechrau yw hyn, ac rwy’n clywed yr hyn rydych chi a chyd-Aelodau eraill yn ei ddweud ynglŷn â'r bobl hynny sydd â’u hawdurdodau yn agos at waelod y tabl gyda’r fformiwla gyllido.

Dylwn ddweud, bob blwyddyn, fod cyllid gwaelodol yn cael ei ystyried a’i drafod, ond o ystyried y nifer o bethau a fydd yn cynyddu y flwyddyn nesaf, hoffwn ddweud eto fy mod i a’r Llywodraeth yn agored iawn i ystyried darparu cyllid gwaelodol ychwanegol yn y gyllideb derfynol. Felly, mae hynny hefyd yn rhywbeth yr hoffwn ei nodi'n glir i'r Senedd.

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch yn fawr iawn i Llyr hefyd am godi hyn, a hefyd i Sam.

Rwy’n dilyn y thema yma ar awdurdodau lleol, yn enwedig o ran eu cyllidebau gofal cymdeithasol, ac yn enwedig y gwasanaethau allanol y maent yn eu comisiynu. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif y bydd gan awdurdodau lleol yma yng Nghymru fwlch cyllido o £106 miliwn, ac ar ben hynny, mae’n rhaid iddynt ystyried sut y bydd y cynnydd mewn yswiriant gwladol yn effeithio ar eu gwasanaethau. Rydym yn codi hyn yn barhaus, ac i’r rheini ohonom yn y gwrthbleidiau, mae’n anodd iawn deall pam nad yw Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn gallu dylanwadu ar Lywodraeth Lafur yn Llundain. Chi yw ein llais gyda’r Llywodraeth Lafur honno a chyda Phrif Weinidog y DU, a hoffwn gael ateb ‘ie’ neu ‘na’, os gwelwch yn dda: a wnewch chi gyfleu'r neges gan y Senedd hon ein bod am i’r cynnydd i yswiriant gwladol gael ei ddileu? Hoffwn glywed ateb ‘gwnaf’ neu ‘na wnaf’. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane. Diolch am eich cwestiwn. Credaf mai'r hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych, ac fel rwyf wedi’i ddweud wrth gyd-Aelodau, yw bod fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn cael y trafodaethau hynny gyda'i swyddogion cyfatebol yn y Trysorlys. Maent yn sgyrsiau uniongyrchol, ac ar lefel swyddogol hefyd. A gwn fod hwn yn fater a godwyd gan y trydydd sector gydag Aelodau yma yn y Senedd, gydag aelodau o'r Llywodraeth yma, ond hefyd, lle mae'r cyfrifoldeb dros yswiriant gwladol, sef gyda Llywodraeth y DU, ac mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt yno hefyd.

Nid ydym wedi cael cadarnhad eto o faint o gyllid ychwanegol a gafodd Cymru i gefnogi’r gost ychwanegol i’r cyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig—ac fe soniaf am hynny hefyd—felly rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EF i sicrhau eglurder ynghylch y manylion a lefel y cymorth a fydd yn cael ei ddarparu. A hoffwn ddweud ar y mater hwnnw, pan fyddwn yn gwybod beth fydd lefel y cyllid hwnnw, byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol drwy ein his-grŵp dosbarthu a chyllid, er mwyn penderfynu sut i ddosbarthu'r swm hwnnw'n deg hefyd.

13:40
Ystadau Tai Cymdeithasol

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cymunedau o bobl oedrannus neu agored i niwed yn teimlo'n ddiogel yn byw ar ystadau tai cymdeithasol oedd yn hanesyddol wedi’u cadw at ddiben llety henoed, ond sydd bellach yn agored i unrhyw un heb fetio am addasrwydd? OQ62151

Diolch, Heledd. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cartref diogel ar gael i bawb yng Nghymru. Mae deddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut y dylai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gydgysylltu gweithgarwch i sicrhau bod dyraniadau tai cymdeithasol yn cydbwyso anghenion cymunedau ac aelwydydd unigol.

Diolch am eich ymateb. Yn anffodus, nid ymddengys bod hynny'n wir o ran sut y caiff ei roi ar waith, gan fy mod wedi bod yn helpu etholwyr sy'n byw yn Llys Tylcha Fawr yn Nhonyrefail, sydd wedi cael eu heffeithio gan bolisi gosod sy'n agor y fflatiau i unrhyw breswylwyr, ni waeth beth y bo'u cefndir. Yn wir, mae nifer o ddatblygiadau tai o’r fath yn Nhonyrefail a ddatblygwyd yn wreiddiol yn benodol ar gyfer preswylwyr hŷn ond sydd bellach yn gartref i breswylwyr â phroblemau camddefnyddio cyffuriau, gan arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae un o breswylwyr Llys Tylcha Fawr wedi cael chwalfa nerfol a bu’n rhaid ei symud, ac mae eraill wedi symud i eiddo rhent preifat i ddianc rhag y sefyllfa yno. Nid oes unrhyw un oedrannus yn dymuno byw yno mwyach. Felly, mae’r cynghorydd lleol wedi sicrhau polisi gosod sensitif i sicrhau na chaniateir i fwy o bobl â hanes o ymddygiad gwrthgymdeithasol symud yno, ond maent yn gorfod edrych ar hyn yn flynyddol, ac mae preswylwyr agored i niwed yn dymuno byw heb ofn a theimlo'n ddiogel ar gyfer y dyfodol, yn barhaol, nid flwyddyn ar y tro. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymrwymo i ailedrych ar y canllawiau hynny, a gweld sut ydym yn sicrhau bod cynghorau yn atal pobl â hanes o gamddefnyddio cyffuriau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag symud i eiddo a oedd i fod yn wreiddiol ar gyfer preswylwyr oedrannus? Maent yn haeddu gallu byw mewn heddwch yn eu cartrefi.

Diolch, Heledd, ac mae’n ddrwg iawn gennyf glywed am yr enghraifft a nodwyd gennych, a'ch etholwr hefyd. Mae'n rhaid ei bod yn erchyll byw gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y lefel honno bob dydd, felly rwy'n cydymdeimlo'n fawr â hynny a chyda'ch etholwyr.

Yn anffodus, fel y gwyddoch, mae achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn codi mewn amrywiaeth o gymunedau, ac nid ydynt yn benodol i fath penodol o ddeiliadaeth, er enghraifft. Mae awdurdodau lleol yn nodi sut y maent yn dyrannu cartrefi mewn fframweithiau dyrannu cyhoeddedig, yn unol â’u cod canllawiau ar y ddeddfwriaeth berthnasol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod y llety y maent yn ei ddyrannu yn addas ar gyfer anghenion yr aelwyd, gan ystyried anghenion y gymuned leol wrth wneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu tai cymdeithasol fel rhan o'r ymdrech i adeiladu cymunedau cytbwys a daliadaethau cymysg. Ond fel y dywedaf, yn sicr, mae yna lwybrau lle mae pobl yn wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol, a hoffwn annog yr awdurdod lleol hefyd i’w harchwilio ar gyfer eu trigolion, ond rwy’n cydymdeimlo’n fawr â phroblem eich etholwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, prynhawn da. A ydych chi'n credu ei bod yn dderbyniol, gyda chwyddiant ar 2.5 y cant, fod codiadau uwchlaw chwyddiant i'r dreth gyngor wedi’u hawgrymu ledled Cymru? Yng Nghaerffili, mae gennym gynnydd o 7.9 y cant yn cael ei awgrymu, 9.5 y cant yn Ynys Môn, yn sir Gaerfyrddin, bron i 10 y cant. Mae gan Gyngor Sir Fynwy, sydd wedi derbyn y cynnydd lleiaf o unrhyw gyngor yng Nghymru, gynnydd o 7.8 y cant. Mae cynlluniau i gynyddu biliau'r dreth gyngor yng Nghasnewydd wedi cael eu beirniadu, ac mae trigolion yn dweud na allant fforddio talu mwy am lai o wasanaethau. Y realiti yw y bydd hynny’n £100 y flwyddyn yn ychwanegol ar eiddo band D safonol, swm na all trigolion ei fforddio, fel rwy’n siŵr y byddwch yn ei ddeall. Mae’r codiadau hyn i'r dreth gyngor yn dod ar yr adeg waethaf bosibl, pan fo pobl yn dal i geisio ymdopi â’r argyfwng costau byw, pan fo digartrefedd allan o reolaeth mewn lleoedd fel Casnewydd a thaliadau tanwydd y gaeaf yn cael eu dileu. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sefyll dros drethdalwyr Cymru sydd dan bwysau ac sy'n wynebu codiadau syfrdanol yn y dreth tra bo cynghorau blonegog yn gwneud pentwr o arian?

13:45

Diolch, Laura. Fel y gwyddoch, bydd cynghorau'n ystyried amrywiaeth o opsiynau o ran y dreth gyngor a gwariant yn eu trafodaethau cyllidebol a’u hymgynghoriadau. Mae’n amlwg yn iawn, fel cyrff a etholir yn ddemocrataidd, eu bod yn gwneud hynny. Ni chredaf ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru osod lefelau mympwyol. Fel rwyf wedi'i ddweud mewn ymateb i gwestiynau cynharach, mae cynghorau'n gorfod gosod a gwneud penderfyniadau anodd iawn eleni, ond rydym ychydig ymhellach ar y blaen nag y byddem wedi bod pe bai gennym y Llywodraeth Dorïaidd a oedd gennym yn y DU flwyddyn yn ôl. Felly, er na all un gyllideb newid popeth, mae 14 mlynedd o gyni wedi taro'n galed.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae braidd yn rhagrithiol, gan ei fod yn effeithio ar bob un ohonom. Mae gwasanaethau hanfodol mewn perygl. Bydd gwasanaethau ataliol yn cael eu torri. Dyma’r math o fesurau ataliol y mae pob un ohonom yn eu canmol ar y llawr hwn ac yn dymuno'u gweld yn cael eu rhoi ar waith, ac eto, dyma’r union fesurau ataliol sy’n cael eu cynnig i gael eu torri ledled Cymru. Gadewch inni sôn am ein rhanbarth ni, Ysgrifennydd y Cabinet, lle mae tair canolfan hamdden boblogaidd yng Nghaerffili, cyllid i glybiau ieuenctid gwledig—toriad arfaethedig o £40,000—yn sir Fynwy, a hyd yn oed llyfrgelloedd yn eich dinas chi, Casnewydd, wedi cael eu cynnig i gael eu torri gan gynghorau Llafur. Pob un yn adnodd ataliol. Os mai’r agenda ataliol yw gwir nod y Llywodraeth hon yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, heb sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y pen darparu o lunio polisïau, onid ydych chi'n cytuno nad yw'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud yma yn ddim byd ond gwynt?

Wel, rwy'n credu bod hynny braidd yn rhagrithiol gan y blaid gyferbyn, a dweud y gwir. Oherwydd o dan Lywodraeth Lafur y DU, mae ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 dros £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol. Felly, credaf fod hynny’n rhywbeth y mae angen inni fod yn ymwybodol ohono. Fel y dywedais, mae awdurdodau'n mynd i fod yn gwneud penderfyniadau anodd. Rwy'n deall hynny. Fel y dywedais, nid yw un gyllideb yn mynd i newid 14 mlynedd o’r hyn y maent wedi ei wynebu. Mae wedi bod yn anodd iawn. Rwy'n derbyn hynny. Mae wedi bod yn anodd i aelodau cabinet, cynghorwyr a swyddogion yr awdurdodau lleol sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hyn. Ledled Cymru, gwn y bydd yr arweinwyr, yr aelodau etholedig a’r swyddogion hynny’n ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd o wneud y defnydd gorau o’r adnoddau er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau. Hoffwn ddweud hefyd, i gefnogi aelwydydd ar y cyd, ein bod yn cynnal yr hawl lawn i gymorth drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Rydym yn darparu £244 miliwn drwy'r setliad i gydnabod hynny ar gyfer y bobl wirioneddol agored i niwed hynny.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gadewch inni sôn am degwch, gadewch inni sôn am rywbeth sydd o fewn eich rheolaeth uniongyrchol: y fformiwla gyllido. Mae’n warthus o annheg ac yn cosbi rhannau gwledig o Gymru am fod, wel, yn wledig. Nid yn unig hynny—diolch i'r ffaith bod cynghorau'n cael eu taro gan werth miliynau o bunnoedd o gyfraniadau yswiriant gwladol, sydd eisoes wedi’i drafod—mae Cyngor Sir Fynwy yn fy rhanbarth yn wynebu cost ychwanegol o £3.5 miliwn i dalu eu cyfraniadau yswiriant gwladol, ar ben popeth arall. Os ydych chi'n gwrthod sefyll dros drigolion Cymru heddiw, oni fyddech chi'n cytuno â mi fod angen adolygiad annibynnol o’r fformiwla gyllido annheg hon yng Nghymru? Gwn ei fod fel twrcïod yn pleidleisio o blaid y Nadolig, ond weithiau, mae’n rhaid inni wneud yr hyn sy’n iawn. Hefyd, a allwch chi sicrhau a rhoi sicrwydd i gynghorau y bydd y costau yswiriant gwladol yn cael eu talu’n llawn?

Diolch, Laura. Fel y dywedais eto mewn ymateb i gwestiwn gan Hannah Blythyn, eleni, rydym yn deall bod nifer o wahanol bethau'n cynyddu o fewn y fformiwla gyllido. Rydym ni, fel Llywodraeth, yn agored iawn i ystyried darparu cyllid gwaelodol ychwanegol yn y gyllideb derfynol, felly mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio a chynnal fformiwla gyllido deg a thryloyw ar gyfer y setliad llywodraeth leol, y cytunir arno gyda llywodraeth leol. Adolygir y fformiwla gyllido yn flynyddol gan yr is-grŵp dosbarthu. Mae'r gwaith sydd ar y gweill yn cynnwys diweddaru'r data ar deneurwydd poblogaeth ac amddifadedd a sut y caiff ei ddefnyddio yn y fformiwla. Mae gennym dechnegau ystadegol perthnasol, megis atchweliad a modelu aml-lefel, a ddefnyddiwyd i bennu'r dangosyddion sydd â'r berthynas fwyaf â chost pan sefydlwyd y fformiwla. Mae hyn bellach yn cael ei adolygu, gan ddefnyddio'r un technegau i weld ai dyma'r pethau sydd â'r berthynas gryfaf o hyd.

Felly, unwaith eto, mae dros dri chwarter y cyllid a ddosberthir drwy fformiwla gyllido’r setliad llywodraeth leol yn dibynnu ar ddata sy’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol. Ond fel y dywedais, rwy'n cydnabod bod dosbarthiadau mwy eleni, mae amrywiaeth o bethau'n cynyddu, felly, fel y dywedais, rydym yn agored i ystyried darparu cyllid gwaelodol ychwanegol yn ein cyllideb derfynol.

13:50

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i holl staff awdurdodau lleol Cymru—ein gofalwyr, ein criwiau atgyweirio ffyrdd, ein casglwyr biniau, staff swyddfa gefn a llawer iawn o bobl eraill. Mae'r gweithwyr hyn o dan bwysau cynyddol, yn darparu gwasanaethau hanfodol er gwaethaf llai o gyllid ac adnoddau cyfyngedig. Ar ran Plaid Cymru, diolch i bob un ohonynt am eu hymroddiad a’u gwaith caled. Yr wythnos diwethaf, clywsom nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad faint o gyllid y bydd Cymru yn ei gael yn y pen draw i dalu’r gost o £109 miliwn yn sgil codiadau treth yswiriant gwladol Llafur yn y sector cyhoeddus. Gydag awdurdodau lleol yn gorfod dechrau cynllunio eu cyllidebau, mae'r ansicrwydd hwn yn anghynaladwy. Clywaf fod y sgyrsiau’n parhau, ond mae cyllidebau’n cael eu gosod nawr. A yw hyn yn golygu bod penderfyniad y Trysorlys wedi eich dal ar y droed ôl gyda chanlyniadau anfwriadol yn sgil methu ystyried y sefyllfa'n ddigon trylwyr? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y byddwn yn gwybod faint o gyllid y byddwch yn ei gael gan Lywodraeth y DU i dalu am y codiadau treth hyn?

Diolch, Peredur. Diolch am eich cwestiwn. Hoffwn ddechrau drwy gytuno â chi ynglŷn â'r holl waith y mae staff awdurdodau lleol yn ei wneud ledled y wlad, o ddydd i ddydd. Mae’n eithaf anhygoel faint o wasanaethau y maent yn eu darparu ar ein rhan, a hoffwn innau gofnodi fy niolch iddynt hefyd.

Unwaith eto, ar fater yswiriant gwladol, y gwn fod pob Aelod yn pryderu yn ei gylch, ein hamcangyfrif cychwynnol o'r costau yswiriant gwladol ychwanegol i gyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol yw £253 miliwn. O hyn, mae £33 miliwn yn ymwneud ag athrawon, £77 miliwn â staff llywodraeth leol eraill. Yn hynny o beth, nid ydym wedi cael cadarnhad eto faint o gyllid ychwanegol y bydd Cymru yn ei gael i gefnogi’r gost ychwanegol i gyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig. Fel y dywedais, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Thrysorlys EF i gadarnhau'r manylion a lefel y cymorth a ddarperir.

Unwaith eto, pan fyddwn yn gwybod beth fydd lefel y cyllid, byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol drwy ein his-grwpiau dosbarthu a chyllid i benderfynu ar y ffordd orau o ddosbarthu'r cyllid hwn yn deg, gan fy mod yn ymwybodol fod gan awdurdodau gyfran wahanol o staff a gyflogir yn uniongyrchol a gwasanaethau a gomisiynir neu wasanaethau dan gontract. Felly, bydd hynny'n cael ei wneud gyda llywodraeth leol.

Rydym yn cydnabod bod sefydliadau a busnesau a gomisiynir gan y sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau a sefydliadau'r trydydd sector yn pryderu am effaith y newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU yn dangos na fydd mwy na hanner y cyflogwyr sydd â rhwymedigaethau cyfraniadau yswiriant gwladol yn gweld unrhyw newid neu gynnydd cyffredinol yn 2025. Ond mae'r trydydd sector yng Nghymru yn darparu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau a'r bobl sydd fwyaf o angen cymorth. Yn y gyllideb ddrafft, rydym wedi ymrwymo i gytundeb cyllido tair blynedd sy'n werth £25.8 miliwn i'r trydydd sector allu cefnogi Cymru.

Diolch am yr ateb yna.

Ar y cwestiwn hwnnw—gofynnodd Jane Dodds yn gynharach a fyddai’n well gennych weld y cynnydd yswiriant gwladol yn cael ei ddileu. Ni chlywais ateb 'ie' neu 'na', ond efallai yr hoffech sôn am hynny hefyd. Er fy mod yn siŵr eich bod yn gobeithio y bydd holl gostau awdurdodau lleol Cymru yn cael eu talu, mae fy nghymheiriaid mewn llywodraeth leol yn llai optimistaidd. Fis diwethaf, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid y bydd ad-daliadau yswiriant gwladol ar gyfer y sector cyhoeddus yn cael eu dosbarthu drwy fformiwla Barnett. Rhybuddiodd y byddai hyn yn sylfaenol annheg, gydag awdurdodau lleol Cymru yn derbyn canran is o ad-daliad nag awdurdodau Lloegr. Mae natur pob cyngor, fel rydych chi newydd ei egluro i ni, o ran gwasanaethau mewnol a'r rheini dan gontract allanol, yn wahanol. Fe wnaed addewid y byddai cyfraniadau yswiriant gwladol ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu hariannu’n llawn gan y Trysorlys. Felly, sut ydych chi'n mynd i ddyrannu cyllid canlyniadol Barnett pan fydd yn cyrraedd yma yn y pen draw? A ydych chi'n hyderus y bydd gennych ddigon o arian yng nghyllideb Cymru i wneud iawn am y gwahaniaeth rhwng y realiti a dyraniad y fformiwla, pan ddaw’n fater o ariannu canlyniadau penderfyniad y Canghellor yn llawn?

13:55

Diolch, Peredur. Fel y dywedaf, mae hwn yn fater sydd ar y gweill gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn arwain ar y trafodaethau hynny gyda'i swyddogion cyfatebol yn San Steffan, fel y byddech yn ei ddisgwyl. Yn amlwg, rwy’n deall yn iawn mai dyma y mae awdurdodau lleol yn pryderu yn ei gylch, ynghyd â'r trydydd sector. Credaf fod yn rhaid inni fod yn glir, pan fyddwn yn cael y trafodaethau hynny ac yn gallu darparu rhywbeth pellach, y byddwn yn rhannu hynny gydag awdurdodau lleol a'r Senedd hefyd.

Diolch. Mae hynny i'w groesawu. A phe gallech ysgrifennu atom ar unwaith pan fyddwch yn gwybod hynny, byddai hynny'n wych er mwyn cael gwybod beth yn union yw'r sefyllfa.

Fe wnaethoch chi ddisgrifio'r gyllideb hon fel cyllideb dda yn gynharach; mae’r Prif Weinidog wedi brolio’r honiad fod Llywodraeth y DU wedi darparu’r setliad cyllid gorau erioed i Gymru. Mae ein llywodraethau lleol, serch hynny, yn wynebu setliad anodd iawn, gyda diffyg o oddeutu £0.5 biliwn yn eu cyllid. Tra bo Llafur yn San Steffan yn brolio nad ydynt yn codi trethi ar bobl sy’n gweithio, mae Llafur yng Nghymru yn methu ariannu gwasanaethau lleol yn iawn. I bob pwrpas, mae hyn yn symud lle mae’r dreth yn cael ei chodi a’r baich yn cael ei roi ar bobl sy’n gweithio, drwy un o’r trethi mwyaf atchweliadol, y dreth gyngor. Mae cynghorau wedi gofyn i chi am gyllid gwaelodol sylweddol, ond unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi eu gadael yn y tywyllwch ynglŷn â’i lefel a’i amseru, ond rydych chi'n agored i gyllid gwaelodol yn y gyllideb derfynol, fel yr eglurwyd gennych yn gynharach.

Fe wyddom fod y pwysau ar gyllidebau llywodraeth leol oddeutu 7 y cant, ynghyd â setliad cyfartalog o 4.3 y cant, gyda rhai'n cael cyn lleied â 2.8 y cant—is o lawer na'r hyn sydd ei angen. Wrth i gynghorau bennu eu cyllidebau a chydbwyso rhwng yr hyn a gânt gan Lywodraeth Cymru a faint sydd ei angen arnynt i ariannu gwasanaethau hanfodol, ac i bob pwrpas, faint y mae angen iddynt ei godi wedyn yn y dreth gyngor i fantoli’r cyfrifon, mae’n fater byw ledled y wlad, ac y maent yn ceisio mantoli’r cyfrifon yn y tywyllwch nawr. Felly, faint o arian y gofynnoch chi i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddod o hyd iddo o adrannau a chronfeydd wrth gefn eraill i ariannu cyllid gwaelodol, ac ar ba lefel y byddwch chi'n ei osod, a phryd y byddwch chi'n gwybod?

Diolch, Peredur. Fel y dywedais, rwy'n deall bod awdurdodau lleol yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd wrth iddynt fynd drwy eu proses gyllidebol hefyd. Ond unwaith eto, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig atgoffa pawb, o dan Lywodraeth Lafur y DU, fod ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 fwy nag £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol. Ac mae hyn yn dyst i ymrwymiad y Llywodraeth Lafur yn San Steffan i gyflawni’r blaenoriaethau yng Nghymru a gweithio gyda ni yma. A dyna'n union rydym yn canolbwyntio arno. Gwn pa mor bwysig yw awdurdodau lleol ar gyfer cyflawni ein blaenoriaethau. Dyna pam fy mod wedi cynyddu’r cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig ar gyfer awdurdodau lleol.

Fel y dywedais, mae’r penderfyniadau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud yn rhai real iawn, ond unwaith eto, mae gennym gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, rydym wedi darparu £244 miliwn drwy ein setliad i gydnabod hynny. Rwy'n deall bod awdurdodau lleol yn mynd i sicrhau eu bod yn gwneud eu gorau dros eu cymunedau, fel y maent bob amser yn ymdrechu’n galed i’w wneud. Gwyddom eu bod wedi bod dan bwysau ers blynyddoedd lawer, a gwn fod hynny wedi bod ar flaen eu meddyliau, yn enwedig gyda phwysau gofal cymdeithasol a phwysau ym maes addysg yn arbennig, gydag anghenion dysgu ychwanegol. Fel y dywedais, rydym wedi gorfod rheoli a gwneud yr hyn a allwn yma yng Nghymru. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud yn dda i wrando ar lywodraeth leol. Mae gennym yr arian ychwanegol yn cael ei ddarparu, ond fel y dywedais, ar ôl 14 mlynedd o gyni'r Torïaid, nid yw un gyllideb yn mynd i allu newid hyn oll.

14:00
Pobl Ddigartref

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl ddigartref? OQ62143

Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni trawsnewid hirdymor, gan gynnwys diwygio deddfwriaethol, i fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â digartrefedd. Mae ein ffocws uniongyrchol ar atal digartrefedd a darparu mwy o gartrefi, gyda'r gyllideb ddrafft yn darparu £21 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai ac £81 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol i gefnogi hyn.

Diolch. Wel, mewn 88 y cant o'u hachosion, llwyddodd Shelter Cymru i atal digartrefedd, ac mewn 59 y cant, i gadw unigolion a theuluoedd yn eu cartref gwreiddiol. Fodd bynnag, maent yn pryderu am fanylion llinell wariant cymorth ac atal digartrefedd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru y cyfeirioch chi ati. Maent yn darparu cyngor a chymorth sylweddol yng Nghymru drwy'r grant atal digartrefedd, sydd wedi'i gynnwys o fewn yr un llinell wariant gyffredinol â'r grant cymorth tai, ac yn nodi bod yna arwyddion y bydd grantiau nad ydynt yn grantiau cymorth tai yn wynebu toriadau mewn termau real.

Byddai grant arian gwastad yn golygu llai o gymorth i atal digartrefedd am ddwy flynedd yn olynol, a fydd, ynghyd â chost y cynnydd i yswiriant gwladol, yn galw am gyfanswm arbediad cost sy'n cyfateb i ddau gynghorydd llawn amser a gwerth oddeutu 360 o aelwydydd yn llai o gapasiti cynghori. Er bod Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd, mae'n cynnig lleihau ei chefnogaeth i wasanaethau ataliol. Sut ydych chi felly'n ymateb i'w galwad ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r holl grantiau o fewn y llinell wariant cymorth ac atal digartrefedd? 

Diolch, Mark, a diolch am y cwestiwn. Nid ydym yn diystyru maint yr her. Mae nifer y bobl sy'n profi digartrefedd yn parhau i fod yn bryderus o uchel. Rydym wedi diogelu a chynyddu'r cyllid ar gyfer cymorth ac atal digartrefedd yn 2025-26, ac mae bellach yn fwy na £240 miliwn; mae hwn yn ddewis bwriadol. Mae'r £240 miliwn yn cynnwys cynnydd o £21 miliwn i'r grant cymorth tai, sydd bellach yn £204.3 miliwn, sef cynnydd o 11.45 y cant.

Bwriad y codiad ariannol yw cynorthwyo comisiynwyr i gefnogi darparwyr i gyflawni ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i waith teg a'r cyflog byw gwirioneddol ac ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau a chymhlethdodau angen. Mae'r cynnydd o £21 miliwn i'r grant cymorth tai yn dangos ein hymrwymiad i wasanaethau ataliol ac mae'n gosod sylfeini cadarn ar gyfer y diwygio deddfwriaethol sydd ar y ffordd gennym. Felly, rydym yn gwneud llawer yma. Yn amlwg, mae'n rhaid inni gydbwyso cymaint ag y gallwn, ond nid ydym yn diystyru'r her. Rwy'n credu ein bod ni o ddifrif yn gweld bod awdurdodau lleol yn wynebu hynny hefyd, felly rwy'n deall cymhlethdod y gyllideb, ond rydym yn gwneud yr hyn a allwn, gan roi atal yn gyntaf yma a chefnogi gwasanaethau ataliol.

Cynllun Cymorth i Brynu—Cymru

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cynllun Cymorth i Brynu—Cymru? OQ62154

Diolch, Mick. Mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi cefnogi mwy na 14,000 o aelwydydd i brynu cartref ers ei lansio ym mis Ionawr 2014. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais estyniad 18 mis i'r cynllun, gan ddyrannu £57 miliwn yn 2025-26.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf i groesawu'r estyniad o 18 mis? Mae hon yn fenter bwysig iawn mewn perthynas â phobl ifanc, yn enwedig, sydd eisiau troed ar yr ysgol dai. Fel y deallaf, cynllun ar gyfer Cymru yw hwn; rwy'n deall nad yw'n digwydd yn Lloegr mae'n tebyg. A allwch chi esbonio'n union sut y bydd yn cael ei hyrwyddo fel bod pobl yn ymwybodol ohono, a sut y byddant yn cael eu cynorthwyo yn yr holl bethau eraill sy'n cyd-fynd â'r cynllun Cymorth i Brynu, oherwydd mae gofyn cael morgeisi a chyngor ariannol arall i gael yr ecwiti o 20 y cant y byddai Llywodraeth Cymru yn ei roi i alluogi i hyn ddigwydd?

Diolch, Mick, a diolch am groesawu'r cynllun hwn. Yn ddiweddar, penderfynais ymestyn ein cynllun Cymorth i Brynu yma yng Nghymru. Mae'n wir—. Daeth Llywodraeth flaenorol y DU â'r cynllun Cymorth i Brynu i ben yn Lloegr ym mis Mawrth 2023. Rydym yn parhau â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i filoedd o bobl allu gwireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ar gartref, rhywle y gallant ddechrau adeiladu eu dyfodol, y dyfodol y maent am ei weld yma yng Nghymru. A dyna pam fy mod yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi dros 11,000 o brynwyr tro cyntaf i brynu cartref yma yng Nghymru. Mae cyfran y prynwyr tro cyntaf wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd. Yn flaenorol, roedd 77 y cant o brynwyr yn brynwyr tro cyntaf. Ers dechrau mis Ebrill 2022, mae 84 y cant o brynwyr wedi bod yn brynwyr tro cyntaf. Rwy'n credu bod hynny'n dyst i lwyddiant y cynllun. 

Mae gan Cymorth i Brynu—Cymru offeryn hyrwyddo eisoes. Mae llawer o bobl eisoes yn gwybod amdano. Ond mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar hynny a sicrhau ein bod i gyd, yma yn y Siambr hefyd, yn lledaenu'r gair am y cynllun Cymorth i Brynu, sydd wedi'i ymestyn nawr, ac rwy'n falch fy mod wedi gwneud hynny.

14:05
Rhaglen Cartrefi Clyd

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn diwallu anghenion aelwydydd yng nghefn gwlad Cymru? OQ62174

Diolch, Cefin. Mae'r rhaglen Cartrefi Clyd yn ystyried anghenion perchnogion tai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig a threfol. Bydd deiliaid tai sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn derbyn asesiad tŷ cyfan, a byddant yn derbyn ystod bwrpasol o fesurau sy'n addas ar gyfer eu heiddo unigol.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, wrth ymateb i'ch datganiad ar y rhaglen Cartrefi Clyd, cododd fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian nifer o bryderon, yr wyf yn eu rhannu, gan gynnwys diffyg eglurder ynghylch amcanion polisi'r rhaglen, a hefyd materion yn ymwneud â gwerthuso a monitro. Mae fy nghwestiwn penodol heddiw yn ymwneud ag effaith y cynllun yng nghefn gwlad Cymru, lle gwyddom fod tlodi tanwydd yn broblem arbennig.

Yn ei adroddiad yn 2022 ar dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd, argymhellodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y dylai'r Llywodraeth greu cynllun effeithlonrwydd ynni wedi'i dargedu'n benodol at leihau tlodi tanwydd gwledig—argymhelliad a dderbyniwyd gan y Llywodraeth. Fodd bynnag, ar ôl darllen yr asesiad effaith integredig, ni allaf ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod ymarfer prawfesur gwledig wedi'i deilwra wedi'i wneud ar y rhaglen hon. Felly, a allwch chi gadarnhau bod asesiad o'r effaith wledig wedi'i gyflawni ar y cynllun Cartrefi Clyd, ac os na wnaed hynny, pam? Ac a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn gwbl hanfodol fod rhaglenni fel y cynllun Cartrefi Clyd yn gwneud addasiadau perthnasol ar gyfer anghenion penodol cymunedau gwledig? 

Diolch, Cefin. Rydym yn buddsoddi mwy na £30 miliwn eleni yn y cynllun Nyth Cartrefi Clyd newydd i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig. Yn bendant, rydym yn deall bod cartrefi gwledig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd nag aelwydydd trefol. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl wledig drwy ddarparu uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni i aelwydydd sy'n wynebu risg o dlodi tanwydd. I bobl sydd wedi'u hynysu'n ddaearyddol, a allai ei chael hi'n anos cael gafael ar gymorth wyneb yn wyneb, mae Cartrefi Clyd yn cynnig gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ar-lein a thros y ffôn, fan lleiaf, er mwyn peidio ag eithrio unrhyw aelwydydd gwledig. Mae ein gwasanaeth cyngor am ddim, sydd ar gael i bob deiliad tŷ ledled Cymru, yn chwarae rhan bwysig yn y broses o ddeall amgylchiadau unigol pob aelwyd, ac yn eu cefnogi i gael mynediad at y cynllun mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Mae eiddo gwledig yn fwy tebygol o fod oddi ar y grid ac o ddibynnu ar ddulliau drutach o wresogi. Gall ein rhaglen Cartrefi Clyd eu cefnogi i leihau eu biliau drwy ystod o fesurau, gan gynnwys gosod pympiau gwres o'r aer. Ond efallai yr hoffech ysgrifennu ataf ar y pwynt penodol hwnnw, er mwyn imi allu mynd i'r afael â hynny'n benodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae tlodi tanwydd yn llawer uwch mewn rhannau gwledig o Gymru nag mewn ardaloedd trefol poblog iawn. Nid yn unig y mae aelwydydd gwledig yn talu mwy am danwydd oherwydd eu bod oddi ar y grid, fel y nodoch chi, mae'n anos datgarboneiddio eu cartrefi. Hefyd, mae llawer o gartrefi gwledig yn dibynnu ar losgyddion pren ar gyfer gwresogi, a hyd yn oed coginio. Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n addasu rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru ac ymdrechion datgarboneiddio i sicrhau nad yw'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig dan anfantais, ac a fydd eich rhaglen yn caniatáu i losgyddion pren glanach, mwy effeithlon gael eu gosod?

14:10

Diolch, Altaf. Fel y dywedais, rydym yn deall bod cartrefi gwledig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd nag aelwydydd trefol. Bydd technolegau carbon isel yn cael eu blaenoriaethu pan fydd yn gwneud synnwyr i wneud hynny. Mae rhai deiliaid tai gwledig oddi ar y grid wedi gofyn am foeler olew newydd, sydd y tu allan i gwmpas y cynllun, ond mae swyddogion ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau gyda'n contractwyr i allu darparu cymorth pellach i gwsmeriaid oddi ar y grid lle nad yw'n bosibl gosod technoleg carbon isel mewn eiddo oddi ar y grid. Ond gall ein gwasanaeth cynghori annibynnol gynghori deiliaid tai y gallent fod yn gymwys i gael cymorth drwy gynlluniau eraill, megis rhwymedigaeth y cwmni ynni. Rwy'n credu bod ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd—rwy'n argymell y dylai pawb annog etholwyr i fanteisio ar y cynnig o gyngor diduedd am ddim. Rwy'n credu bod y cyngor diduedd yn bwysig yn hyn hefyd. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn i'ch etholwyr ofyn amdano.

Cymorth Ariannol i Awdurdodau Lleol

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru? OQ62150

Diolch, Gareth. Yn 2025-26, bydd awdurdodau lleol gogledd Cymru yn derbyn £1.3 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol, cynnydd o £48 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ar sail debyg am debyg.

Roedd y setliad llywodraeth leol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft yn blaenoriaethu cadarnleoedd y Blaid Lafur yn ne Cymru a'r Cymoedd sydd â llawer o arian wrth gefn, gan anwybyddu anghenion cynghorau eraill fel sir y Fflint, sydd ond wedi gweld newid o 3.3 y cant. Mae Cyngor Sir Ddinbych bellach yn codi'r dreth gyngor i drigolion fy etholaeth i, gyda'r cynnydd arfaethedig yn uwch na chyfartaledd Cymru o 4.3 y cant. Mae hyn yn dilyn cynnydd treth gyngor uwch na'r cyfartaledd y llynedd, ac mae fy etholwyr wedi cael llond bol ar weld eu treth gyngor yn codi'n dragywydd a'u gwasanaethau'n lleihau fwyfwy. Cyfyngwyd ar amseroedd agor llyfrgelloedd, torrwyd gwasanaethau toiledau cyhoeddus, mae lleiniau glas wedi gordyfu, ac mae gwasanaethau sbwriel yn y 12 mis diwethaf wedi bod yn anhrefnus. Rydym wedi cael ein siomi gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda'r ffioedd cartrefi gofal isaf yn rhoi pwysau ar y rhai mwyaf agored i niwed, a dymchwelwyd canolfan SeaQuarium yn y Rhyl heb i ddim gael ei gynnig yn ei le i dwristiaid. Mae hon yn weinyddiaeth Lafur nodweddiadol: trethi uwch, darparu llai. Felly, pa waith y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau cyllid tecach i awdurdodau lleol fel nad yw'r baich yn cael ei roi ar ein preswylwyr a'r rhai mwyaf agored i niwed, fel y rhai yn ein gofal a'n henoed? Diolch.

Unwaith eto, rwy'n credu yr hoffwn atgoffa'r Aelod gyferbyn, pe bai eich Llywodraeth chi wedi bod mewn grym, y byddem wedi derbyn £1 biliwn yn llai nag a gawsom y tro hwn gyda Llywodraeth Lafur mewn grym.

Mae'r Aelod yn sôn am gronfeydd wrth gefn a'r dreth gyngor, ac rwy'n dweud eto, rwy'n deall yn iawn y penderfyniadau anodd y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud ar hyn o bryd. Ar ôl 14 mlynedd o gyni Torïaidd, nid yw un gyllideb yn mynd i allu newid popeth dros y blynyddoedd hynny. Ar lefel y cronfeydd wrth gefn, mae'n amlwg fod lefel cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn fater i aelodau etholedig lleol, a byddant hefyd yn adlewyrchu cynlluniau mwy hirdymor, yn ogystal â rheoli pwysau yn y tymor byrrach. Yn amlwg, mae mynd ati'n rheolaidd i adolygu cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn arfer da. Nid oes data llawn ar gael eto ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24, ond mae'r rhan fwyaf o awdurdodau'n nodi gostyngiadau yn y cronfeydd wrth gefn rhwng mis Mawrth 2023 a mis Mawrth 2024, a daw hyn yn sgil gostyngiad o tua £170 miliwn yn y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn y flwyddyn flaenorol. Mae'r gostyngiadau mwyaf yng nghronfeydd wrth gefn ysgolion a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

Mae awdurdodau lleol wedi dweud eu bod yn defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol i ymateb i bwysau chwyddiant. Mae llawer hefyd yn bwriadu defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf fel rhan o'u cynlluniau ariannol tymor canolig, ond nid oes cysylltiad rhwng cynghorau a gafodd lefel uwch o gynnydd i'w setliadau a lefel y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn ôl y diffiniad a ddefnyddir gan Archwilio Cymru, sef cyffredinol, ynghyd â chyllid a glustnodwyd, ac ysgolion.

Y Cynnydd yn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ62169

Diolch, Peter. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif cost o £109 miliwn i staff a gyflogir yn uniongyrchol. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EF i sicrhau eglurder ynghylch y manylion a lefel y cymorth a ddarperir.

14:15

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ymwybodol fod y cwestiwn hwn wedi cael ei ofyn sawl gwaith heddiw, ond rwy'n credu bod hynny'n dangos lefel y pryder sydd gennym i gyd, ac sydd gan ein cynghorau hefyd, oherwydd yn amlwg iawn roedd hwn yn ymrwymiad maniffesto a dorrwyd i beidio â chodi yswiriant gwladol.

Mae cynghorau lleol, fel y gwyddom, yn dal i bryderu'n fawr am nad ydynt yn gwybod yn iawn beth y maent yn mynd i'w gael. Rydym yn gwybod y bydd rhywfaint o gefnogaeth iddynt ac rydym yn gwybod bod eu hangen fel y'i haseswyd oddeutu £109 miliwn, fel y nodoch chi, ond y gwir amdani yw, os mai dim ond £80 miliwn sy'n dod ar ei gyfer, bydd yn rhaid iddynt dalu tua £20 miliwn a daw hynny'n uniongyrchol oddi ar y ddarpariaeth o wasanaethau, neu bydd yn dod o bocedi talwyr y dreth gyngor. 

Ac fel y clywsom yn gynharach, mae llawer o gynghorau'n comisiynu gwasanaethau, fel y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei wneud, lle darperir 80 y cant o'u gofal cymdeithasol gan gontractwyr preifat a fydd, heb os, yn trosglwyddo'r gost ymlaen. Felly, yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, gallai'r costau ychwanegol erydu'r holl bethau ychwanegol y gobeithiwch eu cyflawni gyda'r gyllideb eleni. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch o oblygiadau cynnydd Llafur i yswiriant gwladol i gynghorau?

Diolch, Peter, ac fel y dywedwch, mae hyn wedi codi sawl gwaith heddiw, yn ddigon dealladwy. Yn y tymor byr, byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol ragdybied y lefel resymol o gyllid y maent yn disgwyl ei gael yn benodol ar gyfer hyn. Roedd fy llythyr at arweinwyr ar lefel y setliad dros dro yn glir y byddai cyllid ar gyfer hyn yn ychwanegol at y cyllid a nodir yn y setliad. Rwy'n credu, felly, fod awdurdodau wedi cael lefel resymol o sicrwydd gennym ni i wneud rhagdybiaethau synhwyrol.

Daeth y ffigurau a ddarparwyd gennym i Drysorlys EF, ac sy'n sail i'r ffigur o £109 miliwn yn fy llythyr, o'r data gan lywodraeth leol. Felly, mae ganddynt sail ar gyfer gwneud eu rhagdybiaethau cyllidebol. Yn amlwg, dim ond un ffactor yw hwn ymhlith ystod y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth bennu eu cyllideb, a gwn y byddwch chi'n gwybod hynny'n dda iawn. Gallai mynd ati'n benodol i osod isafswm lefel o gyllid olygu bod awdurdodau lleol yn teimlo rheidrwydd i weithio ar y rhagdybiaeth geidwadol honno, pan na fydd hynny'n briodol o bosibl. Ond rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol a byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol drwy ein his-grwpiau dosbarthu a chyllid i benderfynu sut i ddosbarthu'r arian hwnnw'n deg. Unwaith eto, fel y dywedais, rwy'n ymwybodol fod gan y gwahanol awdurdodau wahanol gyfrannau o staff a gyflogir yn uniongyrchol, gwasanaethau wedi'u comisiynu neu wasanaethau wedi'u gosod ar gontract, ond mae fy swyddogion hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â chyfarwyddwyr cyllid awdurdodau lleol a byddant yn parhau i drafod hyn gyda hwy.

Rheolaethau Rhent

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y sylfaen dystiolaeth sy'n sail i safbwynt y Llywodraeth ar reolaethau rhent? OQ62168

Diolch, Luke. Rydym wedi ystyried y dystiolaeth a gafwyd o ymgynghoriad y Papur Gwyrdd a gynhaliwyd yn 2023, yn ogystal ag archwilio'r dystiolaeth sydd ar gael gan yr Alban, ac mae'r cyfan yn dangos nad oes digon o dystiolaeth i fwrw ymlaen â mesurau rheoli rhenti ar hyn o bryd.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet.

Mae'r dystiolaeth ar reoli rhenti yn llawer mwy manwl nag a gydnabyddir yn aml. Mae llawer o feirniaid, gan eich cynnwys chi, wedi nodi profiad yr Alban fel tystiolaeth nad ydynt yn gweithio. Fodd bynnag, rhewi mewn enw'n unig oedd cap rhent yr Alban gyda bylchau sylweddol ynghlwm wrtho, er enghraifft nid oedd ond yn ymwneud â rhewi rhenti yn ystod y denantiaeth yn unig. Nawr, golygai fod landlordiaid yn codi rhenti rhwng tenantiaethau, sy'n arwain yn y pen draw at godiadau cyflymach mewn rhenti yn yr Alban, o'i gymharu â gweddill y DU yn yr un cyfnod, ond nid yw'n esgus o fath yn y byd dros ddweud nad ydynt yn gweithio. 

Rwy'n pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ffydd amhriodol ym marn rhanddeiliaid yn y lobi landlordiaid yn enwedig, sy'n amlwg yn mynd i wrthwynebu unrhyw effaith ar eu helw eu hunain. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu bod y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu arni yn cyfleu'n llawn y manylder sydd ei angen wrth lunio polisïau rheoli rhenti effeithiol, ac a fu tueddiad i ddiystyru'r syniad yn rhy gyflym?

Diolch, Luke. Roedd y dystiolaeth a gawsom yn nodi, yn sylfaenol, fod angen i ni gael gwell data, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Felly, gwell data ar renti preifat ar draws y sector cyfan, yn hytrach nag edrych ar y prisiau gofyn a gyhoeddwyd, dyweder, gan Rightmove a Zoopla. Mae ymgynghoriad y Papur Gwyn yn dod i ben ddiwedd y mis hwn ac fel Llywodraeth, rydym wedi nodi ein cynigion ar ddata rhent a rhenti. Mae angen inni ystyried y cyflwyniad a wnaed, ac ni fyddai'n briodol i mi wneud sylwadau ar awgrymiadau penodol a godwyd heddiw.

Fodd bynnag, nododd tystiolaeth a ddaeth i law ar gyfer y Papur Gwyrdd, yn cynnwys gan Crisis, yr elusen ddigartrefedd, y gallai rheoli rhenti arwain at ostyngiad yn y cyflenwad eiddo, gostwng safonau cynnal a chadw ac atgyweirio, a chynnydd yn nifer y bobl sy'n ddigartref. Ond fel y dywedais, mae ein hymgynghoriad yn dal ar agor tan 31 Ionawr, felly mae amser o hyd i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw.

14:20
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sydd nesaf. Y cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am ddarpariaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol yn Nwyrain De Cymru? OQ62165

Rwyf wedi cael trafodaethau niferus gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch teithio gan ddysgwyr. Byddwn yn arwain uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr ar y cyd yn y gwanwyn. Bydd y mater pwysig hwn yn elwa o'n hymdrechion cyfunol, ac ymdrechion ein partneriaid, i sicrhau bod cludiant dysgwyr mor effeithiol â phosibl.

Diolch am yr ateb yna. Fel rŷch chi wedi sôn, mae awdurdodau lleol bellach yn addasu eu polisïau pellter cludiant am ddim oedd yn fwy hael na'r sefyllfa statudol. Bydd hyn yn effeithio'n fwy ar ardaloedd fel y Cymoedd, lle mae plant yn gorfod teithio pellteroedd lot mwy i gyrraedd ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn aml, maen nhw'n gorfod teithio heibio nifer o ysgolion Saesneg cyn cyrraedd ysgol Gymraeg, a gall y newid polisi hwn, felly, effeithio yn anghymesur ar deuluoedd y byddai'n well ganddynt anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Byddan nhw nawr yn wynebu'r rhwystr ychwanegol o orfod talu i fynd i ysgol Gymraeg tra byddai darpariaeth Saesneg, sydd yn ddaearyddol agosach, ar gael am ddim. Buaswn i'n gofyn ym mha ffyrdd nad ydy hyn yn cynrychioli anghydraddoldeb. Achos ŷn ni i gyd yn sôn am y ffaith bod y Gymraeg yn perthyn i bawb—mae honno'n egwyddor dwi'n teimlo 100 y cant ei bod hi mor bwysig—ond buaswn i'n gofyn sut mae cysoni hynny gyda'r sefyllfa nawr sydd yn wynebu plant yn y Cymoedd.

Diolch, Delyth, ac a gaf i gydnabod eich bod wedi bod yn codi pryderon ynglŷn â hyn ers amser maith? Fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, rydym yn cynnal uwchgynhadledd ar y cyd â rhanddeiliaid i edrych ar rai o'r materion dyrys sy'n gysylltiedig â hyn. Rwy'n siŵr eich bod hefyd yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth ar deithio gan ddysgwyr, a bydd honno'n digwydd yn ystod y misoedd nesaf.

Gwn eich bod yn ymwybodol iawn o baramedrau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a'r ffiniau dan sylw: 2 filltir yn y cynradd, 3 milltir yn yr uwchradd. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am asesu anghenion dysgwyr yn eu hardaloedd, ac mae ganddynt bwerau disgresiynol i ddarparu cludiant yn unol â'r anghenion hyn. Mae hynny'n cynnwys y disgresiwn i ddarparu cludiant i ddysgwyr o dan y trothwyon milltiroedd cyfreithiol i addysg Gymraeg neu ar gyfer dysgwyr ôl-16, a mater i awdurdod lleol yw penderfynu ar eu darpariaeth cludiant disgresiynol. Mae cyllid ar gyfer cludiant i ysgolion yn digwydd drwy'r grant cynnal refeniw, fel y gall awdurdodau lleol flaenoriaethu eu gwariant yn unol ag angen lleol. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y pwysau ariannol a wynebir gan awdurdodau lleol mewn perthynas â chludiant dysgwyr, a dyna un rheswm pam ein bod wedi penderfynu peidio â lleihau'r trothwy milltiroedd yn ein gwaith ar y Mesur teithio gan ddysgwyr.

Rwy'n siŵr eich bod yn falch o wybod bod gwaith bron ar ben bellach ar ddiweddaru'r ddogfen ganllawiau statudol sy'n cyd-fynd â'r Mesur teithio gan ddysgwyr, yn nodi dyletswyddau cyfreithiol ac arfer gorau ar gyfer darparu cludiant i ysgolion. Gwnaed y gwaith hwnnw ar y cyd â'r Gymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth, a bydd yr ymgynghoriad yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda'r bwriad o gyhoeddi'r canllawiau newydd erbyn mis Medi 2025. Bydd hynny'n rhoi digon o amser i awdurdodau lleol ddiweddaru eu polisïau eu hunain i ddod i rym erbyn haf 2026, ac yn amlwg, fe ellir bwydo'r holl faterion a godwyd gennych ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg ac anghydraddoldebau i mewn i'r ymgynghoriad hwnnw.

14:25
Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ62141

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ62181

Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiwn 2 a chwestiwn 8 gael eu grwpio heddiw.

Mae fframwaith statudol anghenion dysgu ychwanegol yn sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddysgwyr ADY, wedi'i seilio ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Bwriad y Cwricwlwm i Gymru yw chwalu'r rhwystrau i bob dysgwr, gan roi mwy o hyblygrwydd i athrawon allu diwallu anghenion unigol pob plentyn yn y ffordd orau.

Wel, diolch am eich ymateb. Fel y gwyddoch, ychwanegodd Llywodraeth Lafur y DU dreth ar werth ychwanegol at ffioedd ysgolion preifat ar 1 Ionawr, heb unrhyw wrthwynebiad y gwyddys amdano gan Lywodraeth Lafur Cymru. Hyd yn oed os yw'r gallu i awdurdodau lleol adennill y TAW hwn ar gyfer disgyblion sydd â chynllun addysg, iechyd a gofal a ariennir gan yr awdurdod lleol yn Lloegr hefyd yn berthnasol i gynlluniau datblygu unigol yng Nghymru, ac efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau hyn—rwy'n gweld eich bod yn nodio eich pen—bydd llawer o rieni disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol heb gynllun datblygu unigol yn cael eu gorfodi i symud eu plant i ysgolion gwladol neu eu haddysgu gartref. Mae llawer o'r disgyblion hyn sy'n awtistig neu â chyflyrau niwroamrywiol eraill wedi cael eu rhoi mewn ysgolion annibynnol oherwydd eu bod angen y cwricwlwm arbenigol, y dosbarthiadau llai, yr ystod amrywiol o ddulliau addysgol, a'r amgylcheddau wedi'u teilwra y mae llawer o ysgolion annibynnol yn eu darparu. Mae'n arbennig o bryderus o ystyried gallu sector y wladwriaeth sydd eisoes dan bwysau i gefnogi myfyrwyr ADY, y tarfu y gellir disgwyl y bydd yn niweidio cynnydd y plant hyn. Gwelais yn bersonol pa mor bwysig yw hyn. Felly, pa gamau sydd gennych ar y gweill, os o gwbl, i ddiogelu'r plant hynny?

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am y cwestiwn atodol? Fel y mae wedi nodi, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad a wnaeth i godi TAW ar ysgolion preifat. Gwnaeth hynny er mwyn creu buddsoddiad yn ein hysgolion yn sector y wladwriaeth. Rwy'n hapus i gadarnhau i'r Aelod y bydd awdurdodau lleol yn gallu adennill TAW ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â chynllun datblygu unigol neu gynllun statudol, ac i ddweud bod arian wedi'i ddiogelu i Lywodraeth Cymru hefyd, i ni adennill TAW i'r dysgwyr ôl-16 yr ydym yn gyfrifol am eu hariannu mewn ysgolion annibynnol.

Rwy'n cydnabod y pwynt a wnewch am ddysgwyr y mae eu teuluoedd wedi dewis mynd â hwy i ysgol breifat am resymau a ddisgrifiwyd gennych. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol ohono ac rydym yn ei fonitro, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, os yw teuluoedd yn poeni, eu bod yn cael trafodaeth gyda'u hawdurdod lleol i weld a allent fod yn gymwys i gael cynllun datblygu unigol. Nid ydym yn poeni'n ormodol ar hyn o bryd am gapasiti yn sector y wladwriaeth yn gyffredinol. Mae gennym fwy na digon o lefydd i ddarparu ar gyfer plant sy'n symud o'r sector preifat i sector y wladwriaeth. Yn amlwg, mae'r system ADY dan bwysau sylweddol yng Nghymru, ac rydym wedi cydnabod hynny gyda chyllid ychwanegol a'r gwaith arall sy'n cael ei ddatblygu gennym i weithredu ein diwygiadau ADY. 

Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ymateb am yr adnoddau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Un o'r pryderon sydd wedi cael eu codi gyda mi yng ngogledd Cymru yw'r amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol. Fe wyddom o dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i'r pwyllgor fod dros 20,000 o blant ar restr aros yng Nghymru ar hyn o bryd; mae'r nifer yn debygol o gynyddu i 61,000 os na chymerir camau i fynd i'r afael â'r her hon.

Rwy'n sylweddoli bod buddsoddiad pellach yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i geisio cael y rhestrau aros i lawr, ond yr amser aros presennol yn y gogledd yw pum mlynedd. Pum mlynedd. Mae hynny'n effaith enfawr ar blentyn os nad ydynt yn cael y gefnogaeth tra byddant yn aros i asesiad gael ei gynnal. Felly, a gaf i ofyn, nid ydych chi'n clustnodi'r arian a roddwch i awdurdodau addysg lleol i'w wario ar ysgolion; nid ydych yn clustnodi'r arian sy'n mynd i awdurdodau addysg ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, ond a yw hynny'n rhywbeth y gallech ei ystyried yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y plant hyn yn elwa ohono?

14:30

Diolch, Darren. Yn amlwg, mae niferoedd y plant a phobl ifanc ar restrau aros niwroddatblygiadol yn peri cryn bryder i ni ar draws y Llywodraeth. Fel rydych wedi'i nodi, cyhoeddwyd arian ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i ganolbwyntio ar yr amseroedd aros hynny, ac roedd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy hefyd wedi cyhoeddi digwyddiad cynllunio, lle buom yn gweithio gyda gweithrediaeth y GIG cyn y Nadolig i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud am yr amseroedd aros hynny ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol. Gan fod y niferoedd mor fawr, credaf fod cydnabyddiaeth na allwn barhau i wneud yr un peth—mae angen ymagwedd wahanol arnom at y sefyllfa honno. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni fod yn glir nad oes angen diagnosis ar blant i gael cymorth gyda'u hanghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol, ac rydym yn dweud hynny'n glir iawn wrth ysgolion. Dylid darparu’r cymorth hwnnw ar sail anghenion plentyn yn y sefyllfa honno, ac rydym yn ailbwysleisio hynny'n gyson i ysgolion. Rydym hefyd yn cymryd camau eraill i uwchsgilio ysgolion yn y ffordd y maent yn cefnogi plant niwroamrywiol. Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer athrawon a staff ysgol, sy'n canolbwyntio ar niwroamrywiaeth, iechyd meddwl a datblygiad plant, i uwchsgilio'r gweithlu.

Fe nodoch chi nad yw'r cyllid wedi'i glustnodi. Cafwyd cynnydd sylweddol iawn o £253 miliwn ychwanegol i'r grant cynnal refeniw. Roedd y llythyr a anfonwyd at awdurdodau lleol yn nodi'n glir fod hynny i gydnabod y pwysau yr oeddent wedi tynnu sylw ato mewn perthynas ag addysg, ADY, yn ogystal â gofal cymdeithasol. Ond mae rhywfaint o’r arian sy’n mynd i’r sector ar ADY wedi’i glustnodi ar gyfer ADY mewn gwirionedd. Darperir cyllid ychwanegol drwy'r grant addysg awdurdodau lleol—mae hwnnw'n swm sylweddol eleni, a gallaf ysgrifennu atoch gyda'r manylion llawn, os byddai hynny o ddefnydd. Bydd yr arian hwnnw’n cael ei glustnodi ar gyfer awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r pwysau yn y system ADY. Mae'n golygu y bydd swm sylweddol—oddeutu £35 miliwn, os cofiaf yn iawn—yn mynd tuag at fynd i'r afael â'r pwysau hwnnw. Mae'n gydbwysedd, onid yw? Mae angen i awdurdodau lleol allu ariannu pethau y maent yn cydnabod eu bod yn flaenoriaethau yn lleol, ac maent oll, yn ddieithriad, wedi mynegi pryderon wrthyf am y pwysau ym maes anghenion dysgu ychwanegol. Ond mae angen inni sicrhau hefyd fod y cyllid yn mynd tuag at wneud gwaith strategol gydag awdurdodau lleol, i fynd i'r afael â'r pwysau yn y system.

Ysgrifennydd y Cabinet, cysylltodd etholwr â mi cyn y Nadolig, ac ymddengys ei bod wedi brwydro’n ddiflino dros y blynyddoedd i sicrhau bod ei merch yn cael yr addysg a’r cymorth sydd eu hangen arni. Mae ganddi anghenion dysgu ychwanegol. Mae hi bellach yn 19, ac yn awyddus i ddysgu sgiliau a fydd yn ei helpu i sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol. Wrth edrych ar opsiynau amrywiol, ni allodd fy etholwr ddod o hyd i unrhyw ddata canlyniadau ym mesurau perfformiad y cyrsiau yr oeddent yn edrych arnynt—gwybodaeth sylfaenol a hanfodol, megis y gyfradd gyflogaeth, am dâl a di-dâl, ymhlith dysgwyr sydd wedi dilyn y cyrsiau hynny. Fel y gwyddoch, mae hyn mor bwysig, gan fod pobl yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, ac roedd fy etholwr yn awyddus i sicrhau y bydd y cwrs o werth a chymorth ymarferol gwirioneddol i’w merch. Felly, sut y byddwch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda’r Gweinidog addysg bellach, ac eraill, yn sicrhau bod darpariaeth ADY yn cynnig gwerth da am arian a’r canlyniadau gorau i ddysgwyr? Diolch yn fawr.

Diolch, Rhys. Fel y gwyddoch, mae ein system ADY yn system o ddim hyd 25 oed, ac mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 i gynnig darpariaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16; mae yna broses y mae teuluoedd yn mynd drwyddi gyda Gyrfa Cymru. Ar y data canlyniadau y cyfeiriwch ato, hoffwn gydnabod ei bod yn wirioneddol bwysig fod teuluoedd yn gwneud dewisiadau ar sail y wybodaeth orau. Byddaf yn sicr yn ystyried y pwynt hwnnw ac yn ei drafod gyda Gyrfa Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar.

14:35

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod wrth fy modd yn ymgymryd â'r rôl newydd hon? Rwy'n gwybod nad ydym yn mynd i gytuno bob tro, ond rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn gael perthynas adeiladol wrth symud ymlaen.

Nid yw'n gyfrinach i ni, nac i unrhyw un y tu allan i'r Siambr hon, fod y sector addysg o dan bwysau aruthrol, ac nad yw ein plant bob amser yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu. Yn anffodus, mae'n drist, ond yn wir, fod hyn oherwydd degawdau o gamreoli gan Lafur. Yn wir, cadarnhaodd adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid nad oedd canlyniadau addysgol is yn deillio o dlodi, cymysgedd ethnig amrywiol o ddisgyblion, nac yn wir o dueddiadau ystadegol neu wahaniaethau mewn adnoddau; yn ôl yr adroddiad hwn, maent yn fwy tebygol o adlewyrchu gwahaniaeth mewn polisi a dull gweithredu—yn gryno, Llywodraethau Llafur olynol yma yng Nghaerdydd.

Mae'n syfrdanol i mi, ar ôl ymgymryd â'r rôl hon, fod 20 y cant o ddisgyblion yn gadael yr ysgol yn weithredol anllythrennog. A'r rheswm am y ffigur brawychus hwnnw yw bod disgyblion yn cael eu haddysgu i ddarllen drwy'r dull defnyddio ciwiau—dull a wrthbrofwyd, ac a waharddwyd yn Lloegr dros ddegawd yn ôl. Mae'n amlwg fod yn rhaid gwahardd y dull hen ffasiwn hwn yma yng Nghymru, ond yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn dilyn y trywydd hwnnw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi egluro i mi pam fod Llywodraeth Cymru yn teimlo mai'r dull hynod ddiffygiol hwn yw'r ffordd orau ymlaen yma?

A gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiynau a’i chroesawu i’w phortffolio newydd a dymuno’n dda iddi gydag ef? Fel hithau, rwy'n gobeithio y gallwn barhau i ymgysylltu'n adeiladol. Mae pob un ohonom am i’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru gael y gorau.

Fe gyfeirioch chi at adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, y cawsom gryn drafod arno yn y Siambr hon, ac rwy'n ystyried bod adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn bwysig. Nid yw hynny'n golygu fy mod yn cytuno â phopeth ynddo. Yn sicr, ni chredaf ei fod yn beio gwahaniaethau gwleidyddol; roedd yn tynnu sylw at ddulliau polisi gwahanol. Un o’r pethau y tynnodd sylw ato oedd pryderon am y Cwricwlwm i Gymru, pan nad yw’r dysgwyr yr oedd yr adroddiad yn sôn amdanynt, a gafodd brofion y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, wedi bod drwy’r Cwricwlwm i Gymru mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu bod yr adroddiad yn anffaeledig, ond rwyf bob amser yn awyddus i edrych ar ymchwil. Rydym am i’n polisi fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae Luke Sibieta, a ysgrifennodd yr adroddiad, yn aelod o fy ngrŵp cynghori arbenigol.

Rwyf wedi dweud yn glir iawn ers dod i'r swydd mai gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol yw fy mhrif flaenoriaeth, ac mae hynny’n golygu ffocws llwyr ar lythrennedd a rhifedd. Mae'n rhaid imi ddweud bod yr adroddiad y cyfeiriodd ato, sy'n sôn am anllythrennedd gweithredol, yn fwy na 12 oed bellach, ac nid ydym yn ei ddisgrifio yn y termau hynny; nid yw Estyn yn defnyddio’r termau hynny ychwaith. Rwyf wedi nodi ystod lawn o fesurau i gynyddu lefelau llythrennedd a rhifedd, a ategwyd gan gyllid ychwanegol sylweddol. Rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth y sector hefyd fod hyn yn flaenoriaeth i ni. Ac rydym wedi egluro'r disgwyliadau i ysgolion ynghylch addysgu ffoneg.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith eich bod wedi dweud ei fod yn fater pwysig i chi; mae'n fater pwysig i minnau hefyd, ac mae'n un y bu fy rhagflaenydd Tom Giffard yn eich herio yn ei gylch yn aml yn y Siambr hon. Yn wir, canfuwyd bod defnyddio ciwiau yn niweidio gallu llawer o blant ifanc i ddarllen. Efallai fod y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys addysgu ffoneg yn systematig, ond mae hefyd yn mandadu strategaethau ciwiau ochr yn ochr â hynny. Mewn ymateb i ddadl fis Hydref diwethaf, fe ddywedoch chi y byddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi newidiadau i ganllawiau ar y cwricwlwm sy’n egluro’r diffiniadau a’r disgwyliadau ynghylch ffoneg a defnyddio ciwiau ym mis Ionawr. Rydym yn agosáu at ddiwedd mis Ionawr, Ysgrifennydd y Cabinet, felly pryd y bydd y canllawiau’n cael eu cyhoeddi?

Rydym yn gwneud y gwaith hwn fesul cam: rydym wedi egluro disgwyliadau i ysgolion ein bod yn disgwyl i bob ysgol addysgu ffoneg; rydym yn rhoi trefniadau dysgu proffesiynol gwell ar waith i gynorthwyo ysgolion i addysgu llythrennedd a rhifedd; ac mae gennym raglen gymorth genedlaethol yr ydym yn ei datblygu i gefnogi addysgu llythrennedd a rhifedd. Rydym hefyd yn adolygu ein fframwaith llythrennedd a rhifedd, a bydd hwnnw'n cael ei roi ar sylfaen statudol. Rydym yn gobeithio y bydd yn destun ymgynghoriad llawn yn y gwanwyn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwerthfawrogi'r amserlen yr ydych newydd ei rhannu gyda ni. Heb os, mae effeithiau anllythrennedd yn enfawr a dwys, gydag astudiaethau’n dangos bod pobl nad ydynt yn gallu darllen yn fwy tebygol o fynd i’r carchar, o ddioddef problemau iechyd meddwl, a hyd yn oed o farw’n iau. Ers gwahardd y dull defnyddio ciwiau yn Lloegr, mae sgoriau profion darllen wedi codi, gan fynd â hwy bron i frig y tabl rhyngwladol. Y peth iawn, yn fy marn i, Ysgrifennydd y Cabinet, fyddai cael gwared ar y dull hwn yn llwyr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fy nghwestiwn olaf: yn hytrach na bwrw ymlaen â’r dull hwn, sy’n amharu ar ddyfodol ein plant ym mhob cwr o Gymru, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i gael gwared ar y dull defnyddio ciwiau?

14:40

Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi diddymu'r defnydd o giwiau yn gyfan gwbl yn Lloegr, a dweud y gwir. Os gallwch fy nghyfeirio at ble y maent wedi gwahardd defnyddio ciwiau—. Rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod yn disgwyl i addysgu ffoneg fod yn rhan allweddol o addysgu llythrennedd yng Nghymru. Mae athrawon yn weithwyr proffesiynol, ac mae Estyn wedi dweud bod angen dull cytbwys o addysgu darllen. Mae Estyn hefyd wedi dweud yn glir eu bod yn gweld gwaith da ar draws ysgolion yng Nghymru ar addysgu darllen yn y blynyddoedd cynharach. Yn y blynyddoedd olaf y daw’n fwy o bryder i Estyn, a’r cyfnodau pontio. A dyna pam ein bod yn canolbwyntio'r cyllid ar hynny.

Rydym hefyd wedi sefydlu panel arbenigol llythrennedd—nid wyf yn siŵr a ydym wedi cyhoeddi’r manylion am hynny eto, ond os nad ydym, rwy’n fwy na pharod i roi’r manylion i chi—sy’n banel cytbwys iawn. Ond rydym wedi bod yn glir iawn, ac a dweud y gwir, mae'n siomedig braidd ein bod yn mynd yn ôl i gecru dros ffoneg, gan fy mod wedi dweud yn glir iawn pa mor bwysig yw ffoneg, a chredaf fod y sector yn glir ar hynny, ac mae pob un ohonom yn bwrw ymlaen â'r gwaith, a bydd hynny'n cael ei gadarnhau mewn fframwaith llythrennedd a rhifedd statudol.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu bwriad y Llywodraeth i ddechrau gweithio ar gynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod y Prif Weinidog wedi dweud ychydig ddyddiau cyn hynny nad oedd am weld mwy o strategaethau ffansi. Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn glir wrth y Prif Weinidog bryd hynny fod angen strategaethau i fynd i’r afael â’r llu o broblemau sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd, yn enwedig ym maes addysg.

Rwy'n croesawu ei hymrwymiad i ddatblygu strategaeth, oherwydd, fel y gŵyr pob un ohonom, mae’r proffesiwn addysgu'n wynebu argyfwng recriwtio a chadw staff—argyfwng nad yw wedi ymddangos yn sydyn dros nos, ond sydd wedi’i waethygu gan fethiant Lafur yng Nghymru i gyrraedd eu targedau recriwtio eu hunain ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n cytuno bod datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf yn gyfaddefiad o fethiant ar ran Llywodraeth Cymru, a’ch bod wedi methu mynd i’r afael â recriwtio a chadw niferoedd digonol o staff yn y proffesiwn addysgu yng Nghymru?

Diolch, Cefin. Ni fyddwch yn synnu nad wyf yn cytuno â chi mai cyfaddefiad o fethiant oedd y datganiad. Roedd y datganiad deillio o fy ystyriaethau ers dod i'r swydd ar yr ystod o broblemau y bûm yn ymdopi â hwy mewn perthynas â'r gweithlu.

Ein gweithlu yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr ar gyfer diwallu anghenion ein plant a’n pobl ifanc, ac rwyf wedi fy synnu'n fawr ers dechrau yn y swydd gan yr ystod o broblemau rwy'n ymdrin â hwy sy’n ymwneud â'r gweithlu—rydym yn sôn am lesiant, lleihau llwyth gwaith. Rydym am wella’r sefyllfa i staff cymorth yng Nghymru, ac wrth gwrs, rydym am fynd i’r afael â phroblemau'n ymwneud â recriwtio a chadw athrawon. Ac nid ydym ar ein pen ein hunain yn wynebu heriau yn hyn o beth. Mae ein recriwtio ar lefel yr ysgol gynradd yn iach iawn; mae'n fwy o her ar lefel yr ysgol uwchradd. Ac mae honno'n her mewn gwledydd eraill hefyd.

Roedd y cynllun a gyhoeddais ar gyfer y gweithlu yn ymgais i ddod â’r holl faterion hynny ynghyd, fel y gallwn weithio arnynt fel cyfanwaith cydlynol gyda’r sector. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau cychwynnol gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef y cyflogwyr mewn llawer o achosion, ond hefyd, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chymheiriaid yn yr undebau llafur i gyflawni’r cynllun gweithlu hwn, sydd yn ei ddyddiau cynnar.

Wrth gwrs, rydym wedi bod yn ymwybodol o rai o'r materion a amlinellwyd gennych ers blynyddoedd lawer. Ond rwy'n dal i groesawu'r ffaith bod gennych gynllun, gan ei fod yn fater difrifol sy'n effeithio ar y ffordd rydym yn recriwtio ac yn cadw athrawon.

Mae’n amlwg bod y datganiad yn llawer rhy hwyr i nifer o athrawon sydd wedi gadael y sector erbyn hyn. Ond roedd y datganiad yn denau iawn, iawn o ran manylion ac nid oedd unrhyw gyfeiriad, er mawr siom i fi—dim paragraff, dim brawddeg, dim un gair hyd yn oed—yn sôn am greu gweithlu dwyieithog. Nawr, allwn ni ddim cymryd unrhyw gynllun gweithlu o ddifri yng Nghymru oni bai ei fod yn amlinellu’n glir sut mae Llywodraeth Cymru’n mynd ati i gynyddu nifer yr athrawon sydd yn medru dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o wir, wrth gwrs, wrth i Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) fynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd. Felly, fel mae pethau’n sefyll, mae’r Llywodraeth yn dweud nad oes unrhyw angen am gynllun gweithlu dwyieithog statudol a fyddai’n gorfodi camau gweithredu cadarn a chlir yn y maes hwn. Beth rydyn ni’n cael ei gynnig yw cynllun anstatudol, ac mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud bod hyn yn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion, ond mae hefyd yn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion y dyfodol—a dyma’r perygl—i rwyfo’n ôl, i roi’r gorau i gynlluniau i greu gweithlu dwyieithog. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i fi, Ysgrifennydd Cabinet, o’ch ymrwymiad i greu gweithlu addysg dwyieithog, wrth ystyried y ffaith nad oeddech chi wedi sôn amdano fe yn eich datganiad?

14:45

Diolch, Cefin. Rwy’n hapus iawn i roi sicrwydd i chi fy mod yn ymrwymedig iawn i greu gweithlu dwyieithog. Mae’n ddyddiau cynnar ar y cynllun gweithlu newydd. Gallaf roi sicrwydd i chi y bydd y Gymraeg yn rhan allweddol ohono, yn union fel roedd yn rhan allweddol o’r cynllun iechyd meddwl strategol pan oeddwn yn fy mhortffolio blaenorol. Ni chredaf fod angen iddo fod yn gynllun statudol. Rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â gweithredu a phob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni. Yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gallu cynllunio'r gweithlu i gyflawni'r uchelgeisiau yn y ddeddfwriaeth newydd, ond credaf hefyd fod yn rhaid inni gydnabod bod gan bobl sy'n addysgu Cymraeg neu'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yr un problemau ynghylch llesiant, llwyth gwaith a phroblemau eraill y mae’n rhaid inni fynd i'r afael â hwy mewn ffordd gyfannol. Felly, mae fy ymrwymiad yn glir ei fod yno i gyflawni ar gyfer ein gweithlu cyfan, i ddiwallu anghenion holl blant a phobl ifanc Cymru.

Diolch. Fy ofn yw, os nad yw'n statudol, y gallai pwy bynnag a allai fod yn eich rôl yn y dyfodol ei ddadwneud.

Ar recriwtio, un ffordd o sicrhau cynnydd yn nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â lleihau’r prinder athrawon mewn meysydd pynciau â blaenoriaeth, yw drwy gynlluniau cymhelliant hyfforddi athrawon. Er bod gan Lywodraeth Cymru wahanol gynlluniau cymhelliant i gefnogi recriwtio i’r proffesiwn, mater arall yw effeithiolrwydd y cynlluniau hyn, yn enwedig pan fo Llywodraeth Cymru yn methu casglu hyd yn oed y data mwyaf sylfaenol i’w helpu yn hyn o beth, rhywbeth a godais gyda chi sawl gwaith yn y gorffennol. Dyna pam, wrth ddarllen eich papur tystiolaeth i sesiwn graffu'r pwyllgor addysg ar y gyllideb yr wythnos diwethaf, fy mod yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi gwrando ar alwad Plaid Cymru am ailfeddwl yn y maes hwn. Dywedai'r papur tystiolaeth:

'Cynhelir gwerthusiad o'r polisi i gefnogi AGA yng Nghymru yn 2025 a chyhoeddir adroddiad arno yn 2026; bydd hyn yn cynnwys ymchwil i effeithiolrwydd darparu cymhellion.'

Felly, hoffwn ichi ddweud wrthyf pwy fydd yn cynnal yr adolygiad ar hyn? A fydd y cylch gorchwyl yn cael ei gyhoeddi? Ac a fydd yr adolygiad gorffenedig yn cael ei gyhoeddi'n llawn cyn diwedd tymor y Senedd hon?

Diolch, Cefin. Fel rydych chi wedi'i nodi, mae gennym ystod eang o gymhellion a gynlluniwyd i fynd i'r afael â phrinder athrawon mewn pynciau allweddol, ac rydym yn buddsoddi swm sylweddol o arian yn y rheini. I rai athrawon, gallai hynny olygu cymhelliant o £15,000 yr un. Rwyf wedi cydnabod bod angen inni wneud mwy mewn perthynas â’r data. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod angen rhywfaint o amser ar y cymhellion hyn i weithio eu ffordd drwy'r system. Felly, os edrychwch ar y cymhellion i athrawon lleiafrifol ethnig, nid ydym wedi cael digon o bobl eto yn mynd drwy'r system honno i farnu ei heffeithiolrwydd yn iawn.

Diolch am groesawu'r adolygiad. Nid wyf yn gwybod a yw’r contract wedi'i osod ar ei gyfer, ond rwy’n fwy na pharod i ymrwymo i gyhoeddi rhagor o fanylion am yr adolygiad. Rydym bob amser yn cyhoeddi’r gwerthusiadau a wnawn fel Llywodraeth, felly rwy'n disgwyl i hynny ddigwydd fel mater o drefn.

14:50

Diolch, Llywydd. Dwi'n datgan budd cyn gofyn fy nghwestiwn, Llywydd, sef bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe ac yn aelod o undeb UCU.

Prifysgolion Cymru

3. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi prifysgolion Cymru ac yn eu diogelu i'r dyfodol? OQ62156

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ffioedd dysgu y flwyddyn nesaf, gan ddarparu hyd at £21.9 miliwn mewn incwm ychwanegol i brifysgolion. Rydym hefyd wedi darparu £10 miliwn ychwanegol i’r sector, gan ddod â chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Diolch. Mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi ysgrifennu at bob un ohonom sy’n cynrychioli ardaloedd gyda phrifysgolion ynddynt, yn ein hannog i godi’r argyfwng ariannu ym mhrifysgolion Cymru. Roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud mai’r gweithlu addysg yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr. Wel, mae'r gweithlu addysg uwch yn wynebu amodau difrifol o ganlyniad i ailstrwythuro, diswyddo gwirfoddol, rhewi cyflogau a'r risg wirioneddol o ddiswyddo gorfodol, sydd oll, wrth gwrs, yn effeithio ar ein myfyrwyr. Er bod y cynnydd ychwanegol o £10 miliwn yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn i’w groesawu, nid yw ond wedi gwrthdroi toriadau i’r gyllideb wreiddiol, ac ni fydd y cynnydd yn y ffioedd a grybwyllwyd gennych yn ddigon i wneud iawn am y costau uwch sy’n wynebu ein prifysgolion, megis cyfraniadau yswiriant gwladol o ganlyniad i gyllideb yr hydref Llywodraeth y DU, y toriadau i ffioedd blwyddyn sylfaen yn sgil y cap a gyflwynwyd ar gyfer myfyrwyr o Loegr, yn ogystal â’r ffaith bod arafwch y cyhoeddiad ar ffioedd gan Lywodraeth Cymru yn dod yn hwyr yn y cylch recriwtio yn golygu bod prifysgolion yn gorfod mynd i'r afael â goblygiadau cyfraith defnyddwyr—rhai myfyrwyr yn talu £9,000, eraill yn talu £9,250 yn y flwyddyn academaidd hon—ac nid ydych wedi gosod y rheoliadau perthnasol yn y Senedd o hyd. Nid yw Medr wedi cyhoeddi canllawiau ffurfiol i brifysgolion eto. Felly, heb unrhyw gynnydd gwirioneddol i addysg uwch yn y gyllideb ddrafft eleni, beth yw eich cynllun i gefnogi a diogelu’r cyfraniad hanfodol y mae ein prifysgolion yn ei wneud i’n cymunedau, ein cymdeithas a’n heconomi?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Wel, diolch am eich cwestiwn atodol, Sioned. Fe ddechreuaf drwy ddweud, drwy gynyddu’r terfynau ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig yng Nghymru 3.1 y cant ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-26, i fyny o £9,250 i £9,535 y myfyriwr, byddwn yn galluogi prifysgolion i gynhyrchu hyd at £21.9 miliwn mewn incwm ychwanegol. Ac wrth gwrs, mae hyn yn dilyn y cynnydd mewn ffioedd a gytunwyd gan y Gweinidog addysg blaenorol ar gyfer 2024-25, a chyda'i gilydd, mae hyn wedi galluogi prifysgolion i gynnal eu hincwm ffioedd dysgu mewn termau real, sef mwy na hanner eu hincwm. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y pwysau ariannol sydd ar ein sefydliadau addysg uwch yma yng Nghymru a ledled y DU, ac rwy’n parhau i gyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr prifysgolion a cholegau i ddeall y pwysau y maent yn ei wynebu. Mae prifysgolion yn mynd drwy gyfnod sylweddol o ailaddasu poenus yn dilyn y gostyngiad sydyn diweddar mewn cofrestriadau myfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol. Mae rhai'n cynnal ailarchwiliad sylfaenol o’u modelau busnes sefydliadol ac yn ceisio mwy o effeithlonrwydd a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhwng sefydliadau, ac wrth gwrs, ni fydd y mathau hynny o benderfyniadau byth yn hawdd. Ond o ran rôl Llywodraeth Cymru, mae'n wirioneddol bwysig datgan bod cyllid addysg uwch yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â chenhedloedd eraill y DU. Yn ôl ymchwil London Economics, a gyhoeddwyd yn 2024, roedd cyllid addysg uwch net fesul myfyriwr amser llawn yng Nghymru yn 2023-24 18 y cant yn uwch nag yn yr Alban, 22 y cant yn uwch nag yng Ngogledd Iwerddon, a disgwyliwn y bydd ein cyllid ar lefel debyg i Loegr gan fod ffioedd dysgu yr un fath bellach yng Nghymru a Lloegr yn 2024-25, ac eto yn 2025-26.

Hoffwn bwysleisio hefyd fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr y sector, ac nid is-gangellorion prifysgolion yn unig, ond cynrychiolwyr undebau llafur hefyd, ac rwy’n awyddus i barhau â’r ddeialog honno ac i weithio yn unol ag egwyddorion partneriaeth gymdeithasol i gefnogi staff prifysgolion, myfyrwyr a phawb sy’n gweithio yn y sector addysg uwch yn y cyfnod anodd hwn.

14:55

Mae’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cap ar ffioedd dysgu prifysgolion Cymru ar gyfer graddau israddedig amser llawn yn codi pryderon sylweddol am gynaliadwyedd addysg uwch yng Nghymru. Er bod y Llywodraeth yn honni y bydd y cynnydd yn helpu i sicrhau bod prifysgolion yn parhau i fod yn hyfyw a chystadleuol, mae'n dangos y pwysau ariannol cynyddol sydd ar ein sefydliadau gwych. Daeth yr heriau hyn yn amlwg iawn ddoe pan ymunais ag Adam Price ac ymgyrchwyr eraill ar risiau’r Senedd i gefnogi campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Ac efallai y byddwch chi'n meddwl pam. Fe ddywedaf wrthych. Mae gennyf nifer o etholwyr yn Aberconwy sydd wedi graddio o’r sefydliad gwych hwn. Nawr, byddai’r cynllun arfaethedig i gael gwared ar hyd at 30 o gyrsiau, gan roi diwedd ar addysgu israddedig, nid yn unig yn difetha’r campws hanesyddol hwn, ond yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i economi leol Llanbedr Pont Steffan a gorllewin Cymru, ac yn amddifadu'r bobl sydd am fynd yno. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cydbwyso cynnydd mewn ffioedd â chadw mynediad rhanbarthol at addysg uwch a chefnogi'r campysau hyn sy'n ei chael hi'n anodd ond sydd hefyd yn wych, fel Llanbedr Pont Steffan, yng nghefn gwlad Cymru? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn atodol, Janet, ac wrth gwrs, rwy’n ymwybodol o’r pryderon a godwyd gan fyfyrwyr ym mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan ynghylch y perygl y bydd y campws yno'n cau, campws sy'n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n gampws unigryw iawn am ei fod mor fach ac agos atoch. Dim ond 92 o fyfyrwyr israddedig amser llawn sydd yno, sy’n golygu ei fod yn llai nag ysgol gynradd gyffredin yng Nghymru. Ac wrth gwrs, byddai'r math o fyfyrwyr a fyddai'n dewis y math hwnnw o amgylchedd o'r farn ei fod yn wahanol iawn i sefydliadau eraill. Felly, rwy’n deall eu pryderon. Ond gan fod prifysgolion yng Nghymru yn sefydliadau ymreolaethol, ni fyddai'n briodol i Weinidogion Cymru ymyrryd yn eu materion academaidd, boed hynny'n ddarpariaeth cyrsiau, lleoliad campws, neu'r ddau. Ond wrth gwrs, rwy'n cydnabod, fel y dywedais, y gallai'r cynnig gael effaith ar fyfyrwyr a staff, ac rwy'n annog y rhai yr effeithir arnynt i godi eu pryderon yn uniongyrchol gyda'r brifysgol ei hun. Sylwaf hefyd mai bwriad y cynnig yw diogelu astudiaethau'r dyniaethau yn y brifysgol drwy alluogi’r adrannau dyniaethau i gael eu cydleoli â disgyblaethau eraill, a chynnig profiad mwy bywiog i fyfyrwyr drwy wneud hynny. Y nod, yn bendant, yw adfywio astudiaethau'r dyniaethau yn y brifysgol honno.

I gloi, ac i ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Sioned yn ei chwestiwn gwreiddiol, rwy’n cydnabod y pwysau ariannol sydd ar ein sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ac rwyf i a fy swyddogion yn bwriadu parhau i ymgysylltu’n rheolaidd ac yn adeiladol gydag arweinwyr sector ar hyn.

Cadw a Recriwtio Athrawon

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau cadw a recriwtio athrawon? OQ62162

Ar 13 Ionawr, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi fy mwriad i weithio gyda’r sector i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg i fynd i’r afael ag ystod eang o faterion a gwella lefelau recriwtio a chadw staff yn y gweithlu addysg.

Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae niferoedd athrawon yng Nghymru yn dal i ostwng. Yn 2019, roedd gennym fwy na 31,300 o athrawon, ac eto, erbyn 2024, roedd gennym 29,988. Fodd bynnag, mae gennym 35,865 o athrawon cymwysedig yng Nghymru, sy'n golygu bod 5,877 o athrawon cymwysedig nad ydynt yn addysgu yn ein hysgolion. Yn ogystal â chwyddo niferoedd athrawon, mae'n amlwg fod angen gwneud mwy i gadw athrawon. Gwn fod fy nghyd-Aelod Cefin Campbell wedi codi hyn yn gynharach. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hawydd am gynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg yr wythnos diwethaf, ac mae'n rhaid imi ddweud, roeddwn braidd yn siomedig na ddaethpwyd ag ef i’r Siambr, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n gobeithio y gallwch wneud hynny yn y dyfodol. Ac rwy'n teimlo bod hyn, yn anffodus, yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr o ran cadw athrawon, ac mae'n hollbwysig ein bod ni oll yn mynd i'r afael â sut i ymdrin â hyn, wrth symud ymlaen. Yn anffodus, nid oeddwn yn teimlo bod gennym unrhyw beth pendant ar waith, fel cynllun, fel strategaeth, ac yn eich datganiad ysgrifenedig, fe wnaethoch gyfaddef mai newydd ddechrau y mae'r trafodaethau. Nawr, bydd llwyth gwaith athrawon sydd eisoes o dan bwysau yn parhau i bentyrru, ac Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n pryderu y gallai hwn ddod yn un o'r ymarferion gwrando hynny y clywsom amdanynt gan lawer o Weinidogion yn y gorffennol, ond mae'n bryd gweithredu nawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddech chi'n ddigon caredig i roi amserlen fanwl i mi yn eich ymatebion blaenorol i mi—

15:00

Fe wnaf hynny nawr. Felly, hoffwn wybod pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â recriwtio a chadw athrawon yn y cyfamser, oherwydd heb gynllun manwl, effeithiol, dylanwadol, rwy'n ofni'n fuan iawn na fydd unrhyw un yn gwybod beth yn union y maent yn ei wneud mewn perthynas â'r bom amser hwn yn ein system addysg. Felly, hoffwn linell amser fanwl, os gwelwch yn dda.

Diolch, Natasha. Ac rwyf am fod yn glir, fel rwy'n gobeithio imi fod gyda Cefin, nad yw hwn yn gwestiwn o wneud gwaith newydd yn unig. Mae'n ymwneud ag edrych ar yr hyn a wnawn yn barod, ac rydym yn gwneud llawer iawn o waith ar recriwtio a chadw athrawon. Soniais wrth Cefin am ein cynlluniau cymhelliant ar gyfer pynciau â phrinder. Os ydynt yn cyflawni pob un o'r meysydd categori, gall athrawon gael £15,000 yr un i hyfforddi yng Nghymru. Mae gennym gymhellion ar gyfer y pynciau â blaenoriaeth, i gydnabod lle mae gennym heriau ac yn amlwg y cymhellion ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i bobl o gymunedau lleiafrifol ethnig.

Hefyd, mae gennym amrywiaeth o weithgareddau eraill yr ydym yn eu gwneud, sy'n ymwneud â mwy na hyrwyddo addysgu fel gyrfa drwy TeachWales. Rydym yn ariannu gwefan addysgwyr.cymru Cyngor y Gweithlu Addysg hefyd. Ac mae gennym gynlluniau fel y cynllun pontio. Mae'r rheini i athrawon sydd wedi bod i ffwrdd o'r proffesiwn, fel rhai o'r rhai rydych chi newydd gyfeirio atynt efallai, i ddychwelyd at addysgu yn Gymraeg. Mae gennym gyfleoedd i athrawon cynradd groesi i'r sector uwchradd, ac i athrawon o'r sector cyfrwng Saesneg groesi i'r sector cyfrwng Cymraeg. Ond rwy'n meddwl ei bod yn bwysig—. O, a dylwn grybwyll hefyd fod gennym lwybrau addysgu seiliedig ar gyflogaeth nawr, TAR cyflogedig, sy'n cael eu darparu gan y Brifysgol Agored. Felly, mae'r rheini'n galluogi pobl i weithio mewn ysgolion ar yr un pryd ag ennill eu cymhwyster addysgu.

Ond rwy'n credu bod y rhesymau dros heriau gyda recriwtio a chadw yn gymhleth iawn, ac mae hefyd yn ymwneud â materion llwyth gwaith, ac rydym wedi gwneud llawer o waith ar leihau llwyth gwaith, y gwneuthum ddatganiad arno yn flaenorol. Mae'n ymwneud â llesiant, ac rydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i ddull ysgol gyfan, nid yn unig i'n plant, ond i'n gweithlu hefyd. Ond mater arall sydd wedi bod yn amlwg iawn yn ystod y misoedd diwethaf yw mater ymddygiad a sut y mae hynny'n effeithio ar bobl sy'n gweithio yn y proffesiwn, ac yn wir, rwyf wedi siarad ag athrawon sydd wedi bod yn poeni ynglŷn ag aros yn y proffesiwn oherwydd straen yr ymddygiad y maent yn ymdopi ag ef. Felly, unwaith eto, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur. Mae gennym uwchgynhadledd ar ymddygiad yn dod yn y gwanwyn, yn ogystal ag ymchwil ar ymddygiad, adolygiad Estyn ar ymddygiad, ac rydym yn cyhoeddi pecyn cymorth ar ymddygiad. Felly, nid wyf am roi'r argraff ynghylch cynllun y gweithlu mai peth 'dechrau o'r dechrau' yw hwn. Mae'n ymwneud â dod â'r hyn a wnawn at ei gilydd a cheisio gwneud hynny mewn ffordd fwy cydgysylltiedig er mwyn inni allu gweld beth sy'n digwydd ar draws y system.

Presenoldeb yn yr Ysgol

5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella presenoldeb yn yr ysgol? OQ62177

Mae gwella presenoldeb yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Er ein bod wedi gweld gwelliannau, mae dod â chyfraddau presenoldeb yn ôl i lefelau cyn y pandemig yn dasg uchelgeisiol. I gefnogi hyn, rwyf wedi cyhoeddi £8.8 miliwn, ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf, i gynyddu capasiti ar draws y rhwydwaith cymorth addysgol, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella ymgysylltiad a phresenoldeb.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cyngor Sir Fynwy yn dweud bod presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn ardal Severnside yn Nwyrain Casnewydd bron yn ôl i lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn cynnwys ysgolion Parc y Castell, Durand, y Ffin, Rogerstone, Magwyr a Gwndy, ac mae pob un ohonynt yn bleser i ymweld â hi, gyda'u hamgylchedd croesawgar a meithringar i ddisgyblion a'u teuluoedd. Mae'r awdurdod addysg lleol yn pwysleisio y dylai ysgolion fynd ar drywydd absenoldeb ar y diwrnod cyntaf os nad yw'r rhiant yn cysylltu â'r ysgol yn gynnar iawn i esbonio; nodi'n gynnar unrhyw leihad mewn presenoldeb, ynghyd â pherthynas gadarnhaol gyda'r gwasanaeth lles addysg, yn enwedig mewn achosion mwy cymhleth; a chysylltiadau cadarnhaol rhwng rhieni, athrawon a'r ysgol gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a gwobrau am bresenoldeb da. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr ysgolion, eu staff a'r awdurdod lleol ar eu hymdrech a'u gwaith i wella presenoldeb?

15:05

Wel, a gaf i ddiolch i John Griffiths am y cwestiwn atodol a dweud fy mod i'n falch iawn o longyfarch a chanmol yr awdurdod lleol a'r holl ysgolion dan sylw? Mae'n braf iawn clywed am y cynnydd a wnânt. Ac rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddangos yw sut y mae angen i chi gael y dull gronynnog hwnnw o fynd i'r afael â materion presenoldeb, ac rydym yn gwneud cynnydd. Mae'n mynd i gymryd amser. Ond mae'n hanfodol, felly, ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gwneud yr hyn a allwn i rannu arferion da rhwng awdurdodau lleol. Ac roedd yn ddiddorol eich clywed yn nodi rôl y swyddogion lles addysg. Mae cryn dipyn o'r cyllid newydd a gyhoeddais—£1.5 miliwn eleni a £3 miliwn y flwyddyn nesaf—ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, a'u rôl hwy yw gweithio gyda rhai o'r teuluoedd sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal plant a phobl ifanc rhag dod i'r ysgol. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhan allweddol o'n rhaglen ysgolion bro hefyd, ac rwy'n gwybod eich bod yn frwdfrydig iawn ynglŷn â honno. Ac rydym hefyd wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion bro, oherwydd fel y nodwch, mae'r berthynas rhwng yr ysgol a'r teulu yn gwbl hanfodol. Felly, mae'r ysgol yn rhan allweddol o'r gymuned honno ac mae'n ymwneud â phawb yn gweithio gyda'i gilydd. 

Rhaglenni Prentisiaeth Iau

6. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau ar gyfer rhaglenni prentisiaeth iau? OQ62173

Mae cyllideb ddrafft 2025-26 yn cynnwys cynnydd o £200,000 yn y gyllideb ar gyfer prentisiaethau iau. Bydd y cynnydd o 50 y cant yn sicrhau bod y ddarpariaeth bresennol yn cael ei hariannu'n llawn ac yn cefnogi twf pellach yn y flwyddyn academaidd nesaf, fel y gall mwy o ddysgwyr elwa o'r rhaglen lwyddiannus hon.

Diolch yn fawr ichi am yr ateb. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n ffodus iawn i ymweld â Choleg Caerdydd a'r Fro i glywed mwy am y rhaglen prentisiaethau iau arloesol y maen nhw'n ei chynnig i bobl ifanc 14-16 oed, gyda'r bwriad o gynyddu nifer y bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Roeddwn i'n hynod o falch i weld bod y cyfraddau llwyddiant yn uchel iawn, gyda'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ennill cymwysterau galwedigaethol a TGAU, a'r mwyafrif wedyn yn symud ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth.

Yn ddiddorol iawn, mae ymchwil yn dangos y gallai rhaglenni fel rhain arbed rhyw £0.75 miliwn y pen dros yr hirdymor, wrth ystyried buddion cymdeithasol ac economaidd ymyrraeth gynnar fel hyn. Fodd bynnag, mae yna rwystrau i atal ehangu'r cynllun, fel rŷch chi'n gwybod, yn arbennig costau ariannol a chostau trafnidiaeth. Ac yn anffodus, nid yw pob coleg ledled Cymru yn cael cynnal rhaglenni tebyg i hyn. Felly, y cwestiwn yw: a ydych chi'n disgwyl i gyllid digonol—rŷch chi wedi cyfeirio'n rhannol at hyn yn barod—fod ar gael yn y dyfodol, nid yn unig i gynyddu'r ddarpariaeth yn y colegau lle mae e'n bodoli'n barod, ond i'w ymestyn e i'r colegau lle nad yw'r ddarpariaeth ar gael ar hyn o bryd?

Diolch, Cefin. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cael cyfle i weld beth y maent yn ei wneud yng Nghaerdydd a'r Fro. Rwyf wedi bod yno, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Vikki Howells wedi bod, ac mae'n gwbl ysbrydoledig. Ac mae lefel uchel o drylwyredd yn ogystal â'r cymwysterau galwedigaethol y maent yn eu cael, gyda'r TGAU. Ac fe wnaethoch chi grybwyll yr arian y mae cynlluniau fel hyn yn ei arbed. Nid wyf yn credu bod modd ei fesur gan mor fawr ydyw. Os meddyliwch beth yw'r risgiau sy'n deillio o bobl ifanc yn dod yn NEET, mae'n fuddsoddiad mor dda.

Rydych chi wedi tynnu sylw at y ffaith bod yna rwystrau, ac yn amlwg rydym wedi sicrhau bod yr arian ar gael, ond mae'n ymwneud â mwy nag arian yn unig. Fel y gwyddoch, dim ond rhai colegau sy'n cynnig hyn ar hyn o bryd. Mae yna raniad daearyddol gan nad yw ar gael yng ngogledd Cymru, felly rydym yn mynd i weithio gyda Medr a'n colegau a'n hysgolion i sicrhau ei fod yn gynnig cyson ar draws Cymru. Ac yn amlwg, byddaf yn parhau i adolygu'r cyllid wrth inni wneud hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny, fel ei fod yn rhywbeth sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru. Ac rwy'n ymwybodol hefyd nad yw ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, ac rwyf am weld hynny'n cael sylw.

15:10
Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy? OQ62155

Mae'r rhaglen gyfalaf cymunedau dysgu cynaliadwy wedi buddsoddi dros £2 biliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ers 2014. Yn ogystal â hyn, cymeradwyais gynlluniau amlinellol strategol yn ddiweddar ar gyfer £3.5 biliwn arall o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i'r ystad addysg yng Nghymru o dan raglen dreigl naw mlynedd y rhaglen.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch i'r rhaglen hon, sy'n gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, buddsoddwyd miliynau o bunnoedd i wella ysgolion presennol ac adeiladau newydd ar draws fy etholaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn deall bod adeiladau ysgol yn chwarae rhan allweddol mewn safonau addysgol, yn amgylchedd dysgu'r disgyblion, ond hefyd i'r athrawon sy'n darparu addysg o'u mewn. Ac i'r disgyblion, mae'n codi'r disgwyliad eu bod yn haeddu lle da, ac felly'n gyfranogwyr teilwng yn yr amgylchedd addysgol hwnnw. Felly, fel y dywedoch chi, mae'n swm o dros £3 biliwn mewn adeiladau ysgolion a cholegau yng Nghymru ers 2014; mae'n fuddsoddiad enfawr gan y Llywodraeth hon.

Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod y cyhoeddiad diweddar yr ydych chi newydd ei amlinellu ynglŷn â chyllid ychwanegol yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella adeiladau ysgolion yng Nghymru hyd yn oed ymhellach?

Diolch, Joyce. Ac mae'n £2 biliwn ers 2014 a £3.5 biliwn arall yr ydym yn ei wneud o dan raglen dreigl naw mlynedd y rhaglen. Ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod wedi nodi bod hyn yn dangos y bartneriaeth gadarnhaol iawn gyda llywodraeth leol. Mae hynny'n gwbl hanfodol i'w gydnabod, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi: mae cael adeiladau o'r safon uchaf yn gwbl hanfodol ac mae'n anfon neges at blant a phobl ifanc eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ond mae hefyd yn helpu gyda'r math o faterion sy'n ymwneud â recriwtio a chadw staff y buom yn siarad amdanynt, ac rwy'n credu mai hoff ran fy swydd yw pan fyddaf yn cael mynd i weld yr adeiladau hyn a siarad â'r dysgwyr a'r staff sy'n eu mwynhau. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi: rwy'n falch iawn o'r ymrwymiad a wnaethom fel Llywodraeth i sicrhau bod ein haddysg yn cael ei darparu mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf.

3. Cwestiynau Amserol
Y Cadoediad yn Gaza

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r ymgyrch ddyngarol mewn ymateb i'r cadoediad yn Gaza? TQ1285

Member (w)
Jane Hutt 15:14:14
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr. Cyn y Nadolig roeddem yn falch o roi £100,000 i apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys ar gyfer y dwyrain canol. Yn gynharach heddiw cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 pellach. 

A gaf fi ddechrau, Ddirprwy Lywydd, drwy groesawu datganiad ysgrifenedig y Llywodraeth heddiw y bydd cyfraniad ariannol pellach o £100,000 i ymgyrch ddyngarol DEC yn y dwyrain canol, yn dod â’r cyfanswm ers Hydref y llynedd i £200,000? Mae’r Pwyllgor Argyfyngau Brys, DEC, yn dod â 15 o elusennau at ei gilydd er mwyn gwneud gwaith amhrisiadwy o dan amgylchiadau heriol. Ac ar ran Plaid Cymru, mi hoffwn i dalu teyrnged i’w gwaith diflino nhw.

Mae'r cadoediad yn Gaza, er ei bod yn hen bryd iddo ddigwydd, yn cynnig gobaith ar ôl y dyddiau tywyllaf. Ni ddylai'r ymateb dyngarol gan y gymuned ryngwladol ailadrodd diffyg gweithredu Llywodraethau ledled y byd ers ymosodiadau brawychus ac erchyll Hamas ar 7 Hydref. Do, fe gondemniodd y gymuned ryngwladol y gweithredoedd terfysgol hynny, yn gywir ddigon, ac fe'i brawychwyd ganddynt, ond pe bai'r gymuned ryngwladol wedi sefyll yn gadarnach yn erbyn gweithredoedd anfoesol ac anghyfreithlon Llywodraeth Israel, byddai llai o fywydau Palesteinaidd wedi cael eu colli, ac ni fyddai maint y dinistr wedi bod ar y raddfa a welsom. Gyda dros 30,000 o bobl wedi cael anafiadau sy'n newid eu bywydau, prinder gwasanaethau adsefydlu, mwy a mwy o glefydau heintus yn cael eu trosglwyddo, camfaethiad a'r risg o newyn yn gwaethygu'r argyfwng, mae angen ymateb dyngarol digynsail arnom, gyda phawb sy'n gallu gwneud hynny yn chwarae eu rhan. Mae ailagor coridorau cymorth a gaewyd yn anghyfreithlon gan Lywodraeth Israel yn y lle cyntaf yn caniatáu rhywfaint o ryddhad o leiaf i Balesteiniaid, sydd wedi dioddef cymaint eisoes.

Mae gan Gymru draddodiad balch o eiriol dros heddwch a chefnogi ymdrechion cymorth mewn gwledydd a ddinistriwyd gan ryfel. Rydym wedi gwneud hynny gyda chefnogaeth sylweddol i Wcráin yn dilyn goresgyniad Rwsia. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio cymorth ariannol pellach a pharhaus i'r ymdrechion ailadeiladu yn unol â'i hymrwymiadau i wledydd mewn rhyfeloedd eraill yn ddiweddar?

Yn ail, a gaf fi bwysleisio wrth Ysgrifennydd y Cabinet yr angen i gefnogi teuluoedd Cymreig yr effeithiwyd arnynt yn y rhanbarth, ac a gaf i ofyn iddi siarad am allu'r Llywodraeth i gydlynu arbenigedd Cymreig a all gyfrannu at ailadeiladu seilwaith hanfodol Gaza yn y tymor hir, gan gynnwys y sectorau tai, gofal iechyd ac addysg? A gaf i ofyn iddi ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ystyried sut y mae ei gweithredoedd mewn perthynas ag arddel safbwyntiau gwleidyddol, eiriolaeth ryngwladol, cyllid cymorth, gwerthu arfau ac ati yn gweithredu er budd heddwch a chyfiawnder? Yn anad dim, a wnaiff hi ymrwymo Llywodraeth Cymru i gynyddu ei heiriolaeth ar y llwyfan rhyngwladol am heddwch cyfiawn a pharhaol i bobl Israel a Phalesteina?

15:15

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Diolch am groesawu'r datganiad heddiw, a chroesawu'r rhodd a wnaethom heddiw, yn dilyn y rhodd o £100,000 ym mis Hydref. Hefyd, mae eich cwestiwn y prynhawn yma yn rhoi cyfle inni gydnabod faint o arian sydd wedi'i godi. Hyd yn hyn, mae apêl ddyngarol y Pwyllgor Argyfyngau Brys wedi codi mwy na £2.4 miliwn yng Nghymru a £39 miliwn yn y DU. Rwy'n credu bod hyn yn fynegiant o gefnogaeth pobl Cymru, sy'n cyfrannu at yr apêl honno.

Fel y dywedwch, rhydd hyn gyfle inni ddiolch i'r elusennau, diolch i elusennau'r Pwyllgor Argyfyngau Brys, sydd wedi cefnogi pobl mewn cymaint o ffyrdd, ac yn enwedig nawr wrth inni ganolbwyntio ar yr apêl hon. I roi rhai enghreifftiau i chi, mae Oxfam a'u partneriaid lleol yn darparu cymorth ariannol i deuluoedd yn ardaloedd Deir al Balah a Khan Yunis yn Gaza i ymdopi â phrisiau cynyddol mewn marchnadoedd lleol. Mae'r Groes Goch Brydeinig a'u partneriaid yn darparu gofal meddygol hanfodol i'r nifer sy'n sâl ac wedi'u hanafu yn Gaza, yn ogystal â darparu meddyginiaeth fawr ei hangen hefyd. Mae'n bwysig fod elusennau y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn obeithiol y bydd y cadoediad yn Gaza yn rhoi cyfle hollbwysig iddynt hwy a'u partneriaid lleol gynyddu eu gwaith, yn darparu bwyd, lloches, dŵr a gofal meddygol sydd ei angen ar frys. Dyma pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfraniad pellach i gefnogi'r gwaith hanfodol hwn a pham ein bod yn ymateb. Ar eich pwynt olaf, lle gallwn, byddwn yn ymateb i helpu'r cymorth dyngarol hwn, yn Gaza yn yr achos hwn.

Ond hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod cytundeb y cadoediad yn helpu elusennau'r Pwyllgor Argyfyngau Brys i gynyddu'r cymorth y maent yn ei ddarparu yn Gaza, a rhywfaint o ryddhad wedi'r heriau a'r risgiau enfawr y maent wedi'u hwynebu bob dydd yn eu gwaith. Ac rydych chi wedi cydnabod y risgiau y mae'r gweithwyr cymorth hynny'n eu hwynebu a'r bywydau a gollwyd, fel y clywsom yn ogystal. Felly, llwybrau mynediad newydd, cyfleoedd i ddefnyddio'r llwybrau presennol yn ehangach, gan ganiatáu iddynt gynyddu faint o gymorth brys sy'n cael ei ddarparu i bobl Gaza, y mae llawer ohonynt wedi dioddef gaeaf annirnadwy o galed, ar ôl mwy na blwyddyn o wrthdaro dinistriol.

Ac wrth gwrs, lle gallwn, rydym yn parhau gyda'r eiriolaeth ar lefel ryngwladol, gan edrych hefyd, gan ichi ofyn y cwestiwn, ar y rhai yr effeithiwyd arnynt yma yng Nghymru—teuluoedd yn y rhanbarth yn ymuno â'r gymuned ryngwladol—ac wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys gobeithio bod yr holl wystlon, gan gynnwys rhai'r teulu sy'n byw yma yng Nghymru, yn cael eu rhyddhau'n gyflym a heb niwed, ond gan ymgysylltu â Llywodraeth y DU, sy'n arwain polisi tramor ar y materion hyn.

15:20

Drefnydd, rwy'n ddiolchgar iawn am eich datganiad y bore yma yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor Argyfyngau Brys, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn yn fawr. Rydym i gyd wedi arswydo wrth weld yr argyfwng dyngarol cynyddol sydd wedi datblygu yn Gaza yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n gwbl hanfodol fod y gymuned ryngwladol gyfan yn gwneud popeth yn ei gallu i ddarparu cymorth dyngarol effeithiol i'r rhai mewn angen.

Dywedai eich datganiad y bore yma wrthym fod tua 1.8 miliwn o bobl yn Gaza yn wynebu prinder bwyd, wrth i gyflenwadau fynd yn fwyfwy prin. Ac rydym hefyd yn gwybod bod angen triniaeth a gofal meddygol acíwt ar lawer o bobl. Felly, rwy'n rhannu gobaith Llywodraeth Cymru y bydd y cadoediad yn rhoi cyfle i elusennau'r Pwyllgor Argyfyngau Brys wneud mwy i ddarparu cyflenwadau a gofal hanfodol, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y cynnydd a wnaed ar ddarparu'r cymorth hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn unedig yn y Siambr hon wrth alw am heddwch; rydym i gyd eisiau gweld diwedd parhaol i'r gwrthdaro yn Gaza, a chredaf mai datrysiad dwy wladwriaeth yw'r ffordd orau o sefydlu heddwch parhaol yn yr ardal. Felly, yn fy marn i, rhaid i'r gymuned ryngwladol wneud llawer mwy i ymgysylltu ag arweinwyr Israelaidd a Phalesteinaidd a sicrhau bod trafodaethau rhwng y ddwy ochr yn parhau i ddigwydd yn y dyfodol.

Felly, Drefnydd, i ddilyn cwestiynau'r Aelod dros Ynys Môn, a allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am y gwaith sy'n cael ei wneud gyda phartneriaid ac asiantaethau ledled Cymru i ddarparu cymorth dyngarol yn Gaza? Ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r sefyllfa hon a'r cymorth y gall ei ddarparu i elusennau sy'n gwneud y gwaith pwysig hwn?

Diolch yn fawr, Paul Davies. A diolch, unwaith eto, am gydnabod ein bod ni'n unedig yn y Siambr heddiw yn ein hymateb ac wrth ymateb i'r cwestiwn, a'r cwestiynau yr ydych chi hefyd yn eu codi ar ran y bobl a gynrychiolir gennym yng Nghymru.

Mae'n bwysig fod yn rhaid inni weld ymdrech gyfunol gan y gymuned ryngwladol i fynd â chyflenwadau i mewn i Gaza, a'r gymuned ryngwladol—rydym yn rhan fach o'r gymuned ryngwladol honno. Mae angen inni ddarparu'r cymorth dyngarol, sydd ei angen mor daer. Hefyd, rydym yn ymwybodol iawn o weithwyr iechyd a dyngarol proffesiynol o Gymru sydd wedi teithio i'r dwyrain canol i weithio mewn amgylchiadau heriol iawn. Ac rydym yn parhau i ystyried pa gefnogaeth a chydgysylltiad y gallwn ei gynnig, ac rydym am i'r cadoediad barhau ac i'r gwaith o ailadeiladu Gaza ddechrau. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw gefnogaeth o'r fath, gyda'n hymwneud ni, yn cael ei chydlynu'n briodol â'r ymdrech ryngwladol.

Mae'n dda iawn clywed prif chwip y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ein bod ni eisiau datrysiad dwy wladwriaeth, ac mae'n dda ein bod ni i gyd yn cytuno ar hynny. Yn amlwg, mae hon yn sefyllfa fregus iawn, ac mae'r gweithredu milwrol diweddaraf gan fyddin Israel yn Jenin yn bryderus iawn o ran yr effaith y gallai hynny ei chael drwy annog eraill i wneud rhywbeth sy'n amharu ar y cadoediad bregus sydd gennym ar hyn o bryd.

Roeddwn i'n falch iawn o glywed Dr Clare Frost ar y BBC ddydd Sul. Meddyg teulu yw hi o Aberteifi sydd wedi bod yn gweithio yng nghanolbarth Gaza ers mis Medi, gan weld hyd at 400 o gleifion y dydd, a chael bwledi'n saethu heibio i'r ysbyty a phob math o gymhlethdodau enfawr eraill; efallai fod un ohonynt wedi ei leddfu nawr wrth inni weld offer yn cael mynd i mewn i Gaza, oherwydd soniodd am y diffyg offer sylfaenol i drin plant â heintiau anadlol a heintiau'r croen. Ond roedd hi hefyd yn siarad yn glir iawn am nifer y plant sy'n dioddef o gamfaethiad a phlant wedi'u trawmateiddio—mae'r niferoedd yn mynd i fod yn enfawr.

Nawr, fel y dywedoch chi, mae gan GIG Cymru hanes balch o roi caniatâd i weithwyr fod yn absennol i'w galluogi i fynychu ardaloedd argyfwng. Roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai'r Llywodraeth, yn eich ystyriaethau pellach, yn ystyried rhodd i UK-Med, sy'n noddi Clare Frost yn Gaza, oherwydd byddant yn gwybod yn union beth sydd ei angen mewn mannau penodol ac mae'n osgoi llinellau cyfathrebu mwy cymhleth wrth ymdrin ag un sefydliad sy'n ymdrin yn benodol â phroblemau meddygol. Felly, gallem ystyried rhoi arian neu offer, oherwydd, yn amlwg, mae'r galwadau'n enfawr, ond roeddwn i eisiau ychwanegu hynny a rhoi sylw cyhoeddus i'w gwaith hi a gwaith meddygon eraill sy'n gweithio yn yr amodau hyn.

15:25

Diolch, Jenny Rathbone, a diolch am dynnu sylw at waith dewr Dr Clare Frost, meddyg o Geredigion. Rydym yn ei chymeradwyo hi, a llu o bobl eraill sydd wedi mynd, fel y soniais—gweithwyr iechyd a dyngarol proffesiynol o Gymru sydd wedi teithio—i'r dwyrain canol ac i Gaza yn benodol, a rôl Clare Frost, a thynnu sylw, fel y gwnaeth hi, at yr anghenion yno. Nawr, rwyf am ddweud—. Ac anghenion y plant, ac wrth gwrs, plant sy'n sâl ac wedi'u hanafu yw'r rhain. Ond hefyd mae'n rhaid inni gydnabod yr anghenion nad ydynt yn anghenion iechyd yn unig; fe roddaf un enghraifft i chi: nod Concern Worldwide a phartneriaid lleol yw mynd ag oddeutu 5,000 litr o ddŵr glân bob deuddydd i mewn i Gaza, a dosbarthu cyflenwadau hylendid ac adeiladu cyfleusterau glanweithdra. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud eisoes, a'r ailadeiladu nawr, gan y sefydliadau hyn—ac fe dynnoch chi sylw at y sefydliad sy'n cefnogi Dr Clare Frost—mae angen inni edrych ar bob ffordd y gallwn gefnogi, fel y gwnaethom yng Nghymru. Wrth inni siarad, mae help yn cael ei ddarparu yn Wcráin—cymorth parhaus—ac mewn nwyddau, trwy gyfleusterau, trwy offer, a heddiw, yn bwysig, trwy'r gronfa, y grant, yr ydym wedi'i roi i'r Pwyllgor Argyfyngau Brys, DEC Cymru. Ond gadewch inni glywed mwy am y cymorth a'r cymorth dyngarol hwnnw, a'r hyn sydd ei angen wrth inni gefnogi'r broses heddwch wirioneddol fregus, ond eithriadol bwysig hon.

Yn dilyn y galwadau a wneuthum ar y Llywodraeth ddoe i gynyddu ei chefnogaeth i'r ymdrechion dyngarol aruthrol sydd eu hangen i ailadeiladu cartrefi, ysbytai, busnesau, cymunedau a bywydau, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod £100,000 pellach yn cael ei gyfrannu yn enw pobl Cymru i apêl y dwyrain canol y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Hoffwn dynnu eich sylw at y gwahaniaeth, serch hynny, a'r neges y mae hynny'n ei hanfon. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £4 miliwn at apêl ddyngarol y Pwyllgor Argyfyngau Brys ar gyfer pobl Wcráin ym mis Mawrth 2022. Pan ystyriwn faint y dinistr yn Gaza, credaf y dylem fod yn ymwybodol o'r neges y gallai hynny ei hanfon.

Mae prif weithredwr Oxfam, Halima Begum, wedi datgan yn ei hymateb i gam cyntaf y cadoediad hwn sydd newydd ddechrau fod dros 2 filiwn o bobl yn Gaza

'wedi cael eu hamddifadu'n systematig o hanfodion i allu byw, gyda bwyd a dŵr yn cael eu defnyddio fel arfau rhyfel, ysgolion, ysbytai a chymunedau cyfan yn cael eu dymchwel yn llwyr a chyflenwadau cymorth yn cael eu dal yn ôl yn gyson.'

Rhaid inni gofio nad trychineb naturiol a achosodd y dioddefaint dyngarol hwn, ond yn hytrach y modd y gwnaeth Israel ddiystyru cyfraith ryngwladol a chonfensiynau hawliau dynol, a'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi parhau i werthu arfau i Lywodraeth Israel. Felly, a wnewch chi alw nawr ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i wneud hynny? Sut ydych chi'n gwneud yn siŵr fod Cymru wedi sicrhau ei bod yn cymryd pob cam posibl, o fewn ei chymhwysedd, i sicrhau nad yw'n cyfrannu at droseddau rhyfel posibl, drwy gysylltiadau, partneriaethau neu gyllid uniongyrchol neu anuniongyrchol? Nododd gwleidyddion a chadlywyddion milwrol Israelaidd yn agored na ddylai pobl Gaza gael unrhyw ddyfodol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ychwanegu llais Cymru at leisiau Llywodraethau is-wladwriaethol eraill trwy alw am ddwyn Llywodraeth Israel i gyfrif am droseddau rhyfel? Rhaid inni wneud hyn os ydym am i bobl Gaza gael y dyfodol y maent yn ei haeddu.

15:30

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar hyn yn ei gyd-destun ehangaf o ran sut y mae'r sefyllfa hon wedi codi a ble rydym am symud iddo fel ateb, fel ein bod yn newid yr hyn a fu’n rhyfel nid yn unig yn gadoediad, ond yn ateb i sicrhau dyfodol gwell i bobl Israel a Phalesteina, yn seiliedig—fel y dywedais ddoe, mewn ymateb i gwestiynau—ar ateb dwy wladwriaeth, sy'n gwarantu diogelwch a sefydlogrwydd i Israel, ochr yn ochr â gwladwriaeth Balesteinaidd sofran a hyfyw.

Y DU a’i chynghreiriaid a fydd yn arwain yr ymdrechion hollbwysig hyn i dorri’r cylch o drais a sicrhau heddwch hirdymor yn y dwyrain canol. A chredaf fod yn rhaid inni wneud yr hyn a allwn gyda'n pwerau, ein lleisiau, ac mae'r lleisiau'n cael eu clywed heddiw—a bydd eich llais chi'n cael ei glywed heddiw, wrth gwrs—ar y sefyllfa, a beth y byddem yn gobeithio amdano, a beth fydd yn digwydd yn awr ar y llwyfan rhyngwladol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod y cadoediad bellach ar waith yn Gaza, ac yn Libanus hefyd yn wir—nid ydym wedi sôn am hynny. Mae Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru yn cefnogi angen yn Libanus yn ogystal â Gaza. Mae angen inni sicrhau bod ein cyfraniad ni heddiw, ac ym mis Hydref, yn golygu y gall elusennau y Pwyllgor Argyfyngau Brys wneud mwy i gyrraedd pobl, gyda bwyd, lloches a chymorth meddygol. Oherwydd mae miliynau o bobl mewn angen dybryd, ac mae angen y cymorth hwnnw, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod y cymorth hwnnw’n cael ei roi, a’n bod yn ymateb yn y ffyrdd a nodais wrth ateb y cwestiynau heddiw. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. A diolch i Aelodau eraill, o bob rhan o'r Siambr, am eu cyfraniadau hefyd.

Mae maint y dioddefaint yn Gaza yn annirnadwy, onid yw? Degau o filoedd o bobl wedi'u lladd, gan gynnwys cymaint o fenywod a phlant, nifer o gyrff eto i'w darganfod o dan y rwbel, a chymaint wedi'u hanafu, gan gynnwys nifer echrydus o blant, yn cael eu coesau neu eu breichiau wedi'u torri i ffwrdd, a llawer ohonynt heb anesthetig yn sgil dinistrio cyfleusterau a gwasanaethau meddygol. A gwasanaethau cyhoeddus eraill, wrth gwrs, a chymaint o eiddo wedi’i ddinistrio, a’r cyfyngiadau ar gymorth dyngarol a hanfodion sylfaenol bywyd. Mae'n amlwg yn mynd i gymryd ymdrech anferthol i liniaru'r dioddefaint hwnnw, a bydd yn rhaid i lawer iawn o wledydd ddod ynghyd a chyfrannu. Mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i'r apêl a drafodwyd gennym gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn cydnabod y rhoddion, fel rydych chi wedi'i wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, gan bobl Cymru, wrth iddynt ddangos eu pryder a’u hymrwymiad i wneud rhywbeth am y sefyllfa hon. Mae'n gadoediad bregus iawn, fel y gwyddom, ac mae unrhyw eiriolaeth i gynnal ac adeiladu ar y cadoediad hwnnw'n bwysig tu hwnt, ac rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Llywodraeth y DU, yn awyddus i wneud hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i chi ddweud mwy ynglŷn â sut y gallai Llywodraeth Cymru strwythuro a hwyluso'r ffordd i weithwyr proffesiynol yng Nghymru fod yn rhan o'r ymdrech, yr ymdrech anferthol, i liniaru'r dioddefaint yn Gaza, a hefyd yn fwy cyffredinol, i ddarparu nwyddau a gwasanaethau? Byddai’n dda i Lywodraeth Cymru feddwl, yn gyffredinol, sut y gall greu rhyw fath o fframwaith a strwythur ar gyfer yr ymdrech honno, y credaf y bydd llawer yng Nghymru yn dymuno ei gwneud. Ac rydym eisoes wedi clywed enghreifftiau gan Jenny Rathbone o weithwyr meddygol proffesiynol, er enghraifft, sy'n rhan o'r ymdrech honno. Ond rwy'n credu y gallai fod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig iawn, gan weithio gydag asiantaethau, yn darparu strwythur a fframwaith i hynny wrth inni symud ymlaen.

15:35

Diolch yn fawr, John Griffiths. Diolch am ychwanegu eich llais at y datganiad hwn heddiw ac at eich cwestiynau. Fe fyddwch yn ymwybodol o Bwyllgor Argyfyngau Brys Cymru a'r elusennau a'r prif sefydliadau. Rydym yn codi arian iddynt wneud y gwaith hwnnw—y rhai sydd ar y rheng flaen, sydd yno eisoes, sy'n gwybod bod cymaint mwy y gellir ei wneud. Rydym wedi sôn am Oxfam, y Groes Goch Brydeinig, Concern Worldwide, ActionAid—partner ActionAid yn Gaza sy'n darparu llysiau ffres i bobl; cyflenwad cyfyngedig iawn sydd yn Gaza gyda 1.8 miliwn o bobl yn wynebu prinder bwyd—yr Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor, Gofal, Cymorth Cristnogol, Plan International, Achub y Plant, Tearfund, World Vision, Islamic Relief, y Pwyllgor Achub Rhyngwladol; mae yna 15 o sefydliadau'n aelodau o'r Pwyllgor Argyfyngau Brys.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ymrwymo i gyfarfod â'r Pwyllgor Argyfyngau Brys ar ran y Senedd, i ofyn mwy ynglŷn â sut y gallwn gynorthwyo a helpu. Cyllid yw'r hyn sydd ei angen arnynt. Gwn eu bod bob amser yn dweud hynny. Bob tro y byddwn wedi gwneud rhodd, maent wedi dweud, 'Mae arnom eisiau arian. Mae angen arian arnom, gan ein bod yn gwybod sut y caiff ei wario.' Ond mae ffyrdd y gallwn edrych ar gymorth mewn ffyrdd eraill, a byddwn yn edrych ar hynny ymhellach.

Felly, rwy'n credu bod rhaid inni droi at yr aelod-elusennau hynny a’u partneriaid lleol, yn gweithio ar lawr gwlad, am y cyngor a’r arweiniad hwnnw, a meddwl amdanynt wrth iddynt ddarparu cymorth dros y gaeaf, gan gynnwys dillad gwely cynnes, dŵr yfed glân, a chyflenwadau hylendid, a sut y maent yn helpu i ailadeiladu Gaza ar ôl blwyddyn o wrthdaro dinistriol. Diolch yn fawr.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Dim ond un sydd heddiw hefyd, a bydd hwn gan Elin Jones.

Yn ddiweddar bu farw Geraint Jenkins. Crwt o Benparcau a ddaeth yn academydd o fri ac athro prifysgol. Hanes Cymru oedd ei bwnc ac mi oedd yn ddarlithydd hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth o 1968 tan 1993, a’n bennaeth adran yno hefyd. Ac yna mi fu'n gyfarwyddwr ar Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru tan 2008.

Ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr am hanes Cymru. Un o’i fyfyrwyr cynnar oedd y Brenin presennol, ac mi oedd dysgu aelod o’r teulu brenhinol yn brofiad go sobor i weriniaethwr o reddf. Ond roedd hanes ddim jest yn perthyn o fewn muriau prifysgol i Geraint Jenkins, ac mi oedd ei waith yn golygu 24 o gyfrolau o ysgrifau Cof Cenedl yn gyfuniad arbennig o’r poblogaidd gyda'r ysgolheictod awdurdodol.

Wrth ymdrin â hanes ein gwlad, mi oedd yn arloesol ac amrywiol. Iddo fe, er pwysiced hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol Cymru, mi oedd hanes pêl-droed yn bwysig hefyd, a’i gariad at y gêm ac at y Swans wedi arwain, wrth gwrs, at y gyfrol Proud to be a Swan, yn adrodd canrif o hanes y clwb pwysig yna.

Mi oedd ei gyfraniad i ddyrchafu meysydd eraill yn ein hanes hefyd yn amlwg, yn enwedig yr astudiaeth ac adnabyddiaeth o'n celf weledol, ac i hyrwyddo cydnabyddiaeth o gyfraniad cyfoethog Iolo Morgannwg i'n diwylliant. Ac er ei waith cenedlaethol, mi oedd ei wreiddiau yn para yn bwysig wrth ysgrifennu a thrafod hanes Ceredigion, wrth ei waith yn siop gymunedol Blaenplwyf a’i ymddiddori yn hanes caer Pendinas ym Mhenparcau.

Gwladgarwr oedd Geraint Jenkins a gyfrannodd i'w wlad drwy ein harfogi i'w deall yn ddyfnach er mwyn llywio ei dyfodol yn well. Diolch iddo.

5. Dadl: 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 5 yw'r ddadl ar 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8756 Mabon ap Gwynfor, Sam Rowlands, Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) agenda 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru;

b) bod 120 aelod o staff yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y newidiadau a gynigir gan 'Achos dros Newid'; ac

c) y bydd y gwasanaethau a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu lleihau.

2. Yn gresynu:

a) penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i gymeradwyo'r cynigion 'Achos dros Newid'; a

b) y penderfyniad i gau gweithrediadau arlwyo a manwerthu yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas.

3. Yn credu y bydd cau'r rhain yn cael effaith andwyol ar economi'r canolbarth.

4. Yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgysylltu'n rhagweithiol â chymunedau a sefydliadau i gyflymu’r broses er mwyn osgoi cau'r canolfannau dros dro.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch ar y dechrau i'r Pwyllgor Busnes am roi'r amser i drafod y mater yma heddiw? A hefyd, gaf i ddymuno 'pen-blwydd hapus' i'r Dirprwy Brif Weinidog?

Mae’r cynnig o’n blaenau ni heddiw yn un eithaf syml yn ei hanfod. Y cyfan mae’r cynnig yma yn galw amdano ydy i Gyfoeth Naturiol Cymru ymgysylltu’n rhagweithiol gyda chymunedau a sefydliadau lleol er mwyn cyflymu’r broses o sicrhau parhad y canolfannau yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas, ac osgoi niwed parhaol i enw da y canolfannau hynny, a fyddai’n anochel o ddigwydd pe byddent yn cau, a hefyd y niwed a ddaw i economi canolbarth Cymru yn sgil hynny.

Tua 13 mlynedd yn ôl, fe argymhellodd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn galluogi cymunedau i gael y cynnig cyntaf wrth i asedau cymunedol ddod ar y farchnad. Mae’n naw mlynedd ers i’r Blaid Lafur addo i ddeddfu i alluogi hawl prynu cymunedol. Wn i ddim wir pam fod y Blaid Gydweithredol yn parhau i glymu ei hun i’r Blaid Lafur, oherwydd mae hyd yn oed y Ceidwadwyr yn Lloegr wedi rhoi mwy o gamau mewn lle i rymuso cymunedau na Llafur Cymru. Ac mae’n dair blynedd ers i mi gyd-gyflwyno cynnig i greu hawl perchnogaeth gymunedol, ond mae’r Llywodraeth yn parhau i lusgo’u traed, a’r gwir ydy y bydd angen i Lywodraeth Plaid Cymru wireddu hyn yn dilyn yr etholiad nesaf oherwydd dyw Llafur yn amlwg ddim am wneud. Pe byddai gennym ni ddeddf mewn lle yma yng Nghymru heddiw oedd yn grymuso cymunedau ac yn rhoi’r hawl iddyn nhw i berchen neu redeg adnodd cyhoeddus lleol, yna byddem ni ddim yn gorfod cael y drafodaeth yma heddiw.

Yn hytrach na gweld yr adnoddau yma fel asedau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac, ymddengys y Llywodraeth, yn eu gweld fel nhw fel liabilities, heb ddim gwerth, gan ddiystyru’n llwyr bwysigrwydd y canolfannau ymwelwyr yma i greu cyrchfannau atyniadol, a’u pwysigrwydd i’r busnesau a chymunedau sydd wedi tyfu yn eu sgil nhw. Maen nhw, wedi’r cyfan, yn rhan o’n cyfoeth cenedlaethol a chymunedol ni yma.

Er mwyn cyfiawnhau cau y canolfannau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r Llywodraeth felly, yn dewis cuddio y tu ôl i feirniadu bwgan Ceidwadol, gan feio llymder am y penderfyniad a gwadu unrhyw gyfrifoldeb am eu methiannau nhw i weinyddu’r llefydd yn iawn. Ond does a wnelo llymder ddim byd o gwbl efo’r cynnig sydd o’n blaen ni yma heddiw. Gall y Llywodraeth fytheirio am lymder hyd ddydd y farn, ond diversion ydy hynny mewn gwirionedd, ac mae’n osgoi pwynt canolog y ddadl heddiw.

Tra bod sefydliadau lleol wedi datgan eu hawydd i redeg canolfannau ymwelwyr Coed y Brenin a Nant yr Arian—ac, wrth gwrs, mae yna ddigon o allu yn lleol i redeg canolfan Ynyslas hefyd—mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cuddio y tu ôl i reolau tendro a chystadleuaeth, gan ddangos diffyg crebwyll, diffyg hyblygrwydd, ac, yn wir, diffyg awydd i ganfod datrysiad. Mae’r cyfan, mewn gwirionedd, yn atgoffa rhywun o ryw fudiad cymorth, ac wrth fod rhywun yn cerdded trwy’r drws i ofyn am gymorth, mae’r swyddog yn dweud, 'Yr ateb ydy "na". Rŵan, beth ydy’r cwestiwn?' Dyna mae’n ymddangos ydy agwedd Cyfoeth Naturiol Cymru yma.

Mae yna reswm pam fod trigolion lleol mor frwd i gymryd rheolaeth dros y canolfannau yma, sef oherwydd eu bod nhw’n gweld eu gwerth nhw. Ac ymhellach i hynny, maen nhw’n gweld y ffordd mae’r canolfannau wedi cael eu rhedeg i lawr dros y blynyddoedd. Ystyriwch Coed y Brenin. Mae Coed y Brenin yn em. Pan agorwyd y ganolfan, fe’i hadnabuwyd yn syth fel canolfan beicio mynydd gorau Ewrop—yn wir, un o’r goreuon yn y byd. Fe dderbyniodd adroddiadau disglair, gyda phobl yn dod o bell ac agos i drio’r traciau, i loncian, neu, yn syml, i fynd am dro yno. A phwy all eu beio nhw? Oherwydd nid yn unig ei fod yn lle gwych ar gyfer y gweithgareddau awyr agored yma, ond mae e hefyd yn lle cwbl odidog. Fe ddatblygodd frand cryf, a Choed y Brenin oedd y porth i alluogi’r sector i dyfu yn y Deyrnas Gyfunol ac yn Ewrop. Ond dros amser, ac ers i’r Llywodraeth gael gwared ar y cyrff amgylcheddol, ac uno’r cyfan o dan Gyfoeth Naturiol Cymru, fe welwyd llai a llai o fuddsoddiad yn y llwybrau, a dim uchelgais i adnewyddu a chreu o’r newydd.

A heddiw, wrth fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych i gau canolfannau ymwelwyr Coed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas oherwydd problemau ariannol, mae ymwelwyr yn parhau i deithio yno am ddim, gyda’r barier parcio ddim yn gweithio yng Nghoed y Brenin, a neb yn casglu arian parcio yn Ynyslas ychwaith, gyda gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd yn mynd heb ei gasglu yn flynyddol. Does yna ddim syndod bod y corff yn wynebu heriau ariannol.

A beth ydy cynllun diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys y parcio yng Nghoed y Brenin? Yn ôl beth dwi’n ei glywed, rhoi camerâu ANPR mewn lle, gyda chytundeb i'w gweithredu yn mynd i gorff allanol, gan arwain at hyd yn oed mwy o gyfoeth yn cael ei echdynnu allan o’r ardal. Mae’n swnio fel pennod o’r gyfres gomedi The Thick of It, ond nid comedi mo hyn, ond yn hytrach penderfyniadau sydd efo goblygiadau ar fywydau pobl yn ein cymunedau ni.

Mae’r canolfannau yma yn hynod o bwysig i economi’r rhanbarth, rhanbarth sydd, gadewch i ni fod yn onest, heb gael ei chyfran o wariant cyfalaf y Llywodraeth yma, heb sôn am Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac sydd yn wir yn gweld gwasanaethau a chefnogaeth yn crebachu. Ystyriwch sefyllfa rheilffordd y Cambrian a rheilffordd Calon Cymru, sydd ill dau wedi gweld gwasanaethau yn cael eu cwtogi a phobl a chymunedau lleol yn talu’r pris. Ond rwy’n crwydro.

Mae’r canolfannau yma yn denu nifer fawr o ymwelwyr. Yn wir, yn ôl gwaith ymchwil Twristiaeth Canolbarth Cymru, mae’r tair canolfan yma yn denu tua hanner miliwn o bobl y flwyddyn ac yn cyfrannu bron £40 miliwn i’r economi lleol yn flynyddol. Mae hyn yn swm sylweddol i ardal wledig fel canolbarth Cymru, ac mae’n cynnal nifer o fusnesau bach yn lleol ym Meirionnydd, yng Ngheredigion ac ym Maldwyn. Tristwch y sefyllfa ydy bod yna fentrau lleol yn bodoli yn barod i gymryd drosodd—mentrau yn llawn arbenigwyr yn y maes, sydd efo’r gallu i ychwanegu gwerth at waith Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae yna beryg y bydd economi canolbarth Cymru yn colli allan ar filiynau o bunnoedd, felly, oll er mwyn i Cyfoeth Naturiol Cymru arbed £1.2 miliwn yn unig, ffigwr y gellir ei ddweud sydd yn accounting error yn erbyn cyllideb y Llywodraeth.

Mi fyddwch chi hefyd yn gwybod bod Elin Jones, Aelod o’r Senedd dros Geredigion, hefyd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ar y mater yma. Fel mae Elin yn dweud, mae angen cydnabyddiaeth a dealltwriaeth fod staff y canolfannau yma yn gweud llawer mwy na jest gweinyddu siop a chaffi. Maen nhw’n bâr arall o ddwylo a llygaid i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn safleoedd natur pwysig, yn diogelu’r safleoedd hynny, yn enwedig os edrychwch chi ar Ynyslas. Os edrychwch chi ar Nant yr Arian, y peryg mwyaf yn y ganolfan honno ydy’r 'mothball-io' sydd yn yr arfaeth, 'mothball-io' yr adnoddau lletygarwch sydd mor bwysig, a gwneud hynny pan fod yna ddiddordeb pendant yn lleol i redeg y canolfannau yma.

Mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru hwyluso hynny i ddigwydd er mwyn i gwmnïau lleol gymryd drosodd mor llyfn ac mor gyflym â phosibl, fel bod y gwasanaethau yma yn rhedeg yn ddi-dor i’r cyhoedd, sef beth ydy diben y cynnig o’n blaenau ni yma heddiw.

Felly, peidiwch â chuddio y tu ôl i lymder. Rwyf yma yn trafod hyn ar ran pobl Meirionnydd, Ceredigion a Maldwyn, sydd yn ymbilio arnoch chi i ddangos eich hyder ynddyn nhw, ac i ddangos eich bod chi yn cefnogi’r ardaloedd yma, ac i’w galluogi nhw i gael y cyfle i redeg y canolfannau sydd mor agos at eu calonnau. Rhowch y cyfle iddyn nhw, ac mi gewch chi eich siomi ar yr ochr orau. Diolch yn fawr iawn.

15:45

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl is-bwynt 1(a) a rhoi yn ei le:

yr anawsterau economaidd a ddeilliodd o 14 o flynyddoedd o Lywodraeth Geidwadol i'r DU a’r pwysau a ddeilliodd o hyn ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru;

bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gynnig cymorth i aelodau staff y mae’r ‘Achos dros Newid’ yn effeithio’n uniongyrchol arnynt; ac

y bydd ad-drefnu Cyfoeth Naturiol Cymru yn galluogi’r corff i ganolbwyntio ar gyflawni ei swyddogaethau craidd a’i ddyletswyddau statudol.

Yn cydnabod:

a) mae’r 'Achos dros Newid' yn cynnwys cynlluniau a fydd yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn cynnal ei weithrediadau arlwyo a manwerthu yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas;

b) bydd safleoedd y canolfannau ymwelwyr yn parhau i fod ar agor at ddibenion cerdded, beicio, parcio ceir a thoiledau; ac

c) bydd hyn yn galluogi grwpiau cymdeithasol a chymunedol a busnesau lleol i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ymgysylltu â grwpiau cymunedol a busnesau lleol, gan felly hwyluso’r broses o chwilio am bartneriaid sydd mewn gwell sefyllfa i gynnig y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo hyn.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:48:27
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yn ffurfiol.

Mae'r penderfyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru—rydym ar y ddadl hon, ydym? Roeddwn yn meddwl ein bod—i leihau gwasanaethau a nifer y staff yn frawychus i amgylchedd Cymru a'r nod o gyflawni sero net. Sawl gwaith y safasom yma i drafod CNC yn y Siambr hon? Rydym wedi cael safbwyntiau eithaf cadarn ar sut i fwrw ymlaen â hyn, ond yr hyn sydd ei angen arnom yw corff rheoleiddio sy'n gweithredu'n llawn.

Mae adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur’ 2023 yn dangos bod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid, mewn perygl o ddiflannu, ac mae niferoedd 380 o rywogaethau wedi lleihau 20 y cant ar gyfartaledd ers 1994, sy’n adlewyrchu argyfwng byd-eang lle mae oddeutu 1 filiwn o rywogaethau'n wynebu bygythiadau, fel yr amlinellwyd yn yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' ar gyfer 2025. Mae CNC yma yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol yn mynd i’r afael â’r dirywiad hwn, ac eto maent o dan bwysau difrifol. Mae eu hadnoddau o dan bwysau mawr, ac yn ôl eu cyfaddefiad eu hunain, mae ganddynt nifer o swyddi gweigion na allant eu llenwi, ond hefyd maent mor brin o adnoddau ac o staff.

Go brin fod colli dros 200 o swyddi yn helpu; mae'n ychwanegu pwysau ar sector amgylcheddol Cymru, gan ei gwneud yn llawer anos cyflawni'r targedau adfer natur a chynaliadwyedd, pan fo un o bob chwe rhywogaeth eisoes mewn perygl. Ac mae'n rhaid imi ddiolch i'r holl randdeiliaid a ddaeth i fy nghyfarfod bord gron ar newid hinsawdd y bore yma. Cawsom drafodaeth wych, ond roedd pawb yn cytuno bod yn rhaid inni wneud rhywbeth. Er gwaethaf yr addewid o ddeddfwriaeth arloesol, megis Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae prinder staff ac adnoddau wedi llesteirio cynnydd ystyrlon.

A ddoe ddiwethaf yn y Siambr hon, bu'n rhaid imi godi'r ffaith, ar adeg o argyfwng i'n ffermwyr, pan na allent godi unrhyw ddŵr o afon Conwy ar gyfer eu da byw, ein bod wedi cael negeseuon cymysg gan CNC, a ni ddylai hynny fod wedi digwydd. Pan gysylltodd aelodau o’r cyhoedd, ein cymuned, ffermwyr yn arbennig, trigolion, gyda CNC am y cyngor cadarn a chlir yr oedd ei angen arnynt ar adeg o argyfwng, nid oedd yr atebion yno.

Er ei fod yn arloesol yn gysyniadol, mae'r fframwaith rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy'n dioddef o gael ei weithredu'n wan a pholisïau sydd wedi dyddio, megis y polisi adnoddau naturiol. Yn yr un modd, mae mentrau allweddol, fel y cynllun gweithredu adfer natur, sy'n hanfodol ar gyfer atal colli bioamrywiaeth erbyn 2030, yn parhau i fod yn anghyflawn, heb uchelgais go iawn ac wedi'u tanariannu'n ddifrifol. Mae'r anfanteision hyn yn amlygu problem ehangach tanfuddsoddi cronig mewn adfer byd natur, her a fydd yn amlwg wedi ei dwysáu ymhellach gan achos dros newid CNC.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu y bydd angen rhwng £5 biliwn a £7 biliwn erbyn dechrau’r 2030au i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi datblygu unrhyw strategaeth ariannol glir eto nac wedi sicrhau buddsoddiad digonol gan y sector preifat i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido hwn. Mae trafferthion ariannol CNC ei hun yn effeithio ar allu Cymru i gyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth rhyngwladol, megis y targed 30x30; mae'n amhosibl ei gyflawni bellach.

Mae llawer o sefydliadau wedi mynegi pryderon y bydd y toriadau arfaethedig i CNC yn cael effaith ar weithredu ac yn rhwystro gwelliannau pellach i safleoedd gwarchodedig. Mae hyd yn oed CNC eu hunain wedi cydnabod bod diffyg capasiti allanol wedi rhoi pwysau ychwanegol ar CNC er mwyn gallu gwneud cynnydd drwy waith y grwpiau hyn. Ar hyn o bryd, dim ond 10.5 y cant o ddyfroedd daearol a mewndirol Cymru sydd wedi’u dynodi’n ddyfroedd gwarchodedig. Er mwyn cyflawni targed 2030, mae'n rhaid i Gymru ddiogelu a rheoli 20 y cant ychwanegol o’i thir yn effeithiol. Fodd bynnag, araf yw’r cynnydd, ac mae absenoldeb cynllun clir a manwl yn bwrw amheuaeth sylweddol ar y tebygolrwydd o gyflawni'r nod hwn, neu unrhyw nod mewn gwirionedd.

Yn ôl asesiad CNC o gyflwr nodweddion yn 2020, dim ond 20 y cant o’r nodweddion a aseswyd yr ystyrid eu bod mewn cyflwr ffafriol. Mewn cyferbyniad, roedd oddeutu 30 y cant mewn cyflwr anffafriol ac nid oedd oddeutu 50 y cant mewn cyflwr dymunol. Mae CNC yn chwarae rhan hollbwysig yn monitro cyflwr nodweddion safleoedd gwarchodedig drwy fframwaith monitro safonau cyffredin y DU. Mae'r fframwaith hwn yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig gael eu hasesu o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud—

15:50

Fe wnaf. Roedd y gwaith craffu diweddaraf ar CNC yn ein pwyllgor yn wael, a dweud y lleiaf. Fe wnaeth yr holl swyddogion ymuno ar-lein, gan ddweud na allent fforddio'r petrol i ddod i gyfarfod wyneb yn wyneb. Roedd ffonau'n canu yn y cefndir, roedd ci'n cyfarth ar un arall. Roedd yn enghraifft wael iawn o sefydliad sy’n cael ei ariannu ar y lefel y caiff CNC ei ariannu na allent fynd i'r drafferth—

Fe wyddom nad yw CNC wedi cael eu hariannu’n ddigonol ar gyfer y nifer enfawr o dasgau sydd ganddynt. Ond wyddoch chi beth? Rydym wedi cael 14 mlynedd o gyni, a phenderfyniadau, yn y bôn, i danariannu cyrff fel CNC gan Lywodraeth y DU er mwyn lleihau ansawdd gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae angen inni ddatrys y broblem hon, ac rwy'n siŵr fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i wneud hynny. Rwy'n credu bod CNC yn gwneud gwaith gwych ar y cyfan, gyda lefel enfawr o gyfrifoldebau fel rheoleiddiwr ac awdurdod gorfodi ar gyfer ein tir, ein hafonydd a'n moroedd yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.

Rwy'n credu ei fod yn benderfyniad cwbl synhwyrol i wneud yr hyn a allant ei wneud yn unig a chaniatáu i bobl eraill redeg y gweithgarwch arlwyo yn y tair canolfan ymwelwyr. Mae hynny i'w weld yn gwbl resymol. Ond rwy’n ei chael hi'n anodd deall pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i gael trefn ar hyn, oherwydd yn sicr, roedd ar yr agenda pan ymwelodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig â chanolbarth Cymru ym mis Hydref, gan fod llawer o’r busnesau twristiaeth wedi'i godi fel pryder bryd hynny. Felly, pam ein bod yn dal i gael y drafodaeth hon? Rwy’n derbyn bod yn rhaid iddynt ymgysylltu â’r gymuned leol, i ddarganfod pwy sydd â diddordeb mewn rhedeg y gwasanaethau manwerthu, fel bod gennym wasanaeth da iawn sy'n ategu’r gweithgareddau twristiaeth eraill yn yr ardal, ond rwy’n ei chael hi'n anodd deall pam ei bod wedi cymryd cymaint â hyn o amser, gan ein bod yn gwybod am hyn ers pedwar mis bellach.

Yn amlwg, rwy’n disgwyl iddynt gefnogi’r economi sylfaenol yn unrhyw un o’r meysydd lle mae CNC yn gweithredu, ac rwy'n gobeithio y byddant wedi cynnig rhannu ffeithiau allweddol sylfaenol â darpar weithredwyr newydd, fel nifer yr ymwelwyr tebygol ar wahanol adegau o’r flwyddyn, a'r math o fwyd sy'n cael ei werthu ar hyn o bryd. Ond rwy’n siŵr fod potensial i redeg gwasanaeth gwell fyth yn seiliedig ar fwyd lleol, arferion bwyta lleol, gan nad oes unrhyw un yn mynd i deithio o un rhan o Gymru i'r llall er mwyn cael yr un hen wasanaethau traffordd, nad oes unrhyw beth yn arbennig yn eu cylch.

Deallaf fod CNC wedi cytuno i gadw’r tri safle hyn ar agor tan ddiwedd mis Mawrth, ond a fydd hynny’n ddigon o amser i ddyfarnu contract yn gynnar ym mis Chwefror, ymhen ychydig wythnosau, efallai, a rhoi amser iddynt sicrhau'r staff a'r cyfleusterau y bydd eu hangen arnynt i redeg y gwasanaethau hyn? Mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet, i weld a oes unrhyw le i hyblygrwydd gyda hynny, gan mai'r hyn y dymunwn ei wneud yw sicrhau, o safbwynt y twristiaid, fod hwn yn wasanaeth di-dor; mae o dan reolaeth newydd, ond mae'n wasanaeth nad yw wedi cau ar unrhyw adeg.

15:55

Roeddwn yn falch o gyd-gyflwyno’r cynnig hwn gan Mabon ap Gwynfor yma heddiw, gyda Jane Dodds, fel dadl, ac rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Busnes am ei ddewis. Fel y mae Aelodau eisoes wedi'i amlinellu, mae CNC yn aml yn cael ei drafod yn y Siambr hon, a chredaf ei bod yn briodol ein bod yn canolbwyntio'n benodol heddiw ar yr adroddiad 'Achos dros Newid’. Rwyf hefyd yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr amser rydych chi wedi'i dreulio gyda mi, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar weithgareddau awyr agored, ac am eich ymateb i lythyr a anfonodd y grŵp trawsbleidiol atoch ar y mater penodol hwn.

Fel yr amlinellwyd eisoes gan eraill yma heddiw, ceir pryderon, yn enwedig ynghylch effeithiau canlyniadol cau’r safleoedd hyn ar economi'r ardaloedd hynny—eu heconomi leol yn arbennig—ac ar swyddi. Mae’n rhaid inni gofio mai’r sector y mae hyn yn fwyaf tebygol o effeithio arno yw’r sector gweithgareddau awyr agored, ac mae’n sector sylweddol iawn. Mae’n cyfrannu oddeutu £1.6 biliwn y flwyddyn i’r economi yma yng Nghymru, gan gynnal oddeutu 31,000 o swyddi.

Nid y tair canolfan hyn sy'n gyfrifol am hynny i gyd, nid o bell ffordd, ond mae’n sicr yn anfon neges i’r sector ynglŷn â faint y caiff ei werthfawrogi yma yng Nghymru. Ac fe wyddom—ac rydych chi'n gwybod hyn, Ddirprwy Brif Weinidog—fod gwerth yr awyr agored i'n bywydau ni oll, a'n hiechyd yn arbennig—gwerth iechyd meddwl yn arbennig—yn hynod bwysig. Yn wir, roeddwn yn darllen adroddiad diweddar a oedd yn dangos, pe bai cynnydd o 10 y cant yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r mathau hyn o leoedd, y byddai’n arbed £200 miliwn y flwyddyn i’r GIG ar anghenion iechyd corfforol a meddyliol. Felly, mae’n hynod bwysig.

Tynnodd Jenny Rathbone sylw at yr effaith ar y diwydiant twristiaeth ac ar ymwelwyr yma yng Nghymru, ond mae effaith wirioneddol ar bobl leol yn y cymunedau o gwmpas y mannau hynny sy’n hoffi cael mynediad iddynt, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi’n briodol. Felly, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar weithgareddau awyr agored, rwy’n clywed yn rheolaidd am y gwaith gwych y mae’r sector yn ei wneud yng Nghymru, ac mae’r sector yn dymuno bod y gorau yn y byd. Gadewch inni beidio â phetruso rhag dweud hynny. Mae galw mawr am weithgareddau awyr agored yng Nghymru ac mae'n rhaid sicrhau bod hynny'n parhau, ac mae’r canolfannau sy’n mynd i gael eu cau yn rhan bwysig o'r atyniadau gweithgareddau awyr agored yma yng Nghymru.

Hoffwn glywed gan y Dirprwy Brif Weinidog am y pwyntiau y mae cyd-Aelodau eisoes wedi’u codi ynghylch trosglwyddo’r asedau hyn i grwpiau cymunedol lleol, fel nad ydym yn eu gweld yn cau am y cyfnod hwnnw o amser. Amlinellodd Mabon, yn gywir ddigon, fater ehangach trosglwyddo asedau, ac mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni barhau i’w drafod a mynd ar ei drywydd, ond mae mater mwy uniongyrchol yn codi. Mae pob un ohonom am weld yr asedau’n cael eu trosglwyddo’n ddi-dor, yn llyfn ac yn gyflym i’r partïon sydd â diddordeb, gan ddileu biwrocratiaeth ddiangen sy’n peri oedi i unrhyw fath o drosglwyddiad, fel y gellir defnyddio’r canolfannau eto'n gyflym.

A'r pwynt arall yr hoffwn ei godi am yr achos dros newid yw'r cynnig i gael gwared ar y tîm addysg yn CNC. Maent yn darparu adnodd a hyfforddiant unigryw i athrawon a staff ysgolion, gan eu harfogi â sgiliau i'w trosglwyddo i'r plant y maent yn eu cefnogi. Mae ganddynt rôl hefyd yn helpu ysgolion ar ein teithiau awyr agored ac alldeithiau. Nid yw cael gwared ar y tîm hwnnw, i mi, yn cyd-fynd â’r geiriau cynnes a glywais gan Weinidogion pan oeddwn yn hyrwyddo fy Mil addysg awyr agored yma yn y Senedd. Cafwyd llawer o eiriau am bwysigrwydd addysg awyr agored. I mi, mae hyn yn gwbl groes i'r geiriau cynnes hynny, ac rwy’n teimlo bod angen gwaith ar sicrhau nad yw arbenigedd yn cael ei golli’n barhaol o dîm addysg CNC.

Felly, rwy'n cytuno â sylwadau cyd-Aelodau yn y Siambr hyd yma. Mae angen inni weld yr asedau hyn yn cael eu trosglwyddo'n gyflym, ac Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn glywed eich safbwyntiau ar sut na chaiff arbenigedd y tîm addysg ei golli'n barhaol ychwaith. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, hoffwn dynnu sylw at farn deisebwyr sydd wedi bod yn mynegi pryderon wrthym ynghylch cau'r canolfannau ymwelwyr hyn. Rhoesom gryn dipyn o sylw i ddwy ddeiseb yn galw am beidio â chau'r canolfannau ymwelwyr ym Mwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas. Rhyngddynt, casglodd y deisebau dros 15,000 o lofnodion, gan ddangos cryfder y teimlad, a dyma pam y gwnaethom roi dadl ar ddeiseb ar y trywydd cyflym fis Hydref diwethaf.

Ymwelais ag Ynyslas fel Cadeirydd y pwyllgor fy hun i weld y gwaith y mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yn ei wneud yno, ar gadwraeth ac addysg amgylcheddol, ac ar ddiogelwch ymwelwyr â'r warchodfa. Mae hefyd yn ganolfan addysg ac adnoddau eithriadol sy'n cyfrannu'n sylweddol at yr economi leol fel atyniad, gan gysylltu 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn â natur.

Fel yr amlygodd ymateb CNC i'r Pwyllgor Deisebau, bydd angen i'r dull a ddefnyddir ym mhob un o'r canolfannau ymwelwyr fod yn wahanol, gydag ystyriaethau gwahanol am agweddau masnachol eu gweithrediad. Mae grŵp ymgyrchu Achub Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yn enwedig yn angerddol am ddiogelu'r ased hwn, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gadwraeth ac addysg amgylcheddol. Maent wedi rhannu rhestr hir o weithredoedd y maent yn ymwneud â hwy ar y safle hwnnw, gan gynnwys diogelu ardal nythu'r adar rhag gweithgaredd peryglus ac anghyfreithlon. Fe wnaethant ddweud wrthyf sut y gwnaethant erlid potswyr oddi ar y safle. Maent yn helpu ymwelwyr i gyrraedd y twyni a'r traeth, yn helpu i'w cadw'n ddiogel rhag y llanw, sy'n beryglus iawn yn yr ardal honno. Efallai na fyddant yn gwybod fel arall. Roedd staff yn teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch cyfeiriad CNC at arlwyo a manwerthu, nad yw'n digwydd yno mewn gwirionedd. Dim ond peiriant bach a mainc fach sydd yno. Mae'n fwy o gyfleuster addysgol, fel y dywedais. Roedd eu rolau yno gymaint yn fwy nag arlwyo a manwerthu.

Roedd un llythyr at y pwyllgor gan un o'r gweithwyr yn dweud: 'Gallaf gadarnhau'n bendant, 100 y cant, mai staff y ganolfan yw'r rhai sy'n gofalu am y tir. Maent yn gosod a thynnu'r leiniau rhywogaethau gwarchodedig bob dydd, ac ar eu haber ac ar lan y traeth, maent yn torri'r llystyfiant sydd wedi gordyfu, yn ei godi oddi ar y llwybrau bordiau i'w gwneud yn ddiogel, yn ôl yr angen, ac maent yn clirio tywod oddi ar y grisiau niferus, gan eu cadw'n ddiogel. Maent yn casglu llwyth o sbwriel ar eu rowndiau, gan gynnal ac atgyweirio unrhyw ddifrod i'r llwybrau bordiau yn ôl yr angen, yn cadw llygad am unrhyw danau gwersylla a barbeciws ac yn rhoi gwybod amdanynt.'

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud ei fod yn ymgysylltu â'r broses ymgynghori yn lleol, ond mae'n teimlo fel pe bai ganddynt farn wahanol i'r ymgyrchwyr ynghylch y gwaith o reoli safle Ynyslas. Nid ydynt yn teimlo bod y broses yn agored a thryloyw, ac fe'i caent hi'n anodd iawn cyfathrebu â hwy. Ac maent wedi bod yn rhwystredig iawn. Mae'n ymddangos eu bod yn cwestiynu dealltwriaeth CNC o'r anghenion staffio ar y safle; nid ydynt wedi gallu eu cael i'w ddeall. Ac mae angen i'r safle aros ar agor ar gyfer parhad y gwaith rheoli, yn enwedig drwy fisoedd pwysig y gwanwyn a'r haf, sy'n dymhorau prysur o ran nifer yr ymwelwyr ac anghenion cadwraeth. Rwy'n bryderus iawn eu bod yn ystyried cau'r ganolfan ddiwedd mis Mawrth.

Dywedwyd wrthyf hefyd fod CNC yn bwriadu defnyddio cwmni allanol i weithredu eu meysydd parcio, ond mae sefydliadau newydd angen yr arian hwnnw i helpu i ymsefydlu a'u cadw'n gynaliadwy. Rwy'n bryderus iawn y bydd cwmni allanol yn defnyddio ac yn cymryd yr elw o'r cyfleusterau hynny. 

Mae'r rhain, wrth gwrs, yn faterion gweithredol ar gyfer CNC, fel y cydnabu'r Dirprwy Brif Weinidog yn ei ymateb i'n pwyllgor, ac mae angen inni gofio y bydd yr 'Achos dros Newid' yn effeithio ar swyddi a bywoliaeth pobl. Ac rwy'n falch y bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, yr wyf yn aelod ohono, yn craffu ac yn dwyn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif, ond nid tan fis Mawrth, ac mae bwriad i gau'r rhain ddiwedd mis Mawrth, neu bydd y newid yn digwydd bryd hynny. 

Felly, mae fy nghwestiynau—. Y peth pwysig wrth symud ymlaen yw nad ydynt yn cael eu gadael ar stop, fod yna barhad a hefyd fod modd cadw taliadau parcio er mwyn i'r canolfannau ymwelwyr allu bod yn gynaliadwy i'w rhedeg, ac na fydd cwmni allanol ar ran CNC yn mynd â'r taliadau hynny. Diolch.  

16:05

A galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:07:22
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl hon, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi codi eu pwyntiau'n huawdl, naill ai ar ran eu hetholwyr neu ar ran materion sy'n berthnasol i'r cyfleusterau a'r safleoedd pwysig hyn yn rhai o'n rhannau harddaf a mwyaf gwerthfawr o Gymru. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i bawb yn Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith parhaus y diogelu natur, ein hinsawdd a'n hecosystemau naturiol hefyd?

Ond fel y nododd Jenny, fel pob sefydliad sector cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i CNC a'i staff. Nid oes unrhyw gorff sector cyhoeddus wedi bod yn rhydd rhag effeithiau'r heriau economaidd y mae'r DU wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dyma'r gwir anghyfleus y mae rhai yn dewis ei anwybyddu, ond dyma'r realiti caled a nododd Jenny, yn gywir ddigon. Mae hyn wedi golygu y bu'n rhaid i CNC wneud penderfyniadau anodd a real iawn ac nid ydynt yn benderfyniadau y mae unrhyw un eisiau eu gwneud, ond dyma oedd yn eu hwynebu. 

Hoffwn ddweud hefyd fod edmygedd sylweddol—rydym wedi clywed peth ohono yma heddiw—i'r proffesiynoldeb, yr ymroddiad a'r gwytnwch a ddangoswyd gan staff CNC drwy'r broses hyd yn hyn; mae hyn yn anodd. Nawr, cyflwynwyd cynigion yr 'Achos dros Newid' i gefnogi ailgynllunio'r sefydliad i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu go sylweddol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. A Jenny, fe wnaethoch chi ofyn pam y mae'r broses wedi cymryd mor hir â hyn. Rhan o hyn fu ymgysylltu â'r undebau llafur a gwneud hynny'n iawn, yr achos cyfan. Roedd angen i hynny fod yn rhan gyntaf a nawr mae angen y broses gywir o ran ymgysylltu â grwpiau cymunedol posibl neu randdeiliaid allanol sydd â diddordeb yn y safleoedd eu hunain.

Felly, ar ôl i'r cynigion dros newid gael eu cymeradwyo gan ei fwrdd, sefydlodd CNC grŵp gweithredu newid ac roedd yn cynnwys adnoddau dynol ac arweinyddiaeth busnes, ynghyd â chynrychiolwyr undebau llafur i oruchwylio'r ailstrwythuro a'r newidiadau staffio cysylltiedig. Nawr, roedd hynny'n bwysig ac fe wnaed hynny wrth i CNC ymgysylltu â'i staff yn y broses honno.

Rwy'n deall bod ymgysylltu wedi bod ag undebau llafur sy'n cynrychioli eu staff, ond oni fyddai staff a oedd eisoes yn gweithio yn y canolfannau ymwelwyr hyn yn cael eu symud drwy reoliadau TUPE i sefydliad newydd? A yw hynny'n un o'r pethau sydd wedi dal hyn yn ôl?

Nid yw'n ymwneud yn benodol â'r staff sy'n gweithio yn y canolfannau, gan gofio y byddaf yn dod at y pwynt nad ydym yn cael gwared ar bopeth sy'n digwydd ar y safleoedd hyn, dim ond manwerthu ac arlwyo. A dweud y gwir, mae proses ar y gweill i drosglwyddo staff i rolau eraill, ond fe ddof at fanylion hynny, ac roedd yn bwysig gweithio drwy hynny. Ac wrth ddweud hynny, mae CNC wedi bod yn cynnig, ac mae'n parhau i gynnig, cefnogaeth benodol i'r staff yr effeithir arnynt, a'u rheolwyr, drwy gydol y broses. Felly, mae'r grŵp gweithredu hwnnw wedi cyflawni proses ddwys o baru'r staff yr effeithir arnynt â swyddi gwag yn strwythur newydd CNC, a nodir yn yr 'Achos dros Newid'. Felly, mae hyn yn golygu y bydd staff yn cael eu paru'n amodol â swyddi gwag yn y strwythur newydd, gan sicrhau, mewn gwirionedd, fod y dalent a'r sgiliau y buom yn siarad amdanynt yn cael eu cadw er budd y sefydliad.

Nawr, mae disgwyl i'r cam nesaf ddechrau ym mis Chwefror. Bydd yn cynnwys proses ddethol gystadleuol ar gyfer rolau y mae nifer o staff wedi'u paru yn eu herbyn. Bydd staff nad ydynt wedi sicrhau rôl erbyn diwedd y cam hwn yn cael blaenoriaeth i fynegi diddordeb mewn unrhyw swyddi gwag sy'n weddill, ac mae CNC wedi nodi'n glir na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol wedi'u cynllunio. Mae'n bwysig dechrau gyda hyn, oherwydd staff oedd man cychwyn hyn hefyd wrth fynd drwyddo.

Wrth i CNC symud drwy'r cam gweithredu, mae'n wir y gallai'r ailstrwythuro arwain at effeithiau ar wasanaethau CNC. Ond hoffwn sicrhau'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos iawn gyda CNC i sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi'n barhaus, gan ganiatáu iddo ganolbwyntio ar gyflawni ei ddyletswyddau statudol a'i ddyletswyddau craidd. Ac yn wir, rydym wedi cael dadleuon blaenorol ar hyn, ac rwy'n pwysleisio: nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym eisiau ei wneud o gwbl, ond mae'n rhaid canolbwyntio ar y dyletswyddau statudol a chraidd. Felly, i fy ngalluogi i gael gwell dealltwriaeth a chael sicrwydd ychwanegol, wrth i hyn fynd yn ei flaen, o'r modd y mae CNC yn rheoli gweithrediad ei 'Achos dros Newid', ochr yn ochr â gweithgareddau eraill sy'n hanfodol i fusnes, rwyf wedi trefnu trafodaethau cynnydd rheolaidd gyda Syr David Henshaw, cadeirydd bwrdd CNC.

Daw hynny â mi at ble y mae ffocws llawer o'r ddadl hon wedi bod: ar y penderfyniad i roi'r gorau i gyflawni gweithgarwch arlwyo a manwerthu CNC yn y tair canolfan ymwelwyr—Coed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas. Diolch, gyda llaw, i Sam, Mabon, Carolyn ac Aelodau eraill, sydd wedi rhoi amser i gyfarfod â mi a rhoi eu hawgrymiadau a'u syniadau ar gyfer dyfodol y safleoedd pwysig hyn gyda phartneriaid newydd, gan gynnwys, gyda llaw, y diddordeb a ddangoswyd gan y sector awyr agored hefyd.

Nawr, mae CNC wedi dweud yn glir iawn drwy gydol ei 'Achos dros Newid' ei fod yn chwilio am bartneriaid sydd mewn sefyllfa well i ddarparu'r gwasanaethau yn y canolfannau hyn. Ac mae'n ddiddorol fod rhai o'r partneriaid hynny'n dweud, 'Wel, efallai y gallwn ddarparu nid yn unig yr arlwyo a'r manwerthu, ond efallai y byddwn am wneud mwy eto'—grwpiau cymunedol ac eraill. Mae hynny'n eithaf cyffrous. Mae'n anodd ar hyn o bryd, ond rwy'n credu y bydd cyrraedd yno'n eithaf cyffrous. Bydd y safleoedd—ac rwy'n parhau i bwysleisio hyn—yn aros ar agor, Sam, ar gyfer yr agweddau pwysig hynny. Rwyf wedi defnyddio pob un o'r ardaloedd hyn ar gyfer cerdded a beicio ac yn y blaen, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Byddant yn parhau ar agor ar gyfer y cerdded, y beicio, yr ardaloedd chwarae i deuluoedd, y meysydd parcio a'r ddarpariaeth o doiledau. Rwyf i a fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â CNC dros ddyfodol y canolfannau, ac mae CNC wedi fy sicrhau, yn bendant iawn, mai'r rhannau manwerthu ac arlwyo o'r rhain fydd yn newid. Ond rwy'n angerddol ynglŷn â chadw'r canolfannau ymwelwyr hyn a mynediad i'r mannau hyn i bawb eu mwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.

Y rhan arall o'r broses a godwyd a pham y mae hyn wedi cymryd peth amser yw oherwydd bod CNC wedi cael cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â chymunedau lleol. Cawsant eu mynychu gan nifer dda o bobl hefyd, ac ar hyn o bryd mae'n cynnal sesiynau galw heibio er mwyn y rhai sydd am archwilio'r cyfleoedd ar gyfer y swyddogaethau manwerthu ac arlwyo ymhellach, ac fe gafwyd diddordeb gwirioneddol. Felly, mae CNC hefyd wedi lansio hyb ymgysylltu i gasglu sylwadau a datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y gymuned leol. Gyda llaw, mae'r hyb yn cynnwys set ddefnyddiol iawn o gwestiynau cyffredin i symleiddio'r broses. Mae CNC yn ddiolchgar iawn i bawb a fynychodd y digwyddiadau ac sydd wedi cyfrannu eu syniadau ar yr hyb hefyd, gan gynnwys sut i wella profiad ymwelwyr ymhellach—i wneud mwy hefyd.

Nawr, mae CNC wedi ymateb yn gyflym i'r pryderon a godwyd ynghylch amserlenni a materion fel 'A yw hyn yn golygu gadael pethau ar stop?' Nac ydy; maent wedi ymestyn y swyddogaethau manwerthu ac arlwyo presennol hyd at 31 Mawrth, ac ar ôl hynny bydd trefniadau dros dro ar waith hyd nes y penodir darparwyr eraill. Mae Aelodau wedi codi materion ynghylch Coed y Brenin a Nant yr Arian yn benodol, ac er eglurder, ar gyfer Coed y Brenin a Nant yr Arian, pan fydd y cynnig ar waith yn llawn, bydd yn cael ei hysbysebu—disgwylir iddo fod yn y flwyddyn ariannol hon i ddod. A'r peth arall sydd wedi bod yn rhwystredig i rai—mae yna broses y mae'n rhaid i CNC fynd drwyddi, oherwydd ei fod yn gorff cyhoeddus noddedig ac mae angen iddo wneud hyn yn gwbl dryloyw ac yn briodol, felly bydd yn dilyn deialog gystadleuol fel y dull a ffafrir, ond mae wedi'i rwymo gan reoliadau caffael llym—sy'n rhwystredig i rai—ar gyfer y ddau safle hynny. Gallaf weld bod yr amser wedi mynd, ond rwyf wedi ceisio ateb rhai o'r pwyntiau.

Fe geisiaf ddirwyn fy sylwadau i ben yn gyflym iawn. Rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol, gyda llaw, ar wahân i'r 'Achos dros Newid', i CNC oherwydd y ffordd y gallasom weithio'r gyllideb eleni. Nid yw'n ymwneud â'r 'Achos dros Newid'; fe gaiff ei ddefnyddio i wneud ffrydiau gwaith ychwanegol, rhai y gwnaethom gyffwrdd arnynt ddoe. Felly, er enghraifft, gwaith CNC yn gwneud penderfyniadau seilwaith a chynllunio, gwella ansawdd dŵr, datblygu atebion sy'n seiliedig ar natur, a swyddogaethau craidd fel monitro, data, tystiolaeth a seilwaith digidol i gefnogi newid. Ond gadewch imi fod yn glir, Ddirprwy Lywydd: rydym yn parhau fel Llywodraeth yn gwbl ymrwymedig i ddarparu'r cyfleoedd hyn i bobl fwynhau ein cefn gwlad, i fanteisio ar y buddion iechyd a llesiant yn sgil mynd allan i'r awyr agored, a chysylltu pobl â natur, fel y dangoswyd ddoe pan oeddem yn dathlu'r llwyddiannau a gawsom. Diolch yn fawr iawn.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu at y drafodaeth bwysig yma'r prynhawn yma. Diolch yn arbennig i Sam am gyd-noddi'r cynnig a siarad mor huawdl. Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r gwaith mae Sam yn ei wneud fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol sydd wedi bod yn codi llais ar y mater yma, ac yntau'n ein hatgoffa ni o bwysigrwydd y sector i'r economi: £1.6 biliwn yn dod, sydd yn fy atgoffa i o bapur roeddwn i'n darllen yn ddiweddar iawn, yn dweud bod tua 10 y cant o holl ymwelwyr sydd yn dod i Gymru'n dod oherwydd eu bod nhw eisiau beicio mynydd, a hynny yn sgil Coed y Brenin yn wreiddiol. Hynny ydy, dyna ydy llwyddiant y lle, ac, yn anffodus, dyna ydy methiant y Llywodraeth bresennol, yn gadael y lle a'r gymuned honno i lawr, ond hefyd y pwysigrwydd yna roedd Sam wedi sôn amdano, sydd yn cael ei anghofio'n aml iawn yn y trafodaethau yma, am rôl y canolfannau awyr agored yma wrth ein bod ni'n edrych ar nid yn unig iechyd a lles corfforol, ond iechyd a lles meddyliol pobl hefyd. 

Roeddwn i eisiau cyfeirio hefyd at gyfraniad Carolyn Thomas, oedd yn pwysleisio bod yna gefnogaeth eang i'r canolfannau yma oherwydd y niferoedd, y degau o filoedd o bobl, sydd wedi arwyddo'r deisebau gwahanol sydd yna, ac rwy'n ddiolchgar i Carolyn am bwysleisio rôl y gweithlu yn y canolfannau yma, yn benodol yn Ynyslas, lle rydym ni wedi clywed bod Ynyslas yn ddibynnol ar y gweithlu, sydd yn gwneud llawer iawn mwy na'r disgwyl ohonyn nhw, ac yn cyfrannu ac yn rhoi gwerth ychwanegol at y gwaith yna.

Rŵan, dwi am fynegi siom dirfawr, mewn gwirionedd, yng ngwelliant y Llywodraeth i'r cynnig yma. Yn gyntaf, fe luniwyd y cynnig a chytunwyd ar y cynnig ar y cyd, yn drawsbleidiol, yn fwriadol er mwyn estyn allan i'r Llywodraeth. Does yna ddim beirniadaeth o'r Llywodraeth yn y cynnig, er y gallwn ni'n hawdd fod wedi gwneud hynny. Yr hyn mae'r cynnig yn ei wneud yw edrych a galw ar gyrff i weithredu'n gadarnhaol er lles y cymunedau. Mae'r Llywodraeth yma drosodd a throsodd yn dweud wrthym ni nad oes a wnelo nhw ddim byd â phenderfyniadau Cyfoeth Naturiol Cymru, mai corff lled braich ydyn nhw, ond eto mae'r Llywodraeth yn mynnu amddiffyn Cyfoeth Naturiol Cymru'n ddioed. Dim ond un casgliad gall rhywun ddod ato, felly, sef bod y Llywodraeth yn ymwybodol bod y cyfrifoldeb am benderfyniadau Cyfoeth Naturiol Cymru'n disgyn ar eich ysgwyddau chi, ac felly, yn y pen draw, mai chi sy'n gyfrifol am y newidiadau yma.

Beth sy'n gwneud dim synnwyr o gwbl yng nghyd-destun y ddadl yma ydy eich bod chi'n cuddio tu ôl i feirniadaeth o lymder. Rŵan, chewch chi ddim beirniad mwy o bolisïau llymder na fi—polisïau, gyda llaw, mae'r Llywodraeth Lafur yn mynnu parhau gyda nhw yn San Steffan—ond does a wnelo'r cynnig yma ddim byd o gwbl â llymder.

Ac mae hynny'n dod â fi at gyfraniad Jenny. Rŵan, ddaru i Jenny gychwyn drwy ddweud a thrio cyfiawnhau'r sefyllfa ariannol, ond nid mater llymder sydd o flaen yn y cynnig. Rydym ni'n galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i weithio, yn union fel roedd Jenny yn ei ddweud, efo mentrau lleol, mentrau sydd efo arbenigedd ynddyn nhw, sydd yn gweithio efo cynhyrchwyr lleol, sydd â dealltwriaeth o'r maes, i gydweithio efo nhw er mwyn sicrhau parhad y canolfannau yma a bod y gwerth ariannol a'r gwerth economaidd yn cael ei gloi ac yn dod yn ôl i'r economi leol. Ac roedd Jenny’n berffaith iawn yn yr hyn roedd hi’n ei ddweud, a fedraf i ddim ond ategu ail hanner cyfraniad Jenny yn llwyr, sef y pwysigrwydd yna o sicrhau bod cynnyrch lleol yn cael ei ddefnyddio a bod pobl leol yn cael y budd allan ohono fo. Felly, gobeithio y byddwch chi’n edrych i gefnogi’r cynnig, oherwydd edrych i wneud yn union beth oeddech chi’n ei gynnig ydyn ni yn y cynnig yma ger ein bron ni. Ond rwyf yn edifar, mae'n rhaid dweud, ichi beidio â mynd yn gryfach ar y Llywodraeth yma oherwydd y Llywodraeth, wedi’r cyfan, ddaru i gael gwared ar y gwahanol gyrff amgylcheddol yng Nghymru a dwyn y cyfan o dan un ymbarél, Cyfoeth Naturiol Cymru. Y Llywodraeth yma, wedi’r cyfan, sydd wedi pasio'r rheoliadau a'r deddfau a rhoi disgwyliadau statudol rhif y gwlith ar Cyfoeth Naturiol Cymru, ond eto yn methu ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gywir. Mae yna derm dwi'n ei glywed sawl gwaith gan bobl ar draws Cymru—'set up to fail’—am Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyna dwi'n ei glywed.

Ac yna mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cuddio y tu ôl i reolau tendro, fel ddaru inni glywed gan y Dirprwy Brif Weinidog. Ond does yna ddim pwynt cuddio y tu ôl i reolau tendro, yn gyntaf, oherwydd nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru weledigaeth glir o'r hyn maen nhw'n ei ddisgwyl. Ddaru i’r Dirprwy Brif Weinidog sôn ei fod o wedi cael ei gyffroi fod yna opsiynau gwahanol o flaen y bobl sydd eisiau rhoi cais i mewn i redeg y canolfannau ymwelwyr yma. A dyna’r broblem—does yna ddim un weledigaeth o beth sydd i'w ddisgwyl. Dydy’r cwmnïau sydd eisiau tendro ddim yn gwybod beth i dendro yn ei gylch. Does yna ddim eglurhad. Ydyn nhw'n mynd am y canolfannau ymwelwyr? Ydyn nhw'n mynd am gynnal y llwybrau? Ydyn nhw'n mynd am rywbeth arall? Dydyn nhw ddim yn gwybod beth i dendro yn ei gylch, felly sut medran nhw roi cais mewn os nad oes eglurhad, heb sôn am y ffaith ei fod o'n anodd iawn i fenter leol newydd, er yn llawn sgiliau a phrofiadau, i gael ei hun ar system fel Sell2Wales a chyrraedd y trothwy angenrheidiol i dendro ar gyfer cytundebau cyhoeddus? Mae'r system yn gwbl anhygyrch ac yn milwrio yn erbyn galluogi ein cymunedau ni i hyd yn oed gael cyfle i roi cais mewn. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd angen edrych arno.

Mae yna gwmnïau lleol yn bodoli’n barod sydd yn fodlon cymryd y naid i redeg y canolfannau yma. Edrychwch ar Caru Coed y Brenin, fel enghraifft. Maen nhw'n gyforiog o bob math o sgiliau a'r hyn sydd ei angen er mwyn rhedeg canolfan o'r fath, wedi cael oes o brofiad mewn arbenigo yn y maes awyr agored a lletygarwch. Mae angen y cyfle ar gorff fel Caru Coed y Brenin ac eraill. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o gyrff allanol, felly mae yna gynsail yn bodoli’n barod, a dyna pam dwi'n gofyn arnoch chi yma heddiw i gefnogi’r cais er mwyn rhoi’r cyfle i fentrau lleol gael elw allan o'r canolfannau yma. Diolch yn fawr iawn ichi.

16:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau canser

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, gwasanaethau canser. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8794 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad 'Gwasanaethau Canser yng Nghymru' mis Ionawr 2025 gan Archwilio Cymru.

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi:

a) methu'n gyson â chyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 ddiwrnod ers mis Awst 2020;

b) achosi dryswch, gan danseilio ei Chynllun Gwella Gwasanaethau Canser ei hun drwy ddarparu eglurder annigonol i'r GIG a chyrff y trydydd sector; ac

c) darparu nac arweinyddiaeth genedlaethol gref na chlir i helpu i ysgogi gwelliannau angenrheidiol i ddiagnosis a thriniaeth canser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gosod amserlen glir i gyrraedd y targed 75 y cant ar gyfer cleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 ddiwrnod;

b) egluro'n gyhoeddus statws pob un o'i chynlluniau gwella gwasanaethau canser a'u rhyngweithiadau â'i gilydd;

c) defnyddio capasiti traws-sector, trawsgymunedol a thrawsffiniol i leihau'r arosiadau hwyaf ar gyfer triniaeth canser; a

d) gweithredu 10 argymhelliad Archwilio Cymru o adroddiad 'Gwasanaethau Canser yng Nghymru' mis Ionawr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies. Nid yw canser yn aros, ac ni ddylem ninnau orfod aros ychwaith. Ac eto, am lawer gormod o amser, mae Cymru wedi methu darparu'r gofal canser amserol sy'n achub bywydau y mae ein hetholwyr yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu. Roedd adroddiad Archwilio Cymru yn dangos y gwir. Nid yw'r targed 62 diwrnod ar gyfer triniaeth wedi'i gyrraedd, nid unwaith. Er gwaethaf cynnydd o 54 y cant mewn gwariant ar wasanaethau canser ers 2009, mae methiannau'n parhau. Mae prinder gweithlu, offer diagnostig sydd wedi dyddio ac arweinyddiaeth anhrefnus wedi creu loteri cod post o ofal. Nid yw hyn yn ddigon da.

Er bod datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru heddiw yn cydnabod y materion hyn, mae'n methu mynd i'r afael â maint yr argyfwng. Mae'n sôn am gynnydd, ond nid yw sefydlogi system sy'n methu yn llwyddiant. Gadewch imi fod yn glir: mae'r ffaith bod Caerdydd a'r Fro wedi sicrhau bod 70 y cant o gleifion yn cael eu trin o fewn 62 diwrnod ym mis Hydref yn well, ond mae'r targed cenedlaethol o 75 y cant yn parhau heb ei gyrraedd. Mae byrddau iechyd eraill ymhell ar ei hôl hi, gyda pherfformiad anghyson yn creu anghydraddoldebau dwfn mewn gofal canser. Mae prinder gweithlu yn llyffetheirio. Mae Cymru'n brin o oncolegwyr clinigol, dermatolegwyr, patholegwyr ac arbenigwyr llawfeddygol allweddol. Mae ein gallu diagnostig yr un mor annigonol, gydag offer sydd wedi dyddio, sy'n dueddol o dorri. Mae'n fethiant sylfaenol o ran cynllunio ac arweinyddiaeth. Yn y cyfamser, mae cynllun gwella gwasanaethau canser Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i gydlynu'n wael ac nid oes digon o gyllid wedi'i ddyrannu ar ei gyfer. Mae hyd yn oed arweinwyr y GIG o bob cwr o Gymru yn cyfaddef eu bod yn ddryslyd ynglŷn â sut y mae'n rhyngweithio â chynlluniau eraill. Mae'r dull cymysglyd hwn o weithredu yn gwneud cam â chleifion.

Mae adroddiad Archwilio Cymru yn gwneud 10 argymhelliad clir, ac mae'n rhaid eu gweithredu'n llawn, ond dim ond dechrau yw hynny. Dyma beth y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei weithredu i wella gofal canser a thrwsio ein GIG. Byddai gennym strategaeth ganser hirdymor. Plastr yw'r cynllun gwella gwasanaethau canser tair blynedd presennol, nid ateb. Mae angen strategaethau canser hirdymor arnom sy'n cydgrynhoi cynlluniau, yn darparu llywodraethiant clir ac yn sicrhau atebolrwydd. Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn dangos bod cynlluniau hirdymor yn sicrhau gwell canlyniadau i gleifion.

Byddem yn gweithredu ar unwaith ar y gweithlu ac ar offer. Ni all y GIG ddarparu gofal amserol heb y bobl a'r offer cywir. Rhaid blaenoriaethu recriwtio mewn meysydd gofal critigol, ochr yn ochr â buddsoddiad mewn offer diagnostig newydd. Ni allwn ddisgwyl i gleifion aros oherwydd bod peiriannau wedi torri neu am nad oes digon o staff i'w trin.

Byddem yn gweithredu cynlluniau sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'u targedu. Canser yr ysgyfaint yw'r clefyd sy'n lladd fwyaf o bobl Cymru, ac mae 72 y cant o gleifion sy'n cael diagnosis ar gam hwyr i allu ei drin, ac mae eu hopsiynau ar gyfer disgwyliad oes yn gyfyngedig. Felly, byddem yn gweithredu cynlluniau sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'u targedu ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod ein canserau gwaethaf a'n canserau llai goroesadwy'n cael eu gwella.

Byddem yn rhoi blaenoriaeth gref i ymdrechion atal. Gellir atal pedwar o bob 10 canser, ond eto mae ymdrechion atal y Llywodraeth yma yn llawer rhy gyfyngedig. Bydd mynd i'r afael ag ysmygu, gordewdra a ffactorau risg eraill yn ysgafnhau'r baich ar wasanaethau canser yfory. Mae angen mentrau iechyd cyhoeddus beiddgar a phenodol arnom i achub bywydau.

A bydd gennym arweiniad ac atebolrwydd clir. Er bod croeso i sefydlu bwrdd arweinyddiaeth canser cenedlaethol, rhaid iddo sicrhau canlyniadau diriaethol. Mae cleifion a staff wedi blino ar addewidion gwag ac uwchgynadleddau diddiwedd. Rhaid i arweinyddiaeth olygu gweithredu ac atebolrwydd pan fydd targedau'n cael eu methu. Byddai Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn gwneud byrddau'n uniongyrchol atebol i'r Gweinidogion a phrif swyddogion gweithredol byrddau iechyd i gynyddu goruchwyliaeth ac atebolrwydd Gweinidogion.

Mae adroddiad Archwilio Cymru yn tynnu sylw at berfformiad gwael Cymru o'i gymharu â chenhedloedd eraill. Ar gyfer canserau llai goroesadwy, fel canser y pancreas a'r ysgyfaint, fel y nodais, rydym yn agos at waelod y safleoedd rhyngwladol. Mae hyn yn annerbyniol i genedl fel Cymru. Mae ein hetholwyr yn haeddu gwell, ac mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Ac rwy'n rhoi fy addewid i bobl Cymru: os byddaf i'n Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl yr etholiad nesaf, ni fydd rhagor o esgusodion ac ni fydd rhagor o addewidion gwag. Rwy'n dweud wrthych: byddaf yn sicrhau newid.

Roedd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru heddiw yn amlinellu rhai camau cadarnhaol, ond mae cyflymder y newid yn llawer rhy araf. Ni fydd sefydlu cyfarfodydd, cynhyrchu adroddiadau a sefydlu byrddau yn achub bywydau oni bai eu bod yn cyflawni canlyniadau go iawn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn honni bod cynnydd wedi'i wneud, ond gadewch inni fod yn glir: rydym yn dal yn bell iawn o gyrraedd y safonau gofal sylfaenol y mae pobl yn eu disgwyl, ac fel y dywedais, nid cynnydd yw sicrhau sefydlogrwydd wrth fethu.

Mae gwasanaethau canser yn parhau i fod yn dameidiog ac yn anghyfartal, gyda rhai cleifion mewn rhai rhannau o Gymru yn cael gofal llawer gwaeth nag eraill. Ni all hynny barhau. Nid yw canser yn aros. Nid yw'n aros am gyfarfod nesaf y bwrdd, na'r adroddiad nesaf, na'r addewid gwleidyddol nesaf. Mae'n ddi-baid. A rhaid i'n hymateb ni fod yr un mor gyflym. Gallaf ddweud y bydd blaenoriaethu gofal canser yn brif flaenoriaeth gan Lywodraeth Geidwadol Cymru wedi'r etholiad nesaf o'r diwrnod cyntaf.

Mae arnom angen Llywodraeth sy'n blaenoriaethu cleifion ac yn darparu gofal amserol, nid esgusodion, a Llywodraeth sy'n atebol i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu ac nad yw'n cuddio y tu ôl i strwythurau biwrocrataidd a grëwyd gan y GIG.

Gyd-Aelodau, dyma yw ein dyletswydd i'r cleifion sy'n aros yn bryderus am ddiagnosis, ein dyletswydd i'r teuluoedd sy'n gweddïo am ganlyniadau gwell, a'n dyletswydd i staff y GIG sy'n gweithio'n ddiflino, er eu bod yn cael cam gan arweinyddiaeth wael a Llywodraeth Lafur Cymru sy'n brin o syniadau ac ar y ffordd allan. Gadewch inni fynnu mwy heddiw, nid yn unig i bobl Cymru, ond i bob unigolyn y gallai ei fywyd gael ei achub gan ofal canser gwell.

Nid yw canser yn aros, ac ni ddylem ni aros, ac rwy'n rhoi fy ymrwymiad a fy addewid i bobl Cymru, fod gennym ni ar yr ochr hon i'r Siambr gynllun i drwsio gofal canser, cynllun i drwsio ein GIG a chynllun i drwsio Cymru. Mae'r amser i newid yn dod ac ni all ddod yn ddigon buan.

16:30

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod, fel y nodir yn adroddiad Archwilio Cymru, 'Gwasanaethau Canser yng Nghymru':

a) bod gwariant termau real ar wasanaethau canser wedi cynyddu i bron i £720 miliwn, sydd gryn dipyn yn uwch na'r twf termau real yng ngwariant GIG Cymru; a

b) bod cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser wedi gwella ar gyfer pobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2002-06 a 2016-22.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi sefydliadau GIG Cymru i wella perfformiad amseroedd aros mewn cysylltiad â chanser;

b) diweddaru'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser i egluro rolau, cyfrifoldebau a metrigau systemau; ac

c) cyflwyno Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Canser i wella’r ffordd y cydgysylltir ymdrech y GIG i wella gwasanaethau canser.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig yn ffurfiol welliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. 

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn ôl hynny:

Yn gresynu bod dadansoddiad gan y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn dangos bod Cymru yn safle 32 ar gyfer canser y stumog, 31 ar gyfer canser pancreatig a'r ysgyfaint, 21 ar gyfer canser yr iau a oesoffagal a 12 ar gyfer canser yr ymennydd, o'i gymharu â 33 o wledydd tebyg.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ym mhwnt 3, dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le:

cryfhau strwythurau ar gyfer cydweithredu rhanbarthol er mwyn adnabod capasiti yn well a mynd i'r afael â'r loteri cod post yn ansawdd ac amseroldeb gofal;

Gwelliant 4—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar diwedd y cynnig:

Yn nodi bod argymhellion adroddiad Archwilio Cymru yn cyd-fynd â'r rhai a amlinellir yn adroddiad Plaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, ar ddiwygio strwythur llywodraethu'r GIG, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion ar ddiwygiadau llywodraethu a nodir yn adroddiad Plaid Cymru yn unol â hynny.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fel dwi wedi sôn sawl gwaith, ac fel nifer ohonoch chi yma heddiw, mae unrhyw ddadl am ganser yn un sy’n agos iawn at fy nghalon i. 'I have skin in the game', ys dywed yr hen ddihareb Saesneg, oherwydd bod fy nhad yn parhau i fyw gyda chanser heddiw. Felly, pan fy mod yn darllen adroddiadau megis un Archwilio Cymru i mewn i wasanaethau canser, mae’r canfyddiadau yn bethau rwy’n medru uniaethu â nhw ac yn aml wedi eu profi.

A’r gwir trist ydy nad oedd y canfyddiadau yn syndod o gwbl, gan eu bod nhw’n adlewyrchu profiadau llawer gormod o bobl a’u teuluoedd. Ac mae’r ystadegau yn eu cefnogi hefyd, gyda bron i hanner o gleifion canser ddim yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen o fewn y 62 diwrnod priodol, a dim arwydd bod y nod i gyrraedd 80 y cant erbyn 2026 ar y trywydd iawn. Mae targedau yn bwysig, wrth gwrs, ond mae’n bwysicach fyth osgoi rhoi gobaith ffug i gleifion a hwythau yn eu gwendid, ac yn anffodus, dyna yn union beth sy’n eu hwynebu heddiw oherwydd methiannau’r Llywodraeth i drosi uchelgais i mewn i ganlyniadau cadarnhaol. 

Mae gan Gymru hefyd rai o’r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gyda’r astudiaeth ddiweddaraf yn dangos, allan o 33 gwlad gymharol, fod Cymru yn unfed ar hugain am ganser yr iau a’r oesoffagws, yn unfed ar ddeg ar hugain am ganser pancreatig a’r ysgyfaint, ac yn ddeuddegfed ar hugain am ganser yr ystumog.

Rŷn ni hefyd yn gwybod bod yna ddiffygion difrifol yn y gweithlu, sy’n tanseilio argaeledd a chyflymdra triniaeth. A thra bod pob gwlad yn y Deyrnas Gyfunol yn dioddef prinder yn y gweithlu, mae’r sefyllfa yn arbennig o fregus yma yng Nghymru. Yn ôl arolwg gweithlu diweddaraf y Royal College of Radiographers, mae Cymru 12 y cant yn brin o oncolegwyr clinigol, ac mae disgwyl y bydd y prinder yma yn cynyddu i 28 y cant erbyn 2028, sef y mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol. Yn ogystal â hyn, mae Cymru yn llawer mwy dibynnol ar staff locwm o gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol, gyda 19 y cant o’r gweithlu—bron un o bob pump—yn cael eu hystyried yn rhai locwm. Felly mae’n gwbl angenrheidiol bod pwyslais brys ar fuddsoddiad yn y gwasanaethau canser, yn enwedig wrth ystyried y pwysau sydd i ddod o ganlyniad i dueddiadau demograffeg a phatrymau ffordd o fyw. Yn ôl Tenovus Cymru, bydd tua 230,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chanser erbyn 2030.

Ond beth mae adroddiad Archwilio Cymru hefyd yn pwysleisio’n glir ydy’r angen i briodi buddsoddiad gyda seiliau llywodraethiant cadarn ac effeithiol—rhywbeth sydd wedi dod yn berffaith amlwg wrth i’r Llywodraeth luchio pres at reng flaen y system iechyd, ar draul bron i bob un maes polisi arall, gydag unrhyw enillion o bolisi o’r fath yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn. Ac fel gwnes i sôn wythnos diwethaf, roedd canfyddiadau Archwilio Cymru ar y materion yma yn adlewyrchu bron air am air adroddiad Plaid Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd flwyddyn diwethaf, sef yr angen i ddiffinio yn fwy eglur cyfrifoldebau Gweithrediaeth GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun arweinyddiaeth strategol; yr angen i symleiddio ac egluro’n well amcanion cynlluniau, gan gynnwys y cynllun gwella canser y soniwyd amdano heddiw; yr angen i gryfhau arferion, tryloywder a dibynadwyedd systemau casglu data, gan gynnwys cyhoeddiadau rheolaidd o ddata gan gofrestrfa canser Cymru; a’r angen am symudiad pwrpasol i ffwrdd o ddatrysiadau tymor byr tuag at fuddsoddiad parhaol a chyson yn yr agenda ataliol, i adlewyrchu’r ffaith bod 40 y cant o achosion canser yn deillio o ddewisiadau bywyd yn y boblogaeth.

Nid amcanion ideolegol pleidiol-wleidyddol ydy'r rhain, ond yn hytrach, mesurau ymarferol, pragmatig y clywsom ni yn uniongyrchol oddi wrth bobl sy’n gweithio yn y sector. Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth dderbyn ei methiannau a dangos yr aeddfedrwydd i weithio’n adeiladol ar sail drawsbleidiol, er mwyn gwella canlyniadau cleifion canser sydd yn cael eu gadael i lawr yn llawer rhy aml gan y sefyllfa bresennol, gan ddangos y parch o wrando ar yr arbenigwyr a’r arweinwyr iechyd sy’n haeddu’r sylw mwyaf pan fyddan nhw'n datgan yn eglur ac yn glir fod pethau angen newid. Felly, dwi'n ymbil ar Aelodau ar draws y Siambr hon i gefnogi ein gwelliannau ni ac i weithredu ar argymhellion ein hadroddiad, oherwydd mae’n berffaith amlwg nad oes gennym ni amser i’w golli.

16:35

Mae’r ddadl hon heddiw yn mynd i’r afael â phwnc sy’n effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Mae canser yn cyffwrdd â phob un ohonom, aelodau o'r teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion. Nid yn unig fod sicrhau gofal amserol ac effeithiol i’r rhai sy’n wynebu’r clefyd dinistriol hwn yn bwysig; mae'n hanfodol. Ac eto, er gwaethaf buddsoddiad cynyddol ac un addewid ar ôl y llall, mae Cymru yn parhau i fethu ar ran ei chleifion canser.

Mae'r adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru yn amlygu’r realiti llwm hwn. Mae ein cenedl yn methu cyflawni ei thargedau perfformiad canser—methiant sy’n annerbyniol. Mae cost ddynol y methiant hwn yn ddinistriol. Mae Cymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop o ran cyfraddau goroesi rhai o'r canserau mwyaf marwol. Ar gyfer canser y stumog, rydym yn safle 32 allan o 33. Ar gyfer canser y pancreas a chanser yr ysgyfaint, rydym yn safle 31. Nid ystadegau yn unig yw’r rhain, maent yn cynrychioli bywydau a gollwyd a theuluoedd sy'n galaru. Yn waeth byth, mae’r bwlch mewn canlyniadau rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn parhau i dyfu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gwella canlyniadau canser, ond mae dryswch yn parhau. Y cynllun gwella gwasanaethau canser, y rhaglen genedlaethol adfer canser, a’r cynllun gwella canlyniadau canser: tair strategaeth sy’n gorgyffwrdd ac sydd wedi creu ansicrwydd yn hytrach nag eglurder. Mae arweinyddiaeth ac atebolrwydd yn dameidiog, gan adael y GIG a sefydliadau'r trydydd sector yn ei chael hi'n anodd cyflawni newid ystyrlon. Mae rhwystrau systemig yn gwaethygu'r broblem ymhellach. Atgyfeiriwyd un o fy etholwyr am archwiliad pellach ar ôl i’w deintydd ddod o hyd i annormaledd amheus. Fodd bynnag, am fod ei hachos wedi'i gategoreiddio fel un 'lle'r amheuir canser' yn hytrach na 'diagnosis' o ganser, cafodd ei heithrio o'r llwybr amser targed. Arhosodd flwyddyn, blwyddyn arteithiol, am ei hapwyntiad, ac mae oedi o’r fath nid yn unig yn fethiannau yn y system, maent yn peryglu bywydau.

Rwy’n cydnabod bod cyllid ar gyfer gofal canser wedi cynyddu dros y 13 mlynedd diwethaf, ac eto nid oes unrhyw beth wedi'i wneud i fynd i’r afael â'r prinder staff yn y gweithlu, capasiti diagnostig a bylchau o ran offer. Yn y cyfamser, mae elusennau hanfodol fel Tenovus, sy'n darparu cymorth rheng flaen i gleifion a'u teuluoedd, yn ei chael hi'n anodd ymdopi oherwydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n golygu eu bod £250,000—chwarter miliwn o bunnoedd—ar eu colled.

Mae rhwystrau i ofal yn ymestyn y tu hwnt i oedi. Mae rhai cyffuriau canser, a gymeradwywyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer rhai cyflyrau, yn parhau i fod yn anhygyrch i eraill lle gallent achub bywydau. Wynebodd un o fy etholwyr y sefyllfa hon. Mewn gwledydd eraill yn Ewrop, mae'r cyffuriau hyn ar gael am fod poblogaethau mwy o gleifion yn darparu data cadarn drwy dreialon. Felly, pam na allwn ddefnyddio tystiolaeth ryngwladol i gyflymu cymeradwyaeth yma yng Nghymru? Ni ddylai bywydau pobl fod yn y fantol oherwydd y rhwystr biwrocrataidd hwn.

Mae canfod canser yn gynnar yn hollbwysig, ond ar raglenni sgrinio, maent yn methu. Dim ond 500 o unigolion yng Nghymru sydd wedi cael archwiliadau iechyd yr ysgyfaint, o gymharu â channoedd o filoedd yn Lloegr. Gallai rhaglen sgrinio ysgyfaint wedi'i thargedu ar gyfer ysmygwyr a chyn-ysmygwyr dros 55 oed achub 200 o fywydau bob blwyddyn. Meddyliwch am hynny, 200 o bobl, o fywydau'n cael eu hachub drwy wneud hyn, ac yn enwedig yn y cymunedau difreintiedig. Pam nad ydym yn gweithredu ar hyn?

Ac yn olaf, mae'n rhaid mynd i’r afael ag argyfwng y gweithlu. Mae gwasanaethau oncoleg yng Nghymru yn ddifrifol o brin o staff, gyda dim ond tri oncolegydd i bob 100,000 o bobl hŷn yng ngogledd a gorllewin Cymru, o gymharu â 10 yn Llundain. Mae argyfwng ar y ffordd i wasanaethau patholeg, gyda hyd at 30 y cant o batholegwyr clinigol yn ymddeol yn y pum mlynedd nesaf. Fe wyddom eu bod yn mynd i ymddeol, gadewch inni ddechrau cynllunio ymlaen llaw. Gallai buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth helpu i liniaru'r pwysau, ond mae'n galw am ymrwymiad i foderneiddio, nid dal poster yn ystod etholiad yn unig.

Ddirprwy Lywydd, mae'r ddadl hon yn ymwneud â mwy na thargedau a fethwyd neu fethiannau polisi yn unig, mae'n ymwneud ag achub bywydau, rhoi gobaith i gleifion a'u teuluoedd. Mae arnom angen arweinyddiaeth gryfach, atebolrwydd cliriach a gweithredu brys. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru bennu amserlen glir ar gyfer cyflawni'r targedau y mae’n eu methu, egluro statws ei chynlluniau gwella gwasanaethau canser a rhoi argymhellion Archwilio Cymru ar waith. Yn anad dim, mae'n rhaid i gleifion fod wrth wraidd ein gwasanaethau canser. Nid galwad am newid yn unig yw hon, mae’n alwad am gyfiawnder, am dosturi ac am fywydau’r rhai rydym yn eu gwasanaethu. Ac yn wahanol i'r hyn y mae rhai am inni ei gredu, nid ar ein byrddau iechyd lleol y mae'r bai, ond ar y Llywodraeth Lafur hon.

16:40

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd yn cynnwys Canolfan Ganser Felindre ac Ysbyty Athrofaol Cymru, felly mae canran fawr o boblogaeth Cymru yn dod i’r etholaeth i gael diagnosis, triniaeth, ac wrth gwrs, llawdriniaethau ar gyfer canser. Drwy gydol fy amser yn cynrychioli Gogledd Caerdydd, yma yn y Senedd ac yn San Steffan, nid wyf wedi clywed unrhyw beth ond canmoliaeth i'r driniaeth y mae pobl wedi’i chael yn Felindre, a chredaf fod hynny'n dyst i’r gweithlu ymroddedig yno. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cymryd sylw o'r adroddiad gan Archwilio Cymru am wasanaethau canser yng Nghymru, a gwn y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny.

Ond heddiw, hoffwn dynnu sylw'r Senedd yn fyr at un ffordd y bydd gwasanaethau canser yn gwella, sef drwy'r gwasanaethau a gaiff eu darparu gan ganolfan ganser newydd Felindre. Mae wedi bod yn daith hir, ond ddydd Gwener diwethaf, cawsom ymweliad â safle adeiladu’r ysbyty newydd, lle mae'r gwaith yn mynd rhagddo, yn codi o’r ddaear, oherwydd wrth gwrs, mae ysbyty presennol Felindre yn 60 oed ac mae angen codi un newydd ar frys. Mae canolfan ganser newydd Felindre yn gyfle, yn gyfle enfawr, i greu canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer gwasanaethau canser yn ne-ddwyrain Cymru mewn ysbyty gwyrdd. Rwy'n edrych ymlaen cymaint at y diwrnod pan fydd y claf cyntaf yn camu drwy’r drysau hynny—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo gyda'r Felindre newydd, ac mae’n bwysig inni gael canolfan o safon fyd-eang, ond gan ei bod yn ysbyty annibynnol, onid ydych chi'n credu bod hwn yn gyfle a gollwyd i gael canolfan ganser newydd wedi'i chydleoli? Oni fyddai hynny'n well, gan mai dyna sydd ei angen yn ôl yr arbenigwyr?

Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglŷn â hynny, fel y gwyddoch, Mabon. Ni cheir unman lle mae'n bosibl cydleoli a darparu'r gwasanaeth sydd ei angen arnom yn daer, ac mae hynny eisoes wedi'i ystyried.

Bydd gan Ganolfan Ganser newydd Felindre wyth cyflymydd llinellol (LINAC), yn ogystal â'r ddau yn y ganolfan loeren radiotherapi a fydd yn agor yn y Fenni, ynghyd ag un byncer ymchwil a datblygu. Y peiriannau LINAC hyn yw'r gorau yn Ewrop, felly bydd y gwasanaeth y bydd cleifion yn ei gael yma yng Nghymru yn defnyddio'r peiriannau radiotherapi gorau yn Ewrop. Maent yn rhan o raglen ehangach yn Felindre sy’n cynnwys nifer o fanteision, gan gynnwys defnyddio un darparwr â system gwbl integredig, rhaglen amnewid peiriannau LINAC i gael peiriannau modern, blaengar sy’n gyflym ac yn effeithlon, sy’n caniatáu ar gyfer radiotherapi addasol, technoleg awtomataidd i adnabod cleifion, lleoli a rheoli symudiadau cleifion.

Mae'r ddau beiriant LINAC yn y Fenni wedi'u gosod yn y ganolfan loeren radiotherapi honno, sy’n cael ei chreu mewn partneriaeth rhwng Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cawsant eu gosod ym mis Tachwedd 2024, a oedd yn amlwg yn ymdrech enfawr i'r rhai ohonoch sydd wedi gweld y peiriannau LINAC hyn. Bydd y capasiti ychwanegol a grëir gan yr uned loeren radiotherapi o fudd i gleifion gan y bydd yn helpu i leihau amseroedd aros i gleifion sy’n aros am driniaeth radiotherapi, a hefyd yn lleihau amser teithio i rai cleifion sy’n byw yng Ngwent, a fyddai fel arall yn gorfod teithio i ganolfan Felindre. Bydd yr uned loeren radiotherapi yn cael ei staffio gan weithlu arbenigol sydd wedi'i recriwtio i ddarparu'r gwasanaethau newydd hyn.

Bydd yr uned loeren yn agor mewn dau gam. Yng ngham 1, bydd rhai cleifion canser y fron, canser y prostad a chleifion gofal lliniarol yn cael eu trin yn yr uned, a bydd mathau eraill o ganser yn dechrau cael eu trin yn yr uned yng ngham 2. Felly, mae cynnydd gwych yn cael ei wneud yn y maes hwn, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny’n cael ei gydnabod yma yn y Senedd heddiw. Canolfan Ganser Felindre hefyd yw'r darparwr gofal iechyd cyntaf yn y DU i ddefnyddio system IDENTIFY fersiwn 3.0, yn benodol ar gyfer system driniaeth radiotherapi Halcyon. Mae hyn yn nodi carreg filltir newydd yn y broses o ddatblygu gofal canser drwy dechnoleg flaengar. Mae hynny’n digwydd yng Nghymru heddiw; bydd pobl yn cael y driniaeth fwyaf diweddar sydd ar gael.

Amser cinio heddiw, lansiodd Sacyr, y cwmni sy’n adeiladu canolfan ganser newydd Felindre, ei blatfform cymunedol arloesol yn y Pierhead. Bydd hwn yn darparu manteision enfawr i'r gymuned leol o amgylch y ganolfan newydd. Dangoswyd tystiolaeth o hyn gan y nifer fawr o fudiadau gwirfoddol a oedd yno'n dathlu’r datblygiad hwn yn y ganolfan heddiw. Ond bydd hefyd yn darparu platfform i alluogi mwy o bobl i gamu i feysydd STEM a'r diwydiant adeiladu. Maent yn cyflogi prentisiaid, maent yn mynd i ysgolion, ac maent yn addysgu pynciau STEM. Yn y digwyddiad, cadarnhaodd Sacyr eu bod wedi ymrwymo i adeiladu canolfan ragoriaeth ar gyfer canser. Felly, wrth inni gael y ddadl hon yma yn y Senedd, roeddwn yn awyddus iawn i'r Aelodau gael gwybod am y dechnoleg flaengar newydd hon, gyda'r buddsoddiad enfawr a fydd ar gael i bobl yng Nghymru.

16:45

Mae'n ddiddorol dilyn y cyfraniad gan Julie Morgan; mae'n dechrau swnio fel y gwahaniaeth rhwng y rhai y mae ganddynt a'r rhai nad oes ganddynt yma yng Nghymru. O glywed geiriau Julie Morgan, byddech yn meddwl bod popeth yn wych, sy'n amlwg heb fod yn wir i ormod lawer o bobl ledled Cymru. Ac mae hynny er gwaethaf gwaith caled meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Mae'n amlwg fod camreoli Llafur yma ym Mae Caerdydd yn gwneud eu swyddi'n anos nag y dylent fod. Ac nid wyf yn difrïo'r gwaith da sy'n mynd rhagddo yn ôl pob golwg, fel y mae Julie Morgan wedi'i nodi, ond mae'n ddarlun gwahanol iawn ledled Cymru, ac mae hynny'n rhan o'r gwahaniaeth a'r broblem yr ydym yn ei thrafod yma heddiw.

Mae'n amlwg fod Llafur Cymru wedi torri'r system, lle mae targedau'n cael eu methu'n gyson a chleifion yn cael eu gadael i ddioddef yn ddiangen. Ac nid ni'n unig sy'n dweud hynny, rydym yn ymwybodol iawn o adroddiad Archwilio Cymru sy'n cyfeirio at y methiannau hyn hefyd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu'n gyson â chyrraedd eu targed o 75 y cant o gleifion canser yn dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod. Credaf fod un o fy nghyd-Aelodau newydd ddweud nad yw'r targed hwnnw erioed wedi cael ei gyrraedd—nid yw erioed wedi cael ei gyrraedd ers iddo gael ei gyflwyno. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am hyn? Beth yw pwynt cael y targedau os nad ydynt byth yn mynd i'w cyrraedd?

Dywedodd Archwilio Cymru fod methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad cenedlaethol ar gyfer canser yma yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen inni weld amserlen glir ar gyfer cyflawni'r targedau hynny. Mae'n sicr y byddai hynny'n rhan o'r ateb i drwsio'r system doredig a welwn yma yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod amserlenni ac atebolrwydd yn bethau y mae Llafur yn hoffi eu cael ar waith. Mae angen inni weld ffyrdd llawer mwy beiddgar a mwy uchelgeisiol o ymdrin â’r targedau hyn y mae angen eu cyflawni er lles pobl ledled Cymru.

Mae Archwilio Cymru, fel y gwyddom, wedi darparu 10 argymhelliad yn eu hadroddiad 'Gwasanaethau Canser yng Nghymru’, ac mae rhai o’r argymhellion hynny’n cynnwys egluro statws y cynllun gwella gwasanaethau canser yn gyhoeddus. Roedd gennyf ddiddordeb mewn clywed fy nghyd-Aelodau'n disgrifio’r holl wahanol gynlluniau a strategaethau sydd ar waith ar hyn o bryd, ac yn amlwg, nid oes yr un ohonynt yn gweithio’n iawn. Ond mae Archwilio Cymru hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i gydweithio’n agosach â gweithrediaeth y GIG, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ymddiriedolaethau’r GIG i weld set fwy cynhwysfawr o ddata cyhoeddus ar wasanaethau canser. Rwy'n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddech yn cydnabod bod angen i'r data hwnnw fod yn gliriach, fel y gall pobl fel chi ddwyn eraill i gyfrif am berfformiad gwasanaethau canser.

Yr argymhellion hynny o adroddiad Archwilio Cymru ac eraill sy'n rhan o'r hyn sydd ei angen i sicrhau system gofal iechyd weithredol a all drin canser yn effeithiol yng Nghymru. Yn anffodus, fe wyddom mai dyma brif achos marwolaeth yn ein gwlad, pan fo modd atal pedwar o bob 10 achos o ganser bob blwyddyn yng Nghymru. Mae hwnnw'n ystadegyn brawychus. O bob 10 achos o ganser, mae modd atal pedwar o’r rheini’n llwyr, ac mae’n rhywbeth y dylem fod yn canolbwyntio'n agos iawn ar fynd i'r afael ag ef.

Rydym eisoes wedi clywed gan gyd-Aelodau, Ddirprwy Lywydd, mai rhan fawr o'r hyn sydd ei angen i drwsio'r system yw recriwtio a chadw staff. Yn fy rhan i o Gymru, yn y gogledd, mae gennym oddeutu tri oncolegydd yn gwasanaethu pob 100,000 o bobl hŷn. Nid yw'n syndod eu bod ar ben eu tennyn. Fe wyddom hefyd, maes o law, y bydd oddeutu 30 y cant o batholegwyr clinigol yn ymddeol yn y pum mlynedd nesaf, sy’n dangos, unwaith eto, yr angen i recriwtio.

Ateb arall y dylai’r Llywodraeth fod yn ceisio'i roi ar waith yw’r ffordd y mae’n comisiynu ac yn ymgysylltu â gwasanaethau traws-sector a thrawsffiniol. Fe wyddom fod Cymru’n frith o academyddion ac entrepreneuriaid sydd am gyflwyno eu hymchwil ac sydd am gyflwyno eu cynnyrch, eu syniadau a’u gwasanaethau, ond rwyf wedi gweld, dro ar ôl tro, fod gormod lawer o’r syniadau, yr ymchwil, y cynhyrchion a'r gwasanaethau hynny'n cael eu llesteirio gan y systemau a'r gweithdrefnau biwrocrataidd sydd ar waith. Mae hynny'n drueni mawr, gan fod syniadau a chynhyrchion gwych allan yno y gellid eu rhoi ar waith yn gyflym iawn pe bai ewyllys ac awydd gwirioneddol i wneud hynny.

Mae angen i hynny newid. Mae angen inni weld y system yn cael ei thrwsio, mae angen inni weld gwell recriwtio a chadw staff, ac mae angen inni weld diwedd ar gamreoli cronig Llafur er mwyn unioni'r sefyllfa hon a thrwsio gwasanaethau canser yma yng Nghymru. I’r perwyl hwnnw, galwaf ar gyd-Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi ein cynnig heno. Diolch yn fawr iawn.

16:50

Fel y soniais i yn ystod dadl Plaid Cymru ar restrau aros yr wythnos diwethaf, un o ganlyniadau cyflwr presennol ein system iechyd yw dyfnhau anghydraddoldebau iechyd, sy'n costio dros £300 miliwn y flwyddyn i'n gwasanaeth iechyd ac sy’n parhau i danseilio'n ddifrifol hefyd ymdrechion polisi eraill i greu cymdeithas fwy teg a mwy cyfartal. 

O ystyried ei fod bellach yn gyflwr mor gyffredin ar draws Cymru, does dim syndod bod canser yn enwedig yn tanlinellu'r anghydraddoldebau yma ac yn amlygu'r gwahaniaethau trawiadol i'ch tebygolrwydd o gael canser ac o oroesi canser. Er enghraifft, tra bod cyfraddau canser yn cynyddu ar draws Cymru gyfan o ganlyniad i’r tueddiadau a'r patrymau bywyd y sonioch chi amdanyn nhw, Mabon, mae amgylchiadau economaidd yn golygu dosbarthiad anghymesur o effaith y pethau hyn. 

Bydd unigolyn sy'n dod o un o gymunedau mwyaf difreintiedig ein cenedl bron i 20 y cant yn fwy tebygol o ddatblygu canser ar gyfartaledd o'i gymharu â rhywun sy'n dod o un o'n cymunedau llai difreintiedig, ac yn 17 pwynt canran yn llai tebygol o oroesi canser bum mlynedd ar ôl derbyn diagnosis. Yn fwyaf damniol fyth yw’r ffaith bod cyfraddau marwolaeth o ganser 55 y cant yn uwch yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Y neges glir sy’n deillio o’r ystadegau yma yw bod tlodi yn llythrennol yn eich lladd; yn pwyso ar y dafol sy'n penderfynu hyd eich bywyd yn y byd hwn.

Pan ŷn ni'n clywed y Llywodraeth yn taflu bai, ar adegau, ar bobl am beidio â chymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd, mae'n rhaid imi ddweud bod hynny'n taro nodyn anghyfforddus iawn gyda fi. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni geisio cadw'n hunain yn iach, ond mae adroddiad ar ôl adroddiad yn dangos bod ein hiechyd yn cael ei benderfynu gan fwyaf gan yr amodau rŷn ni'n cael ein geni ynddyn nhw, nid ein dewisiadau personol—yr amodau rŷn ni'n tyfu lan ynddyn nhw, ac yn byw ac yn gweithio ynddyn nhw, ac yn heneiddio ynddyn nhw.

Ein sefyllfa economaidd-gymdeithasol sy'n penderfynu natur yr amodau yma. Y tlotach ŷch chi, y gwaethaf yw'r ardal rŷch chi'n byw ynddi; rŷch chi'n llai tebygol o gael swydd sefydlog a rheolaeth dros eich patrwm a'ch amodau gwaith; rŷch chi'n llai tebygol o fod â mynediad at fwyd ffres, da, fforddiadwy; ac rŷch chi'n fwy tebygol o fyw mewn cartref sy'n effeithio’n andwyol ar eich iechyd. Ac, wrth gwrs, mae'r holl amgylchiadau hyn hefyd yn eich gwneud chi'n fwy tebygol o ymddwyn mewn ffordd sy'n niweidiol i'ch iechyd, drwy ysmygu neu drwy gamddefnyddio alcohol.

Mae gan y ddwy blaid unoliaethol erbyn hyn gyfrifoldeb dros benderfyniadau sy'n dyfnhau tlodi. Dyma pam bod unrhyw ymdrech i wella cyfraddau canser yn cael ei danseilio yn uniongyrchol gan rai o ddewisiadau'r bartneriaeth mewn grym ar fesurau tlodi, sy’n cynnwys methiant y Llywodraeth yma i osod targedau statudol ar leihau tlodi plant er mwyn gyrru cynnydd a chyflawni ar y polisïau all wneud gwahaniaeth, a phenderfyniad anfaddeuol Llafur yn San Steffan i beidio â chael gwared ar y cap dau blentyn a'r terfyn ar fudd-daliadau sy'n gyrru teuluoedd i dlodi.

Mae anghydraddoldebau o ran gwasanaethau canser hefyd yn dod i'r amlwg pan edrychwn ni ar rywedd. Ar gyfartaledd, mae menywod yng Nghymru yn llai tebygol o dderbyn triniaeth canser o fewn y cyfnod clinigol delfrydol na dynion, ac o ran canser gynecolegol, dim ond 33.6 y cant o gleifion sy’n derbyn triniaeth o fewn yr amser yma. Y canlyniad anochel yw bod cyfraddau marwolaeth o ganser gynecolegol yn uwch yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol. Ond yn unol â phatrwm sy’n siomedig o gyffredin ar draws materion iechyd menywod, nid yw hyn yn derbyn y sylw y mae'n ei haeddu. Gwarth o beth yw'r ffaith taw ni oedd y genedl ddiwethaf yn y Deyrnas Gyfunol i gyflwyno cynllun iechyd menywod.     

Mae negeseuon iechyd cyhoeddus ar bwysigrwydd siecio symptomau yn cael eu clywed gan etholwyr, ond mae'r frwydr wedyn i gael apwyntiad, cyfeiriad a thriniaeth, a'r oedi hir sy'n gallu digwydd yn y broses honno, yn rhy aml yn arwain at ofid, ac, mewn rhai achosion, at ganlyniadau y gellid fod wedi eu hatal yn nhermau dynol ac ariannol. Mae fy mewnflwch i yn llawn ohonyn nhw. 

Mae canser yn taro un o bob dau ohonom yn ystod ein bywydau, ond mae'ch sefyllfa economaidd a'ch rhywedd yn dal i bwyso'r dafol yn eich erbyn yn ormodol. Mae'n rhaid inni weld newid gêr sylfaenol gan Llafur i atal tlodi a chyflymu'r gwaith ar ddileu anghydraddoldebau rhywedd ym maes iechyd. Mae’n anochel taw cynyddu fydd yr anghydraddoldebau niweidiol yma o fewn gofal canser ac o ran cyfle pobl i oroesi canser os na welwn ni weithredu.

16:55

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Credaf ei bod yn bwysig bod yn ddi-flewyn-ar-dafod a gonest wrth ddweud bod canfyddiadau’r adroddiad hwn yn warthus, a bod yn ddi-flewyn-ar-dafod a gonest hefyd wrth ei roi yn ei gyd-destun o ran yr hyn rydym yn ei drafod yma. Rwyf wedi clywed gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd am y pethau gwych sy'n digwydd drwy Felindre, ac mae hynny'n wych, ond yr hyn nad oes gennym yn ôl pob golwg yw synergedd ledled Cymru, a buddsoddiad yn y dechnoleg yng Nghymru drwyddi draw. Credaf fod hynny'n bwysig iawn wrth symud ymlaen a mynd i'r afael â'r problemau hyn a gwneud i'r gwelliannau hynny adlewyrchu ledled y wlad, oherwydd y tu ôl i'r ystadegau hyn, mae pobl go iawn a theuluoedd go iawn yn aros mewn gofid, yn anffodus. Dywedwyd sawl gwaith fod Cymru yn safle 32 ar gyfer canser y stumog ac yn safle 31 ar gyfer canser y pancreas a chanser yr ysgyfaint. Dyma'r canserau lleiaf goroesadwy. Cawsom y sesiwn alw heibio yn y Senedd yr wythnos diwethaf, a chyfarfûm â’r grwpiau a oedd yn sôn am y sefyllfaoedd gofidus hyn.

Mae llawer o’r hyn roeddwn am ei ddweud yn wreiddiol yn y ddadl hon eisoes wedi’i ddweud, ac nid wyf yn rhywun a fydd yn ailadrodd pethau er mwyn eu hailadrodd, gan eu bod wedi'u dweud sawl gwaith o'r blaen, ond hoffwn roi sylw i rywbeth ar lefel y Llywodraeth. Mae popeth a glywn gan y Llywodraeth hon yn ymwneud ag ymddangosiad ac edrych fel pe bai gwaith ar y gweill i wella’r pethau hyn, ond wedyn nid oes unrhyw beth byth yn cael ei gyflawni. Pam ein bod yn y llanast hwn? Mae gennym Weinidog cyflawni, ond ni all unrhyw un ddweud wrthym beth yw ei swydd mewn gwirionedd. Mae'n chwerthinllyd, ac mae'n nodweddiadol. Dyma ddyddiau olaf Llywodraeth sy’n methu. Dyma 26 mlynedd o fethiannau ar draws ein systemau GIG.

Roedd gan un o aelodau fy nheulu, er enghraifft, gamau cynnar canser yr iau y llynedd, a wyddoch chi beth a ddywedodd wrthyf? Meddai, 'Rwy'n falch nad oedd fy nhriniaeth yng Nghymru.' Nid oes ganddi asgwrn gwleidyddol yn ei chorff, a dywedodd, 'Roeddwn yn falch fod fy nhriniaeth yn Lerpwl, a chefais beth triniaeth yn Birmingham hefyd.' Byddai wrth ei bodd yn cael ei thrin yng Nghymru, byddai wrth ei bodd yn cael ei thrin gartref, nid yw’n teithio’n bell iawn, ond mewn gwirionedd, roedd hi'n falch fod ei thriniaeth yn Lloegr, yn anffodus. Rhannais rywbeth y bore yma am Mike Peters, sy'n mynd drwy therapi CAR-T—unwaith eto, mae hynny yn Lloegr. Mae yng nghanolfan y Christie ym Manceinion. Pam nad ydym ar flaen y gad gyda rhai o'r technolegau arloesol hyn? Dylai hyn fod yn un o uchelgeisiau pennaf y Llywodraeth, ond eto, rydym yma unwaith eto'n dadlau methiant arall gan y Llywodraeth hon. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Mae gennym ddewis yn y 12 i 18 mis nesaf ynglŷn â dyfodol y wlad hon. Mae'r GIG wedi torri, mae Cymru wedi torri, a dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy'n barod i gamu i'r adwy a datrys y problemau mwyaf sy'n wynebu Cymru. Diolch yn fawr iawn.

17:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Archwilio Cymru'r wythnos diwethaf a'r datganiad ysgrifenedig, rwy'n croesawu'r cyfle i roi ar gofnod sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i wella gwasanaethau canser. 

Casgliad adroddiad Archwilio Cymru oedd bod canlyniadau yn gwella ond bod angen arweinyddiaeth gryfach i sbarduno gwelliannau pellach. Rwyf am fod yn glir bod Gweinidogion yn gosod y disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau canser yr NHS, ac ar gyfer y cyllid, ac mae Archwilio Cymru wedi cydnabod hefyd fod y cyllid wedi cynyddu. Mae'r disgwyliadau a'r safonau wedi'u nodi yn natganiad ansawdd 2021 ar gyfer canser. Mae cyrff y gwasanaeth iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau yn unol â disgwyliadau'r llwybrau cenedlaethol a'r manylebau gwasanaeth yn y datganiad ansawdd. Mae gweithrediaeth yr NHS yn cefnogi'r gwaith o roi'r datganiad ansawdd a'r llwybrau clinigol ar waith, drwy weithio gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Rŷn ni wedi cynnal ein hadolygiad mewnol ein hunain o'r trefniadau hyn, ac wedi penderfynu bod angen inni sefydlu grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol ar gyfer canser. Bydd hwn yn cydlynu llu o wahanol weithgareddau a swyddogaethau sy'n gysylltiedig â gwella gwasanaethau canser ar draws Cymru. Fel y dywedais i yn fy natganiad, bydd y grŵp hwn yn cael ei sefydlu ar unwaith, dan arweiniad y dirprwy brif swyddog meddygol, ac mi fydd e'n adrodd i mi ar gynnydd. Fel y dywedais i hefyd, gan fod tair blynedd erbyn hyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, nawr yw'r amser i adolygu ei gynnwys ac i sicrhau ei fod e'n disgrifio yn iawn sut mae'r holl waith pwysig sydd wedi datblygu ers hynny yn cysylltu gyda'i gilydd. Byddwn ni'n ei ddiweddaru i sicrhau ei fod yn disgrifio yn iawn beth yw rôl y cynllun gwella canser, y rhaglen adfer canser a ffrydiau gwaith cenedlaethol eraill sy'n ymwneud ag arloesi ac ymchwil.

Bu rhywfaint o ddryswch ynghylch y cynllun gwella gwasanaethau canser. Ymateb y GIG ydyw i ddatganiad ansawdd Llywodraeth Cymru. Mae'n adlewyrchu eu bwriadau cynllunio ac rydym yn monitro sut y mae'n cael ei weithredu. Ddirprwy Lywydd, mae gwella gwasanaethau canser wedi bod ac yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac roeddwn yn ddiolchgar i Julie Morgan am ein hatgoffa o'n buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd blaengar yn Felindre, er enghraifft. Bob blwyddyn rydym yn cynnal uwchgynhadledd genedlaethol ar ganser, gan ddod â holl uwch arweinwyr y GIG ynghyd i ganolbwyntio ar wella perfformiad i gyrraedd y targed o gael 75 y cant o bobl i ddechrau triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod, gan leihau'r ôl-groniad o bobl sy'n aros mwy na 62 diwrnod, ac yn hollbwysig, gweithredu'r llwybrau canser cenedlaethol yn gyson ledled Cymru.

Bob mis, mae uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth gweithrediaeth y GIG, yn cyfarfod â phob bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar berfformiad canser a'r camau y maent yn eu cymryd i'w wella. Mae hyn yn ychwanegol at y strwythur atebolrwydd hanner blwyddyn ar gyfer pob gwasanaeth arall. Rydym hefyd yn dod â rheolwyr canser y GIG ac uwch glinigwyr ynghyd i rannu gwybodaeth am wasanaethau, arfer da a dysgu.

Mae'r perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod wedi sefydlogi ac mae enghreifftiau o gynnydd gwirioneddol mewn rhai rhannau o Gymru. Fe wyddom, er enghraifft, y gall dulliau gwasanaeth un stop ar gyfer rhai canserau yrru perfformiad ymhell uwchlaw'r ganran darged, fel y mae'n ei wneud yng Nghymru. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyflawni mwy na 70 y cant, fel y nododd Aelodau yn y ddadl eisoes heddiw, a bob mis mae niferoedd uwch nag erioed o bobl yn cael y newyddion da nad oes ganddynt ganser, ond mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd. Mae llawer gormod o amrywio rhwng byrddau iechyd yn erbyn y targed o 62 diwrnod, a rhwng mathau o ganser.

Rydym yn ariannu gweithrediaeth y GIG i ddarparu pecyn o gymorth adfer ar gyfer canser, a ddarperir gan glinigwyr arbenigol a rheolwyr rhaglenni sy'n gweithio gyda byrddau iechyd i newid y ffordd y mae llwybrau canser a modelau gwasanaeth yn gweithio. Mae cam cychwynnol y gwaith wedi canolbwyntio ar y mathau o ganser lle disgwylir i welliannau i wasanaethau sicrhau'r effaith fwyaf ar berfformiad yng nghanserau'r fron a'r croen, a chanserau gynaecolegol, gastroberfeddol isaf a niwrolegol. Nod y rhaglen yw gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd drwy sbarduno newid yn y ffordd y mae byrddau iechyd yn darparu gofal yn gyson, ac mae hyn yn cynnwys anfon pobl yr amheuir bod canser arnynt i gael prawf yn syth heb fod angen apwyntiad cleifion allanol. Fel y clywsom heddiw'n barod, rydym wedi buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn cyfleusterau, mewn offer diagnostig ac mewn offer triniaeth.

Ond mae gwella canlyniadau canser a chyfraddau goroesi yn mynd y tu hwnt i wasanaethau canser, fel y clywsom yn y ddadl heddiw; siaradodd Sioned Williams yn rymus iawn ar y mater hwn. Mae angen inni ganolbwyntio ar atal hefyd. Rydym wedi llwyddo i leihau cyfraddau ysmygu yng Nghymru a bydd cyflwyno'r brechiad papilomafirws dynol, er enghraifft, yn chwarae rhan bwysig yn lleihau, a gobeithio, dros amser, yn dileu achosion o ganser ceg y groth. Ond rydym ar bwynt, Ddirprwy Lywydd, lle mae gordewdra ar fin goddiweddyd ysmygu fel prif achos salwch y gellir ei atal. Mae bod dros bwysau a gordewdra wedi cael ei gysylltu â 13 math gwahanol o ganser.   

Ar y sgrinio rydym am ei weld, yn ogystal â'r symud ymlaen a welsom gyda sgrinio canser y coluddyn, rwyf wedi gofyn am gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar weithredu rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint chwe mis yn gynt na'r bwriad gwreiddiol, i fy ngalluogi i wneud penderfyniad cynharach.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am gau fy nghyfraniad i'r ddadl drwy groesawu adroddiad Archwilio Cymru. Mae'n ddiamwys yn ei gasgliad ein bod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau canser ond bod mwy i'w wneud, ac mae ganddo argymhellion defnyddiol iawn. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i bawb ar draws y GIG sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru. Fel y clywsom heddiw, wrth i'n poblogaeth heneiddio, ac wrth i'r hyn y gall y GIG ei wneud barhau i esblygu, mae'n bwysig cydnabod y bydd cynaliadwyedd gwasanaethau yn dibynnu ar sut y gallwn greu'r gallu i wneud diagnosis a thrin pobl o fewn y fframiau amser angenrheidiol. Mae hon yn her sy'n cael ei hwynebu ledled y DU, ond byddaf yn parhau i ganolbwyntio sylw ein GIG ar wella mynediad at ofal o ansawdd er mwyn inni allu cyflawni'r canlyniadau gorau posibl i bawb sy'n wynebu diagnosis o ganser.  

17:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae diagnosis o ganser yn newyddion dinistriol iawn, a dylwn wybod—ac rwy'n datgan diddordeb am fod un o fy anwyliaid wedi cael y newyddion erchyll hwnnw yn ddiweddar—a hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sy'n gweithio, o'n staff rheng flaen, mewn unrhyw adran mewn unrhyw ysbyty. Na foed i neb gamgymryd, y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yw testun ein beirniadaeth. Er gwaethaf mwy o gyllid, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrafael â gohiriadau i driniaeth, capasiti cyfyngedig, diffyg atebolrwydd, gan adael llawer o gleifion mewn perygl, a chanlyniadau ymhell islaw safonau'r DU.

Dywedwyd wrth etholwr a atgyfeiriwyd o dan y llwybr canser pythefnos brys, rhaff achub allweddol ar gyfer diagnosis cynnar—dywedwyd wrthynt wyneb yn wyneb—y byddai oedi o 20 wythnos oherwydd prinder staff. Felly, a ydych chi'n deall, Ysgrifennydd y Cabinet? Rydych chi'n cael gwybod bod gennych chi ganser, rydych chi'n meddwl, 'Wel, rwy'n darllen yma fod rhaid i mi aros cymaint â hyn', ac yna dywedir wrthych ei fod wedi mynd o bythefnos i 20 wythnos. Mae hynny'n erchyll. Yn waeth byth, ni ddarparwyd dyddiad penodol o gwbl. Mae'r mathau hyn o oedi'n tanseilio'r system atgyfeirio ac yn gosod y claf mewn perygl sylweddol. Ni chânt eglurder ynglŷn â phryd y bydd eu biopsi neu eu triniaeth yn dechrau hyd yn oed. 

Esboniodd James Evans yn huawdl wrth agor y ddadl hon fod angen cynlluniau hirdymor a'r angen am fwy o offer diagnostig gwell. Yn rhy aml, clywn am gleifion yn mynd i weld rhywun ynglŷn â'u symptomau, nid unwaith, nid ddwywaith, nid deirgwaith, na phedair gwaith—weithiau cymaint â phum gwaith cyn y gwneir diagnosis o ganser. Cafodd canser prin ei ganfod yn y pen draw yn achos etholwr arall i mi ar ôl ymyrraeth, wedi iddynt dalu i fynd i weld meddyg preifat, ac fe atgyfeiriodd y claf ar frys i Lerpwl am ofal arbenigol.

Fe dynnodd Gareth Davies sylw at yr adroddiadau gwarthus rydym yn eu trafod a sut y mae triniaeth yn Lloegr yn cael ei gweld yn llawer gwell na Chymru, ond mae pobl eisiau cael triniaeth o'r fath yma yng Nghymru. Beth yw pwynt datganoli os na allwch drin eich cleifion eich hun o Gymru yng Nghymru? Rydych chi wedi cael 26 mlynedd i wneud hyn, ac rydych chi wedi methu.

Mae oedi a dibyniaeth ar ofal preifat yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ond maent yn annerbyniol. Fe wnaethoch chi wario cynnydd o 54 y cant, mewn termau real, ar wariant canser dros 13 mlynedd. Mae llawer o'r cyllid hwn wedi'i lyncu gan gostau cyffuriau cynyddol a thriniaethau uwch, heb adael digon o adnoddau i ehangu unrhyw gapasiti. Yn ogystal, mae systemau diagnostig awtomataidd sy'n hanfodol ar gyfer effeithlonrwydd yn parhau heb eu datblygu'n ddigonol. Nid oes unrhyw fwrdd iechyd eto wedi cyrraedd y targed o ddechrau triniaeth 75 y cant o gleifion canser o fewn 62 diwrnod ar ôl eu hatgyfeirio, ers mis Awst 2020. Rydych chi'n mynd am yn ôl. Ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, dim ond 51 y cant o gleifion sy'n cael eu gweld o fewn ffrâm amser o'r fath.

Cyfradd marwolaethau canser Cymru yw'r ail uchaf yn y DU, y tu ôl i'r Alban yn unig. Yn frawychus, yn aml gwneir diagnosis o ganserau llai goroesadwy fel canser y pancreas, yr ysgyfaint a'r bledren yng ngham 4, pan fo'r cyfraddau goroesi ar eu hisaf. Ym mis Ionawr 2024, datgelodd y tasglu canserau llai goroesadwy fod Cymru ymhlith y gwaethaf yn fyd-eang o ran cyfraddau goroesi canserau'r stumog, y pancreas, yr ysgyfaint a'r ymennydd. Mae Aelodau eraill wedi sôn am ffordd o fyw—o, Mabon—a'r tueddiadau demograffig, a'r gwaith y mae Tenovus Cymru yn ei wneud. Mae diffyg archwiliadau cenedlaethol ar gyfer yr ysgyfaint i boblogaethau risg uchel—wyddoch chi, ar gyfer ysmygwyr dros 55 oed—yn rhwystro'r gallu i ganfod yn gynnar. Mae tangofnodi ethnigrwydd cleifion canser yn gwaethygu'r heriau hyn, gyda data wedi ei gasglu ar gyfer 15 y cant i 50 y cant yn unig o gleifion, er gwaethaf mandadau o dan y llwybr canser sengl.

Rhaid imi ddiolch i'r rhai sy'n gweithio yn ein hosbisau, ond maent yn gwneud hynny yn erbyn cefndir o lai o gyllid. Ac mae'n rhaid imi ofyn i chi, mae'n ffaith wybyddus, am bob £1 o gyllid hosbis a roddwch, rydych chi'n sicr yn cael canlyniad da iawn ar y pen arall. Ac mae'n fy rhyfeddu, pe na bai'r bobl hynny yn yr hosbisau sy'n ymdrechu i ddarparu gofal o'r ansawdd gorau, fe fyddech chi'n talu am y cleifion hynny hefyd.

Sam Kurtz ar sut y mae Cymru'n methu cyrraedd ei thargedau canser: safle 32 allan o 33 ar gyfer canser y stumog. Siaradodd am ganser yr ysgyfaint hefyd. Gallai 200 o fywydau gael eu hachub—gan fod atal yn bwysicach. Julie Morgan—diolch, Julie, am dynnu sylw at ba mor wych yw Felindre, ac rwy'n cytuno â chi. Mae ganddynt y dechnoleg ddiagnostig a'r triniaethau a'r gofal gorau na allwn ni yn y gogledd ond breuddwydio amdanynt. Yn anffodus, ni all unrhyw un, hyd yn oed fy etholwyr, gael mynediad at wasanaeth o'r ansawdd yr oeddech chi'n siarad amdano. 'Y gorau yn Ewrop'; fe ddylai fod y gorau yng Nghymru. Dylem fod y gorau yn Ewrop fel gwlad, gyda'n gwasanaeth iechyd. Peiriannau radiotherapi—yn y bôn, Julie, os nad oes ots gennych fy mod yn dweud hynny, os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd, roeddech chi'n dweud y byddai gennych well gobaith o fyw pe baech chi'n cael diagnosis o ganser. Mae loteri cod post amlwg yma yng Nghymru o ran daearyddiaeth—[Torri ar draws.] Ie.

17:10

A ydych chi'n ymwybodol fod contract Felindre yn cael ei archwilio gan ddau bwyllgor y Senedd ar hyn o bryd?

A ydych chi'n ymwybodol nad Caerdydd yn unig y mae Felindre'n ei wasanaethu, mae'n gwasanaethu de Cymru gyfan, y Cymoedd i gyd; mae'n gwasanaethu ardaloedd difreintiedig iawn?

Ac mae hynny'n help mawr i mi yn y gogledd. Diolch, Julie. Mae'n well peidio â chymhlethu hynny. Mae loteri cod post amlwg yma yng Nghymru o ran y lledaeniad daearyddol. Mae'n angharedig, mae'n annheg ac yn anghydraddoldeb. Rydym bob amser yn siarad am gydraddoldeb ac amrywiaeth a phethau felly yn y lle hwn. Beth am anghydraddoldeb iechyd go iawn? Tynnodd Sioned Williams sylw at yr anghydraddoldebau hyn rhwng gwasanaethau canser, yn enwedig yn erbyn menywod. Unwaith eto, wyddoch chi—. Sam Rowlands—yn iawn i dynnu sylw at y rhai y mae ganddynt a'r rhai nad oes ganddynt o ran darpariaeth canser, a siaradodd am weithio trawsffiniol.

Mae hon wedi bod yn ddadl onest iawn, yn tynnu sylw at fethiannau brawychus Llywodraeth Cymru gyda'i chanlyniadau canser. Rydych chi wedi cael 26 mlynedd nawr o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Y Ceidwadwyr Cymreig yn unig sy'n gallu trwsio'r system ganser yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd pobl Cymru yn ymddiried ynom ym mis Mai 2026, ac yn gadael i Darren Millar fod yn Brif Weinidog Cymru, ac yn gadael i ni drwsio Cymru a thrwsio ein triniaeth ganser fel bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg i drechu clefyd mor erchyll. Diolch.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Therapyddion lleferydd ac iaith

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 7, ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, therapyddion lleferydd ac iaith. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8795 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith y mis hwn.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei chyflawni wrth ddarparu triniaeth, cymorth a gofal i bobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.

3. Yn gresynu bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru fesul pen o'r boblogaeth, nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

4. Yn deall, yn ôl y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, fod gan 71 y cant o blant a ddedfrydwyd anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu.

5. Yn cefnogi galwadau gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith i gynyddu nifer y therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru a gwella gwaith cynllunio'r gweithlu ar gyfer y proffesiwn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu model cyllido clir, cynaliadwy ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid ar draws Cymru; a

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i fandadu presenoldeb therapydd lleferydd ac iaith ym mhob tîm cyfiawnder ieuenctid fel gofyniad statudol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Wel, rwy'n llongyfarch Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith ar eu pen-blwydd yn 80 y mis hwn. Er bod y rôl a gyflawnir gan therapyddion lleferydd ac iaith yn hanfodol, mae ein cynnig yn cydnabod bod llai o therapyddion lleferydd ac iaith i bob pen o'r boblogaeth yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r DU, ac yn cefnogi galwad y coleg brenhinol i gynyddu nifer y therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru a gwella gwaith cynllunio'r gweithlu ar gyfer y proffesiwn.

Ar ôl i mi'n bersonol fod yn brwydro 24 mlynedd yn ôl i sicrhau therapi lleferydd ac iaith i un o fy mhlant, rwy'n gwybod pa mor hanfodol yw therapi o'r fath i fywydau ifanc a chyfleoedd bywyd. Mae 15 mlynedd bellach ers adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, 'Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad plant Cymru mewn sefydliadau diogel', ac roeddwn i'n rhan o'r gwaith hwnnw. Fe wnaethom adrodd bod yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai a Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith wedi dweud wrthym fod gan o leiaf 60 y cant o blant a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu—15 mlynedd yn ôl—ac argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru alluogi gwaith peilot i gael ei wneud yng Nghymru ar fanteision posibl therapi lleferydd ac iaith i droseddwyr ifanc, yn y ddalfa ac wrth gael eu rhyddhau.

Gellir defnyddio therapi lleferydd i drin anhwylderau iaith, anhwylderau lleferydd a phroblemau llyncu. Gall anhwylder iaith yn ystod plentyndod effeithio ar allu plentyn i ddysgu siarad, i enwi gwrthrychau ac i adeiladu brawddegau cyflawn. Gall anhwylder iaith, neu affasia, gael ei achosi gan niwed i'r ymennydd, yn aml ar ôl strôc, gyda phobl yn cael trafferth ffurfio brawddegau neu gofio geiriau. Mae pobl ag anhwylderau lleferydd yn cael anhawster cynhyrchu seiniau lleferydd, dweud geiriau'n glir, neu siarad yn rhugl. Mae plant yn aml yn cael trafferth gydag ynganu, ac efallai fod ganddynt lisp, neu eu bod yn cyfnewid rhai synau ag eraill. Gall anhwylderau lleferydd ddigwydd o ganlyniad i gyflyrau datblygiadol, ond gall ffactorau seicolegol chwarae rhan hefyd.

Mae therapi lleferydd hefyd yn cynorthwyo pobl sydd â phroblemau llyncu, lle effeithir ar symudiadau'r cyhyrau sy'n gysylltiedig â llyncu. Mae hyn yn arwain at broblemau wrth drosglwyddo bwyd drwy'r geg a'r gwddf. Yr achos yn aml yw clefyd neu anhwylder y system nerfol, megis clefyd Parkinson, sglerosis ymledol, dementia, haint fel clefyd Lyme neu tetanws, neu anaf i'r pen. Os oes bwyd yn mynd i mewn i'r ysgyfaint oherwydd anhwylder llyncu, gall arwain at gymhlethdodau sy'n peryglu bywyd.

Ceir tystiolaeth ryngwladol gref fod nifer yr achosion o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn llawer mwy cyffredin ymysg troseddwyr nag yn y boblogaeth gyffredinol, ac fel y noda ein cynnig, mae ystadegau diweddaraf y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn dangos bod gan 71 y cant o blant a ddedfrydwyd yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, o'i gymharu â 10 y cant amcangyfrifedig o blant a phobl ifanc yn gyffredinol.

Yn ôl y coleg brenhinol, mae'r tîm therapi lleferydd ac iaith cyfiawnder ieuenctid mwyaf sefydledig yng Nghymru yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Yn bryderus, nododd eu hadroddiad gwasanaeth blynyddol ar gyfer 2023-24 fod 89 y cant o bobl ifanc yn y gwasanaeth ag anghenion cyfathrebu lleferydd ac iaith.

Mae'r rhai sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid yn aml yn gwneud hynny o leoliadau lle na chafodd eu hanghenion cyfathrebu eu nodi'n flaenorol. Nid oedd ond 5 y cant wedi cael eu hanghenion cyfathrebu wedi'u nodi cyn iddynt fynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid. Gall y goblygiadau fod yn ddwys i unigolyn ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu o fewn y system cyfiawnder ieuenctid. Mae angen iddynt allu deall y prosesau y maent yn ddarostyngedig iddynt, a chyfathrebu a rhyngweithio'n fedrus ag ystod eang o unigolion. Nid yn unig y mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu pobl ifanc yn cyfrannu at eu mynediad i'r system cyfiawnder troseddol, ond hefyd, pan fyddant yno, gallant brofi anawsterau mewn llawer o sefyllfaoedd lle mae angen gallu arnynt i ddeall a chofio gwybodaeth gymhleth mewn amgylchiadau llawn straen, ac yn aml maent yn cael trafferth darparu gwybodaeth naratif mewn modd rhesymegol a dilyniannol. Mae hyn yn bwysig mewn cyfweliadau â'r heddlu ac ym mhrosesau'r llysoedd, lle gall camddealltwriaeth arwain at bobl ifanc yn gwneud dewisiadau anwybodus, a allai arwain at gyfaddefiadau neu ddedfrydu amhriodol. Mae hyn yn arwyddocaol, gydag 80 y cant o ynadon a arolygwyd yn dweud bod agwedd ac ymarweddiad unigolyn ifanc yn dylanwadu ar eu penderfyniad dedfrydu i ryw raddau neu i raddau helaeth.

17:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ymholiad sbotolau ar anghenion cyfathrebu lleferydd ac iaith pobl ifanc o fewn y system cyfiawnder troseddol. Roedd eu hadroddiad dilynol '60%—Rhoi llais iddyn nhw', a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023, yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ymgorffori therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob tîm troseddwyr ifanc yng Nghymru. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad, gan ddadlau nad oes digon o therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru—bai pwy yw hynny—i wreiddio'r proffesiwn o fewn timau cyfiawnder ieuenctid.

Yn dilyn hynny, cynhaliodd Llywodraeth Cymru uwchgynhadledd ar y mater flwyddyn yn ôl, ond ychydig iawn o ganlyniadau a welodd y coleg brenhinol ers hynny. Dim ond hanner y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru sydd â therapyddion lleferydd ac iaith wedi'u gwreiddio o fewn timau, gyda llawer o swyddi'n ddibynnol ar gyllid tymor byr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac nid oes therapyddion lleferydd ac iaith wedi'u gwreiddio mewn gwasanaethau yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Ar ôl adolygu adroddiadau arolygu cyfiawnder ieuenctid diweddar a chynlluniau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, dywed y coleg brenhinol:

'Mae'n amlwg fod HMIP yn ystyried darpariaeth lleferydd, iaith a chyfathrebu yn rhan o'r drefn arolygu er ei bod yn ofyniad anstatudol i dimau cyfiawnder ieuenctid.'

Roedd mynediad at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu i blant yn thema ar draws adroddiadau arolygu diweddar o Gonwy a sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn, a sir y Fflint. Derbyniodd pob un o'r tair partneriaeth cyfiawnder ieuenctid argymhellion uniongyrchol i fynd i'r afael â'r bwlch a nodwyd yn y ddarpariaeth hon a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu sy'n asesu ac yn ymateb i anghenion cyfathrebu plant. Geilw hyn am fuddsoddiad brys a gwaith hirdymor ar gynllunio'r gweithlu, y dylem fod wedi'i gael 20 mlynedd yn ôl, i roi diwedd ar y loteri cod post o wasanaethau ledled Cymru ar gyfer rhai o'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed.

Fel y datgelodd 'Adroddiad Cyflwr y Genedl' diweddar y coleg brenhinol ar y gweithlu therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru, mae'r galw am therapi lleferydd ac iaith i blant ac oedolion yn cynyddu'n sylweddol. Mae nifer cyfartalog y bobl ar restrau aros ar gyfer therapi lleferydd ac iaith wedi cynyddu 33 y cant ers mis Ebrill 2019. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn yn dwyllodrus ac ni ellir ei gefnogi. Mae'r coleg brenhinol wedi cadarnhau bod nifer y myfyrwyr sy'n cael eu derbyn i astudio therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi cynyddu am y tro cyntaf ers 2020 o ran y myfyrwyr a gafodd eu derbyn yn 2024-25, a dim ond o 49 i 55, ac er bod gwelliant Llywodraeth Cymru hefyd yn sôn am raglen ddwyieithog newydd yn Wrecsam, sy'n gadarnhaol, nid oes llawer o leoedd i fyfyrwyr ar y cwrs a dyma'r lleiaf yn y DU.

Ymhellach, mae data StatsCymru yn dangos nad yw therapi lleferydd ac iaith yn gweld yr un cynnydd ag a welir ymhlith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill, ac nid yw Cymru'n gweld yr un datblygiadau ag a welir dros y ffin yn Lloegr, lle mae data aelodaeth y coleg brenhinol yn dangos bod nifer y therapyddion lleferydd ac iaith wedi dyblu dros y degawd diwethaf. I fod yn glir, fel y dywedais, dim ond 55 o therapyddion lleferydd ac iaith y flwyddyn y mae Cymru yn eu hyfforddi mewn dau sefydliad addysg uwch. Fodd bynnag, mae'r proffesiwn am gynnig atebion arloesol i leoliadau i gefnogi ehangu lleoedd myfyrwyr i ateb y galw cynyddol, ac mae'n ymwybodol iawn fod prinder llwybrau eraill i mewn i'r proffesiwn, y tu hwnt i'r cwrs israddedig amser llawn, yn effeithio ar amrywiaeth y proffesiwn a'r gallu i ddiwallu angen y boblogaeth. Yr haf diwethaf, cynhaliodd y coleg brenhinol arolwg gyda chynorthwywyr therapi lleferydd ac iaith ledled Cymru i ddeall faint o ddiddordeb oedd ganddynt mewn cael hyfforddiant i ddod yn therapyddion lleferydd ac iaith cofrestredig, a safbwyntiau ar y llwybrau cyfredol i mewn i'r proffesiwn, a gwelwyd cyfradd ymateb gref. Byddai 47 y cant yn ystyried hyfforddiant fel therapyddion lleferydd ac iaith. Dywedodd 95 y cant o'r rhain mai eu dull dewisol o gwblhau hyfforddiant fyddai trwy brentisiaeth neu fodel ennill wrth ddysgu—opsiwn nad oedd ar gael ar hyn o bryd. A dywedodd 98 y cant, pe baent yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwn, y byddent am weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso.

Felly, mae'r coleg brenhinol yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i sicrhau bod therapyddion lleferydd ac iaith yn rhan annatod o bob tîm troseddwyr ifanc ledled Cymru; ffocws clir ar nodi a chefnogi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhlith yr asiantaethau sydd â fwyaf o gysylltiad â'r rhai sydd â risg o droseddu; cynnydd parhaus i leoedd hyfforddi therapi lleferydd ac iaith, gan ystyried yr angen i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a chyflwyno cyfleoedd ennill wrth ddysgu ar gyfer therapi lleferydd ac iaith, er mwyn gwneud y mwyaf o'r potensial i dyfu ein gweithlu ein hunain; cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith i ateb galw cynyddol; a chynlluniau gweithlu gwell, mwy soffistigedig ar gyfer y proffesiwn fel rhan o'r agenda ataliol, gan ystyried yr angen i fodloni safonau a galw gan sectorau, gan gynnwys cyfiawnder.

Rwy'n gwneud y cynnig hwn yn unol â hynny. Mae'n bryd trwsio therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru.

17:25

Rwyf wedi dethol yr un gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd i gyflwyno yn ffurfiol y gwelliant hwnnw.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu a chomisiynu cyrsiau addysgu therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen ddwyieithog newydd yn Wrecsam; a

b) bod nifer y lleoedd ar gyrsiau addysgu therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi cynyddu ers 2023.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella mynediad at therapi lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Mae'r gwelliant wedi ei gyflwyno yn ffurfiol, felly Mabon ap Gwynfor i siarad nesaf.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ei ganmol am ddadlau'n angerddol dros yr achos penodol hwn dros y blynyddoedd. Fel y clywsom eisoes yn ystod y ddadl hon, cynyddodd y galw am wasanaethau therapi lleferydd ac iaith yn ystod y pandemig ac mae wedi parhau ar drywydd cynyddol byth ers hynny, ond mae capasiti ac adnoddau yn y sector allweddol hwn sy'n aml yn cael ei anwybyddu yn parhau i fod ar ei hôl hi. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn y system cyfiawnder ieuenctid, fel y mae'r cynnig yn nodi, yn gywir ddigon.

Bydd yr Aelodau'n cofio, yn ôl ym mis Ebrill 2023, fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar anghenion therapi lleferydd ac iaith o fewn y system cyfiawnder ieuenctid, ac roedd yr adroddiad hwnnw'n amcangyfrif bod gan o leiaf 60 y cant o unigolion sy'n mynd drwy'r system anhawster lleferydd, iaith neu gyfathrebu, o'i gymharu â thua 10 y cant yn y boblogaeth ehangach. Mae'r 'Adroddiad Cyflwr y Genedl' diweddaraf gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith wedi cadarnhau ers hynny fod y cyfanswm mor uchel â 71 y cant. Gwyddom hefyd y gallai fod cysylltiad rhwng oedi cyn rhoi sylw diagnostig a therapiwtig, neu sylw annigonol i anghenion therapi lleferydd ac iaith, a phroblemau iechyd meddwl, a gallai hefyd fod yn rhwystr i fynediad teg at gyfiawnder. Fel yr amlygwyd yn yr uwchgynhadledd rhanddeiliaid a gynhaliwyd gan fwrdd cyfiawnder Cymru yn sgil adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae diffyg sicrwydd ynghylch cyllid ac anghysonderau wrth gomisiynu mynediad at wasanaethau yn faterion sy'n codi dro ar ôl tro. Ac o ystyried y posibilrwydd cryf o doriadau pellach i gyllid adrannol neilltuedig heb ei glustnodi, sy'n cynnwys cyfiawnder, a'r ffaith bod y bartneriaeth o bŵer wedi bod yn llai nag effeithiol yn gyson fel cyfrwng i lais Cymru, rwy'n amheus y bydd y materion hyn yn cael eu datrys yn fuan ar y cyd â Llywodraeth y DU.

Yr hyn sy'n ddiddorol am y galwadau yn y cynnig hwn, felly, yn enwedig o ystyried y blaid sy'n eu gwneud, yw eu bod yn gwneud achos go amlwg a chymhellol dros weld Cymru'n cymryd materion i'w dwylo ei hun. Yn anffodus, o ran mynd i'r afael â diffygion amlwg pwerau datganoledig Cymru, sydd yn amlach na pheidio yn golygu ein bod yn llusgo ar ôl y gwledydd datganoledig eraill, ychydig iawn a oedd gan y blaid ddatganoli, fel y'i gelwir, i'w gynnig yn ei hymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Yn wir, mae gweledigaeth gyfansoddiadol Llafur ar gyfer Cymru hyd yma wedi cynnwys gwadu addewidion hirsefydlog i ddiwygio, yn fwyaf nodedig, wrth gwrs, datganoli cyfiawnder a phwerau plismona yn llawn i Gymru. Ond ni waeth faint o lastwreiddio a diffyg uchelgais sy'n perthyn i gynnig Llafur i Gymru, mae'r bwriad i drosglwyddo pwerau dros gyfiawnder ieuenctid yn rhywbeth sydd, ar bapur o leiaf, yn gyfle i ail-lunio'r model aflwyddiannus presennol fel ei fod yn fwy ymatebol i unigolion ag anghenion therapi lleferydd ac iaith.

Nawr, rwy'n cydnabod yn llwyr ein bod yn anghytuno'n llwyr ynghylch y cwestiwn ehangach o ddatganoli cyfiawnder, ac nid yw hyn yn debygol o newid yn fuan, ond gan dybio bod y Blaid Lafur yn bwriadu cyflawni ei hymrwymiadau maniffesto—ac rwy'n cyfaddef nad oes unrhyw warantau ynglŷn â hynny ychwaith—rydym eisoes wedi cymryd cam di-droi'n ôl ar y cwestiwn cychwynnol ynglŷn ag a ddylid datganoli cyfiawnder ieuenctid, a byddwn yn mynd i diriogaeth gweithredu ymarferol yn fuan. Felly, ar y sail hon, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cytuno â mi y gellid gwireddu'r galwadau yn y cynnig hwn yn gyflymach pan fydd gan y Senedd y pwerau newydd hyn dros system cyfiawnder ieuenctid Cymru, ac y byddai cael cefnogaeth drawsbleidiol ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn y model datganoledig hwn, megis gofynion statudol i fandadu presenoldeb therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob tîm cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, yn gam cyntaf cadarnhaol i'r cyfeiriad hwn.

17:30

Gadewch imi ddechrau drwy adleisio sylwadau'r siaradwyr blaenorol a mynegi fy niolch diffuant i bob therapydd lleferydd ac iaith o bob cornel o Gymru ac ar draws y wlad. Maent yn llythrennol yn helpu i roi llais i bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael eu clywed, ac mae'r gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddyfodol llawer o unigolion.

Roeddwn yn falch iawn o ymuno â Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith i ddathlu eu pen-blwydd yn 80 yn gynharach y mis yma yn y Senedd. Er bod gwyddoniaeth wedi gwella dros yr 80 mlynedd diwethaf, yn anffodus mae'r problemau sylfaenol sy'n gysylltiedig â chefnogi rhai ag anawsterau cyfathrebu a llyncu yn parhau heb newid. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi adnoddau priodol i'r ddarpariaeth hon ac yn mynd i'r afael â'r ffaith bod gennym lai o therapyddion lleferydd ac iaith fesul y pen yma yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Mae'n hanfodol cydnabod bod therapi lleferydd ac iaith o fudd i bobl o bob oed ac o bob cefndir, boed yn fabanod a anwyd yn gynnar lle ceir risg o anawsterau bwydo a chyfathrebu cynnar, i blant cyn oed ysgol, y mae gan un o bob 10 ohonynt anghenion cyfathrebu hirdymor, neu'r garfan o blant oed ysgol yr ydym yn draddodiadol yn eu cysylltu â gwaith therapyddion lleferydd ac iaith. Fodd bynnag, nid plant yn unig sy'n elwa o'r gwasanaeth. Mae 64 y cant o gleifion mewnol sy'n oroeswyr strôc yn profi rhyw lefel o anhawster cyfathrebu, ac mae 50 i 60 y cant o oroeswyr canser y pen a'r gwddf yn cael eu heffeithio gan ddysffagia, anawsterau llyncu. 

Mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd darparu therapi lleferydd ac iaith ar gyfer pob cenhedlaeth mewn cymdeithas. Mae StatsCymru yn dangos bod nifer cyfartalog y bobl sydd ar restrau aros ar gyfer therapi lleferydd ac iaith wedi cynyddu 33 y cant ers mis Ebrill 2019. Er bod y Prif Weinidog wedi cydnabod y broblem hon ym mis Hydref, ni wnaeth amlinellu unrhyw gynlluniau pendant ar gyfer mynd i'r afael â hi, drwy nodi,

'Felly, mae mwy i'w wneud yn y maes hwnnw, ond rydym ni'n ymwybodol iawn bod angen.'

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n awyddus iawn i wybod pa gynlluniau sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r mater hwn wrth symud ymlaen gan fod y Prif Weinidog wedi parhau'n amwys iawn ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â hyn. Er fy mod yn derbyn bod nifer y swyddi therapyddion lleferydd ac iaith yma yng Nghymru wedi cynyddu 21 y cant ers 2019, mae'n dal i fod ar ei hôl hi'n sylweddol o gymharu â Lloegr, lle bu cynnydd o 50 y cant, ac o ystyried bod nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill yng Nghymru wedi cynyddu 30.8 y cant. 

Os caf droi at agweddau penodol ar ddarpariaeth y gweithlu o wasanaethau mewn ieithoedd heblaw Saesneg, dymuna Llywodraeth Cymru weld cynnydd yn nifer y bobl sy'n gallu siarad a derbyn gwasanaethau yn y Gymraeg, ac eto mae ffigurau cyfredol y gweithlu yn awgrymu nad ydym ar y trywydd iawn mewn unrhyw ffordd i gyflawni hyn. Mae 'Adroddiad Cyflwr y Genedl: y Gweithlu Therapi Lleferydd ac Iaith yng Nghymru' yn galw'n benodol am

'Cefnogaeth i wella ein dealltwriaeth o sgiliau Cymraeg ein gweithlu presennol a’r gofynion ar gyfer y dyfodol.'

Mae angen inni sicrhau nad yw'r ymgyrch i gynyddu sgiliau yn y Gymraeg yn rhwystr i recriwtio nac yn cyfyngu ymgeiswyr addas i un neu ddwy brifysgol yn unig yma yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod beth yn union y bwriadwch ei wneud i recriwtio, cadw a thyfu'r rhan hon o'r gweithlu therapi lleferydd ac iaith, gan sicrhau bod carfan amrywiol yn cael ei recriwtio, wrth symud ymlaen. 

Yn olaf, hoffwn fynd i'r afael â'r ddarpariaeth o wasanaethau therapi lleferydd ac iaith i'r rhai sydd angen gwasanaethau mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg. Fel cenedl amlddiwylliannol falch, mae yna angen clir yng Nghymru am staff sy'n gallu darparu gwasanaethau yn ieithoedd dewisol cleifion. Rwyf wedi siarad am hyn o'r blaen, ac yn y digwyddiad diweddar yn y Senedd, siaradais â therapydd sy'n gweithio gyda llawer o gymunedau de Asiaidd. Roedd hi'n un o'r ychydig iawn a oedd yn gallu darparu gwasanaethau mewn ieithoedd eraill, ac roedd galw mawr am ei gwasanaethau. Felly, pe bai hi'n gadael ei rôl, fe fyddai'n anodd iawn dod o hyd i rywun yn ei lle, gan adael ei chleifion yn dioddef mewn tawelwch. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu bod awydd cryf i fynd i'r afael â'r prinder yn y gweithlu ar draws y rhaniad gwleidyddol yma yn y Siambr heddiw.

Os gallwn fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn y ddadl heddiw ac 'Adroddiad Cyflwr y Genedl' Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, gallwn newid bywydau a dyfodol cenhedlaeth gyfan o bobl. Mae pawb yn haeddu llais ac mae pawb yn haeddu cael eu deall a'u clywed. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cynnig yma heddiw ac yn darparu'r gefnogaeth y mae'r gymuned therapi lleferydd ac iaith wedi bod yn crefu amdani cyhyd. Diolch.

17:35

Diolch i chi, Mabon, am sôn am yr adroddiad cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ar y pwnc hwn, a luniwyd tua dwy flynedd yn ôl. Mae yna ddiffyg sicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol, ac mae'n amlwg yn rhywbeth y credaf y byddai'n ddefnyddiol ei archwilio yn y drafodaeth hon.

Yn gyntaf oll, os edrychwn ar atal, fe wyddom fod plant yn caffael sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu, sy'n sail i'w gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu a datrys problemau. Mae cysylltiad cryf rhwng datblygiad gwybyddol cadarnhaol a llwyddiant plentyn yn yr ysgol ac wrth iddo ymuno â'r gweithlu, felly mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig. Yn anffodus, mae dyfeisio pethau fel y ffôn hwn yn rhan sylweddol iawn o'r broblem, oherwydd os nad oes neb yn siarad â'r babi, nid yw'r babi'n mynd i gyfathrebu; oherwydd os nad oes neb yn ymateb i'r arwyddion y mae'r babi yn eu gwneud, yn y pen draw mae'r babi'n meddwl, 'Wel, fe wnaf rywbeth arall. Nid oes unrhyw bwynt imi roi arwyddion pam fy mod i'n hapus, yn anhapus, sut rwy'n teimlo, os nad oes neb yn gwrando arnaf ac yn siarad â mi.' Mae siarad yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei gaffael ac rydym yn ei gaffael trwy ailadrodd, a dyna pam ei bod mor drasig fod cymaint o blant yn dod i'r ysgol gynradd heb y sgiliau iaith sydd eu hangen arnynt i ddechrau ymgysylltu â'r system addysg.

Felly, ar atal, mae gwir angen inni wella dealltwriaeth pobl o'r hyn sydd ei angen ar fabi. Os nad ydych chi erioed wedi cael babi ac os nad ydych chi erioed wedi cael chwaer neu frawd sydd wedi cael babi y galloch chi chwarae ag ef, ni fydd y sgiliau hyn gennych chi o reidrwydd. Ac os na siaradwyd â chi yn y ffordd hon, mae'n debygol y byddwch chi eich hun wedi profi oedi wrth ddatblygu iaith. Felly, mae'n rhaid inni dorri'r cylch amddifadedd a sicrhau bod pob rhiant newydd yn deall pwysigrwydd siarad â'u babi o'r eiliad y caiff ei eni.

I droi nawr at galon y cynnig ynghylch ymyl garw'r system cyfiawnder troseddol, rwy'n credu bod angen inni gael eglurder ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth, ac ar hyn o bryd, mae'n gwbl aneglur. Rwy'n rhannu eich dymuniad chi, Mabon, i weld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli, ond yn anffodus, ni allwn ddweud, 'Fe'i cawn heddiw, ac yna fe wnawn ni ddatrys—.' Mae angen inni wybod beth yw'r cyllid i fynd gydag ef ac mae angen inni sicrhau nad ydym yn cael y gwasanaeth eilradd y credaf ein bod yn ei gael yng Nghymru. Rydym wedi clywed yn y dystiolaeth a gawsom, fod rhai rhannau o Loegr—

Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt teg am sicrwydd ynglŷn â chyllid. Mae eich plaid chi mewn Llywodraeth yn y DU nawr, felly gallant roi'r sicrwydd, a gallant sicrhau ein bod yn cael y cyllid cywir. Felly, a wnewch chi agor trafodaethau gyda Keir Starmer ar hynny?

Wel, fe arhoswn i glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet. Ond os nad yw Natasha Asghar yn credu bod gennym wasanaeth digon da yma yng Nghymru, beth oeddent hwy'n ei wneud, o ran gofyn i Lywodraeth flaenorol y DU am 14 mlynedd ddatganoli'r gwasanaethau hyn i Gymru?

Mae Lloegr yn gwneud yn well, ydy. Mae ganddynt therapyddion lleferydd ac iaith penodedig y GIG sy'n gweithio yn ystafelloedd dalfa'r gorsafoedd heddlu, oherwydd ni all fod yn syndod os na allwch siarad am lefel eich datblygiad emosiynol, rydych chi'n teimlo'n rhwystredig. Edrychwch ar unrhyw fabi, plentyn bach, sy'n rhwystredig am na allant fynegi'r hyn y maent ei eisiau, ac wrth i'r plentyn fynd yn hŷn, mae'r broblem yn gwaethygu. Felly, nid yw'n unrhyw syndod mewn gwirionedd y bydd plentyn nad yw ei allu iaith yn gymesur â'i allu gwybyddol yn dod yn rhwystredig tu hwnt, ac ni fydd yn ffynnu yn y system addysg am nad oes neb wedi ymyrryd digon i ddatrys hynny.

Felly, fe wyddom fod gorgynrychiolaeth enfawr, fel y mae Mark Isherwood wedi ei gydnabod, o bobl ag anawsterau lleferydd ac iaith yn y system cyfiawnder troseddol, ond y cwestiwn yw: pam eu bod yn credu, yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ei bod hi'n bwysig iawn cael tri diwrnod a hanner cyfwerth ag amser llawn o therapi lleferydd ac iaith yn y timau troseddwyr ifanc, ac ym mron pob un o'r timau troseddwyr ifanc eraill ledled Cymru, mae'n un diwrnod, yn ddeuddydd, neu yn achos Caerdydd, er enghraifft, yn ddim o gwbl? Felly, pwy sydd i fod i dalu am hyn? Ac os nad yw'n gyfrifoldeb datganoledig, pam y mae gofyn i Lywodraeth Cymru ei ariannu? Os nad yw wedi'i ddatganoli, dylem fod yn cael yr un gwasanaeth ag sydd ganddynt yn Lloegr, a dylem ei gael ledled Cymru, yn gymesur â nifer y bobl sydd angen y gwasanaeth.

Mae arnaf ofn fod y gwelliant yn niwlog ynghylch pwy sy'n mynd i wneud beth o ran beth yn union sydd angen i ni ei wneud i—. Sut y gallwn orfodi presenoldeb therapydd lleferydd ac iaith ym mhob tîm cyfiawnder ieuenctid oni bai ein bod yn cael cefnogaeth Llywodraeth y DU? Mae gennym berthynas dda gyda'r Gweinidog presennol, yr Arglwydd Timpson, ond rydym yn wynebu sefyllfa gymhleth iawn am nad yw cyfiawnder ieuenctid wedi'i ddatganoli. Rydym eisiau gweld llawer mwy o eglurder ynglŷn â chyflymder datganoli, ond yn y cyfamser, mae angen inni gael gwell dealltwriaeth ynglŷn â phwy sy'n talu am y gwasanaethau gwell hyn yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a pham nad yw awdurdodau lleol eraill—rwy'n credu mai'r awdurdodau lleol ydyw—yn camu i'r adwy ar ran eu poblogaethau.

17:40

A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl bwysig hon? Hoffwn innau hefyd ddymuno pen-blwydd hapus i Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a chofnodi fy niolch i'r holl therapyddion lleferydd ac iaith a chynorthwywyr therapi lleferydd ac iaith sy'n gweithio yng Nghymru. Fel y nododd Mark, nid oes gennym ddigon o therapyddion lleferydd ac iaith a chynorthwywyr therapi lleferydd ac iaith, llawer llai y pen nag unrhyw ran arall o'r DU. Roedd 'Adroddiad Cyflwr y Genedl' Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle ceir angen heb ei ddiwallu.

Rwyf am ganolbwyntio gweddill fy nghyfraniad ar un yn unig o'r anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhlith y rhai sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid, fel y nododd Mabon a Jenny. Roedd yn wirioneddol frawychus clywed gan y timau troseddwyr ifanc yn fy rhanbarth fod gan bedair rhan o bump o'r bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol ryw lefel o angen lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Pan gynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei ymchwiliad undydd i anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid, datgelodd bocedi mawr o angen nas diwallwyd. Roeddem yn gwybod bod lefel uchel o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhlith pobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â thimau troseddwyr ifanc, ond cefais fy synnu gan ba mor uchel oedd y lefel mewn gwirionedd. Pan wnaethom ymgymryd â'r gwaith bron i ddwy flynedd yn ôl, roedd yn 60 y cant o'r bobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid. Fodd bynnag, mae adroddiad y coleg brenhinol yn rhoi'r ffigur ar oddeutu 71 y cant nawr. Mewn rhai ardaloedd, fe wyddom fod gan gymaint â naw o bob 10 unigolyn ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid ryw fath o angen lleferydd ac iaith.

Yn anffodus, ni dderbyniodd Llywodraeth Cymru holl argymhellion y pwyllgor cydraddoldeb, ac er gwaethaf galwadau tebyg ddegawd ynghynt, ni fu fawr ddim gwelliannau i ddiwallu anghenion lleferydd ac iaith troseddwyr ifanc. O'r herwydd, roedd hi'n siomedig iawn gweld gwelliant Llywodraeth Cymru i'n cynnig. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn eu bod wedi methu cynllunio ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu poblogaeth Cymru dros y 26 mlynedd diwethaf. Mae'r ffaith bod nifer y therapyddion lleferydd ac iaith a'r cynorthwywyr therapi lleferydd ac iaith yn cynyddu nawr yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Efallai fod y nifer wedi cynyddu ychydig, ond mae'r angen am wasanaethau wedi cynyddu'n aruthrol.

Ar yr angen heb ei ddiwallu mewn cyfiawnder ieuenctid, nid yw'n fater syml o drosglwyddo'r baich i Lywodraeth y DU, sydd â chymhwysedd dros gyfiawnder ieuenctid. Pe bai anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu pobl ifanc yn cael eu diwallu, pwy a ŵyr faint o bobl ifanc a fyddai'n osgoi mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid yn gyfan gwbl. Mae glasbrint cyfiawnder ieuenctid Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n helaeth ar atal ac awgrymaf fod rhoi adnoddau tuag at therapi lleferydd ac iaith yn gwneud hynny. Mae nifer o astudiaethau hydredol wedi canfod bod nodi a thrin anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn gynnar yn arwain at newid yn y trywydd risg troseddol, gan arwain at gyfradd is o ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith ieuenctid ac o ganlyniad, cyfraddau troseddu is. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag atal, mae'n rhaid inni wella'r ddarpariaeth o therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig a gwrthod gwelliant y Llywodraeth. Diolch yn fawr.

17:45

Dwi'n codi i gefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, a hefyd i gefnogi'r gydnabyddiaeth o'r rôl allweddol y mae therapyddion iaith a lleferydd yn ei chwarae. Ces i'r fraint o ymweld â'r tîm yn Ysbyty Maelor Wrecsam y llynedd ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu, a sylweddoli, fel y mae nifer ohonom ni wedi gwneud, dwi'n gwybod, bod therapyddion iaith a lleferydd yn gwneud llawer mwy na hynny, a bod yr ystod o wasanaethau maen nhw'n ei gynnig yn golygu eu bod nhw'n gwneud llawer mwy nag y mae'n ei ddweud ar y tun.

Ond dwi hefyd wedi fy nghyffroi, mae'n rhaid imi ddweud, gan y ddarpariaeth sydd ym Mhrifysgol Wrecsam; dwi'n gwybod bod nifer o bobl wedi cyfeirio at hynny ac efallai'n siomedig â chyn lleied o ddarpariaeth sydd yna, a dwi'n cydnabod ac yn cefnogi hynny. Ond ers 2022, wrth gwrs, mae yna gwrs gradd therapi iaith a lleferydd wedi cael ei ddarparu.

Ac mae hynny'n bwysig, wrth gwrs, fel y clywsom, oherwydd mae therapi lleferydd ac iaith yn broffesiwn y cydnabuwyd ei fod mewn angen, ac mae hyn yn cynnig cyfle i ni yng ngogledd Cymru dyfu ein therapyddion lleferydd ac iaith ein hunain. Yn ôl yn 2022, pan ddechreuodd y cwrs, roedd 10 lle wedi'u comisiynu. Tyfodd i 11 yn 2023, ond y llynedd, roedd hyd at 16 o lefydd wedi'u comisiynu. Ond yn arwyddocaol, mae nifer yr ymgeiswyr wedi bod yn uchel iawn, yn ogystal—80 o ymgeiswyr am 10 lle yn y flwyddyn gyntaf a dros 130 o ymgeiswyr y llynedd ar gyfer yr 16 lle hynny, ac mae hynny ynddo'i hun yn dweud llawer wrthym am awydd pobl i weithio yn y sector. Mewn gwirionedd, y cwrs gradd hwnnw sydd â'r gymhareb uchaf rhwng nifer yr ymgeiswyr a nifer y lleoedd, sy'n golygu mai dyma'r rhaglen radd fwyaf poblogaidd yn Wrecsam. Ac yn ogystal â bod nifer yr ymgeiswyr yn uchel, mae 70 y cant yn cyflawni'r sgôr sydd ei hangen mewn cyfweliad i gael eu derbyn ar y cwrs, felly maent o safon uchel iawn hefyd.

A gyda 44 y cant o'r rheini, gyda llaw, a dderbyniwyd i'r cwrs y llynedd yn siaradwyr Cymraeg, wel, fel rŷn ni wedi clywed, mae hynny yn mynd i gryfhau'r ddarpariaeth, sydd yn brin iawn, iawn, wrth gwrs, ar draws Cymru, nid dim ond yn y gogledd. Ac mae hynny'n bwysig, achos fel rŷn ni'n gwybod, mae allbynnau a chanlyniadau iechyd lawer gwell pan fod defnyddwyr gwasanaethau'n cael y gofal y maen nhw ei angen yn eu mamiaith. Ac mae'r cwrs gradd yma, wrth gwrs, nawr wedi'i gydnabod fel cwrs dwyieithog, Cymraeg a Saesneg, a hynny'n cyfateb i'r ddarpariaeth yn y brifysgol arall sydd yn cynnig y radd, sef Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hyn i gyd yn newyddion da i'r sector, yn newyddion positif i ogledd Cymru, ond cyn i'r Ysgrifennydd Cabinet gyffroi'n ormodol, mae yna 'ond' yn dod.

Gwyddom fod y galw am wasanaethau, fel y clywsom, yn cynyddu'n aruthrol, ac rydym hefyd yn cydnabod bod y niferoedd sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru yn llawer rhy fach. O'r herwydd, mae angen inni weld cynnydd parhaus yn nifer y lleoedd hyfforddi yn Wrecsam ac mewn mannau eraill. Mae 16 o lefydd wedi'u comisiynu ar hyn o bryd, fel y dywedais, ac mae hwnnw'n dal i fod yn nifer bach o'i gymharu â rhaglenni gradd eraill a gomisiynir—[Torri ar draws.] Iawn, o'r gorau, yn fyr.

Diolch yn fawr. Un mater y deuthum ar ei draws gyda therapyddion lleferydd ac iaith yng ngorllewin Cymru yw nad yw therapyddion lleferydd ac iaith preifat yn cael mynd i mewn i ysgolion i allu cynorthwyo gyda phlant sydd eu hangen, am nad ydynt wedi'u cofrestru â'r bwrdd iechyd fel gweithwyr a gyflogir gan y bwrdd iechyd. Felly, os oes gennym brinder staff, fel sydd gennym, oni ddylem gael mynediad at y therapyddion lleferydd ac iaith preifat hynny, a chaniatáu iddynt fynd i ysgolion, os ydynt wedi cael y gwiriadau perthnasol wrth gwrs, i gynorthwyo'r plant hynny?

17:50

Wel, rwy'n siŵr y gallwch chi godi hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Byddai'n well gennyf i, fel y dywedais yn gynharach, ein bod yn tyfu ein rhai ein hunain a'n bod yn cadw'r gwasanaeth yn y sector cyhoeddus fel bod gan bawb fynediad cyfartal ac nad oes elfen o elw'n cael ei greu o'r system.

Fel y dywedais, hoffwn weld cynnydd i hyd at 20 lle—gadewch inni barhau ar y trywydd—yn Wrecsam, a chyfran ym mwrdd iechyd Powys yn ogystal, fel eu darparwr lleoliadau, oherwydd mae'n debyg na allai un bwrdd iechyd ar ei ben ei hun gynnal niferoedd mor fawr dros dair blynedd. Ond mae angen inni weld buddsoddiad mewn llwybrau eraill i mewn i'r proffesiwn, fel yr amlinellwyd yn adroddiad 'Cyflwr y Genedl' gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith. Mae'n dweud bod bron i hanner y cynorthwywyr therapi lleferydd ac iaith yn dweud y byddent yn ystyried hyfforddi fel therapyddion lleferydd ac iaith, felly beth allwn ni ei wneud i gydnabod eu profiadau a'u sgiliau, a chyflymu eu llwybr i mewn i'r proffesiwn?

Gaf i ddweud hefyd y byddwn i'n ymuno â Phrifysgol Wrecsam i annog mwy o fuddsoddiad yn y ddarpariaeth ddwyieithog sydd yn mynd o gwmpas y cyrsiau gradd yma? Gadewch i ni fod yn fwy uchelgeisiol o safbwynt tyfu nifer y darlithwyr sydd yn gallu darlithio yn y sector drwy gyfrwng y Gymraeg, y deunydd dysgu dwyieithog sydd ar gael hefyd. Mi fydd hynny i gyd, wedyn, yn cyfrannu at dyfu'r proffesiwn, sydd, yn anffodus, wedi colli allan ar yr adnoddau sydd eu hangen yn y blynyddoedd diwethaf, ac, efallai, hefyd, yn sgil hynny, wedi colli allan ar y gydnabyddiaeth a'r statws y mae'r sector yn eu haeddu. Diolch.

Fel y clywsom heddiw yn y ddadl, mae therapyddion lleferydd ac iaith yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy i bobl ledled Cymru am ystod eang o resymau, o fabanod i'r henoed, ac wrth gwrs, y bobl ifanc yn y system gyfiawnder yr ydym yn sôn amdanynt heddiw. Gwyddom fod y galw yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Nid yw'r 800 o therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru yn ddigon i ateb y galw, er bod y pwynt wedi'i wneud bod y nifer yn tyfu.

Dywedodd Jenny yn ei chyfraniad pa mor bwysig yw hi fod y cymorth hwn yn cael ei roi yn ifanc iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu mynediad at therapyddion lleferydd ac iaith yn narpariaeth Dechrau'n Deg, oherwydd mae'n bwysig iawn fod plant yn cael y gefnogaeth honno yn ifanc iawn. Yn narpariaeth Dechrau'n Deg, nid yn unig y mae'r therapyddion lleferydd ac iaith yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i'r plant, maent hefyd yn sicrhau bod holl aelodau'r tîm Dechrau'n Deg yn gallu nodi a chefnogi anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant. Mae llawer ohonoch chi, rwy'n siŵr, wedi bod mewn darpariaeth Dechrau'n Deg ac wedi gweld grwpiau o famau, fel arfer, â babanod bach gyda therapyddion lleferydd ac iaith ac aelodau eraill. Gallwch weld pa mor effeithiol ydyw. 

Jenny Rathbone a gododd—

Gan imi sylweddoli bod gennych ddealltwriaeth arbenigol o gyflawniadau Dechrau'n Deg, tybed a allwch chi ddweud wrthym beth yw'r canlyniad gwahaniaethol wedi bod i deuluoedd sydd wedi elwa o'r ymyrraeth leferydd ac iaith ychwanegol hon, o'i gymharu â'r boblogaeth yn gyffredinol nad yw'n cael y gwasanaeth hwn.

Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod Dechrau'n Deg yn gyffredinol wedi culhau'r bwlch ac wedi mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau. Mae'r rhan lleferydd ac iaith yn gwbl amhrisiadwy, oherwydd rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth fod hon yn ffordd bendant iawn o wella cyfleoedd plant mewn bywyd, a dyna pam ei bod mor bwysig. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio'r buddsoddiad sydd eisoes wedi'i wneud yn y ddarpariaeth lleferydd ac iaith yn Dechrau'n Deg.

Mae peth trafod wedi bod eisoes ynglŷn â'r ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ac wrth gwrs, mae cynllun Llywodraeth Cymru, 'Mwy na geiriau', yn cynnwys therapyddion lleferydd ac iaith. Yn ôl Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, 19 y cant yw canran y therapyddion lleferydd ac iaith sy'n siarad Cymraeg. Ond yn amlwg, mae angen cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, ac rwy'n cefnogi'r pwyntiau a wnaeth Llyr Gruffydd am ddarpariaeth Wrecsam a pha mor bwysig yw annog hynny. Roeddwn yn falch o ymweld â darpariaeth Wrecsam pan oeddwn yn y swydd weinidogol, ac fe wnaeth y ffordd yr oedd hynny'n dechrau argraff fawr arnaf.

Os caf symud ymlaen at y system cyfiawnder ieuenctid, datgelodd adroddiad pwysig y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr angen enfawr am therapyddion yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU er mwyn gwella'r ddarpariaeth hon mewn cyfiawnder ieuenctid. Rwy'n rhannu'r geiriau a fynegwyd yma heddiw y byddai, ar lefel ymarferol, yn llawer haws gwneud hyn pe bai cyfiawnder ieuenctid wedi ei ddatganoli. Mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf yn fawr ei weld yn digwydd—y bydd cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ddatganoli, ac y bydd yn llawer haws ymdrin â'r materion hyn. O'r sgyrsiau a gefais gyda hwy, rwy'n credu bod hwn yn deimlad sy'n cael ei rannu gan bobl sy'n gweithio yn y maes. 

Ac os caf siarad yn fyr am ddarpariaeth Caerdydd, ym mis Tachwedd y llynedd, ymwelais â Chanolfan John Kane yng Ngogledd Caerdydd, sef y ganolfan ar gyfer gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Caerdydd, i siarad â'r therapydd lleferydd ac iaith sy'n gweithio yno, oherwydd mae gan dîm Caerdydd therapydd lleferydd ac iaith sy'n gweithio yn y tîm mewn gwirionedd. O'r 164 o blant y gwyddai gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Caerdydd amdanynt, roedd y gwasanaeth lleferydd ac iaith pediatrig yn gwybod am 34 ohonynt, ond roedd llawer o'r bobl ifanc yno heb eu nodi fel rhai a oedd yn cael darpariaeth lleferydd ac iaith, a dyna lle roedd cael therapydd yno yn rhan o'r tîm yn ei gwneud gymaint yn haws nodi anghenion a rhoi cymorth. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod cydberthynas arwyddocaol rhwng difrifoldeb trosedd a phresenoldeb amhariad iaith lafar.

Gwyddom fod cyfleoedd bywyd pobl ifanc yn cael eu difetha drwy fethu cael cymaint o fynediad ag y dylent, ond rwy'n credu bod cynnydd yn cael ei wneud. Dywedwyd wrthyf am enghreifftiau o'r gwaith a wnaed gyda phobl ifanc yn y tîm yng Nghaerdydd, ac roeddent yn emosiynol iawn. Nid oes gennyf amser i roi sylw i'r sefyllfaoedd hynny nawr, ond rwy'n credu bod y dystiolaeth yno o'r budd enfawr y mae'r ddarpariaeth arbenigol hon yn ei roi. Diolch.

17:55

Diolch, Llywydd. Wythnos diwethaf, fe ges i'r pleser o helpu Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed yma yn y Senedd. Fe ges i'r cyfle i glywed drosof fi fy hun am yr effaith gadarnhaol a sylweddol mae therapyddion wedi'i chael ar fywydau pobl. Fel rŷn ni i gyd yn ymwybodol iawn, mae'r gallu i gyfathrebu yn cyfoethogi'r berthynas rhwng pobl ac yn ein helpu i gydweithio. Mae'n allweddol i bwy ydym ni ac i'n bywydau ni. Dyna pam mae therapyddion yn chwarae rhan mor bwysig wrth helpu i ddatblygu sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu cymaint o oedolion a phlant ledled Cymru. Ond yr hyn sy'n llai cyfarwydd o bosib yw eu gwaith nhw i sicrhau, fel y clywsom ni y ddadl, fod pobl yn gallu llyncu, bwyta ac yfed yn ddiogel.

Ers sefydlu'r coleg 80 mlynedd yn ôl, a'r gwasanaeth iechyd ychydig flynyddoedd wedyn, rŷn ni wedi dysgu llawer. Bellach, rŷn ni'n gwybod llawer mwy am y ffordd gymhleth mae ymennydd y rhai sy'n gallu siarad mwy nag un iaith, er enghraifft, yn gweithio i greu a deall iaith, fel y clywsom ni yn y ddadl heddiw. Roedd hyn yn sail i'r penderfyniad i ariannu rhaglen therapi iaith a lleferydd ym Mhrifysgol Wrecsam, fel mae Llyr Gruffydd a Julie Morgan wedi sôn amdano heddiw, ac i gadw llefydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn benodol. Mae'r graddedigion newydd o'r rhaglen hon, yn ogystal â'r rhai sy'n graddio o raglen Prifysgol Met Caerdydd, yn ein helpu ni i gyflawni nodau 'Mwy na geiriau', y fframwaith ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Prifysgol Met Caerdydd wedi bod yn darparu addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ers blynyddoedd lawer. 

Llywydd, mae sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu yn bwysig, fel y clywsom ni, i fesur lles cyffredinol. Mae sgiliau da o'r fath yn gallu helpu i wella canlyniadau unigolyn drwy gydol ei fywyd. Mae'n cynnwys pethau fel cyrhaeddiad academaidd, mynediad at gyflogaeth, iechyd meddwl cryf a pherthnasoedd cymdeithasol cadarn. Mae helpu plant i ddatblygu sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu yn ystod y blynyddoedd cynnar yn lleihau anghydraddoldeb i'r rheini sydd fwyaf difreintiedig. Dyna pam mae therapyddion iaith a lleferydd yn rhan, fel y clywsom ni, o bob gwasanaeth Dechau'n Deg yng Nghymru. Mae hwn wedi bod yn benderfyniad pwrpasol, fel y soniodd Julie Morgan.

Nod ein cynllun lleferydd, iaith a chyfathrebu 'Siarad â Fi' yw ceisio ysgogi gwelliant yn y ffordd y caiff plant ifanc eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth agos â'r coleg brenhinol a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru, ac mae wedi ein galluogi i dargedu buddsoddiad at yr hyn sydd bwysicaf, gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar yn enwedig, sicrhau sylfaen dystiolaeth a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o nodi a chefnogi plant, ac uwchsgilio'r gweithlu, sydd mor bwysig, fel y clywsom heddiw.

Rydym wedi buddsoddi £1.5 miliwn mewn pecyn dwyieithog pwrpasol ar gyfer cadw gwyliadwriaeth ar leferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghymru. Mae Prosiect Pengwin yn cynnwys sgrinio cyffredinol ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn 15, 27 a 42 mis, ynghyd ag ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n briodol i lefel y plentyn o angen. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad parhaus i 'Siarad â mi' drwy benodi cydlynydd lleferydd, iaith a chyfathrebu cenedlaethol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc, y rôl gyntaf o'i bath yn y DU.

Mae ein cynllun yn helpu i nodi pobl ifanc ag anghenion cyfathrebu lleferydd ac iaith yn gynharach yn eu bywydau. Bydd y dull ataliol cynnar hwn yn helpu pobl ifanc i ymdopi'n well â'r heriau cymdeithasol y gallent eu hwynebu ac i ymdrin ag unrhyw sbardunau a allai arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r ddadl hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gynyddu mynediad at therapi lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid. Gellir atgyfeirio pobl ifanc yn y system gyfiawnder sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu at wasanaethau therapi lleferydd ac iaith y GIG wrth gwrs. Mae'r coleg brenhinol wedi arwain ar gefnogi hyn drwy gynhyrchu pecyn cymorth defnyddiol o'r enw The Box, sydd wedi'i gynllunio i roi gallu i weithwyr proffesiynol yn y system gyfiawnder nodi anghenion cyfathrebu, a'r sgiliau wedyn i weithio'n llwyddiannus gydag unigolion sydd ag anghenion, a gwybod pryd y mae angen atgyfeirio pellach.

Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am bennu anghenion iechyd eu poblogaeth a'r ffordd orau o'u diwallu. Nid yw eu cyfrifoldebau'n ymestyn i ariannu therapyddion lleferydd ac iaith o fewn y timau cyfiawnder ieuenctid, ac rydym wedi clywed heddiw, yn huawdl iawn, yr achos dros setliad datganoli mwy rhesymegol a fyddai'n alinio rhai o'r swyddogaethau hyn mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n bosibl integreiddio'r gwasanaethau'n well yn ein system gyfiawnder. Ond fel arfer mae'r cynlluniau peilot y clywsom gyfeirio atynt yn y ddadl, a'r gwasanaethau lle mae therapyddion lleferydd ac iaith y GIG yn gweithio mewn timau cyfiawnder ieuenctid ar hyn o bryd, wedi cael eu hariannu drwy gytundeb lefel gwasanaeth lle mae'r GIG yn cael ei ariannu'n benodol i ddarparu staff ychwanegol i ddiwallu anghenion y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae'r model yn sicrhau bod therapyddion lleferydd ac iaith yn cael cymorth a hyfforddiant proffesiynol da gan arweinwyr proffesiynol profiadol.

Lywydd, mae'r GIG yn gweithio'n galed i leihau amseroedd aros am therapïau. Mae amseroedd aros o 14 wythnos i blant gael mynediad at therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi haneru yn ystod y 12 mis diwethaf, sy'n gynnydd calonogol. Clywsom fod gweithlu therapi lleferydd ac iaith y GIG wedi tyfu tua 18 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, a chlywsom am y cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi therapyddion lleferydd ac iaith, a byddwn yn edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud yn y blynyddoedd i ddod.

Yn olaf, Lywydd, os caf, hoffwn fanteisio ar y cyfle heddiw i ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith am eu harbenigedd a'u hymroddiad wrth ddarparu triniaeth, cefnogaeth a gofal sy'n aml yn newid bywydau. Diolch yn fawr.

18:00

Diolch yn fawr, Llywydd, ac a allaf i ddechrau gan ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl ni heno yn y Senedd, ac i bawb sydd wedi siarad am beth rydyn ni wedi dod gerbron, a dymuno 'penblwydd hapus' i goleg brenhinol speech and language Cymru, a diolch iddyn nhw hefyd am y gwaith pwysig, pwysig maen nhw'n ei wneud i newid bywydau pobl ar draws Cymru gyfan?

Fel y clywsom heno yn ein trafodaeth, mae gan 1.5 miliwn o bobl yn y DU anabledd dysgu, a rhagwelir y bydd y nifer hwnnw'n tyfu hyd at 34 y cant erbyn 2027, ac er bod 89 y cant o bobl ag anableddau dysgu angen cefnogaeth therapydd lleferydd ac iaith, mae'r gweithlu'n lleihau ledled Cymru, gyda llai o therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru, fel y clywsom gan Mark Isherwood ac Altaf Hussain, fesul y pen o'r boblogaeth nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym yn gwybod, o glywed y cyfraniadau heddiw, fod consensws clir yn drawsbleidiol fod angen cynyddu nifer y therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r prinder yn y gweithlu a gwella mynediad at y gwasanaeth i'r rhai sydd fwyaf o'i angen. Dyna pam ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwrando, ac yn gwrando ar y galwadau a wnaed yma heddiw, ond hefyd y galwadau gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, ac yn cydnabod pwysigrwydd ein cynnig i weithredu cynllun gweithlu hyfedr er mwyn lleihau rhestrau aros, ac agor mynediad at y gwasanaethau hyn i bobl ledled Cymru.

Dywedodd Mark Isherwood wrthym mai Cymru oedd â'r nifer lleiaf o therapyddion lleferydd ac iaith yn y DU, ac aeth rhagddo i egluro'r anghenion a'r canlyniadau pellach i'r rhai sydd ag anghenion lleferydd ac iaith yn ddiweddarach yn eu bywydau os nad ymdrinnir â hwy'n iawn.

Diolchodd Natasha Asghar i therapyddion lleferydd ac iaith unigol am eu gwaith a hoffwn ymuno â hi i wneud hynny, oherwydd gwyddom y gall y buddsoddiad yn yr unigolion hynny gael effeithiau trawsnewidiol ar gyfleoedd bywyd y rhai ag anghenion lleferydd ac iaith.

Rwy'n credu bod Llyr wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â phwysigrwydd nid yn unig cael mwy o therapyddion lleferydd ac iaith, ond rhai a all wneud y gwaith yn ddwyieithog hefyd, a gwnaeth bwynt pwysig iawn am nifer y cynorthwywyr lleferydd ac iaith sydd am gamu ymlaen i fod yn therapyddion lleferydd ac iaith, a sut y gallwn wella llwybrau a mynediad.

Y broblem gydag agoriad tra chynhwysfawr Mark Isherwood i'r ddadl hon yw nad yw'n rhoi llawer o amser i mi gau'r ddadl hon, felly ni fyddaf yn gallu sôn am bawb wrth gau. Ond a gaf i orffen drwy fyfyrio ar sylwadau'r Gweinidog, a oedd fel pe bai'n meddwl bod gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru yn iawn fwy neu lai fel y maent, ond tanseiliwyd y sylw hwnnw, rwy'n credu, gan yr Aelod Llafur a eisteddai y tu ôl iddo, Jenny Rathbone, a ddywedodd fod 'Lloegr yn gwneud yn well' yn y maes hwn.

Felly, i gloi, Lywydd, ac er lles ein plant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi aros am fynediad at y therapyddion lleferydd ac iaith y maent eu hangen mor daer, rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi gwaith y coleg brenhinol a'n cynnig trwy ei gefnogi heddiw.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni adael y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Ac mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 5, y ddadl ar 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru yw hon. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.  

Eitem 5. Dadl - 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 5. Dadl - 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8756 fel y'i diwygiwyd: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi:

a) agenda 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru;

b) yr anawsterau economaidd a ddeilliodd o 14 o flynyddoedd o Lywodraeth Geidwadol i'r DU a’r pwysau a ddeilliodd o hyn ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru;

c) bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gynnig cymorth i aelodau staff y mae’r ‘Achos dros Newid’ yn effeithio’n uniongyrchol arnynt; ac

d) y bydd ad-drefnu Cyfoeth Naturiol Cymru yn galluogi’r corff i ganolbwyntio ar gyflawni ei swyddogaethau craidd a’i ddyletswyddau statudol.

2. Yn cydnabod:

a) mae’r 'Achos dros Newid' yn cynnwys cynlluniau a fydd yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn cynnal ei weithrediadau arlwyo a manwerthu yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas;

b) bydd safleoedd y canolfannau ymwelwyr yn parhau i fod ar agor at ddibenion cerdded, beicio, parcio ceir a thoiledau; ac

c) bydd hyn yn galluogi grwpiau cymdeithasol a chymunedol a busnesau lleol i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

3. Yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ymgysylltu â grwpiau cymunedol a busnesau lleol, gan felly hwyluso’r broses o chwilio am bartneriaid sydd mewn gwell sefyllfa i gynnig y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo hyn.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 5. Dadl - 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Eitem 6 fydd nesaf. Dadl y Ceidwadwyr ar wasanaethau canser yw hon. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau canser. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei gymeradwyo, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo. Mae gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau canser. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 4 sydd nesaf. Gwelliant 4 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, 12 yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

18:10

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau canser. Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 24, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8794 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad 'Gwasanaethau Canser yng Nghymru' mis Ionawr 2025 gan Archwilio Cymru.

2. Yn cydnabod, fel y nodir yn adroddiad Archwilio Cymru, 'Gwasanaethau Canser yng Nghymru':

a) bod gwariant termau real ar wasanaethau canser wedi cynyddu i bron i £720 miliwn, sydd gryn dipyn yn uwch na'r twf termau real yng ngwariant GIG Cymru; a

b) bod cyfraddau goroesi pum mlynedd ar gyfer canser wedi gwella ar gyfer pobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2002-06 a 2016-22.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi sefydliadau GIG Cymru i wella perfformiad amseroedd aros mewn cysylltiad â chanser;

b) diweddaru'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser i egluro rolau, cyfrifoldebau a metrigau systemau; ac

c) cyflwyno Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Canser i wella’r ffordd y cydgysylltir ymdrech y GIG i wella gwasanaethau canser.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei basio.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau canser. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 33, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Bydd y pleidleisiau nesaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr ar therapyddion lleferydd ac iaith yw hon. Y cynnig, felly, heb ei ddiwygio yw'r bleidlais gyntaf, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Therapyddion lleferydd ac iaith. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Therapyddion lleferydd ac iaith. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8795 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith y mis hwn.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei chyflawni wrth ddarparu triniaeth, cymorth a gofal i bobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.

3. Yn nodi:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu a chomisiynu cyrsiau addysgu therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen ddwyieithog newydd yn Wrecsam; a

b) bod nifer y lleoedd ar gyrsiau addysgu therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi cynyddu ers 2023.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella mynediad at therapi lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, mae yna 10 yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Therapyddion lleferydd ac iaith. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 12, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Cyrraedd pen y domen? Epidemig taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon Cymru

Felly, yn nesaf, fe fyddwn ni'n symud ymlaen i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer heddiw yn enw Mick Antoniw.

Lywydd, ar ôl blynyddoedd lawer o gynnydd graddol mae llawer o gymunedau Cymru bellach yn profi ton newydd o daflu sbwriel a thipio anghyfreithlon. Mae cynghorau'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae trigolion yn cwyno am sbwriel sy'n cael ei adael mewn lonydd cefn ac ar gorneli strydoedd, ac yn aml mae rhai o'n mannau prydferthaf a'n bryniau'n cael eu melltithio gan daflu sbwriel yn anghyfreithlon, ar raddfa fasnachol yn aml.

Gwaethygodd y broblem yn ystod COVID, ond o'r data sydd ar gael, mae lefelau taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon nid yn unig wedi aros yn uchel, ond ymddengys eu bod yn cynyddu. Yn ystod COVID, byddwn yn cerdded yn rheolaidd o Donyrefail, trwy Goed-Elái, trwy goedwigoedd hardd Smaelog, ac er gwaethaf ymdrechion rheolaidd gan y cyngor lleol i glirio sbwriel, bob dydd gwelwn ragor wedi'i adael o'r newydd—sbwriel y cartref, deunydd DIY, rwbel adeiladwyr a gwastraff cyffredin y cartref. Ac un diwrnod, er mawr glod iddo, rwy'n cofio bod y cyngor wedi clirio'r llwybr cyfan. Ond ymhen dyddiau, roedd yn ôl i'w gyflwr blaenorol. Wrth i geir yrru heibio, byddwn hefyd yn gweld y ffenestr yn agor a sbwriel newydd yn cael ei daflu allan. A phrin y gallwn gerdded mwy nag ychydig fetrau heb ddod ar draws caniau cwrw, poteli, cynwysyddion bwyd brys, a phob math o sbwriel arall. Ar lonydd cefn y strydoedd ger lle rwy'n byw, mae sbwriel yn ymddangos yn rheolaidd. Rwy'n dweud wrth y cyngor amdano, mae'r cyngor yn ei glirio, ond o fewn dyddiau, mae'r sbwriel yn ei ôl. Ac mae'n fy ngwneud i a phawb ohonom yn ddig. Dyma fath arall o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n plagio llawer o'n cymunedau, ac mae angen gwneud rhywbeth. Felly, yn Senedd Cymru, gyda chefnogaeth Aelodau o bob plaid wleidyddol, rydym wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol ar daflu sbwriel a thipio anghyfreithlon, ac rydym bellach wedi cynnal ein cyfarfod cyntaf gyda Cadwch Gymru'n Daclus, Taclo Tipio Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol a grwpiau amgylcheddol eraill, i bwyso am weithredu.

Yn 2023-24 yng Nghymru, cofnodwyd 42,171 o ddigwyddiadau—cynnydd o 20 y cant ar lefelau cyn y pandemig. Ond dim ond 102 o erlyniadau a gafwyd, sy'n llai na chwarter 1 y cant o'r digwyddiadau. Nid oedd y ddirwy gyfartalog ar gyfer pob un o'r erlyniadau llwyddiannus yn ddim ond £516 ar gyfartaledd. Cafodd lefel uwch o hysbysiadau cosb eu cyflwyno, ond ni welwyd ond 1,086 o'r rhain hyd yn oed, cwymp o 8 y cant ar y flwyddyn flaenorol a chyda chosbau wedi'u capio ar ddim ond £400. Yn ddealladwy, mae cynghorau'n canolbwyntio adnoddau cyfyngedig ar glirio, yn hytrach na gorfodaeth. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod clirio ei hun yn costio miliynau o bunnoedd i gynghorau bob blwyddyn. Un darn diddorol o ddata: gwelwyd cynnydd o 48 y cant yn yr eitemau sbwriel sy'n gysylltiedig â charthffosiaeth ers 2023 yng Nghymru.

Nawr, mae yna frwydr rymus iawn yn cael ei hymladd yn llawer o'n cymunedau gan yr oddeutu 20,000 o wirfoddolwyr sy'n mynd allan i'n coedwigoedd, ein parciau a'n strydoedd i gasglu tua 250 tunnell o sbwriel bob blwyddyn. Mae grwpiau gwirfoddoli fel Litter-free Beddau and Tynant, Llanilltud Fardre Litter Pickers yn fy etholaeth i, a'r rhai mewn etholaethau cyfagos fel y Rhondda Litter Pickers allan ar y strydoedd o un diwrnod i'r llall, yn codi'r sbwriel y mae cymaint o bobl yn ei daflu mor ddi-hid. Mae'n dweud cymaint am y gwirfoddolwyr hyn eu bod yn dal ati. Rhaid ei bod yn ddigalon gweld ardal y byddwch wedi'i chlirio un diwrnod wedi'i gorchuddio â sbwriel eto y diwrnod wedyn, ond maent yn dal i fynd, ac mae'r gwirfoddolwyr hyn angen ac yn haeddu ein help.

Mae taflu sbwriel ar y stryd yn ymddygiad gwrthgymdeithasol cynyddol: caiff 83 y cant o sbwriel ei daflu gan gerddwyr, sef gwastraff ysmygu, yfed a bwyd brys yn bennaf. Mae mwyfwy o dipio anghyfreithlon yn weithgarwch wedi'i drefnu, gyda sbwriel yn cael ei daflu gan gasglwyr twyllodrus a dalwyd i waredu gwastraff yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Dylid cydnabod bod rhai awdurdodau lleol yn mynd ati i weithredu'n rhagweithiol, megis y defnydd rhagorol o guddwylio a wneir gan fy awdurdod lleol fy hun, Rhondda Cynon Taf, ond ar y cyfan mae'r ffigurau'n awgrymu bod y tipwyr anghyfreithlon yn ennill yng Nghymru, ac mae angen inni newid ein diwylliant a chynyddu trefniadau gorfodaeth. Mae angen mwy o addysg gyhoeddus. Mae angen inni ei gwneud hi'n haws i aelwydydd waredu gwastraff. Mae angen inni gymryd camau i leihau deunydd pacio diangen, ac i'r perwyl hwn, mae deddfau Llywodraeth Cymru sy'n gwahardd eitemau plastig untro, deddfau sydd i'w hymestyn cyn bo hir i gynnwys fêps tafladwy, i'w croesawu'n fawr. Mae croeso hefyd i ailgylchu a chamau i greu cynllun dychwelyd ernes, a fyddai'n cynnwys poteli gwydr.

Fodd bynnag, mae angen mwy o orfodaeth. Mae'r cosbau a osodir yn rhy isel, ac mae angen dulliau mwy dychmygus arnom o osod cosbau. Dylai'r rhai sy'n taflu sbwriel o gerbydau gael pwyntiau cosb ar eu trwydded; a chwrs ymwybyddiaeth amgylcheddol, ar ôl cyfle cyntaf efallai, yn debyg i'r cyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder. Dylai tipio anghyfreithlon masnachol wynebu risg nid yn unig o bwyntiau cosb ar eu cerbydau, dylent hefyd wynebu risg o waharddiad posibl rhag gyrru ac atafaelu cerbydau. Rhaid iddi ddod yn fasnachol anfforddiadwy i gael eich dal yn taflu sbwriel, a dylai dal pobl sy'n taflu sbwriel ddod yn flaenoriaeth.

Nid yw effeithiau taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon ar iechyd, yr amgylchedd a diogelwch wedi'u cyfyngu i bobl. Mae'n ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae'r effaith ar fywyd gwyllt yn drwm hefyd. Mae anifeiliaid yn cael eu dal yn sownd mewn dalwyr caniau plastig, yn mygu mewn bagiau plastig, yn cael anaf angheuol ar wrthrychau miniog, fel caniau a photeli gwydr, a dim ond rhai o'r peryglon sy'n wynebu bywyd gwyllt yn sgil taflu sbwriel yw'r rhain.

Yng Nghymru rydym yn plannu mwy o wrychoedd a choetiroedd. Rydym yn gwneud mwy i ddiogelu ein mannau gwyrdd, ond a allwn ni honni go iawn ein bod o blaid bywyd gwyllt os nad ydym yn diogelu anifeiliaid rhag y sbwriel y mae gormod o bobl yn ei daflu'n gyson? Roedd cynllun diwethaf Llywodraeth Cymru yn 2015. Rwy'n credu bod angen cynllun newydd a mwy cadarn arnom, ac nid oes bwled arian, ond mae'n gymysgedd o'r holl fesurau a grybwyllais, ac eraill, y gobeithiaf y bydd y grŵp trawsbleidiol yn eu harchwilio, sy'n cynnig atebion i'r malltod hwn ar ein cymunedau.

Y gwir amdani yw na all pethau barhau fel y maent. Rydym yn boddi mewn epidemig o sbwriel a thipio anghyfreithlon, ac nid yw'n deg ar ein cymunedau, nid yw'n deg ar fywyd gwyllt, ac yn sicr nid yw'n deg ar y miloedd o wirfoddolwyr y byddem yn cael ein claddu o dan fynydd o sbwriel hebddynt. Mae'n rhaid inni ei dweud hi fel y mae: mae'n ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae'n rhaid inni ddatgelu'r tramgwyddwyr, ond hefyd, rhaid inni newid ein diwylliant ein hunain fel cymdeithas. Diolch, Lywydd.

18:15

Hoffwn ddiolch i Mick am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw. Mae sbwriel yn rhywogaeth oresgynnol sy'n niweidio ein cefn gwlad. Os yw pobl yn dod ag ef am dro, nid wyf yn deall pam na allant fynd ag ef adref gyda hwy? Pam ei daflu allan o gar? Pwy maent yn disgwyl iddynt ei godi—tylwyth teg y sbwriel? Rwy'n cytuno bod angen eu hatal gyda chosbau cryfach, fel cael gwared ar drwyddedau neu gerbydau. Mae sbwriel yn niweidio bywyd gwyllt, yn gwenwyno ein hafonydd a'n cefnforoedd, a ni ein hunain yn ein tro trwy ficroblastigau. Mae niferoedd cynyddol o siopau cludfwyd a bwyd wrth fynd wedi ei waethygu, gyda mwy a mwy o sbwriel yn cael ei daflu wrth fynd. Mae angen newid a rhoi diwedd ar yr arferion hyn.

18:20

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr sy'n ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 18:20:22
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac i Carolyn Thomas am eich cyfraniad chi hefyd? Rwy'n ymateb ar ran y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, nad yw'n gallu bod gyda ni y prynhawn yma, ond hoffwn ddweud bod hwn yn fater trawslywodraethol, ac rwy'n sicr yn falch o ymateb fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, gan y credaf fod hwn yn fater cyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â mater amgylcheddol ac economaidd. Mae'n ymwneud â'n holl gyfrifoldebau fel Llywodraeth.

A hefyd, a gawn ni ddechrau trwy eich llongyfarch am sefydlu'r grŵp trawsbleidiol? Rwy'n deall eich bod wedi cynnal eich cyfarfod cyntaf ar 14 Ionawr, ac mae'n grŵp trawsbleidiol, ac mae gennych chi Cadwch Gymru'n Daclus fel eich ysgrifenyddiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd yn cael effaith fawr iawn, a hefyd y ffaith bod gennych chi sefydliadau fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Taclo Tipio Cymru yn ymgysylltu â chi. Felly, edrychwn ymlaen at weld effaith y grŵp trawsbleidiol. Rwy'n credu y bydd y ddadl yn helpu i adeiladu ar broffil y grŵp a'r gwaith hwnnw.

Ond fel y dywedodd yr Aelod, mae hefyd—. Nid oes amheuaeth fod taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn gwbl annerbyniol, ac nid oes esgus dros y mathau hyn o ymddygiad. Mae'n niweidio ein bywyd gwyllt—fel y dywedoch chi, Carolyn—yn niweidio ein hamgylchedd, ac yn falltod ar ein cymunedau. Mae sbwriel a thipio anghyfreithlon yn effeithio ar economïau lleol, gydag ardaloedd sydd wedi'u hesgeuluso yn rhwystr i fewnfuddsoddiad, yn gwneud i dwristiaid ddewis peidio ag ymweld, a phan fydd cynhyrchion yn cael eu taflu fel hyn, fel y dywedoch chi, mae yna ddeunyddiau gwerthfawr na chânt eu hailgylchu na'u hailddefnyddio, ac mae angen inni gydnabod hynny. Cânt eu colli o'r ffrwd wastraff. Ac mae cost i gael gwared ar y gwastraff ei hun—cost enfawr. Mae'n faich ariannol diangen y gellir ei osgoi'n gyfan gwbl i awdurdodau lleol ac eraill. Ac rydych chi wedi rhoi enghreifftiau o sut y mae awdurdodau lleol yn estyn allan ac yn gweithredu, ac mae'n weithredu costus, ac yna, bydd sbwriel yn cael ei daflu eto ac mae'n rhaid iddynt ailadrodd y gwaith.

Nid oes neb yn elwa o sbwriel ar ein strydoedd ac yn ein cefn gwlad, ond gall pawb elwa o amgylchedd glân a diogel, a dyna pam nad yw'n broblem i'r Llywodraeth yn unig. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn dod â diwylliant tafladwy i ben. Felly, rhaid inni weithredu gyda'n gilydd. Rydym yn wych yn y ffordd y gweithredwn gyda'n gilydd fel dinasyddion Cymreig gydag ailgylchu, gan ein gwneud ni'n arweinydd byd-eang. Rwy'n meddwl bob amser ei bod hi mor dda gyrru ar hyd y strydoedd a gweld pawb yn cael eu pethau'n barod i'w rhoi allan. Dyma'r cydweithredu sydd ei angen arnom. Ond mae'n gydweithredu sy'n cynnwys y Llywodraeth a chynhyrchwyr hefyd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn edrych ar becynnu diangen a chynhyrchion untro, ac mae angen inni weld sut y gallwn ni fel cymdeithas ddefnyddio a chael gwared ar y cynhyrchion hyn. Felly, mae economi fwy cylchol yn nod allweddol i Lywodraeth Cymru, a dyna pam ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar y tair A—arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu—fel pethau annatod. Ac rydym yn credu y gellir gwneud hyn.

Ceir tystiolaeth gychwynnol o'n llwyddiannau hyd yma a momentwm cynyddol drwy Gymru gyfan. Ers datganoli, mae Cymru wedi newid o fod yn genedl a oedd yn ailgylchu llai na 5 y cant o'n gwastraff trefol, fel y dywedais eisoes, i fod yn arweinwyr byd erbyn heddiw. Ni yw'r genedl ail orau yn y byd am ailgylchu, a hynny oherwydd cyfraniad pobl a busnesau ledled Cymru. Mae'n dangos bod newid yn gwbl bosibl pan ddaw pawb at ei gilydd i gyflawni nod cyffredin er budd yr amgylchedd. Ac wrth gwrs, fel Llywodraeth, rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl wneud y penderfyniadau cywir a dod ar y daith hon gyda ni. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym eisoes wedi cyflwyno rheoliadau i gael gwared ar gynhyrchion untro sy'n niweidiol i'r amgylchedd oddi ar y farchnad, gyda gwaharddiadau ar sawl cynnyrch plastig untro cyffredin a fêps untro, ac rydym yn ymrwymedig i weithredu i atal sbwriel yn y ffynhonnell. Byddwn yn sefydlu cynllun newydd cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu, ac yn unol â'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu, mae hynny'n golygu mai'r gweithgynhyrchwyr fydd yn gyfrifol nawr am dalu am reoli eu deunydd pecynnu pan gaiff ei daflu'n sbwriel, a byddwn yn cefnogi ymgyrchoedd atal sbwriel.

18:25

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Pryd ydych chi'n meddwl y caiff y gwaharddiad ar fêps untro ei gyflwyno, oherwydd maent yn ddolur llygad, a hefyd yn achosi tanau pan gânt eu rhoi yn y system losgi.

Ie, wel, rydym yn aros am hwnnw. O ran pryd y mae'n debygol o gael ei gyflwyno, fe welaf a allaf roi'r ateb hwnnw i chi nawr. Fe wnaethom osod Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 ar 19 Tachwedd, a chawsant eu cytuno gan y Senedd ar 10 Rhagfyr. Bydd y gwaharddiadau'n dechrau ar 1 Mehefin 2025 a byddant yn cyd-fynd â gwaharddiadau mewn mannau eraill yn y byd. Felly, rwy'n falch fy mod wedi llwyddo i gael hynny wedi'i gofnodi heddiw. 

Rwyf wedi sôn am y cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu ac rydym hefyd yn cyflwyno cynllun dychwelyd ernes cenedlaethol ar gyfer cynwysyddion diod, a fydd yn helpu i yrru cyfraddau ailgylchu hyd yn oed yn uwch ac yn annog eu gwaredu'n gyfrifol. Ond mae angen mwy na deddfwriaeth ar ei phen ei hun. Mae angen inni harneisio egni a brwdfrydedd pobl ledled Cymru sy'n gweithredu. Rydych chi wedi sôn am y grwpiau amgylcheddol, y cymunedau lleol, y gwirfoddolwyr. Mae £1.2 miliwn arall o gyllid grant wedi mynd i Cadwch Gymru'n Daclus i helpu gyda'r gwaith hwn, gan eu bod yn gweithio mor agos gyda'n cymunedau yn gwneud gwaith diflino i wella eu hamgylchedd lleol. Y llynedd, roedd ein cyllid yn galluogi Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi dros 2,500 o bobl i weithio'n anhunanol bob mis fel gwirfoddolwyr i wella eu hamgylchedd lleol. Ac fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr, rwy'n canmol ymdrechion ein gwirfoddolwyr yn fawr. Roeddech chi'n sôn am yr 20,000, ac rwy'n siŵr mai isafswm yw hynny ar draws Cymru. Cafwyd seremoni ym mis Tachwedd i ddiolch i Cadwch Gymru'n Daclus—seremoni wobrwyo oedd hi. Ac mae'n debyg, yn y seremoni hon, fod gwobr i ŵr bonheddig a oedd, yn 90 oed, yn dal i fwynhau'r gwahaniaeth y gallai ei wneud i'w gymuned trwy gasglu sbwriel yn rheolaidd. Rwy'n siŵr ein bod eisiau canmol a chydnabod hynny heddiw. 

Ond wrth gwrs, nid yw cefnogaeth gwirfoddolwyr yn cymryd lle gwasanaethau awdurdodau lleol. Mae'n ffordd o sicrhau canlyniadau hwy, y newid diwylliannol sydd ei angen arnom lle caiff pobl eu hannog i ddatblygu ymdeimlad o berchnogaeth ar eu cymunedau lleol, a balchder ynddynt. Ond mae angen inni gydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â sbwriel o'n diwylliant bwyd i fynd, sy'n falltod ar ymylon ffyrdd a strydoedd, ac rydym yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus a busnesau bwyd brys i ddatblygu a chyflwyno cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer y sector bwyd brys a chludfwyd. Ond mae mentrau eraill yn cynnwys y cynllun estynedig gwirfoddol parhaus ledled y DU ar gyfer gwm cnoi. Daw â Llywodraethau pob un o'r pedair gwlad, a'r prif gynhyrchwyr gwm cnoi, at ei gilydd i ddarparu cyllid grant i awdurdodau lleol ar gyfer glanhau sbwriel gwm cnoi. Ac mae bellach yn dechrau ar ei bedwaredd flwyddyn, gydag awdurdodau lleol yn elwa o dros £350,000 o gyllid i gael gwared ar staeniau a sbwriel gwm cnoi oddi ar strydoedd mawr Cymru. 

Os caf droi at dipio anghyfreithlon, Lywydd, dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi dyblu lefel y cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y rhaglen Taclo Tipio Cymru. Ac mae'n golygu bod y tîm yn gallu defnyddio ei arbenigedd, rhannu arferion gorau, a darparu hyfforddiant ac arweiniad gwerthfawr i awdurdodau lleol a chymunedau lleol. Mae dwy swydd swyddog gorfodi newydd yn y tîm a chefnogaeth uniongyrchol i awdurdodau lleol ymchwilio i ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon ledled Cymru. A chafwyd canlyniadau cadarnhaol iawn o'r dull hwn o weithredu, gan helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â mannau problemus o ran tipio anghyfreithlon y gwyddom amdanynt yng Nghymru—erlyniwyd troseddwr tipio anghyfreithlon bondigrybwyll yn ddiweddar am dipio sawl gwaith ar draws gwahanol safleoedd yng Nghasnewydd, sir Fynwy a Thorfaen. Felly, unwaith eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae ei ran hefyd. 

Ond yn olaf, codi ymwybyddiaeth yw'r arf allweddol yr ydym yn ei ddefnyddio i helpu i newid agweddau a sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn dod yn annerbyniol yn gymdeithasol. Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth i ymgyrch arobryn Taclo Tipio Cymru, Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu, sy'n tynnu sylw at gyfrifoldebau deiliaid tai wrth iddynt drosglwyddo eu gwastraff i eraill ei waredu. Gyda chefnogaeth gyfunol—gwirfoddolwyr, gwaith gydag awdurdodau lleol, cefnogaeth i awdurdodau lleol, Taclo Tipio Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus—gallwn barhau i wneud gwahaniaeth. Ein huchelgais bob amser yw cael Cymru ddi-sbwriel a heb dipio anghyfreithlon. Rwy'n siŵr mai dyna fydd nod eich grŵp trawsbleidiol: Cymru ddi-sbwriel a heb dipio anghyfreithlon. Gallwn gyflawni hyn. Ni chaiff ei ddatrys dros nos, ond mae angen inni gymryd cyfrifoldeb dros gael gwared ar ein gwastraff yn gyfrifol, ac fel Llywodraeth, byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid, yn rhoi cymorth i'n gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, a hefyd yn cydnabod bod hyn yn ymateb i'n hargyfyngau hinsawdd a natur.

Felly, a gawn ni orffen trwy ailddatgan ein diolch i'r miloedd o wirfoddolwyr ledled y wlad sy'n rhoi o'u hamser i wneud eu cymunedau'n llefydd gwell i fyw, i weithio ac i ymweld â hwy, a diolch i'n partneriaid allweddol am eu cefnogaeth yn cyflawni a datblygu'r gwaith hwn, yn enwedig ein hawdurdodau lleol, a diolch i'r Aelod, Mick Antoniw AS, am gyflwyno a sefydlu'r grŵp trawsbleidiol? Diolch yn fawr.

18:30

Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet, a diolch am y ddadl fer. Dyna ni ddiwedd ar ein gwaith am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.